Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/05/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 14:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Hwn yw'r cyfarfod cyntaf o seithfed Senedd Cymru. Gaf i gychwyn drwy ddweud pa mor hyfryd yw hi i weld y Siambr yma yn llawn? Gaf i estyn llongyfarchiadau i'r 95 ohonoch ar gael eich ethol i wasanaethu pobl Cymru yn ein Senedd genedlaethol? Bydd disgwyliadau'r etholwyr yn uchel o bob un ohonom, a'r cyfrifoldeb ar ein hysgwyddau i wireddu'r disgwyliadau hynny, a gwneud hynny gydag urddas, parch a twtsh bach o hwyl hefyd.

Wrth i fi baratoi i adael y swydd yma, gaf i ddymuno pob llwyddiant i chi i gyd yn eich gwaith pwysig dros y pedair blynedd nesaf? Felly, fel Llywydd, fy nyletswydd i o dan Reol Sefydlog 6.4 yw cadeirio'r trafodion ar gyfer ethol Llywydd newydd. Rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6. A oes yna Aelod yn cael ei enwebu?

Diolch. Mae Huw Irranca-Davies wedi'i enwebu. A oes gennym ni Aelod nad yw o'r un grŵp gwleidyddol i eilio'r enwebiad?

Diolch. Mae'r enwebiad, felly, wedi'i eilio yn ffurfiol. A oes yna unrhyw enwebiadau eraill?

Diolch. Mae Paul Davies wedi cael ei enwebu. A oes yna eilydd o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad hynny? 

Na. Gan nad oes yna eilydd i'r enwebiad hynny, dim ond un enwebiad, felly, sydd wedi'i gynnig yn ffurfiol ac yn llawn, a chynigiaf felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.8, fod Huw Irranca-Davies yn cael ei ethol yn Llywydd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i hynny. Felly, gan fod yna wrthwynebiad, dwi nawr yn gofyn i'r ymgeisydd wneud cyfraniad byr i'r Siambr—Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn gyntaf oll, a gaf i longyfarch holl Aelodau'r Senedd, newydd a hen, ar eu hetholiad? Ymhellach, rwy'n ymestyn fy niolch i'r ymgeiswyr hynny a fu'n aflwyddiannus. Mae'n gofyn am wydnwch, dewrder a dyfalbarhad i roi eich enw ymlaen ar gyfer unrhyw etholiad, a heb y bobl hynny sy'n barod i wneud hynny, ni allai ein democratiaeth weithio.

I'r Aelodau hynny o'r Senedd nad ydyn nhw'n fy adnabod i, fe wnaf i gynnig crynodeb byr, diolch byth, o'm profiad a'm sgiliau sy'n berthnasol i swyddogaeth y Llywydd.

Treuliais bron i 15 mlynedd yn San Steffan yn gwneud yr hyn yr wyf i weithiau'n ei alw'n ysgafngalon fy mhrentisiaeth ar gyfer y Senedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwasanaethais fel Gweinidog Llywodraeth a Gweinidog yr wrthblaid mewn swyddogaethau allweddol. Fe wnes i lwyddo i basio deddfwriaeth gymhleth ac ymgysylltu'n adeiladol â Gweinidogion Llywodraeth Cymru yma yn y Cynulliad ar y pryd, ac roeddwn i'n gadeirydd ar bwyllgorau craffu grymus a dylanwadol. Pan wnes i ddod i'r Senedd, ceisiais gyfrannu at waith y sefydliad democrataidd hwn fel Aelod balch o'r meinciau cefn—ac nid wyf i byth yn anghofio pwysigrwydd y swyddogaeth honno—hefyd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel aelod o ddau bwyllgor ar ddiwygio'r Senedd, fel Gweinidog Llywodraeth ac Ysgrifennydd y Cabinet, a thrwy hyn i gyd, ymestyn fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o Reolau Sefydlog a gweithdrefnau'r Senedd, yr wyf yn credu sydd wedi rhoi'r dyfnder a'r ehangder i mi o ran sgiliau a gallu i ymgymryd â'r swyddogaeth bwysig hon.

