Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/03/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sydd gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Ynni Adnewyddadwy

1. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn Nwyrain De Cymru? OQ64040

13:35
13:40
Ffrwydro mewn Chwareli

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd pan ganfyddir bod ffrwydro mewn chwarel yn torri amodau cynllunio mewn perthynas ag ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd? OQ64059

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau'r llefarwyr sydd nawr. Mae cwestiynau heddiw i gyd i gael eu hateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Mae'r cwestiynau cyntaf gan Gareth Davies.

13:50
13:55
Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei phenderfyniad i dynnu cynllun datblygu lleol Wrecsam yn ôl? OQ64061

14:00
Cronfa Twf Lleol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut y bydd y gronfa twf lleol yn cefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn y Rhondda? OQ64051

14:05
Yr Economi ym Mhreseli Sir Benfro

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Mhreseli Sir Benfro? OQ64039

Cefnogi Diwylliant yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwylliant yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ64045

14:10
Cefnogi Busnesau

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau yng Ngogledd Cymru i ehangu a pharhau i fod yn gystadleuol? OQ64053

Sero Net a Thwf Economaidd

8. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ymgyrch tuag at sero net ar dwf economaidd yn Nwyrain De Cymru? OQ64037

14:15
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Oedi wrth Ryddhau o Ysbytai

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau oedi wrth ryddhau o ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ64048

Rydym ni wedi buddsoddi £30 miliwn ledled Cymru i gryfhau trefniadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys £6.5 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol yn y gogledd, a £146 miliwn arall i gefnogi gofal cymunedol integredig. Mae canllawiau clir a chadarn a dulliau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol, fel rhaglenni cynllunio ar gyfer y gaeaf a gwella trefniadau rhyddhau o’r ysbyty, yn helpu i ryddhau cleifion mewn modd amserol a diogel ar draws y gogledd.

Ond er gwaethaf hynny i gyd, mae yna tua 300 o gleifion mewn gwlâu ysbyty yng ngogledd Cymru sydd ddim angen bod yna. Maen nhw'n barod i adael, ond does dim darpariaeth ar gael iddyn nhw yn y gymuned. Mae tua 300 o delayed discharges, sy'n cyfateb i werth Ysbyty Glan Clwyd cyfan o wlâu wedi cael eu defnyddio na ddylid fod wedi'u defnyddio, mewn gwirionedd. Dyna, yn fy marn i, sy'n esbonio llawer ar y logjam yn yr NHS fel y mae hi, ac mae'r polisi o gau a cholli gwlâu yn y gymuned dros y 15 mlynedd diwethaf wedi'n gadael ni gyda 20 y cant yn llai o wlâu yn y system, tra bod y boblogaeth yn heneiddio, wrth gwrs, a'r galw yn cynyddu. Pa ryfedd fod gan ogledd Cymru y rhestrau aros gwaethaf, yr amserau gwaethaf o safbwynt aros mewn coridorau i gael gofal, a hefyd oedi pan mae'n dod i A&E.

Felly, a ydych chi'n derbyn bod methiant eich Llywodraeth chi i sicrhau darpariaeth ddigonol yn y gymuned wedi cynyddu'r pwysau ar ein hysbytai cyffredinol ni ac wedi achosi llawer o'r trafferthion sy'n llethu'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru heddiw?

14:20
Darparwyr Gofal Iechyd yn Lloegr

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr yn Lloegr i sicrhau bod pobl yn cael gafael ar ofal? OQ64029

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.

14:30
14:35

Diolch am yr ateb yna, Ysgrifennydd Cabinet. Rŵan, wrth i chi baratoi i gamu lawr o swydd gyhoeddus gyda chraffu di-baid, a'r pwysau sydd yn dod yn sgil hynny, a chyda degawd o wasanaeth ymroddedig i'r Senedd yma, y Llywodraeth ac i bobl Cymru, dwi am orffen drwy fynegi fy niolch diffuant i chi am eich cyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru. Dwi am roi ar record eich bod chi wedi bod yn barchus ac yn serchog i fi bob amser, ac, er ein gwahaniaethau gwleidyddol, mi ydych chi wedi bod yn raslon bob tro. Dymuniadau gorau i chi, felly, wrth i chi fynd ati i ddysgu Sbaeneg, mwynhau haul Sbaen am ryw gyfnod, cyn symud ymlaen i gyfrannu unwaith eto, dwi'n siŵr, at fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Felly, diolch i chi.

Ond, wrth inni edrych ymlaen at Lywodraeth newydd, ac at Weinidog newydd, mae'n rhaid inni fod yn onest. Mi fu camgymeriadau a heriau sylweddol dros y blynyddoedd. Eto i gyd, bu hefyd adegau pan weithiodd y system fel y dylai. Ein blaenoriaeth yn awr ydy sicrhau mai gwneud pethau'n iawn ydy'r norm ac nid yr eithriad. Felly, gyda hynny mewn golwg, dwi am ofyn: wrth adlewyrchu ar eich amser yn arwain ar un o bortffolios mwyaf heriol y Llywodraeth, beth ydych chi'n ystyried ydy'r rhwystrau sylfaenol pennaf er mwyn cyflawni'r newidiadau systemig sydd eu hangen a sicrhau'r canlyniadau y mae cleifion a staff ein gwasanaeth iechyd a gofal yn eu haeddu?

Wel, diolch i'r Aelod am ei sylwadau agoriadol, ac am ei garedigrwydd yn hynny o beth. Mae wedi bod yn bleser cael y cyfle hefyd i ateb cwestiynau ganddo fe. Mae hefyd wedi bod yn beth calonogol i allu cael ambell i sgwrs breifat gadarnhaol gydag e hefyd.

Rwy'n mynd i'w siomi fe gan nad ydw i'n mynd i'w helpu fe gyda'i gynllun ar gyfer yr etholiad. [Chwerthin.] Mae'n amlwg, fel roedd y Prif Weinidog yn dweud ddoe, fod gormod o rannau o'ch cynlluniau chi sydd yn mynnu meddwl pellach, a mynnu ystyriaeth bellach. Felly, dwi ddim yn mynd i fod yn rhan o'r broses honno ar ei ran e. Beth ddywedaf i yw hyn, o ddifrif: beth ŷn ni yn gweld nawr ar sail buddsoddiad a'r newidiadau—nid jest yr arian, ond y newidiadau sydd wedi bod ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn benodol, ond cyn hynny hefyd—rŷn ni'n gweld y gwasanaeth iechyd yn dod nôl i fod yn gytbwys.

Felly, mae'r arbenigeddau lle mae'r cynnydd mwyaf wedi bod a lle mae'r galw mwyaf, byddwn i'n dweud bod yr 20 mwyaf pwysig o'r rheini nawr mewn sefyllfa lle maen nhw'n gynaliadwy. Mae hynny'n rhoi cyfle pwysig i'r gwasanaeth iechyd nid jest i barhau i berfformio, fel rŷn ni'n gweld, ar lefelau sy'n torri recordiau ar hyn o bryd, ond hefyd i ddefnyddio'r cyfle hynny i ddiwygio ymhellach sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Mae'r gorwel yn glir i allu gwneud hynny, a pharhau i wneud hynny, ac rŷn ni wedi gweld dros y ddwy flynedd ddiwethaf fod hynny'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr, a dyna beth rwy'n gobeithio y gwelwn ni, ac rwy'n ffyddiog bod hynny'n bosib.

