Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

26/09/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Jenny Rathbone.

Trafnidiaeth Gynaliadwy

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer newid moddol i drafnidiaeth gynaliadwy? (OAQ51080)

Rydym yn hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy trwy fuddsoddi yn ein gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau, trwy ddatblygu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig fel y metro yn y gogledd a'r de, sicrhau bod teithio llesol yn dod yn fwy prif ffrwd, a gweithio gyda phartneriaid lleol i nodi ardaloedd lle y ceir tagfeydd a darparu gwelliannau i'r seilwaith i hwyluso llif y traffig.

Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau canolbwyntio’n benodol ar sut yr ydym ni’n cael mwy o bobl i feicio, oherwydd i mi gael fy synnu’n fawr pan gefais i ddirprwyaeth o fyfyrwyr blwyddyn 12 o Ysgol Teilo Sant, pob un ohonynt yn 16 neu 17 oed, ac nid oedd yr un ohonynt yn beicio i’r ysgol. Dywedodd un ohonynt hyd yn oed, 'O, rwy'n byw pedair milltir i ffwrdd', fel pe byddai hynny’n ffordd bell iawn i feicio. Os edrychwn ni ar yr ystadegau, mae llai na 3 y cant o blant pump i 16 oed yn mynd ar feic, ond mae 30 y cant, neu fwy, yn mynd mewn car. Os na allwn ni ddechrau gyda'r genhedlaeth ifanc bresennol, ni fyddwn byth yn cael y newid moddol sydd ganddyn nhw mewn mannau fel yr Iseldiroedd, lle mae 40 y cant yn mynd ar feic, ac mewn un ddinas yn Denmarc—yr ail ddinas—mae 80 y cant yn mynd ar feic. Felly, beth ydych chi'n ei gredu y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau’r newid hwnnw i ddiwylliant mewn gwirionedd?

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, wrth gwrs, yw’r sail ar gyfer gwneud hyn, gan gydnabod, er ei fod yn bwysig i iechyd, mai ffordd o deithio yw beicio, ac mae'n bwysig, fel y mae cerdded, wrth gwrs. Rwyf wedi meddwl erioed, wrth geisio annog pobl i fynd ar feiciau, ei bod hi'n bwysig eu bod nhw’n teimlo'n ddiogel, ac mae llawer o bobl yn anfodlon i fynd ar y ffyrdd a chymysgu gyda cheir. Yn y gwledydd y cyfeiriodd yr Aelod atynt, yn yr Iseldiroedd, er enghraifft, ac yn Denmarc, ceir gwahaniad rhwng beiciau a cheir, a dyna un o'r ffyrdd y gellir annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o feiciau. Mae llawer o waith i'w wneud, yn enwedig yn ein dinasoedd, i sefydlu llwybrau beicio i mewn i'r dinasoedd. Mae gennym ni rai llwybrau beicio sy'n tueddu i fynd â phobl i ffwrdd i gefn gwlad, ond nid ydym ni mewn sefyllfa eto, yn fy nhyb i, lle gallwn ddweud bod gennym ni rwydwaith priodol o lwybrau beicio trefol a fydd yn annog y beicwyr mwy amharod i ddefnyddio beic yn hytrach na theimlo bod yn rhaid iddyn nhw gystadlu gyda cheir ar y ffyrdd. Ond mae'r Ddeddf teithio llesol wedi dechrau'r broses o newid agweddau ac annog awdurdodau lleol i gyflwyno darpariaeth briodol ar gyfer beiciau.

Prif Weinidog, flwyddyn yn ôl, safbwynt Llywodraeth Cymru oedd nad oedd unrhyw gynlluniau uniongyrchol i ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer seilwaith cerbydau trydan. Nawr, ers hynny, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei phenderfyniad i gael gwared ar geir diesel yn raddol erbyn 2040. A fyddech chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol erbyn hyn bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng nghanol trefi i gychwyn, ac yna ymhellach i fwrdd, i wneud y newid hwnnw o geir diesel i geir trydan yn realiti?

Wel, rydym ni’n gwneud hynny eisoes: y cynllun pwynt gwefru preswyl, er enghraifft, sy'n cefnogi awdurdodau lleol gyda 75 y cant o gostau cyfalaf caffael a gosod pwyntiau gwefru preswyl, a chyda man parcio penodol cysylltiedig. Mae'n her nawr i bob Llywodraeth gyflwyno’r rhwydwaith o wefrwyr y bydd eu hangen cyn 2040, ac, yn benodol, sicrhau bod gwefrwyr yn cael eu safoni hefyd. Fel rhywun sy'n gyrru car hybrid, ceir llawer o wahanol socedi a ddefnyddir, ac mae'n eithaf anodd dod o hyd i'r gwefrydd iawn. Ond rwy'n disgwyl, dros y pedair neu bum mlynedd nesaf, yn enwedig gydag ymyrraeth gan Lywodraethau, gan gynnwys ni ein hunain, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes, y byddwn yn gweld rhwydwaith cynyddol o wefrwyr, a fydd yn annog mwy o bobl wedyn i ystyried i gychwyn, rwy’n amau, hybridau, ac yna cerbydau cwbl drydan.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt ynglŷn â cherbydau trydan, felly mi wnaf droi yn ôl at y beicio, a pha mor bwysig yw hi felly bod seiclo yn rhan nid yn unig o’r cynlluniau teithio actif, ond hefyd yn rhan o gynlluniau teithio awdurdodau lleol. Rydw i wedi gweld gormod o’r cynlluniau lleol yma sydd yn sôn am seiclo yng nghyd-destun hamdden a chwaraeon, ond sydd ddim yn rhoi seiclo yng nghanol y cynlluniau fel ffordd o deithio, ac mae sir Gaerfyrddin yn enghraifft o hynny. Felly, a fyddwch chi yn gwella ac yn pwyso ar awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod seiclo yn rhan ganolog o gynlluniau teithio lleol?

Mae e’n ganolog. Mae pob awdurdod lleol yn gorfod rhoi eu mapiau cyntaf i ni o’r llwybrau newydd y maen nhw’n mynd i’w datblygu yn eu hardaloedd. Maen nhw nawr yn gweithio ar fapiau rhwydwaith integredig, ac mae’n rhaid i nhw rhoi’r rheini i ni erbyn 3 Tachwedd 2017—eleni wrth gwrs—ac wedyn bydd modd mesur pa mor bell mae’r awdurdodau wedi mynd a faint fwy o gefnogaeth sydd eisiau ei rhoi iddynt er mwyn iddynt fynd yn y cyfeiriad iawn ar y cyflymder iawn.

Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Caerdydd i gynnal gemau yn ystod pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020? (OAQ51086) 

Gwnaf. Rydym ni wedi bod yn cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru am y cynnig posibl hwn. Mae gennym ni strategaeth digwyddiadau mawr uchelgeisiol eisoes a byddwn yn parhau i gyfarfod â'r rhanddeiliaid allweddol i ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn.

Ie, diolch am yr ymateb. Fel rheol, mae o bosibl yn syniad da gwneud cynnig am y digwyddiadau mawr hyn oherwydd y potensial i greu refeniw i fusnesau lleol, er bod posibilrwydd o darfu hefyd. Felly, ceir cydbwysedd y mae'n rhaid i ni ei daro. Ond mae gennym ni broblem ar hyn o bryd gyda chyflwr Sgwâr Canolog Caerdydd a hefyd diffyg capasiti posibl gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Felly, a ydych chi'n hyderus y bydd y materion hynny’n cael eu datrys mewn pryd ar gyfer y pencampwriaethau hynny yn haf 2020?

Ydw. Mae'r Sgwâr Canolog yn cael ei ddatblygu'n gyflym nawr. O ran gorsaf Caerdydd Canolog, mater i Network Rail yw hwnnw. Rydym ni wedi pwyso ar Network Rail. Rwyf i wedi ei wneud mewn cyfarfodydd gyda Network Rail ac mae'n cael ei wneud mewn ffyrdd eraill i ailddatblygu Caerdydd Canolog. Mae'n costio cannoedd o filiynau o bunnoedd ond, serch hynny, mae'n ailddatblygiad sydd ei angen. Rydym ni’n gwybod ei bod yn bosibl y bydd nifer y teithwyr yn yr orsaf yn cynyddu i fod dair gwaith yn fwy dros y 30 mlynedd nesaf. Gyda 11 miliwn o deithwyr y flwyddyn yn mynd trwy'r orsaf, dyma’r orsaf brysuraf yng Nghymru o bell ffordd ac mae'n tyfu. Rydym ni bron wedi cyrraedd y pwynt lle mae trenau'n ciwio i fynd i mewn i'r orsaf. Felly, rydym ni wedi pwyso ar Network Rail yr angen i fuddsoddi yn yr orsaf honno o ystyried y ffaith mai dyma’r porth i Gymru i gynifer o bobl.

Prif Weinidog, rwy’n cymeradwyo'r hyn y mae eich Llywodraeth a'r weinyddiaeth flaenorol wedi ei wneud i ddenu digwyddiadau lefel uchel a sut yr ydych chi wedi gweithio gyda'r cymdeithasau chwaraeon priodol. Rwy'n credu bod honno'n bartneriaeth allweddol, ac mae'r mathau hyn o gyflawniadau yn rhodd sy'n parhau i gyflawni gan fod y gwerth marchnata—. Mae pobl yn dal i sôn am y diwrnodau gwych pan roedd Cwpan yr FA yng Nghaerdydd. Byddai llawer o bobl yn ei hoffi yn ôl, neu’r rowndiau cynderfynol o leiaf, sydd, wrth gwrs, yn Wembley o hyd oherwydd eu model busnes penodol. Ond mae wir yn ffordd gyffrous o farchnata Cymru a bu manteision mawr iawn, a dylech chi wir ddysgu'r gwersi am faint y gall Llywodraeth ei wneud i farchnata'r wlad yn ei chyfanrwydd.

Yn sicr. Rydym ni wedi dysgu hynny dros y blynyddoedd. Ddim yn hir ar ôl i mi ddod yn Brif Weinidog, cynhaliwyd Cwpan Ryder ac roedd hwnnw’n ddigwyddiad enfawr: tua 25,000 o bobl yno ar y diwrnod olaf, miliynau’n gwylio o gwmpas y byd. Ac, wrth gwrs, yn gorffen gyda rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, a oedd, yn eironig, bron yn wobr gysur i ni am beidio â chael ein dewis fel lleoliad ar gyfer pencampwriaeth 2020. Mae'n wobr gysur yr ydym ni’n ei chroesawu’n fawr, wrth gwrs, yn hynny o beth. Ond yr hyn sydd wedi bod yn allweddol yw'r weledigaeth a ddangoswyd yn enwedig yn y 1990au i ddatblygu Stadiwm Principality. Roedd yn ddadleuol ar y pryd, ac mae’n rhaid ei fod ef yn cofio hynny. Ond pan edrychwn ni’n ôl ar yr hen stadiwm, powlen goncrid â thoiledau oedd ef i bob pwrpas. Dyna'r ffordd y cafodd ei ddisgrifio. Nawr, wrth gwrs, mae'n stadiwm llawer mwy modern y gallwn ni ddenu'r digwyddiadau hyn. Ac mae'n wir dweud ei bod yn debyg mai chwaraeon sydd â’r cyrhaeddiad mwyaf oll pan ddaw i hyrwyddo Cymru, a gwyddom, wrth gwrs, gyda'r Euros y llynedd, mae’n debyg mai hynny gafodd yr effaith fwyaf o ran dangos i bobl fod Cymru'n bodoli fel cenedl ar wahân, ac, wrth gwrs, sbarduno mwy o ddiddordeb yng Nghymru, gan sbarduno mwy o fuddsoddiad mewn amser a mwy o ymwelwyr.

I gyflwyno safbwynt ychydig yn groes, Llywydd, mewn tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru, er y bydd angen i'r pwyslais barhau ar ddigwyddiadau rhyngwladol mawr, maen nhw'n tueddu i fod ddim ond o fantais i nifer fach o leoliadau, a Chaerdydd yn benodol. Cytunodd prif weithredwr Cynghrair Gweithredwyr Twristiaeth Ewrop a dywedodd fod llawer o resymau i gael parti, ond nad yw budd economaidd i'r diwydiant twristiaeth o reidrwydd yn un ohonynt. Beth yw barn y Prif Weinidog a sut all y Llywodraeth gymryd camau i sicrhau nad yw digwyddiadau rhyngwladol ar raddfa fawr yn niweidio diwydiant twristiaeth Cymru?

Gallwn ni gael y ddau. Un o'r problemau yr ydym ni’n eu hwynebu gyda digwyddiadau ar raddfa fawr yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod gan bobl leoedd i aros y tu allan i Gymru. Y gwir amdani yw nad yw'r capasiti yno’n gyfan gwbl yng Nghymru i ddarparu llety i bobl wrth iddynt ddod i Gymru. Bydd hynny'n datblygu dros amser. Nid yw'n wir ei fod yn gwestiwn o wario arian ar ddigwyddiadau mawr neu wario arian ar weddill Cymru. Er enghraifft, rydym ni wedi cefnogi mentrau twristiaeth ledled Cymru. Rydym ni’n edrych ar fentrau fel Surf Snowdonia yn y gogledd a'r gefnogaeth yr ydym ni’n ei rhoi i fusnesau gwledig ledled Cymru. Mewn rhai ffyrdd, mae digwyddiad mawr yn cynnig effaith economaidd ar unwaith, ond hefyd, wrth gwrs, mae'n gweithredu fel sbardun ar gyfer datblygu diddordeb yng Nghymru ac, felly, ar gyfer twristiaeth ledled Cymru gyfan. Felly, mae'r effaith uniongyrchol, mae'n wir i ddweud, yn fwy lleol, ond mae'r effaith tymor hwy, yn fy marn i, yn llawer ehangach, a dyna’r ffordd y byddem ni eisiau iddi fod, wrth gwrs.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei ffigurau rhestr aros ar gyfer GIG Cymru, ac roedd y ffigurau’n dangos bod un o bob saith o bobl, neu 450,000 o bobl, ar restr aros yng Nghymru. Un o bob 14 yw’r ffigur hwnnw yn Lloegr. Ceir pwysau ar draws y Deyrnas Unedig pan ddaw i wasanaethau'r GIG, ac mae pawb yn cydnabod hynny. Wrth i ni gyrraedd misoedd prysur y gaeaf, a chyda'r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru, gyda phedwar o'r saith bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg o fwy na £30 miliwn, pa gymorth mae eich Llywodraeth yn ei roi i fyrddau iechyd i fynd i'r afael â'r niferoedd sy’n cynyddu’n gyflym sy'n aros ar restrau aros yma yng Nghymru ac, yn anad dim, y benbleth ariannol y mae llawer o BILlau yn ei hwynebu?

Wel, yn gyntaf oll, nid wyf yn derbyn y rhagdybiaeth y mae'r cwestiwn yn seiliedig arni. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar amseroedd atgyfeirio-i-driniaeth dros 36 wythnos, mae hynny wedi gwella 35 y cant rhwng Mawrth 2015 a Mawrth 2017. Mawrth 2017 oedd y perfformiad uchaf hefyd o ran canran y cleifion a oedd yn aros dros 26 wythnos ers Mawrth 2014. Gwyddom fod amseroedd aros diagnostig wedi gwella 58 y cant erbyn mis Mawrth eleni. Nid wyf yn derbyn bod y sefyllfa rywsut yn waeth ym mhob achos o ran Cymru o'i chymharu â Lloegr. Mae’n iawn i ddweud bod yr holl wasanaethau iechyd yn wynebu pwysau.

Mae'n gofyn cwestiwn teg, sef: pa baratoadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer y gaeaf? Bob blwyddyn, rydym ni’n gwneud paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae'r pwysau'n digwydd. Nid ydym yn ddiogel rhag yr un pwysau, fel gwledydd eraill yn y DU, ond gwyddom, dros y blynyddoedd diwethaf, fod y cynlluniau yr ydym ni wedi eu gwneud wedi bod yn ddigon cadarn i ymdrin â’r pwysau a ddaw yn ystod y gaeaf, ac rwy'n hyderus ein bod ni yn yr un sefyllfa honno eto.

Rydych chi'n gwbl gywir, Prif Weinidog; gallech chi a minnau gyfnewid ystadegau, a byddai'r oriel i fyny'r grisiau a’r rheini sy'n gwylio ar y teledu yn cael eu drysu’n llwyr gan yr ystadegau hynny, ond mae'r ffigurau'n dangos, yng Nghymru, er enghraifft, y bu cynnydd o 400 y cant i nifer y bobl sy'n aros 12 mis neu fwy am driniaeth lawfeddygol. Yn y bwrdd iechyd gorau, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, nid oes neb yn aros 12 mis neu fwy. Yn y gwaethaf, neu un o'r gwaethaf, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi, bu cynnydd o 1,250 y cant i’r bobl sy'n aros 12 mis neu fwy. Felly, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau bod arferion da yn cael eu lledaenu yn y GIG yma yng Nghymru. Felly, pam mae rhywun yn Betsi yn aros cymaint yn hwy am lawdriniaeth na rhywun yng Nghwm Taf? Dim ond saith bwrdd iechyd sydd gennym ni; does bosib na ddylai'r arfer da hwnnw fod yn lledaenu i bob bwrdd iechyd fel nad yw pobl yn gweld yr amseroedd aros cynyddol hyn yng Nghymru.

Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni wedi cyhoeddi £50 miliwn o arian perfformiad yn ddiweddar er mwyn parhau—rydym ni’n cyfnewid ystadegau eto nawr, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni—er mwyn parhau'r duedd hon o wella o ran amseroedd aros. Mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd a minnau wedi bod yn eglur iawn ynghylch yr angen am welliant pellach i’r amseroedd aros, ac mae'r holl fyrddau iechyd wedi ymrwymo i welliannau pellach erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Mae cynlluniau wedi’u sefydlu i’r holl sefydliadau a threfniadau monitro fod ar waith i sicrhau y darperir y gwelliant, gan adeiladu ar y cynnydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Oes, mae anghysondebau. Ydym, rydym ni eisiau sicrhau bod yr anghysondebau hynny yn cael sylw, a dyna pam yr ydym ni wedi dyrannu'r arian hwn a pham, wrth gwrs, y mae’r byrddau iechyd wedi gwneud yr ymrwymiad y maen nhw wedi ei wneud.

Rwy’n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae'r GIG yn ymwneud ag acronymau ac, yn amlwg, ystadegau. Ond, yn aml iawn, rydym ni’n methu’r cleifion gwirioneddol sy'n aros am y clinigwyr sydd dan bwysau, a’r cwbl maen nhw ei eisiau yw ateb plaen. Pan fo gennych chi gymaint o fyrddau iechyd yng Nghymru, fel y dywedais, mae pedwar ohonynt—. Ac mae'n werth ailadrodd y diffygion neu'r diffygion rhagamcanol sydd ganddyn nhw, fel Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, £49 miliwn, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, £35 miliwn, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, £31 miliwn. Bydd llawer o bobl yn dweud, 'Sut gallwch chi reoli'r diffygion hynny tra eich bod yn rheoli a lleihau'r amseroedd aros?' A ydych chi’n hyderus, erbyn i ni gyrraedd mis Mawrth, y bydd amseroedd aros yn lleihau ac y bydd y diffygion dan reolaeth ac yn cael eu dileu, fel y mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd wedi ei nodi? Neu a fydd yn rhaid i chi roi arian cynorthwyol i’r byrddau iechyd sydd â'r diffygion rhagamcanol hyn?

Na, rydym ni’n disgwyl i fyrddau iechyd allu ymdopi â'r adnoddau sydd ganddynt. Yn amlwg, ni allem fod mewn sefyllfa lle’r oedd byrddau iechyd yn gwybod y byddent yn cael arian cynorthwyol faint bynnag y maen nhw’n ei wario. Mae hynny'n gymhelliant iddyn nhw beidio â bod mor drylwyr yn eu rheolaeth ariannol a'u gofal am gleifion ag y dylent fod fel arall. Felly, dywedwyd wrthynt, erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ein bod ni’n disgwyl gweld y gwelliannau hyn. Os na fyddwn yn eu gweld, wrth gwrs, bydd angen iddyn nhw esbonio pam mae hynny’n bod ac esbonio pam maen nhw wedi methu â chyflawni'r addewidion y maen nhw wedi eu gwneud i’r Llywodraeth ac i bobl Cymru.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cyn i ni godi ar gyfer toriad yr haf, tynnodd y Llywodraeth ei chefnogaeth i brosiect Cylchffordd Cymru yn ôl, a fyddai wedi dod â channoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat y mae wir ei angen i’r Cymoedd gogleddol. I geisio gwneud iawn am hyn, cynigiodd y Prif Weinidog a'i Lywodraeth wedyn y dylent fuddsoddi £100 miliwn o arian cyhoeddus mewn cynllun hapfasnachol i greu parc diwydiannol newydd yn ardal Glynebwy. O gofio bod ardal fenter Glynebwy wedi bod yn weithredol nawr ers cryn dipyn o flynyddoedd, a bod degau o filiynau o bunnoedd eisoes wedi eu buddsoddi mewn swyddi yn yr ardal honno, ond dim ond 320 o swyddi newydd wedi eu creu a 70 wedi eu diogelu, pam mae'r Prif Weinidog yn meddwl bod ei gynnig hapfasnachol yn mynd i fod yn fwy llwyddiannus?

Rwy'n siarad â busnesau, ac un o'r materion yn benodol y mae busnesau wedi tynnu ein sylw ato yw’r diffyg adeiladau addas lle y gallant fynd er mwyn dechrau gweithgynhyrchu. Un o'r materion yr ydym ni’n eu hystyried yw gallu darparu'r safle sydd ei angen arnynt, o'r maint cywir. Nid ydym yn gwneud hynny o ran adeiladu adeiladau gwag am ddim rheswm. Rydym ni wedi gwneud hynny drwy ymgynghori â busnesau, a gofyn i fusnesau beth maen nhw ei eisiau. Mae hynny mewn gwirionedd yn ffordd gadarn iawn o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na’r hyn y mae e’n ei alw’n hapfasnachol. Mae'n bell o fod yn hapfasnachol. Mae hyn yn seiliedig ar yr adborth yr ydym ni’n ei gael gan fusnesau.

Wel, wrth gwrs, nid oes unrhyw gynigion cadarn i gymryd lle yn yr ardal y mae'r Prif Weinidog yn sôn amdani. Cefais i a’m cydweithwyr y fantais ddydd Gwener o ymweld â Sain Tathan a gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr adeilad Aston Martin sy'n digwydd yno, sy’n un o lwyddiannau Llywodraeth Cymru—rwy'n llwyr gydnabod hynny ac yn llongyfarch y Prif Weinidog. Ond, wrth gwrs, mae Sain Tathan yn sefyllfa gwbl wahanol i Lynebwy o ran pa mor ddeniadol y gallai fod i fuddsoddwyr, heb wella'r seilwaith ymhellach fyth yn y Cymoedd gogleddol. Holl bwynt prosiect Cylchffordd Cymru a'r swyddi a fyddai wedi deillio o hynny oedd nid gymaint y gylchffordd ei hun, ond y ffordd y byddai'r gylchffordd wedi ei roi ar y map, mewn ffordd, ac y byddai wedi denu busnesau modurol pellach o'i hamgylch. O gofio, o ganlyniad i fethiant y cynnig hwnnw, bod Llywodraeth Cymru yn ceisio llenwi bwlch erbyn hyn, ni allaf wir weld pam mae wedi gwrthod y cynnig o gannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat pan oedd unig rwymedigaeth y Llywodraeth yn hynod ddibynnol ar fethiant llwyr y prosiect, a'r asedau a fyddai wedi cael eu creu yn werth dim arian.

Na, rydym ni wedi archwilio hyn o'r blaen. Rwyf wedi esbonio iddo’r mater o’r hyn sy’n cyfrif fel bod ar y llyfrau ac oddi ar y llyfrau. Hapfasnachu yw’r hyn y mae e'n ei ddisgrifio. Mae pob menter fusnes yn hapfasnachol i ryw raddau. Ond mewn rhai ffyrdd, yn y cwestiynau y mae'n eu gofyn, atebodd ei gwestiwn cyntaf, sef: un o'r rhesymau pam yr oedd Sain Tathan yn ddeniadol i Aston Martin yw oherwydd bod adeilad yno a oedd yn addas i'w manyleb. Dyna’r oedden nhw ei eisiau. Roedd y safle'n iawn. Mae llawer o fusnesau wedi dweud wrthym mewn sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael, 'Edrychwch, un o'r problemau yr ydym ni’n eu hwynebu yng Nghymru yw ein bod ni eisiau mynd i rywle fel Glynebwy, ond i ble byddwn ni'n mynd? Nid yw'r adeiladau yno. Nid yw'r safleoedd sydd eu hangen arnom ni yno.’ Dyna pam mae rhan o'r buddsoddiad yr ydym ni’n ei roi i Lynebwy, i Flaenau'r Cymoedd, i wneud yn siŵr bod y safleoedd iawn yno i fusnesau allu symud i mewn, yn hytrach na chael rhwystr na fydd yn cael ei symud heb fuddsoddiad gan y Llywodraeth. A yw hynny'n hapfasnachol? Wel, yn yr ystyr bod pob busnes yn hapfasnachol, ond mae'n seiliedig, yn fy marn i, ar dir llawer mwy cadarn na'r gylchffordd.

Ond wrth gwrs roedd Cylchffordd Cymru yn fwy na hapfasnachol gan fod achos busnes wedi ei gwblhau'n llawn, yr wyf yn deall na chafodd ei danseilio gan Lywodraeth Cymru. Roedd gwrthwynebiad cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r prosiect yn seiliedig ar gonfensiynau cyfrifyddu mewnol, yn ei barn nhw, beth bynnag, a bennwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Felly, bydd prosiect Cylchffordd Cymru ei hun yn llwyddo neu’n methu ar sail ei rinweddau economaidd ei hun. Rwy’n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi gweld ar WalesOnline heddiw bod hyrwyddwyr y prosiect wedi cyflwyno cynnig arall erbyn hyn efallai y gallen nhw gael gafael ar gyllid ar ei gyfer o dan y fargen dinas. Felly, rwy’n awyddus i beidio â chymryd rhan mewn unrhyw gecru rhyngbleidiol heddiw a allai rwystro Llywodraeth Cymru rhag helpu'r prosiect, hyd yn oed ar y cam diweddar hwn, i fod yn hyfyw. Tybed a all y Prif Weinidog, yn y termau mwyaf cyffredinol, roi ei gefnogaeth i wneud ymdrechion pellach i ystyried pa un a all Cylchffordd Cymru gael ei throi’n realiti.

Nid ydym erioed wedi gwrthod y gylchffordd fel syniad. Dim ond y trefniadau ariannol o'i hamgylch. Os gall y gylchffordd gyflwyno cynnig gwahanol, yna, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth y byddem ni’n ei ystyried. Nid oes gennym ni wrthwynebiad mewn egwyddor, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw brosiect yn ystyried buddiannau trethdalwyr Cymru ac yn gallu dangos yn gadarn iawn ei bod yn bosibl darparu’r swyddi a addewir. Os bydd rhywbeth arall yn cael ei gynnig, yna wrth gwrs byddwn yn ystyried hynny i weld a yw'r amgylchiadau wedi newid.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddychmygu gwlad lle mae mega-garchardai yn cael eu lleoli yng nghanol ardaloedd menter, fel y’u gelwir? Neu a allwch chi ddychmygu gwlad sy'n cael ei disgrifio yn y pen draw fel Botany Bay yr unfed ganrif ar hugain ac fel gwladfa gosb? Wel, dyna eiriau Frances Crook, prif weithredwr uchel ei pharch yr Howard League.

Prif Weinidog, mae'n rhaid mai Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae carchardai yn cael eu hamlygu fel offerynnau ar gyfer datblygu economaidd, yn hytrach nag fel rhan o system cyfiawnder troseddol gwlad. A ydych chi'n disgwyl i garchardai eraill gau os bydd carchar Port Talbot yn mynd rhagddo? Ac a allwch chi gadarnhau pa un a fydd yna gynnydd net mewn swyddi neu a ydych chi'n meddwl y bydd colled?

Materion i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eu hateb yw’r rhain. Nid ydym yn gyfrifol am bolisi carchardai. Ond gofynnodd gwestiwn am garchardai. Mae gen i garchar yn fy etholaeth i. Roedd yn ddadleuol iawn pan gafodd ei adeiladu. Fi oedd y cynghorydd ward pan gafodd ei adeiladu ar y pryd. Nawr, nid oes neb yn cymryd unrhyw sylw ohono. Mae'n cyflogi llawer o bobl, mae ystâd o dai yn cael ei hadeiladu nid nepell o furiau’r carchar. Ond, serch hynny, mae'n bwysig bod pryderon pobl yn cael sylw, gan fy mod i’n cofio pryderon pobl ar y pryd. Mae'n bwysig bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal ymgynghoriad llawn gyda phobl yn yr ardal. Eu cyfrifoldeb nhw yw hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw mater y tir. A dweud yn blaen, byddwn yn ceisio cael y cytundeb gorau bosibl i drethdalwyr Cymru am y tir, ni waeth sut y caiff y tir hwnnw ei ddefnyddio, wrth gwrs. Nid ydym ni, o ran mater y carchar, yn hyrwyddo carchar yn weithredol. Rydym ni eisiau cael y canlyniad ariannol gorau i drethdalwyr Cymru.

Rwy'n falch eich bod chi wedi codi cwestiwn y tir, Prif Weinidog, gan fod gweledigaeth ar gyfer metro Abertawe sydd â'r potensial i weddnewid y ddinas a'i chefnwlad, a dyma'r weledigaeth fwyaf deniadol ar gyfer ein hail ddinas yr ydym ni wedi ei gweld ers blynyddoedd. Ond mae'n ymddangos bod y tir a glustnodwyd ar gyfer carchar Baglan ar y glasbrint. Mae safbwynt Plaid Cymru ar y carchar hwnnw yn hysbys, a cheir Aelodau o'ch plaid eich hun sy'n cytuno â ni nad dyma'r safle cywir. Onid yw'n wir y byddwch chi’n gwerthu tir a fyddai fel arall yn rhan o fetro Abertawe yn y dyfodol? A wnewch chi gydnabod eich bod chi mewn sefyllfa i roi terfyn ar y prosiect hwn trwy wrthod gwerthu’r tir hwn? Ac os ydych chi'n derbyn hynny, a wnewch chi wrthod gwerthu’r tir hwnnw nawr?

Wel, ni fyddem yn gwneud unrhyw beth a fyddai'n peryglu dyfodol metro Abertawe, mae hynny'n wir, ond ceir materion ehangach yma y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Mae'r carchardai yn syrthio’n ddarnau, nid oes amheuaeth am hynny. Fel rhywun a oedd yn gyfarwydd â'r system ar un adeg gyda'm swydd, mae wedi bod yn amser disodli ein carchardai ers amser maith—rydym ni’n gwybod bod rhai ohonyn nhw yn dod o oes Fictoria. Rydym ni’n allforio carcharorion. Ni all carcharorion benywaidd gyflawni eu dedfrydau yng Nghymru. Nid oes carchar categori A yng Nghymru. Mae gennym ni ormod o garcharorion nad ydynt yn gallu treulio eu hamser carchar yn agos at eu cymunedau, ac mae hynny'n bwysig o'u safbwynt nhw o ran eu hailsefydliad. Yr hyn nad wyf yn ei wybod yw pa un a yw hi'n credu na ddylai fod carchar o gwbl, neu pa un a ddylai symud i safle arall. Os yw'n wir y byddai hi eisiau iddo gael ei symud i safle arall, byddem yn agored i awgrymiadau o ble y dylai hynny fod.

Gallech ddadlau y dylai fod sawl safle, Prif Weinidog. Ni fydd yr holl broblemau yr ydych chi newydd eu hamlinellu yn cael eu datrys trwy adeiladu'r mega-garchar hwn mor agos at garchar newydd arall. Mae eich polisi economaidd yn ein harwain at sefyllfa lle nad yw ein buddiannau cenedlaethol yn cael eu sicrhau. Mae datganoli a hunanlywodraeth i fod i’n galluogi i ofalu am ein hanghenion ein hunain, i fod yn bartner cyfartal gyda'n cymdogion ac nid yn was. Nid yw’r uwch-garchardai hyn wedi eu cynllunio ar gyfer anghenion cyfiawnder troseddol ein gwlad ni, ond ar gyfer y wlad drws nesaf. Ac nid fi sy’n dweud hynny, mae'n dod oddi wrth leisiau mwyaf blaenllaw Lloegr a'r DU ar ddiwygio carchardai. Pam ydych chi'n sefydlu comisiwn ar gyfiawnder os nad i ymdrin â chwestiynau fel hyn?

Ac nid yw’n ymwneud â charchardai’n unig, Prif Weinidog, y mantra hwn o swyddi am unrhyw bris sydd wedi arwain at i chi dderbyn gwarediad mwd o safle niwclear yn nyfroedd Cymru. Beth ar y ddaear mae Cymru'n ei wneud yn cymryd gwastraff gan wlad arall a allai fod yn ymbelydrol? Nid wyf yn gwybod pam y gwnaethoch chi ganiatáu’r drwydded honno yn y lle cyntaf. Hoffwn wybod a ydych chi’n edifar am ganiatáu’r drwydded honno. A wnewch chi gytuno i'w diddymu os daw i’r amlwg bod hyd yn oed y perygl lleiaf i iechyd pobl?

Wel, mae hi'n dweud hanner y stori. Yn gyntaf oll, mae hi'n gwybod yn iawn nad Gweinidogion sy’n gyfrifol am drwyddedu; corff allanol sy’n gyfrifol— dyna'r holl bwynt—fel bod y wleidyddiaeth yn cael ei chymryd allan ohoni. Yr hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yn hyn yw bod un person wedi dweud y gallai fod problem yma. Wel, wrth gwrs, mae angen rhoi sylw i’r mater hwnnw, ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma gan fod y gwastraff o Wylfa yn mynd i Loegr, a byddai’n cau ar unwaith pe na byddai am waith ailbrosesu Sellafield.

Mae ganddi safbwyntiau ar ynni niwclear na fyddwn i’n eu rhannu efallai, ond mae'n rhy syml i ddim ond dweud, 'Wel, gwastraff niwclear sy'n cael ei allforio o Loegr i Gymru yw hwn.' Rydym ni’n allforio llawer mwy allan i Sellafield. Felly, nid wyf yn derbyn bod hwn yn fater mewnforio ac allforio. Lle mae gennym ni ynni niwclear, mae'n bwysig bod cyfleusterau gwaredu digonol, ond mae cyflwyno hyn fel brwydr syml rhwng Cymru a Lloegr yn anwybyddu'r ffaith bod gennym ni ein gorsaf bŵer niwclear ein hunain, ac nad oes gennym ni ein cyfleusterau gwaredu ein hunain; rydym ni’n dibynnu ar Loegr i ymdrin â'r gwastraff sy'n dod o Wylfa.

Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i recriwtio a hyfforddi staff newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru? (OAQ51084)[W]

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth mewn sawl ffordd i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i recriwtio a hyfforddi staff. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mwy nag erioed mewn llefydd hyfforddi staff nyrsio a gweithwyr proffesiynol iechyd. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod am y datganiad a gafodd ei wneud cyn yr haf ynglŷn â’r ffordd rydym ni’n moyn sicrhau bod mwy o hyfforddi ar gael yn y gogledd er mwyn sicrhau bod mwy o gyfle i bobl ddod i’r gogledd i hyfforddi fel rhan o rwydwaith hyfforddi Cymru eang.

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Gonffederasiwn GIG Cymru ym mis Mai eleni, roedd 141 o swyddi meddygol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn wag. Mae hyn yn cynrychioli 37 y cant o’r holl swyddi meddygol sy’n wag yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mi gawsom ni ddadl yn fan hyn wythnos diwethaf wrth drafod yr adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar recriwtio meddygol. Ond er yr holl dystiolaeth gan y pwyllgor, y proffesiwn a’r sector yn ehangach am yr angen i symud tuag at sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru, mae’r Llywodraeth yn dal i wrthod ar sail datganiadau annelwig ynglŷn â chost a chymhlethdod y broses. Mae’r honiad bod sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn rhy gostus yn nonsens llwyr o ystyried yr holl filiynau mae Betsi Cadwaladr yn ei wario ar ‘locums’—bron i £80 miliwn dros y tair blynedd diwethaf. Brif Weinidog, faint yn fwy o gleifion yn y gogledd ydych chi yn fodlon eu gweld ar restrau aros cyn i chi wrando ar yr arbenigwyr a thalu sylw i’r dystiolaeth?

Wel, nid wyf wedi gweld y dystiolaeth gan arbenigwyr sy’n dweud y dylem ni gael ysgol feddygol annibynnol yn y gogledd. Mae’n rhaid i mi ddweud hynny—[Torri ar draws.]

Yn ail, beth rydym ni’n moyn sicrhau yw bod y gogledd yn cysylltu gyda’r de er mwyn creu system hyfforddi sydd ar draws Cymru yn gyfan gwbl. Beth sy’n cyfrif, wrth gwrs, yw’r ffaith bod y rheini sydd eisiau cael eu hyfforddi yn gweld bod y safon yn ddigon uchel. Rydym ni’n moyn sicrhau bod y safon yn gymwys ar draws Cymru, a dyna’n gwmws beth rydym ni’n mynd i’w wneud. Rydym ni’n gwybod ynglŷn â hyfforddi meddygon teulu, er enghraifft, yn y gogledd-ddwyrain a’r gogledd-orllewin, fod pob lle wedi cael ei lanw erbyn hyn ynglŷn â llefydd hyfforddi. Nid yw hynny’n iawn ynglŷn â chanol y gogledd, ond rydym wedi gweld bod mwy o bobl yn dod i’r gogledd i hyfforddi, ac rydym ni’n moyn sicrhau ein bod yn symud at ddatblygu system addysg feddygol yn y gogledd dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau bod y gogledd yn cael ei ystyried fel rhywle lle mae hyfforddi yn gallu cymryd lle yn y ffordd fwyaf cyfan posibl, a dyna’n gwmws beth yw nod y Llywodraeth. Nid wyf yn credu ein bod yn llawer ymhell o’n gilydd ynglŷn â beth rydym ni’n moyn wneud.

Rwy'n falch iawn bod Siân Gwenllian wedi codi hyn eto, a byddwn yn annog pob un o ACau y gogledd i wneud galwadau tebyg ac i'ch dwyn i gyfrif, Prif Weinidog. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. Mae Siân yn llygad ei lle i sôn bod 141 o swyddi gwag hirdymor. Mae gennym ni wardiau ysbyty yn y gogledd sydd wedi cau am sawl mis. Rydym ni wedi cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain, rydym wedi cyfarfod â gweithwyr proffesiynol meddygol eraill, ac mae angen pendant—fe’i profwyd—am ganolfan hyfforddi rywle yn y gogledd. Y ffaith yw, ac mae'r ystadegau'n profi hyn, bod y rhai sy'n hyfforddi yng Nghaerdydd yn symud draw i Loegr. Nid ydym yn gallu recriwtio. Nid yw bwrdd Betsi yn gallu recriwtio. Nawr, mae hwn yn fwrdd sydd mewn mesurau arbennig. Mae ganddo ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac eto mae'n methu ar bob lefel o ran recriwtio staff, o ran cadw wardiau ar agor. Pryd ydych chi, a phryd mae eich Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n eistedd yma’n gyson yn ystod cwestiynau iechyd yn ysgwyd ei ben—? Wel, mae'n ddrwg gen i, ond rydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet—. Rydym ni yma i graffu arnoch chi, ac rydych chi'n methu â chyflawni ar ran cleifion y gogledd, rydych chi'n methu â chyflawni ar ran y bwrdd iechyd, ac rydych chi'n methu â chyflawni ar ran y staff gwirioneddol sy'n gweithio yno. Rydym ni mewn argyfwng yn y gogledd. Mae angen canolfan hyfforddi arnom ni ym Mangor. Mae'r costau, fel y dywedodd Siân yn eithaf da, yno i—. Ni allwn barhau i gymryd staff locwm—

Gallaf, iawn, diolch. Rydym ni eisiau ateb hirdymor. Chi yw'r un sydd â’r gallu i wneud hyn; a allwn ni gael ysgol hyfforddi ym Mangor os gwelwch yn dda?

Wel, rwy'n cytuno â hi pan ei bod hi’n dweud ei bod hi eisiau mwy o gyfleoedd hyfforddi yn y gogledd. Nid oes unrhyw bellter rhyngom ni yn hynny o beth; sut mae’n cael ei ddarparu yw’r cwestiwn. Mae hi'n gofyn, 'A all hi fod yn ysgol feddygol annibynnol?' Wel, rydym ni’n gwybod nad dyna sy’n cael ei argymell. Rydym ni’n gwybod y byddai'n anodd gan fod ysgolion meddygol mawr mewn dinasoedd mawr ag ysbytai mawr, sydd â llawer mwy o amrywiaeth mewn arbenigedd. Yr hyn y gellir ei wneud, fodd bynnag, yw sicrhau bod Bangor wedi ei lynu—bod y gogledd cyfan wedi ei lynu—yn fwy pendant â Chaerdydd ac Abertawe, a'n bod yn cymryd camau i sefydlu system o ddatblygiad dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn cynnig cyfleoedd gwell yn y gogledd. Dyna'r ffordd i'w wneud. Mae'n bwysig gallu cysylltu Bangor â'r ysbytai mwy i ddarparu'r cyfleoedd hyfforddi yn y ffordd fwyaf cynhwysfawr. Rwy'n credu bod pawb yn y proffesiwn meddygol yn deall hynny. Rwy'n derbyn y pwynt bod angen i ni gynnig mwy o gyfleoedd hyfforddi yn y gogledd. Nid wyf yn dadlau â’r hyn y mae'r Aelod dros Arfon wedi ei ddweud. Mae'n gwestiwn nawr nid o, 'A ddylem ni ei wneud?' ond 'Beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o’i wneud?', a chredwn ein bod ni wedi amlinellu hynny.

Cynllunio’r Gweithlu

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chynllunio’r gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? (OAQ51081)[W]

Rŷm ni’n disgwyl i fwrdd Hywel Dda ddatblygu ei gynlluniau gweithlu fel eu bod yn cyfateb i anghenion y boblogaeth leol, nawr ac yn y dyfodol.

Diolch, Prif Weinidog. A gaf i, jest yn gyntaf, gofnodi fy niolchiadau i staff ysbyty Bronglais a fu’n gofalu am fy mab yn ystod y pythefnos diwethaf yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys? Felly, rwy’n ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae’r staff yn ei wneud ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Ond, mae’n rhaid cydnabod—ac mae’r Gweinidog wedi cydnabod hyn wrthyf mewn ateb i gwestiwn dros yr haf—fod yna ddiffyg mewn rhai meysydd, a’r gwasanaeth pediatrig yn benodol yw hynny. Mae Dr Vas Falcao, sydd newydd ymddeol y flwyddyn ddiwethaf o ysbyty Llwynhelyg wedi dweud bod y gwasanaeth pediatrig yn y gorllewin ar fin methu—dyna ei eiriau—oherwydd y diffyg recriwtio. Mae gennym ni chwe swydd wag ar gyfer ymgynghorwyr pediatrig ar hyn o bryd ar gyfer ysbyty Llwynhelyg, ac nid yw’r ymgyrch recriwtio y llynedd gan ysbyty Bronglais wedi recriwtio un ymgynghorydd newydd. Felly, mae’n rhaid gofyn: a wnewch chi gymryd camau pendant a phenodol i sicrhau recriwtio gwell i staff yn y gorllewin?

