Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/02/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Prif Weinidog

Cyn cychwyn ar y cwestiynau, rwy'n galw ar y Prif Weinidog. 

Diolch, Llywydd. Yn dilyn y ddadl yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, hoffwn ymddiheuro i'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am yr ateb a roddais iddo. Bydd yn gwybod bod y ddau ohonom ni wedi derbyn ymddiheuriadau hefyd gan y bwrdd iechyd o ran yr wybodaeth anghywir yr oedd ein dadl wedi ei seilio arni. Rwyf yn credu bod gwybodaeth wedi ei rhannu gyda'm swyddfa gydag ewyllys da, a'i bod wedi cael ei rhannu gyda mi gyda'r un ewyllys da yn ddiweddarach. Dylwn hefyd ei gwneud yn glir nad oedd hon yn wybodaeth y gofynnwyd amdani gennyf i yn bersonol mewn unrhyw ffordd, ond yn wybodaeth y dewisais ei defnyddio, ac, wedi meddwl, nid wyf yn credu bod y ddadl yr wythnos diwethaf yn deilwng o'r dadleuon y dylem ni eu hyrwyddo yn y fan yma, yn Senedd Cymru, ac ymddiheuraf am fy rhan i yn hynny.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth. 

Amseroedd Ymateb Ambiwlansys yn Ynys Môn

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn Ynys Môn? OAQ51736

Rydym ni’n disgwyl i bobl sydd ag angen clinigol am ambiwlans brys dderbyn ymateb cyn gynted â phosib, pryd bynnag y bo angen. Er gwaetha’r cynnydd yn y galw dros y misoedd diwethaf, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi parhau i gyrraedd y targed yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Diolch am yr ymateb yna. Ar ochr ambiwlansys y gogledd-orllewin, yn Ynys Môn, ac ar draws y gogledd, rwy'n siŵr, mae sticer mawr ymgyrch FAST, sef ymgyrch y Gymdeithas Strôc sy'n annog pobl i ffonio 999 os oes arwyddion o strôc, a'r slogan ydy 'when strokes strike, act FAST'. Yn anffodus, nid yw ffonio'n gyflym yn arwain at ambiwlans yn cyrraedd yn gyflym. Dyma i chi ddwy enghraifft ddiweddar: porthladd Caergybi yn ffonio am ambiwlans i glaf oedd ofn ei fod e wedi cael strôc ond gorfod i rywun fynd â'r claf ei hunan i Ysbyty Gwynedd yn y pen draw, a gweld wyth ambiwlans wedi'u parcio yno. Enghraifft arall diweddar iawn: dynes 88 oed—etholwraig i mi—pryder ei bod hi wedi cael strôc, yn aros chwech awr am ambiwlans ac yn aros dwy awr arall y tu allan i'r ysbyty wedyn i gael ei throsglwyddo i A&E. Mi fu hi farw rai oriau yn ddiweddarach. Rydym ni'n gwybod bod strôc yn alwad categori melyn bellach. Yr wythnos diwethaf, mi ddywedodd uwch-swyddog meddygol yn y gogledd wrthyf i ei bod hi yn anghytuno'n bryderus ynglŷn â'r categoreiddio yno. Mae parafeddygon yn dweud wrthyf i'n gyson eu bod nhw'n bryderus am gategoreiddio galwadau strôc fel categori melyn. Pa bryd mae'r Llywodraeth am edrych ar hyn, oherwydd mae bywydau wirioneddol yn y fantol?

Mae'n wir i ddweud bod y model ei hunan wedi cael ei gynllunio gan bobl glinigol, felly nhw oedd yn ystyried ym mha ffordd y dylem ni wneud hyn. Nid rhywbeth a gafodd ei wneud gan wleidyddion oedd hyn. Mae'n wir i ddweud bod 65.8 y cant o alwadau coch ar Ynys Môn wedi cael ymateb o fewn wyth munud, ond mae'r Aelod wedi codi dau beth yn y Siambr hon, sydd, wrth gwrs, yn bwysig dros ben, a gofynnaf iddo ysgrifennu ataf er mwyn i mi allu ystyried unwaith eto beth ddigwyddodd ynglŷn â'r bobl hyn.

Chwe blynedd yn ôl, ym mis Chwefror 2012, adroddwyd y bu'n rhaid i glaf aros mewn ambiwlans am fwy na saith awr y tu allan i Ysbyty Gwynedd oherwydd prinder gwelyau ysbyty. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ffigurau yn dangos bod 1,010 o gleifion wedi wynebu amseroedd trosglwyddo o fwy nag awr y tu allan i'w hysbytai ym mis Hydref. Y mis diwethaf, gydag ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd, gwelsom hanes pensiynwr yn aros 13 awr am ambiwlans ar ôl i'w chlun roi oddi tani. Rydym ni'n gwybod bod ffigurau mis Rhagfyr yn dangos bod 17,400 o gleifion wedi aros mwy na'r amser targed o bedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, gyda'r gyfran uchaf—27 y cant—yn Betsi Cadwaladr, a 1,460 yn aros yn hwy na 12 awr. Pryd wnaiff eich Llywodraeth gydnabod bod toriad o 30 y cant i welyau i 10,935 dros y ddau ddegawd diwethaf wedi golygu na all parafeddygon ollwng cleifion yn gyflym, gan achosi ambiwlansys i gael eu hoedi a methu felly ag ymateb yn brydlon i'r galwadau brys nesaf, ac a wnewch chi wrthdroi'r toriadau hynny i welyau nid yn unig yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth, ond hefyd yn ein cymunedau, fel y mae ein meddygon teulu yn galw'n gynyddol amdano?

Yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith yn y Siambr yw ei bod hi'n hynod bwysig sicrhau bod gennym ni system gofal cymdeithasol sy'n gallu cael pobl allan o'r ysbyty pan ei bod hi'n amserol iddyn nhw wneud hynny. A dyna, wrth gwrs, yw'r rheswm pam nad ydym ni wedi torri gwariant ar ofal cymdeithasol yn y ffordd y mae Lloegr wedi ei wneud. Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cyd-redeg. Yr hyn y gallaf ei ddweud o ran galwadau brys, yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn unig, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 11,232 o alwadau brys ym mis Rhagfyr 2017, sy'n 362 o alwadau y dydd ar gyfartaledd. Mae hynny 14 y cant yn uwch na'r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Tachwedd 2017, a 9 y cant yn uwch na'r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Rhagfyr 2016. Er gwaethaf y cynnydd hwnnw mewn galw, bodlonwyd y targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch ym mhob un o'r saith ardal bwrdd iechyd ym mis Rhagfyr. Ac wrth gwrs rydym ni'n disgwyl bod gan fyrddau iechyd gynlluniau ar waith i sicrhau trosglwyddiad mor ddidrafferth, a throsglwyddiad mor gyflym â phosibl rhwng yr ambiwlans a'r ysbyty.

13:35
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd wedi cael ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ51731

Gwnaf. Mae dyraniad refeniw Llywodraeth Cymru i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros £1.3 biliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Wel, diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb cryno yna. Dywedodd yr Ysgrifennydd dros iechyd yn ddiweddar bod pethau wedi gwaethygu i Betsi Cadwaladr yn 2017-18 i bob pwrpas, er gwaethaf mesurau arbennig. Dywedodd yn benodol ei bod wedi bod yn dorcalonnus ac yn annerbyniol bod problemau wedi gwaethygu yn ystod 2017-18 o ran y sefyllfa ariannol a rhai meysydd allweddol o berfformiad. Nid yw Betsi Cadwaladr wedi gallu clirio ei ôl-groniad llawdriniaeth ers o leiaf wyth mlynedd erbyn hyn, ac, er bod y £13 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i'w groesawu'n fawr iawn, mae'n eglur efallai fod angen hyd at £50 miliwn i dynnu'r rhestrau aros i lawr o fewn eu targed 36 wythnos. Ceir adroddiad hynod feirniadol a gyhoeddwyd gan Deloitte, llawer ohono wedi ei atal gan y bwrdd iechyd ac na roddwyd ar gael i'r cyhoedd ei ddarllen. Mae'n dweud yn hwn mai prin yw'r wybodaeth am sut y mae'r bwrdd iechyd yn mynd i adfer ei sefyllfa ariannol yn y pen draw. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y byddwn ni'n gallu—[Torri ar draws.] Ie, fe wnaf i ofyn hyn. Pam mae Llywodraeth Cymru yn methu yn ei dyletswydd i bobl y gogledd, i roi iddynt y math o wasanaeth iechyd modern y dylai gwlad fel Prydain ei haeddu?

Wel, rwy'n cael pregeth gan aelod o UKIP ar ariannu'r gwasanaeth iechyd yn briodol, pan fo arweinydd ei blaid ei hun wedi dweud ar un adeg na ddylai fod unrhyw wasanaeth iechyd a ariennir yn gyhoeddus o gwbl. A gaf i ddweud, o ran ateb ei gwestiwn—[Torri ar draws.]

Fe gaf i fy ymddiheuriad yr wythnos nesaf, gaf i, ar ddechrau cwestiynau? [Torri ar draws.]

Gadewch i'r Prif Weinidog barhau â'i ateb, os gwelwch yn dda.

Mae ef wedi cyfeirio at ddyraniad o £13.1 miliwn i Betsi Cadwaladr a'r cymorth ar gyfer datblygu gofal heb ei drefnu cynaliadwy—£1.5 miliwn dros ddwy flynedd. Beth mae hynny'n ei olygu? Wel, ein disgwyliadau, erbyn mis Ebrill 2018, yw y dylai fod gostyngiad i amseroedd atgyfeirio i driniaeth o tua 50 y cant yn y niferoedd sy'n aros dros 36 wythnos, a chynnydd i barhau i mewn i 2018 a 2019, a chamau adfer ariannol a fydd yn arwain at y bwrdd iechyd yn bodloni'r rhagolwg diwygiedig o £36 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn gwella i mewn i 2018 i 2019.

Mae'r data diweddaraf ar gyfer bwrdd Betsi yn dangos bod 9,526 o gleifion sydd angen triniaeth wedi bod yn aros dros 36 wythnos erbyn hyn, o'u hatgyfeiriad. Mae'r ffigur hwnnw wedi mwy na dyblu o'r adeg y gwnaed y bwrdd yn destun mesurau arbennig, ac mae 41 y cant o'r rhain yn achosion orthopedig a thrawma. Ym mis Rhagfyr, addawodd eich Ysgrifennydd y Cabinet i haneru'r nifer honno erbyn mis Mawrth eleni, ac yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cawsom addewid pellach o gamau gweithredu ar unwaith a'r dyraniad o £13.1 miliwn i wella amseroedd aros ac £1.5 miliwn ar gyfer rhaglen gofal heb ei drefnu. Ond cyfaddefodd hefyd fod angen rhoi sylw brys i ofal iechyd meddwl yn y bwrdd hwn. Fel ein Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi yn eu cymryd i sicrhau nad oes yr un o'r addewidion hyn yn cael eu torri, ac a wnewch chi sicrhau hefyd y bydd y cyllid diweddaraf hwn yn cyrraedd y cleifion rheng flaen mewn gwirionedd, ac yn helpu ar gyfer canlyniadau cadarnhaol yn y bwrdd iechyd hwn sydd dan warchae?

Wel, rwy'n credu fy mod i wedi rhoi'r ateb i'r cwestiwn blaenorol, o ran sut y bydd yr arian yn cael ei wario.

Mae cyllid ychwanegol i wella amseroedd aros i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs, ond nid yw'n gynaliadwy, yn amlwg. Nid yw'n mynd i'r afael â'r problemau capasiti sylfaenol sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd yn y gogledd—dim digon o feddygon, dim digon o nyrsys, a'ch Llywodraeth chi yn amlwg ddim yn gwneud digon i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sylfaenol hynny. A beth mae hyn yn ei ddweud am waith y Blaid Lafur o redeg y gwasanaeth iechyd gwladol ei bod yn ymddangos bod eich Llywodraeth, ddwy flynedd ar ôl cymryd rheolaeth uniongyrchol, wedi cymryd Betsi Cadwaladr o'r categori mesurau arbennig i rywbeth sy'n edrych braidd fel mesurau arbennig iawn?

Na, mae'n ffordd amlwg o atal gwasanaethau mamolaeth rhag gwaethygu. Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gweithredu a chymorth wedi'i dargedu. Ceir heriau sylweddol o hyd y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu ac mae angen rhagor o gynnydd a gweithredu ar frys i weddnewid gwasanaethau iechyd meddwl. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â'r cyfarwyddwr cyffredinol, yn cynnal cyfarfodydd atebolrwydd misol gyda chadeirydd a phrif weithredwr BIP Betsi Cadwaladr. Byddwn yn cyflwyno fframwaith diwygiedig ar gyfer Betsi Cadwaladr dros y 12 i 18 mis nesaf, gyda cherrig milltir a disgwyliadau wedi eu nodi, ac wedi eu cytuno'n amlwg gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a'r BIP ei hun.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch Llywydd. Roedd hi'n iawn eich bod chi wedi cydnabod heddiw y camweddau o ran data personol Adam Price. Byddwn yn dychwelyd at y mater o gyfrinachedd gohebiaeth Aelodau rywbryd eto, ond rhoddaf hynny o'r neilltu am y tro. Hoffwn eich holi am Brexit. Ailbwysleisiodd Llywodraeth y DU ddoe eu bod nhw eisiau i ni fod allan o'r undeb tollau. Nawr, yn ogystal â niweidio economi Cymru, bydd hyn yn effeithio ar ein ffin agored gydag Iwerddon drwy ein porthladdoedd. Mae ffin galed yn dod. Chwe mis yn ôl, gwnaeth yr ymchwiliad i effeithiau Brexit ar borthladdoedd Cymru argymhelliad i Lywodraeth Cymru nodi, a dyfynnaf:

sut y mae'n bwriadu rhoi sylw i'r diffyg gallu ffisegol i gynnig lle ar gyfer archwiliadau ffin a thollau newydd ym mhorthladdoedd Cymru, a datblygu cynllun rheoli priffyrdd wrth gefn i reoli tagfeydd posibl yn deillio o oediadau mewn porthladdoedd.

Chwe mis yn ddiweddarach, a allwch chi ddweud wrthym ni pa waith sydd wedi ei wneud ar hynny, os gwelwch yn dda?

Wel, mater i Lywodraeth y DU yw seilwaith ffisegol yn y porthladdoedd i ymdrin â materion fel tollau, nid i ni. Eu cyfrifoldeb nhw yw gwario'r arian os mai'r math hwnnw o Brexit y maen nhw ei eisiau. Fodd bynnag, mae'n iawn i ddweud nad oes neb yn dadlau y dylid cael ffin galed rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon, ac rydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU sichrau hynny. Nid yw'n eglur sut y byddant yn ei wneud, ond rwy'n disgwyl iddyn nhw sicrhau hynny.

Mae'n iawn i ddweud bod rhai yn y Blaid Geidwadol sy'n dadlau dros Brexit caled. Bu galwadau i'w diarddel o'u plaid eu hunain y bore yma, a dweud y gwir. Rwy'n meddwl ei bod hi'n debyg bod hynny'n mynd ychydig yn rhy bell, hyd yn oed yn ôl eu safonau Stalinaidd nhw, ond y pwynt difrifol yn y fan yma yw hyn: nid ydym ni—hi a minnau—erioed wedi dadlau o blaid unrhyw fath o Brexit sy'n edrych fel Brexit caled. Nid oes modd lliniaru hynny. Nid oes modd ei wneud yn well. Y cwbl y gall ei olygu yw bod pethau'n gwaethygu, a dyna pam mae hi a minnau wedi bod o'r un safbwynt erioed, rwy'n credu, o ddweud bod yn rhaid i Brexit weithio i Gymru, bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl ac y dylem ni aros yn yr undeb tollau hefyd.

Ond Prif Weinidog, roedd hwnnw'n argymhelliad penodol—galwad am weithredu gan eich Llywodraeth chi, nid Llywodraeth y DU.

Symudaf ymlaen at gwestiwn yr undeb tollau nawr. Os byddwn ni'n tynnu allan o'r undeb tollau, bydd yn rhaid i'r DU negodi ei chytundebau masnach rydd ei hun. Gallai cytundebau masnach y tu allan i'r UE a'r undeb tollau gael effaith sylweddol ar ein heconomi. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny. Gofynnwyd i chi ddoe a oeddech chi'n credu y dylai Cymru gael feto ar gytundebau masnach o'r fath fel y Senedd yn Wallonia yng Ngwlad Belg, ac wrth ateb y cwestiwn hwnnw, dywedasoch 'na ddylai'—nid yn unig o ran feto, ond na ddylid dod i gytundeb gyda gweddill y DU. Dywedasoch y dylid ymgynghori â ni. Prif Weinidog, eich dyletswydd chi yw amddiffyn economi Cymru rhag Brexit Dorïaidd eithafol. Pam ydych chi'n gwrthwynebu rhoi llais i'r Cynulliad hwn o ran cytundebau masnach?

Wel, mae hwn yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, ond rwyf i o'r farn, er mwyn i unrhyw gytundeb masnach rydd fod yn gadarn, bod yn rhaid i holl wahanol wledydd y DU gyd-fynd â hynny. Rwy'n disgwyl y bydd ymgynghoriad llawn er mwyn i bobl ddeall pa effaith y gallai cytundeb masnach rydd ei chael. Nid wyf erioed wedi credu bod cytundebau masnach rydd yn rhyw fath o ateb i bob problem. Gall cytundeb masnach rydd weithio gydag economi sy'n debyg i'ch un chi, ac mae Ewrop yn enghraifft wych o hynny, lle mae cytundeb masnach rydd, wedi ei wella fel y mae trwy'r undeb tollau a'r farchnad sengl, yn gweithio'n dda, ond nid wyf yn credu ei bod o fudd i Gymru gael cytundeb masnach rydd, er enghraifft, gyda Seland Newydd neu Awstralia sy'n caniatáu llif rhydd o gynnyrch amaethyddol i Gymru; byddai hynny'n dinistrio ffermio Cymru. Nid wyf yn credu bod cytundeb masnach rydd gydag unrhyw wlad lle cynhyrchir dur yn llawer rhatach o fudd i ddiwydiant dur Cymru, a gallaf addo y byddaf yn brwydro i'r eithaf yn erbyn hynny.

Ond mae gofyn am ymgynghoriad yn wan. Pam na wnewch chi ddewis yr opsiwn cryfaf, sef mynnu feto? Prif Weinidog, ar 17 Hydref y llynedd, cynigiais y dylai fod gennych gynllun ar gyfer pob sefyllfa Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Dywedasoch bryd hynny, a dyfynnaf—ac rydych chi newydd ei ddweud eto:

'nid oes unrhyw liniaru rhag dim cytundeb. Nid oes unrhyw beth yn llythrennol y gallwn ni ei wneud yn y tymor byr os gwelwn nad oes unrhyw gytundeb.'

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cyhoeddi adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru fod yn paratoi ar gyfer sefyllfa 'dim cytundeb'. Maen nhw'n dweud bod gan Lywodraethau, cenedlaethol a rhanbarthol, baratoadau ar gyfer canlyniad o'r fath—pam nad Cymru? Prif Weinidog, mae'r tri gair yna'n crynhoi'r sefyllfa: pam nad Cymru? Ceir argymhelliad cryf i chi ddechrau'r gwaith hwnnw ac adrodd yn ôl ymhen chwe mis. A ydych chi wedi adolygu'r ateb hwnnw a roesoch i mi fis Hydref diwethaf? A ydych chi'n mynd i lunio cynllun wrth gefn ar gyfer sefyllfa 'dim cytundeb', neu a ydych chi'n mynd i adael tynged Cymru yn nwylo'r Torïaid adain dde galed yn San Steffan?

13:45

Nid oes gan Lywodraeth y DU ei hun unrhyw syniad sut i ymdrin â hyn. Nid wyf i'n credu bod gan Lywodraeth yr Alban gynllun ar waith i ymdrin â Brexit caled, ac o'n safbwynt ni—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd nid wyf eisiau rhoi'r argraff, ac nid yw hithau chwaith, bod Brexit 'dim cytundeb' yn debyg, rywsut, i unrhyw fath arall o Brexit. Nid ydyw; mae'n llawer, llawer gwaeth na hynny. Nid oes unrhyw ffordd o liniaru effaith colli marchnad ar ein ffermwyr. Nid oes unrhyw ffordd o wneud hynny. Nid oes unrhyw farchnad a fydd yn cymryd lle honno. Nid oes unrhyw ffordd o liniaru'r effaith ar y diwydiannau awyrofod a modurol o golli eu cysylltiadau â'u gweithrediadau Ewropeaidd ar y cyfandir. Nid oes unrhyw ffordd o wneud hynny.

Felly, nid fy nadl i yw: 'Gadewch i ni weld beth y gallwn ni ei wneud i'w liniaru', ond 'Gadewch i ni ei ymladd.' Gadewch i ni ei ymladd. Gadewch i ni ymladd, i'r eithaf. Gadewch i ni ddweud wrth Lywodraeth y DU nad yw Brexit caled, adeiladu waliau o amgylch y DU, troi ein cefnau ar ein marchnad fwyaf yn Ewrop yn dderbyniol i bobl Cymru nac ychwaith, rwy'n credu, i'w phlaid hi na fy un innau.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, gofynnais i chi am ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol i straeon yn y cyfryngau ynghylch yr ad-drefnu. Pan ddychwelais i'm swyddfa yr wythnos diwethaf, cefais gwestiwn Cynulliad ysgrifenedig yn ôl gennych chi yn cydnabod eich bod chi, ar rai achlysuron, yn defnyddio cyfeiriad e-bost preifat i ymdrin â materion dyddiadur a chlirio llinellau brys i'r wasg. Byddwn yn falch o gael gwybod a roddwyd y negeseuon e-bost hyn ar gael i ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol, ac a ddefnyddiwyd y cyfeiriad e-bost hwn o gwbl i gyfarwyddo neu i friffio staff ynghylch llinellau'r wasg o ran yr ad-drefnu.

Naddo. A'r ateb i'r cwestiwn cyntaf yw y rhoddwyd yr holl dystiolaeth berthnasol ar gael i'r ymchwiliad.

Wel, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi fod yn fwy eglur trwy gadarnhau bod eich cyfrifon e-bost personol wedi cael eu rhoi ar gael i ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol, fel y gallent fod wedi cael eu hasesu gan y person a benodwyd ganddi sef, rwy'n credu, pennaeth diogelwch Llywodraeth Cymru, rwy'n meddwl, a gynhaliodd yr ymchwiliad. A allwch chi gadarnhau y rhoddwyd mynediad i'r unigolyn hwnnw at eich cyfeiriadau e-bost personol yr ydych chi'n eu defnyddio ar gyfer busnes y Llywodraeth, yr ydych chi wedi ei gydnabod yn eich ateb ysgrifenedig i mi?

Ni allaf wneud sylw ar natur y dystiolaeth. Y cwbl y gallaf i ei ddweud yw y cyflwynwyd yr holl dystiolaeth berthnasol i'r ymchwiliad.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, rwy'n dod i'r casgliad nad oedd gan y sawl a arweiniodd yr ymchwiliad fynediad at eich e-byst yr ydych chi'n cydnabod eich bod chi'n eu defnyddio ar gyfer clirio llinellau brys i'r wasg. Nawr, byddai pobl yn tybio bod unrhyw weithgarwch yn ymwneud ag ad-drefnu'r Cabinet yn ôl pob tebyg yn weithgarwch y wasg brys, ac nid yw'n afresymol tybio, os oes ymchwiliad i ddatgeliadau o'r Llywodraeth, y byddai'r holl ohebiaeth wedi cael ei rhoi ar gael i'r sawl sy'n cynnal yr ymchwiliad.

Pam mae hi mor anodd i chi ddweud 'do' neu 'naddo', pa un a roddwyd y wybodaeth honno i'r unigolyn a oedd yn cynnal yr ymchwiliad ai peidio? Byddwn yn ddiolchgar at ddibenion eglurder—eglurder llwyr—pa un a oedd gan yr arolygydd y gallu i edrych ar eich negeseuon e-bost. Ac os nad oedd ganddo, a fyddwch chi'n rhoi'r negeseuon e-bost hynny ar gael fel y gallant, ar sail teilyngdod, benderfynu a ydyn nhw eisiau ymchwilio mwy i'r materion hyn?

Yn gyntaf, mater i'r pennaeth diogelwch yw penderfynu ar yr hyn sy'n dystiolaeth berthnasol yn ei farn ef. Yn ail, mae unrhyw e-bost a anfonir ataf i at fy e-bost personol, y ceir mynediad ato trwy beiriant Llywodraeth yn unig beth bynnag, yn cael ei gofnodi. Cofnodir unrhyw e-bost yn y modd hwnnw. Felly, rydym ni'n gwybod o ddyfarniad Gove bod unrhyw e-bost a anfonir i beiriant Llywodraeth yn destun cais rhyddid gwybodaeth beth bynnag. Ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei wybod, ond fel y dywedaf, darparwyd yr holl wybodaeth berthnasol i'r ymchwiliad.

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn fynd ar drywydd y cwestiwn diwethaf a ofynnwyd gan arweinydd Plaid Cymru funud yn ôl. Cyfeiriodd at yr adroddiad rhagorol hwn gan y pwyllgor materion allanol ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit. Yng nghyflwyniad y Cadeirydd i'r adroddiad, fel y dywedodd, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy o ran cynllunio sefyllfaoedd, gan gynnwys 'dim cytundeb' i baratoi ar gyfer Cymru. Mae gan lywodraethau, cenedlaethol a rhanbarthol ac mewn mannau eraill yn yr UE, a'r Comisiwn Ewropeaidd ei hun, baratoadau ar waith ar gyfer canlyniadau o'r fath. Pam nad Cymru? Os gallan nhw ei wneud, pam na all Llywodraeth Cymru?

13:50

Mae'n rhaid i mi ddweud bod arweinydd UKIP yn dod o safbwynt o ddweud, 'Nid oes ots os bydd Brexit caled. Nid yw'r pethau hyn yn bwysig. Nid yw tariffau, rhwystrau dim tariff yn bwysig.' Mae'n dioddef o'r un farn gyfeiliornus ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, sef nad yw'r pethau hyn yn bwysig. Wel, maen nhw'n bwysig i ffermwyr Cymru, oherwydd nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig erioed wedi dweud sut y byddan nhw'n diogelu ffermwyr Cymru os bydd tariffau yn cael eu cyflwyno ar eu cynnyrch a anfonir i'r Undeb Ewropeaidd. Nid ydyn nhw erioed wedi dweud sut y bydd marchnadoedd y diwydiant bwyd a diod—y mae 90 y cant ohonynt yn cael eu hallforio i'r farchnad sengl Ewropeaidd—yn cael eu diogelu. Mae ein safbwynt ni yn seiliedig ar dystiolaeth, tystiolaeth a gynhyrchwyd, er enghraifft, gan Ysgol Busnes Caerdydd ac eraill, ac nid ar sail breuddwyd gwrach.

Ond mae'r Prif Weinidog yn dal i ymladd ymgyrch y refferendwm. Roedd fy nghwestiwn yn un ymarferol—bod Llywodraethau a Chynulliadau rhanbarthol eraill yn gwneud rhywbeth i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb'. Ni fydd hynny'n digwydd, os bydd yn digwydd o gwbl, oherwydd yr hyn y mae Llywodraeth y DU ei eisiau; bydd yn digwydd gan y bydd yr UE yn gwneud penderfyniad afresymol i dorri ei drwyn i ddial ar ei wyneb. Ond roedd y cwestiwn a ofynnais yn un syml. Os oes Brexit 'dim cytundeb', yn amlwg, bydd canlyniadau penodol a fyddai'n wahanol i ddod i gytundeb o ryw fath, yn dibynnu ar natur y cytundeb hwnnw. Bydd problemau o ran pontio ar ôl gadael yr UE bob amser, yn union fel yr oedd problemau pontio, fel y cofiaf yn iawn, pan ymunasom â'r UE. Felly, nid y ffaith nad oes ots o gwbl yw hi, dim ond bod economïau yn addasu yn yr hirdymor. Ond rwy'n dychwelyd at fy nghwestiwn: os oes Cynulliadau eraill o'r math hwn a Llywodraethau ar draws gweddill yr Undeb Ewropeaidd—[Torri ar draws.] Os gwnaiff ei Aelodau roi'r gorau i rwgnach, a'r prif rwgnachwr yn y fan yna yn arbennig, yna efallai y gallaf i ddod i'm cwestiwn. Mae'n ddrwg gen i wneud eich gwaith chi, Llywydd; nid oeddwn i'n bwriadu gwneud hynny.

Na, parhewch gyda'ch gwaith eich hun, sef gofyn y cwestiwn.

Diolch. Yn union. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth o gwbl, cyn belled ag y gallaf ddweud, i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb', i helpu busnesau Cymru i ymdopi â'r cyfnod pontio sy'n anochel, beth bynnag fo'r canlyniad?

Dyna ni: defnyddir y gair 'ymdopi'. 'Ymdopi'—dyna'r holl bwynt. Mae Brexit caled yn drychineb. Mae 60 y cant o'n hallforion yn mynd i'r farchnad sengl honno, mae 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad sengl. Mae pleidiau'r dde yn ceisio anwybyddu hynny: 'Nid yw'n bwysig'—breuddwyd gwrach—'byddwn yn dod o hyd i farchnadoedd eraill.' Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny. Pam ar y ddaear y dylai busnesau dalu pris am yr hyn a ddywedodd ef ac a ddywedodd ei blaid wrth yr etholwyr? Pam y dylen nhw orfod 'ymdopi'? Pam na allan nhw ffynnu? Bydd busnesau yn ffynnu os byddwn ni'n aros y tu mewn i'r farchnad sengl a'r undeb tollau.

Ond mae'r Prif Weinidog yn siarad fel pe byddai byd o sicrwydd yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd a'n bod ni ar fin mynd i fyd o ansicrwydd. Mae unrhyw un sydd erioed wedi rhedeg busnes, a gwn nad yw'r Prif Weinidog wedi gwneud hynny, yn gwybod bod rhaid i chi ymdopi ag amgylchiadau sydd wedi newid.

Mae Syr James Dyson, sy'n rhedeg un o'n cwmnïau mwyaf, wedi dweud bod ansicrwydd yn gyfle. [Torri ar draws.] Y cyfle, mewn gwirionedd, yw gweddill y byd—

—sy'n tyfu ar gyfradd llawer cynt nag Ewrop. Felly, y cyfle yw allforio i weddill y byd ac i fanteisio ar hynny. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o agor marchnadoedd eraill ledled y byd, lle mae'r Comisiwn Ewropeaidd ei hun yn dweud y mae 90 y cant o'r twf mewn galw yn mynd i fod yn y blynyddoedd nesaf?

A ydych chi'n dal i fod eisiau bod yn rhan o ffrynt cyffredin gydag ef a'i blaid? Hynny yw, dyna un o'r cwestiynau y bydd pobl eisiau eu gofyn, efallai. Nac ydych, wrth gwrs, o ystyried yr hyn y mae ef newydd ei ddweud.

A gaf i ei wahodd i wneud rhywbeth? Mae'n arweinydd plaid wleidyddol yng Nghymru. Dewch i fferm fynydd unrhyw le yng Nghymru, fferm ddefaid—gall arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ymuno ag ef, a symud oddi wrth y Fro a'i erwau yn y Fro—ac ewch i siarad â'r ffermwyr yno, y ffermwyr defaid, a dywedwch wrthyn nhw, 'Mae ansicrwydd yn gyfle'. Dywedwch hynny wrthyn nhw. Estynnaf y gwahoddiad iddo, gall ei gymrawd gwleidyddol yn y fan yna ymuno ag ef. Ewch i siarad â nhw a dywedwch wrthyn nhw eu bod nhw'n poeni am ddim byd, yn achwyn am ddim byd, a bod y gostyngiad i'w cymorthdaliadau a cholled eu marchnad yn gyfle mewn gwirionedd.

Cronfa Buddsoddi i Arbed

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r gronfa buddsoddi i arbed o fudd i Orllewin De Cymru? OAQ51705

Gwnaf. Ers 2009, rydym ni wedi buddsoddi bron i £175 miliwn mewn amrywiaeth eang o brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys dros £12 miliwn yn rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Prif Weinidog, er y bu enghreifftiau da o'r cynllun yn cael ei ddefnyddio i wella bywydau etholwyr yn fy rhanbarth i, fel cyllid ar gyfer gofalwyr maeth ychwanegol yng Nghastell-nedd Port Talbot neu weithiwr cymorth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe, defnyddiwyd y buddsoddiad mwyaf o bron i £1.5 miliwn i wella swyddfeydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Does bosib na ddylai'r cynllun flaenoriaethu ardaloedd sy'n dioddef o ganlyniad i doriadau cynghorau. Mae gan gyngor Abertawe ôl-groniad o £56 miliwn o waith atgyweirio ffyrdd. Credir y bydd rhwymedigaethau yswiriant a hawliadau am iawndal yn mynd drwy'r to o ganlyniad i'r ôl-groniad atgyweirio. Felly, bydd buddsoddi mewn atgyweiriadau nawr yn arbed mwy o arian yn y tymor hwy. Prif Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i ganiatáu i'r cynllun gael ei ddefnyddio i wneud atgyweiriadau hanfodol sydd o fudd gwirioneddol i'r cyhoedd, yn hytrach na'r rheini sydd o fantais i gynghorwyr etholedig?

13:55

Wel, gadewch i ni gael golwg ar rai o'r buddsoddiadau a wnaed sydd o fantais i gynghorwyr etholedig: dyfarnwyd £2.2 miliwn yn ddiweddar i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sy'n cynnwys £769,000 ar gyfer moderneiddio'r system cofnodion cleifion fel y gellir dod o hyd i gofnodion a'u bod ar gael, £400,000 ar gyfer gostwng lefelau salwch yn y bwrdd a £441,000 ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau—nawr, nid yw hynny'n ymddangos i mi fel helpu cynghorwyr; £500,000 i'r elusen iechyd meddwl Hafal, ac mae hynny wedi cefnogi datblygiad cyfleuster adsefydlu iechyd meddwl arbenigol, y cyntaf o'i fath yn y DU, sydd er lles y cyhoedd; £3 miliwn i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru; a £108,000 i wasanaethau cymdeithasol cyngor Abertawe i weithio gyda phobl ifanc i dorri'r cylch o blant a oedd yn derbyn gofal yn derbyn gofal eu hunain. Mae hon yn ffordd y mae arian cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth, ac rwy'n synnu nad yw UKIP yn barod i ganmol hynny.

Prif Weinidog, fel yr ydych chi wedi ei nodi eisoes, mae'r fenter buddsoddi i arbed yn fy ardal i, Gorllewin De Cymru, wedi ei ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd. Mae PABM wedi cael arian ar gyfer y system gofnodion newydd, a hefyd arian ar gyfer yr academi, y gwasanaeth y tu allan i oriau, i wella hynny, a hefyd ar gyfer ailystyried llywodraethu meddyginiaethau a rheoli meddyginiaethau. Dyna'r math o fuddsoddiad sy'n gwella effeithlonrwydd, ac felly'n darparu gwell gwasanaethau i'm hetholwyr. A ydych chi'n cytuno â mi bod angen i ni wneud mwy o hyn i sicrhau y gall cleifion gael gwell gwasanaethau allan o PABM, gan y byddant yn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd?

Wel, dyna pam, wrth gwrs, y rhoddwyd yr arian ar gael i PABM: er mwyn gwneud yn siŵr y ceir gwared ar y rhwystrau hynny a allai fodoli o fewn y system, gan ei gwneud yn well ar gyfer y bobl sy'n gweithio yno ac, wrth gwrs, ar gyfer y cleifion yn arbennig.

Achosion Hanesyddol o Gam-drin Rhywiol

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chyrff sector cyhoeddus i wella y broses o ymdrin ag achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol? OAQ51725

Wel, bwriwyd ymlaen â'r gwersi o ymchwiliad Waterhouse gyda chyrff cyhoeddus Cymru. Cryfhawyd trefniadau diogelu trwy ddeddfwriaeth, gan gynnwys dyletswydd newydd i adrodd, ac mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, a grŵp cyfeirio  amlasiantaeth Cymru wedi eu sefydlu mewn partneriaeth â'r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n sylweddoli'r cyfyngiadau datganoledig ynghylch y cwestiwn hwn, ond yn fy swyddogaeth fel Aelod Cynulliad dros etholaeth, rwyf wrthi ar hyn o bryd yn ymdrin â nifer o achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol, ac rwy'n gorfod siarad, yn rheolaidd, â phobl sydd wedi dioddef loes a thrawma aruthrol.

Ar sawl achlysur, mae'n ymddangos y bu amharodrwydd pendant a llwyr gan Wasanaeth Erlyn y Goron i fwrw ymlaen ag erlyniad, er gwaethaf tystiolaeth dda a gadarnhawyd, naill ai oherwydd newidiadau i'r gyfraith yn ystod y blynyddoedd yn y cyfamser—os ydych chi'n sôn am rywbeth, dyweder, 30 mlynedd yn ôl, mae'r oed o allu cael eich rhoi ar brawf, er enghraifft, am drosedd yn amlwg wedi newid, yn 1985 neu 1987 rwy'n credu—neu oherwydd, yn eu barn nhw, nid yw er budd y cyhoedd. Ond, wrth gwrs, mae o fudd i'r rheini sydd wedi eu heffeithio. Mae gen i un achos lle'r aeth yr hawlwyr, yn y pen draw, â'u hachos eu hunain i'r Uchel Lys ac ennill, a chafodd welliant yn yr erlyniad neu yn y dyfarniad. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gadw cydbwysedd o ran penderfyniadau Gwasanaeth Erlyn y Goron, a'r heddlu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n sicrhau cyfiawnder yn ogystal â siarad am gyfiawnder a cheisio cael ein gweld yn cael cyfiawnder?

Yn uniongyrchol, wrth gwrs, nid yw'r cyrff hyn yn ddatganoledig. Ein barn ni yw y dylen nhw fod, ond dydyn nhw ddim, ac mae hynny ar gyfer amser arall. Ond mae hi'n gwbl gywir i ofyn beth, felly, yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth o ran adleisio ei phryderon. Wel, yn amlwg, rydym ni wedi mynegi ein hatgasedd at y ffaith na dderbyniodd y goroeswyr yn yr achos hwn yr ymateb yr oeddent yn ei haeddu. Rydym ni wedi cyflwyno dyletswydd i hysbysu am blant sydd mewn perygl, a dyletswydd i hysbysu am oedolion sydd mewn perygl, i sicrhau bod pryderon ynghylch cam-drin pobl yn cael eu hadrodd ac y gellir ymchwilio iddynt yn briodol. Gwn fod y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cysylltu â bwrdd diogelu plant rhanbarthol canolbarth a gorllewin Cymru i ofyn am ddiweddariad ar gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon a godwyd am y trefniadau diogelu presennol. Rwy'n deall bod Heddlu Dyfed-Powys a sir Benfro wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Ynys Bŷr gan fod angen cryfhau eu trefniadau—

14:00

Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ac, wrth gwrs, nid wyf yn amau hynny.

Ysgrifennodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol at y Gwasanaeth Ymgynghorol Diogelu Catholig hefyd i geisio sicrwydd eu bod nhw'n cymryd camau o ran pryderon cyfredol. Nid ydynt yn achosion ar wahân. Rwy'n deall hynny. Ynys Bŷr, wrth gwrs, yw'r achos sydd wedi bod fwyaf yn y newyddion, ond rwy'n gobeithio fy mod i wedi rhoi rhywfaint o gysur iddi am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth, o ystyried ein cyfrifoldebau datganoledig, i sicrhau na fydd y sefyllfa hon yn digwydd eto.

Wel, nid yw cam-drin rhywiol hanesyddol yn dod yn hanesyddol os ydym yn ymdrin ag ef yn y fan a'r lle. Rydym ni'n gwybod bod ymchwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ganlyniad i honiadau Kris Wade, ond bu'n rhaid cael pwysau cyhoeddus a gwleidyddol sylweddol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd sefydlu'r adroddiad penodol hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Fe'm syfrdanwyd na ddaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru eu hunain—y bydden nhw'n chwarae rhan fwy rhagweithiol o ran gweld lle ceir honiadau o gam-drin, ac iddyn nhw fwrw ymlaen â'r adroddiadau penodol hynny felly. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau y ceir gweithdrefnau cwynion unffurf, bod pobl yn teimlo'n hyderus y gallant ddod ymlaen gyda'r honiadau hyn, fel na fydd y problemau hyn gennym ni yn y dyfodol, lle mae pobl yn gorfod mynd yn ôl mewn amser, fel y dywedodd Angela Burns, yn sôn am les y cyhoedd, yn sôn am yr hyn sy'n berthnasol yma nawr, pan, i'r bobl hynny sydd wedi cael eu cam-drin, y mae'n bwysig iawn iddyn nhw gael atebion i'r cwestiynau hynny?

Mae'r Aelod yn codi achos trallodus iawn, yr wyf innau'n gyfarwydd ag ef. Os caf i ysgrifennu ati hi, gan roi mwy o fanylion iddi o ran yr ateb y mae'n chwilio amdano—oherwydd mae'n bwysig, wrth gwrs, bod y system gwynion mor syml â phosibl ac nad oes unrhyw beth yn disgyn drwy'r bylchau, ond byddaf yn ysgrifennu ati hi gydag ateb, ateb manwl, i'w chwestiwn.

Sgrinio Serfigol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio serfigol yng Nghymru? OAQ51733

Gall sgrinio serfigol achub bywydau ac rydym ni eisiau sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio arno. Mae 77 y cant o fenywod cymwys yng Nghymru yn mynychu'n rheolaidd ar gyfer sgrinio serfigol. O fis Hydref 2018, byddwn yn cyflwyno prawf sylfaenol mwy sensitif, gan ein galluogi i nodi menywod sydd angen triniaeth yn fwy effeithiol, a lleihau'r angen am sgrinio ailadroddus.

Diolch, Prif Weinidog. Er gwaethaf y llythyrau a anfonwyd at yr holl fenywod cymwys yng Nghymru ar gyfer sgrinio serfigol, mae ffigurau diweddar yn awgrymu y bu gostyngiad mewn cyfranogiad. Canfu Jo's Cervical Cancer Trust fod nifer y menywod sy'n cael ei sgrinio ar ei isaf ers 10 mlynedd yng Nghymru. Yn benodol, tynnodd yr elusen sylw at bryderon ynghylch nifer y menywod rhwng 25 a 29 oed sy'n cael eu sgrinio. Gyda'r canfyddiad bod sgrinio serfigol yn atal 70 y cant o achosion o ganser serfigol rhag datblygu, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo ac annog menywod i gael prawf a allai achub eu bywydau?

Wel, o fis Hydref y llynedd—eleni, mae'n ddrwg gen i—bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn cyflwyno profion feirws papiloma dynol, ac mae hwnnw'n ddull sgrinio serfigol newydd sbon. Mae'n brawf mwy sensitif, a fydd yn ein galluogi i nodi'n fwy effeithiol y menywod hynny sydd angen triniaeth, fel y dywedais. Rydym ni'n gwybod bod niferoedd, yn gyffredinol, yn gostwng ar draws gwledydd y DU, ac mae gwaith i'w wneud er mwyn cynnal a gwella cyfraddau cyfranogi yng Nghymru. Mae ymgyrch Sgrinio am Oes Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhedeg bob mis Gorffennaf i godi ymwybyddiaeth o fynediad at sgrinio serfigol mewn grwpiau cymunedol sydd â defnydd gynhenid isel, ac mae'n annog unigolion cymwys i fynd i gael eu sgrinio pan fyddant yn cael eu gwahodd. Drwy'r pethau hyn, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y duedd lle'r ydym ni'n gweld llai o bobl yn cael y prawf yn cael ei gwrthdroi yn y dyfodol agos.

Prif Weinidog, mae ymchwil wedi dangos bod menywod o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o fynychu sgrinio serfigol na menywod gwyn. Canfu arolwg mai dim ond 28 y cant o fenywod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig fyddai'n gyfforddus yn siarad â meddyg teulu gwrywaidd am sgrinio serfigol, o'i gymharu â 45 y cant o fenywod gwyn. Dywedodd dwywaith gymaint o fenywod sy'n bobl dduon ac Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig o'u cymharu â menywod gwyn y byddai gwell gwybodaeth am y prawf a'i bwysigrwydd yn eu hannog i fynychu. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth o sgrinio serfigol ymhlith menywod o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Wel, byddwn yn cyfeirio'r Aelod at yr ateb yr wyf i newydd ei roi o ran yr ymgyrch Sgrinio am Oes, sydd â'r nod o sicrhau bod grwpiau cymunedol lle ceir niferoedd cynhenid isel yn manteisio ar sgrinio—i sicrhau bod y niferoedd hynny'n gwella yn y dyfodol.

14:05
Caniatâd Cynllunio a Thafarndai

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganiatâd cynllunio a newid defnydd o ran tafarndai yng Nghymru? OAQ51734

Rydym ni'n cydnabod y cyfraniad pwysig y mae tafarndai yn ei wneud i gymunedau. Rydym ni'n gweithio gyda grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys yr Ymgyrch Dros Gwrw Go Iawn—rwy'n datgan buddiant fel aelod—ar y ffordd orau o ddiogelu safleoedd a chyfleusterau ac i helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Rwyf i wedi dweud erioed mai casgliad o dai yw cymuned heb dafarn. Yn aml iawn, rwyf i wedi gweld hyn yn digwydd yn fy rhan i o'r byd. Byddwn yn ymgynghori ar adolygiad o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) ym mis Mai, gyda'r bwriad o ystyried sut y gallwn ni ddiogelu ein tafarndai yn well.

Diolch am yr ymateb yna. Do, soniasoch ar achlysur blaenorol eich bod chi'n aelod o CAMRA, ac mae'n dda eich bod chi'n  cymryd rhan yn y byd cwrw go iawn. Rydym ni'n ceisio—. Mae gennym ni grŵp trawsbleidiol nawr. Mae Nick yn rhan ohono hefyd. Simon Thomas sy'n ei redeg. Rydym ni'n mynd i'ch helpu, gobeithio, i fwrw ymlaen â hyn, gan ein bod ni wedi bod yn aros cryn amser am ddatganiad ar hyn. Nid wyf i eisiau rhagweld beth fydd canlyniad eich adolygiad, ond mae gennym ni—wel, mae ganddyn nhw—Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn Lloegr nawr, felly mae honno'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i dafarndai fel asedau o werth i'r gymuned. A allai hwnnw fod yn gyfeiriad y gallech chi fod yn ystyried ei ddilyn yng Nghymru?

Wel, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda CAMRA, ac mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn ddefnyddiol i archwilio goblygiadau rhannu dosbarthiad defnydd bwyd a diod A3, a byddwn yn ystyried sut y gallai hynny weithio. Rydym ni hefyd yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan Brifysgol Gorllewin Lloegr o ran gweithrediad y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, a soniais sut bydd yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo yn hynny o beth. Mae'n wir i ddweud, i rai tafarndai, nad yw'r busnes yn hyfyw mwyach, ond ceir llawer o dafarndai yr wyf i'n gwybod amdanynt lle'r oedd yn fusnes gwbl hyfyw ond bod mwy o arian i'w wneud o droi'r tafarndai hynny'n fflatiau. Dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus ohono yn y dyfodol, gan fod tafarndai yn asedau arbennig o bwysig i'n trefi a'n pentrefi a'n cymunedau ledled Cymru, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y rhai sy'n hyfyw ac sy'n darparu gwasanaeth o'r fath i bobl leol.

Rwyf innau hefyd wedi cymryd rhan ym myd CAMRA dros y blynyddoedd, Prif Weinidog, felly mae gennym ni rywbeth yn gyffredin y gallwn ni siarad amdano dros beint rywbryd. Rwy'n cytuno â'r safbwyntiau a fynegwyd gan Gareth Bennett. Cynhaliwyd digwyddiad CAMRA yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch o weld y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a'r dafarn yn cael ei ailsefydlu. Ceir llawer o faterion sy'n wynebu tafarndai ledled Cymru. Roeddech chi'n iawn i ddweud yn eich ateb, Prif Weinidog, nad yw tafarndai yn dafarndai yn unig. Nhw, i lawer o'n cymunedau gwledig yn arbennig, yw calon ein cymunedau, a phan fyddwch chi'n colli'r dafarn, rydych chi'n colli canolfan y gymuned leol. Yn y digwyddiad CAMRA, clywsom fod llawer o dafarndai yn cau yng Nghymru bob wythnos, ac ar draws y ffin yn Lloegr, mae'r gyfraith cynllunio wedi ei newid i wneud newid defnydd yn fwy anodd. A ydych chi'n bwriadu dilyn hynny gyda newidiadau tebyg yma? Clywaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am gyflwyno Gorchymyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A fyddwch chi'n ystyried cyfyngu'r gyfraith cynllunio fel ei bod hi'n llawer mwy anodd newid tafarn, yn enwedig mewn ardal wledig, i ddefnydd arall?

Mae pob dewis yn agored o ran sut i wneud hynny. Rydym ni eisiau dod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol o'i wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod ein tafarndai yn cael eu diogelu.

