Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

31/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a'r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.

Sgiliau Iaith a Chyfathrebu

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hybu sgiliau iaith a chyfathrebu ymhlith disgyblion? OAQ51657

Diolch, Joyce. Mae sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu rhagorol yn rhan allweddol o'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae ein rhaglen lythrennedd a rhifedd genedlaethol, a'i pholisïau allweddol, gan gynnwys y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, yn targedu ymyriadau llythrennedd, gan ein cynorthwyo i gyflawni'r nod hwn.

Rwy’n arbennig o awyddus i groesawu'r ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae, a lansiwyd yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru. Gŵyr pob un ohonom fod helpu plant i ddysgu iaith yn gynnar yn hynod o bwysig, nid yn unig wrth iddynt gamu ymlaen drwy'r ysgol, ond drwy fywyd ac i'r gweithle. Ac rwy’n cefnogi'r rhaglen hon yn gryf, gan y credaf y bydd mentrau fel hyn, sy'n helpu plant i ddysgu drwy gael hwyl, yn hytrach na mewn lleoliad addysgol, yn rhoi'r dechrau gorau iddynt mewn addysg. A byddai gennyf ddiddordeb, Ysgrifennydd y Cabinet, pe baech yn rhoi alldro a diweddariad inni ymhen 12 mis, i weld pa mor effeithiol y bu'r rhaglen hon.

Diolch, Joyce. Rwy'n falch eich bod yn hoff o'r ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau ar draws y Siambr—wel, gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr—wedi gweld yr hysbysebion ar y teledu, a'r deunyddiau sydd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol. Credaf eu bod yn wirioneddol ddiddorol a difyr, ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd yr effaith enfawr y gall rhieni ei chael drwy roi amser i siarad â'ch plant. Er mwyn cryfhau darpariaeth gynnar o ran iaith a chyfathrebu ymhellach ledled Cymru, rydym yn buddsoddi £890,000 mewn rhaglenni llafaredd ar gyfer y cyfnod sylfaen yn 2017-18. Mae hynny'n cynnwys cyllid ar gyfer yr ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad, ond hefyd er mwyn ariannu'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol i weithio gydag ysgolion i wella datblygiad iaith yn y cyfnod sylfaen.

Ysgrifennydd y Cabinet, ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi bod yn aelod o gorff llywodraethu Ysgol Arbennig Meadowbank, sy'n ysgol sy'n darparu gwasanaethau addysgol ar gyfer plant ag anawsterau dysgu lleferydd ac iaith. Maent wedi bod ar y safle yn Gabalfa ers dros 40 mlynedd, ac roeddent ar flaen y gad o ran datblygu arferion gorau yn y maes hwn, yn enwedig wrth i’r rhieni a’r athrawon wneud cymaint i sefydlu Afasic yn y 1970au. Rwy’n bryderus iawn ynghylch cau Afasic yng Nghymru, a beth sy'n mynd i ddigwydd i'r sgiliau, gwybodaeth a chymorth a ddarperir i rieni, i athrawon. Rwy'n gobeithio y bydd eich swyddogion yn monitro hyn yn ofalus iawn, ac efallai'n siarad â'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod modd cadw seilwaith hanfodol, fel elusennau megis Afasic, gan eu bod yn darparu gwasanaeth gwych.

Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i chi, David, am eich gwasanaeth fel un o lywodraethwr yr ysgol hon? Fel chi, rwy’n siomedig fod ymddiriedolwyr Afasic Cymru wedi penderfynu dod â’u statws elusennol i ben yng Nghymru, er fy mod yn deall y byddant yn parhau i fod yn weithredol ar lefel y DU. Gallaf roi sicrwydd llwyr i chi y byddaf yn gofyn i fy swyddogion fonitro’r effaith y bydd cau'r elusen yn ei chael yn ofalus iawn, ac i edrych ar ffyrdd y gallwn weithio ar draws y Llywodraeth, ac ar draws y sector gwirfoddol, i gefnogi teuluoedd â phlant sydd angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu.

Fe wyddom, o ffigurau a ddarparwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, fod dros 50 y cant o blant o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol yn dechrau yn yr ysgol, o bosibl, gyda sgiliau cyfathrebu, iaith a lleferydd gwael. Nawr, a ydych chi, felly, yn rhannu pryderon Comisiynydd Plant Cymru fod cyfyngu cynnig gofal plant y Llywodraeth i blant rhieni sy'n gweithio yn unig, yn hytrach na'i ymestyn i bob plentyn, yn peri risg o ledu'r bwlch hwnnw o ran parodrwydd i ddechrau yn yr ysgol ymhlith y grŵp difreintiedig yn gymdeithasol y cyfeiriais atynt yn gynharach?

Llyr, rwy'n cydnabod y gall y materion hyn fod yn arbennig o ddifrifol yn y cymunedau hynny ac i bob teulu lle y ceir lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, a dyna pam, fel y dywedais, y byddwn yn gwario dros £800,000 eleni i ddatblygu ein rhaglen Mae 'na Amser i Siarad, fel y gallwn weithio gyda theuluoedd. Wrth gwrs, mae'r cynnig gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn un o'r cynlluniau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru, ac fe fyddwch yn gwybod am waith Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, sy'n ymyriadau a dargedir yn arbennig ar y teuluoedd a'r cymunedau sydd fwyaf o angen y cymorth, ac sy'n cynnwys elfen gofal plant yn hynny o beth, yn ogystal â gweithio law yn llaw â rhieni i'w cynorthwyo i wneud popeth a allant i annog y sgiliau hyn yn eu plant cyn iddynt ddechrau cael addysg ffurfiol.

13:35
Trosedd a Thrais mewn Ysgolion

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o drosedd a thrais mewn ysgolion? OAQ51666

Diolch, Mr Bennett. Mae trais ac ymddygiad ymosodol mewn ysgolion, yn erbyn athrawon neu ddisgyblion, yn gwbl annerbyniol. Er mwyn mynd i'r afael â thrais ac ymddygiad ymosodol o'r fath, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi, gan weithio gyda rhanddeiliaid, mae'n rhaid inni ddeall yn gyntaf pam fod plant yn ymddwyn fel hyn. Fel arall, trin symptomau yn unig a wnawn yn hytrach na'r rhesymau sydd wrth wraidd ymddygiad o'r fath.

Iawn. Diolch am eich ateb. Rwy'n cytuno bod angen inni ddeall. Efallai hefyd fod angen inni sicrhau dull safonol o fonitro lefel y trais fel y gallwn o leiaf ganfod hefyd faint sy'n digwydd mewn gwirionedd, sy'n rhywbeth y mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn galw amdano ar hyn o bryd. Felly, a fyddech bellach yn ystyried meddwl am ddull safonol o fonitro lefelau trais mewn ysgolion?

Diolch. Yn gyntaf, credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod, fel y crybwyllwyd yn ddiweddar yn adroddiad diweddaraf y prif arolygydd ar y system addysg yng Nghymru, fod ymddygiad mewn ysgolion yn gwella, a byddai'n gas gennyf pe bai pobl yn gwrando ar y cwestiwn hwn ac yn credu bod gennym broblem arbennig o ddifrifol. Ond yn amlwg, fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, mae unrhyw drais, boed tuag at gyd-ddisgyblion neu tuag at staff yr ysgol, yn gwbl annerbyniol i mi. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch ymyriadau diogel ac effeithiol, ac rwyf bob amser yn barod i ystyried pa gamau ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwyf am i ysgolion Cymru fod yn lleoedd diogel a hapus i ddysgu ac i weithio ynddynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, bûm yn ymweld ag adeilad newydd sbon Ysgol Gyfun Trefynwy, sydd heb ei orffen eto, rhaid cyfaddef, yn Nhrefynwy, ac mae'r adeilad hwnnw'n lle gwych a chreadigol a gynlluniwyd i fod yn agored, yn dryloyw ac i leihau'r posibilrwydd o drais corfforol yn y gofod hwnnw gymaint â phosibl. Ond wrth gwrs, hanner y stori'n unig yw adeiladau, a gwyddom fod trais yn bodoli ar sawl ffurf, yn enwedig trais seicolegol, ac o ran ysgolion a'u disgyblion, seiberfwlio. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pholisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phob math o fwlio, ond seiberfwlio yn benodol, gan ei bod yn ymddangos bod hynny ar gynnydd mewn rhai ardaloedd?

Diolch, Nick. Credaf y gall adeiladau ysgolion chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo i greu'r amgylchedd hwnnw ar gyfer ein plant, ond mae'n rhaid inni gydnabod y gall bwlio fod yn broblem ym mhob ysgol, waeth ble y maent, ac y gall ddigwydd ar sawl ffurf. Rydym yn diweddaru ein canllawiau gwrthfwlio 'Parchu Eraill', a chyhoeddir y canllawiau diwygiedig yn ddiweddarach eleni. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r problemau penodol sydd ynghlwm wrth seiberfwlio, diogelwch ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar y rhyngrwyd, a byddaf yn parhau i weithio yn y maes hwn. Mae hon yn agwedd gymharol newydd ar fwlio. Yn y gorffennol, roedd modd i blant ddychwelyd adref i le diogel. Bellach, mae eu ffonau a'u dyfeisiau symudol yn caniatáu i'r ffrwd gyson o glebran barhau, ac mae angen inni sicrhau bod ein plant yn gwybod sut orau i ymdopi â hynny, sut i ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ar-lein, ac os ydynt yn dyst i ymddygiad anghyfrifol, pwy y gallant roi gwybod iddynt amdano gan fod yn ffyddiog, wrth roi gwybod amdano, y bydd camau'n cael eu cymryd i'w cefnogi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. 

Diolch, Llywydd. Mae pedair blynedd, bron i bedair blynedd a hanner nawr, ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies ar sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Yn yr adroddiad, mi wnaeth hi'n gwbl glir ei bod hi'n unfed awr ar ddeg bryd hynny ar y Gymraeg fel ail iaith, a bod lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn y pwnc yna yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. A phetai hynny wedi bod yn wir am Saesneg neu Fathemateg, rwy'n siŵr y byddem ni wedi hen weld datrysiad i'r broblem erbyn hyn. Mae hi'n cloi drwy ddweud bod rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Felly, a gaf i ofyn pryd mae'r Gweinidog yn bwriadu y bydd y cymhwyster cyfunol newydd ar gael i'w ddysgu mewn ysgolion? 

13:40

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Byddwch chi yn ymwybodol ein bod ni wedi cael adroddiad Donaldson ers hynny a bod rhaid i ni ystyried y newidiadau yng nghyd-destun Donaldson. A allaf i wneud hi'n glir na fyddaf i'n barod i jest aros tan bod Donaldson yn ei le? Rydw i'n meddwl bod hwn  yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd ar ei ôl nawr. Rydw i wedi gofyn, heddiw, fel mae'n digwydd bod, i'm swyddogion i roi symposiwm at ei gilydd i ddod ag arbenigwyr yn y maes ynghyd i drafod y ffordd orau o ddysgu ail iaith. Nid wyf i'n meddwl bod hon yn broblem jest i'r Gymraeg, ond mae'n broblem i ieithoedd eraill hefyd, ond mae fy sylw i, yn amlwg, ar y Gymraeg. Gallaf i ddweud fel ffaith fy mod yn mynd i roi fy sylw yn arbennig i'r mater hwn o gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg erbyn diwedd yr ysgol. Y bwriad yw, wrth gwrs, fod 70 y cant o bobl yn gallu siarad rhywfaint erbyn 2050 wrth iddyn nhw ddod o'r ysgol. Felly, mae ffordd bell i ni fynd.  

Diolch yn fawr. Rydw i'n croesawu'r ateb pendant yna: na fyddwch chi'n aros tan fod Donaldson yn ei le, oherwydd, fel rydym ni'n gwybod, mi fydd hi'n 2025 cyn bod gan bawb fynediad i'r cwricwlwm newydd, ac mae hynny'n colli cenhedlaeth botensial arall o siaradwyr Cymraeg. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth rydych chi wedi ei rhoi i dreialu neu beilota efallai mewn rhai ardaloedd penodol y model newydd yma o gymhwyster cyfunol, oherwydd y perig yw y bydd hi'n cymryd dwy, tair, blynedd mae'n debyg—os rydw i'n adnabod y modd mae Llywodraethau fel arfer yn ei weithredu— lle, mewn gwirionedd, mae yna ewyllys ac mae yna weithlu addas mewn rhai rhannau o Gymru lle byddai modd troi hwn rownd yn sydyn iawn? 

Wel, i ddechrau, mae'n rhaid i ni edrych ar beth sy'n bodoli heddiw. Rydw i'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar fwy o adnoddau ar gyfer athrawon sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith, ac rydw i wedi bod yn siarad yn uniongyrchol ag athrawon sydd yn y dosbarthiadau ac yn gofyn iddyn nhw yn union beth yw'r pethau y bydden nhw'n hoffi eu gweld fel help. Felly, mae fy swyddogion i'n edrych ar beth allwn ei wneud i helpu nawr yn y flwyddyn yma. Rydw i wedi cael sgwrs gyda'r BBC i weld a fydden nhw'n barod i helpu yn y maes yma hefyd, achos rydw i'n meddwl y gallem ni wneud fwy yn weledol wrth ddysgu plant yn y dosbarth. Felly, mae camau yn eu lle, ond mae'n rhaid i fi bwysleisio fy mod i'n meddwl na allwn ni fforddio colli cenhedlaeth arall—rydw i'n cytuno. 

Rydw i'n siwr eich bod yn deall y rhwystredigaeth, oherwydd mae clywed Gweinidog yn dweud bod yn rhaid i ni weld beth yw'r sefyllfa heddiw, bedair blynedd a hanner ar ôl i adroddiad ddweud bod angen gweithredu ar fyrder, yn peri rhwystredigaeth, mae'n rhaid i mi ddweud. 

Nawr, wrth gwrs, nid yw'n bosibl symud ymlaen yn ystyrlon i gyrraedd y nod yr ydym yn ei rannu rydw i'n siwr o safbwynt miliwn o siaradwyr Cymraeg a rôl y gyfundrefn addysg yn hynny, heb fod y gweithlu addas yn y ei le o safbwynt y gallu i ddarparu'r addysg angenrheidiol yna. Rydw i'n mynd i gyfeirio at adolygiad Aled Roberts, wrth gwrs, i'r cynlluniau strategol addysg Gymraeg a oedd yn dweud yn gwbl glir: 

'Rhaid holi pa bwrpas sydd i gynllunio ar gyfer twf sylweddol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog...heb bod penderfyniadau brys yn cael eu cymryd ar hyfforddi rhagor o athrawon newydd sydd yn medru’r Gymraeg, yn arbennig yn y sector uwchradd.' 

Nawr, rydym ni'n gwybod bod 6 y cant o'r holl weithlu addysg yng Nghymru yn medru'r Gymraeg ond ddim yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn dysgu Cymraeg. Felly, beth mae'r Llywodraeth yma am wneud i roi'r grŵp yna o addysgwyr ar waith yn y maes yma? Rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod 80 y cant o'r myfyrwyr sydd ar gyrsiau ymarfer dysgu wedi dod drwy'r system addysg yng Nghymru ac, felly, os nad ydyn nhw wedi bod yn rhan o addysg ddwyieithog, maen nhw fod wedi cael 10 mlynedd o wersi Cymraeg. Ocê, mae yna ddiffygion ail iaith ond mi ddylai fod yna sail fanna hefyd i fod yn manteisio ar ddatblygu gweithlu galluog o safbwynt addysg Gymraeg yn y cyd-destun yna. Felly, a gaf i ofyn sut ydych chi am ddefnyddio ac adeiladu ar y sgiliau ieithyddol yna a phryd welwn ni gynllun gweithlu addysg Gymraeg yn cael ei gyflwyno a'i weithredu oherwydd, hebddo fe, fydd dim gobaith cyrraedd miliwn o siaradwyr? 

Diolch. Mae yna gynllun gweithlu yn ei le. Rydym ni wedi ei gwneud yn hollol glir faint o athrawon fydd eu hangen yn ystod y blynyddoedd nesaf. Fy ngobaith i, ar hyn o bryd, yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod yna £5,000 ychwanegol os ydyn nhw'n awyddus i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn cael gwybod am hynny achos nawr yw'r amser y mae pobl yn dechrau meddwl am beth maen nhw'n mynd i'w wneud ym mis Medi. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion i—. Rŷch chi wedi pwyso ar y ddau fotwm rwyf fi yn pwyso arnyn nhw. Mae yna ddau beth sydd fwyaf pwysig i fi: cael y gweithlu yn iawn—os na chawn ni hwnnw'n iawn o'r dechrau, mae hwnnw'n mynd i beri gofid mawr i fi—a'r ail beth yw'r ffaith bod rhaid inni feddwl am beth y gallwn ei wneud i wella dysgu ail iaith.

Felly, rwyf yn cydnabod bod 6 y cant o bobl sydd yn y gweithlu—efallai y gallwn ni drafod gyda nhw. Felly, mae hynny'n rhywbeth rŷm ni'n talu sylw iddo ar hyn o bryd. Felly, rŷm ni yn ymwybodol iawn fod rhai inni symud ar hwn ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion i roi adroddiad misol i fi ynglŷn â beth yw'r sefyllfa o ran faint o bobl sydd wedi 'apply-o' i fynd i'r colegau yma, fel ein bod ni'n siŵr ein bod ni ar y trywydd cywir.

13:45

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2015 pan oedd y cymwysterau TGAU newydd ar gyfer Cymru yn cael eu trafod ac ar fin cael eu cyflwyno, dywedodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, Gweinidog yr wrthblaid bryd hynny dros y portffolio addysg, mai penderfyniad annoeth ydoedd ac y byddai'n cael effaith niweidiol ar ddysgwyr. Mae hi bellach yn 2018, ac mae arnaf ofn fod rhai o'n pryderon yn cael eu gwireddu. Cafodd dros hanner y disgyblion a wnaeth y TGAU mathemateg newydd radd D neu is, yn ôl y canlyniadau a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. A ydych bellach yn derbyn, ac a fyddech yn cytuno â'n hasesiad, mai camgymeriad oedd penderfyniad eich rhagflaenydd i gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn?

Darren, er mwyn y disgyblion a'r athrawon yn y system ar hyn o bryd, mae'n rhaid inni ymdrin â realiti heddiw, ac rwy'n gwneud hynny. Rwyf wedi dweud yn glir iawn yn y Siambr hon dro ar ôl tro fy mod yn awyddus i weld addysg yn codi safonau ar gyfer ein plant i gyd, gan gynnwys pontio'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion llai cyfoethog a sicrhau bod ein system addysg yn destun balchder a hyder cenedlaethol, a thrwy wella'r canlyniadau TGAU, dyna un o'r ffyrdd y gallwn wneud hynny. Rwyf wedi dweud yn glir, ers ymgymryd â'r swyddogaeth hon, y gallwn wneud yn well, felly o ran mathemateg, er enghraifft, rydym wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol newydd er rhagoriaeth mewn mathemateg, fel y gallwn wella addysgu mathemateg ledled y wlad, a hefyd i sicrhau, er enghraifft, o ran sefyll arholiadau yn gynnar, sy'n gallu bod yn anfanteisiol mewn rhai achosion fel y gwyddom, na ddylid gwneud hynny mewn ysgolion ac eithrio ar gyfer disgyblion sydd mewn sefyllfa i gyflawni eu llawn botensial yn hytrach na chael eu hanfon i sefyll arholiad yn gynnar a pheidio â chyflawni'r canlyniadau y gallent eu cyflawni ar ôl i'r cwrs gael ei ddysgu yn ei gyfanrwydd.

Ni fydd y geiriau hynny o unrhyw gysur i'r dysgwyr sydd wedi cael graddau is nag y byddent wedi eu cael wrth sefyll yr arholiadau TGAU blaenorol. Rhoesom rybudd hefyd, wrth gwrs, y byddai'r cymwysterau TGAU newydd yn drysu cyflogwyr a'u bod yn llai tebygol o'u derbyn na chymwysterau o rannau eraill o'r DU, ac wrth gwrs, roeddem yn iawn ynglŷn â hynny hefyd. Gwyddom, o ran ceisiadau am brentisiaethau yn Lloegr, sy'n gofyn am TGAU mathemateg a phrofion Saesneg—mae rhai pobl yn gorfod ailsefyll TGAU Saesneg, gan nad ystyrir bod TGAU Cymraeg o werth cyfartal wrth ymgeisio am brentisiaethau penodol. Mae hynny'n annerbyniol, a phobl ifanc sy'n talu pris oherwydd y dyhead hwn am gymwysterau ar gyfer Cymru yn unig, ac mae ein plant a'n pobl ifanc o dan anfantais o ganlyniad i hynny.

Beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr, dysgwyr a phobl sy'n awyddus i gamu ymlaen i broffesiynau, lle y ceir gofynion mynediad penodol, a phrentisiaethau lle y ceir gofynion mynediad penodol, a lle nad yw'r TGAU Saesneg sydd gennym yng Nghymru na'r TGAU Mathemateg sydd gennym yng Nghymru yn cael eu cydnabod—beth y bwriadwch ei wneud i atal ein plant a'n pobl ifanc rhag gorfod goresgyn rhwystr arall drwy orfod ailsefyll arholiadau TGAU, gan mai hynny sy'n digwydd yn ôl y dystiolaeth, er mwyn cyrraedd yno?

Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir: ni all yr Aelod ragdybio y byddai'r plant hynny wedi gwneud yn well o dan yr hen system arholiadau TGAU. Nid wyf am ymddiheuro, Darren—ac rwy'n synnu nad ydych yn cytuno—am ddymuno cael mwy o drylwyredd yn ein system arholiadau, ac os yw arholiadau mathemateg yn cyflwyno mwy o drylwyredd, dylai hynny fod yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddo, yn hytrach na gorsymleiddio ein system arholiadau. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir hefyd—oherwydd rydych yn gwneud anghymwynas â phlant ac athrawon Cymru drwy ailadrodd y myth nad yw ein harholiadau yn cymharu ag arholiadau yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Ni cheir unrhyw dystiolaeth o gwbl y gallwch ei chyflwyno yn y Siambr hon i gefnogi hynny. Mae ein harholiadau, sy'n cael eu goruchwylio gan gorff annibynnol Cymwysterau Cymru, ac sy'n cael eu haddasu a'u monitro gan gyrff ar draws y DU, o werth cyfartal i unrhyw rai eraill, a thrwy awgrymu fel arall yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn heb gyflwyno unrhyw dystiolaeth, rydych yn gwneud anghymwynas â'r plant sydd wedi cael yr arholiadau hynny.

13:50

Nid fi yn unig sy'n dweud hyn, ond y cyflogwyr sy'n pleidleisio â'u penderfyniadau i beidio â derbyn pobl ifanc o Gymru sydd wedi sefyll rhai o'r cymwysterau hyn; y prifysgolion—prifysgolion blaenllaw ledled y DU—sy'n dweud, 'Nid ydym yn derbyn bod TGAU rhifedd pobl o Gymru yn gyfwerth â TGAU mathemateg', sef yr hyn y mae Cymwysterau Cymru yn ei ddweud wrthym, wrth gwrs. Y prifysgolion nad ydynt yn derbyn bod bagloriaeth Cymru yn gyfwerth â'r arholiadau Safon Uwch y mae plant a phobl ifanc yn eu sefyll mewn mannau eraill ledled y wlad sy'n dweud hyn. Felly, gallwch wneud cymaint o honiadau ag yr hoffwch, Ysgrifennydd y Cabinet—y gwir amdani yw ei bod yn amlwg nad yw'r rhain o werth cyfartal mewn marchnad lle mae angen iddynt fod o werth cyfartal, sef mewn perthynas â chynorthwyo pobl i gael swyddi ac i gael eu derbyn ar y cyrsiau addysg uwch ac ar y cyrsiau addysg bellach sydd eu hangen arnynt. Ac nid yn unig hynny, ond un o'r rhesymau y mae athrawon yn dweud wrthyf ac y mae'r disgyblion yn dweud wrthyf eu bod yn cael graddau is yw oherwydd, wrth gwrs, fod ganddynt bellach ddwy set o arholiadau i'w sefyll mewn perthynas â mathemateg—un ar gyfer rhifedd ac un ar gyfer mathemateg. Mae hynny'n achosi problemau gydag amserlennu, mae'n achosi problemau sy'n rhoi pwysau ar bynciau eraill, ac mae'n gwaethygu eu canlyniadau. Nawr, datgelwyd yr wythnos diwethaf eich bod yn cyflogi arbenigwr i hyrwyddo'r cymwysterau TGAU newydd ledled y wlad, gan wastraffu arian trethdalwyr, gan eich bod yn mynd ar drywydd y dull gwahanol hwn. Pa gamau rydych am eu cymryd i ddweud wrthym faint y mae hynny'n ei gostio, a faint sydd wedi'i wastraffu arnynt hyd yn hyn, a phryd rydych yn mynd i roi'r gorau i'r prosiect hurt hwn?

Mae'n anghredadwy fod yr Aelod yn awgrymu y byddai unrhyw un yn y Siambr hon yn goruchwylio system arholi a fyddai'n gwneud tro gwael â'n plant. Darren, mae gennym ein dau blant yn y system hon. A ydych yn meddwl am un funud y byddwn i fel mam hyd yn oed, heb sôn am Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn sefyll yma ac yn gadael i fy mhlentyn i neu blentyn unrhyw un arall anelu am gymhwyster o werth is? Nid oes gennych unrhyw dystiolaeth y gallwch ei chyflwyno i'r Siambr hon a fyddai'n cefnogi eich honiad nad yw ein TGAU ni o werth cyfartal. Ac rwy'n synnu—rwy'n synnu bod y Ceidwadwyr am gael gwared ar y TGAU rhifedd, oherwydd fel arfer maent yma yn y Siambr yn dweud bod angen inni sicrhau bod gan blant y sgiliau y mae gweithwyr a busnesau yn gofyn amdanynt, a chymhwyso mathemateg yn ymarferol yn y ffordd a brofir yn yr arholiad TGAU rhifedd yw'r union sgiliau rwyf am weld pobl ifanc Cymru yn eu dysgu.

A gadewch i mi gywiro'r Aelod, Lywydd: nid wyf yn cyflogi unrhyw un i fynd o gwmpas yn hyrwyddo'r cymwysterau hyn. Bydd Cymwysterau Cymru, sy'n gorff annibynnol, yn cyflogi unigolyn i sicrhau nad yw prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn amau trylwyredd ein system arholiadau, a buaswn yn dweud bod unrhyw brifysgol sy'n gwrthod cyfle i dderbyn myfyriwr o Gymru, neu unrhyw gyflogwr sy'n gwrthod cyfle i gyflogi person ifanc o Gymru, ar eu colled, gan fod ein pobl ifanc cystal â phobl ifanc yn unman arall.

Diolch, Lywydd. Ym mis Ebrill y llynedd, canfu arolwg a gynhaliwyd ar eich cais gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod 90 y cant o athrawon yn dweud nad ydynt yn gallu rheoli eu llwyth gwaith. Dywedodd un o'r undebau athrawon fod yr arolwg yn dangos bod llawer o bobl yn y proffesiwn addysgu ar ben eu tennyn. Ar y pryd, fe ddywedoch eich bod yn benderfynol, fel blaenoriaeth, i fynd i'r afael â phroblem hirdymor llwyth gwaith a sicrhau bod athrawon yn cael lle ac amser i addysgu hyd eithaf eu gallu. Er lles y staff addysgu, mae'n hanfodol fod rhywbeth amlwg yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Beth yw eich asesiad o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar leihau llwyth gwaith athrawon, Ysgrifennydd y Cabinet?

13:55

Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod llwyth gwaith yn bryder parhaus i'r gweithlu, ac i minnau yn wir. Mae pryderon llwyth gwaith yn amrywio'n fawr ar draws y teulu addysg, fodd bynnag. Mae gwahanol faterion a blaenoriaethau'n codi yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y cyfnod ysgol y mae rhywun yn gweithio ynddo, ardaloedd gwledig, amddifadedd, maes pwnc neu eu rôl mewn ysgol unigol, yn ogystal ag arferion gweithredu unigol a fynnir neu a bennir gan arweinwyr yr ysgolion hynny. Ein nod yw meithrin gallu a lleihau llwyth gwaith gormodol er mwyn arwain at safonau gwell ar gyfer ein plant, ond hefyd at wella'r gallu i athrawon reoli eu llwyth gwaith.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un ffordd o leihau llwyth gwaith athrawon, ar wahân i leihau faint o waith papur y mae'n ofynnol iddynt ei wneud, ac ni chlywais sôn am hyn gennych, fyddai lleihau maint dosbarthiadau. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n teimlo'n gryf yn ei gylch. Byddai'n fuddiol i athrawon a disgyblion, a byddai'n cyfrannu'n helaeth at y gwaith o ddarparu'r addysg wych y gwn y gallai ein hathrawon ei darparu pe baent yn cael eu caniatáu i wneud hynny. A ydych yn cytuno? Ac os felly, pa fesurau rydych wedi eu rhoi ar waith i leihau maint dosbarthiadau?

O ran gwaith papur, rydym yn cynnal prosiect biwrocratiaeth i weld pa waith papur y gallwn gael gwared arno ar gyfer athrawon. Rydym yn cyflogi rheolwyr busnes drwy ein cynlluniau peilot fel bod modd i weithiwr proffesiynol arall yn yr ysgol gyflawni tasgau nad ydynt yn ymwneud ag addysgu a dysgu, ac rydym wedi dosbarthu dogfen chwalu mythau sy'n nodi'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan athrawon yn gwbl glir.

Nawr, am y tro cyntaf erioed, mae Michelle Brown wedi dweud rhywbeth rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n cytuno â chi fod maint dosbarthiadau yn hynod o bwysig, a dyna pam rydym wedi darparu adnoddau i awdurdodau lleol, ar ffurf cyfalaf a refeniw, i'w helpu i leihau maint dosbarthiadau yn y meysydd addysg lle y gwyddom y bydd y polisi hwnnw'n cael yr effaith fwyaf, sef ein plant ieuengaf a dosbarthiadau sydd â lefelau uchel o amddifadedd neu lefelau uchel o blant nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Byddwn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r newyddion diweddaraf iddi ynglŷn â'r cynlluniau a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru os oes ganddi ddiddordeb.

Byddai diddordeb mawr gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch am eich ateb.

Gan symud ymlaen, mae awdurdodau lleol o dan bwysau cynyddol o du Llywodraeth Cymru i neilltuo tir ar gyfer tai, ac adeiladir tai newydd ledled Cymru wrth ragweld cynnydd yn y boblogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddatblygu Cymru a denu pobl yma. Nid oes gennyf broblem gyda hynny. Hoffwn ofyn, fodd bynnag: yn sgil y cynnydd tebygol yn y boblogaeth yng Nghymru, pa gynlluniau sydd gennych ar waith i sicrhau bod digon o leoedd mewn ysgolion i addysgu plant ychwanegol yn briodol?

Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol unigol yn bennaf yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion, a buaswn yn disgwyl iddynt allu sicrhau, wrth ymdrin, er enghraifft, â datblygiadau tai newydd, eu bod wedi ystyried gallu'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn i ymateb i anghenion addysgol. Os oes gan yr Aelod unrhyw enghreifftiau lle mae'n teimlo nad yw hynny'n digwydd, hoffwn glywed ganddi oherwydd gallwn drafod hynny gydag awdurdodau lleol unigol.

Yn ddiweddar, cefais y fraint o agor ysgol newydd yn ardal Casnewydd, ysgol a adeiladwyd mewn ardal o'r ddinas lle mae cryn dipyn o dai'n cael eu hadeiladu, a bydd yr ysgol honno'n tyfu wrth i'r gymuned dyfu. Felly, mae ganddynt ddosbarth derbyn a blwyddyn 1, ac wrth i'r gymuned o'i hamgylch dyfu, bydd lleoedd ar gael yn yr ysgol honno, a dyna enghraifft o awdurdod lleol yn meddwl ymlaen o ran sut y maent yn cynllunio ar gyfer rhagor o dai a rhagor o alw ar y system addysg yn eu hardal.

Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella addysg rhyw a pherthnasoedd i ddisgyblion? OAQ51679

Diolch yn fawr iawn, Julie. Rwyf wedi ymrwymo i wella addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion mewn sawl ffordd. Dyna pam rwyf wedi darparu £50,000, er enghraifft, i Cymorth i Fenywod Cymru ddatblygu adnoddau addysg rhyw a pherthnasoedd. Rwyf hefyd yn ystyried sut y gall argymhellion y panel arbenigol ar addysg rhyw a pherthnasoedd lywio cynlluniau i wella darpariaeth addysg rhyw a pherthnasoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, ac rwy'n croesawu adroddiad y panel arbenigol ar addysg rhyw a pherthnasoedd ac edrychaf ymlaen at weld eu hargymhellion yn cael eu rhoi ar waith.

Yn lansiad yr 'Adroddiad ar Gyflwr Iechyd Plant' yng Nghymru yr wythnos diwethaf, dywedodd grŵp o bobl ifanc fod eu profiad hwy o addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion yn anghyson iawn, a bod yr addysg honno'n gyfyngedig iawn mewn rhai ysgolion, yn enwedig ysgolion Catholig, a nodwyd ganddynt nad oes nemor ddim o'r athrawon sy'n dysgu'r pwnc wedi'u hyfforddi'n benodol i wneud hynny. Ac wrth gwrs, cawsom adroddiad Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn 2016, a ddywedai nad oedd y ffordd y caiff y pwnc ei ddysgu yn gynhwysol o gwbl ac nad oedd yn trafod perthnasoedd Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, nac am gydsyniad nac am hunaniaeth o ran rhywedd.

Felly, sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r amrywiaeth eang o ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd? Sut y bydd yn mynd i'r afael â'r ffaith nad yw'r athrawon yn cael eu hyfforddi, a sut y bydd yn sicrhau bod y pwnc hwn yn llawer mwy cynhwysol yn y dyfodol?

14:00

Diolch, Julie. Bydd unrhyw Aelod sy'n treulio amser yn ymweld â phlant ac yn eu holi ynglŷn â'u profiadau o addysg mewn gwersi addysg bersonol a chymdeithasol ar hyn o bryd wedi clywed cwyn debyg. Ar hyn o bryd, nid yw'r hyn rydym yn ei gynnig i blant o ran addysg rhyw a pherthnasoedd yn cyfateb i'r hyn y maent yn dymuno'i gael, ac mewn sawl achos, nid yw'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Rydych yn iawn i ddweud nad yw'n ymwneud, mewn sawl achos, â diffyg adnoddau, ond mae'n ymwneud weithiau â diffyg hyder a dealltwriaeth ymhlith rhai o'r gweithlu addysgu y mae disgwyl iddynt ddarparu rhai o'r gwersi hyn. O ran addysg rhyw a pherthnasoedd gynhwysol, mae arnaf ofn fod rhai gweithwyr proffesiynol yn dal i fod yn gyndyn iawn o siarad am faterion Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol oherwydd deddfwriaeth gan Lywodraethau blaenorol mewn lle arall ddegawdau lawer yn ôl, ac mae arnaf ofn fod canlyniad hynny yn dal gyda ni yn rhai o'n hysgolion.

Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddefnyddio'r panel arbenigol i sicrhau, yn y dyfodol, fod gennym addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n wirioneddol gynhwysol ac y bydd yn cael ei darparu gan broffesiwn sy'n teimlo'n ddigon parod a hyderus yn eu gallu i ddarparu'r gwersi hynny. Yn allweddol, bydd yr Aelod yn ymwybodol, Lywydd, fod iechyd a lles yn un o'r chwe maes dysgu a phrofiad yn ein cwricwlwm newydd, a bydd yn rhaid i ni, fel cenedl, ddatblygu arbenigedd set newydd o weithwyr proffesiynol fel y gallant ddarparu hynny fel rhan o'n cwricwlwm. Yn y blynyddoedd a fu, rydym wedi hyfforddi athrawon daearyddiaeth ac athrawon cemeg ac athrawon ffiseg, ond mae hwn yn faes yn y cwricwlwm lle nad ydym wedi gallu creu'r llwybr gyrfa penodol hwnnw, a gwn y bydd y cwricwlwm yn rhoi'r hwb sydd ei angen arnom i newid hynny yn y dyfodol er mwyn sicrhau profiad gwell i blant.

Byddwch yn cofio, yn y Cynulliad diwethaf, fod y tair gwrthblaid wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau consesiynau gan y Llywodraeth. Rhoesom gryn bwysau arnynt mewn perthynas â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac roedd hynny'n cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chefnogaeth wedyn gan Peter Black o'ch plaid chi, gan Jocelyn Davies o Blaid Cymru a gennyf fi, i gynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod yn y broses o ddatblygu addysg perthnasoedd iach yn y cwricwlwm ar gyfer bob ysgol.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, credaf eich bod chi a minnau wedi cyfeirio at brosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n addysgu disgyblion mewn ysgolion ac yn hyfforddi athrawon mewn ysgolion ynglŷn â pherthnasoedd iach. Sut y byddwch felly'n cefnogi'r ymgyrch perthnasoedd iach a fydd yn cael ei lansio gan Hafan Cymru ar 3 Chwefror, gan eu bod yn dweud y bydd yn cefnogi dynion, menywod a phlant sy'n agored i niwed, yn eu cynorthwyo i ymdopi ag unigrwydd ac arwahanrwydd drwy eu prosiect Siediau Dynion, ac yn hanfodol, yn dysgu plant am berthnasoedd iach a cham-drin domestig drwy eu prosiect Sbectrwm?

Diolch, Mark. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod eich ymrwymiad personol i'r agenda hon. Byddwch wedi clywed, yn fy ateb i Julie Morgan, fy mod yn cadw at yr hyn a ddywedais yn yr wrthblaid â minnau yn y Llywodraeth drwy ein bod wedi rhoi grant i Cymorth i Fenywod Cymru er mwyn helpu i ddatblygu adnoddau i ysgolion mewn perthynas â deall beth yw perthnasoedd diogel, parchus a meithringar. Ac rwy'n falch fod gennym amrywiaeth o fudiadau gwirfoddol sy'n barod i weithio gyda ni ar yr agenda hon.

Mae gweithgor maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad sy'n ceisio datblygu hyn yn casglu tystiolaeth a safbwyntiau gan ystod eang o randdeiliaid o'r tu allan i'r system addysg er mwyn llywio eu gwaith. Ac mewn perthynas â phrosiect Siediau Dynion, rwy'n falch iawn, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad, o gael perthynas waith dda gyda'r sied yn Nhrefyclo a'r sied yn Llandrindod, a agorwyd yn swyddogol gennyf, gan fy mod yn cydnabod, weithiau, fod dynion yn ei chael hi'n anodd trafod rhai o'r materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a pherthnasoedd. Credaf fod Siediau Dynion yn brosiect gwerth chweil, gan ei fod yn creu lle diogel i ddynion siarad am rai o'r materion hyn y gallant fod yn gyndyn i siarad amdanynt.

14:05
Modelau Rôl Benywaidd

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i hyrwyddo modelau rôl benywaidd yn yr ystafell ddosbarth? OAQ51673

Diolch, Jayne. Rydym am i'n pobl ifanc fod yn ddinasyddion moesol a gwybodus yng Nghymru a'r byd ac yn unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas. Golyga hynny hyrwyddo modelau rôl benywaidd a gwrywaidd cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A hithau'n ganmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf a'r bleidlais i fenywod dros 30 oed, mae'n hanfodol ein bod yn rhannu cyfraniad cynifer o fenywod dros y blynyddoedd gyda bechgyn a merched. Ddoe, roeddwn yn falch o ddadorchuddio plac glas i Annie Mistrick yng Nghasnewydd—nyrs ar y rheng flaen a beryglodd ei bywyd ei hun i drin ac i ofalu am filwyr a anafwyd yn y rhyfel byd cyntaf. Fe'i gwobrwywyd â'r anrhydedd uchaf am ddewrder gan Lywodraeth Ffrainc. Daeth disgyblion o Ysgol Gynradd Gwynllyw Sant i'r dadorchuddiad i glywed am fenyw leol a oedd mor arbennig, ond y bu bron iddi ddiflannu o hanes serch hynny. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ysgolion er mwyn sicrhau bod pob disgybl ar draws y cwricwlwm yn dysgu am fenywod, o'r gorffennol a'r presennol, sy'n chwarae rôl mor bwysig, a lle y bo modd, yn cysylltu ysgolion â menywod a digwyddiadau lleol i ddod â hwy'n fyw i genhedlaeth newydd?

Diolch, Jayne. Roeddwn yn falch iawn o wrando ar adroddiadau yn y cyfryngau ddoe ynglŷn â dadorchuddio'r plac. Mae'n drist ei bod wedi cymryd cymaint o amser, mewn gwirionedd, i'r fenyw anhygoel hon gael ei chydnabod gan ei chymuned pan oedd Llywodraeth Ffrainc, dros flynyddoedd lawer ar y pryd yn cydnabod ei chyfraniad aruthrol.

Rydym yn gweithio mewn amryw o ffyrdd gyda nifer o sefydliadau er mwyn sicrhau bod plant yn ein hysgolion yn cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd i ddysgu am fenywod o hanes, ac yn wir, am eu hanes lleol eu hunain. Felly, er enghraifft, rwy'n ymwybodol y bydd soroptimyddion Sir Fynwy yn cynnal digwyddiad y mis nesaf yn Ysgol y Brenin Harri VIII yn y Fenni, lle y byddant yn siarad am fenywod ym maes gwyddoniaeth a sut y gallwn annog rhagor o ferched mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd i astudio gwyddoniaeth. Felly, mae yna ystod o waith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gennym fodelau rôl cadarnhaol ar gyfer ein holl blant yn yr ysgol, ac rydym yn cydnabod cyfraniad dynion a menywod Cymru, nid yn unig i'w hanes lleol, ond yn achos Annie, i achos mwy.

Wel, rwy'n fwy na pharod i grybwyll Amy Dillwyn o fy rhanbarth i fel model rôl sydd wedi marw—nid dyna'r model rôl mwyaf defnyddiol bob amser, er hynny. Un o argymhellion yr adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' yw y dylem roi mentrau dychmygus ar waith i herio stereoteipio ar sail rhyw ac annog merched a bechgyn i ystyried galwedigaethau anhraddodiadol. Pryd rydych yn disgwyl gallu rhoi rhai enghreifftiau inni o fodelau rôl sydd wedi cael eu perswadio i fynd i mewn i ysgolion, a sut y mae'r ysgolion eu hunain wedi nodi'r modelau rôl hynny—gallent fod yn fenywod, ond gallent fod yn ddynion hefyd, mae'n debyg—fel y gallwn ddeall beth sy'n gwneud model rôl da? Diolch.

Suzy, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle: mae angen inni herio rhai o'r delweddau ystrydebol sydd gan bobl. Dyna pam rwy'n ymwybodol fod fy nghyd-Aelod Cabinet, Julie James, wedi cymryd rhan yn lansiad Dyma Fi yr wythnos hon mewn coleg lleol, gan herio o ddifrif yr hyn y mae bod yn wryw neu'n fenyw yn ei olygu a beth y gallai hynny ei olygu o ran eich disgwyliadau ohonoch eich hun, neu'r hyn y gallai eich cyfoedion a'ch cymuned ei ddisgwyl ohonoch.

Mae'n bwysig iawn hefyd o ran Gyrfa Cymru a'r cynnig y mae Gyrfa Cymru yn ei roi i ysgolion i helpu i hysbysu plant wrth iddynt ddewis eu pynciau ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol. Felly, gwn fod gweithgareddau a gwasanaethau Gyrfa Cymru yn herio stereoteipiau rhyw, a'u bod yn gweithio i hwyluso cysylltiadau busnes ac addysg, er enghraifft, drwy eu rhaglenni cyfnewid, er mwyn sicrhau bod amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael i bobl archwilio beth yr hoffent ei wneud ar ôl gadael ysgol.

Mi oedd y lle yma yn role model gwych ar gyfer cydraddoldeb rhywedd, ond ers 2003, mae’r sefyllfa wedi newid ac wedi mynd am yn ôl. Hoffwn i gael eich barn chi am yr egwyddor o gyflwyno deddfwriaeth i greu cydraddoldeb o ran cynrychiolwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hynny fel ffordd o arwain at gydraddoldeb mewn meysydd eraill, gan gynnwys yn yr ysgolion ac yn y byd addysg.

Efallai fod un peth da ynglŷn â'r sefyllfa rwyf ynddi: o leiaf gall Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hawlio cynrychiolaeth fenywaidd o 100 y cant yn ystod tymor y Cynulliad hwn. [Chwerthin.] Er, rhaid cyfaddef nad yw'r peth da penodol hwnnw yn rhywbeth y buaswn wedi'i groesawu.

Rwyf bob amser, drwy gydol fy ngyrfa wleidyddol, wedi talu teyrnged i bleidiau gwleidyddol eraill sydd wedi cymryd camau dewr iawn, yn fy marn i, i sicrhau cynrychiolaeth dda iawn o ran rhywedd yn y lle hwn. Mae'n rhaid cyfaddef na lwyddais i ennill y frwydr honno pan oeddwn yn arweinydd fy mhlaid wleidyddol. Rwy'n credu'n gryf: oni bai eich bod yn gallu gweld rhywbeth, ni allwch obeithio dod yn hynny o beth.

Ond o'm rhan i ym maes addysg, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i mi yw ein bod, drwy ein cwricwlwm ABCh presennol a'n cwricwlwm newydd, yn rhoi cyfle i fenywod ifanc ddysgu am y broses wleidyddol, i ddeall sut y mae'r broses wleidyddol honno'n gweithio, ac i'w hannog i fod eisiau cyfrannu ati, drwy ymgyrchu a gweithredu yn eu cymunedau eu hunain yn ogystal â thrwy fod yn wleidyddion ffurfiol a allai wasanaethu ar gynghorau, mewn Cynulliadau neu mewn Seneddau.

14:10
Mynediad at Brentisiaiethau

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith costau teithio ar fynediad at brentisiaiethau? OAQ51670

Rydym ni’n cymryd lles prentisiaid o ddifrif ac rydym ni’n cydnabod y gall costau teithio fod yn rhwystr i brentisiaid ifanc, er mai rhaglen â chyflog yw hon. Byddwn yn edrych ar ba gyfleoedd sydd ar gael i gael gwared ar unrhyw rwystrau i atal mynediad i’r rhaglen, a byddwn yn cynnwys costau teithio.

Rydw i'n frwd iawn dros gyfathrebu llawer cliriach efo pobl ifanc yn 16 oed y dylen nhw fod yn ystyried mynd am brentisiaeth fel dewis amgen. Mi gysylltodd etholwr efo fi yn ddiweddar a oedd hefyd yn gefnogwr i brentisiaethau, ac yn wir mae ei ddau fab o yn dilyn prentisiaethau ar hyn o bryd. Ond mae o yn bryderus am y rhwystr yma o gostau teithio uchel i brentisiaethau, i brentisiaid, a bod hynny yn arbennig o aciwt mewn ardaloedd gwledig lle, wrth gwrs, y gallai'r gweithle fod yn bell iawn i ffwrdd. Pa ystyriaeth arbennig a all y Llywodraeth ei rhoi yng ngoleuni'r ateb yr ydym wedi'i gael gennych chi y prynhawn yma i ystyriaethau penodol i ardaloedd gwledig lle nad ydy'r gweithle ar gyfer prentis ar garreg y drws, ac yn wir y gall fod yn bell iawn i ffwrdd?

A gaf i jest ddweud ein bod ni wedi edrych mewn i'r mater yma? Un o'r problemau yw gan fod hwn yn fater lle rydym ni'n rhoi arian ychwanegol, gallai hynny gael ei weld fel taxable benefit, ac mae hynny'n creu problem achos nid yw'r cymorth yma ar gael i bob un. Felly, beth nad ydym eisiau ei weld yw sefyllfa lle maen nhw'n cael arian wedi'i gymryd oddi wrthyn nhw achos ein bod ni'n rhoi'r budd-dal yma iddyn nhw. Felly, mae'n fwy cymhleth na fyddech chi'n ystyried ar y dechrau.

