Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/02/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Polisi Ynni

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei pholisi ynni? OQ63856

Rydym yn cyflawni polisi ynni drwy ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil, a buddsoddi'n uniongyrchol ledled Cymru drwy Trydan Gwyrdd Cymru ac Ynni Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau mawr, gan gynnwys prosiectau ynni niwclear newydd yng ngogledd Cymru.

Diolch. Y mis diwethaf, mynychodd eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd, a fu'n canolbwyntio ar gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU. Yn ei datganiad ysgrifenedig, cyfeiriodd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ledled Cymru'n elwa o'r newid i gartrefi iach, carbon isel, ynghyd â'r angen i sicrhau buddion cymunedol parhaol, gan gynnwys sicrhau cyfran deg i Gymru o'r buddsoddiad o £15.2 biliwn. Er bod Ofgem heddiw wedi cyhoeddi gostyngiad yn y cap ar brisiau ynni o 1 Ebrill, mae National Energy Action Cymru yn nodi bod pobl yng Nghymru yn parhau i dalu mwy am ynni, gyda gogledd Cymru’n parhau i fod y rhanbarth drytaf ym Mhrydain, a de Cymru y trydydd drytaf. Felly, o ystyried eich cyfrifoldeb dros ynni domestig ac effeithlonrwydd ynni yng Nghymru, sut rydych chi'n ymateb i'w galwad i ymrwymo'r holl gyllid canlyniadol y mae Cymru'n ei gael yn sgil y cynllun Cartrefi Cynnes—a allai fod dros £250 miliwn—i dorri biliau, trechu tlodi tanwydd, a gwneud cartrefi'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn lleoedd llawer cynhesach ac iachach i fyw?

Wel, nid oes gennym y manylion llawn eto mewn perthynas â'r hyn y mae cynllun Cartrefi Cynnes yn ei olygu'n benodol i ni yma yng Nghymru. Ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda Llywodraeth y DU ac i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni i leihau costau ynni i gartrefi yng Nghymru, i wella effeithlonrwydd ynni ar draws cartrefi yng Nghymru ac ar draws busnesau yng Nghymru, ac wrth gwrs, i sicrhau diogeledd ynni ar gyfer y dyfodol hefyd.

Un o'r pethau a wnawn sy'n helpu i leihau costau ynni i gartrefi a busnesau yw ein buddsoddiad yn Ynni Cymru. Mae hynny wedi bod yn hynod lwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o ran cyfeirio cyllid ar gyfer cynlluniau sy'n aml yn cael eu harwain gan y gymuned a'u llywio gan gymunedau i sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn y systemau ynni lleol clyfar hynny. Felly, mae'r rheini'n defnyddio gwybodaeth leol a dyfeisgarwch lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ardaloedd penodol. Gallant fod ar gyfer un ystad dai, er enghraifft, neu gallai fod yn brosiect llai ar gyfer canolfan gymunedol, neu fentrau bach a chanolig lleol eraill yn grwpio gyda'i gilydd. Felly, mae ystod eang o opsiynau drwy Ynni Cymru. Rwy'n gobeithio gallu dweud mwy cyn bo hir ynglŷn â ble rydym yn mynd â'r cynllun hwnnw nesaf, ond mae wedi bod yn hynod boblogaidd—mae'r uchafswm o bobl wedi ymuno â'r cynllun ym mhob achos hyd yn hyn. Yn sicr, credaf fod hynny'n enghraifft dda iawn o'r mathau o raglenni y gallwn eu cefnogi yng Nghymru drwy Ynni Cymru, ein cwmni ni ein hunain, sydd â'r nod o roi'r cynlluniau hynny ar waith.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n ymwybodol iawn o'r cynlluniau ar gyfer tyrbinau a pheilonau sy'n mynd i ddinistrio fy etholaeth. Mae hyn yn mynd i gael effaith hirdymor ar yr amgylchedd, ar fioamrywiaeth, ac yn bwysicach fyth, ar y sector twristiaeth yn fy etholaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi cydberthynas uniongyrchol rhwng y peilonau hyn a mwyngloddio yn ne Cymru, gan ddweud bod yn rhaid i ganolbarth Cymru chwarae ei ran, a chredaf fod hynny'n sylw cwbl warthus i'r Prif Weinidog ei wneud. Yr hyn rwyf am ei weld, Ysgrifennydd y Cabinet, yw diwedd ar y peilonau a'r tyrbinau hyn a moratoriwm llawn ar hynny yng Nghymru, gan mai'r hyn sydd gennym nawr yw canllawiau cynllunio sydd wedi dyddio a cheisiadau'n cael eu pennu gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, fel y dywedais, ar sail canllawiau sydd wedi dyddio ac y mae angen eu diweddaru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaiff y Llywodraeth hon atal yr holl benderfyniadau hyn hyd nes bod gennym ganllawiau cynllunio priodol, cyfredol, fel y gall Gweinidogion wneud penderfyniadau llawn a phriodol ar y materion hyn?

Credaf fod canllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn yn glir iawn. Rydym wedi dweud y byddai'n well gennym osod ceblau tanddaearol, lle mae hynny'n ymarferol. Ni fydd yn ymarferol ym mhob achos—ni fydd yn fasnachol ymarferol ym mhob achos ac ni fydd yn ymarferol oherwydd daearyddiaeth yr ardal ym mhob achos. Dyna pam ein bod ni ar hyn o bryd yn ystyried ein hymateb i argymhellion y grŵp cynghori annibynnol. Fe wnaethom sefydlu'r grŵp hwnnw'n benodol i edrych ar faterion yn ymwneud â hyfywedd a chost gosod ceblau tanddaearol. Bydd ein hymateb i hynny'n dangos sut y gallwn drosi'r argymhellion yn rhaglen waith i siapio a chyflawni'r grid modern, gwydn sydd ei angen ar Gymru i ddiwallu ein gofynion ynni. Mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn wirioneddol bwysig i'n helpu i barhau i ystyried materion hollbwysig ynghylch sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael yr ynni sydd ei angen arnynt. Rwy'n deall yn llwyr sut y byddai'n well gan rai pobl pe gallem anwybyddu'r cwestiynau hynny ynglŷn â throsglwyddo ynni wrth drafod yr angen am ynni. Gŵyr pob un ohonom fod busnesau'n gwbl ddibynnol ar ynni i dyfu, ac mae angen inni sicrhau bod ganddynt fynediad at yr ynni hwnnw.

Credaf fod y gwaith y gwnaethom gomisiynu NESO i'w wneud—y Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol—yn wirioneddol bwysig. Mae adroddiad 'Beyond 2030' yn nodi argymhellion rhwydwaith ar gyfer system drydan gyfan Prydain, ac mae'n cadarnhau'r angen am gyswllt trawsyrru foltedd uchel rhwng gogledd a de Cymru. Cynigiwyd hynny gyntaf yn yr adroddiad Dylunio Rhwydwaith Cyfannol. Yn amlwg, mae'n rhaid gwneud llawer iawn o waith, ac mae angen llawer iawn o ymgynghori â chymunedau. Fel y dywedais, rydym wedi nodi'r opsiwn a ffefrir gennym yn glir, ond gan gydnabod bod yn rhaid iddo fod yn opsiwn ymarferol, a bydd cymaint o faterion yn effeithio ar y gallu i brofi ymarferoldeb ai peidio.

13:35

Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn yn un o'r nifer o Aelodau a aeth allan i'r brotest y tu allan i'r Senedd. Roedd cannoedd o bobl yno yn protestio yn erbyn codi peilonau delltog mawr yn eu cymunedau. Nid yw'r bobl hynny, fel fi, yn erbyn ynni adnewyddadwy. Ymhell o fod—rydym am weld ynni glân, adnewyddadwy. Rydym am gefnogi hynny. Ond mae'r pryder yma, a gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ymateb i James Evans, yn ymwneud â'r polisi cynllunio a safbwynt Llywodraeth Cymru. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw mai polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yw y dylid trawsyrru trydan yn danddaearol, nid uwchben y ddaear. Mae hynny'n dda. Mae hynny i'w groesawu. Ond mae'r manylion yn 'Polisi Cynllunio Cymru' yn mynd ymlaen wedyn i roi'r cafeatau ynghylch cost. Ond gwyddom fod cost gosod ceblau tanddaearol wedi gostwng yn sylweddol ers i 'Polisi Cynllunio Cymru' sôn am y materion hyn gyntaf, a dyna pam y mae angen diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' yn llawer cynt. Nid yw'r cynlluniau yn fy etholaeth i ddinistrio tirweddau prydferth canolbarth Cymru gyda cheblau 132 kV yn dderbyniol. Dylid gosod y ceblau trawsyrru hyn o dan y ddaear. Wrth gwrs, mae hyn yn fwy costus i ddatblygwyr a chwmnïau preifat, ond nhw ddylai dalu, nid y bobl yng nghanolbarth Cymru sy'n gorfod edrych ar beilonau delltog ofnadwy yn dinistrio eu cefn gwlad.

Yn y pen draw, wrth gwrs, talwyr biliau fydd yn talu am unrhyw gostau uwch, a dyna pam fod y gwaith a wnaeth y grŵp annibynnol mor bwysig o ran edrych ar gostau a nodi'r gwaith y bydd angen ei wneud yn y dyfodol, gan fod cymaint o wahanol ffyrdd o osod ceblau o dan y ddaear. Mae costau'r gwahanol ffyrdd hynny'n wahanol, ac felly hefyd eu haddasrwydd i wahanol dirweddau. Felly, mae gwaith i'w wneud o hyd, yn bendant, a byddwn yn ymateb i'r argymhellion hynny cyn diwedd tymor y Senedd hon.

Bydd fy nghyd-Aelodau hefyd eisiau gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chynllun system ynni rhanbarthol NESO, gyda'u tîm, wrth iddynt lunio ac adolygu'r anghenion ynni rhagamcanol ar draws holl ranbarthau Cymru, gyda'r bwriad o greu cynllun system ynni cenedlaethol i Gymru. Felly mae mwy o waith i'w wneud yno, ond mae rhai gweithgareddau diweddar yn cynnwys adborth ar eu methodoleg arfaethedig a fydd yn cael ei chyhoeddi'n gynnar eleni hefyd. Felly mae llawer o waith yn mynd rhagddo yma. Mae angen inni ddeall y cyfaddawdau o ran costau, a fydd yn y pen draw yn cael eu talu gan dalwyr biliau, a pha mor ddymunol, neu fel arall, yw'r gwahanol ffyrdd o drawsyrru ynni.

Manwerthwyr Bach

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi manwerthwyr bach yn Islwyn? OQ63896

Rydym yn cefnogi manwerthwyr bach drwy fuddsoddi yng nghanol trefi, ein cyd-gynllun gweithredu manwerthu, a gwasanaeth Busnes Cymru. Ers 2020, rydym wedi dyrannu dros £1 biliwn o ryddhad ardrethi annomestig ychwanegol i fanwerthwyr ac eraill, a bydd ein lluosydd manwerthu yn torri £20 miliwn oddi ar filiau ardrethi manwerthwyr bach yn barhaol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod y defnydd o fanwerthu a gwasanaethau ar-lein yn cynyddu fwyfwy, ac mae'n aml yn cael ei grybwyll fel canlyniad real iawn i lawer llai o wario ar ein stryd fawr. Ac eto, nid oes dwywaith fod trigolion Islwyn yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi buddsoddi £136 miliwn, gyda £100 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu dros dair blynedd, i adfywio a bywiogi canol ein trefi, gan ddefnyddio adeiladau adfeiliedig, gwella ein mannau gwyrdd a chynyddu'r amrywiaeth hanfodol o wasanaethau. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ac yn ystyried eu cymryd, i gefnogi ein manwerthwyr yn nhrefi gwych Gwent, yng Nghoed-duon, Crosskeys, Trecelyn a Rhisga?

13:40

Credaf fod y pwyntiau a wnaeth Rhianon Passmore ynglŷn â'r her a'r gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein yn hollbwysig, a dyna pam fy mod wrth fy modd y byddwn, yn dilyn yr ymgynghoriad, yn cyflwyno lluosyddion gwahaniaethol o 1 Ebrill eleni. Rydym yn gallu gwneud hynny oherwydd y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru yn nhymor y Senedd hon, a gyflwynodd y newidiadau i gyllid llywodraeth leol a rhoi pwerau i Weinidogion gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol. Credaf fod hynny'n amserol iawn, gan ein bod yn cydnabod bod manwerthwyr llai a chanolig eu maint yn wynebu heriau unigryw o ran cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein.

Yn amlwg, mae cyfanswm y lle sydd ei angen ar siopau manwerthu o fewn y sylfaen dreth ardrethi annomestig yn fawr, ond mae pob eiddo o'r fath fel arfer yn gwasanaethu marchnad leol eithaf bach. Mewn cyferbyniad, wrth gwrs, mae gan fanwerthwyr ar-lein ôl troed eithaf cymedrol, ond wrth gwrs, mae ganddynt raddfa genedlaethol neu hyd yn oed ryngwladol o ran cyrhaeddiad eu busnes. Felly, mae'n gwbl iawn ein bod ni, o fis Ebrill ymlaen, yn cyflwyno'r lluosydd gwahaniaethol, a fydd yn cydnabod o ddifrif fod manwerthwyr yn wynebu'r gystadleuaeth honno gan werthiant ar-lein.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gofyn i'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Y llefarydd yw Samuel Kurtz. 

Diolch, Lywydd. Yn gynharach y mis hwn, yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, cefais y fraint o ymweld â Valero, cyflogwr mawr yn fy etholaeth, i drafod eu rhaglen brentisiaethau hynod lwyddiannus. Yn wir, roedd yn wych siarad â phrentisiaid sydd â ddiddordeb, sy'n gadarnhaol ac sy'n barod i gyfrannu at ofynion Valero a gofynion ein sector ynni yn y dyfodol. Weinidog, etholwyd eich Llywodraeth Lafur yn 2021 ar ymrwymiad maniffesto i ddarparu 125,000 o brentisiaethau ledled Cymru. Yng nghyllideb ddrafft 2023, diwygiwyd y targed hwnnw i lawr i 110,000, ac ym mis Gorffennaf 2024, cafodd ei ostwng unwaith eto i 100,000. Felly, gyda llai na thri mis i fynd cyn etholiad y Senedd, Weinidog, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni ei tharged gwreiddiol a'i hymrwymiad maniffesto o 125,000 o brentisiaethau?

Lywydd, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am godi pwysigrwydd prentisiaethau i economi Cymru ac i'r bobl sy'n mynd ymlaen i fod yn brentisiaid. Mae'n wych clywed ei fod wedi cael y cyfle i ymweld yn ei etholaeth leol. Manteisiais ar y cyfle i ymweld â llawer o brentisiaid ledled y wlad am yr wythnos gyfan honno.

Lywydd, mae eisoes wedi clywed yr wybodaeth y mae'n holi amdani, gan iddo ei chlywed yn y sesiynau y soniodd amdanynt. Mae'n gwybod yn iawn fod y system brentisiaethau wedi wynebu cryn dipyn o bwysau: colli arian Ewropeaidd—mae pob un ohonom yn cofio pan ddywedasant na fyddem yn waeth ein byd, ac ni wireddwyd hynny, gan fod llai o arian yn y gyllideb brentisiaethau oherwydd y penderfyniadau hynny; pwysau chwyddiant, y mae'n ymwybodol iawn ohonynt; a phwysau costau cyffredinol hefyd. Felly, mae cryn dipyn o bwysau yno. Yr hyn rwy'n hynod falch ohono, Lywydd, yw ein bod wedi taro'r targed o 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth yr ydym wedi'u sicrhau yn nhymor y Senedd hon. Mae'n fuddsoddiad anhygoel gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, a gwn gymaint o wahaniaeth y gall hynny ei wneud.

Diolch am hynny, Weinidog. Edrychwch, nid wyf yn rhoi'r bai arnoch chi am y ffaith bod y targed diwygiedig 25,000 yn llai, oherwydd ar y pryd, yn amlwg, roeddech chi'n aelod o'r meinciau cefn. Ond gadewch inni beidio â thwyllo ein hunain yma: gosodwyd y targed gwreiddiol o 125,000 ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, ar ôl i gyhoeddiadau cyllido gael eu gwneud ar gyfer y dyfodol. Felly, roedd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ymwybodol o'r ffeithiau llawn pan osododd y targed hwnnw o 125,000, a phan wnaeth ei dorri i 110,000 ac i 100,000. Felly, a yw'n bryd cyfaddef nawr i bobl Cymru nad oedd yr addewid maniffesto hwnnw erioed yn gyflawnadwy, ac y dylai'r targed fod wedi bod yn is o'r cychwyn cyntaf?

13:45

Wel, ni ddigwyddodd ar ôl colli cronfeydd cymdeithasol Ewrop a oedd yn cyfrannu hyd at £43 miliwn y flwyddyn at y gyllideb. Mae'r Llywodraeth hon wedi cynyddu'r gyllideb prentisiaethau ers hynny. Rydym yn buddsoddi mwy nag erioed. Byddwch wedi gweld y cynnydd yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd, sydd bellach dros £150 miliwn. Yr hyn rwy'n falch o'i ddweud wrth bobl Cymru yw bod ymrwymiad y rhaglen lywodraethu o 100,000 o brentisiaethau wedi'i gyflawni, ac rwy'n falch o fod wedi cyflawni hynny i'r bobl, gan fod miloedd o bobl ym mhob rhan o Gymru—yn fy rhan i yng ngogledd-ddwyrain Cymru; yn ei etholaeth ef; y rhai y mae wedi ymweld â nhw. Rydym wedi gweld prentisiaid mewn amrywiaeth o feysydd yn darparu twf yn yr economi o ganlyniad i'r rhaglen brentisiaethau yr ydym wedi'i chynllunio a'i chyflwyno gyda phartneriaid. Rwy'n falch iawn ohoni. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan ohoni fel prentis, ac rwy'n falch o fod yn Weinidog â chyfrifoldeb nawr.

Wel, rydych chi wedi sôn ddwywaith am y targed o 100,000, felly gadewch inni dyrchu'n ddyfnach iddo, gan nad yw'n gymaint o lwyddiant ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Oherwydd, ar y gorau, ymddengys eich bod yn dibynnu ar ffigurau sy'n cynnwys pobl yn rhoi'r gorau iddi o fewn yr wyth wythnos gyntaf—ffigurau sy'n chwyddo'r prif ffigurau, ond nad ydynt yn adlewyrchu prentisiaethau cynaliadwy wedi'u cwblhau—ac ar y gwaethaf, rydych wedi dewis y mesur llai trylwyr yn fwriadol er mwyn gallu cyhoeddi gyda chryn ffanffer fod targed sydd wedi'i leihau ddwywaith wedi'i gyflawni ychydig cyn etholiad.

Dyna'n union y mae Medr wedi'i nodi. Dywedodd Medr,

'O gynnwys y dechreuadau nad ydynt wedi’u cyfrif yn rhan o fesur llymach y targed, cafwyd cyfanswm o 100,380 o ddechreuadau prentisiaeth'.

Fodd bynnag, ym mis Ionawr yn unig, gan ddefnyddio'r mesur cywir, cyhoeddodd Medr 91,420 o brentisiaid newydd, ac nid yw'n gredadwy o gwbl fod 9,000 o brentisiaethau eraill wedi dechrau rhwng hynny a nawr. Felly, Weinidog, ni wnaethoch gadarnhau pam yn y pwyllgor y bore yma, ond pam y mae Llywodraeth Cymru wedi newid y metrig cyfrif? Pa fetrig y dylai'r cyhoedd allu dibynnu arno fel mesur cywir o'r targed? Ac a wnewch chi gyhoeddi'r ffigurau o dan y ddau fesur yn glir ac yn dryloyw, fel y gallwn weld cynnydd tebyg am debyg yn erbyn yr ymrwymiad?

Wel, Lywydd, efallai y byddai Sam Kurtz eisiau mynd allan o'i etholaeth hefyd a siarad â mwy o brentisiaid am y buddsoddiad y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi'i wneud a'r gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud. Dyna pam fy mod mor falch o gyflawni'r targed. Y ffigur y gofynnodd amdano ar y diwedd—[Torri ar draws.] Nid chi yw'r llefarydd mwyach, Paul. Mae'r ffigur a'r cwestiwn y mae'r Aelod yn gofyn amdanynt eisoes ar gael i'r cyhoedd. Mae'n gwybod hynny, rwyf innau'n gwybod hynny, mae pob un ohonom yn gwybod hynny. Pe bai'r ymchwil wedi'i wneud, byddai wedi gweld y ddau ffigur allan yno. Mae gwybodaeth reoli gan Medr yn dangos ein bod wedi rhagori ar y targed o 100,000—data amser real; credaf ei bod yn bwysig defnyddio hynny. Rwy'n hynod falch o fod wedi'i gyflawni. Mae £150 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf—cyllideb y pleidleisiodd ef yn ei herbyn, ac y pleidleisiodd ei blaid yn ei herbyn. Rydym yn hynod falch o gefnogi'r holl bobl hynny, fel y prentis y cyfarfûm ag ef yng nghanolfan waith RWE ym mhorthladd Mostyn. Mae hi'n cefnogi Cymru ac yn cynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol yn y cystadlaethau sgiliau. Daw'r peirianwyr gorau oll o'r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru. Gallwn fod wedi bod yn un ohonynt ar un adeg. Efallai y bydd ef yn un yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Mae'r diwydiant dur yng Nghymru yn wynebu argyfwng posib arall. Rhybuddiodd tystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Busnes a Masnach ar 10 Chwefror gan gyfarwyddwr masnachol Tata Steel y gallai'r farchnad ddomestig gael ei thanseilio'n ddifrifol o fewn ychydig wythnosau, os na cheir eglurder ynghylch mesurau diogelwch yn y dyfodol, a heb gamau pendant, fod y DU mewn perygl o ddod yn gyrchfan ar gyfer dympio dur dros ben.

Mae gan hyn ganlyniadau amlwg i Gymru, lle rydym eisoes yn gweld un o'r newidiadau diwydiannol mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar Cymru. Mae'r strategaeth ddur, sydd i fod i nodi'r drefn ddiogelu masnach newydd, wedi'i gohirio sawl gwaith heb unrhyw eglurder eto pa bryd y gellir ei disgwyl. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa sylwadau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru’n eu gwneud ar Gyngor Dur y DU a thrwy sianeli eraill?

Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, a gallaf gadarnhau bod y Prif Weinidog wedi ei godi'n uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU mewn galwad yr wythnos diwethaf, lle llwyddodd i nodi'r brys nawr i gael y strategaeth ddur honno ar waith a hefyd i'r mesurau diogelwch fod ar waith hefyd. Felly, rydym yn llwyr gydnabod y brys yn hyn o beth. Nid wyf yn siŵr a yw wedi'i gyhoeddi eto, ond gwn fod y Prif Weinidog yn bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ddur. Credaf efallai iddo gael ei gyhoeddi heddiw neu ddoe, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghyd-Aelodau, gan ein bod yn llwyr gydnabod y pryder hwnnw.

Cefais gyfle i gyfarfod ag amrywiaeth o undebau sy'n cynrychioli pobl sy'n gweithio ym maes dur ar draws y gwahanol safleoedd yng Nghymru, ac roeddent yn mynegi'r union bryderon hyn i mi ynghylch yr hyn y mae dympio dur a'r diffyg mesurau diogelwch yn ei olygu i ddyfodol dur. Roeddent yn gwbl glir fod yn rhaid trin y strategaeth ddur fel mater o frys. Rydym yn cytuno, ac rydym yn codi hynny gyda Llywodraeth y DU eto fel mater o frys. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl a sedd ar y Cyngor Dur, felly rydym yn manteisio ar bob cyfle yno i sicrhau bod y persbectif Cymreig penodol yn cael ei gynrychioli.

13:50

Rwy'n ddiolchgar am y diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae tariffau'n un mater; mae caffael yn un arall. Ac mae hwnnw'n fater lle mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o ddylanwad uniongyrchol. Mae gweithwyr ac undebau llafur yn rhwystredig iawn fod prosiectau'n dal i gaffael dur o dramor pan fo cynhyrchwyr y DU yn gallu ei gyflenwi. Rydym wedi gweld enghreifftiau lle mae miloedd o dunelli o ddur wedi'i fewnforio yn cael ei brynu ar gyfer prosiect seilwaith er gwaethaf cynigion domestig. Nawr, dylid dynodi dur fel seilwaith cenedlaethol hanfodol, gan ganiatáu i Lywodraethau gyflwyno rheolau clir sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio dur a gynhyrchir yn y DU lle bynnag y bo modd, gan ganiatáu inni osgoi cyfreithiau cystadleuaeth rhyngwladol.

Yn ôl yn 2016, cynhyrchodd a nododd yr adroddiad 'Caffael cyhoeddus o ddur', a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar y pryd, gyfleoedd i gefnogi'r sector dur drwy ymyriadau mewn prosesau caffael cyhoeddus. Mae ei argymhellion yn dal yn berthnasol heddiw. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod yr argymhellion wedi'u nodi, eu bod wedi'u rhoi ar waith, ac os nad ydych, pam hynny, ac a wnaiff y Llywodraeth ymuno â ni i alw ar Lywodraeth y DU i ddynodi dur yn seilwaith cenedlaethol hanfodol?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr fod caffael yn un o'r ffyrdd y gallwn geisio diogelu ein diwydiant dur ar gyfer y dyfodol. Roeddwn yn falch iawn fod strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi nodi dur fel sector sylfaenol, ac mae hynny'n sicr yn wir, ond yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw gweld hynny'n arwain at gaffael. Felly, yng Nghymru, rydym yn cael sgyrsiau i weld beth arall y gallwn ei wneud drwy ein rheolau caffael ein hunain i geisio sicrhau mai dur y DU, a dur Cymru yn ddelfrydol, sy'n cael ei ddefnyddio yn ein prosiectau seilwaith. Gwn fod fy swyddogion wedi bod yn cael cyfarfodydd gyda British Steel ar yr union bwynt hwnnw, i archwilio beth arall y gallwn ei wneud yn hyn o beth i sicrhau mai dur y DU, yn enwedig dur Cymru, sy'n cael ei ddefnyddio gennym yn ein contractau caffael. Ni allaf roi mwy o ddiweddariad o ran cynnydd ar hynny, ond hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau fod y sgyrsiau hynny'n parhau, ac rydym yn bendant yn ei hystyried yn ffordd hanfodol o gefnogi'r diwydiant.

Yn olaf, hoffwn droi at gwestiwn mwy hirdymor ynghylch arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn benodol o ran dur. Mae canfyddiad cynyddol fod Cymru’n gorfod aros i benderfyniadau gael eu gwneud mewn mannau eraill, yn hytrach na nodi gweledigaeth glir, ragweithiol ar gyfer dyfodol ein diwydiant dur. Nawr, rwy'n llwyr gydnabod, wrth gwrs, fod y prif ysgogiadau, fel polisi masnach, yn nwylo Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, mae'r amlen ariannol yn dynn yma yng Nghymru. Mae angen i Lywodraeth y DU ddarparu'r lefel o fuddsoddiad sy'n angenrheidiol, ond mae gan Lywodraeth Cymru allu i ddadlau'r achos cryfaf posib dros Bort Talbot a safleoedd dur eraill Cymru.

Yr hyn sy'n anodd ei dderbyn i lawer yw'r ymdeimlad o agwedd laissez-faire—ein bod yn aros i bethau ddigwydd i ni, yn hytrach na sicrhau canlyniadau ein hunain. Felly, er enghraifft, mae cynrychiolwyr undebau wedi dweud wrthyf eu bod am weld o leiaf £1 biliwn o'r Gronfa Gyfoeth Wladol wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer Port Talbot, i gefnogi buddsoddiadau a medrusrwydd yn y dyfodol. A oes sylwadau penodol wedi'u gwneud yn hyn o beth? Mae'n codi'r cwestiwn pam y mae Llywodraeth Cymru’n aros i weld beth sy'n dod o strategaeth y DU yn ei chyfanrwydd. Ble mae'r fenter i nodi'n glir ac yn gyhoeddus beth yw ein gofynion o ran diwydiant dur Cymru? Mae'n arbennig o bwysig nawr, o ystyried bod gan Lywodraeth y DU fuddiant personol gweithredol yn Scunthorpe.

Roedd rhai pwyntiau pwysig yno, ac yn sicr, o ran y strategaeth ddur, rydym wedi bod yn bartneriaid gweithredol wrth ddatblygu'r strategaeth ddur honno. Mae fy swyddogion wedi bod yn cyfarfod â'u swyddogion cyfatebol. Rydym wedi bod yn darparu sylwadau ysgrifenedig manwl hefyd, sy'n ymwneud â'n sefyllfa benodol yma yng Nghymru a'r diwydiant dur sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, rydym wedi bod yn bartneriaid gweithredol wrth ddatblygu'r strategaeth honno. Fel pawb arall, rydym am iddi gael ei chyhoeddi ar frys. Rydym am i'r mesurau diogelwch gael eu rhoi ar waith ar frys. Byddaf yn codi'r pwynt penodol hwnnw yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach, lle mae gennym eitem arwyddocaol ar ddur hefyd ar yr agenda.

Ar y pwynt ynglŷn â'r Gronfa Gyfoeth Wladol, rydym wedi dweud erioed y dylai swm penodol a sylweddol o'r gronfa honno gael ei glustnodi ar gyfer Cymru. Rhan o'r her yn hynny o beth, wrth gwrs, yw bod angen cyd-fuddsoddi, os mynnwch, gyda'r diwydiant, ac mae angen inni weithio gyda'r diwydiant i gwblhau eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac i sicrhau y gallwn weithio gyda nhw i nodi prosiectau penodol a allai fod ar y ffordd. Unwaith eto, mae'r sgyrsiau hynny'n parhau, yn enwedig ynghylch yr hyn y gallai'r Gronfa Gyfoeth Wladol ei gyflawni. Ond rydym yn cytuno'n llwyr y dylai cyllid gael ei glustnodi'n benodol ar gyfer Cymru, ac rwy'n gobeithio bod yr holl bwyntiau hynny wedi'u cynnwys yn natganiad y Prif Weinidog, gan y gwn ei bod yn clywed, fel y mae pob un ohonom ni wedi clywed, y pryder gan bobl sy'n gweithio yn y sector. Maent eisiau deall beth a wnawn, fel Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, maent am weld camau gweithredu brys gan Lywodraeth y DU, rhywbeth yr ydym ninnau eisiau ei weld hefyd.

13:55
Helpu Pobl i Ddychwelyd i'r Gwaith

3. Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda busnesau i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith yn Nwyrain De Cymru? OQ63877

Diolch, Peredur. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi busnesau yn Nwyrain De Cymru gyda recriwtio a hyfforddi drwy raglenni fel Cymru'n Gweithio, Cymunedau am Waith a Mwy, Twf Swyddi Cymru+ a ReAct+. Mae mentrau fel prentisiaethau a chyfrifon dysgu personol yn paru sgiliau ag anghenion cyflogwyr, gan helpu trigolion i sicrhau swyddi cynaliadwy.

Diolch am eich ateb ac am y rhestr honno hefyd. Roeddwn wedi gobeithio y byddech yn sôn am ofal plant yn y rhestr honno hefyd, gan fod mynediad at ofal plant da a fforddiadwy yn gwbl allweddol os ydych am gael rhieni yn ôl i mewn i waith. Fodd bynnag, mae llawer o ddarparwyr yn fy rhanbarth yn dweud wrthyf eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn gyda chyfradd y cynnig gofal plant a osodwyd gan y Llywodraeth. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn yn uniongyrchol yn eich portffolio chi o bosib, ond mae'n amlwg yn effeithio ar eich gwaith a'r economi ehangach, felly mae angen ymateb trawslywodraethol.

Daeth y cynnydd diweddar yn sgil cyfnod o dair blynedd lle roedd wedi'i rewi, felly nid yw wedi codi ar yr un raddfa â chyflogau neu gostau busnes cynyddol. Mae darparwyr yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo bod penderfyniadau'n cael eu gwneud heb ddealltwriaeth lawn o'r pwysau y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, ac mae rhai'n cwestiynu pa mor hir y gallant ddal ati. A wnewch chi weithio gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet i adolygu effaith y model ariannu presennol, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i fusnesau fod y Llywodraeth yn gwrando? Oherwydd nid yw'n teimlo fel pe bai hynny'n wir ar hyn o bryd.

