Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
28/11/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, David Melding.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllideb Rhentu Doeth Cymru? OAQ51384

Gwnaf. Mae Rhentu Doeth Cymru yn ariannu ei hun drwy ffioedd. Rydym ni, fodd bynnag, yn cynorthwyo awdurdodau lleol i hyrwyddo a gorfodi cofrestriad gyda Rhentu Doeth Cymru.
Prif Weinidog, yn ôl y cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, mae Rhentu Doeth Cymru yn gweithredu ar dros ddwbl ei gost rhagamcanol ar hyn o bryd. Erbyn diwedd mis Chwefror 2017, roedd wedi cyflogi 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn i weinyddu'r cynllun, sydd bum gwaith yr amcanestyniad o'ch asesiad effaith rheoleiddiol. A oedd Llywodraeth Cymru yn naïf yn ei hamcangyfrifon o gostau gweinyddol Rhentu Doeth Cymru, neu ai aneffeithlonrwydd yn Rhentu Doeth Cymru sydd ar fai?

Fel y dywedais, mae Rhentu Doeth Cymru yn ariannu ei hun yn llwyr. Telir amdano drwy ffioedd ar gyfer cofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantau, a mater i Rhentu Doeth Cymru, wrth gwrs, sy'n cael ei redeg gan gyngor Caerdydd, yw esbonio ei gostau gweithredu a'r hyn y mae'n ei wneud gyda'r personél sydd ganddo.
Prif Weinidog, sut mae gwaith Rhentu Doeth Cymru yn helpu tuag at gynorthwyo aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas sy'n byw mewn llety rhent preifat?

Mae Rhentu Doeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw un sy'n ymwneud â gosod a rheoli adeiladau yn addas a phriodol ac wedi ei hyfforddi. Mae'r prawf person addas a phriodol yn gwneud yn siŵr na all neb ag euogfarnau troseddol heb eu disbyddu gael unrhyw gyswllt â thenant, sy'n arbennig o bwysig, wrth gwrs, wrth ymdrin â thenantiaid agored i niwed. Ac mae hyfforddiant yn sicrhau bod landlord neu asiant yn ymwybodol o'i gyfrifoldebau cyfreithiol, yn enwedig o ran diogelwch yr adeilad y mae'n ei osod.
Prif Weinidog, dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod 86,238 o landlordiaid wedi eu cofrestru erbyn hyn, sy'n golygu bod amcangyfrif o 3,762 yn gosod adeiladau yn anghyfreithlon. Mae cofrestru fel landlordiaid yn costio £33.50 os caiff ei wneud ar-lein, ac £80.50 ar bapur, waeth faint o adeiladau sydd ganddyn nhw. Lansiwyd y cynllun ar 23 Tachwedd 2015, gan roi 12 mis i landlordiaid gofrestru, cyn iddo ddod yn gyfraith y llynedd. Prif Weinidog, onid yw'n bryd i bob landlord ddilyn esiampl y mwyafrif llethol a chyflawni eu rhwymedigaethau cymdeithasol i'w tenantiaid, cydymffurfio â'r gyfraith a darparu amodau tai addas yng Nghymru? A beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i ddod â'r rheini sydd, am ba reswm bynnag, yn parhau dorri'r gyfraith—?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i'r landlordiaid hynny sydd wedi methu, hyd yma, â dod ymlaen, wneud hynny nawr. Maen nhw'n torri'r gyfraith. Os daw landlordiaid ymlaen nawr, efallai y byddan nhw'n osgoi unrhyw gosbau ariannol am beidio â chydymffurfio. Os na fyddan nhw'n dod ymlaen nawr ac yn cael eu darganfod yn ddiweddarach, yna, wrth gwrs, gallai Rhentu Doeth Cymru gyflwyno dirwyon, mynd â nhw i'r llys i'w herlyn, ac mae'r grym ganddyn nhw hyd yn oed i ddiddymu eu gallu i osod neu reoli adeiladau. Felly, mae'r cosbau yno. Mae'n hynod bwysig bod landlordiaid yn osgoi'r cosbau hynny trwy gydymffurfio â'r gyfraith.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru? OAQ51382

Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym ni wedi ymrwymo £40 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd nesaf.
Prif Weinidog, rwy'n wirioneddol falch o weld eich bod chi'n cynyddu'r adnoddau ar gyfer y rhai sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Ond yr hyn yr wyf i'n ei weld yn Aberconwy yw'r dehongliad o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983—. A gwn fod llawer o'n cleifion yn ei chael hi'n anodd iawn dod o hyd i'w ffordd drwy hyn o ran y cymorth sydd ei angen. Rwyf i hyd yn oed, pan rwy'n gweithredu ar ran fy etholwyr—mae'n anodd iawn sicrhau bod cyrff statudol yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon, hyd yn oed o ran cynlluniau gofal a thriniaeth. Pan fyddwch chi'n gofyn i'r partneriaid statudol cyfrifol am gopi o'r cynllun triniaeth a gofal, yn amlach na pheidio, mae'n rhaid i ni aros am wythnosau i'w derbyn. Nid ydyn nhw erioed wedi cael eu hysgrifennu ymlaen llaw. Rwy'n sôn am bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl cymhleth. Beth wnewch chi , fel Prif Weinidog os gwelwch yn dda, i sicrhau nad yw'n achos syml o daflu arian at hyn, a bod cynlluniau strategol sy'n llawn bwriadau da ar waith ar gyfer y bobl hyn sydd, weithiau, yn syrthio drwy'r rhwyd ac yn dod yn hynod agored i niwed?

Rydym ni yn disgwyl, wrth gwrs, i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â'r gyfraith. Mae hi'n gofyn pa strwythur ddylai fod ar waith. Gan adael o'r neilltu y mater o faint o arian sydd ar gael, mae ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yn mabwysiadu dull poblogaeth o wella llesiant meddyliol pobl yng Nghymru a chynorthwyo pobl â salwch meddwl. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gall pobl gael mynediad at therapïau siarad, er enghraifft. Rydym ni'n ystyried ffyrdd o helpu pobl ifanc hyd yn oed yn fwy, a bydd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r arian sy'n cael ei roi ar waith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ond rydym ni'n sicr yn disgwyl, pan ddisgwylir i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â deddfwriaeth, eu bod nhw'n gwneud hynny.
Prif Weinidog, gadewch i mi ddweud wrthych chi am ddyn 30 mlwydd oed, a aeth, ar ôl argyfwng iechyd meddwl, i Ysbyty Gwynedd, cyn cael ei drosglwyddo dros nos, ar daith chwe awr a hanner, i ysbyty yn ne-ddwyrain Lloegr. Llwyddodd ei deulu i gytuno trosglwyddiad i'r tîm triniaeth yn y cartref, felly, ar ôl wythnos, fe'i dychwelyd adref, ond mae'n disgrifio ei brofiad o gael ei hebrwng yn ôl i'w dŷ, gan ddau warchodwr, fel un annifyr a thrawmatig. Fe wnaeth yr holl brofiad ei adael yn teimlo fel troseddwr ac nid claf agored i niwed. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol. Felly, pa gamau wnaiff y Llywodraeth eu cymryd i roi sylw i'r prinder gwelyau iechyd meddwl nid yn unig yn y gogledd, ond ledled y wlad, ac i gynnwys buddsoddiad yn y gwelyau eu hunain a staff, ac mewn timau triniaeth yn y cartref hefyd?

Wel, mae'r aelod yn rhoi enghraifft yn y fan yna sy'n haeddu ymchwiliad pellach. Mae'n anodd iawn gwneud sylwadau ar hynny heb wybod mwy am y peth, ond, os hoffai ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddwn wrth gwrs yn falch o ymchwilio i hynny ar ei ran. Gofynnodd y cwestiwn hefyd am wariant iechyd meddwl. Wel, wrth gwrs, mae gwariant ar iechyd meddwl wedi ei neilltuo yng Nghymru, ac rydym ni'n bwriadu cynyddu'r cyllid hwnnw gan £20 miliwn ychwanegol i bron i £650 miliwn yn 2018-19.
Prif Weinidog, er gwaethaf Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, mae bron chwarter y cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na 28 diwrnod am asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, a bydd 20 y cant o'r cleifion hynny yn aros mwy na 28 diwrnod am driniaeth yn dilyn yr asesiad. Yn y misoedd diwethaf, rydym ni wedi cael rhybuddion am brinder seiciatryddion ymgynghorol a phroblemau yn recriwtio digon o seicolegwyr. Prif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella'r broses o recriwtio staff clinigol iechyd meddwl wedi'u hyfforddi a rhoi terfyn ar oediadau hirfaith cyn cael triniaeth iechyd meddwl yng Nghymru?

Wel, mae gennym ni ymgyrch recriwtio ar waith, wrth gwrs, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym ni wedi neilltuo adnoddau ychwanegol i CAMHS pan oedd hynny'n angenrheidiol, pan ddaeth galw yn uchel iawn a bod angen bodloni'r galw hwnnw. Gallaf ddweud bod mwy na 154,000 o bobl wedi eu gweld gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ers eu cyflwyno, yn rhan o weithrediad y Mesur yn 2012, ac mae dros 82,000 o bobl wedi derbyn ymyraethau therapiwtig gan eu LPMHSS. Felly, rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl wedi elwa ar y Mesur hwnnw, a gallwn weld, wrth gwrs, bod y gyllideb wedi ei neilltuo ar gyfer iechyd meddwl, i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, yfory, bydd cynnig gerbron y Cynulliad i ofyn caniatâd y Cynulliad i sefydlu ymchwiliad gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar yr honiadau a wnaed am gyfnod Leighton Andrews a'ch cynghorwr arbennig, Steve Jones, yn eu swyddi. Rwy'n deall y bydd arweinydd y tŷ yn ymateb i'r ddadl honno yfory, sy'n gwbl gywir, gan ei fod yn achos o drefnu busnes y Cynulliad. Ond rwy'n ceisio gweithio allan yn fy meddwl fy hun—rwy'n siŵr bod llawer o bobl eraill yn ceisio gweithio allan yn eu meddyliau eu hunain—pam mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant 'dileu popeth' i'r cynnig hwnnw, a pham mae gennych chi wrthwynebiad i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ymgymryd â'r darn hwn o waith, ar yr hyn y mae'n sicr nad yw'n bwynt gwleidyddol, byddwn yn awgrymu; y cwbl mae'n ei wneud yw ceisio mynd at wraidd yr honiadau a wnaed.

Wel, rwyf i o'r farn mai proses annibynnol yw'r ffordd orau o wneud hynny, a dyna pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r gwelliant yr ydym ni wedi ei gyflwyno.
Wel, does bosib nad yw Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn broses annibynnol. Mae pobl yn eistedd ar y pwyllgor hwnnw ac yn edrych yn wrthrychol ar y dystiolaeth a roddir i'r Pwyllgor, gan wneud penderfyniad a darparu adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth honno yn y pen draw. Roedd yn peri pryder braidd, o gyfweliad y Cwnsler Cyffredinol ar y Politics Show, ei fod yn amau gallu'r Cadeirydd—fel Cadeirydd Llafur—ac Aelodau Llafur i fod yn wirioneddol wrthrychol yn eu gwaith craffu. Rwyf i'n credu y byddan nhw'n gweithredu gydag uniondeb a gwrthrychedd ar sail y dystiolaeth a ddarperid gan y tystion a fyddai'n dod ger eu bron. Mae'r geiriau gen i yma, sydd yn dweud mewn gwirionedd, 'y Cadeirydd ac ACau Llafur i weithredu'n ddiduedd ar y pwnc', yr wyf i wedi datgan yn eglur nad yw'n bwnc gwleidyddol. [Torri ar draws.] Ond dyna'r geiriau—maen nhw gen i yma o fy mlaen—os yw'r Aelod eisiau eu trafod drwy fod ar ei eistedd.
Felly, rwy'n credu y bydden nhw yn gweithredu'n wrthrychol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r sefydliad hwn, os derbynnir y bleidlais honno yfory, y caniateir i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog wneud y gwaith hwnnw. Onid dyna mae'r pwyllgor hwnnw'n ei wneud mewn gwirionedd. Felly, gofynnaf eto i chi ymhelaethu ar pam yr ydych chi wedi cyflwyno'r cynnig 'dileu popeth' hwnnw a fydd yn atal yr union bwyllgor y mae'r Cynlluniad hwn yn gosod y cyfrifoldeb arno am graffu arnoch chi a'ch swyddfa a'ch gweithgareddau chi a'ch swyddfa pan eich bod yn y Llywodraeth?

Wel, mae ef ei hun wedi bod yn unochrog yn y geiriau yr oedd yn honni i'r Cwnsler Cyffredinol eu defnyddio—dyna'r broblem. Mae'r pwyllgor yno i graffu arnaf i fel Prif Weinidog— wrth gwrs ei fod—ond rwyf i o'r farn, ac rwy'n credu y bydd pobl resymol o'r farn, pan geir mater fel hwn, mai proses annibynnol yw'r broses gywir i ymdrin â'r mater.
Wel, mae'n peri gofid mawr gweld nad ydych chi'n barod i fod â ffydd ym mhwyllgorau'r Cynulliad hwn i wneud y gwaith y maen nhw'n gyfrifol am ei wneud a gwrando ar y dystiolaeth a roddir. Ond, yfory, ceir cynnig a cheir gwelliant. Felly, pa bynnag un fydd yn ennill y bleidlais, bydd ymchwiliad. A allwch chi gadarnhau y bydd Gweinidogion y Llywodraeth neu Ysgrifenyddion y Llywodraeth a fydd yn rhoi tystiolaeth i unrhyw un o'r ymchwiliadau hynny yn cael eu rhyddhau o gyfrifoldeb ar y cyd ac y cânt siarad fel unigolion wrth roi'r dystiolaeth gerbron yr ymchwiliadau? Ac, yn anad dim, nid wyf yn siŵr sut bydd pobl yn pleidleisio yn y Siambr hon yfory, ond mae'n bosibl iawn y gallai fod un bleidlais ynddi. Mae'r cyhuddiadau hyn wedi eu gwneud yn eich erbyn chi fel Prif Weinidog, a gweithgareddau swyddfa'r Prif Weinidog. A wnewch chi absenoli eich hun o bleidleisio yn y bleidlais honno yfory, o ystyried ei bod yn ymdrin yn benodol â honiadau—ac rwy'n gwneud y cyhuddiad hwn—y mae angen naill ai eu profi neu eu hanwybyddu ac sydd wedi eu gwneud yn eich erbyn chi fel Prif Weinidog? A wnewch chi absenoli eich hun o'r bleidlais honno?

Wel, rwy'n credu, ar sail ei sylwadau heddiw, bod arweinydd yr wrthblaid wedi dangos ei fod yn wleidyddol iawn yn yr hyn y mae'n ceisio ei wneud; nid yw'n ymwneud o gwbl â bod yn ddiduedd. Gwelais ei sylwadau dros y penwythnos, pan ddywedodd ei fod eisiau ymchwiliad hyd at heddiw, am ddim rheswm amlwg. Hefyd, dywedodd y dylai'r Pwyllgor wneud argymhellion ynghylch rhedeg Swyddfa'r Prif Weinidog. Nid yw'n fater i'r pwyllgor sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei rhedeg yn y modd hwnnw. Nid wyf yn ofni proses annibynnol. Nid wyf yn ofni proses annibynnol. Nid wyf yn ofni cynghorydd annibynnol yn ymchwilio i ba un a ydw i wedi mynd yn groes i'r Cod Gweinidogol, gan fy mod i'n ffyddiog nad wyf i wedi gwneud hynny. Nid wyf yn ofni proses annibynnol. Nid wyf i'n gwybod pam mae e'n ofni proses annibynnol gymaint.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd.
Prif Weinidog, iechyd meddwl ac iechyd meddwl plant yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd ac, ar 27 Medi y llynedd, fe wnaethoch honni y byddai buddsoddiad yn lleihau amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dywedasoch,
'Mae'r adnoddau wedi eu sefydlu ac rwyf yn llwyr ddisgwyl i'r amseroedd aros a'r niferoedd leihau wrth i'r adnoddau hynny weithio drwy'r system.'
A ydych chi'n glynu wrth y datganiad hwnnw?

Ydw, mi ydwyf. Mae'n iawn i ddweud, er enghraifft, gyda CAMHS, bod y galw'n fwy na'r hyn a oedd ar gael. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny a dyna pam y gwnaethom ni roi'r £8 miliwn ychwanegol y flwyddyn wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed er mwyn ymdrin â hynny. Os edrychwn ni ar y cyllid newydd sydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer iechyd meddwl, y tu hwnt i'r cynnydd cyffredinol, targedwyd £22 miliwn o gyllid newydd at wella mynediad at nifer o wasanaethau penodol: felly, £8 miliwn y flwyddyn ar gyfer iechyd meddwl pobl hŷn; yr £8 miliwn yr wyf i newydd ei grybwyll ar gyfer CAMHS; £3 miliwn y flwyddyn ar gyfer therapïau seicolegol ar gyfer gwasanaethau i oedolion; mwy na £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer gwasanaethau amenedigol cymunedol, a £1.5 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol i gefnogi ymhellach y Mesur yn 2012.
Yn gynharach eleni, Prif Weinidog, newidiodd StatsCymru y ffordd yr oedd niferoedd amseroedd aros yn cael eu hadrodd, gan gael gwared ar yr achosion a oedd yn cael eu hystyried fel llwybrau nad oeddent yn CAMHS. Tynnodd hyn 1,700 o blant—tua 74 y cant o'r cyfanswm—oddi ar y rhestr ar unwaith. Mae hynny'n gwneud cymariaethau hanesyddol yn amhosibl, ond mae gennym ni werth saith mis o ddata newydd erbyn hyn, sy'n golygu y gallwn ni weld beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn eleni, ac mae'n amlwg bod amseroedd aros ar gyfer CAMHS yn gwaethygu. Yn ôl ym mis Mawrth, roedd 87 y cant o blant yn aros llai na mis, 45 y cant yw hynny erbyn hyn. Yn ôl ym mis Mawrth, nid oedd unrhyw blant yn aros yn hwy na 16 wythnos am yr apwyntiad cyntaf hwnnw, a bellach mae hynny'n wir am un o bob pump o blant. Nid yw hynny'n swnio fel lleihau amseroedd aros i mi. Rydych chi wedi dadlau yn y gorffennol bod gormod o blant yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth arbenigol. A ydych chi'n dal i gredu mai'r broblem gyda CAMHS yw bod gormod o blant yn cael eu hatgyfeirio?

Wel, mae'n ffaith bod tua 25 y cant i draean o atgyfeiriadau at CAMHS arbenigol yn cael eu hailgyfeirio i wasanaethau eraill gan fod yr atgyfeiriad yn amhriodol ar gyfer yr hyn sy'n wasanaeth hynod arbenigol. Nawr, gwneir hynny i sicrhau bod y plant hynny sydd angen cymorth arbenigol yn gallu ei gael yn brydlon. Wrth gwrs, rydym ni'n disgwyl i CAMHS ymdrin â'r bobl ifanc hynny sydd angen cymorth gan CAMHS, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod llawer o'r bobl ifanc hynny sy'n cael eu cyfeirio at CAMHS yn y lle cyntaf nad ydynt yn cael eu cyfeirio i fannau eraill at wasanaeth sy'n fwy priodol iddyn nhw.
Saith deg pedwar y cant.
Pan fydd yn wynebu problem hirsefydlog, Prif Weinidog, mae'n ymddangos mai ymateb eich Llywodraeth yw newid y rheolau a thrin y data neu hawlio nad oedd pawb wir angen y gwasanaeth. Nawr, ceir nifer o enghreifftiau eraill lle, yn hytrach na gwella gwasanaethau, yr ydych chi wedi newid y rheolau. Digwyddodd hynny â'r gwasanaeth ambiwlans, nifer y meddygon teulu llawn amser yn y GIG, a newidiwyd y targedau canser yr wythnos diwethaf, ond nid ydym ni'n gwybod i beth eto. Ac eto rydych chi'n dal i wrthod galwad Plaid Cymru am darged diagnosis 28 diwrnod a bennwyd gan y tasglu canser annibynnol.
Onid yw'n bryd i ni gael gwared ar allu eich Llywodraeth i osgoi craffu trwy newid y rheolau? Ac onid yw'n bryd i Gymru sefydlu corff annibynnol ar gyfer gosod targedau a chyhoeddi'r data yn erbyn y targedau hynny? Beth fydd ei angen, Prif Weinidog, i amseroedd aros yn CAMHS gael eu lleihau fel bod plant yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt?

Wel, mae'n syndod i mi, wrth i mi sefyll yma bob wythnos, i awgrymu nad wyf yn destun craffu, oherwydd gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod i yn sicr. A gaf i wneud y pwynt nad yw ystadegau yn cael eu newid gan y Llywodraeth? Ymdrinnir â nhw'n annibynnol, a chyfrifoldeb Awdurdod Ystadegau'r DU yw penderfynu sut y mae'n casglu ystadegau. Nid yw'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei benderfynu. Ydy, mae'n wir i ddweud, gydag amseroedd ymateb ambiwlansys, er enghraifft, y newidiwyd hynny, ond roedd hynny'n eu rhoi mewn sefyllfa gymharol â Lloegr. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaed hynny.
O ran edrych ar dargedau canser, mae'r rhain yn faterion yr ydym ni'n eu hystyried i'w gwneud yn fwy effeithiol. Y broblem sydd gen i bob amser gyda'r diagnosis 28 diwrnod yw bod arbenigwyr yn dweud wrthyf ei bod yn aml yn amhosibl gwneud hynny oherwydd natur canser rhywun. Mae pobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd ac mae eu diagnosis yn cael ei wneud mewn gwahanol ffyrdd. Nid wyf i'n feddyg; y cwbl yr wyf yn ei wneud yw cyfeirio at yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud wrthyf i.
Nawr, mae hi'n gwneud y pwynt am wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt ar yr adeg gywir, ac un o flaenoriaethau'r rhaglen Law yn Llaw ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yw lleihau nifer yr atgyfeiriadau amhriodol, i ystyried y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn gweithio gyda maes gofal sylfaenol ac eraill ym meysydd gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chyfiawnder ieuenctid a'r trydydd sector i sicrhau cymorth priodol ar gael yn brydlon i bobl ifanc. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl ifanc, pan eu bod yn cael eu hatgyfeirio, yn cael y lefel briodol o wasanaeth ac nad ydynt yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at CAMHS. Felly, mae hwn yn ddull cyfannol yr ydym ni'n ei ddilyn, ac rydym ni'n hyderus, os cymerwn ni i ystyriaeth hefyd y prosiectau arbrofol a gyhoeddwyd ym mis Medi ar gyfer cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion, y bydd yn gallu sicrhau wedyn, wrth gwrs, bod mwy a mwy o bobl ifanc yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. Efallai y bydd y tymheredd yn y Siambr hon yn codi yfory, ond tybed a yw'r Prif Weinidog wedi gweld bod rhagolygon y Swyddfa Dywydd ar gyfer y tu allan yn dangos ein bod ni'n debygol o gael tymheredd is-sero dros yr wythnos neu ddwy nesaf. Tybed a welodd hefyd ddydd Llun yn The Guardian fod adroddiad yn dweud bod prisiau trydan a nwy wedi codi o dair gwaith cyfradd chwyddiant yn yr 20 mlynedd diwethaf a bod cartref cyffredin yn gwario £562 flwyddyn ar wresogi a goleuo erbyn hyn. Yr hyn nad oedd yn ei ddweud oedd bod hyn i raddau helaeth iawn oherwydd y cynnydd i drethi gwyrdd, a fydd yn costio bron i £150 y flwyddyn i aelwydydd o'r flwyddyn nesaf, ac maen nhw wedi codi gan ddwy ran o dair ers 2014 ac maen nhw'n 20 y cant o'r Bil trydan nodweddiadol erbyn hyn. O ystyried bod chwarter o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sut gallwn ni gyfiawnhau llwytho'r ffioedd hyn ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?

