Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58 y bydd arweinydd y tŷ, Jane Hutt, yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Nick Ramsay.

Ailbrisio Ardrethi Busnes

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan yr ailbrisio ardrethi busnes? OAQ(5)497(FM)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £20 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnesau sy’n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio ardrethi—£10 miliwn trwy ein cynllun rhyddhad trosiannol a £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi stryd fawr. Mae hyn yn ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi o £100 miliwn i fusnesau bach. Rydym wedi gweithredu i roi sicrwydd a diogelwch i drethdalwyr yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio.

Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Mae busnesau yn fy etholaeth i yn parhau i fod yn bryderus iawn am yr ailbrisio ardrethi busnes. Er bod croeso i unrhyw gymorth ychwanegol—rwy’n clywed am y rhyddhad y mae eich Llywodraeth wedi ei gyhoeddi— diferyn yn y môr yw’r gostyngiad ychwanegol i’r busnesau hynny sy'n wynebu'r cynnydd mwyaf. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o nifer y busnesau na fyddant yn elwa ar y cynllun cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith, ac a wnaiff y Llywodraeth edrych eto ar godi'r trothwy pan fo busnesau yn dechrau talu ardrethi busnes er mwyn osgoi rhai o’r achosion o gau busnesau ar raddfa fawr yr wyf yn ofni sy’n mynd i ddigwydd ar ôl mis Ebrill?

Bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o £10 miliwn yn cynorthwyo busnesau y byddai eu hawl i ryddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei effeithio'n andwyol gan ailbrisio. Mae ein rhyddhad ardrethi stryd fawr o £10 miliwn yn targedu busnesau yn eich etholaeth chi yn benodol. Rwy'n gwybod y ceir talwyr ardrethi stryd fawr, gan gynnwys siopau, tafarndai a chaffis, ac, wrth gwrs, gwrandawyd ar y pryderon ac ymatebwyd i'r busnesau bach yng Nghymru. Mae'r rhain yn gynlluniau a ariannwyd yn bwrpasol, ac, yn wir, maen nhw’n ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o £100 miliwn. O ganlyniad, bydd tri o bob pedwar busnes yn derbyn cymorth gyda'u biliau yn 2017-18.

Arweinydd y tŷ, o ganlyniad i ailbrisio, mae’r gwerth ardrethol cyfartalog yn Rhondda Cynon Taf wedi gostwng gan 6.1 y cant. Gan fod hwn yn batrwm eithaf cyffredin ar draws yr ardal, pa effaith allai hyn ei chael ar bolisïau Llywodraeth Cymru tuag at hybu ffyniant economaidd ar draws Cymoedd y De?

Wel, wrth gwrs, mae’r ystadegau a gyhoeddwyd gan yr awdurdod prisio yn dangos y bydd cyfanswm y gwerth ardrethol yn gostwng yn holl awdurdodau’r Cymoedd. Mae hynny'n golygu y bydd y rhan fwyaf o dalwyr ardrethi yn yr ardaloedd hyn yn elwa ar ostyngiad i’w biliau, ac rydym wedi cymryd camau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw i fusnesau drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o £100 miliwn. Ond, wrth gwrs, bydd Busnes Cymru, a'r holl ysgogwyr eraill a fydd yn cynorthwyo busnesau yn eich etholaeth chi, yn cael effaith ar gyfleoedd economaidd, gan gynnwys y fargen ddinesig, y mae Rhondda Cynon Taf yn bartner allweddol ynddi.

Er gwaethaf y pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon, mae hon yn dreth annheg yn ei hanfod. Mae'n achosi chwalfa economaidd ar ein strydoedd mawr. Onid yw'n bryd cael gwared ar y dreth hon yn gyfan gwbl a'i disodli gyda rhywbeth fel treth gwerthu ar y rhyngrwyd?

Yn amlwg, mae hwn yn fater lle’r ydym ni wedi gweithio dros gyfnod o amser, fel Llywodraeth sy’n sicr o blaid busnes, i gymryd camau i helpu busnesau newydd a phresennol, ac yn wir i edrych ar yr effaith nid yn unig o ran ailbrisio, ond ein cynllun cymorth busnes. Rydym ni’n ystyried cynllun parhaol newydd o ran rhyddhad ardrethi busnes bach o 2018, ac mae'n bwysig targedu cymorth mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru. Rydym wedi ymgysylltu mor eang â phosibl ar ein cynlluniau yn yr amser byr a oedd ar gael rhwng cyhoeddiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o’i rhestr ardrethi drafft a'r dyddiad erbyn pryd yr oedd yn rhaid i’r rheoliadau hyn fod ar waith. Ond eu cynllun nhw yw hwn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn ailddosbarthu'r swm sy'n daladwy rhwng adeiladau, gan adlewyrchu'r newidiadau i’r farchnad adeiladau. Eu cyfrifoldeb nhw yw hynny.

Arweinydd y tŷ, mae'r ailbrisio ardrethi busnes yn rhoi ein stryd fawr mewn perygl. Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu cynnydd anferth i’w biliau ardreth, ac eto nid yw eu trosiant yn cynyddu. I lawer, yr unig ddewis arall yw chwilio am adeiladau rhent â gwerth trethiannol llai oddi ar y stryd fawr, ac efallai mai hwn fydd y pennog gyda phwn a fydd yn torri asgwrn cefn y ceffyl i fanwerthwyr bach, annibynnol y stryd fawr. Mae cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth y DU yn cynnig cap ar gynnydd i ardrethi busnes ar gyfer y cwmnïau bach hynny sydd ar fin colli eu rhyddhad ardrethi. Arweinydd y tŷ, a wnaiff eich Llywodraeth ystyried gwneud rhywbeth tebyg i fanwerthwyr bach y stryd fawr yma yng Nghymru?

A gaf i ei gwneud yn eglur ein bod ni’n gwneud mwy na Llywodraeth y DU? Os edrychwch chi ar y cyllid ar gyfer y mesurau rhyddhad ardrethi a gyhoeddodd y Canghellor yr wythnos diwethaf, byddai'n dod i ychydig dros £12 miliwn. Pe byddem ni wedi dibynnu ar hynny, byddai wedi golygu £8 miliwn yn llai o gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru. Mae gennym ni ddau gynllun pwrpasol wedi’u hariannu'n llawn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r busnesau yn eich etholaeth yn elwa’n benodol ar y ddau hynny—nid dim ond y cynllun trosiannol, ond hefyd y cynllun newydd sy'n targedu’r talwyr ardrethi stryd fawr hynny yn benodol.

Effeithlonrwydd Ynni mewn Cartrefi

2. Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i flaenoriaethu effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi fel rhan o bolisi seilwaith cenedlaethol yng Nghymru? OAQ(5)0504(FM)

Mae buddsoddi mewn tai, gan gynnwys eu heffeithlonrwydd ynni, eisoes yn flaenoriaeth buddsoddi yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae ein gweledigaeth hirdymor a'r camau yr ydym ni’n eu cymryd yn y maes pwysig hwn wedi eu nodi yn y strategaeth effeithlonrwydd ynni, a gyhoeddwyd y llynedd.

Mae llawer o waith rhagorol eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru, ond gallai rhoi effeithlonrwydd ynni domestig ochr yn ochr â rhaglenni seilwaith eraill o bwysigrwydd cenedlaethol arwain at fanteision lluosog, gan gynnwys rhoi hwb sylweddol i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan ddarparu’r cartrefi cynnes a chlyd hynny, gwella iechyd a llesiant ein dinasyddion hŷn, lleihau'r allyriadau carbon trwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni, lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd y mae angen i ni eu hadeiladu, a chreu miloedd ar filoedd o swyddi ym mhob stryd ac ym mhob cymuned ledled y wlad. Felly, ymhell o fod yn ennill ennill, byddai'n ennill ennill, ennill ennill, ennill ennill, ‘ac ati’. Wrth i ni aros am ganlyniadau'r ymgynghoriad diweddar ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ a'r Prif Weinidog a'i Gabinet i ystyried o ddifrif y potensial enfawr i Gymru o roi effeithlonrwydd ynni fel seilwaith cenedlaethol a'r effaith weddnewidiol y gallai ei gael ar ffyniant a llesiant yn y dyfodol?

Wel, rwy'n cytuno’n llwyr â'r Aelod. Os edrychwch chi ar y cyfleoedd sydd gennym ni o ran ein seilwaith, nid yn unig cyflawni ein hymrwymiad lleihau carbon, ond yr effaith budd lluosydd ar gymaint o ganlyniadau: cartrefi wedi'u hinswleiddio'n well, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, helpu canlyniadau iechyd, addysg a llesiant, creu swyddi a gweithgarwch economaidd. Ond byddaf yn dweud ei bod yn bwysig ein bod ni wedi bod yn mireinio cylch gwaith a chylch gorchwyl y comisiwn seilwaith cenedlaethol arfaethedig i Gymru yn dilyn ein hymateb i'r adborth o'r ymgynghoriad. Bydd yn cynnwys seilwaith economaidd ac amgylcheddol, gan gynnwys ynni, a bydd yn ystyried y rhyngweithio â seilwaith cymdeithasol ar dai a materion cyflawni trawsbynciol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar gynlluniau ôl-ffitio gan fod llawer o’r stoc dai honno wedi ei meddiannu gan bobl sydd ag incwm isel neu’n agored i niwed mewn ffordd arall. Yn wir, pe byddem ni’n gwella'r sgiliau hyn ac yn datblygu cynhyrchion ôl-ffitio, byddem yn canfod marchnad wedyn mewn rhannau eraill o'r DU ar gyfer y sgiliau a’r cynhyrchion hynny, ac mewn rhannau eraill o Ewrop yn wir.

Yn wir, ac rwy’n meddwl mai dyma lle mae'n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda diwydiant o ran y cyfleoedd ar gyfer y sail sgiliau. Rydym ni’n ystyried ffyrdd y gallwn ddatblygu sgiliau a phrofiad nid yn unig ein gweithlu a'n pobl ifanc, ond hefyd, yn amlwg, drwy'r cynlluniau prentisiaeth yr ydym ni’n eu cefnogi.

Rwy’n cytuno â chynnig yr holwr gwreiddiol—nid oes unrhyw enghraifft well o'r hyn a drafodwyd gennym yr wythnos diwethaf yn y fan yma o economi sylfaenol na buddsoddi yn y maes hwn lle’r ydych chi’n cysylltu sgiliau ar lefel leol ac yn sicrhau bod gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei wasgaru ledled Cymru hefyd, oherwydd nid problem ranbarthol yw hon; mae wedi lledaenu ar draws Cymru o ran y tai hŷn sydd gennym ni. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau gan Lywodraeth Cymru yw diben sydd wedi’i nodi’n fwy eglur o ran buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni ac, fel y gofynnwyd eisoes, rhywbeth sy'n cael ei roi i mewn i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol fel tasg a nod y comisiwn hwnnw.

Rwyf eisoes wedi dweud ein bod ni’n mynd i newid y cylch gwaith o ganlyniad i'r ymgynghoriad o ran y comisiwn seilwaith. Mae'n bwysig ein bod ni’n cydnabod ein bod ni’n parhau i fuddsoddi £108 miliwn bob blwyddyn i sicrhau bod dros 222,000 o gartrefi cymdeithasol yn bodloni ac yn cynnal safon ansawdd tai Cymru. Cyfeiriodd David Melding at y stoc dai hŷn yng Nghymru, ond mae'r safon yn ei gwneud yn ofynnol i bob cartref cymdeithasol presennol sicrhau sgôr ynni o D neu uwch. Wrth gwrs, mae hon yn rhaglen Cymru gyfan ac mae cyllideb o £20 miliwn am gael ei rhoi ar gael i gefnogi'r rhaglen hon.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, er nad yw ein potensial economaidd wedi ei wireddu eto, gallwn eisoes weld bod Cymru yn genedl allforio gref. Y llynedd, roedd gennym warged masnach o £2.2 biliwn gyda'r UE. Roedd ein gwarged yn uwch nag yn 2015, pan oedd yn £1.5 biliwn. Gyda gwledydd y tu allan i'r UE, roedd gennym ddiffyg masnach o £2.3 biliwn, tra bod gan y DU yn ei chyfanrwydd ddiffygion masnach gyda marchnad yr UE a marchnadoedd y tu allan i'r UE. Pa ddyfodol ydych chi’n ei weld i’n gwarged masnach yr UE os byddwn ni’n cael ein tynnu allan o'r farchnad sengl?

Mae'n bwysig ein bod ni’n cydnabod gwerth allforion i Gymru ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys 2016—£12.3 biliwn, cynnydd o £725 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Wrth gwrs, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud, mae Cymru yn elwa’n aruthrol ar integreiddio presennol gyda marchnad sengl yr UE, gyda mynediad at dros 500 miliwn o gwsmeriaid. Felly, gallai hynny fod yn effaith enfawr, yn amlwg, o ran y rhagolygon o ran sut yr ydym ni’n ymadael a sut yr ydym ni’n gwneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu.

Mae Plaid Cymru yn rhagweld dyfodol anodd i’r allforwyr hynny sy'n dibynnu ar y farchnad sengl. Mae gennym ni rai yn Llywodraeth y DU yn sôn erbyn hyn am adael yr UE heb unrhyw gytundeb o gwbl, a fydd yn golygu rheolau Sefydliad Masnach y Byd i bob pwrpas. Dyna fyddai'r math caletaf posibl o Brexit. Gallai arwain at dariffau yn y dyfodol a rhwystrau eraill. Ac ar yr ochr gymdeithasol ac amgylcheddol, gallai arwain at ddadreoleiddio a gostwng safonau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi bellach y bydd y llythyr erthygl 50 yn cael ei anfon yn ddiweddarach y mis hwn. Mae hynny'n golygu bod ffenestr o gyfle, ffenestr lle gellir cael rhywfaint o ddylanwad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn awyddus i Lywodraeth y DU ymgynghori â hi. Tybed a allwch chi ddweud wrthym: a ydych chi wedi cael unrhyw ymgynghoriad eto? A beth yw goblygiadau Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r llythyr erthygl 50 hwnnw heb ymgynghori’n llawn â Chymru o ran ei gynnwys?

Yn amlwg, rydym ni eisiau proses erthygl 50 sy'n adlewyrchu buddiannau Cymru o fewn fframwaith trafod ehangach y DU ac, a dweud y gwir, cyflwynwyd ynghyd â Phlaid Cymru safbwynt Llywodraeth Cymru sydd wedi ei nodi’n gynhwysfawr yn ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru' ar sail y chwe phwynt hynny, gan gynnwys parhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a sicrhau nad yw Cymru yn colli yr un geiniog o gyllid o ganlyniad i adael yr UE. Felly, rydym ni’n sicr yn dymuno cael ymgynghoriad ar unrhyw lythyr erthygl 50 cyn ei gyhoeddi, ac yn disgwyl y bydd hynny’n digwydd. Gwnaeth y Prif Weinidog hi’n eglur iawn i Lywodraeth y DU y byddai unrhyw beth llai na hynny yn gwbl anghydnaws â'r dull a gytunwyd rhyngddynt yn y Cydbwyllgor Gweinidogion ar ôl canlyniad y refferendwm. Rydym ni, fel y gwyddoch, wedi anfon copi gyda’n gilydd o'n Papur Gwyn i'r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae'n eithaf eglur beth mae eich Llywodraeth chi ei eisiau. Yr hyn nad yw’n eglur yw’r hyn y byddwch yn ei wneud os na fyddwch chi’n ei gael. Ddoe, gwelsom sut y bydd cam-drafod Brexit yn arwain at refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban. Gallai’r refferendwm hwnnw roi terfyn ar y Deyrnas Unedig. Gallai’r wladwriaeth, fel yr ydym yn ei hadnabod, beidio â bodoli mwyach, a byddai hynny'n newid radical i Gymru. Ond byddai hefyd yn creu’r cyfle i fod yn fwy beiddgar, yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy hyderus am ein dyfodol ein hunain, ac rwy’n amau ​​y gallai fod pobl yn y Siambr hon hyd yn oed a gefnogodd ymgyrch ‘Na’ yr Alban y tro diwethaf a fyddai’n teimlo'n llai cyfforddus yn gwneud hynny nawr. Arweinydd y tŷ, roedd diffyg manylion yn natganiad y Prif Weinidog ddoe ar refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Nid oedd yn dweud fawr ddim am ddyfodol Cymru. A allwch chi ychwanegu mwy o fanylion ar ble’r ydych chi’n gweld y Llywodraeth yn mynd â Chymru dros y ddwy flynedd nesaf? Beth yw eich gweledigaeth? A pha gynlluniau y mae’n rhaid i’ch Llywodraeth eu rhoi ar waith ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol ac economaidd y wlad hon?

Dychwelaf at eich ail gwestiwn ynghylch ymgysylltu a dylanwad o ran y llythyr erthygl 50, a dim ond i ddweud mai’r pwynt y byddwn i’n ei wneud ac y byddai'r Prif Weinidog yn ei wneud yw bod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod sicrhau dyfodol Cymru a chyflawniad hynny o ganlyniad i gefnogaeth ar draws y Siambr hon, yn enwedig fel cyd-lofnodwyr y Papur Gwyn hwnnw, a’n bod yn defnyddio ein dylanwad i ddweud beth yr ydym ni’n ei ddisgwyl o ran ymgysylltu ar y llythyr erthygl 50 hwnnw.

Wrth gwrs, o ran eich trydydd cwestiwn, mae’n iawn bod dyfodol cyfansoddiadol yr Alban yn cael ei benderfynu gan bobl yr Alban. Rydym ni’n eglur ein bod ni’n credu bod y DU yn parhau i fod yn well gyda'i gilydd, a'r llynedd, etholwyd Llafur Cymru ar sail neges o undod. Dyna yw ein harwyddair o hyd i'r Llywodraeth hon. Ond rwy’n meddwl mai’r pwynt pwysig i ni heddiw, fel plaid ac fel Llywodraeth, yw ein bod ni’n dal i fod wedi ymrwymo i’r undeb ac i'r broses cydbwyllgor Gweinidogion parhaus yn ymwneud â gadael yr UE. Yn wir, mae'r Albanwyr yn dweud nad oes ganddynt unrhyw fwriad o adael y cydbwyllgor lle mae gennym ni achos cyffredin ar nifer o faterion o ran ein trafodaethau ar adael yr UE.

Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, bydd llawer ohonom ni wedi gweld yn y cyfryngau dros yr wythnos ddiwethaf y delweddau brawychus o gamddefnyddio cyffuriau, gyda phobl yn anymwybodol mewn mannau cyhoeddus, a ni all rhywun ond teimlo llawer iawn o gydymdeimlad â’r unigolion sydd wedi disgyn mor isel ag i fod yn y sefyllfa honno, a bod yr un mor awyddus i wneud yn siŵr bod cynifer o fesurau diogelu â phosibl yn cael eu cyflwyno i geisio datrys y problemau sydd gan bobl yn eu bywydau sydd wedi eu harwain i’r sefyllfa drasig dros ben hon. Yn anffodus, mae llawer o’r sylw hwnnw yn y cyfryngau wedi rhoi darlun negyddol iawn o dref benodol yng Nghymru, delwedd na fydd llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn ei hadnabod o'n hymweliadau â’r dref honno, ond mae'n ffaith bod y delweddau hynny wedi bod yn y cyfryngau cenedlaethol.

Heddiw, mae gennym ni Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn galw am gyfreithloni cyffuriau fel ateb i'r mater hwn. Ar yr ochr hon i'r tŷ, yn sicr nid ydym yn credu bod hynny'n wir, ond byddwn yn ddiolchgar, yn eich swyddogaeth fel arweinydd y tŷ yn ymateb ar ran y Prif Weinidog heddiw, pe gallech roi ymateb y Llywodraeth i ni ar ba gamau yr ydych chi’n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru, o gofio eich bod chi wedi cynnal cyfarfod yr wythnos diwethaf rhwng y comisiynydd heddlu a throseddu, chi eich hunain ac asiantaethau eraill i geisio mynd i'r afael â rhai o'r diffygion yn y maes penodol hwn.

Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, os edrychwn ni ar y gogledd yn benodol, bod Llywodraeth Cymru yn darparu dros £4.9 miliwn o'r gronfa gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau i fwrdd cynllunio ardal gogledd Cymru. Diben hynny yw comisiynu amrywiaeth o wasanaethau a arweinir gan anghenion a ddarperir gan y darparwyr yn y rhanbarth hwnnw. Rwy’n meddwl, o ran y mater o geriach a gwelededd presennol unigolion â phroblemau camddefnyddio sylweddau yng nghanol y dref, yn amlwg, bu’n rhaid i hynny arwain, fel y mae, at ddull amlasiantaeth. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, Heddlu Gogledd Cymru, y comisiynydd heddlu a throseddu, awdurdod lleol Wrecsam a sefydliadau’r sector gwirfoddol.