Wel, diolch i Peredur Owen Griffiths. Edrychwch, rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd gofal plant a chael y cynnig gofal plant cywir ar waith yng Nghymru. Rwy'n falch o fod yn eistedd wrth ymyl y Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny, ac yn falch o'r gwaith y mae'n ei wneud. O ran y sylwadau a wnaeth, cyfrifoldeb y Gweinidog Dawn Bowden yw hynny, ac rwy'n siŵr y bydd hi eisiau ymateb iddynt. Ar adolygiad, mae adolygiad wedi'i gynnal, ac rwy'n sicr y bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn bo hir. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidogion â chyfrifoldeb yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am hynny, ond diolch am eich cwestiwn heddiw.

Weinidog, mae'r ystadegau economaidd diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn syfrdanol a dweud y gwir. Maent yn dangos bod Cymru’n dal ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran ei chyfradd diweithdra, a bod gennym y lefel uchaf o anweithgarwch economaidd ym Mhrydain o hyd. Mewn gwirionedd, pobl yn fy rhanbarth i yng Nghymru sy'n mynd adref â'r pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain.

Ar ôl 27 mlynedd o arweinyddiaeth economaidd honedig gan Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, pam fod Cymru'n parhau i fod yn wannach yn strwythurol na gweddill y wlad? Os yw anweithgarwch yn llwyddiant polisi, byddai Llafur a Phlaid Cymru yn ddiguro. Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o wella economi Cymru yw cael pobl yn ôl i mewn i waith, creu mwy o swyddi, creu amgylchedd sy'n ffafrio busnes, lleihau'r baich treth hwnnw, a lleihau biwrocratiaeth ddiangen? Diolch.

Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiwn. Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig mynd i'r afael â'r heriau i'r rhai sy'n anweithgar yn ein heconomi ar hyn o bryd. Dyna'n union a wnawn. Rydym yn gwneud hynny gyda'r warant i bobl ifanc. Rydym yn gwneud hynny gyda chyfres o raglenni yr wyf eisoes wedi'u rhestru y prynhawn yma.

Ond rydym am fynd gam ymhellach, Lywydd, a gwella'r cynnig, yn enwedig ar gyfer y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd. Dyna a wnawn gyda datblygiad y rhaglen cymorth cyflogadwyedd, gan edrych ar ffyrdd o wella'r cynnig cymorth cyflogadwyedd, i'r rhai sy'n chwilio am waith ac i fusnesau sy'n chwilio am bobl ar gyfer y gweithle hefyd. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, a'r ffordd o sicrhau bod y gwaith hwnnw'n parhau yw drwy ethol Llywodraeth Lafur Cymru yn yr etholiadau ym mis Mai.

14:00
Y Sector Awyrofod

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddyfodol y sector awyrofod yng Nghymru? OQ63880

Mae dyfodol y sector awyrofod yng Nghymru yn un disglair. Rydym eisoes yn gartref i rai o'r prif gwmnïau yn y sector, gan helpu i'w datblygu nhw a'u cadwyni cyflenwi drwy ein pecyn cynhwysfawr o gymorth busnes, yn cynnwys arloesi, allforio a chymorth sgiliau.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o'r twf awyrofod go iawn a welwn yng Nghymru, fel Safran yn ehangu yng Nghwmbrân neu fuddsoddiad gan British Airways yng Nghaerdydd, yn cael ei yrru gan y diwydiant a buddsoddiad ar lefel y DU. Lleiafswm o'r buddsoddiad sy'n dod gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae eich Llywodraeth yn parhau i arllwys cannoedd o filiynau o bunnoedd—punnoedd trethdalwyr Cymru—i mewn i Faes Awyr Caerdydd, a methu buddsoddi'n iawn yn y sector awyrofod, sy'n sail i lwyddiant hirdymor y maes awyr mewn gwirionedd. Onid yw ariannu'r maes awyr yn hytrach na'r sector ehangach yn creu mwy o broblemau i'r maes awyr yn y pen draw? Heb ecosystem awyrofod gref o'i gwmpas, bydd Maes Awyr Caerdydd yn parhau i fod yn ymyrraeth ddigyfeiriad sy'n gwneud colled i Lywodraeth Cymru, wedi'i gynnal yn barhaol gan arian cyhoeddus. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n derbyn bod dull o'r fath o weithredu'n creu perygl o adael y maes awyr hyd yn oed yn fwy bregus yn y dyfodol?

Mae'r achos cyfreithiol a gafodd ei ddwyn gerbron gan Faes Awyr Bryste, i herio penderfyniad y cymhorthdal yn parhau wrth aros am ddyfarniad y Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth, felly yn amlwg, gyda'r achosion cyfreithiol hynny'n parhau i fod yn ar y gweill, nid wyf yn mynd i roi unrhyw sylwadau ar y mater penodol hwnnw. Fodd bynnag, rwyf am ddweud bod gennym berthynas gref iawn â'r sector awyrofod yma yng Nghymru, ac mae cysylltiad annatod rhyngddo ag amddiffyn. Rydym yn gweld y rhain yn feysydd twf sylweddol yn y dyfodol.

Mae ADS, llais awyrofod yn y DU, yn dweud wrthym fod yr ôl-groniad byd-eang o awyrennau, sy'n cael ei ddominyddu gan Airbus a Boeing, wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, ar 16,371 o awyrennau. Yn amlwg, yr ôl-groniad hwnnw sydd i gyfrif am fwy na 13 mlynedd o waith yn y sector awyrofod yn y DU. Yn amlwg, mae'r potensial a'r cyfleoedd yn arwyddocaol iawn. Rwy'n credu hefyd fod yna ddatblygiadau newydd a chyffrous wrth i'r sector bontio tuag at sero net. Unwaith eto, rydym mewn sefyllfa dda iawn i fanteisio ar lawer o'r cyfleoedd hynny.

Hefyd, mae gennym berthynas agos iawn drwy'r byd academaidd â'r sector awyrofod ac amddiffyn. Mae gan wyth prifysgol a 10 coleg addysg bellach fedrusrwydd awyrofod ac amddiffyn penodol. Mae'n wir fod Llywodraeth y DU yn buddsoddi'n helaeth yn y sector hwn. Mae wedi ymestyn rhaglen y Sefydliad Technoleg Awyrofod, gyda hyd at £2.3 biliwn, tan 2035—cyfle enfawr i ni yno yng Nghymru. Roedd Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru yn unig yn cyflawni saith prosiect gyda chefnogaeth ariannol y Sefydliad Technoleg Awyrofod yn 2025. Felly, rydym yn croesawu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU i Gymru. Lle rydym yn ychwanegu gwerth, rydym yn gwneud hynny, a hynny drwy sicrhau bod gennym gadwyni cyflenwi cadarn, a hefyd drwy sicrhau ein bod yn deall beth yw'r anghenion sgiliau ar gyfer diwydiant a'n bod yn gweithio gyda diwydiant i ddiwallu'r anghenion hynny.

Gilks ar Ynys Môn

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith cau Gilks ar Ynys Môn? OQ63886

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y bydd y diswyddiadau hyn yn ei chael ar staff, eu teuluoedd a'r ardal ehangach. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw un yr effeithir arnynt yn cael yr holl wybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd ei angen arnynt am y cymorth sydd ar gael iddynt, gan gynnwys o'r rhaglen ReAct+.

Diolch am yr ymateb yna. Mi ddaeth y newyddion am golli gwaith Gilks fel ergyd fawr yn Ynys Môn. Mae 30 o bobl yn cael eu cyflogi gan y cwmni ar safleoedd yn ystâd ddiwydiannol Mona ac yn RAF Fali, ac mae'r cyhoeddiad yma wedi rhoi nifer sylweddol o deuluoedd mewn sefyllfa ansicr iawn. Mi fyddwn yn ddiolchgar i gael rhagor o wybodaeth am gymorth penodol y mae'r Llywodraeth unai wedi neu yn bwriadu rhoi mewn lle er mwyn cefnogi'r teuluoedd yma rŵan.

Does dim angen i mi ddweud bod newidiadau i arian ôl-Brexit a'r penderfyniadau o gwmpas y gronfa twf lleol yn mynd i'w gwneud hi'n anoddach cefnogi rhai pobl sy'n wynebu cael yn ôl i waith. Ond mae yna gyfres o ergydion wedi bod yn ddiweddar. Roeddwn i yn siop Poundland yr wythnos ddiwethaf yn siarad efo staff sy'n colli gwaith yn y fan honno. Mae Lloyds yn fanc arall sy'n cau yn Llangefni. Mae effaith colli'r cannoedd o swyddi yn 2 Sisters yn dal i gael ei deimlo. Felly, tra bod yna brosiectau yn y pipeline, os liciwch chi, yn Ynys Môn, ydy'r Gweinidog yn sylweddoli bod yna angen help rŵan ar lawer o bobl ar yr ynys?

14:05

Rwy'n deall hynny'n llwyr. Mae'n ergyd enfawr ac yn amlwg, yn gyfnod anodd iawn i'r gweithlu yr effeithir arnynt. Mae gennym ddull profedig o weithredu ar gyfer diswyddiadau. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag asiantaethau fel Cymru'n Gweithio, Canolfan Byd Gwaith, awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau bod unrhyw un sy'n cael eu diswyddo yn cael y cyngor a'r gefnogaeth ddiduedd sydd eu hangen arnynt. Gall rhaglen gymorth diswyddo ReAct+ helpu pobl i ennill sgiliau y mae cyflogwyr recriwtio yn chwilio amdanynt yn yr ardal drwy grantiau hyfforddiant galwedigaethol o hyd at £1,500, ac mae'r rhaglen Cymunedau am Waith a mwy hefyd yn darparu cymorth cymunedol i helpu i fynd i'r afael â chyflogaeth drwy hyfforddiant a mentora un-i-un. Wrth gwrs, mae Busnes Cymru yno i gefnogi unrhyw un a allai fod yn ystyried hunangyflogaeth neu ddechrau eu busnes eu hunain.

Mae fy swyddogion wedi cysylltu â thîm cymorth busnes cyngor sir Ynys Môn. Rydym yn mynd i archwilio'r ffordd orau o weithio ochr yn ochr â nhw yn ôl yr angen i gefnogi'r gweithlu. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu cynnal digwyddiad amser brecwast i gefnogi'r gweithwyr yr effeithir arnynt yn Gilks, gyda Môn CF, Gyrfa Cymru a Cyngor ar Bopeth. Maent yn gwneud hynny i dynnu sylw at yr ystod o gymorth sydd ar gael i'r gweithlu yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn, gan gynnwys pethau fel llunio curriculum vitae a chymorth cyflogadwyedd, a bydd ein tîm ReAct+ yno. Bydd cyngor hefyd ar gael ar fudd-daliadau a'r hyn a allai fod ar gael i gefnogi pobl drwy'r rheini.

Mae methiant cwmni peirianneg drydanol a mecanyddol Gilks ar Ynys Môn a cholli swyddi ar unwaith yn bryderus iawn ynddo'i hun. Mae'r Aelod dros Ynys Môn yn gwbl iawn i sefyll dros ei etholwyr ar yr ynys, ond Ysgrifennydd y Cabinet, mae hefyd yn taflu goleuni ar fater llawer mwy sy'n wynebu Cymru'n fwy eang. Roedd y cwmni hwnnw'n gweithredu mewn sector sydd wedi wynebu pwysau costau cynyddol ac amodau marchnad heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cau ar yr ynys yn tanlinellu'r ffaith bod busnes wedi cael ei erydu ar gyfradd frawychus, gan adael teuluoedd a chymunedau sy'n gweithio heb gyflogaeth sicr na chyfle economaidd, a chyfrannu at ddraen dawn cynyddol i ffwrdd o Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, fis diwethaf clywsom y Prif Weinidog yn dweud nad yw'r Ysgrifennydd cyllid erioed wedi dangos diddordeb yn yr economi. Clywsom onestrwydd brawychus gan Weinidog blaenorol hefyd, a ddywedodd nad yw'r Llywodraeth Lafur yn gwybod beth y mae'n ei wneud ar yr economi. Rwy'n credu bod yr hyn a welwn heddiw ar Ynys Môn yn symptom o anallu Llafur ar yr economi yn ehangach. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn nad ydych chi'n gwybod beth rydych chi'n ei wneud ar yr economi?

Rwy'n derbyn bod etholiad ar y ffordd, ac rwy'n credu eich bod wedi ymestyn pethau'n fawr o ran y cwestiwn. Ond fe wnaf dderbyn y pwynt difrifol yma. Ar gyfer unrhyw fusnes sydd mewn trafferthion, buaswn yn eu cynghori'n bendant i gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy Busnes Cymru. Gallwn ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fusnesau sy'n wynebu cau, neu'n wir, i gadwyni cyflenwi a allai gael eu heffeithio yn yr achos hwn. Gallwn gynghori a chefnogi busnesau gyda phob agwedd ar weithredu, gan gynnwys adolygiad ariannol o'r effaith, adnoddau dynol, cyflogaeth a chynlluniau ar gyfer arallgyfeirio, cefnogaeth gyda'r gadwyn gyflenwi a nodi marchnadoedd amgen. Yn y lle cyntaf, os yw busnesau'n wynebu trafferthion, rwy'n eu hannog i ofyn am help cyn gynted â phosib i weld pa gymorth allai fod ar gael.

Y Sector Lletygarwch

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector lletygarwch yn Nwyrain De Cymru? OQ63872

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sector lletygarwch bywiog yng Nghymru, a dyna pam y gwnaethom ddyrannu £78 miliwn ychwanegol o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni, yn rhan o becyn cyfan o gymorth ardrethi gwerth £335 miliwn. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio gyda diwydiant i helpu busnesau i uwchsgilio staff, denu talent a hybu niferoedd cwsmeriaid. 

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid yw'n gyfrinach fod ein sector lletygarwch yn wynebu adeg hynod bryderus. Mae'n rhywbeth y mae llawer o fy etholwyr ar draws de-ddwyrain Cymru wedi cysylltu â mi yn ei gylch. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu cyllid ychwanegol i'r sector bwyd a diod, ond dim ond diferyn bach yn y môr ydyw ac ni chânt unrhyw ddiogelwch hirdymor. Mae hefyd yn ymddangos, yng ngoleuni'r cyhoeddiad newydd am gyllid, fod y Prif Weinidog bellach wedi golchi ei dwylo o hyn, gan ddweud wrthym na allwn ddisgwyl i'r wladwriaeth gamu i mewn i helpu. Yn hytrach na helpu, mae'r Prif Weinidog yn credu y dylai'r cyfrifoldeb fod ar y cyhoedd ac mae wedi dweud wrth bobl am roi'r gorau i wylio Netflix a phrynu gwin i'w yfed gartref. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n rhannu barn y Prif Weinidog ar hyn, a beth fyddech chi'n ei ddweud wrth berchnogion busnesau lletygarwch ar draws de-ddwyrain Cymru sy'n ei chael hi'n anodd yn sgil chwarter canrif o fethiant Llywodraethau Llafur olynol? Diolch.

14:10

Rwy'n gwybod y byddai'r Prif Weinidog, fel finnau, eisiau pwysleisio'r gefnogaeth yr ydym yn ei darparu i fusnesau lletygarwch. Gadewch inni gofio bod tua dwy ran o dair o fusnesau lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi llawn. Nid ydynt yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl—dwy ran o dair o fusnesau lletygarwch. Ni fuasech yn gwybod hynny, fuasech chi, o'r ffordd y caiff y materion hyn eu hadrodd. Y rheswm am hynny yw eu gwerthoedd ardrethol isel. Wrth gwrs, mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru'n gwario tua thraean o biliwn o bunnoedd o arian trethdalwyr bob blwyddyn yn cefnogi busnesau bach gyda'u hardrethi. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n buddsoddi'n sylweddol.

Ar yr un pryd, wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod nifer o fusnesau'n gweld ardrethi'n arbennig o heriol, ac yn sicr ar ôl yr ailbrisio diweddar. Unwaith eto, ni fuasech yn ei glywed, ond nid yw'r ailbrisio'n codi ceiniog ychwanegol, dim ond dosbarthu'r baich yn fwy teg ymhlith busnesau yn seiliedig ar eu gwerthoedd eiddo o'i gymharu â'i gilydd. Er mwyn cydnabod hynny, rydym wedi rhoi cymorth trosiannol ar waith i leddfu'r baich ar y busnesau sy'n gweld eu biliau wedi cynyddu'n sylweddol. Ond gadewch inni gofio bod dwy ran o dair o eiddo lletygarwch eisoes yn denu rhyddhad llawn. Nid wyf yn credu bod hynny'n cael y clod y mae'n ei haeddu, oherwydd dyna ddewis y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fuddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y busnesau hynny.

Prosiectau Ynni Solar

7. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amddiffyniadau gwastadeddau Gwent rhag prosiectau ynni solar ar raddfa fawr yn y dyfodol? OQ63883

Mae prosiectau ynni solar dros 350 MW yn cael cydsyniad Llywodraeth y DU yn unol â'r datganiad polisi cenedlaethol EN-1. Mae EN-1 yn nodi, ar gyfer prosiectau yng Nghymru, y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Felly, bydd datganiadau ardal sy'n cwmpasu gwastadeddau Gwent yn ystyriaeth berthnasol.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'n fawr y gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i dirwedd unigryw a gwerth gwastadeddau Gwent, ac yn wir yr ymgynghoriad a lansiwyd gennych yr wythnos diwethaf ar ganllawiau cynllunio strategol drafft a fyddai'n gwella diogelwch ar gyfer y gwastadeddau. Rhannais hyn gyda gwahanol unigolion, grwpiau a sefydliadau sy'n teimlo'n angerddol am yr ardal ac sy'n bryderus am y ceisiadau parhaus ar gyfer ffermydd solar ar raddfa fawr ar y gwastadeddau. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r rheini, Weinidog. Fel y dywedwch, mae'r diweddaraf o'r rhain o faint sy'n golygu y bydd yn cael ei benderfynu gan San Steffan. Diolch am yr hyn a ddywedoch chi am bolisi Llywodraeth Cymru a sut y dylid ystyried hynny. Pan fydd yr ymgynghoriad a gynhelir gennych wedi'i gwblhau, sut y gallai hynny lywio trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU, a beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parchu polisi cynllunio ac amgylcheddol Llywodraeth Cymru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i John Griffiths am rannu ein canllawiau cynllunio strategol drafft ar gyfer gwastadeddau Gwent gyda phartïon â diddordeb yn lleol. Mae hynny ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus nawr tan 31 Mawrth, felly rwy'n annog pobl i ddweud eu barn ar hynny.

Ar ôl eu mabwysiadu, byddai'r canllawiau yn ategu 'Cymru'r Dyfodol' a byddai'n gweithio ochr yn ochr â 'Polisi Cynllunio Cymru', a dylid eu hystyried wrth baratoi a datblygu cynlluniau fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar wastadeddau Gwent, felly credaf y bydd yn cael effaith gadarnhaol yn hynny o beth.

O ran sut y gallai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hyn, gyda'r dyddiad cau ar 31 Mawrth, bydd yn ystod y cyfnod purdah a thu hwnt i hynny, bydd swyddogion yn cael cyfle i ddadansoddi'r ymatebion ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu mai mater i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol fydd parhau â'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, ond rwy'n credu y bydd y canllawiau'n ein rhoi ar sail gadarn iawn o ran nodi'r hyn y dylid ei gyfrif yn ystyriaeth berthnasol. 

Mae gwastadeddau Gwent yn un o'n tirweddau mwyaf arbennig a chânt eu cydnabod am eu bioamrywiaeth eithriadol, eu cymeriad hanesyddol a'u rôl hanfodol o ran addasu i'r hinsawdd, ac mae Llywodraeth Cymru yn sicr o'r farn fod rhaid ystyried y rôl honno wrth wneud penderfyniadau ar ddatblygiadau arfaethedig o fewn y gwastadeddau.

14:15
Yr Economi Leol yn Rhydaman

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r economi leol yn Rhydaman a dyffryn Aman yn ehangach? OQ63890

Rydym yn datblygu twf economaidd yn Rhydaman a dyffryn Aman yn ehangach drwy gefnogi adfywio, gwella seilwaith lleol a chefnogi cyfleoedd cyflogaeth cryfach. Drwy ein cynllun gweithredu economaidd a Busnes Cymru, rydym yn adeiladu economi ranbarthol fwy gwydn, gan gefnogi arloesedd, datblygu sgiliau a chreu amodau ar gyfer ffyniant hirdymor cynaliadwy.

Yn y gorffennol, roedd datblygu economaidd ac adfywio yng Nghymru, yn nyffryn Aman a ledled Cymru, yn dibynnu'n bennaf ar gyllid Ewropeaidd. Mae cyllid y DU a ddaeth yn ei le wedi bod yn ddiffygiol mewn dwy ffordd: nid yw wedi bod yn ddigon i wneud iawn am golli'r arian hwnnw, ond mae hefyd wedi bod yn anhyblyg ac mae'r meini prawf wedi'u gosod yn San Steffan ac yn amhriodol i Gymru. Clywsom am y gronfa twf lleol, sy'n gogwyddo'n drwm tuag at gyfalaf—yn amhriodol eto—ond hefyd Balchder Bro, sydd wedi gorfodi awdurdodau lleol i ddewis un dref yn unig—o fewn yr 11 awdurdod lleol a fydd ag arian—gyda mwy na 10,000 o bobl. Mae hynny'n golygu bod Rhydaman ar ei cholled, er mai hi yw'r drydedd dref fwyaf yn sir Gaerfyrddin a chanddi rannau difreintiedig iawn. A wnaeth Prif Weinidog Cymru godi hyn yn y cyfarfod gyda Phrif Weinidog y DU, y feirniadaeth a glywsom oddi ar eich meinciau chi, fod angen yr arian hwnnw a'r pŵer wedi'i ddatganoli i Gymru fel bod gennym bolisi sy'n parchu ein democratiaeth ond sy'n parchu ein daearyddiaeth yn ogystal?

Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi codi'r materion mewn perthynas â'r cyllid newydd yn lle cyllid yr UE, fel rydym yn parhau i'w alw, ond Balchder Bro a'r gronfa twf leol. Nid wyf yma i amddiffyn Balchder Bro. Rwy'n credu y dylai'r arian hwnnw fod wedi dod i Lywodraeth Cymru, a dyna oedd y disgwyl. Felly, nid wyf yn mynd i amddiffyn y penderfyniadau hynny mewn unrhyw ffordd. Nid mater i mi yw eu hamddiffyn. Ond o ran y gronfa twf lleol, rydym yn gwneud yn siŵr bod honno'n cael yr effaith fwyaf y gall ei chael. Rydym yn rhannu'r pryderon ynghylch y rhaniad cyfalaf-refeniw. Cawsom drafodaeth hir am hynny yn y Cyfarfod Llawn ddoe, nad wyf am ei hailadrodd eto heddiw.

O ran y gronfa twf lleol, mae gan Lywodraeth y DU fframwaith trosfwaol, ac mae'n gysylltiedig â'i strategaeth ddiwydiannol. Ond nawr, mae Llywodraeth Cymru'n mynd i gytuno ar ei chynllun buddsoddi a'i gyhoeddi, a dyna y soniais amdano ddoe. Yna, mater i'r rhanbarthau fydd datblygu eu cynlluniau buddsoddi rhanbarthol. Felly, rwy'n gweld rôl y rhanbarthau'n hollol allweddol i nodi ble mae angen i'r cyllid fynd, ble mae angen i'r gefnogaeth fynd, pa brosiectau y maent am eu cefnogi'n lleol. Mae a wnelo hyn â phenderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel fwyaf priodol, a bydd gwneud penderfyniadau lleol yn hanfodol yn y gofod hwnnw. Rydym wedi penderfynu y bydd y cyd-bwyllgorau corfforedig o flwyddyn 2 a 3 yn gyfrifol am hynny, ond yr hyn a wnânt nawr, ar unwaith a dros y flwyddyn nesaf, yw mireinio'r cynlluniau hynny ar gyfer cyflawni'n lleol. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn gofyn am y cynlluniau rhanbarthol drafft gan y rhanbarthau, a'r bwriad yw bod y rhain yn cysylltu'n agos iawn â'r cyfleoedd eraill o fewn y rhanbarthau, megis y bargeinion dinesig a thwf, y porthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi, ardaloedd twf deallusrwydd artiffisial ac yn y blaen, fel ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn ategu'r hyn sy'n ystod eithaf cyffrous o gyfleoedd, ond mae angen inni wneud yn siŵr fod y gronfa twf lleol yn chwarae rôl benodol o fewn hynny.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian. 

Gwasanaethau Mamolaeth

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yn y gogledd? OQ63875

Mae gwasanaethau mamolaeth yn y gogledd yn parhau i fod o dan fonitro uwch, ac rwy'n cydnabod y pryderon sy'n codi yn sgil hyn. Mae diogelwch menywod a babanod yn flaenoriaeth i fi. Er mwyn cryfhau sicrwydd, gwnes i gomisiynu asesiad sicrwydd annibynnol cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol, a gynhaliodd broses graffu amser real ar ansawdd a diogelwch. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad i'r Senedd ac mi fyddaf i'n gweithredu ar ganfyddiadau'r asesiad.

14:20

Diolch am yr ateb. Mae'r asesiad dŷch chi newydd gyfeirio ato fo, sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw, yn nodi bod gwendidau a diffygion allweddol o fewn gwasanaethau mamolaeth ar draws Cymru. Dwi ddim wedi cael amser i ddarllen yr asesiad yn fanwl eto, wrth gwrs, ond mae o yn cyd-fynd efo profiadau teuluoedd dwi wedi clywed amdanyn nhw ac efo profiadau sydd wedi cael eu hadrodd yn y Senedd yma.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi yr haf diwethaf, fe wnaeth arolygwyr gofal iechyd danlinellu'r angen i gadw ffocws parhaol ar fylchau staffio yn Ysbyty Gwynedd, er mwyn cynnal gofal mamolaeth diogel o ansawdd uchel. Dwi'n ymwybodol bod y pwysau staffio dyddiol yn broblem barhaol yno. A dwi'n deall hefyd mai oriau cyfyngedig, sef 22 awr yr wythnos, sy'n cael eu cynnig i fydwragedd newydd yn y gogledd—hynny yw, y rhai sydd newydd gymhwyso—a hynny dros gyfnod o'r 18 mis diwethaf yma. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain at broblemau costau byw sylweddol iddyn nhw, a dwi'n deall bod yna rai yn gadael y proffesiwn yn llwyr, er eu bod nhw wedi cymhwyso, gan waethygu'r broblem staffio'n sylweddol, ac wrth gwrs mae'n drueni mawr i'r unigolion yma sydd wedi rhoi eu bryd ar fod yn fydwragedd. Beth ydy eich ymateb chi i hynny? Ydy hyn yn broblem gyffredin ar draws Cymru, sef yr oriau cyfyngedig yma? Pam ei fod o'n digwydd, a beth ydy'r datrysiad?

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd y bore yma yn dangos darlun cytbwys, rwy'n credu, o'r sefyllfa ar draws Cymru. Fel rŷch chi'n dweud, mae e'n amlygu meysydd lle mae angen gwella perfformiad o ran trosolwg, o ran monitro amser real, o ran darparu consistency of care ar gyfer mamau a'u plant. Ond mae e hefyd yn dangos lle mae'r system yn gweithio mewn ffordd sydd yn rhagorol a'r gwaith mae'r staff yn ei wneud ar draws Cymru i sicrhau'r gwasanaeth gorau i bobl. Mae'r holl argymhellion yn rhai rwyf i wedi'u derbyn fel Gweinidog. Mae gwaith eisoes yn digwydd i weithredu'r rheini. Bydd datblygiadau dros yr wythnosau nesaf yn ein galluogi ni i symud tuag at system llawer mwy amser real o ran monitro. Rwy'n gwybod bydd Aelodau yn croesawu hynny yn gynnes iawn.

Roedd gan yr adroddiad bethau pwysig i'w dweud o ran staffio ac o ran y gweithlu yn gyffredinol—pethau penodol i'w dweud am rôl bydwragedd, yn cynnwys bydwragedd sydd newydd gymhwyso, ond bydwragedd ymgynghorol hefyd. Felly, mae llawer o bethau i'w dweud ar draws Cymru yn gyfan gwbl yn yr adroddiad. Dwi ddim yn gwybod yn union os bydd y cwestiwn penodol mae'r Aelod yn sôn amdano fe yn digwydd ymhob bwrdd iechyd, ond mae ryw dystiolaeth i'r perwyl hynny yn yr adroddiad, ond efallai fod angen edrych ar hynny ar sail pob bwrdd iechyd. Beth sydd yn glir yn yr adroddiad yw bod angen adnewyddu'r cynllun gweithlu, ac mae hynny eisoes ar waith. Bydd HEIW a Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod hynny yn digwydd.

Mae tua 6,000 o fabanod yn cael eu geni yng ngogledd Cymru bob blwyddyn. Rhwng mis Mehefin a mis Medi 2025, cafodd 50 y cant o fabanod eu geni drwy doriad cesaraidd. Rwy'n cael adroddiadau gan famau ei bod yn dod yn fwy cyffredin i fenywod gael toriad cesaraidd yn hytrach na genedigaeth naturiol. Er fy mod yn deall mewn rhai achosion pa mor bwysig yw toriad cesaraidd brys, a hefyd pam y byddai rhai mamau sydd wedi cael toriad cesaraidd yn dewis cael cynnig ail un wedyn, mae'r ystadegyn o 50 y cant yn dal i fod yn uchel iawn. Mae manteision amlwg o gael genedigaeth naturiol. Mae'n dda i'r fam, ac mae'n sicr yn dda i'r babi.

O dan Lywodraeth Lafur Cymru, rydym wedi gweld amseroedd aros annerbyniol, prinder staffio a chyfathrebu gwael â rhieni. Rydych chi wedi addo gwella gwasanaethau amenedigol, ond rydym yn dal i aros i hyn drosi'n ofal dibynadwy, o ansawdd uchel. Mae yna deimlad bod toriadau cesaraidd yn cael eu cynnig oherwydd eu bod yn ffordd o roi genedigaeth sy'n haws ei phennu i'r rhai sy'n helpu. A allech chi edrych ar hyn, Weinidog, oherwydd nid wyf yn teimlo y dylai'r sefyllfa yn ein gwasanaeth iechyd benderfynu sut y caiff plentyn ei eni? Diolch.

14:25

Nid yw'n gwneud hynny. Rwy'n gwybod na fydd yr Aelod wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, ond fe wêl drafodaeth ynglŷn â'r union fater hwn yn yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i egluro'r sefyllfa iddi. Mae'n gywir, fel y dywed, fod cynnydd wedi bod mewn toriadau cesaraidd, ond hefyd mewn cymell geni a mwy o feddygoli geni plant hefyd.

Fy nealltwriaeth i, ac mae'n anecdotaidd o ymweld â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, yw mai mater o'r hyn y mae'r fam yn ei ffafrio ydyw yn aml yn hytrach na'i fod yn cael ei gynnig yn rhagweithiol gan y gwasanaeth. Mae hynny'n amlwg yn gallu bod yn heriol oherwydd, fel y gwnaeth yn glir yn ei chwestiwn, mae yna anfanteision a all godi yng nghyd-destun toriad cesaraidd, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall.

Mae hi'n iawn i ddweud bod gan hynny oblygiadau i'r gwasanaeth yn gyffredinol, ac mae hynny'n cael ei drafod yn yr adroddiad hefyd, o ran staffio—mae'r cyflenwad a'r cymysgedd staffio'n wahanol, fel y byddech chi'n disgwyl—a hefyd o ran y capasiti theatr sydd ei angen i gyflawni hynny ar raddfa fawr. Nid yw wedi cynyddu i'r un graddau â'r cynnydd go gyflym yn nifer y toriadau cesaraidd. Felly, rwy'n credu bod yna heriau sydd wedi cael eu hachosi gan hynny.