Wrth gwrs, rŷm ni wedi cael y mytravelpass yma, sydd yn rhoi un trydydd off pris tocynnau i bobl sydd yn 16 i 18 oed. Mae hynny'n cael ei asesu ar hyn o bryd, ac rydw i'n meddwl bod hynny'n mynd tuag at y cyfeiriad cywir. Ond, rydw i yn cymryd bod hon yn broblem ychwanegol yng nghefn gwlad—pobl sy'n bell i ffwrdd. Felly, rŷm ni yn edrych i mewn iddo fe, a rŷm ni'n ystyried nawr beth yw'r ymateb i mytravelpass.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae trafnidiaeth fforddiadwy yn hanfodol os yw pobl ifanc am gael mynediad at addysg a hyfforddiant er mwyn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn nodi bod rhai prentisiaid yn gwario 20 y cant o'u hincwm ar deithio ac wedi galw am gyflwyno cerdyn teithio i brentisiaid. Clywais y Gweinidog yn sôn am fudd trethadwy. Ni chredaf fod hynny'n bosibl, gan fod y plant bob amser wedi'u heithrio o unrhyw beth. Felly pam hyn? Ni chredaf y dylid cymysgu orennau gydag afalau yma.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai darparu tocyn bws am ddim i bob person ifanc rhwng 16 a 20 oed yng Nghymru yn cael gwared ar rwystr enfawr i bobl ifanc rhag cael mynediad at gyfleoedd addysg, hyfforddiant a swyddi, sy'n rhywbeth y mae ein hochr ni o'r Siambr wedi bod yn gofyn amdano ers blynyddoedd lawer? Nid ydych yn gwrando, hyd yn oed.

A gaf fi dynnu sylw at y ffaith eich bod, pan fyddwch ar gwrs prentisiaeth, yn derbyn incwm, ac mae unrhyw incwm, mewn egwyddor, yn drethadwy? Felly, mae'n rhaid inni fod yn sensitif. Rydym wedi edrych ar beth sy'n bosibl, gan y cydnabyddir fod hwn yn fudd trethadwy. Felly, nid ydym yn cymharu afalau gydag orennau, rydym yn sicrhau mewn gwirionedd nad yw'r bobl hyn yn mynd i fwy o drafferthion.

Credaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi pwysau, weithiau, ar rai o'r cwmnïau bysiau. Os edrychwch chi yng Nghaerdydd, er enghraifft, y cerdyn Iff, ceir gostyngiadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, felly mae modd i hynny ddigwydd. Ond eisoes—os yw ar gael i bawb, nid yw'n broblem. Pan fyddwch yn dechrau ei ddarparu mewn amgylchiadau arbennig yn unig, dyna pryd y mae'n creu problem.

14:15
Addysg Bellach

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella addysg bellach i gefnogi mwy o bobl i ennill cymwysterau yng Nghymru? OAQ51681

Mae 'Symud Cymru Ymlaen', rhaglen y Llywodraeth hyd at 2021, yn nodi’n glir ein bod yn credu bod ffyniant a sefydlogrwydd ein cenedl yn y dyfodol yn dibynnu ar sgiliau a gwerthoedd ein pobl. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod dysgu yn y sector addysg bellach, p'un ai’n ddysgu gydol oes, yn ddysgu rhan-amser, neu’n ddysgu seiliedig ar waith, yn hanfodol i ffyniant unigolyn ac i ffyniant y genedl. 

Diolch. Mae tudalen 8 'Addysg yng Nghymru' yn trafod yr angen am ymrwymiad cryf i gydweithredu effeithiol ynghyd ag integreiddio gwasanaethau lle’n briodol. A allech chi ehangu ar beth yw’r cyfleoen i weithio ar y cyd yn well rhwng colegau ac ysgolion? Er enghraifft, roedd Llywodraeth Cymru yn arfer ariannu fforymau 14 i 19 cyfrwng Cymraeg, ac roedd hwn yn ceisio hybu cydweithrediad rhwng y sectorau hynny’n benodol. A oes yna gynlluniau tebyg ar y gweill, ac, os felly, a fedrwch chi amlinellu’r rhain?

Mae’n bwysig ein bod ni’n gweld gwell cydweithrediad rhwng ysgolion ac addysg bellach. Wrth gwrs, rŷm ni'n edrych ar sut rŷm ni'n gallu gweld y cydweithredu yna drwy PCET, y newidiadau byddwn ni’n eu gweld yn y dyfodol. Byddwn ni’n cymryd cystadleuaeth mas o’r system achos mae honno’n gallu creu problem ar hyn o bryd. Ond rydw i’n meddwl ei fod yn werth dweud bod—mae yna lwyddiant eithaf uchel yn addysg bellach ar hyn o bryd. Mae tua 86 y cant o bobl yn llwyddo ym maes addysg bellach, felly mae hwnnw’n gam eithaf pwysig. Beth sydd angen, wrth gwrs, yw ein bod ni’n mynd ymhellach a gwthio’r safonau i fyny’n gyson.

Cymorth i Lywodraethwyr Ysgol

7. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i lywodraethwyr ysgol yn y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ51650

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi llywodraethwyr drwy weithio gyda'r consortia rhanbarthol i gryfhau'r model cenedlaethol ar gyfer gweithio rhanbarthol a byddwn hefyd yn ymateb i'r ymgynghoriad ar lywodraethu ysgolion gyda chynigion ar gyfer fframwaith rheoleiddio diwygiedig a symlach.

Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd dros £0.25 miliwn a arferai fynd i Llywodraethwyr Cymru yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol nesaf, a byddant yn cyfarfod ar 16 Chwefror i benderfynu a ydynt am ddirwyn i ben.

Mae Llywodraethwyr Caerdydd yn parhau i fodoli, gydag ardoll o £50 ar gyfer pob ysgol, ac efallai fod hynny'n bosibl mewn ardal drefol lle mae'r ysgolion yn gymharol agos at ei gilydd, ond o gofio mai llywodraethwyr ysgol yw un o'r enghreifftiau gorau o ddinasyddion gweithgar—nid ydynt yn derbyn tâl am gyflawni eu dyletswyddau—pa gyfleoedd sydd ar gael bellach i sicrhau bod pob llywodraethwr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf? Roeddwn yn edrych ar Gonsortiwm Canolbarth y De, ac nid oes unrhyw beth yno i egluro i lywodraethwyr beth yw eu rôl o ran sicrhau eu bod yn cyflawni eu blaenoriaethau. Gwn fod Cyngor Caerdydd wedi torri eu cymorth i lywodraethwyr o bedwar swyddog i ddau, felly byddai'n ddefnyddiol gwybod sut rydych yn credu y bydd llywodraethwyr yn cael eu cynorthwyo i gyflawni rôl sy'n eithaf cymhleth.

Diolch i'r Aelod am hynny. Rwyf wedi dweud yn glir iawn, er mwyn amddiffyn darpariaeth rheng flaen i ysgolion, fy mod yn barod i wneud penderfyniadau anodd, ac yn hynny o beth, gan fod cymorth eisoes yn cael ei ddarparu i lywodraethwyr drwy awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, fel y dywedodd yr Aelod, byddwn yn dirwyn y grant i Llywodraethwyr Cymru i ben.

Nid ydym yn ceisio gosod rhywbeth yn lle neu efelychu'r cymorth a ddarparwyd yn y gorffennol gan Llywodraethwyr Cymru, gan y credwn fod llawer o'r gwasanaethau a gynigir, fel y dywedais, yn cael eu dyblygu eisoes gan awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol. Mae'n rhaid i mi nodi'n glir, o'r oddeutu 21,000 o lywodraethwyr sydd gennym yng Nghymru—a Jenny, rydych yn llygad eich lle, maent yn un o'r enghreifftiau gorau o ddinasyddion gweithgar—mai 2,000 yn unig o'r llywodraethwyr hynny oedd ar restr bostio Llywodraethwyr Cymru, yn derbyn gwybodaeth gan Llywodraethwyr Cymru, a phan gynhaliwyd adolygiad gan Lywodraeth Cymru o weithgarwch a chymorth Llywodraethwyr Cymru yn 2014-15, nodwyd gennym, er enghraifft, mai 10 y cant yn unig o'r llywodraethwyr a gymerodd ran yn yr adolygiad hwnnw a oedd yn arfer cysylltu â'r llinell gymorth a weithredai Llywodraethwyr Cymru. Mewn cyfnod anodd fel hwn, ni allwn fforddio dyblygu gwasanaethau, a byddwn yn gweithio gyda'r model rhanbarthol diwygiedig a'r disgwyliadau diwygiedig o ran yr hyn sydd ei angen ar y consortia rhanbarthol i gefnogi a chydnabod, mewn llawer o achosion, fod cyrff llywodraethu a llywodraethwyr yn ceisio cymorth gan eu hawdurdodau lleol.

14:20
'Dyfodol Llwyddiannus'

8. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i baratoi'r sector addysg ôl-16 yng Nghymru ar gyfer gweithredu'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus'? OAQ51676

Mae adolygiad yr Athro Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus', wedi arwain at oblygiadau pellgyrhaeddol a radical ar gyfer y system addysg yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddatblygu'r cynllun a'r amserlen gyffredinol. Mae'r ffocws ar y sgiliau hanfodol a'r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar bobl ifanc yn y dyfodol.

Dylid cynnwys addysg bellach yn y broses o ddylunio a datblygu'r cwricwlwm. Mae cymal Baker wedi dod i rym yn Lloegr yn ddiweddar, i fynnu bod ysgolion yn gadael i ddarparwyr addysg bellach hysbysebu eu gwasanaethau i ddisgyblion blynyddoedd 8 i 13, gan sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt wedi iddynt adael addysg orfodol. O gofio'r diwygiadau sylweddol sydd ar y gweill i'r cwricwlwm, yn ogystal â llywodraethu addysg ôl-16 yn arbennig, a ddylem ni yng Nghymru ystyried mecanwaith tebyg er mwyn paratoi disgyblion ar gyfer y cyfnod pontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach?

Wel, nid yw 'Dyfodol Llwyddiannus' yn cyfeirio'n benodol at ddysgwyr ôl-16, ond rwy'n derbyn y pwynt ei bod yn bwysig sicrhau perthynas a bod pobl yn deall y dilyniant angenrheidiol rhwng ysgol ac addysg bellach. Felly, rydym wedi gofyn i Colegau Cymru bennu set o argymhellion ar yr hyn y gall addysg bellach ei wneud i ddatblygu cwricwlwm newydd, ond credaf mai'r pwynt arall yw bod angen inni sicrhau bod plant ysgol yn ymwybodol o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ac nad yw'r llwybr academaidd yn addas i bawb o reidrwydd, ac mae angen inni sicrhau bod gennym bosibiliadau mwy gwrthrychol mewn ysgolion, efallai, o ran caniatáu i unigolion—ei bod yn system sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach nag un sy'n annog pobl ifanc i aros yn yr ysgol o reidrwydd, gan nad yw hynny'n addas i bob disgybl yn y chweched.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. A'r cwestiwn cyntaf—Jane Hutt. 

Iechyd y Genedl

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddaraf y Prif Swyddog Meddygol ar iechyd y genedl? OAQ51659

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n croesawu adroddiad y prif swyddog meddygol, a lansiwyd heddiw. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar niwed o ganlyniad i gamblo fel mater iechyd cyhoeddus sy'n dod i'r amlwg, ac edrychaf ymlaen at wneud datganiad llawn ar yr adroddiad a'i argymhellion yr wythnos nesaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld adroddiad diweddaraf y prif swyddog meddygol a gyhoeddwyd heddiw, ond hoffwn gyfeirio at yr adroddiad diwethaf, 'Adfer cydbwysedd i ofal iechyd: Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol', sy'n tynnu sylw at thema bwysig yn fyd-eang, sef bod llawer o broblemau iechyd yn dangos graddiant cymdeithasol cryf, a bod nifer uwch o achosion o salwch a marwolaethau cyn pryd ymhlith grwpiau ac ardaloedd o dan anfantais economaidd. Yn wir, clywais fod yr Athro Marmot wedi pwysleisio'r pwynt hwn yn gynharach yr wythnos hon. Gwn eich bod wedi cyfarfod â'r Athro Marmot yn rhinwedd eich swydd flaenorol mewn perthynas â'ch rôl yn trechu tlodi yng Nghymru. Yr un mor berthnasol i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ceir y ddeddf gofal gwrthgyfartal, sef yr egwyddor fod argaeledd gofal meddygol neu gymdeithasol da yn tueddu i amrywio yn wrthgyfartal i anghenion y boblogaeth a wasanaethir. Cynigiwyd yr egwyddor hon gan y meddyg teulu o dde Cymru, Dr Julian Tudor Hart, ac fe'i mabwysiadwyd gan lawer fel arweiniad ar bolisi iechyd. A all Ysgrifennydd y Cabinet nodi sut y mae'n mynd i'r afael â'r angen i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol o ran statws iechyd a darpariaeth iechyd yng Nghymru?

Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at fater pwysig iawn heddiw ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyn, wrth gwrs, yn agwedd allweddol ar ofal iechyd darbodus, a amlinellwyd gan fy rhagflaenydd, ac mae hynny'n parhau drwy'r gwasanaeth. Mae gofal iechyd darbodus yn agwedd allweddol wrth edrych, er enghraifft, ar Wobrau GIG Cymru; rydym yn edrych am dystiolaeth o ffyrdd darbodus o gynnal a darparu gwasanaethau. Amlygwyd ac atgyfnerthwyd hyn hefyd yn yr adolygiad seneddol diweddar fel sbardun allweddol ar gyfer ein system. Ceir rhai pethau cadarnhaol i edrych arnynt yma yng Nghymru; nid mynegiant o anobaith yn unig ydyw. Os edrychwn ar Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, maent ill dau wedi cyflwyno rhaglenni'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, gan fynd allan yn fwriadol i'r cymunedau gyda'r lefel uchaf o risg, y bobl nad ydynt yn rhoi sylw i'w hiechyd eu hunain, ac mae'r canlyniadau'n gadarnhaol iawn hyd yn hyn hefyd. Mewn ymddangosiad blaenorol ger bron y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol—nid dyna yw ei enw; mae chwaraeon yn dal i fod yn rhan o'i deitl—rwy'n credu fy mod wedi dweud y buaswn yn ysgrifennu atynt i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r gwerthusiad cychwynnol o'r y ddwy raglen gan y ddau is-gadeirydd. Buaswn yn fwy na pharod i rannu hynny gyda'r holl Aelodau, gan ei fod yn dangos bod y dull ymarferol hwnnw'n dechrau cael effaith. Mae gwersi i'w dysgu o'r dull gweithredu hwnnw ac eraill i'r gwasanaeth cyfan eu mabwysiadu ledled y wlad.

14:25

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r toreth o gyfleoedd gamblo sydd ar gael, os caf ei roi felly, mor fawr fel ein bod yn clywed heddiw fod 16 y cant o blant rhwng 11 a 15 oed wedi gamblo yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae hynny'n gryn syndod i mi. Dylwn ddweud fy mod yn gamblo o bryd i'w gilydd. Ond mae gennym broblem wirioneddol gyda chaethiwed i gamblo, ac rydym yn clywed bellach gan y prif swyddog meddygol ei fod yn un o'r pryderon iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n ein hwynebu. A ydych yn debygol o adolygu safbwynt presennol Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw ymyrraeth feddygol ar gael i fynd i'r afael â chaethiwed i gamblo?

Wrth gwrs, byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â sut i drin caethiwed i gamblo yn y lle cyntaf, ond hoffwn ddychwelyd at eich pwynt cyntaf ynglŷn â'r toreth o gyfleoedd gamblo sydd ar gael a pha mor hawdd yw hi i gamblo. Nid yw bellach yn weithgaredd rheoledig neu anarferol, os hoffwch, y mae'n rhaid i bobl wneud ymdrech gorfforol i'w wneud. Mae gamblo ar-lein yn her benodol, a chafwyd dadl gyhoeddus dda yn ddiweddar ynglŷn â pheiriannau betio ods sefydlog. Nawr, rydym ar fin cael pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2017 lle y gallem wneud rhywbeth, o bosibl, gyda'n pwerau, hyd at isafswm betio o £10. Byddwch yn sylwi, yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, fod y prif swyddog meddygol yn argymell defnyddio ein pwerau hyd yr eithaf. Mae angen inni ystyried yr adolygiad parhaus sydd ar waith gan Lywodraeth y DU hefyd, lle maent yn sôn am ostwng yr uchafswm betio i £2. Mae'r prif swyddog meddygol wedi cynnwys tystiolaeth i gefnogi hynny, felly mae angen inni ystyried sut y gellid effeithio ar ein pwerau pe bai Llywodraeth y DU yn cymryd y cam hwnnw. Mewn gwirionedd, credaf y byddai'n beth da cael y dull gweithredu cyffredinol hwn ledled y DU, ond mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut rydym yn defnyddio ein pwerau i gyfyngu ar gamblo mewn ffordd sydd yn synhwyrol ac yn gymesur, gan gydnabod y niwed a achosir, ac ar yr un pryd, ynglŷn â'r triniaethau rydym yn eu cynnig i bobl sy'n dioddef o gaethiwed i gamblo, oherwydd rwy'n cydnabod y niwed cymdeithasol helaeth y gall ei achosi ac y mae'n ei achosi.

Ymgynghoriadau Cyhoeddus

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol? OAQ51671

Mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am gydweithio ac ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo arferion da o ran ymgysylltu ac ymgynghori ac yn cynorthwyo'r byrddau iechyd i weithio gyda'r cyhoedd, eu staff ac eraill—gan gynnwys, wrth gwrs, y cynghorau iechyd cymuned—i helpu i sicrhau'r canlyniadau a'r cynlluniau iechyd gorau posibl.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr, fel y cytunwch, ei bod yn bwysig iawn eu bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd. Yn ddiweddar, mae AMBU wedi cynnal tri, neu wrthi'n cynnal tri ymgynghoriad cyhoeddus—llawdriniaethau thorasig cyn y Nadolig, ac ar hyn o bryd maent yn cynnal ymgynghoriad ar y rhwydwaith trawma mawr a'r newidiadau i'r ffiniau. Yn ôl yr hyn a glywaf, mewn gwirionedd, ychydig iawn o aelodau'r cyhoedd sy'n mynychu'r cyfarfodydd cyhoeddus hyn. 'Does bosibl nad yw'n bwysig fod y byrddau iechyd, pan fyddant yn cydnabod nad oes llawer o bobl yn mynychu, yn bod yn rhagweithiol ac yn mynd yn ôl at y bobl er mwyn cynnal yr ymgynghoriad. Fel arall, ceir adroddiad sy'n dweud fawr ddim gan nad oes pobl wedi bod yn mynychu. Efallai nad yw pobl yn mynychu oherwydd nad ydynt yn gwybod. Roedd llawer o fy etholwyr heb gael gwybod fod yr ymgynghoriadau hyn yn mynd rhagddynt. Mae angen inni roi gwybod amdanynt. Mae'n rhaid iddynt ymgysylltu â'r bobl. Mae'n rhaid iddynt gydnabod, os nad ydynt yn siarad â hwy, os nad ydynt yn mynychu—ewch yn ôl a dechreuwch eto fel y gall ymgynghoriad fod yn ystyrlon yn hytrach na geiriau gwag.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. Mae'r cydbwysedd o ran yr hyn sydd angen inni ei wneud yn bwysig. Mae'n rhaid inni sicrhau y gwneir ymgais wirioneddol a rhagweithiol i gynnwys y cyhoedd mewn ymgynghoriadau drwy amrywiaeth o ffyrdd gwahanol. Mae'n ymwneud â'r sgwrs bersonol rhwng pobl a staff, y cyfryngau ysgrifenedig, yr hysbysiadau ffurfiol, cynnal cyfarfodydd cymunedol, yr holl bresenoldeb ar-lein hefyd, ac wrth gwrs, y cynghorau iechyd cymuned a'u rôl hwy wrth ymgysylltu gyda'r cyhoedd hefyd.

Rwy'n fwy na pharod i ymuno â'r hyn a ddywedodd Julie James ddoe yn ystod y cwestiynau busnes o ran annog pobl nad ydynt wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad trawma mawr i wneud hynny cyn y daw i ben yr wythnos nesaf. Ond mae'n rhaid inni dderbyn hefyd na allwn orfodi'r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau. Yn aml, pan fo'r pwnc yn fawr ac yn eang, mae'r cyhoedd yn llai tebygol o gymryd rhan, ond pan fydd y cynnig yn fwy penodol a lleol, mae pobl yn tueddu i gymryd rhan. Mae'r gyfraith cynllunio yn enghraifft dda, y tu allan i faes iechyd, yn fwriadol. Fel arfer, nid oes llawer o bobl yn tueddu i gymryd rhan mewn sgyrsiau cyffredinol ynglŷn â chynllunio, ond mae hynny'n digwydd bob tro, bron pan fo cynnig cynllunio penodol gerbron mewn ardal leol. Ond rwy'n falch o ddweud fy mod yn credu ein bod wir yn ceisio dysgu a gwella. Ac wrth gwrs, ar un o'r cynigion y cyfeiriwch atynt—yr ymgynghoriad ar lawdriniaethau thorasig—cafwyd cadarnhad ddydd Llun y bydd llawdriniaethau thorasig yn cael eu canoli, yn unol ag argymhelliad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac y byddant wedi'u canoli yn ysbyty Treforys yn Abertawe.

14:30

Rydych yn hollol gywir, Ysgrifennydd Cabinet, ni allwn orfodi pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau. Ond gan gyfeirio at y pwynt a wnaeth David Rees, mae nifer enfawr o ffyrdd gwirioneddol dda o ennyn diddordeb pobl ar lawr gwlad a mesur tymheredd y newidiadau arfaethedig. Mae sefydliadau megis INVOLVE, sy'n cynnal ymgynghoriadau yn Lloegr—maent yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, maent yn cynnal diwrnodau hwyl, mae pob math o ffyrdd newydd o gyrraedd y rhai sy'n anodd eu cyrraedd mewn gwirionedd, yn hytrach na'r ymgynghoriadau hen ffasiwn a gynhelir ar bapur, neu os ydych yn lwcus a bod gennych fand eang, yr ymgynghoriadau cyfrifiadurol sydd gennym am gyfnodau byr iawn, ac sy'n cael eu cynnal, bron yn anochel, yn ystod cyfnod y Nadolig neu yn ystod gwyliau'r haf. Hoffwn ofyn i chi edrych yn ofalus ar yr holl ffyrdd amgen y gallwn eu cyrraedd.

Ond yn anad dim, pwynt canolog fy nghwestiwn yw: a ydych yn credu ei bod yn dal yn briodol, o ystyried yr adolygiad seneddol, fod gennym bellach ymgynghoriadau yn cael eu cynnal gan y byrddau iechyd mewn gwirionedd, neu a ddylent fod yn rhai iechyd a gofal cymdeithasol, o gofio'r ffaith ein bod yn chwilio am ffordd integredig a di-dor o symud ymlaen? Oherwydd fe fydd unrhyw beth y bydd y maes iechyd yn penderfynu ei wneud yn cael effaith enfawr ar awdurdodau lleol, ac ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol, a darpariaeth tai. Ac os ydym yn ceisio mabwysiadu ffordd fwy cyfannol o roi'r unigolyn wrth wraidd eu hanghenion iechyd wrth symud ymlaen, mewn gwirionedd dylem fod yn edrych arno yn ei gyfanrwydd. Mae llawer o'r ymgynghoriadau hyn yn ymwneud ag iechyd, ac nid ydynt yn cynnwys ail hanner y ddarpariaeth bwysig iawn y dylem fod yn ei rhoi mewn gwirionedd.

Wel, mae yna rywbeth yma ynglŷn â deall y cynigion y cyfeiriwyd atynt yn gynharach gan David Rees, a siaradodd am lawdriniaeth thorasig a'r ganolfan trawma mawr. Mae'r rheini'n ymgynghoriadau gwasanaeth iechyd arbenigol sydd angen cael eu cynnal. A fy mhryder bob amser, os ydym yn osgoi mynd i'r afael â phroblemau, yw y byddwn yn caniatáu i ni'n hunain fod mewn sefyllfa lle mae'r ddadl yn fwy anodd, a mwy o frys o ran yr angen i newid. Felly, nid wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol ceisio atal y gwasanaeth iechyd rhag cynnal ymgynghoriadau ar y ffordd y dylid newid a diwygio gwasanaethau. Ond wrth gwrs, mae yna ystod eang o'r gwasanaethau hynny sy'n ymwneud yn briodol â sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd gael perthynas a sgyrsiau priodol gyda phartneriaid gofal cymdeithasol.

Er enghraifft, ar yr ymgynghoriad ynglŷn â Phen-y-bont ar Ogwr, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, mae yna sgwrs yn sicr, nid yn unig gydag awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, ond mewn gwirionedd gyda phartneriaid yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, ac wrth gwrs Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn ogystal, am effaith bosibl y rheini. Felly, mae yna barodrwydd a chydnabyddiaeth fod angen i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n agosach. Mae byrddau partneriaethau rhanbarthol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn rhan o hynny, a phan fyddwch yn cynnal  ymgynghoriad, disgwyliaf y bydd hynny'n wir bryd hynny hefyd. Ond nid wyf yn credu o gwbl fod achos dros gamu'n ôl a rhoi diwedd ar yr hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd; mae angen i ni ddysgu a gwella, yn hytrach na gwasgu'r botwm saib ar newid, diwygio a gwella ein gwasanaeth iechyd.

Bydd fy ymgysylltiad â fy mwrdd iechyd yn llawer mwy anodd ar ôl digwyddiadau'r 24 awr diwethaf, mae'n rhaid i mi ddweud, gan fy mod yn gwybod bellach y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu'n rhydd â'r Llywodraeth, gyda'r bwriad o ddifenwi ymgysylltiad â'r bwrdd iechyd. Felly, hoffwn gadarnhau fy mod yn gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu cadarnhau heddiw pa wybodaeth arall sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymgysylltiad Aelodau'r Cynulliad â'u byrddau iechyd. Byddai'n ddefnyddiol gwybod beth sydd ganddo o'i flaen yn ei ffeil fach.

Ond o safbwynt y cyhoedd, er mwyn iddynt hwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau bwrdd iechyd, mae'n rhaid iddynt gredu bod y cynigion yn yr ymgynghoriad yn gredadwy. Nawr, un o'r cynigion yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, sy'n debygol o gael ei gyflwyno ym mis Mawrth, yw cynnig am ysbyty newydd sbon, rywle yn y gorllewin, i gymryd lle Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg. Er mwyn i hwnnw fod yn gynnig credadwy, i'w gymryd o ddifrif mewn ymarfer ymgynghori, ac ennyn ymateb credadwy gan y cyhoedd, mae'n rhaid iddo ddweud wrth y Siambr yma heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r arian cyfalaf os argymhellir ysbyty newydd sbon ar gyfer gorllewin Cymru. A fydd yn gwneud hynny, fel bod gan unrhyw ymgynghoriad rywfaint o hygrededd ynghlwm wrtho?

Credaf fod dau bwynt cyffredinol yno. Mae'r cyntaf mewn perthynas â'r pwyntiau a wnaethoch am ddifenwi Aelodau'r Cynulliad a'u hymdrechion i ymgysylltu â byrddau iechyd lleol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob Aelod Cynulliad yn ymgysylltu â'u bwrdd iechyd lleol ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd. Rydym newydd gael adolygiad seneddol sy'n nodi, unwaith eto, fod y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu trefnu ar hyn o bryd wedi gweithio'n dda i ni yn y gorffennol ond nad ydynt yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, mae angen i ni eu newid. A dyna'r her genedlaethol sy'n ein hwynebu. Credaf y dylai pob Aelod Cynulliad gymryd rhan briodol yn y sgwrs honno. Unwaith eto, mae angen i'r aeddfedrwydd a arweiniodd at yr adolygiad seneddol barhau yn y ddadl barhaus honno. Ac rwy'n credu, pan fo dadl yn y lle hwn, wrth gwrs, bydd cryn dipyn o ddadlau yn y Siambr. Nid yw fel pe bai Gweinidogion—[Torri ar draws.]

14:35

Gadewch i ni ganiatáu i'r Gweinidog gael ei glywed. Parhewch, Ysgrifennydd y Cabinet.

Nid yw fel pe bai Gweinidogion yn gyfan gwbl rydd o feirniadaeth a chwestiynau ynghylch cymhellion a gonestrwydd yn y lle hwn. Credaf ei bod yn bwysig fod Aelodau'n agored ac yn onest gyda'r cyhoedd a'r Siambr hon ynglŷn â beth yw ein safbwyntiau a lle rydym yn mynd. Ac mae honno'n safon i bob un ohonom anelu tuag ati.

O ran eich pwynt ynglŷn â lle rydym yn awr, Simon Thomas, gyda'r cynigion a allai ddod yn y dyfodol, rwyf wedi dweud yn y gorffennol, ac rwy'n bod mor agored a gonest ag y gallaf eto, nad wyf yn gallu nodi'r sefyllfa mewn perthynas â pha gynigion a fydd neu na fydd yn cael eu trafod a'u cyflwyno yn y gwanwyn, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi'i ddynodi. Buaswn yn annog pawb i ymgysylltu cyn hynny ac wedi hynny, ac os oes cynigion go iawn yn cael eu cyflwyno, wrth gwrs y byddwn yn edrych yn synhwyrol ar beth yw'r rheini. Ond fe wyddoch na allaf ddweud heddiw y byddaf yn dod o hyd i arian neu adnoddau ar gyfer penderfyniad yn y dyfodol oherwydd ni fyddai honno'n sgwrs agored a gonest, ac rydych yn gofyn i mi wneud rhywbeth cyn bod yna gynnig i mi ymateb iddo mewn gwirionedd.

Hoffwn atgoffa pobl—[Torri ar draws.] Hoffwn atgoffa pobl fod rôl i Weinidogion yn hyn, ond hefyd rydym wrthi'n adeiladu Ysbyty Athrofaol y Grange ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Mae'r adeilad yn cael ei adeiladu. Mae wedi bod yn drafodaeth a fu ar y gweill ers nifer o flynyddoedd yn dilyn cynnig, ac yn dilyn amryw o ffyrdd o edrych ar yr achos busnes, i gael cyfalaf yn barod i wneud hynny. Dewisais adael i'r achos cyfalaf fynd rhagddo ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn. Felly, roedd penderfyniad yno, un a wnaed gennyf fi, ac roedd hynny ar ôl gwneud a chytuno ar yr achos, gyda chefnogaeth y cyhoedd a chlinigwyr lleol ynglŷn â beth y dylid ei wneud i ad-drefnu'r system iechyd yn y rhan honno o Gymru.

Rwy'n cydnabod y gwahoddiad i ddweud rhywbeth byrbwyll ar y pwynt hwn, ond nid wyf am dderbyn ei gynnig caredig i wneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf ar lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y ffordd yn llunio cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer gweithwyr gofal. Ac yn ogystal â symleiddio'r system, mae hwn yn gyfle i ymateb i faterion newydd nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn y cymwysterau sy'n bodoli eisoes. Ceir mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus, er enghraifft, mewn perthynas â sepsis, ac er bod gweithwyr gofal yn debygol o gael rhywfaint o hyfforddiant mewn perthynas ag adnabod arwyddion o strôc, nid ydynt yn cael yr hyfforddiant hwnnw ar gyfer arwyddion o sepsis ar hyn o bryd, yn gyffredinol. O gofio bod rhai pobl sydd â chyflyrau cydafiachus yn fwy tebygol o ddatblygu sepsis nag eraill, ac y gellid drysu rhwng yr arwyddion ag arwyddion o gyflyrau eraill, a wnewch chi ofyn i Gofal Cymdeithasol Cymru ystyried cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth o sepsis fel rhan o'r cwricwlwm ar gyfer cymwysterau gweithwyr gofal?

Suzy, diolch yn fawr iawn am godi'r pwynt pwysig hwn. Yn ogystal â chodi'r pwynt hwn, byddai'n werth sôn am waith y grŵp trawsbleidiol ar sepsis, sydd wedi nodi pwysigrwydd hyn, yn arbennig ar draws hyfforddiant gofal cymdeithasol hefyd, ac edrychaf ymlaen at ymateb iddo ar ôl trafod gyda fy swyddogion.

Mae pawb ohonom yn ymwybodol iawn bellach o ymwybyddiaeth gynyddol o sepsis ac o bwysigrwydd diagnosis cynnar yn ogystal â thriniaeth gynnar. Mae'n amlwg, hyd yn oed gyda'r ymwybyddiaeth gynyddol a'r cynnydd yn nifer y bobl sydd â sepsis, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig, ac wrth gwrs, cynnydd yn nifer ein poblogaeth hŷn sydd â sepsis, fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i sepsis yn gostwng, ac mae'n bosibl fod hynny'n rhannol o ganlyniad i'r ymwybyddiaeth gynyddol, a'r cynnydd mewn hyfforddiant rydym yn ei wneud yn gyffredinol mewn perthynas â hyn. Gwyddom nad yw hi'n bosibl atal pob marwolaeth o ganlyniad i sepsis, ond gwyddom ei bod yn bosibl atal rhai. Felly, mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn gwbl hanfodol.

Nawr, mae'n anodd dod i gasgliadau pendant ar hyn o bryd o'r ffigurau blynyddol. Mae'n ymddangos ein bod yn wir yn gwneud rhywbeth yn iawn yng Nghymru gyda'n hyfforddiant a'n dull o weithredu. Ond edrychaf ymlaen at ymateb i'r sylwadau a wnaed heddiw, yn ogystal â gwaith y grŵp hollbleidiol ar sepsis, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio, nid yn unig ar draws y maes iechyd, ond ar draws gwaith cymdeithasol yn ogystal, fel y gallwn wneud yn siŵr fod cyfle, ar bob pwynt, i wneud diagnosis cynnar iawn a chael y driniaeth gynnar, a pharhau â'r gwaith da rydym yn ei wneud.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Dyna oedd fy mhwynt, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod gweithwyr ysbytai yn cael yr hyfforddiant hwn, ond nid yw gweithwyr gofal cymdeithasol o reidrwydd yn ei gael. A dyna pam yr hoffwn ei weld yn cael ei brif-ffrydio yn y cwricwlwm ar gyfer y cymwysterau.

Gan symud ymlaen at rywbeth arall yn awr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau mewn ateb ysgrifenedig i mi—y llynedd—fod awdurdodau lleol yn darparu arian cyfatebol ar gyfer yr arian a roddwyd gan Lywodraeth Cymru tuag at y rhaglen datblygu gweithlu gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, aethoch ymlaen i ddweud yn yr un ymateb fod 44c yn cael ei wario gan Lywodraeth leol am bob £1 a werir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud nad yw hynny'n swnio fel arian cyfatebol i mi. Er fy mod yn derbyn bod cynghorau'n brin o arian, rwy'n cofio eich rhagflaenydd yn rhyddhau arian ychwanegol i gynghorau yn amodol ar dystiolaeth i ddangos ei fod yn cael ei wario ar amcanion gwella gofal cymdeithasol. [Torri ar draws.] Mae arnaf ofn, do, fe wnaethoch. Mae gennyf y cwestiynau a'r atebion i brofi hynny. Gan fod y gronfa bellach yn cael ei goruchwylio gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a oes ganddynt bŵer i ofyn i awdurdodau lleol am fwy o gyfraniadau i'r gronfa ac a oes ganddynt lythyr cylch gwaith oddi wrthych ynglŷn â'r canlyniadau y gallech eu disgwyl, ac yn arbennig a yw Gofal Cymdeithasol Cymru efallai yn mynd i gyfyngu ar ei gostau gweinyddu ei hun wrth weinyddu'r gronfa honno?

14:40

Diolch yn fawr iawn. I fod yn glir, nid yw'r ffigurau sydd gennyf ar elfen yr arian cyfatebol yr un peth. Yn sicr, nid 44 y cant ydyw. O'r £7.15 miliwn o gyllid i'r rhanbarthau i ddarparu hyfforddiant gofal cymdeithasol gan Gofal Cymdeithasol Cymru, rwyf wedi cael gwybod bod awdurdodau lleol yn darparu arian cyfatebol ar 25 y cant o hwnnw—felly, chwarter hwnnw. Ond byddaf yn edrych ar y ffigur hwnnw o 44 y cant, oherwydd yn sicr nid yw hwn yn fater roeddwn yn ymwybodol ohono. Felly, ie, yn wir, os gall yr Aelod anfon hwnnw ataf fe edrychaf arno. Ond fel y gŵyr, o fewn hwnnw, mae blaenoriaethau eleni wedi cynnwys gofal a chymorth yn y cartref, maent wedi cynnwys recriwtio a chadw, datblygu gyrfa a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion pwysig hynny mewn perthynas â'r gwaith sy'n rhaid i ni ei wneud ar hyfforddi'r gweithlu, oherwydd mae cael pobl i weld bod hwn yn broffesiwn gwerthfawr yn ogystal â phroffesiwn lle y cânt eu gwerthfawrogi yn golygu ein bod yn buddsoddi mwy yn yr hyfforddiant a bod gennym gydberchnogaeth arno. Mae'n gydberchnogaeth drwy awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Rydym yn rhoi arian i mewn. Mae yna ddisgwyliad gyda'r arian cyfatebol y bydd awdurdodau lleol hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb. Ond wrth gwrs, byddwn yn cadw hyn o dan arolwg yn ogystal. Ond mae yna bellach bortffolio sylweddol o waith ar y gweill yn y maes hwn, a phan fyddaf yn ymweld â gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, rwy'n pwysleisio wrthynt yn gyson pa mor bwysig yw'r gwaith, ond hefyd bod angen i ni fel Aelodau Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, a hefyd awdurdodau lleol a phawb arall, werthfawrogi a siarad allan am werth y gwaith hwn, oherwydd gwyddom mai dyma'r rheng flaen go iawn o ran ein rhyngwyneb â rhai unigolion agored iawn i niwed.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi sôn rhywfaint am hyn ddydd Llun. Clywsant dystiolaeth fod bywyd gwaith cyfartalog gweithiwr cymdeithasol yn llai nag wyth mlynedd, tra gellid disgwyl, mewn cymhariaeth, i nyrs weithio am 16 mlynedd a meddyg am 25. Er bod hynny'n golygu bod angen hyfforddi gweithwyr cymdeithasol newydd o hyd, mae hefyd yn golygu bod prinder gwirioneddol o brofiad y gellir ei drosglwyddo i genedlaethau newydd, os mynnwch, o hyfforddeion a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.

O gofio'r hyn rydych newydd ei ddweud am gronfa'r gweithlu, sut rydych yn disgwyl gwella'r niferoedd sy'n cael eu denu at waith cymdeithasol, ac i aros mewn gwaith cymdeithasol, yn fwy pwysig? A ydych yn credu bod y cymwysterau newydd yn berthnasol i hynny? Pwy sy'n penderfynu ar y dangosyddion perfformiad allweddol y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru fod yn edrych arnynt er mwyn sicrhau cynnydd yn y ddau fater?

Mae yna ddau beth. Y cyntaf yw nad un ateb sydd i hyn—mae yna nifer fawr o ffyrdd y gallem fwrw ymlaen â'r gwaith hwn—ac yn ail gallaf ddweud na fydd yn digwydd dros nos. Ond rydych yn llygad eich lle yn dweud bod rhai o'r materion rydych eisoes wedi eu codi yn bwysig. Rydym yn gweithio gyda gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain i geisio dyfeisio pecyn priodol o gymhellion sy'n dangos mewn gwirionedd fod hwn yn lwybr gyrfa gwerthfawr, nid swydd yn unig. Mae'r sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos diwethaf yn arwyddocaol iawn sef y gallech fod yn gweithio ddwywaith neu deirgwaith cyn hired pe baech yn dilyn gyrfa nyrsio neu mewn meysydd eraill, a gweld hynny fel dilyniant gyrfa.

Gwyddom hefyd fod rhai gweithwyr cymdeithasol yn cael eu symud o waith cymdeithasol i lwybrau gyrfaol eraill yn ogystal. Rydych yn edrych yn benodol ar bethau fel gweithwyr gofal cartref o fewn gofal cymdeithasol. Felly, mae gwneud pethau fel ymestyn y gofrestr, fel rydym yn ei wneud yn awr—mae'n dasg anodd i ddarparwyr gofal cartref, rwy'n sylweddoli hynny, ond mae ymestyn y gofrestr o weithwyr gofal cartref ar sail gwirfoddol o 2018 ymlaen, cyn cofrestru gorfodol o 2020 ymlaen, yn rhan o hynny. Mae'n rhan hanfodol, oherwydd mae'n rhan hanfodol o'r broses o broffesiynoli'r gweithlu i sicrhau bod gennym weithwyr gofal cymdeithasol sy'n meddu ar gymwysterau priodol i ddarparu gofal cymwysedig i'r rhai agored i niwed yn ein cymdeithas.

Mae hefyd yn golygu gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu llwybrau gyrfa clir—nid swydd y byddwch yn mynd iddi heb fodd o gamu ymlaen, neu swydd y byddwch yn mynd iddi ac yn rhoi'r gorau iddi'n gynnar, fel y dangosodd y ffigurau, ond llwybr gyrfaol priodol y mae pobl yn gallu gweld y gallant ei ddatblygu dros amser hir o fewn yr yrfa hon, ac yn gallu gweld gyrfa mor werthfawr yw hi, gydag addysg a dysgu parhaus sy'n galluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu drwy eu gyrfa. A hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud—soniais am y rôl sydd gennyf yn hyn fel Gweinidog, ac rwy'n siŵr fod gan bob Aelod o'r Cynulliad rôl yn hyn yn ogystal, o safbwynt siarad ar ran y proffesiwn yn gyffredinol—mae hefyd yn ymwneud â gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu ymgyrch farchnata a recriwtio a chadw staff i roi cyhoeddusrwydd i'r ddelwedd gadarnhaol honno o'r hyn y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud.

Un pwynt terfynol: Rydym hefyd wedi darparu £19 miliwn o gyllid rheolaidd eleni i awdurdodau lleol weithio gyda darparwyr gwasanaethau i helpu i reoli effaith gweithredu'r cyflog byw cenedlaethol. Mae'r cyflog byw cenedlaethol ei hun yn rhan o'r llu o ffyrdd rydym yn dweud bod hwn yn broffesiwn gwerthfawr, gyda phobl werthfawr yn gweithio ynddo, ac rydym am weld mwy o bobl yn camu i'r maes ac yn aros ynddo'n hwy. Byddwn yn gwneud hynny a byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i wneud yn siŵr fod hon yn cael ei gweld fel gyrfa werth chweil ar gyfer y tymor hir.

14:45

Diolch yn fawr, Llywydd. A allaf i ofyn i'r Gweinidog ba asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o'r ymchwil yn y British Medical Journal yn ddiweddar sydd yn cysylltu toriadau i gyllideb gofal cymdeithasol efo graddfeydd lawer uwch o farwolaethau yn Lloegr?

Mae'r sylw wedi cael ei wneud yn dda a gwyddom fod yr amseroedd rydym ynddynt yn parhau o ran y pwysau estynedig ar y gyllideb, ac nid oes unrhyw bwynt anwybyddu'r lle hwn a sefyll ar fy nhraed a dweud ein bod yn gallu gwneud gwyrthiau rhyfeddol—rydym yn gweithio o fewn y cyfyngiadau sydd arnom. Yr hyn sydd gennym yng Nghymru, mae'n rhaid i mi ddweud, yw dull gwahanol iawn o weithredu mewn perthynas â'r hyn a wnawn ym maes gofal cymdeithasol ac ym maes iechyd, yn enwedig y dull a fabwysiadwyd gyda'r gefnogaeth drawsbleidiol, anwleidyddol a fu i'r adolygiad iechyd a gofal cymdeithasol, os edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r gronfa gofal canolraddol, yn y ffordd honno o weithio cydgysylltiedig. Felly, nid ydym yn chwilio am gyllid ychwanegol, er y buaswn wrth fy modd yn cael rhywfaint, Dai—buaswn wir. Ond mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn defnyddio'r cyllid sydd gennym ar hyn o bryd mewn ffordd glyfar.

Bûm yn ar ymweliad yng Nghaerdydd y bore yma gyda fy nghyd-Aelod Julie Morgan, yn edrych ar y ganolfan byw'n annibynnol, sy'n gwneud yn union hynny. Mae'n defnyddio cyllid gofal canolraddol, y buddsoddwyd £60 miliwn gennym ynddo dros y flwyddyn ddiwethaf, i edrych ar y ffyrdd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cydgysylltu er mwyn darparu'r gofal di-dor hwnnw a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi neu'n agosach at eu cartrefi am gyfnod hwy, ac yn well, fel nad ydynt yn gorfod cael ffurfiau drutach ar driniaeth a gofal yn ddiweddarach.

Felly, Dai, rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed yn yr adroddiad hwnnw, oherwydd mae'n dangos bod yn rhaid i ni barhau i feddwl ynglŷn â sut rydym yn gwneud y mwyaf o'r arian sydd gennym. Bydd yn gwybod hefyd, wrth gwrs, fod yna drafodaeth ar ardoll gofal cymdeithasol ymhlith y pedwar cynnig a gafodd eu trafod a'u cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad gan yr Ysgrifennydd Cyllid a fy nghyd-Aelod, Mark Drakeford. Credaf ei bod yn berthnasol fod hwnnw'n cael ei drafod yn awr oherwydd bydd yn rhaid i chi a fi a'n teuluoedd a'n hetholwyr ystyried o ddifrif, yn y tymor hwy, wrth i ni edrych ar y tueddiadau a nodwyd gennym yn y dangosyddion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru fel dangosyddion cenedlaethol o'r straen a fydd ar y system, sut yr awn i'r afael â hynny. Mae gweithio'n fwy clyfar yn rhan o hynny ac mae dod o hyd i'r arian yn rhan arall. Buaswn wrth fy modd yn meddwl y byddent, yn natganiad nesaf y Trysorlys gan Lywodraeth y DU, yn agor y llyfr siec ac yn dweud, 'Gadewch i ni roi rhywbeth yma mewn gwirionedd', fel y gallwn gael y symiau canlyniadol, ond rydym yn aros.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae ymchwil y BMJ yn dangos fod 22,000 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn yn Lloegr o achos torri cyllideb gofal cymdeithasol yn Lloegr—22,000 o bobl yn marw o achos y torri yn y gyllideb. Dyna beth y mae polisi llymder yn ei achosi. Ar ben hynny, achos gwnaeth y Llywodraeth yn Lloegr ddiogelu wariant ar iechyd—hynny yw 'ring-fence-io' iechyd yn Lloegr—bu i gyllid gofal cymdeithasol gymryd hit enfawr fel canlyniad. A dyna pam rŷm ni'n cael y 22,000 o farwolaethau yna: achos y toriadau yna ac achos nad oes digon o bres.

Nawr, mae pobl wastad yn dweud, 'Ddim jest pres yw e, Dai', ond, yn achos gofal cymdeithasol, arian yw e, a dweud y gwir, achos mae yna bobl mewn ysbytai pan ddylent fod allan o ysbyty. Dyna beth y canlyniad diffyg gofal cymdeithasol. Byddwn ni'n sôn am farwolaethau yn Ysbyty Glan Clwyd yn nes ymlaen. Pam mae'r bobl yna dal i fod yn yr ysbyty? Achos nad ydyn nhw'n gallu mynd allan ac yn ôl i'w cartrefi o achos diffyg gofal cymdeithasol a diffyg arian.

Fel rŷch chi wedi cyfeirio, yn sgil yr adolygiad seneddol i iechyd a gofal cymdeithasol gan Dr Ruth Hussey a phwysigrwydd canolog gofal cymdeithasol a'r galw am drawsnewid, a ydych chi, yn y bôn, yn mynd i alw am gynyddu'r gwariant ar ofal cymdeithasol, achos dyna beth sydd angen ei wneud—nid gwneud mwy efo'r arian sydd ddim gyda ni, ond galw am gynnydd yn y gwariant a chynnydd yng nghyllid yr integrated care fund?

14:50

Diolch i chi, Dai. Ambell beth yma: y cyntaf yw, fel y gwyddoch, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin—nid wyf eisiau cymharu â'r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin—yr hyn rydym wedi'i wneud yw, mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, sef y dull rydym yn ei fabwysiadu, yn seiliedig ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfwriaeth arall yma, gyda'r syniad o integreiddio. Yn yr un modd gyda'r cyllid, mae mwy o gyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru nag ar draws y ffin. Ond rydym yn dal i fod yn ymwybodol o'r straen ar y system.

Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r syniadau hyn o sut rydym yn defnyddio'r arian hwnnw yn fwy effeithiol—wel, rwyf wedi cael sawl cyfarfod, a chyfarfodydd cynhyrchiol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, dros yr ychydig fisoedd diwethaf y bûm yn y swydd, gyda'r partneriaethau rhanbarthol, er enghraifft. Mae'r syniad y dylem wneud mwy o gomisiynu ar y cyd—sut rydym yn cael gwell gwerth am ein harian, fel y gallwn ddweud, 'Wel, rydym wedi nodi beth yw anghenion llety gofal yr henoed'? Gallem gymhwyso hyn i feysydd eraill o feddwl yn ogystal. Sut rydym yn dweud ar y cyd, 'Fe edrychwn ar yr hyn sydd gennym gyda'n gilydd'? Sut y gallwn ni ddarparu ar gyfer hynny a chyflawni mwy ar lefel y rhanbarthau—darparu mwy o gartrefi gofal a darparu mwy o leoedd a gwell canlyniadau i bobl?

Un peth pwysig gyda hynny mae'n rhaid i mi ddweud, er mor anodd ydyw, yw'r mater o gyfuno cyllidebau. Mae hyn yn anodd, oherwydd mae pawb ohonom yn Aelodau etholedig—mae gennym feddylfryd Aelod etholedig yn ogystal ag eistedd yma'n meddwl am bolisi mewn ffordd strategol iawn. Gwyddom pa mor anodd yw hi i bobl ddweud, 'Wel, cyfuno cyllidebau—onid yw hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ildio rhywfaint?' Mewn rhai ffyrdd, ydi, ond os yw'n cyflawni'r canlyniadau cywir o ran gofal cymdeithasol, yna dylem fod yn edrych ar hynny.

Mae yna bethau yng Nghymru y gallwn eu gwneud yn fwy clyfar, yn fwy trefnus ac yn wahanol, a dylem fod yn gwneud hynny. Ond yn y pen draw, Dai, rwy'n cytuno â chi—mae yna her fwy wrth symud ymlaen, o ran iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n rhan o fyrdwn yr adolygiad iechyd a gofal cymdeithasol, sef edrych ar y ddau faes gyda'i gilydd. Mae proses ddi-dor y llwybr i rywun sy'n glaf neu'n etholwr i chi—nad oes rhaid iddynt feddwl am bwy sy'n ymdrin â hwy na pha awdurdod sy'n ei wneud, ond ei fod yn teimlo'n gofleidiol. Rwy'n argyhoeddedig, wrth i ni edrych ar rai o'r modelau gyda chyllid y gronfa gofal canolraddol, mai dyna'n bendant yw'r trywydd y dylem ei ddilyn.

Diolch eto. Fy nghwestiwn olaf i ydy: mae'r ymchwil yn y BMJ hefyd wedi darganfod mai un o'r pethau eraill llesol i atal marwolaethau, yn ogystal â rhagor o arian—rydym ni wedi ymdrin â'r pwynt yna—ydy presenoldeb nyrsys cofrestredig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Dyna beth mae'r ymchwil yn ei ddangos. Wrth gwrs, wrth i bawb drafod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn y Cynulliad diwethaf, gwnaeth eich Llywodraeth chi bleidleisio yn erbyn gwelliannau a fuasai wedi galluogi awdurdodau lleol i gyflogi nyrsys cofrestredig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Ond mae yna ffyrdd eraill o ddatrys y broblem yna. Felly, yn unol â'r dystiolaeth, pa gynlluniau sydd gennych chi, fel Llywodraeth, i gynyddu nifer y nyrsys mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fel rhan o unrhyw gynllun i liniaru effeithiau marwol y polisi o lymder o Lywodraeth San Steffan?

Wel, Dai, diolch i chi am godi'r pwynt hwnnw. Fel y gwyddoch, drwy'r ymgynghoriad a oedd yn rhagflaenu hyn, a oedd yn eithaf helaeth, ond hefyd drwy gyflwyno'r rheoliadau—amrywiaeth eang o reoliadau—mae'r hyn a wnawn gyda'r angen nyrsio hefyd yn rhan o hyn, yn enwedig mewn lleoliadau llety gofal. Yn draddodiadol, yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, mewn gwirionedd, yw 'Os gallwch ddarparu nyrs o fewn cartref gofal, yna mae popeth yn ardderchog ac rydych yn iawn', ond mewn gwirionedd, mewn rhai lleoliadau gofal, gwyddom y byddwch angen mwy na hynny. Mewn lleoliadau gofal eraill, efallai y bydd angen nyrsio drwy gydol y nos; mewn achosion eraill, bydd angen mwy yn ystod y dydd neu i'r gwrthwyneb. Felly, o fewn y cynigion rydym wedi bwrw ymlaen â hwy, rydym wedi cynnwys mwy o hyblygrwydd, ond nid yw hynny'n tynnu oddi wrth yr angen, Dai, i wneud yn siŵr ein bod yn darparu ar gyfer anghenion y rhai mewn lleoliadau cartrefi gofal; mae'n rhoi mwy o hyblygrwydd i'w wneud yn ôl anghenion yr unigolion hynny.

Nawr, mae hynny'n golygu, mae'n rhaid i mi ddweud, fod y cartrefi gofal hynny, a'r modd y cânt eu monitro yn ehangach, angen gwneud yn siŵr eu bod yn asesu anghenion eu preswylwyr yn fanwl ac yna'n darparu ar eu cyfer. Os yw hynny'n golygu mwy nag un nyrs, dylai fod mwy nag un nyrs. Os yw'n golygu mwy nag un yn ystod y nos, dyna y mae'n ei olygu, oherwydd gwyddom fod angen iddo fod yn seiliedig ar yr anghenion unigol yno a'r anghenion cyfunol yn y lleoliad gofal hwnnw.

Felly, mae wedi symud at ddull mwy hyblyg, a sylweddolaf fod hynny wedi peri i rai pobl ddweud, 'Wel, a yw hynny'n golygu nad ydym angen un ym mhob cartref?' Wel, yr hyn sydd ei angen yw'r lefel gywir o nyrsio ar gyfer pob lleoliad cartref gofal, a dyna beth rydym wedi ymrwymo i'w sicrhau.

14:55

Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, bu anhrefn mewn practisau meddygon teulu ac ysbytai ledled y wlad o ganlyniad i fethiant eang yn systemau TG y GIG, gyda llawer o feddygon teulu yn adrodd nad oeddent yn gallu cael gafael ar gofnodion cleifion. Disgrifiodd un meddyg teulu y sefyllfa fel un rwystredig iawn a braidd yn beryglus. Nid oedd ysbytai'n gallu cael gafael ar ganlyniadau profion a dywedwyd wrth un claf y byddai'n rhaid iddo aros am fis arall am ganlyniadau biopsi oherwydd yr ôl-groniad a achoswyd gan fethiant y systemau. Gobeithio y byddwch yn cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol. Ysgrifennydd Cabinet, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhesymau dros y methiant hwn, a pha wersi, os o gwbl, sydd wedi cael eu dysgu?

Ie, rwy'n cydnabod yr anghyfleustra a achoswyd i staff a chleifion yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn dilyn y digwyddiad yr wythnos diwethaf. Credir nad digwyddiad seiber ydoedd, sy'n gadarnhaol, ac yn wir, credir mai mater technegol ydoedd, er ei fod yn eang. Roedd yr holl systemau yr effeithiwyd arnynt yn gweithio'n iawn eto erbyn 8 o'r gloch ar yr un diwrnod. Mae yna her o ran dal i fyny gydag unrhyw oedi ac ôl-groniadau posibl. Mae gwaith pellach wedi'i wneud heddiw ar ddarparu wal dân newydd, ac yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae ein systemau mewn sefyllfa addas a phriodol i symud ymlaen. Ond wrth gwrs, mae yna gwestiwn ehangach ynglŷn â buddsoddi mewn TG i ddarparu mwy yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru newydd gyhoeddi y bydd y contract newydd ar gyfer systemau a gwasanaethau clinigol meddygon teulu yn cael ei ddyfarnu i Vision Health Ltd a Microtest Ltd. Mae hyn wedi achosi pryder i nifer o bractisau meddygon teulu sy'n defnyddio systemau a ddarperir gan EMIS Health Ltd. Mae practisau meddygon teulu wedi cael gwybod nad yw EMIS Health Ltd wedi bodloni nifer o'r meini prawf ar gyfer gwerthuso tendrau angenrheidiol ac y bydd angen i bractisau EMIS ddewis system amgen. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ar y rhesymau pam nad oedd EMIS Health Ltd yn llwyddiannus ar y cam tendro? Mae'n gysylltiedig â'r newyddion fod NHS Digital wedi gosod cosbau sylweddol o filiynau o bunnoedd am fethu bodloni gofynion cytundebol y contract GP Systems of Choice yn Lloegr?

Dylwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi bod yn esgeulus yn peidio â diolch i staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sydd wedi gweithio'n galed i ddatrys y mater technegol yr wythnos ddiwethaf ac i sicrhau nad oedd yr amhariad yn fwy eang, ac yn wir, fel rwy'n dweud, cafodd y mater ei ddatrys o fewn yr un diwrnod.

O ran EMIS a mater systemau i gefnogi meddygon teulu, rwy'n cydnabod ei bod yn her oherwydd mae nifer sylweddol o feddygon teulu yn defnyddio un o'r systemau hynny ar hyn o bryd. Ni allaf drafod y rhesymau llawn am hynny oherwydd mae yna gyfnod o her gyfreithiol ac felly ni allaf wneud datganiad llawn nes hynny. Ond rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gwybod bod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi cyhoeddi datganiad byr iawn, oherwydd roedd pwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain yn rhan o'r trafodaethau ynghylch tendro yn y dyfodol, ac maent hwy eu hunain wedi cydnabod, er ei fod yn anodd, eu bod o'r farn fod y penderfyniad cywir wedi cael ei wneud am fod yn rhaid i safonau gofynnol gael eu bodloni yn rhan o broses y contract. Ond rwy'n credu y bydd proses yr her gyfreithiol yn dod i ben tua diwedd yr wythnos nesaf neu ddechrau'r wythnos wedyn, ac os nad oes her, gellir gwneud datganiad llawnach.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth bynnag yw'r rhesymau dros y penderfyniad yn erbyn EMIS Health Ltd, mae hyn yn effeithio ar nifer o bractisau meddygon teulu ledled Cymru sydd wedi bod yn defnyddio system EMIS ers blynyddoedd lawer. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn pryderu y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar feddygon teulu a chleifion oherwydd maint y newidiadau sydd eu hangen i newid i system newydd. Mae yna ofnau y gallai hyn beri i feddygon teulu hŷn ymddeol yn gynt. Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych yn bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon nad oes gan y proffesiwn hwn, sydd eisoes o dan bwysau, amser nac adnoddau i newid i system TG newydd, ac a ydych yn hyderus fod y systemau newydd a ddarparwyd gan Vision a Microtest yn ddigon cadarn i atal methiannau tebyg i'r rhai a welsom ddydd Mercher diwethaf?

Credaf fod y materion yn wahanol, gyda pharch. Nid wyf yn credu bod y materion sy'n ymwneud â chanolfannau data yr un peth â'r meddalwedd a'r cymorth rydym yn siarad amdano i gefnogi meddygon teulu i weithio yn eu practisau. Ac fe af yn ôl at y datganiad a wnaed gan David Bailey, cadeirydd cyngor Cymru o Gymdeithas Feddygol Prydain, sydd hefyd yn feddyg teulu ei hun, ac mae ei bractis yn defnyddio systemau EMIS. Mae wedi cydnabod y bydd newid i system newydd yn broblem ymarferol i feddygon teulu, a dyna pam fod sgyrsiau eisoes wedi'u cynnal ynglŷn â'r hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen i helpu i symud practisau i feddalwedd newydd sy'n ateb ein gofynion ar gyfer y system sy'n rhaid i ni ei chynnal yma yng Nghymru. A dyna'r pwynt: mae'n rhaid i ni gael system sy'n cefnogi nodau ac amcanion y ffordd rydym eisiau rhedeg ein system yma, ac nid gadael i'n system gael ei gyrru gan ofynion cyflenwr meddalwedd allanol.

Rwy'n cydnabod yr heriau ymarferol ynglŷn ag a fydd rhai meddygon teulu yn dewis gadael y proffesiwn yn gynt nag y byddem eisiau iddynt ei wneud, wrth gwrs, os nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael cymorth i wneud hyn. Dyna pam fod natur barhaus ein sgwrs gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn bwysig. Rwyf eisiau rhoi sicrwydd iddynt fod yna awydd ac ymrwymiad gwirioneddol gan y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach i'w helpu i wneud hynny ac i barhau i ddarparu gofal rhagorol o ansawdd uchel i bob cymuned yng Nghymru.

15:00
Cynghorau Iechyd Cymuned

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hynt y cynlluniau i newid cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru? OAQ51680

Rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i ymatebion niferus yr ymgynghoriad ar y cynigion yn ein Papur Gwyn diweddar, gyda newidiadau i gynghorau iechyd cymuned yn un ohonynt. Mae swyddogion a minnau'n dal i drafod gyda chynrychiolwyr bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned mewn perthynas â'u hymateb adeiladol i'r Papur Gwyn. Bydd adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Wel, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu, os ydym am gael y ddadl aeddfed rydych eisiau i ni ei chael am ddyfodol y gwasanaeth iechyd, mae angen i ni gael sector cyngor iechyd cymuned sy'n gallu ymateb yn effeithiol i'r alwad honno yn ogystal â gwleidyddion. Credaf fod cynghorau iechyd cymuned yn hanfodol, ond mae gennyf rai amheuon o fy ardal fy hun o ran sut y maent wedi ymateb i broblemau blaenorol mewn perthynas ag Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn ddiweddar, mewn perthynas â sgandal Kris Wade. Ond nid yw hynny'n tynnu oddi ar fy nghred sylfaenol nad wyf yn credu y bydd corff Cymru gyfan yn datrys y broblem hon. I mi, mae'n ymwneud â cheisio rhoi canllawiau i'r cynghorau iechyd cymuned, rhoi safonau iddynt, safoni arferion ar draws cynghorau iechyd cymuned a gwneud yn siŵr eu bod yn weladwy. Yn wir, dywedodd cyn gadeirydd cyngor iechyd cymuned Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wrthyf mai hon yw'r gyfrinach fwyaf yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddatganiad eithaf syfrdanol gan gadeirydd cyngor iechyd cymuned. Felly, beth rydych yn ei wneud mewn perthynas â'r cysyniad hwn o gyngor iechyd cymuned Cymru gyfan? A fyddwch yn bwrw ymlaen ag ef, er gwaethaf yr amheuon hynny?

Fel rwyf wedi'i ddweud, rydym yn casglu'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rydym yn parhau i gael deialog adeiladol iawn ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â chynigion, ond credaf fod pob un ohonom eisiau gweld corff newydd sy'n rhoi llais i ddinasyddion ac sy'n gallu cwmpasu meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn briodol, ac ni allwch wneud hynny heb ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned, oherwydd nid yw eu cylch gwaith cyfredol fel y mae wedi'i nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ymestyn i'r maes gofal cymdeithasol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflawni hynny. Mewn gwirionedd, mae yna bobl sy'n rhannu eich safbwynt nad corff cenedlaethol ddylai'r ateb fod, ond mewn gwirionedd, mae gennym gorff cenedlaethol eisoes gyda bwrdd y cynghorau iechyd cymuned. Mae'n ymwneud â gwneud iddo weithio a sicrhau y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r pryderon sydd gan bobl ynghylch sefydlu corff cenedlaethol mewn un lleoliad anghysbell—boed yng Nghaerdydd, Aberystwyth neu Fangor—ac ni fyddai gan hwnnw statws lleol a threfniant lleol i sicrhau presenoldeb o fewn cymunedau lleol. Felly, mae'r pryderon hynny'n cael ystyriaeth ddifrifol, a chan fod gennym yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'n bod wedi symud ymlaen wedyn i gael yr hyn y gobeithiaf y byddant yn gynigion ar gyfer Bil, mae'r rhain yn amlwg yn faterion lle bydd angen nodi'n fanwl sut rydym yn argymell y dylid mynd i'r afael â hwy, ond nid yw'r sgyrsiau hynny wedi'u cwblhau.

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod Bethan Jenkins wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn, ac maent yn bwyntiau sydd wedi'u gwneud i nifer o Aelodau Cynulliad ledled Cymru. Cyfarfûm â fy nghyngor iechyd cymuned lleol y llynedd, ac roeddent yn bryderus am rai o'r cynigion posibl a fyddai'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Nid ydynt yn gwrthwynebu newid, ac maent yn deall bod yn rhaid i'r system, y sector, newid. O ran y strwythur—a yw'n gorff cenedlaethol neu'n gorff lleol—rhywbeth i chi ei benderfynu yw hwnnw yn y pen draw, ond a wnewch chi sicrhau, fodd bynnag, eich bod yn gwrando ar gleifion, sicrhau bod lleisiau cleifion yn rhan o'r system hon, pa strwythur bynnag y gallai fod? Gadewch i ni beidio â cholli'r agwedd hanfodol honno ar system gyfredol y cynghorau cyngor cymuned, sy'n gweld gwirfoddolwyr yn mynd i ysbytai, sy'n gweld problemau gyda hapwiriadau ar lawr gwlad, problemau y mae cleifion yn eu hwynebu. Dyma'r hyn rydym angen ei glywed yn cael ei fwydo'n ôl i'r system mewn gwirionedd; nid ydym eisiau biwrocratiaeth lle nad yw llais y claf yn ganolog.

Mae hyn wedi bod yn rhan o'r sgwrs adeiladol a synhwyrol iawn rydym wedi'i chael: sut rydym yn sicrhau bod llais go iawn i gleifion, llais i'r dinasyddion, ar draws iechyd a gofal cymdeithasol? Sut y mae trefnu hynny mewn ffordd ymarferol i ystyried y rhannau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ein system ac i fynd i'r afael â rhai o'r heriau nad oes neb yn awgrymu eu bod wedi gweithio'n dda? Mae rhan o'r ffocws wedi bod ar y gallu i gyngor iechyd cymuned neu ei olynydd gynnal ymweliadau mewn gwirionedd, ac mae yna her ynghylch gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n amharu ar ofal cleifion ond sydd, mewn gwirionedd, yn gwneud yn siŵr bod yna fynediad ynghyd â'r gallu i gynnal ymweliadau dirybudd yn ogystal, ond heb ddrysu rhwng y genhadaeth o gael corff sy'n rhoi llais i ddinasyddion a gwaith arolygiaethau ffurfiol—Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae yna densiwn yno i'w ddatrys, oherwydd pan gafodd y cynghorau iechyd cymuned eu creu nid oedd gennym y sefydliadau arolygiaeth ffurfiol eraill hynny. Felly, mae'n ymwneud â sicrhau bod eglurder yn y genhadaeth nad yw'n atal yr ymweliadau pwysig hyn ar gyfer deall a chlywed yn uniongyrchol gan ddinasyddion wrth iddynt dderbyn gofal a chymryd rhan mewn gofal eu hunain. Felly, rwy'n cydnabod y problemau ac wrth gwrs, byddant yn rhan o'n hystyriaeth wrth symud ymlaen.

15:05

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Papur Gwyn yn awgrymu bod rolau arolygu'n cael eu dyblygu gan gynghorau iechyd cymuned ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ond mae arolygiadau cynghorau iechyd cymuned, mewn sawl ffordd, yn eithaf gwahanol. Maent yn ddirybudd a gallant ddigwydd ar unrhyw adeg, maent yn cynnwys cleifion a pherthnasau ac maent hefyd yn cynnwys ymweliadau dilynol. Felly, mae'n ymddangos i mi fod yna elfen bwysig yno a'i bod yn hanfodol nad ydym yn ei cholli mewn gwirionedd.

Roedd un swyddogaeth bellach, a oedd, unwaith eto, yn rhan o'r cyflwyniad a wneuthum yn dilyn ymgynghoriadau amrywiol, sef rôl y cynghorau iechyd cymuned yn y broses gynllunio. Rwyf wedi codi hyn gyda phractisau meddygon teulu, ond y ffaith amdani yw, lle mae gennym, er enghraifft, ddatblygiadau tai mawr, ceir diffyg ymgysylltu priodol gyda'r byrddau iechyd a'r practisau meddygon teulu lleol ar effaith datblygiadau o'r fath, a hefyd, ceir y rôl bwysig y gallai cynghorau iechyd cymuned ei chwarae, o bosibl, yn y cyd-destun hwnnw. Mae'n hanfodol fod y rôl yn cael ei chryfhau ac mae'n un bwysig y mae gwir angen i ni ei datblygu nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, ond gallai fod yn un o swyddogaethau hollbwysig y cynghorau iechyd cymuned yn y dyfodol.

Gan ymdrin â'ch ail bwynt yn gyntaf ynglŷn â'r broses gynllunio ehangach, wrth gwrs ei bod yn sgwrs ar draws y Llywodraeth am ein system gynllunio, a'r ffordd, pan fo eiddo preswyl newydd yn arbennig yn cael ei greu, mae hynny'n cael effaith ar wasanaethau ehangach, megis y gwasanaeth iechyd, sy'n un amlwg, ac ysgolion yn enghraifft arall a thrafnidiaeth yn rhannau amlwg yr effeithir arnynt. Felly, mae angen edrych ar sut y mae gwahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd, a'r gweithredwyr o'i amgylch, yn gallu cymryd rhan yn y broses a chael llais a sgwrs briodol am realiti effaith y datblygiad yn y dyfodol. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt cyffredinol rydych yn ei wneud.

Ar y pwynt ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng ymweliad cyngor iechyd cymuned ac ymweliad arolygiaeth ffurfiol, mae cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn cydnabod bod potensial ar gyfer dyblygu, ac nid yw hynny'n ddefnyddiol. Mewn gwirionedd, maent yn ceisio cynnal protocol rhyngddynt eu hunain ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn benodol er mwyn ceisio gwahaniaethu rhwng y gwahanol rolau sydd ganddynt a sut y dylent ategu ei gilydd. Rhan o'r hyn y byddwn eisiau ei wneud wrth ddatblygu'r Papur Gwyn yw gwneud hynny'n glir fel y bydd yn gwneud synnwyr i'r dinesydd, ond hefyd i'r arolygiaeth a'r bobl sy'n mynd i gyflawni'r gwaith hwnnw, oherwydd rwy'n cydnabod bod gwerth gwirioneddol ynddo.

Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51664

Diolch. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd yng Ngorllewin De Cymru ddarparu gwasanaethau sylfaenol y tu allan i oriau sy'n diogel ac yn effeithiol i ymateb i anghenion gofal iechyd brys pan fydd practisau ar gau. Y pwynt cyswllt a mynediad yng Ngorllewin De Cymru bellach yw'r gwasanaeth 111.

Ysgrifennydd Cabinet, yn ddiweddar cynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain arolwg o feddygon teulu sy'n cynnig gwasanaethau y tu allan i oriau. Nid yw bron i hanner yr holl ymatebwyr yn darparu unrhyw wasanaethau y tu allan i oriau. Gofynnwyd i'r meddygon teulu hynny nodi'r prif rwystrau i ddarpariaeth y tu allan i oriau: dywedodd 64.3 y cant mai gorflinder o ganlyniad i bwysau dyddiol oedd y prif rwystr. Yn fy rhanbarth i, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar practis wedi cau ac mae 13 ar restr y bwrdd iechyd lleol o bractisau sydd mewn perygl o gau, ac mae 12 pellach wedi nodi bod eu dyfodol yn ansicr. Os bydd mwy o bractisau'n cau, ni fyddwn yn gallu darparu gwasanaethau digonol o fewn oriau gwaith arferol, heb sôn am y tu allan i oriau. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i fynd i'r afael â phwysau gwaith i alluogi nifer fwy o feddygon teulu i ddarparu gofal y tu allan i oriau?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt am ddyfodol gofal iechyd lleol. Mae'n mynd yn ôl at rai o'r cwestiynau a drafodwyd gennym yn gynharach. Mae ceisio cynnal y system gyfredol sydd gennym mewn perygl o fethu yn y dyfodol ac roedd yna neges glir iawn yn yr adolygiad i bob un ohonom ei hystyried.

Yn y Siambr hon, rydym wedi cael nifer o sgyrsiau am ddyfodol gofal iechyd lleol a sut olwg fydd arno. Rydym wedi sôn am y ffaith bod meddygon teulu yn gweithio fwyfwy mewn timau integredig. Mae llawer o feddygon teulu yn gwneud hynny eisoes ac mae rhannau eraill o'n gweithlu meddygon teulu yn dal i fod ar y daith honno. Ac wrth i ni ddysgu mwy am glystyrau a'r ddadl a gawsom yn y Siambr hon yn ddiweddar, byddwn yn dysgu mwy am yr hyn sy'n gweithio, a rhan o'r her y mae'r adolygiad Seneddol wedi'i gosod ar ein cyfer wedyn ac ar gyfer y Llywodraeth yn benodol yw: sut rydym yn galluogi hynny i ddigwydd yn fwy cyson ar draws y wlad? Sut y gallwn ledaenu dysgu a rhannu dysgu a chael llai o oddefgarwch o arferion lleol nad ydynt yn arferion da? Sut y mae gwneud y gwaith yn haws ac yn well i feddygon teulu? Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud ac mae mynediad a brysbennu'n rhan o'r sgwrs angenrheidiol honno yn ogystal. Wedyn, mewn gwirionedd, bydd gennym swydd well ar gyfer meddygon teulu sydd eisoes yn y system. Ond wrth gwrs, gyda 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' rydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth geisio cael mwy o hyfforddeion i ymuno â'n system yn ogystal. Felly, mae angen i ni ddiogelu'r bobl sydd eisoes yn y system a gwneud yn siŵr fod eu gwaith yn rhoi mwynhad iddynt, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n edrych tua'r dyfodol yn hytrach nag at orffennol a oedd yn bodoli ac sydd wedi ein gwasanaethu'n dda dros yr 20 neu'r 30 mlynedd diwethaf, ac ar yr un pryd, sicrhau bod gyrfa fel meddyg teulu yn yrfa ddeniadol sy'n cadw pobl yng Nghymru. Wrth gwrs, mae yna sgwrs gyffredinol i'w chael bellach gyda'r cyhoedd yn ehangach mewn perthynas â'r ffordd y mae meddygon teulu eu hunain yn cael eu hyfforddi.

15:10

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cynllun 111 yn ne-orllewin Cymru oherwydd, yn amlwg, mae honno'n un ffordd o wneud dewis doeth a sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ac yn osgoi defnyddio gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn ddiangen. Ond rydym hefyd angen gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau gyda rhai pethau angenrheidiol. Fel y cyfryw, rwy'n ymwybodol fod yna heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau hyn oherwydd nad yw meddygon teulu yn barod i gymryd y practisau hynny. Yn fy ardal fy hun, Castell-nedd Port Talbot, mae pryder difrifol iawn am rai o'r sesiynau a gymerir gan feddygon teulu a'r ffaith bod prinder meddygon teulu i wneud y gwaith. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau nad ydym yn colli'r gwasanaeth hwnnw yn yr ardal? Oherwydd pan fo pobl Cwm Afan yn gorfod mynd at feddyg teulu—os byddant yn gorfod mynd i Dreforys yn y pen draw, mae'n ffordd hir iawn ac maent yn annhebygol o fynd yno ar eu pen eu hunain: maent yn ffonio am ambiwlans yn y pen draw. Nid dyna sut y dylem ei wneud. Dylem fod yn gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau yno ar eu cyfer yn lleol os oes angen.

Ie, ac rwy'n credu mai dyna'r pwynt: os oes angen, a phwy yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir. Rhan o lwyddiant 111 yw'r ffaith mai'r rhan fwyaf o'r system a gyflwynwyd yn Lloegr oedd grŵp o atebwyr galwadau anghlinigol gydag algorithm mewn gwirionedd—sgript i'w darllen. Yn aml, roedd hynny'n fwy gofalus ac yn cyfeirio pobl at adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad hynny, o reidrwydd, oedd y peth cywir i'w wneud. Yng Nghymru, rydym wedi treulio mwy o amser yn datblygu desg glinigol briodol. Felly, mae gennych feddyg teulu fel arfer, mae gennych nyrs a fferyllydd fel arfer, a bellach rydym yn cyflwyno therapydd, ac mae yna ffisiotherapydd yn aml. Felly, rydych yn cael y tîm ehangach hwnnw'n ateb yr alwad yn y lle cyntaf yn ogystal, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus. Cafwyd tystiolaeth a gwerthusiadau gan ganolfan ymchwil feddygol Prifysgol Sheffield, sy'n dangos bod cyflwyno'r 111 yma yng Nghymru wedi bod yn arfer da a bod rheswm da dros ei gyflwyno'n ehangach. Rhaid i hynny fynd ochr yn ochr â'r cadernid ychwanegol o gael y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol, gan gynnwys meddygon teulu wrth gwrs, o fewn y gwasanaeth. Rwy'n cydnabod bregusrwydd rhai rhannau o'r system yma yng Nghymru; dyna pam y bydd cael 111 yn iawn yn gwneud gwahaniaeth go iawn fel y bydd y meddygon teulu sy'n cymryd rhan eisiau parhau i staffio ein gwasanaeth y tu allan i oriau.

'Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru'

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am 'Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014? OAQ51677

Diolch i chi am ddod â'ch copi eto. Mae'r fframwaith cenedlaethol yn nodi proses ar gyfer y GIG, gan weithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, i asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwysedd ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG a chomisiynu a darparu gofal priodol ar gyfer oedolion mewn modd cyson ledled Cymru. Mae'n destun adolygiad ar hyn o bryd.

Dyna'r newyddion roeddwn eisiau ei glywed: y ffaith bod y ddogfen hon yn destun adolygiad, sydd, wrth gwrs, ar gyfer oedolion, ac mae'r ddogfen hon hefyd yn destun adolygiad, sef y ddogfen ar gyfer gofal parhaus i blant. Mae'r ddwy ddogfen gyda'i gilydd yn cynrychioli'r daith y gallai plentyn fynd arni, o blentyndod i fywyd fel oedolyn, ac rwy'n cael yr argraff bendant nad yw gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi'r ddogfen hon ar hyn o bryd, a chyfrifoldeb gwasanaethau iechyd yw'r ddogfen hon. Yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r ffaith fy mod wedi clywed mai ymarfer tacluso yw'r adolygiad. Wel, cyhoeddwyd dogfen y plant yn 2012 a dogfen yr oedolion yn 2014. Credaf ein bod angen rhywbeth mwy sylfaenol nag ymarfer tacluso. Credaf ein bod angen adolygiad sylfaenol, a fydd yn ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd a'r comisiynydd plant i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r gwendidau sy'n cael eu cydnabod yn y dogfennau hyn ac yn lleihau'r angen i fyrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol alw am arweiniad cyfreithiol yn y dyfodol a darparu llawer mwy o sicrwydd nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.

Credaf fod hwnnw'n bwynt teg. Yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn a ofynnoch i'r Prif Weinidog—ac rwy'n cydnabod y pwynt a wnaethoch am gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol—byddwn angen cefnogaeth y maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â'r ddwy ran, nid yn unig o ran pontio, ond o ran cael y system yn iawn mewn gwirionedd. Felly, wrth adolygu hynny, rydym yn disgwyl y bydd partneriaid a rhanddeiliaid eraill yn cymryd rhan, ac rwyf hefyd yn falch o ddweud, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, y bydd swyddfa'r comisiynydd plant yn rhan o'r adolygiad hwnnw yn ogystal. Felly, mae gennym y bobl iawn gyda'i gilydd ar yr adeg iawn i edrych ar y ddwy ddogfen gyda'i gilydd, a gobeithio wedyn y byddant yn gwella'r system sydd gennym. Y realiti yw y bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud o hyd mewn perthynas â gofal iechyd parhaus. Dyna pam fod integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn bwysig iawn, i geisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i ddinasyddion lywio drwy'r system ac fel nad oes rhaid iddynt ddeall system gymhleth ac anodd eu hunain. Felly, dylai'r holl bethau hyn gyda'i gilydd wneud gwahaniaeth i'r unigolyn mewn gwirionedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad dilynol ar y mater penodol hwn yn 2015 ac roedd yn nodi nad oedd rhai byrddau iechyd wedi dangos eu bod yn gallu mynd i'r afael â'r hawliadau roeddent yn gyfrifol amdanynt mewn ffordd amserol, a bod rhai hawlwyr yn cael eu trin yn afresymol. A ydych bellach mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwn, ac a allwch gadarnhau bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru  yn ymdrin â hawlwyr yn rhesymol a chyfrifol bellach, fel y gall pobl fod â hyder yn y system gyfan?

15:15

Rwy'n deall y pryder sy'n cael ei leisio, ac rwy'n siŵr, fel gydag Aelodau eraill, fy mod wedi cael etholwyr yn lleisio rhai pryderon am y broses yn y gorffennol gyda mi yn rhinwedd fy swydd fel Aelod lleol. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae gwelliant sylweddol wedi bod o ran mynd i'r afael ag ôl-groniad yr hawliadau, i geisio eu datrys, ac rwyf wedi cael sicrwydd bod byrddau iechyd wedi gwella'r sefyllfa. Ni fuaswn eisiau ceisio gosod safbwynt absoliwt oherwydd mae lle i wneud camgymeriadau mewn unrhyw wasanaeth meidrol bob amser. Os yw'r Aelodau'n ymwybodol o heriau unigol sy'n bodoli, buaswn eisiau iddynt godi hynny gyda'u byrddau iechyd. Os nad ydynt yn cael ymateb yno, gallant bob amser ysgrifennu ataf fi. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bwysau ar y system gyfan, ond wrth gwrs rwyf bob amser yn fodlon dysgu o adolygiad pellach ac rwy'n siŵr y cynhelir un ar ryw adeg yn y dyfodol.

Tiwmorau Niwroendocrin

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan achosion o diwmorau niwroendocrin yng Nghymru? OAQ51647

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau ar gyfer tiwmorau niwroendocrin. Mae comisiynau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gofalu am gleifion yng ngogledd Cymru, ac mae'n gweithio gyda byrddau iechyd i roi argymhellion ei adolygiad gwasanaeth ar gyfer de Cymru ar waith er mwyn edrych ar sut y gellir cefnogi cleifion yn well.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch un o fy etholwyr, Janet Lewis, enillydd haeddiannol gwobr nyrs endocrin 2018 am ei harweinyddiaeth yn dyfeisio atebion i wella darpariaeth gofal iechyd a chydraddoldeb ar gyfer cleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin? Yn fwy cyffredinol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chleifion Cymru a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i'w gwneud yn ymwybodol o'r gwasanaethau arbenigol sy'n cael eu cynnig ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, fel y gallant elwa ar arbenigedd Janet a'i chydweithwyr?

Wel, gadewch i mi ddechrau drwy gydnabod cyflawniad etholwraig yr Aelod, Janet Lewis. Rwyf bob amser yn falch o glywed am weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yng Nghymru yn cael ei chydnabod gan ei phroffesiwn am ragoriaeth a chyflawniad. Mae'n dweud rhywbeth ynglŷn â'r ffaith ein bod yn gwella ystod o'n gwasanaethau yma yng Nghymru, ac nid yw hynny bob amser yn cael ei gydnabod mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae yna ragoriaeth go iawn o fewn y gwasanaeth yma, ac mae hon yn un enghraifft o hynny. Oherwydd roedd yn deillio o adolygiad a oedd yn cydnabod nad oeddem yn gwneud yn ddigon da. Ar ôl yr adolygiad hwnnw, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr cleifion yn ogystal mewn gwirionedd, roeddent yn weddol hyderus ein bod wedi edrych ar y pethau cywir, ac mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei gyflwyno'n ehangach. Cafwyd adolygiad gan gymheiriaid arall i wirio cynnydd, ac roedd hwnnw'n nodi nifer o feysydd ar gyfer gwelliant pellach gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro eu hunain. Unwaith eto, mae yna rywbeth am ddysgu, a'r ffaith eu bod yn awr, mewn gwirionedd, yn bod yn rhagweithiol ac yn sicrhau bod pobl, drwy drefniadau comisiynu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, yn ymwybodol at ei gilydd o'r rhagoriaeth sydd bellach yn cael ei datblygu o fewn Caerdydd a'r Fro ac a fydd ar gael i bobl ar draws de Cymru yn ogystal.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa ystyriaethau a roddir i sgrinio cleifion sy'n wynebu risg uwch o gael tiwmorau niwroendocrin, megis perthnasau dioddefwyr neu gleifion sy'n dioddef o syndromau teuluol prin megis neoplasia endocrinaidd lluosog neu syndrom Von Hippel-Lindau, gan fod cysylltiad genetig clir iawn wedi'i sefydlu â phob un o'r rheini? Rwy'n meddwl tybed a oes angen iddynt gael eu sgrinio'n awtomatig yn hytrach nag aros nes bod ganddynt y clefyd.

Daw hyn yn ôl at un o'r heriau sy'n ein hwynebu. Buaswn bob amser yn hoffi pe gallem gael rhaglen sgrinio sy'n effeithiol o ran y gwerth a gawn ohoni, o ran yr arian a hefyd o ran y canlyniadau a'n helpu i ganfod achosion yn gynnar. Ond rhan o'n anhawster yn y maes hwn yw nad oes dealltwriaeth lawn o'r hyn sy'n achosi tiwmorau niwroendocrin. Fel gyda phob maes, lle rydym yn ystyried cael rhaglen sgrinio rydym yn edrych am dystiolaeth wyddonol ddilys. Mae pawb ohonom yn hoffi cael ein harwain gan dystiolaeth, yn hytrach na chan ddogma, ar y mater hwn ynglŷn â beth y dylem ei wneud. Felly, os oes yna broses a arweinir gan dystiolaeth ynghyd â rhaglen sgrinio briodol ar gyfer unigolion sy'n wynebu mwy o risg, byddwn yn edrych ar hynny o ddifrif wrth gwrs, ac fel gyda phethau eraill, yn ystyried ei gweithredu yma yng Nghymru.

Atal Afiechyd

7. Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau i atal afiechyd yng Nghymru? OAQ51653

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid uniongyrchol i nifer o sefydliadau cenedlaethol, gwasanaethau, rhaglenni a dulliau sy'n seiliedig ar leoliadau gyda'r bwriad o atal afiechyd. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu, rhaglenni imiwneiddio a rhaglenni ysgolion a gweithleoedd iach.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rwy'n credu ei fod wedi cael ei dderbyn yn eang, ac rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn sicr yn cefnogi symudiad tuag at ymagwedd fwy ataliol wrth ymdrin ag afiechyd yng Nghymru, a bod yn fwy rhagweithiol. Lle y ceir enghreifftiau, megis yr enghraifft arbennig o dda yng Nghasnewydd, rwy'n credu, lle mae'r bwrdd iechyd lleol yn gweithio gyda Newport Live, fel y sefydliad gwasanaethau hamdden, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd ac amrywiaeth o gyrff chwaraeon, i geisio cael poblogaeth leol fwy gweithredol er mwyn bod yn ataliol mewn perthynas ag afiechyd—. Pan fo sefydliadau'n cydweithio'n dda ar lefel leol yn y ffordd honno, pa gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei gynnig i hwyluso ac annog? Gwn fod sôn wedi bod o'r blaen, er enghraifft, am fondiau lles fel un cyfrwng posibl i gefnogi cynlluniau peilot mewn ardaloedd lleol yng Nghymru, ac rwy'n meddwl tybed a yw hwnnw'n bosibilrwydd o hyd neu a oes unrhyw ffordd arall y gallai Llywodraeth Cymru gynnig y cymorth hwnnw.

15:20

Mae un neu ddau o bethau penodol i siarad amdanynt, ac eithrio'r pethau cyffredinol, neu'r £600,000 o arian sy'n mynd drwy Chwaraeon Cymru i Gasnewydd ar gyfer gwasanaethau cyllid craidd a gwasanaethau cyllid y Gist Gymunedol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y bond lles yn faniffesto o ymrwymiad ac mae wedi'i gynnwys yn 'Ffyniant i Bawb', y strategaeth genedlaethol. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar hynny yn y misoedd nesaf.

Ceir amrywiaeth o wahanol feysydd lle rydym yn cymryd camau ac yn cefnogi gweithgarwch. Ceir dull ataliol mwy cyffredinol mewn gwasanaethau gofal iechyd, ond mae gweithio gyda phartneriaid eraill, a'r bartneriaeth barhaus ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd a Chwaraeon Cymru, yn un bwysig. Rwy'n disgwyl y byddaf yn cyfarfod â fy nghyd-Weinidog, nad yw yn y Siambr ar hyn o bryd, i gael y sgwrs honno am y gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru wedi bod yn ei wneud ar y cyd. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn yr hyn y mae'r chwaraeon proffesiynol yn ei wneud i hyrwyddo, nid yn unig chwaraeon, ond gweithgarwch corfforol ehangach, a dyna pam, fel enghraifft ar wahân i weithgarwch corfforol, y clywch am Ken Skates a theithio llesol.

Rydym yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau. Cefnogwyd grwpiau cerdded gennym ym mis Rhagfyr—cyllid pellach i sefydlu grwpiau cerdded lleol drwy Dewch i Gerdded Cymru, gyda chyllid i'w cynnal hyd at Ebrill 2019. Rydym yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau. Rydym yn cydnabod nad oes gan bawb ddiddordeb yn y byd chwaraeon. Sut y gallwn ennyn eu diddordeb mewn gweithgarwch corfforol mwy cyffredinol, a sut y mae ei gwneud yn haws i bobl ymgymryd â'r gweithgarwch hwnnw a gweld y manteision drostynt eu hunain, ac nid i'r Llywodraeth yn unig?

Fis Tachwedd diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain bapur sefyllfa newydd ar y defnydd o e-sigaréts, a dyfynnaf yr hyn a ddywedai:

Mae yna fanteision clir posibl i'w defnydd yn lleihau'r niwed sylweddol sy'n gysylltiedig â smygu, ac mae consensws cynyddol eu bod gryn dipyn yn llai niweidiol na defnyddio tybaco. Gyda rheoliadau priodol, mae gan e-sigaréts botensial i wneud cyfraniad pwysig tuag at uchelgais Cymdeithas Feddygol Prydain i sicrhau cymdeithas ddi-dybaco, gan arwain at nifer gryn dipyn yn llai o bobl yn marw o ganlyniad i glefydau sy'n gysylltiedig â thybaco.

O ystyried hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y bwriadwch eu cymryd i hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts yng Nghymru fel dewis amgen yn lle smygu tybaco? Diolch.

Rwy'n credu y dylem feddwl eto am yr iaith a ddefnyddiodd yr Aelod: fe ddywedoch fod e-sigaréts yn llawer llai niweidiol na thybaco. Nid yw hynny'n golygu nad ydynt, eu hunain, yn niweidiol; mae'n ymwneud â chydbwysedd y niwed. Ac mae hefyd yn golygu cydnabod nad ydym bob amser yn deall beth sy'n cael ei gynnwys mewn e-sigarét. Cawsom y ddadl hon yn ystod y tymor hwn gyda'r Bil iechyd y cyhoedd, ac yn ystod y tymor diwethaf yn ogystal cafwyd newid safbwynt mewn perthynas â'n gallu i reoleiddio yn y maes hwn. Mae rhywbeth ynglŷn â'r gallu i reoleiddio'r cynhyrchion, oherwydd mewn gwirionedd, os nad ydych yn gwybod beth sy'n cael ei gynnwys mewn e-sigarét, mae hynny braidd yn anodd, a chredaf fod rhywbeth yno y dylem barhau i'w ystyried. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad o hyrwyddo e-sigaréts. Mae yna benderfyniadau i bobl eu gwneud eu hunain, fel dinasyddion y wlad. Credaf fod yn rhaid i ni, fel y dywedais yn gynharach, barhau i gael ein harwain gan dystiolaeth o ran yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud, yr hyn y gallem ac y dylem ei hyrwyddo.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.

Ffigurau marwolaethau mewn adrannau achosion brys

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau marwolaethau mewn adrannau achosion brys yng Nghymru? 120

Fe godoch y mater hwn ddoe gyda'r Prif Weinidog, wrth gwrs, ac fe'i gwnaeth hi'n glir nad yw'r ffigurau'n ystyried oedran, amddifadedd nac afiechyd. Rwyf am eich cyfeirio'n ôl at ei sylwadau:

'Nawr, roedd y mesur penodol yr adroddwyd amdano yn ymwneud â niferoedd bach ac nid yw wedi ei addasu ar sail oedran o ganlyniad i hynny. Oedran sy'n debygol o fod y prif reswm pam mae'r ffigur hwn yn ymddangos yn uchel, ac mae'n adlewyrchu'r ffaith mai Conwy sydd â'r ganran uchaf o bobl dros 75 oed yng Nghymru gyfan.'

'Mae ffigurau mwy diweddar gan y bwrdd iechyd yn dangos rhywfaint o ostyngiad i'r ffigur uchaf a adroddwyd. Mae'r cyfraddau marwolaeth cyffredinol yn yr ysbyty ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru.'

Fel y gwyddoch, mae poblogaeth Conwy bob amser wedi bod yn hŷn na rhannau eraill o Gymru, ac yn wir, yn hanesyddol, mae'r ffigurau marwolaethau yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn is na chyfartaledd Cymru. Felly, yn sicr nid yw oedran yn esgus dros y cynnydd anhygoel a welsom mewn cyfraddau marwolaeth yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys honno yn y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi mwy na dyblu ers 2012, ac mae arnaf ofn na fydd eich ymateb hunanfodlon yn bodloni cleifion yng ngogledd Cymru sydd eisiau gwybod pam eu bod bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw yn yr ysbyty hwnnw nag y maent mewn ysbytai eraill ledled y wlad, ac mae'r sefyllfa yno i'w gweld yn waeth o lawer na'r sefyllfa yn Wrecsam ac ym Mangor.

Mae hyn yn peri pryder sylweddol i fy etholwyr, ac mae llawer ohonynt wedi cysylltu â mi yn dilyn yr adroddiad, ac mae clinigwyr wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn bryderus ynglŷn â'r cyfraddau marwolaeth hyn. Maent yn dweud mai'r broblem fwyaf yn yr ysbyty yw diffyg mynediad at welyau ysbyty fel nad yw'r unigolion yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys mewn lleoliad gofal addas i allu gofalu am eu hanghenion, a dyna pam fod pobl yn marw'n ddiangen yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys.

O gofio mai dyna yw barn y clinigwyr a'r nyrsys sydd wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon, a ydych yn derbyn bod yr esgus llipa rydych wedi'i roi hyd yn hyn yn anfoddhaol? A wnewch chi ymrwymo i gynnal ymchwiliad ar unwaith fel y gallwn sefydlu a yw'r sefyllfa'n cael ei hachosi gan brinder gwelyau? A pha sicrwydd a rowch y bydd canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw yn cael eu cyhoeddi, fel bod y cyhoedd yn gallu gweld pa gamau rydych yn eu cymryd, o ystyried bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig ac yn cael ei redeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru?

15:25

Nid oes gennyf unrhyw fwriad o gwbl o gael fy ngwthio i ymddwyn yn anghymedrol gan weiddi a iaith yr Aelod gyferbyn sy'n fwriadol arswydus. Yn anffodus, mae ganddo hanes yn hyn o beth.

Nid yw'n wir o gwbl fod y Llywodraeth yn hunanfodlon. Nid yw'r ffaith fy mod yn dewis cadw'n dawel ac yn peidio â chymryd rhan mewn ffrae swnllyd yn golygu nad wyf yn poeni am y gwasanaeth ac nad oes gennyf ddiddordeb mewn gwella. Mae'n siomedig iawn fod system agored rydym wedi'i rhoi ar waith mewn byrddau iechyd, i fod yn agored ac yn dryloyw, yn cael ei henllibio yn y modd hwn, a chithau'n gwybod yn iawn nad yw'r ffigurau hyn wedi cael eu haddasu i ystyried ffactorau eraill. Rydych yn gwybod hynny. Rydych wedi gweld y briff ffeithiol sy'n datgan hynny.

Ac rwy'n credu o ddifrif hefyd y dylai'r Aelod ystyried y ffaith, o fewn ein system yma yng Nghymru, mai ni yw'r unig wlad yn y DU—[Torri ar draws.]

Darren Millar, rydych wedi gofyn eich cwestiynau, gwrandewch ar yr atebion yn awr.

