Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Cyn cychwyn, a gaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a chroesawu Aelod newydd i'n plith, Mandy Jones, i gynrychioli rhanbarth y gogledd yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill? A gaf i ddymuno'n dda i Mandy Jones wrth iddi ymgymryd â'i gwaith yma yn y Cynulliad?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, ar hynny, cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson. 

Ailgylchu Plastig

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i ailgylchu plastig yng Nghymru? OAQ51514

Gwnaf. Rydym ni wedi ein gosod targedau uchel ar gyfer ailgylchu yng Nghymru, gan gynnwys plastig. Mae pob awdurdod lleol yn casglu plastig ar gyfer ei ailgylchu, a bydd busnesau yn cael eu hannog ymhellach i wneud hynny o dan ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac rydym ni hefyd yn gweithio gyda'r diwydiant i gynyddu capasiti triniaeth ar gyfer plastigau sy'n cael eu casglu.

Byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, bod Tsieina, yr wythnos diwethaf, wedi gwneud cyhoeddiad na fyddant yn mewnforio gwastraff plastig o'r DU mwyach, ac allforiodd Cymru dros 4,000 o dunelli dim ond y llynedd. Gwyddom hefyd fod cyfanswm y plastig sy'n cael ei gynhyrchu a'i waredu yn tyfu bob un blwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf o hwnnw'n blastig untro ar gyfer lapio bwyd. Felly, a allem ni fanteisio ar hwn fel cyfle efallai, yma yng Nghymru, i wneud dau beth: un, i leihau cyfanswm y bagiau plastig untro yn y lle cyntaf; ac yn ail, pan nad yw hynny'n bosibl, y gallwn ni ailgylchu plastig ein hunain—a cheir rhai enghreifftiau da iawn o bobl yn gwneud hynny yma yng Nghymru—a thyfu'r diwydiannau hynny?

Gallwn. Mae dau beth i roi sylw iddyn nhw yma. Yn gyntaf, rydym ni wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymarferoldeb cynllun cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr dros ddeunydd pecynnu bwyd a diod, gan gynnwys plastig tafladwy. Byddwn yn cael adroddiad yr astudiaeth honno ym mis Chwefror. Rydym ni hefyd yn ystyried treth neu ardoll ar blastig tafladwy, ond ceir cyfleoedd gwych yma i fusnesau Cymru ystyried sut y gallant gymryd rhan yn y diwydiant ailgylchu plastigau. Rydym ni'n gweithio, er enghraifft, gyda Jayplas i'w helpu i nodi safleoedd addas i leoli gweithfeydd yng Nghymru, a Jayplas yw arweinydd marchnad y DU ym maes ailgylchu ôl-ddefnyddio, gan gynnwys ailgylchu plastigau anhyblyg.

Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol y bydd penderfyniad Tsieina yn her fawr i ni o ran ailgylchu yma yng Nghymru, o ran plastigau. Trwy gomisiynu gwaith technolegau ailgylchu, a fyddai'n troi plastigau diwedd oes yn olew ysgafn, yn gwyr neu'n olew tanwydd trwm sylffwr isel, gallem greu adnodd delfrydol yma ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau diwydiant, a gallai hwn, wrth gwrs, fod yn gyfle i Gymru. A fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd nawr i ni roi terfyn ar y system bresennol o losgi plastigau ac anfon ein plastigau i safleoedd tirlenwi, ac i fod y wlad gyntaf i drin ei gwastraff plastig ei hun mewn ffordd gwbl ecogyfeillgar?

Byddwn, mi fyddwn, ac mae'n hynod bwysig i weithio, fel y soniais yn gynharach, gyda chwmnïau sydd ag arbenigedd profedig yn y maes hwn, i wneud yn siŵr bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu yng Nghymru a mwy o swyddi yn cael eu creu o ganlyniad, ac, wrth gwrs, i edrych i weld sut y gallwn ni gynorthwyo'r newydd-ddyfodiaid hynny i'r farchnad.

Wel, jest fel enghraifft o faint y broblem, roedd grŵp sbwriel Llangatwg ym Mhowys wedi canfod ym mis Hydref y llynedd, wrth gasglu sbwriel jest yn ardal pentref Llangatwg, 266 o gwpanau coffi wedi'u taflu bant jest fel yna. Nid oes angen lefi latte yng Nghymru, achos mae gyda chi, fel rydych yn ei ddweud, gynllun posib ar gyfer lefi ar blastig un-defnydd fel un o'r pedair treth newydd rydych chi'n eu hystyried. Pryd, felly, cawn ni glywed pa dreth rydych chi wedi penderfynu arni, ac a gaf i eich annog chi, am y tro olaf efallai, i fanteisio ar ymrwymiad Plaid Cymru, a rhai o'ch meinciau cefn chi, rwy'n meddwl, i wneud yn siŵr mai'r dreth gyntaf yw lefi ar blastig un-defnydd?

Wel, fel y dywedais i, y peth cyntaf yw sicrhau bod yr adroddiad ynglŷn â chyfrifoldeb y cynhyrchwyr ynglŷn â phecynnau bwyd a diod yn cael ei gyhoeddi. Bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Unwaith bydd hwnnw wedi cael ei gyhoeddi, bydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniad ynglŷn â'r ffordd ymlaen gydag unrhyw dreth. 

Cefnogi Mentrau

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi mentrau yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51496

Nodir ein cynlluniau ar gyfer datblygu economaidd yn 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd. Rydym ni'n parhau i ddarparu amrywiaeth eang o gymorth i fusnesau yng Nghymru drwy Busnes Cymru a'r banc datblygu, ac rydym ni hefyd yn darparu buddsoddiad mewn seilwaith a chamau gweithredu sy'n gwella amodau busnes.

13:35

Diolch, Prif Weinidog. Blwyddyn newydd dda. Roedd ddoe yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru, wrth i bontydd Hafren gael eu gwladoli—rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddwch chi yn ei groesawu—a gostyngiad i'r tollau—prosiect gwych porth Cymru. Fodd bynnag, daw hyn dim ond ychydig wythnosau ar ôl i Lywodraeth Cymru alw i mewn, a gwrthod, cais cynllunio yn Nhrefynwy, yn fy etholaeth i, ar gyfer datblygiad gwesty a spa—prosiect porth Cymru ardderchog arall. Nawr, nid yw'r pryder yn y dref am y penderfyniad hwn wedi lleihau dros y flwyddyn newydd. Gwrthodwyd y gwesty ar sail cynllunio oherwydd ystyriaethau nodyn cyngor technegol 15. A all eich swyddogion edrych eto ar y penderfyniad hwn, neu, os nad yw hynny'n bosibl, edrych eto ar ganllawiau TAN 15? Oherwydd mae'n ymddangos bod hwn wedi cael ei gymhwyso'n rhy eiddgar, ac rwy'n bryderus ei fod yn dechrau llesteirio cyfleoedd economaidd ledled Cymru a fyddai o fudd i economi Cymru fel arall.

Wel, mae TAN 15, mae'r Gweinidog yn fy hysbysu, yn cael ei ystyried. Ni allaf wneud sylw, wrth gwrs, ar gais cynllunio unigol. Mae'n crybwyll tollau Hafren, ond gadewch i ni beidio â gorgynhyrfu'n ormodol am hyn. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith fod pontydd Hafren yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Ond yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud mewn gwirionedd yw dileu'r TAW, na allant ei chodi'n gyfreithlon beth bynnag, ar y tollau gan eu bod nhw'n dod yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus. Felly, ydy, cyn belled ag y mae'r cyhoedd yn y cwestiwn, mae'n ostyngiad i'r tollau wrth gwrs, ond gadewch i ni beidio ag esgus bod hwn yn rhyw gonsesiwn mawr gan Lywodraeth y DU, gan na allant godi'r 20 y cant yn y lle cyntaf mewn gwirionedd. Yr hyn a fyddai'n llawer gwell yw pe byddent yn cael gwared ar y tollau yn gyfan gwbl.

Prif Weinidog, a gaf i groesawu'n fawr iawn cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i E-Cycle yn fy etholaeth i, sef hen ffatri Remploy a helpwyd gan Lywodraeth Cymru i oroesi a gweddnewid i e-feicio, ac yn wir y pecyn ychwanegol o gyllid sy'n ei alluogi i barhau i ehangu ac i ddatblygu, gan greu busnes yn ogystal â swyddi, yn amlwg, yn ardaloedd y Cymoedd? Tybed, Prif Weinidog, a allech chi wneud sylw ar botensial y cwmni i dyfu, union fanylion y cymorth sy'n cael ei roi i'r cwmni hwnnw, ac yn enwedig y ffaith ei fod yn gwmni moesegol, sy'n cyflogi gweithwyr anabl, y mae llawer ohonynt o fy etholaeth i— mae wedi ei leoli yn fy etholaeth i. Mae'n enghraifft wirioneddol o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i gefnogi'r math hwn o fusnes, sydd â photensial gwirioneddol i ehangu yn y Cymoedd.

Wel, mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, y dyfarnwyd cymorth i E-Cycle, ac rwy'n falch ein bod ni'n darparu cymorth i ailgylchu. Byddwn yn parhau i gynorthwyo'r cwmni i nodi cyfleoedd newydd ar gyfer twf busnes. Mae'r cynllun gweithredu economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd yn cydnabod effaith technoleg ddigidol, ac yn cyflwyno ein cynigion i ddiogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a chyd-Aelodau.

Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru i greu cronfa parodrwydd ar gyfer Brexit o £50 miliwn, rhywbeth a fydd yn hanfodol ar gyfer cefnogi mentrau yn y de-ddwyrain a ledled y wlad. Ac rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru wedi edrych ar fodelau Iwerddon ar gyfer cymorth, wrth i ni wynebu gwahaniad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a'r ansicrwydd economaidd mawr sy'n sicr o ddeillio o hynny wrth i Theresa May barhau ei thraed moch Brexit. Pa sicrwydd all y Prif Weinidog eu roi i fentrau ledled y wlad, ac yn y de-ddwyrain yn arbennig, y bydd hon yn gronfa hygyrch, syml a fydd yn hawdd iddynt ymgysylltu â hi, ac y bydd yn cael ei thargedu ac y gall gyflawni ei bwriadau gwirioneddol dda?

A gaf i ddweud pa mor braf yw gweld yr Aelod yma? A bydd yn clywed o'r croeso y mae wedi ei dderbyn ewyllys da y Siambr hon, a'r cyfeillgarwch y mae'n ei fwynhau ymhlith llawer yn y Siambr hon, ar draws y pleidiau.

O ran ei gwestiwn, roedd y cyhoeddiad ddoe yn gyhoeddiad sy'n dangos i fusnesau, prifysgolion ac eraill ein bod ni'n rhoi arian o'r neilltu i'w helpu i ymdrin â chanlyniadau Brexit. Yr hyn nad ydym yn ei wybod, wrth gwrs, yw sut y bydd Brexit yn edrych, ac mae cymaint o'r manylion heb gael eu hystyried hyd yn hyn. Ond byddwn yn gweithio gyda phawb sy'n cael eu heffeithio ac yn rhoi cynllun syml ac effeithiol ar waith, i sicrhau bod y cynllun yn darparu'r cymorth y bwriedir iddo ei ddarparu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. A gaf innau hefyd groesawu'r Aelod newydd yma heddiw, ac ategu sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch pa mor braf yw gweld Steffan yn ôl yn y Siambr hon, a dymuno'n dda iddo yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod? Ac rwyf hefyd yn cynnig fy llongyfarchiadau i David Melding, a gydnabuwyd yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd—cyfraniad teilwng iawn i ddemocratiaeth Cymru sydd wedi cael ei gydnabod gan y rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd a gyhoeddwyd eleni.

Prif Weinidog, rydym ni i gyd wedi gweld y pwysau sydd wedi taro GIG Cymru dros y pythefnos diwethaf, a'r pwysau gaeaf penodol hwnnw yn arbennig. A oedd modd eu rhagweld ac a oedd modd eu hatal?

13:40

Wel, yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i'n holl staff ym mhob lleoliad—y meddygon teulu, y parafeddygon, yr ysbytai a gofal cymdeithasol—am eu hymdrechion anhygoel wrth ymateb i'r pwysau hwn. Mae'r gaeaf yn gyfnod anodd iawn bob amser. Bydd adegau bob amser pan fo'r galw yn rhoi ein gwasanaethau o dan bwysau mawr, sy'n golygu bod angen dwysau lleol. Roedd paratoadau trylwyr wedi eu gwneud, ond mae'r NHS yng Nghymru wedi bod o dan gryn bwysau yn gyson â'r hyn sy'n cael ei adrodd mewn rhannau eraill o'r DU. Cafwyd ymateb proffesiynol, rhoddwyd mwy o adnoddau ar gael ac mae'r sefyllfa yn sefydlogi erbyn hyn.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf yn cydnabod bod pwysau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan fel yr ydym ni i gyd wedi ei weld ar y newyddion. Fy nghwestiwn cyntaf oedd a oedd modd eu rhagweld ac a oedd modd eu hatal, rhai o'r pwysau hynny a oedd yn unigryw i Gymru, fel dim gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau, fel yr wyf yn cael fy arwain i gredu, yma yng Nghaerdydd dros gyfnod yr ŵyl. Roedd amseroedd aros cronig yn fwy na'r hyn a welsom mewn rhannau eraill o'r GIG yn y Deyrnas Unedig. Yn Ysbyty Glan Clwyd, er enghraifft, gwelwyd llai na 50 y cant o gleifion a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn amser aros y Llywodraeth ei hun o bedair awr, ac roeddem ni eisoes yn gwybod bod amseroedd aros yn ormodol yma yng Nghymru o'u cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gallwch chi a minnau gael dadl wleidyddol am hyn ac ni fydd wir yn datblygu fawr mwy ar y ddadl. Yr hyn y mae pobl eisiau ei glywed yw pa atebion y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i atal rhai o'r digwyddiadau unigryw hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nghymru—sydd yn benodol i Gymru—fel dim darpariaeth y tu allan i oriau o gwbl yma ym mhrifddinas Caerdydd ac, yn anad dim, y cyfnodau aros gwirioneddol hir hynny mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, fel yr amlygais i chi? Beth ydych chi'n ei wneud?

Wel, yn gyntaf oll, o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, ac nid yw'n wir mai pedair awr yw'r targed cyn i rywun gael ei weld mewn adran damweiniau ac achosion brys. Pedair awr tan i rywun gael ei ryddhau neu ei dderbyn o adran damweiniau ac achosion brys, dim ond i wneud hynny'n eglur. Mae'n gofyn y cwestiwn yn deg: A oedd modd rhagweld hyn? Yr ateb yn fy nhyb i yw 'nac oedd' a byddaf yn esbonio pam. Er enghraifft, o ran galwadau ambiwlans coch, roedd y ffigur ar gyfer nos galan 54 y cant yn uwch na nos galan y llynedd. Adroddwyd ffigurau tebyg, ond llai, ar gyfer dydd calan ac ar gyfer cyfnod y Nadolig hefyd. Nawr, a oes modd rhagweld hynny? Byddwn i'n dadlau nad oes. Serch hynny, gwnaed llawer iawn o gynllunio i sicrhau bod y GIG yn gallu ymdopi. Roedd pwysau mawr. Talaf deyrnged i'r staff ac, wrth gwrs, fel y dywedaf, mae'r sefyllfa yn sefydlogi erbyn hyn. Ond byddwn yn ystyried pam y bu cynnydd mor sydyn nos galan, dim ond i roi un enghraifft, o'i gymharu â'r llynedd. Er gwaethaf y pwysau mawr a roddwyd ar y gwasanaeth iechyd, roedd y staff yn dal i allu gweithio'n galed i gyrraedd y targedau a osodwyd gennym, yn enwedig y staff parafeddygol. Pam y bu cynnydd sydyn o'r fath o'i gymharu â'r llynedd, mae'n rhywbeth y bydd rhaid i ni edrych arno.

Diolch, Prif Weinidog. Rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r holl staff a oedd allan dros gyfnod yr ŵyl tra bod llawer ohonom ni'n mwynhau'r ŵyl, ac, heb y staff hynny, ni fyddai ein GIG yn gweithio ym mha bynnag ran o'r gwasanaeth y maen nhw'n gweithio ynddi.

Ond y pwynt a wneuthum yn fy ail gyfraniad y prynhawn yma, yw os nad oes unrhyw ddarpariaeth y tu allan i oriau o gwbl, yna mae'n amlwg bod y gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft, yn mynd i weld cynnydd sydyn i'r galw am ei wasanaethau. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn amdano yn fy nhrydydd cwestiwn i chi yw: a fyddwn ni yn yr un sefyllfa yr adeg hon y flwyddyn nesaf, neu pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd yn benodol i fynd i'r afael â'r pwysau hyn sy'n digwydd flwyddyn ar ôl y blwyddyn? Rwy'n derbyn y pwynt eich bod chi wedi cyfeirio at gynnydd sydyn penodol i'r galwadau ambiwlans a wnaed nos galan, ond rydym ni'n gweld mai ychydig iawn neu ddim o gwbl sydd ar gael o ran darpariaeth y tu allan i oriau mewn rhai ardaloedd, rydym ni'n gweld galw parhaus am ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys ac yn amlwg rydym ni'n gweld diffyg gwelyau yn ein hysbytai. Collwyd tri deg y cant o welyau ers 1997 yma yng Nghymru. Felly, mae angen cynnal adolygiad o sut y mae'r Llywodraeth a'r byrddau iechyd yn ymateb i'r argyfwng hwn, a'r hyn y mae angen i ni ei glywed yw pryd y bydd yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal ac a allwn ni ddisgwyl mewn gwirionedd na fydd y sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd y flwyddyn nesaf.

Wel, wrth gwrs, mae'r adolygiad wedi cael ei gynnal, yn yr ystyr y disgwylir i'r adolygiad seneddol, rwy'n deall, gyhoeddi ei ganfyddiadau yn fuan iawn, a bydd hwnnw'n ystyried yn drawsbleidiol ar y ffyrdd y gellir cryfhau'r gwasanaeth iechyd. O ran meddygon teulu, mae'n iawn i ddweud, mewn un rhan o Gymru, y bu problemau ar ddau ddyddiad, rwy'n deall—nid mewn rhannau eraill o Gymru, ond roedd pwysau difrifol yn y fan honno'n benodol. Mae'n gofyn y cwestiwn: a oes angen i ni ystyried y rheswm pam y bu achosion penodol o gynnydd sydyn eleni, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol? Yr ateb yw, 'Ydy, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau edrych arno', gan y bydd hynny'n rhan o barodrwydd y BILlau ar gyfer y gaeaf nesaf. Felly, o ran a oes modd ei atal, wel, mae pwysau ar y GIG ar yr adeg hon o'r flwyddyn bob amser, ac mae cynllunio bob amser i geisio ymdrin â phwysau o'r fath. Rhagweladwy? Na, dwi ddim yn credu, o ystyried y ffigurau yr ydym ni wedi eu gweld ar fwy nag un dyddiad dros gyfnod y gwyliau, pan fu cynnydd sylweddol i alw am alwadau ambiwlans, yn enwedig o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

13:45

Diolch. Rwy'n mynd i barhau gydag iechyd, Prif Weinidog. Dywedasoch y disgwylir pwysau'r gaeaf bob blwyddyn ac rydych chi'n iawn, a dylech chi fod yn cynllunio ar gyfer cynnydd sydyn i alw bob blwyddyn hefyd. A allwch chi ddweud o ddifrif eich bod chi'n credu bod y gwasanaeth iechyd wedi perfformio'n dda dros y gaeaf o ran ymdrin â'r pwysau a'r cynnydd sydyn i alw hynny a welsom?

Gallaf, mi allaf. Rwy'n credu bod staff y GIG wedi perfformio'n arwrol ac yn rhagorol yn ystod y gaeaf. Meddygon teulu, wrth gwrs, yw'r rheng flaen yn aml. Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn. Parafeddygon, rhyfeddol, o ystyried y ffaith eu bod nhw wedi ymateb mor dda i alwadau brys, er gwaethaf y cynnydd enfawr i'r galwadau hynny ac, wrth gwrs, ysbytai a'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Maen nhw'n parhau i gynnal GIG o faint aruthrol sy'n derbyn degau o filoedd o gysylltiadau a galwadau bob blwyddyn. Roedd uchafbwynt amlwg, wrth gwrs, o bwysau yn y flwyddyn newydd ac roedd heriau gwirioneddol, ond mae'n braf gweld sefyllfa lawer gwell a sefydlog erbyn hyn, a adroddwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf.

Prif Weinidog, mae'r stori yr ydych chi'n ei hadrodd yn un o wasanaeth sydd o dan bwysau ond yn ymdopi'n dda, ond ceir stori arall hefyd sy'n cael ei hadrodd gan y cyfryngau, o ysbytai sydd 'fel maes brwydr' i staff y GIG. Ni all y ddwy stori hynny fod yn wir, ac rwy'n credu eich bod chi'n gwybod nad yw paratoadau'r gaeaf wedi bod yn ddigon da. Onid dyna pam y cawsom ni ymddiheuriad gan Vaughan Gething am lawdriniaethau a ganslwyd? Onid dyna pam yr ydym ni'n clywed yr honiad gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu'n feunyddiol, ac mai mwy o gapasiti yw'r ateb? Mae GIG Cymru angen mwy o welyau, mae angen mwy o nyrsys ac mae angen mwy o feddygon. Daeth y £10 miliwn o bunnoedd a gyhoeddwyd dros y penwythnos gyda chyfaddefiad bod pwysau ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy na'r hyn a ragwelwyd. Pam nad ydych chi'n amcangyfrif y pwysau hwn yn ddigonol bob blwyddyn? A ydych chi'n derbyn bellach fod Ysgrifennydd y Cabinet yn anghywir i wneud yr honiad ym mis Tachwedd bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â'r gaeaf, ac a ydych chi'n derbyn eich bod chi'n anghywir o ran gostwng nifer y gwelyau ysbyty?

Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir. Ni allai neb fod wedi rhagweld y math o ffigurau a welsom yn ystod y gwyliau; nid wyf yn credu bod unrhyw siawns y gallai unrhyw Aelod yn y Siambr hon fod wedi rhagweld hynny. Mae'n sôn am welyau, ond mae mae'n fwy cymhleth na hynny, yn fy marn i. Mae'n hynod bwysig nid o ran edrych ar welyau, ond o ran cael pobl allan o'r ysbyty pan fyddan nhw'n barod a dyna pam, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, yr ydym ni wedi ei wneud, o'i gymharu â Lloegr lle mae cyllid gofal cymdeithasol wedi  ei dorri. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny a bod y cymorth cywir ganddyn nhw i wneud hynny. Felly, nid yw'n fater syml o nifer y gwelyau; mae'n fater o wneud yn siŵr bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan eu bod yn abl i wneud hynny.

Mae gennych chi darged o 85 y cant ar gyfer gwelyau ysbyty ac rydych chi'n methu â chyrraedd hwnnw fel mater o drefn, sy'n golygu bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu. Rydych chi'n methu â bodloni'r mesur hwnnw o ddiogelwch cleifion, ac mae hynny'n annerbyniol. A, Prif Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu eich bod yn hunanfodlon. Nid ni yn unig sy'n dweud hynny; mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys hefyd yn dweud bod angen cynyddu staffio yn y GIG, ac mae gennych chi'r grym i wneud hynny. Heb nyrsys, heb feddygon a heb arbenigwyr, ni fyddai GIG o gwbl.

Rydym wedi clywed llawer o eiriau gwresog dros gyfnod y Nadolig gan wleidyddion yn cefnogi staff rheng flaen y GIG, ac rydych chi newydd dalu teyrnged eich hun. Os ydych chi wir eisiau cefnogi staff rheng flaen y GIG, yna, Prif Weinidog, dylech eu talu'n briodol. Mae'r cap cyflog yn golygu nad yw nyrsys yn cael eu talu'n ddigonol o hyd, ac mae'r grym gennych chi i ddiddymu'r cap cyflog hwnnw. Mae cynllunio'r gweithlu yn un o'r arfau pwysicaf sydd ar gael i chi, ac eto nid ydych chi'n fodlon derbyn yr angen am ysgol hyfforddiant meddygol newydd yn y gogledd. Ni fydd unrhyw Lywodraeth yn San Steffan yn gwneud hyn i ni; cyfrifoldeb eich Llywodraeth Lafur chi yw hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet Llafur bellach wedi cyfaddef cyfrifoldeb am y diffyg cynllunio cyn pwysau'r gaeaf. Mae'n bryd, Prif Weinidog, i chithau wneud yr un peth nawr. O ystyried yr ymddiheuriad hwnnw gan yr ysgrifennydd dros Iechyd, a wnewch chi dderbyn cyfrifoldeb nawr am fethu â hyfforddi digon o feddygon ar gyfer GIG Cymru?

Dim o gwbl. Rydym ni'n gweld bod yr ymgyrch recriwtio yr ydym ni wedi ei rhoi ar waith wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran recriwtio meddygon. Ni allwch chi recriwtio meddygon ar unwaith, yn enwedig arbenigwyr damweiniau ac achosion brys, ac mae'n hynod bwysig—. Mae gennym ni gyfleusterau hyfforddi ar waith, ond mae'n bwysig dros ben bod yr awyrgylch proffesiynol cywir ar waith i gadw meddygon a'u denu yn y lle cyntaf. Nid yw'n ymwneud yn unig â hyfforddi pobl yng Nghymru—nid ydym ni'n awtarciaeth feddygol.

Yn ail, mae'n hynod bwysig deall ac rwy'n credu fod Ysgrifennydd y Cabinet a'r byrddau iechyd lleol wedi gwneud eu gwaith cynllunio. Os edrychwn ni ar y cynnydd sydyn i alw a welsom, ni allai neb fod wedi rhagweld y cynnydd sydyn hwnnw i'r galw. Ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthi: nid wyf i'n derbyn y dylem ni gymryd cyfrifoldeb oddi wrth Llywodraeth y DU o ran y cap cyflog. Pam ar y ddaear ddylai fod rhaid i bobl Cymru ariannu methiant Llywodraeth y DU i ddiddymu'r cap cyflog? Sut gallwn ni gyfiawnhau i bobl sy'n pleidleisio drosom ni y dylem ni dalu am rywbeth y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdano? Rwy'n cytuno â hi, rwy'n credu y dylai'r cap cyflog gael ei ddiddymu, ond pam ddylai fod rhaid i bobl Cymru dalu amdano pan fo gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i wneud hynny? Mae cynnydd i gyflogau yn y gwasanaeth iechyd yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd: o ble mae'r arian yn dod? Os ydym ni'n mynd i wneud hynny, yna mae'n golygu arian yn dod allan o'r gyllideb yn rhywle arall.

Nid wyf yn anghytuno â hi. Rwy'n cytuno â hi am y cap cyflog. Mae hi a minnau o'r un safbwynt, ond ni allaf gytuno â hi y dylem ni, rywsut, lenwi'r bwlch y mae Llywodraeth y DU ei hun wedi ei greu. Gadewch i'r Torïaid dalu i sicrhau bod pobl Cymru yn gallu talu staff y GIG yn briodol.

13:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddechrau ar nodyn o gyfeillgarwch—na fydd yn parhau, yn sicr—ar gychwyn cyntaf y trafodion, o leiaf, a dymuno blwyddyn newydd dda i'r Prif Weinidog, a'i holl Weinidogion yn wir? Ac rwyf wirioneddol yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw, er fy mod i'n credu ei fod yn annhebygol o gael ei wireddu. Ac a gaf i ddychwelyd at y pwynt a godwyd gan Steffan Lewis gynharach? Rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno â hyn hefyd, a dweud ei fod wir yn ysbrydoliaeth i ni gyd ei fod yma heddiw, ac os nad yw'n rhagolwg rhy frawychus, rwy'n ei gefnogi'n llwyr yn ei frwydr yn erbyn ei glefyd ofnadwy.

Croesawaf y gronfa bontio y mae'r Prif Weinidog wedi ei chyhoeddi, ond onid yw'n cytuno â mi y byddai honno'n llawer mwy effeithiol pe na byddai Llywodraeth Cymru mor benderfynol o besimistaidd am y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit? Ac a gaf i ofyn iddo, yn 2018, am newid agwedd tuag at y cyfle hwn i Brydain gyfan? Ac os yw'n fwy cadarnhaol a brwdfrydig am y dyfodol, yna bydd gan fusnesau Cymru eu hunain fwy o hyder yn y dyfodol, a bydd buddsoddiad yn cynyddu, a byddwn i gyd yn well ein byd.

Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ddymuno'n dda iddo yntau hefyd, a dweud wrtho fy mod i'n ei longyfarch ar ehangiad dros dro ei grŵp? Rwy'n gwybod na wnaeth bara'n hir iawn, ond dyna ni, yn ôl i'r pum enwog.

O ran cronfa'r UE, mae busnesau yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n poeni am Brexit. Maen nhw'n poeni am natur y berthynas fasnachu gydag Ewrop; dyna eu prif farchnad, a pham na ddylai fod? Mae mwy na 60 y cant o'n hallforion yn mynd yno, mwy na 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd yno. Ffantasi yw awgrymu y bydd marchnad neu farchnadoedd newydd yn ymddangos o rywle erbyn y flwyddyn nesaf i gymryd lle yr holl allforion hyn. Os na allwn ni gael ein perthynas gyda'n marchnad agosaf a mwyaf yn iawn, pa obaith sydd gennym ni o gynnal unrhyw fath o gytundeb gydag unrhyw farchnad neu wlad arall?

Mae'n rhaid gwneud hynny'n gyntaf, ac nid ydym ni'n gwybod sut y bydd Brexit yn edrych. Mae'n braf iawn gweld bod Llywodraeth y DU yn symud tuag at ein tir ni, o'i gymharu â lle'r oedden nhw y llynedd. Y llynedd, nid oedden nhw'n mynd i dalu am unrhyw fath o gytundeb ariannol, nid oedd ganddyn nhw ddim diddordeb yn ninasyddion yr UE, nid oedd sôn am gyfnod pontio: maen nhw wedi gwneud hynny i gyd. Rydym ni'n croesawu'r ffaith eu bod nhw wedi symud tuag at y golau yn yr ystyr hwnnw, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod: mae'n bwysig bod yn realistig a pheidio â bod yn freuddwydiwr pan ddaw i Brexit. Yn y refferendwm, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro gan aelodau ei blaid ei hun, 'Bydd cytundeb masnach; gallwn ni fod fel Norwy.' Nawr rydym ni'n clywed, 'Wel, peidiwch â phoeni am gytundeb masnach.' Wel, mae busnesau yn poeni am y diffyg cytundeb masnach.

Wel, a gaf i ymateb i ffraetheb y Prif Weinidog am ehangiad dros dro ein grŵp? Mae UKIP wedi gwneud llawer iawn ers dechrau'r flwyddyn i ddiddanu'r wlad a chodi calonnau pob un ohonom ni. Ond, rydym ni yma i ymladd dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo a byddwn yn parhau y ymladd fel yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda grŵp o bump.

Ond un o'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i ni os nad ydym yn rhan o'r farchnad sengl yw ein bod ni'n sicrhau rheolaeth ar reoleiddio wedyn. Bydd wedi gweld, yr wythnos diwethaf, bod y gyfarwyddeb marchnadoedd mewn offerynnau ariannol wedi dod i rym drwy'r UE gyfan. Mae hon yn 7,000 o dudalennau o hyd, mae'n cynnwys 1.4 miliwn o baragraffau, mae chwe gwaith maint y Beibl, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ariannol sy'n delio mewn cyfranddaliadau, bondiau, deilliadau—pob offeryn ariannol yn wir—gaffael màs enfawr o ddogfennau, y bydd yn rhaid iddyn nhw eu cyhoeddi a'u cadw am bum mlynedd wedyn, gan orfodi costau aruthrol ar gwmnïau gwasanaethau ariannol. Os ydym ni y tu allan i'r farchnad sengl, gallwn gwtogi'r baich rheoleiddio hwnnw heb unrhyw berygl i'r cyhoedd o gwbl. Mae Dulyn wedi gwneud llwyddiant mawr o ehangu ei busnesau gwasanaethau ariannol trwy gael mantais dreth trwy leihau treth gorfforaeth. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y gallai Caerdydd, fel canolfan ariannol sy'n datblygu, elwa'n fawr ar system rheoleiddio ariannol symlach gan wasanaethu budd y cyhoedd yn briodol? Mae deg y cant o'r bobl sy'n gweithio yng Nghaerdydd yn y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, maen nhw'n cyfrannu £1.2 biliwn y flwyddyn o werth ychwanegol gros ac, yn wir, mae'n £3 biliwn yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y byddai'n beth da pe byddai'n ceisio cael rheoleiddio cymesur yn y sector gwasanaethau ariannol fel ffordd o roi hwb i'r diwydiant gwasanaethau ariannol yma yng Nghymru?

13:55

Yn gyntaf oll, nid wyf yn gwarafun gallu ei blaid i ddarparu adloniant i ni, fel y dywedodd yn briodol. Ond, gan droi at y pwyntiau a wna, yn gyntaf oll, nid yw'r mater wedi ei ddatganoli, fel y mae'n gwybod, ond, o ran ei egwyddor, nid wyf yn cytuno ag ef mai dadreoleiddio helaeth yw diben Brexit. Bydd yn rhaid i'n sector gwasanaethau ariannol weithredu yn y farchnad Ewropeaidd o hyd. Os nad yw'n dilyn rheolau'r farchnad Ewropeaidd, ni fydd yn gallu gweithredu yno, a bydd hynny'n arwain at oblygiadau enfawr i swyddi, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yng ngweddill y DU, yn enwedig yn y Ddinas. Mae'r Ddinas wedi bod yn fan lle mae llawer iawn o weithrediadau Ewropeaidd wedi eu cynnal. Os bydd y rheoliadau yn y DU yn sylweddol wahanol, ni fydd pobl yn dod i'r DU, gan eu bod nhw eisiau gweithredu mewn marchnad fwy.

Yn ail, mae'n rhaid i ni gofio bod argyfwng ariannol 2007 wedi cael ei achosi, i raddau helaeth o leiaf, gan ddadreoleiddio gwasanaethau ariannol, a'r ffaith y rhoddwyd cyfle i arianwyr anghyfrifol chwarae o gwmpas gydag arian pobl, benthyg i bobl nad oedd ganddynt unrhyw obaith o'u had-dalu, a chwalodd y system ariannol o ganlyniad i hynny. Felly, o'm safbwynt i, oes, mae'n rhaid i reoleiddio fod yn gymesur, ond mae'n rhaid iddo fod yno oherwydd, yn blwmp ac yn blaen, o ystyried yr hyn a welsom yn 2007-08, ceir rhai sy'n gweithio mewn canolfannau ariannol mawr yn y byd hwn na ellir ymddiried arian pobl eraill iddynt.

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad oedd gan MiFID ddim i'w wneud â'r math o ymddygiad a achosodd yr argyfwng neu ei wneud yn waeth o lawer yn 2008, ac rwy'n atgoffa'r Prif Weinidog, wrth gwrs, bod gennym ni Lywodraeth Lafur, Canghellor y Trysorlys Llafur, a Phrif Weinidog Llafur a oedd ei hun eisiau system reoleiddio ysgafn bryf hynny. Wrth gwrs, dysgwyd gwersi mawr o hynny gan bob un ohonom ni. Ond, mae rheoliad fel MiFID II, sy'n gofyn am storio ac adalw llawer iawn o wybodaeth yn rhy fawr o lawer i unrhyw gorff rheoleiddio allu ei ddefnyddio'n effeithiol. Felly, mae'n gorfodi cost lethol ar gwmnïau ac, felly, ar y cyhoedd yn gyffredinol, sy'n cymryd cyfrifoldeb am bob treth fusnes yn y pen draw, heb unrhyw fudd ymarferol i unrhyw un o gwbl. Canlyniad hynny yw gyrru busnes gwasanaethau ariannol i ffwrdd o Ewrop yn gyfan gwbl i leoedd fel Efrog Newydd, Hong Kong, Singapore ac yn y blaen.

Felly, i Brydain, ceir cyfle gwych ar ôl Brexit, os na allwn ddod i gytundeb gyda'r UE. A ni sicrhaodd neb unrhyw fath o gytundeb masnach gyda'r UE erioed; nid oedd neb yn gallu gwneud hynny. Nid yw yn ein rhodd i orfodi'r UE i ddod i gytundeb gyda ni, y cwbl a ddywedasom ni oedd ei fod o fudd iddyn nhw eu hunain, fel y mae i ninnau, i ddod i gytundeb, ond ni all neb eu gorfodi nhw i wneud hynny. Ond os nad oes cytundeb o'r fath ar gael, yna mae'r byd y tu allan yna yn llawer mwy nag Ewrop: mae 85 y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i Ewrop. Oni ddylem ni fod yn gadarnhaol am y cyfleoedd hynny, yn hytrach na bod yn benderfynol o negyddol a dweud fod y dyfodol yn dibynnu ar yr hyn sy'n rhan o economi'r byd sy'n lleihau?

Wel, y peth yw, mae'n gwrth-ddweud ei hun nawr, oherwydd mae'n cwyno am gyfarwyddeb, ond yn y dyfodol, ni fydd gan y DU unrhyw ran o gwbl mewn dylanwadu ar y cyfarwyddebau hynny. Bydd yn rhaid i'r DU eu derbyn nhw neu beidio â chael mynediad at y farchnad Ewropeaidd. Mae llais y DU yn llawer llai nawr o'i gymharu â'r hyn yr oedd yn y gorffennol.

Yn ail, mae'n ymddangos ei fod yn meddwl bod y byd allan yna yn agored i fasnachu gyda'r DU. Mae marchnadoedd eraill yr un mor gaeedig. Os edrychwch chi ar yr Unol Daleithiau, mae honno'n farchnad nad yw'n masnachu'n rhydd gyda gweddill y byd, ac nid yw Tsieina'n gwneud hynny ychwaith, nac India. Mae'n ymddangos bod y syniad hwn ymhlith rhai yn ei blaid, rywsut, bod y byd ddim ond yn disgwyl i ddod i gytundebau masnach rydd gyda'r DU. Nid dyna mae'r gwledydd eraill yn ei ddweud yn sicr, ac yn sicr nid dyna fu'r profiad yn y gorffennol. Chwe neu saith mlynedd yw'r amserlen gyfartalog ar gyfer cytuno cytundeb masnach rydd. Mae gennym ni yn yr Unol Daleithiau Arlywydd sy'n rhoi America yn gyntaf. A yw ef wir yn credu y bydd gennym ni gytundeb masnach rydd teg gyda'r Unol Daleithiau gydag arlywydd sy'n agored ei farn ar ddiogelu diwydiant America? A fydd gennym ni, er enghraifft, TTIP drws cefn o ganlyniad i'r Bil Masnach, sy'n ein gorfodi i breifateiddio rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus—rhywbeth y byddwn yn ei wrthwynebu â'n holl nerth?

Ond, yn y pen draw, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, rydym ni yn y farchnad sengl ar hyn o bryd. Hoffwn i ni aros yn y farchnad sengl neu gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Mae gennym ni lawer iawn o gydgyfeirio â hi eisoes. Os na allwn ni ddod i gytundeb gyda marchnad lle mae gennym ni gymaint yn gyffredin i gychwyn, nid oes gennym ni unrhyw obaith o ddod i gytundeb â marchnadoedd eraill sy'n wahanol iawn, iawn, sydd â gwahanol reoliadau y byddai'n rhaid i ni geisio eu cysoni wedyn. Y farchnad Ewropeaidd yw ein marchnad fwyaf, mae ar garreg ein drws, mae gennym ni ffin dirol â hi, rydym ni'n allforio 60 y cant o'n hallforion iddi. Ni allwn ganiatáu i'n polisi ar y farchnad sengl Ewropeaidd gael ei ddallu gan lol cenedlaetholgar, gwirion.

14:00
Datblygu Economaidd

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51508

Nid oedd hynny wedi'i anelu ato fe, Llywydd. Ond a gaf i ddweud bod ein cynlluniau ar gyfer datblygu economaidd i’w gweld yn 'Ffyniant i Bawb' a’r cynllun gweithredu economaidd? Rŷm ni’n parhau i ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth i fusnesau Cymru drwy, er enghraifft, Busnes Cymru a’r banc datblygu, a hefyd yn buddsoddi mewn seilwaith ac yn cymryd camau i wella amodau busnes. 

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn naturiol, mae ffigurau GVA diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod economi Cymru yn parhau i fod yn waeth na gweddill y Deyrnas Unedig, gyda GVA y pen dim ond yn 72 y cant o'r cyfartaledd Prydeinig. Mae gennym ni hefyd anghydraddoldeb economaidd sylweddol yma yng Nghymru, gyda Chastell-nedd Port Talbot o fewn fy rhanbarth i, er enghraifft, bron i 10 y cant islaw cyfartaledd Cymru.

Nawr, mae pobl yn teimlo bod yr ardal yn cael ei hesgeuluso, ac nid ydynt yn argyhoeddedig y bydd ymdrechion y fargen ddinesig a thasglu'r Cymoedd yn cyflawni'r newid economaidd angenrheidiol i'n cymunedau, yn enwedig yng nghymoedd y sir. A ydych chi'n cytuno, felly, bod angen i Lywodraeth Cymru a chyngor Castell-nedd wneud llawer mwy i sicrhau bod ardaloedd fel cymoedd Abertawe, Nedd ac Afan yn dal i fyny â gweddill Cymru a'r Deyrnas Unedig yn economaidd?