Dyma ddyn a bleidleisiodd o blaid preifateiddio trydan a nwy. Dyna'r rheswm pam mae prisiau wedi codi. Y ffaith yw nad oes unrhyw gystadleuaeth mewn gwirionedd, nid yw pobl wir yn deall sut i gael y tariff gorau, er gwaethaf ymdrechion gorau pobl i wneud hynny. A dweud y gwir, roedd y gwasanaeth yn well o lawer pan oedd gennym ni ddarparwr gwladoledig, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei weld yn dychwelyd yn y dyfodol. Nid yw'n ymwneud o gwbl â threthi gwyrdd. Mae'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r ffaith fod cwmnïau preifat yn gwneud elw ar draul pobl gyffredin, rhywbeth y gwnaeth ef ei gefnogi ac, yn wir, y mae'r blaid yna draw fan acw yn ei gefnogi hefyd.
Ni wnaeth y Prif Weinidog ateb y cwestiwn, wrth gwrs. Mae pump y cant o fil trydan yn mynd fel elw i'r cwmnïau trydan, 20 y cant mewn trethi gwyrdd. Felly, mae'r Prif Weinidog yn gwbl anghywir. Ond waeth pa mor ddrwg yw pethau ar y funud, mae pethau'n mynd i waethygu, gan fod rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a ategodd y papurau cyllideb eleni, yn dangos y bydd ardollau amgylcheddol yn cynyddu o £10.7 biliwn eleni i £13.5 biliwn erbyn 2022. Felly, mae hynny'n golygu y bydd trethi gwyrdd dros £200 y flwyddyn erbyn hynny i'r defnyddiwr trydan cyffredin ac yn draean o filiau ynni.
Mae cyflwyno mesuryddion clyfar yn mynd i ychwanegu £11 biliwn arall at hynny. Mae hynny'n £84 y flwyddyn yn ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf i bob aelwyd. Hefyd, mae £2 biliwn ychwanegol yn mynd i gael ei wario ar uwchraddio llinellau trosglwyddo a seilwaith i ddarparu ar gyfer ffermydd gwynt o bell. Mae hynny'n ychwanegu £25 fesul aelwyd. Felly, ailadroddaf fy nghwestiwn, na atebodd y Prif Weinidog y tro cyntaf: sut allwn ni gyfiawnhau llwytho'r ffioedd hyn ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?

Wel, hynny yw, yn gyntaf oll, cefais rywfaint o achwyn gan y blaid gyferbyn am godi gormod ar gwsmeriaid—yn 2015, pan wnaeth fy mhlaid sefyll yn yr etholiad cyffredinol, fe'n cyhuddwyd ganddynt o fod yn Farcswyr am fod eisiau rhoi cap ar brisiau ynni. Dyna faint o ots oedd ganddyn nhw am bobl gyffredin. Rydym ni i gyd yn gwybod sut rai yw'r Torïaid.
Nawr, i ateb y cwestiwn a ofynnwyd gan arweinydd UKIP, mae pob un dull o gynhyrchu ynni yn costio arian—pob un dull. Mae niwclear yn costio llawer iawn o arian hefyd. Ydym, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni ynni glanach, gwyrddach—mae o les i ddiogelwch ynni; pam y byddem ni eisiau mewnforio ynni o wledydd eraill a ninnau'n gallu cynhyrchu ynni ein hunain mewn modd adnewyddadwy? Neu a yw'n dweud y dylem ni gael gorsafoedd pŵer glo ym mhobman a mwy o gloddio glo brig? Oherwydd dyna ganlyniad yr hyn y mae'n ei ddweud.
Mae'n gwrthod ateb y cwestiwn: sut ydym ni'n cyfiawnhau llwytho pobl dlawd gyda'r ffioedd gormodol hyn sy'n mynd i dyfu a thyfu wrth i bob blwyddyn fynd heibio? Mae papurau'r OBR—y tablau atodol cyllidol—yn dilyn y gyllideb yn dangos y bydd cost Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 yn 2022 bron i £15 biliwn y flwyddyn. A, thros y pum mlynedd nesaf, bydd y cartref cyffredin yn gwario swm enfawr o'i incwm ar drethi gwyrdd—bydd £66 biliwn, £2,500 yr aelwyd, dros y pum mlynedd nesaf, yn cael ei gymryd o gyllidebau aelwydydd mewn trethi gwyrdd. Mae trethi gwyrdd yn gyrru pobl dlawd ac agored i niwed i mewn i'r coch.

Mae'n sôn am yrru pobl dlawd ac agored i niwed i mewn i'r coch; roedd preifateiddio ynni yn un ffordd o wneud hynny—rydym ni'n gwybod hynny. Safodd ei blaid ef ar sail rhaglen o dreth safonol, a fyddai'n cynyddu trethi i'r mwyafrif helaeth o bobl dlotach, a'u lleihau i bobl sy'n ennill mwy. Nid yw mewn unrhyw sefyllfa i bregethu i unrhyw un arall am ofalu am bobl dlotach. Gadewch i mi ofyn hyn iddo—. Yn y pen draw, nid yw'n credu yn y newid yn yr hinsawdd. Rwyf i, nid yw ef. Rwyf i'n edrych ar y gwyddoniaeth, nid yw ef. Dyna'r ffordd y mae'n ei gweld hi.
Rwy'n credu bod glanhau'r amgylchedd yn costio arian. Roedd y DU yn llanastr yn y 1980au; roedd yn fochaidd. Byddai'r afon Irwell yn Salford yn mynd ar dân pe byddech chi'n taflu matsien i mewn iddi. Lle'r wyf i'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, byddai'r afon Ogwr yn llifo mewn gwahanol liwiau yn dibynnu ar yr hyn oedd wedi cael ei daflu i mewn iddi gan ba bynnag ddiwydiant oedd i fyny'r afon. Nid oes neb yn dweud wrthyf, 'rwyf i eisiau mynd yn ôl i'r dyddiau hynny pan oedd yr amgylchedd wedi ei ddiraddio, pan oedd yr afonydd yn llygredig, pan oedd yr aer yn llygredig', ond mae'n ymddangos ei fod yn rhywbeth y mae ef yn fwy na hapus i'w weld eto.
3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau y caiff yr amgylchedd ei ddiogelu’n well dros y 12 mis nesaf? OAQ51368

Cwestiwn amserol iawn, os caf i ddweud. Trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chreu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gennym ni eisoes, wrth gwrs, rywfaint o'r ddeddfwriaeth amgylcheddol a threfniadau gorfodi integredig mwyaf datblygedig yn y byd.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae dim llai nag wyth o elusennau bywyd gwyllt a chefn gwlad yng Nghymru wedi beirniadu toriadau i gyllid amgylcheddol a nodwyd yn y gyllideb ddrafft. Dywedodd WWF Cymru ei bod yn ymddangos bod bwlch rhwng eich addewidion ar yr amgylchedd a realiti'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, tra bod eraill wedi cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau digonol i ddarparu deddfwriaeth fel Deddfau'r amgylchedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Pa neges y mae'r Prif Weinidog yn ei gredu y mae'r toriad hwn i gyllid yn ei anfon am ymrwymiad ei Lywodraeth i ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru?

Os edrychwch chi ar grant refeniw sengl yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy awdurdodau lleol, dyrannwyd cyfanswm o £61.79 miliwn i'r awdurdodau lleol ar gyfer 2017-18. Mae hynny'n rhywbeth sy'n hynod bwysig, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gwariant a fydd yn dod gan y Llywodraeth.
Ond, unwaith eto, dywedaf wrtho ef a'i blaid, nad yw mewn unrhyw sefyllfa i bregethu i ni am arian pan, unwaith eto, mae gennym ni gyllideb sy'n amddifadu Cymru o arian, sy'n rhoi dim ond £200 miliwn i ni i'w wario dros bedair blynedd, lle'r ydym ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle'r ydym ni 7 y cant yn waeth ein byd mewn termau real [Torri ar draws.]—rwy'n gwybod ei fod yn brifo, ond mae'n rhaid i chi wrando—7 y cant yn waeth ein byd mewn termau real ers 2010, lle, pan gafodd Gogledd Iwerddon £1.67 biliwn, ni wnaethon nhw unrhyw ddadleuon o gwbl dros Gymru, a lle mae Cymru mor ddibwys yn eu hystyriaethau, fel bod arweinydd yr wrthblaid—ac rwy'n teimlo trueni tuag ato erbyn hyn—wedi ei wahardd rhag eistedd yng Nghabinet y DU, er bod ei gydweithiwr o'r Alban yno. Ac dyna nhw, yn eistedd yn y fan yna yn pregethu wrthym ni am sefyll dros Gymru a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael mwy o arian i Gymru. Byddwn ni'n gwneud hynny; ni fyddan nhw byth yn gwneud hynny.
Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer cynyddol o bobl yn poeni ein bod ni'n cadw'r cyfreithiau amgylcheddol sydd yn amddiffyn yr hyn yr ydych chi newydd ei ddisgrifio—y ffordd yr ŷm ni wedi gwella'r amgylchedd yma yng Nghymru ac ym Mhrydain. Nawr, ddydd Llun, gerbron y pwyllgor materion allanol, fe ddywedoch chi eich bod chi wedi paratoi Bil parhad rhag ofn nad yw'r trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan yn llwyddo i ddarparu'r amddiffyn yma rydym ni'n chwilio amdano fe. Onid ydych chi'n teimlo y byddai fe'n briodol ichi gyhoeddi'r Bil parhad yna ar ffurf drafft nawr fel arwydd cyhoeddus o'ch ymrwymiad a'ch bwriad chi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yma'n parhau wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd?

Mae yna Fil. Bydd yna benderfyniad ynglŷn â phryd y dylai'r Bil yna gael ei gyhoeddi. Ar hyn o bryd, beth hoffwn ei weld yw'r gwelliannau yn cael eu derbyn gan Dŷ'r Cyffredin. Os yw hynny'n wir, ni fydd eisiau cael Bil parhad, ond mae'n wir i ddweud bod un wedi cael ei ddrafftio.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos, drwy ei dull rhagweithiol o reoleiddio, gorfodi a mentrau ehangach, y gellir gwneud cynnydd mawr i ddiogelu amgylchedd Cymru. Gwelir hyn yn amlwg yn uchelgais rhagweithiol Llywodraeth Lafur Cymru i Gymru ailgylchu 70 y cant o'r holl wastraff erbyn 2025 a bod yn ddi-wastraff erbyn 2050, gyda dros 60 y cant o'n gwastraff dinesig yng Nghymru yn cael ei ailgylchu ar hyn o bryd. Pa gamau pellach, felly, all Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r cyflawniad gwych a strategol hwn?

Talaf deyrnged i'm cyd-Aelod Lesley Griffiths a'r rheini a oedd yn gwneud y swydd o'i blaen am y gwaith ardderchog a wnaed o ran ailgylchu. Yn ôl yn 2000, roeddem ni'n ailgylchu tua 4 y cant o sgil-gynhyrchion gwastraff yng Nghymru. Ceir targedau ymestynnol ar gyfer y dyfodol, ond mae angen hefyd i ni weithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod llai o ddeunydd pacio. Mae'n anodd gwneud hynny ar lefel Cymru, gan fod y rhan fwyaf o'r hyn a ddaw i Gymru yn cael ei becynnu a'i brynu mewn mannau eraill, ond byddai gweithredu Ewropeaidd cydgysylltiedig, gweithredu byd-eang, yn wir, i leihau deunydd pacio yn y lle cyntaf yn lleihau sgil-gynhyrchion gwastraff ac yn ei gwneud yn haws fyth i ni gynyddu ein lefel o ailgylchu.
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch cynlluniau i adleoli staff o swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd? OAQ51378

Cafodd y cyn Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyfarfod gyda Damian Hinds, y Gweinidog cyflogaeth, i drafod cynlluniau ystâd yr Adran Gwaith a Phensiynau, a chytunodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru am unrhyw drosglwyddo swyddogaethau posibl yr Adran Gwaith a Phensiynau o Gabalfa, a lleoliadau eraill, i ganolfan newydd i'r gogledd o Gaerdydd.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Hoffwn wneud y Prif Weinidog yn ymwybodol bod nifer enfawr o'r staff yn swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn y Mynydd Bychan yn fy etholaeth i yn llawn ansicrwydd a phryder ar hyn o bryd. Mae llawer ohonyn nhw yn anabl, mae gan lawer ohonyn nhw gyfrifoldebau gofalu, a bydd yn rhaid i rai ohonyn nhw deithio ar hyd at dri o fysiau i gyrraedd y lleoliad newydd, nad yw wedi ei nodi'n benodol eto, yn Nantgarw. Dyma lle bydd staff eraill yn cael eu hadleoli o rannau eraill o Gymru. A fyddai modd iddo sicrhau bod eu pryderon yn cael eu cyfleu i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel nad ydynt yn cael eu gadael gyda'r teimlad hwn o ansicrwydd o ran peidio â gwybod beth sy'n digwydd a beth sy'n mynd i ddigwydd ynghylch y ffaith eu bod nhw'n mynd i orfod teithio cymaint pellach ac am gyhyd? Ni fydd llawer ohonyn nhw yn gallu derbyn y swyddi yn Nantgarw.

Wel, mae'n fater, wrth gwrs, i'r Adran Gwaith a Phensiynau, ond, yn y cyfarfod hwnnw, cadarnhawyd gan y Gweinidog Adran Gwaith a Phensiynau dan sylw, y Gweinidog dros gyflogaeth, eu bod yn bwriadu adleoli staff o bum swyddfa budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau i swyddfa i'r gogledd o Gaerdydd. Dywedwyd y byddai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru, ond, yn amlwg, mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gwybod beth yw'r cynlluniau ac yn gwybod beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn y dyfodol cyn gynted â phosibl.
Yn anffodus, gallem ni gael safle gwag mawr yng ngogledd Caerdydd yn y pen draw, i ychwanegu at safleoedd a fydd hefyd yn wag yn y pen draw yn y swyddfa dreth a Tesco House. Mae'n bosibl iawn y gallai hyn arwain at fwy o gynlluniau tai dadleuol i ogledd Caerdydd. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i ddiogelu trigolion rhag y broblem o orddatblygu trefol?

Mater i gyngor Caerdydd, wrth gwrs, yw llunio ei gynllun datblygu lleol, i sicrhau bod cyflenwad tai pum mlynedd, ac, wrth gwrs, caiff y cynllun hwnnw ei lunio yn unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ragolygon dros y pedwar mis nesaf ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy? OAQ51388

Mae cynnig cyfleoedd i brynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy, ac, yn wir, ledled Cymru, wedi bod yn un o'n blaenoriaethau allweddol erioed. Mae perchentyaeth tai yn rhan sylweddol o'n targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ac mae Cymorth i Brynu—Cymru yn cynorthwyo hyn gyda bron tri chwarter y cartrefi newydd sy'n cael eu prynu drwy'r cynllun yn brynwyr tro cyntaf.
Prif Weinidog, £240,000 yw'r pris tai Cymorth i Brynu cyfartalog i brynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy, sy'n debyg i Swydd Gaerloyw ar draws y ffin. Onid ydych chi'n pryderu, os bydd eich Llywodraeth yn methu â dilyn dull cyfatebol i Loegr ar gyfer prynwyr tro cyntaf, y bydd rhai o'n pobl ifanc yn gadael Cymru ac yn prynu dros y ffin yn hytrach?

Rwy'n siŵr y byddant yn cael eu denu gan y ffaith fod y dreth gyngor yn sylweddol is yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr o dan y Llywodraeth Geidwadol. Ond gofynnodd y cwestiwn am dreth stamp. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, y bydd angen ymateb i newidiadau i bolisi treth stamp yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU. Nawr bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhyddhad i brynwyr tro cyntaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried pa un a ddylid gwneud newidiadau i dreth trafodiadau tir.
Prif Weinidog, un o'r pethau y mae prynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy yn ei rannu gyda'r rheini yn Nhaf Elái a Phontypridd yw cynnydd i eiddo lesddaliadol—eiddo yn cael ei werthu trwy lesddaliad gan greu cyfres gyfan o broblemau ariannol o ran rhent tir, ac o ran yr atchweliadau dilynol neu pan fydd y cyfnodau o flynyddoedd yn dechrau dod i ben. A ydych chi'n cytuno â mi nad oes croeso i dwf lesddaliadau, yn un peth, yng Nghymru, ond yn ail, y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth i wahardd neu ddiddymu eiddo lesddaliadol ar gyfer y dyfodol?

Bu llawer iawn o gamfanteisio ar lesddaliadau pan oedd lesoedd wedi dod i ben. Wrth gwrs, ceir rhai meysydd, fel y bydd fy ffrind yn gwybod, fel fflatiau, lle mae lesddaliad yn tueddu i fod yn rhywbeth eithaf normal. Pan ddaw i dai, fodd bynnag, mae gan Gymru hanes, pan fo lesddaliadau wedi dod i ben yn y gorffennol, pan godwyd symiau mawr ar bobl i brynu'r tir y mae eu tai yn eistedd arno. Rwy'n credu, yn y dyfodol, ei bod yn bwysig dros ben mai rhydd-ddaliad yw'r denantiaeth sy'n arferol, cyn belled ag y mae tai yn y cwestiwn. Efallai y bydd enghreifftiau, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol, lle na fyddai hynny'n briodol, dim ond i wneud yn siŵr bod prisiau tai yn cael eu cadw i lawr. Ond ydym, rydym ni'n sicr eisiau gwneud popeth y gallwn i sicrhau nad yw pobl yn dioddef camfanteisio pan fydd lesddaliadau yn dod i ben, ar ôl cyfnod o fwy na chanrif yn aml iawn.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi safleoedd o ddiddordeb hanesyddol ledled Cymru? OAQ51347

Mae yna 4,000 o henebion ar draws Cymru wedi cael eu rhestru, a thua 30,000 o adeiladau ar draws y wlad yn cael eu gwarchod drwy restru hefyd.
Brif Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol fy mod i, am flynyddoedd bellach, wedi dadlau y dylai awdurdodau lleol fod â dyletswydd statudol i ddiogelu ein cofebion rhyfel. Rydw i’n cydnabod, fel rhan o goffáu y rhyfel byd cyntaf, fod eich Llywodraeth chi wedi lansio cynllun grant i gefnogi atgyweirio a chadw cofebion rhyfel yma yng Nghymru. Yn wir, rydw i yn deall bod grantiau o hyd at £10,000 ar gael o dan y cynllun. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa mor llwyddiannus y mae’r cynllun wedi bod hyd yn hyn? A hefyd, a fyddech chi’n fodlon ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad o ble mae’r arian hwnnw wedi ei dderbyn, fel y gallwn ni weld bod pob rhan o Gymru wedi elwa o’r arian yma?

Rydym yn hyderus iawn bod y cynllun wedi bod yn un llwyddiannus dros ben. Roeddem ni'n moyn sicrhau, wrth gofio’r ffaith bod canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf wedi bod gyda ni dros y blynyddoedd diwethaf, fod yna ffordd i sicrhau bod cofebion yn cael eu hailwneud a'u hadnewyddu mewn ffordd lle mae pobl yn gallu deall beth ydyn nhw a bod yna ddigon o falchder yn cael ei roi iddyn nhw hefyd. Rydym ni yn rhoi, wrth gwrs, arian i Cadw, er mwyn sicrhau bod arian cyfalaf gyda nhw hefyd. Nid oes problem gennyf i ynglŷn â sicrhau bod yna restr yn cael ei rhoi i Aelodau ynglŷn â ble mae’r arian wedi mynd. Rwy'n siŵr y gall hynny gael ei wneud, ac rydym ni’n hyderus bod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Prif Weinidog, rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr am yr angen i fanteisio ar dreftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn rhan o strategaeth economaidd ar gyfer yr ardal gyfan, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r trefnwyr a'r arbenigwyr lu a roddodd o'u hamser yn ddiweddar yn y digwyddiad treftadaeth ddiwydiannol a gynhaliwyd yng Nghastell Cyfarthfa, a ystyriodd ffyrdd newydd ac arloesol i ddatblygu rhai o'r safleoedd treftadaeth anhygoel a datblygu atyniad unigryw. A ydych chi'n cytuno, wrth geisio diogelu safleoedd hanesyddol, bod yn rhaid i ni ganfod ffyrdd o warchod dyfodol safleoedd fel y ffwrneisi chwyth yng Nghyfarthfa cyn i ni eu colli am byth, ac, ar yr un pryd, colli'r cyfleoedd posibl y maen nhw'n eu cynnig i gryfhau'r economi leol?