Roeddwn i wedi gobeithio, gyda'r amser sydd wedi mynd heibio ers rhedeg y stori wreiddiol hon tua 10 diwrnod yn ôl, efallai y byddem ni wedi cael ateb llawnach gan arweinydd y tŷ, o ystyried y pwyntiau a godais. Oherwydd cyflwynodd Llywodraeth Cymru, yn 2008, strategaeth, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', ac o'r hyn a welwn yn y mathau hyn o ddelweddau, mae’n amlwg nad yw’r strategaeth honno, o'r hyn y gallaf ei weld, yn gweithio. Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnal o’r strategaeth hon a'r cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol, i’r heddluoedd yma, y comisiynydd heddlu a throseddu ac asiantaethau cymorth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, i roi sylw i’r materion hyn sy'n digwydd ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, ar y strydoedd mewn trefi a phentrefi ledled Cymru, sy’n crefu am ateb a chymorth gan Lywodraeth ganolog yn y fan yma—Llywodraeth Cymru? Yn arbennig, mae’r strategaeth hon wedi bod ar waith gennych ers 10 mlynedd ac mae’n dechrau cyrraedd y diwedd erbyn hyn, ac eto, rydym ni’n gweld y delweddau erchyll hyn a ddangoswyd ar y cyfryngau sy'n digwydd mewn mannau cyhoeddus y funud hon.

Wrth gwrs, rwyf wedi nodi ein buddsoddiad yn y gronfa gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau ac mae hynny ar gael i'r rheini sy'n darparu ar lawr gwlad—bwrdd cynllunio ardal gogledd Cymru. Ond hoffwn ddweud hefyd, pan maen nhw wedi dod at ei gilydd i edrych yn benodol ar y materion mwyaf diweddar, maen nhw wedi datblygu cynllun gweithredu canol tref cynhwysfawr. Mae'n cynnwys nifer o gamau gweithredu. Mae'n rhaid iddo ymwneud ag anghenion ac amgylchiadau sy'n newid yn gyson o ran camddefnyddio sylweddau, ond ceir nifer o brosiectau arfaethedig wedi’u cydgysylltu gan Cais trwy ganolfan wella Champions’ House a mannau problemus a nodwyd hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gwaith glanhau wedi digwydd. Ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n cydnabod bod hyn yn ymwneud â'r camddefnyddio sylweddau y mae angen i ni ei ystyried o ran arfer gorau, a dyna lle mae'r cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau mor berthnasol.

Arweinydd y tŷ, mae Andrew Atkinson, sef cadeirydd grŵp llywio fforwm canol tref Wrecsam, wedi nodi ei bod yn ymddangos bod pawb yn rhoi’r bai ar bawb arall, yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem. Clywais oddi ar eu heistedd ar yr ochr arall, gan genedlaetholwyr Cymru, eu bod yn credu bod cyfreithloni cyffuriau yn ddewis synhwyrol yma. O'r ochr hon o'r tŷ, nid ydym yn credu yn sicr bod cyfreithloni cyffuriau yn rhan o'r ateb. Ac, yn benodol, pan welwch chi fod y marwolaethau o gyffuriau wedi dyblu ers 2012, a bod 114,000 wedi marw y llynedd, mae’n amlwg nad dyna’r ffordd i ddatrys y broblem hon. Yr hyn yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Mae llawer o fwmian yn dod o’r ochr arall i’r tŷ. [Torri ar draws.] Gan y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, mae’n amlwg nawr bod angen i weithgor gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ddod â’r elusennau, y cyrff iechyd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru at ei gilydd i wneud yn siŵr y gallwn gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r mater hwn, yn enwedig yn Wrecsam, lle mae'n ymddangos bod diwylliant o fwrw bai yn datblygu, yn hytrach na'r gallu i fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn y mae llawer o'r bobl hyn yn ei wynebu, a'r drasiedi bod eu bywydau wedi mynd allan o reolaeth. Yn y pen draw, maen nhw angen cymorth y Llywodraeth yn gweithio gyda chyrff a noddir i roi'r mesurau ar waith. A gaf i gadarnhau y byddwch chi’n gwneud hynny?

Rwyf wedi nodi nid yn unig yn ein strategaeth, ei diweddaru, a’r buddsoddiad, ond byddwn yn gobeithio hefyd bod Andrew R.T. Davies hefyd yn siarad â'r cynghorwyr Ceidwadol yn Wrecsam, a’r cynghorwyr annibynnol yn wir, sydd ar flaen y gad o ran cyfrifoldeb am hyn, ond gyda’n cymorth ni a chyda chymorth y panel amlasiantaeth hwnnw a'r cynllun gweithredu y maen nhw wedi ei lunio.

Bydd arweinydd y tŷ wedi gweld nad oedd cyllideb yr wythnos diwethaf yn llwyddiant ysgubol i’r Canghellor nac i'r Llywodraeth. A ydy hi a Llywodraeth Cymru yn dysgu unrhyw wersi o'r profiad hwnnw, gyda golwg ar sut y maen nhw’n mynd i arfer y pwerau amrywio trethi yr ydym ni ar fin eu cael o dan Ddeddf Cymru 2017?

Wel, rwy’n meddwl, o ran cyllideb yr wythnos ddiwethaf—rwy’n credu iddi gael ei disgrifio fel y gyllideb 'omNICshambles', cyllideb yn sicr sydd wedi taro pobl hunangyflogedig yn galed iawn gyda chynnydd o £2 biliwn i gyfraniadau yswiriant gwladol. Ac mae hynny’n effeithio ar lawer o bobl yr ydym ni’n siarad amdanynt, ac mae'r FSB yn siarad amdanynt, o ran pobl hunangyflogedig sy'n cymryd risgiau, gan arwain twf a chynhyrchiant yn yr economi. Felly, nid oes angen unrhyw wersi arnom ni. Mae Llywodraeth y DU a 'Spreadsheet Phil' angen gwersi gennym ni, a chan ein Hysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol byddwn i’n dweud, oherwydd, mae'r cyllid ychwanegol—[Torri ar draws.] A gaf i ddweud, rydych chi wedi gofyn y cwestiwn i mi, Neil Hamilton—?

Gadewch i ni wrando ar arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda.

Nid yw'r cyllid ychwanegol yn newid maint y gostyngiadau i wariant yr ydym ni’n eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Er gwaethaf yr ychwanegiadau bach, bydd ein cyllideb gyfalaf yn 2019-20 yn dal i fod 11 y cant yn is mewn termau real nag yn 2010-11, a bydd ein cyllideb refeniw yn dal i fod 8 y cant yn is.

Gyda phob parch, nid atebodd arweinydd y tŷ fy nghwestiwn. Yr hyn yr oeddwn i’n awyddus i’w ddarganfod oedd pa un a yw'n ei gwneud yn fwy neu'n llai tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau i amrywio cyfraddau treth incwm, eu codi yn hytrach na’u gostwng, neu i'r gwrthwyneb. Ceir llawer o dystiolaeth economaidd i ddangos y gall cyfraddau treth is gynhyrchu refeniw treth uwch. Yn y 1980au, pan ostyngwyd trethi gan Nigel Lawson, dyna oedd yr effaith. Ym 1979, talodd yr 1 y cant uchaf o enillwyr 11 y cant o'r holl refeniw treth. Erbyn 1997, talwyd 21 y cant ganddynt, er gwaethaf y ffaith fod y gyfradd uchaf o dreth incwm wedi ei gostwng o 83 y cant yn y bunt i 40 y cant. Felly, onid yw'n synhwyrol i Lywodraeth Cymru feddwl yn nhermau gwneud Cymru yn rhyw fath o hafan treth o fewn y Deyrnas Unedig?

Wyddoch chi, nid wyf yn meddwl y byddem ni’n disgwyl unrhyw beth gwahanol gan arweinydd UKIP. Byddwn wedi gobeithio y byddai arweinydd UKIP yn ystyried effaith cyllideb y Canghellor yr wythnos diwethaf, yr effaith ar y bobl yr ydym ni’n eu cynrychioli, effaith y ffaith fod y tro yng nghynffon y gyllideb honno a'r rhagolygon yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud toriad o £3.5 biliwn ar gyfer 2019-20, a allai olygu tynnu £175 miliwn arall allan o gyllideb Llywodraeth Cymru. Dyna’r hyn yr wyf i’n pryderu amdano ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ystyried hynny o ran goblygiadau’r gyllideb hon, nid yn unig i bobl hunangyflogedig, ond i rai o'r bobl dlotaf yng Nghymru. Bydd yr hyn yr ydym ni’n ei wario fesul pen o'r boblogaeth yn gostwng gan 4 y cant mewn termau real dros gyfnod rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Gyda phob parch, rhoddaf gynnig arall arni. Nid wyf wedi cael ateb i fy nghwestiwn o hyd. A yw arweinydd y tŷ yn derbyn y gall cyfraddau treth is gynhyrchu refeniw treth uwch? Os felly, mae pawb yn ennill.

Wel, cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, rydym ni’n cymryd cyfrifoldeb ac, yn wir, mae gennym ni ein cyfrifoldebau yr ydym ni’n bwrw ymlaen â nhw mewn deddfwriaeth nawr o ran y trethi datganoledig sydd ar eu ffordd, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ddadl ar hyn yn ystod y pythefnos nesaf. Ond rwy'n credu bod angen i ni gydnabod, ac rwy’n gobeithio fod Neil Hamilton yn cydnabod, effaith niweidiol y penderfyniadau a wnaed yr wythnos diwethaf gan 'Spreadsheet Phil' lle gwnaeth smonach o’i gyllideb gyntaf, a chydnabod hefyd y ffaith fod hynny’n wael, y ffaith ei fod yn tanseilio eu cenhadaeth o hyrwyddo'r DU fel lle i ddechrau busnes newydd ynddo.

Cydraddoldeb o ran Buddsoddiad

3. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gymryd camau i sicrhau cydraddoldeb o ran lefel buddsoddiad y llywodraeth ym mhob rhan o Gymru? OAQ(5)0506(FM)

Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein blaenoriaethau a’r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er budd pob rhan o Gymru ym mhob agwedd ar gymdeithas.

Mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dangos bod lefel gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru ar seilwaith yn y de-ddwyrain ddwywaith hynny fesul pen yn y gogledd, a thair gwaith y ffigur ar gyfer y canolbarth a’r gorllewin. Hynny yw, pryder ynghylch y bwlch buddsoddi enfawr hwnnw a arweiniodd at fy mhlaid yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol yr wythnos diwethaf. Pa sicrwydd—[Torri ar draws.] Pa sicrwydd—[Torri ar draws.]

Pa sicrwydd all hi ei roi i fy mhlaid ac i Aelodau ar bob ochr sy'n cynrychioli’r rhanbarthau hynny y byddwn ni’nn cael buddsoddiad cyfartal i bob rhan o Gymru fel y gallwn weld ffyniant yn cael ei rannu ar draws ein gwlad?

Wel, rwy’n meddwl bod yr Aelod wedi gweld dyraniadau cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau heddlu ar gyfer 2017-18, ac wedi gweld mai dim ond un ardal sydd lle ceir dyraniad ychydig yn wahanol y pen, a hoffwn rannu hyn eto gyda'r Aelod. O ran gwariant cyfalaf, ar sail Cymru gyfan mae hynny’n hanfodol bwysig o ran ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol, ein buddsoddiad mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a’n buddsoddiad mewn trafnidiaeth. Gallaf, unwaith eto, roi’r buddsoddiadau i chi mewn, er enghraifft, rheoli perygl llifogydd ac arfordirol, yn cefnogi Cymru gyfan gyda £144 miliwn; £700 miliwn i wella ein rhwydwaith cefnffyrdd; ac o ran y gogledd, yn arbennig o bwysig, £50 miliwn i hybu datblygiadau metro gogledd-ddwyrain Cymru, gyda photensial i ehangu i’r gorllewin yn y dyfodol. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y gyllideb atodol, mae’r hyn a oedd yn y gyllideb atodol honno’n bwysig iawn i bobl Cymru. Mae'n £170 miliwn i gefnogi GIG Cymru—i roi un enghraifft yn unig—ac £16 miliwn i gronfa driniaeth ar gyfer mathau newydd o driniaeth; cyllid ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer addysg uwch; a £55.5 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r gwaith o adeiladu a chynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau i gyflymu'r gwaith o gyflawni ffordd osgoi Llandeilo yn sgil ein cytundebau cyllideb. Felly, gadewch i ni gydnabod pwysigrwydd ein hystyriaethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, ceir cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ceir cytundeb dinas bae Abertawe arfaethedig, a cheir cytundeb twf gogledd Cymru. Pa ystyriaeth a roddwyd i gytundeb twf canolbarth Cymru ar yr un raddfa, i sicrhau bod lefel debyg o fuddsoddiad ym mhedwaredd rhanbarth economaidd Cymru sy’n weddill?

Wrth gwrs, mae gwaith wedi ei wneud, fel y gwyddoch, Russell George, o ran sut y gallwn ymateb i gyfleoedd twf yn y canolbarth, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn berthnasol i ddweud—ac rwy’n mynd i fod yn berthnasol iawn i’ch ardal chi—bod y rhain yn ymwneud â dewisiadau cyllideb o ran y toriadau hynny i’r rhaglen gyfalaf yr wyf i wedi sôn amdanynt eisoes. Ond rydym ni’n adeiladu pum ysgol gynradd newydd ym Mhowys—a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hynny mor bwysig i ragolygon eich plant a’ch pobl ifanc o ran cyfleoedd twf yn y canolbarth.

Arweinydd y tŷ, er na fyddech chi’n ei gredu, roedd cryn dipyn o gonsensws yr wythnos diwethaf yn ystod y ddadl ar yr economi sylfaenol, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll gan Simon Thomas, a chytunwyd yn unfrydol yn y Siambr bod busnesau bach brodorol yn cysylltu â'i gilydd mewn ffordd nad yw'n digwydd mewn cwmnïau mawr. Cytunwyd bod angen ymestyn rhwydweithiau o gyfalaf cymdeithasol y tu hwnt i gyd-destunau cymdeithasol lleol. Cytunwyd hefyd bod daearyddiaeth Cymoedd y de wedi bod yn rhwystr i hyn yn y gorffennol. A fyddai arweinydd y tŷ yn derbyn felly, er mwyn i fuddsoddiad y Llywodraeth sydd wedi ei ganolbwyntio yn yr ardal hon fod yn llwyddiannus, y dylid ystyried y Cymoedd gogleddol yn gymunedau cyd-ddibynnol, yn cysylltu’r dwyrain a'r gorllewin, ac nid dim ond adenydd sy’n cysylltu i ganolfan dinas?

Mae bob amser yn dda pan fyddwn ni’n dychwelyd i gonsensws yn y Siambr hon, fel y gwnaethom, yn bendant iawn, o ran y ddadl honno ar yr economi sylfaenol, yr ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn gadarnhaol iawn iddi, wrth gwrs. Roedd gen i ddiddordeb hefyd mewn gweld y dadleuon cryf iawn dros y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud, Hefin David, ar gyd-ddibyniaeth y Cymoedd gogleddol, gyda Vikki Howells, mewn erthygl yn y ‘Western Mail.' Mae'n bwynt perthnasol iawn o ran y cytundeb dinas-ranbarth, oherwydd mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cydnabod y Cymoedd gogleddol ac nad yw’n tynnu i lawr yn unig, ei fod yn mynd i fyny, a’r gyd-ddibyniaeth honno.

Awtistiaeth

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer pobl ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0509(FM)[W]

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu dull cenedlaethol o ymdrin ag awtistiaeth. Rydym ni wedi darparu £6 miliwn ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd. Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu strategol diweddaraf ar 30 Tachwedd o ganlyniad i ymgynghori helaeth.

Diolch ichi am eich ateb. Mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru, wrth gwrs, wedi galw am gofnod o’r niferoedd o bobl sydd ar y sbectrwm er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau yn fwy effeithiol ac yn fwy cynhwysfawr. Nawr, mi fydd disgwyl cofnod, wrth gwrs, o’r bobl awtistig sydd â chynllun gofal o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, ond mae nifer o bobl ag awtistiaeth sydd ddim â chynllun gofal ac mae yna bobl eraill sydd yn mynd i mewn ac allan o’r system. A gaf i ofyn, felly, pryd fydd eich Llywodraeth chi’n mynnu bod cofnod llawn yn cael ei gadw er mwyn sicrhau bod yr adnoddau llawn a’r ddarpariaeth lawn yn cael eu darparu lle mae eu hangen ym mhob rhan o Gymru?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n berthnasol iawn i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan grŵp cynghori ar weithrediad y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig i Gymru. Yn wir, mae’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn aelod o’r grŵp gweithredu hwnnw, a, chan ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn ddiweddarach y mis hwn, mae'r grŵp yn mynd i fod yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ddiwedd y mis. Ond, wrth gwrs, o edrych ar y cynllun hwnnw, mae angen y data arno; mae angen i ni weithio ar y data hynny. Ond mae hefyd yn ymwneud â'r targed amser aros 26 wythnos newydd o atgyfeiriad i apwyntiad cyntaf i blant ag awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill i gyflymu mynediad at gymorth.

Weinidog—mae'n ddrwg gen i, arweinydd y tŷ—rwy’n deall, yn amlwg, nad yw’r cynllun gweithredu strategol ond wedi bod ar waith am tua phump neu chwe mis, ond yr hyn y mae gwir angen i ni ei weld yw sut y mae'r bylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn enwedig ar gyfer oedolion, yn mynd i gael eu llenwi. Yn Sir Benfro, ceir bwlch enfawr yn y ddarpariaeth o wasanaethau i oedolion ag awtistiaeth ac nid yw’n ymddangos bod gan Gyngor Sir Penfro na'r bwrdd iechyd lleol ddull digon cydlynol o allu llenwi'r bylchau hynny. Felly, beth allwch chi, fel Llywodraeth Cymru, ei wneud i annog hynny i ddigwydd, oherwydd gallaf ddweud wrthych chi nawr, nid yw eich cynllun gweithredu strategol yn cyffwrdd yr ochrau hyd yn oed yn hynny o beth?

Rwy'n meddwl bod y £6 miliwn yr ydym ni wedi ei gyfrannu at ddatblygu ein gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd yn dechrau cael y math o effaith y byddai'r Aelod eisiau ei weld. Mae'n fuddsoddiad dros dair blynedd. Mae'n mynd i gael ei gyflwyno ledled Cymru erbyn 2019, ac mae'n mynd i arwain at dimau arbenigol newydd ym mhob rhanbarth sy'n darparu diagnosis i oedolion, cymorth yn y gymuned, a chyngor a gwybodaeth i oedolion ag awtistiaeth ac i’w rhieni a’u gofalwyr.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen waith Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru rhwng nawr a phan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0501(FM)

Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn parhau i weithredu ein rhaglenni ariannu'r UE, fel y cytunwyd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, i ddarparu swyddi a thwf. Mae bron i ddwy ran o dair o'r arian wedi cael ei ymrwymo hyd yn hyn, a’n nod yw buddsoddi holl arian yr UE sydd ar gael i Gymru erbyn dechrau 2019.

Diolch am y diweddariad yna. Efallai eich bod eisoes yn gwybod, yn ogystal â nodi y dylai arian cyfatebol ddod i Gymru ar ôl ymadael, bod tystion sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor materion allanol wedi dweud bod hwn yn gyfle i wneud pethau'n wahanol o ran cyllid rhanbarthol. A allwch chi ddweud wrthyf faint o'r ceisiadau sydd gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar hyn o bryd sy’n seiliedig ar y sector preifat yn cymryd yr awenau cyflenwi? A pha gyngor y mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ei roi i gynigwyr am yr arian hwnnw sy’n weddill i wneud yn siŵr bod ei phrosiectau hirdymor yn ddigon hyblyg yn strwythurol—efallai y caf i ei roi felly—i wneud yn siŵr y gallant bara unwaith y bydd dyddiau’r Comisiwn o gyfeirio cyllid rhanbarthol wedi mynd heibio?

Wel, yn amlwg, mae prosiectau UE gwerth sawl miliwn yn cynnwys prentisiaethau Busnes Cymru, sy’n uniongyrchol berthnasol i'r sector preifat, gweithle’r de-orllewin a mwy, y byddwch yn ymwybodol iawn ohono yn eich rhanbarth chi, yn cael effaith trwy roi hwb i fusnesau, gan eu helpu i gynyddu rhagolygon gwaith a sgiliau ein pobl, ond gan sicrhau hefyd, trwy’r pwyllgor monitro rhaglenni, ein bod ni’n ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid o Gymru, gan gynnwys y sector preifat o ran safbwynt Cymru cyffredin ar drefniadau ar gyfer ariannu rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hynny'n hollbwysig—mae’r PMC yn cael ei gadeirio gan Julie Morgan—o ran diogelu’r buddsoddiadau hynny.

Arweinydd y tŷ, fel y nododd Suzy Davies, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn gweithredu yn unol â rheolau polisi rhanbarthol yr UE ar hyn o bryd, ond mewn dwy flynedd nid ydynt yn mynd i fod yno, i bob pwrpas. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi rhanbarthol yn y dyfodol, ac a ydych chi’n achub ar y cyfle i fod yn greadigol yn yr agenda i sicrhau y gall yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru fod mewn gwirionedd yn unigryw i Gymru?