Perfformiad Ariannol Cynghorau Tref a Chymuned

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad ariannol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru? OAQ51732

Gwnaf. Rwy'n croesawu asesiad diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru bod cynnydd wedi ei wneud o ran gwella perfformiad ariannol, ond bod angen i gynghorau tref a chymuned wneud mwy o hyd i sicrhau bod ganddyn nhw drefniadau atebolrwydd cadarn ar waith.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi wedi darllen yr adroddiad. Ond, fel y dywedasoch yn gywir, mae'r archwilydd cyffredinol wedi mynegi nifer o bryderon. Un peth, yn arbennig, fodd bynnag: £41.5 miliwn yw cronfeydd wrth gefn cynghorau lleol ar hyn o bryd. Mae hwn yn arian y mae trethdalwyr wedi ei dalu trwy archebiant cyngor i ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer. Nododd hefyd bod cynghorau cymuned yng Nghymru yn derbyn safbwyntiau archwilio amodol diangen—dros 170—a methodd 81 o gynghorau â chydymffurfio â'r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi eu cyfrifon, a chyflwynodd 174 ohonynt  ffurflenni anghyflawn. Nawr, rwy'n gwybod bod adolygiad cynghorau cymuned, trawsbleidiol, sy'n parhau, ac roeddwn i'n gweithio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol ar hynny. Fodd bynnag, mae'r broses ymgynghori yn amwys dros ben, ac nid yw'n ceisio mynd i'r afael â'r materion sylfaenol o onestrwydd ariannol ac atebolrwydd archwiliadwy, y mae'r archwilydd cyffredinol y teimlo'r angen i'w godi flwyddyn ar ôl blwyddyn. A wnewch chi weithio gyda'ch Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn mynd i'r afael â diffygion y lefel benodol hon o lywodraethu democrataidd?

14:10

Rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus i beidio â phriodoli methiannau i bob cyngor tref a chymuned. Rydym ni'n gwybod bod rhai sydd wedi cael trafferthion, rydym ni'n gwybod bod rhai sy'n fach iawn—yn fach iawn, iawn—ac, weithiau, mae'n anodd gweld sut maen nhw'n ymdopi o bryd i'w gilydd, ond maen ymddangos eu bod nhw.

O ran y panel adolygu, wel, i fod yn eglur, cylch gwaith y panel hwnnw yw ystyried swyddogaeth bosibl llywodraeth leol islaw cynghorau awdurdodau lleol, gan fanteisio ar arfer gorau i ddiffinio'r modelau neu'r strwythurau mwyaf priodol i gyflawni'r swyddogaeth hon, ac i ystyried sut y dylid cymhwyso'r modelau a'r strwythurau hynny ledled Cymru. Nawr, yn rhan o hynny, wrth gwrs, mae cynaliadwyedd ariannol yn ffactor pwysig. Mae'r panel wrthi'n casglu tystiolaeth ar hyn o bryd ac yn ceisio barn cynghorau cymuned, ie, ond hefyd y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu a'r bobl y maen nhw'n gweithio â nhw. Ac, yn wir, mae'r panel eisoes wedi cael tystiolaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Prif Weinidog, rydym ni'n clywed yn aml y gair 'cyni' yn cael ei ddefnyddio yn y Siambr hon. Felly, o ystyried maint cyfyngedig llawer o'n hawdurdodau lleol, sut gellir cyfiawnhau'r arian sy'n cael ei wario ar gynghorau cymuned, o'r safbwynt bod angen cost prif weithredwr, sawl aelod o staff, a nifer o adeiladau swyddfa i hwyluso eu gweithrediadau? Mewn geiriau eraill, Prif Weinidog, beth mae cynghorau cymuned yn ei gynnig na allai llywodraeth leol ei weithredu eu hunain?

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gynghorau tref neu gymuned sydd â phrif weithredwr, mae'n rhaid i mi ddweud. Rwy'n ymwybodol o'r rheini sydd â chlercod, ac mae rhai yn llawn amser a rhai yn rhan-amser. Rwy'n credu bod cynghorau tref a chymuned yn lefel hynod werthfawr o lywodraeth. Os yw'r Aelod yn awgrymu y dylem ni ddiddymu, er enghraifft, Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr neu Gyngor Tref Porthcawl, yna mae croeso iddo esbonio hynny i unrhyw—[Torri ar draws.]—ar wahân i'r Rhondda, wrth gwrs, lle nad oes unrhyw gynghorau cymuned—mae croeso iddo ddod ac esbonio hynny iddyn nhw. Yr hyn sy'n bwysig yw nid ein bod ni'n dileu lefel gyfan o lywodraeth leol, ond ein bod ni'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gryfhau'r lefel honno yn y dyfodol.

Hyrwyddo Twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51720

Mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein blaenoriaethau i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ledled Cymru gyfan. Mae hynny'n cynnwys ymgyrchoedd marchnata yn y DU a thramor, cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a phresennol, ynghyd â chyllid refeniw ar gyfer cynhyrchion rhanbarthol.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich ateb, Prif Weinidog, ond mae Cymru yn gartref i fywyd gwyllt anhygoel, fel y dolffin trwynbwl eiconig ym mae Ceredigion, barcutiaid ym Mhowys ac ardaloedd eraill, a gweilch yn sir Drefaldwyn. Ac rydym ni'n ddigon ffodus o fod â rhai gwarchodfeydd natur ardderchog, fel canolfan gwlyptir Llanelli, ynys Sgomer, a chanolfan gweilch Dyfi, a llawer mwy yn ogystal â hynny.

Rwy'n credu pan fydd canolfannau bywyd gwyllt a thwristiaeth bywyd gwyllt yn cael eu rhoi gyda'i gilydd ac yn cael eu rhedeg yn dda iawn eu bod nhw'n cynnig cyfle gwirioneddol i ymwelwyr wella'r gymuned leol honno a gwario eu harian yn lleol iawn, heb niweidio na gwneud unrhyw niwed o gwbl i'r amgylchedd y maen nhw'n ei fwynhau. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog: pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth bywyd gwyllt gynaliadwy yng Nghymru?

Yn 2013-14, dyfarnwyd cyllid i Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru ar gyfer llyfryn bywyd gwyllt rhyngweithiol, a dyfarnwyd £15,000 i ymddiriedolaethau bywyd gwyllt de a gorllewin Cymru ar gyfer Antur yng Nghymru Wyllt yn 2015. Yn 2016-17, dyfarnwyd £30,000 i ymddiriedolaethau bywyd gwyllt de a gorllewin Cymru ar gyfer Anturiaethau a Chwedlau Cymru Wyllt, a dyfarnwyd £100,000 ar gyfer 2017, hefyd i ymddiriedolaethau bywyd gwyllt de a gorllewin Cymru, ar gyfer prosiectau See Wild Wales Lonely Planet. Dyna bedair enghraifft o'r cymorth a roddwyd gan y Llywodraeth i hyrwyddo ein treftadaeth naturiol ardderchog.

Trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51728

Gwnaf. Mae ein diweddariad o'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi darpariaeth rhaglen uchelgeisiol o welliannau i ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar gyfer y tair blynedd nesaf, a bydd hynny'n helpu i sicrhau bod y de-orllewin wedi ei gysylltu drwy system trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, fforddiadwy, dibynadwy a chwbl integredig.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Efallai eich bod chi'n gwybod bod digwyddiadau ychwanegol yn Abertawe a Chaerfyrddin newydd gael eu hychwanegu at y rhaglen ymgynghori ar gyfer masnachfraint GW, masnachfraint Great Western, a gobeithiaf y bydd etholwyr yng Ngorllewin De Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i ddadlau'r achos dros gael gorsaf parcffordd Abertawe i'r gogledd-orllewin o'r ddinas. O ystyried y diddordeb trawsbleidiol mewn metro gorllewin Abertawe, os caf ei alw'n hynny, ac ymrwymiad eich Llywodraeth i'r cysyniad o hynny, wrth gwrs, a allwch chi ddweud wrthyf pa arian y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei ymrwymo neu ei wario ar ddichonoldeb a chwmpasu pellach, efallai, y tu hwnt i syniadau gwreiddiol yr Athro Barry? Diolch.

14:15

Rydym ni wedi ariannu gwaith datblygu'r cysyniad cychwynnol ar gyfer metro Bae Abertawe o'r gronfa drafnidiaeth leol. Caiff y cam hwnnw o'r gwaith datblygu ei gwblhau erbyn diwedd y mis nesaf. Rydym ni wedi dyrannu £4,378,940 o'r gronfa drafnidiaeth leol yn 2017-18 ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe. Yn ogystal â gwaith cysyniad y metro, rydym ni'n gwybod bod cynlluniau yn Abertawe, megis y gyfnewidfa ar bont Baldwin a chynllun teithio llesol Kingsbridge, sy'n enghreifftiau o fannau lle mae gwelliannau i drafnidiaeth yn cael eu gwneud.

Byddai gorsaf parcffordd Abertawe wedi ei lleoli ar reilffordd rhanbarth Abertawe, ac rwy'n amau y byddai angen rhywfaint o uwchraddio arni. Mae'n cario gwasanaethau i deithwyr achlysurol ar hyn o bryd. Rheilffordd cludo nwyddau yw hi yn bennaf, ond serch hynny byddai'n gwasanaethu ardal sylweddol o ran ogleddol Abertawe a rhan isaf Cwm Tawe, yn yr un modd ag y mae Bristol Parkway yn gwasanaethu rhan benodol o Fryste o'i gymharu â Bristol Temple Meads.

Gwasanaethau Cymorth Llywodraeth Leol i Bobl Hŷn

10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau cymorth llywodraeth leol i bobl hŷn? OAQ51698

Mae gofal cymdeithasol yn faes o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i gyllid ar gyfer yr henoed, gan gydnabod bod gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n cael eu darparu’n lleol yn werthfawr tu hwnt ar gyfer helpu pobl hŷn Cymru.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol o gynnig gan gyngor Abertawe i godi £40 y dydd i bobl oedrannus fynychu canolfannau dydd a gynhelir gan y cyngor, gwasanaeth sydd ar gael am ddim ar hyn o bryd. Nawr, mae'r canolfannau dydd yma yn gymorth sylweddol i'r defnyddwyr, ac yn help aruthrol wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn y ddinas. Felly, a ydych chi'n rhannu fy mhryderon bod cyflwyno tâl dyddiol o £40 yn peryglu creu mwy o unigrwydd, ac a ydy eich Llywodraeth yn cytuno bod angen adolygu ffioedd canolfannau dydd ledled Cymru i sicrhau bod y canolfannau hyn yn hygyrch ac yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith ein henoed?

Wel, mae'r ymgynghoriad hwn yn rhywbeth i gyngor Abertawe—iddyn nhw i symud ymlaen gyda fe a gwneud penderfyniad ynglŷn â fe. Ond mae'n hollbwysig i sicrhau nad oes neb yn colli allan o achos unrhyw newidiadau yn y pen draw, os mai dyna beth fydd y penderfyniad.

Y Diwydiant Fferyllol

11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y diwydiant fferyllol yng Nghymru? OAQ51716

Mae'r diwydiant fferyllol yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol integredig a rheoleiddio Ewrop gyfan trwy'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Ceir risg o niwed difrifol i'r diwydiant yn y DU os bydd Llywodraeth y DU yn cadw ei llinellau coch o ran gadael y farchnad sengl, yr undeb tollau a chyfundrefnau rheoleiddiol yr UE.

A yw felly'n cytuno bod y diwydiant fferyllol yn arbennig angen bargen fasnach arbennig, gan ei fod yn ddiwydiant â chadwyni cyflenwi sy'n chwalu'n gyflym a bod amseroedd byr o ran symud cynnyrch i'r farchnad, ac y byddai'r canlyniadau o beidio â chydnabod hynny yn enbyd i sgiliau, swyddi ac ymchwil fferyllol yng Nghymru?

Byddai, mi fyddai; yn ogystal â llawer o sectorau eraill, byddai hynny'n wir. Yn hytrach na chael bargen fasnach i un sector, hoffwn i weld trefniant cynhwysfawr lle'r ydym ni'n aros o fewn y farchnad sengl, gan ddileu'r angen am fargen fasnach â 'n partneriaid Ewropeaidd, a hefyd wrth gwrs o fewn yr undeb tollau. Mae'r holl dystiolaeth sydd wedi'i chyhoeddi hyd yma, hyd yn oed gan Lywodraeth y DU, yn awgrymu mai hynny yw'r canlyniad doethaf mewn gwirionedd. Mae'r rhai nad ydyn nhw'n cytuno ag ymchwil empirig yn ceisio awgrymu bod y gwaith ymchwil hwnnw yn anghywir.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar ' Y Polisi Masnach: Materion Cymru' cyn bo hir, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma byddaf yn gwneud datganiad ar ganmlwyddiant rhoi'r bleidlais i fenywod. Mae busnes y tair wythnos nesaf i'w weld ar y datganiad a chyhoeddiad busnes a welir ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ddatganiad neu eglurhad ar ddau fater, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Mae'r cyntaf yn ymwneud â therfynu darpariaeth beichiogrwydd ar gyfer menywod o Ogledd Iwerddon a'r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan y Llywodraeth. Nid wyf yn gwneud unrhyw sylwadau am sylwedd yr ymgynghoriad, ond rwyf wedi cael sylwadau niferus dros y penwythnos am hyd y cyfnod ymgynghori y mae'r Llywodraeth wedi'i ganiatáu ar gyfer y darn pwysig hwn o waith. Mae'n debyg, o'r hyn sydd wedi ei ddweud wrthyf i, mai dim ond pedair wythnos yw hyd yr ymgynghoriad. Cafodd ei lansio ar 12 Ionawr a bydd yn cau ar 9 Chwefror. Ac roeddwn i'n meddwl tybed, o ystyried y diddordeb cyhoeddus yn y mater hwn, a yw'r Ysgrifennydd yn fodlon ymestyn y cyfnod ymgynghori? Tynnwyd fy sylw at y ffaith bod gan ymgynghoriadau eraill a lansiwyd yn yr un modd ac ar ddyddiad tebyg gyfnodau ymgynghori hwy o lawer. Mae'r un, er enghraifft, a ddygwyd i'm sylw, wedi dechrau ar yr un diwrnod ac mae 65 diwrnod i fynd, ac mae'n cau ar 3 Ebrill, ac mae gan yr ymgynghoriad nesaf, a lansiwyd ar yr un diwrnod, ar yr amddiffyniad o gosb resymol, 64 diwrnod arall i fynd , ac mae wedi'i lansio ar 9 Ionawr a daw i ben ar 2 Ebrill. Fel y dywedaf, nid wyf yn gwneud unrhyw sylwadau am sylwedd yr ymgynghoriad, ond rwy'n credu bod y sylwadau a wnaed ynghylch hyd yr ymgynghoriad yn haeddu eglurhad ynghylch pam mai cyfnod o bedair wythnos yn unig o ymgynghori a nodwyd ar gyfer yr ymgynghoriad penodol hwn, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, yn hytrach na chyfnod hwy, sef y cyfnod arferol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ganiatáu ar gyfer darnau o waith o'r fath.

Ac yn ail, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol? Rwyf ar ddeall ei fod wedi awgrymu, mewn cyfarfod cyngor partneriaeth Cymru yn ddiweddar, bod hyn yn wir yn ôl ar agenda'r Llywodraeth—sef ad-drefnu llywodraeth leol—a bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol o beidio â gwneud unrhyw gydweithredu gorfodol. Mae hyn yn amlwg yn mynd yn groes i honiad yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol dros lywodraeth leol y byddai llywodraeth leol yn cael cyfnod o 10 mlynedd o sefydlogrwydd. Nawr, os yw ei sylwadau wedi eu cyfleu'n anghywir, yna byddai'n fuddiol iawn i gael datganiad i egluro ei sylwadau yn y cyfarfod partneriaeth hwnnw, oherwydd, yn amlwg, fe'm harweinir i gredu iddo roi sicrwydd bod ad-drefnu yn ôl ar yr agenda, sy'n mynd yn groes i'r sicrwydd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol.

14:20

Ar y mater cyntaf pwysig iawn, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet eich sylwadau yn sicr, ac os oes gennych chi enghreifftiau penodol sy'n eich arwain i'r casgliad bod yr ymgynghoriad hwnnw yn rhy fyr, yna rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gan nodi'r enghreifftiau hynny. Mae'n dangos ei barodrwydd i'w hystyried.

Ac ar yr ail, rwy'n credu y gallwch chi glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn gwadu'n chwyrn ei fod wedi dweud unrhyw beth o'r fath. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw angen am ddatganiad dilynol.

Yn rhyfedd iawn, mae gennyf innau yr un dau bwnc hynny hefyd i'w codi gydag arweinydd y tŷ, ond mewn ffordd hollol wahanol. Felly, yn gyntaf oll, a gawn ni ddadl, yn wir, ar ryddid llywodraeth leol o reolaeth Llywodraeth ganolog? Oherwydd fy mod i'n sylwi bod Alun Davies, sef Gweinidog Cymru dros lywodraeth leol, yn mynychu cyfarfodydd gweithrediaeth genedlaethol y Blaid Lafur, a benderfynodd yr wythnos diwethaf i ymyrryd yn uniongyrchol yng ngweithrediadau awdurdod lleol Haringey. Nawr, mae Alun Davies wedi dweud wrthyf i yn y Siambr hon ei fod yn credu y dylai awdurdodau lleol fel sir Benfro fod yn rhydd i wneud eu penderfyniadau eu hunain, a bod yn atebol i'w hetholwyr yn unig am eu penderfyniadau yn y blwch pleidleisio. Ond fel Aelod sy'n mynychu cyfarfodydd gweithrediaeth genedlaethol y Blaid Lafur, mae wedi bod yn rhan o ddweud wrth gyngor Haringey sut i ymddwyn ac, yn wir, o gael gwared ar arweinydd y cyngor lleol. Nawr, nid wyf am gymryd ochr neb yn Haringey—

Nac ydych, ond mae angen i chi ddod at y pwynt ynghylch pam mae cyngor Haringey yn haeddu trafodaeth yn y fan yma.

Oherwydd hyn, does bosib. Mae'n anarferol iawn—yn anarferol iawn—i Weinidog dros lywodraeth leol mewn un wlad ddatganoledig ddweud wrth awdurdod lleol mewn gwlad ddatganoledig arall sut y dylai ymddwyn, ac rwy'n credu pe byddai hyn wedi bod yn Weinidog yn Lloegr mewn plaid arall—y Blaid Geidwadol er enghraifft—yn dweud wrth awdurdod lleol yng Nghymru beth i'w wneud, byddai cryn dipyn o sôn am hynny yn y Siambr hon. Felly, gadewch inni gael dadl, Llywydd, i ddatrys y materion hyn. Pwy sy'n rheoli llywodraeth leol mewn gwirionedd—ai cynghorwyr etholedig lleol neu'r Gweinidog gyferbyn â mi yn y fan yma?

Yn ail, a gaf i alw am ddadl ar y mater arall a ddywedais i ei fod yn gyffredin i mi ac i arweinydd y Ceidwadwyr, ond eto, mewn ffordd wahanol iawn — dadl, yn wir, ar y ddarpariaeth o wasanaethau erthylu ar gyfer menywod a merched o Ogledd Iwerddon yng Nghymru? Rhoddodd y Prif Weinidog addewid, mewn gwirionedd, ym mis Gorffennaf i'r Siambr hon y byddai'r ddarpariaeth yn digwydd. Felly, mewn gwirionedd, rwyf braidd yn ansicr ynghylch pam yr ydym ni'n cael ymgynghoriad. [Torri ar draws.] Mae gennyf i farn wahanol iawn. Pam mae yna ymgynghoriad? Pam nad yw cyhoeddiad y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf y byddai hyn yn digwydd yn dal i fod heb ei weithredu? Ond er hynny, gadewch i ni fanteisio ar y cyfle y mae'r ymgynghoriad hwn wedi ei roi inni, a'r ffaith bod 100 mlynedd ers i fenywod gael pleidleisio am y tro cyntaf a chael hawl i'w barn wleidyddol eu hunain dros eu cyrff a'u hatgenhedlu eu hunain er mwyn gallu cynnal dadl ar hawliau erthylu fel y gallwn ni symud ymlaen tuag at ddull sy'n wirioneddol seiliedig ar feddygaeth yn y wlad hon. Rwy'n credu y byddai'r Senedd hon yn penderfynu gyda mwyafrif llethol i ymestyn i'n chwiorydd yng Ngogledd Iwerddon yr un cymorth meddygol ag a gynigir i ddinasyddion eraill yn y DU ac yn wir ledled yr UE.

Yn olaf, a gawn ni ddadl ar argyfwng gwirioneddol sy'n digwydd ym maes bancio gwledig yng Nghymru ar hyn o bryd? Yn yr ychydig wythnosau nesaf, bydd Abergwaun yn colli ei fanc olaf. Os edrychwch ar fap o orllewin Cymru, fydd yna fawr ddim o fancio rhwng banc rhan-amser yn Nhyddewi a banc yn Aberteifi. Gallwn weld, o ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mai gorllewin Cymru sydd wedi dioddef fwyaf o golli banciau dros y pum mlynedd diwethaf o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU. Mae Adam Price a minnau wedi cyflwyno datganiad o farn yn y fan yma yn cyfeirio at adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, 'Time for a Full Public Bank in Wales?' Byddai hwn yn bwnc ardderchog ar gyfer dadl, yn fy marn i. Byddai'n caniatáu i'r holl Aelodau fyfyrio ar faterion bancio cyhoeddus yn eu cymunedau eu hunain a hefyd byddai'n ein galluogi i gynnig dewis cadarnhaol gwirioneddol, gan gynnwys banc pobl Cymru ar fodel y banciau cynilo lleol.

14:25

Diolch i chi am y tri phwnc yna. O ran yr un cyntaf, ni allaf ond teimlo nad yw prosesau mewnol y Blaid Lafur yn fater ar gyfer y Senedd, er os oes gan yr Aelod gymaint o ddiddordeb, gallaf i roi ffurflen gais iddo, os yw eisiau ymuno â'r blaid a chymryd diddordeb pellach.

O ran yr ail bwynt, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yma i wrando ar y pwyntiau pwysig a godwyd gennych chi, ac rwy'n siŵr y bydd yn ysgrifennu atoch chi maes o law i egluro beth yw diben yr ymgynghoriad. Mewn gwirionedd, mae'n rhoi arwydd i mi ei fod yn hapus i wneud hynny.

O ran yr argyfwng gwledig mewn banciau, mewn gwirionedd mae'n argyfwng cyffredinol. Mae argyfwng tebyg yn fy etholaeth  ganolog a threfol iawn i. Mae'n bwynt pwysig, a byddaf yn sicr yn trafod, fel y Gweinidog cydraddoldeb, gyda nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet, y ffordd orau o ymdrin â hynny a'r datrysiadau yma ar lawr y Senedd.

Ar y canfed pen-blwydd hwn o fenywod yn cael pleidlais gyfyngedig—wrth gwrs, roedd hyn ar adeg pan mai dim ond pleidlais gyfyngedig oedd gan ddynion hefyd; nid oedd gan bob dyn yr hawl i bleidleisio ychwaith—mae angen inni wneud yn siŵr bod pleidleisiau i fenywod yn cyfrif a bod cynrychiolaeth menywod yn ein sefydliadau gwleidyddol yn cyfrif hefyd.

Roeddwn i eisiau codi, arweinydd y tŷ, y mater o dlodi misglwyf, oherwydd, mae'n syfrdanol i ddeall na all un o bob 10 o fenywod fforddio cynnyrch hylendid personol pan fyddant yn cael eu misglwyf, ac mae hyd yn oed yn fwy syfrdanol, rwy'n credu, deall bod 12 y cant o ferched yn defnyddio deunyddiau eraill i ymdrin â'u misglwyf oherwydd na allant fforddio'r deunyddiau hyn, ac mae'n amlwg bod effaith enfawr ar eu gallu i ymgysylltu â'u hastudiaethau a phob agwedd arall ar ymgysylltu mewn cymdeithas sifil. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a yw hi'n bosibl cael datganiad gan y Llywodraeth ar sut i ymdrin â'r pwnc cymhleth a phersonol iawn hwn fel y gallwn ni gael dadl ar sut yr ydym ni'n mynd i'w ddatrys gyda'n gilydd.

Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig. Yn rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldeb a lliniaru effaith tlodi, rydym ni'n ystyried nifer o ffyrdd o ddatblygu cynllun cyflenwi i sicrhau cynhyrchion hylendid personol i ferched yn rhad ac am ddim ar gyfer, dyweder, defnyddwyr banc bwyd ac mewn ysgolion ac yn y blaen. Mae'r gwaith ar gyfnod cynnar. Rydym ni'n monitro llawer o'r gwaith a wneir gan gydweithwyr yn yr Alban ac mewn mannau eraill, a byddwn yn cyflwyno ystod o fesurau ar ôl cwblhau'r gwaith o fonitro union effaith posibiliadau amrywiol y cynlluniau a allai gael eu datblygu, ac mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n cyflwyno amrywiaeth o wahanol fesurau mewn amgylchiadau priodol. Ond gallaf sicrhau yr Aelod ein bod wir o ddifrif ynglŷn â hyn, ac y byddwn ni'n edrych o ddifrif ar y cynlluniau hyn yn y dyfodol.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar amseroedd aros ar gyfer profion canser y coluddyn yng Nghymru? Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bowel Cancer UK wedi datgelu bod cleifion mewn pump o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn aros yn hwy ar gyfer y prawf i ddiagnosio canser y coluddyn. Mae'n achos pryder eu bod wedi canfod hefyd fod llai na hanner y bobl sy'n gymwys ar gyfer profion sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru wedi cymryd rhan. Mae hon yn sefyllfa sydd wir yn peri pryder. Mae Cymru yn safle—allan o 29 o wledydd yn Ewrop, rydym ni yn y bumed ar hugain safle ar gyfer goroesi canser y coluddyn ar ôl pum mlynedd, a dyma mewn gwirionedd y lladdwr ail fwyaf yng Nghymru a'r pumed, mwy neu lai, yn y Deyrnas Unedig gyfan. Hefyd, mae galw cynyddol am endosgopi mewn ysbytai a diffyg capasiti hefyd yn ein hysbytai ac amseroedd aros hir yn ein hysbytai ar gyfer sgrinio canser y coluddyn, sydd yn gwbl annerbyniol y dyddiau hyn. O gofio'r ffaith mai canser y coluddyn yw'r pedwerydd—nid y pumed, mae'n ddrwg gennyf—canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ba gamau y bydd ef yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r canfyddiadau difrifol yn yr adroddiad hwn cyn gynted â phosibl? Diolch.

14:30

Wel, rydym ni'n cyhoeddi'r holl wybodaeth y mae'r Aelod yn ei defnyddio yn y fan yna yn rheolaidd iawn. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yma i glywed eich pryderon, a gwnaethoch godi nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna sy'n destun cryn drafodaeth rhwng ef a minnau, ar y mater cydraddoldeb, er enghraifft, a'r defnydd mewn gwahanol gymunedau ac ati. Rydym yn sicr wedi clywed hynny a byddwn i'n hapus iawn i siarad â'r Aelod am y ffordd orau o sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu.

Arweinydd y tŷ, efallai y byddwch chi'n ymwybodol y bu damwain arall ar yr M4 eto y bore yma, ar gylchfan Ynysforgan ychydig y tu allan i Abertawe, sydd, fel y gwyddoch, yn ddigwyddiad cyffredin yn yr ardal. Ac yn ogystal â bod yn fater amlwg o ddiogelwch, gall hyn achosi anhrefn traffig ar y rhan hon o'r draffordd a'r ffyrdd cyfagos. Nawr, yn ôl ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig pryd y dywedodd ei fod wedi gofyn i'w swyddogion ymgysylltu â dinas-ranbarth bae Abertawe mewn astudiaeth ehangach o goridor yr M4 o gwmpas Abertawe. Felly, gan gydnabod pwysigrwydd y mater hwn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno nawr i gyflwyno dadl ar y dewisiadau ar gyfer gwella'r darn hwn o'r M4 o gwmpas Abertawe? Diolch.

Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig. Mae'r M4 o gwmpas Abertawe wedi cael nifer o anawsterau yn ddiweddar ar sail barhaus, yr ydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig y rhai ohonom ni sy'n dod o'r ardal honno. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar amrywiaeth o fesurau ar hynny a bydd yn diweddaru'r Senedd pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i wneud.

Fel y dywedodd siaradwyr blaenorol, mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol, yn dathlu 100 mlynedd ers i rai menywod gael y bleidlais am y tro cyntaf. Felly, beth all y Llywodraeth ei wneud i geisio ei gwneud yn haws i fenywod bleidleisio? Roeddwn i'n meddwl tybed, a allai'r Llywodraeth ystyried, wrth gynnal ei busnes, i weld beth allai wneud, yn enwedig dros fenywod nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, a pha un a oes unrhyw gynlluniau penodol y gellid eu datblygu.

Ac, yn ail, pe byddai unrhyw bosibilrwydd o ymestyn yr anhysbysrwydd y mae dioddefwyr cam-drin domestig yn ei gael—. Mae hynny'n para am flwyddyn yn unig, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw wneud cais o'r newydd bob blwyddyn a mynd drwy'r holl brawf i ddangos eu bod wedi bod yn dioddef. Wn i ddim a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau yn y maes hwn, ond a yw hyn yn rhywbeth y gallai'r Llywodraeth edrych arno?

Ie, yn wir. Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn. Caiff pwerau etholiadol eu datganoli i'r Cynulliad yn Neddf Cymru, ac nid ydyn nhw wedi eu gorfodi hyd yn hyn, fel rwy'n siŵr y mae'r Aelodau yn ei wybod. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda Swyddfa'r Cabinet yn edrych ar y gyfraith o ran cofrestru etholiadol, i'w gwneud yn haws i fenywod gofrestru'n ddienw mewn amgylchiadau o drais domestig ac amgylchiadau eraill. Ac mae Llywodraeth y DU newydd gadarnhau ym mis Medi y byddant yn bwrw ymlaen â chynlluniau i'w gwneud yn haws o lawer i oroeswyr cam-drin domestig gofrestru'n ddienw, ac rydym ni'n cydweithredu'n gyfan gwbl ar hynny cyn inni gael y pwerau hyn ein hunain.

Rydym ni hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o fesurau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn edrych ar ystod o faterion yn ymwneud â diwygio etholiadol, y bydd llawer ohonyn nhw yn ymwneud â'i gwneud yn haws pleidleisio mewn nifer o amgylchiadau, a byddant yn cynnwys pobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, a phobl â phroblemau symudedd a phroblemau cydraddoldeb eraill, ac rwyf mewn cyfres o drafodaethau gydag ef am yr ymgynghoriad hwnnw a'i ganlyniadau, y byddwn ni'n bwrw ymlaen ag ef.

Dim ond un eitem yr wyf eisiau ei chodi, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gael dadl y Llywodraeth ar wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, y mae ei datganiadau a'i deddfwriaeth yn eu cefnogi yn barhaus ac yn briodol, ond yn ymarferol mae ei gweithredoedd yn lleihau'r gwasanaethau hyn ar gost ychwanegol enfawr i'n gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol, sydd ar lefel argyfwng. Yr wythnos diwethaf, clywsom siom gan y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd dros addysg bod Afasic Cymru yn cau, er bod y penderfyniad i gau Afasic Cymru wedi ei orfodi ar ei ymddiriedolwyr gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y grant cyflawni ar gyfer plant a theuluoedd a symud y cyllid i fannau eraill. Afasic Cymru yw'r unig elusen sy'n cynrychioli teuluoedd plant sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru, ac yn y gogledd yn unig mae wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan dynnu pwysau oddi ar y gwasanaethau statudol, a gwella bywydau.

Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi mynegi pryder bod y cyllid uniongyrchol y mae'n ei gael gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng o £355,000 am wasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i ddim ond £34,000 yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac er bod y cyllid i fod i gael ei drosglwyddo i'r byrddau iechyd rhanbarthol, maen nhw'n dweud nad yw hyn wedi digwydd. Ddydd Gwener diwethaf, es i i'r arddangosfa Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru, i ddangos fy nghefnogaeth i'r ymgyrch, a arweinir gan Nathan Lee Davies yn Wrecsam, oherwydd eu bod yn cydnabod bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar glustnodi arian yn golygu y bydd perygl i allu pobl anabl sydd ag anghenion gofal a chymorth uchel fyw yn annibynnol, gan y bydd yr arian yn hytrach yn mynd heb ei glustnodi i awdurdodau lleol. Codwyd pryderon tebyg yn uchel ac yn gyson gyda chi gan y gymuned cymorth sy'n gysylltiedig â thai ynghylch Cefnogi Pobl, ar ôl ichi ysgrifennu at awdurdodau lleol i ddweud y byddwch chi'n dod â'r clustnodi i ben ar gyfer Cefnogi Pobl, a rhoi iddynt yr hyblygrwydd gwario sydd ar hyn o bryd yn mynd i wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar.

Ac yn olaf, fe soniaf am un enghraifft arall. Y llynedd, fe wnaethoch ddileu neu dynnu £5.5 miliwn oddi ar y Gronfa Teulu ar gyfer teuluoedd agored i niwed sydd â phlant anabl, sy'n golygu bod nifer y teuluoedd a gefnogir eleni wedi gostwng o 5,429 i 875 yn unig, a dywedodd y mwyafrif nad ydynt yn cael y cymorth bellach, nad oes unrhyw gymorth arall ar gael iddynt. Mae'r arbed arian ffug hwn yn ychwanegu degau, os nad cannoedd o filiynau o bunnoedd a phwysau ar ein gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd. Mae'n mynd yn gwbl groes i ysbryd eich deddfwriaeth a'ch camau gweithredu sy'n gysylltiedig ag atal ac ymyrraeth gynnar, ac rwy'n eich annog i gael dadl fel y gallwn ni drafod hyn yn llawn, gyda'r gobaith y gallwn ni gytuno ar ffordd i ddechrau adfer y cymorth i'r prosiectau sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth yn y cymunedau ac i deuluoedd ledled Cymru.

14:35

Diolch i chi am godi'r pwyntiau pwysig yna. Ac nid wyf yn amau diffuantrwydd yr Aelod o ran dymuno cefnogi'r sefydliadau a nodwyd ganddo, ond mae nifer o achosion wrth wraidd hynny, yn enwedig rhaglen cyni parhaus Llywodraeth y DU sy'n torri cyllidebau i'r lle hwn, yn eithaf difrifol, am resymau ideolegol. Mae'n anodd iawn gwahanu'r ddau beth yn y ffordd y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud, oherwydd eu bod yn ganlyniad uniongyrchol i bolisïau cyni. Hefyd, rydym ni'n ymateb i gais llywodraeth leol, yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr, a'r Llywodraeth hefyd, i ymddiried ynddyn nhw, a'r mandad democrataidd lleol sydd ganddyn nhw, wrth ddosbarthu arian yn deg yn lleol. Ac felly rydym ni'n cymryd y cyfyngiadau clustnodi a neilltuo oddi arnyn nhw, i roi'r hyblygrwydd mwyaf posibl iddyn nhw, yn wyneb yr agenda cyni parhaus. Felly, nid wyf i'n credu bod unrhyw angen cael dadl ar hynny. Mae'r llinellau ideolegol wedi eu llunio'n gadarn, ac mae arnaf ofn ein bod ni wir o blaid ymddiried mewn llywodraeth leol a sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i wneud iawn am yr agenda cyni y mae ei Lywodraeth ef yn parhau i'w dilyn.

Roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddadl neu ddatganiad sy'n rhoi diweddariad inni ar dasglu'r Cymoedd a'i drafodaethau. Rwy'n ymwybodol eu bod wedi ymgysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yr wythnos diwethaf, a byddai'n ddefnyddiol i ni fel Aelodau Cynulliad ddeall beth oedd y trafodaethau hynny. Rwy'n dweud hyn yng nghyd-destun y ffaith fy mod i wedi bod mewn cyfarfod cyhoeddus neithiwr, yn trafod y cynnig o gau ysgol Cymer Afan yng Nghwm Afan. Rydym ni'n gwerthfawrogi nad yw'r tasglu yn ymwneud ag addysg yn unig, ond os ydych chi'n cau'r ysgol, byddwch yn tynnu'r galon allan o'r gymuned, ac felly gallai hyn arwain at y tasglu yn peidio â bod mor berthnasol ag yr hoffai Llywodraeth Cymru iddo fod. Felly, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny, oherwydd ein bod ni eisiau i'r gymuned gymryd rhan yn y tasglu hwnnw. Ond os ydyn nhw'n mynd i gael eu drysu gan agenda Llywodraeth Cymru o ran y cyngor lleol, yna mae angen inni gael eglurder ar hynny.

Ie, bydd y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus, sy'n cadeirio tasglu'r Cymoedd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar ôl y cylch presennol o gyfarfodydd, ac mae un arall ddydd Llun, er enghraifft. Mae nifer ohonom ni'n aelodau o dasglu'r Cymoedd, a bwriad pendant tasglu'r Cymoedd yw adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Senedd, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf, fel y dywed yr Aelod.

Roeddwn i mewn gwirionedd yn mynd i ofyn yr un cwestiwn y mae Bethan Jenkins newydd ei ofyn. Aeth y ddau ohonom ni i gyfarfod llawn pobl ac emosiynol iawn neithiwr o gymunedau sy'n frwdfrydig dros eu cymuned, sydd wedi gweld gwasanaethau yn diflannu yn eu cymuned, ac o ran tasglu'r Cymoedd—nid yw yn un o'r hybiau, ond mae ar ymylon dau hyb, a dydyn nhw ddim yn deall pa un a allant mewn gwirionedd fanteisio ar y naill na'r llall o'r ddau hyb hynny. Ond yr hyn sy'n bwysig yw deall beth y mae'r cydnerthedd yn y cymunedau cydnerth hynny yn ei olygu. Oherwydd os yw cydnerthedd yn golygu cynnwys darpariaeth addysg yn y gymuned, i sicrhau y gall y gymuned ddatblygu ynddi ei hun, yna mae'n bwysig. Nawr, rwy'n deall nad yw Ysgrifenyddion y Cabinet yn gallu rhoi sylwadau ar gynigion i gau ysgolion unigol, ond mae swyddogaeth polisi Llywodraeth Cymru yn y cynnig hwn yn mynd i fod yn bwysig. Ac felly, mae cael datganiad ar yr hyn y maen nhw'n ei olygu yn union wrth ddweud cymunedau cydnerth, a sut y mae addysg yn chwarae rhan yn y diffiniad hwnnw, yn bwysig.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn. Yn amlwg, nid ydym ni'n gallu gwneud sylwadau ar raglenni cau ysgolion unigol gan awdurdodau lleol unigol—mater iddyn nhw yw hynny. Nid yw tasglu'r Cymoedd yn rhywbeth ynddo'i hun— ffordd o gydlynu camau gweithredu'r Llywodraeth ar draws ardaloedd y Cymoedd ydyw. Felly, mae'r Aelod y hollol iawn i dynnu sylw at y ffaith bod angen inni allu nodi beth yr ydym ni'n ei wneud ar draws pob un o'r ardaloedd hynny, nid yn unig yn yr hybiau, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth i hynny wrth wneud ei ddiweddariad.

14:40

Hoffwn i alw am ddau ddatganiad yn fyr iawn. Mae'r cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar fynediad i gerbydau argyfwng i safle gwersylla Shell Island drwy faes awyr Llanbedr. Mae cerbydau argyfwng wedi cael mynediad llanw uchel drwy'r maes awyr sy'n eiddo i'r Llywodraeth am dros 50 mlynedd, ond nid yw'r tenant, Snowdonia Aerospace LLP, wedi gwarantu mynediad parhaus hirdymor, gan beryglu dyfodol y busnes hwnnw. Felly, rwy'n teimlo bod angen, pan ein bod ni'n berchen ar dir a phan ein bod ni'n ei isosod, inni fod mewn gwirionedd yn ymwybodol bod y ddau fusnes, yn yr achos hwn, sy'n gweithredu ar y naill ochr i hynny yn gallu cyfathrebu a rhedeg er budd y cymunedau hynny.

A'r datganiad arall yr hoffwn ei weld yw un gan y Gweinidog trafnidiaeth ar gwymp cwmni bysiau Express Motors. Rwy'n deall bod Cyngor Gwynedd wedi dod o hyd i weithredwyr eraill i ddarparu gwasanaethau bysiau â chymhorthdal, ond ni chafwyd gwasanaethau yn lle y rhan fwyaf o'r gwasanaethau Express Motors blaenorol a oedd yn fasnachol. Er enghraifft, hyd y gwn i, mae'r gwasanaeth bob awr o Abermaw i Borthmadog eisoes wedi diflannu. A dyma'r trydydd gweithredwr masnachol i fynd allan o fusnes yn y maes hwn yn y pum mlynedd diwethaf. Bob tro y mae hyn yn digwydd, mae hyn yn effeithio'n wael ar wasanaethau a swyddi pobl leol, gan adael pobl wedi eu hynysu a heb waith. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd bod hyn yn galw am weledigaeth tymor hwy ar sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau bysiau a pha un a oes angen inni edrych ar reoleiddio os ydym ni'n mynd i gael y pwerau yn ôl yma i atal y gwasanaeth bws ysbeidiol hwn y mae pobl yn gwbl ddibynnol arno yn yr ardaloedd hynny.

Mae'r Aelod yn codi dau fater pwysig iawn. O ran y cyntaf, rydym ni'n ymwybodol o faterion mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys mewn cysylltiad â Shell Island yn ystod cyfnodau o lanw uchel yn arbennig. Mae'n fater i gyfarwyddwyr Shell Island gynnal trafodaethau â Snowdonia Aerospace yn uniongyrchol i gyrraedd trefniadau cyfeillgar, ac rydym ni'n annog y ddau barti i archwilio'r holl ddewisiadau sydd ar gael i chwilio am atebion sy'n gweithio i bawb dan sylw. Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi gwneud ei phryderon yn glir iawn hefyd.

O ran y materion difrifol yn ymwneud â bysiau, mae'r Aelod yn eu codi, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych, ar hyn o bryd, ar reoleiddio gwasanaethau bysiau a manteision ac anfanteision hynny, a beth y gallwn ni ei ddwyn ymlaen pan fydd y pwerau yn cyrraedd yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod ei fod yn bwriadu diweddaru'r Senedd ar gam cynnar ynglŷn â rhai o'r cynlluniau y gallwn ni eu dwyn ymlaen o ran rheoleiddio gwasanaethau bysiau a sicrhau'r system teithio cydgysylltiedig, y gwn yr hoffai hi ei weld ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Arweinydd y Siambr, codais helynt y Cwrdiaid yn Afrin, Syria yn ddiweddar, y mae gwladwriaeth ymosodol Twrci yn ymosod arnyn nhw. Gofynnais ichi a fyddech chi'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwyso arnyn nhw i ddefnyddio eu sianeli diplomyddol i stopio beth mae Twrci yn ei wneud. Mae Cwrdiaid y tu allan i'n Senedd ar hyn o bryd sy'n dod o Afrin ac maen nhw'n poeni yn ofnadwy am eu teuluoedd ac nid ydynt yn gallu credu pa mor amharod yw'r Llywodraeth hon i wneud unrhyw beth. Maen nhw'n dweud wrthyf nad yw'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad wedi mynd i siarad â nhw—a dydy hynny ddim yn iawn; Mae eu hanwyliaid yn marw ac maen nhw'n haeddu gwrandawiad. Nid ydych chi wedi dweud dim am Yemen ychwaith, o ble y daeth rhan o'm teulu i. Rhoddais enghraifft, gynsail, y tro diwethaf, pan siaradodd y Prif Weinidog i gydymdeimlo â Gwlad Belg ar ôl ymosodiad yno. Felly, pam mae gan y Blaid Lafur gydymdeimlad dewisol o'r fath tuag at ddioddefwyr trais? Ai dim ond gwledydd Ewropeaidd, gwynnach, sy'n haeddu cydymdeimlad? [Torri ar draws.] Gyda pharch at bawb yma, mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud datganiad am Wlad Belg, ac rydych chi'n gwrthod dweud dim am y Cwrdiaid ac Yemen. A wnewch chi wneud datganiad?

Mae'r Aelod yn—. Ni allaf wneud sylw ar yr iaith y mae'n ei defnyddio. Mae'n amlwg nad yw'n rhywbeth derbyniol i'w ddweud ac nid yw'n wir ychwaith. Fe wnaethom fynegi datganiad o gydymdeimlad i gyd-wlad Ewropeaidd ar ôl ymosodiad terfysgol. Yn anffodus mae'r gwledydd yr ydych chi'n sôn amdanynt mewn sefyllfaoedd rhyfel.

14:45

Terfysgaeth wladwriaethol yw hyn. Mae dinasyddion yn cael eu bomio. [Anghlywadwy.]

Neil McEvoy, 'dyw gweiddi ddim yn gwneud eich pwynt gwleidyddol i chi, ac nid yw ceisio gwahaniaethu wrth ymosod ar grŵp ethnig penodol yn eich helpu i wneud eich pwynt, ychwaith. Felly, rwy'n gofyn ichi wneud y pwynt gwleidyddol yr hoffech chi ei wneud, ond gwnewch hynny mewn iaith sy'n briodol i'r Siambr hon. 'Dyw gweiddi yn sicr ddim yn briodol.

Diolch, Llywydd. Y cyfan yr oeddwn i'n ei ddweud oedd bod pawb yn y Siambr hon yn mynegi eu cydymdeimlad â phob cymuned sydd wedi eu dal mewn rhyfel—wrth gwrs eu bod nhw. Mae hynny'n hollol wahanol i fynegi cydymdeimlad penodol ag unrhyw wlad mewn achosion penodol o ymosodiad terfysgol mewn unrhyw ran o'r byd sy'n dioddef ymosodiadau o'r fath.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Y Polisi Masnach: materion Cymru'

Byddwn yn symud ymlaen yn awr at y datganiad gan y Prif Weinidog ar bolisi masnach Cymru. Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cyhoeddi dogfen newydd yn ein cyfres o bapurau safbwynt polisi Brexit dan yr enw 'Y Polisi Masnach: materion Cymru'. Dyma'r pumed yn ein cyfres o bapurau, sy'n nodi sut yr ydym yn credu y dylem ni yng Nghymru, a'r DU yn ei chyfanrwydd, ymateb i'r heriau sylweddol iawn yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r papur yn nodi ein dyheadau polisi masnach ac yn adlewyrchu'r gwaith dadansoddol ac ymarferol yr ydym yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Llywydd, mae'r papur hwn yn dangos pwysigrwydd masnach i Gymru. Mae Cymru yn genedl sy'n edrych allan ar y byd, sy'n masnachu yn fyd-eang, ac rydym wedi ymrwymo i ryngwladoliaeth. Fodd bynnag, ni allwn golli golwg ar y ffaith bod mwyafrif clir—61 y cant—o allforion nwyddau Cymru yn mynd yn syth i'r Undeb Ewropeaidd a bod ein hanes cryf o ddenu mewnfuddsoddiad yn adlewyrchu ein sefyllfa hanesyddol o gynnig amgylchedd sy'n addas ar gyfer busnes o fewn marchnad sengl Ewrop.

Mae'r gwaith yr ydym wedi'i wneud dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys yr ymchwil a gomisiynwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd—a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf hefyd—ond wedi cryfhau ein hargyhoeddiad mai'r safbwynt a nodwyd gennym yn y Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y llynedd, a luniwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, yw'r un cywir. Mae mynediad llawn a dilyffethair parhaus i'r farchnad sengl yn hanfodol i fuddiannau economaidd Cymru yn y dyfodol, fel y mae parhau i fod yn rhan o undeb tollau gyda'r UE. Ni welsom unrhyw ddadleuon economaidd cadarn i'r gwrthwyneb, ac mae'r wybodaeth a ryddhawyd heb awdurdod yn ddiweddar am ddadansoddiad Llywodraeth y DU o'n dyfodol economaidd y tu allan i'r UE yn awgrymu bod hyn am nad oes dadl o'r fath.

A gaf i bwysleisio yn y fan hon ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Wrth gwrs, mae gennym adnoddau cyfyngedig ac, wrth gwrs, ni allwn ddarogan y dyfodol yn gwbl gywir. Ond gallwn ni, ac rydym ni wedi, casglu tystiolaeth ynghylch pa faterion ymarferol y mae ein busnesau mwy o faint yn eu hwynebu o ganlyniad i'r bleidlais i adael yr UE, a byddwn yn parhau â rhagor o ymchwil yn canolbwyntio ar fusnesau llai. Gallwn wrando'n astud, ac rydym yn gwneud hynny, ar y dystiolaeth gan randdeiliaid yng Nghymru a thu hwnt am oblygiadau'r gwahanol senarios o ran eu gallu i weithredu'n effeithiol yn y dyfodol.

Ar y sail honno, Llywydd, o wrando ar y dystiolaeth, nid ar ryw eithafiaeth ideolegol, yr ydym wedi penderfynu ar ein safbwynt o gefnogi'r berthynas agosaf bosib â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, un sy'n gwbl gydnaws â chyflawni'r mandad gan y refferendwm o beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o'r UE—safbwynt sydd hefyd, yn fras, yn unol â safbwynt y prif sefydliadau busnes yn ogystal â'r TUC.

Dyna wahaniaeth, felly, i Weinidogion Llywodraeth y DU, sydd yn ôl pob golwg yn ymosod ar eu gweision sifil eu hunain am fethu â meddwl am yr atebion cywir a dal eu dwylo dros eu clustiau i atal eu hunain rhag clywed y galw cynyddol am Brexit synhwyrol; Brexit sy'n rhoi buddiannau ein heconomi yn gyntaf, nid un a bennir gan y llinellau coch mympwyol a nodir gan y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House.

