Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
07/02/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
I call the National Assembly to order.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Julie Morgan.
The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Julie Morgan.
Ystyriaethau Iechyd sy'n Effeithio ar y DU Gyfan
UK-wide Health Considerations
1. Pryd y mae Prif Weinidog Cymru yn bwriadu trafod ystyriaethau iechyd sy'n effeithio ar y DU gyfan â Phrif Weinidog y DU? OAQ(5)0435(FM)
1. When does the First Minister intend to discuss UK-wide health considerations with the Prime Minister? OAQ(5)0435(FM)

I have regular discussions with the Prime Minister, but the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport would usually lead any health-related discussions with representatives of the UK Government on health issues.
Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda Phrif Weinidog y DU, ond Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon fyddai fel rheol yn arwain unrhyw drafodaethau yn ymwneud ag iechyd gyda chynrychiolwyr Llywodraeth y DU ar faterion iechyd.
I thank the First Minister for that response. Two weeks ago, there was cross-party support here in the Assembly for a motion calling on the UK Government to initiate a statutory public inquiry into the scandal of people with haemophilia who were given contaminated blood in the 1970s and the 1980s, which, of course, has resulted in the death of 70 people from Wales, and many more people are still living with HIV, hepatitis C and liver disease. Will the First Minister raise this directly with the Prime Minister, Theresa May, when he meets her next, so that the families of the 70 people who did die in Wales, and all those who were affected, can reach some closure.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Bythefnos yn ôl, roedd cefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Cynulliad i gynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus statudol i’r sgandal o bobl â hemoffilia y rhoddwyd gwaed halogedig iddynt yn y 1970au a'r 1980au, sydd, wrth gwrs, wedi arwain at farwolaeth 70 o bobl o Gymru, ac mae llawer mwy o bobl yn dal i fyw gyda HIV, hepatitis C a chlefyd yr afu. A wnaiff y Prif Weinidog godi hyn yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU, Theresa May, pan fydd yn ei chyfarfod nesaf, fel y gall teuluoedd y 70 o bobl a fu farw yng Nghymru, a phawb a gafodd eu heffeithio, gael rhyw fath o ben ar y mater.

Well, I can say that the Cabinet Secretary is leading the discussions on this. He wrote to the Secretary of State for Health on 20 December, supporting the call for a UK-wide public inquiry on behalf of all those who received contaminated blood. He’s also heard at first hand the views of affected individuals and their families, and is now considering the issues and concerns before making a decision on the way forward for those who were affected in Wales.
Wel, gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet yn arwain y trafodaethau ar hyn. Ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar 20 Rhagfyr, gan gefnogi'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus ar draws y DU ar ran pawb a dderbyniodd waed halogedig. Mae hefyd wedi clywed yn uniongyrchol safbwyntiau unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw a'u teuluoedd, ac mae bellach yn ystyried y materion a'r pryderon cyn gwneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen i’r rhai yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.
Good afternoon, First Minister. May I, first of all, reinforce Julie Morgan’s calls for that national public inquiry? I think that’s very important. The Organisation for Economic Co-operation and Development recently reported on the quality of the UK health services, which recommended the need to establish a set of key health data and quality indicators for all of the UK health systems, so we can benchmark ourselves effectively using agreed common definitions and facilitate quality. I wonder, First Minister, what discussions you or your Cabinet colleagues have had with your counterparts in the other devolved nations, and Westminster, to facilitate this recommendation so that we can really judge ourselves on a peer-to-peer basis.
Prynhawn da, Brif Weinidog. A gaf i, yn gyntaf oll, ailadrodd galwadau Julie Morgan am yr ymchwiliad cyhoeddus cenedlaethol hwnnw? Credaf ei fod yn bwysig iawn. Adroddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ddiweddar ar ansawdd gwasanaethau iechyd y DU, a argymhellodd yr angen i sefydlu cyfres o ddata iechyd allweddol a dangosyddion ansawdd ar gyfer pob un o systemau iechyd y DU, fel y gallwn feincnodi ein hunain yn effeithiol gan ddefnyddio diffiniadau cyffredin a gytunwyd a hwyluso ansawdd. Tybed, Brif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi neu eich cydweithwyr yn y Cabinet wedi eu cael gyda'ch cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill, a San Steffan, i hwyluso’r argymhelliad hwn fel y gallwn wir farnu ein hunain ar sail cymar i gymar.

There are active discussions between officials about this. The indicators for health vary widely, as we know, but, nevertheless, this is something that is in the early stages of exploration.
Ceir trafodaethau gweithredol rhwng swyddogion ynglŷn â hyn. Mae'r dangosyddion ar gyfer iechyd yn amrywio'n fawr, fel y gwyddom, ond, er hynny, mae hyn yn rhywbeth sydd yn y camau archwilio cynnar.
May I also associate myself with the question and the comments made by the Member for Cardiff North? It might be useful for the First Minister to put health on the agenda in discussions with the UK Government in relation to our exit from the EU. Would the First Minister, in that context, be prepared to raise the issue of the need for Wales to be able to determine the level of visas to be issued to NHS staff from abroad, given our greater dependence currently on NHS staff from other countries? Also, will he seek an assurance that, following the UK leaving the EU, the requirements to get a medicine licensed are not going to be watered down when the lobbyists of the big pharmaceutical companies spot an opportunity?
A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â’r cwestiwn a'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd? Gallai fod yn ddefnyddiol i’r Prif Weinidog roi iechyd ar yr agenda o ran trafodaethau â Llywodraeth y DU ar adael yr UE. A fyddai'r Prif Weinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn barod i godi’r mater o’r angen i Gymru allu penderfynu ar lefel y fisâu i gael eu cyflwyno i aelodau staff y GIG o dramor, o ystyried ein dibyniaeth fwy ar hyn o bryd ar aelodau staff y GIG o wledydd eraill? Hefyd, a wnaiff ef ofyn am sicrwydd, yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, nad yw’r gofynion i gael trwyddedu meddyginiaeth yn mynd i gael eu gwanhau pan fydd lobïwyr y cwmnïau fferyllol mawr yn gweld cyfle?

I think it’s hugely important that safety standards are maintained and that drugs are properly tested before they arrive on the market. There have been several instances over many years of drugs that have not gone through proper appraisal—thalidomide being the one that is most well-known—and it’s hugely important that the current regulations stay in place. I have to say, with regard to the issue of regional work visas, it is an issue that the UK Government has not shut the door on. Therefore, it’s an interesting issue. There are practical issues that would need to be resolved—no question about that—but it is something that we are keen to investigate, certainly, at this stage.
Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod safonau diogelwch yn cael eu cynnal a bod cyffuriau yn cael eu profi'n briodol cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad. Bu sawl achos dros flynyddoedd lawer, o gyffuriau nad ydynt yn cael eu gwerthuso’n iawn—thalidomid yw'r un sydd fwyaf adnabyddus—ac mae'n hynod bwysig bod y rheoliadau presennol yn parhau i fod ar waith. Mae’n rhaid i mi ddweud, o ran y mater o fisâu gwaith rhanbarthol, mae hwnnw'n fater nad yw Llywodraeth y DU wedi ei wrthod hyd yma. Felly, mae'n fater diddorol. Ceir materion ymarferol y byddai angen eu datrys—nid oes dwywaith am hynny—ond mae'n rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i ymchwilio iddo, yn sicr, ar hyn o bryd.
First Minister, one of the biggest challenges facing healthcare in the twenty-first century is the dramatic rise in antimicrobial resistance. There have been a few cases in China where resistance to last-resort antibiotics has been seen. Unless drastic action is taken, we will be living in the world that existed before the discovery of penicillin, where people were dying from the simplest of diseases. The O’Neill review of antimicrobial resistance recommends an overhaul of the antibiotic research and development chain and intervention from the G20. What discussion has your Government had with the Prime Minister about this issue, and will you join me in calling on the UK Government to lead the way in tackling antimicrobial resistance?
Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu gofal iechyd yn yr unfed ganrif ar hugain yw'r cynnydd sylweddol mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd. Cafwyd rhai achosion yn Tsieina, lle gwelwyd ymwrthedd i wrthfiotigau cyfle olaf. Oni bai fod camau llym yn cael eu cymryd, byddwn yn byw yn y byd a oedd yn bodoli cyn darganfod penisilin, lle'r oedd pobl yn marw o'r clefydau mwyaf syml. Mae adolygiad O'Neill o ymwrthedd gwrthficrobaidd yn argymell newidiadau i’r gadwyn ymchwil a datblygu gwrthfiotig ac ymyrraeth gan y G20. Pa drafodaeth y mae eich Llywodraeth wedi ei chael gyda Phrif Weinidog y DU am y mater hwn, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i arwain y ffordd o ran mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd?

Disease control and defence is an international matter that needs the fullest amount of international co-operation. Antimicrobial resistance has been an issue for some years. We’ve seen, for example, the emergence of drug-resistant strains of TB. We also see, for example, some conditions that even so-called last-resort antibiotics, such as vancomycin, haven’t been able to resolve. So, yes, it is a constant battle between humanity and microbes, if I can put it that way, to ensure that we don’t start to move backwards and find that there are no longer effective drugs to treat particular conditions. And, so, international co-operation is hugely important to make sure that we stay ahead of the game.
Mae rheoli ac amddiffyn rhag clefydau yn fater rhyngwladol sydd angen y cydweithrediad rhyngwladol mwyaf posibl. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd wedi bod yn broblem ers rhai blynyddoedd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, ymddangosiad mathau o TB sy’n ymwrthod cyffuriau. Rydym ni hefyd yn gweld, er enghraifft, rai cyflyrau nad yw’r hyn a elwir yn wrthfiotigau cyfle olaf, fel vancomycin, hyd yn oed wedi gallu eu gwella. Felly, ydy, mae'n frwydr gyson rhwng dynoliaeth a microbau, os caf ei roi felly, i sicrhau nad ydym yn dechrau symud tuag yn ôl a chanfod nad oes cyffuriau effeithiol mwyach i drin cyflyrau penodol. Ac, felly, mae cydweithrediad rhyngwladol yn hynod bwysig i wneud yn siŵr ein bod ni’n aros ar flaen y gad.
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Betsi Cadwaladr University Local Health Board
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0432(FM)
2. Will the First Minister make a statement on the performance of the Betsi Cadwaladr University Health Board? OAQ(5)0432(FM)

Yes. The health board has maintained good performance in some key areas, including cancer, ambulance performance, and stroke. And, since being put in special measures, they have virtually eliminated diagnostic waits of over eight weeks. But, performance in some other areas is not what we would expect, and the Cabinet Secretary has made his expectations clear.
Gwnaf. Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal perfformiad da mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys canser, perfformiad ambiwlans, a strôc. Ac, ers cael ei wneud yn destun mesurau arbennig, maen nhw fwy neu lai wedi rhoi terfyn ar amseroedd aros am ddiagnosis o fwy nag wyth wythnos. Ond, nid yw perfformiad mewn rhai meysydd eraill yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ei ddisgwyliadau’n eglur.
Well, the Cabinet Secretary needs to do more than making his expectations clear. This is a health board that is in special measures, and yet, at the Glan Clwyd Hospital, at the moment, the routine waiting time for orthopaedic surgery is 112 weeks. That’s more than four times the Government’s 26-week target. What specific action is your Government taking, given that this health board is in special measures, to address this particular problem with orthopaedic waiting times, across north Wales and, in particular, at Glan Clwyd Hospital?
Wel, mae angen i Ysgrifennydd y Cabinet wneud mwy na gwneud ei ddisgwyliadau’n eglur. Mae hwn yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig, ac eto, yn Ysbyty Glan Clwyd, ar hyn o bryd, 112 wythnos yw’r amser aros arferol am lawdriniaeth orthopedig. Mae hynny'n fwy na phedair gwaith targed y Llywodraeth o 26 wythnos. Pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd, o ystyried bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig, i roi sylw i’r broblem benodol hon ynglŷn ag amseroedd aros orthopedig, ar draws y gogledd ac, yn Ysbyty Glan Clwyd yn arbennig?

Well, an additional locum hand surgeon has been appointed in Glan Clwyd, to reduce waits in this area. Some activity will be outsourced to alternative providers. We will continue to enhance the musculoskeletal clinical teams, including the focus on physiotherapy. So, yes, there has been the appointment of an extra surgeon, and we believe—and expect—that the waiting lists will now come down.
Wel, mae llawfeddyg locwm ychwanegol wedi cael ei benodi yng Nglan Clwyd, i leihau amseroedd aros yn yr ardal hon. Bydd rhywfaint o weithgarwch yn cael ei roi ar gontract allanol i ddarparwyr eraill. Byddwn yn parhau i wella’r timau clinigol cyhyrysgerbydol, gan gynnwys y pwyslais ar ffisiotherapi. Felly, do, penodwyd llawfeddyg ychwanegol, ac rydym ni’n credu—ac yn disgwyl—y bydd y rhestrau aros yn lleihau nawr.
Mae yna gonsýrn yn ardal Bae Colwyn bod yna feddygfa yn cau. Mae yna feddygfeydd eraill o dan bwysau ac mae yna dri o’r meddygfeydd, a dweud y gwir, gyda dim ond un meddyg teulu. Mae hi’n ardal, wrth gwrs, lle mae’r uned mân anafiadau yn Hesketh Road wedi cau ers rhai blynyddoedd. Mae yna boblogaeth hŷn na’r cyfartaledd yn yr ardal honno, ac, wrth gwrs, mae yna gannoedd o dai nawr yn cael eu codi o ganlyniad i’r cynllun datblygu lleol. A fyddech chi’n cytuno â fi bod sefyllfa o’r fath yn anghynaliadwy? Ac, a allwch chi ddweud beth rydych chi’n ei wneud i helpu’r bwrdd iechyd lleol i gwrdd â’r cynnydd sylweddol yn y galw, oherwydd mae’r galw yn mynd lan, ond mae’r ddarpariaeth, wrth gwrs, yn mynd lawr?
There is concern in the Colwyn Bay area that a surgery is closing. Other surgeries are under pressure and three of these surgeries, if truth be told, have only one GP. It is an area where the minor injuries unit in Hesketh Road has been closed for some years. The area’s population is also older than the average, and there are hundreds of homes now being built as a result of the local development plan. Would you agree with me that such a situation is unsustainable and can you tell us what you are doing to assist the local health board to meet the significantly enhanced demand? The demand is up but the provision, of course, is going down.

Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld enghreifftiau lle mae meddygfeydd wedi dweud nad ydyn nhw eisiau aros ar agor ddim rhagor, ond, wrth gwrs, mae’r bwrdd iechyd wedi hynny yn sefydlu system er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael. Mae Prestatyn yn enghraifft o hynny, lle mae’r gwasanaeth nawr yn well na beth oedd yna o’r blaen, gyda’r meddygfeydd a oedd yna. Felly, mae profiad gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw, a, hefyd, fod y gwasanaeth yn fwy eang, ac yn well.
Well, of course, we have seen examples where the surgeries have said that they no longer wish to remain open. However, the health board then establishes a system in order to ensure that the service is available. Prestatyn is an example of that, where the service is better now than it was previously with the surgeries. So, there’s a responsibility on the health boards to ensure that the service continues and that it is broader and better.
First Minister, I read an article about the state of the north Wales health board, specifically about hip operations, and it claimed that some patients in north Wales are waiting two years for such operations. Compared to what’s going on in England, it’s quite disgraceful. We’re waiting a year and a half longer than is recommended. Now, I myself have been waiting—[Interruption.] Sorry—Llywydd.
Brif Weinidog, darllenais erthygl am gyflwr bwrdd iechyd gogledd Cymru, am lawdriniaethau ar y glun yn benodol, ac roedd yn honni bod rhai cleifion yn y gogledd yn aros dwy flynedd am lawdriniaethau o'r fath. O'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, mae'n gwbl gywilyddus. Rydym ni’n aros blwyddyn a hanner yn fwy na'r hyn a argymhellir. Nawr, rwyf i fy hun wedi bod yn aros—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—Lywydd.
Can the Member be heard, please?
A gawn ni glywed yr Aelod, os gwelwch yn dda?
I am ever so sorry, but this is a very serious matter. I myself have been waiting 30 weeks to have my own hip looked at. I am on painkillers, which my doctor, when he handed them to me, said that it said on the box, ‘If you take these for more than three days, you will become addicted to them’. I asked my doctor about that, and he said, ‘Your choice is that you suffer the pain or you take them’. Now, people waiting for hip operations can get very depressed from the constant pain—I know this for myself—and they can be taking painkillers that lead to all kinds of side effects. Why is it that, in Wales—and north Wales, specifically—we have to wait up to two years for these operations? This really is not good enough. What are you going to do about that?
Mae’n ddrwg iawn gennyf, ond mae hwn yn fater difrifol iawn. Rwyf i fy hun wedi bod yn aros 30 wythnos i rywun edrych ar fy nghlun fy hun. Rwy’n cymryd cyffuriau i leddfu’r boen, y dywedodd fy meddyg, pan wnaeth eu rhoi i mi, ei fod yn dweud ar y bocs, 'Os cymerwch chi’r rhain am fwy na thri diwrnod, byddwch yn mynd yn gaeth iddynt'. Gofynnais i’m meddyg am hynny, a dywedodd, 'Eich dewis yw dioddef y boen neu eu cymryd nhw'. Nawr, gall pobl sy'n aros am lawdriniaethau ar y glun fynd yn ddigalon iawn oherwydd y boen barhaus—rwy'n gwybod hyn fy hun—a gallant fod yn cymryd cyffuriau i leddfu’r boen sy'n arwain at bob math o sgîl-effeithiau. Pam, yng Nghymru—ac yn y gogledd, yn benodol—mae'n rhaid i ni aros hyd at ddwy flynedd am y llawdriniaethau hyn? Nid yw hyn yn ddigon da. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hynny?

Well, I’m surprised that that is the advice that the GP has given to him with regard to a drug; a drug has been prescribed that is said to be addictive after three days. I mean, if that’s correct, then I’m surprised that that is the advice that he’s been given by his own GP.
But, dealing with the issue that he’s raised, it is right to say that waiting times are too long in some parts of the north of Wales—that much is conceded. But, nevertheless, as I’ve outlined already and as the Cabinet Secretary has outlined, there are steps that are being taken in order to address the situation, including, of course, having an extra hand surgeon at Glan Clwyd, and making sure that alternative providers are available to patients as quickly as possible in order for operations to carry on.
Wel, rwy’n synnu mai dyna'r cyngor y mae’r meddyg teulu wedi ei roi iddo o ran cyffur; cyffur a roddwyd ar bresgripsiwn y dywedir y gall pobl fynd yn gaeth iddo ar ôl tri diwrnod. Hynny yw, os yw hynny'n gywir, yna rwy’n synnu mai dyna'r cyngor a roddwyd iddo gan ei feddyg teulu ei hun.
Ond, i ymdrin â’r mater y mae wedi ei godi, mae'n iawn dweud bod amseroedd aros yn rhy hir mewn rhai rhannau yn y gogledd—rwy’n cyfaddef cymaint â hynny. Ond, er hynny, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes ac fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlinellu, mae camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, gan gynnwys, wrth gwrs, cael llawfeddyg ychwanegol yng Nglan Clwyd, a gwneud yn siŵr bod darparwyr eraill ar gael i gleifion cyn gynted â phosibl er mwyn i lawdriniaethau barhau.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Questions now from the party leaders. Leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.

Thank you, Presiding Officer. First Minister, as I’ve said to you many times in this Chamber, you quite rightly identified education as a priority for your stewardship as First Minister here in the National Assembly for Wales. Last week, in the education committee, evidence was given that showed that the number of teachers in our schools has declined by over 1,000 since 2010. If education is a priority for you, why have you allowed the number of teachers teaching in our schools from 2010 to 2015 to decline by over 1,000?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych lawer gwaith yn y Siambr hon, rydych chi wedi nodi addysg, yn gwbl briodol, fel blaenoriaeth i’ch stiwardiaeth fel Prif Weinidog yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn y pwyllgor addysg, rhoddwyd tystiolaeth a oedd yn dangos bod nifer yr athrawon yn ein hysgolion wedi gostwng gan dros 1,000 ers 2010. Os yw addysg yn flaenoriaeth i chi, pam ydych chi wedi caniatáu i nifer yr athrawon sy'n addysgu yn ein hysgolion i ostwng gan dros 1,000 rhwng 2010 a 2015?

Bear in mind, of course, that teachers’ pay and conditions have not been devolved and won’t be devolved until next year, so his party bears a responsibility for the funding of that particular matter. There will be some schools, of course, where numbers have dropped and, as a result, teaching staff have dropped. But we look forward now, next year, to working with the teaching profession to develop a fully comprehensive terms and conditions package to make sure that teaching remains attractive.
Cofiwch, wrth gwrs, nad yw tâl ac amodau athrawon wedi eu datganoli ac na fyddan nhw’n cael eu datganoli tan y flwyddyn nesaf, felly mae gan ei blaid ef gyfrifoldeb am ariannu’r mater penodol hwnnw. Bydd rhai ysgolion, wrth gwrs, lle y mae niferoedd wedi gostwng ac, o ganlyniad, mae aelodau staff addysgu wedi gostwng. Ond rydym ni’n edrych ymlaen nawr, y flwyddyn nesaf, at weithio gyda'r proffesiwn addysgu i ddatblygu pecyn telerau ac amodau cwbl gynhwysfawr i wneud yn siŵr bod addysgu yn parhau i fod yn ddeniadol.
It’s always someone else’s fault, First Minister, with you, isn’t it? In fairness, the pupil numbers in our schools have remained relatively static, yet we’ve seen in excess of 1,000 teachers disappear out of the classrooms, both in primary and secondary schools across Wales on your watch.
What also came to light in the committee last week was that the funding gap between what is funded in England has stretched from £31 per pupil in 2001 to £607 in 2015. So, not only are we getting fewer teachers in the classroom, but your Government is making less money available for those teachers to use to teach the pupils of Wales. What are you going to do about closing that gap when it comes to funding?
Mae bob amser yn fai ar rywun arall yn eich tyb chi, Brif Weinidog, onid yw? A bod yn deg, mae nifer y disgyblion yn ein hysgolion wedi aros yn gymharol sefydlog, ac eto rydym ni wedi gweld mwy na 1,000 o athrawon yn diflannu o'r ystafelloedd dosbarth, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru yn ystod eich cyfnod chi.
Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf hefyd oedd bod y bwlch ariannu rhwng yr hyn a ariennir yn Lloegr wedi ymestyn o £31 y disgybl yn 2001 i £607 yn 2015. Felly, nid yn unig yr ydym ni’n cael llai o athrawon yn yr ystafell ddosbarth, ond mae eich Llywodraeth yn sicrhau bod llai o arian ar gael i’r athrawon hynny ei ddefnyddio i addysgu disgyblion Cymru. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud ynglŷn â chau'r bwlch hwnnw pan ddaw at gyllid?

He is surely having a laugh. He is the representative of a party that wanted to cut education spending going into the last election. It wanted to cut education spending by 12 per cent and take money out of schools. If he had been in my job now, schools would’ve been starved of funding, we’d have had fewer teachers and fewer achievements in our schools. We have kept our promises on school funding; we’ve made sure that schools have been funded properly; we’ve seen an improvement in GCSE results; we’re seeing and improvement in A-level results; we saw the categorisation results from last week, where schools had improved; we’ve provided money to help those from deprived backgrounds; we’ve helped those schools, financially, that are not performing as they should, to start to improve. We have a good record on education and not the cuts that he would propose.
Mae’n tynnu fy nghoes, does bosib? Mae ef yn cynrychioli plaid a oedd eisiau torri gwariant ar addysg yn y cyfnod cyn yr etholiad diwethaf. Roedd eisiau torri 12 y cant ar y gwariant ar addysg a chymryd arian oddi wrth ysgolion. Pe byddai ef wedi bod yn fy swydd i nawr, byddai ysgolion wedi colli cyllid, byddai gennym ni lai o athrawon a llai o lwyddiannau yn ein hysgolion. Rydym ni wedi cadw ein haddewidion ar ariannu ysgolion; rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod ysgolion wedi cael eu hariannu'n briodol; rydym ni wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau TGAU; rydym ni’n gweld gwelliant yng nghanlyniadau Safon Uwch; gwelsom y canlyniadau categoreiddio o’r wythnos diwethaf, lle’r oedd ysgolion wedi gwella; rydym ni wedi darparu arian i helpu’r rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig; rydym ni wedi helpu’r ysgolion hynny, yn ariannol, nad ydyn nhw’n perfformio fel y dylen nhw, i ddechrau gwella. Mae gennym ni hanes da o ran addysg ac nid y toriadau y byddai ef yn eu cynnig.
Well, obviously, you must’ve been living in a different universe, because we had no proposals for cuts in education at the last Assembly elections. Rather bizarrely, you must’ve been living in a different universe. What we’ve had since Christmas are the programme for international student assessment results; we’ve had the Estyn report that has clearly shown that, on your watch, education has either gone backwards or stood still. That’s a fact—that’s Estyn and that is the PISA results, First Minister. That is a fact, and the evidence given to the education committee last week clearly pointed to fewer teachers and less money available in schools here in Wales.
So, the issue you’ve got now, with the news, today, is that the introduction of the new curriculum is also hitting problems when it comes to leadership and strategic direction, as well as the pioneer schools not knowing exactly where they’re going with the introduction of the new curriculum. How can you give any certainty that you’re going to right the wrongs of your first term in office, so that pupils, teachers and parents can see genuine improvement in schools? Or are we actually going to be on the mystery tour that the Scottish education Minister, John Swinney, said that their system is going on at the moment? Are you prepared to allow Welsh schools to go on a mystery tour, First Minister?
Wel, yn amlwg, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd, oherwydd nid oedd gennym ni unrhyw gynigion ar gyfer toriadau ym maes addysg yn etholiadau diwethaf y Cynulliad. Yn rhyfedd braidd, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gael ers y Nadolig yw canlyniadau’r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr; rydym ni wedi cael yr adroddiad Estyn sydd wedi dangos yn eglur bod addysg, yn ystod eich cyfnod chi, naill ai wedi gwaethygu neu wedi aros yn ei unfan. Mae hynny’n ffaith—adroddiad Estyn a chanlyniadau PISA yw hynny, Brif Weinidog. Mae hynny'n ffaith, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor addysg yr wythnos diwethaf yn cyfeirio’n eglur at lai o athrawon a llai o arian ar gael mewn ysgolion yma yng Nghymru.
Felly, y broblem sydd gennych chi yn awr, o ran y newyddion, heddiw, yw bod y broses o gyflwyno’r cwricwlwm newydd hefyd yn peri problemau pan ddaw at arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol, yn ogystal â’r ffaith nad yw ysgolion arloesi yn gwybod yn union i ba gyfeiriad y maen nhw'n mynd o ran cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Sut allwch chi roi unrhyw sicrwydd eich bod chi’n mynd i gywiro camgymeriadau eich tymor cyntaf yn y swydd, fel y gall disgyblion, athrawon a rhieni weld gwelliant gwirioneddol mewn ysgolion? Neu a ydym ni’n mynd i fod ar y daith ddirgel y dywedodd Gweinidog addysg yr Alban, John Swinney, y mae eu system nhw’n mynd arni ar hyn o bryd? A ydych chi’n barod i ganiatáu i ysgolion Cymru fynd ar daith ddirgel, Brif Weinidog?

I have no idea what he means by that. If anybody would like to explain all that, then there it is. I’m not letting him off the skewer on this one, okay? He has fought elections on the basis of a 12 per cent cut in education funding. That is a fact. That is a fact. He stood as a Conservative candidate in the election in 2011 when his leader went on live tv—live tv—and said that we need to cut education by 20 per cent. It’s there, there’s evidence; not the alternative facts that he wants to present. And what do we see? We see a school buildings programme—new schools opening all across Wales. Members will see where they are. If he had been in charge, nothing would’ve been built, because there wouldn’t be a school buildings programme because his party cut the school buildings programme in England. We wouldn’t have seen the improvement in schools in terms of categorisation; we wouldn’t have seen the pupil deprivation grant; we wouldn’t have seen the money that we have put into Schools Challenge Cymru; we wouldn’t have seen the improvements in GCSEs and we wouldn’t have seen the improvements in A-levels. No. It’s right to say that, under the Welsh Conservatives, Welsh education would be consigned to the dustbin.
Nid oes gennyf unrhyw syniad beth mae'n ei olygu wrth ddweud hynny. Os hoffai unrhyw un esbonio hynny i gyd, yna dyna ni. Nid wyf am adael iddo ddianc yn groeniach ar hyn, iawn? Mae wedi ymladd etholiadau ar sail toriad o 12 y cant i gyllid addysg. Mae hynny'n ffaith. Mae hynny'n ffaith. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad yn 2011 pan aeth ei arweinydd ar deledu byw—teledu byw—a dweud bod angen i ni dorri 20 y cant ar addysg. Mae'n wir, mae tystiolaeth; nid y ffeithiau gwahanol y mae ef eisiau eu cyflwyno. A beth ydym ni’n ei weld? Rydym ni’n gweld rhaglen adeiladau ysgol—ysgolion newydd yn agor ledled Cymru. Bydd yr Aelodau yn gweld ble maen nhw. Pe byddai ef wedi bod wrth y llyw, ni fyddai dim wedi cael ei adeiladu, gan na fyddai rhaglen adeiladau ysgol, gan fod ei blaid ef wedi torri'r rhaglen adeiladau ysgol yn Lloegr. Ni fyddem wedi gweld y gwelliant mewn ysgolion o ran categoreiddio; ni fyddem wedi gweld y grant amddifadedd disgyblion; ni fyddem wedi gweld yr arian yr ydym ni wedi ei roi i mewn i Her Ysgolion Cymru; ni fyddem wedi gweld y gwelliannau o ran TGAU ac ni fyddem wedi gweld y gwelliannau o ran Safon Uwch. Na. Mae'n iawn dweud, o dan y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai addysg yng Nghymru wedi cael ei thaflu i'r bin sbwriel.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Leader of the UKIP group, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Lywydd. The First Minister will know that I’m a strong supporter of the Welsh Government’s policy of achieving 1 million Welsh speakers by 2050, and I’m a great admirer of the Minister for lifelong learning, who brings his legendary diplomatic and leadership skills to the achievement of that objective. In particular, I approve of the basic principle of tolerance and respect, both for English speakers and Welsh speakers, that he has brought to the development of this policy, which I think has made it marketable beyond areas where it might otherwise have been.
Does the First Minister think that the success of this policy of the Welsh Government is being put at risk by Plaid Cymru-controlled Carmarthenshire County Council, which is forcing a Welsh language school upon people in Llangennech near Llanelli, against the overwhelming wishes of the majority of parents in that village?
Diolch yn fawr, Lywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i’n gefnogwr brwd o bolisi Llywodraeth Cymru o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac rwy'n edmygu’n fawr y Gweinidog dysgu gydol oes, sy'n dod â'i sgiliau diplomyddol ac arweinyddiaeth chwedlonol i gyflawni’r amcan hwnnw. Yn benodol, rwy’n cymeradwyo’r egwyddor sylfaenol o oddefgarwch a pharch, i siaradwyr Saesneg ac i siaradwyr Cymraeg, y mae wedi ei gyfrannu at ddatblygiad y polisi hwn, yr wyf yn credu sydd wedi ei gwneud yn bosibl ei werthu y tu hwnt i ardaloedd lle y gallai fod wedi ei werthu fel arall.
A yw'r Prif Weinidog yn credu bod llwyddiant y polisi hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi mewn perygl gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a reolir gan Blaid Cymru, sy'n gorfodi ysgol Gymraeg ar bobl yn Llangennech ger Llanelli, yn erbyn dymuniadau llethol y rhan fwyaf o rieni yn y pentref hwnnw?