Mae un o'r argymhellion yn yr adroddiad yn cyfeirio'n benodol at fanyleb gwasanaeth ar gyfer cymell geni. Byddwn yn blaenoriaethu cyflwyno hynny'n gynt, gan fynd i'r afael â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei chwestiwn. Mae amrywiaeth o argymhellion eraill yn yr adroddiad y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw, ond rwy'n credu bod yr adroddiad yn gytbwys ac yn ogystal â nodi meysydd heriol, mae hefyd yn amlwg fod yna feysydd rhagoriaeth ac ymarfer gwych a staff proffesiynol ymroddedig sy'n darparu gwasanaeth da.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno TG digidol i wasanaethau mamolaeth, a hefyd y llinell gymorth brysbennu i famau os oes ganddynt bryderon?

Yn sicr. Felly, cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yw'r rhaglen gyflwyno ddigidol ar gyfer mamolaeth, ond rwy'n hapus i ddweud ei bod yn gwneud yn dda. Ac erbyn diwedd mis Mawrth, yn sicr dros yr wythnosau nesaf, byddwn mewn sefyllfa lle mae pob bwrdd iechyd wedi cyflwyno'r gwasanaeth. Bydd hynny'n ein galluogi i wneud un o'r newidiadau mawr y mae'r adroddiad yn eu hargymell, sef gallu symud i ffwrdd o system adweithiol sy'n ymateb i ddigwyddiadau wrth iddynt godi i un sy'n digwydd lawer iawn mwy mewn amser real ac sy'n galluogi i ddata gael ei fonitro ar unwaith. Mae hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac fe ddaw â sicrwydd mawr i famau a theuluoedd ledled Cymru. Ond yn ogystal â hynny, rydym yn bwriadu comisiynu technoleg dros y flwyddyn nesaf sydd ag elfen ddeallusrwydd artiffisial, sydd hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio'r data hwnnw i ragweld tueddiadau'r dyfodol a risg digwyddiadau yn y dyfodol hefyd. Felly, nid adweithiol, na rhagweithiol hyd yn oed, ond rhagfynegol, ac rwy'n credu y bydd hynny'n ein galluogi i fod ar y droed flaen lawer mwy nag y gallwn fod mewn rhai pethau ar hyn o bryd.

Soniodd am y cymorth brysbennu. Rwyf eisoes wedi comisiynu llinell gymorth brysbennu mewn gwirionedd a fydd ar gael i fenywod beichiog ei ffonio os oes ganddynt bryderon. Mae un eisoes yn gweithredu ym mae Abertawe, sef cyflawniad un o'r argymhellion yn yr adolygiad yno. Felly, byddwn yn defnyddio'r hyn a ddysgir o hynny, ond y cynllun yw i honno fod yn linell gymorth genedlaethol, a fydd, rwy'n gobeithio, yn rhoi sicrwydd i famau pan fydd problemau'n codi yn ystod beichiogrwydd.

Perfformiad GIG Cymru

2. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o berfformiad cyffredinol GIG Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf? OQ63889

Mae perfformiad y GIG yn parhau i wella. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfanswm y rhestrau aros wedi gostwng 7 y cant, cyfanswm amseroedd aros o ddwy flynedd bron i 78 y cant, ac amseroedd aros o flwyddyn i gleifion allanol dros 60 y cant. Mae cyfran y cleifion sy'n cael eu trin o fewn y targed yn cynyddu drwy ymdrechion sy'n canolbwyntio ar ddiagnosteg a gofal wedi'i gynllunio, ac rydym yn gweithio'n galed i wella gwasanaethau gofal brys, canser ac iechyd meddwl fel bod mwy o gleifion yn cael eu trin o fewn y targed.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Ysbyty Glangwili yn fy etholaeth i eisoes mewn cyflwr gwael. Mae'n orlawn, yn gweithredu mewn ystad sy'n hen ac yn cael anhawster i ateb y galw presennol. Fodd bynnag, mae'r bwrdd iechyd lleol bellach yn cynnig symud gwasanaethau ychwanegol i'r cyfleuster hwn, gan gynnwys llawdriniaeth gyffredinol argyfwng o Lwynhelyg a gwasanaethau strôc o Fronglais. Nawr, ar draws gorllewin Cymru, mae cleifion yn gweld hyn fel rhan o batrwm parhaus— gwasanaethau'n cael eu tynnu'n ôl o ysbytai lleol, gan orfodi pobl i deithio ymhellach ar gyfer triniaeth frys sy'n achub bywydau. Mae hyder yn y penderfyniadau hyn yn beryglus o isel, ac mae etholwyr yn ddig ac yn rhwystredig. Rwyf i, ynghyd â fy nghyd-Aelod Paul Davies, wedi ysgrifennu atoch, yn eich annog i ymyrryd. Felly, a gaf i ofyn i chi'n uniongyrchol: a wnewch chi ymyrryd i sicrhau bod llawdriniaeth gyffredinol argyfwng yn parhau yn Llwynhelyg, a gwasanaethau strôc yn parhau ym Mronglais? 'Gwnewch' neu 'na wnewch'.

14:30

O'm safbwynt i, mae hyn yn rhyfeddol a dweud y gwir. Yr hyn y mae ef eisiau i mi ei wneud yw ymyrryd ar sail mympwy y mae wedi'i nodi yn y Siambr a datganiadau y mae'n eu gwneud i etholwyr a allai fod yn gamarweiniol, mae arnaf ofn, fel y clywodd y Prif Weinidog yn ei egluro ddoe mewn ymateb i'w gyd-Aelod. Yr hyn y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud—[Torri ar draws.] A yw eisiau clywed yr ateb i'r cwestiwn? Felly, fe wnaiff ganiatáu imi ateb, os gwnaiff. Yr hyn a ddisgrifiodd y Prif Weinidog ddoe, mae arnaf ofn, yw patrwm o gamarwain pobl ynghylch newidiadau i wasanaethau. Mae'n bwysig iawn, am y rheswm a nododd yn ei gwestiwn, nad yw etholwyr eisiau teimlo'n bryderus am hyn, ein bod yn cael trafodaeth agored a thrafodaeth sy'n seiliedig ar y ffeithiau. Nawr, mae yna newidiadau y mae'r bwrdd iechyd yn argymell y byddant yn eu gwneud. Byddant yn cymryd peth amser i wneud hynny, ac mae hynny wedi digwydd yn dilyn ymgynghoriad helaeth iawn. Bydd rhai safleoedd yn gweld mwy o weithgareddau penodol; bydd eraill yn gweld llai o'r gweithgareddau hynny. Ond y darlun cyffredinol yw bod gwasanaethau ar draws bwrdd Hywel Dda yn sefydlogi, a bydd hynny'n arwain at wasanaethau mwy diogel, gwasanaethau mwy effeithiol, ac yn golygu y bydd mwy o'i etholwyr yn cael gwasanaeth gwell yn gyflym.

Un peth sy'n effeithio ar berfformiad yn y GIG yw pan nad yw staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Yn sicr, dyma sut y mae staff—ymwelwyr iechyd, yn benodol—ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg yn teimlo, ac maent bellach ar streic ar ôl i'r bwrdd iechyd wrthod cydnabod bod yr ymwelwyr iechyd hyn yn gweithio ar lefel ôl-raddedig, gradd Meistr, ac yna, o ganlyniad i hynny, yn gwrthod talu band 7 iddynt. Nawr, rwyf am ddatgan buddiant, Lywydd—mae fy modryb yn un ohonynt. Ond yr hyn y maent eisiau gwybod yw pa sgyrsiau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael gyda'r bwrdd iechyd ynghylch datrys y mater hwn a chydnabod bod gan ymwelwyr iechyd rai o'r arbenigeddau pwysicaf yn ein cymunedau o ran gofal plant. Realiti'r sefyllfa yw nad oes yr un o'r bobl hyn eisiau bod ar streic. Mae'n pwyso arnynt yn anhygoel o drwm, gan eu bod yn gwybod eu bod yn rhaff achub i gynifer yn ein cymunedau.

Wel, mae gan GIG Cymru strwythur partneriaeth gymdeithasol cryf, ac rwyf am i'r ddwy ochr gydweithio i geisio sicrhau datrysiad o fewn yr egwyddorion hynny. Anghydfod rhwng undeb Unite a'r bwrdd iechyd yw hwn. Nid yw'n anghydfod cenedlaethol, ac nid yw wedi'i godi drwy drefniadau partneriaeth gymdeithasol Cymru. Rwy'n cytuno ag ef: rwy'n llwyr gydnabod y gwaith hanfodol y mae ymwelwyr iechyd yn ei wneud i wella canlyniadau i blant a theuluoedd. Maent yn gwneud gwaith anhygoel, ac mae angen adlewyrchu hynny'n briodol wrth gwrs. Mae cyflogwyr GIG Cymru, sy'n gweithio gyda'r byrddau iechyd fel cyflogwyr, yn cydlynu gwaith ledled Cymru i ddatblygu ystod o ddisgrifiadau swyddi, ac mae Unite wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn hynny. Rydym wedi cael trafodaethau gyda'r bwrdd iechyd, yn eu hannog i gymryd rhan yn y broses o ddatrys yr anghydfod hwn. Rwyf am i'r ddwy ochr wneud hynny, a chafwyd arwyddion cadarnhaol fod y ddwy ochr yn barod i gymryd rhan mewn trefniadau cyfryngu i drafod canlyniad.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi mewn datganiad i'r Senedd nad oes unrhyw un ym Mhowys nac yn Abertawe yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth na mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol. Fodd bynnag, mae eich ffigurau eich hun ym mis Tachwedd yn dangos bod 1,200 o lwybrau yn Abertawe yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad dilynol, ac mewn ateb ysgrifenedig, fe wnaethoch chi gadarnhau bod 185 o drigolion Powys wedi bod yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth gyda byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Fe wnaethoch chi gydnabod hefyd nad yw Llywodraeth Cymru’n cadw data ar gyfer cleifion o Bowys sy'n cael eu trin gan ymddiriedolaethau GIG Lloegr. O ystyried hynny, onid ydych chi'n derbyn nad oedd y datganiad yn cyflwyno'r darlun llawn, ac a wnewch chi nawr gywiro'r cofnod, fel y gelwais i a fy nghyd-Aelod Russell George arnoch i'w wneud, a chyhoeddi data amseroedd aros cyflawn ar gyfer trigolion Powys?

Wel, rwy'n ddiolchgar unwaith eto am y cyfle i esbonio i'r Aelod sut y mae ystadegau GIG Cymru’n cael eu cyhoeddi a sut y cyfeirir atynt. Fel y bydd yn gwybod, cânt eu cyhoeddi a chyfeirir atynt ar sail darparwr, yn hytrach na ble mae pobl yn byw. Rwyf wedi cael cyfle i esbonio hyn i Russell George ar sawl achlysur o'r blaen. Yn y trafodaethau hynny, rydym hefyd wedi siarad am gleifion o Bowys sy'n cael eu trin mewn mannau eraill. Rydym wedi nodi ar nifer o achlysuron y rhai sy'n aros am fwy na dwy flynedd yn system Lloegr. Felly, mae'n berffaith glir beth sy'n cael ei ddweud; nid oes angen cywiro'r cofnod. Gallaf gadarnhau bod gennym wybodaeth reoli sy'n dweud wrthym fod dros 130 o drigolion yn aros am driniaethau yn Lloegr, ac rydym eisoes wedi nodi'r nifer sy'n cael eu trin mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Cyfeirir at yr unigolion hynny mewn ystadegau a gyhoeddir mewn perthynas â'r byrddau iechyd lle maent yn derbyn eu triniaeth. Nid oes unrhyw beth newydd yn hynny. Dyma fu'r sail erioed ar gyfer casglu a chyhoeddi data.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, wrth inni ddod at ddiwedd tymor y Senedd hon a'r posibilrwydd o Lywodraeth newydd, rwy'n wirioneddol chwilfrydig i wybod sut y byddwch chi'n edrych yn ôl ar eich cyfnod wrth y llyw. Eich Llywodraeth chi sy'n gyfrifol am yr amseroedd aros hiraf ym Mhrydain, amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys, byrddau iechyd o dan ymyriadau difrifol, amseroedd aros ofnadwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac rydym wedi clywed heddiw yr asesiad ofnadwy o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Nid oes dianc rhag y ffaith bod ein gwasanaeth iechyd mewn dirywiad wedi'i reoli. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym beth yw eich asesiad chi o gyfnod eich Llywodraeth wrth y llyw o ran rheoli ein sector iechyd a gofal cymdeithasol?

Rwy'n ceisio peidio â digio eto fy mod yn mynd i gael fy nghyfrif yn fethiant. Mae gennyf ychydig wythnosau ar ôl yma, Peter, felly rhowch gyfle imi gwblhau fy nghyfnod yn y swydd. Ond rwyf am dderbyn y gwahoddiad i fyfyrio ar fy mherfformiad dros y 18 mis diwethaf, gan geisio osgoi bod yn rhy farwnadol am y peth.

Rwy'n credu y bydd pwy bynnag a fydd yn Weinidog iechyd ar ôl yr etholiad nesaf yn etifeddu system iechyd sy'n adfer ei chydbwysedd. Credaf ein bod wedi gweld gostyngiadau sylweddol yn yr arosiadau hir, gostyngiadau sylweddol yn nifer y bobl ar restrau aros yng Nghymru, gostyngiadau sylweddol yn y rhai sy'n aros am apwyntiad cleifion allanol, gwell cyfleusterau gofal brys a gofal mewn argyfwng, atebolrwydd cliriach yn y gwasanaeth iechyd, a Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i unioni'r sefyllfa o ran cyfalaf, lle mae ei Lywodraeth ef yn San Steffan wedi atal cyllid i wledydd ledled y DU dros 10 i 14 mlynedd. Rydym wedi gweld Llywodraeth yma sydd wedi ymrwymo i'r gwasanaeth iechyd ac i ddarparu'r adnoddau y gallwn eu darparu, ac rydym yn gweld hynny, ynghyd â ffocws ar berfformiad, yn cyflawni'r gwelliannau a welwn yn y gwasanaeth iechyd heddiw.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dyma fy nhro olaf, mewn gwirionedd, i ofyn y cwestiynau hyn i chi.

Oes? A oes gennym un tro arall? O wel, gallaf fynd drostynt eto, felly.

Oni bai eich bod yn gwybod rhywbeth nad ydym ni'n ei wybod, Peter, rwy'n credu y bydd set arall o gwestiynau iechyd cyn diddymu'r Senedd.

Iawn, diolch. Ymddengys bod camgymhariad, pryd bynnag y byddwn yn trafod iechyd ac yn clywed ymatebion gan Weinidogion, rhwng hynny a'r hyn a deimlir gan bobl ar lawr gwlad. Y gwir amdani yw bod hanes hir o fethiannau systemig yn ein system gofal iechyd yma yng Nghymru o dan eich Llywodraeth. Mae hyn wedi cael ei godi gyda mi sawl gwaith gan lawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chlinigwyr. Y gwir amdani, ers mis Ionawr 2020, yw bod nifer y cleifion sy'n methu'r targed amser aros pedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi codi 46 y cant, mae nifer y bobl sy'n aros dros y targed o wyth awr wedi codi 59 y cant, ac mae nifer y bobl sy'n aros am 12 awr wedi codi 64 y cant, sy'n syfrdanol. Mae amseroedd aros canser yn gwaethygu, tra bo cleifion yn gorfod dioddef mewn poen mewn coridorau, yn y gobaith o gael eu gweld. Roedd llawer o'r pethau hyn yn wir cyn COVID hefyd, felly ni allwn ddefnyddio hynny fel esgus. Beth fyddai'n ei gymryd i chi gyfaddef bod eich Llywodraeth wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa a bod angen i chi ddatgan argyfwng iechyd? I fod yn blaen, faint yn waeth sy'n rhaid i bethau fynd?

A ydych chi'n gwybod mai'r hyn nad yw pobl ei eisiau, Peter, yw sloganau? Yr hyn y maent ei eisiau yw cynllun. Mae gennym gynllun, ac mae'n gweithio. Mae gennym gynllun, mae'n perfformio, mae gennym gyllid i fynd gydag ef. Gwn ei bod yn anodd ichi gydnabod, gan nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn llythrennol wedi cyflawni unrhyw beth o gwbl i gleifion, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflawni unrhyw beth o gwbl i gleifion yng Nghymru drwy gydol datganoli—dim gwely, dim hyd yn oed padell wely; dim byd.

Yn anffodus, gwelwn wadu parhaus.

Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod gennym set arall o gwestiynau, ymddengys ei bod yn amhriodol gofyn yr un hwn, ond Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw'r swydd sydd gennych yn un i'w chwennych. Buaswn yn dweud ei bod hi'n fraint amheus mae'n debyg. Ac mae'n amlwg fod ein GIG mewn sefyllfa ddifrifol, ac mae cymaint o waith angen ei wneud i unioni pethau. Hoffwn roi'r amser hwn i ddweud, er ein bod efallai'n anghytuno ynglŷn â'n polisïau a'n ffyrdd o ymdrin â'r GIG, nad wyf yn amau eich ymrwymiad a'ch dyhead i wella bywydau pobl yng Nghymru. Rydych chi'n angerddol iawn ynglŷn â hynny yma, ond nid ydym yn gweld canlyniadau. A chredaf eich bod wedi ateb hyn yn eich ateb cyntaf i mi. A gaf i ofyn beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol pe baech chi'n cael cyfle? A pha gyngor fyddech chi'n ei gynnig i mi, pe bawn i'n dod yn Ysgrifennydd iechyd?

14:40

Wel, rwy'n teimlo'n eithaf emosiynol, Peter. Rwy'n teimlo'n eithaf emosiynol. Os mai dyma sut y gorffennwn yr un olaf ond un, gallech orffen yr un nesaf gyda chwtsh. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, yn y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd sydd yn aros am driniaeth. Er bod—

A, rwy'n gwybod.

Er bod maint cyffredinol y rhestrau aros yn dal i fod yn uwch na phan lansiwyd y cynllun adfer gofal, ac er bod ffordd bell i fynd cyn y caiff addewid yr Ysgrifennydd Cabinet i leihau’r rhestrau aros o 200,000 ei wireddu, mae’r cynnydd hwn yn yr ymgais i sicrhau bod pobl yn cael triniaethau amserol yn rhywbeth i’w groesawu.

Er hynny, mae gen i bryder bod y camau sydd wedi cael eu cymryd gan y Llywodraeth er mwyn cyflawni’r lleihad yma wedi’i seilio bron yn llwyr ar fesurau dros dro, ar draul adeiladu capasiti lleol a fyddai’n caniatáu i bwysau rhestrau aros gael eu hymgorffori yn fwy cynaliadwy i weithgarwch dyddiol y gwasanaeth iechyd gwladol.

All yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, gadarnhau pa ran o’r £120 miliwn a fuddsoddwyd yn yr ymdrech i leihau rhestrau aros yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol fydd wedi cael ei defnyddio ar drefniadau mewnol gyda darparwyr preifat—insourcing—neu ar drefniadau allanol—outsourcing—gydag ymddiriedolaethau NHS yn Lloegr?

Wel, yn gyntaf, a gaf i groesawu cynhesrwydd croeso'r Aelod i'r cynnydd a welsom ar draws y gwasanaeth iechyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Ac rwy'n ei ganmol am ei ymagwedd hamddenol heddiw. Darllenais erthygl ddiddorol iawn ganddo ar Wales Online yr wythnos hon lle soniodd am obeithio peidio â bod yn rhy brysur fel Ysgrifennydd iechyd, peidio â gorfod gwneud gormod o ymweliadau na gorfod llofnodi gormod o lythyrau, na siarad â gormod o bobl, mewn ymdrech i gynnal ymagwedd fwy hamddenol. [Chwerthin.] Felly, rwy'n falch o weld, yn ei swyddogaeth—fel y mae ef yn ei gredu—fel y darpar Ysgrifennydd iechyd, ei fod yn mabwysiadu'r ymagwedd hamddenol honno ymlaen llaw.

Ond o ddifrif, mae'n gofyn cwestiwn pwysig. Ac fel y dywedais wrth Peter Fox, bydd pwy bynnag a ddaw'n Ysgrifennydd iechyd yn y Llywodraeth newydd yn elwa o system sy'n adfer ei chydbwysedd. Rhan o'r her fu gallu cefnogi'r gwasanaeth iechyd ar sail dros dro er mwyn gallu mynd i'r afael â'r ôl-groniadau. Os yw'r gwasanaeth iechyd yn canolbwyntio'n fanwl ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad, nid yw'n gallu gwneud cynnydd ar drawsnewid nac ar fuddsoddi mewn gwasanaethau eraill y gwn ei fod yntau hefyd am ei weld.

Felly, mae'r cyllid yr ydym wedi gallu ei ddarparu wedi bod yn gymysgedd o gapasiti ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd fel y gall wneud mwy ei hun, fel petai, ond hefyd capasiti o'r tu allan wedi'i ddarparu mewn ysbytai, ac yn drydydd, fel y mae ef yn ei nodi, elfen o hynny yw comisiynu gan y sector annibynnol. Nid wyf yn ystyried unrhyw un o'r rheini fel unrhyw beth ond mesurau dros dro. Mae'r rheini'n gwneud cynnydd enfawr o ran lleihau maint y rhestrau aros a'r arosiadau hiraf, adfer cydbwysedd y system, a rhyddhau capasiti yn y gwasanaeth iechyd i allu trawsnewid, i allu cyflawni'r camau gorfodol a nodais ar eu cyfer, y gwn ei fod yn eu cefnogi, ac fe'u gwelwn yn gwneud hynny hefyd, fel y gwn y bydd yn ei groesawu.

Wel, diolch am eich ymateb, ac wrth gwrs, mae sicrhau bod gennym gapasiti cynaliadwy yn rhywbeth y byddai pob un ohonom yn ei groesawu. Ond yn seiliedig ar yr wybodaeth a rannwyd gyda ni gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ym mwrdd Betsi Cadwaladr, gwyddom y bydd llawer o'r trefniadau mewnoli ac allanoli a ddefnyddir i ddarparu triniaethau gofal wedi'i gynllunio ychwanegol yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth. Ac mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi methu buddsoddi mewn gwella capasiti a chydnerthedd gwasanaethau lleol yno yn golygu ei bod yn debygol y bydd y rhestrau aros yn cynyddu unwaith eto heb chwistrelliad pellach o gyllid yn ychwanegol at gyllidebau arferol y GIG.

Er enghraifft, yr hyn a ddywedwyd wrthym o'r wybodaeth a gawsom gan fwrdd Betsi Cadwaladr yw y bydd oddeutu 30,000 o gleifion yn dychwelyd i ofal uniongyrchol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pan fydd y trefniant mewnol gyda darparwr preifat, ID Medical, yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth, fel y dywedais, gyda chynlluniau ar gyfer ailintegreiddio ar restrau aros 'heb fod yn agos at fod wedi'u cwblhau', yn ôl ein ffynhonnell, ychydig dros fis cyn i gontract ID Medical ddod i ben. Felly, a allwch chi egluro pa gamau dros dro rydych chi'n mynd i'w rhoi ar waith o fis Mawrth tan fis Mai i sicrhau nad yw'r hyn a welsom mewn blynyddoedd blaenorol yn cael ei ailadrodd, pan fo cynnydd ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn anochel wedi mynd am yn ôl ar ôl gwelliannau cychwynnol? Ac yn seiliedig ar y cynlluniau hyn, beth yw eich amcangyfrif presennol o faint yr ôl-groniad erbyn mis Mai?

14:45

Wel, dyma fantais siarad â phobl—eich bod yn cael y math hwn o wybodaeth. Ond buaswn yn argymell ei fod yn siarad ag amrywiaeth o bobl, nid un unigolyn yn unig. Mae'n ddefnyddiol gallu ymgysylltu â hyn. O ddifrif, serch hynny, mae'n gwneud pwynt pwysig. Mae'n bwysig gallu newid yn ôl, ar ôl i'r trefniadau dros dro hyn fod ar waith, i sefyllfa gadarn lle nad oes eu hangen dro ar ôl tro. Dyna'n amlwg y mae pob un ohonom eisiau ei weld. Nid oes unrhyw un eisiau gweld perfformiad yn cael ei yrru gan symiau arian untro, ni waeth pa mor sylweddol. Nid oes unrhyw un yn credu bod hynny'n gynaliadwy nac yn briodol. Felly, mae'n ofynnol i bob bwrdd iechyd sicrhau eu bod yn comisiynu ar sail sy'n darparu ar gyfer hynny.

Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y pwynt penodol y mae'r Aelod yn ei godi gyda mi heddiw, ond rwyf am roi sicrwydd iddo fod tîm o bobl o Lywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau ein bod yn deall y sefyllfa'n fanwl o ran gofal wedi'i gynllunio, ac i allu eu cefnogi i gael y trefniadau hynny ar sail drosiannol yn ôl i ffordd fwy rheolaidd o weithio. Felly, mae'r gwaith hwnnw eisoes yn mynd rhagddo. Ac yn ogystal â hynny, fe fyddwch yn gwybod, yn hwyr y llynedd, fy mod wedi darparu tîm bach o gefnogaeth lefel uchel iawn i'r tîm gweithredol yn y bwrdd iechyd. Maent yn edrych yn benodol ar rai o'r heriau hyn, ac mae gofal wedi'i gynllunio yn un o'r rheini.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod gwaith yn mynd rhagddo a'i fod eisiau i'r newid hwnnw i sefyllfa sefydlog fod yn barod, ond ar ôl siarad â phobl, fe wyddom, fel y dywedais, nad ydym yn agos at hynny ar hyn o bryd ym mwrdd Betsi Cadwaladr, a dyna ran o'r broblem. Mae dibyniaeth helaeth y Llywodraeth hon ar brynu capasiti allanol, sy'n ddrud wrth gwrs, yn nodweddiadol o'r economi ffug y mae rheolaeth y Llywodraeth hon o'r GIG wedi'i seilio arni. Yn ddiau, bydd Llywodraeth nesaf Cymru’n etifeddu system iechyd y mae ei gallu i reoli'r galw yn gynaliadwy, heb fod angen arian ychwanegol cyfnodol sy'n draenio adnoddau o bob maes polisi arall, yn parhau i fod mewn perygl sylweddol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, â llaw ar ei galon, fod y model y mae wedi'i roi ar waith eleni i fynd i'r afael â'r rhestrau aros yn gynaliadwy yn y tymor hir? Ac os felly, pa lefel o fuddsoddiad fydd ei hangen i'w lleihau ar yr un cyflymder dros y flwyddyn ariannol nesaf?

Credaf fod yr Aelod yn edrych ar hyn o'r pen anghywir, os caf ddweud. Nid y cwestiwn yw faint o'r gweithgarwch hwn y bydd angen iddo barhau y flwyddyn nesaf; y cwestiwn yw beth yw effaith y gweithgarwch hwn ar gynaliadwyedd y gwasanaethau. Dyna'r cwestiwn, a'r ateb i hynny yw nad wyf yn rhagweld yr angen, y flwyddyn nesaf, i roi'r un faint o arian yr ydym wedi'i ddarparu eleni. Mae yna nifer fach o arbenigeddau lle ceir her arbennig o ran adfer eu cydbwysedd, ond mae'n nifer fach iawn, ac mae'n debyg y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnynt.

Ond gadewch imi ddweud yn glir wrth yr Aelod, ac yntau'n gofyn am gyllid, fod cyllid yn bwysig, ond os ydych chi'n meddwl am y cyllid ychwanegol yr ydym wedi'i ddarparu, mae'n £120 miliwn eleni ar ben cyllideb o £12 biliwn. Felly, ni all hynny byth fod yn ateb i'r her gyffredinol. Bydd yr her gyffredinol yn cael ei chyflawni drwy wella perfformiad, nid drwy ddarparu cyllid ychwanegol yn unig. A dyna'r sefyllfa y bydd pwy bynnag a fydd yn Ysgrifennydd iechyd nesaf yn ei hetifeddu—system sy'n adfer ei chydbwysedd, heb orfod canolbwyntio cymaint ar ôl-groniadau; gallu bwrw ymlaen ar fyrder â'r mathau o ddiwygiadau a welsoch dros y ddwy flynedd ddiwethaf; ynglŷn â bodloni safonau Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf; cyflawni nifer y triniaethau ar restrau aros; defnyddio'r dechnoleg gywir. Rydym yn gweld hynny'n digwydd, ac mae'n gwneud gwahaniaeth. Wrth i'r system adfer ei chydbwysedd, bydd hyd yn oed mwy o gapasiti i wneud hynny, ac felly ni fydd angen y math o chwistrelliadau o arian parod a welsom dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar y system i barhau'n gynaliadwy.

Adrannau Brys

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar berfformiad adrannau brys yng ngogledd Cymru? OQ63868

Nid yw perfformiad adrannau brys yn y gogledd cystal ag yr wyf i, y cyhoedd na'r staff sy'n darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn am iddo fod. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth rhaglenni gwella cenedlaethol a rhwydweithiau clinigol, ac wedi gosod disgwyliadau clir ar gyfer gwelliant.

Mae arnaf ofn fod hwnnw'n ateb yr ydych wedi'i roi bron air am air sawl gwaith yn y gorffennol, Ysgrifennydd y Cabinet, pan wyf wedi codi pryderon ynghylch perfformiad adrannau brys yn y gogledd. Ac eto, dyma ni, ar ddechrau 2026, gyda'r lefelau perfformiad gwaethaf erioed yn yr ysbyty lleol sy'n gwasanaethu fy etholwyr ym Modelwyddan. Yn adran frys Ysbyty Glan Clwyd, mae llai na thraean o bobl yn cael eu gweld o fewn y targed pedair awr, ac mae'n rhaid i draean o bobl aros dros 12 awr yn yr adran frys. Nid yw hynny'n dderbyniol; mae angen iddo newid. Un o'r pethau y dywedoch chi y byddech yn eu gwneud, yn amlwg, yw adeiladu'r cyfleuster newydd hwn yn y Rhyl, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod rhywfaint o symud ar hynny bellach. Ond mae nifer y gwelyau yn y cyfleuster hwnnw'n annigonol, yn druenus o annigonol, ac mewn gwirionedd, roeddem i fod i gael 30 o'r gwelyau hynny, ac roedd hynny yn ôl yn 2013, pan gyhoeddwyd y cynllun gyntaf. Sut y gallwch ddweud, gyda'ch llaw ar eich calon, y bydd 14 gwely yn y cyfleuster newydd yn y Rhyl yn ddigon i ateb y galw sydd wedi cynyddu'n aruthrol ers 2013, i leddfu'r problemau yn Ysbyty Glan Clwyd y mae'n rhaid i fy etholwyr eu hwynebu'n rhy aml?

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig, ac nid wyf am amddiffyn y perfformiad fel y mae wedi'i nodi. A dweud y gwir, nid wyf yn ceisio bychanu difrifoldeb y pwynt y mae'n ei wneud, ond os ydym yn parhau i roi'r argraff ein bod yn adeiladu gwestai, nid ysbytai, ni fydd y cyhoedd byth yn deall yr hyn y ceisiwn ei wneud gyda'r gwasanaeth iechyd, sef gwella gwasanaethau iddynt. [Torri ar draws.] Nid ydym yn bwriadu adeiladu'r math o gyfleusterau yr oedd eu hangen arnom 15, 20 mlynedd yn ôl. Rydym yn ceisio adeiladu cyfleuster, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny, sy'n addas ar gyfer y math o wasanaeth iechyd sydd ei angen arnom heddiw, un sydd wedi'i integreiddio'n llawer gwell â gwasanaethau cymunedol ac sydd angen llai o welyau oherwydd hynny. Nid gwelyau lle disgwylir i bobl fod ynddynt am amser hir iawn yw'r rhain. Maent yno i baratoi pobl i allu mynd adref cyn gynted â phosib, rhywbeth y gwn ei fod yntau eisiau ei weld. Mae'r 14 gwely'n cyfateb i 220 o gleifion y flwyddyn, ac yn cyfateb i 4,000—4,000—[Torri ar draws.]. Efallai na fydd yr Aelod yn gallu clywed fy ateb os yw'n parhau i siarad, felly efallai y gwnaiff ganiatáu imi nodi'r ffigurau y gofynnodd amdanynt. Mae effaith hynny ar Ysbyty Glan Clwyd yn cyfateb i 4,400 o ddiwrnodau gwely. Mae hynny'n nifer enfawr sy'n cael ei ryddhau gan y capasiti ychwanegol hwn yn Ysbyty Brenhinol Alexandra. Mae hynny'n newyddion da i'r Rhyl ac i Ysbyty Glan Clwyd, a golyga hynny y bydd yn cefnogi'r ysbyty yng Nglan Clwyd i ddychwelyd i fod yr hyn rwyf am ei weld a'r hyn y gwn ei fod yntau am ei weld, sef system lif sy'n galluogi'r adran achosion brys i ddarparu'r lefel o wasanaeth y mae'r ddau ohonom am ei gweld.