Wrth gwrs, rydym ni'n derbyn yn llwyr bod yna gyfleoedd masnachu sylweddol y tu allan i Ewrop hefyd, ond nid ydym o'r farn y dylai Llywodraeth y DU fynd ar drywydd cytundebau masnach rydd ar draul ein perthynas fasnachu â'n cymdogion agosaf a mwyaf integredig yn economaidd. Dylid ystyried datblygu perthynas fasnachu newydd â gwledydd eraill ledled y byd fel rhywbeth i ategu'r berthynas â'r UE ac nid rhywbeth yn ei lle.

Mae Brexit yn achosi heriau mawr i'n heconomi. Ond, fel y nodwyd gennym yn ein papur 'Brexit a Datganoli', mae hefyd yn codi cwestiynau am y ffordd yr ydym yn rheoli cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Dros y 45 mlynedd diwethaf, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod â chymhwysedd ecsgliwsif i reoli'r tollau a'r polisi masnachol cyffredin—negodi a chytuno ar gytundebau masnach rhyngwladol—ar ran y DU. Pan fyddwn yn gadael yr UE, er y bydd masnach ryngwladol yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl o ran ein setliad datganoli, bydd angen cydweithredu dyfnach a mwy parhaus rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn. Oherwydd bydd gan y polisi masnach groestoriad sylweddol â phwerau datganoledig, megis safonau amgylcheddol, datblygiad economaidd, amaethyddiaeth a physgodfeydd, a sgiliau a chymwysterau. Ni all Llywodraeth y DU ddatblygu polisi masnach sy'n addas at ei ddiben ar gyfer y DU gyfan ar ei ben ei hun—rhywbeth y mae Llywodraeth y DU ei hun yn ei gydnabod.

Nid wyf yn gyfarwydd â chael fy hun yn cytuno â Dr Liam Fox, ond mae'r Papur Gwyn ar fasnach 'Preparing for our future UK Trade Policy', a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yr hydref diwethaf, yn eithaf clir am hyn. Mae'n dweud y bydd

y gweinyddiaethau datganoledig â buddiant uniongyrchol yn ein cytundebau masnach yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio'n agos â nhw i sicrhau dull o weithredu sy'n gweithio ar gyfer y DU gyfan ac sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau unigol yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan fanteisio ar eu gwybodaeth a'u harbenigedd hanfodol.

O'n rhan ni, rydym wedi galw am sefydlu cyngor o Weinidogion y Deyrnas Unedig, sy'n dwyn ynghyd Weinidogion datganoledig â Gweinidogion y DU, a ddylai gael eu cynnwys yn llawn ar bob cam datblygu a gweithredu ein polisi masnach yn y dyfodol. Yn y tymor byrrach, dylid sefydlu cyd-bwyllgor gweinidogol newydd ar fasnach ryngwladol i gytuno ar ddulliau ar y cyd ar fasnach.

Rwy'n cymeradwyo'r papur hwn i'r Cynulliad, felly, ac yn croesawu unrhyw gwestiynau.

14:50

Ddoe, dywedodd negodwr yr EU, Michel Barnier ei fod yn parchu penderfyniad y DU i ddiystyru unrhyw fath o undeb tollau tymor hir, ond fe ychwanegodd—ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cyfeirio at hyn—heb undeb tollau a'r tu allan i'r farchnad sengl,

'mae rhwystrau i fasnachu nwyddau a gwasanaethau yn anochel',

sydd, wrth gwrs, yr union sefyllfa y byddem yn ei disgwyl ar ddechrau trafodaethau tuag at fargen gytûn ac yr un mor ddigyfaddawd, mae'n ymddangos, â'r safbwynt a gymerwyd ar ddechrau'r negodi ar y trafodaethau [Cywiriad: bargen] cam 1, a gwblhawyd yn llwyddiannus gyda chyfaddawd ar y ddwy ochr cyn y Nadolig.

Mewn ymateb ddoe, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd yn Llywodraeth y DU, David Davis, ei fod yn dymuno cael bargen fasnach rydd gyda'r UE, ond hefyd y rhyddid i daro bargen â gwledydd eraill lle mae cyfleoedd masnach yn tyfu. Wel, gan fod y Prif Weinidog dro ar ôl tro wedi datgan ei fod yn derbyn canlyniad y refferendwm ac yn credu bod hon yn fwy o bleidlais brotest nag yn ymwneud â rheolaeth ar ffiniau, cyfreithiau, masnach ac arian, a wnaiff gadarnhau i bobl Cymru y byddai parhau gydag aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu na allai'r DU daro bargeinion masnach â gwledydd y tu allan i'r UE, heblaw drwy'r UE?

Yn ôl ffigurau Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac yn ddarostyngedig i addasiadau bach ar gyfer cyllid, teithio a thrafnidiaeth, mae tua 90 y cant o economi'r DU ac 85 y cant o economi Cymru nad ydynt yn ymwneud ag allforio i'r UE. Mae'r DU yn gwneud mwy o fasnach â gweddill y byd nag â'r UE. Gwn, yng Nghymru, fod y sefyllfa ychydig yn wahanol , ond rydym yn sôn am negodiadau i farchnad sengl y DU, y mae Cymru yn allweddol iddynt. Mae masnach gyda gweddill y byd yn tyfu'n gyflymach na masnach y DU gyda'r UE, ac oherwydd bod yr UE yn gwerthu tua £80 biliwn yn fwy i'r DU na'r DU i'r UE, yn amlwg, ni fyddai o fudd iddyn nhw i stopio'r masnachu hwnnw.

Pan gyfarfu'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol â Llywodraeth Fflandrys, dywedasant wrthym eu bod yn dibynnu ar fynediad i farchnadoedd y DU a Chymru ac yn gweithio gyda sectorau a rhanbarthau tebyg ar draws yr UE yr oedd oedd angen bargen arnynt i'w galluogi i barhau i gael mynediad didrafferth i farchnad y DU. Felly, pa ymgysylltu a gawsoch gyda'r sectorau a'r rhanbarthau ar draws yr UE y mae angen bargen arnynt sy'n eu galluogi i barhau i gael masnach rydd gyda Chymru a'r DU?

Wrth gwrs, cyhoeddodd Cyllid a Thollau EM fanylion y newidiadau i sut y cyfrifir ystadegau masnach ranbarthol ym mis Mai 2016. Y canlyniad oedd, dan yr hen fethodoleg, fod allforion Cymru i'r UE  yn cyfrif am 39.2 y cant o'r holl allforion yn y pedwar chwarter a oedd yn dod i ben ym mis Mehefin 2016, ond, ar un ergyd, cododd hynny i 67.4 y cant o holl allforion Cymru. Felly, yn ymarferol, nid oedd llawer wedi newid. Nawr, yn ei ddatganiad heddiw ac yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, mae'r Prif Weinidog yn sôn bod tua 61 y cant o nwyddau adnabyddadwy Cymru a allforir yn cael eu masnachu gyda marchnad sengl yr UE. Felly pam mae'r ffigur hwnnw eisoes, mae'n debyg, wedi gostwng o 67 y cant i 61 y cant?

Mae'n sôn am ei gred bod mynediad parhaus llawn a dilyffethair i farchnad sengl Ewrop yn hanfodol i ddatblygu buddiannau economaidd Cymru, ac yn dweud,

'Rydym yn dal i fod heb ein hargyhoeddi bod gadael undeb tollau gyda'r UE o fudd i ni, o leiaf ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.' 

Beth ydych yn ei olygu wrth 'o leiaf ar gyfer y dyfodol rhagweladwy'? Byddem yn ddiolchgar pe gallech egluro. A yw hynny yn gyfnod pontio yn unig, neu a oes gennych chi rywbeth arall mewn golwg. Fel y dywedwch, rydych chi,

'yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn, Paratoi ar gyfer ein polisi Masnach y DU yn y Dyfodol, fod gan Lywodraethau datganoledig (a...deddfwrfeydd) rôl bwysig mewn llunio polisi masnach yn y dyfodol'.

Ond, mewn tystiolaeth, fel y clywsom yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru, ddoe gennych chi i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Tŷ'r Cyffredin, dywedasoch nad ydych yn credu y dylem gael feto, ond ei fod yn eithriadol o bwysig inni gael ymgynghoriad. Ac, wrth gwrs, yn eich saith mlynedd yn y swydd, rydych wedi meithrin yr economi allforio leiaf amrywiol yn y DU, sy'n gadael Cymru yn dibynnu'n fwy nag unrhyw genedl arall ar yr UE. Felly, pa drafodaethau y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU, sydd, mi wn, yn mynd yn eu blaen yn fanwl ynghylch fframweithiau, am farchnad sengl y DU gyda dulliau cytûn ar amrywiaeth o faterion, wrth gwrs, gan gynnwys masnach? Efallai y gallech roi adroddiad o gynnydd ar drafodaethau sydd yn digwydd eisoes yn amlwg. Diolch.

14:55

Mae amser yn brin, ac eto nid oes gennym syniad beth yw diweddgan Llywodraeth y DU. Nid ydym yn gwybod ym mha sefyllfa y maent yn dymuno bod. Mae gennym, ar y naill law, Jacob Rees-Moggs y byd hwn yn dweud nad oes ots am dariffau, does dim ots os ydym yn colli swyddi gweithgynhyrchu, oherwydd gwneir yn iawn amdanynt  mewn rhyw ffordd amhenodol, ac yna mae gennym gangen arall o'r Blaid Geidwadol yn mynnu y dylai Jacob Rees-Mogg gael ei ddiarddel. Mae hyn yn rhoi rhyw syniad o'r anhrefn a geir wrth galon Llywodraeth y DU.

Os yw'n sôn am gytundeb masnach rydd gyda'r UE, bydd yr UE yn ceisio alinio gyda'r farchnad y mae ganddi gytundeb masnach rydd â hi. Beth yw'r gwahaniaeth o ran ble'r ydym yn awr o'i gymharu â chytundeb masnach rydd? Bydd rhai yn dweud bod cytundebau masnach rydd yn gyfle i ni gael cytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill. Pa rai? Pa rai? Mae pawb yn sôn am Seland Newydd—ar gyfer beth? Gwledydd megis Tsieina— ffarwel, ddiwydiant dur. Mae angen inni fod yn ofalus iawn, iawn o ran pa fath o gytundebau masnach rydd ddylai fod gennym, ac mae hwn yn addewid gwag. Os na ellir dod i gytundeb gyda'n marchnad agosaf, fwyaf, fwyaf cyson, nid oes gennym unrhyw obaith o gytundebau masnach rydd sy'n cymryd chwech neu saith mlynedd i'w negodi, ar gyfartaledd, gydag unrhyw economi arall, a pham y byddem eisiau hynny? Un o'r pethau a glywaf gan Brexiteers yw'r awgrym hwn, rywsut, nad yw Ewrop yn bwysig, 'Anghofiwch am hynny, yn hytrach edrychwch ar economïau eraill'. Rwy'n anghytuno; Ewrop yw ein marchnad bwysicaf. Mae'n fwy na'r Unol Daleithiau, mae ar garreg ein drws, nid yw 3,500 o filltiroedd i ffwrdd. Mae anwybyddu ein marchnad bwysicaf un, rwy'n credu, yn ffolineb.

Nawr, mae Mark Isherwood yn sôn am ennill rheolaeth ar arian. Nid oeddwn yn ymwybodol bod y DU yn yr ewro, felly dydw i ddim yn deall beth mae'n ei olygu gyda rheolaeth ar arian. O ran cyfreithiau, wel, rhaid i hynny fod yn berthnasol, wrth gwrs, i'r lle hwn yn ogystal â Senedd y DU. O ran masnach, wel, un o'r pethau a ddywedodd yn nes ymlaen oedd bod ein heconomi yn wan oherwydd ei bod yn dibynnu ar yr UE. Beth ar y ddaear sydd o'i le â dibynnu ar fasnach ag Ewrop? Nid ydym yn awtarciaeth, ac mae'n bwysig dros ben ein bod yn masnachu gyda gwledydd eraill ac economïau eraill fel Ewrop.

Yn olaf, ar ffiniau, beth am hoelio'r  chwedl hon unwaith eto. Ni fydd ac ni all y DU reoli ei ffiniau ei hun. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd. Pam? Oherwydd bod gan y DU dir sydd yn ffinio â Gweriniaeth Iwerddon a fydd yn ffin agored. Felly, gadewch inni setlo hyn nawr: mae'r syniad hwn y bydd y DU yn rheoli ei ffiniau mewn rhyw ffordd gyda rheolaethau ar ei ffiniau yn anghywir, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei bwysleisio drosodd a throsodd.

O ran yr hyn a ddywedodd am gytundebau masnach, ie, wrth gwrs ein bod eisiau gweld y cysylltiadau masnachu gorau posib ag economïau eraill. Rydym yn edrych ar wledydd eraill. Os edrychwn ar gig oen Cymru, er enghraifft, mae'n cael ei werthu yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith bod gennym economi fawr a marchnad fawr ar garreg ein drws. Nid oes marchnad—nid  oes marchnad—a fydd yn disodli'r farchnad ar gyfer allforio cig defaid Cymru yn y farchnad sengl Ewropeaidd. Nid yw'n bodoli. Nid yw'n bodoli. A phan glywaf Brexiteers, fel Jacob Rees-Mogg ac eraill, yn dweud, 'bydd yn golygu y cawn fwyd rhatach', yr hyn y maent yn ei olygu yw y bydd bwyd yn cael ei fewnforio a bydd ein ffermwyr yn cael eu twyllo. Dyna beth maent yn ei olygu. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir am hynny: maent yn barod i fradychu'r diwydiant amaethyddiaeth fel bod mewnforion yn rhad, a byddant yn gwneud yr un peth ar gyfer diwydiannau eraill. Pam? Pam? Oherwydd nid yw'n bwysig iddynt. Os ydych yn gwrando ar rai economegwyr, nid yw'n bwysig: 'Beth os collwn swyddi gweithgynhyrchu, oherwydd gwneir iawn am hynny mewn rhyw ffordd yn y diwydiannau gwasanaeth?' Felly, ffarwel, ddiwydiant dur; nid ydych yn cyfrif. Awyrenneg, ceir—ddim yn cyfrif. 'Economeg heb fodau dynol', yr wyf yn galw hynny, ond dyna'r hyn a argymhellir gan y Brexiteers caled. Os edrychwn, er enghraifft, ar— [Torri ar draws.]

15:00

Mae'n sôn am Lywodraeth Fflandrys. Wrth gwrs mae'r DU yn farchnad bwysig, ond mae uniondeb y farchnad sengl Ewropeaidd yn llawer pwysicach i unrhyw wlad neu unrhyw weithgynhyrchydd na dim arall. Dywedwyd wrthym y byddai gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn gyrru—mae'n debyg y byddent yn gyrru—i'n hachub. Maen nhw wedi dweud yn eithaf clir, 'Mae'r DU yn farchnad bwysig, ond mae uniondeb y farchnad sengl Ewropeaidd yn llawer pwysicach i ni, ac nid ydym yn mynd i wneud unrhyw beth i darfu ar hynny.' Felly, nid oedd hynny'n wir, a chanfuwyd ei fod yn anghywir.

O ran ein hallforion, mae'r ffigur yn amrywio, o ran y 60au— weithiau i fyny, weithiau i lawr. Ond yr hyn sy'n gwbl glir yw bod y mwyafrif llethol o'n hallforion yn mynd i'r farchnad sengl. A yw hynny'n golygu na ellir gwerthu yno yn y dyfodol? Na, wrth gwrs nad ydyw. Nid yw'n golygu na allwn fasnachu a gwerthu yn y farchnad sengl Ewropeaidd. Y cyfan y mae'n ei olygu yw y bydd yr hyn a gynhyrchwn yn agored i rwystrau nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd, boed yn rhwystrau ariannol neu'n rhwystrau tariff—gwaith papur, biwrocratiaeth. Mae pobl yn sôn am leihau biwrocratiaeth; dyma lond gwlad o fiwrocratiaeth sydd yn mynd i gael ei gosod ar fusnes o ganlyniad i Brexit ac mae'r rhwystrau hynny yn bwysig, oherwydd byddai'n golygu ein bod yn llai cystadleuol yn y marchnadoedd hynny. Rydym eisoes yn gwybod bod rhai gwledydd yn Ewrop yn edrych ar gynhyrchu ŵyn mynydd ysgafn, oherwydd maent yn meddwl y bydd ein cynnyrch yn fwy costus ar y farchnad Ewropeaidd a byddant yn gallu cystadlu yn ein herbyn. A rhaid inni fod yn hollol glir ynghylch hynny.

Soniodd am ba hyd y dylai aelodaeth o'r undeb tollau bara. Wel, hyd nes fod dewisiadau eraill gwell, a dweud y gwir. Cyfnod trosiannol, ie, ond nid wyf yn glynu at y syniad y dylai'r cyfnod trosiannol fod am gyfnod penodedig o amser. Siawns na ddylai'r cyfnod trosiannol fod am gyhyd ag sy'n dda i'r  DU ac yn dda i Gymru.

Ac yna, yn olaf, o ran fframweithiau—holodd am fframweithiau. Gwneir cynnydd ar y fframweithiau. Mae trafodaethau yn digwydd. Maent heb ragfarn, wrth gwrs, i ddod i gytundeb ar gymal 11, a chymalau eraill y Bil Ymadael sy'n effeithio ar y setliad datganoli, ond mae'r trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt. A gallaf weld o fainc flaen y Ceidwadwyr bod y Brexiters caled eisoes wedi eu diarddel. [Chwerthin.]

Rydw i'n croesawu'r datganiad pwysig yma, ac os caf i ddweud hefyd, rydw i'n croesawu'r ymddiheuriad a ges i gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw.

Roeddech chi'n cyfeirio yn eich datganiad at sail dystiolaethol i bolisi'r Llywodraeth, ac rydw i'n cyd-fynd yn hollol â hynny, ac mae'r ymchwil yr oeddech chi wedi'i chomisiynu gan Ysgol Busnes Caerdydd yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol. Beth sydd ddim gyda ni mor belled, wrth gwrs, ydy astudiaeth traweffaith—impact—llawn, yn dangos y gwahaniaeth rhwng y senarios gwahanol. Dyna'r math o astudiaeth mae Llywodraeth yr Alban wedi'i chyhoeddi, maer Llundain, ac wrth gwrs mae hi wedi'i datgelu erbyn hyn o ran Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac rydych chi'n cyfeirio at hynny, a hefyd at astudiaethau eraill ar draws y Deyrnas Gyfunol. Oni fyddai'n ddefnyddiol i ni yng Nghymru gael astudiaeth o'r math hwnnw, fel ein bod ni'n gallu rhoi ffigwr ar yr agendor yma o ran effaith y gwahanol senarios, er mwyn i ni wneud yr achos hyd yn oed yn gryfach?

Roedd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi, wythnos diwethaf, rydw i'n credu, papur sydd yn ymwneud â'r cwestiwn yma o rôl Llywodraethau is-wladwriaethol o ran y polisi masnach. Mi oedd yr adroddiad wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran recriwtio negodwyr dylanwadol, tîm o negodwyr, a hefyd datblygu, bron a bod, gwasanaeth para-ddiplomyddol, os gallwch chi ei alw fe'n hynny, o ran Cymru yn dylanwadu ar lefelau gwahanol yn rhyngwladol, wrth gwrs, cyn Brexit ac ar ôl. A ydych chi'n bwriadu gweithredu rhai o’r argymhellion hyn?

Ac yn olaf, wrth roi tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Cyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, fe ddywedoch chi nad oedd yn bosibl i fod yn gwbl glir ynglŷn â pha fath o Brexit yr oedd pobl yn pleidleisio drosto. Onid oes cyfle yn y fan hyn i ni ddefnyddio, yng Nghymru, y pŵer sydd gyda ni fel Senedd i gynnal refferendwm cynghorol, a holi pobl Cymru pa fath o Brexit y maen nhw am ei weld? A ydyn nhw’n cytuno â ni mai’r opsiwn gorau i economi Cymru yw aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau?

15:05

Mae gwaith wedi cael ei wneud gan Ysgol Busnes Caerdydd yn edrych ar yr effaith ar fusnesau, ac rydym ni, wrth gwrs, yn ystyried tystiolaeth sydd wedi dod o astudiaethau eraill ynglŷn â’r gwahanol senarios. Rydym ni’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd gyda Brexit caled. Mae hynny’n amlwg ynglŷn â beth y mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ei ddweud. Nid yw’n stori sydd yn rhoi unrhyw fath o help i ni.

Un o’r pethau yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yw sicrhau bod yna sawl Papur Gwyn wedi cael eu cyhoeddi. Rydym ni wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â pha fath o gyfeiriad y dylai Brexit ei gymryd, fel Llywodraeth. Fe ofynnodd e gwestiwn ynglŷn â phwerau para-ddiplomataidd ac a ydyw hynny’n bwysig. Ydy, mae fe. Rwyf wedi cwrdd â Michel Barnier yn barod, rwyf wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr eraill, ac wrth gwrs mae gennym ni swyddfa ym Mrwsel a fydd yn aros ta beth sy’n digwydd—mae hynny’n mynd i fod yn hollbwysig—ac, wrth gwrs, rydym ni wedi agor swyddfeydd, neu yn paratoi i agor swyddfeydd, mewn sawl dinas, nid dim ond yn Ewrop ond ar draws y byd. Pam? Mae’n hollbwysig ein bod ni’n sicrhau bod yna bresenoldeb gennym ni mewn sawl dinas newydd er mwyn i ni allu cael buddsoddiad a hefyd yn gallu allforio i’r marchnadoedd hynny. Roedd yn hollol amlwg i fi ar ôl Brexit ei bod yn mynd i fod yn hollbwysig i sicrhau bod yna swyddfeydd gennym ni, er enghraifft, yn yr Almaen ac yn yr economïau sydd yn hollbwysig i economi Cymru. So, mae hynny yn bwysig ynglŷn â sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw barn Cymru. Bob tro rwy wedi bod ym Mrwsel, roedd Papur Gwyn o’u blaenau nhw. Roedden nhw’n gwybod beth oedd barn Llywodraeth Cymru ac yn gwybod ac yn gweld yn synhwyrol beth oedd yn y papur ei hun.

Refferendwm—diddorol. Un o’r pethau, wrth gwrs, y byddai’n rhaid i ni ei ystyried yw—. Wel, yn gyntaf i gyd mae yna gost, ond heb hynny, gydag unrhyw fath o refferendwm ymgynghorol, a ydyn ni’n siarad am rywbeth sydd â sawl cwestiwn? Ym mha ffordd wedyn ydych chi’n gallu gwybod yn gymwys beth yw barn pobl, os oes yna ryw fath o sblit ynglŷn â’r atebion? So, mae yna bethau fel yna i'w hystyried. I fi, rwy’n credu beth sy’n hollbwysig—ac rwy wedi dweud hyn sawl gwaith—dylai’r Senedd hon gael y pŵer i ganiatáu, neu na, y setliad Brexit y byddwn ni’n ei gael ar ddiwedd y dydd. Mae’n hollbwysig i fi fod yna ganiatâd, neu sêl bendith o leiaf, o bob Senedd y Deyrnas Unedig cyn bod Brexit yn symud ymlaen.

Wel, mae hon yn ddogfen eithaf diddorol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, ond dim ond ar gyfer yr ystadegau y mae'n eu cynnwys. Ymddengys fod ychydig iawn, os o gwbl, sy'n newydd o ran datblygu polisi. Mae'n siomedig iawn, fe gredaf, fod yr un math o fyrdwn pesimistaidd yr ydym wedi'i chlywed ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf bron ers y refferendwm, yn dod o geg y Prif Weinidog. Dywedodd Oscar Wilde unwaith,

Mae'r optimist yn gweld y doesen, ond mae'r pesimist yn gweld y twll.

Mae arnaf ofn mai'r Prif Weinidog yw'r dyn sydd bob amser yn edrych i mewn i dwll. Mae'n gweld anhawster gyda phob cyfle tra mai'r farn amgen yw edrych ar y cyfleoedd hynny sydd ym mhob anhawster, a dyna sy'n cael ei wneud gan bobl fusnes.

Mae unrhyw un sydd wedi rhedeg busnes erioed yn gwybod bod y byd yn newid yn barhaus ac rydych yn ymaddasu iddo. Os byddwch wastad yn esgus nad oes unrhyw ddewisiadau amgen i'r hyn a wyddom ar hyn o bryd, yna fyddwch chi byth yn dal i fyny gyda'r hyn sy'n digwydd yn y byd go iawn. Mae'r holl astudiaethau academaidd yn y byd yn amcanestyniadau yn unig o dybiaethau a gaiff eu plygio i mewn i gyfrifiadur. Os nad yw'r tybiaethau hynny yn troi allan i fod yn gyson â beth fydd yn digwydd maes o law, yna mae'r rhagolygon hynny yn anghywir bob tro, a dyna pam y mae'r rhan fwyaf o ragolygon economaidd yn anghywir, ac yn fwyaf penodol y rhai sydd wedi dod allan o Drysorlys ei Mawrhydi yn Whitehall. Felly, ni fyddwn yn cynghori'r Prif Weinidog i roi gormod o sylw i astudiaethau academaidd o unrhyw fath, p'un a ydynt yn gweddu i'w farn ef o'r byd, neu yn wir fy un i.

Y pwynt am ail refferendwm, a godwyd gan Adam Price. Yn y refferendwm—y refferendwm go iawn a gawsom bron i ddwy flynedd yn ôl—gofynnwyd un cwestiwn syml i'r bobl: a ydych chi eisiau gadael yr UE neu aros yn yr UE? Nid oedd unrhyw os nac oni bai. Nid yw'n golygu, wyddoch chi, 'pa fath o fargen fasnach yr ydych chi am ei gweld o ganlyniad i adael yr UE?' Gallem gael refferendwm ar y mathau gwahanol o fargen fasnach, heb amheuaeth, ond ni fyddai hynny'n effeithio ar y cwestiwn gwirioneddol, sef yr hawl i adennill rheolaeth dros ein ffiniau ein hunain, a'r hawl i wneud ein cyfreithiau ein hunain mewn sefydliadau seneddol fel hyn. Nid yw aros o fewn y farchnad sengl a'r undeb tollau yn gyson â gadael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd byddem wedyn mewn gwirionedd mewn sefyllfa ddeddfwriaethol waeth nag yr oeddem gynt: y tu allan i'r UE, ond yn amodol ar y rheolau y maent yn eu gwneud ac ni fyddai gennym unrhyw swyddogaeth ffurfiol wrth ddatblygu polisïau a deddfau y byddai'n rhaid inni ufuddhau iddynt.

Rwy'n cynghori'r Prif Weinidog i gadw pethau mewn persbectif. Ie, o ganlyniad i adael yr UE, hyd yn oed os nad oes modd taro bargen gyda'r UE oherwydd eu bod yn rhy anhyblyg ac maent yn gweld—. Y nhw yw'r eithafwyr ideolegol yn hyn, fel y nododd y Prif Weinidog. O ran y llefarydd ar ran diwydiant ceir yr Almaen, dywedodd fod ganddynt lawer mwy o ddiddordeb mewn cadw'r farchnad sengl gyda'i gilydd fel uned wleidyddol nag yn y difrod economaidd y byddai'n ei wneud i'r Almaen pe byddem yn gadael yr UE heb fargen fasnach. Mae un o bob pump o'r holl geir i deithwyr a wneir yn yr Almaen— dyna 820,000 o gerbydau—yn cael eu hallforio i'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Mae ganddynt ddiffyg o £20 biliwn y flwyddyn ar gyfrif masnachu mewn ceir yn unig. Mae gan y Deyrnas Unedig ddiffyg masnach o dros £60 biliwn gyda'r UE.  Mae cyfle enfawr yma ar gyfer amnewid mewnforio, er enghraifft.

Rhoddodd y Prif Weinidog sylw mawr i gig oen. Mae'r ddogfen ei hun yn dangos pa mor fach yw'r farchnad yr ydym  yn sôn amdani: £402 miliwn y flwyddyn yw ein hallforion cig oen— neu gynhyrchion amaethyddol, yn hytrach. Ond, rydym yn mewnforio gwerth £600 miliwn o gynnyrch amaethyddol. Mae 60 y cant o'r holl fwyd a fwyteir yng Nghymru bob blwyddyn yn cael ei fewnforio. Felly mae — [Torri ar draws.] Rwy'n mynd yn ôl y ffigur a welir yn y ddogfen. [Torri ar draws.] Yn y ddogfen. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, credais mai chi oedd hynny.

15:10

Na, nid y fi, ond y fi yw e nawr, ac mae angen i chi ofyn cwestiynau. Dyma eich cyfle i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Ie, yn union. Rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff gadw'r mater hwn mewn persbectif. Gan y rhagwelir gan y Comisiwn Ewropeaidd ei hun y bydd 90 y cant o'r twf mewn masnach yn y 15 mlynedd nesaf y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae'r  farchnad fyd-eang ar gyfer yr hyn a gynhyrchwn yng Nghymru yn mynd i dyfu, tra bod y farchnad yn Ewrop yn ddisymud. Dyna pam, fel y nododd Mark Isherwood yn gynharach, mae'r gyfran o'n masnach yr ydym yn ei gwneud gyda'r UE yn lleihau erbyn hyn, nid yn lleiaf oherwydd problemau ag ardal yr ewro.

Felly, yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrth y Prif Weinidog yw y dylai wneud llawer mwy—a mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma—dylai fod yn gwneud llawer mwy i helpu busnesau Cymru i ymdopi â'r newidiadau anochel sy'n mynd i fod yn angenrheidiol yn y cyfnod trosiannol a fydd yn dilyn yn syth ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Does dim pwynt mewn dal i daro  eich pen yn erbyn wal frics . Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn benderfynol o adael yr Undeb Ewropeaidd, gadael y farchnad sengl, gadael yr undeb tollau. Gadewch inni bellach weithio gyda'n gilydd i gynhyrchu set ymarferol o gynigion ar sut i sicrhau bod y broses yn llawer mwy derbyniol, hyd yn oed i'r rhai sydd yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer y busnesau a fydd yn gorfod ymdopi â newidiadau ychwanegol. Nid oes neb yn gwadu nad oes newidiadau ychwanegol sy'n mynd i ddod, ond maen nhw i gyd yn hawdd eu trin.

Gobaith ofer unwaith eto. A gaf i ei atgoffa fy mod mewn gwirionedd wedi rhedeg busnes? Yn llwyddiannus, diolch, felly rwy'n gwybod sut mae'n gweithredu. Yn ail, a gaf i ei atgoffa bod economi Ewrop yn tyfu'n gyflymach nag economi'r DU? Felly, nid yw'n cael ei chaethiwo mewn rhyw ffordd gan yr ewro nac unrhyw beth arall. A gaf i fynegi syndod ei fod yn ymwrthod yn fwriadol â thystiolaeth— rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn anghyfleus iawn i'r rhai sydd wrth eu bodd yn gweld gobaith ofer? Mae'n dweud, 'Wel, wyddoch chi, pleidleisiodd pobl i adael yr UE. Mae hynny'n wir.' Mewn gwirionedd, nid ydym yn gwybod dros beth y gwnaethant bleidleisio y tu hwnt i hynny. Ceir rhai pobl sydd â dehongliad mwy eithafol nag eraill. Nid yw Norwy yn yr UE. Cafodd model Norwy ei gynnig gan Aelodau o'i blaid ei hun, a dywedir wrthym yn awr nad yw'n gadael yr UE mewn gwirionedd. Nid yw Norwy yn yr UE, ac eto mae ganddi'r math o drefniadau masnach buddiol y mae'n dymuno eu cael gyda'r farchnad sengl Ewropeaidd. Os gall Norwy wneud hynny, yna pam na all y DU? Unwaith eto, mae'n ailadrodd y mantra hwn, a gwahoddaf y Brexiteers yn y Siambr hon i ateb y cwestiwn hwn ar ryw bwynt: ni fydd y DU yn rheoli ei ffiniau. Ni fydd yn rheoli ei ffiniau; bydd ganddi ffin agored gyda'r Undeb Ewropeaidd yn Iwerddon. Felly, myth yw'r syniad hwn y bydd y DU yn rheoli ei ffiniau ac nid oedd erioed yn wir, ac roedd yn rhywbeth y cafodd y bobl eu camarwain arno, yn blwmp ac yn blaen, yn y refferendwm Ewropeaidd. Felly, anghofiwch am hynny; ni all y DU reoli ei ffiniau ei hun yn y ffordd honno.

Mae'n crybwyll y tramorwyr afresymol—y tramorwyr afresymol sy'n bodoli yn Ewrop sydd mor afresymol na wnânt blygu i ewyllys y DU. Pa mor ofnadwy yw hynny na fyddant yn cytuno â'r hyn y mae'r DU yn ei ddweud mewn gwirionedd. Wel, wrth gwrs dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny; mae ganddynt eu buddiannau eu hunain i ymladd drostynt.

Ac mae'n sôn am ddiwydiant ceir yr Almaen. Mae diwydiant ceir yr Almaen yn gweld y farchnad sengl yn bwysicach nag unrhyw beth arall, yn bwysicach na marchnad y DU. A pham? Wel, maent wedi cyfrifo y bydd pobl yn dal i brynu BMWs, byddan nhw'n dal i brynu Mercedes-Benz, byddan nhw'n dal i brynu Audis, a thalu'r pris ychwanegol, ond nid yw yr un fath i weithgynhyrchwyr ceir eraill pan fyddan nhw'n ceisio allforio ceir nad oes ganddynt yr un math o enw premiwm yn y dyfodol.

Mae'n sôn am gig oen. Mae cig oen yn farchnad fach iawn. Does dim ots am gig oen—rhywbeth y gallwn ei aberthu. Nid yw ond ychydig o gannoedd o filiynau. Y gwir amdani yw bod angen allforion ar ddiwydiant cig oen Cymru i oroesi. Nid yw defnyddwyr y DU yn tueddu i brynu yn y niferoedd sydd eu hangen.

Wedyn mae'n dweud ein bod yn mewnforio £600 miliwn; mae angen inni gael rhywbeth yn lle mewnforio. Rhoddwyd cynnig ar hynny yn y rhyfel, a chawsom ddogni. Ai dyna beth mae'n ei awgrymu? Oherwydd yr hyn y mae'n ei awgrymu yw hyn: mae'n beth drwg bod y DU yn mewnforio bwyd. Felly, mewn geiriau eraill, os ydych am brynu afalau ym mis Ionawr, hen dro. Os ydych am brynu cennin ym mis Rhagfyr, hen dro. Os ydych am brynu mefus y tu allan i'r tymor, ym mis Mai, hen dro. Felly, yr hyn a ddywed wrth y defnyddiwr yw hyn: mewn gwirionedd, yr hyn a ddymunwn yw atal y mewnforion hynny rhag dod i mewn, fel na allwch brynu yr hyn yr ydych am ei brynu. Wel, rhowch gynnig ar hynny er mwyn darbwyllo defnyddwyr yn y dyfodol.

Felly, fy nghyngor i iddo ef yw hyn: agorwch eich llygaid ac edrych ar y dystiolaeth, peidiwch â chael eich dallu gan ideoleg neu genedlaetholdeb a dechrau dweud y gallwn gael Brexit sydd mewn gwirionedd yn synhwyrol i'r DU, nid un sy'n gostus o ran biwrocratiaeth, nid yn un sy'n dinistrio ein diwydiant ffermio, nid un sy'n dinistrio ein diwydiant dur, nid un sy'n ei gwneud yn anos inni ddenu buddsoddiad o wledydd eraill oherwydd nad ydym yn rhan o'r farchnad sengl, a gadewch inni gael synnwyr cyffredin, Brexit synnwyr cyffredin, ac nid un sy'n cael ei ysgogi gan eithafiaeth pur.

15:15

Brif Weinidog, croesawaf eich datganiad. Ceisiaf gadw fy nghyfraniad at y cwestiynau ac at y pwnc, sef y polisi masnach, ac nid ailadrodd y trafodaethau refferendwm, fel yr ymddengys yr ydym yn eu clywed mewn mannau eraill.

Brif Weinidog, mae'r polisi masnach, yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, hefyd yn ystyried rhywbeth a godwyd yn gynharach, oherwydd roeddwn yn falch iawn o weld, ar dudalen 15, y cyfeiriad at sefyllfa 'dim bargen', oherwydd o leiaf rydym yn dechrau cydnabod bellach bod angen rhoi sylw i 'dim bargen', ac mae'n cyfeirio at hynny. Felly, rwy'n falch iawn ar hynny.

Ond mae'r papur y mae'n adeiladu arno, sef  gwaith yr ysgol fusnes ym Mhrifysgol Caerdydd, hefyd yn trafod y sectorau a oedd mewn perygl, yn bennaf y sectorau hynny a ystyrid yn ganghennau o sefydliadau byd-eang, ac, o ganlyniad, eu cadwyni cyflenwi hefyd. Ond yr hyn yr wyf am ei wybod mewn perthynas â hynny yw hyn: pa baratoadau a wneir i ddatblygu cynlluniau cymorth ar gyfer y mathau hynny o fusnesau a'u cadwyni cyflenwi? Ac mae'n tynnu sylw at y ffaith na ddylech ganolbwyntio ar sectorau; dylech ganolbwyntio ar y busnesau eu hunain, oherwydd mae ganddynt anghenion gwahanol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hynny ac yn nodi'r rhai sy'n flaenoriaethau ar gyfer economi Cymru, oherwydd—mae hynny'n golygu efallai y rhai sy'n ychwanegu gwerth i Gymru, nid dim ond yn dod i mewn a mynd allan eto, lle nad yw'n ychwanegu llawer o werth at y cynnyrch ac, felly, nid yw'r economi yn tyfu llawer. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf beth fyddwch yn ei wneud i edrych ar y sectorau hynny, y busnesau hynny, ac yn eu paratoi i'w helpu mewn sefyllfa lle gallwn bellach ddiweddu gyda 'dim bargen'?

Hefyd, rydym yn sôn am y cyfnod pontio yn eich papur. Nawr, mae Dr Tobias Lock o Brifysgol Caeredin wedi rhoi sgyrsiau ac wedi ysgrifennu papur ar yr heriau cyfreithiol sy'n codi yn ystod y cyfnod pontio. A allwch chi ddweud wrthyf pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran yr agweddau cyfreithiol a allent fod yn newid yn ystod cyfnod pontio a beth yr ydych yn mynd i'w wneud i sicrhau nad yw busnesau Cymru ac economi Cymru yn wynebu heriau ychwanegol gan nad oes unrhyw un wedi meddwl amdanynt yn y sefyllfa gyfreithiol hon?

Hefyd, soniasoch, yn y papur, am wahanu rheoliadau. Nawr, ddoe, roeddem yn bresennol mewn sesiwn bord gron fel pwyllgor, ac un o'r materion a gododd oedd ardystio y tu hwnt i'r UE. Yr hyn nad oeddent yn ei ddymuno oedd dyblygu ardystio yn y DU, lle mae'n rhaid iddynt gael ardystiad y DU ac ardystiad yr UE oherwydd nad oes trafodaethau wedi'u cynnal rhwng y DU a'r UE ar sut y gallant mewn gwirionedd gynrychioli ei gilydd a derbyn ardystiad ei gilydd. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ein busnesau yn wynebu mwy o fiwrocratiaeth a dyblygu ardystio oherwydd nad oes unrhyw un wedi cydweithio a dweud, 'Gadewch inni sicrhau bod hyn yn gyfartal ar draws yr UE'? Maent ei angen mewn gwirionedd ar draws y byd, ardystio cyfartal, ond o leiaf mae gennym ardystio'r UE ar hyn o bryd. Rydym am sicrhau nad ydym yn cynyddu ac yn gorfod ei ddyblygu o ganlyniad.

Yn olaf, Brif Weinidog, y Bil Masnach. Ni chafodd ei grybwyll, mewn gwirionedd, yn eich papur. Gwyddom fod y Bil Masnach yn cyfeirio at newidiadau i reolau masnach presennol yr UE a sut y cânt eu rhoi ar waith, gan gynnwys yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach. A oes modd ichi roi ychydig o fanylion ynghylch sut y gwelwch yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn dod i mewn? Soniasoch yn eich datganiad am fater dur; rydym yn gwybod bod yr UE bellach wedi rhoi rhwymedïau masnach yn erbyn dur o Tsieina yn benodol. Yn amlwg, mae'n effeithio ar fy etholaeth i yn fawr iawn. Ond sut ydym mewn gwirionedd am fynd i'r afael â rhwymedïau masnach ar ôl Brexit i sicrhau nad yw ein diwydiannau yn dioddef o ganlyniad i fargen fasnach a wnaed gan Lywodraeth y DU, yn enwedig â Tsieina, sy'n caniatáu i ddur a fewnforiwyd ddod i mewn yn rhad? Dyna un enghraifft yn unig, heb sôn am yr hyn sy'n digwydd yn America ac ym mhobman arall. Felly, mae'n bwysig inni edrych ar hynny a sicrhau bod gennym lais o ran rhwymedïau masnach.

15:20

A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod, David Rees, am y cwestiynau hynny? Os edrychwch chi ar y gwaith sydd wedi'i wneud gan Ysgol Busnes Caerdydd, mae'n edrych ar sut beth fyddai senario 'dim bargen'. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn nodi bod rhai sectorau mewn mwy o berygl, er enghraifft, o rwystrau tariff, ac eraill o rwystrau nad ydynt yn rhai tariff, ac rydym yn gweithio gyda'r sectorau hynny i wneud yn siŵr y gallwn ddeall eu hanawsterau.

Un peth y clywaf dro ar ôl tro—fe'i clywais eto ddoe—a hynny yw'r effaith ar recriwtio, gan fusnesau sy'n dweud wrthyf, 'Rydym yn recriwtio o wledydd eraill. Beth sy'n digwydd yn awr os na allwn recriwtio? Rydym yn sefydliad rhyngwladol, mae angen inni gael y bobl orau o ble bynnag y maent. Beth sy'n digwydd nawr?' Nid ydym yn sicr sut y mae hynny'n mynd i weithio yn y dyfodol ar ôl Brexit .

O ran yr heriau cyfreithiol y mae—. Y peth arall y dylwn fod wedi'i grybwyll, wrth gwrs, yw ein bod yn agor swyddfeydd ledled y byd, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ein bod yn canfod marchnadoedd newydd i geisio lliniaru effaith Brexit caled. Ond gadewch inni beidio ag esgus mewn gwirionedd y gallwn oresgyn yr heriau hynny y byddai'n eu creu.

O ran heriau cyfreithiol, mae llawer o hynny yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfnod pontio. Os yw'r DU yn fodlon derbyn y byddai Llys Cyfiawnder Ewrop yn dal i gael awdurdodaeth ac y byddai cyfreithiau'r UE yn dal yn berthnasol yn y cyfnod pontio hwnnw, yna nid oes unrhyw anhawster. Ond wrth gwrs mae'r anhawster yn codi o ran y DU yn dweud, 'Nid ydym yn mynd i wneud hynny'. Pwy sydd wedyn yn gweithredu fel llys masnach? Pa gyfle fydd i ymwahanu? Mae angen rhoi sylw i'r holl bethau hyn.

Nid oes unrhyw reswm, wrth gwrs, mewn meysydd datganoledig pam na allai Senedd a Llywodraeth ddatganoledig dderbyn rheoliad newydd yr UE a'i ymgorffori i gyfraith ddomestig. Nid oes dim i'n hatal rhag gwneud hynny, ond wrth gwrs byddai hynny'n fater i'r Senedd hon. Os edrychwn, er enghraifft, ar y cyrff rheoleiddio: rwyf wedi crybwyll yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd eisoes y prynhawn yma, sef Euratom. Os edrychwn ar reoleiddio'r diwydiant awyr—nid oes yr un o'r pethau hyn wedi cael sylw. Ni ŵyr unrhyw un eto, a dim ond blwyddyn sydd i fynd. Ni ŵyr unrhyw un eto sut fydd y materion hyn yn cael eu datrys yn y dyfodol, ac mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud nad oes neb am weld dyblygu o ran ardystio. Rwyf wedi clywed rhai yn Llywodraeth y DU yn dweud, 'Wel, welwch chi, yn y bôn yr hyn a olygir gan Brexit yw cadw'r un rheolau â'r Undeb Ewropeaidd, ond ein dewis ni yw eu cadw neu beidio'. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud hynny. Rwyf wedi clywed pobl eraill yn sôn am goelcerth o reoliadau. Maent eisiau economi â rheoliadau isel, un lle caiff cyflogau eu ffrwyno, lle mae safonau amgylcheddol yn cael eu dirwasgu, a dyna'r ideoleg asgell dde glasurol pan ddaw'n fater o sut fydd Prydain y tu hwnt i Brexit.

O ran  rhwymedïau masnach, mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, fod gennym ran wrth lunio sut y gallai edrych yn y dyfodol. Gwyddom ei fod yn arf pwerus. Rydym wedi ei weld yn yr Unol Daleithiau yn yr ychydig wythnosau diwethaf, a pha mor bwysig y gall hynny fod, a'r effaith bosib ar economïau y tu allan i UDA. Bydd hwnnw'n ffactor pwysig o ran y trafodaethau a gawn gyda Llywodraeth y DU ynghylch beth ddylai'r cysylltiadau masnach a'r strwythur masnach fod o fewn y DU yn y blynyddoedd i ddod.

Brif Weinidog, dim ond ychydig o fân bwyntiau sydd gennyf i. Rydych yn adnabod fy etholaeth yn dda, ac yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf byddwch wedi bod yn ymwybodol o effaith cau'r pyllau glo, cau diwydiant trwm. Eto dros y pum mlynedd diwethaf, bu twf sylweddol a ffurfio cwmnïau newydd. Mae llawer o hynny oherwydd nifer o brosiectau Llywodraeth Cymru, y bartneriaeth â llywodraeth leol. Yn y pum mlynedd diwethaf sefydlwyd 1,015 o fusnesau newydd yn etholaeth Pontypridd, cynnydd o 53 y cant.

Rwy'n falch eich bod wedi sôn ychydig am rai o'r materion yn ymwneud â fframweithiau rheoleiddio ar y cyd gyda'r UE, oherwydd un o'r pryderon a godir gan nifer o'r cwmnïau hyn sy'n allforio i'r Undeb Ewropeaidd yw, 'Gallwn ymdopi â'r tariffau, gallwn reoli'r tariffau; y broblem yw na ellir cael unrhyw oedi wrth gludo nwyddau.' Y pwynt sylfaenol yw cludo nwyddau. Os na allant ddosbarthu'n brydlon, byddant yn colli'r farchnad benodol honno a dyna eu pryder a'u rhwystr mwyaf. Ac os nad ydym yn yr undeb tollau, neu rywbeth tebyg iawn i undeb tollau, os oes gwahaniaeth o ran fframweithiau rheoleiddio, ni fyddwn yn gallu masnachu o gwbl. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn sicrhau bod rhywfaint o sicrwydd i'r cwmnïau bach hynny sydd wedi'u sefydlu, sydd wedi tyfu mewn cyfnod anodd, sydd yn awr yn wynebu rhwystr eto gan Lywodraeth y DU oherwydd ei dull gweithredu, ei hymagwedd ideolegol a'i hobsesiwn gyda'r undeb tollau?

15:25

Does dim amheuaeth yn fy meddwl i mai aros yn yr undeb tollau yw'r ffordd orau ymlaen. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o unrhyw drefniant amgen sy'n cyflawni unrhyw beth cystal â'r trefniadau sydd gennym nawr neu unrhyw beth a fyddai'n well yn y dyfodol. Os ydych yn fusnes ar hyn o bryd ac yn allforio i'r Undeb Ewropeaidd neu, yn wir, yn cyflenwi busnes sy'n allforio i'r Undeb Ewropeaidd, rydych yn dibynnu ar lif masnach rydd. Yr hyn y gall Brexit ei wneud, er nad oes yn rhaid iddo ei wneud y ffordd hon, yw gosod biwrocratiaeth enfawr ar fusnesau—mwy o lenwi ffurflenni, mwy o fiwrocratiaeth, mwy o oedi. Mae hyn yn arbennig o wir ac yn arbennig o ddifrifol yn achos y diwydiant pysgota, er enghraifft, lle, wrth gwrs, mae nwyddau yn hynod ddarfodus, ac mae angen iddynt gael eu symud yn gyflym iawn. Mae'r diwydiant hwnnw'n llwyr ddibynnol ar allforio—anfon nwyddau i farchnadoedd lle bydd pobl yn talu fwyaf ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota. Y peth olaf y maent yn ei ddymuno yw gorfod llenwi ffurflenni cyn iddynt fynd, canfod ciwiau mewn porthladdoedd megis Dover oherwydd nad yw'r seilwaith ffisegol yno—ac nid oes camau wedi'u cymryd, yn fy marn i, i fynd i'r afael â mater seilwaith. Gwiriadau yn y porthladdoedd—lle byddan nhw'n cael eu cynnal? Nid yw hynny wedi cael ei wneud; nid yw'r gwaith ar gyfer hynny wedi digwydd eto. Mae'r holl bethau hyn yn rhwystrau, heb sôn am dariffau posib, ond bydd pob un o'r rhwystrau hynny ar waith ar gyfer busnes. Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn: pa gysur y gallaf i ei roi iddo? Y cysur y gallaf ei roi iddo yw hwn, y byddwn yn parhau i frwydro i sicrhau bod gan fusnesau fynediad at ein marchnad sengl fwyaf, y byddant yn rhydd o fiwrocratiaeth ac yn rhan o undeb tollau.

Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw ac am y papur sydd wedi cael ei gyhoeddi. Y ffaith amdani, wrth gwrs, yw bod y papur hwn, yn ogystal â'r dadansoddiad a ryddhawyd yn y dirgelwch, fel petai, o San Steffan, wedi datgelu bod cost i Brexit i economi Cymru—beth bynnag fo'r seniaro rŷch chi'n ei dilyn, mae yna gost. Mae yna gost arbennig, fel sydd wedi cael ei amlinellu yn y papur yma, i'r sector defaid, o ran amaeth, difrifol iawn yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio. Mae'n rhaid i ni gofio bod, tu ôl i'r sector yna—ie, mae yna economi, rhan o'r economi, ond mae yna bobl, cymunedau, tirwedd, rheoli dŵr, rheoli'r amgylchfyd, yr iaith Gymraeg, a ffordd o fyw sydd wedi bod yn trin tirwedd Cymru ers dros ddwy filenia, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw ffocws ar yr hyn sydd yn hynod bwysig i ni fel cenedl, yn ogystal â phwysig i ni fel economi. Mae hynny yn rhywbeth i'w gofio yn hyn. 

A gaf i jest ofyn iddo fe sut mae'n bwriadu mynd ymlaen â'r gwaith yma nawr? Roedd Adam Price wedi gofyn i chi ynglŷn â rhanbarthau a delio â Llywodraethau eraill. Rŷch chi wedi gweld, mae'n siŵr, bod Prif Weinidog Llafur Gibraltar yn dweud bod cyfansoddiad Gibraltar yn rhoi hawl, yn ei dyb ef, i fusnes ardollau a thariffau gael ei benderfynu gan Gibraltar, tu fewn i'r cyfansoddiad a gafodd ei gymeradwyo yn y refferendwm yn 2006. Gwnaethoch chi fynd draw i Gibraltar ym mis Mehefin, rydw i'n meddwl, y llynedd. A ydych chi wedi trafod hyn gyda Phrif Weinidog Gibraltar? Ac, yn ail, a ydych chi o'r farn y dylai fod yna bleidlais yn y Cynulliad hwn, yn y Senedd hon, parthed unrhyw fargen neu gytundeb masnach sydd wedi ei wneud? Rŷm ni'n gwybod ein bod ni'n cael pleidlais ar y cynnig deddfwriaethol cyn belled ag mae'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd yn y cwestiwn, ond mae hwn yn gwestiwn penodol ynglŷn ag unrhyw gytundeb masnach. Serch ein bod ni'n cael refferendwm ymgynghorol, fel yr oedd Adam Price yn awgrymu, ai peidio, mi ddylem ni gael pleidlais o ddifrif yn y Senedd hon ynglŷn a'r materion yma.     

Ac, yn olaf, mae'n rhaid i mi ofyn i chi, achos rydych chi wedi gosod allan rhywbeth heddiw, fel yr ŷch chi'n gwybod, mae yna lot yn gytûn rhwng y ddwy blaid, Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, ar y materion hyn—rŷch chi'n cael eich arwain gan arweinydd yn San Steffan, Jeremy Corbyn, sydd ddim yn credu mewn aros yn y farchnad sengl, sydd ddim yn credu mewn aros yn yr undeb ardollau ac sydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i stopio hynny ddigwydd ar lefel San Steffan. Ac mae'n rhaid i mi ddweud: beth ydych chi'n mynd i'w wneud fel Prif Weinidog Cymru i roi buddiannau Cymru o flaen buddiannau eich plaid eich hun yn y materion hyn? Achos os cariwn ni ymlaen â'r llwybr presennol, mae'n bosib iawn y cawn ni Brexit caled iawn, wedi'i arwain gan asgell dde y Blaid Geidwadol, a chyda rhyw gydsyniad tawel gan eich plaid eich hunan yn San Steffan.

15:30

Mae'n barn ni fel plaid a Llywodraeth yn hollol glir, ac rwyf wedi gwneud hynny'n glir hefyd, wrth gwrs, i gymdogion yn Llundain. Ynglŷn â beth ddywedodd e ynglŷn â'r diwydiant—os taw 'diwydiant' yw'r gair—defaid, mae'n hollol wir, wrth gwrs, bod ffermio yn rhan ganolog o fywyd cefn gwlad, ac, wrth gwrs, mae ffermio yn gallu effeithio ar gymaint o bethau fel yr amgylchedd a sicrhau bod cefn gwlad yn cael ei gadw yn y ffordd y byddem ni eisiau. Yr ofn sydd gen i yw: mae hi'n bosib, wrth gwrs, rhoi mwy o arian i ffermwyr, ond achos y ffaith y bydden nhw'n colli siẁd gymaint o'u marchnadoedd, nid ffermwyr fyddan nhw ragor, ac nid ffermio byddan nhw'n ei wneud. Byddem ni'n colli'r traddodiad yna. Byddai llai ohonyn nhw, yn colli'r traddodiad yna, byddai natur bywoliaeth y bobl sy'n byw yng nghefn gwlad yn newid, ac ni fyddai ffermio yn rhan o'u bywydau nhw. 

Ynglŷn â'r fframweithiau, mae'r gwaith yn symud ymlaen yn dda. Mae lot fawr o drafod wedi bod rhwng y llywodraethau. Nid ydym mewn sefyllfa eto lle mae yna gytundeb, ac wrth gwrs, fel y dywedais i, mae hwn yn rhywbeth sy'n gorfod cael ei ystyried wrth edrych ar y sefyllfa gyda'r Bil ei hun. 

Gyda Gibraltar, mae e'n wahanol, achos mae'n rhaid inni gofio bod Gibraltar tu fas i'r undeb tollau. Mae yna ffin galed iawn yn Gibraltar, a byddwn i ddim yn moyn gweld hwnna'n digwydd yng Nghymru. Mae hynny'n dangos beth sy'n digwydd os ydych chi tu fas i'r undeb tollau. Ac os yw unrhyw un eisiau gweld beth yn gwmws sy'n digwydd os mae yna un tirwedd tu fewn i'r undeb tollau ac un tirwedd tu fas, ewch i Gibraltar ac fe gewch chi weld. A dyna beth mae pobl yn trio ei osgoi ynglŷn ag Iwerddon. Os bydd hynny'n digwydd yn Gibraltar, yma mha ffordd ydych chi'n osgoi hynny yn Iwerddon? Wrth gwrs, cwestiwn sydd heb gael ateb eto. 

Ynglŷn â chael rhyw fath o bleidlais ar y Bil masnach, nid wyf yn gweld problem gyda hynny o gwbl. Rwyf wedi dweud sawl gwaith ei bod yn hollbwysig bod sêl bendith y Cynulliad ynglŷn â beth yw'r fframweithiau ar ddiwedd y dydd, beth mae Brexit yn edrych fel, ac, wrth gwrs, mae'n hollbwysig bod y Cynulliad yn mynegi barn ynglŷn â beth bynnag sydd yn digwydd gydag unrhyw fath o gytundeb ynglŷn â masnach.

Brif Weinidog, a gaf i groesawu eich datganiad a phapur polisi masnach Llywodraeth Cymru? Wrth gwrs, mae'r papur hwnnw'n dangos y byddai effaith anghymesur i economi Cymru gan Brexit caled, ac mae'n nodi'r sectorau sydd fwyaf mewn perygl o dariffau— moduron, cemegau, dur a pheirianneg drydanol— tra bod y diwydiant awyrofod yn wynebu mwy o risg o rwystrau nad ydynt yn rhai tariff. Dyma'r sectorau sydd ymysg y rhai mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru ac yn darparu nifer fawr o swyddi sgiliau uchel. Gwn y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn hollbwysig fod llais y busnesau allweddol hyn yng Nghymru, ac yn y sectorau hyn, yn cael ei glywed.

Ddoe, mewn gwirionedd, fel y dywedodd David Rees, ymwelodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ar gyfer trafodaeth ford gron, ag Aston Martin yn fy etholaeth i ac, yr wythnos diwethaf, siaradais â graddedigion peirianneg yn ffair yrfaoedd Aston Martin yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Denodd honno fyfyrwyr a graddedigion peirianneg ifanc a oedd yn awyddus i glywed am y cyfleoedd yn ffatri Aston Martin Sain Tathan, ymhlith y 750 o swyddi newydd sy'n dod i Gymru.

Mae buddsoddiad Aston Martin, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn rhoi gobaith a rhagolygon newydd, ond a all y Prif Weinidog egluro beth y gall y Llywodraeth ei wneud, pa ddylanwad y gall ei chael ar y trafodaethau yng ngham 2, i ddarparu sicrwydd a dilyniant ar gyfer busnesau fel Aston Martin, nid dim ond fel y dywedodd David Rees mewn perthynas â materion megis ardystio, sydd yn allweddol ar gyfer y sector modurol, ond hefyd ar gyfer safonau amgylcheddol a sgiliau?

A gaf i ddiolch i'r Aelod, fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, am y sylw hwnnw? Ie, wrth gwrs, mae'r rhain yn amseroedd ansicr i Aston Martin ac, yn wir, i fusnesau eraill, wrth iddynt geisio dyfalu pa fath o fframwaith y mae Llywodraeth y DU yn dymuno ei roi ar waith yn dilyn Brexit. Yn wir, bydd y trafodaethau hynny yn parhau, ac rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ein bod yn dymuno bod yn rhan o'r trafodaethau hynny, nid yn yr ystafell, fel petai, ond wrth law er mwyn cynnig cyngor ac i nodi pa beryglon posib allai fod. Nawr, nid yw hyn mor rhyfedd ag yr ymddengys, oherwydd dyma'r union fodel oedd yn bodoli pan oeddwn yn Weinidog materion gwledig ymhell yn ôl rhwng 2000 a 2002. Byddem yn cyfarfod bob mis, y Gweinidogion ar draws y DU, a byddem yn cytuno ar linell gyffredin yng Nghyngor Gweinidogion Ewrop. Byddwn yn mynd i Gyngor Gweinidogion Ewrop pan oedd busnes perthnasol i Gymru yn codi. Roeddwn yn Lwcsembwrg pan wnaed y fargen yn Lwcsembwrg ar gyfer dyfodol y polisi amaethyddol cyffredin. Ac roedd yn arfer i Ysgrifennydd Gwladol y DU ddod allan o'r ystafell gyda'r cynigion, gofyn ein barn ni amdanynt, a gofyn inni a oeddem yn hapus gyda nhw, ac roedd hynny'n gweithio'n eithriadol o dda. O ganlyniad i'r system honno, nid oeddem byth mewn sefyllfa lle'r oeddem yn teimlo ein bod wedi cael ein torri allan mewn unrhyw rhyw ffordd, neu yn wir na allem gefnogi'r fargen y daeth y DU iddi yn y diwedd. Mae hwnnw'n fodel yr ydym wedi annog Llywodraeth y DU i'w mabwysiadu unwaith eto.

15:35
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd a Digartrefedd

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

Mae angen cartref boddhaol ar bob un ohonom ni os ydym ni'n mynd i wireddu ein potensial a mwynhau lles sylfaenol. Mae miloedd o aelwydydd wedi osgoi digartrefedd drwy'r dull ataliol sy'n ofynnol o dan ein deddfwriaeth Deddf Tai (Cymru) 2014, sy'n destun cenfigen gwledydd eraill. Ond mae gennym ni lawer eto i'w wneud. Rydym ni i gyd wedi gweld pobl yn byw ar y strydoedd, ac, heb unrhyw amheuaeth, mae'r niferoedd wedi cynyddu. Pan rwy'n siarad gyda'r bobl rwy'n cyfarfod â nhw, rwy'n clywed straeon gofidus am deuluoedd yn chwalu, trais domestig, iechyd meddwl gwael, problemau ariannol, camddefnyddio sylweddau a phrofedigaeth. Gall y materion hyn achosi i bobl golli eu cartrefi, ond yna fe allan nhw greu cylch dieflig wedyn, gan arwain at gysgu ar y stryd. Yn rhy aml o lawer, caiff pobl eu dal yn y sefyllfa hon, ac efallai y caiff eu ffydd mewn gwasanaethau ei danseilio, a daw eu bywydau yn fwy anhrefnus. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol cenedlaethol ynglŷn â chysgu ar y stryd yr wythnos diwethaf, sy'n dangos canlyniadau cyfrif mis Tachwedd 2017. Mae'r ffigurau'n dangos bod yr amcangyfrif pythefnosol wedi cynyddu 10 y cant o'i gymharu â 2016, ac mae cipolwg ar un noson yn dangos cynnydd o 33 y cant. Mae hyn yn siomedig yn wyneb ein hymdrechion a'n buddsoddiad, ond nid yn annisgwyl, ac rwy'n credu i raddau helaeth bod hyn yn adlewyrchu effeithiau cynyddol cyni parhaus, mwy o dlodi ymysg pobl mewn gwaith, a diwygio lles.

Mae'r £2.6 miliwn a gyhoeddwyd yr haf diwethaf yn ariannu amrywiaeth o brosiectau arloesol, gan gefnogi anghenion pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae'r rhaglen PATH, a gynlluniwyd ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymorth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ceisio sefydlu ffordd o ddarparu gwasanaethau cyngor a chymorth tai sy'n seiliedig ar seicoleg. Bu ymateb cadarnhaol iawn i'r rhaglen hyfforddi hon, i helpu gweithwyr proffesiynol yn y sector i gynyddu eu gallu i ymwneud yn ystyrlon â phobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth. Erbyn diwedd mis Ebrill, byddwn ni wedi rhoi hyfforddiant i 1,000 o staff cymorth ledled Cymru.

Rydym ni'n ariannu 10 prosiect arbrofol Tai yn Gyntaf. Mae tystiolaeth o lwyddiant y dull Tai yn Gyntaf yn hysbys iawn, ond nid yw'n gweithio i bawb. Fodd bynnag, gall fod yn gyfrwng i gynnig cartref sefydlog a chael bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Mae'r Wallich, er enghraifft, wedi bod yn darparu gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn Ynys Môn ers rhai blynyddoedd, yn cefnogi pobl gydag anghenion cymhleth i gael a chynnal eu tenantiaeth. Rydym ni wedi ariannu ymchwil, y byddwn ni'n cyflwyno adroddiad yn ei gylch dros yr ychydig fisoedd nesaf, yn gwerthuso effaith rhan 2 y Ddeddf Tai, ac effaith y ddeddfwriaeth ar gyn-garcharorion. Bydd Shelter Cymru yn adrodd ar brofiadau pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ein dinasoedd, a bydd y dystiolaeth hon yn ychwanegu at y corff o wybodaeth megis yr adroddiad Crisis diweddar ynglŷn â beth sy'n gweithio yn eu mesurydd digartrefedd. 

Mae gennym ni sylfaen gadarn ar gyfer ein camau nesaf, gan weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu polisi, arferion a chanllawiau, gan fanteisio ar y dystiolaeth ryngwladol orau, ac ategu hyn gyda'n hymchwil gweithredu ein hunain. Mae gennym ni'r arian i fuddsoddi mewn rhaglenni a dulliau sy'n gwneud gwahaniaeth. Bydd awdurdodau lleol yn cael £6 miliwn yn ychwanegol yn eu setliadau refeniw. Byddaf yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod hyn yn darparu'r cyllid hirdymor sicr y galwodd Swyddfa Archwilio Cymru amdano yn ddiweddar. Caiff £2.8 miliwn ychwanegol ei roi i awdurdodau lleol er mwyn adeiladu ar y gwaith ataliol statudol, gyda phwyslais ar ei gwneud hi'n haws cael mynediad i'r sector rhentu preifat, defnyddio arferion sy'n seiliedig ar ddeall trawma, atgyfnerthu gwasanaethau i bobl ag afiechyd meddwl a/neu broblemau camddefnyddio sylweddau—gan gynnwys gwella gweithio ar y cyd rhwng y gwasanaethau tai ac iechyd meddwl a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau—a gweithredu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc a lleihau cysgu ar y stryd. Pan rwy'n siarad â gweithwyr rheng flaen, dro ar ôl tro rwy'n clywed y neges mai cael to uwch eich pen yw'r peth hawdd. Mae angen help ar bobl i oresgyn dyled, ymdrin ag effeithiau cam-drin domestig, afiechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. A bydd y materion hyn, os na chawn nhw eu datrys, yn arwain at ddigartrefedd mynych. 

Heddiw, rwy'n falch o gael lansio dwy ddogfen bolisi newydd. Mae'r naill yn nodi egwyddorion ar gyfer datblygu'r rhaglen Tai yn Gyntaf ledled Cymru. Cynllun gweithredu yw'r llall i leihau cysgu ar y stryd. Ac mae'r rhain yn ddogfennau fydd yn esblygu. Byddan nhw'n gosod sail ar gyfer trafod a gweithredu ar draws y sector. Byddant yn newid wrth inni gael mwy o dystiolaeth o beth sy'n gweithio, ac fe allan nhw adeiladu ar lwyddiannau. Rydym ni wedi datblygu ein hegwyddorion Tai yn Gyntaf drwy weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y Wallich ac awdurdodau lleol. Ceir tystiolaeth gref fod Tai yn Gyntaf yn gweithio, ond mae'n gweithio orau lle y dilynir egwyddorion craidd: tai heb unrhyw ymrwymiadau eraill, bod gwasanaethau cymorth ar gael ar unwaith, a chronfa fechan i helpu diwallu anghenion unigol. Mae'r ddogfen egwyddorion yn amlinellu'r egwyddorion hyn, a bydd fy swyddogion a minnau yn gweithio gyda phartneriaid allweddol dros y misoedd nesaf i ystyried sut orau i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym ni ar hyn o bryd i gefnogi'r gwaith o ddarparu rhaglenni yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn.

Mae'r cynllun gweithredu yn adlewyrchu pa mor benderfynol yr wyf i, a'n partneriaid, i leihau'n sylweddol nifer y bobl sy'n cael eu gorfodi i gysgu ar y strydoedd. Datblygwyd y cynllun hwn ar y cyd â rhanddeiliaid megis Shelter Cymru ac aelodau Rough Sleepers Cymru. Mae'n ddogfen weithio ddeinamig ac esblygol, fydd yn cael ei hadolygu'n barhaus a'i haddasu fel bo angen. Mae'r ddogfen yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau, yn cefnogi pobl i elwa ar wasanaethau a dod oddi ar y strydoedd mor gyflym â phosib. Mae hefyd yn ymdrin â materion ehangach fel adolygiad o anghenion blaenoriaethol a'n canllawiau ynglŷn â chynlluniau tywydd oer.

Un agwedd ar ddigartrefedd yw cysgu ar y strydoedd, ac ni allwn ni ond ymdrin o ddifrif â'r mater os oes gennym ni system sy'n cynnig tai diogel i bawb. Gall codi cartrefi ar y farchnad ac ehangu'r stoc tai cymdeithasol ond cyflawni'r amcan hwn i ryw raddau yn unig. Byddaf yn gweithio gyda'r sector rhentu preifat i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fanteisio ar eu cyflenwad ac ateb y galw. Byddaf hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni barhau i leihau nifer y cartrefi gwag. Mae'r cyllid a gyhoeddwyd yn y gyllideb i'w groesawu, ond rhaid inni ei wario'n ofalus. Nid wyf i'n fwriadol wedi disgrifio sut y bydd pob ceiniog yn cael ei wario. Rwy'n bwriadu adolygu'r cynnydd a'r dystiolaeth o'r cynlluniau arbrofol ochr yn ochr ag adroddiadau ymchwil yn y gwanwyn a'r haf. Byddaf hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried beth sydd ei angen fwyaf er mwyn datblygu sut yr ydym ni'n mynd ati i ymdrin â chysgu ar y stryd.

Rydym ni i gyd yn cydnabod yr heriau o ran darparu gwasanaethau cydweithredol. Bydd hynny'n gofyn am ffyrdd newydd o weithio a newid diwylliannol sylweddol. Rwy'n credu bod gennym ni hanes llwyddiannus o gyflawni o ran atal digartrefedd. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i roi'r arweinyddiaeth i sicrhau ein bod yn lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd a bod yr angen i bobl gysgu ar y stryd yn dod i ben. Diolch.

15:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

A gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru bellach yn mynd ati i fabwysiadu polisi Tai yn Gyntaf, neu o leiaf i arbrofi'n helaeth gyda'r polisi hwnnw? Mae'n rhywbeth y bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei annog ers peth amser, ac rwy'n falch o weld hynny.

Mae gennyf rai cwestiynau penodol, fodd bynnag. Yn gyntaf oll, faint o'r cynlluniau arbrofol fydd ar sail sirol, neu a ydyn nhw ar raddfa lai? Rwy'n credu bod angen inni wybod pa mor gynhwysfawr y bydd y cynlluniau arbrofol yn yr ardaloedd lle y byddan nhw ar waith. Rwy'n ein hannog i edrych ar lefel sirol er mwyn gweld mewn gwirionedd a yw'r math hwn o bolisi yn mynd i weithio petaem ni yn ei gyflwyno ledled Cymru. Fe hoffwn i fwy o fanylion ynglŷn â phryd y caiff y cynlluniau arbrofol eu gwerthuso fel y gallwn ni wneud y penderfyniad hwnnw, oherwydd mae llawer ohonom ni'n credu, o'r dystiolaeth y gwelsom ni, mai hyn sy'n cynnig y gobaith gorau ar gyfer y dyfodol.

Siawns fod angen i'r Llywodraeth adolygu ei hagwedd tuag at y gronfa Cefnogi Pobl erbyn hyn. Mae wrth wraidd y dull Tai yn Gyntaf, y gwasanaethau cymorth y mae pobl yn eu derbyn, a byddwch yn gwybod y bu'r rheini yn y sector, fel y Wallich, yn pwyso am adolygiad brys ac am wrthdroi polisi'r Llywodraeth yn y maes hwn. Mae'n rhaid imi ganmol y Gweinidog. Fe wnaethoch chi sôn wrth grybwyll y pwnc hwn mai rhoi to uwchben rhywun yw'r cam cyntaf hanfodol ond nad dyna'r peth mwyaf heriol. Mae a wnelo cynnal y gwelliant hwnnw â'r cymorth y mae pobl yn ei gael. Felly, dim ond eisiau gwybod yr wyf i pa mor eglur yw ffordd y Llywodraeth o ymdrin â hyn. Yn amlwg, os ydych chi'n mynd i roi gwisg ac enw newydd iddo, does fawr o ots gennyf i, ond ar hyn o bryd bu Llywodraeth Cymru yn cefnu ar ffyrdd fel hyn o weithio. 

A gaf i ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n credu bod angen dyddiad targed arnom ni ar gyfer rhoi terfyn ar gysgu ar y strydoedd? Rydym ni'n gwybod, ym Manceinion, eu bod nhw wedi gosod targed uchelgeisiol iawn o 2020. Targed Llywodraeth y DU yw canol y 2020au—2027, rwy'n credu. Fe hoffwn i weld targed mwy uchelgeisiol na hynny, ond efallai fod hynny rywle yn y canol—efallai targed dros dro y gallem ni ei sefydlu i ddechrau. Ac os gwelwn ni ddatblygiad polisi llwyddiannus yma—a byddwch yn cael cefnogaeth eang, rwy'n credu, o ran y syniadau arloesol sydd i'w gweld yn gweithio—yna fe allem ni, efallai, gynyddu'r targed hwnnw a bod yn arweinydd yn y sector hwn yng ngwir ystyr y gair, fel mae Manceinion ar hyn o bryd yn gobeithio bod.

Ynghylch y sectorau preifat annibynnol, byddaf yn eich canmol am grybwyll hyn o leiaf yn y datganiad, oherwydd mae'n rhan bwysig o'r ateb, ac fe hoffwn i wybod a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol, yn enwedig gyda'r sector preifat, oherwydd rydych chi yn cyfeirio at y Wallich ac elusennau eraill megis Shelter, ond rwyf yn credu y bydd darparwyr preifat yn rhan o'r ateb hefyd, ac fe hoffwn i wybod pa fath o drafodaethau yr ydych chi'n eu cael. Ac nid wyf i'n hollol siŵr o'r rhesymeg sydd wrth wraidd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran nad ydych chi'n bwriadu sôn am y gyllideb yn fanwl iawn. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, y fantais o fod yn fwy gonest am eich ymrwymiadau gwario yw y byddwch chi'n rhoi llawer mwy o wybodaeth i'r sector preifat annibynnol, fel y gallan nhw yna gynllunio eu gwasanaethau o safbwynt ehangu ar gyfer y dyfodol. 

Yn olaf, ynglŷn â chodi tai, nid wyf am ailadrodd y ddadl gyfan. Wrth gwrs, mae angen mwy o gyflenwad arnom ni, ac er mwyn cyflawni hynny, o ystyried ein bod ni'n siarad am y targedau tymor canolig a mwy hirdymor yma—ymhell i'r 2020au a hyd yn oed y tu hwnt—mae angen i chi ddychwelyd at yr asesiad o'r angen am dai, a chredaf mai amcanestyniad Holmans yw'r un y dylem ni fod yn ei fabwysiadu ac yn gweithio tuag at ei gyflawni, ac rwy'n eich annog i wneud hynny cyn gynted â phosib.

15:45

Diolch ichi am y cwestiynau hynny ac am eich croeso i'r polisi Tai yn Gyntaf. Cofiaf yn sicr mai dyna oedd y cwestiwn cyntaf ichi fy holi yn ei gylch pan ddes i i'r swydd hon, felly rwy'n falch o allu gwneud rhywfaint o gynnydd ynglŷn â'r mater hwn, yr ydym ni i gyd yn gytun yn ei gylch, rwy'n credu, sef hyrwyddo Tai yn Gyntaf.

Rydym ni wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o brosiectau ac mae'r rheini gydag awdurdodau lleol. Felly, mae Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Caerdydd, Conwy ac Abertawe eisoes wedi penodi timau staff ac eisoes yn symud tenantiaid i fyw mewn llety gan ddefnyddio'r model Tai yn Gyntaf. Ond, un o amodau'r cyllid hwnnw yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol roi adborth ynglŷn â'r datblygiad ac effaith pob un o'r cynlluniau hynny, a byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth honno i ddiweddaru a datblygu'r egwyddorion wrth inni geisio cyflwyno hyn yn fwy eang ledled Cymru, oherwydd mae'r ddwy ddogfen a lansiwyd heddiw yn ddogfennau esblygol yn eu hanfod a byddant yn newid ac yn ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynir i ni ac i'r pethau y byddwn yn clywed wrth gyflwyno egwyddorion Tai yn Gyntaf. Rydym ni'n gwybod bod hyn wedi gweithio'n dda mewn ardaloedd o America, a gwyddom ei fod wedi gweithio'n dda yn y Ffindir, ond efallai y bydd materion penodol y mae angen inni ystyried mynd i'r afael â nhw yng Nghymru, a dyna pam mae gennym ni'r egwyddorion, sydd wedi cael eu hymgorffori i raddau helaeth yn ein polisi ac yn y ddeddfwriaeth sydd gennym ni eisoes—Deddf Tai (Cymru) 2014, er enghraifft, ac yn ein dull gweithredu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i roi'r unigolyn wrth wraidd pob polisi bob amser ac i roi cyfle bob tro i bobl gael llais a rheolaeth yn y penderfyniadau a wneir amdanynt ac i sicrhau y gwneir y penderfyniadau hynny gyda nhw hefyd. 

O ran y cyllid Cefnogi Pobl, rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod i yn barod i wrando ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud o ran y cyllid ar gyfer yr ail flwyddyn. Rydym ni'n edrych yn agos ar y prosiectau braenaru sydd ar waith mewn saith o'r awdurdodau lleol hynny sydd â hyblygrwydd llawn yn y 10 grant hynny, a hefyd yr awdurdodau lleol eraill sydd â 15 y cant o hyblygrwydd yn ogystal, i weld a yw hyn yn rhoi gwell gwasanaethau inni ar gyfer pobl sy'n dioddef neu sydd angen cymorth er mwyn cynnal eu cartref. 

Fel y dywedaf, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud. Rydym ni wedi bod yn gwrando'n ofalus ar unigolion sy'n cael cymorth drwy'r cynllun Cefnogi Pobl. Mae Cymorth Cymru yn ddiweddar wedi cynnal cyfres o drafodaethau ledled Cymru. Roeddwn yn falch o fynd i'r un yng Nghaerfyrddin lle y clywais gan bobl a siaradodd am yr effaith y mae Cefnogi Pobl wedi'i chael ar eu bywydau, ac fe wnaethon nhw siarad yn bur angerddol, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut lun yr oedden nhw'n credu a fyddai ar eu bywydau pe na fydden nhw wedi cael cymorth Cefnogi Pobl. Felly, does dim amheuaeth o gwbl bod Cefnogi Pobl yn fenter bwysig sy'n cael effaith enfawr ar fywydau rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed. Rwyf i hefyd wedi cwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau: yn eu plith y Wallich, Shelter, Caer Las ac eraill er mwyn ceisio deall y prosiectau gwahanol sydd ar waith yn lleol, oherwydd, yn amlwg, mae amrywiaeth y bobl ac ehangder y sefyllfaoedd sy'n cael eu cefnogi yn sylweddol. 

O ran dyddiad targed ar gyfer rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd, rwy'n credu bod problem gynhenid, mewn gwirionedd, yn y data sydd gennym ni o ran cysgu ar y stryd. Yn fy nghyflwyniad fe wnes i sôn ynglŷn â sut yr oedd y ffigurau pythefnosol yn dangos cynnydd o 10 y cant, tra roedd y cipolwg un noson yn dangos cynnydd o 33 y cant. Mae'n eithriadol o anodd mesur cysgu ar y stryd, a dyna pam yr wyf i'n falch iawn bod y Wallich yn gwneud rhywfaint o waith i gael golwg llawer iawn mwy cynhwysfawr ar y bobl sydd yn cysgu ar y stryd er mwyn datblygu ffordd o weithio sy'n rhoi mwy o bwyslais ar waith achos yn ymwneud ag unigolion, fel ein bod yn deall bywydau yr unigolion hynny, oherwydd dim ond nifer cymharol fach o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru. Mae'n ormod, ond nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni gael gwell dealltwriaeth o bob un o'r unigolion hynny a deall yn well sut i'w cefnogi i ddod oddi ar y strydoedd ac i mewn i dai, ac i ymdrin â phob un o'r materion eraill hynny yr ydym ni wedi sôn amdanynt: iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, trais yn y cartref ac ati hefyd. 

Rwy'n awyddus iawn i weld beth y gallwn ni ei wneud i annog y sector rhentu preifat i dderbyn mwy o unigolion sy'n dod yn syth oddi ar y strydoedd. Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud eto gan y Wallich ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hyn o beth. Rwyf wedi siarad â Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid a sefydliadau eraill sy'n cynrychioli'r sector rhentu preifat ac rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod yn awyddus i glywed eu syniadau. Rwy'n awyddus i glywed gan y sector rhentu preifat a landlordiaid eu hunain ynglŷn â'r hyn y maen nhw yn eu hystyried yn rhwystrau i roi cartref i bobl sy'n fwy agored i niwed. Weithiau yr ateb i hynny yw cynnig bondiau, a bu gennym ni gynlluniau bond llwyddiannus iawn ers blynyddoedd bellach, ble mae Llywodraeth Cymru yn darparu bond ar gyfer yr unigolyn, gan leihau felly peth o'r perygl hwnnw ar gyfer y landlordiaid eu hunain. 

O ran ble yr ydym ni'n cyfeirio cyllid yn y dyfodol? Byddwn yn disgwyl i rai o flaenoriaethau ariannu'r dyfodol ymwneud â chael mynediad at y sector rhentu preifat, ond hefyd â gweithredu'r arferion hynny sy'n seiliedig ar ymdrin â thrawma ac ar weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar anghenion seicolegol, a chryfhau'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bobl ag afiechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau, ochr yn ochr â gwella'r modd o weithredu'r ymgyrch genedlaethol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd i blant, pobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau diogel, oherwydd rydym ni'n gwybod y gall digartrefedd ymhlith y grwpiau hynny o bobl fod yn arbennig o ddifrifol hefyd. 

Rwy'n gobeithio fy mod i wedi mynd i'r afael â chynifer o'r cwestiynau hynny ag y bo modd. 

15:50

Diolch ichi am y datganiad heddiw. Rwy'n falch y bydd cyllid ychwanegol ar gael dros y blynyddoedd nesaf ar gyfer atal ac ymateb i ddigartrefedd. Yn y gorffennol, bu pwyslais ar fesurau ataliol, ond efallai na sylwyd ar raddau cynyddol yr argyfwng, gyda rhai yn llithro drwy'r bylchau yn y gwasanaethau sydd i fod yn ataliol.

Fodd bynnag, wrth ddarllen drwy'r cynllun gweithredu a amlinellwyd heddiw, rwyf wedi sylwi ar unwaith ar un broblem amlwg, sy'n ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol at bobl yn syrthio drwy'r bylchau yn y gwasanaethau ataliol, a hynny yw nad oes unrhyw ymrwymiad clir i gael gwared ar angen blaenoriaethol. Fel yr wyf i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, ni fyddwn ni'n ymdrin yn briodol â'r broblem o gysgu ar y stryd tra bod yna ganfyddiadau ac, yn wir, gweithdrefnau sy'n parhau i atal a gwarafun tai a llety parhaol i'r rhai sydd ei angen.

Rwy'n deall bod ymrwymiad i ystyried addasu deddfwriaeth yn 2020, ond credaf fod hyn yn rhy bell i ffwrdd ac mae angen inni ystyried hynny ynghynt fel y gallwn ni ddeddfu hyd yn oed ynghynt. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo oherwydd mae'n ffactor sy'n cyfrannu'n enfawr at gysgu ar y stryd. Mae pobl o bob rhan o'r sector—rwyf innau hefyd wedi bod yn ymweld fel y buoch chi—yn dweud bod cael gwared ar yr angen blaenoriaethol yn rhywbeth a fyddai'n eu helpu mewn gwirionedd. Pan ofynnais iddyn nhw beth yw eu dymuniadau, dyna oedd y prif un.

Rwyf yn croesawu'r cynlluniau ar gyfer prosiectau arbrofol ledled Cymru i Tai yn Gyntaf, ac rwyf hefyd wedi clywed am rai o'r llwyddiannau drwy gyfrwng ein hymweliad pwyllgor â Byddin yr Iachawdwriaeth yn ddiweddar. Ond fe wnaf i ddweud hyn, ac rwy'n gobeithio mai dim ond yr egwyddorion arweiniol sydd yma—a gobeithiaf y byddwch chi'n cadarnhau hynny oherwydd rwy'n credu bod hynny'n eithaf amwys o ran cyllid. Rwy'n gobeithio y bydd yr elfen statudol y byddwch chi'n ei rhyddhau wedyn yn rhoi darlun mwy cyflawn oherwydd fe hoffwn i wybod, er enghraifft, sut y caiff ei ariannu. Mae'n dweud y byddech chi'n disgwyl i awdurdodau lleol wneud y penderfyniad. Ai dewis i ymrwymo neu i beidio ag ymrwymo yw'r dewis hwnnw? Fel y dywedwch chi ni fydd yn addas i rai pobl. O edrych ar waith ymchwil, os ydych chi'n ymdrin yn briodol â Tai yn Gyntaf, gellid ei gyflwyno yn bolisi blaenllaw, nid fel dim ond dewis ar gyfer cymdeithasau tai, neu pwy bynnag sy'n ei ddarparu. Rwyf yn credu y gallai fod yn effeithiol petaem ni'n gwneud datganiad beiddgar i'r perwyl hwnnw. 

Ond fe hoffwn i fod yn ffyddiog, er enghraifft, y bydd nifer y cartrefi newydd a amlinellir yn y strategaeth cartrefi fforddiadwy yn ddigon i fod yn effeithiol. Os oes angen mwy o dai, er enghraifft, ar Tai yn Gyntaf— sut fyddwch chi'n gallu darparu ar gyfer hynny os nad yw'r niferoedd yn ddigon mawr yn y strategaeth a gyhoeddwyd eisoes? 

Fe hoffwn i hefyd grybwyll peth o'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd, ac eto, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, mae diffyg manylion yma, ond rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud—bod arnoch chi eisiau cadw peth o'r cyllid wrth gefn er mwyn bod yn hyblyg, ond credaf, yn arbennig, fod hynny yn ymwneud â'r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog cyn y Nadolig ynglŷn â digartrefedd ymysg pobl ifanc. Rwyf wedi nodi eisoes, ond rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud eto, nid wyf yn meddwl ei bod hi'n briodol gwneud y datganiadau hyn yn gyhoeddus cyn eu gwneud nhw yma. Rwy'n deall bod yr arian hwnnw ar gyfer 2019-20, felly rwy'n ddryslyd iawn mewn gwirionedd ynglŷn â pham y gwnaed datganiad fis Rhagfyr diwethaf ynglŷn â chyllid a fydd ar gael ymhellach yn y dyfodol.

Mae cymdeithasau tai wedi bod yn dweud wrthyf i hefyd bod arnyn nhw eisiau bod yn rhan o'r bartneriaeth digartrefedd ieuenctid. Roedd yna lun ohonoch chi a'r Prif Weinidog gyda Llamau a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ond nid oedd pobl eraill yn gwybod llawer am y peth, a phan gliciais ar y ddolen, fe aeth a fi i wefan Llamau yn hytrach nag i wefan Llywodraeth Cymru. A phan edrychais heddiw, unwaith eto, does dim gwybodaeth o gwbl ynghylch pwy sy'n rhan o'r bartneriaeth, sut y gallwch chi fod yn rhan ohoni, na sut y gall pobl gyfrannu at hynny. Felly, mae'r trydydd sector yn dod ar fy ngofyn gyda'r ceisiadau hynny, felly byddai'n dda gennyf pe gallech chi esbonio i mi yn llawn, heddiw, sut y gall pobl gymryd rhan yn y bartneriaeth digartrefedd ieuenctid honno.

Fy nghwestiwn olaf yw: rydych chi wedi cyfeirio ddwywaith at gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl—sydd, unwaith eto, yn hanfodol i'r holl agenda hwn—sut ydych chi'n bwriadu gwella'r ddarpariaeth iechyd meddwl? Oherwydd, unwaith eto, pan aethom ni i ymweld â Byddin yr Iachawdwriaeth rai wythnosau yn ôl, roedden nhw'n dweud eu bod yn gorfod aros ac aros ac aros, ac erbyn hynny, bod eu hiechyd wedi dirywio. Felly, sut y gallwn ni wneud yn siŵr pan fydd angen cymorth iechyd meddwl ar bobl yn y sefyllfaoedd eithaf dwys hyn, y gallan nhw gael hynny?

15:55

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Credaf ei bod hi yn bwysig ein bod yn dal sylw, ar yr ochr ataliol, ond hefyd ar agweddau mwy amlwg digartrefedd, os mynnwch chi, o ran mynd i'r afael â chysgu ar y stryd.  

Mae ein dull gweithredu ataliol wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ers i'r Ddeddf Tai ddod i rym llai na dwy flynedd yn ôl, mae 13,000 o deuluoedd neu 13,000 o aelwydydd wedi osgoi digartrefedd o ganlyniad i'r hyn a wnaed mewn ymateb i ofynion deddfwriaethol y Ddeddf. Felly, credaf fod hynny yn dangos y bu'r Ddeddf yn llwyddiannus iawn o ran atal pobl rhag colli eu cartrefi neu ddod yn ddigartref. Ond, yn amlwg, mae llawer mwy o waith yn dal i'w wneud hefyd.

O ran yr angen blaenoriaethol, fe gofiwch chi, yn y ddadl a gawsom ni ynglŷn â'r mater hwn dros y mis neu ddau diwethaf, fe wnes i ddweud fy mod yn barod i adolygu'r ddeddfwriaeth ynglŷn â'r angen blaenoriaethol a sut mae'n gweithio ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y strydoedd a rhai grwpiau agored i niwed yn benodol. Rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod yn rhaid i unrhyw weithredu ac unrhyw benderfyniad a wneir fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam fy mod i'n edrych ymlaen at y gwerthusiad annibynnol ynglŷn â sut y gweithredwyd Deddf Tai (Cymru), ac mae hynny wedi ei gomisiynu gan Brifysgol Salford. 

Mae gennym ni ddarn arall o waith ar y gweill, y disgwyliwn iddo weld golau dydd yn gynnar eleni, gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam sy'n edrych yn benodol ar effaith y ddeddfwriaeth ar garcharorion a'r rhai sy'n cael eu rhyddhau. A hefyd, mae Shelter Cymru yn gwneud rhywfaint o ymchwil yn Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn cloriannu profiadau pobl sy'n cysgu ar y stryd, felly yn siarad â phobl ar y stryd, gan godi cwr y llen ar yr hyn sydd wedi achosi iddyn nhw gysgu ar y stryd, a sut y gellid bod wedi osgoi eu sefyllfa. Rwy'n credu y bydd pob un o'r darnau hyn o ymchwil yn bwysig iawn o ran sut i ddatblygu'r agenda o ran angen blaenoriaethol.

Rwy'n awyddus iawn bod yn rhaid seilio hyn ar dystiolaeth, oherwydd fe wyddom ni fod y sefyllfa yn yr Alban, er enghraifft, ble diddymwyd yn llwyr yr hyn oedd yn weddill o'r cysyniad o angen blaenoriaethol, wedi cael rhai canlyniadau anfwriadol, er enghraifft, gwthio nifer cynnyddol o aelwydydd i lety amhriodol am gyfnodau estynedig o amser. Felly, rwy'n awyddus i osgoi hynny, mae angen felly i unrhyw beth a wnawn o ran dileu'r angen blaenoriaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Wedi dweud hynny, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r cysyniad hwnnw, oherwydd gwelaf bethau yng ngoleuni'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy'n ymwneud â chanolbwyntio ar yr unigolyn a'i anghenion; nid yw'n ymwneud ag ystyried yr unigolyn yn gategori neu yn flwch y gall fod yn perthyn iddo. Felly, rwy'n cydymdeimlo â hynny, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i ymchwilio iddo ymhellach. 

Mae'r cyllid ar gyfer Tai yn Gyntaf wedi dod drwy ffrwd ariannu o £2.6 miliwn, ac roedd hynny yn ei hanfod er mwyn rhoi'r cyfle, mae'n debyg, i roi rhywfaint o hyn ar ben ffordd, ond rwyf eisiau gweld Tai yn Gyntaf yn rhan greiddiol iawn o'r ffordd arferol y byddem ni'n ymdrin â phobl sy'n cysgu ar y stryd. Felly, ymgais yw hyn mewn gwirionedd i weld sut y gallwn ni wneud hyn yn rhan o becyn a gynigiwn i bobl sy'n cysgu ar y stryd, yn hytrach na phrosiectau arbrofol penodol. Rwy'n credu ein bod ni ar ddechrau taith, yn hytrach nag ar ddiwedd taith ar hyn o bryd. 

Rydym ni gyd o'r un farn, yn ogystal, ynglŷn â'r angen i godi mwy o dai yn gynt. Rwy'n awyddus iawn, fel yr wyf i wedi crybwyll eisoes, i weld sut y gallwn ni ryddhau potensial y sector mentrau bach a chanolig, sydd wedi cael ergyd galed yn y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill i archwilio'r hyn sy'n rhwystro busnesau bach a chanolig rhag adeiladu. Nid dyna'r ateb cyflawn, oherwydd nid ydyn nhw'n mynd i fod yn adeiladu ar y fath raddfa ag y sydd arnom ni ei hangen, ond rwyf yn credu eu bod nhw'n rhan bwysig o hyn hefyd. 

Rwyf yn pwyso a mesur, hefyd, yr hyn y gallwn ni ei wneud i ryddhau rhai o'r safleoedd sydd gennym ni ledled Cymru y mae oedi yn eu cylch o ran cyflwyno tir ar gyfer tai, gan ystyried tir Llywodraeth Cymru—pa dir allwn ni ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gefnogi codi tai hefyd? Felly, mae llawer o waith ar y gweill yn y maes penodol hwnnw hefyd. 

Yr agenda digartrefedd ymysg pobl ifanc a'r £10 miliwn—rydych chi'n gywir bod yr arian hwnnw yn berthnasol i 2019-20. Fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen, rwy'n awyddus i glywed yr holl syniadau ynghylch yr hyn y mae angen inni fod yn ei wneud mewn gwirionedd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Roeddwn i'n bresennol yn lansiad yr ymgyrch roi terfyn ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc, lansiad y glymblaid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Roedd hi'n glir iawn yn y lansiad nad oedd a wnelo hyn â'r Llywodraeth yn unig, nid yw'n ymwneud ag un neu ddau sefydliad, mewn gwirionedd, mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n ymwneud â'r sector tai yn ei gyfanrwydd. Ond, yn y lansiad, roedd hi'n glir iawn bod angen i'r glymblaid hon gynnwys busnesau lleol, mae angen iddi gynnwys elusennau y tu hwnt i'r sector tai, felly rwy'n awyddus iawn i gynnwys cynifer o bobl â phosib, gan fod digartrefedd ymysg pobl ifanc yn rhywbeth y dylai pob un ohonom ni fod yn bryderus yn ei gylch. Felly, os oes sefydliadau ac unigolion sydd wedi dweud wrthych chi eu bod yn pryderu, efallai, nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys i'r graddau y gallant fod, ac na fanteisir ar eu brwdfrydedd a'r hyn y maen nhw'n ei gynnig, yna buaswn yn sicr yn awyddus i gysylltu â nhw i weld sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd hefyd. 

Fe wnaethoch chi sôn am y mater o iechyd meddwl gwael hefyd, ac fe wyddom ni fod cysylltiad cryf rhwng iechyd meddwl a digartrefedd. Credaf fod oddeutu 40 y cant o bobl ddigartref yn debygol o fod yn defnyddio adrannau damweiniau a gwasanaethau brys fel eu cam cyntaf o ddod i gysylltiad â'r gwasanaeth iechyd, ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn nifer enfawr o bobl nad ydyn nhw'n cael unrhyw fath o gymorth parhaus, hirdymor gan y system iechyd. Felly, mae'n amlwg bod angen inni fod yn bwrw ymlaen â gwaith i'r perwyl hynny, ac mae hi yn amcan yn ein cynllun cyflawni iechyd meddwl er mwyn galluogi pobl sydd ag afiechyd meddwl i allu elwa mewn modd teg ar gymorth yn ymwneud â thai a materion cysylltiedig, ac i annog pobl ddigartref a'r rhai mewn cartrefi a llety ansicr i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd. Felly, mae hynny'n ddarn o waith yn amlwg y mae angen inni fod yn rhoi llawer o ymdrech iddo, ac mae'n ddarn o waith, hefyd, y mae Tai yn Gyntaf yn amlwg yn cydweddu'n dda iawn ag ef, yn yr ystyr ei fod yn ymwneud â chael to uwchben rhywun yn gyntaf ac yna adeiladu'r pecyn cymorth hwnnw o'u cwmpas, er mwyn eu helpu i symud ymlaen â'u bywydau ac ymdrin â llawer o'r materion hynny, fel y gwyddom ni, y mae pobl ar y stryd yn aml yn eu hwynebu.

16:00

Wrth gwrs, nid dim ond pobl sy'n cysgu ar y stryd sy'n ddigartref. Mae nifer o bobl, mae'n debyg dim mwy nag ambell filltir oddi yma heddiw, a fydd yn cysgu ar soffa yn rhywle heno—yn symud o dŷ ffrind i dŷ ffrind, ac mae llawer ohonyn nhw yn y pen draw ar y stryd pan ddaw eu rhestr ffrindiau i ben. Dydw i ddim yn golygu hynny mewn modd angharedig, ond dyna beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Maen nhw'n manteisio ar ddymuniadau da ac ewyllys da eu ffrindiau am gyfnod penodol o amser, mae hynny'n dod i ben, ac wedyn mae eu gallu i gael to uwch eu pen yn dod i ben.

Mae yna hefyd nifer o bobl sydd mewn cartrefi annigonol, yn byw dan amodau oer, llaith ac afiach, ac mae'r holl bethau hyn yn cael effaith enfawr ar iechyd. Rhoddodd Llywodraeth Lafur 1945-51 iechyd a thai gyda'i gilydd, oherwydd roedden nhw'n gwybod pa mor bwysig oedd tai i iechyd pobl.

Mae llawer o sefydliadau gwirfoddol ynghlwm â hyn. Yn Abertawe, mae gennym ni'r Chwiorydd Trugaredd, y Wallich a Caer Las, pob un yn cymryd rhan, pob un yn gwneud gwaith eithriadol o dda, ond mae gennym ni bobl sy'n cysgu ar strydoedd Abertawe heno.

Beth sy'n achosi digartrefedd? Dyled, ac ni all credyd cynhwysol ddim ond gwneud hyn yn waeth, ond hefyd pobl ar gontractau hyblyg—neu'r hyn yr wyf i'n ei alw yn gontractau camfanteisiol—lle maen nhw'n iawn pan maen nhw'n gweithio'r oriau y maen nhw wedi bod yn eu gweithio'n rheolaidd, ond pan fyddan nhw'n mynd yn ôl at eu horiau sylfaenol, sydd yn rhywle rhwng dim a chwe awr, yn sydyn fe gawn nhw eu hunain yn methu â thalu eu rhent i gyd. Bydd llawer ohonyn nhw, os ydyn nhw'n sâl, yn amlwg yn dychwelyd i sefyllfa lle nad oes ganddyn nhw unrhyw incwm o gwbl, ac mae ceisio canfod eu ffordd drwy'r system fudd-daliadau, ar ôl bod yn gweithio oriau afreolaidd, yn golygu yn y pen draw y bydd eu landlord yn eu troi allan. 