Well, these are matters for Carmarthenshire council. They must make an assessment in terms of what they see as the right solution for any particular area within their county boundary.
Wel, materion i Gyngor Sir Caerfyrddin yw’r rhain. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud asesiad o ran yr hyn y maen nhw’n ei ystyried yw’r ateb cywir i unrhyw ardal benodol o fewn eu ffiniau sirol.
Well, the Welsh-medium education strategy says that Wales should be a country where people may choose to live their lives through the medium of either, or both, Welsh or English, and I think that’s a very reasonable objective. Here we’ve had a consultation process in Llangennech, 18 months after the decision was actually made, in which five people have opposed the proposal for every one in favour, and there have been 757—which is an enormous number for a small village—responses against this proposal by Carmarthenshire County Council. It’s not a consultation, it’s a ‘nonsultation’.
Does he agree with Michaela Beddows, who’s leading the people who are against this proposal, when she says that ‘Welsh by compulsion breeds resentment’?
Wel, mae'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn dweud y dylai Cymru fod yn wlad lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y naill neu’r llall, neu'r ddwy, Cymraeg neu Saesneg, ac rwy'n credu bod hynny'n amcan rhesymol iawn. Yma rydym ni wedi cael proses ymgynghori yn Llangennech, 18 mis ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud, lle y mae pump o bobl wedi gwrthwynebu'r cynnig ar gyfer pob un o blaid, a bu 757—sy’n nifer enfawr mewn pentref bach—o ymatebion yn erbyn y cynnig hwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Nid ymgynghoriad yw hwn, ond 'dimgynghoriad'.
A yw'n cytuno â Michaela Beddows, sy'n arwain y bobl sydd yn erbyn y cynnig hwn, pan fo’n dweud bod 'Cymraeg drwy orfodaeth yn magu dicter'?

As I said, these are matters for Carmarthenshire council. As a Government, we of course are supportive of the Welsh language, we want to see an extension of Welsh-medium education and more children involved in it. But, at the end of the day, it is for Carmarthenshire council to justify the decisions that it takes, in view of the elections coming in May, of course.
Fel y dywedais, materion i Gyngor Sir Caerfyrddin yw’r rhain. Fel Llywodraeth, rydym ni’n gefnogol o'r Gymraeg, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld cynnydd i addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o blant yn cymryd rhan ynddi. Ond, yn y pen draw, mater i Gyngor Sir Caerfyrddin yw cyfiawnhau'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud, o ystyried yr etholiadau sydd i ddod ym mis Mai, wrth gwrs.
I agree that that is the constitutional position, but the Welsh Government—because this is a Welsh Government policy for improving the condition of the Welsh language in Wales, and maximising its appeal and its reach—must have a persuasive influence here. There is a practical solution to this problem, because at the moment there are three Welsh-medium schools in Llanelli with 170 surplus places, 120 out-of-area Welsh-speaking pupils are currently being brought into the school in Llangennech, whilst 81 English-medium pupils are being taken out of the school in Llangennech. What we need to do is have a practical solution on the ground that satisfies both parties. That can be done without putting at risk the acceptability of what otherwise, I think, is an excellent policy that shows the way for the Welsh language.
Rwy’n cytuno mai dyna'r sefyllfa gyfansoddiadol, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru—oherwydd polisi Llywodraeth Cymru yw hwn i wella cyflwr y Gymraeg yng Nghymru, a sicrhau bod ei hapêl a’i chyrhaeddiad mor fawr â phosibl—gael dylanwad perswadiol yma. Ceir ateb ymarferol i'r broblem hon, gan fod tair ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llanelli ar hyn o bryd sydd â 170 o leoedd dros ben, mae 120 o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg o’r tu allan i'r ardal yn dod i mewn i'r ysgol yn Llangennech ar hyn o bryd, ac mae 81 o ddisgyblion cyfrwng Saesneg yn cael eu symud allan o'r ysgol yn Llangennech. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael ateb ymarferol ar lawr gwlad sy'n bodloni'r ddwy ochr. Gellir gwneud hynny heb beryglu derbynioldeb yr hyn sydd, fel arall, rwy’n meddwl, yn bolisi ardderchog sy'n dangos y ffordd i’r Gymraeg.

Well, these are matters that I would have expected Carmarthenshire council to consider in coming to the decision that they did. It’s not a matter for Welsh Government to intervene, but it is important, of course, that any local authority takes into account the views of those who live locally, whilst considering, of course, the encouragement that we give as a Government to supporting the Welsh language. But, ultimately, it is a matter for the council to decide and, of course, to explain.
Wel, mae'r rhain yn faterion y byddwn wedi disgwyl i Gyngor Sir Caerfyrddin eu hystyried wrth wneud y penderfyniad a wnaeth. Nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru ymyrryd, ond mae'n bwysig, wrth gwrs, fod unrhyw awdurdod lleol yn ystyried barn y rhai sy'n byw yn lleol, gan bwyso a mesur, wrth gwrs, yr anogaeth yr ydym ni’n ei rhoi fel Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg. Ond, yn y pen draw, mae’n fater i'r cyngor benderfynu arno ac, wrth gwrs, ei esbonio.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Plaid Cymru Leader, Leanne Wood.

Diolch. I’m sure Carmarthenshire council would have appreciated more support from you, First Minister, when it comes to the Welsh language, but I want to turn to a matter of income differences. [Interruption.] First Minister, when it comes to differences in income between regions—.
Diolch. Rwy'n siŵr y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth gennych chi, Brif Weinidog, wrth ystyried y Gymraeg, ond hoffwn droi at fater o wahaniaethau incwm. [Torri ar draws.] Brif Weinidog, wrth ystyried gwahaniaethau rhwng incwm rhanbarthau—.
Can we hear the leader of Plaid Cymru please?
A gawn ni glywed arweinydd Plaid Cymru os gwelwch yn dda?
Diolch, Lywydd. When it comes to differences in income between its regions and nations, the UK is one of the most unequal states in Europe, and Wales suffers from this imbalance as well. To address this imbalance, our market towns and post-industrial towns need good-quality public sector jobs. HMRC, DWP and the jobcentre are moving jobs from towns that suffer from low wages, like Porthmadog, Llanelli, and Porth in the Rhondda, and jobs are being moved to more centralised sites. It’s not just UK Government departments doing this; there’s a consultation on moving ambulance service jobs from Carmarthenshire to Bridgend. Do you recognise this centralisation agenda, and are you concerned about jobs and services being moved out of communities to a smaller number of locations?
Diolch, Lywydd. Pan ddaw i wahaniaethau rhwng incwm ei rhanbarthau a’i gwledydd, mae'r DU yn un o'r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal yn Ewrop, ac mae Cymru yn dioddef o’r anghydbwysedd hwn hefyd. Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, mae angen swyddi sector cyhoeddus sydd o ansawdd da yn ein trefi marchnad a’n trefi ôl-ddiwydiannol. Mae Cyllid a Thollau EM, yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r ganolfan waith yn symud swyddi o drefi sy'n dioddef o gyflogau isel, fel Porthmadog, Llanelli, a Phorth yn y Rhondda, ac mae swyddi yn cael eu symud i fannau mwy canolog. Nid dim ond adrannau Llywodraeth y DU sy’n gwneud hyn; mae ymgynghoriad ar symud swyddi’r gwasanaeth ambiwlans o Sir Gaerfyrddin i Ben-y-bont ar Ogwr. A ydych chi’n cydnabod yr agenda ganoli hon, ac a ydych chi’n pryderu am swyddi a gwasanaethau yn cael eu symud allan o gymunedau i nifer lai o leoliadau?

Yes, and I deplored the decision taken by HMRC in Porthmadog and other locations, including my own town some years ago. In the same way, certainly, I’m concerned about the withdrawal of commercial banks from many of our communities, and the need to ensure that, for example, the post office is then able to offer up the same kinds of services that the bank does. That depends, of course, on the post offices being there as well, which is why, of course, we had the post office development fund in place that helped so many communities to keep that service.
Ydw, ac rwy’n gresynu’n fawr y penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM ym Mhorthmadog a lleoliadau eraill, gan gynnwys fy nhref fy hun rai blynyddoedd yn ôl. Yn yr un modd, yn sicr, rwy'n pryderu am fanciau masnachol yn gadael nifer o'n cymunedau, a'r angen i sicrhau, er enghraifft, y gall swyddfa’r post wedyn gynnig yr un mathau o wasanaethau y mae'r banc yn eu cynnig. Mae hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar bresenoldeb y swyddfeydd post hefyd, a dyna pam, wrth gwrs, yr oedd gennym ni’r gronfa datblygu swyddfeydd post ar waith a helpodd gymaint o gymunedau i gadw'r gwasanaeth hwnnw.
I share your concern about the post offices and banks, and there’s a real concern about the viability of some of our town centres if this agenda continues. We know what the UK Government agenda is, but, First Minister, you have levers too to counter this through the Welsh Revenue Authority. Plaid Cymru would agree that Treforest industrial estate is a better location than Cardiff, but that decision means that Porthmadog and Wrexham feel very hard done by, and they now need an alternative offer. So, what plans do you have to support a Welsh public sector presence in the north-west of Wales and also in Wrexham? You’ve said that the WRA will have a presence in Aberystwyth and Llandudno; how many jobs does ‘a presence’ represent? And when it comes to the targets that you have for the distribution of Welsh Government jobs across the country, are you on course to reach those targets?
Rwy’n rhannu eich pryder am y swyddfeydd post a’r banciau, a cheir pryder gwirioneddol ynghylch hyfywedd canol rhai o'n trefi os bydd yr agenda hon yn parhau. Gwyddom beth yw agenda Llywodraeth y DU, ond, Brif Weinidog, mae gennych chi ysgogwyr hefyd i wrthsefyll hyn trwy Awdurdod Refeniw Cymru. Byddai Plaid Cymru yn cytuno bod ystâd ddiwydiannol Trefforest yn lleoliad gwell na Chaerdydd, ond mae’r penderfyniad hwnnw yn golygu bod Porthmadog a Wrecsam yn teimlo y gwnaed tro gwael iawn â nhw, ac mae angen cynnig arall arnyn nhw yn awr. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i gefnogi presenoldeb sector cyhoeddus Cymru yn y gogledd-orllewin a hefyd yn Wrecsam? Rydych chi wedi dweud y bydd gan Awdurdod Refeniw Cymru bresenoldeb yn Aberystwyth a Llandudno; faint o swyddi mae 'presenoldeb' yn ei gynrychioli? Ac o ran y targedau sydd gennych chi ar gyfer dosbarthu swyddi Llywodraeth Cymru ledled y wlad, a ydych chi ar y trywydd iawn i fodloni’r targedau hynny?

In terms of the number of jobs, the total number of jobs will be 40 in the Welsh Revenue Authority. There will be some people who will be able to be based at home in order to work. I did look very, very carefully at where the WRA could be based, and a report was commissioned to that end, and Members should know that report, I believe, was placed in the Library on Friday. The skills that are required for the Welsh Revenue Authority at the moment are skills that aren’t actually available in Wales to any great extent. They’re not the same skills as the people in Porthmadog have. We have to recruit from outside Wales, in the main, in order for those skills to be available to us when the Welsh Revenue Authority begins in April. It was made very clear to me that bringing people to Cardiff in order to work was the option that was easiest in terms of recruiting people, but, of course, that doesn’t mean in the future that the body can’t reconsider where it might go. But, at the moment, certainly, the body will go to Treforest, and that was the strong advice—that that was by far the location that was favourable in terms of being able to attract the people with the specialist skills, many of whom are actually in London at the moment.
O ran nifer y swyddi, 40 fydd cyfanswm y swyddi yn Awdurdod Refeniw Cymru. Bydd rhai pobl a fydd yn gallu gweithio gartref. Edrychais yn ofalus dros ben ar ble y gellid lleoli’r Awdurdod, a chomisiynwyd adroddiad i'r perwyl hwnnw, a dylai’r Aelodau wybod y rhoddwyd yr adroddiad hwnnw, rwy’n credu, yn y Llyfrgell ddydd Gwener. Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer Awdurdod Refeniw Cymru ar hyn o bryd yn sgiliau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru i unrhyw raddau helaeth. Nid ydyn nhw yr un sgiliau â’r rhai sydd gan bobl ym Mhorthmadog. Mae'n rhaid i ni recriwtio o'r tu allan i Gymru, ar y cyfan, er mwyn i’r sgiliau hynny fod ar gael i ni pan fydd Awdurdod Refeniw Cymru yn dechrau ym mis Ebrill. Gwnaed yn eglur iawn i mi mai dod â phobl i Gaerdydd i weithio oedd y dewis hawddaf o ran recriwtio pobl, ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu yn y dyfodol na all y corff ailystyried lle y gallai fynd. Ond, ar hyn o bryd, yn sicr, bydd y corff yn mynd i Drefforest, a dyna oedd y cyngor cryf—hwnnw oedd y lleoliad mwyaf ffafriol o bell ffordd o ran gallu denu'r bobl â sgiliau arbenigol, y mae llawer ohonynt yn Llundain ar hyn o bryd.
First Minister, if there’s a skills shortage in Wales, that’s your responsibility. You are responsible for the skills of people in this country.
I want to move on to transport now, though. Twelve months ago, you unveiled a plan for the north Wales metro, and that plan failed to include Gwynedd, Conwy or Ynys Môn, although it did include Cheshire, Liverpool and Manchester. The maps indicate that many of the routes are existing rail and bus lines, and your economy Secretary was quoted by the BBC as saying that £50 million would be available for this. Do you really think that £50 million is enough to deliver an actual metro? Will you commit today that both metro systems that are planned in Wales will start with the points furthest away from the densely populated towns and cities, so that those people who feel distant from this institution, from the centres and the arterial roads, are able to see some early benefit from this transport investment?
Brif Weinidog, os oes prinder sgiliau yng Nghymru, eich cyfrifoldeb chi yw hynny. Chi sy'n gyfrifol am sgiliau pobl yn y wlad hon.
Fodd bynnag, hoffwn symud ymlaen at drafnidiaeth yn awr. Flwyddyn yn ôl, cyflwynwyd cynllun gennych ar gyfer metro gogledd Cymru, ac ni lwyddodd y cynllun hwnnw i gynnwys Gwynedd, Conwy nac Ynys Môn, er ei fod yn cynnwys Swydd Gaer, Lerpwl a Manceinion. Mae'r mapiau yn dangos bod llawer o'r llwybrau yn llwybrau rheilffyrdd a bysiau presennol, a dyfynnwyd eich ysgrifennydd economi gan y BBC yn dweud y byddai £50 miliwn ar gael ar gyfer hyn. A ydych chi wir yn credu bod £50 miliwn yn ddigon i ddarparu metro mewn gwirionedd? A wnewch chi ymrwymo heddiw i’r ffaith y bydd y ddwy system fetro sy'n cael eu cynllunio yng Nghymru yn cychwyn yn y mannau sydd bellaf i ffwrdd o'r trefi a'r dinasoedd poblog, fel y gall y bobl hynny sy'n teimlo’n bell o'r sefydliad hwn, o’r canolfannau a'r ffyrdd prifwythiennol, weld rhywfaint o fudd cynnar o’r buddsoddiad hwn mewn trafnidiaeth?

First of all, the Welsh Revenue Authority will be up and running in April of next year. It needs people quickly; it’s not possible to train people up in the specialist skills in the time allowed, and that was the—
Yn gyntaf oll, bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn weithredol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae angen pobl arno’n gyflym; nid yw'n bosibl hyfforddi pobl yn y sgiliau arbenigol yn yr amser sydd ar gael, a dyna oedd y—
You’ve known this for years.
Rydych chi’n gwybod am hyn ers blynyddoedd.

And that was the judgment that we took. It’s not possible suddenly to train and have a pool of skilled people in a very short space of time. Those people are in London, in the main, at the moment; they are specialists, and we’re looking to recruit them. The skills don’t exist, in the main, in Wales.
In terms of transport, the metro was our idea. Of course we want to promote it. The north-east Wales metro was our idea, the south Wales metro was first mentioned by me in Bedwas rugby club in 2008, of all places, and we are seeing movement on that. The development work on the north-east Wales metro is moving forward and, of course, we will continue to support transport in all parts of Wales. We have called incessantly for the electrification of the north Wales main line as far as Holyhead, and that is something we want to see the UK Government deliver in the future. We want to make sure, as we look at the north-east Wales metro, that, in time, it can look then to expand west. These are not metro systems that are designed to be self-contained; they are systems that are designed to be extended in the future.
A dyna oedd y farn a gymerwyd gennym. Nid yw’n bosibl hyfforddi’n sydyn a chael cronfa o bobl fedrus mewn cyfnod byr iawn o amser. Mae'r bobl hynny yn Llundain, ar y cyfan, ar hyn o bryd; maen nhw’n arbenigwyr, ac rydym ni’n ceisio eu recriwtio. Nid yw'r sgiliau hyn yn bodoli, ar y cyfan, yng Nghymru.
O ran trafnidiaeth, ein syniad ni oedd y metro. Wrth gwrs ein bod ni eisiau ei hyrwyddo. Ein syniad ni oedd metro gogledd-ddwyrain Cymru, soniwyd am fetro de Cymru am y tro cyntaf gennyf i yng nghlwb rygbi Bedwas yn 2008, o bob man, ac rydym ni’n gweld datblygiad o ran hynny. Mae'r gwaith datblygu ar fetro gogledd-ddwyrain Cymru yn symud ymlaen ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i gefnogi trafnidiaeth ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni wedi galw’n ddi-baid am drydaneiddio prif reilffordd y gogledd cyn belled â Chaergybi, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau gweld Llywodraeth y DU yn ei wneud yn y dyfodol. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth i ni ystyried metro gogledd-ddwyrain Cymru, y gall, ymhen amser, geisio ehangu i’r gorllewin wedyn. Nid yw’r rhain yn systemau metro sydd wedi'u cynllunio i fod yn hunangynhaliol; maen nhw’n systemau sydd wedi eu cynllunio i gael eu hymestyn yn y dyfodol.
Ffyniant Economaidd
Economic Prosperity
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu ffyniant economaidd ar draws Cymru? OAQ(5)0428(FM)[W]
3. Will the First Minister make a statement on how the Welsh Government intends to distribute economic prosperity across Wales? OAQ(5)0428(FM)[W]

Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein hymrwymiadau i sicrhau cymunedau cadarn a ffyniant i bawb. Bydd ffyniant economaidd yn sail i bedair strategaeth drawsbynciol a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.
‘Taking Wales Forward’ sets out our commitments to deliver resilient communities and prosperity for all. Economic prosperity will underpin four cross-cutting strategies that will be published this spring.
Fel yr ydym ni wedi ei glywed, fe gafwyd cyhoeddiad mai i Drefforest y bydd pencadlys Awdurdod Refeniw Cymru yn mynd. Ar ôl gweld yr arfarniad yr oeddech chi’n sôn amdano fo ar sut y dewiswyd y lleoliad, roedd y meini prawf yn ei gwneud hi’n gwbl amhosibl i unrhyw beth ddod i’r gogledd, nac i unrhyw le y tu hwnt i gyrraedd hawdd i Gaerdydd. Roedden nhw’n ymwneud â sgiliau—un ohonyn nhw—ond yr oedd dau yn ymwneud â bod yn agos at randdeiliaid ac yn agos at gwsmeriaid. Nid oedd Caernarfon na Phorthmadog ar y rhestr o’r chwe lleoliad a oedd yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth, er gwaethaf beth ddywedoch chi wrthym ni yn fan hyn ar 10 Ionawr. A wnewch chi roi sylw manwl i’r angen am feini prawf newydd wrth ystyried lleoli swyddi—meini prawf a fydd yn caniatáu gwasgaru twf ar draws Cymru? Fel arall, geiriau gwag iawn ydy’r rhai diweddar gan y Blaid Lafur yn fan hyn ac yn San Steffan gan eich Canghellor cysgodol, John McDonnell.
As we’ve heard, there was an announcement that the headquarters of the Welsh Revenue Authority will go to Treforest. Having seen the paper that you mentioned and how the location was selected, the criteria made it entirely impossible for anything to come to north Wales or to anywhere beyond easy reach of Cardiff. The criteria related to skills—or one criterion did—but two related to being close to stakeholders and close to customers. Neither Caernarfon nor Porthmadog were on the list of six possible locations being considered by Government, despite what you told us here on 10 January. Will you give detailed consideration to the need for new criteria when considering the location of posts—criteria that will allow the dispersal of growth across Wales? Otherwise, the recent words by the Labour Party, both here and in Westminster by your shadow Chancellor, John McDonnell, are empty words.

Mae’n rhaid i ni gofio realiti fan hyn ac mae’n bwysig dros ben i sylweddoli fod yn rhaid i ni sicrhau ei bod hi’n ddigon hawdd i gael yr arbenigedd sydd ei eisiau arnom ni. Rŷm ni’n gwybod ei bod hi’n rhwyddach i wneud hynny mewn rhai rhannau o Gymru nac eraill. Nid yw hynny’n meddwl, wrth gwrs, nad oes rôl na rhan i’r gogledd, na hefyd i’r canolbarth, a dyna pam rŷm ni’n moyn sicrhau bod yna swyddfeydd fanna hefyd er mwyn rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid. Ond, rŷm ni yn siarad am swyddi sydd ag arbenigedd sydd ddim ar gael yng Nghymru, fwy neu lai. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain ac felly mae’n rhaid i ni sylweddoli taw swyddi gwahanol ydyn nhw i’r swyddi a gafodd eu creu ym Mhorthmadog. Ond, byddwn i’n moyn gweld mewn amser, wrth gwrs, gyfleon i bobl mewn trefi fel Porthmadog i ddod yn rhan o’r awdurdod yn y pen draw pan fydd yr awdurdod yn tyfu.
We must remember reality here and it’s extremely important to realise that we have to ensure that it’s possible for us to secure the expertise that we need. We know that it’s easier to do that in some parts of Wales than others. That doesn’t mean, of course, that there isn’t a role for north Wales or for mid Wales, and that is why we want to ensure that there are offices there in order to give customers a service. But, we’re talking about jobs requiring specialist skills that aren’t available in Wales, in the main. Most of the people will come from London and so we must realise that these are different jobs to the ones that were created in Porthmadog. But, in time, of course, I would want to see opportunities for people in towns such as Porthmadog to become part of the authority as the authority grows.
First Minister, yesterday, the economy Secretary kicked off a week of job announcements with the outstanding news that the BBI Group is consolidating and expanding its UK manufacturing operations onto a single site in Crumlin, in my constituency, at the Border Technology Park. This is, in great part, thanks to a Welsh Government grant of £1.8 million, and this considerable investment will see this BBI employment in Wales increased—almost doubled—by 2020, and it will provide excellent and quality career opportunities in the south Wales Valleys region, fostering closer links to the scientific academic community, and it will provide a significant boost to the local economy. First Minister, isn’t this further evidence that the Welsh Government intends to distribute economic prosperity across Wales? And when can the First Minister next come to Islwyn to celebrate this excellent news?
Brif Weinidog, ddoe, dechreuodd Ysgrifennydd yr economi wythnos o gyhoeddiadau am swyddi gyda'r newyddion rhagorol bod y BBI Group yn crynhoi ac yn ehangu ei weithrediadau gweithgynhyrchu yn y DU ar un safle yng Nghrymlyn, yn fy etholaeth i, ym Mharc Technoleg Border. Mae hyn, i raddau helaeth, o ganlyniad i grant gan Lywodraeth Cymru o £1.8 miliwn, a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn arwain at y gyflogaeth BBI hon yng Nghymru yn cynyddu—yn dyblu bron—erbyn 2020, a bydd yn cynnig cyfleoedd gyrfaol ardderchog ac o ansawdd yn rhanbarth cymoedd de Cymru, gan feithrin cysylltiadau agosach â’r gymuned academaidd wyddonol, a bydd yn rhoi hwb sylweddol i'r economi leol. Brif Weinidog, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dosbarthu ffyniant economaidd ledled Cymru? A phryd all y Prif Weinidog ddod i Islwyn nesaf i ddathlu'r newyddion gwych hyn?

Well, I’m sure I will be visiting Islwyn soon, but BBI’s announcement is an indication of the hard work done by the Welsh Government to support businesses throughout the nation to help them retain and expand their operations here. I was very pleased that the Welsh Government’s investment and support have allowed the BBI Group’s headcount in Wales to grow, particularly as these will be high-quality management, scientific and technical roles. In addition to that, it was my pleasure the week before last to spend time in the north of Wales to see some of the excellent projects that have been taken forward there as well, in terms of job creation in tourism and education.
Wel, rwy'n siŵr y byddaf yn ymweld ag Islwyn yn fuan, ond mae cyhoeddiad BBI yn arwydd o'r gwaith caled a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled y wlad i'w helpu i gadw ac i ehangu eu gweithrediadau yma. Roeddwn i’n falch iawn bod buddsoddiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i nifer y gweithwyr BBI Group yng Nghymru dyfu, yn enwedig gan y bydd y rhain yn swyddi rheoli, yn swyddi gwyddonol ac yn swyddi technegol o ansawdd. Yn ogystal â hynny, roedd yn bleser i mi gael treulio amser yn y gogledd bythefnos yn ôl i weld rhai o'r prosiectau ardderchog sydd wedi eu datblygu yno hefyd, o ran creu swyddi ym meysydd twristiaeth ac addysg.
First Minister, the UK’s industrial strategy aims to close regional productivity gaps. Here, in Wales, regional productivity varies widely, from Anglesey having 53 per cent of the UK’s gross value added, compared with 90 per cent in Cardiff. Your Government has previously stated that variations in levels of GVA per head are affected by commuting patterns. While the Welsh Government has put £80 million of European funding into the Heads of the Valleys road improvements, mid and north Wales have traditionally suffered from poor transport connectivity. I note the exception, of course, of the Newtown bypass, which is making good progress. Can I ask what your Government is doing to close these regional gaps in economic prosperity caused by inadequate transport infrastructure?
Brif Weinidog, nod strategaeth ddiwydiannol y DU yw cau’r bylchau mewn cynhyrchiant rhanbarthol. Yma, yng Nghymru, mae cynhyrchiant rhanbarthol yn amrywio'n fawr, gydag Ynys Môn â 53 y cant o werth ychwanegol gros y DU, o’i gymharu â 90 y cant yng Nghaerdydd. Mae eich Llywodraeth wedi datgan yn y gorffennol fod amrywiadau yn lefelau gwerth ychwanegol gros y pen yn cael eu heffeithio gan batrymau cymudo. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £80 miliwn o gyllid Ewropeaidd at wella ffyrdd Blaenau'r Cymoedd, mae’r canolbarth a’r gogledd wedi dioddef cysylltedd trafnidiaeth gwael yn draddodiadol. Nodaf eithriad, wrth gwrs, ffordd osgoi'r Drenewydd, sy’n gwneud cynnydd da. A gaf i ofyn beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gau'r bylchau rhanbarthol hyn o ran ffyniant economaidd a achosir gan seilwaith trafnidiaeth annigonol?