Ni yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi cynnal adolygiad llawn o bob marwolaeth sy'n digwydd mewn ysbyty. Mae pobl eisoes yn mynd ati'n fwriadol i ddysgu o'r marwolaethau sy'n digwydd mewn ysbyty. Rwy'n disgwyl iddynt gael diwylliant agored sy'n dysgu o fewn ein gwasanaeth iechyd, ac i ymrwymo'n briodol i wella ansawdd a gwella canlyniadau i bobl. Os ydym yn mynd i weithio mewn system lle mae unrhyw ymgais i gyhoeddi data'n agored ac yn dryloyw yn cael ei defnyddio yn y ffordd hon, i godi ofn—ac nid wyf yn derbyn bod fersiwn Darren Millar o'r digwyddiadau yn cynrychioli barn y gymuned glinigol yn Ysbyty Glan Clwyd nac unrhyw ran arall o'r wlad—yna byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle na fydd gwelliant yn digwydd mor gyflym ag y gallai ac y dylai ei wneud mewn gwirionedd. Rwy'n cymryd fy nghyfrifoldebau o ddifrif, a chredaf fod ein clinigwyr yn gwneud hynny hefyd. Ac mae'n wir fod canlyniadau'r adolygiadau hynny ar gael yn gyffredinol er mwyn inni allu gweld y dysgu sy'n digwydd o bob un o'r adolygiadau hynny. Ac yn wir, mae rhannau eraill o system y DU bellach yn awyddus i ddysgu o'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru er mwyn dysgu'n briodol o bob marwolaeth sy'n digwydd mewn ysbyty.

Wel, rwy'n gobeithio nad ydynt yn dysgu o Ysbyty Glan Clwyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond buaswn yn dweud, fel y dywedodd y cyngor iechyd cymuned ddoe, byddech yn disgwyl i'r ffigurau fod yn uwch, ond ymddengys bod y ffigurau hyn yn afresymol ac yn anghymesur o uchel mewn perthynas â'r gwahaniaeth demograffig sydd gennym yn y rhan arbennig honno o Gymru. Felly, buaswn yn gofyn eto i chi ystyried gofyn i berson annibynnol neu gorff annibynnol adolygu'r ffigurau hynny, fel y gallwn gael yr hyder sydd gennych chi—ac mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu eich hyder—nad oes problem fwy systemig ar waith yma sy'n achosi'r ffigurau pryderus hyn yn Ysbyty Glan Clwyd.

A gaf fi ofyn hefyd, o ystyried eich bod yn cydnabod bod yna anghenion demograffig arbennig yn y rhan benodol honno o'r wlad, a ydych yn hyderus fod gan y bwrdd ddigon o adnoddau i fynd i'r afael â'r rheini? Oherwydd os oes ganddynt, mae cwestiwn arall yn codi o ran y ffordd y mae'r bwrdd yn cael ei reoli o dan eich goruchwyliaeth chi yn y cyswllt hwn.

Rwyf am ddyfynnu o'r cyhoeddiad ei hun:

Mae'r siart canlynol yn dangos nifer y marwolaethau am bob 10,000 ymweliad â phob adran ddamweiniau ac achosion brys. Dylid pwysleisio bod y ffigurau a gofnodir yn farwolaethau bras, ac yn wahanol i farwolaethau mewn mannau eraill yn yr ysbyty, ni wneir unrhyw ymgais i "safoni". O ganlyniad, ni roddir ystyriaeth i ffactorau fel oedran a difrifoldeb salwch, ffactorau y gwyddys y gallant effeithio ar y risg o farwolaeth.

Gallwn naill ai gael sgwrs lle rydym yn ymosod ar y bwrdd iechyd ac yn ceisio awgrymu, rywsut, fod yna gyfrifoldeb gwleidyddol dros gyfradd farwolaeth annerbyniol, neu gallwn geisio deall beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Buasai'n llawer gwell gennyf ddeall beth sy'n digwydd a dysgu o hynny. Dyna pam y cyhoeddir y ffigurau hyn. Dyna pam y cynhelir adolygiad o bob marwolaeth yn yr ysbyty. Ac unwaith eto, nid wyf am gael fy ngwthio i awgrymu na ellir ymddiried yn yr arweinyddiaeth glinigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae yna heriau ar draws ein gwasanaeth iechyd, ac ni fyddaf yn rhoi'r bai ar ein staff gweithgar am ystod o feysydd lle y gwyddom fod gwelliant i'w weld yno eisoes mewn gwirionedd, ac mae'r ffigurau hyn yn rhan o hynny.

A buaswn yn atgoffa pawb yn y Siambr hon, mewn perthynas ag adnoddau, mai bwrdd iechyd gogledd Cymru yw'r bwrdd iechyd sydd â'r adnoddau gorau yn y wlad, fesul y pen. Ac mewn gwirionedd, ein her yw canfod sut y gallwn gael mwy o werth o bob £1 rydym yn ei wario ar y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Nid wyf yn ystyried hwn yn fater sy'n ymwneud ag adnoddau ariannol. Os ydych yn edrych ar gyfanswm yr arian sydd gennym ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwirionedd, rydym yn bendant iawn mewn adeg o gyni a'i effaith ar wasanaethau cyhoeddus.

15:30

Wel, ar ran fy etholwyr yn Aberconwy, hoffwn ddiolch i Darren Millar am godi'r mater hwn unwaith eto yn y Siambr. A rhaid imi ddweud fy mod yn hynod siomedig ddoe ynglŷn â'r sylwadau gwamal a wnaed gan ein Prif Weinidog mewn ymateb i'r cwestiwn a ofynnodd Darren Millar iddo ddoe, gan awgrymu mai oedran yw'r prif reswm pam y mae'r ffigur hwn i'w weld yn uchel yn ôl pob tebyg. Rydym yn sôn am bobl sydd wedi marw.

Nawr, pan edrychwch ar y ffigurau, o'u cymharu â phoblogaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ym mis Hydref, nodais mai'r bwrdd oedd â'r lefel uchaf o ddigwyddiadau diogelwch cleifion a ddosberthir fel rhai cymedrol, difrifol neu farwolaeth yng Nghymru, gan gynnwys 41 o farwolaethau damweiniol. Nawr, yn y ffigurau sy'n cael eu cyflwyno, mae fy nhad fy hun yn un o'r ystadegau hynny—marwolaeth ddamweiniol yn deillio o lawdriniaeth.

Ond gadewch i mi fynd â chi'n ôl i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Yn y cyfnod hwnnw o 18 mis olaf o fywyd fy nhad, cefais lawer o brofiadau o gael fy nal yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys gydag ef, wedi fy nal gyda phobl eraill ar drolïau mewn coridorau, a dynion ambiwlans yn methu mynd yn ôl at eu hambiwlansys. Nid yw'r system, llif cleifion drwy'r ysbyty, yn dda. Ond fe ddywedaf wrthych: mae eich holl Aelodau Cynulliad gogledd Cymru yma, ar sawl achlysur, a'n Hysgrifennydd Cabinet, wedi nodi'r ffaith bod problemau—problemau difrifol—o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Bellach, mae'r cyfan rwyf wedi—. Rydych wedi cael eich beio a'ch cyhuddo o haerllugrwydd ffroenuchel. Ddoe, fe'ch cyhuddais o ddiffyg diddordeb. Profwch fi'n anghywir, profwch bawb yn anghywir. Dewch gyda mi—gadewch i mi fynd â chi drwy'r wardiau, lle mae pobl yn gwisgo cathetrau, lle y gwelwch jygiau llawn o ddŵr lle nad oes neb wedi yfed drwy'r dydd, lle y gwelwch fagiau cathetr bron â byrstio. Dowch gyda ni, Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yna, os dowch gyda ni—byddai'n braf pe bai'n ddirybudd; rwy'n barod i wneud hynny—ac fe ddangosaf olygfeydd gwrthun i chi.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi ein cyhuddo o siarad gwleidyddol gorchestol. Nid oes unrhyw siarad gwleidyddol gorchestol yn werth y gofid y bydd rhywun yn ei deimlo pan fyddwch wedi colli rhywun sy'n annwyl o ganlyniad i driniaeth wael yn un o'ch ysbytai. Nid wyf yn beio'r meddygon ymgynghorol. Nid wyf yn beio'r staff. Rwy'n beio'r broses. Nid yw'n ymwneud ag arian. Mae'n ymwneud â gweithdrefn. Mae'r ysbyty hwn o dan eich rheolaeth uniongyrchol, ac nid yw'n gwella dim. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnewch rywbeth. Gwnewch rywbeth ar ran yr holl etholwyr sy'n dod ataf—

Iawn. Mae gennyf ddau adroddiad ombwdsmon roedd yn rhaid i mi eu rhoi i'r ombwdsmon: un lle roedd rhywun yn angheuol wael, ac un yn awr, lle roedd gennyf etholwr, o ganlyniad i'r problemau hyn—. Roedd y ddau'n adroddiadau lles y cyhoedd adran 16. Felly, mae'r dystiolaeth yno, pe baech chi ond yn gwrando. Os gwelwch yn dda, er lles pob claf sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, neu'r rhai sydd yno eisoes, os gwelwch yn dda gwnewch rywbeth.

Wel, ni allai neb fethu â chydnabod y galar rydych chi'n amlwg yn ei deimlo yn sgil colli eich tad. Ac mae'n wirioneddol ddrwg gennyf am eich colled. Fy ngwaith, wrth gyflawni'r rôl hon ar ran pobl Cymru, yw edrych ar sut rydym yn gwella gwasanaethau ar draws y system, er mwyn deall sut y gellir defnyddio enghreifftiau unigol i ddysgu oddi wrthynt, a dyna'r ffordd rydym yn nodi gwelliant yn ansawdd ein system. Nid grymuso'n unig a wnawn, rydym yn disgwyl i bobl fod yn rhan o'r gwaith o wella ansawdd o fewn ein gwasanaeth. Ac mewn gwirionedd, yn Ysbyty Glan Clwyd, mae ganddynt gyfraddau marwolaethau gwell na'r cyfartaledd ar ôl llawdriniaethau dewisol a brys fel ei gilydd. Felly, mewn gwirionedd mae ganddo record gyffredinol dda. Nawr, nid yw hynny'n golygu na fydd yna byth gamgymeriad, oherwydd nid oes gennym system sy'n berffaith, ac nid yw'n deg i ni ddisgwyl safon berffaith gan neb wrth iddynt ddarparu gwasanaeth iechyd gwladol. Ond byddwn bob amser yn edrych am welliant pellach, ac er yr holl angerdd a galar sy'n bodoli ac rwy'n ei gydnabod gan yr Aelod, nid wyf yn credu y dylwn fod yn barod i dderbyn y cyhuddiadau a wneir am fy uniondeb a fy niddordeb yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy'n rhan o fywyd cyhoeddus oherwydd fy mod eisiau helpu i wneud ein gwlad yn well. Mae gwneud y gwaith hwn yn fraint wirioneddol, ac yn bendant mae gennyf ddiddordeb mawr yng ngorffennol, presennol a dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol. Dyna pam rwy'n gwneud y gwaith hwn. Dyna pam y byddaf yn parhau i wneud y gwaith hwn, ac i weithio ochr yn ochr â phobl ym mhob rhan o'n gwasanaeth iechyd gwladol i geisio gwneud yn siŵr fod y dyfodol yn un gwell, ac y gwnawn bopeth y gallwn ei wneud gyda'r adnoddau sydd gennym i ddarparu gwell gofal iechyd ym mhob cymuned yng Nghymru, a dyna'n bendant yw fy ymrwymiad gonest a diffuant.

15:35

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf felly gan Simon Thomas. 

Effaith gadael yr UE ar Gymru

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar Gymru ar sail y dadansoddiad o dair sefyllfa gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddatgelwyd ddydd Llun? 123

Diolch, Llywydd. Rydym wedi cyhoeddi dadansoddiadau ar effaith gyffredinol gadael yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd mewn meysydd megis buddsoddi ranbarthol a mudo. Bydd ein papur masnach yn cael ei gyhoeddi yn fuan, wedi ei seilio gan ddadansoddiadau annibynnol. Nid ydym wedi gweld dogfen Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei ddatgelu'n answyddogol. Rydym yn galw ar yr Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd i gyhoeddi ei dadansoddiad.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd e'n ymwybodol, o leiaf, o adroddiadau'r wasg, bod y dadansoddiad yma yn edrych ar dair sefyllfa: sefyllfa aros yn y farchnad sengl i bob pwrpas, sefyllfa o adael o dan reolau'r World Trade Organization, a sefyllfa o ryw fath o gytundeb masnach rydd o'r fath y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn sôn amdano.

Mae'r dair sefyllfa yn edrych dros 15 mlynedd, ac, ym mhob un sefyllfa, mae yna ddirywiad a gostyngiad yn y twf dros y 15 mlynedd, yn amrywio o 2 y cant o dan y farchnad sengl i 8 y cant o dan WTO. Mae'r effaith yn ei dro ar Gymru yn mynd i fod yn andwyol iawn, gan ein bod ni yn fwy exposed o lawer i rai agweddau, yn enwedig o dan reolau WTO, er enghraifft, y sector cig coch, gweithgynhyrchu, ceir ac ati, Airbus—jest fel enghraifft o beth all ddigwydd fan hyn. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet beth mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud nawr i gael gafael ar y dadansoddiad yma?

Rwy'n deall bod San Steffan heddiw wedi cytuno ryw ffordd i rannu'r papurau yma gyda Aelodau Seneddol mewn ystafell gaeedig. Nid ydw i'n meddwl bod hynny'n hen ddigon da o gwbl. Mae angen i ni hefyd fan hyn weld y dadansoddiad yma. Rŷm ni yn cynrychioli buddiannau Cymru gymaint ag os nad yn fwy nag Aelodau Seneddol o Gymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru weld y dadansoddiad yma; rydw i am i Lywodraeth Cymru ofyn yn benodol am hynny. Ac, wrth gwrs, gan fod Llywodraeth yr Alban, a Maer Llundain ei hunan, wedi comisiynu'n annibynnol adroddiadau ac asesiadau ar effaith economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd, pam na wnewch chi ddim gwneud hynny, a chyhoeddi hynny yn ogystal?

Mae'n hen bryd i ni sylweddoli beth yw gwir gost gadael yr Undeb Ewropeaidd. Oes, mae yna benderfyniad i adael y sefyllfa wleidyddol, ond mae gadael y farchnad sengl a'r undeb dollau yn mynd i dalu yn ddrud iawn i economi Cymru. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod y dylai'r wybodaeth sydd yn nwylo Llywodraeth y DU fod ar gael i'r cyhoedd, dylid sicrhau ei bod ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd, nid fel y dywedodd Anna Soubry, AS Ceidwadol, yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, yn y ffordd chwerthinllyd y mae Llywodraeth y DU bellach i'w gweld yn barod i ryddhau'r wybodaeth hon i Aelodau Tŷ'r Cyffredin mewn ystafell wedi'i chloi, er y gall aelodau o'r cyhoedd ddarllen y rhan fwyaf ohoni ar y rhyngrwyd unrhyw bryd y byddant yn mynd i edrych. Fe'i disgrifiodd fel achos o ryw fath o wallgofrwydd cyfunol yn y Llywodraeth. A dyna'n union yw ein galwad ar Lywodraeth y DU, sef lle y ceir gwybodaeth a fydd yn helpu i alluogi pobl i benderfynu drostynt eu hunain ynglŷn â'r mater pwysig hwn, fod rhwymedigaeth arnynt—y wybodaeth hon y maent wedi'i chomisiynu—i sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i eraill. O ran Llywodraeth Cymru, fel mater o drefn rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth a gomisiynwn. Yn y papur ar y cyd a gyhoeddwyd gennym ni a Phlaid Cymru flwyddyn yn ôl, gwnaethom gynnwys yn y ddogfen honno ddadansoddiad gan y prif economegydd ac eraill o gyflwr y wybodaeth ar y pryd. O fewn yr ychydig ddyddiau nesaf, bwriadwn gyhoeddi'r dadansoddiad a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd o effaith Brexit ar gwmnïau mawr yma yng Nghymru, fel rydym eisoes wedi addo i wahanol bwyllgorau Cynulliad. Wrth inni gael gwybodaeth, ac wrth inni gyhoeddi dogfennau, rydym bob amser yn cyhoeddi'r dadansoddiad annibynnol a ddefnyddiwn i ddod i'r casgliadau a wnawn, fel bod y wybodaeth honno ar gael i bobl a fyddai'n dymuno dod i gasgliadau gwahanol.

15:40

Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddigwyddiad ymgynghori adeiladol iawn a llawn gwybodaeth gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid yma yn Nhŷ Hywel ar berthynas Cymru gyda'r UE yn y dyfodol. Fel pwyllgor, mae angen inni fod yn gwbl ymwybodol o'r holl gynllunio senarios a dadansoddiadau ar gyfer y dyfodol i ymateb i randdeiliaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chawsant eu cynrychioli'n llawn ddydd Llun. Felly, buaswn hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi'n llawn y ddogfen a ddatgelwyd yn answyddogol ar effaith Prydain yn gadael yr UE, sy'n rhagweld y byddai twf economaidd yn llai o dan amrywiaeth o senarios posibl. Felly, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am egluro, mewn ymateb i Simon Thomas, ei ddull o gynllunio senarios a'r papurau rydych wedi'u cyhoeddi eisoes a'r ffaith eich bod yn cyhoeddi—mae hyn ar y gweill—y papur masnach a phapurau eraill, ac yn cytuno, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, ei bod hi'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn yn cael y wybodaeth lawn ar gyfer craffu ar ddull Llywodraeth y DU o weithredu ar Brexit. Ddydd Llun, bydd aelodau ein pwyllgor yn ymweld â Toyota yng ngogledd Cymru ac Aston Martin yn fy etholaeth. Onid ydych yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol cael y dadansoddiad hwn i'n cynorthwyo yn ein hymweliadau?

Wel, rwy'n sicr yn cytuno. Wrth gwrs y byddai'n ddefnyddiol i'r pwyllgor gael y wybodaeth honno. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, o ddarllen adroddiadau papur newydd am y gwaith a gomisiynodd Llywodraeth y DU, mae'n cynnwys rhyw elfen o ddadansoddiad rhanbarthol. Felly, byddai hynny'n ddefnyddiol dros ben i'r pwyllgor o ran gwybod lle mae'r senarios gwahanol a gwmpesir yn y gwaith hwnnw yn rhagweld effaith y tri llwybr gwahanol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru yn benodol. Ac mae'n synhwyrol i Lywodraeth y DU gynllunio senarios yn y modd hwn, ond nid yw cynllunio senarios yn y dirgel yn help o gwbl i'r gweddill ohonom, a bydd darparu gwybodaeth yn y ffordd y mae Jane Hutt wedi awgrymu yn ddefnyddiol i bwyllgorau yma ac i fusnesau ac i ddinasyddion cyffredin sydd eisiau deall effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu bywydau eu hunain.

Fe fyddwch yn gwybod, fel Gweinidog y Llywodraeth, fod yn rhaid i chi gael rhyddid i ofyn i'ch swyddogion wneud gwaith cynllunio heb orwelion, gan gynnwys yr holl opsiynau, ynghyd â rhai a fydd yn eich brawychu efallai,  fel y gall y Llywodraeth benderfynu yn breifat beth i'w flaenoriaethu, ei gyflwyno, ei gynnig a'i wneud yn gyhoeddus. Edrychodd drafft cynnar o ddadansoddiad parhaus i gefnogi paratoadau a negodiadau Brexit Llywodraeth y DU ar drefniadau parod gwahanol sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ogystal ag amcangyfrifon allanol eraill. Ni wnaeth nodi na mesur manylion y canlyniadau a ddymunir, sef partneriaeth newydd ddofn ac arbennig gyda'r UE yn ôl yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, na rhagweld casgliadau'r negodiadau. Roedd hefyd yn cynnwys nifer o gafeatau ac roedd yn hynod ddibynnol ar nifer o ragdybiaethau lle roedd angen llawer mwy o waith er mwyn gwneud defnydd o'r dadansoddiad hwn a llunio casgliadau. Mewn gwirionedd felly, roedd y dadansoddiad hwn a ddatgelwyd yn answyddogol o dair senario yn anghyflawn. Fel Gweinidog yn y Llywodraeth, felly, sut rydych yn ymateb i'r ddyletswydd glir sydd gan Weinidogion y Llywodraeth i beidio â chyhoeddi unrhyw beth a allai greu risg o amlygu safbwyntiau negodi hyd nes y byddant wedi penderfynu beth yw eu safbwyntiau negodi ac wedi cyrraedd y cam lle na fyddai gwybodaeth o'r fath yn eu rhoi dan anfantais pan fyddant yn dod o amgylch y bwrdd gyda phartïon eraill?

15:45

Nid oes gennyf wrthwynebiad o gwbl i Weinidogion y DU gomisiynu dadansoddiad sy'n edrych ar amrywiaeth o senarios, pa un bynnag o'r senarios hynny y maent yn credu y gallai fod yn ddefnyddiol. Mae'n beth synhwyrol iddynt ei wneud. Ond mae arnaf ofn fod Mr Isherwood yn darllen cylchlythyr ddoe o'r swyddfa ganolog ac nid un heddiw, oherwydd heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i wneud hyn i gyd yn gyhoeddus. Felly, mae arnaf ofn fod yr holl bethau yr oedd yn bryderus amdanynt, a'r pethau roedd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn bryderus amdanynt ddoe, wedi diflannu heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin.

Os oes gan Lywodraethau bryderon fod dogfennau y maent yn eu rhyddhau'n gyhoeddus yn cynnwys gwybodaeth a allai fod yn niweidiol i les y cyhoedd, yna gallant olygu'r rhannau o'r wybodaeth a fyddai'n cael yr effaith honno wrth gwrs. Nid yw'n esgus dros fethu sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd sy'n caniatáu i ddadl gyhoeddus briodol am y mater pwysicaf a wynebwn yn ystod oes y Cynulliad hwn a thu hwnt gael ei chynnal ar sail y dadansoddiad a'r wybodaeth ehangaf posibl.

Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod tryloywder yn beth da ac nad oes unrhyw reswm pam na ddylid cyhoeddi astudiaethau o'r fath, oherwydd wedyn gallwn ddod i'n casgliadau ein hunain, fel y mae'n dweud. Ond a fyddai'n cytuno â mi fod ymgais i ragweld sut olwg fydd ar y byd ymhen 15 mlynedd, yn enwedig pan ddaw'r rhagfynegiadau hynny gan  economegwyr, yn debygol o fod o fawr mwy o werth na dyn hysbys yn archwilio ymysgaroedd iâr? Pe bai astudiaeth o'r fath wedi'i chynnal yn 1990, ni fyddai neb wedi nodi bodolaeth Google, Amazon neu Facebook. Dyna dri o'r cwmnïau mwyaf yn y byd bellach.

Yr hyn y dylem ei wneud, efallai, yw edrych ar ragolygon y bobl sydd wrth wraidd hyn. Roedd rhagolygwyr y Trysorlys, yn union ar ôl y refferendwm, yn rhagweld y byddai'r economi, dros y tri mis canlynol, yn crebachu 1 y cant; yn wir, fe dyfodd 0.5 y cant. Roeddent hefyd yn rhagweld y byddai twf negyddol yn y pedwar chwarter canlynol. Yn wir, rydym wedi cael twf ym mhob chwarter ers mis Mehefin 2016. Roeddent hefyd yn rhagweld, ddwy flynedd ar ôl y refferendwm, y byddai cynnyrch domestig gros yn gostwng -3 y cant i -6 y cant. Mewn gwirionedd, yn 2016, tyfodd yr economi 1.9 y cant, ac yn 2017, tyfodd 1.8 y cant. Roedd hefyd yn rhagweld y byddai diweithdra'n cynyddu rhwng 500,000 a 800,000. Mewn gwirionedd, mae diweithdra bellach ar ei isaf ers dechrau'r 1970au. Rhagwelai hefyd y byddai benthyca'n cynyddu bron £40 biliwn; mewn gwirionedd, mae lefelau benthyca'r Llywodraeth wedi gostwng 12 y cant ac mae bellach yn is nag y bu ers 2007. Felly, buaswn yn cynghori Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â threulio gormod o amser yn archwilio'r darn penodol hwn o nonsens.

Wrth gwrs, po bellaf yr awn mewn amser oddi wrth heddiw, y mwyaf anfanwl fydd ymdrechion o'r fath i ragweld y dyfodol. Fodd bynnag, pe bai'r iâr benodol hon wedi bod yn awgrymu y byddai economi'r DU yn tyfu 8 y cant o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n siŵr y byddai'r Aelod wedi bod yn llawer mwy caredig ei agwedd tuag ati.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn yn awr at y datganiadau 90 eiliad. Ceir un y prynhawn yma—Russell George.

Yn fuan, bydd Opera Canolbarth Cymru yn dathlu ei degfed pen-blwydd ar hugain. Ganed y syniad o Opera Canolbarth Cymru ym Meifod, Sir Drefaldwyn, yn 1988, a dechreuodd gyda golygfeydd o operâu yng nghanolfan opera canolbarth Cymru dan arweiniad yr athrawon cerddoriaeth, Barbara McGuire a Keith Darlington. Mae Opera Canolbarth Cymru yn dal i fod yn weithredol iawn heddiw, a'r llynedd llwyfannodd 27 o berfformiadau—y mwyaf erioed gan y cwmni mewn un flwyddyn—gan deithio o Aberdaron i Rydaman a sawl man yn y canol.

Maent yn dod ag opera proffesiynol wedi'i lwyfannu'n llawn i ganol cymunedau ar draws Cymru a'r gororau, gyda pherfformiadau prif lwyfan bob gwanwyn, a rhaglen deithiol gymunedol ar lwyfan bach bob hydref. Mae eu taith prif lwyfan o opera gan Tchaikovsky yn cynnwys cast o 15 a cherddorfa o 12 o Fangor. Ar hyn o bryd, maent yn ymarfer yng nghanolfan Hafren yn y Drenewydd ar gyfer perfformiad agoriadol ddydd Sadwrn 24 Chwefror, cyn mynd ar daith i Aberystwyth, Bangor, Casnewydd, yr Wyddgrug, Llanelli, Aberdaugleddau a Henffordd. Rwy'n bendant o'r farn ei bod hi'n wych gweld opera deithiol broffesiynol yn cael ei gwneud yn y Drenewydd ac yn agor yn y theatr yno cyn mynd ar daith.

15:50
5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Contractau preswyl lesddaliad

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gontractau preswyl lesddaliad. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6626 Mick Antoniw, David Melding, David Rees, Siân Gwenllian

Cefnogwyd gan Mike Hedges, Julie Morgan, Jenny Rathbone, Russell George, Jane Hutt, Darren Millar, Simon Thomas, Jayne Bryant, Janet Finch-Saunders, Lynne Neagle, Joyce Watson, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a

a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a

b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo.

2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r nifer o Aelodau sydd wedi cefnogi'r ddadl hon heddiw. Adlewyrcha'r lefel o ymgysylltiad trawsbleidiol y sylw cynyddol gan y cyhoedd a'r cyfryngau i fater sy'n effeithio ar bob un o'r 200,000 amcangyfrifedig o berchnogion eiddo lesddaliad ym mhob rhan o Gymru. Mae ein dadl yma heddiw, y camau a gymerwyd eisoes yn yr Alban, a'r cynigion a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn awgrymu i mi fod hon yn ddadl ddifrifol a'i bod yn hen bryd cael adolygiad egwyddorion cyntaf o gontractau lesddaliad—mae ar ei hôl hi o oddeutu 10 canrif mewn gwirionedd.

Mae lesddaliad yn grair o'r unfed ganrif ar ddeg ar adeg pan oedd tir yn golygu pŵer, ac yn anffodus mae hynny'n dal i fod yn wir. I dirfeddiannwr heddiw, mae lesddaliad yn golygu sicrhau'r incwm mwyaf posibl a chadw rheolaeth dros y tir y maent yn berchen arno. Ond i'r lesddeiliad mae'n golygu'r gwrthwyneb yn llwyr: costau direolaeth a diffyg rheolaeth ar yr hyn y gallant ei wneud i'r eiddo y maent yn berchen arno. Pan ddeddfodd Llywodraeth yr Alban i ddileu deiliadaeth ffiwdal, roeddent yn llygad eu lle o ran cywair y ddeddfwriaeth. Fel llawer o Aelodau, rwyf wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n dweud mai'r achos sylfaenol yw annhegwch cynhenid, cymhlethdod a natur hen ffasiwn contractau lesddaliad. Mae cwynion am renti tir cynyddol, pobl yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi eu hunain, a gwerthoedd eiddo sy'n gostwng fwyfwy flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i'r brydles sy'n weddill leihau yn gyffredin.

Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, cynhaliais arolwg Facebook a gwelais nad oedd y materion hyn yn ddim ond cyfran fach iawn o broblem enfawr a chymhleth. Dywedodd un etholwr wrthyf fod ei brydles wedi'i gwerthu ddwywaith o fewn cyfnod o 12 mis, gan arwain at ddau hawliad ar wahân am rent tir. Bu'n rhaid iddo fynd i'r llys i ddatrys y mater. Dywedodd un arall wrthyf, ar ôl i'r cwmni prydlesu fynd i'r wal, fod y cwmni newydd wedi cynyddu rhent tir 100 y cant dros nos. Dywedodd un arall fod ei landlord wedi prisio ei phrydles ar dair gwaith gwerth ei chartref pan geisiodd brynu ei rhydd-ddaliad. Soniodd eraill am werthiannau tai a gollwyd o ganlyniad i gymhlethdodau gyda'r lesddaliad, yr angen i gael caniatâd i wneud yr atgyweiriadau mwyaf sylfaenol, a chodi tâl am waith cynnal a chadw er na wnaed unrhyw waith. Roedd nifer yn cwyno am ddiffyg gwybodaeth ynghylch lesddaliad yn y man gwerthu, gydag un yn teimlo ei fod wedi'i dwyllo wrth wneud pryniant. Yn y blynyddoedd diwethaf, bu llu o adroddiadau yn y wasg ar draws y sbectrwm am straeon arswyd yn ymwneud â lesddeiliadaeth.

Wrth gwrs, cafwyd nifer o ddiwygiadau i lesddeiliadaeth dros y blynyddoedd, o'r cyfyngiadau ar hawliau landlordiaid i droi tenantiaid allan yn y 1920au, hyd at yr 1960au a'r 1990au, a welodd hawliau newydd i denantiaid i ymestyn lesoedd. Mae grwpiau a sefydliadau diwygio lesddeiliadaeth sy'n gweithio gyda'r sector, megis y Gymdeithas Drawsgludo, wedi beirniadu gwendid Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 am fethu rhoi amddiffyniad i berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi wrth brynu, gwerthu neu hyd yn oed wella eu cartref. Nid yw'r ddeddfwriaeth hyd yn hyn wedi datrys y broblem ac mae'n rhyfeddol sut roedd y materion sydd mor gyffredin heddiw yn bodoli 20, 40, 60 mlynedd yn ôl. Fel y dywedodd un Aelod Seneddol Cymreig wrth y Senedd:

Pan fo lesddeiliaid yn ceisio naill ai adnewyddu eu prydles, neu brynu rhydd-ddaliad eu cartref, cânt eu dal am bridwerth. Mae lesddeiliaid yn hollol ddiamddiffyn gerbron landlord y tir.

Oherwydd proffidioldeb y system lesddaliadol, mae corfforaethau cyllid wedi prynu cyfran llawer o landlordiaid tir mawr.

Araith oedd honno a wnaed i'r Senedd yn 1961. Nawr, mae problemau newydd yn dod i'r amlwg. Dywedir bod rhai benthycwyr yn gwrthod morgeisi ar eiddo lesddaliadol, gan wneud y tai yn ddiwerth i bob pwrpas. Mae gwerthoedd tai wedi erydu oherwydd rhenti tir cynyddol, costau tribiwnlys a rhenti tir yn cael eu gwerthu fel nwyddau ar y marchnadoedd arian.

Codwyd £140 ar un o fy etholwyr fel ffi asesu pan geisiodd brynu ei lesddaliad. Fe'i syfrdanwyd wrth glywed y byddai ei rydd-ddaliad yn costio £13,000 iddo. Cyflogodd gyfreithiwr, ar gost bellach o £420, a lwyddodd wedyn i negodi'r ffi i lawr i £8,000. Felly, mae'n gwneud synnwyr fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i gefnogi diwygio cyfreithiol. Hefyd, mae cymhlethdod contractau lesddaliad gydag elfennau o gyfraith contract a chyfraith eiddo yn cydblethu yn rhoi perchennog cartref dan anfantais ar unwaith mewn anghydfodau ynghylch rhenti tir. Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd ei ddisgrifio gan un Aelod Seneddol fel hyn:

Mae 'rhenti tir beichus' y dyddiau hyn yn deillio yn ôl pob tebyg o ymddygiad afresymol un sector o gymdeithas sydd â gwell gwybodaeth... ar draul rhan o gymdeithas nad ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd.

Ym mis Ebrill y llynedd, galwodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio lesddeiliadaeth am wahardd tai lesddaliadol a rhoi diwedd ar renti tir beichus. Yna, mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, becyn o fesurau i leihau arferion lesddaliadol yn Lloegr, gan gynnwys deddfwriaeth i wahardd lesddaliadau newydd. Dywedodd:

Mae'n glir fod llawer gormod o dai newydd yn cael eu hadeiladu a'u gwerthu fel lesddaliadau, gan gamfanteisio ar brynwyr tai gyda chytundebau annheg a rhenti tir sy'n codi fwyfwy. Digon yw digon. Mae'r arferion hyn yn anghyfiawn, yn ddiangen ac mae angen rhoi diwedd arnynt.

Felly, mae'r rhain hefyd yn eiriau calonogol, ond hyd yma, nid oes unrhyw arwydd o unrhyw ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, bydd Bil Aelod preifat sy'n aros am ei ail ddarlleniad yn San Steffan y mis nesaf yn argymell diwygio rheoleiddiol pellach.

Yng Nghymru, roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 2017 yn gwneud ein bwriadau'n glir ac yn dynodi bod Llafur yn barod i gyflwyno amddiffyniad i lesddeiliaid presennol, gan ddweud:

'Byddwn yn cefnogi'r rheiny sy'n berchen ar eu cartrefi, gan gynnwys... lesddeiliaid ac nad ydynt wedi'u gwarchod ar hyn o bryd rhag cynnydd mewn rhenti tir... Bydd Llywodraeth Lafur yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid rhag rhenti tir twyllodrus ac yn rhoi terfyn ar y defnydd arferol o dai lesddaliadol mewn datblygiadau newydd.'

Felly, rwy'n croesawu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru 2012, 'Cartrefi i Gymru', sy'n ymrwymo i weithio gyda'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau i gasglu tystiolaeth ar raddfa, maint a natur problemau lesddaliadol i lywio camau gweithredu pellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa gamau a argymhellir o ganlyniad, a pha gamau pellach y gellid eu hystyried o ganlyniad i'r ddadl hon.

Mae gwaharddiad ar dai lesddaliadol a adeiladir o'r newydd yn gam cyntaf amlwg ac angenrheidiol. Yn 2016, roedd 22 y cant o holl drafodion eiddo adeiladau newydd yng Nghymru yn drafodion lesddaliadol, ac rwy'n cydnabod y gwahaniaeth rhwng cartrefi a adeiladir o'r newydd a materion yn ymwneud â fflatiau a rhandai, sy'n fater llawer mwy cymhleth, ond un lle y ceir problemau sylweddol o hyd o ran cyfunddaliadau a lesddaliadau.

Wrth ymateb i ddadl yn Neuadd Westminster ym mis Rhagfyr 2017, dywedodd y Gweinidog tai ar y pryd, Sharma Alok AS

Mae pa un a yw Cymru'n diddymu lesddeiliadaeth yn fater wedi'i ddatganoli.

Felly, yn wahanol i'r unfed ganrif ar bymtheg, mae ein cymdeithas yn rhoi gwerth ar berchentyaeth—mae wedi cael ei annog yn gadarnhaol gan lywodraethau o bob lliw. Rydym i gyd yn deall bod hyn yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dyheu amdano. Felly, mae bodolaeth, ailymddangosiad a thwf lesddeiliadaeth yn bla ar gymdeithas yn fy marn i. Mae'n destun cywilydd fod y modd hwn o gamfanteisio ar berchnogion cartrefi gan dirfeddianwyr ffiwdal yn parhau i fodoli, ac mae'n rhaid rhoi diwedd arno.

Felly, galwaf am dri pheth: camau brys dros dro i gyfyngu ar adeiladau lesddaliadol newydd yng Nghymru, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth frys i wahardd unrhyw adeiladu tai pellach sy'n seiliedig ar lesddeiliadaeth, ac rwy'n galw am ymchwiliad i bob math o lesddeiliadaeth sy'n bodoli eisoes, gyda golwg ar ddiwygio'r gyfraith i'w gwneud hi'n bosibl rhoi diwedd ar y system gymhleth ac anghyfiawn hon. Diolch i chi.

15:55

Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddadl hon. Dengys ffigurau'r Gofrestrfa Tir fod 43 y cant o'r holl adeiladau newydd a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2015 yn lesddaliadau, o gymharu â 22 y cant yn unig yn 1996. Gwyddom fod gan Gymru oddeutu 200,000 o gartrefi lesddaliadol, gyda mannau penodol lle y ceir lefelau sylweddol o adeiladau newydd yn cael eu gwerthu dan gontractau lesddaliadol. Yn wir, yn 2016, fy etholaeth i, sef Aberconwy, oedd â'r gyfran uchaf o drafodion tai lesddaliadol a adeiladwyd o'r newydd fel cyfran o'r holl dai a adeiladwyd o'r newydd a werthwyd, sef 77 y cant, ac mae hynny'n 48—dyna 48—o'r 62 o dai a adeiladwyd o'r newydd a werthwyd yn 2016. Yn ogystal, roedd 11.5 y cant—unwaith eto, yr uchaf yng Nghymru yn awr—o'r holl dai a werthwyd yn Aberconwy yn 2016 yn lesddaliadau, ynghyd â 27 y cant o'r holl drafodion eiddo. Felly, mewn gwirionedd mae'n bedwerydd uchaf.

Nawr, wrth gwrs, gall perchnogaeth lesddaliadol synhwyro pryd y caiff ei ddefnyddio ar gyfer fflatiau unigol mewn datblygiadau mwy o faint. Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod llawer gormod o dai newydd bellach yn cael eu hadeiladu a'u gwerthu yn y modd hwn, yn aml heb esboniad clir o'r costau a'r goblygiadau i'r prynwr. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych ei fod yn gryn sgandal pan ddaeth yn amlwg yn Aberconwy. Cafwyd stori yn y papur newydd ac roedd pobl yn dod ataf. Nid oeddent yn gwybod fod ganddynt lesddaliad ar eu heiddo mewn gwirionedd, a chafodd rhai ohonynt gynnig i'w prynu am £3,000, ond hyd yn oed wedyn, prynu'r rhydd-ddaliad ar eu heiddo'n unig a wnaent; nid oedd y tir yn cael ei gynnwys yn y trafodiad ei hun. Felly, mae yna sawl agwedd ar hyn.

Gall camfanteisio posibl o'r fath—a dyna ydyw—olygu bod prynwyr cartrefi yn gorfod ysgwyddo baich cytundebau annheg a rhenti tir cynyddol. Pe bawn yn prynu eiddo, gwn y buaswn yn awyddus i wybod fy mod yn berchen ar y tir y safwn arno pe bawn yn ei brynu, a'i fod yn rhydd-ddaliad—mai fi fyddai'n berchen arno. Mae cychwyn trafodiad, mynd drwy'r broses gyfreithiol, mynd drwy'r holl chwiliadau lleol a phopeth, a darganfod wedyn, flynyddoedd yn ddiweddarach mewn rhai achosion, nad ydych yn berchen ar y—[Torri ar draws.] Iawn.

16:00

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych chi felly yn cytuno ei bod yn ddyletswydd ar y cyfreithwyr sy'n gweithredu, fel arfer wedi'u henwebu gan ddatblygwr, i sicrhau bod y prynwr yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau lesddaliad mewn gwirionedd?

Dyna chi newydd ei ddweud: mae'r cyfreithwyr yn aml, os mynnwch—. Anogir pobl wrth brynu eiddo i ddefnyddio cyfreithiwr penodol, felly mae'n golygu nad yw ein cyfreithwyr lleol ein hunain yn yr ardal yn cael eu cynnwys, os ydynt yn ddatblygwr mawr. Ac mae'n ddyletswydd mewn unrhyw drafodiad cyfreithiol, mewn trawsgludo o unrhyw fath—rwy'n credu na ddylai pobl fod yn mynd i sefyllfa lle y cânt eu dallu drwy beidio â gwybod nad ydynt yn prynu'r rhydd-ddaliad ei hun.

Mae'r posibilrwydd o gamfanteisio yn golygu bod prynwyr tai yn cael eu llesteirio gan gytundebau annheg a rhenti tir cynyddol. Awgrymodd ymchwil Direct Line for Business yn 2016 fod y rhent tir blynyddol cyfartalog yn £371 ar gyfer adeiladau newydd a £327 ar gyfer eiddo hŷn. Ac fel rwy'n dweud, o ran prynu'r lesddaliad, ychydig iawn o amser a roddwyd i'r bobl hyn i brynu eu rhydd-ddaliad, a phan ddaeth yr amser hwnnw i ben, cawsant rybudd y gallai'r gost godi. Am bryder yw hynny i rywun sy'n credu eu bod wedi prynu eu cartref eu hunain.

Mae'r arferion hyn yn anghyfiawn, yn ddiangen ac mae angen rhoi diwedd arnynt, ac roeddwn wrth fy modd pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Sajid Javid, fesurau newydd i atal arferion annheg, ac ar pryd, fe siaradais gyda ein diweddar gyd-Aelod, Carl Sargeant. A gwn ei fod yn awyddus iawn a dywedodd y byddai'n dychwelyd ataf. Yn anffodus, ni allodd wneud hynny. Ond roedd yn bendant yn mynd i edrych ar hyn a sicrhau rhyw fath o ateb.

Dengys ffigurau diweddar gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau fod 57 y cant o lesddeiliaid y DU yn gyffredinol yn gresynu eu bod wedi prynu eiddo yn y ffordd honno, ac felly mae'r camau hyn gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wahardd gwerthu eiddo lesddaliadol a adeiladir o'r newydd, cyfyngu ar achosion o gamfanteisio ar lesddaliadau a sicrhau gwell amddiffyniad i bobl sy'n rhentu a phrynwyr cartrefi, i'w croesawu'n fawr. Felly, y cyfan y buaswn i'n ei ddweud yw: gadewch inni symud ymlaen i wneud yr un peth yma yng Nghymru. Mae'r bobl sy'n prynu eiddo, ein deiliaid tai yng Nghymru, yn haeddu pob amddiffyniad sydd ar gael ledled y DU. Diolch i chi.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Mae hwn yn fater pwysig ac rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Er bod y cynnig heddiw yn sôn am eiddo a adeiladir o'r newydd, roeddwn am godi mater lesddeiliaid sydd wedi prynu hen dai cyngor neu dai cymdeithasol, ac yna wedi wynebu biliau mawr iawn i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Rwyf wedi gweld faint o straen y gall y mesurau hyn eu hachosi, yn enwedig gan fod rhai o'r biliau yn fy etholaeth wedi bod yn fawr iawn yn wir—rhai mor uchel â £26,000.

Wrth gwrs, mae'n hollol iawn yn dilyn trosglwyddo stoc dai fod Tai Cymunedol Bron Afon, y prif landlord cymdeithasol yn fy etholaeth, wedi gweithio'n galed i wella'r stoc dai gyfan yn ôl safon ansawdd tai Cymru gyfan. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod eu bod wedi etifeddu stoc dai gydag ôl-groniad sylweddol iawn o waith atgyweirio oherwydd y cyfyngiadau benthyca a osodwyd ar awdurdodau lleol mewn perthynas â thai cyngor ers blynyddoedd lawer.

Rwyf wedi lleisio pryderon am lesddeiliaid wrth Weinidogion tai olynol dros flynyddoedd lawer, ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i Lesley Griffiths am y diddordeb a'r pryder y mae hi wedi'i ddangos ynghylch y mater hwn a'i pharodrwydd i wrando ar fy etholwyr yn sôn am yr effaith roedd biliau mawr o'r fath yn ei chael arnynt hwy. Cofiaf yn dda un o fy etholwyr yn dweud wrthyf fi ac wrth Lesley fod pethau wedi cyrraedd pwynt lle roedd hi'n arswydo pan ddôi amlen arall gan ei landlord cymdeithasol rhag ofn ei fod yn cynnwys bil mawr arall.

Nawr, wrth gwrs bod yna heriau wrth fynd i'r afael â biliau mawr i lesddeiliaid, a cheir dadl rymus na ddylid rhoi tenantiaid mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt sybsideiddio gwaith ar gartrefi pobl sydd wedi llwyddo i brynu eu cartref eu hunain, ond rwy'n credu bod rhaid inni wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn. Yn Lloegr, maent wedi pasio rhywbeth o'r enw cyfraith Florrie, sy'n gosod cap ar lefel y ffi y gellid ei chodi ar lesddeiliaid awdurdod lleol, ac mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll wrth Weinidogion yma.

Awgrym arall a wneuthum yw y gallai Gweinidogion ddeddfu i greu cronfa wrth gefn orfodol y bydd yn rhaid i'r holl lesddeiliaid dalu i mewn iddi er mwyn rhannu cost gwaith atgyweirio mawr dros amser. Felly, fel Mick Antoniw, edrychaf ymlaen yn fawr at weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu lesddeiliaid. Flwyddyn neu ddwy yn ôl, roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i mi lansio canllawiau newydd a gynhyrchwyd ganddynt mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau. Canllawiau oedd y rhain a luniwyd i wneud yn siŵr fod lesddeiliaid sy'n wynebu gwaith mawr yn llwyr ymwybodol o'u hawliau. Ond fel y dywedodd Mick Antoniw, credaf fod taer angen gwneud yn siŵr fod pobl yn cael gwybodaeth cyn camu i sefyllfa lle maent yn dod yn lesddeiliaid, ac mae hynny'n bendant ar goll ar hyn o bryd. Rwyf eto i gyfarfod un o fy etholwyr sy'n wynebu un o'r biliau hyn a oedd yn gwybod beth roeddent yn ei lofnodi mewn gwirionedd wrth iddynt brynu'r eiddo. Felly, buaswn yn awgrymu mai un peth hawdd i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth symud ymlaen yw ceisio gwneud yn siŵr fod pawb sydd am lofnodi trefniant lesddaliadol yn deall yn eglur iawn beth fydd hynny'n ei olygu iddynt hwy yn y dyfodol, a gobeithiaf fod hynny'n rhywbeth—yn ogystal â mesurau eraill a grybwyllwyd—y gall Llywodraeth Cymru edrych arno y dyfodol. Diolch.

16:05

Diolch yn fawr. Diolch am ddod â’r pwnc yma at sylw’r Cynulliad. Rwy’n falch iawn i fedru cymryd rhan yn y ddadl. Ar y cychwyn, rydw i’n mynd i nodi un enghraifft—un yn unig ond un eithaf dyrys ac un sydd yn dangos y problemau, ac un rydw i’n gyfarwydd iawn â hi yn fy etholaeth i. Rydw i am sôn am floc o fflatiau gafodd ei adeiladu ar gyfer pobl dros 55 oed ac roedd y rhain yn cael eu gwerthu efo prydlesi ynghlwm wrthyn nhw. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl wnaeth brynu’r fflatiau bellach yn eu 80au a'u 90au. Ar y cychwyn, fe sefydlwyd cymdeithas preswylwyr yn y fflatiau, ond wrth i’r trigolion heneiddio nid oes neb bellach yn derbyn y cyfrifoldeb o fod ar y pwyllgor ac mae’r gymdeithas yma, a oedd yn arfer gweithio ar ran y trigolion, wedi dod i ben.

Tua phedair blynedd yn ôl, fe werthwyd y les i gwmni a oedd yn bell i ffwrdd o fy etholaeth i. Cwmni yn y Channel Isles sydd bellach yn berchen y brydles, ac mae gan y cwmni yma ddwy haen o reolwyr ac mae’n anodd iawn cyfathrebu efo nhw. Mae costau ar gyfer y trigolion wedi cynyddu yn gyflym. Fe gafodd y tu allan i’r bloc fflatiau ei ailaddurno a’r gost oedd dros £100,000. Roedd y gwaith o ansawdd gwael ac mae’r to yn gollwng mewn un fflat. Y cwmni sy’n dal y les—y cwmni yn Ynysoedd y Sianel a’u hasiant—sy’n gwneud y penderfyniadau i gyd ac, wrth gwrs, y trigolion sy’n gorfod talu’r biliau. Mae unrhyw ymgais i herio’r penderfyniadau yn gorfod cael eu gwneud gan unigolion, oherwydd bod y gymdeithas preswylwyr wedi dod i ben. Nid oes rhaid dweud nad ydy eu hymdrechion nhw yn cael llawer o lwyddiant.