Wel, yn iawn, ond a gaf i ddweud, i ddechrau, wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lot fawr o waith ynghlŷn â sicrhau dyfodol gwaith dur Port Talbot? Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim, o beth y gallaf i ei weld. Fe siaradais i lawer gyda Tata yma yng Nghymru, a hefyd yn Mumbai, a gweithio gyda'r undebau er mwyn sicrhau dyfodol y gwaith dur. Rwy'n cofio, blwyddyn a hanner yn ôl, roedd y dyfodol hwnnw yn edrych yn sigledig dros ben. Ac, wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod y gwaith dur yn talu'n dda yn yr ardal. Ac, wrth gwrs, trwy ddefnyddio tasglu'r Cymoedd, a hefyd gweithio gyda'r fargen ddinesig, mae'n hollbwysig bod y gwaith yn parhau. A gaf i ddweud ei fod e'n hollbwysig bod Castell Nedd Port Talbot yn ystyried eu bod nhw'n rhan o fae Abertawe ac yn gweithio gyda chyngorau eraill ym mae Abertawe er mwyn sicrhau dyfodol economaidd yr ardal yn gyfan gwbl?

Ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, sef y rhan helaeth o saith mlynedd erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £320 miliwn o arian trethdalwyr tuag at fusnesau yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys Gorllewin De Cymru. Erbyn mis Hydref, dim ond ar ddiwedd y flwyddyn diwethaf, clywsom fod llai na £7 miliwn o'r cyfanswm hwnnw wedi cael ei ad-dalu hyd yn hyn, a, hyd yn oed o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n croesawu mentro gofalus, mae honno wir yn gyfradd ad-dalu eithaf gwael. A fydd—ac rwy'n dyfynnu hyn—

y Contract Economaidd rhwng busnes a llywodraeth,

y cyfeirir ato yn y cynllun economaidd newydd, yn cynnwys gofyniad bod pob benthyciad yn cael ei ad-dalu yn llawn ac yn brydlon, ac yn cynnwys y darpariaethau perthnasol ar gyfer gorfodi?

Wel, bydd, ond nid yw hi'n dweud nad yw benthyciadau yn cael eu talu yn brydlon; y cwbl mae'n ei ddweud yw bod canran gymharol fach wedi cael eu had-dalu, y byddwn yn ei ddisgwyl ar hyn o bryd beth bynnag, o ran y broses—oni bai ei bod hi'n dweud ein bod ni'n mynnu bod benthyciadau yn cael eu had-dalu mewn cyfnod o amser nad yw'n briodol o ran creu swyddi. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod o'r safbwynt erioed, dros y blynyddoedd, o sicrhau bod arian yn cael ei adennill lle gellir gwneud hynny. Rydym ni wedi cymryd camau i wneud hynny pan ddaw i gyllid grant, er enghraifft, a byddwn yn parhau i wneud hynny. A gaf i ei hatgoffa bod y pecyn gwerth £60 miliwn a roddwyd ar y bwrdd gennym wedi sicrhau goroesiad Tata Port Talbot ar adeg pan na wnaeth Llywodraeth y DU unrhyw beth? Gofynnwyd i Lywodraeth y DU ymdrin â phrisiau ynni; ni wnaeth unrhyw beth o gwbl am hynny. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU ymdrin â'r mater o bensiynau; ni wnaeth unrhyw beth am hynny ychwaith. Gweithiodd Tata a ninnau gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru wrth i Lywodraeth y DU sefyll o'r neilltu a gwneud dim.

Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi Tata, yn enwedig yn fy ardal i, a methiant Llywodraeth y DU—dydyn nhw wedi gwneud dim yn llythrennol. Ond y cwestiwn yw—. Hoffwn ymhelaethu ar bwynt Dai Lloyd, rwy'n credu: mae canlyniad Tata yn colli ei weithlu wedi golygu bod wedi swyddi medrus sy'n talu'n dda wedi diflannu. Fel y gwelwn, mewn diwydiannau a busnesau sy'n dod i mewn, maen nhw'n tueddu i fod fwy ar sail contractau isafswm cyflog a dim oriau. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i annog swyddi i'r ardal sy'n cyfateb y sgiliau a'r lefelau cyflog yr ydym ni'n eu gweld yn cael eu colli?

14:05

Mae'n ymwneud â hyfforddiant mewn swydd. Yn gyntaf oll, polisi economaidd diwedd y 1980au a dechrau'r 1990au oedd denu buddsoddiad i Gymru yn seiliedig ar y ffaith fod gennym ni gyfraddau cyflog is nag unman arall yng ngorllewin Ewrop. Mae'r dyddiau hynny, diolch byth, wedi mynd. Rydym ni'n denu buddsoddiad sy'n talu'n dda erbyn hyn. Mae gennym ni fuddsoddwyr yn dod i Gymru na fydden nhw fyth wedi dod yma 20 mlynedd yn ôl. Ni fydden nhw wedi ystyried Cymru fel lle y gallen nhw gael y gweithlu medrus, sy'n cael ei dalu'n dda sydd ei angen arnynt. Dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni'r cynllun gweithredu economaidd. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi cymaint o bwyslais ar sgiliau trwy gynlluniau fel Twf Swyddi Cymru, i wneud yn siŵr bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ennill mwy pan fydd buddsoddwyr yn dod i Gymru a phan fyddant yn sefydlu eu busnesau eu hunain. Dyna'r ateb, yn fy marn i, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld gwerth ychwanegol gros y pen yn gwella dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod? OAQ51524

Byddwn yn cymryd rhan lawn yn y dathliadau ledled y DU ar gyfer canfed pen-blwydd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Bydd mwy o fanylion am sut y byddwn yn dathlu'r canmlwyddiant hwnnw trwy gydol y flwyddyn ar gael y mis hwn.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ym mis Tachwedd 2017, dangosodd data gan Fforwm Economaidd y Byd waethygiad y bwlch rhwng y rhywiau o flwyddyn i flwyddyn am y tro cyntaf ers 2006. A dweud y gwir, mae'r grŵp yn rhagweld y byddai'n cymryd canrif i gau'r holl feysydd cydraddoldeb y mae'n eu monitro yn fyd-eang, cynnydd sylweddol o'r 83 mlynedd a ragwelwyd yn 2016. Maen nhw'n rhagweld y bydd yn rhaid i fenywod aros 217 mlynedd cyn y byddan nhw'n ennill cymaint â dynion ac yn cael eu cynrychioli'n gyfartal yn y gweithle. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi nod Chwarae Teg o wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau gyda'u meincnod cyflogwr chwarae teg, ac ymgorffori hwn yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru?

Gwnaf. Rydym ni'n gweithio gyda busnesau, undebau llafur ac eraill ar weithredu'r cynllun, y cynllun gweithredu economaidd, a bydd hwnnw'n cael ei lywio gan gyngor ac argymhellion y bwrdd gwaith teg. Gan ein bod ni wedi gofyn i'r bwrdd gwaith teg roi argymhellion i ni, ni fyddai'n briodol achub y blaen ar eu canfyddiadau trwy ymrwymo i feincnod Chwarae Teg ar hyn o bryd. Ond rwy'n croesawu'n fawr iawn menter Chwarae Teg o ddatblygu'r meincnod, a fydd yn helpu i gynorthwyo sefydliadau i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle.

Gan mlynedd ar ôl i fenywod gael y bleidlais a bron i 50 mlynedd ar ôl Deddf Cyflog Cyfartal 1970, mae'n warthus bod gennym ni fwlch cyflog o tua 13 y cant rhwng y rhywiau yma yng Nghymru o hyd. Yn ddiddorol ddigon, mae'r bwlch cyflog uchaf yng Nghymru yn eich etholaeth chi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'n ganran rhyfeddol o 27 y cant. Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd neu ydych chi wedi eu cymryd, gan edrych ar eich etholaeth eich hun efallai, i fynd i'r afael â hyn, ond yn fwy eang ledled Cymru? Oherwydd chi yw'r Prif Weinidog, a chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod cydraddoldeb gwirioneddol ledled Cymru i ddynion ac i fenywod.

Yn gyntaf oll, cyflwynwyd dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus gennym ni yn 2011 i fynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog a chyflogaeth, a gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau bryd hynny yn benodol. Mae'r dyletswyddau hynny yn berthnasol yng Nghymru. Maen nhw'n eang, ac yn cynnwys yr angen i ddeall ac ymdrin ag achosion gwahaniaethau cyflog i bawb. Mae gwella lle menywod yn y gweithlu yn newid strwythurol tymor hir. Rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud—dywedodd yr Aelod hynny, wrth gwrs—trwy raglenni fel ein prosiect Cenedl Hyblyg 2, sy'n cael ei redeg gan Chwarae Teg. Rydym ni'n gweld, gyda'r hyfforddiant a'r cymorth priodol, y gallwn ni helpu menywod i symud i mewn i swyddi rheoli ac uwch. Ac, wrth gwrs, fel y soniais yn gynharach, bydd y cynllun gweithredu economaidd yn cael ei lywio gan yr argymhellion sy'n deillio o'r bwrdd gwaith teg.

Mae'n bwysig cofio beth yn union ddigwyddodd yn 1918, wrth gwrs, pan gafodd menywod bleidleisio am y tro cyntaf, ond nid oedd yna ddim cydraddoldeb efo dynion. Roedd dynion 21 oed yn cael pleidleisio, ond roedd yn rhaid i fenywod fod yn 30 oed ac yn berchen ar eiddo. Mi gymerodd hi 10 mlynedd arall cyn i ferched a dynion gael eu trin yn gydradd fel pleidleiswyr. Wrth gwrs, rydw i'n siŵr eich bod yn cytuno ein bod yn bell o fod mewn sefyllfa o gydraddoldeb rhwng menywod a dynion yng Nghymru. Rydym ni newydd glywed am y gender pay gap.

A ydych chi'n cytuno bod adroddiad 'Senedd Sy'n Gweithio i Gymru', sy'n argymell integreiddio cwota rhywedd i'r system etholiadol ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol, yn rhywbeth i fynd ar ei ôl o? Ac a ydych chi'n cytuno, os bydd y Cynulliad yn mabwysiadu dull STV, y dylai hi fod yn ofynnol drwy gyfraith i bob plaid gyflwyno hanner ei hymgeiswyr yn fenywod a'r hanner arall yn ddynion? 

14:10

Nid ydw i yn erbyn hynny mewn egwyddor o gwbl. Mae yna lot o bethau i'w trafod ynglŷn ag STV, er enghraifft, a'r ffordd o ethol Aelodau i'r lle hyn. Mae record—wel, edrychwch ar feinciau Llafur Cymru yma. Ond mae beth mae wedi ei ddweud, a ddylem ni ystyried neu ddadlau a ddylai fod yna gyfartaledd rhwng menywod a dynion yn y lle hwn, rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylem ni ei drafod er mwyn sicrhau bod y record da sydd wedi bod gyda ni dros y blynyddau yn parhau yn y pen draw. 

Penderfyniad China i Wahardd Mewnforion Plastig

5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad China i wahardd mewnforion plastig ar Gymru? OAQ51528

Cyfeiriaf yn ôl at yr atebion a roddais i'r cwestiwn blaenorol, ond gallaf ddweud mai ein hasesiad ni yw bod gan Gymru gryn dipyn o gydnerthedd yn erbyn y gwaharddiad oherwydd ein polisïau ar gyfer ailgylchu ansawdd uchel. Hefyd, rydym ni'n gweithio i gael ansawdd uwch fyth ac i gynyddu'r nifer sy'n ailgylchu plastig yng Nghymru, gan ddiogelu busnesau a chreu swyddi.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod atal y defnydd o blastig yn y lle cyntaf yn allweddol i leihau unrhyw allforion yr oedd eu hangen. A yw e'n credu mai un o'r ffyrdd o bosibl o wneud hyn yw cynnig cymhellion i awdurdodau lleol ddod â ffynhonnau dŵr yfed yn ôl i ddefnydd? Oherwydd, os oes gennych chi ffynhonnau dŵr yfed ar gael yn eang, mae hynny'n cael gwared ar yr angen am y poteli plastig o ddŵr y mae llawer o bobl yn eu cario o gwmpas. Felly, a yw'n credu y byddai cyflwyno ffynhonnau yn eang yn ffordd dda o symud ymlaen?

Mae'n syniad diddorol, mae'n rhaid i mi ddweud. Bu amser maith ers pan oedd ffynnon yfed yn gweithio yn fy nhref enedigol i. A dweud y gwir, nid wyf yn ei chofio yn gweithio, ond mae'n dal i fod yno yn fy nhref enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn defnyddio ffynhonnau pe bydden nhw yno. Nid yw'n amser maith mor faith â hynny yn ôl y byddai'r syniad o brynu dŵr mewn potel blastig wedi ymddangos yn rhyfedd iawn i lawer ohonom ni, pan oedd yn dod allan o'r tap. Nid tan i mi fyw yn Llundain ddiwedd y 1980au y sylweddolais pam roedd pobl yn Llundain yn yfed dŵr potel, o ystyried ansawdd y dŵr a oedd yno, yn sicr ar y pryd.

Ond rwy'n credu bod hwnnw'n syniad sy'n werth ei ystyried. Pa un a oes unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi o ganlyniad, wn i ddim. Ni allaf weld, yn synhwyrol, pam y dylai fod, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn ymgymryd ag ef ac yn ysgrifennu at yr aelod ymhellach yn ei gylch.

A yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog bod y meintiau enfawr o blastig yr ydym ni wedi bod yn eu hallforio i Tsieina wedi cael eu hailgylchu'n briodol, yn hytrach nag, er enghraifft, cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi?

Wel, rydym ni'n gwybod na allwn ni barhau—. Hynny yw, o ran yr hyn sy'n digwydd yn Tsieina, mater i'r Tsieineaid yw hynny yn y pen draw, ond maen nhw wedi ei gwneud yn eglur iawn na fyddan nhw'n derbyn mwy o blastig. Rwy'n credu, yn y tymor canolig i'r tymor hir, y gallai gwaharddiad y Tsieineaid helpu i wella ansawdd y deunyddiau ailgylchadwy. Bydd yn annog buddsoddiad mewn seilwaith ailgylchu yma yng Nghymru a gallai gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad economi gylchol.

Mae'r her yno nawr i fusnesau weld y cyfle sy'n cyflwyno ei hun nawr, oherwydd nid yw'n wir mwyach bod dewis amgen rhad sy'n ei gwneud yn anodd i'r model busnes weithio. Ceir cyfle nawr i ailgylchu mwy yng Nghymru a chreu mwy o swyddi yng Nghymru.

Dylai fod yn brofiad cenedlaethol, does bosib, nad ydym ni yn allforio ein gwastraff ac, yn benodol, nad ydym ni'n allforio gwastraff plastig. Ie, gostwng faint o blastig yr ydym yn ei ddefnyddio, fel yr oedd Julie Morgan yn awgrymu, ond, pan fo plastig yn cael ei ddefnyddio, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ailddefnyddio cyn iddo hyd yn oed gael ei ailgylchu. Nawr, mae ailddefnyddio yn dibynnu ar system debyg i ryw fath o flaendal ar boteli, so rhyw fath o gynllun dychwelyd blaendal. Mae yna gytundeb rhwng ei blaid yntau a'm plaid innau ynglŷn ag edrych i mewn i hynny yn sgil y gyllideb. Pa fath o rôl y mae e'n ei gweld ar gyfer cytundeb o'r fath ac ar gyfer cynllyn o'r fath i wneud yn siŵr ein bod ni'n ailddefnyddio mwy o blastig?

Dyna un peth, wrth gwrs, y bydd adroddiad y mis nesaf yn ei ystyried: ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu a'i ailddefnyddio, a hefyd, wrth gwrs, ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n gallu hybu pobl i sicrhau eu bod nhw'n defnyddio llai o blastig. Y broblem sydd wastad wedi bod gyda ni, wrth gwrs, yw bod y rhan fwyaf o'r gwastraff—nid dim ond plastig, ond y rhan fwyaf o'r gwastraff—sy'n codi yng Nghymru yn dod o'r tu fas i Gymru. Nid ydym ni'n gallu dodi rheolau i mewn ynglŷn â fel y mae pethau yn cael eu lapio, ac rŷm ni wastad wedi gorfod delio â beth sy'n dod i mewn i Gymru. Ond nid yw hynny'n meddwl allwn ni ddim ystyried cynlluniau er mwyn lleihau'r plastig sydd ddim yn cael ei ailddefnyddio. Dyna beth fydd y rhaglen yn edrych arno, a dyna beth fydd yr adroddiad—rhan o'r adroddiad—yn edrych arno pan fydd yn cael ei gyhoeddi mis nesaf.

14:15
Blaenoriaethau ar gyfer Aberafan yn 2018

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan yn 2018? OAQ51509

Gwnaf. Nodir ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys Aberafan, yn y cynllun gweithredu economaidd, 'Ffyniant i Bawb'.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae gan Lywodraeth Cymru yn amlwg y cysyniad o ardaloedd menter fel un o'i ffactorau pwysig o ran twf economaidd lleol, ond mae'r unig ardal fenter yng Ngorllewin De Cymru ym Mhort Talbot mewn gwirionedd. Cafodd ei chreu o ganlyniad i'r ansicrwydd yn y maes cynhyrchu dur, ac rwy'n gwerthfawrogi buddsoddiad Llywodraeth Cymru gyda Tata, ond ceir ansicrwydd ynghylch dyfodol y gwaith dur o hyd oherwydd y fenter ar y cyd, ac nid ydym yn gwybod manylion y fenter ar y cyd honno eto. Felly, mae angen cadw'r ardal fenter honno'n weithredol ac yn ddeniadol i bobl.

Nawr, mae'n ymddangos mai ychydig iawn o symudiad sydd yn yr ardal fenter ar hyn o bryd o ran mewnfuddsoddi a gweld swyddi yn dod i mewn, ond efallai fod hynny oherwydd y ffaith fod carchar yn dod i'r ardal fenter. Mae'n bendant bod ansicrwydd yno oherwydd hynny. Nawr, yr hyn yr ydym ni eisiau yw i Lywodraeth Cymru gael gwared ar yr ansicrwydd hwnnw. Mae'n hawdd, oherwydd y cwbl y mae'n rhaid i chi ei wneud yw dweud nad ydych chi'n mynd i werthu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a bydd yr ansicrwydd hwnnw'n diflannu, a gall busnesau fod yn edrych ymlaen at yr ardal fenter honno fel dewis. Mae'n bwysig bod y defnydd diwydiannol a masnachol o'r tir hwnnw ar gyfer datblygu'r economi leol a thwf, ac nid ar gyfer carchar.

Wel, gallaf ddweud wrth yr Aelod fy mod i wedi derbyn ymateb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i lythyr a anfonais. Nid yw'r ymateb yn foddhaol, yn fy marn i, ac felly mae ein safbwynt yn parhau yr un fath. Nid ydym ni mewn sefyllfa i werthu'r tir hwnnw, gan nad yw'r ymateb yn foddhaol. Gallaf ddweud, er mwyn ei gynorthwyo, o ran Port Talbot, y dyfarnwyd cymorth ariannol gwerth cyfanswm o £676,000 i tua 37 o geisiadau gan Lannau Port Talbot i'w helpu i fantoli cost ardrethi busnes. Rydym ni wedi sicrhau lwfansau cyfalaf uwch ar gyfer tri safle penodol yn ardal fenter y glannau er mwyn hybu cyfleoedd buddsoddi a chyflogi ar gyfer yr ardal, a bydd y lwfansau cyfalaf uwch hynny ar gael mewn ardaloedd penodedig ym Mharc Ynni Baglan, ystâd ddiwydiannol Baglan a dociau Port Talbot.

Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru? OAQ51527

Gwnaf. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol a chadarnhaol. Mae gwaith i'w wneud o hyd. Dangosir ein hymrwymiad i frwydro digartrefedd gan y flaenoriaeth a roddir iddo yn 'Ffyniant i Bawb' ac rydym ni wedi gweld buddsoddiad ariannol ychwanegol sylweddol o ran ymdrin â chysgu ar y stryd, gyda thai, gyda digartrefedd ieuenctid ac iechyd meddwl.

Diolch. Rydym ni wedi sylwi, fel Aelodau Cynulliad, eich bod chi wedi gwneud cyhoeddiad cyn y Nadolig o £10 miliwn ychwanegol i ddigartrefedd ieuenctid, gyda'r bwriad o ddileu hynny mewn 10 mlynedd gyda £10 miliwn. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi ychydig mwy o fanylion am hynny, oherwydd fe ofynnais i Llamau, y mae'n ymddangos yw'r unig sefydliad sy'n gysylltiedig â'r cyhoeddiad hwnnw, beth oedd y manylion, ac ni allen nhw roi mwy o fanylion i mi. Fe wnes i ymdrech hefyd i gysylltu â sefydliadau eraill yn y sector digartrefedd ac nid oedd ganddyn nhw unrhyw syniad beth oedd eich bwriad ychwaith. Felly, a wnewch chi amlinellu beth ydyn nhw, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith fod rhaglen 10 mlynedd ar waith eisoes, y gweithiwyd arni gyda Phlaid Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru'n Un? Wrth gwrs, nid ydym ni'n mynd i droi ein cefnau ar y cyhoeddiad o £10 miliwn, ond rydym ni eisiau gwybod pwy fydd yn gallu gwneud cais am y contractau hynny, os yw'n mynd i fynd i gontract cyhoeddus cyffredinol, a sut y gallwn ni graffu ar yr arian hwnnw—oherwydd mae 10 mlynedd yn bell i ffwrdd, wrth gwrs, a byddem yn gobeithio y byddem ni mewn gwirionedd wedi gallu dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn hyn.

Yn gyntaf oll, mae 10 mlynedd yn ymddangos yn amser hir, ond dyna mae'r sector yn ei ddweud wrthym sy'n realistig o ran rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Cyn belled ag y mae'r arian yn y cwestiwn, bydd ar gael i unrhyw sefydliad sy'n gallu bodloni'r meini prawf cywir er mwyn helpu i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei ddileu. Ond fe es i Llamau cyn y Nadolig, siaradais â phobl ifanc a oedd wedi cael eu helpu gan Llamau yn benodol. Un sefydliad ymhlith llawer yw Llamau, wrth gwrs, ac roedd yn galonogol gweld y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud a'r gwaith y maen nhw yn ei wneud. Ond rydym ni eisiau gweithio gyda'r rhai sydd yn y sector nawr i wneud yn siŵr bod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau gyda'r bwriad a rennir o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Adeiladu Tai Awdurdodau Lleol

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ51530

Gwnaf. Mae adeiladu tai yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth. Mae awdurdodau lleol yn disgwyl adeiladu 1,000 o gartrefi cyngor newydd tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni hefyd yn gwarchod y stoc tai cymdeithasol presennol trwy roi terfyn ar yr hawl i brynu.

Prif Weinidog, rwyf i wedi dweud o'r ochr hon i'r tŷ y byddem ni'n cefnogi'r symudiad i awdurdodau lleol yn adeiladu tai cymdeithasol unwaith yn rhagor pe ystyrid bod honno'n ffordd strategol o wella'r lefel o adeiladu tai. Dim ond 16 o gartrefi gafodd eu cwblhau yn y sector awdurdod lleol y llynedd, 13 o'r rheini mewn un awdurdod, sir y Fflint. Felly, os ydyn nhw'n mynd i ddod yn adeiladwyr mawr, bydd angen iddyn nhw wella eu galluoedd a'u sgiliau yn y maes hwn, ac mae angen ystyried hynny nawr, gan ein bod ni'n wynebu argyfwng dros 15 neu 20 mlynedd os na fyddwn ni'n dechrau adeiladu llawer iawn mwy o gartrefi.

14:20

Wrth gwrs, mae tai cyngor yn rhywbeth yr ydym ni eisiau eu hannog, ac rydym ni wedi gwneud hynny yn ariannol. Nid yw'n golygu y gallan nhw ddatrys yr holl broblemau i gyd ar eu pen eu hunain, ond mae'n hynod bwysig eu bod nhw'n gallu darparu yn eu hardal leol. Roeddwn i gyda'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, yn ddiweddar, a gwelais drosof fy hun y gwaith da y mae cyngor Abertawe yn ei wneud yn ardal Mynydd Newydd yn ei etholaeth. Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu 543 o gartrefi newydd fforddiadwy yn rhan o'i raglen partneriaeth tai. Gwn fod Ynys Môn yn bwriadu adeiladu 198 o gartrefi cyngor newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae sir y Fflint yn gwneud cynnydd gyda'r broses o ddatblygu 200 o gartrefi cyngor newydd, ac mae sir Gaerfyrddin—hoffwn i wneud yn siŵr fod pawb yn gwybod nad wyf i'n dewis cynghorau penodol sydd o dan reolaeth pleidiau penodol—drwy ei gynllun cyflenwi tai fforddiadwy yn bwriadu darparu dros 60 o dai cyngor newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gwaith hwnnw sy'n cael ei gyflawni yn Abertawe.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar Julie James i wneud y datganiad.

Diolch, Llywydd. Mae yna dri newid i waith yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan ynglŷn â'r ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol, yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn. Dilynir hyn gan ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar god erlyn Llywodraeth Cymru, ac yn olaf, bydd llai o amser yn cael ei neilltuo yfory ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae gwaith y tair wythnos nesaf i'w weld ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau ar ffurf electronig.

Arweinydd y Tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â'r ffordd fynediad ogleddol ym Mro Morgannwg, sy'n dod o Barc Menter Sain Tathan? Heddiw, cafodd Aelodau sy'n cynrychioli'r ardal benodol honno e-bost oddi wrth drigolion y parc preswyl ar Millands road—parc carafanau Millands—sydd wedi amlygu sut y bydd tagfeydd ar y ffordd honno yn ystod datblygiad y ffordd fynediad ogleddol. Mae hyn yn mynd i'w gwneud hi'n anodd i 40 o breswylwyr gael mynediad at y safle. Nid yw'n ymddangos bod—a dyna pam rwy'n gofyn am y datganiad—nid yw'n ymddangos y bu llawer o drafod neu ymgynghori â thrigolion ynghylch pa ddewisiadau amgen allai fod ar gael, ac fel y pwysleisiwyd i mi, mae preswylwyr y safle yn dibynnu ar bob math o gerbydau yn cael mynediad, gan gynnwys casglu sbwriel ac ar gyfer gwaith cyffredinol bywyd bob dydd er enghraifft fel y post ac ati yn cyrraedd y safle. Byddwn yn croesawu datganiad fel y gallwn ni gael eglurder ac er mwyn i ni roi sicrwydd i'r trigolion yno, bod dewisiadau wedi cael eu hystyried ac y caiff datrysiadau eu rhoi ar waith.

Diolch ichi am y cwestiwn yna. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi y bydd yn sicrhau y bydd swyddogion yn trafod yn briodol gyda'r Aelod a chyda'r trigolion i sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei datrys yn foddhaol.

Tybed a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd yr amgylchedd ynglŷn â dosbarthu gorlifdiroedd yng Nghymru. Bydd pobl yn ymwybodol, yr wythnos diwethaf, a thros gyfnod y Nadolig, mewn gwirionedd, bu llawer mwy o broblemau draenio yn ardal Baglan Moors, sef yr ardal sy'n cael ei chynnig ar gyfer adeiladu'r carchar. Mae llu o weithwyr Drainforce wedi bod yno. Mae trigolion wedi anfon lluniau o'r problemau hynny ataf, ac roeddem ni'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad gan Ysgrifennydd yr amgylchedd fel y gallwn ni ddeall rhai o'r problemau hynny o safbwynt asiantaeth yr amgylchedd yma yng Nghymru, ac fel y gall trigolion sôn wrthyn nhw am y pryderon.

Fy ail gwestiwn yw: cefais addewid y byddwn i'n cael ymateb ynghylch sefyllfa cylch chwarae Gweithredu dros Blant yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Fe wnes i gael rhywbeth, ond fe gafodd ei alw yn ôl gan y Gweinidog plant. Rwy'n gofyn eto heddiw oherwydd dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrth y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio, bod Aled Evans, y swyddog rheoli, wedi ymgynghori â nhw, ond mae nifer o'r rhieni wedi dweud wrthyf na ymgynghorwyd â nhw ynghylch y newidiadau. Felly, hoffwn i'r Llywodraeth ymateb ar fyrder fel y gallaf roi ateb i'r rhieni hynny sy'n eithaf pryderus ar hyn o bryd, fel yr oeddent cyn y Nadolig, i geisio dod i ddealltwriaeth ynglŷn â beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Diolch.

O ran yr ail gwestiwn, mae'r Gweinidog yn awgrymu i mi y dylen nhw gael yr ateb heddiw. Felly, gobeithio, caiff hynny ei ddatrys cyn bo hir. O ran y datganiad am y llifogydd, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn cyflwyno datganiad ynghylch y trefniadau cyffredinol ar gyfer llifogydd ac yn eu hadolygu ar ôl cyfnod y gaeaf, sy'n arferol pan fyddwn yn ystyried y mater hwn. Os oes gan yr Aelod broblemau penodol am ardal benodol, rwy'n awgrymu y dylai hi ysgrifennu at y Gweinidog a chael ymateb penodol iawn.

Ddeuddeg mis yn ôl, cefais ddadl fer ar yr achosion honedig o gam-drin bechgyn ifanc yn rhywiol yn ysgol Llandrindod ar gyfer pobl fyddar. Digwyddodd hyn yn yr 1950au a dygodd un o'm hetholwyr, Cedric Moon, yr achos i'm sylw. Rydym ni bellach wedi cyrraedd y cam lle mae un o'r dioddefwyr wedi derbyn cymorth cyfreithiol ac mae llythyr wedi ei anfon at Rondda Cynon Taf—yr awdurdod olynol—yn ceisio iawndal am y cam-drin rhywiol a ddioddefwyd. Anfonwyd hynny yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y mae'r math hwn o anghyfiawnder yn cael ei unioni ac a oes yna unrhyw ffordd o leihau'r costau cyfreithiol a'r straen ar bobl sydd yn hŷn erbyn hyn, sy'n agored i niwed, ac sy'n dymuno gwneud honiadau sy'n dyddio'n ôl ddegawdau—neu efallai ar gyfer y rhai nad ydyn nhw eisiau gwneud hawliad, ond efallai eu bod nhw'n dymuno cael cydnabyddiaeth neu ymddiheuriad?

14:25

Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod o bwysig, ac rwy'n gwybod y cafodd y materion sy'n codi yn y llyfr ac ati, eu trafod yn drylwyr yn ei dadl fer. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, y diweddar Carl Sargeant, wedi edrych ar bopeth a wnaethom ni ar yr adeg honno, i ddysgu o'r cam-drin yn y gorffennol ac i weithredu i sicrhau ein bod yn atal camgymeriadau tebyg rhag digwydd eto. Credaf mai digon yw dweud ein bod ni'n parhau i fod yn wyliadwrus a bod gwrando ar blant yn cael ei roi wrth wraidd ein polisïau, ein harferion a'n canllawiau. Rydym ni'n benderfynol y dylai plant gael llais. Hyd yn oed os ydyn nhw'n oedolion erbyn hyn, dylen nhw gael y llais y dylen nhw fod wedi ei gael pan oedden nhw'n blant ar y pryd. Rydym ni'n dal i fod eisiau pwysleisio mai diben y ddyletswydd i roi gwybod am blant sydd mewn perygl a'r ddyletswydd i roi gwybod am oedolion sydd mewn perygl yw sicrhau bod unrhyw bryderon am blant neu oedolion yn cael eu lleisio a'u hymchwilio'n gywir.

Rwy'n deall bod un o'i hetholwyr wedi cael cymorth cyfreithiol i weithredu ar y mater, ac rwy'n falch iawn o glywed hynny. Mae hynny er mwyn dwyn achos yn erbyn yr awdurdod olynol. Felly, mae yna drefniadau cyfreithiol ar waith i sicrhau bod yr awdurdod yn parhau i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am y pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Yn fy marn i, mae hi'n codi pwynt pwysig: nid mater i ni yw gwneud sylwadau ar achosion unigol, ond mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno wrth i ni edrych ar faterion cyffredinol ledled Cymru o ran sicrhau cyfiawnder, sydd wedi eu tanseilio'n sylweddol gan doriadau'r Torïaid i gymorth cyfreithiol, a'r materion  hynny o ran sicrhau cyfiawnder yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohonynt. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol iawn cael trafodaeth gyda'r Aelod y tu allan i'r Siambr ynglŷn â rhai o'r materion a godwyd yn benodol, a gweld a oes yna unrhyw beth penodol y dylem ni ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael y cyngor gorau posib ynglŷn â materion o'r fath yn y dyfodol. 

Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar ddechrau gwyliau'r Nadolig, cafodd yr Aelodau ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y gogledd, a galwaf am ddatganiad llafar fel y gallwn ni ofyn mwy o gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn rhoi sylw i rai o'r materion hynny nad yw datganiad ysgrifenedig yn unig, yn amlwg, yn gallu mynd i'r afael â nhw. Mae'n cyfeirio, yn enwedig, at y gogledd-ddwyrain, ac yn dweud y cawn ni fwy o gyhoeddiadau ynghylch y gogledd-orllewin yn y flwyddyn newydd. Mae'n cyfeirio at faterion trawsffiniol, y cysylltiadau â Phwerdy Gogledd Lloegr ac ati. Cyflwynwyd y cais bargen twf ar gyfer gogledd Cymru ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, ac rydym ni'n gwybod y bydd trafodaethau â'r ddwy Lywodraeth yn dechrau yn gynnar eleni, ac yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar y problemau trafnidiaeth yn y gogledd. Felly, byddai'n ddefnyddiol, yn y cyd-destun hwnnw a chyd-destun y fasnachfraint reilffyrdd wrth iddi ddatblygu, ac effaith hynny ar Wrecsam-Bidston ac ar gysylltiadau eraill y cyfeirir atyn nhw yn y datganiad, pe gallem ni gael cyfle i holi'r Gweinidog ynglŷn â datganiad llafar yn unol â hynny.

Mae fy ail ddatganiad a'r olaf, yn ymwneud â'r Sgowtiaid yn sir y Fflint. Nawr, efallai y gwelsoch chi'r sylw mawr a gafodd cefnogaeth Bear Gryll, y prif Sgowt yn y DU, i'r ddeiseb yn sir y Fflint, a oedd wedi casglu 7,700 o lofnodion erbyn hynny, yn gwrthwynebu cynnig unigryw Cyngor Sir y Fflint hyd yma ymysg cynghorau, i ddiddymu'r rhyddhad ardrethi y dewisiwyd ei roi i'r sgowtiaid, os oes ganddyn nhw bencadlysoedd eu hunain. Bydd hyn yn effeithio ar hyd at 16 o grwpiau Sgowtio yn sir y Fflint, ond dim ond yn codi uchafswm o tua £6,000 y flwyddyn ar gyfer y Cyngor, a hynny ar gost fawr gan gofio'r manteision cymdeithasol y mae grwpiau Sgowtiaid yn eu cynnig i'r cymunedau y maen nhw'n gweithio ynddynt. Nawr, efallai y byddwch chi'n datgan bod hwn yn fater ar gyfer cyllideb y Cyngor, ond mae'r cynsail y gallai hyn ei osod ledled Cymru yn peri pryder mwy eang. Felly rwy'n gofyn am ddatganiad ynglŷn â'r mater hwnnw hefyd. Diolch.

O ran y cais cyntaf am ddatganiad llafar i ddilyn y datganiad ysgrifenedig, caiff yr Aelod, wrth gwrs, ddigon o gyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod cwestiynau Llafar y Cynulliad, a fydd yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn. Ond deallaf y bydd hefyd yn gwneud datganiad llafar yn gyffredinol ynglŷn â thrafnidiaeth yn ddiweddarach y mis hwn, a bydd yn rhoi cyfle i'r Aelod ei holi'n fanwl ynglŷn â'r materion a gynhwysir ynddo.

O ran y penderfyniad ynglŷn â'r Sgowtiaid yn sir y Fflint, mae'r Aelod yn hollol gywir—mae'n fater i'r awdurdod lleol. Ac er fy mod i'n deall pryderon rhesymol yr Aelod ynghylch rhai o'r penderfyniadau hyn, mae'n benderfyniad dewisol, a holl bwrpas cael dewis yw y gall gwleidyddion lleol sy'n ymdrin â'r mater ddefnyddio'r dewis hwnnw. Dywedaf ei bod hi'n adlewyrchiad trist iawn o'r cynni parhaus y mae'r Llywodraeth yn ei osod ar bob un ohonom ni, bod y sefydliadau lleol annwyl iawn hyn yn brwydro am arian yn y modd hwn.

14:30

Os caf i ddweud, buom ar wyliau am dair wythnos, felly rwy'n credu bod gen i un cwestiwn am bob wythnos i ofyn i'r rheolwr busnes, os caf i wneud hynny. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ynglŷn â'r hyn yr ydym ni newydd ei drafod yn ystod y cwestiynau, sy'n ymwneud â chyflwr y GIG ar hyn o bryd yng Nghymru, gan gydnabod bod llawer o bwysau ar y gwasanaeth yn ystod y gaeaf? Ond fy mhryder penodol i yw archwilio rhai o'r problemau sy'n ymwneud â recriwtio a chadw meddygon teulu, oherwydd mae problemau difrifol erbyn hyn mewn nifer o feddygfeydd teulu ledled y rhanbarth yr wyf i'n ei chynrychioli—yr enghraifft ddiweddaraf yw Abersoch yn colli meddyg teulu, a'r cleifion yno yn cael eu hailgyfeirio i Fotwnnog. Ar y map, nid yw'n edrych yn bell iawn, ond gall mewn gwirionedd gymryd awr a 50 munud ar y bws, yn rhyfeddol, dim ond i deithio'r ychydig filltiroedd hynny. Mae hon yn broblem wirioneddol. Rwy'n cytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed yn gynharach, bod diffyg argaeledd gwasanaethau sylfaenol meddygon teulu hollol ddibynadwy a safonedig ledled Cymru yn annog mwy o bobl i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys ac yn rhoi mwy o bwysau ar honno. Felly, rwy'n credu y byddai dadl yn hytrach na datganiad yn dda yn amser y Llywodraeth, fel y gallwn ni archwilio rhai o'r materion hyn, a herio'r Llywodraeth, fel y mae angen inni ei wneud, ynglŷn â hyfforddiant, ac, fel yr ydym ni wedi gweld yn y ffigurau a ryddhawyd yn ystod y diwrnodau diwethaf, ar y diffyg myfyrwyr meddygol sy'n hanu o Gymru sy'n astudio yn ein cyfleusterau hyfforddi ein hunain yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, bydd Plaid Cymru yn dadlau dros yr achos am drydydd cyfleuster hyfforddi yn y gogledd  ar yr un pryd.

Mae'r ail beth yr hoffwn i ofyn amdano oddi wrth y rheolwr busnes yn ymwneud â chyfrifoldebau ei Llywodraeth ei hun hefyd, sef wrth gwrs, band eang. Fel y bydd hi'n gwybod, daeth ei rhaglen bresennol—wel, nid yw hi bellach yw'r rhaglen bresennol—i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac fe wnes i fet gyda fy hun ynghylch pa mor hir fyddai hi cyn y byddwn i'n cael y llythyr cyntaf sy'n dweud, 'Addawyd inni erbyn diwedd 2017, ac nid yw hynny wedi digwydd', a daeth y llythyr hwn yn ystod y penwythnos. Ac rwy'n credu mai'r llythyr hwnnw fydd y cyntaf ymysg nifer, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n derbyn mai hwnnw fydd y cyntaf ymysg nifer. Felly, rwy'n credu yr hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar wedi'i ddiweddaru ganddi am yr hyn a gyflawnwyd yn rhan o'r cynllun blaenorol erbyn diwedd 2017—faint oedd Openreach mewn gwirionedd wedi'i gyflawni a'i wneud, yn unol â'r hyn yr oedden nhw'n bwriadu ei wneud? Mae gen i nifer o enghreifftiau answyddogol o amcanion nad ydyn nhw wedi'u cyflawni, ond hoffwn i glywed y ffeithiau ganddi. Soniodd hi, mewn gohebiaeth â mi yn y gorffennol, y byddai cosbau ariannol os nad oedden nhw wedi cyflawni'r gwaith, felly hoffwn i archwilio hynny gyda hi, ac, wrth gwrs, mae hi wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £80 miliwn, y mae hi'n dweud sydd yn agored i atebion arloesol hefyd, a hoffwn ddeall sut y mae hynny'n berthnasol i'r cymunedau hynny yn fy rhanbarth nad ydyn nhw wedi gallu defnyddio band eang cyflym yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, byddwn i'n croesawu'n fawr ddatganiad llafar gan y rheolwr busnes yn rhinwedd ei swyddogaeth yn Ysgrifennydd Polisi'r Cabinet. 

A'r diweddariad olaf yr hoffwn i ofyn amdano gan y Llywodraeth, yw un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ynglŷn â ble'r ydym ni arni o ran syrcasau ac anifeiliaid gwyllt yma yng Nghymru. Rydym ni wedi cael cynnig ynglŷn â thrwyddedu anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac arddangosfeydd anifeiliaid eraill. Rwyf i fy hun yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid gwyllt a syrcasau ac arddangosfeydd anifeiliaid achlysurol, sydd i'w cael yng Nghymru wledig. Ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth San Steffan a Michael Gove yn sôn unwaith eto am wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ni fyddwn i eisiau gweld Cymru yn datblygu i fod yn hafan o syrcasau sy'n digwydd bod yn cynnwys anifeiliaid gwyllt, anifeiliaid gwyllt sy'n perfformio—wyddoch chi, nid y rhai sy'n gyffredinol yn hanu o Gymru ac yn ddomestig, yn yr ystyr hwnnw. Felly, efallai fod hyn yn gyfle i'r Llywodraeth fod yn fwy grymus yn ei hymagwedd, ac unwaith eto, rwy'n credu y byddai'r syniad o gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet, drwy gyfrwng datganiad, yn cael ei groesawu gan nifer o Aelodau yn y Siambr.