Dewisais ddychwelyd i Gymru. Ymddiswyddais fel Aelod o Senedd y DU i sefyll ar gyfer y Senedd hon yn 2016. Rwy'n un o'r rhai prin i wneud y daith honno gyda bwriad a phwrpas gwirioneddol. Fe wnes i hynny gan fy mod i'n credu yn y Senedd hon, curiad calon ein democratiaeth genedlaethol yma yng Nghymru. Mae ein Senedd Cymru yn dal i fod yn Senedd ifanc iawn, ond mae'n tyfu o ran cryfder ac o ran hyder. Rwy'n credu yng ngrym y sefydliad democrataidd hwn i wella bywydau pobl Cymru, drwy roi llais i gymunedau amrywiol Cymru, drwy'r cynrychiolwyr a etholir yma, a thrwy ddwyn y Llywodraeth i gyfrif drwy graffu a herio effeithiol ac adeiladol.

Os caiff y cyfrifoldeb o fod yn Llywydd ei roi i mi gan Aelodau'r Senedd, rwy'n addo gweithio gyda'r holl Aelodau i sicrhau bod ein Senedd yn cwrdd â disgwyliadau uchel y sefydliad hwn ac, wrth inni fynd i seithfed tymor y Senedd, fod y Senedd yn berthnasol i bob rhan o Gymru ac yn ymgysylltu â nhw, a bod ein democratiaeth yn cael ei chryfhau trwy ein hymdrech gyffredin fel seneddwyr.

Fe wnaf i gyflawni'r swyddogaeth hon gyda nod amgen natur agored a chydweithredol, tegwch a didueddrwydd, bob amser yn awyddus i sicrhau bod y Senedd hon a phob un ohonom ni sydd â'r fraint o gynrychioli ein hetholwyr yn gwneud hynny gyda pharch at ein gilydd yn y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu ac yr ydym ni'n trafod, parch at ein prosesau democrataidd, a pharch at bobl Cymru yn ein holl amrywiaeth fawr a gogoneddus.

Felly, diolch.

Diolchaf i gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr am fy annog i gynnig fy enw. Os caf fy ethol, byddaf yn gwneud fy ngorau i chi i gyd ac i'r Senedd, a thrwy hyn, y gorau posibl i bobl Cymru.

Diolch i chi i gyd.

14:05

Byddwn ni nawr yn symud at y bleidlais gyfrinachol, a byddaf i'n atal y cyfarfod, er mwyn hwyluso hynny, dros dro. Bydd y pleidleisio yn digwydd yn ystafell friffio 13, sydd jest y tu allan i'r Siambr yma. Ni fydd y balot yn cau tan fod pob Aelod sy'n bwriadu pleidleisio wedi gwneud hynny.

Rwyf i wedi cytuno y caiff Sarah Murphy bleidleisio drwy ddirprwy am ei bod hi ar absenoldeb rhiant, a bydd Vikki Howells yn bwrw'r bleidlais honno ar ei rhan hi fel dirprwy.

Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r pleidleisio a'r cyfrif, ac ar ôl cyfri'r pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn y bleidlais gyfrinachol, bydd y gloch yn cael ei chanu fel y gallwn ailymgynnull ar gyfer cyhoeddi'r canlyniad. Felly, dwi'n atal y cyfarfod dros dro am nawr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:07.

14:40

Ailymgynullodd y Senedd am 14:44, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Rydyn ni'n ailgydio yn y cyfarfod. Mae gyda fi ganlyniad ichi yn dilyn y bleidlais gyfrinachol. Mae 95 o bleidleisiau wedi eu bwrw ar gyfer Huw Irranca-Davies. O blaid Huw Irranca-Davies 85 o bleidleisiau, yn erbyn naw, yn ymatal un. Difethwyd ddim un pleidlais. Felly, dwi'n gallu datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Huw Irranca-Davies wedi cael ei ethol yn Llywydd y Senedd. Llongyfarchiadau mawr. [Cymeradwyaeth.] Fe fyddwn ni nawr yn atal y cyfarfod dros dro am eiliad neu ddwy, tra bod y Llywydd newydd yn dod i'r Gadair. 

14:45

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:45.

Ailymgynullodd y Senedd am 14:46, gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.

Diolch yn fawr iawn am eich ymddiriedaeth a'ch hyder ynof i.

