Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/01/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. A gaf i gychwyn drwy ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Ac fe symudwn ni ymlaen i’r eitem gyntaf, sef cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, David Rees.

Cefnogi Twf Economaidd

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynigion ar gyfer cefnogi twf economaidd yn ystod 2017 yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0350(FM)

Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer Gorllewin De Cymru yn cynnwys cefnogi busnesau i dyfu, buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel a gwella amodau ar gyfer busnesau.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae cynhyrchu dur yn elfen hollbwysig o'r economi yng Ngorllewin De Cymru a dyma galon yr economi yn Aberafan. Mae'r heriau a wynebwyd gan y diwydiant y llynedd wedi lleddfu, ond nid ydynt wedi diflannu. Nawr, rwy’n canmol Llywodraeth Cymru ar anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi'r diwydiant, gyda chyhoeddiad cymorth ariannol o hyd at £12 miliwn ym mis Rhagfyr. Rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud dim a’i bod yn ymddangos mewn gwirionedd ei bod yn troi ei chefn ar y sector diwydiannol. Brif Weinidog, cyn y Nadolig, cafodd Lee Waters, John Griffiths a minnau gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Tata Steel UK, ac fe’i gwnaeth yn gwbl eglur bod y fenter ar y cyd gyda Thyssenkrupp yn dal ar yr agenda hyd yn oed os bydd yr undebau llafur yn derbyn y cytundeb ddiwedd y mis hwn. Gyda’r farn hysbys honno ar y broses o gyfuno’r diwydiant, a'r problemau o ran y diffygion pensiwn hefyd, pa drafodaethau fyddwch chi’n eu cael a pha ymgysylltu fyddwch chi’n ei wneud gyda Thyssenkrupp a Tata i sicrhau bod gan weithwyr dur yng Nghymru ddyfodol mwy diogel?

Gallaf ddweud y bydd unrhyw gymorth a ddarparwn yn amodol ar ddiogelu gweithgarwch economaidd yng Nghymru. Bydd ein cymorth yn amodol—ein cymorth ariannol, hynny yw—ar Tata yn cytuno i amodau sy’n rhwymo mewn cyfraith, ac ni fydd Tata yn cael unrhyw gyllid oni bai bod yr amodau hynny’n cael eu cytuno. Ac mae'n bwysig bod gweithwyr yn deall bod yr arian a fydd ar gael i Tata yn amodol. Rydym ni eisiau sicrhau bod yr arian hwnnw’n sicrhau ein bod yn cadw’r swyddi hynny yng Nghymru ac, yn bwysig, ein bod ni’n parhau i fod â dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.

Llwyddodd Aelodau o'r Cynulliad i gael cyfarfod ffurfiol o’r diwedd gyda phrif weithredwyr ac arweinwyr y cyngor i drafod dinas-ranbarth Bae Abertawe cyn y toriad, ac mae'n amlwg eu bod yn ystyried buddsoddi mewn trafnidiaeth—soniasoch am seilwaith yn eich ateb i David Rees—fel sbardun allweddol i ragolygon economaidd y rhanbarth. A ydych chi'n meddwl bod ail ddinas Cymru, sydd wrth wraidd yr ehangu rhanbarthol hwn, yn ddigon mawr ac yn ddigon uchelgeisiol i edrych y tu hwnt i fysiau, sef yr hyn a awgrymwyd yn ddiweddar gan Stuart Cole?

Na, rwy’n meddwl y gall atebion trafnidiaeth edrych ar unrhyw nifer o wahanol fathau o drafnidiaeth. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y cytundeb dinas yn cael ei gymeradwyo ac yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU, ac rydym ni’n gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol.

Brif Weinidog, yn y gorffennol, rydych chi wedi cydnabod pwysigrwydd pensiynau yn yr economi pan rwyf wedi codi materion gyda chi ynghylch Visteon UK a'r ymgyrch yr oedd llawer ohonom ni’n rhan ohoni ar y pryd, o ran economi Gorllewin De Cymru, a, phe byddai’r pensiynau hynny’n cael eu bygwth mewn rhyw ffordd, sut y byddai hynny'n effeithio ar yr economi. Felly, rwy’n meddwl tybed a allem ni gael trafodaeth felly ar sefyllfa pensiynau Tata, oherwydd nid ydym eisiau cael ein beirniadu am gadw allan o'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod gwleidyddion yn rhan o'r drafodaeth hon fel y gallwn arwain ar yr agenda hon. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, felly, i ni gael trafodaeth ar hyn, fel y gallwn ddeall pa gynlluniau wrth gefn fydd eich Llywodraeth yn eu rhoi ar waith o ran nifer y canlyniadau sy'n bosibl. Er enghraifft, os derbynnir y cytundeb, neu os caiff ei wrthod, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod â safbwynt ar hynny, oni fydd?

Rwy'n credu ei bod yn anffodus bod Visteon yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft, gan fod Visteon wedi cau. Rwy'n credu ei bod hefyd yn anffodus i awgrymu bod undebau llafur yn gwneud cam â’u haelodau. Maen nhw’n ceisio cynrychioli budd pennaf eu haelodau, ac maen nhw wedi mynegi barn ar y sylwadau a wnaed. Mater iddyn nhw yw hynny. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hynod bwysig yw bod dealltwriaeth, ar hyn o bryd, nad oes unrhyw beth arall ar y bwrdd. Pe byddai dewisiadau eraill dilys, yna mae hynny'n rhywbeth y gellid ei ystyried ymhellach, ond nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ac, felly, mae’n rhaid i ni ystyried y ffaith honno—nad yw Llywodraeth y DU yn barod i genedlaetholi'r diwydiant. Nid ydyn nhw erioed wedi awgrymu hynny, er fy mod i wedi eu hannog i wneud hynny yn y gorffennol pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog. Felly, yr unig becyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yw'r pecyn y mae Tata wedi ei roi yno, ond mater i’r gweithwyr a'r undebau llafur yw dod i'w casgliadau eu hunain o ran y dyfodol, yn enwedig dyfodol Port Talbot.

Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r economi yn fy rhanbarth i o hyd yn ystod 2017 yw seilwaith gwael. Mae economi ffyniannus yn dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth da. Gyda gwaith trydaneiddio yn cael ei wneud ar y rhwydwaith rheilffyrdd, mae busnesau yng Ngorllewin De Cymru ar drugaredd y llif traffig ar yr M4. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i leihau tagfeydd ar yr M4 dros y misoedd nesaf?

Wel, y peth cyntaf yr ydym ni eisiau ei weld yw Llywodraeth y DU yn cadw ei gair ar ei hymrwymiad i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd Canolog a’r gorllewin. Nawr, nid ydyn nhw wedi rhoi dyddiad ar hynny. Y cynllun gwreiddiol, wrth gwrs, oedd trydaneiddio i Gaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe, a wnaeth i mi feddwl beth yr oeddwn i wedi ei wneud i’w siomi nhw yn y fath fodd fel y dylid cael bwlch rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Ond, ar hyn o bryd, nid oes dyddiad ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd honno. Mae angen i ni gael y dyddiad hwnnw fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o foderneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, yr ydym yn gwybod y bydd yn mynd â mwy o geir oddi ar y ffordd.

Plant a Phobl Ifanc yn Nhorfaen

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn Nhorfaen? OAQ(5)0355(FM)

Wel, rwyf i wedi cyflwyno fy mlaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn y rhaglen lywodraethu newydd, 'Symud Cymru Ymlaen', a lansiwyd fis Medi diwethaf. Rwyf i eisiau i bob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd ac rwyf i wedi cydnabod pwysigrwydd pwyslais ar y blynyddoedd cynnar.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o fy mhryder bod penderfyniad wedi’i wneud i roi terfyn ar Her Ysgolion Cymru yn y gyllideb ddrafft, ac y gwnaed y penderfyniad hwn cyn i Lywodraeth Cymru dderbyn y gwerthusiad o'r cynllun. Ac mae'n amlwg bod llawer o ardaloedd wedi gweld manteision sylweddol iawn drwy'r rhaglen, ond mae hefyd yn amlwg bod rhagor o waith i'w wneud mewn ardaloedd fel fy un i, lle mae gennym ni nifer o ysgolion her. A gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i roi cyllid ychwanegol parhaus ar gael i ysgolion a oedd yn elwa o dan y rhaglen, ond nad ydynt wedi gwneud rhagor o gynnydd eto? A sut y byddwn ni’n sicrhau y gellir cyflwyno’r arferion da a welwyd mewn rhannau eraill o Gymru ym mhobman?

Wel, mae'n sicr yn wir fod y rhan fwyaf o ysgolion wedi elwa o dan Her Ysgolion Cymru. Nid oes angen y cymorth hwnnw arnynt mwyach; maen nhw’n gallu sefyll ar eu traed eu hunain erbyn hyn. Ceir rhai ysgolion nad ydynt yn y sefyllfa honno. Gallaf roi’r sicrwydd i’m cyfaill a’m cydweithiwr ein bod ni’n ystyried sut y gallwn ni helpu’r ysgolion hynny nad ydynt wedi gwneud cystal, i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl, ac i wneud yn siŵr bod yr arfer da sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion Her Ysgolion Cymru eraill yn trosglwyddo i’r ysgolion hynny nad ydynt wedi gwneud cystal ag y byddem yn dymuno, er mwyn iddyn nhw allu llwyddo yn y dyfodol.

Blwyddyn newydd dda i'r Gweinidog ac i bawb yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu amodau i roi'r cyfle gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd diddymu’r cynllun sy'n cynnig traean oddi ar docyn teithiau bws i bobl 16 i 18 mlwydd oed yn helpu pobl ifanc yn Nhorfaen, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, i gael mynediad at swyddi neu hyfforddiant, lle maen nhw’n mynd i fynd, ac sy’n sicr o fod yn gost helaeth iddyn nhw?

Wel, mae’r cynllun presennol yn dod i ben yn naturiol. Mae'n iawn i ddweud nad yw’r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun wedi bod mor sylweddol ag y bwriadwyd yn wreiddiol. Ond, serch hynny, mae'r Gweinidog wedi bod mewn trafodaethau â'r cwmnïau bysiau a choetsys er mwyn iddyn nhw gynnig cynllun arall priodol—erbyn mis Ebrill eleni, rwy’n credu. Felly, nid yw'n wir fod y cynllun yn dod i ben ac na fydd unrhyw beth yn dod yn ei le; rydym ni’n chwilio am ffyrdd o gael cynllun arall a'i wneud yn fwy effeithiol o ran faint sy’n ei ddefnyddio.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, nid oes unrhyw arwydd bod problemau cyfarwydd yr amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac o ran ambiwlansys, yn gwella. Ond, mae cwestiwn brys ar hynny, felly hoffwn eich holi chi am argyfwng o ran amseroedd aros nad yw'n aml yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Gofynnais i chi ddechrau'r tymor diwethaf am amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dywedasoch bryd hynny,

‘Mae'r adnoddau wedi eu sefydlu ac rwyf yn llwyr ddisgwyl i'r amseroedd aros a’r niferoedd leihau wrth i’r adnoddau hynny weithio drwy'r system.'

Brif Weinidog, sut mae hynny’n mynd? A yw'r amseroedd aros wedi lleihau?

Wel, os edrychwn ni ar amseroedd aros o ran derbyniadau iechyd meddwl, rydym ni’n gwybod y bu 9,570 o dderbyniadau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016, oddeutu 1,400 o gleifion preswyl mewn ysbytai ac unedau ledled Cymru. Felly, rydym ni’n gwybod bod nifer y derbyniadau wedi aros yn gyson, ac, wrth gwrs, rydym ni’n disgwyl nawr gweld yr arian ychwanegol—yr £8 miliwn ychwanegol—sy'n cael ei roi i mewn i wasanaethau iechyd meddwl plant, yn arbennig, yn helpu i leihau rhestrau aros, ac rydym ni’n gweld hynny ledled Cymru—amseroedd aros, mae’n ddrwg gen i.

Brif Weinidog, yr ateb i'r cwestiwn a ofynnais i chi yw nad yw amseroedd aros ar gyfer CAMHS wedi gwella. Gwaethygodd nifer y bobl sy'n aros dros 16 wythnos ychydig yn ystod y flwyddyn, ac, yn ogystal ag aros yr un fath dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r amseroedd aros yn parhau i fod yn sylweddol waeth nag yr oeddent dair blynedd yn ôl. Nawr, un esboniad yr ydych chi wedi ei roi am hyn yw bod gormod o blant yn cael eu hatgyfeirio. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2015, dywedasoch fod,

tystiolaeth yn awgrymu nad oes gan tua un o bob tri unigolyn ifanc a atgyfeirir at CAMHS arbenigol unrhyw salwch meddwl.

A dywedasoch,

Mae gan un o bob tri arall anawsterau lefel isel na fyddai'n cyrraedd y trothwy ar gyfer triniaeth gan wasanaeth arbenigol.

Ac ailadroddwyd y safbwyntiau hynny gan eich Gweinidog iechyd blaenorol. A ydych chi’n sefyll wrth y farn honno, Brif Weinidog?

Wel, a dweud y gwir, does dim tystiolaeth—dim tystiolaeth o gwbl—bod plant yn cael eu hychwanegu at restrau aros heb reswm. Nawr, amlygodd adroddiad 2014 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod yn rhaid i lawer o blant aros tan fod eu cyflwr yn gwaethygu i gael gafael ar gymorth. Mae'r elusen YoungMinds wedi dweud bod llawer o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod wedi cael eu gwrthod rhag cael gafael ar wasanaethau yn aml gan fod y trothwy ar gyfer triniaeth yn rhy uchel iddyn nhw. Brif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn cynyddu nad oes digon o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl. Gofynnaf yr un cwestiwn i chi a ofynnais i chi ym mis Medi y llynedd: pryd all pobl ddisgwyl gweld gwelliannau i’r rhestrau aros, yr ydych chi wedi eu haddo i’r Cynulliad hwn dro ar ôl tro?

Yn gyntaf oll, gwasanaeth acíwt yw CAMHS; ni fyddwn yn disgwyl i bobl gael eu hatgyfeirio at CAMHS yn awtomatig. Rwy'n disgwyl i bobl ifanc weld eu meddygon teulu ac i’r meddyg teulu atgyfeirio os yw hynny'n angenrheidiol. Yn ail, mae gan bob ysgol uwchradd gwnselydd, ac mae’r gwasanaeth cwnsela hwnnw ar gael i'r rhai sydd ei angen. Ni fyddwn yn disgwyl i bawb, yn yr un modd na fyddwn yn disgwyl i bawb sy'n mynd at feddyg teulu gael eu hatgyfeirio'n awtomatig at wasanaeth gofal eilaidd, i wneud hynny.

O ran CAMHS, rydym ni wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn CAMHS; nid oes dadl am hynny. Mae'r arian wedi mynd i mewn ac rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd sylweddol pellach yn ystod y flwyddyn hon. Byddaf, er hynny, yn ysgrifennu at arweinydd yr wrthblaid ynghylch y sail dystiolaeth sydd gennym ni o natur atgyfeiriadau i CAMHS, a byddaf yn darparu'r wybodaeth honno iddi.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, dros gyfnod y Nadolig ac yn ddiweddar dros y diwrnodau diwethaf, bu cryn sôn am rinweddau neu beidio, yn ôl y digwydd, y cytundeb sydd gerbron y gweithwyr dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill ledled Cymru—Trostre , Llanwern a Shotton. Cyn i ni dorri ar gyfer y Nadolig, dywedasoch yn eglur wrthyf i wrth gael eich holi bod hwn yn gytundeb da iawn a'i fod yn gytundeb y gallwch ei gymeradwyo ac sy'n cynnig dyfodol i'r gwaith. Ai dyna safbwynt y Prif Weinidog o hyd o ran y cytundeb hwn, gan nad wyf yn ymwybodol o unrhyw gynllun wrth gefn os caiff y cytundeb hwn ei wrthod?

Rwy'n ymwybodol o'r pryderon, wrth gwrs, o ran proses y cynllun pensiwn ac mae Aelodau yn y Siambr hon wedi ailadrodd y pryderon hynny, ond mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn gweld bod unrhyw ddewis arall ar y bwrdd ac felly, er ei fod yn fater i weithwyr wneud eu penderfyniadau eu hunain, mae'r cynnig sydd ar y bwrdd, rwy’n credu, yn un a fydd yn cadw’r diwydiant dur yn y de. Nid oes unrhyw beth arall. Nid oes cynllun wrth gefn.

Diolch i chi am yr eglurder, gan fy mod i’n credu ei bod yn bwysig deall difrifoldeb y penderfyniad y mae'r gweithwyr dur yn ei wynebu, a’u penderfyniad nhw yw hwn, er tegwch, gan y gofynnir iddynt roi rhywbeth yn gyfnewid am sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor y diwydiant dur yma yng Nghymru. Rydym ni’n deall nawr gan Blaid Cymru eu bod nhw o’r farn y dylai’r cytundeb hwn gael ei wrthod. Beth yn eich barn chi fydd y canlyniadau os caiff y cytundeb hwn ei wrthod i ddyfodol hirdymor a thymor canolig y gweithfeydd hynny a oedd yn meddiannu cymaint o'r agenda wleidyddol yn ogystal â'r agenda gymunedol yn y cymunedau hynny trwy gydol 2016?

Rwy’n deall y pryderon y mae Aelodau wedi eu mynegi, ond, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, nid oes dewis arall ar y bwrdd. Roedd y consortia eraill a oedd â diddordeb mewn cymryd drosodd i gyd yn pryderu am y cynllun pensiwn hefyd. Felly, nid yw mater y cynllun pensiwn byth yn mynd i ddiflannu. Y dewis arall, mae'n debyg, yw y gallai Llywodraeth y DU genedlaetholi'r diwydiant. Gwnaeth eich plaid chi hi’n eglur iawn na fyddwch yn gwneud hynny, ac felly, mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd mai’r cynllun hwn yw hi, neu ddim cynllun o gwbl. Dyna’r hyn y mae’n rhaid i’r gweithwyr ei ystyried.

Mae'n destun gofid i mi nad yw Llywodraeth y DU—roedd pethau’n wahanol o dan y Prif Weinidog blaenorol, os ydw i'n berffaith onest—wedi cymryd diddordeb yn y diwydiant dur yng Nghymru; nid ydynt wedi rhoi sylw i'r mater o brisiau ynni yn briodol; nid ydynt wedi cael unrhyw drafodaethau gyda ni, fel Gweinidogion, ar fater dyfodol y diwydiant dur, neu ychydig iawn, ers i'r Prif Weinidog newydd ddechrau yn y swydd, ac rwy’n gresynu hynny. Nodais yn ofalus yr hyn a ddywedodd Theresa May ddoe am ymyrryd yn y farchnad, ond nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny o ran cymorth i ddiwydiant dur Cymru.

Rwy’n credu bod gennym ni Lywodraeth y DU gefnogol iawn, Brif Weinidog, pan ddaw i’r mater hwn, a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sawl cais a wnaed i Stryd Downing am gyfarfod ar y mater dur penodol. A ydych chi'n cytuno â Stephen Kinnock, ac yn aml iawn— [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Dirprwy Weinidog yn grwgnach ar ei eistedd, ond efallai yr hoffai wrando ar y cwestiwn yn gyntaf, ac yna efallai y byddwn yn cael ateb a fyddai'n hysbysu ei etholwyr yn ogystal â phobl eraill yng Nghymru. Ydych chi’n cytuno—?

A allwn ni ganiatáu i arweinydd y Blaid Geidwadol gael ei glywed os gwelwch yn dda?

A ydych chi’n cytuno, Brif Weinidog, â Stephen Kinnock, bod y cynigion a roddwyd ar y bwrdd gan Tata Steel yn gynigion trawiadol, a’u bod wir yn datgloi buddsoddiad sylweddol ar gyfer y gweithfeydd dur ledled Cymru, ac yn cynnig dyfodol diogel, yn sicr yn y tymor byr a’r tymor canolig, i’r miloedd lawer o swyddi sy'n dibynnu ar ddatgloi’r buddsoddiad hwn? Mae saith mil o swyddi—

Gofynnais am i arweinydd y Blaid Geidwadol gael ei glywed, ac rwy'n bwriadu i bobl wrando arnaf pan fyddaf yn gofyn.

Mae saith mil o swyddi yn dibynnu ar y cytundeb hwn. A ydych chi’n cytuno â hynny?

Yn absenoldeb unrhyw beth gan Lywodraeth y DU, a’r diffyg diddordeb gan Lywodraeth y DU ers i’r Prif Weinidog diwethaf adael ei swydd, rwy’n credu mai dyma'r unig gytundeb sydd ar y bwrdd. Rydym ni wedi darparu swm sylweddol o arian, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw beth, ac rydym ni’n credu bod y pecyn hwnnw—wel, byddwn yn mynnu bod y pecyn hwnnw—yn helpu i ddiogelu’r miloedd o swyddi yn y diwydiant dur yng Nghymru.

A gaf i groesawu'r Prif Weinidog yn ôl o’i daith i Norwy? Efallai y gallai ddweud wrthym ba gasgliadau y daeth iddynt yn sgil hynny. A yw'n ymwybodol bod 70 y cant o bobl Norwy yn dal i wrthwynebu aelodaeth o'r UE yn bendant? Ac o ran aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, a wnaiff ef gadarnhau bod Norwy yn aelod o gytundeb Schengen, ac felly mae mynediad dilyffethair at y farchnad sengl, y mae'r Prif Weinidog o’i blaid bob amser, yn mynd i olygu mynediad dilyffethair hefyd i'r DU ar gyfer niferoedd diderfyn o fewnfudwyr o’r UE?

'Na' yw'r ateb i hynny, oherwydd mae pobl yn Norwy—. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith nad ydyn nhw’n cefnogi aelodaeth o'r UE, ond maen nhw’n cefnogi aelodaeth o AEE a rhyddid i symud yn gryf. Ond, mae gwahaniaeth, ac rwy’n credu bod hwn yn fater sy'n llwybr proffidiol i ni ei ddilyn yn y DU: mae rhyddid i symud yn Norwy yn golygu rhyddid i symud i weithio. Nid yw'n system ddiderfyn o ryddid i symud. Ceir rhai rheolau ynghylch sut y gall pobl chwilio am waith os byddant yn colli swydd, ond nid yw'n hawl dilyffethair i symud fel y mynnant. Y cwbl maen nhw’n ei wneud, mewn gwirionedd, yw dilyn y rheolau Ewropeaidd yn llythrennol, rhywbeth na wnaeth y DU. Roedd y DU yn fwy rhyddfrydol ei hymagwedd ac aeth y tu hwnt i'r hyn yr oedd y rheolau’n gofyn amdano. Os mai dyna sy'n ofynnol er mwyn cael mynediad i’r farchnad sengl, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y byddai pobl yn ei ystyried yn gwbl resymol.

Wel, canfuom yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yng nghanlyniad y refferendwm ei hun, oherwydd cymhellwyd y refferendwm, y canlyniad, i raddau llethol—ac mae’n ymddangos bod pawb yn cytuno ar hyn—gan ofnau am fudo dilyffethair, ac o ran—. [Torri ar draws.]

O ie. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos mai dyna oedd y ffactor a benderfynodd y canlyniad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, nid yn unig o blaid aelodaeth lawn o'r farchnad sengl, ond maen nhw hefyd o blaid aelodaeth lawn o'r undeb tollau, a fyddai'n ein hatal rhag gwneud cytundebau â gwledydd trydydd parti hefyd. Felly, o leiaf nid yw’r Blaid Lafur wedi mynd mor bell â hynny yn ei ffyddlondeb i aelodaeth o'r UE. Ond, onid y gwir yw, Brif Weinidog, bod gan 508 miliwn o bobl hawl mynediad ar hyn o bryd, gan eu bod yn ddinasyddion yr UE, i'r wlad hon, i ddod yma i fyw ac i weithio, a phe byddem ni’n aelodau o’r AEE, yna byddai hynny, i bob pwrpas, yr un fath ag y mae nawr?