Wel, diolch am y tri phwnc diddorol iawn yna, Simon Thomas. Felly, gan fy mod i'n teimlo'n hael yn y flwyddyn newydd, rwyf yn mynd i ddweud ein bod yn croesawu'r tri ohonynt. Rydym yn fodlon iawn cyflwyno dadl ar faterion sy'n ymwneud â'r GIG. Mae nifer o broblemau y gwn i y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisiau eu trafod yn gyffredinol yn y Siambr beth bynnag, ac yn sicr mae wedi clywed rhai o'ch pryderon, felly rydym yn hapus iawn i gyflwyno dadl o'r fath yn amser y Llywodraeth.

O ran band eang, rwyf yn cynllunio, ni fydd yn syndod mawr i chi glywed, datganiad llafar i ddweud wrth Aelodau yn union beth yw ein sefyllfa ar ddiwedd y contract Cyflymu Cymru, a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr. Mae gan nifer fawr iawn o Aelodau, ledled y Siambr, ddiddordeb o ran clywed sut weithiodd y contract hwnnw. Bydd yn rhaid aros tua 16 wythnos nes y cawn ni wybod y ffigurau yn bendant. Byddwn yn gwybod yn syth beth y mae BT yn honni y maen nhw wedi eu pasio, ond bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym ni broses profi cadarn, er mwyn sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei honi mewn gwirionedd wedi'i ddilysu gennym ni. Ac yn wir bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol, fel y bydd nifer o Aelodau eraill sydd wedi dwyn hyn i'm sylw—rwy'n ymwybodol nad wyf wedi ateb dau lythyr gan Russell George sydd yn fy mewnflwch ar hyn o bryd—o bobl yr ydym ni wedi ysgrifennu atyn nhw, yn dweud ein bod ni'n credu y gallan nhw gael band eang, ac maen nhw wedi ymateb yn dweud na allant. Mewn gwirionedd, dyna un o'r prosesau profi. Mae'n rhwystredig iawn i'r bobl sy'n cael y llythyrau hynny, sydd ddim yn gallu cael band eang, ond mae'n galonogol iawn ein bod yn anfon miloedd o'r llythyrau hynny, a dim ond degau yr ydym ni'n eu cael yn ôl. Felly, mae'n ganran fach. Ond, serch hynny, mae'r gwiriadau ar waith ac maen nhw'n gadarn iawn. Mae'n cymryd amser—mae yna oedi o ran yr hyn y mae BT yn ei honni a'r hyn a wyddom ni sy'n gywir. Felly, ni fyddwn ni'n gallu ystyried y niferoedd terfynol, ac felly'r cymalau cytundebol, hyd nes ein bod yn cwblhau'r broses honno. Bydd ychydig o oedi. Ond gallaf ddweud wrthych chi beth yw ein sefyllfa o ran y broses honno yn syth.

O ran y gronfa newydd, rwy'n gobeithio cyflwyno cyfres o weithdai ac atebion i rai o'r problemau sydd heb eu datrys ynglŷn â hynny. Rwy'n gwneud cylchdaith o Gymru. Bydd rhai ohonoch chi'n ymwybodol fy mod i wedi teithio o amgylch Cymru yn gwneud hyn ers cryn amser. Rwy'n hapus iawn i fynd i siarad ag unrhyw gymuned, neu unrhyw grŵp o bobl, sydd ag ateb arloesol y maen nhw eisiau ei gyflwyno, neu sydd â phroblemau penodol. Rwyf wedi ymweld â nifer o etholaethau eisoes, ac rwy'n parhau i wneud hynny. Mae'r problemau yn syml iawn mewn gwirionedd. Bydd ein dewisiadau rhwng chwarae gêm rifau—felly cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, hyd yn oed os nad yw'r bobl hynny efallai yn awyddus iawn i gael band eang ar hyn o bryd, ac efallai na fyddan nhw'n ei brynu—neu cyrraedd y bobl sydd ar ben eu tennyn, ond gallai hynny leihau nifer y bobl sy'n gallu ei ddefnyddio yn y tymor byr. Felly, rydym ni'n dal i fod wrthi yn gwneud rhai o'r penderfyniadau hynny, ac rwy'n disgwyl y byddwn ni'n dewis cydbwysedd rhwng y ddau. Ond os oes gennych chi—ac mae hyn yn berthnasol i bob Aelodau yn y Siambr—os oes gennych chi gymunedau buddiant penodol, neu unigolion sydd ag atebion penodol yr hoffent eu trafod, hoffwn i'n fawr iawn glywed gennych chi ynglŷn â hynny. Ond byddaf yn cyflwyno hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf.

Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig a materion eraill newydd ddweud wrthyf y bydd yn cyflwyno datganiad llafar ynglŷn â syrcasau yn y dyfodol agos, gan ein bod ni'n rhannu'r pryderon y gwnaeth yr Aelod sôn amdanynt, a dydym ni ddim yn dymuno o gwbl bod yn y sefyllfa yr oedd ef wedi awgrymu y gallai ddigwydd. 

14:35

Prynhawn da, arweinydd y Tŷ, a gaf i ddymuno i chi a'm holl gyd-Aelodau yma flwyddyn newydd dda iawn? Gobeithio y daw 2018 â rhywfaint o iechyd a heddwch i ni i gyd.

Rwy'n croesawu eich haelioni yn cynnig cyflwyno, ar ran y Llywodraeth, ddadl ynglŷn â'r GIG, ond rwy'n sylwi ar y ffaith eich bod wedi dweud 'yn gyffredinol'. Ac fe hoffwn i ofyn i chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno dadl benodol ynghylch yr adroddiadau diweddar ynglŷn â'r problemau yr ydym ni'n eu hwynebu o ran pwysau'r gaeaf. Rwyf yn cydnabod ein bod ni yng nghanol pwysau'r gaeaf, ac y bydd pwysau'r gaeaf yn parhau am rai misoedd, ac rwyf yn cydnabod ei bod hi'n eithriadol o anodd. Sylweddolaf hefyd y gwnaed peth gwaith ynglŷn â hyn eisoes. Fodd bynnag, ein gwaith ni yw craffu, a thrwy Ysgrifennydd y Cabinet, ein gwaith ni yw craffu ar y byrddau iechyd ac ar yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni neu beidio, a sut y maen nhw wedi trin y symiau mawr o arian y trethdalwyr a gawsant i'w helpu i ymdopi â'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn, iawn. A chredaf fod pob un ohonom ni'n ymwybodol y bu hi'n gyfnod anodd, oherwydd ein bod ni'n clywed straeon yn uniongyrchol gan etholwyr, straeon gan bobl sy'n gweithio yn y GIG ac, wrth gwrs, y storïau yn y cyfryngau. Felly, hoffwn ofyn i ni gael dadl benodol ynglŷn â'r mater hwn mewn gwirionedd, fel y gallwn ni gynnal proses graffu, ond hefyd er mwyn cyflwyno atebion posib a allai ein helpu, hyd yn oed yn y tymor byr, heb sôn am y flwyddyn nesaf, gan fod hyn yn gylch y mae'n rhaid i ni ei dorri yn bendant.

A'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano—byddwn mewn gwirionedd yn hapus iawn gyda datganiad ysgrifenedig—eto gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â dim ond rhywfaint o eglurhad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â phwy sy'n ariannu a sut y caiff lleoedd hyfforddi eu hariannu yng Nghymru, a sut y caiff lleoedd hyfforddi eu hariannu rhwng y ddeoniaeth, pa fath o leoedd hyfforddi y mae'r ddeoniaeth yn gofyn i'r byrddau iechyd lleol eu hariannu, oherwydd fy mhryder i yw bod y ddeoniaeth yn cymryd arian oddi ar fyrddau iechyd lleol, sydd, wrth gwrs, yn arian oddi ar wasanaethau rheng flaen, ac mae angen i ni gael archwiliad gwirioneddol drylwyr. Felly, hoffwn i gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â'r adroddiadau yr wyf wedi bod yn eu clywed gan golegau brenhinol fod diffyg eglurder ynghylch cyllido lleoedd hyfforddi gan y ddeoniaeth a chan fyrddau iechyd lleol—pwy sy'n gyfrifol am beth—oherwydd, ni allwn ni gynyddu ein lleoedd hyfforddi fel arall.

14:40

Wel, diolch ichi am y ddau bwynt pwysig hyn. Ynglŷn â'r un cyntaf—pwysau'r gaeaf —rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud datganiad ynglŷn â phwysau'r gaeaf a sut maen nhw wedi gweithio dros y gaeaf hwn ac yn y dyfodol—. Bydd yn cyflwyno hynny maes o law. Felly, ni fydd dadl ynglŷn â hyn, ond mae datganiad wedi'i gynllunio ar gyfer hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn dweud wrthyf ei fod yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau ac egluro'r materion mae'r Aelod wedi holi yn eu cylch, dim ond i wneud yn siŵr bod pob un ohonom ni'n deall y sefyllfa fel y mae.FootnoteLink Felly, byddaf yn sicrhau ei fod yn ysgrifennu at bob Aelod ac yn egluro hynny fel y gofynnwyd.

Llywydd, hoffwn i nodi nad wyf bob amser mewn hwyliau mor dda, felly dylai pobl fanteisio ar hyn heddiw. [Chwerthin.]

Wel, diolch ichi, Llywydd—ie, yn wir. Mae'n debyg bod arweinydd y Tŷ wedi dyfalu yr hyn yr hoffwn i holi yn ei gylch yn fy natganiad llafar, a hynny yn wir yw band eang, wrth gwrs, gan ein bod eisoes wedi gweld diwedd y prosiect band eang ffeibr Cyflymu Cymru. Rydych chi wedi gwneud ymrwymiad, rwy'n falch o glywed, i gyflwyno datganiad llafar, ond gwnaethoch sôn y bydd hi'n 16 wythnos nes cewch y data gan BT. Ond byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi wneud datganiad llafar ymhell cyn hynny, ac yna, datganiad llafar arall ar ôl 16 wythnos wedi i chi dderbyn y data yr ydych chi wedi'i grybwyll. Rwyf, wrth gwrs, yn un o Aelodau'r Cynulliad sydd wedi derbyn llwyth o gwynion gan drigolion a gafodd addewid o'r blaen am uwchraddio erbyn diwedd 2017 sydd erbyn hyn wedi cael gwybod bod yr amser wedi dod i ben, wrth gwrs. Felly, byddwn i'n ddiolchgar cael sicrwydd pendant gennych chi yn eich datganiad llafar y caiff yr holl safleoedd hynny a oedd eisoes wedi eu rhestru ar gyfer eu huwchraddio eu trosglwyddo yn awtomatig nawr i gynllun olynol, gan fy mod yn credu ei bod hi'n annerbyniol pe byddai'r bobl hynny yn cael eu gadael mewn twll. Addawyd dro ar ôl tro i'r bobl hynny y caen nhw eu huwchraddio erbyn dyddiad penodol a dro ar ôl tro maen nhw wedi cael eu siomi a chredaf nad hynny mewn gwirionedd yn ddigon da —mae'n gwbl annerbyniol.

Yr ail ddatganiad llafar yr hoffwn i ofyn amdano gennych chi yw diweddariad ynglŷn â chynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol y Llywodraeth, flwyddyn yn ddiweddarach, wrth gwrs, ar ôl eich trafodaeth gychwynnol gyda rhanddeiliaid, fel y gall Aelodau weld beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y naw maes allweddol a nodwyd i wella cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru.

Ie, ynglŷn â'r sylw cyntaf, dim ond i roi eglurhad, yn sicr, nid oeddwn i'n dweud y byddwn i'n aros 16 wythnos. Roeddwn i'n dweud yn syml na fyddai gennyf ffigurau pendant am 16 wythnos. Byddwn ni'n cyflwyno datganiad llafar cyn bo hir i amlinellu'r hyn y bwriadwn ni ei wneud yn yr ail gam ac i ddweud ble yr ydym ni arni a sôn am amserlen bendant. Dywedais 16 wythnos, ond bydd gennym ni amserlen bendant er mwyn gwybod ble yr ydym ni arni yn hynny o beth. 

Un o'r grwpiau cymunedol sy'n rhan o'r darlun hwn—cymunedol yn yr ystyr ehangaf bosibl—yw'r bobl hynny a oedd i fod i dderbyn band eang ac am un rheswm neu'i gilydd na chawson nhw hynny. Mae angen cynnal ymarfer enfawr ynghylch hyn—. Mae'n ddrwg gennyf, am y materion technegol yma, ond mae Openreach yn adeiladu rhywbeth a elwir yn strwythurau ac rydym ni'n gwneud ymarferiad technegol enfawr i ddarganfod ym mhle yr adeiladwyd y strwythurau hynny a beth fyddai'r gost o barhau â nhw a beth allai fod y ffordd orau o wneud hynny. Nid ydym ni mewn sefyllfa i ddweud hynny eto, ond mae'n sicr o dan ystyriaeth. Rwy'n cydnabod yn llwyr y broblem y mae'r Aelod yn sôn amdani, ac rwy'n gwybod, Llywydd, y bu gennych chi broblemau tebyg yn eich etholaeth eich hun, fel y bu gan nifer o Aelodau eraill. Felly, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r broblem honno ac rydym ni'n edrych ar yr anhawster technegol o allu gwneud hynny. Felly, nid wyf eisiau gwneud unrhyw addewidion pellach na allwn ni eu cyflawni. Rydym ni wedi trafod yn ddygn rhai o'r anawsterau cyfathrebu ac nid ydym ni eisiau gwneud hynny eto. Ond rwy'n fwy na pharod i ddod i siarad â grŵp arall o bobl yn y sefyllfa honno yn eich etholaeth ac yn wir, Llywydd, gwn fod gennych chi eich hun anawsterau tebyg. Felly, rydym ni'n ystyried yr agweddau hynny a byddaf yn ymdrin â hynny yn y datganiad llafar hefyd.

O ran y cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno datganiad arall ynglŷn â'r cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol, ac un o'r rhesymau yw bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei Bil Economi Ddigidol a'i droi yn Ddeddf ac maen nhw wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau ynglŷn â ffyrdd eraill o ymdrin â gwerthu hawliau cysylltedd ffonau symudol a hawliau sbectrwm ac ar y gydberthynas rhwng y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredin ar gyfer band eang a chysylltedd symudol, sydd i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd. Felly, byddaf yn cyflwyno datganiad pan fyddwn ni'n deall beth y mae hynny'n ei olygu i ni yma yng Nghymru o ran y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Yn wir, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio hefyd yn cyflwyno datganiad—ynglŷn â'r ymchwil a gomisiynwyd gennym ni—i ddweud lle yr ydym ni arni gyda'r gwaith ymchwil hwnnw o ran sut yr ydym ni'n ymdrin â hawliau datblygu caniataedig ac effaith yr hawliau hynny. 

14:45

Blwyddyn newydd dda i bawb. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am baratoadau’r gwasanaeth iechyd gwladol i ymdrin ag achosion o ffliw Awstralia yng Nghymru? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod achosion o straen H3N2 y firws wedi cael eu canfod yng Nghymru. Mae dros 100,000 o bobl wedi gorfod cael triniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Awstralia oherwydd y firws cas penodol hwn. Bu farw dros 370 o bobl yno, ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n bensiynwyr. A gaf i ofyn am ddatganiad ar yr hyn sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o beryglon ffliw Awstralia ymhlith ein grwpiau agored i niwed, a hefyd faint o'r brechlyn ffliw sydd ar gael a'i effeithiolrwydd o ran ymladd yn erbyn y firws hwn yng Nghymru?

Mae’r ail ddatganiad a hoffwn unwaith eto gan yr Ysgrifennydd iechyd. Weinidog, cyfarfûm â gŵr bonheddig iawn, 79 oed, ychydig ar ôl y Nadolig, ac roedd yn crïo fel plentyn. Y rheswm am hyn oedd ei fod yn byw yn agos iawn i dafarn, ac nid yw’r dafarn honno, yn ei eiriau ef, yn dafarn i yfed a chwrdd yn gymdeithasol ond mae'n dden cyffuriau ac roedd hyn yn aflonyddu’n ddifrifol ar ei fywyd. Roedd yn briod yn hapus ers dros 50 o flynyddoedd. Ni wnaf enwi’r ardal, ond roedd eisiau symud o Gymru. Dywedais, 'Pam ydych chi'n gadael?' Mae wedi rhoi ei holl fywyd, gwaith, plant a phopeth, ond oherwydd yr arogl, y sŵn, yr aflonyddwch a’r annymunoldeb yn yr ardal, mae’r bobl hŷn hyn sy’n agored i niwed—. Rwy’n teithio llawer yn y de-ddwyrain, yn yr ardaloedd hyn i gyd, a chredwch fi, Weinidog, rwy’n arogli, fy hun, mewn tafarnau, siopau cornel a mannau eraill, arogl mariwana. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n gwneud datganiad, neu ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael dadl yma ynglŷn â chyfreithloni mariwana yng Nghymru, neu greu mannau y gall pobl fynd iddynt i ysmygu, yn hytrach na rhoi amser mor ddrwg i’r bobl agored i niwed hyn yng Nghymru. Diolch.

O ran pwynt cyntaf Mohammad Asghar, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn sôn am hynny yn rhan o'i ddatganiad ynghylch parodrwydd am y gaeaf. O ran yr ail, mae arnaf ofn mai mater i'r awdurdod lleol yw hwnnw, yn sicr. Mae'n fater naill ai i’r comisiynydd heddlu neu'r awdurdod lleol, neu'r ddau ohonyn nhw yn gweithredu ar y cyd. Byddwn yn awgrymu bod yr Aelod yn sôn am faterion penodol o'r fath wrth yr awdurdodau sy'n ymdrin â hynny.

3. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant: Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth i gael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar yr ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Huw Irranca-Davies, i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda hefyd.

Rwy’n falch iawn heddiw o lansio ymgynghoriad i lywio datblygiad ein cynigion deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn cydnabod bod rhianta hyderus, cadarnhaol a chydnerth yn hanfodol i baratoi plant ar gyfer bywyd, a’i bod yn bwysig darparu cymorth a chefnogaeth i rieni. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o’n hanes yng Nghymru o weithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac o hyrwyddo hawliau plant. Dyma pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Rydym ni eisiau ei gwneud yn glir nad yw cosbi plentyn yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru mwyach.

Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd â'r nod o newid agweddau tuag at sut i fagu a disgyblu plant a phobl ifanc, drwy wneud cosb gorfforol yn annerbyniol a hyrwyddo dewisiadau amgen cadarnhaol. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol mewn rhaglenni rhianta ledled Cymru, ac mewn ymgyrchoedd gwybodaeth fel ‘Magu plant: Rhowch amser iddo’ i gefnogi rhieni i fod y gorau y gallant. Hoffem i’r ddeddfwriaeth gyflymu newid ymddygiadol yn y ffordd y mae rhieni’n disgyblu eu plant, a hoffem hefyd roi cymorth i’r rhieni i deimlo'n hyderus wrth ddewis dulliau disgyblu cadarnhaol a mwy effeithiol.

Mae ein gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen ar blant i dyfu a ffynnu wedi datblygu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r ymadweithio rhwng rhieni a’u plant erbyn hyn hefyd wedi newid mewn ymateb i’r wybodaeth honno, ac mae agweddau'r cyhoedd tuag at arferion rhianta wedi newid hefyd. Rydym ni nawr yn gwybod bod cosbau corfforol yn gallu cael effeithiau negyddol hirdymor ar gyfleoedd bywyd plentyn ac rydym hefyd yn gwybod eu bod yn gosbau aneffeithiol. Er bod cenedlaethau blaenorol yn derbyn cosbi plant yn gorfforol fel arfer arferol, rydym yn gwybod bod mwy a mwy o bobl yn ei ystyried yn llai derbyniol a bod rhieni’n teimlo'n llai cyfforddus wrth ddefnyddio cosbau corfforol. Mae gennym hefyd ymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'n rhaid inni gadw at yr ymrwymiad hwn.

Cyflwynwyd deddfwriaeth flynyddoedd lawer yn ôl i atal cosbi corfforol mewn ysgolion ac mewn lleoliadau gofal plant, ac nawr yw'r amser i sicrhau nad yw bellach yn dderbyniol yn unman. Rydym ni wedi ymrwymo i ddileu amddiffyniad cosb resymol a hoffem sicrhau ein bod yn datblygu cynigion deddfwriaethol sy'n addas at y diben, yn ogystal â sicrhau bod gennym becyn ehangach o fesurau ar waith i gefnogi rhieni.

Nawr, rwy’n gwybod bod gwahanol safbwyntiau am y ddeddfwriaeth hon. Er mwyn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’i heffaith bosibl, rydym eisoes wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyrff gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i ddatblygu ein cynigion ymhellach a rhoi cyfle i bawb ddweud eu dweud i’n helpu i geisio ymdrin ag unrhyw bryderon wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth. Ac rwy’n awyddus i sicrhau y gall y ddeddfwriaeth hon fynd rhagddi gyda chymaint â phosibl o gytundeb yn y Cynulliad hwn ac yng nghymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n arbennig o bwysig imi y dylai rhieni fod yn ffyddiog mai bwriad y gyfraith hon a’n hymdrechion ehangach i hyrwyddo rhianta cadarnhaol yw helpu i roi'r dechrau gorau posibl i’w plant mewn bywyd. Dyna yw ein bwriad ac rwy’n croesawu syniadau, drwy'r broses ymgynghori, ynglŷn â’r ffordd orau o gyflawni hynny, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed gan Aelodau heddiw. Diolch.

14:50

Weinidog, hoffwn ddiolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad heddiw, ac am y cwrteisi yr ydych wedi’i ddangos i mi ac i’m cyd-Aelod, Darren Millar, sydd yn anffodus yn methu â bod gyda ni heddiw, wrth fynd drwy eich cynlluniau a’ch rhesymeg y tu ôl i'r ymgynghoriad. Byddwch yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl sy’n adlewyrchu barn a phryderon rhan helaeth o boblogaeth Cymru, a'r cwestiynau a ofynnwyd ganddynt, a bod amrywiaeth o farn yn ein plith, ac y byddwn felly’n mynd ar hyd y llwybr deddfwriaethol hwn â phleidlais rydd i bob un aelod o’n plaid.

Rwy’n ddiolchgar iawn am y sgwrs honno’n gynharach. Mae un neu ddau o gwestiynau y teimlaf y byddai'n fuddiol imi eu gofyn a’u cofnodi, ac i roi cyfle ichi i’w hateb i mi ac i Aelodau eraill o'r Siambr hon, ac yn wir i'r cyhoedd yn ehangach. Rwy’n meddwl, yn gyntaf oll, yr hoffwn wir ddeall beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cyrraedd pobl gyffredin—nid y trydydd sector, nid y gwleidyddion, nid y grwpiau lobïo, nid y rhai hynny ohonom sydd â barn neu sydd efallai eisoes wedi penderfynu, ond rhieni cyffredin a phlant cyffredin nad ydyn nhw'n rhan o unrhyw fath o grŵp neu gang, fel y gallwn gael eu barn, eu syniadau ynghylch beth maen nhw'n ei feddwl oherwydd, wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, beth bynnag yw eich barn, ein bod yn tueddu i fod yn amddiffynnol iawn ynglŷn â’n teuluoedd ein hunain. A hoffwn ichi, wrth wneud hynny, ei gwneud yn gwbl glir ein bod i gyd yn derbyn bod y mwyafrif o rieni yng Nghymru yn unigolion da, cariadus, rhesymol; hoffwn i’r neges honno fod yn uchel ac yn glir. Nid mater o gosbi, gorfodi na rhwystro’r unigolion hynny yw hyn.

Byddwn yn awyddus iawn pe gallech roi ychydig bach mwy o wybodaeth inni am sut y gwelwch yr ymgynghoriad hwn yn bwrw ymlaen ac yn egluro i bobl nid yn unig y cynigion yr ydych wedi’u cyflwyno, ond pa atebion eraill y gwnaethoch edrych arnynt a beth yr ydych chi wedi'i ddiystyru. Cawsoch chi a mi sgwrs am y ffaith ein bod, drwy gael gwared ar y gosb resymol, i bob diben, mewn theori, yn caniatáu i bawb fod ar unwaith yn euog o drosedd. A wnaethoch chi edrych ar ddulliau eraill lle y gallai fod yn bosibl inni fynd allan a helpu a chefnogi'r rhieni hynny sy'n defnyddio cosbau amhriodol, ble bynnag yr ydych ar y raddfa honno. Beth y gwnaeth eich Llywodraeth edrych arno? Beth yr ydych chi wedi'i ddiystyru? Ble arall y gwnaethoch chi edrych, o amgylch y byd, o ran sut y gellid gweithredu hyn mewn ffordd oddefgar a chymesur?

Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech efallai yn esbonio ychydig—dyma’r peth olaf, Llywydd—am y prawf cymesur, pe byddai’r ddeddfwriaeth hon yn bwrw ymlaen. Hoffwn roi un enghraifft fer ichi, ac rwy’n credu efallai y rhowch chi un arall imi. Mae gen i athro, er enghraifft, yn sir Benfro, a aeth, ynghyd â nifer o athrawon eraill, â grŵp o blant i gêm rygbi. Ni allaf gofio ai Caerdydd ynteu Llundain oedd hyn, ond roedd yn un o'r dinasoedd hynny. Ac roedd un o'r plant yn llanc ifanc, yn llawn llawenydd neu beth bynnag, a rhedodd allan i’r ffordd. Gafaelodd yr athro ynddo’n rymus, i’w lusgo yn ôl. Gwnaeth y rhieni erlyn yr athro hwnnw am ymosodiad. Mae gan yr athro hwnnw farc du yn erbyn ei enw. I rywun sy’n edrych ar y sefyllfa honno, gallai edrych fel cosb annheg.

Yn bersonol, fel rhiant, byddwn i'n rhoi pryd o dafod i fy mhlentyn ac yn ddiolchgar iawn i'r athro am achub ei fywyd, ond nid dyna brofiad yr athro hwnnw. Ac wyddoch chi, rydym ni wedi gwneud hyn, a gwnaf gyfaddef: rwy’n cofio fy merch fach, pan oedd yn dair oed, yn rhedeg allan o flaen lori concrid yn dod o chwarel Carew. Gafaelodd fy ffrind ynddi, oherwydd roedd gen i gadair wthio â babi ynddi o'm blaen. Roedd Katie wedi gollwng fy llaw a mynd amdani, a gafaelodd fy ffrind ynddi. A gallaf ddweud wrthych, fe wnes i afael yn fy mhlentyn, a dechrau wylo, fe wnes i ei chofleidio hi, a’i tharo ar ei phen-ôl, oherwydd mae’r holl emosiynau cymysg hynny’n ysgubo drwoch chi. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, mewn unrhyw ddeddfwriaeth yr ydym yn edrych arni, ein bod yn gwahaniaethu rhwng moment fympwyol a rhiant sy'n gwylltio’n llwyr yn gyson ac yn curo ei blentyn, a byddai'n rhaid imi ddweud fy mod yn meddwl bod pethau effeithiol iawn yn y system cyfiawnder troseddol eisoes, fel ymosodiad a niwed corfforol difrifol, i ymdrin â hynny.

Ond rwy’n meddwl bod hwn yn faes mor sensitif, ac rwy’n mynd i ddod yn ôl at fy natganiad gwreiddiol: rwy’n credu bod y rhan fwyaf o rieni’n gweithredu o sylfaen dda o gariad, cyfrifoldeb a phersbectif dwfn, gofalgar ar eu teulu, a bod y rhan fwyaf o rieni’n amddiffynnol iawn tuag at eu teulu, a hoffwn wneud yn siŵr nad yw rhieni’n teimlo bod Llywodraeth Cymru, neu Gynulliad Cymru, yn eu cosbi i gyd am bethau nad ydynt efallai hyd yn oed wedi eu gwneud.

14:55

Diolch, Angela, ac efallai y gwnaf ddechrau, a dweud y gwir, drwy atgyfnerthu’r neges honno. Rwy’n meddwl y byddem i gyd, yn ôl pob tebyg, yn y Siambr hon, ac yn Llywodraeth Cymru ei hun, yn derbyn ac yn ategu'n llwyr y teimladau hynny sy’n dweud bod y mwyafrif helaeth o rieni yng Nghymru yn rhai sydd eisiau magu eu plant mewn amgylchedd cariadus, a gwneud hynny gyda llawer o ofal, gyda llawer o sylw, gyda llawer o anogaeth, gyda llawer o gymorth, a gan ddangos yr holl agweddau hynny ar rianta cadarnhaol yr wyf i mewn perygl o’u troi’n y slogan fwyaf erioed yma. Mae'n golygu cael eu magu mewn amgylchedd lle maent yn teimlo'n ddiogel a lle maent yn cael eu trysori a’u meithrin, a dyna’n union beth mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n ei wneud. Ond, rwyf i’n rhiant i dri o blant. Dydyn nhw ddim yn dod gyda llyfrau rheolau, yn anffodus, oherwydd mae pob un yn wahanol. Mae fel rhai o'r dyfeisiau hynny rydych chi’n eu prynu ar y rhyngrwyd; mae gan bob un geblau gwahanol a phethau gwahanol sy’n eu cysylltu nhw ac ati. Ac rydym yn gwybod, weithiau, bod angen cymorth arnom. Felly, a dweud y gwir, mae rhan o'r ymgynghoriad hwn a rhan o fwrw ymlaen â hyn yn fater o ddarparu’r cymorth cywir i rieni a theuluoedd. A, gyda llaw, nid dim ond sôn am deuluoedd lle y ceir cymhlethdodau mawr o faterion a heriau yr ydym, ond am deuluoedd yn gyffredinol. Felly, mae hynny'n cynnwys, o'r ymwelwyr iechyd sy’n ymweld â theuluoedd i ddechrau, drwy'r ysgolion, drwy Teuluoedd yn Gyntaf, drwy Plant yn Gyntaf, yr holl bethau hynny, i helpu rhieni fel fi gymaint â neb arall. Ond, yn hollol gywir: mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n gwneud gwaith gwych, ac yn gwneud hynny gyda'r bwriadau gorau yn y byd.

Y mater dan sylw yma yw: mae gennym yr hyn y byddem yn ei ystyried yn Llywodraeth—ac roedd yn sicr yn ein maniffesto ac mae wedi bod yn destun dadleuon ers cwpl o ddegawdau, gan gynnwys gan rai Aelodau yma pan oedden nhw'n Aelodau Seneddol hefyd, yn dadlau’r achos—cael gwared ar amddiffyniad nad yw, ar hyn o bryd, ond ar gael i rieni pan fyddan nhw'n defnyddio cosb gorfforol yn erbyn eu plant. Allech chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad o gosb resymol pe byddech chi, er enghraifft, yn taro rhywun oedrannus â dementia, neu rywun 25 mlwydd oed ag anawsterau dysgu. Allwch chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad, ond gallwch chi ddefnyddio’r amddiffyniad, yn llwyddiannus neu beidio, yn erbyn plant. Felly, mae'n fater o ddweud, yn sicr er mwyn cefnogi rhieni, darparu'r cymorth sydd ei angen, nid fel gwladwriaeth nani, ond, a dweud y gwir, mewn partneriaeth dda â rhieni, oherwydd rydym yn gwybod i ba gyfeiriad yr hoffem fynd, ac mae'n mynd i'r cyfeiriad hwn, ac, yn ail, i ddarparu eglurder, a chael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol.

Angela, gwnaethoch chi ofyn a oeddem wedi ystyried unrhyw opsiynau eraill. Rydym wedi gwneud hynny, ac rydym wedi bod yn ôl ac ymlaen o ran cyngor cyfreithiol, ac rydym wedi dysgu o dros 50 o enghreifftiau o wledydd eraill o wahanol fathau o awdurdodaeth gyfreithiol lle y maen nhw wedi gwneud fersiwn o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn ac wedi nodi’n glir mai ymosodiad yw ymosodiad yw ymosodiad. Rydym wedi gallu dysgu oddi wrth hynny. Ond, mae gennym ein lleoliad cyfreithiol ein hunain o fewn y wlad hon a’r paramedrau yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt, a’r cyngor clir, cryf iawn yr ydym yn ei gael yw mai’r ffordd gliriaf o wneud hyn yw cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol a’r hyn sydd ar ôl, mewn gwirionedd, yw’r hyn sydd yno ar hyn o bryd o fewn y gyfraith, sef trosedd ymosodiad.

Ar gyfer trosedd ymosodiad, mae angen clirio rhai rhwystrau. Nid yw mor syml â, 'rwyf wedi gweld rhywun a oedd yn gwneud rhywbeth â'u plant ac rwy’n meddwl ei fod yn ymosodiad, roedd yn ddrwg.' Ceir profion tystiolaethol er mwyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddweud, mewn llys barn, 'Rydym yn meddwl bod tystiolaeth yma bod ymosodiad wedi digwydd.' Yn ail, mae angen iddo fod er budd y cyhoedd. Rhan o’r rhesymeg budd y cyhoedd y tu ôl i fwrw ymlaen â chyhuddiad—fel y mae ar hyn o bryd, gyda llaw, ym mhob maes, ac eithrio o ran plant—fyddai nid yn unig a yw er budd y cyhoedd, ond a oes siawns resymol o erlyniad llwyddiannus.

Byddwn yn ei chyfeirio hi ac Aelodau eraill at adran 9 yr ymgynghoriad, oherwydd, o fewn honno, mae'n edrych ar dystiolaeth ryngwladol, ond hefyd y dystiolaeth o lle y defnyddiwyd hyn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Seland Newydd, gyda model ychydig yn wahanol. Ydy, mae wedi arwain, yn y blynyddoedd cynnar, at gynnydd mewn riportio; mae wedi arwain at erlyniadau ar achlysur; mae hefyd wedi arwain at rybuddio a rhyddhau llawer o bobl, ac, wrth gwrs, yna mae’r niferoedd yn lleihau, oherwydd mae newid diwylliannol yn digwydd—fel gyda deddfau gwregysau diogelwch, fel gyda llawer o bethau eraill—lle mae pobl yn derbyn nad yw'n rhesymol mwyach i gosbi plentyn yn gorfforol, yn ddim gwahanol i unrhyw aelod arall o'r gymdeithas.

15:00

Diolch am y briff a roesoch imi ddoe, roedd yn ddefnyddiol. Rwyf wedi bod falch o gefnogi’r ymdrechion hyn yn y gorffennol, fel y mae Plaid Cymru, pan oeddem yn ymgyrchu am hyn—cyn-Aelodau Cynulliad fel Lindsay Whittle a llawer o Aelodau Cynulliad o bob plaid wleidyddol. Rwy’n meddwl ei bod yn hollbwysig datgan, o'r cychwyn cyntaf, nad wyf o blaid cosbi rhieni am ddisgyblu eu plant, ac nad dyna ddylai fod diben y newid hwn, fel yr amlinellwyd eisoes. Mae hyn, a dylai hyn, yn bennaf oll, fod yn fater o gael gwared ar amddiffyniad yn y llys ac o dan y gyfraith sy’n caniatáu i rywun sy’n curo neu’n cam-drin plentyn efallai ei gael yn ddieuog o dan gochl ei bod yn rhesymol i riant neu warcheidwad ddefnyddio grym, ac nid wyf yn meddwl bod hynny’n dderbyniol.

Rwy’n deall bod hon yn ddadl y mae rhai pobl yn teimlo’n angerddol amdani—yn wir, pan ofynnais i bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, cefais fwy o sylwadau nag a gefais erioed, ynglŷn â’r mater hwn—fel unrhyw gwestiwn sy'n mynd at wraidd y berthynas rhwng y bobl, y teulu a'r wladwriaeth, a pha mor bell sy’n rhy bell i’r wladwriaeth fynd. Ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig nodi, o'm safbwynt i, na ddylai ac na fydd unrhyw newid yn y gyfraith er mwyn erlid rhywun sy’n disgyblu eu plentyn mewn eiliad o rwystredigaeth neu banig. Rwy’n gwybod, pan fydd plentyn yn symud tuag at soced plwg neu’n profi amynedd a ffiniau i'r eithaf, pa mor anodd yw hi. Ni ddylai fod dim awydd i gosbi rhieni neu warcheidwaid da, ac rwy’n credu nad oes gan y mwyafrif helaeth o rieni a gwarcheidwaid ddim dymuniad i ddefnyddio cosb gorfforol.

Fodd bynnag, rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hyn yn iawn, neu y perygl yw y bydd rhai elfennau adweithiol yn neidio ar y newid i’r gyfraith, er ei fwriadau da, er mwyn cyfleu polisi sydd, yn ei hanfod, yn bolisi o fwriadau da, ac yn un hir-ddisgwyliedig, dylwn ddweud, fel rhywbeth hyll ac ysgeler ar ran awdurdodau.

Fy nghwestiwn cyntaf, er fy mod yn falch gyda Llywodraeth Cymru, eich bod wedi gweld y goleuni yn hyn o beth, o’r diwedd, yw: beth sydd wedi newid rhwng y tro diwethaf inni drafod y mater hwn yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad a nawr? Safbwynt blaenorol Llywodraeth Cymru oedd na fyddai newid y gyfraith ar gosb resymol yn ddichonadwy, gan y byddai’n cael ei herio nid yn unig am ei fod y tu hwnt i'n cyfrifoldebau fel Cynulliad, ond ei fod hefyd yn agored i her mewn llys. A allech chi egluro beth yw’r sefyllfa gyfreithiol nawr, ar gyfer y cofnod, ac a fu unrhyw ddatblygiad sylweddol a fyddai'n golygu nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried bod hyn yn rhwystr?

Mae'n bwysig gwybod beth y bydd hyn yn ei olygu’n ymarferol, hefyd. Nid ydym ni eisiau i gael gwared ar gosb resymol gael ei ddefnyddio ar gyfer dim mwy na dileu'r amddiffyniad hwnnw mewn achos o gam-drin neu ymosodiad ar blentyn, a rhaid inni wneud yn siŵr na fydd unrhyw lys nac elfen o gyfraith yn gorfodi defnyddio'r newid i’r gyfraith i sianelu erlyniad gorfrwdfrydig yn erbyn rhywbeth diniwed. Felly, soniasoch yn gynharach am brawf budd y cyhoedd. Mae’r rheol de minimis, yn ogystal, hefyd yn berthnasol. Sut byddwn yn siarad â'r llysoedd, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu ynghylch sut y byddent o bosibl yn defnyddio hyn, yn y dyfodol?

Yn y datganiad yn gynharach, gwnaethoch chi amlinellu rhesymau eraill dros y newid hwn i’r gyfraith, fel hyrwyddo—ac rwy’n dyfynnu’r hyn a ddywedasoch—'newid ymddygiad' mewn rhieni. A wnewch chi egluro pa newid ymddygiad sydd ei angen, ac a ydych chi'n gweld bod y newid ymddygiad hwnnw’n rhywbeth sydd yn uwch mewn cymdeithas yng Nghymru nag mewn mannau eraill, neu ei fod yn newid ymddygiad y dylem oll ei gydnabod ynom ein hunain? Oherwydd yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw nad dim ond targedu rhai teuluoedd mewn rhai ardaloedd o Gymru yr ydym, ond dweud mai dyma ffordd gyffredinol o drin pobl eraill yn ein cymdeithas. Rwy’n meddwl y byddwn yn fwy cyfforddus o lawer gyda'r math hwnnw o fenter polisi nag y byddwn wrth ddweud y byddai rhai teuluoedd yn fwy euog o hyn nag eraill. Gwnaethoch chi sôn am wledydd eraill, ac rwyf finnau wedi gwneud rhywfaint o ymchwil gyda phobl yr wyf yn eu hadnabod yn Sweden. Cyn belled ag y deallaf, nid yw cyfraith Sweden yn dod gyda chosb. Gofynnais i un unigolyn sy'n gweithio yn y llywodraeth mewn bwrdeistref yn Sweden, ac mae ganddyn nhw 94,000 o drigolion, ond 200 o weithwyr ieuenctid, fel y gallant ddefnyddio gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, i fynd i mewn i'r cartrefi er mwyn ceisio siarad am newid diwylliant ac ymddygiad. Os yw hyn yn fwriad i chi hefyd, wel, efallai y bydd yn rhaid inni ystyried adnoddau ariannol ar gyfer hyn. Felly, pa mor bell ydych chi wedi mynd gyda hyn, neu a ydych chi'n meddwl bod angen hynny o gwbl?

Un o'm cwestiynau olaf yw: a ydych chi'n fodlon, er mwyn cyfleu’n effeithiol i'r cyhoedd nad yw’r gyfraith bresennol yn ddigon, bod rheswm dilys a chyfiawn dros newid y gyfraith? Rwyf hefyd wedi siarad â rhai pobl i ddweud bod y dyfarniad penodol hwn yn cael ei ddefnyddio mor anaml mewn llysoedd nes nad oes gennych ddigon o ystadegau i gymharu, ac mae'n anodd iawn canfod tueddiadau ohono. Felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod, os ydym yn mynd i newid y gyfraith, y bydd yn ystyrlon.

Fy mhwynt olaf am hyn, oherwydd gwrandewais ar y ddadl yn y Cynulliad diwethaf, er na wnes gymryd rhan ynddi, yw ein bod bob amser yn dweud, yn y dadleuon hyn, 'fel rhiant', ac rydych yn teimlo rywsut bod rhieni o bosibl yn fwy cymwys i ddeddfu yn y maes hwn. Ond, ar ôl darllen llawer am hyn, nid dim ond rhieni sy'n gyfrifol. Mae rhieni a gwarcheidwaid, a gofalwyr maeth, a phobl eraill mewn cymdeithas yn gyfrifol. Pan aned fy chwaer, roeddwn yn 17 mlwydd oed, yn troi’n oedolyn. Edrychais ar ei hôl hi gryn dipyn, a chefais i’r cyfrifoldeb rhiant hwnnw. Felly, hoffwn gael y ddadl hon, nid fel rhywbeth na all neb sydd ddim yn rhiant fod â barn amdani, ond fel y gall pawb yn y gymdeithas fod â barn am hyn a gwneud cyfraniad adeiladol. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, efallai y byddwn mewn sefyllfaoedd lle caiff cyfrifoldebau gofalu eu rhoi inni y tu hwnt i'n rheolaeth, a bydd angen inni wybod sut i ymdrin â phlant yn y mathau hynny o sefyllfaoedd, ond mae angen inni wybod bod y wladwriaeth a phobl eraill mewn cymdeithas yn credu bod gennym y parch a’r gallu, dylwn ddweud, i edrych ar ôl plant, yn union fel rhieni.