Dyna un enghraifft o sut mae prydlesi yn gallu achosi loes fawr, ac mae’r duedd yma i fwy a mwy o ddatblygwyr werthu tai fel rhai ar brydles yn peri pryder cynyddol. Mae rhai prynwyr yn cael prydlesi 999 o flynyddoedd o hyd—amser hir byddai rhywun yn meddwl, sydd, o bosib, yn tawelu eu meddyliau ar gychwyn proses—ond yn darganfod yn nes ymlaen fod prynu’r rhydd-ddaliad yn arswydus o ddrud.

Un trap i’r prynwyr yma ydy’r codiad mewn rhent daear sydd wedi’i guddio ym mhrint mân y prydlesi hir, ac ar y dechrau mae’n edrych yn fforddiadwy, a’r contract yn dweud y bydd y rhent daear yn dyblu bob 10 mlynedd. Mae hynny’n gallu edrych yn eithaf diniwed, wedi’r cyfan mae’r rhan fwyaf o bobl yn symud tŷ bob rhyw saith i 10 mlynedd. Ond i’r cwmni sy’n prynu’r rhydd-ddaliad, mae’r incwm yn werthfawr ac mae dyblu rhywbeth bob 10 mlynedd yn fuan iawn yn ei wneud o yn broffidiol, a chyn hir nid oes modd i’r preswylwyr fforddio’r rhent daear, ac felly mae bron yn amhosib gwerthu’r tŷ gyda chyfreithwyr yn rhybuddio darpar-brynwyr i gadw draw. Felly, mae pobl ifanc, wedi blynyddoedd o dalu rhent, o’r diwedd yn prynu tŷ ac yn darganfod eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn dal yn denantiaid, oherwydd dyna ydy prydleswr yn y pen draw, efo’r holl anfanteision sydd ynghlwm efo hynny.

Rydw i’n mynd i ddefnyddio’r ddadl yma i dynnu sylw at un neu ddau o broblemau eraill sydd wedi dod i’r fei ynghylch datblygiadau tai mwy newydd—gobeithio y gwnewch chi faddau i fi am wneud hyn, a chrwydro ychydig bach oddi ar y pwnc, ond eto, maen nhw’n gysylltiedig. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd y grŵp seneddol amlbleidiol ar ragoriaeth yn yr amgylchedd adeiledig—teitl hir, cymhleth—adroddiad ar ansawdd tai a oedd wedi cael eu codi o’r newydd ar draws y Deyrnas Gyfunol. Roedd yr adroddiad yma’n ffeindio bod 93 y cant o brynwyr yn sôn am broblemau wrth eu hadeiladwyr, ac o’r rheini, 35 y cant yn sôn am 11 neu fwy o broblemau, a phroblemau ydy’r rhain y mae’r prynwyr yn gorfodi talu amdanynt i’w hunioni—mater, efallai, i ni ei ystyried yn yr un cyd-destun â hyn, felly.

Problem arall ydy’r nifer o stadau tai ar hyd a lled Cymru sydd heb gael eu gorffen. Yr hyn sy’n digwydd yn aml ydy bod datblygwr yn cymryd dros ddegawd o amser o bryd y gwerthwyd y tŷ cyntaf i’r adeg y mae’r tŷ olaf yn cael ei werthu, ac yn y cyfamser bydd y trigolion yn wynebu problemau efo casglu sbwriel, dim cyfleusterau cymdeithasol ar gael ac yn y blaen, ac fel y gwelwn ni mewn dadl wythnos nesaf, ffyrdd heb gael eu mabwysiadu. Mae hyn i gyd cyn dechrau meddwl am faterion eraill cysylltiedig—bancio tir, er enghraifft, lle nad oes yna fwriad o gwbl i ddod â phrosiect i ben, a hefyd diffyg seilwaith cymunedol i’r datblygiadau newydd yma.

Felly, mae nifer o broblemau eraill cysylltiedig, a hyd y gwelaf i, mae yna broblem sylfaenol i'w wynebu fan hyn: ers y chwalfa ariannol 10 mlynedd yn ôl, mae yna lai o gwmnïau yn y farchnad, a rheini’n gwmnïau mawr, ac felly mae yna lai o gystadleuaeth. Mae hyn, yn y pen draw, wrth gwrs, yn niweidio defnyddwyr a hefyd yn rhoi mantais annheg i’r cwmnïau mawr yma pan ddaw hi'n fater o gyllido datblygiadau newydd, cael caniatâd cynllunio, caffael cyhoeddus, ac yn y blaen.

Felly, buaswn i’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y materion yma hefyd pan fyddwch chi yn chwilio am ffyrdd i fynd i’r afael â mater prydlesi, gan fod o’n rhan o gyfres ehangach o bryderon sydd yn deillio o lai o gystadleuaeth yn y sector adeiladu tai. Diolch.

16:10

Credaf y byddwch yn cael yr un neges wedi ei hanfon ar draws y Siambr y prynhawn yma gan Aelodau sy'n cynrychioli etholwyr ledled Cymru, oherwydd rydym i gyd yn wynebu problemau tebyg. Fel y mae pawb ohonom yn gwybod, ffurf ar ddeiliadaeth breswyl yw lesddaliad sydd, efallai, yn mynd yn ôl i'r oesoedd ffiwdal, pan ystyrid mai'r tir oedd y lle a'r rhai a oedd yn berchen ar y tir oedd y rhai cryfaf, ond mae wedi'i ddiddymu yn y rhan fwyaf o leoedd o amgylch y byd, ac efallai ei bod hi'n bryd bellach inni roi diwedd arno yma yng Nghymru yn ogystal.

Dechreuodd gwerthu tai fel lesddaliadau fel trefniant anarferol yng ngogledd-orllewin Lloegr ac ymddengys ei fod wedi lledaenu ar draws y DU. Nawr, gadewch i ni—[Anhyglywadwy.]—lesddaliadau. Mae lesddaliadau mewn gwirionedd yn cwmpasu mwy nag un maes. Rydym yn sôn am dai weithiau, ond peidiwch ag anghofio fflatiau, ac mae gennym dai newydd ac mae gennym tai sy'n bodoli eisoes. Felly, ceir cyfuniadau o lesddaliadau, sydd mewn gwirionedd yn ychwanegu at y cymhlethdodau sy'n codi. Byddwn yn sôn am y tri chyfuniad mewn eiliad.

Nawr, i'r rhai sy'n dweud bod tŷ ar brydles yn cael ei werthu am bris is na thŷ rhydd-ddaliadol, am mai fel hynny y byddent yn ei werthu, dangoswyd bod hynny'n anghywir. Ymddengys mai ffordd yw hi o fanteisio ar y sawl sy'n prynu cartref mewn gwirionedd—cael rhywun i feddwl bod derbyn lesddaliad yn ffordd arferol o brynu cartref y dyddiau hyn. Nid yw hynny'n wir, ac nid yw wedi bod yn wir.

Ar adegau, ni châi manylion a chanlyniadau contractau y byddent yn ymrwymo iddynt yn cael eu hesbonio'n llawn iddynt. Ac unwaith eto, mae hynny'n hollbwysig. Yn aml iawn oherwydd y byddai'r datblygwyr yn gwerthu i'r person—. Rwyf wedi bod yno, gyda fy nheulu a fy mhlant, yn gweld y tai hyn ac maent yn dweud, 'Mae gennym gyfreithwyr. Maent yn gwybod sut rydym yn gweithio. Mae'n hawdd iddynt hwy ei wneud.' Wrth gwrs, byddant yn eich annog wedyn i ddefnyddio'u cyfreithwyr hwy gan fod ganddynt gysylltiadau, ond nid ydynt yn dweud wrthych beth yw'r pethau pwysig sy'n cuddio tu ôl i'r manylion, a dyna'r broblem.

Felly, er y gallent ei gyflwyno fel dewis rhatach, nid yw'n amlwg i'r lesddeiliad pa gostau ychwanegol tymor canolig a hirdymor y byddant yn eu hysgwyddo o ganlyniad. Ceir rhai lesoedd sydd â thelerau mwyfwy beichus. Credaf fod Siân Gwenllian wedi nodi hynny, yr hyn a elwir yn ddull Taylor Wimpey—costau'n dyblu dros 10 mlynedd—ac mae hynny'n frawychus, oherwydd weithiau ceir prydlesi 250 mlynedd ac rydych yn siarad am ddyblu 25 o weithiau. Bydd yn enfawr. Mae'n rhywbeth sy'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yma yng Nghymru.

Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud am bethau eraill? O ran adeiladau newydd, mae yna ddau beth: ei wahardd; ei atal. Ond hefyd, y cynlluniau Cymorth i Brynu: peidiwch â helpu i brynu eiddo lesddaliadol. Gwnewch yn siŵr fod datblygwyr yn gwybod, os ydynt am annog pobl i brynu eiddo gydag arian Llywodraeth Cymru, eich bod yn dweud, 'Ar y sail ei fod yn rhydd-ddaliad yn unig, ac nid yn lesddaliad.' Ffordd hawdd a chyflym o ennill. Dyna un agwedd, felly. Yn amlwg, ar ddatblygiadau, peidiwch â gadael iddo ddigwydd; gwaharddwch y peth yn llwyr ar gyfer eiddo newydd.

Ond wedyn mae hynny'n gadael y broblem o eiddo sy'n bodoli eisoes. Beth a wnawn? Oherwydd mae gennyf denantiaid—. Rydym wedi bod yn dda iawn heddiw; nid ydym wedi enwi cwmnïau. Fe wnaf fi eu henwi. Barratt yn fy etholaeth—poblogaidd iawn, yn gwneud llawer o eiddo lesddaliadol ac yn gwerthu eiddo newydd fel lesddaliadau. Mae Persimmon yn un arall. Hefyd, mae gennyf—. Fe gofiwch. Bydd gan yr Aelod dros Lanelli ddiddordeb yn Trinity Estates. Dyna un arall sy'n rhedeg cwmni rheoli fflatiau yn fy ardal. Mae'n rheoli fflatiau yn Llanelli yn ogystal. Dyma gwmnïau sy'n trosglwyddo'r brydles i drydydd partïon heb i'r lesddeiliad wybod. Nid ydynt yn dweud wrth y lesddeiliad eu bod yn ei throsglwyddo. Mae'n mynd ymlaen unwaith, ddwywaith, deirgwaith cyn i rywun ddarganfod mewn gwirionedd pwy sy'n berchen ar y brydles. O ganlyniad, mae'r ffioedd yn codi. Mae'r fflatiau yn Jersey Quay yn fy etholaeth, sy'n cael eu rheoli gan y cwmni—rwyf newydd anghofio ei enw.

Yn Trinity Estates, mae gan y perchnogion hynny broblemau mewn gwirionedd. Mae'n rhaid iddynt roi canran o'r pris gwerthu, os ydynt yn ceisio gwerthu'r fflat, i'r cwmni rheoli. Gall y cwmni rheoli dynnu arian allan o'u cyfrifon fel costau gwasanaeth heb roi rhybudd iddynt. Maent wedi cynyddu eu costau gwasanaeth 33 y cant dros y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn gwbl annerbyniol i bobl. Ni allant werthu eu tai, fel y dywedoch, sy'n golygu na all y bobl sy'n mynd i mewn i'r eiddo symud ymlaen. Maent yn methu symud. Ni allant gamu ymlaen. Ni allant gael swyddi gwahanol hyd yn oed. Ni allant fynd i unman. Felly, rydych yn clymu pobl mewn sefyllfa lle na allant ddod allan ohoni. Rhaid inni gefnogi'r teuluoedd hyn, y bobl ifanc hyn. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn brynwyr tro cyntaf. Rhaid inni eu helpu er mwyn iddynt allu dringo'r ysgol gymdeithasol, ehangu eu bywydau, a gwella.

Mae'n hen bryd dwyn y datblygwyr i gyfrif, mae'n hen bryd dwyn y cwmnïau rheoli i gyfrif, ac mae'n hen bryd yn awr i'r Llywodraeth wneud rhywbeth y mae wedi addo ei wneud. Rwy'n deall y gallai Deddf Cymru gymylu'r dyfroedd ychydig bach am ei bod yn newid o, 'Mae eiddo yn fater a gedwir yn ôl, ond nid tai', ond tai yw hyn. Mae ymhlith y materion pwysicaf ym maes tai—gydag ambarél bach drosto. Felly, rwy'n eithaf siŵr y gallwch ei wneud.

Felly, Weinidog, hoffwn i chi atal y broses hon. Ataliwch ein hetholwyr rhag cael eu dal mewn sefyllfa na allant ddod allan ohoni a sicrhewch nad ydynt yn cael eu—fe ddefnyddiaf y gair—eu blingo gan gwmnïau rheoli, fel y byddant yn gallu fforddio byw yn ogystal â fforddio'u morgeisi. Oherwydd mae gennym sefyllfaoedd lle y cymerir ffi o £500 y mis. Wel, dyna forgais rhywun wedi mynd. Wedi diflannu. Ni allant dalu'r morgais am fod yr arian hwnnw newydd ei gymryd i dalu'r tâl gwasanaeth. Mae'n rhaid iddo stopio. Rhaid inni wneud yn siŵr fod pobl yn cael eu hamddiffyn. Rhaid inni wneud yn siŵr fod y trigolion, y tenantiaid a'r lesddeiliaid yn cael eu hamddiffyn, nid y cwmnïau rheoli.

16:20

Diolch i Mick Antoniw a noddwyr eraill y ddadl heddiw. Nid yw mater lesddaliadau a rhydd-ddaliadau yn un newydd yng Nghymru. Nid wyf yn mynd i geisio mynd yr holl ffordd yn ôl i'r unfed ganrif ar ddeg, fel y gwnaeth Mick, ond fe gawsom sefyllfa a gafodd lawer o sylw yn ystod y 1950au pan oedd gan nifer fawr o gartrefi glowyr yng Nghymoedd de Cymru lesddaliadau nad oedd y meddianwyr yn gallu eu prynu. Ar yr adeg honno, roedd gan un cwmni, Western Ground Rent, oddeutu 10,000 o lesddaliadau, ac roedd ymdrechion i ddiwygio'r sefyllfa yn y Senedd ar y pryd, wedi'u harwain gan rywun a ddaeth yn AS lleol i mi yn ddiweddarach, sef George Thomas. Nawr, beth bynnag yw'r enw sydd gan George Thomas y dyddiau hyn, fe gymerodd ran mewn o leiaf un ymgyrch ddefnyddiol, sef yr ymgyrch i ddiwygio lesddaliadau yng Nghymru yn ystod y 1950au a'r 1960au.

Fel y clywsom yn y ddadl heddiw, fodd bynnag, ceir tystiolaeth fod lesddaliadau yn sicr yn dal i fod gyda ni. Fel y nododd Mick Antoniw yn ei sylwadau agoriadol, amcangyfrifir bod oddeutu 200,000 o gartrefi lesddaliadol yng Nghymru, a cheir pryder fod nifer sylweddol o ddatblygiadau adeiladu o'r newydd yn cael eu cynnig i brynwyr gan ddod i mewn i'r farchnad fel lesddaliadau.

Un pwynt a wnaeth Mick oedd ei fod yn cydnabod bod yna wahaniaeth rhwng fflatiau lesddaliadol a thai lesddaliadol, a byddai rhai'n dadlau y gallai fod achos dros i fflatiau fod yn lesddaliadol, gan fod ganddynt fannau cymunedol amlwg a byddant hefyd yn cynnig gwasanaethau cymunedol. Ond er hynny, mae'r lesddeiliaid yn talu costau gwasanaeth am y cyfleusterau hyn, felly pam y dylent gael eu rhwystro rhag bod yn berchen ar eu rhydd-ddaliad eu hunain? Yn achos tai lesddaliadol er hynny, mae'n fwy rhyfedd byth fod adeiladwyr yn ceisio twyllo prynwyr â threfniadau lesddaliadol. Yn yr achosion hyn nid oes unrhyw fannau cymunedol, ni cheir unrhyw gostau gwasanaeth fel y cyfryw, felly mae llai byth o gyfiawnhad dros beidio â chynnig y rhydd-ddaliad.

Yn y blynyddoedd diwethaf cafwyd datblygiadau newydd lle roedd yr holl dai a oedd ar werth yn lesddaliadau, a dechreuodd Dai Rees enwi rhai o'r cwmnïau sydd wedi datblygu'r trefniadau hynny. Sylwais heddiw ar wefan Darlows fod cymaint â 185 eiddo lesddaliadol yn cael eu cynnig ar hyn o bryd yng Nghaerdydd yn unig.

Problem fawr yw nad yw llawer o brynwyr tro cyntaf wedi cael addysg ariannol o'r math sydd ei angen pan fyddant yn camu i fyd prynu eiddo. Mae hyn yn fethiant ar ran y system addysg, sydd weithiau'n rhy academaidd ei natur ac nid yw'n cynnig digon o berthnasedd ymarferol i fyfyrwyr ysgol. Mae angen inni roi addysg ariannol ystyrlon i bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer camu i fyd eiddo, er mai dadl ar gyfer rhywdro eto yw honno.

I ddychwelyd at y pwynt dan sylw heddiw, bydd prynwyr tro cyntaf sy'n awyddus iawn i gamu ar yr ysgol dai a heb wybod fawr ddim, yn aml yn prynu tŷ, er na fydd llawer ohonynt hyd yn oed ddeall y gwahaniaeth rhwng rhydd-ddaliad a lesddaliad. Yna, pan ddaw'n bryd iddynt werthu'r tŷ, gwelant fod gwahaniaeth sylweddol rhwng eu pris marchnad hwy a phris marchnad tai cyfagos lle mae'r deiliaid yn berchen ar y rhydd-ddaliad. Er enghraifft, gwerthodd un o fy etholwyr, sy'n byw yng Nghwm Cynon, ei thŷ yn y pen draw am £110,000 am mai lesddeiliad yn unig oedd hi, tra oedd tai eraill yn yr un stryd yn gwerthu am £140,000. Mae honno'n golled sylweddol, ac nid oedd yr unigolyn dan sylw'n sylweddoli pan brynodd ei heiddo beth oedd lesddaliad hyd yn oed. Felly, dyma un rhan o'r broblem rydym yn ei hwynebu.

Gwnaeth Dai Rees y pwynt y dylem geisio gwneud rhywbeth yn yr achosion hyn i sicrhau bod y cyngor cyfreithiol a roddir i ddarpar brynwyr gan gyfreithwyr yn egluro'r gwahaniaethau hyn rhwng rhydd-ddaliad a lesddaliad. Ond wrth gwrs, cawsom gyfres o becynnau ariannol dros y blynyddoedd lle y rhoddwyd cyngor nad yw'n wir, felly rwy'n ofni, oni bai y ceir rhyw fath o reoliadau ystyrlon, na allwn ddibynnu'n iawn ar reoliadau i sicrhau cyngor da gan gyfreithwyr. Felly, rwy'n credu bod llawer o broblemau'n gysylltiedig â lesddaliadau; efallai'n wir mai deddfwriaeth yw'r unig ffordd ymlaen. Mae mater cymhwysedd cyfreithiol, a grybwyllwyd gan Dai Rees hefyd, yn broblem bosibl, felly rwy'n awyddus i glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny heddiw, a sut y mae'n egluro hynny. Ond mae UKIP yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'r cynnig hwn, na ddylai prynwyr tai gael eu twyllo, ac rydym yn hapus felly i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Rwy'n falch iawn o gefnogi a chymryd rhan yn y ddadl hon sy'n mynd i'r afael â mater a godwyd gan, ac sy'n effeithio ar fy etholwyr ym Mro Morgannwg. Fel rhan o'r adfywio yn y Barri, mae 3,500 o dai yn cael eu hadeiladu ar y glannau, gyda lefelau sylweddol o gymorth i brynwyr cartrefi, sydd i'w groesawu, drwy gynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae Dai Rees wedi tynnu sylw at hyn: mae prynwyr cartrefi newydd yn cael Cymorth i Brynu, ond maent ar gyfer eiddo lesddaliadol. Wrth gwrs, mae ailddatblygu'r Barri yn drawsnewidiol ac rwy'n ei gefnogi, ond clywais bryderon ynghylch y defnydd o lesddaliadau gan y datblygwyr sy'n adeiladu'r cartrefi hyn. Fe soniais wrth y Gweinidog am y pryderon hyn, ac fe ymatebodd drwy ddweud bod dau o'r datblygwyr, Taylor Wimpey a Barratt, wedi cadarnhau nad ydynt yn gwerthu eiddo ar sail lesddaliadol mwyach oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Mae trydydd datblygwr, Persimmon, hefyd wedi cadarnhau nad ydynt bellach yn cynnig eiddo ar sail lesddaliadol oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Felly, rwy'n monitro hyn ac yn cwestiynu'r pwynt 'cwbl angenrheidiol' o ran maint a math o eiddo.

Roeddwn yn mynd i ofyn y cwestiwn: a gawsoch chi gadarnhad ganddynt ynglŷn â beth y mae 'cwbl angenrheidiol' yn ei olygu?

Dyna'r pwynt rwy'n mynd ar ei drywydd. Ond roedd yn bwysig fy mod yn gallu crybwyll hynny a chael yr ymateb hwnnw gan y Gweinidog. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol fod y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi datgan eu bod yn gweithio gyda'u haelodau i edrych ar ddewisiadau eraill yn lle lesddaliadau, megis cyfunddaliadau, gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hawl i reoli. Nid wyf yn credu bod hynny wedi'i grybwyll eto y prynhawn yma. Clywais hefyd gan y Gweinidog y byddai'n hoffi gweld rhagor o gwmnïau hawl i reoli yn cael eu sefydlu gan eu bod yn galluogi lesddeiliaid i gymryd rheolaeth dros reoli eu hadeiladau a rhyddhau eu hunain o afael y cwmnïau rheoli nad ydynt yn darparu gwasanaeth proffesiynol a gwerth am arian.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o gwmnïau rheoli dielw sy'n cael eu sefydlu. Yn wir, mae gennym rai enghreifftiau o'r rheini yn fy etholaeth i, ond wrth gwrs, maent yn galw am gryn fedr gwirfoddol a gallu rheoli gwirfoddol.

Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog gan fy mod yn deall hefyd ei bod yn edrych ar reoleiddio cwmnïau rheoli lesddaliadau preswyl fel rhan o'r opsiynau ar gyfer diwygio lesddaliadau yn ehangach. Ond fel y dywedwyd, mae Llywodraeth Cymru yn sybsideiddio ac cefnogi prynwyr cartrefi, yn enwedig prynwyr ifanc, gyda Cymorth i Brynu, ond mae anfanteision yn y trefniadau lesddaliadol tymor byr a hirdymor sy'n cael eu gosod arnynt. Mae un o fy etholwyr wedi dweud ar ran ei merch yn y sefyllfa hon, 'Mae angen mwy o wybodaeth am gostau cudd lesddaliadau i rybuddio prynwyr ifanc sydd ddim yn ymwybodol o'r peryglon.'

Nododd Mick Antoniw hyn yn eglur iawn wrth gyflwyno'r ddadl hon, yn ei araith agoriadol ar annhegwch cynhenid a chymhlethdod y system lesddaliadau. Gofynnodd i'r Gweinidog am eglurhad ynglŷn â phryd y bydd hi'n gwneud cyhoeddiad ar y mater pwysig hwn—yn unol â'n maniffesto—sy'n rhoi llawer o aelwydydd yng Nghymru dan anfantais. A allai Cymru ddysgu oddi wrth yr Alban ac arwain y ffordd o ran diwygio lesddaliadau?

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.

Diolch i chi, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl drawsbleidiol hon heddiw. Fel y nododd Mick Antoniw ar ddechrau'r ddadl, mae gan lesddeiliaid hanes hir, ond credaf heddiw fod ein dadl wedi tynnu sylw go iawn at sut, yn ystod y blynyddoedd diweddar, y mae lleiafrif diegwyddor o ddatblygwyr a rhydd-ddeiliaid wedi ceisio gwneud elw o arferion amheus.

Rwy'n credu bod y materion a drafodwyd yn perthyn i dair prif thema: gwerthu cartrefi newydd fel lesddaliadau'n amhriodol; trafferthion pobl y gwerthwyd cartrefi lesddaliadol iddynt ac sy'n dioddef yn sgil arferion gwael; a'r cwestiwn sylfaenol ynglŷn ag a yw lesddaliadau'n dal i fod yn addas at y diben yn y farchnad dai fodern mewn gwirionedd.

Mae'r cynnig penodol hwn yn canolbwyntio ar y cyntaf o'r themâu hyn. Nid yw pob lesddaliad yn amhriodol, wrth gwrs. Mae lesddaliad yn ddeiliadaeth ddilys ar gyfer fflatiau a rhandai, er enghraifft, pan gaiff ei gweithredu'n deg. Mae'n gallu sicrhau bod mannau cymunedol a chynnal a chadw yn cael sylw ar ran yr holl drigolion. Ac os na cheir opsiwn arall addas ar hyn o bryd, mae lle i lesddaliadau yn ein marchnad dai, yn enwedig o ystyried y nifer gynyddol o gartrefi newydd sy'n fflatiau ac yn rhandai. Dyma pam y mae pwynt tri y cynnig yn anodd i ni, er fy mod yn cytuno ag ysbryd y cynnig wrth gwrs.

Mae'r cyfraniadau heddiw unwaith eto wedi tanlinellu bod yna rai allan yno na fydd yn defnyddio lesddaliad yn briodol nac yn ei weithredu'n deg, ac mae'r pryderon, mewn gwirionedd, yn niferus, yn gymhleth ac yn amrywiol, ac rydym wedi clywed cymaint o enghreifftiau ohonynt heddiw. Yn rhy aml, credaf eu bod yn ymwneud â lesddeiliaid yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain neu eu bod yn wynebu taliadau gormodol neu gynyddol, a chlywn hefyd am anawsterau wrth geisio prynu'r rhydd-ddaliadau, neu ymestyn lesoedd, a chlywn hefyd am lesddeiliaid yn teimlo nad ydynt yn cael gwerth am arian neu eu bod yn cael gwasanaeth gwael. Felly, rwyf am gofnodi heddiw fy ymrwymiad i archwilio beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan gydnabod eu cymhlethdod a'u natur dechnegol.

Ond gan droi at y cynnig heddiw, rydym oll yn ymwybodol o achosion proffil uchel yn ddiweddar o dai a adeiladir o'r newydd yn cael eu cynnig ar lesddaliad yn hytrach nag ar sail rydd-ddaliadol heb unrhyw gyfiawnhad clir. Mae'r data'n dangos bod y gyfran o dai newydd a werthir fel lesddaliadau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am roi terfyn ar y defnydd amhriodol o lesddaliadau ar gyfer tai a adeiladir o'r newydd yng Nghymru. Ceir nifer fach o resymau cadarn dros werthu tai ar sail lesddaliadol, ac mae'r rhain yn cynnwys gwerthu datblygiadau a adeiladir o'r newydd ar dir sy'n eiddo i gyrff penodol sydd â diddordeb hirdymor yn y tir, megis cyrff prifysgol neu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dyna, yn benodol, rydym yn sôn amdano pan fyddwn yn defnyddio'r ymadrodd 'cwbl angenrheidiol'.

Ond y tu hwnt i hyn, ni welaf fawr o reswm dros beidio â chynnig tai i'w gwerthu ar sail rydd-ddaliadol. Ac rwy'n cydnabod yr angen i weithredu ar fyrder, ac ers dod i'r swydd rwyf wedi nodi nifer o welliannau allweddol sydd i gael sylw ar unwaith. Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda datblygwyr yng Nghymru drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai ac wedi nodi'n glir mai fy awydd yw cyfyngu ar nifer yr eiddo newydd sy'n cael eu gwerthu fel lesddaliadau ac mai'r hyn a fyddai orau gennyf fyddai gweld lesddaliadau'n gyfyngedig i safleoedd fel fflatiau lle mae strwythur yr adeilad a'r angen i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw'n digwydd mewn mannau cyffredinol yn golygu bod angen gweithredu trefn lesddaliadol. Rwyf am i'r holl adeiladwyr tai sy'n gweithredu yng Nghymru wneud addewid cyhoeddus i beidio â gwerthu tai a adeiladir o'r newydd ar sail lesddaliadol yng Nghymru, ac eithrio yn yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllwyd, a nododd Jane Hutt yn garedig rai o'r datblygwyr sydd eisoes wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Byddaf yn defnyddio'r offer sydd ar gael i mi ar hyn o bryd—

16:30

A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog? Ar sail hynny, a wnewch chi hefyd sicrhau bod yr hawl, mewn gwirionedd i—os ydynt yn penderfynu ei werthu, hyd yn oed yn yr amgylchiadau eithriadol hynny, os ydynt yn penderfynu ei werthu, fod y lesddeiliad yn cael y dewis cyntaf i brynu'r rhydd-ddaliad cyn ei werthu i rywun arall?

Dylai'r lesddeiliad bob amser gael y cyfle cyntaf i brynu'r brydles, ond fy mhryder i yw bod pris prydlesi'n aml y tu hwnt i beth y mae'r lesddeiliad yn gallu neu'r hyn y mae perchennog y cartref yn gallu ei dalu am y brydles honno, ac mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn ceisio ei archwilio yng nghyd-destun ehangach y ddadl.

Ond rwy'n awyddus iawn i ddefnyddio'r holl arfau sydd at fy nefnydd ar hyn o bryd i atgyfnerthu fy ymrwymiad i'r agenda hon, felly yn fuan byddaf yn cyhoeddi pecyn o fesurau drwy Cymorth i Brynu Cymru i'r perwyl hwn a fy mwriad yw cyflwyno'r mesurau hyn yn gyflym. Mae'r cynlluniau ar gam datblygedig, ac edrychaf ymlaen at rannu manylion pellach ar y rheini'n fuan, ond byddant yn ymateb i rai o'r materion a'r pryderon a glywsom yn ystod y ddadl.

Mae'r ymgysylltiad cynnar gydag adeiladwyr tai ar y cynigion hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rwy'n hyderus y gallwn weithio gyda'r diwydiant yng Nghymru ar hyn. Yn ail, hoffwn wella ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i ddal prydles, ac mae hyn yn ymateb i un o'r prif bryderon a leisiwyd gan Lynne Neagle, ynghyd â Jane Hutt a Gareth Bennett, yn ystod y ddadl. Yn yr achosion hynny lle mae'n iawn i eiddo gael ei werthu fel lesddaliad, megis fflat, er enghraifft, mae'n gwbl hanfodol fod darpar brynwyr yn gwbl gyfarwydd â thelerau'r brydles ac yn gallu herio unrhyw beth anfanteisiol ynddi ar y cychwyn.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych yn cytuno â mi, er hynny, er y gallai fod yn fater o ymgysylltu â Llywodraeth y DU o ran beth yn union yw ein pwerau datganoledig ar hynny, mai tuag at y cysyniad o gyfunddeiliadaeth y dylem anelu mewn gwirionedd—cyfunddeiliadaeth briodol—a rhoi diwedd pendant ar y cysyniad o lesddeiliadaeth, sydd yn ei hanfod yn ddyfais ar gyfer perchennog eiddo?

Mae cyfunddeiliadaeth yn fodel rwyf wedi bod yn edrych arno, ac rwyf wedi wedi ceisio deall pam nad yw cyfunddeiliadaeth wedi dod yn fwy poblogaidd yn y gorffennol, beth yw'r rhwystrau wedi bod rhag iddo lwyddo o'r blaen, a beth y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol fel rhan o'r cyd-destun ehangach hwnnw o sut i wella lesddeiliadaeth ac ati, a rhydd-ddeiliadaeth o fewn y sector penodol hwn.

Byddaf yn datblygu deunyddiau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant pwrpasol a fydd ar gael i bawb sy'n rhan o'r broses o brynu a gwerthu eiddo, ac mae hynny'n cynnwys lesddeiliaid, gwerthwyr tai, asiantau rheoli, trosgludwyr a rhydd-ddeiliaid, ac rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion sefydlu grŵp gorchwyl amlddisgyblaethol i hwyluso'r gwaith hwn. Hefyd rwy'n bwriadu rhoi cod ymarfer gwirfoddol ar waith i ategu'r mesurau hyn. Bydd hyn yn helpu i wella safonau, hyrwyddo arferion gorau a gwella ymgysylltiad rhwng yr holl bartïon. Bydd hefyd yn pennu disgwyliadau clir ar gyfer lesddeiliaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli a bydd o ddiddordeb arbennig i'r rhai sy'n rheoli neu'n byw mewn cartrefi lle y ceir angen i gydreoli mannau cymunedol a gwaith cynnal a chadw.

Felly, dyma rai o'r pethau rwy'n eu datblygu yn awr, a chredaf y byddant yn cael effaith gynnar a chadarnhaol. Ond rwy'n cydnabod mai rhan o'r darlun yn unig ydynt. Felly, nid wyf yn cilio rhag materion mwy sylfaenol sy'n ymwneud â dyfodol lesddeiliadaeth a dewisiadau eraill a allai fod yn fwy priodol yn y farchnad dai fodern, megis cyfunddeiliadaeth, er enghraifft. Nid wyf yn diystyru'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth ychwaith os yw gwaith gyda'r diwydiant yn methu cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen mor glir. Byddaf yn cael fy mesur, ac yn seilio fy mhenderfyniadau ar dystiolaeth gadarn.

Dyna pam rwyf wedi gofyn i swyddogion gomisiynu ymchwil i ddeall manylion rhai o'r materion mwy cymhleth sy'n ymwneud â breinio a phrynu, gwerthu ac ymestyn lesddaliadau fel y maent yn berthnasol i Gymru. Rwyf wedi gofyn iddynt ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ogystal, ac mae hyn yn ymateb pendant i'r peth olaf y gofynnodd Mick Antoniw amdano yn ei araith ar ddechrau'r ddadl. Dyna hefyd yw'r rheswm pam rwy'n ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith a'u hadolygiad arfaethedig yn y maes hwn, a chredaf y bydd hynny'n helpu i ateb rhai o'r cwestiynau ynghylch cymhwysedd. Oherwydd, wrth gwrs, mae'r ateb yn aml yn dibynnu ar y cwestiwn a ofynnwch o ran cymhwysedd, gan fod cynifer o'r meysydd hyn yn pontio mwy nag un maes cyfrifoldeb. Ond bydd y gwaith Comisiwn y Gyfraith a wnawn yn arbennig o ddiddorol a defnyddiol yn fy marn i.

Rwyf hefyd yn awyddus i weld beth y gallwn ei ddysgu o rannau eraill o'r DU, gan gynnwys Lloegr, sy'n wynebu heriau tebyg, ond rwy'n awyddus i weld pa wersi y gallwn eu dysgu o'r Alban. Unwaith eto, clywsom ychydig am y dull yno, lle maent wedi mynd i gyfeiriad gwahanol iawn o ran deiliadaeth ar gyfer eiddo sydd â chyfleusterau a rennir. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, na fydd diwygio'r ddeddfwriaeth yn y dyfodol hyd yn oed yn cynnig llawer i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u trin annheg yn y gorffennol. Dyna pam y gofynnais i swyddogion weithio'n agos gyda LEASE i nodi'r ffordd orau o gynorthwyo lesddeiliaid presennol. Felly, gellir cyflawni'r mesurau y siaradais amdanynt yma heddiw, a'r manylion pellach y byddaf yn eu cyhoeddi'n fuan, yn y tymor byr iawn heb fod angen deddfwriaeth. Nid yw hynny'n golygu fy mod yn diystyru'r angen i ystyried opsiynau deddfwriaethol yn y dyfodol, ond mae'n adlewyrchu fy nymuniad i weithredu'n gyflym lle y gallaf wrth inni wneud y gwaith sylfaenol yn sail i unrhyw ddiwygiadau ehangach.

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud bod gwasanaethu yn y pumed Cynulliad yn anrhydedd fawr? Wrth ei gymharu â'r pedwerydd Cynulliad, mae dau beth yn sefyll allan: (1) mae'r Dirprwy Lywydd wedi gwella'n fawr—[Torri ar draws.] Rydym yn ffodus iawn. Ond yn ail, mae'r ffordd y defnyddir y dadleuon hyn wedi dod â dimensiwn newydd a phŵer newydd i'r meinciau cefn. Rwy'n credu bod defnyddio'r ddadl hon i unigolion er mwyn creu cefnogaeth drawsbleidiol i fater sy'n destun pryder go iawn i'r bobl a gynrychiolwn yn wych.

A gaf fi ddechrau felly gyda Mick Antoniw? Ac wrth sôn am faint o lesddeiliaid sydd ar gael—200,000 fan lleiaf—dywedodd ei bod hi'n hen bryd cael adolygiad o'r holl faes hwn, oherwydd yn aml wrth ei wraidd ceir annhegwch difrifol, ac mewn termau hanesyddol cofiadwy iawn, soniodd am yr unfed ganrif ar ddeg a'r siarter perchnogion eiddo. Roedd yn anghytbwys braidd yn yr ystyr fod yna rai ffyrdd o ddefnyddio lesddeiliadaeth, ond yn gyffredinol, mae'r ffordd y mae wedi cael adfywiad yn ddiweddar yn peri gofid gwirioneddol. Fe ddywedoch nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol, Deddf diwygio lesddaliadau 2002, yn addas erbyn hyn o ran beth sydd ei angen bellach.

Galwodd am (1) camau dros dro ar frys—a chredaf fod y Gweinidog wedi ein bodloni i ryw raddau yn hynny o beth—ac yna, yn ail, deddfwriaeth i wahardd lesddaliadau yn y rhan fwyaf o achosion—ceir rhai opsiynau byw cymunedol, megis fflatiau a rhandai, lle y gallai fod gofyn cael lesddaliad o hyd—ond ei wahardd, mewn gwirionedd, yn y rhan fwyaf o achosion yma a chael ein deddfwriaeth ein hunain, ac rwy'n credu bod Jane Hutt wedi  adleisio hynny ar y diwedd, gan ddweud, 'Dylem arwain y ffordd o ran diwygio'. Efallai mai dyna'r syniad mawr na ddylech ei ddiystyru ar y cam hwn, Weinidog, ac rwy'n falch eich bod yn mynd i siarad â Chomisiwn y Gyfraith ynglŷn â hyn.

Yna dywedodd Mick fod angen archwilio'r arfer ar gyfer lesddeiliaid presennol. Unwaith eto, credaf fod y Gweinidog wedi nodi bod hynny'n fater o bwys gwirioneddol. Felly, yn gyffredinol rwy'n credu eich bod wedi dechrau lle yr aeth yr Aelodau eraill â ni wedyn mewn mwy o fanylder, ac yna, rwy'n credu bod y Gweinodog wedi ymateb yn fras i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau.

Soniodd Janet Finch-Saunders am y camau, neu'r bwriadau, a fynegwyd gan Lywodraeth y DU, a cheir yr holl fater hwn ynghylch faint o bŵer sydd gennym mewn perthynas â Deddf Cymru, ond credaf y dylem yn sicr geisio gweithredu'n gyflym. Nid oes angen inni ddilyn Llywodraeth y DU, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynigion deddfwriaethol ei hun eto mewn gwirionedd, er y gobeithiaf eu gweld yn fuan. Soniodd Janet am y ffenomen newydd hon o lesddaliadau'n cael eu defnyddio ar gyfer adeiladu o'r newydd, a oedd yn rhan ganolog o'r ddadl. Soniodd hefyd, pan fo hynny'n digwydd, am y diffyg gwybodaeth i brynwyr cartrefi—prynwyr tro cyntaf yn aml, teuluoedd ifanc efallai, heb sylweddoli'n iawn beth yw goblygiadau lesddaliad a beth y byddai'n ei olygu.

Soniodd Lynne Neagle am fater ychydig yn wahanol—a chredaf ei fod yn hynod o bwysig, mewn gwirionedd—sef y rhai sydd wedi prynu tai cymdeithasol, neu'r hyn a oedd yn dai cymdeithasol yn y gorffennol, ac sydd â lesddaliad gydag ymrwymiad eithaf cryf o ran cynnal a chadw, a lle mae'r bobl hyn wedyn yn wynebu taliadau cynnal a chadw sylweddol. Credaf ein bod ni i gyd wedi cael gwaith achos lle y gwnaed gwaith adnewyddu allanol helaeth ar flociau o fflatiau, gan ddefnyddio sgaffaldiau, ffenestri newydd ac atgyweirio toeau—drud eithriadol. Rwy'n credu bod bobl hyn yn aml yn grŵp go agored i niwed, ac fe wnaethoch awgrymiadau diddorol yn hynny o beth, ac rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi clywed, megis y cap ar ffioedd.

Yna siaradodd Siân Gwenllian am fflatiau i bobl wedi ymddeol a'r hyn sy'n digwydd pan na fydd eich cymdeithas breswylwyr mor weithgar neu'n cael ei dirwyn i ben oherwydd nad oes gennych y bobl allweddol sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â'r gwaith, ac arferion rhai cwmnïau rheoli i ddefnyddio'r eiddo fel ffordd o gael incwm allan o bobl. Credaf fod hwnnw'n bryder go iawn sydd gan lawer ohonom ac rydym wedi gweld y problemau—mae cwmnïau cynnal a chadw heb fawr o gymhelliant wedi arwain at sefyllfa wael iawn i'r tenantiaid hynny.

Cawsom ein hatgoffa wedyn gan David Rees nad yw hon yn ffordd gyffredin o drefnu perchnogaeth tir o amgylch y byd. Yn anffodus, ymddengys ein bod yn gaeth mewn arfer braidd yn ffiwdal. Fe ddywedoch—roeddwn yn meddwl bod hyn yn ddiddorol, oherwydd rwyf innau wedi'i glywed hefyd—nad oes llawer o wahaniaeth yn y pris pan fyddwch yn prynu cartref newydd ar rydd-ddaliad neu lesddaliad. Credaf fod hynny'n wirioneddol ddiddorol, oherwydd clywais am ddatblygiad yn ne-ddwyrain Cymru lle y newidiodd y datblygwr ei bolisi hanner ffordd drwy'r gwaith. Ni newidiodd prisiau'r tai, ond mae'r rhai a brynodd yn gynnar yn y datblygiad bellach yn wynebu taliadau ychwanegol i gael eu rhydd-ddaliad o tua £3,000 ar gyfartaledd. Nawr, os ydych chi'n brynwr tro cyntaf, yn deulu ifanc, sy'n sydyn yn wynebu bil o £3,000 i gael eich rhydd-ddaliad—rwy'n credu bod yna broblem go iawn.

Soniodd Gareth Bennett am y 1950au a'r 1960au. Fe gofiwch y trafodaethau a oedd hyd yn oed yn ddiweddarach, yn y 1970au a'r 1980au, pan oedd diwygio lesddaliadau wedi dechrau go iawn, ond roedd ychydig mwy o broblemau yn dal i ymddangos. Ond roedd yna broblem go iawn yng Nghymru yn y 1950au, ac mae wedi dychwelyd bellach, felly credaf fod arnom ddyletswydd i'n hetholwyr i chwilio am yr arferion gorau a'u sefydlu unwaith ac am byth. Ac unwaith eto, fe sonioch fod prynwyr tro cyntaf yn arbennig o agored i niwed.

Yna, yn olaf, soniodd Jane Hutt am y datblygiad ar y glannau yn y Barri. Mae'n ddatblygiad pwysig ac mae'n nodweddiadol o rai o'r datblygiadau mwy cyffrous sydd wedi digwydd yn ystod y degawd neu ddau ddiwethaf. Yno, mae Cymorth i Brynu wedi cael ei ddefnyddio'n aml hyd yn oed pan y ceir lesddeiliadaeth. Dywedodd David Rees fod hwnnw'n un peth y gallem ei newid, ac rwy'n credu mewn gwirionedd, os anfonwn neges o'r fath, fe welech y datblygwyr yn newid eu polisi—byddai'r rhai nad ydynt wedi ymrwymo i'ch arferion gorau eto yn newid yn fuan. Dyna rywbeth y dylem ei wneud.

Ac yn olaf, hoffwn orffen gyda'r hyn a ddywedodd Jane Hutt—y dylai Cymru arwain y ffordd, y dylem ddiwygio. Clywsom yr hyn a ddywedodd y Gweinidog. Nid wyf yn hollol siŵr y gellir gwneud popeth heb ddeddfwriaeth. Credaf y dylem wneud cymaint â phosibl yn gyflym, ond rwy'n credu y bydd angen deddfwriaeth yn ôl pob tebyg. Pan allwn sicrhau ein hunain fod gennym gymhwysedd o dan y Ddeddf Cymru newydd, yn amlwg fe gewch gefnogaeth drawsbleidiol i weithredu, ac i weithredu'n gyflym. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

16:45

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Pwyllgor Deisebau ar fynediad at drafnidiaeth cyhoeddus ar gyfer pobl anabl. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands. 

Cynnig NDM6643 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen Arnynt (P-05-710), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar fynediad at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl yng Nghymru. A gaf fi gydnabod ar y cychwyn fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a'i argymhellion wedi bod yn gadarnhaol iawn?

Cyflwynwyd y ddeiseb a arweiniodd at yr adroddiad hwn gan bobl ifanc o sefydliad Whizz-Kidz, sy'n cefnogi pobl ifanc ag anableddau, ac rwyf am ddechrau drwy dalu teyrnged i bawb a fu'n gysylltiedig am eu hymrwymiad i ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Cawsom ein helpu gan y bobl ifanc y cyfarfu'r pwyllgor â hwy, a'r rhai a roddodd eu barn i ni mewn fideo, i ddeall yn well beth yw'r heriau sy'n wynebu pobl anabl bob tro y maent yn ceisio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fyw eu bywydau bob dydd. Diolch i'r deisebwyr am roi ffocws ar y materion hyn, ac rwy'n eu llongyfarch yn gynnes am y ffordd y maent wedi hybu eu deiseb.

Mae'r ddeiseb yn galw am roi'r un hawliau i bobl anabl gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ag unrhyw un arall yng Nghymru. Disgrifiodd un o'r bobl ifanc y siaradom â hwy am ei ddyheadau yn y ffordd hon: 'Rwy'n 13 nawr, hoffwn fod fel pawb arall, mynd o gwmpas heb ddweud wrth rywun 20 gwaith, fel y gallwn gyrraedd i lle rwy'n mynd a dod yn ôl heb unrhyw broblemau.'

Yn eu tystiolaeth i ni, amlinellodd y deisebwyr eu profiadau gydag amrywiaeth o fathau o drafnidiaeth gyhoeddus, a chrybwyllwyd nifer fawr o faterion. Roedd y rhain yn cynnwys anawsterau wrth deithio ar fyr rybudd neu pan nad yw'n bosibl gofyn am gymorth ymlaen llaw, a seilwaith gwael, a all atal pobl rhag teithio o gwbl. Hefyd, roedd diffyg cefnogaeth gan rai aelodau o staff, sy'n gallu gwneud i bobl deimlo'n agored i niwed neu'n feichus. Clywodd y pwyllgor y gall y problemau hyn ei gwneud yn anos i bobl fanteisio ar gyfleoedd addysg a chyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol. Gall hyn effeithio'n fawr ar annibyniaeth, hyder a hunan-barch pobl. Soniodd nifer o'r deisebwyr eu bod eisiau gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gais, heb orfod trefnu beth amser ymlaen llaw. Roeddent eisiau gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen arnynt, yr un peth â'u ffrindiau nad ydynt yn anabl.

Mae'r deisebwyr wedi disgrifio eu profiadau o ddefnyddio trenau, bysiau a thacsis. O ganlyniad, cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth gyda sefydliadau sy'n ymwneud â darparu'r mathau hyn o drafnidiaeth cyhoeddus. Hoffem ddiolch i bawb am y dystiolaeth a ddarparwyd ganddynt. Mae manylion llawn am y gwaith hwn wedi ei gynnwys yn ein hadroddiad wrth gwrs. Ar ôl clywed y dystiolaeth hon, rydym wedi gwneud 12 o argymhellion. Ni fydd amser yn caniatáu imi siarad am bob un o'r rhain heddiw. Fodd bynnag, digon yw dweud ein bod wedi dod i'r casgliad fod angen gwelliannau ar draws pob math o drafnidiaeth gyhoeddus, a hoffwn dynnu sylw at rai o'n prif argymhellion.