Mae yna broblem cyffuriau ac alcohol sy'n cael effaith, ac mae nifer o bobl ar y strydoedd yn gaeth i gyffuriau ac alcohol. Credaf, mewn rhai ffyrdd, mai dyna sydd ei angen ar y defnyddiwr i ladd y boen o gysgu ar y stryd. Credaf y gallwn ni farnu pobl am wneud y pethau hyn, ond petaem ni mewn gwirionedd yn cysgu ar y strydoedd yn y nos, efallai y byddai rhywbeth i ladd y boen o fantais i ni. Oherwydd fe awn ni i gyd yn ôl i dai cynnes, clyd gyda gwres canolog, yna efallai bod meddwl am y rhai nad oes ganddyn nhw'r manteision hynny mewn gwirionedd yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud.

Ni ddylai neb fod yn cysgu ar y stryd. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai unrhyw un fod yn cysgu ar y stryd. Wrth gwrs, mae prinder tai cymdeithasol, a dyma ble yr wyf i'n anghytuno â Bethan Jenkins: nid yw cynyddu'r galw am dai yn cynyddu'r cyflenwad. Nid yw rhoi mwy o hawl i bobl gael tŷ yn creu tŷ ychwanegol. Mae angen dybryd am fwy o dai cyngor, a dyna'r ateb i'r argyfwng tai: tai cyngor. Bellach rydym ni wedi diddymu'r hawl i brynu, bellach does gan gynghorau mo cleddyf Damocles uwch eich pennau, eu bod yn codi 10 tŷ, mae pump yn cael eu gwerthu am bris gostyngol, ac maen nhw'n gwneud colled ar y tai hynny. Fe allan nhw adeiladu erbyn hyn, ac mae angen inni annog cynghorau i adeiladu. 

Mae gen i ddau gwestiwn i'r Gweinidog. Y cyntaf yw: pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r cynghorau i adeiladu tai cyngor, sef y ffordd, rwy'n credu, o gael gwared â digartrefedd? Mae'r ail yn broblem llawer mwy tymor byr: pa gefnogaeth ariannol mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i adeiladu mwy o lochesi nos, a ddylai wella sefyllfa, os nad datrys y broblem, i bobl sy'n cysgu ar y stryd? Mae'r rhain yn gostau cyfalaf yn hytrach na rhai refeniw, ac efallai y dylem ni ystyried defnyddio cyfalaf, hyd yn oed peth o'r cyfalaf a gawsom ni ar ffurf benthyciad, er mwyn gwneud rhai o'r pethau hyn, a fydd o fantais ac efallai mewn gwirionedd yn codi arian er mwyn ei ad-dalu.

16:05

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Mae Mike Hedges yn llygad ei le i nodi, mewn gwirionedd, pan rydym ni'n sôn am ddigartrefedd, nad ydym ni'n sôn yn unig am gysgu ar y stryd, er mai dyna ydy'r elfen weledol ohono. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai fod 30 o bobl yn mynd o soffa i soffa neu mewn mathau eraill o lety dros dro ar gyfer pob person y gwelwn ni yn cysgu ar y stryd. Pan rydym ni'n gofyn i bobl beth yw'r rhesymau y daethon nhw yn ddigartref, mewn gwirionedd, yn aml, mae hynny oherwydd nad yw rhiant neu ffrind neu berthynas yn fodlon rhoi cartref iddyn nhw dim mwy. Felly, i lawer o bobl, er bod ganddyn nhw do uwch eu pen heno, mae'n un ansicr, ac fe allai eu sefyllfa newid ar unrhyw adeg.

Roeddwn i hefyd yn falch bod Mike wedi sôn na ddylem ni fod yn feirniadol o bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl a welwn ni ar y strydoedd, oherwydd rwy'n awyddus iawn ein bod yn ymdrin â hyn mewn ffordd sy'n rhoi ystyriaeth i drawma, a'n bod yn ystyried profiadau plentyndod andwyol. Mae unrhyw berson yr wyf i wedi siarad â nhw sydd wedi bod mewn sefyllfa o fod yn ddigartref, neu sy'n camddefnyddio sylweddau, mewn gwirionedd, y math o stori sydd wedi eu harwain at fod yn y sefyllfa y maen nhw ynddi nawr yn rhywbeth y byddai ychydig iawn ohonom ni yn gallu ymdopi ag ef, felly credaf ei bod hi'n gwbl briodol tynnu sylw at ddifrifoldeb y materion sy'n arwain at gysgu ar y stryd a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau hefyd. 

Cytunaf yn llwyr fod angen inni adeiladu mwy o dai cyngor. Rwy'n awyddus, hefyd, ein bod yn sicrhau bod y cynghorau hynny sy'n barod i adeiladu, yn gallu adeiladu ac yn barod i gychwyn arni yn gallu gwneud hynny. Fe wn i fod rhai o'n hawdurdodau lleol wedi cyrraedd eu terfyn benthyca bellach, a gosodir y terfyn benthyca gan y Trysorlys. Felly, mae angen gwneud dau beth yma: un yw gweld beth y gallem ni ei wneud, mewn partneriaeth ac mewn cytundeb ag awdurdodau lleol, i drosglwyddo peth o'r benthyciadau sydd heb gael eu defnyddio gan rai awdurdodau lleol i awdurdodau lleol sydd wedi cyrraedd eu terfyn benthyca ond sydd yn dal yn gallu ac yn awyddus i wneud mwy. A hefyd, gweld beth y gallwn ni ei wneud er mwyn sicrhau bod y terfyn ar fenthyca, a gynyddwyd yn Lloegr—y cawn ni gynnydd cymharol cyffelyb i'n terfyn benthyca ni hefyd. Mae'r trafodaethau hynny yn digwydd ar hyn o bryd. 

O ran llochesi nos, rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer 40 lle gwely ychwanegol ledled Casnewydd, Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd, a byddant yn ymddangos ar-lein dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Fodd bynnag, fe wyddom ni hefyd, ar unrhyw noson, bod gwelyau gwag mewn llochesi nos, ac mae hyn yn bryder penodol i mi: y ceir pobl sy'n dewis cysgu ar y stryd yn hytrach na defnyddio'r lloches nos. Mae'r rhesymau dros hynny yn amrywiol. Er enghraifft, nid yw rhai pobl eisiau cadw at rai o'r amodau llymach sydd o bosib mewn grym mewn rhai llochesi nos. Bydd pobl eraill sydd wedi cael eu gwahardd o'r llochesi nos ar sail ymddygiad blaenorol. Nid yw eraill eisiau mynd i'r llochesi nos oherwydd eu bod yn eu gweld yn fannau lle ceir camddefnyddio sylweddau o fathau amrywiol, ac maen nhw eisiau cadw'n glir oddi wrth hynny i gyd. Mewn achosion eraill, efallai nad oes cyfle i ddau gymar aros gyda'i gilydd neu i bobl fod ag anifeiliaid anwes, er enghraifft. Felly, mae amrywiaeth eang o resymau pam nad yw pobl yn aros mewn llochesi nos. Rwy'n credu bod darn o waith inni ei wneud ynghylch hyn, gyda'r sector hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith y mae Shelter yn ei wneud, yn siarad yn uniongyrchol gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd, yn rhoi inni rhai o'r atebion ynghylch beth allai wneud llochesi nos yn fwy deniadol, yn arbennig ar y nosweithiau oeraf.

16:10

Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Rydym ni wedi bod yn cynnal ymchwiliad ynglŷn â digartrefedd ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Fel y soniodd Bethan Jenkins yn gynharach, fe wnaethom ni ymweld â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth i lawr y ffordd oddi yma, yn Stryd Bute, a oedd yn ymweliad addysgiadol iawn oherwydd fe gawsom ni siarad nid yn unig â'r staff, ond hefyd â nifer o'r trigolion, y mae llawer ohonyn nhw yn bobl a oedd yn arfer cysgu ar y stryd. Wrth gwrs, dim ond grŵp bach oedd o, ond rwy'n credu yr amlygwyd themâu cyffredin mewn modd gweddol rymus. Ymddengys fod y rhain yn adrodd hanes o broblemau teuluol cynnar, mewn llawer o achosion, a arweiniodd at gam-ddefnyddio alcohol a chyffuriau. Pan mae'r preswylwyr yn dechrau mynd ar raglenni lle maen nhw'n gallu dadwenwyno, dechreuodd nifer ohonyn nhw sylweddoli bod y cam-drin sylweddau mewn gwirionedd yn cuddio materion iechyd meddwl.

Rwy'n gwybod y crybwyllwyd hyn sawl gwaith heddiw—y mater iechyd meddwl. Soniodd Mike Hedges am y posibilrwydd bod rhai pobl yn dechrau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol pan ddown nhw yn ddigartref, ac yn wir, hwyrach mai dyma sy'n digwydd mewn rhai achosion, ond yn sicr, credaf mai'r profiad sy'n aros yn fy nghof o'r ymweliad safle oedd ei bod hi mae'n debyg yn fwy tebygol mai camddefnyddio sylweddau ac alcohol a arweiniodd at ddigartrefedd. Mae hynny fwy na thebyg yn dod gyntaf.

Credaf mai'r peth hollbwysig, yr ydych chi wedi mynd i'r afael â hi yn eich datganiad heddiw, yw bod cysylltiadau agos rhwng iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a digartrefedd. Felly, problem barhaus fydd gennych chi wrth ymdrin â'r agwedd o ddigartrefedd yw y bydd yn rhaid ichi weithio ochr yn ochr â'r weinyddiaeth iechyd i gael adnoddau ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl fel y gall pobl ddigartref gael gafael arnyn nhw. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi cydnabod hynny. Felly, i droi at y cwestiynau, pa mor agos ydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog iechyd yn hyn o beth? Ac o ran y cyllid newydd yr ydych chi'n ei gyhoeddi, allwch chi fod yn fwy manwl ynglŷn â faint mewn gwirionedd fydd yn mynd tuag at ddarpariaeth iechyd meddwl? 

Rwy'n credu, ar lawer ystyr, bod mynd i'r afael â'r broblem ddigartrefedd yn golygu cydweithio, Weinidog, ar rai agweddau pwysig, nid yn unig gyda'r Gweinidog iechyd. Mae hefyd, o bosib yr agwedd ar hyfforddiant, yr ydych chi wedi cyfeirio ati ambell waith heddiw. Oherwydd pan aethom i'r hostel, roedd y materion eraill y cyfeiriodd staff yn yr hostel atyn nhw yn cynnwys yr angen am adnoddau parhaus fel y gellid hyfforddi mwy o staff i ymdrin ag anghenion cymhleth pobl ddigartref. Yn ogystal â rhaglenni dadwenwyno, ceir hefyd rhaglenni sy'n ymwneud â dysgu sgiliau sylfaenol i'r trigolion a allai yn y pen draw eu harwain at gyflogaeth. Rwy'n credu ei bod hi'n dda eich bod wedi crybwyll sawl gwaith yn eich datganiad yr agwedd ar hyfforddiant. A ydych chi'n gweld unrhyw fudd mewn ymadweithio'n fwy agos â'r Gweinidog sgiliau ynglŷn â materion fel hyn o ran, er enghraifft, manteisio ar adnoddau? 

Yn olaf, bu sylwadau—nid heddiw, ond sylwadau yn gyffredinol—na thrafodir y broblem ddigartref mewn gwirionedd mewn gwleidyddiaeth dim ond unwaith y flwyddyn, ac mae hynny yn y cyfnod cyn y Nadolig. Ceir rhywfaint o ddarpariaeth cyllid ychwanegol ar yr adeg honno o'r flwyddyn, daw'n fater i'r cyfryngau ac, wrth gwrs, mae gennym ni lawer o wirfoddolwyr wrthi ar yr adeg honno o'r flwyddyn. Ond nawr, rydym ni ym mis Chwefror, ac rydym ni yng nghanol cyfnod oer arall. Rwy'n sylwi ichi grybwyll cynlluniau tywydd oer yn eich datganiad, felly a allech chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut y bydd y cynlluniau tywydd oer hyn yn gweithio? Diolch yn fawr.

16:15

Diolch ichi am y cwestiynau hynny, ac mae'n galonogol iawn bod y pwyllgor yn cynnal astudiaeth ynglŷn â chysgu ar y stryd yn benodol, ac yn edrych ar ddigartrefedd yn fwy eang. Mae hynny'n bwysig iawn oherwydd rwy'n gobeithio y bûm i'n glir bod y ddwy ddogfen sydd wedi'u cyhoeddi heddiw yn ddogfennau esblygol. Felly, rwy'n awyddus i edrych ar yr argymhellion y bydd y pwyllgor o bosib yn eu cyflwyno, o ran adolygu ac addasu'r dogfennau hynny yn unol â'r dystiolaeth orau a'r syniadau gorau a gyflwynir drwy gydol y broses.

Mae'n ddarlun cymhleth o ran pa un sy'n dod gyntaf, o ran camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni yn sicrhau bod ein holl wasanaethau ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd yn rhoi pwyslais ar ystyried trawma. Dyna pam fod y prosiect PATH, y bu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei arwain, mor bwysig, oherwydd bu'n cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol rheng flaen—dros 1,000 ohonyn nhw erbyn hyn—o ran sut i fynd ati mewn ffordd sy'n rhoi ystyriaeth i drawma ac yn ystyried hanes yr unigolyn a pham eu bod nhw yn y sefyllfa honno a beth y gellir ei wneud i'w cynorthwyo.

Mae rhai o'r prosiectau sy'n cael eu hariannu gan y £2.6 miliwn ychwanegol o gyllid a gyhoeddwyd yn y flwyddyn ariannol hon yn benodol i gefnogi pobl ddigartref sydd ag anghenion iechyd meddwl. Felly, mae hynny'n cynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr allgymorth yn Wrecsam, er enghraifft, fel y gallan nhw gefnogi a chynorthwyo pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl, a chyllid ar gyfer gweithiwr cyswllt rhwng y gwasanaethau iechyd a digartrefedd ym Mro Morgannwg yn ogystal. Felly, dyna rai o'r swyddi penodol sy'n cael eu hariannu o ganlyniad i hynny.

Yn fwy cyffredinol, yn Llywodraeth Cymru, rwyf wedi bod yn awyddus i wneud y cyswllt hwnnw—gan fy mod i wedi symud o'r portffolio gwasanaethau cymdeithasol i'r un tai—rhwng fy nghyfrifoldebau blaenorol a fy rhai presennol. Felly, mae gennym ni bellach aelod o staff yn Llywodraeth Cymru sy'n edrych yn benodol ar dai ac iechyd—felly, wrth ystyried y darlun cyfan, mewn gwirionedd, o ran beth y gellir ei wneud gyda'r arian cyfalaf drwy'r gronfa gofal canolradd, er enghraifft, ac o ran polisi yn ogystal â sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyswllt posib ac yn defnyddio'r holl botensial, mewn gwirionedd, sydd gan dai da i'w gynnig er mwyn hyrwyddo iechyd da yn ogystal.

Roedd fy nghyfrifoldebau blaenorol hefyd yn cynnwys yr agwedd o gamddefnyddio sylweddau, felly rwy'n awyddus i dynnu sylw at y ffaith, o fewn ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau, mae gennym ni gamau penodol er mwyn datblygu cymorth i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl sy'n ddigartref. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron iawn £50 miliwn y flwyddyn ar yr elfen hon, a bydd gan ein byrddau cynllunio ardal swyddogaeth bwysig benodol o ran mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn lleol, a bydd hynny'n ymestyn at bobl sy'n ddigartref ac yn cysgu ar y stryd hefyd. Mae llawer o'r prosiectau, megis Canolfan Huggard, yr ymwelodd y pwyllgor ag ef, yn gysylltiedig â'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i raddau helaeth iawn.  

Fe hoffwn i hefyd nodi ein bod ni wedi comisiynu adolygiad o'r fframwaith arfer da sy'n gysylltiedig â'r fframwaith triniaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i bobl ddigartref a'r rheini sydd â phroblemau llety. Caiff hwnnw ei gwblhau yn y gwanwyn er mwyn, unwaith eto, sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl dystiolaeth orau a diweddaraf o ran camddefnyddio sylweddau a digartrefedd.

Diolch. Mae gennyf dri siaradwr arall, felly byddaf yn ymestyn y sesiwn hon. Ond nid yw hynny'n wahoddiad i'r tri siaradwr draethu'n rhy hir. Felly, mae hynny'n golygu cwestiwn ac— wel, cwestiwn cymharol fyr ac ateb cymharol fyr gan y Gweinidog, ac fe allwn ni roi amser i'r tri. John Griffiths.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu datganiad a chynllun gweithredu'r Llywodraeth. Fel y clywsom ni, mae'n ymddangos bod y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd yn cynyddu o ran y cyfrif sy'n digwydd. Dyna pam fy mod i'n falch iawn bod y pwyllgor yr wyf yn gadeirydd arno, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gwneud astudiaeth ynglŷn â phobl sy'n cysgu ar y stryd. Rydym ni eisoes wedi ymweld â Solas yng Nghasnewydd a Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd i glywed gan staff a defnyddwyr gwasanaeth. Credaf ei bod hi'n amlwg bod materion cymhleth yn rhan o hyn, fel y gŵyr pob un ohonom ni, ac mae'r rhai sydd yn cysgu ar ein strydoedd mewn sefyllfaoedd bregus a pheryglus iawn. Felly, mae hi'n hollol briodol ein bod ni'n rhoi mwy o sylw a blaenoriaeth i'r materion hyn. 

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn edrych ar effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth a'r achosion, y gwasanaethau a ddarperir, gan gynnwys llety brys, graddfa a digonolrwydd data—ac rwy'n credu bod llawer o gwestiynau ynghylch hynny—ac wrth gwrs y camau sy'n angenrheidiol i ymdrin â'r materion hynny. Byddwn hefyd yn edrych ar y cynllun gweithredu gyda sylwadau gan randdeiliaid ac, wrth gwrs, yn holi'r Gweinidog maes o law ynglŷn â'r manylion ac ynglŷn â sut y mae hi'n bwriadu datblygu'r cynllun gweithredu.

Felly, mae'n debyg, mewn gwirionedd, mai'r hyn yr wyf yn edrych amdano i ddweud y gwir heddiw, Weinidog, yw dim ond cadarnhad o'r hyn yr ydych chi eisoes wedi ei ddweud, mewn gwirionedd, y byddwch chi'n awyddus i weithio gyda'r pwyllgor, fod y cynllun gweithredu yn ddogfen fydd yn esblygu ac yn datblygu, fel y daw tystiolaeth newydd, amgylchiadau newydd, i'r amlwg, ac y bydd gwaith y pwyllgor yn un rhan o lunio sylfaen polisïau a strategaethau'r dyfodol ynglŷn â'r materion hollbwysig hyn.

16:20

Diolch yn fawr ichi am hynny. Rwy'n hapus iawn, iawn, bod y pwyllgor yn edrych yn fanwl ar y mater penodol hwn, ac mae e'n bwysig, oherwydd, fel yr ydym ni wedi'i weld drwy'r datganiad, mae'n debyg, mae yna gwestiynau, ac nid oes atebion i rai o'r cwestiynau hyd yn hyn. Er enghraifft, y cwestiwn hwnnw ynghylch pam, hyd yn oed ar y nosweithiau oeraf, y ceir gwelyau gwag mewn rhai o'n hosteli a darpariaethau eraill.

Roeddwn i mewn cymhorthfa leol, un o fy nghymorthfeydd yn y Gŵyr, dros y Sul, a daeth gwraig i mewn a dweud bod ei heglwys y llynedd wedi darparu 10 gwely yn ystod cyfnod oer i bobl ddigartref ac roeddent yn llawn. Fodd bynnag, eleni, ni fanteisiodd neb ar y 10 gwely hynny, ac, er ein bod yn deall bod graddau digartrefedd wedi cynyddu ac y bu hi'n yn oer iawn, yn yr un modd, ymddengys bod diffyg cyfatebiaeth o ran parodrwydd pobl nawr, mae'n debyg, i fanteisio ar rai o'r gwasanaethau hynny sydd ar gael. Felly, credaf y bydd y ffaith bod y pwyllgor yn edrych ar y mater penodol hwn, ynghyd ag eraill, yn ddefnyddiol iawn o ran ein helpu i lunio'r ffordd ymlaen.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y terfyn ar fenthyca. A fyddech chi'n cytuno pan gyflwynwyd y terfynau benthyca yn gyntaf, ar ôl ymadael â'r cyfrif refeniw tai drwy gytundeb ag awdurdodau lleol, yr oedd disgwyl y byddai'r terfynau yn cael eu neilltuo'n bennaf i helpu'r trosglwyddiadau stoc nad oeddent wedi cyflawni safon ansawdd tai Cymru i gyflawni'r safon honno? Sut, felly, ydych chi'n sicrhau (a) na roddir blaenoriaeth is i safon ansawdd tai Cymru i gyflenwi tai cymdeithasol newydd y mae angen mawr amdanynt, a (b) bod yr awdurdodau lleol i gyd yn gweithio yn unol â'r cytundeb a wnaed gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy Lywodraeth Cymru tua diwedd 2016 i sicrhau eu bod yn cydweithio ac yn cyfuno'u hadnoddau i gyflenwi cymaint o dai cymdeithasol newydd â phosibl?

Diolch yn fawr iawn y cwestiwn hwnnw. Mae'n dda clywed sôn am safon ansawdd tai Cymru. Mae pob awdurdod lleol yn gweithio tuag at gyflawni safon ansawdd tai Cymru erbyn 2020. Mae pob un ohonyn nhw wedi cadarnhau eu bod ar y trywydd iawn i wneud hynny, felly rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn. Mae'n debyg mai'r her ar gyfer y Llywodraeth fydd dweud, 'Wel, beth nesaf?' Wyddoch chi, beth fydd y cam nesaf o ran yr hyn yr ydym yn ei ofyn gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran codi safon y cartrefi sydd gennym ni yng Nghymru.

Mae'n rhaid i un peth yr wyf i'n ei ystyried o ran y ffordd ymlaen fod ynglŷn ag ôl-osod o ran ein hagenda datgarboneiddio a'r hyn y gall tai ei gyfrannu yn hynny o beth. Os ydym ni am gyrraedd rhai o'n targedau uchelgeisiol iawn o ran datgarboneiddio, mae'n rhaid i dai ac ymdrin â rhywfaint o hynny fod wrth wraidd yr agenda honno hefyd.

Ond, o ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn dai o ansawdd da, sy'n ein helpu i ymdrin â datgarboneiddio ond hefyd yn rhoi cartref cynnes, fforddiadwy, boddhaol i bobl.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016-17

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 'Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2016-17'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Vaughan Gething. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr ail adroddiad blynyddol gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ar gyfer y cyfnod 2016-17. Hoffwn ddiolch i Dr Atherton am ei asesiad o'n cynnydd o ran gwella a diogelu iechyd y genedl, ei ddirnadaeth o fygythiadau i iechyd y cyhoedd, a'i ystyriaethau craff o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn ymdrin â'r rhain yn effeithiol.

Mae'n galonogol darllen am y gwelliant a fu mewn sawl agwedd ar gynnydd mewn iechyd cyhoeddus a gwelliannau parhaus mewn nifer o feysydd. Ar adeg pan fo hi'n rhy hawdd i sylwebyddion allanol wneud datganiadau cyffredinol ac anwybodus am ansawdd ein GIG, mae'n ddefnyddiol atgoffa ein hunain mewn adroddiad awdurdodol gan y Prif Swyddog Meddygol o rai o'r ffeithiau pendant ynghylch cyflwr iechyd a gofal iechyd yma yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn amlinellu bod disgwyliad oes cyffredinol yng Nghymru yn parhau i godi, hyd at 78.4 ar gyfer dynion ac 82.3 oed i fenywod. Mae'r rhan fwyaf o oedolion yn dweud eu bod mewn iechyd cyffredinol da, gyda dros 72 y cant o bobl dros 16 oed mewn iechyd 'da iawn' neu 'da'. Ac mae ein cyfradd marwolaethau babanod o 3.7 ym mhob 1,000, yn parhau'n isel mewn termau hanesyddol.

Fel yr ydym ni wedi trafod droeon ar lawr y Siambr hon, mae yna lawer o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd y genedl. Mae gofal iechyd o ansawdd uchel yn un ohonyn nhw, wrth gwrs, ond ceir amrywiaeth eang o ffactorau cymdeithasol, megis tai, addysg, swyddi o ansawdd a'r amgylchedd, sy'n chwarae rhan hyd yn oed yn fwy. Ceir nifer sylweddol o fygythiadau iechyd cyhoeddus bob blwyddyn hefyd, ac mae adroddiad Dr Atherton yn amlygu llwyddiannau sylweddol wrth ymdrin â hyn. Un o'r enghreifftiau a ddyfynnir ynddo yw effaith cyflwyno'r rhaglen driniaeth hepatitis C i Gymru gyfan. Mae llwyddiant y rhaglen hon wedi golygu ein bod ni yng Nghymru, erbyn hyn, wedi trin neu'n rhoi triniaeth i'r holl gleifion sy'n hysbys i'r gwasanaethau hepatoleg ac oedd yn fodlon cael eu cyfeirio atyn nhw, a'u bod yn parhau i gael gofal, neu, yn symlach, rydym ni ar y blaen i bob cenedl arall yn y DU o ran trin a gobeithio dileu hepatitis C. Mae hynny yn achos dros gydnabod a diolch i'r grŵp hwnnw o glinigwyr sy'n arwain y gwaith hwnnw.

Mae hefyd yn cyfeirio at unigolion sydd wedi'u heintio ag HIV yn elwa ar therapïau gwrth-retrofeirysol fel y gallan nhw fyw bywyd mor iach â phosibl. Mae'n nodi bod nifer yr achosion newydd o HIV mewn unrhyw flwyddyn yn mynd ar i lawr erbyn hyn, a bod nifer yr unigolion sy'n cael profion bob blwyddyn yn cynyddu. Mae cynnal profion yn hanfodol bwysig erbyn hyn gan fod proffylacsis cyn dod i gysylltiad neu PREP ar gael i bawb sy'n cael sêl bendith glinigol. Rwyf i yn edrych ymlaen at ganlyniadau'r cyfnod treialu PREP maes o law wrth i ni gyflwyno cynllun treialu fydd yn un wirioneddol genedlaethol. 

Mae'r adroddiad hefyd yn blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer ein rhaglenni tymhorol ar gyfer imiwneiddio rhag y ffliw ac imiwneiddio plant, a fydd yn angenrheidiol i sicrhau bod y rhaglenni hynny yn parhau i fod yn destun eiddigedd y byd.

Er y gellir ystyried bod clefydau trosglwyddadwy yn fygythiad iechyd cyhoeddus traddodiadol, mae Dr Atherton hefyd yn defnyddio ei adroddiad i amlygu'r risg i iechyd cyhoeddus sy'n datblygu yn sgil hapchwarae problemus.  Mae'n canolbwyntio ar y niwed y gall hapchwarae ei achosi, nid yn unig i hapchwaraewyr unigol ond hefyd teulu, ffrindiau a'r gymdeithas yn gyffredinol; niwed a all gynnwys caledi ariannol, gofid seicolegol, a chwalfa perthynas bersonol ag eraill.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer yr achosion o hapchwarae. Dim ond naw gwlad yn y byd sy'n gwario mwy y pen ar hapchwarae na'r DU. Yng Nghymru, mae 61 y cant o oedolion wedi hapchwarae yn ystod y 12 mis diwethaf: 63 y cant o ddynion a 59 y cant o fenywod. Amcangyfrifir bod 450,000 o blant rhwng 11 a 15 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o hapchwarae bob wythnos ledled Cymru a Lloegr. Mae hynny'n cyfateb i 16 y cant o'r grŵp oedran hwnnw; mae 1.1 y cant o'n poblogaeth yn dweud eu hunain bod ganddynt broblem hapchwarae ac amcangyfrifir bod 3.8 y cant arall o bobl yng Nghymru mewn perygl o fod â phroblem hapchwarae. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu bod y niwed yn sgil hapchwarae yn anghyfartal o ran ei ddosbarthiad. Pobl sy'n economaidd anweithgar ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig sydd fwyaf tebygol o ddioddef y niwed mwyaf.

Mae Dr Atherton yn rhoi sylwadau ynghylch natur esblygol y diwydiant hapchwarae, ei farchnata a'i gynhyrchion. Nid yw hapchwarae yn digwydd dim ond mewn safleoedd traddodiadol megis arcedau, neuaddau bingo neu draciau rasio mwyach. Wrth gwrs, y dull o hapchwarae sy'n tyfu gyflymaf yw mentro ar-lein, sydd ar gael 24 awr y dydd, ar gael ar gyfrifiaduron, ffonau symudol neu dabledi. Yn y DU, mae bron i 9 miliwn o oedolion wedi mentro ar-lein yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Yng Nghymru, nodwyd bod gan 9.2 y cant o hapchwaraewyr ar-lein a arolygwyd broblem hapchwarae.

Noda Dr Atherton yr achos o blaid dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â hapchwarae—dull o weithredu sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghyfartaledd y niwed. Mae'n galw am amrywiaeth o gamau i leihau niwed sy'n gwneud mwy na chanolbwyntio ar unigolion yn unig, sydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau, gan gynnwys eiriolaeth, gwybodaeth, rheoleiddio a gwaharddiadau priodol mewn ffordd gydgysylltiedig. Wrth wneud hynny, mae Dr Atherton yn cydnabod bod hapchwarae yn cael ei reoleiddio yn bennaf ar lefel Llywodraeth y DU, gyda nifer o gyrff y DU yn gyfrifol am wahanol agweddau ar hapchwarae. Bydd ymateb effeithiol i'r niweidiau a achosir gan hapchwarae yn ei gwneud hi'n ofynnol llunio ymateb cydgysylltiedig.

Gwn fod nifer o'r Aelodau yn y lle hwn wedi dangos diddordeb mawr yn y broblem hapchwarae a'r angen i gynorthwyo hapchwaraewyr sydd â phroblem, yn ogystal ag ymdrin â pha mor gyffredin yw hapchwarae a pha mor rhwydd yw gwneud hynny. Yn ddiamau, byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ystyriol hwn sy'n tynnu sylw at y risgiau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer gweithredu. Byddaf i'n sicr yn ymuno â Dr Atherton a rhanddeiliaid perthnasol i ystyried y ffordd orau o ddatblygu'r argymhellion hynny, nid yn unig drwy ein galwadau am weithredu effeithiol ar lefel y DU; yn ogystal â hyn, byddwn yn ceisio defnyddio unrhyw bwerau newydd yng Nghymru mewn ffordd synhwyrol a chymesur i leihau'r niwed a achosir gan broblemau hapchwarae. Edrychaf ymlaen at ateb cwestiynau'r Aelodau. Diolch i chi.

16:30

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr am gyflwyno'r datganiad hwn ynglŷn ag adroddiad y prif swyddog meddygol. Rwyf i yn croesawu'r adroddiad hwn heddiw. Rwy'n credu ei fod yn amlygu'n glir yr heriau o ran sicrhau ein bod ni i gyd yn heneiddio'n dda. Mae'n newyddion gwych i weld y cynnydd mewn hirhoedledd—rwyf i fy hun yn ddiolchgar iawn o weld hynny—ond mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod y bydd dros chwarter poblogaeth Cymru dros 65 oed ymhen 20 mlynedd; chwarter ein poblogaeth yw hynny. Ac fe hoffwn i sicrhau bod cynlluniau heddiw yn cydnabod hynny, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed sut y byddwch chi'n sicrhau y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu mewn modd sy'n addas i chwarter ein poblogaeth yn y dyfodol, yn enwedig wrth i ni glywed pethau fel yr hyn y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu dweud bod y prif bethau sy'n effeithio ar iechyd y tu hwnt i reolaeth y gwasanaethau iechyd i raddau helaeth, ac felly mae'n rhaid bod ansawdd gofal cymdeithasol a'r gwariant ar hynny yn un o'r gofynion mwyaf ar ofal iechyd.

Mae hefyd yn newyddion da iawn gweld y gwelliannau mewn clefydau cardiofasgwlaidd ac anhwylderau newyddenedigol, ac rwyf i hefyd yn cydnabod y gwaith da iawn sydd wedi'i wneud ym maes hepatitis C. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael, yn ôl adroddiad y prif swyddog meddygol, â'r darlun gwastad a welwn o ran canlyniadau canser. Ac felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gofyn i chi pa gynlluniau sydd gennych chi i'n helpu i wella hynny, oherwydd nid yw'r ffigurau hynny—ffigurau dyddiol ar gyfer canlyniadau canser—wedi newid yn sylweddol ers dros ddegawd.

Mae'r pwyntiau a wnaed gan y prif swyddog meddygol ynghylch hapchwarae yn berthnasol ac, yn fy marn i, wedi'u gwneud yn dda, ac ni allaf i ddeall pam yr ydym ni'n caniatáu i'r cancr hwn ddatblygu. Yn wir, fe hoffwn i dalu teyrnged i Darren Millar, oherwydd cododd ddadl fer ar y mater hwn yn ôl ym mis Gorffennaf 2017, a alwodd am fwy o gyfyngiadau ar hysbysebu hapchwarae a therfynellau betio cyfnod penodol, ac fe wn i fod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Dywedodd y Gweinidog dros iechyd y cyhoedd ar y pryd, Rebecca Evans, fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn comisiynu ymchwil i fapio'r holl leoliadau hapchwarae yng Nghymru. Byddwn yn croesawu diweddariad ar y cynnydd yn hyn o beth, a tybed allwch chi efallai sôn am eich bwriad ynglŷn â'r maes hwnnw.

Er bod materion a sylwadau eraill, fe hoffwn i orffen gyda sylwadau'r prif swyddog meddygol ynghylch amddiffyn y cyhoedd rhag bygythiadau iechyd ac, yn wir, staff rhag bygythiadau iechyd. Ffliw tymhorol yw un o'r bygythiadau mwyaf i bwysau'r gaeaf. Mae'n rhoi pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys, ac rwyf i wedi ceisio cael arweiniad gan Gymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â beth y gellir ei wneud i gynyddu faint o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd, yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, sy'n cael y brechlyn ffliw. Mae'n rhaid cymell y cyhoedd i wneud ond, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n rhaid cymell gweithwyr y sector cyhoeddus hefyd. A oes unrhyw fodd y gall Llywodraeth Cymru edrych ar y canllawiau, statudol neu fel arall, i weithwyr iechyd a gofal gael y brechlyn ffliw? Oherwydd rydych chi eich hun yn cyfeirio bod ein brechiadau rhag y ffliw tymhorol yn destun eiddigedd y byd, ac eto mae hynny yn gwbl groes i'r dystiolaeth a glywn yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rydym yn gwybod bod ffliw tymhorol yn un o'r pethau hynny sy'n bwysau mawr yn ystod y gaeaf. Os byddai pawb yn y Siambr hon, ein holl staff, y cyhoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn cael y brechlyn ffliw, byddai'n helpu'r pwysau aruthrol hynny ar ein GIG, a byddwn i'n ddiolchgar iawn am eich barn ynglŷn â sut y gallwn ni gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn. Diolch i chi.

Byddaf yn ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf. Rwy'n croesawu'r ffaith y ceir cydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr ymgyrch ffliw tymhorol, a rhan o gryfder yr ymgyrch honno yw ei bod hi'n un wirioneddol drawsbleidiol. Mae digonedd o bethau yr ydym yn dadlau yn eu cylch yn y lle hwn rhwng y pleidiau; nid yw hyn yn un ohonynt. Rydym ni eisiau i fwy o aelodau'r cyhoedd mewn grwpiau sydd mewn perygl fanteisio ar y cyfle i gael brechiad y ffliw drwy'r GIG, ond hefyd i feddwl am y gweithwyr hynny sy'n gweithio gyda phobl sydd, drwy ddiffiniad, yn agored i niwed, ac ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol. Mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi canolbwyntio arnynt. Roedd gan Rebecca Evans, pan roedd hi'n Weinidog dros iechyd y cyhoedd ar y pryd, bwyslais penodol ar ddechrau'r tymor ffliw hwn ar geisio sicrhau bod mwy o weithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus a ddylai gael y brechiad rhag y ffliw yn ei gael.

Mae gennym ni heriau yma, fodd bynnag, y dylem ni eu cydnabod yn onest. Rhan o hynny yw, mewn gwirionedd, er ein bod ni'n credu y dylai fod cyfrifoldeb proffesiynol ar bobl i wneud hyn a bod buddiant i bobl yn y sector gofal cymdeithasol o safbwynt parhad busnes i sicrhau y gall eu staff ddod i'r gwaith yn ogystal â sicrhau nad ydyn nhw'n effeithio ar y bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt, ym maes gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd, mae'n eithaf anodd dweud, 'Mae'n rhaid i chi' ac yn arbennig i ddweud, 'Mae'n rhaid ichi gael y brechiad rhag y ffliw.'

Mae trafodaeth i'w chael o hyd ynghylch sut i gael mwy o bobl i fanteisio arno. Mae eleni wedi bod yn galonogol, o'i gymharu â llynedd—ac wnaf i ddim hawlio'r clod am ymgyrch eleni oherwydd, fel yr wyf wedi dweud, Rebecca Evans oedd y Gweinidog ar ddechrau hyn—rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer ein haelodau staff sy'n manteisio ar y brechiad. Mae angen inni wneud mwy a mwy a mwy i geisio sicrhau bod staff yn sylweddoli mai peth da iddyn nhw a'r bobl maen nhw'n gofalu amdanynt yw parhau i gael y brechiad rhag y ffliw, ac, yn fwy na hynny, i fwyfwy o bobl ei gael er mwyn iddo fod yn rhywbeth a gaiff ei dderbyn yn ddiwylliannol yn hytrach na bod yn rhaid i ni frwydro i ddwyn perswâd ar bobl i gael y brechiad rhag y ffliw. Mae rhai o'r camsyniadau am y brechlyn eleni ei fod yn aneffeithiol—mae pobl yn dweud hyn bron bob blwyddyn, ac eto rydym ni'n gwybod mai hynny yw'r amddiffyniad rheng flaen gorau rhag y ffliw, sydd wedi arwain at ganlyniadau sylweddol ar gyfer amrywiaeth eang o bobl sy'n agored i niwed, o fabanod newydd-anedig i'r hen iawn a phawb yn y canol.

O ran eich pwynt ynghylch poblogaeth sy'n heneiddio, unwaith eto, mae'r adroddiad yn amlygu ffigurau a nodwyd mewn adroddiadau eraill, gan gynnwys yr arolwg seneddol a gwaith blaenorol Nuffield a'r Sefydliad Iechyd am y cynnydd yn oedran ein poblogaeth, ac yn arbennig cyfran ein poblogaeth a fydd dros 65 oed a dros 75 oed a'r galw cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol. Rhan o'r her i ni yw, wrth inni wneud dewisiadau cyllideb—y byddwn yn eu trafod, yn eu dadlau, ac, heb os, yn anghytuno â nhw, unwaith eto—pa bynnag swm sydd gennym ni a pha un a yw hynny mewn cyfnod o galedi pan fo'n cyllideb yn gostwng ai peidio, mae'n rhaid i ni ddewis faint i'w roi i bob maes. Ar hyn o bryd mae hynny'n golygu bod gennym ni her wirioneddol i fodloni'r galw ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mewn gwirionedd, rydym ni wedi wynebu'r her iechyd yn y ffordd yr awgrymodd Nuffield a'r Sefydliad Iechyd yr oedd angen i ni wneud. Felly, rydym ni wedi ateb y rhan benodol honno o'r her, ond mae gofal cymdeithasol yn rhan o'n pryder gwirioneddol, a amlygwyd unwaith eto yn yr arolwg seneddol. Dyna pam mae'n arbennig o bwysig yn fy marn i ein bod yn barod i gymryd rhan mewn—. Mae'r ddadl ar galedi yn anodd oherwydd bod gennym ni farn hollol wahanol yn ei gylch, ond ynghylch y ddadl ar yr hyn y dylwn ei wneud yn y tymor canolig, rwy'n gobeithio y dylai fod cyfle yn y lle hwn a thu hwnt i'r muriau hyn i geisio cymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch yr ardoll gofal cymdeithasol a gynigir gan Gerry Holtham. Rwy'n credu bod gwerth gwirioneddol mynd ar drywydd hyn oherwydd, os ydym yn mynd i ddod o hyd i ateb hirdymor i gyllid, ni fyddwn yn cyflawni hynny 'fel yr ydym yn nawr', a bydd hyn yn effeithio ar bob un etholaeth a phob un cymuned. Os na allwn ni ddatrys yr her gyllid tymor hwy ar gyfer gofal cymdeithasol, bydd gennym ni lawer iawn o'n dinasyddion hŷn, y mae pob un ohonom yn dymuno eu gweld yn derbyn gofal ag urddas—byddwn yn cael ein hunain mewn sefyllfa hollol beryglus. Felly, mae'n fuddiol i bob un ohonom i gyflawni hynny.

Mae gan bob plaid rywbeth i'w wneud yn hyn o beth ac i ni i ddangos rhywfaint o arweiniad arno, ond mae'n drafodaeth i'w chael gyda Llywodraeth y DU hefyd. Ni waeth pa liw yw Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio y bydd yn lliw gwahanol yn y dyfodol agos, ond ta waeth, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn rhan o'r drafodaeth oherwydd yr hyn na all ddigwydd yw ein bod yn cyflwyno ardoll gofal cymdeithasol a bod pobl wedyn yn cael arian i'w ddefnyddio i dalu am eu gofal cymdeithasol, os bydd yn gweithio, os bydd yr holl bethau hynny yn digwydd, a bod y Trysorlys yn dweud wedyn, 'Mae hynny, mewn gwirionedd, yn incwm i bob pwrpas', a fydd yn effeithio wedyn ar allu pobl i gael incwm o fudd-daliadau eraill hefyd. Mae hynny yn bwynt difrifol iawn, felly mae'r gwaith y mae Dilnot ac eraill wedi'i wneud—mae'n rhaid inni ddychwelyd at hynny ac mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod ein cyd-Aelodau yn Senedd y DU yn barod i gael, unwaith eto, trafodaeth aeddfed a synhwyrol ynglŷn â hyn hefyd, oherwydd mae hwn yn fater i Gymru, ond mae'n fater ledled y Deyrnas Unedig hefyd.

O ran canlyniadau canser, mewn gwirionedd, o ran y bobl hynny sy'n goroesi, mae ein stori yn un dda. Rydym ni wedi gweld cynnydd ystadegol arwyddocaol a sylweddol yn nifer y bobl sy'n goroesi. Mae goroesi ar ôl blwyddyn yn 73 y cant erbyn hyn; mae goroesi ar ôl pum mlynedd yn 57 y cant. Ond ein her yw, wrth i ni edrych arnom ni ein hunain a Lloegr, er enghraifft, mae'r cyfraddau goroesi yn ystadegol debyg mewn gwirionedd rhwng Cymru a Lloegr, ac ni fyddech yn disgwyl hynny mewn gwirionedd, gan fod poblogaeth Lloegr yn iachach ac yn gyfoethocach. Byddech yn disgwyl i'r cyfraddau goroesi canser fod yn sylweddol wahanol, ond dydyn nhw ddim. Ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, mewn gwirionedd, o safbwynt Cymru—nad ydym yn gweld gwahaniaeth ystadegol rhwng cyfraddau goroesi Cymru a Lloegr. Ond mewn gwirionedd, nid yr her fwyaf yw dweud, 'Nid ydym ni ddim gwaeth na Lloegr' neu 'Rydym ni gystal â Lloegr'; yr her yw dweud, ar lefel ryngwladol, wrth edrych ar wledydd eraill ledled Ewrop, nad yw unrhyw un o wledydd y DU yn gwneud yn ddigon da o gwbl. Felly, mae'n rhaid i ni gymryd cam sylweddol ymlaen o hyd beth bynnag, mewn gwirionedd, a dyna ein her ni. Fel arall, y cyfan y byddwn yn ei wneud yw darbwyllo ein hunain i osod ein huchelgais a lle y dylem ni fod yn is.

Felly, dyna pam mae gen i ddiddordeb mewn llwybr sengl. Bydd yn newid y ffordd y caiff canser ei fesur. Mae gwaith arall yn cael ei wneud ynglŷn â hynny. Mae a wnelo fo hefyd â'r pwynt am ddiagnosis cynnar. Dyma pam yr ydym yn cael y drafodaeth hon ynghylch sicrhau bod cyffuriau a meddyginiaethau effeithiol ar gael. Dyma pam bod rhywfaint o'r ddadl wedi ymwneud â chronfa cyffuriau canser a pham fod gennym ni gronfa driniaeth newydd wedi'i seilio ar dystiolaeth. Ond, yn benodol, ar gyfer dewisiadau iachaol, rydych yn sôn am lawdriniaeth a radiotherapi, a phur anaml yr ydym yn sôn amdanyn nhw wrth siarad neu ddadlau ynghylch gwella canlyniadau canser; rydym bron bob amser yn siarad am ddiagnosteg a meddyginiaeth. Felly, mewn gwirionedd, mae angen inni dreulio mwy o amser a rhoi mwy o bwyslais ar hynny.

Ac o ran y gwaith ar hapchwarae, mae'r prif swyddog meddygol yn arwain gwaith ar hapchwarae gyda grŵp o randdeiliaid, a byddaf yn fwy na pharod—mae rhai o'r Aelodau wedi gofyn am gyfarfod gyda'r prif swyddog meddygol, a byddaf i'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y fan hon neu yn ysgrifenedig. Ac, wrth gwrs, pan fydd y prif swyddog meddygol yn dod i'r pwyllgor iechyd—rwy'n credu ei fod yn gwneud hynny fel arfer; rwy'n edrych ar y Cadeirydd—rwy'n siŵr y bydd yn hapus i sôn yn fwy manwl am y gwaith y mae eisoes wedi'i wneud a'r cynigion i ddefnyddio'r pwerau a fydd yn dod i Gymru ym mis Ebrill eleni.

16:40

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mi wnaf i hefyd nodi fy niolch i i Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, am ei ail adroddiad o. Mae hi yn bwysig, serch hynny, fy mod i'n tynnu sylw at y ffaith mai datganiad sydd gennym ni ar yr adroddiad yma heddiw, tra yn y gorffennol, yn cynnwys y llynedd, dadleuon rydym ni wedi'u cael ar adroddiad y prif swyddog meddygol, ac mi fyddwn i yn annog y Llywodraeth i fynd yn ôl i'r patrwm hwnnw, a pheidio â gadael i fregusdra balansiau gwleidyddol yn fan hyn benderfynu ym mha fodd mae materion pwysig iawn ynglŷn â iechyd ein cenedl ni yn cael eu trafod yma yn y Cynulliad.

Mi allwn i fynd i sawl maes gwahanol, mewn difrif—bron unrhyw faes o ran iechyd yng Nghymru—yn sgil yr adroddiad yma. Mi wnaf gadw yn fras at yr hyn sydd wedi cael ei grybwyll yn y datganiad ei hun gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw.

Mae'r datganiad wedi nodi bod yna lawer o ffactorau, wrth gwrs, sydd yn dylanwadu ar iechyd ein poblogaeth ni; mae hynny wedi cael ei drafod ni wn faint o weithiau yn fan hyn. Ond, o bosib, gallai'r adroddiadau yma a'r hyn rydym ni wedi'i glywed gan y Llywodraeth yn gyffredinol roi rhagor o eglurder i ni ynglŷn â gwir effaith llymder a phenderfyniadau gwariant mewn meysydd ar wahân i iechyd ar allbynnau iechyd—bod toriadau i ofal cymdeithasol, tai ac ati, yn doriadau i'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol. Mi fyddwn i'n gofyn am ffyrdd o gael gwerthusiad i fesur yn union beth ydy effaith y toriadau hynny ar y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol.

Mi symudaf i at brif gorff y datganiad heddiw yma, sef gamblo. Mae'r adroddiad yn bwrw goleuni ar y problemau sy'n cael eu hachosi gan bobl yn mynd yn gaeth i gamblo. Mae o'n nodi y cynnydd sydd yna mewn hysbysebion teledu ar gyfer betio. Wrth gwrs, rydym ni'n ymwybodol hefyd o'r rhagrith o'r gymdeithas bêl-droed yn Lloegr yn gwahardd chwaraewyr rhag gamblo ar gemau tra'n derbyn nawdd mawr iawn gan gwmnïau gamblo ar yr un pryd. 

Mae'ch datganiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn dweud eich bod chi'n gresynu bod gamblo yn cael ei reoleiddio ar lefel Brydeinig. Rydw i'n cytuno, pan mae rhywbeth yn cael ei reoleiddio ar lefel Brydeinig, bod hynny'n destun gresynu yn aml iawn, achos yn aml iawn mae o'n golygu bod rheoleiddio'n digwydd er budd diwydiant yn hytrach na'r cyhoedd, ac rydw i'n gobeithio y byddai hynny'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno fo yng Nghymru yn y dyfodol. Ond mae yna rai pethau y gall y Llywodraeth ei wneud. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn nodi bod Deddf Cymru yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â fixed-odds betting terminals er mwyn lleihau y stake uchaf o £100 i £10 ar gyfer peiriannau categori B2. Fy nghwestiwn cyntaf, am wn i: a fyddwch chi'n gwneud hynny? A ydy hynny'n rhywbeth y byddech chi'n dymuno ei wneud? 

Hefyd, mae yna bwerau sydd ar gael i lywodraeth leol pan mae’n dod at roi caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd siopau i siopau betio. Mae ymchwil yn fan hyn mewn perthynas â thrafodaethau ar Ddeddf bosib ar gynhwysiant ariannol wedi canfod bod llawer o awdurdodau lleol yn ofalus iawn ac yn bryderus am ddefnyddio pwerau sydd ganddyn nhw i gynyddu niferoedd y siopau betio, rhag ofn i gamau cyfreithiol, o bosib, gael eu cymryd yn eu herbyn nhw. A fyddwch chi, neu a wnewch chi ofyn i’r Ysgrifennydd llywodraeth leol roi rhagor o eglurder a sicrwydd i lywodraeth leol sydd eisiau cymryd camau i atal y cynnydd sydd wedi bod yn nifer y siopau betio?