Wel, a gaf i ddweud yn gyntaf fy mod yn gobeithio bod y sefyllfa deuluol wedi gwella? Rwy’n flin i glywed—flin yn ystyr y de, nid y gogledd—i glywed am beth a ddigwyddodd yn y fan yna. Mae’n wir i ddweud bod yna’n dal i fod heriau yn y gorllewin. Rwy’n gwybod bod y sefyllfa yn Llwynhelyg yn rhywbeth dros dro, nid rhywbeth parhaol—a gaf i ddweud hynny—ac rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio’n galed er mwyn recriwtio’r bobl sydd eu heisiau arnyn nhw. Beth sydd ddim yn mynd i ddigwydd yw nad ydym yn mynd i fynd yn ôl i’r hen fodel a oedd yno. Nid felly ddywedodd y coleg brenhinol. Efallai bod un unigolyn wedi dweud hynny, ond nid felly oedd barn y coleg brenhinol. Ond, wrth gwrs, rwy’n gwybod bod y bwrdd yn gweithio’n galed drwy’r ymgyrch recriwtio sydd gennym ni er mwyn sicrhau bod y sefyllfa dros dro yn Llwynhelyg yn newid, er mwyn bod y system gofal yn dod yn ôl i beth oedd yno o’r blaen, sef 12 awr y dydd.

Prif Weinidog, yn ôl bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda, maent wedi wynebu mwy o broblemau recriwtio yn ysbyty Llwynhelyg dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd, medden nhw, lleoliad yr ysbyty. Dyna pam y mae’r bwrdd yn dweud ei fod wedi gorfod newid oriau gwasanaethau pediatrig, er enghraifft. Mae’r etholwyr yr wyf yn eu cynrychioli eisiau gweld gwasanaethau pediatrig llawn-amser yn cael eu hailgyflwyno yn yr ysbyty. Felly, a allwch chi gadarnhau bod eich Llywodraeth chi’n cytuno â’r nod hwnnw, a hefyd, a allwch chi ddweud wrthym ni un peth y mae eich Llywodraeth chi wedi’i wneud yn wahanol o’i gymharu â’r chwe mis diwethaf i ddelio â’r problemau recriwtio?

Wel, mae’n fater, wrth gwrs, i’r bwrdd iechyd, ond mae yna ddyletswydd arnyn nhw i recriwtio ac maent yn dal i wneud hynny. A yw’n gofyn a ddylai pethau fynd yn ôl i beth yr oedden nhw? Na, achos nid felly y mae’r adroddiad yn ei ddweud; nid wyf yn credu y byddai’r gwasanaethau’n dod yn well o gwbl ynglŷn â hynny. Mae e’n wir i ddweud, dros y blynyddoedd, fod problemau wedi bod ynglŷn â recriwtio mewn ysbytai—rŷm ni’n mynd yn ôl degawdau nawr—y mwyaf i’r gorllewin rŷch chi’n mynd, y mwyaf o ysbytai addysgol rŷch chi’n mynd hefyd. Dyna pam mae’n hollbwysig, wrth gwrs, i sicrhau bod arbenigwyr, pan maen nhw’n mynd i ysbytai yn y gorllewin, yn teimlo fel rhan o rwydwaith sydd yn fwy er mwyn bod y gefnogaeth broffesiynol ganddyn nhw. Dyna beth sy’n digwydd, wrth gwrs, drwy’r cysylltiadau sydd ganddyn nhw gyda Treforys yn y gorllewin, ac yn y gogledd, wrth gwrs, gyda rhai o ysbytai Lerpwl. Ond, a gaf i ddweud wrtho unwaith eto fod y sefyllfa ar hyn o bryd yn Llwynhelyg yn rhywbeth dros dro ac nid yn rhywbeth sydd i fod yn barhaol?

Prif Weinidog, achubais ar y cyfle yn ystod toriad yr haf i gyfarfod â staff a hefyd prif weithredwr bwrdd iechyd Hywel Dda. Canolbwyntiais yn benodol ar fater yr uned gofal pediatrig ddydd yn Llwynhelyg a'r holl benawdau yr ydym ni wedi eu clywed. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf yn eithaf eglur yw eu bod yn cydnabod bod ganddynt broblemau recriwtio ac nad yw'r problemau recriwtio hynny'n unigryw iddyn nhw, nac i Gymru, nac i weddill y DU. Yr hyn a ddywedasant wrthyf oedd eu bod yn edrych ar yr heriau hynny mewn ffordd gadarnhaol, fel y gallant ddarparu model gwahanol i'r un a ddarperir ar hyn o bryd ar sail dros dro. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael, ac y bydd yn eu cael yn y dyfodol, gyda'r bwrdd iechyd am yr hyn y gallai'r strategaethau hynny ei gyflawni a pha mor effeithiol y gallem ni ddisgwyl iddyn nhw fod?

Rwy’n deall, ar 21 Medi, ychydig ddyddiau yn ôl, y recriwtiwyd pediatregydd ymgynghorol newydd i Lwynhelyg. Hefyd, penodwyd dau locwm ac i ddwy swydd ymgynghorol sylweddol ar draws eu gwasanaethau pediatrig. Mae'r bwrdd iechyd yn ein hysbysu eu bod hefyd mewn trafodaethau â dau ymgeisydd arall ar gyfer swydd bediatreg gymunedol a swydd bediatrig ymgynghorol. Mae hynny'n galonogol ac, wrth gwrs, trwy wneud hynny, rydym ni eisiau sicrhau bod mwy i ddod.

Cefnogi Prentisiaethau

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau yng Nghymru? (OAQ51057)

Wel, rwy'n falch bod yr Aelod wedi gofyn y cwestiwn, gan ein bod ni’n gweddnewid y daith sgiliau trwy greu llwybrau prentisiaeth i gyflawni ein hymrwymiad o 100,000 o leoedd prentisiaeth ar gyfer pobl o bob oed, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn unol â'r addewidion a wnaethom y llynedd.

Diolch i chi am hynna. Pan godais, yn gynharach eleni, yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, pryder a fynegwyd gan bedwar heddlu Cymru na allent gael mynediad at yr ardoll brentisiaeth a'r £2 filiwn yr oeddent yn ei dalu i mewn iddo, atebodd y Gweinidog dros sgiliau y byddai Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn gwneud trefniadau grant neu gontract, mewn deialog gyda'r Coleg Plismona, a bod ganddyn nhw gyfarfodydd yn y dyddiadur gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Cefais fy hysbysu wedyn ym mis Mawrth, bod y cyfarfodydd hynny, bryd hynny, wedi eu canslo, ac nad oeddent wedi eu haildrefnu. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd ym mis Awst gan y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid yng Nghymru y gallai hyn arwain at 45 yn llai o swyddogion yn y gogledd a darpar recriwtiaid yn dewis ymuno â heddluoedd Lloegr yn hytrach, gan alw am gamau brys gan Lywodraeth Cymru oherwydd bod y sefyllfa yn eu rhoi dan anfantais amlwg, ac yn nodi i gloi er bod yr arian y mae heddluoedd yn Lloegr yn ei dalu i’r ardoll yn mynd i goleg heddlu Lloegr, ei fod yn mynd i Lywodraeth Cymru yng Nghymru ac, felly, chi sy’n gyfrifol am hyn?

Wel, gallem ni fod wedi gwneud hyn pe byddai plismona wedi ei ddatganoli, ond mae ei blaid ef wedi eistedd yn y fan yna yn gyson yn y Siambr hon a mynnu na ddylai plismona gael ei ddatganoli. Nid ydym ni’n mynd i ariannu gwasanaethau a ddylai gael eu hariannu gan gorff nad yw wedi ei ddatganoli. Treth a orfodwyd gan ei blaid ef yw hon: treth ar fusnes. Rydym ni wedi derbyn cyfran o honno a byddwn yn defnyddio'r arian hwnnw i dalu am brentisiaethau, ond ni allwn, yn ddidwyll, gyfrannu at gynlluniau prentisiaeth sydd mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny, does bosib, fel y maen nhw’n ei ddweud wrthym drwy’r amser.

Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai rhai o'r ymweliadau sy’n cynnig y mwyaf o ysbrydoliaeth i ni fel Aelodau'r Cynulliad yn ein hetholaethau ein hunain yw’r rheini â chyflogwyr, mawr a bach, sy'n cynnig prentisiaethau'n rheolaidd, pa un ai yw'r rheini’n rai y gallem ni eu galw’n brentisiaethau lefel mynediad, prentisiaethau uwch neu hyd yn oed prentisiaethau gradd hefyd—maen nhw’n brentisiaethau i raddedigion. Cwmnïau fel Sony, sydd bellach yn gosod y safon o ran datblygu prentisiaethau yn y gweithlu. Cwmnïau yn eich etholaeth eich hun, Prif Weinidog, fel Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd, dros flynyddoedd lawer iawn, wedi datblygu pobl mewn prentisiaethau peirianneg electromecanyddol, mewn prentisiaethau rheoli busnes, a llawer iawn mwy.

Mae cryn dipyn i'w wneud, ond mae llawer yn cael ei gyflawni, ond a fyddai e'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd mwyaf arwyddocaol y gallwn ni gynyddu’r piblinell o brentisiaethau yw buddsoddi mewn seilwaith mawr, trwm? Ac er efallai i ni golli'r cyfle gyda’r buddsoddiad mewn trydaneiddio’r holl ffordd i lawr i Abertawe, mae ffordd arbed pethau i ryw raddau, sef bod Llywodraeth y DU yn cymeradwyo’r morlyn llanw yn Abertawe, oherwydd bydd hynny'n datblygu prentisiaethau peirianneg sifil, prentisiaethau rheoli prosiect, prentisiaethau rheoli busnes, a llawer iawn mwy. Byddai hynny, ar ei ben ei hun, yn cael effaith sylweddol ar brentisiaethau ar draws y rhanbarth cyfan.

Wel, rwy’n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae’r Aelod wedi ei ddweud. Efallai y bydd rhai wedi sylwi fy mod wedi cyflwyno araith dros y penwythnos pan alwais ar Lywodraeth y DU i gyflwyno'r morlyn llanw. Yr ymateb gan Lywodraeth y DU oedd y dylwn i ganolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a pheidio â sôn am y morlyn. Nawr, mae hynny'n achosi cryn dipyn o anniddigrwydd i mi oherwydd yr ymateb fel rheol yw, 'Rydym ni’n dal i’w ystyried.' Mae hynny'n awgrymu i mi eu bod nhw’n mynd i gael gwared ar y morlyn, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder mawr i mi ac, rwy'n siŵr, i Aelodau'r Siambr hon, ac yn wir, y tu allan i'm plaid fy hun.

Mae hwn yn brosiect a fydd yn darparu ynni glân, gwyrdd, nid yn unig i Gymru ond i mewn i'r Grid Cenedlaethol. Byddai'n darparu 1,000 o swyddi ym meysydd gweithgynhyrchu a chynnal a chadw, yn enwedig yn ardal Port Talbot, ac rydym ni wedi cael tactegau osgoi dro ar ôl tro ar ôl tro. Mae hyd yn oed adolygiad annibynnol, yr wyf yn amau iddo gael ei drefnu i ddweud, 'Peidiwch â bwrw ymlaen ag ef' ac a wnaeth yr awgrym wedyn y dylem ni fwrw ymlaen ag ef, wedi dweud y dylai'r prosiect hwn ddigwydd. Rhoddwyd biliwn o bunnoedd ar y bwrdd ar gyfer Gogledd Iwerddon—£1 biliwn ar gyfer Gogledd Iwerddon; gyrru ceffyl a throl trwy fformiwla Barnett. Rydym ni wedi clywed bod hwnnw'n sacrosanct; anwybyddwyd hynny, cyn belled ag yr oedd Gogledd Iwerddon yn y cwestiwn. Ble mae'r morlyn llanw? Mae pobl Cymru'n haeddu ateb, maen nhw’n haeddu'r swyddi hynny ac maen nhw’n haeddu ystyriaeth Llywodraeth y DU.

Dyfodol Gwasanaethau Trawma yn Ne Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau trawma yn ne Cymru? (OAQ51085) 

Ni chlywais y cwestiwn; roedd rhywfaint o barablu ar y chwith i mi, ond mae’r cwestiwn gen i—.

A gaf i ymddiheuro? Wel, yn y cyfarfodydd bwrdd iechyd ym mis Medi, mae’r byrddau iechyd wrthi’n ystyried argymhellion ynglŷn â sefydlu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer de Cymru, gorllewin Cymru a de Powys, ac mae hyn yn cynnwys derbyn yn ffurfiol adroddiad y panel o arbenigwyr annibynnol ar weithredu rhwydwaith trawma mawr a chanolfan trawma mawr.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn naturiol, mae’r argymhelliad i sefydlu’r brif ganolfan trawma yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn esiampl arall o wasanaeth sy’n cael ei ganoli yng Nghaerdydd ar draul Ysbyty Treforys yn Abertawe, ac mae hyn yn dilyn colli gwasanaethau eraill fel niwrolawdriniaeth rai blynyddoedd yn ôl—niwrolawdriniaeth i blant a niwrolawdriniaeth i oedolion wedi mynd o Abertawe i Gaerdydd. Yn wir, collodd Treforys yr uned niwrolawdriniaeth i blant er bod yr unig niwrolawfeddyg i blant ar y pryd trwy Gymru gyfan yn Nhreforys, ond nid oedd hynny’n ddigon i gadw’r uned yn Nhreforys; aeth hi i Gaerdydd.

Yn naturiol, felly, mae yna bryder yn ne-orllewin Cymru fod gwasanaethau arbenigol yn cael eu colli ac nad yw Ysbyty Treforys yn ymddangos yn ddigon amlwg yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru. Mae colli neu wanhau gwasanaethau yn tanseilio statws yr ysbyty fel canolfan ranbarthol o arbenigedd, a hefyd amcanion y fargen ddinesig yn Abertawe sy’n edrych i ddatblygu swyddi ymchwil a iechyd o ansawdd uchel. Hefyd, mae uned losgiadau Treforys—yr unig un yng Nghymru, sydd hefyd yn gwasanaethu gorllewin Lloegr—mae presenoldeb yr uned losgiadau yna yn hanfodol bwysig i unrhyw brif ganolfan drawma. Felly, yn dilyn hynny i gyd, a wnewch chi, fel Llywodraeth, ymrwymo i gyflwyno gweledigaeth fanwl ar gyfer safle Treforys sy’n adeiladu ar ei gryfderau amlwg?

Mae Treforys yn hollbwysig ynglŷn â gwasanaethau iechyd fel ysbyty mawr sydd yn gwasanaethau sut gymaint o bobl. Ond, mae’n sôn am y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn. Nid barn Llywodraeth Cymru yw hwn. Pan fydd gennych chi sefyllfa fel hyn, lle mae yna bobl yn gryf o blaid un safle neu’r llall, yr unig ffordd y gallwch chi ddelio ag e yw sefydlu panel annibynnol. Dyna’n gwmws sydd wedi digwydd. Mae’r panel hwnnw wedi rhoi ei argymhellion mas i’r maes cyhoeddus. Rydym ni’n gwybod beth ŷn nhw, mae’n fater nawr i’r byrddau iechyd weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod canolfan yn dod. Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n amhosibl cael dwy—rydym ni’n gwybod hynny—dwy ganolfan, ond, wrth gwrs, mae’n hollbwysig nawr fod yr argymhellion yn cael eu hystyried ac, wrth gwrs, fod penderfyniad yn dod. Ond, ynglŷn â Llywodraeth Cymru, nid oes gyda ni farn, achos y ffaith bod yna banel wedi rhoi’r argymhellion ac mae nawr yn nwylo’r bwrdd iechyd. Os nad oes unrhyw fath o gytuno ynglŷn â byrddau iechyd, wedyn, wrth gwrs, byddai fe’n dod i Weinidogion Cymru ac wedi hynny, wrth gwrs, byddai’n rhaid ystyried pob ffaith ynglŷn â ble dylai’r safle fod.

Wel, mae tair blynedd ers i'r panel arbenigol gael ei sefydlu i ystyried lleoliad yr uned newydd, ac, yn y cyfnod hwnnw, nid yw Caerdydd na Bryste wedi dod yn nes at Aberystwyth na Hwlffordd, heb sôn am fannau yn fy rhanbarth i. Mae pennaeth y panel annibynnol, fel y clywsom, yn sôn nawr am symud yr uned losgiadau o Dreforys i Gaerdydd ac mae hynny, i mi, yn codi cwestiynau ynghylch sut yn union y mae'r argymhellion hyn yn cael eu gwneud yn y lle cyntaf. Mae Treforys ar fin derbyn £2 filiwn tuag at fuddsoddiad mewn ymateb i amseroedd cardiaidd brys, yr ydym ni’n ddiolchgar amdano, ond mae'n amlwg yn ystyriaeth berthnasol yn y penderfyniad hwnnw, faint o amser y mae'n ei gymryd i ambiwlansys deithio. Rwy’n derbyn bod y gofal wrth ar y daith yn fater perthnasol, ond, os caiff ei ystyried ar gyfer penderfynu lle mae gwasanaethau cardiaidd brys am gael eu gwella, pam nad yw’n ystyriaeth berthnasol o ran ble mae gwasanaethau trawma am gael eu gwella? Rwy'n sylweddoli nad dyma eich barn chi, ond bydd yn llywio penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio clywed y bydd amser cludo yn rhywbeth a fydd yn cael ei gymryd yn fwy o ddifrif nag y mae'n ymddangos ei fod ar hyn o bryd.

Wel, efallai. Mae'n dibynnu, wrth gwrs, os yw'r byrddau iechyd yn cytuno ai peidio. Os nad ydynt, yna wrth gwrs bydd yn dod at Ysgrifennydd y Cabinet i gael penderfyniad. Ble bynnag y byddwch chi'n lleoli’r ganolfan trawma, bydd pobl sydd dros awr oddi wrthi. Mae'n anochel; mae'r ddaearyddiaeth yn penderfynu hynny. Wrth gwrs, mae gennym ni ambiwlansys awyr sy'n gallu cynorthwyo o ran dod â phobl i ysbytai yn gyflymach. Ond mae'r panel annibynnol wedi gwneud ei argymhellion; maen nhw’n gyhoeddus erbyn hyn. Mater i’r byrddau iechyd nawr yw penderfynu ymhlith eu hunain beth ddylai’r ffordd fwyaf effeithiol fod o sefydlu canolfan trawma mawr—nid canolfan yn unig, ond rhwydwaith trawma hefyd. Ni all y cwbl ymwneud ag un ganolfan, er mor bwysig yw’r ganolfan honno, lle bynnag y mae'n mynd; mae'n rhaid iddo ymwneud â sefydlu rhwydwaith priodol, ymatebol i drawma a all gyfrannu at y ganolfan drawma honno yn yr amser mwyaf priodol.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i ymuno â phryderon fy nghyd-Aelodau am y brif ganolfan drawma yn cael ei lleoli yng Nghaerdydd a'r colledion posibl o wasanaethau yn Nhreforys. Gwyddom, pan fydd gwasanaethau’n symud, bod eraill yn tueddu i'w dilyn. Nawr, yn yr achos hwn, nid oes unrhyw wasanaeth yn symud gan ei fod yn wasanaeth newydd, ond yr hyn yr wyf i ei eisiau yw sicrwydd y bydd gwasanaethau yn Nhreforys yn aros yn Nhreforys, gan eu bod nhw wedi datblygu enw da, maen nhw wedi adeiladu darpariaeth gwasanaeth ar gyfer pobl leol, ac nid wyf eisiau gweld hynny’n cael ei niweidio mewn unrhyw fodd o gwbl. Mae'n bwysig bod Treforys yn aros, nid dim ond fel arweinydd y rhwydwaith hwnnw, ond bod y gwasanaethau sydd ganddo’n aros hefyd.

Mae Treforys yn siŵr o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth pwysig. Mae'n darparu llawer o wasanaethau arbenigol i'r ysbytai ymhellach i'r gorllewin er mwyn i'r ysbytai hynny allu darparu'r gwasanaethau i'w pobl. Rwy’n gwybod bod—. Mae meddygon ymgynghorol sy’n gweithio yn Nhreforys wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn gweithio yn yr ysbytai ymhellach i'r gorllewin hefyd. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn y bydd Treforys yn colli ei statws fel un o'n Ysbytai Cyffredinol Dosbarth pwysicaf. Lle bynnag y bydd y ganolfan trawma’n mynd, ac mae hynny'n rhywbeth i'r byrddau iechyd ei benderfynu, mae'n bwysig, fel y dywedais, bod y rhwydwaith hwnnw ar waith. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â darparu gofal mwy arbenigol a gwell i bobl sydd wir angen y gofal hwnnw. Nid oes gennym ni ganolfan drawma; mae angen un arnom ni. Mae wedi ei lleoli yn y de, mae hynny'n wir, ond mae angen i ni gael un canolfan drawma lle bynnag y bydd honno'n mynd. Ond, yn sicr, cyn belled ag y mae Treforys yn y cwestiwn, mae'n dal yn ysbyty mawr sy'n gwasanaethu dinas bwysig a bydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau arbenigol, nid yn unig i Abertawe, ond ymhellach i’r gorllewin hefyd.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw’r datganiad a’r cyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt, arweinydd y tŷ. Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf unrhyw newidiadau i'w gwneud i agenda heddiw. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i nodir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd i’w gweld yn y papurau cyfarfod sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Gan ein bod ar fin ddechrau trafodaethau ar Bapur Gwyn y Gweinidog ar gyfer y Gymraeg, mae yna rai materion yn ymwneud â safonau y mae angen eu cwblhau o hyd, ac roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad cynnar, os gwelwch yn dda, ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau'r Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd.

Mae gennym ni, wrth gwrs, ddadl ar y datganiad busnes yn digwydd yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n cynnwys cyfeiriad at y safonau.

Rwyf eisiau gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, fel y gwyddom, mae'r sector prifysgolion yn gweithredu fel sbardun economaidd, nid yn unig yng Nghaergrawnt ac ymhlith prifysgolion mawr America, ond mewn dinasoedd Ewropeaidd fel Aarhus yn Nenmarc a Mannheim yn yr Almaen. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad ar sut y mae’n gweld sector prifysgolion Cymru yn helpu i greu cyfoeth yng Nghymru, naill ai trwy barciau gwyddoniaeth neu drwy hyrwyddo entrepreneuriaeth?

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano—ac y mae'n dilyn cwestiwn a godwyd gan Dawn Bowden yr wythnos diwethaf—ar y camau sy’n cael eu cymryd i fonitro'r cynnydd a wnaed mewn achosion o insiwleiddio waliau dwbl mewn modd diffygiol yng Nghymru. Rwyf wedi cael sawl cwyn, fel Aelod etholaethol, am hyn. Rwy’n gwybod bod Aelodau eraill, ac rwy'n siŵr bod y rhan fwyaf o’r Aelodau yr wyf i wedi siarad â nhw—. Neu rwy'n gwybod bod y rhan fwyaf o Aelodau yr wyf i wedi siarad â nhw wedi cael, ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na fydd bron pob Aelod yma wedi cael y problemau hyn, ac mae’n cael effaith ddifrifol ar y rhai yr effeithir arnynt. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar faint y broblem ac ar yr hyn yr ystyrir yn ffordd allan ohoni? Ac rwyf hefyd yn gwybod y problemau a oedd yn bodoli pan wnaeth y Llywodraeth y penderfyniad, yn hytrach na chael un cwmni yswiriant, fe’i rhoddwyd allan i gystadleuaeth—gair sy'n fy ngwneud i grynu bob amser —yn ogystal â’r ffaith ei fod yn gwneud bywyd yn anodd iawn, wedyn, i ddarganfod pwy sy'n gyfrifol.

Diolch i Mike Hedges am y ddau gwestiwn yna. O ran eich cwestiwn cyntaf, wrth gwrs, mae prifysgolion Cymru eisoes, ac yn wir, yn elwa ar arfer gorau, fel yr enghreifftiau yr ydych chi’n eu rhoi—Aarhus yn Denmarc a Mannheim yn yr Almaen. Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y mae'n gwneud hyn yw trwy ymgysylltu'n llawn, fel Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, gyda rhaglenni'r UE fel Manumix, ac mae hynny yn annog y broses o rannu arfer gorau yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Ond rwyf am ddilyn trywydd cwestiwn i’r Prif Weinidog a’r ymateb iddo yn gynharach y prynhawn yma, sef, pe cymeradwyir y morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe, y gwn, ar draws y Siambr hon, ein bod i gyd ei eisiau ac yn ei ddisgwyl, y byddai hyn yn gyfle euraidd i Abertawe arwain yn genedlaethol ar waith ymchwil, technoleg, masnacholi a chadwyni cyflenwi o gwmpas y morlyn llanw, fel y mae Aarhus yn Denmarc wedi’i wneud gydag ynni gwynt.

O ran eich ail gwestiwn, mae'n bwysig adrodd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno ar newidiadau i ofynion y cynllun personau cymwys er mwyn helpu i sicrhau nad yw deunydd insiwleiddio yn cael ei osod mewn eiddo anaddas o 1 Hydref ymlaen. Ar gyfer gosodiadau presennol, bydd swyddogion yn cwrdd â'r prif ddarparwr gwarant, yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, i drafod cynnydd o ran ymdrin â hawliadau sy’n dal heb eu datrys.

A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y rhwymedigaethau sydd gan awdurdodau lleol i gynnal priffyrdd diogel a chyflwyno mesurau gostegu traffig? Mae trigolion ardal Heol Pant Ddu yng Nghrymlyn yn gweithio'n galed, ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, i sicrhau gostegu traffig yn eu hardal nhw. Mae maint y traffig wedi dyblu ac mae'r cyflymder cyfartalog bellach yn uwch na'r trothwyon sydd, yr wyf ar ddeall, yn angenrheiddiol ar gyfer gosod mesurau gostegu traffig. Ond mae’r awdurdod lleol wedi ensynio bod yn rhaid i ddigwyddiadau anaf personol neu waeth ddigwydd cyn i'r meini prawf gael eu bodloni. Felly, a gawn ni eglurhad ynghylch beth yw’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol o ran penderfynu ar sut y gall ardal gyrraedd meini prawf ar gyfer mesurau gostegu traffig cyn i rywun gael ei anafu neu waeth na hynny?

Wel, rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau'n cytuno â Steffan Lewis am y pwysau hyn sy'n cael eu rhoi ar ein cymunedau lleol—yn arbennig, wrth gwrs, rydych chi'n cyfeirio at Grymlyn yn eich ardal chi. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, eisiau egluro'r llinellau cyfrifoldeb o ran awdurdodau lleol, hefyd, y meini prawf o ran ein cynlluniau grantiau diogelwch ffyrdd, y mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn gallu gwneud cais amdanynt, ac yr ydym ninnau’n eu dyrannu fel Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon egluro a rhannu hynny gyda'r Aelodau i gyd.

Yn ychwanegol at fy natganiad trawsbleidiol, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn y lle hwn ar statws gwasanaethau cymorth i gerddoriaeth ledled Cymru, yr hyn sydd ar gael i ddisgyblion ysgolion Cymru o ran cyfleoedd fforddiadwy i gael hyfforddiant offerynnol a chymryd rhan mewn cerddorfeydd, a'r budd arfaethedig i Gymru o gael strategaeth perfformio cerddoriaeth genedlaethol newydd i Gymru.

Rwy'n credu ein bod ni'n ymwybodol iawn o gefnogaeth ac eiriolaeth Rhianon Passmore i hyn, o ran mynediad a chyfleoedd ar gyfer addysg gerddorol yn ein hysgolion, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf maes o law.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Yn gyntaf oll, rwy'n siŵr, fel finnau, rheolwr busnes, eich bod chi’n falch iawn o glywed John McDonnell yn addo dod â menter cyllid preifat yn ôl yn fewnol, gan ddod â hyn yn ôl adref. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch dod â Menter Cyllid Preifat Cymru adref, y gost i'r trethdalwr yng Nghymru o wneud hynny, a pholisi Llywodraeth Cymru i ddod â thaliadau Menter Cyllid Preifat yn ôl yn fewnol? Nid oes angen i chi aros i ethol Llywodraeth Lafur y DU; gallwch ei wneud nawr, yma ym Mae Caerdydd, a gallwch ei wneud yfory. Mae'r bobl, yng Ngheredigion er enghraifft, lle mae gennym ni’r ysgol Menter Cyllid Preifat gyntaf yng Nghymru a adeiladwyd ar gyfer Penweddig—. Mae'n ysgol dda iawn, ond mae'n ddrud iawn o ran dulliau cynnal a chadw penodol o'r contract. Rwy'n siŵr y byddai Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i gael gwybod sut yr ydych chi'n bwriadu prynu hynny yn ôl a rhoi'r arian iddyn nhw i wella'r gwasanaeth addysg a’i wneud hyd yn oed yn well na'r hyn sydd yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad ar eich polisi ar y Fenter Cyllid Preifat a phryd y gallwn ni ddisgwyl i bolisi'r Blaid Lafur a gyhoeddwyd dros y penwythnos gael ei ddeddfu yma yng Nghymru.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael gan, efallai, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yw—. Clywsom y drafodaeth rhwng Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, a'r Prif Weinidog ar echdynnu mwd adeiladu Hinkley C a gosod y mwd hwnnw yng ngwastatiroedd Caerdydd, o’r hyn yr wyf yn ei ddeall. Mae cryn ddadlau ynghylch pa un a yw’r mwd hwnnw'n ymbelydrol, a pha un a yw’n cynnwys unrhyw sylweddau y dylem fod yn pryderu amdanyn nhw. Yn syml, datganiad gan y Llywodraeth yn nodi'r ffordd ffeithiol syml yr ymdriniwyd â’r cais hwn, pwy wnaeth y penderfyniad, pryd y cafodd ei wneud, a sicrwydd mai casgliad y datganiad hwnnw oedd nad oes deunydd ymbelydrol yn cael ei waddodi yn nyfroedd Cymru - rwy'n credu y byddai hynny'n tawelu meddwl pawb.

Diolch, Simon Thomas.

Thank you for those questions.

O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n credu bod Simon Thomas yn ymwybodol iawn o gynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru—sy’n arwain, byddwn i’n dweud, o ran y mater polisi hwn, oherwydd bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi osgoi peryglon Mentrau Cyllid Preifat yn gyson, fel y gwyddoch. O ganlyniad i'n hymagwedd dros y 18 mlynedd diwethaf, byddwn i’n dweud, yn mynd yn ôl i pan mai fi oedd y Gweinidog Iechyd, mae’r rhwymedigaethau sy'n ymwneud â'r cynlluniau Menter Cyllid Preifat traddodiadol yng Nghymru yn llawer is nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae cost flynyddol cynlluniau Menter Cyllid Preifat yng Nghymru fesul pen, sef oddeutu £200, yn llai na un rhan o bump o’r gost fesul pen yng ngweddill y DU, sy'n fwy na £1,000 y pen. Yn amlwg, mae'n ymwneud â gwerth am arian. Mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym yn datblygu. Ac wrth gwrs, rydym ni wedi cael llawer o graffu ac ymgysylltu â phwyllgorau cyllid, cyfredol a blaenorol, wrth ddatblygu, er enghraifft, y model buddsoddiad ar y cyd, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar 28 Chwefror. Mae hwnnw'n fath newydd o bartneriaeth gyhoeddus-breifat, sy’n sicrhau’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn gynt nag y mae'r cyllidebau cyfalaf yn ei chaniatáu fel arall, mewn ymdrech i wrthdroi polisïau cyni Llywodraeth y DU, oherwydd, yn amlwg, rydym ni angen y seilwaith hwnnw, ac mae angen inni allu ei ariannu.

O ran eich ail bwynt, bydd, fe fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn egluro'r sefyllfa i roi sicrwydd i’r Aelodau o ran llinellau cyfrifoldeb a'r sefyllfa wirioneddol, nid dim ond adroddiad sydd wedi dod allan dros nos, sy'n amlwg yn codi materion sy'n peri cryn bryder i lawer ohonom ni o ran ein hetholwyr ac o ran Cymru gyfan.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar effaith diwygio lles ar wasanaethau datganoledig yng Nghymru? Bu peth amser ers i ni drafod y mater hwn yn y fan yma. Fel y gwyddoch, cyflwynwyd gwasanaeth llawn ar gyfer credyd cynhwysol yn Nhorfaen ym mis Gorffennaf—yr ail ran o Gymru i gael y gwasanaeth llawn—ac mae'r arwyddion yn achosi pryder mawr. Mae'r faith bod pobl yn gorfod aros chwe wythnos i gael eu harian—ychydig iawn o bobl yr wyf i’n eu hadnabod a allai ymdopi heb chwe wythnos o incwm—eisoes yn arwain at fwy o ddefnydd o'r banc bwyd yn lleol, ac mae arwyddion brawychus iawn ynglŷn â lefel ac ansawdd yr wybodaeth sy'n cael ei darparu gan bethau fel y llinell gymorth lwfans cyflogaeth a chymorth, y llinell gymorth credyd cynhwysol a’r Ganolfan Byd Gwaith. Rwy’n credu y byddai'n fuddiol iawn pe byddem ni’n gallu trafod y materion hyn a dylanwadu rhywfaint ar Lywodraeth y DU am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar ein cymunedau a'n gwasanaethau datganoledig.

Rwy'n siŵr y byddai croeso i hynny gan Aelodau ar draws y Senedd, gan fod gennych chi'r profiad fel yr Aelod dros Dorfaen o ran y cyflwyniad arbrofol hwnnw o gredyd cynhwysol. Rwy’n nodi bod Cymorth i Fenywod Cymru wedi codi'r mater hwn yr wythnos hon o ran pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei chael, a gwyddom o ran cam-drin domestig a'r pwysau sy'n wynebu menywod yn arbennig yn y sefyllfa honno—. Mae'n rhywbeth yr wyf yn teimlo bod yn rhaid inni ystyried ffyrdd wedyn y gallwn ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau a thrafod y materion hyn hefyd o ran effeithiau.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad am ffoaduriaid Rohingya Muslim o’r hen Burma, Myanmar erbyn hyn? Mae'r wlad wedi anfon degau o filoedd o bobl mewn sefyllfa ddychrynllyd ac anobeithiol iawn i wledydd cyfagos, Bangladesh ac India. Ddoe ddiwethaf, roedd Nicola Sturgeon eisoes wedi cymeradwyo £120,000 o gymorth cychwynnol i Fwslimiaid Rohingya. Mae'r ffoaduriaid hyn—maen nhw’n Fwslimiaid, yn Hindŵiaid ac yn Gristnogion. Felly, a fyddwch chi mor garedig â gwneud datganiad ar y mater hwnnw? Ac, yn ail, a oes unrhyw bosibilrwydd o’u helpu'n ariannol, yn foesol, neu i roi cymorth meddygol i'r ardaloedd hynny, ac i roi dŵr glân i'r bobl hynny o'r rhan hon o’r byd? Diolch.

Rwy'n credu ein bod ni’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa ffoaduriaid Myanmar ar draws y Siambr hon. Dim ond o ran ein cyfrifoldebau, mae gennym ni raglen hawl i loches ac rydym ni’n ymgysylltu’n helaeth â’r cymorth i ffoaduriaid Syria hefyd. Ond wrth gwrs, gan nad oes gennym gyfrifoldebau datganoledig ar gyfer hyn, gallwn ni’n amlwg ofyn y cwestiynau hyn i Lywodraeth y DU, a bod yn barod i ddarparu cymorth—ac wrth gwrs, y berthynas agos sydd rhwng Cymru a Bangladesh hefyd, o ran yr effeithiau hyn.

Yn dilyn cwestiwn Simon Thomas, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar y gwahanol fathau o gyllid arloesol sydd ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf fel yr un a fydd yn cael ei ddefnyddio yn yr ysbyty Felindre newydd yn fy etholaeth i yng Nghaerdydd? Oherwydd fel y dywedodd Simon Thomas, bu llawer o gyhoeddusrwydd dros y penwythnos ynglŷn â chynllun Llafur y DU i ddod â phrosiectau Menter Cyllid Preifat i ben yn Lloegr pan fyddwn ni mewn llywodraeth. A hoffwn achub ar y cyfle i'w chanmol, fel aelod o lywodraethau blaenorol Cymru, am osgoi elfennau gwaethaf y Mentrau Cyllid Preifat a’n gadael ni mewn sefyllfa llawer gwell na gweddill y DU.

Diolch, Julie Morgan, am fy ngalluogi i ddilyn ac ymestyn yr ymateb a roddais i Simon Thomas yn gynharach. Fel y dywedais wrth Simon Thomas, ac wrth Aelodau, yn enwedig ar y Pwyllgor Cyllid, yr oeddech yn aelod ohono yn y sesiwn ddiwethaf, fe wnaethom ni dreulio llawer o amser yn edrych ar ffyrdd, yn enwedig pan oedd cyni yn dechrau cael effaith, y gallem ni, er enghraifft, eu defnyddio i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'u pwerau benthyca. Arweiniodd hynny at y fenter benthyca llywodraeth leol, a’i gwnaeth yn bosibl i Lywodraeth Cymru gynorthwyo awdurdodau lleol ar raglen amgylchedd priffyrdd Cymru gyfan, a oedd mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd gan Steffan Lewis yn gynharach o ran gwelliannau amgylcheddol, ond yn hefyd yn cefnogi, yn helpu—mae'n rhaid i mi ddewis fy ngeiriau yn ofalus—landlordiaid cymdeithasol wedi'u cofrestru o ran eu pwerau benthyca, ond gan ystyried ffyrdd newydd y gallem ni gynorthwyo datblygiadau seilwaith, nid yn unig y rhaglen gyfalaf ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Unwaith eto, mae’r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn falch iawn ein bod ni wedi dechrau datblygu rhaglen gyfalaf mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yn ogystal â'n rhaglen cyfalaf cyhoeddus draddodiadol ar gyfer adeiladu ysbytai. Ond wrth gwrs, o ran Felindre, fe wnaethom edrych ar y model buddsoddi cydfuddiannol newydd hwn wedyn. Rwyf eisoes wedi sôn am hynny. Mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth dda, wedi'i chynllunio'n dda a'i rheoli'n dda y mae'n rhaid inni sicrhau’r cyllid hwnnw i gyflawni'r ganolfan ganser newydd arloesol hon, yr ydych chi wedi ymgysylltu’n helaeth â hi fel yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, gan ein bod ni angen darparu'r seilwaith newydd hwnnw ar gyfer ein gwasanaethau canser o'r radd flaenaf. Ac rwy’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cyllid eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni—ac, yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon—ar sut mae hynny'n datblygu o ran cyflawni canolfan ysbyty newydd Felindre.

Rwyf hefyd yn gofyn am ddatganiad ar Hinkley Point, arweinydd y Siambr, oherwydd yr wythnos diwethaf gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd am echdynnu mwd a allai fod yn ymbelydrol, o’r man yn union y tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point. Dywedodd hi nad oedd hi'n gallu rhoi sylwadau ar y broses benderfynu benodol ar gyfer caniatáu’r drwydded. A bod yn gwbl onest, mae hyn yn annerbyniol, ac nid wyf yn siŵr sut i ymateb i’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, a dweud y gwir. Nid oes asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi'i gynnal. Mae'n ddigon syml. Mae pobl yn ymwybodol o hyn erbyn hyn, ac maen nhw’n flin iawn. Mae’r cynllun hwn sydd gennych, wedi cael ei alw yn Dryweryn wenwynig yr unfed ganrif ar hugain. Nawr, nid tomen ysbwriel yw Cymru. Felly, beth mae eich Llywodraeth Lafur chi yn mynd i’w wneud i sicrhau pobl nad yw’r deunydd hwn yn peri unrhyw berygl o gwbl? Ac a wnewch chi atal y drwydded tan y bydd sampl craidd wedi ei gymryd, ac nid dim ond ar yr wyneb, ond o dan yr wyneb? Rwy'n sicr y byddwch chi’n cytuno bod gan bobl Cymru yr hawl i gael gwybod yn union beth sydd ar fin cael ei ddympio arnyn nhw.

Fe wnes i ymateb i gwestiwn Simon Thomas yn gynharach, gan ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn egluro ein sefyllfa ynghylch y cwestiwn hwn.

A gaf i ddechrau trwy adleisio galwad Mike Hedges am naill ai ddatganiad, neu’n wir, dadl, rwy’n credu, ar y mater insiwleiddio waliau dwbl? Pan fo’r gwaith yn cael ei wneud yn iawn, gall yn wir weddnewid cartrefi er gwell. Pan fydd yn cael ei wneud yn wael–ac rwyf yn amau ​​y bydd pob Aelod Cynulliad yn y lle hwn siwr o fod wedi cael profiad o osodiad gwael erbyn hyn– mae'n ofnadwy. Mae gennyf i un etholwr, sy’n dod o deulu nad oes ganddynt fawr o arian a’u hunig fuddsoddiad yw eu cartref. Roedd eu cartref yn wych, roedden nhw wedi buddsoddi llawer o arian ynddo, tan iddyn nhw gael cyngor drwy gynllun wedi ei gefnogi gan y Llywodraeth, i fuddsoddi mewn inswleiddio waliau dwbl. Mae hyn wedi dinistrio eu tŷ ac mae wedi dinistrio eu teulu ac mae'n ofnadwy gweld hynny. Ac nid dyna'r unig un. Mewn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, y gwnaethom ei groesawu, yn ôl ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, soniodd fod 2,000 o hawliadau wedi'u gwneud o dan gyngor Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, yn erbyn 300,000–sef un o bob 150. Pe byddai un o bob 150 o geir yn torri i lawr, neu un o bob 150 o ganiau ffa a brynwyd o’r archfarchnad yn llawn llwydni, byddai banllefau o brotest. Felly, rwyf yn credu bod angen hyn arnom ni. Byddwn i’n croesawu'r cyfle i gael dadl lawn i weld pa mor gyffredin yw'r broblem hon mewn gwrionedd—a'r ffaith syml nad yw’r Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau yn talu hanner digon o iawndal i atgyweirio cartrefi.

A gaf i hefyd ofyn am y cyfle i gael datganiad neu ddadl ynglŷn â’r cynnydd yn nifer y triniaethau Botox a thriniaethau eraill o'r fath sydd weithiau'n cael eu cynnal mewn cyrsiau hyfforddi gan ymarferwyr nad ydynt yn gymwysedig, nad ydynt wedi eu cofrestru, nac yn cael eu rheoleiddio? Ac rwy'n dweud hyn oherwydd aeth meddyg teulu yn fy etholaeth i, o ran diddordeb, i un o'r cyrsiau hyn, ac roedd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yng nghegin yr unigolyn a oedd yn cynnal yr hyfforddiant heb unrhyw wybodaeth feddygol gywir o gwbl, tra bod y ci yn rhedeg ar hyd y lle, ac roeddent yn cynnig tystysgrifau ar sut i chwistrellu Botox i wynebau pobl.

Ond, yn olaf, a gaf i ofyn y cwestiwn symlaf oll? A gaf i ofyn i'r Gweinidog am ddatganiad—ac mae'n un plwyfol iawn—ar y gwasanaeth 17:19 o Ganol Caerdydd i Faesteg? Mae’n aml iawn hanner awr yn hwyr. Neithiwr, roedd y trên dros 36 munud hwyr yn gadael. Dyna oedd y patrwm am weddill y noson. Hwn yw’r gwasanaeth sydd bob amser yn methu. A allwn ni gael datganiad ar beth ar ddaear sy’n digwydd yn y fan honno?

Diolch, Huw Irranca-Davies. Mae'n bwysig bod yr ail gwestiwn yna wedi codi o ran inswleiddio waliau dwbl fel y gallaf, unwaith eto, sicrhau’r Aelodau bod y Cynlluniau Personau Cymwys wedi eu cyflwyno i'r rheoliadau adeiladu yn 2010 a’u bod yn cynnwys gosod deunydd inswleiddio i waliau dwbl. Mae'r cynlluniau hyn yn caniatáu i osodwyr osod deunydd inswleiddio ac i hunanardystio bod y gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynigion yn ddiweddar i atgyfnerthu’r gofynion a osodwn ar gynlluniau personau cymwys i helpu i sicrhau mai dim ond eiddo addas sy'n cael eu hinswleiddio. Mae'r cynigion newydd yn cynnwys mwy o wyliadwriaeth gan weithredwyr y cynllun personau cymwys, fel y dywedais, o'u gosodwyr, i helpu i nodi arferion gwael a gwaith nad yw’n cydymffurfio, a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno o 1 Hydref.