Well, he has slightly argued against himself there by saying that there’s a lack of infrastructure when, indeed, the Newtown bypass is being built. That is something, of course, that is hugely important. We’ve seen improvements on the A470 over the past few years in terms of straightening the road. We’ve seen it recently in Dolgellau, for example; and, over the years, Cross Foxes; Pont-yr-Afanc; further south in Cwmbach Llechryd, with the bypass; and Christmas Pitch, as it’s called, on the road from Erwood. So, there are many, many examples of where the A470 has been strengthened. And, of course, in terms of the rail network, we’ve seen improvements in terms of passenger services through the constituency that he represents, and there are important opportunities in the future, both to improve the service and potentially look at new stations. Bow Street is an example of that. So, we’ve demonstrated our commitment to transport, both public and private.
Wel, mae wedi dadlau yn erbyn ei hun braidd trwy ddweud bod diffyg seilwaith pan fo ffordd osgoi'r Drenewydd, yn wir, yn cael ei hadeiladu. Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sy’n hynod bwysig. Rydym ni wedi gweld gwelliannau ar yr A470 dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran sythu’r ffordd. Rydym ni wedi gweld hyn yn ddiweddar yn Nolgellau, er enghraifft; a, dros y blynyddoedd, Cross Foxes; Pont-yr-Afanc; ymhellach i'r de yng Nghwmbach Llechryd, gyda'r ffordd osgoi; a Christmas Pitch, fel y’i gelwir, ar y ffordd o Erwyd. Felly, ceir llawer iawn o enghreifftiau lle mae'r A470 wedi cael ei chryfhau. Ac, wrth gwrs, o ran y rhwydwaith rheilffyrdd, rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran gwasanaethau i deithwyr drwy'r etholaeth y mae’n ei chynrychioli, a cheir cyfleoedd pwysig yn y dyfodol, i wella'r gwasanaeth ac i ystyried gorsafoedd newydd o bosibl. Mae Bow Street yn enghraifft o hynny. Felly, rydym ni wedi dangos ein hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat.
Datblygu Economaidd
Economic Development
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0423(FM)
4. Will the First Minister make a statement on the Welsh Government's economic development plans? OAQ(5)0423(FM)

We plan to continue to support businesses in their growth, to invest in high-quality infrastructure, and improve economic development conditions.
Rydym ni’n bwriadu parhau i gefnogi busnesau yn eu twf, i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel, a gwella amodau datblygu economaidd.
The First Minister will be aware that, last week, I brought a group of individuals together who have a track record of delivery in rural Wales to make the case for developing a specific economic development strategy for rural Wales. While the city-region model is a model that may work for many parts of the country, does the First Minister agree that it’s not necessarily a model that is relevant or appropriate for rural Wales? Do you agree that there’s an urgency to develop such a plan, in particular in the wake of the Brexit vote, as the impact of withdrawal is likely to be greater in rural Wales than elsewhere in the country? Will you make a commitment to take seriously the suggestions that will be submitted by this group and use them as the basis for developing a comprehensive economic strategy for rural Wales?
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod i, yr wythnos diwethaf, wedi dod â grŵp o unigolion ynghyd sydd â hanes o gyflawni yng Nghymru wledig i gyflwyno’r achos dros ddatblygu strategaeth datblygu economaidd benodol ar gyfer Cymru wledig. Er bod y model dinas-ranbarth yn fodel a allai weithio i sawl rhan o'r wlad, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno nad yw o reidrwydd yn fodel sy'n berthnasol na'n briodol i Gymru wledig? A ydych chi’n cytuno bod angen brys i ddatblygu cynllun o'r fath, yn enwedig yn sgil y bleidlais Brexit, gan fod effaith gadael yn debygol o fod yn fwy yng Nghymru wledig nag mewn rhannau eraill o’r wlad? A wnewch chi ymrwymo i gymryd o ddifrif yr awgrymiadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan y grŵp hwn a’u defnyddio fel sail ar gyfer datblygu strategaeth economaidd gynhwysfawr i Gymru wledig?

Yes, I will. Of course, Carmarthenshire and Pembrokeshire are part of the Swansea bay city region, and it is important that this is not seen as an urban and rural divide. I thank the Member for the work that she’s done and the passion that she shows for rural Wales. The city region is not a one size fits all. There will be other footprints that will need to be used in the future to develop the economies of rural Wales, but it’s right to say there are challenges. Beyond 2020, we will see £260 million disappear, at this moment in time, from the Welsh economy as farming subsidies go. There is no certainty in that regard so, yes, now is certainly the time to start planning for a rural economy in Wales that will lose substantial amounts of money unless the UK Government steps up to the mark and makes sure the money is there.
Gwnaf, mi wnaf. Wrth gwrs, mae Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn rhan o ddinas-ranbarth bae Abertawe, ac mae'n bwysig nad yw hyn yn cael ei weld fel rhaniad trefol a gwledig. Diolch i'r Aelod am y gwaith y mae hi wedi ei wneud a’r angerdd y mae’n ei ddangos tuag at Gymru wledig. Nid yw’r ddinas-ranbarth yn cyflwyno un ateb i bawb. Bydd angen defnyddio olion traed eraill yn y dyfodol i ddatblygu economïau Cymru wledig, ond mae'n iawn i ddweud bod heriau yn bodoli. Y tu hwnt i 2020, byddwn yn gweld £260 miliwn yn diflannu, ar hyn o bryd, o economi Cymru wrth i gymorthdaliadau ffermio ddiflannu. Nid oes sicrwydd yn hynny o beth felly, ie, nawr yw’r amser yn sicr i ddechrau cynllunio ar gyfer economi wledig yng Nghymru a fydd yn colli symiau sylweddol o arian oni bai fod Llywodraeth y DU yn cymryd cyfrifoldeb ac yn gwneud yn siŵr bod yr arian ar gael.
Brif Weinidog, un o elfennau allweddol cynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru oedd y parthau menter, gan gynnwys, wrth gwrs, creu parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn fy etholaeth i. Yn sgil y ffaith fod parthau menter yn allweddol i’ch cynlluniau datblygu, a allwch chi felly roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, gan gynnwys y cynnydd a wnaed tuag at ganolfan sgiliau rhagoriaeth ar gyfer y sectorau ynni, peirianneg a morol, a hefyd y cyfleoedd datblygu a nodwyd gan eich Llywodraeth chi yn benodol ar gyfer y parth menter, fel canolbwyntio nid yn unig ar ynni ond ar dwristiaeth hefyd?
First Minister, one of the key elements of economic development plans of the Welsh Government were the enterprise zones, including the creation of the Haven Waterway enterprise zone in my constituency. Now, given that these enterprise zones are crucial to your plans, can you give us the latest news on the development of the Haven Waterway enterprise zone, including the progress made towards a centre of excellence for the energy, engineering and marine sectors, and also the development opportunities identified specifically by your Government for the enterprise park in concentrating not only on energy, but also on tourism?

Wel, mae 65 o fusnesau wedi cael lles. Maen nhw wedi cael mwy na £2 filiwn mewn cefnogaeth ariannol ynglŷn â’r cynllun lleihau trethi busnes. Mae yna grŵp wedi cael ei sefydlu yn y parth menter ei hunan sydd â rhaglen o waith i gefnogi busnesau i ennill cytundebau newydd. Rŷm ni wedi gweld buddsoddiadau yn y parth hefyd, fel Consort Equipment Products, sydd wedi buddsoddi £1 miliwn yn Aberdaugleddau ei hunan. Ac, wrth gwrs, rŷm ni wedi gweld bod Valero ym Mhenfro nawr wedi dodi cais cynllunio i mewn i adeiladu lle newydd i greu ynni werth £100 miliwn ym Mhenfro. So, mae lot fawr o bethau wedi digwydd yn y parth menter lan i nawr.
Well, 65 businesses have benefited. They’ve received in excess of £2 million of financial support as regards the rate relief scheme. A group has been established in the enterprise zone itself, which has a programme of work to support businesses to secure new contracts. We’ve seen investments in the zone as well, such as Consort Equipment Products, which has invested £1 million in Milford Haven itself, and now Valero has submitted a planning application to create a new energy generation site in Pembrokeshire worth £100 million. So, many things have happened in the enterprise zone.
Welsh income per capita in 2014 was 70.5 per cent of the UK average, the lowest ever recorded since records began in 1954 for Wales—indeed the lowest ever for any UK nation or region. It bounced back to 71 per cent in 2015, but that was one of the lowest figures ever as well. Is the First Minister prepared to commit the Welsh Government that we will not see this income per capita figure fall even further, but, if it does, after eight years as First Minister, would he be prepared to take personal responsibility?
Roedd incwm y pen Cymru yn 2014 yn 70.5 y cant o gyfartaledd y DU, yr isaf a gofnodwyd erioed ers i gofnodion ddechrau ym 1954 ar gyfer Cymru—yn wir, yr isaf erioed ar gyfer unrhyw wlad neu ranbarth yn y DU. Cynyddodd yn ôl i 71 y cant yn 2015, ond roedd hwnnw’n un o'r ffigurau isaf erioed hefyd. A yw’r Prif Weinidog yn barod i ymrwymo Llywodraeth Cymru na fyddwn yn gweld y ffigur incwm y pen hwn yn gostwng hyd yn oed ymhellach, ond, os gwnaiff, ar ôl wyth mlynedd fel Prif Weinidog, a fyddai'n barod i gymryd cyfrifoldeb personol?

Bear in mind, of course, that it was his party that was in charge of economic development for four years, so it is not as if his party have no role in this. We saw GDP go down then, and it shows—[Interruption.] It shows—[Interruption.] Well, I know; that’s easily forgotten, that, isn’t it, but there we are. It does show the challenges that exist in terms of raising GDP. The key to it all, for me, is skills. The more skills people have, the more they can earn, the higher their GDP actually goes. We have shown that we can deliver. As I say, employment 4.1 per cent—lower than England, Scotland and Northern Ireland—the best figures for foreign direct investment for 30 years, and GDP is now the challenge. Unemployment is not as much of an issue as GDP. It’s going in the right direction, and we’ll continue to equip our people with the skills that they need in order to increase their productivity, that much is true, but also, of course, to increase GDP per head as well.
Cofiwch, wrth gwrs, mai ei blaid ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu economaidd am bedair blynedd, felly nid yw fel pe na bai gan ei blaid ef unrhyw swyddogaeth yn hyn. Gwelsom CMC yn gostwng bryd hynny, ac mae'n dangos—[Torri ar draws.] Mae'n dangos—[Torri ar draws.] Wel, rwy’n gwybod; mae’n hawdd anghofio hynny, onid yw, ond dyna ni. Mae'n dangos yr heriau sy'n bodoli o ran codi CMC. Yr allwedd i’r cwbl, i mi, yw sgiliau. Po fwyaf y sgiliau sydd gan bobl, y mwyaf y gallan nhw ei ennill, yr uchaf y mae eu CMC yn ei gyrraedd. Rydym ni wedi dangos ein bod yn gallu cyflawni. Fel y dywedais, cyflogaeth 4.1 y cant—is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon— y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor ers 30 mlynedd, a CMC yw’r her yn awr. Nid yw diweithdra yn gymaint o broblem â CMC. Mae'n mynd i'r cyfeiriad iawn, a byddwn yn parhau i arfogi ein pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gynyddu eu cynhyrchiant, mae cymaint â hynny’n wir, ond hefyd, wrth gwrs, i gynyddu CMC y pen hefyd.
Gwasanaethau Deintyddol
Dental Services
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0441(FM)[W]
5. Will the First Minister make a statement on dental services in North Wales? OAQ(5)0441(FM)[W]

Wel, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio tuag at wella’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol ac mae cynnydd wedi cael ei weld. Mae tua 30,000 o gleifion ychwanegol yn defnyddio gwasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Well, the health board is working to improve the provision of dental services and progress has been made. Some 30,000 additional patients are accessing NHS dentistry than a decade ago.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n gwybod, Brif Weinidog, mai’r prif reswm y mae plant yn ymweld ag unedau brys y dyddiau yma yw oherwydd pydredd dannedd, ac felly mae’n gwbl allweddol bod gofal deintyddol da yn cael ei ddarparu ar eu cyfer nhw mewn oedran ifanc. Ond, wedi dweud hynny, mae plant ysgolion o ardal y Bala i gyrion Wrecsam wedi colli’r defnydd o ddeintydd symudol a oedd yn dod i’r ysgolion i ymweld â nhw oherwydd nad oedd dim arian yn y gyllideb i brynu cerbyd newydd. Nawr, mae yna gerbyd arall, mae’n debyg, ond mae hwnnw ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel deintyddfa barhaol ym Mhwllheli oherwydd diffyg deintyddion yn y fan yna. Mae’r gwasanaeth penodol yna wedi gweld 4,000 o blant yn y flwyddyn ddiwethaf, a 500 o’r rheini ag angen triniaeth bellach. A ydych chi yn cytuno â fi fod colli’r gwasanaeth yna yn gwbl annerbyniol, a beth ŷch chi’n ei wneud i sicrhau ei fod e ar gael yn y dyfodol?
You may be aware, First Minister, that the main reason that children visit emergency units today is because of tooth decay, and it’s crucial that good dental care is provided for them at an early age. But, having said that, schoolchildren from the Bala area to the outskirts of Wrexham have actually lost access to a mobile dentist who visited schools because there was no funding in the budget to buy a new vehicle. Now, there is another vehicle available, but that currently is serving as a permanent dentistry in Pwllheli, because of a shortage of dentists there. This specific service has seen 4,000 children over the past year—500 of those needed further treatment. Do you agree with me that losing that service is quite unacceptable, and what are you doing to ensure that it’s reinstated for the future?

Wel, rhywbeth dros dro yw hwn. Rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn edrych ar ffyrdd newydd o sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw. Maen nhw yn edrych ar unedau ‘mobile’ o ardaloedd eraill er mwyn sicrhau hynny, ac maen nhw yn ystyried cyfleon ynglŷn â chyllido uned ‘mobile’ newydd er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd. Yn y cyfamser, mae yna ofal ar gael yng Nghorwen a Dolgellau, ond rhywbeth dros dro yw hwn, a’r gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn ailddechrau yn y pen draw.
Well, this is a temporary measure. I know that the health board are looking at fresh ways of ensuring that the service survives, and they are looking at mobile units from other areas in order to achieve that, and they are considering opportunities as regards funding a new mobile unit to ensure that this happens. In the interim, there is care available in Corwen and in Dolgellau, but these are temporary measures and the hope is that the service will restart, ultimately.
Some 40 per cent of children still don't visit the dentist regularly. A third of children are starting school each year already showing signs of tooth decay, and it's the most common single reason why children aged five to nine require admissions to hospital. Given that this north Wales mobile dental unit stopped last September, and the health board is only reporting now their bid for funding to purchase a replacement vehicle and looking at redeployment of other mobile dentistry resources to provide support in the area, isn't it a little late, six months later, and should this not have been treated as a priority? And, if you agree with that, will your colleagues get on the phone to the health board and ensure that, with your partnership, this is treated as a priority?
Nid yw tua 40 y cant o blant yn ymweld â'r deintydd yn rheolaidd o hyd. Mae traean o blant sy’n dechrau yn yr ysgol bob blwyddyn eisoes yn dangos arwyddion o bydredd dannedd, a dyma’r un rheswm mwyaf cyffredin pam mae’n rhaid i blant rhwng pump a naw oed gael eu derbyn i'r ysbyty. O gofio bod yr uned ddeintyddol symudol hon yn y gogledd wedi dod i ben fis Medi diwethaf, ac mai dim ond nawr y mae'r bwrdd iechyd yn hysbysu am ei gais am arian i brynu cerbyd newydd a’i fwriad i adleoli adnoddau deintyddiaeth symudol eraill i ddarparu cymorth yn yr ardal, onid yw braidd yn hwyr, chwe mis yn ddiweddarach, ac oni ddylid bod wedi ymdrin â hyn fel blaenoriaeth? Ac, os ydych chi’n cytuno â hynny, a wnaiff eich cydweithwyr fynd ar y ffôn â'r bwrdd iechyd a sicrhau, gyda’ch partneriaeth, fod hyn yn cael ei drin fel blaenoriaeth?

Well, the Cabinet Secretary hears what the Member says. As I said, there are alternative provisions in place, although the intention is to restart the service. I can say, though, that, because of Designed to Smile, the latest dental survey of five-year-olds in 2014-15 shows a 6 per cent reduction in the proportion of children with experience of dental decay in Wales when compared with the previous survey, undertaken in 2011-12. And, over the last eight years, we have seen a 12 per cent reduction in the proportion of children with at least one tooth affected by decay, and that's an example of the success of Designed for Life.
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Fel y dywedais, mae darpariaethau amgen ar waith, er mai’r bwriad yw ailgychwyn y gwasanaeth. Gallaf ddweud, fodd bynnag, oherwydd y Cynllun Gwên, fod yr arolwg deintyddol diweddaraf yn 2014-15 o blant pum mlwydd oed, yn dangos gostyngiad o 6 y cant yng nghyfran y plant sydd â phrofiad o bydredd dannedd yng Nghymru o'i gymharu â'r arolwg blaenorol, a gynhaliwyd yn 2011-12. A, dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad o 12 y cant yng nghyfran y plant ag o leiaf un dant sydd wedi ei effeithio gan bydredd, ac mae hynny'n enghraifft o lwyddiant y Cynllun Oes.
Mynediad i Bobl Anabl mewn Gorsafoedd Trenau
Disabled Access at Train Stations
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ran mynediad i bobl anabl mewn gorsafoedd trenau ledled Cymru? OAQ(5)0437(FM)
6. What assessment has the First Minister made in terms of disabled access at train stations across Wales? OAQ(5)0437(FM)

Mae mynediad i bawb yn rhan annatod o’n gwaith ym maes trafnidiaeth gyhoeddus. Rŷm ni’n monitro pa mor fodlon yw teithwyr â gwahanol orsafoedd drwy ddefnyddio gwaith ymchwil gan Transport Focus ac, wrth gwrs, ar ôl hynny, i weld pa fath o rwystrau a ddylai gael eu symud er mwyn sicrhau nad oes yna ddim rhwystrau mewn gorsafoedd i bobl sydd eisiau eu defnyddio nhw.
Accessibility for all is a cornerstone of our approach to public transport. We monitor passenger satisfaction with stations using research undertaken by Transport Focus and, of course, following that, we see what kind of barriers should be removed in order to ensure that no barriers exist in train stations for those who wish to use them.
Diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Ymhellach i hynny, dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi derbyn nifer o gwynion ynglŷn â gallu pobl anabl i ddefnyddio sawl gorsaf drenau, yn cynnwys Cwmbrân, y Fenni, a Phont-y-pŵl. Nawr, wrth gydnabod bod, yn naturiol, gorsafoedd trenau heb eu datganoli ar y foment, beth ydych chi’n ei wneud, felly, fel Llywodraeth i sicrhau bod gorsafoedd ar draws Cymru yn cyrraedd y safonau priodol?
Thank you for that response, First Minister, and further to that, over the past few months I’ve received a number of complaints about the ability of disabled people to use a number of train stations, including Cwmbran, Abergavenny and Pontypool. Now, whilst recognising that train stations are devolved at the moment, what are you as a Government doing to ensure that stations across Wales do reach the appropriate standards?

Yn hollol gytûn â hynny. Mae yna 245 o orsafoedd o dan y ‘franchise’ yng Nghymru a Lloegr. Dim ond chwarter o’r rheini sy’n cael eu staffio ar hyn o bryd. Rŷm ni yn erfyn gwelliannau sylweddol i gael eu gwneud ynglŷn â mynediad i orsafoedd yn ystod tymor y ‘franchise’ nesaf.
I agree totally with that. Two hundred and forty-five stations come under the franchise in England and Wales, and only a quarter are staffed at present. We will expect significant improvements to be made as regards access to these stations over the term of the next franchise.
First Minister, Port Talbot had a station that had terrible disabled access and, after many, many years of campaigning, particularly by my predecessor, Brian Gibbons, the station improvement grant was allocated to ensure that Port Talbot became upgraded, and I'm sure you welcome the changes that we now see in Port Talbot for disabled access and disabled facilities on the station. However, it’s slightly been tarnished by perhaps some of the conditions and flooring and dirt we’re now seeing as a consequence of perhaps an indecision between Network Rail and Arriva trains as to who runs the station. Will you learn lessons from this development to ensure that disabled access is there, and it’s going to continue to be a good access, clean access, for everybody? Will you also look at the opportunities gained in transport hubs around railway stations, so that disabled access is not just on the station itself, but is also getting to the station and, from there, into the station?
Brif Weinidog, roedd gan Bort Talbot orsaf â mynediad ofnadwy i bobl anabl ac, ar ôl blynyddoedd lawer iawn o ymgyrchu, yn enwedig gan fy rhagflaenydd, Brian Gibbons, dyrannwyd y grant gwella gorsafoedd i sicrhau bod gorsaf Port Talbot yn cael ei huwchraddio, ac rwy'n siŵr eich bod chi’n croesawu'r newidiadau yr ydym ni’n eu gweld ym Mhort Talbot yn awr o ran mynediad i'r anabl a chyfleusterau i bobl anabl yn yr orsaf. Fodd bynnag, tynnwyd y sglein braidd oddi ar hyn, efallai oherwydd y cyflwr a’r lloriau a’r baw yr ydym ni’n ei weld yn awr o ganlyniad i ddiffyg penderfyniad o bosibl rhwng Network Rail a Threnau Arriva ynghylch pwy sy'n rhedeg yr orsaf. A wnewch chi ddysgu gwersi o'r datblygiad hwn er mwyn sicrhau bod mynediad i bobl anabl ar gael, a’i fod yn mynd i barhau i fod yn fynediad da, yn fynediad glân, i bawb? A wnewch chi hefyd ystyried y cyfleoedd a gafwyd mewn canolfannau trafnidiaeth yn ymwneud â gorsafoedd rheilffordd, fel na fydd mynediad i bobl anabl yn yr orsaf ei hun yn unig, ond hefyd o ran cyrraedd yr orsaf ac, o’r fan honno, mynd i mewn i'r orsaf?

Well, transport hubs are hugely important in terms of delivering public transport across Wales, and they have to be as accessible as they—well, they have to be accessible, full stop. We are aware of cleanliness issues at the station. Arrangements are currently being finalised for a new cleaning regime and security presence until the end of the franchise in October of next year, and after that date the services will be provided by the rail operator.
Wel, mae canolfannau trafnidiaeth yn hynod bwysig o ran cyflenwi trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod mor hygyrch ag y—wel, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hygyrch, a dyna ni. Rydym ni’n ymwybodol o broblemau yn ymwneud â glendid yn yr orsaf. Mae trefniadau'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gyfer presenoldeb diogelwch a threfn lanhau newydd tan ddiwedd y fasnachfraint ym mis Hydref y flwyddyn nesaf, ac ar ôl y dyddiad hwnnw bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu gan y cwmni trenau.
First Minister, Dai Lloyd in his opening question mentioned the problems for people with disabilities at Abergavenny station. If I can focus on those, you may be aware of the work of one of my constituents, disabled access rights campaigner Dan Biddle, who’s worked tirelessly both in my area and across Wales over the last few years to try and improve disabled access. Whilst you’re right to say, and Dai Lloyd was right to point out, that a large aspect of this isn’t devolved, of course the management of Abergavenny station is within the remit of Arriva Trains and that franchise. What are you doing to make sure that, as that new franchise date of 2018, I believe it is, fast approaches, disabled issues really are put at the heart of all this so that, even if they can’t be fully solved when the new franchise starts, a new focus can be put on that so that disabled people in my area in Abergavenny and across Wales do have that access to stations that they deserve?
Brif Weinidog, soniodd Dai Lloyd yn ei gwestiwn agoriadol am y problemau i bobl ag anableddau yng ngorsaf y Fenni. Os caf ganolbwyntio ar y rheini, efallai y byddwch yn ymwybodol o waith un o’m hetholwyr, yr ymgyrchydd dros hawliau mynediad i bobl anabl, Dan Biddle, sydd wedi gweithio'n ddiflino yn fy ardal i a ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i geisio gwella mynediad i bobl anabl. Er eich bod yn iawn i ddweud, ac roedd Dai Lloyd yn iawn i nodi, bod agwedd fawr ar hyn nad yw wedi ei datganoli, wrth gwrs mae rheolaeth gorsaf y Fenni yn rhan o gylch gwaith Trenau Arriva a’r fasnachfraint honno. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, wrth i’r dyddiad masnachfraint newydd hwnnw, 2018 rwy’n credu yw hwnnw, brysur agosáu, fod materion anabledd wir yn ganolog i hyn oll fel y gellir, hyd yn oed os na ellir eu datrys yn llawn pan fydd y fasnachfraint newydd yn dechrau, rhoi pwyslais newydd ar hynny fel bod pobl anabl yn fy ardal i yn y Fenni a ledled Cymru yn cael y mynediad y maen nhw’n ei haeddu i orsafoedd?

Well now that we will be in full control of the franchise, the opportunity is there to make sure that our stations are then accessible. It is hugely important that those issues are dealt with, certainly as part of the next franchise arrangements, to make sure that all can use trains in the future.
Wel gan y byddwn ni bellach yn rheoli’r fasnachfraint yn llawn, mae'r cyfle yno i wneud yn siŵr bod ein gorsafoedd wedyn yn hygyrch. Mae'n hynod bwysig bod y materion hynny yn cael sylw, yn sicr, yn rhan o drefniadau’r fasnachfraint nesaf, i wneud yn siŵr y gall pawb ddefnyddio trenau yn y dyfodol.
We had a visit to the Assembly last week from Whizz-Kidz, a group of wheelchair users, who had recurring complaints that transport staff hadn’t been trained to deal with disabled people. This was unfortunately the case with rail staff, bus drivers, and taxi drivers. What can your Government do to ensure that transport staff are properly trained in this respect?
Cawsom ymweliad â'r Cynulliad yr wythnos diwethaf gan Whizz-Kidz, grŵp o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a oedd â chwynion ailadroddus nad oedd aelodau staff trafnidiaeth wedi cael eu hyfforddi i ymdrin â phobl anabl. Yn anffodus roedd hyn yn wir am aelodau staff rheilffyrdd, gyrwyr bysiau, a gyrwyr tacsis. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod aelodau staff trafnidiaeth yn cael eu hyfforddi'n briodol yn hyn o beth?

Well, it’s a matter for the operators, of course, to ensure they comply with the law. I’ve seen staff, certainly in my own station in Bridgend, very competently assist people who need assistance, and certainly I’ve heard nothing but praise about the staff there. With regard to bus services, it’s patchy. I do remember some years ago the council in Bridgend installing raised kerbs at every bus stop only for the bus company to introduce buses that didn’t lower. They were, effectively, coaches with a seat that could be lowered onto the ground—quite often that seat didn’t work. That’s a fine example of a transport company not thinking about the needs of its customers. But, certainly, it’s hugely important that transport companies comply with the law as it stands in order to make sure that access is there for all.
Wel, mater i'r gweithredwyr, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â'r gyfraith. Rwyf wedi gweld aelodau staff, yn sicr yn fy ngorsaf fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cynorthwyo pobl sydd angen cymorth yn fedrus iawn, ac yn sicr nid wyf wedi clywed dim byd ond canmoliaeth i aelodau’r staff yno. O ran gwasanaethau bysiau, mae'n anghyson. Rwy’n cofio rai blynyddoedd yn ôl y cyngor ym Mhen-y-bont yn gosod cyrbiau uwch ym mhob safle bws dim ond i’r cwmni bysiau gyflwyno bysiau nad oedden nhw’n gostwng. Roedden nhw, i bob pwrpas, yn goetsys a oedd yn cynnwys sedd y gellid ei gostwng i’r ddaear—yn aml iawn nid oedd y sedd honno’n gweithio. Mae honno'n enghraifft dda o gwmni trafnidiaeth ddim yn ystyried anghenion ei gwsmeriaid. Ond, yn sicr, mae'n hynod bwysig bod cwmnïau trafnidiaeth yn cydymffurfio â'r gyfraith bresennol, er mwyn gwneud yn siŵr bod mynediad ar gael i bawb.
Cyllid i Fyfyrwyr Ôl-radd
Funding for Postgraduate Students
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid i fyfyrwyr ôl-radd yng Nghymru? OAQ(5)0434(FM)[W]
7. Will the First Minister make a statement on funding for postgraduate students in Wales? OAQ(5)0434(FM)[W]

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cadarnhau’r wythnos hon y bydd benthyciadau ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gwrs Meistr ôl-radd ym mlwyddyn academaidd 2017-18.
The Cabinet Secretary for Education will confirm this week that loans are to be made available to students beginning a postgraduate Master’s course in the 2017-18 academic year.
Diolch am yr ateb yna. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, ar ôl eitem ar newyddion ITV Cymru ychydig o ddyddiau yn ôl, am hanes Emma Stenson o’m hetholaeth i sydd wedi troi at ‘crowdfunding’ i drio helpu talu’i ffordd trwy gwrs ôl-radd i fod yn gynorthwyydd meddygol, neu ‘physician associate’, ym Mangor. Mae gan Emma radd dosbarth cyntaf mewn gwyddorau meddygol, ond mae’n cael trafferth fforddio’r cwrs oherwydd y diffyg gallu iddi hi a myfyrwyr eraill tebyg i gael benthyciad ôl-radd yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth iechyd angen Emma, ac felly mae myfyrwyr fel Emma angen y cymorth yna rŵan. Yn ogystal â’r addewid ar gyfer myfyrwyr yn y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs rydym ni’n ddiolchgar am hynny, pa fodd sydd yna i edrych ar fyfyrwyr sydd mewn perig o ollwng allan o gyrsiau rŵan mewn maes lle rydym ni’n wirioneddol angen eu galluoedd nhw?
Thank you for that response. Perhaps the First Minister will be aware, following an item on ITV Wales news, about the story of Emma Stenson, from my constituency, who has turned to crowd funding to try and pay her way through a postgraduate course to become a physican associate in Bangor. Now, Emma has a first class degree in medical sciences, but she is having difficulty in affording the course because of her and similar students’ inability to access postgraduate loans in Wales. The health service needs Emma, and therefore students like Emma need that support now. As well as the pledge for students in the next academic year, and we are grateful for that, of course, how can we look at students who are at risk of dropping out of courses now in an area where we truly need their expertise?