15:05

Bethan, diolch yn fawr iawn am hynny yn wir. Rwy’n meddwl bod llawer o'r materion manwl yr ydym yn dechrau cyffwrdd arnyn nhw nawr yn rhai y gallwn roi mwy o sylw iddynt wrth i’r ymgynghoriad fwrw ymlaen, ond gwnaf geisio ateb rhai ohonyn nhw nawr hefyd, os yw o gymorth. Mae'n werth dweud hefyd, o ddifrif, yr hoffwn ymgysylltu â holl Aelodau'r Cynulliad o bob plaid ar hyn, fel ein bod yn cael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n gynnig diffuant. Os gallaf wneud unrhyw beth i helpu gyda'r trafodaethau hynny, fi neu fy swyddogion, rwy’n hapus i wneud y cynnig.

Gwnaethoch y pwynt ynghylch peidio â chosbi rhieni â bwriadau da. Gwnaeth Angela bwynt tebyg yn ogystal. Hollol gywir; cwbl gywir. Wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, mae'n rhaid inni daro’r cydbwysedd o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol, sydd, hyd eithaf fy ngwybodaeth, ond wedi bod yn bosibl ei ddyfynnu, mewn gwirionedd, wrth amddiffyn achosion dros y rhai blynyddoedd diwethaf, fwy na thebyg ddwsin o weithiau. Mewn gwirionedd, yn y pen draw dim ond mewn pedwar ohonynt y gellid wir ei ddefnyddio, ac yn y pedwar achos hynny, ar y cyfan, cafwyd yr unigolyn yn ddieuog neu gwrthodwyd yr achos. Felly, mae'n sefyllfa anarferol nad yw wir fel arfer yn arwain at ddim byd mewn llys, ond mae'n sefyllfa anarferol sy’n bodoli. Pan fyddwch yn siarad â gweithwyr proffesiynol rheng flaen sy'n gweithio mewn pethau fel Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, yn gwneud yr ymyriadau hynny—ymyriadau cynnar, doeth, da gyda rhieni—rwyf yn llythrennol wedi cael y sgwrs hon â nhw a dweud, 'Ydy’r eglurder y byddem yn ei roi gyda hyn yn broblem ichi, ynteu a fyddai'n helpu?' Ac mae pob un, pob menyw—oherwydd menywod yw pawb yr wyf wedi siarad â nhw sy'n gwneud yr ymyriadau rheng flaen hyn gyda theuluoedd—wedi dweud, 'Mae hyn yn rhoi’r eglurder y byddai ei angen inni.' Felly, yn ogystal â’r rhianta cadarnhaol, y cymorth a’r cyngor a’r gefnogaeth yr ydym yn eu rhoi i rieni, gallwn nawr ddweud, 'Edrychwch, gyda llaw, nid cosbi corfforol yw hyn; mae yna ffyrdd eraill, ac rydych chi'n gwybod y gallwn wneud hynny', ac rydym yn mynd ymlaen. Nid er mwyn cosbi rhieni â bwriadau da, ond i’w gwneud yn gwbl glir na fydd amddiffyniad o gosb resymol.

Does dim byd yn newid, gyda llaw, o ran pa gosbau sydd ar gael. Soniasoch am fater cosbau. Mae’r cosbau yn aros fel y maent ar gyfer ymosodiad, ac mae'r un profion tystiolaethol a phrofion lles y cyhoedd yn gymwys i ymosodiad. Y Cyngor Dedfrydu sy’n gosod canllawiau ar gyfer ymosodiad. Mae'r Cyngor Dedfrydu, a dweud y gwir, yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant. Maent hefyd yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant gan rieni sydd o dan 18 oed. Mae'r rheini i gyd yno. Does dim o hynny’n newid o gwbl, ond mae'n cael gwared ar ddefnyddio cosb resymol fel amddiffyniad am ymosodiadau yn erbyn plentyn.

Gwnaethoch chi ofyn, yn hollol ddealladwy, beth sydd wedi newid. Rwy’n meddwl ein bod wedi cael cyfnod o gasglu tystiolaeth i ddangos, un, y gallwn fwrw ymlaen mewn gwirionedd ac y gallwn wneud hynny ar sail gyfreithiol gadarn; ond, yn ail, casglu’r dystiolaeth fyd-eang honno sydd nawr yn dangos beth sy'n gweithio o ran rhianta cadarnhaol, yr effeithiau negyddol cyfanredol ar draws plant sy’n cael cosbau corfforol, a, hefyd, cyngor cyfreithiol hefyd—cyrraedd y pwynt lle gall cyngor cyfreithiol awgrymu—. Gyda llaw, rhaid imi fod yn hollol onest: nid wyf yn dweud na chaiff hyn ei herio’n gyfreithiol, oherwydd gallai hynny ddigwydd. Ond, yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yn iawn o ran cymesuredd yw bod hawliau plant, sydd yn hawliau cyffredinol a diamod o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, yn cael eu cydbwyso hefyd yn erbyn yr erthyglau hawliau Ewropeaidd hynny sy'n amddiffyn hawliau’r teulu a hawliau crefydd. Ond, mae ffordd o wneud hynny oherwydd mae’r ddwy gyfres hynny o hawliau—y ddwy olaf—yn hawliau amodol. Os gallwch chi ddangos bod y mesurau hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, fel yr rydym wedi'i wneud cyn hyn mewn meysydd polisi eraill, gallwch wir effeithio ar yr hawliau amodol hynny, os yw hawliau plant o ran amddiffyn y plant hynny yno o fewn y prif ddiben.

A oes gennym dystiolaeth o newid agweddau a newid ymddygiad? Oes. Unwaith eto, ni wnaf adrodd yr hyn sydd yn y ddogfen, ond rwy’n gobeithio y bydd pob rhiant, a phob gwarcheidwad a phob gofalwr, yn ogystal â sefydliadau, yn edrych ar y ddogfen hon. Rydym wedi ceisio rhoi cryn dipyn o’r wybodaeth orau sydd ar gael inni ynddi. Ond, ydynt, mae agweddau yng Nghymru’n newid ac mae agweddau yn y DU yn newid. Yr hyn sy'n arwyddocaol yw, lle mae'r dull hwn wedi’i ddefnyddio mewn gwledydd eraill, i’w gwneud yn glir na chewch chi ymosod yn gorfforol ar blentyn, bod hynny ynddo ei hun wedi creu newid oherwydd arwyddocâd pur dweud, 'Dim amheuaeth, dim os nac oni bai.' Mae wedi creu newid ynddo ei hun; mae’r agweddau tuag at gosb gorfforol wedi newid o ganlyniad i gyflwyno'r gyfraith hon. Mae ychydig yn debyg i’r gyfraith gwregysau diogelwch neu gyfreithiau eraill tebyg.

Yn olaf, soniasoch am y pwynt yno o ddefnyddio’r adnoddau presennol yn effeithiol. Mae'n hanfodol, i wneud i hyn weithio, ein bod yn gweld beth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd ar lawr gwlad. Unwaith eto, ni wnaf ei adrodd fesul pennod ac adnod, ond maent wedi'u gosod allan yma: popeth rhwng ymyriadau iechyd, ymyriadau addysg, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ardaloedd Plant yn Gyntaf ac ati. A ydym yn gwneud yn siŵr, ar draws y sector, ein bod yn rhoi’r cymorth cywir i’r rhieni cywir a’r teuluoedd cywir o dan yr amgylchiadau cywir yn gynnar iawn, fel ein bod yn osgoi cyrraedd y sefyllfa lle mae plant yn cael eu cosbi’n gorfforol?

Diolch am y cwestiynau. Rwy’n gwybod y byddwn yn dychwelyd at fwy o'r rhain yn fanwl wrth fwrw ymlaen â hyn, ond hoffwn hefyd wahodd Aelodau i ymgysylltu â mi wrth i’r ymgynghoriad hwn fwrw ymlaen, fel y gallaf glywed mwy o safbwyntiau fel hwnnw.

15:10

A gaf i yn gyntaf oll ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r ymgynghoriad hwn a llongyfarch y Gweinidog am ei gyflwyno fel un o, bron, ei weithredoedd cyntaf ar ôl cymryd y swydd? Dywedodd y Gweinidog fy mod i wedi ymwneud â hyn ers amser maith fel AS. Mae gennym hefyd Simon Thomas, a fu hefyd yn ymwneud â hyn fel AS, ac roeddwn yn cofio pan aethom i Stockholm fel grŵp, a daeth Jane Hutt hefyd, yn ogystal â Christine Chapman, ac eraill efallai—ni allaf gofio nawr. Rwy’n meddwl, mewn gwleidyddiaeth, eich bod yn dysgu bod angen strategaeth hir arnoch chi. Mae'n debyg mai dyna yw fy nghasgliad ynglŷn â’r rhan fwyaf o faterion yr wyf erioed wedi ymwneud â nhw. Ond, eto, rwyf wir yn croesawu hyn.

Dim ond rhai cwestiynau byr sydd gennyf i’w gofyn, oherwydd rwy’n gwybod y cawn yr holl drafodaeth fanwl pan fyddwn mewn pwyllgor. Ond, yn amlwg, mae Llywodraeth yr Alban yn mynd drwy'r un broses bron ar yr un pryd â ni, felly tybed a ydych chi wedi cyfathrebu o gwbl â Llywodraeth yr Alban ac a ydych chi wedi dysgu o’r hyn y maen nhw wedi llwyddo i'w wneud hyd yn hyn. Y cwestiwn arall oedd: o ran amserlen, rwy’n gwybod mai ymgynghoriad 12 wythnos yw hwn—beth yw'r amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth ar ôl hynny?

Rwy’n meddwl eich bod wedi dweud y byddwn yn edrych eto ar y newid agwedd sydd wedi digwydd ymysg rhieni; rwy’n meddwl bod hynny yno yn y ddogfen ymgynghori. A ydych chi wedi cael unrhyw gyfle i edrych ar sut y mae plant yn gweld y mater hwn? Oherwydd rwy’n meddwl bod hwnnw’n beth eithaf pwysig i edrych arno. Rwy’n meddwl bod rhai astudiaethau wedi cael eu gwneud i ddangos barn plant, ond rwy’n meddwl bod hynny'n rhywbeth y dylem yn sicr ei wneud fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn enwedig o ystyried y ffaith nad yw plant yn cael eu hamddiffyn cystal ag oedolion o dan y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd.

Y cwestiwn olaf, wedyn, yw gofyn i chi, gan—wyddoch chi, rydych chi'n amlwg yn gweld hyn fel rhan o becyn o hawliau plant, ac rwy’n gwybod bod CCUHP wedi annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wneud hyn ar sawl achlysur, felly rwy’n siŵr y byddech chi'n gweld hyn fel y cyfle i gydymffurfio'n llawn â CCUHP, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo’n llawn iddo.

15:15

Julie, a gaf i ddiolch yn fawr ichi am y cwestiynau hynny, ond hefyd ddiolch yn gwbl ddiffuant i chi ac eraill dros y blynyddoedd sydd wedi ymgyrchu ar hyn yn hir ac yn galed? Rwy’n gwybod bod y broses wedi bod fel Sisyphus yn gwthio’r graig yn barhaus i fyny’r rhiw ac yna’n ei gweld yn rholio’n ôl ar gyfer y bore wedyn. Ond rwy’n meddwl ein bod yn agos nawr, ac mae hynny'n dda i’w weld. Ac mae hynny’n dod â mi at—. Os caf i ymdrin yn gyntaf â’ch cwestiwn am y ddeddfwriaeth, os mai ewyllys y Cynulliad hwn yw pasio’r newid deddfwriaethol hwn a gwneud yn siŵr bod y pecyn cywir ar waith gennym a bod yr adnodd yn cael ei ddefnyddio’n dda, gallem symud ymlaen ar hyn yn gyflym, o bosibl o fewn trydydd tymor y Cynulliad. Nawr, mae hyn yn amodol ar i'r rheolwyr busnes ganiatáu hynny ac ati, a’i fod yn flaenoriaeth, ond nid wyf yn amau, pe bai'r Cynulliad yn cefnogi hyn yn gryf—ac mae'r Cabinet, rwy’n gwybod, yn awyddus i weld hyn yn symud ymlaen—gallem ei weld mor gynnar â’r trydydd tymor.

Soniasoch am cynnig Llywodraeth yr Alban—yn wir, ac mae pobl wedi gofyn imi, 'oni fyddai'n braf pe gallai Cymru gyrraedd yno yn gyntaf, cyn yr Alban?' Ond, edrychwch, un o fanteision—. Byddai'n braf cyrraedd yno cyn yr Alban, ond Bil Aelod preifat sy'n cael ei defnyddio fel cyfrwng yn yr Alban, ond y gwir yw ei bod, yn ôl pob tebyg, yn bwysicach cyrraedd yno yn y ffordd gywir a gwneud yn siŵr bod y darn cywir o ddeddfwriaeth ger ein bron. Gallai fod yn fantais, o bosibl, cyrraedd ychydig ar ôl yr Alban, oherwydd hi, o’r holl wledydd yr ydym wedi edrych arnyn nhw, yw’r debycaf o ran ei hawdurdodaeth droseddol a’i chorff o gyfraith achos. Yn wir, pe byddem yn edrych ar rai o'r pethau y maen nhw yn eu dysgu ar hyn o bryd, gallai ein helpu i lunio hyn a lleihau, rhaid imi ddweud hefyd, y siawns y gallai her gyfreithiol lwyddo yn ei erbyn. Fodd bynnag, rydym yn cydweithio'n agos â swyddogion ac rwy’n edrych ymlaen at siarad â'm cymheiriaid yn Senedd yr Alban hefyd a Llywodraeth yr Alban i drafod eu cynigion a'u hamserlen yn fanwl.

Julie, soniasoch am sut y mae plant yn gweld cosbau corfforol. Rydym yn cyfeirio at rywfaint o hynny, yn ddefnyddiol gobeithio, yn y ddogfen. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth bellach bod y plant—nid yw'n anodd deall pam—yn eithaf clyfar ac yn gallu mynegi’n effeithiol—plant o wahanol oedrannau hefyd—y ffaith eu bod nid yn unig yn gweld cosbau corfforol yn ddiangen ac ati, ond yn wirioneddol niweidiol o ran sut y maent yn effeithio arnynt, nid yn unig yn gorfforol, ond yn emosiynol, ac ar y berthynas â gofalwyr, y berthynas â gwarcheidwaid, ac â rhieni, ond maent hefyd yn eithaf clir wrth ddweud eu bod yn cydnabod mai’r ffordd orau o ddisgyblu a sbarduno ymddygiad da yw’r dull gweithredu mwy cadarnhaol hwnnw o gydnabod ymddygiad da, gwobrwyo ac annog, a gosod ffiniau clir. Mae yna ffyrdd o ddisgyblu heb fod angen cosbi corfforol.

Ac, yn olaf, o ran CCUHP, rwy’n meddwl ein bod yn ddigon clir, o ran deddfwriaeth flaenorol yr ydym wedi’i chyflwyno drwy'r lle hwn sy’n berthnasol i CCUHP, y byddai hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth, ynghyd â phecyn ehangach, a fyddai’n rhoi Cymru ar flaen y gad, nid yn unig o ran bodloni gofynion y Confensiwn, ond ar flaen y gad unwaith eto o ran sut yr ydym yn ymdrin â hawliau plant ac yn amddiffyn yr hawliau plant hynny. Felly, rydym yn edrych ymlaen at yr ymgynghoriad a'r safbwyntiau a gyflwynir, ond rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â hyn.

15:20

Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am gymryd yr amser i gysylltu â mi ddoe, i drafod pethau â mi, ac i roi datganiad imi y bore yma. Rwy’n gwerthfawrogi, tra yr ydym yn y camau ymgynghori ar y pwnc hwn ac nad yw y ddeddfwriaeth ar waith eto, ei fod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arfaethedig fel un sy’n dileu amddiffyniad cosb resymol. Mewn termau symlach, bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn gwybod y gelwir hyn yn waharddiad ar smacio, yn syml. Yn ystod ymgynghoriad, mae'n bwysig ein bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, oherwydd mae'r pwnc hwn yn un dadleuol, ac, yn amlwg, yn un sensitif. Mae llawer o faterion i'w hystyried yma cyn rhoi gwaharddiad ar waith. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a yw’r wladwriaeth yn ymestyn ei chrafangau i fywyd y teulu—wyddoch chi, pa mor bell yr ydym ni'n barod i fynd â hyn? A pha mor effeithiol fyddai’r gwaharddiad?

Rydym i gyd yn cytuno bod rhaid inni annog rhianta cadarnhaol. Edrychais ar ôl dau o blant am flynyddoedd lawer ac ni wnes i eu smacio unwaith. Nid fy mhlant i oedden nhw. Roeddwn i'n gofalu amdanyn nhw yn barhaol am amser hir iawn, ond gweithiodd pethau’n iawn inni heb ddim smacio o gwbl. Mae hawliau plant yn bwysig, ond edrychais ar ddyfyniadau dwy fam ynghylch gwahardd smacio—roedd y ddwy ohonynt yn anghytuno ag ef—a dywedodd un: 'Mae gwahaniaeth rhwng disgyblu plant a’u cam-drin. Mae rhianta y dyddiau hyn yn llawer rhy feddal, a dyna pam mae gennym bobl yn rhedeg o amgylch y stryd heb ddim parch i awdurdod. Rwy’n teimlo dros athrawon. Y disgyblion sy’n rheoli’r athro nawr. Chaiff athrawon ddim gwneud dim byd i ddisgyblu’r plant, ac, yn y mwyafrif o achosion, dydy’r cymhellion ddim yn gweithio a dydy athrawon ddim yn cael gwneud pethau ac mae llawer o rieni’n meddwl nad yw hyn yn ddigon da.'

Felly, mae'n agored i ymgynghoriad, ac, wyddoch chi, dim ond dweud barn pobl eraill yr wyf fi. Mae gan bawb hawl i’w safbwyntiau gael eu clywed. Dyma'r hyn yr wyf i'n ei ddweud—dyfyniad gan rywun arall—ac mae ganddyn nhw bob hawl i gyflwyno’r dyfyniad hwnnw.

Wrth inni sôn am effeithiolrwydd gwaharddiad o'r fath, hoffwn ofyn sut y caiff ei roi ar waith, sut y caiff ei orfodi, sut y byddwn yn ysgwyddo’r gost—wyddoch chi, beth fydd yn ei gostio? A dywedodd ail riant hefyd ei bod yn meddwl bod pobl sydd o blaid y gwaharddiad eisiau inni drin plant fel oedolion bach, fel pobl y gallwch chi resymu â nhw, ond weithiau allwch chi ddim rhesymu â phlant. Dydy plant ddim bob amser yn deall eu meddyliau eu hunain ac maen nhw'n tueddu i wthio ffiniau. Ac maen nhw wedi gofyn, 'os ydyn nhw’n gwahardd smacio, a allwch chi roi datrysiadau inni? Mae eu cadw nhw yn y tŷ, neu gymryd breintiau oddi arnyn nhw, yn aneffeithiol ar y cyfan.' Yna aeth ymlaen i ddweud, 'Roedd pobl o fy nghenhedlaeth i’n cael eu smacio ac roeddwn i'n teimlo ein bod ni’n dipyn mwy cytbwys na rhai o'r genhedlaeth iau nawr.' A dywedodd hi, 'Roedd fy mhlentyn cyntaf yn cael ei smacio. Dydy smacio i ddisgyblu ddim yn golygu crasfa, ac, erbyn yr adeg pan oedd fy ail blentyn yn tyfu i fyny, roedd llawer o wrthwynebiad yn y cyfryngau i smacio, felly ni chafodd yr ail blentyn ei smacio. Cafodd hi ei rhoi ar y stepen ddrwg, ac ni chafodd hyn ddim effaith o gwbl; roedd ei chadw yn y tŷ yn union yr un fath. Felly, o ran y canlyniadau, roedd y cyntaf yn dangos llawer mwy o barch tuag at unrhyw fath o awdurdod na’r ail. Roedd dau o athrawon yr wyf yn eu hadnabod yn methu aros i symud i Dubai i addysgu oherwydd, yn eu geiriau eu hunain, "O ran disgyblaeth, does dim cymhariaeth. Yn Dubai, gallwn ni wneud yr hyn yr ydym ni'n cael ein talu i’w wneud, sef addysgu. Ychydig iawn o faterion disgyblu sydd yma, ond, yn anffodus, mae Cymru ar goll. Nid oes gennym ddim bwriad i ddychwelyd. Rydym yn addysgu, ac mae’r plant yn dysgu. Mae pawb yn ennill".'

Felly, ein gwaith ni fel gwleidyddion yw helpu rhieni i fod y rhieni gorau posibl. Rydym yn annog ac yn meithrin ffordd o fyw, efallai, yn hytrach na gwahardd, a rhaid ymdrin â cham-drin pan gaiff ei gydnabod a’i gosbi gan y gyfraith. Rhieni sy'n byw gyda'u plant 24/7 a rhaid inni ddeall a pharchu eu hawliau hefyd i geryddu, o fewn rheswm, y plant y maen nhw'n dod â nhw i'r byd. Diolch.

15:25

Caroline, diolch yn fawr iawn. Rwy’n meddwl bod hyn yn dangos pam, yn yr ymgynghoriad 12-wythnos, yr hoffem ni gael pob barn i mewn i hyn, ond heb fod dan unrhyw gamargraff mai’r bwriad yma yw cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Nawr, unwaith eto, i gyfeirio at y ddogfen, yr ydym wedi treulio llawer o amser arni—yn y ddogfen ymgynghori, mae’n cyfeirio at yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill ac nid yw wedi arwain at giwiau o rieni a gwarcheidwaid y tu allan i lysoedd yn aros i gael eu herlyn; nid yw wedi arwain at fasgedi o erlyniadau. Mae wedi arwain, gyda llaw, at bethau fel cynnydd sydyn yn y cwpl o flynyddoedd cyntaf o fwy o riportio, ond nid yw hynny wedi arwain at erlyniadau diddiwedd. Yr asesiad yw bod gan hynny gymaint i'w wneud â’r ymwybyddiaeth o fewn cymdeithas mai effaith deddfwriaeth fel hyn, yn sydyn, yw nad dyna’r ffordd orau o ddisgyblu plentyn, mewn gwirionedd, defnyddio cosb gorfforol.

Ond bydd amrywiaeth eang o safbwyntiau’n cyfrannu at hyn. Byddwn yn tynnu, Caroline, eich sylw at dudalen 21 y ddogfen, sy’n edrych ar rai o'r astudiaethau ynghylch agweddau tuag at gosbi plant. Yn ôl yn 1998, gwnaeth yr Adran Iechyd astudiaeth o 2,000 o oedolion ym Mhrydain—ar yr adeg honno, dywedodd 88 y cant o rieni, 'Weithiau mae angen smacio plant drwg.' Tachwedd 2015, arolwg Llywodraeth Cymru: cytunodd 24 y cant o rieni fod angen smacio plant drwg weithiau. Mae pethau’n symud: rwy’n siarad â phobl sy'n dweud hyn wrthyf. Os ydych chi wedi gweld yr arolygon o farn rhieni dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, maen nhw'n dweud, 'Dydy’r hyn yr oedd fy rhieni’n meddwl ei fod yn normal ddim yr un fath â’r hyn yr oedd eu neiniau a’u teidiau’n nhw yn ei feddwl' ac ati. Nid yw hynny’n golygu, gyda llaw, eu bod yn rhieni gwael; doedden nhw ddim, o gwbl. Ond mae cymdeithas yn symud, rydyn ni’n symud gyda hi, ac weithiau mae angen i’n deddfwriaeth ddal i fyny â beth yn union sy'n digwydd a’i gwneud yn glir, hefyd, rhaid imi ddweud, i rywun mewn llys, beth yn union sy'n dderbyniol a beth sydd ddim.

Soniasoch chi am gostau. Rwy’n siŵr y bydd llawer o gyflwyniadau yn ystod yr ymgynghoriad hwn ar y pecyn ehangach hwnnw o gefnogaeth. Nid ydym ni'n rhagweld unrhyw gost ychwanegol yma o ran llysoedd neu erlyniadau ac ati, oherwydd dydy’r dystiolaeth ddim yn dangos bod hynny'n digwydd, ond efallai y caiff awgrymiadau eu cyflwyno o ran ble i ddefnyddio’r adnoddau o ran cymorth i rieni neu ofal cymdeithasol ac ati, ac ati, ac ati, a byddwn yn edrych ymlaen at gael y rheini.

Ac, yn olaf, gwnaethoch chi y pwynt, fel y gwnaeth eraill, am ledaenu hyn i gynulleidfa mor eang â phosibl. Anghofiais ddweud, Angela, ac eraill, wrth ymateb, bod yr ymgynghoriad, wrth inni siarad, wedi mynd yn fyw ar y wefan a’i fod yn ymgynghoriad da a hawdd i ymateb iddo, a byddwn yn annog Aelodau i hysbysebu hyn i'w hetholwyr yn eu cylchlythyrau rheolaidd ac ati i wneud yn siŵr bod pobl yn rhoi eu barn. P'un a ydynt yn rhiant neu beidio, bydd ganddyn nhw farn am hyn. Felly, gallan nhw roi eu barn. Diolch.

A gaf ddweud bod yr ymgynghoriad hwn a'r ddadl genedlaethol y bydd nawr yn ei hysgogi, gobeithio, i’w croesawu’n fawr? Fi yw’r unig Aelod Cynulliad Ceidwadol sydd wedi gwasanaethu pob Cynulliad hyd yma. Dyma'r pumed, ac, yn y cyntaf, cawsom ddadl am gosbi plant yn gorfforol ar gynnig yr wyf yn meddwl a gynigiwyd gan Christine Chapman ac roedd naw o Geidwadwyr yn y Cynulliad ar y pryd, a phleidleisiodd tri ohonom o blaid y cynnig hwnnw. Felly, bu cefnogaeth drawsbleidiol i hyn ac, yn amlwg, mae pobl o bob plaid sy'n teimlo y dylid cadw’r amddiffyniad. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy'n hanfodol yw ein bod yn cael y ddadl hon yng nghyd-destun hyrwyddo’r dulliau rhianta mwyaf cadarnhaol ac amgylchedd lle mae ein plant yn cael cyfle i ffynnu. Un o'r pryderon y mae angen inni eu cofio yw nad y smacio de minimis, fel y'i gelwir, sy’n digwydd mewn diwylliant sy'n caniatáu hynny sydd bwysicaf; mae hynny’n ymosodiad corfforol bach iawn. Y pryder yw bod hynny’n gwneud defnyddio grym corfforol yn dderbyniol i ryw raddau, ac y gellir colli rheolaeth ar hynny, ac y gallai fod yn haws atal y mathau hynny o gam-drin mewn diwylliant sy'n dweud, 'Mae'r gyfraith yma yn glir iawn, iawn'. Ac rwy’n meddwl bod angen inni gofio’r plant hynny sy'n agored i niwed corfforol gwirioneddol weithiau, er fy mod yn derbyn yn llwyr bod hynny'n bell y tu hwnt i unrhyw beth y byddai’r mwyafrif helaeth o rieni’n ei ystyried yn rhesymol o gwbl.

A gaf ddiweddu drwy ddweud bod rhaid inni, yn anffodus, wynebu y ddadl hon fel mater o gyfraith droseddol? Ac nid wyf yn meddwl bod hynny'n ddefnyddiol. Rwy’n meddwl ei bod yn llawer gwell sôn am gyfreithlondeb rhywbeth, ac, os ydym yn newid y gyfraith, ei bod yn well o lawer dweud nad yw cosb gorfforol yn gyfreithlon mwyach, ac os yw’n digwydd, y byddai disgwyl ymyriad, ond yn y mwyafrif helaeth o achosion, y byddai’n anffurfiol ac yn llawer llai nag unrhyw achos troseddol. Dyna fy nealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn rhyngwladol, a dyna beth y dylem fod yn ei annog. Rwy’n canmol Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â hyn nawr, ac rwy’n siŵr y cawn sgwrs helaeth iawn â phobl Cymru yr ydym yn eu gwasanaethu. Bydd llawer o safbwyntiau, ac mae’n ddigon teg i Caroline fynegi barn pobl sydd â barn wahanol, ond rwy’n meddwl bod angen dadl lawn a phriodol. Yn fy marn i, 20 mlynedd yn ôl, roeddwn yn teimlo ei bod yn bryd inni symud ymlaen, ond rwy’n sicr yn meddwl hynny nawr.

15:30

David, a gaf i ddiolch ichi am eich sylwadau? Efallai eich bod chi ac Aelodau eraill yma o flaen eu hamser, ond nawr mae’r cynnig hwn yn dal i fyny â chi. Unwaith eto, hoffwn bwysleisio y byddwn yn sicr yn ceisio bwrw ymlaen â hyn gyda chefnogaeth drawsbleidiol mor eang â phosibl, ac wrth yr Aelodau hynny sydd cyn hyn wedi mabwysiadu safbwyntiau gwahanol i'r cynnig presennol, byddwn wir yn dweud 'Ymgysylltwch â ni, byddwch yn agored o ran yr hyn yr ydym yn ei gynnig.' Rwy’n hapus i drafod hyn hyd syrffed gyda phobl, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, oherwydd rwy’n meddwl bod yr hyn sydd gennym ger ein bron yn gymesur, yn gytbwys, ac yn canolbwyntio'n gryf ar y mater o agwedd gadarnhaol at rianta, gan gydnabod bod rhieni eisiau gwneud y peth iawn i’w plant—weithiau, mae angen cymorth ar bob math o rieni i wneud hynny. Ond mae hefyd yn fater o roi, yn hollbwysig, yr eglurder hwnnw a nodwyd gennych, David, i bobl allan yna yn y gymdeithas ehangach, gan fy nghynnwys i, ond hefyd i lysoedd barn, fel y ceir symlrwydd ac eglurder a bod pobl yn gwybod lle maen nhw yn sefyll, ac fel bod y bobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen yn gwybod lle maent yn sefyll hefyd wrth roi cyngor i rieni a gwarcheidwaid. Felly, diolch ichi am eich cefnogaeth ac rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu â chi a llawer o bobl eraill ar hyn.

Diolch, Llywydd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a myfyrio hefyd ar y ffaith ein bod wedi cael cyngor ac ymatebion cadarnhaol iawn gan bobl fel yr Athro Sally Holland, y comisiynydd plant annibynnol. Cyn iddi ddod yn gomisiynydd plant, roedd hi’n athro polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf hefyd yn cydnabod y dystiolaeth a ddarparwyd dros y blynyddoedd, i fynd yn ôl at y ddadl y mae David Melding newydd gyfeirio ati yn y sesiwn gyntaf, gan y sector gwirfoddol plant hefyd. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gallu edrych at, a throi at, y sector gwirfoddol plant sefydledig ac uchel ei barch—Barnado's, yr NSPCC, Plant yng Nghymru—sydd wedi bod yn glir iawn am hyn ers y dyddiau cynnar hynny o ran y drafodaeth.

Hoffwn hefyd ddiolch i Aelodau fel Julie Morgan am ei chefnogaeth barhaus i’r newid hwn yn y gyfraith ers iddi fod yn AS ac yn ei hamser fel AC. Yn wir, hoffwn ddweud fy mod wedi bod yn Weinidog ac y gallwn hyd yn oed fod wedi ymateb i’r ddadl honno a ysbrydolwyd gan Christine Chapman, a dweud bryd hynny, ‘Ydym, rydym ni eisiau symud ymlaen ar hyn.’ Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr agenda rhianta cadarnhaol, a bod hynny’n digwydd nid yn unig o ran aros am ymatebion, ond rwy’n cofio ein bod wedi ariannu canllawiau da iawn ar reoli ymddygiad. Roedd dwy ddogfen, ac rwy’n meddwl y cawsant eu cynhyrchu gan weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, pobl sy'n gweithio gyda'r plant. Roedd dogfen ar gyfer plant o dan bump, ac wedyn roedd yn ymwneud â rheoli ymddygiad, a rheoli ymddygiad plant dros 10 oed hefyd.

Dyma lle y mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cyfleu’r wybodaeth honno, felly rwy’n gobeithio y byddwch hefyd yn gwneud yn siŵr bod y canllawiau rhianta cadarnhaol a'r cyngor sydd ei angen arnom i gyd—. Ac rwy’n meddwl bod Bethan Jenkins wedi gwneud pwynt pwysig iawn: bod hyn yn berthnasol i bob oedolyn—ac, yn wir, Caroline hefyd. Mae’n ymwneud ag oedolion sy'n gofalu am blant, a’r cyngor y gallwn ei roi. Ond rwy’n credu bod y ffordd yr ydych chi fel Gweinidog wedi bwrw ymlaen â hyn yn rhagorol, gan ystyried y materion mor fanwl, a’ch ymrwymiad personol eich hun i archwilio’r mater hwn.

15:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Jane, diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth hirdymor yn hyn o beth. Yn gwbl briodol, rydych yn cydnabod swyddogaeth y comisiynydd plant wrth ddadlau dros hyn ers cryn amser. Rwy'n deall iddi fod yn gefnogol i'r cynigion yr ydym yn eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac mae hi wedi dweud hynny—ond mae'r amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector gwirfoddol hefyd wedi ymgyrchu ers amser hir dros hyn. Ac rwy'n sicr y bydden nhw i gyd—fel y bydd eraill sydd o farn wrthgyferbyniol hefyd—yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwn wrth iddo fynd rhagddo. Rydych, yn gwbl gywir felly, yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio unwaith eto ar yr agwedd rhianta cadarnhaol, ac fe wyddom ni—ac rydym yn cyfeirio at hynny yn y ddogfen ymgynghori—lle gallwn weld y manteision. Ceir manteision gwirioneddol, gydag enghreifftiau rhyngwladol, o'r effaith fuddiol a hirdymor ar y plant a'r bobl ifanc hynny wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion, drwy'r dulliau cadarnhaol o rianta, yn hytrach na chosb gorfforol.

Ond gwyddom hefyd mai adeiladu y mae hyn ar y gwaith yr ydym eisoes wedi gwneud cymaint ohono yng Nghymru. Eto, nid wyf yn mynd i'w darllen nhw nawr ar gyfer y cofnod, ond maen nhw yno yn y ddogfen ymgynghori. Y cwestiwn yw: ai'r rhain yw'r ymyriadau cywir, wrth fynd ymlaen, a oes angen eu mireinio a'u haddasu, a oes gennym yr adnoddau digonol, a oes angen inni adleoli'r adnodd? Ond gwyddom na fydd hyn yn digwydd ar hap; bydd yn digwydd o'r llwybr a osodwyd gan y Cynulliad hwn, a Llywodraethau olynol, ynghylch y ffordd yr ydym yn ymdrin â rhianta, teuluoedd a phlant yng Nghymru. Credaf mai agenda gadarnhaol a blaengar iawn fu hon erioed, a dyma'r cam diweddaraf. Ond mae'n mynd â ni ymlaen at gam sy'n diffinio, lle byddwn ni mewn gwirionedd yn dweud bod gennym ni, ar gyfer plant a rhieni Cymru, ddull lle mae eglurder yn y gyfraith, ac mae eglurder pwrpas hefyd o ran rhianta cadarnhaol. Ac rydym yn gwybod bod gennym ni fel Llywodraeth, ac fel Cynulliad, swyddogaeth allweddol wrth symud hyn yn ei flaen. Diolch.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru

Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar God Erlyn Llywodraeth Cymru. Rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gyfrifoldebau erlyn mewn cysylltiad â'i swyddogaethau. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn ymwneud yn bennaf â lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd, a physgodfeydd. Pan fo cyfreithiau’n creu rhwymedigaethau rheoleiddiol a throseddau cysylltiedig, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu gorfodi’n briodol er budd llywodraethu da, ac ni fydd yn syndod i Aelodau, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr angen i orfodi’r materion hyn o ddifrif.

Mae'r camau gorfodi a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru o ran lles anifeiliaid a chynhyrchu bwyd wedi arwain at erlyniadau. Yn fwyaf diweddar, er enghraifft, cafwyd erlyniad yn enw'r Cwnsler Cyffredinol am drosedd â rheoliadau CE o ran marchnata wyau a thwyll. Rwy'n falch o ddweud bod yr erlyniad hwn wedi arwain at euogfarn, dirwy a gorchymyn enillion troseddau. Mae'r achos hwn, ac eraill tebyg, yn ein hatgoffa pan fydd torcyfraith yn dod i'r amlwg—yn yr achos hwn, o fewn y diwydiant wyau yng Nghymru— y dylai troseddwyr fod yn gwbl sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gynnal y gyfraith.

O ran pysgodfeydd, mae swyddogion gorfodi morol sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru wedi ymchwilio i nifer o droseddau yn erbyn deddfau pysgodfeydd yn nyfroedd Cymru, gan arwain at nifer o erlyniadau llwyddiannus. Mae'r erlyniadau hyn yn diogelu uniondeb a chynaliadwyedd y sector pwysig hwn. Er hynny, nid yw ein cyfrifoldebau erlyn yn dod i ben gyda hynny. Mae gennym hefyd gyfrifoldebau erlyn o ran gweithgaredd a reoleiddir ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal iechyd annibynnol a gofal plant. Felly, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n ddarparwyr cofrestredig yn un o'r meysydd hynny am dorri gofynion rheoliadol. Yn yr un modd, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n cyflawni gweithgareddau rheoleiddiedig heb fod wedi eu cofrestru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i erlyniad teg ac effeithiol fel ffordd o gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn unigolion, y cyhoedd a'n hadnoddau, a sicrhau bod pob un ohonom yn byw mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn. Mae penderfyniad i erlyn neu hyd yn oed argymell rhybudd yn gam difrifol iawn sy'n effeithio nid yn unig ar yr unigolyn sydd dan amheuaeth mewn achos, ond yn effeithio ar bawb sy'n gysylltiedig â'r achos, yn ddioddefwyr a thystion yn benodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn cadw hyder y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau o ran erlyniadau. Rhan fawr o hynny yw esbonio sut yr ydym yn gwneud ein penderfyniadau a'r egwyddorion sydd yn gymwys wrth wneud y penderfyniadau hynny. Rhaid cymryd pob penderfyniad i erlyn yn deg, yn ddiduedd ac yn ddidwyll. Rwyf felly wrth fy modd o ddatgan heddiw fy mod wedi cyhoeddi Cod Erlyn Llywodraeth Cymru.

Yn Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gyfrifol yn gyffredinol am benderfyniadau erlyn yn Llywodraeth Cymru, er y gwneir rhai penderfyniadau erlyn yn enw Gweinidogion Cymru o dan statud. Ym mhob achos, mae angen i mi ystyried a yw'n achos sy'n addas ar gyfer ei erlyn. Hyd yn hyn, gwnaed hynny drwy gyfeirio at God Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr y goron. Fodd bynnag, o heddiw ymlaen bydd pob penderfyniad erlyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud drwy gyfeirio at god erlyn Llywodraeth Cymru. Mae cod Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar god presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron ond wedi ei addasu i gymryd swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru i ystyriaeth.

Cafodd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron CPS ei ddatblygu yn bennaf i'w ddefnyddio mewn perthynas â thramgwyddau troseddol prif ffrwd. Mae felly yn cymryd i ystyriaeth y math o erlyniadau sy'n cael eu cychwyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu. Mae'n anochel nad yw rhannau o god Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gymwys i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnwys prawf trothwy sy'n gymwys i achosion dalfa. Yng ngoleuni hyn, ac ynghyd â'r ffaith bod swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru gael ei chod erlyn ei hunan. Bydd y cod hwn, sydd wedi ei deilwra'n benodol, yn sicrhau y gwneir penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cod newydd yn pennu fy ngallu cyffredinol i ddechrau erlyniadau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ymhellach, mae'r cod yn cynnwys y prawf erlyniad, a fydd yn berthnasol i holl achosion erlyn. Mae dau gam ar wahân i'r prawf hwn: yn gyntaf, prawf y dystiolaeth ddigonol, ac yn ail, cam lles y cyhoedd. Mae'r cam tystiolaeth ddigonol yn ei gwneud yn ofynnol i'r erlynydd gael ei fodloni bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob un sydd dan amheuaeth ar gyfer pob trosedd. Mae cam lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fynd ymlaen i ystyried a yw erlyniad yn ofynnol er lles y cyhoedd.

Mae’r cod yn amlinellu nifer o ffactorau penodol i'r erlynydd eu hystyried wrth benderfynu ar y budd i'r cyhoedd, sy’n amrywio gan ddibynnu ar gyd-destun yr erlyniad. Er enghraifft, yng nghyd-destun erlyniad amgylcheddol, bydd angen i erlynydd ystyried effaith y drosedd ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad, ac yng nghyd-destun erlyniad gofal cymdeithasol, bydd angen i'r erlynydd ystyried a oes elfen o berygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd.  