Osteoporosis

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bywydau pobl sy'n dioddef o osteoporosis? OQ63859

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy'n byw gydag osteoporosis drwy gryfhau mesurau atal toresgyrn, gwella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth, a gosod disgwyliadau cenedlaethol clir ar gyfer gwasanaethau iechyd esgyrn o ansawdd uchel. Mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn bellach ar gael ledled Cymru, wedi'u cefnogi gan ddatganiad ansawdd cenedlaethol ar gyfer osteoporosis ac iechyd esgyrn, sy'n sbarduno gwelliant parhaus ac atebolrwydd ar draws y GIG.

Diolch. Mae osteoporosis yn effeithio ar oddeutu 18 y cant o bobl yng Nghymru, gyda miloedd o bobl eraill yn dioddef o osteopenia, sy'n gallu arwain at osteoporosis. Bob blwyddyn, mae oddeutu 20,000 achos o doresgyrn yng Nghymru o ganlyniad i osteoporosis. Mae hynny'n arwain at filoedd o ymweliadau â'n hadrannau achosion brys, llawdriniaethau dewisol yn cael eu canslo, llawdriniaethau heb eu cynllunio, effaith economaidd sylweddol ar y GIG, ac wrth gwrs, cost bersonol fawr i'r unigolion hynny. Mae Llywodraeth Cymru, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi darparu cyllid i sicrhau bod gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar gael i geisio lleihau nifer y toresgyrn a gwella iechyd esgyrn. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba mor llwyddiannus y mae'r gwasanaeth wedi bod yn eich barn chi, a beth arall y gellir ei wneud i wella bywydau pobl ag osteoporosis ar draws gogledd Cymru?

Wel, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn wedi'u profi'n llwyddiant. Gwyddom eu bod yn ymyriad hynod effeithiol ac yn ymyriad costeffeithiol iawn hefyd, ac mae'r dystiolaeth yn y gogledd a ledled Cymru'n dangos eu bod yn darparu manteision go iawn i gleifion. Yn 2025, nodwyd drwy'r gwasanaethau hynny fod bron i 9,000 o bobl ledled Cymru wedi cael torasgwrn breuder, a golyga hynny fod asesiad cynnar wedi bod ar gael, a thriniaeth a gwasanaeth dilynol wedyn wrth gwrs.

Yn rhanbarth yr Aelod, yn y gogledd, rwy'n credu bod y cynnydd wedi bod yn arbennig o galonogol dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn 2024, cyn inni ddarparu cyllid drwy raglen y chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, fel y soniais nawr, nododd bwrdd Betsi Cadwaladr 198 o gleifion—198 o gleifion—sef oddeutu 4 y cant o'u hachosion o dorasgwrn breuder disgwyliedig. Maent bellach wedi rhoi gwasanaeth llawer cryfach ar waith gyda'r cyllid ychwanegol. Mae ganddynt gapasiti gweinyddol ac arweinyddiaeth glinigol benodedig yn ogystal â mewnbwn fferyllwyr, sy'n bwysig iawn, ac maent yn gweithio gyda'r rhwydwaith clinigol nawr, ac o ganlyniad, eleni, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach—y llynedd, yn hytrach; ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach—fe wnaethant nodi 2,000 o gleifion â thorasgwrn breuder. Felly, mae hynny'n gynnydd enfawr, bron ddengwaith cymaint, a dyna'r gyfradd nodi uchaf ond un o unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru. Felly, credaf fod y lefel honno o gynnydd yn glir iawn.

Maent yn perfformio'n gryf ar fonitro, ac mae 99 y cant o gleifion bellach yn cael eu gweld o fewn 90 diwrnod, a'r meincnod cenedlaethol yw 67 y cant. Felly, dyma'r lefel uchaf o berfformiad yng Nghymru. Credaf ei bod yn bwysig rhoi clod lle gwelwn berfformiad da. Mae hyn yn enghraifft dda iawn o hynny. Fe wnaed ymyriad sy'n gweithio, mae cyllid wedi dilyn, ac mae hynny wedi dangos ei fod yn diwallu anghenion cleifion yn fwyfwy llwyddiannus.

14:55

Ysgrifennydd y Cabinet, y ffordd orau o wella bywydau pobl sy'n dioddef o osteoporosis yw eu hatal rhag datblygu osteoporosis yn y lle cyntaf. Mae eich genynnau'n effeithio ar eich taldra a chryfder eich esgyrn, ond mae ffactorau'n ymwneud â ffordd o fyw fel deiet ac ymarfer corff yn dylanwadu ar ba mor iach yw eich esgyrn. Gallwch roi camau ar waith i atal osteoporosis neu arafu ei ddatblygiad drwy fwyta deiet iach a maethlon, bod yn egnïol, a chymryd atchwanegiadau sy'n gwella iechyd esgyrn, fel fitamin D, a rhoi'r gorau i ysmygu a lleihau eich defnydd o alcohol. Mae rhai pobl, yn enwedig menywod ar ôl y menopos, yn fwy agored i osteoporosis. Gyda sgrinio ac addysg briodol, gallwn atal llawer o'r rhain rhag datblygu cyflwr gydol oes. Fel y soniais, gall torri asgwrn yn ddiweddarach mewn bywyd arwain at farwolaeth gynnar. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n gweithio gyda gofal sylfaenol i sicrhau bod y rhai sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu osteoporosis yn cael eu sgrinio a'u cefnogi'n iawn? Diolch.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac rwy'n ddiolchgar iddo am nodi, gyda'r awdurdod y mae'n ei ddwyn i'r cwestiynau hyn, y cyngor y byddai'n ei roi i bobl yn y sefyllfa honno. Mae'r rhwydwaith clinigol iechyd esgyrn, y soniais amdano yn fy ateb i Lesley Griffiths, yn gwneud y gwaith pwysig y mae'n gywir i ddweud ei fod mor bwysig. Felly, mae'n cryfhau ei waith partneriaeth â gofal sylfaenol, ond hefyd â gwasanaethau cymunedol a chyda fferylliaeth hefyd. Mae yna rôl y mae'n rhaid i fferyllwyr ei chwarae yn hyn, fel y bydd yn gwybod yn well na mi.

Mae'r gwasanaeth atal cwympiadau ac asesiadau a'r llwybr iechyd cymunedol osteoporosis, a fydd yn cynnwys y pwyntiau pwysig a wnaeth yn ei gyfraniad, bellach ar gamau olaf eu datblygiad, ac rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi hynny cyn bo hir. Rydym wedi cefnogi'r gwaith hwn ymhellach drwy gyllid wedi'i dargedu i gryfhau rôl fferyllwyr o fewn y gwasanaeth cyswllt toresgyrn, fel bod yr ymyrraeth gynnar y dywed ei bod mor bwysig, y glynu wrth feddyginiaeth a'r hunanreolaeth hirdymor i'r rhai sydd ag osteoporosis yn cael eu hystyried gyda'i gilydd.

Newidiadau i'r Contract Deintyddol

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y newidiadau arfaethedig i'r contract deintyddol sydd i fod i ddod i rym ym mis Ebrill 2026? OQ63876

O fis Ebrill ymlaen, bydd Cymru'n cyflwyno trefniadau contract deintyddol newydd y GIG, y diwygiad mawr cyntaf mewn 20 mlynedd. Wedi'u llywio gan lawer iawn o ymgysylltu a chynlluniau peilot, mae'r newidiadau'n moderneiddio system sydd wedi hen ddyddio. Maent yn canolbwyntio ar angen clinigol, ar atal ac ar wella mynediad. Mae'r trefniadau newydd hefyd yn cyflwyno system dalu lawer tecach a mwy tryloyw i ddeintyddion.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi ar sawl achlysur. Rwy'n sylweddoli eich bod yn ddiysgog y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ym mis Ebrill, ond cyfarfûm â deintyddion yn ystod y gwyliau hanner tymor, a dywedodd rhai o'r deintyddion hynny wrthyf nad oeddent hyd yn oed wedi derbyn eu contractau i allu deall y newidiadau yn eu practis, ond roeddent i fod i gyflwyno eu hymateb yn ôl i'r contract ar 16 Chwefror—ac roedd hynny ynddo'i hun wedi'i ohirio o 2 Chwefror, yn ôl yr hyn a ddeallaf. A allwch chi nodi heddiw fod pob practis deintyddol yng Nghymru bellach wedi cael eu contractau, ac a allwch chi hefyd gadarnhau—gan i chi gyfeirio at y ffaith bod y newidiadau hyn wedi eu treialu, ond nid oedd y deintyddion y siaradais â nhw'n ymwybodol o gwbl o unrhyw gynllun peilot a gynhaliwyd i ganfod pa effaith fyddai gan y newidiadau hyn—os nad oes cynllun peilot ystyrlon wedi bod ar y cynigion hyn, oni ddylid gohirio eu gweithrediad er mwyn cynnal cynllun peilot o'r fath, fel y gellid deall yr effeithiau llawn ar y practisau deintyddol yng Nghymru?

15:00

I fod yn glir, mae bron bob un o'r newidiadau wedi bod drwy ryw fath o beilot neu dreial ers 2017, ac mae'r hyn a ddysgwyd o'r treialon hynny a'r cynlluniau peilot wedi'u hymgorffori'n uniongyrchol yn y model terfynol. Rwy'n credu mai'r brif elfen nad yw wedi'i threialu o'r blaen yw'r rhestr ffioedd, ac mae hynny'n symud i ffwrdd o'r hen system dalu tri band, yn rhan o'r hen gontract unedau o weithgaredd deintyddol, tuag at system o becynnau gofal sy'n adlewyrchu'r amser gwirioneddol y mae deintyddion yn ei gymryd i berfformio'r ymyrraeth sydd ei hangen. Felly, dyna'r newid sylfaenol yn y strwythur talu; dyna'r elfen fwyaf nad yw wedi'i threialu. Ond mae'r dull hwnnw'n un a gyflwynodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ei hun, ac roedd yn seiliedig ar ei hastudiaeth amseru genedlaethol ei hun. Ac fel y dywedais, mae'n cynnig dewis amgen cytbwys yn lle'r hen fodel a oedd gennym, a oedd yn ysgogi—rwy'n credu bod pawb yn derbyn hyn—triniaeth ddiangen am mai dyna'r cymhelliad yn y contract i bob pwrpas. Felly, bydd hynny'n cael ei ddisodli'n gyfan gwbl, a dyna'r unig elfen nad yw wedi'i threialu—yr unig elfen arwyddocaol—a chynnig Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ei hun yw hwnnw.

Mae'r Aelod yn gwneud—. Mae'n her resymol i'w gwneud. Yn amlwg, pan fydd newidiadau o'r maint hwn, mae pobl yn ei chael hi'n anodd ac mae yna systemau sydd angen eu newid i wneud hynny. Rwy'n hyderus ein bod ni'n mynd i fod yno mewn perthynas â hynny. Mae gwaith ar y gweill ar y feddalwedd; nid oes neb yn dweud wrthym na allant gyflenwi'r feddalwedd honno. Mae gennym system wrth gefn os nad yw hynny'n digwydd.

Mae'r wybodaeth am y contract eisoes ar gael. Fe wiriaf y pwynt penodol a wnaeth yr Aelod i mi heddiw. Nid wyf yn gwybod yr ateb uniongyrchol i hynny, ond fe wiriaf hynny gyda fy swyddogion. Ond mae manylion y contract wedi bod ar gael ers peth amser. Nid oes unrhyw beth y siaredir amdano ar hyn o bryd nad yw yn y parth cyhoeddus. Rwy'n gwybod bod rhai deintyddion yn meddwl, 'Beth arall sy'n dod?' Nid oes unrhyw beth arall yn dod. Dim ond yr hyn sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ac wedi bod yn destun ymgynghoriad, ac mae hynny mewn gwirionedd wedi bod yn seiliedig ar gyfres o newidiadau dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Mae rhai o'r rhain wedi'u sefydlu'n eithaf da fel rhannau o'r contract hwnnw eisoes.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am godi'r cwestiwn hwn. Rwy'n cytuno â phopeth y mae'n ei ddweud ac rwy'n rhannu ei bryderon. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael y newidiadau arfaethedig hyn i'r contract deintyddol yn iawn. Mae gormod o bobl ledled Cymru yn methu cael apwyntiad deintyddol, yn methu gweld deintydd y GIG, ac mae'r rhai sy'n llwyddo i wneud yn gweld taliadau deintyddol yn cynyddu. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol enfawr ar iechyd y geg yng Nghymru yn y tymor hir. Rydych chi'n gohirio gweithredu oni bai eich bod chi'n cael y rhain yn iawn y tro cyntaf. Fel arall, bydd yn arwain at broblemau iechyd ac iechyd y geg mwy difrifol i bobl Cymru yn y dyfodol.

Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi dweud bod gan blant yng Nghymru fwy o amser i wneud eu gwaith cartref nag a roesoch chi i ddeintyddion benderfynu ar eu hymarfer yn y dyfodol. O fis Ebrill ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru ond yn caniatáu i bractisau deintyddol ddefnyddio 3 y cant o'u cyllideb GIG i adalw cleifion sefydlog ar gyfer archwiliadau rheolaidd. Gadewch imi esbonio beth y mae hynny'n ei olygu. Ar gyfer Restore Dental Group, sydd â 5,000 o gleifion cofrestredig yn y GIG, Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond capasiti ar gyfer adalw ychydig gannoedd fydd ganddynt ar gyfer archwiliadau hirdymor rheolaidd. Ysgrifennydd y Cabinet, pam rydych chi'n parhau—

—i anwybyddu pryderon deintyddion? Nid oes unrhyw un o'r deintyddion y siaradais â nhw'n teimlo eu bod yn cael eu clywed nac yn rhan o hyn o gwbl. Bydd methu cael y contract hwn yn iawn yn cael effaith ddinistriol yng Nghymru. Pryd rydych chi'n mynd i ddechrau gwrando ar ymarferwyr deintyddol sydd â mwy o wybodaeth am hyn na chi?

Ond nid mwy na chi, o ystyried lefel y manylder y gwnaethoch chi gyflwyno'r cwestiwn craff hwnnw. Diolch am esbonio i mi sut y mae'r contract yn gweithio. Gadewch i mi fod yn glir. Fel yr atebais yn y fersiwn lawer mwy meddylgar o'ch cwestiwn a roddodd Andrew R.T. Davies i mi heddiw, mae yna heriau a fydd yn amlwg yn deillio o gyflwyno system newydd, ond mae'r contract hwn wedi cael ei dreialu'n sylweddol dros gyfnod hir o amser. Mae'r brif gydran, sy'n newydd, yn un y mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ei hun wedi gofyn i ni ei chyflwyno, ac roeddem yn falch iawn o wneud hynny, oherwydd mae'n system lawer gwell nag a oedd gennym o'r blaen. Cafwyd treialon helaeth a chynlluniau peilot o'r holl elfennau allweddol eraill yn y contract. Bu cyfnod hir o drafod gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Glaniodd y rhan fwyaf o hynny mewn lle da, roedd rhywfaint ohono'n fwy heriol, ac rydym wedi trafod hynny yn y Siambr lawer gwaith. Ond nid yw'r syniad nad oes ymgysylltiad llawn â'r proffesiwn, ymgynghori llawn ar y contract, yn wir o gwbl. Mae'r Aelod yn dweud y bydd hyn yn effeithio ar ddeintyddiaeth y GIG; yr un peth a fydd yn sicr o arwain at ddiddymu deintyddiaeth y GIG yn llwyr yw ethol Llywodraeth Reform.

15:05
Darpariaeth Gwasanaethau Iechyd

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r dull o ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OQ63862

Cyhoeddwyd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd ledled Cymru, gan gynnwys etholaeth yr Aelod, ar gyfer y flwyddyn i ddod, i sefydliadau'r GIG yn fframwaith cynllunio GIG Cymru 2026-29. Disgwylir i holl sefydliadau'r GIG gyflwyno cynlluniau erbyn 31 Mawrth, gan ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau strategol hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach fe wnaethoch chi gyhuddo fy nghyd-Aelod o gamarwain, ond nid yw'n gamarweiniol ailddatgan y ffeithiau. Oherwydd y ffeithiau yw bod y bwrdd iechyd bellach wedi cadarnhau ei fod eisiau mynd â gwasanaethau cyffredinol brys o ysbyty Llwynhelyg yn fy etholaeth, ac mae hynny'n achosi pryder enfawr i fy etholwyr. Fel y dywedodd Samuel Kurtz, dyma'r diweddaraf mewn rhes hir o wasanaethau sydd wedi cael eu hisraddio neu eu canoli ymhellach i ffwrdd oddi wrth bobl sir Benfro, ac nid yw'n dderbyniol. Mae'n gorfodi cleifion i deithio ymhellach mewn sefyllfaoedd brys ac yn tanseilio adran damweiniau ac achosion brys allweddol yr ysbyty.

O dan adrannau 26 i 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gall Llywodraeth Cymru ymyrryd ac atal y bwrdd iechyd os yw eisiau. Felly, gallwch ymyrryd os ydych chi eisiau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n eich annog chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i wneud popeth yn eich gallu i atal y penderfyniad trychinebus hwn rhag cael ei wneud. O gofio na wnaethoch chi ateb cwestiwn cynharach, gadewch imi roi cynnig arall arni: a wnewch chi ymyrryd yn awr ar ran pobl sir Benfro i atal y penderfyniad hwn rhag cael ei weithredu, fel na fydd yn rhaid iddynt deithio ymhellach i gael llawdriniaeth gyffredinol argyfwng yn y dyfodol—gwnewch neu na wnewch?

Gadewch i mi fod yn glir: nid oeddwn am awgrymu bod y sylw camarweiniol a wnaeth yr Aelod blaenorol yn fwriadol; rwy'n gwneud pwynt am bwysigrwydd bod yn glir ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei gynnig, dyna i gyd. Cyfeiriodd yr Aelod atynt eto fel 'gwasanaethau cyffredinol argyfwng'. Nid dyna ydynt. [Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi gyfeirio ato fel 'gwasanaethau'. Fe wnaethoch chi gyfeirio ato fel 'gwasanaethau'. Llawdriniaeth gyffredinol argyfwng sy'n cael ei heffeithio, ac mae eisoes, fel y bydd yn gwybod yn dda—[Torri ar draws.] Fel y mae'n gwybod yn iawn, gwneir llai o lawdriniaethau cyffredinol eisoes yn Llwynhelyg nag yn y gorffennol, ac mae trefniadau eisoes ar waith, fel y gŵyr, i gludo cleifion o Lwynhelyg i Langwili.

Mae'n sôn am lai o wasanaethau yn Llwynhelyg. Mewn gwirionedd, rydym yn disgwyl gweld mwy o ofal wedi'i gynllunio yn Llwynhelyg, ac mae hynny'n rhan o ailgyfluniad ehangach o wasanaethau, gyda'r nod o sicrhau bod ei etholwyr yn gallu dibynnu ar wasanaethau mwy diogel, mwy effeithiol, ac mae'n amlwg ei fod eisiau gweld hynny hefyd. Ni fyddaf yn ymyrryd. Mae'n deall, rwy'n credu, fod y pwerau y cyfeiriodd atynt yn eithaf llym ac nad ydynt yn gysylltiedig â newidiadau unigol i wasanaethau. Ond yn bwysicach na hynny, proses yw hon. Rwy'n deall na fydd pawb yn hapus gyda'r canlyniad. Rwy'n deall hynny; mae hynny'n naturiol mewn unrhyw newid sylweddol i'r gwasanaeth. Ond mae'n gynnyrch ymgynghori sylweddol iawn a lefelau mawr iawn o ymgysylltu, ac awgrymiadau amgen gan y cyhoedd. Fe fydd yn cydnabod hefyd fod yna ymgysylltiad eithaf sylweddol â'r dewisiadau amgen hynny yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd wedi dod i'r canlyniadau hyn, hyd yn oed os nad yw'n eu cefnogi ei hun.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandawais yn ofalus iawn ar eich ymateb i'ch cwestiwn gan Paul Davies. Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr wythnos diwethaf hefyd i fwrw ymlaen â chynigion peryglus iawn, yn fy marn i, i israddio gwasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Nawr, o dan y newidiadau, byddai gwasanaethau strôc yn cael eu symud i ysbyty Glangwili, sy'n golygu y byddai pobl yn cael eu trosglwyddo i Fronglais yn gyntaf, yna'n symud i lawr i Langwili, sydd eisoes, fel y gwyddom, yn orlawn. Wrth gwrs, mae'n bwysig i aelodau'r teulu allu ymweld ag anwyliaid yn ystod eu hadferiad, a phe bai fy etholwyr sy'n byw mewn trefi fel Llanidloes neu Fachynlleth, dyweder, yn ymweld ag ysbyty Glangwili, byddai'n daith gyfan o bum awr. Mae'r hyn sydd yn y fantol yn llawer rhy bwysig i gael hyn yn anghywir, felly a gaf i ofyn i chi ymyrryd, Ysgrifennydd iechyd—ac rwy'n nodi bod y pwerau ar gael i chi, fel y nododd Paul Davies—i sicrhau nad yw cleifion Powys yn cael eu hanwybyddu, a bod mynediad at wasanaethau strôc hanfodol sy'n ddibynnol ar ymateb amserol i fy etholwyr yng ngogledd Powys?

15:10

Fe ailadroddaf y pwynt yn fyr. Y rheswm pam nad yw Gweinidogion yn ymyrryd yw oherwydd na all dewis gweinidogol yn y lle hwn elwa o ystod o ymgynghoriadau y bydd bwrdd iechyd lleol wedi'u hystyried. Dyna'r rhesymeg ar gyfer y ffordd y mae'r system wedi'i strwythuro. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw benderfyniad pendant wedi'i wneud mewn perthynas â Bronglais. Dyma un o'r enghreifftiau y cyfeiriais atynt yn fy ateb i Paul Davies, lle mae dau gynnig amgen yn cael eu hystyried i greu opsiwn newydd, os dymunwch, ac mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod y bydd angen gwaith pellach, gwell ymgynghori a chyfathrebu ar sut y gallai hynny weithio. Rwy'n gobeithio y bydd cyfle i'w etholwyr ac iddo ef ddylanwadu ar sut y gallai hynny ddatblygu.

Seilwaith Gofal Cymdeithasol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu seilwaith gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru? OQ63865

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, drwy fwrdd partneriaeth ranbarthol gogledd Cymru, i gefnogi datblygiad seilwaith iechyd a gofal cymdeithasol. Hyd yn hyn, mae'r gronfa cyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso a'r gronfa tai â gofal wedi buddsoddi dros £58 miliwn ar draws 35 o brosiectau yng ngogledd Cymru.

Diolch, Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o weld datblygiad Tŷ Croes Atti yn y Fflint, cartref gofal tri llawr 56 gwely sy'n darparu cyfuniad o ofal iechyd a gofal cymdeithasol o dan yr un to. A hefyd yn ddiweddar, cafodd Tŷ Marleyfield ei ymestyn, tua phum mlynedd yn ôl rwy'n credu, gyda gwelyau gofal canolraddol hefyd, sy'n bwysig iawn, yn union fel cael y gwelyau gofal canolraddol yn Ysbyty Brenhinol Alexandra; maent yn hynod werthfawr.

A yw'r Gweinidog hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i'r bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal cydgysylltiedig i bobl yn Nhŷ Croes Atti a'r holl safleoedd eraill hyn, er mwyn sicrhau bod gennym gyfleusterau sy'n addas ar hyn o bryd, ac yn addas ar gyfer y bobl a'r cymunedau sydd yn yr ardal honno? 

Yn hollol. A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn atodol hwnnw? Mae hi'n hollol iawn, wrth gwrs, ac roeddwn wrth fy modd yn mynd i Dŷ Croes Atti ddydd Llun a gweld y cyfleuster newydd gwych hwnnw drosof fy hun. I ddilyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am Ysbyty Brenhinol Alexandra, mae hon yn uned 56 gwely newydd sbon nad oedd ar y gweill na hyd yn oed wedi ei hystyried pan oedd Ysbyty Brenhinol Alexandria dan ystyriaeth yn wreiddiol. Felly, ie, efallai y bydd llai o welyau yn yr ysbyty, ond mae gennym 56 o welyau nawr yn yr ardal hon. [Torri ar draws.

Felly, mae gennym fuddsoddiad cyfalaf o £58 miliwn ar draws gogledd Cymru yn y system gofal cymdeithasol. Mae'n ymwneud â'r lleoliadau hynny, y math hwnnw o—[Torri ar draws.]

Ni allaf glywed yr ymateb gan y Gweinidog am fod gormod o sylwadau'n dod gan Aelodau ar eu heistedd. Hoffwn glywed yr ymateb gan y Gweinidog.

Mae'n amlwg, Ddirprwy Lywydd, nad ydynt eisiau clywed yr atebion mewn gwirionedd, dim ond gweiddi. Wel, os ydynt eisiau clywed yr atebion—

—awgrymaf eu bod yn cadw'n dawel ac yn gwrando ar yr atebion. Felly, y lleoliadau cam-i-lawr rydych chi'n siarad amdanynt, Carolyn, dyna yw'r bont hanfodol rhwng pobl sy'n gadael yr ysbyty a phobl sy'n mynd adref, a thynnu'r pwysau oddi ar wasanaethau ysbyty, fel y gallant gael cyfleuster cam-i-lawr lle gallant wella, gallant adennill y nerth sydd ei angen arnynt, a chaiff y pecynnau gofal eu rhoi yn eu lle wedyn yn barod iddynt fynd adref. A gwelwn hynny'n digwydd ar draws y wlad nawr.

Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gwella'n nes at adref. Dyna beth yw diben y Royal Alexandria, dyna beth yw diben Tŷ Croes Atti, dyna beth yw diben ein holl gyfleusterau newydd. Mae'n adeiladu gofal yn y gymuned, gan ddod ag ef yn nes at ble mae pobl yn byw. Dyna beth yw diben ein buddsoddiad, dyna beth yw diben y gwaith y buom yn ei wneud ar welliannau i oedi yn achos llwybrau gofal. Dyna beth yw diben y buddsoddiad o £30 miliwn y flwyddyn i adeiladu capasiti cymunedol, ac rydym yn dechrau gweld canlyniadau hynny. Ac un enghraifft yn unig yw Tŷ Croes Atti o nifer o'r mathau tebyg hyn o gyfleusterau a welwn yn datblygu ledled Cymru bellach.

15:15
Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc? OQ63871

Mae'n ddrwg gennyf, roedd angen i mi agor y meicroffon. Mae ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol pob oed 10 mlynedd, a gyhoeddwyd fis Ebrill diwethaf, yn amlinellu sut y byddwn yn gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys trawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl i ddarparu mynediad at gymorth ar yr un diwrnod a sut y gall pobl ifanc gael mynediad at y cymorth hwnnw.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fe wnaethoch chi ddweud yn ddiweddar fod pobl ifanc bellach yn cael cymorth iechyd meddwl yn gyflymach. Yn anffodus, cefais wybod am ferch ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol lle na ddigwyddodd hynny. Yn sgil cael ei siomi dro ar ôl tro gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, nid yw'n cael unrhyw gymorth iechyd meddwl o hyd am fod CAMHS yn gwrthod ymgysylltu neu fynd ar drywydd pryderon ei gwarcheidwad. Yn sgil cael ei siomi ymhellach gan yr awdurdod lleol, dim ond un awr o addysg y dydd y mae'n ei chael. Mae ei theulu wedi cael gwybod nad oes unrhyw leoedd AAAA, ac nid yw'r gweithwyr cymdeithasol wedi gallu darparu'r help sydd ei angen arni oherwydd pwysau llwyth gwaith. Yn sgil cael ei siomi gan ei hysgol gynradd, nid yn unig mae hi wedi aros dwy flynedd am atgyfeiriad ar gyfer cynllun datblygu unigol, mae hi bellach hanner ffordd drwy ddwy flynedd arall o aros am gynllun datblygu unigol. Weinidog, mae'r ferch ifanc hon yn 13 oed. Mae hi wedi methu gadael ei chartref ers dwy flynedd, mae hi bellach yn hunan-niweidio, ac nid yw wedi gallu cael addysg ysgol ers dros bedair blynedd. Weinidog, mae hon yn sefyllfa gywilyddus, felly beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad oes unrhyw unigolyn ifanc fel fy etholwr yn disgyn drwy'r craciau? 

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Natasha. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar achosion unigol heddiw. Fodd bynnag, rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd hynny gyda chi. Mae'n swnio fel pe bai hyn yn bendant yn mynd i alw am ddull amlasiantaethol o weithredu. Rwyf hefyd yn croesawu eich cwestiwn, oherwydd roedd hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos diwethaf, a'r thema oedd 'Dyma fy lle', ac roedd yn pwysleisio ymdeimlad o berthyn ac yn cyffwrdd â'r hyn a ddywedoch chi yno, oherwydd mae'n ymwneud â sut y mae angen y cysylltiad dynol hwnnw arnom i gyd, neu fel arall mae'n effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n haddysg a'n perthynas ag eraill. Rwyf hefyd yn aml yn cyfeirio at adroddiad iechyd meddwl 'Meddyliau Iau o Bwys' ein Senedd Ieuenctid Cymru ein hunain, ac roeddent hwy'n dweud, unwaith eto, mai llawer o'r rhesymau pam eu bod yn cael trafferth gydag iechyd meddwl yw gwaith ac arholiadau, perthynas â ffrindiau a theulu, a phori a chael eich targedu neu eich trolio ar y cyfryngau cymdeithasol, mater arall y gwn eich bod chi'n teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch.

Roeddwn eisiau dweud, wrth gwrs, fy mod yn hapus iawn i edrych ar yr achos unigol hwnnw, ond y bore yma, mae data mis Rhagfyr sydd wedi'i gyhoeddi yn dangos bod y mwyafrif helaeth—hynny yw, 94.3 y cant o bobl ifanc a atgyfeiriwyd at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol—wedi'u hasesu o fewn 28 diwrnod, a chyda'r targed amseroedd aros ar lefel Cymru gyfan yn cael ei gyflawni dros yr 20 mis diwethaf. Ond nid yn unig hynny, dechreuwyd 87 y cant o ymyriadau therapiwtig o fewn 28 diwrnod. Ac ar ddiwedd mis Rhagfyr 2025, cyflawnodd yr holl fyrddau iechyd y targed amseroedd aros am asesiad ar gyfer pobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol. Mae hynny'n dangos bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud mewn amseroedd aros therapiwtig yn dilyn yr asesiad, gyda'r targed yn cael ei gyflawni ar lefel Cymru gyfan yn ystod y ddau fis diwethaf.

Roeddwn eisiau cyffwrdd hefyd â gofynion allweddol eraill a oedd gan Senedd Ieuenctid Cymru. Roeddent eisiau siop un stop ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chymorth, ac roeddent eisiau mwy o leoedd yn y gymuned, hybiau cymorth lleol. Rwy'n credu o'r hyn rydych chi'n ei ddweud, y byddai eich etholwr hefyd yn elwa o'r rhain. Roeddwn eisiau tynnu sylw hefyd at y cynllun peilot 'dewis yn lle derbyn i'r ysbyty' a ariannwyd gennym yn rhan o Lywodraeth Cymru, sydd bellach ar fin cyhoeddi adroddiad ar ôl ymgynghoriad trylwyr iawn. Rwyf wedi bod yn y rhai yn y Barri a Chaerdydd, ac mae yna leoedd yn Abertawe hefyd. Mae'r rhain wedi gallu dangos eu bod yn ffynnu, gyda phlant yn gallu cael rhywle diogel i fynd, oedolion i allu cysylltu â nhw, ffocws a sylw, ac mae'n atal atgyfeiriadau i CAMHS. Rwy'n wirioneddol obeithiol nawr fod gennym y byrddau iechyd, fel y dywedoch chi, fod gennym yr awdurdodau lleol, addysg, byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn inni allu darparu'r mannau hynny, nid yn unig i blant a phobl ifanc, ond i'w rhieni hefyd.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 eiliad

Byddwn ni'n symud ymlaen at eitem 4, datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan Laura Anne Jones.