Hefyd, diolch yn fawr iawn, Elin. [Cymeradwyaeth.] Diolch i chi am eich stiwardiaeth ofalus ac arbenigol o'r Senedd hon. Mae'n lle sydd wedi newid yn fawr, ac mae'n well fyth o'ch cyfnod chi fel Llywydd. Diolch yn fawr iawn. 

2. Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6

Nawr te, i'r busnes nesaf. Rydyn ni'n symud ymlaen nawr at ethol y Dirprwy Lywydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, mai dim ond os yw'r enwebiadau o grŵp gwleidyddol gwahanol i mi y bydd enwebiadau yn ddilys ar gyfer Dirprwy Lywydd. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6.

Diolch yn fawr iawn. A oes gennym Aelod nad yw o'r un grŵp gwleidyddol i eilio'r enwebiad?

Diolch. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Na—

Maddeuwch i mi, rwy'n newydd i hyn. [Chwerthin.] Dydw i ddim eisiau cael hyn yn anghywir.

Gwelaf nad oes enwebiadau eraill. Cynigiaf, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.8, bod—. Mae'n ddrwg gen i. Gan nad oes gwrthwynebiad—[Torri ar draws.] Na. Mae'n ddrwg gen i. Gan nad oes enwebiadau eraill, cynigiaf, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.8, fod Kerry Ferguson wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Gan nad oes gwrthwynebiad, rwyf yn datgan felly bod Kerry Ferguson wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd Senedd Cymru. [Cymeradwyaeth.]

14:50
3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y cynnig yw gwahodd enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes gwrthwynebiad, byddwn yn bwrw ymlaen â'r enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. Felly, a oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog?

Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n enwebu Darren Millar.

Gan fod tri enwebiad, byddaf yn cynnal pleidlais drwy alw'r gofrestr ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod sy'n bresennol yn nhrefn yr wyddor. Dywedwch enw'r ymgeisydd rydych yn ei gefnogi yn glir pan gewch eich galw, neu ddywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Dirprwy Lywydd na minnau bleidleisio. Byddwn wedyn yn aros i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais. Yn gyntaf, Lyn Ackerman.

14:55
15:00

Sarah Murphy, pleidlais drwy ddirprwy—Vikki Howells.

Byddwn nawr yn aros i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais.

15:05

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:02.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:09, gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.

Dyma ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd drwy alw'r gofrestr: Rhun ap Iorwerth 44, Dan Thomas 34, Darren Millar saith, yn ymatal naw. Y cyfanswm yw 94. Rwyf felly yn datgan bod Rhun ap Iorwerth wedi cael ei enwebu i'w benodi yn Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Fawrhydi y dylid penodi Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog. Rwy'n gwahodd Rhun ap Iorwerth i annerch y Senedd. [Cymeradwyaeth.] 

15:10

Diolch i chi i gyd. Diolch yn fawr, Lywydd, yn gyntaf, a llongyfarchiadau gwresog i chi ar gael eich ethol i'r rôl, ac i'r Dirprwy Lywydd hefyd. Dwi'n gwybod bod lles ac enw da ein Senedd ni yn bethau sydd yn agos iawn at eich calon chi ac y byddwch chi yn geidwad a chennad teilwng i gartref ein democratiaeth. Diolch i chi.

Braint fy mywyd i ydy cael fy ethol yn Brif Weinidog ar y genedl sy'n golygu cymaint i mi. Dwi'n dechrau ar y daith yn wylaidd, yn ddyledus i gefnogaeth a chariad fy nheulu, sydd yma heddiw, i fy mam, sydd a'i dylanwad arnaf i gymaint ag erioed, ac i ffrindiau a chydweithwyr. Dwi yn ysu i ad-dalu yr ymddiriedaeth mae pobl Cymru wedi'i rhoi ynddon ni, ac i wireddu y newid y mae pobl wedi datgan mor glir y maen nhw am ei weld.

