Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Mae'n bleser gen i gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018, wedi cael y Cydsyniad Brenhinol heddiw.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r cwestiwn cyntaf, John Griffiths.

Arian Cyfalaf

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyraniad Llywodraeth Cymru o arian cyfalaf? OAQ51619

Diolch, Lywydd. Er gwaethaf y pwysau ar ein cyllidebau cyfalaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gwario bron i £5 biliwn i gefnogi blaenoriaethau seilwaith ledled Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, darparu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a diogelu dyfodol ein hamgylchedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Coleg Gwent yn bwriadu adleoli eu campws yng Nghasnewydd i leoliad ar lannau'r afon yng nghanol y ddinas, a allai fod yn drawsnewidiol ar gyfer addysg bellach yng Nghasnewydd, byddai'n golygu cydweithio â Phrifysgol De Cymru a'u campws hwy yng nghanol dinas Casnewydd, ac fe'i cefnogir gan Gyngor Dinas Casnewydd o ran cynlluniau adfywio ehangach. Yn gyffredinol, tybed a allech ddweud wrthyf pa fath o cyllid cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y math hwnnw o brosiect, o ran cyllid cyfalaf uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a hefyd, efallai, o ran modelau amgen, dielw o ddarparu cyllid angenrheidiol.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gyfarwydd iawn â phresenoldeb Prifysgol De Cymru ar lannau'r afon ar y campws yng nghanol dinas Casnewydd, sy'n hynod lwyddiannus, ac rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau eraill y cyfeiriodd yr Aelod atynt. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o fuddsoddi mewn addysg yng Nghasnewydd, ochr yn ochr â chyngor y ddinas. Rydym yn buddsoddi dros £50 miliwn yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ardal Casnewydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu £25.5 miliwn o hwnnw. A hynny i gyd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn erbyn cefndir lle mae ein cyllidebau cyfalaf £400 miliwn yn llai yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod nag yr oeddent yn 2009-10, gyda'r holl effaith y mae hynny'n ei gael ar ein gallu i ariannu cynlluniau pwysig. Rydym yn bwrw ymlaen â'r model buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Bydd hynny'n gwneud cyfraniad at fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac nid oes gennyf amheuaeth, wrth i'r cynllun y mae'r Aelod yn cyfeirio ato symud ymlaen, y byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud, drwy gyfalaf confensiynol neu drwy ffyrdd arloesol o ariannu, pe bai'r cynllun hwnnw'n dod i'n sylw.

Byddwch wedi fy nghlywed yn gofyn i'r Prif Weinidog ddoe am ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, yn ymchwiliad y pwyllgor yr wythnos diwethaf, roedd arwydd bod cynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect penodol hwn. Fel Ysgrifennydd Cyllid, sydd a chyfrifoldeb am gyllidebau cyfalaf, ymhle y credwch y mae'r pwynt tyngedfennol ar gyfer y cynllun hwn, gyda'r costau ychwanegol a ragwelir ar hyn o bryd? Oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd wedi dynodi, pan gafodd ei holi gan yr Aelod dros Lanelli, fod yna bwynt tyngedfennol. Felly, pa asesiad a wnaethoch o'r cynllun hwn a'r gallu i fwrw ymlaen ag ef mewn gwirionedd?

Wel, Lywydd, byddai penderfyniad o'r fath yn benderfyniad polisi; fy nghyd-Aelod, Ken Skates fyddai'n cymryd y cyfrifoldeb dros hynny. Fel y Gweinidog cyllid, fy ymagwedd i tuag at ffordd liniaru'r M4 erioed yw parchu annibyniaeth yr ymchwiliad cyhoeddus lleol, nid gwneud dyraniadau uniongyrchol i'r adran ar gyfer ffordd liniaru'r M4 hyd nes y byddwn yn gwybod beth yw canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol hwnnw. Mae arian wedi'i gadw mewn cronfeydd canolog, digon i fwrw ymlaen â'r prosiect, ond hyd nes y byddwn yn gwybod beth fydd yr ymchwiliad cyhoeddus lleol yn ei ddweud, credaf ei bod yn fwy synhwyrol i ni gadw'r arian hwnnw'n ganolog a gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu yng ngoleuni adroddiad yr ymchwiliad. 

13:35

Wrth gwrs, mae'r cynnydd yn y costau yn deillio'n bennaf o'r ffaith bod £136 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i ateb pryderon ynglŷn â'r porthladd yng Nghasnewydd, ac mae hynny, mae'n debyg, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhywbeth rydych wedi'i gymeradwyo, neu wedi cytuno iddo o leiaf. Nawr, rydych wedi sôn am yr arian sydd gennych yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Fel rwy'n deall, mae gennych £150 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf a'r gallu i fenthyca £125 miliwn arall, felly mae hynny'n gwneud cyfanswm o £275 miliwn y gellid ei ddefnyddio y flwyddyn nesaf fel arian cyfalaf tuag at yr M4 newydd, fel y dylem ei galw. A allwch chi gadarnhau nad ydych yn gallu, ac na fyddwch yn ceisio, gwario'r arian hwnnw hyd nes y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus wedi adrodd, ie, ond hefyd hyd nes y bydd pleidlais wedi bod ar gyllideb atodol yn y Cynulliad hwn?

Wel, Lywydd, fel y mae'r Aelod wedi fy nghlywed yn dweud, rwy'n bwriadu caniatáu i'r ymchwiliad cyhoeddus adrodd cyn i mi wneud penderfyniadau dyrannu. Byddai'n rhaid i'r penderfyniadau dyrannu hynny gael eu hadrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y ffordd arferol, a lle byddant yn galw am gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, byddai'n rhaid ceisio'r gymeradwyaeth honno.

Gwendidau yn y System Dreth

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system dreth yng Nghymru? OAQ51625

Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd newydd o atal osgoi trethi, osgoi artiffisial a gwella lefelau cydymffurfio ar gyfer yr holl drethi Cymreig. Mae hynny’n cynnwys trethi lleol a’r trethi cenedlaethol fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2018.

Mater y trethi tai haf a thai gwyliau sydd gennyf i dan sylw. Mi anfonodd Steffan Lewis a minnau lythyr atoch chi cyn y Nadolig er mwyn nodi ein pryderon ynglŷn â'r mater o dai haf yn trosglwyddo i gategori tai gwyliau er mwyn osgoi talu treth cyngor. Mae yna dros 500 o eiddo wedi trosglwyddo o'r dreth cyngor i drethi busnes yng Ngwynedd, gan arwain at golled o dros £1.7 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Mi wnaethoch chi ymateb drwy egluro bod yna beth gweithredu wedi digwydd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, ond pa mor hyderus ydych chi fod y rheolau yr ydych chi wedi eu cyflwyno i'r system am daclo'r broblem yn llawn? Onid oes gwneud llawer mwy, mewn gwirionedd? 

Wel, Llywydd, a gaf i ddweud gair o ddiolch i Siân Gwenllian am y wybodaeth y mae hi wedi ei rhoi i mi a'r llythyron rydym wedi eu derbyn oddi wrth Steffan Lewis a hithau? Rydw i wedi derbyn cyngor oddi wrth fy swyddogion i. Ar hyn o bryd, rydw i'n meddwl bod rheolau yno i ddelio â'r sefyllfa mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw ati. Nid ydym ni eto mewn sefyllfa lle rydym yn gallu bod yn hyderus ynghylch sut bydd pethau yn troi mas ar y tir ledled Cymru. Rydw i wedi ysgrifennu yn ôl, heddiw, i'r Aelod, ar ôl yr ail lythyr rwyf wedi ei dderbyn, i ddweud, ar ôl ystyried beth mae hi wedi ei ddweud, fy mod i wedi newid cynllun gwaith y polisi trethi newydd rwyf yn mynd i'w gyhoeddi, gobeithio, ym mis Chwefror, i roi'r mater hwn ar y cynllun gwaith ac i wneud mwy dros y flwyddyn sydd i ddod i gasglu gwybodaeth, i weithio gyda'r Valuation Office Agency a gyda'r awdurdodau lleol. Felly, cawn ni weld. Os, ar ddiwedd y dydd, gallwn ni weld drwy'r dystiolaeth fod problem fawr yno, bydd rhaid i ni wneud pethau. Os yw'r pethau sydd gennym ar hyn o bryd yn ddigon cryf i ddelio â'r broblem, wel, bydd y wybodaeth y byddwn ni'n gallu ei chasglu dros y flwyddyn i ddod yn gallu dangos hynny hefyd. 

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod holl dalwyr y dreth incwm yng Nghymru yn cael eu nodi cyn bod treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol, ac nad ydym eisiau wynebu'r un anawsterau a gododd wrth ddatganoli treth incwm yn yr Alban, pan gafodd nifer o bobl eu camddosbarthu?

Wel, mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn a diolch i Mike Hedges am ei godi. Mae'n gywir yn dweud, pan ddatganolwyd cyfrifoldebau treth incwm i'r Alban, fod yna rai problemau cychwynnol wedi'u profi gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi o ran nodi'n gywir pa unigolion a oedd bellach yn ddarostyngedig i gyfraddau treth incwm yr Alban. Mae CThEM yn dweud wrthym eu bod wedi dysgu o'r profiad hwnnw a'u bod mewn sefyllfa well i sicrhau, pan fydd cyfraddau treth incwm Cymru yn dod yn realiti o fis Ebrill eleni ymlaen, y bydd modd iddynt osgoi rhai o'r anawsterau a gawsant y tro cyntaf. Mae yna fanteision, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mewn dod yn ail gyda rhai o'r pethau hyn. Fodd bynnag, mae'r swyddog gweithredol sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am y materion hyn yn CThEM yn dod i'r Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher yr wythnos nesaf fel y gallwn graffu arno mewn perthynas â'r materion hyn. Byddaf yn ei gyfarfod ar yr un diwrnod, a byddaf yn sicr yn edrych am sicrwydd pellach ganddo, wrth i gyfrifoldebau treth incwm Cymru ddod yn realiti, y bydd CThEM yn gallu cyflawni eu hochr hwy o'r fargen honno.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn absenoldeb y llefarydd ar gyllid, rydw i'n gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet faddau i fi am grybwyll iechyd. Ond peidiwch â phoeni—yng nghyd-destun dyraniad cyllidebau mae fy nghwestiynau i.

Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru, wrth ddyrannu arian i gyrff cyhoeddus mawr fel y gwasanaeth iechyd, yn sicrhau bod yr arian yna yn cael ei wario mewn modd sydd yn gyson efo'r egwyddorion sydd wedi cael eu nodi gan y Llywodraeth?

Wel, Lywydd, mae hwnnw, yn y bôn, yn fater i'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth iechyd, ond rwy'n ddigon cyfarwydd â'r maes hwnnw i wybod y bydd ganddo ffyrdd uniongyrchol iawn o olrhain, drwy ei gysylltiadau â chadeiryddion, ac yna gyda phrif weithredwyr, y ffordd y mae'r arian y gallwn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio'n briodol gan y cyrff mawr hynny, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i ddweud—eu bod yn defnyddio'r arian y gallwn ei ddarparu ar eu cyfer yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwy'n cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bob mis fel fy mod, yn unol â fy nghyfrifoldeb dros reoli'r gyllideb gyffredinol, yn gallu cadw mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'n rheoli'r darn sylweddol iawn hwnnw o Lywodraeth Cymru y mae'n gyfrifol amdano.

Diolch yn fawr iawn. Rydw i yn gweld yr ateb yna yn ddefnyddiol. Mae hi yn nod, er enghraifft, gan y Llywodraeth i gynyddu gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned, ond mae hi'n anodd gwirio a ydy hynny'n digwydd o ran lle mae'r arian yn mynd oherwydd mai un llinell gyllid yr ydym ni'n ei chael gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet. Onid ydych chi'n credu bod yna le i roi rhagor o is-linellau cyllid, os liciwch chi, er mwyn i chi fel Llywodraeth allu gwirio a ydy'r gwasanaeth iechyd yn gwneud yr hyn yr ydych chi yn dymuno iddyn nhw ei wneud, ond hefyd er mwyn ei wneud yn haws i ni fel Aelodau Cynulliad eich dal chi i gyfrif fel Llywodraeth?

Wel, rydw i'n gyfarwydd, Llywydd, gyda'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud, ac yn y broses yr ydym ni wedi'i defnyddio i greu'r gyllideb y flwyddyn yma, rydym ni wedi rhoi mwy o fanylion ar lefel is na'r lefel yr ŷm ni wedi'i roi o'r blaen yn yr ail gam yn y broses newydd. Ble rŷm ni yn gallu gwneud mwy i roi mwy o fanylion i helpu'r Aelodau i graffu ar beth rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth, rŷm ni'n agored i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid a phobl arall i weld sut ŷm ni'n gallu ei wneud. Rydw i'n meddwl yr ŷm ni wedi mynd cam ymlaen yn y broses yna, yn y broses newydd yr ŷm ni wedi'i defnyddio dros yr hydref.

Mae cyfrifoldeb, wrth gwrs, arnoch chi fel Ysgrifennydd Cabinet i wneud yn siŵr bod yr arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario mor effeithiol â phosibl, ac rydw i'n gwerthfawrogi, o'ch ateb cynharach chi, eich bod chi yn cael cyfarfodydd efo'r Ysgrifenyddion Cabinet yn y gwahanol feysydd er mwyn trio pwyso a mesur a ydy pethau yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond mae yna un enghraifft arall benodol: rydym ni'n gwybod bod gwariant ar ofal sylfaenol, primary care, wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf—mae'n rhyw 7 y cant o'r cyfanswm o wariant iechyd rŵan o gymharu ag 11 y cant flynyddoedd yn ôl. Rydw i'n meddwl y dylid mynd yn ôl i 11 y cant, ac mae eich cydweithiwr yr Ysgrifennydd dros iechyd yn dweud bod angen cryfhau gofal sylfaenol. Ond sut ydych chi, fel yr Ysgrifennydd dros Gyllid, yn gallu pwyso ar eich cydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod gofal sylfaenol, yn y cyd-destun yma, yn cael y gefnogaeth rydym ni'n ei glywed y mae fod i'w chael, a bod y gefnogaeth yna'n dod yn ariannol?

13:45

Lywydd, roedd yr Aelod yn ofalus i nodi gwahaniaeth, ond mae'n wahaniaeth pwysig, rhwng y gyfran o'r gyllideb sy'n mynd at ofal sylfaenol a'r buddsoddiad absoliwt mewn gofal sylfaenol, oherwydd mae'r buddsoddiad absoliwt mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu dros y blynyddoedd, er ei fod wedi cymryd llai fel cyfran o'r gyllideb gyfan. Nawr, gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Dyna pam ein bod yn ariannu clystyrau gofal sylfaenol yn uniongyrchol. Dyna pam ein bod wedi cynnal y gronfa gofal integredig eto eleni.

Ond rwy'n nodi wrth yr Aelod, mai un o'r rhesymau pam nad yw gofal sylfaenol, fel cyfran o'r gyllideb iechyd, wedi cael y gyfran y mae rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd wedi'i gael yw oherwydd y ffordd y mae dadleuon cyhoeddus, a dadleuon yma hefyd, yn rhoi cymaint o bwyslais ar wasanaethau ysbyty, ac rydym yn siarad llawer llai am wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Felly, bob tro y ceir dadl am wasanaethau y gellid eu newid mewn lleoliad ysbyty, cawn ddadleuon enfawr. Pan fo newidiadau'n digwydd ar lefel gofal sylfaenol, mae llawer llai o sylw yn cael ei roi iddynt. Yn rhannol, y rheswm y mae ysbytai wedi cymryd cyfran fwy o gyllideb gynyddol yw oherwydd y ffordd y cynhelir dadleuon ynghylch dyfodol y gwasanaeth iechyd.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd Cyllid, ddoe, ni wnaeth y Prif Weinidog ateb cwestiwn arweinydd yr wrthblaid ar gap ariannu uchaf ar gyfer ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn llawn. A ydych yn barod i roi manylion y cap, neu a yw Llywodraeth Cymru yn hapus i'r costau godi i'r entrychion?

Wel, Lywydd, ceisiais ddweud yn gynharach nad fy nghyfrifoldeb i yw gwneud y penderfyniadau polisi mewn perthynas â ffordd liniaru'r M4. Fy nghyfrifoldeb i yw rheoli'r gyllideb a gwneud yn siŵr bod arian ar gael i fynd ar drywydd blaenoriaethau allweddol. Yn yr achos hwn, mae'r M4 newydd yn cael ei hystyried drwy ymchwiliad lleol annibynnol, a hyd nes y bydd yr ymchwiliad hwnnw'n adrodd ni fyddaf yn gwneud dyraniadau uniongyrchol, oherwydd bydd yr angen am ddyraniadau yn dibynnu ar gasgliadau'r ymchwiliad.

Diolch. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych newydd ei ddweud, Ysgrifennydd Cyllid, ac rwy'n deall bod ymchwiliad cyhoeddus ar y gweill ar hyn o bryd sy'n edrych ar wahanol atebion a llwybrau posibl ar gyfer yr M4 a dylid caniatáu iddo ddilyn ei gwrs. Rwyf hefyd yn deall bod mater polisi i'w drafod yma, ac nad chi yw'r Ysgrifennydd i drafod hynny. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i chi'n benodol ynglŷn ag ariannu'r cynllun, ac fel Ysgrifennydd cyllid, mae gennych farn gyffredinol ar gyflawni a sicrhau gwerth cyhoeddus am arian i'r trethdalwr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gost amcangyfrifedig gyfredol oddeutu £1.4 biliwn. Fodd bynnag, mae'n debyg nad yw hyn yn cynnwys amcangyfrifon o'r TAW, chwyddiant, na chostau cynnal a chadw yn y dyfodol. A oes unrhyw un o'r rhain wedi cael eu cynnwys a beth yw eich amcangyfrif cyfredol o gyfanswm cost ffordd liniaru'r M4?