Diolch. Ffermwyr yw asgwrn cefn Cymru, felly mae'n hanfodol ein bod yn newid agweddau ac ymddygiad, a dyna pam rwy'n cefnogi'r ymgyrch Mind Your Head gan YellowWellies. Elusen fechan ledled y DU yw YellowWellies sy'n angerddol am newid agweddau ac ymddygiadau pobl mewn perthynas ag iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith y cenedlaethau nesaf o ffermwyr dan 40 oed. Oherwydd mae ffermio'n fwy na phroffesiwn, mae'n ffordd o fyw. Ond gall fod yn ynysig, mae'n ddiarbed ac mae'n ansicr. Mae rhai ystadegau syfrdanol y deuthum ar eu traws yn cynnwys y ffaith bod ffermwyr gwrywaidd yn y DU dair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ffermio sydd i gyfrif am 1 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio a 19 y cant o'r holl farwolaethau yn y gweithle. Yn 2024 yn unig, bu farw 47 o bobl drwy hunanladdiad yn y byd ffermio ac amaethyddiaeth yng Nghymru a Lloegr. Ac effeithiwyd ar fy nheulu ffermio fy hun gan ymgais i gyflawni hunanladdiad am i'r gwaith fynd yn rhy anodd ac yn ormod.

Mae YellowWellies a'u hymgyrch Mind Your Head yn ein hatgoffa bod gofalu am eich meddwl yr un mor bwysig â gofalu am eich stoc. Mae ymgyrch Mind Your Head 2026 yn canolbwyntio ar addysg, gwydnwch a thosturi. Nod eu hymgyrch yw torri'r distawrwydd ynghylch iechyd meddwl mewn amaethyddiaeth ac annog pobl i ofyn am gymorth. Mae modd atal hunanladdiad a gallwn ddysgu beth yw'r arwyddion, dechrau sgyrsiau a sefyll gyda'n gilydd. I bob gwirfoddolwr, pob un sy'n codi arian, pob person sy'n codi'r ffôn, diolch yn fawr. Rydych chi'n achub bywydau. Felly, gadewch inni adael y fan hon heddiw gydag addewid: i wneud yn siŵr fod ein ffermwyr yn iawn, cefnogi'r elusennau hanfodol hyn a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un sy'n gweithio ar y tir byth yn teimlo bod rhaid iddynt gario'r baich ar eu pen eu hunain. Diolch i'r Sefydliad Diogelwch Fferm ac i'r elusennau iechyd meddwl gwych sydd gennym yng Nghymru, fel y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol a'r Samariaid. Diolch.

15:20

Mae wedi bod yn destun balchder mawr i mi fod yn un o'r Aelodau hoyw agored cyntaf o'r Senedd pan gefais fy ethol yn 2016, ac wrth inni agosáu at ddiwedd Mis Hanes LHDT, roeddwn eisiau cofio am rywun sydd wedi chwarae rhan hanfodol yng ngorffennol a phresennol y gymuned LHDT yng Nghymru ac ar draws y DU. 

Bu farw Martyn Butler ar y penwythnos. Ganed Martyn yng Nghasnewydd a symudodd i Lundain yn y 1970au. Fel dyn hoyw, cyfarfu â Chymro arall, Terry Higgins, o Hwlffordd. Byddent yn mynd allan ar y sîn hoyw gyda'i gilydd, gan weithio yng nghlwb nos Heaven a dod yn ffrindiau. Terry Higgins oedd y person cyntaf i gael ei enwi yn y DU fel un a oedd yn marw o salwch sy'n gysylltiedig ag AIDS. Cefais y fraint yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog iechyd o fod gyda Martyn Butler pan wnaethom ddadorchuddio plac yn Hwlffordd ychydig wythnosau yn ôl i goffáu Terry Higgins. Siaradodd mor deimladwy am golli cymaint o ffrindiau, y cynnydd ar hawliau LHDT a'r datblygiadau mewn gofal, triniaeth ac atal HIV.

Pan fu farw Terry Higgins, ymunodd Martyn â chariad Terry, Rupert Whitaker, i sefydlu Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, i gefnogi pobl a oedd yn byw gydag AIDS ac i weithio ar atal trosglwyddiad HIV. Cynhaliodd Martyn yr ymgyrch godi arian gyntaf i'r ymddiriedolaeth, siaradodd mewn cynadleddau i hyrwyddo ei gwaith, ac yn rhyfeddol, defnyddiodd ei rif ffôn cartref fel y llinell gymorth AIDS gyntaf erioed. Roedd yn ymladdwr dros hawliau LHDT ac yn ymladdwr dros y rhai a oedd yn byw gyda HIV ac yn yr ymgyrch i atal trosglwyddiad, sy'n dwyn enw Ymddiriedolaeth Terrence Higgins hyd y dydd heddiw. Nid oes neb wedi gwneud mwy i fynd i'r afael â HIV yng Nghymru a'r DU nag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, ac nid oes neb wedi gwneud mwy i gefnogi'r ymddiriedolaeth na Martyn Butler. Roedd yn llais pwerus pan ysgrifennodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu ar gyfer HIV, ac mae'n ddyletswydd arnom i gyflawni'r uchelgais a rannwyd gennym i roi diwedd ar achosion newydd o HIV a bod y wlad gyntaf i wneud hynny.

Diolch i chi eich dau. Nesaf, mae cyfres o gynigion ar gyfer newid Rheolau Sefydlog.

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau

Eitem 5 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar gategorïau o Aelodau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM9168 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog o ran trothwyon. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM9171 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau Gwleidyddol a Grwpiadau

Eitem 7 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar grwpiau gwleidyddol a grwpiadau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM9170 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau gwleidyddol a grwpiadau (Rheolau Sefydlog 1.3 ac 11.3)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Dirprwy Lywydd ychwanegol

Eitem 8 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar Ddirprwy Lywydd ychwanegol. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM9167 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Dirprwy Lywydd ychwanegol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15:25

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor

Eitem 9, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, rhannu swydd Cadeirydd pwyllgor. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM9169 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Ni fydd yn sioc fawr y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn y prynhawn yma. Rwyf wedi gwneud barn fy ngrŵp yn glir yn nhrafodaethau'r Pwyllgor Busnes ar y mater hwn. Credwn y dylai'r model Cadeirydd ac Is-gadeirydd fod wedi cael ei ystyried yn gyntaf cyn edrych ar yr opsiwn penodol hwn.

Credwn na fydd rhannu swyddi Cadeiryddion pwyllgorau o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau gwell i bwyllgorau'r Senedd, nac yn cyflawni craffu gwell ar Lywodraeth Cymru. Nid yw fy nghyd-Aelodau a minnau'n credu bod unrhyw awydd cyhoeddus am y newid hwn. Rydym yn pryderu y gall Aelodau sy'n dewis rhannu rôl Cadeirydd pwyllgor wynebu heriau ymarferol sylweddol gyda hyn.

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fod yn Gadeirydd pwyllgor, ac rwy'n deall y pwysau a'r cyfrifoldebau sy'n dod gyda'r rôl honno. Yn fy mhrofiad i, ni fyddai'r pwysau'n cael ei leihau drwy rannu'r gadeiryddiaeth gydag Aelod arall. Mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r gwrthwyneb sy'n wir.

Mae nifer o gymhlethdodau a all godi o ganlyniad i rannu rôl Cadeirydd pwyllgor—er enghraifft, penderfynu pwy sy'n llofnodi gohebiaeth a dogfennau swyddogol ar ran y pwyllgor, neu pwy sy'n gyfrifol am gadeirio ymchwiliadau penodol a chyfarfodydd penodol. Credaf y gallai materion fel hyn arwain at wahaniaeth barn. Gallent hefyd greu system lle gall un Cadeirydd ysgwyddo mwy o waith na'r llall, a gallai greu gwaith ychwanegol diangen i glercod pwyllgorau. 

Mae'r papur sy'n cyd-fynd â'r cynnig hwn yn darparu rhai canllawiau ar sut y gallai rhannu swydd Cadeirydd weithio, ond ni all gyfrif am realiti'r natur ddynol a rhyngweithio. O ganlyniad, credaf y bydd sefyllfaoedd yn codi lle gallai fod gwrthdaro rhwng dau Gadeirydd sy'n rhannu swydd, a thrwy basio'r cynnig hwn, byddai'r Senedd yn creu'r amodau i'r sefyllfaoedd hyn ddatblygu.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i feddwl o ddifrif am yr ymarferoldeb a'r heriau sy'n gysylltiedig â rhannu swyddi Cadeirydd pwyllgor. Yn gyntaf oll, dylem ystyried modelau eraill, mwy ymarferol, fel y model Cadeirydd ac Is-gadeirydd. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn y prynhawn yma.

Ni fydd Reform UK yn cefnogi model rhannu swydd Cadeirydd pwyllgor, am y rheswm syml fy mod yn aelod o bwyllgor yn y Senedd a oedd â sefyllfa Cyd-gadeirydd, a gallaf ddweud o brofiad personol nad oeddwn yn gweld ei fod yn gweithio'n dda iawn. Fe wneuthum ddarganfod y gallai greu problemau. Gallai greu gwahaniaeth barn—[Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau gwneud sylw, Lee, awgrymaf eich bod chi'n gofyn am gael siarad.

Beth bynnag, Ddirprwy Lywydd, ni fyddaf yn cefnogi hyn oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn gweithio yn ymarferol. Efallai y bydd gan un Cadeirydd farn wahanol i'r llall. Efallai y bydd gennym wahaniaeth barn ar lwyth gwaith. Efallai y bydd rhai Cadeiryddion yn gwneud mwy nag eraill, ac rwy'n credu y bydd hynny'n creu gwahaniaeth o fewn y pwyllgor, ac nid yw hynny'n fuddiol. Rwy'n credu y dylid edrych ar fodelau eraill cyn i ni symud at hyn. Diolch.

Er eglurder, James, fe wnaethoch chi sôn am Gyd-Gadeiryddion, ond rhannu swydd yw hyn. Mae gwahaniaeth, o'r gorau.

Y Llywydd i ymateb i'r ddadl.

Rydych chi newydd wneud fy mhwynt cyntaf ar fy rhan, Ddirprwy Lywydd.

Yn union. I ymateb i James Evans yn gyntaf, nid co-chairing, yn debyg i'r hyn a wnaethpwyd ar y pwyllgor COVID, yw hwn, ond rhannu swydd gadeirio. Mae hefyd yn y Rheolau Sefydlog heddiw y byddai'r ddau Gadeirydd, neu'r rhai sy'n rhannu swydd y Cadeirydd, yn dod o'r un blaid wleidyddol. Mae'r gofyniad yna yn y Rheolau Sefydlog. Felly, nid y model Co-chair sydd o'n blaenau ni heddiw.

Jest i ymateb i Paul Davies wedyn, ac i roi rhyw gymaint o'r cyd-destun, fe gafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth ar nifer o'r pwyntiau yr oedd Paul Davies yn eu codi. Wedyn, mi oedd yna aelodau o'r Pwyllgor Busnes a oedd hefyd yn credu bod yr hyblygrwydd yr oedd y model o rannu swydd yn ei roi ar gyfer unigolion sy'n cael eu hethol i'r Siambr yma, i ddenu ystod ehangach o bobl, o bosibl, i fod yn meddwl am rôl gadeirio a rhannu swydd gadeirio—fod hynny, yn ei hun, yn cynnig cyfleoedd ychwanegol ac yn ymestyn y pwll yna o bobl a fyddai yn ystyried eu hunain fel darpar Gadeiryddion.

Ond oherwydd bod hwn yn dir newydd inni, dyna pam mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi penderfynu, yn y Rheolau Sefydlog, i dreialu hyn am gyfnod y Senedd nesaf. Bydd y treial yn dod i ben yn ffurfiol, yn ôl y Rheolau Sefydlog, ar ddiwedd y Senedd. Rŷn ni'n ei gyfyngu hefyd i dri phwyllgor yn unig. Wrth gwrs, y backstop mwyaf yw taw y Senedd newydd sy'n cael ei hethol ym mis Mai fydd yn penderfynu pa Gadeirydd fydd pob pwyllgor yn eu hethol. Os oes yna ymgeiswyr sydd yn rhoi eu hunain ymlaen i rannu swydd Cadeirydd, a dau ymgeisydd yn gwneud hynny, ac os nad yw'r Senedd yn ei chyfanrwydd wedi cael ei pherswadio o'r ffaith fod y model yna a'r ddeuawd yna yn cynnig yr hygrededd sydd ei angen ar y swydd, yna bydd yn Senedd yn penderfynu a ydi hi'n cefnogi'r ymgeisyddiaeth yna ai peidio. 

Felly, o ran nifer y pwyntiau y mae Paul Davies wedi eu codi—a dwi'n cydnabod eu cryfder nhw fel pwyntiau—mae yna atebion iddyn nhw, ac mae gan y Senedd yma y penderfyniad terfynol. Oherwydd yr hyn sy'n bwysig, a rhywbeth rŷn ni wedi elwa ohono yn ystod y Senedd ddiwethaf yma, yw taw y Senedd sydd yn penderfynu ac yn ethol Cadeiryddion y lle yma. Nid apwyntiadau ydyn nhw bellach, ond penderfyniadau'r Senedd. Felly, bydd hynny mor wir p’un ai ydy'r ymgeisyddiaeth yn rhannu swydd Cadeirydd neu yn un ymgeisydd yn unig.

Felly, y Senedd piau'r penderfyniad ar y Rheolau Sefydlog yma heddiw, nes ymlaen wrth bleidleisio, a hefyd ar bwy fydd y Cadeiryddion yna i'r pwyllgorau maes o law.

15:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohirir y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Teithio Llesol yng Nghymru'

Eitem 10 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Teithio Llesol yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood.

Cynnig NDM9153 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Deithio Llesol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae Teithio Llesol yn rhan annatod o uchelgais Llywodraeth Cymru am Gymru iachach a mwy cynaliadwy. Felly, roedd yn addas iawn fod y pwyllgor wedi cael y cyfle i graffu ar gynnydd dros ddegawd ar ôl pasio Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac yn dilyn gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru yn y maes hwn. Mae'r pwyllgor yn cydnabod ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn, gyda phob argymhelliad naill ai wedi'i dderbyn neu wedi'i dderbyn mewn egwyddor, ac mai mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd bwrw ymlaen â'r materion hyn.

Fodd bynnag, mae'r defnydd parhaus o'r term 'derbyn mewn egwyddor' yn parhau i beri pryder i'r pwyllgor. Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol blaenorol ymrwymiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ym mis Ionawr 2018, i ddod â'r arfer hwn i ben, yng ngoleuni pryderon yr Aelodau nad oedd 'derbyn mewn egwyddor' yn ymateb digonol. Rydym yn ailadrodd y safbwynt hwn. Dylid nodi hefyd y dywedwyd wrthym mewn cyfarfod yng nghynhadledd Rhwydwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 7 Tachwedd 2025 yn Jersey, a fynychais, fod ymateb o'r fath yn anarferol iawn neu ddim yn bodoli mewn awdurdodaethau ar draws Rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fyfyrio ar y dull hwn o weithredu. Roeddent yn synnu'n fawr, a dweud y lleiaf, ein bod yn dal i ddefnyddio'r hyn a ystyrient yn arfer hynafol.

Rhoddodd ein hymchwiliad ystyriaeth i ganfyddiadau'r archwilydd cyffredinol, gwaith y bwrdd teithio llesol a thystiolaeth a gyflwynwyd gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol, elusennau a chyrff cyhoeddus eraill. Roedd yn amlwg i'r pwyllgor, er y bu llwyddiannau gyda mwy o fuddsoddiad a chynnydd amlwg gyda seilwaith, fod heriau sylweddol yn parhau ac yn cael eu gwaethygu gan gyfyngiadau capasiti, diffyg data cadarn i gefnogi cyflawniad a diffyg ffocws ar newid diwylliannol ac ymddygiadol.

Roedd y pwyllgor yn ffodus i ymweld â Slofenia yn rhan o'n hymchwiliad i ddysgu am y llwyddiannau a'r heriau mewn cenedl o faint, cyfoeth a thopograffi tebyg i Gymru. Er y cafwyd llwyddiannau yno, yn ogystal â mwy o dderbyniad diwylliannol i newid i ddulliau teithio mwy llesol, roedd yn amlwg fod gwersi i'w dysgu hefyd ynglŷn â’r hyn nad yw wedi gweithio. Cawsom y fraint o gyfarfod â seneddwyr Slofenia, arbenigwyr teithio llesol sy'n gweithio yn Asiantaeth Ddatblygu Ranbarthol Ljubljana a chynrychiolwyr awdurdodau lleol llai, i ddysgu mwy am eu profiadau, eu llwyddiannau a'u heriau. Roedd yn amlwg fod llwyddiannau yn Slofenia wedi'u cyflawni drwy gymysgedd o gamau gweithredu lleol, gyda chefnogaeth arbenigedd ac adnoddau cyrff cyflawni rhanbarthol, sefydliadau anllywodraethol cenedlaethol ac arbenigwyr. Er bod nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol yn uchelgeisiol, mae'n amlwg nad yw'r newid wedi digwydd yn ddigon cyflym. Clywodd y pwyllgor am y cyfyngiadau capasiti sy'n wynebu awdurdodau lleol a'r darlun cymysg ledled y wlad, gydag awdurdodau mwy o faint a mwy trefol yn elwa o arbenigedd ac adnoddau nad ydynt ar gael i awdurdodau llai o faint a mwy gwledig.

Mae'r cyfyngiadau capasiti hyn yn cael eu gwaethygu gan setliadau cyllido tymor byr, heb fawr ddim sicrwydd ar gyfer prosiectau teithio llesol mwy hirdymor. Mae hefyd yn amlwg nad yw'r cydbwysedd rhwng cyllid cyfalaf a refeniw wedi'i farnu'n gywir, gan arwain at adnoddau annigonol i gyflawni cynlluniau newid ymddygiad sy'n hanfodol i gyd-fynd â buddsoddiad gwariant cyfalaf.

Rhaid i Lywodraeth Cymru, neu Lywodraeth nesaf Cymru, fynd i'r afael ar unwaith ag argymhelliad 2 y pwyllgor ar flaenoriaethu setliadau aml-flwyddyn, oherwydd heb y cyfuniad cywir o gyllid cyfalaf a refeniw, gyda sicrwydd i bartneriaid cyflawni, ni fydd modd cyflawni nodau teithio llesol Llywodraeth bresennol Cymru.

Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, a'r cyfyngiadau sy'n eu hatal rhag derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn, gan gynnwys y cyfyngiadau cyllidebol heriol sy'n wynebu pob lefel o Lywodraeth. Fodd bynnag, canfuom y byddai cyllid aml-flwyddyn yn arwain at ddyrannu gwariant yn fwy effeithiol, ac y gallai arwain at fanteision hirdymor sylweddol.

Gallai gwariant fod yn fwy strategol, gan fynd i'r afael â phroblemau capasiti a chefnogi mentrau a ariennir gan refeniw a fyddai'n gwneud y pecyn buddsoddi cyffredinol yn fwy effeithiol. Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am y newid i ddull mwy rhanbarthol o gyflawni drwy gyd-bwyllgorau corfforedig a chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Teimlai'r pwyllgor y byddai hyn, os caiff ei wneud yn effeithiol, yn helpu i liniaru'r cyfyngiadau capasiti mewn rhai rhannau o'r wlad. Fodd bynnag, mae'n dal yn bwysig fod y cyllid yn gytbwys rhwng cyfalaf a refeniw, ac ar sail aml-flwyddyn.

Fel y nodwyd yn gynharach, ni fu digon o ffocws ar newid ymddygiad, ac roedd y pwyllgor o’r farn fod angen negeseuon cenedlaethol, wedi’u cyflwyno ar y cyd gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a’u cydgysylltu drwy Lywodraeth Cymru. Mae angen gwneud hyn ar sail drawsadrannol, gyda negeseuon cyson wedi’u llunio gan arbenigwyr yn y maes, gyda chefnogaeth rhanddeiliaid.

Ein hargymhelliad 4—mae hwn yn galw am ymgysylltu helaeth a chyfranogiad pobl leol, o'r cyfnod cynllunio hyd at gyflawni'r gwaith. Roedd diddordeb gennym yn y cysyniad o drefi dangosol yn cael eu treialu gan Lywodraeth Cymru, yn unol â'r cynllun cyflawni teithio llesol. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru rannu canlyniad y gwaith gwerthuso hwn yn dilyn y cynllun peilot gwreiddiol yn y Drenewydd.

Argymhelliad 5—os ystyrir bod y rhaglen yn llwyddiant, roeddem yn teimlo y gallai fod cyfiawnhad dros ei hehangu i rannau eraill o Gymru.

Yn Kamnik, yn Slofenia, clywsom am werth profi ymyriadau ar sail dros dro cyn eu hymgorffori ar sail fwy parhaol ar ôl gwerthuso eu llwyddiant. Arweiniodd y dull hwn at fwy o gefnogaeth gymunedol i ymyriadau teithio llesol, gan fod trigolion yn teimlo eu bod yn rhan o'r broses gynllunio ar lefel ymarferol. Gallai dull y trefi dangosol arwain at lwyddiant tebyg yng Nghymru.

Cytunodd y pwyllgor â'r archwilydd cyffredinol nad yw ymrwymiadau a strategaethau cenedlaethol wedi'u rhoi ar waith bob amser wrth wneud penderfyniadau lleol, yn bennaf oherwydd y cyfyngiadau capasiti a grybwyllwyd uchod.

Bydd rôl Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi cyd-bwyllgorau corfforedig yn hanfodol a dylai helpu i fynd i'r afael â rhai o'r cyfyngiadau capasiti sy'n rhwystro cynnydd, a darparu ysgogiad cenedlaethol i gyflawni. Er bod gwaith Trafnidiaeth Cymru yn y maes hwn yn ei ddyddiau cynnar o hyd, gallai eu rôl yn y dyfodol fod yn drawsnewidiol ac arwain at ddull tebyg i'r un a welsom yn Slofenia, lle roedd partneriaid cyflawni rhanbarthol, gyda mewnbwn lleol cryf, yn defnyddio arbenigedd cenedlaethol i gyflawni prosiectau teithio llesol. Dylai'r bwrdd teithio llesol chwarae rhan hanfodol yn cefnogi Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r cyd-bwyllgorau corfforedig.

Roedd yn galonogol clywed bod y berthynas waith â Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn, ac mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd hyn yn parhau i'r dyfodol. Clywsom fod Llywodraeth Cymru i fod i adolygu rôl y bwrdd teithio llesol yn y gwanwyn a gofynnwn i ganlyniad yr adolygiad hwn gael ei rannu â'r pwyllgor a fydd yn olynu’r pwyllgor hwn—argymhelliad 1.

Roeddem yn cytuno â'r archwilydd cyffredinol fod prosesau casglu data wedi bod yn annigonol, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad cyfalaf yn gyffredinol. Felly, gobeithir y gall yr arolwg teithio cenedlaethol newydd helpu i fynd i'r afael â rhai o'r bylchau hyn, ac mae'n hanfodol bwysig fod cyllid ar gyfer yr arolwg hwn yn cael ei glustnodi i sicrhau bod set ddata hirdymor ar waith a fydd yn caniatáu gwerthuso a chymharu ystyrlon.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gymhellol am y rhwystrau a wynebir gan deithwyr agored i niwed sydd, yn rhy aml, yn ymdopi â llwybrau anhygyrch ac anaddas. Caiff y problemau hyn eu gwaethygu gan arferion ymgynghori annigonol wrth lunio cynlluniau. Er enghraifft, mae Age Cymru wedi tynnu sylw at yr angen am ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon â thrigolion, gan gynnwys oedolion agored i niwed a grwpiau sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig. Ac amlygodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru ddiffyg ymgysylltiad ystyrlon â phobl anabl, gan gynnwys pobl ddall a phobl sy'n gweld yn rhannol, oherwydd cynlluniau, gwefannau a dogfennau ymgynghori anhygyrch. Er mwyn i deithio llesol fod yn wirioneddol hygyrch, rhaid i leisiau teithwyr agored i niwed gael lle canolog wrth gynllunio a chyflawni—argymhelliad 6.

Argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ôl-osod llwybrau presennol annigonol lle bo angen, adolygu eu canllawiau cynllunio i adlewyrchu eu pryderon a sicrhau bod y dull ymgynghori'n fwy ystyrlon yn y dyfodol—argymhelliad 3.

Yn fwy cyffredinol, clywsom dystiolaeth gan sawl rhanddeiliad nad oedd llwybrau teithio llesol bob amser yn cael eu datblygu yn yr ardaloedd mwyaf priodol. Clywsom dystiolaeth hefyd am lwybrau teithio llesol newydd nad oeddent wedi'u hintegreiddio'n ddigonol â llwybrau neu seilwaith presennol, gan lesteirio newid i ddulliau teithio a chan olygu nad oedd datblygiadau newydd â bwriadau da yn cael cymaint o effaith â phosib.

Er ein bod yn falch o glywed gan Trafnidiaeth Cymru fod gwelliant yn y maes hwn, gyda chymorth offeryn blaenoriaethu newydd, mae'r pwyllgor yn credu y byddai ailwerthuso mapiau'r rhwydwaith teithio llesol yn nodi cyfleoedd ar gyfer cynlluniau llai a fyddai'n helpu i integreiddio llwybrau'n well a hwyluso'r math o newid i ddulliau teithio y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau. Gallai hyn gynnwys myfyrio ar ble y gellir gwneud llwybrau'n fwy cynhwysol i deithwyr agored i niwed, yn ôl-weithredol, fel y nodwyd yn flaenorol.

Yn olaf, nodwn fod adolygiad ôl-weithredol o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru a'i rannu â'r pwyllgor y bore yma. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r adolygiad ac yn edrych ymlaen at ei adolygu'n fanwl mewn cyfarfod sydd i ddod. Er nad ydym wedi cael cyfle eto i ystyried yr adolygiad yn fanwl wrth gwrs, mae'n dda fod yr adolygiad yn cydnabod rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig â gofynion monitro ac adrodd y Ddeddf, sydd wedi arwain at fylchau mewn data. Roedd hyn yn gyson â'n canfyddiadau, ac roedd yn galonogol fod yr adolygiad yn ailadrodd pwysigrwydd arolwg teithio cenedlaethol Cymru i fynd i'r afael â'r bylchau hyn. Mae'r adolygiad yn cydnabod, yn gywir ddigon, er bod cynnydd wedi'i wneud ers cyflwyno'r Ddeddf, mai dim ond dechrau taith hirach yw hyn.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad, a byddwn yn myfyrio ar y materion hyn ymhellach, fel rhan o'n gwaith etifeddol, er mwyn sicrhau bod y pwyllgor sy'n ein holynu yn parhau i graffu ar gynnydd yn y maes polisi pwysig hwn. Mae'r dasg o'n blaenau'n sylweddol, ond gydag ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru a gwaith partneriaeth gwirioneddol, gall Cymru gyflawni ei gweledigaeth i ddod yn genedl teithio llesol sy'n gweithio i bawb. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ar y mater hwn yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

15:40

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, er imi gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad, a chredaf fod y Cadeirydd, yn ddefnyddiol iawn, wedi crynhoi'r argymhellion, a chredaf eu bod yn synhwyrol, er braidd yn siomedig. Rwy'n credu bod argymhellion adroddiad Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus braidd yn bedestraidd, os caf ei roi felly. O ystyried faint o waith craffu a wnaed dros gyfnod hir iawn gan Archwilio Cymru, roedd yr argymhellion yn eithaf amlwg ac yn ddi-uchelgais, ac nid ydynt yn mynd i'r afael â maint yr her a grëir wrth roi'r targedau teithio llesol ar waith, gan fod hwn yn ei hanfod yn brosiect o newid diwylliannol, sy'n anodd ar y gorau ac yn arbennig o anodd ym maes trafnidiaeth. Pam y mae hyn yn bwysig? A dweud y gwir, nid wyf yn malio dim am feicio—mae'n fodd o gyrraedd nod. I mi, mae a wnelo â sut y cyflawnwn ein targedau newid hinsawdd, sut yr awn i'r afael â'r epidemig gordewdra. Ac mae'r rhain yn heriau lefel uchel, ac mae hyn yn beth ymarferol y gallwn ei wneud i sicrhau cynnydd tuag at y ddau nod hynny. Ond mae sicrhau'r cynnydd hwnnw'n mynd yn groes i arferion a chonfensiynau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn dros 70 mlynedd. Ac mae wedi bod yn her dros y 15 mlynedd diwethaf neu fwy o fy mywyd proffesiynol i geisio gwneud rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth. Ac mae cynnydd wedi'i wneud, ac mae'r adroddiad yn nodi'r cynnydd mewn gwariant a'r cynnydd yn y ddarpariaeth seilwaith.

Ond mae hwn yn brosiect aml-genhedlaeth, ac ni chredaf fod lefel yr ymateb, naill ai gan y pwyllgor neu gan y Llywodraeth, yn y datganiad ysgrifenedig, neu yn yr ymateb i adroddiad y pwyllgor, yn ymgysylltu'n iawn â'r lefel honno o her. Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy siomi'n fawr gan benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i israddio rôl Trafnidiaeth Cymru yn creu'r ecosystem hon. Mae'n dymuno datganoli cyfrifoldeb a chyllid i'r cyd-bwyllgorau corfforedig, nad wyf yn anghytuno ag ef mewn egwyddor, ond pan fyddwch yn ceisio cyflawni rhaglen o newid mor sylweddol, mae angen ichi gael ysgogiadau i sicrhau eich bod yn mynd i'r afael â'r diwylliant confensiynol sy'n bodoli mewn awdurdodau lleol. Ac mae'r ysgogiadau hynny wedi'u colli gyda'r newid hwn ac nid oes rhai wedi'u darparu yn eu lle, sy'n gamgymeriad sylweddol yn fy marn i. Ac rwy'n credu ei bod yn eithaf eironig, yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma, sef yr adolygiad statudol o'r Ddeddf teithio llesol, mai un o'r pwyntiau cynnydd a nodwyd oedd darpariaeth cronfa teithio llesol. Wel, mae hynny wedi'i ddiddymu gan Ysgrifennydd y Cabinet, felly yma mae gennym ddatganiad yn dathlu ei effaith gan gael gwared arno ar yr un pryd, a heb unrhyw fframwaith gwirioneddol ar waith heblaw am fframwaith o dargedau i'r cyd-bwyllgorau corfforedig gyrraedd targed cyffredinol strategaeth drafnidiaeth Cymru ar gyfer newid dulliau teithio, ond heb unrhyw ysgogiadau gwirioneddol, fel y dywedaf, i'w dwyn i gyfrif i wneud hynny.

Gwyddom o'r arferion a welsom dros 20 mlynedd fod awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd iawn ymdrin â'r agenda hon, ac mae llawer o'r arian—. Rwy'n credu y byddai gennyf lawer o gydymdeimlad â rhai o'r rheini sy'n beirniadu faint o arian sy'n cael ei wario ar deithio llesol o gymharu â'r canlyniadau a welwyd gennym, a hynny oherwydd y ffordd y caiff rhai o'r cynlluniau hyn eu rhoi ar waith. Rydym wedi colli, ac ni chawsom erioed yn y lle cyntaf, y sgiliau, y capasiti a'r gallu mewn awdurdodau lleol neu'r Llywodraeth ganolog i ddatblygu'r agenda hon. Ac felly, pan gyflwynir arian, yn aml mae gennych gynlluniau sy'n barod iawn i wario arian, ond nid ydynt yn ymgysylltu'n iawn â'r newid anodd sydd ei angen. Felly, er enghraifft, yn hytrach nag adeiladu llwybr sy'n cael gwared ar le ar y ffordd i blant deithio i'r ysgol o'r ystad agosaf, a fyddai'n cael effaith sylweddol, yn aml iawn byddai awdurdod lleol yn fwy parod i adeiladu pont fawr, sy'n costio llawer o arian, ond sy'n brosiect peirianneg sifil mawreddog, neu i adeiladu llwybr ger ffordd brysur, gan mai nhw sy'n berchen ar y lle ac nid ydynt yn mynd i gael cynifer o wrthwynebiadau.