O ran eich ail bwynt, sy'n peri pryder mawr–ac rydych chi eisoes wedi tynnu ein sylw at hynny heddiw – o ran yr hyn a ddisgrifir fel triniaethau i’r wyneb nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf– y mis Gorffennaf hwn, 2017 - mae Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu'r rheoliadau ar gyfer y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig newydd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgysylltu ag ystod eang o grwpiau ymarferwyr proffesiynol i roi’r cymorth, arweiniad a gweithdrefnau gorfodi priodol ar waith, i alluogi lefelau cydymffurfio uchel. Byddwn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ymwreiddio’r gweithdrefnau arbennig newydd hyn o ran y system drwyddedu honno, cyn i ni ychwanegu rhai newydd, ond bydd angen ailasesu dros 2,000 o ymarferwyr a 900 o safleoedd yng Nghymru, o dan ofynion y system drwyddedu newydd.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yn eistedd wrth fy ochr i heddiw, o ran pa mor hwyr yw’r gwasanaeth 17:19 o Gaerdydd i Faesteg, ac mae e’n dweud y bydd yn sicrhau na fydd hynny’n digwydd. Mae’n mynd i gwrdd ag Arriva yn ystod y mis nesaf, a bydd yn codi’r mater hwn gyda nhw, oherwydd bod boddhad cwsmeriaid yn bwysig i ni, yn enwedig o ran gwasanaethau cymudo ar yr adeg honno o'r dydd i'r rhai sy'n teithio o Gaerdydd tuag at y gorllewin.

Yn dilyn y cwestiynau a ofynnwyd yn gynharach am effaith digwyddiadau mawr yng Nghymru, mae gennym ni dîm pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddo, mae gennym ni gefnogwyr pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddynt, ac mae gennym ni gymdeithas pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddi, ac iddyn nhw i gyd y mae’r diolch bod Cymru wedi cael cyfle i wneud cais i gynnal gemau Ewro 2020. Nawr, a allwn ni gael datganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i geisio sicrhau bod Cymdeithas Pêl-droed Cymru ar y brig, os daw'r cyfle i gynnal gemau Ewro 2020?

Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y cyfle pwysig iawn hwn o ran gemau 2020 ac o ran adeiladu ar ein profiad, a rannwyd yn gynharach y prynhawn yma, rwy'n credu y byddai'n briodol gwneud rhywbeth i roi sicrwydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn hynny o beth.

Arweinydd y tŷ, neithiwr, roeddwn i’n bresennol ym mherfformiad gwych National Theatre Wales, a oedd yn ystyried yr argyfwng a'r heriau a wynebwyd gan weithwyr dur yn y cyfnod ers mis Ionawr 2016 pan oedd bygythiad y gallai 750 o bobl golli eu swyddi ac efallai y byddai gweithfeydd yn cau. Nawr, rwy'n argymell i unrhyw Aelod sydd ar gael i fynd i weld y perfformiad, ac rwy’n gwybod bod rhai Aelodau eisoes wedi ei weld. Mae'n gwneud i ni sylweddoli bod yr heriau a wynebwyd ganddyn nhw a’u teuluoedd yn anodd ar yr adeg honno a’u bod yn dal yn anodd heddiw. Nawr, rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru bryd hynny wedi creu ardal fenter ym Mhort Talbot i ystyried arallgyfeirio'r economi a defnyddio'r sgiliau gweithgynhyrchu uwch a oedd yno i ddenu busnesau gweithgynhyrchu i'r ardal. Nid ydym wedi cael datganiad llafar eto gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith er mwyn trafod y datblygiad ar yr ardal fenter honno o ran yr hyn sy'n cael ei wneud i ddenu'r busnesau gweithgynhyrchu hynny i'r ardal, fel y gallwn ni ddefnyddio'r sgiliau helaeth sydd yn yr ardal ac sydd yno, yn barod i bobl ddod i mewn. Mae’r lleoliad yn wych ar gyfer hynny, ond mae angen inni weld beth sy'n digwydd gyda'r swyddi hynny.

Diolch, David Rees. Mae cynhyrchiad National Theatre Wales—Rwy'n credu mai ei enw yw 'We're Still Here'–

Rwy'n edrych ymlaen at weld y ddrama hon fy hun yn ddiweddarach yn yr wythnos. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fynd i'r orsaf, ac yna byddwch chi’n cael eich tywys i’r man perfformio ar gyfer y ddrama. Rwy’n credu y byddem i gyd yn cydnabod bod National Theatre Wales, yn sefydliad pwysig iawn, iawn yr ydym yn ei gefnogi. Ond fe wnaethoch chi godi cwestiynau pwysig am gynnydd yr ardal fenter, ac, wrth gwrs, yng nghyd-destun y sefyllfa sy'n datblygu, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno ymateb maes o law. Hefyd, i gydnabod y gwaith yr oeddech chi yn ei wneud, David Rees, o ran dwyn sylw at y materion hyn, a'r sesiwn briffio yn ddiweddarach heddiw i bawb o ran y cynnydd ynghylch Tata Steel.

Roeddwn i’n meddwl tybed a allwn ni gael datganiad ar strategaeth a meini prawf caffael llywodraeth leol. Rwy'n gofyn hyn oherwydd bod cwmni dodrefn ym Mhort Talbot sydd wedi gwneud ceisiadau am gontractau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cysylltu â mi. Maen nhw wedi rhoi dodrefn mewn llawer iawn o ysgolion ledled Cymru, ond ni chawsant hyd yn oed y cyfle i gyflwyno cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd bod y cyngor yn dweud nad oedd ganddynt y profiad na'r meini prawf i allu gwneud hynny. Felly, aeth y contract hwnnw i gwmni yn Swydd Efrog. Cawsom dystiolaeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf gan Mark Drakeford ynghylch buddion cymunedol, am geisio cadw contractau yng Nghymru lle bo modd, ac nid wyf yn hapus iawn o glywed, am gwmni yr wyf yn ystyried yn arbenigwyr, bod y gwaith hwnnw wedi mynd y tu allan i Gymru. Felly, a allwn ni gael datganiad newydd yn ymwneud â’r caffael cymunedol hwnnw? A oes gan awdurdodau lleol strwythur y gallan nhw ei ddilyn, neu a yw'n newid o un awdurdod lleol i’r llall, sydd yn amlwg, yn rhoi'r rhai sy'n cyflwyno cais mewn sefyllfa anodd iawn?

Mewn ymateb i'r Aelod, gwn mai mater i gyngor Castell-nedd Port Talbot fydd hwn, ond, yn amlwg, gan weithio ar y cyd â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gydag awdurdodau eraill yn aml iawn. Wrth gwrs, mae cod ymarfer newydd ar gyfer caffael moesegol yng Nghymru, ac mae buddion cymunedol yn bwysig iawn ac, mewn gwirionedd, yn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i gadwyni cyflenwi lleol pryd bynnag y bo modd. Felly rwy'n siŵr bod hwn yn fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ei egluro.

Rwyf wedi fy ysbrydoli gan gais Huw Irranca-Davies i rywbeth gael ei wneud ynglŷn â threnau hwyr, i ofyn i chi, arweinydd y tŷ, pe gallem gael y newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â ble’r ydym ni o ran dyfarnu Masnachfraint Cymru a'r Gororau, sydd gan Arriva ar hyn o bryd wrth gwrs. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddem yn cael rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â ble’r ydym ni o ran comisiynu cerbydau newydd. Rwy'n credu, pan fy mod wedi codi’r mater hwn gyda’r Gweinidog yn y gorffennol, ac o bosibl gyda'r Prif Weinidog hefyd, awgrymwyd y byddai comisiynu cerbydau newydd yn cael ei adael i raddau helaeth tan ar ôl cam cyntaf dyfarnu'r fasnachfraint. Yn amlwg, mae hynny'n gadael pethau’n hwyr iawn, ac rwy’n gwybod y byddem ni i gyd eisiau, ac y byddai’r cyhoedd eisiau, i’r fasnachfraint newydd allu rhedeg pethau’n effeithiol o’r cychwyn cyntaf, fel bod y cwmni, pa un ai’r cwmni presennol neu gwmni newydd a fydd yn cymryd drosodd y gwaith o redeg y fasnachfraint honno, y gallwn ni ddechrau o’r newydd, ac y gall teithwyr a'r cyhoedd ddefnyddio trenau o’r radd flaenaf a cherbydau o’r radd flaenaf cyn gynted ag y bo modd.

Diolch i Nick Ramsay am y cwestiwn yna. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y fasnachfraint ac, wrth gwrs, bydd yn ateb y cwestiynau hynny, yn enwedig o ran cerbydau.

3. 3. Datganiad: ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl—Cynllun Gweithredu 2017-21’

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl—Cynllun Gweithredu 2017-21’. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch heddiw o gyhoeddi cynllun gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer addysg yng Nghymru: ein cenhadaeth genedlaethol. Mae'r arbenigwyr byd-eang ar berfformiad addysg, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wedi cydnabod yn gynharach eleni bod y Llywodraeth a'r sector yn cydweithio'n agos ag ymrwymiad i welliant

‘gweladwy ar bob lefel o'r system addysg’.

Mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi'r cam nesaf ar ein taith ddiwygio, sy’n cynnwys datblygu a chyflwyno cwricwlwm newydd trawsnewidiol. Wrth ei wraidd mae pwyslais ar godi safonau i bawb, gan leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a system addysg sy'n destun balchder i’n cenedl a hyder i’r cyhoedd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i Gymru lle gall pob plentyn wneud y gorau o'i botensial ac ymdopi yn y byd sy'n newid. Yr wythnos diwethaf, nododd y Prif Weinidog flaenoriaethau'r Llywodraeth hon yn ein strategaeth genedlaethol ‘Ffyniant i Bawb’ a'r pwyslais ar ddatblygu Cymru sy'n uchelgeisiol ac sy’n dysgu. Rydym ar bwynt hollbwysig o ran cyflawni'r uchelgeisiau hynny. Roedd cyngor yr OECD inni yn ddiamwys: dylem gadw’r ffydd, dal ati, ond gwneud mwy i gyfathrebu, egluro a sicrhau cydlyniad yn ein rhaglen, rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth a chyflwyno cwricwlwm newydd mawr ei angen mewn modd amserol. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn ymateb i'r argymhellion hynny. Mae hefyd yn adeiladu ar sgyrsiau a chyfarfodydd yr wyf i a swyddogion wedi'u cael ledled ein cenedl.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn a nodwyd mewn cynlluniau a rhaglenni blaenorol. Ond gallwn fod yn well fyth, a phennu disgwyliadau uchel o'n pobl ifanc a’n hathrawon. Rydym yn glir ynghylch y ffordd ymlaen. Ers adroddiad yr OECD, rwyf wedi ystyried ei argymhellion. Rwyf wedi siarad â channoedd o fewn y gweithlu addysg ac wedi gwrando ar yr her a’r cyngor gan y pwyllgorau craffu yma yn y Cynulliad. Dywedodd yr OECD,

‘I helpu i wireddu eu hamcanion o ran addysg ac, yn y pen draw, eu gweledigaeth o ddysgwyr Cymru, dylai Cymru barhau i ddiwygio eu cwricwlwm...i sicrhau bod eu taith ddiwygio'n gynhwysfawr ac yn effeithiol.’

Mae’r llinell amser ar gyfer cyflwyno ein cwricwlwm newydd, sydd wrth wraidd system addysg wedi'i thrawsnewid, wedi’i nodi’n glir o fewn y cynllun gweithredu. Yn hytrach na chyflwyniad mawr dros nos un mis Medi, caiff ei chyflwyno gan ddechrau gydag ysgolion cynradd a blwyddyn 7. Mae tystiolaeth ryngwladol yn glir ar hyn. Byddwn hefyd yn darparu'r amser paratoi cywir i ysgolion ac athrawon—nid amser i sefyll yn llonydd, ond amser i roi adborth, ymgysylltu ymhellach â'r cwricwlwm newydd a bod yn gwbl barod am y dull newydd.

Mae gwaith ar y cynnwys a'r meysydd dysgu a phrofiad yn parhau yn gyflym. Bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd ar gael i ysgolion i roi adborth amdanynt, eu profi a’u mireinio erbyn Pasg 2019. Ar ôl y cyfnod hwnnw, bydd y cwricwlwm terfynol ar gael i bob ysgol o 2020 ymlaen, fel y gallant fod yn gwbl barod am ei gyflwyno'n statudol ym mis Medi 2022. Fe'i cyflwynir wedyn o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 7 yn 2022, gan dreiglo i flwyddyn 8 ar gyfer 2023, blwyddyn 9 yn 2024, ac yn y blaen wrth i'r garfan symud drwodd. Gyda'n gilydd, byddwn yn cyflawni ein cwricwlwm newydd, gan gymryd yr amser i'w wneud yn hollol gywir, ond nid yw cymryd yr amser ychwanegol hwnnw i’w gyflwyno a blwyddyn ychwanegol yn golygu arafu. Mae'n golygu y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau cysylltiedig hynny o fewn y cynllun gweithredu sy'n hanfodol i gynnal safonau uchel a gosod uchelgeisiau uwch fyth.

Yn gyntaf: sicrhau proffesiwn addysg o safon uchel—cefnogi athrawon i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes â safonau newydd, agwedd genedlaethol tuag at ddatblygiad proffesiynol ac addysg gychwynnol athrawon wedi’i diwygio.

Yn ail: canfod arweinwyr a’u hysbrydoli i godi safonau—ymdrin â diffyg pwyslais hanesyddol ar arweinyddiaeth drwy sefydlu academi arweinyddiaeth genedlaethol, datblygu arweinyddiaeth yn well, lleihau biwrocratiaeth drwy reolwyr busnes, gwell cyfathrebu o bob lefel, a safonau newydd a chymhwyster pennaeth diwygiedig.

Yn drydydd: ysgolion cynhwysol sy'n ymroddedig i ragoriaeth, cydraddoldeb a lles—diwylliant o barch a her, gan sicrhau bod pawb yn barod i ddysgu drwy ehangu'r Grant Amddifadedd Disgyblion, rhaglenni dysgu haf gwell, darpariaeth benodol ‘mwy abl’, a ffyrdd arloesol o gofnodi a mesur lles ochr yn ochr â chyrhaeddiad.

Ac yn bedwerydd: gwell asesiad, gwerthusiad ac atebolrwydd cadarn o fewn system hunanwella—bod yn gyson ac yn glir ynghylch y pethau yr ydym yn dymuno eu prisio a'u mesur drwy adroddiad a cherdyn adroddiad cenedlaethol blynyddol ar gyfer addysg, drwy asesiad ffurfiannol a fframwaith asesu a gwerthuso newydd sy'n canolbwyntio ar welliant ar bob lefel. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi llinellau amser, polisïau a chamau gweithredu clir ar draws pob un o'r meysydd hyn.

I gloi, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ysgolion baratoi ein pobl ifanc am swyddi nad ydynt wedi'u creu eto a heriau nad ydym wedi’u hwynebu eto. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad newydd i wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc wrth inni godi safonau mewn cwricwlwm trawsnewidiol. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn hyderus wrth inni weithio i gyflwyno system addysg ddiwygiedig a llwyddiannus. Gyda'i gilydd, bydd ein diwygiadau’n ateb yr heriau hyn ac yn cyflawni'r disgwyliadau uchel yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn eu rhannu yn y Siambr hon ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad yr ydych wedi'i gyflwyno y prynhawn yma. Rwy’n meddwl fy mod wedi dweud ar adeg eich penodi’n Ysgrifennydd y Cabinet fy mod yn dymuno'n dda ichi. Mae gennych swydd bwysig iawn. Un waith y mae plant yn mynd drwy ein system addysg, neu y mae myfyrwyr yn mynd drwy ein system addysg. Un cyfle maen nhw’n ei gael ac mae'n hanfodol bod ganddynt yr amgylchedd gorau posibl i ddysgu a ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw. Ond mae'r datganiad heddiw’n achosi rhywfaint o bryder, ac os caf ddechrau â’r datganiad a roddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol’, yn adran addysg y strategaeth honno, yr wyf yn tybio sy'n sail i hyn, mae'n cydnabod bod yna o hyd

‘gormod o amrywiad yng nghyrhaeddiad ymadawyr ysgol, sy'n golygu, heb y sgiliau cywir, bod rhai mewn perygl o gael eu gadael ar ôl a gwastraffu eu potensial.’

Byddwn yn ddiolchgar iawn i gael deall beth yn union yr ydych wedi'i nodi sydd ar fai, o ran pam mae cymaint o amrywiaeth yn y system addysg yng Nghymru a pham, yn anffodus, mae cynifer o bobl yn cael eu gadael ar ôl, a sut y bydd eich strategaeth yn newid cyfeiriad addysg fel bod Llywodraeth Cymru’n gwneud mwy na rhoi strategaeth addysg arall ar waith a’n bod, mewn tair, pedair, pum mlynedd, yn cael yr un sgwrs, oherwydd rwy'n meddwl ei bod yn bwysig deall y cyfeiriad allweddol y mae'r system addysg yma yng Nghymru’n symud iddo.

Rydych hefyd yn dechrau drwy nodi'r OECD a’r targedau PISA ac mae'n amlwg ar gofnod nad dyna yw eich targed: y 500 ar gyfer darllen, ysgrifennu a'r gwyddorau—a rhifyddeg yn amlwg hefyd. Mae hyn nawr yn rhan o'r papur polisi yr ydych wedi'i lansio, sy’n dweud mai targed Llywodraeth Cymru yw taro'r marc 500 pan ddaw'r ffigurau OECD nesaf yn 2021. Felly, byddwn yn ddiolchgar am gael gwybod pam nad ydych chi'n ystyried y ffigurau hynny fel eich targed, er bod y ddogfen yn nodi'n eithaf clir eu bod yn biler canolog o ran codi safonau yma yng Nghymru. Hoffwn hefyd gael deall gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig o ran y diwygiadau a gyflwynwyd o dan Cymwys am Oes, sef dogfen bolisi'r Llywodraeth 2014 i 2020, sut, eto, y mae'r ddogfen hon yn wahanol i'r ddogfen honno, oherwydd os wyf i’n gywir, rydym yn dal i fod yn 2017, ac roedd y ddogfen honno'n ein harwain hyd at 2020? Yn amlwg, un o brif bileri’r ddogfen honno oedd rhaglen Her Ysgolion Cymru, a oedd yn ceisio codi safonau mewn llawer o'n hysgolion, ac o'r asesiadau a wnaethpwyd—yn sicr yn ei dwy flynedd gyntaf—roeddent yn cael canlyniadau a llwyddiannau addawol iawn gyda'r cynllun hwn, ac, yn amlwg, fe'i terfynwyd y llynedd gennych chi eich hunan. Unwaith eto, fel y dywedais, byddwn i, ac, rwy'n siŵr, y proffesiwn addysgu a rhieni yn hoffi gwybod yn union faint o fynd sydd yn eich dogfen bolisi, os hoffech—yr un yr ydych chi wedi’i chyflwyno heddiw. A fyddant yn gweld tymor llawn yr agenda rydych chi'n ei nodi, ynteu a fydd yna ddiwygiad arall ymhen dwy neu dair blynedd?

Mae croeso i’r cwricwlwm yr ydych chi wedi'i nodi a'r newidiadau i'r cwricwlwm, ac mae’n rhywbeth yr ydyn ni ar yr ochr hon i'r tŷ wedi bod yn galw amdano, o ystyried y corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos yn glir bod angen oedi a myfyrio, bron, o ran ei roi ar waith, ac rwy’n eich cymeradwyo am wneud hynny. Ond byddwn yn gofyn ichi: pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o allu ysgolion i ymdrin, o bosib, â chyflwyno dau gwricwlwm o fewn lleoliad yr ysgol? Rydym yn cael dadleuon yn gyson, rydym yn cael trafodaethau, am allu athrawon ac ysgolion i ddatblygu amgylchedd a strategaeth gydlynol ar gyfer dysgu, ac ar ddiwedd y broses hon, byddant, ar ryw adeg, yn cyflwyno dau gwricwlwm o fewn amgylchedd yr ysgol.

Mae recriwtio athrawon yn faes hanfodol, ac rydym yn deall y problemau hynny, ond yn eich datganiad roeddech yn sôn am y diffyg pwyslais hanesyddol ar arweinyddiaeth. Unwaith eto, byddwn yn wirioneddol awyddus i ddeall beth sy'n ategu’r dadansoddiad hwnnw o'r diffyg pwyslais hanesyddol ar arweinyddiaeth, o ystyried, yn amlwg, ein bod wedi cael plaid yn y Siambr hon sydd wedi cynnal addysg am 17 i 18 mlynedd nawr, ac rwy’n tybio mai arsylwad yw hwnnw gennych ynglŷn â gwahanol bolisïau sydd wedi’u cyflwyno cyn hyn i ymdrin â'r argyfwng arweinyddiaeth—sydd, yn fy marn i, yn sylw teg i'w wneud—pan fyddwn yn gwybod nad yw llawer o ddirprwy benaethiaid yn camu ymlaen ac yn cymryd prifathrawiaeth oherwydd nad ydynt yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth i wneud hynny, ac mae yna lawer iawn o ddirprwy benaethiaid da a fyddai'n gwneud penaethiaid rhagorol, ond, heb y dilyniant hwnnw o fewn y system addysg a heb y gefnogaeth honno, bydd yr argyfwng arweinyddiaeth hwnnw’n parhau.

Ac un pwynt olaf, os caf, Dirprwy Lywydd gyda'ch caniatâd, ar AU yn arbennig: mae'n hollbwysig bod myfyrwyr o'n hysgolion yn symud ymlaen i amgylchedd AU. Mae rhai o'r niferoedd sydd wedi dod allan ynglŷn ag AU yn ddiweddar yn dangos yn glir, yn anffodus, nad yw'r niferoedd yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ac yn wir, eu bod yn gostwng o ran cyfranogiad mewn AU o rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Sefydlwyd rhwydwaith Seren a chrëwyd canolfannau rhanbarthol er mwyn cynorthwyo disgyblion mwyaf disglair Cymru i allu cael addysg uwch. Byddwn yn ddiolchgar am gael deall sut, gyda'r diwygiadau yr ydych wedi eu lansio heddiw yn ein system addysg, y byddwn yn adfywio'r uchelgais i fynd ymlaen i AU, ac yn y pen draw i brofi byd addysg ehangach, boed hynny yma yng Nghymru neu yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig.

Diolch yn fawr iawn, Andrew, am y rhestr gynhwysfawr o gwestiynau. Y strategaeth a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yw cynllun cyffredinol y Llywodraeth. Mae'r ddogfen hon, a lansiwyd heddiw, yn ychwanegu'r cig ar yr esgyrn yr oeddech yn gofyn amdanynt yr wythnos ddiwethaf, o ran sut i gyflawni’r uchelgeisiau sydd yn ‘Ffyniant i Bawb’ mewn gwirionedd. Ac i fod yn ddi-lol: mae gormod o amrywiad yn ein system addysg. Mae gormod o amrywiad mewn ysgolion. Rydym yn gweld hynny fel rhywbeth y mae angen ei unioni. Rydym yn gweld o fewn un ysgol, adran sy'n perfformio'n dda iawn ac adran sydd ddim yn perfformio cystal. Rydym hefyd yn gweld amrywiadau rhwng ysgolion unigol yn yr un awdurdod addysg lleol; weithiau rai milltiroedd yn unig ar wahân, gall y canlyniadau fod yn wahanol iawn, ac mae'n rhaid inni unioni hynny.

Nawr, mae'r strategaeth hon yn ceisio codi safonau ar draws ein system gyfan mewn nifer o ffyrdd. Wrth gwrs, y ffactor pwysicaf yw ansawdd yr addysgu. Dyna'r peth mwyaf y gallwn ei wneud i wella cyrhaeddiad addysgol ein plant, sef sicrhau bod ansawdd yr addysgu ar draws pob un o'n hysgolion yn gyson uchel. Dyna pam mae cymaint o bwyslais yn y ddogfen hon ynghylch sut y gallwn godi safon yr addysgu, boed hynny drwy ddiwygio ein system addysg gychwynnol i athrawon, boed hynny drwy ddull cenedlaethol newydd o ddysgu proffesiynol parhaus, neu fabwysiadu safonau addysgu newydd ar hyn o bryd i athrawon dosbarth a phenaethiaid. Ni all ein system fod yn well na'r athrawon sy'n ei chyflwyno, a dyna pam mae hyn wrth wraidd ein rhaglen.

Rydych wedi sôn am y mater sy'n ymwneud â’r her ysgolion. Fe wyddoch mai rhaglen am amser cyfyngedig oedd honno, wedi'i chyfyngu i ddim ond 40 o ysgolion. Mae llawer o ysgolion ar draws Cymru sydd angen cymorth a chefnogaeth i'w datblygu. Gwnaeth rhai o'r ysgolion hynny’n dda iawn o dan Her Ysgolion Cymru, ond rwy'n ofni dweud, mewn rhai achosion, er gwaethaf yr adnoddau ychwanegol, nad oedd hynny'n cyfateb i well canlyniadau i fyfyrwyr ac, yn wir, cafodd un o ysgolion yr her ysgolion ei rhoi dan fesurau arbennig gan Estyn ychydig cyn gwyliau’r haf. Felly, mae angen ffordd o wella ysgolion, wedi’i chyflwyno gan ein consortia rhanbarthol, ar gyfer pob ysgol yng Nghymru—yr holl ffordd ar draws ein gwlad, yn hytrach na bod yn gyfyngedig i 40 o sefydliadau dethol.

Rydych yn sôn am PISA. Nid oes dim byd anghyson yn y ddogfen hon a'r datganiadau a wnes i a'r Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau ar 20 a 21 Mehefin yn gynharach eleni. Yr hyn sy'n hollol glir yw, ar gyfer asesiad PISA yn 2021 a gaiff ei weinyddu gan weinyddiaeth wahanol mewn Llywodraeth newydd, y caiff ei ganlyniadau eu cyhoeddi gan weinyddiaeth wahanol, mai dyna yw’r nod hirdymor o hyd. Yr hyn yr wyf i’n canolbwyntio arno yw gwelliant yn y profion a gaiff eu sefyll y flwyddyn nesaf, gan nad wyf wedi newid fy meddwl: nid yw ein perfformiad yn PISA cystal ag yr hoffem ac mae angen inni weld gwelliant, nid yn 2021—mae angen inni weld gwelliant cyn hynny.

Nawr, Andrew, rydych yn codi pwynt dilys iawn ynghylch cyflwyno hyn yn y sector uwchradd, ac a fydd gorfod addysgu dau gwricwlwm yn yr ysgol yn heriol. Mae'n arferol i athrawon drosi gofynion cwricwlwm yn gynlluniau gwaith i bob grŵp blwyddyn yn eu hysgol; nid oes dim athro’n addysgu'r un wers i bob grŵp blwyddyn. Felly, mae'r cyflwyniad graddol hwn mewn ysgolion uwchradd yn rhoi’r amser i'r proffesiwn addysgu i ddatblygu eu cynlluniau gwaith newydd o flwyddyn i flwyddyn. Nawr, mae ein hathrawon a'r bobl sy'n eu cynrychioli’n deall hyn, ac maent yn gefnogol iawn i'r ymagwedd hon. A byddai arfer gorau rhyngwladol yn dweud wrthych mai cyflwyno'n raddol sy’n rhoi'r cyfle gorau inni i lwyddo. Y tro diwethaf y cawsom newid mawr i'r cwricwlwm, wrth gwrs, oedd yn ôl yn 1988, a gwnaethpwyd hynny’n sicr o’r brig i lawr ac fe'i gwnaethpwyd dros nos. Ac rwy'n ofni pe baech yn siarad â phobl a fu’n ymwneud â chyflawni'r diwygiad hwnnw, byddent yn dweud ei fod wedi achosi anhrefn sylweddol. Ond rwy'n falch iawn y caf y cyfle yn nes ymlaen yr wythnos hon i siarad â'r Arglwydd Baker, a byddaf yn myfyrio ar ei brofiad o sut yr oedd yn teimlo bod y newid mawr hwnnw o’r brig i lawr, dros nos, wedi gweithio.

Mae arweinyddiaeth, rwy'n meddwl, wedi bod yn faes lle nad ydym wedi canolbwyntio'n ddigonol. Nid wyf yn deall y rhesymau dros hynny, wyddoch chi, nid wyf yn eu gweld, ond yr hyn yr wyf yn ei ddeall yw, os ydym ni i weld y gwelliannau sydd eu hangen arnom, bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, a dyna pam yr ydym yn cyflwyno ein hacademi arweinyddiaeth newydd. Byddwn yn diwygio'r cymhwyster ar gyfer ein penaethiaid, gan gynnwys safonau arweinyddiaeth newydd a mwy o gefnogaeth i benaethiaid presennol a'r rhai sy'n dymuno bod yn benaethiaid, ac wrth inni weld yr academi arweinyddiaeth yn datblygu ac yn ei sefydlu ei hun, byddwn yn gobeithio gweld y pwyslais hwnnw ar arweinyddiaeth yn mynd i lawr y system ysgolion gyfan i ganolbwyntio ar arweinwyr pynciau unigol neu grwpiau blwyddyn unigol—arweinyddiaeth yn ein consortia rhanbarthol, arweinyddiaeth mewn awdurdodau addysg lleol. Mae hon yn genhadaeth genedlaethol. Mae’n rhaid i bob un ohonom ein herio ein hunain a gofyn: ‘Beth ydym ni'n mynd i’w gynnig i weld y genhadaeth genedlaethol hon yn cael ei gwireddu?’ Ac mae lle i bob un ohonom yn hynny, gan gynnwys Aelodau yma yn y Siambr y mae eu craffu a'u herio yn y pwyllgor wedi bod yn rhan bwysig iawn o'm hystyriaethau wrth geisio sefydlu'r amserlen ar gyfer y cwricwlwm.

O ran AU, a gaf i ddweud nad AU yw popeth? Mae’n iawn i rai pobl, ond mae’r syniad hwn bod yn rhaid i bawb wneud AU ac, os nad ydych, eich bod rywsut yn fethiant—rwy'n meddwl bod angen inni symud oddi wrth hynny. Mae'n rhaid inni edrych ar addysg yn y lleoliad cywir, i'r bobl gywir ar yr adeg gywir yn eu bywydau, a gallai hynny olygu mynd ymlaen i hyfforddiant pan fyddwch chi yn y byd gwaith 10 mlynedd ar ôl ichi adael yr ysgol. Gall fod yn brentisiaeth lefel uwch. Gall fod yn brentisiaeth sy'n gysylltiedig â gradd. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gyflawni'ch potensial. Mae AU yn rhan bwysig o hynny, ydy, i garfan benodol o'n poblogaeth.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad a chroesawu rhan helaeth o gynnwys y datganiad ac, yn wir, y cynllun gweithredu. Nid wyf yn meddwl y byddai neb yn anghytuno ag uchelgais hirdymor y Llywodraeth yma—yn syml iawn, sicrhau bod pob plentyn ifanc yn cyflawni ei botensial. Mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddai pawb yn awyddus i’w weld. Ond yr hyn sydd gennym ni yn y cynllun gweithredu yma yw lot o stwff lefel uchel. Mae’n debyg y bydd y manylion ynglŷn â sut yn union y bydd rhai o’r agweddau hyn yn cael eu gweithredu yn dod yn gliriach, a dyna lle, efallai, y bydd llawer o’r glo mân.

Nawr, un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol, rwy’n credu, yn y datganiad yma yw'r newid yn yr amseru o safbwynt cyflwyno’r cwricwlwm. Mae’n amlwg bod nifer wedi nodi hynny. Rydw i, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod, wedi bod yn codi hyn yn gyson gyda hi—yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, yn ôl ym mis Mawrth a mis Mai yn y pwyllgor, a fan hyn yn y Siambr. Bob tro, rydych chi wedi dweud eich bod yn hyderus bod yr amserlen wreiddiol yn addas, ar y pryd. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith ei bod wedi newid, a byddwn yn lico gofyn—flwyddyn ar ôl i fi a nifer yn y sector fod yn gofyn am hyn i ddigwydd—pam eich bod chi’n teimlo mai nawr yw’r amser i wneud hynny, ac efallai ddim wedi gwneud hynny yn gynt yn ystod y broses.

Liciwn i wybod hefyd beth fyddwch chi’n ei ddefnyddio i fesur llwyddiant rhai o’r diwygiadau a fydd yn cael eu cyflwyno. Mae yna gyfeiriad wedi bod at ddefnyddio targedau PISA fel un ffon fesur. Pan waredodd y Llywodraeth flaenorol, wrth gwrs, eu targedau PISA, fe ddisgrifioch chi hynny fel tlodi uchelgais llwyr. Ond y targedau is yna a fabwysiadwyd sydd yn ymddangos yn y cynllun gweithredu yma.

And, of course, when I pressed you in the committee on the PISA targets, you made it perfectly clear that the PISA target isn’t your target. Well, it’s in the action plan, so do we therefore conclude that it isn’t your action plan? I think we need clarity as to whether the First Minister has overruled you on PISA or whether you’ve actually changed your mind and are now happy to accept the targets that you previously described as demonstrating an absolute poverty of ambition.

Now, the reference to an overarching workforce development plan from autumn 2018 of course is welcome. You mentioned, in that context, work to improve the quality of the supply workforce. Maybe you could elaborate a little bit on what you have in mind there, and does that include changing the model of supply delivery in Wales, which I know many have raised with you concerns about and worries that there are many flaws in the way that that is currently operating. You say that you’ll agree a long-term model of assessment and evaluation of schools—where does that, potentially, leave school categorisation? Will you be moving away from what some people see as contentious traffic light systems? I think there’s been a suggestion that that might happen and it would be good to have clarity as to whether those are here to stay, or whether you see those as being potentially under review in the medium term.

There’s not much reference to resources and resourcing some of these proposed actions in the plan, so I think it would be true to say that schools will be looking for assurance from you that they will have the tools and the resources required to achieve and deliver the proposed curriculum changes and, of course, the broader changes that are being mooted.

Mae yna gyfeiriad hefyd yn y cynllun gweithredu ac yn eich datganiad chi at ddefnyddio’r pwerau newydd sydd yn dod i’r lle hwn, wrth gwrs, ar dâl ac amodau gwaith i athrawon. Efallai y gallwch chi roi ychydig o awgrym i ni ac ymhelaethu, efallai, ar y math o newidiadau y byddwch chi’n eu hystyried. Rŷch chi eisoes wedi awgrymu y byddwch chi’n barod i edrych ar yr amodau gwaith fel rhywbeth sydd angen, efallai, ei adolygu.

Ac wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd, wrth gwrs, mae angen inni wneud yn siŵr y bydd yna adnoddau dysgu addas ar gael ar gyfer darparu’r cwricwlwm newydd. Rŷm ni’n gwybod am y trafferthion sydd wedi bod o safbwynt adnoddau cyfrwng Cymraeg yn y gorffennol, a byddwn yn hoffi clywed sicrwydd gennych chi heddiw na fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno oni bai fod yr holl adnoddau angenrheidiol ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, lle bo hynny’n angenrheidiol.

Yn olaf, a gaf i groesawu hefyd y cyfeiriadau at waith ieuenctid o fewn y cynllun gweithredu? Mae’n bwysig ein bod ni’n gweld gwaith ieuenctid fel rhan o’r cynnig addysg sydd gennym ni yng Nghymru. Mae cydnabyddiaeth bod darparu gwasanaeth ieuenctid cryf yn ganolog wrth inni ystyried dyfodol y sector addysg yn un sy’n galonogol iawn i fi, a’r gydnabyddiaeth, wrth gwrs, fod addysg anffurfiol â rôl gwbl, gwbl greiddiol wrth gefnogi addysg ffurfiol hefyd.

Diolch, Llyr, am y gyfres honno o gwestiynau. A gaf i ddweud mai’r hyn sydd gennym yn y ddogfen, yn fy marn i, yw cyfres glir iawn o gamau gweithredu sy'n gysylltiedig â phwy yr ydym yn disgwyl iddynt eu cyflawni, boed hynny’n Llywodraeth ganolog, boed hynny'n haen 2 ein system, y consortia rhanbarthol, yr AALlau a phartneriaid eraill fel Estyn a'r Cyngor Gweithlu Addysg ac ysgolion eu hunain? Ac mae’r rheini wedi’u hamlinellu mewn llinellau amser, sy'n gysylltiedig â phob un o'r pedwar amcan galluogi sydd gennym yn y ddogfen.

O ran y mater o gyflwyno'r cwricwlwm, yr hyn a ddywedais, bob tro y gofynnwyd imi am hyn, yw, ydw, rwy'n credu y gallwn gyflawni'r amserlen wreiddiol a awgrymwyd yng ngwaith Graham Donaldson, ond rwyf hefyd wedi mynd ymlaen i ddweud y byddaf bob amser yn adolygu hynny, ac os wyf yn teimlo bod angen diwygio'r amserlen a awgrymwyd ar gyfer cyflwyno i sicrhau ein bod yn trawsnewid y cwricwlwm yn llwyddiannus, y byddwn yn fodlon gwneud hynny. Yn syml, roedd diffyg eglurder ynghylch sut y byddai'r broses gyflwyno'n digwydd. Y ddogfen—. A chyn hynny, nid oedd cynllun ar gyfer cyflwyno. A dyma un o'r pethau y mae ysgolion wedi gofyn amdano: ‘A allwn ni gael eglurder ynglŷn â sut y caiff hyn ei gyflwyno?’ Ac rwy'n darparu'r eglurder hwnnw nad ydym wedi'i gael o'r blaen ac rwyf hefyd wedi gwrando'n ofalus iawn ar waith y pwyllgor ac ar weithwyr proffesiynol ledled Cymru ynglŷn â faint o amser sydd ei angen arnom i sicrhau y bydd ein proffesiwn yn barod i ymgymryd â'r newidiadau hyn. Ac, unwaith eto, mae hynny'n hollbwysig ac mae'n iawn ein bod yn nodi'r newid hwn ac yn darparu'r eglurder hwnnw nawr, wrth inni lansio ein strategaeth genedlaethol newydd, ac, fel y dywedais, i roi eglurder i'r proffesiwn sydd wedi bod yn gofyn sut y bydd yn digwydd mewn gwirionedd.

Rydych wedi codi mater pwysig iawn addysgu llanw. Mae'n bwysig nad dim ond y bobl unigol sy'n gweithio yn y sector llanw—. Nid wyf yn dymuno bychanu eu cyfraniad, ond, y gwir yw ein bod yn gwybod bod dibynnu’n ormodol ar athrawon llanw’n effeithio ar safonau. Mae'n anochel. Felly, mae hyn yn destun pryder i mi. Byddwch yn gwybod bod y Gweinidog blaenorol wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i roi gwybod sut y gallem fwrw ymlaen â hyn, ac na ddaeth o hyd i unrhyw ateb cyffredinol o ran sut i ymdrin â'r agenda hon, ond roedd yn awgrymu pethau pwysig ac, er enghraifft, rydym wedi gwneud y pethau hyn. Felly, sicrhau bod Hwb ar gael i athrawon llanw: roedd yr union weithwyr proffesiynol sydd ag angen defnyddio’r adnodd hwnnw’n fwy nag unrhyw weithwyr proffesiynol eraill yn cael eu gwrthod rhag cael hynny oherwydd nad oeddem yn rhoi enw mewngofnodi a chyfrinair iddynt allu defnyddio’r system honno. Mae hynny bellach wedi cael ei unioni.

Ond wrth edrych yn fwy hirdymor ar wahanol ffyrdd y gallem drefnu'r sector llanw, rwyf i, fel chi, yn ymwybodol iawn y bu llawer o ddiddordeb ym model Gogledd Iwerddon. Nawr, mae yna fanteision ac anfanteision i fodel Gogledd Iwerddon, ond mae gennyf swyddogion yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos hon—yr wythnos hon—yn edrych i weld a yw model Gogledd Iwerddon yn un y gellid ei drosglwyddo’n hawdd i Gymru, ond mae'n rhaid inni gydnabod na ellir gwneud rhywfaint o hyn nes bod pwerau cyflog ac amodau athrawon wedi'u datganoli inni. Felly, mae rhywfaint o gyfyngiadau o gwmpas hynny, ond rydym wrthi'n edrych ar wahanol fodelau i allu datrys rhai o'r problemau strwythurol hirdymor o ran sut mae addysgu llanw wedi’i drefnu ar hyn o bryd.

Efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn rhai o'r awdurdodau lleol sy'n bwriadu gweithio gyda'i gilydd i gael model canolbwynt athrawon llanw, lle bydd athro llanw ar gael i glwstwr o ysgolion ac yn gweithio i'r clwstwr penodol hwnnw o ysgolion. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi dod ymlaen ac wedi dangos diddordeb go iawn mewn bod yn rhan o'r cynllun peilot hwnnw. Felly, mae llawer yn digwydd ym maes addysgu llanw.

O ran telerau ac amodau, mae'n bwysig iawn tawelu meddyliau pobl, oherwydd bod rhai undebau wedi bod yn fwy brwdfrydig nag eraill ynghylch datganoli cyflog ac amodau, i ailadrodd yr addewid na fydd unrhyw athro mewn sefyllfa waeth o ganlyniad i'r system hon, ac rydym am iddi gyd-fynd â'n huchelgeisiau o fewn y ddogfen hon, sy'n ymwneud â chodi safonau a chau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw.

Wrth gwrs, mae’r adnoddau ar gyfer hyn oll yn cyd-fynd â'r prosesau cyllidebol arferol sydd gennym yn y Llywodraeth, ar adeg pan fo cyni y DU yn parhau i fod yn heriol iawn, a gwnawn ein gorau glas i sicrhau bod gan ein hysgolion yr adnoddau sydd eu hangen arnynt, gan gydnabod, wrth gwrs, bod arian i ysgolion yn dod mewn dwy gyfran—ie, drwy'r adran addysg ar gyfer pethau fel y grant datblygu disgyblion, ond hefyd drwy lywodraeth leol, drwy'r grant cefnogi refeniw—a rhaid inni fod yn ymwybodol o'r dull hwnnw o ran sut y mae arian yn cyrraedd ein hysgolion mewn gwirionedd.

Fel y gwyddoch, mae gen i angerdd arbennig dros sicrhau bod gennym degwch yn ein system. Mae yn y ddogfen hon: tegwch i'n holl fyfyrwyr, ac mae hynny'n cynnwys y myfyrwyr hynny sy'n dilyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw'n deg nad oes adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael i fyfyrwyr yn amserol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi cynnal uwchgynhadledd ar hyn yn gynharach yn y flwyddyn—mae'n ddrwg gennyf nad oeddech yn gallu dod i’r uwchgynhadledd honno—ac rwy'n dal i gael trafodaethau gyda Chyngor Llyfrau Cymru, gyda gwasg y brifysgol, cyhoeddwyr a CBAC ynghylch sut y gallwn wella’r sefyllfa hon. Bydd yn hollbwysig wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, oherwydd os nad oes gan dai cyhoeddi mawr ddiddordeb mewn gweithio gyda ni nawr, yn sicr, nid ydynt yn mynd i ddeffro'n sydyn a phenderfynu eu bod am ddarparu adnoddau ar gyfer cwricwlwm newydd sbon. Felly, mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion creadigol i'r broblem honno ein hunain, nid disgwyl i bobl eraill wneud hynny. Ond mae'n rhaid i ni gael system sy’n deg i’n holl blant.

