Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
24/10/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Aelodau i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog. Mae’r cwestiwn cyntaf [OAQ51256] wedi ei dynnu yn ôl, ac felly’r ail gwestiwn, Janet Finch-Saunders.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch cleifion yng Nghymru? (OAQ51245)

Rydym ni’n dwyn holl sefydliadau'r GIG i gyfrif ar amrywiaeth eang o ddangosyddion diogelwch cleifion ac rydym yn annog diwylliant adrodd agored o ddigwyddiadau difrifol i alluogi ymchwiliad llawn o bob achos.
Diolch, Prif Weinidog. Yn y gogledd, fodd bynnag, cawsom sioc yr wythnos diwethaf i ddarganfod, o'r 77 digwyddiad nas bwriadwyd neu annisgwyl a arweiniodd at farwolaethau cleifion wedi’u cofrestru ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bod mwy na hanner y rhain ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd pob un o'r achosion hyn wedi bod yn ddinistriol iawn i deuluoedd ac anwyliaid y cleifion hyn. Prif Weinidog, bydd cwestiynau’n cael eu gofyn ynghylch sut y mae'r mesurau arbennig ac, yn wir, ymyrraeth eich Llywodraeth o ran gwireddu unrhyw welliant yn gweithio i’r gwrthwyneb erbyn hyn, mewn gwirionedd. Rwy’n gofyn i chi nawr: a wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad i pam mae’n ymddangos bod diogelwch cleifion o dan y bwrdd hwn a chyfrifoldeb eich Llywodraeth mewn perygl cynyddol?

Nid yw'r Aelod yn deall yn llawn sut y mae'r ystadegau'n cael eu casglu. Yn gyntaf oll, rydym ni’n annog gonestrwydd a natur agored, ac mae hynny'n golygu ein bod ni’n annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau difrifol. Nawr, mae hynny'n golygu, yn union fel yr ystadegau troseddu, er enghraifft, pan fo mwy o bobl yn adrodd am ddigwyddiadau difrifol, yna mae mwy’n cael eu cofnodi. Nid yw'n golygu bod mwy o ddigwyddiadau difrifol mewn gwirionedd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod y digwyddiadau hynny’n cael eu hadrodd. Ni ddylid dweud na gwneud unrhyw beth a fydd yn atal adrodd yn y dyfodol, oherwydd rydym ni eisiau sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu hadrodd a’u bod yn gyhoeddus. Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai 1.79 y cant oedd y gyfradd marwolaethau ysbyty crai ar gyfer ysbytai PBC yn 2016-17, sy'n is na chyfartaledd Cymru o 1.81 y cant. Felly, ydy, mae'n bwysig bod pob achos yn cael ei ymchwilio, ond mae'n bwysig bod pobl yn dod ymlaen, bod diwylliant agored wrth ymdrin â chwynion. Ac rwy’n credu mai dyma’r hyn yr ydym ni’n ei weld yma—mwy o gwynion yn dod i’r amlwg yn hytrach na mwy o achosion yn dod i’r amlwg.
3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghwm Cynon? (OAQ51248)

Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yw ein rhaglen allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ers 2011, rydym ni wedi buddsoddi dros £240 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni mewn dros 45,000 o gartrefi. Ers 2012, mae Nyth wedi gwario dros £9 miliwn yn ardal Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni i gartrefi incwm isel.
Prif Weinidog, er gwaethaf y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran lleihau tlodi tanwydd yng Nghwm Cynon a ledled Cymru trwy gyfres o gamau gweithredu ymarferol Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd tlodi tanwydd yn cael ei ddileu erbyn y targed o 2018 a nodwyd yn flaenorol. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r strategaeth tlodi tanwydd yng ngoleuni hynny, ac, os felly, pa wersi fydd yn cael eu dysgu o elfennau llwyddiannus a heb fod mor llwyddiannus y cynllun presennol?

Mae arolwg cyflwr tai Cymru wedi cychwyn erbyn hyn. Bydd hwnnw'n darparu data pwysig a fydd yn helpu i hysbysu cyflwyniad 'Ffyniant i Bawb'. Bydd yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth i ni, gan gynnwys amcangyfrifon a data tlodi tanwydd cenedlaethol wedi eu diweddaru i helpu gyda thargedu mesurau cyflawni. Bydd hefyd yn ein helpu i hysbysu trafodaethau gyda rhanddeiliaid, a bydd hynny'n golygu, wrth gwrs, y gallwn fanteisio ar y data y mae'r arolwg yn eu darparu er mwyn helpu i gryfhau'r strategaeth yn y dyfodol.
Prif Weinidog, rwy’n cytuno â'r hyn a ddywedasoch am effeithlonrwydd ynni, ond mae hefyd yn ffaith eithaf syfrdanol, yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru, mai dim ond 12 y cant o'r rheini sydd ar yr incwm isaf sydd ar y tariffau isaf sydd ar gael, ac rwy’n credu bod gwaith i'w wneud yn y fan yma i hysbysu pobl am y tariffau sydd ar gael a'r rhai isaf. Gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, pan fyddant yn ymgymryd â’r gwahanol gynlluniau yr ydych chi wedi bod yn cyfeirio atynt efallai, atgoffa pobl pa mor bwysig yw hi i ddod o hyd i’r tariff isaf.

Rwy'n cydymdeimlo â hynny. Mae pobl yn dueddol o aros gyda'r un darparwr ar yr un tariff oherwydd hwylustod, ac yna, wrth gwrs, maen nhw'n methu â chael y fargen orau. Yr hyn a fydd yn helpu yw gweld—gan fod Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu polisi'r Blaid Lafur—capiau ar dariffau ynni newidiol. Bydd hynny'n helpu llawer o bobl nad ydynt wedi manteisio ar y cyfle i newid eu tariffau, neu sy’n canfod nad ydynt yn gallu gwneud hynny, i elwa ar brisiau is.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn ddiweddarach heddiw, mae eich Llywodraeth yn gwneud datganiad ar isafbris am alcohol. Nawr, rwy'n ymwybodol o’r dadleuon iechyd y cyhoedd a'r angen i leihau marwolaethau o ganser yn arbennig. Ond dylai polisi iechyd y cyhoedd fod yn ystyried yr holl ddefnydd o sylweddau sy'n peri problemau. Pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud o effaith isafbris am alcohol ar y defnydd o sylweddau eraill, fel cyffuriau anghyfreithlon?

Wel, rydym ni’n gwybod y bydd rhai pobl, wrth gwrs, sy’n gaeth. Efallai y bydd rhai sy’n ystyried cyffuriau anghyfreithlon wedyn. Ond, i’r mwyafrif llethol o bobl, bydd dau ganlyniad i hyn. Yn gyntaf, bydd yn helpu i leihau'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed. Ac, yn ail, bydd yn helpu tafarndai, a dweud y gwir, oherwydd y tafarndai sy'n dioddef fwyaf o ganlyniad i werthu gan archfarchnadoedd am brisiau llai na thafarndai, y gwyddom sy’n bwysig i'n cymunedau. Felly, mae agwedd fasnachol i hyn hefyd. Ond nid ydym yn ymddiheuro am fod eisiau sicrhau ein bod ni’n cael gwared ar sefyllfaoedd lle mae alcohol rhad iawn ar gael i bobl, mewn ffordd sy'n achosi iddyn nhw yfed gormod ac felly effeithio ar eu hiechyd.
Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r dadleuon yr ydych chi newydd eu hamlinellu. Ond nid yw’n ymddangos o'ch ateb fel pe byddai unrhyw asesiad wedi ei wneud o’r cysylltiad hwnnw, yr wyf yn gobeithio’n fawr sy’n rhywbeth y gwnaethoch chi ei anghofio, Prif Weinidog. Mae angen i ni leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn ogystal â marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol. Nawr, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd eu huchaf erioed yng Nghymru a Lloegr. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau 44 y cant yn uwch o’u cymharu â 2012. O ran ffigurau Cymru'n unig, yn y flwyddyn ddiweddaraf a gofnodwyd, roedd cynnydd o’r flwyddyn gynt hefyd—bu farw 168 o bobl yn 2015. Mae derbyniadau i ysbytai ar gynnydd hefyd, sy'n golygu cost gynyddol i wasanaethau cyhoeddus ac i'r GIG. Ac, yn anecdotaidd, rydym ni i gyd yn gwybod bod rhai pobl yn defnyddio cyffuriau yn agored mewn mannau cyhoeddus, ar ein strydoedd, yng nghanol trefi, lle mae'n llai diogel iddyn nhw ac i eraill. Prif Weinidog, a allwch chi esbonio sut y mae eich strategaeth camddefnyddio sylweddau yn defnyddio pwerau datganoledig i leihau derbyniadau i ysbytai a marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau?

Un o'r problemau a wynebir ar hyn o bryd yw bod Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 wedi ei chael hi’n anodd erioed i gadw i fyny â chyffuriau newydd wrth iddyn nhw ymddangos ar y farchnad. Mae Cyffuriau fel Spice—sy’n gymharol newydd, yn achosi i bobl droi’n hynod dreisgar. Ac mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle—mae gormod o ddefnydd agored o gyffuriau, a gwerthwyr nad yw’n ymddangos eu bod yn rhy bryderus am gael eu dal. Y peth cyntaf i'w wneud yw targedu'r gwerthwyr. Mae angen eu cael yn euog a'u carcharu—dyna lle ddylen nhw fod, oddi ar y strydoedd. Ydy, mae'n wir dweud y gall eraill ymddangos, ond mae'n bwysig anfon y neges honno.
Nawr, nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun; rwy'n deall hynny. Sut ydym ni'n ymdrin â phobl sy'n camddefnyddio cyffuriau? Wel mae'r strategaeth camddefnyddio sylweddau yno i helpu i wneud hynny. Mae'n gyfuniad, yn fy nhyb i, o ymyrraeth feddygol, ond hefyd bod yn gryf o ran cosbi pobl sy'n cyflenwi'r cyffuriau.
Wel, nid yw rhoi’r gwerthwyr dan glo wedi gweithio hyd yma, ac mae'r pwerau hynny y tu hwnt i'ch rheolaeth. Yr hyn y mae gennych chi reolaeth drosto yw iechyd. Nawr, dull lleihau niwed fu’r dull mwyaf effeithiol o ran lleihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Ac, yn eich strategaeth camddefnyddio sylweddau, rydych chi'n honni eich bod wedi ymrwymo i ddull lleihau niwed. Ni fyddwn yn gwybod a yw'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd yn ddigonol tan i ystadegau newydd Cymru gael eu cyhoeddi y gaeaf hwn. Ond, wrth gwrs, nid yw’r ystadegau Cymru a Lloegr yr ydym ni wedi eu gweld eisoes yn argoeli’n dda.
Os oeddech chi o ddifrif am leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, yn ogystal â lleihau'r problemau cymdeithasol ehangach, byddech chi’n agored i'r atebion a gynigiwyd gan gomisiynydd heddlu a throseddu Plaid Cymru, Arfon Jones. A wnewch chi gytuno i gyfarfod ag Arfon Jones a rhoi cymorth sydd ei angen arnynt i'r heddlu ac eraill i alluogi cyfleuster chwistrellu diogel arbrofol mewn lleoliad addas, a fyddai'n lleihau niwed i'r cyhoedd, yn ogystal â helpu i leihau marwolaethau diangen o gyffuriau niweidiol?

Wel, ceir cyfarfodydd rheolaidd eisoes a gynhelir rhwng y comisiynwyr heddlu a throseddu a Gweinidogion beth bynnag. Mae'n gwbl gywir i ddweud nad oes llawer iawn o bwynt, ac na fyddai’n iawn ychwaith, i ystyried camddefnyddio sylweddau fel rhywbeth sy'n drosedd. Ceir pobl sydd â phroblemau meddygol; mae'r cyflenwyr yn wahanol. Ond y bobl hynny, wrth gwrs, sydd mewn sefyllfa lle maen nhw’n camddefnyddio sylweddau, mae’n rhaid i’r ymyrraeth iddyn nhw fod yn feddygol. Ac mae hynny'n golygu gweithio gyda'r heddlu—mae hynny'n wir; dyna'r hyn y mae’r strategaeth camddefnyddio sylweddau wedi ei llunio i'w wneud. Dywedodd hi ei hun ein bod ni’n aros am ffigurau Cymru, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y ffigurau Cymru hynny yn dangos ein bod ni’n gweld effaith gadarnhaol ar gamddefnyddio sylweddau. Ond mae'r her bob amser yno: sut ydych chi'n ymdrin â chyffuriau newydd sy'n ymddangos, drwy'r amser, wedi eu syntheseiddio'n wreiddiol o gyffuriau nad oeddent yn bodoli ym 1971? Mae hi'n iawn i sôn am heroin—yn iawn i sôn am heroin. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, fel yr ydym yn ei wneud, a'n bod ni’n datblygu ac yn rhoi’r amser i’n strategaeth camddefnyddio sylweddau ddatblygu, ac yn y modd hwnnw, rwy'n credu y byddwn ni'n helpu mwy a mwy o bobl i roi’r gorau i gymryd y sylweddau y maen nhw’n dod yn gaeth iddynt.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae pwysau ar draws y Deyrnas Unedig pan ddaw i’r gwasanaeth iechyd. Ym mis Mehefin 2015, gwnaeth eich Llywodraeth fwrdd iechyd Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, yn destun mesurau arbennig, ac ym mis Mawrth eleni, dywedasoch, mewn gwirionedd, lle mae diffygion yn mynd allan o reolaeth a phroblemau yn bodoli mewn byrddau iechyd eraill ledled Cymru, efallai’n wir y bydd yn rhaid i chi ystyried ymyrryd yn y byrddau iechyd hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu yn ystod y misoedd diwethaf yw bod y diffyg wedi dyblu ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, bod amseroedd aros wedi cynyddu 79 y cant—o 4,858 i 8,700—a rhagwelir y bydd y diffyg ar ddiwedd y flwyddyn hon yn £100 miliwn yn gronnus dros y tair blynedd: £50 miliwn ar gyfer yr un flwyddyn ariannol hon, ac roedd y ddwy flaenorol yn £25 miliwn. Sut all pobl fod yn ffyddiog bod eich Llywodraeth yn rhoi Betsi ar y trywydd i wella ac, yn bwysig, bod y pryderon a godir gan yr Aelod o Aberconwy yn cael sylw, pan fo'r ystadegau'n dangos, o ran amseroedd aros, o ran recriwtio a rheoli a lleihau diffygion eich bod chi’n methu eich holl dargedau eich hun?

Wel, mae hyn yn anghywir, yn syml. Yn gyntaf oll, i egluro ei awgrym y bydd diffyg o £100 miliwn, nid ydym yn disgwyl i unrhyw un o'r byrddau iechyd ddangos diffyg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, ac mae honno'n neges yr ydym ni’n ei gwneud yn eglur iddyn nhw.
Wel, Prif Weinidog, gyda'r parch mwyaf, yn eu papurau bwrdd eu hunain, yr wyf yn tybio eich bod chi wedi eu gweld ac, yn amlwg, wedi helpu i’w llunio, gan ei fod o dan eich rheolaeth chi, y bwrdd iechyd hwn, maen nhw'n rhagweld diffyg yn y flwyddyn ariannol hon o £50 miliwn. Nid fy nghyfrifiad i yw e; eu cyfrifiad nhw, ac maen nhw’n dweud, oni bai bod mesurau a chamau lliniaru yn cael eu cyflwyno i ostwng y diffyg hwnnw, y bydd y diffyg hwnnw'n bodoli. Yma yng Nghaerdydd, rydych chi’n dweud nad yw hynny’n wir. Mae eich rheolwyr a'ch cyfarwyddwyr eich hun yn y gogledd sy'n gyfrifol am ddarpariaeth gwasanaethau o ddydd i ddydd yn dweud bod y diffyg hwn yn bodoli. Ni allwch chi gael y ddau’n gweithio yno. Efallai ei bod yn destun pryder eich bod chi wedi eich datgysylltu cymaint o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Gofynnaf i chi eto, Prif Weinidog, gydag amseroedd aros yn mynd drwy'r to, gyda diffyg nad yw dan reolaeth ac, yn anad dim, yr anallu i recriwtio a chadw staff, ar lefel meddygon teulu nac yn yr ysbytai, sut, ar ôl bron i dair blynedd o dan eich goruchwyliaeth a'ch rheolaeth uniongyrchol chi, all trigolion y gogledd fod yn ffyddiog bod eu bwrdd iechyd ar y llwybr i wella?

Gallant fod yn gwbl ffyddiog. Fel y dywedais, nid ydym ni’n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddangos diffyg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Os ydyn nhw’n nodi problem nawr, mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin â hi. Eu cyfrifoldeb nhw yw hynny. Mae'n sôn am restrau aros sy'n mynd drwy'r to ac nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth o hynny. Mae hefyd yn dweud bod problemau gyda recriwtio a chadw. Gallaf ddweud wrtho fod 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran llenwi lleoedd hyfforddi, yn enwedig o ran ceisiadau nyrsio hefyd. A wyddoch chi beth mae meddygon teulu yn ei ddweud wrthym ni—ac rwyf i wedi cael hyn gan un meddyg ymgynghorol a ddywedodd hyn wrthyf fis yn ôl—'Y rheswm pam yr oeddwn i eisiau dod i Gymru oedd oherwydd fy mod i’n hoffi'r ymgyrch recriwtio', a dau air arall: Jeremy Hunt.
Pam mae amseroedd aros gymaint yn well yn y DU o’u cymharu â’r hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru?

Ydyn nhw?
Defnyddiais ffigurau i—. Wel, rydych chi’n dweud nad ydyn nhw, Prif Weinidog. Damweiniau ac achosion brys—yr arhosiad 12 awr yn Lloegr—mae 78 o bobl yn aros o bobl 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o boblogaeth o 55 miliwn. Yng Nghymru, 2,438 o boblogaeth o 3 miliwn oedd y ffigur. Nid fy ffigurau i ydyn nhw; eich ffigurau chi ydyn nhw. Yr hyn yr wyf i’n ceisio ei gael gennych chi, Prif Weinidog, yw rhywfaint o allu i fod yn ffyddiog. Defnyddiais yr amseroedd aros a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud bod amseroedd aros wedi dyblu o 4,858 i 8,708. Defnyddiais y ffigurau diffyg y mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi eu cyhoeddi yn ei adroddiad bwrdd. Rwyf wedi defnyddio'r enghraifft bod y bwrdd iechyd ei hun yn dweud y bydd y diffyg hwn yn bodoli ar ddiwedd y flwyddyn ariannol oni bai fod camau lliniaru’n cael eu cymryd. Felly, mae popeth yr wyf i wedi ei ddyfynnu i chi wedi dod gan y bwrdd iechyd neu’n ystadegau sydd wedi dod gan eich Llywodraeth eich hun. Y cwbl yr wyf i’n ofyn amdano yw sicrwydd gennych chi, Prif Weinidog, ar ôl bron i ddwy flynedd a hanner o'ch Llywodraeth yn bod mewn rheolaeth uniongyrchol o fwrdd iechyd gogledd Cymru, bod y bwrdd iechyd hwnnw’n symud ymlaen i sefyllfa lle bydd amseroedd aros yn lleihau, y bydd swyddi meddygon gwag yn cael eu llenwi ac, yn anad dim, y bydd y diffyg yn dod o dan reolaeth. Ar ddau achlysur, rydych chi wedi methu â rhoi unrhyw sicrwydd hyd yn hyn. Rwy'n credu bod hynny'n dweud mwy wrthych chi am eich gafael ar realiti nag y mae'n ei ddweud am unrhyw beth arall.

Wel, y cwbl y gallaf i ei ddweud wrtho yw bod ymwrthodiad llwyr o gyfrifoldeb am y GIG yn Lloegr. Bob tro mae bwrdd iechyd yn tanberfformio, nid bai Jeremy Hunt yw hynny, nage? Byth yn fai ar y Llywodraeth Geidwadol na Jeremy Hunt. Gadewch i mi roi ffigur iddo sy'n gywir er mwyn iddo allu ei bendroni: yn Lloegr, y rhestr aros gyffredinol yw’r fwyaf erioed erbyn hyn—y fwyaf erioed. Dyna stiwardiaeth y Torïaid o’r GIG. Roedd 409,342 o gleifion dros darged Lloegr—mae hynny wedi mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf. Mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf. Gwyddom, yng Nghymru, ein bod ni wedi mynd i'r cyfeiriad arall. Ac mae'n eistedd yn y fan yna ac yn cyd-fynd â chil-dwrn o £1.67 biliwn i Ogledd Iwerddon—rhywfaint ohono ar iechyd—ac ni wnaeth ddim i gynrychioli ei wlad. [Torri ar draws.] Ni wnaeth ddim i gynrychioli ei wlad. Pa sylwadau wnaeth ef i Lywodraeth y DU a'i gydweithwyr i fynnu y dylai Cymru gael swm Barnett cyfatebol i'r arian hwnnw? Dim o gwbl; mae arno ormod o’u hofn.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gan ddychwelyd at y thema y cyfeiriwyd ati gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach heddiw—Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)—sut ar y ddaear all y Prif Weinidog gefnogi mesur sydd mor atchweliadol yn y modd y mae'n gweithio? Mae hwn yn fesur sydd wedi ei lunio'n benodol, yn anghymesur, i dargedu'r diodydd hynny sy'n cael eu hyfed mewn mesurau anghymesur gan bobl ar incwm isel. Mae'n hysbys iawn bod aelwydydd incwm isel yn prynu llai o unedau o alcohol ar y cyfan, ond mae mwy o’r hyn y maen nhw’n ei brynu wedi ei brisio ar lai na 40c yr uned. Ble mae'r tegwch mewn mesur sy'n gadael sosialwyr siampaen maestrefi mwy llewyrchus Caerdydd heb eu heffeithio, ond yn targedu yfwyr cwrw Blaenau Gwent?

A yw o ddifrif yn dweud bod pobl ar incwm isel yn yfed mwy yn ôl eu cyfran? Mae hynny'n snobyddiaeth o raddau nad wyf i erioed wedi ei weld o'r blaen, mae'n rhaid i mi ddweud. A chanlyniad ei ddadl, yn yr achos hwnnw, yw y dylem ni leihau'r dreth ar dybaco, gan fod honno’n atchweliadol yn anghymesur hefyd, felly gadewch i ni leihau'r dreth ar dybaco hefyd. Mae'n union yr un ddadl. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau nad yw alcohol yn dod yn rhatach ac yn rhatach, fel y mae wedi dod, fel bod pobl yn yfed mwy a mwy, gan eu bod yn ei ystyried yn rhad.
Fel y dywedais yn gynharach, ceir problem i’r tafarndai yma hefyd. Mae tafarndai yn cael eu hergydio flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn gan alcohol rhad o archfarchnadoedd, ac mae tafarndai’n fannau cyfrifol lle mae pobl yn yfed—maen nhw'n gofalu am bobl sy’n feddw ac yn gwrthod gwerthu iddynt—ac mae tafarndai'n cael eu colli yn eithriadol o gyflym yn ein cymunedau. Siaradwch ag unrhyw dafarnwr a bydd yn dweud wrthych mai rhan o'r rheswm yw bod pobl yn prynu alcohol rhad o archfarchnadoedd, sy’n cael ei werthu am bris is-gost, yn aml iawn. Nawr, mae'r bobl hynny yn haeddu tegwch hefyd. Felly, oes, wrth gwrs, mae agwedd iechyd i hyn, ond hefyd, wrth gwrs, fel mater cysylltiedig, gwyddom mai un o'r canlyniadau yw y bydd yn cynnig sefyllfa llawer mwy teg i dafarndai hefyd.
Ni ddywedais fod pobl ar incwm isel yn prynu mwy o alcohol; dywedais y gwrthwyneb a dweud y gwir—bod pobl ar incwm isel yn prynu llai o alcohol yn gyffredinol na phobl ar incwm uwch, ond mae mwy o'r alcohol y maen nhw’n ei yfed yn frandiau rhatach, nid brandiau drytach, felly bydd yn cael effaith anghymesur o galed ar bobl ar incwm isel.
Dywedodd y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes yn 2009 fod tystiolaeth sylweddol, yn gyffredinol, mai yfwyr trymach sydd leiaf ymatebol i newidiadau i brisiau. Felly, yr yfwyr alcohol sy’n peri problemau yw’r rhai sydd leiaf tebygol o ymateb i'r mesurau sy’n cael eu cynnig nawr. Yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yma yw y bydd yr yfwyr sy’n peri problemau gwirioneddol yn parhau i yfed, ac efallai y bydd ganddyn nhw lai o arian i'w wario ar bethau fel bwyd. Felly, o safbwyntiau deietegol eraill, mae eu hiechyd yn mynd i ddioddef. Ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith gadarnhaol o gwbl. Yr unig bobl sydd wir yn mynd i fanteisio ar hyn yw'r archfarchnadoedd, oherwydd nid treth sy'n cael ei chodi yw hon—bydd yn codi pris cynnyrch rhad, a bydd hynny'n cynhyrchu elw ychwanegol i'r archfarchnadoedd. Yn sicr ni fydd yn cynhyrchu elw ychwanegol i dafarndai.