Wel, Lywydd, mae'r ffordd y cyflwynir y costau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r Cynulliad yn cydymffurfio'n llwyr â'r confensiynau a ddefnyddir ar draws Llywodraethau ar gyfer adrodd ar symiau o'r fath. Felly, nid oes unrhyw beth yn anghyffredin yn y ffaith ein bod yn adrodd y symiau mewn prisiau cyfredol, yn hytrach na'r prisiau fel y gallant fod yn nes ymlaen. Yr hyn y gallaf ei adrodd wrth yr Aelodau yw: lle mae angen arian ar gyfer bwrw ymlaen â'r ymchwiliad cyhoeddus eleni, er enghraifft, a rhywfaint o waith galluogi angenrheidiol, rwyf mewn sefyllfa i ddarparu'r arian hwnnw i'r Ysgrifennydd Cabinet priodol, ac rwy'n parhau'n ffyddiog, pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo o ganlyniad i'r ymchwiliad cyhoeddus lleol annibynnol, y byddaf yn gallu defnyddio'r dulliau sydd ar gael i mi i roi'r cynllun ar waith.

Diolch i chi, Ysgrifennydd cyllid. Rwy'n gynyddol bryderus, oherwydd ymddengys bod diffyg ffigurau pendant unwaith eto heddiw. Nid oes llawer o amser ers i Lywodraeth Cymru ddweud wrth y Cynulliad y byddai'r gost yn llai na £1 biliwn. Credaf ein bod wedi cael rhyw fath o warant, neu beth bynnag oedd y gair a ddefnyddiwyd, bryd hynny. Ond mae'n ymddangos bellach fod yr amcangyfrif hwnnw'n llawer rhy isel. Nawr, os edrychwch ar enghreifftiau o gynlluniau ffyrdd mawr eraill yng Nghymru, megis lledu'r A465 ym Mlaenau'r Cymoedd—ac unwaith eto, gan roi polisi i'r naill ochr ar hynny—mae llawer o oedi wedi bod mewn perthynas â'r cynllun hwnnw ac mae'n costio tua 25 y cant yn fwy na'r gyllideb wreiddiol ar hyn o bryd. Felly, gallwch ddeall pryder y cyhoedd ynghylch y mathau hyn o brosiectau. Bydd llwybr du'r M4, os caiff ei ddewis, yn mynd drwy safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ar draws gwlyptir, gan wneud y cynllun yn fwy cymhleth nag y byddai llawer o gynlluniau ffyrdd eraill. Onid ydych yn credu, ar wahân i'r ymchwiliad cyhoeddus, ei bod yn bryd cynnal adolygiad llawn o gostau posibl y prosiect hwn er mwyn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr?

13:50

Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng y ddau fater yn yr union ffordd honno, Lywydd, oherwydd bydd y costau'n dibynnu ar gasgliadau'r ymchwiliad. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng y materion yn yr union ffordd honno. Gadewch i mi ddweud yn gyffredinol wrth yr Aelod fy mod, wrth gwrs, yn rhannu ei awydd bob amser i weld cynlluniau gwariant ar draws Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon a chosteffeithiol, a byddai hynny'n wir am y cynllun hwn yn yr un ffordd yn union ag y byddai'n wir am bob ffordd arall y bydd buddsoddiad cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei dalu'n ymarferol.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym yn disgwyl gyda diddordeb i weld penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet ar y rhestr fer ar gyfer trethi newydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ond a yw'n cytuno â mi, er na fydd unrhyw dreth yn boblogaidd byth, y bydd yn fwy derbyniol i'r cyhoedd os gallant wneud cysylltiad rhwng y costau y byddant yn eu talu â'r manteision y byddant yn eu cael? Mae rhai o'r trethi hyn, wrth gwrs, yn ymgorffori'r egwyddor honno'n well nag eraill. O ystyried y pwysau ar wariant cyhoeddus a'r cynnydd anochel yn y costau a welir ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod, gellid hyrwyddo'r cynnig am ardoll gofal cymdeithasol, cyhyd â bod y cynllun sy'n mynd law yn llaw â'r dreth yn un synhwyrol, mewn ffordd sy'n manteisio i'r eithaf ar y gefnogaeth gyhoeddus i dreth.

Wel, rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae neilltuo arian, yn yr ystyr y gall pobl weld beth y maent yn ei gael am yr hyn y maent yn ei dalu, yn dylanwadu ar ba mor dderbyniol ydyw i'r cyhoedd. Fe fydd yn gwybod bod Cangellorion olynol ar lefel y DU bob amser wedi gwrthwynebu neilltuo arian yn y ffordd honno, ond credaf fod yr Aelod yn iawn i gyfeirio, yn y cynllun y mae'r Athro Gerry Holtham wedi'i gyflwyno, sef y sail ar gyfer y trafodaethau hyn, at dderbynioldeb y cyhoedd mewn mannau eraill, ac mae'n defnyddio'r enghraifft yn Japan lle y ceir treth heb ei neilltuo tuag at ofal cymdeithasol, ond nid ydych yn dechrau ei thalu nes eich bod yn 40. Nawr, mae'n debyg, yn fras, y gallech ddweud nad yw pobl o dan 40 oed yn credu y byddant yn heneiddio nac yn credu y bydd hyn byth yn berthnasol iddynt hwy. Pan drowch y gornel honno, rydych yn dechrau sylweddoli y gallai buddsoddi yn y gwasanaethau hyn fod yn rhywbeth y bydd gennych ddiddordeb ynddo heb fod yn rhy hir, ac yn wir, ym model Japan, fel rwy'n ei gofio, mae faint rydych yn ei dalu tuag at y dreth yn codi wrth i chi fynd yn hŷn. Felly, mae cyfrannu at y dreth yn ymddangos yn fwyfwy derbyniol wrth i chi agosáu at y pwynt lle y gallech elwa ohoni. Felly, yn yr ystyr hwnnw, credaf fod gwaith Holtham yn tueddu i gadarnhau'r gosodiad cyffredinol a wnaeth Mr Hamilton.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel finnau, yn fythol ifanc—rydym yn gweld y gorwel yn mynd yn bellach oddi wrthym wrth i ni fynd yn hŷn—ond rwy'n derbyn y pwynt cyffredinol y mae'n ei wneud. O gofio bod costau gofal cymdeithasol oedolion, yn ôl rhagfynegiadau'r Sefydliad Iechyd, yn debygol o godi 4 y cant bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf, a bod costau'n debygol o godi i tua £2.5 biliwn erbyn 2030, mae'n amlwg y gallai hon fod yn broblem ariannu enfawr i Lywodraeth Cymru. Ac felly mae'n hanfodol, yn fy marn i, os bydd ardoll o'r fath, ein bod yn creu cronfa nad yw Llywodraethau'n gallu ei hysbeilio at ddibenion eraill. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio Deddf Yswiriant Gwladol 1911—nid cofio am ei fod yno ar y pryd, ond oherwydd ei fod wedi astudio hanes—a sail gyfan y cynllun hwnnw, a greodd yswiriant gwladol ym Mhrydain, oedd i greu cronfa yswiriant gwladol. Yn anffodus, mae'r gronfa honno wedi cael ei hysbeilio gan y Trysorlys yn rheolaidd ers hynny ac mae'r holl egwyddor o gyfrannu wedi cael ei thanseilio gan Lywodraethau Ceidwadol yn ogystal â Llywodraethau Llafur dros y blynyddoedd, ac mae hynny, rwy'n credu, wedi anffurfio'r modd y caiff yswiriant cymdeithasol ei ariannu yn y wlad hon yn barhaol, a byddai'n llawer gwell pe baem yn neilltuo arian at ddiben penodol. Gwn fod llaw farw'r Trysorlys wedi atal hyn yn San Steffan, ond rwy'n gobeithio, o ganlyniad i ddatganoli, y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy goleuedig wrth ystyried y materion hyn.

13:55

Wel, Lywydd, Marx a ddywedodd, 'Po hynaf yr af, yr hynaf rwyf am fod'—ond wrth gwrs, Groucho Marx oedd hwnnw, nid Karl Marx. Mae'r Aelod yn llygad ei le pan ddywed fod y gronfa yswiriant gwladol wedi peidio â bodoli i bob pwrpas oddeutu 1957, pan benderfynodd Llywodraeth Macmillan ar y pryd ei bod am dyrchu i mewn iddi a thalu am wariant cyfredol o'r derbyniadau a oedd wedi cronni yn y gronfa. Ers hynny, mae yswiriant gwladol, mewn gwirionedd, yn system talu wrth ddefnyddio yn hytrach na system wedi'i hariannu gan yswiriant. Mae adroddiad yr Athro Holtham yn glir iawn mai'r math o gynllun y mae am ei hyrwyddo fyddai un lle byddai'n rhaid i arian y gallai dinasyddion Cymru ei dalu at ddibenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol fynd i gronfa bwrpasol y tu allan i'r Llywodraeth, gyda sicrwydd cryf i aelodau'r cyhoedd na allai'r Llywodraeth gael mynediad ati ar adegau o anhawster, a lle byddai trefniadau llywodraethu cryf yn ei chylch i roi hyder i bobl, os yw eu harian yn cael ei dalu at y dibenion hyn, y bydd yr arian hwnnw yno i'w dynnu allan at y dibenion hyn yn y dyfodol.

Ffordd arall y cafodd y gronfa yswiriant gwladol ei disgrifio, wrth gwrs, yw fel 'cynllun Ponzi mwyaf y byd', fel y mae wedi datblygu. Gobeithiaf na fyddwn yn ail-greu rhywbeth felly yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod gennym gyfle yma i wneud rhywbeth tebyg i'r hyn a wnaed yn Norwy, er enghraifft, mewn perthynas â'r arian annisgwyl a ddaeth i'w rhan pan ddechreuodd olew Môr y Gogledd lifo ac aethant ati i greu cronfa gyfoeth sofran, sydd bellach yn cynhyrchu difidendau helaeth i bobl Norwy, ac ar y sail honno y mae eu safon byw uchel iawn a'u hyswiriant cymdeithasol a'u darpariaeth iechyd ac ati yn cael ei gyllido i raddau helaeth. Nid oes gennym gyfoeth o olew, ond mae gennym gyfoeth yng ngallu creadigol ein pobl. Os gallwn neilltuo cyfran fach o incwm cenedlaethol ar gyfer cronfa gyfoeth sofran o'r math hwn, yna efallai y gallem helpu i gau cylch ariannu anghenion cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio a system iechyd a fydd yn gallu gwella cymaint yn fwy o gyflyrau sydd, yn y gorffennol, wedi arwain at farwolaethau cynnar. Felly, y naill ffordd neu'r llall, rhan o ffyniant cynyddol cenedl yw iechyd a lles ei phobl ac mae hyn yn cyd-fynd yn daclus â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried trethi gyda'r Ddeddf honno, rwy'n credu, os ydym eisiau sicrhau bod datganoli yn y maes penodol hwn yn llwyddiant.

Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau y prynhawn yma? Pan gyhoeddasom ein rhestr fer o drethi posibl o dan Ddeddf Cymru 2014, yr union reswm dros wneud hynny oedd er mwyn ysgogi trafodaeth am y modd y gellid defnyddio'r pwerau newydd hyn i Gymru at ddibenion a fydd o bwys i bobl yng Nghymru yn y dyfodol. Credaf fod rhai o'r materion a godwyd gan yr Aelod y prynhawn yma yn helpu i greu trafodaeth o'r fath ac maent wedi gwneud hynny mewn maes, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, o ystyried strwythur oedran ein poblogaeth a beth y mae hynny'n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol, lle mae dadl o'r fath yn anochel os ydym am baratoi'n briodol ar gyfer y dyfodol hwnnw.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ51607] yn ôl, felly cwestiwn 4—Angela Burns.

Y Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ51620

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dyraniad y gyllideb ar gyfer portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y flwyddyn nesaf yn uwch nag erioed ar hyn o bryd, gyda gwerth £7.3 biliwn o refeniw a £294 miliwn mewn cyfalaf.

14:00

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf mewn gwirionedd yn gofyn am eglurder ar y broses a ddefnyddiwch i bennu dyraniadau'r gyllideb. Gwrandewais ar eich ateb blaenorol i lefarydd Plaid Cymru. Nid oes gennyf gymaint o ddiddordeb mewn gwybod sut rydych yn mesur y canlyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn amlwg yn gyfrifol amdanynt, ond yn hytrach sut y byddwch chi eich hun yn mynd ati i bennu'r ganran o gyllideb gyffredinol y Llywodraeth. Pa ragdybiaethau rydych chi'n eu defnyddio? Er enghraifft, a ydych yn dweud yn syml, 'Y llynedd, roedd gennych x biliwn o bunnoedd; rwyf am ychwanegu canran chwyddiannol a dyna beth a gewch', neu a ydych yn edrych ar yr achos busnes a adeiladwyd yn ariannol o'r gwaelod i fyny ac yna'n asesu yn ôl y balans hwnnw? Ac os ydych, a yw'r rhagdybiaethau hynny'n gyhoeddus?

Lywydd, mae'r ffordd y pennir dyraniadau ar draws y Llywodraeth yn dechrau gyda chyfres o drafodaethau dwyochrog rhyngof fi a holl gyd-Aelodau eraill y Cabinet lle mae'r cyd-Aelodau'n gwneud cynigion i ddangos sut y gellir bodloni blaenoriaethau allweddol y Llywodraeth a beth fyddai goblygiadau ariannol gwneud hynny. Fy swydd i drwy'r trafodaethau hynny yw ceisio gwneud i'r swm o arian sydd gennym—a bydd yr Aelod yn gwybod yn iawn ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn ystyried ei fod yn annigonol i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru—sut y gallwn wneud y gorau o'r arian sydd gennym. Yn benodol ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, rydym yn ceisio cyflawni'r ymrwymiadau rydym wedi eu gwneud fel Llywodraeth. Dyna pam fod gennym gronfa triniaethau newydd; gallodd Ysgrifennydd y Cabinet esbonio llwyddiant y gronfa honno yn gynharach yr wythnos hon. Dyna pam fod £7 miliwn yn y gyllideb y flwyddyn nesaf i fwrw ymlaen â'n penderfyniad i godi'r terfyn cyfalaf mewn perthynas â gofal preswyl i £50,000.

Ac yn y gyllideb iechyd yn gyffredinol, rydym yn ceisio cau'r hyn rydym yn ei alw yn fwlch Nuffield. Bydd yr Aelod yn gyfarwydd â'r adroddiad a gyhoeddwyd yn y Cynulliad diwethaf a oedd yn dangos, hyd yn oed pe bai'r gwasanaeth iechyd ei hun yn parhau i wneud yr enillion effeithlonrwydd y mae'n rhaid i ni ofyn iddo eu gwneud, byddai angen buddsoddiad ychwanegol o £200 miliwn gan Lywodraeth Cymru o hyd oherwydd pwysau demograffig a'r ffaith bod triniaethau newydd yn dod ar gael. Byddwn wedi cyflawni hynny ym mhob blwyddyn o dymor y Cynulliad hwn ac wedi mynd ymhell y tu hwnt iddo.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau bod dyled mentrau cyllid preifat yng Nghymru tua un rhan o bump o gost y pen y DU yn ei chyfanrwydd? Ac a fyddech yn cytuno bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ein rhaglen cyfalaf cyhoeddus i fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros y 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn ffordd egwyddorol a chyfrifol ymlaen ar gyfer adeiladu ysbytai newydd yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, ac a allwch chi, unwaith eto, nodi pa ffordd ymlaen fyddai orau gennych chi ar gyfer ariannu'r ystâd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hi, wrth gwrs, yn hollol gywir fod gennym lawer llai o gysylltiad â chynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae cost flynyddol gyfartalog y pen y cynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru gryn dipyn yn is na £40 y pen, ac mae hynny oddeutu un rhan o bump o gost y pen ar gyfer y DU gyfan. Lle roedd gan weinyddiaethau safbwynt gwahanol, mae yna, yn anochel, ganlyniad sy'n rhaid iddynt ddarparu ar ei gyfer. Yng Nghymru, mae'r tâl blynyddol am ddyledion mentrau cyllid preifat yn is nag 1 y cant o'n cyllideb. Yn yr Alban, mae'n rhaid i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ddod o hyd i 5 y cant o'i gyllideb bob blwyddyn i dalu dyledion mentrau cyllid preifat. Lywydd, yn nyddiau cynnar iawn y Cynulliad, rwy'n cofio'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid i fy nghyd-Aelod Jane Hutt eu gwneud ym maes mentrau cyllid preifat o ganlyniad i etifeddu cynlluniau pan gafodd y Cynulliad ei sefydlu gyntaf.

Rwyf wedi egluro i'r Pwyllgor Cyllid o'r blaen fod gennyf hierarchaeth mewn cof bob amser mewn perthynas â gwariant cyfalaf. Fy ymateb cyntaf, bob tro, yw defnyddio cyfalaf cyhoeddus, am mai dyna'r arian rhataf a fydd gennym byth, a byddaf bob amser yn defnyddio hwnnw yn gyntaf. Mae gennym ddulliau eraill y gallwn eu mabwysiadu wedyn—pwerau benthyca sydd gennym yn awr, ariannu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fenthyca yn y ffordd a sefydlwyd gan Jane Hutt, ac yna, y tu hwnt i hynny, y model buddsoddi cydfuddiannol. Ond cyn belled ag y bo modd, rydym yn defnyddio cyfalaf cyhoeddus ym maes iechyd fel ein dewis cyntaf, a phan nad ydym yn gallu bodloni'r holl anghenion y gwyddom eu bod yn bodoli yng Nghymru, fel ein penderfyniad, er enghraifft, i greu canolfan ganser newydd yn Felindre, yna byddwn yn defnyddio dulliau eraill i sicrhau bod y Cymry'n cael y gwasanaethau y maent eu hangen.

14:05

Tynnwyd cwestiwn 5 [OAQ51629] yn ôl. Cwestiwn 6—David Melding.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

6. Beth oedd y newid mawr yng nghylch cyllideb 2018-19 a benderfynwyd gan y blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ51613

8. Sut y gwnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddylanwadu ar ddyraniadau cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet? OAQ51612

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 6 ac 8 gael eu grwpio gyda'i gilydd.