Gwaith ieuenctid: hollbwysig. Mae'r ddogfen hon yn ceisio gwneud y cysylltiadau hynny rhwng yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion, yr hyn sy'n digwydd mewn cymunedau, yr hyn sy'n digwydd yn y cartref a’r berthynas rhwng hynny a chyrhaeddiad, a chael cyfle i wneud gweithgareddau addysg anffurfiol, yn eich clwb ieuenctid lleol, yn eich clwb ffermwyr ifanc lleol—beth bynnag sydd yn eich ardal chi. Mae sicrhau bod hynny ar gael i bobl ifanc yn hanfodol, hanfodol bwysig os ydym am ymdrin nid yn unig â chyrhaeddiad, ond hefyd i ymdrin â materion sy'n ymwneud â lles, oherwydd dyna'r gwasanaeth, mewn sawl ffordd, y gallwn ei ddefnyddio i ymdrin â materion sy'n ymwneud â lles.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a chroesawu'r cynllun y mae hi wedi'i gyhoeddi heddiw? Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod yna heriau, ond rwy’n meddwl bod croeso mawr i’r cynllun a’i bod yn ddefnyddiol iawn cael popeth mewn un ddogfen, mewn un lle, gyda'r amserlenni ynghlwm. Rwyf hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad yr ydych wedi'i wneud am y cwricwlwm a'r ymagwedd fesul cam. Rwy'n meddwl mai'r peth pwysicaf wrth wneud rhywbeth mor uchelgeisiol â hyn yw ein bod yn ei wneud yn iawn ar gyfer dysgwyr, ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi gwrando ac wedi ymateb yn y modd hwnnw. Fel y gwyddoch, mae'n faes y mae'r pwyllgor wedi edrych arno ac y mae'n parhau i edrych arno. Un o'r materion a godwyd yw nad oedd yr ysgolion nad ydynt yn ysgolion arloesol yn teimlo eu bod wedi eu cynnwys yn ddigonol na’u bod wedi cymryd rhan ddigonol yn y broses. Felly, hoffwn ofyn beth yw eich cynlluniau, ar gyfer y dyfodol, i sicrhau bod hynny'n newid a'n bod ni i gyd ar yr un daith yng Nghymru.

Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld y pwyslais cryf iawn yn y ddogfen hon ar yr angen i wella addysg a datblygiad proffesiynol i athrawon. Fel y gwyddoch, mae hynny hefyd yn fater y mae'r pwyllgor yn ei ystyried. Un o'r pryderon a fu gennyf i yw y gall cychwyn ar rywbeth mor uchelgeisiol â diwygio'r cwricwlwm dynnu sylw rhai pobl oddi wrth yr angen hollbwysig i sicrhau bod gennym addysgu o’r safon orau bosibl. Fel y gwyddoch, mae hwn yn fater y mae Estyn wedi'i godi'n rheolaidd fel un o feysydd gwannaf ein system. Felly, hoffwn ofyn sut ydych chi’n bwriadu sicrhau, ar gyfer y dyfodol, ein bod i gyd yn canolbwyntio'n llawn ar hynny yn benodol yn y proffesiwn.

Ond rwyf am roi croeso cynnes iawn heddiw i’r pwyslais yn y cynllun ar lesiant. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn teimlo'n gryf iawn amdano. Mae'r pwyllgor yn cychwyn ar ymchwiliad newydd i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac rydym yn credu bod gan yr ysgolion ran gwbl sylfaenol i’w chwarae yn hynny o beth. Fel y gwyddoch, mae llawer iawn o arfer da yno mewn ysgolion unigol. Rydych wedi cyhoeddi'r cynllun treialu ddoe gyda'r Ysgrifennydd iechyd. Ond hoffwn ofyn, o ran ymyrraeth gynnar a’r gefnogaeth gyffredinol honno i blant a phobl ifanc, sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod yr arfer da hwnnw’n cael ei gyflwyno cyn belled ag y bo modd ledled Cymru, ond yn bwysicach sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod ysgolion yn atebol am gyflawni’r agenda lles.

Dim ond i gau drwy ddweud fy mod, fel Llyr, yn croesawu'r pwyslais ar waith ieuenctid yn fawr. Mae'n wych ei weld yn cael ei brif ffrydio mewn dogfen fel hyn a gweld cydnabyddiaeth lawn i’r rhan y mae'n ei chwarae. Diolch.

Diolch, Lynne. Holl ddiben y ddogfen yw ymateb i feirniadaeth yr OECD am ddiffyg cyfathrebu blaenorol gan y ganolfan, a rhaid inni wrando ar hynny a’n dal ein hunain yn atebol am eglurder o ran y cyfathrebu hwnnw a chydlyniad ynghylch yr holl feysydd diwygio sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae llawer o ddiwygio, ac weithiau mae pobl yn gofyn y cwestiwn, ‘Wel, pam ac i ba ddiben?’ Os ydym ni’n dymuno i'r proffesiwn ymgysylltu â hyn, mae'n rhaid inni fod yn glir iawn ein hunain, a dyna beth mae'r cynllun yn ymroddedig i'w wneud.

Mae addysgu o safon yn gwbl ganolog i’r cynllun, ac rydym yn cychwyn, fel y gwyddoch, ar ystod o raglenni, ond dim ond i dynnu sylw at yr agwedd genedlaethol tuag at ddysgu proffesiynol a beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Felly, rydym yn gweithio gyda'r consortia addysg rhanbarthol ar hyn, ac mae tri phrif faes yr ydym yn canolbwyntio arnynt yn fras. Y cyntaf yw helpu pob athro i ddeall y cwricwlwm newydd a’r ymagweddau addysgu newydd yn llawn, a pharatoi amdanynt. Mae hynny pa un a ydych mewn ysgol arloesi ai peidio, oherwydd mae angen i’n holl athrawon ddeall nodweddion sylfaenol yr ymagwedd newydd hon at y cwricwlwm. Mae hynny eisoes ar y gweill, ac mae ein safonau addysgu proffesiynol newydd yn allweddol i gyflawni hyn, oherwydd maen nhw'n creu'r hawl honno i athrawon ddweud, ‘Mae gen i hawl i'r dysgu proffesiynol parhaus hwn drwy gydol fy ngyrfa.’

Mae yna sgiliau mwy penodol y bydd eu hangen ar bob athro, unwaith eto, ac mae'r rheini'n ymwneud ag asesu, dylunio’r cwricwlwm a'r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd y bydd ganddynt i gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn. Mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd, ond mae angen inni ddatblygu hynny ymhellach wrth inni symud ymlaen. Dyna un o'r rhesymau pam y mae angen inni addasu'r amserlen ar gyfer y cwricwlwm: i sicrhau bod y math hwnnw o gynnig dysgu proffesiynol ar gael yn gyson, ledled Cymru gyfan. Wrth gwrs, yna, bydd anghenion cymorth penodol yn codi o'r meysydd dysgu unigol a phrofiad sy'n benodol i bwnc neu’n benodol i faes dysgu a phrofiad. Felly, mae tair elfen i'r cynnig dysgu proffesiynol a fydd ar gael gennym.

Fel chi, Lynne, mae gen i ymrwymiad personol i les. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw na allwn ddisgwyl i blant wneud y gorau o'u cyfleoedd addysgol os ydynt yn ymdopi â phethau eraill yn eu bywyd. Ni allaf atal profedigaeth. Ni allaf atal rhieni rhai plant rhag gwahanu. Ni allaf atal trawma arall ym mywyd y plentyn hwnnw. Ond yr hyn y gallwn ei wneud yw helpu i sicrhau bod gan y plant hynny y gwydnwch sydd ei angen arnynt, felly pan fydd bywyd yn anochel yn rhoi amser anodd iddynt, a bydd amser anodd iddynt, bydd ganddynt adnoddau y gallant eu defnyddio i reoli'r sefyllfaoedd hynny’n briodol ac ymateb iddynt heb iddynt fod yn draul arnynt. Mae hynny i’n holl blant. Ni ddylem ddisgyn i mewn i'r trap o ddweud mai dim ond un math penodol o blentyn sy'n dioddef o hynny, oherwydd mae’r rhain yn wirioneddau cyffredinol. Dyna pam yr ydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Bydd y prosiect newydd a gyhoeddwyd ddoe yn digwydd yn eich etholaeth yn Nhorfaen, ac ym Mlaenau Gwent ac yn ne Powys. Bydd Wrecsam a Sir Ddinbych a Cheredigion oll yn cymryd rhan yn y prosiect hwnnw, ac rydym yn gobeithio gweld y dysgu hwnnw—. Rydym yn ceisio dysgu oddi wrth hynny fel y gallwn sicrhau y caiff ei gyflwyno’n gyson ledled y wlad. Yn hollbwysig, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm newydd yn cynnwys maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, felly bydd hyn yn rhan annatod o'r hyn a wnawn yn ein hysgolion a bydd ganddo statws cyfartal i'r meysydd dysgu a phrofiad eraill o fewn y cwricwlwm. Dyna un o'r pethau cyffrous, rwy’n meddwl, o ran pam yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn.

Estyn. Wel, wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi—. Rwy'n gefnogol iawn o'r adolygiad y maen nhw eu hunain wedi ei gyhoeddi, oherwydd oni bai bod Estyn ac arolygwyr yn cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd, eto, bydd ysgolion yn dilyn yr hen arfer ac yn gwneud yr hyn y maent yn meddwl sydd ei angen gan Estyn. Felly, mae angen inni sicrhau bod ein trefn arolygu Estyn yn cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd, fel nad oes anghysondeb a dryswch i ysgolion, a chawn adroddiad yr adolygiad y flwyddyn nesaf.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu eich cyhoeddiad y caiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno fesul cam, ond gwnaf hynny gydag ychydig o rybudd. Ar y naill law, mae cyflwyniad graddol yn gwneud synnwyr; er enghraifft, mae'n galluogi datrys problemau am ei fod yn newydd ac mae'n rhoi mwy o amser i athrawon, fel y gwnaethoch ddweud, i addasu; fodd bynnag, mae'n sicr y bydd yn golygu y bydd rhaid i o leiaf rai staff addysgu dau gwricwlwm gwahanol, ac mae'r potensial am straen a dryswch ychwanegol i athrawon, disgyblion a rhieni yn peri pryder imi. Ydych chi wedi ymgynghori ag athrawon ynghylch yr her bosibl hon a sut i roi sylw iddi? Pa gefnogaeth, cymorth a chyngor ydych chi'n mynd i’w cynnig i athrawon ac arweinwyr ysgolion i hwyluso'r cyfnod pontio?

Ni waeth pa mor dda fydd y cwricwlwm newydd, mae safon yr addysgu’n allweddol. Mae hynny’n rhywbeth yr ydych eisoes wedi'i grybwyll heddiw: safon yr addysgu. Felly, hoffwn ichi esbonio sut y bydd y drefn safonau athrawon newydd yn sicrhau y caiff y cwricwlwm newydd ei addysgu mor effeithiol a chystal â phosibl. Sut y bydd y safonau newydd yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r cwricwlwm newydd ac yn sicrhau bod unrhyw staff addysgu nad ydynt yn perfformio i'r safon gywir yn cael eu helpu i gyflawni hynny, ac os na allant, yn cael eu helpu at lwybr arall?

Mae undebau addysgu wedi dweud na fydd athrawon yn barod i addysgu'r cwricwlwm newydd, ac rwy’n meddwl bod y ffordd yr ydych yn bwriadu ei gyflwyno o leiaf yn rhannol yn ymateb i hynny. Ond sut ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr, hyd yn oed gyda'r amser ychwanegol, y bydd yr athrawon hynny’n barod ac yn hyderus i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn unol â'ch amserlen?

Yn olaf, rydych yn cyfeirio at yr adroddiad addysg a'r cerdyn adrodd. Hoffwn ichi roi ychydig mwy o fanylion am hyn. A fyddech chi'n esbonio sut y bydd yn gweithio a beth fydd yr amcanion? Rydych hefyd wedi dweud eich bod am gael asesiadau ac atebolrwydd cadarn a gwell. Rwy’n gofyn: asesiadau ac atebolrwydd i bwy, a sut ydych chi'n rhagweld y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol? Diolch.

A gaf i ddiolch i Michelle am ei chwestiynau? Y mater allweddol i'r gyfres gyntaf o gwestiynau yw dysgu proffesiynol ac, fel yr wyf wedi'i amlinellu wrth siaradwyr blaenorol, mae llinell amser gynhwysfawr yn gysylltiedig â'r hyn yr ydym yn disgwyl ei gyflawni ar gyfer model dysgu proffesiynol cenedlaethol, yn ogystal â gwell addysg gychwynnol i athrawon. Mae'r safonau addysgu ac arweinyddiaeth newydd yn rhan bwysig o hyn, gan eu bod yn nodi'n glir y disgwyliad ein bod yn disgwyl i athrawon fod yn ddysgwyr gydol oes eu hunain. Nhw ddylai fod y myfyriwr gorau yn yr ystafell ddosbarth. Nid oes gen i amser i rywun sy'n honni eu bod nhw wedi meistroli’r grefft. Mae cyfle bob amser i barhau i ddysgu mwy ac i adlewyrchu hynny yn eich ymarfer yn yr ystafell ddosbarth.

Ond dewch inni beidio—. Dewch inni beidio â chymysgu safonau addysgu â materion sy'n ymwneud â chymhwysedd proffesiynol. Maent yn ddau beth gwahanol iawn, iawn, ac mae dwy broses wahanol iawn ar gyfer ymdrin â hynny. Rhaid inni beidio â meddwl bod y safonau proffesiynol hyn yn fater o ymdrin â materion sy'n ymwneud â chymhwysedd proffesiynol. Mae angen inni wneud mwy. Mae angen inni wneud mwy i gefnogi staff sy'n cael trafferth ac i sicrhau bod ganddynt y cyfle i ymdrin ag anawsterau yn eu perfformiad, ac mae angen inni wneud mwy i gefnogi ysgolion fel cyflogwyr ac AALlau os ydynt yn eu canfod eu hunain mewn sefyllfa lle, er gwaethaf yr holl ymdrechion gorau, na ddylai rhywun aros yn yr ystafell ddosbarth, ond mae hynny'n wahanol i'r safonau addysgu proffesiynol a'r disgwyliadau a nodir.

Rwy'n falch bod Michelle wedi sôn am fater y cerdyn adrodd a'r adroddiad blynyddol cenedlaethol, gan nad oes neb arall wedi sôn am hynny, ac mae'n fenter newydd pwysig. Rydym wedi edrych ar arfer gorau rhyngwladol, ac mae'n hawdd iawn dal ysgolion unigol i gyfrif drwy fodel categoreiddio ysgolion; mae hyn yn fater o ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae hyn yn fater o eistedd yn flynyddol i farnu ble yr ydym fel cenedl o ran ein system addysg—ie, o ran cyrhaeddiad, ond edrych hefyd ar y penderfynyddion ehangach yr ydym yn sôn amdanynt yn y ddogfen hon. Ac mae'n fater o hunan-fyfyrio fel Llywodraeth ar ble yr ydym. Os hoffai Michelle edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o arfer gorau, byddwn yn tynnu ei sylw at y system yn Ontario, er enghraifft, yr ydym wedi bod yn dysgu llawer amdani. Felly, mae’n fater o’n dwyn ni i gyfrif, nid dim ond dwyn athrawon i gyfrif, neu ysgolion i gyfrif, neu’r consortia i gyfrif, ond dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif am ei pherfformiad yn genedlaethol, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am hynny.

Diolch. Mae gen i bum siaradwr arall. Rydym wedi cael un o bob un o'r pedair plaid, felly, os gall y pum siaradwr ofyn cwestiwn, rwy'n barod i ymestyn y sesiwn. Os byddaf yn gweld na allwch, byddaf yn torri'r sesiwn i lawr. Jenny Rathbone.

Diolch am eich datganiad a'ch agwedd fwriadol at gyflwyno hyn a gwneud llwyddiant ohono. Mae fy nghwestiwn am amcan 3. Ni all rhai pethau aros, felly a wnewch chi edrych ar yr ymchwil a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal gan yr Athro Allyson Pollock am bwysigrwydd peidio â gadael i blant gael gwrthdrawiadau mewn chwaraeon cyswllt, a gwahardd taclo rygbi mewn ysgolion? Roedd hi'n iawn am Fenter Cyllid Preifat, felly mae angen inni sicrhau ein bod yn cymryd sylw o'r ymchwil hwn, gan ei fod yn cyfrannu'n fawr at gyfergyd mewn pobl ifanc.

Diolch, Jenny, am hynny. Rwy'n gwybod bod fy rhagflaenydd, Huw Lewis, wedi cwrdd ag ymgyrchwyr ar y mater penodol hwn a bod datganiadau wedi’u cyhoeddi bryd hynny. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yn mynd ati i ymdrin â'r achos hwn a byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth i edrych ar dystiolaeth ac i edrych ar ffyrdd ymlaen.

Cymerodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth gan Mick Waters yr wythnos diwethaf, ac rwy’n croesawu’r hyn a ddywedasoch am wahanu cymhwysedd a'r safonau newydd. Ond mae gen i rywfaint o bryder am yr iaith a ddefnyddir mewn rhai o'r safonau. Mae'n eithaf cymhleth ac mae'n cymryd peth amser i’w dehongli. Dywedodd Mick Waters eu bod wedi cael sgyrsiau hir pan oedd y gweithgor yn datblygu eu disgrifyddion a bod angen iddynt fod—a allent fod mor fanwl nes na ellir eu camddehongli, sy’n golygu eu bod mewn perygl o ddod yn ystrydebol, neu a ydynt yn mynd yn gymhleth ac weithiau'n anodd gwneud synnwyr ohonynt i ddechrau. A’r adborth gan athrawon oedd eu bod yn gwerthfawrogi'r disgrifyddion cymhleth. Nawr, rwy’n pryderu am hynny oherwydd cefais drafferth i ddehongli rhai o'r disgrifyddion fy hun, o ystyried y cymhlethdod a'r iaith. Pa ran y bydd y Cyngor Gweithlu Addysg yn ei chwarae, lle gallai’r anawsterau hynny fodoli, i helpu i’w mireinio?

Rwyf hefyd wedi nodi bod y pasbort dysgu proffesiynol yn cael ei grybwyll sawl gwaith yn y disgrifyddion, yn y safonau. Er enghraifft, mae'n nodi bod y pasbort dysgu proffesiynol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymarfer myfyriol a chofnodi ymrwymiad gweithgar i ddysgu proffesiynol parhaus. Gwyddom nad yw'r pasbort dysgu proffesiynol wedi cael ei ddefnyddio gan lawer o bobl, er gwaethaf y gwerth £300,000 o arian gan Lywodraeth Cymru. Felly, sut y caiff y pasbort dysgu proffesiynol ei fewnosod ymhellach i alluogi'r disgrifyddion a'r safonau newydd i gael eu defnyddio'n effeithiol? Rwyf i o’r farn bod gan y Cyngor Gweithlu Addysg ran bwysig i'w chwarae yma a hoffwn weld swyddogaeth fyfyriol well i'r Cyngor Gweithlu Addysg wrth ddatblygu'r safonau proffesiynol.

Diolch yn fawr iawn, Hefin. Hoffwn eich sicrhau bod y safonau addysgu wedi cael eu datblygu gan y gweithwyr proffesiynol ar gyfer y gweithwyr proffesiynol, ac, yn wir, eu bod hefyd wedi cael eu treialu mewn ysgolion cyn iddynt gael eu mabwysiadu'n ffurfiol. Mae'n destun pryder imi nad yw'r pasbort dysgu proffesiynol wedi cael ei ddefnyddio fel yr hoffwn. Rwy’n meddwl bod ganddo botensial go iawn, ac mae angen inni fyfyrio ar sut y gallwn ei wneud mor hawdd i weithwyr proffesiynol ei ddefnyddio â phosib ac mor berthnasol i'w ddefnyddio â phosib—heb orfod mynd adref a threulio oriau ac oriau’n gwneud gwaith ychwanegol, ond, mewn gwirionedd, sut y gallant ddefnyddio hynny’n rhyngweithiol wrth iddynt wneud eu gwaith bob dydd, gan rannu hynny â gweithwyr proffesiynol eraill yn eu hysgolion, ac wrth gwrs, mae technoleg gwybodaeth yn ffordd wych y gallwn ymdrin â rhywfaint o hynny. I ddechrau roedd gan y Cyngor Gweithlu Addysg ran i'w chwarae yn y gwaith cychwynnol ar safonau addysgu a gynhaliwyd gan y weinyddiaeth flaenorol. Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg yn sefydliad newydd. Maent wedi gwneud gwaith aruthrol o dda wrth gofrestru'r holl wahanol broffesiynau yr ydym nawr yn gofyn iddynt eu cofrestru. Mae ganddynt swyddogaeth newydd bwysig o ddilysu cyrsiau addysg cychwynnol i athrawon a byddwn yn myfyrio’n gyson am swyddogaethau eraill y gallai'r Cyngor Gweithlu Addysg eu cyflawni ar ein rhan.

Rwy’n datgan buddiant fel cyn athro. Rwy'n gwybod beth a ddywedasoch am safonau proffesiynol, ac mae llawer o sôn am safonau generig a chodi safonau, a llawer o sloganau, llawer o eiriau. Ond rwy'n poeni am y manylion, a dweud y gwir. Felly, tybed a wnewch chi ganiatáu imi roi prawf bach ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. A allwch amlinellu cynnwys y cymhwyster addysgu newydd ar gyfer cynorthwywyr addysgu—beth mae'n ei olygu a faint o oriau y mae'n ei gymryd mewn gwirionedd, gan nad yw wedi gwneud argraff dda iawn ar y cynorthwywyr addysgu yr wyf i yn siarad â nhw?

Wel, mae'n ddrwg gennyf glywed hynny. Yng Nghymru, rydym yn draddodiadol wedi defnyddio cynorthwywyr addysgu’n effeithiol iawn. Mae'n ddiddorol iawn, pan fyddaf yn ymweld â gwledydd eraill, fel y Ffindir, ac, yn fwyaf diweddar, ysgolion de Iwerddon, nad yw cynorthwywyr addysgu yn chwarae rhan yn y system addysg o gwbl, neu maent yn gwneud hynny i raddau bach iawn, iawn, iawn. Fel arfer, yr unig oedolyn yn yr ystafell yw'r athro cymwysedig. Nawr, rwy'n meddwl bod gan gynorthwywyr addysgu ran bwysig i'w chwarae, yn enwedig yn ein cyfnod sylfaen, ac os oes cwestiynau am ansawdd y cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd gan ein cynorthwywyr addysgu, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Unison i siarad am y rhain ac rwy’n hapus i sôn amdanynt.

Diolch. Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu'r cynllun gweithredu fel cam cadarnhaol a thrawsnewidiol ymlaen i Gymru, ac mae fy nghwestiwn mewn gwirionedd yn seiliedig ar y ffaith bod gennym y canlyniadau TGAU gorau erioed i Gymru. A ydym ni’n hunanfodlon ar y daith honno wrth symud ymlaen? Ydych chi'n teimlo bod y bwlch cyrhaeddiad yr ydym bellach yn ei gau yn cau'n ddigon cyflym? Ydych chi'n hyderus iawn mai'r ffordd ymlaen inni yw parhau â sylwadau’r OECD ynghylch y ffaith mai'r cwricwlwm trawsffurfiol hwn yw'r ffordd gywir ymlaen i Gymru? Diolch.

A gaf i ddweud nad wyf yn hunanfodlon o gwbl? A yw'r bwlch cyrhaeddiad yn cau'n ddigon cyflym? Nac ydy. Rydw i'n pryderu'n arbennig am y ffaith bod ein plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i fethu â chyrraedd yr un lefelau cyrhaeddiad â'u cyfoedion cyfoethocach. Ond rydw i hefyd yr un mor bryderus ynglŷn â chyn lleied o blant mewn rhai awdurdodau lleol sydd ar Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy sy’n cyrraedd y trothwy lefel 2+. Mewn rhai awdurdodau lleol mae'n destun pryder go iawn. Rwyf hefyd yn pryderu, er enghraifft, am blant nad ydynt yn cael eu haddysg mewn ysgol draddodiadol, boed hynny mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn addysg heblaw yn yr ysgol. Felly, mae llawer iawn o lefelau i'r mater hwn o gwmpas y bwlch cyrhaeddiad. Nid dim ond mater o brydau ysgol am ddim yw hwn. Mae'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae'n ymwneud ag addysg heblaw yn yr ysgol, ac mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud gyda phob agwedd ar hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf y datganiad heddiw, ond a allaf ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut y bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu addysg yn yr iaith Gymraeg yn enwedig? Rwy’n falch o gael dwy ysgol Gymraeg ardderchog yn fy etholaeth i. Mae ysgol Llangynwyd yn gwasanaethu’r gorllewin, ac mae Llanhari yn gwasanaethu’r dwyrain, ond bydd y ddwy yn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i ddigon o athrawon ffiseg a chemeg a mathemateg ac ati. Gyda’r galw cynyddol am addysg i’r lefel uchaf yn y Gymraeg ym mhob pwnc, sut ydym ni yn sicrhau ein bod yn gwella safonau addysgol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig ym mamiaith Cymru?

Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn siŵr a ddeallais i hynny i gyd. Ond yr hyn y gwnaf ei ddweud yw: Huw, rydych chi'n hollol gywir. Os ydym ni am gael system addysg deg, mae angen inni sicrhau bod gan blant gyfle cyfartal, boed hynny mewn darpariaeth cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. A, dyna, unwaith eto, un o'r rhesymau dros wneud penderfyniad ynghylch arafu cyflwyniad y cwricwlwm ychydig, fel y gallwn ymdrin â'r anghenion yn benodol yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae yna nifer o raglenni y gallwn eu defnyddio i wneud hynny. Felly, dyna ffyrdd eraill i mewn i addysgu i fyfyrwyr mwy aeddfed. Mae'n fater o ddatblygu efallai pobl sy'n gweithio mewn swydd cymorth dysgu ar hyn o bryd. Mae'n fater o gynyddu ein cynlluniau secondiad, fel y gall pobl sydd â gallu iaith gael seibiant o'r ysgol i fynd i'w ddatblygu ymhellach.

Mae hyd yn oed yn ymwneud â datblygiadau technolegol arloesol. Felly, mae swyddogion wedi bod yn ddiweddar i edrych ar ddarpariaeth addysg Gaeleg yn yr Hebrides Allanol. Bobol bach, os ydym ni’n meddwl bod gennym heriau yng Nghymru wledig, ewch i'r Hebrides Allanol ac edrychwch i weld sut ydych chi’n darparu system addysg ddwyieithog yn yr Hebrides Allanol. Un o'r ffyrdd y maent wedi cefnogi Gaeleg—[Torri ar draws.] Un o'r ffyrdd y maent wedi cefnogi Gaeleg—[Torri ar draws.] Fel yr oeddwn yn ei ddweud, roedd fy swyddogion yno dros yr haf. Un o'r ffyrdd y maent wedi cefnogi hynny yw â’r e-ysgol, ac mae hynny wedi bod yn hollol wych o ran cyrhaeddiad y plant hynny. Felly, mae ganddynt athrawon prifysgol yn addysgu gwyddoniaeth drwy'r Gaeleg dros gyswllt rhyngrwyd. Mae ganddynt athro athroniaeth mewn prifysgol yn addysgu athroniaeth drwy'r Gaeleg dros gyswllt. Mewn gwirionedd, beth mae hyn yn ei wneud yw galluogi mwy o blant a rhieni i wneud y dewis cadarnhaol hwnnw ynglŷn â dysgu drwy'r Gaeleg, ac yna mae hynny, ynddo'i hun, yn sbarduno mwy o alw i allu dangos i bobl, ‘Mae gennych chi gyfle proffesiynol go iawn a gyrfa gydol oes pe byddech chi'n symud i'r sector hwn’. Felly, rydym wrthi'n edrych i weld a yw'r atebion technolegol hynny sy'n cael eu defnyddio’n arloesol mewn rhannau eraill o'r byd—a allwn ni fabwysiadu rhywfaint o'r arfer gorau hwnnw yma yng Nghymru i ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny.

4. 4. Datganiad: Cynigion Trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Seilwaith ynglŷn â chynigion trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy, a galwaf ar Ken Skates i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn heddiw i ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â nifer o ddatblygiadau trafnidiaeth yng Nglannau Dyfrdwy. Does dim angen dweud ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwbl benderfynol i greu ffyniant a chefnogi datblygu economaidd ym mhob rhan o Gymru.

Ym mis Mawrth eleni, lansiais fy ngweledigaeth trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru a metro gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r weledigaeth hon yn golygu creu system drafnidiaeth gyfannol o ansawdd da ar draws y rhanbarth gan gynyddu'r cyfleoedd economaidd trwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae gwella cysylltedd yn mynd y tu hwnt i'r ffin ranbarthol, a dyna pam yr wyf wedi sefydlu grŵp llywio trafnidiaeth sy'n dod â phartneriaid allweddol o ogledd Cymru, Glannau Mersi a Swydd Gaer ynghyd i gyflawni fy ngweledigaeth. Bydd y grŵp llywio yn cydgysylltu datblygiad rhaglen waith ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain yn ogystal â datblygu buddsoddiadau mewn rhannau eraill o'r rhanbarth. Dros y misoedd diwethaf, bu'r grŵp yn gweithio gydag awdurdodau lleol, sectorau busnes a chwmnïau bws a thrên i ddatblygu pecyn o fuddsoddiadau trafnidiaeth i'w darparu dros y misoedd nesaf.

Y prif bwyslais oedd creu canolfannau trafnidiaeth cyfannol mewn safleoedd cyflogaeth allweddol ledled y gogledd ac ardal ehangach y Mersi a’r Dyfrdwy. Yn y gogledd, mae'r canolfannau hyn yn ardaloedd Bangor, Abergele, Y Rhyl, Llanelwy, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Fy mwriad dros yr wythnosau nesaf yw cyhoeddi rhaglen o fentrau metro yng nghanolfan ardal Wrecsam, ond heddiw mae fy mhwyslais ar Lannau Dyfrdwy.

Heddiw, bydd fy natganiad yn cyflwyno fy mhenderfyniad ynghylch y dewis a ffefrir ar gyfer cynllun coridor Glannau Dyfrdwy, yn ogystal ag amlinellu mentrau ehangach sy'n cael eu datblygu yn ardal Glannau Dyfrdwy. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i esbonio fy nghynigion ar gyfer y canolfannau eraill.

Mae cyfuno trafnidiaeth yn ymwneud â chysylltu’r holl ddulliau trafnidiaeth, ac mae'r pecyn o fesurau yr ydym ni’n ei gynllunio ar gyfer Glannau Dyfrdwy yn darparu ar gyfer pob un o’r dulliau hynny ac yn gwella seilwaith a gwasanaethau. Yn bwysig, mae'r gwelliannau'n cefnogi’r cynllun Glannau Dyfrdwy a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Gyngor Sir y Fflint. Hoffwn longyfarch yr awdurdod ar ei gynllun, sy'n nodi'r hyn sy’n angenrheidiol ei wneud yn y maes trafnidiaeth er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd. Mae'r pecyn o fesurau yr ydym ni’n ei ddatblygu yn gwneud llawer iawn i fodloni’r dyheadau sy’n rhan o gynllun Glannau Dyfrdwy.

Yn gyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi, ar ôl ystyried yr agweddau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mewn cysylltiad â chynllun coridor Glannau Dyfrdwy, ynghyd â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym, fy mod wedi penderfynu mabwysiadu'r llwybr coch fel y dewis a ffefrir. Mae'r dewis hwn, sy'n cynnwys cynyddu’r capasiti ar yr A548 bresennol a ffordd newydd rhwng yr A55 a'r A548, yn fy marn i, yn mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth yr oeddem ni wedi'u nodi o'r blaen yn yr astudiaeth gwelliannau cyfnod allweddol 2 i goridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548. Bydd y llwybr arfaethedig yn helpu i fynd i'r afael â'r tagfeydd parhaus a geir yn yr ardal, bydd yn gwella amserau teithio i fusnesau a thraffig cymudo, a bydd hefyd yn cryfhau'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng y gogledd, ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Caer a thu hwnt. Bydd pentrefi fel Oakenholt a Northop Hall yn elwa oherwydd bydd llai o draffig ar yr A548 a’r B5125.

Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cynllun TR111 er mwyn gwarchod y llwybr dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cyfeirio pob cais cynllunio yn y dyfodol sydd yn agos i’r llwybr dewisol at Lywodraeth Cymru. Y camau nesaf fydd gwneud mwy o ymchwil a datblygu dyluniad rhagarweiniol. Yn arbennig, byddwn yn rhoi sylw manylach i’r materion amgylcheddol a pheirianneg, gan ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac edrych ar strategaeth o ran adeiladu cyffyrdd a dewisiadau ar gyfer ffyrdd ochr a mynediad. Bydd y dyluniad hefyd yn ystyried y gofynion a allai godi o ddatblygiadau mewn technoleg megis cerbydau cysylltiedig a rhai sy’n gyrru eu hunain. Mae'n hollbwysig bod yr hyn yr ydym yn ei gyflawni gyda'n buddsoddiad heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol.

Yn dilyn y dyluniad cychwynnol, byddwn yn cyhoeddi Gorchmynion drafft o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981. Mae'r Gorchmynion drafft yn cynnwys y pwerau i sefydlu llinell, addasu'r ffyrdd ochr, prynu tir a gweithredu unrhyw hawliau eraill sydd eu hangen arnom i gyflawni'r cynllun. Byddwn hefyd yn mynd ati i gyflwyno cynllun gwella ffordd A494 yr Afon Ddyfrdwy. Bydd y cynllun hwn yn ymchwilio i ddewisiadau a fydd yn datrys tagfeydd traffig sydd yn y lleoliad hwn o'r rhwydwaith ar hyn o bryd ac yn goresgyn y problemau sy'n ymwneud â pha mor rhwydd yw hi i ddefnyddio’r bont bresennol.

Mae ein gwaith datblygu i wella cysylltedd ar y rheilffyrdd hefyd yn symud i'r cam nesaf. Ar hyn o bryd rydym ni’n trafod gyda Network Rail y posibilrwydd o gomisiynu gwaith pellach ar orsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy newydd a chyd-leoli gorsafoedd Shotton uchaf a Shotton isaf. Bydd yr elfen olaf hon yn galluogi teithwyr sydd eisiau newid rhwng llinell Wrecsam a Bidston a phrif linell arfordir gogledd Cymru i wneud hynny’n rhwydd. Yn achos Parcffordd Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn cynnig cyfle cyffrous i wella mynediad i'r parc busnes, cyflwyno darpariaeth parcio a theithio, a chyfleusterau ar gyfer traffig cludo nwyddau ar y ffyrdd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir y Fflint i gyflwyno'r cynigion hyn ymhellach.

Rwyf wedi rhoi cyllid i'r awdurdod lleol er mwyn ei gwneud hi’n haws teithio i lannau Dyfrdwy trwy ddulliau cynaliadwy. Mae dros £1 miliwn wedi'i ddyrannu i wella gwasanaethau bysiau ac i annog cerdded a beicio. Bydd rhan o'r arian hwn yn cael ei wario ar ddatblygu cyfnewidfeydd bysiau, mesurau blaenoriaethu bysiau ar goridor B5129 Shotton a'r seilwaith bysiau ar barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd gweddill y grant yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno llwybrau teithio gweithredol ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn arwain at rwydwaith cyflawn o lwybrau beicio penodol ar bob ffordd fynediad ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gyda chysylltiadau di-dor gyda chanolfannau rheilffordd a bysiau. Bydd cyfleusterau diogel i adael beiciau yn rhan o ddyluniad y canolfannau cludiant. Caiff y ddarpariaeth a gynigir o ran beicio a cherdded ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ei defnyddio fel yr esiampl i arwain y gwaith o ddatblygu canolfannau gwaith allweddol eraill ledled y rhanbarth.

Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn ardal Glannau Mersi a’r Ddyfrdwy, a chyda chwmnïau bysiau, i ddatblygu cynllun partneriaeth ansawdd bysiau gyda'r nod o wella'r profiad teithio a chynyddu nifer y teithwyr. Rydym ni eisoes wedi buddsoddi £5.5 miliwn yn safle Porth y Gogledd i hwyluso datblygiad masnachol. Mae buddsoddiad ychwanegol o £4.7 miliwn wedi'i ymrwymo er mwyn parhau i adeiladu seilwaith ffyrdd ychwanegol, i ryddhau tir i'w ddatblygu a denu mwy o fusnesau i leoli ar y safle. Bydd y seilwaith hwn yn gwella cysylltedd trafnidiaeth i'r safle ac oddi yno.

Bydd yr holl fentrau yr wyf wedi'u disgrifio yn gwneud llawer iawn i fynd i'r afael â'r rhwystrau o ran gallu cael gafael ar y swyddi sydd ar gael yn ardal Glannau Dyfrdwy. Byddant hefyd yn ffurfio un o'r cerrig sylfaen a fydd yn darparu gweledigaeth metro gogledd-ddwyrain Cymru o system drafnidiaeth gyfannol sydd â chysylltiad da ac o safon uchel.

Diolch yn fawr am eich datganiad. Rydych yn cyfeirio at sefydlu grŵp llywio trafnidiaeth i ddatblygu rhaglen waith ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru, gan gyfeirio at amryw o bartneriaid yng ngogledd Cymru, Glannau Mersi a Swydd Gaer. Wrth gwrs, mae gweithgor eisoes yn bodoli, a grëwyd trwy Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'u partneriaid. I ba raddau mae hyn yn cyd-fynd â hynny ac â'u cynigion yn eu gweledigaeth eu hunain, ac wrth gwrs â chynllun Growth Track 360, yn bennaf yng nghyd-destun rheilffyrdd?

Mae'r pedair canolfan yr ydych chi'n eu disgrifio o ran y gogledd-ddwyrain yn hepgor yr ardal fawr honno rhwng Glannau Dyfrdwy a Wrecsam, ac yn enwedig yr ardaloedd hynny lle mae cysylltedd ar ei waethaf, mewn rhai o'r trefi a'r pentrefi llai. Felly, byddwn yn croesawu sylw gennych chi ynglŷn â sut y bydd hynny'n cydgysylltu, ac na chaiff y cymunedau hynny eu gadael yn ynysig, yn enwedig fel mannau gwaith i bobl ifanc, neu i bobl hŷn allu defnyddio gwasanaethau allweddol. O ran eich canolfannau eraill—Bangor, mae'n debyg eich bod chi'n sôn yn bennaf am y bont, neu'r drydedd groesfan, neu beth bynnag a allai hynny fod, ac Abergele-Y Rhyl—i ba raddau y mae'r rheini'n cyd-fynd â gweledigaeth metro gogledd-ddwyrain Cymru? Rydych chi’n sôn am bedair canolfan a'r gogledd-ddwyrain, felly beth yw'r berthynas rhwng y ddau? A ydym ni'n sôn am rywbeth gwahanol, neu ai un prosiect gyda phedair elfen wahanol iddo yw hyn?

Rydych chi'n cyfeirio at y cynllun Glannau Dyfrdwy a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Efallai eich bod yn ymwybodol, fel yr wyf innau’n bendant unwaith eto, fel y soniais o'r blaen, bod llawer o'r trefi a'r pentrefi llai nad ydynt ar lannau Dyfrdwy yn awyddus i fanteisio ar y cysylltedd hwn, a gobeithio y gallwch chi wneud sylwadau ynghylch hynny.

Nawr, aeth naw mlynedd heibio ers i'r ymchwiliad cyhoeddus argymell i gyn-Weinidog yn ystod y trydydd Cynulliad na ddylai'r cynnig blaenorol ar Aston Hill fynd rhagddo, a dyma’r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Rwy'n siŵr y bydd trigolion Aston Hill a'r miloedd sy'n byw yn y cyffiniau yn croesawu eich penderfyniad i fabwysiadu'r dewis coch yn hytrach na'r dewis arall. Yn amlwg, nid yw coridor yr A55 / A494 / A548 yn bodloni safonau modern, gyda rhai o'r ffyrdd ymuno yn rhy fyr, yn rhy agos, ac yn golygu na allwch chi weld yn iawn. Rydym ni’n deall y byddai'r llwybr coch yn ffordd 8 milltir rhwng yr A55 a'r A548 gyda dwy lôn ym mhob cyfeiriad, gan arwain at gynnydd mewn capasiti a gwelliant mewn amserau teithio rhwng cyfnewidfa Afon Dyfrdwy a Llaneurgain. Fodd bynnag, yn amlwg ni fydd y bobl sy’n byw ar y llwybr hwnnw mor groesawgar o'ch penderfyniad. Yn eich ymgynghoriad, fe ddywedasoch chi y byddai'r llwybr coch yn debygol o effeithio ar oddeutu 56 hectar o dir amaethyddol a busnesau fferm ac y byddai mesurau lliniaru drwy gynnig iawndal ariannol a thrwy wneud gwaith hwyluso. A allwch chi ddweud wrthyf pa gynigion y mae'n rhaid i chi eu trafod â'r busnesau a'r unigolion hynny a fydd yn cael eu heffeithio mewn perthynas â'r gwaith lliniaru a'r iawndal ariannol hwnnw?

Hefyd, fel y gwn i o ohebiaeth yr ydych chi wedi'i chael ac yr wyf wedi cael copi ohoni gan drigolion lleol, mae cred neu alw am lôn araf, ac am arwyddion da ar ddechrau'r llwybr coch, ac rwy’n meddwl tybed a allwch chi gadarnhau pa un a gaiff y pethau hynny eu cynnwys neu eu hystyried.

Mae rhai pobl hefyd yn galw, hyd yn oed gyda'r llwybr coch, bod cyfnewidfa yr A494 / A55 yn dal wedi ei rhestru gan y Gymdeithas Foduron fel un o'r gwaethaf yn y DU, ac y bydd angen rhywfaint o weithredu yno͏—nid i gynyddu'r lonydd, ond i gael gwell allanfeydd o’r briffordd.

Rydych chi'n cyfeirio at bont y Ddyfrdwy ar yr A494. Yn yr ymgynghoriad, rydych chi'n disgrifio hwnnw fel cynllun ar wahân, ond a allwch chi gadarnhau, fel y gwn i sy’n wir, bod y llwybr coch yn dibynnu ar hynny, a chadarnhau sut y bydd y ddau yn gweithio ar yr un pryd i sicrhau y gall y cynllun cyfan gyflawni fel y’i bwriadwyd? Rydych chi'n cyfeirio at ddatblygiadau cyfnewidfeydd bysiau a seilwaith bysiau. Sut ydych chi'n ymateb i bryder a fynegwyd gan ddarparwyr cludiant cymunedol yn Sir y Fflint eu bod wedi gwrthwynebu neu wrthod y cynnig gan y cyngor i ymgymryd â rhai o'r llwybrau masnachol, ac na fydd modd o bosib parhau â’r cynlluniau bws mini arbrofol fydd yn cael eu gweithredu yn Kinnerton a Bwcle sy'n cael eu rhedeg gan gwmnïau tacsi trwyddedig ar ôl i'r cyllid cychwynnol ychwanegol a gynigir i gwmnïau masnachol ddod i ben, a hefyd eu pryder nad yw grŵp cludiant gogledd Cymru ar gyfer iechyd, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cyfarfod ers mis Mai 2016, ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi ailgynnull y cyfarfodydd? Unwaith eto, i lawer o bobl, mae'r cysylltedd trafnidiaeth hwn yn hollbwysig, ond efallai mai'r rhai sydd fwyaf ei angen sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ei absenoldeb.

Yn olaf, fe gyfeiriasoch at Barcffordd Glannau Dyfrdwy fel cyfle cyffrous i wella mynediad rheilffyrdd i'r parc busnes. Fel y gwyddoch, mae Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffyrdd Wrecsam Bidston wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 1 y cant o bobl sy’n teithio i’r gwaith ar y rheilffyrdd yn Sir y Fflint, sy’n llai na hanner cyfartaledd Cymru gyfan, fel bod yn rhaid i lawer o weithwyr ddefnyddio eu car er mwyn cyrraedd eu gwaith, ac nid yw’r rheini na all wneud hynny o bosib yn gwireddu eu potensial ar gyfer cyflogaeth, a bod 20 y cant o gyfweliadau a chynigion swydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cael eu gwrthod oherwydd anawsterau cludiant—ac fe ddigwyddodd hynny, yn wir, i fy mab hynaf i. Diolch i’r drefn, daeth o hyd i waith arall yn rhywle arall. A ydych chi’n cynnig y dylai'r lleoliad ar gyfer y parcffordd fod ger neu o fewn parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac os felly, sut byddwch chi'n lliniaru effaith hyn ar Bont Penarlâg?