Wel, wrth gwrs, os yw’r cwrs yn dechrau yn yr hydref eleni, felly, bydd y cymorth ar gael i rywun fel yna. Fe fyddai wedi cael, wrth gwrs, lles lot yn llai na myfyrwyr o Loegr, ynglŷn â’r cwrs y byddai wedi’i wneud o’r blaen. Ond, wrth gwrs, un o’r pethau roedd rhaid inni ei ddatrys oedd sicrhau bod mwy o arian ar gael i’r rheini sy’n dod mas o’r prifysgolion, y graddedigion ôl-radd, er mwyn sicrhau bod yna gymorth ar gael iddyn nhw’n ariannol. Dyna beth yn gwmws sy’n mynd i ddigwydd yn yr hydref.
Well, of course, if the course is starting in the autumn of this year, by then, the assistance and support will be available for someone like that. They will have had, of course, much less support than students from England in terms of the previous course. But one of the things that we had to resolve was to ensure that more funding is available for postgraduates coming out of universities in order to ensure that financial support is available to them, and that is exactly what will happen in the autumn.
Safonau Bwyd
Food Standards
8. Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan Lywodraeth y DU na ddefnyddir y ffaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i wanhau safonau bwyd, a gaiff eu gwarantu ar hyn o bryd drwy ein haelodaeth o'r UE? OAQ(5)0439(FM)
8. What assurances has the First Minister had from the UK Government that Brexit won't be used to water down food standards currently guaranteed by our membership of the EU? OAQ(5)0439(FM)

These are, of course, devolved. It’ll be a matter for this Assembly to decide what happens with food standards. I know that the Minister for Social Services and Public Health recently met with the chair of the Food Standards Agency. We, of course, effectively, buy in to the services of the Food Standards Agency. They are committed to ensuring that the exit from the EU will not compromise the UK’s first-class food safety standards, built up after many years of problems in the past, of course.
Mae'r rhain, wrth gwrs, wedi eu datganoli. Mater i'r Cynulliad hwn fydd penderfynu beth fydd yn digwydd o ran safonau bwyd. Gwn fod y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ddiweddar. Rydym ni, wrth gwrs, i bob pwrpas, yn prynu i mewn i wasanaethau’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau na fydd gadael yr UE yn peryglu safonau diogelwch bwyd o'r radd flaenaf y DU, a ddatblygwyd ar ôl blynyddoedd lawer o broblemau yn y gorffennol, wrth gwrs.
Unfortunately, there are villains across the world who are keen to penetrate any weaknesses in our defences on this matter. We can remember the horse burger scandal. What I’m concerned about is that Theresa May seems hellbent on a deal of some sort with the United States, which has much lower standards of food provenance than this country or any other part of the European Union. So, what assurances have we had from the UK Government that they will bear in mind the important role that the European food standards agency plays in ensuring that the labelling on food is what is says it is, and that we are absolutely up to the mark in terms of identifying adulterated food that might come onto the market otherwise?
Yn anffodus, ceir dihirod ar draws y byd sy'n awyddus i dreiddio unrhyw wendidau yn ein hamddiffynfeydd ar y mater hwn. Gallwn gofio’r sgandal byrgyrs ceffyl. Yr hyn yr wyf yn poeni amdano yw ei bod hi’n ymddangos bod Theresa May yn gwbl benderfynol i gael cytundeb o ryw fath gyda’r Unol Daleithiau, sydd â safonau llawer is ynghylch tarddiad bwyd na’r wlad hon neu unrhyw ran arall o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, pa sicrwydd ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU y bydd yn cadw mewn cof y swyddogaeth bwysig y mae’r asiantaeth safonau bwyd Ewropeaidd yn ei chyflawni o ran sicrhau bod y labeli ar fwyd yn onest, a'n bod ni ar ben ein pethau yn gyfan gwbl o safbwynt nodi bwyd amhur a allai gyrraedd y farchnad fel arall?

It is the case that, during the second world war, American forces wouldn’t use British abattoirs, as their standards were seen to be too low. In the 1990s, I had a bit of a sideline as a lawyer in prosecuting abattoirs and the standards were beyond description in some of them. What we have now, of course, is practice that is world leading, practice that other countries have certainly been following, and practices that mean that our food is amongst the safest in the world. We should not play around with that hard-earned and hard-won status. We will make sure, in terms of our devolved competence, that food standards are not lowered here in Wales.
Mae'n wir, yn ystod yr ail ryfel byd, nad oedd lluoedd Americanaidd yn fodlon defnyddio lladd-dai Prydain, oherwydd yr ystyriwyd bod eu safonau yn rhy isel. Yn y 1990au, roedd gennyf dipyn o ail fusnes fel cyfreithiwr yn erlyn lladd-dai ac roedd yn anodd amgyffred y safonau gwael mewn rhai ohonyn nhw. Yr hyn sydd gennym ni erbyn hyn, wrth gwrs, yw arferion sy'n arwain y byd, arferion y mae gwledydd eraill yn sicr wedi bod yn eu dilyn, ac arferion sy'n golygu bod ein bwyd ni ymhlith y mwyaf diogel yn y byd. Ni ddylem beryglu’r statws hwnnw y gweithiwyd mor galed i'w ennill. Byddwn yn sicrhau, o ran ein cymhwysedd datganoledig, nad yw safonau bwyd yn cael eu gostwng yma yng Nghymru.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Thank you, First Minister.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
I have accepted two urgent questions under Standing Order 12.66. I call on Russell George to ask the first urgent question.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0118(EI)
Will the Cabinet Secretary update members on steps being taken by the Welsh Government to safeguard the future of the Ford factory in Bridgend? EAQ(5)0118(EI)

The First Minister and I have met senior management from Ford Bridgend and Ford Europe to discuss the issue. We remain in contact with management, the workforce and trade unions.
Mae’r Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod ag uwch reolwyr o Ford Pen-y-bont ar Ogwr a Ford Ewrop i drafod y mater. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â’r rheolwyr, y gweithlu a'r undebau llafur.
Can I thank the Cabinet Secretary for his answer? The Cabinet Secretary perhaps may not be aware of breaking news that union leaders are now so concerned for the future that they have given Ford a fortnight to come up with an alternative plan. So, there remains, of course, serious concern amongst the plant’s 1,850 workers over what the future holds. It seems that there’s been little sign of progress. That’s the position as it stands today.
Can I seek perhaps some assurances from the Government that you’ve looked at every opportunity, explored particularly the long-term future of how you can support the factory in Bridgend and also that any developments are properly communicated to the workforce and your involvement in that?
Further to that, I wonder if you could answer what discussions the Government has had about alternative opportunities for the plant, in particular given the fact that the Ford plant in Dagenham is now at full capacity, building diesel engines. What discussions have been initiated with Ford about the prospect of bringing their production of electric engines to Bridgend?
And finally, previous investment by Ford has attracted £15 million of investment by Welsh Government. What intention does the Government have to incentivise future opportunities for production at the Bridgend plant?
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf bod arweinwyr yr undebau mor bryderus am y dyfodol ar hyn o bryd fel eu bod wedi rhoi pythefnos i Ford gyflwyno cynllun arall. Felly, wrth gwrs, mae pryder difrifol o hyd ymhlith 1,850 o weithwyr y ffatri am eu dyfodol. Mae'n ymddangos nad oes fawr ddim arwydd o gynnydd. Dyna yw’r sefyllfa fel y mae pethau heddiw.
A gaf i ofyn efallai am rywfaint o sicrwydd gan y Llywodraeth eich bod wedi edrych ar bob cyfle, ac wedi archwilio yn arbennig i’r dyfodol tymor hir o ran sut y gallwch gefnogi'r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd bod unrhyw ddatblygiadau yn cael eu cyfathrebu yn briodol i'r gweithlu a’ch rhan chi yn hynny?
Hefyd, tybed a allech chi ddweud pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi eu cynnal ynglŷn â chyfleoedd eraill ar gyfer y ffatri, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y ffatri Ford yn Dagenham yn gweithio hyd eithaf ei chapasiti ar hyn o bryd, yn cynhyrchu injans diesel. Pa drafodaethau sydd wedi eu cychwyn gyda Ford am y posibilrwydd o ddod â'u gwaith cynhyrchu injans trydan i Ben-y-bont ar Ogwr?
Ac yn olaf, mae buddsoddiad blaenorol gan Ford wedi denu £15 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i annog cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i gynhyrchu yn y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
I’d like to thank Russell George for his questions and also his breaking news, which I can provide a further update on. [Laughter.] The Senedd would wish to be aware that the general secretary of Unite the Union, Len McCluskey, along with the general secretary of Unite the Union Wales, Andy Richards, have today visited Ford Bridgend. They spoke with senior shop stewards and then went on to discuss issues with senior Ford management. Discussions centred on the competitive nature of the plant and all concerned agreed to continue to strive to make the plant as competitive as possible when compared to its European counterparts. Len McCluskey asked for data from Ford concerning the manufacturing cycle of the plant. He also asked for other competitive sites’ information and reassurances from Ford regarding its long-term future for the Bridgend plant. I’m pleased to say that Ford have agreed to this request and will pass the information on to the general secretary prior to a mass briefing back at the plant on 1 March. I do need to reiterate the point that we will continue to work with all stakeholders to ensure the future of the site, including the introduction of the Dragon engine, and I’ll use all assets available to me to assist the company and to identify new business.
I must also pay tribute to the local Assembly Members who have been fully and consistently committed to the site, including the Member for Bridgend, Carwyn Jones, and the Member for Ogmore, Huw Irranca-Davies. We are keen to see the site thrive and prosper. I think there are certainly opportunities insofar as petrol engine development is concerned. We know from the Volkswagen scandal that there has been a significant dip in demand for diesel engines and, therefore, a rise in petrol engines. But we also know that there is an increasing demand for electric engines and we are keen to work with Ford to identify what opportunities in that new and emerging area of technology can be utilised for Ford Bridgend.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a hefyd am y newyddion diweddaraf oedd ganddo, y gallaf innau roi diweddariad pellach arnynt. [Chwerthin.] Byddai'r Senedd yn dymuno cael gwybod bod ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite, Len McCluskey, ynghyd ag ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite Cymru, Andy Richards, wedi ymweld â Ford Pen-y-bont ar Ogwr heddiw. Maen nhw wedi siarad ag uwch swyddogion yr undeb ac yna fe aethon nhw yn eu blaenau i drafod materion gydag uwch reolwyr Ford. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar natur gystadleuol y ffatri a chytunodd pob un dan sylw i barhau i ymdrechu i wneud y ffatri mor gystadleuol ag sy’n bosibl o'i chymharu â’r rhai cyfatebol iddi yn Ewrop. Gofynnodd Len McCluskey am ddata gan Ford ynghylch cylch gweithgynhyrchu’r ffatri. Gofynnodd hefyd am wybodaeth ynglŷn â safleoedd cystadleuol eraill ac am sicrwydd gan Ford ynghylch dyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor hir. Rwy'n falch o ddweud bod Ford wedi cytuno i'r cais hwn ac y bydd yn rhoi'r wybodaeth i'r ysgrifennydd cyffredinol cyn sesiwn briffio torfol yn ôl yn y ffatri ar 1 Mawrth. Mae angen i mi ailadrodd y pwynt ein bod yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i ddiogelu dyfodol y safle, gan gynnwys cyflwyniad yr injan Dragon, a byddaf yn defnyddio'r holl asedau sydd ar gael i mi i gynorthwyo'r cwmni ac i nodi busnes newydd.
Mae’n rhaid i mi dalu teyrnged hefyd i Aelodau Cynulliad lleol sydd wedi bod yn llwyr ac yn gyson ymrwymedig i’r safle, gan gynnwys yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones, a'r Aelod dros Ogwr, Huw Irranca-Davies. Rydym yn awyddus i weld y safle yn ffynnu ac yn llwyddo. Rwyf yn credu bod yna gyfleoedd, yn sicr, cyn belled ag y mae datblygiad injans petrol yn y cwestiwn. Gwyddom fod gostyngiad sylweddol yn y galw am injans diesel yn sgil sgandal Volkswagen ac y bu cynnydd, o’r herwydd, yn y galw am injans petrol. Ond rydym hefyd yn gwybod bod galw cynyddol am injans trydan ac rydym yn awyddus i weithio gyda Ford i nodi pa gyfleoedd yn y maes newydd sy’n datblygu hwnnw o dechnoleg y gellir eu manteisio arnynt yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr.
Thank you, Cabinet Secretary, for the answers thus far. Obviously, a key issue seems to be uncertainty around the UK’s membership of the single market and it is a clear signal of the pressure that Wales faces and will continue to face if the hard Brexit position being taken by the UK Government continues during the Brexit negotiations. We’re all aware, obviously, that you and officials have been working hard behind the scenes as regards Tata Steel in these difficult times. Can we be assured as well, further to what you’ve already said, that behind the scenes you are also exploring all possible options to secure the long-term future of the Ford plant in Bridgend?
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr atebion hyd yma. Yn amlwg iawn, mae’n ymddangos bod ansicrwydd ynghylch aelodaeth y DU o’r farchnad sengl yn fater allweddol ac mae'n arwydd clir o'r wasgfa y mae Cymru yn ei hwynebu ac y bydd yn parhau i’w hwynebu os bydd y safbwynt Brexit caled a goleddir gan Lywodraeth y DU yn parhau yn ystod y trafodaethau Brexit. Rydym i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, eich bod chi a’r swyddogion wedi gweithio’n galed y tu ôl i'r llenni o ran Tata Steel yn y cyfnod anodd hwn. A gawn ni sicrwydd hefyd, ymhellach at yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud eisoes, y byddwch hefyd yn archwilio pob dewis posibl, y tu ôl i'r llenni, i sicrhau dyfodol tymor hir ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Yes, I can assure the Member of that and I would agree that there are uncertainties across not just the automotive sector but advanced manufacturing as a whole about the impact that a hard Brexit could have on the Welsh economy. For that reason, we have been consistent in our approach in saying that Wales requires full and unfettered access to the single market. It’s interesting and it’s important to bear in mind that 30 per cent of Ford’s European sales are in the UK. The UK is its biggest European market and Ford makes 68 per cent of UK automotive engines, 40 per cent of which are made here in Wales. Wales and our Bridgend site are vital to the company, not just within the UK, but also across Europe.
Cewch, gallaf sicrhau'r Aelod o hynny a byddwn yn cytuno bod ansicrwydd ledled, nid yn unig y sector modurol, ond gweithgynhyrchu yn ei gyfanrwydd oherwydd yr effaith y gallai Brexit caled ei gael ar economi Cymru. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi bod yn gyson ein hymagwedd gan ddweud ei bod yn angenrheidiol i Gymru gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Mae'n ddiddorol ac mae'n bwysig cadw mewn cof bod 30 y cant o werthiant Ewropeaidd Ford yn y DU. Y DU yw ei farchnad fwyaf yn Ewrop a Ford sy’n gwneud 68 y cant o injans modur y DU, 40 y cant ohonyn nhw wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Mae Cymru a'n safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hanfodol i'r cwmni, nid yn unig o fewn y DU, ond hefyd ledled Ewrop.
I suppose the first question I should ask you, Cabinet Secretary, is whether the information that Len McCluskey is asking for is already with you. In September, you answered questions in this Chamber on the situation at the Ford plant based on reassurances that you’d had in June that year. In particular, you said that Ford had told you that there was no surplus of labour in the short term. So, five months on, I’d like to know what you consider to be the definition of ‘short term’. One of the questions you didn’t answer in September was that of my party leader, Andrew R.T. Davies, about key dates for decisions and for investments. I’m wondering: are you any nearer being able to give us those key dates now? As Welsh Government’s conditional investment earmarked for Ford in Bridgend is based on the number of jobs it can secure over five years, how is the delay between, shall we say, September and now, and what looks like being an ongoing delay, affecting your ability to respond to big announcements? I’m thinking particularly with regard to your own budget.
Finally, Ford’s commitment was to 125,000 Dragon petrol engines with potential—that was your word at the time—for twice that number of units. So, did you succeed in your conversations with the head of Ford Europe’s powertrain unit in concluding how the demand for the Dragon engine can be stimulated? At the time, that was accepted to have nothing to do with Brexit. If you haven’t managed to come up with ideas about how demand can be stimulated, which of those alternative production ideas that you put forward to us in September looks like it could be the one that would come to Bridgend in the event of default on Dragon? That was a point that you didn’t answer when Russell George raised it. Thank you.
Mae'n debyg mai’r cwestiwn cyntaf y dylwn ei ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, fyddai a yw'r wybodaeth y mae Len McCluskey yn gofyn amdani gennych chi eisoes. Ym mis Medi, fe wnaethoch ateb cwestiynau yn y Siambr hon am y sefyllfa yn ffatri Ford yn seiliedig ar sicrwydd yr oeddech wedi ei gael ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Yn arbennig, dywedasoch fod Ford wedi dweud wrthych nad oedd unrhyw lafur yn ychwanegol i’r galw yn y tymor byr. Felly, bum mis yn ddiweddarach, hoffwn i wybod beth yr ydych chi’n ei ystyried yn ddiffiniad o 'tymor byr'. Un o'r cwestiynau na wnaethoch ei ateb ym mis Medi oedd un gan arweinydd fy mhlaid i, Andrew R.T. Davies, am ddyddiadau allweddol ar gyfer penderfyniadau ac ar gyfer buddsoddiadau. Ys gwn i: a ydych chi rywfaint o gwbl yn nes at allu rhoi’r dyddiadau allweddol hynny i ni nawr? Gan fod buddsoddiad amodol Llywodraeth Cymru a glustnodwyd ar gyfer Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei seilio ar nifer y swyddi y gellir eu sicrhau ganddo dros bum mlynedd, sut mae'r oedi rhwng, ddywedwn ni, Medi a nawr, a’r hyn sy'n edrych fel oedi parhaus, yn effeithio ar eich gallu i ymateb i gyhoeddiadau pwysig? Rwy’n cyfeirio yn arbennig at eich cyllideb eich hun.
Yn olaf, ymrwymiad Ford oedd i 125,000 o injans petrol Dragon gyda’r potensial—dyna oedd eich gair ar y pryd—i ddyblu’r nifer hwnnw o unedau. Felly, a wnaethoch chi lwyddo yn eich trafodaethau gyda phennaeth uned pwerwaith Ford Ewrop wrth ddod i gasgliad am sut y gellir hybu’r galw am yr injan Dragon? Ar y pryd, derbyniwyd nad oedd gan hynny unrhyw beth i'w wneud â Brexit. Os nad ydych wedi llwyddo i feddwl am syniadau am sut y gellir hybu’r galw, pa un o'r syniadau eraill am gynhyrchu y gwnaethoch chi eu cyflwyno i ni ym mis Medi sy’n edrych fel y gallai fod yr un a allai dod i Ben-y-bont ar Ogwr pe byddai methiant o ran Dragon? Roedd hwnnw yn bwynt na wnaethoch ei ateb pan y’i codwyd gan Russell George. Diolch.
Can I thank Suzy Davies for her questions, and say that there are key dates, and that the five-year plan is, of course, essential? Len McCluskey has rightly asked for further information concerning the five-year plan to be able to share with the workforce, who are rightly concerned. But, 2020 is also a key date and we’re seeking assurance from Ford and we’re willing to work with them and invest, if necessary, in opportunities to make sure that there is a long-term sustainable future for the plant. We have already worked with Ford Bridgend in investing more than £140 million at the site since 1978, and this has included support for skills. It’s included support for capital investment, improvements to infrastructure and also environmental improvements. We will do what we can in order to make sure that the plant has a strong and viable future and capitalises on the incredible productivity levels that we’ve seen in recent times. But, we’re keen to ensure that the competitiveness of the plant matches that of its European counterparts, as I’ve said. We will be nimble in our approach in terms of what support may be required, were Ford to come to us with a request for support, particularly to take advantage of new and emerging technologies. We offer a range of support mechanisms to assist businesses—large and small—to take advantage of new technology, and I’m sure that this is something that Ford would be very keen to explore with us.
In terms of stimulating demand for petrol engines, as I’ve already outlined, the relative decline in demand for the diesel engine following the Volkswagen scandal has given rise to an increasing demand for petrol engines. Ford have reiterated that the anticipated production volume of engines from Bridgend remains healthy in the upcoming years, and I think we should take confidence from that, with associated labour requirements expected to be similar to today’s levels.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud bod dyddiadau allweddol ar gael, a bod y cynllun pum mlynedd, wrth gwrs, yn hanfodol? Gofynnodd Len McCluskey yn briodol am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun pum mlynedd er mwyn ei rannu gyda'r gweithlu, sydd yn iawn i fod yn bryderus. Ond, mae 2020 hefyd yn ddyddiad allweddol ac rydym yn ceisio sicrwydd gan Ford ac rydym yn barod i weithio gyda nhw a buddsoddi, os bydd angen, mewn cyfleoedd i wneud yn siŵr bod yna ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir ar gyfer y ffatri. Rydym eisoes wedi gweithio gyda Ford Pen-y-bont ar Ogwr drwy fuddsoddi mwy na £140 miliwn yn y safle ers 1978, ac mae hyn wedi cynnwys cymorth ar gyfer sgiliau. Mae wedi cynnwys cymorth ar gyfer buddsoddi cyfalaf, gwelliannau i isadeiledd a gwelliannau amgylcheddol hefyd. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn er mwyn gwneud yn siŵr bod dyfodol cryf ac ymarferol i’r gwaith a’i fod yn manteisio ar y lefelau cynhyrchiant anhygoel yr ydym wedi eu gweld yn ddiweddar. Ond, rydym yn awyddus i sicrhau bod y ffatri yr un mor gystadleuol â’r rhai cyfatebol yn Ewrop, fel yr wyf wedi ei ddweud. Byddwn yn hyblyg yn ein hymagwedd i’r cymorth a allai fod yn ofynnol, pe byddai Ford yn dod atom gyda chais am gefnogaeth, yn arbennig i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n datblygu. Rydym yn cynnig ystod o ddulliau cymorth i helpu busnesau—bach a mawr—i fanteisio ar dechnoleg newydd, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai Ford yn awyddus iawn i’w archwilio gyda ni.
O ran ysgogi’r galw am injans petrol, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes, mae'r dirywiad cymharol yn y galw am yr injan diesel yn dilyn sgandal Volkswagen wedi arwain at alw cynyddol am injans petrol. Mae Ford wedi ailadrodd bod faint o injans y rhagwelir y byddant yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn iach yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac rwyf yn credu y dylem gael ffydd o hynny, gyda’r disgwyl y bydd gofynion ar lafur cysylltiedig yn debyg i lefelau heddiw.
Cabinet Secretary, I’m grateful for the answers you’ve given to date. Obviously, this is a huge concern and many of the employees also live in the Vale of Glamorgan and across the South Wales Central region. The jobs, historically, at the Bridgend engine plant have been very attractive, well paid, and people have stayed within the plant once they’ve found employment there. There is a unique set of circumstances around this plant; obviously it was part of the Jaguar Land Rover family many years ago. Ultimately, a lot of that capacity will now move to Wolverhampton with the new engine plant that Jaguar Land Rover have opened there.
I did ask you back in September about your intentions and engagements with the company to try and secure a medium to long-term future for this plant. As we know, the decision to downscale production at the engine plant was taken in Detroit, at Ford’s world headquarters, not in Europe, and not by the UK management. I note that, to date, you have not undertaken the visit that you said you were going to be undertaking at the time of that urgent question—to go to Detroit and have face-to-face discussions with Ford at their world headquarters. This is part of, obviously, a huge operation in Europe and across the world that Ford periodically look at, and I would ask: when will you be undertaking that visit to Detroit to actually speak to the people who are making these decisions, and can give the assurances that this Government, the employees and the community around the Bridgend engine plant require? Because, as I said, for nigh on 40 years now, that plant has provided quality jobs and has provided security as well. But I don’t think it’s helpful with the rhetoric today that if a plan isn’t forthcoming within two weeks there will be strike action at that plant, as Len McCluskey has indicated in his press statement. I hope that you will agree with me that strike action is the last thing that the Bridgend engine plant requires.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi hyd yn hyn. Yn amlwg iawn, mae hyn yn achos pryder enfawr ac mae llawer o'r gweithwyr hefyd yn byw ym Mro Morgannwg ac ar draws rhanbarth Canol De Cymru. Mae'r swyddi, yn hanesyddol, yn ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ddeniadol iawn, yn talu'n dda, ac mae pobl wedi aros yn y ffatri ar ôl iddyn nhw gael eu cyflogi yno. Mae cyfres unigryw o amgylchiadau yn berthnasol i’r ffatri hon; mae’n amlwg, roedd yn rhan o deulu Jaguar Land Rover flynyddoedd lawer yn ôl. Yn y pen draw, bydd llawer o’r gweithgarwch yn symud yn awr i Wolverhampton oherwydd y ffatri injans newydd y mae Jaguar Land Rover wedi ei hagor yno.
Gofynnais i chi yn ôl ym mis Medi am eich bwriadau a’ch ymrwymiadau gyda'r cwmni i geisio sicrhau dyfodol tymor canolig a hirdymor ar gyfer y ffatri hon. Fel y gwyddom, mae'r penderfyniad i leihau cynhyrchu yn y ffatri injans wedi ei gymryd yn Detroit, ym mhencadlys byd-eang Ford, nid yn Ewrop, ac nid gan reolwyr y DU. Nodaf nad ydych, hyd yn hyn, wedi cynnal yr ymweliad y dywedasoch y byddech yn ei gynnal ar adeg y cwestiwn brys hwnnw—sef fynd i Detroit a chael trafodaethau wyneb yn wyneb gyda Ford yn eu pencadlys byd-eang. Mae hyn yn rhan, mae’n amlwg, o weithrediad enfawr yn Ewrop a ledled y byd y bydd Ford yn edrych arno o bryd i’w gilydd, a gofynnaf: pryd fyddwch chi’n cynnal yr ymweliad hwnnw â Detroit i siarad mewn gwirionedd â’r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, ac y byddwch yn gallu rhoi’r sicrwydd sy’n ofynnol gan y Llywodraeth hon, y gweithwyr a'r gymuned o amgylch y ffatri injans ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Oherwydd, fel y dywedais, am bron i 40 mlynedd erbyn hyn, mae’r ffatri wedi darparu swyddi o safon ac mae wedi darparu diogelwch swyddi hefyd. Ond nid wyf yn credu bod rhethreg heddiw o gymorth, os na fydd cynllun ar y gweill o fewn pythefnos fe fydd streic yn y ffatri hon, fel y mae Len McCluskey wedi ei nodi yn ei ddatganiad i'r wasg. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn cytuno â mi mai streic yw'r peth olaf sydd ei eisiau ar ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr.
I think it’s worth pointing out—and I’d like to thank the leader of the opposition for his question. It’s worth pointing out that Ford have agreed to provide the information that has been asked for that will calm anxiety within the workforce. Discussions today have been very productive. Indeed, discussions between Welsh Government, the head of Ford Europe, Linda Cash, the workforce, trade unions and senior management have been constructive and productive for many months.
The decision was taken in Cologne; all key decisions by Ford Europe that concern Ford European plants are taken in Cologne. However, as I’ve stated in the past, we’re more than willing to go wherever is necessary in order to secure the future of the Ford Bridgend site. If that means going to Detroit, we will go to Detroit. But, we have been assured that the decisions are taken within Europe. And for that reason, we are engaging with the people who will make decisions on the future of Ford’s European plants.
Rwy'n credu ei bod yn werth nodi—a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiwn. Mae'n werth nodi bod Ford wedi cytuno i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani a fydd yn tawelu pryder o fewn y gweithlu. Mae trafodaethau heddiw wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Yn wir, mae trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, pennaeth Ford Ewrop, Linda Cash, y gweithlu, yr undebau llafur ac uwch reolwyr wedi bod yn adeiladol a chynhyrchiol am fisoedd lawer.
Gwnaethpwyd y penderfyniad yn Cologne; mae pob penderfyniad allweddol gan Ford Europe ynghylch ffatrïoedd Ewropeaidd Ford yn cael eu gwneud yn Cologne. Er hynny, fel yr wyf wedi ei ddweud yn y gorffennol, rydym yn fwy na pharod i fynd i ble bynnag sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau dyfodol safle Ford Pen-y-bont ar Ogwr. Os yw hynny'n golygu mynd i Detroit, byddwn yn mynd i Detroit. Ond, rydym wedi ein sicrhau bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud yn Ewrop. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn ymgysylltu â'r bobl fydd yn gwneud penderfyniadau am ddyfodol ffatrïoedd Ford yn Ewrop.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
Rwyf nawr yn galw ar Angela Burns i ofyn yr ail gwestiwn brys. Angela Burns.
I call on Angela Burns to ask the second urgent question. Angela Burns.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin? EAQ(5)0119(EI)
Will the Cabinet Secretary inform Members whether he intends to grant the University of Wales Trinity St David’s application for between £4 – 6 million to fund the development of S4C’s new headquarters in Carmarthen? EAQ(5)0119(EI)