Ymhlith y newidiadau a ddaeth yn sgil cyllideb 2018-19, mae'r buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn ar gyfer digartrefedd dros ddwy flynedd, gan gynnwys £10 miliwn yn benodol ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn 2019-20, yn dangos effaith y Ddeddf, a'r pum ffordd o weithio a nodir ynddi, gan gynnwys cyfranogiad ac atal, ar ein proses o gynllunio'r gyllideb.

Ysgrifennydd Cabinet, tybed a ydych yn sylweddoli bod teimlad cyffredinol, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Cynulliad, y dylem fod yn fwy heriol o ran sut y cyflwynir y wybodaeth hon ac felly, o'r modd y caiff ei chraffu a'i chysylltu â'r nodau llesiant. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r hyn a ddywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth y Pwyllgor Cyllid—a dyfynnaf:

Yn hytrach na theimlo bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cael effaith ar y Gyllideb ddrafft, roedd yn agosach at fod yn debyg i gyllideb y llynedd, ond gydag ychydig eiriau ychwanegol.

Mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy deinamig, onid oes, o ran sut y defnyddiwn y Ddeddf hon, a nodi ble y mae wedi effeithio ar benderfyniadau a lle yr aethpwyd i mewn i'r gyllideb neu gynyddu'r gyllideb ac eitemau a dynnwyd o'r gyllideb. Dyna beth y mae'r Ddeddf hon yn ei fynnu mewn gwirionedd.

Yn sicr, rwy'n rhannu uchelgais yr Aelod ac rwyf wedi cael cyngor gan y Pwyllgor Cyllid ar ffyrdd y gallwn wneud mwy i ddangos effaith y Ddeddf ar ein gwaith o lunio cyllideb. Dyna pam, yn y cylch cyllidebol hwn, yn y trafodaethau dwyochrog hynny y soniais amdanynt ychydig funudau yn ôl wrth Angela Burns, fy mod wedi sicrhau bod yna aelod o staff â chyfrifoldeb am y Ddeddf yn y cyfarfod bob amser, fel bod rhywun yno gyda briff penodol i ofyn y cwestiynau hynny ac i herio Gweinidogion pan fo angen o ran sut y gallai eu cynigion gael eu gweld yn deillio o'r Ddeddf. Dyna pam y cytunwyd ar dri maes arbennig gyda'r comisiynydd, meysydd y byddwn yn mynd ar eu trywydd yn ystod y cylch cyllidebol hwn i'w galluogi i weld lle roedd y Ddeddf yn gwneud gwahaniaeth, neu lle roedd hi'n teimlo bod mwy y gallwn ei wneud. Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud bob amser fod y Ddeddf, yn anochel, yn rhywbeth a fydd yn esblygol yn y ffordd y gallwn wreiddio ei hegwyddorion yn ein proses o gynllunio cyllideb. Rwy'n derbyn bod mwy y gallwn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at chwarae unrhyw ran y gallaf er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Rwyf innau hefyd yn derbyn ei fod yn waith sydd ar y gweill, ond credaf fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol mewn gwirionedd, ac wrth wneud hynny, anfon neges at y sector cyhoeddus cyfan y gallai hwn fod yn gyfle arloesol i weld cydweithio a chyllidebau cyfun ar waith o'r diwedd. Rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999 ac mae wedi bod yn alwad gyson fod angen i ni wella ein hymdrechion drwy fabwysiadu'r dull cyffredinol hwn o ymdrin â gwariant cyhoeddus, ac mae'r meddylfryd seilo hwn yn niweidiol tu hwnt. Gallai'r byrddau gwasanaethau lleol, er enghraifft, ddefnyddio'r Ddeddf fel arf hynod ddeinamig i sicrhau bod y bunt Gymreig yn cael ei gwario'n effeithiol yn y ffordd hon.

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed yr Aelod—fod yna rôl arweiniol i Lywodraeth Cymru o ran dangos bod y ffordd y defnyddiwn y Ddeddf yn gallu bod yn esiampl ar gyfer y ffyrdd y gall pobl eraill edrych ar y gwersi hynny yn ogystal. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn dod o hyd i ychydig o amser i edrych ar un neu ddau o'r asesiadau llesiant a gynhyrchwyd gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r cynlluniau ymarferol y maent yn eu llunio o'r asesiadau hynny bellach. Fel erioed, maent yn dangos rhychwant o ansawdd ar draws ystod o wahanol agweddau ar yr asesiadau hynny, ond mae'r rhai da, rwy'n credu, eisoes yn dangos y ffordd y mae'r nodau a'r pum ffordd o weithio yn cael effaith ar benderfyniadau gweithredwyr lleol, ac yn benodol, yn y ffordd a awgrymodd David Melding, yn eu galluogi i gyfuno adnoddau, cyfuno ymdrechion a gwneud gwahaniaeth yn y modd y byddai'r Ddeddf yn ei awgrymu.

14:10

Rydw i'n credu ei bod hi'n dal yn wir i ddweud bod y Ddeddf megis cysgod ar y gyllideb o ran y dylanwad mae wedi ei chael hyd yma. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod iawn, eleni, wrth ateb cwestiynau fel hyn—nid wyf eisiau ei demtio fe i restru, er bod gyda fe restr yn y fanna, mae'n siŵr, o brojectau sy'n cwrdd â phob un o amcanion y Ddeddf. Nid wyf i eisiau ei demtio fe i wneud hynny. Rydw i eisiau gofyn yn benodol, felly, gan fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi bod ynghlwm ag agweddau ar y gyllideb eleni, gan weithio'n benodol ar un pwnc, sef datgarboneiddio, a gan fod hefyd fwriad i gyflwyno cyllidebau carbon o dan Ddeddf arall, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 y flwyddyn nesaf, ym mha ffordd y gallwn ni ddisgwyl i gyllideb y flwyddyn nesaf adlewyrchu ffrwyth a phenderfyniad yn sgil y gwaith yna?

Wel, mae beth mae Simon Thomas yn ei ddweud yn wir: mae yna restr hir o bethau gyda fi fan hyn rwy'n gallu ei defnyddio i ddangos yr effaith mae'r Ddeddf wedi ei chael ar hyn o bryd. Ond ar y pwnc mae e wedi ei godi, rydw i wedi cwrdd dros y pythefnos diwethaf â Lesley Griffiths i ddechrau'r broses o gynllunio sut ydym ni'n gallu, dros y flwyddyn sydd i ddod, ddod â'r broses o greu'r cyllideb gyda'i gilydd â'r broses o carbon budgeting, fel rydym ni'n ei alw fe. So, rydym ni wedi dechrau ar y broses. Mae'r gweision sifil yn gweithio ar y manylion. Mae cyfarfod gyda fi â'r comisiynydd wythnos nesaf i drafod yr un pwnc. Rydym ni'n awyddus fel Llywodraeth, ac rydw i'n gwybod bod Lesley Griffiths yn awyddus, i wneud mwy i uno'r ddwy broses ac i gael cyfle i roi adborth yn ôl i Aelodau'r Cynulliad ar sut ydym ni'n gallu dod â'r ddau beth gyda'i gilydd a chael mwy o effaith drwy wneud hynny.

Ardrethi Busnes

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yng Nghymru?

Lywydd, bydd cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach parhaol yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2018. Mae cynlluniau ar gyfer datblygu ardrethi annomestig ymhellach yn cynnwys adolygu'r system apelio a mynd i'r afael â thwyll ac osgoi.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch iawn mewn gwirionedd o weld bod eich cyllideb yn cynnwys £1.3 miliwn i awdurdodau lleol ei ddefnyddio er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu i gefnogi ein busnesau lleol. Fodd bynnag, llwyddodd y cynllun tebyg yn 2014-15, a ddylai fod wedi darparu cymorth tebyg i'n busnesau, i gefnogi rhai busnesau mewn gwirionedd, ar gost o £2.765 miliwn, ac eto nid yw hwn ond yn 79 y cant o ddefnydd ar y pecyn cyffredinol o £3.5 miliwn. Dywedir mai'r rheswm am hyn oedd cymhlethdod y canllawiau i'r busnesau anghenus hyn ynghyd ag amserlenni tynn ar gyfer gwneud cais. Wrth symud ymlaen y flwyddyn hon, sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr amserlenni sy'n caniatáu i awdurdodau lleol a busnesau wneud cais am y grantiau hynny yn rhesymol fel y gallwn weld 100 y cant o ddefnydd o'r arian hwn, a ddyrannwyd yn benodol ar gyfer busnesau sydd mewn angen?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Lywydd. Roeddwn yn falch o allu darparu swm y gwn ei fod yn swm bach o arian wrth edrych ar y darlun mawr, £1.3 miliwn, i awdurdodau lleol gryfhau eu gallu i ddarparu rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau yn eu hardaloedd eu hunain. Y ffordd rwyf wedi ceisio ateb y cyfyng-gyngor y mae'r Aelod wedi'i grybwyll yw drwy sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn y modd disgresiynol hwnnw gyda'u gwybodaeth eu hunain am anghenion ac amgylchiadau lleol. Credaf fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa well i allu defnyddio'r swm hwnnw o arian sydd wedi'i dargedu'n fanwl i ymateb i fusnesau nad yw eu hamgylchiadau yn eu gwneud yn gymwys ar gyfer y cynlluniau mwyaf sydd gennym ym maes ardrethi annomestig, a thrwy beidio â chlymu'r arian wrth lawer o reolau a rheoliadau ychwanegol er mwyn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol, rwy'n gobeithio, allu ymateb yn gyflym ac yn gydymdeimladol i fusnesau lle y ceir achos priodol dros wneud hynny.

14:15
Metro De Cymru

9. Pa ddarpariaeth ariannol ychwanegol a wnaed i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru?

Lywydd, mae cyllideb 2018-19 yn cynnwys £173 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf a ddyrannwyd i brif grŵp gwariant yr economi a thrafnidiaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru. Golyga hyn fod cyfanswm o £433 miliwn wedi cael ei ddyrannu yn ystod y tymor hwn tuag at gyfanswm disgwyliedig o £734 miliwn o fuddsoddiad yn y prosiect. 

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, y bydd y modd yr ariennir prosiectau seilwaith mawr yn cael ei effeithio'n andwyol gan yr ansicrwydd dros gyllid Brexit y byddem wedi'i ddisgwyl o ran cronfeydd strwythurol, a hefyd materion fel mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop a ffynonellau tebyg. Pa gamau a gymerwyd i ddod o hyd i ffynonellau cyllid amgen, a pha gamau mwy hirdymor a gymerwyd ar gyfer ariannu'r prosiect metro yn y tymor hwy, prosiect yr amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai'n costio tua £3 biliwn?

Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod y symiau o arian a amlinellais—y £734 miliwn, sef buddsoddiad a gynlluniwyd ar gyfer metro de Cymru—yn cynnwys £106 miliwn rydym yn ei ddisgwyl drwy gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd y gwariant hwnnw o fewn y gwarantau y bydd Canghellor y Trysorlys yn eu darparu wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n parhau i weithio gyda swyddogion, a chydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu defnyddio pob ceiniog y gallwn ei chael o'r Undeb Ewropeaidd tra'n bod mewn sefyllfa i wneud hynny.

Daw £125 miliwn arall gan Lywodraeth y DU, ac rydym wedi cael sicrwydd y byddwn yn ei dderbyn, a bydd £503 miliwn o'r £734 miliwn yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae darpariaeth wedi cael ei wneud ar gyfer hwnnw yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a bydd angen y gweddill honno ar ôl hynny.

Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gywir ein bod yn dadlau'n gryf, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, na ddylai hynny olygu na all Cymru elwa o sefydliadau Ewropeaidd allweddol, sydd wedi gwneud cymaint o ddaioni yng Nghymru. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn sicr yn y categori hwnnw. Mae'r Deyrnas Unedig wedi cyfrannu cyfalaf mawr at y banc hwnnw, ac roeddem yn dadlau y dylem barhau i fod yn bartner i'r Banc. Gwn fod Canghellor y Trysorlys hefyd wedi dweud ei fod yn dymuno y bydd gan y Deyrnas Unedig berthynas gref â Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol, ac os nad yw'n bosibl i ni fod yn bartner, bydd yn chwilio am ffyrdd eraill y gallwn barhau i gael perthynas gynhyrchiol.

Ffyniant yn y Cymoedd Gogleddol

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio cronfeydd strwythurol i hybu ffyniant yn y cymoedd gogleddol?

Lywydd, rydym yn parhau i fanteisio i'r eithaf ar gronfeydd strwythurol yr UE sydd ar gael i gefnogi ein hamcanion ar gyfer twf a swyddi ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y Cymoedd gogleddol. Hyd yma, rydym wedi buddsoddi dros £1.4 biliwn i'r diben hwnnw, ac mae hwnnw'n cefnogi cyfanswm buddsoddiad o £2.6 biliwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi awgrymu y dylai cronfa datblygu rhanbarthol newydd ar gyfer y DU fod yn ganolog i unrhyw bolisi rhanbarthol yn dilyn Brexit. Fodd bynnag, maent hefyd wedi nodi bod angen i hwn gael ei reoli ar sail ddatganoledig, ac y dylai unrhyw arian a ddyrennir fod y tu hwnt i'r hyn sy'n ddyledus drwy fformiwla Barnett. Mae cael hyn yn iawn yn allweddol i ffyniant y Cymoedd gogleddol, felly a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen cadw'r addewidion a gafodd eu gwneud yn ystod ymgyrch refferendwm yr EU, na fydd Cymru yn colli yr un geiniog?

Wel, yn hollol, Lywydd. Mae'n rhaid cadw'r addewidion hynny. Byddai'n eironi rhyfedd iawn yn wir pe bai'r bobl a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn gweld bod Cymru yn waeth ei byd o fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig nag o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna pam fod yn rhaid i'r arian sydd wedi dod i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd—arian a gawn, fe gofiwch, oherwydd ein bod yn gymwys i'w gael yn ôl y rheolau—lifo yma wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cyflwyno achos i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn perthynas â sut y gellid gwneud hynny. Byddaf yn ailddatgan yr achos hwnnw pan fyddaf yn ei chyfarfod ddydd Gwener yr wythnos hon. Rydym yn credu'n gryf iawn fod datblygu rhanbarthol yn gyfrifoldeb datganoledig i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac mai ni sydd yn y sefyllfa orau i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i wneud hynny'n llwyddiannus yn y dyfodol, ond rydym angen i'r arian sydd wedi dod i Gymru at y diben hwnnw tra buom yn aelod o'r UE barhau y tu hwnt i hynny, ac rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU sicrhau bod hynny'n digwydd.

14:20
2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i arweinydd y tŷ, a'r cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.

Band Eang Cyflym Iawn

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddyddiad cychwyn y cynllun olynol ar gyfer band eang cyflym iawn? OAQ51624

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n bwriadu cynnal ymarfer caffael yn fuan, gyda golwg ar y prosiect newydd sy'n dechrau yn y gwanwyn eleni. Byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y mis hwn i nodi mwy o fanylion am y cynllun newydd.

Diolch am hynny. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna gynllun, wrth gwrs, achos rŷm ni’n gwybod bod y cynllun blaenorol, sydd wedi dod i ben, heb gyrraedd pob man. Rwy’n gwybod nad oes gyda chi’r ffeithiau llawn—yr adroddiad llawn—eto, ond mae yna bentrefi di-ri sydd wedi adrodd nôl fod yna cables yn dal i hongian oddi ar y polion ac nad yw’r gwaith wedi cyrraedd pen y daith, a hefyd bod yna rannau o Gymru, nad oedd byth yn mynd i gael eu cyrraedd o dan y cynllun blaenorol, sydd angen ateb, efallai, gwahanol, mwy clyfar er mwyn eu cyrraedd nhw.

Dau gwestiwn, felly, os caf i fod yn glir: rwy’n credu eich bod wedi sôn yn y gorffennol am £80 miliwn ar gyfer hyn—ai dyna’r swm sydd gyda ni o hyd, ac a ydych chi’n credu bod hynny’n ddigonol, neu a fydd angen ychwanegu at hynny? A faint o gyfle go iawn sydd i ddarparwr arall ddod i mewn i helpu yn y broses yma, achos rwy’n ofni bod rhoi ein hwyau i gyd ym masged BT Openreach wedi cyrraedd y sefyllfa bresennol, lle nad ydym ni, yn syml iawn, yn gallu cyrraedd yr wyau i wneud yr omlet?

Mae Simon Thomas yn gwneud nifer o bwyntiau da y mae wedi'u gwneud ar nifer o achlysuron ynglŷn â'r ffordd y mae band eang cyflym iawn wedi gweithio. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod cynllun Cyflymu Cymru wedi bod yn gynllun hynod lwyddiannus i'r bobl sydd wedi cael band eang cyflym iawn o ganlyniad iddo, ac maent yn nifer enfawr o bobl ledled Cymru. Mae'n rhan o natur pethau nad ydym yn derbyn llu o lythyrau gan bobl sy'n ddiolchgar amdano. Yn hytrach, rydym yn cael llawer o lythyrau gan y bobl sydd ar ben arall y prosiect, ac mae hynny'n ddealladwy iawn.

Ni fyddwn yn gwybod am nifer o wythnosau eto pa un a gafodd y cytundeb ei gyflawni'n llawn, ond mae gennym arwyddion da eu bod wedi gwneud yn dda iawn, ac rydym yn obeithiol iawn eu bod wedi cyflawni'r cytundeb mewn gwirionedd. Ond daeth y cytundeb i ben ar 31 Rhagfyr, am hanner nos, ac felly, yn amlwg, os na chafodd y gwaith ei wneud erbyn hynny, nid yw Llywodraeth Cymru yn talu amdano. Felly, mae hynny'n gadael pobl mewn sefyllfa rwystredig iawn.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ddechrau'r wythnos nesaf, felly rwyf am osgoi'r demtasiwn o achub y blaen arnaf fi fy hun drwy ei gyhoeddi cyn hynny, ond rydym yn ymwybodol iawn o helynt cymunedau sydd wedi cael eu gadael ar ôl, ac o nifer y bobl a gafodd addewid y byddent yn cael band eang cyflym iawn o dan y cynllun cyntaf, ac a gafodd eu gadael ar ôl am amryw o resymau. Yn sicr, byddwn yn cadw'r bobl hynny mewn cof pan fyddwn yn edrych ar y cyhoeddiadau rwy'n gobeithio eu gwneud ddechrau'r wythnos nesaf, fel y mae'n digwydd.