Ydw, ac rwy'n credu bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi ein rhoi ar flaen y gad ymhlith gwledydd y DU o ran diogelu a rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Mae cyfran fawr o'r Ddeddf honno wedi ei gweithredu erbyn hyn. Hefyd, wrth gwrs, soniais yn gynharach bod Cadw wedi dyrannu dros £22 miliwn o gyllid cyfalaf i gynorthwyo'r gwaith o gynnal a chadw adeiladau hanesyddol a henebion rhestredig yng Nghymru ers 2011, gyda tua £6.5 miliwn o gymorth refeniw ar gyfer cynnal a chadw. Felly, mae arian ar gael, ac rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gallu diogelu cymaint o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru â phosibl.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru? OAQ51350

Gwnaf. Mae cydraddoldeb yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru, fel y nodir yn 'Ffyniant i Bawb'. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2017-20 yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb, ac mae'r amcanion hynny yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio fwyaf yng Nghymru.
Un o'r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio yng Nghymru yw'r anghydraddoldeb rhwng ansawdd y gwasanaeth iechyd ac amseriad y gwasanaeth iechyd yn y gogledd o'i gymharu â rhannau eraill o'r wlad. Pam, Prif Weinidog, mae fy etholwyr i ddwywaith mor debygol ag etholwyr ym mwrdd iechyd Cwm Taf, er enghraifft, i fod mewn adran achosion brys am bedair awr neu fwy, a pham, yn y gogledd, mae un o bob 11 o gleifion yn aros 36 wythnos neu fwy o atgyfeiriad i driniaeth, o'i gymharu â dim ond un o bob 83 i lawr yma yng Nghaerdydd a'r Fro? Mae'r anghydraddoldeb hwn yn amlwg yn annerbyniol. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi bod hynny'n annerbyniol. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i unioni'r sefyllfa hon, o gofio bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig?

Wel, wrth gwrs, bydd gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd. Er enghraifft, Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd sydd wedi perfformio orau yn hanesyddol o ran triniaeth canser yng Nghymru. Ond ceir anghydraddoldebau. Wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant yn ymwybodol, rydym ni'n ceisio unioni'r anghydraddoldebau hynny a chymryd camau pan fo hynny'n angenrheidiol. Pan fo angen, er enghraifft, recriwtio, rydym ni'n ceisio recriwtio a gweithio gyda byrddau iechyd er mwyn recriwtio'r lefel briodol o staff meddygol sydd ei hangen arnynt i ddarparu'r gwasanaeth yr ydym yn credu sy'n briodol ac yn iawn i'r bobl sy'n byw ym mhob rhan o Gymru.
Prif Weinidog, mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn awgrymu bod gan aelwydydd lle ceir plant gyfradd uwch o amddifadedd incwm na'r boblogaeth yn gyffredinol, gyda 24 y cant o aelwydydd o'r fath mewn amddifadedd, o'i gymharu ag 16 y cant yn gyffredinol. Mae Aelodau yn y Senedd hon yn ymwybodol iawn bod credyd cynhwysol, y taliad misol sengl sy'n disodli'r chwe budd-dal oedran gweithio presennol, yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Er gwaethaf y gwaith rhagorol a rhagweithiol sy'n cael ei wneud yng Nghymru i gynorthwyo, cynghori a helpu'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ddiwygio lles, mae'n anochel y bydd credyd cynhwysol yn cael effaith negyddol ar fywydau'r bobl fwyaf agored i niwed ar draws ein gwlad, trwy weithrediad proses y mae'n ymddangos sydd wedi ei chynllunio'n fwriadol i wthio pobl i dlodi a dyled. Pa sylwadau all Llywodraeth Cymru eu gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i alw ar Lywodraeth Dorïaidd y DU i ailystyried polisi hynod atchweliadol a dinistriol?

Mae'r cyflwyniad o gredyd cynhwysol yn llanastr. Mae pobl yn cael eu gadael heb arian—pobl sydd angen arian ar sail wythnosol. Mae pobl yn cael eu gadael mewn sefyllfa lle na allant fforddio prynu pethau. Mae pobl yn cael eu gadael mewn sefyllfa o ansicrwydd, ac rydym ni'n gwybod mai ymateb Llywodraeth y DU i hyn i gyd yw, 'Beth yw'r ots?' fwy neu lai. Wel, mae ots i ni ar yr ochr hon i'r Siambr. Rydym ni'n annog Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod pobl sydd angen yr arian hwnnw yn cael yr arian hwnnw a'u bod yn rhoi terfyn ar y toriadau y maen nhw'n eu gwneud i'r system fudd-daliadau, a'r toriadau y maen nhw'n ei gwneud i'r gwariant yr ydym ni fel cymdeithas wedi ei wario yn hanesyddol ar y rheini sydd fwyaf agored i niwed. Byddwn bob amser yn sefyll dros y rhai sydd fwyaf agored i niwed.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched? OAQ51342

A gaf i longyfarch yr aelod ar yr hyn y credaf yw'r cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog y mae hi wedi ei ofyn? Rwy'n gobeithio y gallaf i roi ateb sy'n foddhaol iddi hi.
Rydym ni'n gweithredu'r strategaeth genedlaethol sy'n cyflwyno ein camau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n rhaid i leisiau goroeswyr fod yn flaenllaw yn y gwaith hwn. Gan gydnabod hynny, rydym ni'n datblygu fframwaith ymgysylltu â goroeswr cenedlaethol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna i fy nghwestiwn cyntaf iddo. Rwy'n credu ei bod yn syfrdanol darganfod yr wythnos hon bod dwy fenyw yr wythnos ar gyfartaledd yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Ddoe, siaradais yn nigwyddiad amlffydd Light a Candle blynyddol BAWSO yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn dilyn gorymdaith o swyddfeydd cymdeithas dai Llamau. Codwyd ymwybyddiaeth a chefnogaeth gennym i'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod. Croesewais, yn fy ngeiriau yn yr Eglwys Gadeiriol, y dull y mae Julie James yn ei ddilyn o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod fel busnes i bawb. Dyna oedd y neges ddoe. A gaf i dalu teyrnged i BAWSO, a drefnodd y digwyddiad ddoe? Maen nhw'n gwneud gwaith arloesol, gan gefnogi menywod sy'n wynebu cam-drin domestig, priodasau dan orfod, masnachu mewn pobl ac anffurfio organau cenhedlu benywod, a drafodwyd gennym yn ddiweddar. A all y Prif Weinidog fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwaith BAWSO ledled Cymru gyfan?

Gallaf, rwy'n ddiolchgar i sefydliadau fel BAWSO, sydd yn cynnig cymorth i rai o aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni wedi darparu £446,000 o gyllid i BAWSO o'r grant refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a chyfarfu swyddogion â defnyddwyr gwasanaeth BAWSO yn ddiweddar yn rhan o'r fframwaith ymgysylltu â goroeswyr. Rwy'n deall y bydd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymweld â swyddfa BAWSO yn Wrecsam yr wythnos nesaf.
Prif Weinidog, mae'n rhaid i ddioddefwyr cam-drin domestig guddio neu aros mewn llochesi am gyfnodau hir iawn o amser yn aml iawn. Os edrychwch chi ar draws Ewrop yn gyffredinol, nid yn unig y mae gan wledydd fel yr Eidal a'r Almaen gyfreithiau llawer mwy uniongyrchol a phendant ar gymryd y camdriniwr allan o'r cartref priodasol, yn hytrach na'r sawl sy'n cael ei gam-drin, ond maen nhw hefyd o'r farn os amharwyd ar deulu a bod rhaid i riant, menyw â phlant yn aml iawn, guddio, yn hytrach na dim ond eu gadael mewn llochesi, maen nhw'n mynd â nhw, yn eu rhoi mewn cartref ac yna'n eu helpu i adeiladu bywyd newydd, ysgolion newydd, sefydlogrwydd newydd, plannu gwreiddiau newydd mewn lle diogel. A wnewch chi addo ar ran eich Llywodraeth i edrych ar yr hyn y mae lleoedd fel yr Eidal a'r Almaen yn ei wneud, i weld a allwn ni ddod â'r math hwnnw o safbwynt arloesol, teulu cyfan o ran sut y gallem ni helpu rhywun sy'n dioddef ac y bu'n rhaid iddo adael ei gartref oherwydd cam-drin domestig?

Gwnaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni edrych ar enghreifftiau da ledled Ewrop. Un o'r materion a wynebwyd gennym ar un adeg oedd y wal y daethom yn ei herbyn gyda'r ffin ddatganoli a methu â gallu gwneud fel y byddem yn ei ddymuno er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn fod mor effeithiol â phosibl. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, gyda'r model cadw pwerau, bod mwy o gyfleoedd nawr i ni ddatblygu'r math o fframwaith cyfreithiol y byddem ni'n dymuno ei gael, ond, yn sicr, wrth i ni ddatblygu'r fframwaith cyflawni traws-Lywodraeth a fydd yn ategu ein strategaeth genedlaethol, bydd edrych ar wledydd eraill a'r hyn y maen nhw'n ei wneud, er mwyn gweld beth yw'r arfer gorau, yn rhan bwysig o gyfrannu at yr hyn y byddwn ni'n ceisio ei wneud yng Nghymru wedyn.
Mae Cymorth i Ferched Bangor a'r cylch, yn fy etholaeth i, yn hynod bryderus yn sgil y sôn am integreiddio grant gwasanaethau trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol i mewn i un grant cyfansawdd. Maen nhw'n bryderus y gallai'r un peth a ddigwyddodd yn Lloegr ddigwydd yma. Fe gollwyd 17 y cant o lochesi arbenigol, a bu'n rhaid gwrthod traean o'r holl gyfeiriadau at lochesi oherwydd prinder lle. Fe ddigwyddodd hyn ar ôl i'r Llywodraeth yn Lloegr roi'r gorau i glustnodi Cefnogi Pobl—'ring-fence-io', hynny yw—fel arian ar wahân. A fedrwch chi warantu y bydd lefel ddigonol o gyllid ar gael ar gyfer darparu llochesi ar draws Cymru os daw'r newid cyllidebol i rym yn 2018-19?

Dyna yn gymwys beth rŷm ni'n moyn ei weld, ac ni fyddem ni'n moyn gweld y gwasanaeth sydd yna ar hyn o bryd yn cael ei leihau mewn unrhyw ffordd.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am feysydd parcio a reolir gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ51390

Gwnaf. Rheolir meysydd parcio a reolir gan awdurdodau lleol yng Nghymru gan awdurdodau lleol. [Chwerthin.]
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb dadlennol yna. Datgelwyd yn ddiweddar, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth i bob awdurdod lleol gan y BBC, bod cynghorau yn gwneud cannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn o beiriannau parcio talu ac arddangos nad ydynt yn rhoi newid. Dim ond chwech o'r 22 awdurdod lleol oedd yn gallu darparu'r wybodaeth, ond iddyn nhw, roedd hyn yn dod i gyfanswm o £650,000 dros dair blynedd. Onid yw hyn yn gamdriniaeth, ac oni ddylai'r elw hwn fynd yn ôl i ddatblygu meysydd parcio neu wasanaethau cysylltiedig i wella cyfleusterau parcio mewn trefi? Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofyniad statudol i awdurdodau lleol wneud hynny, ond pan fo elw yn cael ei wneud yn y modd hwn, fel nad yw'n mynd i fod yn ddim ond dwyn oddi ar y modurwr, oni ddylai'r arian gael ei ddefnyddio at ddibenion cysylltiedig?

Wel, mae tri pheth yn y fan yma. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, bod technoleg wedi symud ymlaen i'r pwynt lle na ddylai unrhyw beiriannau newydd fod yn beiriannau darnau arian yn unig, ond yn beiriannau lle gall pobl ddefnyddio apiau i barcio, neu, yn wir, peiriannau lle gall pobl ddefnyddio eu cerdyn i dalu. Nawr, rwy'n ffodus i fyw mewn awdurdod hynod flaengar a reolir gan Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae hynny'n bosibl yn y meysydd parcio, ac yn wir, mae ganddyn nhw bolisi lle gellir parcio am ddim mewn maes parcio aml-lawr am y ddwy awr gyntaf, sy'n dangos eu bod nhw'n cyflawni dros bobl Pen-y-bont ar Ogwr. Cofiwch, wrth gwrs, bod unrhyw arian sy'n cael ei godi o barcio yn mynd yn ôl i goffrau'r awdurdod lleol er budd y gymuned leol. Ond rwy'n derbyn y pwynt: rwy'n credu, wrth i beiriannau newydd ddisodli hen rai, y dylen nhw gynnig y dewis o nifer o ffyrdd o dalu i bobl, boed hynny dros y ffôn, trwy ap neu gyda cherdyn a rhif.
Ac yn olaf, cwestiwn 10, Jayne Bryant.
10. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol? OAQ51387

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, ac i sicrhau bod y sector yn gynaliadwy, rydym yn cymryd camau gan gynnwys mynd i'r afael â chontractau dim oriau a chyflogau isel, gan gofrestru gweithwyr a datblygu llwybrau gyrfaol, a bydd hynny'n helpu i godi statws a phroffil y gweithwyr fel y bydd gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfaol cadarnhaol.
Diolch, Prif Weinidog. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith rhagorol. Mae'r boblogaeth sy'n heneiddio yn byw yn hirach, ac mae gan lawer ohonynt anghenion cymhleth. Felly gwyddom ei bod yn hanfodol sicrhau bod gennym weithlu sy'n barod nawr ac yn y dyfodol. Yn ddiweddar, mae un o'm hetholwyr, sydd wedi gweithio mewn cartrefi gofal am nifer o flynyddoedd, wedi penderfynu cymryd swydd gyda chadwyn bwyd cyflym. Mae'r oriau hir, y cyflog gwael, a'r amodau gwaith anodd wedi golygu mai dim ond un dewis oedd ganddi, sef rhoi'r gorau i'r yrfa y mae'n hapus iawn ynddi. Er fy mod i'n falch bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno cymhwyster achrededig ar gyfer gofalwyr, gwneud hyn yn realiti fydd yr allwedd i atal pobl fel fy etholwr i, sy'n weithiwr gofal cymdeithasol ymroddedig a medrus, rhag gadael y proffesiwn. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ba mor bell y mae'r cynlluniau hyn wedi eu datblygu?