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Rwy'n credu y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr yn croesawu cyhoeddiad heddiw. Mae llawer o Aelodau wedi bod yn galw’n gyson am fuddsoddiad yn y gogledd i liniaru'r tagfeydd, yn enwedig ar hyd y rhan hon o'r hyn sy’n briffordd economaidd allweddol. Rhof sylw i bob cwestiwn yn ei dro, gan ddechrau gyda'r cwestiwn diwethaf a ofynnodd Mark Isherwood ynghylch Parcffordd Glannau Dyfrdwy.

Rwy'n credu bod hyn yn cynnig cyfle enfawr i chwalu’r rhwystrau mae llawer gormod o bobl ifanc—yn wir, pobl o unrhyw oedran—yn eu hwynebu wrth geisio cael gwaith. Cyfeiriodd yr Aelod at yr ystadegyn bod 20 y cant o bobl yn methu mynd i gyfweliadau swyddi oherwydd nad oes cludiant cyhoeddus fforddiadwy neu ddibynadwy ar gael iddynt. Mae'r ffigur hwnnw'n cwmpasu holl ardal y Mersi a’r Dyfrdwy, ac mae'n rhan o'r cyfiawnhad dros edrych ar y fenter hon fel prosiect trawsffiniol i sicrhau y gall pobl yng Nghymru fynd i gyfweliadau ar gyfer swyddi nid yn unig yn y gogledd ond hefyd ar draws y ffin. Ac fe fydd yn hanfodol bod gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy wedi ei lleoli yn y parc diwydiannol. Mae'r dyluniad cychwynnol a'r cynlluniau ar gyfer y parcffordd—y llwybrau beiciau, y lonydd bysiau—wedi'u dylunio mewn modd sy'n galluogi pobl i symud o un modd o gludiant i’r llall ac i deithio'n rhwydd yn y parc diwydiannol.

O ran y grŵp llywio, mae'r Aelod yn gywir, does arnom ni ddim eisiau llu o sefydliadau yn arwain y gwaith hwn. Mae’r tasglu a sefydlwyd i ystyried pa welliannau rheilffyrdd sydd eu hangen ar gyfer y rhanbarth wedi cynhyrchu prosbectws rhagorol, Growth Track 360. Bydd y grŵp llywio yn dethol aelodau o’r tasglu hwnnw a bydd hefyd yn ystyried aelodau ychwanegol o blith yr awdurdodau lleol, oherwydd bydd eu buddsoddiad hwy ym metro gogledd Cymru hefyd yn hanfodol bwysig. Mae'n gwbl bosibl y gallai'r fargen dwf gyfrannu at ehangu maint a natur y metro yn y blynyddoedd i ddod.

O ran dyluniad y metro, y bwriad yw iddo gysylltu cymunedau mawr a bach gyda’r prif fannau cyflogaeth. Rydym ni wedi nodi'r canolfannau cychwynnol hynny lle bydd gwaith yn digwydd yn y camau cyntaf fel blaenoriaeth, yn syml oherwydd nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn y mannau hynny a'r rhagolygon ar gyfer twf mewn swyddi.

Rydym ni hefyd wedi cyplysu prosiectau datblygu economaidd strategol gyda gweledigaeth y metro, ac mae'r Aelod yn ymwybodol o'r sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch sy'n cael ei ddatblygu’n gyflym gan olygu y bydd un ganolfan ym Mrychdyn ac un arall ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Felly, rydym yn cyplysu cyfleoedd cyflogaeth gyda buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn y dyfodol.

Rwy'n mynd i grybwyll y ddadl gyhoeddus a gynhaliwyd ynghylch y dewis a ffefrir. Rwy'n cydnabod y gall unrhyw gynnig ar gyfer ffordd newydd ac ar gyfer gwella ffyrdd fod yn ddadleuol, ond cydnabuwyd gan fwy na 80 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, neu a fu yn yr arddangosfeydd, bod cludiant cyhoeddus lleol, ffyrdd cyhoeddus lleol a chefnffyrdd yn hanfodol er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith da ac at ddibenion cymdeithasol. Nododd mwy na 80 y cant bod buddsoddi mewn cludiant yn bwysig neu'n bwysig iawn.

O ran dewis un llwybr dros un arall, roedd y gefnogaeth i’r llwybr coch yn 74 y cant, i wneud dim yn 5 y cant, a'r gweddill ar gyfer y llwybr glas. O ran y rheiny yr effeithiwyd arnynt—ac yn amlwg, pe byddem ni wedi mynd ymlaen â'r llwybr glas, byddai hynny wedi achosi aflonyddwch anhygoel i lawer iawn o bobl sy’n byw yn yr ardal yr effeithir arni, a byddai hefyd wedi effeithio’n helaeth ar ba mor gystadleuol yw’r rhanbarth, gan y byddai angen uwchraddio dros gyfnod sylweddol o amser. Wrth i ni symud tuag at ddylunio'r llwybr penodol, byddwn yn trafod gyda rhanddeiliaid a bydd unrhyw iawndal y mae angen ei dalu yn unol â'r trefniadau presennol yn cael ei drafod gyda pherchnogion tir a pherchnogion eiddo yn y modd a sefydlwyd. Rwyf yn cydnabod hefyd bod angen cael arwyddion da a phriodol ar ddechrau'r cynllun llwybr coch cyfredol. Wrth ddod oddi ar yr M56, neu yn wir teithio tuag at yr M56, credaf y byddai'n fuddiol iawn cael arwyddion clyfar sy'n gallu cyfeirio traffig o’r mannau hynny lle mae damweiniau’n tueddu i ddigwydd, pan fônt yn digwydd, ac i sicrhau bod teithio i'r gogledd ac ar hyd arfordir y gogledd mor ddi-dor ac mor llyfn â phosib. Bydd yr arwyddion hynny, a'r cais am lôn araf yn y fan lle mae’r llwybr coch yn codi tuag at Laneurgain a Northop Hall, yn cael eu hystyried yn ystod y cam dylunio. Yn yr un modd, soniais yn fy natganiad am strategaeth o ran cyffyrdd a fydd yn rhoi sylw i ddiogelwch a chydymffurfiad ar y cyffyrdd presennol. Darganfuwyd—. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o lawer o'r cyffyrdd ar gyfnewidfa'r A494 / A55—byddwch yn ymwybodol bod rhai o'r cyffyrdd wedi eu cysylltu'n wael â'r lonydd, mae rhai o'r llithrfeydd yn rhy fyr, mae rhai o'r cyffyrdd yn gweld nifer fawr o ddamweiniau ac mae'n rhaid mynd i’r afael â’r rheini. Yn wir, bu dwy farwolaeth drasig dim ond yn ystod y mis diwethaf ar yr A494 yn Aston Hill. Felly, bydd y cyffyrdd yn cael sylw trwy gyfrwng strategaeth o wella diogelwch, amserau teithio a chapasiti.

Cododd Mark Isherwood y cwestiwn am bont A494 yr Afon Ddyfrdwy, a'r angen i sicrhau bod y bont hon yn cael y buddsoddiad priodol i'w huwchraddio fel ei bod yn ddiogel ac i sicrhau bod traffig yn gallu llifo'n ddidrafferth lle mae tagfa pur ddifrifol ar hyn o bryd, yn enwedig yn ystod oriau brig. Er y bydd y gwaith hwnnw'n digwydd ochr yn ochr â gwaith ar y llwybr coch, ni fydd yn dibynnu arnom ni yn dilyn y llwybr coch. Mae’n rhaid i'r gwaith hwnnw ddigwydd waeth beth sy’n digwydd gyda phrosiect coridor Glannau Dyfrdwy. Felly, bydd y buddsoddiad hwnnw'n digwydd ochr yn ochr, ond nid yw'n amodol ar gwblhau’r gwaith ar gyfer y llwybr coch o fewn amserlen benodol, er y byddem yn dymuno cyflwyno'r ddau cyn gynted ag y bo modd.

Yn olaf, mae'r Aelod wedi gofyn am y capasiti ar yr A494 a'r A55 presennol, gan awgrymu bod gwaith sydd angen ei wneud ar gyfnewidfa Ewloe, er y byddwn yn bwrw ymlaen â’r llwybr coch. Rwy’n cytuno â'r Aelod; bydd hynny'n ffurfio rhan o'r adolygiad strategol o gyffyrdd. Ac ar hyd yr A494 ar Aston Hill, mae'n ffaith syfrdanol bod cymaint â 70,000 o gerbydau ar hyn o bryd yn defnyddio'r rhan benodol honno o’r ffordd bob dydd—70,000 o bobl neu fwy yn defnyddio ffordd na chafodd ei chynllunio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac mae'r ffigwr hwnnw'n cyfateb i sawl rhan o'r M4, ac eto dim ond dwy lôn sydd i’r A494. Felly, rwy'n credu ei bod hi’n hen bryd gwneud y gwaith hwn. Rwyf hefyd o'r farn y bydd mwyafrif helaeth pobl y rhanbarth yn ei gefnogi, ac y bydd yn arwain at ranbarth llawer mwy cystadleuol.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ar y cynigion trafnidiaeth yng Nglannau Dyfrdwy? Ac er fy mod i’n croesawu elfennau o'r datganiad, rwyf yn cwestiynu'r rhesymeg y tu ôl i gyflwyno diweddariadau ar wahân i'r Siambr hon ar gyfer y pedair canolfan sy’n ffurfio metro gogledd-ddwyrain Cymru, o gofio'r gyd-ddibyniaeth amlwg rhwng y canolfannau fel rhan o'r prosiect metro hwnnw. Credaf fod angen inni drafod hyn yn drwyadl ac mewn ffordd gyfannol. Mae angen inni fod yn profi a yw'r prosiect metro yn gweithio fel cyfanwaith a byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet neilltuo amser y Llywodraeth i’n galluogi ni i wneud yn union hynny.

Gan droi at rai agweddau penodol, o ran bysiau, yn amlwg, bydd darparu gwasanaethau bws prydlon a safonol yn brawf allweddol ar gyfer llwyddiant y prosiect metro. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i ddefnyddio pwerau newydd ynglŷn â rheoleiddio gwasanaethau bws i sefydlu cwmni bysiau sy'n eiddo i'r cyhoedd i ddarparu gwasanaethau yn rhan o'r prosiect metro hwn? Ac o ystyried rheilffyrdd, yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, er eich bod wedi trafod comisiynu gorsaf newydd ym Mharcffordd Glannau Dyfrdwy gyda Network Rail, fel y dywedasoch chi, a chyd-leoli gorsaf Shotton uchaf a gorsaf Shotton isaf, fe wyddom ni, wrth gwrs , bod Cymru'n dal i gael cyfran llawer llai o arian nac y dylai o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd. Wedi'r cyfan, mae 6 y cant o rwydwaith rheilffyrdd y DU yng Nghymru, fel y gwyddoch, ond dim ond 1 y cant o fuddsoddiad rheilffyrdd y DU y mae’n ei gael. Felly, yr hyn sy’n deillio o hynny yw: sut ydych chi'n ceisio sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o arian cyfalaf, a pha brosiectau eraill yr ydych chi’n pwyso amdanynt ar hyn o bryd yn rhanbarth ehangach Gogledd Cymru er mwyn ymestyn y buddsoddiad cyfalaf mewn rheilffyrdd yng Nghymru ?Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau a'i sylwadau? Rydym ni wedi ymgynghori ynglŷn â diwygiadau bws eisoes, yn ystod y 12 mis diwethaf. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw ddechrau'r flwyddyn hon a daeth i ben ym mis Mai. Byddwn yn bwrw ymlaen, yn seiliedig ar yr ymgynghoriad, gyda darn arall o waith yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, a allai, yn ei dro, fod yn sail i ddarpariaethau a fydd yn rhan o ddeddfwriaeth bosibl yn y dyfodol, ond mae'n gwestiwn dilys iawn pa un a allai ac a ddylai cyrff cyhoeddus redeg gwasanaethau bws lleol. Mae'n rhywbeth yr wyf i’n bersonol o’i blaid, a chredaf hefyd bod angen inni sicrhau ein bod yn unioni, cyn gynted ag y gallwn ni gyda'r pwerau newydd, rhai o'r problemau sydd wedi bodoli ers dadreoleiddio yn y 1980au. Ond, fel y dywedais, fe gynhaliwyd yr ymgynghoriad yn y maes hwn. Bydd yn sail i ymgynghoriad pellach ar y pecyn o ddarpariaethau y gellid eu cynnwys mewn deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol.

O ran canolfan Glannau Dyfrdwy a'r canolfannau eraill arfaethedig ar gyfer gogledd Cymru, mae'n ffaith bod Cyngor Sir y Fflint eisoes wedi datblygu cynllun effeithiol iawn i Lannau Dyfrdwy a fu’n sail i’r agweddau penodol hynny o ran canolfan Glannau Dyfrdwy sy’n cael eu cynnig heddiw. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i wireddu’r weledigaeth o sefydlu canolfannau tebyg, a byddwn yn eu cysylltu gyda'i gilydd trwy'r cysyniad metro. Mae hon yn system a dyluniad y mae’n rhaid iddi fodloni anghenion lleol a lle mae gofyn cydweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny o ran ble y byddant yn cael eu lleoli, yn hytrach na'u bod yn cael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'm partneriaid ar draws y gogledd i sicrhau bod y canolfannau a'r system fetro sy'n eu cysylltu yn gweithio i'r bobl, ac yn cael eu dylunio gan eu cynrychiolwyr lleol gymaint â chan arbenigwyr a dylunwyr o fewn Llywodraeth Cymru.

O ran buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd, mae'r Aelod yn gywir; mae'n 11 y cant o lwybr Network Rail Cymru, ond yn y cyfnod rheoli diweddaraf, dim ond 1.5 y cant o gyllid sydd wedi dod i Gymru mewn gwirionedd i fuddsoddi mewn seilwaith. Nid yw hynny'n dderbyniol. Fe wnaethom ni gyflwyno achos cryf dros ddatganoli cyfrifoldeb am seilwaith rheilffyrdd, ac am gael cyllid teg a phriodol ar gyfer hynny. Rydym ni’n parhau i alw am hynny. Yn y cyfamser, rydym ni’n parhau i bwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynghylch yr angen i fuddsoddi yng Nghymru, ac yn arbennig mewn rhai o'r prosiectau hynny y mae angen sylw brys arnynt. Gofynnodd yr Aelod pa brosiectau eraill sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd y credaf y dylent gael sylw ar unwaith a byddwn yn dweud prif reilffordd gogledd Cymru.

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, er y mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn croesawu'r datganiad a'r penderfyniad i ddewis y llwybr coch. Rwy'n gwerthfawrogi y bu’n benderfyniad anodd ac, ydy, mae'n berffaith wir bod tagfeydd yn y Fferi Isaf yn ofnadwy. Roedd yn rhaid i mi gymudo drwy'r gyfnewidfa bob dydd ar un adeg, ac fe wn i o brofiad personol ei fod yn gwbl hunllefus. Ond nid wyf yn siŵr mai adeiladu ffordd newydd ar draws mannau glas rhwng Oakenholt a Kelsterton yw'r ffordd gywir ymlaen.

Ymddengys i mi y byddai’r llwybr glas yn ddewis gwell. Rwy'n gwybod y byddai wedi achosi llawer o aflonyddwch yn ardal Glannau Dyfrdwy tra ei fod yn cael ei adeiladu, ond yr hyn sy'n fy mhryderu i am y llwybr coch yw, nad ydy’ch chi mewn gwirionedd yn gwneud dim mwy na symud y dagfa ymhellach i'r gorllewin. Y broblem sydd gennym ni yn y Fferi Isaf ar hyn o bryd, i bob pwrpas, yw bod gennych chi bedair lôn sy’n culhau i ddwy, yr holl gyffyrdd gwahanol yn arwain oddi arnynt, ac, na fydd, o’r gorau, ni fydd gennym ni’r broblem o gyffyrdd ychwanegol ar ddiwedd y llwybr coch, ond bydd gennych chi yr un broblem o bedair lôn traffig sy'n cyfuno i ddwy, a fydd yn creu tagfa. Felly, nid wyf i wir yn credu bod y llwybr coch yn mynd i ddatrys llawer o broblemau. Rwy'n credu ei fod yn mynd i symud y broblem ymhellach i'r gorllewin i rhwng Llaneurgain a Threffynnon.

Un peth arall sy'n peri pryder imi am y penderfyniad i fabwysiadu'r llwybr coch yw, ar hyn o bryd, bod yr ardal honno y bydd y ffordd newydd yn teithio ar ei thraws—sy’n barth gwyrdd ar hyn o bryd; mae'n glustog ar hyn o bryd rhwng aneddiadau Fflint a Bagillt a Kelsterton, Cei Conna, a'r cyffiniau hynny yng nghornel gogledd-ddwyreiniol gogledd Cymru. Mae'n peri pryder imi, wrth adeiladu ffordd newydd, y bydd anogaeth i gael gwared â'r rhwystr gwyrdd hwnnw yn gyfan gwbl ac, yn y pen draw, yr hyn fydd gennym ni yw cytref o'r Fflint i’r Fferi Isaf. A allwch chi sicrhau pobl y Fflint ac Oakenholt, a thrigolion yr ardaloedd cyfagos, a Llaneurgain, na chaiff eu hamgylchfyd ei droi, yn y pen draw, i gytref? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i amddiffyn y mannau gwyrdd hynny?

Peth arall sy'n peri pryder i mi yw—. Rwy’n gwbl gefnogol i gydweithio gyda gogledd-orllewin Lloegr, rwy’n gwbl gefnogol i wella cysylltiadau, ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus yng ngogledd Cymru oherwydd, ar hyn o bryd , rydym ni eisoes yn dechrau dod yn llety dros nos i ogledd-orllewin Lloegr. Hoffwn glywed pa fesurau y byddwch chi'n eu cyflwyno yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad yw gogledd Cymru yn dod yn llety dros nos i ogledd-orllewin a gorllewin canolbarth Lloegr, oherwydd y llwybr newydd hwn a'r gwelliannau hyn. Nid wyf yn beirniadu gwella'r system ffyrdd na'r metro na'r rhwydwaith rheilffyrdd. Yr hyn yr hoffwn i gael gwybod yw: a ydych chi wedi ystyried y canlyniadau hirdymor? Sut ydych chi'n mynd i rwystro gogledd Cymru rhag cael ei droi yn llety dros nos? Sut ydych chi'n mynd i rwystro coridor yr A55 rhag dod yn llety dros nos i Loegr?

Iawn, gan symud ymlaen i'r ymgynghoriad, y soniasoch chi amdano cyn hynny, wyddoch chi, bu cyfnod o ymgynghori yn ei gylch. Roedd y cyfnod ymgynghori hwnnw yn wyth wythnos o hyd. I ba raddau y gwnaethoch chi roi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad hwnnw? Faint o bobl leol oedd yn gwybod am yr ymgynghoriad mewn da bryd i allu ymateb yn ddigonol iddo? A faint o ymatebion a gawsoch chi, a phwy oedden nhw?

Yn olaf, rydych chi wedi crybwyll £5.5 miliwn yr ydych chi wedi'i fuddsoddi ym Mhorth y Gogledd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod faint o swyddi mae'r arian hwn wedi eu creu a pha fath o swyddi ydyn nhw. A ydyn nhw’n swyddi ar gyflog mwy neu'n rhai lle mae’r cyflog yn fach, ac a ydyn nhw’n llawn amser neu'n rhan-amser? Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Rwy’n siŵr y bydd Pobl Aston Hill, Fferi Isaf, Shotton, Saltney, Ewloe a Brychdyn yn synnu’n fawr bod UKIP mor awyddus i gefnogi'r llwybr glas, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth y byddai'r llwybr glas wedi effeithio ar ansawdd bywyd nifer fawr o bobl. Hyd yn oed pan fyddai wedi ei gwblhau, hyd yn oed pan fyddai’r ffordd wedi ei lledu, byddai’n dal wedi arwain traffig i fyny rhiw serth a fyddai, yn ei dro, wedi creu ansawdd aer gwael i filoedd ar filoedd o bobl. Nid oedd gwneud dim, fel y dangosodd yr ymateb, yn ddewis. Dim ond 5 y cant o'r rheini a ymatebodd a ddywedodd na ddylem ni wneud unrhyw beth o gwbl. Cefnogodd saith deg pedwar y cant y llwybr coch ac, o ran yr ymgynghoriad, rwy'n falch o ddweud y derbyniwyd mwy na 2,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Daeth mwy na 1,800 o bobl i’r arddangosfeydd, a hysbysebwyd yn dda ac, mewn gwirionedd, cynhaliwyd arddangosfa ychwanegol ar gais un o'r Aelodau lleol, Hannah Blythyn, yr Aelod dros Delyn.

Byddwn yn gweithio gyda'r cymunedau yr effeithir arnynt a chyda'r perchnogion tir a’r perchnogion eiddo hynny i sicrhau y ceir lliniaru amgylcheddol ac iawndal amgylcheddol, a bod iawndal i berchnogion eiddo a thir. Ond gadewch imi grybwyll un pwynt a wnaeth yr Aelod am bobl o ogledd-orllewin Lloegr yn byw yng ngogledd Cymru. Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn ymwybodol o hyn, ond mae tua 25,000 i 30,000 o bobl yn croesi'r ffin bob dydd o Gymru i Loegr i weithio. Ac mae tua 25,000 o bobl yn croesi'r ffin o Loegr i Gymru bob dydd. Cyn belled â bod yr economi ranbarthol yn y cwestiwn yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, nid oes ffin, ac ni ddylem ni geisio codi mur o lechi ar draws ffin weithredol iawn sy'n cyfrannu'n enfawr at Gynnyrch Domestig Gros a Gwerth Ychwanegol Gros economi Cymru gyfan.

Mae angen inni gryfhau'r economi honno, creu swyddi o ansawdd gwell, yn nes at gartrefi pobl—swyddi o ansawdd gwell i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru. Ond, ar hyn o bryd, mae'n bosib dod o Fanceinion a Lerpwl i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy mewn, faint—40 munud? Ar ddiwrnod gwael, ar yr A494 i fyny Aston Hill, gall gymryd cymaint o amser i ddod o Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy i'r Wyddgrug. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae angen inni sicrhau bod gan bobl sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru fynediad da a chyflym i gyfleoedd gwaith yn yr hyn sydd y parc diwydiannol mwyaf yn Ewrop ac un o’r rhai gorau hefyd. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am greu swyddi a chreu cyfleoedd gwaith ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy; dylai fod yn rhywbeth y mae UKIP yn falch ohono.

O ran y cwestiynau penodol, cwestiynau technegol am gyfnewidfa'r A494-A55 a pha un a fydd yn symud y dagfa, nid wyf y cytuno â hynny ychwaith, oherwydd bod dewis y llwybr coch bellach yn rhoi dwy ffordd fynediad i ogledd Cymru. Gellir dilyn un i fynd i ogledd Cymru, a dilyn y llall i fynd i Wrecsam, ac felly ni fydd yn symud y dagfa, oherwydd bydd gennych y dewis i ddargyfeirio traffig o Aston Hill, os bydd yn parhau i'r gogledd, tra bod cerbydau eraill yn gallu aros ar y ffordd os yw modurwyr yn dymuno troi am Wrecsam neu deithio tua’r de ymlaen i gymunedau eraill fel Caer. Rwy'n cydnabod y bydd gan yr Aelod ei barn ei hun am y prosiect a'i gwrthwynebiad ei hun i'r llwybr a ffefrir, ond byddwn yn ei hannog i seilio ei dymuniadau ar y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir mai'r llwybr coch yw'r dewis a ffefrir ar gyfer y gymuned ac ar gyfer y rhanbarth.

Gan y bydd y llwybr coch, fel y'i cyhoeddwyd heddiw, yn cael effaith sylweddol ar fy etholaeth i yn Delyn, mae'n debyg ei bod hi’n ddyletswydd ddemocrataidd arnaf i yma heddiw i sôn am y nifer o bryderon y mae etholwyr wedi'u codi gyda mi a nifer o bwyntiau ehangach.

Rwyf am ddechrau gyda rhywbeth y gellid ei ystyried yn bwynt braidd yn bedantig a braidd yn blwyfol ynghylch teitl datganiad heddiw, sef 'Cynigion Trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy'. Oherwydd, os edrychwch chi ar fap y cynnig cychwynnol, gyda'r llwybrau coch a glas , mewn gwirionedd, mae cyfran sylweddol o hynny yn cwmpasu cymunedau Oakenholt, Y Fflint, Mynydd y Fflint a Llaneurgain, sydd y tu hwnt i ardal Glannau Dyfrdwy. Rwy’n fwy na pharod i gynnig cwrs dwys i swyddogion Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar wahanol gymunedau y gogledd-ddwyrain a Sir y Fflint, ond, ar bwynt mwy difrifol—ac fe soniais am hyn yn rhan o'r broses ymgynghori—rwy’n credu, er mwyn i hyn fod mor hygyrch â phosib i bobl, mae angen iddyn nhw ddeall ei fod yn effeithio ar eu hardal nhw hefyd, a'i fod yn ymgynghoriad ac yn gynnig iddyn nhw gymryd rhan ynddo. Rwy'n gobeithio y caiff hyn ei ystyried yng nghyfnod nesaf y broses.

Er, fel y clywsom ni eisoes, y bu llawer o ddadlau ac anghytuno lleol dros y ddau gynnig a roddwyd ger bron, ac fe wn i y bydd yr anghytuno a'r dadlau hynny'n parhau. Rwy'n credu y byddai’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw un yn y gogledd-ddwyrain nad yw'n credu bod angen buddsoddiad o ryw fath yn ein seilwaith trafnidiaeth, ac yn enwedig yn y fynedfa allweddol i ogledd Cymru. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn ymwybodol o'm gohebiaeth ar y mater hwn bod nifer o'm hetholwyr a'm cymunedau yn yr ardal wedi crybwyll amrywiaeth o bryderon, ac rwyf am eu hamlinellu'n fyr yma heddiw.

Wrth gwrs, mae'r goblygiadau a'r pryderon amgylcheddol ehangach sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynnig, unrhyw ffordd newydd o'r maint hwn. Ac fe wn i y bydd y llwybr coch fel y gelwir ef yn effeithio ar nifer o ffermydd yn fy etholaeth i, ac y byddwn yn gweld colli coetiroedd a hawliau tramwy cyhoeddus. A gaf i ofyn pa waith a wnaed ac a fydd yn cael ei wneud ynglŷn â hyn, a pha ran fydd bodloni ein hamcanion llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei chwarae o ran asesu goblygiadau amgylcheddol y llwybr coch fel y'i cynigir ef heddiw?

Ar gost o £250 miliwn mae’r cynllun trafnidiaeth hwn yn fuddsoddiad sylweddol a dylai hefyd ddod â manteision cymdeithasol sylweddol i gymunedau’r ardal, ac fe hoffwn i weld unrhyw fudd cymdeithasol yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned a'i ddefnyddio i wella cyfleusterau. Rydych chi wedi sôn am y cynlluniau teithio gweithredol ar gyfer parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yr wyf yn eu croesawu, ond a ellir ehangu hynny’n fwy eang ar draws Sir y Fflint, er mwyn galluogi pobl i feicio i’w gwaith pan fo hynny'n bosibl, ar gyfer iechyd a lles pobl? Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi farn ar y cam hwn ynglŷn â sut y gellid defnyddio manteision cymdeithasol a'u rhoi yn ôl i'r gymuned? A allai'r buddion cymdeithasol sy'n dod o'r gronfa ffyrdd gyfrannu, er enghraifft, at bethau fel y rhaglen gyfalaf i atgyweirio Theatr Clwyd?

Pwynt arall: yn ddealladwy, mae fy etholwyr yn pryderu am yr effaith y gallai'r cynnig ei gael ar y trefi cyfagos yr wyf eisoes wedi'u crybwyll, yn arbennig y traffig trwy'r Fflint a Llaneurgain, y ddau ohonynt eisoes yn dioddef traffig trwm ar brydiau ar adegau brig. Hefyd, rydym ni eisoes wedi clywed sut mae'r gyfnewidfa newydd a'r lonydd cyfunol yn Llaneurgain͏—. Mae yna bryderon y gallai hynny arwain at drosglwyddo problemau yn llythrennol ymhellach ar hyd y ffordd. Pa waith lliniaru sydd wedi'i wneud ac a gaiff ei wneud yng nghyffiniau Llaneurgain a Mynydd y Fflint? A roddwyd ystyriaeth i sut yr oedd astudiaeth o gydnerthedd yr A55 a oedd yn mynd i—? A fydd hynny hefyd yn rhan o hyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod eisoes wedi ymateb i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood o ran y posibilrwydd o gael lôn araf? Rwy'n credu y dylid ystyried hynny yn rhan o hyn, nad dyma ddiwedd y gân, mae angen—. Rwy'n credu bod yna broblemau eraill ar hyd y llwybr hwnnw y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Mae pont Sir y Fflint yn rhan allweddol o'r cynigion. A yw'r cynigion ar gyfer gwella'r bont hon yn sicrhau ei bod yn addas i’w diben? Rwy'n gwybod ei bod yn aml yn cael ei chau oherwydd gwyntoedd cryfion ac mae'n dal i gael ei hadnabod fel y bont newydd yn yr ardal, er ei bod bron yn 20 mlwydd oed, ac mae rhai pobl leol wedi ei bedyddio â’r llysenw 'y bont i nunlle' oherwydd os ewch chi drosti, go brin y gwelwch chi, efallai, un neu ddau o geir eraill yn ei chroesi. Rwy'n credu y cyfeirir ati, sut yr ydych chi wedi cael hyn—. Bu yno ers blynyddoedd lawer bellach, ond mae pobl yn dal i ddewis mynd i fyny Aston Hill i ddod i ogledd Cymru. Felly, pa warant allech chi ei rhoi, pe byddai'r llwybr hwn yn mynd rhagddo, na fyddai pobl yn dal i deithio ar hyd Aston Hill ac na fyddai’r traffig yn dal i grynhoi yno, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd?

Cyfeiriasoch at bentref Oakenholt yn eich datganiad. Rwy'n gwybod bod gan drigolion Oakenholt bryderon arbennig ynghylch sut y bydd y ffordd newydd yn effeithio ar yr ardal. Rydym ni eisoes wedi gweld datblygiadau tai sylweddol yn Oakenholt dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi fod yn wirioneddol hyderus y bydd y llwybr fel yr amlinellir yn gwella Oakenholt a'r ardal gyfagos, ac na fydd yn niweidio’r gymuned?

Ac yn fyr, i orffen, gan symud o ffyrdd i sôn am reilffyrdd, oherwydd rwy’n cydnabod bod eich datganiad yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu metro’r gogledd-ddwyrain, rhywbeth yr wyf yn ei groesawu. Rydym yn siarad llawer am gysylltu parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, sy'n bwysig iawn , fel conglfaen yr economi ranbarthol, ond mewn gwirionedd mae angen i ni sicrhau nad yw cymunedau eraill tua'r gorllewin o Sir y Fflint yn cael eu hesgeuluso na’u hamddifadu, a’u bod wedi'u cysylltu yn rhan o gynigion metro gogledd-ddwyrain Cymru. Byddwch yn gwbl ymwybodol mai dim ond un orsaf drenau sydd yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, sef yn y Fflint. Mae defnyddio cludiant cyhoeddus i nifer fawr o boblogaeth Delyn yn golygu defnyddio bysiau ac, i fod yn onest, ar hyn o bryd, nid ydynt naill ai'n ddibynadwy iawn neu nid ydynt yn cysylltu â’i gilydd. Mae gan y metro hwn ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru y potensial i fod yn alluogwr economaidd enfawr, nid yn unig i'r rhanbarth, ond i unigolion allu manteisio ar gyfleoedd gwaith, i gyrraedd parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gwn yn fy achos fy hun, yn fy nigwyddiad Dyfodol Sir y Fflint a gynhaliais yn ddiweddarach eleni, bod pryder penodol ynglŷn â sut y gallai pobl ifanc deithio i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy i weithio os na allant fforddio car, neu os oes ganddyn nhw gar, yn aml mae cost yswiriant i bobl iau yn golygu na allant ei fforddio.

Croesawaf y newyddion i edrych ar orsafoedd Shotton Uchaf, Shotton Isaf a Gorsaf parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ond a allem ni, yn rhan o gynigion metro gogledd-ddwyrain Cymru, edrych ar sut y gallem ni ddatblygu gorsafoedd ymhellach i lawr y rheilffordd i'r gorllewin o'r Fflint? Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag aelodau Cyngor Tref Treffynnon, cynrychiolwyr o Network Rail a’m cyd-Aelod Seneddol, David Hanson, i edrych ar safle posibl ar gyfer gorsaf newydd yn ardal Maes Glas a Threffynnon. Mae llawer o'r strwythur yn dal i fod yno—yn amlwg mae angen ychydig o waith arno a’i wella rhyw gymaint—ond mae’n dal i fod yno o'r hen orsaf. Mewn gwirionedd roedd yr orsaf honno'n ffurfio pwynt strategol allweddol, heb fod yn rhy bell o Borthladd Mostyn, sy'n cysylltu sector gweithgynhyrchu uwch y gogledd-ddwyrain â sector ynni'r gogledd-orllewin, a dyma lle mae'r adenydd A380 ar gyfer yr Airbus A380 yn gadael neu yn cael eu trosglwyddo i Toulouse. Felly, rwyf wir yn annog ystyried hyn yn ddwys—ac mi fyddwn yn falch o gwrdd â chi a swyddogion i weld sut y gallwn ni ddatblygu hyn ymhellach—cael gorsaf newydd yn yr hyn a elwir yn Arhosfa Maes Glas, neu, i ddweud y gwir, pe byddem ni yn gwneud hynny, beth am ei galw'n Arhosfa y Santes Gwenffrewi er mwyn gwneud yn fawr o’r asedau treftadaeth a'r twristiaid a fyddai ar garreg y drws o’r lle y byddai wedi ei lleoli?

I gloi, yr ydym ni’n gweld bod buddsoddiad ar raddfa fawr ar y gweill yn ein seilwaith yn y gogledd-ddwyrain. Mae cynigion mawr wedi eu rhoi ger bron, cynigion megis y metro, a fyddai'n dod â photensial mawr i'n hardal. Ond, wrth gloi, mae’n wirioneddol raid i mi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wrando a gweithredu ar syniadau a phryderon pobl, cymunedau a sefydliadau Sir y Fflint. Byddaf yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan fy etholwyr lais wrth i’r broses hon fynd rhagddi. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i sicrhau bod y broses mor hygyrch â phosib i bob cymuned yn Sir y Fflint, nid yn unig Glannau Dyfrdwy, a’i fod mewn difrif yn cynnwys pobl o gymunedau ledled y sir.

A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? Rwy'n cydnabod yr angen i sicrhau bod y weledigaeth metro yn ymestyn ar draws y rhanbarth cyfan ac i gymunedau yn etholaeth Delyn. Rwy’n derbyn y sylw ynglŷn â theitl cynnig y coridor, ac nawr fy mod wedi gallu cyhoeddi mai’r llwybr coch fydd yn cael ei ddatblygu, rwy'n credu y gallwn addasu enw'r prosiect, efallai, i goridor gogledd Cymru neu goridor Sir y Fflint. Rwyf yn credu y bydd busnesau a phoblogaeth y rhanbarth yn croesawu cyhoeddiad heddiw. Cyhoeddodd y prosiect £250 miliwn o fuddsoddiad yn y gogledd-ddwyrain, ac mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £600 miliwn ar draws seilwaith yn rhanbarth y gogledd—rhywbeth y mae llawer o fusnesau wedi galw amdano dro ar ôl tro. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau, wrth ddangos cydymdeimlad â'u hetholwyr eu hunain, hefyd yn ystyried mai meithrin agwedd ranbarthol, strategol tuag at ddatblygu economaidd a thrafnidiaeth yw'r brif flaenoriaeth ar gyfer y gogledd.

Rwy’n hoff iawn, iawn—rwyf yn wirioneddol hoffi’r syniad o gael arhosfa y Santes Gwenffrewi neu arhosfa Maes Glas yn rhan o'r metro, a byddaf yn sicr yn gofyn i'r grŵp llywio ystyried hynny fel prosiect gwirioneddol bosib a dichonadwy. Credaf hefyd bod modd cael canolfannau ar raddfa lai mewn trefi eraill yn Nelyn, gan gynnwys tref farchnad hanesyddol yr Wyddgrug ac yn y Fflint, er mwyn sicrhau bod trefi mawr a phentrefi bach wedi'u cysylltu'n well â'r canolfannau cyflogaeth mwy ac i wasanaethau rheilffordd hefyd.

O ran y manteision cymunedol a allai ddeillio o'r prosiect hwn, mae'n amlwg bod £0.25 biliwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn, a byddwn yn dychmygu y bydd potensial enfawr i gynlluniau cymunedol dynnu arian, cymorth uniongyrchol a chymorth mewn adnoddau yn ogystal . Rwy’n awyddus iawn i weld buddsoddi yn Theatr Clwyd. Mae hi'n hen bryd iddi gael rhaglen foderneiddio ac mae ei phrosiect cyfalaf, rwy'n credu, yn uchelgeisiol iawn ac mae ganddo gefnogaeth eang. Felly, byddwn yn fwy na pharod i weld bod Theatr Clwyd yn cael ei rhoi mewn sefyllfa lle y gall elwa'n sylweddol fel cynllun budd cymunedol.

O ran Oakenholt a'r Fflint a chymunedau eraill sy'n agos at y llwybr coch, bydd y cynllun datblygu lleol yn pennu llawer o'r tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer adeiladu tai arno. Bydd Cyngor Sir y Fflint, fel yr awdurdod cynllunio, hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddatblygiad sy'n digwydd yn gymesur a bod y gymuned yn gallu darparu ar gyfer unrhyw gartrefi ychwanegol. Rwy'n credu bod gan gymunedau fel Oakenholt gymeriad nodedig iawn a hunaniaeth gref, ac ni fyddwn yn dymuno i'r elfennau hynny gael eu gwanhau wrth i gymunedau eraill ymledu i Oakenholt neu, yn wir, wrth i’r gymuned benodol honno ehangu yn sylweddol. Yn yr un modd, y cymunedau eraill yn yr ardal – Northop Hall, Llaneurgain a’r Fflint - rwy'n credu ei bod hi’n hanfodol eu bod yn cadw eu hunaniaeth a'u nodweddion unigryw.

Gofynnodd yr Aelod hefyd am arwyddion a sut y byddwn yn sicrhau bod traffig a allai ddefnyddio'r llwybr coch newydd yn defnyddio'r llwybr coch newydd. Fy mwriad yw sicrhau, wrth i'r traffig ddod oddi ar yr M56 ac ymlaen i'r A494, bod digon o arwyddion i’w gweld i sicrhau bod traffig sy'n dymuno defnyddio’r A55 yn gallu cael ei gyfeirio y ffordd honno.

O ran y broses ddylunio a fydd yn cael ei dilyn nawr, rwy'n hyderus, trwy ein cynllun arweiniol ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, y byddwn yn gallu sicrhau y cydymffurfir â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Rwy'n credu, hyd yn hyn, bod y broses yr ydym ni wedi ei dilyn wir wedi cydnabod y ffyrdd o weithio mae’r Ddeddf yn eu hyrwyddo, gan gynnwys y ffordd gynhwysol yr ydym ni wedi mynd ati i siarad â phreswylwyr, ymgysylltu â phreswylwyr, a gwahodd sylwadau gan drigolion a busnesau. O'r mwy na 2,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd tua 1,800 o blaid y llwybr coch. Mae cryn gefnogaeth i'r prosiect hwn, a hefyd, rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at welliant yng nghystadleurwydd a chysylltedd gogledd-ddwyrain Cymru.

Diolch. Ac yna, yn olaf, Cadeirydd y pwyllgor. Ond gyda chwestiwn yn unig, os gwelwch yn dda.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf greu'r grŵp llywio y soniasoch amdano. A allwch chi amlinellu yn fanylach sut yr ydych chi'n bwriadu cryfhau gweithio trawsffiniol gyda'r Adran Drafnidiaeth, ‘Transport for the North’, ac eraill i sicrhau eich bod yn manteisio ar fuddsoddiad Llywodraeth y DU yng nghynlluniau ‘HS2’ a ‘high speed 3?

Yn olaf, er ei bod hi’n iawn a phriodol bod y seilwaith yng ngogledd Cymru yn creu cysylltiadau â gogledd Lloegr, mae hefyd yn bwysig, wrth gwrs, bod y seilwaith hwnnw'n hwyluso mwy o gysylltedd â chanolbarth Cymru. Ni fyddech yn disgwyl i mi ddweud unrhyw beth gwahanol. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth yw eich cynlluniau chi i wella'r cysylltiadau rhwng y gogledd a'r canolbarth, yn enwedig o ran sut y gall busnesau fanteisio ar ddatblygiadau yn y gogledd a manteisio arnynt.

A gaf i gofnodi fy niolch i Aelodau Seneddol yn ardal Wrecsam, De Clwyd, a hefyd ar draws y ffin—rwyf wedi cyfarfod ag Owen Paterson ar sawl achlysur—am ddilyn ymgyrch i gael ffordd ddeuol rhwng yr Amwythig a Rhiwabon? Mae'n ymgyrch uchelgeisiol, ond yn un sydd yn fy marn i yn dangos yr angen a'r awydd i weld gwelliannau o ran teithio rhwng y de a’r gogledd ar sail drawsffiniol.

Rydym ni hefyd yn datblygu, ar gyflymder da, ffordd osgoi'r Drenewydd, y mae'r Aelod yn ymwybodol iawn ohoni, ac mae hyn unwaith eto yn gwella teithio rhwng y de a’r gogledd. Ond, yn ychwanegol at hyn, rwyf eisoes wedi cyhoeddi'r gronfa—y gronfa i fynd i’r afael â mannau lle mae traffig yn crynhoi—a fydd yn mynd i'r afael â rhai o’r prif dagfeydd traffig ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd, gan gynnwys yng nghylchfan Halton ar yr A483. Rwy'n falch fy mod wedi cael gwaith ymchwil cychwynnol yn ôl gan swyddogion, ac ymddengys y byddwn yn gallu uwchraddio’r man penodol hwnnw yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ac, ar sail drawsffiniol, rwy'n credu bod y momentwm yr ydym ni wedi'i adeiladu gyda chynllun ‘Growth Track 360’ a'r tasglu wedi bod yn aruthrol ac nid wyf am i ni golli'r momentwm hwnnw. Bydd gan y grŵp llywio gynrychiolwyr o asiantaethau trawsffiniol, ac rwy'n awyddus i sicrhau bod cynnig twf gogledd Cymru yn cynnwys cyfran sylweddol o brosiectau trafnidiaeth er mwyn galluogi'r rhanbarth i fod yn fwy cysylltiedig ac i gyd-fynd â'r cynnig bargen twf o fewn ardal Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington.

5. 5. Datganiad: Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol 2017-2020

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar gynllun cyflawni 2017-2020 ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, Vaughan Gething, i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 27 Gorffennaf eleni, cyhoeddais y cynllun cyflawni newydd ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan y rhai yr effeithir arnyn nhw gan gyflyrau niwrolegol gyfle i gael gofal mewn da bryd pan fydd ei angen arnyn nhw, a hynny mor agos i’w cartrefi â phosibl.

Cyhoeddwyd y cynllun yn gyntaf ym mis Mai 2014. Mae’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, gan sicrhau diagnosis cyflym, rhoi gofal cyflym ac effeithiol, a chydweithio ar draws sectorau er mwyn helpu pobl i fyw gyda'u cyflwr. Mae'r cynllun hefyd yn ceisio gwella'r wybodaeth sydd ar gael am gyflyrau niwrolegol a’u triniaeth, yn ogystal â helpu i dargedu ymchwil i achosion, triniaethau a meddyginiaethau. Mae'r cynllun cyflawni yn nodi ein disgwyliadau gan yr holl randdeiliaid ac yn darparu fframwaith ar gyfer ei weithredu gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG a sefydliadau partner.