Mi wnaf i orffen, os caf i, drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn â hepatitis C. Fel un o bencampwyr hepatitis C yma yn y Siambr—fi a nifer o Aelodau—mae’n dda gweld bod Cymru ar y blaen yn y maes yma, ac yn aml iawn y broblem rŷm ni’n ei hwynebu ydy darganfod y bobl sydd â hepatitis C—darganfod digon o gleifion i ddod drwy ein system ni. Mae’n broblem braf i’w chael, ond mae hi’n broblem sydd angen ei datrys. A gaf i ddefnyddio’r cyfle yma, fel rydw i ac Aelodau eraill yn chwilio am gyfleoedd eraill hefyd yn aml iawn, i bwyso arnoch chi i wneud datganiad eto heddiw, o bosib, ynglŷn â’r angen i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol yn yr angen inni symud ymlaen at gael gwared ar hepatitis C yng Nghymru?

16:45

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n nodi dewis pawb i gael dadl yn lle datganiad, er, mewn gwirionedd, a bod yn deg, mae datganiadau yn rhoi cyfle am fwy o gwestiynau gan Weinidogion i'w hateb a mwy o graffu yn hynny o beth, ond mae'r rhain yn ddewisiadau sy'n cael eu gwneud.

Yn fras, rwy'n rhannu eich pryder ynghylch effaith caledi ar iechyd a chanlyniadau iechyd. Rwy'n credu bod Dai Lloyd a Simon Thomas o'ch plaid chi wedi nodi eu pryder hefyd a'u diddordeb mewn adroddiadau ac astudiaethau sydd wedi'u gwneud i geisio edrych ar effaith y gwahanol newidiadau i fudd-daliadau lles yn sgil caledi, er enghraifft, ac mewn canlyniadau iechyd corfforol a meddwl hefyd. Maen nhw'n bethau y dylem ni barhau i fod yn ymwybodol ohonynt—y dystiolaeth ar gyfer a'n gallu a'n dewisiadau o ran beth yr ydym yn dewis ei wneud i redeg y system iechyd a gofal yma yng Nghymru a chydnabod y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar anghenion gofal iechyd yn y wlad.

O ran eich tri phwynt annibynnol ynghylch terfynellau betio ods sefydlog a hefyd, wedyn, cynllunio, iechyd y cyhoedd, siopau betio a hepatitis C—. O ran terfynellau betio ods sefydlog, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar y mater hwn, ac un o'r cynigion yw y gallent mewn gwirionedd leihau'r budd mwyaf posibl i £2. Nawr, rydym ni'n credu y byddai hynny'n beth da i'w wneud, ac mae'r prif swyddog meddygol wedi cyflwyno tystiolaeth i'r perwyl hwnnw yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw. Y peth rhyfedd yw, ein bod ni ar fin cael pwerau ym mis Ebrill a fydd yn caniatáu'r lle hwn i ostwng y swm uchaf—efallai yr hoffech chi roi'r pŵer i awdurdodau lleol ei ostwng i £10. Felly, os byddem yn cyrraedd y pwynt pan fyddwn yn ei ostwng i £10, ceir cyfle posibl i'w ostwng i £2. Mewn gwirionedd, os ydym yn glir bod Llywodraeth y DU yn mynd i weithredu yn y modd hwnnw, byddai hynny yn well yn fy marn i. Byddai'n system gyson ledled y DU, a gallem ddangos hynny ynddo'i hun. Os na fydd hynny'n digwydd, byddwn wrth gwrs yn ceisio defnyddio ein pwerau yma beth bynnag. Dylem ni fod yn glir iawn ynghylch—. Ceir cyngor clir iawn gan y prif swyddog meddygol ynglŷn â dymuno mynd ati'n fwriadol rhagweithiol yn y maes hwn, ac rwy'n siŵr y byddaf i—pa un ai fi neu Aelod arall o'r Siambr hon sydd yn y swydd benodol hon—yn dymuno ystyried hyn o ddifrif a chymryd camau priodol.

Mae cyd-destun ehangach i siopau betio ac effaith iechyd blaenoriaethol—nid yn unig o ran siopau betio ond o ran amrywiaeth o ystyriaethau ynglŷn ag iechyd y cyhoedd wrth gynllunio. Mae gen i feddwl eithaf agored ynglŷn â sut y gallem ni wneud hynny, ond mae angen i'r Llywodraeth gyfan gael trafodaeth ynghylch y polisi cynllunio a'r drefn lywodraethol sydd gennym ni ar hyn o bryd—o safbwynt cenedlaethol yn ogystal â'r hyn sydd ar waith mewn awdurdodau lleol. Ond dylem yn sicr fod yn barod i gael ein harwain unwaith eto gan dystiolaeth o ran beth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud i gynyddu iechyd y cyhoedd.

O ran hepatitis C, gwn eich bod chi, Angela Burns, a Julie Morgan ac eraill wedi sôn am y cynnydd sy'n cael ei wneud, ac, unwaith eto, rwy'n croesawu'r ffaith y tynnwyd sylw at beth maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd ar gyfer hepatitis C yn adroddiad y prif swyddog meddygol. Mae gennym ni ddull gwirioneddol genedlaethol o weithio—. Roedd yn ddiddorol iawn ac rwyf i mewn gwirionedd—. Nid wyf i bob amser yn darllen cylchgronau a chyhoeddiadau meddygol, ond cafwyd canmoliaeth wirioneddol i'r dull a ddefnyddir yma, mewn proffesiynau yn Lloegr a'r Alban hefyd. Maen nhw'n hoffi beth rydym yn ei wneud ac, yn wir, byddai'n well gan bobl yn Lloegr ffordd o weithio gydgysylltiedig gyffredinol genedlaethol, sy'n edrych ar y feddyginiaeth fwyaf effeithiol ac nid bob amser y drytaf, ond sy'n arwain at fudd gwirioneddol. Hwn yw'r cam nesaf tuag at ddileu'r afiechyd o ran cyrraedd y bobl hynny sydd anoddaf eu cyrraedd, a hynny, rwy'n credu, yw'r pwynt yr ydych yn ei wneud: sut ydym ni'n cyrraedd y bobl hynny sydd naill ai ddim yn cyflwyno'u hunain i wasanaethau gofal iechyd, yn cyflwyno'u hunain yn anaml, neu yn byw bywydau anhrefnus, ac, mewn gwirionedd, hyd yn oed os yr hoffan nhw wneud hynny, sut ydych chi'n cadw cysylltiad â nhw i ymdrin â'r heriau sydd ganddyn nhw?

Fel y nodais mewn datganiad blaenorol yn y lle hwn, rydym ni o'r farn ein bod ni mewn sefyllfa dda i barhau i wneud rhagor o gynnydd. Mae'r uchelgais yn parhau, fodd bynnag, i fod yn wlad sy'n dileu hepatitis C. Rydym ni erbyn hyn wedi cyrraedd y rhan anoddach o hynny, a hon yw'r broblem orau i'w chael, ond rwy'n ffyddiog y byddwn yn parhau i wneud cynnydd, ac, yn wir, pa gynnydd bynnag a wnawn, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y lle hwn ac yn y pwyllgor am y cynnydd a wneir gan staff yn ein gwasanaeth iechyd gwladol.

16:50

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn croesawu adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a chroesawaf y pwyslais ar effaith niweidiol hapchwarae ar iechyd y cyhoedd.

Mae'r Dr Atherton, ein prif swyddog meddygol yng Nghymru yn cyfeirio at y ffaith bod gan hapchwarae botensial mawr i achosi niwed i unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas ac mae'n galw am well ymchwil a monitro effaith hapchwarae ar iechyd ac am fwy o reolaeth rheoleiddiol yng Nghymru a'r DU, ac rydych chi wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny. Ond y llynedd, fe wnes i, ar y cyd â Jayne Bryant, Mick Antoniw, Ken Skates a Lesley Griffiths, noddi gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol De Cymru ar gyfer adroddiad ynglŷn ag ymchwiliad i effaith gymdeithasol problem hapchwarae yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, a ydych chi'n croesawu'r ymchwil a wnaed gan swyddogion Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro i anhwylderau hapchwarae a niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, ac yn croesawu'r gynhadledd maen nhw'n ei chynnal ar 23 Mawrth i ystyried y canfyddiadau a'r ffordd ymlaen? Rwy'n eich gwahodd chi, neu, yn wir, swyddog i fynd i'r digwyddiad hwnnw, y byddaf yn ei annerch.

Rwyf i hefyd yn croesawu'r astudiaethau achos gan Cyngor ar Bopeth sydd i'w gweld yn adroddiad y prif swyddog meddygol. A ydych chi'n cytuno bod gwasanaethau cynghori yn elfen hanfodol o ran cefnogi pobl sy'n mynd i ddyled a thrallod o ganlyniad i hapchwarae? Os ydych yn bwriadu derbyn yr argymhellion yn adroddiad y prif swyddog meddygol, a fyddwch yn defnyddio arbenigedd sefydliadau trydydd sector megis Cyngor ar Bopeth i lunio cynllun gweithredu ar y mater hwn? A ydych yn cydnabod bod angen ymdrin â hyn ar bob haen o'r Llywodraeth, ond bod angen iddo hefyd gynnwys y rhai ar y rheng flaen sy'n cefnogi pobl sy'n dioddef yr hyn sy'n gallu bod yn effeithiau negyddol sylweddol hapchwarae?

Diolch ichi am y sylwadau byr a'r pwyntiau hynny. Mae gen i ddiddordeb yn y gwaith y mae Cyngor ar Bopeth yn ei wneud yma yng Nghaerdydd a'r Fro i ddeall maint y broblem hapchwarae yn y rhan benodol hon o Gymru. O ran y digwyddiad ar 23 Mawrth, ni fyddaf yn ymrwymo heb edrych ar fy nyddiadur—rwyf wedi cael fy nwrdio am hynny o'r blaen, am ymrwymo ac wedyn peidio â deall a allaf fynd ai peidio—ond o ran y digwyddiad ar 23 Mawrth. Byddai gennyf ddiddordeb, os na allaf fod yn bresennol, gwybod a fyddai modd i rywun o Lywodraeth Cymru fod yno i ddeall natur yr adroddiad a'r dystiolaeth sydd wedi'i chasglu, a sut beth yw hynny. 

Felly, mae hynny'n arwain at eich ail bwynt ynghylch gwasanaethau cynghori, nid dim ond Cyngor ar Bopeth, ond amrywiaeth o sefydliadau eraill, a nifer ohonynt wedi eu crybwyll yn yr adroddiad. Maent yn bwysig iawn i helpu pobl i geisio datrys y broblem hapchwarae a deall sut y mae'n dechrau a sut y cefnogir y bobl. Mae hynny'n fwy na chyngor ariannol, mae hefyd yn cynnwys ystod gyfan o effeithiau eraill y gallai problem hapchwarae arwain atynt. Ac mae hynny, yn gyfan gwbl, yn rhan o'r gwaith y mae'r prif swyddog meddygol a rhanddeiliaid yn ei ystyried wrth lunio ymateb i'r broblem hapchwarae a'i effaith ar iechyd cyhoeddus. Felly, rwy'n credu bod y pwyntiau wedi'u gwneud yn dda, ac i ddod yn ôl i'r lle hwn i gael diweddariad ynglŷn â hynny, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan o'r hyn y byddwch yn dymuno ymdrin â hi wrth wneud hynny.

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fe hoffwn innau ddiolch hefyd i Dr Atherton am ei ail adroddiad blynyddol ers bod yn brif swyddog meddygol. Rwy'n falch bod Dr Atherton wedi dewis defnyddio ei adroddiadau blynyddol er mwyn taflu goleuni ar yr heriau cynyddol sy'n wynebu iechyd cyhoeddus. Y llynedd, amlygodd yr anghydraddoldebau iechyd sydd i'w gweld rhwng y rhai sy'n byw yn ein hardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig, ac mae wedi canolbwyntio ar hapchwarae eleni.

Wrth ystyried y prif heriau i iechyd cyhoeddus ar gyfer ein cenedl, fel gordewdra a chaethiwed i gyffuriau, alcohol a thybaco, ceir gwybodaeth a dealltwriaeth eang o'r rhain. Nid oes dealltwriaeth gystal o broblem hapchwarae, neu, yn hytrach, goblygiadau problemau hapchwarae ar iechyd cyhoeddus. Er bod pobl gyda phroblemau hapchwarae wedi bod erioed, rydym yn dechrau gweld eu niferoedd yn cynyddu. Croesewir y ffaith bod Dr Atherton wedi tynnu sylw at y mater hwn yn awr felly.

Yn 2005, cyflwynodd y Llywodraeth Lafur, o dan arweiniad Tony Blair, broses ddadreoleiddio fwyaf ein cenedl ar y diwydiant hapchwarae. Arweiniodd hyn at ffrwydrad mewn betio ar-lein. Caniateir hysbysebion teledu ar gyfer hapchwarae erbyn hyn felly nid oes modd dianc rhag hysbysebion yn ystod oriau brig teledu ar gyfer casinos a bingo ar-lein.

Erbyn hyn mae'n llawer haws nag erioed o'r blaen i bobl ifanc hapchwarae. Canfu arolwg diweddar y Comisiwn Hapchwarae y bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n hapchwarae, gyda dau o bob tri yn hapchwarae, a llawer ohonynt ar-lein. Arweiniodd y canfyddiad hwn at y Comisiwn Hapchwarae yn cyhoeddi cyngor i brifysgolion, yn eu hannog i ddarparu gwybodaeth a chymorth i'w myfyrwyr am niwed posibl sy'n gysylltiedig â hapchwarae—cymaint ag y maen nhw'n ei wneud ar gyfer cyffuriau, alcohol a rhyw mwy diogel.

Fel y mae'r Dr Atherton yn ei bwysleisio, mae 1.5 miliwn ohonom ni wedi hapchwarae yn ystod y 12 mis diwethaf. Er nad oes dim o'i le ar hapchwarae bob hyn a hyn ar y grand national, neu brynu tocyn loteri yn achlysurol, mae rhwyddineb gwneud hynny yn ei gwneud hi'n haws i hapchwarae ddod yn broblem.

Rwy'n croesawu argymhellion y Dr Atherton bod angen rhagor o ymchwil. Mae angen inni ddeall yn llwyr y risgiau a'r niwed, a datblygu polisi wedi'i seilio ar dystiolaeth sy'n cydbwyso manteision cymdeithasol hapchwarae gyda'r niweidiau sy'n gysylltiedig â phroblemau hapchwarae. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu beth yr ydych chi'n ei wneud i weithredu argymhelliad Dr Atherton am ragor o ymchwil i effaith y broblem hapchwarae? Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i weithredu er mwyn targedu'r broblem hapchwarae heb effeithio ar allu oedolyn i hapchwarae yn gyfrifol? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, sut fyddwch chi'n cynnwys y Cynulliad yn y broses o ddatblygu ymagwedd polisi sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth o ran mynd i'r afael â phroblemau hapchwarae?

Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad ac i'r Dr Atherton am ei adroddiad diweddaraf. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i ddatblygu ffordd gytbwys o ymdrin â'r mater hwn a materion eraill sy'n dod i'r amlwg ym maes iechyd cyhoeddus. Diolch yn fawr. Diolch.

16:55

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran y pwynt cyffredinol—rhyddfrydoli hapchwarae—mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd wedi ei gydnabod: bod, mewn gwirionedd, y twf mewn hapchwarae ar-lein, yn benodol, yn achosi heriau gwirioneddol i ni. Er gwaethaf yr holl waith yn annog pobl i fod yn hapchwaraewyr cyfrifol ac annog y diwydiant i fod yn fwy cyfrifol, nid yw wedi arwain at y math o newidiadau mewn ymddygiad y byddem yn dymuno eu gweld mewn gwirionedd, a dyna pam, yn fy marn i, maen nhw'n newid eu safbwyntiau eu hunain, hyd yn oed o fewn Llywodraeth y DU, sy'n dymuno'n reddfol i annog pobl i weithredu yn y diwydiant, yn hytrach na chael, os mynnwch chi, ddull rheoleiddio. Yn sicr, mae mater y terfynellau betio ods sefydlog yn enghraifft dda o faterion y maen nhw bellach yn ymgynghori arnyn nhw, ac, mewn gwirionedd, yn rheoleiddio dull gwahanol iawn nawr, oherwydd eu bod yn cydnabod y niwed sy'n cael ei wneud. Mae hwn yn faes sydd wedi'i lacio'n llwyr, gyda niwed sylweddol iawn y gellir ei wneud mewn cyfnod cyflym iawn o amser. Felly, ceir rhywfaint o ymwybyddiaeth, ond bydd angen i ni feddwl ynglŷn â sut y gallwn ni fynd ati i ddefnyddio ein pwerau yma yng Nghymru.

Dyna pam, fel y nodais yn gynharach, mae'r prif swyddog meddygol yn arwain gwaith gyda rhanddeiliaid i ystyried beth y gallwn ni ei wneud, beth y dylem ni ei wneud, nawr, ac wrth edrych ar y pwerau y byddwn yn eu cael ym mis Ebrill eleni hefyd. Yn wir, rydych chi wedi clywed yn y datganiad a'r cwestiynau eisoes heddiw am yr ymchwil y cyfeiriodd Jane Hutt ato y mae Cyngor ar Bopeth yn ei wneud yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae amryw o bobl eraill sy'n gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain, yn anecdotaidd ac yn fwy cyffredinol, ynglŷn â'r problemau y maen nhw'n eu gweld yn dod trwy eu drysau—crybwyllir rhai o'r rhain yn yr adroddiad hefyd—yn ogystal â'r ymchwil a wnaed gan bum Aelod yn y lle hwn. Roedd Jane Hutt yn un ohonyn nhw, a Mick Antoniw a Jayne Bryant—y tri sydd yn y Siambr ar hyn o bryd. Mae'r ymchwil hwnnw yn bwysig, gan dynnu sylw at yr her sydd gennym ni, ei graddfa, a'r angen am ymateb ymarferol yn ogystal ag ymateb polisi. Felly, fel yr wyf wedi'i ddweud sawl gwaith, rwy'n disgwyl mewn gwirionedd ddod yn ôl i'r lle hwn i ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â gwaith y grŵp hwnnw a'r pethau pendant yr ydym yn disgwyl gallu eu gwneud yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddaf yn ailadrodd llawer o'r pwyntiau sydd wedi cael sylw o ran y mater hapchwarae. A gaf i ddweud, yn gyntaf, byddwch yn cofio dadl yr Aelodau unigol a gawsom yma yn 2013—rwy'n credu mai'r Cynulliad hwn yw un o'r Seneddau cyntaf i gynnal dadl fanwl, drwyadl mewn gwirionedd ar y broblem sy'n dod i'r amlwg o'r cynnydd mewn hapchwarae? Yn wir, y ddadl honno pan roedd pobl yn dweud, 'Wel, beth mae'r dadleuon hyn yn ei olygu?'—a arweiniodd, mewn gwirionedd, yn Neddf Cymru, at o leiaf rhywfaint o bwerau datganoli o ran peiriannau betio ods sefydlog. Yn anffodus, ni wnaeth ddenu'r math o sylw a fu yn ddiweddarach, ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Cynulliad hwn wedi arwain y ffordd, mewn gwirionedd, o ran nodi ac edrych ar ffyrdd y gellid ymdrin â hapchwarae fel mater iechyd cyhoeddus.

Yr hyn sy'n bwysig am yr adroddiad hwn hefyd yw bod bron i hanner ohono—17 tudalen ohono—yn ymdrin â'r hyn a gaiff ei ddisgrifio fel her iechyd cyhoeddus sy'n dod i'r amlwg, a dyma beth yr ydym wedi'i gael mewn dadleuon amrywiol yn y Cynulliad penodol hwn. Ac mae'n adroddiad da iawn, oherwydd ei fod hefyd, o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen o ran yr angen am fwy o ymchwil—. Fe gofiwch chi y peidiodd yr holl ymchwil hwnnw yn 2010, felly mae'r data gwirioneddol sydd gennym wedi bod yn brin tan y gwaith a wnaethpwyd o ran yr adroddiad y gwnaeth Jane Hutt a minnau ac eraill ei ariannu. Ond nawr mae hyn yn rhoi cyfle i gynnal dadansoddiad priodol, ymchwiliad priodol, i wir faint y broblem. Yn bwysig iawn, yr hyn a nodir yw bod yn rhaid i unrhyw waith a wneir fod yn rhydd o ddylanwad y diwydiant tybaco—mae'n ddrwg gennyf, y diwydiant hapchwarae; mater arall yw hynny—diwydiant sydd wedi cyfrannu llawer o arian at waith ymchwil, ond sydd â gafael haearnaidd ar y gwaith ymchwil hwnnw, ei gyfeiriad, ac ymchwil sy'n troi mewn cylchoedd ers degawdau yn ôl pob golwg. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn annibynnol ar hynny.

A gaf i hefyd ddweud un peth arall? Wrth gwrs, mae llawer ohonom ni wedi bod yn gwylio rhai o lwyddiannau chwaraeon diweddar timau pêl-droed Cymru, ac wrth gwrs mae Spurs yn chwarae yn erbyn Casnewydd nos yfory. Efallai bydd rhai o Aelodau'r Cynulliad yn mynd i'r gêm honno hyd yn oed. Ond nid i bylu brwdfrydedd unrhyw un tuag at eu tîm lleol yr wyf yn codi'r pwynt, yn hytrach oherwydd y gafael haearnaidd hwnnw sydd gan hapchwarae bellach dros chwaraeon: y cysylltiad ym meddyliau pobl rhwng chwaraeon, pêl-droed, pob math o chwaraeon, a hapchwarae. Bydd y rheini ohonom a fydd yn gwylio'r gêm honno ar y noson honno yn gweld, o amgylch yr holl gae erbyn hyn, yr holl hysbysebion hapchwarae. Byddwn yn gweld y negeseuon testun a ddaw ar y ffonau, y pethau a ddaw ar-lein ac ati. A beth bynnag fo'n gallu ni—gallwn wneud pethau ar beiriannau betio ods sefydlog, gallwn wneud pethau gyda'n pwerau cynllunio—rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar ein cysylltiad â chwaraeon yng Nghymru o ran sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â hyn ac yn sicrhau nad yw'r cynnydd hwnnw mewn hysbysebu hapchwarae yn digwydd, a bod yn rhaid i ni drafod gyda San Steffan ar y ffaith, ar ôl nodi mater iechyd cyhoeddus, bod arnom ni angen y pwerau i allu ymdrin ag ef. Un o'r problemau, wrth gwrs, â Deddf Cymru, yw ei bod yn cyfyngu ar y gallu y gallem ni fod wedi ei gael mewn meysydd penodol o hapchwarae fel mater iechyd cyhoeddus—

17:00

—ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni'r gallu i ymdrin â'r materion hynny.

Diolch i chi, ac fe hoffwn i ddechrau drwy gydnabod y pryder cyson y mae Mick Antoniw wedi'i fynegi yn y maes penodol hwn, yn ogystal ag yn gyffredinol ar draws y pleidiau. Mae'r dystiolaeth ynglŷn â maint y broblem a'n dull ymateb mwyaf effeithiol yn bwysig iawn. Rwy'n cydnabod bod gennym ni rywfaint o dystiolaeth a bod darlun yn datblygu, ond i symud y tu hwnt i hanesion i ddeall mwy na thystiolaeth yr arolwg, ynghylch y pwynt hwnnw am yr her a'r ymateb mwyaf effeithiol os hoffech chi ymateb triniaethol os yw rhywun yn cael ei gyflwyno fel hapchwaraewr â phroblem, ac mae'r adroddiad yn cydnabod nad oes gennym ni gonsensws effeithiol ar hyn o bryd, yn y maes hwn, ynglŷn â beth yw'r ymateb cywir, oherwydd ei fod, mewn gwirionedd, yn annhebygol y bydd yn ymyrraeth fferyllol.

Mae hyn yn ymwneud yn fwy â maes siarad a chefnogi pobl, ac mae hynny ynddo'i hun yn her, yn ymwneud â deall beth yw'r math iawn o ymyrraeth. Mae'r adroddiad yn ystyried ymyraethau byr, mae'n edrych ar y gwaith yr ydym yn ei wneud. Hoffwn fod yn rhan o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal, er enghraifft, a chymryd rhan mewn gwaith y mae'n cydnabod y mae angen ei ddatblygu yn y maes hwn i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer pobl â phroblemau hapchwarae. Ond yn benodol, rwyf yn cydnabod eich pwynt penodol ar y diwedd, nid yn unig ynglŷn â—. Rwy'n siŵr bod bron pob un ohonom ni yn y lle hwn yn dymuno'n dda i Gasnewydd yn erbyn Spurs. Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod deyrngarwch hirsefydlog i gyfeiriad gwahanol.

Ond y pwynt hwn ynghylch hysbysebu, a natur hollbresennol hysbysebu—cymaint o wahanol ddigwyddiadau. Mae'n anodd ei anwybyddu. Os ydych yn meddwl yn ôl ynglŷn â lle yr ydym ni yn awr mewn chwaraeon, nid oedd mor bell yn ôl â hynny pan gafodd alcohol ei hysbysebu mewn chwaraeon mewn ffordd a oedd—. Roedd yn rhyfedd, onid oedd? Bron fel petaech yn cael eich annog i yfed llawer, mewn gêm chwaraeon, wrth wylio gweithgarwch a dawn gorfforol y bobl ar y cae. A chyn hynny, roedd tybaco yn gysylltiedig yn rheolaidd â hysbysebu pob math o ddigwyddiadau chwaraeon. Mae bwyd cyflym yno o hyd. Maen nhw hyd yn oed yn ystyried newid bwyd cyflym. Mae her o hyd ynglŷn â'r holl feysydd gweithgarwch hyn a'u parodrwydd i fod yn gysylltiedig â chwaraeon, oherwydd eu bod yn cydnabod grym chwaraeon a hysbysebu a beth y gall ei wneud ar gyfer eu cynhyrchion. Felly, fel y mae'r adroddiad yn ei gydnabod ym mhwynt 6.4 adroddiad y prif swyddog meddygol, mae angen edrych ar reolaethau hysbysebu hapchwarae. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni barhau i'w drafod gyda Llywodraeth y DU.

17:05

Rwy’n croesawu hefyd yr adroddiad yma a’r rhan sy’n delio â gamblo yn arbennig. Heb ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, rydw i yn sylwi bod yr adroddiad yn dweud bod cost gamblo eithafol i wasanaethau cyhoeddus Cymru o gwmpas £40 miliwn i £70 miliwn y flwyddyn, oherwydd yr effaith ar y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau gofal yn benodol. Rwy’n rhannu’r pryder sydd wedi cael ei ddatgan yn glir gan nifer o Aelodau ynglŷn â’r ffordd y mae gamblo a hysbysebu gamblo wedi treiddio i mewn i normalrwydd cymdeithas, fel ei fod yn ymddangos, yn ddiweddar, ar grysau plant ar gyfer chwaraeon, er enghraifft, yn efelychu timau pêl-droed.

Un peth rydw i eisiau gofyn yn benodol i’r Llywodraeth yn ei gylch yw’r sylw sydd wedi cael ei wneud am y ffaith bod ymchwil i mewn i’r maes yma yn cael ei wneud, i bob pwrpas, gan y diwydiant ei hun, drwy GambleAware. Ond mae GambleAware wedi bod o dan ddylanwad y diwydiant. Maen nhw wedi ceisio— rydw i'n credu—ailsefydlu i fod yn fwy annibynnol, ond mae’n fy nharo i mai beth rydym ni ei angen, a dweud y gwir, yw rhywbeth megis lefi ar y diwydiant, cwbl annibynnol, fydd yn deillio wedyn ar gyfer arian a fydd yn dod nid yn unig ar gyfer ymchwil i mewn i gamblo ond i leddfu rhai o'r sgil-ganlyniadau anffodus ac andwyol sy’n dod yn sgil gamblo. Nid yw hynny yn nwylo’r Ysgrifennydd Cabinet, ond rydw i eisiau gofyn ai dyna safbwynt Llywodraeth Cymru: y bydden nhw’n dymuno gweld lefi o’r fath ac y byddan nhw’n cydweithio a rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i wneud hynny.

Yr ail elfen yn yr adroddiad sydd o bwys, rydw i'n credu, yw'r ffaith bod, unwaith eto, y prif feddyg wedi olrhain effaith llygredd awyr ar ein cymdeithas a sgil-effeithiau hynny—2,700 o farwolaethau cynnar oherwydd llygredd awyr. Byddwn i’n hoffi gwybod yn union lle y mae llygredd awyr erbyn hyn yn y rhychwant o achosion marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae o gwmpas y trydydd neu’r ail reswm erbyn hyn. Rydw i'n gwybod bod y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau i fynd i’r afael, ond y broblem yw bod hyn yn cael ei wasgaru rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, a’r awdurdodau lleol yn benodol yn gyfrifol am fonitro a chadw trac ac wedyn rhoi parthau gweithredu yn eu lle, a’r Llywodraeth yma, wrth gwrs, yn wynebu achos llys oherwydd bod rhai o’r camau yna wedi methu yn ddiweddar. Felly, yn benodol, o edrych ar gost a'r sgil-effeithiau iechyd sy’n cael eu holrhain ar gyfer llygredd awyr, a fydd y Llywodraeth yn cymryd cam ymhellach yn genedlaethol nawr i sefydlu bod pob ysgol i gael uned monitro llygredd awyr y tu fas i bob ysgol, fel bod gennym ni well dealltwriaeth o wir effaith llygredd awyr, a bod gyda ni strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â’r problemau iechyd sy’n deillio o lygredd awyr?

Diolch ichi am y sylwadau a'r pwyntiau hynny. Byddaf yn ymdrin â'ch pwyntiau am lygredd aer yn gyntaf, os caf i. Fel y gwyddoch, yr arweinydd ar lygredd aer yn y Llywodraeth hon yw Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr amgylchedd, ond y mae'r pwyntiau yr ydych yn eu codi yn cydnabod ei fod yn fater sy'n effeithio ar amrywiaeth o adrannau. Yn amlwg, ceir effaith ar iechyd y cyhoedd. Os ydych yn sôn am fonitro mewn ac o amgylch ysgolion, rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd addysg yn dymuno cyfrannu ac ymwneud â hynny hefyd. Felly, ni fyddaf yn rhoi ateb byrbwyll i chi am strategaeth genedlaethol ac am y gwaith sy'n cael ei wneud, a byddaf yn sicr yn siarad â chydweithwyr o bob rhan o'r Llywodraeth, nid yn unig i ateb eich cwestiwn, ond yn ehangach y trafodaethau parhaus yr ydym yn eu cael ym mhob rhan o'r Llywodraeth ynglŷn â strategaeth Llywodraeth Cymru ar wella ansawdd yr aer a chydnabod y manteision sylweddol i bob un ohonom ni o wneud hynny mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi.

Pan soniwn am hapchwarae a'r gost ariannol sylweddol sy'n cael ei gydnabod i'r gwasanaethau iechyd a gofal, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod, i lawer o bobl, ei fod yn weithgaredd ysgafn a chymedrol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn yr ystafell hon wedi hapchwarae a mwy na thebyg yn hapchwarae yn rheolaidd, os ydych yn meddwl am y peth. Faint o weithiau yr ydym yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn loterïau lleol neu rafflau yn y gwahanol ddigwyddiadau yr ydym yn eu mynychu, yna mewn gwirionedd, os mai chi yw'r gwleidydd sy'n gwasanaethu yn yr ystafell, mae'n anodd iawn peidio â phrynu tocynnau raffl pan aiff y jar o gwmpas. Felly, rydym ni mewn gwirionedd yn sôn am broblem hapchwarae pan fo pobl yn mentro mwy nag y gallan nhw ei fforddio.

Yn ddiddorol, yn yr adroddiad, mae'n nodi'r pwyntiau penodol y mae eraill wedi'u gwneud am y gwahaniaeth yn y broblem hapchwarae rhwng chwarteli incwm gwahanol. Mae yn dangos bod y chwarteli incwm isaf yn fwyaf tebygol o gael y broblem fwyaf o ran hapchwarae ei hun. Dyna'r pryder y mae'r prif swyddog meddygol, yn ei amlygu'n benodol i ni. Yn ddiddorol, mae eich pwynt am yr ardoll wedi'i grybwyll yn yr adroddiad. Yr enghraifft yn Seland Newydd, ar dudalen 21 yr adroddiad, sy'n edrych ar yr ardoll sydd ganddynt yno a'r ffordd y cafodd ei chynllunio. Rwy'n agored ac mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y gallem ni ei wneud, gyda'n pwerau presennol ac yn y drafodaeth barhaus â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â her amlwg a gwirioneddol sy'n bodoli ar hyn o bryd ac a fydd yn cynyddu, os nad ydym yn gweithredu nawr, yn y dyfodol.

17:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae angen i mi ddatgan fy mod yn gyfarwyddwr ac yn ymddiriedolwr y Stafell Fyw, sydd wedi arloesi gyda'r pwyslais bod hapchwarae yr un mor niweidiol â bod yn gaeth i alcohol neu dybaco neu unrhyw ddibyniaeth arall. Felly, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r pwyslais hwn arno, oherwydd bod gen i lawer o etholwyr sydd wedi colli eu cartref, colli eu busnes o ganlyniad i'w dibyniaeth ar hapchwarae. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn cael sefydliadau mawr, fel y diwydiant pêl-droed, i ddefnyddio'u cyfoeth eithafol a'u goruchafiaeth yn yr amserlenni teledu i beidio â hyrwyddo hapchwarae, sef beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ac mae hynny'n peri pryder mawr iawn.

Rwy'n credu y dylem ni hefyd boeni fod gemau fideo yn cael eu defnyddio i dargedu plant a hybu math o hapchwarae er mwyn eu paratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gwybod bod yr Awdurdod Safonau Hysbysebu yn ymwybodol o hyn ac yn ymdrechu i fod yn wyliadwrus, ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylem ni i gyd boeni amdano. Rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i ni leihau ein mantol i £2, felly rwyf yn gobeithio eich bod yn llwyddo i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i gymryd y cam hwnnw.

Mae'n debyg mai'r unig beth yr oeddwn i'n cytuno â Mrs Thatcher yn ei gylch oedd ei bod yn poeni am werthu tocynnau loteri yn ein swyddfeydd post. Mae pobl dlotaf ein cymunedau yn casglu eu budd-daliadau o swyddfa'r post hyd heddiw, er gwaethaf gallu trosglwyddo arian yn electronig, ac wedyn fe'u gwahoddir i wario rhywfaint ohono ar unwaith ar hapchwarae. Mae hynny'n dipyn o sefyllfa anghyfforddus, ac rydym ni i gyd yn ei weld bob tro yr ydym yn mynd i swyddfa'r post. Felly, rwy'n credu ei bod yn destun pryder mawr, ac rwy'n croesawu'r pwyslais yn yr adroddiad hwn yn fawr iawn.

Hoffwn i ganolbwyntio ar rywbeth nad yw yn yr adroddiad, sef y mater o fwydo ar y fron, nid oedd yn adroddiad y llynedd chwaith. Mae wedi'i gyfyngu i ddwy linell yn adroddiad Dr Atherton. Dywedir wrthym ni fod plant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hanner mor debygol o gael eu bwydo ar y fron, ac mae hyn, yn amlwg, ynghyd â'r ffaith eu bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod â dannedd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi. Mae hyn i gyd yn gysylltiedig. Pan holais i chi ynglŷn â'r pwnc hwn ym mis Tachwedd, fe wnaethoch chi ddweud bod hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'ch bod chi wedi gofyn i'ch swyddogion a Choleg Brenhinol y Bydwragedd archwilio ffyrdd o wella nifer y mamau sy'n gwneud hyn a darparu gwell cymorth i deuluoedd. Felly, rwy'n awyddus deall, os nad yw'r wybodaeth hon ar gael yn ein hadroddiad ar iechyd y cyhoedd, o le ydym ni am gael gwybodaeth am ein strategaeth ar y pwnc pwysig iawn hwn. Oherwydd bod hyn, mewn gwirionedd, yn dilyn babanod ar hyd eu bywydau; os nad ydynt yn cael eu bwydo o'r fron, mae'n arwain at ganlyniadau difrifol. Mae'n bryder arbennig mai ar yr aelwydydd incwm isaf y mae pobl yn lleiaf tebygol o fwydo ar y fron ac felly mae angen mwy o gymorth i wneud hynny. Felly, rwy'n awyddus clywed beth y gallwch ei gynnig ynglŷn â hynny.

Diolch. Fe hoffwn i gydnabod swyddogaeth Jenny fel cyfarwyddwraig y Stafell Fyw, a grybwyllir mewn gwirionedd ar dudalen 24 yr adroddiad yn rhan o adran 7, ynghylch sut y caiff pobl eu helpu i gael gafael ar gymorth i bobl sy'n dioddef niwed yn sgil hapchwarae—un o nifer o fentrau cadarnhaol. Unwaith eto, rwy'n cydnabod yr hyn sydd gennych i'w ddweud am rym chwaraeon a gemau, naill ai i rannu negeseuon cadarnhaol neu, yn wir, i'w defnyddio i hysbysebu pethau y credwch chi sy'n achosi niwed posibl hefyd.

Ynghylch eich pwynt am fwydo ar y fron— i orffen, Llywydd—yn y ddadl yr wythnos diwethaf ynglŷn ag adroddiad y pwyllgor ar iechyd meddwl amenedigol, roedd adran yn yr adroddiad hwnnw ac yn fy ymateb a oedd yn ymdrin â bwydo ar y fron, nid dim ond mewn un maes penodol ond yn fwy cyffredinol am ein strategaeth bwydo ar y fron yng Nghymru, oherwydd ein bod yn cydnabod, ym mhob grŵp, yr hoffem ni weld mwy o bobl yn bwydo ar y fron—mae cydnabyddiaeth helaeth i fanteision iechyd a lles i'r fam a'r plentyn. Mae rhywbeth yno ynglŷn â chael partneriaid cefnogol yn rhan o hynny hefyd, a chymdeithas gefnogol sy'n cydnabod ei bod yn beth hollol naturiol yr ydym yn ceisio annog mwy ohono. Ac, o fewn hynny, rydym yn cydnabod, yn anffodus, bod cysylltiad pendant rhwng incwm a'r tebygolrwydd o fwydo ar y fron. Felly, mae hynny'n rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ddeall lle yr ydym wedi bod yn llwyddiannus a heb fod yn llwyddiannus, ac, yn y ddau bwyllgor, yn y pwyllgor iechyd ac, yn wir, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwy'n disgwyl adrodd yn ôl pan fydd y strategaeth honno yn barod. Rwy'n disgwyl y bydd craffu arnaf ynghylch hynny—bob tro y byddaf yn mynd gerbron y pwyllgor plant, rwy'n gwybod y gallaf ddisgwyl cwestiynau ynghylch bwydo ar y fron. Nes i ni weld gwelliant parhaus, rwy'n disgwyl y bydd y cwestiynau hynny'n dal i gael eu gofyn. Felly, nid wyf yn ei osgoi; mae'n faes gwaith sy'n cael ei ddatblygu a'i arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddaf i wrth gwrs yn adrodd yn ôl, nid yn unig i'r pwyllgorau, ond i'r lle hwn hefyd, wrth i ni wneud cynnydd—yn sicr wrth i ni ailffurfio ble yr ydym yn dymuno bod o ran hyrwyddo bwydo ar y fron ledled Cymru gyfan ym mhob grŵp incwm penodol, ond yn enwedig ymysg y rhai sy'n gwneud hynny leiaf ar hyn o bryd.

17:15
6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod

Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar ganmlwyddiant y bleidlais i fenywod. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James. 

Diolch, Llywydd. Mae heddiw yn nodi canmlwyddiant arwyddocaol Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, a gafodd ei phasio ar 6 Chwefror 1918. Roedd y Ddeddf hon yn galluogi pob dyn a rhai menywod dros 30 mlwydd oed i bleidleisio am y tro cyntaf. Mae'n werth nodi, er hynny, ei bod 10 mlynedd yn ddiweddarach, pan gafodd Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 ei phasio, yn rhoi'r hawl i fenywod bleidleisio yn 21 oed, cyn y gallai menywod bleidleisio ar yr un telerau â dynion. Felly, ar 2 Gorffennaf eleni, gallwn ni nodi 90 mlynedd ers y Ddeddf honno. Rwy'n ymwybodol hefyd fod y canmlwyddiant hwn yn gorgyffwrdd â rhaglen Llywodraeth Cymru sef Cymru'n Cofio: Wales Remembers 1914-1918, sy'n nodi coffâd canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf yng Nghymru. Roedd cyfraniad menywod ar y pryd i ymdrech y rhyfel yn hollbwysig ac yn rhan o'r symbyliad i sefydlu  Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1918.

Cynhelir nifer o ddathliadau arwyddocaol cysylltiedig eraill yn ystod 2018, gan osod sylfaen ar gyfer blwyddyn o ddathlu. Yn ogystal â dathliad heddiw, efallai y bydd yr Aelodau yn dymuno nodi rhai dyddiadau allweddol eraill eleni. Mae 30 Ebrill yn dynodi 60 mlynedd ers pasio Deddf Arglwyddiaethau Bywyd 1958, a oedd yn caniatáu i fenywod eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi; ar 21 Tachwedd bydd canmlwyddiant Deddf Senedd (Cymhwyster Menywod) 1918, a oedd yn galluogi menywod i sefyll etholiad i Dŷ'r Cyffredin; ac, yn olaf, 14 Rhagfyr 2018 yw canmlwyddiant y bleidlais gyntaf i fenywod, yn etholiad cyffredinol mis Rhagfyr 1918. Bydd y rhain a dyddiadau nodedig eraill yn gwneud hon yn flwyddyn wirioneddol o ddathlu. Hefyd, bydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth yn cael ei gysylltu'n agos â'r canmlwyddiant, yn ogystal â'r thema ryngwladol briodol iawn o 'bwyso am gynnydd'.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo bron £300,000 i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod, gydag amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar y themâu o 'ddathlu, addysgu a chymryd rhan'. Hoffwn nodi ein cynlluniau a byddaf yn rhoi dolen i'r Aelodau i wefan lle gellir cael manylion pellach am y rhain a gweithgareddau eraill ledled y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi noddi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru i gyflawni prosiect i ddathlu'r 100 uchaf o fenywod Cymru. Bydd y rhestr yn rhychwantu addysg, gwyddoniaeth, chwaraeon, y celfyddydau, busnes a gwleidyddiaeth a bydd yn cynnwys menywod hanesyddol a chyfoes. Mae menywod Cymru yn anweledig bron yn ein hanes ac mae'r ymgyrch gadarnhaol hon yn anelu at newid hynny. Yn yr hydref, bydd y cyhoedd yn gallu pleidleisio i ddewis y menywod o Gymru y maen nhw'n credu sydd wedi eu hysbrydoli fwyaf. Bydd dau gerflun yn cael eu comisiynu o ganlyniad i'r prosiect hwn. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at fwy o gerfluniau a chofebau parhaol eraill o fenywod gwirioneddol ledled Cymru. Byddwn yn annog cyfranogiad gan gymunedau i hwyluso hyn.

Byddwn hefyd yn ariannu'r gwaith o gomisiynu placiau porffor ar gyfer cynifer o'r 100 o enwebeion gwreiddiol ag y bo modd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod y llynedd, roeddwn yn falch o fod yn rhan o grŵp menywod Llafur y Cynulliad, a lansiodd yr ymgyrch placiau porffor. Ein nod yw rhoi i fenywod rhyfeddol Cymru y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu gan osod plac porffor yn ymyl eu cartref neu weithle. Mae 216 o blaciau glas yng Nghymru ar hyn o bryd yn coffáu enwogion nodedig a digwyddiadau hanesyddol a sefydliadau, a dim ond 11 o'r rhain sydd i fenywod. Dewiswyd placiau porffor i adlewyrchu mudiad y swffragetiaid a chredaf ei bod yn hen bryd inni gydnabod yr effaith y mae menywod wedi'i chael ar ein bywyd diwylliannol, gwleidyddol a gwyddonol yma yng Nghymru.

Heddiw, rwy'n lansio cynllun grant untro hefyd ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector a'r gymuned i gynnal gweithgareddau arloesol yn ymwneud â'r tair thema allweddol o 'ddathlu, addysgu a chymryd rhan' i ddathlu'r canmlwyddiant. Bydd y cynllun yn galluogi cymunedau lleol i gymryd rhan yn y dathliadau canmlwyddiant, gan dynnu sylw at gyfraniadau lleol ar hyd a lled Cymru i ddathlu hanes y bleidlais i fenywod. Hoffwn hefyd annog gweithgarwch sy'n dathlu ac yn annog menywod o grwpiau eraill a dangynrychiolir, gan gynnwys menywod BAME, menywod anabl a menywod LGBT+. Rwy'n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd grymuso menywod y cymunedau hyn, a all wynebu mwy o wahaniaethu a llai o gyfleoedd. Gwahoddir ceisiadau am grantiau o rhwng £500 a £20,000. Ceir mwy o wybodaeth am y cynllun grant a'r broses o wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru, a byddaf yn rhoi'r ddolen i'r Aelodau.

Bydd rhagor yn digwydd gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein cyfranogiad yn y gweithgareddau a drefnwyd ledled y DU. Er enghraifft, mae'r ras gyfnewid baner y bleidlais gyfartal yn cael ei threfnu gyda'r holl weinyddiaethau datganoledig. Bydd y faner yn dod i Gymru ym mis Mai a byddwn yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau yn sgil hynny. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rhaglen genedlaethol a'r digwyddiadau lleol yn eich etholaethau eich hunain wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi.

Bydd y canmlwyddiant a'r gweithgareddau cysylltiedig yn edrych ymlaen yn ogystal ag edrych yn ôl. Ein nod wrth dynnu sylw at fenywod Cymru'r gorffennol a'r presennol yw codi ymwybyddiaeth o'u cyflawniadau a chodi cofebau parhaol i nifer sylweddol ohonyn nhw, gan adrodd eu hanesion yng nghyd-destun eu cymunedau lleol. Mae'n nhw'n batrymau grymus o ymddygiad i fenywod a merched heddiw, sydd â heriau gwahanol, yn ogystal â chyfleoedd newydd.

Mae'n iawn inni ddathlu'r cynnydd a wnaethom yn y 100 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn iawn inni gofio'r ymdrech a'r aberth a wnaed i sicrhau'r cynnydd hwn. Mae angen inni gynnal ein momentwm i gryfhau democratiaeth ymhellach, a chynyddu nifer y menywod mewn swyddogaethau sy'n gwneud penderfyniadau, a pharhau i herio anghydraddoldeb a gwahaniaethu annheg. Diolch.

17:20

A gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad, os gwelwch yn dda? Mae llawer yn y datganiad i'w groesawu a'i ddathlu. Ond mae'n werth dweud, wrth inni ddathlu hyn, mai nodi carreg filltir yr ydym mewn gwirionedd, nid diwedd y daith. Cymerodd 10 mlynedd arall i Lywodraeth Baldwin gyflwyno pleidlais gyfartal, wedi'r cyfan, ond mae gennym ffordd bell i fynd eto, yn fy marn i, o ran cyfranogiad cyfartal.

Roedd dyfodiad Nancy Astor—mae'n rhaid i mi sôn amdani hi—i'r Senedd yn un o'r cerrig milltir hynny wrth gwrs, a thestun llawenydd i Geidwadwyr yw mai rhai o'n cynrychiolwyr benywaidd ni sydd wedi bod ymhlith y cyntaf i gyrraedd swyddi uchel: ein dwy Brif Weinidog—rwy'n credu bod pawb yn gwybod amdanyn nhw, ond, wrth gwrs, nid oedden nhw'n anghyfarwydd â rhagfarn ar eu taith—hefyd mae gennym rai fel Betty Harvie Anderson, sef y fenyw gyntaf i fod yn Ddirprwy Lefarydd yn Nhŷ'r Cyffredin, Janet Young, y fenyw gyntaf i fod yn Arweinydd y Tŷ, Cheryl Gillan, y fenyw gyntaf i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Liz Truss, y fenyw gyntaf i fod yn Arglwydd Ganghellor, ac, wrth gwrs, Nusrat Ghani—rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn croesawu hyn—y fenyw Fwslimaidd gyntaf sy'n Weinidog i siarad yn y blwch dogfennau yn San Steffan. Mae pob un o'r rhain yn batrymau o ymddygiad i fenywod o bob barn wleidyddol, yn union fel y mae menywod o bleidiau eraill wedi bod yn batrymau o ymddygiad i mi.

Nawr, rydym ni'n gwneud yn well yma o ran cael merched i sefyll ar bob lefel yng Nghymru, ac er nad eich blaenoriaeth chi o bosib fyddai cael y fenyw gyntaf gennym ni Geidwadwyr Cymru yn AS, arweinydd y tŷ—a bydd hwnnw'n blac porffor da iawn pan ddaw—rwy'n siŵr y byddwn yn rhannu'r nod hwn, sef nad yw'r bleidlais gyffredinol yn golygu cymaint ag y dylai heb inni symud tuag at fwy o ddiddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, a dyna fydd testun fy nghwestiynau i.