14:40
Brechlyn MenB

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyflenwad o frechlyn MenB i fferyllfeydd i'w gynnig yn breifat i drigolion Islwyn? OQ64060

Marwolaethau Diangen

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau diangen sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? OQ64031

14:45
14:50
14:55
Apwyntiadau a Gollir

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng nifer yr apwyntiadau a gollir ar draws gwasanaethau'r GIG? OQ64033

15:00
Cynllun Iechyd Menywod

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â phoen yng Nghynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru? OQ64046

15:05
Arweinydd Clinigol Cardiaidd Cymru

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar recriwtio i rôl arweiniol glinigol cardiaidd Cymru? OQ64026

Gofal a Chymorth Iechyd yn y Rhondda

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ofal a chymorth iechyd i drigolion yn y Rhondda? OQ64044

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Yr unig gwestiwn i gael ei dderbyn heddiw yw'r un gan David Rees.

Y Diwydiant Dur

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith strategaeth ddur Llywodraeth y DU ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? TQ1456

15:15
15:20
15:25
15:30
15:35

Three Members have now asked what is the destination of this road map, and I don't think we've quite heard the detail from you this afternoon, as regards, as David Rees asked you, what is the Welsh Government particularly bidding for, what are they looking for. My colleague Luke Fletcher asked about, for instance, the plate mill, or the steel skills college. Are those things—? You've talked about the collaboration and hearing the workforce's voice, and talking about working with academia, but what is your vision? What do you want to see for the reality on the ground, coming out of this skills strategy, for the workers that I represent?

4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Recriwtio a chadw athrawon'

Eitem 4 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Recriwtio a chadw athrawon'. A'r Cadeirydd sy'n gwneud y cynnig—Buffy Williams. 

Cynnig NDM9224 Buffy Williams

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ‘Recriwtio a chadw athrawon’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2026.

Yn nodi'r ymateb gan Lywodraeth Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

15:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:45
15:50

Fe fyddwn i'n licio cofnodi wrth i ni ddod i ben â'r chweched Senedd yma fy niolch diffuant iawn i Gadeirydd a chyd-aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r tîm clercio, a'r holl bobl sydd wedi cynnig tystiolaeth. Mae eich cydweithrediad parod chi wedi bod yn rhywbeth gwerthfawr iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod wir yn fraint cael bod yn aelod o'r pwyllgor.

Mae'r adroddiad ar recriwtio a chadw athrawon wedi amlygu nifer o ffactorau sydd wedi ac yn parhau i gyfrannu at ganfyddiad negyddol o'r proffesiwn. Mae'r rhain yn cynnwys baich gwaith anghynaliadwy, biwrocratiaeth di-angen, camymddygiad heriol gan ddisgyblion, ac athrawon yn gorfod delio ag achosion cynyddol o broblemau iechyd meddwl a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Ac er bod gyda ni weithlu ymroddedig a chydwybodol, mae’r heriau hyn yn rhoi pwysau annioddefol arnyn nhw.

Mae gan athrawon rôl allweddol i’w chwarae o ran siapio dyfodol ein pobl ifanc ymhell ar ôl iddyn nhw adael yr ystafell ddosbarth, ac yn wir yn gallu newid eu bywydau nhw. Maen nhw'n swyddi sy’n gallu rhoi boddhad mawr, ond, yn anffodus, mae cymaint â 25 y cant yn gadael y proffesiwn bob blwyddyn. Gan ystyried bod 75 y cant o’n hathrawon ni yn fenywod, mae nifer yn cyfaddef bod methu â chael y balans yna'n iawn rhwng gwaith a bywyd teuluol yn un o’r rhesymau maen nhw'n gadael dysgu, gyda nifer yn nodi eu bod yn gweithio rhwng 50 a 60 awr yr wythnos. Felly, byddwn i'n hoffi gofyn i'r Llywodraeth beth maen nhw'n bwriadu ei wneud er mwyn lleihau'r baich gwaith yma ar athrawon.

O ran recriwtio athrawon, yn arbennig i’r sector uwchradd, mae targedau’r Llywodraeth yn cael eu methu blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r ffigurau diweddaraf gafodd eu rhannu gyda’r pwyllgor yn dangos bod y Llywodraeth 56 y cant o dan y targed ar gyfer recriwtio i bynciau lle mae prinder, fel y gwyddorau, pynciau STEM, ieithoedd tramor ac, wrth gwrs, pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

O ran cyrsiau hyfforddiant athrawon, mae prifysgolion yn Lloegr yn cynnig cymhellion ariannol hael iawn o’u cymharu â beth sydd ar gael yng Nghymru. Er enghraifft, mae bwrsarïau ar gyfer astudio rhai pynciau gwyddonol cymaint ag £14,000 yn uwch. Does dim syndod, felly, fod cymaint o’n pobl ifanc yn cael eu temtio i ddilyn cyrsiau yn Lloegr, a beth sydd yn digwydd wedyn yw eu bod nhw'n cael swyddi yno ac yn setlo yno, ac rŷn ni'n colli'r talent ifanc yma. Felly, eto, beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn newid y patrwm hwn? Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir, os ŷn ni o ddifrif am recriwtio, mae’n rhaid inni gau’r bwlch a gwneud dysgu yng Nghymru yn fwy deniadol a chystadleuol.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod angen ystyried amodau gwaith mwy hyblyg er mwyn lleihau’r baich gwaith: pethau fel caniatáu i amser CPA ddigwydd bant o’r ysgol, oriau gwaith mwy hyblyg, mwy o hyfforddiant proffesiynol yn gyffredinol, ond yn arbennig ar sut i gefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, a gwell canllawiau ar ddelio â chamymddygiad yn y dosbarth—pethau mae Plaid Cymru yn cytuno’n llwyr â nhw.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rôl lefel A wrth lunio'r gweithlu addysg yn y dyfodol. Mae ymchwil gan Brifysgolion Cymru yn dangos mai dim ond 33 y cant o bobl ifanc yng Nghymru sy'n astudio lefel A, o'i gymharu â 47 y cant yn Lloegr. Mae hynny'n wahaniaeth sylweddol, ac mae ganddo effaith uniongyrchol ar faint o bobl sy'n gallu symud ymlaen i fod yn athrawon. Mae hyn yn arbennig o amlwg o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod yr heriau o ran recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, ac mae'r nifer isel o athrawon sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc ar gyfer lefel A yn ychwanegu at y pwysau hwnnw. Ac mae ymchwil yn dangos bod angen tua 400 o athrawon ychwanegol arnom ni bob blwyddyn os ŷn ni am gyrraedd targedau 'Cymraeg 2050'.

I gloi, felly, mae addysgu yn un o'r proffesiynau pwysicaf a mwyaf gwerth chweil. Mae athrawon yn newid bywydau pobl ifanc bob dydd, ond y realiti nawr yw bod athrawon yn wynebu llwyth gwaith sy’n eu gyrru nhw i’r eithaf ac yn eu gorfodi nhw i adael y proffesiwn, achos dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi na’u parchu’n ddigonol. Felly, i gloi, oni bai ein bod ni'n newid pethau, bydd ein system addysg byth yn cyrraedd ei photensial llawn a byddwn ni'n gadael cenhedlaeth arall o blant i lawr. Diolch yn fawr iawn.

15:55
16:00
16:05
16:10
16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cymraeg i bawb?'

Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cymraeg i bawb?' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.

Cynnig NDM9234 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cymraeg i bawb?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar y cychwyn, hoffwn i ddiolch i dîm y pwyllgor, rhai ohonyn nhw sydd gyda ni yn y galeri heddiw, am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn, ond hefyd pob ymchwiliad yn ystod y Senedd yma. Ar gyfer yr ymchwiliad yma yn arbennig, dwi'n diolch i Osian Bowyer, ond hefyd buaswn i'n hoffi diolch i'r tîm clercio, Richard a Haidee, i Lowri, i Catrin, i Manon ac i bawb sydd wedi bod yn rhan wych o'n tîm. Mae'n fraint cael siarad am y tro olaf yn ystod tymor y Senedd hwn i agor y ddadl ar 'Cymraeg i bawb?', sef ymchwiliad ein pwyllgor i sut y gallwn gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg.