Ond yn gyntaf, dwi am dalu teyrnged i fy rhagflaenydd yn y rôl hon. Efo gwytnwch a phenderfynoldeb, mi lywiodd Eluned ei Llywodraeth a'i chenedl yn frwdfrydig ac yn falch bob amser. Fel tad i ddwy ferch, dwi'n diolch iddi hi am chwalu y nenfwd gwydr, a thrwy hynny ysbrydoli merched ifainc yng Nghymru a thu hwnt. Diolch i ti, Eluned. [Cymeradwyaeth.]

Hoffwn hefyd longyfarch arweinwyr y pleidiau: Jane Dodds, Darren Millar a Ken Skates ar eu hail-etholiad. Rwy'n gwybod y byddan nhw'n dod â'r un egni ac angerdd i drafodion yn y seithfed Senedd, ag y gwnaethon nhw i'r diwethaf. I'n cyd-Aelodau yn y Blaid Werdd, rydym yn eich cymeradwyo ar eich llwyddiant hanesyddol i dorri drwodd ac edrychwn ymlaen at gyfnod newydd o sicrhau bod lluosogrwydd yn talu ar ei ganfed i bobl Cymru. Ac, wrth gwrs, gadewch i mi longyfarch Dan Thomas a grŵp Reform UK ar sicrhau yr hyn a fydd, rwy'n siŵr, yn bresenoldeb aruthrol yn y Siambr ac un sy'n addo cadw'r Llywodraeth ar flaenau ei thraed.

Byddaf bob amser yn croesawu craffu. A chan ddefnyddio fy ngeiriau yn betrus yma, gadewch i mi ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at ein sesiynau wythnosol o gwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'n debyg y byddaf i'n dysgu yn ddigon buan pa un a oedd eu gofyn nhw, mewn gwirionedd, yn llawer mwy o hwyl na'u hateb. [Chwerthin.] Ond dyna pam ddylid coleddu ein democratiaeth: etholiad rhydd a theg, ac yna'r cyfle i ffurfio gweinyddiaeth mewn modd heddychlon a threfnus, cyn cael ein dwyn i gyfrif am ein record o lywodraethu—braint a wrthodir i gynifer o bobl ledled y byd ac un na ddylem ni byth ei gymryd yn ganiataol.

Llywydd, mae rhywbeth wedi cynhyrfu yn enaid Cymru—hyder newydd, gobaith newydd, gorwel newydd, ehangach, na fydd byth yn cael ei gulhau eto gan y gwangalonwyr â blaenoriaethau eraill mewn mannau eraill. O'r foment hanesyddol hon ymlaen, gall pob person ym mhob rhan o'n cenedl wybod mai Llywodraeth Cymru yw eu Llywodraeth nhw. A byddan nhw'n gwybod nad yw eu Llywodraeth yn gosod ac na fydd yn gosod ar ei hun, nac ar ein dinasyddion, unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn y gall ein cenedl ei gyflawni.

A fy addewid i i bawb yw y byddaf yn arwain heb ragfarn na rhagdybiaeth. Ni fyddaf byth yn cymryd y fraint hon yn ganiataol, ac ni fydd fy egwyddorion yn cael eu beichio gan rym chwaith, oherwydd mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn ormod o ran nifer ac yn rhy ddifrifol eu natur i ni golli golwg ar yr hyn sydd yn y fantol: yr angen i gymryd camau pendant i leihau rhestrau aros ac i roi iechyd a gofal a'n GIG gwerthfawr ar sail fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol; cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r plant hynny ledled Cymru a wnaeth ddeffro i dlodi y bore yma, ac i leddfu'r argyfwng costau byw sy'n lladdfa i deuluoedd, i roi i bob plentyn y sgiliau sydd eu hangen arno i ffynnu drwy bwyslais o'r newydd ar safonau addysg, ac i ryddhau ein potensial economaidd drwy gefnogi busnesau a chreu swyddi ym mhob rhan o Gymru.

Mi fydd Llywodraeth Plaid Cymru yma i wasanaethu pawb ym mhob cymuned, yn drefol a gwledig, yn hen ac ifanc, pa un ai'n siarad Cymraeg ai peidio, yma erioed neu'n newydd i'n plith, de, dwyrain, gorllewin, gogledd. Lle mae yna dir cyffredin, mi wnawn ni bob ymdrech i'w ganfod o. A lle mae annhegwch ac anghyfiawnder yn bygwth gwead ein gwlad, mi drown ni'r genhadaeth o garedigrwydd a goddefgarwch yn gynhaliaeth i'r rhai sydd fwyaf ei angen o. Gwinllan a roddwyd i'n gofal, ac mi ofalwn amdani yn enw pawb sydd wedi mynd o'n blaenau ac er mwyn pawb ddaw ar ein hôl.