Rwy'n deall hyn, ac nid wyf yn ceisio beirniadu awdurdodau lleol yn ormodol, ond dyna realiti'r diwylliant y maent yn gweithredu ynddo, y gofod diwylliannol y maent yn gweithredu ynddo, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth ar hyn o bryd i herio hynny'n gadarn. Fe ddechreuodd Trafnidiaeth Cymru wneud hynny, ac mae wedi rhoi'r gorau iddi bellach, a chredaf fod hynny'n gamgymeriad mawr iawn, ac nid yw'n ateb sut y cyflawnwn yr addewidion sero net yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn y gyfraith. Dywedai'r gyllideb garbon sero net ar gyfer 2021 i 2025 y byddai teithio llesol fel cyfran o ddulliau teithio yn codi o 27 y cant i 33 y cant erbyn 2030, ond mae'r gallu i wneud hynny wedi'i wanhau bellach gan y Llywodraeth.

Felly, rwy'n falch fod y craffu wedi'i wneud. Roedd yn hen bryd gwneud hynny. Mae angen inni barhau i graffu. Mae'n brosiect aml-genhedlaeth. Rwy'n ofni bod rhethreg y Llywodraeth a realiti'r hyn y maent wedi bod yn ei wneud yn mynd i ddau gyfeiriad gwahanol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd nesaf yn parhau i graffu a rhoi pwysau ar y maes pwysig hwn.

15:45

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn, ac mae'n destun cryn bryder, fwy na degawd ar ôl y Ddeddf teithio llesol, nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud tuag at y targed o 45 y cant o ddulliau teithio cynaliadwy erbyn 2040.

Mae newid i ddulliau trafnidiaeth mwy gwyrdd, fel teithio llesol, yn hanfodol os ydym am gyrraedd sero net, ac mae'n amlwg fod y Llywodraeth hon yn tanberfformio yn y maes hwnnw. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir ein bod yn dal yn brin o ddata cadarn ar ganlyniadau, a heb dull ystyrlon o fesur newid ymddygiad ac ansawdd y rhwydwaith, mae'n anodd asesu a yw'r buddsoddiad cyhoeddus yn darparu gwerth am arian mewn gwirionedd. Rhaid i wariant cyhoeddus ar deithio llesol fod yn strategol ac yn effeithiol. Dylid mesur llwyddiant nid yn unig yn ôl faint sy'n cael ei wario, ond yn ôl faint yn rhagor o bobl sy'n cerdded, yn olwyno neu'n beicio'n hyderus. Mae darparu trafnidiaeth drwy fodel rhanbarthol i'w groesawu er mwyn sicrhau bod cymunedau ledled Cymru wedi'u cysylltu. Fodd bynnag, rwyf wedi mynegi pryderon fod y ffaith bod y Llywodraeth yn newid i'r model hwn wedi golygu nad yw cyllid teithio llesol wedi'i glustnodi mwyach, sy'n golygu y gallai'r ddarpariaeth honno gael ei thanseilio, a byddwn yn parhau i fonitro hyn wrth i bethau symud yn eu blaenau.

Mae'r pwyllgor yn iawn i alw am gyllid aml-flwyddyn hirdymor ac arweinyddiaeth ganolog gryfach. Mae cylchoedd cyllido tymor byr o bob adran yn y Llywodraeth hon wedi llesteirio prosiectau seilwaith, cynyddu costau a chyfyngu ar uchelgais dro ar ôl tro. Rhaid i hygyrchedd fod yn ganolog i'r ddarpariaeth. Fel y dywed yr adroddiad, rhaid i seilwaith teithio llesol weithio i bawb, yn enwedig pobl anabl a thrigolion hŷn. Yn ddiweddar, clywais gan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall am achosion lle mae lonydd beicio sydd wedi'u cynllunio'n wael wedi ei gwneud hi'n anos i bobl ddall a phobl sy'n gweld yn rhannol gyrraedd safleoedd bws yn ddiogel. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio cynhwysol o'r cychwyn cyntaf. Bydd sicrhau cynrychiolaeth briodol i bobl anabl a defnyddwyr gwasanaethau mewn penderfyniadau cynllunio yn helpu i sicrhau bod hygyrchedd a chynaliadwyedd yn mynd law yn llaw.

Mae diogelwch hefyd yn bryder cynyddol. Mae ymchwil yn dangos bod menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o osgoi trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd ofnau ynghylch diogelwch. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu’n gyson ar y mater hwn, ac mae fy nghyd-Aelod Delyth Jewell wedi cyflwyno cynigion yn ystod y tymor hwn i wella diogelwch ar draws ein system drafnidiaeth. Ni ddylid trin mesurau gan gynnwys teledu cylch cyfyng ar drafnidiaeth gyhoeddus, goleuadau cyhoeddus gwell, gan gynnwys mewn arosfannau a gorsafoedd, hyfforddiant staff a systemau adrodd mwy cyson fel pethau dewisol. Maent yn hanfodol i feithrin hyder y cyhoedd. Mae gormod o bobl yn cael eu hatal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu lwybrau teithio llesol am eu bod yn teimlo’n anniogel.

Yn olaf, ni all teithio llesol fodoli ar ei ben ei hun. Mae Plaid Cymru'n credu mewn darparu system drafnidiaeth wirioneddol integredig. Rhaid cysylltu rhwydweithiau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon wedi methu ei gyflawni. Diolch yn fawr.

15:50

Rwyf innau'n croesawu'r adroddiad hwn. Dyma ganlyniad cyfres o adroddiadau, gan ddechrau gydag adolygiad o'r Ddeddf teithio llesol yn 2022 gan y grŵp trawsbleidiol ar y Ddeddf honno, a gadeirir gennyf i. Arweiniodd yr adolygiad hwnnw at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae gennym bellach farn y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus ar sut y gallwn wneud i'r ddeddfwriaeth lwyddo.

Mae'n Ddeddf sy'n agos at fy nghalon, gan mai fi oedd y Gweinidog a aeth â hi drwy'r Cynulliad, ar y pryd, yn ôl yn 2012. Rwy'n credu y dylai teithio llesol fod yn rhan flaenllaw o Gymru gynaliadwy. Os caiff ei rhoi ar waith yn iawn, y ddeddfwriaeth yw'r cydymaith delfrydol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan fod cerdded a beicio'n cyfrannu at bob un o'r saith nod cenedlaethol pan fyddant yn digwydd yn lle teithiau yn y car. Yn y pen draw, ac yn anffodus, fel y mae pob adroddiad ar y Ddeddf wedi'i gadarnhau, nid yw'r gweithrediad wedi bod cystal ag y dylai. Fel gyda phob ymyrraeth bolisi, mae cyllid yn allweddol, ac ers 2018, mae gan Gymru gronfa teithio llesol bwrpasol wedi'i chlustnodi. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae'r gronfa honno wedi cyrraedd y ffigur blynyddol y dywedodd y Senedd fod ei angen er mwyn inni wireddu ein huchelgeisiau teithio llesol—£20 y pen o'r boblogaeth. O ganlyniad i hyn, roedd cynnydd gwirioneddol yn dechrau cael ei wneud. Fodd bynnag, credaf fod y cynnydd hwnnw dan fygythiad difrifol bellach. Rwy'n cytuno'n gryf â chasgliad cyntaf y pwyllgor fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod dyraniadau cyllido ar gyfer trafnidiaeth yn y dyfodol yn rhoi blaenoriaeth ddigonol i deithio llesol. Fodd bynnag, gan mai casgliad a oedd hwn ac nid argymhelliad, nodaf nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi yn ei hymateb i'r adroddiad sut y caiff ei gyflawni.

Y gwir amdani, Ddirprwy Lywydd, yw nad oes unrhyw warant bellach o gyllid yn y dyfodol ar gyfer teithio llesol. Nid yw'r gronfa teithio llesol yn bodoli mwyach, na'r gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a oedd yn gwneud cymaint i helpu ein plant i ddarganfod ffordd iachach o deithio i'r ysgol. Mae'r ddwy gronfa wedi'u hamsugno i'r cronfeydd trafnidiaeth rhanbarthol a fydd yn cael eu gweinyddu gan y cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd y pwyllgorau hynny yn wynebu galwadau enfawr ar eu cronfeydd cyfyngedig, ac rwy'n ofni na fydd manteision ataliol hirdymor teithio llesol, fel y'u ffefrir gan ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn ymddangos mor uniongyrchol fuddiol â thrwsio tyllau yn y ffyrdd neu wella cyffyrdd.

Rydym yn wynebu argyfwng iechyd, argyfwng hinsawdd, argyfwng ansawdd aer ac argyfwng bioamrywiaeth, a bydd teithio llesol yn helpu i fynd i'r afael â'r rhain i gyd mewn ffordd na all llawer o ymyriadau trafnidiaeth eraill ei wneud. Yn sicr, felly, y peth doeth i'w wneud yw sicrhau bod y cyllid ataliol hirdymor hanfodol hwn wedi'i glustnodi a'i ddiogelu rhag gofynion mwy uniongyrchol, a phoblyddol weithiau.

Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r angen i ategu buddsoddiad mewn seilwaith gyda rhaglen newid ymddygiad. Yn anffodus, ar ôl sawl degawd o ganiatáu i'n system drafnidiaeth gael ei dominyddu'n llwyr gan geir, a hysbysebu ar raddfa enfawr gan y diwydiant modurol i ddelfrydoli teithio yn y car, nid yw'r ffaith syml fod cerdded a beicio'n iachach, yn fwy gwyrdd, yn rhatach ac yn aml yn gyflymach na gyrru mewn ardaloedd trefol, mor glir ag y dylai fod.

15:55

Diolch. Yn gryno iawn ar y pwynt hwnnw, fel y dywedwch, mae'r adroddiad yn argymell rhaglen newid ymddygiad genedlaethol, ac mae'r Llywodraeth, yn ei hymateb, yn derbyn hynny drwy ddweud bod ganddi eisoes raglen aml-flwyddyn ar raddfa fawr, sef gweithredu ar newid hinsawdd. Ond mae honno'n ymgyrch lefel uchel, generig, ac arwynebol iawn, ac yn gwbl wahanol i'r hyn oedd gan y pwyllgor mewn golwg yn ei argymhelliad.

Na. Rwy'n cytuno'n gryf â hynny, Lee, ac fe ddof at hynny, gan y credaf mai'r hyn sydd ei angen arnom yw rhywbeth llawer mwy lleol o fewn y fframwaith cenedlaethol.

Mae angen inni wneud llawer mwy i hyrwyddo manteision cerdded a beicio ar gyfer teithiau bob dydd, ac mae ymateb Llywodraeth Cymru, fel y clywsom, o ran yr ymgyrch weithredu ar newid hinsawdd, i'w groesawu, ond mae'n genedlaethol. Ar ei ben ei hun, nid yw'n ddigon, o ystyried bod teithio llesol yn lleol iawn. Nid yw gwefan genedlaethol cystal â gwybodaeth leol fanwl ynglŷn â ble mae'r llwybrau teithio llesol, na pha mor hir y bydd yn ei gymryd i gyrraedd cyrchfan benodol drwy eu defnyddio i gerdded neu feicio. Felly, mae'n hynod siomedig, 13 mis ar ôl y dyddiad a addawyd, nad yw'r canllawiau statudol ar hyrwyddo teithio llesol at ddibenion gwella ansawdd aer wedi'u cyhoeddi o hyd, gan y gallent wneud cymaint i hyrwyddo manteision teithio llesol mewn ffordd leol, ymarferol, wedi'i thargedu.

Yn olaf—

Iawn, mi wnaf nawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gloi drwy gytuno â'r pwyllgor ynglŷn â'u pwyslais ar bwysigrwydd rôl Trafnidiaeth Cymru yn galluogi teithio llesol. Mae eu harbenigedd cynllunio a pheirianneg wedi helpu i drawsnewid ansawdd y seilwaith teithio llesol. Mae'n hanfodol eu bod yn cael y pwerau sydd eu hangen i barhau â'r gwaith hwnnw ac i sicrhau bod buddsoddiad mewn teithio llesol yn cael ei flaenoriaethu yn y cynlluniau a fydd yn newid dulliau teithio i'r graddau mwyaf posib ac felly'n cynhyrchu'r manteision mwyaf i lesiant pobl Cymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac yn benodol, hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am eu hadroddiad trylwyr, ac yn wir, i bawb a gyfrannodd ato. Rwy'n mawr werthfawrogi eu her, eu craffu a'u hymrwymiad i wella system teithio llesol Cymru.

Mae'r ddadl heddiw hefyd yn gyfle i rannu newyddion da, gan fod yr adolygiad o'r Ddeddf teithio llesol wedi'i gyhoeddi heddiw, ac rwy'n croesawu ac yn diolch yn fawr i Mark Isherwood am ei eiriau hael mewn ymateb i'w gyhoeddi.

Nawr, ddegawd yn ôl, nid oedd unrhyw fapiau o'r rhwydwaith teithio llesol i'w cael. Cyfyngedig oedd yr arbenigedd mewn awdurdodau lleol, fel y clywsom, ac ni wneid unrhyw fonitro strategol. Heddiw, mae gan bob ardal gynllun cydlynol ar gyfer cerdded, olwyno a beicio'n ddiogel, gyda chanllawiau cyson yn genedlaethol, ac mae galluogrwydd mewnol ym mhob awdurdod, gyda chefnogaeth dda gan Trafnidiaeth Cymru. Rydym wedi gweld seilwaith yn tyfu'n gyson gyda llwybrau newydd, croesfannau wedi'u huwchraddio, cysylltiadau hygyrch, llwybrau ysgol gwell ac integreiddio gwell â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae buddsoddiad a'r galw am gynlluniau yn parhau i dyfu ac mae mwy o ysgolion bellach yn elwa o fynediad mwy diogel a mwy o gymunedau a llwybrau newydd sy'n gwneud teithiau byr yn haws.

Ond mae'r pwyllgor yn iawn: mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith ein bod yn dal i wynebu heriau. Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at faterion ynghylch ansawdd data, cysondeb a chyflymder cyflawni. Nododd Archwilio Cymru fod y cynnydd wedi bod yn anghyson, fod angen mwy na seilwaith yn unig er mwyn sicrhau newid ymddygiad, ac rwy'n derbyn hynny, ac yn croesawu saith argymhelliad y pwyllgor, sy'n galw am ymdrechion cyfathrebu llawer cryfach, integreiddio, cynllunio mwy hirdymor a chynhwysiant gwell. Rydym wedi derbyn argymhellion y pwyllgor ac mae ein hymateb yn nodi sut yr awn i'r afael â nhw.

Rwyf hefyd yn croesawu'r wybodaeth a rannwyd gan y pwyllgor am lwyddiant teithio llesol yn Slofenia a'r rôl y gall trefi dangosol ei chwarae yn rhoi dinasyddion wrth wraidd cynlluniau teithio llesol. Rhaid inni beidio â phregethu, rhaid inni wrando ar ddinasyddion.

Rydym hefyd yn alinio teithio llesol yn llawn â'r system gynllunio a chyllido trafnidiaeth ranbarthol newydd. Er ein bod yn ymbellhau oddi wrth grant wedi'i neilltuo, mae teithio llesol yn parhau i fod yn rhan ganolog o bob un o'r pedwar cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau na fydd ansawdd yn llithro. Rhaid i bob cynllun barhau i ddilyn canllawiau teithio llesol a bydd cymorth cynllunio Trafnidiaeth Cymru yn parhau'n llawn er gwaethaf yr hyn y mae rhai o'r Aelodau wedi'i honni. Ac o ran cyllid, ymhell o'r hyn a honnwyd gan rai heddiw, mae swm y cyllid ar gyfer teithio llesol wedi'i gynnal o dan drefniadau newydd. Mae hi bob amser yn anffodus pan nad yw gwleidyddion yma yn ymddiried mewn cynghorau ledled Cymru i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu pobl.

Rydym wedi rhoi camau breision ar waith i gryfhau'r ffordd y mesurwn gynnydd ac y cefnogwn gyflawniad. Ers argymhellion Archwilio Cymru, rydym wedi creu sail newydd ar gyfer monitro ar lefel genedlaethol a lleol drwy'r arolwg teithio cenedlaethol newydd a dull mwy cyson o gasglu data lleol. A chyda Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi rhoi adnoddau cenedlaethol ar waith yn ogystal â hyfforddiant i ddarparu cymorth ymarferol a datblygiad sgiliau parhaus ar draws awdurdodau lleol. Rydym yn diweddaru canllawiau'r Ddeddf teithio llesol i gryfhau gofynion cynllunio cynhwysol, gan bwyso ar y dystiolaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan bobl anabl, pobl ifanc a grwpiau cymunedol yn y ffordd a amlinellodd Mark Isherwood.

Hefyd, hoffwn gydnabod y cynnydd ar deithio llesol i ysgolion. Mae ein gwaith gyda Living Streets, yr Ymddiriedolaeth Cerdded Olwyno Beicio a chynghorau ledled Cymru yn dangos canlyniadau cryf, gyda mwy o blant yn cerdded, olwyno a beicio i'r ysgol. Mae nifer y Strydoedd Ysgol yn cynyddu ledled Cymru, ac mae'n fenter i'w chroesawu sy'n helpu i greu amgylcheddau tawelach a mwy diogel o amgylch gatiau ysgolion. Dyma'r newidiadau bob dydd sy'n meithrin arferion am oes.

Er bod llawer i'w wneud o hyd, mae gennym rai sylfeini cadarn ac rydym yn ymateb yn adeiladol i argymhellion gan Archwilio Cymru, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r bwrdd teithio llesol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chyd-bwyllgorau corfforedig, Trafnidiaeth Cymru, cynghorau unigol a'r trydydd sector i gynnal momentwm. Rydym eisoes yn ymgorffori teithio llesol mewn penderfyniadau ar iechyd, tai, cynllunio, addysg a'r hinsawdd, ac rydym yn canolbwyntio'n benodol ar gynlluniau hygyrch cynhwysol sy'n fuddiol i'r rhai sy'n dibynnu ar gerdded, olwyno a beicio at drafnidiaeth gyhoeddus.

I gloi: mae Cymru wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ers pasio'r Ddeddf, ond rhaid i'r degawd nesaf ganolbwyntio ar gyflawni ar raddfa fawr, llwybrau mwy diogel at ysgolion a thrafnidiaeth gyhoeddus, rhwydweithiau mwy cydgysylltiedig a phartneriaeth gref ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Diolch. Diolch i'r holl gyfranwyr. Fe wnaeth Lee Waters gydnabod—yn ddi-lol, fel yr ydym wedi dod i'w ddisgwyl, yn enwedig ar fater sy'n agos at ei galon—. Wel, diolch am gydnabod bod yr argymhellion yn synhwyrol, os ychydig yn llai na syfrdanol. Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r term 'pedestraidd', hen derm, ond un perthnasol o ystyried maint yr her. Ar yr angen am newid diwylliannol, gobeithio fy mod wedi dangos gyda'r dystiolaeth a gawsom, yn enwedig o Slofenia, fod angen gwneud hynny gyda chymunedau, oherwydd ni chewch y newid diwylliannol ac ymddygiadol os ceisiwch wneud hyn o'r brig i lawr, ni waeth pa mor dda y bo cefnogaeth cyrff cyhoeddus lleol. Fe ddywedoch chi fod hwn yn brosiect amlgenhedlaeth, ac wrth gwrs ei fod. Fe wnaethoch chi siarad am yr angen i fynd i'r afael â'r diwylliant uniongred mewn awdurdodau lleol, ond rwy'n gobeithio eich bod chi hefyd yn cydnabod y rhwystrau y mae awdurdodau lleol wedi'u nodi, a'r gwahaniaeth rhyngddynt o ran arbenigedd ac adnoddau. Ac fe wnaethoch chi alw am ysgogiadau go iawn i ddwyn cyd-bwyllgorau corfforedig i gyfrif. Yn amlwg, nid oes unrhyw bwynt gwneud unrhyw beth oni bai bod gennych brosesau monitro ac ymyrraeth priodol ar waith. Cyfeiriwyd at y gallu i gyflawni targedau sero net, a'u bod yn cael eu glastwreiddio gan Lywodraeth Cymru. Mater i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb iddo yw hynny, rwy'n credu, yn fwy na ni.

Peredur Owen Griffiths, diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad. Fe ddywedoch chi fod Llywodraeth Cymru yn tanberfformio yn y maes hwn a bod diffyg data cadarn ar allbwn yn ei gwneud hi'n anodd asesu a yw'r buddsoddiad cyhoeddus yn gweithio—sy'n cefnogi ein tystiolaeth ni—a bod yn rhaid i seilwaith teithio llesol weithio i bawb, gan gynnwys pobl anabl a phobl hŷn o'r cam cynllunio, neu ni fydd ar gyfer pawb, bydd yn ymwneud â rhan benodol o'r gymuned er anfantais i eraill. A hynny i gyd o fewn system drafnidiaeth integredig.

Mae John Griffiths yn ddealladwy yn tynnu sylw at y ffaith bod y Ddeddf yn annwyl ganddo, am mai ef oedd y Gweinidog a aeth â hi drwodd, fel y cofiaf, mewn gwirionedd; roeddwn i yma. Fodd bynnag, nid yw'r gweithrediad wedi bod yr hyn y dylai fod ac mae cynnydd dan fygythiad. Nid oes sicrwydd o gyllid ar gyfer teithio llesol yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae hynny'n digwydd pryd bynnag y ceir etholiad a newid Llywodraeth. Ond efallai na fydd manteision ataliol hirdymor teithio llesol yn cael eu gweld mor hanfodol â llenwi tyllau yn y ffyrdd efallai, sydd hefyd yn wir wrth gwrs. Felly, mae hon yn mynd i fod yn her o ran polisi a chyflawniad i'r 96 Aelod newydd ar ôl mis Mai. Cyfeiriodd at y rhaglen newid ymddygiad, y cyfeiriodd Lee Waters ati wrth gwrs, a'r newid diwylliannol—ac rwy'n eich cyfeirio at fy ateb blaenorol—ond hefyd at yr angen am rywbeth mwy lleol o fewn fframweithiau cenedlaethol, a chytunodd â barn y pwyllgor ynghylch pwysigrwydd Trafnidiaeth Cymru i deithio llesol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Fel y byddem i gyd yn ei ddisgwyl o'i ymagwedd Tigger-aidd at bopeth, dechreuodd gyda chyflwyniad optimistaidd iawn, gan ganolbwyntio ar y cadarnhaol— nid sarhad yw hynny, rwy'n dwli ar Tigger—a dywedodd fod buddsoddiad a galw am gynlluniau'n parhau i dyfu. Mae hynny'n amlwg yn gadarnhaol. Dywedodd fod y pwyllgor yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod heriau o'n blaenau o hyd, yn enwedig mewn perthynas â data, a gafodd gryn dipyn o sylw gennym. Gan gyfeirio at Slofenia, dywedodd fod yn rhaid inni roi dinasyddion yn y canol gyda theithio llesol a gwrando arnynt. Yn hollol. Os na wnawn hyn o'r gwaelod i fyny a'i wneud yn gyfan gwbl o'r brig i lawr, ni waeth faint o arian a roddir tuag ato, ni fydd yn gweithio. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi adnoddau cenedlaethol i awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag argymhellion yr archwilydd cyffredinol. Mae hynny'n gadarnhaol, ond mae llawer i'w wneud o hyd, fel y dywedodd.

A yw'r amser ar ben? Ydy. Felly, rwyf am orffen ar y pwynt hwnnw drwy ddiolch i bawb unwaith eto ac atgyfnerthu neges allweddol y pwyllgor. Roedd yn amlwg i ni, er bod llwyddiannau wedi bod, fod yna heriau sylweddol o hyd, wedi'u gwaethygu gan gyfyngiadau capasiti, diffyg data cadarn i gefnogi cyflawniad, a diffyg ffocws ar newid diwylliannol ac ymddygiadol. Felly, mater i'r Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru fydd canolbwyntio ar hynny, a bydd hynny'n cael ei gynnwys yn adroddiad etifeddiaeth ein pwyllgor. Diolch yn fawr.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Ymchwiliad i wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru'

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peter Fox. 

Cynnig NDM9152 Peter Fox

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Ymchwiliad i wasanaethau offthalmoleg yn Nghymru’ a osodwyd ar 28 Tachwedd 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig yr adroddiad ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

'Rwy'n debygol o gael fy nghondemnio i golli fy ngolwg drwy ddiffyg gweithredu.'

Dyna eiriau un claf a oedd yn byw gyda dirywiad macwlaidd a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad i wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru. Maent yn eiriau anodd iawn i'w clywed. Gellir osgoi hanner yr holl golli golwg drwy ganfod cynnar a thriniaeth amserol. Eto, erbyn diwedd mis Rhagfyr y llynedd, roedd mwy na 78,000 o gleifion â'r perygl mwyaf o golli golwg yn barhaol yn aros yn hirach nag y dylent am driniaethau sy'n achub golwg. Ac mae'r galw'n cynyddu.

Mae offthalmoleg yn parhau i fod yn un o'r arbenigeddau cleifion allanol prysuraf, ac mae ei wasanaethau o dan bwysau sylweddol. Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom dystiolaeth bwerus gan unigolion, a'r elusennau sy'n eu cynrychioli, am y dreth emosiynol y mae oedi cyn cael triniaeth yn ei chael ar eu bywydau. Fe wnaethant ddisgrifio'r pryder a'r ofn o golli eu golwg wrth aros am driniaeth. Fe wnaethant ddweud wrthym hefyd am ganlyniadau ymarferol oedi cyn cael triniaeth, sy'n effeithio ar eu hannibyniaeth a'u gallu i weithio, gan arwain at straen ariannol a phroblemau iechyd meddwl.

Yr amseroedd aros hir yn y maes, a'r risg o amhariad difrifol ar y golwg neu golli golwg yn sgil oedi cyn cael triniaeth, oedd y rheswm pam y penderfynodd y pwyllgor gyflawni ein hymchwiliad. Gwnaethom wahodd tystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid a chynhaliwyd cyfres o sesiynau llafar. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi diolch y pwyllgor i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, ac yn enwedig i'r cleifion a rannodd eu profiadau gyda ni. 

Gwnaeth ein hadroddiad 17 o argymhellion, a oedd yn tynnu sylw at y brys sydd ei angen i fynd i'r afael â'r oedi mewn gwasanaethau offthalmoleg ac atal colli golwg y mae modd ei osgoi. Cawsant eu hanelu nid yn unig at drawsnewid gwasanaethau yn y tymor hir, ond hefyd at gamau mwy uniongyrchol i gynyddu capasiti, cryfhau llywodraethiant a gwella tryloywder.

Mae'n siomedig iawn, felly, mai tri yn unig o'r argymhellion hyn a gafodd eu derbyn yn llawn gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i'n hadroddiad, gyda'r gweddill naill ai wedi eu derbyn yn rhannol neu heb gael sylw uniongyrchol. Fe ddof at y pwynt olaf hwn yn nes ymlaen. Ar y cyfan, Ysgrifennydd y Cabinet, teimlai'r pwyllgor nad yw eich ymateb yn mynd i'r afael â'r brys a amlygwyd yn ein hadroddiad, yn enwedig ein pryderon am golli golwg y mae modd ei osgoi. Yn hytrach, mae eich ymateb yn canolbwyntio mwy ar lywodraethiant mwy hirdymor a thrawsnewid cenedlaethol, ac yn gohirio sawl penderfyniad allweddol, ac nid oes fawr ddim ar ffurf ymrwymiadau uniongyrchol neu amserlenni pendant.

Roedd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn teimlo'r un fath. Roeddent yn dweud:

'mae'n bryderus fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn dangos diffyg brys ynghylch yr heriau enfawr sy'n wynebu gwasanaethau offthalmoleg. Mae nifer y cleifion risg uchaf sy'n aros am apwyntiad offthalmoleg wedi gostwng llai na 2% dros y 12 mis diwethaf, gyda'r mwyafrif yn colli eu dyddiad apwyntiad targed a bron i 160,000 yn dal i aros am apwyntiad.'

Roedd y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall hefyd yn feirniadol o'r diffyg brys yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ddweud nad oedd eich ymateb,

'yn mynd i'r afael â'r risg glinigol o niwed parhaol y mae modd ei osgoi i gleifion ar hyn o bryd.'

Mae ein hadroddiad yn cydnabod y gwaith sylweddol sydd eisoes ar y gweill i ddiwygio optometreg gofal sylfaenol, a'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ganlyniad. Fodd bynnag, nid oes yr un lefel o sylw i heriau cyfarwydd mewn offthalmoleg i gyd-fynd â'r ffocws hwn ar optometreg. Clywsom am y rhwystredigaethau dwfn ymhlith gweithwyr gofal llygaid proffesiynol ynglŷn â diffyg cofnod electronig am gleifion a system atgyfeirio electronig, anaddasrwydd yr ystad, a phroblemau parhaus gyda recriwtio a chadw staff. Mae ein hadroddiad yn pwysleisio'r angen sylweddol i foderneiddio gofal llygaid eilaidd er mwyn gwella canlyniadau cleifion a rheoli galw cynyddol.

Y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg yw'r glasbrint hirdymor ar gyfer y gwaith hwn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn glir fod angen gwneud cynnydd ar weithredu'r strategaeth. Ond cawsom ein harwain gan y dystiolaeth a glywsom am y sefyllfa ddifrifol gyda gwasanaethau ac amseroedd aros offthalmoleg i'r casgliad fod angen dull cryfach, sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Dyna pam y geilw ein hadroddiad am nifer o fesurau brys tymor byr gyda'r nod o ddiogelu cleifion sydd eisoes yn aros y tu hwnt i'w fframiau amser diogel yn glinigol eu hunain. Fe wnaethom argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet sefydlu bwrdd trosolwg traws-sector cyn yr etholiad, i olrhain cynnydd ar weithredu'r strategaeth glinigol genedlaethol ac i uwchgyfeirio risgiau a chyflawniad.

Fodd bynnag, fe wrthododd Ysgrifennydd y Cabinet, gan ddweud nad dyma'r opsiwn gorau tra bod strwythurau llywodraethu rhwng Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cael eu hadolygu. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr fod y penderfyniad hwn yn bryderus a'i fod yn pryderu am absenoldeb strwythur trosolwg wedi'i ddiffinio'n glir cyn trefniadau llywodraethu newydd. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o'r farn fod Llywodraeth Cymru, heb fwrdd trosolwg pwrpasol, yn creu perygl o gyfyngu ar wella gwasanaethau gofal llygaid a rhwystro cynnydd. Mae'r rhain yn eiriau cryf gan randdeiliaid, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n eich annog i fyfyrio arnynt, fel rwy'n siŵr y gwnewch chi, ac ailystyried eich penderfyniad i beidio â rhoi trefniadau trosolwg interim ar waith nes y bydd y trefniadau llywodraethu newydd yn eu lle.

O ran buddsoddiad, fe wnaethom nifer o argymhellion, yn enwedig ynghylch buddsoddiad mewn gofal eilaidd a hyfforddi'r gweithlu. Roedd y rhain yn adlewyrchu difrifoldeb y dystiolaeth y clywsom amdani—cyfleusterau ysbyty hen ac anaddas, toeau'n gollwng, gofod cyfyng, ac offer wedi torri. Fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i raglen fuddsoddi aml-flwyddyn wedi'i neilltuo ar gyfer gofal eilaidd i gyd-fynd â'r cyllid cylchol sylweddol o £30 miliwn a ddarperir i ofal sylfaenol. Er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod offthalmoleg yn un o'r arbenigeddau mwyaf heriol, ni wnaeth ymrwymo i unrhyw fuddsoddiad newydd ar gyfer offthalmoleg gofal eilaidd, gan ddweud y bydd penderfyniadau cyllido pellach yn dilyn asesiad sylfaenol o'r gwariant cyfredol. Ysgrifennydd y Cabinet, mae buddsoddiad sylweddol a chynaliadwy mewn gwasanaethau gofal llygaid eilaidd, lle mae'r risg glinigol fwyaf, yn hanfodol i wella canlyniadau cleifion. Heb ymrwymiad o'r fath gan Lywodraeth Cymru, mae'n anodd gweld sut y gellir cyflawni newid o unrhyw arwyddocâd gwirioneddol.