Cyn y cafodd y cod hwn ei gyhoeddi, lansiodd fy rhagflaenydd a’m cydweithiwr Mick Antoniw ymgynghoriad cyhoeddus ar god drafft er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid a'r cyhoedd gyflwyno sylwadau a barn. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Cafwyd nifer o sylwadau gwerthfawr a gallaf gadarnhau y cafodd diwygiadau eu gwneud i'r cod drafft o ganlyniad i'r sylwadau hyn. Hoffwn ddiolch yn benodol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y sylwadau ynghylch eglurder yn benodol. Mae’r cod wedi elwa ar fewnbwn y pwyllgor ac rwy’n gobeithio y bydd yn cytuno bod y cod terfynol yn gliriach oherwydd hynny. Hoffwn ddiolch, yn olaf, i Wasanaeth Erlyn y Goron am gydweithio'n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r cod.

Amcan Llywodraeth Cymru drwy'r cyfan fu datblygu cod erlyn Llywodraeth Cymru sydd yn glir, yn hygyrch ac yn addas at y diben. Mae mewnbwn gan yr holl randdeiliaid wedi bod yn werthfawr wrth ddatblygu cod a fyddai'n rhoi sail glir i erlyniadau gan Lywodraeth Cymru i'r dyfodol wrth inni barhau i weithredu'r cyfreithiau yr ydym yn gyfrifol amdanynt.

15:45

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn gwneud ymyriad byr, ond mae gennyf un prif ymateb, mewn gwirionedd, a hwnnw yw: beth oedd cywair yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gyffredinol? Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, fis Mai diwethaf cafodd cod drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Hyd y gwn i, ni chyhoeddwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rwy'n ymddiheuro os fy methiant TG i yw hynny, ond nid wyf wedi llwyddo i gael gafael arnyn nhw, ac nid wy'n credu bod dadansoddiad o'r ymatebion wedi bod ar gael inni. Rwyf i o'r farn y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, yn enwedig gan eich bod wedi dweud bod y cod wedi'i ddiwygio mewn gwirionedd yng ngoleuni'r ymatebion hyn. Eto i gyd, rwyf wedi gweld ymateb yr RSPCA i'r ymgynghoriad ar wahân ac roedd pryderon ynddo am y prawf erlyn, sydd, fel y dywedasoch, yn allweddol i'r ymgynghoriad gan ei fod yn culhau cymhwysiad cod Llywodraeth Cymru o'i gymharu â chod Gwasanaeth Erlyn y Goron. Yn amlwg, mae hwn yn bwynt y byddai angen ystyriaeth ofalus ohono a naill ai sicrwydd neu wrthbrawf o'ch safbwynt chi.

Yn olaf, hoffwn i ofyn a oes unrhyw asesiad o allu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r dasg hon a gweithredu'r cod yn effeithiol. O ystyried y bydd gennym fwy o gyfraith Cymru, yn ôl pob tebyg, mae'n mynd yn fwy ar wahân, ac mae dyletswyddau erlyn yn debygol o dyfu. Rwy'n cytuno â chi yn sicr fod angen inni sicrhau gweithrediad teg ac effeithiol o'r gyfraith, ni chawn ni ein llywodraethu yn dda fel arall, ac felly yn wir mae hynny'n mynd at galon hyn. Wrth wneud hynny, rwy'n ymwybodol iawn y bydd angen ystyriaeth ofalus iawn, iawn o'r materion hawliau dynol dan sylw pan fydd pobl yn wynebu torcyfraith, ac wrth gasglu tystiolaeth a phethau tebyg, fel sy'n digwydd yn amlwg ar hyn o bryd gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Diolch. O ran cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, maen nhw wedi'u cyhoeddi mewn gwirionedd, felly gwnaf yn siŵr eu bod yn cael eu hanfon eto mewn e-bost heddiw, a gwnaf yn siŵr bod yr Aelod yn cael copi. Mae e'n iawn i ddweud bod nifer o'r pwyntiau a godwyd yn ymwneud â'r cwmpas, fel petai. Roedd rhanddeiliaid yn awyddus i gael rhagor o eglurder ynghylch y sawl y mae'r cod yn berthnasol iddo, er enghraifft, ac felly gwnaed diwygiadau i egluro'n  benodol ei fod yn ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru yn unig yn hytrach na chyrff trydydd parti sydd a'u swyddogaethau erlyn eu hunain o bosib.

Roeddech chi'n sôn am y prawf erlyn yn benodol, ac, unwaith eto, mae rhanddeiliaid amrywiol wedi gwneud sylwadau ar gam lles y cyhoedd ac wedi gwneud rhai awgrymiadau penodol am welliannau i'r cam hwnnw, a rhoddwyd ystyriaeth i sawl un o'r awgrymiadau hynny.

Roeddech chi'n holi am effaith y cod ar y capasiti yn gyffredinol i fynd ar drywydd rhai o'r erlyniadau. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymhwyso cod erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy'n nodi ei gamau ei hun. Felly, mae hyn yn golygu rhyw fath o werthusiad o'r hyn sy'n benodol i Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, gwneir penderfyniadau am erlyniadau ar sail ffeithiau pob erlyniad unigol, ac mae nifer yr erlyniadau yn amrywio o faes i faes, ac wrth gwrs yn amrywio dros amser. Rhan yw hynny o gyfrifo neu ddadansoddi lles y cyhoedd sy'n ymwneud â chymesuredd y penderfyniadau i erlyn, ac un o'r ffactorau yw'r gost, er na fyddech yn gwneud penderfyniad ar sail hynny'n unig.

O ran capasiti'n fwy cyffredinol, mae gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill asiantaethau erlyn ar wahân, wrth gwrs. Yn y tymor hir, gellid ystyried hynny'n rhan naturiol o daith datganoli, sydd â chysylltiad agos â datganoli cyfrifoldebau cyfiawnder. Mae'r asiantaethau hynny yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac rwyf am fentro dweud, dros amser, wrth i'n cyfrifoldebau erlyn ni dyfu, y bydd hynny o bosib yn rhan o'r ystyriaethau y byddwn ni'n dymuno eu cael yma yng Nghymru hefyd.

15:50

A allaf i groesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol? A allaf i hefyd groesawu'r bwriad a hefyd croesawu ymddangosiad cod erlyn Llywodraeth Cymru, achos mae hyn yn adeiladau ar gael pwerau deddfwriaethol yma yng Nghymru? Wrth gwrs, fe fydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhy ifanc i gofio Deddfau Hywel Dda ar y pryd, dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl, ond rydym wedi cael y gallu yma yng Nghymru i greu deddfwriaeth o'r blaen ac i erlyn pobl, felly rwy'n gweld hyn fel cam cyntaf i adennill y tir deddfwriaethol. Dyna pam y cewch chi groeso cynnes o'r blaid hon am eich bwriad. 

Wrth gwrs, mae yna rai heriau, achos, fel rydych wedi crybwyll eisoes, ac mae'n wybyddus i bawb fod cyfiawnder troseddol fel y mae e heb ei ddatganoli, ond mae gan y Llywodraeth yn fan hyn rym i erlyn pobl sydd yn troseddu yn y meysydd datganoledig yna—fel rydych wedi crybwyll: pysgodfeydd, lles anifeiliaid, bwyd, gofal cymdeithasol a phlant. Wrth gwrs, mae yna her yn mynd i ddod pan mae'r broblem neu'r drosedd yn cael ei gweld yn fwy difrifol na beth sydd gyda ni'r pwerau i'w herlyn nhw o dan jest y meysydd datganoledig. Fe fuaswn i jest eisiau gwybod mwy am y broses, ond rwy'n croesawu'r bwriad i gael y cefndir clir yma rydych chi'n datgan i'r cod, a bod y cod yma'n mynd i fod yn glir ac yn hygyrch ac yn gymesur efo'r gwaith. Achos mae'n bwysig iawn—er taw dim ond y grym i erlyn pobl sy'n troseddu ym meysydd datganoledig sydd gyda ni ar hyn o bryd, mae'r meysydd hynny, er hynny, yn feysydd pwysig iawn. Mae diogelu ein hadnoddau naturiol yn allweddol bwysig. Mae'n bwysig felly eich bod chi fel Cwnsler Cyffredinol yn gallu cael y grym i fynd i'r afael efo'r her yna. 

Rwy'n dilyn cwestiwn David Melding ynglŷn â deddfwriaeth hawliau dynol yn yr un un achos yna o feddwl sut mae materion gweddol ddifrifol mewn meysydd datganoledig yn mynd i gael eu delio efo nhw pan mae gyda chi ddau gwahanol god, fel rydych wedi awgrymu—eich cod chi a hefyd cod y CPS. Mae her yn fanna. Fe fuaswn i'n eich cefnogi chi i wthio pob maen i bob wal a sicrhau bod pob ffin yn cael ei gwthio i'r eithaf i sicrhau bod eich cod erlyn chi fel Llywodraeth yn cael digon o rym i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud beth rydym ni'n disgwyl iddo fe ei wneud. Achos ar ddiwedd y dydd, beth rydym ni eisiau gweld yn y fan hyn wrth inni gamu ymlaen a chael rhagor o ddatganoli ydy, wrth gwrs, gwasanaeth erlyn Cymreig hefyd, a hefyd awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig sydd ar wahân i awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr, sydd gyda ni ar hyn o bryd.

Yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth gwrs, rydym wedi bod yn craffu ar ddeddfwriaeth yn y lle yma sydd nawr yn naturiol ddwyieithog, ac mae yna her yn hynny hefyd yn sut rydym ni'n datblygu Deddfau wrth fynd ymlaen, a sut rydym ni'n erlyn pobl yn y meysydd datganoledig yma wrth fynd ymlaen hefyd. Roeddwn i'n gweld un o'r ymadroddion yn yr ymgynghoriad yn dweud, 'Wel, beth am yr iaith Gymraeg, felly?' ac 'A ydy'n bosib i herio ac i erlyn yn yr iaith Gymraeg?', a buaswn i'n gobeithio y buasech ni'n gallu cyfiawnhau a chadarnhau ei bod hi yn bosib erlyn rhywun yn y meysydd yma drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. 

Wrth gwrs, wrth imi gloi rŵan, mae angen inni fod yn cysoni Deddfau newydd wrth fynd ymlaen hefyd. Rydym ni wedi cael sôn yn y Siambr hon o'r blaen am yr angen i wneud hynny—cydredeg Deddfau newydd efo'r hen rai a hefyd dod â'r agwedd ddwyieithog yma i mewn iddo fe, fel ein bod ni yn y pen draw yn gallu symleiddio pob cod cyfreithiol sydd yn mynd ymlaen. A allaf i ofyn i chi egluro faint o waith ehangach sydd yn digwydd yn nhermau yr angen i wneud yn siŵr bod cod erlyn eich Llywodraeth chi yn mynd i fod yn llwyddiannus yn hyn o beth?

Y pwynt sylfaenol, wrth gwrs, ydy eich bod wedi sôn am beth sy'n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ati, a gyda'r holl sôn am erlyn a deddfwriaeth rydym ni ar y meinciau hyn yn gredwyr cryf yn yr angen i ddatganoli y materion hyn ta beth yn eu cyfanrwydd. Mi fuasai yn symleiddio'r broses. Fuasech chi ddim yn cael y mur yma rhwng eich cod chi a chod y CPS wedyn. Buasai'n llawer haws petai'r heddlu wedi eu datganoli yma yn y lle cyntaf, fel y mae i'r Alban a Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion hyd yn oed. Pe bai'r llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai ac ati i gyd wedi eu datganoli i'r lle yma, mi fuasai yn gwneud eich gwaith chi o ddatblygu'r cod erlyn yma yn llawer haws ac yn llawer cryfach hefyd. A fuasech chi yn cytuno efo'r bwriad yna taw'r ffordd ymlaen ydy gweithio yn gyson i ddatganoli rhagor o bwerau deddfwriaethol i'r Siambr yma? Diolch yn fawr.  

15:55

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Ar y materion olaf y gwnaeth eu codi yn ei gwestiwn, fel y bydd e'n gwybod mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu comisiwn Thomas a fydd yn edrych i mewn i lot o'r cwestiynau a oedd ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod ynglŷn â'r siwrnai ddatganoli ynglŷn â meysydd cyfiawnder yn gyffredinol, a'r sefydliadau sydd ynghlwm yn hynny, yn cynnwys yr heddlu ac ati. Rwy'n dymuno'n dda i'r comisiwn a'i waith ac rwy'n gobeithio y bydd eglurhad a dadansoddiad a gwaith y comisiwn yn gallu dwyn y siwrnai hynny ymhellach yn ei blaen. 

Fe wnaeth e hefyd sôn am y cwestiwn o hygyrchedd y gyfraith yn gyffredinol a'r system gyfiawnder. Bydd e'n gwybod efallai am waith Comisiwn y Gyfraith, sydd wedi darparu adroddiad ar hynny yn benodol, ac mae'r Llywodraeth wedi derbyn sawl un o'r argymhellion hynny. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn gwneud darnau o waith ynghlwm â hynny yn hysbys iddo fe hefyd. 

Fe wnaeth e ofyn am enghraifft o sut mae'r penderfyniadau i erlyn yn cael eu cymryd ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio enghraifft o fyd pysgota a physgodaeth, bydd swyddogion ar lawr gwlad yn paratoi ffeil i Weinidogion ystyried hynny. Bydd hynny yn dod ataf i gydag argymhelliad i ddwyn achos. Byddaf i wedyn yn asesu'r achos i sicrhau bod y profion yn cael eu hateb—y profion rwyf wedi sôn amdanyn nhw yn y datganiad yn barod—ac wedyn yn penderfynu ar sail y cod newydd beth yw'r penderfyniad iawn i'w gymryd. Felly, dyna'r ffordd mae'n digwydd ar y cyfan. 

Fe wnaethoch chi sôn am y berthynas rhwng y cod hwn a gwaith y CPS yn gyffredinol. Fe wnaf i ailddweud: dim ond i benderfyniadau y Llywodraeth yng Nghymru ar erlyn y mae'r cod hwn yn berthnasol. Mae cod y CPS yn annibynnol ond, wrth gwrs, mae cynnwys y cod hwnnw yn debyg iawn i gynnwys cod Llywodraeth Cymru, gyda'r newidiadau pwysig rwyf wedi sôn amdanyn nhw. O bryd i'w gilydd, mae'n agored i Lywodraeth Cymru i basio rhywbeth ymlaen i'r heddlu neu i'r CPS. Yn yr amgylchiadau hynny, o dan god y CPS y byddai'r materion hynny yn mynd yn eu blaenau. Mae hefyd yn bosib i'r CPS gymryd drosodd erlyniad gan Lywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Eto, o dan yr amgylchiadau hynny, cod y CPS fyddai'n berthnasol.   

Diolch am y cod a gaiff ei gyhoeddi heddiw. Mae arnaf ofn nad wyf i wedi ei weld ac efallai y bydd rhai o'r cwestiynau yr wyf yn eu gofyn eisoes wedi eu hateb, ac ymddiheuriadau am hynny.

Y cwestiwn cyntaf yw hyn: a ydyw'r cod, fel y'i cyhoeddir, yn eglur o ran y mannau y mae'n gwyro oddi wrth y cod Gwasanaeth Erlyn y Goron presennol er mwyn inni allu gweld yn glir ymhle mae'r gwahaniaethau yn bodoli. Y rheswm am ofyn y cwestiwn hwn yw, pan drafodwyd y cynnig am ddeddfu ychwanegol ar gyfer Cymru yn y Cynulliad diwethaf, yn enwedig yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cawsom sicrwydd clir gan y Prif Weinidog ar y pryd, na fyddai egwyddorion y gyfraith, os gallaf ei roi fel hynny, yn wahanol i Gymru a Lloegr. Felly, er enghraifft, nid yw'r hyn sy'n gyfraith droseddol yn wahanol yn y ddwy awdurdodaeth botensial; nid yw'r hyn sy'n ffurfio contract yn wahanol. Felly, nid yw'n fater o droseddau penodol, mae a wnelo â'r hanfodion hynny—wyddoch chi, y pethau yr ydym yn eu dysgu yn ysgol y gyfraith, yn y bôn. Felly, rwy'n ceisio cael rhywfaint o sicrwydd yma, wrth lunio'r cod sy'n ymdrin â gweithrediad cyfraith a gweinyddu'r gyfraith, nad oes dim ynddo, sy'n anfwriadol efallai, yn baglu dros y terfyn hwnnw ac a fyddai'n arwain at gyfres o ffeithiau am drosedd yn cael eu trin mewn ffordd wahanol iawn ar y naill ochr i'r ffin a'r llall. Ni fyddwn i'n disgwyl gweld gwahaniaeth mewn canlyniad pan ddaw'n fater o gyfraith droseddol lle mae'r ffeithiau yr un peth ar y naill ochr i'r ffin a'r llall.

A'r ail gwestiwn yw hyn: pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i droseddau o atebolrwydd caeth neu droseddau lle mae baich y prawf i'r gwrthwyneb? Fel arfer, mae baich y prawf i'r gwrthwyneb yn y troseddau hynny sy'n neilltuol i Gymru. Yr enghraifft a ddaw i'r meddwl yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016—nid wyf am ailadrodd yr holl beth yma—ond yn sicr mae trosedd yn y Ddeddf honno sydd yn troi baich y prawf yn y fan honno i'r gwrthwyneb. Pan drafodwyd mater hawliau dynol, roedd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd o'r farn y bodlonwyd y prawf hawl i gael achos teg, ond byddwn i wedi dadlau y ceir tystiolaeth i hynny yng nghyfraith Cymru a Lloegr drwy'r egwyddor o fod yn ddieuog nes y cewch eich profi'n euog. Felly, eto, rwy'n holi tybed a fyddech chi'n gweithredu'r cod hwn i deddfwriaeth ar gyfer Cymru yn unig yn wahanol i'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru a Lloegr am drosedd sy'n digwydd yng Nghymru?

16:00

Fe wnaethoch chi ofyn am eglurhad o'r gwahaniaethau gyda chod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyffredinol. Ceir nifer o wahaniaethau allweddol: maen nhw'n ymwneud yn bennaf â natur gwahanol y troseddau y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau erlyn drostynt. Un o'r prif wahaniaethau yw hyn: yn wahanol i god Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid yw cod erlyn Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfeiriad at brawf trothwy, sef, er enghraifft, fel yr ydych efallai yn gwybod, pan geir trosedd sy'n golygu carchar a lle bod risg mechnïaeth sylweddol gyda'r un dan amheuaeth. Nid yw hynny'n berthnasol i'r troseddau y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i'w herlyn yn gyffredinol. Felly, er enghraifft, nid yw hynny wedi'i gynnwys.

Cafodd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron ei addasu i adlewyrchu'r swyddogaethau erlyn yn fwy penodol. Nodwyd crynodeb o alluoedd erlyn y Cwnsler Cyffredinol yn y cod, ac nid yw hyn yn amlwg yn ymddangos yng nghod Gwasanaeth Erlyn y Goron am resymau amlwg. Soniais yn fy ateb cynharach am fater prawf lles y cyhoedd, gan roi enghreifftiau penodol o sut y gallai prawf lles y cyhoedd weithredu o fewn cyd-destun y troseddau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu herlyn. Ceir hefyd rai newidiadau allweddol o ran cwestiynau lleoliad ar gyfer treial ac o ran datrysiadau y tu allan i'r llys. Eto, mae'r rheolau'n wahanol ar gyfer y mathau o droseddau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu herlyn i'r cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyffredinol. Mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn berthnasol, wrth gwrs, i'r gyfraith droseddol yn gyffredin, os mynnwch chi, sydd yn gyd-destun gwahanol o weithredu i'r hyn y mae cod erlyn Cymru Llywodraeth Cymru yn gymwys iddo.

Ar y cwestiwn o faich y prawf ac sut mae rhywun yn asesu a ddylid bwrw ymlaen â throseddau unigol lle bod hynny'n wir: eto, yn y cod, nodir y prawf tystiolaeth ddigonol, i bob pwrpas, sy'n cynnwys y gofyniad i ragweld dadleuon ar y naill ochr a'r llall o'r achos. A bydd hynny'n cynnwys gwerthusiadau o dderbynioldeb y dystiolaeth, dibynadwyedd y dystiolaeth a'i hygrededd, ac mae hynny'n berthnasol i'r dystiolaeth yn ei chyfanrwydd.

Fe wnaethoch chi godi mater deddfwriaeth hawliau dynol, ac yn wir y mae Aelodau eraill wedi codi hynny. Mae'r cod yn ei gwneud hi'n glir ei bod yn rhaid i erlynwyr gymhwyso darpariaethau'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn unol â Deddf Hawliau Dynol 1998, ac mae'n benodol glir yn y cod ei bod yn rhaid i erlynwyr roi sylw i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sydd wrth gwrs wedi'i weithredu ymhellach yng Nghymru yn benodol.

5. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018

Eitem 5 ar agenda yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018. Rwy'n credu y bydd angen mwy o amser arnoch ar gyfer hyn os y bydd yn rhaid i chi ailadrodd hynny o hyd. Felly, rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i symud y cynnig hwnnw. Mark Drakeford.

NDM6618 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw.

Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei adroddiad ar y rheoliadau. Mae'r rheoliadau o flaen y Cynulliad y prynhawn yma yn diwygio rheoliadau gostyngiadau'r dreth gyngor 2013. Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddileu budd-dal y dreth gyngor o 1 Ebrill 2013 ymlaen, a phasio'r cyfrifoldeb am ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Fe wnaethon nhw hefyd wneud 10 y cant o doriad i'r cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru trwy ddarparu cyllid i alluogi tua 300,000 o aelwydydd llai cefnog yng Nghymru i barhau i gael hawl i gymorth. Mae angen y ddeddfwriaeth ddiwygio er mwyn gwneud yn siŵr bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob aelwyd i ostyngiad yn y dreth gyngor yn cael eu codi i gymryd i ystyriaeth bod costau byw wedi cynyddu.

Gydag ychydig yn fwy o fanylder, Dirprwy Lywydd, yn y rheoliadau gerbron y Cynulliad y prynhawn yma, mae'r ffigurau ariannol ar gyfer pobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr ar gyfer 2018-19 yn cynyddu yn unol â mynegai prisiau defnyddwyr, hynny yw, 3 y cant. Mae hyn yn cyferbynnu â pholisi Llywodraeth y DU o rewi budd-daliadau pobl o oedran gweithio tan 2019-20. Y bwriad yw cynyddu'r ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn y rheoliadau i fod yn unol â gwariant isafswm incwm safonol Llywodraeth y DU ac adlewyrchu'r uwchraddio o ran budd-dal tai. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyfyngiadau newydd ar fudd-dal tai i deuluoedd gyda dau o blant neu fwy, a phlentyn wedi ei eni ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. Mae hynny'n ychwanegol at y cyfyngiadau a gyflwynwyd o fis Ebrill 2016, sydd yn dileu'r premiwm teulu ar gyfer genedigaethau newydd a hawliadau newydd am fudd-dal tai. Nid wyf i'n bwriadu mabwysiadu'r newidiadau hyn o ran gostyngiadau'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn teuluoedd ar incwm isel yr effeithiwyd arnynt gan ddiwygiadau lles rhag toriadau pellach yn eu hincwm.

Wrth wneud y rheoliadau hyn, cafwyd cyfle hefyd i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud newidiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau a thaliadau cysylltiedig. Er enghraifft, o fis Ebrill 2018, bydd nifer o fudd-daliadau a thaliadau ychwanegol, os cymeradwyir y rheoliadau hyn, yn cael eu diystyru o ran cyfrifo'r gostyngiadau i'r dreth gyngor. Mae'r rhain yn cynnwys y taliadau cymorth profedigaeth newydd, y grant cynllun gwaed heintiedig, a'r grant iechyd thalidomid ymysg eraill. Ni fydd y rhai sy'n derbyn cymorth o'r fath yng Nghymru dan anfantais wrth gael help gyda'u treth gyngor.

Mae'r rheoliadau hyn, Dirprwy Lywydd, yn cadw'r hawl am ostyngiad yn miliau treth gyngor ar gyfer aelwydydd yng Nghymru. Gwnaed darpariaeth o £244 miliwn yn y gyllideb am 2018-19 at y dibenion hyn. O ganlyniad i'r cynllun, bydd tua 220,000 o aelwydydd sydd o dan y pwysau mwyaf yng Nghymru yn parhau i dalu dim treth gyngor yn 2018-19. Gwn fod gan y cynllun gefnogaeth gref ymysg Aelodau mewn gwahanol rannau o'r Siambr hon ers ei gyflwyno yn 2013, ac rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth hon yn ymestyn i gymeradwyaeth o'r rheoliadau ger eich bron y prynhawn yma.

16:05

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadaol, Mick Antoniw?

Diolch ichi am hynny. Rhoddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ystyriaeth i'r offeryn hwn yn ein cyfarfod ar 11 Rhagfyr. Adroddwyd ar un pwynt rhinweddol a nodwyd o dan Reol Sefydlog 21.3. Mae'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth yn gymhleth a thechnegol iawn o'i ddarllen ar ei ben ei hun. Mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau hyn yn defnyddio iaith bob dydd i esbonio'r newidiadau technegol a wneir ac mae'n help mawr i'r darllenydd i wneud synnwyr o'r ddeddfwriaeth. Roedd y pwyllgor yn gwerthfawrogi'r dull defnyddiol hwn, o ystyried pa mor gymhleth fo'r ddeddfwriaeth. Fel Cadeirydd y pwyllgor, ac ar ran y pwyllgor, rwy'n gwybod y byddwch yn falch iawn ac yn hapus i wybod mai barn y pwyllgor oedd y dylid rhoi canmoliaeth i Lywodraeth Cymru am yr enghraifft hon o arfer da.

Mae cynlluniau gostyngiadau treth gyngor yn hanfodol bwysig i bobl fwyaf bregus Cymru. Dyma'r cynllun sy'n caniatáu i lawer iawn o bobl hawlio gostyngiad ac mae o'n bodoli, i raddau, oherwydd nad ydy'r dreth gyngor yn ddigon blaengar. Felly, hoffwn ofyn i ddechrau a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i edrych ar system decach o drethiant fel na fydd angen cynllun gostyngiadau treth gyngor mor eang a phellgyrhaeddol ag sydd gennym ni ar hyn o bryd yn y dyfodol.

Mi fyddwch chi'n cofio mai Plaid Cymru wnaeth orfodi'r Llywodraeth flaenorol i gymryd cyfrifoldeb dros y cynllun cymorth yma gan arwain at basio rheoliadau yn 2013, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llenwi'r diffyg cyllid blynyddol ar gyfer y cynllun, gan sicrhau bod bron i £0.25 miliwn o bunnoedd ar gael ar gyfer y cynllun o fewn y setliad llywodraeth leol bob blwyddyn ers 2013-14. Ond felly, mewn gwirionedd, mae'r gronfa sydd ar gael, os ydy hi'n parhau ar yr un lefel, ac rydw i'n meddwl eich bod chi newydd ddweud y bydd hi, mae hynny'n golygu ei bod hi'n llai mewn termau real nag yr oedd hi bedair blynedd yn ôl. A hyd y gwelaf i, mae'r ffigurau newydd yn golygu cynnydd yn yr hyn mae trigolion yn mynd i dderbyn mewn cymorth, er mwyn cyd-fynd efo chwyddiant a chynnydd mewn costau byw. Felly, sut mae hynny'n mynd i gael ei dalu amdano fo? A fydd yna gynnydd cyfatebol ym maint y gronfa? Rydych chi wedi dweud rŵan na fydd yna. A ydy o'n golygu y bydd yna rhai trigolion yn derbyn mwy i gyd-fynd efo cynnydd chwyddiant ac ati, tra bod yna eraill yn cael eu hepgor yn gyfan gwbl o'r cynllun oherwydd newidiadau i'r system lles? Neu, yn wir, a ydych chi'n disgwyl i'r awdurdodau lleol ganfod yr arian o'u cyllidebau sydd yn prinhau?

Felly, fe fuaswn i'n gofyn i chi gadarnhau faint o bres sydd ar gael, oherwydd os mai'r un ffigur sydd ar gael, yna mae yna beryg, hyd y gwelaf i, y bydd yna rai o drigolion mwyaf bregus Cymru yn dioddef. Rydw i yn deall bod yna asesiad effaith wedi cael ei gynnal i gostau tebygol cydymffurfio â'r rheoliadau yma. Nid ydw i wedi cael amser i edrych ar hwnnw—i fynd ar ôl hwnnw. A fedrwch chi ddweud wrthym ni beth oedd canlyniad yr asesiad yna? Rydw i'n siŵr y medrwch chi ddeall bod angen i ni gael yr holl wybodaeth cyn ein bod ni'n gallu rhoi ein cefnogaeth i'r rheoliadau yma. Diolch.

16:10

Diolch. A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl? Mark.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i Mick Antoniw am waith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wrth graffu ar y rheoliadau hyn. Byddaf yn sicr o adrodd am yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud wrth y rhai a fu'n helpu i baratoi'r deunydd esboniadol cysylltiedig. Rwy'n gwybod eu bod yn gweithio'n galed iawn i geisio troi deunydd technegol cymhleth a heriol yn naratif y gellir ei ddeall gan y bobl sy'n gorfod gweithredu hyn mewn awdurdodau lleol, a'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn y ffordd y gellir rhoi cefnogaeth i'r teuluoedd mewn amgylchiadau fel hyn.

A gaf i ddweud wrth Siân Gwenllian hefyd, rydw i'n cydnabod y cymorth oddi wrth Blaid Cymru pan oedd y cynllun gwreiddiol yn cael ei baratoi, nôl yn 2013, ac am y cymorth rydym ni wedi'i gael oddi wrth Blaid Cymru dros y blynyddoedd i gadw'r cynllun i fynd, blwyddyn ar ôl blwyddyn?

Wrth gwrs, mae'r pwyntiau a gododd Siân Gwenllian yn bwysig, ac yn bwysig i mi fel Gweinidog Cyllid. Yr hyn sydd wedi digwydd yn y 12 mis diwethaf, Dirprwy Lywydd, yw fod nifer yr aelwydydd sy'n hawlio'r budd-dal treth gyngor wedi gostwng. Mae hyn yn gysylltiedig â chynnydd mewn lefelau cyflogaeth mewn rhannau o Gymru dros y 12 mis diwethaf, ac mae effaith hynny'n caniatáu i ni gynnal y cynllun yn llawn a'i wneud ychydig yn fwy hael mewn rhai meysydd y flwyddyn nesaf, fel na fydd angen culhau'r meini prawf cymhwyso ar gyfer y cynllun y flwyddyn nesaf o gwbl, ac y gallwn barhau, yn ein barn ni, i dalu'r costau hynny o'r gyllideb yr oedd modd ei darparu yn y flwyddyn ariannol hon. Dyna £244 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, wedi ei ategu, mae'n wir, fel y dywedodd Siân, gan gyfraniad—o'm cof, Dirprwy Lywydd—o tua £12 miliwn gan yr awdurdodau lleol eu hunain. Nid ydym yn disgwyl y bydd yn rhaid i'w cyfraniad nhw godi y flwyddyn nesaf chwaith.

Ond, pe bai amodau yn yr economi yn newid, a phe bai cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth gan y cynllun, yna, wrth gwrs, wrth ddod â'r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y flwyddyn nesaf, byddai'n rhaid imi gyflwyno cynigion naill ai i gynyddu'r gyllideb sydd ar gael neu i ddod o hyd i ffordd o leihau'r hawliadau o fewn y cynlluniau, fel bod modd byw o fewn y gyllideb sydd ar gael. Rydym yn y sefyllfa ffodus o beidio â gorfod gwneud hynny y flwyddyn nesaf. Mae'r gyllideb sydd gennym yn ddigonol. Ni chyfyngwyd ar y cynllun, estynnwyd fymryn ar ei haelioni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn barod i gefnogi'r cynllun sy'n rhoi swm mawr o arian Llywodraeth Cymru yn syth ym mhocedi'r rheini y mae eu hamgylchiadau ymhlith y mwyaf anodd yn y wlad.

16:15

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl: 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni'

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Paul Davies a gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Trown yn awr at eitem 6, sef dadl ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflwyno'r cynnig — Alun Davies.

NDM6617 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Alun Davies 16:15:49
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod i wedi cytuno i gael y ddadl hon yn gynharach nag y bwriadwyd yn dilyn sesiynau holi cyn y Nadolig, pan ofynnodd yr Aelodau am y cyfle i gael sgwrs ehangach a mwy manwl ynglŷn â thasglu'r Cymoedd a'r gwaith yr oedd y tasglu yn arwain arno ac yn ei wneud. Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, am ganiatáu inni gyflwyno'r ddadl hon mor gynnar â phosib yn y flwyddyn newydd.

Dywedaf ar y cychwyn y bydd y Llywodraeth yn derbyn yr holl welliannau heblaw am welliant 4. Mae Paul Davies, yn ei welliannau, yn nodi yn amlwg, mewn llawer o ffyrdd, nifer o'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymoedd y de a nifer o'r heriau sy'n wynebu trigolion cymunedau Cymoedd y De. Mae'n gwneud hyn yn amlwg iawn ac yn eithaf huawdl. Diben y tasglu, wrth gwrs, yw nid dim ond sôn drachefn am yr anawsterau a'r heriau hynny, ond cynnig atebion iddynt.

Nid ydym ni'n cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth oherwydd nid ydym eisiau creu cwango yng Nghymoedd y de. Nid ydym eisiau creu lefel neu haen arall o gymhlethdod o fewn daearyddiaeth cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn y Cymoedd. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael inni yn canolbwyntio ar gyflawni, a chyflawni ar y rheng flaen, y nodau, yr amcanion a'r dyheadau a amlinellwyd gennym yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.

Diben y Tasglu —. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn egluro diben y tasglu, oherwydd credaf, mewn rhai cylchoedd, y bu rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghylch hyn. Diben y tasglu yw defnyddio holl fanteision adnoddau Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y materion sy'n wynebu'r Cymoedd, a chymunedau a thrigolion Cymoedd y De. Nid diben y tasglu yw sefydlu haenau biwrocratiaeth newydd, na chwaith sefydlu mathau newydd o gyflenwi. Y diben yw llunio sut mae'r Llywodraeth yn mynd ati, a defnyddio'r holl rymoedd a'r adnoddau sydd ar gael i'r Llywodraeth, defnyddio'r adnoddau sydd gennym o ran pobl, yr arbenigedd, yr wybodaeth a'r profiad, yr adnoddau ariannol sydd ar gael i ni, ond hefyd, ac efallai yn fwyaf allweddol, y dylanwad a'r adnoddau y gall y Llywodraeth eu defnyddio i ddwyn pobl ynghyd—y grym o fod yn gatalydd ar gyfer newid, y grym o ddod â phobl at ei gilydd i edrych am atebion i gwestiynau sydd wedi bod yn ein hwynebu ers rhai cenedlaethau—ac yna defnyddio'r grym hwnnw o eiddo'r Llywodraeth er mwyn nodi'n glir sut y dymunwn fynd i'r afael â materion sy'n ein hwynebu, a gwneud hynny mewn ffordd benodol.

Roeddwn yn glir iawn 18 mis yn ôl, pan sefydlwyd y tasglu hwn gennym ni, nad oeddwn i eisiau iddo fod yn grŵp o wleidyddion neu weision sifil yn cyfarfod yn breifat, bron iawn yn y dirgel—cyfrin-gyngor o wleidyddion yn cyflwyno i'r etholwyr eiddgar yr atebion i'r problemau nad oedden nhw hyd yn oed wedi meddwl amdanynt. Roeddwn i eisiau gweld proses a oedd yn cynnwys, ac sy'n ceisio mynd ati i gynnwys, pobl ym mhob un o gymunedau'r Cymoedd, ond hefyd roeddwn eisiau gweld atebolrwydd wrth wraidd yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud. Un o'r cwestiynau cyntaf a ofynnwyd imi, ac un o'r atebion cyntaf a roddais, pan sefydlwyd y tasglu, oedd cadarnhau y bydd ein papurau yn ddogfennau cyhoeddus— yr agendâu, y papurau, y cyflwyniadau, ein cyfarfodydd, byddai pob un yn llygaid y cyhoedd. Byddai pobl yn gallu deall a gweld a dilyn ein gwaith, dylanwadu ar ein gwaith, llywio ein gwaith.

Nid cynllun ar gyfer y Cymoedd a gyhoeddwyd gennym ni yr haf diwethaf, ond cynllun gan y Cymoedd. Cafodd ei ddylunio a'i gyhoeddi o ganlyniad i sgyrsiau a gawsom ni gyda phobl ledled rhanbarth y Cymoedd. Gosodwyd amcanion clir a ddiffiniwyd gan y sgyrsiau a gawsom ni â phobl. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ym mis Tachwedd a oedd yn ceisio bryd hynny roi ymrwymiadau clir ac, eto, i sicrhau atebolrwydd yn yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud. Nodwyd nifer o amcanion a chamau gweithredu gwahanol yn y cynllun cyflawni hwnnw. Gosodwyd terfynau amser a thargedau, pennwyd amserlenni ar gyfer cyflawni'r amcanion a'r uchelgeisiau yr ydym ni wedi gosod i'n hunain. Yn y modd hwn, rydym yn  ceisio mynd ati o ddifrif i fynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol sy'n ein hwynebu yn y Cymoedd—nid er mwyn gwneud dim byd ond cynhyrchu adroddiadau ac ymarferion cysylltiadau cyhoeddus, ond i fynd i'r afael â hanfodion economi sydd wedi bod yn dirywio ers gormod o flynyddoedd, ers gormod o genedlaethau, ac yna i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n effeithio arnom ni yn ein cymunedau a'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny.

Rydym wedi buddsoddi amser yn gwrando ar bobl o bob rhan o'r Cymoedd ac yn cydweithio gyda phobl o bob rhan o'r Cymoedd. A byddwn yn parhau i weithio yn y modd hwn. Caniatewch imi roi hyn ar ddeall y prynhawn yma. Byddaf yn cyhoeddi cynlluniau pellach dros y misoedd nesaf. Bydd gan bob un o'r cynlluniau hyn amserlenni, targedau a therfynau amser clir ynghlwm wrthynt. Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau clir ar gyfer pob un o'r canolfannau strategol yr ydym ni ar hyn o bryd yn eu hystyried ac yn ymgynghori arnynt, a byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud datganiadau pellach ac i arwain dadleuon pellach ynglŷn â phob un o'r materion hyn wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae'n iawn ac yn briodol nad yw'r Llywodraeth yn ceisio osgoi atebolrwydd ond yn ein galluogi i gael ein dwyn i gyfrif drwy gyhoeddi'r holl wybodaeth sy'n sail i'n penderfyniadau.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi cael nifer o wahanol negeseuon cryf gan bobl wrth inni gynnal yr ymarfer hwn. Rydym wedi pennu tri maes amlwg y bydd ein gwaith yn canolbwyntio arnynt: yn gyntaf, yr angen am swyddi cynaliadwy o ansawdd da a'r cyfle i hyfforddi fel y bydd pobl yn y Cymoedd yn gallu elwa o'r swyddi hyn. Rydym wedi gosod targed uchelgeisiol o helpu 7,000 o bobl ddi-waith neu bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn y Cymoedd i gael gwaith drwy greu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy erbyn 2021. A gadewch i mi fod yn hollol glir: pan rwy'n sôn am swyddi, rydym yn sôn am waith teg yn y Cymoedd. Yn rhy aml o lawer, gwyddom fod pobl yn ein cymunedau yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, am lawer o'r rhesymau a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y ddadl flaenorol. Ond maen nhw'n gweithio'n galed bob dydd, heb gael eu gwobrwyo am yr holl waith caled hwnnw. Gwyddom nad yw ein heconomi yn gweithio ar gyfer nifer yn y Cymoedd. Byddwn yn sicrhau, wrth greu gwaith, y byddwn yn canolbwyntio ar waith teg yn y Cymoedd, a byddwn yn gwneud hynny yn rhan o bopeth a wnawn. 

Byddwn yn creu saith canolfan strategol. Rydym ar hyn o bryd wrthi'n arwain cyfres o seminarau ynglŷn â phob un o'r canolfannau hyn fel eu bod nhw'n adlewyrchu buddiannau ac anghenion yr ardaloedd y maen nhw'n eu gwasanaethu. Nid oes templed unigol a grëwyd naill ai ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Cathays a gaiff ei weithredu'n ddidostur ym mhob un o'r lleoedd hyn. Bydd yn adlewyrchu anghenion pob ardal unigol. Byddwn yn ceisio defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i ddenu buddsoddiad o'r sector preifat, gan greu swyddi a chyfleoedd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib. Un o'r pwyntiau a wnaed dro ar ôl tro ar ôl tro mewn cyfarfodydd ledled y Cymoedd yw'r angen i allu defnyddio trafnidiaeth leol o ansawdd uchel. Gallwn greu faint fynnwn ni o swyddi ar goridor yr M4, ond fyddwn ni ddim yn ymdrin â phroblemau tlodi yn Nhreherbert neu Dredegar oni bai fod gennym gyfleoedd i bobl weithio yn y Cymoedd yn ogystal ag yn y coridorau deheuol. Felly, byddwn yn buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddiant, byddwn yn buddsoddi mewn trafnidiaeth, a byddwn yn ceisio buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hybu'r economi yn y Cymoedd eu hunain. Ac mae'r Ysgrifennydd Economaidd, fy nghyfaill a'm cyd-Weinidog Ken Skates, eisoes wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â hynny. 