Mae cyflwr niwrolegol hirdymor yn effeithio ar fwy na 100,000 o bobl yng Nghymru. Mae'r cyflyrau yn amrywio o—heb roi rhestr gynhwysfawr—barlys yr ymennydd, nychdod cyhyrol, Parkinson, hyd at sglerosis ymledol ac epilepsi ac eraill. Mae nifer o bobl eraill yn dioddef o gyflyrau niwrolegol byrdymor neu anfynych.

Gwnaed cynnydd da ers cyhoeddi’r cynllun gwreiddiol yn 2014. Yn y datganiad o gynnydd blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, roedd lleihad yn yr amser cyfartalog a wariwyd gan unigolyn yn yr ysbyty, gan ddisgyn o 6.4 diwrnod yn 2010-11 i 4.2 diwrnod yn 2015-16. Mae hyd yr arhosiad yn dilyn mynediad dewisol hefyd wedi disgyn o 3.9 diwrnod i 2.2 diwrnod, a gwelwyd lleihad tebyg mewn mynediadau brys, o 9.2 diwrnod i saith diwrnod.

Ynghyd â gwelliannau cadarnhaol i driniaeth a gofal cleifion niwrolegol, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion a gafodd eu recriwtio i fod yn rhan o ymchwil iechyd a gofal niwrolegol mewn astudiaethau clinigol yng Nghymru: cymerwyd rhan gan 511 o gleifion yn 2015-16, o’i gymharu â 300 o gleifion yn 2010-11.

Gofal niwrolegol yw’r degfed maes gwariant uchaf i’r GIG yng Nghymru. Dros y pedair blynedd hyd at 2015, cododd hyn 65 y cant, i £293.7 miliwn. O ran gwariant fesul pen o’r boblogaeth, mae hynny'n cyfateb i £91.76 y pen. Mae'r cynllun a ddiweddarwyd yn cynnwys camau allweddol, sy'n adeiladu ar seiliau'r cynllun blaenorol ac yn parhau i lywio'r weledigaeth ar gyfer gwella gwasanaethau ledled Cymru yn fwy effeithiol, yn gyflymach, ac ar y cyd â gweledigaeth leol pob bwrdd iechyd ar gyfer eu trigolion nhw. Ymysg y camau gweithredu mae annog byrddau iechyd yn gryf i siarad a gwrando ar eu cleifion a'u rhanddeiliaid, a chryfhau eu partneriaethau gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector.

Mae'r cynllun yn ailddatgan penderfyniad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yn cael diagnosis cyflymach lle bynnag y bo modd. Mae camau gweithredu yn y cynllun yn ei gwneud hi yn ofynnol i fyrddau iechyd a rhwydweithiau gymryd camau i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol ar lefel gofal sylfaenol, a rhoi'r mynediad a'r cymorth cywir i asesiadau a phrofion arbenigol. Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod swyddogaeth werthfawr y trydydd sector, sydd wedi dod ynghyd o dan un ymbarél fel Cymdeithas Niwrolegol Cymru. Mae'r gynghrair yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ddefnyddio cyllid a gafwyd gan y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol.

Felly, rydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa i symud ymlaen yn gyflymach. Mae'r grŵp gweithredu ar gyflyrau yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i wneud hynny yn genedlaethol. Mae'r grŵp gweithredu hwnnw yn dwyn ynghyd yr holl fyrddau iechyd, y trydydd sector, a Llywodraeth Cymru i gydweithio â'i gilydd. Mae'r grŵp hwnnw wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer 2017-18. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu dull cyd-gynhyrchiol o gynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, rhoi gwybodaeth glir a chyson am gleifion, sicrhau bod darpariaeth o wasanaethau niwroleg ar gael yn gyson i gleifion o bob oedran ledled Cymru, datblygu gwasanaethau niwroadferol cyson a chydlynol i gleifion o bob oedran, a datblygu ac ymateb i brofiadau cleifion a mesurau canlyniadau. Mae'r blaenoriaethau hyn yn parhau i gael eu cefnogi gan £1 filiwn o gyllid bob blwyddyn. Gyda'i gilydd, mae'r grwpiau cyflyrau niwrolegol a’r grwpiau gweithredu ar gyfer strôc wedi parhau i gydweithio a chyfuno eu harian ar gyfer prosiect ar y cyd. Er enghraifft, defnyddiwyd arian cyfunol i gyflwyno rhaglen wella gwerth £1.2 miliwn ar gyfer adsefydlu niwrolegol Cymru gyfan.

Yn 2016, bu'r grwpiau gweithredu yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu mesurau profiad o ran y claf, neu PREMs, a mesurau canlyniadau o ran y claf, neu PROMs, ar gyfer strôc a chyflyrau niwrolegol yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw cael cipolwg ar wasanaethau o safbwynt y claf a defnyddio'u profiadau gwirioneddol i helpu i wella ein gwasanaethau. Erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, y nod yw bod gan Gymru PREMs a PROMs y gellir eu gweinyddu, eu casglu a'u coladu ar lefel genedlaethol. Dylai'r rhain helpu i nodi anghydraddoldebau mewn darpariaeth iechyd a gofal ledled Cymru, a chefnogi’r gwaith o werthuso datblygiad y gwasanaethau, a dangos newid dros amser.

Gall cleifion gael mynediad i’r gronfa driniaeth newydd a gyhoeddais ddechrau'r flwyddyn hon. Rydym wedi adeiladu ar y system deg sydd gennym ar waith trwy sicrhau bod y gronfa yn cefnogi pob meddyginiaeth newydd sydd wedi dangos bod cydbwysedd da rhwng y gost a'r pris a godir gan y gwneuthurwr i’r GIG. Mae'r gronfa wrth wraidd ein dull ni, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael, ac mae'n cefnogi mynediad cyflymach i'r ystod lawn o feddyginiaethau newydd sydd wrthi’n cael eu gwerthuso.

Trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.2 miliwn yn Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol, neu Uned BRAIN, a sefydlwyd ym mis Mai 2015 ac a arweinir gan Brifysgol Caerdydd. Nod yr uned hon yw creu darpariaeth o therapïau newydd o ran y celloedd, cyffuriau a ffactorau twf i gleifion sydd â chlefydau niwrolegol a niwroddirywiol na ellir eu trin ar hyn o bryd, fel sglerosis ymledol.

Mae’n rhaid inni wneud y gorau o'n hadnoddau yng Nghymru—nid yn lleiaf o ran sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ein staff clinigol, y rheolwyr gwasanaeth, a'n sefydliadau trydydd sector. Rydym yn awyddus i greu perthynas fwy cyfartal rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, gan alluogi pobl i gyd-gynhyrchu eu triniaeth yn seiliedig ar eu gwerthoedd, eu hamcanion a'u hamgylchiadau.

Er bod meysydd lle mae cynnydd wedi bod yn amlwg, yn aml trwy gydweithio rhwng GIG Cymru, y trydydd sector, a phartneriaid eraill, ni fyddaf, wrth reswm, yn brin o gydnabod bod gwaith eto i’w wneud. Mae'r cynllun cyflawni a ddiweddarwyd ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn cydnabod hyn ac mae'n cynnwys cyfres o gamau gweithredu er mwyn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwn ac yn y pen draw i wella'r gwasanaethau ar gyfer y rhai sy’n dioddef o gyflwr niwrolegol, ni waeth ymhle yng Nghymru y mae rhywun yn byw. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rheini sydd wedi cymryd rhan yn y cynnydd hyd yn hyn, a chynnig fy nghefnogaeth a’m hanogaeth barhaol i'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu’r gwaith.

Codwyd yr holl gwestiynau gyda mi gan aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru a'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, yr wyf yn ei gadeirio. Mae'r cynllun cyflenwi niwrolegol diwygiedig yn cydnabod bod canllawiau cenedlaethol yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld gofal effeithiol i bobl â chyflwr niwrolegol, ac mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Gofal Rhagoriaeth wedi cyhoeddi cyfres o argymhellion ar gyfer y GIG yng Nghymru a Lloegr, gan ganiatáu i fyrddau iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol bennu’r lefel o wasanaeth y mae disgwyl iddyn nhw ei ddarparu ar gyfer pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol. Er hynny, yn ôl Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru, nid yw'r safon yn cael ei bodloni. Pa gamau fyddwch chi, felly, yn eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn rhoi'r data sylfaenol angenrheidiol a fyddai'n ffordd o gael gwell ddealltwriaeth o driniaethau a gwasanaethau MS ledled Cymru ac yn galluogi gwasanaethau i gael eu comisiynu’n effeithiol, a sicrhau bod safon ansawdd NICE ar gyfer MS yn cael ei weithredu’n gyson ledled Cymru?

Mae clefyd niwronau motor yn lladd y traean sy’n dioddef ohono o fewn blwyddyn, a mwy na’r hanner o fewn dwy flynedd o’r diagnosis, a ddaw fel rheol o ganlyniad i ball ar yr anadl. Mae'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn cefnogi cyhoeddi'r cynllun cyflawni hwn ar gyfer cyflyrau niwrolegol, ond maen nhw’n gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cyhoeddi cynlluniau cyflawni lleol a bod sefydlu fforymau lleol, sy’n hawdd eu cael, i ddefnyddwyr gwasanaethau niwrolegol yn cael y flaenoriaeth ar gyfer ymgysylltu mewn deialog gyd-gynhyrchiol—y term a gafodd ei ddefnyddio gennych chi—a chaniatáu i'r cyhoedd graffu ar gynlluniau cyflawni lleol a’u monitro. Maen nhw’n gofyn i Lywodraeth Cymru lunio adroddiadau blynyddol, neu sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol, gan ddangos tystiolaeth glir a chadarn o gynnydd o ran camau allweddol, a hynny mewn iaith sy’n hawdd ei deall gan y rhai y mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn gofyn am roi’r un ystyriaeth i gyflyrau niwrolegol prin fel MND, clefyd niwronau motor, a sicrhau bod cynlluniau gweithredu ac adroddiadau blynyddol yn darparu tystiolaeth gadarn sy’n benodol i gyflyrau unigol o ran dangosyddion canlyniadau a mesurau sicrwydd. Felly, byddwn yn gofyn i chi ymateb i ofynion Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Yn 2016, roedd y grwpiau gweithredu, meddwch chi yn eich datganiad, yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu mesurau profiad o ran y claf a mesurau canlyniadau o ran y claf, neu’r PREMs a’r PROMs. Mae niwroffysoiotherapyddion wedi nodi mai’r gwaith allweddol a wnaeth y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol oedd tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau adsefydlu, a phwysleisiwyd na all canolbwyntio estynedig ar adsefydlu fod yn rhywbeth dros dro yn unig. Maen nhw’n ddiolchgar bod rhywfaint o'r buddsoddiad newydd o'r cynlluniau cyflawni ar gyfer strôc a chyflyrau niwrolegol wedi ei gyfeirio at wasanaethau adsefydlu, a phwysleisiwyd bod ganddyn nhw weithwyr rhagorol ac arbenigwyr clinigol medrus. Ond maen nhw’n awyddus i chi ymateb i'w datganiad nhw fod angen iddynt weld datblygiad parhaol ledled Cymru ar gyfer cadw a gwobrwyo'r gweithwyr hyn.

Mae gweithwyr proffesiynol ym maes ffisiotherapi yn awyddus iawn i weld mesuriadau canlyniadau sy'n ystyrlon i gleifion a defnyddwyr y gwasanaeth, ac maen nhw’n cyfeirio at y gwaith o ddatblygu'r PROMs a’r PREMs fel ffordd ymlaen bwysig iawn lle mae angen i glinigwyr fesur y pethau iawn i ardystio i ganlyniadau. Eto, sut yr ydych chi am ymateb i'w datganiad fod angen i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth, fel ei gilydd, allu rhoi adborth ar y gwasanaethau y byddan nhw’n eu cael?

Ers i'r cynllun cyflawni ddechrau yn 2014, mae nifer y bobl sy'n byw gyda dystonia yng Nghymru wedi dyblu hyd 5,000, ac oherwydd y galw am wasanaethau ar gyfer dystonia, yn enwedig pigiadau Botox, ni fu unrhyw gynllun i wneud triniaeth dystonia yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae Cymdeithas Dystonia felly'n bryderus iawn y bydd canslo apwyntiadau yn y gogledd a'r de yn gyson yn golygu y bydd cleifion a defnyddwyr y gwasanaeth yn ceisio llawdriniaeth ysgogi yn nwfn yr ymennydd oherwydd eu pryder ynghylch colli eu swyddi a'u safle ariannol. Sut, felly, yr ydych chi’n ymateb i'w hargymhellion nhw y dylai clinigau Botox yn y Gogledd a’r De gynnwys ffisiotherapydd dystonia arbenigol yn y clinig, a bod angen mwy o ymwybyddiaeth yn lleol, yn enwedig ym meddygfeydd y meddygon teulu, i ostwng amseroedd aros, a bod angen rhagor o hyfforddiant mewn offthalmoleg a gwasanaethau Clust, Trwyn a Gwddf ynghylch gweinyddu pigiadau Botox, a'r angen am ddulliau holistaidd gwell, gan gynnwys cefnogaeth seicolegol ac emosiynol? Yna, yn olaf, sut fyddech chi'n ymateb i'w pryder nhw mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle nad oes ymgynghorwyr arbenigol mewn dystonia, a'r unig le yn y DU lle nad oes niwroffysiotherapyddion arbenigol?

Yn 2016, tynnodd arolwg o brofiadau cleifion canser yng Nghymru sylw at sut y caiff diagnosis mwy na thraean o diwmorau gradd uchel ar yr ymennydd eu gwneud yn sgil derbyniad brys i'r ysbyty. Mae ymwybyddiaeth ehangach o arwyddion a symptomau tiwmor yr ymennydd, yn ôl yr Elusen Brain Tumour Charity, yn hanfodol er mwyn cael diagnosis cynharach a gwella’r canlyniadau i gleifion. Felly, a wnaiff y Gweinidog sicrhau bod codi ymwybyddiaeth o diwmorau ar yr ymennydd yn cael blaenoriaeth wrth weithredu'r cynllun cyflawni hwn?

Ynghyd â meddygon plant, mae Bobath Cymru, y ganolfan arbenigol i blant â pharlys yr ymennydd, yn ceisio sefydlu cofrestr ar gyfer plant yng Nghymru sy’n dioddef o barlys yr ymennydd. Pa gefnogaeth all Llywodraeth Cymru ei roi i hyn?

Rwy’n tynnu tua’r terfyn trwy gyfeirio at gyflwyniad yn y cyfarfod diwethaf ar 28 Gorffennaf yn y Gogledd o’r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, sef cyflwyniad gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru. Sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad o ran darparu gwasanaethau i gleifion niwrolegol â phroblemau iechyd meddwl mai dim ond dau atgyfeiriad a gafwyd o'r Gogledd, a'u bod yn pryderu ynghylch i ble yr oedd cleifion yn y Gogledd gyda'r cyflyrau diagnostig deuol hynny yn mynd? Mynegwyd pryder ganddyn nhw mai ychydig iawn o argymhellion adolygiadau dilynol sydd wedi eu rhoi ar waith mewn gwirionedd, ac yn benodol maen nhw’n tynnu sylw at ddatblygiad gwasanaeth niwroadsefydlu yn y Gogledd ac integreiddio'r gwasanaethau niwroradioleg ledled y De. Diolch.

Diolch i chi am y nifer mawr o gwestiynau. Rhoddaf gynnig ar fynd trwy nifer ohonyn nhw, ond byddaf yn hapus, os bydd rhai’n cael eu hepgor yn yr amser cyfyngedig sydd ar gael, i ymateb yn uniongyrchol i ohebiaeth gan y gynghrair ei hunan, yr wyf wrth gwrs yn cyfarfod â hi ddwywaith y flwyddyn.

Ar eich pwynt ar ganllawiau NICE, yn benodol o ran bodloni’r safonau ar sglerosis ymledol, wrth gwrs rydym yn awyddus i wella ein gwasanaethau. Yr hyn yr wyf yn ei gredu sy'n bwysig iawn wrth fod â chynllun a bod â’r adroddiadau yw cydnabod y cynnydd sydd wedi ei wneud gennym ni, ond hefyd, fel y dywedais i, gan gydnabod bod angen inni wneud rhagor. Felly, nid ydym yn ceisio rhoi’r wedd orau ar ein gwendidau ar hyn o bryd. Rydym yn ceisio bod yn ddidwyll am y ffaith ein bod yn dymuno gweld gwelliant pellach. Cyflyrau cymharol brin yw’r rhain. Mae clefyd niwronau motor, yr ydych wedi sôn amdano, ac y mae Nick Ramsay yn ei grybwyll yn rheolaidd yn y Siambr hefyd, yn gyflwr arbennig o brin. Felly, mae'n cael ei gynnwys yn y cynllun ar gyflyrau niwrolegol ond hefyd yn y cynllun clefydau prin. Nodais i hynny, mewn gwirionedd, yn yr ohebiaeth a anfonais i at yr holl Aelodau ym mis Awst, mewn ymateb i gwestiynau a llythyrau gan Nick Ramsay ac eraill.

Felly, o ran adborth a dealltwriaeth ac a ydym mewn gwirionedd yn cyflawni ein gwasanaethau, mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae’r gwaith PROMs a PREMs mor bwysig—er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig i'r claf a'i deulu, yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, ac a yw’r profiad o’u gofal a'u triniaeth a'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw’n cael eu cyflawni a'u darparu mewn gwirionedd. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i mi yw ein bod yn cyflawni rhywbeth ystyrlon ledled y wlad ac nad ymarferiad o roi tic ym mhob blwch mohono, ond ei fod yn ein helpu ni i ddeall yr hyn yr ydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd a lle mae angen inni wella, ac yna, wrth gwrs, i ddeall a ydym mewn gwirionedd yn cyflawni hynny'n ymarferol. Bydd hynny'n bwysig i bobl ag MS, yn ogystal ag i bobl sydd â chlefyd niwronau motor ac ystod o feysydd eraill yr ydych wedi eu trafod hefyd. Rwy’n derbyn o ddifrif y pwynt bod angen tystiolaeth o gynnydd yn lleol, ond mewn iaith sy'n hawdd ei deall.

Rydym yn cydnabod, ymhlith ac o gwmpas y bobl hynny yn y gwasanaeth iechyd—gan gynnwys, os mynnwch chi, y cleifion arbenigol a’r eiriolwyr—ei bod yn hawdd i ni ddefnyddio iaith sy'n cau pobl allan ac nad yw hynny'n ei gwneud hi'n hawdd i bobl ddeall yr hyn yr ydym yn ceisio ei fynegi. Rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth y mae angen i'r gwasanaeth iechyd ochel rhagddo, felly rwy'n derbyn hynny ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried.

Ynglŷn â’r gwasanaethau niwroffysiotherapi ac adsefydlu yn gyffredinol, rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch chi, â phob parch, wedi eu trafod yn y datganiad, ac nid dim ond y cyfeiriad at PROMs mewn PREMs, ond hefyd y buddsoddiad—y buddsoddiad sylweddol—gan y grŵp gweithredu strôc a'r grŵp niwrolegol hefyd, yn cydnabod eu diddordebau cyffredin wrth godi ymwybyddiaeth a gwella ansawdd y gwasanaeth adsefydlu hwnnw.

Ar bwnc dystonia, cefais gyfle i gwrdd â grŵp o gleifion dystonia o'r blaen, gyda Vikki Howells yn ei swyddfa yng Nghwm Cynon. Felly, rwy'n cydnabod y pryderon gwirioneddol sydd yn bodoli am allu ein gwasanaethau i ddarparu gofal amserol, ond hefyd y gwasanaethau eraill sy'n digwydd. Felly, mae'r materion yr ydych chi’n eu codi eisoes wedi eu codi gyda mi gan Vikki a'i hetholwyr. Rydym wedi trefnu i gysylltu â Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sydd mewn gwirionedd yn darparu'r gwasanaeth y byddai ei hetholwyr hi yn ei dderbyn.

Eto, rhoddaf ystyriaeth i’r pwynt ynghylch ymwybyddiaeth mewn gwasanaethau gofal iechyd lleol—Meddygon Teulu ac eraill - ond hefyd ynghylch gwella gwasanaethau arbenigol o gwmpas y rheini nad ydyn nhw yn glinigau Botox yn unig, ond, fel y dywedwch chi, yn ffisiotherapi hefyd.

Ar y pwyntiau am barlys yr ymennydd, rwyf o’r farn fod hynny'n rhywbeth y mae angen i mi ei ystyried o ran tanddatgan y nifer isaf o atgyfeiriadau a sut yr ydym mewn gwirionedd yn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gwir ddeall yr angen sy'n bodoli yn y Gogledd a pha mor briodol yw ein hymateb ni a’n rheolaeth ni o hynny yn y gymuned.

Diolch yn fawr iawn am y diweddariad. Mae gen i bedwar o gwestiynau yn deillio o’r datganiad heddiw. Mae’r cyntaf yn gysylltiedig â gwariant. Fe glywsom ni yn y datganiad yna bod yna gynnydd o 65 y cant wedi bod mewn gwariant ar gyflyrau niwrolegol yn y pedair blynedd hyd at 2015. Tybed a fyddai’n bosib cael eglurhad dros y ‘trend’ yna, achos mae’n sicr yn ymddangos yn ormod o gynnydd i fod wedi’i yrru gan ffactorau demograffig yn unig.

O ran PREMs a PROMs a’r bwriad i ddatblygu system a all ddod â chanlyniadau i ni allu cymharu ar draws byrddau iechyd Cymru, rwy’n croesawu hynny. Ond, pa ystyriaeth, tybed, sydd wedi’i roi i’n galluogi ni i feincnodi hefyd yn erbyn y gwasanaethau iechyd eraill ar draws y Deyrnas Gyfunol?

Yn drydydd, ac wrth sôn am gymharu efo gwledydd eraill, mae Cynghrair Niwrolegol Cymru yn dweud bod Cymru yn syrthio ar ei hôl hi o ran amseroedd aros am asesiadau. Mae’r datganiad rydym wedi’i glywed yn cydnabod bod diagnosis cynnar yn hanfodol, ond pa fuddsoddiad gallwch chi bwyntio ato fo sydd yn dangos bod y Llywodraeth yn ceisio sicrhau bod diagnosis yn digwydd yn gynharach?

Ac yn olaf, mae sicrhau bod gennym ni ddigon o nyrsys arbenigol yn allweddol i’r gofal sy’n cael ei gynnig i gleifion. Felly, pa adnoddau sydd yn cael eu darparu i helpu i gynyddu apêl gweithio fel nyrs niwrolegol arbenigol fel gyrfa, ac i sicrhau bod y cymorth ar gael i alluogi nyrsys i ddilyn y llwybr gyrfa yma?

Diolch i chi am y cwestiynau hyn. Ar eich pwynt ynglŷn â'r cynnydd mewn cyllid, roeddem yn cydnabod ei bod yn fwy o flaenoriaeth i ni. Mae cael y cynllun ar gyflyrau ynddo’i hun wedi bod yn ganolbwynt sylw. Rwy'n credu bod honno’n ffaith sy'n adlewyrchu ein bod yn diwallu anghenion y cyhoedd yn well, ond hefyd y cynnydd wrth ddatblygu triniaethau. Felly, nid wyf i’n credu bod unrhyw amheuaeth am hynny, mae’n ymwneud â sut y gwnawn ni hefyd y defnydd gorau ohono. Rwyf i o’r farn mai peth da yw hyn. Gallwn ni ganolbwyntio ar y ffaith ein bod yn gwario mwy ar y cyflyrau penodol hyn sy'n effeithio ar ystod gymharol eang o bobl ac a all gael effaith sylweddol arnyn nhw hefyd.

Ar eich pwynt am y PROMs a’r PREMs a’r gymhariaeth â thair gwlad arall y DU, dyma un o'r heriau, onid e? Oherwydd os ydym yn datblygu mesurau pwrpasol yng Nghymru sy'n ateb anghenion pobl yma yng Nghymru a'ch bod yn gofyn i'r bobl hynny, 'Beth sy'n bwysig i chi, sut ydym ni'n cofnodi hynny'n iawn, am eich profiad a'ch canlyniadau, gan fod hynny'n help inni gael cyfeiriad?', yr her fydd y gellid cael gwahanol ddatganiadau neu lefelau gwahanol o barodrwydd i wneud felly mewn cenhedloedd eraill.

Yn sicr, nid wyf am geisio siarad ar ran Jeremy Hunt ar y materion hyn, ond ni fyddwn yn disgwyl y byddai ganddo ddiddordeb mewn datblygu cyfres o fesurau sy'n rhoi ystyriaeth briodol i'r profiadau a'r canlyniadau a ddymunir ar gyfer cleifion Cymru. Mae gennyf i ddiddordeb mewn gweithredu yn gywir ynglŷn â hyn. Byddwn yn hoffi sgwrs gall. Yn hytrach na chyda gwleidyddion, mae'n debyg ei bod yn haws ar draws y gwasanaeth i gleifion, grwpiau'r trydydd sector a chlinigwyr gael sgwrs am y math o fesurau a phrofiadau sydd o bwys ac a oes modd i gael rhywbeth sy'n eich galluogi i gael rhyw fath o gymhariaeth â gwledydd eraill y DU. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, o'm safbwynt i fy hun, er y byddai'n ddymunol gwneud hynny, nid dyma fy niddordeb pennaf yn y gwaith hwn. Fy mhrif ddiddordeb yw sut yr ydym yn sicrhau bod gennym wasanaeth sy'n ymateb yn gywir i'r hyn sy'n bwysig i'r dinesydd yn ei brofiad a'i ganlyniadau, sy'n helpu i arwain gwelliannau i wasanaethau, cynllunio a chyflwyno gwasanaethau.

Ar fuddsoddiad a diagnosis cynharach, mae hyn i raddau yn rhan o’n dealltwriaeth o ymwybyddiaeth, oherwydd nid rhywbeth ar gyfer y boblogaeth gyffredinol yn unig mo ymwybyddiaeth. Yn wir, mae’n ymwneud â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gallu adnabod symptomau’n gynharach a chyfeirio pobl at y llwybr cywir o driniaeth a gofal. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn a nodwyd gennym o ran blaenoriaethau'r grŵp gweithredu yn y blynyddoedd i ddod, a’r her fydd, o ystyried yr amrediad o gyflyrau yr ydym yn sôn amdanyn nhw, y bydd peth o hynny'n amrywio o un cyflwr i’r llall. Pan fyddwn yn trafod rhywun, dywedwch, sydd â pharlys yr ymennydd, wel, mae'n haws deall sut mae gwneud diagnosis arno nag, er enghraifft, ar rai o'n cyflyrau lle mae’r claf yn gwaethygu’n gyflymach. Felly, mae her yn bodoli o ran deall sut yr ydym yn gwneud hynny i gyd. Felly, yn hytrach nag un ddarpariaeth ar gyfer pawb, mae’n ymwneud mewn gwirionedd â sut yr ydym yn buddsoddi yn y darlun ehangach hwnnw.

Ac ar eich pwynt olaf ar nyrsys yn benodol—. Ac rwy'n falch eich bod chi'n siarad am broffesiwn gofal iechyd sy'n fwy na meddygaeth, oherwydd mae angen inni ddeall, yn llawer o’r gwelliant yr ydym yn ei weld yn digwydd, fod swyddogaeth nyrsys a nyrsys arbenigol yn enwedig yn wir bwysig. A dyna un o'r pethau y dylem geisio tynnu sylw atyn nhw yn y cyfleoedd sy’n bodoli yn ein system. Mae hefyd yn rhannol pan fyddwn yn edrych ar, 'Beth yw'r cynnig fydd yn annog pobl i ddod i mewn ac aros yma yng Nghymru?'—pobl sy'n lleol a'r rhai a allai fod yn awyddus i symud yma hefyd. Yn ddiddorol, gan fy mod i wedi bod yn crwydro o gwmpas yn gwrando ar staff gofal iechyd, fe welwch chi amrywiaeth o uwch nyrsys sy'n symud i gael swyddi a chyfleoedd. Rwyf i wedi cwrdd â nifer o bobl sydd wedi symud o'r system yn Lloegr, naill ai i ddod i Gymru neu i ddychwelyd i Gymru hefyd. Ond rwyf i'n credu mai'r cynnydd mwyaf i’w wneud yw sut yr ydym ni’n mynd ati i recriwtio, i gadw a hyfforddi ein gweithwyr ein hunain. Oherwydd mae llawer iawn o’r bobl sy’n mynd i fyd nyrsio yn bobl leol. Fel y gwyddoch, bydd nyrs dan hyfforddiant sy'n cychwyn ar y rhaglen israddedig yn eu hugeiniau hwyr.  Pobl yw’r rhain yn bennaf sydd â chyfrifoldebau a chysylltiadau ac sy'n annhebygol o fod yn gallu bod yn symudol yn y ffordd y maen nhw, er enghraifft—. Mae hyfforddi pobl ar gyfer meddygaeth yn un o'n heriau ni. Mae cael pobl sydd yn israddedigion, ac yna eu cadw nhw, yn fwy anodd, yn wahanol i rywun sydd yn eu hugeiniau hwyr. Felly, mae gennyf ddiddordeb arbennig i weld pa lwyddiant a gawn ni gyda'n hymgyrch eang i nyrsys, ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw.', er mwyn deall pa mor llwyddiannus y buom ni, a chredaf y bydd o fudd uniongyrchol i gleifion yn yr ardaloedd hyn, ond hefyd i’n staff a'r cyfleoedd yr ydym yn dymuno eu rhoi iddyn nhw hefyd.

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio ar ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru a gobeithio y bydd y cynllun cyflawni diweddaraf hwn yn adeiladu ar y gwelliannau a wnaed i'r gwasanaethau a gynlluniwyd i gynorthwyo'r bobl hynny. Er bod nifer o gyflyrau niwrolegol yn bresennol ar enedigaeth, gall nifer mawr ddod i’r amlwg ar unrhyw amser yn ystod oes rhywun. Felly, mae'n bwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflyrau hyn, nid yn unig ymhlith gweithwyr proffesiynol, ond hefyd ymhlith y cyhoedd, gan y bydd adnabod yr arwyddion yn gynnar yn arwain at ddiagnosis a thriniaeth gynharach. Rwy’n croesawu’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar wella ymwybyddiaeth yn y cynllun cyflawni hwn. Fel y mae'r cynllun yn ei amlygu, mae gan lawer o gyflyrau niwrolegol symptomau y gellir eu camgymryd am gyflyrau mwy cyffredin, gan arwain at gamddiagnosis. Bydd hyfforddi staff gofal cychwynnol a thimau gofal iechyd i adnabod arwyddion cyflyrau niwrolegol, gobeithio, yn lleihau nifer yr achosion o gleifion sy'n cael diagnosis hwyr neu anghywir.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r camau allweddol ar gyfer diagnosis amserol yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd sicrhau bod sganiau CT ar gael yn amserol ac uniongyrchol i feddygon teulu. Rwy’n croesawu’r cam hwn yn fawr iawn, ond rwy’n gofidio nad ydym yn gwneud y defnydd gorau o offer diagnostig. Mewn llawer ardal, ni yw sganwyr CT yn cael eu defnyddio trwy’r amser. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod gennym ni ddigon o staff diagnostig i ddefnyddio ein sganwyr fin nos ac ar benwythnosau?

Un o gonglfeini’r cynllun cyflawni newydd yw sicrhau gofal ac adsefydlu cyflym, effeithiol a diogel. Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd yn y maes hwn, yn enwedig o ran cymeradwyo meddyginiaethau newydd ar gyfer trin cyflyrau niwrolegol. Ond rydym yn cymryd gormod o amser i ddod â’r driniaeth honno at y cleifion. Er enghraifft, roedd yn rhaid i gleifion MS aros bron i ddwy flynedd ar ôl i Sativex gael ei gymeradwyo cyn iddyn nhw allu ei gael, a hynny oherwydd nad oedd y clinigau ar gael yr oedd eu hangen i roi'r cyffuriau.

Mae angen monitro ar lawer o'r triniaethau newydd sydd yn yr arfaeth ar gyfer cyflyrau niwrolegol a rhaid eu gweinyddu mewn clinig cleifion allanol. Yng Nghaerdydd, mae rhestr aros o chwe wythnos ar gyfer trwytho cyffuriau. Ysgrifennydd y Cabinet, beth all eich Llywodraeth chi ei wneud i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn cynllunio ar gyfer darparu digon o welyau dydd i weinyddu cyffuriau, fel na fydd unrhyw oedi rhwng cymeradwyaeth NICE neu AWMSG a bod y driniaeth ar gael i gleifion?

Mae adsefydlu yn hanfodol i sicrhau bod cleifion â chyflyrau niwrolegol—derbyniadau brys i'r ysbyty—. Yn anffodus, mae amserau aros am adsefydlu niwroleg yn rhy faith o lawer. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae eich Llywodraeth chi am ei wneud i fyrhau amserau aros ar gyfer adferiad niwro yng Nghymru?

Rwy'n llawn gefnogi’r cyfeiriad yr ydych yn mynd iddo gyda'r cynllun diweddaraf hwn, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn gwella'r canlyniadau i gleifion Cymru sy'n dioddef o gyflyrau niwrolegol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am eich cwestiynau. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith, ac fel y dywedais i yn fy natganiad, fod mwy na 100,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y grŵp hwn o gyflyrau. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae eu teuluoedd a'u gofalwyr; bydd yn effeithio ar eu bywydau nhw hefyd. Rhoddaf gynnig ar fynd drwy eich cwestiynau. Rwy'n credu gyda'r pwynt olaf, yn sicr fe wnes i geisio ateb y pwynt ynghylch gwella adferiad niwro, yn fy natganiad a hefyd mewn ymateb i restr cwestiynau Mark Isherwood.

Ar y pwynt ehangach am oedi yn y driniaeth rhwng y gymeradwyaeth a’r ddarpariaeth, mae ’na rywbeth bob amser am sut yr ydych chi'n bwriadu darparu triniaeth ar ôl iddi fynd drwy'r broses werthuso. Rydym yn sôn yma am feddyginiaethau yn hytrach na mathau eraill o driniaeth. Ac mae ‘na rywbeth hefyd yma am yr hyn yr ydym yn ceisio ei ddiwygio yn fwy cyffredinol yn y ffordd yr ydym yn rheoli'r system yng Nghymru. Dyna pam yr wyf wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ynglŷn â sut y mae hyn yn gweithio, ac am gael sgwrs yn gynharach gan fod ganddyn nhw gyffuriau yn cael eu datblygu, ynghylch pryd fydd y gwasanaeth yn dod yn ymwybodol o'r hyn y maen nhw'n ei wneud a’r hyn sy'n debygol o ddigwydd. Oherwydd rhan o'r her yn y gorffennol ynglŷn â chael cymeradwyaeth i rai o'r amrywiadau mewn triniaeth â meddyginiaethau hyd nes y byddant ar gael, fu’r gallu i gynllunio ar gyfer y gwasanaeth hwnnw, i newid gwahanol rannau o'r gwasanaeth ei hunan. Nid oedd yn fater mor syml â rhoi meddyginiaeth newydd ar y presgripsiynau, ond yn hytrach mae angen i chi gynllunio o’i gwmpas hefyd. Roedd hynny'n esbonio peth o'r oedi cyn bod Sativex ar gael.

Ac, eto, ysgrifennais at yr Aelodau ym mis Mawrth yn amlinellu ein sefyllfa, ac rwyf wedi cael gohebiaeth wedyn gan Gymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru hefyd, a fu'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i gyrraedd y man lle mae gennym bellach ddarpariaeth wirioneddol genedlaethol. Mae yna heriau penodol ynglŷn â sefydlu’r llwybr cyfan hwnnw yn y De, ac rwy’n credu bod yr heriau hynny wedi eu datrys. Ac os na, mae'r cynnig wedi ei wneud i’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol gael cwrdd â chadeirydd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro i redeg trwy unrhyw faterion sy'n weddill. Credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod a chadw drws agored i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud i wella. Ond yn y Gogledd mae yna heriau penodol lle mae pobl yn mynd i'r system yng ngogledd orllewin Lloegr. Nid oedd rhai pobl yn cael presgripsiwn am Sativex gan glinigwyr yn Lloegr, er ei fod ar gael iddyn nhw fel cleifion a oedd yn preswylio yng Nghymru. Mae hynny'n tynnu sylw at y ffaith bod hwn yn faes yr ydym ni wedi gwneud mwy o gynnydd ynddo na gwledydd eraill y DU. Y ni yw’r unig wlad yn y DU o hyd sydd wedi sicrhau bod Sativex ar gael yn rheolaidd o fewn y Deyrnas Unedig.

Ar eich pwynt ynglŷn â'r defnydd gorau o offer diagnostig, credaf fod angen inni feddwl yn iawn am y ffordd yr ydym yn cynllunio a chyflwyno'r gwasanaeth, oherwydd mae gennym y gweithlu yn ogystal â'r offer. Ac, mewn gwirionedd, bydd angen gweithlu sy’n gallu staffio’r offer hwnnw pan ddefnyddir ef, ac mae angen i mi gael fy argyhoeddi bod angen mwy o weithlu arnom ar wahanol adegau o’r diwrnod, a sicrhau bod yr offer ar gael drwy’r dydd a’r nos, gydol yr wythnos. Mae rhywfaint o hynny’n dibynnu ar a gafodd y claf dderbyniad dewisol neu dderbyniad argyfwng, ond, mewn gwirionedd, rwyf i o’r farn fod hynny'n fater o gynllunio’r gweithlu’n gywir ac nid yn fater o fod â mwy o offer yn ein meddiant. Mae angen inni feddwl am y ffordd y gallwn wneud y defnydd gorau o'n capasiti a'n gallu ar draws y system. Ond mae yna rywbeth yno am ofal iechyd lleol yr wyf i, eto, yn credu fy mod wedi ceisio tynnu sylw ato wrth ateb cwestiynau eraill ynghylch sut yr ydym yn darparu a chefnogi pobl yn ein gwasanaeth iechyd lleol, sef ymyrryd a rhoi triniaeth a gofal pryd y gallen nhw ac y dylen nhw, yn ogystal â chanfod a yw'r cyflyrau hyn yn bresennol a deall sut mae'r driniaeth honno'n dod yn ei blaen.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar faterion yn ymwneud â dystonia, sef y trydydd cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond mater y mae’r ymwybyddiaeth ohono yn brin ar y cyfan ymysg y cyhoedd. Ac fe hoffwn ddiolch ichi am ddod i'm hetholaeth a chyfarfod ag etholwyr sy'n aelodau o grŵp cymorth dystonia de Cymru, a gwrando ar eu pryderon ynghylch triniaeth Botox. Byddwch yn falch o wybod, ers hynny, eu bod nhw wedi sôn wrthyf i am welliant o fewn y gwasanaeth hwnnw, er fy mod yn cytuno â rhai o'r sylwadau a gododd Mark Isherwood hefyd. Felly, heb ailadrodd y sylwadau hynny, fy nghwestiwn i chi yn syml yw hyn: gydag achosion o dystonia yn cynyddu, sut y gall Llywodraeth Cymru integreiddio’r gwaith o hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r cyflwr yn ei gynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch am y cwestiwn ac am dynnu sylww, fel y dywedwch, at y trydydd cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin, ac mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld wrth symud ymlaen gyda'r cynllun hwn, gan na allwch chi honni eich bod yn awyddus i gael cynllun ar gyfer gwelliant yn y gwasanaethau hyn os ydych wedyn am anwybyddu'r trydydd cyflwr mwyaf cyffredin. Rwy’n falch o glywed yn uniongyrchol gennych chi fod y cyfarfod a gawsom ni wedi gwneud gwahaniaeth i'r grŵp hwnnw o gleifion, gan fy mod yn cydnabod nad oedd y gwasanaeth yn y man y byddem yn dymuno iddo fod ynddo, a'r eglurdeb a’r sylw a ddaeth gerbron cadeirydd y bwrdd iechyd ac arweinydd y bwrdd iechyd—rwy'n falch o weld bod hynny'n gwneud gwahaniaeth. Yr her sydd gennym nawr, y mae cyfnod y cynllun hwn yn ei gwmpasu, yw sut mae gwneud hynny’n gynaliadwy yn gyffredinol, a chredaf y bydd diddordeb parhaus Aelodau fel chi yn sicrhau nad yw hwn yn gyflwr a fydd yn llithro oddi ar yr agenda ein byrddau iechyd.

6. 6. Datganiad: Ynni

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ynni. Rwy’n galw ar yr ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Fis Rhagfyr diwethaf, gosodais fy mhrif flaenoriaethau mewn cysylltiad ag ynni. Heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar gyflymu'r broses o drosglwyddo'r system ynni yng Nghymru, yn enwedig trwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy.

Mae ein system ynni wedi mynd trwy newidiadau dramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae trawsnewidiad pellach i ddod. Mae cytundeb Paris yn ennill momentwm a, gydag hynny, ymrwymiad clir i ddatgarboneiddio economïau a systemau ynni ar draws y byd. Rhaid i Gymru gystadlu mewn marchnadoedd carbon isel byd-eang, yn enwedig gan ein bod erbyn hyn yn wynebu dyfodol y tu allan i'r UE, ac mae Llywodraeth y DU yn anelu at lo nad yw’n cynhyrchu carbon erbyn 2025.

Mae'r gallu i ddiwallu ein hanghenion o ynni glân felly, yn rhan o'r sylfaen ar gyfer cyflawni'r dyfodol a nodir yn ein strategaeth genedlaethol newydd, 'Ffyniant i Bawb'. Ochr yn ochr â'r angen i ddatgarboneiddio, mae'r achos economaidd dros ynni adnewyddadwy yn parhau i gryfhau, gyda mwy o ddefnydd o gostau gostwng ynni adnewyddadwy, fel y cadarnhawyd gan yr arwerthiant o gontractau gwahaniaeth diweddar. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng Nghymru, gyda'r Llywodraeth yn 2005 yn gosod targed o gynhyrchu 7 TWh o ynni adnewyddadwy bob blwyddyn erbyn 2020.

Adroddodd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn gynharach eleni ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni'r targed uchelgeisiol hwn. Mae cynhyrchu trydan o ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi treblu ers 2010. Mae dau brosiect sydd wedi dod yn weithredol yn ddiweddar yn gymorth i symboleiddio'r newid sy'n digwydd. Fferm wynt Pen y Cymoedd, y bydd y Prif Weinidog yn ei hagor yn ddiweddarach yr wythnos hon, yw'r prosiect gwynt mwyaf ar y tir yng Nghymru a Lloegr. Mae Vattenfall wedi cefnogi a chreu mwy na 1,000 o swyddi yng Nghymru ac mae'r prosiect yn darparu £1.8 miliwn yn flynyddol i gronfa buddion cymunedol. Ar raddfa gymunedol lawer llai, mae gennym ddatblygiad gwynt Awel Aman Tawe. Mae'n eiddo yn gyfan gwbl i’r gymuned, sy'n golygu bod ei holl elw yn cael ei gadw o fewn dyffryn Aman a'u cyfranddalwyr.

Mae angen llawer mwy o brosiectau o'r fath arnom ar bob graddfa a thechnoleg i drawsnewid ein system ynni, chwarae ein rhan mewn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, darparu buddion i Gymru a mynd i'r afael â chynnydd tebygol mewn anghenion trydan wrth i ni ddefnyddio mwy o drydan ar gyfer cludiant a gwresogi. Bydd ffynonellau ynni carbon isel eraill hefyd yn bwysig, gyda Wylfa Newydd yn cynrychioli'r buddsoddiad sector preifat mwyaf yng Nghymru mewn cenhedlaeth.

Mae gan Lywodraeth y DU ran hanfodol i'w chwarae wrth gadw'r momentwm hwn i fynd. Fodd bynnag, rwy’n benderfynol o sbarduno newid gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym yma yng Nghymru. Dyna pam yr wyf heddiw yn cyhoeddi targedau i ganolbwyntio ar weithredu ledled Cymru a dal y manteision i Gymru. Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau arbenigol i dynnu sylfaen dystiolaeth solet a chadarn ynghyd. Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus ym mis Gorffennaf, yn cynnwys arbenigwyr yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb yn y mater i helpu i lywio ein syniadau.