O ran gweithlu, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod bylchau yn y gweithlu offthalmoleg yn ganolog i'r ôl-groniad. Roedd ein hargymhellion, a gefnogwyd gan randdeiliaid, wedi'u hanelu at fynd i'r afael â'r materion hyn ac yn galw am gynnydd mewn lleoedd hyfforddi arbenigol mewn offthalmoleg a chyhoeddi cynllun gweithlu trawsbroffesiynol strategol erbyn mis Chwefror eleni. Ni wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i rai o'n hargymhellion ynglŷn â'r gweithlu, gan ddweud eu bod y tu allan i gylch gwaith uniongyrchol Llywodraeth Cymru, ac mai Addysg a Gwella Iechyd Cymru sydd yn y sefyllfa orau i ymateb iddynt. Nid ydym yn ystyried hon yn sefyllfa dderbyniol, yn enwedig o ystyried popeth a wyddom am yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu offthalmoleg. Ysgrifennydd y Cabinet, rhaid inni gael ymateb uniongyrchol gennych i argymhellion 13, 14, 16 a 17.

O ran gwasanaethau digidol, tynnodd ein hadroddiad sylw at y problemau difrifol gyda'r oedi cyn cyflwyno cofnod electronig am gleifion OpenEyes a system electronig ar gyfer atgyfeirio cleifion, er gwaethaf buddsoddiad o £8.5 miliwn. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym y bydd y system yn cael ei chyflwyno ar draws pob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026, ond mae wedi gwrthod ein galwad i wneud datganiad llafar ym mis Mawrth am gynnydd. Yn hytrach, nid yw ond wedi ymrwymo i ddarparu datganiad ysgrifenedig. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried yr amserlen uchelgeisiol a maint y newid sy'n ofynnol yn y maes hwn, gofynnaf i chi ailystyried eich penderfyniad a chytuno i wneud datganiad llafar ar y pwnc fel bod Aelodau'n cael cyfle i'ch holi yn ei gylch.

Wrth ddod â fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio bod angen camau cryf ar frys gan Lywodraeth Cymru nawr i ddarparu'r canlyniadau gorau posib i gleifion, yn enwedig y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o golli golwg y mae modd ei osgoi. Edrychaf ymlaen at weddill y ddadl, Ddirprwy Lywydd. Diolch.

16:15

Mae'r adroddiad yma'n dod ar adeg gwbl bwysig. Mae'r pwysau ar wasanaethau llygaid yn cynyddu, mae'r rhestrau aros yn ymestyn, ac mae canlyniadau'r oedi yn bryderus o ddifrifol i gleifion. Mae bron i 80,000 o bobl yn aros am driniaeth, yr ail nifer uchaf o unrhyw arbenigedd, ac mae hynny'n cyfrif am tua un o bob wyth ar y rhestr aros. Ac yn y maes yma, nid anghyfleustra yn unig ydy oedi—fe all olygu colli golwg.

Mae'r Llywodraeth wedi gosod targed o 95 y cant o gleifion sydd yn y categori risg uchaf, sef R1, i dderbyn triniaeth o fewn y cyfnod aros delfrydol. Ond, fel y saif pethau, mae hanner y cleifion yn methu cael triniaeth o fewn yr amser targed. Yn ardal Betsi Cadwaladr, mae hi'n waeth fyth, gyda bron i 60 y cant yn aros yn rhy hir am driniaeth. Dyna'r realiti. A phan gofiwn ni fod 129,000 o bobl eisoes yn byw gyda diffyg golwg yng Nghymru, a bod y nifer yna'n debygol o godi i 146,000 erbyn diwedd y degawd, yna does dim syndod bod llywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr wedi rhybuddio ein bod yn wynebu ton gynyddol o ddallineb.

Mae'r pwyllgor yn iawn, felly: mae angen gweithredu mewn misoedd, nid blynyddoedd. Ond, unwaith eto, yn hytrach na chymryd yr awenau a gosod arweiniad clir, fe gawsom ni ymateb gwan arall gan y Llywodraeth: oedi, a gwthio penderfyniadau i'r Llywodraeth nesaf. Er enghraifft, fe wnaethon nhw wrthod yr argymhelliad cwbl synhwyrol i sefydlu bwrdd goruchwylio traws-sector cyn yr etholiad—cam syml, cam ymarferol, a ddylai fod yn sylfaen i'r strategaeth glinigol newydd. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld yr un patrwm: dim brys, dim cydlynu clir, dim atebolrwydd pendant. Maen nhw'n dweud bod angen adolygu strwythurau llywodraethu cyn sefydlu bwrdd. Ond pam nad ellid gwneud y ddau beth yma gyda'i gilydd? Mae hynny'n swnio fel esgus, nid rheswm.

Dwi'n croesawu'r ffaith bod symudiad o'r diwedd ar gofnod electronig—maes lle mae Cymru wedi bod ar ei hôl hi ers blynyddoedd. Ond mae angen mwy nag ymrwymiadau llafar annelwig; mae angen amserlen glir a diweddariad cyhoeddus ar y cynnydd yma, yn enwedig cyn yr etholiad.

Yn y pen draw, fodd bynnag, y gweithlu ydy'r broblem graidd. Mae gennym ni lai na dau offthalmolegydd ymgynghorol fesul 100,000 o bobl. Mi ddylai'r ffigwr yna fod yn dri. Dyna'r bwlch sydd gennym ni. Dyna'r pwysau. Ac nid yw'n syndod, felly, fod yna fylchau pan fo arian yn cael ei wario ar gytundebau preifat tymor byr, yn hytrach nag ar adeiladu capasiti'r gwasanaeth iechyd ei hun. Dyna'r broblem sylfaenol: atebion byrdymor i broblemau hirdymor.

Mae'r problemau recriwtio wedi cymhlethu oherwydd bod y broses flaenorol, lle byddai meddygon hyfforddedig yn gwneud cais penodol i weithio yng Nghymru, wedi cael ei disodli gan un system ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan. Mae hyn wedi lleihau'r sicrwydd y bydd meddygon hyfforddedig yn aros yma i weithio. Mewn gwirionedd, gall hyd at draean ofyn am drosglwyddiad allan o Gymru erbyn mis Awst.

Felly, gadewch i ni fod yn glir: ni ellir datrys y rhestrau aros heb adeiladu'r gweithlu. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw. Dyna pam ein bod ni'n credu mewn rhwydwaith cenedlaethol o hybiau llawdriniaethol, gan gynnwys canolfannau rhagoriaeth ar gyfer offthalmoleg, er mwyn meithrin y gweithlu yma yng Nghymru ac i wneud y gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn lle deniadol i weithio ynddo. Os na wnawn ni adeiladu'r capasiti rŵan, bydd y canlyniadau'n parhau i waethygu, a'r rhai fydd yn talu'r pris fydd ein cleifion. Diolch. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:20

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a'r tîm cymorth am eu gwaith ar yr adroddiad hwn. Fel y clywsom, ein canfyddiad pennaf yw brys y sefyllfa. Mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael ag oedi mewn gwasanaethau ac atal colli golwg y mae modd ei osgoi yng Nghymru. Mae'r strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi glasbrint clir i ni wneud hynny, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr angen am lywodraethu traws-sector cadarn a rheolaeth effeithiol i'w gyflawni.

Mae diwygiadau diweddar, a chontract gwasanaeth offthalmig cyffredinol Cymru yn enwedig, eisoes yn cyflawni gwelliannau. Mae optometreg gymunedol yn elfen ganolog, sy'n galluogi optometryddion ac optegwyr cyflenwi i ddarparu gwasanaethau a fyddai wedi digwydd drwy ofal eilaidd o'r blaen. Yn yr un modd, mae ehangu'r gwasanaeth amhariad ar y golwg ardystiedig fis Mehefin diwethaf, sy'n galluogi optometryddion i ardystio amhariad ar y golwg yn swyddogol ar gyfer pob math o gyflyrau llygaid, yn arloesedd i'w groesawu, a dyma'r cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae'r buddsoddiad o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref, ar ben y cynnydd o £3.9 miliwn y llynedd, wedi helpu i leihau pwysau ar ysbytai ymhellach. Mae mwy na 3,000 o apwyntiadau y mis wedi symud o ysbytai i optometreg gymunedol, ac mae yna darged o 30,000 o apwyntiadau ychwanegol. Dywedodd Dan McGhee o'r Ffederasiwn Optometryddion ac Optegwyr Cyflenwi wrthym fod y contract newydd yn cefnogi mwy o bractisau i gynnig gwasanaethau sy'n helpu i atal cleifion rhag yr angen i fynd i'r ysbyty, a bod hyn wedi bod o fudd arbennig i gleifion mewn ardaloedd gwledig a allai fod wedi ei chael hi'n anodd cyrraedd ysbyty.

Yn ardal Betsi Cadwaladr, er enghraifft, mae ehangu gofal cymunedol a'r cynnydd yn nifer yr optometryddion sy'n gymwys mewn presgripsiynu annibynnol yn lleddfu'r pwysau ar adrannau llygaid ysbytai yn yr ardal honno. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi targedu ôl-groniad llawdriniaethau cataract hefyd, yn rhan o becyn ariannu amseroedd aros gwerth £120 miliwn a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Iechyd fis Mehefin diwethaf. 

Ond ni ellir anwybyddu'r oedi mewn gofal ysbyty. Mae 80,000 o gleifion sydd â'r risg uchaf yn aros y tu hwnt i fframiau amser sy'n ddiogel yn glinigol am driniaeth, ac mae hynny'n wirioneddol annerbyniol. Mae hefyd yn anghynaladwy, oherwydd rhagwelir y bydd y galw yn codi 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf, wedi'i ysgogi gan boblogaeth sy'n heneiddio a chyflyrau cronig fel diabetes a glawcoma. Canfuwyd hefyd fod mynediad at wasanaethau'n aml yn anwastad ac mae natur wledig ardaloedd yn her barhaus.

Rhoddodd Marian Williams o'r Gymdeithas Facwlaidd dystiolaeth i ni o'r diffyg cefnogaeth i gleifion y mae'n ofynnol iddynt deithio pellteroedd hir i gael triniaeth, gan ddisgrifio profiad cleifion a oedd yn gorfod teithio mwy na 100 milltir am bigiadau heb fawr o gymorth o ran cludiant. Dywedodd hefyd, er bod rhai ysbytai'n cynnig triniaethau ar benwythnosau i leihau'r amseroedd aros—ac wrth gwrs, mae croeso mawr i hynny, ac rwyf wedi ei groesawu yma sawl gwaith—mewn rhai rhannau o Gymru wrth gwrs, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn brin ar y penwythnos. Er bod y cynnig hwnnw'n cael ei groesawu'n fawr i'r rhai sy'n gallu cyrraedd yno, pe gallem weld ffordd o helpu'r rhai na allant gyrraedd yno, byddai hynny'n arbennig o ddefnyddiol. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet helpu'r cleifion hynny i gael y drafnidiaeth y soniodd y tystion wrthym amdani, a bod ystyriaeth i hynny ochr yn ochr ag adolygiadau o'r gwasanaethau clinigol. Diolch.

16:25

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr i gyfrannu—Jeremy Miles.

Lywydd, diolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ei adroddiad ar wasanaethau offthalmoleg ysbytai. Mae gwaith y pwyllgor yn tynnu sylw at faes gofal sy'n effeithio ar nifer fawr o bobl ledled Cymru. Mae'r galw am y gwasanaethau hyn, fel y clywsom, yn cynyddu oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, nifer cynyddol o gyflyrau hirdymor a'r angen am reoli clefyd llygaid gydol oes mwy cymhleth. Mae gan Gymru gryfderau gwirioneddol yn y maes hwn. Ni oedd y rhan gyntaf o'r DU i ymrwymo i lwybrau gofal llygaid integredig system gyfan. Ond mae yna feysydd lle mae gwelliant wedi bod yn rhy araf ac mae'n rhaid cryfhau perfformiad.

Cyn amlinellu'r diwygiadau sydd ar y gweill, rwyf am dynnu sylw at y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud. Mae amseroedd aros hir o fwy na 104 wythnos wedi gostwng 97 y cant ers 2023. Mae sawl bwrdd iechyd wedi sefydlu canolfannau cataract ar gyfer trin niferoedd mawr o bobl. Mae cyflwyno llwybrau optometreg Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru yn rhyddhau capasiti gofal eilaidd ac yn ei gwneud hi'n bosib darparu gofal mwy amserol i'r cleifion risg uchaf. Mae rhwydwaith gweithredu clinigol offthalmoleg wedi darparu llwybrau Cymru gyfan, disgrifiadau swyddi safonol a gwaith optimeiddio llawfeddygol.

Ym maes gofal sylfaenol a chymunedol, Cymru sy'n arwain y ffordd. Mae ein gwasanaethau'n uchelgeisiol ac maent yn flaengar. Y contract optometreg yng Nghymru yw'r mwyaf blaengar yn y DU. Mae wedi dod yn fodel y mae cenhedloedd eraill yn edrych arno, gan ddangos sut y gall arbenigedd cymunedol drawsnewid gofal.

Mae'r symudiad tuag at ofal llygaid integredig bellach wedi'i wreiddio yn ein fframwaith cynllunio ac wedi'i nodi yn y llythyr cylch gwaith i sefydliadau'r GIG ar gyfer 2026-2027. Nod y newid bwriadol hwn i lwybrau yn y gymuned, gyda chefnogaeth optometryddion â sgiliau uwch, yw darparu mwy o ofal yn nes at adref, gan sicrhau ymyrraeth gynharach a sicrhau bod gwasanaethau offthalmoleg ysbytai yn canolbwyntio ar y rhai â gwir angen arbenigedd arbenigol. Mae ein rhaglen trawsnewid cymunedol drwy gynllunio yn ganolog i'r gwaith hwn. Rhaid i fyrddau iechyd ddangos sut y maent yn symud gweithgaredd o offthalmoleg ysbyty i optometreg gymunedol. Mae hyn yn adlewyrchu ein huchelgais i adeiladu system gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gyd-fynd â 'Cymru Iachach', wedi'i hategu gan y dull o weithredu yn y dyfodol ar gyfer optometreg a'r strategaeth offthalmoleg, a'i chefnogi drwy lywodraethiant cenedlaethol. Bydd gofal llygaid integredig Cymru gyfan yn ffurfioli disgwyliadau cenedlaethol, yn cefnogi cysondeb ac yn sicrhau bod y system gyfan o atgyfeirio i apwyntiadau dilynol yn gweithredu gyda safonau ac atebolrwydd a rennir.

Lywydd, mae'r pwyllgor hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd trawsnewid digidol, ac rydym yn cydnabod y pryderon sydd wedi'u codi. Mae llwybrau integredig wedi'u hwyluso'n ddigidol yn hanfodol i ofal diogel, gwell cynllunio a chanlyniadau gwell, ond nid yw wedi symud ymlaen yn gyson nac ar y cyflymder yr oeddem yn ei ddisgwyl. Rydym yn mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol drwy gomisiynu Perfformiad a Gwella GIG ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i arwain gwaith ar safonau data cenedlaethol a gofynion digidol ehangach. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bellach wedi cwblhau'r gwaith o osod OpenEyes yn llawn ar draws yr holl is-arbenigeddau offthalmoleg, ac mae byrddau iechyd cyfagos yn cyflymu'r broses o'u cyflwyno. Mae sicrhau bod technoleg ddigidol yn cael ei mabwysiadu'n gyson ledled Cymru yn flaenoriaeth.

Mae'r pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at fregusrwydd mewn gweithluoedd is-arbenigedd offthalmoleg ac unwaith eto, rydym yn cydnabod hyn. Yr ateb hirdymor yw recriwtio ac ailgydbwyso'r system. Mae hyn yn golygu defnyddio ystod lawn o sgiliau offthalmolegwyr, optometrwyr, orthoptwyr, nyrsys offthalmig a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae hefyd yn golygu mynd i'r afael ag amrywiadau diangen, o ran mynediad, apwyntiadau dilynol amserol neu gyfluniad gwasanaeth, ac mae'r egwyddorion hyn, unwaith eto, wedi'u hymgorffori'n gadarn yn y llythyr cylch gwaith ar gyfer 2026-2027.

Mae Perfformiad a Gwella'r GIG wedi cael y dasg o ysgwyddo rôl fwy cyfarwyddol lle mae angen cysondeb cenedlaethol, gyda ffocws clir ar sicrhau ansawdd. Er mwyn cefnogi cynaliadwyedd, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn parhau i arwain ar gynllunio'r gweithlu ac ehangu hyfforddiant tra bod Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella'r GIG yn darparu'r trosolwg strategol, yr atebolrwydd a'r buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau gweithlu'r dyfodol.

Lywydd, wrth edrych ar berfformiad, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar leihau amseroedd aros hir am ofal ysbyty ac am apwyntiadau dros y 12 mis diwethaf, gyda chefnogaeth ein rhaglen gofal wedi'i gynllunio gwerth £120 miliwn. Rhaid i'r GIG gynnal y gwelliant hwn nawr i sicrhau bod taith pobl o atgyfeirio i driniaeth yn gyflym, yn gyson ledled Cymru ac yn seiliedig ar ddefnydd effeithlon o adnoddau. Mae darparu mwy o ofal mewn cymunedau lleol yn allweddol i leihau'r pwysau ar wasanaethau cleifion allanol. Bydd offer digidol newydd yn gwella blaenoriaethu, yn lleihau dyblygu ac yn cefnogi atal ac ymyrraeth gynnar, sydd oll yn hanfodol i leihau niwed hirdymor.

Mae'r pwyllgor wedi nodi ystod o argymhellion, ac mae'r Aelodau wedi codi materion pwysig heddiw. Diolch i chi am eich cyfraniadau ac am eich ymrwymiad i wella gofal llygaid yng Nghymru. Byddwn yn parhau i adeiladu system gofal llygaid sy'n integredig, yn deg, yn fodern, ac wedi'i hwyluso'n ddigidol. Byddwn yn parhau i gynhyrchu amrywiaeth ac yn cadw ffocws di-baid ar ddiogelwch ac ansawdd i wella canlyniadau i gleifion. Byddwn yn parhau i gefnogi ein gweithlu ac yn hyrwyddo'r arweinyddiaeth a'r arloesedd a ddangosir gan y proffesiwn optometreg yng Nghymru, proffesiwn sydd wedi chwarae rhan ganolog yn rhoi Cymru ar y blaen o ran diwygio gofal llygaid yn y DU.

16:30

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw? Mae'n ddadl bwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod gennym ni bobl sydd wedi ymuno â ni a fydd yn gwylio heddiw yn ein Siambr newydd, wrth i ni drafod hyn. Mae'n faes mor bwysig, oherwydd yn wahanol i gymaint o bethau eraill yn y system iechyd, pan fyddwch chi'n colli eich golwg ac yn methu cael eich triniaeth, rydych chi'n ei golli am byth, ac mae hynny'n newid bywyd. Os oes gennych glun drwg neu ben-glin drwg, rydych chi mewn poen a byddwch chi'n ei oddef ond nid yw'n mynd i newid eich bywyd yn y ffordd y gall colli eich golwg ei wneud. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni'n gwneud yr ymchwiliad hwn. Diolch i'r holl bobl a ddaeth i mewn i roi tystiolaeth a chyfrannu at yr ymchwiliad, oherwydd roedd mor bwysig ein bod ni wedi gwneud hyn.

A gaf i ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am eu hymroddiad a'u hawydd i archwilio hyn? Diolch i chi am eich cyfraniadau, a Mabon, fe wnaethoch chi ailadrodd y problemau eto—sut y gellir colli golwg a hanner y cleifion nad ydynt yn derbyn triniaeth, a chymaint gwaeth yw hi i fyny yn y gogledd. Ni all hynny barhau. Mae angen y bwrdd trosolwg hwnnw arnom i wneud yn siŵr y gallwn weld cyflawniad go iawn, ac amlygu'r ffigur syfrdanol a ganfuom yn rhannau cynnar yr ymchwiliad, lle nad oedd gennym ond rhywbeth fel 1.7 o offthalmolegwyr i bob 100,000 o bobl, pan fo'r nifer a argymhellir yn dri i bob 100,000. Wel, wrth gwrs ein bod ni'n mynd i gael anawsterau os na allwn ddod o hyd i'r gweithwyr proffesiynol hynny. 

Joyce, diolch am dynnu sylw at frys y sefyllfa a pha mor bwysig yw hi, a rhannu eto fod gennym lasbrint clir i newid pethau drwy'r strategaeth glinigol genedlaethol. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at arfer da sydd wedi bod yn digwydd—ac rydym yn cydnabod hynny—ar gataractau. Ond fe wnaethoch chi hefyd rannu sut y mae'n annerbyniol i'r sefyllfa barhau fel y mae, ac mae angen gweithredu cadarn. A thynnu sylw at rai o'r anawsterau y mae cleifion yn eu cael i gyrraedd gwasanaethau—gorfod mynd gannoedd o filltiroedd weithiau i gael eu triniaeth, a'n galwad ar y Llywodraeth i helpu gyda hynny, ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod bod hwn yn faes heriol, ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at rai o'r cryfderau a'r camau a allai fod wedi'u gwneud yn y maes hwn. Yn anffodus, nid yw'n teimlo felly i'r bobl ar lawr gwlad sydd wedi bod yn aros am amser hir am driniaeth, pobl sy'n poeni am eu bywydau yn y dyfodol a sut y byddant yn datblygu. Rydym yn cydnabod y buddsoddiad yn y gwaith mewn gofal sylfaenol, ond mae angen inni weld buddsoddiad cyfatebol mewn gofal eilaidd hefyd. Mae'n amlwg fod anghysondeb rhwng y ddau faes, a gofynnwn i chi edrych eto ar yr argymhellion a wnaethom.

Mae'n bwysig, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n cydnabod pwysigrwydd y system OpenEyes ddigidol sy'n cael ei chyflwyno. Rwy'n gwybod nad yw wedi symud mor gyflym ag yr hoffech chi—mor gyflym ag y byddai unrhyw un ohonom yn hoffi—ond mae'n edrych yn debyg efallai y gwelwn rywfaint o gynnydd ac y gwelwn rywfaint o weithredu ar hynny. Gorau po gyntaf y gellir ei chyflwyno ar draws pob bwrdd iechyd—bydd hynny'n bwysig.

Felly, a gaf i ddiolch i bawb unwaith eto am gyfrannu? Ac Ysgrifennydd y Cabinet, os gallwch chi feddwl eto am rai o'r argymhellion allweddol a oedd yn peri fwyaf o drafferth i ni, byddem yn gwerthfawrogi hynny. Diolch yn fawr.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, mae hynna wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y GIG a gofal cymdeithasol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enwau James Evans a Laura Anne Jones, a gwelliant 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Eitem 12 yw'r eitem nesaf. Dadl y Ceidwadwyr yw hon ar y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Believe it or not, Peter Fox i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9164 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y pwysau parhaus ar y GIG yng Nghymru, gan gynnwys amseroedd aros gormodol am driniaeth, oedi o ran ymateb ambiwlansys, adrannau brys gorlawn, a'r defnydd o ofal mewn coridor;

b) pryderon a godwyd gan glinigwyr a chleifion ynghylch diogelwch a chapasiti ar gyfer cleifion ar draws system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru; ac

c) yr angen am weithredu brys, system gyfan i adfer perfformiad a hyder y cyhoedd.

2. Yn gresynu bod perfformiad y GIG yng Nghymru, ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran amseroedd aros a mynediad at driniaeth.

3. Yn credu bod maint yr her yn gofyn am ymateb brys i gynyddu capasiti, gwella llif cleifion a chryfhau gwytnwch ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datgan argyfwng iechyd cenedlaethol i sbarduno gweithredu ar unwaith ar draws y GIG a gofal cymdeithasol;

b) ailagor wardiau ysbytai cymunedol caeedig i ddarparu gofal cam-i-lawr ac adsefydlu, a gwella llif cleifion;

c) adolygu a chynyddu capasiti gwelyau ysbyty a darpariaeth ymchwydd;

d) sefydlu tîm adfer pwrpasol i GIG Cymru i hyrwyddo gwelliannau mewn amseroedd aros a pherfformiad gofal brys;

e) dod â'r arfer o ofal mewn coridor i ben a dynodi aros 12 awr mewn adrannau brys fel digwyddiadau 'byth';

f) gwella recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon, deintyddion, nyrsys a bydwragedd;

g) ehangu canolfannau llawfeddygol a chapasiti diagnostig i leihau rhestrau aros;

h) gwella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys argaeledd apwyntiadau saith diwrnod; ac

i) cyhoeddi cynllun gweithlu a seilwaith hirdymor i foderneiddio'r GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Fe wneuthum wisgo het arall am eiliad. Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig yn enw Paul Davies. Lywydd, mae'r cynnig hwn yn ymwneud â chydnabod rhywbeth y mae pobl ledled Cymru eisoes yn ei wybod: fod ein GIG o dan straen eithriadol. Bydd gan bob un ohonom yn y Siambr hon etholwyr sy'n aros yn rhy hir—yn aros am ambiwlans, yn aros mewn adrannau brys, neu'n aros misoedd, blynyddoedd weithiau, am driniaeth.

Pan fydd etholwyr yn dechrau disgrifio ysbytai fel parthau rhyfel, neu'n dweud eu bod yn ofni y gallai pobl farw mewn ystafell aros, fel y maent wedi dweud mewn gwirionedd, dylem i gyd oedi a myfyrio. Mae'r mathau hyn o ddatganiadau'n dweud wrthym fod rhywbeth wedi mynd o'i le yn ddifrifol gyda'n system iechyd. Mae'n ffaith, ar ôl 27 mlynedd o lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru, fod perfformiad y GIG yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran amseroedd aros a mynediad at driniaeth. Mae bron i 750,000 o lwybrau cleifion yn parhau i fod ar agor. Mae dros 5,000 o bobl wedi bod yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth o'i gymharu â dim ond ychydig gannoedd yn Lloegr, a'r tu ôl i'r ffigurau hyn mae pobl mewn poen, poen sydd wedi para'n rhy hir. Er bod pwysau ym mhobman, ar ôl bron i dri degawd yn gyfrifol am bolisi iechyd, nid yw bellach yn gredadwy i ddweud mai bai rhywun neu rywbeth arall yw hyn, gan feio Llywodraeth flaenorol y DU neu COVID. Daeth datganoli â chyfrifoldeb yn ei sgil, a rhaid cael atebolrwydd law yn llaw â chyfrifoldeb.

Lywydd, mae'r cynnig hwn yn galw am ddatgan argyfwng iechyd cenedlaethol, oherwydd hyd nes y cydnabyddir bod yna broblem, ni fydd y ffocws a'r adnoddau'n cael eu cyfeirio at fynd i'r afael â'r problemau enfawr hyn. Ac i'r rhai yma sy'n meddwl ein bod ni'n anghywir, dywedwch hyn wrthyf: os nad yw amseroedd aros o 12 awr mewn adrannau brys yn argyfwng, beth sydd? Os nad yw ambiwlansys yn ciwio y tu allan i ysbytai am nad oes gwelyau ar gael yn argyfwng, beth sydd? Ac os yw gofal mewn coridorau wedi dod yn arferol, beth yn union fyddai'n gymwys i'w alw'n argyfwng? Mae'n bryd i'r Llywodraeth gydnabod maint yr her ac ymateb yn unol â hynny.

Byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn datgan yr argyfwng hwnnw ar y diwrnod cyntaf, nid fel pennawd, ond fel catalydd i ailagor wardiau ysbytai cymunedol sydd wedi'u cau a gwella llif cleifion, adolygu capasiti gwelyau a darpariaeth ymchwydd ar frys, sefydlu tîm adfer pwrpasol GIG Cymru sy'n canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni, ehangu canolfannau llawfeddygol a diagnosteg fel y gallwn leihau rhestrau aros o'r diwedd, gwella recriwtio a chadw staff fel bod staff yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, gan mai ein staff yw ein hased mwyaf, a chyhoeddi cynllun gweithlu a seilwaith hirdymor fel nad ydym yn cael yr un ddadl ymhen pum mlynedd. Oherwydd, yn amlwg, un o'r methiannau mwyaf dros y blynyddoedd diwethaf yw gwydnwch. Dim digon o gapasiti dros ben, dim digon o gynlluniau wrth gefn, dim digon o ffocws ar atal a chynhyrchiant. Mae hyd yn oed Comisiwn Bevan wedi tynnu sylw at lefel yr aneffeithlonrwydd yn y system, adnoddau y gellid eu defnyddio'n well i gefnogi gofal rheng flaen.

Mae'n ffaith nad yw'r Llywodraeth hon wedi dyrannu digon o adnoddau i'n system iechyd. Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Plaid Cymru, wedi gwneud eu dewisiadau gwariant dros y blynyddoedd, sydd wedi arwain yn sgil hynny at y sefyllfa sy'n wynebu'r GIG nawr. I ni Geidwadwyr, byddai iechyd yn brif flaenoriaeth, yr alwad gyntaf ar wariant cyhoeddus. Rhaid inni gael ein gofal iechyd yn iawn cyn unrhyw beth arall, oherwydd pan na all pobl gael mynediad at ofal amserol, nid oes fawr o ddim arall yn bwysig iddynt.

Nawr, bydd Reform yn cynnig dicter heb unrhyw gynlluniau ar gyfer unrhyw beth, ac os ydynt yn cyhoeddi rhywbeth, mae'n debyg y bydd wedi dod o'n gwaith ni. Bydd Plaid Cymru'n beirniadu Llafur a phawb arall, ond heb ystyriaeth o'u cyflawniad eu hunain. Ond mae'r cyhoedd yn chwilio am atebion, nid esgusodion. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynllun cynhwysfawr i gynyddu capasiti, moderneiddio gwasanaethau, cryfhau atal ac adfer perfformiad. Mae'n seiliedig ar sgyrsiau gyda chlinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n cydnabod bod staff yn gweithio'n anhygoel o galed, ond bod y system o'u cwmpas yn methu, ac mae'n nodi'n glir nad yw dirywiad wedi'i reoli yn dderbyniol.

Lywydd, rhaid i'r ddadl hon ymwneud â mwy nag ystadegau. Rhaid iddi ymwneud ag urddas hefyd. Mae'n ymwneud â sicrhau, pan fydd rhywun yn ffonio am ambiwlans, ei fod yn cyrraedd yn brydlon; pan fydd rhywun yn mynychu adran frys, eu bod yn cael eu trin mewn gwely, nid mewn coridor; pan ddywedir wrth rywun eu bod angen llawdriniaeth, nad ydynt yn cael eu gadael i aros am flynyddoedd. Ni ddylai hyn fod yn ormod i'w ofyn. Mae pobl Cymru yn haeddu GIG sy'n ddiogel, yn wydn ac yn amserol. Maent yn haeddu gonestrwydd am faint yr her, ac maent yn haeddu Llywodraeth sy'n barod i weithredu ar frys, ond yn anffodus nid ydym yn ei weld.

Mae ein cynnig yn ddatganiad nad yw'r status quo yn ddigon da a bod rhaid i bethau newid. Mae'n bryd cyfaddef yr argyfwng ac mae'n bryd unioni pethau. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein cynnig. Diolch.

16:40

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi

a) buddsoddiad mwy nag erioed Llywodraeth Cymru yn GIG Cymru, sy’n golygu bod Cymru'n gwario 9 y cant yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr;

b) bod y rhestr aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gostwng am saith mis yn olynol a bod arosiadau dwy flynedd ar eu hisaf ers mis Chwefror 2021;

c) bod oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys bron chwarter yn is ym mis Ionawr 2026 o'i gymharu â blwyddyn yn ôl; a

d) bod y nifer uchaf erioed o staff clinigol yn cael eu cyflogi yn y GIG.

2. Yn croesawu'r camau sydd wedi’u cymryd i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd yn y GIG, gan gynnwys fframweithiau uwchgyfeirio newydd ar gyfer y byrddau iechyd a’r cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda sefydliadau GIG Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Wedi'i wneud. Felly, James Evans nesaf, i gynnig gwelliant 2. James Evans.

16:45

Gwelliant 2—James Evans, Laura Anne Jones

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylai'r GIG bob amser aros yn ddi-dâl ar y pwynt cyflwyno.

Yn gresynu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru wedi arwain at rai o ystadegau gwaethaf y GIG yn y Deyrnas Unedig.