Y maes a'r thema olaf y byddwn ni'n ymdrin â nhw yw'r gymuned. Yn aml iawn, rydym yn siarad am ein cymunedau mewn ffordd rhy ramantus, ac nid wyf i'n un sy'n adnabyddus am fod yn rhamantus, yn anffodus. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae angen inni ganolbwyntio ar yr hyn mae'n ei olygu i fod yn gymuned a sut y gallwn ni fuddsoddi ym mywydau pobl yn y Cymoedd. Fel llawer o bobl, fe wnes i fwynhau gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd gyda'r teulu, gan fanteisio ar y cyfle i gerdded a mwynhau ardal y Cymoedd, ac, yn sicr, pan wyf yn mynd â'r mab a'm plant am dro o gwmpas y Cymoedd a'r broydd a Bannau Brycheiniog ac ati, rwyf bob amser yn dweud wrthyn nhw am hanes eu cynefin a hanes ein cymunedau. Mae'n bwysig mai'r hyn yr ydym yn gallu ei wneud yw rhoi modd i bobl a galluogi pobl i ymfalchïo unwaith eto yn y gymuned lle maen nhw'n byw. Mae angen inni fynd i'r afael â materion megis taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon, ond mae angen inni hefyd fuddsoddi yn nhreftadaeth a naws cymunedau de Cymru. Es i a fy mab i Flaenafon, at fedd Foxhunter, ar ddydd San Steffan, ac es ag ef ar hyd y ffordd honno ac egluro wrtho sut yr oedd y rhan hon o'r byd, lle mae ei wreiddiau a gwreiddiau ei deulu, wedi chwarae rhan yn creu chwyldro diwydiannol sydd wedi creu trefn byd newydd ac arwain at greu diwydiant ar draws y byd—ein Cymoedd, ein hanes, ein cymuned, ein treftadaeth, ac mae angen inni sicrhau bod hynny ar gael i'n holl bobl, ac y gallan nhw fyw bywydau lle maen nhw'n falch o'r hyn yr ydym ni'n gallu ei gyflawni a byw hefyd mewn cymunedau lle y gallwn ni fod yn falch o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd tasglu'r Cymoedd yn gatalydd ac yn ein helpu i gyflawni llawer o'r amcanion hynny, ac edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma.

16:25

Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 1. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;

b) bod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales', yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);

c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.

Gwelliant 2. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.

Gwelliant 3. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad 'Creu Sbarc', i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch. Rydym yn falch y cyhoeddwyd y cynllun cyflawni hwn ac rydym yn rhannu'r blaenoriaethau allweddol y soniodd y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de amdanynt, ynghyd ag amheuon Ysgrifennydd y Cabinet a fynegwyd ganddo ar ddechrau ei araith ynglŷn â chreu corff darparu newydd. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cynnig gwelliant 1, gan nodi gyda gofid bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth, neu werth ychwanegol crynswth, yn is-ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar waelod y rhestr o blith ardaloedd y DU, yn ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU, gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn, sef yr isaf yn y DU. Mae adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales', yn nodi, er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros oddeutu 4.3 y cant dros y flwyddyn,

mae'r amgylchiadau'n annhebygol o fod yn ddigon i roi hwb i'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra ymhell uwchlaw ffigur y DU megis Merthyr Tudful, sy'n 7.3 y cant, a Blaenau Gwent, sy'n 6.7 y cant,

a bod cyflawni rhaglen gyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru, Cymru'n Gweithio, wedi'i ohirio tan fis Ebrill 2019. 

Dengys ffigurau a gyhoeddwyd dair wythnos yn ôl, yn y ddeunawfed flwyddyn o gael Llywodraeth Lafur yng Nghymru, mai Cymru o hyd yw'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig, mai hi sy'n cynhyrchu'r gwerth isaf o ran nwyddau a gwasanaethau y pen ymhlith 12 o ranbarthau a gwledydd y DU, er gwaethaf gwario biliynau ar gynlluniau gwrthdlodi ac adfywio economaidd. Mae Ynys Môn yn parhau i fod yn isaf yn y DU, gyda'r gwerth ychwanegol crynswth yn gostwng i 52 y cant o gyfartaledd y DU, a chymoedd Gwent yn ail agos o'r gwaelod, ar ddim ond 56 y cant o gyfartaledd y DU, gyda'r Cymoedd canolog yn ddim ond 63 y cant o gyfartaledd y DU. Yna, mae adroddiad Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd y mis hwn, 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales' yn dweud

nad oes dim i'w ennill drwy esgus bod popeth yn fêl i gyd,

ac mae'n dweud, yn ychwanegol at y ffigurau diweithdra a nodir yn ein gwelliant, nad yw'r perfformiad yn debygol

o helpu oedolion ifanc, gyda mwy nag un o bob wyth person 16-24 oed yn ddi-waith yng Nghymru yn gyffredinol.

Ar y cyfan, er bod diweithdra yn y DU yn parhau ar ei lefel isaf ers 1975, mae cyfradd ddiweithdra Cymru 4.7 y cant yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ac o'i gymharu â blwyddyn yn ôl, Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae diweithdra wedi cynyddu, a chan Gymru y mae cyfraddau anweithgarwch economaidd cydradd uchaf ar Ynys Prydain. Fodd bynnag, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pobl o bob oedran sy'n barod am swydd a'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, gohiriwyd ei gyflwyno am flwyddyn arall. Er gwaethaf galwadau yn y gorffennol gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ar i'r rhaglenni cyflogadwyedd yng Nghymru sydd wedi eu datganoli a'r rhai sydd heb eu datganoli weithio gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru bellach ar ei hôl hi yn sgil lansio Remploy y mis diwethaf yng Nghymru, sef Rhaglen Waith ac Iechyd Llywodraeth y DU ar gyfer pobl gyda chyflwr iechyd neu anabledd, y di-waith tymor hir a grwpiau gweithredu cynnar gwirfoddol megis gofalwyr a chyn-filwyr.

Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at weithio gyda phobl yng Nghymoedd y De. Mae'n dweud:

'er mwyn sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddo, mae’n rhaid i’r tasglu ddwyn ynghyd holl adnoddau Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid niferus'.

y bydd yn

'cyhoeddi diweddariadau ac adroddiadau monitro blynyddol yn erbyn nifer o dargedau allweddol',

y

'bu'n bwysig iawn i'r tasglu siarad ac ymgynghori â phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y De'

ac y

'cyhoeddir cynllun ymgysylltu a fydd yn nodi sut mae'r tasglu yn bwriadu ymgysylltu â phobl . . . a'u grymuso.' 

Mae'r camau gweithredu manwl hefyd yn cynnwys gweithio gyda bargeinion dinesig rhanbarth Caerdydd a Bae Abertawe, Llywodraeth y DU, busnesau a'r trydydd sector. Fodd bynnag, mae angen cyd-gynhyrchu yng ngwir ystyr y gair er mwyn i Lywodraeth Cymru beidio â pharhau â chamgymeriadau'r 18 mlynedd diwethaf, ac felly alluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu grym a gweithio mewn partneriaeth gyfartal, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwr yn eu bywyd eu hunain, bod gan bawb rywbeth i'w gyfrannu, a bod galluogi pobl i gefnogi ei gilydd yn adeiladu cymunedau cryf, cydnerth. Felly, cynigiaf welliant 2.

Mae'r cynllun hefyd yn cyfeirio at weithio gyda'r mudiad Creu Sbarc ac rwyf felly hefyd yn cynnig gwelliant 3, gan nodi

'er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", creu busnesau mwy proffidiol sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.'

Fel y dywed Creu Sbarc,

'Mae pethau mawr yn digwydd pan fydd pobl fentrus a blaengar yn cydweithio'.

Ac, fel y dywedodd grwpiau busnes yn ddiweddar yn ystod ymchwiliad cefnogi entrepreneuriaeth y grŵp trawsbleidiol ar siopau bach, mae'n bwysig bod llunwyr polisi yn deall yr heriau sy'n wynebu busnesau. Felly, rwy'n falch o derfynu drwy gyflwyno'r tri gwelliant i'r Cynulliad hwn a chroesawu cefnogaeth yr Ysgrifennydd Cabinet iddyn nhw ar ddechrau ei gyfraniad. Diolch.

16:30

Diolch. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—Adam.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad strategol ym mhob rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd gorllewinol.

Yn credu mai dim ond gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn.

Yn credu y bydd angen corff cyflenwi trosfwaol i fonitro, hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ar y dechrau, drwy ymateb i’r Ysgrifennydd Cabinet, fy mod i yn dymuno yn dda iddo fe gyda gwireddu amcanion clodwiw y strategaeth yma? Nid wyf am eiliad, a dweud y gwir, yn amau ei ddiffuantrwydd ef a’i commitment personol i’r dasg honno.

Lle mae yna anghytundeb rhyngom ni, wrth gwrs, yw’r graddau y gallwn ni ddisgwyl i’r strategaeth yma gael ei gwireddu, oherwydd un peth sydd yn wir: os ydym ni’n edrych nawr dros hanes y Cymoedd yn mynd yn ôl i 1930au’r ganrif ddiwethaf, mae wedi bod yn frith o strategaethau clodwiw, a dweud y gwir, a bron ym mhob cenhedlaeth rydym wedi gweld gosodiad polisi gan y Llywodraeth ar y pryd sydd yn ceisio gwneud yn iawn am ddiffygion y blynyddoedd cynt. Gallech chi fynd yn ôl i’r dechrau, a dweud y gwir, a’r polisi rhanbarthol yn y 1930au, yn y chwalfa, a llyfr Hilary Marquand, South Wales Needs a Plan. Mae dal yn wir, a dyna’r drasiedi, ac rwyf i yn gobeithio mai dyma fydd y cynllun a fydd yn troi’r cornel i’r cymunedau rŷm ni’n eu cynrychioli.

Ond, os ŷm ni’n edrych yn ôl dros amser, y patrwm yr ydym ni’n ei weld ydy, o ddyfynnu Saesneg Idris Davies,

‘The great dream and the swift disaster’.

Hynny yw, rŷm ni’n gwybod am gynllun y Llywodraeth Geidwadol ddiwedd y 1980au, a dwy fenter y Cymoedd—y Valleys initiatives—ond hyd yn oed ers datganoli, roedd yna gynllun yr un mor glossy wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Lafur Cymru 12 mlynedd yn ôl: ‘Turning Heads: A Strategy for the Heads of the Valleys 2020’. Geiriau da, syniadau da, a rhai ohonyn nhw yn debyg, a dweud y gwir, i rai o’r syniadau sydd yn y cynllun yma—yn lle parc tirwedd ar gyfer y Cymoedd, parc rhanbarthol ar gyfer y Cymoedd.

Mae’n rhaid gofyn cwestiwn: pam ŷm ni bob rhyw 10, 15, 20 mlynedd yn gorfod cael strategaeth newydd, gorfod cael tasglu newydd, neu beth bynnag rŷm ni'n ei alw fe? Oherwydd bod polisi wedi methu â mynd i'r afael â phroblemau dwfn, strwythurol y Cymoedd. Rydw i'n deall y pwynt, wrth gwrs. Rydw i'n cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet; nid oes dim eisiau cwango. Ond trasiedi'r cymoedd yw—ac rydym ni'n sôn, wrth gwrs, am ranbarth sydd yn cynnwys poblogaeth o ryw 750,000 o bobl—nid oes yna ddim siâp strwythurol, sefydliadol wedi bod iddo fe. Nid oes yna ddim endid rhanbarthol o ran llywodraethiant wedi medru mynd i'r afael â phroblemau'r ardal yna.

Mae'n debyg iawn, a dweud y gwir, i ardal y Ruhr yn yr Almaen, sy'n ardal faith iawn, llawer mwy—miliynau o bobl—ond sydd hefyd wedi methu â chael undod a chysondeb o ran polisi, oherwydd mae yna ryw 53, a dweud y gwir, awdurdod lleol yn yr ardal yna. Beth maen nhw wedi'i wneud yn y Ruhr, wrth gwrs, yw: ar droad y mileniwm, y flwyddyn 2000, fe wnaethon nhw greu corff datblygu economaidd ar gyfer y Ruhr am y tro cyntaf. Mae'n dal mewn bodolaeth heddiw. Rydw i'n credu mai dyna un o'r rhesymau pam fod y Ruhr wedi medru troi'r cornel—bod gyda nhw gorff, a chorff, gyda llaw, sydd yn atebol yn ddemocrataidd, nid yn gwango. Mae'n atebol i'r 53 o ddinasoedd a threfi o fewn y rhanbarth. Ond mae wedi medru nid yn unig llunio y strategaeth, ond gwneud yn siŵr ei bod hi wedi cael ei gwireddu. Dyna fy ngofid i, a dweud y gwir: ein bod ni hefyd yn mynd i gael yr un drafodaeth mewn 10 i 15 mlynedd eto—strategaeth dda, ond heb gael ei gwireddu oherwydd nad oedd y cyfrwng yna ar gyfer sicrhau hynny.

16:35

Beth bynnag yr ydym ni wedi neu heb ei wneud yn y gorffennol, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn rhoi inni fframwaith rhagorol ar gyfer bwrw ymlaen â gwneud pethau y mae angen inni eu gwneud yn awr. Credaf yn arbennig yr hoffwn i ddadlau bod y rhaglen dai arloesol a ddechreuwyd gan Carl Sargeant yn fodel ar gyfer cyflawni pob un o dair blaenoriaeth yr adroddiad ar gyfer swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau cymunedau.

Felly, ddydd Gwener ym Merthyr, cefais sgwrs ddiddorol gyda phrif weithredwr cymdeithas dai Bron Afon, a fu'n sôn wrthyf am gynllun yr oedd yn gweithio arno gyda phobl ifanc, sengl yn Nhorfaen i ddylunio'r tai a rennir y bydd eu hangen arnyn nhw gan na fydd modd defnyddio budd-dal mwyach i dalu i bobl gael cartrefi unigol. Mae hyn yn rhywbeth sydd gan y myfyrwyr yn fy etholaeth i—maen nhw'n rhannu tai ym mhob man—ond mae'n newid diwylliant llwyr i bobl nad ydyn nhw wedi cael y profiad o fynd i brifysgol oddi cartref. Ond nid yw hyn yn ofyniad ar gyfer pobl yn Nhorfaen yn unig. Bydd wrth gwrs angen i bobl ledled Cymru gael gwahanol fathau o dai a fydd yn cyd-fynd â newid mewn amgylchiadau o ran budd-daliadau.

Roedd hi'n ddiddorol iawn clywed bod y prosiect penodol hwn yn un o 46 o brosiectau a gafodd arian gan Carl Sargeant. Credaf ei bod yn enghraifft hynod gyffrous o beth y gallwn ni ei wneud, a hefyd beth y mae angen inni ei wneud. Mae'r farchnad dai yn ddiffygiol, ac mae angen inni gywiro hynny. Felly, os ydym yn mynd i ymyrryd yn yr economi, dyma gyfle gwych i gywiro'r farchnad honno. Yn y gorffennol roedd gennym bolisïau cyllidol a oedd yn annog pobl i weld tai fel buddsoddiadau yn hytrach na chartrefi, i'r graddau na all mwyafrif y dinasyddion, gan gynnwys rhai'r Cymoedd, fforddio i brynu. Oni bai fod gennym ni sefyllfa wahanol iawn yn y dyfodol, dydyn nhw byth yn mynd i allu gwneud hynny. 

Yn ogystal â hyn, mae gennym ni'r storm berffaith o werthu tai cyngor sydd wedi arwain at y lefelau digartrefedd a gorlenwi a welwn ni yn ein cymunedau. Ac mae gennym y sector tai preifat, sydd wedi mynd ar drywydd elw gan hepgor unrhyw ymrwymiad i ddarparu gwerth am arian, ac mae hyn wedi arwain at y sefyllfa wrthun o Persimmon yn dyfarnu miliynau o bunnoedd i'w uwch reolwyr am wneud dim gwaith ychwanegol. Felly, credaf y dylem ddefnyddio'r rhaglen tai arloesol a manteisio mewn gwirionedd ar y cyfleoedd y mae'n eu creu. 

Rydym hefyd yn edrych ar adroddiad Farmer, a elwir yn 'Modernise or Die', sy'n tynnu sylw at y ffaith, yng ngweithlu'r diwydiant adeiladu, y bydd 25 y cant ohonyn nhw'n ymddeol yn yr ychydig flynyddoedd nesaf ac ni fyddant yno, a byddai'r crebachu hwn mewn capasiti yn golygu na allai'r diwydiant adeiladu ddarparu'r isadeiledd cymdeithasol a ffisegol sydd ei angen arnom ni, oni wnawn ni rywbeth ynglŷn â datblygu'r sgiliau newydd y bydd eu hangen.

Rydym wedi gweld tanfuddsoddi cyson mewn hyfforddi a datblygu gan y sector diwydiant tai, a sgiliau hollol newydd sydd eu hangen gyda'r math o dai sydd eu hangen arnom nawr, sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid yr un hen rai y buom ni'n eu cynhyrchu yn y gorffennol. Felly, yn union fel mae gan y Cymoedd broblem delwedd gamarweiniol y mae angen inni ei herio—y dirwedd fendigedig, aer glân, y bensaernïaeth hanesyddol nad aeth i ebargofiant fel cynifer o gartrefi ac adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd yng Nghaerdydd. Mae'r rhain yn bethau y gallwn ni adeiladu arnyn nhw o ddifrif—felly hefyd mae angen i'r diwydiant adeiladu newid ei ddelwedd.

Bellach nid yw'n ofyniad bod yn rhaid ichi fod yn gryf yn gorfforol. Mae angen ichi gael sgiliau manwl a chywrain i ddatblygu'r cysondeb a fydd yn rhan o godi tai parod mewn ysguboriau cynhyrchu, a dim ond y gwaith terfynol fydd yn digwydd ar y safle. Felly, does dim angen i bobl orfod gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, gallwn ddylunio ein tai i ddiwallu'r holl anghenion hynny. Felly, credaf fod hwn yn gyfle gwych, a gobeithio mai hwn yw un o'r pethau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei gofleidio gan weld hyn fel canolfan ragoriaeth, nid yn unig ar gyfer tai ledled Cymru ond hefyd yn rhywbeth i'w allforio i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac yn ehangach.

16:40

Mae'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau yng Nghymoedd y de yn sylweddol ac yn enfawr. Dyma'r diweddaraf o nifer o fentrau i geisio chwalu a gwrthdroi'r cylch amddifadedd drwy fynd i'r afael â phroblemau anweithgarwch economaidd, canlyniadau addysgol a materion iechyd y cyhoedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod na fu rhaglenni eraill yn llwyddiannus, felly er fy mod yn y croesawu sefydlu'r tasglu hwn, mae'n hanfodol ei fod yn gynhyrchiol ac yn dwyn ffrwyth ar gyfer y rhaglen.

Mae pawb yn y Siambr hon yn cefnogi'r amcanion a nodir yn y strategaeth 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae'n amlwg bod llawer o'r strategaeth hon yn cydblethu â rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru. Felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cydlyniant rhwng yr holl adrannau perthnasol er mwyn datblygu'r strategaeth hon. Mae cau'r bwlch cyflogaeth rhwng y Cymoedd a gweddill Cymru yn amlwg yn bwynt allweddol yma. Rwy'n croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i greu swyddi cynaliadwy yn y Cymoedd eu hunain, yn hytrach na dim ond cynorthwyo pobl i deithio i'r gwaith yng Nghaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd.

Felly, o ran y cynllun hwn ar gyfer canolfannau strategol newydd mewn meysydd penodol, rwy'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth ateb, roi mwy o fanylion ynglŷn â pha gymhellion a gynigir i ddenu'r buddsoddiad sector preifat hanfodol sydd ei angen yn yr ardal. Gwn fod un o'r canolfannau strategol hyn ar gyfer Glynebwy, gan ganolbwyntio ar barc busnes newydd a fydd yn arbenigo mewn technoleg fodurol . Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ehangu'r ardal fenter sydd eisoes yn bodoli yng Nglyn Ebwy i gynnwys tri safle newydd. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth yr Aelodau beth fydd effaith y ganolfan strategol newydd hon ar ardal fenter Glynebwy yn y dyfodol? 

Mae'r strategaeth yn addo manteisio ar botensial creu swyddi drwy gyfrwng buddsoddiadau mawr mewn seilwaith fel ffordd liniaru'r M4 a phrosiect metro de Cymru. Mae ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad cyhoeddus, ac mae un o'i feincwyr cefn ei hun yn honni bod prosiect metro de Cymru wedi ei gynllunio i fod yn fethiant. Mae'n hanfodol, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r prosiectau hyn. Beth sy'n digwydd os na fyddant yn gweld golau dydd? 

Rwyf wedi gwneud sylwadau o'r blaen am y prinder pobl sydd â phrofiad busnes ar y tasglu hwn. Mae'n bwysig bod y gymuned fusnes yn cydweithio'n agos er mwyn darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i wella sgiliau'r gweithlu. Rwy'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ateb am sicrwydd y bydd cymaint o gydweithio â phosib gyda busnesau i sicrhau bod y strategaeth hon yn darparu'r gweithlu medrus sydd ei angen arnynt. 

Mae'r strategaeth yn sôn am ehangu twristiaeth i'r Cymoedd fel cyrchfan dwristiaeth gydnabyddedig. Mae'n anodd gweld sut y gellir cyflawni'r nod hwn, Dirprwy Lywydd, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynlluniau i gyflwyno treth ar dwristiaeth. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod inni a fydd y dreth dwristiaeth arfaethedig yn helpu neu yn llesteirio ei nod.

Llywydd, rhaid inni ddysgu gwersi o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, strategaeth arall gyda'r bwriadau gorau, ond na lwyddodd i sicrhau buddion sylweddol ein pobl yn y de-ddwyrain. Mae—. [Torri ar draws.] Na, mae'n wir. Dydych chi ddim yn byw yn yr ardal—byddaf i'n teithio yno am wythnosau. Rwy'n gwybod. Mae'n un o'r mannau harddaf y gallwn ni ei wella ar gyfer twristiaeth, ac mae'r A467 mewn gwirionedd yn un o'r ffyrdd mwyaf prydferth i yrru arni. Ond yn y nos does dim digon o oleuadau, does dim digon o wasanaethau, ac mewn gwirionedd mae cyflwr yr adeiladau, y soniodd y siaradwr blaenorol amdanynt—mae'r adeiladau yn dal i fod yno, ers cannoedd o flynyddoedd, ac maen nhw'n hardd, ond nid yw'r adeiladau wedi cael eu cynnal a'u cadw, ac mae'r lle yn dal yr un fath.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod a chyhoeddi targedau clir fel bod modd i'r cyhoedd a'r cynulliad fonitro a chraffu ar y cynnydd tuag at gyflawni nodau 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Gobeithio y bydd y strategaeth hon yn llwyddo i gyflawni ei nod ac yn creu'r cymunedau byrlymus a ffyniannus yn y Cymoedd yr ydym ni i gyd yn dymuno eu gweld. Diolch. 

16:45

Bydd y rhai ohonom ni a fagwyd mewn cymuned nodweddiadol yn y Cymoedd yn gwybod nad oes y fath beth â chymuned nodweddiadol yn y Cymoedd. Rwyf i'n dod o Gaerffili. Mae fy etholaeth i wedi ei rhannu yn dde a gogledd, ac mae'r hyn a welwch chi yn ne Caerffili yn wahanol fath o gymuned i'r hyn a welwch chi yng ngogledd Gaerffili. Ond hefyd, bydd y rheini ohonom sydd â chyfeillion a pherthnasau yn byw mewn gwahanol drefi a phentrefi yn y Cymoedd yn gwybod bod y trefi a'r pentrefi yn wahanol iawn i'w gilydd, a'u bod yn wynebu heriau gwahanol.

Un o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau ei ofyn i'r Prif Weinidog ynglŷn â chwestiwn Nick Ramsay ynghylch dod â menter i'r de-ddwyrain oedd ynglŷn â—ac ni chefais fy ngalw, ac nid wyf yn dal unrhyw un yn gyfrifol am hynny, Dirprwy Lywydd—ond mae un o'r cwestiynau yr oeddwn yn mynd i ofyn yn ymwneud ag AerFin, sydd â'u canolfan yng Nghaerffili. Mae AerFin yn dosbarthu rhannau ar gyfer awyrennau sifil, ac am ddwy flynedd yn olynol mae wedi bod ar frig rhestr y 50 cwmni sy'n tyfu gyflymaf. Mae'r cwmni ym Medwas. A'r cwestiwn rwy'n ei ofyn yw hyn: pam na allwn ni gael mwy o ganolfannau AerFin, wedi'u lleoli ym Margod, Rhymni, Nant-y-glo, Pont-y-pwl? Pam na allwn ni weld canolfannau AerFin yn datblygu mewn mannau eraill? Mae'n gwbl bosibl, ond bydd angen y math o newid mewn diwylliant a deinameg sy'n rhan o'r cynllun hwn. Ymhlith y pethau hynny, wrth gwrs, fyddai cysylltiadau trafnidiaeth gwell, mwy o dai fforddiadwy, mwy o gyfleoedd gwaith, ond hefyd rhaid sicrhau nad yw pobl fel fi a gafodd eu magu mewn cymuned yn y Cymoedd, eisiau gadael, a'u bod eisiau aros a gweithio a chyfrannu i'r gymuned. Dyna pam nad wyf i erioed wedi gadael fy nghymuned i yn y Cymoedd, ac nad wyf byth yn bwriadu gwneud hynny. Roedd yn rhaid imi ddod o hyd i waith, fodd bynnag, yng Nghaerdydd, ac roeddwn i'n gweithio ym maes addysg uwch. Llwyddais i aros hefyd yn gynghorydd sir; mae'n debyg fy mod i wedi crybwyll hyn o'r blaen yn y Siambr hon. Ond ar ôl gweithio mewn addysg uwch sy'n cynrychioli cymunedau yn y Cymoedd, rwyf wedi gweld yr hyn y gall addysg uwch ei wneud yn y cymunedau yr wyf i'n hanu ohonynt. Credaf fod dyletswydd ar y prifysgolion hynny sy'n gwasanaethu'r Cymoedd i estyn allan i'w bröydd mewn ffordd nad ydyn nhw wedi ei wneud hyd yn hyn, ac mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi ceisio, a llwyddo, ei gyfleu i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf eisiau gweld Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i fynd allan i'r cymunedau hyn a chymryd rhan yn y cynllun, ac rwyf wedi clywed y partneriaid fydd yn cyflawni'r cynllun yn sôn yn gyson am addysg uwch.

Mae'n ddyletswydd arnyn nhw i gynyddu astudiaethau rhan-amser ac mae'n ddyletswydd arnyn nhw i gynyddu astudiaethau breiniol mewn sefydliadau addysg bellach. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, mewn sylwadau blaenorol, wedi cyfeirio at yr angen i gael gwared ar y ffiniau rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Ond mae angen inni hefyd weld ein prifysgolion yn ymwneud ag ysgolion cynradd ac uwchradd. A minnau'n uwch ddarlithydd, es i fy hen ysgol gynradd a chynhaliwyd diwrnod prifysgol yn ysgol gynradd Glyn-Gaer, un o'r pethau mwyaf gwerthfawr a wnes i yn y proffesiwn hwnnw.

O ran y canolfannau strategol, mae gen i rai cwestiynau. Os byddan nhw wedi'u lleoli mewn ardaloedd sydd eisoes yn ffyniannus, yna does dim diben iddynt. Un cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn yw hyn: sut mae'r canolfannau hynny yn mynd i gysylltu ag ardaloedd lle mae angen twf? Sut, er enghraifft, y bydd canolfan yn Ystrad Mynach yn effeithio ar Senghennydd? Sut y bydd Senghennydd yn elwa o'r ganolfan strategol yn Ystrad Mynach? Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy am hynny, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ddewr ac yn gwbl briodol wedi cytuno i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n cydnabod bod angen atebion i'r cwestiynau ychwanegol hynny, ac y cawn nhw eu hateb.

A hefyd o ran y Cymoedd yn gyffredinol: rwy'n sôn am y Cymoedd gogleddol fel man gwahanol iawn i'r ardaloedd hynny sy'n rhagor o orddatblygu yn yr ardal lle maen nhw'n byw—sef basn Caerffili—ac mae angen inni sicrhau bod tai fforddiadwy yn cael eu datblygu mewn ardaloedd megis Bargoed ac ymhellach i'r gogledd, gan symud oddi wrth y mannau hynny yn yr ardal lle mae tagfeydd eisoes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd yma, a bydd hi'n gwybod fy mod i wedi sôn wrthi am hyn ar sawl achlysur. Felly, rhaid i'r ganolfan strategol alluogi'r elfen olaf a gwarchod rhag yr elfen gyntaf. Os gallwn ni wella cysylltiadau trafnidiaeth, credaf fod hyn yn dechrau ateb y cwestiynau hynny.

Credaf felly ei fod yn gynllun cadarnhaol iawn ac yn un yr wyf yn ei gefnogi. Gallwn ymdrin â materion y cefais i fy magu gyda nhw ac wedi parhau i ymgodymu â nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidogion wrth wneud hynny.

16:50

Yn gyntaf oll, a gaf i gyfeirio at rai o'r sylwadau a wnaeth Adam Price? Cytunaf yn gryf â'r pwyntiau a wnaed o ran cynllun ar ôl cynllun ar ôl cynllun, a dyma mewn gwirionedd yw'r cynllun y mae angen inni ei gyflawni. Mae gennyf yn fy swyddfa i gynllun 1958 Llywodraeth y DU ar gyfer datblygu de Cymru, gyda chynlluniau hardd a lluniau plât copr ac ati, ac mae'n sôn am dai, yn sôn am seilwaith. Mae'n sôn am lawer o'r pethau yr ydym ni'n dal  i siarad amdanyn nhw ar hyn o bryd. A gaf i ganolbwyntio ar dri maes lle mae datblygiadau pwysig yn fy marn i?

Y cyntaf yw'r cyfleoedd sydd gennym drwy gaffael. Gofynnais y cwestiwn yn gynharach y bore 'ma i'r Prif Weinidog am, er enghraifft, E-Cycle ar gyrion fy etholaeth i, sef cwmni sy'n ymdrin â glanhau data. Mewn gwirionedd, mae'r cwmni'n cael mwy o waith gan awdurdodau cyhoeddus Lloegr nag awdurdodau cyhoeddus Cymru, ac ar draws y ffordd—mae bron iawn fel rhywbeth o Bruce Almighty—milltiroedd o silffoedd o gofnodion Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cael eu digideiddio. Ac rydych yn edrych o gwmpas Cymru, ac yn meddwl, 'Wel, dyma gyfle i greu diwydiant o ragoriaeth, yn cyflogi pobl yn y Cymoedd, mewn maes y mae dirfawr angen amdano, lle mae gennym rywfaint o reolaeth drwy gaffael.' Gwn eich bod wedi cytuno i ymweld ar ryw adeg yn y dyfodol, ond ymddengys i mi na ddylid osgoi creu mentrau cyhoeddus ac ati sydd mewn gwirionedd yn gallu creu—y gallwn ni ddylanwadu arnyn nhw mewn gwirionedd. 

Yr ail sylw yr hoffwn i ei godi, wrth gwrs, yw'r ffordd yr ydym ni wedi defnyddio'r weinyddiaeth a'r pwerau datganoledig yng Nghymru er mwyn bod yn gatalydd. Roeddwn yn falch iawn ichi ddod i gyfarfod y ganolfan a lansiwyd gennych yn y lido ym Mhontypridd: enghraifft o adfywio a datblygu. Ond mae'r cyhoeddiad y bydd Trafnidiaeth Cymru yn symud i ganolfan siopa Taf, lle ceir partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf, ar gyfer datblygiad enfawr gwerth £43 miliwn, eisoes yn dechrau trawsnewid y dref. Mewn ardal lle mae llygaid pobl yn edrych tua'r llawr pan rydych chi'n sôn am adfywio'r dref, ac yn dweud, 'ie, ie, rydym wedi clywed hynny o'r blaen, fe greda i e pan wela i e', roeddwn yn falch iawn o fod yno gyda chynghorwyr lleol, gydag Owen Smith AS a chydag arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, i weld y teirw dur yn symud ar y safle. Eisoes, ym Mhontypridd, gallwch weld yr adfywio a'r gweddnewid yn digwydd, fel mae busnesau mwy craff yn dechrau symud i mewn, yn dechrau agor ac ati. Dyna ichi dref gyda chanolfan sydd wedi bod yn gatalydd—effaith uniongyrchol ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, nid yw hyn yn beth newydd. Dyma'r hyn yr arferem ni ei wneud yn yr 1950au a'r 1960au, pan gâi adnoddau'r Llywodraeth ganolog eu defnyddio er mwyn ysgogi. Dyna pam mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe, pam roedd Cyllid y Wlad yn Llanisien ac ati ac ati.

A gaf i gyfeirio, felly, at un maes arall yn ychwanegol at hynny, gan fod sôn tragwyddol am y metro, ac, wrth gwrs, mae'n debyg mai dyma'r buddsoddiad seilwaith cyfalaf pwysicaf y gallwn ni ei wneud sydd â'r potensial i drawsnewid pethau? Rydym wedi siarad mor aml am hyn, ond a gaf i ddweud nad wyf i eto'n argyhoeddedig bod gennym yr ymrwymiad i'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd? Y ffaith bod angen llinellau newydd arnom ni—rwyf wedi sôn droeon am yr angen am linell newydd o'r Creigiau i Lantrisant, oherwydd, ar hyn o bryd, mae tagfeydd traffig o amgylch y Cymoedd. Hoffwn i'n fawr pe byddem ni'n rhoi'r un faint o sylw i'r dagfa economaidd honno a'r angen am fuddsoddiad cyfalaf strwythurol yn yr ardal honno â'r sylw yr ydym ni'n ei roi i brosiect M4 Casnewydd. Gobeithio y byddwn ni'n sylweddoli hynny ar ryw adeg yn y dyfodol. Ond heb y buddsoddiad hwnnw, mae'n sicr o fethu, ac mae'n rhaid imi ddweud na fydd parhad o'r system drafnidiaeth warthus sydd gennym ni, gyda 'metro' wedi ei ysgrifennu ar hyd yr ochr, yn dderbyniol. Ni fydd yn cyflawni'r diben sydd ei heisiau arnom mewn gwirionedd, sef rhywbeth a fydd yn rhwystro'r broses o bobl yn teithio lawr y Cymoedd ond yna'n cael eu dal mewn tagfeydd cyn cyrraedd Caerdydd, ond bydd yn symud yn ôl i'r Cymoedd— yr adfywio, trawsnewidiad y cymunedau penodol hynny. Felly, mae hynny—

16:55

Nid oeddwn eisiau tarfu ar ei araith, ac rwy'n gwbl gytûn ag ef, ond a gaf i hefyd ei annog i ailadrodd y syniad rhagorol yr ysgrifennodd amdano tua phum mlynedd yn ôl gyda Mark Barry, sef creu llinell gylchol ar gyfer y Cymoedd, a ddylai mewn gwirionedd fod yn flaenoriaeth gyntaf ar gyfer y metro, yn hytrach na'r pwyslais hwn, yn anffodus, ar y cysylltiad â Chaerdydd?

Wel, gwrandewch, yn hollol, ac mae'n hollbwysig i drawsnewidiad y Cymoedd ein bod ni mewn gwirionedd yn dechrau edrych—. Ni all pobl fforddio byw yn ardal Caerdydd bellach. Maen nhw'n gadael yn barhaus, ond rydym ni eisiau iddyn nhw symud y tu hwnt i ardal Bro Taf yn unig, i'r ardaloedd hardd, yr ardaloedd gwyrdd sydd gennym ni bellach yn y Cymoedd. A'r allwedd i hyn yw trafnidiaeth, ac nid trafnidiaeth i lawr i Gaerdydd, ond ar draws y Cymoedd. Ac nid yn unig at ddibenion gwaith, ond hefyd at ddibenion swyddogaethau cymdeithasol, swyddogaethau diwylliannol, fel y gall pobl gyfathrebu a chymryd rhan. Dyna sy'n drawsnewidiol. Mae'n gwbl hanfodol, a dyna pam mae mor hanfodol y cawn ni'r ymrwymiadau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y metro. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A minnau'n Aelod Cynulliad Islwyn, un o'r ardaloedd allweddol a gwmpesir gan y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de, a gaf i ddweud ar goedd fy mod i'n gwbl gefnogol i'r ffordd ragweithiol yr aeth Llywodraeth Lafur Cymru ati i gefnogi datblygiad economaidd cymunedau yn Islwyn a thu hwnt? Mae'n briodol bod Llywodraeth Lafur yn gwneud hyn. Mae fy etholwyr yn awyddus i weld un o ogoniannau tirwedd naturiol Cymru, coedwig Cwmcarn, yn cael ei adfer yn llawn i'w ogoniant blaenorol i'r byd a'r betws ei fwynhau, a chefnogaf yr ymdrech honno.

O ran trafnidiaeth, mae fy etholwyr yn awyddus iawn hefyd, fel y rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth i, i weld trên uniongyrchol i Gasnewydd ac oddi yno—ac nid yw hynny'n anwybyddu'r pwyntiau a wnaed gynnau am y llwybr cylchog—ar y rheilffordd hynod lwyddiannus o Lyn Ebwy i Gaerdydd. Byddai hyn yn agor y cymunedau yn y cymoedd ymhellach ac yn fwy abl i gynnig rhagolygon gwaith teg i bawb. Wrth i'r sylw droi at fetro de Cymru, mae gennyf bob gobaith y rhoddir ystyriaeth i sut y gellir ailfywiogi Crymlyn ymhellach gyda'r posibilrwydd o gael gorsaf. Mae twristiaeth yn bwysig i Islwyn, ac felly hefyd gael mynediad iddi. Mae Crymlyn yn gymuned hanesyddol wych sy'n cynnwys y Navigation, safle eiconig, hanesyddol a safle glofa sydd â threftadaeth ddiwydiannol.

Safleoedd fel y Navigation a chymunedau fel Cwmcarn y mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn sôn amdanyn nhw ac yn eiriol drostynt. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet wybod fy mod i'n gwbl gefnogol i'w agwedd frwdfrydig a deallus ynglŷn â'r ymdrech hon, ac mae'n briodol ein bod yn mynd i'r afael, heb unrhyw gywilydd, ag ardaloedd sydd â mynegeion Cymru ar lefel Cymunedau yn Gyntaf a mynegeion amddifadedd lluosog, a data Amcan 1, a hynny ar gyfer pawb, ni waeth sut bydd rhai yn bychanu yr ymdrech.

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth grynhoi'r ddadl hon, egluro sut y gall Islwyn a chymunedau elwa'n uniongyrchol ar y cynllun cyflawni, yn ei farn ef? A fyddai'n barod i gwrdd â mi i drafod a mynd i'r afael â sut y gall pobl Islwyn ymwneud yn llawn â gwaith y tasglu, wrth i'w genhadaeth bwysig ddatblygu mewn cytgord a phartneriaeth â'r strategaeth economaidd i Gymru? Diolch.

17:00

Rwy'n croesawu natur gynhwysfawr y cynllun cyflawni hwn. Pan fûm i yn sesiwn dystiolaeth y tasglu yn Aberpennar, cafwyd amrywiaeth o syniadau gan bobl leol ynghylch sut y gallwn ni wneud y Cymoedd yn lle gwell byth i fyw a gweithio ynddo. Caiff yr amrywiaeth hwn ei gyfleu yn dda yn y cynllun cyflawni sydd, ochr yn ochr â'r pwyslais disgwyliedig ar welliant economaidd, swyddi a sgiliau, yn gynhwysfawr ei natur ac sy'n sôn ar goedd am ystyriaethau ynglŷn ag iechyd, lles, yr amgylchedd a gwleidyddiaeth lle. Mae'r gyfres o fesurau yn y cynllun wedi eu dylunio'n dda i fodloni'r heriau pwysicaf sy'n wynebu'r Cymoedd ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, ond hefyd i fynd i'r afael â'r problemau hirhoedlog, a fu'n bodoli yn aml ers cenedlaethau, ac sy'n bla ar ein cymunedau. Er enghraifft, yng Nghwm Taf mae'r nifer mwyaf o bobl yng Nghymru sy'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder. Nid yw hyn yn newydd; does dim datrysiad parod, ond rwy'n falch yr ystyrir bod mynd i'r afael â hyn yr un mor bwysig â gwella perfformiad economaidd. Yn hynny o beth, hoffwn i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am adroddiad cynhwysfawr, a diolch i aelodau'r tasglu am eu gwaith dros y misoedd diwethaf.

Gan droi at fanylion yr adroddiad, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i fanteisio i'r eithaf ar greu swyddi gwyrdd. Mae llawer o'r gweithgarwch economaidd hanesyddol sy'n gysylltiedig â'r Cymoedd wedi cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Yn y dyfodol, rhaid inni wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd eto. Yn wir, ceir cyfleoedd penodol mewn cysylltiad â'r economi werdd. Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu parc eco gwerth miliynau o bunnoedd yng nghyfleuster rheoli gwastraff Bryn Pica. Bydd y parc eco yn troi mwy o sbwriel yn adnodd, gan gasglu ac ailddefnyddio'r gwastraff a gynhyrchir ar y safle. Mae'r cyngor hefyd yn trafod gyda gwahanol denantiaid posib eraill, sy'n ailgylchu paent, tecstilau matres, clytiau a phlastigau. Os bydd yn llwyddiannus, y parc hwn fydd y cyntaf o'i fath yn y DU ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r holl gymorth angenrheidiol i'r prosiect cyffrous hwn.

Croesawaf hefyd fod y cynllun cyflawni yn canolbwyntio ar y flaenoriaeth o ddatblygu parc tirwedd yn y Cymoedd. Bydd hyn yn grymuso cymunedau yng Nghymoedd y de i weithio gyda'r sector cyhoeddus i wneud yn fawr o fanteision cynaliadwy lleol adnoddau naturiol eu hardal. Rwy'n gwybod hefyd y bu trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Adfywio Ynysybwl. Mae'r bartneriaeth wedi sicrhau dros £1 miliwn gan y Loteri Fawr ar gyfer prosiect cymunedol saith mlynedd, ac mae'r defnydd gorau o goedwigaeth leol yn allweddol i hyn. Er enghraifft, drwy ddatblygu cyfleusterau a'r ganolfan ymwelwyr yng nghanolfan gweithgareddau awyr agored Daerwynno, a chreu llwybrau drwy'r goedwig leol. Mae cyfleoedd gwirioneddol yma, y gellid eu hefelychu ledled y Cymoedd, a fydd, yn eu tro, yn cynnig manteision i iechyd a lles meddwl.