Wel, eto, gellid defnyddio'r un ddadl ar gyfer sigaréts. Os yw'n dweud y dylai'r dreth ar sigaréts gael ei gostwng gan ei bod yn atchweliadol, gadewch i ni ei glywed yn dweud hynny. O ran alcohol, rydym ni’n gwybod bod alcohol wedi dod yn rhatach yn gymesur, rydym ni’n gwybod ei fod wedi annog pobl i yfed mwy—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny; os yw'n rhatach bydd yn gwneud hynny. Mae hon yn ffordd o sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn rhwng pris alcohol ac iechyd pobl. Nid wyf yn gweld dim o'i le ar hynny, ac mae'n hynod bwysig bod gennym ni agwedd gyfrifol at alcohol, yn hytrach nag un sy'n dweud, 'Prynu un, cael un am ddim', 'Prynu dau, cael un am ddim'—ac nid yw hynny ar y brandiau rhataf bob amser; mae’n aml iawn ar frandiau sy'n eithaf drud yn gymesur. Dyna'r ffordd y mae pobl yn cael eu hannog i brynu mwy ac yfed mwy. Does bosib bod hynny’n rhywbeth yr ydym ni eisiau ei annog.
Ceir problem gyda nifer gymharol fach o bobl sy'n goryfed. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau targedu'r rheini. Y broblem gyda mesur o'r math hwn yw ei fod gymaint ar hap o ran ei ddull ei fod mewn gwirionedd yn cosbi’r llawer sy'n yfwyr cymedrol heb gael unrhyw effaith fesuradwy ar y rheini yr ydym ni eisiau eu helpu mewn gwirionedd.

Nid wyf yn deall y rhesymeg honno. Mae'r un rhesymeg yn berthnasol i sigaréts. Gallai sefyll ar ei draed a gallai ddweud, 'Wel, mae'n cosbi'r ysmygwr achlysurol, ac felly dylid gostwng y dreth ar dybaco.' Mae’r ddau beth yn cael yr un math o effaith. Edrychwch, i mi, mae'n hynod bwysig, fel cymdeithas, nad oes gennym ni alcohol yn cael ei werthu islaw'r pris cost—ac mae'n digwydd yn rhai o'r cynigion a welwn mewn archfarchnadoedd—ac nad oes gennym ni bobl yn cael eu hannog i brynu mwy o alcohol nag y byddent eisiau ei brynu fel arall. Mae hynny'n annog pobl a fyddai fel arall yn yfwyr eithaf cymedrol i yfed mwy na sy'n dda iddynt, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i'w osgoi.
Fel mae'n digwydd, fel sgîl-effaith, mae hefyd yn galluogi tafarndai i allu cystadlu ar sail deg gyda'r archfarchnadoedd sydd wedi gyrru cymaint o dafarndai allan o fusnes. Peidiwch â siarad â mi, siaradwch â thafarnwyr a byddant yn dweud hyn wrthych chi. Mae'r gwahaniaeth mewn pris, yn gymesur, rhwng alcohol archfarchnadoedd nawr ac alcohol mewn tafarndai yn llawer iawn mwy nag a fu erioed o'r blaen. Mae angen i ni sicrhau bod gan bobl le i fynd yn y pentrefi lle maen nhw’n byw, trwy dafarndai, er enghraifft. Nid dyma fwriad y ddeddfwriaeth—y bwriad yw ei bod yn ddeddfwriaeth sy'n ymdrin ag iechyd. Ond, wrth gwrs, ceir effeithiau ehangach a nodir.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i gynyddu lefelau cynhyrchu'r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru? (OAQ51250)

Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn datblygu dulliau cydweithredol sydd â’r nod o gynyddu faint o gynnyrch o Gymru a gyflenwir i'r sector cyhoeddus.
Diolch. Rwyf newydd ddod o'r uwchgynhadledd lysiau sy’n cael ei chynnal yn y Pierhead ar yr un pryd ag yn Llundain a Chaeredin, a chlywsom addewidion pwysig iawn gan amrywiaeth eang o gynhyrchwyr a hyrwyddwyr, er enghraifft, hawliau plant. Tynnodd y comisiynydd plant sylw at y ffaith nad yw bron i 80 y cant o blant pump i 10 oed yn bwyta digon o lysiau, ac nad yw 95 y cant o blant 11 i 16 mlwydd oed yn bwyta digon o lysiau i allu dysgu a chwarae'n effeithiol, a bod hwn yn fater hawliau plant. Clywsom addewidion pwysig gan archfarchnad fwyaf y DU, Tesco, sydd wedi cytuno i brynu llysiau tymhorol gan dyfwyr yn y DU, yn ogystal â chynnwys mwy o lysiau yn eu bargeinion pryd bwyd. Mae Castell Howell, Brains, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chyngor Caerdydd i gyd yn addo gweini a hyrwyddo mwy o lysiau yn eu tafarndai, eu ffreuturiau a’u hystafelloedd bwyta. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod y pryniant cynyddol hwnnw o lysiau yn dod oddi wrth gynhyrchwyr Cymru, yn hytrach na marchnadoedd eraill y DU neu, yn wir, o dramor?

A gaf i groesawu'r ffaith bod yr uwchgynhadledd lysiau yn cael ei chynnal yn adeilad Pierhead ar hyn o bryd? Mae'n dod â ffermwyr, manwerthwyr, proseswyr a Llywodraeth at ei gilydd, gan edrych ar y gadwyn gyflenwi a sut y gallwn gynyddu cynhyrchiant llysiau. Rydym ni wedi ymrwymo, drwy'r cynllun gweithredu ar fwyd a diod, yr ydym ni’n ei rannu gyda'n bwrdd diwydiant a benodwyd yn gyhoeddus, nid yn unig i dyfu sector bwyd a diod Cymru, ond i wneud hynny’n gynaliadwy ac i fynd i'r afael â heriau dwys deiet. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi sefydlu trefniadau prynu sy'n galluogi cyrff cyhoeddus Cymru i gael mynediad at amrywiaeth eang o gynhyrchion llysiau i gefnogi cynllunio prydau bwyd iachach.
Yn dilyn cwestiwn Jenny Rathbone, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chaffael bwyd i gyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau bod mwy a mwy o gynhyrchwyr bwyd lleol yn cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol? Hefyd, a allwch chi ddweud wrthym ni un peth mae eich Llywodraeth chi wedi ei wneud yn y flwyddyn ddiwethaf i wneud gwahaniaeth a sicrhau bod mwy a mwy o gynhyrchwyr bwyd lleol yn cael eu defnyddio yn y sector gyhoeddus?

Mae yna grŵp cydweithredol wedi cael ei sefydlu, ac mae’n cynnwys rhai o’r sector gyhoeddus yng Nghymru. Nod y grŵp hwnnw yw sicrhau ein bod ni’n gweithredu ar sicrhau bod yna fargen dda ynglŷn â chaffael. Mae hwnnw’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus a hefyd gyda’r rheini sydd yn cynhyrchu er mwyn symud y project hwn ymlaen. So, felly, mae yna bethau’n cael eu gwneud wrth weithio gyda’r diwydiant er mwyn sicrhau bod mwy o fwyd a diod yn dod i mewn o Gymru. Un o’r pethau, wrth gwrs, sydd wedi newid dros y blynyddau yw, ar un adeg, un o’r problemau, gyda chytundebau mawr fel y gwasanaeth iechyd, oedd nad oedd dim corff neu fusnes digon mawr i sicrhau bod nwyddau yn mynd i mewn i’r farchnad honno ddydd ar ôl dydd, fis ar ôl mis. Mae hynny wedi newid nawr, ac mae hynny, wrth gwrs, o achos y gwaith rŷm ni wedi ei wneud fel Llywodraeth ynglŷn â chefnogi edrych ar hyn mewn ffordd wahanol ac nid yn yr un hen ffordd.
Rydw i’n gweld, Brif Weinidog, fod eirin Dinbych yn mynd i fod yn cael eu gweini fel pwding yfory yn y Cynulliad. Felly, mae croeso i bawb gyfrannu drwy fwyta’r eirin hyfryd hynny. Ond wrth inni ymadael â’r polisi amaeth cyffredin, sydd erioed wedi rhoi unrhyw gefnogaeth i arddwriaeth yng Nghymru, pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd fel Llywodraeth i sicrhau bod yna gefnogaeth i adeiladu’r seilwaith ar gyfer gwneud yn siŵr bod ffermwyr nawr yn gallu buddsoddi mewn garddwriaeth ac ar gyfer y marchnadoedd newydd?

Nawr, mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷm ni’n ei ystyried gyda’r diwydiant ar hyn o bryd. Y peth cyntaf rydw i’n moyn ei bwysleisio, wrth gwrs, yw’r ffaith ein bod ni’n wastad wedi dweud y dylai’r un faint o arian fod ar gael yn y dyfodol â beth sydd nawr. Beth rŷm ni wedi dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw y dylai’r arian gael ei ddodi mewn un lle ac nad oes unrhyw beth i’w newid ynglŷn â’r cyfanswm hynny heb fod yna gytundeb rhwng y Llywodraethau i gyd. Ond, wedi dweud hynny, mae yna gyfle inni nawr ystyried ym mha ffordd y gallwn ni ddefnyddio’r arian hynny er lles ffermwyr Cymru—edrych ar ffyrdd newydd, efallai, o weithio—ac mae hynny’n un peth y gallwn ni ei ystyried.
Rydw i’n cofio, 17 o flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i’n aelod o bwyllgor amaeth y Cynulliad, roedd yna adolygiad wedi cael ei wneud bryd hynny ar arallgyfeirio, a’r peth a ddaeth reit lan ar y top ynglŷn â beth oedd â’r cryfder mwyaf yn y pen draw oedd tyfu llysiau organig. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod rownd ers amser, ond, wrth gwrs, nid oedd y system talu ‘subsidies’ yn ddigon hyblyg er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu defnyddio’r arian yn y ffordd y byddem ni eisiau. Mae yna gyfle nawr, wrth gwrs, yn y dyfodol, i sicrhau bod hyn yn digwydd.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am batrymau hunangyflogaeth yng Nghymru? (OAQ51252)[R]

Mae hunangyflogaeth yn parhau i fod yn gonglfaen economi Cymru ac mae'n ganolog i'r strategaeth genedlaethol. Rydym ni’n parhau i gefnogi busnesau i gychwyn a thyfu, i fuddsoddi ac, wrth gwrs, i wella eu cyfraniad at economi Cymru.
Y prynhawn yma, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig, ac roedd yn bleser gennym groesawu'r Ffederasiwn Busnesau Bach i lansio ei adroddiad, 'Mynd ar eich Pen eich Hun: Deall Hunangyflogaeth yng Nghymru', a ysgrifennwyd gan yr Athro Andrew Henley a Dr Mark Lang. Ceir nifer o argymhellion i Lywodraeth ynddo, ond un o'r materion pwysicaf yn yr adroddiad yw bod y lefelau uchaf o hunangyflogaeth ym Mhowys, sef 23 y cant, a bod y lefelau isaf yn y Cymoedd gogleddol yr wyf i’n eu cynrychioli, ac eraill, sef 8.7 y cant. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn benodol i ysgogi a chynyddu hunangyflogaeth yn y cymunedau hynny yn y Cymoedd, ac yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a menywod?

Yr hyn sy'n ddiddorol am yr adroddiad yw y bu tybiaeth mai’r rheswm pam mae mwy o bobl yn hunangyflogedig yw oherwydd bod amgylchiadau economaidd wedi pennu hynny— eu bod nhw wedi colli eu swyddi. Ond, mewn gwirionedd, ymddengys ei fod yn dyniad entrepreneuraidd. Mae'n awydd mewn gwirionedd i fod yn fwy entrepreneuraidd, sy'n rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei annog ers llawer iawn o flynyddoedd yng Nghymru. Fel rhywun a oedd yn hunangyflogedig, yn bennaf, cyn i mi ddod i'r lle hwn, rwy’n deall rhai o'r heriau y gall hynny eu hachosi.
Sut ydym ni’n bwrw ymlaen â hyn yn y Cymoedd? Tasglu’r Cymoedd. Mae hwnnw wedi gwneud llawer o waith i weld sut y gallwn annog mwy o hunangyflogaeth. Nid wyf yn credu bod gan bobl ddiffyg dawn entrepreneuraidd yn y Cymoedd; rwy'n credu ei fod yn fater o anogaeth. Mae'n golygu gallu dweud wrth bobl, 'Gallwch chi wneud hyn. Nid oes unrhyw reswm pam na allwch chi fod yn llwyddiannus.’ Ac mae angen yr anogaeth honno ar bobl. A dyna'n union un o'r pethau y mae tasglu'r Cymoedd yn bwriadu bwrw ymlaen ag ef yn y dyfodol.
Prif Weinidog, roeddwn innau hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, a gadeiriwyd gan Hefin yn gynharach, a chlywsom sut mae Cymru wledig yn ddibynnol iawn ar gyfraniad hunangyflogaeth i’r economi. Nododd Hefin fod 23 y cant o'r rhai sydd ym Mhowys yn hunangyflogedig, ac mae hynny’n cymharu â chyfartaledd Cymru o 13 y cant. Nawr, mae adroddiad FSB Cymru wedi canfod bod y rheini sy'n hunangyflogedig yn tueddu i fod yn hŷn, ac nad yw pobl ifanc yn dilyn olion eu traed. A gaf i ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ddeall y rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag bod yn hunangyflogedig, yng Nghymru wledig yn arbennig? Pa botensial allai bargen dwf canolbarth Cymru ei gynnig i sicrhau bod atebion lleol sy'n bodloni gofynion hunangyflogaeth yng Nghymru, yn hytrach nag ateb Cymru gyfan, efallai na fyddai’n briodol bob amser?

Rwy'n credu bod atebion rhanbarthol yn bwysig. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud na ellir cael un ateb i bawb ledled Cymru. Pan ddaw i bobl iau, mae llawer ohono'n dechrau mewn ysgolion, yn fy marn i. Gwn fod gwaith wedi ei wneud mewn ysgolion o ran annog prosiectau entrepreneuraidd, ac wrth gwrs, y cynllun entrepreneuriaid ifanc, sydd gennym ni, a hefyd wrth gwrs, darparu'r math hwnnw o gymorth ariannol i bobl ifanc sydd ei angen arnynt. Mae gan bobl hŷn fynediad yn aml at gyfalaf mewn modd nad oes gan bobl iau, a gallant ddefnyddio'r cyfalaf hwnnw i sefydlu busnes. Sut ydym ni'n cefnogi pobl sy'n dod i mewn i fusnes? Mae Busnes Cymru yn un maes lle mae hynny'n digwydd, wrth gwrs. Bydd y banc datblygu yn gallu cynorthwyo pobl i ddod i mewn i fusnes hefyd. Gwella gallu mentrau bach a chanolig i gael mynediad at gyllid—dyna'r peth mwyaf. Gwyddom fod y banciau yn y DU wedi bod yn amharod yn hanesyddol i ddarparu cyfalaf ar gyfer mentrau sy’n cychwyn, a dyna pam yr oeddem ni ar ei hôl hi am flynyddoedd lawer iawn, sef un o'r rhesymau pam y bydd y banc datblygu yno. Gallwch chi annog pobl, ond mae angen mynediad at gyfalaf arnyn nhw i ddechrau eu busnes. Oni bai bod ganddynt gyfalaf teuluol y tu ôl iddyn nhw, mae'n rhaid bod ffordd arall o’i wneud, a dyna lle mae Busnes Cymru a lle mae Banc Datblygu Cymru yn dod i mewn.
Un o’r pethau mwyaf trawiadol sydd yn yr adroddiad yw’r ffaith yma: fod 38 y cant o gyfanswm twf swyddi yng Nghymru dros y ddeng mlynedd diwethaf i’w briodoli i’r hunangyflogedig. Dros yr un cyfnod, nid oes cynnydd net o gwbl wedi bod yn y sector tramor—hynny yw, y sector mewnfuddsoddi. Ac eto, ac rwy’n dyfynnu’r adroddiad fan hyn:
‘mae iaith llunio polisïau economaidd wedi’i sgiwio’n anferth tuag at bwysigrwydd sicrhau mewnfuddsoddiad â pherchnogaeth dramor.’
A ydy’r Prif Weinidog yn derbyn ffigurau’r FSB, ac os yw e, a ydy e’n derbyn yr angen am newid pwyslais nawr i fusnesau cynhenid a’r hunangyflogedig?

Nid wyf yn credu bod yn rhaid inni ddewis. Rwy’n cytuno. Ar un adeg, rwy’n gwybod, yn ystod cyfnod y WDA, roedd y pwyslais yn hollol ar fuddsoddiad o dramor—yn hollol. Nid oedd ots gyda nhw am fusnesau bach. Rwy’n cofio siarad â rhai o’r bobl a oedd yn gweithio i’r WDA. Bryd hynny, roedd popeth, yr holl ffocws, ar sicrhau buddsoddiad, ac ar ôl LG, daeth dim byd mawr i mewn beth bynnag. So, mae’n hollbwysig sicrhau ein bod ni’n adeiladu sylfaen hunangyflogedig yr economi. Rwy’n deall hynny. Ond, nid wyf yn credu y dylem ni wneud hynny drwy osgoi unrhyw fath o help i fusnesau sydd yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru, sef Tata, sef GE, sef Airbus, sef cwmnïau fel EADS ac yn y blaen, sydd yn cyflogi llawer iawn o bobl yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid inni ddal i bwysleisio denu buddsoddiad o dramor. Ond, nid yw hynny’n meddwl mai dim ond hynny y dylem ei wneud. Byddwn i’n dadlau bod y cydbwysedd yn iawn gyda ni, ac rydym yn moyn sicrhau bod mwy a mwy o fusnesau nid dim ond yn cael eu sefydlu yng Nghymru, ond yn tyfu. Un o’r problemau yr ydym wastad wedi’u hwynebu yw’r ffaith bod busnesau’n tyfu i lefel, ac wedyn mae’r perchnogion yn eu gwerthu. Wel, mae’n rhaid inni sicrhau bod mwy yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu tyfu’r busnesau hynny er mwyn eu bod yn gallu mynd yn fwy. I mi, dyna beth yw’r her fwyaf yn yr economi: dweud wrth bobl, ‘Peidiwch â gwerthu mas. Sefwch i mewn. Fe wnawn ni eich helpu chi i dyfu yn fwy.’
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gofal lliniarol yng Nghymru? (OAQ51226)

Mae'r cynllun cyflenwi gofal diwedd oes wedi’i ddiweddaru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn nodi'r amrywiaeth eang o gamau yr ydym ni’n eu cymryd i ddarparu dull cydweithredol o wella gofal diwedd oes ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys £6.4 miliwn i ddarparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol.
Diolch am eich ateb. Fel y gwyddoch yn ôl pob tebyg, darperir y rhan fwyaf o’r gofal diwedd oes yng Nghymru mewn 13 hosbis i oedolion a dwy hosbis i blant yng Nghymru. Rydych chi’n nodi ffigur o tua £6.4 miliwn—dyna a ddywedasoch rwy’n meddwl—ond maen nhw’n gwario £32.5 miliwn y flwyddyn i ddarparu'r gwasanaethau hynny yng nghartrefi pobl, a gofal dydd a gofal seibiant hefyd. Felly, maen nhw’n gorfod codi dros £2 filiwn y mis, ac maen nhw’n awyddus i'ch helpu chi, Llywodraeth Cymru, a'u byrddau iechyd lleol i wneud llawer iawn mwy. Sut gallwch chi, neu a wnewch chi, ymgysylltu â nhw a gofyn iddyn nhw sut y gallan nhw eich helpu i gyflawni mwy? Efallai y byddai ychydig mwy o gyllid gan y byrddau iechyd a'r Llywodraeth yn arbed llawer mwy i fyrddau iechyd ac yn rhyddhau gwasanaethau i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau eraill yr ydym ni wedi clywed cyfeirio atyn nhw heddiw mewn gwahanol gyd-destunau.

Wel, os edrychwn ni ar yr adroddiad diweddar gan Hospice UK ar ofal hosbis yng Nghymru, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ei groesawu—yr hyn a ddywedodd yr adroddiad. Mae'n cydnabod y camau cadarnhaol a amlinellir yn y cynllun cyflenwi gofal lliniarol a diwedd oes. Mae'n tynnu sylw at yr angen am sicrwydd am gyllid hirdymor. Yn rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, rhoddwyd £1 filiwn ychwanegol ar gael gennym yn 2017 i wella darpariaeth gofal diwedd oes ymhellach. Mae hwnnw'n gyllid ailadroddus hefyd. Ond wrth gwrs, o ran ymgysylltu â'r sector, y byrddau gofal sy'n darparu'r lefel honno o ymgysylltiad, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n gweithio gyda nhw i nodi'r adnoddau sydd eu hangen.
Mae’r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yma yn y Cynulliad yn edrych ar y posibiliad o ymchwilio i sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y mynediad at ofal hosbis yng Nghymru. Mi gyfeirioch chi at yr arian a sicrhawyd mewn cytundeb rhyngom ni a’r Llywodraeth. Ond, onid y gwir amdani ydy bod cyfres o Lywodraethau Llafur wedi methu â mynd i’r afael â’r elfen sylfaenol yna, fod yna anghydraddoldeb yn y mynediad at y gofal cwbl, cwbl allweddol yma ar draws Cymru?

Na, nid wyf i’n derbyn hynny. Rydym ni wedi sicrhau bod yna fuddsoddiad ar gael i fyrddau iechyd. Mae’n fater, wrth gwrs, i fyrddau iechyd sicrhau bod yna wasanaeth ar gael, ac mae hynny’n rhywbeth rŷm ni wedi gweithio gyda nhw arno, ynglŷn â sicrhau bod hwnnw’n cael ei weithredu. Rŷm ni’n gwybod bod hosbisau eu hunain wedi cymryd mwy o rôl yn y pum mlynedd diwethaf nag o’r blaen, nid dim ond o ran gofal, ond rhoi cyngor i bobl hefyd. Ac nawr, wrth gwrs, rŷm ni’n moyn gweithio gyda’r byrddau er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwybod beth nesaf sy’n gorfod cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yna wasanaeth cyson ar gael ar draws Cymru.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd unrhyw newidiadau i reolaethau mewnfudo yn dilyn Brexit yn ei chael ar y GIG yng Nghymru? (OAQ51229)

Ie, mae'n wael.
Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am ei sylw, ond mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 1.55 y cant o gyflogeion GIG Cymru sy’n weithwyr mewnfudol o'r UE, ac, o ystyried mai 3.3 y cant yw poblogaeth mewnfudwyr Cymru o'r UE, mae'n ymddangos y gallai rheoli mewnfudiad gael effaith gadarnhaol ar ein gwasanaeth iechyd.
Ond, rwyf eisoes wedi tynnu sylw'r Siambr hon at y ffaith fod 80,000 o ymgeiswyr i weithio yn GIG y DU bob blwyddyn yn cael eu gwrthod oherwydd diffyg lleoedd hyfforddi. Does bosib, Prif Weinidog, nad yw’n bryd i ni yng Nghymru ehangu cyfleusterau hyfforddi, ailystyried yr arfer o anfon pob nyrs i'r brifysgol, ac archwilio'r posibilrwydd o ailgyflwyno'r gwahaniaeth rhwng nyrsys SEN ac SRN a hyfforddiant ar y ward, yn enwedig i staff SEN. Gyda llaw, dywedodd Mark Drakeford yn 2015,
Dylai trafodaethau am ddyfodol hirdymor GIG Cymru fod y tu allan i ymryson gwleidyddiaeth bleidiol o ddydd i ddydd.
Efallai, Prif Weinidog, y dylem ni ystyried yr awgrym ardderchog hwnnw unwaith eto.

A gaf i ddweud wrth yr Aelod nad oes unrhyw ots o gwbl gen i o ble mae meddygon yn dod pan eu bod yn gweithio yn GIG Cymru, cyhyd â'u bod yn darparu gwasanaeth rhagorol i'n cleifion? Ceir llawer o feddygon sy'n dod o'r UE, a thu hwnt—India, wrth gwrs; gwyddom fod llawer o feddygon wedi dod o India. Yn wir, maen nhw yn ychwanegiadau gwych at ein GIG. Mae'r farchnad ar gyfer meddygon a nyrsys yn fyd-eang. Mae'n fyd-eang. Bydd pobl yn mynd—mae'n gymhwyster symudol—i ble maen nhw'n meddwl y byddan nhw’n cael y fargen orau iddyn nhw fel unigolyn ac i’w teuluoedd.
Gwyddom, er enghraifft, ei bod yn wir i ddweud bod nyrsys o’r UE yn ganran eithaf bach o weithlu'r GIG yng Nghymru, ond a allwn ni wir fforddio colli 360 o nyrsys? Ai dyna’r hyn y mae'n ei ddweud? Oherwydd mae’n ymddangos mai’r hyn y mae’n ei ddweud yw bod hynny’n iawn, cyn belled â'n bod ni’n hyfforddi pobl i safon is yn y dyfodol, a bydd hynny'n iawn cyn belled ag y mae’r dyfodol yn y cwestiwn. A yw ef wir yn dweud, er enghraifft, nad ydym ni eisiau meddygon o'r UE? Wel, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i eisiau sicrhau bod meddygon a nyrsys yn dod i weithio yng Nghymru, waeth beth yw eu cenedligrwydd, oherwydd byddant yn ychwanegu llawer mwy at y GIG nag y maen nhw'n ei gymryd allan. Yr anwiredd sy’n cael ei wthio gan ei blaid yw bod mewnfudo, rywsut, yn rhoi straen ar y GIG. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n dod i Gymru yn ifanc. Maen nhw’n talu trethi, ac maen nhw’n talu llawer mwy nac y maen nhw’n ei gymryd allan drwy'r GIG. Ac rydym ni’n gwybod ein bod ni’n talu teyrnged i'r meddygon hynny o'r UE a thu hwnt sy'n dod i weithio yn GIG Cymru, sy'n cyfrannu at drin ein pobl, sy'n achub bywydau. I mi, mae hynny'n llawer pwysicach na gwirio eu pasbortau.
Adroddodd y pwyllgor materion allanol yn ddiweddar ar oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru, wrth gwrs, a cheir beirniadaeth yn y fan honno nad oedd Ysgrifennydd yr economi wedi cael sgyrsiau uniongyrchol bryd hynny gyda'i gyfatebwr yn Iwerddon, ond rwy’n credu efallai fod hynny wedi digwydd erbyn hyn. A ydych chi'n gwybod a oedd unrhyw drafodaethau ynghylch pa un a ellid cyflwyno technoleg bresennol i helpu i gynnal y ffin anweledig rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond hefyd i leihau'r oedi o ran symud pobl rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ei hun?