Dechreuon ni'r gwaith hwn gyda chwestiwn syml: sut allwn ni sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i bawb mewn gwirionedd? Aethon ni ati i geisio deall teithiau iaith pobl drwy gyfrwng y Gymraeg, y pwyntiau mynediad sy'n denu pobl i mewn, a'r rhwystrau sy'n parhau i'w dal yn ôl. Dwi'n ddiolchgar iawn i bawb a roddodd yn hael o'u hamser, oherwydd dyw polisi iaith byth yn rhywbeth haniaethol—mae'n ymwneud â phobl a pherthyn. Hoffwn hefyd nodi adroddiad diweddar y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gymunedau â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg. Bydd eu canfyddiadau nhw yn helpu i lywio camau nesaf y broses weithredu, ochr yn ochr â’n hargymhellion ni ac, wrth gwrs, ymateb y Llywodraeth.

Hoffwn i groesawu'n fawr yr ymateb adeiladol gan Lywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Maen nhw wedi derbyn llawer o'n hargymhellion ni yn gyfan gwbl, wedi derbyn eraill mewn egwyddor, ac wedi nodi camau gweithredu sydd eisoes ar y gweill.

Gadewch i mi ddechrau gyda gwyliau a gwaddol. Roedd y dystiolaeth yn bendant: mae gwyliau yn chwarae rhan bwysig wrth normaleiddio'r Gymraeg a gallant fod yn sbardun i newid ymddygiad ymhell ar ôl i'r babell olaf gael ei thynnu i lawr. Ond mae'r momentwm hwnnw'n fregus heb gamau bwriadol i gynllunio’r gwaddol. Dyna pam y gwnaethon ni argymell fframwaith gwaddol strategol clir fel nad yw'r momentwm yn pylu, ond yn parhau i fwrw gwreiddiau mewn ysgolion, gweithleoedd a chymunedau. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Gwnaethon ni hefyd alw am gronfa bwrpasol i helpu'r mentrau iaith a phartneriaid lleol i sicrhau'r gwaddol hwnnw yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r Eisteddfod ymweld ag ardal benodol. A gwnaethon ni argymell hefyd y dylai'r Llywodraeth sicrhau mynediad am ddim neu gost isel i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer aelwydydd incwm isel.

Edrychodd ein hymchwiliad ar y dyfodol digidol hefyd. Cytunodd tystion fod Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu technoleg iaith Gymraeg, ond rhaid i bolisi fod yn hyblyg ac yn adweithiol. Pwysodd y pwyllgor am ddata agored cryfach a thrwyddedau agored, ac am gael gwared ar rwystrau diangen sy'n atal rhannu data mewn ffordd gyfrifol er mwyn datgloi technoleg iaith Gymraeg. Gwnaethon ni argymell y dylid symud o fodelau cyllido blynyddol i fodelau cyllido amlflwyddyn ar gyfer technoleg iaith Gymraeg er mwyn caniatáu i sefydliadau, fel Canolfan Bedwyr ac eraill, gynllunio ar draws blynyddoedd ariannol. Rwy'n falch o nodi bod y Llywodraeth wedi cadarnhau newid i gyllido dros gyfnodau o hyd at dair blynedd o fis Ebrill ymlaen.

Roedd cryfhau'r defnydd o'r iaith ar lawr gwlad yn llinyn arall yn ein gwaith. Gwnaethon ni alw am gymorth wedi'i dargedu i helpu sefydliadau cymunedol a chlybiau chwaraeon i greu cyfleoedd newydd yn y Gymraeg. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn hyn mewn egwyddor. Byddwn yn annog ffocws parhaus ar grantiau bach sy'n helpu clybiau a grwpiau cymunedol i fabwysiadu ethos dwyieithog, gan wneud y Gymraeg yn weladwy, yn glywadwy ac yn arferol, canys mae chwaraeon yn gyfaill pwerus yn hyn oll. Mae ymchwil yn dangos bod plant a phobl ifanc yn fwyaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg gyda hyfforddwyr a chyfoedion yn ystod gweithgareddau chwaraeon—normaleiddio’r iaith ym mywyd bob dydd, dyna ydy'r peth.

Mae mannau gwaith yn faes arall. Gwnaethon ni argymell canolbwyntio ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, gan gynnwys yn y sector preifat, ac alinio â'r fframwaith CEFR a gyflwynwyd o dan Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Mae ymateb y Llywodraeth yn ymrwymo i gynnwys targedau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol yn y strategaeth genedlaethol, yn ogystal â chael canllawiau cliriach i sectorau gwaith, a chydgysylltu darpariaeth Cymraeg Gwaith â’r fframwaith CEFR newydd. Dirprwy Lywydd, dyma rai o’n hargymhellion.

Mae'r ymadrodd neu'r cwestiwn 'Cymraeg i bawb?' yn her, ond mae e hefyd yn wahoddiad. Yr her yw mynd i’r afael â’r rhwystrau ystyfnig—daearyddol, ariannol, diwylliannol a digidol—rheini sy'n dal i gyfyngu ar ddefnydd o’r Gymraeg. Y gwahoddiad yw adeiladu, gyda'n gilydd, y rhwydweithiau a'r ymdeimlad o berthyn sy'n gwneud i'r iaith deimlo fel cartref. Mae ein hargymhellion yn cynnig camau ymarferol ar gyfer y gwaith hwnnw. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau.

16:25
16:30

Rwy'n ddiolchgar i chi. Ac rwy’n ddiolchgar hefyd i ti, Delyth, am dy arweinyddiaeth dros y pum mlynedd dŷn ni wedi bod ar y pwyllgor gyda'n gilydd. Dwi wedi mwynhau dy gwmni a dwi wedi mwynhau dy arweinyddiaeth hefyd, a dwi'n credu ei fod e'n bwysig nodi hynny, a hefyd nodi gwaith staff a secretariat y pwyllgor. Dŷn ni wedi bod yn lwcus iawn gyda'r staff dŷn ni wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd diwethaf. A dwi'n credu bod pob un ohonom ni ar draws y Siambr yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

A dwi'n ddiolchgar i ti hefyd, Delyth, am dy gyflwyniad di. Roeddet ti'n dweud, fel rhan o dy gyflwyniad di, fod y targed o filiwn o siaradwyr yn her, ond hefyd yn wahoddiad. Dyna'r tro cyntaf i fi feddwl amdano fe fel gwahoddiad. Her oedd e pan oeddem ni'n trafod y polisi, a her i ni yn y Llywodraeth, a her i Gymru. Ond fe wnaethon ni ddim ystyried y peth fel gwahoddiad, a dwi'n falch dy fod ti wedi newid, os dŷch chi'n licio, y ffordd dŷn ni wedi ysgrifennu a gosod y targed fel gwahoddiad. Dwi'n credu bod hynny'n beth pwysig i ni. Achos yr her dŷn ni'n ei rhannu—. A dwi'n credu mai un peth sydd wedi bod yn bwysig yn ystod, bron, y deng mlynedd ers inni osod y targed o filiwn o siaradwyr yw'r ffaith fod y targed wedi uno pobl. Mae wedi uno pobl. A dwi'n ddiolchgar iawn am gyfraniadau Gareth Davies yn hyn i gyd.

Fel mae'r pwyllgor wedi newid dros y blynyddoedd, dyw'r cydbwysedd ddim wedi newid, a dyw'r cytundeb ar faterion iaith ddim wedi newid. Efallai bydd hynny'n newid ar ôl yr etholiad, ond ar hyn o bryd, mae gennym ni gonsensws ar draws y Siambr yma ar ddyfodol y Gymraeg. [Torri ar draws.] Wel, mae gennym ni gonsensws. Ac rwy'n credu ei fod e'n bwysig, oherwydd dŷn ni eisiau newid nid jest faint o bobl sy'n siarad Cymraeg, ond mae hynny'n meddwl ein bod ni'n newid Cymru. Dŷn ni'n newid y fath o wlad yr ydym ni. Dŷn ni'n newid y fath o genedl dŷn ni'n mynd i fod. Mae hyn yn mynd i fod yn hollbwysig i ni. Ac mae hynny'n meddwl bod yn rhaid inni herio nid jest y Llywodraeth, ond herio ninnau hefyd.