Rwy’n meddwl bod ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn hanfodol bwysig gan ei fod yn cyflwyno’r hyn a wnaethom yn eglur o ran datblygiad economaidd rhanbarthol—. Mae'n eglur iawn, iawn bod hwnnw'n gymhwysedd datganoledig, ac mae'n rhaid iddo aros felly. Byddem yn gwrthsefyll yn gadarn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i wrthdroi unrhyw fath o ddatganoli a chymryd rheolaeth dros bolisi rhanbarthol. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi hynny ar y cofnod heddiw. Mae'n bwysig bod gennym ni ein hymgysylltiad drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, lle mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ein cynrychioli ni. Ef a gyflwynodd ein Papur Gwyn yn eu cyfarfod ar 8 Chwefror.

Addysg Ôl-16

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysg ôl-16 yng Nghymru? OAQ(5)0503(FM)

Mae addysg bellach yn cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad sgiliau, gwella rhagolygon cyflogaeth a gyrfaoedd i ddysgwyr yng Nghymru a pherfformiad cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n sicrhau y gall ein pobl ifanc gael mynediad at y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu gyrfaoedd ac y gall oedolion ddatblygu eu sgiliau i gefnogi ein heconomi sy'n tyfu.

Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Bu llawer o sôn am yr angen am barch cydradd rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn y Siambr hon yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ond mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu â chyflawni ar y sgwrs na’r uchelgais honno. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, mewn gwirionedd, wedi cadarnhau mewn adroddiad diweddar ar oruchwylio cyllid colegau addysg bellach y bu toriad sylweddol o £22 miliwn i'n colegau AB dros y pum mlynedd diwethaf, a bod hynny wedi eu hatal rhag gallu gwneud rhywfaint o gynnydd. A dweud y gwir, rydym ni’n gweld nawr bron i hanner ein colegau yng Nghymru yn cario diffygion mawr ac yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn. Tybed, arweinydd y tŷ, a allwch chi ddweud wrthyf pa gamau, yn benodol, y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn sgil yr arbedion a fydd yn cael eu sicrhau trwy newidiadau i gymorth i fyfyrwyr addysg uwch o ran buddsoddi rhywfaint o’r arian hwnnw yn ein sector addysg bellach er mwyn ailgydbwyso'r sefyllfa o ran cydraddoldeb rhwng y ddau fath o addysg.

Wel, wyddoch chi—mae’n hawdd i chi siarad. Rydym ni’n cyflawni, a dweud y gwir, fel Llywodraeth Lafur Cymru. [Torri ar draws.] Mae'n rhaid i mi ddweud, o ran ein dull gweithredu yng Nghymru, lle nid yn unig yr ydym ni wedi sefydlu—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi sefydlu dull o ymdrin â chymwysterau galwedigaethol a thechnegol yr ydym ni wedi eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr. Rydym ni wedi elwa ar gydweithrediad, gan ymgysylltu â Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae gennym ni ddull a gydnabyddir yn rhyngwladol o ymdrin â phrentisiaethau, cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, fel y gallwn weld o’r buddsoddiad a'n hymrwymiad i 100,000 o brentisiaethau, ac mae gennym ni’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i benderfynu ar yr angen a'r galw am sgiliau yng Nghymru. Nawr, nid wyf yn cydnabod y pwyntiau a wnewch o gwbl ac, wrth gwrs, mae’r cyflogwyr hynny, er enghraifft, y cyfarfûm â nhw yr wythnos diwethaf, sy'n mynd ati i gael pobl ifanc i mewn i wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg—ac yn wir fe wnaeth Julie James annerch llawer ohonynt ddoe—maen nhw’n gweld, mewn gwirionedd, bod parch cydradd o ran cyfleoedd galwedigaethol yn hanfodol i bobl ifanc. Mae'r llwybr prentisiaeth yn un y mae pobl ifanc yn dymuno ei ddilyn ac yn ymgysylltu ag ef nawr.

Wel, ar yr un thema, yn amlwg mae yna ymchwil gan YouGov y llynedd sydd wedi dangos mai dim ond 7 y cant o bobl rhwng 18 a 24 oed a oedd yn ystyried prentisiaeth fel yr opsiwn gorau iddyn nhw, i’w gymharu â 68 y cant a oedd yn gweld mai addysg uwch oedd yn cynnig yr opsiwn gorau iddyn nhw. Felly, mae’r canfyddiad yn dal i fod yna, onid yw e, rydw i’n meddwl, nad oes yna barch cydradd, os leiciwch chi, yn sicr rhwng y cyrsiau galwedigaethol a’r cyrsiau academaidd. Felly, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, er enghraifft, i hyrwyddo canfyddiadau ymchwil y Sutton Trust, sy’n dangos bod enillion posib rhai o’r prentisiaid gorau filoedd lawer o bunnoedd yn fwy, dros gwrs eu bywydau, na myfyrwyr sydd wedi bod mewn addysg uwch y tu fas i’r Grŵp Russell o brifysgolion—heb, wrth gwrs, y dyledion sy’n dod yn sgil addysg uwch, hefyd?

Cewch. Hynny yw, mae hynny’n amlwg—. Mae effaith ein buddsoddiad mewn 100,000 o brentisiaethau o ansawdd yn siarad drosto'i hun: elfen allweddol yn 'Symud Cymru Ymlaen', gan gydnabod gwerth y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a hefyd y ffaith ei fod yn galluogi pobl ifanc i wireddu eu potensial. Fel y dywedwch, mae gwaith ymchwil Ymddiriedolaeth Sutton yn werthfawr iawn, yn berthnasol iawn, ac, yn amlwg, hefyd, o ran ein dyletswydd statudol i ddarparu addysg i ddysgwyr hyd at 18 oed, rydym ni wedi diogelu, a lliniaru baich y gostyngiadau cyllid a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Ond, o ganlyniad i gytundeb cyllideb, rydym ni wedi cyfrannu £30 miliwn ychwanegol i gefnogi addysg bellach ac addysg uwch hefyd, sydd, wrth gwrs, yn cael effaith enfawr o ran targedu buddsoddiad a gwneud y cyfleoedd hynny ar gyfer ein pobl ifanc yn rhai gwirioneddol, oherwydd gallant fynd yn eu blaenau beth bynnag o brentisiaethau i lwybrau addysg uwch ac i swyddi a gyrfaoedd sy'n talu'n dda iawn ac yn para’n hir.

Hyrwyddo Mentrau Ynni Gwyrdd

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cyfranddaliadau cymunedol sy'n hyrwyddo mentrau ynni gwyrdd? OAQ(5)0500(FM)

Mae ein gwasanaeth ynni lleol yn cefnogi cymunedau ledled Cymru i redeg cynigion cyfranddaliadau, ennill cefnogaeth leol, codi cyfalaf lleol sy'n cadw manteision prosiectau adnewyddadwy yng Nghymru. Rydym ni’n ystyried sut y gall y prosiectau hyn barhau i gael eu datblygu yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar gymorth ar gyfer solar a gwynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r mecanweithiau hyn yn rhan o’r traddodiad cydweithredol balch iawn o hyrwyddo menter leol a budd cymdeithasol, ac yn benodol, am resymau technegol, maen nhw’n haws eu defnyddio ac yn fwy hyblyg na dulliau elusennol traddodiadol, a all fod yn llwybrau ariannu amgen. Ac maen nhw'n ffordd wych o hyrwyddo cynlluniau cymunedol yn arbennig, ac maen nhw’n cadw incwm ac, yn bwysig, asedau, yn y gymuned leol. Rwy’n cymeradwyo'r ymdrechion sydd wedi eu gwneud yn y sector dielw, ond rwy’n meddwl y byddai rhywfaint o hwb gan y Llywodraeth yn y maes hwn yn cael ei groesawu hefyd.

Rwy’n cytuno â'r holl bwyntiau y mae’r Aelod wedi eu gwneud. Mae'r gwasanaeth ynni lleol wedi cefnogi cynigion cyfranddaliadau cymunedol sydd wedi codi dros £5.5 miliwn ers 2010, a byddwch yn ymwybodol iawn o lawer o’r prosiectau cymunedol hynny, ond rydym ni eisiau gweld datblygwyr masnachol yn gweithio'n agosach â chymunedau ar berchnogaeth a buddsoddiad a rennir. Rwy’n meddwl, yn bwysig—ac rydych chi’n sôn am y model cydweithredol: wel, rydym ni’n falch iawn o fod â Chanolfan Cydweithredol Cymru, yr ydym ni’n ei chefnogi i sefydlu Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru, ac mae hynny’n helpu cymunedau i rannu profiad o sut y gallant ddatblygu’r gwasanaethau ynni lleol hyn.

Dyletswyddau Swyddogion Traffig (Gogledd Cymru)

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyletswyddau Swyddogion Traffig yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0508(FM)[W]

Welsh Government traffic officers are deployed to cover the area of the A55/A494/A550 dual carriageway corridor from junction 8 at Llanfairpwll to the English border at Sealand and Broughton.

Fel mae arweinydd y tŷ newydd gadarnhau, mae swyddogion traffig y gogledd yn patrolio’r A55 hyd at Lanfairpwll. Wrth gwrs, nid ydy’r A55 yn stopio yn Llanfairpwll; mae hi’n parhau'r holl ffordd ar draws Ynys Môn i borthladd Caergybi. Mae hyn, meddai swyddogion heddlu wrthyf i, yn achosi problemau iddyn nhw, gan ei bod yn clymu adnoddau er mwyn delio â damweiniau ffyrdd ac ati, sydd ddim yn digwydd mewn rhannau eraill o’r gogledd. A wnaiff y Llywodraeth edrych eto ar y strategaeth ar hyn o bryd, sydd yn stopio yn Llanfairpwll, er mwyn sicrhau bod yr A55 gyfan yn cael manteisio ar waith y swyddogion traffig?

Ffurfiwyd gwasanaeth swyddogion traffig Llywodraeth Cymru yn wreiddiol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ar gyfer y rhannau prysurach hynny o rwydwaith cefnffyrdd Cymru. Etifeddwyd y contract PFI hwn gennym a dweud y gwir, fel y byddwch yn gwybod, sydd wedi, o ran y cyfrifoldebau—mae angen i ni edrych yn ofalus ar effaith hynny o ran cwmpasu’r ardaloedd hynny. Ond, yn y gogledd, yr ardal wasanaeth, wrth gwrs, oedd yr A55/A494, fel y dywedais, o'r ffin â Lloegr i gyffordd 11. A gwelsom wedyn bod angen i ni ymestyn y gwasanaeth hwnnw i bont Britannia gan wella ei gydnerthedd drwy hynny.

Prif Weinidog yr Alban

Lywydd, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ, yn ateb ar ran y Prif Weinidog heddiw:

9. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gwrdd â Phrif Weinidog yr Alban i drafod y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0496(FM)[W]

Siaradodd y Prif Weinidog â Phrif Weinidog yr Alban ddoe ac mae'n parhau i gael trafodaethau rheolaidd â hi, yn ddwyochrog ac yng nghyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion a'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

Diolch yn fawr am yr ateb, ac rwyf yn sicr bod y Prif Weinidog wedi cael sgwrs ddiddorol, fel bob amser, â Phrif Weinidog yr Alban. Ond oherwydd bod yna gymaint yn gyffredin, arweinydd y tŷ, rhwng Papur Gwyn Llywodraeth yr Alban cyn y Nadolig, ‘Scotland’s Place in Europe’, a phapur coch Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’, a yw Llywodraeth Cymru yn gweld y pwysigrwydd, beth bynnag fydd penderfyniad yr Alban ynglŷn â’i dyfodol cyfansoddiadol—a mater iddyn nhw yw hynny, wrth gwrs—fod yna le i gydweithio yn y trafodaethau presennol o fewn y Deyrnas Unedig, a rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn arbennig i ddiogelu mynediad dilyffethair i’r farchnad sengl ar gyfer y ddwy wlad?

Yn wir, ceir tir cyffredin sylweddol rhwng ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ a'r dadansoddiad gan Lywodraeth yr Alban ar effaith ymadawiad y DU o’r UE. Yn benodol, mae ‘Scotland’s Place in Europe’ yn pwysleisio, fel yr ydym ninnau wedi ei wneud, pwysigrwydd economaidd y farchnad sengl, y cyfraniad hanfodol y mae gweithwyr mudol yn ei wneud i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus, a'r angen hanfodol i barchu setliadau datganoli ac i ddatblygu trefniadau cyfansoddiadol newydd o fewn y DU. Ac, wrth gwrs, dyna lle mae'r Prif Weinidog wedi cymryd yr awenau wrth alw am y trefniadau hynny. Byddwch yn cofio ei alwad am gonfensiwn cyfansoddiadol, ac fe wnaeth gynnull uwchgynhadledd arbennig y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig fis Gorffennaf diwethaf i'n galluogi i barhau i drafod goblygiadau'r refferendwm ac yna i’n symud ymlaen o ran ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd a chryfhau ein lleisiau.

2. Cwestiwn Brys: Glofa Glo Brig Ffos-y-fran

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn pedwar cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Dawn Bowden i ofyn y cwestiwn brys cyntaf—Dawn Bowden.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-fran, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus? EAQ(5)0118(ERA)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Cyfarfu Llywodraeth Cymru â rapporteur arbennig ar hawliau dynol a sylweddau peryglus a gwastraff ar 24 Ionawr. Cafodd ei ganfyddiadau a’i argymhellion cychwynnol eu cyflwyno mewn datganiad terfynol ar 31 Ionawr, a bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i gyngor hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig ym mis Medi eleni.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn i’r newyddion hyn gyrraedd ddydd Gwener, roeddwn eisoes wedi cwrdd â rhai o'r trigolion lleol, protestwyr a chyngor Merthyr. Roeddwn hefyd wedi ymweld â’r safle yn Ffos-y-fran, gan gynnwys cael cyfarfod hirfaith gyda'r rhai sy’n ei redeg. Felly, roeddwn eisoes yn ymwybodol iawn o'r pryderon ynglŷn â’r gwaith yno, ac rwyf am beth amser wedi ceisio sicrhad ynglŷn â nifer o faterion amgylchedd ac iechyd. Fodd bynnag, nid oeddwn yn ymwybodol fod cynrychiolydd o’r Cenhedloedd Unedig yn ymweld â'r ardal, gan gyfarfod â thrigolion lleol, a’i fod yn bwriadu gwneud datganiad cyhoeddus.

Mae’n iawn wrth gwrs fod y rapporteur yn ymgymryd â pha astudiaethau bynnag y mae’n eu hystyried yn gymwys. Ond roeddwn yn synnu braidd ei fod, mae’n ymddangos, wedi gwneud datganiadau i'r cyfryngau heb gynnal trafodaethau manwl â'r cyrff hynny sydd yn cael eu beirniadu yn ei adroddiad. Ac ni cheisiodd gynnal trafodaethau â'r cynrychiolwyr etholedig lleol, naill ai yn y cyngor, gyda mi fel yr AC, neu gyda’m cydweithiwr Gerald Jones yr AS cyn iddo gyflwyno ei adroddiad, er mwyn sicrhau golwg ehangach ar y camau a gymerwyd.

Ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf ei bod, mae’n debyg, yn anodd i mi fod â barn ddeallus ar gasgliadau'r rapporteur. Ond byddwn wrth gwrs yn croesawu unrhyw alwad ddilys am ymchwiliad i unrhyw effaith bosibl ar iechyd oherwydd gwaith Ffos-y-fran os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod hynny yn angenrheidiol.

Serch hynny, mae un maes arbennig yn yr adroddiad lle’r wyf yn rhannu ei bryder yn gyfan gwbl, sef diogelu safonau iechyd y cyhoedd a gwarchod yr amgylchedd i’r dyfodol yn y DU ar ôl Brexit. Os ydych wedi gweld yr adroddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gwybod ei fod yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei rwymedigaethau i hawliau dynol o ran llygredd aer, amddiffyn hawliau plant, menywod beichiog, yr henoed a'r rhai gwael eu hiechyd, sydd yn arbennig o agored i niwed gan gemegau gwenwynig, wrth ddatblygu'r cynllun newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng llygredd aer hwn.

Felly, a wnewch chi fy sicrhau i, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Cenhedloedd Unedig i ystyried unrhyw bryderon a ddaeth i’r amlwg yn yr adroddiad hwn mewn cysylltiad â Ffos-y-fran yn arbennig, ond hefyd, yn fwy cyffredinol, â’r rhai sy’n ymwneud â hawliau dynol o ran amddiffyn yr amgylchedd, yn awr ac wedi Brexit hefyd?

Yr ateb byr iawn i'ch cwestiwn yw 'gwnaf'. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon hynny. Rwyf yn ymwybodol fod y Gweinidog wedi cyfarfod â'r rapporteur, ac yn sicr mae ei farn ef yn unigryw. Ond os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon yr hoffai eu codi yn benodol am Ffos-y-fran, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog gan hynny yn croesawu llythyr gan yr Aelod.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ychwanegol at yr hyn ddywedodd fy nghydweithiwr yma, mae’r trigolion sy'n byw gerllaw gwaith glo brig Ffos-y-fran wedi ymgyrchu'n hir yn erbyn llygredd aer a sŵn. Ceir tystiolaeth anecdotaidd o gyfraddau uchel iawn o asthma plentyndod a chlystyrau canser o fewn y gymuned. Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau, Weinidog, pe byddech mor garedig ag ateb. Os nad oes ymchwiliad annibynnol, pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro effaith bosibl y gwaith glo brig hwn ar iechyd y gymuned, ac a fyddan nhw yn comisiynu eu hastudiaeth eu hunain?

Yr ail yw: mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gorfodi bod llain glustogi o 500m rhwng gweithfeydd glo brig newydd yng Nghymru a'r gymuned o'u cwmpas. Rwyf yn cofio mewn sesiynau blaenorol o’r Cynulliad bod Bethan Jenkins wedi codi’r pwynt hwn yn ei hardal hi. Cytunwyd ar lawer pwynt mewn gwirionedd gan y Cynulliad na ddylai gweithfeydd glo brig fod yn agos at dai lle mae pobl yn byw, ac eto i gyd dim ond 40m yn unig sydd rhwng y tai agosaf at Ffos-y-fran a’r gwaith mwyngloddio, sydd yn groes i’n cyfreithiau a’n rheolau yma. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y dylai’r trigolion fod yn deilwng o ryw fath o iawndal am yr aflonyddwch y maen nhw wedi eu gorfodi i’w ddioddef yn yr achos hwn?

A'r cwestiwn arall yw hwn: pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael yn y gorffennol, a pha drafodaethau y maen nhw yn bwriadu eu cael, gyda Miller Argent, y cwmni mwyngloddio, ynglŷn â negyddu effaith eu gwaith cloddio ar y gymuned leol?

Yn olaf, Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a rhoi datganiad i'r Cynulliad hwn yn y dyfodol agos, gydag unrhyw newidiadau y mae'n bwriadu eu gwneud i reoliadau cynllunio ar safleoedd glo brig yng Nghymru? Diolch.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r materion emosiynol sydd ynghlwm â chloddio am lo brig. Rhoddwyd caniatâd am safle Ffos-y-fran ym mis Ebrill 2005. Roedd wedyn yn rhwym i asesiad effaith amgylcheddol. Roedd hyn yn golygu bod yr holl faterion perthnasol, gan gynnwys yr effeithiau cynyddol, a'r rhai oedd yn ymwneud ag iechyd, yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae’r adroddiad y mae’r Aelod yn sôn amdano i’w gyflwyno i gyngor hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, ac nid i ni. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog pan ddaw yn ei hôl i roi ystyriaeth i hyn, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu at yr Aelodau yn unol â'i barn.

Yn gyntaf, credaf ei bod yn rhaid i mi ddweud bod ymateb Miller Argent i'r adroddiad hwn yn un sarhaus ac yn tanseilio difrifoldeb y sefyllfa. Mae disgrifio hyn yn 'ffug newyddion'—adroddiad gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig—yn atgas, a dweud y gwir, ac yn warthus o ystyried bod y gymuned leol wedi bod yn codi'r pryderon hyn ers peth amser. Rwyf hefyd yn bryderus iawn fod cyngor sirol Merthyr wedi ymateb drwy ddiystyru pryderon dilys a phrofiadau beunyddiol y trigolion yn

‘sylwadau cyfyng a di-sail gan rai aelodau o'r gymuned.

Felly, yn gyntaf, byddwn yn gofyn i chi yma heddiw: a ydych yn barod i ymuno â mi i gondemnio’r union sylwadau hynny, o ystyried nad yw'r rhain yn ddi-sail a’u bod yn safbwyntiau a godwyd gyda chi pan oeddech yn Gyn-weinidog dros yr amgylchedd yn y Cynulliad hwn? Hoffwn ddeall hefyd ble mae eich cynlluniau yn awr o ran y trafodaethau adfer a gawsoch yn eich swydd flaenorol fel Gweinidog. Cymerodd llawer ohonom ni ran yn hynny. Ble maen nhw arni? Mae adfer yn Ffos-y-fran yn dameidiog iawn yn hytrach na bod yn adeiladol ac yn hirdymor, a hoffem ddeall sut mae hynny’n mynd.