Os gwelwch yn dda, peidiwch â thalu BT am Princes Gate. Yn ystod yr amser dywedwyd wrthyf ar sawl achlysur y bydd Princes Gate yn cael band eang cyflym. Yn wir, y llynedd, ysgrifennodd pennaeth Cyflymu Cymru ataf—nid wyf am ei enwi—yn dweud y byddai ail gynllun yn sicrhau bod Princes Gate yn cael ei uwchraddio i fand eang cyflym iawn erbyn hydref 2017. Dyma'r ymateb gan arweinydd Openreach:

Mae'r seilwaith sy'n gwasanaethu eich cymuned yn rhan o raglen roeddem yn ei chynnal a ddaeth i ben ar ddydd Sul 31 Rhagfyr 2017. Mae'r cynllun hwn wedi dod i ben—

nid ydym yn gwneud rhagor. Ac nid Princes Gate yn unig. Mae Cynwyl Elfed, Hermon, Lawrenny, Martletwy, darnau o Benfro—maent i gyd wedi cael eu siomi. Cawsant addewid, dywedwyd wrthynt yn bendant—a Llanpumsaint—y byddent yn ei gael, ac ni fyddant yn ei gael bellach. Nid wyf yn credu eich bod yn bersonol gyfrifol am hyn, Weinidog, oherwydd gwn eich bod yn credu'n gryf mewn cyflawni'r cynllun hwn, ond buaswn yn hoffi i chi siarad yn go gadarn â BT ac Openreach. Ni allant wneud addewidion i bobl ac yna dweud, 'Anlwcus. Mae wedi dod i ben. Trueni', oherwydd mae gan y bobl hyn fywydau i'w byw, busnesau i'w cynnal, plant i'w haddysgu. Mae band eang cyflym iawn yn ddarpariaeth gyffredinol sydd ei hangen ar bawb heddiw, ac ni allaf weld pam y dylai fy etholaeth fod o dan gymaint o anfantais.

Credaf fod yr Aelod wedi gwneud nifer o bwyntiau sy'n werth eu hystyried. Fel y dywedais, wrth ystyried yr hyn y byddwn yn ei wneud ar gyfer y cynlluniau olynol, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r bobl a gafodd addewidion mewn gwahanol amgylchiadau ac na chafodd eu bodloni, am amrywiol resymau peirianyddol cymhleth, o dan y cynllun cyntaf.

Angela Burns fydd y person cyntaf i ddweud na ddylwn dalu am rywbeth sy'n groes i'r cytundeb, ac wrth gwrs mae'r cytundeb wedi dod i ben, ac rydym wedi bod yn bendant iawn ynglŷn â hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ymddwyn mewn ffordd ariannol briodol mewn perthynas â'r cytundeb ac yn y blaen. Ond ein prif fwriad yma yw cysylltu pobl â band eang—nid ymarfer ariannol yw hwn, ond ymarfer i gael y seilwaith yno. Felly, rydym wedi cael nifer o sgyrsiau gyda BT Openreach ynglŷn â lle aeth y gwaith ar adeiladu'r seilwaith, a chofiwch, maent yn buddsoddi eu harian yn hwnnw—nid ydynt yn cael eu talu hyd nes y bydd y safleoedd hynny wedi'u cysylltu. Felly, maent wedi buddsoddi arian mewn adeiladu allan at y safleoedd hynny ac mae gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu cysylltu o fudd masnachol iddynt hwy yn gymaint ag unrhyw beth arall.

Rydym wedi cael cryn dipyn o sgyrsiau gyda hwy am bobl yn y sefyllfa a grybwyllwyd gennych, ar ran nifer o'ch etholwyr, a phobl ledled Cymru yn wir sy'n perthyn i'r 4 y cant o bobl sy'n weddill ar ddiwedd y cytundeb. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau yr wythnos nesaf, a chredaf y gallent fod yn rhywfaint o gysur i rai o'r cymunedau a grybwyllwyd gennych.

14:25

A yw arweinydd y tŷ, gyda'i chyfrifoldebau dros fand eang a chydraddoldeb, yn cytuno â mi nad oes gan gydraddoldeb priodas, mewn gwirionedd, fawr ddim i'w wneud â chyflwyno band eang cyflym iawn? A yw hi hefyd yn cytuno â mi fod y sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ogledd Iwerddon, a oedd yn cysylltu'r ddau beth yn hollol ddifeddwl, yn fawr mwy nag enghraifft arall o ba mor dwp, ansensitif ac allan ohoni yw Llywodraeth Dorïaidd y DU?

Credaf fod y sylwadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn eithaf syfrdanol, mewn gwirionedd. Yn amlwg, nid yw cydraddoldeb priodas yr un peth â chysylltedd band eang mewn unrhyw fodd. Yn amlwg, mae bod yn aelod o'r gymuned LGBT+ yn nodwedd warchodedig a dylid ei thrin mewn modd sensitif fel y cyfryw.

Nid yw cydraddoldeb priodas yng Ngogledd Iwerddon yn fater ar gyfer y Llywodraeth ddatganoledig hon wrth gwrs, ond mae cymharu'r peth â chyflwyno seilwaith yn amlwg yn ansensitif iawn ac nid yw'n rhywbeth y byddem yn dymuno ei weld o dan unrhyw amgylchiadau.

Cofrestr o Droseddwyr Trais Domestig

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddariaf ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru ar sefydlu cofrestr o droseddwyr trais domestig? OAQ51618

Rwyf wedi gofyn i swyddogion am gyngor mewn perthynas â chofrestr o droseddwyr trais domestig. Nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno cofrestr stelcwyr a throseddwyr ond mae'n bwriadu gwella trefniadau amlasiantaethol i ddiogelu'r cyhoedd a threfniadau ar gyfer cynllun datgelu trais domestig yn lle hynny.

Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Ym mis Medi y llynedd, cefais fy nghalonogi gan ymateb Carl Sargeant i mi ynglŷn â chreu cofrestr troseddwyr trais domestig. Roedd Carl yn ymgyrchydd brwd ac yn hyrwyddo gwaith i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod. Mae'r ystadegau ar gam-drin domestig yn llwm: amcangyfrifir bod mwy na 75 y cant ohonom yn adnabod rhywun sy'n dioddef trais domestig, mae un o bob pump o fenywod yn cael eu stelcio, mae un o bob pedair yn dioddef ymosodiad rhywiol neu'n cael eu treisio, mae un o bob pedair yn dioddef cam-drin domestig, mae 10 o fenywod yn cyflawni hunanladdiad o ganlyniad i gam-drin bob wythnos, ac mae dwy fenyw yr wythnos yn y DU yn cael eu llofruddio gan y sawl sy'n eu cam-drin.

Ers y tro diwethaf i mi godi'r mater hwn yn y Siambr, mae'r adroddiad blynyddol cyntaf a oedd yn ofynnol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 wedi cael ei gyhoeddi, ac un amcan a nodwyd yn y Ddeddf yw ffocws cynyddol ar ddwyn troseddwyr i gyfrif. Pa asesiad a wnaethoch o fanteision cofrestr o droseddwyr trais domestig a pha fecanweithiau eraill a allai chwarae rhan hollbwysig er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng sefydliadau ac unigolion i ddiogelu ac atal troseddwyr trais domestig rhag aildroseddu?

Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn. Nid oes cofrestr benodol ar gyfer stelcwyr a throseddwyr trais domestig yng Nghymru ar hyn o bryd, fel y mae'r Aelod yn gwybod. Mae'r cynllun datgelu trais domestig, a elwir hefyd yn gyfraith Clare, yn caniatáu i'r heddlu rannu gwybodaeth am droseddau treisgar blaenorol unigolyn lle y gall hyn helpu i atal trais domestig neu atal rhywun rhag mynd i sefyllfa o'r fath. Mae gennym wasanaethau a phrosesau da iawn ar waith yng Nghymru, ac rydym yn parhau i weithio i godi safonau gwasanaeth i ddioddefwyr a goroeswyr. Ond rydym hefyd yn edrych ar gyfres Cryfhau Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym wedi cyhoeddi fideo i godi ymwybyddiaeth, Beth yw stelcio?, sy'n tynnu sylw at gamau gweithredu i leihau risg ac i gefnogi ac amddiffyn y staff a'r cleientiaid y bydd sefydliad yn gweithio gyda hwy.

Ceir nifer o bethau eraill y gallwn edrych arnynt hefyd. Yn ddiweddar iawn, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ymwelais â'r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd—trefniant rhwng yr holl asiantaethau sy'n gweithio ar draws Caerdydd a de-ddwyrain Cymru, sy'n ceisio rhannu gwybodaeth a data ar yr union fater hwn. Cefais gyfarfod da iawn yno ynglŷn â sut y mae hwnnw wedi gweithio a pha mor effeithiol y bu a sut y mae wedi lleihau troseddau, ac mae wedi helpu goroeswyr yn ogystal. Ac mae'r trefniant asiantaeth gyfan yno—os nad ydych wedi llwyddo i ymweld â'r ganolfan, rwy'n ei argymell yn fawr, ac unrhyw un arall yn y Siambr nad ydynt wedi ei gweld. Cawsom drafodaeth hir a diddorol ynglŷn â sut y gallem gyflwyno rhywfaint o hynny ledled gweddill Cymru, a bydd y drafodaeth yn parhau, ac fel y dywedais, rwyf wedi gofyn i swyddogion am gyngor mewn perthynas â'n sefyllfa o ran cymhwysedd deddfwriaethol ac effeithiolrwydd cyflwyno cofrestr o'r fath.

14:30

Wel, yn amlwg, gall mesurau fel y rhain, a rhaglenni cyn carchar i droseddwyr, gyfrannu at yr agenda atal ac ymyrraeth gynnar. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd buddsoddiad ariannol gan fyrddau iechyd ac arweinwyr iechyd cyhoeddus rhanbarthol mewn atal ac ymyrraeth gynnar, o ystyried y gost yn y pen draw i'r GIG pan fydd cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi digwydd. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr, daethant ataf i leisio pryderon, er eu bod wedi derbyn dros £355,000 gan adran iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn 2016-17 tuag at wasanaethau arbenigol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fod y ffigur hwnnw wedi gostwng i ychydig dros £34,000 yn 2017-18, ac maent yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r arian i fyrddau iechyd rhanbarthol ei ddyrannu yn lle hynny, ond maent yn dweud nad yw hynny wedi digwydd, ac mae'r cyllid wedi'i golli i'r sector arbenigol.

Sut, felly, rydych yn ymateb i'r pryder a fynegwyd yn y llythyr a anfonwyd atoch gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 11 Ionawr, sy'n nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru i'w hadroddiad yn 2016 ar weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn dweud y byddai canllawiau'n cael eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017, ond ymddengys nad yw hwn wedi cael ei gyhoeddi? Ac yn olaf, mewn perthynas â chraffu ar ôl deddfu, ymddengys nad yw strategaeth llesiant Caerdydd a'r Fro yn sôn gair am gam-drin domestig neu rywiol a sut i fynd i'r afael ag ef, na strategaeth Betsi Cadwaladr ar gyfer y dyfodol, ac nid yw cynllun strategaeth Hywel Dda ond yn sôn am gam-drin domestig mewn perthynas â digartrefedd, ac nid yw'n sôn am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, na sut y mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu gweithredu ei nodau.

Wel, rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn, gyda Chymorth i Fenywod Cymru, ac rwyf wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn yn ddiweddar iawn gydag Eleri Butler i drafod nifer fawr o faterion mewn perthynas â'r agenda hon. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, fel y mae'r Aelod yn nodi, ein bod yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae gennym nifer o fentrau trawslywodraethol yn y maes hwn. Rydym yn gweithio'n agos iawn â'r maes iechyd a maes tai, yn ogystal ag awdurdodau lleol, i wneud yn siŵr ein bod yn mabwysiadu dull rhanbarthol a di-dor mewn perthynas â'r gwasanaethau hyn. Fel rhan o'r broses o adolygu rhai o'r trefniadau rhanbarthol hynny, mae gennym gydgysylltwyr rhanbarthol, er enghraifft, ar draws awdurdodau lleol, sy'n gwneud gwaith da iawn ar lawr gwlad yn cydgysylltu gwasanaethau. Mae gennyf nifer o gyfarfodydd—rwyf naill ai wedi cael, neu wedi trefnu, cyfarfodydd—gyda nifer o'r sectorau, i wneud yn siŵr fod cydlynu gwell yn digwydd yn gyffredinol yn hyn o beth.

Yr hyn rydym angen ei wneud, mewn gwirionedd, yw gwneud yn siŵr ein bod yn adeiladu ar rai o'r gwasanaethau a'r prosesau rhagorol sydd gennym, ond rydym yn parhau i weithio'n galed iawn i godi safonau ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr, ac wrth ganolbwyntio ar y ddau beth hynny, nid ydym yn colli golwg ar y ffaith bod angen i ni weithio ar flynyddoedd cynnar bywyd, gyda'r holl gwestiynau sy'n ymwneud â rhywedd a stereoteipio ar sail rhywedd, a rhai o'r pethau sy'n codi'n gynnar iawn yn ein bywydau. Oherwydd mae yna gysylltiad diamwys rhwng trais rhywiol, trais domestig a stereoteipio ar sail rhywedd, a'r holl broblemau sydd gennym yn ddiwylliannol yn hynny o beth. Ond mae'r Aelod wedi tynnu sylw at nifer o faterion ar draws y Llywodraeth, a gallaf ei sicrhau ein bod yn gweithio'n galed iawn; bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn cyfarfod cyn bo hir i drafod hyn, a nifer o faterion eraill yn y maes hwn.

Fe sonioch eich bod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n meddwl tybed pa Weinidogion eraill rydych yn ymgysylltu â hwy. Rwy'n meddwl yn benodol ynglŷn â chanfod cynnar, ac arwyddion o ymddygiad yn rhywun a fyddai'n cam-drin anifail, er enghraifft. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, oherwydd mae ymchwil yn dangos, os ydynt yn cam-drin anifail, y gallant fynd ymlaen i gam-drin oedolion a phobl yn y dyfodol. Felly, a fyddwch yn rhoi tystiolaeth i'r grŵp gorchwyl a gorffen y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i gyflwyno drwy'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid i geisio gweithio gyda'r sector hwnnw i leddfu'r problemau y maent yn dod ar eu traws gydag anifeiliaid sydd wedi'u cam-drin, a gallai hynny wedyn helpu pobl fel yr heddlu a sefydliadau sy'n helpu menywod ac eraill sy'n dioddef cam-drin domestig i fynd i'r afael go iawn â'r digwyddiadau hyn i'w hatal rhag digwydd, cyn iddo droi'n ymosodiad difrifol iawn neu'n achos difrifol o gam-drin domestig?

14:35

Ie, credaf fod Bethan Jenkins yn gwneud cyfres ragorol o bwyntiau. Fel y dywedais mewn ymateb i Mark Isherwood, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni edrych arno yw bod y tueddiadau ym mywyd rhywun—. Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda phob un o'n cyd-Ysgrifenyddion Cabinet, gan fod yr agenda hon yn ymestyn ar draws gwaith Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r mathau hyn o ymddygiad yn y dull cyfannol hwnnw, ac felly, er enghraifft, ein bod yn dysgu pethau mewn ysgolion, yn dysgu pethau drwy'r fframwaith ymgysylltu ar gyfer diogelu pobl ifanc ac yn dysgu pethau gan nifer o asiantaethau sy'n rhannu gwybodaeth yn gywir er mwyn sicrhau bod yr agenda atal a'r agenda diogelu a goroesi yn gweithio'n well gyda'i gilydd. Felly, rwyf wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd dwyochrog. Nid wyf yn siŵr a wyf i fod i roi tystiolaeth yn y ffordd y mae hi'n awgrymu mewn gwirionedd, ond efallai y gallaf wneud yn siŵr fy mod yn gwneud hynny os ysgrifennwch ataf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, faint o aelwydydd a oedd gynt yn gymwys ar gyfer uwchraddio o dan raglen Cyflymu Cymru, ac a oedd yn disgwyl cael eu huwchraddio erbyn diwedd mis Rhagfyr sydd wedi cael eu siomi?

Wel, nid dyna fel y buaswn i'n ei roi. Fel y dywedais, mae gennym darged ar gyfer cynnwys 690,000 o safleoedd yn y prosiect cyntaf. Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, nid wyf eto mewn sefyllfa i allu dweud yn bendant ein bod wedi cyrraedd y targed hwnnw. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Yn amlwg rydym yn monitro hyn yn ofalus. Nid fydd BT Openreach yn cael eu talu hyd nes y byddant wedi cwblhau'r broses brofi drwyadl ac yna byddwn yn gwybod a ydynt wedi cyrraedd y targed. Rydym yn gwybod faint o safleoedd a geir yng Nghymru. Felly, drwy broses ddileu, fe wyddom felly faint sydd heb gael eu cynnwys, a hwy yw'r bobl y byddwn yn edrych arnynt ar gyfer y prosiectau olynol. Ond nid yw'r wybodaeth gennyf yn y ffordd rydych yn awgrymu.

Wel, fe ateboch gwestiwn, ond nid yr un a ofynnais, iawn. Gofynnais faint—

Nid yw'r wybodaeth gennyf yn y ffordd honno, mae'n ddrwg gennyf.

Gofynnais faint o bobl a oedd wedi cael eu siomi a dylech wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd fe fyddwch yn gwybod bod llawer o bobl yn gofyn y llynedd, a chawsant wybod y byddai eu heiddo'n cael eu cynnwys erbyn 31 Rhagfyr. Nawr, ar ôl gofyn, cânt neges wahanol yn dweud eu bod yn archwilio atebion. Felly, ni ddylai fod mor anodd â hynny i ganfod faint o bobl sydd wedi cael eu siomi a chyfrif beth yw'r nifer.