Roeddwn i wedi gweld bod pobl wedi cyhoeddi faint o Gymraeg mae pob un ohonom ni wedi bod yn siarad yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a llongyfarchiadau i Siân Gwenllian, wrth gwrs, sy'n tsiampion y Gymraeg yn y Siambr yma. Mae wedi siarad mwy o Gymraeg na dim un ohonom ni. Ac mae'n her i fi i ddefnyddio fy Nghymraeg yn fwy fan hyn. Ac fel dŷn ni'n herio ein hunain, dwi'n credu bod yn rhaid inni herio'r Llywodraeth hefyd a newid y ffordd y mae'r Llywodraeth yn meddwl amboutu'r Gymraeg ac yn gweithredu dros y Gymraeg. A dwi'n credu ein bod ni wedi gweld y Llywodraeth yn ymateb i'r her.

Ac fel dwi wedi diolch i ti, Delyth, dwi eisiau diolch i ti hefyd, Mark. Fel Gweinidog, rwyt ti wedi arwain y broses fwyaf cyrhaeddol o ddeddfu dwi'n gallu cofio ar ran y Gymraeg. Dwi'n credu bod y Mesur dŷch chi wedi ei gyflwyno, ac sydd nawr yn Ddeddf gwlad, yn mynd i gael mwy o impact ar ddyfodol y Gymraeg na bron unrhyw beth dwi wedi gweld yn fy mywyd i. A dwi'n credu bod hynny'n hollbwysig. Achos trwy osod fframwaith ar gyfer addysg y dyfodol, dŷn ni'n gosod fframwaith i greu siaradwyr newydd. A dwi'n credu bod hynny'n hollbwysig.

Mae'r Ddeddf yma'n bwysig hefyd achos dŷn ni hefyd yn defnyddio'r gyfraith i newid y diwylliant, a newid y diwylliant mewn ysgolion Saesneg hefyd, fel bod y Gymraeg yn cael ei gyflwyno i bobl. Ymunais â Lynne Neagle fis yn ôl yn Nhredegar. Un o'r pethau dwi wedi mwynhau'r mwyaf ers i fi fod yn Aelod yma yw mynd i Dredegar ac agor ysgol Gymraeg newydd yn Nhredegar. Daeth fy mam-gu i Dredegar i fyw ganrif yn ôl erbyn hyn, ac, wrth gwrs, doedd hi ddim yn siarad unrhyw Saesneg achos roedd hi wedi cael ei geni ym Mhenparcau yn Aberystwyth. Ac yn ysgolion Tredegar ar y pryd, roedd rhaid defnyddio'r Saesneg. A nawr mae'r olwyn wedi'i throi. Mae plant nawr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg, i ddeall y Gymraeg hefyd ac i ddysgu'r Gymraeg.

Felly, mae gennym ni flaenoriaethau newydd. Mae gennym ni flaenoriaeth i sicrhau dyfodol cymunedau ble mae'r Gymraeg yn cael ei siarad, a diolch yn fawr i Simon Brooks am y gwaith mae e wedi bod yn ei wneud yn y fan yna. Mae gennym ni'r flaenoriaeth mewn addysg, ac mae gennym ni fframwaith newydd ar gyfer addysg, ac mae hynny yn meddwl bod yn rhaid inni newid y ffordd dŷn ni'n defnyddio'r Gymraeg. Y defnydd ydy'r peth pwysig, dwi'n meddwl—y defnydd o'r Gymraeg—newid ambell waith o'r Saesneg i'r Gymraeg, defnyddio'r Gymraeg fel y mae hi, a defnyddio'r Gymraeg pob man dŷn ni'n gallu. Ac os ydyn ni'n gwneud hynny, mi fyddwn ni fel Senedd wedi newid mwy amboutu dyfodol ein cenedl na bron unrhyw beth arall dŷn ni wedi ei wneud wrth inni fod yn eistedd yma.

16:35

Un o'r pethau sydd wedi fy nharo i yn yr wythnosau diwethaf yma ydy faint o adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi o ran y Gymraeg, a hyd yn oed yr wythnos yma, fel y cyfeiriwyd ati eisoes, dŷn ni wedi gweld yr ail ran i'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael ei chyhoeddi. Dŷn ni hefyd wedi gweld yr adroddiad blynyddol, adroddiad pum mlynedd y comisiynydd. Mae yna nifer fawr o adroddiadau wedi bod, ond mae yna gysondeb yn y neges honno sydd hefyd yn cael ei chyfleu yng ngwaith y pwyllgor hwn a'r adroddiad hwn. Dwi'n meddwl mai un o'r pethau y dylem ni i gyd fod yn falch o'i weld, yn enwedig ni fel pwyllgor ar ôl ein gwaith craffu, ydy'r cysondeb hwnnw o ran y cytundeb o'r hyn sydd angen i'r Llywodraeth nesaf ei wneud i fynd â'r Gymraeg yn ei blaen.

Mi oedd Alun Davies yn cyfeirio o ran defnydd, ac mae hwnnw yn dod drosodd yn glir yn ein hadroddiad ni heddiw, ac ymhob adroddiad: sut ydym ni'n mynd i'r afael â'r her honno? Roedd Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn pwysleisio, fel y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, o ran pwysigrwydd addysg, ond hefyd o ran creu gweithleoedd Cymraeg. Felly, dŷn ni'n gwybod yr hyn sydd angen digwydd, ac mae gennym ni nifer fawr o argymhellion a datrysiadau. Mae yna 31 o argymhellion yn ail ran y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Felly, gan gymryd y rheini efo'r rhai cyntaf, mae lot fawr o bethau mae angen i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael â nhw.

Ond dwi'n meddwl mai un o'r pethau mae'n rhaid inni sicrhau ydy ein bod ni i gyd yn gytûn mai nad ar hap mae achub iaith neu sicrhau parhad iaith. Dwi'n meddwl ei fod o'n adrodd cyfrolau bod y ddau Aelod Reform ddim yn y Siambr hon, a'r hyn dŷn ni hefyd wedi ei glywed gan Reform o ran yr iaith: cael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg, cael gwared ar dargedau. Beth y mae pob un o'r adroddiadau yma'n dangos i ni ydy pwysigrwydd deddfu, pwysigrwydd targedau a phwysigrwydd buddsoddi, neu fel arall—. Os ydych chi'n ystyried, mae gennym ni gytundeb trawsbleidiol fan hy, mae gennym ni strategaeth uchelgeisiol 'Cymraeg 2050', ond hyd yn oed efo hynny i gyd, dŷn ni'n dal yn gytûn bod mwy angen ei wneud, oherwydd ein bod ni'n gweld nad ydy'r Gymraeg mewn sefyllfa unigryw fan hyn; mae'n rhaid inni i gyd gofio bod pob iaith leiafrifol ledled y byd dan fygythiad. Ac mewn nifer o wledydd, maen nhw'n edrych at Gymru ac yn edmygu'r hyn dŷn ni'n ei wneud ac eisiau dysgu gennym ni.