Llywydd, fe wnaf i orffen gyda hyn: pan fydd tosturi yn cael ei gefnogi gan y dewrder i weithredu, a phan fydd cydnabyddiaeth o'n potensial heddiw yn cyfuno â dyhead ar y cyd i sicrhau gwell yfory, dyna pryd y bydd llais ein cenedl yn canu'n fwyaf croch. Dyna sut rydym ni'n gwybod bod ein dyddiau gorau o'n blaenau. Dyna sut rydym ni'n gwybod y gallwn ni, gyda'n gilydd, adeiladu Cymru decach a mwy uchelgeisiol i bawb. Mae'r gwaith hwnnw yn dechrau rŵan. 

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]

15:15

Diolch yn fawr iawn, Rhun. Mae cyfle nawr i alw ar yr arweinwyr eraill i ddweud rhywbeth. Felly, yn gyntaf, Dan Thomas.

Llywydd, llongyfarchiadau ar eich penodiad heddiw, a diolch am yr amser. A gaf i hefyd longyfarch yr holl Aelodau ar eu hetholiad neu eu hailetholiad, beth bynnag fo'r achos? Ac a gaf i longyfarch enwebai Plaid Cymru ar gyfer swydd y Prif Weinidog ar eich etholiad? Hoffwn ddiolch i grŵp Reform am eu cymeradwyaeth o'm harweinyddiaeth i yng nghyfarfod cyntaf y grŵp a gawsom ni ddoe. Diolch.

Fel arweinydd y grŵp wrthbleidiol mwyaf, rwy'n dymuno'n dda i'r Llywodraeth yn ei hymdrechion i leihau rhestrau aros y GIG, i wella canlyniadau addysg, ac i greu'r amgylchedd cywir i'r economi dyfu ac i greu swyddi, oherwydd mae Cymru wir eu hangen. Ac i'r perwyl hwnnw, bydd grŵp Reform yn wrthblaid gadarn. Byddwn yn dwyn Plaid Cymru i gyfrif a byddwn yn llais i'r cymunedau a adawyd ar ôl sydd wedi pleidleisio drosom ni. Ac mae Reform wedi'i gynrychioli ledled Cymru. Rydym ni'n cynrychioli pawb ledled Cymru gyfan. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i chwalu'r consensws clyd sydd wedi llywyddu dros 27 mlynedd o ddirywiad a reolwyd yn y wlad hon.

Ac yn olaf, hoffwn atgoffa Plaid Cymru bod gan y Siambr hon fwyafrif o blaid yr undeb, a bydd Reform yn gweithio gyda'r holl bleidiau sydd o blaid yr undeb i rwystro arian trethdalwyr rhag cael ei wario ar gomisiwn annibyniaeth. Mae dyfodol Cymru ffyniannus o fewn Teyrnas Unedig lwyddiannus, a bydd Reform yn sicrhau bod yr undeb hwnnw yn drech. Mae pobl Cymru wedi gwneud hynny yn eglur yn y blwch pleidleisio, ac mae Reform yn gwasanaethu pobl Cymru. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

15:20

Diolch. Ac yn nesaf, rydyn ni'n galw ar Ken Skates.

Llywydd, hoffwn longyfarch yr holl Aelodau ar eu hetholiad i'r Senedd hon, ac, yn benodol, Rhun ar ei benodiad fel y Prif Weinidog newydd. Mae'n fyd cythryblus a rhanedig iawn, felly gadewch i ni i gyd drin ein gilydd gyda'r urddas a'r parch, hyd yn oed yn ystod y dadleuon mwyaf heriol, y mae'r bobl a wnaeth ein hethol yn haeddu eu gweld bob un dydd.