Thorough and balanced consideration of the benefits and the risks involved in this project must be given before any decision is made. Ways we might support the project have now been thoroughly investigated, and I intend bringing together the three Ministers with portfolio interests on this matter next week to be able reach a decision this month.
Mae'n rhaid rhoi ystyriaeth drylwyr a chytbwys i'r manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Mae ffyrdd y gallem gefnogi'r prosiect drwyddynt wedi eu hymchwilio yn drylwyr erbyn hyn, ac rwyf yn bwriadu galw’r tri Gweinidog sydd â diddordebau portffolio yn y mater hwn at ei gilydd yr wythnos nesaf er mwyn gallu dod i benderfyniad y mis hwn.
I’m very pleased to hear that, Cabinet Secretary, because what we need, above all else, is clarification over this situation, hopefully followed by a Welsh Government commitment to Yr Egin. This is so important for Carmarthenshire. We have talked about this project now for, it must be well over 18 months, in and out of this Chamber. It’s always enjoyed enormous amounts of support, not just from the politicians sitting around here, but from Carmarthenshire County Council, from S4C themselves and, of course, from a great many businesses. I myself have in my possession a number of letters from major organisations that would like to take part in this project to develop a base for the creative services industry in west Wales.
Over 60 per cent of the projected floor space is already committed, or being earmarked as expressions of interest. We have the possibility of creating 850 full-time jobs throughout this area and an enormous impact on our local economy. Cabinet Secretary, I’m sure you’ll understand the pressures that Carmarthenshire is under. We may well lose a substantial number of jobs in our local call centre. We’ve already lost a substantial number of jobs through the HMRC reconfiguration, and Carmarthenshire is a town that requires these kinds of skilled jobs to go forward.
Whilst I agree that we all want value for money, what I would really like to understand is whether you are still utterly committed to ensuring that there is greater equality throughout Wales for economic growth, because many rural and industrial regions have been left behind, and we don’t want Carmarthenshire to be one of them. I am concerned about the advice note that you’ve received from the creative industries panel, and I wondered if you might be able to expand on that a little, because the chair of that panel is very unambiguous in his evidence to the Welsh Affairs Select Committee. He said, and I do need to quote this:
‘S4C itself should be relocated to North or West Wales. Culturally the organisation would benefit from being closer to its core audience. The area chosen would see a massive economic boost and, as importantly, an economic boost in Welsh.’
I’m not clear, from the understanding I have of the advice that you received, as to whether his opinion appears to have changed. And, if so, Cabinet Secretary, perhaps you could let us know what you think has changed so dramatically.
Finally, I’d like to say that there is, as far as I understand it—and I’ve been in contact with some of the companies based in Swansea—no Welsh-speaking cluster in Swansea, which some of this advice seems to be predicated or based on. I wondered if you might be able to clarify that.
I cannot say it enough: this project would be an absolute lynchpin for Carmarthenshire. And, yes, I’m going to fight for my patch, and I know you would expect me to, but we’ve talked about this. S4C is culturally so important to Carmarthenshire. West Wales is an area that has an enormous creative drive. Some of the greatest painters and greatest poets come from west Wales, and to base a creative service industry, and to drag, to be basic, the jam from Cardiff out along that corridor, so that areas like ours can benefit and can spread out into Ceredigion, into Pembrokeshire, into Carmarthenshire—and we can all benefit from it—would be very important. And I would like to ask you to just give us further elucidation. Thank you.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd yr hyn sydd angen i ni ei gael, yn anad dim byd arall, yw goleuni ar y sefyllfa hon, ac wedyn, gobeithio, ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i Yr Egin. Mae hyn mor bwysig i Sir Gaerfyrddin. Rydym wedi sôn am y prosiect hwn erbyn hyn, mae’n rhaid ei bod ymhell dros 18 mis, y tu mewn a’r tu allan i'r Siambr hon. Mae wedi bod yn destun cefnogaeth enfawr bob amser, nid yn unig gan y gwleidyddion sy’n eistedd o amgylch yma, ond gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gan S4C eu hunain ac, wrth gwrs, gan nifer fawr o fusnesau. Mae gennyf i fy hun nifer o lythyrau a ddaeth oddi wrth sefydliadau mawr a hoffai gymryd rhan yn y prosiect hwn i ddatblygu sylfaen ar gyfer y diwydiant gwasanaethau creadigol yn y gorllewin.
Mae dros 60 y cant o'r arwynebedd llawr a ragwelir eisoes wedi ei ymrwymo, neu wedi ei glustnodi fel mynegiadau o ddiddordeb. Mae’r posibilrwydd gennym i greu 850 o swyddi llawn-amser ledled yr ardal hon a chael effaith enfawr ar ein heconomi leol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siwr y byddwch yn deall y wasgfa sydd ar Sir Gaerfyrddin. Tebyg iawn y byddwn yn colli nifer sylweddol o swyddi yn ein canolfan alwadau leol. Rydym eisoes wedi colli nifer sylweddol o swyddi drwy ad-drefniad HMRC, ac mae Sir Gaerfyrddin yn dref sydd angen y mathau hyn o swyddi medrus i allu symud ymlaen.
Er fy mod yn cytuno ein bod i gyd eisiau gwerth am arian, yr hyn y byddwn wir yn hoffi ei ddeall yw pa un a ydych chi’n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod mwy o gydraddoldeb ledled Cymru ar gyfer twf economaidd, gan fod llawer o ranbarthau gwledig a diwydiannol wedi eu gadael ar ôl, ac nid ydym yn dymuno i Sir Gaerfyrddin fod yn un ohonynt. Rwyf yn bryderus ynghylch y nodyn cyngor yr ydych wedi ei dderbyn oddi wrth banel y diwydiannau creadigol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ehangu ychydig ar hynny, gan fod cadeirydd y panel yn ddiamwys iawn yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Dywedodd, ac mae angen i mi ddyfynnu hyn:
Dylai S4C ei hun gael ei hadleoli i’r gogledd neu’r gorllewin. Byddai’r sefydliad yn elwa yn ddiwylliannol ar fod yn nes at ei chynulleidfa graidd. Byddai’r ardal a ddewiswyd yn gweld hwb economaidd enfawr a, chyn bwysiced â hynny, hwb economaidd yn y Gymraeg.
Nid yw hi’n eglur i mi, o'r ddealltwriaeth sydd gennyf o’r cyngor a gawsoch, o ran ei bod yn ymddangos bod ei farn ef wedi newid. Ac, os felly, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y rhowch wybod i ni beth yn eich tyb chi sydd wedi newid cymaint.
I gloi, fe hoffwn i ddweud nad oes, cyn belled ag y deallaf—ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad â rhai o'r cwmnïau sydd wedi eu lleoli yn Abertawe—unrhyw glwstwr Cymraeg yn Abertawe, ac mae rhan o'r cyngor hwn yn ymddangos o fod wedi ei seilio ar hynny. Tybed a wnewch chi egluro hynny.
Ni allaf ei ddweud yn ddigon aml: byddai’r prosiect hwn yn bendant yn hynod bwysig i Sir Gaerfyrddin. Ac ydwyf, rwyf i'n mynd i ymladd dros fy ardal, a gwn y byddech yn disgwyl i mi wneud hynny, ond rydym wedi siarad am hyn. Mae S4C mor bwysig yn ddiwylliannol i Sir Gaerfyrddin. Mae’r gorllewin yn ardal â chanddi egni creadigol enfawr. Mae rhai o'r arlunwyr mwyaf a’r beirdd mwyaf o’r gorllewin, a byddai seilio diwydiant gwasanaeth creadigol, a llusgo, i fod yn syml, y dorf o Gaerdydd ar hyd y coridor, fel y gall ardaloedd fel ein hardal ni elwa, a byddai ymledu i Geredigion, i Sir Benfro, i Sir Gaerfyrddin—fel y byddem i gyd yn elwa arno—yn bwysig iawn. Ac a gaf i ofyn i chi roi esboniad pellach i ni. Diolch.
Can I thank the Member for her question, and applaud the passion with which she brings this matter to our attention? I would entirely agree that Carmarthen and, indeed, the whole of west Wales, has a huge amount to offer, not just to the Welsh economy but people from outside of Wales, as a fantastic tourist destination as well. I know that because I was there in west Wales yesterday, opening new facilities in the visitor economy.
The Member has spoken strongly in the past in support of the proposals, but the Member has also spoken in the past about the need to ensure that, as a Welsh Government, we conduct proper and thorough due diligence for proposals that are brought to us that require the support of the public purse.
Now, I do appreciate the ambition of the university to want to drive social and cultural development in the region, as well as to drive economic development in the region, and I’m keen to support any project that can deliver economic renewal and cultural benefits across communities in Wales, but the project must be deliverable and viable. And so I’ve been keen to explore every means of supporting a satisfactory business case, which could be submitted in a way that demonstrates financial viability, the economic, cultural and linguistic benefits, of the development, but which also explains the need for public sector intervention. I’ve also had to consider, as the Member has highlighted, expert opinion, not just from the creative industries sector panel, but also expert advice from across Wales, and concerns from across Wales, including from north-west Wales. That said, we are now in a position where I am able to bring together Ministers next week to discuss the matter, and to be able to make a decision this month.
Insofar as sharing the wealth is concerned, the Member is aware that I’ve already declared my intention to see the headquarters of the development bank based in north Wales, and there are opportunities with Historic Wales to see further investment provided to the regions, and, potentially, we will see what happens once the proposals have been fully considered. But one of the recommendations is for Cadw to evolve, and it may well be that we can look at investing in one of the regions in terms of a greater Cadw presence is concerned. I’m going to use all of the tools that are available to us, to make sure that all parts of Wales—all regions, all communities—share in wealth creation.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a’i chymeradwyo am ei brwdfrydedd wrth iddi ddwyn y mater hwn i'n sylw? Byddwn yn cytuno'n llwyr bod gan Gaerfyrddin ac, yn wir, y gorllewin cyfan, lawer iawn i'w gynnig, nid yn unig i economi Cymru ond i bobl o'r tu allan i Gymru, fel cyrchfan wych i dwristiaid hefyd. Fe wn i hynny oherwydd fy mod i yno yn y gorllewin ddoe, yn agor cyfleusterau newydd yn yr economi ymweld.
Mae'r Aelod wedi mynegi ei barn gref yn y gorffennol o blaid y cynigion, ond mae'r Aelod hefyd wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i sicrhau, fel Llywodraeth Cymru, ein bod yn defnyddio diwydrwydd dyladwy yn briodol ac yn drylwyr ar gyfer cynigion a ddaw ger ein bron sy’n gofyn am gefnogaeth gan y pwrs cyhoeddus.
Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi uchelgais y brifysgol o fod yn awyddus i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol yn y rhanbarth, yn ogystal ag i annog datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ac rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a allai ddarparu adnewyddiad economaidd a manteision diwylliannol mewn cymunedau ledled Cymru, ond mae'n rhaid i’r prosiect fod yn un y gellir ei gyflawni ac yn ymarferol. Ac felly rwyf wedi bod yn awyddus i ymchwilio i bob dull o gefnogi achos busnes boddhaol, y gellid ei gyflwyno mewn ffordd sy'n dangos hyfywedd ariannol, manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ond sydd hefyd yn esbonio'r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus. Roedd yn rhaid i mi ystyried hefyd, fel y mae’r Aelod wedi ei amlygu, barn arbenigol, nid yn unig oddi wrth Banel y Sector Diwydiannau Creadigol, ond hefyd cyngor arbenigol o bob rhan o Gymru, a phryderon o bob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-orllewin. Wedi dweud hynny, rydym yn awr mewn sefyllfa lle y gallaf ddod â Gweinidogion at ei gilydd yr wythnos nesaf i drafod y mater, a gwneud penderfyniad y mis hwn.
Cyn belled ag y mae rhannu’r cyfoeth dan sylw, mae’r Aelod yn ymwybodol fy mod eisoes wedi datgan fy mwriad i ymweld â phencadlys y banc datblygu yn y gogledd, a cheir cyfleoedd ar y cyd â Cymru Hanesyddol i weld rhagor o fuddsoddiad yn cael ei ddarparu i'r rhanbarthau, ac, o bosibl, byddwn yn gweld beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cynigion gael eu hystyried yn llawn. Ond un o'r argymhellion yw esblygiad Cadw, ac mae’n bur debyg y gallwn edrych ar fuddsoddi mewn un o’r rhanbarthau yn nhermau mwy o bresenoldeb Cadw. Rwyf yn mynd i ddefnyddio'r holl offerynnau sydd ar gael i ni, er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru—pob rhanbarth, pob cymuned—yn rhannu’r cyfoeth a grëir.
A all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ei fod e wedi derbyn gohebiaeth gan TG4, sianel deledu Gwyddeleg, yn dadlau y bydd yna fudd economaidd a diwylliannol ieithyddol yn deillio o’r project yma, ar sail eu profiad nhw yn Galway, a’i fod e hefyd wedi gweld tystiolaeth o gwmnïau y tu fas i Gymru—ac, a dweud y gwir, y tu fas i Brydain—a fyddai â diddordeb adleoli yn Yr Egin, pan gaiff ei adeiladu? Ac a allai, yn olaf, gadarnhau bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cynnig telerau a fyddai’n golygu bod yna ddim grant parhaus—hynny yw, eu bod nhw’n derbyn yr arian ar sail ad-daladwy yn llwyr, benthyciad, a fyddai’n golygu wedi hynny bod yna broject gyda ni fan hyn a fyddai’n creu yn uniongyrchol 200 o swyddi, ac yn anuniongyrchol 650, heb geiniog o gost yn y pen draw i Lywodraeth Cymru? Os nad yw hynny yn cynrychioli gwerth am arian, mae’n anodd meddwl am unrhyw beth a fyddai yn.
Can the Cabinet Secretary confirm that he has received correspondence from TG4, which is an Irish television channel, arguing that there will be an economic benefit and a cultural and linguistic benefit accruing from this project, on the basis of their experience in Galway, and that he’s also seen evidence from companies outwith Wales—and, in fact, outwith the United Kingdom—that would be interested in relocating to Yr Egin when it is built? And, finally, can he confirm that the University of Wales Trinity Saint David has offered terms and conditions that would mean that there wouldn’t be a continuous grant—that is, they would actually take it as a loan that would be completely repaid, which would then mean that we have a project here that would directly create 200 jobs, and indirectly 650 jobs, without a penny of cost at the end of the day for Welsh Government? If that doesn’t represent value for money, it’s very difficult to think of anything else that would.
I can assure the Member that we have now received that information and all information relating to the proposal that we’re able to now consider. We’ve also received correspondence from TG4, which, of course, we’ve been able to consider, along with correspondence from potential partners in the project. And in terms of—it was remiss of me not to actually touch on the point raised by Angela Burns—growing a Welsh language hub within Swansea, that’s certainly something that I’d wish to discuss with my friend and colleague Alun Davies. And it is something that we can explore next week, I’m sure, when we discuss the Yr Egin project.
Rwy’n sicrhau'r Aelod ein bod bellach wedi derbyn yr wybodaeth honno a phob gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynnig y gallwn ei ystyried erbyn hyn. Rydym hefyd wedi derbyn gohebiaeth gan TG4, yr ydym, wrth gwrs, wedi gallu ei ystyried, ynghyd â gohebiaeth gan bartneriaid posibl yn y prosiect. Ac o ran—yr oeddwn ar fai yn wir am beidio â chyffwrdd ar y pwynt a godwyd gan Angela Burns—datblygu canolfan Gymraeg yn Abertawe, mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddwn i'n dymuno ei drafod gyda’m cyfaill a’m cydweithiwr Alun Davies. Ac mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno yr wythnos nesaf, rwy'n siŵr, pan fyddwn yn trafod prosiect Yr Egin.
Diolch i’r Ysgrifennydd am ei ymateb, a diolch i Angela hefyd am ddod â sylw’r tŷ yma i’r achos yma. Roedd yn siom i weld yr wythnos yma bod y panel diwydiannau creadigol wedi dweud y byddai datblygu Yr Egin yn tanseilio hwb cyfryngau tebyg yn Abertawe. Ond mae wedi dod i’n sylw i nad yw, er enghraifft, gyfarwyddwr Telesgop, sef y cwmni cyfryngau mwyaf sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg o Abertawe, yn ymwybodol o unrhyw hwb sydd yn bodoli yn Abertawe. A phan rydym ni mewn amser o ansicrwydd, yn arbennig yn ein hardaloedd gwledig, wedi pleidlais Brexit, a phan fyddai’r project yma yn rhoi rhyw lygedyn o obaith i’r ardaloedd yma, a ydy’r Ysgrifennydd yn gallu dweud wrth y tŷ, a oes unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o beth fyddai effaith peidio â datblygu Yr Egin yng Nghaerfyrddin?
I thank the Cabinet Secretary for his response and to Angela for bringing this case to our attention. It was disappointing to see this week that the creative industries sector panel had said that the development of Yr Egin would undermine a similar media hub in Swansea. But it’s come to my attention that, for example, the director of Telesgop, which is the largest media company operating through the medium of Welsh from Swansea, is not aware of any hub that exists in Swansea. At a time of uncertainty, particularly in our rural areas, following the Brexit vote, and when this project would give some glimmer of hope to these areas, can the Cabinet Secretary tell us whether any assessment has been made of the impact of not developing Yr Egin in Carmarthen?
Can I thank the Member for her question? And I must stress that I do believe that the advice from the creative industries sector panel was provided in good faith and has helped in our determination of the project. I do believe that the decision will be taken with regard to what is best for Carmarthen as a community and the creative industries within the community as well. The project obviously offers huge potential, and we’ve been keen to ensure that that potential can be, and could be, delivered by all partners who are part of the project.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Ac mae'n rhaid i mi bwysleisio fy mod i’n credu bod y cyngor gan banel y sector diwydiannau creadigol wedi ei ddarparu yn ddiffuant ac wedi ein helpu wrth i ni benderfynu ar y prosiect. Rwyf yn credu y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan ystyried yr hyn sydd orau i Gaerfyrddin fel cymuned a’r diwydiannau creadigol o fewn y gymuned hefyd. Mae'n amlwg bod y prosiect yn cynnig potensial enfawr, ac rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau y gall ac y gallai’r potensial ei gyflawni gan yr holl bartneriaid sy'n rhan o'r prosiect.
I commend the Cabinet Secretary for the speed with which he’s going to decide this matter. Will you accept from me that there is cross-party support for this venture and that we all, in this Assembly, accept that south-west Wales has lagged way behind most of Wales in recent years in terms of income? Adam Price has done a signal service, I think, to us in bringing this to our attention, not just today at First Minister’s questions but also on previous occasions where he shows that we are one of the poorest regions of western Europe. I don’t regard that as an accolade of which we should be proud. Projects of this kind are vitally important, not just for the immediate jobs that they bring, but also for changing the whole atmosphere of the region or sub-region, which will then make it more attractive to other firms to locate there. It’s the magnet effect that is so important here.
The second point I’d like to ask the Cabinet Secretary to respond to is that, yes, of course he does have responsibilities for ensuring that public money is spent wisely, but cultural and linguistic benefits themselves have a value beyond purely pounds and pence. And we know how important this project will be to the succouring of the Welsh language, and for the impact that it will have more widely than in the region itself. So, whilst I don’t expect him to give a substantive answer today, because he has to discuss with his colleagues and others to consider the matter in the round, but at least he should lean in favour of being sympathetic to this proposal, and not take a flinty, Thatcherite approach to it.
Rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyflymder wrth benderfynu ar y mater hwn. A wnewch chi dderbyn gennyf i bod cefnogaeth drawsbleidiol i’r fenter hon a’n bod i gyd, yn y Cynulliad hwn, yn derbyn bod y de-orllewin wedi llusgo’n bell y tu ôl i’r rhan fwyaf o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf o ran incwm? Mae Adam Price wedi gwneud cymwynas hynod bwysig â ni, rwyf yn credu, wrth dynnu ein sylw at hyn, nid yn unig heddiw yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond hefyd ar achlysuron blaenorol pryd y dangosodd ein bod yn un o ranbarthau tlotaf gorllewin Ewrop. Nid wyf yn ystyried hynny yn anrhydedd i ni ymfalchïo ynddo. Mae prosiectau o'r fath yn hanfodol bwysig, nid yn unig ar gyfer y swyddi a ddaw ar unwaith yn eu sgil, ond hefyd ar gyfer newid holl naws y rhanbarth neu’r is-ranbarth, a fydd wedyn yn ei gwneud yn fwy deniadol i gwmnïau eraill leoli yno. Effaith y dynfa yw’r hyn sydd mor bwysig yn y fan yma.
Yr ail bwynt yr hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddo yw, oes, wrth gwrs fod ganddo gyfrifoldebau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth, ond mae manteision diwylliannol ac ieithyddol ynddyn nhw eu hunain â gwerth y tu hwnt i arian. Ac rydym yn gwybod pa mor bwysig fydd y prosiect hwn o ran meithrin y Gymraeg, a’r effaith y bydd yn ei gael yn ehangach nag yn y rhanbarth ei hun. Felly, er nad wyf yn disgwyl iddo roi ateb sylweddol heddiw, gan y bydd yn rhaid iddo drafod gyda'i gydweithwyr ac eraill i ystyried y mater yn ei holl agweddau, ond fe ddylai o leiaf wyro at fod o blaid cydymdeimlo â’r cynnig hwn, ac nid bod ag ymagwedd calon-galed, Thatcheraidd ato.
The Member can rest assured that I will not a take a flinty and Thatcherite approach to this project, and against his best efforts, I will not be giving an indication of a decision that may be made within the next 10 days. But the Member is right to say that there are historic structural challenges that need to be overcome, not just in west Wales but in other parts of Wales where we need to see an improvement in gross value added and productivity, and in the levels of skills that are acquired by people. For that reason, I applaud the Minister for Skills and Science today for launching the new apprenticeship programme to create 100,000—as a minimum—all-age quality apprenticeships, which, of course, will come of great benefit to parts of Wales such as Pembrokeshire and Carmarthenshire, where there are shared apprenticeship programmes being utilised by many people, and where I know there are a number of employers who are currently looking at taking on more apprentices. The key in growing a regional economy is in having agglomeration and proper skills provision, and I’ve been very keen, in scrutinising this particular project, to be sure that the partners that have expressed an interest in going to Yr Egin really will make good on that interest, and that we will see a concentration, within the hub, of creative industries experts who can offer the job opportunities that are promised.
Gall yr Aelod fod yn sicr na fyddaf yn cymryd ymagwedd calon-galed a Thatcheraidd at y prosiect hwn, ac er gwaethaf ei ymdrechion gorau, ni fyddaf yn dangos arwydd o benderfyniad y gellid ei wneud o fewn y 10 diwrnod nesaf. Ond mae'r Aelod yn iawn wrth ddweud bod heriau strwythurol hanesyddol i’w cael y mae angen eu goresgyn, nid dim ond yn y gorllewin ond mewn rhannau eraill o Gymru lle mae angen i ni weld cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros a chynhyrchiant, ac yn lefelau’r sgiliau y mae pobl wedi eu cyrraedd. Gan hynny, rwyf yn canmol y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth heddiw am lansio'r rhaglen prentisiaeth newydd i greu 100,000—fel lleiafrif—prentisiaethau o ansawdd da ar gyfer pob oedran, a fydd, wrth gwrs, o fudd mawr i rannau o Gymru fel Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, lle mae rhaglenni prentisiaeth a rennir yn cael ei ddefnyddio gan lawer o bobl, a lle y gwn am nifer o gyflogwyr sydd ar hyn o bryd yn bwriadu derbyn mwy o brentisiaid. Yr allwedd i fagu economi ranbarthol yw sicrhau crynhoad a darpariaeth sgiliau priodol, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn, wrth graffu ar y prosiect penodol hwn, i wneud yn siŵr y bydd y partneriaid sydd wedi mynegi eu diddordeb i ymuno yn Yr Egin yn symud ymlaen â’r diddordeb hwnnw, ac y byddwn yn gweld crynhoad, o fewn y canolbwynt, o arbenigwyr yn y diwydiannau creadigol sy'n gallu cynnig y cyfleoedd am swyddi a addawyd.
Dyna’r union bwynt, Weinidog, os caf ddweud. Beth rydym ni’n deisyfu ei weld yn y gorllewin yw buddsoddiad a dyfodol llewyrchus i’n pobol ifanc ni, fel bod y plant sydd nawr yn mynd i ysgol Llangennech i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwybod bod swyddi da i gael hefyd yn y gorllewin iddyn nhw. Rydym ni eisiau gweld gan y Llywodraeth yr un math o hyblygrwydd tuag at gyllido’r project yma ag yr ydych chi wedi’i ddangos tuag at gyllido ac ymwneud â chynllun megis Cylchdaith Cymru ym Mlaenau Gwent. Mae yna agwedd gyllidol y medrwch chi ei chymryd, ac rydych chi newydd gadarnhau bod modd ailedrych ar y cynllun yma i ailbroffilio’r buddsoddiad ariannol fel bod y risg i’r trethdalwr mor isel ag sy’n bosibl, ond sy’n caniatáu i’r cynllun fynd yn ei flaen. A wnewch chi gadarnhau dau beth, felly? Yn gyntaf oll, a wnewch chi gadarnhau bod y cyngor rŷch chi wedi’i dderbyn gan y panel ymgynghorol ar ddiwydiannau creadigol, yn eich barn chi, yn gyngor cwbl ddiduedd? Dywedoch chi fod y cyngor ‘in good faith’, ac rwy’n derbyn hynny, ond hoffwn i wybod gennych chi, ar gofnod, eich bod chi’n derbyn y cyngor ei fod yn ddiduedd llwyr.
Yr ail gwestiwn, felly, rydych chi newydd drafod—rwy’n credu, yr wythnos diwethaf, neu’r wythnos gynt, o bosib—gyda nifer o Aelodau’r Cynulliad fan hyn ynglŷn â’r fargen dinas ranbarth, y ‘city deal’ ar gyfer bae Abertawe, mewn cyfarfod gyda nifer ohonom ni. Rwy’n ddiolchgar am hynny. Fe drafodwyd Yr Egin yn y cyfarfod hwnnw yng nghyd-destun pecyn, ac roeddech chi’n awyddus iawn ein bod ni, fel Aelodau Cynulliad, yn dadlau dros y pecyn cyfan a ddim, yn eich geiriau chi, yn ‘cherry-pick-o’ gwahanol agweddau ohono fe. Yn yr un ffordd, a wnewch chi dderbyn bod pecyn y ‘city deal’ yn cynnwys Yr Egin fel pecyn cyfan, ac felly, gobeithiaf yn fawr, yr wythnos nesaf, ar ôl i chi wneud yr arsylwi sydd angen ei wneud ar unrhyw gynllun o’r fath, y byddwch chi’n cefnogi’r cynllun fel bod y ‘city deal’ fel pecyn cyfan hefyd yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth San Steffan?
That was exactly the point, Minister. What we want to see in west Wales is investment and a prosperous future for our young people, so that the children currently going to Llangennech school to get a Welsh-medium education will know that there are also good jobs available for them in west Wales. We want to see from Government the same kind of flexibility towards funding this project as you have shown towards funding and dealing with the Circuit of Wales proposal in Blaenau Gwent. There is a fiscal approach that you could take, and you’ve just confirmed that you could review this scheme to reprofile the financial investment so that the risk to the taxpayer is as low as possible, whilst still allowing the project to progress. Will you confirm two things therefore? First of all, will you confirm that the advice that you’ve received from the creative industries sector panel, in your view, is entirely unbiased advice? You said that the advice was given in good faith, and I accept that, but I would like to hear from you on the record that you accept that it is totally unbiased.
The second question, I think it was last week or the week before that you discussed with a number of Assembly Members the city deal for the Swansea bay region. That was during a meeting with a number of us, and I was grateful for that, and the Egin was discussed at that meeting in the context of a wider package. You were eager that we as Assembly Members would argue for the whole package and would not, in your words, ‘cherry-pick’ different elements of it. Likewise, will you accept that the city deal package includes Yr Egin, and therefore I very much hope that, next week, once you have carried out the necessary due diligence of any such scheme, you will support the scheme so that the city deal as a wider package is also supported by the Westminster Government.
Can I thank the Member for his questions and say that I am, again, as I mentioned last week, pleased that SA1 and phase 2 of the Yr Egin project have both secured the support of the city region board for development?
In terms of providing opportunities, particularly for young people, the creative industries sector has proven to be more successful in Wales in terms of its growth and in terms of expanding opportunities for young people than in any other part of the UK except for London. That’s because we have grown an enviable industry in Wales. We have also grown the skills and the expertise required to attract major television drama productions. But I’m determined to make sure that we don’t rest on our laurels and that we continue to introduce more people to the creative industries in order to meet demand. It’s actually demand that is a problem for us at the moment, given the interest from tv producers in particular, notwithstanding the presence and the interest that film producers are showing in Wales, but particularly with regard to tv drama, and increasingly with regard to animation. There will be more opportunities for people to enter into the industry. There will be more opportunities for people to reskill in order to get into the industry. So, I’m determined to make sure that, as we scrutinise the Yr Egin project, we are confident that it will deliver those opportunities.
In terms of the advice that came from the creative industries panel, as I said to Eluned Morgan, I am confident that it was provided in good faith. That said, I don’t think that speculation regarding any conflicts of interest is helpful whatsoever. What is important is that I, and we as a Welsh Government, consider all evidence, rigorously scrutinise the proposals, and then reach a decision on the basis of what is best for the people of Carmarthen and the industry.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod, unwaith eto, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn falch bod SA1 a cham 2 o brosiect Yr Egin wedi sicrhau cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer datblygu?
O ran darparu cyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc, mae’r sector diwydiannau creadigol wedi dangos ei fod yn fwy llwyddiannus yng Nghymru o ran ei dwf ac o ran ehangu cyfleoedd i bobl ifanc nag mewn unrhyw ran arall o'r DU ar wahân i Lundain. Mae hynny oherwydd ein bod wedi tyfu diwydiant i’w eiddigeddu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi magu’r sgiliau a'r arbenigedd sydd yn angenrheidiol i ddenu prif gynyrchiadau drama teledu. Ond rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr nad ydym yn gorffwys ar ein bri a’n bod yn dal ati i gyflwyno mwy o bobl i'r diwydiannau creadigol er mwyn ateb y galw. Y galw yw’r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn gwirionedd, o ystyried y diddordeb gan gynhyrchwyr teledu yn arbennig, heb anghofio’r presenoldeb a'r diddordeb y mae cynhyrchwyr ffilm yn ei ddangos yng Nghymru, ond yn enwedig o ran dramâu teledu, ac yn gynyddol o ran animeiddio. Bydd rhagor o gyfleoedd i bobl fynd i mewn i'r diwydiant. Bydd mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd er mwyn mynd i mewn i'r diwydiant. Felly, rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr, wrth inni graffu ar brosiect Yr Egin, ein bod yn ffyddiog y bydd yn cyflenwi’r cyfleoedd hynny.
O ran y cyngor a gafwyd gan banel y diwydiannau creadigol, fel y dywedais wrth Eluned Morgan, rwyf yn ffyddiog ei fod wedi ei roi yn ddiffuant. Wedi dweud hynny, nid wyf yn credu bod dyfalu ynghylch unrhyw wrthdaro buddiannau o ddefnydd o gwbl. Yr hyn sy'n bwysig yw fy mod i, ac ein bod ninnau fel Llywodraeth Cymru, yn ystyried pob tystiolaeth, yn archwilio'r cynigion yn drylwyr, ac yna’n gwneud penderfyniad ar sail yr hyn sydd orau i bobl Caerfyrddin a’r diwydiant.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Rŷm ni’n symud, felly, i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
We move, therefore, to the next item on our agenda, which is the business statement and announcement, and I call on Jane Hutt.