Mi allem ni fod yn hunanfodlon iawn fan hyn, a gallem ni ddweud, 'Mae gennym ni'r strategaeth yma, mae gennym ni bopeth. Mae yna rai pethau gwych yn digwydd a "Dewch i'r Eisteddfod Genedlaethol am wythnos, ac mi welwch chi pa mor wych ydy diwylliant Cymraeg ac ati", neu, "Dewch i Eisteddfod yr Urdd a chwaraeon yr Urdd".' Ond mae yna un peth dwi'n gobeithio dŷn ni i gyd yn gallu cytuno arno fo: dŷn ni ddim yn fodlon setlo ar hynny. Mae yna fwy i'w wneud, a dyna'r neges dwi'n gobeithio y gallwn ni heddiw roi i'r seithfed Senedd: mae'n rhaid cael y targedau, mae'n rhaid cael deddfu ac mae'n rhaid cael buddsoddiad. Oherwydd heb hynny, fyddwn ni ddim yn gweld nid dim ond y targedau yn cael eu cyrraedd, ond bod yna gyfle i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

Dŷn ni'n aml yn dweud bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Efallai ei bod hi'n perthyn, ond yr hyn wnaeth sylwadau Nigel Farage ddangos i ni yr wythnos diwethaf ydy bod pobl Cymru yn malio am y Gymraeg, os ydyn nhw'n ei siarad hi neu beidio, ac ni fyddan nhw'n caniatáu i neb sarhau'r iaith. Efallai fod yna ormod o bobl wedi colli'r cyfle i gael y Gymraeg am amryw o resymau dros y degawdau diwethaf yma. Efallai fod yna blant yn dal yn cael eu geni heddiw lle dydy'r Gymraeg ddim yn cael ei rhoddi iddyn nhw mewn ffordd hawdd, a bod yn rhaid dal i frwydro am wasanaethau, hyd yn oed gyda chomisiynydd, hyd yn oed gyda deddfu. Ond yr hyn sy'n sicr ydy: mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb os bydd y Llywodraeth hefyd yn cefnogi hynny.

Felly, dwi yn mawr obeithio, wrth inni adlewyrchu ar waith y pwyllgor hwn, ein bod ni i gyd yn gallu cytuno bod mwy i'w wneud—mwy o lawer i'w wneud—a bod angen rŵan gweithredu. Mae'n ddiwedd ar jest slogans a bodloni ar yr hyn sydd wedi bod. Mae'n amser am fwy o weithredu. Felly, yr hyn y byddwn ni yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet wrth adlewyrchu, efallai—. Yn amlwg, dŷn ni heb gael amser i drafod nifer o adroddiadau pwysig dros ben. Beth ydych chi'n eu gweld fel y camau nesaf ac angenrheidiol? Rydyn ni'n colli tir o ran pobl ifanc, yn sicr. Mae yna berygl ar YouTube, ar TikTok—pa bynnag blatfform maen nhw eisiau i'r defnydd yna fod—ein bod ni yn colli tir, felly mae angen brys hefyd.

Mi hoffwn i gymryd y cyfle, i gloi, os caf i—ac mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd—i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei harweiniad hi. Diolch i'r clercod a'r tîm ymchwil, ond diolch hefyd i bawb sy'n gweithio'n ddiflino ledled Cymru i gadw'r Gymraeg fel iaith i bawb, ac sydd yn gwneud gwyrthiau, weithiau ar gyllidebau bach dros ben. Diolch.

16:40

Wrth ystyried i ba raddau y mae digwyddiadau diwylliannol fel eisteddfodau, gwyliau Cymraeg, o ran yr impact maen nhw'n eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn enwedig mewn iaith lle mae yna lai o siaradwyr—. Es i nôl i feddwl am enghraifft dda yn ddiweddar, sef yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Pa well ffordd, efallai, i ddechrau'r cyfraniad yma na mynd i edrych ar gywydd croeso yr Eisteddfod honno gan Aneirin Karadog? Dyma ddiwedd y cywydd croeso hwnnw:

'Meiddio a wna'n cymoedd ni / ddod â dawn yn ddadeni. / Iawn, byt! Nawr, cer obeutu / Â biwt o iaith i bob tŷ.'

Dyna beth rŷn ni'n ceisio ei wneud fan hyn, yntefe? Dyna beth yw ein gobaith ni fan hyn. Dyna beth rŷn ni'n moyn ei weld yng Nghymru, eto fel dywedodd y Aneirin Karadog:

'Ein hiaith a'i hegni'n drwch, / Ein hiaith ym mhob tŷ'.

Ond sut mae cyflawni'r fath ddadeni—dadeni mewn ardaloedd dwysedd canolig neu isel o siaradwyr? Sut mae modd cryfhau'r iaith mewn ardaloedd fel Pontypridd, man geni ein hanthem genedlaethol a'r man lle ysgrifennwyd 'O bydded i'r heniaith barhau'?

Dwi'n ddiolchgar iawn am waith arbenigol Simon Brooks. Dwi'n dymuno'n dda iddo, a dwi'n gobeithio, yn y Senedd nesaf, y bydd modd edrych yn fwy manwl ar ei adroddiadau pwysig ef. Dwi'n credu bod y lle yma yn enghraifft o arfer da. Mae wedi bod braf y tymor yma gweld cynifer o Aelodau yn cyfrannu yn Gymraeg, yn cyfrannu am y tro cyntaf yn Gymraeg, a gweld eu hyder yn cynyddu o gyfraniad i gyfraniad. Hefyd, mae'r un peth yn wir ynglŷn â staff Comisiwn y Senedd a staff ein swyddfeydd ni. Mae'r cynigion mae’r lle yma yn eu rhoi i bobl ddysgu ac i ymarfer eu Cymraeg yn arfer da dwi'n credu y byddai modd ei drosglwyddo i fannau eraill.

Fel y dywedodd Dr Ruth Kircher, mae gwneud yr iaith yn hwyliog ac yn hwyl yn bwysig. Mae Alun Davies wedi dweud hyn droeon, bod hynny wedi bod yn rhan bwysig iddo fe yn dysgu'r Gymraeg, bod yr iaith wedi bod yn beth hwyliog, cymdeithasol iddo ef. Yn fy swyddfa i, mae yna lot o hwyl yn cael ei wneud yn y gwahaniaeth rhwng iaith Gymraeg sir Conwy ac iaith Gymraeg Caerdydd. Ond yn y bôn, ar ôl ystyried neu gysidro'r her, mae ffyrdd i ni 'efo' neu 'gyda' ein gilydd i 'hala' neu 'roi' yr anrheg o hyder i bawb.

Wrth gwrs, mae Dr Robert Talbot yn iawn. Does dim modd dyfeisio hwyl—mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ddigymell, ond gallwn ni helpu. Mae digwyddiadau a gwyliau diwylliannol lle mae pobl yn cael eu trochi yn yr iaith yn hollbwysig. Ond mae hefyd angen creu mwy o ofodau dwyieithog, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o siaradwyr. Gallwn gefnogi trefnu'r digwyddiadau a gwyliau i fabwysiadu ethos dwyieithog.

Rhaid inni ddysgu o dystiolaeth gan Amgueddfa Cymru, y mentrau iaith a Chomisiynydd y Gymraeg fod mynediad am ddim neu gost isel yn ehangu lefelau cyfranogiad, yn lliniaru rhwystrau economaidd-gymdeithasol ac yn atgyfnerthu'r egwyddor bod y Gymraeg mewn gwirionedd yn fwy na jest slogan i bawb—ei bod hi mewn gwirionedd ar gael i bawb.

I'r Gymraeg ffynnu, mae'n rhaid iddi fod yn addas i'n bywyd modern. Roedd Heledd Fychan yn sôn am y dechnoleg ddiweddaraf. Mae hon yn broblem i'r iaith Gymraeg, problem rŷm ni wedi siarad o'r blaen amdani, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n anodd ffeindio apiau yn y Gymraeg, ac wrth inni ystyried yr hwyl, yr aspect hwyl, mae dim ond 9 y cant o’r apiau Cymraeg sydd yn gemau. Mae fy mhlant i yn chwarae gemau ar eu tablets yn Saesneg. Fel dywedodd yr ymgyrchydd a'r arbenigwr technoleg Carl Morris, does dim digon o hwyl mewn technoleg yn y Gymraeg. Rŷn ni’n gwybod bod plant yn chwarae ar eu Xbox, Playstation a Nintendo, ond yn Saesneg mae’r rhain, gwaetha’r modd. Ac ar ôl brwydro cymaint i sicrhau sieciau yn y Gymraeg, mae chip and pin ac apiau bancio yn dal yn uniaith Saesneg.