Gwnaf. Yn gyntaf oll, sicrhawyd £19 miliwn o gyllid cylchol fel bod awdurdodau lleol yn gallu gweithio gyda'u darparwyr gwasanaeth i helpu i reoli'r effaith o weithredu'r cyflog byw cenedlaethol. Dyna'r hyn yr oeddem eisiau ei weld. Beth rydym ni wedi'i wneud? Wel, rydym wedi cyflwyno rheoliadau i wella'r telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu, gan ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr fod yn fwy tryloyw o ran eu defnydd o gontractau dim oriau, i gynnig dewis contract oriau sefydlog i weithwyr ar ôl cyfnod tri mis o gyflogaeth, ac i nodi'n glir yr amser teithio a'r amser gofal. Rydym wedi ymestyn y gofrestr i weithwyr gofal cartref ar sail wirfoddol o 2018 ymlaen, cyn cyflwyno cofrestriadau gorfodol o 2020. Mae hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn cael ei broffesiynoli fel y gallwn ni gael gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n meddu ar gymwysterau priodol i ddarparu gofal o ansawdd i'r rhai hynny sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiadau yn ninas ranbarth Abertawe, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r ddinas ranbarth, a chadarnhad pellach o'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gynharach yr wythnos hon: y byddai'r arian ar gael ar gyfer y ddinas-ranbarth o fewn y gyllideb.
Yr ail gwestiwn yr hoffwn i ei ofyn yw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y broses o gyflwyno'r credyd cynhwysol yng Nghymru, a'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau â Llywodraeth San Steffan ynghylch argaeledd ffurflenni cais a gwybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn hynny. Bydd yr Aelod eisoes yn ymwybodol bod llawer o waith ar fargen dinas ranbarth Bae Abertawe ar y gweill i droi prosiectau arfaethedig yn achosion busnes llawn ac i gwblhau'r trefniadau llywodraethu. Mae hyn yn digwydd wrth ddisgwyl y bydd cyllido ar gyfer y fargen ddinesig yn dechrau yn 2018-19. Rydym yn gwybod bod cynnydd da'n cael ei wneud. Y garreg filltir nesaf fydd sefydlu cabinet ar y cyd a chyflwyniad ffurfiol yr achosion busnes manwl.
Mae dinas ranbarth Bae Abertawe hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddatblygu cynllun gweithredu, monitro a gwerthuso cytûn sy'n nodi'r dull arfaethedig o werthuso effaith y ddarpariaeth. Mae hon yn fargen £1.3 biliwn a ategir gan £125.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, £115.6 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU, £396 miliwn o gyllid arall y sector cyhoeddus, a £637 miliwn o'r sector preifat. Gwn ei fod yn rhannu fy uchelgais ar gyfer dinas ranbarth Abertawe, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gwireddu cyn gynted â phosibl.
Andrew—
Mae'n ddrwg gennyf, ar yr un arall yma—gofynnwyd dau gwestiwn i mi, Llywydd.
Ymddiheuriadau.
Ar y datganiad ar gredyd cynhwysol, gwyddom fod amserlen wedi ei diwygio ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol yn dilyn y newidiadau yng nghyllideb yr Hydref ar gyfer y DU, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n cadarnhau y bydd pob canolfan byd gwaith, ac eithrio Caerdydd, yn gweithredu'r broses gyflwyno credyd cynhwysol ychydig fisoedd yn hwyrach. Rydym yn croesawu'n fawr yr oedi hwn yn y broses gyflwyno. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i'w weithredu ers peth amser. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth yn gofyn am fwy o fanylion mewn cysylltiad â newidiadau yng nghyllideb yr Hydref ar gyfer y DU, yn enwedig o ran hawlwyr cyffredinol sy'n derbyn costau tai, i ddeall sut y bydd trefniadau cymorth newydd yn gweithio ar gyfer hawlwyr wrth iddyn nhw symud tuag at gredyd cymhwysol. Mae'r Gweinidog hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd yr adran Gwaith a Phensiynau yn gallu cynnig cymorth ariannol i hawlwyr y credyd cynhwysol dros gyfnod y Nadolig gan fy mod i'n credu, Llywydd, fod nifer fawr ohonom ni yn y Siambr wedi bod yn bryderus iawn am yr adroddiadau y gallai hawlwyr y credyd cynhwysol fod dan anfantais ddifrifol iawn, yn enwedig os cân nhw eu talu yn wythnosol.
Rydym ni hefyd yn deall bod ceisiadau ar gyfer credyd cynhwysol yn Gymraeg yn bosibl ar hyn o bryd dim ond drwy wasanaeth ffôn am ddim a ddarperir gan ganolfan gwasanaethau yr adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ddiweddar eu bod yn gweithio tuag at gael ceisiadau am gredyd cynhwysol yn Gymraeg ar-lein wrth iddyn nhw symud at y cam datblygu terfynol.
Felly, rwy'n credu ein bod yn falch, yn gyffredinol, eu bod nhw wedi cydnabod y problemau sy'n bodoli o ran credyd cynhwysol. Bydden ni wedi hoffi eu gweld nhw'n cydnabod hyn yn gynt. Bydden ni hefyd yn hoffi eu gweld nhw'n cydnabod bod problem wirioneddol gyda phobl yn gyffredinol yn gweld gostyngiad yn eu hincwm o ganlyniad i gyflwyno'r credyd cynhwysol. Ac er ein bod yn croesawu'r ffaith bod y cyfnod aros o saith diwrnod ar gyfer y taliad cyntaf o gredyd cynhwysol wedi'i ddiddymu, rydym yn dal i bryderu bod hawlwyr y credyd cynhwysol yn aros am fwy na chwe wythnos am eu taliad cyntaf.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych chi, os gwelwch yn dda? Un o'r rhain yw datganiad gan y Gweinidog dros yr economi a thrafnidiaeth ar y gorwariant posibl a nodwyd yn ei ddatganiad ysgrifenedig ddoe o fwy na £50 miliwn ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, ar y rhan y maen nhw'n ei wella ar hyn o bryd ar y pen dwyreiniol, a goblygiadau y gorwariant hwnnw ar ei gyllideb ar gyfer prosiectau ledled gweddill Cymru. Mae £50 miliwn a throsodd yn wariant cyfalaf sylweddol, ac rwy'n cymryd na chyllidwyd ar ei gyfer, ond fe fydd yna oblygiadau o ran y gyllideb honno. Ac mae'n bwysig bod gennym ni, fel Aelodau Cynulliad, atebion i hynny pan fyddwn ni dan bwysau yn ein cymunedau ni i ddweud beth fydd effaith debygol hynny. Mewn byd delfrydol, da o beth fyddai inni gael datganiad llafar, os oes modd, oherwydd, hyd yma, ymdriniwyd â'r ymchwiliad, a'r gorwariant, a gomisiynwyd gan y Gweinidog drwy ddatganiadau ysgrifenedig ac ni bu cyfle i holi'r Gweinidog ar lawr y cyfarfod llawn yma. Felly gobeithio y byddwch yn gofyn am ddatganiad llafar ar ran yr Aelodau gan y Gweinidog cyn toriad y Nadolig.
Yn ail, yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddoe—gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet ac aelodau eraill o'r Llywodraeth yno yn gweld y gorau o amaethyddiaeth Cymru a'r gorau o'r economi wledig. Sylw a wneir dro ar ôl tro—ac, a bod yn deg, gwn fod y Gweinidog wedi gwneud cynnydd ar hyn—yw ynghylch biwrocratiaeth yn y sector amaethyddol. Ond ceir y teimlad, ac mewn rhai achosion mae hynny'n realiti, fod cryn dipyn o hynny'n digwydd mewn rhai cynlluniau a gefnogir gan y Llywodraeth. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pa fesurau sydd wedi cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth dros yr 16 mis diwethaf ers yr etholiad i geisio chwalu rhai o'r mythau hynny sy'n bodoli, ac mewn gwirionedd sut mae cael trefn ar y fiwrocratiaeth hon sy'n atal ceisiadau rhag cael eu cyflwyno ac sy'n ei gwneud yn hunllef fiwrocrataidd i rai ymgeiswyr? Gwn nad yw hynny'n fwriad gan y cynlluniau, ond, eto i gyd, mae'r teimlad hwn yn bodoli mewn gwirionedd mewn rhai achosion ac mae pobl yn teimlo mai peth beichus iawn yw gwneud cais am rai o'r grantiau hyn.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna. O ran yr A465, ar sawl achlysur—rydym wedi cael cwestiynau amserol ac mae cyfleoedd eraill wedi bod i'r Aelodau holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch materion sy'n codi yma. Trafodwyd hyn yn y Siambr hon yn ddiweddar iawn ac wrth gwrs bydd cyfleoedd pellach yn y cwestiynau ac ati i'w drafod yn y dyfodol. Felly nid wyf yn gweld bod angen datganiad arnom mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr, ar ddiwedd y cynllun, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi diweddariad i'r Cynulliad yn unol â hynny.
O ran trefniadau'r ffair aeaf, rwy'n croesawu'n fawr iawn ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet â'r Ffair Aeaf, credaf ei bod wedi eu mwynhau'n fawr, ac maen nhw yn gyfle ardderchog i arddangos cynnyrch o Gymru sydd yn wirioneddol ardderchog, ac mae nifer ohonom ni wedi achub ar y cyfle i wneud hynny hefyd. Rwyf i wedi gwneud ychydig o siopa Nadolig yno fy hunan, rwy'n falch iawn o gael dweud hynny wrth y tŷ. Nid wyf i'n credu ein bod ni wedi cael unrhyw gwynion, er hynny, o ran y fiwrocratiaeth y mae Andrew R.T. Davies yn sôn amdani. Mae'r Gweinidog yn ysgwyd ei phen yn arwydd i mi nad oes unrhyw gwynion o'r fath wedi bod. Efallai pe bai ef yn rhoi rhywfaint o fanylion, y gallai'r Gweinidog edrych arnyn nhw.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, neu yn wir y Prif Weinidog, mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan uwch Is-Lywydd Airbus UK Katherine Bennett i Aelodau Seneddol yr wythnos diwethaf y gallai Brexit ychwanegu costau sylweddol a biwrocratiaeth i'w weithrediad yn y DU? Mae hi wedi rhybuddio y gallai Brexit mewn gwirionedd bylu mantais gystadleuol y ffatri ym Mrychdyn, sydd fel y gwyddom ni yn gyflogwr allweddol o 6,000 o weithwyr yn y Gogledd-ddwyrain. O gofio bod popeth sy'n cael ei fewnforio gan Airbus o'r DU yn cael ei fewnforio i'r UE, a yw'r Llywodraeth Lafur hon yn cytuno â Ms Bennett mai ein lle ni yw o fewn y farchnad sengl, o fewn yr Undeb Tollau Tramor ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop, fel y gallwn gadw draw adrannau eraill o'r cwmni, efallai mewn rhannau eraill o'r byd, sydd, yn ei geiriau hi, yn curo ar y drws o ganlyniad i'r sefyllfa y cawn ni ein hunain ynddi yn y wlad hon?
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad arall? A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg? Mi gawsom ni ddatganiad gan y cyn-Weinidog ddechrau Hydref—mae yna bron i ddau fis, wrth gwrs, ers hynny. Mi wnaeth e dderbyn pob un o'r argymhellion a wnaethpwyd yn yr adolygiad brys a gynhaliwyd gan Aled Roberts. Nawr, ers hynny nid ydym wedi clywed dim byd pellach. Ac rydw i wedi cael awdurdodau addysg, cynghorwyr, addysgwyr, cyrff a mudiadau yn cysylltu â fi yn gofyn beth yw y sefyllfa, ac yn poeni, efallai, fod yna berig ein bod ni'n colli momentwm ar y mater pwysig iawn yma. Felly, mi fyddwn i yn ddiolchgar am ddatganiad, hyd yn oed petai hi ddim ond yn ategu yr ymrwymiad i weithredu, ond hefyd, efallai, yn cynnwys amserlen ar gyfer y gweithredu hynny, fel bod modd inni fynd i'r afael â'r gwendidau sydd yn y cynlluniau strategol yma unwaith ac am byth.
Diolch i'r ddau ohonoch chi am y cwestiynau pwysig iawn hynny. O ran y Brexit 'ma, rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder i fusnesau Cymru y mae ei angen ar frys arnyn nhw. Ac rydym yn mynnu'n wir nad ydyn nhw'n colli golwg ar anghenion busnesau, gweithwyr a darpar fuddsoddwyr yn eu trafodaethau ar Brexit. Rydym yn rhannu pryder yr Aelod ynghylch y dull presennol o negodi. Bu nifer fawr o gyfleoedd i drafod hyn yn y Siambr, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at drafod y Bil wrth iddo gael ei gyflwyno hefyd. Ond yn sicr rydym yn rhannu eich pryderon.
O ran materion yr iaith Gymraeg a godir gan yr Aelod, roedd y Gweinidog yma yn gwrando'n astud iawn ar ei sylwadau, ac rwy'n siŵr wrth iddi ddod i delerau â'i briff newydd, y bydd hi'n rhoi ystyriaeth iddyn nhw.
Arweinydd y Tŷ, yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos hon byddaf yn bresennol mewn digwyddiad gan Fforwm Moduro Cymru, lle byddwn yn cwrdd ag Aston Martin. Byddan nhw'n fy niweddaru i ar y cynnydd cadarnhaol ar Gam 1 y gwaith newydd yn Sain Tathan.
A wnewch chi ddatgan o'r newydd gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r prosiect, o ystyried y pryderon a godwyd gan Aston Martin yn ddiweddar iawn am ganlyniadau trychinebus Brexit 'dim cytundeb'? Ac a wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth y DU i gael cytundeb Brexit sy'n llesol i Sain Tathan a gweddill y wlad?
Gwnaf yn hollol. Rydym yn cydweithio'n agos iawn ag Aston Martin, sy'n bwriadu adeiladu eu cyfleustod chwaraeon newydd yn Sain Tathan. Llywydd, ni allaf ymwrthod rhag cymryd y cyfle i ddweud imi gael y cyfle i ymweld ag Aston Martin yn ffatri Gaydon, a chyfle i edrych ar rai o'r dyluniadau newydd sydd yno—ac maen nhw'n gyffrous iawn. Fe wnes i gyfarfod hefyd â nifer o brentisiaid o Gymru yn gweithio yn y ffatri honno, ac mae eu hymrwymiad yn rhywbeth sydd yn wir yn werth ei weld.
Mae'r prosiect yn parhau yn sicr ar y trywydd iawn, ac mae'r cwmni wedi nodi'n gyson ei ymrwymiad i'r DU. Ond mae wedi ceisio eglurder ar Brexit gan Lywodraeth y DU er mwyn iddo allu cynllunio'n briodol. Ac fel y dywedais yn fy ateb i'r Aelod blaenorol hefyd, rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU, ochr yn ochr ag Aston Martin, i ddod i ddealltwriaeth bod unrhyw fargen yn cynrychioli perygl gwirioneddol i fusnesau yma yng Nghymru. Mae angen eglurder arnom ar fyrder o ran ein sefyllfa ar ôl Brexit ac, yn wir, mae angen iddyn nhw gymryd i ystyriaeth anghenion busnesau, gweithwyr a darpar fuddsoddwyr yn eu trafodaethau ar Brexit. Rwy'n ofni nad ydym yn obeithiol iawn ar hyn o bryd bod hynny'n digwydd.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar sbwriel a chasgliadau bagiau sbwriel—pethau sydd yn aml yn cael eu codi yma, ond nid yn y rhan hon o Gymru yr wyf yn mynd i gyfeirio ati. Codwyd pryderon gyda mi yn Sir y Fflint, o Kinnerton Uchaf i Dreffynnon, nad yw pobl mwyach yn cael gadael unrhyw fagiau bin du ychwanegol ochr yn ochr â bagiau bin du a ddarparwyd gan y cyngor. Dywedodd un etholwr wrthyf ei bod hi wedi ffonio Neuadd y Sir a dywedwyd wrthi y penderfynwyd ar hynny er mwyn gorfodi pobl i ailgylchu, ond ychwanegodd:
Mae gen i a llawer un arall sbwriel na ellir ei ailgylchu y mae'n rhaid cael gwared arno o bryd i'w gilydd, a dyma pryd mae polisi'r cyngor yn chwalu ac yn arwain at dipio anghyfreithlon.
Dywedodd fod y polisi gan y Cyngor i godi tâl o £50 am gasglu un eitem, yn ei geiriau hi, yn warthus, ac nid yw'n gallu deall o gwbl pam mae'n well gan y Cyngor anfon lorïau unigol i ymdrin â thipio anghyfreithlon yn hytrach na chasglu popeth ar yr un pryd o'r palmant. Daeth hi i'r casgliad hwn:
Rwy'n ysgrifennu atoch chi i'ch annog i godi'r mater hwn—un o'r pethau hynny sy'n effeithio'n wirioneddol ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.
Ac felly rwy'n ei godi yn y Siambr gyda chi heddiw.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar gymorth i wŷr sy'n dioddef o gamdriniaeth ar yr aelwyd? Efallai eich bod wedi gweld y sylw a roddwyd yn y wasg i loches dynion yn Sir y Fflint yr wythnos diwethaf—yr uned diogelwch rhag cam-drin ar yr aelwyd yn Shotton. Wel, nid yw'r uned wedi ei lleoli yno mewn gwirionedd ond yn cael ei chynnal gan—. Ac roedd yn adrodd am ddyn a oedd wedi dianc rhag ei wraig a oedd yn ymosod arno ac wedi cael ei symud i loches, gan ddweud ei fod wedi mynd i'r fath ystâd fel ei fod yn rhy ofnus i adael y tŷ. Ymwelais—neu fe ddylwn i ddweud ymwelais eto—â'r uned diogelwch rhag cam-drin ar y aelwyd ddydd Gwener diwethaf, ar eu cais nhw. Roedden nhw eto yn pwysleisio ac yn cydnabod y dystiolaeth sy'n dangos bod menywod a merched yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan drais, a bod hon yn drosedd yn erbyn hawliau dynol ac yn achos ac yn ganlyniad anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ond maen nhw hefyd wedi dewis darparu gwasanaeth niwtral o ran rhyw, oherwydd eu bod yn dweud bod cam-drin ar yr aelwyd a thrais rhywiol yn effeithio ar ddynion a menywod. Dywedasant wrthyf fod y lloches ar gyfer dynion wedi cael pum atgyfeiriad ar y diwrnod cyntaf ar gyfer dim ond dau le, ac mae wedi bod yn llawn ers hynny, er bod 30 o atgyfeiriadau wedi eu gwrthod, yn rhannol oherwydd ei bod yn llawn, yn rhannol oherwydd asesiadau risg; mae rhestrau aros yn eu lle ar hyn o bryd; maent yn cael atgyfeiriadau ledled Cymru, a ledled y DU, ac, er enghraifft, mae rhywun sy'n preswylio gyda nhw ar hyn o bryd wedi dod o Sir Conwy, nad yw'n darparu unrhyw welyau ar gyfer dynion, ond yn eu hatgyfeirio i Sir y Fflint am nad oes unman arall i fynd iddo. Deallaf mai hon yw'r unig loches i ddynion yn y Gogledd, sydd yn cael ei hariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor, gan gefnogi pobl hyd fis Mawrth 2018, gyda chyllid ar gyfer dioddefwyr sy'n fenywod hyd 2019. A gaf i alw am ddatganiad yn unol â hynny?
Diolch ichi am y cwestiynau pwysig iawn hynny. O ran casglu gwastraff domestig, mater i awdurdodau lleol unigol yn sicr yw penderfynu sut i ddarparu gwasanaethau casglu yn y modd gorau i'w trigolion. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau casglu wythnosol cynhwysfawr ar gyfer deunydd ailgylchu sych a gwastraff bwyd, gan ystyried mai ychydig iawn sydd gan y trigolion sy'n gwneud defnydd llawn o'r gwasanaeth ailgylchu wythnosol i'w roi yn y biniau neu fagiau gwastraff gweddillol. Yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, bydd yr Aelod wedi clywed ateb lle cafwyd canmoliaeth i Gymru sydd â chyfradd eithriadol dda o ran ailgylchu, ac yn gwbl briodol felly, Byddwn i'n dweud wrth yr Aelod, os yw ei awdurdod lleol ef yn cael trafferth â hyn, y dylen nhw ofyn am gymorth gan awdurdodau lleol eraill sydd ag ymarfer da iawn yn y maes hwn.
O ran cam-drin gwŷr ar yr aelwyd, fe welais i'r rhaglen yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ati, ac mae'n fater difrifol iawn. Ac, wrth gwrs, mae angen inni weithio tuag at gael Cymru'n wlad lle mae trais yn erbyn unrhyw un mewn unrhyw sefyllfa yn gwbl annerbyniol. Mae ein Ddeddf arloesol yn ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched, sydd yn broblem ddifrifol iawn—lleddir dwy fenyw yr wythnos o hyd o ganlyniad i drais ar sail eu rhyw—ond, wrth gwrs, mae angen inni wneud yn siŵr bod gwasanaethau yn bodoli ar gyfer holl ddioddefwyr cam-drin ar yr aelwyd lle bynnag y bo hynny'n codi.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar effaith y gyllideb diweddar ar ein cymunedau a'r toriadau sydd ynghlwm i wariant yr heddlu a niferoedd yr heddlu yng Nghymru? Rydym yn gwybod eisoes, ers 2010, fod toriad o £2.3 biliwn wedi bod gan Lywodraeth y DU mewn plismona, gyda cholli 20,000 o swyddogion, a gwyddom, yn y gyllideb bresennol hon, fod £800 miliwn pellach o doriadau mewn termau real i blismona, gyda'r posibilrwydd o golli 15,000 o swyddogion yr heddlu ledled y DU. Bydd hyn yn dod â lefelau'r heddlu i lawr i lefelau'r 1970au, a bydd gan hyn oblygiadau sylweddol i ddiogelwch ac i'n cymunedau. Mae'n ymddangos i mi fod hwn yn fater pwysig y dylid cael datganiad gan y Llywodraeth arno.
Diolch ichi am y pwynt pwysig iawn yna. Bydd Aelodau yn amlwg yn ymwybodol iawn fod y rhan fwyaf o agweddau ar bolisi plismona heb eu datganoli, a phennir cynlluniau gwariant cyffredinol ar gyfer yr heddlu yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Gartref o hyd. Serch hynny, rydym yn parhau i fuddsoddi ym maes diogelwch cymunedol drwy ein cyllid i gael 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o hyn hefyd, ac rydym yn amddiffyn y gyllideb ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ar gyfer 2018-19. Clustnodwyd £16.8 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn parhau gyda'r ymrwymiad hwn.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru, a fydd hefyd yn gallu gwneud cais am ffynonellau eraill o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Maen nhw yn gwneud gwaith da iawn o ran cydweithio ac ati, ac rydym yn caniatáu'r rhyddid iddyn nhw i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar gynnydd yn y dreth gyngor, er enghraifft, gyda chyllid. Ond rwy'n rhannu'n llwyr yr hollol anawsterau sydd gan yr Aelod gyda'r gyllideb fel y'i cyhoeddwyd. Byddwn yn aros i weld y fformiwla ei hun, ond byddaf yn sicr yn rhannu ei bryderon gyda'r Gweinidog dros wasanaethau cyhoeddus, a fydd, rwy'n siŵr, yn eu cymryd i ystyriaeth wrth gynllunio gwaith y flwyddyn.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y diffyg cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, ac anawsterau dysgu hefyd? Mae Mencap Cymru wedi nodi'n ddiweddar fod rhwystrau enfawr yn wynebu pobl ag anawsterau dysgu sydd yn dymuno gweithio. Fe aethon nhw ymlaen i ddweud bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn isel ofnadwy, a bod angen addysgu llawer o gyflogwyr am fanteision cyflogi rhywun ag anabledd dysgu. A gaf i ofyn am ddatganiad ar beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymestyn cyfleoedd cyflogaeth yn y gweithlu hwn na fanteisiwyd arno i raddau helaeth?