Na fyddai, oherwydd os byddwch yn dehongli'r rheolau’n llym, dyna a gewch: rydych chi’n cael rhyddid i symud i weithio. Rwy’n credu y byddai pobl yn derbyn hynny. Rwy'n credu os yw pobl yn credu bod rhywun yn dod i swydd sydd ganddynt, y byddai hwnnw’n safbwynt rhesymol i’w fabwysiadu. Y peth arall y mae’n rhaid i ni ei gofio yw y bydd gan y DU ffin agored â'r UE. Bydd ganddi ffin agored yn Iwerddon, na fydd yn cael ei phlismona mewn unrhyw ffordd ac na fydd yn cael ei monitro mewn unrhyw ffordd. Nawr, pryd bynnag y bydd hyn yn cael ei grybwyll yn y trafodaethau yr ydym ni’n eu cael gyda Gweinidogion y DU, rydym ni’n gweld yr hyn sy'n cyfateb i estrys yn plymio ei ben i mewn i'r tywod. Maen nhw’n dweud yn barhaus, 'Bydd popeth yn iawn,' ond y gwir yw, o ystyried y ffaith y bydd ffin agored â'r UE, o ystyried y ffaith y bydd Llywodraeth y DU eisiau monitro wedyn a oes gan rywun yr hawl i weithio yn y DU, sut mae unigolyn yn profi’r hawl hwnnw? Mae pasbortau yn ddewisol, mae trwyddedau gyrru yn ddewisol; bydd gennych chi system cardiau adnabod gorfodol yn y pen draw. Nid oes unrhyw ffordd arall o’i wneud. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth nad yw wedi ei ystyried yn briodol, ymhlith llawer iawn o gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn.

Yn y ffordd garedicaf bosibl, hoffwn annog y Prif Weinidog i dreulio mwy o amser dramor, a mynd i wledydd eraill lle y gall ddysgu rhywbeth am y ffordd y mae’r byd yn gweithredu y tu allan i'r UE. Yn arbennig, hoffwn ei annog i fynd i Dde Korea, gan fod De Korea wedi—. Nid yn unig oherwydd ei fod mor bell—[Chwerthin.] Trwy Los Angeles efallai. Gan fod De Korea wedi llwyddo mewn gwirionedd i ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE. Felly, nid yw'n rhan o'r farchnad sengl, ond mae ganddi holl fanteision masnach aelodaeth o’r farchnad sengl heb unrhyw un o'r llyffetheiriau o ryddid i bobl symud. Gan fod hyn wedi ei ganmol gan gomisiynydd masnach yr UE, Cecilia Malmström, yn y termau hyn mae’n dweud,

Dylai tystiolaeth ein cytundeb gyda Korea helpu i argyhoeddi'r rhai nad ydynt yn argyhoeddedig bod Ewrop yn elwa'n fawr ar fwy o fasnach rydd... mae'n sbarduno twf Ewropeaidd. Mae'n diogelu ac yn creu swyddi.

Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog a minnau yn cytuno’n llwyr ar y pwynt hwnnw. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn, rwy’n credu, i’r DU yn gyffredinol pe byddai'n ychwanegu ei bwysau sylweddol at y ddadl dros fwy o gytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd, sy’n rhywbeth y gallwn ei drafod dim ond y tu allan i'r undeb tollau a'r tu allan i'r UE.

Wel, nid wyf yn gwybod a yw'n golygu pwysau gwleidyddol neu gorfforol. Byddaf yn ceisio bod yn obeithiol o ran yr hyn y mae'n ei olygu. [Chwerthin.] Y gwir yw hyn: mae cytundebau masnach rydd yn cymryd llawer iawn o flynyddoedd i’w cytuno. Ni fydd gan y DU gytundeb masnach rydd o fewn dwy flynedd. Pryd bynnag yr wyf i wedi siarad â swyddogion sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau o'r fath, maen nhw’n credu ei bod yn chwerthinllyd y gall pobl hyd yn oed ddweud hynny. Mae'n cymryd bron i ddwy flynedd i bennu’r fframwaith ar gyfer y trafodaethau. Y pryder sydd gennyf yw y bydd y DU, ymhen dwy flynedd, yn disgyn oddi ar ymyl y clogwyn ac na fydd ganddi gytundeb masnach rydd â neb, oherwydd ni fydd unrhyw drefniadau pontio. Felly, bydd trefniadau pontio yn gwbl hanfodol y tu hwnt i fis Mawrth 2019. Fel arall, ni fydd unrhyw beth.

Mae'n sôn am Korea. Yr hyn nad wyf i ei eisiau yw i'r DU ddod yn rhyw fath o Ogledd Korea Ewropeaidd sydd wedi ei thorri i ffwrdd oddi wrth weddill y byd, heb unrhyw fath o drefniadau masnachu gydag unrhyw un. Nid yw hynny o fudd i neb, does bosib. Ond mae'n rhaid cael dos o realaeth yn y fan yma. Dywedwyd y 'Bydd y byd yn syrthio wrth draed y DU.' Nid wyf yn credu hynny o gwbl. Mae'r DU yn fach o'i chymharu â blociau masnachu eraill. Mae'n rhaid i ni fod yn realistig ac mae’n rhaid i ni gynnal trafodaethau gyda meddwl agored. Mae’n rhaid i ni ddeall hefyd, cyn belled ag y mae mynediad at y farchnad yn y cwestiwn, bod quid pro quo. Ni allwn fynnu cael popeth yr ydym ni ei eisiau gan yr Undeb Ewropeaidd a disgwyl ei gael. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Nid yw’n mynd i ddigwydd yn y ffordd honno. I mi, mae dewis: naill ai rydych chi’n dweud, 'Rydym ni’n mynd i gyfyngu ar fewnfudo', sy'n amhosibl oherwydd y ffin agored, neu rydych chi’n dweud, 'Rydym ni’n mynd i gael mynediad at y farchnad sengl.' I mi, mynediad at y farchnad sengl yw’r mater pwysicaf i ni yng Nghymru yn bendant, ac felly gellir cyfaddawdu ar unrhyw beth arall. Credaf os byddwn ni’n dweud wrth bobl Cymru, 'Mae rhyddid i symud i weithio', yna mae hynny'n rhywbeth y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei dderbyn fel rhywbeth cwbl synhwyrol.

Datblygu Economaidd Rhanbarthol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd datblygu economaidd rhanbarthol er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ(5)0352(FM)[W]

Rŷm ni wedi ymgynghori ar ein gweledigaeth ddrafft ar gyfer cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y ddogfen derfynol yn rhoi sylw i’r berthynas rhwng y Gymraeg a datblygu economaidd a byddwn yn cyhoeddi’r strategaeth derfynol yn ddiweddarach eleni.

Diolch. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn credu’n gryf bod yn rhaid i ni gael bwrlwm cymdeithasol a ffyniant economaidd yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith os ydyw’r Gymraeg i gryfhau ac rydym yn credu mewn datblygu ardaloedd trefol penodol, megis ardal y Fenai. A ydych yn cytuno bod angen bachu ar bob cyfle i greu sefydliadau cenedlaethol newydd mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf, a hynny fel rhan o’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr? A ydych yn cytuno bod creu’r awdurdod cyllid newydd y bydd ei angen i weinyddu’r pwerau trethu newydd sy’n dod i Gymru yn gyfle gwych i greu swyddi dwyieithog o ansawdd uchel mewn ardal megis ardal y Fenai yn y gogledd-orllewin? A gaf i awgrymu Caernarfon fel lleoliad delfrydol achos mae gan y Llywodraeth adeilad hanner gwag yno ac y mae’n barod i’w ddefnyddio? Byddai sefydlu’r awdurdod cyllid yn fanno yn hwb mawr i’r Gymraeg yn lleol, ond yn genedlaethol hefyd.

Mae hwnnw’n gwestiwn pwysig dros ben. Mae rhai wedi sôn am Borthmadog, wrth gwrs, hefyd. Rwy’n deall, wrth gwrs, pam y mae’r Aelod yn cefnogi Caernarfon. Mae hwn yn rhywbeth rwy wedi gofyn i swyddogion i’w ystyried. Y pwynt sy’n cael ei godi yw a fyddai’n bosib sicrhau bod yna ffyniant o sgiliau yn yr ardaloedd llai trefol. Mae hwnnw’n gwestiwn agored ar hyn o bryd. Ond, rwy’n deall, lle mae corff newydd yn cael ei greu—corff cyhoeddus newydd, felly—dylem edrych y tu fas i Gaerdydd, ac efallai y tu fas i’r de hefyd, er mwyn gweld a oes yna fodd i sicrhau bod y corff hwnnw yn gallu bod rhywle arall yng Nghymru. Felly, mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd.

Cyhoeddodd y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a datblygu economaidd argymhellion ar sut y gellid gwella dwyieithrwydd a datblygiad economaidd. Awgrymodd tystiolaeth o'r adolygiad bod gwahaniaethau rhwng sut y mae BBaChau a busnesau mwy yn defnyddio'r Gymraeg, gyda llawer o BBaChau yn dweud mai cost yn hytrach na budd yw’r Gymraeg. Ers cyhoeddi’r adolygiad dair blynedd yn ôl, a gaf i ofyn pa gefnogaeth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi yn benodol i BBaChau i gynyddu manteision masnachol gweithredu yn ddwyieithog?

Wel, dau bwynt: yn gyntaf oll, yn hytrach na’i fod yn gost, mae'n gyfle i fusnes. Os gwelir bod busnes yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn cael ei dderbyn yn fwy ffafriol gan y gymuned gyfan. Nid oes amheuaeth am hynny yn fy meddwl i. Yn ail, ar bwynt mwy ymarferol, ceir prosiect arbrofol sydd wedi bod yn gweithredu yn nyffryn Teifi, yn gweithio gyda busnesau, yn eu helpu i gynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn eu helpu i ddeall manteision economaidd gweithredu yn ddwyieithog iddyn nhw fel busnes. Mae'r prosiect hwn yn bwysig o ran ein gallu i gasglu’r dystiolaeth o’r hyn a fydd yn gweithio yn y dyfodol o ran helpu BBaChau i ddatblygu eu cynnig iaith yn rhan o'u busnes.

‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’

4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi’u cael ag Ysgrifenyddion y Cabinet ynghylch adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y pedwerydd Cynulliad, ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’? OAQ(5)0347(FM)

Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi rhoi llawer o ystyriaeth i hyn. Mae wedi arwain ar hyn, o gofio ei chyfrifoldeb am faterion ynni. Mae ein hymateb cynhwysfawr i adroddiad y pwyllgor wedi cynnwys gwaith ar draws y Llywodraeth ac mae bellach ar gael i'w weld ar wefan y pwyllgor.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd yn gwybod bod blwyddyn newydd yn aml yn amser ar gyfer addunedau blwyddyn newydd hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fydd ef a'r Ysgrifennydd Cabinet galluog iawn yn ymgymryd—yn addunedu—i weithio gyda'r Cynulliad a gweithio ar draws y Llywodraeth i fwrw ymlaen â chymaint â phosibl o’r 19 o argymhellion hynny, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i gartrefi sy’n agos at fod yn ddi-garbon; a oedd yn cynnwys ymrwymiad i fwrw ymlaen mewn chwyldro tuag at ynni cymunedol a lleol a fyddai'n mynd i'r afael ag oligopoli y cyflenwyr ynni mawr, gan ddefnyddio cynllunio a dulliau polisi eraill i roi hwb enfawr i ynni cymunedol; a hefyd i ysgogi’r chwyldro hwnnw hefyd mewn swyddi ynni gwyrdd glân, ledled Cymru, trefol a gwledig fel ei gilydd? Un o nodweddion arbennig y Llywodraeth hon a'r Cynulliad hwn mewn gweinyddiaethau olynol fu’r ymrwymiad i hybu’r amgylchedd a chynaliadwyedd gwirioneddol. Ai hon fydd y Senedd, ac ai hwn fydd y Cynulliad, ac ai hon fydd y Llywodraeth a fydd yn gwneud hyn yn realiti—chwyldro ynni gwyrdd go iawn, a’r hwb i swyddi a fydd yn dod o ddyfodol ynni mwy craff i Gymru?

Ie, rwy’n credu. Mae'r argymhellion yn cyd-fynd yn agos â'n cyfeiriad strategol. O'r 19 o argymhellion, roeddem yn gallu derbyn 12 ohonynt yn llawn a saith mewn egwyddor. O ran sut y mae hyn yn cael ei ddatblygu, rydym ni wedi gweld llwyddiant, er enghraifft, fferm wynt dan berchnogaeth leol Awel Aman Tawe, a'r prawf ynni lleol ym Methesda, a gafodd ei ddangos ar y rhaglen 'Money Box' y penwythnos hwn. Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rheini. Cynhaliwyd digwyddiad gennym ddydd Gwener diwethaf gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, neu BEIS fel y maen nhw’n galw eu hunain erbyn hyn, ac Ofgem, gan sicrhau bod lleisiau o Gymru yn cael eu clywed ar ymgynghoriad mawr ar system ynni craff a hyblyg.

Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r adroddiad ardderchog hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn bod pwyllgorau’n gweithio'n galed ac yn myfyrio ar waith pwyllgorau blaenorol. Gwn y bydd y pwyllgor olynol yn dychwelyd at hyn. Ond uchelgais yw hwn, a’r uchelgais hwnnw yr ydym ni eisiau iddo gael ei adlewyrchu, rwy’n credu, yn rhaglen y Llywodraeth. Ceir cyfle gwirioneddol yma, wyddoch chi. Adeiladwyd economi Cymru ar un ffynhonnell ynni fwy neu lai, ac fe wnaethom ni ddioddef oherwydd hynny ar ôl y 1920au a disodliad glo gydag olew. Mae cyfleoedd newydd o’n blaenau, a gallai’r cyfleoedd hynny ein helpu i weddnewid economi Cymru a’i gwneud yn llawer mwy gwyrdd ac yn fwy cydnerth ac wedi’i rheoli’n lleol.

Wel, mae’r gwynt yno. Bydd y llanw bob amser yno cyn belled ag y bo’r lleuad yn yr awyr. Mae'r rhain yn adnoddau gwirioneddol adnewyddadwy a all, o’u harneisio’n gywir, sbarduno ein defnydd o ynni ac, yn wir, allforion ynni, ad infinitum, o bosibl. Mae'r rhain yn faterion y mae angen i ni symud ymlaen â nhw. Bydd gennym ni wrth gwrs, ym Mil Cymru, fwy o bwerau dros gydsynio ynni. Ond, wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy’n dal i fod yn gyfrifol am yr agwedd ariannol ar ddatblygiad ynni. Edrychwn ymlaen, wrth gwrs, at yr hyn y bydd adolygiad Henry yn ei ddweud o ran y môr-lynnoedd llanw, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennym ni ynni adnewyddadwy sydd â chost refeniw isel iawn o ran cynhyrchu ac a fydd yno yn ystod y dyfodol rhagweladwy.

A gaf i argymell i Aelodau’r Cynulliad, os ydyn nhw eisiau cael cip ar y dyfodol sy’n cael ei ragweld yn adroddiad y pwyllgor, eu bod nhw’n ymweld â Pentre Solar yng Nglan-rhyd, yn sir Benfro, lle mae tai cymdeithasol newydd gael eu hagor gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a finnau’n bresennol, y dydd Iau diwethaf? Dyna’r fath o beth mae’n bosib i’w wneud nawr yng Nghymru, a dylem ni weld llawer mwy o hynny yn cael ei ddatblygu.

Ond, yn benodol, mae’r argymhelliad gan y pwyllgor ynglŷn ag ynni yn argymell sefydlu cwmni ynni nid er elw ar gyfer Cymru i gyd i fod yn ymbarél dros ddatblygiadau, fel y rhai rŷch chi newydd eu hargymell—Ynni Ogwen, datblygiadau gan lefydd fel Talgarth, Glan-rhyd hefyd—i ddod â phobl at ei gilydd ac er mwyn cael y fargen orau i’r cwsmer yn ogystal â’r amgylchedd a’r Llywodraeth. Pa gamau yr ydych chi’n eu cymryd i wneud y fath yna o ddatblygiad?

Mae yna drafodaethau wedi cymryd lle rhwng swyddogion a sawl corff ynglŷn â datblygu cynlluniau i sefydlu cwmni ynni Cymreig. Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn glir beth yw pwrpas y cwmni ei hunan cyn symud ymlaen. Ond mae’r trafodaethau hynny wedi digwydd ac maen nhw yn parhau.

Darpariaeth Gofal Sylfaenol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal sylfaenol? OAQ(5)0345(FM)

Gwnaf. Mae byrddau iechyd yn cydweithio â phartneriaid i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol fel prif gynheiliad ein system iechyd a gofal, gan weithio mewn cymunedau i fynd i'r afael ag iechyd gwael, i gefnogi pobl i gadw’n iach ac i wneud yr hyn sy'n bwysig iddynt, ac i wneud diagnosis a thrin problemau pan eu bod yn dod i’r amlwg.

A gaf i ddiolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog? Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion ers y Nadolig ynghylch darpariaeth gofal sylfaenol, mewn dwy feddygfa yn Nwyrain Abertawe mewn gwirionedd, ynghylch methu â gwneud apwyntiad, cael eu hysbysu i ffonio yn ôl y bore wedyn, meddygon yn amharod i wneud apwyntiad, anawsterau o ran cael brechiadau, amharodrwydd i wneud ymweliadau cartref. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ddarpariaeth ragorol i gleifion y mae’r meddygfeydd eraill yn ei chynnig yn fy etholaeth i. Beth all y Llywodraeth ei wneud i safoni ansawdd y ddarpariaeth a dod â meddygfeydd pob meddyg i lefel y goreuon?

Mae'n bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae'n bwynt yr wyf i, fel yntau, yn ei glywed gan bobl ar adegau. Maen nhw’n gofyn pam nad yw’r gwasanaethau’n gyson. Wel, gall y gwasanaethau hynny a ddarperir yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd fod yn gyson, ond rydym ni’n gwybod mai contractwyr annibynnol yw’r rhan fwyaf o feddygon teulu, a dyna sut y bydd y sefyllfa am rai blynyddoedd i ddod. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i'r cyhoedd allu cael mynediad at wasanaethau pan fyddant eu hangen. Rwy’n disgwyl i feddygfeydd teulu lleol a byrddau iechyd ganolbwyntio ar hyn, gan weithio gyda'i gilydd yn lleol ar draws meddygfeydd ac yn eu 64 clwstwr gofal sylfaenol lleol gyda gweithwyr proffesiynol allweddol eraill. Mae arian ar gael; ceir y gronfa gofal sylfaenol o £43 miliwn. Mae honno yno i wella ffyrdd o ddarparu gwasanaethau: er enghraifft, datblygu swyddogaeth nyrsys, fel nad yw pobl yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ymweld â'r meddyg teulu bob tro, a gosod fferyllwyr, ffisiotherapyddion a gweithwyr cymdeithasol ochr yn ochr â thimau meddygon teulu, gan ein bod ni’n gweld mwy a mwy ledled Cymru, fel y gall pobl gael y gweithiwr proffesiynol cywir sydd ei angen arnynt yn hytrach na gorfod gweld meddyg teulu nad yw'n gallu eu helpu ac yn gorfod eu hatgyfeirio, ac wedyn eu bod yn gorfod aros am fwy o amser.

Rydych chi’n gwneud pwynt cwbl gywir yn ei hanfod ein bod ni angen mwy o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol yn gweithio mewn meddygfeydd teulu er mwyn helpu i gynnal gwasanaeth o ansawdd da i staff. Felly, fy nghwestiwn i chi, Brif Weinidog, yw, y llynedd, roedd pwyslais hollol gywir ar gael mwy o feddygon i Gymru, pa un a oedd hynny i ofal eilaidd neu sylfaenol. Eleni, a fyddwch chi’n gallu ystyried sut y gallwn ni recriwtio mwy o bobl i'r proffesiynau gofal iechyd perthynol, sut y gallem ni gael lleoedd hyfforddiant digonol ar eu cyfer, sut y gallem ni annog pobl ifanc y byddai hwn yn llwybr gyrfa defnyddiol iawn iddyn nhw a dangos iddyn nhw y ceir datblygiad gyrfaol gwirioneddol? Oherwydd nid ydym ni’n mynd i ddatrys ein problemau gofal sylfaenol heb gael y strwythur eang hwnnw o unigolion cymwys yn cynnig gwasanaethau cyfannol i bobl.

Ie, yn hollol. Lansiwyd cam cyntaf yr ymgyrch recriwtio genedlaethol a rhyngwladol gennym fis Hydref diwethaf, gyda'r nod o ddenu meddygon, a meddygon teulu yn benodol, i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru, a'r arwyddion yw bod nifer y ceisiadau ar gyfer hyfforddiant meddyg teulu wedi cynyddu, gan gynnwys yn y meysydd hynny lle’r ydym ni wedi cyflwyno dull seiliedig ar gymhellion. Gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno cynlluniau ar gyfer cam 2 yr ymgyrch recriwtio yn gynharach yr wythnos hon, wedi’i dargedu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol.

Efo adrannau brys ein hysbytai ni mewn argyfwng—geiriau Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ydy’r rheini, nid fy ngeiriau i—a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod yr erydiad sydd wedi bod yng nghyfran arian yr NHS sy’n mynd at ofal sylfaenol, a’r straen y mae hynny’n ei roi ar ein meddygfeydd teulu ni yn achosi problemau wedyn i adrannau brys yn ein hysbytai ni? Ac a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno, felly, ei bod hi’n amser edrych eto ar sut mae arian iechyd yng Nghymru yn cael ei rannu er mwyn sicrhau cyllid teg i ofal sylfaenol, er mwyn cynnal NHS cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?

Wel, dau beth: yn gyntaf, nid ydw i’n credu taw dim ond cael mwy a mwy o ddoctoriaid yw’r ateb. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn mynd i’r person proffesiynol sydd yn berthnasol i beth sydd gyda nhw. Efallai taw fferyllydd fyddai hwnnw, efallai taw nyrs fyddai hwnnw, efallai taw ffisiotherapydd fydd hwnnw. Mae’n iawn i ddweud bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cadw nifer y doctoriaid lan ar y lefel iawn, ond nid dim ond doctoriaid yw rhan o’r ateb hwn.

Ar yr ochr arall, wrth gwrs, mae’n hollbwysig i sicrhau bod pobl ddim yn aros yn yr ysbyty yn rhy hir. Rŷm ni wedi gweld y problemau sydd wedi digwydd yn Lloegr o achos y ffaith eu bod nhw wedi torri nôl ar wario ar wasanaethau cymdeithasol, a gofal cymdeithasol yn enwedig. Yng Nghymru, wrth gwrs, gwnaethom ni gadw lefel yr arian ar yr un lefel er mwyn sicrhau bod hynny ddim yn digwydd yng Nghymru. Mae’n wir i ddweud bod pwysau yn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny’n iawn. Mae’n digwydd bob blwyddyn, yn enwedig yn yr adrannau argyfwng. Mae yna gynlluniau wedi bod mewn lle, ac mae’r cynlluniau hynny wedi gweithio er y pwysau sydd wedi cael eu rhoi ar y meddygon. A gaf i hefyd dalu teyrnged unwaith eto i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn yr adrannau argyfwng, am y gwaith da y maen nhw yn ei wneud, yn enwedig amser hwn y flwyddyn?

Nwyddau a Gwasanaethau o Gymru

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr Cymru i brynu nwyddau a gwasanaethau o Gymru? OAQ(5)0357(FM)

Nifer o gamau gweithredu i gefnogi twf ar draws economi gyfan Cymru—cymorth uniongyrchol trwy Busnes Cymru, ac rydym ni hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gynyddu faint o gynnyrch o Gymru sy’n dod i mewn i'r sector cyhoeddus. Wrth gwrs, yn y diwydiant bwyd a diod, mae cynnyrch o Gymru wedi’i labelu’n llawer gwell nawr nag yr oedd 15 mlynedd yn ôl, yn sicr. Efallai fod ganddo’r un profiad sydd gennyf i o fynd i mewn i siopau lleol a gweld, yn ffodus, mai cynnyrch o Gymru yw’r cyntaf i ddod oddi ar y silffoedd.

Mae gan Norwy, lle bu ar ymweliad, fel y clywsom, yn ddiweddar, Gweriniaeth Iwerddon, rhanbarth Hesse yn yr Almaen, ac eraill, i gyd frand gwlad tarddiad swyddogol a adnabyddir yn eang sydd, i raddau helaeth, wedi eu hanelu at ddefnyddwyr domestig . Nawr, os, fel y mae'n ymddangos, ydym ni’n mynd i gael ein taflu allan o'r farchnad sengl gan gynghrair atchweliadol Corbyn a May, bydd disodli mewnforio yn bwysicach fyth i ni yn y dyfodol. Felly, a allwn ni gael brand ‘cynhyrchwyd yng Nghymru’ fel y llinell gyntaf o amddiffyniad rhag y gwallgofrwydd economaidd sy’n deillio o San Steffan?