Cytunaf 100 y cant gyda barn y pwyllgor bod yn rhaid blaenoriaethu gweithgareddau lleol—chwaraeon, cerddoriaeth, hamdden—sy’n adlewyrchu’r hyn mae pobl ifanc eisiau ei wneud. Llwyddodd fy nhad a’i dîm i osod esiampl wych o hwn yng Nghaerdydd trwy sefydlu Clwb Ifor Bach, lle mae nifer ohonom ni wedi ymlacio, canu, dawnsio a chymdeithasu yn Gymraeg. Dwi’n credu roedd arweinydd Plaid Cymru yn bownser yng Nghlwb Ifor Bach back in the day, clwb lle mae llawer ohonom ni wedi cael hwyl, clwb lle mae llawer o bobl wedi cwrdd â’u partneriaid ac yna wedi magu plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna wnaeth yr Ifor Bach gwreiddiol yn yr ail ganrif ar ddeg, dyna wnaeth fy nhad a’i gyfeillion yn y ganrif ddiwethaf, a dyna beth mae Aneirin Karadog yn ein hannog i’w wneud nawr:

'Â chorn gwlad codwn adain, / dathlwn a gwaeddwn uwch gwain / y cledd, ynghyd â’r heddwch, / y daw’r iaith a’i hegni’n drwch.’

Ie, yn drwch dros Gymru gyfan. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch i’r pwyllgor a’r staff am yr adroddiad pwysig yma. Fel yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd ers blynyddoedd, mae’n dda iawn gweld yr iaith Gymraeg yn tyfu dros yr amser hwn yng Nghasnewydd. Dwi’n croesawu ffocws yr adroddiad ar yr iaith ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd fel Casnewydd, lle dydy’r iaith ddim yn gryf. Mae llawer o waith yn digwydd yn y ddinas trwy’r awdurdod lleol a menter iaith, er enghraifft, a bydd yn grêt i groesawu’r Urdd i Gasnewydd yn 2027. Dwi’n gobeithio y bydd y Llywodraeth Cymru nesaf yn parhau i adeiladu’r iaith Gymraeg yng Nghasnewydd a ledled Cymru. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i’r pwyllgor am ei waith ar yr adroddiad ‘Cymraeg i bawb?’ Mae’r dystiolaeth rydych chi wedi’i chasglu, a’r dadansoddiad rydych chi wedi’i gyflwyno, yn werthfawr inni at y dyfodol.

Mae adroddiad y pwyllgor, Dirprwy Lywydd, fel rŷn ni wedi clywed, yn ychwanegu at becyn o waith newydd y mis yma sy’n dangos y ffordd ymlaen: adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, ac adroddiad terfynol ail gam Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Gyda’i gilydd, mae’r tri yn pwyntio at gasgliadau cyffredin, a dyma ble dwi’n meddwl, fel roedd Heledd Fychan yn gofyn, gallwn ni weld y camau nesaf yn dod mas o’r negeseuon cyffredin yn yr adroddiadau yna.

Mae’r casgliadau cyffredin yn gynnwys bod yr her fwyaf i’r Gymraeg yw sicrhau ein bod ni’n gallu ei defnyddio o ddydd i ddydd ym mhob rhan o Gymru trwy greu'r amodau a gofodau cywir yn ein bywydau bob dydd, yn y gwaith, gydag ein teuluoedd ac yn ein hamser rhydd.

Dirprwy Lywydd, argymhelliad cyntaf adroddiad y pwyllgor yw cytuno ar fframwaith i lywio cynllunio gwaddol fel bod effaith gwyliau Cymraeg cenedlaethol a rhanbarthol allweddol yn cael eu troi'n rhywbeth mwy parhaus yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Rwy’n falch o gadarnhau'r wythnos diwethaf ein bod ni wedi cyhoeddi fframwaith strategol sy'n cryfhau a chydlynu'r gwaith o sicrhau gwaddol parhaol i'r Eisteddfod Genedlaethol, gan ddod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd, a diolch yn fawr i'r pwyllgor am arwain ar y syniad hwnnw. Mae'r fframwaith hwnnw'n adlewyrchu'r ffaith bod y gwaith yn dechrau ymhell cyn yr ŵyl ac yn parhau ymhell ar ôl y digwyddiad, gan adael gwaddol ar gyfer ein hiaith mewn meysydd fel addysg, y gymuned, yr economi ac arloesi digidol. Mae'r fframwaith yn gosod strwythurau clir ar lefel leol a chenedlaethol a sicrhau ein bod ni'n rhannu arfer da o flwyddyn i flwyddyn. Rydw i'n gweld hwn yn mynd law yn llaw â'r cynllunio strategol hirdymor sy'n cael ei ddisgrifio gan y pwyllgor.

Mae'r pwyllgor hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau ein bod ni i gyd â mynediad at y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd dwysedd canolig ac is. Rydw i wedi sôn ein bod ni, ddydd Llun yma, wedi derbyn adroddiad terfynol ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sy'n mynd i'r afael â hyn yn union, ac, fel mae'r Aelodau eraill wedi'i ddweud, dwi mor ddiolchgar i aelodau'r comisiwn, i'r Athro Elin Gruffydd Jones a Dr Simon Brooks, am eu gwaith dros gyfnod y Senedd hon i gyd.

Mae pwyslais adroddiad y comisiwn ar y Gymraeg fel iaith sy'n perthyn i ni i gyd, ym mhob rhan o Gymru, ym mhob cymuned, yn neges gref a phwysig. Mae'n neges rydw i'n ei chefnogi'n llwyr. Ynghyd â'i ffocws ar roi sylw i'r iaith mewn cynnwys digidol, mae pwyslais y comisiwn ar greu gofodau lleol lle gallwn ni ddefnyddio'r iaith yn naturiol yn adleisio llawer o argymhellion y pwyllgor—argymhellion mae'r Llywodraeth wedi gallu eu derbyn. Mae'r rhain yn cynnwys argymhelliad 3, ar fynediad i wyliau mawr, argymhelliad 7, mewn perthynas â mentrau yn y gymuned, ac argymhellion 5 a 6, sy'n ymwneud â thechnolegau newydd a'r Gymraeg. Felly, mae pwyslais y pwyllgor ar bwysigrwydd creu cyfleoedd ymarferol, perthnasol a chynhwysol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llefydd bob dydd yn amlwg yn cyd-fynd â ffocws y comisiwn ar greu gofodau sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio eu Cymraeg.

Dirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod Cymru mewn sefyllfa gref o ran gofodau digidol a thechnolegol—nid trwy ddamwain, ond oherwydd gwaith paratoi'r Llywodraeth dros nifer o flynyddoedd. Rydym ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws Cymru a thu hwnt ar dechnoleg fel ffordd o'i gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio eu Cymraeg, ar ddefnyddio technoleg i sicrhau mynediad at y Gymraeg ac yn cryfhau sut mae'r Gymraeg yn gweithio o fewn deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n gyfrifol gyda data agored, cefnogi arloesi a sicrhau bod sefydliadau a datblygwyr yn gallu cynllunio'n hirdymor.

Dirprwy Lywydd, un thema olaf i uno'r tri adroddiad rydw i wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma yw pwysigrwydd y gweithlu fel ffocws i'r iaith. Daw hyder drwy ddefnydd, ac mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithlu yn gyfle arbennig o bwysig i sicrhau ein bod ni'n cyflawni teitl adroddiad y pwyllgor, 'Cymraeg i bawb?' 