Yr ail ddatganiad sydd ei angen arnaf gan y Gweinidog fyddai fy mod wedi ymweld ag un o sefydliadau'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i anifeiliaid yng Nghasnewydd. Mae'r gwirfoddolwyr a'r swyddogion yn gwneud gwaith ardderchog, ond cefais fy nychryn yn fawr pan glywais fod rhai o'r anifeiliaid—cŵn oedden nhw—wedi cael eu trin yn greulon iawn gan bobl. Ac nid oes rhestr na chofrestr o'r troseddwyr yma yn y wlad hon. Gall pobl ladd un anifail ac yna mynd allan i brynu un arall, neu gael un arall, o ardaloedd datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig. Felly, dylem fod yn gwneud rhywbeth o ddifrif, drwy gyfrwng ein Siambr barchus, anrhydeddus, fel bod pobl yn trin anifeiliaid â pharch yng Nghymru. Mae'r RSPCA yn gwneud gwaith rhagorol, a dylem eu cefnogi nhw. Diolch.
O ran cwestiwn cyntaf yr Aelod, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gyflogadwyedd yn eistedd y tu ôl imi, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ceisio sicrhau y bydd Cymru yn genedl hyderus a chyfeillgar o ran anableddau. Bydd hi'n cyflwyno datganiad ar y cynllun cyflogadwyedd, ac rwy'n sicr y bydd yn cynnwys nifer o faterion yn ymwneud â chyflogwyr a'u hyder o ran anabledd. Pan oedd y portffolio hwnnw gennyf i, fe wnes i doreth o waith i wneud yn siŵr bod cyflogwyr yng Nghymru yn deall beth mae hyder o ran anabledd yn ei olygu, ac yn deall yr holl nodweddion y gallai llawer o bobl eu cyflwyno i'r cyflogwr, dim ond i bobl edrych y tu hwnt i anableddau pobl a chanolbwyntio ar eu sgiliau. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cymryd hynny i ystyriaeth pan fydd yn cyflwyno ei datganiad ar gyflogadwyedd.
O ran yr RSPCA, nid wyf yn anghytuno o gwbl â'r hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Roedd yn ofid mawr i weld y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ynghylch anifeiliaid, ac a ydyn nhw'n dioddef creulondeb neu beidio. Byddwn yn gofyn iddo wneud yn siŵr bod ei Lywodraeth ef ei hun, yn Lloegr, yn sicrhau ei bod yn cyflwyno'r mesurau cywir, er mwyn sicrhau nad yw creaduriaid yn cael eu trin yn greulon, a'u bod yn cael eu trin yn iawn.
Arweinydd y Tŷ, tybed a ellid cael dadl yn amser y Llywodraeth am yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu bwydo ar y fron yng Nghymru. Y DU sydd â'r cyfraddau isaf o fwydo ar y fron yn y byd, ac mae hynny'n rhoi Cymru, mae arnaf ofn, mewn sefyllfa wael iawn. Gwyddom fod 71 y cant o famau yn dechrau bwydo ar y fron, o'i gymharu ag 83 y cant yn Lloegr. Ond mae'n dorcalonnus i wybod mai dim ond 17 y cant sydd yn dal i fwydo ar y fron chwe wythnos yn unig ar ôl yr enedigaeth. Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â'r cymorth proffesiynol yr ydym yn ei roi i famau, y gwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ei ystyried, i geisio gwella cyfraddau bwydo ar y fron, ond mae hefyd yn ymwneud ag agweddau cymdeithas tuag at fwydo ar y fron, sydd yn gyfrifoldeb inni oll.
Oherwydd clywsom yr wythnos ddiwethaf gan Dr Aimee Grant o Brifysgol Caerdydd am yr ymchwil a wnaed ganddi mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng Nghasnewydd, i'r agweddau tuag at bobl yn bwydo ar y fron yn gyhoeddus. Ac mae hwn yn fater cwbl ganolog, oherwydd nid yw menywod yn mynd i gyfnod o encilio pan fydd babanod ganddyn nhw—mae angen iddyn nhw fod allan ac o gwmpas y lle, wrth eu gorchwylion beunyddiol. Felly, pan ddarllenais fod pobl yn dweud mai
y jôc safonol yn fy nghartref i, pe byddwn yn bwydo ar y fron yn Starbucks byddai pawb yn gadael y caffi... a byddai pob menyw ddosbarth canol, dros 60 oed, yn cael ei harswydo.
Mae hyn yn gwbl warthus. Mae bronnau yno er mwyn bwydo babanod, nid er mwyn gwerthu papurau newydd. A dywedodd menyw arall ei bod bob amser yn teimlo bod yn rhaid iddi guddio'r weithred o fwydo ar y fron yn gyhoeddus, a byddai'n teimlo ei bod yn dawnsio ar bolyn wrth fwydo ar y fron. Mae hyn yn gwbl sarhaus, a rhaid i bob un ohonom wneud rhywbeth am hyn, oherwydd yr effaith ddinistriol ar y baban ac ar y fam yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae'n cyfrannu at ein cyfraddau gordewdra, diabetes a chanser, ac mae'n rhaid inni wneud rhywbeth amdano. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad, a dadl ynghylch sut y gallwn ni gyda'n gilydd wneud rhywbeth am hyn.
Diolch i'r Aelod am godi'r pwnc pwysig iawn hwn. Rhannaf ei brwdfrydedd, ar ôl profi rhywbeth tebyg iawn pan oeddwn i'n bwydo fy mhlant fy hun ar y fron. Ac rwy'n arswydo, flynyddoedd lawer wedi hynny, nad yw'r sefyllfa wedi gwella llawer.
Gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar i swyddogion ac i Goleg Brenhinol y Bydwragedd hwysluso grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar ffyrdd o gynyddu'r niferoedd, a rhoi cymorth i deuluoedd. Mae gennym ni agenda dda iawn ar gyfer cynyddu'r gyfradd o fwydo ar y fron yng Nghymru. Mae'n dal i fod yn flaenoriaeth inni, ac rydym wedi gwneud nifer o bethau, gan gynnwys cynnal adolygiad 'Trawsnewid Gwella Iechyd yng Nghymru' o'r holl raglenni gwella iechyd, gan gynnwys rhaglen bwydo ar y fron. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad pan fydd y grŵp gorchwyl a gorffen wedi cyflwyno ei adroddiad, fel y gall pob un ohonom gael syniad gwell o'n sefyllfa ni ar hyn o bryd ac yna sut y gellir symud y gwasanaeth yn ei flaen i'r dyfodol.
Arweinydd y Tŷ, rwy'n siŵr eich bod wedi eich synnu, fel pawb yn y Siambr hon, gan y newyddion ddoe am fachgen 17 oed o Rhondda Cynon Taf a oedd wedi cael ei radicaleiddio ar-lein ac a aeth yn ei flaen i gynllunio ymosodiad terfysgol ar gyngerdd yma yng Nghaerdydd ym mis Mehefin. Cawsom ddadl yn y Senedd ym mis Mai eleni, a chyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, bryd hynny, fod cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol yn mynd i gael ei ddatblygu a'i weithredu. Byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am weithrediad y cynllun hwnnw, er mwyn sicrhau y gallwn edrych ar y cynnydd i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn cael eu radicaleiddio yn y ffordd y cafodd y bachgen 17 mlwydd oed hwn. Rwyf i o'r farn bod hwn yn fater sy'n gofyn am sylw ar fyrder, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth sicrhau amser ar gyfer hynny.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud wrthyf ei bod yn credu y disgwylir datganiad cyn bo hir. Mewn gwirionedd, byddaf innau hefyd yn ateb cwestiynau gan wisgo het fy mhortffolio i yr wythnos nesaf, felly gallwn ymdrin â pheth ohono yno hefyd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn a bod hwn yn faes eithriadol o bwysig, a chefais innau fy syfrdanu gan y rhaglen a welais i hefyd.
A gaf innau fy nghysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaeth Jenny Rathbone? Roeddwn yn falch o gael mynd i'r cyfarfod hwn yr wythnos diwethaf gydag academyddion Prifysgol Caerdydd a chefais fy synnu'n fawr gan yr hanesion glywsom. Os oes modd inni edrych ar ein sefyllfa o ran bwydo ar y fron, byddai hynny o gymorth mawr.
Ddoe, cyfarfu'r grŵp trawsbleidiol Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Benfro. Cafodd adborth gan aelodau o'r gymuned yno am y materion yr oedden nhw'n pryderu yn eu cylch. Un o'r pethau a godwyd oedd yr angen am adborth ar yr asesiadau o anghenion lletya a gynhaliwyd yn sgil—yn ystod y Cynulliad diwethaf—rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu nifer digonol o leiniau a safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Felly, tybed, arweinydd y Tŷ, gan fy mod yn credu mai un o'ch cyfrifoldebau chi yw hyn, a gawn ni ddatganiad yn edrych ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ledled Cymru o ran creu rhagor o leiniau lle mae eu hangen nhw, a'r hyn y mae'r asesiadau o anghenion lletya wedi ei arwain ato mewn gwirionedd.
Ydw, rwy'n croesawu'r ddeubeth hyn. O ran y sylwadau ar fwydo ar y fron, fe ddywedaf yn ychwanegol i'r sylwadau a wnes i Jenny Rathbone, fod gennym ni nifer o enghreifftiau o hybu a normaleiddio bwydo ar y fron ar draws holl raglenni gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, raglen lleoliadau'r GIG, lle bydd byrddau iechyd yn parhau i gael eu cefnogi i gyflawni a chynnal achrediad Cyfeillgar i Fabanod UNICEF UK. Ac mae cerdyn adroddiad bwydo ar y fron yn cael ei ddatblygu i fesur llwyddiant, rhannu arfer da a nodi'r meysydd sydd angen cymorth ychwanegol. Byddaf yn edrych yn fanwl ar hyn yn fy mhortffolio cydraddoldeb newydd, gan fy mod o'r farn bod yma broblem wirioneddol o ran sut y caiff menywod eu hystyried o safbwynt eu bronnau a bwydo ar y fron. Felly, byddaf yn sicr yn gwneud hynny ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet.
O ran y materion Sipsiwn/Teithwyr a gododd yr aelod—ac y mae hi wedi eu codi byth ers i mi ei hadnabod hi, sef gydol fy oes—byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Byddaf yn ceisio cael cyfarfod gyda'r Gweinidog Tai cyn gynted ag y gallaf ac rwy'n hapus iawn i ddweud y byddaf wedyn yn cyflwyno datganiad ar ein sefyllfa bresennol a'r hyn yr ydym yn cynnig ei wneud yn y dyfodol, cyn gynted ag y byddaf wedi gallu cynnal y cyfarfodydd hynny.
Mae hyn, mewn gwirionedd, yn dilyn yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood. Roeddwn yn awyddus i gael datganiad am gam-drin ar yr aelwyd sy'n effeithio ar bawb, yn wragedd ac yn ddynion. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod a merched yn cynnwys yr holl ymosodiadau a phob achos o gam-drin dynion yn y ffigurau hynny, ond nid oes sôn am y geiriau 'dyn/gŵr'. Felly, nid yr hyn sy'n cael ei ddatgan yw'r ffigurau mewn gwirionedd. Tybed pryd fydd y Llywodraeth mewn gwirionedd yn dechrau cydnabod—ac nid oedd hynny yn amlwg yn eich datganiad yn gynharach—bod cam-drin ar yr aelwyd yn broblem ddifrifol sy'n effeithio ar lawer o ddynion. Mae un o bob tri dioddefwr yn wrywaidd, ac yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol dim ond 10 y cant o ddynion sy'n adrodd am eu cam-drin. Felly, o ran y dynion sy'n cael eu llofruddio gan bartneriaid a chyn-bartneriaid, ceir un bob 11 diwrnod yn fras, ac nid yw hynny'n lleihau'r ochr arall i'r hyn y buoch chi'n siarad amdano'n gynharach. Ond mae angen cydnabod yn yr adeilad hwn ac ymhlith pawb sydd yma fod dynion hefyd yn dioddef o gam-drin ar yr aelwyd ac mae angen sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer pobl, ar gyfer pawb.
Y cwestiwn olaf. Ni fyddwch yn gallu rhoi ateb i mi nawr, ond byddwn yn ei werthfawrogi rywbryd yn y dyfodol agos. Faint o welyau sydd ar gael mewn llochesi i ddynion ym mhob sir yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Mae'r Aelod yn codi hyn yn gyson, ac, fel y dywedais mewn ymateb i Mark Isherwood, rydym yn gweithio, wrth gwrs, tuag at sefyllfa lle nad oes neb yng Nghymru yn byw gan ofni trais neu unrhyw beth arall. Ceir mater enfawr o ddiwylliant ynghylch pa mor dderbyniol yw trais ar yr aelwyd. Byddaf, wrth gwrs, yn edrych ar drais yn unrhyw fangre yn erbyn unrhyw un yn rhinwedd fy swydd newydd, ond mae'n bwysig cofio bod dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd oherwydd trais ar yr aelwyd, ac mae angen inni sicrhau bod y blaenoriaethau sydd gennym yn gymwys.
Arweinydd y Tŷ, rydym ni wedi gweld heddiw gyhoeddiad y pumed adroddiad ar gyflwr y genedl gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol, nad ydyw'n ddifyr ei ddarllen mewn rhai mannau mewn gwirionedd, gan ei fod yn tynnu sylw at y ffaith nad yw llymder yn datrys y broblem; ei fod yn creu mwy o broblemau fyth i lawer o gymunedau difreintiedig. Nawr, mae'r rhan fwyaf o'r cymunedau difreintiedig yn wynebu heriau o'r herwydd, ac mae'r pobl ifanc yn y cymunedau hynny yn wynebu'r heriau hynny hefyd. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth i ddweud sut byddwn ni'n gweithio nawr tuag at fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau hynny i sicrhau bod gan ein pobl ifanc yn y cymunedau difreintiedig gyfle rhagorach yn eu bywyd?
Rwy'n croesawu cwestiwn yr Aelod yn fawr iawn. Mae gwaith mawr ledled y Llywodraeth ynghylch symudedd cymdeithasol ar y gweill ar hyn o bryd. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, y fi yw cadeirydd y bwrdd gwaith teg, sydd yn edrych i raddau helaeth iawn ar waith teg a sut y gallwn gynyddu symudedd cymdeithasol. A'm het flaenorol am fy mhen, cefais nifer o gyfarfodydd gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol, a byddaf yn cynnwys y sylwadau a wnaeth ef o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni gyda'r bwrdd gwaith teg a chan weithio ledled y Llywodraeth gyda chydweithwyr eraill yn y Cabinet i fynd i'r afael â rhai o'r materion a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad hwnnw, yr wy'n credu eu bod yn peri pryder gwirioneddol i bob un ohonom ni.
Dau beth, os caf i, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf i gyd, nid oedd amser i'w gael yn gynharach i mi ofyn fy nghwestiwn atodol i gwestiwn Neil Hamilton i'r Prif Weinidog, er gwaethaf crynoder yr ateb a gafodd i ddechrau, ar daliadau am barcio yng Nghymru. Ond a gaf i gyd-fynd â sylwadau Neil Hamilton ei bod yn bwysig bod cynghorau yn cael eu hannog a chanllawiau yn cael eu rhoi iddyn nhw i gadw'r ffioedd hynny cyn ised â phosibl a gwneud yn siŵr nad yw pobl sy'n teithio i ganol ein trefi ledled Cymru yn gwario mwy na'r hyn sy'n ofynnol gan y polisïau yn yr ardaloedd hynny? Yn Sir Fynwy, ceir cyfleusterau i aros dros amser ar lawer o'r peiriannau parcio, ac mae hynny'n golygu nad yw pobl sy'n aros dros eu hamser yn cael dirwy yn y lle cyntaf; fe allan nhw dalu am eu tocyn ar y diwedd. Felly, a all y Cynulliad roi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i gadw'r ffioedd at yr hyn sy'n angenrheidiol yn yr ardaloedd hynny, ac efallai y cawn ni ddatganiad am hynny?
Yn ail, ar y penwythnos, llithrodd un o'm hetholwragedd yn fy mhentref i, mewn gwirionedd, yn y tywydd oer yr ydym ni'n ei gael ar hyn o bryd a chafodd anaf i'w phen. Yn ffodus, roedd ffrindiau a chymdogion wrth law i'w chefnogi hi, ond aeth awr heibio cyn i'r ymatebwr cyntaf allu bod yn y fan. Roedd yr ambiwlans a ddaeth ati hi wedyn yno ryw 10, 15 munud ar ôl hynny, rwy'n meddwl. Felly, yn benodol o ran yr amseroedd ar gyfer ymatebwyr cyntaf, a gawn ni ddiweddariad ar yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y rhain wrth law yng Nghymru pan fydd eu hangen ar bobl? Rwy'n gwybod am lawer o enghreifftiau lle mae ymatebwyr cyntaf yn cyrraedd yn yr amser gofynnol, ond yn achos anafiadau i'r pen rwyf i'n wir o'r farn ei bod yn bwysig fod pobl yn cael y cymorth a'r driniaeth feddygol sydd yn angenrheidiol cyn gynted ag y bo'r modd drwy'r ymatebwyr cyntaf hynny, ac efallai y gallech chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd ledled Cymru.
O ran cwestiwn cyntaf yr Aelod ynghylch taliadau am parcio, ni allaf ond cymeradwyo iddo'r ateb a roddodd y Prif Weinidog. Ceir nifer fawr o awdurdodau ag arferion arloesol o ran taliadau am barcio, gan ddefnyddio dulliau modern o godi tâl am yr union amser y mae'r cerbyd yn aros, gan gynnwys apiau sydd yn gwneud hynny a chofrestru gydag awdurdodau lleol, ac ati. A byddwn yn sicr yn argymell hynny yn ffordd o weithredu i bob awdurdod lleol, ar y cyd â chynllun teithio da, gan i mi gredu ei bod yn bwysig iawn cynnwys cynlluniau teithio llesol yng nghanol dinasoedd hefyd. Mewn gwirionedd, mae cryn dipyn o ymchwil i'w gael sy'n dangos bod pobl sy'n teithio ar gludiant cyhoeddus i ganol dinasoedd yn gwario mwy ac yn treulio mwy o amser yn y siopau a'r bwytai sydd yno. Felly, rwy'n credu bod taliadau parcio mewn cynllun teithio cyffredinol ar gyfer ein canolfannau siopa yn beth da iawn.
O ran bod yn barod ar gyfer y gaeaf a'r ymatebwyr cyntaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yma yn gwrando ar sylwadau yr Aelod, ac yn nodio'i ben, felly rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cael ymateb i hynny maes o law.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Huw Irranca-Davies.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein dull cydweithredol o wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.
Mae'n amlwg y ceir consensws ymhlith yr Aelodau o'r holl bleidiau y dylai plant sy'n derbyn gofal gael yr un dechrau mewn bywyd a chyfleoedd â phob plentyn arall. Rydym yn nodi hyn yn glir fel ein gweledigaeth a'n hymrwymiad i blant sy'n derbyn gofal yn y rhaglen lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen' a'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Roeddwn i'n falch o gael y cyfle i drafod y dull traws-lywodraethol i wireddu'r weledigaeth hon â fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet yn fy nghyfarfod Cabinet cyntaf yn gynharach y mis hwn.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi aros yn gyson uchel. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 5,662 o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a bod tua 700 o bobl ifanc yn gadael gofal bob blwyddyn. Drwy ganolbwyntio yn fwy ar atal ac ymyrraeth gynnar, rwyf eisiau gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dod i mewn i ofal, gan barhau i sicrhau y gwneir y penderfyniadau cywir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ni ellir cyflawni hyn heblaw drwy ddefnyddio dull cydweithredol, drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol rheng flaen, rheolwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Nawr, rwy'n credu fy mod i ar dir cadarn wrth ddweud bod pob un ohonom yn dymuno gweithio mewn modd cydweithredol. Ac i mi, mae cydweithio i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal yn un o'r cyfleoedd gorau sydd gennym i ddangos gwerth gwaith traws-lywodraethol.
Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o blant yn ffynnu wrth gael eu caru ac wrth dderbyn gofal yn eu teuluoedd eu hunain. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu y dylid gadael plant gyda'u teuluoedd doed a ddelo. Rydym yn cydnabod bod adegau pan fo'n rhaid i awdurdodau ymyrryd er lles a diogelwch plant. Fodd bynnag, po fwyaf y gallwn ni helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ystod adegau anodd, drwy gynnig y lefel gywir o gymorth yn yr amgylchedd cywir, y mwyaf y gallwn ni ei wneud ar gyfer y plant nad ydyn nhw'n gallu aros gartref.
Rwyf i wedi penderfynu y bydd y grŵp cynghori'r gweinidog a sefydlwyd gan y cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn parhau. Mae'r grŵp hwn yn allweddol wrth arwain y gwaith hwn a fy nghynghori i, a daw ei aelodaeth o bob rhan o'r Llywodraeth ac o bob sector sy'n darparu gwasanaethau uniongyrchol i deuluoedd. Cyfarfûm â'r Cadeirydd, yr Aelod Cynulliad David Melding, yr wythnos diwethaf i drafod gwaith arloesol y grŵp cynghori hwn. Mae David wedi bod yn arwain y gwaith hwn yn fedrus ac rwy'n falch o gadarnhau ei fod wedi cytuno i barhau yn y swyddogaeth hon.
Mae cyflawni ein cydweledigaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn gofyn am ymagwedd system gyfan ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cynorthwyo drwy ddarparu cyllid hael gan y Llywodraeth. Dim ond eleni, rydym ni wedi buddsoddi £8 miliwn i ysgogi newid a gwella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i wneud newidiadau cynaliadwy a fydd, yn y pen draw, yn lleihau nifer y plant sy'n dod i mewn i ofal. Mae hyn yn cynnwys £5 miliwn i ehangu gwasanaethau ar ffiniau gofal awdurdodau lleol; £850,000 i ehangu'r prosiect Adlewyrchu i'r saith rhanbarth yng Nghymru͏—mae hwn yn brosiect sy'n gweithio gyda mamau ifanc i dorri'r cylch o ailfeichiogi ac achosion gofal rheolaidd; £1.625 miliwn i helpu pobl sy'n gadael gofal ar eu taith tuag at annibyniaeth drwy wella cynlluniau prentisiaeth a hyfforddiant awdurdodau lleol ac ymestyn y gallu i gael defnyddio gwasanaethau cynghorwyr personol hyd at 25 oed; £400,000 i gyflawni'r Fframwaith Maethu Cymru; a £125,000 i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu ledled y wlad.
Hefyd, mae ein cronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 miliwn, a lansiwyd gennym ym mis Mawrth, yn darparu cymorth hyblyg, ariannol uniongyrchol i'r rhai sy'n gadael gofal yn yr un modd ag y mae pobl ifanc eraill yn cael cymorth ariannol gan rieni. Roedd Carl Sargeant yn angerddol am y gronfa hon, a byddai'n falch o'r effaith gadarnhaol y mae eisoes yn ei chael ar y rhai sy'n gadael gofal ledled Cymru.
Mae'r grŵp wedi datblygu rhaglen o newid yn seiliedig ar dair thema, sef: yn gyntaf, atal plant rhag dechrau derbyn gofal, ac ymyrraeth gynnar — y dull ataliol; yn ail, gwella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn derbyn gofal; ac yn drydydd, cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i ddyfodol annibynnol llwyddiannus. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd da, ac rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i weithio gyda ni. Erbyn hyn, rydym ni ar gam pryd y gallwn ni gynyddu cyflymder y gwelliant a gosod nodau traws-lywodraethol, heriol i gyflawni newidiadau gwirioneddol arwyddocaol i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal.