Wel, yn gyntaf, y rheswm pam y soniodd y pwyllgor amdano yw fy mod i wedi sôn amdano wrth y pwyllgor. Fi oedd yr un â’i gododd yn gyntaf, y mater hwn o'r porthladdoedd. Fe'i trafodais fisoedd yn ôl gyda Leo Varadkar, pan ddaeth yn Taoiseach, a’i gwneud yn eglur na allem ni gefnogi sefyllfa lle’r oedd ffin fwy di-dor rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth na rhwng Cymru a'r Weriniaeth tra bod 70 y cant o fasnach rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon yn mynd trwy borthladdoedd Cymru. Os oes unrhyw gymhelliad i fynd trwy borthladdoedd yr Alban yn hytrach, trwy Ogledd Iwerddon, mae'n amlwg ei fod yn wael a nodwyd hynny gan y pwyllgor—mae’n wael i Gymru. Felly, bu trafodaethau gyda Llywodraeth Iwerddon ar hyn.
I fod yn blaen—rwy'n gwybod barn yr Aelod ar Brexit, ac rwy'n eu gwerthfawrogi—rwyf i wedi gweld llawer o ddogfennau gan Lywodraeth y DU erbyn hyn sy'n dweud y bydd y mater o reoli ffiniau yn cael ei ddatblygu trwy dechnoleg arloesol. Nid yw'n bodoli. Nid yw'r dechnoleg hon yn bodoli. Pe byddai’n bodoli, byddem ni wedi ei gweld erbyn hyn. Mae'n sôn am gael atebion arloesol, archwilio atebion. Dyna'r cod ar gyfer, 'Nid oes gennym ni unrhyw syniad sut i ymdrin â hyn.'
Mae’n un peth, wrth gwrs, cael teithio di-basbort rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae teithio di-doll yn rhywbeth gwahanol. Roedd archwiliadau ar hap yn y porthladdoedd hynny bob amser yn y blynyddoedd a fu, ond nid oedd pob cerbyd yn cael ei archwilio. Ceir problem fwy yn Dover, gan nad oes gan y DU y gallu ar hyn o bryd i gyflwyno rheolaethau ffin yn Dover heb oedi enfawr, ac mae’r un fath, rwy’n amau, yn wir ar ochr Ffrainc hefyd, os ydw i'n onest, yn Calais.
Nid wyf yn credu bod ateb technolegol i hyn. Pe byddai un, yna byddem ni’n gwybod erbyn hyn gan Lywodraeth y DU beth yw'r ateb hwnnw. Un o'r atebion a gynigiwyd i mi oedd y byddai camerâu ar y ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon. Os rhowch chi gamerâu yng Ngogledd Iwerddon gallem ni agor llyfr ar ba mor hir y bydden nhw’n aros yno, gan na fyddent. Ni fydden nhw’n aros yno. Mae'n amlygiad ffisegol o'r ffin. Byddai pobl yn eu gweld fel diffyg cydymffurfiad â’r cytundeb heddwch.
Felly mae'n broblem anhydrin. Gellir ei datrys. Yr ateb yw bod y DU yn aros yn yr undeb tollau. Yna nid oes unrhyw broblem. Nid oes unrhyw broblem. Os bydd y DU yn gadael yr undeb tollau, bydd yn rhaid i chi gael yr un math o ffin â hwnnw sy'n bodoli, er enghraifft, rhwng Gibraltar a Sbaen, gan fod Gibraltar y tu allan i'r undeb tollau. Mae honno'n ffin hynod o galed. Ni allwch chi gael sefyllfa lle mae nwyddau'n mynd i ddwy wahanol farchnad mewn dau wahanol undeb tollau heb unrhyw fath o archwiliadau ffisegol wrth groesi ffiniau tir. Mae hyn wedi bod yn broblem erioed, yn fy marn i. Ni feddyliodd neb am Iwerddon yn refferendwm Brexit, ac ni feddyliodd neb am y ffin honno, ac mae'n dal i fod yn broblem anhydrin. Yr ateb? Aros yn yr undeb tollau.
Wrth gwrs, un o'r bygythiadau mwyaf i staffio hirdymor yn GIG Cymru fyddai i ni gael un polisi mewnfudo ar gyfer y DU gyfan ar ôl gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Mae Prifysgol Caeredin wedi cyhoeddi papur gan yr Athro Christina Boswell, ‘Scottish Immigration Policy After Brexit: Evaluating Options for a Differentiated Approach'. Mae'n ystyried nifer o ddulliau rhanbarthol a chenedlaethol o ymdrin ag ymfudiad ar ôl Brexit, gan wybod beth yw bwriadau Llywodraeth y DU o ran eu dyheadau. Mae'r dewisiadau'n cynnwys edrych ar gyfalaf dynol, system seiliedig ar bwyntiau, cynlluniau gwaith ôl-astudio, cynlluniau dan arweiniad cyflogwyr, rhestrau prinder galwedigaethol, y byddwn yn awgrymu eu bod o bwysigrwydd arbennig yma yng Nghymru, ac yn y papur hwn maen nhw’n cynnig ffyrdd llawn dychymyg o gael costau a beichiau gweinyddol cyn lleied â phosibl. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno bod hyn yn werth ei ystyried a’i ddatblygu o ddifrif erbyn hyn, a bod angen i ni weld Cymru’n lleisio ei barn ar bolisi ymfudo rhanbarthol neu genedlaethol ar ôl Brexit ar gyfer y DU? Oherwydd ar hyn o bryd , dyma'r unig ran gyfansoddol o'r DU sydd wedi dweud ychydig iawn am y posibilrwydd hwnnw. Fel arall, rydym ni’n wynebu cael targed mudo net y DU fel amcan polisi mawr y DU, a fydd, fel y gwyddom, yn niweidiol i wasanaethau cyhoeddus Cymru ac i economi Cymru.

Gadewch i mi ei atgoffa o'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud yn gyhoeddus i dawelu ei ofnau. Yn gyntaf oll, nid wyf yn cytuno â chap artiffisial. Nid wyf yn gweld pa synnwyr sydd i hynny. Does bosib nad oes rhaid i economi recriwtio yn ôl ei hanghenion, nid cael cap artiffisial. Pe byddai cap artiffisial, yna mae problemau difrifol sy'n codi o ran pa un a fyddai capiau sectorol. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth mai’r syniad yn Llywodraeth y DU fydd gwneud cymaint â phosibl i Ddinas Llundain—ac mae'r sector gwasanaethau ariannol yn bwysig i ni, ond mae'n aruthrol o bwysig i Ddinas Llundain—a bydd gennym gap sectorol uwch yn y pen draw, yn gymesur i'r Ddinas nag sydd gennym ar gyfer y GIG. Yn amlwg, ni fyddai hynny er lles Cymru.
Ni ddywedodd hyn yn benodol, ond gwn ei fod yn awgrymu'r syniad o gwotâu rhanbarthol, ac mae hwnnw'n syniad diddorol. Mae’n cael ei wneud yng Nghanada, mae’n cael ei wneud yn Awstralia. Iawn, maen nhw'n llawer mwy, ond nid yw'n amhosibl gwneud hyn. Yn bersonol, byddai’n well gen i beidio â chael cap, ond os oes cap, rwy’n credu fod dadl dros edrych yn ofalus ar ba un a fyddai cwotâu rhanbarthol yn gweithio, ac yn enwedig pa un a fyddent yn gweithio i Gymru.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth leoli Llywodraeth Cymru? (OAQ51234)[W]

Bydd y strategaeth leoli yn creu ystâd sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol sy’n cyd-fynd ag anghenion y Llywodraeth hon yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn cynnal ein hymrwymiad i weithredu ledled Cymru gan sicrhau bod ein hystâd yn gweithredu mor effeithlon â phosibl ac yn lleihau ein costau gweithredu.
Wel, mae’n hollol amlwg nad ydy’r strategaeth rheoli swyddi yn gweithio os mai’r bwriad oedd gwasgaru swyddi Llywodraeth i bob cwr o Gymru a chadw’r rheini a oedd eisoes yn bodoli. Mae pobl yn fy etholaeth i yn teimlo ein bod yn cael ein gadael ar ôl, teimlad sy’n cael ei gefnogi efo ffeithiau.
Ffaith 1: mae’ch Llywodraeth chi yn bwriadu cau a gwerthu adeilad yng Nghaernarfon heb unrhyw fwriad i godi adeilad newydd yn ei le, gan greu ansicrwydd mawr. Ffaith 2: mae nifer y swyddi Llywodraeth sydd wedi’u lleoli yng Nghaernarfon wedi gostwng 35 y cant dros y saith mlynedd ddiwethaf.
Mae bwriad y strategaeth yn glir ond, unwaith eto, rydych chi wedi methu pan fo’n dod yn fater o weithredu’r amcanion. Felly, a wnewch chi ailystyried edrych ar y strategaeth eto er mwyn gosod meini prawf a thargedau penodol newydd er mwyn delifro twf a swyddi o ansawdd i bob cwr o Gymru?

A gaf i ddweud wrth yr Aelod: nid yw swyddfa Caernarfon yn gadael y dref, maen nhw’n symud o un i’r llall? Mae’n wir i ddweud eu bod nhw’n symud o’r adeilad lle maen nhw nawr, ar y top, ac wedyn yn edrych ar swyddfeydd newydd mwy modern er mwyn aros yn y dref. Felly, nid oes problem ynglŷn â swyddi’n sefyll yn Nghaernarfon.
A ydy’n wir fod swyddi wedi cael eu colli? Mae hynny’n wir ar draws Cymru. Rydym ni wedi colli mwy na 1,000 o weision sifil dros y blynyddoedd—rhyw saith mlynedd. So, mae’n wir i ddweud bod yna swyddi wedi cael eu colli ym mhob rhan o Gymru.
Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, os edrychwn ni ar y gogledd, mae gyda ni swyddfa Cyffordd Llandudno a bydd pencadlys y banc datblygu yn Wrecsam, so, felly, rŷm ni wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o swyddi yn cael eu symud mas o Gaerdydd. Pan ddechreuodd y Cynlluniad, roedd swyddfa yng Nghaernarfon ond nid oedd dim byd yn Merthyr, nid oedd dim byd yn Nghyffordd Llandudno, nid oedd lot yn Abersytwyth—roedd y Comisiwn Coedwigaeth yn Aberystwyth ond nid llawer yn fwy na hynny.
Rŷm ni wedi dangos ein hymrwymiad ni i symud swyddi mas o Gaerdydd ac nid oes problem o gwbl ynglŷn â swyddfa Caernarfon. Rŷm ni’n gwybod pa mor bwysig yw Caernarfon i helpu ffermwyr a hefyd wrth gwrs ynglŷn â sicrhau cyflogaeth yn y dref.
9. Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan Lywodraeth y DU yn ystod trafodaethau Brexit mewn perthynas â sicrhau hawliau dynol? (OAQ51249)

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn diddymu nac yn disodli Deddf Hawliau Dynol 1998 tra bod y broses o adael yr UE ar y gweill. Rydym ni hefyd yn cefnogi ymdrechion i ddiwygio Bil yr UE (Ymadael)— pryd bynnag y caiff ei gyflwyno—i sicrhau bod y DU yn parhau i barchu Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE ar ôl i ni adael yr UE.
Pan fo Prydain yn gadael yr UE, ni fydd gan y Siarter Hawliau Sylfaenol unrhyw effaith yng nghyfraith y DU mwyach. Mae hynny'n golygu y gellid dileu'r hawliau hynny nas cwmpasir gan y Ddeddf hawliau dynol—er enghraifft, hawliau'r plentyn, hawliau gweithwyr a gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae Papur Gwyn y Bil diddymu mawr yn addo diogelu hawliau presennol.
Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, Prif Weinidog, ond rwy’n hynod amheus am y Blaid Geidwadol a wrthwynebodd llawer o'r hawliau hynny yn y lle cyntaf—o ran ymddiried ynddynt i amddiffyn hawliau ar ôl Brexit. Mae'n rhaid i ni edrych yn gyflym iawn ar y ffordd y maen nhw wedi bod yn barod i gamblo hyd yn hyn â hawliau preswylio dinasyddion yr UE.
Ond, ar drywydd arall, Prif Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i brifysgolion Cymru ynghylch eu hawliau i ryddid academaidd rhag ymyrraeth gan y Llywodraeth? Rwy'n siŵr y byddwch chi wedi darllen heddiw, fel yr wyf innau, yr adroddiadau ar y llythyr sinistr a dweud y gwir, a anfonwyd gan yr AS Torïaidd Chris Heaton-Harris i'r holl is-gangellorion yn gofyn am enwau unrhyw un sy'n addysgu materion Ewropeaidd neu Brexit.

Yn gyntaf oll, mae Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE yn cynnwys hawliau a rhyddid o dan chwe phennawd: urddas, rhyddid, cydraddoldeb, cydsefyll, hawliau dinasyddion a chyfiawnder. Does bosib bod neb a fyddai'n dadlau na ddylai unrhyw un o'r pethau hynny fod yn gymwys pan fyddwn ni’n gadael, a dyna pam mae’n gwneud synnwyr i'r siarter hwnnw barhau.
Ceir rhai—nid pawb, er tegwch, ond mae rhai—yn y Blaid Geidwadol a fyddai wrth eu boddau’n cael gwared â chymaint o'r amddiffyniadau a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer iawn. Nhw yw asgell dde galed y Blaid Geidwadol ac rwy'n siŵr y bydden nhw’n ymfalchïo mewn cael gwared ar gymaint o hawliau a mesurau diogelu â phosibl. Rwy'n gobeithio y bydd y bobl synhwyrol yn y blaid honno'n ennill y ddadl.
O ran peidio â bod yn synhwyrol, rwy’n deall yr anfonwyd llythyr gan AS nad wyf wedi clywed amdano, Chris Heaton-Harris, a anfonodd lythyr at bob academydd, pob academydd—nid yw'n rhywbeth yr wyf i wedi clywed amdano o’r blaen—yn mynnu cael gwybod pwy sy'n addysgu cyrsiau ar Brexit a chynnwys y meysydd llafur hynny. Cynnwys y meysydd llafur hynny. Mae hwnnw’n gais mor awdurdodaidd ag y byddai’n bosibl ei wneud. Nawr, nid wyf yn dweud y byddai'r blaid Geidwadol gyfan yn cytuno â'i ymddygiad, ond, os yw hynny'n wir, mae'n ddyletswydd ar Weinidogion y Llywodraeth i’w geryddu, gan ei bod hi’n hollol warthus y dylai rhywun geisio creu, i bob pwrpas, rhestr o bobl sydd i'w beirniadu gan nad ydynt yn dilyn barn y blaid. Rwy'n amau y byddai gan y gŵr hwn lawer i’w addysgu i Stalin.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt, arweinydd y tŷ. Jane Hutt.