Mae'n rhaid i mi ddweud, o safbwynt cyfathrebu, mae prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn drychineb llwyr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod digon o enghreifftiau ohonoch yn ysgrifennu llythyrau at bobl, neu bobl yn ysgrifennu atoch chi, yn gofyn, 'Pa bryd y caf fy nghynnwys?' Yna, rydych yn ysgrifennu nôl gyda dyddiad penodol. Nid ydynt yn ei gael, maent yn ysgrifennu atoch eto, ac rydych yn ysgrifennu'n ôl yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennym am hynny, dyma fydd y dyddiad yn awr.' Nid ydynt yn ei gael erbyn y dyddiad hwnnw, maent yn ysgrifennu atoch, ac rydych yn ysgrifennu nôl eto yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennym am hynny, 31 Rhagfyr 2017 yw'r dyddiad yn awr.' Ym mis Ionawr, nid ydynt yn ei gael, maent yn ysgrifennu atoch eto, ac yna rydych yn ysgrifennu nôl a dweud, 'Mae'n ddrwg gennym, daeth y prosiect i ben.' Wel, nid yw hynny'n ddigon da a dyna beth sydd wedi bod yn digwydd. Felly, a gaf fi ofyn i chi, pa wersi rydych wedi'u dysgu o'r cytundeb hwn ar gyfer cynllunio'r nesaf, yn enwedig mewn perthynas â chyfathrebu?

Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod, fel y mae'n gwybod. Rwyf wedi bod ar daith o amgylch Cymru ac rwyf wedi clywed llawer gan aelodau o'r cyhoedd sy'n rhwystredig iawn oherwydd y llythyrau y maent yn eu cael mewn perthynas â'r amserlen. Nid wyf eisiau ymroi i semanteg, oherwydd mae hynny'n codi gwrychyn pobl, ond yn amlwg nid ydym yn gwneud addewidion. Rydym yn sôn am waith sydd wedi'i drefnu ac mae nifer o resymau peirianyddol cymhleth pam nad yw'n gweithio bob amser.

Y rheswm pam nad wyf yn gwybod am bawb a oedd ar yr amserlen honno ac na lwyddodd i gael y gwaith wedi ei wneud erbyn y dyddiad terfynol yw mai'r unig bobl y gwn amdanynt yw'r bobl sydd wedi ysgrifennu ataf ac mae'n dra phosibl fod rhai eraill nad wyf yn ymwybodol ohonynt. Felly, gallwn roi is-adran i chi, ond nid ydym yn cadw'r niferoedd yn y ffordd honno. Nid wyf yn ceisio osgoi gwneud hynny; ond nid ydym yn cadw'r niferoedd yn y ffordd honno. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw faint o bobl a gafodd eu cynnwys ac felly, faint o bobl sydd ar ôl. Y bobl sydd ar ôl yw'r rhai rydym eisiau canolbwyntio arnynt fwyaf. Fel y dywedais mewn ymateb i Angela Burns yn gynharach, nid yw hyn yn ymwneud â'r arian, ond yn amlwg nid ydym eisiau talu am rhywbeth nad ydym wedi'i gael; mae hyn yn ymwneud â defnyddio'r arian i gysylltu pobl.

Rwy'n derbyn y broblem ynglŷn â chyfathrebu yn llwyr. Roedd rhesymau cymhleth dros hynny, sy'n ymwneud â'r ffaith ein bod wedi gwneud hyn ar sail codau post, ac nid yw pob cod post a phob person yn cael eu cysylltu ar yr un pryd, ac mae rhesymau cymhleth dros hynny, ac nid wyf am eu trafod yn awr, ond maent wedi arwain at y sefyllfa hynod rwystredig hon.

Pan fyddaf yn gwneud y cyhoeddiadau am y cyfnod nesaf, fe welwch ein bod yn targedu safleoedd unigol mewn gwirionedd. Ni fydd gennym y broblem hon o gael carfan o bobl, gyda rhai ohonynt yn cael eu cysylltu ac eraill nad ydynt yn cael eu cysylltu. Bydd gennym ystod o ymatebion i hynny i wneud yn siŵr ein bod yn weddol hyderus ynglŷn â lle y gallwn gysylltu, a'n bod yn cael sgyrsiau da gyda phobl lle rydym yn credu y gallai fod anawsterau mwy technegol.

14:40

Rwy'n ddiolchgar i chi am gydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi bod. Mae'r adolygiad marchnad agored, a gynhaliwyd gennych wrth gwrs, yn nodi'r safleoedd ar gyfer y cynllun nesaf. Ni fyddai'r safleoedd hynny a oedd yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru ac a gafodd eu siomi yn cael eu cynnwys yn rhan o'r dadansoddiad hwnnw oherwydd, wrth gwrs, dywedwyd wrthynt y byddent yn cael eu huwchraddio erbyn diwedd y llynedd. Felly, dyna ddatganiad ffeithiol; dywedwch wrthyf a yw hynny'n gywir, yn eich barn chi. Ond a gaf fi ofyn, ac rwyf wedi gofyn hyn nifer o weithiau, ac rwyf am ofyn eto: a ydych yn gallu rhoi sicrwydd pendant i mi heddiw y bydd y safleoedd hynny'n cael eu trosglwyddo i'r cynllun newydd yn awtomatig ac yn cael blaenoriaeth?

Na, ni allaf wneud hynny, oherwydd hyd nes y byddaf yn gwybod beth oedd yr anhawster peirianyddol neu anhawster arall a oedd yn eu hatal rhag cael eu cynnwys, ni allaf roi sicrwydd pendant i chi y byddwn yn gallu goresgyn yr anawsterau hynny. Gallaf ddweud wrthych eu bod yn brif flaenoriaeth i ni—pobl sydd wedi bod yn y sefyllfa honno—ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu goresgyn yr anawsterau hynny, ond mae yna nifer fawr o resymau pam. Felly, er enghraifft, gwyddom fod gennym nifer fawr o safleoedd lle na ellir symud ymlaen oherwydd anawsterau fforddfraint. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i allu dweud ein bod yn gallu datrys anawsterau fforddfraint mewn pryd i sicrhau ein bod yn gallu cysylltu pobl, ond gallaf ddweud wrthych ein bod yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny.

Mae mater yn codi mewn perthynas â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â rhywfaint o hyn, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o hyn, ac mae'n ymwneud â sut rydym yn ystyried y band eang. Ac mae arnaf ofn ei fod yn cael ei ystyried yn foethusrwydd o hyd, er gwaethaf y sgyrsiau am y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Oherwydd nid yw'n gyfleustod, nid oes gennym hawl i groesi tir pobl ac nid oes gennym hawl i fynnu eu bod yn caniatáu fforddfreintiau ac ati, ac mae hynny'n achosi anawsterau mewn nifer fawr o ardaloedd. Dyna un o'r rhesymau—nid yr unig un—pam na allaf roi'r sicrwydd pendant hwnnw i chi. Pe bawn yn gallu, buaswn yn gwneud hynny, ond nid oes gennym bwerau i fy ngalluogi i wneud hynny. Fodd bynnag, gallaf ddweud ein bod yn ymwybodol iawn o'r problemau y mae'r Aelod yn eu crybwyll, ac y mae pawb arall yn eu crybwyll, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd cynifer o'r bobl hynny ag y gallwn.

Diolch, Lywydd. Yn dilyn y thema a archwiliwyd gan ambell i Aelod Cynulliad yn gynharach yn eu cwestiynau hwy, a yw arweinydd y tŷ yn credu bod yr asiantaethau ymyrraeth sy'n ymdrin â cham-drin domestig yng Nghymru yn ddigon cadarn i fynd i'r afael â'r drosedd enbyd hon?

Fel y dywedais mewn ymateb i nifer o Aelodau eraill, ceir nifer o fentrau gwirioneddol ddiddorol ledled Cymru. Maent i gyd yn gysylltiedig â nifer o fentrau cymhleth yn ymwneud â phrotocolau a rhannu data, ond bûm yn ymweld â'r ganolfan ddiogelu amlasiantaethol yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd yn ddiweddar iawn, ac roeddwn yn edmygu'r modd roedd yr asiantaethau yno wedi dod at ei gilydd i oresgyn rhai o'r anawsterau technegol, yn ogystal â sicrhau bod gweithiwr cymdeithasol yn eistedd ochr yn ochr â swyddogion yr heddlu, lle roedd ganddynt systemau ar wahân ar ddwy sgrin wahanol fel y gallent wneud penderfyniadau ar unwaith, ac yn y blaen. Mae'n drefniant trawiadol iawn, ac os nad yw'r Aelod wedi ymweld â'r ganolfan, buaswn yn sicr yn argymell ymweliad fel y gall weld y gwaith da y gellir ei wneud.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o droseddau domestig yn ardaloedd Heddlu Dyfed-Powys, Gwent a Gogledd Cymru wedi cynyddu 23 y cant, ac gwelwyd cynnydd enfawr o 48 y cant yn ardal Heddlu De Cymru. Er y gellid priodoli llawer o'r cynnydd hwn i gydnabyddiaeth gan yr heddlu a hyder cynyddol i adrodd am droseddau o'r fath, onid yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y rhain yn gyfres o ystadegau sy'n peri gofid?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ydw, wrth gwrs, mae'r holl ystadegau ar drais domestig yn peri gofid, ac mae'n felltith yn ein cymdeithas, ac mae gennym ystod o opsiynau ar gyfer atal hyn ac ymdrin â dioddefwyr a'u troseddwyr a'r materion amrywiol sy'n codi. Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae gennym safonau i awdurdodau perthnasol eu gosod ar hyfforddiant sy'n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn codi proffil y materion hyn, ac yn gwella sgiliau gwasanaethau cyhoeddus i ymateb yn fwy effeithiol i'r rheini sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dros 70,000 o bobl yng Nghymru wedi cael yr hyfforddiant o dan y fframwaith hyfforddi cenedlaethol, felly dyna 70,000 yn fwy o weithwyr proffesiynol sy'n fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus wrth ymateb i'r rheini sy'n profi'r math hwn o drais. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn codi safonau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi sôn am rai o'r pethau eraill rydym yn eu gwneud mewn perthynas â gwaith amlasiantaethol ac ati, ond mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr fod pob agwedd ar yr agenda honno yn gywir yma yng Nghymru.

Unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb cynhwysfawr hwnnw, ond mae Cymorth i Fenywod Cymru, un o'r asiantaethau rhagorol—rwy'n siŵr eich bod wedi cyfeirio atynt yn gynharach—sy'n ymdrin â throseddu domestig, a rhan o'u cylch gwaith yw darparu llochesau ar gyfer dioddefwyr, yn hynod bryderus am y toriadau i'w cyllid, a chyfeiriant at y ffaith nad oeddent wedi gallu darparu lloches i 388 o oroeswyr cam-drin domestig yn 2016. Mae'r llochesau hyn yn aml yn elfen hanfodol ar gyfer rhoi dewrder i ddioddefwyr cam-drin domestig adael y partner sy'n eu cam-drin. Felly, sut yn y byd y gellir cyfiawnhau torri cyllid i'r asiantaethau hyn a darparu lloches? Mae'r ffigurau uchod yn dangos awydd cynyddol ymhlith dioddefwyr i geisio ymyrraeth. Yn sicr, arweinydd y tŷ, dylem fod yn cynyddu'r cyllid ar gyfer darparu lloches, nid ei dorri.

14:45

Ac rwy'n cytuno'n llwyr. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw edrych i weld sut y gallwn reoli ein cyllideb ein hunain yn y maes hwn, sy'n mynd yn llai ac yn llai—o ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth bresennol y DU—er mwyn gwneud y gorau o hynny. Rydym yn gwneud hynny drwy gynyddu hyblygrwydd ein partneriaid gwasanaethau lleol i ddefnyddio eu grant mewn ffyrdd mwy creadigol ac i gydweithio'n well ar raddfa ranbarthol. Rydym yn ariannu'r cydgysylltwyr rhanbarthol yn benodol er mwyn eu galluogi i wneud hynny. Rwy'n deall pryderon y sefydliadau yn iawn, gan gynnwys Cymorth i Fenywod Cymru, sy'n darparu'r llochesau. Byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid lleol i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r arian sydd ar gael inni.

Diolch yn fawr. Gan eich bod chi'n gyfrifol am faterion cydraddoldeb, a allwch chi egluro sut yr ydych chi'n sicrhau bod holl adrannau Llywodraeth Cymru a'r cyrff yr ydych chi'n eu hariannu yn cymryd materion cydraddoldeb o ddifrif?

Rwy'n cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog ar draws yr holl gyd-Aelodau yn y Llywodraeth, a ddechreuodd pan ymgymerais â'r swydd hon ychydig wythnosau yn ôl yn unig, er ei bod yn teimlo ychydig yn hirach. Dyna ddiben y cyfarfodydd dwyochrog: sicrhau bod yr agenda gydraddoldeb, sy'n amlwg yn cysylltu â phob rhan o Lywodraeth Cymru—Llywodraeth Cymru fel cyflogwr, Llywodraeth Cymru fel sefydliad a Llywodraeth Cymru fel llywodraeth—yn cael ei hymgorffori yn briodol yn yr holl waith a wnawn.

Mi fyddwch chi wedi gweld dros y penwythnos fod Cymdeithas Feddygol Prydain, BMA Cymru, wedi mynegi pryderon am ymddygiad swyddogion a byrddau iechyd sy'n ymwneud â datblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i Gymru, mater a oedd yn rhan o'r fargen gyllideb gyntaf rhyngoch chi a ni, wrth gwrs. Mae adroddiad diweddar gan Stonewall wedi darganfod nad ydy 36 y cant o bobl drawsryweddol yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at y gofal iechyd y maen nhw ei angen—ffigur uwch nag yn Lloegr a'r Alban—a bod hanner y cleifion traws yn dweud nad ydy staff iechyd yn deall eu hanghenion iechyd penodol. Felly, pa mor bryderus ydych chi am ymddygiad honedig ac agweddau fel hyn o fewn y byrddau iechyd, a pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd, ar y cyd â'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, er mwyn cael gwared ar wahaniaethu yn erbyn pobl draws o fewn y byrddau iechyd?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fel y dywedais, mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau i fod i gael ein cyfarfod dwyochrog ar y materion hyn. Hoffwn ddweud y byddaf—ac rwyf am achub y blaen arnaf fi fy hun yma i raddau—yn lansio'r ymgyrch Dyma Fi yr wythnos nesaf, ymgyrch a gynlluniwyd i drafod stereoteipio ar sail rhywedd a thrin unigolion fel unigolion. Mae'n ymgyrch rymus iawn i wneud i bobl weld yr unigolyn o dan y croen a welant ar y tu allan mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys materion trawsryweddol. Pan fydd yr Aelod yn gweld yr ymgyrch, credaf y bydd yn deall yr hyn rydym yn ceisio'i wneud.

Mae hyn oll, fel y dywedais o'r blaen, yn ymwneud â stereoteipio ar sail rhywedd. Dyna sydd wrth wraidd nifer fawr o'r materion a godwyd gan yr Aelodau heddiw ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef o'r pwynt cynharaf ym mywydau pobl. Mae gennyf focs sebon mawr, ac mae'r Dirprwy Lywydd yn fy ngwylio yn ei dynnu allan yn awr ac fe ŵyr y gallaf siarad am oddeutu awr a hanner ar y pwnc—er enghraifft, ar agenda Let Toys be Toys a'r ffordd y caiff pobl eu llunio o ran eu rhywedd yn gynnar iawn am ddim rheswm o gwbl. Bydd yr ymgyrch gyfan yn cael ei chynllunio o amgylch gadael i bobl fod yn bobl, gadael i bobl fod yn pwy ydynt a beth y maent yn dymuno bod heb ofni gwahaniaethu na chamdriniaeth. Felly, byddaf yn cael y cyfarfodydd dwyochrog hynny ar draws y Llywodraeth a byddwn yn lansio ymgyrch gyhoeddus rymus yr wythnos nesaf.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed hynny i gyd. Wrth gwrs, rydym ni'n sôn rŵan am sut mae penderfyniadau gan fyrddau cyhoeddus yn gallu cael effaith ar wasanaethau ar gyfer pobl draws, ond hefyd mae yna enghreifftiau o benderfyniadau yn effeithio'n wael ar grwpiau eraill na fyddent, efallai, wedi digwydd petai gennym ni fwy o amrywiaeth ymhlith rheolwyr uwch y sector gyhoeddus. Byddwch chi’n gwybod bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi nodi hyn yn glir, ac wedi gweld nad oedd yna welliant cyffredinol mewn cynrychiolaeth mewn rolau uwch, a bod merched a phobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn llai tebygol o fod mewn rolau uwch. Er bod cyfran y menywod mewn rolau uwch wedi gwella mewn rhai sectorau, fel addysg, mae hi wedi gwaethygu mewn rhai eraill, fel y gwasanaeth iechyd a’r heddlu. Felly, beth ydych chi am ei wneud er mwyn gwella amrywiaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac yn benodol yn y gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau na fyddwn ni’n cael sefyllfaoedd lle mae swyddogion a rheolwyr yn rhwystro datblygiad gwasanaethau i grwpiau lleiafrifol? Ac yn fwy cyffredinol, a ydych chi’n cefnogi cynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd ar fyrddau cyhoeddus yng Nghymru?

14:50

Felly, yr ateb syml iawn i'r cwestiwn diwethaf hwnnw yw 'ydw'. Mewn gwirionedd, rwyf newydd gomisiynu darn o waith ar y cyd gyda fy swyddogion yn Chwarae Teg i weld sut y gallwn sicrhau bod cynrychiolaeth dda o ran rhywedd—hanner a hanner, nid 40 y cant—ar yr holl fyrddau cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Gobeithiaf allu adrodd yn ôl wedi iddynt gwblhau'r darn bach hwnnw o waith i roi'r agenda honno ar waith. Y rheswm y mae hynny'n bwysig yw mai hwy yw cyrff llywodraethu llawer o'r sefydliadau rydych newydd sôn amdanynt, a gwyddom fod sicrhau bod y byrddau hynny'n cynnwys gwell cydraddoldeb rhywiol, gwell amrywiaeth, yn annog peth o'r ymddygiad rydym yn awyddus i'w weld.