Mae gennym ni Senedd newydd, fwy bellach. Mae gennym ni ddwy blaid newydd yn cael eu cynrychioli yma ac mae gennym ni blaid wahanol wrth y llyw. Mae'n amlwg fy mod i'n drist iawn am golled Llafur Cymru. Cawsom ein cynrychioli gan dîm penderfynol o ymgeiswyr hynod dalentog a'n cefnogi gan wirfoddolwyr a threfnwyr gwych.

Llywydd, does neb yn gwybod yn well na'n plaid ni ei bod hi'n fraint llywodraethu. Mae'r fraint honno a'r cyfrifoldeb aruthrol sy'n mynd law yn llaw â hi bellach yn gorwedd ar wahanol ysgwyddau. Hoffwn dalu teyrnged i'r Aelodau hynny sydd wedi mynd o'n blaenau a'r cydweithwyr nad ydyn nhw wedi cael eu dychwelyd i'r lle hwn, yn enwedig i'm rhagflaenydd yn ein plaid, Eluned Morgan, a weithiodd mor galed yn y swydd, a ddangosodd gymaint o urddas ar adeg anodd iddi hi yn bersonol ac i'n plaid.

Rŵan, heb os nac oni bai, gwaith yw diben y lle hwn, ac rwy'n falch o'n cyflawniadau, gan gynnwys yn ddiweddar lleihau rhestrau aros yn y GIG am naw mis yn olynol ac ariannu cymaint o ysgolion newydd yr unfed ganrif ar hugain i'n plant; darparu fflyd gwerth £800 miliwn o drenau newydd sgleiniog a chynnydd digynsail ar systemau metro y gogledd a'r de; ac wrth gwrs deddfu i ddiogelu ein hamgylchedd, i ymdrin â thomenni glo ac i lanhau'r aer yr ydym ni'n ei anadlu. Rwy'n gobeithio gweld yr un math o waith caled a chyflawniad gan y blaid sydd bellach mewn grym, ac edrychaf ymlaen at fy mhlaid yn gweithredu fel gwrthblaid effeithiol, yn craffu ar Rhun a'i gyd-Aelodau ac yn eu dwyn i gyfrif yn ôl yr angen i wella deddfwriaeth. Nawr, rwy'n gobeithio fel Gweinidog fy mod i wedi dangos i Aelodau Plaid Cymru sut mae cydweithredu a herio ill dau o fudd i'r Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl Cymru yn gweld y bydd Llafur Cymru, yn ystod y tymor hwn, fel gwrthblaid yn parhau i ganolbwyntio'n ofalus iawn ar wasanaethu eu buddiannau a gwella eu bywydau.

Efallai mai grŵp o naw yn unig ydym ni bellach, ond yn anad dim rydym ni'n gymrodoriaeth, a gadewch i ni gofio, yn The Fellowship of the Ring dim ond naw rhyfelwr wnaeth oresgyn anfanteision enfawr i drechu ymerodraeth, dan arweiniad eu Gandalf eu hunain, a fydd bellach yn ein harwain ac yn amddiffyn ein democratiaeth gyda'i fyrllysg newydd sgleiniog. [Chwerthin.]

Byddwch yn siŵr na fyddwn ni'n esgusodi plaid y Llywodraeth ar unrhyw adeg, fel na wnaethon nhw, yn gwbl briodol, i ni. O fewn ein grŵp, mae gennym ni gyfuniad o brofiad aruthrol ac egni ac arbenigedd newydd, ond yn anad dim mae gennym ni angerdd a phwrpas, ac i ddyfynnu gan fardd sy'n gyfarwydd i lawer:

'Nid yw’n cryfder megis cynt pan siglwyd seiliau / Daer a nef, ond ni ddaw nychdod fyth i’n hanfod; / O unfryd anian y galon wrol, / Fe’n gwywyd gan fywyd a’i ffawd, ond cadarn ein cynneddf / I gynnig, i geisio, i ganfod, heb ildio yn lleddf.'

[Cymeradwyaeth.]