Mewn perthynas â gwasanaethau rheilffyrdd, credwn fod angen gwelliannau i orsafoedd, trenau a'r cymorth a ddarperir gan staff. Yn ein hadroddiad, rydym yn cydnabod bod elfennau o hyn heb eu datganoli neu wrthi'n cael eu datganoli. Serch hynny, mae'n amlwg fod llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ac rwyf am dynnu sylw yn benodol at y cyfle sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd drwy'r broses o ddyfarnu masnachfraint reilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau. Mae yna botensial i sicrhau bod cytundeb y fasnachfraint nesaf yn cynnwys gofynion ar gyfer gwneud gwelliannau sylweddol i hygyrchedd gwasanaethau rheilffyrdd, gwelliannau a fyddai o fudd i bobl ledled Cymru. Mae'r Pwyllgor Deisebau hefyd wedi argymell y dylai hygyrchedd gael ei gynnwys fel mesur perfformiad yn y fasnachfraint nesaf, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhellion ar hyn.

Yn y dystiolaeth a gawsom gan Trenau Arriva Cymru a Great Western Railway, clywsom am y polisïau cadarnhaol sydd ar waith eisoes. Roedd y rhain yn cynnwys y gallu i deithwyr anabl wneud cais am drafnidiaeth amgen i orsaf arall pan nad oedd yr agosaf yn hygyrch, neu er enghraifft, pan nad oedd lifftiau'n gweithio. Fodd bynnag, cawsom ein hargyhoeddi yn ein sgyrsiau gyda'r deisebwyr, sydd oll yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fynych—ac yn wir, mae llawer ohonynt yn dibynnu'n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus—o'r angen i hyrwyddo'r cymorth sydd eisoes ar gael yn well.

Mewn llawer o ffyrdd, roedd y materion a grybwyllwyd gan y deisebwyr ynghylch gwasanaethau bysiau yn debyg. Unwaith eto, clywsom am bolisïau da ond bod pryderon nad oedd y rhain i'w gweld yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiad teithwyr anabl yn y byd go iawn. Roedd rhai o'r problemau a nodwyd gan y deisebwyr yn cynnwys amharodrwydd rhai gyrwyr i ddefnyddio rampiau neu i ostwng lefel bysiau i uchder palmant, diffyg amser neu amynedd i ganiatáu i deithwyr fynd ar fysiau ac oddi arnynt yn ddiogel, a gyrwyr ddim yn stopio mewn lleoliadau addas—er enghraifft lle y ceir cyrbiau uwch. Mae'r pwyllgor yn derbyn bod y mater olaf weithiau y tu hwnt i reolaeth gyrwyr bysiau oherwydd bod cerbydau eraill yn blocio mynediad at arosfannau bysiau. Rydym hefyd yn cydnabod bod gyrwyr yn wynebu pwysau o fathau gwahanol, ac nid y lleiaf ohonynt yw cadw at amserlenni. Yn ddiweddar cafodd y materion hyn eu hystyried yn fanwl gan Bwyllgor yr Economi, Sgiliau a Seilwaith, ac mae'n amlwg eu bod yn rhwystrau sylweddol i deithwyr anabl.

Clywsom am rai enghreifftiau da hefyd o arferion hyfforddi a gyflawnwyd, gan gynnwys gan Bws Caerdydd a FirstGroup. Fodd bynnag, roeddem yn pryderu nad yw pob cwmni yn gweithredu'r un safonau drwy hyfforddiant gyrwyr, a daethom i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwneud modiwl ymwybyddiaeth anabledd penodol yn elfen orfodol o'r dystysgrif cymhwysedd proffesiynol sy'n rhaid i yrwyr sy'n gweithio yng Nghymru ei chyflawni. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac eraill a wnaethom mewn perthynas â gwasanaethau bysiau.

Yn olaf, buom yn ystyried gwasanaethau tacsi. Hyd yn hyn, pwerau cyfyngedig a fu gan y Cynulliad dros weithrediad gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat. Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli mwy o'r pwerau hyn. Cawsom ein calonogi wrth glywed am gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru'r gyfundrefn drwyddedu a chofrestru. Yn benodol, credwn y dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen i ddatblygu safonau cenedlaethol cyffredin ar gyfer yr holl dacsis a cherbydau hurio preifat. Roedd pob un o'r tystion y clywsom ganddynt o'r farn fod y drefn bresennol yn hen ffasiwn ac y dylid ymdrechu i sicrhau mwy o gysondeb ar draws y gwasanaethau.

Bwriad y pwyllgor wrth wneud yr argymhelliad hwn oedd ymateb i nifer o'r problemau a amlygwyd gan Whizz-Kidz. Roedd hi'n amlwg fod profiadau pobl o wasanaethau tacsi'n amrywio'n sylweddol ledled Cymru, a rhwng gwahanol gwmnïau a gyrwyr. Roedd rhai o'r profiadau a ddisgrifiwyd yn amlwg yn llawer is na'r safon y dylai pobl anabl fod â hawl i'w disgwyl. Roeddent yn cynnwys gyrwyr nad oeddent yn rhoi gwregys am gadeiriau olwyn mewn cerbydau, gyrwyr yn dechrau'r meter tra'n helpu teithwyr i ddod i mewn i dacsis neu tra'n cadw cymhorthion symudedd, a chwmnïau'n gwrthod cais am dacsi gan deithwyr y gwyddent eu bod yn anabl. Roeddem ni, a'r holl dystion y clywsom ganddynt, yn glir fod ymddygiad o'r fath yn annerbyniol ac mewn rhai achosion gallai fod yn torri'r gyfraith bresennol. Serch hynny, daethom i'r casgliad hefyd y byddai mwy o eglurder ynghylch y safonau gwasanaeth y mae teithwyr yn eu disgwyl yn fuddiol i deithwyr anabl ac yn wir, i bawb sy'n defnyddio tacsis.

Yn gryno, rwy'n gobeithio bod gwaith y pwyllgor ar y ddeiseb hon wedi cyfrannu at nodi pam a sut y gellid cyflawni gwelliannau go iawn i brofiad pobl anabl o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae'n iawn i ddweud na all y Cynulliad neu Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, wneud popeth y mae'n dymuno ei wneud i gyflawni system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl hygyrch. Fodd bynnag, mae llawer y gellir ei wneud i wella profiad pobl anabl yn y byd go iawn. Bydd llawer o hyn yn galw am waith partneriaeth da gyda chynghorau, gweithredwyr a phobl anabl. Bydd hefyd yn galw am arweinyddiaeth dda gan Lywodraeth Cymru. Mae ein sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion, wedi ein calonogi o ran yr ymrwymiad sy'n bodoli i wneud y gwelliannau gofynnol.

16:55

Croesawaf yn fawr y cyfle i drafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sicrhau mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl. Roedd hon yn enghraifft glasurol o'r hyn y mae sefydliadau yn disgwyl ei fod yn digwydd pan fyddwch yn siarad â phobl ar frig y sefydliad a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd pan fydd pobl anabl yn ceisio defnyddio trafnidiaeth. Ac rwy'n credu bod David Rowlands wedi rhoi rhai enghreifftiau o'r hyn y dywedwyd wrthym ynglŷn â sut y gallech gael tacsi i'r orsaf nesaf—pan fyddwn yn sôn am hynny wrth bobl anabl, syllent arnaf mewn penbleth.

Roeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau pan roddodd Whizz-Kidz eu tystiolaeth. A gaf fi, fel y gwneuthum yn y pwyllgor—ond hoffwn ei gofnodi yn awr—ddiolch i Whizz-Kidz a'u llongyfarch am ddod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor? Nid yw'n beth hawdd rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor, a gwn pa mor nerfus y bydd llawer o oedolion hŷn o sefydliadau pan fydd yn rhaid iddynt ddod i siarad â phwyllgorau. Grŵp o bobl ifanc oedd y rhain, ond roeddent yn credu bod angen iddynt wneud eu pwynt, ac fe wnaethant hynny, yn bendant.

Cyflwynodd Whizz-Kidz broblemau gyda mynediad at wasanaethau bysiau, trenau a thacsis i'r pwyllgor. Roedd y problemau hyn yn cynnwys: anallu i deithio ar fyr rybudd; diffyg hyfforddiant staff ar draws pob math o drafnidiaeth, sy'n golygu bod pobl anabl yn cael eu gwneud i deimlo fel baich neu na allant deithio o gwbl; diffyg cefnogaeth ar drenau a phroblemau gyda hygyrchedd trenau a gorsafoedd, gan gynnwys pan nad yw lifftiau'n gweithio. Nododd Whizz-Kidz hefyd y gall problemau hygyrchedd effeithio ar allu pobl ifanc i chwilio am waith ac i gymdeithasu, am fod teithio'n ormod o drafferth—mae'n ormod o broblem, mae'n rhy anodd. Gall y materion hyn effeithio ar hyder pobl ifanc anabl, gan eu gwneud i deimlo'n ynysig, sy'n golygu nad ydynt yn teimlo'n gyfartal â'u cyfoedion sydd ddim yn defnyddio cadeiriau olwyn.

Rhoddodd Whizz-Kids dystiolaeth fideo i'r pwyllgor, a oedd yn cynnwys stori Josh, a dynnai sylw at nifer o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc anabl wrth deithio ar drên yn ne Cymru. Roedd hwn ar safle'r Pwyllgor Deisebau; rwy'n credu ei fod yn debygol o fod yno o hyd, ac os nad yw, a gaf fi ofyn, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn sicrhau ei fod ar gael o'r fan hon, fel bod modd i bobl ei weld? Oherwydd mae'n adrodd y stori o safbwynt dyn ifanc yn ceisio defnyddio trenau.

Mynegwyd pryder hefyd ynghylch gallu pobl sydd â nam ar eu clyw ac ar eu golwg i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel. Ar gyfer pobl sy'n colli eu golwg, un peth syml a allai eu helpu yw i yrrwr bws ddweud wrthynt pan fyddant yn cyrraedd lle maent am fynd oddi ar y bws. Dyna un peth syml iawn, nid yw'n galw am ddeddfwriaeth, dim ond arfer da a ddylai fod ar waith gan gwmnïau bysiau. Mae llawer o'r pethau y gofynnwn amdanynt yma ac sydd eu hangen arnom yn bethau nad ydynt yn galw am ddeddfwriaeth, ond am arfer da.

Roedd y gweithredwyr trenau a bysiau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yn amlinellu lefelau amrywiol o hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd a ddarperir i staff. Nid oes unrhyw ofyniad gorfodol i weithredwyr bysiau ei gwneud yn ofynnol i yrwyr gwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dywedodd First Cymru fod gofyn i bob cwmni bysiau ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd o 1 Mawrth fel rhan o dystysgrif cymhwysedd proffesiynol y gyrrwr. Ond nid yw hyfforddiant o fudd oni bai ei fod yn cael ei weithredu. Mae angen i gwmnïau bysiau sicrhau bod gyrwyr yn cyflawni'r hyn y maent wedi cael eu hyfforddi i'w wneud. Nid oes diben dweud wrthynt yn ystod sesiwn hyfforddi dair awr fod yn rhaid iddynt wneud pethau os ydynt yn ei anwybyddu y diwrnod canlynol. Mynychais sesiwn hyfforddiant dementia gyda First Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd yr hyfforddiant yn dda iawn, ond mae angen gweithredu arno, ac yn achos First Cymru yn Abertawe, mae hynny wedi digwydd.

Archwiliwyd hygyrchedd trenau a gorsafoedd gan y pwyllgor hefyd. Dywedodd y gweithredwyr trenau, er bod trenau newydd yn hygyrch, nid yw hynny'n wir am drenau hŷn. Mynegwyd pryder hefyd ynghylch argaeledd a hygyrchedd tacsis a cherbydau hurio preifat, yn enwedig ar rai adegau o'r dydd. Dywedodd y Gymdeithas Ceir Hurio Preifat Trwyddedig, gan fod y rhan fwyaf o yrwyr yn hunangyflogedig, ni all gweithredwyr tacsis ac awdurdodau trwyddedu fynnu bod gyrwyr mathau penodol o gerbydau ar gael ar adegau penodol o'r dydd. Ond credaf fod yna ffyrdd o sicrhau y cawn ddigon o gerbydau a all gludo pobl â chŵn tywys neu gludo pobl mewn cadeiriau olwyn fel y bydd bob amser un ar gael.

I mi, yr argymhelliad clir yw: cyflwynwch hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd ar gyfer staff trenau a gorsafoedd sy'n ymwneud â chwsmeriaid o dan fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, gyrwyr bysiau fel rhan o safon ansawdd wirfoddol ar gyfer bysiau Cymru, a thacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat. [Anghlywadwy.]—unrhyw un sy'n gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl ar sail rhagfarn, ond mae angen hyfforddiant. Mae angen inni wneud yn siŵr y gweithredir ein hyfforddiant. Gyda'r holl ewyllys sydd gan arweinwyr y sefydliadau, yr hyn sydd ei angen arnom yw gwella gweithredu ar lefel weithredol i sicrhau bod yr hyn y mae sefydliadau'n meddwl sy'n digwydd, yr hyn rydym eisiau iddo ddigwydd a'r hyn y mae pobl anabl angen iddo ddigwydd, yn digwydd mewn gwirionedd pan fydd rhywun yn ceisio mynediad at drafnidiaeth. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch o gael cymryd rhan yn y ddadl sy’n deillio o’r adroddiad ar y ddeiseb yma. Nid oeddwn i’n aelod o’r Pwyllgor Deisebau pan oedd y ddeiseb yma yn cael ei hystyried, ond rydw i yn gwybod o brofiad, o drafod efo etholwyr ac efo amrywiol fudiadau, y problemau sydd yn wynebu pobl anabl wrth iddyn nhw geisio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

Yn digwydd bod, rydw i’n cyfarfod yfory efo criw o Gyngor ar Bopeth a Fforwm Anabledd Taran yn fy etholaeth i drafod trafnidiaeth gyhoeddus a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus efo nhw. Mi fydda i’n falch o gael rhannu efo nhw yr ymateb—y sylwadau sydd wedi cael eu clywed yn y Cynulliad yma heddiw ac ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd. Y rheswm y maen nhw wedi cysylltu efo fi ydy fel rhan o brosiect gan Gyngor ar Bopeth i helpu grwpiau penodol i allu dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae trafnidiaeth yn un o’r pethau yna sydd wirioneddol yn effeithio ar bobl sydd ag anableddau.

Rydw i'n falch iawn mai dyna mae Whizz-Kidz wedi ei wneud: cael dweud eu dweud drwy ddod â’r ddeiseb yma at sylw’r Cynulliad. Mi fuaswn i’n licio diolch yn fawr iawn i’r bobl ifanc o Whizz-Kidz, nid yn unig am gyflwyno’r ddeiseb ei hun ond hefyd am y ffordd y gwnaethon nhw wedyn, fel rydym ni wedi clywed gan Mike Hedges, ymateb i’r her yna o roi tystiolaeth wyneb yn wyneb yn y pwyllgor ei hun. Fel rydw i’n ei ddweud, nid oeddwn i’n rhan o’r ymgynghoriad, ond wir, mae’r fideo yna i chi allu ei wylio ac yn sicr mae angen llongyfarch y bobl ifanc am y ffordd y maen nhw yn gallu gwneud eu pwynt nhw mor arbennig o huawdl.

Maen nhw’n sôn am eu profiadau nhw efo tacsis, efo bysus, efo trenau, eu bod nhw’n methu teithio ar y funud olaf a bod yn rhaid iddyn nhw roi 48 awr o rybudd er mwyn cael y ramp trên, er enghraifft, a'u bod nhw’n teimlo o dan bwysau i fynd oddi ar drafnidiaeth gyhoeddus am eu bod nhw yn ymwybodol bod y bws eisiau gadael a bod gyrwyr ddim yn wastad yn ymwybodol sut i wthio neu sut i osod cadair olwyn. Mae’r problemau yn rhai lluosog iawn.

Mae’r problemau yna, o’u cymryd efo’i gilydd, yn gwneud i’r bobl ifanc yma deimlo fel bwrn, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo nad ydyn nhw’n gydradd â’u cyfoedion sydd heb gadeiriau olwyn ac sydd ddim yn gorfod wynebu trafferthion fel hyn wrth deithio. Mae o’n effeithio ar eu hyder nhw. Mae’n gallu cael effaith ar eu gallu neu eu parodrwydd nhw i edrych am waith, hyd yn oed, neu i gymdeithasu. Mae perig, felly, eu bod nhw yn mynd i deimlo eu bod nhw’n cael eu hynysu. Mae hynny’n clymu efo’r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn y pwyllgor iechyd, wrth inni edrych ar unigrwydd ac unigedd. Roedd y dystiolaeth a gawsom ni fel rhan o’n hymchwiliad yn awgrymu bod unigrwydd ac unigedd yn gallu cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol unigolion. Roedd y Groes Goch Brydeinig yn dweud hyn:

Gellir cysylltu diffyg cysylltiadau cymdeithasol â risgiau i iechyd cardiofasgwlaidd a chynnydd mewn cyfraddau marwolaeth, pwysedd gwaed, arwyddion o heneiddio, symptomau iselder a risg o ddatblygu dementia. Gallai fod mor niweidiol i iechyd â smygu ac yn gymaint o risg â gordewdra.

Felly, rydym ni’n sôn am rywbeth yn y fan hyn sydd yn gallu cael effaith andwyol iawn.

Er ein bod ni wedi canolbwyntio yn yr ymchwiliad yna ar bobl hŷn, mi gafodd pobl anabl a phobl ifanc eu hadnabod fel dau grŵp arall sy’n agored i unigrwydd ac unigedd, ac mi glywsom ni fod trafnidiaeth yn gallu bod yn ffactor yn hynny. Mi dderbyniwyd tystiolaeth fod y rhwystr o orfod trefnu teithiau ymlaen llaw yn atal defnyddwyr rhag mynd ar deithiau, ac yn golygu bod teithiau munud olaf, i bob pwrpas, yn amhosib. Wrth gwrs, mae pobl ifanc anabl, fel eu cyfoedion nhw, eisiau teithio efo eu ffrindiau, eisiau cael y cyfle i deithio heb orfod cynllunio yn fanwl ddyddiau ymlaen llaw. Nid ydy hynny yn ffitio bywyd pobl ifanc, yn aml iawn, ac maen nhw eisiau teimlo y gallan nhw fod yn hyderus y byddan nhw'n gallu teithio heb deimlo eu bod nhw yn niwsans i bobl eraill.

Rydw i'n falch, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor, gan gynnwys rhoi hyfforddiant i staff trafnidiaeth i'w helpu nhw i greu amgylchedd cefnogol, cynhwysol, ac amgylchedd hygyrch, ac y byddan nhw'n gweithio efo'r grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl i ddatblygu'r hyfforddiant pwysig yna. Felly, mi fydd mewnbwn grwpiau fel Whizz-Kidz a Taran—rydw i'n cyfarfod â nhw yfory—rydw i'n siŵr o gymorth mawr i'r Llywodraeth efo'r gwaith yna.

17:05

Diolch. Rwyf wrth fy modd yn gallu cyfrannu at y ddadl. Mewn gwirionedd, rwy'n mwynhau fy amser ar y Pwyllgor Deisebau, oherwydd rwyf wedi cael fy synnu, mewn gwirionedd, faint yn union o bobl sydd o ddifrif ynglŷn â Pwyllgor Deisebau ac yn teimlo y gallant gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yma. Ond rhaid imi ddweud, roedd hon yn sicr yn un o'r sesiynau tystiolaeth gorau o unrhyw bwyllgorau y bûm arnynt yn ystod y ddau dymor y bûm yn Aelod Cynulliad, oherwydd roedd yn agoriad llygad go iawn, ac roedd hi'n bleser cyfarfod â chymaint o ymgyrchwyr ifanc angerddol ac ysbrydoledig o Whizz-Kidz, ac nid yn unig i glywed eu straeon, ond gyda'r fideo a ddarparwyd ganddynt, a'r ymgysylltiad a gawsom gyda hwy, y sgyrsiau a gawsom yn anffurfiol ac yna'n ffurfiol, drwy'r dystiolaeth a gyflwynwyd ganddynt i'r pwyllgor— roedd yn wych.

Nawr, mae'r ddeiseb hon yn ceisio sicrhau bod pobl anabl yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac i mi, mae hynny'n golygu pob math o drafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen a heb yr angen i gynllunio cymorth 24 awr, neu fwy hyd yn oed, ymlaen llaw. Credaf ei bod yn ddiogel dweud y gallwn i gyd gytuno, yn yr oes hon, y dylai uchelgais o'r fath fod nid yn unig yn gyraeddadwy, ond yn rhywbeth i'w gymryd yn ganiataol.

Nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion a nodwyd gennym yn yr adroddiad hwn, ond hoffwn bwyso ymhellach ar Ysgrifennydd y Cabinet am ychydig mwy o eglurhad a manylion ar nifer o bwyntiau. A wnewch chi amlinellu sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio i edrych ar ddichonoldeb cefnogi'r defnydd o gynllun tebyg i gynllun cymorth waled oren mewn tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru, yn ogystal ag edrych ar hyn ar gyfer gwasanaethau bysiau? Mewn gwirionedd, credaf y dylem gael rhyw fath o—heb fynd i wahaniaethu rhwng pobl neu eu labelu, rwy'n credu, os oes ffydd mewn cynllun tebyg i'r cynllun cymorth waled oren mewn tacsis, cerbydau hurio preifat, bysiau a threnau, yna dylem fod yn edrych ar hynny.

Sut y byddwch yn gweithio gyda grwpiau diddordeb a gweithredwyr i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer staff sy'n ymdrin â chwsmeriaid o dan fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau newydd i sicrhau y bydd pobl anabl yn gallu defnyddio gwasanaethau trenau pryd bynnag y bo'u hangen yng Nghymru yn y dyfodol? Beth yw amcangyfrif Ysgrifennydd y Cabinet o'r gost ar gyfer y datblygiad hwn ac ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth o hygyrchedd ar gyfer gyrwyr bysiau ledled Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a'i dderbyniad? Faint o hyn y bwriedir i Lywodraeth Cymru ei ddarparu a faint gan y grant cynnal gwasanaethau bysiau?

Yn olaf, pwysleisiodd bron bawb yn ein sesiynau tystiolaeth bwysigrwydd systemau cyhoeddiadau clyweledol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych, er bod hyn yn ymwneud â deiseb ar gyfer mynediad i bobl anabl yn awr, rwy'n ei chael hi'n anodd, yn enwedig gyda'r nos pan fo'r trenau'n dywyll a phethau. Weithiau nid yw'r cyhoeddiadau'n hawdd, felly os wyf fi'n cael trafferth, yna yn bendant dylai pobl allu clywed a gweld yn union ble y maent, a phryd y bydd angen iddynt adael y trên, er mwyn sicrhau, unwaith eto, y gallant fod yn barod, ac felly nad oes unrhyw berygl o ddamwain. Yr hyn oedd yn fy mhoeni mewn llawer o'r dystiolaeth a gafwyd oedd nid yn gymaint pa mor anghyfleus oedd hi i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ond eu bod yn teimlo ei fod yn beryglus ar adegau, a'u bod yn teimlo'n niwsans. Roeddent yn teimlo'n anniogel ar adegau hefyd, a chredaf fod hynny'n adlewyrchiad trist, mewn gwirionedd, pan feddyliwch sut y gallwn ni symud o gwmpas mor hawdd. Cawsom ein sicrhau gan weithredwyr gwasanaethau bysiau wrth iddynt roi tystiolaeth eu bod yn sicrhau y byddant yn caffael systemau cyhoeddiadau clyweledol ar eu cerbydau newydd. Ond rwyf am i chi weithio gyda'r diwydiant, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau bod hyn yn cael ei wireddu.

Fe sonioch am ddefnyddio'r gefnogaeth a'r adnoddau ariannol sydd gennym, a tybed pa ymrwymiad y gallwch ei wneud heddiw. Rhaid i fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pawb fod yn hawl, nid yn fraint, ac mae'n hanfodol ar gyfer gweithio tuag at Gymru fwy ffyniannus a mwy gwyrdd.

Rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo dycnwch a phenderfyniad y deisebwyr ifanc yn dwyn y mater hwn i frig yr agenda yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Gobeithiaf y bydd defnydd hawdd o drafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth sy'n digwydd ym mhobman erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Da iawn bawb a gyflwynodd dystiolaeth i ni gan Whizz-Kidz. Diolch.

17:10

Mae'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau gan Whizz-Kidz yn galw'n briodol am i bobl anabl gael yr hawl i fynediad llawn at drafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen—galwad a glywais yn gyntaf oddeutu 15 mlynedd yn ôl ar y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, rhywbeth y mae pawb ohonom yn ein tro wedi ei gefnogi, ac eto, dyma ni.

Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ei fod yn edrych ymlaen 

'at weithio gyda'r sector trafnidiaeth gyhoeddus, ein hawdurdodau lleol ac yn bwysicach na dim, pobl anabl a phobl hŷn, a hynny er mwyn ymdrechu o'r newydd i weddnewid ein system trafnidiaeth gyhoeddus a chreu rhwydwaith cynhwysol a hygyrch'.

Ac amen i hynny, wrth gwrs. Fodd bynnag, wrth dderbyn argymhellion y Pwyllgor Deisebau, mae llawer o'i ymateb wedyn yn gyfystyr â dweud 'gan bwyll bach'.

Ar argymhelliad 1, mae'n derbyn hynny, ond wedyn mae'n mynd rhagddo i ddweud 

'Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i annog gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i fabwysiadu'r cynllun "waled oren"'

ar gyfer defnyddwyr bysiau a rheilffyrdd ar draws Cymru. Felly, mewn gwirionedd mae'n gyfystyr ag argymhelliad i barhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud. Roedd yr argymhelliad hwnnw hefyd yn cynnwys galwadau arno i

'ymchwilio i ba mor ymarferol yw ei ddefnyddio mewn tacsis a cherbydau hurio preifat.'

Nid oes unrhyw gyfeiriad at hynny o gwbl yn ei dderbyniad o'r argymhelliad y methodd fynd i'r afael ag ef wedyn. Ac mae hyn yn arbennig o bwysig, o gofio canfyddiadau adroddiad Anabledd Cymru fis Hydref diwethaf, fel yr adroddodd BBC Cymru, fod rhai gwasanaethau tacsi yng Nghymru yn gwrthod codi teithwyr sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu gŵn cymorth, gan eu gadael yn ddiymgeledd ac wedi'u bychanu. Galwodd Anabledd Cymru bryd hynny ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r deddfau yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl.

Mae'n derbyn argymhelliad 3, sy'n galw am weithio gyda chwmnïau trenau 

'i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i deithwyr anabl'.

Unwaith eto, swm a sylwedd ei ymateb yw: 

'Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd er mwyn gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i deithwyr.'

Ble mae'r newid mawr sydd ei angen? Mae'n derbyn argymhelliad 6 ar fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, gan ddweud yn gywir fod 

'Diffyg hyfforddiant addas i staff rheng flaen yn y sector trafnidiaeth yn rhwystr wrth ddefnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.'

A dywed:

'Byddwn yn gweithio gyda grwpiau diddordeb a'r gweithredwyr er mwyn datblygu'r hyfforddiant'.

Ond mae hyn yn osgoi'r mater allweddol o bwy felly fydd yn darparu'r hyfforddiant hwnnw.

Mae argymhelliad 11 yn dweud: 

'Dylai'r safonau cenedlaethol cyffredin i'w datblygu gan Lywodraeth Cymru gynnwys gofyniad i bob gyrrwr yng Nghymru gwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd cyffredinol'.

O dderbyn hynny, mae'n dweud:

'Disgwylir y bydd awdurdodau trwyddedu lleol yn sicrhau bod yr holl yrwyr sy'n gweithio yn eu hardaloedd yn cael yr hyfforddiant a roddir gan Lywodraeth Cymru.'  

Fel y dywedais ar Good Morning Wales fore Sadwrn diwethaf, i'r rhai ohonoch sy'n effro'n gynnar, wrth fabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, wrth ddileu'r rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb, nid oes unrhyw werth mewn gyrru pobl ar gyrsiau hyfforddi gydag ymgynghorwyr allanol neu gyrsiau hyfforddi'r Llywodraeth, neu gyrsiau hyfforddi a ddarperir gan eich rheolwr llinell. Os yw pobl yn mynd i ddatblygu ymwybyddiaeth go iawn o anabledd, rhaid iddynt gael yr hyfforddiant hwnnw gan yr arbenigwyr, a'r unig arbenigwyr yn y maes hwn yw pobl anabl eu hunain.

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi dweud:

Credwn fod hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd i staff trafnidiaeth ym mhob sector yn hollbwysig ac y dylai hyfforddiant o'r fath gynnwys ymwybyddiaeth sylfaenol o fyddardod.

Ar lefel bersonol, buaswn yn cefnogi hynny wrth gwrs, ond rhaid i hynny gynnwys pobl sydd â nam ar eu clyw eu hunain. Ar ôl i etholwr a ffrind sy'n byw yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wynebu problemau ar daith Virgin Trains—etholwr a ffrind sydd ar y sbectrwm awtistiaeth—fe edrychais ar ei achos, a'r canlyniad cadarnhaol yw fy mod yn mynd ag ef fis nesaf i academi dalent Virgin Trains yng ngorsaf Crewe iddo ddarparu sesiwn hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o awtistiaeth i'w staff. Dyna'r ffordd y dylem fod yn symud ymlaen.

Fel y mae'r elusen Cŵn Tywys yn ei ddweud, mae Llywodraeth y DU

wedi cytuno i wneud pob bws yn hygyrch i bobl â nam ar ei golwg neu eu clyw.

Maent yn canmol Llywodraeth Cymru ar fod y Llywodraeth gyntaf i fynnu bod gweithredwyr yn gosod cyfarpar cyhoeddiadau clyweledol stop nesaf, ond maent wedi gofyn i mi ofyn i chi a oes unrhyw gynlluniau i ymgynghori â Llywodraeth y DU er mwyn cyflwyno rheoliadau a chanllawiau cyffredin ar draws y ddwy wlad, gan fod gan lawer o weithredwyr bysiau wreiddiau sy'n gweithredu ledled Cymru a Lloegr, ac wrth gwrs, byddai methu gwneud hynny'n creu rhagor o rwystrau i bobl sydd wedi colli'u golwg.

Mae amser yn brin. Rydym wedi cael deddfwriaeth ar ôl deddfwriaeth, deddfwriaeth dda, yn llawn bwriadau da sydd i fod i ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau gyda phobl yn hytrach nag ar eu cyfer ac iddynt, ac eto clywn straeon arswyd am wrthod mynediad o hyd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn at y llwybr arfordirol yn Sir y Fflint, a chymuned y bobl fyddar yng Nghonwy yn gorfod mynd at yr ombwdsmon wedi i'r cyngor ddadgomisiynu eu gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain ar ôl y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant; ac er gwaethaf Deddf Cydraddoldeb 2010. Dewch wir, mae angen inni gael newid mawr. Mae 15 mlynedd i mi yma o aros am y newid mawr yn rhy hir i aros ac mae ddegawdau'n rhy hir i bobl sydd â namau corfforol ledled Cymru.

17:15

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth? Ken Skates.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad, ac ar ran Llywodraeth Cymru, rwy'n falch iawn o dderbyn pob un o'r 12 argymhelliad a gyflwynwyd gan y pwyllgor yn y ddadl heddiw. Mae'r ffordd y cynhaliwyd y ddadl yn adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth y pwyllgor ymddwyn yn ystod ei ymchwiliad, ac unwaith eto, hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau i'r pwyllgor am y gwaith rhagorol a wnaed.

Fel y dywedais yn fy ymateb ysgrifenedig i'r adroddiad ac argymhellion y pwyllgor, rwy'n credu bod y ddeiseb a gyflwynwyd gan Whizz-Kids, yn galw am weithredu er mwyn sicrhau y gall pobl anabl gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen wedi hoelio'r sylw ar y rhwystrau a wynebir gan bobl anabl pan fyddant yn defnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac yn arbennig, roedd y dystiolaeth fideo a gyflwynwyd i'r pwyllgor i gefnogi'r ddeiseb yn arddangosiad pwerus o'r anawsterau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau y mae pob un ohonom fwy neu lai yn y Siambr hon yn eu cymryd yn ganiataol.

Hoffwn ganmol Whizz-Kids am y gwaith y maent hwy a'r Pwyllgor Deisebau wedi'i wneud i dynnu sylw at rai o'r materion hynny. Rhannaf y rhwystredigaeth a fynegwyd gan bobl anabl a phobl sydd â symudedd cyfyngedig wrth geisio defnyddio ein system trafnidiaeth gyhoeddus. Teimlwn ei bod ar adegau'n ddirdynnol gweld yr heriau beunyddiol a wynebir gan bobl sydd ond eisiau gallu cysylltu'n well â phobl eraill, â mannau eraill, â gwasanaethau ac i weithio.

Ddirprwy Lywydd, credaf fod gormod o orsafoedd trenau yng Nghymru yn parhau i fod yn anhygyrch a bod gormod o'r cerbydau trenau ar ein rhwydwaith yn methu cyrraedd y safon y dylem ei derbyn yn 2018. Ond wrth ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer Cymru yn y dyfodol, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Network Rail a'r gweithredwr trenau nesaf i wella mynediad at y rheilffyrdd ar gyfer yr holl bobl. Wrth gwrs, ni fydd newid yn digwydd dros nos, ond rhaid iddo ddigwydd.

Rwy'n croesawu cefnogaeth y pwyllgor i'n hargymhellion i gyflwyno canllawiau statudol mewn perthynas ag ansawdd gwasanaethau bysiau lleol a darparu seilwaith bysiau lleol. Rydym wedi gwneud cynnydd ar wella gwasanaethau bysiau drwy ddefnyddio'r arian a ddarparwn drwy ein grant cynnal gwasanaethau bysiau i wella ansawdd gwasanaethau bysiau lleol fel y nodir yn ein safonau ansawdd bysiau Cymru gwirfoddol.

Mae gweithredwyr bysiau yn gosod systemau cyhoeddiadau clyweledol stop nesaf ar eu bysiau, a hoffwn longyfarch Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Casnewydd a Bysiau Arriva gogledd Cymru, sydd oll wedi gwneud cynnydd rhagorol dros y pedair blynedd diwethaf yn hyn o beth. Hoffwn groesawu penderfyniad Stagecoach hefyd i fuddsoddi mewn bysiau mwy newydd, crandiach a glanach sydd hefyd yn cynnwys technoleg cyhoeddiadau clyweledol stop nesaf.

Mae gwasanaethau bysiau'n gwella ac mae angen inni wella ein seilwaith bysiau. Byddaf yn cyflwyno argymhellion manwl yn y gwanwyn ar sut y gallwn gynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn yn y dyfodol, ynghyd â sut y gallwn wella tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat drwy gyfundrefn drwyddedu well, wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion pobl Cymru—holl bobl Cymru. Fel y cyhoeddais yn ddiweddar, ym mis Hydref y llynedd rwy'n credu, byddwn yn rhoi sylw i adroddiadau yn y cyfryngau ynglŷn â mynediad at wasanaethau tacsi ar gyfer pobl anabl. Dywedodd Anabledd Cymru fod pobl yn cael eu hanwybyddu a thacsis yn gwrthod eu cludo, gan eu gadael yn ddiymgeledd ac wedi'u bychanu—yn ddiymgeledd ac wedi'u bychanu. Mae hynny'n rhywbeth na ddylai neb byth ei deimlo wrth deithio o A i B.

Dywedwyd wrthym fod gwell hyfforddiant ar gyfer staff trafnidiaeth rheng flaen yn ofyniad hanfodol os ydym yn mynd i fynd i'r afael â'r problemau a drafodwyd gennym heddiw. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais ddatganiad polisi gyda chwe amcan sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a gynlluniwyd ar gyfer gwella mynediad at ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys trefnu hyfforddiant gwell i staff sy'n darparu ein gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ansawdd yr hyfforddiant, wrth gwrs, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn gwbl allweddol. Byddwn yn gwneud yn siŵr y darperir hyfforddiant o'r ansawdd gorau i'r gwasanaethau trafnidiaeth.

17:20

Mae hyfforddiant yn bwysig iawn, ond mae gwneud yn siŵr fod pobl yn cyflawni'r hyn y cawsant eu hyfforddi i'w wneud yn bwysicach byth, onid yw?

O, yn bendant. Nid mater o ddod i gael hyfforddiant yn unig ydyw. Mae'n ymwneud â sicrhau eich bod yn cymhwyso'r hyn y cewch eich hyfforddi i'w wneud ar sail ddyddiol a'n bod yn defnyddio hyfforddiant fel ffordd o sicrhau newid diwylliannol yn y ffordd y defnyddir trafnidiaeth a'r ffordd y darperir trafnidiaeth.

Ond lluniwyd yr amcanion a amlinellais ym mis Rhagfyr, a hefyd y camau gweithredu sy'n sail iddynt, gan fy mhanel trafnidiaeth hygyrch, sy'n cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl, pobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu, a chyda grwpiau cydraddoldeb wrth gwrs. Felly, rwy'n hyderus y bydd yr hyfforddiant a ddarperir nid yn unig yn ddigonol, ond o'r safon orau sy'n bosibl. Rwyf hefyd yn falch fod Whizz-Kids wedi cyfrannu at y gwaith hwn.

I fynd ar drywydd nifer o bwyntiau eraill a grybwyllwyd, credaf fod yr hyn a ddywedodd David Rowlands a Janet Finch-Saunders am deithio pryd bynnag y bo angen, rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol er mwyn sicrhau y gall pobl fyw bywydau mor annibynnol â phosibl. Rwy'n meddwl bod yr hyn y siaradodd Mike Hedges a Rhun ap Iorwerth amdano, ynghylch y bygythiad o fyw bywyd sy'n eich gadael yn ynysig ac yn unig, yn real iawn i lawer o bobl. Roeddwn mewn digwyddiad ddydd Gwener diwethaf a gynhaliwyd gan Cyngor ar Bopeth i edrych ar sut y gellir defnyddio trafnidiaeth, gwell cysylltedd, i fynd i'r afael â thlodi, mewn ardaloedd gwledig yn benodol, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle y ceir pobl sydd â symudedd cyfyngedig. Mae'n mynd yn ôl i hierarchaeth anghenion Maslow. Os nad ydych wedi eich cysylltu â phobl a gwasanaethau, rydych yn fwy tebygol o fyw bywyd sy'n ofidus ac yn afiach, ac felly rydych yn cyfrannu at straen ar y GIG a hefyd yn rhwystro'r economi rhag tyfu fel y byddem yn dymuno.

Hefyd, o ran cyhoeddiadau clyweledol stop nesaf, roedd hyn yn rhywbeth a grybwyllwyd yn benodol gan Janet Finch-Saunders. Dyma safbwynt y mae pawb ohonom wedi ei arddel—y safbwynt a amlinellir yn yr argymhelliad—a chredaf na ddylai fod yn agored i'w drafod o gwbl. Mae'r hyn a ddefnyddiwn o'r grant cynnal gwasanaethau bysiau wedi ei gynllunio nid yn unig i wella ansawdd gwasanaethau bysiau ar gyfer rhai teithwyr, mae wedi ei gynllunio, ac fe ddylid ei ddefnyddio, ar gyfer gwella ansawdd gwasanaethau ar gyfer pob teithiwr. Felly, dylai pob gweithredwr gwasanaeth sy'n gwneud cais am arian y grant cynnal gwasanaethau bysiau wneud y gwelliannau hyn i gyhoeddiadau clyweledol stop nesaf.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod hi bellach yn bryd troi geiriau'n weithredoedd, a nawr yw'r amser i ddarparu system trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a chynhwysol fel y mae gan bobl Cymru hawl i'w ddisgwyl. A nawr yw'r amser, rwy'n meddwl, inni ddod at ein gilydd i atal unrhyw berson rhag cael eu gadael yn ddiymgeledd neu wedi'u bychanu gan fethiant trafnidiaeth i addasu i anghenion pob teithiwr yn yr unfed ganrif ar hugain.

17:25

Iawn, yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol i'r ddeiseb ac argymhellion y pwyllgor?

Soniodd Mike Hedges am ddewrder Whizz-Kidz yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor, ac ailadroddodd nifer o'r pwyntiau yn yr adroddiad, ond ychwanegodd fod pobl anabl yn aml yn penderfynu peidio â mynd allan am eu bod ofn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Soniodd hefyd am hyfforddi gyrwyr, gweithredwyr ac ati, a'r gwahaniaeth rhwng theori a chyflawniad y drefn hyfforddi honno ar lawr gwlad.

Rhoddodd Rhun ap Iorwerth adborth i ni gan ei etholwyr dros y blynyddoedd ac o'i ymgysylltiad â phobl anabl yn ei etholaeth. Soniodd fod pobl anabl yn teimlo eu bod yn faich ar deithwyr oherwydd eu bod yn achosi oedi, gan beri iddynt beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n arwain, wrth gwrs, at eu hynysu ac at unigrwydd. Soniodd Rhun hefyd y dylai pobl anabl allu defnyddio trafnidiaeth pryd bynnag y bo'i hangen arnynt.

Lleisiodd Janet Finch-Saunders ei hedmygedd o'r cyflwyniadau i'r pwyllgor wyneb yn wyneb ac ar fideo, a gofynnodd ynglŷn â'r cynllun cymorth waled oren. Soniodd hefyd am bwysigrwydd cymhorthion clyweledol ar bob math o drafnidiaeth, yn enwedig gorsafoedd rheilffordd. Dylai mynediad fod yn hawl i bobl anabl.

Dywedodd Mark Isherwood fod hon wedi bod yn broblem barhaus ers amser hir iawn, a gwnaeth y pwynt ei fod yn credu nad oedd Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor. Soniodd yn faith am yr awydd i gael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o anabledd, a'r angen i gydweithio'n drawsffiniol er mwyn darparu'r mynediad sydd ei angen.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich llongyfarchiadau i'r pwyllgor am y gwaith a wnaethom ar gynhyrchu'r adroddiad hwn. Soniodd Ken pa mor rymus oedd yr ymgysylltiad wedi bod yn y broses ymchwilio er mwyn nodi'r problemau a wynebir gan bobl anabl. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y gwelliannau a wnaed eisoes, ond cydnabu fod llawer mwy i'w wneud. Diolch iddo am ei amlinelliad helaeth o'i gynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau yn y dyfodol.

I grynhoi, rwyf am orffen drwy ailadrodd diolch y pwyllgor i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb, ac am y dystiolaeth rymus a theimladwy a ddarparwyd ganddynt. Rydym yn gobeithio y ceir gwelliannau go iawn yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf i wella profiadau pobl anabl ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus ac ar draws pob math o anabledd.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes; felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru

Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl ar y adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw. Lynne Neagle.

Cynnig NDM6642 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol. Mae salwch meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at un o bob pump menyw yng Nghymru. Gydag oddeutu 33,000 o enedigaethau y flwyddyn, mae hynny'n golygu bod hyd at 6,600 o fenywod yng Nghymru yn cael problemau iechyd meddwl a achosir neu a waethygir gan feichiogrwydd neu eni plant bob blwyddyn.

Nid yw salwch meddwl amenedigol yn brin, nid yw'n rhyfedd ac nid yw'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Clywsom hefyd nad mamau'n unig yr effeithir arnynt—gall partneriaid ddioddef hefyd, fel y gall aelodau o'r teulu ehangach sy'n ceisio cefnogi eu hanwyliaid yn emosiynol ac yn ariannol yn ystod cyfnodau o salwch.

Y rheswm sylfaenol pam y dewisodd ein pwyllgor ystyried y pwnc hwn yw'r ffaith y gall salwch meddwl amenedigol effeithio ar blant. Profwyd bod y 1,000 o ddyddiau cyntaf o fywyd plentyn, o feichiogrwydd i ail ben-blwydd y plentyn, yn gyfnod allweddol o amser sy'n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad yr unigolyn a'i iechyd gydol oes. Mae'n gyfnod o botensial enfawr, ond o fregusrwydd enfawr hefyd. Datblygir cyswllt cryf rhwng y baban a'r sawl sy'n gofalu'n bennaf amdanynt drwy ymddygiad cadarnhaol ac ymatebol. O ganlyniad, gall iechyd meddwl gwael yn y rhiant effeithio'n sylweddol ar iechyd a datblygiad plentyn. Ond nid oes raid i'r darlun fod yn gwbl ddiobaith. Mae pobl yn dod drwy hyn. Yn wir, dywedodd y rhai a roddodd dystiolaeth i ni y gall menywod, gyda'r gofal a'r cymorth cywir, wella'n llwyr a byw bywydau teuluol cyflawn.

Felly, beth a welsom? Dysgasom mai gofal yn y gymuned fydd yr ateb mwyaf priodol i'r rhan fwyaf o fenywod. O'i ddarparu'n effeithiol, bydd yn galluogi mamau i aros yn agos at eu teuluoedd. Gall gofal yn y gymuned chwarae rôl hanfodol wrth ymyrryd yn gynnar, gan atal dirywiad salwch meddwl mewn mamau amenedigol, lleihau'r angen i deithio i gael gofal a lleddfu pwysau ar ysbytai.

Yn ystod ein hymchwiliad, fe ddarganfuom fod y £1.5 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol cymunedol ddwy flynedd yn ôl yn dwyn ffrwyth. Erbyn hyn, mae pob bwrdd iechyd wedi sefydlu timau sydd, ar y cyfan, yn weithredol. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos bod amrywio amlwg o hyd yn y modd y darperir gwasanaethau rhwng, a hyd yn oed o fewn ardaloedd byrddau iechyd weithiau. Gall y cymorth sydd ar gael i fenywod sydd â salwch meddwl amenedigol amrywio'n sylweddol.

Er ein bod yn canmol yr ymdrechion a wnaed i sefydlu timau newydd ledled Cymru ac yn cydnabod ymrwymiad sylweddol y staff sy'n gweithio'n galed i gyflwyno a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, daethom i'r casgliad nad yw'r amrywio presennol yn dderbyniol. Clywsom am amseroedd aros sylweddol am rai gwasanaethau, yn enwedig therapïau siarad a therapïau seicolegol. Clywsom hefyd fod y galw'n fwy na'r hyn y gellir ei ddarparu.

Rydym yn cydnabod nad yw timau cymunedol arbenigol ond wedi bod ar waith am gyfnod byr, ac rydym yn croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma. Fodd bynnag, yn seiliedig ar yr hyn a glywsom, credwn nad yw gwasanaethau yng Nghymru ar hyn o bryd yn diwallu anghenion menywod sy'n dioddef, neu mewn perygl o ddioddef salwch meddwl amenedigol, mewn ffordd deg a chynhwysfawr. Credwn y dylai gwasanaethau amserol o ansawdd uchel fod yn ddisgwyliad ac yn hawl i bob menyw, a heb fod yn dibynnu ar ble y maent yn byw. Fel y cyfryw, rydym yn gwneud nifer o argymhellion allweddol sy'n berthnasol i'r maes hwn yn ein hadroddiad.

Yn gyntaf, rydym yn argymell bod angen darparu mwy o arian er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn cyrraedd y safon orau. Yn argymhelliad 9, rydym yn datgan ein cred mai rhoi sylw i'r amrywio yn y modd y darperir gwasanaethau rhwng byrddau iechyd yng Nghymru ddylai'r prif nod fod ar gyfer dyrannu'r cyllid ychwanegol hwn. Rydym yn ymwybodol iawn o'r cyfyngiadau ariannol sy'n wynebu'r GIG ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credwn yn gryf y gellid gwneud dadl buddsoddi i arbed am y cyllid ychwanegol hwn, yn seiliedig ar gostau salwch meddwl amenedigol.

Dywedwyd wrthym fod cost salwch meddwl amenedigol i'r GIG, ledled y DU, ar gyfer pob blwyddyn o enedigaethau, yn £1.2 biliwn. Amcangyfrifir bod y gost hirdymor i gymdeithas y DU yn gyfan yn £8.1 biliwn. Ni ddylai fod yn gwestiwn ynglŷn ag a allwn fforddio buddsoddi yn y gwasanaethau hyn, ond yn hytrach, a allwn fforddio peidio. Nodwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ac mae'n cyfeirio at yr £20 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd nesaf. Er ein bod yn croesawu hyn, byddem yn croesawu sicrwydd pellach gan Lywodraeth Cymru y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaethau iechyd amenedigol pan ddaw'n bryd i'r byrddau iechyd ddyrannu'r cyllid hwnnw.