Llywydd, mae gen i dri newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi ymestyn datganiad y prynhawn yma ar recriwtio athrawon, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit. Hefyd, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau cwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad i 15 munud. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r adolygiad o Flaenau'r Cymoedd a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—y cam ar ran ddwyreiniol y ffordd honno yw hwn. Ymddengys bod goblygiadau sylweddol o ran cost ac amser, ac mae busnesau yn fy rhanbarth i eisoes wedi gwneud sylwadau ar y sefyllfa drafnidiaeth ofnadwy y maent yn ei hwynebu, gyda lorïau, ceir, faniau, ddim yn symud mewn oedi traffig sylweddol ar y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd. Mae'n siomedig, o gofio mai dyma'r gwariant cyfalaf mwyaf gan Lywodraeth Cymru ar ffyrdd, nad oes datganiad ar gael gan y Llywodraeth ynghylch math a maint yr adolygiad ac, yn wir, rhai o'r problemau cychwynnol y maen nhw wedi eu nodi. Nid wyf yn credu ein bod wedi cael yr amser na'r cyfle i holi'r Gweinidog—nac Ysgrifennydd y Cabinet, ddylwn i ddweud—ar yr adolygiad hwn. Ac, fel y dywedais, nid rhyw welliant i gilfan yw hwn ond buddsoddiad o £220 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan derfynol cyswllt dwyreiniol ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rwyf i o’r farn y byddai wedi haeddu bod ar y papur gorchmynion y prynhawn yma, ond, gan nad yw ar y papur gorchymyn y prynhawn yma, a allwn ni gael y cyfle i gael datganiad cyflawn a chynhwysfawr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn?
Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Roedd y Prif Weinidog yn ymddangos yn bendant iawn yn ei anerchiad wrthyf y prynhawn yma na fyddai diffyg ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, pryd y dangosir diffyg rhagamcanol o £50 miliwn gan y bwrdd ei hun yn ei bapurau bwrdd ei hun, pan fo amseroedd aros yn dyblu yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw. Gall rhywun weld sut y gall trigolion yn y gogledd yn arbennig, ond yn enwedig gwleidyddion o’r gwrthbleidiau yn y Siambr hon sydd yma i graffu ar y Llywodraeth, godi eu hysgwyddau mewn anghrediniaeth pan fyddwch chi'n ystyried, bum mis yn ôl, bod y bwrdd iechyd yn y fan honno i fod i wneud arbedion o £10 miliwn y mis. Ac mae peidio â chael unrhyw effaith ar amseroedd aros nac unrhyw effaith ar gadw staff, rwy'n credu, yn afrealistig a dweud y lleiaf. Os yw’n wir y bydd Llywodraeth Cymru yn chwistrellu cronfeydd newydd i'r bwrdd iechyd, ac, yn wir, byrddau iechyd eraill a oedd â diffygion rhagamcanol, yna credaf fod angen gwneud hynny'n gwbl glir a byddwn, felly, yn galw ar yr Ysgrifennydd iechyd i wneud datganiad i egluro'r safbwynt a gymerwyd gan y Prif Weinidog fel y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y camau sy'n cael eu cymryd yn (a) lleihau amseroedd aros a (b) yn sicrhau bod y diffygion yn y byrddau iechyd yn dod yn ôl o dan reolaeth.
Diolch, Andrew R.T. Davies. I ateb eich cwestiwn cyntaf, dim ond i egluro a diweddaru, dechreuodd y gwaith adeiladu ar ran 2 deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn gynnar yn 2015. Fel y dywedwyd o'r blaen, mae natur heriol y cynllun wedi golygu bod y rhaglen gwblhau wedi ei heffeithio, ac o ystyried hyn—ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu hyn—mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r rhaglen a’r gost ar gyfer y prosiect. Disgwylir i'r broses hon gael ei chwblhau yn fuan, ond mae e'n hapus i ysgrifennu at yr Aelodau i roi rhagor o wybodaeth am yr adolygiad a’r rhaglen gynhwysfawr honno. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio, wrth gwrs, bod y deuoli hwn yn brosiect mor fawr a pharhaus, mae’n rhaid ei gyflawni mewn rhannau; mae'n cefnogi amcanion tasglu'r Cymoedd; mae'r ffordd yn cysylltu’r M4 yng Nghastell-nedd i'r Fenni a Henffordd ac mae'n darparu cysylltiadau rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr—hanfodol. Ond bydd yn ysgrifennu atoch chi gyda mwy o fanylion am ei raglen gynhwysfawr a'i adolygiad cost.
Ar eich ail bwynt, atebais gwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf. Mewn gwirionedd, credaf mai cwestiwn gan Angela Burns oedd hwnnw, a chredaf ei bod hi'n bwysig ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yr wythnos diwethaf o ran Betsi Cadwaladr i egluro'n iawn nad yw’n debygol o orwario gan £50 miliwn eleni. Mae'r bwrdd wedi nodi risg sylweddol na fydd yn gallu cyflawni ei ddiffyg o £26 miliwn a gynlluniwyd, ond mae yn defnyddio ei drefniadau llywodraethu yn briodol i fynd i'r afael â hyn. Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod y risg, mae'n cwblhau cynllun adennill ariannol i sicrhau ei fod yn cyflawni’r diffyg o £26 miliwn, sy'n cyflwyno cyfanswm rheoledig, a bydd y camau hyn yn gwella eu rhagolygon yn sylweddol. Ond rwy'n credu hefyd, dim ond o ran materion sy'n ymwneud â threfniadau mesurau arbennig, ers mis Awst, mynegodd swyddogion bryderon am y perfformiad ariannol hyd yn hyn a'r effaith bosibl ar y diffyg a ragwelwyd. Maen nhw wedi ychwanegu cyfarfodydd uwchgyfeirio ychwanegol gyda swyddogion gweithredol y bwrdd iechyd ar berfformiad a chyllid. Comisiynwyd adolygiad llywodraethu ariannol annibynnol, a bydd hwnnw'n cwmpasu datblygu, mabwysiadu a pherfformiad cynllun ariannol eleni. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â phrif weithredwr GIG Cymru, wedi cwrdd â chadeirydd a phrif weithredwr Betsi Cadwaladr. Felly, credaf fod hwnnw'n ymateb eithaf cadarn i'ch cwestiynau.
A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth ar anallu ymddangosiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wella cylchfan heb achosi anhrefn llwyr? Mae pobl oriau'n hwyr yn cyrraedd y gwaith, plant yn hwyr yn yr ysgol, ac mae tystiolaeth bod busnesau bellach yn cael eu heffeithio gan y gwaith o wella cylchfan Pwll-y-Pant. Bwriedir i'r gwaith barhau am hyd at flwyddyn, ac rwy’n ofni, os bydd yn parhau am hyd at flwyddyn ar ei ffurf bresennol, y bydd yn cael effaith economaidd niweidiol hirdymor ac na fydd tref Caerffili yn gallu ailgodi ar ei thraed am beth amser. Dyma un o'r ffyrdd prysuraf yn y wlad. A wnaiff y Llywodraeth ymyrryd er mwyn gwrthdroi’r llanast hwn os gwelwch yn dda?
Wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, trwy ei swyddogion, yn ymwybodol o'r anawsterau sy'n ymwneud ag adeiladu'r gylchfan hon. Ond wrth gwrs, mae'n debyg bod enghreifftiau ledled Cymru lle ceir tarfu o ganlyniad i fuddsoddi mewn seilwaith, a fydd, yn y pen draw, yn golygu gwelliant enfawr, rwy'n siŵr, o ran cysylltedd a mynediad, nid yn unig ar gyfer busnes ond i gymudwyr hefyd. Ond rydych chi wedi gwneud eich pwynt heddiw, Steffan Lewis, felly rydym ni’n cydnabod hynny.
Arweinydd y tŷ, a gaf i achub ar y cyfle i ofyn am ddau ddatganiad heddiw? Y cyntaf yw diweddariad i'r lle hwn o ran Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru a’n sefyllfa ni o ran gweithredu'r Gorchymyn cyntaf. Llwyddais i, mewn bywyd blaenorol, i chwarae rhan wrth sicrhau ein bod ni'n sefydlu'r panel yma yng Nghymru i ddisodli'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr a oedd wedi ei ddiddymu. Rwy'n ymwybodol bod Gorchymyn i fod i gael ei wneud ym mis Ebrill 2017 ac rydym yn dal i ddisgwyl hwnnw, felly rwy'n meddwl bod angen diweddariad arnom yn y lle hwn ynghylch y camau nesaf yn y broses ac a fyddai hynny, cyn y trafodaethau ffurfiol, mewn gwirionedd yn cynnwys cynnal trafodaethau cyflog arferol a thaliadau ôl-ddyddiedig hefyd.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano heddiw yw diweddariad ar ein sefyllfa o ran sicrhau bargen twf gogledd Cymru. Rwy'n deall y bu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi ac yn croesawu diweddariad ar hynny. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gydag arweinwyr yn y rhanbarth, a byddwn yn annog, wrth fwrw ymlaen, bod unrhyw drafodaeth yn cynnwys y rhanddeiliaid a'r arweinwyr busnes yn yr ardal i sicrhau ein bod yn cael bargen sy’n gweithio er lles gorau'r ardal.
Diolch i Hannah Blythyn am y ddau gwestiwn yna. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf ar y panel cynghori amaethyddol a gweithrediad Gorchymyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyfeirio’r Gorchymyn drafft Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017 yn ôl i’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Mae hynny'n unol ag adran 4(1)(b) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Mae hi'n aros am eu hymateb. Mae'r ymgynghoriad ar y Gorchymyn arfaethedig yn agored ar hyn o bryd. Mae i fod i gau ar 3 Tachwedd, a deallaf y bydd y panel yn trafod canlyniadau'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod nesaf.
O ran eich ail gwestiwn ar y fargen twf ar gyfer gogledd Cymru, rydym ni’n gweithio'n agos iawn â thîm cynnig twf gogledd Cymru ac yn darparu cymorth ac arweiniad, ond unwaith eto, mae'n bwysig bod partneriaid yn nodi pecyn realistig a chymesur o fesurau i gyfiawnhau datgloi cymorth ariannol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet yn hyn o beth, rhoddwyd cefnogaeth anffurfiol i gysyniad strategaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru, wedi'i integreiddio â macro gynllunio ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr a chysylltedd ag economi ehangach y DU. Mae hyn yn amlwg yn bwysig yng nghyd-destun twf y sectorau ynni a gweithgynhyrchu uwch, sy'n cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru fel y ddau sector arweiniol ar gyfer y rhanbarth. Ond mae'r Gweinidog dros Bwerdy Gogledd Lloegr a thwf lleol, Swyddfa Cymru, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol a thîm cynnig twf gogledd Cymru, gyda'n Hysgrifennydd Cabinet ni—mae’r cyfarfodydd hynny wedi digwydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y problemau sy'n wynebu athrawon cyflenwi yng Nghymru? Yr wythnos diwethaf, siaradais ag etholwr yng Nghasnewydd a gododd bryderon bod cyflogi athrawon cyflenwi trwy asiantaethau wedi arwain at dâl is a thelerau ac amodau gwaeth yn y sector. Yn hytrach na chael £140 y dydd, maen nhw'n cael £95, oherwydd bod gweddill yr arian yn mynd i'r asiantaeth sy'n cyflenwi'r athro. Ac rwy’n siŵr nad dyna’r ffordd gywir o roi arian cyhoeddus—i gyfeiriad gwahanol, yn hytrach nag i'r system addysg. Hefyd, dywedodd fy etholwr wrthyf fod llawer o'i chydweithwyr yn ystyried gadael y proffesiwn, ac mae hi eisiau gwybod pam nad yw Cymru yn mabwysiadu system gofrestru ganolog fel y maen nhw’n ei wneud yn y cenhedloedd datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig. A gawn ni ddatganiad ar y mater pwysig hwn os gwelwch yn dda?
Wel, Mohammad Asghar, byddwch chi, rwy'n siŵr, yn aros drwy gydol y prynhawn i glywed y datganiad ar recriwtio athrawon gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddatganiad ar y defnydd o rwyll pelfis yn GIG Cymru. Mae un o'm hetholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â'i phrofiad torcalonus ar ôl ei llawdriniaeth i fewnblannu rhwyll pelfis. Dywedodd fy etholwr wrthyf fod y llawdriniaeth wedi effeithio ar ei theulu cyfan a’i bod yn teimlo bod hyn wedi dinistrio ei bywyd a hithau ond yn 46 mlwydd oed. Nid yw hi wedi gallu gadael y tŷ, mae’n methu â mynd i'r gwaith, ac o ganlyniad, mae hi ar hanner cyflog, gyda phryderon difrifol ynghylch ei dyfodol. Mae hi’n un enghraifft o filoedd o ferched eraill ar draws y DU sy'n wynebu'r un broblem ofidus. Rwy'n deall bod gan Lywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen ar y mater hwn, ond byddwn yn croesawu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda.
Mae hwn yn fater pwysig sy'n effeithio ar etholwyr, gan gynnwys rhai o'm hetholwyr fy hun, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gwneud datganiad ar y mater hwn.
Arweinydd y tŷ, hoffwn alw am ddatganiad ar gaffael cyhoeddus. Yn ôl adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf cefnogaeth eang i egwyddor Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, roedd llai na thraean o'r awdurdodau lleol yn fodlon ag ef, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y ffaith mai hi oedd y sefydliad cynnal. Dim ond £149 miliwn o amcangyfrif o uchafswm gwariant posibl o £1.1 biliwn a wariwyd drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2015-16. Dim ond 13.5 y cant yw hynny. Rwy'n credu y byddwch chi'n cytuno â mi nad yw'r adroddiad mewn gwirionedd yn rhoi darlun rhy dda o Lywodraeth Cymru. O ran cyfanswm yr arbedion sydd i’w cynhyrchu gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, fel y'i cyflwynwyd yn yr achos busnes cychwynnol—tua £98 miliwn dros bum mlynedd—nodwyd ei bod yn glir bod y rhain, a rhai amcangyfrifon dilynol eraill, wedi eu profi'n rhy uchelgeisiol. Felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol bellach yn cyflwyno datganiad manylach ar sut y mae'n bwriadu i’r addasiad i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn mynd i'r afael â'r mater hwn a bydd yn diweddaru'r Aelodau yn unol â hynny.
Yr wythnos hon, cawsom wybod bod Llundain bron wedi dyblu'r taliadau ar gyfer y cerbydau sy’n llygru fwyaf sy'n mynd i ganol Llundain, ac mae Rhydychen newydd gyhoeddi mai hi fydd y ddinas gyntaf yn y DU i wahardd ceir petrol a diesel o ganol y ddinas o 2030. Yn y cyfamser, mae Paris yn cael diwrnodau dim ceir yn rheolaidd ym mhrifddinas Ffrainc i fynd i'r afael â'r aer gwenwynig y maen nhw’n ei ddioddef. A wnaiff yr Ysgrifennydd dros yr amgylchedd neu’r Ysgrifennydd dros drafnidiaeth wneud datganiad ar ba ysgogiadau a chosbau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i lanhau'r aer gwenwynig yn ein dinasoedd, sy'n ‘gyrru’ gormod o bobl i farwolaeth gynnar?
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Rydym yn datblygu cynllun aer glân newydd i Gymru, sy’n cynnwys fframwaith parth aer glân, y byddwn yn ymgynghori arno. Bydd yr holl ddewisiadau'n cael eu hystyried, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad llawn i'r Cyfarfod Llawn ynghylch y rhaglen waith barhaus ar ansawdd yr aer cyn diwedd y flwyddyn. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i drafod heriau ansawdd yr aer sy'n benodol i'w hardaloedd nhw a sut y bydd cydymffurfio â chyfyngiadau'r UE ar gyfer nitrogen deuocsid yn cael ei gyflymu.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, deallaf fod y cydgysylltydd anhwylder ar y sbectrwm awtistig cenedlaethol—er bod yn well gennyf y term 'cyflwr'—; rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau defnyddio hwnnw—yn gadael ei swydd. A gaf i felly alw am ddatganiad? Mae hyn oherwydd bod ansicrwydd yn y gymuned ynghylch y bwriad o ran cael rhywun yn ei lle, neu sut y gallai hyn effeithio ar gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gaethwasiaeth a masnachu pobl trwy Gymru? Yr wythnos diwethaf, holais yr Ysgrifennydd dros gymunedau am fasnachu pobl trwy borthladd Caergybi, gan gyfeirio at ganfyddiadau adroddiad caethwasiaeth fodern proffil lleol troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gogledd Cymru. Yn ei ymateb, dywedodd mai ni yw'r unig ran o'r wlad—credaf mai’r DU yr oedd yn ei olygu—sydd â chydgysylltydd gwrth-fasnachu pobl, er bod gan y DU mewn gwirionedd gomisiynydd gwrth-gaethwasiaeth annibynnol ers 2015, a chollwyd cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth gogledd Cymru ar ôl i'r cyllid tair blynedd ddod i ben, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru trwy asiantaethau statudol lleol.
Dywedir wrthyf fod y llwybr masnachu o Rwmania i Ffrainc ac i Ddulyn, trwy borthladd Caergybi, yn broblem enfawr. Nid yw’r niferoedd ar y fferi yn gywir, ac mae enwau ffug yn cael eu rhoi. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, ond nid oes digon o ddioddefwyr, sy’n daer o fod eisiau cael eu canfod, yn cael eu canfod. Nid oes tŷ diogel, canolfan dderbyn na chyfleusterau yn y gogledd , ac fel y dywedais, fe wnaethom ni golli'r cydgysylltydd rhanbarthol. O gofio, dydd Sadwrn nesaf, bod sefydliad dielw o'r enw Haven of Light, gan weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, cyngor y sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol a ffydd, yn cynnal digwyddiad mawr yn eglwys gadeiriol Llanelwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymuned y gogledd am y problemau gwirioneddol o fasnachu a chamfanteisio, rwy'n gobeithio y gallwn gael ymateb mwy trylwyr gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi pa gamau yr ydych yn eu cymryd yn unigol, a hefyd ar y cyd â Llywodraeth y DU ac asiantaethau eraill. Diolch.
Wel, wrth gwrs, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i hyn yr wythnos diwethaf, ac yn wir, gwneuthum innau hefyd yn y cwestiynau ar y datganiad busnes, o ran y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Mae ganddi'r cydgysylltydd gwrth-fasnachu pobl—y cyntaf yn y DU—ond mae'n gweithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw llawer o'r materion yr ydych yn eu codi. Mae hyn yn ymwneud â gweithio ar y cyd a grŵp arweinyddiaeth ar y cyd, yr ydym wrth gwrs yn ymwneud yn llawn ag ef, fel yr ydym gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd.
A gaf i godi pryder gyda'r Gweinidog a gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar effaith incwm sŵau yng Nghymru o ganlyniad i dreth twristiaeth bosibl? Un o'r pethau a drafodwyd yn y Cynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon diweddar oedd gwerth mawr sŵau ledled y Deyrnas Unedig, ac yng Ngweriniaeth Iwerddon, i'r economi leol. Ac wrth gwrs, maen nhw'n gwneud llawer iawn o waith o ran addysg a chadwraeth hefyd.
Codwyd pryderon gan Dr Pullen, sef prif weithredwr y British and Irish Association of Zoos and Aquariums, ynglŷn ag effaith bosibl cynlluniau Llywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno treth twristiaeth yma yng Nghymru. Roedd wedi achosi peth braw iddi, oherwydd, wrth gwrs, byddai'n golygu gostyngiadau sylweddol yn y ffioedd wrth giât sŵau pe byddai’n effeithio ar nifer yr ymwelwyr, a gallai hynny amharu ar eu cyfleoedd i addysgu a chynnal gweithgareddau cadwraeth. Felly, tybed a gawn ni ymateb gan Lywodraeth Cymru ar y pryderon y mae British and Irish Association of Zoos and Aquariums wedi eu codi, ac a fu unrhyw drafodaeth â sŵau. Fy nealltwriaeth i yw na fu unrhyw drafodaeth â sŵau yng Nghymru ynglŷn â hyn, gan gynnwys Sŵ Mynydd Cymru, sef, wrth gwrs, sŵ genedlaethol Cymru yn fy etholaeth i fy hun. Maen nhw’n bryderus iawn am effaith bosibl treth twristiaeth a hoffwn weld y Llywodraeth yn ymateb i'w pryderon.
Rydych chi’n amlwg, mae’n glir, yn paratoi ar gyfer dadl yr wrthblaid yfory, mae'n ymddangos i mi. Ni chredaf fod llawer mwy—heblaw bod gwybodaeth ffug neu ddi-sail bosibl yn cael ei chyflwyno. Ond edrychwn ymlaen at gael eich clywed chi eto brynhawn yfory, rwy'n siŵr, Darren Millar.
Arweinydd y tŷ, byddwn i'n ddiolchgar pe caf ailadrodd fy nghais o bedair wythnos yn ôl am ddatganiad ynglŷn â chyhoeddi rheoliadau ar gyfer safonau’r Gymraeg yn y sector iechyd. Fe wnaethoch chi ddweud yn eich ateb i mi, ar y pryd, y byddai rhywbeth yn y ddadl y diwrnod canlynol, ond rwy'n ofni nad oedd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi efallai bwyso am i hynny gael ei gyflwyno, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad o bryd y bydd yr amserlen yn cael ei chyhoeddi.
Diolch i chi, Suzy Davies. Byddaf yn sicr yn holi ynghylch y cynnydd a'r amserlenni.
A gaf i gytuno â sylwadau cynharach Janet Finch-Saunders wrth gyfeirio at adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gaffael? Edrychaf ymlaen, gyda gweddill aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, at roi mwy o ystyriaeth i hynny. Mae'n amlwg yn fater pwysig iawn i'r Cynulliad ei ystyried.
Yn ail, o fewn y bythefnos ddiwethaf, mae cais ar gyfer gwesty a sba newydd yn Nhrefynwy, ger porth Cymru, wedi'i wrthod ar ôl cael ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y penderfyniad i gyflwyno'r cais hwnnw ei groesawu’n bendant gan y bobl yn nhref Trefynwy ac roedd manteision economaidd mawr posibl o gael y datblygiad hwnnw. Fe'i gwrthodwyd ar sail nodyn cyngor technegol 15. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar weithrediad TAN 15 ledled Cymru, oherwydd gwn mai dim ond un o nifer yw’r datblygiad penodol hwn dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf sydd wedi cael eu gwrthod fel hyn. Rwyf yn sicr yn cefnogi mesurau i warchod rhag llifogydd ledled Cymru, a llifogydd mewn datblygiadau newydd, ond mewn achos o hwb economaidd mawr fel hwn, rwy'n credu bod yna gwestiynau difrifol y mae angen eu hateb, a chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried diwygio TAN 15 fel nad yw deddfwriaeth o’r fath yn effeithio'n negyddol ar economi Cymru.
I ateb eich cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Cododd Janet Finch-Saunders hyn yn gynharach, fel y dywedasoch chi. Rydym yn falch ei fod yn nodi'r arweinyddiaeth a ddangoswyd gennym wrth ddarparu cyfeiriad ar gaffael cyhoeddus a chefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar gaffael, ond rydym yn gweld hwn fel cyfle arall i adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd, a dyna pam y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei fwriad i ailbwysleisio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, gan ystyried, wrth gwrs, yr holl argymhellion yn yr adroddiad wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith mewn cydweithrediad â'r sector cyhoeddus.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy'n siŵr, yn nodi'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod y prynhawn yma, ac mae cyfle bob amser i ofyn y cwestiwn hwnnw a gwneud y pwyntiau hynny iddi: amser cwestiynau ac yn briodol fel Aelod mewn pwyllgor.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy’n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad, Rebecca Evans.