Mae angen i fwy o fenywod gymryd diddordeb ac yna i gredu ei bod yn werth chweil pleidleisio yn y lle cyntaf, ond yna wrth gwrs i sefyll ac adrodd yn ôl i'r cymunedau fod diben difrifol i wleidyddiaeth a bod angen dinasyddiaeth weithgar ac amrywiol—ac roeddech chi'n cyfeirio at y cynlluniau amrywiaeth yn eich datganiad—i gymryd rhan a helpu i flaenoriaethu'r hyn y dylsem ni fod yn pleidleisio arno yn y lle cyntaf. Felly, ochr yn ochr â'r gweithredu ar y rhwystrau yr ydym yn eu trafod yn aml—cyfrifoldebau gofalu, tlodi ac ati—rwy'n credu bod angen inni weithio ar agweddau'r gymdeithas a rhoi mwy o werth ar y cryfderau a'r buddiannau sy'n gysylltiedig yn bennaf â menywod, ond sydd o fudd inni oll. Wrth gydnabod yr arian a roddwyd gan bob Llywodraeth yn y DU heddiw, Llywodraeth Cymru yn benodol, a gaf i ofyn ichi, wrth weithio trwy'r tair thema a grybwyllwyd gennych, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth weithredol i'r ymgyrch drawsbleidiol Gofynnwch iddi Hi Sefyll? Oherwydd credaf fod digon o ymchwil yn  dangos bellach, yn y gweithle ac mewn ceisiadau i fod yn ymgeisydd ar draws y pleidiau, fod dynion yn fwy parod na menywod i gynnig eu hunain i gael eu hethol fel ymgeisydd pan nad ydyn nhw'n ateb holl elfennau'r fanyleb swydd neu hyd yn oed y gofynion i fod yn ymgeisydd. Yn achlysurol, efallai mai'r cyfan sydd ei angen yw i rywun  blannu'r hedyn a gofyn. Felly, a fyddwch chi'n cyfyngu'r cymorth yr ydych yn ei gynnig i brosiectau yng Nghymru yn unig, neu a ydych yn fodlon i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau trawsffiniol, neu brosiectau traws gwlad hyd yn oed, oherwydd mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddathlu yma heddiw yn cael ei wylio mewn mannau eraill?

A fyddwch hefyd yn ystyried cefnogi gwaith sy'n cefnogi newid yr agwedd gymdeithasol honno tuag at yr hyn y mae cryfder yn ein gwleidyddion yn ei olygu? Mae RECLAIM yn fy rhanbarth i, er enghraifft, wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol gyda merched blwyddyn 7 ac 8—nid ydyn nhw yn eu harddegau eto—o ran hyder ac arweinyddiaeth; bydd David Rees yn gwybod amdanyn nhw hefyd. Byddwn i'n dweud y byddai dosbarth gwleidyddol mwy amrywiol ei natur gydag ystod o gryfderau yn rhoi bywyd i syniadau newydd, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu helpu i gefnogi'r gwaith o ddileu'r bygythiadau ac ymddygiad ymosodol sy'n llygru'r drafodaeth gyhoeddus ar hyn o bryd—y drafodaeth wleidyddol— ac mae llawer o waith allan yno ar ddechrau.

Ac yna, yn olaf, nid yw'r bleidlais i fenywod, wrth gwrs, yn gyffredin yn fyd-eang. Roedd yna un cantref yn y Swistir nad oedd yn caniatáu i fenywod bleidleisio mewn etholiadau lleol tan 1991—1991—ond nid yw hynny mewn gwirionedd —. [Torri ar draws.] Rwy'n sôn am wledydd lle nad yw bod â phleidlais yn cyfateb i fod â'r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod. Rhof ychydig o enghreifftiau yma, os y caf i, Llywydd: dyna Irac, cyfansoddiad sy'n nodi bod yn rhaid i chwarter y seddi seneddol a swyddi Llywodraeth fynd i fenywod, ond hyd 2015 nid oedd yno unrhyw gyfreithiau yn ymwneud â thrais yn y cartref. Malaysia: mae gennych ymchwil gan YouGov yn canfod bod y rhan fwyaf o bobl y wlad honno yn cytuno ei bod yn debygol o achosi problemau os y bydd y wraig yn ennill mwy o arian na'i gŵr. Algeria: mae 32 y cant o'r seddi yn y seneddau cenedlaethol yn cael eu dal gan fenywod, ond nododd yr un astudiaeth, a wnaeth gadarnhau hynny, ei bod yn dal yn fwy tebygol i rywun ddweud yn Algeria ei bod yn annymunol i ferched fynegi barn gref yn gyhoeddus.

Wrth inni weithio tuag at annog mwy o bobl yng Nghymru, menywod yn arbennig, i gymryd rhan mewn democratiaeth, rwyf eisiau gwneud yn siŵr nad ydym yn caniatáu i'r honiadau o bleidlais i fenywod guddio'r problemau y dylai fod yn helpu i'w datrys. Diolch.

17:25

Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd yr Aelod, ni fyddaf yn gwneud hynny'n aml y tu hwnt i'm plaid fy hun, ond yn yr achos hwn rwy'n llwyr gytuno. Nid oes gennym unrhyw syniadau rhagdybiedig, mewn gwirionedd, o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl a ddaw gerbron, a bydd unrhyw brosiect a ddaw gerbron ac sy'n gofyn am gymorth yn cael ei ystyried o ran ei rinweddau a'i gynaliadwyedd ac ati. Ac nid yn unig am—. A thair amcan hynny, felly, yw'r darnau 'dathlu, addysgu, cymryd rhan'. A'r cyfranogiad, rwy'n gobeithio fy mod wedi gwneud hynny'n glir, nid cyfranogiad gwleidyddol yn unig ydyw; mae'n gyfranogiad ym mhob agwedd ar fywyd drwy bopeth yn ein gwlad a thu hwnt.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran yr holl bethau ynghylch annog pobl i ddod ymlaen a rhoi cymorth o ran rhai o'r pethau sy'n digwydd mewn bywyd cyhoeddus, yn enwedig i fenywod. Ac mae'r holl fater hwn ynghylch sut mae pobl yn edrych ac ati yn bwysicach na'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud neu beth yw eich gallu deallusol, neu beth bynnag, yn fater sy'n agos at fy nghalon.

Rydym hefyd heddiw wedi bod yn dathlu Diwrnod Diogelwch ar y Rhyngrwyd, er enghraifft, ac mae yna broblem fawr gyda'r cyfryngau cymdeithasol o ran cael menywod ifanc i sefyll a pheth o'r sarhad y mae llawer o fenywod mewn bywyd cyhoeddus yn gorfod ei wynebu. Felly, mae'n bwysig iawn, yn rhan o'r dathliad hwn, mewn gwirionedd, ein bod yn sôn—a chredaf imi ei ddweud ar y diwedd un yn fy natganiad—am rai o'r anawsterau y mae menywod heddiw yn eu hwynebu efallai nad oedden nhw'n eu hwynebu'n y gorffennol y mae angen inni hefyd eu cefnogi i'w gwneud.

Felly, cytunaf yn llwyr â phopeth a ddywedasoch. Rydym yn awyddus i gefnogi cymaint â phosib o fenywod i ymgeisio am y swyddi hyn o ystod o gefndiroedd ac am y swyddi mwyaf amrywiol â phosib, oherwydd holl bwynt hyn yw cael cydraddoldeb cyffredinol, ac ni allwch wneud hynny oni bai fod gennych chi'r ystod i gyd. Ond rwy'n credu mai'r hyn yr hoffwn ei bwysleisio yn fawr iawn yw hyn: rydym yn awyddus i bobl gredu eu bod â'r gallu i wneud hynny, ac er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid ichi gael enghreifftiau priodol o ymddygiad ar gyfer eich daliadau penodol chi, ar gyfer eich cymunedau chi ar eich cyfer chi—. Mae'n rhaid ichi allu'ch adnabod eich hun yn yr hyn yr ydych yn ymgeisio amdano, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael cefnogaeth trawsbleidiol, os mynnwch chi, ar gyfer hyn i'r dyfodol.

Diolch yn fawr am y datganiad, ac rydw i hefyd yn falch iawn o nodi heddiw fel diwrnod pwysig ar y daith, beth bynnag, tuag at gydraddoldeb i fenywod. Ac mi ydym ni yn parhau ar y daith honno, yn parhau i geisio cyrraedd tuag at gydraddoldeb llawn ym mhob agwedd ar fywyd. Mae hi'n daith sydd wedi gweld colli bywydau, ac mae hi yn parhau i fod yn daith hir a blinderus. Ond rydw i yn credu fod fy ngenhedlaeth i o fenwyod yn benderfynol o roi pob cefnogaeth i'r lleisiau benywaidd iau sy'n gynyddol ddig am y ffordd maen nhw yn cael eu trin yn y Gymru gyfoes, ac yn ein gwneud ni yr un mor benderfynol ag erioed o roi blaenoriaeth i'r angen i gyrraedd cydraddoldeb rhywedd llawn, yn benderfynol o roi brys i'r gwaith ac o'r angen i roi cydraddoldeb rhywedd yng nghanol yr agenda gwleidyddol yma yng Nghymru. 

I droi at rai materion penodol yn eich datganiad chi, mi ydych yn sôn am brosiect i ddathlu'r 100 menyw sy’n dod i ben y rhestr yng Nghymru, ym mhob maes o fywyd cyhoeddus. Beth yn union fydd y meini prawf wrth fynd ati i lunio’r rhestr? Ac wedyn, beth fydd y meini prawf wrth gomisiynu’r ddau gerflun? A fydd o’n ddibynnol yn llwyr ar ba fenyw sydd fwyaf poblogaidd gan y cyhoedd yng Nghymru neu a oes ystyriaethau eraill hefyd? Rwyf tipyn bach yn bryderus os mai poblogrwydd yn unig sy’n mynd i fod wrth wraidd hyn. Wedyn, rydym ni’n sôn am gael dau gerflun wedi’u lleoli mewn dwy ardal wahanol o Gymru. Rwy’n cymryd y bydd y rheini yn ardaloedd daearyddol ar wahân, ac y bydd y gogledd ac efallai’r gogledd-orllewin am unwaith yn cael eu cynnwys yn hynny.

Yn edrych ar eich cynllun grantiau chi, rwyf tipyn bach yn bryderus bod yna amserlen dynn iawn ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r pot grant yma. Nid yw’n glir a fydd modd defnyddio’r grantiau yma i geisio dileu rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu menywod heddiw. Yn ogystal â chofio’r gorffennol, mae’n amlwg bod angen symud pethau ymlaen. Fel y gwyddoch chi, mae cael mwy o ferched i gyfranogi ym mywyd cyhoeddus Cymru, ar y lefelau ble mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud, yn rhywbeth y mae rhai ohonom ni fan hyn yn ymgyrchu amdano fo.

Os edrychwn ni ar lywodraeth leol, rydym ni’n gweld ein bod ni wedi bod yn sefyll yn ein hunfan bron iawn: bron dim cynnydd yn y nifer o ferched a gafodd eu hethol yn 2016 o’i gymharu â’r etholiad cynt, a 28 y cant o gynghorwyr sydd yn fenywod. Fe wnaiff hi gymryd 82 o flynyddoedd i gyrraedd cydraddoldeb rhywedd yn y cynghorau yng Nghymru ar y raddfa rydym ni’n mynd arno ar hyn o bryd. Ni fedrwn ni ddim disgwyl mor hir â hynny. Mae’n rhaid, rwy’n credu, ac rwy’n meddwl eich bod chi’n cytuno, cyflwyno mecanwaith penodol. Mae tystiolaeth o bob rhan o’r byd yn dangos fod cwotâu yn ffordd effeithiol o gael mwy o fenywod mewn i swyddi o ddylanwad. Rwy’n gwybod fy mod i’n crwydro mewn i ddadl sy’n mynd i ddigwydd yma fory, ond rwyf yn credu bod angen i ni edrych o ddifrif rŵan. Mae 80 y cant o wledydd efo mwy na 30 y cant o ferched mewn Llywodraeth yn defnyddio cwota o ryw fath. Felly, yn amlwg, mae o yn gweithio.

Ond, wrth gwrs, ni fydd cwotâu ar ben eu hunain ddim yn newid diwylliant sydd wedi ei ddominyddu gan ddynion ers cyhyd. Ni fydd cwotâu ddim yn dileu aflonyddu rhywiol, ddim yn cael gwared ar fychanu a bwlian dyddiol ar sail rhywedd, ddim yn stopio merched rhag jyglo dyletswyddau gofalu a gweithio, ddim yn dileu’r bwlch cyflogau, a ddim yn atal camdriniaeth ddomestig a thrais ar sail grym. Ond, fe all y cwotâu arwain at y newidiadau strwythurol sydd eu hangen yng Nghymru er mwyn ymgyraedd at gydraddoldeb.

I ddod at gwestiwn ynghylch hynny: a fydd y grantiau yr ydych chi wedi eu cyhoeddi heddiw yn gallu cael eu defnyddio i hyrwyddo’r newid diwylliannol, strwythurol sydd ei angen yng Nghymru, fel ein bod ni’n defnyddio’r fuddugoliaeth gychwynnol rydym ni’n ei dathlu heddiw, gan y syffrajéts 100 mlynedd yn ôl—ein bod ni’n defnyddio’r fuddugoliaeth yn fwriadol ar gyfer ymgyrraedd at gydraddoldeb llawn yn y Gymru gyfoes, fel ein bod ni wir yn cyflymu’r broses yma? Felly, a ydy’r grantiau yma yn gallu cael eu defnyddio i’r pwrpas yna?

17:30

Gallan. Yr ateb syml i hynny yw, 'Gallan, fe allan nhw.' Mae'r tair thema gennym ni; felly cyn belled â'ch bod chi'n ffitio i mewn i'r tair thema, bydd y grant yn berthnasol, ac mae'n glir iawn mai peth syml iawn i'w wneud yw hyrwyddo newid er mwyn annog y tair thema. Felly, yn hollol, a byddwn yn disgwyl gallu defnyddio arian y grant. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o gyllid oherwydd rydym yn dymuno annog cynlluniau lleol bach yn ogystal â chynlluniau mawr, ac felly yr amrywiaeth eang o gymorth grant sydd ar gael, am y rheswm hwnnw yn union—fel bod modd inni annog pethau lleol iawn a allai wneud gwahaniaeth yn lleol i'r gallu i newid rhywbeth penodol y gellid ei ystyried yn rhwystr neu i ddathlu  rhywbeth neu beth bynnag. Ac yn wir gallai fod gennych gynllun llawer mwy y gellid edrych arno, efallai ymdrech ledled y wlad i nodi rhwystrau penodol a newidiadau. Cyfeiriais rywfaint yn y datganiad am geisio annog amrywiaeth eang o ferched i ddod ymlaen yn ogystal â dathlu amrywiaeth y menywod ym mywyd Cymru. Ac mae'n bwysig iawn i ni annog hynny, oherwydd gwyddom fod menywod sydd â nodweddion eraill hefyd, nodweddion gwarchodedig, yn wynebu hyd yn oed yn fwy o rwystr na llawer ohonom sydd heb y nodweddion hynny.

Ar fater y cwota, rwy'n cael trafodaethau hir gyda'm cyd-aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, am rai o'r pethau y gallem ni fod yn eu hybu mewn cynghorau lleol. Nid oes gennyf broblem gyda chwotâu fy hunan; nid wyf mewn sefyllfa i ymrwymo'r Llywodraeth iddyn nhw ar hyn o bryd, ond yn sicr mae hon yn drafodaeth barhaus ac egnïol yr ydym yn ei chael yn y Llywodraeth ac, yn wir, y byddwn yn annog ein bod yn ei chael ar draws y Siambr am y gwahanol ddulliau sydd sydd ar gael hefyd. Rwy'n cytuno â llawer iawn o'r menywod sydd wedi bod yn dweud ledled y DU heddiw ein bod yn dathlu'r 100 mlynedd, ond fod y cynnydd wedi bod yn rhy araf, ac nid wyf i'n fodlon i'm merched i a'm hwyresau i fod yn cael y drafodaeth hon ymhen 50 neu 100 mlynedd arall. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd o gyflymu'r broses hon o newid, i ddathlu'r llwyddiannau a'r aberth a fu o'r blaen, ond hefyd i wneud yn siŵr na fydd angen inni gael trafodaeth o'r fath eto ymhen 100 mlynedd.

17:35

A gaf i ddweud hefyd fy mod innau'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn gan arweinydd y tŷ ar ganmlwyddiant y bleidlais i fenywod? Rydym, fel y dywedwch, arweinydd y tŷ, yn dathlu heddiw Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl a basiwyd ar 6 Chwefror 1918. Rhoddodd i ferched yr hawl i bleidleisio gan nodi hefyd fod yn rhaid i fenywod fod dros 30, a bod yn rhaid iddyn nhw, neu eu gwŷr, fodloni'r cymhwyster eiddo er mwyn cael pleidleisio. Felly, i raddau helaeth iawn, hawl rannol i bleidleisio oedd hyn. Ond, hefyd, ym 1918, pasiwyd Deddf i alluogi menywod i sefyll etholiad ar gyfer swydd etholiadol.

Felly, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r erthygl yn y Barry and District News yr wythnos hon ar wleidydd benywaidd gyntaf y Barri, y Cynghorydd Beatrice Alice Lewis? Ganed Beatrice Alice Lewis yn Nhrelái, Caerdydd, ac roedd yn briod â naddwr glo yn y Barri. Daeth hi i'r brig yn y bleidlais yn etholiadau lleol 1919 ar gyfer ward Castleland yn y Barri. Bu'n gwasanaethu am naw mlynedd ac roedd yn nodedig am ei hymgyrch i gael clinig mamolaeth i'r Barri. A wnewch chi groesawu hefyd yr arddangosfa hawl i bleidleisio sydd i'w gweld yn llyfrgelloedd Bro Morgannwg drwy waith Fforwm Menywod Llafur y Fro? Mae honno'n cynnwys y Fonesig Dorothy Rees, y fenyw gyntaf a ddaeth yn Aelod Seneddol i gynrychioli'r Barri.

Rwyf i o'r farn fod y datganiadau a wnaed gan gyd-aelodau ledled y Siambr yn bwysig heddiw: Suzy Davies yn sôn am bleidlais ystyrlon, diffyg pleidlais, ac eithrio menywod mewn llawer rhan o'r byd, a hefyd Siân Gwenllian a siaradodd am gydnabod y fuddugoliaeth gychwynnol, yr ydym yn ei dathlu heddiw, 100 mlynedd yn ddiweddarach, ond gan gydnabod bod yn rhaid inni sicrhau cydraddoldeb llawn yn y Gymru gyfoes, yn arbennig i ferched ifanc. Mae hwn yn amser pryd y mae'n rhaid inni gydnabod yr hyn sy'n gyffredin inni. Mae mwy o bethau'n ein huno na'r hyn sy'n ein rhannu ni ar y materion hyn.

Felly, a ydych yn cytuno bod gennym gyfrifoldeb i annog menywod i sefyll etholiad ar gyfer llywodraeth leol, y Cynulliad a San Steffan, ac a ydych yn croesawu ymgyrch menywod Chwarae Teg, LeadHerShip? Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch yn gwybod am ymgyrch LeadHerShip yn Chwarae Teg oherwydd ei bod yn galluogi menywod i gysgodi Aelodau'r Cynulliad—ac rwy'n credu bod llawer ohonoch wedi cytuno i ymrwymo i hyn, yn ddynion a menywod—er mwyn annog mwy o gyfranogiad gwleidyddol o ystyried y lefel annerbyniol o isel o gynrychiolaeth, yn enwedig menywod, mewn llywodraeth leol. Yn wir, dim ond 20 y cant o gynghorwyr ac Aelodau Seneddol sydd yn fenywod, ond, wrth gwrs, mae gennym gyfle i geisio cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y Cynulliad hwn. Rydym wedi gweld pa mor fregus yw hynny pan oedd gennym y cydraddoldeb hwnnw yn 2003:50 y cant i lawr i 42 y cant. Mae'n rhaid gwneud cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhywbeth sy'n aros. Felly, a wnewch chi groesawu ymgyrch Chwarae Teg, sef LeadHerShip, a hefyd eto, gadarnhau eich bod heddiw yn cyhoeddi'r grant hollbwysig hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canmlwyddiant y bleidlais i fenywod, a'n bod yn dymuno i'r holl sefydliadau hynny ymgysylltu â hynny'n lleol ac yn genedlaethol?

Ie, wir. Rwy'n hapus iawn i groesawu'r holl gyfraniadau y mae Jane Hutt wedi tynnu sylw atyn nhw, yn arbennig yn y Barri a'r Fro; maen nhw'n ardderchog. Ceir nifer o arddangosfeydd ardderchog fel hyn ledled Cymru wrth gwrs. Mae'r cynllun grant a gyhoeddaf heddiw, yn wir, yn mynd i helpu pobl i gadw'r arddangosfeydd hynny yn y dyfodol neu i'w datblygu mewn unrhyw ffordd y gwelan nhw'n dda i wneud hynny. Dylwn i fod wedi ymateb i Siân Gwenllian, ond rwyf am ei ddweud yn awr: nid ydym yn edrych ar amserlen fer i gyflawni hyn. Rydym yn tybio y gweithredir llawer o'r cynlluniau hyn tua ddiwedd y flwyddyn pan fydd rhai o'r dathliadau canmlwyddiant eraill ar fin digwydd. Canmlwyddiant y bleidlais wirioneddol gyntaf, er enghraifft, yw mis Rhagfyr, ac ati. Felly, mae eleni yn flwyddyn gyfan o ddathlu. Ceir rhai cynlluniau yn y DU sydd ar waith ar hyn o bryd ac rydym yn eu hannog i fynd yn eu blaenau. Felly, nid wyf yn edrych ar gyfnod byr o amser; byddwn yn rhoi cyfnod rhesymol o amser i bobl er mwyn iddyn nhw gael y grantiau ynghyd a rhywfaint o gymorth i wneud hynny.

Mae hyn yn ymwneud ag ymdrin â nifer fawr o'r materion sydd newydd eu codi ynghylch gwneud yn siŵr bod cyfraniad menywod yn cael ei gydnabod a'r patrymau ymddygiad yn cael eu cydnabod, gyda'r holl gynlluniau sydd ar y gweill i annog menywod ifanc yn benodol i ddod ymlaen a chael eu gweld mewn bywyd cyhoeddus. Nid yw hyn yn golygu fel gwleidydd etholedig yn unig, ond eu bod yn cael eu gweld mewn bywyd cyhoeddus hefyd. Felly, mae'r cynghorwyr benywaidd yn bwysig iawn, ond yn wir, mae'n bwysig iawn eu bod yn cael eu gweld ar fyrddau cyhoeddus ac yn amlwg ar fyrddau elusennau ac ati, fel bod menywod yn cymryd eu priod le ym mywyd cyhoeddus. Gwyddom unwaith y cawn y gynrychiolaeth honno i ddechrau, yna bydd pethau megis ysbyty mamolaeth ac ati yn cyflymu'n sydyn i fyny'r agenda, ac yn gwbl briodol felly. Dyna'n rhannol beth yw ystyr hyn; creu prosesau gwell o wneud penderfyniadau a chael arferion cyflogaeth sy'n llai cyfyng a bod mwy o drefniadau sy'n gefnogol ar gael nid yn unig i fenywod, ond i lawer o bobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn dod ag amrywioldeb mewn bywyd cyhoeddus i'r amlygrwydd a ddylai fod ganddo yng Nghymru.

17:40

Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Gan mlynedd yn ôl i heddiw, daeth yr hawl y gwnaeth llawer o fenywod ymladd ac aberthu llawer er ei mwyn yn ddeddf; o'r diwedd, cafodd menywod yr hawl i bleidleisio ar ôl blynyddoedd lawer o ymdrech. Mae'r ffaith fod menywod wedi ennill yr hawl i bleidleisio yn tystio i waith caled ac aberth y swffragetiaid a'u cynghreiriaid, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd. Pan bleidleisiodd y 8.5 miliwn o fenywod hynny yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1918, roedden nhw'n defnyddio'r hawl i benderfynu pwy fyddai'n rheoli eu gwlad a nhw eu hunain. Gallai pleidlais fy hen fam-gu a phleidlais y rheini o'i chenhedlaeth hi benderfynu pwy fyddai'n rheoli polisi masnach y dyfodol, polisi amaethyddol a physgodfeydd, polisi economaidd, y cyfreithiau cystadlu, cyfreithiau cwmni a phob maes arall o lywodraethu. Dyna'r hyn yr ymladdodd y swffragetiaid drosto. Ond ychydig mwy na 50 mlynedd wedi i fenywod bleidleisio am y tro cyntaf yn y wlad hon, dechreuodd ein Llywodraeth wanhau ein pleidlais a'i rhoi i ffwrdd, o dipyn i beth, ynghyd â llywodraethiad ein gwlad, i fiwrocratiaid anetholedig.

Mae'r bleidlais a ddefnyddiwyd gan fy nghenhedlaeth i o fenywod yn awr yn amodol ar gymwysterau. Nid yw'n effeithio ond ar y cyfreithiau a'r polisïau hynny nad ydyn nhw wedi cael eu penderfynu gan yr Undeb Ewropeaidd. Gallwn newid y sawl sy'n penderfynu ar sut y mae ein GIG yn darparu gwasanaethau, ond nid a yw TAW yn cael ei godi ar damponau. Ni ofynnodd neb i fenywod o 'm cenhedlaeth i ai dyna'r hyn a fynnem. Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau yn siarad yn wresog am y cam ymlaen gogoneddus a gafwyd 100 mlynedd yn ôl i heddiw, fel yr oedd hynny, wrth gwrs. Caiff plant ysgol eu synnu'n aml pan maent yn dysgu nad oedd gan fenywod y bleidlais erioed. Nid ydyn nhw'n dirnad pam y buasai unrhyw un yn credu ei bod yn dderbyniol i adael i'r ychydig wneud yr holl benderfyniadau. Ond yn y lle hwn, ac yn San Steffan, mae gennym wleidyddion sy'n hapus i'r hawliau i bleidleisio, y bu'r fath ymdrech i'w hennill, gael eu hanwybyddu fel y gellir gwneud y penderfyniadau gan fiwrocratiaid anetholedig, nad oes modd eu cyrraedd na'u cyffwrdd â nhw. [Torri ar draws.]

Felly, er, wrth gwrs, fy mod innau'n dathlu 100 mlynedd o fenywod yn cael y bleidlais, rwyf hefyd yn dathlu'r bleidlais Brexit ragorol pan bleidleisiodd menywod a dynion Cymru i adennill grym eu pleidlais. Os nad ydym am ganiatáu i'r frwydr, yr anafiadau, y marwolaethau a'r aberthau aruthrol a wnaeth y mudiad pleidlais i bawb fynd yn wastraff, ac os nad ydym yn awyddus i fenywod a dynion hefyd golli grym eu pleidlais, mae'n rhaid ichi sicrhau Brexit priodol ac ailwladoliad llawn ein llywodraeth. Mae adennill grym ein pleidlais yn barhad o frwydr y swffragetiaid 100 mlynedd yn ôl. Felly, fy nghwestiwn mawr i yw hwn—[Torri ar draws.] Roeddech yn gwybod y byddwn i'n dod ato. Mae gosod placiau, dathlu menywod nodedig a rhoi grantiau yn burion, ond sut rydych yn mynd i ail-rymuso menywod yng Nghymru? A sut fyddwch yn sicrhau yn y dyfodol y bydd eu pleidlais yn golygu cymaint ar ôl Brexit ag yr oedd 100 mlynedd yn ôl? Diolch.

Wel, mae arna' i ofn na allaf anghytuno'n fwy gyda'r Aelod am bopeth a ddywedodd hi bron, sydd yn drueni, fel rhan o hyn. Defnyddiais i fy mhleidlais yn bersonol yn yr etholiadau Ewropeaidd, ac roedd llawer o fenywod yn fy nheulu yn gwneud hynny hefyd. Roedd hi bob amser yn agored i bobl fwrw eu pleidlais mewn etholiadau democrataidd ar gyfer aelodau Senedd Ewrop, ac, yn wir, mae gennym gyn-aelod o Senedd Ewrop yn rhan o feinciau Llafur yn y Cynulliad hwn. Felly, anghytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Michelle Brown, ond gwnaf ychydig o sylwadau eraill. Ni wnaeth unrhyw berthynas i mi bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr 1918 gan eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol ac nid oeddent yn berchen ar eiddo. Felly, mewn gwirionedd, y dathliad o'r bleidlais gyffredinol yw'r un y byddaf i'n edrych ymlaen ato. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddatblygu'r ddadl am bleidleisio'n 16 oed, fel ein bod yn gostwng yr oedran pleidleisio fel y gall pawb yn y wlad hon sy'n gymwys i dalu trethi gel cynrychiolaeth briodol yn y mannau sy'n eu cynrychioli.

Fe gawsom ni'r bleidlais Brexit, ac wrth gwrs bydd y Llywodraeth yn ei hanrhydeddu. Ond yr hyn na wnaethom oedd cael pleidlais am gylch gorchwyl y Brexit hwnnw. Rydym wedi cael y ddadl honno mewn man arall, nid oes angen ei chael eto. Ond mae tair thema dathlu'r canmlwyddiant yn bwysig iawn yma. Mae'r thema addysgu yn un bwysig iawn. Mae'n bwysig iawn wir fod pobl yn deall holl amgylchiadau eu democratiaeth yn iawn fel eu bod yn parhau i wneud y penderfyniad cywir pan fyddan nhw'n arfer eu pleidlais mewn modd cyfrifol.

17:45

A gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad a oedd, yr oeddwn yn falch o nodi, yn cydnabod aberth y rhai a aeth o'n blaenau a'r rheini a siaradodd o blaid hawl menywod i bleidleisio, ac, yn wir, hawl menywod i sefyll mewn etholiad? Yn achos etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni, mae'n destun balchder i mi fod cymorth o'r fath wedi dod oddi wrth Keir Hardie a oedd yn AS iddyn nhw ar y pryd. Ym 1905, ysgrifennodd Keir Hardie yn pledio dros bleidlais i fenywod, am yr agweddau tuag at yr etholfraint, a dywedodd,

'Nid ydym bellach yn siarad am fenywod fel eu bod yn yr un categori â'r "ynfyd" a'r "gwallgof", ond at ddibenion gwleidyddol rydym yn eu trin felly.'

Felly, mae'n fater i'w ystyried efallai, ers i Keir Hardie fynegi ei gefnogaeth i bleidleisiau i fenywod, mai pan gefais i fy ethol ym mis Mai 2016—dros 100 mlynedd yn ddiweddarach—y cafodd ei etholaeth ef gynrychiolydd benywaidd, naill ai yn y Senedd neu yn Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, rwy'n falch iawn hefyd o fod yn rhan o ymgyrch LeadHerShip Chwarae Teg, sy'n mynd i helpu i annog menywod i gymryd rhan ym myd gwleidyddiaeth, ac os gallaf i chwarae rhan fechan wrth annog hynny, rwy'n hapus i wneud hynny.

Ond rwy'n siŵr, arweinydd y tŷ, y byddwch yn cytuno â mi fod effaith polisi'r Blaid Lafur ar restrau byrion menywod i gyd wedi gweld Llafur fel y blaid sydd wedi cyflawni mwy o ran menywod yn gynrychiolwyr, yn San Steffan ac yma ym Mae Caerdydd, nag unrhyw blaid arall wedi eu rhoi at ei gilydd. Ac mae hynny'n gamp i fod yn falch iawn ohoni, ond yn un sy'n dangos bod angen inni fod yn rhagweithiol yn ein cefnogaeth i gydraddoldeb cynrychiolaeth.

Nawr, rwyf wedi siarad yn fyr am y gefnogaeth a gafwyd gan Keir Hardie, ond rwy'n awyddus i sôn yn fyr hefyd am y cymorth ar gyfer y bleidlais i fenywod a ddaeth o gylchoedd eraill ym Merthyr Tudful. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r teulu Crawshay a oedd yn enwog fel y meistri haearn, ond mae hefyd yn wir fod Mary Rose Crawshay, a oedd yn wraig i'r meistr haearn olaf, Robert Thompson Crawshay, yn ffeminist gref yn ei hamser, a'i bod wedi llofnodi deiseb bleidlais y fenyw gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, cymaint oedd ei chefnogaeth fel iddi gael ei chyhuddo yn y cyfryngau o darfu ar yr heddwch ac o arwain menywod Cymru ar ddisberod. Felly, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ a yw hi'n cytuno â mi wrth i'r ddadl am newidiadau pellach i'n Cynulliad Cenedlaethol fynd yn ei blaen, y dylem ni sicrhau bod ein sefydliadau democrataidd yn rhoi llais gwirioneddol i fenywod yng Nghymru? A fyddai'n cytuno ymhellach, fel Mary Rose Crawshay, y dylem barhau i aflonyddu ar yr heddwch tra phery'r frwydr dros gydraddoldeb?

Rwy'n hynod hapus i gytuno â'r ddwy farn honno—yn gyfan gwbl. Un o'r canmoliaethau gorau a gefais i erioed yn fy ngyrfa hir yn y gyfraith oedd mai menyw gegog ar y diawl oeddwn i—[Chwerthin.]—sef yr hyn yr oeddwn, rwy'n credu, yn mynd i'w gael yn feddargraff i mi, a dweud y gwir. Felly, cytunaf yn llwyr â hynny. Fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon—rwyf innau wedi ei ddweud droeon—rwy'n hynod o falch fy mod i fy hun wedi cael fy ethol oddi ar restr fer o fenywod. Fi oedd y fenyw gyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol ac rwy'n hynod falch o fod y fenyw gyntaf yn fy nheulu i fod mewn swydd etholedig, ond rwy'n gwbl benderfynol y bydd yr ysgol a ddringais i ar gael i bob merch ifanc yng Nghymru i'w dringo yn fy lle.

Byddaf yn cymryd rhan yng nghynllun Chwarae Teg. Mae cynllun mentora hefyd gan fenywod Rhwydwaith Cydraddoldeb Cymru yr wyf yn dymuno ei grybwyll, a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y cynllun hwnnw hefyd. Mae'n bwysig iawn fod gennym amrywiaeth o Aelodau Cynulliad i gymryd rhan yn y cynlluniau hynny fel bod cyfle i bawb, ac yn y modd hwn, gallwn wneud yn siŵr bod ein lleisiau yn parhau i gael eu clywed. Ac yng ngeiriau Cymorth i Ferched Cymru, yn sicr, fe godwn ni o hyd.

Rwy'n credu, heddiw, wrth inni edrych yn ôl, bod yn rhaid i hwn fod yn gyfle inni roi teyrnged, nid yn unig i'r menywod hynny a enillodd y bleidlais, er ei bod yn gyfyngedig, 100 mlynedd yn ôl, ond am y brwydrau a fu a'r menywod hynny a ddaeth â ni i'r fan hon yn Cynulliad. Meddwl yr wyf yn arbennig yn y fan hon mai 1918 oedd hi pan gawsom y bleidlais, er ei bod yn gyfyngedig, ond 1999 oedd hi, 81 mlynedd yn ddiweddarach, pan gafodd menywod eu cyfiawn le i gynrychioli eu hetholaethau yn y Cynulliad hwn, ac ni ddigwyddodd hynny ar hap a damwain, y niferoedd hynny. Daeth y niferoedd hynny drwy weledigaeth a phenderfyniad y Farwnes Anita Gale—'Anita' fel y'i gelwir yn gyffredin gan bob un ohonom, fel y byddai hi'n ei ddweud—Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur yng Nghymru y pryd hwnnw. Ac achubodd hi ar y cyfle, lle'r oedd tudalen wag ar gyfer pobl i gynrychioli 40 o etholaethau a rhanbarthau, i ddarbwyllo a pherswadio pobl i gefnogi ei gweledigaeth hi, a'r weledigaeth honno oedd dewis 20 o ddynion a 20 o fenywod ar ran y Blaid Lafur i sefyll a gwneud eu gorau. Ac rwy'n dweud darbwyllo a pherswadio; mewn gwirionedd, cafwyd—fel y gŵyr llawer ohonom sydd yma—drafodaethau tanbaid iawn a hynod wrthwynebus ledled Cymru. Ac yn y pen draw, drwy'r rheini, cawsom yr undebau llafur a'r aelodaeth i gefnogi'r cynnig hwnnw. Mae llawer ohonom yn dal i ddioddef y creithiau o hynny, ond cam da oedd hwn, a ddaeth â'r hyn sydd gennym yn awr i fodolaeth. Nawr, a yw hynny'n gwneud gwahaniaeth? Nid ynddo'i hunan. Ni fydd byth yn gwneud gwahaniaeth ynddo'i hunan.

Felly, eto, mae angen rhoi teyrnged i'r menywod hynny a ddaeth yma yn gynnar iawn a sicrhau bod amddiffyniad i fenywod yn cael ei gynnwys o fewn fformat deddfwriaethol Cymru. Yn y trefniant cyfansoddiadol cyntaf un, sefydlwyd dyletswydd absoliwt i gydraddoldeb. Cawsom hefyd ddeddfwriaeth—wel, nid deddfwriaeth, oherwydd ni allem wneud hynny, ond datganiadau y byddem yn gwarchod menywod a merched sy'n ffoi rhag  cam-drin domestig a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel. Felly, nid mater syml o gael menywod i mewn i sefydliad yw hyn. Mae'n golygu cael y menywod iawn, gyda'r  weledigaeth, i'r lle hwn. Ac rwy'n diolch i Anita, ac rwyf yn siŵr y byddwch chithau hefyd, am hynny. Ond ddydd Gwener, cymerais ran yn nigwyddiad Seneddwyr Benywaidd y Gymanwlad yn Jersey, ac euthum i siarad â menywod a merched fel rhan o raglen—rhaglen eang—sy'n annog menywod i sefyll neu gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, ar ba lefel bynnag y gallai hynny fod. Felly, mae'n rhan o fudiad ehangach, ac rwy'n falch ein bod wedi cael rhywfaint o arian ar gyfer ardaloedd fel fy ardal i, ardaloedd gwledig a'r holl ardaloedd yng Nghymru, i ystyried yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yn eu cymunedau eu hunain. Ac mae'n siŵr mai fy nghwestiwn ar hynny yw hyn: sut y caiff y cymunedau hynny wybod bod yr arian hwnnw ar gael iddyn nhw, gan ein bod yn awyddus i gymaint o sefydliadau â phosib wneud cais amdano? Diolch.

17:50

Wel, rwy'n fwy na pharod i roi teyrnged i'r Anita Gale wych. Ni wn a yw'n ddirgelwch i bobl ar y meinciau eraill pam y dechreuon ni i gyd wenu pan gyfeiriodd Joyce at 'darbwyllol' a 'dylanwadol', ond rydym i gyd yn cofio perswâd Anita a'i dylanwad—yn fy achos i, gydag anwyldeb. Mewn achosion eraill, efallai y gallai rhai fod yn dal i deimlo ychydig yn anesmwyth. Ond mae'n dangos grym rhywun â gweledigaeth benderfynol a chryfder cymeriad i ddwyn y gwaith i ben. Felly, roedd yn hollol benderfynol ei bod yn mynd i gael cydraddoldeb rhyw yn ein cynrychiolaeth etholaethol i'r lle hwn, ac roedd ei phenderfyniad yn disgleirio ac enillodd y dydd. Dyna wir neges Anita. Dau beth: dylai fod gennych weledigaeth, ac ewch ar ei hôl yn ddygn—credaf mai dyna'r gair cywir—ac mewn gwirionedd, hyd y funud hon, parhewch yn eich brwydr i wneud yn siŵr bod y weledigaeth sydd gennych ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn aros yn gadarn ar yr agenda.

Mae Joyce yn iawn hefyd i roi teyrnged i'r nifer mawr o fenywod sydd wedi dod i'r lle hwn ar y dechrau'n deg a gosod rhai o'r safonau hynny. Rwy'n dymuno sôn am un arall hefyd, sef Val Feld, a gŵyr pawb ei bod hi'n hynod benderfynol o gael cydraddoldeb ar yr agenda yn y lle hwn, a byddwn i gyd yn cytuno ei bod hi wedi gwneud gwaith da iawn yn hynny o beth. Ond hoffwn hefyd roi teyrnged i'm cyd-aelod, Jane Hutt, sef, wrth gwrs, y Gweinidog sydd wedi bod yn ei swydd am y cyfnod hwyaf mewn unrhyw weinyddiaeth yn y DU, ac a oedd yn un o'r menywod gwreiddiol yma. Credaf hefyd fod hi ei hun wedi bod â rhan fawr iawn i wneud yn siŵr bod y lle hwn yn trin y cwota etholiadol gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu, a chyda'r amlygrwydd y mae'n ei haeddu yn ein gwaith wrth lunio polisïau cenedlaethol.

O ran y grantiau sydd ar gael, fodd bynnag, byddwn yn sicrhau y byddant ar gael. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob Aelod Cynulliad yn cael llythyr yn egluro sut mae'n gweithio. Byddwn yn ysgrifennu at yr holl sefydliadau cymunedol a gefnogir gennym eisoes. Ond os oes unrhyw Aelodau Cynulliad yn dymuno inni wneud unrhyw beth penodol yn eu hardal nhw neu ei amlygu mewn unrhyw le penodol, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny hefyd.

17:55

Rwy'n sylweddoli nawr mai y fi, mae'n debyg, yw siaradwr Rhif 3 o'r meinciau cefn, felly byddaf yn ymarfer yr hyn yr wy'n ei bregethu wrthych chi i gyd a byddaf yn gryno iawn wrth ofyn gofyn cwestiwn ichi a dyna i gyd.

A gaf i groesawu'r datganiad, arweinydd y tŷ, a chydnabod heddiw hefyd mai'r menywod dewr yn 1908 a sefydlodd ail gangen y swffragetiaid yn y Rhyl, a aeth yn eu blaenau a helpu'r menywod hynny ar eu ffordd? Fel y mae llawer wedi ei nodi, mae etholfraint rannol sydd i fenywod heddiw, a symudwn ymlaen a byddwn i gyd yn dathlu.

Mae yna nifer o bethau yr ydych wedi sôn amdanyn nhw, ac mae nifer o bethau y mae'r Cynulliad yn eu gwneud. Yn enwedig yr un yr oeddwn i'n awyddus i sôn amdani sef arddangosfa'r bleidlais i fenywod yng Nghymru, sydd yn dechrau ar 5 o fis Mawrth, ac yn rhedeg hyd 18 o fis Mawrth. Bydd yn cynnwys Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y mae'r Cynulliad eleni wedi ei chyflwyno i fudiad y bleidlais i fenywod. Rwy'n dymuno dweud wrthych chi, neu ofyn i chi, a gofyn i'r Llywodraeth—mae menywod mewn bywyd cyhoeddus yn rhan o'r ffrwd waith yr wy'n canolbwyntio arni, ac mae llawer o'r hyn yr ydych wedi ei grybwyll yn bethau y byddaf yn cymryd rhan ynddyn nhw, ond a all Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad weithio'n agos iawn â'i gilydd fel nad ydym yn dyblygu digwyddiadau, ein bod yn addurno cymaint o ffenestri siop ag y bo modd, fel yr wyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud heddiw—nid oes ots gennyf i faint o ffenestri y byddwn yn eu gwisgo â phorffor, gwyn a gwyrdd oherwydd credaf fod angen inni ddathlu—a'n bod yn symud ymlaen gyda'n gilydd, yn Gomisiwn y Cynulliad, yn Llywodraeth Cymru, yn bobl Cymru, yn gynrychiolaeth i Gymru, i ddathlu gwaith menywod? Tybed a fyddech yn cytuno mai dyna'r ffordd orau ymlaen.

Wrth gwrs fy mod yn cytuno mai honno yw'r ffordd orau ymlaen, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Comisiwn, mewn gwirionedd, i wneud yn siŵr y cawn drefn ar y dathliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, a'n bod yn cael y gwerth mwyaf o grantiau'r Llywodraeth a'r hyn y gall y Cynulliad ei wneud i dynnu sylw at y gwaith sydd wedi'i roi ymlaen ar y cyd. Rwy'n deall—a gobeithio bod hyn yn iawn—bod Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i fod yn Gyflogwr FairPlay Chwarae Teg, felly edrychaf ymlaen at glywed am hynny, ac at annog Llywodraeth Cymru i ymuno yn y cynllun hwnnw hefyd.

Mynnodd menywod gael y bleidlais er budd dynion lawn cymaint â budd menywod. Roedden nhw am ei chael hi er lles y gymuned gyfan, felly dywedodd fy hen fodryb, Eleanor Rathbone, a oedd y nawfed fenyw i'w hethol i Senedd y DU. Roedd hi'n credu'n gryf ei bod yn gwbl angenrheidiol i ddwyn y gymdeithas gyfan gyda hi, a dyna pam y siaradodd mewn cannoedd o gyfarfodydd cyhoeddus ledled Gogledd Cymru, Lerpwl, Swyddi Caer a Chaerhirfryn. Oherwydd ei bod yn rhaid inni gofio na allai pobl yn y dyddiau hynny, pobl gyffredin, fforddio i brynu papur newydd, ac yn sicr ni allen nhw fforddio i brynu radio, felly sut arall y gallen nhw gael gwybodaeth am bwysigrwydd y frwydr am bleidlais i bob menyw a phob dyn, oherwydd eithriwyd y rhan fwyaf o ddynion bryd hynny hefyd? Rhaid inni gofio mai ym 1918, ddim ond 17 o fenywod a lwyddodd i ddod yn ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol, a dim ond un ohonyn nhw a gafodd ei hethol, Iarlles Markievicz—a chan mai o blaid Sinn Fein yr oedd hi, nid eisteddodd fyth yn ei sedd. Felly, cymerodd lawer iawn fwy o ymdrech i sicrhau bod menywod mewn gwirionedd yn dod yn rhan o'r adeiladwaith gwleidyddol.

Yn wir, barn Eleanor, wedi treulio 40 mlynedd o ymgyrchu am lwfansau i deuluoedd, yn seiliedig ar ei sylwi ar sut roedd menywod a phlant yn cael eu trin yn ystod y rhyfel byd cyntaf—pan aeth eu dynion nhw i gyd i ffwrdd i'r rhyfel, cawsant eu gadael heb yr un geiniog. Treuliodd hi weddill y rhyfel yn rhannu taliadau lles i'r holl deuluoedd hyn fel yr unig fenyw ar Gyngor Dinas Lerpwl. Canolbwyntiodd hynny ei meddwl yn wirioneddal ar bwysigrwydd y teulu fel cynhyrchydd ac epiliad gweithlu'r dyfodol. Roedd hi'n credu'n gryf y dylai lwfansau teulu fod yn gyfraniad gan gymdeithas i bob plentyn, oherwydd pa un ai oes gennym plant neu beidio, dyletswydd i bawb yw cefnogi lles plant. Aeth lwfans teulu yn fudd-dal plant o dan Barbara Castle, ond bellach y mae'n cael ei weld fel ei fod yn gwywo ar y gangen. Mae budd-dal plant wedi lleihau yn ei werth ers 2010—gan 20 y cant ers dyfodiad y Llywodraeth Geidwadol. Yn ogystal â hynny, mae gennym fudd-daliadau mewn gwaith hefyd yn cael ei lleihau yn llai na'r gyfradd chwyddiant, a phlant yn dioddef gwaethaf yr ymgyrch hon o galedi. Mae angen inni ein hatgoffa ein hunain fod yn rhaid i blant a lles plant fod yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth sicrhau lles ein cymdeithas gyfan. Felly, ennill brwydr a wnaethom ni, ond yn sicr nid ydym wedi ennill y rhyfel.

18:00

Wel, yn hollol. Fe enillom ni'r frwydr, ac nid yw'r rhyfel drosodd yn sicr, ac mae angen mynd ati i ryfela—os dyna'r gair yr ydych chi eisiau ei ddefnyddio—ar sawl ffrynt. Mae rhai pethau diddorol am yr hawl i bleidleisio, fel y cafodd ei sefydlu i ddechrau. Pe byddai pob menyw wedi cael pleidleisio yn 18 oed ychydig ar ôl y rhyfel byd cyntaf, byddai llawer mwy ohonyn nhw nag o ddynion, wrth gwrs, oherwydd trychineb y rhyfel mawr. Ni allwn ond teimlo y gallai'r llunwyr polisi, a fyddai o bosibl yn ddynion i gyd, wedi bod yn ymwybodol o hynny pan oedden nhw'n ystyried y bleidlais. Mae'n enghraifft dda iawn o pam y mae angen amrywiaeth o bobl i wneud penderfyniad i ystyried yr holl bethau hyn wrth i chi fwrw ymlaen. Felly, rydych chi'n hollol iawn, ac rydych chi'n hollol iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yna ymgyrchoedd sy'n effeithio ar y gymdeithas gyfan y mae menywod yn tueddu eu cyflwyno gan mai nhw sy'n cario'r baich, yn aml. Wrth i gymdeithas newid, rydym ni'n gobeithio na fyddwn ni'n gallu dweud hynny yn y dyfodol. Ond, wrth inni siarad, mae'n dal yn wir bod y rhan fwyaf o fenywod yn ysgwyddo baich y teulu ochr yn ochr â nhw mewn bywyd cyhoeddus.