Rwyf wedi codi pryderon hefyd am y MTAN glo a'r ffaith nad yw'n ddigon cadarn. Mae angen ei ddiwygio a’i newid. Mae angen ei roi mewn deddfwriaeth. Allwch chi ymrwymo, os yw’r rapporteur hwn o’r Cenhedloedd Unedig i’w gymryd o ddifrif, eich bod hi fel Llywodraeth yn ceisio gwneud eich gorau glas i sicrhau ein bod yn ymdrin â’r materion hyn, fel na chaiff ceisiadau cloddio glo brig yn y dyfodol eu trin yn yr un ffordd, a bod y rhai mewn ardaloedd fel Pwll y Dwyrain yng Nghwmllynfell a Margam hefyd yn cael eu trin yn yr un modd?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel arfer, mae ganddi farn gref iawn am gloddio glo brig. Mae'r Llywodraeth hon yn rhoi ystyriaeth ddwys iawn i’r goblygiadau iechyd ac amodau cynllunio a gyflwynir ym mhob un o'n cymunedau. Mae hefyd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hynny yn y nodiadau cyngor technegol a chanllawiau cynllunio a roddwn i awdurdodau cynllunio. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod unrhyw sylw gan y rapporteur arbennig yn cael ei wneud ar sail tystiolaeth. Bydd gennyf ddiddordeb mawr i weld manylion y cynllun hwnnw a'i gyflwyniad gorffenedig.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd y Gweinidog dros gynllunio yn mynegi barn ar y MTAN 2 a'r trafodaethau dilynol a gynhaliwyd ynglŷn â’r trafodion am gynnwys MTAN 2. Byddaf yn gofyn iddi ymateb yn uniongyrchol i chi ar y mater hwnnw. Nid fi yw'r Gweinidog dros gynllunio bellach o ran hynny.

3. Cwestiwn Brys: Bwrdd y BBC

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwy’n galw nawr ar Lee Waters i ofyn yr ail gwestiwn brys—Lee Waters.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC? EAQ(5)0095(EDU)

Member
Alun Davies AM 14:28:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Mae'n rhaid i'r aelod dros Gymru o fwrdd y BBC fod yn gwbl alluog i hyrwyddo anghenion amrywiol pobl Cymru. Nid oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cytuno ac ni allem gefnogi ei hargymhelliad. Roedd ymgeiswyr da ar gael. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol eu trafod gyda mi.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r BBC, wrth iddynt ddweud mai Dr Carol Bell oedd yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth y DU, wedi dyfynnu ffynhonnell o Lywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi

gweld yn dda i atal ymgeisydd dewisedig yr ysgrifennydd gwladol.

A wnewch chi egluro i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses o gael aelod dros Gymru o fwrdd y BBC? A oedd yn fater o roi sêl bendith yn unig, neu a oedd yn fwriad iddi fod â rôl ystyrlon? A oedd ganddi, mewn gwirionedd, rôl ystyrlon? A fyddai hefyd yn dweud wrthym ble y mae’n credu yr ydym ni arni nawr? Beth yw'r amserlen ar gyfer penodi aelod Cymreig o’r bwrdd? Mae gweddill y bwrdd yn ei le erbyn hyn ac yn dechrau ar ei waith.

Yn olaf, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad wedi argymell yn gryf y dylai unrhyw gynrychiolydd dros Gymru o fwrdd y BBC fod yn atebol i wrandawiad gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn ei gadarnhau. Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn. Fel y deallaf i, y rheswm am hynny oedd diffyg amser. Gan fod llai o frys erbyn hyn i benodi aelod o fwrdd y BBC dros Gymru, a fyddai'n cytuno â'r pwyllgor trawsbleidiol y dylai fod cyfle i drafod â’r sawl sydd wedi'i benodi, a’i holi, cyn i chi roi cydsyniad Llywodraeth Cymru i’r apwyntiad hwnnw?

Lywydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ac â’r Aelodau led y Siambr gyfan fod dadlennu yn fwriadol enw unrhyw unigolyn sydd wedi gwneud cais am y swydd hon, fel a ddigwyddodd ddoe, yn destun gofid, ac mae'n gwbl groes i'r safonau yr ydym yn eu disgwyl gan y broses penodiadau cyhoeddus. Mae'n dresmasiad difrifol ar eu preifatrwydd personol.

Ar yr un pryd, mae'n amlwg o adroddiadau yn y cyfryngau fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’u ffynonellau wedi ceisio tanseilio’r Llywodraeth hon, a’m tanseilio i fel Gweinidog, a briffio yn erbyn penderfyniadau yr ydym wedi'u gwneud, a phopeth yn unfrydol. Gadewch i mi ddweud hyn: sut bynnag yr ydym yn ceisio cynnal perthynas ryng-lywodraethol o fewn y Deyrnas Unedig, dyma enghraifft berffaith o sut i beidio â gwneud hynny. Daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar sut i benodi’r unigolyn hwn i gynrychioli Cymru ar y bwrdd. Cynrychiolwyd Llywodraeth Cymru ar y panel recriwtio. Cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer y swydd yng Nghaerdydd ar 14 Chwefror. Roedd yn amlwg o'r cyfweliadau hynny fod yna nifer a ystyrid yn ymgeiswyr da iawn a nifer o ymgeiswyr y gellid eu penodi. Nid oedd cytundeb unfrydol ar bob un o'r rhain, a barnwyd bod rhai yn well nag eraill. Mynegwyd eu rhinweddau cymharol yn glir iawn yn adroddiad y panel, a gafodd ei weld gan yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau. Roeddwn yn hyderus y gellid gwneud apwyntiad da. Siom i mi felly oedd cael llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 27 Chwefror, yn dweud ei bod o blaid argymell ymgeisydd nad oedd yn un o'r ymgeiswyr y cytunwyd yn unfrydol eu bod yn ymgeiswyr cryfach. Cefais fy synnu hefyd bod gennyf 24 awr i ymateb i'r llythyr hwn. Cefais fy synnu ymhellach i ddarganfod nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol hyd yn oed yn fodlon trafod yr ymgeiswyr eraill gyda mi. Roedd hi'n benderfynol ein bod naill ai yn derbyn ei dewis hi neu, yn ei geiriau hi, byddwn yn ei atal, gan orfodi ailddechrau’r ornest. Roedd hyn, Lywydd, er gwaethaf y ffaith fod ei Hysgrifennydd Parhaol ei hun yn derbyn drwy gyfrwng e-bost bod ymgeiswyr eraill cryfach, ac er gwaethaf y sicrwydd gennyf i y byddem yn hapus i gytuno ar ddewis o blith yr ymgeiswyr eraill cryfach.

Lywydd, ni fynegais i farn ar unrhyw adeg ynghylch pwy, yn fy marn i, fyddai'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd hon. Yr hyn yr wyf wedi ei ddweud yn eglur iawn yw bod Cymru yn haeddu’r gorau, a'r ymgeisydd y mae’r panel penodi yn ei gredu yw'r ymgeisydd gorau. Ac ni fydd unrhyw Ysgrifennydd Gwladol yn dweud wrthyf i nad oes gennyf unrhyw ddewis yn y mater hwn, ac ni fydd ffynonellau dienw o Lywodraeth y DU wedyn yn dweud wrthyf i fy mod yn ddigywilydd wrth ymarfer y gallu sydd ar gael i mi. Mae gen i hawl i ymarfer y gallu hwnnw sydd ar gael i mi, a phryd bynnag y bydd Llywodraeth y DU yn ymddwyn fel hyn, byddwn yn ymarfer yr hawl honno.

Lywydd, rwyf yn hynod siomedig â'r sefyllfa yr ydym ynddi. Rwyf yn hynod siomedig gyda gweithredoedd, agwedd a thôn yr Ysgrifennydd Gwladol, ac rwyf yn hynod siomedig nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i weithredu er budd gorau Cymru yn y mater hwn.

Rwy'n hynod siomedig hefyd, Weinidog, oherwydd diwedd y gân yn y fan yma yw bod yna gadair wag ar y bwrdd hwnnw. Nid yw Cymru yno. Nid oes gan y bwrdd ei hun set gyflawn o sgiliau ac mae'n brin o ystod o sgiliau yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn amlwg yn credu bod ei hymgeisydd dewisedig yn meddu arnyn nhw.  Gwnaed y penderfyniad hwnnw yn sgil rhestr fer wedi gornest agored. Cawsant eu cyfweld gan banel a oedd yn cynnwys cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru. Byddai’r panel hwnnw wedi cytuno ar yr ymgeiswyr a oedd yn gymwys iawn ac wedi argymell yn unol â hynny. Fel y dywedais, roedd cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru ar y panel. Yn yr amgylchiadau hynny, yn fy marn i, Weinidog, mae’n rhaid i chi roi eich rhesymau, uwchlaw yr hyn yr ydych wedi ei ddweud wrthym yn barod heddiw, pam eich bod wedi anghytuno â chasgliad unigol yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae bwlch sgiliau yn awr ar y bwrdd hwnnw. Beth oedd o'i le gyda'r ymgeisydd unigol a ddewiswyd, a beth allai’r unigolyn hwnnw fod wedi ei gynnig?

Efallai nad ydych wedi mynegi eich dewis chi o ran pwy yr hoffech ei weld yn cael ei benodi. A wnewch chi ddweud wrth y Cynulliad hwn a oeddech yn ffafrio un ymgeisydd, ac a fyddai unrhyw ymgeisydd arall ar y rhestr fer wedi gallu cael perthynas agosach â'ch plaid na'r un a gafodd ei ddewis? Os na, ac os nad ydych yn barod i roi’r rhesymau hynny i ni heddiw, dof i’m casgliad fy hunan ar ffrindgarwch.

Ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma i ladd ar unigolion sy'n ymgeisio am benodiadau cyhoeddus, ac ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol i gyhuddo’r unigolion sy'n gwneud cais ac sydd â’r hawl i wneud hynny. Credaf fod gan bawb sy'n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus yr hawl i ddisgwyl i'w cais aros yn gyfrinachol. Mae'n fater o gofnod fod ffynonellau o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi’r enwau hyn ar gofnod ac rwyf yn gresynu bod hynny wedi digwydd. Ni fyddaf yn ymuno â chi i wneud hynny.

Ond gadewch i mi ddweud hyn wrth y Blaid Geidwadol: roedd aelodau’r panel a fu’n cyfweld yr ymgeiswyr ac a ddaeth i gytundeb yn eglur iawn, iawn o ran pwy, yn eu barn nhw, oedd yn ymgeiswyr cryf a phwy nad oeddent yn ymgeiswyr cryf. Ysgrifennodd fy nghynrychiolydd i ar y panel at Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon drannoeth ar 15 Chwefror. Dywedodd yn yr e-bost hwnnw: Mae hynny yn golygu—ac aralleirio wyf i—na ellir penodi'r ymgeisydd hwnnw. Gallaf ddarllen yr e-bost hwnnw y prynhawn yma. Anfonodd Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ateb at fy swyddog i yn cytuno nad yr ymgeisydd dan sylw oedd yr ymgeisydd gorau. Ni fyddai'n dderbyniol i mi yn y swydd hon, fel Gweinidog, dderbyn unrhyw ymgeisydd nad wyf yn ei ystyried fel yr ymgeisydd gorau, pwy bynnag y bo. Rwyf yn deall swyddogaethau a chyfrifoldebau'r fangre hon. Rwyf yn cydnabod bod yn rhaid inni gael y bobl orau ar fwrdd y BBC. Mae angen i fwrdd y BBC gael pobl sydd ag ystod eang o wahanol gyfrifoldebau, profiadau a sgiliau. Ond mae’n rhaid bod un ohonyn nhw, un ohonyn nhw, yn cael ei benodi i’r swydd o fod y cynrychiolydd gorau un y gall Cymru ei gael ar y bwrdd hwnnw, ac ni fyddaf yn cyfaddawdu ar hynny.

Rwyf yn credu, o glywed y cwestiynau hyd yn hyn, eu bod yn amlygu’r pwynt a wnaeth Lee Waters ynghylch pam mae angen i ni gael gwrandawiadau rhagarweiniol o fewn y strwythurau seneddol. Mae hynny yn un o amodau Senedd y DU pan maent yn cynnig enwau ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni allu ei wneud. Ond ni wnes i eich clywed chi yn ateb y cwestiwn, gan ein bod yn y sefyllfa newydd hon yn awr, a ydych chi’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylem ni allu ei wneud fel pwyllgor cyfathrebu. Rydym wedi ysgrifennu fel pwyllgor at Senedd yr Alban i ofyn beth yw eu prosesau nhw ac a oedd ganddyn nhw wrandawiad cyn-seneddol. Hoffwn glywed eich barn chi yma heddiw, oherwydd beth bynnag yw’r enwau sy’n mynd o amgylch y lle, pwy bynnag yw’r personoliaethau dan sylw, credaf ei bod yn bwysig ein bod ni, yn ddeddfwrfa, yn cael y farn honno. O ystyried y ffaith y bydd trwydded newydd i Gymru dan y siarter newydd, rhoddir amodau newydd ar BBC Cymru ac mae hyn, yn sicr, yn gefndir newydd i’r drafodaeth honno y gallwn ei chael. Rwyf yn bryderus iawn o glywed nad oedden nhw wedi gwrando ar eich barn fel Gweinidog. Hoffwn gael fy modloni yma heddiw y byddwch yn gallu gweithio yn adeiladol gyda nhw mewn unrhyw broses yn y dyfodol ac na fyddwn yn wynebu'r mater hwn eto. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn cael cynrychiolydd o Gymru yno. Ond mae angen cynrychiolydd sy'n deall Cymru ac sy’n gallu cyflwyno ein safbwyntiau ni mewn ffordd fwy cadarnhaol yn y dyfodol. Diolch.

Mae'n amlwg, Lywydd, fod llawer iawn o bryder led y Siambr. Byddaf, felly, yn rhoi fy llythyr terfynol i'r Ysgrifennydd Gwladol, dyddiedig 7 Mawrth, yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol fel bod pob Aelod yn gallu dod i gasgliad ar hynny ac ar y broses sydd wedi ei dilyn.

O ran y cwestiwn a ofynnwyd gan Bethan Jenkins a Lee Waters fel ei gilydd ar swyddogaeth y pwyllgor cyfathrebu, rwyf yn gweld swyddogaeth ystyrlon i’r pwyllgor hwnnw ac i’r ddeddfwrfa hon wrth ddwyn y BBC a darlledwyr eraill i gyfrif. Credaf fod angen adolygu'r broses hon yn ei chyfanrwydd, a chyn i ni symud ymlaen gydag ailgynnal y broses hon, mae angen cytundeb ymlaen llaw gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar strwythur a natur y broses honno. Roeddwn yn teimlo, a dweud y gwir, y byddai modd inni allu gweithio ar sail ymddiriedaeth a pharch rhwng gweinyddiaethau yn y wlad hon. Mae'n amlwg i mi na allwn weithio ar y sail honno a bod angen i ni adolygu'r broses.

Rwy'n teimlo'n siomedig iawn na chawsom y cyfle i gael y drafodaeth yr oedd angen inni ei chael. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol drafod unrhyw ymgeisydd arall gyda mi, er gwaethaf fy ngheisiadau niferus am drafod unrhyw ymgeisydd arall. Yn groes i’r safbwyntiau y clywaf yn cael eu mynegi gyferbyn, ni wneuthum yn ystod y broses, ni wneuthum heddiw ac ni fyddaf yn mynegi fy newis o unrhyw ymgeisydd unigol. Ystyriaf yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swyddi fel yr un y byddwn i’n dymuno ei weld yn cael ei benodi i gynrychioli Cymru, pwy bynnag y byddo ef neu hi. Ond rwyf yn sicr yn gweld swyddogaeth ystyrlon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol wrth ddal Llywodraethau a darlledwyr i gyfrif.

4. Cwestiwn Brys: Y Cyswllt Awyr rhwng y Gogledd a’r De

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwy’n galw nawr ar Andrew R.T. Davies i ofyn y cwestiwn brys nesaf. Andrew R.T. Davies.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu? EAQ(5)0142(EI)

Member
Ken Skates AM 14:39:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod a’i gyfeirio at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe. Mae adolygiad y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru wedi ei gwblhau ac ar ôl i’r canfyddiadau gael eu dadansoddi byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach. Yn y cyfamser, rwy'n falch ein bod wedi cytuno ar gontract treigl gydag Eastern Airways i weithredu'r gwasanaeth.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am eich datganiad a gyhoeddwyd ddoe a oedd yn egluro rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith. Fel defnyddiwr y gwasanaeth hwn, gallaf mewn gwirionedd adael fy nrws ffrynt a bod yn y gogledd erbyn 8.40 a.m., a chyrraedd Ynys Môn. Rwy’n llwyr gefnogi'r gwasanaeth petai’n fasnachol hyfyw, ac mae'n ddigalon erbyn hyn mai hwn yw'r trydydd tro mewn 18 mis fy mae’r gweithredwr naill ai wedi mynd i’r wal neu wedi colli ei dystysgrif diogelwch . Mae cymhorthdal sylweddol ​​ o £1.2 miliwn gan y Llywodraeth yn cael ei roi i mewn i’r cyswllt awyr hwn . Credaf fod £0.5 miliwn hefyd yn cael ei wario ar y derfynfa a rhedeg y derfynfa i fyny yn y gogledd ar safle RAF y Fali.

Felly, yr hyn sy’n gwbl glir erbyn hyn, gyda'r adolygiad yr ydych wedi ei gomisiynu, yw bod angen ymgymryd â gwerthusiad llawn o'r dewisiadau sydd ar gael i wneud y llwybr hwn yn fwy hyfyw yn fasnachol neu, yn anffodus, terfynu’r llwybr hwn mewn gwirionedd, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r trethdalwr yn cael gwerth am arian pan eich bod yn edrych ar y symiau dan sylw ac, yn anffodus, nifer y teithwyr sy'n ei ddefnyddio. Ac mae hynny’n ofid i mi, oherwydd, fel y dywedais, fel rhywun sy'n cefnogi'r gwasanaeth, hoffwn weld llwybr mwy hyfyw yn fasnachol yn cael ei ddatblygu yn yr achos hwn, ond ni allwn barhau fel yr ydym, bob rhyw chwe mis, gyda gweithredwr naill ai’n rhoi’r gorau i weithredu neu’n colli ei drwydded diogelwch. A allwch chi ddweud beth yw’r telerau masnachol presennol y bu’n rhaid i chi gymryd y gweithredwr newydd ymlaen arnynt, oherwydd yn eich datganiad yr ydych yn nodi bod yn rhaid mynd i gostau ychwanegol, ac rwyf yn credu ei fod ond yn iawn ac yn deg ein bod ni’n deall beth yw’r gost honno, oherwydd mae eich cyllideb yn gyfyngedig ac mae'n rhaid i’r arian hwnnw ddod o’r gyllideb honno? A allwch chi hefyd ddangos y llinell amser pryd y byddwch yn cyflwyno’r gwerthusiad yr ydych wedi ei wneud fel Ysgrifennydd y Cabinet o’r adroddiad yr ydych wedi ei gomisiynu? Rydych chi’n sôn am nifer o wythnosau. Mae’n debyg fy mod i wedi bod yma yn ddigon hir i wybod y gall nifer o wythnosau olygu llawer o bethau mewn ymateb—ac rwyf yn dweud hyn gyda’r parch mwyaf—gan Weinidogion y Llywodraeth, ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig i ni gael eglurdeb ar hynny. Ac yn drydydd, a allwch chi gadarnhau bod y gwerthusiad hwn wedi edrych ar yr holl ddewisiadau? Nid oedd unrhyw ardaloedd i’w hosgoi, oherwydd gwn fod fy nghydweithiwr o Orllewin Clwyd wedi hyrwyddo'r gallu i sefydlu llwybr i’r gogledd-ddwyrain, yn hytrach na chanolbwyntio yn unig ar y gogledd-orllewin.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i ddiddordeb brwd yn y maes hwn? Rwy'n falch, yn gyntaf oll, bod y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru wedi ei achub; hwn oedd yr unig un o wasanaethau awyr Van Air Europe i gael ei achub, ac yr oedd hynny o ganlyniad i waith diflino gan fy nhîm o fewn y Llywodraeth dros y penwythnos, ac yn enwedig ddydd Sadwrn. Cydymdeimlaf â’r nifer o deithwyr ar wasanaethau eraill Van Air sydd wedi cael eu gadael ar y clwt yng Ngogledd Iwerddon ac ar Ynys Manaw, ond mae gennym gytundeb treigl erbyn hyn gydag Eastern Airways i ddarparu'r gwasanaeth.

Nawr, rydym yn defnyddio, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes, y gyllideb y byddem fel arfer yn ei defnyddio ar gyfer Van Air a Citywing. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan yr Aelod, yr ydym yn gorfod cyfrannu swm bach, ond nid ansylweddol i gynnal y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r adnodd hwn ar gael o fewn y gyllideb bresennol ar gyfer y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de. Fodd bynnag, y llynedd, fel yr amlinellodd yr Aelod, gofynnais am adolygiad trylwyr—trylwyr— o'r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru, sydd wedi edrych ar ystod eang o ddewisiadau, o roi'r gorau i'r gwasanaeth yn gyfan gwbl i newid patrymau gwasanaeth, cynyddu darpariaeth, edrych ar y math o awyren sy'n cael ei defnyddio a hefyd asesu a oes dewisiadau eraill o ran cysylltedd ar gael yn y tymor byr a chanolig. Rydym hefyd wedi edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio meysydd awyr eraill, nid yn unig yn y gogledd-ddwyrain—ond rwyf yn derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am Faes Awyr Penarlâg—ond meysydd awyr bach eraill yng Nghymru.