Roeddwn yn falch o gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddoe. Mae’r Bil yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i arwain ar iechyd y cyhoedd a gwneud popeth o fewn ein gallu i wella a diogelu iechyd pobl yng Nghymru. Nod y Bil yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys lleihau nifer y bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty bob blwyddyn o ganlyniad i yfed alcohol, a thorri ar y nifer fawr o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Nod y Bil hwn yw lleihau’r defnydd o alcohol ymysg pobl sy’n yfed lefelau peryglus a niweidiol.
Mae effaith niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn hanes anodd ei ddarllen. Yn 2015-16 yn unig, roedd 54,000 o’r derbyniadau i ysbytai yng Nghymru i’w priodoli i alcohol. Mae derbyniadau i ysbytai oherwydd alcohol yn costio £120 miliwn y flwyddyn i’r GIG. Yn 2015, bu farw 463 o bobl oherwydd alcohol a gellid bod wedi atal pob un o’r marwolaethau hyn. Mae’r Bil hwn yn ymwneud â lleihau’r niweidiau hyn. Mae gennym amrywiaeth o gamau gweithredu eisoes i fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd i hyrwyddo yfed synhwyrol a gwasanaethau triniaeth ar gyfer pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o’n cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd pwysig i leihau lefelau yfed gormodol a niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae angen gwneud mwy. Mae ein gallu i ymdrin â chael gafael ar alcohol a phris alcohol wedi bod yn gyfyngiad allweddol, yn enwedig o ran lleihau’r defnydd ymysg yfwyr peryglus a niweidiol. Rydym yn cydnabod bod camau i fynd i’r afael â’r alcohol rhad sydd ar gael yn fwlch allweddol yn ein strategaeth. Felly, rwy’n cyflwyno’r Bil hwn i gyflwyno isafbris am alcohol i fynd i’r afael â’r bwlch hwn ac yn rhan o’n dull ehangach a pharhaus o hyrwyddo perthynas iachach ag alcohol.
Mae’r Bil hwn yn darparu isafbris am werthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru ac mae’n ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi o dan y pris hwnnw. Caiff yr isafbris am gyflenwi alcohol yng Nghymru ei gyfrifo trwy fformiwla, gan gymryd i ystyriaeth yr isafbris uned, cryfder canrannol yr alcohol a’i gyfaint. Bydd yr isafbris uned yn cael ei osod mewn rheoliadau. Ni fydd cyflwyno isafbris yn cynyddu pris pob diod alcoholig, dim ond y rhai a werthir dan y pris hwnnw. Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno cyfres o droseddau a chosbau sy’n ymwneud â’r system gosod isafbris newydd ac mae’n cynnig rhoi pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol i’w gorfodi.
Gwyddom fod pris alcohol yn bwysig. Mae pris yn dylanwadu’n gryf ar y galw am nwyddau a gwasanaethau, ac mae’r berthynas hon yn ymestyn i alcohol. Mae tystiolaeth o bob cwr o’r byd yn awgrymu y gallai cyflwyno isafbris gael effaith bwysig ar lefelau yfed peryglus a niweidiol. Credwn y bydd hyn yn cael effaith allweddol ar leihau’r defnydd o alcohol, niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac ar nifer y bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty. A gallai leihau’r costau sy’n gysylltiedig â’r niweidiau hynny.
Roedd ymchwil gan Brifysgol Sheffield yn 2014 yn amcangyfrif y byddai isafbris uned o 50c, er enghraifft, yn werth £882 miliwn i economi Cymru dros 20 mlynedd, o ran y lleihad mewn salwch, trosedd ac absenoldeb yn y gweithle sy’n gysylltiedig ag alcohol. Rydym wedi comisiynu Prifysgol Sheffield i ddiweddaru’r dadansoddiad a wnaeth yn 2014 o effeithiau posibl polisïau isafbris uned. Rydym wedi gofyn iddynt fodelu effeithiau gwahanol isafbrisiau uned, yn amrywio o 35c i 70c, a bydd y dadansoddiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd y dadansoddiad hwn a ffactorau eraill yn helpu i bennu isafbris uned alcohol ar gyfer Cymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai effaith fach yn unig y byddai cyflwyno isafbris uned yn ei chael ar yfwyr cymedrol. Y bobl sy’n yfed lefelau peryglus a niweidiol o alcohol fyddai’n profi’r effeithiau mwyaf. Dyma’r bobl sydd fwyaf tebygol o yfed alcohol a fyddai’n cael ei effeithio gan isafbris uned. Y nhw hefyd yr union bobl y mae’r ddeddfwriaeth hon yn anelu at eu helpu.
Rydym wedi ymgynghori’n helaeth ar yr angen am isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru. Roedd y cynnig yn rhan o Bapur Gwyn Llywodraeth y Cynulliad ar iechyd y cyhoedd yn 2014, a chyflwynwyd Bil drafft gennym ar gyfer ymgynghoriad yn 2015. Roedd dwy ran o dair o’r bobl a ymatebodd i’r ymgynghoriad Bil drafft yn cefnogi’r syniad o ddeddfu ar gyfer isafbris am alcohol yng Nghymru. Yn benodol, cafwyd cydnabyddiaeth eang ymhlith rhanddeiliaid y gallai cyflwyno isafbris uned wneud cyfraniad pwysig i leihau’r costau sy’n gysylltiedig ag yfed gormodol ar unigolion, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau.
Mae’r ffordd y mae gosod isafbris uned wedi’i dargedu’n benodol at gynyddu pris alcohol cryf a rhad yn golygu y gall gael effaith bwysig ar leihau’r defnydd peryglus a niweidiol ymhlith pobl ifanc. Bydd hefyd yn cyfrannu at fynd i’r afael â materion cysylltiedig, er enghraifft y cynnydd mewn yfed cyn mynd allan, lle caiff alcohol ei yfed yn y cartref cyn mynd allan i far, tafarn neu glwb nos.
Mae prisio isafbris uned a’i effeithiolrwydd wrth leihau’r defnydd ymysg yfwyr peryglus a niweidiol wedi bod yn ganolog i’r ddadl ar alcohol mewn sawl gwlad o amgylch y byd. Ychydig iawn o wledydd sydd wedi cynnig y math hwn o ddeddfwriaeth, a gynlluniwyd yn benodol i dargedu alcohol cryf a rhad. Fel yn yr Alban, yma yng Nghymru rydym yn bwriadu defnyddio’r isafbris uned, cryfder alcohol a chyfaint yr alcohol i gyfrifo’r isafbris perthnasol. Ond yr hyn a wyddom yw, mewn gwledydd lle cyflwynwyd deddfwriaeth gyffelyb, y cafwyd gostyngiad yn y lefelau o yfed alcohol a gostyngiadau cysylltiedig mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Yng Nghanada, er enghraifft, roedd cynnydd o 10 y cant yn isafbrisiau alcohol cyfartalog yn gysylltiedig â gostyngiad o 9 y cant mewn derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Yn y pen draw, bydd cynyddu pris alcohol trwy gyflwyno isafbris uned yn lleihau lefelau peryglus a niweidiol o yfed alcohol. Bydd yn gwella iechyd ac, yn y pen draw, bydd yn achub bywydau. Rydym yn dal i aros am ganlyniad yr apêl gan y Scotch Whisky Association mewn cysylltiad ag isafbris uned yn yr Alban. Ond, trwy gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn awr yng Nghymru, mae gennym gyfle i wireddu potensial gosod isafbris uned a darparu manteision iechyd ac economaidd-gymdeithasol ehangach ledled Cymru.
Bu llawer o alwadau— gan y rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol yn y Siambr hon a’r gymdeithas ddinesig—i Gymru ailddiffinio ei pherthynas ag alcohol. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gyfle pwysig inni wneud hynny. Edrychaf ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn ac at ymgysylltiad adeiladol y nifer o sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) hwn yn llwyddiant. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno’ch datganiad heddiw a chyflwyno nodau ac amcanion y Bil hwn. Yn ddiamau, mae bod yn gaeth i alcohol yn ddrwg cymdeithasol difrifol, ac mae’n esgus i gam-drin eraill yn ogystal â chi eich hun. Mae’n rhywbeth yr wyf yn cytuno â chi yn llwyr arno, tuag at ddiwedd eich datganiad, pan ddywedasoch fod angen i Gymru ailddiffinio ei pherthynas ag alcohol. Felly, rydym yn cefnogi’r nodau a’r egwyddorion y tu ôl i’r Bil hwn.
Fodd bynnag, mae gennyf nifer o bryderon ynghylch a fydd yn cyflawni ei amcan ai peidio. Cred y Ceidwadwyr Cymreig y dylid edrych ar bob agwedd ar hyn ac, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am gyflwyno’r Bil hwn, byddwn yn gobeithio ac yn ceisio eich cael i edrych ar fesurau eraill y dylid eu rhoi ar waith i gefnogi pobl sy’n gaeth i alcohol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod dibyniaeth yn beth drwg unwaith yr ydych yn yng ngafael yr hyn yr ydych yn gaeth iddo. Mae’n eithriadol o anodd dod allan ohono. Nid ydym eisiau gweld pobl yn dechrau dwyn oherwydd na allant fforddio alcohol. Nid ydym am weld pobl yn mynd i lawr y llwybr caethiwus ac yn dechrau cymryd cyffuriau oherwydd eu bod yn rhatach na’r botel o wisgi neu’r hyn yr oeddent wedi arfer ag ef yn flaenorol. Felly, hoffwn eich gweld chi, Gweinidog, yn cyflwyno, wrth fwrw ymlaen â hyn, ystod o fesurau a fyddai’n cefnogi nid yn unig gaethiwed i alcohol ond yr holl ymddygiadau caethiwus eraill sy’n ymwneud ag alcoholiaeth, gan gynnwys cyd-ddibyniaeth. Mae hynny mewn gwirionedd yn rhywbeth pwysig iawn nad yw pobl yn aml yn ei ystyried yn rheswm pam mae pobl yn yfed, ac mae llawer ohono’n ymwneud â chyd-ddibyniaeth.
Rydych yn sôn yn eich datganiad eich bod yn awyddus iawn i fynd i’r afael â’r holl faes o gael ein pobl ifanc i gael eu haddysgu’n well, ac i beidio â dod yn gaeth i alcohol. Nid yw’n broblem i bobl ifanc yn unig. Roeddwn yn siarad â mam ychydig ddyddiau yn ôl a ddywedodd fod ei merch ifanc 15 mlwydd oed wedi mynd i barti lle’r oedd y fam wedi dod â photeli o fodca i’r plant. Felly, mae’n ymwneud ag addysgu’r bobl ifanc yn yr ysgolion, mae’n ymwneud ag addysgu’r rhieni ac mae’n ymwneud ag addysgu’r gymdeithas. Hoffwn ddeall, Gweinidog, yr hyn y byddwch chi’n ei wneud a sut y byddwch chi’n cynnwys yr elfennau hynny yn yr amcan hwn sydd gennych ar gyfer iechyd y cyhoedd.
Gwn mai dim ond digon o amser i ychydig o gwestiynau sydd gennym ar ddatganiad, ac mae llawer i’w ofyn am hwn, felly, cyn belled ag y mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn y cwestiwn, rydym yn awyddus iawn i chi allu datblygu hyn, a byddwn yn eich lobïo gyda chwestiynau a gwelliannau wrth i ni fynd drwy’r broses. Ond hoffwn wneud ychydig mwy o sylwadau, os caf, Llywydd.
Rydych yn dweud bod swyddogion yn credu y bydd yfwyr risg uchel mwy cyfoethog hefyd yn ymateb i newidiadau yn y prisiau, ac roeddent yn mynnu nad treth oedd hyn ond offeryn i newid ymddygiad. Unwaith eto, mae hwn yn rhywbeth yr hoffwn wybod sut yr ydych yn mynd i’w gyflawni. Gall y rhai sy’n gyfoethog fforddio 50c arall, neu £1 arall, neu’r diodydd ansawdd uchel na fydd eich treth yn effeithio arnyn nhw. Byddant yn yfed Glenlivet, nid chwisgi archfarchnad, cyffredin, neu beth bynnag y gallai fod. Ni ddylai hon fod yn dreth; mae hyn yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Rwyf am wneud yn siŵr, wrth i hyn ddigwydd, ein bod yn glir iawn, bod hwn yn fater iechyd y cyhoedd ac nid yn fater sy’n ymwneud ag amrywio trethi. Hoffwn hefyd gael sicrwydd gennych chi, Gweinidog, y byddai unrhyw arian a godir o’r isafbrisiau alcohol yn cael ei ddefnyddio i atal a chefnogi pobl.
Yn olaf, Gweinidog, hoffwn ofyn eto pam eich bod yn bwrw ymlaen â hyn yn awr, a chael eglurder ar y sefyllfa honno. Rydym ni’n ymwybodol bod y Scotch Whisky Association wedi cyflwyno apêl, a byddwn wedi tybio y gellid fod wedi arbed amser cyhoeddus a’r pwrs cyhoeddus pe gallem weld pa mor llwyddiannus y byddai hynny cyn cyflwyno hyn, er mwyn gallu cynnal ymarfer o unrhyw wersi a ddysgwyd. Rwy’n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn ar y mater hwn. Mae’r bwriad yn wych. Rydym yn llwyr gefnogi’r bwriad. Ond mae angen inni gydnabod hefyd bod y gwledydd sydd wedi llwyddo gyda hyn yn wledydd sydd â hanes a diwylliant o wahardd a newid diwylliannol. Nid yw Cymru yn wlad fel’ny eto. Felly, mae angen inni sicrhau y bydd yr hyn a wnawn ni yn cael ei adlewyrchu a’i weithredu’n llwyddiannus yn ein gwlad ni i helpu i glirio’r drwg niweidiol hwn, sef caethineb i alcohol.
Diolch yn fawr iawn, iawn am y cwestiynau hynny ac am amlinellu’r gefnogaeth i nodau ac egwyddorion y Bil. Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn ystyried y Bil iechyd y cyhoedd blaenorol a swyddogaeth bwysig craffu ar hynny, ac yn sicr wrth gryfhau’r Bil ac wrth brofi’r Bil. A chredaf y gallwn edrych ymlaen at graffu yr un mor gadarn wrth i’r Bil hwn fynd drwy’r Cynulliad hefyd.
O ran y cwestiwn ‘pam nawr?’, mae hwnnw’n gwestiwn ardderchog, ac mewn gwirionedd, mewn byd delfrydol ni fyddai hyn yn digwydd nawr. Ond yn anffodus mae’r pwerau sydd gennym yn y maes hwn yn bwerau a fydd yn cael eu tynnu oddi wrth Lywodraeth Cymru pan ddaw Deddf Cymru 2017 i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, mae’n rhaid i ni fod wedi clirio Cyfnod 1 yn y Cynulliad ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, dyna pam yr ydym yn cyflwyno’r Bil ar adeg benodol hon. Byddai’n well gennyf fod wedi aros hyd nes i achos llys yr Alban ddod i benderfyniad, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai hynny wedi digwydd cyn nawr. Rwy’n deall y bydd yn digwydd yn fuan, ac, yn amlwg, pan wneir y dyfarniad hwnnw, bydd yn rhaid inni ystyried goblygiadau hynny i’n Bil ni. Ond mae’n fater o gael ffenestr fach iawn i weithredu oddi mewn iddi ar hyn o bryd, ac rydym ni’n cymryd y ffenestr hon tra gallwn ni.
Rwy’n cytuno’n llwyr â chi hefyd mai dim ond un rhan mewn jig-so llawer ehangach yw gosod isafbris uned o ran mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn llawn a thrylwyr, ac yn benodol gefnogi pobl â dibyniaeth ar alcohol, ac atal pobl rhag mynd yn ddibynnol ar alcohol yn y lle cyntaf. Felly, rydym ni eisoes yn ceisio mynd i’r afael ag yfed alcohol ac yfed niweidiol a pheryglus mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn benodol ledled Cymru, a nodwyd y rhain yn ein cynllun cyflawni ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2016-18 , a gyhoeddwyd yn y Cynulliad ym mis Medi 2016. Mae enghreifftiau o rai o’r camau gweithredu yn cynnwys gweithio i fynd i’r afael ag yfed gormod o alcohol trwy addysg well, trwy atal, ac wrth gwrs drwy’r gwasanaethau triniaeth hynny i gefnogi’r yfwyr mwyaf niweidiol, yn ogystal â chymorth, wrth gwrs, i deuluoedd pobl sy’n camddefnyddio alcohol. Cydnabuwyd hynny fel un o brofiadau andwyol iawn plentyndod, sy’n rhywbeth y mae pob Gweinidog yn bryderus iawn y ei gylch.
Cyfeiriasoch, yn eithaf priodol, at y mater o ganlyniadau anfwriadol, ac rwy’n cydnabod y pryderon yr ydych chi ac eraill wedi’u codi bod rhai grwpiau agored i niwed a allai barhau i brynu’r un faint o alcohol er gwaethaf y cynnydd yn y pris. Er enghraifft, o ran gwariant aelwydydd ar feysydd megis bwyd neu wresogi—gwneud y dewisiadau hynny hefyd. Felly, rwy’n ymwybodol iawn o’r broblem bosib honno ac rydym eisoes yn edrych gyda’n byrddau cynllunio ardal ar sut y gallwn sicrhau bod gwasanaethau lleol mor ymatebol â phosib i anghenion grwpiau bregus yn hyn o beth.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod, yn gyffredinol, ein bod yn disgwyl gweld lefelau llai o ddefnydd ymhlith yfwyr niweidiol a pheryglus, a gostyngiadau cysylltiedig mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod y gwasanaethau hynny yno, sef un o’r rhesymau pam rydym yn buddsoddi £50 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau i geisio sicrhau bod y gefnogaeth yno i bobl sydd ei hangen. Nodais hefyd rai o’r pryderon eraill a godwyd gan randdeiliaid ynghylch canlyniadau anfwriadol. Er enghraifft, gallai teuluoedd, fel y dywedais, gael eu gorfodi i wneud y dewisiadau anodd hynny hefyd, ond fel yr awgrymwyd gennych chi, ac mae eraill wedi awgrymu yma heddiw, gallai unigolion newid i ddefnyddio sylweddau eraill. Rydym o’r farn bod y risg y gallai defnyddwyr newid i gyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau seicoweithredol newydd, er enghraifft, yn weddol isel. Mae sylwedd anghyfreithlon neu sylwedd sydd heb ei brofi yn amlwg yn ansoddol yn gam mawr ac yn wahanol iawn i’r defnydd o alcohol, ac ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried hynny i fod yn rhywbeth amgen dilys. Fodd bynnag, mae’n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei archwilio ymhellach gyda phanel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau. Maent wedi dweud yn flaenorol nad ydynt yn credu bod hyn yn debygol o fod yn broblem. Fodd bynnag, mae’n rhywbeth yr ydym ni’n ymwybodol iawn ohono hefyd.
O ran cyfeirio at hon fel treth, rydym yn glir iawn nad yw hon yn dreth. Mae’n bendant yn isafbris uned. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu na fyddai trethi uwch yn unig mor effeithiol ag isafbris uned. Mewn gwirionedd, byddai’n rhaid ichi ostwng trethi’n fawr i sicrhau’r un math o fanteision i iechyd a’r GIG ag y byddem yn disgwyl eu gweld o isafbris uned yn unig. Dyna un o’r rhesymau pam mae’n bwysig edrych ar hyn fel isafbris uned. Mae’n ein galluogi i dargedu’r cynhyrchion alcohol rhad cryf iawn hynny yn hytrach na chymryd dull mwy cyffredinol a chodi pris pob diod alcohol hefyd.
Nodyn diddorol i hyn yw bod modelu 2014 yn awgrymu bod y rhai sy’n yfed llawer yn prynu mwy o’u halcohol o dan isafbris uned 50c ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn bobl ar bob lefel incwm. Mae yfwyr risg uchel mewn tlodi yn prynu 42 y cant o’u halcohol o dan y 50c yr uned, o’i gymharu â 21 y cant ar gyfer yfwyr cymedrol mewn tlodi. Mae yfwyr risg uchel nad ydynt mewn tlodi yn prynu 28 y cant o unedau o dan 50c, o’i gymharu â 14 y cant o yfwyr cymedrol nad ydynt mewn tlodi. Felly, byddai’r isafbris uned yn newid pris oddeutu un rhan o bump o’r alcohol a brynir gan yfwyr cymedrol mewn tlodi, tra byddai cynnydd mewn treth yn effeithio ar bris yr holl ddiodydd a brynir gan bobl sy’n byw mewn cartrefi incwm is.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chroesawu ei datganiad, a chroesawu’r cyfeiriad teithio cyffredinol? Yn Plaid, rydym yn cefnogi’r isafbris am uned o alcohol. Mae wedi bod yn ein maniffestos ar gyfer etholiadau 2011 a 2016 i’r Cynulliad hwn, ar ôl i ni ennill y pwerau ar ôl refferendwm 2011—yn amlwg pan oedd gennym rai pwerau i wneud y math hwn o beth. Mwy yn y munud am golli’r pwerau hynny, diwrnod ffŵl Ebrill nesaf. Beth bynnag, yn ôl at—. Rydym ni’n siarad yma am yr isafbris am alcohol, sydd, fel y dywedwch yn eich datganiad, yn fformiwla sy’n cyfuno cyfaint yr alcohol â chryfder yr alcohol hwnnw a’r isafbris uned. Hoffwn edrych yn fanylach ar y fformiwla honno a sut mae’r tri maes hynny yn cael eu pwysoli yn erbyn ei gilydd, rhag ofn y cewch ganlyniadau anfwriadol yno hefyd, oherwydd, yn anfwriadol, byddai pobl yn gallu fforddio prynu alcohol cryfach pe na bai pwysoli’r fformiwla honno, mewn rhai ffyrdd, fel y dylai fod. Weithiau, gall fod canlyniadau anfwriadol dim ond oherwydd nad yw’r fformiwla wedi’i phwysoli’n hollol gywir. Rwy’n adleisio rhai o’r canlyniadau anfwriadol eraill a grybwyllodd Angela Burns a Leanne Wood yn gynharach, o ran cyffuriau eraill, yn anghyfreithlon a chyfreithlon, yn cael eu defnyddio yn lle alcohol. Ond mae hynny oherwydd bod hwn yn fesur iechyd y cyhoedd, a byddem yn disgwyl bod gwasanaethau ychwanegol ar gyfer iechyd y cyhoedd, o ran gwasanaethau cyffuriau a chamddefnyddio sylweddau, ar gael ar ôl i’r ddeddfwriaeth hon ddod i rym.
Ond, ar ddiwedd y dydd, mae’r ddeddfwriaeth hon yn ymwneud ag achub bywydau. Nid yw pob darn o ddeddfwriaeth yr ydym yn ei basio yn y lle hwn yn achub bywydau. Ond rydym wedi cael gwaharddiad ysmygu sy’n achub bywydau, ac mae gennym gyfraith optio allan o roi organau, sydd hefyd yn achub bywydau. Felly, gallwn ychwanegu hon at y rhestr honno—dim ond wrth ystyried, o safbwynt meddygol, y nifer uchel o ddamweiniau ac achosion brys a achosir gan alcohol. Ar rai nosweithiau yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, mae dros 90 y cant o’r rhai sy’n mynd yno dan ddylanwad alcohol. Mae’n cael effaith enfawr ar iechyd, fel y gwyddom i gyd, nid yn unig yn achosi sirosis yr afu a methiant yr afu, ond mae amryw o ganserau hefyd, oherwydd effeithiau difäol yfed gwirodydd cryf—o ganser y geg a’r tafod, yr oesoffagws i lawr—yn ogystal â chyfraddau enfawr o drais domestig, ymosodiadau cyffredinol, problemau plismona enfawr a bywydau unigol sydd wedi’u difetha gan alcoholiaeth. Felly, mae angen mynd i’r afael â’n perthynas ag alcohol yn bendant, fel y dywedwch, ac nid yw hyn ond un elfen yn unig o hynny. Mae’r gwaith modelu y cyfeiriwyd ato eisoes gan Sheffield yn 2014 yn tystio y byddai 53 yn llai o farwolaethau yng Nghymru yn flynyddol, a 1,400 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn, a achosir gan alcohol, pe baem yn cyflwyno’r math hwn o ddeddfwriaeth.