I have two changes to report to this week’s business, Llywydd. Today’s oral statement on the small business research initiative has been postponed and, as no questions have been tabled for answer by the Assembly Commission this week, timings for tomorrow have been adjusted accordingly. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, found among the meeting papers available to Members electronically.
Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae datganiad llafar heddiw ar y fenter ymchwil i fusnesau bach wedi ei ohirio a, gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w ateb gan Gomisiwn y Cynulliad yr wythnos hon, mae amseriadau yfory wedi eu haddasu yn unol â hynny. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Leader of the house, could we have two statements, please, or maybe even just a letter in the Library, in the first instance from the Minister for finance, explaining the new business rates scheme—the additional money that was put on the table? I appreciate that this was raised some two or three weeks ago, and, in our debate on the Wednesday, the Cabinet Secretary for Finance and Local Government did indicate that he was hopeful of bringing forward the proposals by the early part of February. I’m conscious that we are now in the early part of February and, to my knowledge, no new information has come out as to how the additional £10 million that was highlighted before Christmas by the Welsh Government to be made available to local government for businesses caught by the revaluation would be administered and delivered to those businesses. So, in the absence of that information being out there, are you able to request from the Cabinet Secretary for Finance and Local Government an update as to exactly where the Government is with its information so that local authorities and, indeed, businesses can understand how they will benefit from this additional money?
Secondly, whilst I welcome the move to put jobs around Wales, in particular the development bank that the Government has taken to north-east Wales and, obviously, the revenue authority up to Treforest, I am a little concerned at the disjoint in Government policy, and I’d be grateful if we could have a statement from the Cabinet Secretary for the economy, because we do have a financial services hub enterprise zone here in Cardiff, and surely the Welsh Government should be promoting that, and yet when it has financial service sector jobs, it is not seeking to locate them within my own region of South Wales Central in the enterprise zone. Likewise, it is a fantastic job creation that Aston Martin has gone to St Athan, and we welcome that opportunity, but, under the Government’s economic strategy, that is supposed to be an aviation hub, and the automotive sector is supposed to be around the enterprise zone in Ebbw Vale. So, I’m conscious we’ve got a new Cabinet Secretary, I’m conscious the enterprise zones were brought forward by the previous Minister, but, in recent announcements that the Government has made, there does seem to be a dislocate between the policy of promoting enterprise zones and the actions of the Government. As I said, I welcome the Welsh Government’s opportunity to spread jobs around Wales; what I’m worried about is the dislocate between the policy initiatives and policy levers about promoting enterprise zones.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, neu hyd yn oed dim ond llythyr yn y Llyfrgell, yn gyntaf gan y Gweinidog cyllid, yn esbonio'r cynllun ardrethi busnes newydd—yr arian ychwanegol a roddwyd ar y bwrdd? Rwyf yn sylweddoli y codwyd hyn ryw ddwy neu dair wythnos yn ôl, ac, yn ein dadl ar y dydd Mercher, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ei fod yn obeithiol o gyflwyno’r cynigion yn gynnar ym mis Chwefror. Rwy'n ymwybodol ei bod, yn awr, yn gynnar ym mis Chwefror a, hyd y gwn i, nid oes unrhyw wybodaeth newydd wedi dod i law o ran sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol a amlygwyd cyn y Nadolig gan Lywodraeth Cymru i’w roi ar gael i lywodraeth leol ar gyfer busnesau a gafodd eu dal gan yr ailbrisio, yn cael ei weinyddu a'i gyflwyno i'r busnesau hynny. Felly, yn absenoldeb yr wybodaeth honno, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am yr wybodaeth ddiweddaraf am ble yn union y mae'r Llywodraeth o ran ei gwybodaeth fel bod awdurdodau lleol ac, yn wir, busnesau, yn gallu deall sut y byddan nhw’n elwa ar yr arian ychwanegol hwn?
Yn ail, er fy mod i’n croesawu'r symudiad i greu swyddi ledled Cymru, yn enwedig y banc datblygu y mae'r Llywodraeth wedi ei roi yn y gogledd-ddwyrain ac, yn amlwg, yr awdurdod refeniw yn Nhrefforest, rwyf braidd yn bryderus am y diffyg trefn ym mholisi'r Llywodraeth, a byddwn i’n ddiolchgar pe byddem yn cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, oherwydd bod gennym ni ardal fenter gwasanaethau ariannol yma yng Nghaerdydd, a does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn hyrwyddo honno, ac eto pan fydd swyddi ar gael yn y sector gwasanaethau ariannol, nid yw'n ceisio’u lleoli o fewn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru yn yr ardal fenter. Yn yr un modd, mae'n gynllun creu swyddi gwych bod Aston Martin wedi mynd i Sain Tathan, a chroesawn y cyfle hwnnw, ond, o dan strategaeth economaidd y Llywodraeth, canolbwynt hedfanaeth yw hwnnw i fod, ac mae’r sector modurol i fod yn yr ardal fenter yng Nglyn Ebwy. Felly, rwy'n ymwybodol bod gennym Ysgrifennydd y Cabinet newydd, rwy'n ymwybodol bod yr ardaloedd menter wedi eu cyflwyno gan y Gweinidog blaenorol, ond, mewn cyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth, ymddengys bod yna darfu rhwng y polisi o hyrwyddo ardaloedd menter a gweithredoedd y Llywodraeth. Fel y dywedais, rwyf i’n croesawu'r cyfle i Lywodraeth Cymru ledaenu swyddi ledled Cymru; ond ryw’n poeni am ba un a yw'r gwahaniaethau rhwng y mentrau polisi a’r ysgogiadau polisi ynghylch hyrwyddo ardaloedd menter.
Thank you to Andrew R.T. Davies for those questions. On the first point, of course, as the Cabinet Secretary of Finance and Local Government has assured this Assembly and Members over the past few weeks, he and his officials are working hard to ensure that we can get that early notice. We’re just into February, as you say, and I know that they are seeking to announce the ways in which local businesses will be able to access what is going to be a very important additional tranche of money over and above the transitional funding that was announced, of course, last autumn. So, I can assure you that that is progressing.
On your second point, I’m a bit confused about your second point, because there is inevitably a Welsh Government policy to decentralise when and where possible not only jobs that we have any control with, but also to encourage in terms of the sectors. You mentioned the financial services sector, and I think it is very welcome that the development bank is being located in another part of Wales, linking very closely, of course, with all our financial services and businesses. But I would hope that you would appreciate that the huge prize that Wales won of getting Aston Martin to St Athan, to Wales, is what we should be welcoming. I’m very glad that the Member actually did make that point.
Diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiynau yna. Ynglŷn â’ch pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi sicrwydd i’r Cynulliad hwn a’r Aelodau yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ef a'i swyddogion yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ni gael y rhybudd cynnar hwnnw. Newydd fynd i mewn i fis Chwefror ydym ni, fel y dywedwch, a gwn eu bod yn bwriadu cyhoeddi'r ffyrdd y bydd busnesau lleol yn gallu manteisio ar yr hyn a fydd yn gyfran ychwanegol bwysig iawn o arian ar ben y cyllid trosiannol a gyhoeddwyd, wrth gwrs, yr hydref diwethaf. Felly, gallaf eich sicrhau bod hynny yn symud ymlaen.
O ran eich ail bwynt, rwyf braidd yn ddryslyd am eich ail bwynt, oherwydd ei bod yn anochel bod gan Lywodraeth Cymru bolisi i ddatganoli pryd bynnag a lle bynnag y bo’n bosibl, y swyddi y mae gennym unrhyw reolaeth arnyn nhw, yn ogystal ag annog o ran y sectorau. Soniasoch am y sector gwasanaethau ariannol, ac rwy’n credu bod croeso mawr i’r newyddion am leoli’r banc datblygiad mewn rhan arall o Gymru, gan gysylltu’n agos iawn, wrth gwrs, â’n holl wasanaethau a busnesau ariannol. Ond byddwn i’n gobeithio y byddech chi’n gwerthfawrogi mai’r wobr enfawr a enillodd Cymru drwy gael Aston Martin i Sain Tathan, i Gymru, yw'r hyn y dylem fod yn ei groesawu. Rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi gwneud y pwynt hwnnw mewn gwirionedd.
Leader of the house, can I thank you for your statement? Further to that, the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure issued a written statement last Friday,
‘setting out a roadmap towards success, resilience and sustainability for the heritage of Wales’,
it says here. Obviously, the recommendations of the review group that have been looking into the future of so-called Historic Wales have received a cautious welcome. It goes on about a strategic partnership that seems to justify the independence of places like National Museum Wales and the National Library of Wales. So, all that is to be welcomed in a written statement. At the end of the written statement, there’s mention of a new review into the strategy and operations of National Museum Wales—just an unexpected little tailpiece there. I was wondering, from that point of view, whether I could request an oral statement as regards the details of that review into National Museum Wales. Diolch yn fawr.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Yn ychwanegol at hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad ysgrifenedig ddydd Gwener diwethaf,
yn nodi dull o sicrhau llwyddiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd ar gyfer treftadaeth Cymru’,
mae'n dweud yn y fan yma. Yn amlwg, mae argymhellion y grŵp adolygu sydd wedi bod yn edrych ar ddyfodol yr hyn a elwir yn Gymru Hanesyddol wedi cael croeso gofalus. Mae'n sôn am bartneriaeth strategol sydd, mae’n ymddangos, yn cyfiawnhau annibyniaeth lleoedd fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Felly, mae hynny i gyd i'w groesawu mewn datganiad ysgrifenedig. Ar ddiwedd y datganiad ysgrifenedig, ceir sôn am adolygiad newydd i strategaeth a gweithrediadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru—atodiad bach annisgwyl yn y fan yna. Roeddwn i’n meddwl tybed, o’r safbwynt hwnnw, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar ar fanylion yr adolygiad hwnnw i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Diolch yn fawr.
I very much welcome your recognition that the heritage services review in the written statement, Dai Lloyd, was based on that open review that committee and Members were able to contribute to, and all the partners who are affected by it, of course, have been engaged in developing those options. I’m sure the Cabinet Secretary will want to clarify in due course this review that he has commissioned in terms of the strategy and operations of the national museum.
Croesawaf yn fawr iawn eich cydnabyddiaeth bod adolygiad y gwasanaethau treftadaeth yn y datganiad ysgrifenedig, Dai Lloyd, yn seiliedig ar yr adolygiad agored yr oedd y pwyllgor a'r Aelodau yn cael cyfrannu ato, ac mae’r holl bartneriaid sy'n cael eu heffeithio ganddo, wrth gwrs, wedi cymryd rhan mewn datblygu’r dewisiadau hynny. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i egluro maes o law yr adolygiad hwn y mae wedi’i gomisiynu o ran strategaeth a gweithrediadau’r amgueddfa genedlaethol.
Leader of the house, I’d just like to expand a little on the leader of the Conservatives’ point on enterprise zones. Clearly, enterprise zones were introduced in the fourth Assembly, and it is important that we understand the progress that is being made on enterprise zones. So, can you ask the Cabinet Secretary for infrastructure and economy to actually produce a progress update on enterprise zones and how effective they are, particularly the enterprise zone in my constituency in relation to Port Talbot? But, in relation to that, can you also ask him to comment upon the preparations being made for investment and inward growth, because I understand there is a shortage of buildings, of square footage, size and capacity to undertake some growth in those areas? So, what actions are the Welsh Government taking to ensure that there are buildings, structures and infrastructure in place to ensure that growth in those zones can take place and that businesses can either grow or come into those areas to ensure that our economies, particularly in Port Talbot, are able to take advantage of them?
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ymhelaethu rhywfaint ar bwynt arweinydd y Ceidwadwyr ar ardaloedd menter. Yn amlwg, cyflwynwyd ardaloedd menter yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae'n bwysig ein bod ni’n deall y cynnydd sy'n cael ei wneud ar ardaloedd menter. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi i gynhyrchu diweddariad ar gynnydd o ran ardaloedd menter a pha mor effeithiol ydyn nhw, yn arbennig yr ardal fenter yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot? Ond, mewn cysylltiad â hynny, a wnewch chi ofyn iddo hefyd roi sylwadau ar y paratoadau sydd ar waith ar gyfer buddsoddi a thwf mewnol, gan fy mod i ar ddeall bod prinder adeiladau, troedfeddi sgwâr, maint a gallu i ymgymryd â rhywfaint o dwf yn yr ardaloedd hynny? Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod adeiladau, strwythurau a seilwaith ar gael i sicrhau y gall twf ddigwydd yn yr ardaloedd hynny ac y gall busnesau naill ai dyfu neu ddod i’r ardaloedd hynny er mwyn sicrhau y gall ein heconomïau, yn enwedig ym Mort Talbot, fanteisio arnyn nhw?
I thank David Rees for that very pertinent question. Andrew R.T. Davies has left the Chamber, to hear the important news that the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure is going to be making a statement in due course on the enterprise zones programme. Of course, we can feed back to him your important points about the link to the sector and growth opportunities. He is completing a current review of programme governance, and so, as soon as that’s been completed, he will make a statement.
Diolchaf i David Rees am y cwestiwn perthnasol iawn yna. Mae Andrew R.T. Davies wedi gadael y Siambr, i glywed y newyddion pwysig y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad maes o law ar y rhaglen ardaloedd menter. Wrth gwrs, gallwn ni adrodd yn ôl iddo eich pwyntiau pwysig am y cysylltiad â'r sector a chyfleoedd ar gyfer twf. Mae'n cwblhau adolygiad cyfredol o’r rhaglen lywodraethu, felly, pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn gwneud datganiad.
Cabinet Secretary, it is just one of those things that everybody is talking about—the enterprise zones. Just half an hour earlier, it was music to my ears when the Cabinet Secretary for the economy said—his own words—
‘all parts of Wales…share wealth creation.’
Wonderful job. Figures released in November 2015 also revealed the mixed results of enterprise zones in Wales, with over 1,000 jobs being created at Cardiff and Deeside zones between 2014 and March 2015, but just seven—seven—in Ebbw Vale and St Athan. Please could we have a statement updating the Assembly on job creation and existing enterprise zones and on the Welsh Government plans, if any, to expand the number of zones into other areas of Wales to support other sectors of the economy? As we know, Brexit has created a vacuum in different areas for development. Could we go for a fast track in certain areas to make sure that job creation and inward investment are taken care of and go on a fast track to grow our economy as soon as possible? Thank you.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n un o'r pethau hynny y mae pawb yn siarad amdano—yr ardaloedd menter. Dim ond hanner awr yn gynharach, braf oedd clywed Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn dweud—yn ei eiriau ei hun—
bob rhan o Gymru ... y rhannu’r cyfoeth a grëir.
Gwaith gwych. Dangosodd ffigurau a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2015 hefyd ganlyniadau cymysg ardaloedd menter yng Nghymru, gyda dros 1,000 o swyddi'n cael eu creu yn ardaloedd Caerdydd a Glannau Dyfrdwy rhwng 2014 a mis Mawrth 2015, ond dim ond saith—saith—yng Nglyn Ebwy a Sain Tathan. A gawn ni ddatganiad os gwelwch yn dda sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am greu swyddi ac ardaloedd menter sy'n bodoli eisoes ac am gynlluniau Llywodraeth Cymru, os o gwbl, i ehangu nifer yr ardaloedd menter i rannau eraill o Gymru i gefnogi sectorau eraill o'r economi? Fel y gwyddom, mae Brexit wedi creu gwagle mewn gwahanol feysydd datblygu. A fyddai modd i ni ddefnyddio llwybr blaenoriaeth mewn ardaloedd penodol er mwyn sicrhau y gofelir am greu swyddi a mewnfuddsoddi a’u bod yn mynd ar lwybr blaenoriaeth i dyfu ein heconomi cyn gynted ag y bo modd? Diolch.
I know the Member will have been very pleased to hear that I responded very positively to David Rees that the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure will be making a statement on the enterprise zones programme.
Rwy'n gwybod y byddai’r Aelod wedi bod yn falch iawn o glywed fy mod i wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i David Rees y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad ar y rhaglen ardaloedd menter.
Can we have a statement from the Minister for Social Services and Public Health on retrospective claims for NHS continuing healthcare funding? A constituent of mine has been waiting for almost four years for a decision on her application, and I’m led to believe that almost 1,000 retrospective claims are currently being processed. Four years is absolutely unacceptable for a citizen of this country to be waiting on a decision on a retrospective claim, so can we have no more ducking and weaving and passing the buck from Welsh Government on issues in the health service in respect of continuing healthcare funding? Can we have a statement to clarify that position and to hear what action, if any, Welsh Government is taking to rectify this?
A gawn ni ddatganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hawliadau ôl-weithredol ar gyfer arian gofal iechyd parhaus y GIG? Mae un o fy etholwyr i wedi bod yn aros am bron i bedair blynedd am benderfyniad ar ei chais, ac rwyf ar ddeall bod bron i 1,000 o geisiadau ôl-weithredol yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Mae pedair blynedd yn gwbl annerbyniol i un o ddinasyddion y wlad hon aros am benderfyniad ar gais ôl-weithredol, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru roi’r gorau i osgoi a thaflu baich materion y gwasanaeth iechyd o ran ariannu gofal iechyd parhaus? A gawn ni ddatganiad i egluro'r sefyllfa honno ac i glywed pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni hyn?
This is an important point and question, and it is something that, of course, the Minister for Social Services and Public Health has been working on, to ensure that those people who are affected get that early indication in terms of retrospective claims. I will ensure that there is an update on where the Minister is with the situation.
Mae hwn yn bwynt ac yn gwestiwn pwysig, ac mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio arno, er mwyn sicrhau bod y bobl hynny yr effeithiwyd arnynt yn cael yr wybodaeth gynnar honno o ran hawliadau ôl-weithredol. Byddaf yn sicrhau y bydd diweddariad ar ble y mae’r Gweinidog arni yn hyn o beth.
Yesterday was the International Day of Zero Tolerance for Female Genital Mutilation. I was very pleased to host a very well-attended conference here in the Senedd on this appalling subject. It was organised by BAWSO, but there were important delegates from NSPCC, Welsh Women’s Aid and from different parts of Wales as well as England. I think this is not just about the 30 million girls who are at risk worldwide of being mutilated before their fifteenth birthday, but it is about preventing this happening to the girls living in this country as well. According to Dr Chimba, who leads on female genital mutilation for BAWSO, there are some 2,000 women in Wales who are living with either full or partial removal of their genitalia. If it was men having their penises cut off, I’m sure we’d all be giving this a very high priority.
One of the issues that were raised at the conference was the absence of accurate data about Wales, because there was quite a lot of collated data about England and Wales. I understand that, this week, NHS England is going to be releasing the data that it has collated from different parts of the NHS, from nurses, midwives, GPs and anybody else who’s got accurate information on this. I just wondered whether you could give us an update on when this information may be available in Wales, because it’s really important in understanding what specialist service we ought to be commissioning in Wales, as opposed to sending people to other parts of England. Do we have the critical mass to justify such a specialist service?
Ddoe oedd Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Roeddwn i’n falch iawn o gynnal cynhadledd y daeth llawer iddi yma yn y Senedd ar y pwnc ofnadwy hwn. Fe'i trefnwyd gan BAWSO, ond roedd cynrychiolwyr pwysig yn bresennol o NSPCC, Cymorth i Ferched Cymru ac o wahanol rannau o Gymru yn ogystal â Lloegr. Nid wyf yn credu bod hyn yn ymwneud yn unig â’r 30 miliwn o ferched sydd mewn perygl ledled y byd o gael eu llurgunio cyn eu pen-blwydd yn bymtheg oed, ond mae hefyd yn ymwneud ag atal hyn rhag digwydd i'r merched sy'n byw yn y wlad hon. Yn ôl Dr Chimba, sy'n arwain ar anffurfio organau cenhedlu benywod gyda BAWSO, mae rhyw 2,000 o fenywod yng Nghymru sy'n byw â rhan neu’r cyfan o’u horganau cenhedlu wedi’u torri i ffwrdd. Pe byddai hyn yn ymwneud â phidynnau dynion yn cael eu torri i ffwrdd, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i hyn.
Un o'r materion a godwyd yn y gynhadledd oedd diffyg data cywir am Gymru, oherwydd roedd cryn dipyn o ddata wedi’u casglu am Gymru a Lloegr. Rwyf ar ddeall y bydd y GIG yn Lloegr, yr wythnos hon, yn rhyddhau'r data sydd wedi eu casglu o wahanol rannau o'r GIG, gan nyrsys, bydwragedd, meddygon teulu ac unrhyw un arall sydd wedi cael gwybodaeth gywir am hyn. Roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ba bryd y gallai’r wybodaeth hon fod ar gael yng Nghymru, oherwydd ei bod yn bwysig iawn i ddeall pa wasanaethau arbenigol y dylem ni fod yn eu comisiynu yng Nghymru, yn hytrach nag anfon pobl i rannau eraill o Loegr. A oes gennym y màs critigol i gyfiawnhau gwasanaeth arbenigol o'r fath?
Well, I think we’d all want to—in this Chamber—thank Jenny Rathbone for organising this very important event yesterday—a well-supported event in the Senedd, which many Assembly Members who were able to supported or came and showed their support. Just to briefly report progress and Welsh Government action, we’ve supported the development of health provision and co-ordinated training, which is critical, and this is where we can learn from our colleagues outside of Wales, but BAWSO is taking the lead in the training on female genital mutilation within all our health boards across the whole of Wales. It was initiated with the identification of FGM leads within each health board. We’ve got an all-Wales FGM health group that’s been established by Public Health Wales. It’s got a work plan and—in answer to your important question—it has commenced data collection on women and children affected by FGM across health boards, and it’s also devised and is implementing an all-Wales clinical identification and referral pathway, as well as the training.
We’ve also got, of course, the Healthy Child Wales programme. That’s got a universal health programme for all families with children up to the age of seven, and that also is identifying information contacts that can be made at health board level. As part of this programme, information will be recorded on children who may be affected by FGM. Welsh health boards began to implement this pathway from last October—on 1 October 2016—and have two years to fully implement the programme.
Wel, rwy’n credu yr hoffem ni i gyd—yn y Siambr hon—ddiolch i Jenny Rathbone am drefnu'r digwyddiad pwysig iawn hwn ddoe—digwyddiad a gafodd ei gefnogi'n dda yn y Senedd, ac yr oedd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi gallu dod iddo neu ei gefnogi. Dim ond gair bach i adrodd yn fyr ar gynnydd a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi cefnogi datblygiad darpariaeth iechyd ac wedi hyfforddiant cydlynol, sy'n hollbwysig, a dyma lle y gallwn ddysgu gan ein cydweithwyr y tu allan i Gymru, ond BAWSO sy’n arwain yr hyfforddiant ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn ein holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Fe ddechreuodd drwy nodi arweinwyr anffurfio organau cenhedlu benywod ym mhob bwrdd iechyd. Mae gennym ni grŵp iechyd anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru gyfan sydd wedi ei sefydlu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo gynllun gwaith ac—i ateb eich cwestiwn pwysig—y mae wedi dechrau casglu data am fenywod a phlant sydd wedi’u heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod ar draws byrddau iechyd, ac y mae hefyd wedi dyfeisio ac mae’n rhoi llwybr nodi ac atgyfeirio clinigol Cymru gyfan ar waith, yn ogystal â’r hyfforddiant.
Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, y rhaglen Plant Iach Cymru. Mae gan honno raglen iechyd cyffredinol i bob teulu â phlant hyd at saith oed, ac mae hynny hefyd yn nodi cysylltiadau gwybodaeth y gellir eu gwneud ar lefel byrddau iechyd. Yn rhan o'r rhaglen hon, bydd gwybodaeth yn cael ei chofnodi ar blant a allai gael eu heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod. Dechreuodd byrddau iechyd Cymru weithredu’r llwybr hwn fis Hydref diwethaf—ar 1 Hydref 2016—ac mae ganddyn nhw ddwy flynedd i weithredu'r rhaglen yn llawn.
Leader of the house, it’s now been two weeks since the Welsh Government gave the Circuit of Wales company—. I think it was a two-week deadline, funnily enough, to provide assurances of their financial backers so that the project can move forward. I said in my debate last week on the Cardiff city region that I thought that this was a positive development for all the parties involved—a potentially transformative project for the Cardiff capital city region—but we do now need clarity on whether it can proceed. Can I ask for a statement from the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure at the earliest opportunity, so that we can sort this out once and for all and move forward, or not move forward as the case may be? At least then we’ll all know in the city region area exactly what we’re dealing with with this project.
Arweinydd y tŷ, mae pythefnos wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru roi i’r cwmni Cylchdaith Cymru—. Rwy'n credu mai terfyn amser o ddwy wythnos ydoedd, yn rhyfedd ddigon, i ddarparu sicrwydd am eu cefnogwyr ariannol fel y gall y prosiect symud yn ei flaen. Dywedais yn fy nadl yr wythnos diwethaf ynglŷn â dinas-ranbarth Caerdydd fy mod i’n credu bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol i bawb sydd ynghlwm wrth y prosiect—a allai fod yn brosiect trawsnewidiol i brifddinas-ranbarth Caerdydd—ond y mae angen eglurder arnom yn awr o ran pa un a yw’n gallu mynd yn ei flaen. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar y cyfle cyntaf, fel y gallwn ddatrys hyn unwaith ac am byth a symud ymlaen, neu beidio â symud ymlaen yn ôl y digwydd? O leiaf wedyn byddwn ni i gyd yn gwybod yn ardal y ddinas-ranbarth yn union beth yr ydym yn ymdrin ag ef yn y prosiect hwn.
Well, what is important is that we have reached that deadline. So, of course, the Cabinet Secretary will be informing Members of the outcome of the situation.
Wel, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod wedi cyrraedd y terfyn amser hwnnw. Felly, wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y sefyllfa.
Will the Cabinet Secretary for health make a statement on the Government policy towards surrogacy? Because many women in Wales unable to carry children as a result of cancer, for example, are being denied funding for IVF treatment unless a surrogate has already been identified. I think this whole area needs a lot of clarification, and we would be very grateful if the issue of funding for IVF and surrogates can be looked at as a matter of urgency.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wneud datganiad am bolisi’r Llywodraeth ynglŷn â geni plant ar ran pobl eraill? Oherwydd bod cyllid yn cael ei wrthod ar gyfer triniaeth IVF i lawer o fenywod yng Nghymru sy’n methu â chario plant o ganlyniad i ganser, er enghraifft, oni bai bod mam fenthyg eisoes wedi ei nodi. Rwy'n credu bod angen llawer o eglurhad ar y maes cyfan, a byddem yn ddiolchgar iawn pe gallai’r mater o ariannu IVF a mamau benthyg gael eu hystyried fel mater o frys.
I thank the Member for that question. Indeed, this is a question that the Cabinet Secretary will follow up, but it’s also very important that if you have people who are affected in this way that you also make representations on their behalf.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn wir, mae hwn yn gwestiwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi mwy o sylw iddo, ond mae hefyd yn bwysig iawn, os oes gennych chi bobl sydd wedi eu heffeithio yn y modd hwn eich bod chi hefyd yn gwneud sylwadau ar eu rhan.
Today is Safer Internet Day. As the chair of the cross-party group on preventing child sexual abuse, I have been encouraged to see the work of the NSPCC, Stop it Now! Cymru and the Survivors Trust. They are doing incredible work to safeguard children and prevent sexual exploitation from taking place. A report commissioned by the UK Safer Internet Centre found that seven in 10 children and young people have seen unsuitable images online. Today, the NSPCC has produced videos for its Share Aware campaign, to highlight to parents and children the dangers of sharing information online. My colleague Lynne Neagle hosted an event today in the Pierhead, where the Cabinet Secretary for Education gave a keynote speech. Will the leader of the house join me in commending initiatives like these, which raise awareness of online abuse and exploitation on Safer Internet Day, and assure me and others in this Chamber that the Welsh Government will continue to do all it can on this?
Mae heddiw yn Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, rwyf wedi fy nghalonogi i weld gwaith yr NSPCC, Stop it Now! Cymru a The Survivor’s Trust Cymru. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel i ddiogelu plant ac atal camfanteisio rhywiol rhag digwydd. Canfu adroddiad a gomisiynwyd gan Ganolfan Diogelwch Rhyngrwyd y DU fod saith o bob 10 o blant a phobl ifanc wedi gweld delweddau anaddas ar-lein. Heddiw, mae'r NSPCC wedi cynhyrchu fideos ar gyfer ei ymgyrch Pwyllo a Rhannu, i dynnu sylw rhieni a phlant at beryglon rhannu gwybodaeth ar-lein. Cynhaliodd fy nghydweithiwr Lynne Neagle ddigwyddiad heddiw yn y Pierhead, lle rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith allweddol. A wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel y rhain, sy'n codi ymwybyddiaeth o gam-drin a chamfanteisio ar-lein ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a’m sicrhau i ac eraill yn y Siambr hon y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu ar hyn?
I thank Jayne Bryant for that question, and I would like to thank her for chairing a cross-party group on preventing child sexual abuse. That provides an opportunity for Members across the Assembly to come together and take action and get the evidence in terms of the situation that you describe, which was very well highlighted today, I know, at the event that Kirsty Williams spoke at. I also draw Members’ attention to the written statement that Kirsty Williams made today on Safer Internet Day. I will also just say that we are the lead organisation for online safety in Wales—the Welsh Government—and we are committed to promoting the safe and positive use of technology to our children, young people, parents and teachers.
Diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn yna, a hoffwn ddiolch iddi am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol. Mae hynny'n rhoi cyfle i Aelodau ar draws y Cynulliad ddod at ei gilydd a gweithredu a chael y dystiolaeth am y sefyllfa yr ydych chi’n ei disgrifio, a amlygwyd yn dda iawn heddiw, rwy’n gwybod, yn y digwyddiad y siaradodd Kirsty Williams ynddo. Rwyf hefyd yn tynnu sylw'r Aelodau at y datganiad ysgrifenedig a wnaeth Kirsty Williams heddiw ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Dywedaf hefyd mai ni yw’r sefydliad arweiniol o ran diogelwch ar-lein yng Nghymru—Llywodraeth Cymru—ac rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg i’n plant, pobl ifanc, rhieni ac athrawon.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ei pholisi o ddatganoli swyddi i wahanol rannau o Gymru? Mi glywon ni, wrth gwrs, y cwestiynau yn gynharach ynglŷn â’r penderfyniad am Awdurdod Cyllid Cymru. Rŷm ni hefyd wedi clywed cyfeiriadau y prynhawn yma at y posibilrwydd y bydd swyddi banc datblygu Cymru yn cael eu lleoli, o bosib, yn y gogledd neu mewn rhannau eraill o Gymru. Gwnaeth Ysgrifennydd yr economi hyd yn oed awgrymu efallai fod yna fwriad i adleoli neu greu rhyw fath o bresenoldeb i Cadw mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Yr argraff y mae rhywun yn ei gael yw—neu, y cwestiwn yr wyf am ei ofyn yw: a oes yna strategaeth ar draws y Llywodraeth fan hyn? A oes rhywbeth cydlynus, bwriadol yn digwydd? Mae’n swnio ychydig fel rhywbeth ad hoc, gydag adrannau yn gweithio mewn rhigolau. Rwyf yn meddwl y byddai datganiad yn gyfle i’r Llywodraeth osod eu stondin, mewn gwirionedd, ynglŷn â ble yn union y maen nhw’n mynd ar yr agenda yma, a sut y maen nhw’n bwriadu cyflawni hynny. Byddai hefyd yn gyfle, wrth gwrs, i drafod y meini prawf y cyfeiriwyd atynt gan Aelod Arfon yn gynharach. Os mai dyna yw’r meini prawf sy’n cael eu defnyddio bob tro, yna mae yna gwestiwn ynglŷn ag a welwn ni fyth rhai o’r swyddi posibl yma yn cael eu hadleoli i rywle fel gogledd Cymru. Yn bwysicach na dim, wrth gwrs, byddai cael datganiad o’r fath hefyd yn rhoi mwy o eglurder i bawb ynglŷn â sut y gall pob rhan o Gymru fod yn hyderus mai Llywodraeth i Gymru gyfan yw hon.
May I ask for a Government statement on its policy of devolving jobs to different parts of Wales? We heard, of course, the questions earlier on the decision on the Welsh Revenue Authority. We’ve also heard references this afternoon to the possibility that the Welsh development bank jobs will be located perhaps in north Wales or other parts of Wales. The Secretary for the economy even suggested that there was a possible intention to relocate or create a presence for Cadw in other parts of Wales, too. The impression one gets—or, the question I want to ask is: is there is a pan-governmental strategy? Is there something co-ordinated and deliberate? Because it appears to be quite ad hoc, with departments working in their own silos. I think a statement would be an opportunity for the Government to set out their stall in terms of this agenda and how they intend to achieve it. It would also be an opportunity, of course, to discuss the criteria referred to by the Member for Arfon earlier, because if those are the criteria used on each occasion, then there is a question as to whether we will ever see some of these posts relocated to an area such as north Wales. And most importantly, of course, having such a statement would provide greater clarity for everyone in terms of how all parts of Wales can be confident that this is a Government for the whole of Wales.
This clearly has to have a cross-Government approach. As I said earlier, in response to the question from Andrew R.T. Davies, where we have direct control, in terms of our decision making as to the location of a new body, new functions—. Of course, in terms of the Welsh Revenue Authority, it is not just a new body; there are new functions. There are new skills as well, in terms of the tax powers that we are taking on that have now been devolved to Wales. So, it is a matter of ensuring that we do have the capacity and the skills to develop, and that has a bearing in terms of location. Yes, back in October—. I have already mentioned the fact that the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure did set out his wish that the headquarters, for example, for the development bank for Wales could be established in north Wales. So, where there is an opportunity and there aren’t some of those issues that have been mentioned already in terms of our ability to influence location, we would want to ensure that there was a decentralised presence across Wales. In terms of private sector investment and inward investment, that, of course, has another bearing—the points that have been made about the sectors and the enterprise zones in Wales. Their particular sector focus has a bearing on the private sector location of business and new opportunities. Clearly, this is a cross-Government strategy in terms of the location and the relocation of businesses and services throughout Wales.
Yn amlwg mae’n rhaid cael ymagwedd ar draws y Llywodraeth ar gyfer hyn. Fel y dywedais yn gynharach, wrth ymateb i'r cwestiwn gan Andrew R.T. Davies, pan fo gennym reolaeth uniongyrchol, o ran ein gallu i wneud penderfyniadau ar leoliad corff newydd, swyddogaethau newydd—. Wrth gwrs, o ran Awdurdod Refeniw Cymru, nid corff newydd yn unig mohono; mae ganddo swyddogaethau newydd. Mae sgiliau newydd hefyd, o ran y pwerau treth yr ydym yn eu derbyn sydd wedi’u datganoli i Gymru erbyn hyn. Felly, mae'n fater o sicrhau bod gennym ni’r gallu a'r sgiliau i ddatblygu, ac mae hynny yn effeithio ar leoliad. Do, yn ôl ym mis Hydref—. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi nodi ei ddymuniad bod y pencadlys, er enghraifft, ar gyfer banc datblygu Cymru yn cael ei sefydlu yn y gogledd. Felly, pan fo cyfle a phan nad oes rhai o'r materion hynny sydd wedi eu crybwyll eisoes o ran ein gallu i ddylanwadu ar leoliad, byddem yn dymuno sicrhau bod presenoldeb datganoledig ledled Cymru. O ran buddsoddiad y sector preifat a buddsoddiad mewnol, mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at ystyriaeth arall—y pwyntiau a wnaed am y sectorau a'r ardaloedd menter yng Nghymru. Mae pwyslais penodol eu sector yn effeithio ar leoliad busnes y sector preifat a chyfleoedd newydd. Yn amlwg, mae hon yn strategaeth ar draws y Llywodraeth o ran lleoliad ac adleoliad busnesau a gwasanaethau ledled Cymru.
Diolch i’r Gweinidog.
I thank the Minister.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y ‘Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon’, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
The next item on our agenda is a statement by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport on the ‘Heart Conditions Delivery Plan’, and I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Vaughan Gething.