Mae'r adroddiad wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl oherwydd amrywiaeth o ffactorau, ond mae'n cael ei gwblhau y mis hwn, ac felly byddaf mewn sefyllfa i'w asesu dros gyfnod y Pasg, gyda golwg ar wneud cyhoeddiad ynghylch dyfodol y gwasanaeth yn ystod y tymor nesaf. Nid yn unig y mae'r gwasanaeth hwn yn bwysig i Ynys Môn; mae hefyd yn bwysig i Gaerdydd a’r de-ddwyrain, gan sicrhau ein bod yn genedl sydd wedi’i chysylltu’n well ac yn unedig. Ond bydd angen i mi ystyried argymhellion yr adolygiad ochr yn ochr â'r problemau gweithredwyr diweddar. Ac, fel y dywedais, rwyf yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y bo modd ynghylch dyfodol hirdymor y gwasanaeth awyr hwn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog a'r swyddogion am wneud yn siŵr bod y gwasanaeth wedi gallu parhau yn ddi-dor. Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud ei fod yn byw o fewn tafliad carreg i’r maes awyr yng Nghaerdydd ac mae'n dweud ei fod yn defnyddio’r gwasanaeth o bryd i'w gilydd i fynd i Ynys Môn, ond, fel rhywun sydd wedi’i ynysu braidd o’r teithiau pum awr hynny o’r gogledd i'r de, nid yw'n syndod i mi ei fod yn gadarnhaol ynghylch y posibilrwydd o golli’r gwasanaeth awyr, oni bai ei fod yn fasnachol hyfyw.

Rydym yn gwybod bod pob trafnidiaeth, i raddau llai neu fwy, yn cael cymhorthdal ​​gan arian cyhoeddus. Dyna realiti'r ffordd mae trafnidiaeth yn gweithio, a byddwn yn ddiolchgar am ychydig o sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet nawr ei fod yn cytuno â mi nad gwasanaeth dymunol yw hwn erbyn hyn, ond rhan hanfodol o’r cymysgedd trafnidiaeth, ei fod yn ddolen gyswllt busnes hanfodol i lawer o bobl mewn busnesau sy'n dymuno gwneud busnes rhwng y gogledd a’r de, a’i fod wedi dod yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Nid modd i bobl o'r gogledd rhewllyd ddod i lawr i Gaerdydd yw hyn yn unig; mae’n fodd i Weinidogion y Llywodraeth wneud yn siŵr eu bod yn gallu cynnal cysylltiadau agos â’r gogledd. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddai'n cadarnhau bod hyn yn hanfodol, erbyn hyn, fel rhan o'n cymysgedd trafnidiaeth.

Byddwn yn ddiolchgar am sicrwydd na fyddai unrhyw newidiadau i wasanaethau—ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i wasanaethau gael eu hadolygu—yn arwain at sefyllfa lle byddai awyren o'r gogledd yn dod i mewn i Gaerdydd yn hwyrach, neu’n gadael Caerdydd yn gynharach, oherwydd mae’n rhaid i hediad fod yn ymarferol ac mae angen iddo weithio mewn ffordd sy'n caniatáu i bobl gynnal eu busnes. Mewn gwirionedd, byddwn yn gofyn iddo hefyd gadarnhau a yw wedi ystyried ffyrdd y gallai'r awyren gyrraedd Caerdydd yn gynharach yn y bore a gadael yn hwyrach yn y dydd er mwyn ymestyn y diwrnod gwaith ar gyfer pobl sy'n cysylltu â'r brifddinas. Hefyd, ceir cais yn aml i ehangu’r gwasanaethau awyr, a byddwn yn ddiolchgar am sylwadau ar ba fath o ehangiad sydd ganddo mewn golwg, gan gynnwys, o bosibl, cysylltiadau â Llundain y gwn ein bod wedi cael cyfle, yn anffurfiol, i’w trafod ddoe.

Yn olaf, ar nodyn ymarferol i’r rhai sydd eisoes wedi prynu tocynnau gyda Citywing, bu problem pan aeth y cwmni diwethaf i’r wal ac roedd yn rhaid i bobl hawlio eu harian gan gwmni a oedd wedi cael ei ddiddymu. Rydym yn gwybod pa mor anodd oedd hynny ac y bydd yr un fath yn yr achos hwn. A allai'r Gweinidog ddweud wrthym pa ymdrechion y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud i sicrhau bod y rhai sydd wedi talu am docynnau yn gallu cael y siawns gorau posibl o gael ad-daliad?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf? Mae swyddogion eisoes yn siarad â Citywing ynghylch y potensial o adfachu cost y tocynnau. Rydym wedi bod yn glir iawn—ac yr oeddem dros y penwythnos—bod teithwyr yn gallu mynd i naill ai feysydd awyr Ynys Môn neu Gaerdydd a dal awyren Eastern Airways gyda'r archebion a wnaed trwy Citywing. Ond, o ran yr archebion a allai fod wedi eu colli, neu pan nad yw teithwyr yn fodlon teithio gydag Eastern Airways, mae cyfraith diogelu defnyddwyr yn berthnasol fel arfer, yn ogystal â'r dulliau diogelu trwyddedau trefnwyr teithio awyr sydd wedi hen ymsefydlu. Ond byddwn yn falch o roi sylw i unrhyw achosion y gallai fod gan yr Aelod o deithwyr sydd ar eu colled o ganlyniad i dranc Citywing.

Nid y sector cyhoeddus yn unig—er bod y sector cyhoeddus yn amlwg yn cael budd sylweddol o’r gwasanaeth hwn—sy’n dibynnu arno. Rydym yn credu bod tua hanner y teithiau ar y gwasanaeth awyr yn cael eu gwneud gan bobl sy'n cynrychioli buddiannau sector preifat. Felly, mewn gwirionedd mae’n wasanaeth pwysig iawn i’r sectorau preifat a chyhoeddus. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw ddim ond yn bwysig neu a ydyw, mewn gwirionedd, yn hanfodol. Ni fyddwn yn dymuno rhagfarnu canlyniad yr adolygiad hwnnw. Byddaf hefyd yn ystyried a yw Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi barnu bod y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru yn elfen allweddol o unrhyw gytundeb cais twf, a byddaf hefyd yn gwrando ar farn awdurdodau lleol ar draws y gogledd.

Mae'n hanfodol bod gennym gysylltiadau trafnidiaeth da ac aml gyda gogledd y wlad, fel Aelod, fel Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli etholaeth yn y gogledd. Ond mae’n rhaid i unrhyw fath o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn gynaliadwy, ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn dal i bwmpio cymhorthdal ​​i mewn i wasanaeth sy'n gweld nifer y teithwyr yn gostwng. Mae’n rhaid cael dewisiadau eraill, boed hynny drwy gynyddu nifer y teithwyr, ac, yn hyn o beth, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried y galw yn y dyfodol trwy Wylfa yn dod yn rhan o'r ffrwd a datblygiadau economaidd eraill ar Ynys Môn ac yn y gogledd. Mae'r holl ffactorau hyn yn cael eu hystyried yn yr adolygiad, ac rwyf yn edrych ymlaen at ei dderbyn yn y tymor byr iawn.

Weinidog y Cabinet, deallaf fod Loganair wedi gweithredu gwasanaeth llwyddiannus yn cysylltu ynysoedd Orkney â Kirkwall ar dir mawr yr Alban ers rhyw wyth mlynedd. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried edrych ar y model a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth hwn, o ystyried cwymp y trydydd gweithredydd ar y llwybr gogledd i Gaerdydd? A hefyd a wnaiff ystyried defnyddio erodrom Penarlâg fel dewis arall i’r Fali, Ynys Môn? Ac rwyf hefyd yn deall bod modelau newydd o awyrennau erbyn hyn—gydag un injan—sy'n cario'r un nifer o deithwyr. Pan fydd yn edrych ar y rhai a fydd yn darparu'r gwasanaeth, a fydd e’n ystyried y math o awyren a ddefnyddir?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Un o'r heriau mawr sydd gennym o ran Ynys Môn yw'r math o awyren ac awyren sifil sy'n gallu hedfan i mewn ac allan o Ynys Môn heb yr angen am fuddsoddiad ychwanegol yn y seilwaith yno. Felly, byddai angen i ni edrych ar fuddsoddi mewn cyfleusterau a'r seilwaith pe byddem yn cynyddu maint yr awyrennau sy'n mynd i mewn i’r maes awyr ac allan ohono. Rwyf wedi credu erioed y gallai maes awyr Penarlâg hefyd gynnig manteision sylweddol i economi’r gogledd, ond ceir problemau eto gyda'r seilwaith yno, oherwydd bod y rhedfa gryn dipyn yn fyrrach na rhedfeydd meysydd awyr arferol. Felly, unwaith eto, byddai angen buddsoddi yno. Mae yna hefyd heriau i'w goresgyn o ran sicrhau’r adegau a fyddai'n bodloni Airbus, sy'n dibynnu ar y rhedfa benodol honno i ddod â chydrannau i mewn ac allan ar gyfer yr awyrennau a gynhyrchir yn Toulouse.

Mae'r Aelod yn codi pwynt diddorol o ran Loganair. Mae hwn yn wasanaeth yr ydym wedi edrych arno’n fanwl iawn. Rydym yn ceisio dysgu cymaint o wersi â phosibl o bob cwr o'r byd o ran sut y gall gwasanaethau awyr weithredu mewn ffordd gynaliadwy mewn gwlad fach. Unwaith eto, bydd yr wybodaeth honno ar gael i mi yn rhan o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal.

5. Cwestiwn Brys: Diogelwch Data yn y GIG

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwy’n galw nawr ar Darren Millar i ofyn y pedwerydd cwestiwn brys. Darren Millar.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio mesuryddion dognau o ymbelydredd? EAQ(5)0135(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Darparwyd y gweinyddion gan gwmni trydydd parti o’r enw Landauer. Fe roesant wybod i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar 17 Ionawr 2017 eu bod wedi bod yn destun ymosodiad seiberddiogelwch ar 6 Hydref 2016 ac y cafwyd mynediad at wybodaeth am y staff. Mae Landauer wedi cadarnhau bod hynny wedi digwydd ar ei weinyddion y DU yn ei bencadlys yn Swydd Rhydychen, a darparwyd manylion llawn am y digwyddiad i Felindre gan Landauer ar 26 Ionawr 2017.

Diolch i chi am y datganiad yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn achos o danseilio diogelwch data rhyfeddol sy'n effeithio ar filoedd o weithwyr y GIG ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod staff y GIG ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael gwybod, pob un o’r 654 ohonynt. Rydym yn gwybod hefyd bod ymddiriedolaeth Felindre wedi hysbysu ei aelodau staff, ond, hyd yma, nid ydym yn ymwybodol bod aelodau eraill o staff yn yr holl fyrddau iechyd eraill ledled Cymru wedi cael gwybod. Tybed a allech chi ddweud wrthym ni heddiw: pryd y byddant yn cael gwybod am y ffaith bod eu manylion personol, gan gynnwys eu dyddiadau geni, rhifau yswiriant gwladol, ochr yn ochr â'u henwau, o bosibl wedi eu rhyddhau i drydydd parti ac y gellid eu cam-drin o ran gweithgarwch twyllodrus? Gall pobl newid eu rhifau cyfrif banc, gallant newid eu cyfrineiriau, ond ni allant newid eu rhifau yswiriant gwladol. Mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd o gwmpas gyda nhw am weddill eu hoes, ac o bosibl gallai'r wybodaeth hon gael ei chamddefnyddio bump, 10, 15, 20 mlynedd yn ddiweddarach.

Felly, tybed pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn cymryd eu cyfrifoldeb i hysbysu staff yn gyflym iawn o ddifrif. A allwch chi ddweud wrthym pam y bu oedi rhwng yr amser y cafodd y GIG wybod am yr achos hwn o danseilio a’r staff yn cael eu hysbysu? Pryd daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol gyntaf o'r achos hwn o danseilio diogelwch data, a pham na chawsom ni friff bryd hynny fel Aelodau'r Cynulliad er mwyn i ni gysylltu â’r byrddau iechyd a thawelu meddyliau ein hetholwyr am y problemau y gallai hyn ei achosi? A wnaeth Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddiadau i gelu’r wybodaeth hon o gwbl? Rwy’n credu bod y rhain yn gwestiynau pwysig. Nid wyf yn amau ​​bod rhywfaint o drafodaeth wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd am yr achos hwn o danseilio, ond tybed pa gyngor a roddwyd i’r byrddau iechyd hynny, pan ddaethant yn ymwybodol o'r achos, am gyfathrebu â'u staff. Mae'n amlwg iawn mai hwn yw’r achos mwyaf o danseilio data yr wyf i yn ymwybodol ohono yn y GIG yng Nghymru erioed. Mae'n achos difrifol, ac mae angen i ni ddeall yn union sut y digwyddodd hyn a beth y gellir ei wneud i'w atal rhag digwydd eto yn y dyfodol.

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Lywydd, gallai fod o gymorth i gadarnhau y byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i’r Aelodau yn ystod yr wythnos hon i ddarparu rhywfaint o fanylion llawnach, nad wyf yn credu y byddwn yn gallu ymdrin â nhw yng nghwestiwn brys heddiw. Rwy’n sylweddoli y bydd gan nifer o Aelodau ystod o gwestiynau a diddordebau ar gyfer eu hetholwyr eu hunain. Ond os gaf i helpu gymaint ag y gallaf drwy ateb y gyfres o gwestiynau y mae'r Aelod wedi’u gofyn: mae’r achos o danseilio diogelwch data yn ddifrifol—wrth gwrs ei fod yn ddifrifol—ac mae'n achos o danseilio sy'n effeithio ar staff yn Lloegr a'r Alban, yn ogystal ag yng Nghymru. Mae'r cwmni dan sylw yn darparu gwasanaeth integredig ar gyfer ystod o wahanol sefydliadau gofal iechyd ar draws y DU. Felly, mae’n cymryd hyn o ddifrif, ond mae cwestiynau amlwg i'w gofyn, a byddaf innau yn dymuno cael sicrwydd arnynt, am yr oedi o ran yr achos o danseilio yn digwydd, y cwmni yn ymwybodol a sefydliadau GIG Cymru yn cael eu hysbysu. Mae ymchwiliad llawn a phriodol yn cael ei gynnal. Nid wyf yn credu, a dweud y gwir, Lywydd, y byddaf yn gallu rhoi gwybod i'r Aelodau am yr holl faterion hynny oherwydd nad wyf yn disgwyl i’r ymchwiliad gael ei gwblhau yr wythnos hon, ond byddaf yn sicr yn sicrhau’r Aelodau y byddaf, cyn gynted ag y bo’r wybodaeth ar gael, yn rhoi datganiad arall i’r Aelodau hefyd.

Ni ddylem anghofio bod yr achos hwn o danseilio wedi digwydd o ganlyniad i weithred droseddol. Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau nad oes unrhyw gyfarwyddyd o gwbl wedi dod gan Lywodraeth Cymru i GIG Cymru gelu’r wybodaeth hon. Nid wyf yn credu bod y math yna o gyhuddiad o unrhyw gymorth o gwbl, a bydd aelodau o staff, sef ein hetholwyr, a fydd yn poeni, ond mae sefydliadau'r GIG yn dweud wrthym eu bod yn disgwyl i bob aelod o staff gael gwybod erbyn diwedd yr wythnos hon. Rhan o'r her, fodd bynnag, Lywydd, yw bod nifer o'r staff yr effeithiwyd arnynt gan yr achos o danseilio diogelwch data nad ydynt bellach yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, yn ogystal. Mae hynny’n esbonio rhan o'r her, ond yn amlwg byddaf yn dymuno i aelodau presennol o staff a chyn aelodau o staff gael gwybod cyn gynted â phosibl. Fel y dywedais, byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnos hon, ac yn ddiweddarach pan fydd manylion pellach a llawnach ar gael.

Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, a gaf i atgoffa'r Siambr bod fy ngwraig yn radiograffydd ac felly yn ôl pob tebyg mae hi ar y rhestr o'r rhai y mae eu data wedi ei danseilio? Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi, ac edrychaf ymlaen at y datganiadau ysgrifenedig y byddwch yn eu darparu. Ond, yn amlwg, yn ogystal â'r materion tanseilio diogelwch data, mae cwestiynau ynghylch pa fath o wybodaeth a oedd yn cael ei chadw a pha fath o wybodaeth y dylid ei chadw, oherwydd nid wyf yn credu bod yr wybodaeth yr wyf yn clywed amdani yn briodol ar gyfer cronfa ddata o’r fath, yn yr ystyr hwnnw. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau, yn y dyfodol, bod y data sydd am gael ei gadw am bersonél ddim ond yn berthnasol i'r testun penodol y mae’n cael ei gadw ar ei gyfer, a ddim mewn gwirionedd ar sail ehangach. Er enghraifft, rwy'n clywed am gyfeiriadau cartref hyd yn oed. Wel, nid yw cyfeiriadau cartref pobl yn berthnasol i'r wybodaeth hon. Felly, mae'n bwysig ein bod yn egluro pa ddata sy'n cael eu cynnwys, ac a fydd ef yn cynnal arolwg ac adolygiad o'r math hwnnw o ddata i sicrhau, yn y dyfodol, mai dim ond data perthnasol sy’n cael ei gadw am unigolion at ddibenion penodol?

Ac a all ef hefyd sicrhau bod pobl yn cael gwybod? Rydych chi wedi dweud yr wythnos hon y byddant. Nid oedd fy ngwraig, pan siaradais â hi ddoe—nid oedd hi’n gweithio ddoe—wedi cael gwybod am yr achos o danseilio, ac felly rwy'n tybio nad oedd ei chydweithwyr wedi cael gwybod am yr achos o danseilio yn PABM. Yn hynny o beth, mae'n bwysig bod pobl yn cael gwybod pa wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanynt, beth allai fod wedi cael ei golli ar eu rhan, fel y gallant adolygu'r wybodaeth honno. Oherwydd, rwy’n clywed bod Landauer yn cynnig mynediad yn rhad ac am ddim i Experian am ddwy flynedd. Wel, gallai hyn fod yn hwy na hynny i ddechrau, a pham y dylai rhywun orfod edrych ar y wefan hon ddydd ar ôl dydd i weld a oes perygl i rywun ddwyn eu hunaniaeth mewn gwirionedd?

Mae canlyniadau difrifol eglur sy'n llifo o'r achos, ac er enghraifft, defnyddiwyd y rhifau yswiriant gwladol er mwyn cael cod adnabod unigryw ar gyfer unigolion, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag olrhain amlygiad yr unigolyn i ymbelydredd. Felly, rydych chi angen cod adnabod unigryw, ac mae heriau i’w hadolygu, unwaith eto, ynglŷn â sut mae hynny'n cael ei wneud. Derbyniaf hefyd fod angen ymdrin â heriau yn briodol am y lefel briodol o wybodaeth bersonol sydd i’w chadw a'i throsglwyddo, ac yna sicrhau bod pobl yn cael eu hysbysu’n briodol, nid yn unig ar hyn o bryd, ond rwyf yn derbyn nad yw hyn yn rhywbeth sydd o anghenraid yn mynd i ddiflannu dros gyfnod o fisoedd. Felly, mae’n amlwg bod cwestiynau i'w datrys, ac, fel y dywedais, Lywydd, nid wyf yn credu y gallaf roi i'r Aelodau yr holl atebion i'r cwestiynau y bydd ganddynt yn ddigon teg ac y byddant yn disgwyl iddynt gael eu hateb. Dyna pam y byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig nawr a byddaf yn cyhoeddi unrhyw ddatganiad pellach pan fydd yr ymchwiliad llawn a phriodol hwnnw wedi'i wneud, oherwydd mae’r cwestiynau mae David Rees yn eu codi yn gwbl ddealladwy, a bydd gan Aelodau ar draws y Siambr hon y pryderon hynny ar ran eu hetholwyr, pa un a ydynt yn berthnasol ai peidio. Ond, maen nhw’n gwestiynau hollol deg.