Dengys ymchwil bod cysylltiad cryf rhwng nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal ac amddifadedd mewn ardaloedd lleol. Trwy fynd i'r afael â thlodi a meithrin cydnerthedd cymunedol, byddwn yn helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd yn ystod adegau o argyfwng. Eleni, rydym ni wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o fesurau atal ac ymyrraeth gynnar i gefnogi teuluoedd ac i leihau nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal. Yn ogystal â'r buddsoddiad o £5 miliwn mewn gwasanaethau ar ffiniau gofal y cyfeiriais ato, rydym ni wedi darparu £76 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer Dechrau'n Deg a £38 miliwn ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf. Mae ein pwyslais wrth fwrw ymlaen ar y blynyddoedd cynnar hynny. Rydym ni'n cydnabod bod hwn yn gyfnod tyngedfennol o ran datblygiad plant a chanlyniadau, yn enwedig ar gyfer y rhai sy'n byw mewn amddifadedd. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu system blynyddoedd cynnar integredig i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth cywir.
I wella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn derbyn gofal, gwyddom fod lleoliadau sefydlog yn hanfodol i blant deimlo'n ddiogel, i gael ymdeimlad o berthyn a gallu cyflawni eu potensial. Felly, mae gennym ni gynllun addysg a gwasanaethau cymdeithasol tair blynedd, o'r enw 'Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru'. Cefnogir y cynllun hwn gan fuddsoddiad o £4 miliwn drwy'r grant datblygu disgyblion, ac mae'n darparu cymorth addysgol wedi'i dargedu i blant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal. Er ei fod yn galonogol, yng nghyfnod allweddol 4, bod 23 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cyflawni lefel 2 cynhwysol—cynnydd o 10 y cant o 2013—mae llawer i'w wneud o hyd i leihau'r bwlch cyrhaeddiad.
Felly, yn ogystal â gwella cyrhaeddiad addysg, mae bod â lleoliad sefydlog hefyd yn gwella cydnerthedd a lles emosiynol plant. Ceir mwy o achosion o iechyd meddwl gwael ymhlith plant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal. I leihau'r trawma a achosir gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rydym ni wedi buddsoddi er mwyn sefydlu canolfan genedlaethol i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a, thrwy ein cynllun cyflawni 'Law yn llaw dros Blant a Phobl Ifanc', rydym ni wedi cyhoeddi llwybr gofal y cytunwyd arno ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai hynny sy'n derbyn gofal i sicrhau y gwneir atgyfeiriadau priodol i gael mynediad at gymorth therapiwtig.
Ar gyfer teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gofal maeth, rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer cynllun treialu addysgeg gymdeithasol arloesol, sy'n archwilio effaith ymagwedd gyfannol at addysg a sgiliau bywyd.
Fel y mae plant yn datblygu ac yn gwneud eu ffordd trwy fywyd, rydym ni'n dymuno iddyn nhw fod yn uchelgeisiol ac i fanteisio ar gyfleoedd er mwyn iddyn nhw fod yn ddinasyddion economaidd weithgar. Ac eto, gwyddom nad yw 43 y cant o blant sy'n derbyn gofal mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, drwy fframwaith ymgysylltu a dilyniant pobl ifanc y Llywodraeth, mae llawer o waith yn mynd rhagddo gyda Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith i nodi a chefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu sydd mewn perygl o fod yn hynny.
O ran addysg uwch, rydym ni'n gwneud cynnydd ar yr argymhellion o adolygiad Diamond ac yn paratoi i ddeddfu er budd y rhai sy'n gadael gofal er mwyn iddyn nhw allu derbyn uchafswm y grant cynhaliaeth i gefnogi eu haddysg o 2018-19 ymlaen.
Byddwn ar fai heddiw pe na byddwn yn cydnabod y ffaith bwysig bod rhwng 20 a 30 y cant o bobl ifanc ddigartref wedi bod yn derbyn gofal. I'r perwyl hwn, rydym ni wedi buddsoddi £83,000 yn y bartneriaeth End Youth Homelessness Cymru, y mae Llamau yn ei chynnal ar ein rhan ac sydd wedi cymeradwyo £2.6 miliwn ar gyfer prosiectau digartrefedd yn ddiweddar. O'r dros 60 o brosiectau a ariennir, nod benodol 15 ohonynt yw atal digartrefedd i bobl ifanc drwy ddilyn y dull llwybr cadarnhaol.
Yn olaf, rydym ni'n ystyried ffyrdd arloesol eraill y gallwn ni eu defnyddio i helpu pobl ifanc sy'n gadael gofal ar eu ffordd i annibyniaeth. Er enghraifft, rydym ni'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ystyried dileu'r rwymedigaeth i dalu'r dreth gyngor i bob un sy'n gadael gofal sydd rhwng 18 a 25 oed. Mae'r gwaith i gyflawni hyn yn y camau cynnar, ond credwn y bydd cymorth ymarferol fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae cyflawni newid arwyddocaol yn y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn her polisi cyhoeddus allweddol i bob un ohonom ni yma yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi pennu cyfeiriad polisi clir a bydd yn parhau i wrando ar gyngor y grŵp cynghori'r gweinidog, a lleisiau'r gweithwyr proffesiynol rheng flaen a'r plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio. Gyda chymorth y Cynulliad hwn, mae'n rhaid i helpu i weddnewid canlyniadau i blant fod yn uchelgais i ni, a hynny drwy roi mwy o bwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar, lleihau nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal, gwella canlyniadau y rhai sydd eisoes yn derbyn gofal, a chefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i fyw bywydau annibynnol a llwyddiannus. Diolch.
A gaf i ei gwneud yn glir fy mod i'n siarad ar hyn o bryd yn fy swyddogaeth fel Cadeirydd y grŵp cynghori'r gweinidog? Dirprwy Lywydd, dyma'r cyfle cyntaf yr wyf wedi'i gael i dalu teyrnged i Carl Sargeant, felly byddaf yn manteisio ar y cyfle hwnnw, oherwydd dangosodd Carl weledigaeth ac arweinyddiaeth gref yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y ffaith iddo sefydlu'r grŵp fel grŵp cynghori'r gweinidog o dan gadeiryddiaeth Aelod o'r wrthblaid, yn pwysleisio natur amhleidiol yr her wleidyddol hon, ond hefyd bod arnom angen cadernid ac atebolrwydd gweithredu gweinidogol, a, gyda'r cyfuniad hwnnw, gallwn ni godi safonau o ddifrif. Felly, mae gennym ni lawer i ddiolch i Carl amdano, a byddwn yn gwneud hynny wrth i'r gwaith ddatblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf.
A gaf i hefyd gofnodi fy niolch i'r Gweinidog am ei hyder ynof i barhau fel cadeirydd y grŵp cynghori'r gweinidog, yn enwedig oherwydd rhagoriaeth ei aelodau a'r cyfraniadau niferus y maen nhw wedi'u gwneud eisoes? Rwy'n falch o ddweud bod y grŵp cynghori'r gweinidog yn rhannu eich gweledigaeth yn llawn, Gweinidog, a gweledigaeth y cyn Ysgrifennydd y Cabinet, mai ymyrraeth amserol effeithiol a chynnar, sy'n sicrhau mai dim ond y plant hynny sydd angen derbyn gofal sy'n mynd i mewn i ofal mewn gwirionedd a'n bod ni'n cefnogi'r plant hynny ar ffiniau gofal yn eu sefyllfa deuluol, sydd wrth wraidd y mater. Rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod wir wrth wraidd y diwygio, ac roedd y grŵp cynghori'r gweinidog wedi'i galonogi gan yr £8 miliwn sydd wedi'i fuddsoddi mewn ysgogi'r math hwn o newid, a £5 miliwn o hynny mewn datblygu gwasanaeth ffiniau gofal.
Hoffwn i ddweud hefyd fod rhai pethau wedi dod i'r amlwg yn y grŵp sydd erbyn hyn wedi eu hadlewyrchu'n glir mewn datganiadau gan y Llywodraeth. Roedd y cyswllt rhwng amddifadedd a nifer y bobl sy'n derbyn gofal yn rhywbeth y buom yn ei ystyried yn benodol yn y grŵp cynghori'r gweinidog, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn dymuno ymuno â mi i ganmol yn arbennig gwaith un o'n haelodau, yr Athro Jonathan Scourfield o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi gwneud cymaint o ran dadansoddi'r mater hwn yn ystadegol, ac sydd wedi sicrhau y ceir pwyslais ar y rhan y mae tlodi ac anghydraddoldeb yn ei chwarae mewn unrhyw ymagwedd at ddatblygu polisi yn y meysydd hyn.
Hoffwn i ddweud hefyd bod gwaith ar gyrhaeddiad addysgol wedi datblygu'n eithaf sylweddol. Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn dal i fod yn eang, ac mae angen yr uchelgais hwnnw er mwyn ei gau. Mae angen iddo gysylltu, yn amlwg, â phethau megis swyddogaeth gofalwyr maeth wrth ddarparu'r cymorth hwnnw yn y cartref i blant sy'n derbyn gofal. Felly, mae yna lawer o bethau y mae angen eu cysylltu â'i gilydd er mwyn cyflawni'r ymagwedd integredig hon. Ond rydym ni wedi cael yr argoelion cyntaf o ddatblygu strategaethau addysgol sydd mewn gwirionedd yn dechrau gwireddu potensial llawn plant sy'n derbyn gofal a cheisio cyflawni hynny'n benodol.
Rwy'n credu, wrth edrych ar y rhai sy'n gadael gofal, mae'n debyg mai tai yw'r peth pwysicaf iddynt. I blant sy'n derbyn gofal, cyrhaeddiad addysgol ydyw fel arfer, o ran beth fydd eu cyfleoedd mewn bywyd, ac mae hynny'n dibynnu ar sefydlogrwydd eu lleoliad gofal, oherwydd, os yw hwnnw'n ansefydlog ac maen nhw'n symud o gwmpas, mae hynny'n gallu creu cryn drafferthion. Yn aml, mae'n golygu eu bod yn symud ysgol, er enghraifft. Ond, i'r rhai sy'n gadael gofal, tai a sicrhau— drwy ddulliau arloesol megis Housing First, pan fyddwn yn cadw'r denantiaeth honno'n llwyr ac yn ei chefnogi, ac yn sicrhau bod y sefydlogrwydd hwnnw ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal.
A gaf i gloi drwy ddweud fy mod i'n credu mai swyddogaeth bob un ohonom, yn enwedig ein cydweithwyr mewn Llywodraeth Leol, fel gwleidyddion—mae rhianta corfforaethol yn hanfodol yn y maes hwn? Y fantais fawr sydd gennym yw ei fod yn amhleidiol. Ni cheir rhaniad gwleidyddol ynghylch sut y mae angen inni barhau, na'r pwysigrwydd y mae'r holl bleidiau yn ei roi ar hyn, ond mae angen inni roi arweiniad gwleidyddol, hefyd, oherwydd ni fu'n wir erioed, yn yr arena wleidyddol, bod y pwyslais priodol wedi'i roi ar mater hwn, nac yn y gymuned ehangach na'r cyfryngau, weithiau. Felly, mae angen inni fod yn gyntaf, ac, wrth sôn am rianta corfforaethol, rwy'n credu bod hynny'n wir am y Gweinidog, mae'n wir am Aelodau'r Cynulliad hwn, er ei fod yn rhan fwy uniongyrchol o waith ein cydweithwyr a'n cyfeillion mewn Llywodraeth Leol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i David am ei sylwadau, yn enwedig ynghylch ein cyn gyd-Aelod, Carl, a'i waith yn y maes hwn, a llawer o feysydd eraill hefyd. Mae'n iawn i ddweud, yn y gorffennol, na chafodd y maes hwn y sylw dyledus mae'n debyg. Roedd yn hawdd ei anwybyddu. Mae hi mor hawdd anghofio'r mater cyfan o blant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal, oherwydd dim ond pan aiff rywbeth o chwith y mae'n cyrraedd penawdau'r newyddion, yn wahanol i'r dull cydweithredol, fel yr ydym yn ymdrechu i'w gyflawni erbyn hyn, a all gael effaith eithaf sylweddol mewn gwirionedd ar ganlyniadau a chyfleoedd bywyd pobl ifanc. Ac, yn sicr, gwelodd Carl hynny'n glir iawn. Yn wir, bu'n allweddol wrth sefydlu'r grŵp cynghori'r Gweinidog a sicrhau, mewn gwirionedd, bod ganddo'r annibyniaeth honno a'r awdurdod hwnnw a ddaw yn sgil y llais annibynnol hwnnw. Mae'n amlwg yn amhleidiol. Mae'n defnyddio dull cydweithredol iawn. Mae'n gwbl groes i bwyntio bys. Yr unig bwyntio bys a wneir yw at y bylchau mewn darpariaeth neu wybodaeth neu ddata neu strategaeth neu gynlluniau a dweud, 'Iawn, sut yr ydym ni i gyd am gydweithio i ymdrin â hyn?'
Rwy'n falch bod David wedi cytuno i barhau i'w gadeirio, oherwydd, gan ei fod wedi cyflawni'r swyddogaeth cystal eisoes, rwy'n credu bod y parhad yn bwysig iawn. Fel y dywedais, rwy'n credu bod y gwaith y mae'r grŵp yn ei wneud—y grŵp cynghori'r Gweinidog—i wella canlyniadau, wedi cyrraedd pwynt lle, mae ganddo eisoes amrywiaeth drawiadol o ffrydiau gwaith y mae'n gysylltiedig â nhw, sydd wedi arwain at ganlyniadau pendant a newidiadau mewn polisi, ac ymddengys ei fod ar y pwynt hwnnw pan fo'n paratoi ar gyfer newid sylweddol arall. Nid oes gennyf amheuaeth, unwaith eto, y bydd yn cael effaith uniongyrchol ar y plant a'r bobl ifanc dan sylw.
Yn wir, rwy'n ymwybodol o waith Jonathan Scourfield ac rwy'n gobeithio cyfarfod ag ef cyn bo hir hefyd i drafod y gwaith gydag ef a'i ddull cyfannol iawn o fynd i'r afael â'r materion hyn, gan gynnwys y materion ehangach hynny o dlodi ac amgylchiadau teuluol, ac nid canolbwyntio ar y plentyn neu'r person ifanc yn unig.
Felly, hyderaf ac rwyf yn gwbl ffyddiog yn swyddogaeth David, yn y Cynulliad hwn, ac fel Aelod o'r Cynulliad hwn, ond hefyd wrth gadeirio'r grŵp hwnnw, i herio'r Llywodraeth, ond hefyd i wneud hynny mewn ffordd sy'n dweud, 'Dyma'r ffordd y gallwn ni ddatrys y materion hyn', yn hytrach na dim ond dweud, 'Wel, rhowch ddigon o arian i ni a gallwn ei ddatrys'. Mae pob un ohonom yn gwybod nad yw mor syml â hynny, ond yn hytrach yn fater o ymyraethau clyfar a deallus mewn modd cynaliadwy.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei ddatganiad ar wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal? Yn amlwg, fel y trafodwyd gennym yr wythnos diwethaf, yn y ddadl yn y fan yma ar gamddefnyddio sylweddau, mae rhai plant yn cael dechrau erchyll mewn bywyd—yn cael eu hesgeuluso, eu cam-drin, eu poenydio, a'u hamddifadu o gariad. Mae llawer o hyn yn y diwedd yn achosi problemau â chyffuriau ac alcohol, a digartrefedd hefyd, fel y trafodwyd yr wythnos diwethaf. Mae'n iawn i ganmol gwaith Llamau, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i wneud yn ei ddatganiad—gwaith rhagorol dros y blynyddoedd, gan Llamau, o ran cydnabod a helpu i ddatrys problemau digartrefedd ymhlith ein pobl ifanc.
Rwy'n hoffi'r syniad, fel y dywedodd y Gweinidog yn y fan yma yn ei baragraff olaf ond un, o gael gwared ar y rhwymedigaeth treth gyngor i bawb sy'n gadael gofal rhwng 18 a 25 oed. Rwy'n hoffi'r syniad hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dwyn ffrwyth. Mae'n rhaid inni aros i weld. Yn amlwg, ar ôl dechrau mor erchyll, yn anochel gall plant fynd i dderbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn y pen draw. Ydyn, mae rhai ohonom ni wedi bod yn gynghorwyr sir hefyd yn ein tro ac rydym ni'n ymwybodol iawn o'n swyddogaeth rhianta corfforaethol parhaus nawr, ond dechreuodd hynny yn ein dyddiau awdurdod lleol.
Yn ôl at y datganiad a'i bwyslais ar yr agenda ataliol, mae un neu ddau o gwestiynau yn dod i'r meddwl. Yr un cyntaf: yn amlwg, mae ansawdd gofal maeth yn hollbwysig, ac rwy'n deall bod y fframwaith cenedlaethol ar gyfer maethu yn cael ei drafod. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym am hynny, gan gynnwys, er enghraifft, y buddsoddiad ychwanegol y bydd yn ei roi i hyfforddiant a chefnogi gofalwyr maeth.
Gan symud ymlaen, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol fod â chynlluniau gofal y tu hwnt i 18 oed ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys ariannu lleoliadau maeth parhaus, pan fo'r ddwy ochr yn dymuno hynny. O ran parhau i ariannu lleoliadau maeth, faint o'r cynlluniau hyn sydd wedi digwydd, a beth yw'r canlyniad? Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn falch o gael y wybodaeth honno i law. Yn amlwg, er bod gwaith i atal plant rhag mynd i mewn i'r system gofal yn hollbwysig, pa gamau diogelu sydd wedi'u sefydlu i sicrhau nad yw plant yn cael eu niweidio hyd yn oed mwy oherwydd ymgais annoeth i'w hatal rhag mynd i'r system ofal? Yn olaf, er bod cymorth ar gael i ofalwyr maeth a mabwysiadwyr ar gyfer unrhyw broblemau ymddygiad, nid yw'n ymddangos bod ymwybyddiaeth ehangach yn y system addysgol, ac nid yw rhai ysgolion, mae'n debyg, yn cymryd i ystyriaeth y gallai dechrau gwael mewn bywyd fod yn gyfrifol am rywfaint o'r ymddygiad heriol ac ni fyddai angen i hynny ddigwydd pe byddai ysgolion yn rhoi ystyriaeth resymol i hyn. Bu sawl enghraifft dros y blynyddoedd—pe byddai pobl ond wedi bod yn fwy ymwybodol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni ofyn i'r Gweinidog weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod hyfforddiant i athrawon yn cynnwys hyfforddiant ar broblemau esgeulustod, cam-drin ac anhwylder ymlyniad. Diolch yn fawr.
Dai, diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna a'r cwestiynau hefyd, ac fe geisiaf ymateb iddynt. Yn gyntaf oll, mae'r ddeialog yr ydym wedi ei chael ar draws y Cabinet, gan gynnwys gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y mater o nodi y rhai hynny sydd angen cymorth ychwanegol gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y rheng flaen, fel athrawon, cynorthwywyr athrawon ac yn y blaen, yn fater allweddol. Mae'n rhaid iddo fod, er mwyn gwybod mewn gwirionedd, wedyn, beth yw'r cymorth cywir y mae angen ei roi ar waith a'r cymorth ychwanegol cywir y mae angen ei roi ar waith. Rydym ni'n gwybod, gyda llaw, fel y gŵyr Dai, ar gyfer dwy ran o dair o'r plant sydd mewn sefyllfaoedd derbyn gofal bod y dystiolaeth yn awgrymu bod ganddyn nhw ryw fath o anghenion addysgol arbennig. Felly, nid yw hyn yn golygu dim ond nodi'r sefyllfa o fod yn derbyn gofal, ond gallai llawer ohonynt fod ag anghenion addysgol ychwanegol.
Rwy'n credu mai'r peth y gallwn ni i gyd gytuno arno yn y Siambr hon wrth inni geisio gweithio ar draws y Llywodraeth, ond hefyd gyda phartneriaid eraill ar lawr gwlad, yw bod darparu gwasanaeth dinod, derbyn gwasanaeth dinod, o ran cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yn syml yn annerbyniol. Dylem ni fod mor uchelgeisiol ar gyfer pob plentyn unigol, ar bob agwedd. A beth bynnag sydd gennym ni i'w gyfrannu at hynny—. Rhan o hynny, gyda llaw, yw—. Cyfeiriais yn gynharach, yn benodol ym maes gofal maeth, y soniodd Dai amdano, ein bod ni'n ariannu'r pedagogy—peda-gogy neu peda-godgy, dydw i byth yn ei ddweud yn iawn [Torri ar draws.] Diolch. Peda-godgy; diolch yn fawr iawn—cymdeithasol hwn, sydd â'r nod o wella cyrhaeddiad addysgol plant, yn enwedig mewn gofal maeth. Bwriad y prosiect hwn yw cefnogi rhieni maeth i gymryd rhan fwy gweithredol yn addysg eu plant maeth, a'u helpu i ddatblygu cysylltiadau gwell gyda'r system addysg, yr ydym yn gwybod hefyd ei fod yn beth allweddol—y rhieni yn cymryd rhan yn addysg y person ifanc, nid dim ond camu i ffwrdd oddi wrtho, sefyll yn ôl. Wedi'i gynnwys yn hynny, gyda llaw, mae cyfres o ddosbarthiadau meistr ar gyfer pobl sy'n ymwneud â maethu, pa un ai ar sail bersonol neu hyd yn oed ar lefel broffesiynol. Mae llawer iawn o bobl wedi'u mynychu, ac mae'r adborth yr ydym wedi'i gael wedi bod yn ardderchog hefyd.
Gwnaethoch chi sôn am y broblem o ddigartrefedd, a'r ffigurau llwm hynny y soniais amdanyn nhw, ein bod yn gwybod bod 20 y cant i 30 y cant o'r bobl hynny yr ydym yn eu canfod yn ddigartref wedi bod mewn sefyllfaoedd gofal. Felly, rydym ni wedi datblygu llwybr cadarnhaol digartrefedd ieuenctid Cymru, a lansiwyd yn 2016 gan gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Mae'n ddull cynhwysfawr iawn o helpu pobl ifanc i osgoi digartrefedd, ac rydym ni'n credu mai dyma'r dull gorau o gynllunio gwasanaethau lleol—gwasanaethau rheng flaen—ar gyfer pobl ifanc. Ond rydym ni'n gwybod bod angen gwneud mwy, gyda llaw, i ymwreiddio hyn ar draws y Llywodraeth, yn enwedig o ran gwasanaethau iechyd meddwl.
Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at y broblem o gamddefnyddio sylweddau. Rydym ni wedi nodi hyn fel un o'r materion ACE—y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—sy'n gallu newid datblygiad cynnar plentyn. Bydd Dai, sydd hefyd yn feddyg, yn gwybod bod gormod o amlygiad i rai o'r sylweddau hyn yn gallu effeithio ar—os yw'r plentyn yn agored iddynt yn uniongyrchol—ddatblygiad niwrolegol hefyd, pethau fel systemau hormonaidd ac ati. Roedd bron i 5,000 o achosion o blant mewn angen oherwydd bod eu rhieni yn camddefnyddio sylweddau yn 2016. Rydym ni'n buddsoddi £50 miliwn i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â hyn.
Ond mae Dai yn llygad ei le: wrth weithredu'r holl ddulliau hyn, mae angen inni wneud y penderfyniad cywir ar gyfer y plentyn cywir dan yr amgylchiadau cywir, ac er y dylai ein pwyslais, mewn gwirionedd, fod ar ymyrraeth gynnar ac atal, ceir adegau, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, lle mae'n angenrheidiol weithiai i dynnu'r plentyn o amgylchedd. Ond, yn gyntaf oll, mae'n rhaid inni wneud popeth i geisio gwneud yn siŵr, os gallwn ni, y cânt aros yn yr amgylchedd cartref hwnnw, a dim ond eu symud ar ôl hynny.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. A gaf i ddweud 'llongyfarchiadau' ar eich penodiad diweddar? Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau eraill yma yn cytuno â mi, mewn byd delfrydol, ni fyddai unrhyw blentyn yn cael eu cymryd oddi ar ei deulu i dderbyn gofal gan y wladwriaeth. Ni waeth pa mor ofalgar neu ymroddgar yw'r staff sy'n gofalu am blant sy'n derbyn gofal, nid yw hynny cystal â diogelwch amgylchedd teuluol sefydlog, beth bynnag yw natur y teulu hwnnw. Ond wrth gwrs mae'n digwydd. Weithiau mae'n anghenraid ofnadwy bod yn rhaid i blentyn gael ei dynnu oddi wrth ei deulu, ac rwy'n falch o weld bod cynlluniau ar waith i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn y lle cyntaf a bod pethau'n cael eu rhoi ar waith i ddarparu cymorth iddyn nhw pan fyddan nhw'n gadael gofal. Hoffwn weld, er hyn, mwy o gymorth yn cael ei roi i blant sy'n derbyn gofal, ond byddaf yn dod at hynny yn y man.