Rydym yn cefnogi hyn yn fawr. Hoffwn i gael rhyw syniad o’r manylion, fel y crybwyllais, a hefyd , beth am yr ymateb i unrhyw benderfyniad y Goruchaf Lys yn yr Alban? Pa gyngor cyfreithiol sydd gennym wrth gefn, p’un a yw’r Goruchaf Lys yn cymeradwyo’r hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn ceisio’i wneud, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf y diwydiant whisgi, neu p’un a yw’n cael ei wrthod? Mae angen inni wybod i ble’r ydym yn mynd, oherwydd ein bod ni wedi gwybod am y materion o ran mynd i’r afael â phroblemau alcohol, h.y. ei wneud yn ddrutach, ei wneud yn anos cael gafael arno, a mesurau yn erbyn yfed a gyrru ac yfed dan oed—a ddatgelwyd mewn astudiaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mor bell yn ôl â 2004, bu angen gweithredu ar hyn. Yn y wlad hon, yn y DU yn gyffredinol, rydym ni wedi gwybod am y materion hyn a’r angen i wneud rhywbeth amdanynt ar frys, felly, mae ‘Pam yr oedi?’ yn gwestiwn arall, yn enwedig yn awr pan ein bod yn wynebu colli’r pwerau i orfodi hyn yn sgil Deddf Cymru 2017.
Yn amlwg, os bydd y mesur hwn, y Bil hwn, yn dod gerbron y pwyllgor iechyd, byddem yn ceisio galluogi’r Gweinidog i’w gael wedi ei basio cyn gynted â phosibl, o ystyried bod amser yn mynd yn ei flaen, cyn diwrnod ffŵl Ebrill 2018. Wel, os nad ydym ni wedi cyrraedd Cam 1 erbyn hynny, mae hyn yn methu. Dyna pam y pleidleisiodd y blaid hon yn erbyn deddfu Deddf Cymru 2017, yn unigryw yn y Siambr hon, oherwydd ein bod ni wedi colli pwerau a’n bod ni yn colli pwerau, ac mae hyn yn enghraifft dda iawn o’r golled honno o bwerau. Felly, rwy’n dymuno’n dda i’r Gweinidog.
Mae llawer o waith manwl i’w wneud ar y gwahanol lefelau o brisio unedau alcohol—30c yr uned, 35c, 50c, 70c, neu hyd yn oed mwy—ond dywedwch y bydd gennych ganlyniadau’r gwaith hwnnw yn y flwyddyn newydd. Yn wir, fel y dywedais, mae amser yn mynd yn ei flaen—mae angen y dystiolaeth honno arnom yn awr, Gweinidog, oherwydd bod angen inni gael y ddeddfwriaeth hon wedi’i phasio. Fel arall, mae’r holl beth yn methu, a bydd llawer o eiriau dewr a ddywedwyd yma am y goblygiadau o ran iechyd a sut y byddwn ni’n achub bywydau yn golygu dim os caiff y ddeddfwriaeth ei cholli. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a hefyd am ddangos cefnogaeth barhaol Plaid Cymru i’r ymagwedd benodol hon.
O ran sut y bydd yr isafbris uned ei hun yn cael ei gyfrifo, mynegir hynny ar wyneb y Bil, a gwneir hynny trwy luosi’r isafbris uned a bennir gan ganran yr alcohol a thrwy gyfaint yr alcohol sy’n cael ei werthu. Nid yw’r gwir isafbris uned ar wyneb y Bil, mewn gwirionedd; bydd hynny’n cael ei bennu trwy reoliadau hefyd. Credwn fod hynny’n ymateb mwy priodol, gan ei fod yn caniatáu i ni edrych ar brofiadau mewn mannau eraill lle mae’r isafbris uned wedi’i bennu ond nid yw wedi caniatáu'r math hwnnw o hyblygrwydd y byddai ei angen, efallai, i newid mewn ymateb i’r newid yn amgylchiadau yr economi hefyd. Rwyf i mor awyddus ag unrhyw un i gael canlyniadau’r gwaith ailfodelu isafbrisiau uned newydd a wnaed gan Brifysgol Sheffield.
Byddwn i wedi hoffi cyflwyno hyn yn gynt, ond, mewn gwirionedd, roedd hyn yn rhywbeth a oedd wedi’i basio—roedd y dull hwn wedi’i basio —gan Senedd yr Alban yn ôl yn 2012. Felly, y mae wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn mynd trwy wahanol lysoedd. Yn amlwg, mewn byd delfrydol, byddai gennym ganlyniad dyfarniad yr Alban, sydd bellach yn eistedd gyda’r Goruchaf Lys, er mwyn penderfynu ar yr ymateb priodol. Fodd bynnag, mae’r amgylchiadau yn golygu bod angen inni gymryd y camau hyn yn awr.
O ran yr hyn a fydd yn digwydd os gwrthodir yr achos yn y Goruchaf Lys, rwy’n credu y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried, ar y cyd â’n cyfreithwyr, y sail dros ei wrthod ac ystyried beth fyddai ein hymagwedd wrth symud ymlaen o hynny.
Ond, yn sicr, gwnaethoch chi amlinellu’r rhesymau amlwg pam ei bod yn bwysig ein bod yn mynd ati yn y modd penodol hwn i ymdrin â rhai o’r lefelau yfed niweidiol a pheryglus sydd gennym yng Nghymru. Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, yn fy marn i, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trwy addysg, trwy ddulliau ataliol ac yn y blaen, mae’r lefelau yn parhau i fod yn rhy uchel. Yn ôl data’r arolwg cenedlaethol, mae un o bob pum oedolyn yn yfed uwchlaw’r canllawiau wythnosol newydd, ar hyn o bryd, ac mae bron i draean yn adrodd eu bod wedi yfed uwchlaw’r canllawiau dyddiol blaenorol o leiaf unwaith yn ystod yr wythnos flaenorol. Felly, er ein bod yn gwneud cynnydd, fel y dywedais yn fy natganiad, yn 2015, y flwyddyn y mae gennym y ffigurau diweddaraf ar ei chyfer, roedd 483 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Yn amlwg, mae’r holl farwolaethau hyn yn drasig. Mae modd osgoi pob un, ac maent i gyd yn gadael teulu, ffrindiau ac anwyliaid eraill ar eu holau. Felly, mae hyn yn dangos bod gwneud rhagor o gynnydd yn fater o frys hefyd.
Fel yr ydych chi wedi ei amlinellu yn ddigon iawn hefyd, nid yw dim ond yn fater o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae afiechydon sy’n gysylltiedig ag alcohol yn bryder gwirioneddol ac yn parhau yn ystyfnig o uchel yng Nghymru. I roi un enghraifft yn unig, yn 2015—eto, y ffigurau diweddaraf—bu farw 807 o bobl o glefyd yr afu yng Nghymru, ac mae hynny’n gynnydd o 131 yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Hefyd, mae dros draean o’r marwolaethau hyn o glefyd yr afu yng Nghymru yn achosion sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Gwnaethoch chi gyfeirio at bwysigrwydd y modelu, a bod y gwaith modelu hwnnw yn amcangyfrif mai bach iawn fydd effaith isafbrisiau uned ar yfwyr cymedrol. Dangosodd ymchwil grŵp ymchwil alcohol Sheffield fod yfwyr peryglus a niweidiol, at ei gilydd yn ffurfio 26 y cant o’r boblogaeth yfed, ond eu bod, mewn gwirionedd, yn yfed 72 y cant o’r holl alcohol. Ar ben hynny, bydd y newidiadau i ddefnydd yn amrywio ar draws y boblogaeth, ond ar sail isafbris uned o 50c, amcangyfrifwyd yn y dadansoddiad y bydd yfwyr risg uchel yn yfed 293 yn llai o unedau y flwyddyn, gan wario £32 yn fwy y flwyddyn, ond bydd yfwyr cymedrol dim ond yn yfed chwe uned y flwyddyn yn llai, ac yn gwario £2 yn fwy y flwyddyn.
Wel, yn wahanol i siaradwyr blaenorol i’r datganiad hwn, fel y bydd y Gweinidog wedi’i ragweld o fy nghwestiwn i’r Prif Weinidog yn gynharach, ni fydd fy mhlaid yn cefnogi’r mesur hwn. Nid yw hynny’n golygu nad ydym ni’n cefnogi’r nod, sef lleihau’r problemau sy’n deillio o yfed yn ormodol. Ond nid ydym ni o’r farn bod y mesur hwn yn debygol o gyflawni hynny, a hyd yn oed i’r graddau y mae yn gwneud hynny, effaith gwneud hynny fydd gorfodi costau annerbyniol ar y mwyafrif llethol o bobl sy’n yfed, fel fi, nad ydynt yn cael eu hystyried yn yfwyr â phroblem. Wel, efallai fod eraill yn fy ystyried i’n broblem, ond byddai hynny am resymau gwahanol, nid diod.
A wnaiff hi gadarnhau’r ffigurau a ddyfynnir ar wefan y BBC ynghylch effaith y mesur hwn—ei fod, yn ôl fformiwla 50c, yn debygol o gynyddu pris can nodweddiadol o seidr i £1, potel o win i o leiaf £4.69, a litr o fodca nodweddiadol i fwy nag £20? Oherwydd, yn fy marn i, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn sylweddoli yn awr, cyn i ni ddechrau trafod y mesur hwn yn iawn hyd yn oed, pa effaith debygol y mae’n debygol o’i chael. Mae’r Gweinidog yn dweud ei fod wedi’i anelu at yfwyr â phroblem, nid at y boblogaeth gyffredinol, ond dyma’r bobl y mae’r isafbris am alcohol yn lleiaf tebygol o’u heffeithio, nid y bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio. Rydym ni’n gwybod o ymchwil a wnaethpwyd bod y rhai a alwn yn yfwyr â phroblem yn sensitif o ran prisiau rhwng brandiau, felly os byddwch chi’n cynyddu pris un, byddan nhw’n newid i un arall, ond nid oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol o gwbl dros ddangos y byddan nhw’n lleihau eu defnydd o alcohol yn gyffredinol, a llai fyth i ddod yn llwyrymwrthodwyr. Mae’r galw am elastigedd pris i yfwr â phroblem wirioneddol, bron yn ôl diffiniad yn sero. Ni fydd yn cael unrhyw effaith ar faint y mae’n yfed.
Un o’r materion sy’n bwysig, wrth gwrs, yw goblygiadau yfed gormodol o ran trefn gyhoeddus, yn enwedig yng nghanol dinasoedd. Mae pob un ohonom yn gwybod am broblemau’r parthau rhyfel yng nghanol dinasoedd ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Felly, yr hyn sy’n bwysig, yn fwy nag yfed alcohol yn gyffredinol—gallwch beidio ag yfed am bum diwrnod yr wythnos a goryfed mewn pyliau ar y penwythnos. Gallwch chi gael diod ar ôl gwaith a sgwrsio’n hamddenol ac yna mynd adref am bum niwrnod yr wythnos ac wedyn penderfynu meddwi’n gaib ar y penwythnos. Nid yw’r mesur hwn yn debygol o gael unrhyw effaith, yn fy marn i, ar y rhai sy’n goryfed mewn pyliau, sydd yno at y diben penodol hwnnw. Maen nhw eisiau meddwi’n gaib, ac nid yw’r gwahaniaeth o ychydig bunnoedd yn debygol iawn o wneud unrhyw wahaniaeth i’w hymddygiad cymdeithasol.
Mae’r Gweinidog wedi sôn am dystiolaeth ryngwladol o’r honiadau y mae wedi’u gwneud. Nid wyf i mewn gwirionedd yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth ryngwladol ac academaidd o’r broblem benodol hon o effaith isafbrisiau ar yfwyr â phroblem. Mae’n bwysig iawn peidio â gwneud camsyniad rhesymegol post hoc ergo propter hoc ac edrych ar yr ystadegau iechyd ar yr un llaw ac yna eu cymhwyso i fesurau deddfwriaethol a allai fod wedi digwydd fel pe na byddai unrhyw ffactorau eraill a allai fod wedi dylanwadu arnynt. Gwyddom, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fod y problemau a grëwyd gan alcohol wedi gostwng yn sylweddol. Mae hyn yn sicr yn wir yn yr Alban. Ni all neb brofi—ac yn wir, rwy’n credu nad yw hyd yn oed yn rhesymegol—mai’r ddeddfwriaeth isafbris yr hoffai Llywodraeth yr Alban ei gweld a fu’n gyfrifol am hynny.
O ran enghraifft Canada, a grybwyllir yn benodol yn y datganiad hwn, mae Canada yn farchnad wahanol iawn, iawn i Brydain gan fod yr holl wirodydd, bron, a gaiff eu gwerthu yng Nghanada yn cael eu rheoli gan y wladwriaeth neu eu rheoleiddio gan y wladwriaeth mewn modd nad ydyw yn y wlad hon, yn sicr. Nid oes ganddynt system isafbris fel yr un sy’n cael ei chynnig beth bynnag. Mae ganddynt system brisiau cyfeirio sy’n wahanol i wahanol ddiodydd, ac yn wahanol mewn gwahanol daleithiau yng Nghanada. Felly, mae’n anodd iawn, iawn o dystiolaeth Canada, i’r graddau y mae’n ddiamheuol, tynnu unrhyw gasgliadau ar gyfer y math o ddeddfwriaeth sydd bellach yn cael ei chynnig yma yng Nghymru.
Mae agwedd arall nad oes neb arall wedi’i chrybwyll hyd yn hyn y prynhawn yma: mae gan Gymru ffin hir ac mae llawer o bobl yn byw yn eithaf agos ati. Yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain, mae Caer a Lerpwl ar garreg y drws, pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar werthwyr alcohol mewn ardaloedd fel hyn? Byddai’n hawdd iawn, yn enwedig yn awr pan allwn archebu ar-lein, archebu, o Sainsbury’s dyweder ar draws y ffin yn Lloegr a’i threfnu ei ddanfon yng Nghymru. Ni fydd y ddeddfwriaeth isafbrisiau a gynigir yma yn berthnasol i hynny.
Felly, am amryw o resymau, y byddwn yn eu nodi’n fanylach pan gaiff y Bil hwn ei drafod maes o law, mae diffygion yn y rhesymeg y tu ôl iddo sy’n tanseilio ei union ddiben. Yr hyn y dylem ni fod yn ei ystyried yw sut i gymryd camau i fynd i’r afael ag effeithiau anffafriol yfed gormod o alcohol ar gymdeithas, ac yn wir ar unigolion, ond peidio â chosbi’r mwyafrif i geisio a methu â helpu’r lleiafrif.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac rwy’n edrych ymlaen at drafod a dadlau cadarn parhaus wrth i’r Bil fynd rhagddi i’r camau craffu, ac rwy’n siŵr y byddwn yn sicr yn cael trafodaeth gref o ran y dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion yr ydym yn eu gwneud.
Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn ddull newydd, ac rwy’n credu y byddem ni’n dau yn cydnabod hynny. Mae gennym dystiolaeth, pan fo pris alcohol wedi cynyddu a bod y cynnydd hwnnw wedi’i drosglwyddo i unigolion, yna mae’r defnydd yn lleihau ac mae niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn gostwng ymhellach. Dyna’r dystiolaeth sydd gennym ac rwy’n credu bod honno’n dystiolaeth eithaf cymhellol.
Fodd bynnag, fel y dywedais, rydym yn cydnabod bod hwn yn ddull eithaf radical a newydd, felly rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad, ar ôl cyfnod o bum mlynedd, ar weithrediad ac effaith y Ddeddf yn ystod y cyfnod hwnnw. A, byddwn yn comisiynu gwerthusiad ac adolygiad llawn o effeithiau gosod isafbris uned yng Nghymru, gan fonitro amrywiaeth eang o ddangosyddion lle byddem yn gobeithio gweld newidiadau, megis nifer y derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol, marwolaethau o alcohol, gostyngiadau hirdymor mewn sirosis, ac eraill o’r materion iechyd mesuradwy y gellir eu priodoli i alcohol.
Ond, rydym ni wedi cynnwys cymal machlud yn y ddeddfwriaeth hefyd, oherwydd ein bod yn awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni’r hyn yr ydym ni’n dymuno iddi ei gyflawni. Fel y gwyddom, pasiodd Llywodraeth yr Alban ei Deddf yn 2012, ond nid ydynt wedi gallu dod â hi i rym. Felly, rydych chi’n iawn i ddweud nad oes unrhyw wlad arall yn y DU wedi gweithredu isafbris uned am alcohol. Ar sail yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei ddweud wrthym, rydym yn hyderus y bydd yn sicrhau enillion iechyd sylweddol, ond, fel y dywedais, mae angen i ni fod yn hyderus bod y ddeddfwriaeth yn gweithio, felly mae’r cymal machlud wedi’i osod yn y Bil.
Gwnaethoch chi ofyn i mi gadarnhau’r prisiau alcohol a ddyfynnir ar wefan y BBC pe byddai’r isafbris uned yn cael ei osod ar 50c, ac wrth gwrs bydd yn cael ei osod trwy reoliadau a fydd yn dod gerbron y Cynulliad maes o law, pe byddai’r Bil yn pasio trwy’r Cynulliad. Byddai potel o win ar £4.49 yn cynnwys y rhan orau o naw uned, felly, ie, byddai hynny’n gywir. Byddai peint o lager, er enghraifft, yn cynnwys dwy uned, felly, unwaith eto, 50c wedi’i luosi â dau, felly byddem yn cael £1 am hynny. Ac mae’r botel o wirod a ddyfynnir ar y wefan yn botel litr mewn gwirionedd, felly byddai honno’n gwerthu am £20, ond rwy’n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn tueddu i brynu gwirodydd mewn poteli llai na photeli litr.
Mae’r materion trawsffiniol yr ydych chi’n eu disgrifio yn rhai yr ydym yn ymwybodol iawn ohonynt hefyd. Rydym yn gwybod y gallai cyfundrefnau gwahanol yng Nghymru a Lloegr effeithio ar ymddygiad defnyddwyr, ond byddai hynny’n dibynnu yn llwyr ar barodrwydd pobl a’u gallu i deithio, ynghyd â, mewn gwirionedd, y gwahaniaeth mewn pris o’i gymharu â chost y cludiant y byddai hyn yn ei achosi hefyd. Mae siopa trawsffiniol eisoes yn bodoli, fel y gwyddom, ond rydym ni’n credu y bydd effaith cyflwyno isafbris uned yn fach iawn, ac mae hyn oherwydd, yn achos y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, byddai prynu yn Lloegr yn golygu cost o ran amser a theithio ac mae’r gost yn debygol o fod yn fwy nag unrhyw gynilion ar bris alcohol. Yn wir, mae pobl sy’n yfed alcohol ar lefelau niweidiol a pheryglus yn tueddu i brynu alcohol i’w yfed ar unwaith, felly byddai hynny’n amlwg yn lleihau’r cymhelliant i deithio hefyd.
Mae’r Prif Weinidog yn glir mai darn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd yw hwn yn bennaf. Fodd bynnag, mae effeithiau posibl mewn mannau eraill, ac rydym yn rhagweld y bydd yn effeithio ar lefelau troseddu. Er enghraifft, amcangyfrifwyd y byddai isafbris uned o 50c yn arwain at ostyngiad o 4.7 y cant mewn troseddau treisgar, gostyngiad o 4.6 y cant mewn difrod troseddol, a gostyngiad o 4.6 y cant mewn lladrata, bwrgleriaeth a dwyn hefyd. Felly, mae’r buddion y tu hwnt i’r manteision corfforol yn unig.
Ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf y gwnaethoch chi, sef yr un am bobl sy’n byw mewn tlodi a phobl ar incwm isel y mae’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnynt: mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn llawer mwy tebygol o ymatal rhag unrhyw alcohol o gwbl ac yn llawer mwy tebygol o fod yn yfed alcohol ar lefelau isel. Mae’r ymchwil yn awgrymu, i bobl sy’n yfwyr niweidiol a pheryglus, bod pobl sydd ar incwm isel neu sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwy tebygol o ddioddef salwch hirdymor o ganlyniad i yfed gormod o alcohol, felly gall isafbris uned, o bosibl, leihau lefelau yfed niweidiol a pheryglus yn y cymunedau hyn, sy’n golygu y bydd y perygl o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn lleihau hefyd. Ystadegyn llwm iawn a ddaeth i law wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn oedd bod cyfraddau marwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol yn y cymunedau o amddifadedd mwyaf ar gyfer dynion dair gwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf, ac mae hynny, i mi, yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle inni roi sylw i fater cryf iawn o anghydraddoldeb iechyd. Nid wyf i’n credu ei bod yn iawn i ni dderbyn canlyniadau iechyd gwaeth i bobl sy’n byw yn ein cymunedau tlotaf.
Rwy’n cefnogi’r Bil yn fawr iawn oherwydd, yn fy marn i, yr amrediad sylweddol o niwed y mae camddefnyddio alcohol a phroblemau yfed yn gyfrifol amdanynt yng Nghymru: iechyd; diwrnodau gwaith a gollir, felly'r effaith economaidd; ac, yn wir, y math o gymdeithas yr ydym ni ac agweddau diwylliannol hynny. Rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn y mae’r Gweinidog newydd ei ddweud ei fod yn fater anghydraddoldeb iechyd hefyd. Gwyddom fod bwlch mawr mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng ein cymunedau mwyaf cyfoethog a’n cymunedau tlotaf, ac mae’r effeithiau ar iechyd yn sgil camddefnyddio alcohol ac, yn wir, ysmygu yn rhan sylweddol o hynny. Rydym ni wedi cymryd camau ar ysmygu, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny. Mae angen i ni gymryd camau pellach, yn fy marn i, o ran problemau yfed hefyd.
Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â rhai o’r problemau sy’n ymwneud â goryfed mewn pyliau, er enghraifft. Rwyf wedi clywed llawer o ymwelwyr i Gymru yn sylwi ar yr hyn y maen nhw’n yn ei weld fel golygfa arswydus yn ein dinasoedd a chanol trefi ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, er enghraifft, gyda’r goryfed sy’n digwydd. Rwy’n credu y gallai’r ddeddfwriaeth hon gael effaith gadarnhaol ar y broblem honno, oherwydd credaf, unwaith eto, y dylem i gyd fod yn gyfarwydd â’r hyn a elwir yn yfed cyn mynd allan, lle mae llawer o brynu alcohol cryf a rhad o archfarchnadoedd, o siopau cornel, a ddefnyddir wedyn cyn mynd allan i dafarndai a chlybiau. Felly, rwy’n credu y gallem ni gael effaith gadarnhaol iawn ar rai o’r problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol hynny o’r mesur hwn.
Ac, wrth gwrs, mae’n cael ei gefnogi’n gryf gan y rhai sydd â phrofiad ac arbenigedd o ddarparu gwasanaethau yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol. Darparwyd briff gan Alcohol Concern Cymru, er enghraifft, mewn ymateb i’r datganiad hwn heddiw, a oedd yn gefnogol iawn i’r ddeddfwriaeth ac yn nodi, er enghraifft, eu bod wedi gwneud rhywfaint o siopa yn ddiweddar a chanfod, mewn siopau cornel ac archfarchnadoedd, er enghraifft, 3 litr o seidr cryf ar werth am £3.99, pris uned o 18c; 70 cl o win cyfnerthedig am £2.99, pris uned o 27c; a 70 cl o fodca a gin ar werth am £10, pris uned o 38c. Dyna’r mathau o gynhyrchion sy’n cael eu prynu ac yna mae yfed cyn mynd allan yn dilyn.