Ysgrifennydd y Cabinet, dyma’r achos diweddaraf o danseilio diogelwch data i daro ein gwasanaeth iechyd, ac mae’r achos penodol hwn yn drychinebus i'r staff dan sylw. Er nad oedd unrhyw ddata cleifion wedi ei gynnwys ar yr achlysur hwn, mae'n tynnu sylw at bryderon llawer o bobl na ellir ymddiried yn y GIG i gadw gwybodaeth bersonol. Yn gynharach y mis hwn, cafodd cyn nyrs ei diswyddo gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda am dorri cyfrinachedd cleifion. Ddoe, clywsom fod ffisiotherapydd yn y gogledd wedi cael ei atal dros dro am fynd â ffeiliau cleifion heb ganiatâd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw'r achosion hyn o danseilio diogelwch data yn gwneud fawr i adfer ffydd ymhlith y cyhoedd yng Nghymru bod eu gwybodaeth iechyd sensitif mewn dwylo diogel gyda GIG Cymru. Mae gwledydd eraill wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n diogelu gwybodaeth iechyd yn ychwanegol at y ddeddfwriaeth diogelu data sy'n bodoli eisoes. Onid ydych chi'n credu ei bod yn bryd i ninnau wneud yr un peth fel y gallwn dawelu meddyliau’r cyhoedd a staff y GIG yng Nghymru fod eu gwybodaeth sensitif yn ddiogel?

Rwy’n ceisio bod yn adeiladol wrth ymateb, Lywydd, ond rwyf yn credu bod llawer o'r hyn sydd newydd gael ei ddweud nad yw wedi bod o gymorth o gwbl. Y cyhuddiad nad oes modd ymddiried yn y GIG i gadw gwybodaeth ac yna ceisio creu cysylltiad rhwng achos o danseilio diogelwch data oherwydd gweithred droseddol, pan, wrth gwrs, ein bod eisiau sicrhau bod seiberddiogelwch ar wybodaeth sensitif yn briodol ac yn gyfredol, i’r graddau mwyaf posibl, yn erbyn y ffaith ein bod yn gwybod mai cymuned droseddol sy’n datblygu’n barhaus sy'n cael gafael ar y data hwn—nid yw ceisio creu cysylltiad rhwng hynny a'r gweithwyr proffesiynol unigol sydd wedi methu yn eu dyletswydd i'w proffesiwn ac i'r bobl y maen nhw’n atebol iddynt ac yn gyfrifol amdanynt, o gymorth o gwbl yn fy marn. Nid wyf yn derbyn bod lle i greu cyswllt priodol.

Yn hytrach na cheisio codi ofn ar aelodau'r cyhoedd ynghylch diogelwch data’r GIG ac awgrymu bod yr ateb yn y gyfraith—nid wyf yn credu bod yr ateb yn y gyfraith. Mae'n ymwneud â’n systemau ar gyfer diogelu’r data hwnnw a darparu sicrwydd i bobl sy'n cael gweld y data hwnnw y gellir ymddiried ynddynt. Os ydynt yn torri eu rhwymedigaethau clir iawn, naill ai fel cyflogeion, fel gweithwyr proffesiynol gofal iechyd neu o ran torri'r gyfraith, yna gallant ddisgwyl y bydd rhywun yn eu herlid am wneud hynny, ond, mewn gwirionedd, y pwynt pwysig am ddata iechyd, wrth gwrs, yw eich bod yn dymuno iddynt fod yn ddiogel, ond ein bod yn dymuno iddynt gael eu rhannu. Mae Aelodau yn gofyn yn rheolaidd i mi yn y pwyllgor ac yn y Siambr hon, 'Sut gallwn ni sicrhau bod data a gwybodaeth am iechyd yn cael eu rhannu rhwng gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, oherwydd mae llawer i’w elwa ym maes gofal iechyd drwy rannu’r data hynny?' Rydym yn dymuno cael systemau diogel, rydym yn dymuno cael gweithwyr proffesiynol y gellir ymddiried ynddynt a chael eu dwyn i gyfrif os ydynt yn torri’r rhwymedigaethau hynny, a dyna'r sail y byddaf yn parhau i weithredu arni wrth gydbwyso’r holl agweddau gwahanol hynny, ond gan sicrhau, yn y pen draw, mai buddiannau gorau y claf fydd yn arwain yr hyn yr ydym yn ei wneud a’r hyn na fyddwn yn ei wneud.

Rwy'n cydymdeimlo’n fawr â’r unigolion sy'n gweithio yn y GIG yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon a hefyd, wrth gwrs, â’r rhai yr effeithiwyd arnynt sy'n gweithio y tu allan i'r GIG yng Nghymru. Rwyf, fodd bynnag, yn credu bod ymddiriedolaeth ysbyty Felindre sy'n rhedeg y gwasanaeth diogelu rhag ymbelydredd yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd wedi ymateb yn briodol i'r digwyddiad hwn, a oedd, wrth gwrs, y tu hwnt i'w rheolaeth. Rwy’n dawel fy meddwl, yn sicr yn achos staff Felindre y mae hyn wedi effeithio arnynt, bod digon o gefnogaeth wedi ei rhoi i'r 530 o unigolion yr effeithiwyd arnynt. Gwn yn ogystal â chael y llythyr—anfonwyd llythyrau unigol at yr unigolion dan sylw—y bu hefyd gyfle i ymgynghori’n unigol â'r holl bobl yr effeithiwyd arnynt lle gallant ofyn unrhyw gwestiynau penodol a chodi unrhyw ymholiadau. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y byrddau iechyd eraill sydd yn y broses o hysbysu eu haelodau staff y gallai’r achos hwn o danseilio fod wedi digwydd—y dylid cynnig cyfle i ymgynghori’n unigol hefyd, oherwydd credaf ei bod yn ffordd o dawelu meddyliau, fel eu bod yn gallu cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb?

Hefyd, rwyf yn credu ei bod yn bwysig, yn amlwg, bod unigolion yn cael gwybod cyn gynted ag y bo modd, ond mae hefyd yn bwysig iawn bod yr unigolion cywir, yn y cyfeiriadau cartref cywir ac yn yr ymddiriedolaethau cywir yn cael eu hysbysu. O gofio'r miloedd y mae hyn wedi effeithio arnynt, mae'n gwbl hanfodol bod amser i sefydlu nad ydych, er enghraifft, yn cysylltu â rhywun a allai fod wedi marw yn y cyfamser, ond eich bod yn cysylltu â rhywun sydd yno mewn gwirionedd, yn gweithio yn yr ymddiriedolaeth, ac y mae hyn wedi effeithio arno. Felly, mae’n anochel y bydd oedi wrth edrych ar yr holl fanylion hyn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn hanfodol cymryd gofal wrth ddod i gysylltiad â’r unigolion dan sylw, ond y dylid ei wneud cyn gynted â phosibl?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at y cydbwysedd sydd ei angen o ran sicrhau bod pobl yn cael gwybod cyn gynted â phosibl ac, ar yr un pryd, y ceir cywirdeb o ran y bobl sy'n cael eu hysbysu. Rydych chi'n iawn; effeithiwyd ar fwy na 3,000 o staff y GIG, ond effeithiwyd ar nifer o bobl y tu allan i'r GIG hefyd. Rwy’n credu y gallai sefydliadau iechyd eraill edrych ar yr hyn y mae Felindre wedi ei wneud i ddarparu'r gefnogaeth a'r arweiniad a grybwyllwyd gennych, a hefyd y ffaith y cysylltwyd â holl staff Felindre erbyn hyn ac y darparwyd y gefnogaeth a'r arweiniad hwnnw iddynt. Credaf fod Felindre hefyd wedi llwyddo i ysgrifennu at eu cyn staff yn ogystal. Felly, mae angen cymryd gofal a thalu sylw wrth gysylltu â staff o fewn a thu allan i'r GIG—y rhai nad ydynt bellach yn cael eu cyflogi gan y GIG—i sicrhau bod cywirdeb gwirioneddol yn hynny ac, wrth gwrs, bod yr aelodau hynny yn cael eu diweddaru wrth i’r darlun ddatblygu o ran yr hyn a ddigwyddodd a pham, a beth fydd wedyn yn cael ei wneud o ganlyniad.

Tynnaf sylw'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau a gwaith fy ngwraig fel radiograffydd. A gaf i groesawu ei sicrhad heddiw, ond hefyd y ffaith y bydd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig manylach? Rwyf yn amau ​​y bydd yn rhaid i ni ddod yn ôl ar ryw adeg yn y dyfodol hefyd gyda datganiad sydd hyd yn oed yn fanylach. Efallai y bydd rhai o'r cwestiynau sydd gennyf yn helpu i lywio ei ymatebion dilynol. Yn gyntaf oll, a ydym ni’n gwybod erbyn hyn am bawb yr effeithiwyd arnynt gan yr ymosodiad data hwn —yr ymosodiad seiber —ynteu a ydym ni’n teimlo y gallai ledaenu y tu hwnt i'r rhai yr adroddwyd amdanynt eisoes yn y wasg a'r cyfryngau? Yn ail, a yw pawb yr effeithiwyd arnynt—yr ydym yn gwybod yr effeithiwyd arnynt—wedi cael gwybod? Byddai'n braf cael y sicrwydd hwnnw. Yn ail, os nad yn awr, pa mor fuan y gall y rhai sy'n amau ​​y gallai hyn fod wedi effeithio arnynt, ond sydd mewn gwirionedd yn ddiogel, gael gwybod nad oes ganddynt unrhyw beth i boeni amdano? Yn drydydd, a ydym ni’n gwybod bod hyn, neu a fydd yr ymchwiliad yn dweud wrthym fod hyn o ganlyniad i ymosodiad seiber ffyrnig na ellid amddiffyn yn ei erbyn? Neu os gwelwn ei fod, mewn gwirionedd, yn—. Nid ydym yn gwybod hyn eto, ond os yw'r ymchwiliad yn dangos mai diffyg yn yr amddiffyniad a lefelau’r amddiffyniad a oedd ar gael, pa rwymedigaethau sydd gan y cwmni preifat neu'r bwrdd iechyd i'r bobl hynny yr effeithiwyd arnynt? Yn olaf, gan edrych ymhellach i'r dyfodol, ac yn dilyn y cwestiynau gan Darren, gan wybod y gallai’r ôl-effeithiau hyn ledaenu, nid yn y misoedd nesaf, ond yn y blynyddoedd i ddod, a gawn ni ofyn am rywfaint o sicrwydd ynghylch pa gyfrifoldeb a pha rwymedigaeth y gall fod gan y cwmni, y bwrdd iechyd ac eraill i’r unigolion hynny y gallai hyn fod wedi effeithio arnynt, ac y gallai lladrad data, colli credyd a llawer o ddigwyddiadau mwy difrifol eraill effeithio arnynt yn y dyfodol? Pa amddiffyniadau a roddir iddynt nawr oherwydd yr achos hwn o danseilio data?

Diolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau. Credaf fod y ffigurau a gyhoeddwyd yn gywir. Maent yn nodi y—. Ein dealltwriaeth yw bod data dros 4,700 o staff yng Nghymru wedi ei ddwyn o weinydd y contractwr preifat —fel y dywedais, o’i weinyddion yn Swydd Rhydychen. Nid wyf yn ymwybodol o'r rhai yr effeithir arnynt yn yr Alban nac yn Lloegr. Materion i’n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU ac yn Llywodraeth yr Alban yw’r rheiny. Unwaith eto, rwy'n falch o ddweud mai fy nealltwriaeth a’m disgwyliadau i, erbyn diwedd yr wythnos hon, yw y bydd yr holl staff sydd heb gael gwybod yn cael eu hysbysu, a dylai hynny roi sicrwydd i bobl nad ydynt wedi cael gwybod. Ond rwyf yn derbyn y pwynt y bydd yna bobl a fydd yn poeni o ddifrif a yw eu data wedi cael eu gweld ac nad ydynt wedi cael eu hysbysu eto.

O ran eich pwynt olaf ar ba un a oes atebolrwydd posibl ai peidio, wel, dyna y bydd angen i ni ei ddeall, fel y mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad, yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn, pa mor brydlon y cymerwyd camau neu na wnaed hynny, ac yna, yn y pen draw, rhwymedigaethau penodol y GIG a'r contractwr. Mae hwn yn gontractwr arbenigol sy'n darparu gwasanaethau gofal iechyd o'r math hwn, fel y dywedais, yn y DU, ond hefyd ar sail fyd-eang yn ogystal. Rwy’n deall nad yw hwn yn achos o danseilio data sy'n deillio o adael disg neu yriant pen mewn man cyhoeddus yn ddiofal, fel yr ydym wedi ei weld, yn anffodus, yn y gorffennol diweddar, ond ymosodiad seiber ar y gweinyddion oedd hwn. Felly, nid yw'n achos o ddata yn cael eu gadael yn ddiofal, ond wrth gwrs rydym ni eisiau edrych ar ba fath o seiberddiogelwch oedd gan y cwmni penodol hwn ar y pryd, ac yn yr un modd, rwyf yn gwybod bod yr Aelodau yn awyddus i gael sicrwydd y bu ymateb priodol i’r ymosodiad a ddigwyddodd. Felly, fel y dywedais, byddaf yn darparu cymaint o wybodaeth ag y gallaf er mwyn bod yn ddefnyddiol yn fy natganiad ysgrifenedig cyntaf, ond fel y dywedais yn gynharach, rwyf yn disgwyl darparu ail ddatganiad ysgrifenedig pan fydd yr adroddiad ar gael a’n bod yn gallu rhannu hwnnw gyda'r Aelodau a'r cyhoedd yn gyffredinol, a fydd wrth reswm yn bryderus.

6. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser sydd wedi’i neilltuo i gwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar barc awyrofod Sain Tathan? Dim ond yn ddiweddar yr ydym ni wedi cael y newyddion da ynghylch datblygiad Aston Martin o awyrendy’r Ddraig Goch, ond, rai blynyddoedd yn ôl, yn amlwg, sefydlodd Cardiff Aviation ei hun yn y parc awyrennau, ac maen nhw wedi wynebu rhai heriau masnachol sylweddol. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru swm sylweddol o arian mewn lleoli Cardiff Aviation yn y parc awyrofod, ar y sail y byddai’n creu nifer benodol o swyddi, hyd at eu cannoedd. Maen nhw wedi cael amser masnachol anodd yno ac mae masnachu wedi bod yn eithaf heriol. Mae busnesau eraill wedi’u lleoli yn y parc awyrennau hefyd, sy'n amlwg wedi cael anawsterau gyda’r rhedfa ar agor ar benwythnosau a gweithio yn ystod y nos, yn arbennig. Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi sicrhau datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i amlinellu'r ddwy agwedd hynny: un, sut y mae'r parc awyrennau yn gweithio erbyn hyn—yn enwedig o ran gweithio pob awr o bob dydd a nos, ac yn enwedig y gallu i symud awyrennau i mewn ac allan; ac, yn ail, gyda’r cais penodol am Cardiff Aviation, o ystyried y swm sylweddol o arian cyhoeddus a wariwyd i sicrhau'r adleoli hwn, ac yn benodol, y swyddi sy'n gysylltiedig â'r cwmni, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod targedau swyddi yn cael eu bodloni? Ac os oes unrhyw amheuon ynghylch y targedau swyddi hynny, pa gamau a gymerwyd i ddiogelu'r arian cyhoeddus a fuddsoddwyd yn y cwmni hwn?

Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran y cwestiwn cyntaf, mae parc busnes awyrofod Sain Tathan, wrth gwrs, yn rhan o'r ardal fenter, ac rwy'n gyfarwydd iawn, unwaith eto, â’r materion gweithio pob awr o bob dydd a nos, sef, yn amlwg, lle mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau cefnogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Awdurdod Hedfan Sifil hefyd. Felly, byddaf i’n sicr yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ddiweddariad ar y trefniadau hynny, ond yn amlwg nid ydym yn sôn am Lywodraeth Cymru yn unig yma, o ran cyfrifoldebau am sicrhau hynny, o ran diogelwch a diogelwch awyrennau. O ran eich ail bwynt, unwaith eto, ynghylch Cardiff Aviation, mae hwnnw’n fater y byddaf yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet ato.

Rwyf i eisiau codi'r mater ynghylch Juhel Miah yn fy etholaeth i, fy rhanbarth i, eto. Gwn fod sawl AC arall wedi gwneud hynny. Rwyf i wedi cyfathrebu ag ef yr wythnos hon, welwch chi, yn dweud nad yw wedi cael unrhyw ymateb gan y Prif Weinidog. Ysgrifennodd y Prif Weinidog, yn amlwg, at awdurdodau yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â’r ffaith iddo gael ei dynnu oddi ar y trên i America—. Trên? Awyren. Byddai hynny'n ddiddorol—technoleg newydd. Ac felly, mae'n bryderus iawn nad yw wedi cael ymateb gan y Prif Weinidog. Yn amlwg, mae'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi gwneud y sylwadau hynny, ond hoffai wybod beth sydd wedi digwydd yn sgil y cyfathrebu hwnnw, er mwyn iddo allu deall beth i'w wneud nesaf. Rwy'n mynd i gyfarfod ag ef ddiwedd yr wythnos hon, ond rwy’n credu pe gallai gael sicrwydd gan y Prif Weinidog cyn i mi gyfarfod ag ef, byddwn yn ddiolchgar iawn, o ystyried ei fod yn teimlo ei fod mewn sefyllfa eithaf bregus ar ôl cael ei drin fel hyn, ond heb ddeall pam, fel athro, fel dinesydd Prydeinig, y mae wedi cael ei drin fel hyn.

Byddaf i’n sicr yn codi hynny gyda'r Prif Weinidog. Rwy’n ymwybodol ei fod nid yn unig, wrth gwrs, fel y gwyddoch, wedi ysgrifennu’r llythyr yn egluro'r sefyllfa, ond ei fod hefyd—. Rwy'n credu fy mod i’n deall efallai ei fod wedi cael ymateb i’r llythyr hwnnw gan yr Ysgrifennydd Tramor, felly mae’n gyfle nawr i roi diweddariad ar y sefyllfa honno. Diolch i chi am ei chodi.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais gyfarfod ag uwch reolwyr banc Barclays ar ôl iddo gyhoeddi ei fod yn diswyddo 100 o bobl yn ei ganolfan cyngor morgeisi yn Llanisien. Mae llawer o'r bobl hyn wedi bod yn gweithio yno ers blynyddoedd lawer—20 mlynedd neu fwy—ac yn hynod fedrus. Felly, mae'n ergyd wirioneddol bod y gweithwyr medrus hyn yn mynd i gael eu diswyddo. A allai hi ofyn am ddatganiad ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi gweithwyr fel y rhain, sydd wedi bod yn gweithio i’r un cwmni hwn ers blynyddoedd lawer iawn ac sy'n teimlo bod eu sgiliau wedi cael eu taflu i ffwrdd?

Rwy'n credu bod hwn yn gyhoeddiad siomedig arall gan fanc stryd fawr pwysig arall, ac rydym ni wedi eu cael nhw ym mhob un o'n hetholaethau ledled Cymru—a hefyd, yn wir, Yorkshire Building Society; un arall yn ddiweddar iawn. Rydym ni wedi bod yn ymwybodol o raglen ailstrwythuro Barclays, ac mae'n amlwg yn duedd, fel yr ydym ni wedi dweud—tuedd anffodus —o ran y sector bancio. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi wedi ysgrifennu at Barclays, yn eu hannog i ailystyried y penderfyniad. Rydym ni eisiau diogelu swyddi ledled Cymru. Byddwn, yn amlwg, yn helpu staff sy'n wynebu cael eu diswyddo. Rwy'n credu ei bod hi’n werth sôn am raglen ReAct III. Mae honno’n cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth i bobl yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan ddiswyddiad, ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth lle mae cyflogaeth newydd bosibl i'w chael yn fuan ar ôl diswyddo, gan atal dilyniant i ddiweithdra hirdymor. Felly, gwnaed cysylltiad rhwng Barclays a Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. Rydym ni hefyd wedi rhoi gwybod i’n cysylltiadau sy’n gyflogwyr, gan gynnwys fforwm canolfan gyswllt Cymru, am y posibilrwydd y bydd staff medrus yn dod i'r farchnad swyddi yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac maen nhw’n mynd i weithio, pan fo’n bosibl, gyda Barclays a’r gweithwyr a effeithiwyd. Ddoe, cyhoeddodd menter gwasanaeth cwsmeriaid sy'n ehangu'n gyflym, Firstsource, y bydd yn dechrau digwyddiad recriwtio deuddydd yn ddiweddarach yr wythnos hon, gyda’r gobaith o greu 300 o swyddi ychwanegol yng Nghaerdydd—Discovery House, fel y gwyddom, ym Mae Caerdydd, ac Oakleigh House yng nghanol y ddinas. Hefyd, mae gennym ni gyhoeddiad Vodafone o 100 o swyddi gwasanaeth cwsmeriaid newydd. Felly, rwy'n credu y bydd yr holl gysylltiadau hyn yn rhoi rhywfaint o obaith a rhagolygon i'r bobl hynny a allai golli eu swyddi yn anffodus, yn enwedig o ran eich etholaeth chi a chanolfan gyswllt cyngor morgeisi Llanisien.