Edrychwyd ar hyn yn y gorffennol o ran pa un a oes angen brand ar gyfer cynnyrch o Gymru, neu a fyddai’n well cael adnabyddiaeth brand gref ar gyfer cynhyrchion unigol, ac mae cig oen Cymru yn un o'r cynhyrchion hynny. Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr bwyd, er enghraifft, yn labelu eu cynnyrch fel cynnyrch o Gymru. Ystyrir bod hynny’n fantais fawr iddyn nhw; maen hynny’n llai gwir i rai, ond yn sicr mae'n llawer mwy cyffredin nag yr oedd 15, 16 mlynedd yn ôl, ac mae pobl yn llawer mwy tebygol o brynu cynnyrch o Gymru erbyn hyn. Rwy’n cofio, ar adeg argyfwng clwy'r traed a'r genau, nad oedd un o'r archfarchnadoedd mawr yn labelu unrhyw beth i ddweud ei fod yn dod o Gymru bryd hynny. Roedd popeth yn gyffredinol ym mhob un siop. Mae hynny wedi newid ers amser maith, ac mae pethau'n well o'r herwydd.

Mae'r farchnad ddomestig yng Nghymru yn bwysig, ond marchnad fechan yw hi, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n parhau i wneud yn siŵr bod gennym ni bwyslais ar allforion, a chael cynnyrch â brand Cymreig i farchnadoedd tramor. Pan edrychwn ni ar fwyd o Gymru, yr un peth y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw'r sefyllfa yn Norwy, lle ceir tariff ar fwyd. Roedden nhw’n dweud wrthyf fod y tariffau mor fanwl fel bod un tariff ar gyfer eog mwg a thariff arall ar gyfer eog ffres, sy'n rhoi syniad i chi—bydd ef yn gwybod hyn beth bynnag—o ba mor gymhleth yw trafodaethau masnachu mewn gwirionedd. Ond, o ran Norwy, mae ganddyn nhw dariffau a orfodir ar eu cynnyrch amaethyddol sy’n mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Y peth olaf un sydd ei angen arnom ni yw gweld yr un peth yn digwydd i Gymru.

Roeddwn i’n falch o glywed y Prif Weinidog, yn ei ymateb, yn cyfeirio at swyddogaeth cyrff cyhoeddus Cymru o ran cefnogi nid yn unig cynhyrchwyr a chyflenwyr Cymru, ond hefyd bod ganddyn nhw swyddogaeth o ran cefnogi eu heconomïau lleol yn rhagweithiol. Byddai’n gwneud cryn wahaniaeth pe byddai pob corff cyhoeddus yng Nghymru, neu, yn wir, pob corff yng Nghymru sy'n derbyn cyllid cyhoeddus Cymru, yn gweithredu’n fwriadol, yn rhagweithiol ac yn gydweithredol â'i gilydd i gefnogi eu heconomïau lleol, ac yn cynnwys meithrin datblygiad cyflenwyr lleol a chadwyni cyflenwi lleol. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau hynny?

Wel, rydym ni’n parhau i weithio ar gydweddu’r dull seiliedig a dull SquID cymesur, fel y’i gelwir, gan symleiddio'r broses i gyflenwyr wrth wneud cais am waith yn y sector cyhoeddus a helpu i sicrhau bod pob cyflenwr yn cael cyfle teg i ennill y gwaith hwnnw. Un o'r materion, yn enwedig yn y sector bwyd a diod, a oedd yn broblem ar un adeg yw eu bod nhw’n rhy fach. Roedd cwmnïau yn rhy fach i gyflenwi sefydliadau mawr fel y GIG ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, gyda’r hyn yr oedden nhw’n ei gynhyrchu. Cafodd hynny ei oresgyn drwy’r mentrau caffael a gyflwynwyd ac rydym ni wedi gweld llawer mwy o gaffael yn digwydd yn lleol erbyn hyn nag oedd yn wir 15 neu 16 mlynedd yn ôl, yn sicr. Cymrodd gryn amser i symud awdurdodau lleol oddi wrth dendro cystadleuol gorfodol, hyd yn oed wrth i’r cysyniad ddiflannu. Pan fyddwn ni’n sôn am werth gorau i awdurdodau lleol, rydym ni’n dweud wrthyn nhw nad yw’n ymwneud â chael y dyfynbris rhataf posibl yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cael ei gadw yn yr economi leol.

Rwy'n falch bod Adam Price wedi codi’r cwestiwn hwn. Dim ond chi allai wneud i Corbyn a May swnio fel grŵp canu gwerin o’r 1960au, Adam. Byddai'n well gen i ganolbwyntio ar y mater bwyd a diod y soniodd y Prif Weinidog amdano wrth eich ateb. Rwy’n cytuno â chi, Brif Weinidog, fod gan Gymru stori wych i'w hadrodd o ran ein bwyd a diod cartref, ac rydych chi’n iawn i dynnu sylw at labelu fel arf pwysig. A fyddech chi’n cytuno â mi bod gwyliau bwyd a modelau fel hynny hefyd yn ffordd bwysig iawn i ni werthu cynnyrch o Gymru, nid yn unig i ddefnyddwyr yng Nghymru, fel y dywedodd cwestiwn Adam Price yn wreiddiol, ond hefyd i ddefnyddwyr o Loegr sy’n dod dros y ffin?

Mae’r Fenni, rwy'n siŵr, yn uchel ei pharch fel gŵyl fwyd, fel y bydd ef yn gwybod. Ond mae'n iawn, gan fod y digwyddiadau yn arddangos cynnyrch o Gymru. Roedd y neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, ar un adeg, yn rhy fach. Cafodd ei hailadeiladu ac mae bellach yn rhy fach eto yn ôl pob tebyg. Mae hynny’n arwydd o lwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru o ran ei arallgyfeirio, ei amrywiad, a'r ffaith fod cynifer o'r busnesau a sefydlwyd yn ystod y degawd diwethaf yn dal i fod yno ac yn dal i allu mynd i mewn i'r archfarchnadoedd. Mae nifer o'r archfarchnadoedd wedi newid eu meddyliau hefyd. Er y bu’n well ganddyn nhw brynu gan gyflenwyr mawr yn y gorffennol, maen nhw wedi datblygu mwy o ddiddordeb mewn cyflenwyr llai ac mewn cynnyrch lleol, sy'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei osgoi yn fwy na dim arall yw i’n marchnad fwyaf, sef Ewrop, naill ai gael ei chau i ni neu i’r telerau masnachu â’r farchnad honno fod yn llai manteisiol i ni. Ni fydd yr Unol Daleithiau fyth yn cymryd lle’r farchnad Ewropeaidd. Mae'r Unol Daleithiau yn warchodol iawn pan ddaw i amaethyddiaeth. Felly, mae cadw gallu ffermwyr Cymru i werthu ar delerau presennol y farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i ddyfodol ffermio yng Nghymru.

Ffliw Adar yng Nghymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o ffliw adar yng Nghymru? OAQ(5)0351(FM)

Mae'n fater o bryder difrifol, wrth gwrs. Mae gennym ni hanes cryf o reoli achosion o glefydau anifeiliaid. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei datganiad llafar ar ffliw adar y prynhawn yma.

Edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw yn ddiweddarach heddiw. Mae’n wir, yn ystod gwyliau'r Nadolig, bod chwiwell—math o hwyaden yw honno, i’r rhai nad ydynt yn gwybod—a laniodd yng nghanolfan gwlyptir adar y dŵr Llanelli. Hoffwn ganmol yn y fan yma y camau a gymerwyd ar unwaith gan y ganolfan ieir gwlyptir honno i gau eu drysau i'r cyhoedd am naw diwrnod oherwydd, o ganlyniad i hynny, rwy’n siŵr eu bod wedi helpu i leihau lledaeniad y ffliw adar hwnnw yn yr ardal. Rydym ni yn gwybod, fodd bynnag, ei fod wedi lledaenu, ac y bu haint yn yr ardal honno. Yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wybod yw nad yw adar yn deall ffiniau, a byddwn yn credu efallai y byddai’n ddoeth i ni gymryd sylw o’r cyfnod o dywydd oer iawn yn nwyrain Ewrop ar hyn o bryd, a allai, ac a fydd yn ôl pob tebyg yn fy marn i, yn arwain at fwy o adar yn mudo i chwilio am fwyd ymhellach i'r de, atom ni—y gorllewin yw hynny, wrth gwrs. Fy nghwestiwn i fydd, a byddaf yn ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddarach yn ôl pob tebyg, sut yr ydym ni’n mynd i ymateb i hynny a sut yr ydym ni’n mynd i ddweud wrth y cyhoedd i fod yn ymwybodol o'r adar hynny sydd newydd fudo a allai o bosibl fod yn ffynhonnell o ragor o haint yma.

Rydym ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda Llywodraethau eraill Prydain Fawr er mwyn cymryd y camau priodol. Byddwn yn annog unrhyw aelodau o'r cyhoedd i hysbysu am adar dŵr gwyllt sydd wedi marw—elyrch, gwyddau, hwyaid ac yn y blaen, neu wylanod, a dweud y gwir—i linell gymorth Prydain Fawr. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cael ei diweddaru'n barhaus gyda chyngor a byddwn yn annog pawb sy’n cadw dofednod a phawb sy'n ymwneud â gweithio yn yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd i edrych ar y wefan yn aml. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu mwy o wybodaeth maes o law y prynhawn yma.

Brif Weinidog, yn sgil yr achosion ffliw adar yma, pa waith ychwanegol ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i asesu’r effaith y gall y clefyd yma ei chael ar y sector dofednod?

Mae yna effaith, achos mae yna gyfnod o amser lle, ar ôl y cyfnod hwnnw, nid yw’n bosibl dweud bod dofednod yn ‘free range’, achos y ffaith eu bod nhw wedi cael eu cadw i mewn. Rŷm ni yn gwybod hynny, ac rŷm ni’n gwybod efallai beth fyddai’r effaith ar y rhai sy’n cadw dofednod. Ar hyn o bryd, felly, beth sy’n hollbwysig yw ein bod ni’n sicrhau bod pethau’n dal fel maen nhw er mwyn rheoli’r clwy ei hunan. Ond, wrth gwrs, rŷm ni yn deall beth yw’r sefyllfa ynglŷn â ffermwyr dofednod os byddai hyn yn parhau yn y pen draw.

2. Cwestiwn Brys: Gofal Brys

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng? EAQ(5)0097(HWS)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, a hoffwn ddechrau drwy gydnabod gwaith caled y GIG a staff gofal cymdeithasol, sy'n gweithio dan bwysau sylweddol ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn. Mae hynny, wrth gwrs, yn nodweddiadol o’r gaeaf. Nid wyf yn derbyn bod gofal brys yng Nghymru mewn cyflwr o argyfwng. Yn wir, rydym yn parhau i weithio gyda Dr Roop a chlinigwyr blaenllaw eraill, fel aelodau o’r bwrdd cenedlaethol gofal heb ei drefnu, i geisio dod o hyn i atebion ystyrlon er mwyn cefnogi canlyniadau gwell i gleifion y mae angen gofal brys a gofal heb ei drefnu arnyn nhw yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, does neb yn dymuno siarad am argyfwng yn y GIG. Mae'n destun pryder i gleifion ac mae'n digalonni ein staff rhagorol. Ond byddwch yn ymwybodol fod y Groes Goch wedi disgrifio’r sefyllfa yn Unedau Damwain & Achosion Brys Lloegr fel argyfwng dyngarol. Byddwch hefyd yn ymwybodol fod arweinydd eich plaid chi, Jeremy Corbyn, wedi disgrifio hynny fel gwarth cenedlaethol, gan fynnu bod y Prif Weinidog yn rhoi ei heglurhad ei hun i'r Senedd. Er hynny, ddoe fe ddisgrifiodd is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru y ddarpariaeth gyfredol yma fel un sydd cyn waethed â, os nad yn waeth na’r ddarpariaeth yn Lloegr. Buasai hynny'n frawychus, ond mae perfformiad ar y lefel hon yn beth hirsefydlog, ac mae’n digwydd yn flynyddol. ‘Rydym yn gyfarwydd â hyn, ac nid yw'n cynhyrchu'r un penawdau â’r rhai yn Lloegr rywsut.

Nid yw’r data ar gyfer mis Rhagfyr ar gael eto. Ond dangosodd data mis Tachwedd mai dim ond 77 y cant o gleifion a gafodd eu gweld o fewn pedair awr, a bod bron 3,000 o bobl wedi aros am fwy na 12 awr i gael eu gweld mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys mawr. Os bydd y perfformiad yn dilyn y trywydd arferol, mae'n debygol y bydd pethau'n gwaethygu wrth i'r gaeaf fynd rhagddo. Felly, pe byddech chi yn fy sefyllfa i yma, rwy'n siŵr y byddech yn deall y demtasiwn sydd i ddefnyddio'r term 'argyfwng'. Wel, nid y fi sy’n dweud hynny; ond y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, a does dim modd osgoi difrifoldeb y rhybudd, oherwydd yr argyfwng hwn, fel y maen nhw yn ei ddweud, bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae modd rhagweld y gaeaf a bod poblogaeth yn heneiddio, ac rydym yn trafod hyn bob blwyddyn. O’n hochr ni ym, rydym yn galw am well gofal cymdeithasol, ar gyfer atgyfnerthu gofal sylfaenol, gwell gwasanaethau y tu allan i oriau gan feddygon teulu, er mwyn ysgafnu’r baich ar unedau Damwain & Achosion Brys, ac ‘rydych chi yn cytuno â ni bod yn rhaid i hyn ddigwydd. Felly, pam nad yw hyn wedi digwydd? Pam fod yna’r ffasiwn fwlch rhwng yr addewidion sy'n cael eu rhoi yma, a’r hyn sy'n digwydd ar lawr daear? Ac a oes arnoch chi gywilydd, a bod yn onest, bod eich perfformiad chi eich hun yn y Llywodraeth Lafur yn tanseilio eich cydweithwyr yn San Steffan, sydd yn daer eisiau tynnu sylw at fethiannau Jeremy Hunt?

Na. Rwy'n credu, wrth inni edrych ar hyn, bod angen inni feddwl yn ddoeth am ein sefyllfa yng Nghymru, a'r gymhariaeth a wnaed â Lloegr. Lle'r Groes Goch, wrth gwrs, yw sefyll dros eu sylwebaeth eu hunain ar y system yn Lloegr—nid ydyn nhw wedi gwneud yr un sylwadau ar y system yma yng Nghymru, ac mae yna wahaniaethau yn bodoli. Mae saith o ymddiriedolaethau ysbytai amrywiol yn Lloegr wedi cyrraedd y lefel uchaf o wyliadwriaeth—ac maen nhw yn rhedeg system wahanol, felly mae'r pwysau sydd arnyn nhw’n wahanol. Rhan o'r her yw defnyddio geirfa onest am yr hyn rydym yn ei ddisgrifio mewn gwirionedd. Ar gychwyn ddoe, cafodd y datganiad a wnaed gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru ei ddiwygio wedyn, oherwydd eu bod yn cyfeirio at rywfaint o'r derminoleg yn Lloegr. Felly mae perygl gwirioneddol o beidio â bod yn fanwl gywir yn ein geirfa, a methu â chyfleu’r sefyllfa yr ydym ynddi yn iawn. A chan siarad yn wrthrychol, ‘rydym mewn gwell sefyllfa gyda llai o bwysau arnom yn y system yr wythnos hon na'r wythnos ddiwethaf. Mae yna adegau yn y gaeaf pan mae’r anghenion yn wirioneddol uchel, fel y mae pawb yn gwybod—ambell i ddiwrnod unigol gwirioneddol brysur a chyfnodau penodol yn ystod y flwyddyn, prysurdeb mawr sy'n parhau am gyfnodau o wythnosau neu fisoedd. Ein her bob amser yw hyn: sut ydym am ymdrin â hynny yn gyson a diflino, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw canlyniadau i gleifion yn cael eu peryglu a gwneud yn siŵr bod gofal cleifion a’u profiad o ofal cystal ag y gallen nhw fod, ac nad yw’r system yn chwalu? Byddwch yn cofio, pan oeddwn yn bresennol yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, yn yr ymchwiliad i brysurdeb y gaeaf, nodais ein bod mewn gwell sefyllfa nag yr oeddem y ddau aeaf diwethaf: roedd ein cynlluniau wedi eu gosod yn well, roeddem wedi dysgu gwersi o'r ddau aeaf blaenorol. Ond nid oedd yn hynny yn golygu y gallem fod yn hunanfodlon oherwydd fe fydd yna ddyddiau anodd. Ac fe ddylech chi a finnau fod yn hynod ddiolchgar nad ydym ni'n aelodau o’r staff rheng flaen sy'n ymdrin â'r pwysau ar lawr gwlad.

Ond nid yw hynny'n golygu ein bod mewn argyfwng nawr yn y fan hon, oherwydd os edrychwch ar lefelau gwrthrychol y cynnydd ym mhob un o'n hysbytai, nid yw'n gyfystyr ag argyfwng mewn gwirionedd. Mae gennym rai ysbytai ar lefel 4, ond mewn gwirionedd mae'r mwyafrif ar lefel 3 neu’n is, ac nid yw hynny yn cyfleu system gofal brys sydd mewn argyfwng. Mae angen i bob un ohonom fod yn ofalus iawn yn yr iaith a ddefnyddiwn, gan eich bod yn gywir, ar y cychwyn, pan oeddech yn siarad am ddigalonni staff drwy ddisgrifio'r system mewn ffordd nad yw’n gywir mewn gwirionedd. Rwyf am weld cefnogaeth i staff wrth iddyn nhw wneud yr hyn sy’n hynod anodd drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig felly yn ystod y gaeaf.

Ni fydd unrhyw hunanfodlonrwydd yma. Ac un o'r rhesymau pam mae ein sefyllfa ni yn wahanol i Loegr yw nad ydym ni wedi gweld y toriadau yma a wnaed ar ofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae’r mesur artiffisial hwnnw wedi golygu nad yw’r system yn gweithio yn ei chyfanrwydd. Rydym yn ceisio gweld system iechyd a gofal cymdeithasol fel un cyfanrwydd cydlynol. Yn sicr bydd gennym fwy i’w ddysgu eto y gaeaf hwn, ac os bydd argyfwng go iawn, byddaf yn barod iawn i gydnabod hynny. Nid wyf yn derbyn ein bod nawr mewn argyfwng yma, ond rwyf yn derbyn bod pwysau gwirioneddol arnom a bod rhagor i’w ddysgu bob amser wrth wneud mwy i gefnogi ein staff a sicrhau gwelliant, nid yn unig i’r gwasanaeth iechyd ei hun, ond i’r cleifion a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Rydych yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn yr eirfa yr ydym i gyd yn ei defnyddio. Rwy'n credu mai un o'r meysydd cyntaf y bydd yn rhaid i ni fod yn glir iawn yn ei gylch yw bod yr hawl gan bob un ohonom i herio—eich herio chi, herio Llywodraeth Cymru—ynghylch perfformiad y gwasanaeth iechyd. A thrwy wneud hyn, nid yw mewn unrhyw ffordd yn bychanu ​​ gwaith caled y bobl sydd yn y gwasanaeth iechyd. Pa un a yw’n ymgynghorydd o’r radd uchaf neu’n borthor sy'n hebrwng y claf o'r ambiwlans ac i mewn drwy'r system, maen nhw i gyd yn chwarae rhan werthfawr, ac mae angen inni oresgyn y broblem hon o 'Ni allwn drafod y peth, rhag inni ddilorni unrhyw un ', oherwydd nid oes yr un ohonom am ddilorni unrhyw un. Ac mae geirfa yn bwysig iawn, oherwydd roedd cadeirydd y Groes Goch yn gwbl, gwbl anghywir yn y sylwadau a wnaeth am argyfyngau dyngarol. Roedd hynny'n ddefnydd gwarthus o eirfa. A phan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth sydd yn bodoli, mae'n bennaf o achos dwy ymddiriedolaeth GIG. Mae gennym ni saith, ac mae’r saith yn ymateb mewn ffyrdd amrywiol i bwysau’r gaeaf.

Yn awr, wrth gwrs, gwnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Brys rai argymhellion clir iawn pan ddaethon nhw gerbron y pwyllgor iechyd. A gwn eich bod chi a'ch swyddogion wedi edrych ar y trawsgrifiad, gan edrych ar yr hyn yr oedd pobl yn ei ddweud, ac rydych wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r holl golegau brenhinol hyn. Felly, hoffwn i ofyn un neu ddau o gwestiynau i chi: a gawsoch chi gyfle i glustnodi neu i sicrhau bod awdurdodau iechyd sydd wedi neilltuo unrhyw welyau ar gyfer gofal heb ei drefnu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yno, fel nad oedd llawdriniaeth ddewisol yn dioddef? A oeddech yn alluog i weithredu unrhyw ganolfannau asesu’r oedrannus a’r bregus yn unrhyw un o'r prif ysbytai er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr un modd ag yr ydym yn blaenoriaethu mewn pediatreg? A ydych yn hyderus fod gwasanaethau ailgyfeirio wedi llwyddo yn eu gwaith? Ac wrth gwrs, yr hyn sy’n achosi’r chwalfa yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys a'r hyn sydd wedi achosi’r sylwebaeth gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, fel y deallaf, a oedd yn gwbl gywir wrth dynnu sylw at yr hyn a wnaethon nhw a sut maen nhw’n gweld pethau, yw cau gwelyau. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud a oes cynnydd wedi bod o gwbl mewn gwelyau cymunedol ac mewn gofal eilaidd, gan y byddai cymryd y tri neu bedwar cam hyn, mewn gwirionedd, yn helpu i leddfu'r pwysau sydd ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Y nhw, wrth gwrs, yw drws ffrynt pob un o'n gwasanaethau aciwt.

Diolch i chi am eich cyfres o bwyntiau, sylwadau a chwestiynau. Pan fyddwn yn sôn am y system dan bwysau, mae'n golygu bod gwaith y staff yn fwy anodd ac mae mwy o alw arnyn nhw, ac mae hefyd yn effeithio ar brofiad y claf. Dylem i gyd ystyried a chydnabod ein bod yn trafod y maes cyffredinol hwn. Nid wyf yn dweud, o gwbl, na ddylai Aelodau ofyn cwestiynau anodd; rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, ar adegau, i herio'r defnydd o eirfa er mwyn holi a yw'n briodol. O ran y cwestiynau a ofynnwyd gennych a'r pwyntiau a wnaethoch, rwyf yn meddwl, unwaith eto, eu bod yn ymwneud â gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel un system gyfan. Nid y rhan gofal eilaidd yn unig, nid y gwasanaeth ambiwlans a'r parafeddygon yn unig, nid yr adran achosion brys yn unig; ond system yr ysbyty cyfan, a’r llif drwy'r system honno, a’r hyn sydd angen ei wneud mewn gwirionedd, nid yn unig y blaenoriaethu yn y man pan fydd rhywun yn cyrraedd yr ysbyty, ond yr hyn a wneir cyn hynny, boed hynny gyda'r gwasanaeth ambiwlans neu yn y maes gofal sylfaenol hefyd. Ac rydym, yn wrthrychol, yn dod yn well am wneud hynny fel system.

Edrychaf ymlaen at gyhoeddi mwy o ystadegau a mwy o wybodaeth dros y gaeaf hwn am yr hyn sy'n cael ei wneud—er enghraifft, yn ystadegau’r chwarter nesaf ar y gwasanaeth ambiwlans, y gwaith sy’n cael ei wneud i weld, clywed a thrin pobl a’u rhyddhau nhw naill ai dros y ffôn neu yn y fan a'r lle er mwyn atal teithiau diangen i mewn i system yr ysbyty; y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws gofal sylfaenol gyda chynlluniau peilot tebyg i'r un, er enghraifft, yr wyf wedi ei grybwyll o'r blaen yn Ynys Môn, ond hefyd mewn rhannau eraill o Gymru, gyda systemau tebyg a gofal uwch i gadw pobl allan o'r ysbyty a’u rhyddhau nhw’n gyflym os ydynt yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Felly, mae pobl yn gwybod pwy yw’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed. Yn aml, pobl oedrannus yw’r rhain, fel yr ydych yn ei nodi yn hollol gywir.