Mae Kaleidoscope, er enghraifft, yn fy etholaeth i, sefydliad sy’n darparu gwasanaethau gwerthfawr iawn i’r rheiny sydd â phroblemau camddefnyddio alcohol, unwaith eto yn cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn gryf. Maen nhw’n dweud bod llawer iawn o broblemau yn ymwneud â thrais domestig, damweiniau gyrru ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dirwyn o alcohol cryf a rhad yn eu profiad nhw. Rwy’n credu bod cefnogaeth gan Alcohol Concern Cymru a Kaleidoscope yn arwyddocaol iawn o gefnogaeth ehangach gan yr asiantaethau hynny sydd â’r dasg o ymdrin â’r problemau sy’n codi o werthu alcohol cryf a rhad.
Hefyd, rwy’n credu ei bod yn eithaf diddorol bod Public Health England yn cefnogi isafbris uned, ac rwy’n credu ei fod yn drueni mawr nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o sylw i beth mae Public Health England eisiau ei weld a’r dystiolaeth y mae’n ei darparu.
Felly, yn fyr, Llywydd, rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn gryf. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog yn ei dwyn ymlaen, ac edrychaf ymlaen at ei hynt lwyddiannus drwy’r Cynulliad a’r buddion—iechyd, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol—y bydd yn eu cyflwyno.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny ac am ein hatgoffa ar ddechrau eich cyfraniad am bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, a hefyd rhai o’r manteision iechyd y byddem yn disgwyl eu gweld o’r ddeddfwriaeth, yn arbennig achub o leiaf 50 o fywydau neu fwy y flwyddyn o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth a 1,400 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty yng Nghymru o ganlyniad i alcohol hefyd.
Cyfeiriasoch at oryfed mewn pyliau, a chredaf ei bod yn bwysig gweld y ddeddfwriaeth hon o fewn cyd-destun ehangach ein gwaith ar economi’r nos. Yn ddiweddar, es i i uned yn Abertawe i lansio ein fframwaith economi’r nos, ac mae hynny’n ymwneud â phob un o’r partneriaid sy’n rhan o economi’r nos yn gweithio law yn llaw i gefnogi pobl ac i sicrhau diogelwch pobl a sicrhau lefelau yfed diogel ac ati. Rwy’n credu y gall y darn hwn o ddeddfwriaeth ein helpu i wneud hynny, yn rhannol oherwydd ei fod hefyd yn cynnwys camau penodol i fynd i’r afael â mentrau hyrwyddo diodydd hefyd. Gwyddom y gall hyn fod yn broblem arbennig yn economi’r nos.
Mae hefyd yn mynd i’r afael â chynigion arbennig yn ymwneud ag aml brynu alcohol ac ynglŷn â chyflenwi alcohol gyda nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys cynigion prynu un a chael un am ddim ac ati. Mae hefyd yn nodi sut y dylid cyfrifo’r isafbris perthnasol na ellir gwerthu alcohol oddi tano lle mae’r cyflenwad alcohol yn rhan o gynnig arbennig, er enghraifft, cael pryd o fwyd am hyn a hyn ac ati. Felly, mae cyfleoedd, yn fy marn i, o fewn y ddeddfwriaeth i sicrhau ein bod yn dal yr holl ffyrdd gwahanol hyn lle mae potensial i werthu alcohol o dan yr isafbris uned.
Mae ychydig o bwyntiau gennyf i. Mi wnaf i gyfeirio at yr hyn glywsom ni gan Dai Lloyd, wrth gwrs, ynglŷn ag amseru cyflwyno hyn rŵan. Y ffaith ydy na fyddai hyn yn gallu cael ei wneud ar ôl i’r newidiadau ddod i rym dan y Ddeddf Cymru newydd, sy’n codi’r cwestiwn pam bod pleidiau eraill yn y lle yma wedi pleidleisio dros y Ddeddf honno. Mae Plaid Cymru, mewn sawl maniffesto, wedi cynnwys cyfeiriad tuag at gyflwyno trefn o’r fath yma, felly mae’n cefnogaeth ni yno.
Rydw i hefyd yn ymwybodol o’r pryderon sydd yna, ac mi ddylem ni i gyd fod yn sensitif i’r pryderon yna y gallai hwn, o beidio â’i gael o’n iawn, o bosib, gael effaith anghymesur neu ‘disproportionate’ ar yfwyr cymedrol gyda llai o arian i’w wario. Rydw i yn edrych ymlaen i glywed tystiolaeth wrth i hwn fynd drwy’r Senedd er mwyn tawelu pryderon pobl y tu allan yn bennaf, ond hefyd pobl i mewn yma yn y Senedd.
A couple of questions—. We’ve talked a lot about how, hopefully, this can drive a change of behaviour amongst consumers. We know from evidence relating to sugar levies—pop taxes, if you like—globally, that manufacturers have often responded by reducing the sugar content of their drinks, for example. Can I just ask what assessment has been made by Government of the possibility, the likelihood, that some manufacturers will actually try to achieve a lower alcohol content within their drinks? Because we’re a market of 3 million—if Scotland does this, that’s another market of 5 million. It’s not a tiny market, and, certainly, in Singapore, I think, all the major drinks manufacturers came together to reduce sugar content in response to changes in legislation on sugary drinks. So, I wonder if the Government has made an assessment of that, because lowering the alcohol content of drinks would also have a beneficial effect.
Secondly, what assessment has been made of what happens if consumer behaviour doesn’t change as much as the Government envisages? Because you will know that, in Scotland, the Labour Party refused to support legislation on minimum alcohol pricing. So, politics does play a part in this, and the reason given by Scottish Labour, as I understand, is their concern about what would happen to a possible windfall for retailers or manufacturers of alcoholic drinks because they were charging more, because of legislation, for their product. So, what assessment, again, has the Government made of that and what would be the monitoring process? And what would be the actions that the Government would wish to see if, suddenly, retailers or manufacturers have a windfall?
Diolch am y cwestiynau yna, a hefyd am amlinellu eich cefnogaeth i’r dull penodol hwn trwy ddeddfwriaeth. Cyfeiriais yn gynharach at y gwaith modelu a wnaed, sy’n dangos y byddai yfwyr cymedrol, er enghraifft, ddim ond yn cynyddu eu gwariant gan £2 y flwyddyn, ond y byddent yn lleihau eu defnydd gan chwe uned y flwyddyn. Ac, fel y dywedais, rydym yn cael y gwaith modelu hwnnw wedi’i ddiweddaru i ystyried sefyllfaoedd cyfredol y farchnad a hefyd yn edrych ar y gwahanol wahaniaethau ar bwyntiau gwahanol rhwng 35c a 70c. Rwy’n credu bod cyfle gwych yn y fan yma i weithgynhyrchwyr o ran cynhyrchu diodydd alcohol cryfder is, a byddwn yn sicr eisiau gweld ein diwydiant diodydd gwych yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle hwnnw hefyd. Rwyf eisoes wedi cael rhai trafodaethau gyda rhai o’r swyddogion yn yr adran fwyd yma hefyd i drafod pa botensial sydd ar gael i’r diwydiant diodydd yma yng Nghymru, y gwn ein bod ni i gyd yn falch iawn ohono, ac rwy’n siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw fod yn arloesol a dychmygus o ran y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Yr effaith ar y diwydiant, y diwydiant manwerthu—disgwylir i’r isafbris uned arwain at gynnydd cyffredinol mewn refeniw i fanwerthwyr allfasnach a mewnfasnach, a rhagwelir, ar gyfer pob sefyllfa isafbris uned sydd wedi’u modelu gan Brifysgol Sheffield, y byddai mwy o refeniw ar gyfer y diwydiant alcohol yn ei gyfanrwydd. Nid wyf yn siŵr i ba raddau y byddai’n elw annisgwyl, o gofio y byddem yn disgwyl, ar yr un llaw, i rai lefelau o yfed alcohol fod yn gostwng ymhlith yr yfwyr niweidiol a pheryglus hynny, a hefyd yn gyffredinol ymhlith yfwyr cymedrol i raddau llai. Fodd bynnag, credaf y byddai’n gyfle inni edrych, gyda’r modelu wedi’i adnewyddu, i weld beth fyddai’r gwahaniaethau rhwng y 35c a’r 70c hwnnw yn ei olygu ar gyfer y manwerthwyr. Ond, yn y pen draw, deddfwriaeth iechyd y cyhoedd yw hon, er bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio yn ei gyfraniad yn y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw ei bod hefyd yn darparu cyfleoedd a buddion i dafarnwyr.
Mae’r Sefydliad Astudiaethau Alcohol wedi cyhoeddi adroddiad diweddar, o’r enw ‘Pubs Quizzed: What Publicans Think of Policy, Health Public and the Changing Trade’. Ac roedd hynny’n seiliedig ar ganlyniadau arolwg cenedlaethol o reolwyr tafarndai, a ganfu bod 83 y cant o’r farn bod alcohol archfarchnad yn rhy rhad, a 41 y cant ohonynt o blaid gosod isafbris uned, a chanfod mai dim ond 22 y cant oedd yn erbyn.
Rwy’n gweld agwedd gwydr hanner gwag rhai Aelodau braidd yn ddiflas. Oherwydd mae’n bwysig iawn ein bod ni’n manteisio ar y cyfle. Mae’r Llywodraeth wedi newid ei safbwynt o fod yn ystyried deddfwriaeth i fanteisio mewn gwirionedd ar y cyfle a’i wneud, ac rwy’n falch iawn o glywed hynny.
Rwy’n croesawu’r ymagwedd—yr ymagwedd bwyllog—gan Angela Burns, ac, yn wir, Dai Lloyd, bod yn rhaid inni symud ymlaen â hyn, oherwydd mae hwn yn fater iechyd y cyhoedd difrifol iawn. Dyma’r lladdwr mwyaf o bobl rhwng 15 a 49 oed, nid cyffuriau, diod. Ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn yn bendant. Nid yw’n dderbyniol ei bod yn ddrutach prynu dŵr na phrynu alcohol. Mae hyn yn gwbl hurt. Ac mae’n annerbyniol bod yr archfarchnadoedd yn defnyddio alcohol rhad i ysgogi nifer eu cwsmeriaid. Dylem fod yn gweithredu yn erbyn hyn, ac mae’n rhaid inni ei atal.
Rydym wedi gweld o Ganada—. Yn wahanol i Neil Hamilton—yn amlwg, nid yw faint o alcohol y mae ef yn ei yfed yn mynd i newid o gwbl o ganlyniad i hyn, ond nid yw hynny’n bwysig. Y pwynt yw bod yn rhaid inni geisio sicrhau y bydd pobl yn cael eu dylanwadu gan y pris i brynu llai ohono, ac i beidio â mynd i archfarchnadoedd sy’n anghyfrifol yn y modd y maent yn ei werthu. Felly, rydym wedi gweld o Ganada bod y gweithredu systematig a’r gorfodi cadarn ar yr isafbris alcohol mewn gwirionedd wedi gweithio, gan ei fod wedi gweld gostyngiad sylweddol iawn yn y derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dysgu o brofiad Canada i osgoi’r canlyniadau annisgwyl a esboniodd Dai Lloyd.
Ac mae’n rhaid inni gydnabod bod y pedair cyllideb ddiwethaf wedi torri trethi ar alcohol mewn gwirionedd, nad yw, yn fy marn i, yn mynd i’r cyfeiriad cywir o gwbl. Hoffwn weld adfer y doll codi prisiau. Ond nid yw’r ffaith na allwn ddylanwadu ar yr hyn y mae Senedd y DU yn ei wneud yn rheswm i ni wneud dim. Ac rwy’n gobeithio, ar y cyd, y byddwn yn bwrw ymlaen ac yn cynhyrchu’r ddeddfwriaeth hon i ragori ar ddyddiad cau Deddf Cymru.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna. Ac wrth gwrs, mae Jenny Rathbone wedi bod yn gefnogol i’r ymagwedd benodol hon ers tro, ac mae wedi lobïo’r Llywodraeth yn gryf iawn ar y mater penodol hwn hefyd. Felly, diolch ichi am y gwaith yr ydych chi wedi bod yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer hyn, ar gyfer cyflwyno’r Bil.
Ac rydych chi’n gwneud pwynt pwysig, y credaf sydd wedi ei golli mewn llawer o’r ddadl yr ydym wedi ei chael dros y 48 awr diwethaf ar y mater isafbris uned, sef ei fod yn ymwneud i raddau helaeth ag atal ac ymyrraeth gynnar. Wrth gwrs, soniasoch am bobl ifanc, a dangoswyd bod pobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n yfed yn drwm neu’n aml, wedi bod yn arbennig o sensitif i gynnydd mewn prisiau, ac yn arbennig ceir tystiolaeth sy’n dangos perthynas rhwng prisiau yfed a chyffredinrwydd yfed trwm, ac yn arbennig yfed cyn mynd allan, ymhlith pobl ifanc. Felly, credaf fod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle da i ni gymryd yr ymagwedd ataliol honno a chaniatáu i bobl ifanc ddechrau eu bywydau gyda pherthynas fwy iach gydag alcohol. Oherwydd rydym yn gwybod bod yr ymddygiad iechyd diweddar mewn data arolwg plant oedran ysgol yn dangos y dylai yfed ymhlith pobl ifanc fod yn bryder i ni, gyda 7 y cant o fechgyn a 5 y cant o ferched 11 i 16 oed yng Nghymru yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos. Ac mae’r cyfrannau’n codi wrth i oedran y plant a’r bobl ifanc hynny godi hefyd.
Mae angen inni sicrhau, er mwyn i’r bobl ifanc hynny sy’n dechrau camddefnyddio sylweddau yn fuan yn eu bywydau, bod ymyrraeth gynnar ac adnabod cynnar ar gael iddynt er mwyn cyfyngu ar niwed a lleihau’r siawns o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn y dyfodol. A dyna un o’r rhesymau pam yr ydym ni’n gweld y darn hwn o ddeddfwriaeth o fewn cyd-destun ehangach y gefnogaeth y dylem ei chynnig i bobl yn yr agenda ataliol honno, a’r agenda gefnogi honno, os a phryd y mae pobl ifanc yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol, ac rydym yn sicrhau bod gennym amrywiaeth o wasanaethau ar gael. Er enghraifft, mae gennym wasanaethau cwnsela, lles emosiynol—mae gwasanaethau niwed cudd yn bwysig iawn, ac mae’r rhain yn wasanaethau i blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan ddefnydd alcohol a chyffuriau mewn modd sy’n achosi problem gan eu rhieni, neu eu gofalwyr, yn y cartref teuluol hefyd.
Ac, wrth gwrs, mae addysg ac atal i bobl ifanc dan 18 oed yn rhan bwysig o’r gwaith a wnawn, fel y mae ymyriadau byr, er enghraifft, therapi ymddygiadol gwybyddol, cyngor ar leihau niwed, ac atal atglafychu hefyd. Felly, mae’n rhaid ei weld o fewn cyd-destun llawer ehangach y gwaith yr ydym ni’n ei wneud.
Soniodd Jenny Rathbone am bwysigrwydd gorfodi hefyd. Rwy’n ddiolchgar iawn i CLlLC am eu cefnogaeth lawn i’r ddeddfwriaeth benodol hon, gan fod y Bil yn darparu’n benodol mai’r awdurdodau lleol fydd y rhai i ddod ag erlyniadau, ymchwilio i gwynion a chymryd camau eraill gyda’r bwriad o leihau troseddau gosod isafbris yn eu hardal. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi pwerau mynediad iddynt, pwerau mewn perthynas ag arolygiadau a hefyd bwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig i bobl y mae ganddynt reswm dros gredu eu bod wedi cyflawni trosedd gosod isafbris hefyd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i CLlLC am eu cefnogaeth i’r ddeddfwriaeth hon, a hefyd yr holl sefydliadau hynny a grybwyllodd John Griffiths yn ei gyfraniad a llawer o bobl eraill sy’n gweld budd y dull hwn.
Ac yn olaf, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn amlwg, mae’r Gweinidog a’r Llywodraeth wedi gwneud achos cymhellol dros weithredu yn y maes hwn a’r problemau sydd gennym gyda chamddefnyddio alcohol yn ein cenedl, er ei bod yn werth cofnodi, rwy’n credu, nad cwestiwn o gost yn unig yw hwn. Mae gwledydd sydd ag alcohol rhatach nag sydd gennym yng Nghymru heddiw nad oes ganddynt y problemau sydd gennym ni. Mae mater diwylliannol ehangach y mae angen inni fynd i’r afael ag ef. Efallai y bydd y Bil hwn yn rhan o fynd i’r afael â hynny, ond mae dau fater yr hoffwn eu crybwyll ar hynny, rwy’n credu y mae angen eu datrys wrth inni fynd â’r Bil ymlaen.
Y cyntaf yr hoffwn ei alw ‘Cwestiwn Co-op y Gelli Gandryll’, ble y gallwch fynd o’r dafarn hynaf yn Y Gelli Gandryll, y Three Tuns—200 llath i lawr y ffordd a’ch bod mewn Co-op sydd yn Lloegr—y mae angen i ni fod yn gwbl glir ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio o ran perthnasoedd trawsffiniol a hefyd archebion rhyngrwyd a materion eraill. Ar ôl mynd â dau Fil drwyddo yn y Pwyllgor Cyllid sy’n ymwneud yn uniongyrchol â threthi, mae’n rhaid i mi ddweud bod materion trawsffiniol yn fater gwirioneddol y bu’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw yn y pwyllgor hwnnw ac rwy’n credu bod angen i unrhyw bwyllgor sy’n edrych ar y Bil hwn fynd i’r afael yn drylwyr â’r materion trawsffiniol hynny. Nid esgus yw hynny i beidio â mynd a’r Bil drwodd, ond mae’n fater y mae angen ei archwilio’n iawn a’i lyfnhau.
Yr ail fater, wrth gwrs, yw nad Bil treth yw hwn ond mae’n fesur ariannol, ac rydym yn cael dadl gyson yn y Cynulliad, yn eithaf priodol, ynghylch pryd a ble mae’r amser mwyaf priodol i ddatgan eich costau ariannol neu drethi. Mae Aelodau eraill wedi ceisio rhoi cost, er enghraifft, treth stamp yn y gorffennol, sydd bellach wedi dod i mewn yn y gyllideb, ar wyneb y Bil. Rwy’n fodlon bod hyn yn cael ei ddatblygu fel rhan o broses gyllidebol ar y cyfan; rwy’n credu bod hynny’n ffordd briodol i’w wneud. Fodd bynnag, nid treth yw hon, ac mae’r dadleuon iechyd y cyhoedd yn benodol yn ymwneud â beth fydd yr isafbris uned, ac mae’r holl ffigurau a ddyfynnoch chi heddiw, Weinidog, wedi dod o isafbris uned o 50c ac rydych wedi cyfeirio at nifer o adroddiadau sydd wedi delio ag isafbris uned o 50c. Felly, pam nad yw hynny ar wyneb y Bil? Beth yw’r ansicrwydd ynghylch beth fyddai’r isafbris hwn? Nid wyf yn credu ei fod yn ddigon da, oherwydd ein bod ni’n ceisio rhuthro’r Bil hwn cyn i ni golli’r pwerau, i beidio â rhoi sylw cywir i’r cwestiwn hwn. Os yw’n rhy isel, yna ni fydd yn cael yr effaith yr ydych chi’n gobeithio y bydd. Os yw’n rhy uchel, gallai gael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol sy’n dod o gefndiroedd incwm isel. Felly, mae’n rhaid inni ei wneud yn iawn, ac rwy’n awgrymu bod ei gael yn iawn yn dasg i’r Cynulliad cyfan ac nid yn dasg i’r Llywodraeth yn unig. Er fy mod yn deall eich bod yn cymryd pwerau rheoleiddio a ddaw i’r Cynulliad o dan y dull cadarnhaol, rwy’n awgrymu ei bod yn well ac yn fwy priodol, pan fyddwn yn trosglwyddo’r Bil hwn, bod yr isafbris uned ar wyneb y Bil ac mae’r pwerau gennych i newid hynny yn y dyfodol gyda chymeradwyaeth y Cynulliad.
Diolch i chi am y cwestiynau hynny a’ch cefnogaeth eang i’r Bil. Byddwn yn cytuno’n llwyr â chi fod hwn yn fater diwylliannol llawer ehangach yr ydym yn ymdrin ag o yma ac mai dim ond rhan o’r ateb yw gosod isafbris uned. Mae’r ateb mewn cyfres lawer ehangach o fesurau sy’n mynd yr holl ffordd o addysg i gefnogi teuluoedd yn y cartref lle ceir problemau alcohol, i’n gweithleoedd, i’n bywydau cymdeithasol ein hunain ac yn y blaen. Felly, credaf fod cyfleoedd eang er mwyn ceisio cael perthynas llawer iachach ag alcohol yng Nghymru. Ond, fel y dywedais, dim ond un rhan ohono yw hwn.
Mae’r cwestiwn ‘Co-op Y Gelli Gandryll’ rwy’n credu yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn fanylach wrth i’r ddeddfwriaeth fynd trwy broses graffu’r pwyllgor. Fodd bynnag, mae’r Bil yn ymdrin ag archebion rhyngrwyd ar ei wyneb ac yn y blaen. Rydym ni wedi ceisio bod mor gynhwysfawr ag y gallwn wrth feddwl am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn prynu alcohol ac i geisio ei ddiogelu at y dyfodol yn y ffordd honno.
O ran y 50c, pa un a ddylai fod ar wyneb y Bil ai peidio neu wedi’i osod trwy reoliadau, eto, rwy’n siŵr bod hwn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn helaeth yng nghamau’r pwyllgorau. Pan ymgynghorwyd ar y Bil ar ffurf ddrafft, y bwriad oedd y byddai Gweinidogion Cymru yn gosod yr isafbris uned trwy reoliadau, a byddem yn cael cyfle i drafod hynny.
Dylai’r modelu wedi’i ddiweddaru, a fydd yn edrych ar y gwahaniaethau pris o 35c i 70c, fod gyda ni ar ddiwedd y flwyddyn hon, neu’n gynnar iawn ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, a chredaf y bydd hynny’n rhoi llun llawn wedi’i ddiweddaru i ni o ran faint o fywydau y byddem yn disgwyl eu hachub ar y gwahanol lefelau, faint o dderbyniadau i ysbytai y byddem yn disgwyl eu hosgoi, faint o ddiwrnodau gwaith a gollwyd y byddem yn disgwyl eu hosgoi a pha fath o arbedion cost y gallem eu disgwyl ar gyfer y GIG hefyd. A bydd hynny’n rhoi’r cyfle i ni gael trafodaeth fwy cytbwys ar y pwynt hwnnw. Ond rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol defnyddio’r 50c hwnnw fel canllaw enghreifftiol ar hyn o bryd, gan ei fod yn rhoi’r mater mewn rhyw fath o gyd-destun i ni, fel y gallwn ni gael syniad yn ein meddyliau ynghylch pa fath o ffigurau yr ydym yn sôn amdanynt.
Diolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw ac edrychaf ymlaen at ragor o graffu manwl wrth i ni symud drwy’r camau nesaf.
Diolch i’r Gweinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar recriwtio athrawon, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd, Kirsty Williams.