Yn gyntaf, rwy'n pennu targed ar gyfer Cymru sy'n cynhyrchu 70 y cant o'i defnydd trydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Mae'r data diweddaraf yn dangos, yn 2015 ein bod wedi cynhyrchu 32 y cant o drydan yng Nghymru o ynni adnewyddadwy. Yn ail, rwy’n pennu targed ar gyfer 1 GW o gapasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru i fod yn eiddo lleol erbyn 2030. Yn 2014, roedd 330 MW o gapasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru yn eiddo lleol.

Yn olaf, erbyn 2020, rwy'n disgwyl i brosiectau ynni adnewyddadwy newydd gael elfen o berchenogaeth leol o leiaf. Byddaf yn cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar y mater. Fodd bynnag, rwy’n disgwyl i brosiectau newydd gynnwys pobl leol a darparu buddion i Gymru, yn ogystal â chyfranddalwyr allanol. Credaf fod y rhain yn dargedau ymestynnol ond realistig a fydd yn ein helpu ni i ddatgarboneiddio ein system ynni, lleihau costau hirdymor a rhoi mwy o fanteision i Gymru. Rwyf yn glir bod angen i ni weithredu i gefnogi cyflawni'r targedau hyn.

Yn gyntaf, yn y byd cynyddol gymhleth hwn, mae angen i ni ddarparu mwy o gyfeiriad ar rai agweddau ar ein polisi ynni, yn enwedig i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau anodd wrth gynllunio a chaniatáu. Byddaf yn ystyried yr angen am ynni ochr yn ochr â'r ffyrdd eraill yr ydym yn defnyddio tir. Bydd gan hyn oblygiadau ar draws fy mhortffolio ar gyfer sut yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol.

Rydym eisoes wedi gweld rhywfaint o waith ardderchog gyda pherchenogaeth leol. Rwyf wedi cytuno ar gyllid craidd ar gyfer Ynni Cymunedol Cymru i'w galluogi i weithio gyda datblygwyr ar ran cymunedau yng Nghymru, gan edrych ar sut yr ydym yn sicrhau mwy o gyfranogiad lleol o'r cam dylunio ymlaen. Byddaf hefyd yn canolbwyntio ar wres. Er nad yw'r targed o 70 y cant yn cynnwys gwres, mae effaith bosibl trydaneiddio gwres yn y dyfodol yn sylweddol ar gyfer elfennau galw a chyflenwi'r targed. Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd wedi argymell ein bod yn darparu polisi cliriach ar wres i Gymru a byddaf yn bwrw ymlaen â hyn.

Yn ail, byddwn yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod ein seilwaith grid yn galluogi model carbon isel o gynhyrchu trydan. Bydd y grid trydan a nwy sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol yn edrych yn wahanol iawn i'r hyn sydd gennym nawr. Mae'r seilwaith grid hyblyg a fforddiadwy iawn yn alluogydd sylfaenol i gysylltu’r genhedlaeth newydd y mae ar Gymru ei hangen ar gyfer dyfodol llewyrchus carbon isel. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r rheoleiddiwr, gweithredwyr grid trydan, academyddion, arloeswyr a datblygwyr i nodi ffyrdd cost-effeithiol o sicrhau bod gennym grid addas i bwrpas.

Yn drydydd, mae gan y targedau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw oblygiadau i'n system gynllunio. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth sicrhau bod gennym system gynllunio syml ond cadarn ar waith, er enghraifft drwy sefydlu'r broses o ddatblygu system o arwyddocâd cenedlaethol. Yn fuan, byddaf yn ymgynghori ar ddiwygio hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer prosiectau solar pen tŷ a phrosiectau dŵr ar raddfa fach, risg isel. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, a fydd yn gynllun datblygu Cymru gyfan ac a fydd yn adlewyrchu polisïau Llywodraeth Cymru.

At hynny, byddwn yn adolygu ein polisi cynllunio cenedlaethol fel ei fod yn parhau i gefnogi ein huchelgais ynni. Byddaf yn ymgynghori'n fuan ar y cynllun morol cenedlaethol, a fydd yn gosod y cyd-destun ar gyfer y sector adnewyddadwy ar y môr. Rwyf hefyd yn edrych ar Lywodraeth y DU i gyflawni mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru. Mae'r DU wedi buddsoddi dros £9 biliwn wrth ddatblygu'r sector ynni adnewyddadwy. Mae'r costau wedi cael eu gyrru i lawr yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae newidiadau cyflym polisi Llywodraeth y DU wedi chwalu rhannau helaeth o'r sector adnewyddadwy, gyda datblygiadau a allai fod yn werthfawr i Gymru wedi cael eu hatal gan Weinidogion y DU.

Mae'r rhan fwyaf o fuddsoddiad adnewyddadwy Llywodraeth y DU bellach yn mynd i brosiectau gwynt ar y môr y tu allan i Gymru. Telir y buddsoddiad hwn gan dalwyr biliau Cymru, ymhlith eraill. Mae angen i'r rhan fwyaf o gyflenwad ynni ddod o'r technolegau mwyaf fforddiadwy os yw’r costau i'w cael o filiau ynni. Felly, mae angen llwybr ar y technolegau hyn i'r farchnad os ydym am gyflawni ein targedau uchelgeisiol a chyflawni'r budd mwyaf i dalwyr biliau Cymru. Dyna pam yr wyf wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i eithrio ideolegol ar wynt a haul ar y tir o'r broses CFD. Nid barn Llywodraeth Cymru yn unig yw hyn. Rwy'n gweithio gyda rhai o'm cyfranogwyr bwrdd crwn gweinidogol Brexit i adeiladu consensws gwirioneddol a chytbwys ar yr hyn sy'n diwallu anghenion Cymru orau.

Mae hefyd yn bwysig cefnogi technolegau arloesol sy'n dod i'r amlwg megis tonnau a’r llanw, y mae'r rowndiau arwerthiant cyfredol CFD yn rhyfedd wedi methu â'u cyflawni. Mae tystiolaeth ddiweddar o gostau gostyngiad gwynt ar y môr yn dangos pa gymorth tebyg y gellid ei wneud ar gyfer sectorau eraill sy'n dod i'r amlwg. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei rhan. Rydym wedi sicrhau bod oddeutu can miliwn €100 miliwn o gronfeydd strwythurol yr UE ar gael i'w buddsoddi mewn ynni morol. Mae'r fenter SPECIFIC yn cymryd syniadau drwodd i dechnolegau sy'n barod ar gyfer y farchnad: gwaith arloesol wedi'i leoli yma yng Nghymru.

Fodd bynnag, nid oes gennym yr ysgogiadau na'r cronfeydd i wneud popeth. Mae arnom angen dadl aeddfed yn y DU ynglŷn â sut i strwythuro'r gefnogaeth ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, gan farchnata technolegau'r dyfodol ar yr un pryd ag y byddwn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o'n hanghenion ynni'n cael eu darparu o ffynonellau fforddiadwy, carbon isel.

Rydym eisoes yn dal gwerth o ddatblygiad ynni yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghorai statudol yn y broses gynllunio ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Horizon Nuclear Power i sicrhau bod y cynlluniau sy'n datblygu yn gweithio i Gymru a bod y prosiect biliynau o bunnoedd hwn yn darparu etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol i Gymru.

Ynghylch morlyn llanw bae Abertawe, rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder ar gefnogaeth ac ymateb i adolygiad Hendry. Byddaf yn parhau i adeiladu ar y cyfeiriad cydgysylltiedig a chydlynol a osodais fis Rhagfyr diwethaf a byddaf yn darparu diweddariad pellach ar agweddau eraill ar y datganiad hwnnw, gan gynnwys pwyslais ar effeithlonrwydd ynni ym mis Rhagfyr eleni. Ein blaenoriaeth allweddol yw parhau i gyflawni Cymru ffyniannus a diogel, carbon isel.

Mae llawer o haenau i'r datganiad hwn ac ni fyddaf yn profi eich amynedd, Llywydd, trwy fynd trwy'r cyfan. Ond rwyf eisiau dechrau trwy ddweud bod ystod eang o gonsensws gwleidyddol yma yn y newid i ynni adnewyddadwy ac i ddatgarboneiddio ein sector ynni. Felly, yn y modd hwnnw rwy'n cynnig y sylwadau a'r cwestiynau hyn.

Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i ddweud bod angen trawsnewidiad—credaf mai dyma’r hyn y mae'r cyhoedd yn ei fynnu hefyd yn awr—ac rydych wedi nodi ein bod wedi gwneud cynnydd eithaf cyflym yn ddiweddar, a bod trydan a gynhyrchir o ynni adnewyddadwy wedi treblu ers 2010, ac yn 2012-13 yn unig fe gynyddodd 9 y cant. Yn amlwg, mae hynny'n nodi y dylem godi ein golygon a phennu dyheadau mawr iawn.

Felly, credaf ei bod yn briodol cymharu'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud â phrofiad yr Alban. Mae yna wahaniaethau, ac mae dulliau gwahanol, heb unrhyw amheuaeth, yn briodol. Ond eich targed o 70 y cant o drydan yn cael ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030—ar hyn o bryd mae'n 32 y cant, felly mae ychydig dros ddwywaith mewn 15 mlynedd—ai dyna’r cyflymder y credwn sy’n bosibl yn awr? Mae'r targed yn yr Alban yn 100 y cant erbyn 2020. Ar hyn o bryd mae'n 60 y cant. Maen nhw eisoes ymhell ar y blaen i ni. Felly, rwy'n credu mai'r cwestiwn sylfaenol yw hyn: a yw'r trawsnewidiad hwn yn ddigon, ac a oes angen inni fwrw ymlaen i gael mwy o newid hyd yn oed? Yn gysylltiedig yn benodol i darged yr Alban o 100 y cant, pryd y credwch y gallech chi, neu Lywodraeth y dyfodol, gyrraedd hyn, o ystyried y camau yr ydych yn bwriadu eu cymryd fel Gweinidog wrth ein gosod ar y llwybr hwnnw?

Rwy'n credu y byddai pawb yn croesawu'r symudiad at fwy o berchenogaeth gymunedol yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Ond hoffwn gael manylion ar yr ymgynghoriad yn fuan. Pryd y bydd yn dechrau? Os ydych chi'n gobeithio gweld y datblygiadau hyn erbyn 2020, mae angen inni afael ynddi. Felly, rwy'n credu ar ryw adeg yn fuan y bydd angen i chi wneud hynny yn glir.

Nid oes targed ar gyfer gwres, er gwaethaf eich cyfeiriad yn y datganiad, ac fel y nodwch, rydym wedi cael ein hannog gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd i edrych ar y maes polisi hwn. Felly, pryd y byddwch chi'n gwneud hynny? Mae gan yr Alban darged, felly, eto, credaf fod angen cofio hynny.

Rydych chi'n iawn i edrych ar botensial microgynhyrchu. Rwy'n credu y bydd hynny'n cynyddu. Mae hefyd yn cynnwys pobl, a gallant fod yn rhan o'r ateb mewn ffordd uniongyrchol iawn—felly mae solar pen tŷ a dŵr ar raddfa fach yn bwysig iawn. Maen nhw yn dechnolegau sy'n newid yn gyflym, yn enwedig solar, ac maent yn dod yn fwyfwy ymarferol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

Yn olaf, rwy'n credu bod enillion mawr i Gymru o'r tonnau a'r llanw sydd heb eu dal eto, ac rydym i gyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth wthio am forlyn llanw Abertawe. Mae’r grŵp Ceidwadwyr Cymru yma wedi mynegi ei gefnogaeth yn gryf iawn ac yn parhau i wneud hynny drwy'r holl sianeli sydd ar gael i ni. Yn gyffredinol, mae buddsoddi mewn arloesedd ac ymchwil yn y sector morol yn bwysig, felly mae angen cwblhau'ch cynllun morol ar frys, oherwydd, fel y dywedasoch, mae'n gosod y cyd-destun ar gyfer prosiectau ar y môr a ger y glannau. Yma, mae gennym y potensial i fod yn arweinydd byd, a dylai hynny fod yn uchelgais gennym.

Dywedasoch lawer o bethau am ddefnydd tir a chynllunio, a byddaf yn cymryd cyfle arall i fynd i’r afael â hynny a chraffu arnoch chi. Byddem yn croesawu targedau hyd yn oed yn uwch a mwy o uchelgais. Ond, fel man cychwyn, rydym yn croesawu bod hwn, o leiaf, yn ddechrau ar fynd i lawr y ffordd y mae angen i ni ei theithio.

Diolch i David Melding am groesawu'r datganiad a hefyd am ei gwestiynau. Roeddwn yn glir iawn i swyddogion fy mod eisiau targedau uchelgeisiol, ond cyraeddadwy. Rwyf yn clywed yr hyn a ddywedwch am yr Alban, ac rwy'n amlwg yn sylweddoli bod ganddynt darged o 1 GW o gynhyrchu mewn perchenogaeth leol, er enghraifft, erbyn 2020, a'n targed ni yw 2030. Ond ni chredaf y gallwch chi ein cymharu ni, a chredaf eich bod wedi cyfeirio at hynny. Ni allwch gymharu'r Alban yn uniongyrchol â ni: mae ganddyn nhw fwy o dir; mae ganddyn nhw fwy o adnoddau ynni adnewyddadwy nag sydd gennym yng Nghymru. Ond rwy'n credu ei bod yn iawn fod gennym y targedau hynod uchelgeisiol hyn i sicrhau bod y trawsnewidiad hwn yn cyflymu nawr. Rwy'n credu bod cytundeb Paris wedi canolbwyntio meddwl pawb. Gwn, cyn Cynhadledd y Pleidiau 23 yn Bonn, a gynhelir ym mis Tachwedd, bod ynni, ac ynni adnewyddadwy, yn mynd i fod yn un o'r prif bwyntiau trafod.

Cyfeiriasoch at y berchenogaeth gymunedol, ac rydym wedi bod yn cefnogi'r sector ynni adnewyddadwy cymunedol ers sawl blwyddyn bellach. Rwy'n credu iddo ddechrau yn ôl yn 2010, ond, unwaith eto, mae angen inni barhau i wneud hynny, ac mae angen inni wneud mwy o ymdrech. Rwy'n credu yn y trafodaethau yr wyf wedi'u cael gyda datblygwyr masnachol, er enghraifft, eu bod yn croesawu'r cyfle i fwrw ymlaen â phrosiectau newydd mewn partneriaeth â chymunedau lleol. Felly, byddaf yn ymgynghori, rwy'n gobeithio gwneud hynny cyn diwedd eleni, i gychwyn y broses honno.

Cyfeiriasoch at wres nad yw'n rhan o'n targed, a soniais yn fy sylwadau agoriadol ein bod wedi gweithio gyda sefydliadau arbenigol i ddatblygu ein syniadau o gwmpas y targedau ynni. Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd wedi adolygu ein papur tystiolaeth gan gymheiriaid ac maent yn hynod o fodlon â'n dull ni o weithredu. O'r trafodaethau hynny penderfynwyd na ddylai'r targed gynnwys gwres. Ond, wrth gwrs, wrth i ni edrych ar drafnidiaeth yn enwedig yn defnyddio mwy o drydan, a gwres yw prif ddefnydd trydan yng Nghymru, mae angen inni sicrhau bod ein polisi'n gywir. Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, byddaf yn gyrru hynny ymlaen.

O ran pŵer llanw, mae'n hollbwysig ein bod yn gwybod beth fydd Llywodraeth y DU yn ei wneud ar Hendry. Nid wyf yn cyfeirio at unrhyw brosiect penodol, oherwydd, yn amlwg, mae gennyf gyfrifoldebau cynllunio hefyd. Ond, rwy'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gyson, ac rwy'n dal i gael ymatebion yn dweud, 'Ymhen amser,' sy'n golygu dim i mi. Adroddodd Hendry ym mis Ionawr. Ysgrifennais ddiwethaf at Richard Harrington, sef y Gweinidog sy’n gyfrifol ers yr etholiad, fis yn ôl—rwy’n dal i aros am ateb—yn gofyn am linell amser, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn. Clywsoch y Prif Weinidog yn dweud yn ystod y cwestiynau heddiw ei fod yn bryderus iawn nad yw bellach yn mynd rhagddo, ond rwyf am sicrhau’r Aelodau fy mod yn pwyso ar Lywodraeth y DU, a byddai unrhyw gymorth y gall unrhyw un ei roi i mi o'r meinciau gyferbyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn.

A gaf i groesawu datganiad heddiw yn gyffredinol, i ddechrau, gan yr Ysgrifennydd Cabinet, gan ei fod e wedi rhoi mwy o gig ar asgwrn ei datganiad hi nôl ym mis Rhagfyr llynedd? Yn sicr, rydym ni’n awr yn gallu gweld y ffigurau a’r targedau penodol ynglŷn ag ynni adnewyddol, a thrydan adnewyddol yn benodol. Jest i ddweud tipyn bach am y cyd-destun fan hyn, rydym ni newydd gael yr haf gorau erioed o safbwynt ynni adnewyddol drwy wledydd Prydain i gyd. Rhwng 21 Mehefin a 22 Medi, fe ddaeth 52 y cant o drydan, drwy Brydain i gyd, o ffynonellau adnewyddol a charbon isel, ac fe ddaeth 24 y cant yn benodol o ffynonellau adnewyddol bur. Felly, mae’r cynnydd yn sylweddol iawn, ac mae’r effaith, wrth gwrs, yn bositif iawn hefyd. Bedair blynedd yn ôl, yn haf 2013, roedd 491g o garbon deuocsid fesul awr cilowat o drydan yn cael ei gynhyrchu. Yn yr haf eleni, roedd hynny wedi haneru—mwy na haneru, fe ddylwn i ddweud—i 216g. Felly, mae’n effaith bositif ar newid hinsawdd a faint o garbon deuocsid rydym ni’n ei gynhyrchu hefyd. Felly, dyna’r cyd-destun lle mae’r Gweinidog yn gwneud ei datganiad.

A gaf i ddechrau gyda’r ffigurau a’r targedau a oedd wedi’u datgan heddiw? Roedd Plaid Cymru, yn 2016, wedi sefyll ar faniffesto o gynhyrchu 100 y cant o ynni trydan o ffynonellau adnewyddol erbyn 2035. Heddiw, rydym ni’n cael targed o 70 y cant erbyn 2030. Nawr, nid yw 70 y cant yn 100 y cant, ac felly mae’n brin o’r targed roeddem ni’n gobeithio ei gyflawni o fewn pum mlynedd i’r flwyddyn honno, ond mae e’n welliant, ac rydym ni’n gweld ffigur. Rydym ni nawr yn gallu dilyn ac olrhain y Llywodraeth, eu dal nhw i gyfrif, ond hefyd helpu’r Llywodraeth, achos rydw i eisiau bod mewn sefyllfa ym Mhlaid Cymru i gefnogi’r pethau hyn, ac i annog y Llywodraeth i wneud mwy lle bynnag sy’n bosib. Felly, rydw i’n gobeithio y bydd hi’n cadw’r ffigur o dan adolygiad ac yn manteisio ar y cyfle, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, i gynyddu’r targed, os oes angen neu os oes modd, er mwyn i ni gyflymu ar y broses. Byddai hi yn cofio ein bod ni wedi gweld cwymp pris sylweddol yn ynni o’r gwynt yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, a hefyd solar dros y pum mlynedd diwethaf, sydd yn golygu, efallai, fod hyd yn oed mwy o effeithlonrwydd arian i gael allan o’r system wrth i ni ddatblygu.

Yr ail beth wnaeth hi sôn amdano, ac rydw i’n ei groesawu yn fawr iawn, yw’r egwyddor yma o berchnogaeth gymunedol. Rydw i’n gobeithio y byddwn ni’n gweld hon yn cael ei chyflawni. Yn fy marn i, mae nifer o’r gwrthwynebiadau rydym ni’n eu gweld yn erbyn datblygiadau ynni adnewyddol weithiau yn deillio o’r ffaith bod pobl yn teimlo bod y peth yn cael ei wneud iddyn nhw, yn hytrach na’u bod nhw yn rhan o’r project o’r cychwyn, ac mae perchnogaeth gymunedol yn help mawr i ddod dros y trothwy yna. Mae yna rai pobl yn gwrthwynebu er mwyn gwrthwynebu, wrth gwrs, ond mae’n help i ledaenu dealltwriaeth a chefnogaeth. Rydw i’n siomedig nad yw’r Ysgrifennydd Cabinet wedi penderfynu mabwysiadu un o’n syniadau ni, sef ein syniad o sefydlu cwmni ynni annibynnol i Gymru—rhywbeth megis ‘Ynni Cymru’—fel cwmni a fyddai’n gallu pontio rhwng yr ochr gymunedol, ochr y Llywodraeth, a’r ochr fasnachol, fel rhyw fath o gerbyd, efallai, a fyddai’n gallu perchen ar rai o’r datblygiadau yma ar ran y gymuned leol. Beth rydw i’n gofyn, felly, yw gan fod yna ymgynghoriad ar berchnogaeth gymunedol, a ydy’r drws wedi cau yn glep ar y syniad o gwmni ynni i Gymru, neu a ydy hynny yn rhywbeth y gellid ei drafod eto nawr yn yr ymgynghoriad ynglŷn â pherchnogaeth?

Y trydydd pwynt rydw i jest eisiau ei grybwyll ar hyn o bryd yw materion y grid. Oni bai ein bod ni’n gweld gwella sylfaenol iawn, ac nid jest gwella ond gweddnewid y grid, ni fyddwn ni’n gallu cyflawni rhai o’r targedau, na’r weledigaeth sydd yn y datganiad heddiw. Rydw i’n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth am weithio gyda’r bobl sy’n berchen ar y grid ac sy’n gyfrifol am y grid cenedlaethol, ond rydw i yn cofio hefyd fod y Llywodraeth ei hunain—. Mae’r datganiad yn beio Llywodraeth San Steffan o dro i dro, ond roedd y Llywodraeth yma, y tro diwethaf, hefyd yn gyfrifol am atal datblygiad grid yng nghanolbarth Cymru, gan eu bod wedi llusgo eu traed ac wedi cael traed oer, gan fod cynifer o bobl wedi cynyddu mewn gwrthwynebiad i wella’r grid. Mae hynny yn sicr wedi stopio dau neu dri chynllun ynni gwynt ar dir a fyddai wedi datblygu oni bai am hynny, ac a fyddai wedi cyfrannu yn sylweddol at y targedau sydd gyda ni nawr. Felly, rydw i’n gobeithio’n fawr bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, y tro yma, yn—wel, nid gwrthwynebu—ond yn fodlon bod yn flaengar ac yn gadarn yn erbyn unrhyw wrthwynebiad sydd yn dod i wella’r grid mewn ffordd ystyrlon.

Rwy’n croesawu—. Yn hytrach, rwy’n gresynu nad oes yna dargedau penodol ar gyfer gwres chwaith. Rydw i’n clywed beth sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud. A ydyw’r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau ei bod yn fwriad ganddi hi i ddatblygu targedau maes o law ar gyfer y system gwres, a hefyd ar gyfer yr ochr drafnidiaeth? Mae datgarboneiddio trafnidiaeth yn hynod bwysig yn y pictiwr llawn. Mae’n golygu, yn fy marn i, buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer cerbydau trydan. Rydym ni wedi clywed peth o hynny yn cael ei drafod eisoes yma heddiw, ond byddwn i’n licio gweld y Llywodraeth yn fwy blaengar eto i fuddsoddi mewn seilwaith cerbydau trydan, a byddwn i’n licio clywed beth sydd ganddi hi i’w ddweud ynglŷn â datblygu targedau a seilwaith yn hynny o beth.

If I may conclude—a lot of questions, a lot of points, in this statement, if I may say so. But a final couple of points, very quickly: I welcome the fact that there will be a permitted development presumption in favour of rooftop solar and hydro. I would like her to consider whether this should be extended to on-farm wind developments, and I’m talking specifically about wind turbines that are directly related to farm activities, not just for the selling of commercial electricity, because that can be dealt with in a different way. But I think it would be enormously welcome, post Brexit, for many farmers in Wales if there was a permitted development approach to on-farm wind development, which I think would help many farmers make their businesses more viable.

I conclude with the final point that we have been discussing around the need for the tidal lagoon in Swansea bay as a pathfinder, as has been clearly set out in the Hendry review. I am one of the community investors in there, along with hundreds of local people, who just want to see this done, because we believe that renewable energy can not only happen and be part of our energy mix in Wales, but we can be leading the world, in particular in the light of tidal energy. I very much welcome what’s already been announced for Anglesey and Pembrokeshire in terms of tidal energy areas for development, but the lagoon in itself is a ready-to-go project, which I urge this Government and the Westminster Government to give the green light to.

Diolch i Simon Thomas am restr hir iawn o gwestiynau. Byddaf yn ymdrechu i ymdrin â nhw. Unwaith eto, fe wnaethoch godi pwynt tebyg i David Melding am y targed o 100 y cant. Rwy'n edrych yn ofalus iawn ar dargedau ac, fel y dywedais, fe wnaethon ni gymryd cyngor arbenigol. Ond ni chredaf y byddai'r grid yn cefnogi targed o 100 y cant ar hyn o bryd. Ni chredaf y byddai mecanweithiau marchnad ynni presennol Llywodraeth y DU yn cefnogi hynny ar hyn o bryd. Rydym wedi’n cysylltu â system ynni fyd-eang, ac nid wyf yn credu ar hyn o bryd mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond mae'n debyg i unrhyw darged—a chlywais yr hyn a ddywedwch am darged Plaid Cymru yn 100 y cant erbyn 2035. Wel, pwy a ŵyr? O 2030 i 2035, gallem ei gyflawni. Mae’n debyg i’n targedau ailgylchu: rydym yno eisoes, rydym yno ddwy flynedd ymlaen llaw, felly rwy'n ystyried a ddylem ni fod yn newid y targed hwnnw. Felly, yn amlwg, gallwn yn sicr ei gadw dan adolygiad.

Cyfeiriasoch at y gwaith yr ydym yn ei wneud gydag ynni cymunedol a pherchenogaeth leol. Mae gennym dros 330 MW o gapasiti cynhyrchu adnewyddadwy sy'n eiddo i'n cymunedau a sefydliadau sy'n eiddo yn lleol. Felly, mae hynny'n swm sylweddol, ac mae'n swm da i adeiladu arno. Byddwch yn ymwybodol fod ein gwasanaeth ynni lleol ar hyn o bryd yn cydweithio'n agos â 34 o wahanol grwpiau ledled Cymru, ac rydym yn cefnogi dau arall ar hyn o bryd, sydd i'w cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn hon. Rwy'n credu y bydd hynny'n mynd â ni i fyny, wedyn, i tua 17. Felly, fel y dywedais, byddaf yn ymgynghori yn hwyrach yn y flwyddyn.

Cyfeiriodd Simon Thomas at y posibilrwydd o gwmni ynni i Gymru, a oedd yn syniad y gwnaethoch chi a minnau gyfarfod yn ei gylch, ac yn sicr fe wnaethom ei ddatblygu. Gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig y mis diwethaf, gan nodi nad ydym yn credu bod achos digon cryf wedi'i wneud i sefydlu cwmni cyflenwad ymbarél i Gymru. Unwaith eto, casglwyd tystiolaeth a barn am y potensial ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ynni. Cynhaliwyd cyfres o ymgynghoriadau gennym ym mis Mawrth, a chreodd hynny gonsensws clir iawn, yn fy marn i, am y risgiau a'r heriau a'r tensiynau a fyddai'n gynhenid os ydym yn sefydlu a rhedeg cwmni cyflenwi ynni. Rwy'n credu bod llawer o bobl—a gwn fy mod wedi trafod hyn gyda Simon—yn credu bod gan y Llywodraeth ryw fath o lais niwtral dibynadwy, os dymunwch, a gellid colli hynny pe baem ni wedyn yn cymryd rhan yn y farchnad. Felly, y casgliad oedd y gallai'r risgiau o greu cwmni cyflenwi Llywodraeth Cymru fod yn drech o lawer na’r manteision posibl. Ydyn ni wedi cau'r drws? Nac ydym, wrth gwrs. Byddwn bob amser yn gwrando ar farn pobl. Felly, efallai ei fod yn rhywbeth yr ydym yn ystyried edrych arno, yn y dyfodol.

Rydych wedi codi hyblygrwydd grid. Yn amlwg, mae arnom angen seilwaith ynni modern, effeithlon, dibynadwy, ac mae'n rhaid iddo fod ochr yn ochr â grid cadarn a phwrpasol, ac mae’n rhaid i'r grid allu darparu ein hamcanion ynni carbon isel. Felly, rydym yn ymgysylltu â’r Grid Cenedlaethol—rwyf wedi cwrdd â'r Grid Cenedlaethol; gwn fod Prif Weinidog Cymru wedi cwrdd â phrif weithredwr y Grid Cenedlaethol—i sicrhau bod eu cynlluniau cyflawni yn cynnwys grid sy'n gwbl addas i'r diben ar gyfer yr hyn yr ydym am ei wneud yng Nghymru.

Soniasoch am wres, a chredaf fy mod wedi rhoi'r rhesymau pam na wnaethom ddewis cynnwys gwres. Ond rydych chi'n iawn; mae angen i ni ddatblygu'r polisi hwnnw. Mae’n bwysig iawn os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio. Felly, bydd hwnnw'n bolisi yr ydym yn ei ddatblygu.

Y pwynt a grybwyllwyd gennych am wynt ar y tir ar ffermydd—rwyf wedi gweld cwpl o ffermydd lle mae ffermwyr wedi arallgyfeirio eisoes. Ond rydych chi'n hollol iawn; mae Brexit, rwy'n credu, wedi gwneud arallgyfeirio yn llawer mwy o bwnc sy’n cael ei drafod gan ffermwyr, a chredaf y byddwn yn gweld mwy o hynny wrth fynd ymlaen.

Mewn cysylltiad ag adolygiad Hendry, byddwch wedi clywed fy ateb yn gynharach i David Melding. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael ymateb cyn gynted â phosib. Maent yn wir yn llusgo'u sodlau nawr, ac mae angen i ni wybod beth maen nhw'n ei wneud. Ond, yn sicr, rydym yn parhau i fod yn gefnogol i'r egwyddor honno, ond mater i Lywodraeth y DU yw sbarduno'r golau gwyrdd, nid y ni.

Soniasoch am y cyllid a gyhoeddodd Ken Skates, rwy'n credu mai ddoe oedd hynny, ar Ynys Môn. Cytunaf ei fod yn dderbyniol iawn.

Mae'n bleser bob amser gwrando ar Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n ofni na allaf fod mor ganmoliaethus am gynnwys y datganiad ei hun. Rwyf am gyflwyno amrywiaeth benodol i'r trafodion y prynhawn yma, fel y gellid ei ddisgwyl. Rwyf am gwestiynu'r rhagdybiaethau y gwneir y datganiad arno. Mae gen i dri phwynt i'w gwneud i gyd.

Yn gyntaf oll , mae'r datganiad yn dweud bod cytundeb Paris yn ennill momentwm ac mae ymrwymiad clir i ddatgarboneiddio economïau a systemau ynni ar draws y byd. Ond rwy'n ofni bod yr holl dystiolaeth yn groes i hynny. Mae Tsieina ac India rhyngddynt yn allyrru mwy na thraean o garbon deuocsid y byd. Mae Tsieina yn bwriadu dyblu ei allbwn o garbon deuocsid yn ystod y 15 mlynedd nesaf, ac mae India'n ei dreblu. Dyna un rheswm pam mae Arlywydd Trump yr Unol Daleithiau, sydd hefyd yn allyrru 15 y cant o garbon deuocsid y byd, eisiau cilio o gytundeb Paris yn gyfan gwbl, oherwydd ei fod yn dweud ei fod wedi cael ei ethol i gynrychioli dinasyddion Pittsburgh, nid Paris. A’r hyn sy'n ei gymell yw bod cymal ymwared yng nghytundeb Paris ei hun, erthygl 4 (7), sy'n dweud:

Bydd y graddau y bydd Partïon gwledydd sy'n datblygu yn gweithredu eu hymrwymiadau'n effeithiol o dan y Confensiwn ... yn cymryd i ystyriaeth lawn mai datblygu economaidd a chymdeithasol a dileu tlodi yw blaenoriaethau cyntaf a phwysicaf Partïon y gwledydd sy'n datblygu.

Dyna pam, er bod Tsieina ac India wedi cytuno mewn egwyddor i'r damcaniaethau sylfaenol y tu ôl i'r confensiwn newid hinsawdd, nad ydynt mewn gwirionedd yn mynd i gyfrannu unrhyw beth mewn termau ymarferol i'w wireddu. Hyd yn oed yn yr Almaen, sydd wedi cytuno’n llwyr i bolisïau gwrth gynhesu byd-eang, mae allyriadau carbon deuocsid wedi codi ym mhob un o'r wyth mlynedd diwethaf, gan gynnwys y flwyddyn bresennol. Felly, rwy'n ofni nad yw'r byd yn mynd i'r cyfeiriad y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn tybio.

Yn ail, mae rhagdybiaeth yma bod yr achos economaidd dros ynni adnewyddadwy yn parhau i gryfhau a bod costau is i ynni adnewyddadwy, fel y cadarnhawyd gan yr arwerthiant contractau gwahaniaeth diweddar. Wel, rwy'n ofni nad oes modd rhagdybied hynny o'r prisiau hyn, ac rwy’n cymeradwyo i Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad hwn gan yr Athro Gordon Hughes, athro economeg ym Mhrifysgol Caeredin, sy'n dadansoddi hyn yn ei gyhoeddiad, 'Offshore Wind Strike Prices: Behind the headlines '. Ei bwynt sylfaenol yma yw bod y rhain yn gontractau cymhleth, ond yn ddewisiadau sylfaenol. Nid ydynt o reidrwydd yn mynd i gael eu gwireddu, y prosiectau hyn, ar y prisiau a ddyfarnwyd. Ac, ar £74.75 ar gyfer contract Triton Knoll, a £57 ar gyfer contractau Hornsea Two a Moray East, y tri sydd wedi bod yn y penawdau yn y papurau newydd yn ddiweddar—byddai hynny'n cynrychioli, pe byddai'n cyfateb, i ostyngiad mewn costau gweithredu a chostau adeiladu o 55 y cant ar gyfer gwynt ar y môr yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Nid yw hynny'n gredadwy. Er bod datblygiadau wedi bod mewn technoleg tyrbin, nid oes modd i gostau adeiladu a datblygu mewn dyfroedd alltraeth fod wedi gostwng 55 y cant yn y cyfnod hwnnw. Mewn gwirionedd, i ryw raddau, oherwydd ein bod yn gorfod mynd i mewn ymhellach ar y môr i adeiladu'r ffermydd gwynt hyn, yna bydd costau'n debygol o gynyddu, neu o leiaf bydd y costau ychwanegol o fynd i ddyfroedd dyfnach yn gorbwyso costau technoleg.

Felly, yr hyn yr ydym yn ei weld yma yw ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd 20 mlynedd yn ôl mewn cysylltiad â'r rhwymedigaeth tanwydd ffosil, oherwydd dyfarnwyd 247 o gontractau fferm wynt, ond dim ond 57 a adeiladwyd mewn gwirionedd—chweched rhan o'r capasiti a fwriadwyd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod y contractau cynnar oedd â phrisiau uchel wedi cael eu hadeiladu ac ni chafodd y contractau diweddarach â phrisiau isel eu hadeiladu, a dyna'n union beth yr ydym yn ei weld yma. Felly, mae hyn i gyd yn rhan o bolisi'r Llywodraeth—Llywodraeth y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru—o daro'r tlawd. Nid ydym yn cynhyrchu dim byd yn nhermau byd-eang carbon deuocsid—Cymru, yn ôl pob tebyg, 0.1 y cant o allyriadau byd-eang. Ni yw'r ardal dlotaf o'r Deyrnas Unedig, gyda chwarter ein cartrefi mewn tlodi tanwydd, ac eto mae biliau cartrefi pobl gyffredin yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn—£115 y flwyddyn ar hyn o bryd mewn ardollau gwyrdd ar fil trydan ar gyfartaledd. Bydd hyn yn codi, erbyn 2020, i £170, ac, erbyn 2030, i £245 y flwyddyn mewn punnoedd cyson. Rwy'n credu bod hwn yn bolisi ofnadwy i osod costau mwy a mwy ar y rheini sydd leiaf abl i’w gwrthsefyll.

Wel, Neil Hamilton, rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno. Fe gefais i fet fach pan oeddwn i'n gwneud rhywfaint o baratoi ar gyfer y datganiad heddiw—wyddoch chi, pa mor hir fyddai'n ei gymryd i chi grybwyll y gair 'Tsieina'. Felly, rwy'n falch na wnaethoch fy siomi. Ond mae'r dystiolaeth wyddonol yn glir: mae newid hinsawdd yn digwydd, ac mae’n debygol mai allyriadau nwyon tŷ gwydr gan ddynion yw’r prif achos. Mae'n rhaid inni gymryd camau nawr. Po hiraf y byddwn yn ei adael, y mwyaf drud y bydd, ar gymaint o lefelau. Mae'n peri risg fawr iawn i bopeth—i ddatblygiad economaidd, i ddiogelwch bwyd byd-eang, i iechyd, ac, yn wir, rwyf wedi gweld beth mae Trump eisiau ei wneud o ran cytundeb Paris. Roeddwn i allan yn Marrakech y llynedd yn COP22; edrychaf ymlaen at fynd i COP23. Ac rydych yn wir yn y lleiafrif. Rwy’n derbyn bod byd o wahaniaeth rhyngom ar hyn, ond mae gennym ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru, ac mae'n hollbwysig, er mwyn cyflawni ein targedau datgarboneiddio, ein bod yn ei gofleidio.

Gwynt ar y môr: rydym yn parhau i gefnogi gwynt ar y môr. Mae'n parhau i fod yn un o'r technolegau mwyaf datblygedig a masnachol ymarferol sydd ar gael ar hyn o bryd. Credaf y gall gyfrannu'n sylweddol at ein targedau ynni adnewyddadwy ni, a chredaf eich bod wedi cyfeirio at y contractau ar gyfer canlyniadau opsiynau gwahaniaeth, a chadarnhaodd hynny fod y diwydiant hwn bellach yn gystadleuol iawn, a byddaf yn cydweithio'n agos ag ystad y Goron, gydag unrhyw ddatblygwyr posibl, i sicrhau bod y datblygiadau hynny yn digwydd o fewn y terfynau amgylcheddol.

Wrth sôn am y contractau gwahaniaeth, fel y dywedais, rwyf eisiau i Lywodraeth y DU—ac rwyf wedi galw ar Lywodraeth y DU dro ar ôl tro mewn gohebiaeth— roi'r gorau i eithrio ideolegol ar wynt a haul ar y tir o'r broses CFD. Hoffwn yn wir pe byddent yn ystyried ein safbwyntiau ac effaith y penderfyniadau y maen nhw'n eu cymryd ar Gymru pan fyddant yn gwneud y penderfyniadau hyn ar gontractau gwahaniaeth.

Ni wn o ble’r ydych chi'n meddwl ein bod ni'n mynd i gael ein hynni. Rhaid inni symud i ffwrdd o danwydd ffosil. Soniais fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod am gael gwared ar lo sy’n cynhyrchu carbon erbyn 2025. Mae'n rhaid i ni edrych ar dechnolegau newydd, a bydd nifer o ymgynghoriadau yn y dyfodol. Mae'r cynllun morol cenedlaethol yn bwysig iawn. Rwy'n credu mai David Melding a soniodd amdano o'r blaen, a byddaf yn mynd ymlaen yn gyflym iawn—yn sicr, o fewn y mis nesaf, a gobeithio y byddaf yn mynd i ymgynghori ar y cynllun morol cenedlaethol hefyd.

Croesawaf ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ynni. Gwn fod llosgi carbon yn creu carbon deuocsid. Gwn hefyd fod carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Felly, mae angen i ni leihau ein defnydd o danwyddau sy’n seiliedig ar garbon a lleihau cynhyrchu carbon deuocsid, oni bai ein bod eisiau cerdded i mewn yma hyd at ein pengliniau mewn dŵr.

Felly, croesawaf y targed arfaethedig i Gymru gynhyrchu 70 y cant o'i ddefnydd trydanol o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Dau gwestiwn am hyn. Yn gyntaf, a yw targedau canolradd yn cael eu gosod fel y gellir gwirio cynnydd yn eu herbyn a chymryd camau os ydynt yn syrthio’n ôl, neu y gellir eu cynyddu os ydym yn gwneud yn well na'r disgwyl? Yr ail gwestiwn yw: pa gynnydd sy'n cael ei wneud ar dechnoleg batri i storio trydan a grëir gan ynni gwynt ar amser cynhyrchu brig?

O ran morlyn llanw bae Abertawe, croesawaf ymrwymiad y Gweinidog i barhau i wasgu Llywodraeth y DU am eglurder ar gefnogaeth ac ymateb i adolygiad Hendry, a oedd yn ddiamwys yn ei gefnogaeth i forlyn llanw. Roedd gan rai ohonom amheuon pan y’i sefydlwyd ei fod yn cael ei wthio o’r neilltu. Yr hyn a gawsom oedd yr adroddiad mwyaf cadarnhaol yr wyf erioed wedi ei weld, lle rwy'n credu ei fod yn defnyddio geiriau fel 'Mae hwn yn bolisi di-edifeirwch ; os ydych yn ei wneud ac nid yw'n gweithio, nid oes unrhyw edifeirwch o hyd '.

Y manteision a ddaw o ran sgiliau dylunio a chreu cadwyni cyflenwi—a fydd yn digwydd os mai Abertawe yw'r cyntaf—os ydym yn aros nes i wledydd eraill eu creu, byddwn yn colli'r cyfleoedd hyn. Mae'r cyntaf yn ennill cyfleoedd unigryw—Aarhus yn Nenmarc gyda phŵer gwynt. Mae'r rhai sy'n dilyn yn anochel yn mewnforio gan yr arloeswyr. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o bwysau ar y Llywodraeth yn San Steffan bod angen morlyn llanw arnom ni yn Abertawe? Morlynnoedd llanw yw'r ffordd ymlaen ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiynau. O ran targedau canolraddol, na, rwyf wedi gosod y targedau hynny. Fodd bynnag, yr hyn y byddaf yn ei wneud—pan gyflwynais y datganiad ar ynni ym mis Rhagfyr diwethaf, ymrwymais i adrodd yn flynyddol. Felly, y mis Rhagfyr hwn, byddaf yn cyflwyno diweddariad ar y datganiad polisi o'r llynedd. Rwy'n credu, fel rhan o'r datganiad polisi hwnnw, y gallem wedyn gyflwyno'r data diweddaraf. Oherwydd fel y dywedais, data 2015 yr oeddwn yn edrych arnyn nhw ar ynni adnewyddadwy, er enghraifft. Felly, gobeithio, erbyn mis Rhagfyr, y bydd gennym ddata mwy diweddar. Felly, gallem gynnwys hynny yn yr adroddiadau blynyddol.

Mae storio yn fater mawr, ac yn sicr mewn trafodaethau yr wyf wedi'u cael gydag unigolion, gyda RenewableUK ac ati, maent i gyd yn awgrymu bod storio yn rhywbeth y mae angen inni ei ddeall yn gyflymach nag yr ydym yn ei wneud. Felly, unwaith eto, mae'r polisïau hynny yn cael eu hystyried ac, yn amlwg, bydd angen i drafodaethau gael eu cynnal am storio wrth inni gynyddu ein hadnoddau adnewyddadwy—yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu a'i ddefnyddio.