A gaf i alw am ddatganiad unigol ar gyllid yr heddlu yng nghyd-destun yr ardoll prentisiaeth? Fel y gwyddoch efallai, gall heddluoedd yn Lloegr gael gafael ar gyllid ar gyfer prentisiaethau trwy'r cyfrif gwasanaeth prentisiaethau digidol newydd yno, ond, yng Nghymru, mae dull Llywodraeth Cymru, sy’n wahanol, yn golygu na all heddluoedd Cymru wneud hyn. Pan godais hyn yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, ynghylch ein hymchwiliad i’r ardoll prentisiaeth gyda'r Gweinidog sgiliau, tynnais sylw at yr angen iddyn nhw gael gafaael ar gyllid ar gyfer cyrsiau achrededig mewn colegau yng Nghymru, lle maen nhw’n cyfrannu dros £2 filiwn y flwyddyn at yr ardoll, ond ddim yn gallu cael mynediad ato ar hyn o bryd. Dywedwyd wrthyf y byddai Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn gwneud trefniadau grant neu gontract trwy ddeialog â’r plismona coleg, a bod ganddyn nhw gyfarfodydd yn y dyddiadur gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Wel, y penwythnos diwethaf, fe’m hysbyswyd bod y cyfarfodydd hynny gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi cael eu canslo a heb eu hail-drefnu. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Cynulliad hwn yn haeddu datganiad i’n diweddaru fel y gallwn sicrhau nad yw swyddogion yn ein heddluoedd yng Nghymru yn cael eu cosbi ac y gallant gael gafael ar y cyllid hwnnw ar gyfer eu hyfforddiant a’u prentisiaethau hanfodol.

Wel, a ydw i'n gweld rhywun sydd wedi ei argyhoeddi bellach, Mark Isherwood, ynghylch datganoli plismona i Gymru? Oherwydd yn sicr nid oes gennym ni gyfrifoldeb o ran plismona, ac yn sicr, nid ydym yn gyfrifol am gyflwyno'r ardoll prentisiaeth, y mae gennym ni bryderon mawr amdani. Yn amlwg, byddwn yn ymchwilio i'r sefyllfa o ran sut i symud y ddeialog gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn ei blaen.

A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ pryd y mae hi'n credu y mae’r Llywodraeth yn debygol o neilltuo amser ar gyfer dadl ar adroddiad a chyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru, a gyflwynwyd ddydd Gwener? Nid wyf yn gwybod faint o’r Aelodau sydd wedi cael cyfle i edrych ar hyn eto, ond os caf hysbysu pawb bod y cyfrifon wedi cael eu hamodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a’u hamodi mewn modd penodol a thrwm iawn—. Mae'r amod, sydd dros bum tudalen o hyd, na fyddaf yn eu darllen ar goedd ar hyn o bryd—rwy’n gobeithio cael dadl pan allwn ni ei drafod yn fanwl. Ond byddwn yn dweud ei fod yn ymwneud â gweithrediad melin lifio a choed gwerth £72 miliwn dros 10 mlynedd, a’r prif gasgliad sy'n amlwg i mi o amod yr archwilydd cyffredinol o'r cyfrifon yw ei gasgliad ym mharagraff 16 sy'n dweud,

‘Yn fy marn i, roedd y penderfyniad i ddyfarnu nifer o gontractau sylweddol iawn i weithredwr y felin lifio yn ddadleuol ac yn debygol o arwain at ôl-effeithiau.’

Ar sail hynny, mae wedi amodi’r holl gyfrifon, yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cyfrif £72 miliwn.

Nawr, ceir nifer o faterion yma. Er enghraifft, un o'r rhesymau dros faint y contract a ddyfarnwyd i weithredwr y felin lifio oedd ei alluogi i wneud buddsoddiad mawr yn ei felin lifio. Fodd bynnag, mae amod yr archwilydd yn cyfeirio at wybodaeth a dderbyniwyd

‘nad oedd y buddsoddiad yn safle gweithredwr y felin lifio yng Nghymru, a oedd yn rhan o’r contract, wedi digwydd.’

Nid yw'r archwilydd yn dod i unrhyw gasgliad o ran gwerth am arian, oherwydd nid dyna ei swydd wrth archwilio cyfrifon. Fodd bynnag, mae’n dweud hyn:

‘Yn fy marn i, mae’n ymddangos bod ymrwymiad CNC i werthu meintiau uchel o goed dros gyfnod o ddeng mlynedd i weithredwr y felin lifio yn gyfle y gallai gweithredwyr eraill fod â diddordeb ynddo.’

Y casgliad yw bod gwerth £72 miliwn o gontractau wedi eu gosod heb broses dendro briodol, heb fodloni rheolau cymorth gwladwriaethol na rheolau cyffredinol cyfraith gyhoeddus. Mae hyn yn ddifrifol iawn, ac mae'n cael ei gymhlethu gan y ffaith nad yw’r cyflwyniad i'r adroddiad blynyddol gan gadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfeirio at hyn o gwbl, ac nid yw’n dweud beth maen nhw’n mynd i’w ddysgu o'r broses hon, na pha gamau y maen nhw’n eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Yn wir, maen nhw’n dadlau bod yr archwilydd cyffredinol wedi—bod ei amod yn 'anghymesur' i'r diffygion a nodwyd. Rwy’n credu bod yr archwilydd cyffredinol yn iawn i amlygu gwerth £72 miliwn o ddiffygion, a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl mor fuan â phosibl ar y cyfrifon hyn a'r adroddiad blynyddol fel y gallwn ddwyn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif.

Diolch yn fawr, Simon Thomas. Os caf i egluro, ac rydych chi’n amlwg yn codi hyn yn eich cwestiwn, mae’r amod yn ymwneud â phrosesau cadw cofnodion Cyfoeth Naturiol Cymru o ran contract gwerthu a osodwyd yn 2014. Mae'n fater i swyddog cyfrifyddu Cyfoeth Naturiol Cymru, sef y prif weithredwr, a dylai'r mater hwn gael ei ystyried, byddwn i’n dweud, gan bwyllgorau perthnasol y Cynulliad. Yn wir, gwahoddwyd Cyfoeth Naturiol Cymru i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 28 Mawrth a 2 Mai felly’r rheini, yn fy marn i, yw’r camau priodol cyntaf i'w cymryd.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y contract meddygon teulu presennol. Fe’m hysbyswyd gan etholwyr yn ddiweddar bod un feddygfa yn gwrthod newid rhwymynnau ac yn atgyfeirio cleifion i'r ysbyty. Mae meddygfa arall yn fodlon darparu presgripsiynau amlroddadwy trwy gais ar y cyfrifiadur yn unig, sy’n eithriadol o anodd i rai o’m hetholwyr oedrannus. Mae'r un feddygfa yn gwrthod trefnu apwyntiad i gleifion tan fod y meddyg wedi siarad â nhw. Ni all y cleifion wybod pa un a yw hynny'n gywir neu'n anghywir, a pha un a all y feddygfa deulu wneud hynny. Ni allaf ddweud hynny wrthyn nhw, ac, yn bwysicaf oll, pan fyddaf yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, maen nhw’n dweud bod meddygfeydd teulu yn gontractwyr preifat i'r GIG, ac nid ydynt yn fodlon trafod hyn â nhw. Felly, roeddwn i’n meddwl mae’n rhaid bod rhywun yn rhywle yn gwybod beth yw’r contract, oherwydd rwy’n credu bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn annerbyniol.

Diolch i chi, Mike Hedges, am y cwestiwn yna. Rwy’n credu—wel, o ran y contract meddygon teulu, fel y byddwch, wrth gwrs, yn ymwybodol, fe’i cytunwyd gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru ar 4 Mawrth 2017 ac, a dweud y gwir, mae’r contract hwnnw—. Ceir newidiadau pwysig i'r contract meddygon teulu yr ydych chi’n ceisio eu hegluro ar ran eich etholwyr. Bydd cynnydd i wasanaethau meddygol cyffredinol o tua £27 miliwn. Nawr, mae hynny'n cynnwys cynnydd o 2.7 y cant ar gyfer cyflogau a threuliau meddygon teulu ar gyfer 2017-18. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth i bractisau meddygon teulu ddarparu gwasanaethau newydd gwell, gan gynnwys cartrefi gofal, rheoli warffarin, diabetes, a darparu profion fflebotomi o fewn gofal eilaidd i wella ansawdd a diogelwch gofal cleifion.

Fel y cyhoeddwyd gennym, ac fel y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn ymwneud â thrafod gwelliant a diweddaru'r contract, ond mae'n ymwneud â’i foderneiddio i ddiwallu anghenion y cyhoedd a'r proffesiwn yn well. Felly, mae hynny yn amlwg—. O ran y profiad, nid yw hyn eto—mae hyn ar gyfer 2017-18, felly, yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd hyn yn cael ei roi ar waith.

A gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch yn dda ar Lywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i gyflenwyr yn brydlon? Rwy’n ymwybodol, o gwmnïau bysiau sydd wedi codi'r mater gyda mi, bod taliadau hwyr, wrth gwrs, yn peri problemau llif arian i rai cwmnïau bysiau, yn enwedig cwmnïau llai. Rwy'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yr wythnos diwethaf, yn ystod y datganiad ar wasanaethau bysiau, wedi dweud bod y mater hwn yn fater llywodraeth leol. Ond mae'n sicr yn fater Llywodraeth Cymru. Felly, byddwn yn croesawu yn fawr iawn datganiad yn cadarnhau y bydd y mater o daliadau hwyr gan Lywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn yn cael sylw.

Yn amlwg, mae hwn yn fater y mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol ohono, ac o ran swyddogaeth awdurdodau lleol hefyd. Yn sicr, gellir tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at hyn. Rwy’n credu bod llawer o ddiddordeb ar hyn o bryd yn y cyfleoedd i wasanaethau bysiau o ran yr uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr.

Rwy’n datgan buddiant gan fod y mater hwn yn ymwneud â chyngor Caerdydd. Mae'n fater pwysig ac yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’r aelod cabinet dros drafnidiaeth yng nghyngor Caerdydd yn gwrthod gweithredu ar lwybrau peryglus i'r ysgol. Daw dwy ffordd i'r meddwl: Heol Isaf yn Radur, lle mae ceir yn gyrru ar hyd at 70 milltir yr awr, a Caerau Lane yng Nghaerau, lle mae'r ffordd yn arwain tuag at Ysgol Uwchradd Mary Immaculate lle mae’n rhaid i blant groesi, cannoedd ohonynt, ffordd brysur, sydd yn beryglus iawn. [Torri ar draws.] Gyda phob parch, rwy’n ceisio gofyn i'r Gweinidog am ddatganiad a hoffwn eich sylw, os gwelwch yn dda, yn hytrach na heclo.

Diolch i chi, Lywydd. Mae eich cydweithiwr yn dyfynnu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i amddiffyn ei safbwynt, oherwydd, yn dechnegol, mae’n gywir yn gyfreithiol, ond, yn foesol, byddwn yn dweud ei fod yn anghywir, oherwydd mae byd o wahaniaeth rhwng y llwybrau dyheadol yn y Ddeddf a lle mae plant yn cerdded mewn gwirionedd a sut y maen nhw’n cyrraedd yr ysgol mewn gwirionedd.

Felly, a wnaiff eich Llywodraeth ysgrifennu at y cyngor i’w hatgoffa am ei gyfrifoldeb i gadw ein plant yn ddiogel? Hoffwn ryw fath o ddatganiad ar y mater hwn, oherwydd mae llwybrau mwy diogel i'r ysgol yn hynod bwysig, ac, am swm bach iawn o arian, gallwn gadw ein plant yn ddiogel. Diolch.

Wel, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi arloesol a phwysig iawn o ran Llwybrau Diogel i'r Ysgol, gan ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Wrth gwrs, maen nhw’n gwneud cais am y cyllid hwnnw ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer llwybrau diogel i'r ysgol a llwybrau diogel yn y cymunedau hynny. Mae'r cyngor, wrth gwrs, yn gwbl ymwybodol ac yn eglur ynghylch ei rwymedigaethau statudol o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr.

Arweinydd y tŷ, nos Wener, ymosodwyd ar griw ambiwlans wrth geisio gofalu am bobl. Yn anffodus, nid dyma’r unig achos, ac mae ffigurau diweddar wedi dangos bod cynnydd, bob blwyddyn, i nifer y staff sy’n dioddef ymosodiadau ledled Cymru. Roedd nos Wener yn ymosodiad annerbyniol a thruenus arall ar ein gweision cyhoeddus wrth iddyn nhw geisio gwneud eu gwaith. A allwn ni gael datganiad ar ba gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ddiogelu ein staff ambiwlans rheng flaen, ac, yn wir, ein holl wasanaethau brys sy'n dod i’r gwaith i achub bywydau a darparu gofal a chymorth, yn aml o dan amgylchiadau anodd a thrawmatig?

Rwy’n parchu'r ffaith bod yr Aelod wedi tynnu ein sylw at hyn ac rwy'n credu ei fod yn amlygu unwaith eto yr achosion cwbl annerbyniol hynny o drais yn erbyn—. Ni ydym yn goddef trais o unrhyw fath yn erbyn ein staff. Mae'r rhain yn staff sy'n gweithio o dan bwysau enfawr. Mae hwn yn fater, wrth gwrs, yr ydym ni’n ei gymryd o ddifrif iawn yn Llywodraeth Cymru i gefnogi ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru. Mae'n bwysig, wrth gwrs, unwaith eto, bod y bwrdd iechyd lleol hefyd yn ymwybodol o hynny a bod gwaith dilynol yn cael ei wneud ac, os oes angen, camau’n cael eu cymryd i amddiffyn y staff.

7. 3. Datganiad: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y Mesur Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant.

Diolch i chi, Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ein cyflenwad o dai cymdeithasol dan bwysau sylweddol. Rhwng 1 Ebrill 1981 a 31 Mawrth 2016, cafodd 139,100 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai—mae hynny yn 45 y cant o stoc tai cymdeithasol 1981—eu gwerthu o dan yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael. Mae'r gostyngiad yn y stoc yn ystod y cyfnod hwnnw yn gorfodi llawer o bobl sy'n agored i niwed i aros yn hwy am gartref heddiw, ac yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, datblygu a diogelu tai cymdeithasol yw un o'r ffyrdd gorau y gellir defnyddio polisi tai i fynd i'r afael â thlodi. O ystyried y pwysau ar dai cymdeithasol a'r angen i adeiladu mwy o gartrefi, mae'r amser wedi dod i roi terfyn ar yr hawl i brynu fel un o'r ffyrdd i fynd i'r afael â'r pwysau. Yn ogystal â diddymu'r hawl i brynu, bydd y Bil yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, gan wybod na fyddant mewn perygl o orfod cael eu gwerthu ar ôl dim ond ychydig flynyddoedd. Mae'r Bil wedi cael ei ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn yn 2015. Mae ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai. Hoffwn gofnodi heddiw fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y broses honno.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Roedd yr ymatebion gan randdeiliaid, gan gynnwys Shelter Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn dangos cefnogaeth glir i amcanion y Bil. Bydd y Bil yn amddiffyn y stoc tai cymdeithasol i'w rhentu gan bobl nad ydynt yn gallu prynu na rhentu tŷ trwy'r farchnad breifat. Mae hyn yn cynnwys llawer o bobl agored i niwed sydd yn elwa'n fawr o gartrefi saff, diogel a fforddiadwy a ddarperir gan ein tai cymdeithasol. I grynhoi, bydd y Bil yn diddymu'r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a'r hawl i gaffael ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Bydd yr hawliau yn dod i ben ar gyfer cartrefi newydd na chawsant eu gosod yn flaenorol yn y sector tai cymdeithasol ddeufis ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o effaith y Bil, ni fydd diddymu hawliau ar eiddo sydd eisoes yn bodoli yn digwydd am o leiaf un flwyddyn ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Bydd pob tenant tai cymdeithasol yr effeithir arnynt yn cael gwybod yn ysgrifenedig o fewn dau fis o gael Cydsyniad Brenhinol, ac mae'r Bil yn ategu nodau ehangach Llywodraeth Cymru o greu Cymru fwy ffyniannus a thecach. Bydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, a bydd yn helpu i warchod stoc o dai diogel, sicr a fforddiadwy i’w defnyddio gan bobl ar incwm isel neu sy'n agored i niwed.

Mae'r ddeddfwriaeth i ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn cefnogi camau eraill a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad tai—er enghraifft, gosod y targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl ar incwm cymedrol i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain hefyd, er enghraifft drwy'r cynllun Cymorth i Brynu—Cymru. Mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi'i hen sefydlu bellach, a bydd ein buddsoddiad o £290 miliwn yn yr ail gam yn cefnogi’r gwaith o adeiladu dros 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021. Mae hyn wedi cael croeso mawr hefyd gan ddarpar berchnogion tai ac adeiladwyr tai fel ei gilydd.

Rydym yn cryfhau cynlluniau sy'n cefnogi perchentyaeth ar gost-isel, ond nid ar draul lleihau'r stoc tai cymdeithasol, ac nid trwy gynlluniau a all, yn y tymor hir, gostio mwy i denantiaid, a phob un ohonom, na'r rhent cymdeithasol amgen. Ceir tystiolaeth bod llawer o eiddo a werthir dan yr hawl i brynu yn y pen draw yn diweddu yn y sector preifat. Pan fydd hynny'n digwydd, gall hynny olygu costau uwch i denantiaid, a lle mae budd-dal tai yn cael ei hawlio, gall hynny gostio mwy i bwrs y wlad. Rwy’n cydnabod y bydd rhai pobl yn gwrthwynebu’r Bil, gan dynnu sylw at y cyfraniad y mae’r hawl i brynu wedi ei wneud wrth gynorthwyo tenantiaid i fod yn berchen ar dŷ. Ond mae angen i ni ystyried y manteision amlwg hynny yng nghyd-destun y system dai yn ei chyfanrwydd. Rwy’n awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i fod yn berchen ar eu cartrefi hefyd. Mae'r Bil hwn yn sicrhau ein bod yn diogelu'r buddsoddiad a wneir mewn tai cymdeithasol dros sawl cenhedlaeth fel y gellir ei ddefnyddio i gefnogi'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn awr ac yn y dyfodol.

Lywydd, bydd ein hymrwymiad maniffesto i roi terfyn ar yr hawl i brynu yn cyfrannu at greu Cymru decach drwy helpu’r rhai nad yw'r farchnad dai yn gweithio iddynt. Bydd y Bil yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl. Edrychaf ymlaen at y ddadl ehangach ar y Bil hwn ac edrychaf ymlaen at gyfraniad Aelodau a'r llu o grwpiau rhanddeiliaid y gwn sy’n dymuno gweld y Bil hwn yn dod yn gyfraith.

Mae'n rhaid i mi ddechrau drwy ddweud yn eithaf uniongyrchol bod hwn yn ddiwrnod trist iawn i Gymru. Wedi'r cyfan, mae bron 140,000 o deuluoedd wedi elwa ar yr hawl i brynu ers 1980 ac mae perchentyaeth yn dal i fod yn ddyhead i ddegau o filoedd ar draws Cymru. Yn awr, bydd llwybr pwysig iddynt yn cael ei gau. Os bu polisi cyhoeddus erioed a gafodd fonllefau o gymeradwyaeth cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn, hwn ydyw: 140,000 o deuluoedd.

Jenny Rathbone a gododd—

Yn wir, rwy’n meddwl y gall rhywun yn rhesymol honni mai’r hawl i brynu fu’r polisi tai mwyaf poblogaidd yn hanes Prydain a bu’n arbennig o boblogaidd, gyda llaw, ym mherfeddwlad draddodiadol Llafur. Byddaf yn gadael y cyfyng-gyngor hwnnw i chi a'ch cydweithwyr.

Rydych hefyd wedi dewis y targed anghywir. Mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi—llawer mwy o gartrefi. Dyna beth ddylai fod yn llenwi ein hamser ar hyn o bryd. Mae angen adeiladu oddeutu 12,000 i 15,000 o dai yn flynyddol yn y genhedlaeth nesaf, dim ond er mwyn adennill tir. Ar hyn o bryd rydym yn cael trafferth i adeiladu targed Llywodraeth Cymru o 8,700 o gartrefi newydd y flwyddyn. Y tro diwethaf i ni gyflawni’r targed annigonol hwnnw oedd 2007-08. Yn ei ddatganiad dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn anelu at ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn. Ond nid yw hynny ond 2,500 yn fwy na'r cynlluniau blaenorol. Nawr dyma wirionedd y mater: roedd tua 250 o gartrefi yn amodol ar yr hawl i brynu yn flynyddol yn y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi gostwng yn sylweddol wrth i’r manteision a oedd yn cael eu cynnig leihau. Ond mae'n dal i fod yn bolisi pwysig ac yn un yr wyf yn credu y dylai mwy o bobl gael mynediad ato—250 o gartrefi bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf. Eto i gyd, rydym tua 6,000 o dai'r flwyddyn yn fyr o'n targedau—neu’r angen, beth bynnag. Dyna’r prinder o ran cyflenwad ar y funud ac rwy’n meddwl ei fod yn frawychus bod Llywodraeth yn dewis tynnu'n ôl yr hawl i brynu ac nad yn canolbwyntio ar adeiladu mwy o gartrefi.

A gaf i ddweud, petai'r Llywodraeth wedi canolbwyntio ar ddiwygio'r hawl i brynu, byddech wedi cael ein cefnogaeth ni?  Oherwydd nid yw’r un polisi yn sefydlog ac yn derfynol. Mae angen addasu hyd yn oed ar y polisïau mwyaf llwyddiannus a byddem wedi edrych ar ffyrdd o wneud yr hawl i brynu hyd yn oed yn well ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom wedi cytuno, er enghraifft, y dylid fod wedi ailfuddsoddi’r holl dderbyniadau o’r hawl i brynu mewn tai cymdeithasol. Mae hynny'n rhywbeth a ddylai fod wedi cael ei wneud o'r cychwyn, a dweud y gwir, ac efallai y byddai wedi osgoi rhai o'r dadleuon.