Rydym eisoes wedi gweld, fel y dywedais yn y pwyllgor, fod tua 300, rwy’n meddwl, o welyau ychwanegol yn y system i’w darparu fel rhan o ymateb i’r gaeaf yn ôl y cynlluniau sydd gan y byrddau iechyd. Mae hynny'n rhan arferol o gynllunio. Mae hynny'n golygu eu bod yn lleihau rhywfaint ar weithgarwch dewisol: mae hynny hefyd yn gwbl normal. Eto i gyd, hyd yn oed y gaeaf diwethaf, gwelsom fwy o weithgarwch dewisol nag a welsom yn y gaeaf blaenorol. Nid wyf am geisio rhagweld na rhoi unrhyw fath o warant i chi y bydd hynny’n digwydd nawr, oherwydd byddwn yn cyfeiliorni trwy ddweud beth fydd yn digwydd mewn gofal heb ei drefnu heb wybod beth allai ddigwydd o ran y ffliw neu dywydd mawr a'r pwysau a ddaw yn eu sgil. Ond rwyf yn disgwyl gweld cynnydd mewn gofal dewisol yn y chwarter sy'n weddill o’r flwyddyn ariannol hon. Rwyf yn disgwyl gweld y system yn dal yn gydnerth o ran gofal heb ei drefnu hefyd, a fydd yn golygu bod rhai o'n hadnoddau a’n pobl yn cael eu hailgyfeirio ar adeg briodol ac at unrhyw ran o’r system iechyd a gofal. Mewn llawer ffordd, yr hyn sy’n cynnal adran iechyd y system yw'r ffaith eu bod yn gallu cydweithio'n effeithiol â gofal cymdeithasol a'r trydydd sector trwy gael pobl i mewn ac allan o gyfleusterau iechyd i gael gofal ac yna yn ôl i'w cartrefi eu hunain gyda phecynnau gofal lle bod hynny'n briodol. Ac o ran hynny, rydym mewn llawer gwell cyflwr yng Nghymru na rhannau eraill o'r DU, gan ein bod yn cynllunio ar y cyd ag iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector. Yn ddiamau, byddaf yn ateb rhagor o gwestiynau yn y Siambr hon ac mewn pwyllgor ar wir effaith y gaeaf ar lawr gwlad ar gleifion ac ar staff.

Ysgrifennydd y Cabinet, dylai’r ffaith fod is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru yn dweud fod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu a bod staff yn cael trafferth i ymdopi â gofynion dwys fod yn achos pryder mawr i ni i gyd. Yn gam neu'n gymwys, disgrifiodd y Groes Goch y sefyllfa dros y ffin yn argyfwng dyngarol a dywedodd Dr Roop fod perfformiad mewn rhai meysydd cyn waethed â, os nad yn waeth nag yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi arian ychwanegol er mwyn lleddfu ar bwysau’r gaeaf, ond mae’r pwysau hwn yn bodoli gydol y flwyddyn ac os bydd yna achosion mawr o ffliw y gaeaf hwn byddwn mewn trafferthion enbyd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â’r arian sydd wedi ei roi yn ôl y cyhoeddiad i ddatrys pwysau’r gaeaf, sut yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael â materion ynglŷn â’r lle sydd ar ôl yng ngweddill y GIG, sydd yn effeithio ar ofal brys? Rydym yn gwybod am bobl mewn ysbytai nad oes modd iddyn nhw fynd adref oherwydd eu bod yn byw ar eu pennau eu hunain, ac o’r herwydd yn cymryd gwelyau, yn gwbl ddiangen, mewn gwirionedd, pe byddai gennym ddarpariaeth amgen i letya pobl. Dros gyfnod y Nadolig rwyf wedi cyfarfod â mudiad gwirfoddol sy'n ceisio ein helpu ni, ond byddaf yn trafod hyn yn fanylach rywbryd eto. Diolch.

Diolch am y sylwadau a godwch. Unwaith eto, rwy’n mynd yn ôl at ddweud, wrth gwrs, fy mod yn gofidio am yr eirfa a ddefnyddir a'r sylwadau a wnaed gan Dr Roop. Ond, fel y dywedais, yn wrthrychol, nid yw’r pwysau ar y system mor drwm ag y bu yn y gorffennol. Nid yw mor drwm ag yr oedd yr wythnos ddiwethaf, hyd yn oed. Mae 'na broblem wirioneddol yma, ac nid wyf yn anghytuno pan fo pobl yn dweud bod y system iechyd a gofal dan bwysau difrifol trwy’r gaeaf ac mae hynny'n gwneud gwaith y staff yn fwy anodd ac yn fwy beichus. Mae hynny'n beth gwahanol iawn i ddweud ei bod yn gyflwr o argyfwng gwirioneddol. Rwy’n dadlau â rhai o'r pwyntiau sydd wedi eu gwneud am bwysau drwy gydol y flwyddyn. Mae yna bwysau drwy gydol y flwyddyn, ond yn y gaeaf mae’r pwysau yn wahanol. Rydych yn fwy tebygol o weld pobl sy'n hŷn ac yn salach yn cael eu derbyn i'n system iechyd a gofal. Maen nhw’n fwy tebygol o fod mewn gwelyau o fewn gofal iechyd y system ac mae hynny'n rhoi mwy o bwysau ar drosglwyddo gofal a phecynnau gofal o fewn gofal iechyd, ond rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Felly, ceir math gwahanol o bwysau yn y gaeaf. Dyna beth rydym yn ei weld ar hyn o bryd a byddwn yn gweld mwy o hyn yn ystod y misoedd nesaf. Does dim pwynt esgus nad yw’r gaeaf yn cyflwyno pwysau sy’n eithriadol. Dyna pam y ceir ymateb eithriadol wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf ac wrth ddarparu yn y gaeaf hefyd. Ond rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith nad ydym wedi gweld unrhyw chwalfa o ran oedi wrth drosglwyddo gofal yma yng Nghymru. Yn wir, rydym wedi llwyddo i gynnal a rheoli rhywfaint o'r pwysau ar ddechrau'r gaeaf. Rwy'n edrych ymlaen at ddweud mwy am yr hyn sydd wedi ei wneud pan fydd y ffigurau nesaf yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd hynny'n dweud rhywbeth wrthym am iechyd y system gyfan, a'r gallu i symud pobl yn effeithiol, o'r pwynt lle mae angen rhyw fath o gymorth a gofal arnynt, yn ôl i'w cartrefi eu hunain gyda phecyn gofal, a thrwy ofal iechyd os mai dyna’r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Felly dyna, wrth gwrs, yw pwyslais ein gweithgarwch, sef yr hyn yr ydym yn disgwyl i ofal iechyd a gofal cymdeithasol ei wneud gyda'i gilydd. Ond rwy’n credu, yn wir, y dylai pob un ohonom gydnabod nid yn unig y gwaith y mae’r staff yn ei wneud, ond meddwl am y ffordd yr ydym yn trafod y swyddi y maen nhw’n eu cyflawni a'r gofal y maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer pob un o'n hetholwyr yn ddiwahan ar adegau amrywiol yn eu hanes.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandewais yn astud iawn ar eich atebion, a dywedasoch nad oedd y pwysau mor drwm ag yr oedd yr adeg hon y llynedd. Yn eich ymatebiad cyntaf un, dywedasoch hynny. Fodd bynnag, mae ffigurau diwethaf yr unedau Damweiniau ac Achosion Brys, ar gyfer y bobl sy'n aros am 12 awr neu fwy, wedi codi 22 y cant i 2,955. A ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau bod y ffigurau hynny ar eu ffordd i lawr, o ystyried eich sylwadau y prynhawn yma, a bod amseroedd aros yn dod yn fwy ymatebol yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru? A phan fydd y ffigurau diweddaraf wedi eu cyhoeddi, gan y bydd y ffigurau hynny yn eich meddiant, a fyddwn yn gweld gostyngiad yn y ffigurau hynny, o ystyried eu bod wedi dangos cynnydd o un flwyddyn i’r llall, yn ôl y ffigurau diweddaraf hyd at fis Tachwedd, o 22 y cant yn nifer y bobl sy'n aros 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru?

Mae dau bwynt i’w gwneud yma. Y cyntaf yw fy mod yn cyfaddef bod rhai pobl yn aros yn rhy hir, boed hynny ym mis Tachwedd neu ym mis Mehefin, ac mae hynny'n rhan o'n her ni wrth wella'r system. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod y bobl hynny yn cael canlyniadau gwael o ran eu canlyniadau clinigol, ond nid yw hynny bob amser yn brofiad arbennig o dda iddyn nhw. Ac mae rhywbeth i’w gael yma am ein mesuriadau dros bedair a 12 awr hefyd. Maen nhw’n dweud rhywbeth wrthym am y gofal sy'n cael ei ddarparu, ond nid y cyfan y byddem yn credu sy’n cael ei ddweud wrthym ni. Gallech chi, er enghraifft, fynd i mewn i’r ysbyty ac, yn wir, gallech gael eich gweld, eich trin a'ch rhyddhau o fewn pedair awr a hanner. Yn awr, yn ôl y ffigurau sydd gennym, byddem fwy na thebyg yn dweud, 'Dyma rywun sydd wedi aros yn rhy hir.' Ond gallech mewn difrif brofi gofal da iawn yn y cyfnod hwnnw, a gallech chi mewn gwirionedd fod yn hapus iawn gyda'r driniaeth yr ydych wedi ei derbyn. Yn yr un modd, gallech fod mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys am dair awr a byddai ein ffigurau wedyn yn dweud, 'Dyma lwyddiant', ond o bosibl ni fyddai’r profiad hwnnw yn un arbennig o dda. Felly, nid yw hyn yn dweud popeth y byddem yn disgwyl i’r ffigurau hyn ei fynegi i ni mewn gwirionedd. Tybiaf felly y bydd mwy o bwysau trwy’r gaeaf ar y ffigurau am bedair a 12 awr, ac fe wyddoch mai ffantasi fyddai ceisio dweud fel arall.

Dyma’r her: pa mor gydnerth yw ein system, sut ofal sydd yn cael ei roi, a beth ddywed profiad y claf wrthym am hynny hefyd. A'r pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud oedd ein bod, mewn gwirionedd, yn wrthrychol, mewn sefyllfa well yr wythnos hon na’r wythnos ddiwethaf. A phe byddai system mewn argyfwng, ni fyddech wedi credu y byddai'r system wedi gallu ymdopi â’r pwysau a oedd yn dod trwy'r drysau neu isgyfeirio, ac efallai y cawn weld beth sy'n digwydd ar wahanol ddiwrnodau yn ystod gweddill y gaeaf hefyd. Er enghraifft, ar 27 Rhagfyr cafwyd y nifer uchaf o dderbyniadau mewn pum mlynedd. Ar 1 Ionawr cafwyd cyfradd derbyniadau uwch o lawer nag yn y mis Ionawr blaenorol hefyd. Felly, byddwn yn gweld yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau gwahanol hynny, ond rydym i gyd yn gwybod bod mwy o bwysau ar y system yn y gaeaf. Mae angen inni ddeall y pethau yr ydym wedi eu gwneud ymlaen llaw yn ein gwaith cynllunio, pa mor llwyddiannus yr oeddent, yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu erbyn y flwyddyn nesaf. Ac yna mae angen deall y llwybr ehangach hwn o welliant drwy'r system gyfan o iechyd a gofal er mwyn ceisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu gweld, eu trin a'u rhyddhau o fewn cyfnod priodol o amser, ond hefyd yn y man priodol. Mae pob rhan unigol o'r GIG yn y DU yn cydnabod bod gormod o bobl yn dal i fynd i’r mannau nad ydynt yn briodol i’w gofal a’u triniaeth, hyd yn oed i’r mannau lle ceir y pwysau uchaf.

Felly, mae rhyw werth mewn addysgu a galluogi’r cyhoedd a rhoi gwybod iddyn nhw am y lle i fynd i gael y driniaeth briodol sydd ei hangen arnyn nhw. A dyna pam rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr iawn gan ganlyniadau cynnar y cynllun peilot 111 yn ardal Abertawe Bro Morgannwg. Credaf iddo fod yn ddefnyddiol iawn o ran cael pobl i'r mannau iawn i gael y triniaethau a'r gofal cywir. Rwy'n edrych ymlaen at roi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau am y cynllun peilot hwn, ac yna gweld a fydd yn cael ei gyflwyno wedyn mewn rhannau eraill o'r wlad.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Mae gennyf lawer o newidiadau i adrodd amdanynt i fusnes yr wythnos hon, Lywydd. Rwyf wedi ymestyn i 45 munud yr amser a ddyrennir i'r datganiad llafar ar yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu strategol drafft ar ddementia i Gymru. Rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar ffliw adar, a datganiad llafar ar y gronfa driniaeth newydd. Ac, yn olaf, gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w hateb gan Gomisiwn y Cynulliad yr wythnos hon, mae'r Pwyllgor Busnes wedi addasu amserlen yfory yn unol â hynny. Ac mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad Ysgrifennydd Cabinet—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru? Bydd yr Aelodau wedi sylwi bod rhai pryderon wedi’u codi gan Clifford Jones Timber, sefydliad sydd wedi'i leoli yn Rhuthun yn fy etholaeth i, am fethiant tir coedwigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau trefn blannu ehangach, cynnydd yn y drefn blannu, er mwyn sicrhau cnwd digonol ar gyfer y dyfodol. Rydych yn gwybod bod y busnes penodol hwnnw yn cyflogi 80 o bobl, ac yn wir, ceir miloedd lawer o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu coed yng Nghymru sy'n dibynnu ar gynhyrchu pren. Tybed, Weinidog, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, ddim ond ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn manteisio i’r eithaf ar allbwn y diwydiant hwnnw, a'i gyfraniad economaidd i Gymru yn y dyfodol?

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ynghylch y cynllun, Cyflymu Cymru, a'r ffordd y caiff ei farchnata yma yng Nghymru? Rwyf wedi derbyn nifer o gyfathrebiadau gan etholwyr sy’n bryderus iawn ynghylch y wybodaeth anghywir sy'n ymddangos ar wefan Cyflymu Cymru am argaeledd band eang cyflym iawn, yn eu hardaloedd penodol. A hyd yn oed yn fwy o achos pryder yw adborth uniongyrchol gan BT Openreach i etholwyr y mae’n ymddangos ei fod yn awgrymu, oherwydd bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cymryd y cyfrifoldeb dros farchnata Cyflymu Cymru, fod angen iddyn nhw nawr ailgofrestru eu diddordeb mewn cael mynediad ato. Dyma’r adborth a roddwyd. Gallaf weld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen, ond dyna yw’r adborth a gawson nhw—mae gennyf gopi o'r e-bost yn y fan hyn. Felly, mae’n amlwg bod rhywfaint o gyfathrebu digyswllt yno y mae angen rhoi sylw iddo, ac rwyf wir o’r farn y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth er mwyn rhoi sylw i hynny.

Diolchaf i Darren Millar am ei gwestiynau. Tynnaf sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at eich cwestiynau a phryderon ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr, os oes problem benodol yn eich ardal, yn eich etholaeth, y byddech eisiau ei godi â hi, beth bynnag. Ac, wrth gwrs, mae’r Gweinidog Sgiliau ar ei thraed mor aml yn y Siambr hon yn gwneud datganiadau am ein swyddogaeth, os swyddogaeth hefyd, o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau, o ran band eang, ac nid yn unig y marchnata, ond wrth gwrs, y cyflenwad y mae pob un ohonom yn cymryd rhan ynddo, o ran nid yn unig y rhagolygon, ond hefyd y llwyddiant o ran band eang yng Nghymru a band eang cyflym iawn.

Roeddwn yn meddwl tybed a allem gael datganiad ar ymchwiliad eich Llywodraeth i Sandfields Newydd Aberafan ac Afan (NSA Afan). Dim ond cael ar ddeall oddi wrth brif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot—gwelais e-bost a anfonwyd at arweinydd ein grŵp—fod ymchwiliad parhaus wrthi’n cael ei gynnal i achosion o afreoleidd-dra ariannol a bod arian cyllido wedi ei atal ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth—eich swyddfa archwilio chi yn y Llywodraeth—yn ymchwilio i'r sefyllfa.

Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddarparu datganiad yn ystod amser y Llywodraeth ar yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn difrif, beth mae hynny'n ei olygu, a sut y gellir cyfathrebu â phobl yn y gymuned, efallai, i geisio lleddfu rhai o'r pryderon a allai fod ganddynt, oherwydd, efallai na fydd rhai o'r gwasanaethau hynny yn gallu cael eu cyflenwi gan y sefydliad penodol hwn—Cymunedau yn Gyntaf, os yw'r ymchwiliad yn un hirsefydlog. Ac rwyf o’r farn ei fod yn rhywbeth y dylai fod pob Aelod Cynulliad wedi cael gwybod amdano, ac nid y cynghorwyr yn unig. Felly, hoffwn i ddeall pam na chyfathrebodd y Llywodraeth hefyd â ni, o ystyried bod hwn yn fater eithaf pwysig. Rydym wedi cael problemau o’r blaen, ac nid wyf yn dweud—. Ar hyn o bryd, mae ymchwiliad yn mynd rhagddo, ond rydym yn gwybod yn y Siambr hon fod problemau wedi bod yn y gorffennol gyda gwahanol sefydliadau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru. Gobeithio nad dyna yw’r sefyllfa yn yr achos hwn, ond os dyna ydyw, mae angen i ni gael gwybod, ac mae angen rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad beth sy’n digwydd.

Wel, diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol i honiadau ynghylch camddefnydd posibl o arian cyhoeddus yn NSA Afan, rydym wedi atal arian cyllido tra cynhelir mwy o ymchwiliadau. Rydym yn archwilio ffyrdd o ddiogelu darpariaeth gwasanaethau, yr ydych chi’n ei godi. Ond mae'n bwysig inni gyflawni ein dyletswydd i amddiffyn arian trethdalwyr rhag cael ei ddefnyddio, o bosibl, mewn modd amhriodol. Hefyd, mae hyn yn destun ymchwiliad, ac felly, byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar y mater hwn.

Bydd arweinydd y tŷ wedi gweld pryderon yn y wasg ar y penwythnos fod ysgolion awdurdodau lleol yn cael eu trin yn llai ffafriol nag academïau yn Lloegr o ran cyfrifo’r ardoll prentisiaethau.  Gallai cyflogres ysgol awdurdod lleol ddenu’r ardoll, tra ei bod yn bosibl na allai cyflogres academi o faint tebyg yn Lloegr wneud hynny. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad, gan nodi pa sylwadau y gallai fod yn eu gwneud i Lywodraeth y DU, er mwyn sicrhau nad yw ysgolion yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu trin yn annheg, gan fod y system yn Lloegr wedi dod yn un dameidiog a rhad ac am ddim i bawb?

Diolch i Jeremy Miles am dynnu ein sylw at hyn. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd yr ardoll prentisiaethau yn cael ei thalu gan unrhyw sefydliad sydd â chyflogres o dros £3 miliwn y flwyddyn. Treth gyflogaeth yw’r ardoll. Fe’i cyflwynwyd gan Senedd San Steffan; mae'n berthnasol i'r DU gyfan. Yng Nghymru, cynhelir yr ysgolion gan awdurdodau lleol, wrth gwrs, ac felly, bydd cyflwyno’r ardoll yn effeithio ar eu cyllidebau, waeth beth yw eu maint. Wrth gwrs, nid oes gennym system academïau Lloegr yma yng Nghymru, ond y mae’n amlwg y bydd effaith. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu ein sylw at hyn.

Yn gyntaf oll, a gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Llywodraeth am wrando, i ryw raddau, beth bynnag, ar fy etholwyr a rhai Aelodau eraill o’r Cynulliad ynghylch y mater o ryddhad ardrethi busnes? Yn amlwg, dyw hi ddim cyn belled ag y byddem ni wedi mynd, ond fe’i croesewir, cyn belled ag y mae'n mynd. Fodd bynnag, rwyf o’r farn fod arnom angen datganiad brys ar sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol hyn yn cael ei wario. Rydym yn siarad am fusnesau cymwys sydd eisoes yn bodoli yn cael mwy o arian neu yr un faint o arian am gyfnod hwy. A yw busnesau newydd yn mynd i fod yn gymwys? A fydd meini prawf newydd? Os yw'n mynd i gael ei weithredu drwy awdurdodau lleol, sut y bydd angen gwneud y ceisiadau hynny? A fyddwch yn gosod cyfyngiadau amser ar awdurdodau lleol, er enghraifft, ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymdrin â cheisiadau mewn modd amserol? A fydd unrhyw faint o'r £10 miliwn hynny yn cael ei frigdorri i dalu am y gwaith gweinyddol ychwanegol dan sylw? Rwyf o’r farn fod y manylyn hwn bellach yn fater o frys os ydych yn dymuno tawelu meddwl busnesau bach yn y modd yr wyf yn siŵr eich bod yn bwriadu ei wneud.

Yn yr hydref—ail ddatganiad yr wyf i’n chwilio amdano yma—cadarnhaodd y Llywodraeth ei hymrwymiad i'r rhaglen Esgyn a ‘Cymunedau am Waith’. Ym mis Rhagfyr, gwahoddodd Mark Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pam yr oedd y rhaglenni penodol hyn wedi eu diogelu pan oedd y canlyniadau a ragwelwyd yn cymharu'n anffafriol o ran gwerth am arian a dechrau mewn swydd, mewn gwirionedd, yn ôl y diffiniad, â Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd ymdrechion i gael data cyfamserol wedi bod yn aflwyddiannus yr adeg honno ac ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i edrych arnynt yn y flwyddyn newydd. Mae hynny'n awgrymu i mi nad oedd wedi edrych arnynt yn iawn cyn cytuno, mewn gwirionedd, i barhau â'r rhaglenni, sydd, wrth gwrs, yn costio degau o filiynau o bunnoedd. Gan fod y Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr mai’r rhaglenni ymyriadau hyn yw’r rhaglenni gorau, ac rwyf o’r farn fod angen inni weld y ffigurau hynny a thystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy cyn gynted ag y bo modd erbyn hyn. Mae angen i ni dawelu meddwl ein hetholwyr ein bod i gyd yn gwneud y peth iawn yma, ac nad dim ond rhyw weithgarwch sy’n cuddio diffyg effeithiolrwydd ydyw. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cymunedau gydag atodiadau yn cynnwys data cyfamserol ar y ffigurau perthnasol yno.

Yn olaf, rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn ddyddiau cynnar i hwn, ond dydw i ddim eisiau iddo ddiflannu o'n golwg: a allem ni gael datganiad yn weddol fuan ar y cynnydd ynghylch newidiadau sy'n cael eu hystyried i'r fframwaith rheoleiddio, a’r fframwaith cynllunio, a dweud y gwir, a godwyd gan ACau o fy rhanbarth i o ganlyniad i'r tanau sglodion pren a welsom yn ystod yr haf ac yn ddiweddarach? Fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n edrych ar y newidiadau, ac rwy'n credu y byddai'n galonogol inni i gyd weld pa gynnydd sydd wedi’i wneud ynglŷn â hynny. Diolch.

Diolch yn fawr, Suzy Davies, am y tri chwestiwn yna, a diolch i chi am groesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn wir wedi cyhoeddi’r cynllun rhyddhad ardrethi annomestig newydd, ychwanegol hwnnw ar gyfer y stryd fawr—rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru a osodwyd ar 20 Rhagfyr. Rwy’n gwybod ei fod wedi cael croeso mawr. Mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni, mae’n amlwg. Cynllun rhyddhad wedi'i dargedu ydyw, a bydd wedi ei sefydlu erbyn 1 Ebrill eleni, pan fydd yr ardrethi diwygiedig yn dod i rym. Mae'n bwysig hefyd dweud bod hyn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn, hefyd o 1 Ebrill ymlaen, ynghyd â’r £100 miliwn o doriad treth i fusnesau bach yng Nghymru a ddarperir gan y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Felly, mae bellach yn fater o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw ac, yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awr yn bwrw ymlaen â hynny. Mae cyfle y prynhawn yma yn y gyllideb derfynol eto i groesawu hyn, ac rwy'n siŵr y bydd Suzy Davies yn gwneud hynny.

O ran eich ail bwynt ar faterion ynghylch Cymunedau yn Gyntaf sy’n ymwneud â Rhaglen Esgyn a'r ffordd ymlaen, byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod proses ymgysylltu yn dal i fodoli ar y ffordd ymlaen o ran cymunedau cryf, ac mae llawer iawn o ymateb wedi bod i hynny drwy arolwg ar-lein, grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgysylltu. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, yn cael eu hystyried o ran beth yw’r ymateb, ac yn enwedig yr agweddau hynny ar ‘Cymunedau yn Gyntaf’ ac Esgyn, fel yr ydych wedi eu disgrifio. Wrth gwrs, eich trydydd pwynt, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cymryd sylw ohono o ran diweddariadau ar y fframweithiau rheoleiddio hynny.