15:25

Diolch, Ken. Ac yn olaf, rydyn ni'n galw ar Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Cyd-Aelodau o'r Senedd, rwy'n codi heddiw i nodi adeg hanesyddol ac arwyddocaol ym mywyd y Siambr hwn ac, yn wir, y genedl hon. Hoffwn gofnodi, yn gyntaf oll, fy niolch i'r Llywydd sy'n gadael, Elin Jones, am y ffordd y gwnaeth gyflawni trafodion y Senedd hon dros y 10 mlynedd diwethaf. Fe wnaethoch chi waith gwbl ardderchog a gwasanaethu ein cenedl gydag urddas, fel y gwnaeth y Dirprwy Lywydd, David Rees, a wasanaethodd mor fedrus ochr yn ochr â chi.

Hoffwn gofnodi hefyd fy niolch i'r cyn-Brif Weinidog am ei gwasanaeth i'n cenedl. Fe wnaethom ni groesi cleddyfau bob un wythnos ac, a dweud y gwir, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, bob un dydd, ond mae gennyf y parch mwyaf tuag ati fel unigolyn ac rwy'n gwybod ei bod hi'n caru'r wlad hon ac wedi ei gwasanaethu hyd eithaf ei gallu.

Ac, wrth gwrs, mae'n ddyletswydd arnaf i gynnig fy llongyfarchiadau diffuant ac o'r galon i Rhun ap Iorwerth ar ddod yn enwebai'r Senedd i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru. Arwain eich gwlad yw'r anrhydedd uchaf mewn bywyd cenedlaethol a chyhoeddus, ac, waeth beth fo'n gwahaniaethau gwleidyddol, rwy'n dymuno'n dda i chi yn bersonol wrth i chi gymryd y fantell enfawr hon a chymryd y fantell hon o gyfrifoldeb. Rwyf hefyd yn llongyfarch ei blaid am ganlyniad etholiad aruthrol, oherwydd mae dod yn blaid fwyaf y Senedd hon am y tro cyntaf yn gyflawniad enfawr ac ni ellir ei anwybyddu.

Hoffwn longyfarch pob un Aelod o'r Senedd hon ar gael ei ethol i wasanaethu ein cenedl a phobl Cymru. Ond, Prif Weinidog, byddwch yn gwbl sicr: mae gennych chi dasg enfawr o'ch blaen. Mae mis yr afiaith i chi a'ch plaid yn mynd i fod yn fyr. Er y gallai'r dathliadau yn rhengoedd Plaid Cymru barhau heno, mae'r realiti noeth yn aros amdanoch chi yn y bore: GIG nad yw'n gweithio fel y dylai, economi ddisymud nad yw'n tyfu fel y dylai, system addysg nad yw'n gwasanaethu ein pobl ifanc fel y dylai. Byddan nhw i gyd yn aros yn eich mewnflwch wrth i chi ddechrau'r swydd.

Ni phleidleisiodd pobl Cymru dros newid personél; fe wnaethon nhw bleidleisio dros newid canlyniadau. Nawr, o'r meinciau hyn, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn wynebu'r tymor hwn, wrth gwrs, gydag emosiynau cymysg. Rydym ni'n drist iawn ein bod wedi colli cydweithwyr gweithgar ac ymroddedig a wasanaethodd eu hetholwyr a sefydliad y Senedd hon gyda rhagoriaeth. Ond rydym ni hefyd wrth ein boddau o fod wedi perfformio'n well nag amcangyfrifon a disgwyliadau pesimistaidd bron pob pyndit a pholiwr yn y wlad hon, gan ein bod ni wedi dychwelyd saith Aelod gwych i'r Senedd hon. Ac rydym ni yma i hyrwyddo'r pethau sy'n annwyl i ni'r Ceidwadwyr Cymreig: Cymru fwy ffyniannus â threthi is, diwedd ar wastraff y Llywodraeth, a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac effeithiol sy'n gweithio i bobl Cymru. Ac rwy'n addo i'r Prif Weinidog newydd y byddwn ni'n wrthblaid ddifrifol, gadarn a chyfrifol, ac mae'r cyfrifoldeb hwnnw yn dechrau heddiw drwy dynnu sylw at y bwlch amlwg rhwng rhethreg Plaid Cymru a'r realiti seneddol yr ydym ni wedi ei weld.