O ran caffael, hefyd, ceir enghreifftiau da o fusnesau lleol yn y Cymoedd sydd eisoes â'r math o gadwyni cyflenwi datblygedig y mae angen inni geisio eu hefelychu. Er enghraifft, mae Carpet Fit Wales, yn Aberdâr, yn defnyddio cyflenwyr yn Abertawe, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw'n defnyddio gwneuthurwr llawr lleol yng Nghaerffili ac mae ganddyn nhw wasanaethau adnoddau dynol, TG, dylunio a modurdy sy'n cael eu darparu i gyd yng Nghwm Cynon. Dyma'r math o bwynt yr ydym ni wedi bod yn casglu tystiolaeth yn ei gylch yn y pwyllgor economi, gan bwysleisio pwysigrwydd rhwydweithiau effeithlon. Os nad ydym yn gwneud yn fawr o hyn, er ein bod hefyd yn disgwyl gwneud mwy o ran caffael, credaf y byddwn yn colli cyfle yn y Cymoedd i hybu perfformiad a chyflawni amcanion cymdeithasol ehangach.

Daw hyn â fi at yr hyn a deimlaf sy'n dal i achosi'r heriau mwyaf i amcanion polisi, sef y problemau parhaus o anweithgarwch economaidd, tâl isel a sgiliau gwael. Mae pwyslais trwm ar sgiliau yn y cynllun cyflawni, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd hyn yn dwyn ffrwyth. Mae coleddu elfennau mwyaf llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf, fel Cymunedau am Waith, hefyd yn allweddol. Os gallwn ddatblygu rhywbeth sydd eisoes yn gweithio, mae'n rhaid inni fod yn feiddgar wrth wneud hynny.

I gloi, credaf fod gwelliant 2 yn gwneud pwynt pwysig. Mae'r cynllun cyflawni yn cynnig ysgerbwd ardderchog i adeiladu cymunedau cryfach yn y Cymoedd, o'r gwaelod i fyny. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni ystyried hyn yn fan cychwyn y drafodaeth, a sicrhau ein bod ni'n dal i gael trafodaethau nid yn unig ynglŷn â chymunedau'r Cymoedd, ond gyda nhw. Gwn fod hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at gydweithio gydag ef ar hyn.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn gyfle cyffrous ac i'w groesawu. Ond mae'r dogfennau yn gyfaddefiad diamheuol bod rhaglenni blaenorol, rhai ohonyn nhw a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru, naill ai wedi methu neu wedi bod yn ddiffygiol. Mae Cadeirydd y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de hyd yn oed yn dweud yn y ddogfen gychwynnol yr haf hwn, a dyfynnaf:

'Os ydym am lwyddo lle mae rhaglenni eraill wedi syrthio ar fin y ffordd, mae’n rhaid i gymunedau lleol a phobl leol fod yn gwbl ganolog i waith y tasglu.'

Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn tynnu sylw at bwynt a glywaf yn rheolaidd gan fy etholwyr. Ar dudalen 9, dywed y ddogfen fod y rhai yr ymgynghorwyd â nhw ar y pryd wedi dweud nad oes digon o gyfleoedd gwaith o fewn cyrraedd cymunedau'r Cymoedd, bod yna ormod o gontractau dim oriau, a gormod o waith dros dro a gwaith asiantaeth. Mae ein diwydiannau glo a dur wedi crebachu'n sylweddol, a gweithgynhyrchu hefyd, a does dim digon o waith arall yn llenwi'r bwlch. Cefais fy ngeni yng nghwm Rhondda a bûm yn byw yno am flynyddoedd lawer, ac mae'r seilwaith a thrafnidiaeth gyhoeddus yn golygu ei bod yn amhosib mynd o A i B mewn amser rhesymol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gweithio y tu allan i'r ardaloedd hyn. Gyda phobl yn gorfod teithio i'r ddinas ar gyfer gwaith—Caerdydd, Abertawe—mae hi bron yn amhosib os nad oes gennych chi gar.

Pam ydym ni yn y sefyllfa hon? Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon sawl gwaith o'r blaen nad yw'r DU a Chymru yn fannau lle mae'r dreth yn isel. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn fy rhanbarth i, mae'r dreth gyngor yn codi bob blwyddyn, ond gwasanaethau'r cyngor yn dirywio. Er enghraifft, caiff sbwriel ei gasglu bob pythefnos bellach. Mae'r cynnydd mewn TAW wedi bod yn rhwystr i ddefnyddwyr ac wedi gwneud bywyd yn anodd i fusnesau bach. Rwy'n derbyn cwynion cyson gan fusnesau bach sy'n ymwneud ag ardrethi busnes yn fy rhanbarth i a sut mae hyn yn mygu mentergarwch. Mae'n bosib y gall cwmnïau mwy neu ryngwladol sy'n tueddu i gyflogi staff asiantaeth ac ymsefydlu mewn dinasoedd mawr oroesi yn y fath amgylchiadau, ond ni all busnesau bach cynhenid, lleol—fel y rhai yn y Cymoedd—a'r busnesau bach lleol hyn sydd fwyaf tebygol o gyflogi trigolion lleol yn barhaol.

Roedd pobl a ddaeth yn berchnogion busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn synnu o weld bod casglu gwastraff yn daliad ar wahân i ardrethi busnes. O'r blaen, roedd ardrethi busnes yn cynnwys y gwasanaeth hwn. Bellach, mae wedi dod, yn eu geiriau nhw, yn ychwanegyn arall, ac yn un drud hefyd, sy'n ychwanegu miloedd o bunnoedd y flwyddyn yn at eu hardrethi busnes. Mewn ymateb i'r sefyllfa hon, ateb Llywodraeth Cymru yw, yn rhyfedd iawn, i ymchwilio i fwy fyth o ffyrdd o drethu pobl—roedd y drafodaeth am y dreth twristiaeth yn un o'r syniadau a drafodwyd yn fwyaf diweddar. Yn fy rhanbarth i, mae gennyf ddwy ardal twristiaeth, Gwyr a Phorthcawl, ac rwy'n bryderus iawn ynglŷn â hyn. Mae'r syniad hwnnw yn groes i farn y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant, gan gynnwys prif weithredwr gwesty'r Celtic Manor a rhai pobl yng Nghymdeithas Lletygarwch Prydain. Felly, ar un llaw, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n gwrando ar bryderon trigolion ynghylch ansicrwydd gwaith a diffyg cyfleoedd am swyddi a chontractau dim oriau, ond wedyn gyda'i llaw arall mae hi'n mygu'r atebion gorau sydd gennym ni i'r pryderon hyn drwy lesteirio mentergarwch a busnesau bach gyda mwy o dreth. 

Mae'r un peth yn wir am ardrethi busnes. Rydym ni wedi trafod y pwnc hwnnw o'r blaen yn y Siambr hon gan nodi bod y Ffederasiwn Busnesau Bach yn dweud bod y system ardrethi annomestig, fel y mae, yn dreth drom ac annheg nad yw'r rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i allu cwmni i dalu. Yn y ddadl honno, ni siaradodd unrhyw un o aelodau meinciau cefn Llafur i amddiffyn Llywodraeth Cymru. Felly, unwaith eto, gallai diwygio ardrethi busnes adfywio busnesau lleol ac entrepreneuriaeth, ac ymdrin â phryderon y bobl hynny yn y Cymoedd. Felly, gawn ni, gyda'n gilydd, achub ar y cyfle hwn? 

Ffordd arall a allai helpu i wneud iawn am y broblem o ddiffyg swyddi sy'n talu'n dda yn y Cymoedd fyddai gosod dyletswydd statudol ar gynghorau lleol i hyrwyddo datblygiad economaidd. Cymeradwywyd y cynnig hwn gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Efallai y bydd y polisi hwn yn well na mentrau o'r brig i lawr, oherwydd byddai'n galluogi'r rheini sy'n adnabod eu hardal orau i gyfrannu at y mathau o fusnesau a swyddi y byddent yn hoffi eu denu yno mewn gwirionedd. 

O ran yr elfennau sy'n effeithio ar fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, gallaf ddweud y canlynol: roeddwn yn croesawu'r cynnig yn ystod yr haf y bydd y ganolfan yng Nghastell-nedd yn canolbwyntio'n rhannol ar ddatblygu digidol a diwydiannol. Ni all Cymru weithredu ar ddatblygiadau preswyl yn unig, a hwyrach mai'r economi ddigidol yw'r allwedd i swyddi'r dyfodol. Fodd bynnag—

17:10

Ie. Yn yr un modd, mae datblygiadau twristiaeth a diwylliant yn fy ardal i, ar safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i'w croesawu. Rwy'n sicr yn hapus i glywed am y datblygiad yng nghanol tref yng Nghastell-nedd, ond ar yr un pryd rwy'n pryderu, oherwydd, weithiau, pan caiff canolfannau tref eu hadfywio, eu hailddatblygu—

Iawn, o'r gorau. Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl. Alun Davies.

Member
Alun Davies 17:11:27
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Credaf fod nifer yr Aelodau sy'n dymuno chwarae rhan yn y ddadl a'r cyfraniadau a glywsom ni yn dangos pa mor bwysig yw hi fod y Llywodraeth yn cyflwyno'r dadleuon hyn i'n galluogi i gael sgwrs yn y fan yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymateb i'r holl heriau sy'n ein hwynebu.

Rwyf hefyd yn falch nad yw hon yn ddadl yr ydym ni wedi ei chael yn y gorffennol, ble mae Aelodau wedi traddodi areithiau parod, cyffredinol yn ailadrodd yr holl heriau sy'n ein hwynebu, oherwydd mae pobl y Cymoedd eisiau mwy na dadleuon di-fflach am bethau a fu. Mae pobl y Cymoedd eisiau mwy na gwleidyddion sy'n gwneud dim byd ond dyfynnu ystadegyn ar ôl ystadegyn ar ôl ystadegyn heb lawn ddeall yr ystadegau hynny neu allu mynegi beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ganlyniad i wynebu'r heriau hynny. Yn rhy aml—ac rwy'n credu yr eglurodd Adam Price hyn yn dda iawn—yr hyn a welsom ni oedd lansiadau cysylltiadau cyhoeddus, gyda dim neu fawr ddim sylwedd ac yn sicr dim canlyniadau. Credaf fod hynny'n feirniadaeth deg o lawer o'r mentrau a welsom yn y gorffennol, ac rwy'n derbyn hynny. Rwyf hefyd yn gobeithio y byddai'n derbyn rhan ei blaid yn un o'r rheini hefyd.

Ond gadewch imi ddweud hyn: Mae angen inni sicrhau ein bod yn mynegi ein huchelgeisiau a'n hamcanion a'n gweledigaethau difrifol iawn ar gyfer dyfodol ein cymunedau ledled Cymoedd y de. Ac mae hynny'n golygu bod o ddifrif ynglŷn â'r heriau sy'n ein hwynebu. Nid dim ond gwneud araith ar brynhawn dydd Mawrth a cherdded ymaith ar nos Fawrth, ond gan gydnabod yr heriau hynny a chydnabod sut y gallwn ni fynd i'r afael wedyn â rhannau sylfaenol yr economi a'r cymunedau i'n galluogi i oresgyn yr heriau hynny. Yr hyn a welsom ni y prynhawn yma yn y ddadl hon oedd amrywiaeth eang o fentrau gwahanol, syniadau gwahanol, cyfraniadau gwahanol, bob un ohonyn nhw eisiau gallu cyfrannu at y weledigaeth gadarnhaol honno i'r dyfodol.

Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone ynghylch tai a'r diwydiant adeiladu, a'r modd y gellir defnyddio tai er mwyn gwella safonau ac ansawdd bywyd, ond hefyd buddsoddi yn ein heconomi. Ac mae'r pwyntiau a wnaeth Hefin David am gymuned nodweddiadol yn y Cymoedd yn hollol gywir. Pan fyddaf yn siarad mewn cyfarfodydd — siaradais mewn cyfarfod gyda Huw Irranca yn neuadd y dref Maesteg, a chredaf y buom  am dair awr yn sefyll a siarad a thrafod a dadlau gyda'r bobl yno. Roeddwn i'n siarad fel rhywun o Dredegar, yn edrych ar y Cymoedd o'm safbwynt i ym Mlaenau Gwent a Thredegar, ac mae safbwynt rhywun sy'n byw yng Nghwm Llynfi neu Maesteg, wrth gwrs, yn gyfan gwbl ac yn hollol wahanol. Cawsom ddadleuon a thrafodaethau tebyg ledled y Cymoedd, lle mae pobl wedi buddsoddi amser i siarad, dadlau a thrafod beth maen nhw eisiau ei weld ar gyfer eu cymunedau. Bu'n un o'r profiadau mwyaf cyfoethog yn fy oes wleidyddol i, ac mae'n rhywbeth y byddaf bob amser yn ei werthfawrogi. Ac mae'n debyg bod yr hyn a ddysgais i o bob un o'r cyfarfodydd hynny yn bwysicach i mi na'r holl destunau gwahanol a ddysgais ar adegau eraill, oherwydd fe gawsom ni sgyrsiau gwirioneddol gyda phobl am eu cartrefi, eu cymunedau, eu teuluoedd, eu gobeithion, eu penderfyniad i greu ac ail-greu cymunedau ar gyfer y dyfodol.

Ond mae'n rhaid inni hefyd fod yn hollol, hollol o ddifrif ynglŷn â sut i wneud hyn, gan fynd i'r afael â'r economi sylfaenol, rhoi cymorth sy'n hyblyg ac ystwyth i fusnesau, gan gallu edrych ar y busnesau y soniodd Hefin David amdanyn nhw yng Nghaerffili, a hefyd wedyn gallu cynyddu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y busnesau hynny i dyfu a llwyddo yn y dyfodol.

O ran yr heriau a amlinellwyd i ni gan Mick Antoniw, roedd y sgwrs a gawsom ni cyn y Nadolig ym Mhontypridd rwy'n credu yn enghraifft o sut yr hoffwn i weld y tasglu hwn ar gyfer y Cymoedd yn mynd rhagddo, gan ddod â phobl ynghyd, bod yn gatalydd, cynnig gweledigaeth ar gyfer newid, gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, mae'r holl bwyntiau a wnaethoch hi yn bwyntiau y byddwn i'n dymuno eu hailadrodd hefyd.

Rhianon, rwyf wedi bod am dro gyda fy mhlant i yn y car drwy goedwig Cwmcarn, a chytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch chi. Wrth gwrs, gallwn gyfarfod a thrafod materion yn ymwneud ag Islwyn yn benodol, ond hefyd beth am gyfarfod a thrafod sut y gall eich gweledigaeth am dwristiaeth gyfrannu mewn gwirionedd at bob un o'r Cymoedd hefyd. Oherwydd un o'r pethau rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud yw dod â phobl ynghyd o bob rhan o'r Siambr hon er mwyn darparu ar gyfer y dyfodol.

17:15

Does gen i ddim amser yn weddill. Gyda charedigrwydd y Dirprwy Lywydd—

Yn fyr, felly. Yn fyr—gan ei bod hi'n flwyddyn newydd ac rwy'n teimlo'n eithaf hael. Yn fyr.

Roedd pris o £1 biliwn y flwyddyn ar strategaeth y Cymoedd a gyhoeddwyd 12 mlynedd yn ôl gan A. Davies arall. Pryd gawn ni'r ffigurau gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y buddsoddiad ychwanegol sydd ynghlwm wrth y strategaeth hon i gyflawni'r amcanion?

Roedd yr araith agoriadol a wnes i, y sylwadau agoriadol a wnes i, ynglŷn â thasglu'r Cymoedd, oedd bod hyn yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, ac felly rydym yn gweld cyfraniadau. Y pwynt yr oeddwn yn mynd i'w wneud wrth gloi oedd y sylw a wnaed gan Vikki Howells o ran ehangder y syniadau o Aberpennar, yr angen inni wreiddio ein cynlluniau ar gynaliadwyedd a swyddi cynaliadwy, ac yn olaf y sylwadau a wnaeth hi—ac rwy'n llwyr gytuno â hi—ynglŷn â'r parc tirwedd. Fy nghyfaill a'm cyd-Aelod Lesley Griffiths a'i hadran sy'n arwain y gwaith ar y Parc tirwedd, a'i swyddogion hi sy'n gwneud gwaith ar hynny. Mae'r gwaith a gyflawnir gan y canolfannau strategol, y cyfarfodydd a drafodir mewn mannau eraill, yn cael eu harwain gan Ken Skates. Felly, ceir Gweinidogion a chyfrifoldebau gweinidogol yn cyflawni'r uchelgeisiau hyn ym mhob un o adrannau'r Llywodraeth. Yr hyn yr ydym eisiau cefnu arno, Adam, yw cyfyngu'r Cymoedd i un adran ac i un cwango. Rydym yn awyddus i'r Llywodraeth gyfan fynd i'r afael â'r materion hyn, a chaiff y gwaith a ddisgrifiodd Mick Antoniw o ran y metro, wrth gwrs, ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Felly, gadewch imi orffen drwy ddweud hyn: Adam, fe wnaethoch chi ddyfynnu Idris Davies, ac mae pob un ohonom wedi darllen Gwalia Deserta ar wahanol adegau yn y gorffennol, ac roedd hynny wrth gwrs yn gri ddirdynol gan gymuned a gafodd ei bradychu gan Lywodraeth ddi-hid. Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi yw hyn—gadewch imi aralleirio Gwyn Alf Williams, a bod yn gwbl glir—bydd ein Cymoedd yn llwyddo os ydym ni'n dewis eu galluogi nhw i fyw yn y dyfodol, a byddwn yn gwneud ac yn ail-wneud ein cymunedau oherwydd rydym ni wedi ymrwymo i'r cymunedau hynny, rydym ni o'r cymunedau hynny, rydym ni wedi ein gwreiddio yn y cymunedau hynny, ac mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ei gwreiddio yn nyfodol y cymunedau hynny. Felly, byddwn yn gwneud ac yn ail-wneud dyfodol ar gyfer ein holl gymunedau.

Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Da iawn. Felly, derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru

Trown yn awr at eitem 7, sef dadl ar ffurf ddrafft cynllun morol cenedlaethol Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.

NDM6616 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP).

2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd 'Twf Glas' cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft.

3. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol.

4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 17:19:17
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf yn fawr y cyfle hwn i drafod ffurf ddrafft cynllun morol cenedlaethol Cymru a'i swyddogaeth o ran bod yn ganllaw i reoli ein moroedd yn gynaliadwy. Mae hon yn enghraifft gref o bolisi a luniwyd gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Wrth ddatblygu ein cynigion mewn cydweithrediad agos ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid fe wnaethom ni ddangos yn glir sut i wrando ar safbwyntiau pobl Cymru ac adeiladu arnynt. Mae gan Gymru hanes morwrol balch a hirhoedlog. Mae ein moroedd yn fwy na phwysig i ni. Maen nhw'n arbennig, wedi eu bendithio â chyfoeth o adnoddau naturiol, morluniau eiconig a bywyd gwyllt ysbrydoledig, ac mae gan bob un ohonom ni ddiddordeb ar y cyd yn eu dyfodol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:20

Yn anffodus, ar adegau, mae modd anwybyddu eu harwyddocâd. Mae moroedd Cymru yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau sy'n cyfrannu at ecosystemau morol iach a chryf. Mae'r ecosystemau hyn yn darparu amrywiaeth eang o fanteision hanfodol sy'n cefnogi ein lles cenedlaethol. Mae ein moroedd hefyd yn cynnwys cyfoeth o adnoddau naturiol sy'n cynnig cyfle i Gymru elwa ar dwf glas.

Dim ond ar y pwynt hwnnw, bydd hi'n ymwybodol bod rhai elusennau sy'n ymwneud â chadwraeth forol wedi dweud heddiw bod canlyniadau negyddol arwyddocaol i'w chynllun. A yw hi'n cydnabod bod hynny'n feirniadaeth ddilys, neu a yw'n credu eu bod wedi gorbwysleisio eu hachos?

Yn amlwg, rydw i wedi cyfarfod â llawer o'r sefydliadau a wnaeth y sylwadau. Felly, rwy'n credu eu bod o bosib ychydig yn gamarweiniol. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnod o ymgynghori. Mae'n gyfnod ymgynghori hir iawn. Gwneuthum yn sicr mai felly yr oedd hi, yn enwedig dros y Nadolig, felly gallant gyfrannu eu sylwladau, ac yn amlwg byddwn yn ystyried pob barn wrth fynd ymlaen.

I barhau, rydym yn defnyddio ein moroedd mewn llawer o ffyrdd ac mae pysgodfeydd, morgludiant a gweithgareddau hamdden hir-sefydledig yn bodoli ac yn ffynnu ochr yn ochr â defnyddiau mwy newydd megis tyrbinau gwynt ar y môr a thyrbinau tanddwr, a all ein helpu i ddatgarboneiddio ein heconomi. Fodd bynnag, wrth i'n moroedd brysuro, mae mwy o risg gwrthdaro a mwy o botensial i danseilio cadernid morol. Felly, mae cynllunio strategol morol yn hollbwysig. Drwy gynllunio effeithiol, gall ein diwydiannau morol dyfu a ffynnu a gellir diogelu ein treftadaeth naturiol werthfawr ar yr un pryd.

Fis Medi diwethaf, gosodais dargedau ynni uchelgeisiol ar gyfer Cymru, gan gynnwys bod 70 y cant o'r trydan a ddefnyddir yn deillio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Gwelaf fod gan ynni adnewyddadwy ar y môr y potensial i wneud cyfraniad pwysig wrth gyrraedd y targed hwn. Gallai ynni adnewyddadwy ar y môr ddarparu amrywiaeth o dechnolegau i gefnogi'r daith tuag at gynhyrchu cynaliadwy, carbon isel yng Nghymru.

I gefnogi'r gwaith o ddatblygu ein moroedd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, rwy'n falch o fod wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru drafft. Dyma'r cynllun statudol cyntaf ar gyfer ein moroedd ac mae'n gychwyn ar gynllunio cyfundrefn forol strategol newydd. Mae'n bwysig bod gennym weledigaeth glir a hirdymor o'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni ar gyfer ein moroedd, yn arbennig wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Credaf ei bod yn hanfodol darparu eglurder a sicrwydd ar gyfer y rhai sy'n defnyddio ac yn elwa ar ein moroedd.  

Mae'r cynllun morol yn adeiladu ar y cynnydd cadarn yr ydym eisoes yn ei wneud wrth warchod ein moroedd, gan gefnogi ein nod o gyflawni statws amgylcheddol da, cwblhau ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, rheoli gweithgareddau a allai niweidio cryfder yr ecosystem forol, helpu i adfer ein stociau pysgod a bioamrywiaeth, a sicrhau bod gennym gyfundrefn gydsynio gadarn ac effeithiol.

Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud i gynnal a gwella'r manteision a ddaw i'n rhan o foroedd iach a ffyniannus. Rwy'n sicr ein bod ni i gyd wedi bod yn pryderu ynghylch straeon ar y newyddion yn ddiweddar am effeithiau dinistriol a phellgyrhaeddol llygredd plastig ar ein hecosystemau. Dengys hyn cymaint o gysylltiad sydd rhyngom ni â'n moroedd, nid dim ond yn ddiwylliannol ond o ran pa mor helaeth a pharhaus y gall effeithiau fod.

Mae'n rhaid inni barhau i weithredu mewn ffyrdd sy'n cydnabod ac yn dangos ein hymrwymiad i fod yn gyfrifol yn fyd-eang am ein gweithredoedd. O ran cysoni polisïau, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r system cynllunio defnydd tir yn ei chyfanrwydd yn cefnogi ein hamcanion morol. Drwy barhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid, byddwn yn sicrhau bod ein cyfundrefnau cynllunio tir a môr yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni eu nodau cyffredin.

Mae cyflwyno'r cynllun yn gam pwysig wrth ddwyn ynghyd ystod o bolisïau a sefydliadau i'n helpu i ganolbwyntio ar y materion hyn, edrych ar ôl ein moroedd ar gyfer y tymor hir, cydnabod a mynd i'r afael â phroblemau yn gynnar, a gweithio ar y cyd i gyflawni canlyniadau gwirioneddol. Datblygwyd y cynllun drafft yr wyf yn ymgynghori arno ar y cyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae diwydiannau, grwpiau amgylcheddol, ymchwilwyr a mwy wedi gweithio gyda'i gilydd i helpu i ddatblygu cynllun a fydd yn arwain gweithgarwch yn y dyfodol mewn ffordd gynaliadwy.

Yn 2011, lluniodd pob un o bedair gweinyddiaeth y DU gyfres o amcanion morol cyffredin. Cyhoeddwyd y rhain yn ein datganiad polisi morol 2011. Mae'n bwysig gosod amcanion sy'n parchu graddfa a natur gydgysylltiedig ecosystemau morol. Mae'r amcanion cyffredin hyn, ynghyd â nodau llesiant a'n hymrwymiad i reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, yn llywio polisïau cyffredinol y cynllun, sy'n berthnasol i bob gweithgaredd yn ein moroedd.

Mae'r potensial i Gymru elwa ar y twf glas yn gyffrous ac yn sylweddol. Drwy sicrhau bod gwahanol ddefnyddwyr y môr  yn ystyried gweithgareddau ei gilydd, yn ogystal â'r potensial ar gyfer y dyfodol, gallwn oll elwa. Mae'r cynllun drafft yn nodi y ceir cyfle twf penodol i nifer o sectorau: ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr megis gwynt ar y môr, tyrbinau tanddwr a môr-lynnoedd llanw; ar gyfer dyframaethu, a meithrin pysgod cregyn yn benodol; ar gyfer gweithgarwch llongau, sy'n darparu cysylltiadau hanfodol i Gymru, o Gymru a thrwy Gymru; ac, yn bwysicaf oll, ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden, sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi ni.

Rwy'n cydnabod arwyddocâd yr holl sectorau sy'n gweithredu yn nyfroedd Cymru. Er enghraifft, mae agregau morol yn darparu deunydd adeiladu hanfodol i gefnogi twf economaidd. Mae pysgodfeydd yn ein galluogi i fwynhau protein iach, o ffynonellau lleol, ac mae ceblau o dan y môr yn caniatáu i symiau anferth o ddata lifo drwy ein cartrefi a busnesau ac wrth gwrs maent yn hanfodol i economi fodern. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cytuno bod angen rheoli ein moroedd yn ofalus i ganiatáu i'r gweithgareddau amrywiol hyn barhau a, lle bo'n briodol, i dyfu ochr yn ochr mewn cytgord â'n hamgylchedd naturiol.

Mae'r cynllun yn diogelu adnoddau naturiol pwysig i leihau'r risg o golli'r cyfle i'w defnyddio yn y dyfodol. I wneud hynny, mae'r cynllun yn nodi meysydd o'r fath—meysydd adnoddau strategol—ac mae ganddo bolisïau i annog y sectorau i dyfu mewn modd cynaliadwy. 

Mae cyrff awdurdod cyhoeddus yn chwarae rôl bwysig wrth wneud penderfyniadau am yr amgylchedd morol, er enghraifft wrth asesu cynigion datblygu a rhoi trwyddedau morol. Mae'r cynllun hwn yn eu cefnogi drwy nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i helpu i lywio eu penderfyniadau, heb danseilio'r archwiliadau a'r cydbwysedd penodol i brosiect mewn unrhyw ffordd i sicrhau bod pob cynnig yn destun craffu priodol. Rwy'n disgwyl i bob prosiect unigol fodloni rhwymedigaethau statudol perthnasol cyn sicrhau cydsyniad.

Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael a sicrhau bod hyn ar gael i bawb. Yng Nghymru, mae gennym sylfaen dystiolaeth forol sylweddol wedi'i chrynhoi yn 'Adroddiad Tystiolaeth Forol Cymru' 2015, ac mae data morol yn awr ar gael i'r cyhoedd ar ein porth cynllunio morol ar-lein. Mae hyn yn golygu y gall rhanddeiliaid ddefnyddio'r porth i ddeall y rhesymau dros ein cynigion a beth y gallai ei olygu yn ymarferol.

Mae'r amgylchedd morol yn weithle cymhleth a heriol. Mae cyflwyno system gynllunio morol newydd yn golygu buddsoddiad pwysig o ran amser ac ymdrech, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan lawer o randdeiliaid sydd wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i'r broses. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu cymorth a'u brwdfrydedd.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, fforwm arfordir sir Benfro ac eraill yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau lleol o gwmpas yr arfordir yn ystod y mis hwn, a byddwn yn annog y rheini sydd â diddordeb yn nyfodol ein moroedd i fynd iddynt a dweud eu dweud.

Felly, yn gryno, Llywydd, mae hwn yn gam pwysig ar gyfer dyfodol moroedd Cymru, yn arbennig wrth inni gychwyn ar Flwyddyn y Môr Llywodraeth Cymru. Rwyf eisiau sicrhau bod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn gweithio ar gyfer Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd a nodi'n huchelgais yn glir a cheisio'i wireddu, gallwn i gyd gyfrannu at wneud y mwyaf o'n moroedd.

17:25

Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig ac, os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw felly ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 1, 2 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.  

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit.

Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at yr oedi o ran cyhoeddi cynllun morol terfynol Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun yr her i foroedd Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 5.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac os caf ddechrau drwy ddweud a nodi ein bod ni'n trafod y cynllun morol ymgynghorol heddiw a bydd gennym ni drafodaeth yfory eto ar adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd ar yr union bwnc yma, rwyf jest yn gobeithio y tro nesaf y bydd rhywbeth fel hyn yn digwydd y bydd y Pwyllgor Busnes yn gallu bod yn fwy creadigol ynglyn â chael trafodaeth ar gynigion y Llywodraeth wedi eu cymhwyso a goleuni wedi taflu arnyn nhw gan adroddiad y pwyllgor, yn hytrach na chael dwy ddadl ar wahân. Ond, wedi dweud hynny, rydw i'n falch iawn ein bod ni yn trafod yr ymgynghoriad heddiw ac, wrth gwrs, mae yn ymgynghoriad felly mae llawer o gwestiynau rwy'n mynd i ofyn efallai yn rhai a gaiff eu hateb yn ystod y cyfnod ymgynghorol ac, wrth gwrs, mae yna ambell i bwynt efallai a ddaw allan yn ystod y broses yna yn ogystal. 

Hoffwn i ddechrau gyda lle rydw i'n cytuno gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, sef ar y sylfaen egwyddorol yma ein bod ni efallai fel cenedl yng Nghymru wedi troi ein cefnau ar y môr yn ystod yr hanner canrif diwethaf, ac nid ydym ni'n meddwl digon am y môr fel ffynhonnell bywoliaeth, fel ffynhonnell bioamrywiaeth, fel ffynhonnell rhai o'r pethau mwyaf economaidd y gallwn ni eu datblygu ar gyfer y dyfodol, efallai. Rwyf hefyd yn rhannu, yn y gwelliannau sydd gan Blaid Cymru i'r ddadl heddiw, ofnau ynglŷn ag oedi cyn cyflwyno yr ymgynghoriad yma, cynigion sydd wedi'u rhannu gan y Blaid Geidwadol, rwy'n sylwi, yn ogystal. Mae yna dymor cyfan o'r Cynulliad wedi pasio ers i ni glywed am y datganiad polisi morol cyn i ni weld y cynllun ar ei ffurf drafft presennol. Ac yn ystod y cyfnod yna, mae'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan y pwyllgor newid hinsawdd yn ystod ei adroddiad diweddar—y byddwn ni'n ei drafod yfory—wedi dangos yn glir bod yr ardaloedd cadwraeth morol y cyfan oll mewn cyflwr anffafriol ar gyfer y cynefinoedd a hefyd yr amrywiaeth o fywyd môr sydd i gael ynddyn nhw. Felly mae'r amser yn pasio ac mae dirywiad yn digwydd.

Gofynnais i gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag agwedd neu ymateb cyntaf rhai o'r mudiadau amgylcheddol i'r cyhoeddiad. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei yrru gan y pwyslais yn yr adroddiad ynglŷn ag ynni o'r môr, ac yn enwedig y posibiliadau o forlynnoedd llanw. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi mewn egwyddor, ond wrth gwrs, mae hefyd yn un o'r pethau a fydd yn profi defnyddio her Deddf cenedlaethau'r dyfodol wrth baratoi. Mae'n bwysig i nodi ei bod hi'n flwyddyn gyfan ers i adroddiad annibynnol Hendry gael ei gyhoeddi ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, a oedd i fod i roi yr atebion i ni i rai o'r cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y mudiadau amgylcheddol heddiw, ac sydd yn cael eu crybwyll yn yr ymgynghoriad hefyd.

Rydym ni'n gwybod bod bioamrywiaeth o dan fygythiad gan ddatblygiadau ynni o'r môr—wrth gwrs eu bod nhw—ac mae yna effaith ar ecosystemau o ddatblygu ynni o'r môr. Ond hefyd mae newid hinsawdd yn ei dro yn effeithio ar y môr, ac ar y cynefinoedd, ac ar y bioamrywiaeth yn y môr, a chadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddau beth yna oedd yr union beth a oedd i fod i gael ei ateb o leiaf yn rhannol drwy gael cynllun morlyn llanw pathfinder, fel roedd yn cael ei alw gan adroddiad Hendry. Felly, mae'n siomedig iawn bod Llywodraeth San Steffan o hyd yn trin Cymru yn y fath fodd, fel nad oes hyd yn oed penderfyniad wedi'i wneud, flwyddyn gron ar ôl cyhoeddi'r adroddiad annibynnol hwnnw.

Yr ail ran, efallai, a fydd yn denu sylw'r cyhoedd yn yr adroddiad yma yw'r pwyslais ar lygredd môr, ac wrth gwrs mae plastig yn rhywbeth rydym ni eisoes wedi'i drafod wrth ddod nôl o'r gwyliau yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw. Ond mae'n bwysig i danlinellu bod y rhai a wnaeth ymateb i'r pwyllgor newid hisawdd ar y materion hyn wedi sôn am sbwriel a llygredd yn y môr fel un o'r pethau a oedd yn eu poeni nhw fwyaf. Ac wrth gwrs, nid yn unig bod hyn yn cael effaith ar dwristiaeth a mwynhad ar lan y môr, mae'n cael effaith benodol ar fywyd môr yn ogystal. Felly, mae mynd i'r afael â llygredd plastig yn mynd i fod yn rhan bwysig o gynllunio morol cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn.

Fe fydd nifer o bethau eraill yn cael eu trafod wrth i ni ymateb i'r pwyllgor newid hinsawdd yfory, felly nid wyf eisiau ailadrodd fy hunan yn ormodol mewn dau ddiwrnod. Fe wnaf i jest crybwyll y ddau beth yna fel rhai o'r heriau a fydd ar gyfer y cynllun presennol, gan nodi, wrth gwrs, ein bod ni'n dechrau ar gyfnod ymgynghorol, gan edrych ymlaen at ymateb gan y cymunedau hynny yn benodol sy'n byw ar lan y môr, a chroesawu beth ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r posibiliadau nawr o gyfarfodydd cyhoeddus a thrafodaeth gyhoeddus ar y cynllun.

17:30

Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliannau 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 3. Paul Davies

Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl 'chydweithio' a mewnosod:

'ond yn gresynu at yr oedi wrth lunio Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru.'

Gwelliant 4. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i economi ac amgylchedd morol Cymru yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod. Fel Simon, a gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr wedi cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol drafft? Dyma hanner cyntaf y ddadl a fydd yn mynd yn ei blaen yfory pan fyddwn yn trafod rhai o syniadau'r Pwyllgor yn y maes hanfodol hwn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y ddwy awr hyn o ddadl yn bwydo i'r broses ymgynghori mewn ffordd effeithiol. Rydym wedi aros yn hir, ond rydym wedi cael ein gwobrwyo ag adroddiad drafft hir iawn. Rwy'n siwr bod 300 o dudalennau, i'r rhan fwyaf ohonom sy'n talu sylw i'r maes polisi hwn a rhai sy'n gweithio yn y maes a'n cydweithwyr mewn pob math o sefydliadau anllywodraethol—roedd yn ddeunydd darllen ysbrydoledig iawn i bobl dros y Nadolig. Ond rwy'n falch ei fod gennym yn awr, ac rwy'n poeni o ddifrif ynghylch ble y mae'n ein galluogi ni i symud o ran polisi cydlynol yn y maes hwn.

Ond credaf fod angen atgoffa ein hunain bod y gallu i gael y math hwn o gynllunio yn mynd yn ôl at Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Cawsom y datganiad polisi morol yn 2011. Mae awdurdodaethau eraill wedi bod yn gyflymach: yn yr Alban, cafodd eu cynllun ei gyflwyno yn 2015, felly maen nhw wedi cael dros ddwy flynedd, mewn gwirionedd, o amser ychwanegol, efallai, i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r pryderon uniongyrchol o ran ecoleg yr amgylchedd morol, ond hefyd, yn bwysig iawn, sut yr ydym yn ffitio'r amgylchedd i'n gweledigaeth datblygu cynaliadwy, ac mae hynny'n wahanol iawn ac yn bwysig yn ogystal. Byddai'n rhaid inni ddweud nad yw ein hecosystemau morol presennol mewn cyflwr iechyd perffaith, cyn belled ag y gwyddom, beth bynnag; fe soniaf ychydig am ddiffygion data yn ddiweddarach. Ond dywedodd yr adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol mai dim ond 29 y cant o ddyfroedd ein haberoedd a'n harfordiroedd sydd â'u statws ecolegol yn dda, felly mae'n eithaf clir bod angen llawer mwy o sylw yn y maes hwn o bolisi cyhoeddus.

Nid oes gennyf unrhyw broblemau â'r tri phrif bwynt yn y cynnig hwn. Nid oes gennyf unrhyw broblemau, ychwaith, â gwelliannau Plaid Cymru, ond ceir, rwy'n credu, synnwyr o ddifaterwch yn safbwynt y Llywodraeth, neu o leiaf mae hyn yn llithro i mewn, a dyna pam nad wyf wedi fy mhlesio'n gyfan gwbl gan bwynt 4 a'r gymeradwyaeth y mae'n ceisio ei rhoi i'r Llywodraeth. Ond yn amlwg mae angen inni nodi potensial yr hyn a elwir gan lawer yn dwf glas yn y sector morol, ac mae gennym adnoddau cyfoethog, amgylchedd morol mawr y gellir tynnu ohono, ac yn wir dylem fod yn gweld hyn yn rhywbeth canolog i'n nodau llesiant cenedlaethol. Dylem fod yn arweinwyr yn y sector a dylai fod gennym y math hwnnw o uchelgais, ac nid yn llusgo ychydig ar ei hôl hi yn y lôn araf.

Byddwn yn dweud ei bod yn iawn i gynhyrchu dogfen 300 o dudalennau os yw'n dal yn eithaf clir ac wedi'i thargedu. os nad yw hi felly, y broblem yw ei bod hi'n ymddangos braidd yn hirwyntog. O'i chymharu â fersiwn yr Alban, mae honno yn llai na hanner hyd ein cynllun drafft, ac rwy'n credu ei bod yn llawer mwy cryno a phenodol. Mewn gwirionedd, ar ben arall y raddfa, mae cynllun gweithredu polisi morol cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn 36 o dudalennau. Credaf mai dyna'r math o groywder y mae angen inni ei weld os ydym yn mynd i gael syniad o sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud penderfyniadau a galluogi eraill i weithredu yn y maes hwn a gwybod beth sy'n bosibl o ran ceisiadau y maen nhw'n mynd i'w cyflwyno mewn gwirionedd. Mae'n bwysig iawn, Llywydd, bod angen i'r cynllun morol fod yn rhagnodol yn ofodol, yn darparu eglurder i defnyddwyr môr a rhanddeiliaid fel ei gilydd, tra'n sicrhau bod lle i fywyd morol ffynnu. Dyna, yn amlwg, yw'r cydbwysedd y mae angen inni ei osod.

Mae gennyf un pryder mawr yr wyf am ei godi heddiw. Er mwyn i'r cynigion hyn weithio, mae angen gwybodaeth effeithiol y gall cynlluniau a chynigion ei defnyddio. Mae ansawdd cyffredinol y sylfaen dystiolaeth yn wael iawn. Hefyd, mae llawer o ddryswch yn y darnio sy'n bodoli rhwng awdurdodaethau a sectorau gwahanol sydd â chyfrifoldebau amrywiol ar gyfer ein hamgylchedd morol. A chredaf fod angen inni dalu llawer o sylw i'r maes hwn fel ein bod yn gweld llawer mwy o gydweithio ar ddata rhwng awdurdodau a sefydliadau ar draws y gwahanol sectorau, a bod hyn yn cael ei weld yn rhan o'r sylfaen gadarn ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Ond a gaf i gloi drwy ddweud mai'r dechreuad yw hyn, ac y byddwn ni'n gweithio mewn ffordd adeiladol i wella pethau a sicrhau, ar gyfer y dyfodol, fod gennym strategaeth glir iawn ar gyfer ein hamgylchedd morol? Diolch.