Roedd yr Aelod yn llygad ei lle wrth nodi'r agenda honno. Bydd yn rhan o'r cyfarfodydd dwyochrog rwy'n eu cael gyda fy holl gyd-Aelodau, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ond mae problem fawr yn hyn o beth sy'n ymwneud â sicrhau bod arweinyddiaeth sefydliadau yn adlewyrchu'r boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu, gan gynnwys materion rhywedd ond materion amrywiaeth eraill hefyd, a bod hynny'n llywio ymddygiad y sefydliad. Felly, rwy'n rhannu'r nod hwnnw gyda nifer fawr iawn o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, a byddwn yn rhoi cryn bwyslais ar yr agenda honno yn y dyfodol.

Trais Domestig

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais domestig? OAQ51607

Rydym yn parhau i roi ein strategaeth genedlaethol ar waith, sy'n nodi ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thrais domestig. Mae lleisiau goroeswyr yn gwbl flaenllaw yn ein gwaith. I gydnabod hyn, mae fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hymateb, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed yn gynharach y mis hwn ynglŷn â phenodi dau ymgynghorydd cenedlaethol rhan-amser newydd ar drais domestig. Rwy'n siŵr y byddant yn dod â chryn dipyn o brofiad i'r swydd hon, ond wrth gwrs, bu bwlch o chwe mis ac maent yn wynebu her fawr bellach o ran cyflwyno'r ddeddfwriaeth.

Gwn fod y Bil trais domestig sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU yn bwriadu penodi comisiynydd cam-drin a thrais domestig, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn rhagweld y bydd unrhyw gyswllt rhwng ein cynghorwyr a'r comisiynydd newydd pan gânt eu penodi.

Rwy'n ategu croeso cynnes Julie Morgan i benodiad diweddar ein cynghorwyr cenedlaethol newydd, Yasmin Khan a Nazir Afzal. Credaf ein bod wedi gwneud yn dda iawn i sicrhau gwasanaethau dau unigolyn mor ardderchog. Rhyngddynt, maent yn gweithio amser llawn, yn hytrach na dau unigolyn rhan-amser, felly mae'n swydd a rennir, ac rwy'n hapus iawn am hynny hefyd. Yn wir, yr ymgynghorydd blaenorol, Rhian—ni ddaeth ei chontract i ben tan fis Hydref, felly mae bwlch o dri mis wedi bod ers iddi adael y swydd, a threuliwyd y cyfnod hwnnw o dri mis yn trefnu'r broses o benodi'r cynghorwyr newydd a sicrhau y gall y trefniadau rhannu swydd weithio'n iawn. Felly, rwy'n hapus iawn gyda hynny. Credaf ein bod yn falch iawn, yng Nghymru, o gael dau gynghorydd mor flaenllaw ac ardderchog. Maent yn fwy na pharod i gydweithio er mwyn pennu blaenoriaethau a dulliau o weithredu'r rôl, gan wneud defnydd, yn amlwg, o'u cryfderau a'u profiadau unigol, a dyna pam rydym mor falch o'u cael. Byddant yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref i drafod y cynigion ar gyfer rôl comisiynydd newydd ar gyfer y DU, a byddwn yn ceisio dylanwadu ar y datblygiadau yn y DU i adlewyrchu'r cyd-destun Cymreig, oherwydd credaf ei bod yn deg dweud ein bod ar flaen y gad yma yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod gweddill y DU yn manteisio ar ein profiad.

Arweinydd y tŷ, mae trais domestig yn un o'r pethau mwyaf atgas y gellid meddwl amdanynt. Rwy'n ddigon ffodus i gynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, sef un o'r ardaloedd mwyaf amrywiol yng Nghymru o ran ethnigrwydd yn ôl pob tebyg. I rai teuluoedd, nid y Saesneg na'r Gymraeg yw'r iaith gyntaf, ac mae'r gwasanaeth cyfieithu yn hanfodol bwysig i roi hyder i bobl roi gwybod am drais domestig a cheisio lloches rhag y cam-drin y maent yn ei wynebu. A ydych wedi cael cyfle, yn y cyfnod byr ers i chi gael eich penodi, i asesu pa wasanaethau cyfieithu sydd ar gael ar gyfer unigolion a allai fod yn dioddef o ganlyniad i drais domestig, lle nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf, a gallai iaith yn hawdd fod yn rhwystr iddynt rhag dod allan o'r sefyllfa honno?

14:55

Mae Andrew R.T. Davies yn codi pwynt hynod o bwysig. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau manwl ynglŷn â hynny. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau ynglŷn â chyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, a sicrhau bod gan bobl sy'n dod i fyw yma yng Nghymru fynediad at addysg Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae cael y sgwrs honno ar fy agenda. Rwy'n ymwybodol iawn, hefyd, gan fy mod yn cynrychioli canol Abertawe—felly, cyfansoddiad ethnig tebyg iawn—a bydd hyn yn berthnasol i'r rheini ohonom sy'n dod o Gymru, fod gennym nifer fawr o bobl yng Nghymru sy'n siarad ail iaith eu gwlad yn hytrach na'r brif iaith. Felly, mae gennym broblem benodol yn y gwasanaethau cyfieithu o ran sicrhau bod pobl nad ydynt yn siarad prif iaith eu gwlad, ond sy'n siarad ail iaith, hefyd yn cael eu gwasanaethu gan hynny. Rwy'n cael sgwrs gynhwysol iawn gydag amryw o bobl yn fy etholaeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddarparu ar gyfer hynny, ac rwy'n bwriadu gwneud defnydd o'r profiadau hynny yn y rôl hon pan fyddaf yn cael y sgyrsiau rwyf i fod i'w cael cyn bo hir.

Cynhwysiant Digidol yn Aberafan

4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gynhwysiant digidol yn Aberafan yn 2018? OAQ51609

Ein blaenoriaeth yn Aberafan, fel yng ngweddill Cymru, yw sicrhau bod pobl yn cael y budd mwyaf posibl o'r cyfleoedd trawsnewidiol y gall technolegau digidol eu cynnig, gan sicrhau gwell canlyniadau economaidd, canlyniadau dysgu a chanlyniadau iechyd ar draws ein holl gymunedau.

Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, ond gallai gael ei ddad-wneud os nad ydym yn ofalus. Yn amlwg, mae cynhwysiant digidol yn cynnwys cyfeiriad at hygyrchedd, ac mae hygyrchedd yn ymwneud â dau beth. Un yw seilwaith, ac rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny, felly nid wyf am sôn am hynny ar hyn o bryd. Y llall yw hygyrchedd y dechnoleg. Yn aml iawn, yn ein cymunedau difreintiedig, cyflawnwyd hynny drwy ganolfannau cymunedol a llyfrgelloedd. Mae llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, o ganlyniad i ideoleg cyni Llywodraeth Doraidd San Steffan, bellach o dan fygythiad neu wedi diflannu, neu rai, efallai, wedi eu trosglwyddo i ofal y cymunedau, gyda'u horiau agor wedi crebachu o ganlyniad.

Felly, beth a wnewch i sicrhau bod pobl yn y cymunedau hyn yn gallu cael mynediad at y dechnoleg fel y gellir eu cynnwys, fel y gallant ennill sgiliau? Oherwydd mae popeth yn symud tuag at dechnoleg ddigidol, ac os na allwn gynnig y gallu iddynt fynd i rywle a chael mynediad, rydym yn gwneud cam â'r bobl hynny.

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt hynod o bwysig. Rydym yn ymwybodol iawn o'r problemau sydd ynghlwm wrth gau cyfleusterau cymunedol, ac ati. O ganlyniad, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio'n benodol gyda grwpiau sydd wedi'u hallgáu i ymgysylltu â setiau penodol o gleientiaid. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o bartneriaeth Dewch Ar-lein Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, yn ei etholaeth, sy'n annog pobl, grwpiau cymunedol a mentrau i wneud y gorau o dechnoleg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'n cynnwys sesiynau blas ar dechnoleg ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol a sesiynau mewn llyfrgelloedd er mwyn chwilio am swyddi.

Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud, fel y dengys y fenter honno, yw edrych ar ffyrdd gwahanol o gyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Felly, rydym wedi bod yn gweithio, er enghraifft, gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau mynediad ar gyfer tenantiaid mewn cymunedau tai penodol, ac mae gennym un enghraifft lwyddiannus iawn ym Merthyr Tudful, lle rydym wedi adnewyddu a darparu nifer o hen liniaduron Llywodraeth Cymru, gan ddisgwyl y byddai'r galw yn gymharol isel a bu'r galw yn aruthrol. Rydym wedi ymestyn y trefniant hwnnw yno gydag oddeutu 20 o liniaduron ychwanegol a dau gymhorthydd ychwanegol. Ond rydym yn dibynnu i raddau helaeth ar gymorth gwirfoddolwyr a phobl ifanc, felly rwy'n falch iawn gyda'n menter, lle mae gennym 500 o arwyr digidol sy'n wirfoddolwyr ifainc i gynorthwyo pobl hŷn i fynd ar-lein a dysgu sgiliau, a gallwn wneud hynny mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys lleoliadau iechyd, gan fod yr agendâu hyn yn bwysig iawn.

Rydym yn gwario £4 miliwn ar hyn o bryd drwy Cymunedau Digidol Cymru, gan gefnogi sefydliadau eraill—felly, model hyfforddi'r hyfforddwr—er mwyn darparu rhai o'r sgiliau hyn, ac mae gennym amrywiaeth o wahanol drefniadau ar waith i geisio cyrraedd pobl.

Ond mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig ac rwyf am ychwanegu un arall ato: un o'r anawsterau sy'n ein hwynebu yw bod ein gwirfoddolwyr, weithiau, yn cael eu hatal rhag gwirfoddoli am yr oriau yr hoffent wirfoddoli am fod hynny'n ymyrryd â'u trefniadau credyd cynhwysol. Rwyf wedi cael trafodaethau cadarn iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â pham ar wyneb daear rydym yn atal pobl rhag gwirfoddoli oherwydd rhai o'r gofynion mwy beichus ar gyfer chwilio am swyddi ar-lein, ac ati, a orfodir arnynt. Felly, rwy'n cytuno bod y rhaglen cyni yn effeithio ar yr agenda hon i raddau, ond rydym yn gwneud ein gorau glas i fod yn greadigol er mwyn goresgyn rhai o'r anawsterau hynny.

15:00
Mesurau Gwrth-gaethwasiaeth

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am fesurau gwrth-gaethwasiaeth yng Nghymru? OAQ51583

Gwnaf. Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod Cymru yn gwrthwynebu caethwasiaeth. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid amlasiantaethol i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth, darparu hyfforddiant amlasiantaethol, cefnogi dioddefwyr a chynorthwyo i ddod â'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd ffiaidd hon o flaen eu gwell.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae Wendy Williams, arolygydd cwnstabliaeth EM, wedi dweud:

Er y gall achosion o gaethwasiaeth fodern fod yn gymhleth a galw am weithlu sylweddol, mae llawer o'r methiannau i ymchwilio i'r achosion hyn yn adlewyrchu diffygion mewn arferion plismona sylfaenol. Gwelsom ddulliau anghyson, a hyd yn oed aneffeithiol, o nodi dioddefwyr,

a arweiniodd at gau ymchwiliadau cyn pryd.

O ganlyniad, cafodd dioddefwyr eu gadael heb eu diogelu, gan adael troseddwyr yn rhydd i barhau i ecsbloetio pobl

fel pe baent yn ddim mwy na nwyddau. A allwch roi sicrwydd inni, os gwelwch yn dda, nad yw hyn yn digwydd yng Nghymru, o gofio bod grŵp atal caethwasiaeth Cymru yn dweud wrthym fod 10,000 o lysgenhadon atal caethwasiaeth yng Nghymru, ac eto mae gennym yr ystadegyn moel hwnnw mai dim ond un erlyniad a fu drwy Cymru gyfan hyd yma?

Wel, ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, ac rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth Cymru ar gaethwasiaeth i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod caethwasiaeth yn faes cymhleth iawn i'w ymchwilio ac i'w erlyn, a dyna pam rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu darpariaeth hyfforddiant ar y cyd ar gyfer uwch-swyddogion ymchwilio ym maes gorfodi'r gyfraith ac erlynwyr y goron ac eiriolwyr y goron. Gan gweithio gyda'n partneriaid yn 2017, fe lwyddasom i gyflwyno safon gyson o hyfforddiant atal caethwasiaeth i bron 8,000 o bobl ledled Cymru, a hoffwn gymryd y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gaethwasiaeth i roi gwybod i'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiadau hynny, gan fod pob digwyddiad y rhoddir gwybod i'r heddlu amdano yn cael ei ymchwilio, ac mae adroddiadau blaenorol wedi arwain at ddod â phobl o flaen eu gwell, neu roi terfyn ar y gweithgarwch yn gyfan gwbl.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl cynghorwyr cenedlaethol yn y broses o helpu i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ51606

Gwnaf. Fel y dywedais yn gynharach, rwy'n falch iawn fod Yasmin Khan a Nazir Afzal wedi cael eu penodi yn ymgynghorwyr cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy. Mae ganddynt gryn dipyn o brofiad a byddant yn cynghori Gweinidogion ac yn gweithio gyda dioddefwyr, goroeswyr a rhanddeiliaid eraill i wella ein gwasanaethau ac i adrodd ar ein cynnydd.

Diolch, arweinydd y tŷ. Wrth i ni nodi deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru yr wythnos hon, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod hanes, effaith a gwerth y trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys nid yn unig Cymorth i Fenywod Cymru ond Bawso, Hafan Cymru, Llamau, grwpiau cymorth i fenywod lleol a rhanbarthol, Atal y Fro? Mae'r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr cam-drin domestig, ond maent hefyd yn gweithio gyda'r asiantaethau cyfiawnder troseddol a statudol sydd â phŵer mewn statud i wneud newidiadau drwy weithredu'r gyfraith a sicrhau bod trais yn y cartref yn flaenoriaeth. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y ceir ymdrech unedig—gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn; credaf fod hyn wedi cael ei ddangos y prynhawn yma ar draws y Cynulliad hwn—i atal y 40 mlynedd nesaf rhag parhau â'r ystadegau sy'n dangos bod un o bob tair menyw yng Nghymru yn dioddef trais a chamdriniaeth?

Ymunaf â Jane Hutt i gydnabod hanes, effaith a gwerth y sector yng Nghymru, ac yn wir, ei hanes blaenorol ei hun yn y sector hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i sefydliadau fel Cymorth i Fenywod Cymru a phawb arall sydd wedi gwneud safiad i gael gwared ar y math hwn o gam-drin o'n cymdeithas. Yn sicr, maent yn cynnig cefnogaeth hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr. Rwy'n falch iawn o ddweud y byddaf yn siarad yfory yn y digwyddiad i ddathlu 40 mlynedd o fudiad Cymorth i Fenywod Cymru.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau a goroeswyr i ddeall eu profiadau a sut y gellir datblygu'r system i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol. Edrychaf ymlaen at gyfraniad y cynghorwyr cenedlaethol at y strategaeth hon, ac rydym yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan amryw o sefydliadau, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau arbenigol annibynnol a sefydliadau ehangach yn y sector gwirfoddol. Roedd yr Aelod yn llygad ei lle wrth ofyn beth arall rydym yn ei wneud i ystyried beth y gallwn ei wneud, ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol a nodir yn y Ddeddf—awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau tân ac achub. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i weithio gyda'r heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu, y gwasanaethau addysg, sefydliadau tai, gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod yn y trydydd sector, gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol, goroeswyr a'r asiantaethau troseddu a chyfiawnder sydd heb gael eu datganoli.

Felly, mae'n ddull gweithredu cwbl amlasiantaethol. Rydym hefyd yn  gwneud yn berffaith siŵr ein bod yn ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector drwy gydol y broses gomisiynu fel y gallant gyfrannu'n adeiladol at y gwaith o gynllunio, cyflwyno ac adolygu'r broses gomisiynu ac i sicrhau bod gennym ymdriniaeth ranbarthol addas a chydweithredu priodol ar draws y sector. Mae'r sector bob amser wedi bod yn dda iawn am wneud hyn, ac rwy'n siŵr y byddant yn parhau i gydweithredu â ni wrth inni gyhoeddi ein canllawiau comisiynu yn y dyfodol agos, ond rwy'n talu teyrnged i'r 40 mlynedd o hanes hyd yma. Ni allaf ddweud fy mod yn edrych ymlaen at y 40 mlynedd nesaf, gan fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at adeg lle na fydd angen y gwasanaethau hyn, ond rwy'n sicr, cyhyd ag y bo angen y gwasanaethau hyn, y bydd sefydliadau fel Cymorth i Fenywod Cymru yno i ateb yr angen hwnnw.

15:05
Band Eang Cyflym Iawn yng Nghaerffili

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn etholaeth Caerffili? OAQ51610

Gwnaf. O dan brosiect Cyflymu Cymru rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 27,206 o safleoedd yng Nghaerffili. Y tro diwethaf i'r data gael ei wirio, roedd y cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar gyfer y safleoedd lle y rhoddwyd Cyflymu Cymru ar waith yn 64.4 Mbps yng Nghaerffili.

Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am ei hymdrechion arwrol yn sicrhau bod y problemau gyda band eang ar ystadau Castle Reach a Kingsmead yng Nghaerffili wedi cael eu datrys. Mae wedi gweithio'n hynod o galed, ac rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi digwydd. Ond roeddwn yn awyddus i—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, yn groes i'r hyn a ddywedodd Russell George yn gynharach. Roeddwn yn awyddus i godi mater y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a'r ffaith nad yw band eang yn cael ei grybwyll yn y cynllun cyflawni, ond bydd yn hanfodol o ran cysylltu busnesau ledled etholaeth Caerffili. Rwy'n pryderu nad oes cyfeiriad penodol at hynny, felly a wnaiff arweinydd y tŷ roi sicrwydd y bydd yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i gyflawni'r cynllun 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a sicrhau'n benodol fod y busnesau sydd wedi'u lleoli yn ac o amgylch ystadau diwydiannol yn ardaloedd gogleddol cymunedau'r Cymoedd yn elwa o ddarpariaeth band eang?