Diolch yn fawr, Lywydd. A allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros fusnes am ei datganiad? Ym mhellach i hynny, fe wnaeth Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ddoe, ‘Expert Review of Local Museum Provision in Wales 2015 report—Update on progress’. Yn dilyn y datganiad yna, mae nifer o gwestiynau yn codi, yn enwedig yn nhermau y posibilrwydd o greu tri chorff rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau i amgueddfeydd yn y dyfodol, a’r cwestiynau ariannol sy’n codi o hynny. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n deall y gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu siartr amgueddfeydd, a’r trafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda chynghorau lleol ar y mater. Mae’n sôn am hynny i gyd yn y datganiad ysgrifenedig yna, ond oherwydd y cwestiynau yma sydd yn codi o’r datganiad ysgrifenedig yma a gyhoeddwyd ddoe, a allaf i yn garedig ofyn am ddatganiad ar lafar yn y Siambr ar y mater yma, os gwelwch yn dda?

Rwy'n falch o wybod eich bod chi’n croesawu datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n egluro nifer o bwyntiau yr ydych wedi'u codi gydag ef. Gwn y bydd cyfleoedd a chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn wir, rwy'n siŵr, mewn ymddangosiadau yn y pwyllgor, yn ogystal, ar y mater hwn.

Hoffwn godi dau fater. Yn gyntaf, cyn y Nadolig, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd i mi yma yn y Siambr, gan ddweud y byddai'n ysgrifennu ataf ynghylch cwestiwn a godais ar gynlluniau datblygu lleol. Nid wyf wedi derbyn nodyn ar hynny hyd yma, ac felly, byddwn yn ddiolchgar am ymateb—yn ddiolchgar iawn am hynny.

Yn ail, byddwn yn gofyn am ddatganiad. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at lwyddiant ralio cam coedwigoedd yng Nghymru, sy'n werth £15 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Nawr, fe gawsom ni ymateb calonogol iawn gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf, a oedd yn awgrymu bod Adnoddau Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Chwaraeon Modur wedi dod i gytundeb ar daliadau ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw ffyrdd, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am hynny. Mae'n ymddangos bellach fod camau’r canolbarth ar gyfer pencampwriaeth rali Prydain wedi eu canslo oherwydd ansicrwydd ynghylch y taliadau mewn ralïau yng nghoedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, rwyf o’r farn fod hyn yn ymwneud â gorfod codi TAW. Canlyniad uniongyrchol hyn, wrth gwrs, yw y bydd y canslo yn cael effaith ganlyniadol enfawr ar economi’r canolbarth ac y bydd yr ardal leol yn colli miloedd ar filoedd o bunnoedd. Byddwch yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ralio a chwaraeon moduro yn dod â llawer o ymwelwyr ac incwm hanfodol i’r canolbarth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Ysgrifennydd Cabinet priodol ymchwilio i hyn a chyflwyno datganiad i'r Siambr.

Diolch i chi, Russell George. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i’ch cwestiwn cyntaf. O ran eich ail gwestiwn, rwyf o’r farn ei fod yn fater o egluro beth yw'r rhesymau dros yr achos hwnnw o ganslo, oherwydd, yn amlwg, fel y dywedasoch, ceir ymateb cadarnhaol iawn i'r defnydd o'n coedwigoedd ar gyfer y pencampwriaethau hyn, sydd yn cael eu croesawu. Ond, mae rhesymau dros achosion o ganslo, ac rwyf o’r farn ei bod yn bwysig ein bod ni’n egluro, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y tynnir eich sylw chi, a sylw’r Aelodau yn ogystal, at hyn.

A wnaiff y Gweinidog osod yn ffurfiol ar y cofnod fy niolch i swyddogion, i'r heddlu ac i aelodau o'r cyhoedd am gymorth yn dilyn y lladrad yn fy swyddfa etholaeth? Gallai fod o ddiddordeb i’r Aelodau wybod nad oes unrhyw fynedfa gefn mewn gwirionedd; roedd yn rhaid i’r lladron fynd saith drws i lawr, mynd drwy ddrws, mynd i lawr at ddiwedd lôn, troi i'r chwith, fod yn gwybod bod yn rhaid mynd drwy'r strwythur sy’n debyg i sied drwy ddrws arall; cyrhaeddon nhw’r ffenestr, dadsgriwio gorchudd pren, torri trwy PVC a llifio drwy fariau dur. Efallai y dylem fod wedi bod â dur Cymru. Efallai mai dyna beth y dylem ei wneud y tro nesaf. Ond, o ddifrif, hoffwn ddiolch i’r swyddogion sydd wedi mynd i drafferth fawr i ofalu amdanaf i, fy staff a fy nheulu. Diolch yn fawr iawn i chi. Thank you very much.

4. 3. Datganiad: Ymgynghoriad ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol Drafft ar gyfer Dementia yng Nghymru

Felly, yr ydym yn symud ymlaen at yr eitem nesaf: y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r ymgynghoriad ynghylch cynllun gweithredu strategol drafft ar gyfer dementia yng Nghymru. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Lywydd. Ym mis Hydref, cyflwynais i'r Cynulliad ail gynllun cyflawni ein strategaeth 10 mlynedd ar draws y Llywodraeth, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiwyd hwnnw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, 10 Hydref. Un cam gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni yw datblygu cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Mae hwn yn ymateb i ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen'. Mae'n uchelgais clir i’r Llywodraeth hon i wneud Cymru yn genedl ddementia gyfeillgar. Rwy'n falch o wneud cynnydd pellach o fewn blwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn. Lansiais yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun gweithredu strategol cenedlaethol cyntaf ar gyfer dementia i Gymru yn Oldwell Court yng Nghaerdydd ddoe.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w ddathlu, ond, wrth i ddisgwyliad oes wella, rydym yn gwybod y bydd mwy o bobl yn datblygu dementia. Mae dementia yn un o'r heriau gofal iechyd mwyaf sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni. Yr amcangyfrif yw bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ar hyn o bryd, er nad ydynt i gyd wedi cael diagnosis. Yn amlwg, mae effaith dementia yn y gymdeithas yn llawer ehangach pan ein bod yn ystyried gofalwyr ac aelodau o'r teulu.

Mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bobl sy'n byw gyda dementia neu bobl y mae dementia yn effeithio arnynt, yn union fel y bobl a gwrddais â nhw ddoe yn Oldwell Court, oherwydd rydym eisiau deall beth sydd bwysicaf iddynt. Mae’n rhaid inni gael ffordd glir ymlaen i gefnogi pobl â dementia a’r bobl sy'n agos atynt. Mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu eisoes wedi eu cynnal ledled Cymru i glywed gan bobl sy'n byw gyda dementia, aelodau o'u teuluoedd, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, mudiadau gwirfoddol a phobl eraill sydd â diddordeb mewn dementia. Gwnaethpwyd hynny mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer a’r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia, a elwir fel arfer yn DEEP, sydd eisoes wedi ymgysylltu â dros 400 o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn bersonol. Rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn; mae eu barn a'u profiadau wedi bod yn allweddol wrth greu'r cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.

Mae'n werth cydnabod na fydd gan unrhyw ddau o bobl â dementia, na’r bobl sy'n eu cefnogi, anghenion sy’n union yr un fath. O'r gwaith cyn-ymgynghori a gynhaliwyd eisoes, mae pobl wedi dweud wrthym fod angen i wasanaethau fod yn seiliedig ar werthoedd a hawliau, ac wedi’u teilwra i'r unigolyn. Mae angen i’r cymorth hwnnw fod yn hyblyg i’r gwahanol anghenion ar wahanol gamau o'r cyflwr. Mae’r teimladau hynny wedi cael eu hadleisio mewn nifer o adroddiadau, gan gynnwys adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, 'Dementia: mwy na dim ond colli cof' ac ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i'r Gymraeg mewn gofal sylfaenol, 'Fy Iaith, Fy Iechyd'. Mae'r materion a nodwyd gan yr adroddiadau hyn yn cynnwys diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, a'r angen i gynnig asesiadau a gofal dementia drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r angen i sicrhau mynediad at gymorth, cefnogaeth a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig hefyd wedi cael sylw mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Gymdeithas Alzheimer.

Rydym, a dweud y gwir, er hynny, wedi gwneud cynnydd mawr tuag at wireddu ein hymrwymiad i greu cenedl ddementia gyfeillgar yma yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, bod mwy i'w wneud. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi nifer o feysydd blaenoriaeth ar ddementia a'r camau y byddem yn eu cymryd i roi sylw iddynt. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, camau gweithredu i wella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'r cynllun gweithredu drafft yn adeiladu ar y gwaith hwn ac mae'n cynnwys nifer o themâu yr ydym yn cynnig y bydd angen gweithredu pellach yn eu cylch dros y pum mlynedd nesaf. Ond, i sicrhau bod y cynllun yn dal i fod yn berthnasol ac wedi'i dargedu, caiff ei adolygu'n ffurfiol a'i adnewyddu ar ôl tair blynedd, a bydd y cynllun terfynol yn cynnwys rhagor o fanylion am amserlenni, enghreifftiau o arfer nodedig a disgwyliadau ar gyfer cyflawni.

Mae'r themâu wedi eu strwythuro gan ddefnyddio dull llwybrau, a amlygwyd yn gryf o'r ymgysylltu yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn. Mae’r meysydd gweithredu arfaethedig yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o sut i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu dementia, neu ohirio ei ddechrau; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia drwy ehangu Ffrindiau Dementia a chymunedau a sefydliadau cefnogi dementia; sicrhau bod dementia yn cael ei gydnabod yn briodol a bod asesiadau a diagnosis amserol ar gael i bobl; cymorth a thriniaeth gynnar i bobl sydd â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, ar ôl diagnosis; a mwy o gymorth ar gael, boed hynny yng nghartref person, yn yr ysbyty, mewn cartref gofal neu hyd yn oed mewn canolfan ddydd. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys adran sy'n cefnogi gweithredu. Mae hyn yn cynnwys pwyslais parhaus ar addysg a hyfforddiant, gan ddilyn yr argymhellion a gynhwysir yn 'Gwaith Da: Fframwaith Dysgu a Datblygu ar gyfer Dementia i Gymru', a lansiwyd y llynedd yn etholaeth Hefin David, a hefyd cefnogaeth barhaus i ymchwil i ddementia.

Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn para am dri mis, gan ddiweddu ar 3 Ebrill. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn dementia i rannu eu barn. Hoffem glywed gan y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, grwpiau ffydd a diddordebau eraill. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y credwn y gallwn adeiladu Cymru sy'n wirioneddol ddementia gyfeillgar a brwydro yn erbyn problemau eraill, megis unigrwydd ac arwahanrwydd. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ein helpu i ddefnyddio profiadau ac arbenigedd pobl i ddatblygu a chyflwyno cynllun gweithredu cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Rwy’n hyderus y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod y gwaith a wnaed hyd yma. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn cynifer o bobl â phosibl, i sicrhau bod ein cynllun terfynol yn uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy, a’n bod yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, i barhau i wneud cynnydd tuag at wneud Cymru yn genedl wirioneddol ddementia gyfeillgar.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o weld bod ymgynghoriad cyhoeddus i lywio'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Hoffwn gyfeirio at y paragraff lle’r ydych yn dechrau drwy ddweud:

Mae’r ffaith fod pobl yn byw yn hirach yn rhywbeth i'w ddathlu.

Yn fy marn i, yn rhy aml, nid yw'r rhethreg o gwmpas dementia, y rhethreg o gwmpas pobl hŷn, yn gadarnhaol: maent yn blocio gwelyau, maent yn dreth ar wasanaethau cymdeithasol, ac mae dementia yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd i bawb ac mae'n mynd i fod yn gwbl echrydus. Er ein bod, wrth gwrs, yn gwybod y dylid clodfori pobl hŷn, eu bod yn rhan hanfodol o'n cymuned, a bod dementia, gyda chymorth, os caiff ei ddal yn gynnar, ac os rhoddir y triniaethau priodol, mewn gwirionedd yn gallu cael ei arafu ac weithiau ei ysgafnhau, ac y gall pobl fynd ymlaen i fyw bywydau da iawn er bod ganddynt ddementia—yn amlwg nid pawb, ond, er hynny, rhai pobl. Felly, dylid dathlu hynny.

Dim ond tri chwestiwn sydd gennyf oherwydd rwy’n hollol siŵr y bydd gan Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia nifer eithaf sylweddol o gwestiynau i chi, ac rwy’n falch iawn o fod yn aelod o'r grŵp hwnnw. Pan welwch ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, a wnewch chi sicrhau bod gan y cynllun gweithredu ganlyniadau clir a mesuradwy, a chyfres ddata gyson? Rwy'n meddwl bod hyn yn hynod o bwysig oherwydd un broblem allweddol o ran sicrhau atebolrwydd tryloyw yw bod mesuriadau yn newid dros amser, bod paramedrau’n gallu mynd yn amwys, a bod y tryloyw’n gallu troi’n anhryloyw. Rwy’n credu, os ydym eisiau gwybod pa un a yw’r cynllun gweithredu hwn yn mynd i weithio a pharhau i weithio dros y degawdau nesaf, ei bod yn hanfodol bwysig bod gennym gyfres glir a chyson o ganlyniadau a phethau i’w mesur, wrth symud ymlaen.

Fy ail bwynt yw, wrth edrych ar yr ymgynghoriad, nad yw'n cynnig llawer ar fodelau darparu. Felly, roeddwn yn awyddus i gael rhywfaint o ddealltwriaeth gennych ynglŷn ag a fyddwch yn ceisio dibynnu’n eithaf sylweddol ar gydgynhyrchu â mudiadau trydydd sector; ynteu a fyddwch chi’n ceisio cynyddu’r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru drwy, dyweder, gynyddu nifer y gweithwyr cymorth; ynteu a fyddwch chi’n rhoi llawer o'r cyfrifoldeb hwn i faes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol neu gynghorau lleol; ynteu a fyddwch chi’n ceisio cyflawni drwy'r byrddau partneriaeth?

Yn olaf, o ystyried difrifoldeb y mater o ddementia o ran y ffaith ei fod nawr yn un o brif laddwyr pobl yng Nghymru, a gan gofio ei fod hefyd yn un o'r prif resymau pam mae dioddefwyr a gofalwyr yn dioddef cymaint o arwahanu ac unigrwydd, sydd wrth gwrs yn effeithio mwy fyth ar eu lles meddyliol a chorfforol, a ydych chi’n meddwl bod y targedau sydd gennych yn y cynllun yn ddigon uchelgeisiol? Nid ydynt yn ein gwneud yn gydradd â gwledydd eraill. Rwy’n sylweddoli ei bod bob amser yn anodd mynd o un lefel i'r llall, ond 3 y cant o gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn—a yw hynny o ddifrif yn mynd i’n galluogi i gyrraedd lle yr hoffem fod yn ddigon cyflym, ynteu a allwch chi geisio gwella’r targedau hynny? Mae dementia yn lladd mwy o bobl na bron unrhyw glefyd arall yng Nghymru, ac mae gwir angen inni afael ynddi i roi sylw iddo.

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau, ac rwy’n cytuno: fel y dywedais yn fy natganiad, dylem ddathlu'r ffaith bod mwy ohonom yn byw yn hirach. Ein her bob amser yw: sut yr ydym yn byw’n iach ac yn byw’n dda am fwy o amser hefyd? Rhan o'r pwynt a wnaethoch yn gynharach am leihau ein risg neu ohirio dechrau dementia yw bod llawer iawn o dystiolaeth ynglŷn â sut y gallwn helpu ein hunain i fyw yn hirach. Buom yn siarad llawer yn y tymor diwethaf—ond nid cymaint y tymor hwn—am y ffaith bod astudiaeth Caerffili yn dangos llawer iawn inni, nid yn unig am y ddamcaniaeth, ond am realiti ymarferol yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i wneud dewisiadau gwahanol ynghylch sut yr ydym yn byw ein bywydau, i fyw bywyd iachach, i leihau ein risg o gael dementia neu, yn wir, i ohirio ei ddechreuad. Ceir hefyd ffactorau iechyd cyhoeddus pwysig mewn amrywiaeth eang o gyflyrau eraill hefyd, sy’n ymwneud â’r ffordd y gallwn leihau’r heriau penodol hynny i ni, nid dim ond er lles iechyd y genedl, ond ar gyfer unigolion hefyd. Ac mae hynny’n rhan o'r hyn yr hoffem symud ato wrth ysgrifennu’r cynllun hwn: sefyllfa lle mae gwahanol gyrff yn sôn am yr un negeseuon am yr hyn y gallai ac y dylai pob un ohonom ei wneud, yn ogystal â'r hyn yr ydym wedyn yn ei ddisgwyl gan ein gilydd yn ein cymunedau, ond hefyd gan wasanaethau cyhoeddus a'r sector preifat yn ogystal.

Ac rwy’n credu bod hyn yn mynd yn ôl at y pwynt a wnaethoch am y camau gweithredu ar gyfer gwahanol bartneriaid, oherwydd bydd pethau i’r gwasanaeth iechyd eu gwneud. Roeddem yn sôn am gyfraddau diagnosis, felly, yn amlwg mae’n rhaid i amrywiaeth o bobl fod yn rhan fawr o hynny, ond hefyd ym maes gofal cymdeithasol, yn y gofal a'r ddarpariaeth a'r ffordd yr ydym yn disgwyl i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant gael ei rhoi ar waith yn raddol, mae adrannau yn y cynlluniau gweithredu sy’n destun ymgynghoriad am yr hyn yr ydym yn disgwyl ei weld yn digwydd. Wrth i’r Ddeddf honno gael ei rhoi ar waith, bydd y trydydd sector nid yn unig yn hyrwyddwyr ac eiriolwyr, byddant yn darparu gwasanaethau—maent wedi’u comisiynu i ddarparu’r gwasanaethau hynny mewn gwahanol rannau o'r sector. Ond mae llawer iawn yn y fan yma, fel yr wyf yn ei ddweud, yn ymwneud â ni fel cymdeithas ac fel cenedl, a beth fydd pob un ohonom yn ei wneud, fel cyflogwyr unigol yn yr ystafell hon, gyda’n staff a'r ffordd yr ydym i gyd yn ymdrin â’n hetholwyr, y ffordd yr ydym yn siarad, i'r ffordd y mae busnesau a'r cymunedau ehangach mewn gwirionedd yn wirioneddol gyfeillgar ac yn deall, wyddoch chi, y nifer sylweddol o bobl sy'n byw gyda ni ar hyn o bryd ac a fydd yn y dyfodol hefyd.

Felly, nid dim ond un gyfres o bartneriaid yw hyn; mae hynny’n mynd yn ôl i sut y bydd gennym ddata cyson a mesurau ar gyfer llwyddiant. Bydd rhai o'r rhain yn haws eu mesur nag eraill. Mae sut y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael cymorth, er enghraifft, yn anoddach ei fesur yn yr un ffordd ag y gallai fod arnom eisiau mesur, er enghraifft, cyfraddau diagnosis a chael data caletach am yr hyn sy'n cael ei wneud mewn gwahanol rannau o hynny. Ond hoffwn weld sylwadau am yr hyn sydd yn y cynllun a sut y mae gennym wedyn fesurau ystyrlon, oherwydd rydym yn gwybod—ac mae hyn yn bod yn berffaith onest—ein bod i gyd, yn y gorffennol, wedi ymrwymo i ddweud y dylai'r Llywodraeth, y dylai'r Llywodraeth fesur gwahanol rannau o weithgaredd, ond nid ydynt bob amser yn dweud llawer wrthym sy'n ddefnyddiol, ac rwyf wir yn meddwl, yn y pen draw, os ydych chi eisiau rhywbeth sydd, fel y dywedais, yn realistig ac yn uchelgeisiol ar yr un pryd, mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r mesurau sydd gennym a'r ffordd yr ydym yn ceisio cynhyrchu’r wybodaeth honno fod yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol. Fel arall, gallem fesur gweithgarwch mewn ffordd sy'n hawdd dweud ein bod yn mesur rhywbeth ond nad yw wir yn dweud dim byd o werth wrthym.

Ac ar eich pwynt olaf ynglŷn â diagnosis a'r 3 y cant o gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, rwy’n credu bod hynny yn eithaf uchelgeisiol, a dweud y gwir, ac os ydym yn ei gyflawni, byddwn yn gweld nifer cynyddol o bobl yn dod i mewn i wasanaethau ac yn cael gwasanaethau mewn gwirionedd a, gobeithio, yn cael mwy o gymorth. Ond, os oes gan bobl farn wahanol, dylent ddweud hynny yn ystod yr ymgynghoriad. Ac mae wedyn yn fater hefyd o fod ag uchelgais, fel y dywedais, sy’n gyraeddadwy. Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud yw gosod lefel o uchelgais a all edrych yn wych ar bapur, ond yna gweld nad oes gennym y gwasanaethau ar y raddfa iawn i gyflawni a’n bod yn rhoi ein staff a’n gwasanaethau mewn sefyllfa lle maent yn debygol o fethu, ac yn amlwg ni all hynny fod yn iawn. Mae’n rhaid i hyn fod yn fater o sut yr ydym yn gwella ymhellach yr her sylweddol, o ddifrif a chyfredol hon i iechyd, gofal cymdeithasol a’n cenedl, her a fydd yn cynyddu yn y dyfodol.

Rwy’n falch bod strategaeth gennym ni rŵan y gallwn ni roi sylw iddi hi drwy’r ymgynghoriad a’i chryfhau hi ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym ni drwy brofiadau y bobl hynny sydd wirioneddol yn gwybod beth sydd angen ei wneud, sef teuluoedd y rheini sydd â dementia. Ac rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn y Siambr wedi clywed digonedd o straeon torcalonnus am bobl sy’n teimlo eu bod nhw’n methu â chael y gofal maen nhw’n teimlo a ddylai fod yn rhywbeth cwbl sylfaenol, sy’n haeddiannol i rywun sydd â dementia: y ddynes y bu gorfod iddi aros ar ward ysbyty am fisoedd, efo haint digon syml, oherwydd bod yna fethiant i roi pecyn gofal addas ar ei chyfer hi yn ei chymuned; y gofalwyr sy’n methu â threfnu gofal dros dro am ychydig o amser er mwyn cael rhywfaint o orffwys; y rheini sy’n teimlo nad ydy’r math o ofal dydd angenrheidiol ar gael iddyn nhw. A lleisiau’r bobl yma, y teuluoedd a’r rhai sydd â dementia eu hunain, yr wyf am eu clywed yn dod drwodd yn y strategaeth derfynol yn dilyn yr ymgynghoriad yma, ac rwy’n siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â hynny.

Rhyw bum cwestiwn oedd gennyf i. Mae dau ohonyn nhw wedi cael eu gofyn eisoes gan Angela Burns, felly mi wnaf i eu gofyn nhw fel cwestiynau rhethregol beth bynnag, er ein bod ni’n gwybod beth sydd ym meddwl yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae’n bwysig, onid ydy, cael cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol a bod yn realistig, ond mi wnaf innau ofyn: a ydy’r 3 y cant yma o gynnydd mewn diagnosau yn flynyddol yn rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn wirioneddol yn teimlo na ellir gwella arno fo gan na fydd hynny ond yn mynd â ni ymhen rhyw bum mlynedd i’r sefyllfa lle mae Gogledd Iwerddon rŵan?

Y cwestiwn rhethregol arall ydy: sut mae mesur y llwyddiant hwn yn y pen draw? Oherwydd, y gweithredu sy’n bwysig yn hyn a’r effaith y bydd strategaeth yma yn ei chael ar bobl ar hyd a lled Cymru. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn glir yn ei feddwl y bydd o’n gallu edrych yn ôl a dweud, ‘Ydy, mae hyn wedi gweithio’, neu ‘Dydy hyn ddim’?

Tri chwestiwn, o bosibl, y gallem ni gael atebion penodol iddyn nhw: a oes yna fwriad i ddatblygu ymhellach yr ochr ataliol, er enghraifft, i fuddsoddi go iawn mewn cyfleon ar gyfer, er enghraifft, ymarfer corff, er mwyn oedi neu leihau symptomau dementia, ac nid dim ond tynnu sylw a chodi ymwybyddiaeth o’r math y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei grybwyll ychydig o funudau yn ôl? Ar ddiagnosis yn y Gymraeg, fel y Gymdeithas Alzheimer’s, rydw i’n croesawu’n fawr y cynllun a’r bwriad i wella pethau rhywsut, ond tybed pa bryd y cawn ni, gan y Llywodraeth yn ogystal â gan eraill, fel rhan o’r ymgynghoriad yma, fwy o fanylion am yr hyn sydd dan sylw?