Rydych yn iawn ynglŷn ag adolygiad Hendry. Yn sicr, roedd yn adroddiad diamwys iawn, ac efallai na ddylai Llywodraeth y DU ofyn y cwestiwn os nad ydyn nhw'n hoffi'r ateb. Nid wy’n credu y gallaf roi mwy o bwysau nag yr wyf eisoes yn ei roi arnynt. Fel y dywedais, y llythyr olaf a ysgrifennais oedd fis yn ôl—ac rwy'n dal i aros am ymateb gan Richard Harrington—yn gofyn iddo osod amserlen. Cyn yr etholiad, at Jesse Norman a Greg Clark yr oeddwn i'n ysgrifennu. Mae pob ymateb yr wyf wedi'i gael, rwy'n ofni, wedi bod yn brin o fanylion. Ond rwyf am sicrhau’r Aelodau ein bod yn rhoi cymaint o bwysau ag y gallwn ar Lywodraeth y DU i gyflwyno ymateb cyn gynted â phosib.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad heddiw, rydych wedi egluro bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi oddeutu €100 miliwn o gronfeydd strwythurol yr UE mewn ynni morol, ac rwy'n croesawu hynny’n fawr. Fodd bynnag, yn ddiweddar, dywedwyd wrthyf fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn rhai prosiectau morol oddi ar arfordir Sir Benfro, a bydd un ohonynt ym mherchnogaeth awdurdod lleol yn Lloegr.

Yn awr, mae rhai o'm hetholwyr yn pryderu, pe bai prosiectau yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol y tu allan i Gymru, yna gallem gyrraedd sefyllfa lle nad yw lleoedd fel Sir Benfro, ac yn wir Gymru gyfan, yn cael manteision lleol gan brosiectau o'r fath. Felly, dan yr amgylchiadau, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi a'ch swyddogion yn sicrhau y bydd unrhyw arian grant a ddarperir i brosiectau morol yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cymunedau yng Nghymru? A allwch chi ddweud wrthym sut mae'ch adran yn monitro effeithiolrwydd prosiectau o'r fath i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn elwa mewn gwirionedd? Gan eich bod yn cyfeirio yn eich datganiad heddiw at bwysigrwydd prosiectau sy'n eiddo i'r gymuned.

Diolch i Paul Davies am y cwestiynau hynny. Yn sicr, mae monitro'n digwydd yn barhaus. Byddwn yn falch iawn o roi'r ymateb diweddaraf i'r Aelod mewn cysylltiad â'r prosiect y cyfeiriwch ato. Rwy'n credu bod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar unrhyw un o'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r economi las. Mae gennym amrediad llanw uchel, er enghraifft, ac wrth gwrs, rwyf am weld cwmnïau o Gymru yn gwneud hynny, ac mae swyddogion yn gwybod yn iawn mai dyna fel y mae hi—ein bod ni'n hapus i gynnig y cymorth iawn iddyn nhw, a chredaf fod hynny'n neges gref iawn i'w rhoi iddynt. Rwy'n credu bod angen neges gref hefyd gan Lywodraeth y DU o ran cefnogaeth i ynni morol, a gwn fod y datblygwyr sy'n cymryd rhan weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd mewn cysylltiad ag ynni morol wedi disgwyl buddsoddiad o £1.4 biliwn, swm sylweddol felly. Ond ysgrifennaf at yr Aelod gyda diweddariad ar yr un penodol hwnnw .

Rwy'n falch iawn o weld y datganiad hwn heddiw gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n falch iawn o weld y gefnogaeth barhaol gydag arloesedd mewn prosiectau ynni morol, sef rhywbeth yr wyf wedi bod yn rhan ohono ers amser maith. Dydw i ddim yn mynd i sôn eto—rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn falch—am yr hyn a ddigwyddodd o'r blaen. Ond byddaf yn cyfeirio at un maes o ddiddordeb arbennig i mi, sef, fel rhan o fargen £1.3 biliwn dinas-ranbarth bae Abertawe a lofnodwyd yn gynharach eleni, cafodd £76 miliwn ei addo ar gyfer prosiect morol Doc Penfro. Bydd hynny'n cael ei ddefnyddio i ddatblygu arloesedd mewn technoleg ynni morol adnewyddadwy ar y môr, ac mae gan y prosiect ei hun bedwar piler. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n dod â rhai sgiliau ac arloesedd a hyfforddiant i'r ardal yr wyf fi'n byw ynddi ac yn ei chynrychioli. Felly, tybed a oes gennych chi unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'r cynllun penodol hwnnw o ran pryd y gallai ddechrau a faint o gyfleoedd a allai fod ar gael.

Nid yw’r ffigurau hynny gennyf wrth law, Ond rydych chi'n iawn; mae'n bwysig iawn bod gennym yr arloesedd, bod gennym yr ymchwil a'r datblygiad, ein bod yn sicrhau bod yr hyfforddiant a'r sgiliau yn gweithio ochr yn ochr â'r prosiectau hyn. Mae'n sicr yn swm sylweddol o arian, ac rwy'n amlwg yn cwrdd â'm cydweithiwr Julie James, y Gweinidog sgiliau, i sicrhau bod gennym y sgiliau hynny yn barod, ac mae’r un peth yn wir gyda'r morlyn llanw. Mae angen inni sicrhau, unwaith y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi golau gwyrdd, bod gennym y sgiliau hynny yno.

Croesawaf y datganiad hwn; rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod Cymru yn mynd i'r afael â hyn ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd, oherwydd credaf fod yn rhaid inni dderbyn mai'r bobl dlotaf yn y byd sy'n dioddef o'r hyn y mae newid hinsawdd yn ei olygu i ni. Credaf fod gennym ddyletswydd absoliwt i wneud hyn, felly rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Rwy’n croesawu'r targedau uchelgeisiol, rwy’n croesawu'r 70 y cant, ac rwyf hefyd yn croesawu—fel cymaint o bobl eraill—y mater o berchenogaeth leol. Gwyddom fod rhai gwledydd, yn enwedig yr Almaen, wedi cymryd cam ymlaen llawer mwy na ni, ac rwy'n credu ei fod yn dda iawn pe byddai ysgogiad o ran hyn.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod achos, neu gyfle, mewn gwirionedd, i gynnwys llywodraeth leol yn fwy mewn ynni adnewyddadwy? Rwyf wedi codi nifer o weithiau yn y Siambr hon ddatblygiad cynllun cored Radyr yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd. Mae hwnnw mewn gwirionedd wedi bod yn gweithredu ers blwyddyn yn awr. Mae wedi cynhyrchu digon o drydan i bweru 500 o gartrefi teuluol o faint cyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw. Bu rhywfaint o amser segur hefyd pan oeddent yn cywiro'r fecaneg, felly rwy'n credu y bydd yn cynhyrchu hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol. Felly, a wnaiff hi ddweud pa ddyfodol y mae hi'n credu—neu pa gyfleoedd y gellid eu rhoi i lywodraeth leol i weithio a datblygu'r math hwn o gynllun? A’r pwynt arall yr oeddwn am ei wneud oedd fy mod yn credu y byddai'n gam da, mewn gwirionedd, i edrych eto ar gwmni cyflenwi ynni Cymru.

Diolch i Julie Morgan am y cwestiynau hynny. Rydych chi'n hollol gywir am newid hinsawdd; mae'n amlwg bod gennym ymrwymiad hirdymor ynghylch newid hinsawdd. Dim ond gwlad fechan ydyn ni, ond rwy'n falch iawn o'r ymrwymiad yr ydym wedi'i roi ar y camau yr ydym yn eu cymryd ar newid hinsawdd. Soniasoch am yr Almaen, ac yn sicr, allan yn Marrakesh yn COP22, roedd siarad â rhai o'r rhanbarthau bach iawn am y gwaith gwych yr oeddent yn ei wneud o ran datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy yn anhygoel. Roedd rhai o'r targedau a osodwyd ganddynt—eto, fel ein rhai ni—yn uchelgeisiol iawn, ac roedd yn dda clywed sut yr oeddent yn cyflawni'r targedau hynny.

Yn sicr, rwy'n credu bod swyddogaeth i lywodraeth leol, a soniasoch am y prosiect yn eich etholaeth chi yng Ngogledd Caerdydd.  Agorais gynllun dŵr sydd, unwaith eto, wedi'i wneud ar y cyd â'r gymuned, y datblygwr a hefyd â—chyngor Merthyr Tudful, rwy’n credu. Felly, yn sicr yn fy marn i mae gan lywodraeth leol swyddogaeth i'w chwarae.

Byddwch wedi clywed fy ateb yn gynharach i Simon Thomas nad ydym wedi cau'r drws yn glep arno; cymerais y cyngor yn dilyn y digwyddiadau a gynhaliwyd ym mis Mawrth, ac ar hyn o bryd nid wyf yn credu mai dyma'r amser iawn inni wneud hynny, ond yn sicr, gallwn edrych arno. Ac os oes modd ei gael yn rhan o'r ymgynghoriad, byddaf yn hapus iawn i wneud hynny.

7. 7. Dadl: Data—Bod yn Fwy Agored a Hygyrch

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Paul Davies, a gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar ddata a bod yn fwy agored a hygyrch, ac rwy’n galw ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM6507 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.

2. Yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.

4. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn agor y ddadl hon heddiw i ganolbwyntio ar sut a pham y dylem ni fod yn gwneud data yn fwy agored a hygyrch. Dechreuaf drwy egluro mai yr hyn yr wyf yn sôn amdano yma yw data sy'n ymwneud â materion nad ydynt yn bersonol nac yn sensitif.

Mae ein hymwneud â menter y Bartneriaeth Llywodraeth Agored yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fod yn Llywodraeth fwy agored, atebol a chyfrifol i ddinasyddion. Fel gyda meysydd eraill o'r DU, mae data agored yn chwarae rhan allweddol yng ngallu ein Llywodraeth i fod yn Llywodraeth fwy agored ac ymatebol.

Mae pob un ohonom yn gwybod bod data yn adnodd hynod werthfawr yn y byd sydd ohoni, ac, o’i wneud yn haws cael gafael arno, gall gynnig nifer o fanteision a chyfleoedd i’r ddwy Lywodraeth ac i'n dinasyddion. Mae'n dod yn rhan hollbwysig o'r seilwaith cenedlaethol, ac mae manteision ecosystem data agored, gadarn, yn cynnwys bod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol, gan ei fod yn rhoi gwell dealltwriaeth o sut y mae Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn perfformio, a sut y mae eu cyllidebau yn cael eu defnyddio. Gall alluogi gwell cynllunio a thargedu gwasanaethau, sydd yn ei dro yn arwain at fwy o effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arbedion. Gall ysgogi arloesedd a thwf economaidd wrth i’r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio ddatblygu, a gwella bywydau bob dydd pobl, ac o ganlyniad, eu gallu economaidd i ymuno yn ein cymdeithas. Mae'n fodd o ymrymuso’r cyhoedd ymhellach a rhoi mwy o gyfleoedd iddynt gymryd rhan. Mae'n helpu pobl i fod â’r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau ac yn eu galluogi i gymryd rhan lawer mwy gweithredol yn ein cymdeithas. Gall hefyd leihau baich ceisiadau rhyddid gwybodaeth ar y Llywodraeth, a helpu i leihau'r data a'r gofynion adrodd yr ydym ni wedi'u gosod ar awdurdodau cyhoeddus trwy sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn gyhoeddus ac yn rhwydd i'n holl ddinasyddion.

Rydym ni wedi gwneud cynnydd da hyd yn hyn. Gwnaethom gyhoeddi ein cynllun data agored cyntaf erioed ym mis Mawrth 2016, ac rydym ni’n gwella ein llwyfannau data agored ystadegol a gofodol, StatsCymru a Lle. Yn wir, gwnaeth ein hadroddiad ar les Cymru, a gyhoeddwyd ddoe, ddefnydd uniongyrchol o ddata agored StatsCymru, gan arwain at effeithlonrwydd sylweddol o ran datblygiad a chynnal a chadw'r safle hwnnw yn y dyfodol. Ac yn fwy diweddar, rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar gyhoeddi gwybodaeth reoli yn agored.

Fodd bynnag, er ein bod wedi gwneud cynnydd da, mae mwy y gellir ei wneud o hyd, nid yn unig wrth wneud data Llywodraeth Cymru yn fwy agored, ond wrth annog eraill i wneud eu data yn fwy agored hefyd. Er enghraifft, mae mwy i ni ei wneud wrth wneud gwybodaeth reoli yn fwy agored. Un maes yr ydym yn ei archwilio ar hyn o bryd yw cyhoeddi data gweithlu'r sector cyhoeddus yn agored o ran faint o bobl sy'n cael eu cyflogi, ar ba lefel ac yn y blaen. Rydym ni hefyd yn parhau i weithredu ein hymrwymiadau yn y cynllun data agored.

Un ffactor allweddol wrth wireddu buddion cysylltiedig yr holl ddata hwn yw sicrhau bod ein data mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio a'i ailddefnyddio’n gyson, a dyna pam ei bod yn bwysig i ni ddarganfod ffyrdd y gallwn ni annog arloesi o ran ei ddefnyddio. Rydym ni’n dechrau ailddefnyddio peth o’n data. Yn fwy diweddar, defnyddiodd Swyddfa Archwilio Cymru ein data agored mewn prosiect i roi gwybodaeth i'w harchwilwyr, er enghraifft. Fe hoffem ni yn fawr iawn weld mwy o hyn ac fe hoffem ni annog y rhai hynny sydd â'r gallu a'r sgiliau i ddefnyddio ein setiau data agored yn llawn.

Fe hoffwn i roi enghraifft i Aelodau o'r hyn yr wyf yn ei olygu gan hyn. Rydym ni, er enghraifft, yn cyhoeddi sgoriau hylendid bwyd ar gyfer yr holl fwytai mewn ardal benodol. Ar hyn o bryd, fe allech chi grwydro o gwmpas ac efallai y gwelwch chi’r sgoriau hylendid bwyd hynny a ddefnyddiwyd wedi’u harddangos ar y drysau neu mewn man amlwg yn y bwytai. Ond os oeddech chi’n ddieithr i'r ardal, efallai na fyddwch chi eisiau crwydro’r holl strydoedd yn chwilio am wahanol sgoriau hylendid. Oherwydd ein bod yn cyhoeddi'r wybodaeth mewn diwyg agored a hygyrch, os edrychwch am 'apiau sgôr hylendid bwyd' mewn siop app, fe allwch chi ddod o hyd i lawer o apiau erbyn hyn—mae rhestr eithaf hir ohonynt—a fydd yn dweud wrthych chi ble mae'r bwytai sydd â’r sgorau hylendid bwyd uchaf ac isaf yn yr ardal yr ydych chi'n sefyll ynddi. Ac mae hynny'n ddefnydd—defnydd masnachol, arloesol—sy'n ddefnyddiol i'r dinesydd, o ddata agored a gyhoeddir gan y Llywodraeth. Mae’n ddefnydd da iawn o'n data sy'n ddefnyddiol i ddinasyddion. Nid yw o fudd penodol i ni, ond mae'n dangos sut y gallwch chi ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau dinasyddion trwy rywbeth mor syml â bod rhywun yn ei ad-drefnu. Nawr, byddai'r data hwnnw wedi bod ar gael o'r blaen, ond byddai wedi bod yn orchwyl anodd iawn i rywun alinio'r cyfan, ond gallwch weld bod nifer o bobl eisoes wedi nodi hynny. Felly, dyna'r math o beth yr ydym ni’n ceisio ei annog. Rydym ni’n awyddus iawn i weld mwy o hyn, ac rydym ni eisiau annog y rhai hynny sydd â'r gallu a'r sgiliau i ddefnyddio ein setiau data agored yn llawn i wneud defnydd llawn ohonynt.

Rydym ni’n awyddus iawn ein bod ni'n gweithio gydag eraill i drefnu digwyddiadau i herio data agored, gan ddod â phobl o gefndiroedd amrywiol at ei gilydd, i dynnu eu sylw at ba mor llwyddiannus y gallan nhw fod mewn gwirionedd wrth fynd ati i ddefnyddio ein setiau data i ddatblygu'r math hwn o wasanaeth i ddinasyddion.

Rydym ni hefyd yn datblygu enghreifftiau eraill o sut y gall data agored yng Nghymru gael effaith gadarnhaol a sut y bydd yn helpu i argyhoeddi eraill o'r manteision o wneud data yn fwy agored a hygyrch. Felly, ynghyd â chyflwyno canllawiau ac addasu ein prosesau ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau, fe ddylem ni gael effaith wirioneddol ar yr agenda data agored yng Nghymru trwy gyhoeddi'r holl wybodaeth honno.

Felly, byddaf i’n cefnogi'r gwelliant cyntaf. Rydym ni wedi ymrwymo i leihau'r baich sy'n gysylltiedig â chasglu data a, pan fo hynny’n bosibl, yn cefnogi hyn trwy annog mwy o gyhoeddi data agored. Rydym ni’n awyddus iawn i wella’r broses o rannu data yng Nghymru, ac rydym ni’n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r darpariaethau rhannu data sydd yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017.  Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r ail welliant. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y data a gasglwn yn bodloni anghenion ein defnyddwyr. Rydym ni eisoes yn adolygu ein casgliadau data ystadegol yn rheolaidd, gan ymgynghori ag ystod lawn o randdeiliaid. Dylem ni hefyd sicrhau bod yr wybodaeth a gawn ni gan awdurdodau cyhoeddus at ddibenion eraill yn gymesur ac yn cael ei gadw i’r lefel isaf posibl.

Yn anffodus, ni fyddwn yn cefnogi'r trydydd gwelliant. Er ein bod yn ceisio annog awdurdodau lleol i gynyddu faint o ddata maen nhw’n ei gyhoeddi yn agored, mae angen i ni gadw mewn cof y goblygiadau y byddai hyn yn eu rhoi arnynt o ran adnoddau. Rydym ni, fodd bynnag, yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i benderfynu pa ddata y dylid ei gyhoeddi yn agored, gan gynnwys ystyried, er enghraifft, pa mor ymarferol yw cyhoeddi gwariant sy’n fwy na throthwy isaf.

Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r pedwerydd gwelliant. Rydym ni’n cytuno mewn egwyddor y dylem ni geisio gallu cymharu ein perfformiad â gweddill y DU ac, yn wir, â gwledydd eraill hefyd. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd gwahaniaethau polisi. Ac, yn gyntaf ac yn bennaf, mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth i fonitro data sy'n berthnasol i gyd-destun polisi Cymru.

Felly, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu cefnogaeth yr Aelodau i egwyddorion data agored yn ystod y ddadl hon, ac at weithredu hynny ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen hefyd at wrando ar eich barn ar sut y gallwn ni annog a hybu yr agenda ddata agored i wella darpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus ac, wrth gwrs, yn y pen draw, bywydau ein dinasyddion. Diolch.

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Janet Finch-Saunders.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o gasglu data ledled Cymru.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a'u cyflawni.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dilyn yr esiampl a osodir gan Gyngor Sir Fynwy a reolir gan y Ceidwadwyr drwy gyhoeddi ei holl wariant.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch. A chynigiaf i’r gwelliannau hynny, fel y crybwyllwyd. Wrth gwrs, mae bod yn agored a thryloyw yn bethau allweddol, ac rwyf i a fy nghyd-Ceidwadwyr Cymreig wedi esbonio eu rhinweddau ers tro yn y Siambr hon. Mae hi’n hen bryd cael dadl ar gynyddu natur agored a hygyrchedd data. Mae ein gwelliant cyntaf yn ceisio hwyluso gwaith rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu o ran casglu data ledled Cymru. Dro ar ôl tro, fel ACau, rydym ni’n cwrdd â sefydliadau, yn arbennig yn y sector iechyd a'r trydydd sector, ac maen nhw’n codi materion sy’n ymwneud â dyblygu data neu ddiffyg casglu data gyda ni. Enghraifft glasurol o hyn yw ein bod ar ein hail ymholiad tlodi ac, ym mhob un o'r gweithdai, pan rydym ni wedi cyfarfod â thystion, maen nhw wedi pryderu’n fawr ynghylch sut y caiff data ei gasglu mewn amryw sefydliadau, sut y caiff ei rannu a sut y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn casglu ac yn storio data.

Ar gyfer sefydliadau o'r fath, yn ogystal â ni fel gwleidyddion, mae data agored, wrth gwrs, yn offeryn gwerthfawr ar gyfer datblygu polisïau, craffu a chystadlu. Er enghraifft, canfu'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ym mis Gorffennaf eleni fod rhai o wendidau allweddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn deillio mewn gwirionedd o’r ffaith y cafodd polisïau eu datblygu a pherfformiad ei fonitro heb fod unrhyw ddata priodol ar gael mewn gwirionedd. Yn ychwanegol at hyn, mae ein hail welliant yn ceisio sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael yr wybodaeth gywir i ddylanwadu a chyflwyno newidiadau polisi cadarnhaol. Fel y nodwyd yn yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a drafodwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf, mae angen cyhoeddi data ar gyfer y cyhoedd i wella tryloywder, dealltwriaeth a ffydd yn y system. Mae ein trydydd gwelliant, felly, yn galw ar awdurdodau lleol i ddilyn yr esiampl dda a osodwyd gan Gyngor Sir Fynwy ble mae’r Ceidwadwyr wrth y llyw. Maen nhw'n cyhoeddi pob gwariant—rhywbeth y byddwn ni’n gofyn am ragor ohono yn y ddeddfwriaeth llywodraeth leol sydd ar ddod.

Llywydd, mae data agored yn hanfodol er mwyn datblygu polisïau, datblygu gwasanaethau ac atebolrwydd cyhoeddus, ond, yn anffodus, mae meysydd sylfaenol eraill lle y mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn methu. Ac, onid yw'n ddiddorol—ni chefais i fy nghyfle i ofyn y cwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach—ond mewn ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gaiff eu defnyddio oherwydd diffyg data agored, ymatebodd Llywodraeth Lafur Cymru yn llawn i 46 y cant o'r ceisiadau hynny yn unig. Nid yw hynny'n ddigon da i Lywodraeth agored a thryloyw ar unrhyw lefel.

Yn ystod yr haf hwn, canfu Sefydliad Data Agored Caerdydd fethiannau o du Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth caffael cenedlaethol, gan nodi nad oes ganddo gynllun data agored. Nid yw'r gwaith ar y fframwaith digidol yn ystyried cynllun data agored y Llywodraeth o gwbl, ac mae hyn yn drueni oherwydd bod data agored a chaffael yn bartneriaid perffaith. Ac wrth gwrs, mae Leighton Andrews, cyn AC yma, wedi llunio'r adroddiad hwn mewn gwirionedd ac nid wyf i’n siŵr bod yr Aelodau, efallai, hyd yn oed yn ymwybodol o'r adroddiad hwn. Mae hwn wedi ei gyhoeddi ac wedi bod ar gael ers mis Mawrth eleni. Sut mae hyn yn ymwneud ag awdurdodau lleol, neu i'r bobl y tu allan—ein hetholwyr a'n trethdalwyr—nid oes syniad gen i.

Un nod y cynllun yw cynyddu sgôr bod yn agored Cymru i bedair seren erbyn mis Mai eleni. Eto i gyd, ni nodir y sgôr hon unrhyw le ar y wefan hyd yn oed, ac mae cynllun gweithredu cenedlaethol partneriaeth llywodraeth agored y DU 2016-18 yn nodi bod angen i'r gwaith yn y maes hwn barhau tan ddiwedd y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i gyhoeddi gwybodaeth am werthu tir gan gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, na gwybodaeth am benderfyniadau gweinidogol a’r Cabinet ar Gylchffordd Cymru.

Yn olaf, mae'r cynllun data agored yn ceisio lleihau'r angen am geisiadau rhyddid gwybodaeth a lleihau'r angen i gasglu data ynghyd i ymateb i geisiadau casglu data. Eto i gyd, dim ond rai misoedd yn ôl, mynnodd Llywodraeth Cymru ddatgymhwyso mesurau deddfu oedd yn rhoi rheidrwydd ar gyrff cyhoeddus i gyhoeddi amser cyfleusterau yn rhagweithiol trwy eu Deddf Undeb Llafur (Cymru) 2017. Ac rwyf i wedi sôn am ba mor wael y mae’n ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth eu hunain.

Llywydd, rydym yn cefnogi amcanion y ddadl hon a'r cynllun hwn, ond rwy’n poeni mai dim mwy na geiriau gwag a meddylfryd disylwedd yw'r ddogfen hon. Felly, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau y bydd yr adroddiad cynnydd blynyddol ar y cynllun hwn gan swyddfa'r prif swyddog digidol yn cael ei drafod yn y Siambr hon bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gall pob plaid yma graffu yn effeithiol ar y strategaeth hon mewn gwirionedd.

Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—Sian Gwenllian.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Llywydd. Rydw i yn cynnig gwelliant 4. Mi fyddaf i’n defnyddio fy nghyfraniad i i’r ddadl yma heddiw er mwyn trafod pam mae casglu data perfformiad a’i gyhoeddi mewn modd sy’n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill ym Mhrydain yn bwysig. Nid yn unig er mwyn ein galluogi ni, fel gwrthbleidiau, i allu dal y Llywodraeth i gyfrif, ond mae o hefyd yn hanfodol bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru ddysgu a rhannu unrhyw arfer dda sydd yn bodoli yng ngwledydd eraill Prydain, a hynny er mwyn sicrhau’r gwasanaethau gorau posib i bobl Cymru.

Mi fyddaf i hefyd yn amlygu pam mae mynediad i ddata yn hanfodol bwysig yn y maes economaidd er mwyn sicrhau bod polisi’n cael ei ddatblygu ar sail y wybodaeth orau posib. Ym maes iechyd, mae prinder a safon y data sydd ar gael yn gwneud cynllunio gwasanaethau, gwerthuso mentrau a pholisïau penodol a chreu darlun llawn o berfformiad y gwasanaethau ym maes iechyd yn gynyddol anodd. Mae diffyg data a thryloywder yn y gwasanaeth iechyd yn destun pryder, gan rwystro’n gallu ni fel Aelodau’r gwrthbleidiau i graffu ar y Llywodraeth a datblygu polisïau amgen, gwell.

Yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygiad ac adroddiadau gan y Nuffield Trust, mae llai a llai o ddata ar gael er mwyn gwneud y gymhariaeth rhwng Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae newidiadau i dargedau’r gwasanaeth ambiwlans a’r ffordd mae data’n cael ei gasglu yn golygu nad ydy hi bellach yn bosib cymharu lle rydym ni arni yng Nghymru. Nid yw hon yn ddadl dros gwtogi ar ryddid Llywodraethau i ddilyn llwybrau a pholisïau gwahanol. Mae yna ffordd o’i chwmpas hi. Fodd bynnag, mae’n iawn inni fynnu bod angen casglu data er mwyn cymharu effaith gwahanol bolisïau, yn enwedig pan fod y polisïau hynny’n datblygu ar hyd llwybrau gwahanol. Rydym ni angen Llywodraeth sy’n gweld bod gwybodaeth o fath penodol i ateb gofynion penodol o werth iddi lunio polisïau, ac mae hyn yn wir ar gyfer pob maes o lywodraethiant.

Ar hyn o bryd mae diffyg gwybodaeth economaidd sy’n benodol i Gymru, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i lunwyr polisi ffurfio strategaeth sydd wedi ei theilwra i ofynion penodol yr economi Gymreig. Mae ffigurau Government Expenditure and Revenue Scotland yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn gan Lywodraeth yr Alban, sef data sy’n darparu dadansoddiad manwl o gyfrifon y sector gyhoeddus. Ym mis Ebrill y flwyddyn diwethaf, fe gyhoeddwyd fersiwn Cymreig gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a tra’r oeddwn i’n falch o weld Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o gyflwr yr economi Gymreig, mae’n hanfodol nad rhywbeth unigryw oedd hyn a bod y Llywodraeth yn comisiynu gwaith o’r fath ar sail blynyddol a swyddogol. Mi ddylai hyn gynnwys tabl mewnbwn/allbwn manwl a set lawn o gyfrifon sector gyhoeddus, yn debyg i’r cyhoeddiad Albanaidd, achos mi fyddai hynny yn arwain at bolisïau gwell a fyddai, yn eu tro, yn rhoi hwb i dwf, i gynhyrchiant—. Cyn imi gario ymlaen, mi gymeraf i ymyriad.

Rydw i’n ddiolchgar i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Y pwynt sylfaenol, wrth gwrs, yw mai pwrpas cael polisi data agored yw bod y data yn ddefnyddiol, yn arbennig i ddinasyddion. Un o’r enghreifftiau sy’n cael ei ddyfynnu gan y Llywodraeth ar ei gwefan ynglŷn â’r cynllun data agored ydy’r daflen yna sydd yn crynhoi grantiau dros £25,000 y flwyddyn. Y broblem yw nad ydyn nhw ond ar gael fesul mis. Felly maen nhw ar gael am flynyddoedd, ond mae’n rhaid ichi chwilio yn ôl y mis. Allwch chi ddim gwneud rhywbeth mor syml â jest roi enw un cwmni i mewn i ffeindio faint mae’r cwmni yna wedi ei gael. Mae’n rhaid ichi fynd trwy pob un o’r ‘Excel files’ misol. Felly a gaf i apelio i’r Llywodraeth y byddai rhywbeth mor syml â chrynhoi’r data i gyd mewn un ffeil yn helpu pobl i ddefnyddio’r wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi?

Diolch yn fawr iawn am yr enghraifft benodol yna sydd yn darlunio’r broblem yn reit fanwl ac yn dangos yn glir pam mae angen inni fod yn llawer iawn mwy trefnus ac effeithiol yn y ffordd yr ydym ni’n casglu data a hefyd yn eu defnyddio nhw er budd y wlad yma. Diolch.

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nawr, mae cynnig y Llywodraeth heddiw yn ymddangos yn oleuedig iawn gan nad oes neb yn mynd i ddechrau dadlau bod angen i ni fod yn llai agored wrth ddarparu data'r Llywodraeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wybod, fodd bynnag, yw goblygiadau ymarferol y cynnig hwn o fod yn fwy agored. Mae bwriadau Llywodraeth Cymru i fod yn fwy agored fyth yn y dyfodol yn ddigon hawdd dweud, ond pa mor effeithiol yw hi ar hyn o bryd am ddarparu data a gwybodaeth y Llywodraeth yn gyffredinol?

Nawr, cododd Adam Price enghraifft benodol iawn yn awr yn ymwneud â'r anawsterau wrth gael ystadegau'r Llywodraeth ar grantiau, ond os edrychwn ni ar y modd y mae’n rhannu gwybodaeth yn gyffredinol—yn arbennig, wrth feddwl am sut y gall y dinesydd gael gafael ar yr wybodaeth hon—mae yn peri llawer o anawsterau. O ran gwariant y Llywodraeth, cododd y Ceidwadwyr hyn yn un o'u gwelliannau; maen nhw’n sôn am gyhoeddi gwariant gan gyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol. Drwy gyd-ddigwyddiad, ddoe, cyfarfûm â chynrychiolwyr o'r Gymdeithas Cadwraeth Forol ac fe wnaethon nhw sylw na allwch chi, mewn gwirionedd, olrhain lefel gwariant Llywodraeth Cymru ar gadwraeth forol oherwydd ei fod wedi'i becynnu yn rhan o wariant cyffredinol ym maes yr amgylchedd. Felly, ni allan nhw eu hunain, mewn gwirionedd, ddarganfod faint o arian o’r gronfa honno sy'n cael ei wario ar gadwraeth forol. Felly, dyna un enghraifft o le mae angen i ddata Llywodraeth Cymru fod yn fwy agored.

Ond os ydym ni’n meddwl am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin mewn gwirionedd â gwybodaeth yn gyffredinol, nid ydynt, efallai, mor oleuedig ag y byddai'r cynnig heddiw yn ymddangos nac â sut maen nhw’n ymddangos neu'n dymuno bod yn eu hamcanion. Er enghraifft, gadewch i ni edrych ar ddatganiadau'r Llywodraeth a gawn cyn y Cyfarfodydd Llawn unwaith yr wythnos. Nawr, mae'n dda ein bod ni'n cael y rhain, nid wyf i’n cwyno yn gyffredinol, ond rydym ni'n eu cael oddeutu awr cyn—[Torri ar draws.] Cwrteisi yw hynny, iawn. Diolch am estyn y cwrteisi, ond y pwynt yw y gŵyr pob un ohonom ni yn y Siambr hon y gallem ni gael yr wybodaeth hon yn llawer cynharach. Gallem ni, fwy na thebyg, fod wedi cael yr wybodaeth hon, yn ôl pob tebyg ddiwedd yr wythnos diwethaf. Felly, pe baech chi wirioneddol eisiau gweithredu’r polisi hwn o fod yn fwy agored, efallai y gallech chi ymestyn hynny i faes sut y byddwch chi’n rhannu datganiadau'r Llywodraeth. Rydym ni yn croesawu’r cwrteisi, ond pe gallech chi ymestyn y cwrteisi, byddai'n dda.

Nawr, os edrychwn ni ar wefan Llywodraeth Cymru, sef un lle y gall y dinesydd ddod o hyd i wybodaeth y Llywodraeth yn gyntaf, pan grybwyllais i wefan Llywodraeth Cymru i aelod o staff heddiw, fe ymatebodd hi’n uniongyrchol i hynny. Dywedodd: O’r nefoedd yna'r wefan honno lle na allwch chi ddod o hyd i unrhyw beth. Pan ofynnais iddi ymhelaethu ar y sylw hwn, dywedodd nad oedd y swyddogaeth chwilio i’w gweld yn gweithio'n iawn: Fedra i byth ddod o hyd i'r hyn rwy’n i’n chwilio amdano ac rwy’n gwglo’r wybodaeth yn y pen draw.

Nododd aelod arall o staff nad yw’n cael ei ddiweddaru. Mae’n ddigon hawdd dweud ei bod yn llais ar gyfer beth bynnag y mae'r Llywodraeth yn dymuno ei bwysleisio, ond os ydych chi eisiau cael gwybod am bolisiau'r Llywodraeth, dyma'r lle diwethaf y byddech chi'n mynd, oherwydd nad yw wedi’i diweddaru. Byddan nhw’n gwneud cyhoeddiad, ac wedyn ni fyddan nhw’n diweddaru'r dudalen. Dyma rai enghreifftiau diweddar o fy mhrofiadau fy hun: y tasglu cyflenwi tai, a sefydlwyd yn 2013—diweddarwyd y dudalen ddiwethaf ar 4 Mawrth 2014. Ymddengys fod y corff hwnnw wedi dod i ben bellach, ond y pwynt yw nad ydym ni mewn gwirionedd yn gwybod hynny o wefan Llywodraeth Cymru, oherwydd nad yw'n dweud hynny wrthym. Ymddengys ei fod yn gadael pethau fel hyn, i bob pwrpas, ar ei hanner. Nid yw'n egluro pa un a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth yn y maes gweithgarwch hwn ai peidio. Felly, er mwyn i’r math hwn o wybodaeth gael unrhyw werth, mae angen diweddaru'r tudalennau yn rheolaidd. Dylai rhywun fod â’r dasg benodol o wneud hyn, hefyd, mae angen dileu sefydliadau, grantiau a chynlluniau sydd wedi dod i ben o'r wefan yn llwyr. Gallem ni sôn am ragor ac edrych ar wefannau eraill sy'n ymwneud â'r Llywodraeth, ond mae'n debyg bod y pwynt wedi’i wneud.

Felly, yn gyffredinol, rydym ni yn cytuno â'r hyn yr ydych yn ei ddweud yn eich cynnig heddiw, ac yn gobeithio y caiff ei roi ar waith mewn modd ystyrlon. Rydym ni hefyd yn cytuno â gwelliannau'r Ceidwadwyr, sy'n ymddangos yn synhwyrol ar y cyfan. Nawr, cododd y Gweinidog y mater bod goblygiadau adnoddau os ydych chi'n cyhoeddi llawer o wybodaeth, a chytunaf y bydd cydbwysedd a bod yn rhaid i chi ystyried hynny. Ond, yn gyffredinol, rydym ni yn cytuno â gwelliannau'r Ceidwadwyr. Mae gwelliant Plaid hefyd yn ymddangos yn synhwyrol. Yn wir, dylem ni integreiddio ein data fel bod cymharu perfformiad Llywodraeth Cymru, cyn belled ag y bo'n bosibl, gyda pherfformiad cyrff cyhoeddus tebyg. Ond efallai mai pwynt pwysig arall ar gyfer y dyfodol yw pa mor hawdd fydd hi i’r unigolyn lleyg neu'r dinesydd ddod o hyd i wybodaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd fe gyfeiriodd y Gweinidog at y person, yn ogystal â'r arbenigwr. Diolch.

Wel, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r agenda data agored, sy'n amlwg ar draws y Siambr. Rwy'n credu o bosibl bod ychydig o ddryswch o ran yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth sôn am ddata agored a Llywodraeth agored yn y cyd-destun hwn a chyhoeddi yn gyffredinol. Rwy'n derbyn y pwynt ynglŷn â chyhoeddiadau y mae pobl wedi'i wneud. Rwy'n teimlo dyletswydd—rwy'n siŵr na fydd ots gan y Llywydd fy mod i’n dweud hyn—i ddweud bod y syniad o gyhoeddi datganiad llafar cyn ei wneud ar lafar, yn amlwg, yn broblem ar lawer ystyr, a holl bwynt datganiad llafar yw ei wneud ar lafar yn y Siambr. Roeddwn i eisiau pwysleisio’r pwynt hwnnw, ac nid yw hynny'n ymwneud â data o gwbl.

Roeddwn i’n meddwl bod Adam Price wedi gwneud pwynt da iawn yn ei esiampl. Syniad data agored yw bod gennych chi fynediad at y data sylfaenol mewn ffordd agored a hygyrch sy'n eich galluogi i’w gasglu mewn gwahanol ffyrdd i gyrraedd casgliadau gwahanol. Felly, mae'r enghraifft yn un dda. Nid wyf i’n awgrymu am funud bod y Llywodraeth yn gwneud hyn yn hollol gywir, ac un o'r rhesymau yr oeddwn i’n dymuno cyflwyno’r ddadl hon heddiw oedd er mwyn trafod yn agored â’r Aelodau yr hyn yr ydym ni’n ei olygu gan hynny ac i ganfod, fel yr ydym ni wedi ei weld yn glir, bod pawb, mewn gwirionedd, yn cytuno â'r agenda. Mae modd dehongli’r peth ychydig yn wahanol, ond rydym ni i gyd yn cytuno y dylid gwneud y data sylfaenol mor hygyrch â phosibl er mwyn i bobl allu dod i amrywiaeth o gasgliadau ohono. Mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn modd cymesur, wrth gwrs. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff y sector cyhoeddus, drwy gyfranogi, er enghraifft, yng ngrŵp data agored rhanbarth dinas Caerdydd, a chyfarfod ag awdurdodau lleol a Swyddfa Archwilio Cymru ledled Cymru.

Rydym ni eisiau annog eraill o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a'r sector cyhoeddus ehangach, i wneud data yn fwy agored ac i ailddefnyddio ein data, ond i sicrhau hefyd bod eu data nhw ar gael yn rhwyddach. Byddwn ni’n ystyried priodoldeb cod ymarfer anstatudol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, i'n galluogi ni i gydweithio â chyrff y sector cyhoeddus. Gallai arbrofi’n llwyddiannus gyda’r canllawiau hynny arwain at god ymarfer statudol, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n dymuno ei gynhyrchu ar y cyd â'n partneriaid llywodraeth leol er mwyn cydgynhyrchu fel ein bod ni'n deall a’u bod nhw'n deall ble yr ydym ni nawr, a lle y gallwn ni fynd yn rhwydd ac yn esmwyth yn y dyfodol heb gost enfawr i hynny—nid mewn termau ariannol, ond o ran faint o adnoddau dynol sydd eu hangen i wneud hynny.

Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at y prosesau caffael. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi y bydd addasu ein prosesau caffael yn annog ein cyflenwyr i gyhoeddi eu data yn agored a defnyddio ein ffynonellau data agored i wneud y broses honno yn fwy tryloyw. [Torri ar draws.]

Ar yr union bwynt hwnnw, tybed a fyddai'n bosibl i'r Gweinidog ateb yn awr neu drafod gyda'i chydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch a fydd data agored, neu ymrwymiad i ddata agored, yn rhan o'r ymrwymiad o dan y fasnachfraint rheilffyrdd, oherwydd mae budd sylweddol iawn i’w gael o ran integreiddio gwasanaethau bws a thrên, os caiff hynny ei ddylunio mewn modd sy’n cynnwys rhannu data yn awtomatig rhwng gwahanol ddarparwyr trafnidiaeth yn y dyfodol.

Ie, yn hollol. Rwy'n credu mai pwynt y ddadl, mewn gwirionedd, yw bod angen i ni edrych yn ôl rhywfaint ar ein systemau, ond wrth i ni ddatblygu systemau newydd, mae angen i ni eu datblygu yng nghyd-destun data agored i'r graddau y mae hynny'n bosibl ac y mae caniatâd i wneud hynny ac nad yw’n datgelu unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif. Felly, rwy'n gwbl grediniol y gallaf i ddweud hynny, ac mae angen i ni ddylunio'r systemau hynny yn y lle cyntaf. Wedi'r cyfan, rydym ni mewn cyfnod o newid yn ein diwylliant a’n harferion yn ein cymdeithas ynglŷn â sut yr ydym ni’n defnyddio data a sut yr ydym ni’n synio amdano, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn llwyr wireddu manteision y setiau data sydd ar gael i ni wrth gynllunio gwasanaethau ac adolygu ein heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, ac wedyn gwobrwyo ein hunain, os mynnwch chi, â’r gwelliannau sy'n deillio o'r defnydd newydd hwnnw o ddata. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt da iawn arall.

Ond fel yr oeddwn i’n ei ddweud, o ran y broses gaffael, er enghraifft, un o’r pethau yr ydym ni’n dymuno’i annog yw nid dim ond cyflenwad agored o ddata gan y Llywodraeth ynglŷn â’r hyn y mae’n ei gaffael, ond data agored gan ein cyflenwyr, o ran o ble maen nhw’n caffael ac ynglŷn â’u prosesau, fel y gall pobl roi dau a dau at ei gilydd heb gael pump o ran yr hyn a all godi o hynny.

Roeddwn i’n awyddus iawn i orffen ar y pwynt hwnnw, i ddweud y gwir. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â’n dwyn i gyfrif a’n gwneud ni’n atebol am y data yr ydym yn ei gynhyrchu. Nid yw yr un fath â chyhoeddi polisïau ac yn y blaen. Mae hyn yn ymwneud â'r data sy’n sail i hynny, fel y gwelwch chi—. Pan fyddwn yn cyflwyno polisi ar ddata agored, er enghraifft, gallwch chi fynd yn ôl ac edrych ar y data sydd gennym ni ar hyn o bryd a gweld a ydym ni’n driw i hynny. Nid ydych chi’n edrych ar y data dim ond ar ôl i ni gyhoeddi’r polisi ei hun.

Mae gennym ni hinsawdd economaidd heriol; mae angen i ni wneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael i ni i gyd. Mae data yn wir yn un o'r adnoddau newydd yn yr unfed ganrif ar hugain, ac mae angen i'r Llywodraeth sicrhau, wrth i ni greu mwy o ddata nag erioed o'r blaen, ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod y data hwnnw yn hygyrch, yn arloesol, a bodd ei ddefnyddio a’i ailddefnyddio. Felly, rwy'n hynod, hynod ddiolchgar bod yr Aelodau yn croesawu'r agenda, ein bod ni wedi dechrau’r trosglwyddo, os mynnwch chi, o ddeall y data sylfaenol yr ydym ni’n sôn amdano yma, sut y mae'n cyfateb i'n hagenda ar bolisi, sut yr ydym ni’n gallu cyhoeddi hynny mewn ffurf y gellir ei hailddefnyddio ac a fydd yn ysgogi busnesau arloesol yng Nghymru y mae arnom eu hangen ar gyfer y dyfodol, a hefyd yn arwain at y gwelliant yr hoffem ni i gyd ei weld yn y gwasanaethau cyhoeddus. Diolch, Llywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 2.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac yn symud yn syth, felly, i bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, wyth yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 12, Yn erbyn 27, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6507.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 4.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6507.

Rydw i’n awr yn galw am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6507 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf erioed a’i weithredu’n barhaus.

2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy’n annog pob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.

4. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o gasglu data ledled Cymru.

6. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a’u cyflawni.

7. Yn credu y dylid casglu data perfformiad a’i gyhoeddi mewn modd sy’n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6507 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:26.