Yn sicr. Nid oes sôn am hynny am ei fod yn rhan sylfaenol o'r seilwaith. Rwy'n aelod o fwrdd tasglu'r Cymoedd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd. Mae rhan fawr o'r cynllun economaidd ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn seiliedig ar y math hwnnw o ddatblygu seilwaith, a chredaf ei fod yn rhan o ble rydym yn mynd gyda hyn, ac mae'n dod yn rhan o'r cefndir. Felly, mae rhannau helaeth o gymunedau'r Cymoedd yn cael eu gwasanaethu'n dda eisoes gan y seilwaith. Y mater pwysig bellach yw sicrhau bod y gwasanaethau sy'n rhedeg ar y seilwaith yn cael eu rhoi ar waith. Felly, ni wnelo hyn â'r teclynnau; mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth gynyddol o wasanaethau y gallwn ddefnyddio'r teclynnau ar eu cyfer . Felly, mae'r Cymoedd yn rhan fawr o ddefnyddio'r seilwaith yn briodol gan ei fod bellach ar waith. Felly, lle nad yw'r seilwaith ar waith, ac nid yw hynny'n cynnwys llawer o ardaloedd y Cymoedd, byddwn yn disgwyl i'r prosiectau olynol lenwi'r bwlch hwnnw wrth gwrs. Felly, o ran yr ystadau a grybwyllodd yr Aelod, byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn cyrraedd ystadau diwydiannol a datblygiadau eraill o'r fath yn y prosiectau olynol y soniais amdanynt yn gynharach, a bydd hynny'n rhan bwysig o gynllun y Cymoedd lle maent yn y Cymoedd, ac wrth gwrs, yn rhan o'r broses gyflwyno ehangach lle nad ydynt.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd Caroline Jones, Comisiynydd diogelwch ac adnoddau’r Cynulliad, yn ateb cwestiwn 1. Cwestiwn 1—Simon Thomas.

Plastig Untro

1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad ynglŷn â lleihau faint o blastig untro sy’n cael ei ddefnyddio ar ystâd y Cynulliad? OAQ51614

Diolch, Simon. Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau plastig ar yr ystâd, ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi erbyn 2018. Rydym yn gweithio i leihau plastig untro ar yr ystâd, gan newid i ddeunyddiau y gellir eu compostio lle bo hynny'n bosibl o fewn y chwe mis nesaf, yn ogystal â gweithio gyda chyflenwyr i chwilio am atebion amgen.

A gaf fi ddiolch i'r Comisiynydd am ei hymateb cadarnhaol? Yn amlwg, mae'r Cynulliad wedi rhoi rhai camau ar waith yn ddiweddar, er enghraifft drwy gael gwared ar gwpanau coffi untro yma a newid i gwpanau ceramig, sy'n rhywbeth y mae gan y cyhoedd gryn ddiddordeb ynddo erbyn hyn. Felly, roeddem ar flaen y gad yn hynny o beth. Rwy'n awyddus inni aros ar flaen y gad. Rydym yn dal i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig untro ac ati, ac wrth edrych ar y siop yma, mae rhai o'n nwyddau mewn cynwysyddion plastig o hyd ac rydych yn edrych arnynt ac yn meddwl—wel, nid oes angen iddynt fod, mewn gwirionedd; mae'n rhywbeth sydd wedi tyfu'n arfer inni dyna i gyd. Felly, rwy'n falch o glywed bod gennych gynllun chwe mis, eich bod yn ceisio dileu cymaint o hyn â phosibl. Mae'n rhywbeth y credaf y gall pob un ohonom ddod at ein gilydd yn ei gylch. Ddydd Gwener, byddaf yn ymweld ag Aber-porth, un o gymunedau di-blastig Cymru, ond nid honno yw'r unig un bellach. Mae llawer o gymunedau yn dweud eu bod yn awyddus i baratoi i fod yn ddi-blastig, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod ninnau yn y Cynulliad—nid y Llywodraeth, ond ni yn y Cynulliad—yn gosod y safon ac yn dangos rhywfaint o arweiniad hefyd.

Diolch i Simon am gydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n parhau. Mae gennym hidlyddion dŵr a ffynhonnau o gwmpas yr adeiladau, sy'n lleihau'r angen am ddŵr potel. Rydym yn darparu cyfleusterau ailgylchu helaeth ar draws yr ystâd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau, gan gynnwys plastig, ac mae gennym arwyddion clir a mentrau cyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleusterau ailgylchu, ac rydym yn annog pobl i'w defnyddio. Mae'r gwelliannau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cynnwys cael gwared â rhai o'r biniau gwastraff cyffredinol ger y desgiau i sicrhau cymaint o ddefnydd â phosibl o'r opsiynau ailgylchu. Diolch am gydnabod y defnydd o gwpanau plastig, nad yw'n digwydd bellach. Diolch.

15:10

Ar y mater hwn, roeddwn yn siomedig o weld, ym mrecwast briffio'r meddygon teulu, a fynychwyd gennych chi hefyd, fod gwellt plastig wedi eu darparu ar gyfer bwyta iogwrt, ac roeddwn yn meddwl tybed a allwch newid hynny i sicrhau eu bod yn rhai papur, oherwydd mae angen inni wahardd gwellt plastig; maent yn un o'r pethau gwaethaf. Yn ychwanegol at hynny, nid yw'r ffreutur yn darparu finegrét mewn powlenni neu jygiau mwyach, a bellach mae ganddynt gynwysyddion bach plastig gwirion, rhai maint unigol. Ychwanegu at y plastig a ddefnyddir ar yr ystâd y mae hynny'n ei wneud. Mae hyn yn gwbl warthus ac nid yw'n gynaliadwy. Tybed a allwch wneud rhywbeth ynglŷn â hyn.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Hoffwn roi sicrwydd i chi fod y gwaith yn mynd rhagddo ac y byddwn yn nodi ac yn mynd i'r afael â'r holl bwyntiau a godwyd gennych. Diolch.

Bydd cwestiynau 2 i 5 yn cael eu hateb gan Joyce Watson, y comisiynydd cydraddoldeb a'r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. Cwestiwn 2—Darren Millar.

Gwasanaethau Caplaniaeth

2. Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i rhoi i sefydlu gwasanaethau caplaniaeth ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad? OAQ51600

Nid oes unrhyw gynlluniau gan y Comisiwn i sefydlu gwasanaethau caplaniaeth. Fodd bynnag, rydym yn darparu ystafelloedd tawel yn Nhŷ Hywel a'r Senedd ar gyfer gweddïo, myfyrio, neu amser tawel ar sail aml-ffydd—

Mae rhaglen cymorth i weithwyr y Comisiwn hefyd yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, ac mae ar gael i'r holl Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn.

Diolch am eich ateb, Gomisiynydd. Yn ddiweddar, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar ffydd drafodaeth ar y pwnc 'Caplaniaeth yn seiliedig ar ffydd: A yw'n werth ei wneud?' a chlywsom gan bobl sy'n gwasanaethu fel caplaniaid mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus, a chlywsom gan unigolion sydd wedi elwa o wasanaethau caplaniaeth, sydd, wrth gwrs, yn cynorthwyo i leihau anghydfod ac anghytuno rhwng darparwyr y sector cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau, maent yn darparu cysur i bobl ar adegau anodd, ac wrth gwrs, maent yn gallu darparu gofal bugeiliol, waeth beth yw ffydd neu gredoau pobl, neu os nad oes ganddynt unrhyw ffydd o gwbl. Roeddem yn teimlo bod y rhain yn fanteision pwysig a allai fod o ddefnydd i Aelodau'r Cynulliad, staff Aelodau'r Cynulliad, ac yn wir, i staff y Comisiwn yma ar ystâd y Cynulliad. Er y gwaith da a wneir i gefnogi staff ac Aelodau'r Cynulliad yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, credaf fod rhywbeth hollol unigryw o ran y gofal bugeiliol y gall gwasanaethau caplaniaeth ei gynnig, ac roeddwn yn meddwl tybed a yw hyn yn rhywbeth y gallai'r Comisiwn ei drafod yn fanwl i weld a oes cyfle i ddatblygu gwasanaeth caplaniaeth, gan y buaswn i, yn sicr, yn croesawu hynny, a gwn y byddai rhai Aelodau eraill o'r Cynulliad yn croesawu hynny hefyd, yn arbennig o ystyried y math o drawma a ddioddefodd y Cynulliad yn ystod tri mis olaf y llynedd.

Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod yna gaplan yn arfer gwasanaethu Bae Caerdydd, yn fwyaf diweddar y Parchedig Peter Noble. Fodd bynnag, daeth hynny i ben yn ystod haf 2017, a chawsom wybod nad oes gan y grŵp o eglwysi ar gyfer y lle hwn unrhyw fwriad neu arian i lenwi'r rôl. Os yw aelodau'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn dymuno trefnu cymorth caplaniaeth drostynt eu hunain heb unrhyw gost i'r Comisiwn, gellid gwneud trefniadau iddynt ddefnyddio ystafell ar ystâd y Cynulliad at y diben hwnnw. Caniateir hyn o dan y rheolau ar gyfer grwpiau trawsbleidiol.

Teuluoedd a Phlant

3. Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y Senedd yn lle mwy cyfeillgar i deuluoedd a phlant? OAQ51593

Cydnabyddir y Senedd eisoes fel lle croesawgar, ac mae wedi derbyn gwobrau am yr ymdrechion a wneir i ddarparu ar gyfer anghenion gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys cyfleusterau newid. Mae'r caffi bellach yn croesawu bwydo ar y fron, ac mae arwydd ger y fwydlen sy'n nodi hynny. Mae arwydd hefyd ar y sganwyr wrth i chi ddod i mewn i'r Senedd. Prynwyd cadair ar gyfer bwydo ar y fron, ac rydym yn gwerthuso, gyda defnyddwyr y gwasanaeth, y lleoliad mwyaf addas ar ei chyfer. Mae'r staff bob amser yn ceisio sicrhau bod yr holl ymwelwyr yn cael profiad cadarnhaol, gan gynnwys teuluoedd â phlant.

15:15

Diolch i'r Comisiynydd am ei hymateb, ac rwy'n falch iawn o glywed bod cadair ar gyfer bwydo ar y fron wedi cael ei phrynu. Ar 3 Mai y llynedd, gofynnais gwestiwn tebyg ynghylch pa gynnydd a wnaed i sicrhau bod y Senedd yn fwy cyfeillgar tuag at blant a theuluoedd, ac yn benodol, at famau sy'n bwydo ar y fron—ac yn enwedig mamau sy'n dymuno bwydo ar y fron mewn gofod preifat. Roeddwn yn awyddus i glywed pa gynnydd a wnaed o ran nodi man o'r fath. Roeddwn yn bryderus fod yr ystafell deulu wedi cael ei throi'n ystafell gyfarfod, a gwn mai'r unig le preifat ar gyfer bwydo ar y fron ar hyn o bryd yw'r toiled, ac nid yw hynny i'w weld yn addas. Felly, tybed a ellid ystyried lleoedd fel hen ystafell y wasg, nad yw'n cael ei defnyddio o gwbl ar hyn o bryd, hyd y gwelaf, er mwyn gwneud popeth a allwn i annog menywod i deimlo eu bod yn rhydd i fwydo ar y fron yma. Oherwydd, yn amlwg, mae cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn isel, a dyma ein cyfle i ddangos esiampl.

Rwy'n croesawu eich diddordeb yn hyn, gan y byddai o fudd i bawb pe gallai cynifer o bobl â phosibl fwydo eu plant ar y fron lle bynnag y dymunant. Fel rwyf wedi dweud, rydym wedi edrych ar leoliad y gadair honno. Nid yw hynny wedi'i benderfynu. Mae'r broses honno'n mynd rhagddi mewn ymgynghoriad â'r bobl a fydd yn awyddus i'w defnyddio. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, bydd yn dilyn o reidrwydd y byddwn yn edrych ar ddarparu ystafell i fynd law yn llaw â hynny.

Y Cyflog Byw Go Iawn

4. Pa gynnydd a wnaed tuag at sicrhau bod yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y Comisiwn yn cael y cyflog byw go iawn? OAQ51603

Mae'r Comisiwn wedi bod yn gyflogwr cyflog byw achrededig ers mis Rhagfyr 2012 ac mae'n mynnu bod yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol yn cael y cyflog byw fan lleiaf. Rydym hefyd yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod yr holl staff a gyflogir drwy gontractwyr yn cael y cyflog byw fan lleiaf drwy ei wneud yn rhwymedigaeth gytundebol. Mae gofyn i'n contractwyr ddarparu tystiolaeth eu bod yn cadw at y gyfradd ddiweddaraf o gyflog byw.

Wel, diolch am eich ateb, a chroesawaf y gwaith a wnaed o ran talu'r cyflog byw i weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol—y cyflog byw go iawn—ond mae cryn bryder o hyd ynglŷn â phobl a gyflogir yn anuniongyrchol, gan ei bod yn amlwg nad yw rhai ohonynt yn ennill y cyflog byw go iawn. Tybed a fyddai modd dosbarthu datganiad i roi gwybodaeth inni ynglŷn â faint yn union o bobl ar y contractau anuniongyrchol hyn sydd ddim yn ennill y cyflog byw go iawn, a beth fyddai'r amserlen ar gyfer cyflawni hynny a sicrwydd fod y sefyllfa honno'n newid. Oherwydd mae'n achos cryn bryder. Rydym yn hyrwyddo'r cyflog byw go iawn yma; rydym yn ceisio dangos esiampl. Gwn nad yw'r Cynulliad yn cyflogi, ond mae gennym atebolrwydd uniongyrchol dros Gomisiwn y Cynulliad, ac ymddengys i mi nad ydym wedi cyflawni'r amcan canmoladwy a osodwyd gennym y dylid talu'r cyflog byw go iawn i bawb a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Cyn i mi ddod i'r swydd hon—y rheswm dros ymgymryd â'r swydd hon oedd am fy mod yn awyddus iawn i hyrwyddo cyfle cyfartal yn y gweithle, boed hynny drwy gyflog neu unrhyw ddull arall. Nid wyf wedi derbyn unrhyw adroddiadau sy'n dweud nad ydym yn talu'r cyflog byw. Felly, os oes gennych achos penodol yr hoffech dynnu fy sylw ato, byddaf yn croesawu hynny. Yr hyn rwyf wedi'i wneud—ac rydym wedi bod yn gweithio tuag at hyn—yw trefnu cyfarfodydd gyda phobl a gyflogir yn uniongyrchol ac sy'n staff asiantaeth neu staff a gyflogir yn gytundebol fel y gallaf gyfarfod a thrafod eu telerau ac amodau gyda hwy wyneb yn wyneb, neu gyda'u cynrychiolwyr, oherwydd fel gwleidyddion, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni ddangos ymrwymiad go iawn tuag at y bobl a gyflogwn, yn enwedig pan fyddwn yn derbyn gwobrau ac yn ceisio bod yn esiampl dda.

15:20
Hygyrchedd ar Ystâd y Cynulliad

5. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i'r holl ymwelwyr? OAQ51621

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i bawb ac rydym yn adolygu hygyrchedd pob adeilad yn rheolaidd. Cynhelir asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb cyn unrhyw waith ailwampio neu welliannau, ac rydym bob amser yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac yn ymdrechu i gynnal arferion gorau.

Diolch, Gomisiynydd. Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Anfonodd yr ymrwymiad hwn neges gref at bobl â dementia a'u gofalwyr fod croeso cynnes iddynt ymweld â'r ystâd hon. Dywedai y byddai sesiynau Cyfeillion Dementia yn cael eu darparu i'r holl staff sy'n ymdrin â'r cyhoedd, i'w hymbaratoi i ymateb i ymwelwyr allanol sy'n byw gyda dementia. Yn ychwanegol at hyn, credaf fod 21 o Aelodau'r Cynulliad a'u staff wedi dod yn gyfeillion dementia. Ond credaf y dylem anelu at fod yn Senedd gyntaf y byd i ddeall dementia, pe bai'r 60 Aelod yn cwblhau'r hyfforddiant. A all y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynnydd tuag at sicrhau bod ystâd y Cynulliad a'r staff yn mynd ati'n weithredol i gyflawni eu rôl fel Senedd sy'n deall dementia?

Gallaf, ond ni allaf orfodi pobl i ymrwymo. Felly, fel Comisiynydd, ymunaf â chi i apelio ar Aelodau'r Cynulliad i ddeall dementia, oherwydd credaf y bydd hynny nid yn unig yn ein helpu yma, ond bydd yn ein helpu wrth i ni ymgysylltu â phobl, waeth lle bo hynny'n digwydd. Mae sgwrs wedi cychwyn gyda thîm amrywiaeth a chynhwysiant y Comisiwn. Maent wedi ymgysylltu â phrosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia er mwyn edrych ar ddatblygu canllaw i ymwelwyr â dementia. Mae'n ganllaw tebyg i'r rhai a gynhyrchwyd eisoes ar gyfer ymwelwyr ag awtistiaeth. Mae'n ymwneud â bod yn ymwybodol. Er enghraifft, gallai'r sganwyr sy'n bipian wneud i rai pobl nad ydynt yn eu deall deimlo'n anesmwyth. Felly, maent yn edrych ymlaen ac yn gweithio'n galed iawn i geisio edrych ar yr hyn y gallant ei wneud.

Wrth gwrs, cafwyd—mae'r tîm amrywiaeth a chynhwysiant wedi darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i nodi sut y mae byw gyda dementia yn teimlo, a'r ffyrdd bach y gall pobl helpu, a sut i droi'r ddealltwriaeth honno'n weithredu, gan mai dyna rydym yn awyddus i'w gefnogi mewn gwirionedd. Hysbysebir y sesiynau, fel y gwyddoch, i holl staff Comisiwn y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad bob blwyddyn yn ystod wythnos amrywiaeth a chynhwysiant y Comisiwn. Felly, rydym yn symud ymlaen. Rwy'n sicr fod cynnydd y gallwn ei wneud, ac rwy'n sicr y byddwn yn derbyn unrhyw gyngor y gall pobl ei roi i'n cynorthwyo i gyflawni ein nod o ddod yn sefydliad sy'n deall dementia, gyda'r holl Aelodau, gobeithio, wedi ymrwymo i hynny.