Trwy gydol yr ymgyrch ddiweddar, roedd neges y Prif Weinidog Etholedig yn un o newid. Addawodd gyfnod newydd o dorri o'r gorffennol, ac eto gweithred gyntaf ei blaid yn y Senedd newydd hon oedd cyd-drefnu swydd y Llywydd gyda'u cyn-bartneriaid yn y Blaid Lafur. Llywydd, mae'n gam y bydd llawer o bobl ledled Cymru yn ei ystyried yn gwbl gywilyddus. Nid oes yr un democratiaeth orllewinol arall lle byddai unigolyn yn neidio'n syth o fod yn gyn-Ddirprwy Brif Weinidog neu'n Ddirprwy Brif Weinidog ei genedl i gadair y llefarydd yn y Senedd nesaf un. A bod yn onest, mae'n drewi. Mae swydd y Llywydd yn gofyn am ddidueddrwydd llwyr. Ni ddylid ei thrin fel gwobr gysur i'r Dirprwy Brif Weinidog blaenorol pan fo'i blaid wleidyddol ei hun newydd gael ei chwydu o'r Llywodraeth mewn ffordd mor drawiadol gan yr etholwyr. Mae gwneud hynny yn tanseilio ac yn niweidio enw da'r Senedd hon, oherwydd mae'n rhaid i Lywydd fod â pharch ar draws y Senedd gyfan, yn enwedig ymhlith y gwrthbleidiau a'r rhai sydd â swyddogaeth o graffu ar y Llywodraeth.

Felly, Llywydd, er bod gen i bob parch tuag atoch chi, a'r profiad sydd gennych chi a'r swydd bwysig sydd gennych chi nawr, ac rwy'n eich llongyfarch chi a'n Dirprwy Lywydd newydd ar eich etholiadau priodol heddiw, rwy'n ofni y bydd angen i chi ennill hyder grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Oherwydd mae'r cytundeb ystafell gefn hwn yn arwydd eglur bod echel Llafur-Plaid Cymru, yr union un bartneriaeth sydd wedi methu Cymru ers blynyddoedd, yn mynd i barhau ar wahanol ffurf, ac mae'n dangos yn eglur iawn, er gwaethaf yr addewidion maniffesto sgleiniog o newid, bod yr hen ddywediad yn parhau i fod mor wir nawr yng Nghymru ag y bu erioed: pleidleisiwch dros Blaid Cymru ac fe gewch chi Lafur; pleidleisiwch dros Lafur, ac fe gewch chi Blaid Cymru. Byddwn ni ar y meinciau hyn yn barnu'r Llywodraeth hon nid ar sail ei haddewidion, ond ar sail ei gweithredoedd, ac rwy'n ofni bod y trefniant cyfleus heddiw yn awgrymu ei bod hi, yn anffodus, yn fusnes fel arfer yma ym Mae Caerdydd. Prif Weinidog, mae gennych chi eich mandad, ond byddwch hefyd yn destun ein craffu ni a byddwn yn eich gwneud yn atebol am yr holl benderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud. [Cymeradwyaeth.]

15:30

Wel, diolch yn fawr i chi i gyd. Yn wir, Dafydd. 

Llywydd, gyda'ch caniatâd, a gaf i ofyn i chi ddarllen y pleidleisiau ar gyfer y Llywydd eto, er mwyn atgoffa'r Siambr o'r pleidleisiau?

Dafydd, rwy'n hapus i ddweud bod nifer y pleidleisiau i'r Prif Weinidog ar y cofnod, ond hefyd y rhai i'r Llywydd yn ogystal, ac roedden nhw'n eglur iawn. 

Byddwn yn dweud yn syml i roi rhywfaint o sicrwydd i Darren, sy'n fy herio i ennill parch y grŵp Ceidwadol, y gwnaf i ennill parch pawb yma yn y Siambr hon yn y ffordd yr wyf i'n llywyddu drosti, fel seneddwr yn gyntaf ac yn bennaf. Felly, gallwch fod yn sicr o hynny, Darren, fel y gall pawb arall yma hefyd. [Cymeradwyaeth.]

A gaf i ddiolch i'r holl arweinwyr am eu cyfraniadau?

A gaf i ddweud diolch unwaith eto i'r Prif Weinidog, Rhun? Mae llawer o waith i bawb ohonom ni ei wneud. Ond nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael gwybod am ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.

Daeth y cyfarfod i ben am 15:33.