Testun pryder arbennig i ni oedd clywed am y diffyg cymorth seicolegol ar draws Cymru ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Clywsom pa mor ddefnyddiol y gallai fod, naill ai wedi'i ddarparu ar sail unigol neu fel rhan o grŵp. Mae argymhelliad 10 yn datgan y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y gwaith sydd eisoes ar y gweill ganddi ar hyn i wella mynediad at therapïau seicolegol ar gyfer menywod amenedigol, a dynion lle bo angen, yn cael ei flaenoriaethu, o ystyried y cyswllt a brofwyd rhwng salwch amenedigol ac iechyd a datblygiad plant. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a bydd yn dilyn y cynnydd ar ei weithrediad yn ofalus.

Yn anffodus, i rai menywod, nid yw gofal yn y gymuned yn opsiwn. Amcangyfrifir y bydd cymaint â 100 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru yn dioddef symptomau mor ddifrifol fel y bydd angen eu derbyn i uned cleifion mewnol. Yn dilyn cau'r unig uned mamau a babanod yng Nghymru yn 2013, clywsom fod rhai menywod o Gymru yn gorfod teithio mor bell â Derby, Llundain a Nottingham am y driniaeth hon ac roedd eraill yn cael eu trin mewn wardiau seiciatrig oedolion wedi'u gwahanu oddi wrth eu babanod. Daethom i'r casgliad fod hyn yn gwbl annigonol.

Er ein bod yn derbyn y bydd y gwasanaethau mwyaf arbenigol weithiau'n ei gwneud hi'n ofynnol i gleifion deithio, mae ein hadroddiad yn glir fod angen datblygu uned mamau a babanod yng Nghymru. Galwodd argymhelliad 6 ar Lywodraeth Cymru i sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru, wedi'i chomisiynu a'i hariannu ar sail genedlaethol i ddarparu gwasanaethau i Gymru gyfan ac wedi'i staffio'n ddigonol o ran niferoedd a disgyblaethau. Fodd bynnag, mae ein seithfed argymhelliad yn cydnabod na fydd uned yn ne Cymru o reidrwydd yn addas ar gyfer mamau a theuluoedd yng nghanolbarth a gogledd Cymru, er enghraifft. Fel y cyfryw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu fel mater o frys gyda'r GIG yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu'r ddwy boblogaeth o bobtu'r ffin.

Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion hyn, rydym yn siomedig ei bod hi'n dal yn aneglur beth fydd y model gofal i gleifion mewnol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn pryderu nad yw'r data y gofynasom amdano am lefel y galw am ofal i gleifion mewnol heb ei gyhoeddi eto, a gobeithiwn glywed mwy am hyn yn ateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r ddadl.

Hoffwn symud ymlaen yn awr i drafod ymwybyddiaeth o iechyd meddwl amenedigol. Roedd hi'n amlwg o'n hymchwiliad fod hyn yn dal yn wael ymhlith y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Roedd staff rheng flaen, gan gynnwys bydwragedd a meddygon teulu, yn nodi eu bod yn teimlo nad oedd ganddynt allu i nodi a thrin salwch meddwl mewn mamau. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i wella dealltwriaeth o iechyd meddwl amenedigol a'r symptomau. Rydym yn siomedig ynglŷn â'r penderfyniad i wrthod yr argymhelliad hwn, ond edrychaf ymlaen at glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ateb am y dulliau addysg gyhoeddus a fydd yn fwyaf effeithiol yn ei farn ef ar gyfer cyrraedd y lefelau o ymwybyddiaeth y credwn eu bod yn hollbwysig os ydym am leihau'r lefel uchel o stigma yr adroddwyd wrthym yn ei gylch yn ystod ein hymchwiliad.

Hefyd roedd yr angen i wella'r dull o nodi salwch meddwl amenedigol a gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cleifion bregus yn cael eu nodi'n gyflym ac yn derbyn y gofal parhaus sydd ei angen arnynt yn themâu allweddol. Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylai pob bwrdd iechyd gael bydwraig iechyd meddwl amenedigol arbenigol mewn swydd i helpu gyda hyn a bod gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n debygol o wynebu'r materion hyn yn cael hyfforddiant cyn cofrestru a datblygiad proffesiynol parhaus ar iechyd meddwl amenedigol, ac edrychwn ymlaen at glywed sut y datblygir y gwaith hwn.

Roedd pwysigrwydd bondio ac ymlyniad yn thema allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr ymchwiliad. Dywedwyd wrthym, os na chaiff ymlyniadau cadarn eu sefydlu yn gynnar mewn bywyd, y gall plant fod mewn mwy o berygl o wynebu canlyniadau andwyol, gan gynnwys iechyd meddwl a chorfforol gwael a chyrhaeddiad addysgol isel. Rydym yn siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod ein tri argymhelliad yn y bennod hon. Credwn fod ein hawgrym o ymwelydd iechyd arbenigol gyda ffocws ar iechyd meddwl amenedigol ac iechyd babanod yn haeddu mwy o ystyriaeth. Rydym hefyd yn credu bod ystyriaeth bellach o effaith bwydo ar iechyd meddwl amenedigol yn hanfodol. Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet fod yna dystiolaeth sy'n gwrthdaro yn y maes hwn ar hyn o bryd yw'r union reswm pam y galwasom am wneud gwaith pellach, ac rydym yn ei annog i edrych ar hyn eto.

Yn olaf, roedd y defnydd o feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd yn thema allweddol a gododd yn y dystiolaeth. Credwn fod hwn yn faes sy'n galw am sylw sylweddol er budd gweithwyr proffesiynol a chleifion fel ei gilydd. Mae pennod olaf ein hadroddiad yn dechrau sgwrs am y cysylltiad rhwng anghydraddoldebau iechyd ac iechyd meddwl. Mae'n amlwg fod y cyfnod amenedigol yn cynnig cyfle penodol i ddiogelu lles yn y tymor hir. Credwn fod angen rhagor o ymdrech i gyrraedd grwpiau mwy agored i niwed ac mae angen ymchwil pellach i nodi'r dulliau gorau o nodi a thrin problemau'n gynnar ymhlith y poblogaethau mwyaf anghenus. Rydym yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhellion ac edrychwn ymlaen at eu monitro.

Wrth dynnu tua'r terfyn, hoffwn gydnabod cyfraniad aruthrol y sector elusennol a gwirfoddol ym maes iechyd meddwl amenedigol a chefnogi rhieni newyddenedigol a rhieni sydd wedi cael profedigaeth. Roedd hi'n amlwg o'r hyn a glywsom mai'r trydydd sector yn aml sy'n nodi bylchau yn y ddarpariaeth ac yn bwrw iddi i'w llenwi. Heb y trydydd sector, ni fyddai llawer o wasanaethau pwysig yn bodoli. Mae nifer o'n hargymhellion yn ymwneud â hyn, nid yn lleiaf ein galwad am wneud rhagor i ddarparu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn ac i godi ymwybyddiaeth ohonynt. Credwn y bydd hyn yn galluogi'r sector statudol a'r trydydd sector i ddod at ei gilydd i ddarparu ymyriadau integredig sy'n effeithiol yn glinigol ac yn gosteffeithiol. Rydym hefyd yn adleisio'r galwadau a wnaed gan elusennau arbenigol am gyhoeddi safonau newyddenedigol diwygiedig. Mae wedi cymryd yn rhy hir i'r rhain gael eu cyhoeddi, ac rwyf am bwysleisio wrth Ysgrifennydd y Cabinet yr angen i'r safonau hirddisgwyliedig hyn gael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r holl sefydliadau a'r gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymwneud mor frwd â'r ymchwiliad hwn, a diolch hefyd i bawb a oedd â phrofiad uniongyrchol o'r pethau hyn a fu mor barod i rannu eu barn gyda ni. Mae eu profiadau wedi bod mor hanfodol i waith y pwyllgor ar hyn. Diolch.

17:40

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am araith agoriadol ardderchog ac am wneud gwaith mor dda yn cadeirio'r gwaith pwysig hwn wrth inni ddechrau ar ymchwiliad y pwyllgor? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a chynghorwyr y pwyllgor hefyd, am eu cefnogaeth drwy gydol ei waith?

Fel y dywedodd y Cadeirydd yn gwbl briodol, nid yw cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd yn ddim byd newydd: bydd un o bob pump o fenywod yn eu profi. Er gwaethaf hyn, credaf ein bod wedi cael ein siomi a'n digalonni mewn gwirionedd ynghylch y lefel isel iawn o ymwybyddiaeth a geir ymysg rhai o'r aelodau o staff rheng flaen ynglŷn â beth i'w wneud pan fydd rhai menywod yn cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu'n union ar ôl rhoi genedigaeth. Dyna pam y credaf fod yr argymhellion hynny, yn enwedig ynghylch uwchsgilio'r gweithlu staffio rheng flaen, a chael swyddi arbenigol fel y gallant fod yn adnodd i'r tîm ehangach, mor bwysig a hanfodol.

O ran unedau mamau a babanod, cafwyd peth dadlau, wrth gwrs, am yr angen am uned mamau a babanod yn ne Cymru, ond roedd yn eithaf amlwg y byddai angen un. Mewn perthynas â gogledd Cymru, wrth gwrs, mae'n llawer mwy cymhleth, oherwydd teneurwydd y boblogaeth. Dywedwyd wrthym fel pwyllgor fod yr unig welyau sydd ar gael ar hyn o bryd—y rhai agosaf at y bobl yng ngogledd Cymru sydd eu hangen—dros y ffin ym Manceinion. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru ystyried darparu adnoddau wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru—y gallai pobl o ogledd-orllewin Lloegr eu defnyddio—er mwyn gwella mynediad ar gyfer mamau a babanod. Oherwydd roedd yn eithaf amlwg o'r dystiolaeth a gawsom gan famau a oedd wedi bod drwy'r felin o ran salwch meddwl amenedigol ac angen eu derbyn i unedau mamau a babanod fod y ffaith eu bod gryn bellter i ffwrdd wedi eu hatal rhag gwneud y penderfyniad pwysig i fynd yno mewn gwirionedd, er bod yr holl dystiolaeth a gawsom wedi nodi'n glir iawn fod y canlyniadau'n llawer iawn gwell i famau a'u plant os caiff mam ei derbyn i leoliad priodol mewn uned mamau a babanod yn hytrach nag i ward seiciatrig oedolion a chael ei gwahanu oddi wrth ei phlentyn.

Dywedwyd wrthym gan ystadegwyr fod rhagweladwyedd yr angen yn eithaf clir: yn seiliedig ar ein poblogaeth a chyfraddau geni, bydd yna bob amser rywle rhwng 45 a 65 o famau y flwyddyn angen eu derbyn i'r mathau hyn o wardiau. Nawr, oherwydd y boblogaeth yng ngogledd Cymru, rydym yn sôn am niferoedd bach iawn. Rydym yn siarad am lond llaw, dwsin ar y mwyaf, yn y rhanbarth a allai fod angen mynediad at y pethau hyn, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem geisio darparu o fewn y rhanbarth os yn bosibl.

Credaf mai un peth yr oeddwn yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio ato yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o ymdrech i ymgysylltu â rhai o'r comisiynwyr dros y ffin yn Lloegr o ran ceisio cael trafodaeth ynghylch ble y gallai fod yn bosibl lleoli'r mathau hyn o wasanaethau yn y dyfodol.

O ran gogledd Cymru, un o'r pethau a oedd yn drawiadol iawn pan oeddem yn derbyn tystiolaeth oedd y dystiolaeth a oedd yn ymwneud â diffyg mynediad at y therapïau seicolegol hyn. Mae pawb ohonom wedi cael e-bost gan Dwynwen Myers, sy'n un o'r seicolegwyr clinigol amenedigol yng ngogledd Cymru, ac mae hi wedi ei gwneud yn gwbl glir fod ganddi 18.5 awr yr wythnos i wasanaethu'r cyfan o ogledd Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol yn y rhanbarth. Treulir llawer o'r amser hwnnw'n teithio o un lle i'r llall. Rhoddodd enghraifft o dreulio tair awr yn y car mewn diwrnod gwaith chwe awr a chwarter o hyd. Mae hynny'n annerbyniol. Ni allwn gael sefyllfa lle nad yw pobl sydd angen mynediad at therapi seicolegol yn ei gael. Wrth i ni ddatrys problemau cyn iddynt waethygu, gwyddom weithiau y gall ddatrys pethau mewn ffordd sy'n gwneud pethau'n well ymhellach i lawr y ffordd. Felly, rwy'n bendant yn cefnogi'r angen i wario i arbed yn y maes penodol hwn fel y gallwn wneud pethau'n iawn yn y dyfodol.

Hoffwn dalu teyrnged yn ogystal, fel y gwnaeth y Cadeirydd, i'r sector gwirfoddol ac am y gwaith y maent yn ei wneud. Cawsom dystiolaeth emosiynol iawn gan fenywod a oedd wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd dros ben, a rhai ohonynt wedi cyrraedd pwynt lle roeddent eisiau cyflawni hunanladdiad ar adegau, menywod a oedd wedi chwilio'n ddygn drwy eu hardaloedd lleol am gymorth ac a oedd wedi baglu'n sydyn ar draws grwpiau lleol yn aml iawn, grwpiau cymorth, grwpiau cymorth gan rai a oedd wedi bod drwy'r un peth. Ni allwn danbrisio eu gwerth yn fy marn i. Yn bersonol, hoffwn yn fawr weld y gwasanaethau hynny'n cael eu mapio ledled Cymru a chyllid sbarduno i'w helpu i dyfu ac i wella ansawdd yr hyn a wnânt. Os oes un peth y credaf y byddai'n gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'r sefydliadau hynny, ychydig o arian sbarduno yw hwnnw, er mwyn iddynt dyfu'r rhwydweithiau cymorth y gallant eu darparu.

Felly, hoffwn longyfarch y Cadeirydd ar yr ymchwiliad rhagorol, ac er fy mod yn hapus iawn gydag ymateb y Llywodraeth, credaf fod rhai meysydd yn ddiffygiol yn yr ymateb hwnnw, ac edrychaf ymlaen at glywed gweddill y ddadl.

17:45

Rwyf innau hefyd am gychwyn drwy ategu’r diolchiadau i’r Cadeirydd a’m cyd-aelodau o’r pwyllgor, i’r clercod a’r swyddogion a hefyd i’r rhanddeilaid, sydd wedi chwarae rhan deinamig iawn yn y drafodaeth yma, mae’n rhaid imi ddweud—yn fwy felly yn yr achos yma, rydw i’n meddwl, nag mewn unrhyw ymchwiliad arall rydw i wedi bod yn rhan ohono fe. Mae’n rhaid imi ddweud hefyd, mae’n debyg mai hwn yw un o’r ymchwiliadau mwyaf dirdynnol rydw i wedi cael y profiad o fod yn rhan ohono fe yn fy amser i fan hyn yn y Cynulliad. Roedd clywed straeon rhai o’r mamau a oedd yn dioddef o salwch meddwl amenedigol yn dorcalonnus ar adegau, wrth gwrs, a chlywed y straeon yna ar yr adeg mwyaf bregus yn eu bywydau: eu bod nhw’n gorfod penderfynu gadael eu plant ar ôl er mwyn cael y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnyn nhw i wella. Ni allaf ddychmygu unrhyw beth a fyddai, mewn gwirionedd, yn gwneud y cyflwr yn waeth na gorfod gwneud penderfyniad o’r fath. Ond rydw i yn cysuro fy hun, os caf i ddweud, drwy obeithio efallai mai hwn fydd un o’r ymchwiliadau mwyaf llwyddiannus hefyd o safbwynt gwireddu rhai o’r argymhellion y mae’r pwyllgor yn eu gwneud. Gwnaf i ddim siarad yn rhy fuan, ond rydw i yn meddwl bod arwyddion positif iawn o safbwynt rhai o’r prif argymhellion.

Yn amlwg, mae’r argymhelliad cyntaf o sefydlu rhwydwaith clinigol rheoledig wedi’i dderbyn gan y Llywodraeth, ac mae hynny yn rhywbeth rydw i’n ei groesawu yn fawr iawn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed nawr gan y Gweinidog ynglŷn â’r gwaith sydd wedi digwydd ar y ffrynt yna o safbwynt sefydlu’r rhwydwaith a’r gwaith o recriwtio rôl arweinyddol a oedd i fod i ddigwydd yn ystod y flwyddyn ariannol yma, os ydw i’n deall yn iawn. Felly, byddwn i eisiau clywed pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud eisoes i’r perwyl yna.

Galwad clir arall o’r ymchwiliad, fel rydym ni wedi ei glywed yn barod, wrth gwrs, oedd honno am uned fewnol, 'in-patient', i famau a babanod. Ers i’r uned yng Nghaerdydd gau yn 2013, mae yna ddadlau wedi bod ynglŷn â’r angen i ailsefydlu y gwasanaeth. Mae yna, wrth gwrs, argymhelliad clir ynglŷn â'r lle y dylai’r uned yna fod, ond mae yna hefyd, fel rydym ni wedi ei glywed, neges glir ynglŷn â’r angen i ddarparu gwasanaeth yn y gogledd. Fel Aelod dros ranbarth y gogledd, ni fyddech chi ddim yn disgwyl i fi ddadlau yn wahanol. Mae yna gyfle fan hyn—mae yna gyfleoedd yr ydym ni wedi cyfeirio atyn nhw mewn cyd-destunau eraill yn y gorffennol—i ddatblygu gwasanaethau trawsffiniol, sydd ddim o reidrwydd yn golygu traffig unffordd o bobl sydd angen gwasanaeth yn gorfod teithio i orllewin Lloegr i gael mynediad i’r gwasanaethau yma. Mae yna gyfle fan hyn, rydw i'n meddwl, i ni droi hynny ar ei ben drwy drafodaeth gyda’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr i sefydlu canolfan o bosib yng ngogledd-ddwyrain Cymru a fyddai wedyn ar gael, wrth gwrs, i ardal a dalgylch ehangach. Felly, mae hynny yn rhywbeth—fel y mae’r adroddiad yn ei argymell—y mae angen iddo fod yn destun trafodaethau brys, a byddwn i’n gobeithio bod y Llywodraeth yn mynd ar ôl hynny.

Wrth gwrs, yn gyfochrog â’r ymchwiliad yma, mi gawsom ni gytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth a oedd wedi sicrhau ymrwymiad i greu darpariaeth arbenigol 'in-patient' iechyd meddwl amenedigol, a byddwn i’n awyddus i glywed beth yw’r diweddaraf o safbwynt gwireddu hynny. Rydw i'n gwybod am y gwaith y mae WHSSC wedi bod yn ei wneud wrth ystyried opsiynau, a byddai’n dda gwybod ble'r ydym ni arni, oherwydd bod amser yn bwysig yn y cyd-destun yma. Ond, yn sicr, rwy’n falch o rôl fy mhlaid i i sicrhau bod y gwasanaeth yma am ddod yn realiti yn y dyfodol, gobeithio, cymharol agos, os yn bosibl. Felly hefyd, wrth gwrs, yr elfen arall yn y gytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth i sicrhau £20 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol bob blwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl ehangach. Nid oes amheuaeth y bydd elfennau o hwnnw yn cyfrannu at lawer o'r uchelgais sydd yn yr adroddiad yma gan y pwyllgor, yn enwedig, fel mae'r Gweinidog wedi cydnabod wrth ymateb i'r argymhellion, mewn taclo'r amrywiaeth sydd wedi bod mewn gwasanaethau rhwng y gwahanol ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru. Mi glywsom y term 'loteri cod post', fel sy'n cael ei glywed mewn cyd-destunau eraill, ond yn sicr mae angen nawr mynd i'r afael â hynny. 

Mae hyfforddiant y gweithlu ehangach, wrth gwrs, yn bwysig—y pwyslais a glywsom ni gan y Cadeirydd i fuddsoddi mewn ffactorau ataliol; hynny yw, buddsoddi i arbed. Mi glywsom ni ffigurau o safbwynt y gost nid yn unig i'r gwasanaeth iechyd ond i'r gymdeithas yn ehangach, a buddsoddi rhag blaen yn fodd o arbed pres, ac nid dim ond arbed pres, wrth gwrs, ond arbed y boen a'r gwewyr y mae'r unigolion hynny yn ei ddioddef lle fyddai modd efallai fod wedi taclo llawer o hyn llawer, llawer yn gynt.

Rydw i'n gweld bod amser yn fy erbyn i. Felly, mi wnaf i orffen drwy gyfeirio, wrth gwrs, at yr elfen arall—ffactor arall bwysig sy'n cael ei chydnabod, sef, stigma, sydd yn gyffredin i bob math o broblemau iechyd meddwl. Mi gymeraf i'r cyfle i atgoffa fy nghyd-Aelodau bod yfory yn Ddiwrnod Amser i Siarad, i helpu rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl, ac mae'n amserol iawn, yn fy marn i, ein bod ni'n trafod hwn heddiw. Mi fyddwn i'n annog pob Aelod, fel y byddaf i, i ddefnyddio'r cyfle i gael y sgwrs yna gyda phobl. Mae'n iawn i drafod problemau iechyd meddwl, ond mae hefyd yn iawn ac yn ddyletsywdd arnom ni i wneud popeth y gallwn ni i fynd i'r afael â phob agwedd ar y cyflyrau hynny, gan gychwyn gyda gwireddu argymhellion yr adroddiad hwn. 

17:50

Mae Llyr newydd ddwyn fy lein. Wrth gwrs, mae'n amseru gwych: rydym yn sôn am yr adroddiad hwn ar y noswyl Diwrnod Amser i Siarad rwy'n credu, oherwydd yn amlwg fe gynhyrchoch chi eich adroddiad ym mis Hydref ac yna fe ymatebodd y Llywodraeth ym mis Tachwedd. Felly, da iawn arweinydd y tŷ am amserlennu'r drafodaeth hon heddiw.

Mae cael babi yn fusnes blêr. Un funud rydych chi'n fenyw yn eich siwt a swydd i fynd iddi, a'r funud nesaf rydych yn beiriant llaeth nad yw'n cael digon o gwsg ac yn gwbl ddibynnol ar bobl eraill i'ch galluogi i ddechrau ar y daith gydol oes o fod yn fam. A hynny gan dybio bod gennych fecanweithiau i'ch cefnogi, oherwydd os nad oes, neu os yw'r cymorth yn cael ei roi i chi'n amodol neu'n anfoddog neu'n ddigofus, mae'r daith yn llawer mwy heriol.

Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwnc pwysig iawn. Credaf nad oes neb wedi sôn cyn belled eich bod, wrth gwrs, mewn mwy o berygl o drais yn y cartref os ydych yn feichiog. Mae'r rhai sydd wedi cael eu cam-drin o'r blaen bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin yn ystod beichiogrwydd na menywod heb hanes o drais. Ffactorau risg eraill ymhlith mamau sengl yw lefelau addysgol is, statws economaidd-gymdeithasol is, cam-drin alcohol a beichiogrwydd anfwriadol. Salwch meddwl amenedigol—ceir cysylltiad cryf â thrais yn y cartref, yn y cyfnod amenedigol a thrwy gydol eich oes. Nid ydynt o reidrwydd bob amser yn bresennol. Yn amlwg, gallwch gael iselder ôl-enedigol heb fod gennych bartner treisiol. Gallai'r rhesymau dros eich iselder fod heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw beth fel hynny. Ond rhaid inni fod yn ymwybodol bod y risgiau hyn yn bodoli, a bod mamau'n agored iawn i niwed mewn gwirionedd pan fyddant yn cael eu babi cyntaf.

Felly, rwy'n meddwl bod eich argymhelliad 19, gofal parhaus gan fydwraig neu ymwelydd iechyd, yn gwbl hanfodol. Pan oeddwn i yn y sefyllfa hon, byddech yn cael hyd at 10 diwrnod o ymweld â'r cartref, oni bai eich bod yn cytuno ar y cyd nad oeddech ei angen am fod gennych fecanweithiau cymorth da. Ond y dyddiau hyn gwn nad yw mor gyson â hynny, ac nid oes cyfarwyddiadau'n dod gyda rhianta. Mae taer angen cyngor proffesiynol annibynnol ar famau heb yr ychwanegiadau emosiynol a gewch yn aml gan aelodau eraill o'r teulu.

Mae argymhelliad 16 yn teimlo fel pe baem yn mynd dros yr un tir eto fyth. Rwy'n falch o glywed bod Llyr yn credu bod hwn yn mynd i fod yn adroddiad arloesol, a'n bod o ddifrif yn mynd i newid pethau, ond mae arnaf ofn fy mod yn cofio trafod hyn amser maith yn ôl. Mae graddfa iselder ôl-enedigol Caeredin wedi bod mewn defnydd ers o leiaf 30 mlynedd ac mae'n offeryn syml iawn ar gyfer gofyn i fenywod sut y maent yn teimlo, sy'n eich galluogi i asesu risg posibl; yn amlwg, heb golli golwg ar eich gallu i arsylwi ar y fenyw a sicrhau eich bod wedi deall—. Rydych chi eisoes yn adnabod y person, felly gallwch arsylwi hefyd a ydych chi'n credu bod yna iselder ai peidio.

Ond mae'n destun gofid ein bod yn dal i sôn am yr angen i fydwragedd ac ymwelwyr iechyd a meddygon teulu ac unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n dod i gysylltiad â menywod ôl-enedigol gael y sgiliau hyn, a hefyd i ofyn y cwestiwn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n gwbl hanfodol ar gyfer diogelu'r fam a'r plentyn ein bod yn gofyn y cwestiynau hyn. Gofynnodd Lynne Neagle a allwn fforddio peidio â darparu'r gwasanaethau hyn, a'r ateb yw na allwn fforddio peidio ar unrhyw gyfrif, nid yn unig oherwydd yr effaith ar y fam ond oherwydd yr effaith ar y babi. Mae'r babi'n dechrau cyfathrebu y funud y mae'n gadael y groth, ac os nad yw'r fam, sef y prif berson y mae'r baban mewn cysylltiad â hi, yn cyfathrebu â'r baban, mae'r effaith yn gwbl ddinistriol. Pam y byddai'r baban yn trafferthu cyfathrebu os nad yw'n cael unrhyw ymateb gan yr oedolyn? Os yw'r oedolyn yn dioddef o iselder mawr, nid yw'n mynd i ymateb.

Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gennym weithwyr proffesiynol yn rhan o hyn, yn ogystal ag aelodau'r teulu, er mwyn sicrhau, os yw'r person yn dioddef o iselder ysbryd amenedigol, fod pobl eraill o amgylch i siarad â'r baban, oherwydd fel arall mae'r canlyniadau'n rhai gydol oes: y methiant i sicrhau ymlyniad ag eraill, yr effaith ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a ieithyddol y baban, hwyluso datblygiad iechyd meddwl da yn ystod plentyndod ac fel oedolyn—fel y clywsoch yn eich tystiolaeth.

Byddai'n ddiddorol iawn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am yr offeryn asesu gwytnwch teuluoedd fel ffordd o ategu graddfa iselder ôl-enedigol Caeredin, oherwydd rhaid inni sicrhau nad yw deddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol yma a bod y rhai sydd fwyaf o angen gwasanaethau gweithwyr proffesiynol yn eu cael. Un o bob pump o fenywod—mae hynny'n golygu fod pawb angen y gwasanaeth hwn ac mae angen i bawb ddeall bod angen inni siarad â menywod am eu hiechyd meddwl amenedigol.

17:55

Yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i'r menywod a'r teuluoedd sydd â phrofiad o heriau iechyd meddwl amenedigol a rannodd eu profiadau anodd gyda'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad. Cefais fy mrawychu gan y straeon gan fenywod a theuluoedd, ac ni allaf lai na theimlo mewn rhai achosion eu bod wedi cael cam mawr—ond nid gan y gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymdrechu i helpu menywod mewn system iechyd sy'n amlwg angen ei gwella'n sylweddol. Credaf mai tystiolaeth o ddycnwch ac ymrwymiad y gweithwyr iechyd proffesiynol ac elusennau yw'r ffaith bod menywod yn parhau i dderbyn gwasanaethau er gwaethaf yr amgylchiadau anodd.

Y peth mwyaf syfrdanol i mi oedd deall, er gwaethaf y nifer sylweddol o fenywod yng Nghymru a allai fod angen gofal fel cleifion mewnol, nad oes unrhyw gyfleuster gofal ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru ac na fu ers 2013 pan gaewyd yr unig uned mamau a babanod yng Nghymru. Ers hynny, mae'r pwyllgor yn amcangyfrif bod hyd at 100 o fenywod bob blwyddyn naill ai wedi gorfod manteisio ar ofal cleifion mewnol yn Lloegr, cyn belled â Llundain neu Nottingham, neu wedi cael eu trin mewn uned oedolion a'u gwahanu oddi wrth eu babanod. Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn nodi y byddai nifer y menywod sy'n cael eu derbyn i ofal cleifion mewnol a roddir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn awgrymu nad yw rhwng 45 a 65 o fenywod sydd angen gofal fel cleifion mewnol yn ei gael. Mae hynny'n llawer iawn o fenywod sy'n colli cyfle i gael y gofal perthnasol. Mae'n ddiffyg eithriadol o amlwg i mi.

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, dywed canllawiau NICE y dylai menywod fod mewn uned mamau a babanod yn ddelfrydol, oni bai bod rhesymau cryf iawn dros iddynt beidio â bod yno. Nid yw'r rhesymau cryf hyn yn bodoli ar hyn o bryd. Y ffaith nad oes gennym un—nid yw hynny'n rheswm cryf i fenyw. Pam nad oes gennym un? Y rhesymau dros gau unig uned mamau a babanod Cymru, yn ôl y dystiolaeth a ddarparwyd, oedd: cyllid annigonol, camddealltwriaeth ynghylch pwy a allai gael mynediad i'r uned, fod yr uned yn rhy fach i ddatblygu arbenigeddau angenrheidiol a llai o ddiddordeb mewn, neu gydnabyddiaeth o faterion iechyd amenedigol ar y pryd. I mi, nid oedd yr un o'r rhesymau hyn yn cyfiawnhau cau'r uned. Roedd yr ateb i gadw'r uned mamau a babanod flaenorol ar agor yn nwylo'r bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, gwnaethant gam â llawer o fenywod a'u teuluoedd drwy gau'r uned honno.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at ddiffyg gwybodaeth i fenywod am fanteision uned mamau a babanod, ond buaswn yn awgrymu y byddai nifer y cleifion mewnol yn anochel o fod yn well pe na bai rhwystrau megis pellter neu gael eu gwahanu oddi wrth eu plant yno yn y lle cyntaf. Yn ogystal, buaswn yn awgrymu ei bod yn eithaf dibwrpas cynghori menywod am fanteision gofal cleifion mewnol neu uned mamau a babanod pan nad yw'r gofal cywir yn mynd i fod ar gael iddynt.

Felly, rwy'n falch o nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylid adfer uned mamau a babanod yn ne Cymru. Er fy mod yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn datblygu'r cynlluniau hynny, ni fyddant yn hygyrch ar gyfer menywod a theuluoedd yng ngogledd Cymru. Mae'r adroddiad yn cydnabod, fel Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes cyfradd eni ddigon uchel i allu cael uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru drafod yr opsiynau ar gyfer gogledd Cymru, ond nid yw'r ymateb manwl hwn yn mynd cyn belled ag ymrwymo i sefydlu uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru sy'n hygyrch i bobl yng ngogledd Cymru a chanolbarth Cymru, boed yn cael ei rhannu gyda Lloegr neu beidio. Ymddengys nad yw'n ddim mwy nag addewid i feddwl amdano.

Yn bersonol, credaf fod yr argymhelliad ynghylch uned mamau a babanod yng ngogledd-ddwyrain Cymru, i'w rhannu â Lloegr, yn un rhagorol. Mae'r sefyllfa bresennol, lle mae Cymru'n dibynnu ar welyau i gleifion mewnol yn Lloegr, yn anghynaliadwy. Gall de Cymru gael uned mamau a babanod, ond bydd pobl yn y rhan fwyaf o weddill Cymru yn dal i orfod dibynnu ar allu Cymru i gomisiynu gwelyau yn Lloegr. Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru fod cael gwely mewn uned mamau a babanod yn dod yn fwyfwy anodd. Mae hyn yn gadael Cymru, yn enwedig hyd nes y cawn ein huned mamau a babanod ein hunain, ar drugaredd penderfyniadau a wneir gan GIG Lloegr a'r galwadau ar y gwasanaethau hynny yn Lloegr.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at alw cudd am ofal amenedigol, a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw priodol i'r alwad gan y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i nodi lefel y galw am uned mamau a babanod yng Nghymru. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion ynglŷn â sut y mae lefel y galw am uned mamau a babanod ledled Cymru yn mynd i gael ei hasesu.

Pwynt arall yr hoffwn siarad amdano yw gofal parhaus. Un thema amlwg oedd bod y menywod angen gofal parhaus, a chlywsom mai anaml iawn y câi menywod ofal parhaus, os o gwbl. Un o'r heriau a nodwyd yn ystod ein hymchwiliad oedd nad oedd menywod eu hunain yn barod i adrodd am broblemau iechyd meddwl amenedigol. Ond heb ofal parhaus a'r gallu i ffurfio perthynas o ymddiriedaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, sut y mae menyw a'i theulu yn gallu teimlo'n hyderus i leisio unrhyw bryderon wrth y bobl hynny ynglŷn â sut y gallai menyw neu ei theulu fod yn teimlo? Nid oes gan weithwyr iechyd proffesiynol eu hunain bwynt cyfeirio ar gyfer asesu mamau a chynnig cymorth.

Felly, methiant systematig a pharhaus Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer y gweithwyr proffesiynol perthnasol sydd wedi creu'r sefyllfa hon. Rydym wedi methu hyfforddi ein staff ein hunain a bellach ni allwn recriwtio gweithwyr proffesiynol i'n gwasanaeth iechyd ein hunain. Mae hyn yn amddifadu menywod o ofal parhaus a pherthynas o ymddiriedaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol go iawn y byddant yn teimlo'n ddigon diogel i drafod eu hiechyd meddwl â hwy.

Er gwaethaf hyn i gyd, fodd bynnag, caf fy nghalonogi gan ymateb cychwynnol Ysgrifennydd y Cabinet i'r adroddiad. Edrychaf ymlaen at glywed y newyddion diweddaraf maes o law am eich cynnydd yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, yn enwedig argymhelliad 7 sy'n ymwneud â chreu uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru i'w rhannu â Lloegr. Diolch.

18:00

Cytunaf â Michelle Brown mai un o'r elfennau sy'n peri penbleth—i mi o leiaf—am yr ymchwiliad oedd ceisio deall pam y caeodd yr uned mamau a babanod a oedd wedi bod yn weithredol yn Ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd tan 2013. Nid wyf yn teimlo ein bod wedi mynd i wraidd y meddylfryd a'r cyfiawnhad dros wneud hynny ar y pryd, yn ddigonol i fy modloni i, o leiaf.

Yn sicr roedd yn ymddangos fel pe na bai'n cael ei hyrwyddo'n ddigon da ar draws y system iechyd yng Nghymru. Canfuom dystiolaeth o ogledd Cymru o bobl a ddaeth i'r uned honno yn y pen draw mewn gwirionedd, a llwyddodd i newid eu sefyllfa. Cawsant eu cyfeirio ati'n anffurfiol gan bobl y tu allan i'r Llywodraeth a'r system a ddarperir gan y byrddau iechyd.

Nid yw'n ddelfrydol i bobl yng ngogledd Cymru nad oes digon o bobl yno i gyfiawnhau uned newydd ar gyfer gogledd Cymru'n unig. Efallai y gellid sicrhau trefniant â Manceinion, gyda phobl o Fanceinion yn dod i ogledd Cymru am newid efallai neu a yw pobl o ogledd Cymru yn teithio i Gaerdydd neu i rywle arall yn ne Cymru ar adegau—mae Ysbyty Brenhinol Gwent wedi gwneud cais yn fy rhanbarth ac rwy'n gwybod y bu llawer o ystyried ynghylch gwahanol wasanaethau arbenigol ac i ble y dylent fynd. Er gwaethaf rhagoriaeth ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, gwn y gallai nifer o ysbytai eraill wneud hyn yn fedrus.

Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn argymhellion 3 a 6. Dywedodd fod, a bu'n rhaid i mi wirio'r acronym yma:

'is-grŵp Haen 4 AWPMHSG wrthi'n costio'r opsiynau i'w hystyried, ac yn ystyried y pryderon a godwyd gan Gydbwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Bydd yr opsiynau'n cael eu cyflwyno i'r Cydbwyllgor ym mis Ionawr.'

O gofio ei bod yn 31 Ionawr heddiw, rwy'n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym beth oedd barn y cydbwyllgor ar yr argymhellion hynny. Hoffwn bwysleisio, ar ran y pwyllgor cyfan, mai'r hyn y teimlem ei fod yn bwysig oedd y dylai fod uned mamau a babanod mewn bodolaeth. Rydym yn credu, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu hefyd rwy'n meddwl, fod digon o alw yn ne Cymru i gyfiawnhau cael un. O ystyried y costau sefydlog a bod angen gofal arbenigol yn yr uned mamau a babanod honno, mae'n fy nharo bod yn rhaid iddi fod yn uned mamau a babanod lawn yn hytrach na model gwahanol o ddarpariaeth sy'n fwy lleol. Ni allaf weld sut y mae hynny'n gweithredu ar sail cleifion mewnol gyda gwasanaethau amenedigol arbenigol i famau, gan nad yw'r galw'n ddigonol i gyfiawnhau sawl canolfan gyda'r lefel o arbenigedd sy'n angenrheidiol. Felly, gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny.

I ddilyn sylwadau Jenny Rathbone, os deallais yn iawn, credaf iddi gyfeirio at y ffaith bod un o bob pump o famau angen rhywfaint o gyswllt posibl gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd, a chredaf ichi ddweud wedyn fod hynny'n golygu pawb, ac ni lwyddais i ddilyn hynny'n iawn, ond mae'n amlwg yn nifer sylweddol. Pan fyddwch yn edrych ar lwybr neu'n meddwl sut y mae'r gofal yn gweithredu yn y maes hwn, rwy'n meddwl y ceir categorïau gwahanol. Ceir menywod sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl neu sydd â phroblemau efallai gyda thriniaeth weithredol ar yr adeg y maent yn beichiogi ac yna'n rhoi genedigaeth—. Fe ildiaf, Jenny.

18:05

Er eglurder, mewn gwirionedd yr hyn y bwriadwn ei ddweud oedd bod angen i bawb gael ei sgrinio oherwydd ei fod yn un o bob pump. Oherwydd bod nifer yr achosion mor uchel, ni allwn ddweud mai lleiafrif bach yn unig yw hwn.

Buaswn yn cytuno â chi ar hynny, a chredaf fod amgylchiadau geni a'r ffordd y mae'r system iechyd yn ei gefnogi yn caniatáu hynny. Mae ein baban bellach yn wyth mis oed, ond pan roddodd fy ngwraig enedigaeth ym mis Mai y llynedd, cawsom ein synnu'n fawr gan ansawdd y ddarpariaeth a chymaint a gawsom o ran ymweliadau gan y fydwraig a faint o ryngweithio a gawsom cyn cael ein rhyddhau o'r gwasanaeth hwnnw. Tra bod y lefel honno o sylw yn cael ei rhoi, mae'n gyfle i ymchwilio i'r materion hyn ar gyfer sgrinio. Weithiau mae'n eithaf anodd gwneud diagnosis deuol i weld a yw rhywun yn dioddef o iselder ôl-enedigol neu beidio, er enghraifft, ond ceir rhai awgrymiadau neu arwyddion fod hynny'n risg neu y gallai fod. A chredaf, yn yr amgylchiadau hynny, fod cael cam i lawr a cham i fyny yn y system, o bosibl yn cynnwys y trydydd sector, yn bwysig iawn. Felly, mewn rhai achosion, lle y caiff babi ei ryddhau ond y credir bod sail ar gyfer gwaith dilynol, weithiau gwneir hynny drwy'r ymwelydd iechyd ond hefyd o bosibl, drwy'r trydydd sector, a nodi'r amgylchiadau lle mae'n werth gwneud yr ychydig waith dilynol ychwanegol i weld a allwch ddal pobl. Felly, mae gennych grŵp sydd eisoes mewn cysylltiad ac eraill nad ydynt mewn cysylltiad.

Ac yna ceir y pethau sy'n wirioneddol ddifrifol. Gwnaeth seicosis ôl-enedigol gryn argraff arnaf, a hoffwn ganmol Sally Wilson yn arbennig, a oedd yn dyst gwych a fu o gymorth mawr i mi ddeall y mater. Mae'r graddau y gall cleifion ymateb i rywun o'r trydydd sector sydd wedi bod drwy'r profiad hwnnw eu hunain mor bwysig, a theimlaf fod angen inni wneud mwy er mwyn i'n systemau iechyd integreiddio'r cymorth trydydd sector unigryw hwnnw i roi'r cymorth y maent yn ei haeddu a'i angen i fenywod yn yr amgylchiadau hyn.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon. Mae'r Cadeirydd a siaradwyr eraill wedi amlinellu maint y broblem a sut y mae'n effeithio ar y babi yn ogystal â'r fam a'r plant eraill yn y teulu.

Mae'r mater yr uned mamau a babanod wedi'i wneud yn glir iawn. Credaf fod pawb yn cytuno. Mae'r holl siaradwyr sydd wedi dweud unrhyw beth y prynhawn yma wedi gwneud achos dros gael uned mamau a babanod arbenigol, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi ymateb yn dda i hynny. Oherwydd fe glywsom straeon gofidus iawn ynglŷn â sut oedd absenoldeb uned mamau a babanod leol yn ei gwneud yn anodd iawn i fenywod a oedd angen gofal fel cleifion mewnol ac a wynebodd ddewis ofnadwy mewn gwirionedd o orfod mynd i wardiau gofal seiciatrig oedolion naill ai heb eu babanod, neu fynd i uned mamau a babanod yn Lloegr, yn aml iawn ymhell i ffwrdd.

Clywsom gan un gwirfoddolwr trydydd sector a oedd angen help, ond roedd ei huned mamau a babanod agosaf ym Manceinion, ac fe wrthododd oherwydd y pellter y byddai'n rhaid iddi ei deithio, a fyddai'n golygu ei bod i ffwrdd oddi wrth ei rhwydwaith o gymorth teuluol. Ond wrth edrych yn ôl, roedd hi'n gwybod mai dyna fyddai wedi bod orau i'w hiechyd meddwl. Yn sicr, yr hyn rwyf wedi ei deimlo o'r ymchwiliad hwn yw'r manteision mawr a all ddod o driniaeth ar gyfer cleifion mewnol, ac nid wyf yn meddwl fy mod yn ymwybodol o hynny cyn inni wneud yr ymchwiliad hwn mewn gwirionedd. Felly, roedd hi'n ofnadwy meddwl fod pobl yn methu cael y gwasanaeth hwnnw.

Roedd yn siomedig fod yr uned mamau a babanod wedi cau yng Nghaerdydd yn 2013. Rai blynyddoedd cyn hynny, fe gymerais ran yn helpu i'w chadw ar agor, ond yn y bôn, credaf nad oedd digon o ddefnydd ar y gwelyau, ond efallai fod hynny oherwydd nad oedd dealltwriaeth iawn o'r hyn yr oedd angen y gwelyau ar ei gyfer. Beth bynnag, y neges glir gan ein pwyllgor yw y dylid cael uned mamau a babanod ar hyd coridor yr M4, ac y dylid gwneud trefniadau yng ngogledd Cymru. Credaf mai dyna un o'n hargymhellion cryfaf.

Yn ail, roeddwn am gyfeirio'n fyr at y mater a grybwyllwyd ynghylch bwydo ar y fron. Mae pawb ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw bwydo ar y fron i iechyd plant, ond mae hefyd yn bwysig iawn i'r broses o fondio rhwng y fam a'r plentyn, sydd yn ei dro wrth gwrs yn helpu iechyd meddwl y fam. Ac rwy'n bryderus ynghylch rhywfaint o'r dystiolaeth a gawsom, a oedd fel pe bai'n dangos bod mamau a oedd wedi methu bwydo ar y fron ac yn teimlo eu bod yn fethiant yn wynebu mwy o risg o gael problemau iechyd meddwl amenedigol. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono, oherwydd credaf fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn, fel Llywodraeth, i hyrwyddo bwydo ar y fron, ond yn amlwg, cawsom dystiolaeth ei fod yn anodd iawn i fenywod ar adegau, ac y gall hyn wneud iddynt deimlo'n fwy bregus. Felly, roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn a wnaed.

18:10

Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth, fel aelod o'r pwyllgor, i'r farn honno, a nodi, er y gwrthodwyd yr argymhelliad ar y sail honno, mae'r Llywodraeth wedi ymgymryd â ffrwd waith ac efallai mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw cael rhagor o ddealltwriaeth o effaith anawsterau bwydo ar y fron ar iechyd meddwl amenedigol.

Ie. Diolch ichi am yr ymyriad. Credaf fod hynny'n bendant yn rhywbeth y dylem edrych arno.

Roeddwn am orffen, unwaith eto, drwy adleisio'r themâu sydd wedi codi y prynhawn yma am bwysigrwydd y trydydd sector a'r grwpiau gwirfoddol y cyfarfuom â hwy, a oedd, yn fy marn i, yn gwbl eithriadol, er enghraifft yr hyn a elwir bellach yn Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru ond a arferai gael ei alw'n Recovery Mummy. Fe'i sefydlwyd gan un o fy etholwyr, Charlotte Harding, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymweld â chanolfan Gogledd Llandaf lle mae'n gweithio. Sefydlodd y grŵp mewn ymateb i'r prinder o wasanaethau sydd ar gael, a hithau wedi byw drwy seicosis ôl-enedigol, gorbryder amenedigol ac iselder. Mae hi wedi dioddef ac wedi gwella o alcoholiaeth, hunan-niwed, agoraffobia a bu'n brwydro am wyth mlynedd ag anhwylderau bwyta, ac mae'n siarad yn agored am yr anawsterau enfawr y mae hi wedi bod drwyddynt. Ac yn awr, mae ei sefydliad yn cynnig grŵp cymorth cyfeillgarwch i famau newydd, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, ymarferion ôl-enedigol a hefyd cymorth un i un ar gyfer tadau newydd.

Rhoddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ynghylch y galw enfawr sydd yna am ei gwasanaethau. Mae meddygon teulu yn gyrru pobl ati, ac eto grŵp gwirfoddol yw hwn, yn gweithredu heb ddim arian o gwbl. Credaf mai dyna un o'r materion pwysicaf i mi—mai pobl yn ei sefyllfa hi sydd yn y sefyllfa orau i roi'r cymorth unigol hwnnw i bobl eraill, i famau eraill, ond mae arnynt angen arian i wneud hynny. Felly, hoffwn orffen, mewn gwirionedd, gyda phle ar ran y grwpiau unigryw hyn fel Recovery Mummy, gan mai dyma'r grwpiau y credaf y dylem roi cymorth ychwanegol tuag atynt a'u gwneud, yn y bôn, yn rhan go iawn o'r gwasanaeth cyfan.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â'r Cadeirydd, am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn ac ar gyfer yr adroddiad.

Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn gyffredin iawn, ac yn effeithio ar oddeutu 20 y cant o fenywod ar ryw adeg yn ystod y cyfnod amenedigol. Maent hefyd yn fater iechyd cyhoeddus pwysig, nid yn unig oherwydd eu heffaith niweidiol ar y fam, ond hefyd oherwydd y dangoswyd eu bod yn peryglu datblygiad emosiynol, gwybyddol a hyd yn oed corfforol y plentyn, gyda chanlyniadau hirdymor difrifol. Canfu astudiaeth gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl fod iselder, gorbryder a seicosis amenedigol yn costio cyfanswm hirdymor i gymdeithas o tua £8.1 biliwn am bob cohort blwyddyn o enedigaethau yn y DU. Mae hyn yn cyfateb i gost o ychydig o dan £10,000 am bob genedigaeth unigol yn y wlad. Mae bron i dri chwarter y gost hon yn ymwneud ag effeithiau andwyol ar y plentyn yn hytrach nag ar y fam. Gwelodd ymchwil a gynhaliwyd gan Ysgol Economeg Llundain yn 2014 nad oedd 70 y cant o famau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, a chaeodd yr unig uned mamau a babanod i gleifion mewnol yng Nghymru yn 2013.

Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae'r chwistrelliad diweddar o £1.5 miliwn wedi gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol arbenigol, ond fel y darganfu'r pwyllgor, ceir amrywio annerbyniol yn y ddarpariaeth o wasanaethau ledled Cymru. Mae gan famau hawl i wasanaethau o'r fath, ac ni ddylid pennu mynediad yn ôl cod post. Rwy'n croesawu argymhellion y pwyllgor i sefydlu rhwydwaith clinigol wedi'i arwain gan glinigwyr, a fydd yn darparu'r arweiniad cenedlaethol angenrheidiol ynghyd â'r arbenigedd sydd ei angen i ddatblygu'r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol a'r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ym mhob cymuned yng Nghymru.

Hefyd, rwy'n croesawu'n gynnes argymhelliad y pwyllgor i sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru. Mae canllawiau NICE yn argymell defnyddio uned mamau a babanod ar gyfer rhoi triniaeth cleifion mewnol i famau newydd. Ers cau uned mamau a babanod Caerdydd yn 2013 mae'r gofal ar gyfer mamau sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol wedi bod yn druenus o annigonol yn ôl Cymdeithas Seicolegol Prydain. Caeodd yr uned mamau a babanod, nid oherwydd nad oedd ei hangen; fe gaeodd oherwydd ei bod yn cael ei chamreoli. Roedd cyllid annigonol a chamreoli gwelyau yn rhai o'r rhesymau a ddatgelwyd i'r pwyllgor. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cael uned yn ne Cymru.

Croesawaf yn fawr argymhellion y pwyllgor ar hyn a'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hynny. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yn fuan. Mae hwn yn fater rhy bwysig i lusgo ymlaen am fisoedd a blynyddoedd.

Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith rhagorol ar yr adroddiad hwn, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion. Edrychwn ymlaen yn awr at weld cynnydd cyflym yn cael ei wneud gan y byddwn yn gweld rhwng 3,000 a 7,000 o famau newydd yn dioddef o broblem iechyd meddwl amenedigol eleni, a heb driniaeth gyflym a phriodol, bydd y fam a'r plentyn yn dioddef yr effeithiau am flynyddoedd i ddod. Diolch.

18:15

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol, ac i'r Cadeirydd am y ffordd yr agorodd y ddadl heddiw. Croesawaf y ddadl heddiw, sy'n adlewyrchu pa mor bell rydym wedi dod o ran cydnabod problemau iechyd meddwl amenedigol. Diolch byth, mae'r dyddiau pan oedd materion iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn y cyfnod amenedigol yn cael eu diystyru fel cwynion cyffredin a fyddai'n diflannu dros amser yn perthyn i'r gorffennol. Ceir mwy o ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth a rhaid i'r rhain arwain at ofal gwell o lawer i'n galluogi i fynd i'r afael â phroblemau a all effeithio'n ddifrifol ar deuluoedd, fel y nodwyd yn y ddadl heddiw, yn arbennig pan fo pobl yn gallu teimlo ar eu mwyaf bregus.

Rwy'n falch iawn o gytuno mewn egwyddor â 23 allan o'r 27 o argymhellion yn yr adroddiad, ac fe grynhoaf rhai o'r camau rydym yn eu cymryd sy'n codi o'r ymchwiliad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod camau wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i wella gwaith atal ac ymyrraeth gynnar. Felly, mae cofnod mamolaeth Cymru, rhaglen Plentyn Iach Cymru, a'r offeryn newydd ar gyfer asesu gwytnwch teuluoedd a grybwyllwyd gan Jenny Rathbone yn helpu i nodi'n gynnar pa gymorth iechyd meddwl ychwanegol y gallai fod ei angen ar famau newydd. Ar y pwynt penodol hwnnw, datblygwyd yr offeryn asesu gwytnwch teuluoedd drwy gymorth y Llywodraeth, gydag arweiniad a chyllid, ac ers mis Hydref y llynedd mae holl ymwelwyr iechyd Cymru yn cael hyfforddiant ar ei ddefnydd. Felly, rydym yn edrych ar—[Anghlywadwy.]—i wella ymarfer a helpu'r teuluoedd mwyaf anghenus.

Ac wrth gwrs, mae'r £1.5 miliwn y flwyddyn o fuddsoddiad ychwanegol a wnaethom, gan ei roi tuag at adeiladu gwasanaethau cymunedol ym mhob bwrdd iechyd, wedi bod yn allweddol ar gyfer darparu cymorth mor agos i'r cartref â phosibl ar gyfer mwy o deuluoedd ledled Cymru. Mewn rhai ardaloedd, arweiniodd at sefydlu gwasanaethau cymunedol sy'n dal i fod yn newydd iawn, tra bod eraill wedi gallu defnyddio'r arian ychwanegol i ehangu gwasanaeth presennol.

Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennym yr ymrwymiad a'r mecanwaith ar waith i sicrhau safonau gofal cyson ledled Cymru. Felly, rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor y dylem sefydlu rhwydwaith clinigol a reolir ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yma yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith yn cael ei arwain gan glinigydd arweiniol i helpu i sicrhau gwelliannau, gan gynnwys gweithredu safonau clinigol yn genedlaethol a chasglu data. Bydd yn darparu ar gyfer rheolaeth ac atebolrwydd mwy ffurfiol, a bydd y gwaith yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wneir gan grŵp llywio iechyd meddwl amenedigol Cymru. A hoffwn ddiolch i'r bobl hynny am eu hymrwymiad parhaus i wella mynediad ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl amenedigol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y rhwydwaith newydd, ac mae cyfarfodydd wedi dechrau rhwng y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd gwladol i roi hyn ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio hefyd at yr angen i ddatblygu safonau a chanlyniadau. A phwynt a wnaed gan y Cadeirydd ac eraill oedd bod canllawiau drafft ar gyfer fframwaith safonau integredig yng Nghymru wedi'u cyflwyno i grŵp llywio Cymru yr wythnos diwethaf. Bydd y llwybr a'r safonau'n cefnogi canlyniadau mwy cyson ar gyfer menywod a'u teuluoedd ble bynnag y bônt yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau i wneud cynnydd.

Ac ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, mae'r grŵp llywio yn datblygu fframwaith dysgu a datblygu ar gyfer staff yma yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i hynny gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd y rhwydwaith clinigol newydd hefyd yn monitro a nodi hyfforddiant pellach i fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. A byddaf hefyd yn disgwyl i'r rhwydwaith newydd ystyried sut y mae'r ddarpariaeth bresennol yn bodloni anghenion y boblogaeth mewn perthynas â'r iaith Gymraeg.

Wrth gwrs, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'n hymrwymiad i ddarparu gofal arbenigol i gleifion mewnol yn ne Cymru. Rwy'n falch o gadarnhau bod prif weithredwyr y byrddau iechyd yng Nghydbwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ddydd Llun wedi cefnogi'r angen am gyfleuster i famau a babanod a gofynnodd am achosion busnes manwl ym mis Mai eleni. Nawr, gallai hynny olygu addasu adeilad sy'n bodoli eisoes ar ystâd y GIG fel mesur dros dro cyn ystyried opsiynau mwy hirdymor. Bydd angen o hyd inni ystyried sut i wneud yn siŵr fod uned newydd yn cael ei defnyddio'n briodol ac yn llawn, oherwydd lle bynnag y caiff ei lleoli yng nghoridor de Cymru, fe fydd yn eithaf pell i lawer o fenywod mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni feddwl am yr uned mamau a babanod nid fel yr ateb, ond fel rhan o'r ateb yn ogystal â gwella ein gwasanaethau cymunedol.

Ac rwy'n falch fod y pwyllgor wedi cydnabod, er bod achos dros ddarpariaeth i gleifion mewnol yn ne Cymru, ni allwn ddweud y byddai'r ddarpariaeth yn ne Cymru hefyd yn cynnwys y gogledd yn ogystal. Felly, cafwyd cydnabyddiaeth unwaith eto nad oes niferoedd digonol yng ngogledd Cymru i gynnal gwasanaeth diogel i gleifion mewnol ar gyfer gogledd Cymru yn unig. Rwy'n cydnabod yr hyn a oedd gan y Cadeirydd i'w ddweud ar y pwynt hwn, a dywedaf yn garedig wrth yr Aelodau, ar rai o'r sylwadau a wnaed, nad ydym mewn sefyllfa i orfodi cyrff y GIG yn Lloegr i ddefnyddio cyfleuster yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, mae sgwrs yn mynd rhagddi ynglŷn â'r hyn y gellid ei wneud drwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Ac yn wir, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymchwilio i opsiynau ar gyfer hynny—gofal mewnol ar gyfer trigolion gogledd Cymru. Byddaf yn disgwyl i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd fynd ati'n gyflymach i weithio gyda'i gilydd i gytuno ar fodel gofal i gleifion mewnol dros y misoedd nesaf. I roi syniad o'r gwariant presennol: rhagwelir y bydd cost bresennol lleoliadau oddeutu £0.5 miliwn eleni, a gellid gwneud gwell defnydd ohono tuag at ddarparu gwasanaethau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym yn darparu £40 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf tuag at wasanaethau iechyd meddwl, a bydd byrddau iechyd yn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn llaw at iechyd meddwl'.

I nodi rhai o'r argymhellion na chawsant eu derbyn lle mae gwaith eisoes ar y gweill—ar fwydo ar y fron, a grybwyllwyd yn y ddadl heddiw, ceir grŵp gorchwyl yr oeddwn yn falch o glywed cyfeiriad ato yng nghyfraniadau Julie Morgan a Hefin David, sy'n edrych ar arferion bwydo ar y fron ledled Cymru. Disgwylir iddo gyflwyno ei adroddiad ym mis Mawrth. Mae'n bwysig nad mater iechyd meddwl amenedigol yn unig ydyw. Mae yna nifer o resymau pam ein bod am ddeall yn well faint o gefnogaeth a roddwn i fenywod a phartneriaid ar gyfer bwydo ar y fron, a'r amgylchedd ehangach yn y gymdeithas yn gyffredinol, fel bod menywod yn cael eu cynorthwyo i allu bwydo ar y fron yn gyhoeddus mewn amryw o leoliadau. Rydym yn llawer rhy gyfarwydd ag achosion parhaus lle mae pobl yn anoddefgar ac yn disgwyl i fenywod symud o'r neilltu neu gael eu rhoi o ffordd y cyhoedd. Credaf fod hynny'n anghywir. Mewn gwirionedd, credaf fod angen inni lynu mwy—. Galwaf am onestrwydd a mesurau aeddfed ar amrywiaeth o wasanaethau iechyd, ac mae hwn yn bendant yn un ohonynt. Mae angen i'r cyhoedd i gyd gymryd rhan, ac mae'n beth hollol naturiol i'w wneud, ac mae angen inni gynorthwyo menywod ac eraill i wneud hynny. O ran meddyginiaeth wrth gwrs, dylid asesu mamau sy'n bwydo ar y fron a menywod beichiog sydd angen meddyginiaeth yn unigol, a rhoi cynllun gofal ar y cyd ar waith. A mater i'r menywod hynny a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yw gwneud dewisiadau priodol ynghylch meddyginiaeth a deall y risgiau o ddarparu meddyginiaeth neu beidio â gwneud hynny.

Ar rôl ymwelwyr iechyd, mae byrddau iechyd wedi rhoi gwasanaethau cymunedol amlddisgyblaethol ar waith. Ac mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol wedi gweithio gyda'r maes bydwreigiaeth generig a'r gwasanaeth ymwelwyr iechyd i godi ymwybyddiaeth o'r broses atgyfeirio ar gyfer iechyd meddwl amenedigol er mwyn ceisio sicrhau darpariaeth ôl-enedigaeth ddi-dor. Ac fel y cydnabu'r Cadeirydd ar y cychwyn, nid yw hon yn nodwedd anghyffredin cyn neu ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae'n rhan o'r hyn y dylai'r gwasanaeth generig allu ei gyflawni a'i nodi. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan dystiolaeth a chyngor proffesiynol ynghylch cymysgedd sgiliau'r staff sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar bobl Cymru. Ac roedd yn galonogol clywed sylwadau Mark Reckless am ei brofiad ei hun pan aned babi i'r teulu yma yng Nghymru a lefel y gwasanaeth a gawsant. Ac ni ddylem golli golwg ar hynny. Mewn gwirionedd, mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo gyda'n bydwragedd a'n timau ymwelwyr iechyd yma yng Nghymru, yn rhannol oherwydd bod awydd gwirioneddol o fewn y proffesiwn i ddysgu ac i wella, ac mae'n nodwedd arbennig o'n gwasanaeth yma yng Nghymru.

Gallaf weld bod fy amser yn dod i ben, Ddirprwy Lywydd, felly rwyf ond eisiau cydnabod yn y pwynt olaf mai'r garreg filltir fawr nesaf fydd cyhoeddi prosiect ymchwil i'r gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru gan yr NSPCC, Mind Cymru a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn hir. Edrychaf ymlaen at ddarllen ei ganfyddiadau a ddylai roi darlun cliriach inni o sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yma yng Nghymru yn diwallu anghenion teuluoedd ar hyn o bryd, a hefyd beth arall sydd angen inni ei wneud i ddeall a diwallu'r anghenion hynny'n well.

18:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n mynd i orfod bod yn gyflym iawn oherwydd nid oes gennyf lawer o amser, felly ni fyddaf yn gallu ymateb i bwyntiau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, ac mae'n wych gweld y fath amrywiaeth o siaradwyr ar draws y Siambr ar y pwnc pwysig hwn. Rwyf am geisio mynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau o'r ddadl.

Cyfeiriodd Darren Millar at bwysigrwydd triniaethau seicolegol, ac mae hynny'n gwbl allweddol. Cawsom dystiolaeth rymus iawn yn y maes hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cofio y gellid lliniaru'r materion yr ymdriniwyd â hwy ynghylch meddyginiaeth drwy fynediad at therapïau seicolegol oherwydd, yn aml, caiff meddyginiaeth ei rhoi i lenwi gwacter. Hefyd, soniodd Darren am bwysigrwydd yr angen i fapio gwasanaethau a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb at y gwaith sy'n cael ei wneud, yr ymchwil ar hynny, a chredaf y bydd hwnnw'n waith defnyddiol iawn yn y dyfodol ac rwy'n gobeithio y gall y pwyllgor ddychwelyd ato.

Cawsom ein hatgoffa gan Llyr ynglŷn ag amseriad y ddadl hon a'r ffaith mai yfory yw Diwrnod Amser i Siarad a'r materion ynghylch stigma a drafodwyd gennym, a Jenny hefyd. Roedd stigma yn thema amlwg iawn yn yr ymchwiliad hwn ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod stigma yn broblem benodol i fenywod sydd â salwch meddwl amenedigol oherwydd eu bod yn ofnus iawn y gallant fod mewn sefyllfa lle y gallai eu plentyn gael ei gymryd oddi wrthynt. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â stigma. Crybwyllodd Jenny hynny hefyd, a nododd faterion yn ymwneud â gofal parhaus, a siaradodd Michelle am hynny hefyd—thema gyson arall yn yr ymchwiliad. Mae menywod wedi blino gorfod dweud yr un stori wrth nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol. Mae'n bwysig iawn, er gwaethaf y cyfyngiadau a geir mewn perthynas â'r gweithlu, ein bod yn ceisio cael y berthynas barhaus honno gyda bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.

Cyfeiriodd Mark a Julie at bwysigrwydd y trydydd sector. Ac roedd honno, fel y dywedodd Julie, yn dystiolaeth bwerus iawn mewn gwirionedd—fod gennym sefydliadau sydd yn llythrennol yn rhedeg ar gasgliadau bagiau siopa mewn archfarchnadoedd, ac eto maent yn cael atgyfeiriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol a chan feddygon teulu, ac yn syml iawn, mae'n rhaid i hynny ddod i ben. Rhaid inni gael system lle mae byrddau iechyd a chyrff eraill yn cydnabod y rôl sydd ganddynt ac yn eu hariannu yn unol â hynny.

Fel nifer o'r Aelodau, ychwanegodd Caroline Jones ei chefnogaeth i sefydlu uned mamau a babanod yng Nghymru. Mae'n gwbl allweddol a chredaf fod yn rhaid inni gofio bod salwch meddwl amenedigol, yn ogystal â bod yn amser anodd iawn i fenywod wrth gwrs, yn un o brif achosion marwolaeth ymhlith mamau mewn gwirionedd. Gall canlyniadau peidio â chael y gofal yn gywir fod yn ddifrifol iawn. Felly, mae angen inni fuddsoddi yn y ddarpariaeth hon a'i chael yn iawn.

Felly, a gaf fi gloi drwy ddiolch eto i bawb a gyfrannodd at y ddadl, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled ar yr ymchwiliad hwn, tîm y pwyllgor sydd, fel bob amser, wedi bod yn wych, a phawb a fu'n ymwneud â ni ar y gwaith pwysig hwn? Byddwn yn ailystyried hyn ar sail reolaidd ac yn monitro gweithrediad yr adroddiad yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rwy'n bwriadu symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i fwrw ymlaen i alw'r bleidlais. Iawn.

8. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn ymlaen yn awr i bleidlais ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar lesddaliad, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw, David Melding, David Rees a Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 34, roedd 14 yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6626 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): O blaid: 34, Yn erbyn: 1, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

9. Dadl Fer: Agor drysau: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd diffibrilwyr

Symudaf ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym, os gwelwch yn dda? Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Suzy Davies i siarad ar y pwnc mae wedi'i ddewis. Suzy.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am ymateb i hyn heddiw. Rwyf wedi cyflwyno'r ddadl benodol hon fel cam yn yr hyn y gobeithiaf y bydd yn ymgyrch lwyddiannus. Mae'n gyfle i'r Aelodau ddechrau ystyried a fyddai'r hyn rwyf am siarad amdano yn gam defnyddiol, ymarferol a rhesymol tuag at gydraddoldeb yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, ac mae'n gyfle i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ehangu ar sylw gwreiddiol y Llywodraeth:

Mewn egwyddor, ymddengys bod peth rhinwedd i'r syniad hwn a byddai'n ddiddorol gweld sut y byddai cynllun o'r fath yn gweithio'n ymarferol.

Ym mis Tachwedd, agorodd Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr e-ddeiseb drwy wefan y Cynulliad, deiseb a fydd maes o law wrth gwrs yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon a'ch ateb chi, Ysgrifennydd y Cabinet, o ddefnydd i'r pwyllgor yn ystod yr ystyriaethau hynny, ac anogaf yr holl Aelodau y gobeithiaf eu bod yn gwylio hyn yn eu swyddfeydd i ddweud wrth eich etholwyr amdani gan y bydd yn agored i'w llofnodi tan fis Mawrth. Mae eisoes wedi casglu llofnodion dros 1,700 o gefnogwyr, ond buaswn wrth fy modd pe baem yn cael digon i allu cael dadl yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn.

Mudiad ymgyrchu gweithgar ac uchel ei barch o bobl anabl yn fy rhanbarth i yw Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr, gyda rhai aelodau gweithredol hefyd yn aelodau o gyrff cenedlaethol eraill sy'n cynrychioli pobl ag anableddau. Mae'n debyg y byddwch eisoes yn adnabod rhai ohonynt o'u gwaith ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad a'r Llywodraeth wrth gwrs.

Mae'r gynghrair yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno tystysgrif mynediad yn dangos rhifau o sero i bump tebyg i'r dystysgrif hylendid bwyd. Dylid asesu'r holl adeiladau a ddefnyddir gan y cyhoedd—megis siopau, siopau bwyd, clybiau chwaraeon, tafarndai a swyddfeydd, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus—o ran pa mor hygyrch i gadeiriau olwyn ydynt, yn ogystal â pha mor hawdd yw hi i rywun â nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu eu defnyddio.

Credaf fod hyn yn cydweddu'n dda iawn â'r ddadl a gawsom ychydig yn gynharach heddiw ar rai o'r pethau hyn. Byddai aelodau'r gynghrair hefyd yn hoffi pe bai safleoedd yn cael rhif y gallent ei arddangos i ddangos pa mor hawdd yw eu safleoedd i bobl anabl eu defnyddio. Maent yn dadlau y gallai rhai sy'n cael sgoriau uchel berswadio eraill gerllaw i wella mynediad a chael sgoriau uwch eu hunain. Maent yn nodi llwyddiant y gymhariaeth amlwg yma, sef y dystysgrif hylendid bwyd, gan ddweud bod safonau bwyd wedi gwella llawer ers cyflwyno'r dystysgrif hylendid bwyd orfodol, ac mae safleoedd gyda sgôr uchel yn defnyddio'r dystysgrif gyda balchder. Mae aelodau'r gynghrair yn credu y bydd busnesau'n gwneud ymdrech fawr i wella mynediad a gwasanaethau i'r gymuned anabl pe bai tystysgrif debyg yn cael ei chyflwyno ar gyfer mynediad, gan arwain at wasanaethau gwell o lawer ar gyfer siopwyr anabl a'r rhai sydd am fynd am ddiod, pryd o fwyd neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—y cyfleusterau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Mae'n sefyllfa lle y gallai pawb fod ar eu hennill: mae gwasanaethau gwell yn golygu mwy o gwsmeriaid.

Mae'r deisebwyr wedi rhoi syniad o ba wybodaeth y dylai'r sgoriau allu ei chyfleu. Mae gennyf rai syniadau i'w hychwanegu at hynny, a dof atynt mewn ychydig eiliadau, ond maent yn awgrymu y bydd yn rhaid i safle, er mwyn cyflawni sgôr o 5, fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, a hefyd yn gwbl gynhwysol ar gyfer pobl â nam ar eu clyw neu eu golwg, a dealltwriaeth gan y staff o bobl ag anableddau dysgu. Mae cael bwyty gyda staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion neu fwydlenni Braille yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a rhoi profiad llawer haws a llai o straen wrth wneud pethau bob dydd y bydd y rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.

Syniad arall a gyflwynwyd ganddynt, yn ogystal â chael sgôr 5 i 0, yw cael symbolau ychwanegol islaw i ddangos a oes gan safle fynediad llawn i gadeiriau olwyn, toiled hygyrch, gwybodaeth mewn Braille, staff a all ddefnyddio iaith arwyddion ac a yw'r safle—i ddyfynnu'r ddeiseb—yn 'ystyried awtistiaeth'. 

Nid wyf am gael fy rhwydo gan y manylion ar y cam hwn. Byddai'n rhy hawdd diystyru'r ddeiseb a'r syniad oherwydd termau amwys fel 'ystyried awtistiaeth' neu 'ystyriol o anabledd'. Gwn y byddai'n amhosibl rhagweld yr ymateb unigol, er enghraifft, ac felly, anghenion mynediad pob unigolyn â chyflwr ar y sbectrwm awtistig. Fy hun, buaswn yn dweud mai'r gofyniad sylfaenol i gael sgôr ar hynny fyddai bod aelodau allweddol o'r staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth, ond dyna beth yw diben ymgynghori ac nid ydym yn brin o unigolion a chyrff i ymgynghori â hwy yma yng Nghymru.

Mae rhai ohonynt eisoes wedi cynnig eu cefnogaeth i gynigion y gynghrair. Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, er enghraifft, wedi dweud:

Ar gyfer anableddau cudd megis awtistiaeth, yn aml gallai mynediad at nwyddau a gwasanaethau ymwneud yn aml â gwneud newidiadau i'r amgylchedd ffisegol ond mae bod yn ymwybodol o gyflyrau gwahanol yn allweddol hefyd. Byddai Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn croesawu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd, gan gynnwys awtistiaeth, ar gyfer staff sy'n rhyngweithio gyda'r cyhoedd fel nad yw pobl awtistig yn teimlo wedi'u hynysu'n gymdeithasol ac yn methu defnyddio siopau a gwasanaethau.

Mae Cŵn Tywys Cymru, yn eu hadroddiad, 'Access to food premises for guide dog owners and other blind and partially sighted people', yn diffinio'r problemau a brofir gan rai o'r 100,000 o bobl Cymru sydd wedi colli'u golwg. Y pum math o le sy'n fwyaf tebygol o wrthod mynediad i berchnogion cŵn tywys yw tacsis, bwytai, siopau papurau newydd a siopau cyfleustra, caffis a siopau stryd fawr er mai bwytai a siopau stryd fawr, fel arall hefyd, sy'n rhoi'r gwasanaeth gorau pan gaiff ei gynnig. Rwy'n credu bod hynny'n dangos mai'r elfen sydd ar goll i rai busnesau yw meddwl am hygyrchedd yn y lle cyntaf.

Mae Cŵn Tywys Cymru yn dweud:

I bobl ddall a rhannol ddall, byddai'r ddeiseb yn helpu mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, byddai'n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynediad i adeiladau. Mae adeiladau hygyrch yn cynyddu'r cyfle i bobl ddall a rhannol ddall, a'r holl bobl sy'n anabl, i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Mae mynediad gwael i adeilad yn ffactor pwysig wrth benderfynu a yw'n bosibl defnyddio canolfan hamdden, llyfrgell, bwyty neu feddygfa heb gymorth. Yn ail, drwy godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynediad i adeiladau, mae gobaith y byddai gwell gwybodaeth am y pwnc ar ran darparwyr gwasanaethau yn arwain at ostyngiadau yn nifer y penderfyniadau i wrthod mynediad.

Cyn i mi droi at yr agweddau ymarferol, hoffwn sôn am y tri syniad arall sydd gennyf y credaf y gellid eu cynnwys yn hyn. Yn gyntaf oll, system sgorio neu wybodaeth i ddangos ymwybyddiaeth o ddementia mewn busnes. Os ydym o ddifrif yn awyddus i gael cymunedau sy'n deall dementia, gadewch inni gynnwys hyn. Yn ail, anawsterau cyfathrebu—clywsom ddoe gan David Melding y bydd Afasic Cymru yn cau eu swyddfeydd yng Nghymru, ond nid yw hynny'n golygu bod hwn yn fater caeedig. Yn drydydd—wel, mae'n debyg na fydd hyn yn syndod—sgiliau achub bywyd mewn argyfwng a diffibrilwyr. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio eu cefnogaeth i fy nghynigion deddfwriaethol i helpu i greu cenedl o achubwyr bywyd yn y flwyddyn ddiwethaf o'r Cynulliad presennol. Ymhlith y rheini roedd cynigion i gynyddu argaeledd diffibrilwyr ar gyfer y cyhoedd a chynyddu nifer y staff sy'n gweithio mewn adeiladau a ddefnyddir gan y cyhoedd sy'n meddu ar sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, fel y gallai aelodau o'r cyhoedd elwa ar eu harbenigedd, nid y gweithlu yn yr adeilad hwnnw'n unig.

Nawr, yr agweddau ymarferol. Y pwynt cyntaf i'w wneud yw bod enghreifftiau achlysurol o'r syniad hwn ar waith eisoes, diolch i sefydliadau megis Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r Gymdeithas Alzheimer. Mae Aberhonddu yn dref sy'n deall dementia, mae Aberdaugleddau yn dref sy'n ystyried awtistiaeth, a'r ddau deitl yn seiliedig yn bennaf ar hyfforddiant ymwybyddiaeth. Mae rhai o'n siopau mawr a'n theatrau wedi cyflwyno cyfnodau siopa tawel neu hamddenol a pherfformiadau i helpu pobl a'u gofalwyr, yn ogystal â staff, i deimlo'n fwy cyfforddus wrth rannu profiadau bob dydd a bydd ganddynt arwyddion neu dystysgrifau i ddangos hynny hefyd.

Dywedodd Mark Isherwood wrthyf ychydig ddyddiau'n ôl, am Communicating With Confidence, elusen fach yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sy'n codi ymwybyddiaeth o anawsterau cyfathrebu pobl o bob oedran a phob cefndir o ganlyniad i strôc, clefyd Parkinson's, clefyd niwronau motor ac anafiadau i'r ymennydd. Maent eisiau symbol cyfathrebu cenedlaethol i'w roi ochr yn ochr â'r bathodynnau cyfarwydd ar gyfer nam ar y clyw neu'r golwg a namau corfforol, ac maent eisoes yn defnyddio arwyddion a sticeri yn lleol i hybu ymwybyddiaeth.

Ac o ran diffibrilwyr, wel, rwy'n siŵr eich bod i gyd wedi gweld y nod mellten yn ymddangos mewn mwy o fannau cyhoeddus bellach, ond go brin eu bod ar gael ym mhobman. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle na ellir darganfod y wybodaeth allweddol ynglŷn â lle i ddod o hyd i'ch diffibriliwr agosaf heb ffonio'r gwasanaeth ambiwlans, gan golli amser gwerthfawr. Yr wythnos hon, nododd pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon ei gefnogaeth i ymestyn yr egwyddorion yn y ddeiseb hon, gan ddweud,

Mae sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod ble y gallant ddod o hyd i ddiffibriliwr neu gymorth gan unigolyn sydd wedi cael hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd yn hanfodol i achub bywydau.  

Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddangos, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod pob un ohonom, nid pobl sydd ag anableddau'n unig, yn ymateb i symbolau cyfarwydd lle mae'r symbolau hynny'n gyson ac ar gael yn eang. Er y tybiaf ein bod yn siarad am ymgynghori eto o ran sut rai fyddai unrhyw symbolau newydd, nid yw'r gost o ychwanegu ychydig o symbolau ychwanegol i'r casgliad o sticeri sydd eisoes ar gael, gwefannau neu ddeunydd ysgrifenedig yn debyg o fod yn eithafol.

Pwy ddylai fod yn gyfrifol am hyfforddiant? Wel, mae'n amlwg i mi y dylid cynnal hyfforddiant gan bobl sy'n gwybod beth y maent yn ei wneud, gan gynnwys pobl ag anableddau eu hunain, yn ôl egwyddorion cydgynhyrchu, yn bendant. Nid wyf yn meddwl ei fod y tu hwnt i'r sector i fod yn gyfrifol am y strategaeth a'r cynllunio chwaith, ond mae hwn yn gwestiwn agored o'm rhan i. Gallaf ragweld, er enghraifft, ei fod yn debygol o effeithio ar drwyddedu tacsis, sy'n gyfrifoldeb awdurdod lleol, ond nid yw hynny'n golygu y dylai'r cyngor lleol sy'n brin o arian ysgwyddo cyfrifoldeb am y cynllun cyfan. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y system hylendid bwyd a gallai, neu dylai rhannau gwahanol o'r sector cyhoeddus fod yn bartneriaid yn hyn.

Fel erioed, y cwestiynau a fydd yn peri trafferth i bawb fydd cost a chosteffeithiolrwydd. Unwaith eto, rwy'n gwbl agored ar hyn, ond yn yr oes hon o gyllidebau cyfranogol—maent yn dod i'r amlwg bellach—mae hwn yn gynllun sy'n gynnil, yn hawdd ei esbonio ac yn hawdd ei ddeall. Felly, pam na ddylid ei gynnig fel syniad? Yr egwyddor o gyllidebau cyfunol a mwy o gydweithredu rhwng sectorau yw'r cyfeiriad rydym yn mynd iddo hefyd, felly mae llai o reswm bellach, rwy'n meddwl, i ddweud bod rhaid i hyn gael ei ariannu o gyllideb iechyd ganolog neu gyllideb yr awdurdod lleol. Nid oes unrhyw reswm mewn egwyddor pam na all pen cyfoethocach y sector elusennau pobl anabl gyfrannu at gyllideb gyffredin. Archwiliwch yr holl syniadau a pheidiwch â gadael i'r hen fodelau ariannol lethu datblygiad syniadau newydd gwych.

Ac yna, yn olaf, mewn perthynas â chosteffeithiolrwydd, y peth cyntaf i'w nodi gyda hyn yw nad yw'n disodli cydymffurfiaeth â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005. Nid yw'n ymwneud â gorfodi na hyd yn oed arfer hawliau. Mae'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, ond hyd yn oed wedyn mae'n rhan o rywbeth mwy. Credaf fod diddordeb yn y cynllun hwn yn dystiolaeth bellach fod cymdeithas yn dod yn fwy parod i dderbyn, pa un ai'n fwriadol ai peidio, y model cymdeithasol o anabledd, fod anabledd yn nodwedd o sut y caiff cymdeithas ei threfnu, yn hytrach na nam sy'n rhaid byw gydag ef.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth yn y system hon i berchnogion busnesau wneud unrhyw beth â'u safle. Dyna'n union yw'r sgoriau ar y drysau: gwybodaeth i'r cyhoedd. Os ydynt yn arwain at berswâd tawel i fusnesau wella eu gwasanaethau, a chredaf y byddai'n debyg o wneud hynny, yna ni fuaswn yn dadlau y dylid codi tâl ar y busnesau hynny am ail asesiad, fel sy'n digwydd yn achos tystysgrifau hylendid bwyd.

Mae gwella ei hun yn gam tuag at ad-drefnu cymdeithas yn y fath fodd. Gwelaf y cynllun hwn fel un gwerthfawr iawn i bobl heb anableddau. Pan fydd arwyddion yn dod yn rhan o'r dirwedd, i'r graddau nad ydych yn sylwi arnynt efallai, yna maent wedi cyflawni rhywbeth. Mae'n debyg i groesi Pont Hafren, ac mae'n gwawrio arnoch yn araf nad yw'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog mwyach. Efallai nad ydych yn siarad Cymraeg, ond mae eich disgwyliad anymwybodol, di-weld yn cael ei herio am eiliad, oherwydd nad yw rhywbeth sydd fel arfer yno yno, yn rhyfedd, a dyna rwy'n gallu ei weld yn digwydd yma: pob un ohonom yn dod mor gyfarwydd â'r disgwyliad o hygyrchedd cyffredinol fel ei fod yn rhoi ysgytiad bach bob tro y gwelwn sgôr wael.

Dyma pam rwy'n cefnogi'r syniad hwn yn hytrach nag apiau neu ffynonellau eraill o wybodaeth uniongyrchol i bobl ag anableddau, er mor ddefnyddiol y bônt. Oherwydd nid yw'n ymwneud yn unig â gwasanaethau i bobl ag anableddau; mae'n hwb tuag at y newid cymdeithasol cadarnhaol hwn. Mae a wnelo â normaleiddio disgwyliad o fynediad ar gyfer pawb, syndod os yw adeiladau'n anhygyrch i grwpiau o bobl ag anabledd penodol, a bod hyn yn ystyriaeth bob dydd i bawb, o'r cynllunydd tref i'r pensaer, o'r adran adnoddau dynol i'r cynrychiolydd undeb. Credaf fod hynny'n werth mawr am arian am ychydig o sticeri, Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithiaf y byddwch yn mynd ar drywydd y syniad hwn yn frwd. Diolch.

18:45

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.

Ie. Diolch, Lywydd—. [Torri ar draws.] O, fe wnaf hyn, ac ni fyddaf yn clecian. Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl gydag araith mor adeiladol. I fod yn deg, dyna a gawn yn gyson gan Suzy Davies ar y ddau fater—hawliau anabledd a materion ehangach yn ymwneud â diffibrilwyr. Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb a grybwyllwyd gennych ar ddechrau eich cyfraniad ynghylch graddio hygyrchedd gwasanaethau i bobl anabl ac nid yw'n syndod ei fod wedi ennyn peth cefnogaeth ac edrychaf ymlaen at ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ohono.

Wrth gwrs, rydym am weld pawb yn cael mynediad cyfartal i siopau, bwytai a mannau cyhoeddus eraill. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Felly, mewn egwyddor, mae peth rhinwedd i'r syniad, ac rwy'n croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau ymarferol a sut y gallai cynllun o'r fath weithio. Credaf y byddai'n well cadw pethau mor syml â phosibl fel ei fod yn hawdd ei ailadrodd a'i ddeall. Gall fod yn anodd i system rifo sylfaenol ystyried yr ystod eang o faterion mynediad gwahanol y byddai angen eu hystyried, ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedoch am wahanol heriau y mathau gwahanol o anabledd. Ond mae'n argymhelliad i'w groesawu a dylid meddwl drwyddo a'i archwilio'n briodol i weld sut y gallai pob safle fod mor hygyrch â phosibl.

Wrth gwrs, mae yna her, wrth feddwl am ein fframwaith deddfwriaethol presennol o'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wreiddiol yn 1995 ac yn awr y darpariaethau sy'n ffurfio rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ceir darpariaethau a wnaed yn arbennig ar gyfer siopau a busnesau llai mewn adeiladau hŷn lle nad yw'n bosibl gwneud yr holl addasiadau y byddem fel arall yn disgwyl i adeiladau a busnesau eraill eu gwneud. Ond i'r rhan fwyaf, dylai fod yn bosibl gwneud rhai newidiadau fan lleiaf i wneud eu busnesau'n fwy croesawgar i bobl anabl. Byddai'r ymagwedd gynhwysol honno, gydag agwedd gadarnhaol ar ran y staff, o fudd i'r holl gwsmeriaid, gan gynnwys pobl â namau cudd a gweladwy, pobl â phramiau, coetsis, dinasyddion hŷn, ac mewn gwirionedd, pobl heb anabledd o gwbl. Ceir her ehangach ynghylch gwasanaeth i gwsmeriaid mewn amrywiaeth o leoedd yr awn iddynt yn rheolaidd gyda'n cwstwm neu yn wir, y rhai y dewiswn beidio â mynd â'n cwstwm iddynt oherwydd profiad gwasanaeth cwsmeriaid. Mae hynny'n rhywbeth y dylai pob busnes roi amser a sylw iddo eto.

Wrth gwrs, dylid cynllunio’r amgylchedd a gwasanaethau i fod mor hygyrch â phosibl i bawb i'r graddau mwyaf posibl. Ac mae rhywbeth yma—ac roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn cydnabod hyn—am y darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ond rhywbeth sy'n mynd y tu hwnt i hynny ac yn ôl at y pwynt a wnaethoch yn eich cyfraniad ynghylch gwasanaeth i gwsmeriaid, oherwydd nid yw'n ymwneud yn syml â chydymffurfio â deddfwriaeth, mae'n ymwneud â rhywbeth llawer mwy ac mewn gwirionedd, i nifer o bobl, mae'n ymwneud â rhywbeth llawer mwy gwerthfawr, lle y teimlant eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u croesawu go iawn pan fyddant yn defnyddio gwasanaeth.

Mae angen inni hyrwyddo trafodaeth onest ac agored—dyna ymadrodd a glywais o'r blaen, ond trafodaeth agored a gonest rhwng grwpiau anabledd, unigolion, y sector busnes, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector er mwyn deall beth y credwn sydd ei angen a beth y credwn sy'n bosibl, boed hynny drwy system sgoriau ar ddrysau neu drwy ddulliau eraill, i ystyried yr opsiynau a beth yw'r cyfle gorau i wneud rhywbeth ymarferol er mwyn gwella hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ohono yn ogystal. Ac roeddwn yn falch o glywed y pwyntiau niferus a wnaethoch yn eich cyfraniad.

Fe gyfeirioch chi hefyd at ddiffibrilwyr wrth gwrs, pwnc yr ydych wedi sôn amdano yn y gorffennol ac rwy'n siŵr y byddwch yn sôn amdano eto, boed hynny mewn dadl fer neu mewn cwestiynau, yn y dyfodol. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn rhannu ymrwymiad i wella cyfraddau goroesi pobl sy'n dioddef ataliad ar y galon yn y gymuned. Felly, mae defnydd cyflym o ddiffibriliwr ochr yn ochr ag adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) effeithiol a ffonio 999 cyn gynted â phosibl yn cynnig y gobaith mwyaf i bobl o oroesi. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig berson yn yr ystafell hon sydd wedi gwneud peth o'r hyfforddiant hwnnw eu hunain. Mae fy staff wedi cael hyfforddiant, a hyfforddiant diweddaru yn ogystal. Mae'n rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud i wneud rhywbeth ymarferol am hynny er mwyn ceisio lleihau peth o'r ofn, gan mai un pwynt a wneir yn rheolaidd os oes rhywun wedi cael trawiad ar y galon yw na allwch eu brifo drwy ymyrryd, oherwydd os nad ydych yn ymyrryd, nid ydynt yn mynd i fod yno. Mae rhywbeth yma am symleiddio. Ac mewn gwirionedd, fel pob person sydd wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio diffibriliwr, gwnaed argraff fawr arnaf gan y ffaith ei fod yn fater o, 'O, mae'n dweud wrthych go iawn beth i'w wneud'. Felly, mae rhywbeth yma am gael gwared ar beth o'r pryder a fyddai, yn ddigon dealladwy, gan bobl sydd heb gael yr hyfforddiant hwnnw na'r profiad hwnnw.

Felly, mae angen mwy o ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr, sut i'w defnyddio, lle maent wedi'u lleoli, a chefnogi'r ymgyrch i gael mwy ohonynt yn ein cymunedau, a'u bod ar gael ar system fapio diffibrilwyr gwasanaeth ambiwlans Cymru. Rwy'n llwyr gefnogi camau i wneud offer achub bywyd, megis diffibrilwyr, yn fwy hygyrch a chael arwyddion priodol i dynnu sylw at eu lleoliadau, ac unwaith eto, cysondeb wrth wneud hynny hefyd. Wrth gwrs, mae'r rhain ar gael nid yn unig gan sefydliadau masnachol, ond gan amrywiaeth o grwpiau trydydd sector hefyd fel Ambiwlans Sant Ioan, Sefydliad Prydeinig y Galon, ac amryw o rai eraill llai o faint—wyddoch chi, Calonnau Cymru ac elusennau eraill yma yng Nghymru.

Mae gennyf ddiddordeb yn nhrefn a dichonoldeb cael system o'r fath, ond rwy'n agored i dderbyn mwy o wybodaeth ar sut y gallem weld system o'r fath yn gweithio. Mae'n ymwneud â gallu ymarferol i ddatblygu syniad hollol resymol. Fis Mehefin diwethaf, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi lansio ein cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru—un arall o'n teitlau bachog yn y byd iechyd a llywodraeth yn gyffredinol. Rydym yn y camau cynnar o geisio gweithredu'r cynllun hwnnw a sicrhau gwelliannau go iawn. Ac felly ceir is-grŵp o'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon, ac maent yn goruchwylio cynnydd yn erbyn yr amcanion yn y cynllun hwnnw. Felly, mae dychweliad cylchrediad naturiol yn cael ei weithredu eisoes—mae'r llwybr yn cael ei weithredu gan wasanaeth ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd.

Y mis diwethaf, cynorthwyodd Llywodraeth Cymru gyda'r gwaith o drefnu gweithdy gweithredu, a gellais fynychu rhan ohono hefyd, er mwyn ceisio ennyn trafodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r tair dolen gyntaf yn y gadwyn oroesi: nodi cynnar, CPR cynnar a diffibrilio cynnar. Roedd pobl yno o ystod o elusennau clefyd y galon, ynghyd â chynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys, a chlywyd siaradwyr yn sôn am weithredu yng Nghymru a'r hyn rydym yn ei wneud eisoes, yn ogystal â dysgu gwersi o'r Alban ac ymwelwyr rhyngwladol o Seattle yn ogystal. Cynhyrchodd y gweithdy drafodaethau angerddol a gwybodus. Mae rhywbeth yma ynghylch y modd y down â'r sector cyfan at ei gilydd i gael y drafodaeth honno ac yna cytuno ar ddewisiadau cenedlaethol. Rydym am ddefnyddio'r egni a'r adborth i weithredu a gwella'r cynllun sydd gennym ymhellach, gan ddefnyddio canlyniadau o'r gweithdy a manteisio ar y profiad o'r Alban hefyd. Rwy'n wirioneddol falch o ddysgu o rannau eraill o'r system yn y DU sydd fwyaf tebyg i ni yma, wrth gwrs. Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu cynllun gweithredu manwl i gefnogi'r dull cydweithredol hwnnw o gynyddu mynediad at hyfforddiant CPR a'r defnydd o ddiffibrilwyr.

Yn ogystal, rydym yn sefydlu grŵp cyfathrebu i ddatblygu agweddau ar godi ymwybyddiaeth. Byddant yn edrych ar faterion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr yn ein cymunedau—unwaith eto, y pwynt a wneuthum yn gynharach am symleiddio'r defnydd ohonynt. Bu cynnydd sylweddol sydd i'w groesawu yn ystod y tair blynedd diwethaf yn nifer y diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd y gŵyr y gwasanaeth ambiwlans amdanynt. Mae nifer o ymgyrchoedd wedi helpu i wneud hynny: Diwrnod Adfywio Calon, Shoctober, Defibuary yn eu plith. Wrth gwrs, arweiniodd y ddwy ymgyrch ddiwethaf a nodais at ddysgu CPR ac ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr i bron 13,000 o blant ysgol yn ystod mis Hydref y llynedd. Pleser oedd cael cyfarfod ag amryw o'r bobl hyn mewn nifer o leoliadau gwahanol ledled Cymru fel rhan ohono.

Mewn gwirionedd fe lansiais yr ymgyrch 'Byddwch yn Arwr Diffib' ym mis Chwefror 2015, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd, ac efallai nad oedd bywyd yn symlach, ond roedd yn haws ar un ystyr, o leiaf. Ond ers hynny rydym wedi cael 396 o ddiffibrilwyr ychwanegol wedi'u cofnodi a'u mapio ar system ddosbarthu gwasanaeth ambiwlans Cymru. Ceir cyfanswm o 3,254 o ddiffibrilwyr ar y system ar hyn o bryd, ac maent yn caniatáu i'r sawl sy'n ateb galwad gyfeirio pobl sy'n ffonio at yr un agosaf a'r argaeledd os yw rhywun yn dioddef ataliad ar y galon. Eisoes rydym wedi clywed straeon, o ganlyniad i'r system honno, nid yn unig fod mwy o ddiffibrilwyr yno, ond am fywydau'n cael eu hachub oherwydd bod y diffibrilwyr hynny sydd ar gael i'r cyhoedd wedi cael eu defnyddio. Ac wrth gwrs, mae staff ambiwlans a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio yn eu cymunedau lleol ar gaffael a lleoli diffibrilwyr, a hyfforddiant dadebru CPR.

Unwaith eto, yn fy etholaeth fy hun, bûm mewn digwyddiad yn hen Ysgol Uwchradd y Dwyrain, gyda chyn-ddisgybl yr oedd ei bywyd ei hun wedi'i achub gan y gwasanaeth iechyd, ac mae'n rhoi llawer yn ôl, yn gwneud—mae'n ffisiotherapydd a hyfforddwr personol sy'n gwneud gwaith adsefydlu gyda chleifion yr ysgyfaint. Mae hi hefyd wedi codi arian, ac mae'n darparu diffibriliwr ar gyfer ei hen ysgol, sy'n mynd i gael ei leoli yn yr ysgol newydd a agorodd yn ddiweddar. Dylai fod rhywbeth ar gael felly yn y rhan o'r ysgol sy'n hygyrch i'r cyhoedd, a bydd ar gael y tu allan i oriau yn ogystal â'r ochr arall i'r ysgol sy'n mynd i fod yn fwy cyfyngedig i oriau gwaith. Mae honno'n enghraifft dda o'r hyn y gwyddom ei fod eisoes yn digwydd mewn nifer o gymunedau ledled y wlad.

Felly, bydd angen amser i weld y cynnydd a wnawn gyda'n cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ac i adeiladu ar y momentwm sydd gennym gyda rhanddeiliaid, sefydliadau elusennol, y sector cyhoeddus, ac amrywiaeth o fusnesau, yn wir, sy'n hapus i gael eu diffibrilwyr wedi'u mapio ar y system gyhoeddus. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cymryd rhan ac yn hyrwyddo ymgyrch newydd Defibuary gwasanaeth ambiwlans Cymru, sydd wrth gwrs yn dechrau yfory ar 1 Chwefror, ac mae'r ymgyrch yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o ddiffibrilio cynnar ac annog pawb i ganfod lle mae eu diffibrilwyr agosaf a rhannu hynny ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn cydnabod bod pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, felly credaf y bydd gan bob un ohonom genhadaeth gyffredin o ran y modd yr awn ati i helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR a diffibrilio cynnar, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i sôn am hynny yn y lle hwn a gweld a ydym wedi gwneud y cynnydd a ddymunwn ac a oes camau eraill y gallem eu rhoi ar waith, gan gynnwys—a gwn beth fyddai orau gan yr Aelod—cael y gallu deddfwriaethol i wneud peth o hyn yn ogystal.

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:56.