Diolch. Bydd y cwestiwn nesaf yn cael ei ateb gan y Llywydd, Elin Jones, fel y Comisiynydd cyfathrebu ac ymgysylltu. Cwestiwn 6, Mandy Jones.

Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn y Gogledd

6. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51616

Mae'r Comisiwn yn cyflawni nifer o fentrau gyda'r nod o ymgysylltu â phobl y gogledd. Mae pobl o bob oed yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, ymgynghoriadau pwyllgor a gweithdai. Rydym hefyd yn falch o'r ffaith bod gennym swyddfa Mae Colwyn, sy'n fan cyhoeddus i aelodau o staff y Comisiwn gyflawni eu gwaith yn y rhanbarth. Rydw i ar ddeall eich bod chi wedi cymryd eich llw yn swyddfa yna wrth gymryd eich sedd yn y Senedd yma.

Diolch, Gomisiynydd. Gomisiynydd, cefais fy nyfynnu yn y wasg pan ddychwelais fel Aelod Cynulliad yn dweud bod pobl yng ngogledd Cymru yn credu'n gyffredinol na ddylai Cynulliad Cymru fodoli. [Torri ar draws.] Peidiwch â chynhyrfu. Mynegir y farn hon gan lawer o etholwyr ar sawl llwybr ymgyrchu. A minnau yma bellach, gallaf weld effaith y Cynulliad ar fywydau pobl sy'n byw yn fy rhanbarth drosof fy hun. Gomisiynydd, pa gamau ychwanegol y bydd Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i ddangos i bobl gogledd Cymru beth y mae'r Cynulliad yn ei wneud, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, sut y gallant gymryd rhan, ac annog canran fwy na 43.5 y cant i bleidleisio yn etholiadau nesaf y Cynulliad?

15:25

Diolch am y cwestiwn atodol. Mae'r Comisiwn, ac rwy'n siŵr pob Aelod yn y Siambr yma, yn ymwybodol iawn fod yna her barhaol i sicrhau bod pobl ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn deall yn iawn yr hyn sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad yma nawr a'r hyn sydd yn bwerau sydd yn gweithredu mewn mannau eraill. Felly, yn ymateb i'r her yna, fe wnaeth y Comisiwn benderfynu comisiynu darn o waith a gafodd ei arwain gan Leighton Andrews a phanel i edrych ar sut y gall y Comisiwn, ar ran y Cynulliad yma, fod yn cyfathrebu ein gwaith ni yn well gyda phob cymuned yng Nghymru. Mae yna gyfleon wrth gwrs i gyfathrebu yn ddigidol nawr i bob man o Gymru—gan obeithio bod y band llydan yn cyrraedd pob man yng Nghymru, wrth gwrs. Mae yna argymhellion diddorol, arloesol o bosib hefyd, yn yr adroddiad yna o'r comisiwn yna, ac fe fyddwn ni fel Comisiwn yn edrych i wireddu rhai o'r camau yna nawr wrth inni sicrhau ein bod ni'n cynyddu drwy'r amser y ddealltwriaeth sydd gan y bobl yng Nghymru—ac mae hyn yn wir am bob cymuned, nid dim ond y gogledd—y ddealltwriaeth hynny o'r gwaith dydd i ddydd rŷm ni'n ei wneud yn y Senedd yma ar ran pobl Cymru.

A gaf i gytuno fod cyfathrebu yn gwbl allweddol? Ond nid oes curo mynd mas ac ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl. Rwy'n canmol y fenter Senedd Casnewydd fel roedd hi yn 2016, a Senedd Delyn, a gafodd ei ohirio oherwydd amgylchiadau trist. Mae'r model yna o gyfnod dwys o ymgysylltu'n uniongyrchol mewn gwahanol rannau o Gymru yn un rwy'n meddwl y dylem ni fod yn edrych i wneud mwy ohono fe. Felly, a gaf i ofyn a fyddai'r Comisiwn yn barod i ystyried dim jest cynnal un bob blwyddyn, ond mynd ati yn fwy bwriadol i gael yr ymgysylltiad dwys yna yn gyson, o fis i fis, gan dargedu ardaloedd penodol? Oherwydd dyna'r ffordd orau, yn fy marn i, i addysgu pobl am yr hyn rŷm ni'n ei wneud. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r pwyntiau mae'r Aelod wedi'u gwneud. Yn sicr, mae ein profiad ni o fod wedi gwneud Senedd@ mewn gwahanol gymunedau—ac rwy'n meddwl am yr un wnes i ymweld â'n fwyaf diweddar, Senedd@Casnewydd—yn dangos fod gwirioneddol werth i waith pwyllgorau, gwaith Aelodau, a gwaith y Senedd gyfan i fod yn ymgysylltu ag ardaloedd penodol, a gwella dealltwriaeth Aelodau o bob rhan o Gymru o'r union ardal yna, yn ogystal â gwella dealltwriaeth yr ardal yna o'r gwaith mae'r Cynulliad yma yn ei wneud. Felly, rydym ni yn edrych nawr, yn dilyn y ffaith ein bod ni wedi yn anffodus gorfod gohirio Senedd@Delyn, i weld sut gallwn ni fod yn cynllunio'r rhaglen yma nawr o weithgaredd dwys mewn cymunedau penodol ar hyd a lled Cymru dros weddill tymor y Cynulliad yma.

Efallai eich bod yn cofio, pan oedd gennym y pwyllgorau rhanbarthol gynt, eu bod yn hynod boblogaidd a llawer yn eu mynychu, yn enwedig yng ngogledd Cymru—hyd yn oed pan nad oedd hynny'n wir o reidrwydd ledled Cymru gyfan. Ers iddynt ddod i ben, mae'r grwpiau trawsbleidiol a gadeirir gennyf fel arfer yn cwrdd bob blwyddyn yng ngogledd Cymru, a phan fyddant yn gwneud hynny, ceir cryn dipyn o ymgysylltiad cyhoeddus â hwy, ymhlith sefydliadau a phobl sydd â diddordeb yn y meysydd allweddol ac sy'n ystyried y grwpiau hyn yn wyneb i'r Cynulliad yn absenoldeb unrhyw ryngweithio uniongyrchol arall y gallant gymryd rhan ynddo. Sut y gallech chi a'r Comisiwn ystyried felly sut y gallech weithio gyda'r grwpiau trawsbleidiol ar yr agenda honno o leiaf, er gwaethaf y ffaith na ellir, yn gyffredinol, eu diffinio fel un o gyrff ffurfiol y Cynulliad?

Rwyf wedi sylwi eich bod wedi bod yn arbennig o ragweithiol fel arweinydd eich grwpiau trawsbleidiol o ran sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal y tu allan i Fae Caerdydd, ac yn arbennig yn y gogledd ar gyfer eich grwpiau trawsbleidiol. Credaf fod hwnnw'n fodel y buaswn yn awyddus i'w annog a'i hwyluso a hoffwn weld y Comisiwn yn ei gefnogi. Rwy'n awyddus hefyd i ddarparu cymorth i bwyllgorau, wrth iddynt gyfarfod y tu allan i Fae Caerdydd. Gall hynny fod yn her logistaidd i'r pwyllgorau hynny, gan fod llawer o'r Aelodau yn aelodau o bwyllgorau eraill hefyd, ac mae hynny'n ei gwneud yn eithaf anodd cyfarfod mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond mae'r egwyddor o annog y gwaith a wnawn i fynd rhagddo mewn ardaloedd eraill o Gymru yn un rwy'n ei chefnogi'n gryf, a hoffwn weld y comisiwn yn ei hwyluso ar draws y pleidiau a'r pwyllgorau hefyd.

15:30
4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a daw'r cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma gan Angela Burns, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Angela.

Ysbyty Llwyn Helyg

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion newid gwasanaeth mwyaf diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a allai arwain at gau Ysbyty Llwyn Helyg yn y dyfodol? 108

Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wrthi'n cynnal profion ac yn mireinio opsiynau ar gyfer eu rhaglen trawsnewid gwasanaethau clinigol. Bydd rhestr fer o opsiynau yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn, wedi'i dilyn gan ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, a fydd yn sail i benderfyniadau terfynol y bwrdd iechyd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwrandewais yn ofalus ar yr atebion a roddodd y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru ddoe, yn ogystal â'r sylwadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod, Paul Davies, yn y datganiad busnes. A chyflwynais y cwestiwn heddiw gan fy mod wedi fy nychryn gan yr haerllugrwydd ffroenuchel a gafwyd mewn ymateb i'n pryderon.

A ydych yn derbyn bod gan y cyhoedd hawl i fynegi eu pryderon wrth eu cynrychiolwyr etholedig, oherwydd roedd eich Aelodau ar y meinciau cefn—ymddengys bod nifer ohonynt yn meddwl ei bod yn dra chwerthinllyd fod pobl yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn bryderus ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig? A ydych yn derbyn nad yw hwn, yr adolygiad seneddol, yn dweud 'cau ysbyty Llwynhelyg'? A ydych yn derbyn bod hanes blaenorol ysbyty Llwynhelyg o ymgynghoriadau wedi eu bwnglera ers 2006, wedi golygu bod pobl Sir Benfro yn sensitif tu hwnt ynglŷn â'r pwnc hwn? Ac a ydych yn cytuno ag argymhelliad 4 yr adolygiad seneddol, sy'n dweud, 'Rhoi’r rheolaeth yn nwylo'r bobl', ac yn sôn am fod yn agored, am onestrwydd, am dryloywder ac am ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â ffurf eu gwasanaethau yn y dyfodol? Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi annog Hywel Dda i sicrhau bod eu hymgynghoriad yn agored, yn onest ac yn dryloyw, gan nad yw sgrialu o gwmpas gorllewin Cymru yn cynnal cyfarfodydd mewn neuaddau pentref bychan iawn, a pheidio â gadael i bobl fynd â'r papurau allan, yn edrych yn onest, yn agored nac yn dryloyw i mi, ac nid yw cysylltu â chynrychiolwyr gwleidyddol pan fo'r diarhebol yn taro'r ffan, a phethau'n cael eu datgelu'n answyddogol, yn edrych yn agored, yn onest nac yn dryloyw i mi.

A allwch wneud sylwadau ar yr effaith y gall y gyfres ddiweddaraf hon o ddigwyddiadau ei chael ar 'Lle gwych i weithio ynddo'—argymhelliad 5—a pha niwed y gallai hynny ei wneud i'n problemau recriwtio yng ngorllewin Cymru? Byddai gennyf ddiddordeb yn eich sylwadau yn dilyn argymhelliad 3. A'r rheswm pam y cyfeiriaf at hyn yw fy mod yn arbennig o ddig ynghylch y ffordd y mae'r Prif Weinidog, yn fy marn i, wedi bradychu'r gwaith rwyf fi, fy nghyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig, ac a bod yn deg, Aelodau eraill y gwrthbleidiau, wedi'i wneud wrth ymdrin yn onest ac yn aeddfed â'ch ymdrechion i gefnogi'r panel gyda'u hadolygiad o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ddoe, fe gollodd fy holl ewyllys da fwy neu lai, gan fod yr adolygiad yn ymwneud â sut rydym yn siarad â phobl, sut rydym yn ymgysylltu â phobl, sut yr awn â phobl gyda ni, sut rydym yn sicrhau dyfodol cynaliadwy, a sut rydym yn ceisio gostegu'r frwydr mewn perthynas â'r GIG. Nid yw'n amddiffyniad, cyn iddo sychu hyd yn oed, i ddweud yn sydyn 'Ha, ond wyddoch chi beth? Hen dro, gorllewin Cymru—unwaith eto, 15 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn mynd i ddechrau malu awyr am ysbyty Llwynhelyg.'

Felly, rwy'n gofyn i chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod Aelodau eraill eich plaid a'ch Llywodraeth, yn parchu pobl gorllewin Cymru. A wnewch chi sicrhau bod Hywel Dda yn siarad gyda ni mewn ffordd agored, onest a thryloyw? Mewn gwirionedd, mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, a minnau wedi llwyddo i drefnu cyfarfod gyda'r prif weithredwr a'r cadeirydd ddydd Iau. Mae hyn mor bwysig, ac mae wedi fy nghythruddo, y tu hwnt i bob disgrifiad, fod hwn, y bûm yn edrych ymlaen at ei weld fel eich gweledigaeth, wedi ei ddifenwi yn y fath fodd. Nid ydym yn disgwyl yr haerllugrwydd ffroenuchel hwnnw gan y Prif Weinidog. Rydym yma i gynrychioli'r bobl rydym yn eu cynrychioli ac mae gennym bob hawl i ofyn i chi graffu ar fwrdd iechyd Hywel Dda i sicrhau eu bod yn ymgymryd â hyn mewn ffordd wirioneddol deg, ac am unwaith, yn mynd â'r bobl gyda hwy yn hytrach na pharatoi pethau i fod yn faes brwydr.

15:35

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn cytuno â'i disgrifiad o'r ffordd y bu'r Aelodau yn y Siambr hon yn ymddwyn ddoe. Yn sicr, ni chredaf fod unrhyw ymgais neu fwriad i ddangos haerllugrwydd ffroenuchel neu ddifenwi ymdrechion Aelodau o bob plaid i gael sgwrs aeddfed iawn ynglŷn â dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru. Roedd yr adolygiad seneddol yn ymgais onest i geisio cael dadl aeddfed a deallus ynglŷn â'n dyfodol. Ac ym mhob rhan o Gymru, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, bydd dewisiadau anodd iawn i'w gwneud.

Ni allaf ac nid wyf am wneud sylwadau ar fanylion proses anghyflawn ym mwrdd iechyd Hywel Dda a'u rhaglen trawsnewid gwasanaethau clinigol, oherwydd fel y gwyddoch, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn gwybod hyn, gallai fod angen i mi wneud penderfyniadau ar ddiwedd y broses hon. Felly, ni allaf wneud sylwadau ar argymhellion, ond mae proses yn mynd rhagddi ac mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi y bydd rhestr fer yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn. Ac mae'n bwysig iawn cael ymgynghoriad cyhoeddus priodol ar hyn. Mae'n bwysig fod staff yn cymryd rhan yn briodol yn y broses hefyd, oherwydd waeth beth rydych chi neu fi neu unrhyw un arall yn ei ddweud ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd, os oes brwydr yn mynd i fod rhwng gwleidyddion, bydd pobl yn dewis eu hochrau. Mewn gwirionedd, credaf y bydd llawer o bobl yn cerdded i ffwrdd a chredu nad yw'n ddim mwy na gwleidyddion yn dadlau ynglŷn â rhywbeth yn hytrach na, 'Beth am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?'

Fel y gŵyr pob un ohonom, o'r hyn a ddywedodd yr adolygiad, nid yw'r ffordd rydym wedi ein trefnu ar hyn o bryd yn addas ar gyfer ein dyfodol, felly bydd angen sicrhau ffordd o gyflawni newidiadau a diwygiadau yn ein system, ac mae hynny'n anodd yng nghyswllt gwneud penderfyniadau lleol. Nid yw'n fater ar gyfer un safle arbennig yng Nghymru; mae pob safle yn wynebu her ynghylch yr ymlyniad at wasanaethau fel y maent yn bodoli ar hyn o bryd, at frics a mortar, ac nid yng ngorllewin Cymru yn unig y ceir y farn honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn arw at ymgynghoriad sy'n ennyn diddordeb y cyhoedd, a gweld barn staff gofal iechyd eu hunain hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, yr ymddiriedaeth go iawn yw'r hyn sy'n bodoli rhwng y cyhoedd a'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny.

Mae'n rhaid ystyried yn ddifrifol a ydym yn credu bod y ffordd rydym yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau ar hyn o bryd ym mhob rhan o Gymru yn mynd i bara, ac os nad ydyw, sut y bydd y sgwrs honno'n digwydd fel y gall y cyhoedd gymryd rhan yn briodol a chael y wybodaeth cyn bod unrhyw ddewis yn cael ei wneud. Dyna rwy'n ei ddisgwyl, ac mae honno'n broses rwy'n disgwyl cymryd rhan ynddi yn y lle hwn, ac wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd pobl yn gofyn cwestiynau i mi er mwyn ceisio fy hoelio at farn benodol yn ystod y broses. Gwn y bydd hynny'n rhan o'r hyn y bydd yr Aelodau yn ceisio'i wneud, ond fe fyddaf yn onest ac yn blaen a byddaf yn parhau i ddweud, 'ni allaf roi barn i chi'. Ac nid wyf am roi barn i chi ynglŷn â'r ymgynghoriad. Nid oes unrhyw gynigion eto, ond efallai y bydd gofyn i mi wneud penderfyniadau, felly mae'n rhaid i mi sicrhau fy mod yn gwneud y peth iawn.

Mae'r Aelodau yn y Siambr hon yn gwbl ymwybodol o fy marn ynglŷn â'r mater hwn. Mae'n gwbl annerbyniol fod unrhyw opsiynau a allai arwain at gau ysbyty Llwynhelyg hyd yn oed yn cael eu hystyried gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. Mae pobl Sir Benfro wedi gweld gwasanaethau yn crebachu'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r newyddion diweddaraf hwn yn anfon neges arall fod gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro o dan fygythiad unwaith eto.

Yn wir, byddai hyd yn oed yn anos recriwtio gweithwyr proffesiynol meddygol os nad oes unrhyw sefydlogrwydd ynghylch pa wasanaethau sy'n aros a pha rai a allai gael eu diddymu. Felly, yn dilyn cwestiynau Angela Burns, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn nad yw'r cyhoeddiad hwn yn gwneud unrhyw beth i helpu i ddenu meddygon a staff meddygol i'r ardal pan fyddant yn parhau i weld gwasanaethau'n cael eu diddymu o'r ysbyty? Yn sgil yr argymhellion niweidiol hyn, a all ddweud wrthym pa gamau uniongyrchol y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn?

Mae'n ddrwg gennyf, un funud—rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau. Dangoswch gwrteisi tuag at Ysgrifennydd y Cabinet a gwrando ar y ddadl i gyd os gwelwch yn dda. Ysgrifennydd y Cabinet.