17:35

Rwyf i ar yr ochr gadarnhaol. Mae dyfodiad y cynllun morol cyntaf erioed ar gyfer Cymru, rwy'n credu, yn foment arwyddocaol yn hanes Cymru fel cenedl forol. Er bod system gynllunio defnydd tir wedi bod ar waith ers 70 o flynyddoedd, ni chafwyd dull gofodol a arweinir gan gynllun strategol i reoli amgylcheddau morol y DU—gan gynnwys Cymru. Nid yw hynny'n golygu bod cynllunio defnydd tir wedi bod heb ei broblemau, heb ei ddadleuon, ond o leiaf bu gennym strategaeth cynllunio. Efallai nad ydym ni bob amser wedi cytuno â'r hyn sydd wedi deillio ohoni, ond bu gennym strategaeth. Mewn ymateb i alwadau cynyddol ar y gofod ac adnoddau morol, a'r angen i gyflawni ymrwymiad bioamrywiaeth morol ochr yn ochr â dyheadau ar gyfer twf economaidd, byd-eang, mae llawer o wledydd wedi dechrau datblygu systemau ar gyfer cynllunio gofodol morol. Mae llawer ohonom yn ddigon hen i gofio pan oedd y môr yn cael ei drin fel un domen sbwriel fawr, ac roedd popeth o garthffosiaeth amrwd i wastraff diwydiannol yn cael ei anfon allan i'r môr, oherwydd byddai'r môr yn ei wasgaru— byddai popeth yn diflannu. Ac, wrth gwrs, byddai'r digonedd o bysgod fel penfras yn para am byth ni waeth faint fyddem ni'n eu dal. Mae'r ffaith nad yw'r môr yn cael ei drin mwyach fel tomen sbwriel, a physgod fel adnodd diderfyn, yn gynnydd sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf.

Yn draddodiadol, y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer rheoli morol oedd rheoli anghenion pob sector—felly, arferion pysgota, yna ynni, yna twristiaeth ac ynni—yn cael eu trafod ar wahân. Credaf ei bod yn bwysig fod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn llwyddo i dynnu pob un ohonynt at ei gilydd, oherwydd weithiau mae ganddynt anghenion sy'n cystadlu, a bydd yn rhaid penderfynu pa un gaiff y flaenoriaeth mewn unrhyw faes penodol. Dywed mai ei nod yw dod â defnyddwyr at ei gilydd i edrych ar ardal o'r môr o ran ei nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, a phenderfynu ar y cyd sut y dylid ei defnyddio. Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith i gefnogi penderfyniadau cynaliadwy ar gyfer ein moroedd, yn nodi gweledigaeth o amcanion strategol, yn cyflwyno polisïau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredinol, ac mae'n cynnwys polisïau sy'n benodol i sectorau sy'n gweithredu yn ein moroedd, sy'n cynnwys dyframaeth, agregau, amddiffyn, pysgota a thwristiaeth. Mae rhoi popeth at ei gilydd ac ymdrin ag ef fel hynny, rwy'n credu, yn gam cadarnhaol. Credaf y bydd y bobl sydd wedi bod yn feirniadol o'r trydydd sector yn derbyn syniad cyffredinol y polisi. Efallai na fyddant yn cytuno â'r hyn sydd yno, ac efallai y byddant yn dweud y dylid gwneud pethau'n wahanol, ond rydym yn bendant yn symud i'r cyfeiriad cywir. Unwaith y bydd gennym hyn, unwaith y byddwn wedi ymgynghori arno, gellir ei newid. Y peth gorau am gael cynllun yw bod modd ei newid. Yr anfantais o beidio â chael cynllun yw nad oes dim byd i'w newid.

Rydym wedi bod yn aros yn hir am gynllun i Gymru. Dechreuodd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ôl yn 2009, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu cychwynnol o gynllunio morol. Nid wyf yn mynd i feirniadu hynny. Mae bob amser yn well cael polisi yn iawn na chael polisi yn gyflym, felly nid wyf yn beirniadu’r amser hir; credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi llwyddo i gael hyn yn iawn. Nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hyn o beth. Mae gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd gynlluniau sydd wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau yn eu datblygiad, fel y dywedais yn gynharach. Credaf fod angen inni roi rhywfaint o ddiolch i waith y Comisiwn Ewropeaidd wrth yrru'r agenda hon yn ei blaen—ac o fewn yr agenda hon, mae'r DU bod yn arweiniol ac wedi cael enw da i'w hun. Gobeithiaf na fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar ymrwymiad pob un o'r pedair cenedl i greu cynllun hirdymor ar gyfer y môr o amgylch ein hynysoedd—ac yn enwedig Iwerddon a Lloegr. Mi fydd yr hyn y maen nhw yn ei wneud yn amlwg yn effeithio ar Gymru. Os yw cynllunio yn gweithio'n llwyddiannus, bydd yn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. A chredaf fod hynny—. Yr uchelgeisiau, rwy'n credu, nid oes ganddynt gymaint o broblem â nhw, nac oes? Y ffaith yw—. Mae'n fater o rai o'r darnau yno. Credaf fod yr uchelgeisiau yn dda, a gobeithio y bydd pobl yn derbyn ac yn cefnogi'r uchelgeisiau.

A gaf i siarad ychydig am ynni adnewyddadwy? Gwn fod Simon Thomas wedi ei grybwyll yn gynharach. Credaf fod ef a minnau wedi crybwyll môr-lynnoedd llanw droeon yn y Siambr. Nid wyf yn ymddiheuro am eu crybwyll eto. Credaf fod mor-lynnoedd llanw yn anhygoel o bwysig, nid yn unig fel ffynhonnell o ynni, ond fel modd i ddatblygu diwydiant sy'n seiliedig yn y de-orllewin, ac yn manteisio ar yr holl fuddion o fod y cyntaf. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni wneud popeth yn ein gallu fel Cynulliad i roi cymaint o bwysau ag y gallwn ar Lywodraeth San Steffan i ddweud 'ie' o'r diwedd i'r morlyn llanw hwn. Fel y mae pobl yn ymwybodol, lluniodd Charles Hendry ei adroddiad. Roedd llawer ohonom yn ofni pan ofynnwyd iddo gynhyrchu adroddiad na fyddai'n ddim ond cyfle i'w ysgubo o'r neilltu. Dyma'r adroddiad mwyaf cadarnhaol a ddarllenais erioed, pan ddywed ei fod yn bolisi heb ddim gresynu—os ydych chi'n rhoi cynnig ar rywbeth a dyw e' ddim yn gweithio, o leiaf mae gennych wal fôr, i bob pwrpas. Felly, mae'n bolisi heb ddim gresynu, ac mae'n wirioneddol bwysig y cawn hynny, a chredaf ein bod i gyd o blaid cael y morlyn llanw yn Abertawe. Ystyriwch: mae'n ben-blwydd cyntaf adroddiad Hendry. Roedd llawer ohonom yn credu y byddai rhywbeth wedi digwydd o fewn y flwyddyn gyntaf. Gadewch i ni obeithio, erbyn inni gyrraedd yr ail flwyddyn, y bydd yn cael ei adeiladu.

Gaf i hefyd —? Os ydym  ni'n sôn am gost môr-lynnoedd llanw, a ellir eu barnu yn ôl yr un rheolau â niwclear? Mae niwclear yn cael cymhorthdal enfawr, ac wedyn dywedir wrthynt, 'Byddwn, fe fyddwn yn talu am eich holl gostau datgomisiynu ar y diwedd'. Ni fyddai unrhyw orsaf niwclear erioed wedi ei hadeiladu pe byddai'n rhaid iddynt dalu eu hunain am eu datgomisiynu. Ni fyddai Calder Hall erioed wedi ei adeiladu pe baent wedi gorfodi dilyn yr un rheolau ag sydd gennym yn awr ar gyfer ein morlyn llanw. Credaf mai'r peth pwysicaf i'm rhan i o'r de ar hyn o bryd yw bod y morlyn llanw yn cael sêl bendith, a gobeithiaf yn fawr y bydd yn ei chael.

17:45

Hoffwn ategu'r ffaith y bu disgwyl hir a chroeso mawr i'r cynllun drafft hwn, fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i grybwyll yma heddiw. Ac rwyf hefyd yn gresynu'r oedi cyn ei gyhoeddi, o ystyried y bu modd i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull o reoli ein moroedd a arweinir gan gynllun ers cyflwyno Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac er gwaethaf galwadau gan bwyllgorau blaenorol i roi blaenoriaeth i ddatblygu'r cynllun hwn. Hyd yma, rydym yn nodi bod rheoli a rheoleiddio ein hamgylchedd morol wedi bod yn ddi-drefn, ac yn cael ei wneud yn bennaf ar sail ad hoc, fesul sector. Felly, yn naturiol, rydym yn croesawu'r potensial ar gyfer dull rheoli morol mwy cydgysylltiedig yn y dyfodol.

O ran yr amgylchedd, mae datganiad polisi morol y DU yn mynnu bod yn rhaid i gynllunio morol fabwysiadu dull seiliedig ar ecosystemau, gan sicrhau cydbwysedd rhwng twf economaidd a chadwraeth. Yn benodol, rydym yn gwybod bod yn rhaid i'r cynllun gefnogi gweledigaeth y DU ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae'n ddiddorol braidd fy mod gyda chyd-Aelodau yma heddiw a oedd yn y Pwyllgor Deisebau y bore yma, ac rydym yn canfod bod yr holl ddadl a phryderon bellach am wastraff Hinkley yng Nghaerdydd yma—na fu unrhyw asesiad am effaith hynny ar fywyd morol, ac mae hynny'n peri llawer o bryder imi. Ymhellach, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gofyniad i'r cynllun helpu i reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Eto, fel y nodwyd gennym, ar ôl wyth mlynedd o datblygu, nid yw'r ddogfen hon yn cynnig y mewnwelediad, y cwmpas na'r manylion y byddem yn gobeithio eu gweld.

Yn fy etholaeth fy hun, mae gennyf nifer o bryderon penodol am reoli morol, ac rwy'n falch iawn i gynrychioli etholaeth sy'n gyfoethog iawn mewn bywyd morol o bob math. Byddwn yn cynghori unrhyw un, os oes gennych ddiddordeb yn beth yn union sydd o dan ein moroedd, i gael copi o ffotograffiaeth, neu'r nifer o lyfrau y mae Paul Kay wedi'u hysgrifennu a/neu hyd yn oed wylio un o'i ffilmiau. Tynnwyd sylw at y bygythiad i forloi a llamhidyddion harbwr o amgylch Bae Angel a Thrwyn y Fuwch gan gychod a cheiswyr hamdden dim ond yr wythnos diwethaf, gyda'r enghraifft drist o lamidydd wedi'i niweidio wedi ei olchi yn farw i'r lan yno. Rwy'n falch i fod yn hyrwyddwr llamhidydd yr harbwr ar gyfer y Cynulliad. Yn ogystal, mae pysgotwyr yn yr ardal wedi dweud bod stociau cregyn gleision Conwy yn lleihau, ac mae ganddynt statws rhyfeddol ers 100 mlynedd, ac mae angen eu diogelu a'u cadw. Ac eto, mae yna ostyngiad pryderus yn y lefelau o hadu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r gwaith o reoli'r stoc unigryw hon wedi bod yn wael, gan arwain at gau gwelyau yn gynharach eleni fel ymgais olaf i'w diogelu. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, nid yw'r amgylchedd na'r economi yn elwa, felly mae'r cydbwysedd yr anelir ato yn y cynllun drafft hwn yn cael ei golli.

Ymhellach ar hyd arfordir y gogledd, ac yn dal i fod yn fy etholaeth i fy hun, mae pryderon am gynaeafu torfol ar gyllyll môr yn Llanfairfechan wedi eu codi dro ar ôl tro, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gweithredoedd wrth roi gwaharddiad ar hynny. Roedd y rhain yn gamau a gymerwyd gennych mewn ffordd ystyrlon, ac rwy'n werthfawrogol iawn o hynny. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith drwy Ysgol Gwyddorau'r Cefnforoedd Prifysgol Bangor i edrych ar effaith cynaeafu a halltu ar y rhywogaethau. Rydym mor ffodus fod prifysgol o'r fath ym Mangor. Mae ganddynt enw da iawn a gaiff ei gydnabod ym mhedwar ban y byd, felly defnyddiwch yr adnodd hwnnw.

Mae'n peri pryder, fodd bynnag, y gallem fod yn anelu tuag at sefyllfa funud olaf yma, ac felly mae'n siomedig nodi bod y cynllun drafft yn datgan na all ardaloedd adnoddau strategol adlewyrchu ystyriaethau manwl sy'n benodol i safle yn llawn. Dyna beth yw gwir gadwraeth forol. Nid wyf yn ystyried fy hun yn gadwraethwraig forol fel y cyfryw, ond rwyf yn poeni o ddifrif am warchod ein hamgylchedd morol. Byddwn yn ffôl iawn i beidio â gwneud hynny.

O ystyried maint y ddogfen hon, testun sydd wedi'i grybwyll eisoes, byddai rhywun yn disgwyl llawer mwy o ystyriaeth o'n hardaloedd adfywio strategol, ac eto ymddengys eu bod wedi eu datblygu ar sail dichonoldeb technegol ac adnoddau yn unig. O gofio bod y cynllun yn nodi y gallai mwy na 50 o safleoedd gwarchodedig pwysig ar gyfer bywyd gwyllt gael eu heffeithio gan ei bolisïau, byddwn yn hoffi sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet na fydd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu tanseilio gan y cynllun hwn. Felly, er ein bod yn croesawu'r cynllun drafft hwn, byddwn yn cadw llygad ac yn monitro ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn edrych ar nodi a chydnabod anghenion cynaliadwyedd ecosystemau, rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt penodol. Edrychaf ymlaen at yr ymatebion, ac edrychaf ymlaen at weithio'n gadarnhaol gydag Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod gennym gynllun sy'n gweithio mewn gwirionedd ar gyfer Cymru ac ar gyfer ein hamgylchedd morol.

17:50

Llywydd, rwy'n falch i gael fy ngalw, efallai ychydig yn hwyrach nag y byddwn wedi'i ddisgwyl. Roeddwn yn dechrau meddwl eich bod yn drysu rhyngof i a Gareth Bennett, ond dyna ni.

Rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf—[Torri ar draws.] Jôc oedd hi i fod.

Rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon hyd yma. Rwy'n derbyn y pwynt y mae David Melding wedi'i godi am hyd y cynllun hwn, ond mae gwleidydd yn cwyno am eiriogrwydd, wrth gwrs, fel morwyr yn cwyno am y môr—mae'n un o ffeithiau bywyd. Ond rwyf yn meddwl bod hwn yn arloesi, ac i'w groesawu'n fawr; y cynllun cyntaf sy'n ceisio integreiddio'r holl fuddiannau cystadleuol sy'n pryderu am yr hyn sy'n digwydd o amgylch ein harfordiroedd.

Un ffaith ddiddorol a gefais o ddarllen y ddogfen yn gyflym yw bod moroedd Cymru yn cwmpasu 15,000 o gilometrau sgwâr, a'r pwynt diddorol yw bod hynny'n 43 y cant o arwynebedd Cymru. Mae'r hyn yr ydym yn aml yn meddwl amdano fel Cymru wedi'i lywodraethu gan siâp yr arfordir, ond, mewn gwirionedd, mae llawer mwy i Gymru na'r hyn sydd ar y tir, ac mae'n iawn felly i ddechrau ar hyn drwy adlewyrchu'r ffaith hynod bwysig hon. Rwy'n croesawu, felly, hyd yr adroddiad, ar un ystyr, oherwydd mae'n ceisio rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r buddiannau gwahanol y mae angen eu cysoni.

Yn sicr rwy'n croesawu'r pwyslais ar dwf glas, oherwydd mae adfywiad ein hardaloedd arfordirol—ac mae'r Canolbarth a'r Gorllewin, wrth gwrs, yn cynnwys mwy o arfordir nag unrhyw ranbarth arall—yn angen pwysig iawn ar gyfer y dyfodol agos yn fy marn i, a dyna un rheswm pam y credaf fod Brexit yn rhoi cyfle inni na fyddai yno fel arall, oherwydd pan fydd gennym reolaeth dros ein polisi morol a'n pysgodfeydd ein hunain, byddwn yn gallu gwneud penderfyniadau sydd wedi eu haddasu'n fwy i fuddiannau Cymru nag sy'n bosibl ar hyn o bryd. 

Ond y mae, wrth gwrs, fuddiannau yn cystadlu y mae angen inni eu hystyried hefyd. Mae datblygiad economaidd ein hardaloedd arfordirol flaenaf yn fy meddwl i, ond rwy'n derbyn yr angen i fod yn sensitif i anghenion bywyd gwyllt yr amgylchedd, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Chymdeithas Cadwraeth y Môr, a gwelaf fod Clare Reed yn dweud

'Rydym yn pryderu y gall cynnwys presennol ardaloedd adnoddau strategol—ardaloedd wedi'u mapio ar gyfer twf diwydiant morol—efallai gael effeithiau negyddol sylweddol ar fywyd gwyllt morol a chynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt.'

Dwi ddim yn gweld o reidrwydd fod hynny'n beth drwg. Credaf fod modd cael twf economaidd heb gael effaith andwyol ar y môr. Un o'r problemau gyda'r polisi pysgodfeydd cyffredin, flynyddoedd yn ôl yn sicr, oedd ei fod wedi troi yn drychineb ecolegol oherwydd gorbysgota. Nid yw hynny'n broblem o amgylch ein harfordiroedd, wrth gwrs, oherwydd mae'r rhan fwyaf o echdynnu rhywogaethau morol o'r môr yn tueddu i fod yn bysgod cregyn—mae tua dwy ran o dair, rwy'n credu, o werth beth gaiff ei bysgota o'r môr ar ffurf pysgod cregyn. Rwy'n siŵr y gallwn wneud llawer mwy i ehangu'r diwydiant, a gallwn wneud hynny heb gael effaith andwyol ar yr amgylchedd mewn unrhyw ffordd.

Un o'm prif bryderon, wrth gwrs, yw effaith ffermydd gwynt ar ein harfordir, ac nid yw hynny'n unig oherwydd amlygrwydd yr ymwthiadau hyn, yn fy marn i, o gwmpas ein glannau, yn dinistrio golygfeydd arfordirol, ond hefyd y bygythiad i fywyd gwyllt. Gwn fod Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn ddiweddar wedi cyhoeddi adroddiad sy'n dweud bod 99 y cant o adar y môr yn osgoi ffermydd gwynt, ond yn sicr mae diffyg data dibynadwy yn y maes hwn, ac mae angen gwneud mwy o waith i sefydlu beth yw'r gwir sefyllfa. Oherwydd, wrth gwrs, os yw'r adar y môr yn cael eu briwio mewn melinau gwynt, nid yw'r cyrff yno i gael eu harchwilio, oherwydd gweithrediad y môr. Felly, credaf yn sicr fod yn rhaid inni fod yn sensitif i fuddiannau adar y môr yn ogystal, fel y mae llawer yn ei weld, â buddiannau ynni adnewyddadwy. Rwy'n aml wedi gwneud y pwynt, oherwydd nad yw ein cyfraniad at allyriadau carbon deuocsid yn y Deyrnas Unedig ond yn gyfran fechan iawn o gyfanswm yr allyriadau byd-eang, ac felly mae cyfraniad Cymru hyd yn oed yn fwy pitw, nid yw hyn yn rhywbeth y mae angen inni boeni gormod amdano hyd yn oed os ydych yn derbyn y damcaniaethau cynhesu byd-eang gan ddyn. Ond rwy'n credu, felly, bod angen i fuddiannau bywyd gwyllt a natur gael eu blaenoriaethu mwy nag a wnaed hyd yn hyn.

Croesawaf yr ymagwedd sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet at y maes hwn. Dwi wedi dweud o'r blaen y credaf ei bod yn ddidwyll yn ei hawydd i wrando ar bob ochr o'r dadleuon mewn perthynas â chefn gwlad a moroedd, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd yn darparu cynllun inni y gallwn fesur canlyniadau yn ei erbyn ar gyfer adfywiad ein cymunedau arfordirol a'n porthladdoedd yn arbennig.

17:55

Fel y mae eraill wedi'i ddweud, rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru fod gennym amgylchedd morol o ansawdd mor uchel, ac mae'n bwysig iawn inni bellach fwrw ymlaen â chynllunio morol fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig, fel bod gennym ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig, y mae, unwaith eto, Aelodau eraill wedi sôn amdano. Hyd yn hyn, rwy'n credu ein bod wedi gweld gwahanol fuddiannau penodol yn dilyn eu hagenda eu hunain o ran yr amgylchedd morol, ac yn aml mae hynny wedi arwain at rywfaint o densiwn, os nad gwrthdaro rhwng y gwahanol ddefnyddiau. Rydym wedi gweld grwpiau sy'n ymwneud â bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt yn pryderu'n fawr nad oes digon o amddiffyniad na digon o gydnabyddiaeth o'u pryderon a'u materion. Rwy'n gobeithio ein bod ni yn awr yn gweld y cydbwysedd cywir a phriodol drwy'r dull gweithredu mwy cydgysylltiedig hwn.

Ond mae pryderon amrywiol sydd gan rai o'r grwpiau amgylcheddol y credaf fod angen inni eu cydnabod a mynd i'r afael â nhw. Felly, er enghraifft, wrth ddatblygu'r dull gweithredu mwy cydgysylltiedig hwn, mae angen i ni sicrhau bod gennym ddigon o ddealltwriaeth o effaith bosibl y gweithgarwch morol amrywiol ar gynefinoedd bywyd gwyllt; bod angen i ni ddiogelu yn ddigonol ein hamgylchedd naturiol a'n bioamrywiaeth drwy'r ddealltwriaeth honno a pholisïau sy'n cydnabod ac yn ymdrin â hynny; bod ein meysydd adnoddau strategol yn cael eu datblygu nid yn unig ar sail y potensial i ddiwydiannau penodol dyfu, sef yr hyn sydd wedi'i bwysleisio hyd yma, ond y ceir sgrinio cymdeithasol ac amgylcheddol digonol a phriodol ar gam priodol. Felly, mae yna bryderon, er enghraifft, pe byddai'r mapiau'n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd, byddai'n rhy gynnar, gan nad yw'r sgrinio hynny wedi'i wneud, ac mae angen gwaith ychwanegol ar elfennau gofodol y cynllun er mwyn sicrhau bod materion adnoddau naturiol wedi'u hymgorffori'n briodol yn narluniadau'r ardaloedd hynny, a'n bod yn diogelu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad yn ddigonol.

Wrth gwrs, mae'n berthnasol i'r ddadl yfory ar ardaloedd morol gwarchodedig. Sut bydd cynllunio morol a'r ardaloedd gwarchodedig hynny yn rhyngweithio? Sut bydd y cynllun yn cefnogi gwarchod yr ardaloedd penodol hynny? Rydym yn gwybod nad yw'r meysydd adnoddau strategol yn y cynllun morol yn cydnabod lleoliad safleoedd gwarchodedig, ond maen nhw'n cydnabod y gallai effeithio ar y safleoedd hynny. Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ardaloedd gwarchod morol yn fwyfwy effeithiol o ran sicrhau a darparu'r amddiffyniad hwnnw?

Hefyd, Llywydd, mae asesiad Llywodraeth Cymru ei hun o'n cynllun morol cenedlaethol yn cydnabod y risg o niwed i'r amgylchedd, ac mae hynny'n amlwg felly'n codi'r cwestiwn ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gochel rhag y risg hwn ac yn osgoi effeithiau negyddol posibl. Wrth gwrs, mae hynny'n berthnasol hefyd i'n nodau llesiant. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob un o'r nodau llesiant hynny yn cael sylw priodol wrth daro'r cydbwysedd cywir ynghylch y buddion hyn a allai gystadlu â'i gilydd. Felly, mae'n her fawr, byddwn i'n dweud, i Lywodraeth Cymru. Mae rhai Aelodau wedi cyfeirio at yr amserlen wrth fwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn—mae wedi bod yn broses hir—ond rwy'n cytuno mai'r her yw ei gwneud yn iawn. Mae llawer i'w ystyried wrth ei gwneud yn iawn, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd pryderon y sefydliadau amgylcheddol a fynegwyd yma heddiw yn cael eu hystyried yn briodol gan Lywodraeth Cymru, a bod Lesley Griffiths, y gwn ei bod yn Ysgrifennydd Cabinet sy'n gwrando, yn parhau i gael y ddeialog angenrheidiol honno, oherwydd rwy'n credu'n gryf iawn mai dim ond os bydd y ddeialog honno'n parhau y bydd modd i ni wneud popeth posibl i sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw.

18:00

Diolch i'r Llywydd am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau. Rwy'n teimlo fy mod i'n gorfod dweud ychydig o eiriau fel yr unig un sy'n cynrychioli ynys yma yn y Cynulliad Cenedlaethol—fel etholaeth. Rwy'n bendant yn croesawu'r ffaith fod gennym ni rŵan ddrafft o gynllun morol cenedlaethol. Rwy'n cofio yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor economi, i gryn argraff gael ei greu arnaf i gan y ddogfen a gafodd ei chreu rai blynyddol yn ôl bellach gan Lywodraeth Iwerddon, 'Harnessing Our Ocean Wealth', ac mi ro'n i'n gallu gweld yn hwnnw y math o fodel yr oeddwn i'n dyheu am gael ei weld yn cael ei ddatblygu yng Nghymru. Rwy'n meddwl ei fod yn symptomatig o'n hagwedd ni, o bosibl, tuag at y môr ei bod hi wedi cymryd cyhyd i ni gael dogfen o'r math yma.

Mae'n swnio'n beth od bron iawn i ddweud ond, yn Ynys Môn, rwy'n teimlo'n aml iawn nad ydyn ni'n edrych digon tuag at y môr, ac mai cymdeithas y tir ydym ni yn Ynys Môn. Wrth gwrs, mae gennym ni dreftadaeth forwrol ryfeddol, o'r bad achub a hanes y Royal Charter ac ati ym Moelfre, porthladd Caergybi y bu fy nghyn-deidiau i yn gweithio ynddo fo, y diwydiant adeiladu llongau yn Amlwch, diwydiannau bwyd môr, cregyn gleision, ac yn fwy diweddar Halen Môn. Ac wrth gwrs, mae'r arfordir yn bwysig iawn o ran twristiaeth. Ond, rhywsut, mae cymdeithas yn cael ei thynnu mwy tuag at beth sy'n digwydd ar y tir ac nid beth sy'n digwydd yn y môr.

Fe allwch chi wneud cymhariaeth efo beth sy'n digwydd ym maes ynni ar hyn o bryd. Mae yna bwerdy, o bosibl, yn mynd i gael ei adeiladau ar y tir yng ngogledd Ynys Môn yn y blynyddoedd nesaf, ond llawer mwy cyffrous a llawer mwy arloesol yw'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer tynnu ynni o lif y môr oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Yn y fan honno mae'r arloesi. Minesto yw'r cwmni hwnnw sy'n gobeithio datblygu technoleg yn Ynys Môn a all gael ei hallforio i'r byd, ac mae cyffro mawr yno am barth arbrofi Morlais sydd yn cyrraedd cyfnod critigol yn ei ddatblygiad. Rwy'n gwybod fod y Gweinidog yn mynd i fod yn cael ei briffio yn y dyfodol agos, rwy'n meddwl, ar y camau tuag at sicrhau bod y cysylltiad trydan yn cael ei ddatblygu'n llawn ar gyfer Morlais. Mae yna arian Ewropeaidd wedi cael ei glustnodi, rwy'n gwybod, ar gyfer y cysylltiad hwnnw, ac mi fyddwn i'n annog y Gweinidog i wneud popeth o fewn ei gallu i wneud yn siŵr bod cyswllt Morlais yn gallu digwydd mor fuan â phosibl, a bod modelau Prydeinig newydd yn cael eu datblygu efo help Llywodraeth Cymru o bosibl i sicrhau bod hynny yn gallu digwydd.

Felly, rwy'n falch bod hwn gennym ni rŵan, ond wrth gwrs dechrau'r broses ydy'r ymgynghoriad ar y cynllun fel ag y mae o. Beth sy'n bwysig ydy bod y cydfodoli yma yn gallu digwydd fel bod ynni yn gallu cael ei dynnu allan o'r môr, ochr yn ochr â datblygiad ein twristiaeth forwrol ni, ochr yn ochr â datblygiad bwydydd, ac ochr yn ochr, wrth gwrs, â bywyd naturiol cyfoethog arfordir Cymru. 

Dechrau’r daith ydy hyn. Rwy'n edrych ymlaen i chwarae fy rhan fel Aelod etholaeth, ochr yn ochr ag Aelodau rhanbarthol y gogledd dros Ynys Môn, er mwyn troi y gwreiddyn yma, rwy'n gobeithio, yn rhywbeth all fod o fudd cenedlaethol i ni.

Rwyf wedi edrych drwy'r ddogfen ac ni allaf weld unrhyw gyfeiriad at y diwydiant twf newydd yng Nghymru, sef gwaredu llaid niwclear yn amgylchedd morol Cymru. Fel y gwyr y Siambr, mae yna gynigion i waredu 300,000 o dunnelli o laid o'r tu allan i Hinckley Point ychydig oddi ar yr arfordir, heb fod ymhell o'r fan lle'r ydym ni'n eistedd ac yn sefyll heddiw.

Yn y Pwyllgor Deisebau heddiw, datgelwyd bod y drwydded wedi'i rhoi heb unrhyw brofion ar y dos o ymbelydredd o unrhyw sylwedd islaw 5 cm. Credaf fod werth ailadrodd hynny, oherwydd mae'r canllawiau mor llac fel y gellir rhoi trwydded heb i'r deunydd hwn gael ei brofi am y dos o ymbelydredd y gallai fod yn ei gynnwys. Nid yw effaith y llaid hwn ar yr amgylchedd morol wedi'i hasesu, felly sut gallan nhw gael trwydded?

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwybod fawr ddim ynghylch lle y bydd y llaid, os caiff ei ddympio, yn mynd yn y pen draw. Y cyfan a ddywedwyd wrthym ni oedd, 'Wel, mae'r ardal yn wasgaradwy', felly gallai'r gronynnau, a allai fod yn ymbelydrol neu beidio i raddau mwy neu lai, fynd yr holl ffordd o amgylch arfordir Cymru, ac nid wyf yn credu o gwbl fod hynny'n ddigon da. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei ddarllen yn y dogfennau hyn yw camau i gryfhau llawer mwy ar y canllawiau ar roi trwyddedau morol. Diolch yn fawr.

18:05

Rwy'n croesawu'r cynllun, ac rwy'n credu bod y pethau hyn yn cymryd amser, ond yr un peth y bydd yn rhaid i mi gytuno â David Melding arno yn y fan hon yw diffyg data, ac maen nhw'n hynod o bwysig. Os ydym ni'n mynd i ddweud ein bod yn gwybod mewn gwirionedd beth yw cyflwr ein hamgylchedd morol, mae'n rhaid bod gennym y data sy'n ategu hynny. Rwyf i wedi cael sylwadau, fel y mae eraill yma, yn dweud bod sefydliadau yn casglu data yn ufudd, ond bod eu cyllid wedi'i ddileu neu ei leihau i'r fath raddau fel nad ydyn nhw wedi gallu parhau â'r gwaith hwnnw bellach.

Gan ein bod yn trafod mater y diffyg data, hoffwn hefyd godi'r mater o fonitro. Mae 12 mis ers ailgyflwyno'r llusgrwydo am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion. Roedd yn hynod ddadleuol ar y pryd, pan gafodd ei stopio a phan gafodd ei ailgyflwyno, ac addawyd inni, flwyddyn yn ddiweddarach, y byddem ni'n clywed rhywbeth am unrhyw ddirywiad posibl yng ngwely'r môr a allai fod wedi digwydd o ganlyniad i'r ailgyflwyno hwnnw, sef yr union reswm y cafodd ei stopio. Felly, hoffwn weld rhywbeth yn y cynllun sy'n ein cyfeirio tuag at ddeall sut yr ymdrinnir â'r monitro hwnnw yn ogystal â'r diffyg data hwnnw.

Rydym ni i gyd wedi clywed sôn yma heddiw am blastigau, ond mae angen inni hefyd ystyried microbelenni ac a ddylem ni symud i'r cyfeiriad o helpu i wahardd y rheini. Mae digon o dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd bod pysgod yn eu bwyta a'n bod ninnau wedyn yn eu bwyta a'u bod nhw'n gyffredin hyd yn oed mewn halen môr bellach. Mae'r niwed yr ydym ni'n ei wneud yn eithaf rhyfeddol yn y cyfeiriad hwnnw ac ni allwn ddweud 'Croeso i Gymru' a gwahodd pobl yma i fwynhau harddwch y môr oni bai ein bod yn edrych ar ei ôl. Mewn gwirionedd, dyna beth yr hoffwn i ei weld; hoffwn i weld y cydbwysedd. Dydw i ddim eisiau ailadrodd y materion y mae pobl wedi sôn amdanyn nhw yn y fan hon heddiw, ond hoffwn i weld y cydbwysedd sy'n rhoi hyder llwyr i ni nad yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn niweidiol i'r môr, oherwydd byddai'n anodd iawn dod i leoedd fel sir Benfro i fwynhau adar y môr sydd yno—y palod—yn yr adroddiad os nad ydym mewn gwirionedd wedi ystyried y niwed sy'n cael ei wneud o fewn y parth diogelu sydd, unwaith eto, yn dibynnu ar ddata digonol sy'n dweud wrthym ni, ac nid yw yno ar hyn o bryd.

18:10

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 18:10:25
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu sylwadau ac am eu cefnogaeth gyffredinol i'r cynllun drafft, a gadewch i mi ddweud mai cynllun drafft ydyw. Rydym ni wrthi'n ymgynghori, a nodwch eich barn os gwelwch yn dda ac anogwch eich etholwyr i wneud hynny hefyd. Credaf mai'r hyn yr wyf i'n ei ddeall o'r ddadl hon yw bod Aelodau yn teimlo mor gryf am foroedd Cymru a'u pwysigrwydd i'n ffordd o fyw a'n llesiant cenedlaethol ag yr wyf innau.

Mae'n gyfnod cyffrous iawn ar gyfer ein moroedd. Soniais ei bod yn ddechrau Blwyddyn y Môr Llywodraeth Cymru. Os gallaf sôn ychydig am y cynnig a'r gwelliannau, i ddechrau, cyn sôn yn benodol am sylwadau'r Aelodau, rwyf yn amlwg yn gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig. O edrych ar y gwelliannau, rwy'n derbyn gwelliant 1, i gydnabod swyddogaeth bwysig ein moroedd wrth helpu'r camau i ddatgarboneiddio ein heconomi. Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto i roi gwybod inni beth yw eu barn ar Hendry, fel y dywedodd Mike Hedges. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny, ac nid ydym yn dymuno bod yn yr un sefyllfa ar yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

O ran gwelliannau 2 a 3, dyma'r cynllun morol cyntaf ar gyfer Cymru. Mae'n rhoi darlun 20 mlynedd o sut y dylid defnyddio ein moroedd, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei wneud yn iawn. Mae'n gymhleth iawn, a gwn y dywedodd David Melding ei bod yn ddogfen hir iawn, a chredaf iddo ddweud bod un yr Alban yn gryno, ond mae gan yr Alban sawl cynllun rhanbarthol hefyd, felly, mewn gwirionedd, os ydych chi'n rhoi popeth at ei gilydd, byddai'n gwneud eu dogfen nhw yn hirach fwy na thebyg, mewn gwirionedd, na'n un ni. Unwaith eto, am y cyfnod o amser, dechreuodd Gogledd Iwerddon ar waith cynllunio morol cyn ni, ac nid ydyn nhw hyd yn oed wedi ymgynghori ar eu cynllun drafft eto.

Fel y dywedais i, mae moroedd Cymru yn bwysig i ni, ac mae'r system cynllunio morol newydd hon yn dangos fy ymrwymiad i'r rheoli cynaliadwy hwnnw. Mae fy swyddogion eisoes yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i faterion morol. Rydym ni wedi cynyddu'r gyllideb yn y maes hwn hefyd, a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae polisïau eisoes ar waith i gefnogi adferiad ein hecosystemau, felly dydw i ddim yn cefnogi gwelliant 4.

Trof at y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau. Cyfeiriodd Simon Thomas at y gwaith a wnaethom ni gyda rhanddeiliaid. Rydym ni wedi gwneud swm anhygoel o waith gyda rhanddeiliaid ac mewn gwirionedd gwnaethom rannu ein drafft cyntaf o'n cynllun gyda nhw, a gwnaethon nhw ofyn am fwy o fanylion, felly rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn â nhw. Ond af yn ôl at yr hyn a ddywedais. Drafft yw hwn ac mae proses ymgynghori hir. Dydy e' ddim yn cau tan 29 Mawrth, felly mae digon o amser i bawb fynegi eu barn. David Melding, os gallaf i dawelu eich meddwl, yn amlwg, mae amddiffyniadau ar waith, er enghraifft drwy drwydded forol er mwyn sicrhau nad yw'r amgylchedd yn cael ei niweidio gan unrhyw brosiect unigol, a bod y cynllun, yn fy marn i, yn gwneud hynny yn glir iawn iawn.

Roedd Mike Hedges yn cefnogi'r hyn yr oeddwn yn dweud sef mai drafft cyntaf y cynllun morol yw hwn, a sut y mae'n faes cymhleth—mae'n bwysig ei wneud yn iawn. Daeth Brexit hefyd ag agwedd wahanol arno, ac rydym wedi gorfod edrych ar faterion penodol iawn. Ond mae'n rhaid imi ddweud, o ran Hendry, er ein bod wrth gwrs yn galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i din-droi, nad yw'r diffyg cynnydd ar Hendry wedi effeithio ar y cynllun morol drafft.

Janet Finch-Saunders, soniasoch chi ei fod wedi bod yn cael ei ddatblygu ers wyth mlynedd. Dydw i ddim yn siŵr o le y cawsoch chi'r wyth mlynedd; dechreuodd yn 2014, felly oddeutu tair blynedd yw hynny. [Torri ar draws.] Na, dechreuodd yn 2014, felly mae'n dair blynedd yn y cam cynllunio. Cytunaf yn llwyr â chi am Brifysgol Bangor. Mae'n ffynhonnell ragorol o ddeallusrwydd gwych a gwyddoniaeth sydd o gymorth mawr i ni, sy'n gwbl hanfodol wrth wneud y penderfyniadau hyn. Ac, unwaith eto, dim ond i dawelu meddwl Janet Finch-Saunders, ni fydd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu tanseilio o gwbl gan y cynllun drafft hwn.

Soniodd Neil Hamilton am ffermydd gwynt, a chytunaf ei bod yn bwysig iawn i wrando ar bob ochr. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i ddatblygiadau gwynt ar y môr fonitro eu heffeithiau. Mae yna astudiaethau helaeth sy'n ein galluogi i ddeall yn well yr effeithiau posibl. Gwnaethoch chi gyfeirio at adar y môr. Ceir rhai nythfeydd adar môr helaeth a phwysig iawn yng Nghymru ac, wrth gwrs, byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn, ac, unwaith eto, bydd y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Cyfeiriodd John Griffiths hefyd at ardaloedd morol gwarchodedig, ac rwy'n gwbl ymrwymedig i warchod ein moroedd, ac mae hynny'n cynnwys drwy reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Credaf fod y cynllun drafft yn cynnwys polisïau sy'n cadarnhau yr amddiffyniad ar gyfer y rhwydwaith o safleoedd sy'n ardaloedd morol gwarchodedig, ac mae asesiadau rheoliadau cynefinoedd helaeth wedi'u cynnal er mwyn i ni ddeall a rheoli effeithiau posibl y polisïau yn y cynllun drafft.

Gan fynd yn ôl unwaith eto, soniodd John am ddeialog gyda'n rhanddeiliaid, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwarchod yr amgylchedd, ac mae gwneud hynny yn sicr wrth wraidd y dull yr ydym ni'n ei arddel ar gyfer rheoli morol.

Mae Rhun ap Iorwerth yn amlwg yn cynrychioli ynys brydferth Ynys Môn ac rwy'n credu i chi wneud pwynt pwysig iawn ynghylch sut nad ydym bob amser yn ystyried y moroedd, ac roeddech chi'n dweud hynny yn eich swyddogaeth fel AC etholaethol. Credaf mai un o'r pethau sydd wedi codi o'r sgyrsiau hynny yr ydym ni wedi bod yn eu cael â'n rhanddeiliaid, wrth ddod â hyn at ei gilydd, yw pa mor bwysig yw'r moroedd ar gyfer bwyd, ar gyfer yr economi, ynni, ar gyfer diwylliant ac ar gyfer twristiaeth a hamdden. Dim ond er mwyn tawelu'ch meddwl, cefnogir parth prawf Morlais yn y cynllun, ac rydym ni'n gefnogol iawn o dechnolegau newydd hefyd.

Cododd Neil McEvoy y mater ynghylch canllawiau, ac rwy'n credu y bydd y cynllun yn helpu pobl wrth iddyn nhw geisio penderfynu ar drwyddedau. Unwaith eto, gallwn ni sicrhau drwy'r ymgynghoriad os oes unrhyw beth ar goll ein bod yn ei gynnwys.

Yn olaf, soniodd Joyce Watson am effeithlonrwydd data. Mae gwybodaeth effeithiol yn bwysig iawn, a chredaf fod y porth sydd gennym ar hyn o bryd yn adnodd rhagorol, ond wrth gwrs mae angen inni wneud mwy.

Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn, Llywydd, at ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynllun drafft.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Os nad oes unrhyw dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dyma ni yn symud i'r bleidlais ar y ddadl ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 4. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Gwelliant 4: O blaid: 21, Yn erbyn: 26, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6617 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

2. Yn gresynu:

a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;

b) bod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales', yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);

c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.

4. Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad 'Creu Sbarc', i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Y bleidlais nesaf ar y ddadl ar y cynllun morol cenedlaethol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. 

Mae'n cymryd tipyn o amser. Mae'n flwyddyn newydd. Fe ddaw nawr.

Agor y bleidlais, felly. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 2: O blaid: 20, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

18:20

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 3: O blaid: 17, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 4: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, 26 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 5.

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 5: O blaid: 21, Yn erbyn: 4, Ymatal: 26

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6616 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP).

2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’ cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft.

3. Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit.

4. Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw.

5. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol.

6. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.