Ac yn awr fy nghwestiynau i. Yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, bydd yn rhaid i ni wrthwynebu'r Bil hwn a’i wneud yn agored i graffu helaeth iawn. Fe’i cyflwynwyd er gwaethaf y ffaith mai dim ond tri awdurdod lleol, gyda dau arall yn yr arfaeth, sydd wedi manteisio ar yr hawl i atal yr hawl i brynu. Felly, mewn gwirionedd, nid yw 17 allan o'r 22 wedi gweithredu’r hawl i atal ac yn awr rydych yn eu gorfodi i wneud hynny. Hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw adrannau 6 a 7 sydd wedi eu cynnwys yn y Bil yn ymwneud â chychwyn neu weithredu’r Bil. Mae hyn yn golygu, fel yr ydych wedi dweud, y bydd blwyddyn o rybudd yn cael ei roi ar y stoc tai cymdeithasol presennol a fyddai'n caniatáu i denantiaid sydd ar hyn o bryd yn byw mewn tai cymdeithasol ystyried a ddylent arfer eu hawl i brynu. Ond hoffwn i wybod a fydd y cyfnod rhybudd hwn hefyd yn berthnasol i’r awdurdodau lleol sydd eisoes wedi atal yr hawl i brynu, neu a fydd hyn ddim yn gynhwysfawr.

A gaf i orffen drwy ganmol y Llywodraeth ar un peth, sef ansawdd y memorandwm esboniadol? Bydd hyn yn ein helpu i graffu ar y Bil yn effeithiol, ac rwy’n credu, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn gymorth mawr i’r ddeddfwrfa pan fydd y Weithrediaeth yn arfer y math hwn o onestrwydd. Felly, ar hynny, rwy’n eich canmol.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Nid oeddwn yn disgwyl unrhyw beth yn llai, ond roeddwn yn gobeithio y byddai'r cynnwys yng nghyfraniad David Melding wedi canmol ychydig mwy o fanylion o ran y ffaith fy mod yn deall bod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng polisi'r Ceidwadwyr a pholisi Llafur yn hynny o beth—ac nid oeddwn yn disgwyl unrhyw gymorth yn y maes hwnnw. Ond awgrymodd yr Aelod ein bod yn canolbwyntio ar y maes anghywir. Nid yw cael gwared ar yr hawl i brynu ond yn rhan o gyfres o ddulliau i wella'r farchnad dai. Rydym yn buddsoddi'n drwm yn ein stoc dai. Dros dymor olaf y Llywodraeth, rhagorwyd ar ein targedau o adeiladu tai cymdeithasol gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol, ac rwy'n cael fy nghalonogi ein bod eisoes yn gweld awdurdodau lleol yn dechrau adeiladu tai cyngor newydd yn yr etholaethau. Yn wir, mae hyn eisoes ar waith yn fy etholaeth i yn Sir y Fflint, ac yn etholaeth Hannah Blythyn, gyda phobl yn byw yn y cartrefi hynny. Mae angen i ni sicrhau'r rheini ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi colli 45 y cant o stoc tai cymdeithasol ers 1981. Mae hyn yn sylweddol, ac rwy'n falch bod yr Aelod wedi cydnabod bod rhan o'r broblem hon yn ymwneud â rheolau’r Trysorlys o ran y diffyg gallu i ail-fuddsoddi yn ôl mewn tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, aeth ein harian oddi yma yn ôl i Lundain, felly rydym wedi colli ar y ddwy lefel; collwyd tai cymdeithasol ond hefyd collwyd y cyllid i ail-fuddsoddi—ergyd ddwbl i Gymru. Felly, dyna pam yr ydym yn cyflwyno’r cynllun hwn yn rhan o becyn; cyfres o bethau.

Gofynnodd yr Aelod gwestiwn penodol iawn ar y mater o awdurdodau sydd eisoes yn y cyfnod atal ac a fydd y 12 mis yn caniatáu sail iddynt ar gyfer ymgeisio yn ystod hynny. Ni fydd hynny'n wir. Bydd y cyfnod atal sy'n dechrau yn awr yn parhau yn ystod y cyflwyniad hefyd, felly ni fydd y cynllun yn gymwys ar gyfer y cyfnod atal o bum mlynedd sy'n berthnasol i’r awdurdodau hynny. Mae mwy na thri awdurdod; hoffwn hefyd gywiro’r Aelod. Roedd Caerfyrddin ym mis Ionawr 2015, Abertawe ym mis Ebrill 2015, Ynys Môn ym mis Medi 2016 a Sir y Fflint ym mis Chwefror 2017. Mae Sir Ddinbych eisoes yn cael ei hystyried hefyd, ac mae dau awdurdod arall yn ceisio am gais posibl. Rydym wedi cael rhai trafodaethau gyda nhw hefyd. Felly, mae nifer sylweddol eisoes wedi ceisio atal hyn ar sail dros dro.

Hoffwn i ddweud ein bod yn cefnogi'r Bil hwn a bwriad y polisi y tu ôl iddo. Mae wedi bod yn safbwynt hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at y broses graffu. Byddaf yn dweud mewn ymateb i'r Ceidwadwyr nad oes llawer o bobl yn gallu fforddio prynu eu cartrefi eu hunain, ac mae bob amser angen tai cymdeithasol at y diben hwnnw. Ni fyddwn yn dymuno troi pobl dosbarth gweithiol yn erbyn pobl eraill yn eu cymunedau eu hunain, gan fy mod yn credu bod hynny'n anghyfrifol. Nodau'r polisi hwn yw'r nodau iawn ac rwy’n credu ei fod yn un y dylem geisio ei gefnogi, er fy mod yn deall y bydd rhesymau ideolegol pam na fydd pobl yn yr ystafell hon yn gwneud hynny.

Un o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau ei ofyn oedd hyn: a ydych yn bwriadu creu cymunedau mwy cymysg lle mae tai yn gymysgedd o rai cymdeithasol a phreifat mewn cysylltiad â’r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth? Yn y gorffennol, gwn mewn rhai cymunedau efallai fod pobl yn fwy tueddol o brynu tŷ mewn ardal benodol o ystâd cyngor ond nid mewn ardal arall o'r ystâd honno, ac yna mae hynny wedi dwysáu’r problemau sy'n ymwneud â thai cymdeithasol a’r hawl i brynu. Felly, roeddwn yn dymuno gofyn am hynny.

Yn amlwg, drwy rybuddio pobl fod yr hawl i brynu yn mynd i gael ei ddiddymu, bydd rhai tenantiaid presennol yn ystyried prynu a byddant yn dechrau chwilio am ffyrdd o ariannu hyn, a all roi pobl mewn sefyllfa fregus. Cafwyd nifer o enghreifftiau dros y blynyddoedd o gwmnïau sy'n darparu cyllid i helpu pobl i fanteisio ar yr hawl i brynu, ac yna’n troi tenantiaid allan pan nad yw’r cyllid yn cael ei ad-dalu, gan wybod bod ganddynt ecwiti mewn ased a gafodd ei gaffael ymhell islaw’r gwerth ar y farchnad, a byddai wedi codi yn ôl pob tebyg wedyn o ganlyniad. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i leihau'r risgiau hyn wrth i ni nesáu at ddiwedd yr hawl i brynu?

Mae eich datganiad hefyd yn sôn am y cynllun Cymorth i Brynu—Cymru i helpu pobl i gamu ar yr ysgol, ond nid yw’r cynllun hwn ond yn berthnasol i adeiladau newydd. Felly, y llynedd, fe wnaeth y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyfer rhagoriaeth yn yr amgylchedd adeiledig adrodd ar ansawdd tai a adeiladwyd o’r newydd ledled y DU. Roeddent yn gweld bod 93 y cant o’r prynwyr yn cwyno am broblemau wrth eu hadeiladwyr, ac o'r rhain, roedd 35 y cant yn cwyno am 11 neu fwy o broblemau. Felly, erbyn hyn, mae cwestiynau’n codi ynghylch a yw’r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol yn gallu datrys y cwynion hyn yn briodol a sicrhau bod adeiladau newydd yn addas i'r diben. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn a chymryd camau yn erbyn adeiladau newydd o ansawdd gwael? Ac o ystyried y problemau hyn, a yw’n briodol mewn gwirionedd i gyfyngu Cymorth i Brynu i adeiladau newydd yn unig?

Fy nghwestiwn olaf, ar hyn o bryd—wrth gwrs, byddwn yn craffu ar y Bil hwn yn y pwyllgor cymunedau yr wyf yn eistedd arno—yw hyn: a ydych yn fodlon bod blwyddyn yn ddigon o amser i roi cyfle i bobl sydd yn y broses, yng nghanol proses, hawl i brynu? Gwn fod yr Alban wedi penderfynu ar gyfnod o ddwy flynedd pan oeddent yn dal i fod yn caniatáu i bobl gyflwyno achosion i brynu eu cartrefi. Felly, rwy’n awyddus i fod yn sicr eich bod yn rhoi'r wybodaeth gywir ac amserol i denantiaid, a'u bod yn deall eu hawliau. Mae hyn yn hanfodol, oherwydd ei fod yn newid, yn y bôn, a gallwn annog pobl i ddeall, efallai, drwy ymgyrch gyhoeddus, pam eich bod yn cymryd y penderfyniad hwn i wneud hyn fel rhan o fenter Llywodraeth.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad ac rwy’n croesawu ymrwymiad ei phlaid i gefnogi proses y Bil, wrth symud ymlaen. Mae’r Aelod yn iawn am y gymysgedd o gymunedau, ond mae'n rhaid i ni gofio bod 45 y cant o'r stoc hon eisoes wedi ei werthu ac erbyn hyn wedi mynd i mewn i'r sector preifat. Mae'n wahanol iawn, felly, i sut y dechreuodd yn wreiddiol yn y lle cyntaf. Felly, mae'n rhaid i ni gynllunio'n well sut rydym yn creu cymunedau, ac mae hynny'n rhan o'r canllawiau cynllunio sy'n cael eu cyhoeddi. Mae creu tai cymdeithasol newydd, sy'n cael eu datblygu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol, unwaith eto, yn ymwneud â’r ffordd y mae'n diwallu angen lleol, ac mae’n bwysig bod cymunedau lleol yn ymgysylltu â hynny.

O ran y rhaglen Cymorth i Brynu—Cymru, mae gen i ddiddordeb yn sylwadau'r Aelod o ran ansawdd rhai o'r adeiladau. Byddaf yn edrych ar yr adroddiad hwnnw yn ofalus. Ni fyddwn yn dymuno ariannu unrhyw sefydliad sy'n darparu tai o ansawdd gwael. Yn ddiweddar, buddsoddwyd hyd at £20 miliwn mewn cronfa arloesi ar gyfer syniadau a chysyniadau newydd ar gyfer tai, ac rydym yn cael ymatebion gwych. Gobeithio—ochr yn ochr â'r Bil hwn, dywedais fod cyfres o ddulliau a fydd yn ein helpu i ddatblygu cyfleoedd newydd, a bydd y rhaglen arloesi, ochr yn ochr â’r grant tai cymdeithasol hefyd yn ychwanegu at y cyfleoedd a fydd yn cael eu rhoi yn yr is-adran dai.

Y cyfnod o flwyddyn o seibiant ar ôl cyflwyno—rwy’n hyderus o allu tenantiaid i weithredu, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, o ran prynu, ond byddwn hefyd yn ymwybodol o hyn o ran ein hymgysylltiad â thenantiaid. Felly, byddwn yn ysgrifennu at yr holl denantiaid o fewn y cyfnod o ddau fis ar ôl i’r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Ond rwy'n credu ei fod hefyd yn rhywbeth y byddech yn dymuno craffu arno, y manylion ar ôl y digwyddiad hwnnw, a sicrhau ein bod yn rhoi hyder i'r tenantiaid, os ydynt yn ceisio prynu rhywbeth sylweddol fel yna, nad ydynt yn mynd i afael benthycwyr diegwyddor, ac fel arall sicrhau bod y cyllid ar gael. Mae'n rhywbeth yr ydym yn credu y bydd y cyfnod o 12 mis yn ddigonol ar ei gyfer.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwybod bod cartrefi saff, diogel a fforddiadwy yn rhan hanfodol o wead sicrhau bywydau a chymunedau cryf a chydlynol, ac mae diogelu a sicrhau safonau gweddus o stoc tai Cymru yn elfen graidd wrth gyflawni hyn. Fel yr ydych yn ymwybodol, ym mis Chwefror eleni, roedd fy nghyngor fy hun, Sir y Fflint, yn llwyddiannus yn ei gais i atal yr hawl i brynu o ran yr holl anheddau cyngor. Rhwng 1996 a 2016, cafodd cyfanswm o 1,606 o dai eu gwerthu yn erbyn cefndir o alw gormodol a rhestrau tai sy’n tyfu fwyfwy.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd gennych mewn ateb blaenorol, mae'r cyngor wedi arwain y ffordd wrth ddechrau adeiladu’r llwyth cyntaf o dai cyngor newydd mewn cenhedlaeth drwy'r rhaglen tai ac adfywio strategol. Rwy'n siŵr nad oes raid i mi ofyn a fyddwch yn ymuno â mi ac yn croesawu’r cynsail a osodwyd gan Gyngor Sir y Fflint a’i agwedd arloesol sy’n torri cwys newydd. Ond mae gen i gwestiwn ychwanegol: yn eich datganiad, rydych yn dweud yr ysgrifennir yn ffurfiol at bob tenant yr effeithir arnynt ar draws Cymru ynghylch newidiadau dan y ddeddfwriaeth. A gaf i ofyn pa arweiniad neu adnoddau sy’n cael eu darparu i sicrhau bod hyn yn digwydd? A hefyd, a ellir rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i’r wybodaeth am y cynlluniau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru megis Cymorth i Brynu a rhentu i brynu, a sut i fod yn gymwys amdanynt?

Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau teg o ran yr wybodaeth ar gyfer tenantiaid yn y dyfodol a safbwynt Llywodraeth Cymru o ran cymorth yn y dyfodol. Mae gennym wefan eisoes sydd â dolenni i wahanol gymorth ariannol neu wybodaeth i denantiaid newydd. Mae hynny ar gael gan y Llywodraeth. Wrth gwrs, rwy’n llongyfarch fy awdurdod lleol i—ein hawdurdod lleol ni—byddai’n annoeth peidio â gwneud hynny. Mae’r Cynghorydd Bernie Attridge, yr aelod arweiniol ar dai cymdeithasol, yn hyrwyddwr gwych o dai cymdeithasol, ac ynghyd ag awdurdodau eraill, rhaid i mi ddweud, maent yn dechrau troi'r llanw o ran buddsoddi’n ofalus mewn stoc tai newydd i bobl leol, sydd yn bwysig iawn.

Dylwn i atgoffa Aelodau o ffaith foel iawn yn Lloegr. Roedd addewid yno, am bob tŷ a fyddai’n cael ei werthu byddent yn ail-fuddsoddi ac adeiladu cartref arall yn sgil hynny. Ond, mewn gwirionedd, mae'r ystadegau yn awgrymu, am bob saith sy'n cael ei golli i'r farchnad, dim ond un sydd wedyn yn cael ei ail-adeiladu, sydd yn anffodus. Felly, nid ydym byth yn mynd i gael digon o stoc tai cymdeithasol oni bai ein bod yn gwneud buddsoddiadau ac yn eu diogelu ar gyfer y dyfodol, sef yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud yma yng Nghymru.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Yn UKIP, rydym yn cefnogi'r hawl i brynu yn fras, ond rydym hefyd yn cydnabod bod y polisi hwn wedi arwain at anawsterau ymarferol. Mae'n ddiddorol bod yr hawl i brynu wedi dod yn faes y gad ideolegol rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, oherwydd Llafur mewn gwirionedd a gynigiodd y math hwn o gynllun gyntaf yn eu maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 1959 dan Hugh Gaitskell. Fodd bynnag, collodd Llafur yr etholiad hwnnw ac, yn y pen draw, y Ceidwadwyr, 20 mlynedd yn ddiweddarach, ddechreuodd ddeddfu ar werthu tai cyngor, ac fe brofodd i fod yn bolisi poblogaidd, fel y mynegodd David Melding yn gynharach heddiw.

Fodd bynnag, weithiau mae'n cymryd rhai blynyddoedd cyn y gallwn weld a yw polisi wedi gweithio mewn gwirionedd ai peidio. Felly, a yw’r hawl i brynu wedi helpu i hwyluso mwy o berchnogaeth cartrefi yn y DU? Wel, i raddau, ydy yn sicr. Ym 1980, pan gyflwynwyd y Ddeddf, roedd 55 y cant o ddeiliaid tai Prydain yn berchen ar, neu wedi morgeisio, eu cartref eu hunain. Ar ôl y Ddeddf, cododd hyn fesul tipyn, gan gyrraedd uchafbwynt o 71 y cant yn 2003. Yn anffodus, ers hynny mae'r ffigur wedi gostwng i'w lefel bresennol o lai na 64 y cant, sy'n golygu, am y tro cyntaf, fod gennym gyfraddau perchentyaeth is na Ffrainc. Felly, mae'n neges gymysg braidd a gallaf weld eich pryderon am yr hawl i brynu.

Mae'r ffigurau hyn yn dod yn fwy pryderus pan maent yn ymwneud â phobl ifanc. Ym 1990, roedd 45 y cant o rai 25 mlwydd oed ar yr ysgol eiddo. Yn 2000, roedd y ffigur hwnnw wedi gostwng i 34 y cant, ac yn 2010, roedd yn 21 y cant. Felly, mae'n sicr yn ymddangos heddiw bod yr ifanc yn cael eu prisio allan o'r farchnad eiddo. Yn wir, ymddengys mai ochr arall i Ddeddf Tai 1980 yw bod y cyfyngiadau difrifol ar allu cynghorau i adeiladu tai cyngor newydd wedi arwain at brinder tai. Cafodd refeniw o werthiannau tai cyngor ei gyfeirio gan Lywodraeth ganolog y DU i fynd at leihau dyled y cynghorau. Felly, rydym wedi cael cyfnod lle mae’r cynghorau wedi cael eu cyfyngu yn ddifrifol yn eu gallu i adeiladu tai cyngor. Rydym bellach yn cychwyn ar gyfnod yng Nghymru pan, fel y gwnaethoch chi, Weinidog, esbonio yn gynharach, rydym yn awr yn gweld rhywfaint o dai cyngor yn cael eu hadeiladu eto, sydd yn ddatblygiad i'w groesawu. Ond yr ydych yn awr yn mynd i'r afael â'r broblem o leihad mewn stoc, ac ymddengys mai dyna pam yn bennaf eich bod eisiau rhoi terfyn ar yr hawl i brynu yng Nghymru. Rydym ni yn UKIP yn credu y dylid clustnodi’r cyllid o werthu tai cyngor, gyda chynghorau yn gorfod ail-fuddsoddi hwn naill ai mewn tai cyngor a gaiff eu hadeiladu o'r newydd neu adfywio'r stoc bresennol.

Mae angen i ni barhau i bwyso am fuddsoddi swyddi i ffwrdd o’r trefi a'r dinasoedd arfordirol mawr cyn belled ag y gallwn, oherwydd gallai hyn wedyn helpu i fynd i'r afael â phroblem diboblogi’r Cymoedd.

Wel, byddaf yn dechrau cyflwyno rhai cwestiynau. Diolch am fy atgoffa, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn meddwl tybed, Weinidog, beth oedd eich barn am hyn fel rhan o'ch dull cydgysylltiedig chi o weithio, yn ôl pob tebyg, ar fater tai. Efallai y gallwch roi sylwadau ar hyn pan wyf yn awgrymu mai’r hyn nad ydym ei eisiau mewn gwirionedd yw ystadau preifat newydd diddiwedd ar y llain las, gyda dim ond elfennau anfoddog a bach iawn o dai cymdeithasol, y mae eu preswylwyr yn achosi tagfeydd ar y ffyrdd pan fyddant yn teithio i mewn i'w swyddi yn y ddinas. A yw hwn yn syniad da ar gyfer y dyfodol? Efallai y gallwch chi daflu goleuni ar eich gweledigaeth ar hyn? Llawer gwell yn fy marn i—yn ein barn ni—yw ceisio cadw swyddi yn y Cymoedd cyn belled ag y bo modd, ac adfywio tai yn y Cymoedd eu hunain, a hefyd datblygu safleoedd tir llwyd a mewnlenwi yn y ddinas. Felly, roeddwn yn meddwl beth oedd eich barn ar y syniadau hynny.

Mae hefyd ffactorau allanol eraill— [Torri ar draws.]—efallai y byddwch yn gallu taflu rhywfaint o oleuni arnynt—ac rwy’n diolch i chi am eich diddordeb, Aelodau draw acw. Er enghraifft, rydym yn gadael yr UE—