Thank you, Llywydd.
On 6 January this year, I published the refreshed ‘Heart Conditions Delivery Plan’. This plan reaffirms our commitment to reduce preventable heart disease and to ensure that people affected by any kind of heart condition have timely access to high-quality care. And that high-quality care should be delivered regardless of where people live. Increasingly, we expect to see that care delivered in the community as well as in a hospital setting, where appropriate. The delivery plan now includes a specific section on children and young people, and we’ve done this to take on board the findings from the independent review of children’s cardiac services in Bristol that was published last year. Children living with a heart condition should receive the best possible support and care in Wales.
There have been considerable developments in cardiac care across Wales since the original delivery plan in 2013. Fewer people now die from cardiovascular disease in Wales: rates fell by almost 1,000 people a year between 2010 and 2015. This is in part thanks to improvements in care, but we know more can be done. Hospital admissions for coronary disease fell by 21 per cent over the last five years, thanks to better management of the condition by both staff and patients. And we know that a range of innovative improvement projects are now in place, and these include: the development of the familial hypercholesterolemia programme; community cardiology; enhanced cardiovascular risk assessment; the adult congenital heart disease service in south Wales; direct access for primary care to diagnostics; nurse-led diagnostics; and e-referral and e-advice systems. All of these innovations have resulted in improved outcomes for patients, and I do want to pay tribute to all those involved in the planning and delivery of these services.
The British Heart Foundation, Members will be aware, recently described Wales as a world leader in cardiac rehabilitation, because of the significant increase in the number of patients receiving the service in Wales. We went from 42 per cent in 2014-15 to 59 per cent in 2015-16. However, we’re not complacent and will look for further improvement again in the future. The vision set out in our plan is for fully integrated primary, community, secondary and specialist pathways of care, and these are designed around the needs of the patient, providing the support they need to enable them to do what they can to manage their own condition. Cardiovascular disease remains a major cause of ill health and death in Wales, and the heart conditions implementation group has invested £1 million provided by the Welsh Government in the development of a cardiovascular risk assessment programme and community cardiology services.
Incidence of heart disease, we know, varies significantly and unacceptably between our most and least deprived communities here in Wales. The death rate for under-75s is 106 per 100,000 in Blaenau Gwent, which is nearly twice the rate in the Vale of Glamorgan, which is only 56 per 100,000. Recently, I was in Tynycoed Surgery in Sarn at the launch of the community cardiovascular risk assessment programme in the Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board area, and I was genuinely impressed by the enthusiasm of staff who are building on the success of those in the Cwm Taf health board area and the Aneurin Bevan health board area. They in fact spearheaded this project at the outset, and as well as having leadership from GPs at individual practice and cluster level, this programme relies on healthcare support workers for its success, because it’s their ability to engage reluctant but high-risk groups of people who do not make regular contact with GPs that’s essential to the success of the programme. That engagement deliberately takes place away from clinical or medicalised settings. So, equipping people with information to enable and empower them to change their current and future health has already made a real difference, and this programme should continue to make a real impact on health inequalities. The development of community cardiology services, whilst varying across health board areas, all support our priority to improve access to primary and community care, and we’re looking at different ways of treating people, where appropriate as locally as possible, to help reduce waiting lists and to avoid admission or re-admission into hospital. That’s particularly important for the frail, elderly and those with long-term conditions.
The heart conditions implementation group has identified their priorities for 2017-18, and these include developing treatment pathways for common cardiac conditions, piloting component and diagnostic waiting times, developing and implementing an out-of-hospital cardiac arrest plan, and further improving cardiac rehabilitation and physiology services, implementing the all-Wales accelerated cardiac informatics project, and developing cardiac peer review across Wales.
We’ve already seen improvements in cardiac waiting times through improvements in services such as the £6.6 million redevelopment in the Swansea cardiac centre, which has addressed increased demand for cardiac critical care beds after cardiac surgery. The draft clinical pathways for common cardiac conditions will be discussed at the Wales Cardiovascular Society spring meeting at the end of April to gain an all-Wales clinical consensus. Implementation of those pathways across Wales is key to delivering the aspirations in the plan.
Welsh Ambulance Services NHS Trust figures show that around 8,000 victims of out-of-hospital sudden cardiac arrests occur annually in Wales. Survival rates are low, but there is potential for many more lives to be saved if cardiopulmonary resuscitation and early defibrillation were undertaken more often. The availability of 24 hours a day over seven days a week primary percutaneous coronary intervention services in north Wales from 3 April is a significant development. We’ll now have all-Wales coverage.
Last December, I issued a written statement highlighting the progress we have already made in Wales in raising awareness, particularly in schools, of the importance of life-saving skills such as cardiopulmonary resuscitation and the use of automated external defibrillators. The out-of-hospital cardiac arrest plan that we will publish this spring will build on this success. It will cover early recognition of a cardiac arrest, immediate and high-quality CPR, and early defibrillation as well as effective post-resuscitation care.
We know that we must make the most of our resources here in Wales—not least the skill, dedication and hard work of our clinical staff, service managers, and third sector organisations. We want to create a more equal relationship between the patient and healthcare professionals, enabling people to co-produce their treatment based on their values, goals and circumstances. This refreshed plan was developed through effective partnership. That continued co-operation between the Welsh Government, the implementation group, the Wales Cardiac Network, professional bodies, and the third sector is key to delivering the next phase of working together, because our shared task is to deliver improved outcomes at greater pace and with greater impacts.
Diolch, Lywydd.
Ar 6 Ionawr eleni, cyhoeddais y 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon’ ar ei newydd wedd. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i leihau clefyd y galon y gellir ei atal ac i sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan unrhyw fath o gyflwr ar y galon yn cael mynediad amserol at ofal o ansawdd uchel. Ac y dylid darparu gofal o ansawdd uchel ni waeth ble y mae pobl yn byw. Yn gynyddol, rydym yn disgwyl y caiff y gofal hwnnw ei ddarparu yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysbyty, pan fo hynny'n briodol. Mae'r cynllun cyflawni bellach yn cynnwys adran benodol ar blant a phobl ifanc, ac rydym wedi gwneud hyn er mwyn cynnwys canfyddiadau’r adolygiad annibynnol ar wasanaethau cardiaidd i blant ym Mryste a gyhoeddwyd y llynedd. Dylai plant sy'n byw gyda chyflwr ar y galon gael y cymorth a'r gofal gorau posibl yng Nghymru.
Bu datblygiadau sylweddol mewn gofal cardiaidd ar draws Cymru ers y cynllun cyflawni gwreiddiol yn 2013. Mae llai o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru erbyn hyn: bu gostyngiad mewn cyfraddau gan bron i 1,000 o bobl y flwyddyn rhwng 2010 a 2015. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i welliannau mewn gofal, ond gwyddom y gellir gwneud mwy. Bu gostyngiad o 21 y cant mewn derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer clefyd coronaidd dros y pum mlynedd diwethaf, o ganlyniad i aelodau staff a chleifion yn rheoli’r cyflwr yn well. A gwyddom fod nifer o brosiectau gwella arloesol bellach ar waith, ac mae'r rhain yn cynnwys: datblygu’r rhaglen hypercolesterolemia etifeddol; cardioleg cymunedol; gwell asesiad o risg cardiofasgwlaidd; gwasanaeth clefyd cynhenid y galon i oedolion yn y de; mynediad uniongyrchol i’r rhai sy’n derbyn gofal sylfaenol at ddiagnosteg; diagnosteg o dan arweiniad nyrsys; a systemau e-atgyfeirio ac e-gyngor. Mae pob un o'r datblygiadau newydd hyn wedi arwain at well canlyniadau i gleifion, ac rwy’n dymuno talu teyrnged i bawb sy'n gysylltiedig â’r gwaith o gynllunio a darparu’r gwasanaethau hyn.
Yn ddiweddar, disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon, fel y bydd yr Aelodau'n ymwybodol, fel gwlad sy’n arwain y byd o ran adsefydlu cardiaidd, oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n derbyn y gwasanaeth yng Nghymru. Cynyddodd niferoedd Cymru o 42 y cant yn 2014-15 i 59 y cant yn 2015-16. Fodd bynnag, nid ydym am laesu dwylo a byddwn yn ceisio gwella mwy eto yn y dyfodol. Mae'r weledigaeth a nodir yn ein cynllun ar gyfer llwybrau gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac arbenigol wedi’u llwyr integreiddio, a chynllunnir y rhain er mwyn bodloni anghenion y claf, gan ddarparu'r cymorth sydd ei angen arno er mwyn ei alluogi i wneud yr hyn y mae’n gallu ei wneud i reoli ei gyflwr ei hun. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru, ac mae’r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi buddsoddi £1 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd a gwasanaethau cardioleg cymunedol.
Mae achosion o glefyd y galon, fe wyddom, yn amrywio'n sylweddol ac yn annerbyniol rhwng ein cymunedau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau lleiaf difreintiedig yma yng Nghymru. Ym Mlaenau Gwent, mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl o dan 75 oed yn 106 fesul 100,000 o bobl, sydd bron ddwywaith y gyfradd ym Mro Morgannwg, sydd ond yn 56 fesul 100,000 o bobl. Yn ddiweddar, roeddwn ym Meddygfa Tynycoed yn Sarn yn lansiad y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd cymunedol yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a gwnaed argraff fawr arnaf gan frwdfrydedd aelodau’r staff sy’n adeiladu ar lwyddiant y rhai yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf ac yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Nhw, mewn gwirionedd, arweiniodd y prosiect hwn ar y cychwyn cyntaf, ac yn ogystal â chael arweinyddiaeth gan feddygon teulu mewn practisau unigol ac ar lefel clwstwr, mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar weithwyr cymorth gofal iechyd am ei llwyddiant, oherwydd eu gallu nhw i ymgysylltu â grwpiau o bobl sy’n anfoddog ond â risg uchel, nad ydynt yn cysylltu’n rheolaidd â meddygon teulu, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant y rhaglen. Mae’r ymgysylltu hwnnw yn fwriadol yn digwydd i ffwrdd oddi wrth leoliadau clinigol neu feddygol. Felly, mae arfogi pobl â gwybodaeth i’w galluogi a’u grymuso i newid eu hiechyd presennol ac yn y dyfodol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a dylai’r rhaglen hon barhau i gael effaith wirioneddol ar anghydraddoldebau o ran iechyd. Mae datblygu gwasanaethau cardioleg cymunedol, er bod hynny’n amrywio ar draws ardaloedd byrddau iechyd, i gyd yn cefnogi ein blaenoriaeth i wella mynediad at ofal sylfaenol a chymunedol, ac rydym yn ystyried gwahanol ffyrdd o drin pobl, lle bo'n briodol, mor lleol â phosibl, er mwyn helpu i leihau rhestrau aros ac i osgoi eu derbyn neu eu haildderbyn i'r ysbyty. Mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer yr eiddil, yr henoed a phobl â chyflyrau hirdymor.
Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi nodi eu blaenoriaethau ar gyfer 2017-18, ac mae'r rhain yn cynnwys datblygu llwybrau triniaeth ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin, treialu amseroedd aros cydrannol ac amseroedd aros ar gyfer diagnosis, datblygu a gweithredu cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, a gwella mwy ar wasanaethau ffisioleg ac adsefydlu cardiaidd, gweithredu’r prosiect gwybodeg cardiaidd carlam Cymru gyfan, a datblygu system adolygu materion cardiaidd gan gymheiriaid ar draws Cymru.
Rydym eisoes wedi gweld gwelliannau mewn amseroedd aros cardiaidd drwy welliannau mewn gwasanaethau megis y gwaith ailddatblygu gwerth £6.6 miliwn yn y ganolfan gardiaidd yn Abertawe, sydd wedi mynd i'r afael â’r cynnydd yn y galw am welyau gofal critigol cardiaidd ar ôl llawdriniaeth ar y galon. Bydd y llwybrau clinigol drafft ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin yn cael eu trafod yng nghyfarfod y gwanwyn Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Cymru ar ddiwedd mis Ebrill i gael consensws clinigol Cymru gyfan. Mae gweithredu’r llwybrau hynny ledled Cymru yn allweddol i gyflawni’r dyheadau a nodir yn y cynllun.
Mae ffigurau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos bod tua 8,000 o bobl yn dioddef trawiadau sydyn ar y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi yn isel, ond mae’n bosib achub llawer mwy o fywydau pe byddai dadebru cardio-anadlol a diffibrilio cynnar yn cael eu cynnal yn amlach. Mae’r ffaith bod gwasanaethau ymyrraeth coronaidd sylfaenol drwy'r croen ar gael 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos yn y gogledd o 3 Ebrill ymlaen yn ddatblygiad arwyddocaol. Nawr bydd gennym ddarpariaeth Cymru gyfan.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn tynnu sylw at y cynnydd yr ydym eisoes wedi'i wneud yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig mewn ysgolion, o bwysigrwydd sgiliau achub bywyd megis dadebru cardio-anadlol a defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd. Mae'r cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, y byddwn yn ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn, yn adeiladu ar y llwyddiant hwn. Bydd yn ymdrin â chanfod trawiad ar y galon yn gynnar, CPR ar unwaith ac o ansawdd uchel, a diffibrilio cynnar yn ogystal â gofal effeithiol ar ôl dadebru.
Gwyddom fod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o'n hadnoddau yma yng Nghymru—yn enwedig sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ein haelodau staff clinigol, rheolwyr gwasanaeth, a sefydliadau trydydd sector. Rydym ni’n dymuno meithrin perthynas mwy cyfartal rhwng y cleifion a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan alluogi pobl i gydgynhyrchu eu triniaeth yn seiliedig ar eu gwerthoedd, eu nodau a’u hamgylchiadau. Datblygwyd y cynllun hwn ar ei newydd wedd trwy bartneriaeth effeithiol. Mae’r cydweithrediad parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y grŵp gweithredu, Rhwydwaith y Galon Cymru, cyrff proffesiynol, a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni’r cam nesaf o weithio gyda'n gilydd, oherwydd y dasg a rennir rhyngom yw sicrhau gwell canlyniadau yn gyflymach a gydag mwy o effaith.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.
I am proud to say that NHS Wales is making big strides forward. Cardiac care and survival rates continue to improve. I hope that Members across the Chamber will join me in acknowledging the hard work and dedication of NHS staff and other stakeholders, which have made these improvements possible and are essential to our continued success in improving more lives and saving more lives.
Rwy’n falch o ddweud bod GIG Cymru yn cymryd camau bras ymlaen. Mae cyfraddau goroesi a gofal cardiaidd yn parhau i wella. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ymuno â mi i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad aelodau staff y GIG a rhanddeiliaid eraill, sydd wedi gwneud y gwelliannau hyn yn bosibl ac sy’n hanfodol ar gyfer ein llwyddiant parhaus wrth wella mwy o fywydau ac achub mwy o fywydau.
Thank you very much for your statement, Cabinet Secretary. Yes, I do join you in thanking our hard-working NHS staff. It is amazing and very satisfying to see the improvements in cardiac care, and I absolutely welcome these improvements and I thank the staff who’ve made all this possible by their very hard work.
I was delighted to read both the statement and the plan. You have laid out in your statement something we all know, which is that cardiovascular disease remains a major cause of ill health and death in Wales. Would you please expand a little bit more on any potential education programmes? The Royal College of Paediatrics and Child Health have suggested a ‘make every contact count’ approach when trying to address the issues of obesity and weight loss. What scope is there to encourage this sort of approach to help address the contributing factors to heart disease? I was very pleased to see that there’s a dedicated children and young people’s section now, but the key actions are about those who already have a chronic disease or condition rather than prevention to stop us from getting into this situation. So, a little bit more detail on that and how the implementation plan might be able to promote that would be more than helpful.
You very rightly point out that the incidence of heart disease, very significantly, is very high in our most deprived communities. When you talk about these huge inequalities, will you further outline what plans you have to educate people outside of these traditional healthcare settings so we can have a clear view of how we might be able to prevent these inequalities, or at least go some way to mitigate them?
The Welsh Ambulance Service NHS Trust figures and your paragraph, if you like, on defibrillation and cardiopulmonary resuscitation—I’m very glad to hear that there are plans to push life-saving skills, but will you also look at what other groups could be targeted to learn these skills, such as the Women’s Institute, scouts, guides, other community organisations? We’ve put a huge emphasis on donor schemes such as giving blood and donating organs. I wonder if similar resources should now be put into promoting life-saving techniques.
With reference to the heart conditions implementation group’s £1 million investment, could you please give us an indication of how this will be spread out or apportioned across the health boards? Finally, I wonder, Minister, how you are going to measure success. I see, in the heart conditions delivery plan, that you have a very small section on outcome indicators and assurance measures. In some ways, they don’t seem to be particularly tangible. Is there a view that you will be working to actually put some much harder KPIs in place so that we can see how well this is being delivered against the outcomes? Because, for example, just saying:
‘For outcomes relating to children, we will consider information available on smoking in pregnancy, perinatal death, low birth weight’,
et cetera—‘consider’ isn’t actually a hard and fast outcome monitor. So, I’d be very interested to know how you intend to do that. Thank you.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ydw, rwy’n ymuno â chi i ddiolch i’n haelodau staff gweithgar yn y GIG. Mae'n anhygoel ac yn foddhaus iawn gweld y gwelliannau mewn gofal cardiaidd, ac rwy’n llwyr groesawu'r gwelliannau hyn ac yn diolch i'r aelodau staff sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl o ganlyniad i’w gwaith caled iawn.
Roeddwn wrth fy modd yn darllen y datganiad a'r cynllun. Rydych wedi nodi yn eich datganiad rywbeth y gwyddom i gyd, sef bod clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru. A wnewch chi ymhelaethu ychydig yn fwy ar unrhyw raglenni addysg posibl? Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi awgrymu dull 'sicrhau bod pob cyswllt yn gwneud gwahaniaeth’ wrth geisio mynd i'r afael â’r materion o golli pwysau a gordewdra. Pa gyfle sydd i annog y math hwn o ddull er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n cyfrannu at glefyd y galon? Roeddwn i’n falch iawn o weld bod adran benodol ar gyfer plant a phobl ifanc erbyn hyn, ond mae’r camau gweithredu allweddol yn ymwneud â’r rhai hynny sydd eisoes â chlefyd neu gyflwr cronig yn hytrach nag atal y clefyd er mwyn osgoi cyrraedd y sefyllfa hon. Felly, byddai ychydig mwy o fanylion am hynny a sut efallai y byddai’r cynllun gweithredu yn gallu hybu hynny, yn fwy na defnyddiol.
Rydych yn llygad eich lle wrth nodi bod nifer yr achosion o glefyd y galon, yn uchel iawn yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Pan eich bod yn sôn am yr anghydraddoldebau enfawr hyn, a wnewch chi amlinellu ymhellach pa gynlluniau sydd gennych i addysgu pobl y tu allan i'r lleoliadau gofal iechyd traddodiadol hyn fel y gallwn weld yn glir sut efallai y byddwn ni’n gallu atal yr anghydraddoldebau hyn, neu o leiaf lliniaru rhywfaint arnynt?
Mae ffigurau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’ch paragraff, os mynnwch, ar ddiffibrilio a dadebru cardio-anadlol—rwy’n falch iawn o glywed bod cynlluniau i roi pwyslais ar sgiliau achub bywyd, ond a wnewch chi hefyd ystyried pa grwpiau eraill y gellid eu targedu i ddysgu'r sgiliau hyn, megis Sefydliad y Merched, y sgowtiaid, y geidiaid, sefydliadau cymunedol eraill? Rydym wedi rhoi pwyslais enfawr ar gynlluniau rhoi megis rhoi gwaed a rhoi organau. Tybed a ddylid defnyddio adnoddau tebyg yn awr er mwyn hyrwyddo technegau achub bywyd.
Gan gyfeirio at fuddsoddiad gwerth £1 miliwn y grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon, a wnewch chi roi syniad i ni o sut y bydd hwn yn cael ei ledaenu neu ei ddosrannu ar draws y byrddau iechyd? Yn olaf, tybed, Weinidog, sut yr ydych chi’n bwriadu mesur llwyddiant. Gwelaf, yn y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon, fod gennych chi adran fach iawn ar ddangosyddion canlyniadau a mesurau sicrwydd. Mewn rhai ffyrdd, nid ydyn nhw’n ymddangos yn bendant iawn. A fyddwch chi’n gweithio i weithredu ambell DPA llawer mwy dwys mewn gwirionedd fel y gallwn weld pa mor dda y mae hyn yn cael ei gyflawni yn erbyn y canlyniadau? Oherwydd, er enghraifft, dim ond dweud:
Ar gyfer canlyniadau sy'n ymwneud â phlant, byddwn yn ystyried gwybodaeth sydd ar gael ar ysmygu yn ystod beichiogrwydd, marwolaeth amenedigol, pwysau geni isel,
ac ati—nid yw ‘ystyried’ yn ddull dwys a chyflym ar gyfer monitro canlyniadau mewn gwirionedd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod sut yr ydych chi’n bwriadu gwneud hynny. Diolch.
Thank you for that series of questions. I know you like asking lots of questions, and I don’t have any issue with that; I just want to try and get through them in the time allotted.
I do welcome your recognition upfront about the role of staff in delivering very real improvements by NHS Wales. I know, every now and again, the tenor of the debate around health is about the challenges that we have, and I acknowledge we do have them, but this is an area of real and significant improvement, with more lives being saved as a direct result of what the NHS is doing.
I’ll deal first with the point about life-saving skills, because actually I’d indicated that, in the—. We’ll have a plan that’s going to be published in April. That plan is being developed with a range of different people about how we roll out further and build on the success, already, of life-saving skills, as well as understanding where those defibrillators are and people that are trained to use them. So, there is more work that’s ongoing and I’ll be launching that plan. I look forward to delivering it through the rest of this term with partners and to assess its impact again on delivering further improvement.
On your challenge about how the £1 million will be used, it’s not going to be allocated on a formula basis across health boards. The £1 million, as with every delivery plan, is actually allocated by the implementation group against their priorities. You should see those in the plan, but I’ve indicated some of them. So, that’s how the money will be used.
I think that part of what they’re going to do will answer some of your other questions about measures, because they’re looking at piloting component points to try and understand, at various different points, as you’re being treated, how long people are waiting along that whole pathway, to identify where there are potential blockages or inequality. I think that’s really useful. That should provide a very interesting overview for clinicians, as well as the public, and in the way in which we then engineer and deliver our services.
That may make some difficult reading at the outset about where we are waiting and things we aren’t happy with. But we have to be able to understand how we deliver that improvement, and that’s being driven by clinicians to understand where those component waits exist, and what they’re then able to do about them to reduce them, in the way that almost all of the elements we’re talking about have come from the conversation between clinicians, the third sector, and patients.
That’s the same in the community cardiology developments that are being rolled out. And, in particular, I think, your broad point about socio-economic inequalities, and the messages we have there about public health challenges, not just in heart disease, but a whole range of conditions that we’re all familiar with: the ability to do something about smoking rates, to continue to see that driven down, to do something about our alcohol use, but also diet and exercise as well, because we do know that obesity is a huge issue. So, if we can’t do something about diet and exercise then we’ll see a floor beneath which we won’t be able to make any further progress on reducing instances of heart disease within the population.
That’s also why the cardiovascular risk assessment programme started in Aneurin Bevan and Cwm Taf, in our most deprived communities—deliberately targeted in that way because we recognised the socio-economic inequalities that exist. That’s also why the rollout is now taking place in ABM and the more deprived areas first. It is because we’re getting to those people who don’t often attend, are in those high-risk groups, and if they’re not seen and treated and encouraged to actually undertake a different way of making choices about their own health then either their underlying medical conditions that already exist, or the additional risk they’re building up, we’re unlikely to see that challenged.
That’s why it’s deliberately being targeted in a way that tries to take away the medicalisation of that, to try and encourage people in their own communities to undertake different forms of activity, and it underscores the important things like social prescribing and the way we can make activity and healthier choices easier, without being judgmental. It’s about how you actually get into having a conversation within someone’s community that they’re comfortable with and they recognise the real benefit for them of making a change. So, there’s much to do, but lots to be optimistic about as well, I think.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gwn eich bod chi’n hoffi gofyn llawer o gwestiynau, ac nid oes gennyf unrhyw broblem â hynny; rwy’n bwriadu ceisio ateb bob un o fewn yr amser penodedig.