Felly, hefyd, yn olaf, yr elfennau gwledig o ofal dementia. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl y bydd y strategaeth derfynol yma ar ddementia yn rhoi darlun llawnach a chliriach i ni o’r materion penodol sy’n deillio o anghenion gofal dementia yng Nghymru wledig? Fel rydw i’n dweud, rwy’n croesawu’r ffaith bod gennym ni rŵan y strategaeth ddrafft yma i weithio ohoni hi; yr her, wrth gwrs, ydy ein bod ni yn cael strategaeth yn y pen draw sydd yn mynd i allu gwireddu’r geiriau cynnes iawn yr ydym ni i gyd yn gallu cytuno arnyn nhw ar wneud Cymru yn gyfeillgar i ddementia yn wirioneddol.

Diolch am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Dechreuaf â’ch pwyntiau olaf, ynglŷn â Chymru wledig, wrth gwrs. Rwy'n disgwyl y bydd sylwadau gan bobl o bob cwr o Gymru, yng Nghymru drefol a gwledig, am wirionedd y ddarpariaeth a’r gefnogaeth ar hyn o bryd, a'r hyn yr hoffent ei weld yn y strategaeth ac wrth gyflawni wedyn. Mae rhai pwyntiau yr ydych chi ac Angela Burns wedi eu gwneud, nid yn unig am y weledigaeth sydd gennym, a’r hyn sydd i mewn yma a’r hyn a allai fod i mewn yma neu beidio. Mae'r rheini'n bwyntiau i'w trafod a'u dadlau ac yna, yn y pen draw, bydd yn rhaid inni wneud dewis. Ond mae'n fater o sut y cânt eu cyflawni mewn gwirionedd. Felly, dyna rai o'r pwyntiau ynghylch mesurau llwyddiant a sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth, unwaith eto, a wnaethpwyd yn gyson yn ystod eich cyfraniad chi hefyd.

Byddwch yn gweld mwy o hyn oherwydd mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 3 Ebrill, fel y dywedais. Byddwch wedyn yn gweld ymateb gyda fersiwn terfynol o'r cynllun gweithredu yn cael ei lunio yn ystod y flwyddyn galendr hon, ac yna’n cael ei roi ar waith yn raddol. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu gweld bod y sylwadau a wnaethpwyd drwy'r broses ymgynghori yn cael dylanwad gwirioneddol ar yr hyn a gaiff ei weithredu a'i gyflawni yn y pen draw. Rwy’n ailadrodd eto bod yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn dod o’r sgwrs honno ac o wrando ar bobl sy'n byw gyda dementia yn awr. Yn ogystal ag eiriolwyr yn y trydydd sector, mae unigolion eu hunain, eu teuluoedd a'u gofalwyr wedi chwarae rhan wirioneddol yn y broses o lunio’r cynnig ymgynghori presennol a byddwn wrth gwrs yn gwrando arnyn nhw. Rwy'n falch iawn, a dweud y gwir, bod y Gymdeithas Alzheimer yn glir mai ei phrif neges ddoe ar ôl y lansiad oedd bod yn rhaid i bobl sy'n byw gyda dementia gymryd rhan a bod yn rhaid iddyn nhw gael eu clywed, gan ddweud wrth bobl beth yw eu profiad gwirioneddol, a pha un a yw'r ymgynghoriad yn mynd i ystyried hynny yn yr hyn yr ydym wedyn yn ei wneud yn y pen draw.

Ynglŷn â’ch pwynt am atal, wrth gwrs gwnaethom gynhyrchu'r canllawiau 'Dementia: lleihau eich risg mewn 6 cham' ym mis Mai 2015, ac nid fi oedd y Gweinidog Iechyd ar y pryd—rhywun arall oedd. Ond mae yna bwyntiau syml iawn yn y fan yna: y pwyntiau am weithredu nawr, a'r hyn y gallwn ei wneud i leihau ein risg drwy fod yn weithgar, archwilio ein hiechyd yn rheolaidd, rhoi cynnig ar bethau newydd, peidio ag ysmygu, dim ond yfed alcohol yn achlysurol—mae hynny'n her i nifer o Aelodau—a thrwy gadw golwg ar ein pwysau. Mae'r rhain i gyd yn bethau yr ydym yn chwerthin ac yn cellwair amdanynt o bryd i'w gilydd, ond maen nhw mewn gwirionedd yn cael dylanwad gwirioneddol ar ein canlyniadau iechyd yn y pen draw, yn awr ac yn ddiweddarach mewn bywyd hefyd. Felly y neges gyson yr ydym eisiau ei rhoi—ac rwy'n meddwl ei bod yn wirioneddol ddefnyddiol mewn rhai ffyrdd—yw mai dyma’r un mathau o negeseuon ag yr ydym yn eu rhoi ar gyfer amrywiaeth eang o heriau iechyd cyhoeddus eraill. Y gwir fater fydd: a allwn ni ein perswadio ein hunain a phobl yn y wlad, nid dim ond i ddeall beth yw’r negeseuon hynny, ond wedyn sut yr ydym yn ei gwneud yn haws i bobl wneud rhywbeth yn eu cylch? Nid yw'n fater o geisio tynnu’r hwyl allan o fywyd. Mae'n fater o ddweud, 'Gall y pethau hyn wneud gwahaniaeth', a sut yr ydym ni’n mynd i helpu i wneud y dewisiadau iachach hynny yn ddewisiadau haws.

Felly, mae heriau mawr i bob un ohonom, ond rwy'n weddol obeithiol ynghylch lle yr ydym ni ar hyn o bryd, ac o ran ein gallu i sefydlu cynllun sy'n briodol o uchelgeisiol, realistig, a chyraeddadwy. Wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl ar ôl tair blynedd ynghylch ble yr ydym ni, i wirio bod yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn gwneud synnwyr, ac yna’n gwirio eto ein bod yn dal yn y lle iawn o ran yr hyn yr ydym yn disgwyl i bobl ei wneud, a'r math o gynnydd yr ydym yn ei wneud.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod, hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw ac, fel eraill, rwy’n croesawu'n fawr yr ymrwymiad yr ydych chi wedi’i wneud i sicrhau bod nid yn unig y teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt, ond y bobl sy'n byw gyda’r cyflwr hefyd yn cael dweud eu dweud yn llawn drwy'r ymgynghoriad hwn. Rwy'n credu mai’r rheini yw’r lleisiau pwysicaf oll: llawer pwysicach na’n lleisiau ni, er ei bod yn bwysig ein bod ni’n dweud ein dweud. Rwy'n credu bod llawer iawn i'w groesawu yn y strategaeth ddrafft hon. Rwy'n credu ei bod yn cynnwys yr holl brif feysydd y byddwn yn meddwl y dylid eu cynnwys.

Hoffwn sôn am un neu ddau o bwyntiau penodol. Y cyntaf yw cyfraddau diagnosis. Nid wyf yn credu bod 3 y cant y flwyddyn yn ddigon uchelgeisiol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, ni fyddem yn derbyn cyfradd diagnosis o 50 y cant ar gyfer cyflwr fel canser ac ni ddylem ei dderbyn ar gyfer rhywbeth fel dementia. Rwy’n gobeithio, wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, y bydd yn bosibl cyflwyno targed mwy uchelgeisiol ar gyfer y gyfradd diagnosis.

Wrth gwrs, nid yw targedau diagnosis o werth oni bai bod gennych y gwasanaethau cymorth eu hunain ar waith ar gyfer pobl ar ôl iddynt gael y diagnosis, ac rwy'n falch bod y strategaeth yn cydnabod hynny. Yn wir, rydych yn cydnabod y ffaith nad yw triniaethau ffarmacolegol, ac yn y blaen, sy'n gallu arafu cynnydd dementia, ar gael i bobl tan ar ôl i chi gael y diagnosis. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Ond ceir diffyg manylder o hyd ar y mater hwn o weithwyr cymorth: 32 ar hyn o bryd; mae'n amlwg na fydd hynny’n ddigon i Gymru gyfan, yn enwedig os byddwn yn cynyddu cyfraddau diagnosis. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn, drwy'r ymgynghoriad, geisio gwella ar hynny.

Ac yna, yn olaf, ynglŷn â gweithredu, rwy'n falch iawn eich bod wedi bod yn benodol ynghylch y dulliau ar gyfer monitro’r strategaeth o ran y grŵp a gaiff ei sefydlu. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu cael gwybod mwy am sut yn union y bydd hynny'n gweithio ac, yn arbennig, dulliau’r grŵp hwnnw ar gyfer adrodd i'r Llywodraeth.

Roeddwn i hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith fy mod i’n falch o weld y targedau perfformiad lefel uchel yng nghefn y ddogfen, ond rwy’n credu bod angen mwy o fanylion yn y fan honno hefyd. Hoffwn ofyn ichi ai eich bwriad, drwy'r ymgynghoriad hwn, yw cynnwys rhai cerrig milltir gwirioneddol, o ran niferoedd gwirioneddol, yn yr adran honno fel y gallwn fonitro yn gwbl glir, wrth inni fynd drwy hyn, sut yr ydym yn cyflawni mewn gwirionedd yn erbyn ein hamcanion.

Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, rydym wedi cael y drafodaeth hon ynghylch pa un a ddylech fod yn rhy uchelgeisiol ynteu a ddylech chi fod yn realistig: rwy’n credu y dylem ni fod yn anelu’n uchel iawn gyda'r ddogfen hon. Bydd unrhyw un sydd wedi cael unrhyw gysylltiad uniongyrchol â dementia yn dweud wrthych ei fod yn brofiad sy'n gweddnewid pethau. Rydym yn gwybod bod nifer y bobl sy'n mynd i gael dementia yn ei wneud yn brofiad sy'n gweddnewid pethau i’n gwasanaethau cyhoeddus ac rwy’n meddwl y dylem geisio llunio strategaeth sy’n gweddnewid pethau.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Dechreuaf drwy ateb rhai o'r rhai arbennig o fanwl. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod yn croesawu'r strategaeth eang. Wrth gwrs, pwynt yr ymgynghoriad yw clywed yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud am y peth a gweld beth y gellir ei wella a'i gyflwyno mewn gwirionedd yn dilyn hynny hefyd.

Yn arbennig, mae eich pwyntiau am y grŵp monitro ar gyflawni, ac i ystyried sut y gallem o bosibl ychwanegu cerrig milltir ar gyfer cynnydd, rydym yn credu ei bod yn bwysig bod pobl yn gallu gweld pa gynnydd sy'n cael ei wneud drwy hynny, boed hynny’n ymwneud â cherrig milltir o fewn y cyflawni ei hun, o fewn y cynllun gweithredu ei hun, ynteu a yw'n ymwneud â’r grŵp monitro a sut y maent yn adrodd yn ôl ar hynny a sut y gellir ei rannu fel bod pobl yn gallu gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ac nad yw'n cael ei wneud. Oherwydd mae’n bwysig cael gonestrwydd ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud. Oherwydd pe bawn i’n sefyll ar fy nhraed ac yn ceisio honni bod popeth yn iawn ac yn wych a bod pobl yn gweld etholwyr ac yn clywed rhywbeth gwahanol, wel byddai hynny'n anodd iawn, ac nid wyf yn credu y byddai'r ymgynghoriad yn meithrin yr ymddiriedaeth yn yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, oherwydd hoffem allu siarad am y cynnydd yr ydym yn ei wneud tuag at ymdrin â her gynyddol, sylweddol i bob un ohonom ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus.

Rydym eisoes wedi gwneud buddsoddiadau, cyn i’r ymgynghoriad ddigwydd, felly mae eich pwynt am weithwyr cymorth wedi’i wneud yn dda ac mae'n un sy’n cael ei wneud yn gyson gan amrywiaeth o bobl. Rydym wedi darparu mwy o arian, er enghraifft, £0.5 miliwn i gefnogi therapi galwedigaethol ac rydym hefyd wedi rhoi £800,000 i weithwyr cymorth mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn ogystal. Mae angen inni ddeall pa effaith y mae hynny'n ei chael ac yna sut y bydd gennym, mewn gwirionedd, fwy o staff sy’n gallu darparu’r cymorth uniongyrchol hwnnw hefyd.

Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi gweld yr adroddiad ddoe, ond roedd—[Anghlywadwy.]—yn sôn am yr hyn a ddigwyddodd pan gafodd aelod o'r teulu ddiagnosis nifer o flynyddoedd ynghynt, pan nad oedd y gefnogaeth honno ar gael iddynt ar adeg y diagnosis. Nawr, mae hynny'n her wirioneddol—i’r unigolyn sydd â dementia gael gwybod ei fod bellach yn wynebu’r her hon, ond hefyd i’r teulu yn ogystal. Felly, mae hynny’n un o'r pwyntiau amlwg i’w gwella. Gallaf ddweud ei bod yn well yn awr nag yr oedd bump neu chwe blynedd yn ôl a mwy, ond ein her yw sut y byddwn yn gwella ymhellach, a sut y mae’r strategaeth hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna'r pwynt am yr hyn yr hoffem ei weld yn digwydd mewn gwirionedd.

Felly, byddwn yn edrych ar ddiagnosis, byddwn yn edrych i weld a yw'r cyfraddau sydd gennym yn ddigon uchelgeisiol ac yn ddigon cyraeddadwy a bod modd i gefnogaeth fynd o'u cwmpas, ond mae gan bobl yn yr ystafell hon ran bwysig iawn i'w chwarae fel eiriolwyr a hyrwyddwyr, ac i godi gwahanol faterion i ni yn y Llywodraeth hefyd. Ond hefyd i beidio â dibrisio profiad pobl yn yr ystafell hon, gan fod llawer o bobl ym mhob plaid wedi cael profiad unigol o ofalu am deulu a ffrindiau, ac felly nid yw hyn yn rhywbeth lle ceir diffyg profiad ac empathi yn yr ystafell hon—nid dim ond gweld etholwyr, ond yn unigol hefyd, a byddwn yn awyddus i weld hynny wedi’i gynnwys yn y ffordd y mae'r ymgynghoriad yn gweithio, ac yna yn y ffordd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Ac, wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i ddod i'r grŵp trawsbleidiol ar ryw adeg yn y dyfodol agos i gael deall mwy gan aelodau'r grŵp trawsbleidiol ac ymwelwyr allanol wrth inni symud drwy'r ymgynghoriad.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nod o wneud Cymru yn genedl ddementia gyfeillgar yn un yr ydym i gyd yn ei rannu. Dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru erbyn hyn, ac mae disgwyl i nifer y bobl y mae dementia yn effeithio arnynt gynyddu gan oddeutu 40 y cant dros y degawd nesaf. Mae croeso mawr iawn i’r ffaith y gall dioddefwyr dementia yng Nghymru, eu teuluoedd a'u gofalwyr gyfrannu yn uniongyrchol a llunio strategaeth ddementia gyntaf Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r ymgynghoriad maes o law.

O ran y strategaeth ddementia ddrafft ei hun, mae gennyf rai cwestiynau sy'n ymwneud â'r mesurau perfformiad lefel uchel. Rydych wedi gosod targed o sicrhau bod dwy ran o dair o ddioddefwyr dementia wedi cael diagnosis ffurfiol erbyn Rhagfyr 2021. Sut y gwnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn, a pham nad yw’n fwy uchelgeisiol, ac ystyried y buddion amlwg a geir drwy ddiagnosis ffurfiol? Mae'r strategaeth yn gosod targed ar gyfer canran y staff GIG sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd sydd wedi'u hyfforddi ym maes gofal dementia: y targed yw tri chwarter y gweithlu erbyn 2019. Pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld bod 100 y cant o staff y GIG wedi cael hyfforddiant ar y lefel briodol o ofal dementia?

Mae Llywodraeth Cymru, yn ddigon teg, eisiau gweld gostyngiad yng nghanran y bobl â dementia sy’n cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth wrthseicotig. Fodd bynnag, nid ydych wedi nodi targed ar gyfer y gostyngiad hwnnw. Digon teg, efallai y bydd angen hyn mewn rhai achosion, ond mae'r holl arbenigwyr yn cytuno na ddylem ni fod yn defnyddio’r meddyginiaethau hyn i drin dementia. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi’n defnyddio canllawiau i sicrhau na chaiff meddyginiaethau gwrthseicotig eu defnyddio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol?

Rwy’n croesawu’r ffaith bod y strategaeth yn tynnu sylw at y ffaith y gall dementia daro ar unrhyw oedran a sut y gall alcohol gyfrannu at hyn. Mae angen inni addysgu'r cyhoedd yn well am beryglon dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol a niwed i'r ymennydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am y ffaith y gall camddefnyddio alcohol arwain at ddementia?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i wella mynediad at glinigau camddefnyddio sylweddau, fel y gallwn, gobeithio, atal mwy o bobl rhag datblygu dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn y dyfodol? Dementia yw un o'r heriau iechyd mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn cael y strategaeth hon yn iawn. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac at weithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni ein nod cyffredin o genedl ddementia gyfeillgar. Diolch yn fawr.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy’n credu, o ran ceisio ymdrin â'r rheini, fy mod wedi ateb pwyntiau am ddiagnosis, a byddaf yn edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr ymgynghoriad i’w ddweud am yr hyn sydd gennym yn y cynllun, a'r hyn sy'n realistig ac yn gyraeddadwy inni ei gyflawni mewn gwirionedd. Rhan o'r pwynt yr ydym yn ceisio ei gyfleu yw bod angen parhau i gynyddu a gwella’r gyfradd diagnosis, ar gyfradd sy'n real ac yn berthnasol, a gweld hynny’n parhau. Nawr, rwy’n cydnabod y bydd llawer o bobl yn ein hannog i fod yn fwy uchelgeisiol. Mae angen inni ddeall yr hyn sydd wir yn dod drwy'r drws, a beth yw ein gallu wedyn i wella cyfraddau diagnosis mewn gwirionedd gyda gwahanol bartneriaid yn gweithredu ar wahanol adegau. Felly, rwy'n hapus i glywed beth fydd gan yr ymgynghoriad i'w ddweud cyn inni wneud dewis terfynol—dyna, wedi'r cyfan, yw pwynt cynnal ymgynghoriad dilys.

O ran eich pwynt am staff a hyfforddiant staff, hoffwn gyflawni'r hyn sydd yn y cynllun, a dysgu o hynny wedyn am sut y bydd gennym wedyn fwy o staff y GIG wedi’u hyfforddi a’u harfogi’n briodol. Mae hefyd yn ymwneud â staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond mewn maes ehangach hefyd, a dyna pam mae’r cyngor, y canllawiau, y gwnaethom eu lansio cyn y Nadolig wir yn gwneud gwahaniaeth. A dweud y gwir, roedd yn ddigwyddiad defnyddiol iawn i gael cwrdd â phobl go iawn yn Ysbyty Ystrad Fawr a deall yr hyn yr oeddent wedi’i wneud yn barod, yr hyfforddiant a oedd wedi digwydd a'r gwelliannau i brofiad cleifion a oedd wedi digwydd o ganlyniad i'r ffaith bod yr hyfforddiant hwnnw a’r darpariaethau ar gael.

Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnewch am ddefnyddio cyffuriau gwrthseicotig a pha bryd maen nhw'n briodol, ac mae hynny'n rhan o'r pwynt, ac rydym ni’n sôn am hynny yn y cynllun, ond rwy’n arbennig o awyddus i ymdrin â'ch sylwadau am gamddefnyddio sylweddau. Mae rhywbeth yn y fan yma am gysylltu’r gwahanol gynlluniau a strategaethau sydd gennym, gan gydnabod ein bod yn sôn am gamddefnyddio sylweddau a'r cynlluniau sydd gennym i wella darpariaeth camddefnyddio sylweddau i helpu pobl i oresgyn hynny hefyd, ac, yn arbennig, y ffordd y mae niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn croesi nifer o wahanol feysydd gweithgarwch. Rydym yn gwybod ein bod wedi bod yn cefnogi rhywfaint o waith yn Ogwr ac o amgylch Ogwr i edrych ar y mater penodol hwn o ran y driniaeth, y ddarpariaeth a'r ymchwil, ond hefyd bydd yr Aelodau a oedd yma yn y Cynulliad blaenorol wedi fy nghlywed yn trafod rhywfaint o'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd, er enghraifft, yn ardaloedd Lerpwl a Glasgow hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu oddi wrth rannau eraill o'r DU am yr hyn sy'n debygol o fod yn her barhaus. Mae mwy a mwy o bobl yn mynd i fod yn dod trwy'r drysau â heriau sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac yn y maes hwn yn arbennig hefyd, a bydd llawer o’r bobl hynny mewn gwirionedd yn grwpiau mwy cefnog o bobl yn dod i mewn â heriau sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn dementia. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am sut yr ydym am ymdrin ag amrywiaeth o'n heriau gwahanol, deall beth yw’r dystiolaeth bresennol am yr hyn sy’n effeithiol, ac yna sut y mae hynny'n effeithio yn amlwg ar ddiagnosis, ond hefyd ar y driniaeth a’r ddarpariaeth sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd, a fydd yn wahanol yn y dyfodol i’r hyn sydd gennym yn awr, hefyd.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd i'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia a Chymdeithas Alzheimer, sydd wedi eich cynorthwyo gyda hyn. Rwy’n gwybod bod eu gwaith yn fy rhanbarth i yn werthfawr iawn yn wir. Tri pheth: roeddwn i’n falch iawn â'r gydnabyddiaeth o'r angen am siaradwyr Cymraeg; mae eu hawliau nhw, wrth gwrs, yn cael eu cydnabod eisoes yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond a allwch chi gadarnhau y byddwch hefyd yn ystyried yn fanwl darparu gwasanaethau, neu gymorth, a dweud y gwir, mewn ieithoedd eraill? Rwy'n credu, yn y sefyllfa hon, nad mater o hawl haniaethol yw iaith, ond mater o ddiwallu anghenion. Ac nid wyf yn meddwl bod angen iddo olygu cyfran fawr o beirianwaith y Llywodraeth, ond rwy’n credu bod dyletswydd ar y Llywodraeth ac arnom ninnau fel Aelodau'r Cynulliad i sicrhau bod yr anghenion hynny'n cael eu diwallu.

Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth yr ydych chi’n ei olygu wrth ‘codi ymwybyddiaeth’, oherwydd rwy’n chwilfrydig i wybod sut y mae hynny’n debygol o edrych yn y gwasanaethau cyhoeddus. A ydych chi’n ystyried, er enghraifft, enwi ffrindiau dementia ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus, boed hynny’n brif weithredwr cyngor neu hyd yn oed gwmni bysiau preifat, oherwydd, wrth gwrs, mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymestyn y tu hwnt i'r sector cyhoeddus, ac mae angen i'r strategaeth hon gyrraedd mor bell â hynny hefyd?

Ac yna, yn olaf, yr effaith ar wasanaethau cymdeithasol, ac rwy’n llwyr werthfawrogi bod y strategaeth hon yn ymwneud yn llwyr ag anghenion pobl â dementia a'r rheini sy'n eu cefnogi, ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried y rheini sydd ar gael i helpu i ddarparu'r hyn sy’n diwallu’r anghenion hynny, a sut y bydd y strategaeth hon yn helpu awdurdodau lleol yn arbennig i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol mewn rhai mannau er mwyn gallu darparu mwy o gymorth mewn mannau eraill o fewn y gwasanaethau cymdeithasol. Ac er y dylid canolbwyntio, yn bendant, ar anghenion pobl â dementia, mewn gwirionedd mae angen rhoi pwys dyledus i farn y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hefyd. Diolch.

Ydw, rwy’n arbennig o awyddus i glywed gan ddarparwyr gofal cymdeithasol yn rhan o'r ymgynghoriad am yr hyn sydd i mewn yma, am brofiad eu staff ac am realiti cyflawni a darparu'r gwasanaeth, oherwydd bydd cymysgedd y ddarpariaeth honno yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad hefyd. Weithiau, bydd hynny’n briodol i'r hyn sy'n bodoli yno, ac weithiau gall fod ffyrdd eraill y gallant ddysgu oddi wrth y ffordd y mae gwahanol fodelau gofal yn cael eu darparu mewn rhannau eraill o'r wlad. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y cawn glywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n darparu gwasanaethau ar hyn o bryd, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n byw â hyn. Ceir amrywiaeth o wahanol randdeiliaid a allai ac a ddylai gymryd rhan, ac mae gennyf ddiddordeb mewn darparu’r ystod ehangaf bosibl o safbwyntiau.