I gloi, Dirprwy Llywydd, hoffwn ailadrodd fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn a hefyd i'r comisiynydd am ei hadroddiad hi. Hoffwn i hefyd ddiolch i'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg am baratoi adroddiad manwl, o sylwedd. Rwy'n edrych ymlaen at ei ddarllen yn ofalus, ac, fel yr oedd Rhys ab Owen yn dweud, bydd cyfleon i'r Senedd nesaf edrych yn fanwl i mewn i'r mwy na 100 o bosibiliadau mae'r ddau adroddiad yn dangos i ni.

Mae'r adroddiadau hyn i gyd yn her adeiladol i Lywodraeth nesaf Cymru barhau â'r gwaith i adfywio'n hiaith ni a sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu defnyddio, rhannu ac ymfalchïo yn y Gymraeg. Yn gryno, mae hwn yn cadarnhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac, fel yr oedd Alun Davies yn dweud, felly hefyd yn gyfrifoldeb i ni i gyd am ei dyfodol. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, diolch yn fawr iawn i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. I ddechrau, diolch i Gareth am dy sylwadau. Mae Gareth wedi ein gadael, ond diolch i Gareth am ei sylwadau ac am y ffaith ei fod e wedi diolch i dîm y pwyllgor.

Wel, geiriau gwir, y rheini. Mae hyn wedi bod yn faes lle mae cymaint o dir cyffredin wedi bod rhwng Aelodau. Roedd hwnna'n rhywbeth roedd Alun wedi sôn amdano hefyd, ond mae'r tir yna'n dod yn fwyfwy anwastad oddi tanom ni; mae'n rhaid inni sicrhau dyw hyn ddim yn cael ei golli. A diolch i ti, Alun; rwyf i wedi mwynhau dy gwmni di hefyd. Diolch am dy garedigrwydd a diolch am roi dy ddiolch di hefyd ar y record i'r staff, y staff pwyllgor ffantastig rŷn ni wedi gweithio gyda nhw.

Ie, her a gwahoddiad ydy'r targed. Mae consensws ar hyn o bryd, ond mae yna rwyg yn hynny. Roedd un o'n beirdd wedi sôn am 'rhwyg yn y fforest ddi-ffenestr'; mae yna rwyg y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol iawn ohono. Ac roedd Alun wedi sôn am fel mae fframweithiau ond yn ddefnyddiol os ydyn nhw'n arwain at newidiadau mewn bywyd go iawn. Defnydd o'r Gymraeg—dyna sy'n bwysig; defnyddiwch eich Cymraeg fel y mae hi, gorfoleddwch yn eich Cymraeg amherffaith berffaith, plîs. Mae'n rhaid inni gofio ein hanes, o le y daethom, a gorfoleddu yn y ffaith bod gennym ni'r cyfle yma nawr. Diolch hefyd i Alun ac i Rhys am ddiolch i Simon Brooks; dŷn ni i gyd yn anfon ein dymuniadau gorau iawn ato.

Soniodd Heledd am y cyd-destun ehangach a'r cysondeb yn yr argymhellion sy'n cael eu gwneud. Roeddwn i'n hoffi'n fawr iawn y ffaith roedd Heledd yn dweud nid ar hap mae achub iaith. Ac ie, yr eliffant sydd wedi bod yn yr ystafell, fel dywed y Sais, yw'r ffaith bod lleisiau yn ein gwleidyddiaeth sydd yn tanseilio'r targedau, sydd yn tanseilio'r angen am fuddsoddiad. Mae'r Gymraeg yn wleidyddol. Mae ein hanes wedi dangos hynny. Mae hyn wedi cael ei brofi tro ar ôl tro. Mae'n rhaid i ni fel gwleidyddion sicrhau ei dyfodol. Ac ie, Heledd, yn wir, mae angen inni weld diwedd ar sloganau'n unig a bodloni gyda fel y mae pethau. Diolch yn fawr iawn i ti am hynny.

A diolch, Rhys, am ddyfynnu'r cywydd gan Aneirin Karadog, 'Ein hiaith ym mhob tŷ'. Wel, da i gael y gynghanedd yn ein Siambr ar ddiwrnod olaf ein Senedd bresennol. Diolch, Rhys, am gael y gynghanedd ar y record. Ie, mae wedi codi calon i weld a chlywed mwyfwy o Aelodau'n cyfrannu yn y Gymraeg yn y Senedd. Mae hwnna'n dangos eto bod yn rhaid i'r iaith fod yn fyw, yn ei holl amherffeithrwydd perffaith. Rwy'n hoffi'n fawr iawn y ddelwedd honno o'r Gymraeg fel anrheg. Ie, trysor yw'r Gymraeg, ond trysor bob dydd, i'w rhyfeddu trwy ei defnydd yn hwylus. Diolch i ti, Rhys, a diolch i dy dad hefyd am bopeth roedd e wedi'i wneud.

A gwych i'ch clywed chi'n siarad Cymraeg, John. Mae lot fawr iawn i'w ddathlu mewn llefydd fel Casnewydd, a bydd yr Eisteddfod yn gyfle gwych. Wel, dyna i ni i gyd wahoddiad arall: mae'n rhaid i ni fynd i Gasnewydd i glywed mwy o'r iaith. Ond mae e wedi bod yn ffantastig i'ch clywed chi yn defnyddio'r Gymraeg mor berffaith. Diolch yn fawr iawn, John.

A diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich cyfraniad. Dwi ddim dim ond yn golygu eich cyfraniad y prynhawn yma yn y Siambr; eich cyfraniad ehangach dwi'n ei olygu hefyd. Diolch, Mark.

Ac, oes, mae yna gasgliadau cyffredin ar draws nifer o adroddiadau, yr her a'r gwahoddiad eto yw sicrhau bod gofodau a chyfleoedd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg. Mynediad ydy'r meistr, boed hynny'n ganolfannau hamdden neu'n wefannau ac apiau. Ac, oeddwn, roeddwn i'n hoffi fel oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud hyn: 'Daw hyder drwy ddefnydd'. Wel, ie yn wir, ac mae nifer o Aelodau sydd yn y Siambr heddiw yn brawf o hynny. Rhaid, fel oedd e'n dweud, i ni ymfalchïo yn ein hiaith.

Dirprwy Lywydd, hoffwn i ar y diwedd bwysleisio, unwaith eto, tri pheth sydd eu hangen. Yn gyntaf, sicrhau gwaddol â phwrpas. Mae yna gonsensws am yr angen am hynny, i wyliau fod yn sbardunau yn hytrach nac yn ddiweddglo. Yn ail, technoleg sy'n gwasanaethu pobl. Yn olaf, dylai'r Gymraeg fod yn iaith bob dydd yn y lleoedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Ar draws y tri phwynt, mae yna thema gyffredin, sef hyder, hyder sy'n deillio o groeso, o fforddiadwyedd, perthnasedd a gwybod nad prawf yw'r Gymraeg, ond eto mae hi'n wahoddiad. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Boed i ni greu Cymru a chymdeithas sy'n ddathliad o hynny. Gobaith fo'r meistr. Diolch i chi i gyd.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A gan mai dyna'r ddadl olaf o'r chweched Senedd ar adroddiadau pwyllgor, hoffwn gofnodi diolch y Senedd i'r holl staff a oedd yn ymwneud â gwaith y pwyllgorau.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llywodraeth Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan, gwelliant 3 yn enwau James Evans a Laura Anne Jones, a gwelliant 4 yn enw Russell George. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Cymru. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9235 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru, wedi'u cefnogi gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi methu â gwella bywydau pobl Cymru, ac mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun credadwy i drwsio Cymru a chael Cymru'n gweithio.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a 'co ni off, dadl ddiwethaf y chweched Senedd.