Rwyf yn croesawu eich cydnabyddiaeth ar y dechrau o swyddogaeth aelodau staff wrth gyflawni gwelliannau real iawn gan GIG Cymru. Gwn, bob hyn a hyn, fod hanfod y ddadl ynglŷn ag iechyd yn ymwneud â'r heriau sydd gennym, ac rwy’n cydnabod bod gennym ni heriau, ond mae hwn yn faes lle y bu gwelliant gwirioneddol a sylweddol, a mwy o fywydau yn cael eu hachub o ganlyniad uniongyrchol i'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud.
Yn gyntaf, af i’r afael â’r pwynt ynglŷn â sgiliau achub bywyd, oherwydd mewn gwirionedd, roeddwn wedi dangos, yn y—. Bydd gennym gynllun sy'n mynd i gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Mae’r cynllun hwnnw yn cael ei ddatblygu gan amrywiaeth o wahanol bobl o ran sut yr ydym yn cyflwyno mwy o sgiliau achub bywyd ac yn adeiladu ar y llwyddiant presennol, yn ogystal â deall lle y mae’r diffibrilwyr hynny a'r bobl sydd wedi’u hyfforddi i'w defnyddio. Felly, mae mwy o waith sy'n mynd rhagddo a byddaf yn lansio’r cynllun hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at ei weithredu yn ystod gweddill y tymor hwn gyda phartneriaid ac i asesu ei effaith unwaith eto ar gyflawni rhagor o welliant.
Ynglŷn â’ch cwestiwn ynghylch sut y bydd yr £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio, nid yw'n mynd i gael ei ddyrannu ar sail fformiwla ar draws byrddau iechyd. Caiff yr £1 miliwn, yr un fath â phob cynllun cyflawni arall, ei ddyrannu mewn gwirionedd gan y grŵp gweithredu yn erbyn ei flaenoriaethau. Dylech allu gweld y rheiny yn y cynllun, ond rwyf wedi nodi rhai ohonynt. Felly, dyna sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.
Rwy’n credu y bydd rhan o'r hyn y byddant yn ei wneud yn ateb rhai o'ch cwestiynau eraill ynglŷn â mesurau, gan eu bod yn ystyried treialu camau cydrannol i geisio deall, ar wahanol adegau, wrth i chi gael eich trin, pa mor hir y mae pobl yn aros ar hyd y llwybr cyfan hwnnw, er mwyn nodi lle y ceir rhwystrau neu anghydraddoldeb posibl. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Dylai hynny roi trosolwg diddorol iawn i glinigwyr, yn ogystal â'r cyhoedd, ac ar gyfer y ffordd y byddwn ni wedyn yn datblygu ac yn darparu ein gwasanaethau.
Efallai i gychwyn na fydd hi’n hawdd cael gwybod am ble yr ydym ni’n aros a’r pethau nad ydyn ni’n hapus â nhw. Ond mae'n rhaid i ni allu deall sut yr ydym ni’n cyflawni’r gwelliant hwnnw, ac mae hynny’n cael ei sbarduno gan glinigwyr i ddeall lle y mae’r amseroedd aros cydrannol hynny'n bodoli, a’r hyn y gallan nhw ei wneud wedyn i'w lleihau, yn y ffordd y mae bron pob un o’r elfennau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw wedi deillio o’r sgwrs rhwng clinigwyr, y trydydd sector, a chleifion.
Mae’r un peth yn wir o ran y datblygiadau mewn cardioleg cymunedol sy'n cael eu cyflwyno. Ac, yn arbennig, yn fy marn i, ynglŷn â’ch pwynt cyffredinol am anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a'r negeseuon sydd gennym o ran hynny mewn cysylltiad â heriau iechyd y cyhoedd, nid dim ond ynghlwm wrth glefyd y galon, ond amrywiaeth eang o gyflyrau yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd â nhw: y gallu i wneud rhywbeth ynghylch cyfraddau ysmygu, er mwyn parhau i weld y rheiny’n gostwng, i wneud rhywbeth ynghylch ein defnydd o alcohol, ond hefyd deiet ac ymarfer corff, oherwydd gwyddom fod gordewdra yn broblem enfawr. Felly, os na allwn ni wneud rhywbeth ynglŷn â deiet ac ymarfer corff, yna byddwn ni’n cael ein rhwystro rhag gallu gwneud unrhyw gynnydd pellach ar leihau achosion o glefyd y galon o fewn y boblogaeth.
Dyna hefyd pam y cychwynnodd y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd yn Aneurin Bevan a Chwm Taf, yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig—a dargedwyd yn fwriadol felly gan ein bod wedi cydnabod yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sy'n bodoli. Dyna hefyd pam mae’r rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno yn ardal ABM a'r ardaloedd mwy difreintiedig yn gyntaf. Y rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cyrraedd y bobl hynny nad ydyn nhw’n mynd at y gwasanaethau iechyd yn aml, pobl sydd yn y grwpiau risg uchel hynny, ac os nad ydyn nhw’n cael eu gweld a'u trin ac yn cael eu hannog mewn gwirionedd i wneud dewisiadau ynglŷn â’u hiechyd eu hunain mewn ffordd wahanol, yna nid ydym yn debygol o weld eu cyflyrau meddygol sylfaenol sydd eisoes yn bodoli, na’r risg ychwanegol y maen nhw’n ei ddatblygu, yn cael eu herio.
Dyna pam mae hi’n fwriadol yn cael ei thargedu mewn ffordd sy'n ceisio cael gwared ar yr elfen feddygol sydd ynghlwm wrth hynny, i geisio annog pobl yn eu cymunedau eu hunain i ymgymryd â gwahanol fathau o weithgarwch, ac mae'n pwysleisio’r pethau pwysig fel rhagnodi cymdeithasol a'r ffordd y gallwn ni wneud gweithgarwch a dewisiadau iachach yn haws, heb fod yn feirniadol. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut yr ydych chi’n cynnal sgwrs â rhywun yn eu cymuned y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ynddi, a’u bod nhw’n cydnabod y budd gwirioneddol iddyn nhw o wneud newid. Felly, mae llawer i'w wneud, ond mae llawer i fod yn gadarnhaol amdano hefyd, yn fy marn i.
Rydw i’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma a fydd wrth gwrs o ddiddordeb i lawer iawn o bobl yng Nghymru oherwydd bod gymaint yn byw efo cyflyrau ‘cardiac’ neu’n dioddef o glefyd y galon. Wrth gwrs, rydym ni yn croesawu hefyd lle mae yna dir wedi cael ei ennill oherwydd gwaith caled ein staff ni o fewn y gwasanaeth iechyd a hefyd mae’n rhaid cofio oherwydd pethau sydd wedi deillio o fan hyn fel y gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, sy’n cael ‘impact’ go iawn ar iechyd.
Mae gennyf bedwar cwestiwn i’w gofyn. Mae’r datganiad yn sôn am wasanaethau adferiad cardiaidd neu ‘cardiac rehabilitiation’. Mae’r Llywodraeth yn llongyfarch ei hunain bod bron i 60 y cant o gleifion rŵan yn cael cymryd rhan mewn gwasanaeth adferiad. Ond mae’r cynllun cyflawni ei hun yn dweud ar hyn o bryd fod pobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir cyn dechrau triniaeth adferiad. Rŵan, rydym ni’n gwybod am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth yn y lle cyntaf. Rydym ni’n gwybod fawr ddim am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth adferiad, sydd mor bwysig. Felly, pa bryd fydd y data yna yn cael ei wneud yn fwy cyhoeddus, ac a fydd y Llywodraeth wedyn yn sefydlu pa mor hir y dylai cleifion aros cyn dechrau triniaeth adferiad, o gofio, wrth gwrs, bod y cynllun ei hun yn dweud bod yr amser aros yn rhy hir ar hyn o bryd?
Yn ail, mae’r datganiad hefyd yn cydnabod bod angen mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran canlyniadau, a bod angen cynyddu’r lefel o ymgysylltu sydd yna rhwng pobl a thimau gofal sylfaenol, rhywbeth nad yw pobl mewn grwpiau risg uchel yn aml iawn yn ei wneud. Felly, o ystyried bod y Llywodraeth am roi pwysau ychwanegol yn hynny o beth ar y sector gofal sylfaenol, pa fwriad sydd yna i roi adnoddau ychwanegol i gyd-fynd â hynny, gan gynnwys meddygon ychwanegol ac ati, er mwyn i’r sector gofal sylfaenol allu cyflawni’r amcanion y mae’r Llywodraeth yn eu gosod ar eu cyfer nhw?
Mae’r nesaf yn un i’r Ysgrifennydd Cabinet ei drafod efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o bosib. Rydw i’n croesawu’r adran yn y cynllun cyflawni ar blant â chyflyrau ar y galon. Yn y cynllun hwnnw, mae yn nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet—y Llywodraeth—am i blant sydd efo cyflyrau ar y galon allu mwynhau mynediad llawn at addysg, gan gynnwys teithiau ysgol. A ydy’r Ysgrifennydd, felly, yn credu, o ran cyflawni’r amcanion strategol yna, bod angen adolygu’r cyfreithiau ar dripiau ysgol i sicrhau diogelwch plant? Rydym ni’n ymwybodol o nifer o achosion lle mae plant sydd efo cyflyrau cronig wedi bod yn agored i risg ac, ar y lleiaf o bosib, rydw i’n credu bod angen cynyddu’r ddarpariaeth cymorth cyntaf i’w wneud yn rhan ehangach o’r cwricwlwm.
Ac, yn olaf, rydym ni hefyd yn gwybod yn y blynyddoedd blaenorol bod amseroedd hir am driniaeth wedi bod yn broblem: cleifion yn aros mwy nag sy’n dderbyniol yn glinigol. Dyna pam bod rhai triniaethau wedi cael eu rhoi ar gontract i’r sector preifat ac wedi cael eu hallanoli. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet, yn olaf, felly, yn gallu rhoi sicrwydd bod y capasiti bellach yno o fewn y system er mwyn gallu osgoi troi at y math yna o weithredu yn rhy gyson?
I thank the Cabinet Secretary for this statement, which, of course, will be of interest to very many people in Wales because so many people do live with cardiac conditions or suffer from heart disease. Of course, we also welcome those areas where ground has been gained because of the hard work of our staff within the health service, and we must also bear in mind because of things that have emerged from this place, such as the ban on smoking in public places, which is having a very real impact on public health.
I have four questions to ask. The statement mentions cardiac rehabilitation services. The Government congratulates itself that almost 60 per cent of patients do now participate in rehabilitation programmes, but the delivery programme itself says that people in Wales wait too long before starting that treatment. We know of the waiting times for initial treatment, but we know very little about the waiting times for this recovery or rehabilitation treatment, which is so important. So, when will those data be made more public, and will the Government then establish how long patients should wait before they start that treatment, bearing in mind that the plan itself says that the waiting time is currently too long?
Secondly, the statement also recognises that we need to tackle inequalities in terms of outcomes, and that we need to increase the level of engagement between people and primary care teams, something that people in high-risk groups very often don’t do. So, bearing in mind that the Government is going to put additional pressures on the primary care sector, what intention is there to provide additional resources to correspond to that, including additional doctors and so on, in order for the primary care sector to deliver the objectives that the Government is putting in place for them?
The next one is for the Cabinet Secretary to discuss with the education Secretary, perhaps. I welcome the section in the delivery plan on children with cardiac conditions. In that plan, it notes that the Cabinet Secretary—the Government—wants children who have heart conditions to enjoy full access to education, including school trips. Now, does the Cabinet Secretary believe, therefore, in terms of delivering those strategic objectives, that we need a review of the laws surrounding school trips in order to secure children’s safety? We are aware of a number of cases where children who do have chronic conditions have been at risk, and, at the very least, I think we need to enhance the first-aid provision so that that is a wider part of the curriculum.
And, finally, we also know that in previous years that long waiting times for treatment have been a problem, with patients waiting longer than is clinically acceptable. That’s why certain treatments have been put out to contract to the private sector and have been outsourced. Can the Cabinet Secretary, finally, therefore, give us an assurance that the capacity is now in place within the system to avoid turning to that kind of provision too often?
Thank you for those comments. I think, on your last point, we broadly have the right capacity within our system now. You’ll see that waiting times have improved significantly in our two centres in south Wales and that in itself was a challenge. Members here will be aware that at various points a significant number of people were sent into the English system because we didn’t have the capacity here. So, credit should be given to our centres in Swansea and Cardiff for the significant work that they’ve done, not just in making significant inroads into waiting times for surgery, but also in that their outcomes are very, very good and better than the UK average. So, again, we should not be shy about praising our NHS when it actually does deliver very good outcomes and really high quality care. That does not mean, of course, there is not more that we would wish to do, and there are some people who wait a bit longer than we’d like, but they’re much, much smaller numbers. So, I’m confident about our ability to deal with the capacity there. But it also underscores your points about the progress we will and won’t make on community cardiology, because what was really encouraging—I don’t know if the gentleman behind you has been part of this in his practice before returning to this place—was looking at the way in which in the Swansea area community cardiology has already got rolled out. And it was GPs with specialist interest, or specialist skills, depending on who you talk to as to how they like to be described, who actually took this on. And there was a challenge about the conversation between those primary care clinicians and their colleagues in secondary care about whether they could actually do some of this job. And not every secondary care clinician was enthusiastic about it, but they are now, because they recognise that there are skills in primary care that can be used, and not just people who are GPs, but actually around some of the more preventative work. It’s actually reduced waiting times in that area as well, so people are getting a better, more local service in primary care, and people who need to go into secondary or tertiary care are getting faster access as a result. And it’s actually helping with our rehab programmes too.
My understanding is that we have the capacity to be able to do that within primary care, but as I’ve said previously when people make different bids for additional resource in different parts of the system, overall our budget is finite, and so, if we ask for more money in one part of our healthcare system, we need to take it out of somewhere else, and that’s actually rather difficult to do. But, if we’re going to move services into primary care, then the resource has to be there and available in either financial terms, or in terms of people, to be able to deliver in the way in which we expect the service to be delivered differently.
So, some of this is about making better use of all our healthcare professionals, and it goes back to the conversations we regularly have about making the best use of a GP’s time, because some of what they currently do could be taken away and dealt with by other professionals. So things like this, where GPs with a special interest could do more, and deliver high-quality care more locally, is actually part of what we need to see driven more consistently. And I’m really pleased to see that every health board has taken on board the successful learning from the Swansea area of Abertawe Bro Morgannwg, which has made a really big, important and positive difference for patients.
I recognise the points that you make about how we appropriately manage children with chronic conditions—that aren’t about their ability to learn, necessarily—but the chronic health needs they may have and how they’re managed with an appropriate level of risk management in that. But, what I don’t want to see is that we take a risk-averse approach that means that children are denied opportunities because of their health condition. But it’s about how that level of risk is properly and appropriately managed, and there will need to be an ongoing conversation between local government, as well as Ministers and officials in the Government, about how that’s properly done. I recognise the recent tragic examples that are given about where things appear to go wrong, but I’m keen that we actually take a sensible view that doesn’t reduce the opportunities available to a range of children.
And on your point about cardiac rehab progress, I’m really happy with the more successful engagement that we’ve had with patients. But some of this is still about how many people are prepared to engage in a rehabilitation programme. You may think it odd that after someone’s had surgery or intervention for heart care that they’re not willing at that point to go and engage in improving their care. But not everyone is, and so, some of the challenge is how we persuade those people of the value of it, as well as offering that opportunity earlier. I’m genuinely proud of the significant progress Wales made in the last year of recorded figures, because it shows that we’re ahead of every other nation in the UK in cardiac rehab. And, again, we should all be really proud. It’s not just about the Government congratulating itself; it’s about congratulating our whole service about what it’s doing—the fact that we re-engaging citizens in making different choices for their own care, because they have to engage in the programme for it to be successful.
But I want to be really clear: this doesn’t lessen our ambition for improvement. I think that’s really important as well. We’ll see a new set of figures that will come out and we’ll look again at what we’ve done in terms of the time that people wait to go and have the rehab programme started, as well as the number of people that take part in that rehab programme as well. I’m committed to being open about what we’re able to do and the improvements that we do make, and I’m confident that we’ll make further improvement again—but also the improvement that we still recognise we could and should make with our population as well.
Diolch am y sylwadau yna. Rwy’n credu, ynglŷn â’ch pwynt olaf, fod gennym ni’r capasiti priodol o fewn ein system erbyn hyn. Byddwch yn gweld bod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol yn ein dwy ganolfan yn y de ac roedd hynny ynddo'i hun yn her. Bydd yr Aelodau yma yn ymwybodol yr anfonwyd nifer sylweddol o bobl, ar wahanol adegau, i ddefnyddio gwasanaethau yn Lloegr am nad oedd gennym y capasiti yma. Felly, dylid canmol canolfannau yn Abertawe a Chaerdydd am y gwaith sylweddol y maen nhw wedi’i wneud, nid dim ond o ran cyfrannu'n sylweddol at leihau amserau aros ar gyfer llawdriniaeth, ond hefyd y ffaith bod eu canlyniadau’n dda iawn, iawn ac yn well na chyfartaledd y DU. Felly, unwaith eto, ni ddylem fod yn swil wrth ganmol ein GIG pan i fod mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau da iawn a gofal o ansawdd uchel iawn. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes mwy y byddem ni’n dymuno ei wneud, ac mae rhai pobl sy'n aros ychydig yn hirach nag y byddem ni’n ei hoffi, ond mae’r rheiny’n niferoedd llawer, llawer llai. Felly, rwy'n hyderus ynghylch ein gallu i ymdrin â'r capasiti o ran hynny. Ond mae hefyd yn pwysleisio eich pwyntiau ynglŷn â’r cynnydd y byddwn yn ei wneud o ran cardioleg cymunedol a’r cynnydd na fyddwn yn ei wneud, oherwydd yr hyn a oedd yn galonogol iawn—wn i ddim os yw’r gŵr bonheddig y tu ôl i chi wedi bod yn rhan o hyn yn ei bractis cyn dychwelyd i'r lle hwn—oedd edrych ar y ffordd y mae gwasanaethau cardioleg cymunedol ardal Abertawe eisoes wedi’u cyflwyno. A meddygon teulu â chanddyn nhw ddiddordeb arbenigol, neu sgiliau arbenigol, yn dibynnu ar bwy yr ydych chi’n siarad â nhw a sut y maen nhw’n disgrifio hynny, sy’n gweithredu hyn mewn gwirionedd. Ac yr oedd yn her o ran y sgwrs rhwng y clinigwyr gofal sylfaenol hynny a'u cydweithwyr ym maes gofal eilaidd ynghylch a fydden nhw’n gallu cyflawni rhywfaint o’r swydd hon mewn gwirionedd. Ac nid oedd pob clinigydd gofal eilaidd yn frwdfrydig drosto, ond maen nhw’n frwdfrydig erbyn hyn, oherwydd eu bod yn cydnabod y ceir sgiliau mewn gofal sylfaenol y gellir eu defnyddio, ac nid dim ond pobl sy'n feddygon teulu, ond mewn gwirionedd yn ymwneud â rhywfaint o'r gwaith mwy ataliol. Mae wedi gostwng amseroedd aros yn y maes hwnnw hefyd mewn gwirionedd, felly mae pobl yn cael gwasanaeth gwell, mwy lleol ym maes gofal sylfaenol, ac mae pobl sydd angen gofal eilaidd neu drydyddol yn cael mynediad cyflymach o ganlyniad i hynny. Ac mae'n helpu ein rhaglenni adsefydlu hefyd mewn gwirionedd.
Fy nealltwriaeth i yw bod gennym ni’r capasiti i allu gwneud hynny o fewn gofal sylfaenol, ond fel yr wyf wedi dweud o'r blaen pan fo pobl yn gwneud ceisiadau gwahanol am adnoddau ychwanegol mewn gwahanol rannau o'r system, ar y cyfan mae ein cyllideb yn gyfyngedig, ac felly, os byddwn yn gofyn am ragor o arian ar gyfer un rhan o'n system gofal iechyd, mae angen i ni dynnu’r arian hwnnw o rywle arall, ac mae hynny’n eithaf anodd ei wneud mewn gwirionedd. Ond, os ydym ni am drosglwyddo gwasanaethau i fod yn rhan o ofal sylfaenol, yna mae’n rhaid i’r adnodd fod yno ac ar gael naill ai yn ariannol, neu o ran pobl, er mwyn gallu cyflawni hynny yn y ffordd yr ydym yn disgwyl i'r gwasanaeth gael ei ddarparu'n wahanol.
Felly, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â defnyddio ein holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn well, ac mae'n cyfeirio’n ôl at y sgyrsiau rheolaidd yr ydym ni’n eu cael ynglŷn â gwneud y defnydd gorau o amser meddygon teulu, oherwydd gall gweithwyr proffesiynol eraill ymdrin â rhywfaint o'r hyn y mae meddygon teulu yn ei wneud ar hyn o bryd. Felly, mae pethau fel hyn, lle y gallai meddygon teulu sydd â diddordeb arbennig wneud mwy, a darparu gofal o ansawdd uchel yn fwy lleol, yn rhan o'r hyn y mae angen i ni ei weld yn cael ei ysgogi yn fwy cyson mewn gwirionedd. Ac rwy’n falch iawn o weld bod pob bwrdd iechyd wedi cymryd sylw o’r dysgu llwyddiannus yn ardal Abertawe, yn rhan o fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn, sy’n bwysig ac yn gadarnhaol ar gyfer cleifion.
Rwyf yn cydnabod y pwyntiau a wnewch am y ffordd yr ydym ni’n rheoli plant â chyflyrau cronig—nad ydynt yn ymwneud â’u gallu i ddysgu, o reidrwydd—ond yr anghenion iechyd cronig a allai fod ganddynt a sut y maen nhw’n cael eu rheoli gyda lefel briodol o reoli risg. Ond, yr hyn nad wyf eisiau ei weld yw ein bod yn defnyddio ymagwedd gwrth-risg sy'n golygu nad yw plant yn cael cyfleoedd oherwydd eu cyflwr iechyd. Ond mae’n ymwneud â sut y caiff y lefel honno o risg ei rheoli'n gywir ac yn briodol, a bydd angen sgwrs barhaus rhwng llywodraeth leol, yn ogystal â Gweinidogion a swyddogion yn y Llywodraeth, ynglŷn â sut y mae hynny'n cael ei wneud yn iawn. Rwy’n cydnabod yr enghreifftiau trasig diweddar a roddir lle mae'n ymddangos fod pethau wedi mynd o chwith, ond rwy'n awyddus ein bod mewn gwirionedd yn cymryd safbwynt synhwyrol nad yw'n lleihau’r cyfleoedd sydd ar gael i amrywiaeth o blant.
Ac ar eich pwynt am gynnydd o ran gwasanaethau adsefydlu'r galon, rwy'n hapus iawn â'r ymgysylltu mwy llwyddiannus yr ydym wedi ei gael gyda chleifion. Ond mae peth o hyn yn dal i fod ynghylch faint o bobl sy'n barod i gymryd rhan mewn rhaglen adsefydlu. Efallai eich bod yn meddwl ei bod yn rhyfedd, ar ôl i rywun gael llawdriniaeth neu ymyrraeth ar gyfer gofal y galon, nad ydynt yn fodlon ar y pwynt hwnnw i fynd a cheisio gwella eu gofal. Ond nid yw pawb yn fodlon gwneud hynny, ac felly, rhan o her hyn yw sut yr ydym yn argyhoeddi’r bobl hynny o’i werth, yn ogystal â chynnig y cyfle hwnnw yn gynharach. Rwy'n wirioneddol falch o'r cynnydd sylweddol a wnaed gan Gymru ym mlwyddyn ddiwethaf y ffigurau a gofnodwyd, gan ei bod yn dangos ein bod ar y blaen i bob cenedl arall yn y DU ym maes adsefydlu'r galon. Ac, unwaith eto, dylem i gyd fod yn falch iawn. Nid dim ond y Llywodraeth yn llongyfarch ei hun yw hyn; mae'n ymwneud â llongyfarch ein gwasanaeth cyfan am yr hyn y mae'n ei wneud—y ffaith ein bod yn ail-ymgysylltu dinasyddion i wneud dewisiadau gwahanol ar gyfer eu gofal eu hunain, oherwydd mae’n rhaid iddyn nhw ymgysylltu â’r rhaglen er mwyn iddi fod yn llwyddiannus.
Ond rwyf yn awyddus i fod yn glir iawn: nid yw hyn yn lleihau ein huchelgais i wella. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd. Byddwn ni’n gweld cyfres newydd o ffigurau a fydd yn cael eu cyhoeddi ac fe wnawn ni edrych eto ar yr hyn yr ydym wedi ei wneud o ran yr amser y mae pobl yn aros i fynd a chael y rhaglen adsefydlu wedi’i chychwyn, yn ogystal â nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen adsefydlu hefyd. Rwyf i wedi ymrwymo i fod yn agored am yr hyn yr ydym yn gallu ei wneud a'r gwelliannau yr ydym yn eu gwneud, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gwneud rhagor o welliannau eto—ond hefyd y gwelliant yr ydym yn dal i gydnabod y gallem ac y dylem ei wneud gyda'n poblogaeth hefyd.
We are what we eat and, sadly, far too many people are only eating food that’s absolutely drenched in fat, sugar and salt. And that, combined with poor exercise, is obviously a recipe for heart disease. You rightly point out in your statement that a lot of the target groups are those who are reluctant to go to the GP. I was pondering on that, and I want to applaud the work of people like Food Cardiff, who are reaching out to people to try and get them to change their diets, particularly through schools. But men, I think, are particularly at risk of heart disease and are less likely to be attending school and to hear what is on offer there. I was a little bit disappointed not to see this reaching out to those who don’t go to the GP very often, or not until it’s absolutely acute, and that that is not in the list of priorities that you outlined at the end of your statement. So, I wonder if you could say a little bit more about how we’re going to reach these people who are being killed early and are being sent to an early grave. They are being sent to an early grave by the food processors, which is, of course, why I want to see a tax on sugar, salt and fat, to enable us to care for these people when they inevitably end up in the acute sector.
Y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta ydym ni ac, yn drist, mae llawer gormod o bobl nad ydynt ond yn bwyta bwyd sydd wedi’i drochi’n gyfan gwbl mewn braster, siwgr a halen. Ac mae hynny, ynghyd â pheidio â gwneud llawer o ymarfer corff, yn amlwg yn rysáit ar gyfer clefyd y galon. Rydych chi’n dweud yn hollol gywir yn eich datganiad bod llawer o'r grwpiau targed yn rhai sy'n amharod i fynd at y meddyg teulu. Roeddwn i’n myfyrio ar hynny, ac rwy’n dymuno canmol gwaith pobl fel Bwyd Caerdydd, sydd yn estyn allan at bobl i geisio eu cael i newid eu deiet, yn arbennig drwy ysgolion. Ond mae dynion, rwy’n meddwl, mewn perygl penodol o gael clefyd y galon ac maen nhw’n llai tebygol o fod yn mynd i’r ysgol a chlywed am beth sydd ar gael yno. Roeddwn i braidd yn siomedig o weld nad yw hyn yn estyn allan at y rhai hynny nad ydynt yn mynd at y meddyg teulu yn aml iawn, neu nid tan ei bod yn rheidrwydd meddygol, ac nad yw hynny ar y rhestr o flaenoriaethau a amlinellwyd gennych ar ddiwedd eich datganiad. Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydym ni’n mynd i gyrraedd y bobl hyn sy'n cael eu lladd yn gynnar ac yn cael eu hanfon i fedd cynnar. Maent yn cael eu hanfon i fedd cynnar gan y proseswyr bwyd, sef, wrth gwrs, pam yr wyf i eisiau gweld treth ar siwgr, halen a braster, i’n galluogi ni i ofalu am y bobl hyn pan fyddant yn anochel yn cyrraedd y sector aciwt .