O ran eich pwynt ynghylch nid yn unig y Gymraeg ond ieithoedd eraill, rwy’n cytuno â chi: mae'n fater o ddiwallu angen gwirioneddol. Mae digon o dystiolaeth y bydd pobl â dementia yn aml yn mynd yn ôl at eu prif iaith, ac weithiau bydd hi’n anoddach iddynt siarad ieithoedd eraill. Ac felly mewn gwirionedd mae angen gwirioneddol yn y fan yma am sylw, yn hytrach na dewis, ac mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaeth yn hynny o beth. Felly, bydd hynny’n darparu gwahanol heriau mewn gwahanol rannau o'r wlad, ond mae'n rhywbeth y mae angen i bob un o'n darparwyr ei ystyried wrth gynllunio ac yna darparu eu gwasanaethau.

Ac, ar y pwynt am yr hyn sydd ei angen a’r hyn y mae'n ei olygu i fod yn gymuned ac yn wlad ddementia gyfeillgar, rwy'n falch eich bod yn gwneud y pwynt bod hyn yn fwy na dim ond gwasanaethau cyhoeddus. A dweud y gwir, mae lle i bobl yn y sector gwirfoddol a’r sector busnes hefyd i fod yn gyffredinol ddementia gyfeillgar: y ddealltwriaeth y gallant ei dangos, beth mae hynny'n ei olygu i wahanol bobl hefyd. Dyna pam, pan fyddwch yn edrych ar gymunedau dementia gyfeillgar, nad dim ond pobl yn y sector cyhoeddus sydd wedi cymryd rhan a chyfrannu a’i wneud yn llwyddiant gwirioneddol; mae’n ystod lawer ehangach o bobl. Dyna beth yr oeddwn yn ceisio ei gyfleu yn fy natganiad a dyna pam mae gennyf hefyd ddiddordeb mewn clywed gan grwpiau busnes wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, ac yna dechrau cyflawni hefyd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd; diolch am fy ngalw i siarad am y strategaeth ddementia ddrafft. Rwy’n ei chroesawu ac rwy’n croesawu'r ymgynghoriad cyhoeddus sy'n digwydd. Rwy'n falch iawn y byddwn yn ymgynghori â phobl sydd mewn gwirionedd yn profi dementia, a'u teuluoedd. Roeddwn yn falch iawn o weld bod y strategaeth ddrafft yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned ehangach ac rwy'n meddwl ei bod yn hollol hanfodol bod pobl sy'n dioddef o ddementia a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn cael eu galluogi i ddal i chwarae rhan hanfodol yn y gymdeithas, a bod angen ystod o gymorth y tu allan i'r gwasanaethau statudol i sicrhau bod pobl yn gallu cynnal ansawdd bywyd da. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn ei bod hefyd yn cydnabod nad oes rhaid i’r gefnogaeth hon fod ar ffurf gweithgareddau dementia-benodol, oherwydd rwy’n credu bod rhai o'r syniadau mwyaf arloesol yn dod o gymunedau eu hunain a bod y rhai gorau yn annog pobl nad ydynt yn ddioddefwyr ddementia i gymysgu gyda phobl â dementia, yn y ffordd yr ydym yn sôn am gymunedau dementia gyfeillgar, ac yn amlwg rydym wedi sôn am beth ydynt mewn gwirionedd.

Cyn y Nadolig cefais y fraint fawr o fynd i gyngerdd yn fy etholaeth gan y Côr Forget-me-Not. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau eraill wedi clywed y Côr Forget-me-Not, ac roedd yn achlysur hollol ysbrydoledig i mi, gan fod aelodau’r Côr Forget-me-Not yn bobl â dementia a'u gofalwyr, ac maent yn cymryd rhan mewn parau. Rhoesant berfformiad hollol fythgofiadwy, lle’r oedd llawer o bobl yn dioddef o ddementia ac yn methu â siarad mewn sgwrs bob dydd, ond roedd cân yn dod yn ôl iddynt. Yn yr un modd ag y siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet am iaith yn dod yn ôl i bobl, roedd pŵer y gân mor gryf—. Roedd yn achlysur bythgofiadwy. Roedd yn ymddangos i mi bod y math hwnnw o weithgaredd—. Cafodd ei wneud ar y cyd â chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, felly roedd safon y canu yn uchel iawn, ond dyna'r math o weithgarwch yr wyf yn meddwl y dylem fod yn ei annog mewn ffordd eang, gan ei fod yn ffordd i bobl a'r gofalwyr a'r perthnasau i gymryd rhan, a gallech weld y llawenydd yr oedd yn ei roi. Roedd yn ymddangos i mi fel enghraifft o'r math o ddarpariaeth y gallem ei hannog, ac roeddwn yn falch iawn bod côr yn ymarfer yn Thornhill—ac mae un yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ac yng Nghasnewydd—ac mae'n wirioneddol gyffrous bod hyn yn digwydd. Rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau eraill yr oeddwn am eu gwneud wedi cael eu cwmpasu gan yr holl bwyntiau sydd wedi eu gwneud heddiw. Ond roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi sylwadau am y math hwnnw o weithgaredd a'r hyn y gallwn ei wneud i annog hynny.

Ie, a diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Unwaith eto, rydym yn mynd yn ôl at y ffaith bod yr ymgynghoriad drafft hwn wedi cael ei lunio gan weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia yn awr a byddwn yn clywed gan ystod ehangach o bobl drwy weddill cyfnod yr ymgynghoriad, oherwydd nid yw hyn yn fater o ddweud dyna hi, ar ôl cael diagnosis, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn byw am amser hir â dementia. Pa un a ydynt yn byw am amser hir neu amser byr, mae rhywbeth am yr ansawdd bywyd sydd ganddynt a hefyd y teuluoedd a'u gofalwyr o'u cwmpas hefyd. Un o rannau mwyaf diddorol fy ymweliad ddoe, a dweud y gwir, oedd eistedd i lawr a siarad â phobl â dementia. Fe wnes i chwarae ychydig o Scrabble gyda nhw, a wnes i ddim ennill—cefais fy symud ymlaen cyn i’r gêm ddod i ben, a oedd yn siomedig iawn, ond roeddwn yn gwrando ar bobl, yn cael sgwrs ac yn deall y rhannau o'r hyn a oedd yn dal i fod yn bwysig iddyn nhw a’r sgyrsiau yr oeddent yn dymuno eu cael, ac yna’n cael sgwrs â gofalwyr hefyd a deall yr effaith arnyn nhw, nid dim ond cael y seibiant a’r amser hwnnw, ond hefyd er mwyn iddyn nhw a'u hanwyliaid gael cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, boed hynny’n golygu’r sefydliad Forget-me-not—. Yn wir, es i ar ymweliad Forget-me-not gyda Rebecca Evans yn y gorffennol, pan oeddwn i’n Ddirprwy Weinidog, gan gwrdd â phobl sydd yn ei hetholaeth erbyn hyn a deall rhywfaint o effaith hynny ar amrywiaeth o unigolion, ond nid dim ond unigolion, ond eu teuluoedd, eu gofalwyr a'r holl bobl eraill hynny sy’n dal i wirfoddoli a gwneud y sefydliadau hynny yn llwyddiant gwirioneddol. Oherwydd mae cerddoriaeth, cân, ac ystod o weithgareddau eraill sy'n mynd i mewn i wneud rhywbeth yn gyffredinol ystyrlon i bobl sy'n byw gyda dementia, yn hytrach na rhywbeth sy'n ceisio rhoi pobl mewn warysau, a’u cadw yn rhywle lle’r ydym yn meddwl eu bod yn ddiogel—ac, mewn gwirionedd, rydych yn eu dad-sgilio ac rydych yn cymryd yr ansawdd bywyd sydd ganddynt oddi arnynt. Rwy’n credu bod hynny’n gallu achosi cryn ofid i unigolion sy’n dal i fod yn eithaf ymwybodol o bwy ydyn nhw ar amryw o wahanol adegau yn eu taith â dementia, ond hefyd i’w teuluoedd a'u gofalwyr. Felly, meddwl am sut yr ydym yn darparu’r pecyn cyfan o gefnogaeth o gwmpas unigolion yn bendant yw’r ffordd yr hoffem fod, ac yna deall sut y byddwn yn gwneud hynny, a phwy fydd yn gwneud hynny, gydag ystod o wahanol bartneriaid. Ac, fel y dywedwch, mae'r trydydd sector yn arbennig yn rhan bwysig iawn o hynny erbyn hyn, a byddant, unwaith eto, yn y dyfodol.

Mae hynny newydd fy atgoffa o ddigwyddiad. Ugain mlynedd yn ôl, gwirfoddolais i fynd i gartref preswyl i wneud ychydig o ganu carolau. Roeddem yn canu'r carolau adnabyddus i gyd, ac ar un adeg gofynnwyd i'r preswylwyr a oedd ganddyn nhw unrhyw geisiadau, a chododd un wraig ei llaw a dweud, 'Oes, rhowch y gorau i ganu.' Nawr, y rheswm pam rwy’n sôn am hynny yw oherwydd, ar ôl hynny, dywedodd aelod o staff wrthym nad oedd hi wedi siarad ers blwyddyn neu ddwy, ac fy mhwynt i oedd, does dim ots pa un a ydych yn ganwr da neu’n ganwr gwael, gallwch chi wir gael tipyn o effaith ar bobl. Ond nid oes rhaid i’r Llywodraeth drefnu hyn i chi o reidrwydd. Gallwch fynd eich hun i mewn i'ch cymuned leol a gwneud y pethau hyn.

Roedd un o fy staff yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar ddementia, lle’r oedd pobl sy'n byw gyda dementia wedi’u cynrychioli ac, yn wir, yn bresennol. Yr hyn a oedd yn amlwg oedd bod pobl sy'n byw gyda dementia yn dymuno parhau i fod yn rhan o'n cymdeithas. Maent yn dymuno helpu eraill fel 'cyfeillion', ac yn sicr maent yn dymuno cael eu clywed. Rwy’n nodi ei bod yn ymddangos bod yr ymgynghoriad hwn yr ydych wedi ei ddechrau ar fformat arferol Llywodraeth Cymru. Felly, yr hyn yr oeddwn eisiau ei wybod oedd: sut y gallwch chi sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cyrraedd y bobl y mae angen ymgynghori â nhw—y rhai sy’n defnyddio'r gwasanaethau mewn gwirionedd—a’u bod yn gallu ymateb ac y gellir diwallu eu hanghenion? A allwch amlinellu sut y mae’r ymgynghoriad hwn wedi cael ei deilwra ar gyfer hynny?

O ran gwasanaethau cymorth, roeddwn i’n meddwl tybed beth yw eich meddyliau am gyfuno adrannau gwasanaethau cymdeithasol sy'n darparu rhai o'r triniaethau a rhywfaint o’r gofal i gleifion dementia, fel arfer yn eu cartrefi eu hunain, gyda'r GIG, er mwyn sicrhau bod y llaw chwith yn gwybod yn union beth mae'r llaw dde yn ei wneud, ac i ddarparu gwasanaethau yn well ar gyfer cleifion dementia?

Wel, nid wyf i’n siŵr a oedd y pwynt cyntaf ynglŷn â rhywun nad oedd wedi siarad ers blynyddoedd yn sefyll ar ei draed ac yn siarad pan oeddech chi’n canu yn sylw am eich gallu i ganu, ynteu a yw’n ymwneud ag effaith cerddoriaeth ar y cof a sbarduno ymateb. Ond mae’r pwyntiau hynny wedi’u gwneud yn dda am wahanol weithgareddau nad ydynt yn brofiad yn unig, ond sut yr ydych yn cynnal gallu rhywun i wneud pethau hefyd a gwneud yn siŵr nad ydynt yn dirywio’n gyflymach.

Rwy’n deall y pwyntiau a wneir yn rheolaidd am y ffordd yr ydym yn ymgynghori, ond mae hon yn enghraifft dda o wrando ar, a gweithio gyda, nid dim ond y trydydd sector ac eiriolwyr a hyrwyddwyr wrth gynllunio a chyflwyno ymgynghoriad i fynd allan i grŵp ehangach o bobl, ond unigolion eu hunain, fel yr wyf wedi’i ddweud, oherwydd yn y prosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia, mae’r bobl hynny yn byw â dementia eu hunain, ac felly maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ran y bobl yr ydym wedi gwrando arnynt wrth lunio'r cynigion ymgynghori hyn. A dyna pam yr wyf yn annog, ac mae pobl eraill yn annog, yr amrywiaeth ehangaf bosibl o bobl i gymryd rhan ac ymgysylltu. Rydym yn cynnal y digwyddiadau hyn gyda'r trydydd sector, gydag amrywiaeth o wahanol bobl y maent eisoes wedi gweithio gyda nhw, pobl sy’n gwybod eu bod yn wynebu’r her hon yn awr, a phobl eraill a fydd yn cael diagnosis yn y dyfodol hefyd. Ni wnawn fyth, a bod yn onest, gyrraedd 100 y cant o bobl. Ni all unrhyw ymgynghoriad wneud hynny. Ond rwy’n meddwl ein bod yn mynd i gyrraedd nifer da o bobl a fydd wedyn yn dweud rhywbeth o werth gwirioneddol wrthym am eu bywydau, sut y maent yn eu byw, yr heriau y maent wedi eu hwynebu yn barod, beth sydd wedi gweithio iddynt, a beth nad ydyw, er mwyn deall yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud ar hyn o bryd, a'r hyn yr hoffem ei wneud yn well yn y dyfodol i sicrhau gwell canlyniadau i’r unigolion hynny a'u teuluoedd.

Mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt olaf ynglŷn ag uno adrannau rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a/neu'r GIG. Rydym wedi amlinellu agenda glir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant am y bartneriaeth yr ydym yn disgwyl ei gweld yn digwydd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a'r trydydd sector ehangach ac unigolion hefyd. Mae'n ymwneud â sut yr ydych yn grymuso pobl. Mae'n ymwneud â sut yr ydych yn lleihau rhwystrau i lunio gwasanaethau o amgylch unigolion. Bydd y Gweinidog yn gwneud mwy o waith ar hyn yn ymarferol, gan weithio gydag amrywiaeth o wahanol bartneriaid, i ddeall sut y mae cynllun y Ddeddf honno’n cael ei gyflwyno yn raddol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Ac rwy’n credu y byddwn mewn lle da yn ddiweddarach yn y tymor hwn i weld pa mor llwyddiannus y buom. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol i beidio ag ad-drefnu yn strwythurol, ond i feddwl am sicrhau canlyniadau gwirioneddol i bobl, a’r ymdeimlad hwnnw o bartneriaeth ac ymgysylltu go iawn, a gorchymyn pobl i gydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol.

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ffliw adar, ac rwy’n galw ar Lesley Griffiths i wneud y datganiad hwnnw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mewn ymateb i achosion o ffliw adar H5N8 pathogenig iawn ar draws Ewrop, gogledd Affrica a'r dwyrain canol, fel mesur rhagofalus, gwnes i ddatgan Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar ar 6 Rhagfyr 2016. Mae'r parth atal yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl bobl sy’n cadw dofednod, ac adar caeth eraill, gadw eu hadar dan do, neu gymryd pob cam priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt, ac i wella bioddiogelwch ar eu safle. Roedd hwn yn fesur rhagofalus i leihau'r risg o ddofednod ac adar caeth yn cael eu heintio gan adar gwyllt. Cyflwynwyd mesurau tebyg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau dull cydlynol ar draws y DU.

Ar 16 Rhagfyr, cadarnhawyd ffliw adar H5N8 pathogenig iawn mewn tyrcwn mewn safle yn Swydd Lincoln. Bu farw'r rhan fwyaf o'r tyrcwn ar y fferm yn gyflym o'r haint, a'r gweddill yn cael eu difa heb greulondeb. Gweithredwyd parth gwarchod 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle, gan gyfyngu ar symudiadau o safleoedd a nodir yn y parthau. Yn dilyn cadarnhad o’r clefyd yn Swydd Lincoln, rwy’n cymryd camau pellach i ddiogelu adar dofednod ac adar caeth yng Nghymru drwy gyflwyno gwaharddiad dros dro ar ddigwyddiadau lle y daw dofednod at ei gilydd megis ffeiriau gwerthu a sioeau.

Mae masnach yr UE yn dibynnu ar broses ardystio llym ar gyfer symud dofednod byw a chynhyrchion anifeiliaid. Yn dilyn yr achos yn Swydd Lincoln, ni chaniatawyd unrhyw fasnach o'r safle heintiedig, yn unol â gofynion yr UE. Yn yr un modd, ni cheir symud unrhyw ddofednod na chynnyrch dofednod i'r DU o’r parthau gwarchod na’r parthau gwyliadwriaeth a osodir mewn gwledydd eraill yr UE. Rydym yn parhau i asesu'r effeithiau ehangach ar fasnach ryngwladol, ond rydym yn ymwybodol bod rhai gwledydd y tu allan i'r UE eisoes wedi gosod cyfyngiadau.

Cadarnhawyd y clefyd mewn hwyaden wyllt, chwiwell, yn Sir Gaerfyrddin ar 22 Rhagfyr. Hwn oedd y canfyddiad cyntaf mewn aderyn gwyllt yn y DU, ac nid oedd yn annisgwyl, o gofio bod y clefyd wedi’i gadarnhau mewn rhywogaethau mudol gwyllt ledled Ewrop. Cyn y canfyddiad hwn, datblygwyd systemau gwyliadwriaeth adar gwyllt, a gostwngwyd y trothwy adrodd ar gyfer rhywogaethau a allai gael y straen firws hwn, o bum aderyn marw i un. Mae aelodau o'r cyhoedd wedi’u hannog i gysylltu â llinell gymorth Prydain Fawr ynglŷn ag unrhyw aderyn dŵr gwyllt sydd wedi marw, megis hwyaid, gwyddau, elyrch neu wylanod, a phump neu fwy o adar gwyllt sydd wedi marw, sy’n perthyn i rywogaethau eraill yn yr un lleoliad.

Ers y canfyddiad yn Llanelli, bu mwy o ganfyddiadau o ffliw adar pathogenig iawn mewn adar gwyllt marw yn Lloegr a'r Alban, ac yng Nghymru, mewn hwyaden wyllt arall, corhwyad, yng Nghonwy. Mae'n debygol y caiff mwy o achosion eu canfod, a fydd yn cael eu hadrodd yn wythnosol.

Ar 3 Ionawr, cadarnhaodd ein prif swyddog milfeddygol glefyd ar dyddyn ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd cyfyngiadau ar y safle, lle’r oedd chwe iâr a 19 o hwyaid, a chafodd yr adar eu difa heb greulondeb. Sefydlodd y prif swyddog meddygol barth diogelu 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle heintiedig er mwyn lleihau'r perygl i’r clefyd ledaenu, ac mae’r gofynion ar gyfer hyn i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y bobl y nodwyd fel bod yn cadw dofednod yn y parthau yn cael ymweliad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac yn destun ymchwiliad milfeddygol wedi'i dargedu. Mae'r achos hwn yn atgyfnerthu fy nghamau gweithredu cynharach, ac rwy’n hynod awyddus i sicrhau bod pawb sy'n cadw dofednod, yn arbennig heidiau iard gefn, yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eu hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt a allai fod wedi'u heintio.

Yr wythnos diwethaf, fe wnes i ymestyn y parth atal yng Nghymru hyd at 28 Chwefror, a ystyriais yn dilyn yr achos ym Mhontyberem, y canfyddiadau parhaus mewn adar gwyllt ar draws Prydain Fawr, ac yn dilyn cyngor arbenigol. Mae DEFRA a Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yr un fath. Rwy’n deall bod rhai sy'n cadw dofednod yn ei chael hi’n anodd cadw at holl ofynion y parth atal, yn enwedig cadw eu hadar dan do neu ar wahân i adar gwyllt. Gall cadw adar dan do nad ydyn nhw wedi arfer bod dan do na chael eu cyfyngu am gyfnod parhaus, achosi problemau o ran lles ac ymddygiad. Mae canllawiau ar sut i gynnal lles, ac amrywiaeth o ddewisiadau cyfoethogi amgylcheddol ar gyfer adar caeth, gan gynnwys dofednod, i’w gweld, unwaith eto, ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwn fod pobl sy’n cadw dofednod yn poeni am eu hadar a byddan nhw’n deall mai bwriad y camau a gymerais yw diogelu eu hadar rhag clefyd. Mae cydymffurfio â gofynion y parth atal, a'r cyfyngiadau eraill o amgylch y safle ym Mhontyberem, yr un mor berthnasol i bobl sy’n cadw heidiau iard gefn ag y maent i safleoedd masnachol mawr.

Mae'r cyfryngau wedi cael gwybod am y datganiadau sy’n gweithredu cyfyngiadau. Mae canllawiau ar gael ar ein gwefan sy’n rhybuddio'r cyhoedd a phobl sy’n cadw dofednod—ac ar draws ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Cynhaliodd y prif swyddog milfeddygol rownd o gyfweliadau yr wythnos diwethaf ar draws safleoedd cyhoeddus a masnachol sy'n cwmpasu Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, ac mae cyfres o gyfweliadau pellach wedi’u cynllunio â gorsafoedd radio rhanbarthol llai yr wythnos hon. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi bod ar gael yn eang yn y cyfryngau, ond er hynny, efallai na fydd rhai pobl sy’n cadw dofednod yn ymwybodol o'r gofynion o hyd. Mae’n rhaid i bobl sy’n cadw dofednod a chanddyn nhw 50 o adar neu fwy, gofrestru eu heidiau ar y gofrestr ddofednod, a byddwn i’n annog yn gryf bod pawb sy’n cadw dofednod, gan gynnwys y rhai a chanddyn nhw lai na 50 o adar, yn rhoi eu manylion ar y gofrestr ddofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, trwy e-bost neu ddiweddariad ar ffurf neges destun, mewn achos o glefyd adar, gan eu galluogi i warchod eu haid ar y cyfle cyntaf.

Mae'r camau gweithredu a’r mesurau rheoli a roddwyd ar waith wedi bod yn gymesur, gan dargedu gweithgareddau risg uchaf, er mwyn lleihau'r effaith ar fasnach ryngwladol, yr economi a chynaliadwyedd y diwydiant dofednod yng Nghymru. Gallaf sicrhau pawb am ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa glefyd hon sy’n datblygu'n barhaus. Rwyf wedi derbyn diweddariadau rheolaidd gan y Prif Swyddog Milfeddygol a’m swyddogion, a oedd yn gweithio drwy gydol cyfnod y Nadolig ac sy'n parhau i ymgysylltu’n agos â gweinyddiaethau eraill, gan fonitro'r sefyllfa a chymryd camau yn ôl yr angen. Ni fydd lefel y risg o ffliw adar i ddofednod ac adar caeth eraill gan adar gwyllt yn lleihau yn yr wythnosau nesaf, a gallai hyd yn oed gynyddu pan fydd cyfnod mudo’r adar gwyllt yn dechrau yn y gwanwyn. Mae gwaith ar y gweill gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban i ystyried beth allai'r strategaeth ymadael fod ar gyfer diddymu’r parth atal.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ni allaf roi digon o bwyslais ar yr angen i’r rhai hynny sy'n cadw heidiau o ddofednod ac adar domestig barhau’n effro i arwyddion o’r clefyd, i gysylltu â'u milfeddygon preifat os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ac i arfer y lefelau uchaf o fioddiogelwch.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni’n pwysleisio’r neges bod y risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws hwn yn isel iawn ac nad yw'n peri risg o ran diogelwch bwyd i ddefnyddwyr Cymru.

Rwy’n gwerthfawrogi pa mor anodd yw’r mater penodol hwn a dyna pam mae hi mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n gyflym ac yn gweithio ar y cyd â Llywodraethau eraill ar draws y DU. Mae'n hanfodol bod unrhyw waith cynllunio wrth gefn yn cael ei gydlynu â Llywodraethau eraill ledled y DU, fel nad yw polisïau Llywodraeth yn rhwystro neu hyd yn oed yn gwaethygu'r broblem bresennol.