Felly, bydd rhan o'r ymgyrch hon yn ymwneud â chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Dechreuais ymgyrch o'r enw 'DYMA FI' ddydd Llun diwethaf yng Ngholeg Gŵyr, i wneud yn siŵr bod modd i bawb fod yr hyn y maen nhw eisiau ei fod, beth bynnag yw eu rhyw neu eu rhywioldeb neu eu hil neu eu credo neu anabledd neu unrhyw nodwedd arall. Hyd nes y byddwn yn derbyn bod bodau dynol yn fodau dynol, ac y dylen nhw allu bod y person gorau y gallan nhw fod a gwneud y cyfraniad gorau y gallan nhw ei wneud, bydd yr anhawster hwn yn parhau. Felly, mae'n lle da yn wir, Llywydd—i ddod â'r ddadl hon i ben—mae'n sicr yn wir mai'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano mewn gwirionedd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yw hawl pob bod dynol unigol i fod y person gorau y gall fod, ac i wneud y gorau o'i hun a chymryd ei le haeddiannol yn y byd, beth bynnag yw'r lle haeddiannol hwnnw—mewn bywyd cyhoeddus, mewn bywyd preifat, mewn bywyd economaidd, mewn bywyd diwylliannol, ym mhob agwedd arall ar ein cymdeithas. Dim ond pan fyddwn ni wedi cyflawni hynny y byddwn ni wedi cyflawni cydraddoldeb.

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Sut y mae Technoleg Ddigidol yn Gwella Gofal Sylfaenol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sut y mae technoleg ddigidol yn gwella gofal sylfaenol. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Vaughan Gething.

Diolch ichi, Llywydd. Mae'r ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, wrth gwrs, yn newid. Mae technoleg ddigidol yn gweddnewid y ffordd y mae dinasyddion yn defnyddio eu gofal iechyd lleol. Mae gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol yn agwedd allweddol ar ein gweledigaeth i ddarparu'r gofal cywir, ar yr adeg gywir, ac yn y lle cywir, mor agos i'r cartref â phosibl.

Un o'r ffyrdd yr ydym ni'n cyflawni hyn yw drwy gyflwyno system gwasanaeth atgyfeirio cleifion Cymru. Mae'r gwasanaeth hwn wedi bod ar waith ers 2015, felly gall meddygon teulu anfon atgyfeiriadau i ofal eilaidd yn electronig erbyn hyn, sy'n golygu y gall yr atgyfeiriad gael ei brosesu mewn llai nag awr. Mae hyn yn wahanol i'r diwrnodau neu'r wythnos y mae'n ei gymryd i atgyfeiriadau papur gael eu prosesu, sy'n golygu bod cleifion yn cael gofal arbenigol cyflymach. Mae meddygon teulu yn defnyddio'r dechnoleg ddigidol hon i sicrhau bod bron i 20,000 o atgyfeiriadau yn cael eu blaenoriaeth bob mis. Mae'r gwasanaeth hefyd yn galluogi meddygon ymgynghorol i ofyn am wybodaeth ychwanegol oddi wrth y meddyg teulu sy'n atgyfeirio. Yn y dyfodol, bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach i ganiatáu deialog, gan rymuso meddygon teulu i reoli eu hachosion yn lleol ac, wrth gwrs, i osgoi atgyfeiriadau diangen.

Wrth gwrs, mae mwy i'r tîm gofal iechyd lleol na'n meddygon teulu diwyd. Er enghraifft, mae gan fferyllwyr cymunedol swyddogaeth hanfodol wrth ddiwallu anghenion pobl yn lleol. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi buddsoddi'n sylweddol yn y cyfrwng technoleg gwybodaeth Dewis Fferyllfa i gynorthwyo fferyllwyr cymunedol i ddarparu gwasanaethau a fyddai yn draddodiadol wedi eu darparu gan feddygon teulu. Mae hyn yn osgoi'r angen i gleifion aros am apwyntiad â meddyg teulu, ac mae'n cynnwys y gwasanaeth mân anhwylderau, brechu rhag y ffliw tymhorol a gwasanaeth adolygu meddyginiaethau rhyddhau. Mae gweithio'n ddigidol yn caniatáu i fferyllwyr cymunedol weld cofnodion cryno y meddyg teulu ar y claf, gan gynnwys gwybodaeth am alergeddau, a sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu rhagnodi'n ddiogel ac yn briodol. Ers i'r gwasanaeth hwn ddechrau ym mis Medi 2013, mae ein fferyllwyr cymunedol wedi cynnal dros 22,000 o ymgynghoriadau anhwylderau cyffredin ac wedi darparu 30,000 o frechiadau rhag y ffliw yn y tymor hwn yn unig.

Mae'r cyfrwng Dewis Fferyllfa hefyd yn ei gwneud yn bosibl trosglwyddo gwybodaeth rhyddhau o ysbyty yn electronig i sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol am feddyginiaeth unigolyn yn cael ei rhannu'n briodol rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ac rwy'n disgwyl inni wneud mwy o ran gwneud y defnydd gorau un o Dewis Fferyllfa. Mae hyn, ynghyd â mynediad at gofnodion cryno'r claf, yn sicrhau y gall fferyllwyr cymunedol ddarparu eu gwasanaethau â'r wybodaeth lawn am drefn feddyginiaeth yr unigolyn, er mwyn sicrhau bod y claf hwnnw'n derbyn y feddyginiaeth gywir ac i'w helpu i ddeall ei feddyginiaeth—nid dim ond defnyddio fferyllfa i roi hyn a hyn o feddyginiaeth, ond i fynd ati o ddifrif i wella ansawdd y gofal a'i hwylustod. 

Ac mae technoleg ddigidol yn gwella sut yr ydym ni'n darparu gofal yn y gymuned hefyd. Mae system wybodaeth gofal cymunedol Cymru, yr ydych efallai wedi clywed pobl yn ei alw yn WCCIS mewn ymweliadau o gwmpas y wlad neu ardaloedd, wedi bod yn fyw ers mis Ebrill 2016. Ac mae'n ysgogi cydweithio rhwng sefydliadau GIG Cymru a'n hawdurdodau lleol. Mae'n enghraifft ragorol o'r cydweithio hwnnw. Mae'n ei gwneud yn bosibl i rannu gwybodaeth yn ddiogel rhwng iechyd a gofal cymdeithasol drwy system sy'n helpu i ddarparu gwell gofal a chymorth i bobl ledled Cymru. Cyflawnir hyn drwy ganiatáu i staff iechyd a gofal, gan gynnwys nyrsys cymunedol, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion ddefnyddio un system, i gael mynediad at gofnodion electronig a rennir am ofal y claf. Ac, i'r claf, dylai hynny sicrhau bod y system iechyd a gofal yn fwy cydgysylltiedig. Bydd yn osgoi gorfod ailadrodd gwybodaeth, a bydd yn rhoi hyder iddynt y bydd y gweithwyr proffesiynol y maen nhw'n cyfarfod â nhw yn deall eu hanghenion gofal a thriniaeth.

Mae naw awdurdod lleol yng Nghymru yn fyw ar system wybodaeth gofal cymunedol Cymru ar hyn o bryd, ynghyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Lleol Powys. Mae nifer o'n hawdurdodau lleol sy'n ei gweithredu'n gynnar yn cynnwys gweithwyr iechyd rheng flaen sy'n gweithio mewn timau gofal integredig lleol. I gefnogi hyn, mae'r gronfa gofal integredig yn ariannu darparu dyfeisiau symudol i nyrsys cymunedol ledled Cymru.

Er bod tystiolaeth glir o'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol i ddarparu gofal yn lleol, nid yw'n digwydd ar y raddfa y byddwn yn ei disgwyl hyd yn hyn. Felly, mae'n bwysig bod pobl yn gallu dod o hyd i wybodaeth a chyngor cyfredol, dibynadwy ar y gofal cywir yn y lle cywir, ac ar yr adeg gywir, a bydd cyfrwng ar-lein arfaethedig ar gyfer iechyd a lles, a datblygu cyfeiriadur integredig o wasanaethau ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector yn galluogi dinasyddion unigol i ddod o hyd i'r wybodaeth hon ar-lein mewn un man. Ac mae'r cyfeiriadur hwnnw o wasanaethau eisoes wedi'i ddatblygu a'i ddefnyddio i gefnogi'r gwasanaeth 111 lle y mae eisoes wedi'i gyflwyno yng Nghymru.

Bydd defnyddio profion pwynt gofal, lle cynhelir profion diagnostig y tu allan i labordy, yn cynyddu, a bydd hynny'n golygu y bydd mwy o brofion yn cael eu cynnal yn agos at gartref y claf, neu yng nghartref y claf. Rydym ni'n ariannu dwy astudiaeth sy'n cynnwys darparu dyfeisiau arbenigol i 100 o bractisau meddygon teulu a recriwtio cleifion i ymgymryd â hunan-brofi a rheoli yn y cartref.

Rydw i eisoes wedi egluro rhai o fanteision y dechnoleg ddigidol ym mhroses atgyfeirio meddygon teulu. Yn y flwyddyn nesaf hon, o fis Ebrill ymlaen, nod Llywodraeth Cymru yw cyflwyno system atgyfeirio electronig debyg ym maes deintyddiaeth ac optometreg. Yn y pen draw, dylai hyn alluogi mwy o bobl i gael triniaeth a gofal yn lleol. Dylai hynny leihau'r galw am wasanaethau mewn gofal eilaidd a rhoi gwell profiad i'r person ei hun.

Ond dylem sylweddoli maint yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cyflawni ein gweledigaeth ddigidol ar gyfer gofal iechyd lleol. Mae angen inni sicrhau bod gan y gweithlu y sgiliau a'r gallu i ddefnyddio technoleg ddigidol yn llwyddiannus. Mae'r ffordd y darperir gofal a chymorth iechyd yn lleol yn newid, ac mae cyfathrebu â'r cyhoedd yn hanfodol i hyn. Mae'r GIG a gofal cymdeithasol ledled Cymru eisoes yn casglu amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth. Po fwyaf yr ydym yn gweithio'n ddigidol, y mwyaf hanfodol ydy hi i ddefnyddio'r data hwnnw i wella cyfranogiad y cyhoedd mewn gwasanaethau iechyd a gofal, a'u profiad ohonyn nhw. Dyna pam, fis Hydref diwethaf, yr amlinellais gynlluniau i ddatblygu fframwaith polisi clir i gefnogi rhannu a defnyddio data iechyd a gofal yn effeithiol, yn effeithlon ac yn ddiogel. Ochr yn ochr â hyn, mae angen inni gael sgwrs genedlaethol â'r cyhoedd i sicrhau eu bod yn deall y ffordd yr ydym yn defnyddio ac yn rhannu data yn well, ac egluro sut yr ydym yn diogelu ac yn defnyddio'r data hwnnw mewn ffordd gyfrifol i hybu a gwella eu profiad eu hunain o ofal a thriniaeth.

Mae ymgysylltu'n effeithiol, wrth gwrs, â'n gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn hanfodol i hyn. Mae angen inni greu amgylchedd lle rhoddir amser iddyn nhw i lywio a hyrwyddo datblygiadau yn y dyfodol. Mae ein cynlluniau ni i fanteisio ar botensial technoleg ddigidol i wella gofal, gyda gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol lleol yn cyfathrebu fel mater o drefn ag arbenigwyr i wneud diagnosis, trin a gofalu am bobl yn eu cartrefi neu'n agos at eu cartrefi, yn eang ac yn uchelgeisiol. Ond, fel yr oedd arolwg seneddol yn ei gydnabod, mae gennym fwy i'w wneud, a mwy i'w elwa. Mae gwneud mwy o ddefnydd a defnydd gwell o dechnoleg ddigidol yn rhan hanfodol o ddyfodol ein system iechyd a gofal, ac edrychaf ymlaen at adrodd ar gynnydd pellach sydd i'w wneud.

18:10

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad heddiw? Rwy'n credu mai ailadrodd gwybodaeth yw un o gasbethau cleifion ac mae'n achosi cwynion yn aml, ac rwy'n credu y bydd technoleg ddigidol, os caiff ei defnyddio yn y ffordd iawn, yn sicr yn helpu i ddod â'n gwasanaeth iechyd i'r unfed ganrif ar hugain. Rwy'n credu bod mwy a mwy o bobl eisiau perchnogi eu data gofal iechyd eu hunain, ac roeddwn yn falch iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, i ddarllen yn eich datganiad am lwyddiant system atgyfeirio cleifion Cymru i helpu meddygon teulu. Fodd bynnag, rydych chi hefyd yn cyfeirio yn eich datganiad—rydych chi'n nodi,

'er bod tystiolaeth glir o'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol i ddarparu gofal yn lleol, nid yw'n digwydd ar y raddfa y byddwn yn ei disgwyl hyd yn hyn'.

A wnewch chi roi rhagor o fanylion inni ynglŷn â beth yr ydych chi yn ei ddisgwyl, beth yw'r oedi, beth sydd heb ddigwydd a beth yw'r gwersi sydd wedi'u dysgu hyd yma wrth fwrw ymlaen â hynny?

Rwy'n nodi â diddordeb yr awydd i gyflwyno cynllun atgyfeirio tebyg i ddeintyddiaeth ac optometreg, ac rwy'n edrych ymlaen i weld sut y mae hynny'n gweithio. Hoffwn ddeall pa reolaethau allai fod ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd ledled Cymru yn hyfforddi eu staff yn briodol ac yn dda, oherwydd y ddolen wannaf mewn llwybr data, mewn gwirionedd, yw, yn llythrennol, y ddolen wannaf, a gall achosi i'r data fod yn ddiffygiol, i gael ei gamddefnyddio'n anfwriadol, ac mae angen inni wneud yn siŵr bod pobl yn deall y cyfrifoldeb sydd ganddyn nhw tuag at sicrhau bod data cleifion yn gwbl gywir. A wnewch chi, os gwelwch yn dda, roi trosolwg inni, efallai, o sut yr ydych chi'n mynd i ddiogelu'r holl ddata hyn yr ydym yn ei gasglu, a sicrhau bod yna ddiogelu data digonol?

Rwy'n nodi bod yr arolwg seneddol wedi dweud bod hyn yn rhywbeth hynod o bwysig, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud darpariaeth gofal iechyd yn llawer mwy effeithlon, ac ni fydd yn rhaid i ni bellach, efallai, fel Aelodau Cynulliad, wrando ar gleifion sydd wedi ysgrifennu atom â straeon o fynd i weld meddyg ymgynghorol ar ôl aros am nifer o fisoedd dim ond i ddarganfod nad oes unrhyw waith dilynol wedi'i wneud ar eu nodiadau, neu ar eu sganiau pelydr-x, neu ganlyniadau'r profion gwaed, oherwydd mae'n wastraff enfawr o'u hamser ac amser y GIG.

Hoffwn ddeall pa mor radical yr ydych chi'n bwriadu bod, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi cynnig y syniad eisoes bod cleifion yn rheoli eu data. Hoffwn weld pob claf yng Nghymru yn cael cerdyn credyd sy'n cynnwys eu holl ddata GIG. Fel rhywun a fu'n ymweld â'r GIG yn aml, yn anfwriadol, am 18 mis arswydus, gallaf ddweud wrthych chi y byddai yn sicr wedi fy helpu i gael gafael ar fy nata, deall beth oedd y problemau, deall beth oedd wedi digwydd, deall beth oedd heb ddigwydd, ac, yn bwysicach, i fedru mynd â'r data hwnnw i'r holl bobl eraill a oedd yn ymwneud â'r gofal rhagorol a gefais gan y GIG. Sut ydych chi'n mynd i wneud yn siŵr bod pobl wedi eu grymuso fel nad oes yn rhaid iddynt ysgrifennu a gofyn am eu gwybodaeth GIG mwyach a'n bod ni'n deall mai eu gwybodaeth nhw ydyw a bod ganddynt yr hawl absoliwt iddo?

Yn olaf, hoffwn ofyn pa mor eofn yr ydych chi'n bwriadu bod o ran digideiddio'r GIG yn wirioneddol. Os ydych chi'n edrych ar Ewrop, mae llawer o wledydd Ewrop—yr Almaen a Ffrainc, er enghraifft—nad oes ganddynt drywydd papur yn eu hysbytai. Mae popeth yn mynd yn syth i liniaduron, cyfrifiaduron llechi, ac, wrth gwrs, mantais fawr hynny, pan fo rhywun yn ei godi i nodi sylwadau rhywun, yw y gallant weld ar unwaith a yw'r claf hwnnw i fod i gael meddyginiaeth benodol ar amser penodol, neu os oes angen gwybodaeth allweddol arno.

Fe orffenna' i, os caf i, Dirprwy Lywydd, â stori fach ysgafn, er efallai nad oedd mor ddoniol â hynny ar y pryd, pan oeddwn yn gorwedd yno yn yr ysbyty, a daeth meddyg eithaf pwysig i mewn ar ddydd Sul i wneud rownd o'r ward, a chododd fy ffeil nad oedd yn ansylweddol, mae'n rhaid i mi gyfaddef, a oedd yn eistedd ar waelod fy ngwely a brysiodd drwyddi, ac yna dywedodd, 'O, Mrs Burns, sut aeth y llawdriniaeth, felly?', ac atebais, 'Dydw i ddim wedi cael llawdriniaeth; rwyf i yma'n gwella ar ôl cael sepsis.' Dim ond gêm oedd hi, chi'n gwybod: 'Gadewch i ni edrych arno', doedd dim defnydd go iawn iddo. Gadewch i ni wneud y data hwn yn ddefnyddiol iawn a gwneud yn siŵr na wneir camgymeriadau, bod gwybodaeth yn cyrraedd y lle cywir ar yr adeg gywir, a byddwn i yn eich cefnogi chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod mor uchelgeisiol â phosibl i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio hyn fel modd o wneud ein GIG a'n system gofal cymdeithasol mor effeithiol ag y gall fod.

18:15

Diolch. Rwy'n cytuno'n gyffredinol â'r lle yr hoffech chi fod, ac nid wyf yn credu y bydd llawer o wahaniaeth rhwng y pleidiau o ran lle'r ydym ni eisiau cyrraedd o ran gweledigaeth o fod â chofnodion cleifion gwirioneddol electronig, a bod â chysylltiad  priodol rhwng gwahanol rannau o ofal iechyd, oherwydd o fewn gofal sylfaenol, sef yr hyn y mae'r datganiad hwn, i raddau helaeth, yn canolbwyntio arno, mae gennych chi feddygon teulu, mae gennych chi amrywiaeth o staff yn y gymuned, mae gennych chi sector fferylliaeth gymunedol, mae gennych chi optometreg a deintyddiaeth, mae gennych chi ystod o feysydd lle'r ydym ni i gyd yn cydnabod bod gwasanaethau'n cael eu darparu, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau'r posibilrwydd y bydd gwall yn digwydd neu fod y cofnodion yn cael eu colli, a dyna un o'r pwyntiau a wnaethoch chi, ond hefyd dylid ystyried hynny yn gyfle i wella triniaeth a gofal.

Felly, mae gennyf ddiddordeb yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy am hynny yn nes ymlaen—rwy'n edrych ar fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Lanelli. Maen nhw'n cydnabod bod yna weledigaeth y maen nhw o'r farn sy'n glir ynglŷn â chael mynediad at y cofnod hwnnw, a'i fod ar gael a bod modd cael gafael arno yn gyson, ond nid ydym ni wedi symud mor gyflym ag y dymunwn. Mae rhywfaint ohono wedi bod oherwydd rhai o'n heriau wrth gael gwahanol bartneriaid i fynd i'r un cyfeiriad ar yr un pryd, felly mae'n ymwneud â rhai o'n grwpiau staff ac mae'n ymwneud hefyd â rhai o'n rhwystrau sefydliadol hefyd. Dyna pryd y byddaf yn sôn am beidio â bod wedi symud ar y cyflymder yr wyf am ei weld. Byddwn wedi dymuno i ni fod mewn sefyllfa lle mae rhannu cofnodion wedi datblygu'n gynt ac wedi gwneud mwy o gynnydd nag a wnaed hyd yma. Byddwn i eisiau i ni fod mewn sefyllfa lle gall pobl gael gafael ar eu gwybodaeth eu hunain yn haws—un o'r pwyntiau a wnaethoch chi sawl gwaith yn eich sylwadau.

Mae rhywbeth ynglŷn â hynny, mae yna rai pobl sydd am fod â mwy o berchenogaeth o'u gwybodaeth iechyd eu hunain, a byddai hynny yn eu helpu i wneud gwelliannau eraill wrth reoli a chynnal eu gofal iechyd eu hunain. Dyna hefyd pam fod y buddsoddiad, dydyn ni ddim yn ei wneud yn y cyfrwng TG mewn fferyllfeydd yn unig, ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'r cyngor y dylid ei roi. Mewn gwirionedd, rydym ni'n talu am ansawdd y gofal a ddarperir yn y fferyllfa, ac nid yw'n ymwneud â rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn yn unig. Dylai hefyd olygu, mewn gwirionedd, ein bod ni'n gallu prosesu pobl yn gyflymach drwy ein system. Felly, rhan o'r her sydd gennym mewn gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty yw a yw pobl yn aros i'r fferyllfa yno, pan gellid mewn gwirionedd eu gweld, drwy gyfrwng trosglwyddiad electronig, yn eu fferyllfa eu hunain neu gallai'r feddyginiaeth honno gael ei hanfon i gartref rhywun hefyd. Felly, mae yna lawer o fuddion i hyn, a nifer o enghreifftiau o pam y byddwn i yn dymuno inni symud yn gynt nag yr ydym wedi gwneud. 

Ac, yn ddiddorol, pan fyddwch chi'n meddwl am eich her o ran, 'Beth ydych chi eisiau ei wneud yn gynt?', mae optometreg yn enghraifft dda iawn. Mae angen inni gytuno ar system i'w defnyddio ac i wneud yn siŵr bod gennym system unwaith ar gyfer Cymru, fel nad oes gennym wahanol fyrddau iechyd, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, â gwahanol gynhyrchion y mae clinigwyr yn eu defnyddio, ac wedyn pan ydych chi'n ceisio cael system gyson ar draws ein gwasanaeth iechyd gwladol, heb sôn am gysylltiad â gofal cymdeithasol, mae gennych chi wahanol systemau nad ydynt o reidrwydd yn gydnaws â'i gilydd, ac mae'n rhaid ichi drosglwyddo pobl i symud i system wahanol. Mae hynny'n cymryd amser, egni ac ymdrech, a byddai'n dda gen i pe na byddai. 

Yn ddiddorol, mae fy nghyd-Aelod Julie James yn yr ystafell yn awr, oherwydd mae gennym fwrdd gwybodeg cenedlaethol sy'n cyfarfod i ystyried sut allwn ni gael ymagwedd fwy cyson ar draws y Llywodraeth. Felly, bydd Julie James bellach yn treulio rhywfaint o'i hamser gyda'r bwrdd gwybodeg hwnnw er mwyn ceisio gwneud yn siŵr bod yna weledigaeth ddigidol gyson, a bod iechyd a gofal yn rhan fawr o hynny.

A, wyddoch chi, eich pwynt am ddarparu cofnodion ar draws ein system, mae a wnelo hyn â mwy na chofnodion y meddyg teulu yn unig; mae'n cynnwys pethau fel delweddau hefyd, mewn gwirionedd. Rydym ni wedi gwneud llawer o ran gofal llygaid lle gallwch chi mewn gwirionedd drosglwyddo cofnodion o optometryddion stryd fawr i'r sector ysbytai hefyd, ac mae hynny'n enghraifft dda o le y gallwch chi wella gofal hefyd. Felly, enghreifftiau da iawn, ond nid yw'r cysondeb, cyflymder a'r raddfa cystal ag y mae angen iddynt fod, ond rydym wedi gwneud cynnydd go iawn. Y cam nesaf yw gwneud llawer mwy, oherwydd fel arall ni fyddwn yn ateb yr her y mae'r arolwg seneddol yn ei gosod inni, i wireddu potensial digidol er mwyn cael yr holl fudd iechyd sydd eto i'w gyflawni, a'r ffordd y mae dinasyddion, a dweud y gwir, eisoes yn byw eu bywydau.

Rwy'n meddwl eich bod chi'n hollol iawn, Ysgrifennydd Cabinet—ychydig iawn o wahaniaeth ddylai fod rhwng unrhyw un yn y Siambr yma o ran ein dyhead ni i gyd i symud tuag at sefyllfa lle mae ein gwasanaeth iechyd ni yn gwbl ddigidol, lle mae systemau yn cydweithio efo'i gilydd er lles y cleifion. Ac eto, yng nghyd-destun Brexit, mae parodrwydd pobl i fod eisiau troi'r cloc yn ôl yn gwneud i rywun feddwl buasai'n bosib yn well gan rai pobl i fynd yn ôl at feddygon yn cadw cofnodion ar lechi, ond rydw i'n gobeithio mai lleiafrif fyddai o'r farn honno.

Mi ydych chi wedi rhedeg drwy sawl elfen o'r dechnoleg sydd yn ac wedi cael ei chyflwyno o fewn y gwasanaeth iechyd—the Welsh patient referral service system. Mae'n bwysig iawn cael hwn yn iawn, a'r platfform telegyfathrebu ar gyfer Choose Pharmacy, wrth gwrs, yn bwysig iawn. Rydych chi'n dweud bod technoleg ddigidol yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn cael mynediad at ofal iechyd; yn sicr mae o i fod i. Fy mhryder i ydy ein bod ni'n dal yn methu ennill tir yn rhai o'r ardaloedd mwyaf allweddol.

Rydym ni wedi cael trafodaeth yn ddiweddar, yn anffurfiol, ynglŷn â system ddigidol sydd i fod i helpu nyrsys i wneud eu gwaith yn haws ar wardiau, ac arafwch yn y system i allu sicrhau bod honno'n cael ei rholio allan drwy Gymru. Rydw i, yng nghyd-destun fferylliaeth, yn siarad yn aml iawn am rwystredigaeth fferyllwyr nad oes yna system darllen ac ysgrifennu—read-write system, felly—sy'n caniatáu cyfathrebu go iawn yn effeithiol rhwng fferyllwyr a meddygon, fel bod y system gofal sylfaenol yn wirioneddol yn gallu gweithredu fel un. Mae yna'n dal ormod o gleifion yn gadael yr ysbyty efo darn o bapur wedi ei sgrwnsio yn eu pocedi y maen nhw i fod i'w roi i feddyg ar ôl cyrraedd adre, ac mae'r papur yn mynd ar goll, ac mae'r systemau'n torri i lawr. Mi fyddai rhywun yn gobeithio y byddem ni'n gallu symud at system llawer mwy sefydlog o fewn ein gwasanaeth iechyd ni.

Mi hoffwn i ganolbwyntio fy nghwestiynau, serch hynny, ar un newid sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth o fewn y dyddiau diwethaf. Mae hyn yn rhoi rhybudd clir i ni ynglŷn â'r pwysigrwydd o gael pethau yn iawn, o ddod â systemau i mewn sydd ag elfen gref o futureproofing ynddyn nhw, er mwyn osgoi problemau lawr y lôn. Sôn ydw i am y penderfyniad ynglŷn â newid, yn dilyn proses gaffael, newid y system glinigol sy'n cael ei defnyddio gan feddygfeydd teulu ar draws Cymru. Mae nifer o feddygfeydd wedi cysylltu efo fi, nid gymaint yn siomedig ond mewn panig, bron, ynglŷn â'r penderfyniad i gymryd cytundeb EMIS Web, neu i beidio â chaniatáu EMIS Web i fod yn system i gael ei defnyddio mewn gofal sylfaenol yn y dyfodol. Nid yw'r system yma ond yn cael ei gweithredu ers rhyw dair neu bedair blynedd. Mae yna fuddsoddiad sylweddol wedi mynd i mewn i gyflwyno'r system yma mewn meddygfeydd ar draws Cymru, a rŵan mae'r meddygfeydd hynny'n clywed bod y system yna yn mynd i gael ei dileu, ac y bydd yn rhaid cyflwyno system newydd. Mae 89 o'r 118 o feddygfeydd yr effeithir arnyn nhw yn fan hyn yn y gogledd, felly mae yna fater arbennig o acíwt yn y rhan o Gymru rydw i'n byw ynddi hi. Mae meddygfeydd wedi gorfod buddsoddi mewn caledwedd a meddalwedd i gyd-fynd ag EMIS Web, wedi gorfod cael peiriannau ECG newydd, peiriannau monitro'r gwaed newydd i gleifion ar warfarin, ac offer arall er mwyn cael offer sydd yn rhyngweithio efo'r system EMIS. Mi wnaf i ddarllen i chi beth mae meddygfa arall wedi'i ddweud:

Bydd hanner y practisau yng Nghymru yn cael eu gorfodi i newid eu system glinigol. Ni ymgynghorwyd â phractisiau. Ni roddwyd rheswm i bractisiau. Dywedir wrthym bod EMIS wedi methu â chyrraedd safonau. Yr hyn sy'n amlwg yw nad oes gan bwy bynnag a wnaeth y penderfyniad hwn unrhyw syniad o gwbl o'r drafferth y bydd hyn yn ei achosi i bractisiau sydd eisoes o dan bwysau.

Nawr, rwy'n bryderus iawn am effaith y newid hwn. A gaf i ofyn, yng nghyd-destun eich datganiad heddiw am yr angen i wneud digidol yn iawn ym maes gofal sylfaenol, pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i feddygfeydd i'w cefnogi drwy'r newid hwn, gan gynnwys cymorth ariannol? Oherwydd mae buddsoddiad wedi'i wneud mewn caledwedd i gydfynd â system a gyflwynwyd yn y tair neu bedair blynedd diwethaf yn unig. Beth y mae hynny'n ei ddweud wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr angen, wrth inni gyflwyno digidol newydd ar draws y GIG, i'w wneud yn iawn a'i ddiogelu at y dyfodol oherwydd ni allwn weithredu mewn ffordd nad yw'n strategol? Mae'n gostus ac mae'n golygu na allwn ni gael system sy'n gweithio ar gyfer staff y GIG ac i gleifion.

18:25

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiwn sylweddol ar y diwedd am y system TG mewn meddygfeydd teulu. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedasoch chi ynghylch y system amserlennu a threfnu nyrsys yn Wrecsam. Rwy'n dal i fod â diddordeb yn honno ac rwyf eisiau gweld honno'n cael ei datblygu yn briodol yn y gwasanaeth ysbytai. Mae'n debyg o ran rhyddhau o'r ysbyty, mae hynny'n ymwneud â rhyddhau o ofal eilaidd yn ôl i ofal sylfaenol. Yn sicr, mae mwy y gallem ni ei wneud ac y dylem ni ei wneud, a bydd gennyf fwy i'w ddweud gan ein bod yn bwriadu gwneud mwy o waith treialu yn y maes hwnnw.

Ond gan fod y cwestiynau sylweddol ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd â'r system TG meddygon teulu, ac yn benodol â EMIS, na fu'n llwyddiannus yn yr ymarfer tendro diweddar, rwyf i, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, wedi fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud. Heddiw yw diwrnod olaf y cyfnod 10 diwrnod o her gyfreithiol bosibl, felly os na wneir yr her honno, yna mae mwy y gallwn ni ei ddweud, ond rwyf wedi fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud. Ond rwy'n cydnabod natur ymarferol iawn yr her ar gyfer y practisiau hynny sydd wedi dechrau defnyddio EMIS fel system.

Codwyd hyn gyda mi yn ystod fy ymweliad diweddar â'r gogledd pan gyfarfûm â meddygon yn y practis ym Methesda. Maent yn bractis EMIS ac roedden nhw'n sôn am—roedden nhw'n pryderu am realiti ymarferol gorfod symud i system newydd, hyd yn oed, i fod yn deg, eu bod yn cydnabod ein bod wedi nodi y byddai cymorth yn cael ei ddarparu drwy Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar eu cyfer. O gyfarfod y grŵp hwnnw o feddygon, rwy'n credu eu bod yn gweld bod dyfodol digon hir yn y proffesiwn iddynt y byddent yn mynd drwy hynny. Dydyn nhw ddim yn croesawu'r newid yn arbennig, ond rhan o'm pryder a'm cydnabyddiaeth wirioneddol yw, os ydych chi o fewn ychydig flynyddoedd o ymddeol beth bynnag, yna mae hwn yn fath o newid lle gallai rhai pobl efallai ystyried o ddifrif peidio â dod yn ôl, neu mewn gwirionedd, cyflymu eu cynlluniau i ymddeol. Rwy'n cydnabod bod yna berygl go iawn o hynny, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi'i godi gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain hefyd. Maen nhw'n bethau ymarferol y maen nhw eisiau i bobl eu trafod er mwyn ceisio gwneud y cyfnod pontio mor hawdd â phosibl ar gyfer eu haelodau, ac rwy'n disgwyl cwrdd—os na fyddaf yn cwrdd â nhw yn uniongyrchol, bydd swyddog yn cwrdd â nhw yn y dyfodol agos i drafod lle yr ydym wrth i ni fynd drwy'r cyfnod o her. Mae'n werth amlygu unwaith eto, fodd bynnag, fy mod yn disgwyl y bydd proses gadarn i geisio cyflawni gwerth priodol ar gyfer y pwrs cyhoeddus a'r union wasanaeth y mae hwnnw wedyn yn ei gaffael ac yn ei ddarparu, ac roedd pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yn cymryd rhan fel rhan o'r drefn o wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â hyn, ac roedden nhw o blaid y dewis, er eu bod yn cydnabod y byddai'n achosi anhawster go iawn i'w haelodau. Maen nhw'n dal i feddwl mai hwn oedd y dewis iawn i'w wneud.

Yn y dyddiau nesaf, fel y dywedais, ar ôl heddiw, efallai y byddaf mewn sefyllfa lle gallaf ddweud mwy a rhoi esboniad llawnach, nid yn unig i chi, ond i'r meddygon teulu eu hunain. Rwy'n awyddus i ni allu gwneud hynny fel bod pobl yn gallu gweld cyd-destun y dewis hwnnw, ac yna i ymdrin mewn gwirionedd â'r her ymarferol sydd gennym serch hynny, waeth beth fo priodoldeb y dewis a wnaed.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gweld y dyfodol, ac mae'n gweithio. Neithiwr, cefais fy ymgynghoriad cyntaf â meddyg teulu ar-lein. Gwnes i lawrlwytho ap. Gwnes i danysgrifio i wasanaeth am £5 y mis. Roeddwn i'n gallu cael apwyntiad o fewn awr. Anfonais fy nodiadau at y meddyg teulu a rhai lluniau. Cefais ymgynghoriad da iawn, ac o fewn munudau roedd presgripsiwn wedi ei anfon drwy neges e-bost at fferyllydd o'm dewis.

Mae cyflymder y newid y tu allan i'r GIG yn rhyfeddol, ac fel Aelod Cynulliad Llafur a Chydweithredol, dydw i ddim eisiau defnyddio'r sector preifat. Ond o ystyried rhwystredigaethau pobl wrth geisio cael gafael ar feddyg teulu, ac o ystyried pa mor araf yw cyflymdra'r newid digidol yn y GIG, mae newidiadau chwyldroadol yn digwydd o'n cwmpas ni, ond nid yw'r GIG yn cadw i fyny. Mae'r ddadl y prynhawn yma wedi bod yn bennaf am swyddogaethau swyddfa gefn, mynediad at gofnodion, nid ynghylch gofal cleifion, nid am ddiagnosteg, nid am y potensial mewn deallusrwydd digidol ac artiffisial sydd wedi gweddnewid y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Ac rwy'n poeni, mewn gwirionedd, bod y dull sydd gennym, y dull o gaffael yn arbennig—y diwylliant braidd yn fiwrocrataidd, hirwyntog sydd gennym yn y GIG yng Nghymru, yn arbennig—yn ein dal yn ôl. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn clywed am y 10 mlynedd y mae'n mynd i'w gymryd i system TG ar gyfer arlwyo ysbytai ymddangos ar ôl ei hargymell am y tro cyntaf; mae saith mlynedd yn oedi nodweddiadol. O ystyried yr hyn yr ydym yn ei wybod am y newidiadau ym maes digidol a deallusrwydd artiffisial, mae saith mlynedd yn oes. Dydy hyn ddim digon da.

Felly, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi bellach wedi cael adroddiadau beirniadol iawn gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a chofiwch fod adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn adroddiadau y cytunwyd arnynt, maen nhw'n adroddiadau sy'n cael eu trafod â'r cyrff sy'n destun yr adroddiad, maen nhw ar y cyfan yn weddol dawel yn eu beirniadaeth—roedd yr adroddiad hwn yn gadarn ac yn ddamniol iawn. Rydym ni hefyd wedi cael yr arolwg seneddol, sy'n nodi'n fanwl sut y mae angen i'r newid hwnnw ddigwydd, ac rwy'n pryderu nad yw ein dull diwylliannol hyd yn hyn yn addas at y diben bellach ac mae angen rhywfaint o newid radical yn hytrach na pharhau yn y ffordd braidd yn glogyrnaidd a welwyd hyd yma.

18:30

Ac rwy'n cydnabod bod gennym heriau gwirioneddol wrth ddatblygu'r gwasanaeth iechyd sydd gennym heddiw gan fod pobl wedi arfer â defnyddio ffordd wahanol o gyfathrebu, oherwydd mae llawer o bobl a fydd yn disgwyl gallu cyfathrebu yn y ffordd o bell yr ydych chi wedi'i wneud wrth gael ymgynghoriad ar-lein. Felly, mae nifer o feddygon teulu eisoes yn gallu buddsoddi, ac maen nhw'n gwneud hynny, mewn Skype ar gyfer busnes, a fydd yn caniatáu i'r cyswllt hwnnw gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Ac rwy'n credu y bydd mwy a mwy o bobl yn dymuno gwneud hynny; mae rhai eraill a fydd yn dal eisiau cyswllt ychydig yn fwy traddodiadol wyneb yn wyneb. Felly, rydym yn gofyn i feddygon teulu i fod yn hyblyg â'u tîm gofal iechyd lleol yn y ffordd y maen nhw'n ymadweithio â chleifion ac yn darparu cyngor, triniaeth a chymorth â gofal. Felly, mae buddsoddi yn y trefniadau yn bwysig, ac o fewn hynny mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau a blaenoriaethau. Felly, a yw buddsoddi mewn system arlwyo i ysbytai yn flaenoriaeth gyntaf y byddem yn ei dewis? Dydw i ddim yn credu y byddai; rwy'n credu bod pwyntiau eraill lle ceir mwy o effaith ar ofal cleifion a phrofiad cleifion y byddem yn dewis buddsoddi ynddynt yn gyntaf.

Daw hyn yn ôl at y sylwadau gonest a wneuthum yn y lle hwn a'r tu allan yn ymwneud â deall ein gallu i ddarparu rhywfaint o'r newid hwnnw, deall yr angen i ddal i fyny â'r ffordd y mae'r cyhoedd yn gwneud dewisiadau ynglŷn â sut y maen nhw eisoes yn byw eu bywydau, a dewis buddsoddi'r amser, yr egni a'r ymdrech hwnnw yn y meysydd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac yn gwneud y budd mwyaf i'r gwasanaeth ac ar gyfer dinasyddion hefyd, gan fod profiad gofal pobl yn sicr yn adlewyrchu sut y mae pobl yn teimlo a'u ffydd yn ansawdd y gofal y maen nhw'n ei gael yn dilyn hynny hefyd.

Felly, rwy'n cydnabod yr heriau a nodwyd gennych, ac rwy'n cydnabod beth a allai ddigwydd yn y dyfodol o ran gwneud mwy o ddefnydd o adnoddau digidol. Felly, dydw i ddim yn ymddiheuro fy mod ychydig yn aflonydd ynghylch ein sefyllfa, oherwydd mae'n bwysig iawn i sbarduno ein system i'w gwneud yn glir na allwn ddweud, mewn gwirionedd, y gallwn gymryd llawer iawn o amser i ystyried ac ailystyried yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Ond mae'r datganiad heddiw i nodi ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol yn y tair i bedair blynedd diwethaf. Mewn gwirionedd, mae angen inni wneud cynnydd cyflymach byth yn y tair i bedair blynedd nesaf os ydym ni'n mynd i ddal i fyny, a darparu'r math o wasanaethau y bydd y bobl, rwy'n credu, yn galw amdanynt mwy a mwy.

A byddwch chi'n gweld rhywfaint o hynny yn yr ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd yr ymateb yn cael ei ddarparu—ymateb llawn—erbyn dechrau mis Mawrth, rwy'n credu yw'r amserlen, ond bydd bob amser mwy i ni ei wneud. Ond mae heddiw yn ymgais wirioneddol i nodi'r cynnydd a wnaed ac i roi sicrwydd i bobl ein bod yn cydnabod bod llawer iawn mwy y mae angen inni ei wneud, a hynny yn gyflymach.

Yn olaf, diolch i chi. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae technoleg ddigidol yn gweddnewid ein gwasanaeth iechyd. Mae'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn hanfodol i GIG gyfoes. Ni allwn fynd yn ôl i'r dyddiau o gofnodion papur nac adeg pan yr oedd canlyniadau profion yn cymryd wythnosau i gyrraedd drwy ein gwasanaeth Post Brenhinol.

Rwy'n croesawu cyflwyno system atgyfeirio cleifion Cymru, sy'n cyflymu'r broses atgyfeirio ac yn ei gwneud yn llawer mwy dibynadwy. Ysgrifennydd y Cabinet sut rydych chi'n bwriadu ehangu'r system hon? Mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan mewn partneriaeth â DrDoctor, sydd â chyfathrebiadau digidol rhwng cleifion a'r prosesau rheoli apwyntiadau. Mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi dweud bod y system hon eisoes wedi arbed £1 filiwn iddynt gan ddefnyddio clinigau'n well. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i annog byrddau iechyd lleol eraill i fabwysiadu systemau tebyg?

Rwy'n croesawu hefyd y buddsoddiad yn y cyfrwng Dewis Fferyllfa, a manteision hyn i ofal cleifion. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch chi'n datblygu'r system Dewis Fferyllfa i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael archebu presgripsiynau ar-lein, ni waeth ble y maent yn byw?

Mae technoleg ddigidol yn gweddnewid gofal iechyd er gwell, ond mae'n rhaid inni sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol. Cawsom wybod ddoe nad yw'r rhan fwyaf o'r ymddiriedolaethau yn Lloegr a ddioddefodd yr ymosodiad seiber y llynedd yn dal heb ddiogelu eu systemau. A wnewch chi amlinellu'r camau yr ydym yn eu cymryd yng Nghymru i atal ymosodiadau o'r fath ar ein seilwaith TG gofal sylfaenol?

Mae gwyddonwyr data, arbenigwyr diogelwch gwybodaeth a pheirianwyr meddalwedd mor hanfodol i'n GIG â'r clinigwyr, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n staffio ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu. A wnewch chi amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu ei gweithlu TG yn y GIG?

Ac, yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i ddychwelyd at y mater o systemau TG i feddygon teulu. Mae llawer o bractisau meddygon teulu wedi buddsoddi'n sylweddol mewn systemau sy'n integreiddio â EMIS. A wnewch chi amlinellu pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r practisiau hynny i sicrhau y bydd eu systemau yn gweithio gyda systemau newydd a sut byddwch chi'n helpu i hyfforddi staff ar yr hyn fydd yn disodli EMIS?

Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad. Edrychaf ymlaen at y gwelliannau pellach y bydd technolegau digidol yn eu cyfrannu i'n GIG. Diolch yn fawr.

18:35

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Ar eich pwynt olaf, rwy'n credu fy mod i wedi ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau hynny wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, ond, fel rwy'n ei ddweud, rwy'n disgwyl i'm holl swyddogion—os nad fi fy hun, yna bydd fy swyddogion yn cyfarfod â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain er mwyn deall y camau ymarferol y bydd angen inni eu cymryd wrth gyflwyno'r system newydd, yn ogystal â rhoi esboniad llawnach pan fo modd am y rhesymau dros y dewis a wnaed yn dilyn y broses gaffael.

Ar eich pwynt ynghylch y gweithlu—sut yr ydym ni'n datblygu ac yn cynnal gweithlu—mae rhywbeth yn y fan yma ynghylch yr union beth hwnnw: beth fydd y gweithlu yn ei wneud? Faint o'r gweithlu fydd eu hangen i gynnal ein systemau presennol ac i'w cynnal nhw a faint fydd angen i ni ei wneud i ddatblygu cynhyrchion newydd yn ogystal, ac wedyn sut y byddwn ni'n asesu'r cynhyrchion sy'n cael eu datblygu y tu allan i'r gwasanaeth iechyd? Mae gennym lawer o enghreifftiau o wahanol gwmnïau o Gymru sy'n gallu datblygu cynhyrchion a allai ac a ddylai helpu'r gwasanaeth. Mae her o ran pa mor gyflym yr ydym yn asesu hynny. Felly, dylai Technoleg Iechyd Cymru allu ein helpu i asesu effeithiolrwydd rhywfaint o hyn. Yna mae angen inni fynd ymlaen, yn llawer cyflymach, i weld sut yr ydym ni wedyn yn mabwysiadu'r dechnoleg honno a gwneud dewisiadau ar draws y wlad hefyd.

Rydym ni wedi buddsoddi tua £10.5 miliwn yn ddiweddar, yn y flwyddyn ariannol hon. Rwyf i wedi cymeradwyo hynny i gyflymu rhai o'n systemau cenedlaethol. Dylai hynny roi mwy o gadernid wrth ymdrin ag ymosodiadau seiber. Nid oedd y toriad yn ddiweddar yn ymwneud ag ymosodiadau seiber, mewn gwirionedd, ond mae'n amlygu'r angen i barhau i wella ein systemau hefyd yn hytrach na chymryd yn ganiataol os nad yw wedi torri bydd popeth yn iawn. Mae rhywbeth yno am y neges fwy cyffredinol ar gyfer ein systemau gofal iechyd yn ogystal ag ynghylch peidio ag aros i rywbeth fynd o'i le cyn inni geisio ei gwella. Unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r hyn y mae'r datganiad hwn i fod i'w nodi.

O ran gallu pobl i archebu presgripsiynau ar-lein, dydw i ddim yn meddwl bod a wnelo hynny mewn gwirionedd â Dewis Fferyllfa. Mae a wnelo hynny mewn gwirionedd â defnydd priodol o Fy Iechyd Ar-lein neu gynnyrch sy'n ei olynu, ac ystyried pa mor hawdd ydyw i ddinasyddion unigol ei defnyddio, a hefyd ar gyfer y practis. Cawsom tua 220,000 o bobl yn cofrestru i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein ond, mewn gwirionedd, mewn gwlad o 3.1 miliwn o bobl, nid yw hynny'n ddigon. Nid yw'n gyfran ddigon mawr sy'n gallu ei ddefnyddio a manteisio arno ac ar yr un pryd i wneud yn siŵr bod ein meddygfeydd teulu yn gallu ac yn barod i ddefnyddio'r system gyfan yn briodol. Mae rhywbeth hefyd ynghylch, er enghraifft, mwy o ddefnydd o negeseuon testun a phethau eraill, pethau syml sydd mewn gwirionedd wedi gwella ymwybyddiaeth pobl o'r hyn sy'n mynd ymlaen, ac mewn gwirionedd maen nhw, ond yn gwneud yn siŵr nad ydym yn colli amser yn y ffordd y mae ein hapwyntiadau a'n seilwaith yn gweithio hefyd. Mae llawer o wastraff ac aneffeithlonrwydd yn hynny, a bydd technoleg ddigidol yn ein helpu i fod yn rhan o'r ateb i geisio lleihau hynny. Dylai hynny olygu gwell defnydd o amser gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Rydym wedi sôn o'r blaen am ddefnyddio telefeddygaeth a theleofal, ac mae'n fater i ofal mewn ysbytai a gofal iechyd lleol fel ei gilydd—nid yn unig y sylwadau a wnaeth Lee Waters, ond wrth feddwl am y cyfle i roi cyngor, cyfarwyddyd, gofal a thriniaeth gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn symud gwybodaeth o amgylch ein system i sicrhau ei bod yn cyrraedd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol i'w helpu i wneud dewis, i gael sgwrs ddeallus â dinesydd unigol. Rwy'n credu bod hyn yn mynd yn ôl at bwyntiau Angela Burns ar y dechrau hefyd ar rannu data yn ddiogel a defnyddio data yn effeithiol. Yr hyn sy'n galonogol yw ein bod mewn gwirionedd wedi gosod ein hunain ar lwybr lle'r ydym yn ceisio gwneud hynny'n haws ei wneud, ei gwneud yn haws i rannu'r data hwnnw ar draws ein system iechyd a gofal, a pheth calonogol arall yw fy mod yn credu ein bod ni wedi troi'r gornel. Ychydig o flynyddoedd yn ôl—wel, yn sicr pan ddeuthum i'n Aelod Cynulliad am y tro cyntaf, roedd llawer mwy o amharodrwydd rhwng grwpiau iechyd a gofal proffesiynol i rannu data a gwybodaeth. Rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa wahanol erbyn hyn. Nid yn unig hynny ond mae'r cyhoedd ar y blaen o'i gymharu â ni, ac ar y blaen o ran gweithwyr proffesiynol, yn fy marn i. Maen nhw eisiau ac maen nhw'n disgwyl inni allu rhannu'r wybodaeth honno, i'w helpu i wneud dewisiadau, i wneud yn siŵr nad oes yn rhaid iddyn nhw ailadrodd gwybodaeth i fwy nag un person, ac oherwydd eu bod eisiau i ni fod yn fwy cydgysylltiedig. Dyna ble maen nhw eisiau inni fod. Felly, nid galluogwr yn unig yw hwn, mae'n hanfodol i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae rhywfaint ohono yn digwydd nawr, a dylem ddathlu a chydnabod hynny. Yr her, heddiw fel erioed, yw faint mwy y gallem ni ac y dylem ni ei wneud i ddarparu gofal gwell, canlyniadau gwell ac, mewn gwirionedd, gwell gwerth i bob un ohonom ni drwy ein system iechyd a gofal.

18:40

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.