17:10

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Jane Hutt. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi record Llywodraeth Lafur Cymru o gyflawni dros bobl Cymru, gan gynnwys:

a) y lleihad mwyaf, a mwyaf parhaus, ar gofnod yn y rhestr aros gyffredinol a'r gostyngiad cyflymaf ar gofnod mewn arosiadau dwy flynedd;

b) bron i £4 biliwn wedi’i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion a cholegau newydd ym mhob rhan o Gymru;

c) creu neu ddiogelu mwy na 50,000 o swyddi yn y sector preifat y tymor hwn;

d) cyflawni gwelliannau o ran ffyrdd, trawsnewid y fflyd rheilffyrdd, a chyfraith newydd sy'n dod â gwasanaethau bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus;

e) y cyflenwad parhaus uchaf o dai cymdeithasol mewn bron i ddau ddegawd;

f) Cymru'n parhau i fod yn ail yn y byd o ran ailgylchu, i fyny o bump y cant yn cael ei ailgylchu ar ddechrau datganoli i dros 68 y cant heddiw;

g) dros £7 biliwn wedi'i fuddsoddi i gadw arian ym mhocedi pobl; a

h) y buddsoddiad mwyaf mewn gwasanaethau cyhoeddus yn hanes datganoli, drwy'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. 

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod 27 mlynedd o Brif Weinidogion Llafur yng Nghymru, yn ogystal â Llywodraethau Ceidwadol a Llafur y DU wedi methu â gwella bywydau pobl Cymru.

2. Yn credu ymhellach na fydd pleidiau nad yw eu ffocws ar Gymru'n unig, ac nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru, fyth yn blaenoriaethu buddiannau pobl Cymru, ac mai dim ond Plaid Cymru sydd â chynllun cyflawn a chredadwy i sicrhau’r arweinyddiaeth newydd y mae Cymru ei hangen.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Llywydd, mae'r heriau hynny, wrth gwrs, yn niferus iawn ac mi fydd angen Llywodraeth sydd yn glir iawn ei hamcanion ac yn ddigyfaddawd yn ei huchelgais er mwyn sicrhau cynnydd ar draws yr ystod yna o feysydd sydd o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru. Mae pobl Cymru yn caledu eu barn, dwi'n credu, am waddol 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur: gwasanaeth iechyd sy'n profi amodau annerbyniol o heriol i staff a chleifion; safonau addysg sy'n cymharu'n anffafriol â bron pob gwlad Ewropeaidd, yn sicr y gwledydd Ewropeaidd cyfatebol; economi sy'n ystyfnig o ddi-symud.

17:15

Galwaf ar James Evans i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 3—James Evans, Laura Anne Jones

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru a gefnogwyd gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn fethiant i bobl Cymru.

2. Yn cydnabod mai dim ond Reform UK sydd â chynllun credadwy i roi pobl Cymru yn gyntaf.

Cynigiwyd gwelliant 3.

17:20

Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 4—Russell George

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu ag ymyrryd ym mhenderfyniad Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i fabwysiadu argymhellion y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, a oedd yn cynnwys cau canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn barhaol.

Yn credu:

a) y dylai Llywodraeth nesaf Cymru ymyrryd i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn parhau i fod yn weithredol yn y Trallwng a Chaernarfon;

b) y dylai byrddau iechyd Cymru ac ymddiriedolaethau iechyd Lloegr weithio'n agos gyda'i gilydd er budd cleifion, waeth ble maent yn byw;

c) ei bod yn anesgusodol i fyrddau iechyd Cymru ofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr arafu'n fwriadol y broses o ddarparu triniaeth i gleifion, er bod gan y darparwyr hynny yn Lloegr ddigon o gapasiti;

d) bod y Llywodraeth bresennol wedi methu trigolion Powys drwy beidio ag ariannu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i lefel sy'n ei alluogi i brynu capasiti gofal iechyd yn Lloegr yn unol â thargedau amseroedd aros Lloegr; ac

e) y dylai llywodraeth nesaf Cymru sicrhau na ddylai unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru gael ei ganiatáu i ofyn i ddarparwyr yn Lloegr ohirio triniaeth y GIG ar gyfer cleifion o Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 4.

17:25
17:30
17:35

Gan mai hwn fydd fy nghyfraniad olaf yn y chweched Senedd, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am eich arweiniad yma yn y Siambr—yn gytbwys ac yn deg bob tro?

17:40
17:45
17:50
17:55
18:00
18:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi eisiau dechrau nid gydag ystadegau, nid gyda'n record, na hyd yn oed gyda'r Llywodraeth hon, ond gyda phobl Cymru, achos dyna lle ddylen ni ddechrau bob amser, a dyna lle mae'n gymwys inni orffen.

18:10

Diolch ichi am bopeth rŷch chi wedi ei wneud yn eich rôl fel Llywydd. Mae wedi bod yn anrhydedd i fod yn rhan o'r Senedd yma. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eich arweiniad chi. 

Mae Cymru'n well oherwydd yr hyn rŷn ni wedi'i gyflawni.

18:15
18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cwestiynau Amserol

Dwi wedi derbyn un cwestiwn amserol i'w gymryd cyn diwedd ein gwaith ni y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn yma i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac i'w ofyn gan Adam Price.

Adolygiad Rycroft

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o Adolygiad Rycroft, a sut fydd yn sicrhau bod y cap newydd ar roddion a'r gwaharddiad ar roddion cryptoarian ledled y DU yn cael eu cymhwyso'n effeithiol yng Nghymru cyn etholiad 2026 y Senedd? TQ1459

18:25
18:30
8. Dadl Fer: Ffarweliad: Pum tymor fel AS—Myfyrio ar fy nghyfnod fel Aelod o'r Senedd

Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer. Mark Isherwood sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y balot ar gyfer y ddadl fer. Mark Isherwood.

18:40
18:45
9. Datganiadau i Gloi

Eitem 9 sydd nesaf, datganiadau i gloi yw'r rhain. Mae pedwar Aelod yn cyfrannu fan hyn, pob un o Blaid Lafur, am resymau digon amlwg, a'r cyntaf ohonyn nhw fydd Julie Morgan.

18:50
18:55
19:05
Member
Jane Hutt 19:06:57
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd, a diolch i chi i gyd.

Pob lwc i chi i gyd, a diolch i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]

19:10

Felly, dyma fy nghyfle i nawr ac fy ngeiriau olaf i fel Llywydd yn y chweched Senedd hon. Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth diweddar, mae'n debyg fy mod i wedi siarad 80 y cant o'm amser i fel Llywydd yn Gymraeg.

Diolch i chi, gyd-Aelodau, am eich cydweithio parod. Diolch hefyd i'r staff sy'n ein cynorthwyo ni fel Aelodau, yn staff gwleidyddol a staff y Comisiwn a'r contractwyr hefyd. Mae pawb mor wych. Rŷn ni'n Aelodau ffodus iawn, a dwi wedi bod yn Llywydd ffodus iawn.

Rŷn ni angen pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.]

19:15
10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais y prynhawn yma, heno, ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.

19:20

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 24, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf—gwelliant yn enw James Evans yw hwn. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, 52 yn erbyn. Ac mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw James Evans.: O blaid: 2, Yn erbyn: 52, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Russell George. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, 12 yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod. 

19:25

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Russell George.: O blaid: 17, Yn erbyn: 26, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Sydd yn golygu bod dim byd wedi cael ei dderbyn. 

Diolch yn fawr ichi i gyd. Pob dymuniad da i'r rhai ohonoch chi sy'n ymddeol, a phob dymuniad da i'r gweddill ohonoch chi sydd ar fin sefyll etholiad. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni. 

Daeth y cyfarfod i ben am 19:26.