Yng ngoleuni datganiad heddiw, gan gofio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir bod ei swyddogion yn ymgysylltu’n agos â gweinyddiaethau eraill, efallai y gallai hi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar lefel weinidogol gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill ynghylch yr achos penodol hwn, a sut y gellir cryfhau’r gwaith o fonitro bygythiadau o glefydau, fel y straen H5N8, ar draws Llywodraethau yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae’n gwbl hanfodol bod y bobl sy’n cadw llai o ddofednod a'r rhai hynny sy'n cadw ieir ac adar eraill ar lefel mwy domestig yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf mewn cysylltiad â'r straen penodol hwn, ac nid dim ond y sector dofednod masnachol. Rwy'n falch bod pobl sy’n cadw dofednod yn cael eu hannog i roi manylion am eu heidiau i'r gofrestr ddofednod, sy’n arf hollbwysig i Lywodraeth Cymru i ddeall y sefyllfa yma yng Nghymru yn well. Rwy’n mawr obeithio bod y bobl hynny sy’n cadw llai na 50 o adar hyd yn oed yn darparu eu manylion fel eu bod, mewn achos o ffliw adar, yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth briodol yn gyflym ac felly’n gallu gwarchod eu hadar yn well. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi diweddariad i ni ar faint o bobl sy’n cadw dofednod sy'n darparu eu manylion i'r gofrestr? Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu asesiad cychwynnol o effeithiolrwydd y gofrestr hon ar hyn o bryd.

Yn anffodus, gall arwyddion o ffliw adar, fel y deallaf, amrywio rhwng rhywogaethau o adar a gall amrywio o rywbeth ysgafn iawn, fel newid mewn lliw, i rywbeth llawer mwy difrifol. Fodd bynnag, oherwydd y gall y clefyd ymateb yn wahanol, mae'n anodd iawn monitro'r clefyd yn effeithiol mewn dofednod a gedwir a hyd yn oed anoddach mewn adar gwyllt. Mae gwyliadwriaeth, wrth gwrs, yn dal i fod yn rhan bwysig mewn cysylltiad â'r achos hwn, ac mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod gwyliadwriaeth adar, wrth gwrs, wedi cynyddu. Fodd bynnag, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym am sut y caiff y system gwyliadwriaeth adar well hon, yn arbennig yng nghyd-destun adar gwyllt, ei rhoi ar waith ar draws Cymru ar lefel weithredol.

Bydd y straen ffliw adar, heb os, yn cael effaith ar sector maes Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymfalchïo yn y ffaith fod yr anifail yn cael crwydro'n rhydd. Gwyddom fod 89 y cant o unedau cynhyrchu wyau yng Nghymru yn cynhyrchu wyau maes. Yn dilyn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am ba asesiad sydd wedi'i gynnal o effaith y straen o ffliw adar ar y sector arbennig hwn. Rwy’n sylweddoli bod y datganiad heddiw yn cyfeirio at ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal lles ar gyfer adar caeth, ond, a wnaiff hi ddweud wrthym a oes unrhyw oblygiadau ar les dofednod ar ffermydd maes, ac os felly, sut y mae Llywodraeth Cymru wedi lliniaru unrhyw oblygiadau posibl i les o ganlyniad i’r straen hwn o ffliw adar?

Nawr, y llynedd cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fygythiadau clefydau anifeiliaid egsotig. Gofynnais sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi Cymru, mewn achos o glefyd, i sicrhau bod ein prosesau cymorth yn gallu cael gafael ar yr adnoddau a'r cyllid priodol. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod hi’n hanfodol bod cyllid digonol wedi’i sefydlu i sicrhau bod ffermwyr, awdurdodau lleol ac asiantaethau yn hyderus bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i weithredu mesurau rheoli clefydau yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym yn awr sut y mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu adnoddau yn y maes hwn, a sut y caiff y cyllid hwnnw ei fonitro fel y gall pobl Cymru fod mor hyderus ag sy’n bosibl fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wneud Cymru mor ddiogel ag y gall fod bob amser.

Wrth gloi, Lywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr hon i wneud yr hyn a allwn i hyrwyddo pwysigrwydd bioddiogelwch effeithiol, ac i annog ein hetholwyr i roi gwybod am adar dŵr gwyllt sydd wedi marw neu adar gwyllt eraill sydd wedi marw. Rwy'n falch bod y datganiad y prynhawn yma yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraethau eraill i sicrhau y caiff dull gweithredu cydgysylltiedig symlach ei gyflwyno ar draws y DU. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn drwy ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolchaf i Paul Davies am ei gwestiynau a’i sylwadau. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn eich bod chi, i ryw raddau, wedi ailadrodd yr hyn a ddywedais am y risg i iechyd y cyhoedd: mae'n isel iawn, ni chafwyd yr un achos cyhoeddus o’r straen hwn o ffliw, ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud ei bod hi’n ddiogel iawn i fwyta dofednod ac wyau. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu’n gyflym iawn—gwnaethom y penderfyniad hwnnw ynglŷn â’r mesurau rhagofalus, fel y dywedais, ar 6 Rhagfyr—a’i ystyried yn fanwl. Rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â chynnyrch maes, yn rhywbeth a oedd, yn amlwg, yn destun pryder i mi, oherwydd, yn amlwg, y 12 wythnos yn ymwneud â’r statws maes. Wyddoch chi, nid oeddech chi eisiau dechrau’n rhy gynnar oherwydd byddai hynny'n cael effaith ar hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi’n iawn ein bod ni’n gweithredu'n gyflym ac, yn sicr, rwy’n credu bod y dull cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, yr Alban a’r DU wedi llwyddo i ddarparu’r dull cyson iawn hwnnw, ac yn amlwg dilynodd Gogledd Iwerddon yn fuan ar ôl hynny.

Rwy’n credu bod y prif swyddogion milfeddygol yn cael trafodaethau dyddiol, ac yn sicr roedd swyddogion yn cael sgyrsiau dros y ffôn bob dydd, a chynhaliwyd cyfarfodydd. Felly, ar lefel swyddogol, cynhelir y trafodaethau hynny yn aml iawn. Mewn cysylltiad â thrafodaethau rhwng gweinidogion, yr wythnos diwethaf roedd bob un o'r pedwar Gweinidog amaeth o bob rhan o’r DU yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen—mae'n ddrwg gennyf, tri oedd yno. Nid oedd Gweinidog yr Alban yno, ond yr oedd cynrychiolydd o'r Alban. Felly, eto, cafwyd trafodaethau, ar lefel gweinidogol a swyddogol.

Yn fy marn i mae’r gofrestr ddofednod—. Mae'n bwysig iawn—yn amlwg, os oes gennych chi fwy na 50 o adar yna mae'n orfodol—ond yr hyn yr wyf wedi gofyn i swyddogion ei wneud yw ystyried pa un a ddylai fod yn orfodol ar gyfer y bobl hynny sy’n cadw llai na 50 o adar, oherwydd rwy’n pryderu bod pawb yn gwybod am hyn. Os mai dwy iâr yn unig sydd gennych chi, mae'r un mor bwysig eich bod chi’n gofalu llawn cymaint am eich dofednod â’r bobl hynny a chanddyn nhw fwy. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa un a yw hi’n bosibl cyflwyno hynny hefyd. Ond, eto, rwy’n credu bod angen iddo fod yn ddull gweithredu cyson ar draws y DU, felly mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried wrth symud ymlaen.

Mae'r gofrestr ddofednod wedi bod yn weithredol, rwy’n credu, am tua 12 mlynedd, felly mae'n gofrestr a gaiff ei chynnal yn dda iawn. Ond rwy’n credu bod angen inni ystyried yr hyn y gallwn ei wneud ar gyfer pobl sy’n cadw llai na 50 o adar. Rydych chi'n hollol iawn ynglŷn â’r symptomau—gallai fod yn anadlol, gallai fod yn ddolur rhydd, gallai fod yn afliwio’r gwddf a'r wyneb, felly rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, eto, fod pobl yn ymwybodol o beth yw’r symptomau. Fe wnaethoch chi drafod cynnyrch maes, ac rydych chi’n hollol iawn—mae 89 y cant o’r wyau a gynhyrchir gennym ni yng Nghymru yn wyau maes a cheir effaith ar hynny. Mae un o'r rhesymau pam yr ydym ni’n ystyried sut y byddwn ni’n gweithredu’r strategaeth ymadael hon yn ymwneud ag wyau maes hefyd.

Mae lles adar yn bwysig iawn ac, eto, gwyddom nad yw adar wedi arfer bod dan do. Cewch wahanol glefydau pan fo gennych chi adar gyda'i gilydd. Mae diflastod yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ystyried, a dyna pam yr ydym wedi rhoi cyngor ar y wefan ynghylch cyfoethogi amgylchedd.

Mewn cysylltiad ag adnoddau a chymorth, nid ydym wedi cynnwys unrhyw adnoddau ychwanegol ar hyn o bryd. Gofynnais i swyddogion ddoe a oedd unrhyw bryderon ynghylch capasiti awdurdodau lleol, oherwydd, yn amlwg, nhw fyddai’r rhai a fyddai yn gyfrifol pe na byddai cydymffurfiad. Eto, mae’n rhaid i mi ddweud bod swyddogion yn arbennig o falch â'r ffordd yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gallu ymateb yn sgil yr achos ym Mhontyberem.

Yn olaf, ynglŷn â’ch pwynt olaf—mae’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd, ac mae'n gyfle da iawn. Un o'r rhesymau pam yr oeddwn i’n awyddus i gael y datganiad hwn heddiw oedd i ddweud eto nad ydym ond yn gallu parhau i ailadrodd pwysigrwydd bioddiogelwch, yn arbennig.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r datganiad. Fel y mae hi newydd ei ddweud, er nad ydym ni, efallai, fel gwleidyddion yn gallu bod o gymorth yn uniongyrchol wrth ddelio â’r clefyd yma, mae’n bwysig ein bod ni’n ei drafod, a bod hynny’n lledaenu neges gref gan y Llywodraeth ynglŷn â’r parth diogelwch ac ynglŷn â diogelwch y bwyd hefyd, sydd yn dal o hyd yng Nghymru, a bod y neges yna yn cael ei throsglwyddo.

A gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet, a, thrwyddi hi, i’w staff a’r prif swyddog milfeddygol am weithio dros gyfnod y Nadolig, ac am fod ar gael i’r cynghorau lleol hefyd, wrth gwrs, i gydlynu ynglŷn â’r clefyd yma a’r ffaith bod angen cydweithio yn agos â Llywodraethau eraill dros y cyfnod nesaf? Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae’r sector yma yn bwysig i economi Cymru. Efallai ein bod ni’n dueddol o feddwl am gig, cig oen a chig eidion, ond y mae 6 y cant o GDP amaeth yn deillio o’r sector dofednod ac y mae hynny’n gyfwerth â thua £100 miliwn. Felly, mae’n bwysig bod y neges yn mynd yn gryf iawn bod y bwyd yn ddiogel a bod y camau priodol yn cael eu cymryd i ddelio â’r clefyd ac i atal, gobeithio, lledaeniad y clefyd.

Mae rhan fwyaf y cwestiynau wedi cael eu gofyn ac wedi cael eu hateb, i fod yn onest—jest cwpl o gwestiynau penodol sydd ar ôl i mi gael bod yn glir yn eu cylch. Rŷm ni eisoes wedi trafod dofednod buarth neu wyau maes, neu beth bynnag yr ydych chi eisiau galw ‘free range’, ond mae e’n sector hynod bwysig i Gymru ac rwy’n meddwl ei fod e’n sector pwysicach yng Nghymru nag yn Lloegr, a dweud y gwir. Ar ôl rhyw 12 wythnos, rwy’n meddwl, mae yna berig y bydd y categori o wyau maes, er enghraifft, yn cael ei golli oherwydd bod y dofednod yn cael eu cadw dan do. Wrth gwrs, mae’n ddigon posib bod cynhyrchwyr wyau maes heb baratoi ar gyfer cadw dofednod dan do am gyfnod mor hir a bod yna effeithiau iechyd ar anifeiliaid yn y sefyllfa yna. Felly, pa gamau penodol sy’n cael eu cymryd yn y maes yma i sicrhau bod y sector yn mynd i gael ei ddiogelu, oherwydd bydd yna alw am gynnyrch o’r sector yma a bydd angen sicrhau bod y sector yn gallu goroesi unrhyw effaith gan y clefyd yma?

Mae’r ail gwestiwn yn un penodol yn deillio o’r datganiad y gwnaethoch chi ar 20 Rhagfyr pan, ar y pryd hynny, roeddech chi’n sôn nad oedd unrhyw waharddiad ar hel rhai adar at ei gilydd, yn benodol colomennod ac adar cewyll. Er, rwy’n meddwl, bod yr unig sioe yr oeddwn i’n ymwybodol ohoni wedi cael ei gohirio, mae’n dal yn bosib, o dan y gwaharddiadau presennol, rwy’n meddwl, fod y bobl sy’n hel colomennod ac ati at ei gilydd yn gallu parhau. A ydych chi wedi cael cyfle i ailedrych ar hynny yn y sefyllfa newydd a’r ffaith ei bod yn ymddangos bod y clefyd wedi ymledu yng Nghymru, ac yn y gogledd yn ogystal â’r de erbyn hyn?

Y cwestiwn olaf yw: er eich bod chi wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’r negeseuon yr ŷch chi wedi eu rhoi allan fel Ysgrifennydd Cabinet, rŷm ni i gyd yn ymwybodol nad yw’r wasg yng Nghymru efallai yn adrodd yn llawn ar faterion gwleidyddol Cymreig. A ydych chi yn saff yn eich meddwl bod pob un sy’n cadw dofednod yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd o dan yr angen i gofrestru yn statudol, wrth gwrs, yn llwyr ymwybodol o statws Cymru o ran y clefyd yma ac yn llwyr ymwybodol hefyd o’r mesurau bioddiogelwch y mae angen eu cymryd i ymatal ac atal y clefyd?

Os caf i ddechrau drwy ateb cwestiynau olaf Simon Thomas: a ydw i'n hyderus bod pawb a chanddyn nhw hyd yn oed un aderyn yn gwybod amdano? Byddwn i’n dweud 'nac ydw'. Dyna pam mae hi mor bwysig, fel y gwnaethoch chi ddweud, ein bod ni fel gwleidyddion yn rhannu’r wybodaeth honno. Cynhaliodd y Prif Swyddog Milfeddygol rownd sylweddol o gyfweliadau yr wythnos diwethaf. Ymddangosodd hi ar rwydwaith teledu brecwast y BBC. Roedd hi’n bwysig iawn yn ein barn ni bod y neges honno yn cael ei lledaenu. Felly, hoffwn feddwl bod pawb wedi gweld y neges ar ein cyfryngau cymdeithasol, ar y teledu, ar ein gwefan a’i chlywed ar y radio. Ond, wyddoch chi, a bod yn gwbl onest, a allaf i ddweud 100 y cant? Na, ond rwy’n gobeithio, hefyd, y cynhelir trafodaethau rhwng y bobl hynny sy’n cadw dofednod. Mae'r ffaith ein bod ni wedi atal dros dro y digwyddiadau ar gyfer cynnull adar yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr—ar 20 Rhagfyr—eto, caiff y neges honno ei lledaenu. Felly, rwy’n obeithiol, gan ei bod hi erbyn hyn wedi bod yn fis ers i ni gyflwyno’r parth atal, bod yr wybodaeth honno wedi’i rhannu. Felly, mae unrhyw beth y gall unrhyw un ei wneud i annog mwy o bobl i siarad amdano, yn fy marn i, yn bwysig iawn.

Fe wnaethoch chi ofyn am gynnyrch maes, a chyfeiriais yn fy ateb i Paul Davies at y penderfyniad i gyflwyno'r parth atal ar 6 Rhagfyr. Fe ddes i i’r penderfyniad ar ôl llawer iawn o gyngor ac ystyriaeth gan y Prif Swyddog Milfeddygol. Byddwch chi’n cofio mai DEFRA oedd y cyntaf i’w gyflwyno, wedi’i ddilyn yn agos gan yr Alban ac yna gan Gymru. Roedd Gogledd Iwerddon ychydig ar ein holau ni. Un o'r rhesymau pam y gwnes i ystyried y peth mor ofalus, oherwydd ei bod hi’n bwysig bod y camau yr ydym ni’n eu cyflwyno yn rhai cymesur, oedd ynglŷn â chynnyrch maes yn arbennig, gan fod 12 wythnos—. Wyddoch chi, pan fo’r cyfnod hwnnw’n dechrau—. Felly, rydym ni’n cael trafodaethau ynglŷn â’r hyn y byddwn ni’n ei wneud ar ôl Chwefror 28—yn amlwg, nawr bod y parth atal gennym ni hyd at 28 Chwefror, sy’n mynd â ni at y 12 wythnos hwnnw. Felly, bydd yn dibynnu ar ba achosion a fydd gennym ni dros y saith neu wyth wythnos nesaf, ond mae'r swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda DEFRA a chydweithwyr Albanaidd, yn arbennig, ynglŷn â gweithredu’r strategaeth ymadael honno o’r parth atal hwnnw.

Fe wnaethoch chi holi’n benodol am golomennod. Mae amodau’r parth atal yn berthnasol i bob aderyn caeth. Fodd bynnag, nid yw colomennod yn arwyddocaol o ran trosglwyddo’r straen penodol hwn o ffliw adar, felly cânt barhau i hedfan. Ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd, nid yw hi’n dymor rasio colomennod ar hyn o bryd, ac ni cheir unrhyw amserlenni rasio, mae'n debyg, cyn dechrau mis Ebrill. Felly, eto, nid wyf yn credu y byddai'n gymesur ymestyn unrhyw un o'r mesurau hyn i gynnwys chwaraeon a gweithgareddau hamdden ar hyn o bryd, ond bydd angen i ni barhau i adolygu pob dewis yn barhaus.

Rwy’n gobeithio na chaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei drysu ormod os byddaf yn cynnig fy nghefnogaeth lwyr ar gyfer y mesurau y mae hi wedi'u cymryd. Rwyf wedi’i beirniadu hi’n aml yn y gorffennol ynglŷn â chymesuredd. Credaf, yn yr achos penodol hwn, fod y camau y mae hi wedi'u cymryd yn rhai cymesur. Mae er budd pawb sy’n cadw dofednod ein bod ni’n atal lledaeniad y clefyd hwn. O fod wedi byw drwy erchyllterau straeon codi ofn gan Edwina Curry ynglŷn â salmonela mewn wyau 30 mlynedd yn ôl, pan achoswyd llawer o hysteria, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig atgoffa pobl bod ffliw adar yn dod mewn nifer o wahanol straeniau. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn fygythiad gwirioneddol, hyd yn oed i bobl sy'n cadw dofednod, heb sôn am y cyhoedd. Ni cheir unrhyw risg i ddiogelwch bwyd o gwbl, cyn belled ag y gwyddom. Felly, ni ddylai fod unrhyw sgil-effeithiau ar y rhai hynny sy'n gwerthu cynhyrchion bwyd sy'n gysylltiedig ag adar.

Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf i ba raddau y gallwn ni wella dealltwriaeth y cyhoedd yn gyffredinol am y materion hyn. Wrth gwrs, ymhlith y bobl hynny sy’n cadw dofednod, gallem ddisgwyl mwy o ddealltwriaeth na'r cyhoedd yn gyffredinol. O ran rhoi gwybod am yr adar marw a welir, ceir canllawiau sy'n dweud y dylech roi gwybod am unrhyw adar dŵr neu wylanod—neu, yn wir, unrhyw aderyn—os deuir o hyd i bump neu fwy ohonynt gyda’i gilydd. Mae honno’n wybodaeth bwysig sydd ei hangen ar awdurdodau i ddeall yn union sut y mae'r clefyd yn lledaenu, os yw’n lledaenu. Mae bioddiogelwch yn allweddol i ddatrys hyn. Yn ôl yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, mae’n swnio’n debyg y byddwn ni’n gweld y cyfyngiadau hyn yn parhau am beth amser oherwydd yr adeg o'r flwyddyn. Ar hyn o bryd, fel y soniodd hi, bydd yr adar yn mudo yn yr wythnosau nesaf. Felly, mae hyn yn debygol o achosi problemau i bobl sy'n cadw dofednod am resymau masnachol.

O ran yr heidiau llai, roedd y digwyddiad diweddaraf, ym Mhontyberem, yn ymwneud â nifer cymharol fach o adar, ac o dan yr amgylchiadau hyn, tybed beth y gellid ei wneud i annog pobl i ddefnyddio cewyll i gadw eu hadar, ac o wneud hynny ychydig iawn o darfu a ddylai fod ar fywydau’r adar eu hunain ac, yn wir, bywydau’r bobl sy’n cadw dofednod. O ystyried y goblygiadau o ran lles yr anifeiliaid o’u cadw dan do am gyfnodau sylweddol o amser, os yw hyn yn debygol o barhau am nifer o fisoedd, gall fod yn fuddsoddiad gwerth chweil i bobl gael ardaloedd wedi’u rhwydo lle y gellid gadael yr adar allan, a tybed i ba raddau y gallai ei hadran hi fod o gymorth yn hynny o beth.

Diolch. Yn sicr, nid wyf i eisiau cael fy nghymharu ag Edwina Currie, felly rwy’n croesawu eich sylwadau ynglŷn â mesurau cymesur.

Rydych chi'n hollol iawn: ceir amrywiaeth o straeniau o ffliw adar ac mae’r un yma yn un llwybr uchel, yr H5N8 hwn. Rwy’n credu eich bod chi’n codi pwynt diddorol yn ymwneud â’r cyhoedd yn gyffredinol, oherwydd, wyddoch chi, mae hi wedi bod yn ddigon anodd rhannu’r wybodaeth â’r bobl hynny sy’n cadw dofednod, ond, i'r un graddau, mae'n fater o ddiddordeb i iechyd y cyhoedd, ac mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall na cheir unrhyw effaith neu fod yr effaith ar iechyd y cyhoedd yn isel iawn—nid yw’r straen hwn erioed wedi’i ganfod mewn aelod o'r cyhoedd—a hefyd bod diogelwch bwyd yn bwysig iawn ac, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, fod dofednod ac wyau, yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn ddiogel i'w bwyta. Felly, eto, rwy’n sôn am sut yr ydym ni wedi rhoi gwybod i’r bobl hynny sy’n cadw dofednod. Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n lledaenu’r neges honno. Un o'r penderfyniadau a wnaethpwyd yr wythnos hon yw y byddwn ni’n gwneud rownd o gyfweliadau â gorsafoedd radio lleol, oherwydd bod pobl, yn amlwg, yn gwrando ar orsafoedd radio lleol hefyd, gan adeiladu ar y gwaith sylweddol a wnaeth y prif swyddog milfeddygol yr wythnos diwethaf.

Mae bioddiogelwch yn hynod bwysig, ac mae'n bwysig iawn y cynhelir safonau uchel iawn o fioddiogelwch. Mae’r parth gwarchodu—mae’n ddrwg gennyf, y parth atal—bellach gennym ni hyd at 28 Chwefror, a fydd, fel y soniais, yn mynd â ni hyd at y cyfnod 12 wythnos cyn ein bod ni wedyn yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau pwysig iawn ynglŷn â chynnyrch maes. Felly, mae’r parth ar waith gennym ni hyd at 28 Chwefror.

O ran gosod rhwydi, rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt da iawn, gan fod llawer o bobl—. Pan wnaethom ni gyhoeddi’r parth hwnnw—ac, fel y dywedais, mae'n bwysig iawn eich bod chi’n cymryd camau cymesur—roeddwn i’n ymwybodol iawn y byddai materion yn ymwneud â lles anifeiliaid yn codi, gan na fyddai pobl wedi paratoi i gadw’r dofednod dan do. Felly, os gallwch eu cadw dan rwyd, bydd hynny’n eu cadw i ffwrdd oddi wrth adar gwyllt i ryw raddau. Felly, fel yr ydych chi’n dweud, os nad yw pobl wedi gallu paratoi i gadw adar dan do yn syth, wyddoch chi, efallai y byddai'n werth cael y rhwyd honno ​​a’r rhwyll honno yn barod a gwneud yn siŵr, wrth iddyn nhw fwydo’r dofednod, nad yw’r porthiant ar gael i adar gwyllt. Mae hynny hefyd yn bwysig iawn. Felly, pe gallai pobl edrych ar y wefan, ceir llawer o wybodaeth ar ein gwefan. Rydym ni wedi rhannu’r wybodaeth honno ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol hefyd, a, gobeithio, heddiw, wyddoch chi, hyd yn oed os mai dim ond ychydig mwy o bobl sy’n cymryd sylw o'r datganiad hwn—. Efallai y gall Aelodau, wrth iddyn nhw gyflawni eu gwaith wythnosol—wn i ddim; rwy’n cynnwys cylchlythyr wythnosol ar e-bost—neu os byddwn ni, wyddoch chi, pan fyddwn ni yn ein cymorthfeydd cyngor, byddwn ni’n gallu lledaenu’r neges honno hefyd.