Diolch, Llywydd. Un o amcanion allweddol ein cynllun gweithredu addysg a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel. Mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd swyddogaeth ein hathrawon i’n helpu i lwyddo yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol. Heddiw, rwy'n amlinellu cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n hyrwyddo addysgu yng Nghymru fel proffesiwn gwerthfawr a hyblyg sydd â statws iddo. Ochr yn ochr â hynny, yn ein hymdrechion parhaus i godi safonau yn yr ystafell ddosbarth, byddaf hefyd yn rhoi manylion ynglŷn â sut yr ydym ni’n datblygu cynnig amgen i gefnogi trefniadau rheoli absenoldebau mewn ysgolion.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Yn syml, ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon. Os ydym ni am lwyddo gyda’n diwygiadau uchelgeisiol mae angen athrawon uchelgeisiol o safon uchel sy’n cael eu cefnogi’n dda arnom ni. Felly, mae’n rhaid inni ddenu a chefnogi'r graddedigion gorau gyda'r cymwysterau gorau i addysgu. Rwy’n pryderu y gall problemau recriwtio sylweddol ar draws y ffin roi camargraff o’r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yma yng Nghymru. Er hynny, rwy'n derbyn yn llwyr ein bod ni, er hynny, yn wynebu heriau wrth recriwtio i rai pynciau ac mewn rhai lleoliadau daearyddol. Mae hon yn her y mae'n rhaid i ni, ac y byddwn ni, yn ymgyrraedd ati.
Felly, rwyf wedi penderfynu cyhoeddi ein cymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19 yn gynnar. Rydym ni’n cynnig eglurder a sicrwydd yn ein hymrwymiad i'n hathrawon mwyaf newydd. Mae'r cymhellion hyn yn cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys ffiseg, cemeg, mathemateg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern. Rydym ni hefyd erbyn hyn yn cynnwys gwyddoniaeth gyfrifiadurol fel pwnc blaenoriaeth sy'n gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymhelliant. Os ydym ni, fel Llywodraeth, eisiau cyflawni ein huchelgeisiau yn strategaeth 'Cymraeg 2050', yna mae angen inni gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'n ddwyieithog, trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu'r Gymraeg fel pwnc.
Er bod ein cyfradd recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg cynradd yn cyfateb ar y cyfan i’r hyn y dylai fod, os ydym ni eisiau cyflawni ein targedau ar gyfer addysg uwchradd, mae angen i ni gynyddu nifer y bobl yr ydym ni’n eu recriwtio bob blwyddyn i leoedd ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg uwchradd erbyn 2021. Felly, rwyf hefyd yn cyhoeddi cymhelliant cyfrwng Cymraeg newydd heddiw a fydd yn targedu myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer tystysgrif addysg i raddedigion mewn addysg uwchradd ac sy’n hyfforddi i addysgu pob arbenigrwydd pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
Wrth gwrs, mae ein gweithlu addysgu yn cynnwys nifer o swyddogaethau gwahanol, ac mae gan bob un ohonyn nhw swyddogaeth hanfodol wrth godi safonau. Mae athrawon cyflenwi yn rhan arwyddocaol a phwysig o'n gweithlu addysgu. Mae’n rhaid inni sicrhau bod ein hathrawon cyflenwi yn rhan wybodus o weithlu ehangach yr ysgol a’u bod yn barod ac yn alluog i gefnogi ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod lle i wella yn y modd y mae ein system ar hyn o bryd yn cyflogi, rheoli a chefnogi athrawon cyflenwi yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan athrawon sy'n gweithio'n hyblyg yn y modd hwn ddigon o adnoddau, y cânt eu gwobrwyo'n briodol, a’u cefnogi a'u hintegreiddio i'r proffesiwn addysgu. Felly, rwy'n cydnabod bod angen i'n system fod yn fwy hyblyg, arloesol a chynhwysol yn ein dull o ymdrin ag absenoldeb athrawon a sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y modd hwn yn cael eu cefnogi yn yr un modd ag athrawon parhaol.
Rwyf heddiw yn cyhoeddi cefnogaeth o £2.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol a’r blynyddoedd academaidd nesaf er mwyn ariannu 15 awdurdod lleol i gefnogi trefniadau clystyrau cyflenwi yn yr ysgol mewn 86 o ysgolion. Bydd y trefniant clwstwr hwn yn cefnogi penodi oddeutu 50 o athrawon cymwysedig ychwanegol i weithio gyda chlystyrau ysgol, gan lenwi swyddi athrawon sy’n absennol, meithrin gallu a chefnogi gwelliannau ysgol ehangach a deilliannau dysgwyr. Mae'r dull hwn yn buddsoddi mewn, yn datblygu ac yn meithrin athrawon sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar, a hefyd yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth mewn ysgolion i ddiwallu’r galw am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac athrawon arbenigol eraill, gan gynnwys athrawon cyfrwng Cymraeg.
Drwy'r dull arloesol hwn, rydym ni’n rhagweld y gellir defnyddio arbedion a wneir yng nghyllidebau cyflenwi ysgolion i ailfuddsoddi yn y dyfodol er mwyn creu newid a gwella ysgolion mewn modd mesuradwy. Rwyf o’r farn y bydd y dull hwn yn meithrin gallu yn y system i gefnogi ein hysgolion i reoli eu hanghenion cyflenwi mewn modd mwy cydlynol, cydweithredol a chynaliadwy. Rwy'n falch ein bod ni’n gallu bwrw ymlaen ag adroddiad tasglu y model cyflenwi yn y ffordd arloesol hon a chydweithio ag awdurdodau lleol i gefnogi cysondeb, llwybrau gyrfa a bodloni anghenion cymhleth mewn gwahanol ranbarthau.
Dirprwy Lywydd, mae gan systemau addysgol gorau’r byd addysgwyr egnïol a brwdfrydig sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Rydym ni wedi hen ddechrau ar y daith yng Nghymru drwy ddatblygu a chynnig proffesiwn o ansawdd uchel sy’n barod i godi safonau yn gyffredinol. Rwy'n ffyddiog bod y cynigion a gyhoeddir heddiw yn dangos ymrwymiad eglur a chlir i'n gweithlu, yn y presennol a’r dyfodol, wrth iddyn nhw gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. Diolch yn fawr.
A gaf i groesawu'r datganiad? Rydym ni mewn difrif calon yn rhannu nod Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir hyrwyddo addysgu fel proffesiwn boddhaus a gwerthfawr gyda statws iddo, ac mae'n yrfa yr ydym ni am annog mwy o bobl i’w dilyn. Mae'n arbennig o bwysig, y datganiad hwn, o gofio'r datganiadau yr ydym ni wedi'u clywed gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ac eraill eleni, sydd wedi awgrymu bod recriwtio athrawon yn ymylu ar fod yn argyfwng. Dyna oedd eu geiriau yn ôl ym mis Mehefin. Fe wyddom ni ein bod ni wedi cael nifer o flynyddoedd bellach lle yr ydym ni, fel cenedl, wedi methu’r targedau recriwtio athrawon a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, roeddem ni draean islaw'r targed am yr ail flwyddyn yn olynol o ran athrawon uwchradd, a chredaf fod hynny'n peri pryder i bob un ohonom ni.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu braidd nad oedd cyfeiriad at faich gwaith athrawon yn eich datganiad. Fe wyddom ni o'r arolwg gweithlu addysg genedlaethol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, fod 78 y cant o'r rheini a ymatebodd i’r arolwg hwnnw'n dweud mai'r baich gwaith oedd yr agwedd leiaf boddhaus o'u gwaith. Rydym ni hefyd yn gwybod o'r arolwg hwnnw bod traean o athrawon yng Nghymru yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf. Maen nhw’n ystadegau hynod frawychus.
Nawr, rwy’n gwybod, i fod yn deg â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi cyhoeddi yn gynharach eleni eich bod yn bwriadu treialu rhai o gynigion rheolwyr busnes ledled Cymru er mwyn lleihau'r baich gwaith diangen, a'ch bod wedi cyhoeddi rhai canllawiau arfer da, fel petai, i’w gwneud hi’n glir i bobl beth mae angen ac nad oes angen iddyn nhw ei wneud. Credaf fod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen, ond rwyf yn credu bod yn rhaid cydnabod bod y llwyth gwaith yn rhywbeth sy’n rhwystro rhai pobl rhag mentro i’r proffesiwn hwn yn llwyr, ac, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy, er gwaetha’r ffaith bod y llwyth gwaith yn cyfrannu at yr angen am fwy o athrawon cyflenwi, oherwydd absenoldebau heb eu cynllunio yn y gweithlu addysgu. Felly, byddai'n dda pe gallech chi roi diweddariad i ni ynglŷn â rhywfaint o'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud ynghylch hynny.
Sylwaf eich bod wedi sôn y bydd y cymhellion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-19 yn cael eu cyhoeddi'n gynnar. Dyna rywbeth yr wyf yn ei groesawu. Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried ychwanegu gwyddoniaeth gyfrifiadurol at y rhestr o bynciau blaenoriaeth. Credaf fod hynny'n hollol hanfodol hefyd, yn enwedig os ydym ni eisiau gweithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac fe wyddoch chi fod hynny’n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano y tu mewn a’r tu allan i’r Siambr hon yn y gorffennol—yr angen i arfogi pobl ifanc i wneud codio a phethau felly, fel y gallwn ni sicrhau bod gan fusnesau y bobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy'n falch iawn hefyd o weld y bydd cymhellion newydd er mwyn denu siaradwyr Cymraeg i'r gweithlu. Rydych chi yn llygad eich lle, os ydym ni’n mynd i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n rhaid i ni gael gweithlu sy'n mynd i gyflawni'r pethau hyn yn ein hysgolion ac annog y defnydd o’r iaith o fewn ac y tu allan i furiau’r ysgol.
Sylwaf fod Lloegr eisoes wedi cyhoeddi ei chymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19. Ni allaf weld eich bod chi wedi cyhoeddi dogfen heddiw ynglŷn â'r cymhellion, ac ni allaf weld unrhyw beth ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, byddai'n ddefnyddiol, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi ddweud wrthym ni’n union beth yw'r cymhellion hynny, oherwydd rwyf am ohirio rhoi barn ar ba un a ydyn nhw’n ddigon deniadol i ddenu pobl i'r proffesiwn, oherwydd mae'n amlwg mai’r maen prawf fydd sut maen nhw’n cymharu â chymhellion mewn mannau eraill yn y DU. Felly, byddai gennyf ddiddordeb gweld y cymhellion hynny.
At hyn, a wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n adolygu'r targedau ar gyfer recriwtio i'r proffesiwn? Rydym ni’n gwybod inni fethu â chyrraedd targedau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n amlwg bod angen targedau arnom ni sy'n mynd i’n herio ond sydd hefyd yn realistig a bydd hynny'n sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n bodloni gofynion system addysg Cymru.
A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n derbyn cyngor Cyngor y Gweithlu Addysg ac eraill ynglŷn â’u galwadau am ryw fath o ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon? Nawr, fe wn i fod peth gwaith yn cael ei wneud rhwng y consortia ar hyn o bryd. Ceir rhywfaint o gydweithio, ceir rhywfaint o weithgarwch, ond nid oes ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon. Pan fydda i’n mynd i'r sinema, hyd yn oed, y dyddiau hyn, yn aml iawn fe welwch chi hysbysebion cyn i'r ffilmiau ddechrau yn annog pobl i fynd i'r proffesiwn addysgu, ac maen nhw’n hysbysebion sy'n ceisio denu pobl i system addysgu Lloegr, nid i un Cymru—hyd yn oed mewn sinemâu yng Nghymru, ac rwy’n gweld hynny braidd yn rhyfedd. Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n gwneud unrhyw beth ynglŷn â’r agwedd honno.
Un o'r pethau yr wyf i hefyd wedi sôn wrthych chi amdano yn y gorffennol ac sydd wedi bod yn destun trafodaeth ymhlith y pleidiau yn hanesyddol yw potensial athrawon wedi eu hyfforddi dramor a dod â'r rheini i'r proffesiwn yma yng Nghymru. Fe wyddoch chi nad oes ganddyn nhw statws athro cymwysedig awtomatig ar hyn o bryd, hyd yn oed os ydyn nhw o systemau addysg cymharol o ran safonau'r systemau addysg hynny. Mae hynny’n rhywbeth sy'n berthnasol yn unig yng Nghymru—nid yn unrhyw ran arall o'r DU—ac mae'n rhwystr i gannoedd o bobl a allai fod eisiau gweithio yn y proffesiwn yma yng Nghymru nad ydyn nhw’n cael y cyfle i wneud hynny ar hyn o bryd heb oresgyn rhwystrau ychwanegol er mwyn gallu gwneud hynny.
Gan droi at y £2.7 miliwn yr ydych chi wedi ei gyhoeddi heddiw—cyhoeddiad calonogol—i gefnogi'r trefniadau clwstwr, rwy'n synnu y bydd cyn lleied o ysgolion yn cymryd rhan yn y trefniadau clwstwr hynny. Mae gennym ni dros 1,500 o ysgolion yma yng Nghymru, ac mae'r arian hwnnw'n targedu dim ond 86, i’w hannog i gydweithio. Fe wnaethoch chi ddweud y bydd hynny ar waith mewn 15 awdurdod lleol. Beth am y saith awdurdod lleol arall? Pa awdurdodau lleol nad ydynt yn cael eu cynnwys? Pam cyn lleied o ysgolion? Fe wyddom ni fod gan y trefniadau clwstwr hyn botensial enfawr. Byddwn wedi gobeithio y byddai’r rhaglen yn un fwy o ran ceisio manteisio ar y cyfle sy’n dod yn sgîl y trefniadau hynny, felly efallai y gallwch chi ddweud ychydig wrthym ni ynglŷn â hynny.
Ac yn olaf, ynglŷn ag athrawon cyflenwi—
Y pwynt olaf un, nawr.
Un o'r rhwystrau mawr, fel y gwyddoch chi, yw’r cyfleoedd i athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol. Rydych chi wedi dweud eich bod eisiau gweld hynny’n cael sylw. Nid ydych chi wedi dweud sut y disgwyliwch y dylid mynd i'r afael â hynny, ond mae'n amlwg bod angen inni sicrhau bod consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yn gwahodd athrawon cyflenwi ac yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu proffesiynol yn rhad ac am ddim, heb unrhyw gost iddyn nhw. A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni a ydych chi’n bwriadu bwrw ymlaen â'r argymhelliad a wnaeth y tasglu ichi ynglŷn â chyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â pheth o’r camddefnydd y mae asiantaethau athrawon yn gyfrifol amdano o ran safonau'r asiantaethau hynny a hefyd y cyflog a'r gwobrau maen nhw’n eu talu i'n gweithlu addysgu sy'n gweithio fel athrawon cyflenwi? Diolch.
Diolch i Darren Millar am yr hyn a gredaf oedd yn groeso eangfrydig i'r datganiad heddiw a rhestr hir o gwestiynau, y byddaf yn ceisio eu hateb mor gyflym ag y gallaf.
Ni chredaf fod gennym ni argyfwng. Caiff naw deg y cant o leoedd dysgu mewn ysgolion cynradd eu llenwi yn unol â’r targedau. Ond rydych chi'n iawn, gydag addysg uwchradd mae gennym ni heriau penodol, ac yna mae gennym ni heriau penodol mewn rhai pynciau addysg uwchradd—gyda rhai cyrsiau. Rydym ni’n recriwtio'n llawn mewn pynciau eraill. A dyna yw pwrpas y cymhellion.
Fodd bynnag, mae Darren hefyd yn iawn; nid yw dysgu yn ymwneud â’r cyflog yn unig, ac mewn gwirionedd mae'r holl arolygon yn dangos, pan fo’r rhan fwyaf o athrawon yn mynd i'r proffesiwn, nad yr unig gymhelliant yw ennill arian mawr. Yr hyn sy’n eu cymell nhw yw bod arnyn nhw eisiau gweithio gyda phlant, eisiau rhannu’r brwdfrydedd sydd ganddyn nhw am eu pynciau, a gwneud y gorau y gallan nhw dros y system addysg. Felly, mae materion yn ymwneud â llwyth gwaith yn bwysig. Cyfeiriodd Darren at ein rheolwyr busnes a'n canllaw arfer da. Rwyf ar fin ysgrifennu at bob pennaeth eto i sicrhau bod y canllaw arfer da yn cael ei ddefnyddio yn eu hysgolion, ac rydym ni’n gobeithio cyhoeddi prosiectau ychwanegol ynglŷn â llwyth gwaith wrth i ni symud ymlaen. Ond mae a wnelo hyn hefyd â chefnogi'r proffesiwn a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael y cyfle i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus sy'n eu galluogi i fod y gorau y gallan nhw fod. Fe wyddoch chi ein bod ni’n datblygu ffordd genedlaethol o fynd i’r afael â DPP, fel bod athrawon yn cael hynny ble bynnag y maen nhw yng Nghymru. Fe wyddom ni hefyd, weithiau, nad yw ein harweinyddiaeth efallai mor dda ag y gallai fod. Mae arweinyddiaeth yn hollbwysig wrth reoli llwyth gwaith a sicrhau bod ysgolion a cholegau yn lleoedd deniadol i weithio ynddynt. Dyna pam yr ydym ni’n datblygu ein hacademi arweinyddiaeth i sicrhau bod gan ein harweinwyr ysgol y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fod yn rheolwyr effeithiol ar eu sefydliadau.
Y prif newidiadau i'r cymhellion, o’u cymharu â’r llynedd—. Mae'r ffigurau yr un fath, sef £20,000 ar gyfer gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, Cymraeg, ond y pwnc ychwanegol ymhlith y rhain yw gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Hefyd, rydym ni’n newid—. Roedd rhywfaint o gyfyngiadau gwrthnysig, afresymegol ar y bobl hynny oedd â Doethuriaeth a graddau Meistr. Felly, pe byddai gennych chi radd 2:1 ond bod gennych chi Ddoethuriaeth, neu pe byddai gennych chi radd 2:1 a bod gennych chi radd Meistr, dim ond y gyfradd 2:1 fyddech chi’n ei chael, sy'n is na'r gyfradd dosbarth cyntaf, nad oedd mewn gwirionedd, yn rhesymegol, yn gwneud llawer o synnwyr. Felly, rydym ni yn mynd i'r afael â hynny y tro hwn. Felly, os oes gennych chi radd dosbarth cyntaf neu Ddoethuriaeth neu radd Meistr, byddwch yn derbyn y swm mwyaf ar gyfer y pynciau hynny. Ar gyfer pynciau blaenoriaeth ganolig bydd cymhelliant o £15,000. Yr hyn sy'n bwysig iawn i'w gofio, Darren, yw mai pedwar cymhelliant yw’r rhain ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, 2018-19, lle bydd y myfyrwyr hyn hefyd yn gallu ymgeisio am ein pecyn Diamond cyflawn. Mae myfyrwyr TAR yn eithriad i astudiaethau ôl-raddedig, felly mae'n bosib y bydd y myfyrwyr hyn yn gallu ymgeisio am becyn cymorth Diamond llawn ochr yn ochr â'r cymhellion yr ydym ni yn eu cyflwyno heddiw.
Rydym ni’n gweithio ar hyn o bryd ar—. Fe wnaethoch chi ofyn a fydd targedau yn aros yr un fath. Rydym ni’n ceisio creu sefydlogrwydd i'n sefydliadau sy'n cynnig y cyrsiau hyn ar hyn o bryd, ond rydym ni’n gweithio ar offeryn cynllunio gweithle newydd i gael data gwell a gallu dadansoddi anghenion ein gweithlu yn well yn y dyfodol, ac rwyf yn disgwyl y byddwn ni’n newid ein targedau o ran pryd y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, ac rwy'n gobeithio y gwneir hynny yn 2019— y bydd yr offeryn newydd hwnnw ar gael ac yn cyd-fynd â datganoli tâl ac amodau gwaith athrawon. Mae yna gyfres gyfan o bethau y mae angen cyswllt rhyngddynt.
Mae ymgyrch genedlaethol ar droed. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan yr holl gonsortia rhanbarthol. Ei henw yw Darganfod Addysgu. Rydym ni’n trafod yn gyson a yw’r amgylchiadau a’r adnoddau ar gael ar gyfer ymgyrch fwy. Rwyf hefyd yn edrych yn barhaus ar ba un a ydym ni’n creu rhwystrau artiffisial i athrawon o wledydd eraill i ddod i ddysgu yn y wlad hon. Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar hyn, barn gref iawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad oedd y dylai'r cyfyngiadau hynny fod yn berthnasol. Ond, yn amlwg, nid ydym ni eisiau rhwystro pobl a all wneud cyfraniad i'n hystafelloedd dosbarth, a byddwn ni’n adolygu hynny. Hynny yw, wrth gwrs, os gallan nhw fynd drwy system fewnfudo Llywodraeth y DU a dod i fyw yma a gweithio yma yn y dyfodol.
Rydych chi’n hollol gywir ynghylch yr angen i'r consortia gynnig datblygiad proffesiynol parhaus i'n hathrawon cyflenwi. Cyhoeddwyd adroddiad y tasglu athrawon cyflenwi ym mis Chwefror. Rydym ni wedi sefydlu grŵp annibynnol i oruchwylio’r modd y caiff yr argymhellion hynny eu gweithredu. Mae'r grŵp wedi cyfarfod dair gwaith, ac rydym ni’n gwneud cynnydd. Mae'r model cyflenwi yr ydym ni’n sôn amdano heddiw yn argymhelliad sy'n cael ei weithredu. Rydym ni wedi sicrhau bod Hwb ar gael i athrawon cyflenwi, nad oedd yn bosib o’r blaen, ac rydym ni’n gweithio gyda'r consortia i sicrhau bod modd i’r athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus.
O ran y cynllun arbrofol, gadewch i mi ddweud: mae hyn yn arwydd o'm bwriad. Roedd y cynllun arbrofol yn argymhelliad uniongyrchol gan y grŵp gorchwyl a gorffen, ond mae'n rhoi cyfle inni ymchwilio i hyn fel model amgen i recriwtio a chyflogi athrawon cyflenwi, wrth symud ymlaen. Y 15 awdurdod lleol a ddewiswyd yw 15 o'r 16 a fynegodd ddiddordeb. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae’n rhaid inni ei wneud mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac ysgolion, oherwydd bod ysgolion yn cael eu rheoli’n lleol. Ni allwn ni orfodi hyn arnyn nhw. Felly, fe dderbyniwyd cais 15 o'r 16 awdurdod a fynegodd diddordeb, a dyma nhw, os yw pobl eisiau gwybod, ac os yw'r Dirprwy Lywydd yn caniatáu imi eu rhestru: Sir Benfro, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam, Powys , Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr, Conwy, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd. Felly, mae gennym ni drawstoriad mawr o awdurdodau trefol a gwledig, gogledd a de, dwyrain a gorllewin, a chymysgedd o ysgolion. Felly, mae gennym ni glystyrau cynradd, mae gennym ni rai uwchradd, ond mae gennym ni ysgolion 3-19 oed hefyd. Ni allwn ni orfodi hyn ar bobl; mae'n rhaid inni ei wneud drwy gydweithio â’r rheini sy’n barod i wneud hynny. Mae'n rhaid inni ei wneud ar y cyd, ac mae'r awdurdodau lleol hynny, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi camu i’r adwy ac yn dangos gweledigaeth wirioneddol ac wedi archwilio'r posibilrwydd y gall hyn ddod â manteision yn ei sgîl. Ac mae’r manteision hynny nid yn unig i'r athro cyflenwi. Yr hyn sy'n hollbwysig ynglŷn â hyn yw bod manteision i'r plant, oherwydd bydd ganddyn nhw wynebau cyfarwydd. Felly, pan fo’u hathro dosbarth yn absennol neu'n mynd ar gwrs hyfforddi, byddan nhw’n gweld wyneb cyfarwydd yn eu hysgol, a bydd hynny'n cael effaith ar addysgu a dysgu'r plant hynny.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Rwyf innau hefyd yn teimlo ei bod hi braidd yn od nad oedd yna ddim manylion ynglŷn â’r cymhellion a oedd yn cael eu cyhoeddi heddiw, ond diolch i chi am roi amlinelliad i ni yn eich ymateb. Byddai diddordeb gyda fi wybod sut mae’r cymhellion newydd yma yn mynd i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Mi wnaethoch chi roi rhyw amlinelliad i ni, ond mi fyddai hynny’n ddifyr oherwydd ein bod ni mewn sefyllfa gystadleuol yn aml iawn pan mae’n dod i rai o’r pethau yma. Rwyf innau hefyd eisiau croesawu’r cymhelliad ychwanegol yr ŷch chi’n ei gynnig o safbwynt athrawon sy’n medru dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd mae lefel recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg yn y flwyddyn 2015-16, y flwyddyn ddiwethaf y mae gyda ni ffigurau ar ei chyfer, ar ei hisaf ers 2008-09. Felly, rhowch chi hynny ochr yn ochr ag uchelgais y Llywodraeth o safbwynt ble yr ŷm ni’n mynd ar nifer y siaradwyr Cymraeg ac mae’n amlwg bod angen bod yn rhagweithiol ar y ffrynt yna, ac rwy’n croesawu hynny yn fawr iawn.
Mi oedd eich datganiad chi’n sôn bod angen edrych hefyd ar ardaloedd gwledig yn benodol, ond nid wyf i’n gweld cyfeiriad at gymhellion yn y cyd-destun hynny. Efallai y gallech chi roi ychydig o sylwadau i ni ynglŷn â sut yr ŷch chi’n gweld modd o gymell pobl i edrych i’r cyfeiriad penodol yna. Rŷch chi hefyd wedi dweud yn y gorffennol fod yna ddiffyg amrywiaeth ar draws y gweithlu dysgu, ac mi ddywedoch chi wrth y pwyllgor ychydig yn ôl fod yna job o waith sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â hynny gan y Llywodraeth. Nid oes dim byd yn eich datganiad chi ynglŷn â hynny, ac efallai y byddwch chi’n gallu rhoi diweddariad i ni o’r hyn yr ŷch chi wedi bod yn ei wneud i geisio cyflwyno mwy o amrywiaeth yn y gweithlu dysgu yng Nghymru.
Mae’r grŵp arbenigol, yr ‘ITE expert forum’, hefyd wedi bod yn edrych ar adolygu tystiolaeth o’r arfer gorau am lwybrau amgen i mewn i ddysgu. Rŷch chi wedi cyffwrdd â hyn unwaith neu ddwy yn y gorffennol, ond byddai’n dda cael diweddariad ac efallai cael gwybod pryd y gallwn ni ddisgwyl rhywbeth mwy cynhwysfawr o gwmpas y maes yna.
Mae yna nifer o rwystrau, wrth gwrs, i recriwtio athrawon newydd. Nid oes neb yn honni bod yn un ateb—mae angen cyfres o atebion, mewn gwirionedd. Ond un sy’n codi ei ben yn gyson yw’r gofyniad i gael gradd B mewn TGAU mathemateg. Nawr, rwy’n gwybod ein bod ni’n annog ac yn awyddus i godi safon yr addysgwyr sydd gennym ni yng Nghymru, ond pan mae rhywun fel John Furlong ei hunan yn codi cwestiwn ynglŷn â gwerth hynny yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae yn bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni jest yn stopio i edrych ar hynny. A byddwn i jest yn gofyn i chi ddweud: a ydych chi yn credu bod newid hwnnw yn y ‘mix’ o gwbl, neu a ydych chi’n gwbl hapus bod hynny’n mynd i aros yn yr hirdymor?
Rŷm ni wedi cyffwrdd â biwrocratiaeth, felly af i ddim ar ôl hynny.
O safbwynt yr athrawon cyflenwi, yn sicr rwy’n croesawu’r cyhoeddiad ynglŷn â’r trefniadau cyflenwi mewn clwstwr fel cam i’r cyfeiriad iawn. Fel yr ŷch chi’n dweud eich hunan, peilot yn amlwg fydd llawer o’r gwaith yma. Roeddwn innau hefyd yn rhannu rhai o’r cwestiynau ynglŷn â’r niferoedd isel o athrawon a’r niferoedd isel o ysgolion a oedd yn cael eu cynnwys yn hyn. Ond, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn sôn fan hyn am 50 o athrawon newydd gymhwyso, tra bo gennym 4,000 o athrawon cyflenwi yng Nghymru, a nifer o’r rheini yn sicr yn teimlo nad ydyn nhw, efallai, wedi cael y gefnogaeth a’r statws y bydden nhw yn eu dymuno. Ac rydw i wedi codi gyda chi ar nifer o achlysuron yn ddiweddar y problemau o gwmpas tâl ac amodau, ac af i ddim nôl dros y tir yna, ond yn sicr mae rôl yr asiantaethau preifat yma, sydd wedi cynyddu yn sylweddol o ryw ddwsin rai blynyddoedd yn ôl i bron i 50 erbyn hyn, wedi peri tipyn o gonsérn i nifer sy’n gweithio yn y sector.
Felly, yr hyn y liciwn i ofyn yw: yn amlwg, peilot yw hwn—mae’n rhoi rhyw flas ar y cyfeiriad, efallai, mae’r Llywodraeth yn symud tuag ato fe—ond ble ŷch chi’n gweld y ddarpariaeth, a pha fath o fodel ŷch chi’n gweld yn y tymor hir? A ydy hyn yn gnewyllyn o’r model y byddech chi’n hoffi ei weld yn cael ei ddatblygu ar draws Cymru yn y pen draw, neu a ydych chi’n dal i fod yn edrych ar fodelau amgen yn ogystal â’r hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi hefyd?
Rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, fod yn rhaid datganoli tâl ac amodau i athrawon cyn bo modd, efallai, mynd i’r afael i’r graddau y byddem ni i gyd yn hoffi mynd i’r afael â rhai o’r materion yma. Ond byddwn i’n falch petasai chi’n cadarnhau mai’ch bwriad chi yn y pen draw fydd mynd i’r afael, unwaith ac am byth, â’r mater o dâl ac amodau i athrawon cyflenwi a rôl y sector breifat pan fyddwch chi’n teimlo bod gennych chi’r pwerau i wneud hynny.
A jest i gloi, rŷch chi’n dweud yn eich datganiad bod y gweithlu dysgu yn cynnwys pobl mewn nifer o rolau gwahanol, oll yn chwarae rhan allweddol wrth godi safonau, ond nid oes yna ddim sôn am gynorthwywyr dosbarth wedi bod cymaint ag y byddwn i’n licio yn y drafodaeth gyffredinol yma am recriwtio athrawon, a recriwtio a chadw cynorthwywyr dosbarth, a dweud y gwir, oherwydd maen nhw yn elfen bwysig o’r glud sy’n dal y gyfundrefn addysg at ei gilydd yn y dyddiau sydd ohoni, lle mae llawer o bwysau ar y system. Mae yna lawer yn teimlo nad yw’r grŵp yma chwaith wedi cael y gydnabyddiaeth y maen nhw yn ei haeddu, ac yn sicr y tâl a’r amodau y maen nhw yn eu haeddu. Byddwn i’n falch o glywed beth yw’ch neges chi iddyn nhw hefyd, oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n cofio, am bob un athro, mae yna un cynorthwyydd dosbarth yng Nghymru, a byddwn i’n licio gwybod pa waith ŷch chi a’r Llywodraeth yn ei wneud o ran recriwtio a chadw'r gweithlu yn y sector benodol honno.
Diolch yn fawr iawn, Llŷr, am y gyfres yna o gwestiynau. O ran cael eich derbyn ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, ac a wyf i'n bwriadu dileu’r gofyniad am radd B mewn Saesneg a mathemateg, nid oes gennyf unrhyw fwriad i wneud hynny ar hyn o bryd. Byddwch yn ymwybodol fod y fframwaith llythrennedd a rhifedd yn berthnasol i’n holl gwricwlwm ar gyfer hyd gyrfa ysgol plant, ac felly byddai angen i'n holl ymarferwyr gael sylfaen gadarn yn Saesneg ac mewn mathemateg. I'r bobl hynny sydd efallai yn edrych—. A dyna pam mae hi mor bwysig nad yw athrawon yn bancio graddau pan eu bod nhw’n paratoi disgyblion i wneud eu harholiadau yn gynnar, oherwydd bod goblygiadau i'r bobl ifanc hynny yn y dyfodol—. Dim ond y penwythnos hwn, cwrddais â mam nad oedd ag unrhyw syniad, wrth dderbyn gradd C, y byddai hynny'n atal ei mab rhag dilyn gyrfa mewn addysgu. Felly, mae angen inni fod yn glir bod gennym ni’r safonau hyn.
Yn achos y bobl hynny sydd o bosib yn dychwelyd i addysgu, efallai yn newid gyrfa neu bobl sy'n dymuno mynd i mewn i'r proffesiwn lle mae ganddyn nhw radd C, yna mae dewisiadau ar gael i wneud prawf cywerthedd drwy'r prifysgolion ar adeg y cais. Felly, nid yw hynny’n golygu nad oes gan bobl gyfle i sicrhau neu ddangos eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn ffordd wahanol, oherwydd mae recriwtio graddedigion, newid gyrfa a llwybrau amgen i'r proffesiwn yn bethau yr ydym ni’n edrych yn ofalus arnyn nhw ar hyn o bryd.
Y llynedd, fe welsom ni 20 o bobl yn cael eu cyflogi gan ysgolion ac yn mynd drwy broses hyfforddi. Fe hoffwn i weld mwy o hynny, ac, fel y dywedais i, rydym ni’n edrych o ddifrif ar ffyrdd y gallwn ni gael llwybrau amgen i'r proffesiwn addysgu, yn enwedig i'r rheini sydd efallai wedi cael gyrfa mewn gwyddoniaeth a diwydiant, ac sydd nawr yn awyddus i symud i'r byd addysg er mwyn rhannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth am y pwnc hwnnw gyda phobl ifanc. Mae hynny'n rhan o’r amrywiaeth eang o ffyrdd yr ydym ni’n edrych arnynt i roi gwybod i bobl am bosibiliadau addysgu. Pam y byddech chi’n ystyried bod yn athro a beth wyddoch chi am hynny? Dyna pam mae cynlluniau fel y cynllun mentora ieithoedd tramor modern mor bwysig yn ein prifysgolion, oherwydd eu bod nhw’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr ieithoedd tramor modern gael cyfnodau o weithio gyda phobl ifanc yn yr ysgol a chyflwyno iddyn nhw’r posibilrwydd, efallai, o fod yn athro. Mae un o'r graddau ffiseg gorau ym Mhrifysgol Llundain yn gwneud i’w holl israddedigion ffiseg wneud uned ynglŷn â dysgu ffiseg. Rydym ni wedi bod yn siarad â'n sector prifysgol am gynnwys hynny yn ein cyrsiau gwyddoniaeth israddedig ni, fel bod pob myfyriwr israddedig yn cael y cyfle hwnnw i fod yn agored i'r posibilrwydd o addysgu fel gyrfa, fel y gallwn ni gael ystod eang o bobl sydd â diddordeb yn y proffesiwn.
Fe wnaethoch chi ofyn am y sefyllfa barhaus ynglŷn ag athrawon cyflenwi a dyfynu’r ffigur o ychydig dros 4,000 o athrawon sydd wedi eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athrawon cyflenwi—hynny yw, mae 4,200 o athrawon sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd fel athrawon cyflenwi. Mae'n bwysig dweud, Llyr, y caiff hanner y rheini eu cyflogi drwy gyfrwng ysgolion ac awdurdodau lleol ac maen nhw ar ddogfen tâl ac amodau athrawon yr ysgol. Felly, maen nhw’n cael eu talu yn y modd hwnnw. Felly, mae'n bwysig cydnabod, pan fyddwn ni’n sôn am y system gyflenwi, bod 50 y cant o'r rheini yn gweithio ac yn cael eu talu ar delerau dogfennau tâl ac amodau athrawon ysgol. Mae hynny'n ein gadael ni gydag oddeutu 2,100 o athrawon sydd wedi'u cofrestru gydag asiantaethau masnachol—sef tua 6 y cant o'n holl athrawon cofrestredig sy'n cael eu cyflogi ar y sail honno. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n hollol glir, nid wyf i’n cymeradwyo arfer ysgolion ac asiantaethau o gynnig cyfraddau tâl isel i athrawon cyflenwi. Fe ddywedais i heddiw yn fy natganiad, fy mod yn disgwyl i athrawon dros dro gael eu gwobrwyo a'u cefnogi'n briodol ar gyfer y gwaith y maen nhw’n ei wneud.
Felly, gallai'r dull yr wyf i wedi'i amlinellu heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso gynnig model amgen dichonol i ni yn hytrach na defnyddio asiantaethau cyflenwi wrth i ni gamu i’r dyfodol. Ac, ar hyn o bryd, rwyf wrthi’n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno system baru ganolog i gyd-fynd â blwyddyn gyntaf datganoli tâl ac amodau athrawon, gyda’r cyfrifoldebau hynny’n cael eu trosglwyddo yn nhymor yr hydref 2018. Felly, 2019 fydd ein blwyddyn gyflog gyntaf y bydd y system honno’n weithredol. Mae’n rhaid i’r system hon fod yn un sy'n ateb gofynion Cymru. Ni all fod yn system lle nad ydym ni wedi gwneud dim amgenach na’i thrawsblannu o rywle arall.
Gadewch i mi ei gwneud hi’n gwbl glir eto: mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli i benaethiaid. Mater i benaethiaid yn eu hysgolion yw gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi. Nid oes dim yn eu gorfodi i ddefnyddio asiantaeth; nhw sy’n penderfynu. Fe allwn ni ddadlau ynghylch pa un a ydym ni eisiau rheoli ysgolion yn lleol, neu a ydym ni eisiau tynnu’r pwerau hynny oddi ar benaethiaid a gorfodi system genedlaethol arnyn nhw. Fe allwn ni gael dadl ynghylch hynny, ond mae'n dangos bod hwn yn fater eithaf cymhleth ac oherwydd y cymhlethdodau hynny, cofiwch, dyna pam na allai'r grŵp gorchwyl a gorffen argymell un system ar gyfer Cymru y gellid ei gweithredu'n gyflym. Ond, rydym ni’n parhau i edrych ar hyn, ac mae'r cynllun arbrofol hwn, fel y dywedais i, yn rhoi’r posibilrwydd o fodel amgen inni.
Mae hwnna'n ateb trylwyr iawn. Rwy’n croesawu’n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud, y ffaith y bydd y system ganolog yn cyd-fynd â datganoli cyflogau ac amodau athrawon. Roeddwn yn synnu na chafodd ei grybwyll yn natganiad i'r wasg Lywodraeth Cymru, oherwydd credaf fod hynny'n fater sylfaenol a fydd o fantais i athrawon cyflenwi yn yr amgylchiadau hyn. Felly, rydych chi yn cydnabod, yr hyn oedd wrth wraidd fy nghwestiwn, y bydd datganoli cyflogau ac amodau yn eich galluogi i gymryd camau pellach. Felly, a yw'r wybodaeth a fydd yn arwain at sefydlu'r system baru yn deillio o sefydlu'r system glwstwr yr ydych chi'n arbrofi gyda hi? Ai o’r fan yna y mae hi’n deillio?
Y mater arall yr hoffwn i gyfeirio ato, y mae etholwyr wedi dwyn fy sylw ato, yw eu bod nhw'n bryderus iawn am ‘New Directions’, sef y corff a ddewisiwyd i ddarparu athrawon cyflenwi. A fydd y fframwaith cyfredol hwnnw yn cael ei adnewyddu pan ddaw’r contract i ben? A pha gynlluniau yn y dyfodol sydd gan y Llywodraeth ynglŷn â chynnwys asiantaethau wrth ddarparu athrawon cyflenwi?
Diolch, Hefin. Fel y dywedais i, rydym ni ar hyn o bryd wrthi’n ystyried pa mor ddichonadwy fyddai system baru genedlaethol i gyd-fynd â datganoli telerau ac amodau. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni’n gwneud hyn mewn trafodaeth gyda'r undebau eu hunain, fel eu bod nhw’n rhan annatod o'r broses hon wrth symud ymlaen. Mae gennym ni fodel partneriaeth gymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, lle yr ydym ni’n gweithio yn yr ysbryd cydweithredol hwnnw sy’n bodoli rhyngom ni fel Llywodraeth, llywodraeth leol fel y cyflogwyr ac ysgolion fel y cyflogwyr, yn ogystal â'r undebau.
Unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud: Nid wyf i’n cyflogi athrawon ac, felly, nid fy nghontract i yw contract ‘New Directions’, nid contract Llywodraeth Cymru mohono, ac nid oes dim sy'n gorfodi penaethiaid i ddefnyddio'r asiantaeth honno, neu, yn wir, unrhyw un o'r asiantaethau eraill sydd ar gael. Pa un a fydd y model hwnnw'n parhau i fodoli ar ôl i ni orffen ein hastudiaeth o ddichonoldeb ac ystyried dewisiadau polisi, wel, byddai hynny'n fater iddyn nhw; penderfyniad masnachol iddyn nhw yw hwnnw. Ond yr hyn sy'n bwysig i ni yw bod gennym ni ddewis arall ar gael i athrawon, penaethiaid, ysgolion ac awdurdodau lleol wrth symud ymlaen, a bod y gwaith hwnnw'n digwydd yn ymarferol ar hyn o bryd, oherwydd rwy’n cydnabod y pryderon a fynegwyd, ac mae’r datganiad heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso yn ddatganiad o'm bwriad.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n sicr yn cynrychioli cam i'r cyfeiriad cywir. Mae'r datganiad yn dwyn yr enw 'recriwtio athrawon', ond ni allaf wir weld ble yr ydych chi'n siarad am recriwtio athrawon yn gyffredinol wrth fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol a nodwyd ynglŷn â recriwtio athrawon yng Nghymru. Rwy’n gweld tri chyhoeddiad pendant yn y datganiad, a’r cyntaf o’r rhain yw’r cymhelliant cyfrwng Cymraeg, sy’n syniad gwych yn fy nhyb i. Nid yw hi ond yn iawn a phriodol y dylai Llywodraeth Cymru annog addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym ni’n hen gyfarwydd yn y Siambr hon â phrinder yr athrawon hynny. Yn amlwg, rwy’n cefnogi'ch amcan yn llwyr yn hyn o beth, ac felly hefyd eich mesur i gyfrif gwyddoniaeth gyfrifiadurol fel cymhwyster i gael cymhelliant uwch.
Gan droi at y cyllid ar gyfer trefniadau clwstwr mewn ysgolion, mae hwn yn ymddangos yn syniad da iawn, ond nid oes unrhyw fanylion—. Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi rhywfaint o fanylion heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ychydig iawn—nid oes unrhyw fanylion yn eich datganiad ei hun. Felly, wyddoch chi, os yw disgyblion ac ysgolion yn gallu meithrin perthynas waith gyda chriw rheolaidd o athrawon cyflenwi, yn hytrach na bod yr athro cyflenwi yn aml yn ddieithryn llwyr, mae hynny'n llawer gwell i'r athro cyflenwi, yr ysgol a'r disgyblion. Felly, sut ydych chi'n rhagweld y bydd y clystyrau'n gweithio'n ymarferol? Ydych chi'n gweld yr awdurdod lleol—? A fydd yn golygu clwstwr fesul awdurdod lleol neu a fydd yr awdurdodau lleol yn clystyru gyda'i gilydd? Sut mae'n mynd i weithio ar lawr gwlad yn eich tyb chi?
Sylwaf yr hoffech chi gyflogi cronfa o athrawon cyflenwi, sydd, rwy’n credu, eto, fel y dywedais i, yn syniad