Mae gweithio gyda mamau ifanc i dorri'r cylch o feichiogrwydd dro ar ôl tro yn syniad da, fel y mae ymestyn y cymorth sydd ar gael gan gynghorwyr personol hyd at 25 oed. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i, er fy mod yn cydnabod nad yw arian yn ddiderfyn, nad yw'r symiau a nodir yn eich datganiad y bwriedir eu gwario ar 5,500 neu fwy o blant sy'n derbyn gofal gan Lywodraeth Cymru yn ymddangos yn arbennig o fawr i mi: mae £400,000 i gyflawni'r rhwydwaith maethu yn swm cymharol fach, ac mae £125,000 i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu ar draws y wlad yn cynrychioli swm bach iawn o arian. Dim ond £25,000 fesul rhanbarth yw hynny. Felly, sut ydych chi'n gweld yr arian hwn yn cael ei wario, a faint o wahaniaeth ydych chi'n meddwl y mae'n mynd i'w wneud i ganlyniadau plant sy'n derbyn gofal? Mae'r swm sydd wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fach iawn, o ystyried nifer y bobl ddigartref a'r rhai sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru.
Mae plant sy'n derbyn gofal eisoes dan anfantais oherwydd yr amgylchiadau a aeth â nhw i mewn i ofal yn y lle cyntaf. Bydd eu haddysg wedi dioddef hefyd. Mae'n hollbwysig bod y plant hyn yn cael cymorth i ddod o hyd i well dyfodol, ac mae darparu cefnogaeth addysgol ychwanegol yn bwysig iawn, iawn. Mae'r arian a addawyd ac y cyfeiriwyd ato yn eich datganiad o fod ar gyfer y diben hwnnw wedi'i gynnwys yn y grant amddifadedd disgyblion o £4 miliwn, ond mae'n rhaid i'r £4 miliwn hwnnw ddarparu cymorth addysgol ar gyfer plant difreintiedig nad ydynt yn derbyn gofal hefyd. Felly, faint o'r grant amddifadedd disgyblion fydd yn cael ei wario ar wella deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal yn benodol, a sut y gallwch chi ein sicrhau ni y bydd yr arian a neilltuwyd yn ddigonol i sicrhau canlyniadau sylweddol?
Rwy'n croesawu'r cynigion i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag y dreth gyngor; rwy'n credu bod hwnnw'n syniad gwych. A dweud y gwir, byddwn i'n annog awdurdodau lleol ledled Cymru i fabwysiadu'r cynnig. Fel y dywedais, mae'r cynlluniau y cyfeiriwyd atynt yn eich datganiad yn galonogol, ac, fel y dywedais, mae gennyf amheuon ynghylch a oes digon o adnoddau yn cael eu rhoi ar waith, ond rwyf wir yn gobeithio y bydd y buddsoddiad yr ydych chi wedi cyfeirio ato, a'r cynlluniau yr ydych chi wedi cyfeirio atynt, yn cyflawni'r hyn yr ydych chi a'r gweddill ohonom yn gobeithio amdano. Diolch.
Michelle, diolch yn fawr iawn. Credaf mai hanfod eich dadl—. A gyda llaw, a gaf i ddiolch ichi am groesawu'r dull yr ydym ni'n ei arddel a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni gyda'r canlyniadau? Oherwydd, mae hyn yn sicr yn canolbwyntio ar y canlyniadau, yn hytrach na dim ond dweud, 'Rydym ni'n ticio blychau, rydym ni'n dosbarthu grantiau, ac rydym ni'n cadw ein bysedd wedi'u croesi ac yn gobeithio am y gorau'. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar y syniad o gydweithio â phartneriaid allan yna, gyda llywodraeth leol ac eraill, a gyda chynlluniau sydd eisoes yn bodoli ar lawr gwlad, fel y rhaglen Dechrau'n Deg, y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac ati, er mwyn cyflawni'r newid hwnnw ym mywyd plentyn neu berson ifanc, yn ei sefyllfa deuluol, a fydd yn barhaus ac a fydd yn para'n hir.
Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych chi, Michelle, yw: er bod rhai o'r symiau unigol yn edrych yn fach—dydyn nhw ddim yn ddibwys, gyda llaw, oherwydd mae'n rhaid inni ddod o hyd iddyn nhw o gyllideb sy'n crebachu, a dweud y gwir—dydyn nhw ddim, oherwydd, pan fyddwch chi'n eu targedu yn y ffordd gywir—. A dyma'r dull: cymryd cyngor, gyda llaw; nid dim ond Llywodraeth Cymru yn ei wneud ei hun a dweud, 'Wel, mae'n ychydig o arian yn y fan yma ac ychydig fan draw'. Mae wedi'i lywio i raddau helaeth gan farn gweithwyr proffesiynol rheng flaen, gan y rhai hynny sydd mewn sefyllfaoedd gofal eu hunain, gan grŵp cynghori'r Gweinidog hefyd, sydd yn dweud mai dyma'r ymyraethau cywir.
Rwyf am ddweud, pe byddai gennym ni ddigon o arian, a dweud y gwir, a bod y llyfr sieciau gennyf i, byddwn i'n ysgrifennu siec 10 gwaith yn fwy, a byddwn yn ei weddnewid yfory, ac erbyn y flwyddyn nesaf. Dydyn ni ddim yn y sefyllfa honno. Rydym ni ble'r ydym ni, ond mae'r hyn y gallwn ni ei wneud yw fwy craff drwy weithio llawer yn glyfrach ar lawr gwlad, a gwneud yr ymyraethau cywir, fel bod y gwasanaethau ar ffiniau gofal hynny, er enghraifft, a'r £8 miliwn ychwanegol yr ydym ni newydd ei roi i'r maes gwaith hwnnw—dyna'n union y math o beth. Gall yr £8 miliwn hwnnw fynd yn bell yn y sefyllfa iawn i fynd i'r afael â mater hwnnw o helpu i gadw plant a phobl ifanc mewn sefyllfa teuluol pan fo hynny'n briodol, drwy ddarparu gwasanaethau cofleidiol iddyn nhw. Pan fyddwch chi'n ychwanegu hynny at Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf ac ymyraethau eraill, mae hynny'n gallu cyflawni llawer iawn.
Felly, nid yw'n gwestiwn o roi un blwch draw fan hyn a dweud, 'Bydd hyn yn datrys y broblem'. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwasanaethau integredig a chydweithredol ar lawr gwlad sy'n nodi'r person ifanc, yn nodi'r cymorth sydd ei angen arno, ac sy'n trefnu'r cymorth hwnnw o'i amgylch. Byddwn i'n dweud yn syml: peidiwch ag edrych ar ddarnau bach o arian. Edrych ar lawr gwlad, a lle ceir y canlyniadau. Oherwydd, mae mesur llwyddiant hyn yn gysylltiedig iawn â'r canlyniadau: a yw hyn yn golygu bod yr effeithiau ar gyfer plant sydd mewn sefyllfaoedd derbyn gofal yn well? A yw'n golygu bod y rhai hynny sy'n gadael i fyw bywydau annibynnol yn well? A yw'n golygu, mewn gwirionedd, bod y rhai hynny sydd ar ffiniau gofal—bod eu cyfleoedd hwythau wedi gwella, a'u bod weithiau yn cael eu cadw yn y sefyllfa deuluol hefyd drwy ofal cofleidiol gwell?
Yn gyntaf oll, rwy'n ategu sylwadau David Melding am y cyn-Weinidog a natur amhleidiol hyn. Hoffwn innau hefyd estyn llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd.
Mae llawer o bethau da yma, ac rwyf wedi clywed llawer o bethau da yr ydych chi wedi eu dweud heddiw. Sylwais eich bod wedi dweud yr hoffech chi weld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal. Sylwais eich bod yn dweud
po fwyaf y gallwn ni helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ystod cyfnodau anodd, drwy gynnig y lefel gywir o gymorth'—
mai dyna'r ffordd iawn o wneud pethau. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i am yr achosion a gaf i dro ar ôl tro ar ôl tro yw ei bod yn ymddangos bod rhieni sy'n awyddus iawn i gadw eu plant yn y rhanbarth hwn, Canol De Cymru, yn eu colli am amrywiaeth eang o resymau, ac yn aml, nid yw diogelwch yn un ohonynt. Mae gennyf achos ar fy llyfrau lle y cydnabyddir bod y rhieni yn caru'r plant, y plant yn caru'r rhieni, ac yn anffodus i'r rhieni, eu bod wedi galw ar y gwasanaethau plant am gymorth, ac yna wedi colli'r plant, ac maen nhw'n ymladd yn daer i'w cael yn ôl, oherwydd bod yr adran gwasanaethau plant benodol honno yn dweud nad oes gan y rhieni hyn y sgiliau i fod yn rhieni.
Rwyf i'n amau'r farn honno, oherwydd yn rhy aml o lawer mae rhieni yn dweud wrthyf bod mabwysiadu a gofal bron â bod yn ddiwydiant, ac mae'r ymgysylltu yr wyf i wedi ei gael â theuluoedd —. Yn eironig, dim ond heddiw cefais neges gan fam sydd eisiau imi fynd i ymweld â hi oherwydd ei bod mewn perygl o golli ei phlentyn. Byddwn i'n dweud, mewn gwirionedd, fel cyn-athro proffesiynol, bod angen cymorth ar deuluoedd, ond yr hyn y maen nhw'n ei gael yw system wrthwynebol iawn sy'n cwestiynu, bron, a cheir dull ticio blychau gan weithwyr cymdeithasol sydd o dan bwysau aruthrol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed beth oedd eich barn am y pethau hynny a pha un a ydych chi'n edrych ar wledydd ledled y byd lle na cheir unrhyw fabwysiadu gorfodol, gan fod mabwysiadu gorfodol yn rhywbeth sy'n peri llawer o bryder i mi, mewn gwirionedd, wrth edrych ar y math o achosion yr wyf i wedi edrych arnynt am ormod o amser o lawer, mewn gwirionedd, nid yn unig yn y fan hon, ond dros y ffordd hefyd.
Neil, diolch ichi am hynna. A gaf i ddweud ein bod bob amser yn edrych o amgylch y byd am arferion gorau? Ond fe allwn ni hefyd edrych ar garreg y drws, oherwydd yr hyn a wyddom yw y ceir amrywiadau yn y dulliau lleol ledled Cymru, fel y ceir yn Lloegr, gyda llaw, hefyd. Ond yn sicr mae'n rhywfaint o'r buddsoddiad hwnnw yn y ddarpariaeth gofleidiol i deuluoedd. Os ydych chi'n ystyried rhywbeth fel Teuluoedd yn Gyntaf, er enghraifft, mae'n aml yn cael ei ddiystyru oherwydd, os ydych chi'n dweud 'Teuluoedd yn Gyntaf', mae pobl yn meddwl mai rhywbeth clyd a hyfryd yw hwnnw, ond mewn gwirionedd, dyna'r union ddull amlasiantaeth i deulu sy'n dweud lle mae'r meysydd cymhwysedd, arbenigedd, gwybodaeth sydd eu hangen ar y teulu hwnnw er mwyn darparu amgylchedd teuluol sefydlog a chadarn ar gyfer plant.
Mae buddsoddi mewn pethau fel Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei ategu gan ein dadansoddiad o bethau fel y canolfannau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yr ydym wedi buddsoddi ynddynt erbyn hyn, sy'n nodi'r meysydd hynny o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym ni'n gwybod os ydych chi'n profi dau neu dri neu bedwar ohonynt, mae'n fwy tebygol bod y plentyn hwnnw yn mynd i ddioddef anhawster, os nad mynd i dderbyn gofal, mewn gwirionedd. Felly, sut mae pethau fel Teuluoedd yn Gyntaf yn helpu i osgoi'r sefyllfa honno? Sut mae'n cofleidio'r teulu hwnnw? Rydym ni wedi rhoi £270 miliwn yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ers 2012. Mae'n darparu'r amgylchedd cefnogol, cyfoethog hwnnw i blant. Mae'n lleihau nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r dull gweithredu hwn yn darparu pecynnau cydlynol o gymorth i deuluoedd, drwy ddull amlasiantaeth sy'n eu helpu nhw fel teulu i ddatblygu sgiliau ar eu cyfer nhw, ond ar gyfer eu plant hefyd. Y math hwn o ddull yw'r ffordd ymlaen yn bendant. Rydym ni'n gwybod hyn oherwydd ei fod yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym ni wedi bod yn siarad amdanyn nhw. Ond mae'n golygu buddsoddiad hirdymor, parhaus, gan weithio gyda theuluoedd, i wneud hynny.
Y pwynt lle y byddwn yn cytuno ac y mae angen inni ei ystyried yw sut yr ydym ni am symud y gromlin, gan gydnabod bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi yn y canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n gadael gofal a'r bobl hynny sydd yn derbyn gofal ar hyn o bryd. Mae'n rhaid inni wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni hefyd rywsut newid y duedd i wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi mwy yn y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau atal, oherwydd dyna beth fydd yn rhoi i'r teuluoedd hynny y cymorth a fydd yn osgoi'r angen yn y dyfodol i fwy o blant orfod derbyn gofal. Ond, weithiau, mae'n anochel mai'r peth iawn ar gyfer y plentyn sydd mewn sefyllfa benodol ei fod yn dechrau derbyn gofal. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae angen inni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei wneud gyda'r farn fwyaf arbenigol, gyda'r trugaredd mwyaf, a hefyd ei fod yn cael ei wneud gan rannu arferion gorau, nid dim ond o dramor, ond i fyny'r ffordd, mewn gwirionedd, o rannau o Gymru hefyd.
Gweinidog, a gaf innau hefyd ddiolch i chi am y datganiad heddiw a'ch croesawu i'ch swydd newydd? Llongyfarchiadau. Hefyd, rwy'n dilyn yr Aelodau eraill wrth dalu teyrnged i Carl Sargeant am ei waith pwysig yn y maes hwn dros flynyddoedd lawer. Nid yw'n faes hawdd i ymdrin ag ef, ond fe wnaeth hynny gyda phenderfyniad a steil. Mae'n rhyfedd nad yw ef yma yn y Siambr hon pan fo'r mater hwn yn cael ei drafod.
Hoffwn ddweud ychydig o eiriau, o gofio y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lansio ein hymchwiliad i blant sy'n derbyn gofal, neu blant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal fel y mae'n well gennym eu galw, yn y flwyddyn newydd. Bydd yn ymchwiliad pellgyrhaeddol a fydd yn bennaf yn ystyried effeithiolrwydd y gwariant ar y maes hwn o gyllideb Cymru, oherwydd fel dywedasoch, mae'n faes sylweddol o wariant, ac rydym ni'n dymuno cael y budd mwyaf posibl ar gyfer y plant mewn angen hynny yr ydych chi wedi'u nodi. Mae hefyd yn bwnc y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn bwriadu dychwelyd ato gam wrth gam dros weddill tymor y Cynulliad hwn, yn hytrach na'i fod yn ymchwiliad untro a fydd wedyn yn cael ei adael. Rydym ni'n credu ei fod yn ddigon pwysig i'w ailystyried.
Mae'r ffigurau yr ydych chi wedi eu crybwyll yn cyfiawnhau'r dull. Mae nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yn 90 o blant fesul 10,000 o bobl, o'i gymharu â chyfradd is o 60 fesul 10,000 o bobl yn Lloegr. Felly, os ydych chi'n cyfuno hynny â'r ystadegyn bod gwariant ar wasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol ers 2011, yn amlwg, mae llawer o gwestiynau y mae angen rhoi sylw iddynt.
Gan droi at eich datganiad yn arbennig, mae eich datganiad yn canolbwyntio ar gyflawni'r rhaglen lywodraethu. A gaf i ofyn i chi—? Rydych chi'n nodi yn helaeth yn eich datganiad bod cydweithio yn hollbwysig i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion. Sut y byddwch chi'n sicrhau bod y cydweithio effeithiol hwnnw rhwng gweithwyr proffesiynol rheng flaen, rheolwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gweithio mewn gwirionedd yn ymarferol ar lawr gwlad? Mae'n amcan clodwiw ar gyfer strategaeth, ond mae angen iddo fod yn fwy na hynny. Rydym ni wedi clywed llawer o amcanion clodwiw yn y Siambr hon a llawer o strategaethau dros lawer o flynyddoedd—gallaf weld y bydd yr ysgrifennydd dros gyllid yn cytuno â mi—ond mae'n ymwneud â throsi'r amcanion hynny yn gynnydd gwirioneddol ar lawr gwlad yr hoffai pob un ohonom ei weld.
Ac yn hollbwysig, mae'n debyg, pa adnoddau fydd yn cael eu hymrwymo i ddarparu'r agwedd hon ar 'Ffyniant i Bawb'? Nid yw'r gost o hyrwyddo gwaith traws-lywodraethol bob amser yn hawdd i'w hamcangyfrif, rwy'n gwybod, ond mae angen cael rhyw syniad sylfaenol o beth fydd y gost a sut y caiff hynny ei ariannu dros y blynyddoedd sydd i ddod—y tu hwnt i'ch sylw yn gynharach, mewn ymateb i Michelle Brown rwy'n credu, na ddylech chi weld hyn fel darnau bach o gyllid mewn gwahanol gyllidebau, ond dylech chi fod yn edrych ar y darlun cyfannol.
A gaf i groesawu, fel y gwnaethoch chi, waith fy nghyd-Aelod David Melding a grŵp cynghori'r gweinidog dros gryn amser erbyn hyn? Gwn eu bod wedi gwneud llawer o waith da yn y maes hwn. Dros amser, hoffai pawb ohonom weld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal, ond wrth gwrs mae'n rhaid cydbwyso hyn ag angen i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y plant hynny sydd angen derbyn gofal, o ran y ffordd y mae ei angen arnynt, a phan fo ei angen arnynt. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sicrhau, o dan yr amgylchiadau hyn, bod gofal wedi'i deilwra i anghenion unigol pobl ifanc a'n bod yn osgoi pecyn gofal sydd yr un fath i bawb?
Rwy'n credu eich bod wedi rhagweld fy nghwestiwn yn gynharach, pan wnaethoch chi sôn am—wel, dydw i ddim yn meddwl eich bod wedi ei alw'n 'gydgynhyrchu' ond yn sicr mae'r egwyddorion o ganolbwyntio ar y dinesydd a theilwra gofal i anghenion penodol yr unigolyn yn flaenoriaeth yn eich meddwl, rwy'n credu. Ac rwy'n credu y gall hynny fod yn wahaniaeth mawr yma, y tu hwnt i'r materion cyllido. Os gallwch chi roi'r plentyn sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal wrth wraidd y broses honno, nid yn unig wrth wraidd gofal, ond wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau wrth benderfynu sut maen nhw'n mynd i dderbyn gofal, yna gallwch wneud gwahaniaeth mawr fel Gweinidog drwy gyflawni'r nod hwnnw.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae angen inni, wrth gwrs, roi sylw i'r mater o beth sy'n digwydd ar ôl gofal, unwaith eto, rhywbeth y gwnaethoch chi ei grybwyll. Rwy'n croesawu eich uchelgais i dynnu baich y dreth gyngor oddi ar bobl ifanc sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed. Credaf fod llawer o botensial i hynny ac mae wir yn werth ei archwilio. Mae hwnnw'n ddatblygiad da. Yn ystadegol, gwyddom fod oedolion sydd wedi bod drwy'r system ofal yn fwy tebygol o ddioddef problemau, gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau, ac yn fwy tebygol o fod yn y carchar. Mae cyfran y boblogaeth sydd yn y carchar ac sydd wedi bod yn derbyn gofal yn nodedig ac mae'n amlwg yn ceisio dweud rhywbeth wrthym ni.
Rydych chi wedi dweud hefyd yn eich datganiad bod hyd at 30 y cant o bobl ddigartref wedi bod yn derbyn gofal ar ryw adeg. Felly, sut ydym ni am sicrhau bod gofal yn parhau ar ryw ffurf, cyhyd ag y bo modd, ac nad yw'r cyfan yn dod i ben pan fydd person ifanc yn cyrraedd 18 oed, oherwydd yn rhy aml maen nhw'n cael eu hystyried yn oedolion ar yr adeg honno, a gwyddom, mewn gwirionedd, nad ydych chi'n sydyn yn mynd o fod yn derbyn gofal i fod allan ar eich pen eich hun yn y byd pan fo'r cloc yn taro 12 a'ch bod yn sydyn yn 18 oed. Mae angen cymorth ar bobl ar ôl hynny. A dydw i ddim yn meddwl ei fod wedi bod ar gael bob amser neu nad yw wedi bod yn amlwg bob amser yn y gorffennol. Rwy'n credu unwaith eto bod hwn yn faes y gallwch chi fel Gweinidog wneud rhai newidiadau mawr, mewn gwirionedd, i'r ffordd y mae plant sy'n cael profiad o dderbyn gofal neu blant sy'n derbyn gofal yn cael gofal yng Nghymru. Ac rwy'n dymuno llwyddiant i chi yn y fenter honno ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi pan fydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau ein hymchwiliad i'r maes pwysig hwn y flwyddyn nesaf.
Diolch. Ac rwyf am ymateb drwy ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at gynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith, naill ai yn bersonol neu drwy roi tystiolaeth, pa un bynnag yr ydych chi ei angen, pa mor aml yr ydych chi ei angen—nid pob wythnos efallai, ond pryd bynnag y byddwch chi fy angen i yno. A gaf i ddiolch ichi hefyd am eich cydnabyddiaeth, Nick, o'r hyn y gwnaethoch, rwy'n credu, ei alw'n gyllid sylweddol sy'n cael ei roi, nid yn unig ar ei ben hun o ran y cyllid sydd wedi'i dargedu ar gyfer ymyraethau i blant sy'n derbyn gofal, neu'r rhai hynny sydd ar fin dod yn blant sy'n derbyn gofal, ond hefyd yn rhan o'r pecyn ehangach o ofal yn y fan yna? Rydych chi'n gwneud y pwynt pwysig iawn ynghylch sut yr ydym ni'n sicrhau bod hyn yn hollol glir. Wel, mae hyn wedi'i ymwreiddio'n sylfaenol erbyn hyn: mae yno yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac mae'n uchelgais allweddol i ni. Mae gwella canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn uchelgais allweddol yn 'Symud Cymru ymlaen'. Mae yn y blaenoriaethau yn y strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Ac fel y gwyddoch chi, mae rhai o'r dogfennau hynny wedi cael eu beirniadu am fod yn brin o eiriau, ond mae yno—mae wedi'i osod yn gadarn yno fel blaenoriaeth. Rydym ni'n ymrwymedig, yn gwbl ymrwymedig, i sicrhau bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn manteisio ar yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill. Ond bydd llawer o hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yn cael ei ddatblygu gan y gwaith sydd eisoes ar y gweill, gan gynnwys y gwaith a wneir gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau ar gyfer plant. Gadewch imi sôn am rai o'r rheini oherwydd eu bod nhw'n arwyddocaol ar gyfer y ffordd y caiff hyn ei ddatblygu yn y dyfodol.
Diolch unwaith eto am y geiriau caredig am Carl. O dan Carl y cafodd cam 1 ei ddatblygu, yn ôl yn 2015-16. Mae rhaglen cam 2 eisoes ar y gweill, dan gadeiryddiaeth fedrus David Melding. Mae'n seiliedig ar y tair thema a ddisgrifiais yn gynharach. Mae proses gydweithredu yn hanfodol i hyn, ond mae'n ddiddorol gweld sut y mae'n datblygu'r cydweithredu hwnnw yn benodol. Felly, mae'n rhaglen sy'n ymestyn yn eang, ac yn rhan o gam 2, mae'n ystyried pethau fel arfer proffesiynol, asesu risg a gwasanaethau ar ffiniau gofal, cynllunio ar gyfer parhad, creu lleoliadau sefydlog. Mae pob ffrwd waith yn cael ei chadeirio gan bennaeth gwasanaethau plant awdurdod lleol. Cynrychiolydd o'r trydydd sector fydd yr is-gadeirydd. Mae 25 o feysydd gwaith yn y rhaglen waith honno. Maen nhw'n cwmpasu gwaith ymchwil, prosiectau treialu, datblygu polisïau, gwelliannau, gwelliannau sylweddol i arfer proffesiynol ac ati, ac mae'r grŵp wedi llunio ei fframwaith ar gyfer gweithredu, sy'n rhoi manylion gwirioneddol am y llwybrau y byddwn yn cyflawni'r canlyniadau gwell hyn drwyddynt. Ac, wrth gwrs, ategir hynny gan yr arian ychwanegol yr ydym yn ei roi ar gael. Felly, nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflawni hyn, ond i wneud hynny drwy weithio ar y cyd â'r rhai hynny ar y rheng flaen, ar y cyd â'r plant a'r bobl ifanc eu hunain, a gwaith grŵp cynghori'r Gweinidog. Mae wedi ei ymwreiddio'n ddwfn o fewn y Llywodraeth. Ac rwy'n awyddus—ac rwy'n diolch ichi am eich geiriau caredig yn dilyn fy mhenodiad i'r swydd hon—i ddatblygu'r gwaith hwn, ac i weld y newid sylweddol hwnnw y credaf y gallwn ni ei wneud erbyn hyn.
Diolch. Yn olaf, Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. A hoffwn i hefyd dalu teyrnged i waith ac ymroddiad Carl Sargeant yn y maes hwn.
Fel y mae eraill wedi amlygu, mae canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn llawer is nag ar gyfer plant nad ydynt yn ein system gofal. Mae'n rhaid i ni ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer y plant hyn, sydd eisoes wedi cael y dechrau gwaethaf posibl mewn bywyd. Fodd bynnag, yn ôl Gweithredu dros Blant Cymru, mae'r cymorth sydd ar gael i blant sy'n derbyn gofal yn loteri cod post. Mae hyn yn annerbyniol. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn, ac wedi neilltuo cyllid ychwanegol i wella cyfleoedd bywyd y bobl ifanc hyn. Hoffwn hefyd gydnabod y gwaith a wnaed gan David Melding, sydd â hanes hir a rhagorol o gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Ac rwy'n falch y bydd David yn parhau i gadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog.
Mae gennyf i un neu ddau o gwestiynau i chi, Weinidog. Mae nifer o bryderon wedi eu codi ynghylch gwasanaethau plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dywedir wrthym ni bod y llysoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi colli ffydd yng ngallu'r awdurdod lleol i gyflawni ei ddyletswyddau o ran plant sy'n derbyn gofal. Mae hyn wedi arwain at nifer o blant yn cael eu lleoli y tu allan i'r sir. Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i roi terfyn ar y loteri cod post, y cyfeiriodd Gweithredu dros Blant ato? Sut y byddwch chi'n sicrhau bod gwasanaethau plant yn gallu cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu pobl ifanc, sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl, a rhoi diwedd ar leoliadau y tu allan i'r sir pan fo hynny'n bosibl?
Gweinidog, rwy'n falch o weld bod arian ychwanegol wedi ei roi ar gael i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal ar eu taith tuag at annibyniaeth. Mae hwn yn faes yr ydym ni wedi methu ynddo yn y gorffennol. Roedd y rhaglen DIY SOS Plant Mewn Angen yn ddiweddar yn tynnu sylw at y gwaith hollol wych a wneir gan y Roots Foundation yn fy rhanbarth i. Yn ogystal â rhedeg canolfan weithgareddau i bobl ifanc sy'n derbyn gofal, mae Roots wedi darparu tai â chymorth i bobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sy'n gadael gofal. Maen nhw'n helpu i ddarparu'r sgiliau angenrheidiol i alluogi pobl ifanc sy'n gadael gofal i fyw'n annibynnol. Gweinidog, a oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw gynlluniau i ail-greu gwaith y Roots Foundation mewn rhannau eraill o Gymru? Ac yn olaf, Gweinidog, beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i gefnogi elusennau fel Roots, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi plant sy'n derbyn gofal, ac yn helpu i wella canlyniadau'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed?
Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'i gilydd, ar y cyd, i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna, ac am eich croeso eto, a'r gydnabyddiaeth ar gyfer gwaith Carl yn y maes hwn hefyd.
Un o'r ffyrdd yr ydym ni'n edrych arni i symud y cam hwnnw ymlaen, ac i osgoi'r sefyllfa hon o'r loteri cod post hon, y ffaith y gwelir gwahaniaethau, amrywioldeb—. Rydym ni eisiau, gyda llaw, gweld arloesi—rydym ni eisiau arloesi. Rydym ni eisiau iddo fod yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth leol, ac ar hyn yw anghenion sydd gan y plant hynny sy'n derbyn gofal, neu blant sy'n wynebu'r sefyllfa o fod yn derbyn gofal. Ond mae angen inni wneud yn siŵr bod cymorth o ansawdd da a gwasanaeth o ansawdd da ar gael iddyn nhw. Nawr, rhan o hynny yw, o ran, er enghraifft, yr ymyrraeth gynnar, a'r blynyddoedd cynnar, ceisio cyflwyno'r wybodaeth orau a'r arferion gorau ar yr hyn sy'n gweithio mewn gwirionedd, ac yna caniatáu i ardaloedd lleol fanteisio ar y gorau oll, yn hytrach na dechrau o'r dechrau drwy'r amser.
Nawr, un agwedd ar hynny yw, ein bod yn gweithredu dull o integreiddio'r blynyddoedd cynnar, yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal—system y blynyddoedd cynnar integredig ar gyfer teuluoedd a rhieni. Nawr, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod yr holl raglenni a gwasanaethau ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn dod at ei gilydd yn ddi-dor, i gael y gwerth gorau i rieni a phlant. Rydym ni'n gwybod bod rhai yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr; bod yno rai rhaglenni unigol da iawn ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc. Sut ydych chi'n eu tynnu ynghyd yn ddi-dor? Mae'n rhaid imi gydnabod unwaith eto yr adnoddau prin sydd ar gael. Mewn gwirionedd, mae hynny'n rhoi cymhelliant ychwanegol—gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio gyda'i gilydd yn dda.
Felly, mae fy swyddogion wedi dechrau trafodaethau â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, o'r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg, i ystyried sut i ddatblygu hyn, gyda'r nod o sicrhau dull llawer mwy ystyrlon a phenodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar hynny. Ac elfen allweddol o'r rhaglen hon fydd prosiect dwys gyda dau fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, un yn y Cymoedd ac un yn y gogledd, i weld sut y gellid ad-drefnu gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar yn seiliedig ar gydweithio agosach rhwng y byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Felly, y syniad yw ein bod ni'n cynllunio gwasanaethau sy'n cefnogi'r dull ataliol hirdymor hwn, a gallai o bosibl fod yn fodel i'w ddefnyddio yn ehangach ledled Cymru. Nawr, dyna'r dull yr ydym ni'n ei ystyried ar wahanol lefelau o ymyrraeth—sut i'w wneud yn ddi-dor a sut y gallwn ni ddysgu arferion gorau a'u rhannu ar draws Cymru?
Fe wnaethoch gyfeirio at sefydliad diddorol—Roots. Hoffwn i gael gwybod mwy am hynny er mwyn edrych arno. Nid wyf yn credu ein bod ni bellach mewn cyfnod pan fyddwn ni'n nodi grŵp ac yn dweud, 'Wel, dyma grant gan Lywodraeth Cymru.' Fodd bynnag, rydym ni yn y busnes o ddweud y dylai'r partneriaid lleol ar lawr gwlad fod, gyda'r cyllid sydd ar gael, yn edrych ar ba anghenion sydd gan y boblogaeth leol ac wedyn penderfynu pwy all ddarparu orau ar gyfer hynny. Ond hoffwn i glywed mwy am y prosiect hwnnw—efallai y gallwn ni gael sgwrs neu cewch ysgrifennu ataf. Diolch.
Diolch yn fawr iawn.
Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i siarad i'r cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6577 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch o gyflwyno'r Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017.
Dirprwy Lywydd, am resymau da iawn fe benderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn y dylai Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 wahardd swyddogion Awdurdod Cyllid Cymru rhag datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr oni bai bod adran 18 o'r Ddeddf yn caniatáu datgeliad o'r fath yn benodol.
Diffinnir gwybodaeth warchodedig am drethdalwr yn y Ddeddf fel gwybodaeth sy'n ymwneud â pherson, a fydd yn fodd o'u hadnabod, a gwybodaeth a ddaeth i law ACC neu gorff dirprwyedig. Mae datgelu yn fater difrifol ac mae torri'r gofyniad hwn yn drosedd. Mae adran 18(1) o'r Ddeddf yn nodi rhestr o achlysuron, fodd bynnag, ble caniateir datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr. Ar hyn o bryd, nid yw'r adran hon yn rhoi hawl i ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi na chwaith i Gyllid yr Alban, os yw datgeliad o'r fath yn ddim amgenach na chysylltiad â swyddogaethau'r cyrff hyn neu yn gysylltiad â swyddogaeth Awdurdod Cyllid Cymru. Diben y gwelliannau yr wyf i'n eu gosod gerbron heddiw yw rhoi hawl i swyddogion perthnasol o ACC drafod gwybodaeth warchodedig am drethdalwyr gyda Chyllid a Thollau EM a Chyllid yr Alban.
Bydd y rheoliadau yn sicrhau cysondeb gyda Chyllid a Thollau EM, y bydd ganddo fodd cyfreithiol o rannu gwybodaeth gydag Awdurdod Cyllid Cymru ym mis Ebrill 2018. Y rheswm dros wneud hyn i gyd, Dirprwy Lywydd, yw y dylai Awdurdod Cyllid Cymru, rwy'n credu, allu gwneud yr un peth â Chyllid a Thollau EM er mwyn cefnogi'r agwedd o gydymffurfio â threthi datganoledig a threthi cyfatebol er mwyn ceisio atal pobl rhag osgoi ac efadu trethi. Eto, at ddibenion cydymffurfio mewn cysylltiad â threthi datganoledig, mae Awdurdod Cyllid Cymru ar hyn o bryd yn trafod trefniant cyfatebol gyda Chyllid yr Alban at ddibenion rhannu gwybodaeth gyda nhw. Ac rwy'n gobeithio ar y sail hynny y bydd Aelodau yn cefnogi'r materion hyn y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r ffaith ein bod ni'n trafod rheoliadau am y tro cyntaf yn ymwneud â threthi datganoledig yng Nghymru. Wrth gwrs, mae tair Deddf wedi'u pasio erbyn hyn ond mae'r Rheolau Sefydlog wedi newid i ganiatáu i'r Pwyllgor Cyllid edrych yn benodol ar reoliadau sy'n ymwneud â threthi datganoledig, ac mae'n fwriad gan y pwyllgor i wneud hynny, yn sicr, fesul tro, wrth i rai newydd, am y tro cyntaf, gael eu cyflwyno.
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar y rheoliadau hyn. Nid oes dim byd syfrdanol ynddo, mae'n rhaid imi ddweud. Mae'r pwyllgor yn gytûn â bwriad y Llywodraeth a'r hyn mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud sydd wedi cael ei ddisgrifio gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Yr unig beth y byddwn i am ei bwysleisio heddiw yw mai diddordeb byw'r pwyllgor o hyd yw sicrhau bod canllawiau clir ar gael yn rheoli sut mae'r pwerau yma yn cael eu defnyddio gan y gwahanol gyrff sy'n cael y caniatâd i ddefnyddio gwybodaeth trethdalwyr yn y modd yma, ac er ein bod ni wedi trafod hyn a sicrhau hyn wrth i'r Biliau fynd drwy'r Cynulliad, mae hefyd yr un mor bwysig i sicrhau bod y canllawiau i gyd yn glir iawn yn ymwneud â'r darpariaethau is-ddeddfwriaeth yn ogystal. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud gair o ddiolch i'r pwyllgor am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i graffu ar y rheoliadau, ac am y cyfle i'r Llywodraeth i ymateb i'r pwyntiau roedd y pwyllgor wedi'u codi? Rydw i'n meddwl bod y pwyllgor nawr yn hapus gyda'r atebion rydym ni wedi eu rhoi. Ar ochr canllawiau clir, wrth gwrs, rydw i'n cytuno gyda Chadeirydd y pwyllgor. Rydw i'n gwybod bod cadeirydd y WRA a'r bwrdd newydd wedi rhoi blaenoriaeth ar ganllawiau. Siaradais i ddoe gyda phrif weithredwr y WRA, ac rydw i'n hyderus bod y gwaith ar y gweill. Maen nhw'n gwneud y gwaith yn barod; maen nhw'n siarad gyda phobl yn y maes; a bydd cyngor ar gael ar ôl yr Nadolig mewn amser i bobl fod yn glir ar beth mae'r awdurdod yn mynd i'w gasglu a'r ffordd y byddant yn mynd at eu gwaith nhw, a chael hynny mas mewn digon o amser cyn 1 Ebrill y flwyddyn nesaf pan fydd y WRA yn dod at y gwaith hwnnw.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog—
Ni allaf wneud hynny; bydd yn rhaid i mi wneud hynny: 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Yr eitem nesaf ar yr agenda felly—fe awn ni'n ôl at y drefn arferol—yw'r ddadl ar entrepreneuriaeth a'r anghenraid cenedlaethol.
Allaf i ddim eich ddeall chi nawr. [Chwerthin.]
Wel, mae'n ddrwg gen i, ond—
Rwy'n credu bod angen inni adael y maes busnes, byddwn ni yma drwy'r dydd pe byddwn i'n gwneud hyn i gyd yn Gymraeg. Gwnaf ymarfer dros egwyl y Nadolig, rwy'n addo.
Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig. Ken Skates.
Cynnig NDM6578 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch ichi am ganiatáu imi gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a dechrau drwy ofyn cwestiwn: beth yn wir, beth yw'r cysylltiad rhwng rhanbarthau economaidd mwyaf llwyddiannus ac amrywiol y byd, o Boston i Utah, o Israel i Mittelstand yn yr Almaen? Yn fy marn i, yr ateb yw sylfaen busnes llewyrchus; sail busnes gyda dwy agwedd iddi sef entrepreneuriaeth ac arloesedd. Entrepreneuriaeth ac arloesedd wedi ei wneud yn bosib oherwydd bod cyllid ar gael; ymchwil a datblygu; sgiliau; seilwaith ac, wrth gwrs, cyfle.
Mae gennym ni, Lywodraeth Cymru, weledigaeth glir iawn o'r hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni yma yng Nghymru. Rydym ni eisiau gweld ein heconomi yn tyfu, ac mae hynny'n golygu meithrin entrepreneuriaeth a helpu busnesau o bob maint i ddod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy llwyddiannus. Ond mae'n rhaid i'r twf hwnnw fod â diben: twf sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a'r heriau cynhyrchiant sy'n dal ein heconomi yn ôl; twf cynhwysol sy'n cynnig cyfleoedd eang fel y gallwn ni i gyd chwarae rhan a chyflawni i'n llawn botensial. Dyna pam mae'n bwysig hyrwyddo a meithrin ein hentrepreneuriaid a manteision sgiliau entrepreneuraidd fel bod modd i fusnesau dyfu. Rwy'n cydnabod y llwyddiant yr ydym ni eisoes wedi ei gyflawni yn hyn o beth.
Ers ei lansio yn 2012, mae Busnes Cymru—gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig—wedi ymdrin â dros 150,000 o ymholiadau; mae wedi rhoi cyngor i dros 77,000 o unigolion a busnesau; mae wedi annog bron chwarter miliwn o bobl ifanc i fentro i fyd entrepreneuriaeth; cyfeirio a darparu gwybodaeth i 92,000 o fusnesau ychwanegol; wedi creu dros 25,000 o swyddi a diogelu 5,000 arall; ac mae wedi cefnogi creu 12,000 o fentrau newydd yma yng Nghymru.
Cyhoeddais yn ddiweddar bod rhaglen cyflymu twf Busnes Cymru ers mis Ebrill 2015 wedi creu dros 2,300 o swyddi hyd yn hyn, ac mae'r rhaglen hefyd wedi helpu cwmnïau sy'n cymryd rhan i ddenu £80 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat a chynhyrchu £38 miliwn o allforion. Mae hyn yn amlygu'r potensial sy'n bodoli yng Nghymru a hefyd pwysigrwydd ecosystemau cefnogol sy'n helpu entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig mewn modd rhagweithiol i gyfrannu i'r eithaf at economi Cymru.
Mae meithrin gallu wedi bod yn amcan allweddol. Yn fy marn i, mae Syniadau Mawr Cymru, sy'n annog entrepreneuriaeth o gyfnod cynnar ac yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd pobl ifanc, wedi esgor ar ganlyniadau rhagorol, gyda 70 y cant o bobl ifanc o dan 25 oed yn dymuno gweithio iddyn nhw eu hunain. Ac mae 375 o bobl ysbrydoledig wedi siarad â mwy na 56,000 o bobl ifanc mewn 86 y cant o ysgolion, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch.
Rwy'n credu bod angen inni ddathlu llwyddiannau pobl ifanc mewn busnes. Mae gennym ni enghreifftiau ardderchog o'r ffyrdd ymarferol yr ydym ni'n gwneud hyn, drwy gystadlaethau a hefyd drwy gyfrwng gwersylloedd dwys. Mae meithrin gallu o'r math hwn yn ategu ein hymgyrch i annog graddedigion i ddechrau busnesau newydd. Yn fwy cyffredinol, roedd enillwyr diweddar cystadleuaeth Fast Growth 50 yn arddangos y doniau a'r cyfleoedd sydd gennym ni yn ein gwlad.
Mae'n galonogol gweld bod gennym ni bellach y nifer mwyaf erioed o fusnesau gweithredol yng Nghymru, ac mae nifer y busnes newydd sy'n cael eu sefydlu ar ei uchaf ers dros ddegawd. Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cyfrif am 99.3 y cant o fentrau yn ein gwlad, 62 y cant o gyflogaeth a 39.7 y cant o'r trosiant. Er mwyn tyfu, mae'n rhaid i fusnesau Cymru ddatblygu ac esblygu, mae'n rhaid iddyn nhw arloesi. Mae llywodraeth, y byd academaidd a darparwyr cyllid i gyd yn rhan o'r ecosystem honno. Dyna pam yr wyf i wedi cefnogi Creu Sbarc, menter genedlaethol newydd i hyrwyddo arloesi ac entrepreneuriaeth yma yng Nghymru. Cafodd y dull ei ddatblygu gan banel o safon uchel, dan gadeiryddiaeth Simon Gibson, ac mae'n deillio o gyfranogiad Cymru yn y rhaglen sbarduno entrepreneuriaeth ranbarthol a gynhaliwyd yn Sefydliad Technoleg Massachusetts. Amcangyfrifir y byddai cynfyfyrwyr Sefydliad Technoleg Massachusetts ac ecosystem Boston gyda'i gilydd yn gyfwerth â deuddegfed economi mwyaf y blaned. Mae Creu Sbarc yn strategaeth benodol ar gyfer Cymru sy'n gwneud entrepreneuriaeth ac arloesedd yn gyfrifoldeb pob rhanddeiliad, nid dim ond y Llywodraeth, ond hefyd arianwyr, corfforaethau mwy, y byd academaidd ac entrepreneuriaid, ac mae Creu Sbarc wedi edrych ar ffigyrau allweddol er mwyn amlinellu'r heriau sy'n wynebu Cymru.
Er y bydd rhai o'r rhain yn ddi-os yn heriol, hoffwn achub ar y cyfle cyfatebol a gosod uchelgais ar gyfer lle mae angen inni fod, a dyma yw hynny. Mae'n rhaid inni ymdrin â chyfraddau dechrau busnes llai na gweddill y DU, o'r 60 presennol fesul 10,000 i 120 fesul 10,000. Cyfradd y DU ar hyn o bryd yw 93 fesul 10,000. Mae angen inni hefyd weld cynnydd cymesur mewn ceisiadau patent o 3.3 y cant i 5 y cant. Mae angen inni annog datblygiad cymuned amrywiol o fuddsoddwyr 'angel'. Mae'n ffaith bod Cymru ar hyn o bryd yn cael llai nac 1.1 y cant o fuddsoddiad drwy'r rhwydwaith 'UK angel investment'. Mae angen inni hefyd gynyddu cyfraddau cychwyn busnesau ymhlith graddedigion Addysg Uwch o 0.3 y cant o boblogaeth y myfyrwyr i 1 y cant. Byddai hynny'n arwain at sefydlu 1,000 ychwanegol o fusnesau newydd bob blwyddyn. Byddai ymestyn y targed hwn hyd yn oed ymhellach i'r myfyrwyr hynny sydd ar hyn o bryd mewn addysg uwch, ac fe allem ni greu 1,000 o fusnesau newydd ychwanegol. Mae hynny'n agos at gynnydd o 1 y cant yn y stoc busnes yn ein gwlad. Mae angen hefyd inni gynyddu cyfran y cwmnïau twf yng Nghymru, y rhai hynny sydd wedi eu dosbarthu fel rhai sy'n tyfu, o 19 y cant i 30 y cant. Ac, yn olaf, mae angen inni gynyddu faint sy'n cael ei wario ar ymchwil a datblygu diwydiant, a gwneud hyn mewn cydweithrediad ag addysg uwch ac addysg bellach.
Dirprwy Lywydd, bydd angen inni fanteisio ar rym a dylanwad pob grŵp rhanddeiliaid a symud ymlaen gydag amcan ar y cyd. Dylai hwn fod yn amcan ar y cyd rhwng y Llywodraeth, addysg a busnesau, ac rwyf yn credu mai enghraifft wych o hyn ar waith oedd buddsoddiad £20 miliwn Llywodraeth Cymru yn yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy, sy'n canolbwyntio ar yr angen i edrych yn fanwl ar fasnacheiddio, gyda'r holl randdeiliaid yn cydweithio. Ond fel Llywodraeth, does gennym ni mo'r atebion i gyd ein hunain. Mae angen i entrepreneuriaid ac arweinwyr corfforaethol, y rhai sy'n gweithio mewn cyfalaf risg, yn ogystal â phobl allweddol o'r byd academaidd a'r Llywodraeth, gydweithio i wneud i hyn ddigwydd, ac mae'n rhaid i Creu Sbarc fod yn sbardun allweddol ar gyfer hyrwyddo entrepreneuriaeth arloesol yma yng Nghymru.
Fel rhan o'r cydweithio hwn, rwy'n falch iawn o nodi bod NatWest wedi cytuno i roi dwy flynedd o gyllid er mwyn ariannu Prif Swyddog Gweithredol Creu Sbarc, Caroline Thompson. Mae entrepreneuriaid yn hanfodol er mwyn datblygu economi gref a chreu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad. Mae angen inni annog entrepreneuriaeth o oedran cynnar, drwy ennyn dyheadau a dealltwriaeth o entrepreneuriaeth. Mae gan feddylfryd entrepreneuraidd fanteision ar gyfer y rhai sydd nid yn unig yn cychwyn busnes ond hefyd y rhai hynny sy'n dechrau gweithio. Mae her allweddol amlwg ar gyfer ein busnesau mwy o faint ble mae mentergarwch mewnol yn elfen hanfodol er mwyn gwella cynhyrchiant drwy arloesi.
Busnes Cymru yw'r gwasanaeth cydnabyddedig ar gyfer entrepreneuriaid yma yng Nghymru. Mae'n cynnig cymorth ar gyfer darpar entrepreneuriaid, busnesau newydd a microfusnesau sydd eisoes yn bodoli a mentrau bach a chanolig drwy gyfrwng sawl ffynhonnell, gan gynnwys ar-lein, dros y ffôn a thrwy gyfrwng cynghorwyr busnes ymroddgar sy'n gweithio ar hyd a lled ein gwlad. Cyfeiriais gynnau at bwysigrwydd gwasanaeth Busnes Cymru yma yng Nghymru.
Mark Isherwood a gododd—
Ildiaf i'r Aelod.
Cefais y pleser o fynd i'r digwyddiad Creu Sbarc ddydd Mercher diwethaf. Roedden nhw'n croesawu'r ffaith eich bod wedi'i gynnal. Fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn siomedig nad oedd neb o Lywodraeth Cymru yn gallu bod yno, ond roedd hi'n wych clywed cyfraniadau nid yn unig gan fusnesau, gan gynnwys rhywun o Wrecsam oedd yn eistedd wrth fy ymyl, ond hefyd gan awdurdodau lleol, gyda Phrif Weithredwr Sir Fynwy yn siarad, ac, wrth gwrs, y byd academaidd hefyd. Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau, o ystyried yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, fod a wnelo hyn â chydweithio mewn modd entrepreneuraidd ac arloesol, sy'n cynnwys entrepreneuriaeth gymdeithasol, arloesi wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac, wrth gwrs, datblygu economi Cymru drwy y sector busnes hefyd?