Yn cydnabod, yn ôl ystadegau iechyd diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror:

a) bod perfformiad ymateb ambiwlansys wedi gwaethygu ar gyfer amseroedd ymateb galwadau coch canolrifol a 90ain canradd yn ogystal ag amseroedd ymateb galwadau porffor y 90ain canradd;

b) bod rhestrau aros dwy flynedd y GIG yng Nghymru yn parhau i fod bron i 24 gwaith yn hirach na'r rhestr gyfatebol yn Lloegr, er gwaethaf eu poblogaeth sylweddol uwch; ac

c) bod 11,392 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn adrannau brys yng Nghymru ym mis Ionawr, er gwaethaf y ffaith mai'r targed yw dim cleifion yn aros dros 12 awr.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau rhestrau aros y GIG a gwella perfformiad y GIG drwy:

a) cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethiant, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion; a

b) torri gwastraff a biwrocratiaeth i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cyrraedd rheng flaen y GIG.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i. Yr wythnos nesaf, bydd Reform yn cyhoeddi'r maniffesto ar gyfer Cymru y bu llawer o ddisgwyl a siarad amdano, a bydd iechyd—[Torri ar draws.] A bydd iechyd a—[Torri ar draws.] Mae angen i chi dawelu; newydd ddechrau ydw i. A bydd iechyd a gofal cymdeithasol yn ganolog ynddo, ac mae'r ddadl heddiw yn datgelu pam ei fod yn angenrheidiol.

Gadewch inni ddechrau gyda'r egwyddor na fyddwn byth yn caniatáu iddi gael ei hystumio: mae Reform UK yn credu bod yn rhaid i'r GIG bob amser aros am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu. Ac mae unrhyw un sy'n awgrymu—. Mae unrhyw un sy'n tanseilio'r egwyddor honno yn codi bwganod yn fwriadol ac yn amddiffyn hanes o fethiant. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad pan fyddaf wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, Janet.

Ond ni ellir amddiffyn cyflawniad y Llywodraeth hon. Am 26 mlynedd, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru wedi rheoli polisi iechyd yng Nghymru—26 mlynedd o benodi byrddau iechyd sy'n methu, 26 mlynedd o osod targedau, 26 mlynedd o ddyrannu cyllideb. Mae'r system wedi torri, ac mae wedi torri o dan eu gwyliadwriaeth nhw. Nid cipluniau dethol yw'r ystadegau diweddaraf, ond patrwm. Mae perfformiad ymateb ambiwlans wedi gwaethygu ar draws y mesurau canolrifol a'r naw degfed canradd ar gyfer y galwadau mwyaf difrifol. Pan fydd rhywun yn deialu 999 mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, maent yn aros yn hirach. Ac roedd gennyf etholwr a gafodd ei israddio oherwydd system a geir yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru. Bu farw'r person hwnnw wedyn.

Mae rhestrau aros dwy flynedd yn parhau i fod bron i 24 gwaith yn hirach nag yn Lloegr, er bod gan Loegr tua 18 gwaith y boblogaeth. Nid bwlch ymylol yw hwnnw; mae'n fwlch enfawr. Ac mewn un mis, roedd dros 11,000 o gleifion yn aros dros 12 awr yn adrannau brys Cymru. Y targed ar gyfer Llywodraeth Cymru yw sero, ond mae'r Llywodraeth yn gofyn inni gymeradwyo cynnydd tra bod miloedd yn cael eu gadael ar drolïau am hanner diwrnod neu fwy. 

Mae gwelliant y Llywodraeth hefyd yn ddosbarth meistr mewn tynnu sylw oddi ar yr hyn sy'n bwysig. Mae'n nodi lefelau gwariant fel pe bai siec fwy yn awtomatig yn cynhyrchu gwell gofal i bobl Cymru. Efallai y bydd Cymru'n gwario mwy y pen, ond mae'r cyhoedd yn aros yn hirach. Mae canlyniadau'n bwysicach na mewnbwn, ac mae angen i Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod hynny.

Mae gwelliant Plaid Cymru yn cilio i'w diriogaeth gyfarwydd arferol, gan feio cyni a Brexit, ond mae iechyd wedi ei ddatganoli, mae llywodraethiant wedi ei ddatganoli, mae cynllunio'r gweithlu wedi ei ddatganoli, ac mae cyflunio gwasanaethau wedi ei ddatganoli hefyd. Ar ôl cefnogi cyllidebau Llafur a chynnal y weinyddiaeth Lafur yma ers blynyddoedd, nid yw'n gredadwy nawr eich bod chi'n gosod eich hun y tu allan i'r system—system yr ydych chi wedi helpu i'w chynnal dros y blynyddoedd.

Mae diagnosis y Ceidwadwyr Cymreig o leiaf yn cydnabod yr argyfwng, ond mae eu cynllun triniaeth yn arwynebol. Iawn, Janet, fe dderbyniaf ymyriad.

Diolch, James. Er eich bod chi'n eistedd ar y meinciau hyn, rydych chi, wrth gwrs, wedi symud at blaid wleidyddol arall, ond rwy'n cofio'n iawn pan oeddech chi'n sefyll yma'n dweud yr un geiriau ac roeddech chi'n falch fel Ceidwadwr Cymreig o'r polisïau iechyd yr oeddech chi wedi ein helpu i'w creu. Dywedwch wrthyf: faint o'r polisïau hynny nawr fydd yn cael eu copïo a'u gludo i mewn i'r maniffesto Reform y byddwch chi'n ei lansio yr wythnos nesaf?

Wel, Janet, mae'n eithaf da eich bod wedi gwneud yr ymyriad hwn, oherwydd mae'n caniatáu i mi godi pwynt. Mae'r polisïau a gyflwynais yn bolisïau y gofynnwyd amdanynt gan y diwydiant, a'r hyn a welais mewn gwirionedd oedd ailysgrifennu llwyr gan yr arweinydd, Darren Millar. Felly, yn anffodus, rwy'n credu bod angen i chi fynd yn ôl ac edrych ar bwy sy'n ysgrifennu eich maniffesto chi mewn gwirionedd—maniffesto o addewidion ffug.

Efallai y bydd datgan argyfwng iechyd cenedlaethol yn creu penawdau, ond maent yn sôn hefyd am adeiladu ysbytai newydd. Efallai fod hynny'n swnio'n feiddgar, ond rydym eisoes yn wynebu ôl-groniad cynnal a chadw enfawr ar draws ystad y GIG yma yng Nghymru, ffigur o bron i £1 biliwn. Nid ychwanegiadau dewisol yw adeiladau sy'n heneiddio, atgyweiriadau allweddol a seilwaith sydd wedi dyddio. Yr hyn sydd angen i ni ei gael yw adeiladau addawol, rhai sy'n fodern, yn gwbl weithredol, oherwydd, fel arall, theatr yw'r cyhoeddiadau y mae'r Ceidwadwyr yn eu gwneud, nid polisi na chyflawniad.

Yn gyntaf, rydym am fynnu adolygiad cynhwysfawr o lywodraethiant ac arweinyddiaeth ar draws y GIG yng Nghymru. Ni all byrddau iechyd barhau i weithredu mewn diwylliant o dargedau wedi'u methu heb unrhyw ganlyniadau ystyrlon. Rhaid i arweinyddiaeth fod yn atebol am ganlyniadau cleifion, nid cael ei gwarchod gan broses neu fiwrocratiaeth.

Yn ail, byddwn yn galw am dorri gwastraff a gweinyddiaeth ddiangen, fel bod cyllid yn cyrraedd y rheng flaen ac nad yw pob £1 yn wedi ei chlymu mewn dyblygu. Byddwn yn torri strwythurau rheoli a chontractau ymgynghori i wneud yn siŵr fod pob £1 yr ydym yn ei harbed yn lleihau rhestrau aros ac yn gwella gofal brys.

Yn drydydd, byddwn yn mynnu bod llif cleifion yn cael ei adfer drwy gryfhau'r ddarpariaeth gymunedol a mynd i'r afael ag oedi cyn rhyddhau o'r ysbyty. Ni allwch drwsio gwasanaeth damweiniau ac achosion brys tra bod gwelyau'n parhau i fod wedi'u blocio ac ambiwlansys yn ciwio y tu allan. Yn bedwerydd, byddwn yn dadlau dros strategaeth gyfalaf realistig—nid un sy'n canolbwyntio ar adeiladau sgleiniog newydd sbon, ond un sy'n clirio'r ôl-groniad cynnal a chadw, yn moderneiddio seilwaith presennol, sy'n ehangu lle mae'n gyfiawn ac yn fforddiadwy i wneud hynny. Dyna fyddwn ni'n ei wneud.

Drwy hyn i gyd, byddwn yn cynnal yr egwyddor sylfaenol fod y GIG am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu, a hynny'n ddigyfaddawd. Ar ôl bron i dri degawd o reolaeth Llafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, sydd bellach yn estyn am rethreg argyfwng, mae Cymru'n haeddu mwy na dadleuon wedi'u hailgylchu a datganiadau cymhellol i'r wasg. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru—

16:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae'n haeddu diwygio strwythurol. Mae'n haeddu gonestrwydd ariannol. Ac mae'n haeddu Llywodraeth sy'n sefyll dros Gymru, ac ar ôl mis Mai, Reform UK fydd y Llywodraeth honno.

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi’n ei le:

Yn gresynu:

a) at effaith polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar ganlyniadau iechyd yng Nghymru; a

b) at effaith Brexit ar brisiau cyffuriau ar gyfer y GIG

Yn credu bod Llafur a’r Ceidwadwyr wedi dangos eu bod yn gwbl anaddas fel gwarchodwyr y GIG.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu adroddiad Plaid Cymru ar ddiwygiadau llywodraethiant yn y GIG, ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’;

b) gweithredu cynllun Plaid Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng rhestrau aros Llafur, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025;

c) hyrwyddo datblygiad y rhaglen i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, a ddechreuwyd gan Blaid Cymru;

d) cryfhau gofal sylfaenol drwy gynyddu’r gyfran o gyllideb Cymru sy’n cael ei gwario ar Wasanaethau Meddygol Cyffredinol ac adolygu’r fformiwla Carr-Hill; ac

e) cyflwyno diwygiadau deddfwriaethol i fynd i’r afael ag oediadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty gan ryddhau llefydd gwelyau sbâr yn fwy effeithlon.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Ceidwadwyr wedi siarad llawer hyd yma am eu cynllun i drwsio'r GIG ar ôl 27 mlynedd o gamreoli Llafur. Ond gadewch inni fod yn glir: nid cynllun yw hwn, ond rhestr siopa—cyfres o ddyheadau wedi'u pwytho at ei gilydd yn llac heb esboniad difrifol o sut y cânt eu cyflawni, dim costio, dim diwygio diwylliannol a dim cydnabyddiaeth o'r niwed y mae eu plaid eu hunain wedi'i achosi i'r union system y maent bellach yn honni eu bod am ei hachub. Ac mae hygrededd yn bwysig. Dyma'r blaid a gymeradwyodd 14 mlynedd o gyni creulon gan eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU—polisïau a wnaeth ddiberfeddu gwasanaethau cyhoeddus a gwneud niwed go iawn y gellir ei fesur. Mae ymchwil annibynnol yn cysylltu cyni ôl-2010 â degau o filoedd o farwolaethau ychwanegol, bylchau cynyddol mewn disgwyliad oes, tlodi plant cynyddol ac iechyd meddwl gwaeth. Nid ideoleg yw hyn ond tystiolaeth. Ac mae'n dystiolaeth y mae'r Ceidwadwyr yn gwrthod ei hwynebu.

Dyma'r blaid a gododd ei hysgwyddau drwy 'partygate', a oddefodd ffrindgarwch adeg y sgandal cyfarpar diogelwch personol a hyrwyddo Brexit caled sydd wedi codi costau meddyginiaeth ac wedi llwytho pwysau pellach ar gyllidebau iechyd sydd dan bwysau. Maent yn parhau i amddiffyn y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, gan ddyfnhau tlodi, un o ragfynegyddion cryfaf salwch. Maent yn argymell hyd at £1 biliwn o doriadau heb eu hariannu i gyllideb Cymru, gan bleidleisio yn erbyn £100 miliwn ychwanegol i'n GIG. Ac yn fwyaf arwyddocaol efallai, cafodd eu platfform iechyd ei siapio am ddwy flynedd gan Aelod sydd ers hynny wedi symud at Reform UK, plaid sy'n fflyrtio â rhethreg wrth-wyddoniaeth a ffantasïau ynghylch preifateiddio.

Mae'r cynllun Torïaidd ar gyfer y GIG a ddadorchuddiwyd yr wythnos diwethaf wedi'i adeiladu ar dywod. Maent wedi meddwl am wasanaeth wrth gefn heb ymgynghori ag un gweithiwr proffesiynol wedi ymddeol, gan adael inni feddwl sut ar y ddaear y mae'r fyddin wirfoddol i fod i gadw i fyny â chymwysterau a hyfforddiant clinigol modern. Maent eisiau galw amseroedd aros 12 awr yn ddigwyddiadau 'byth', heb ddeall pam y mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd a heb ddarparu'r adnoddau i ddatrys y broblem—enw newydd yn unig, a dim ateb.

I goroni'r cyfan, maent eisiau gwario mwy, gan godi cyfran iechyd y gyllideb ymhell y tu hwnt i'w 55 y cant presennol, gan dorri'r union sylfaen dreth sydd ei hangen arnom i oroesi. Mae'n stori dylwyth teg fathemategol sy'n rhoi'r un hygrededd cyllidol â phapur £3 ffug i'r Ceidwadwyr. Felly, pan fydd y Ceidwadwyr yn pregethu wrth y Siambr hon am ddifrifoldeb, dylent faddau i ni am beidio â chael ein syfrdanu.

Ond nid yw rhwystredigaeth y cyhoedd wedi'i chyfyngu iddynt hwy. Ar ôl bron i dri degawd o stiwardiaeth Lafur yng Nghymru, rydym yn wynebu rhestrau aros hir, safonau anghyson, gofal mewn coridorau'n cael ei normaleiddio a diwylliant sy'n rhy aml wedi'i ddiffinio gan ymladd problemau wrth iddynt godi yn hytrach na gwella canlyniadau. Rhwng rhagrith y Ceidwadwyr a hunanfodlonrwydd Llafur, mae llawer o bobl wedi dod i gasgliad syml: nid yw'r naill blaid San Steffan na'r llall wedi dangos ei bod yn addas i fod yn warcheidwad ein GIG yng Nghymru.

Dyna pam y mae ein gwelliant yn bwysig. Mae'n cydnabod na ellir dileu cyni na Brexit o'r ddadl hon, ac nad yw Llafur na'r Ceidwadwyr wedi dangos y ddealltwriaeth o'r arweinyddiaeth glir sydd ei hangen ar ein gwasanaeth iechyd nawr. Nid siarad am gynlluniau'n unig y mae Plaid Cymru yn ei wneud; rydym yn eu cyhoeddi. Mae ein hadroddiad, 'System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant' yn nodi diwygiadau llywodraethu ymarferol a ddatblygwyd gydag uwch glinigwyr—

16:55

Mabon—. Rwy'n gwybod eich bod yn y Siambr newydd a'i bod yn haws gweld yr Aelodau gyferbyn, ond hoffwn glywed yr Aelod yn cyfrannu heb i'w lais gael ei foddi gan y lleisiau ar fy llaw dde.

Rhwystredigaeth ynghylch yr arolygon barn, rwy'n siŵr.

Mae ein cynllun ni'n nodi diwygiadau llywodraethu ymarferol a ddatblygwyd gydag uwch glinigwyr i egluro cylch gwaith gweithrediaeth y GIG, neu Perfformiad a Gwella GIG Cymru fel y'i gelwir erbyn hyn, gan gryfhau arweinyddiaeth Cymru gyfan ar gyfer ein gofal ysbyty, symleiddio targedau fel eu bod yn cyd-fynd ag adnoddau, ac ymgorffori cydweithredu systematig rhwng byrddau iechyd. Dyna sut y mae trwsio'r sylfeini.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynllun cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r argyfwng rhestr aros, nid drwy osod plastr, ond drwy adeiladu capasiti cynaliadwy. Byddai rhaglen ganolfannau llawfeddygol genedlaethol yn clirio'r ôl-groniad gan gryfhau gwydnwch hirdymor ar yr un pryd a rhoi diwedd ar economi ffug Llafur o dalu mwy na'r disgwyl i'r sector annibynnol. Ac rydym wedi cyflawni. Yn nhymor y Senedd hon, mae dylanwad Plaid Cymru wedi sicrhau hyb argyfwng iechyd meddwl 24/7 cyntaf Cymru, cynnydd tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol a dros £100 miliwn o gyllid ychwanegol i'r GIG, a sefydlogodd y rhagolygon o'i gymharu â'r ymyl dibyn yr oeddem yn ei wynebu. Dyna'r gwahaniaeth rhwng sloganau a sylwedd.

Bydd yr etholiad nesaf yn frwydr dros ddyfodol ein GIG: ar un ochr, poblyddiaeth sy'n chwarae gyda phreifateiddio a dogma wrth-wyddoniaeth; ar y llall, rheolaeth ddatgysylltiedig. Neu gallwn ddewis llwybr gwahanol: GIG wedi'i adnewyddu, sy'n eiddo i'r cyhoedd, am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen, wedi'i arwain yn glir a'i gyfarparu ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag adfer ein gwasanaeth iechyd i fod yn destun balchder ein cenedl, ein gwelliant ni yw'r man cychwyn gonest, a Phlaid Cymru yw'r dewis credadwy i'w gyflawni.

Rwy'n falch o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw a rhannu pryderon teuluoedd ledled Cymru sy'n ofni ynghylch yr hyn y maent yn ei brofi yn ein GIG a'n system gofal cymdeithasol. Fel Aelod o ogledd Cymru, mae'r ddadl hon yn amserol, gan fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr newydd gyhoeddi ei ffigurau perfformiad gwaethaf erioed ar gyfer perfformiad adrannau achosion brys. Mae bron i 70 y cant o gleifion yn treulio mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae traean o'r rhai sy'n cyrraedd yn treulio mwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys heb gael eu derbyn. Gallai'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd fod wedi cael ei leddfu flynyddoedd yn ôl pe bai Llywodraeth Cymru wedi adeiladu'r ysbyty cymunedol yn y Rhyl pan wnaethant ddweud y byddent yn gwneud hynny. Yn hytrach, fe wnaethant oedi am 13 mlynedd a phenderfynu gweithredu nawr o'r diwedd, ychydig wythnosau cyn etholiad, yn gyfleus, gyda chynllun wedi'i lastwreiddio ar gyfer ysbyty gyda dim ond 14 gwely—rhan fach iawn o'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol i fy etholwyr. Mae pobl yn gallu gweld drwy'r twyll ac maent yn gwybod eu bod wedi cael cam.

Yng Nghymru heddiw, mae bron i 600,000 o bobl yn aros am driniaeth. Mae hynny bron yn un o bob pedwar o'n poblogaeth sy'n sownd ar lwybr yn rhywle. Mae mwy na 5,200 o bobl wedi aros dros ddwy flynedd i ddechrau triniaeth, o'i gymharu â dim ond 223 yn Lloegr, gyda phoblogaeth 18 gwaith yn fwy. Felly, os yw'r Aelod dros Ddwyfor Meirionydd yn cymharu hynny â'r Torïaid yn Lloegr, sut y maent hwy wedi cael gwared ar amseroedd aros o ddwy flynedd yn ystod y 14 mlynedd o Lywodraeth a'n bod ninnau'n dihoeni ar waelod y tabl? [Torri ar draws.] Ie, Mark.

A fyddech chi'n cytuno bod cynnig 2013 ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra bob amser wedi argymell gwelyau, a fyddai hefyd wedi cynnwys y gwelyau cam-i-lawr, i ddechrau cymryd lle'r rhai a ddiddymwyd ganddynt pan wnaethant gau'r ysbyty cymunedol?

Yn hollol, Mark. Ie, 30 o welyau oedd yno'n wreiddiol ac fe'i caewyd yn 2009 am resymau'n ymwneud â pherygl tân mae'n debyg, ond ni chafodd y canfyddiadau hynny eu cefnogi gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a gwnaethant yr un peth yn ysbyty Dinbych, lle caewyd 13 gwely, yn ôl yr hyn a gofiaf, am yr un rhesymau, ac ni chafodd y rheini eu nodi chwaith gan wasanaeth tân gogledd Cymru. Ac mae'r gost ddynol yn ddinistriol. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad.

A ydych chi'n derbyn, yn ystod rheolaeth a chyni'r Torïaid, ein bod wedi gweld disgwyliad oes yn gostwng a 30,000 o farwolaethau ychwanegol fel canlyniad uniongyrchol i gyni ariannol a arweiniwyd gan y Torïaidd? 

Wel, rwy'n dyfynnu ffigurau amseroedd aros, sy'n amlwg yn berthnasol i'r ddadl hon. Rydych chi wedi penderfynu siarad am wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Rwy'n cadw at bwnc y ddadl a gyflwynwyd.

Felly, datgelodd ein cais rhyddid gwybodaeth fod bron i 40,000 o gleifion wedi marw wrth aros am driniaeth ers etholiadau'r Senedd 2021. Rydym yn siarad am rieni, partneriaid a neiniau a theidiau na lwyddodd i gyrraedd blaen y ciw. Addawodd y cyn-Weinidog iechyd, sydd bellach yn Brif Weinidog, y byddai'n dileu amseroedd aros o ddwy flynedd erbyn mis Mawrth 2023, ac eto erbyn mis Mawrth 2024. Torrwyd y ddau addewid, ac mae'r amseroedd aros yn dal i gynyddu.

Gofynnir i bobl pam y mae Llywodraeth Cymru'n trafferthu gosod targedau, oherwydd ni allaf feddwl am un y maent wedi'i gyflawni mewn gwirionedd. Ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys, y targed yw y dylid gweld 95 y cant o gleifion o fewn pedair awr, a dim ond 63 y cant yw'r realiti, gyda dros 11,000 o bobl yn aros mwy na 12 awr mewn un mis. Amseroedd ymateb ambiwlansys i alwadau coch yw'r rhai gwaethaf a gofnodwyd erioed. Mae perfformiad triniaethau canser yn methu, nid yn gwella, ond nid blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw trwsio'r GIG, ond yn hytrach, brolio rhinweddau mewn perthynas â sero net a thincran cyfansoddiadol. Ni allaf ddirnad sut y mae Llafur Cymru yn meddwl ei bod yn briodol galw am ddatganoli mwy o bwerau i'r Senedd hon pan fo'u perfformiad ar faterion craidd fel iechyd mor wael.

Mae hyd yn oed meddygon yn cytuno bod y system mewn argyfwng, gyda chadeirydd cyngor Cymdeithas Feddygol Prydain, Dr Tom Dolphin, yn dweud y llynedd fod gwasanaethau iechyd ledled y DU mewn argyfwng dwfn, ond yma yng Nghymru mae'r argyfwng yn fwy clir a hirhoedlog.

Nid yw'r atebion sy'n cael eu cynnig gan bleidiau eraill yn rhoi llawer o sicrwydd. Nid oes gan Reform UK unrhyw gynllun difrifol, maent wedi rhoi platfform i ddamcaniaethwyr cynllwyn gwrth-frechlynnau a chrachfeddygaeth. Mae pob polisi y maent yn ei gyhoeddi'n cael ei wrth-ddweud bum munud yn ddiweddarach gan un o'u llefarwyr eraill. Nid ydynt wedi cynnig unrhyw ateb i'r argyfwng gofal iechyd yng Nghymru. Ac mae Plaid Cymru eisiau annibyniaeth, a fyddai'n rhwygo £21 biliwn y flwyddyn allan o gyllid cyhoeddus Cymru, gan addo gwasanaeth gofal cenedlaethol nad oes ganddynt syniad sut y byddant yn ei ariannu.

Ddirprwy Lywydd, mae Cymru'n haeddu cynllun adfer difrifol a dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi ein maniffesto iechyd, sy'n cynnig atebion difrifol ac ymarferol i drwsio'r hyn sydd wedi torri: datgan argyfwng iechyd cenedlaethol i ysgogi gweithredu brys; ailagor wardiau ysbytai cymunedol sydd wedi'u cau i ryddhau gwelyau a chyflymu rhyddhau o'r ysbyty; ehangu canolfannau llawfeddygol a chapasiti diagnostig; rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau; a recriwtio a chadw staff gyda chynlluniau priodol ar gyfer y gweithlu, nid sloganau gwag.

Byddem hefyd yn torri'r fiwrocratiaeth sy'n tagu gofal rheng flaen. Fel y soniodd Peter Fox, dangosodd Comisiwn Bevan fod hyd at 30 y cant o adnoddau'r GIG yn cael eu gwastraffu ar yr hyn y mae staff yn ei alw'n rheolau gwirion, dyblygu gwaith papur, systemau TG sy'n hen a chadwyni cymeradwyo sy'n oedi penderfyniadau. Mae nyrsys a meddygon yn treulio oriau'n llenwi ffurflenni yn hytrach na thrin cleifion. Gall mynd i'r afael â materion fel hyn wneud gwahaniaeth enfawr a byddai'n rhyddhau clinigwyr i dreulio mwy o amser gyda chleifion.

Mae Llafur yn dweud wrthym mai dyma'r gorau y gallant ei wneud, ond os mai Llafur Cymru ar eu gorau yw hyn, nid wyf eisiau eu gweld ar eu gwaethaf. Ar ôl mwy na 26 mlynedd o Lywodraeth Llafur Cymru—

17:00

—wedi'u cynnal gan Blaid Cymru—27, dylwn ddweud, diolch, Janet—wedi'u cynnal—

—gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, cawsom wasanaeth iechyd wedi ei lesteirio'n llwyr gan arweinyddiaeth anghymwys. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig dewis clir; nid ydym yn cynnig breuddwydion fel y mae Plaid Cymru yn ei wneud, ac yn wahanol i Reform, mae gennym gynllun clir, ymarferol i drwsio'r gwasanaeth iechyd a'i gael i weithio i bobl Cymru. Diolch yn fawr.

Wythnos arall, dadl Geidwadol arall am y GIG. Yr un brawddegau wedi'u hailgylchu, yr un pwyntiau siarad treuliedig. Mae angen inni roi'r gorau i ladd ar ein GIG gwych. Mae yna lawer o bobl sy'n cael gofal da yn ein GIG, ac os ydym am recriwtio a chadw meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, rhaid inni eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a siarad â balchder am y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i bawb. Dyna sut y mae cadw wardiau ar agor, dyna sut y mae angen inni gadw ein GIG yn weithredol.

Yng ngogledd Cymru, ein bwrdd iechyd yw un o'r cyflogwyr pwysicaf. Mae'n gweithio gyda chynghrair drydyddol gogledd Cymru a'n hysgolion meddygol i greu llwybrau clir i gyflogaeth, gan hyfforddi pobl leol, cadw dawn a chryfhau gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n falch ein bod wedi pasio cyllideb Lafur Cymru sy'n buddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen, mewn llywodraeth leol ac mewn iechyd. Pleidleisiodd y Ceidwadwyr a Reform yn ei herbyn. Pe na bai'r gyllideb honno wedi'i phasio, byddem wedi wynebu mwy o ansicrwydd a'r cyni parhaus a oedd gennym o'r blaen. Mae 90 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd ar wasanaethau cyhoeddus, a 55 y cant yn mynd ar wariant iechyd. Mae oddeutu 9 y cant yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr. Pe bai Ceidwadwyr y DU wedi parhau'n Llywodraeth, byddai Cymru wedi bod biliynau o bunnoedd yn waeth ei byd am fod cyni'n parhau. Mae Reform hefyd yn ailadrodd yr honiad cyfarwydd y gellir gwneud mwy o arbedion effeithlonrwydd, ond ni allwch dorri eich ffordd i well gofal iechyd.

Diolch byth, mae gennym newid cyfeiriad nawr, Llywodraeth Lafur yn y DU sy'n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus, sy'n gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i dorri rhestrau aros a darparu cyllid mawr ei angen i Gymru. A diolch i'r buddsoddiad hwnnw gan y Llywodraeth Lafur newydd a chynllun £120 miliwn Llywodraeth Cymru, mae rhestrau aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio wedi gostwng saith mis yn olynol. Mae amseroedd aros o ddwy flynedd ar eu hisaf ers mis Chwefror 2021.

Ar ôl y pandemig, roedd rhai llwybrau wedi ymestyn cyn belled â saith mlynedd. Mae wedi cymryd amser i'w torri. Nawr mae pobl yn dweud wrthyf fod eu llawdriniaethau yn cael eu cynnig yn gynt na'r disgwyl; maent yn siarad am glinigau lleddfu poen, ffisiotherapi a'r cynlluniau cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff sy'n trawsnewid eu ffordd o fyw. Mae'r rhain yn gadarnhaol iawn.

Ddydd Llun, roedd yn bleser croesawu buddsoddiad pellach yn Ysbyty Brenhinol Alexandra. Gyda chaniatâd cynllunio wedi'i sicrhau erbyn hyn, diolch i Gyngor Sir Ddinbych, a disgwyl y bydd wedi'i gwblhau y flwyddyn nesaf, mae'n mynd i ddigwydd. Diolch i'w gynllun modiwlaidd, bydd yn gallu darparu ar gyfer hyd at 20,000 o ymweliadau damweiniau ac achosion brys y flwyddyn, gan helpu i leddfu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd. Fe fydd yn cynnwys uned ddeintyddol estynedig ac adran belydr-x a 14 gwely gofal canolraddol, sy'n cyfateb i 220 o arosiadau cleifion y flwyddyn, neu tua 4,500 o arosiadau gwelyau. Hefyd, fel y soniwyd yn gynharach, mae gennym gartref gofal newydd y Fflint, Tŷ Croes Atti, a 56 o welyau gofal yn y gymuned lle mae eu hangen arnom.

Am ormod o amser, câi cynnydd ei lesteirio gan hualau cyni'r Ceidwadwyr, chwyddiant cynyddol yn dilyn cyllideb Truss a straen ddigynsail y pandemig na ellir ei hanwybyddu. Ond nawr, gyda chyllid cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y DU, Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i fuddsoddiad a phartneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych sy'n cael ei redeg gan Lafur, gwelwn beth y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd.

Ochr yn ochr â hyn, bydd yr ysbyty orthopedig newydd yn Llandudno yn agor ym mis Ebrill, rhan o fuddsoddiad o £62.5 miliwn gyda'r ddau gynllun hynny mewn cyfleusterau modern ar gyfer gogledd Cymru. Yn ddiweddar, ymwelais â'r uned ymchwil canser ym Mangor, lle mae gwaith arloesol ar therapïau newydd ar y gweill. Siaradodd ymchwilwyr yn gynnes am y croeso i'r ysgol feddygol newydd ym Mangor, gan gryfhau cydweithredu, denu talent ac adeiladu llif o glinigwyr y dyfodol.

Yng ngogledd Cymru, mae gennym nyrsys ardal 24 awr, gan weithio mewn partneriaeth â Marie Curie hefyd, felly mae hynny'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael gofal yn eu cartref eu hunain. Mae hyn yn rhywbeth a ddysgais ddydd Llun. Cafwyd buddsoddiad o £10 miliwn hefyd mewn gofal canser yn Ysbyty Glan Clwyd, sydd wedi derbyn statws 'canolfan ragoriaeth' Cenhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell, sy'n arwydd o'r safonau uchaf mewn gofal cleifion ac ymchwil.

Ac rydym yn buddsoddi mewn pobl yn ogystal ag adeiladau: mae'r ysgol hyfforddiant meddygol newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn Wrecsam yn agor ei drysau i'r rhai sy'n dewis llwybr newydd. Rwyf wedi gweld fy nith fy hun yn newid ei gyrfa o fod yn weinyddwr ysgol i hyfforddi i fod yn nyrs iechyd meddwl. Mae hi'n ei ddisgrifio fel cam heriol, ydy, ond yn werth chweil a boddhaol iawn. Mae hi'n falch iawn ei bod wedi gwneud y newid hwnnw.

Dyma beth sy'n digwydd pan fyddwn yn dewis buddsoddiad yn hytrach na dirywiad, partneriaeth yn hytrach na rhaniadau, a balchder yn hytrach na phesimistiaeth. Nid yw ein GIG yn berffaith, ond mae'n werthfawr, mae'n werth ei ddiogelu, ac mae'n rhaid inni barhau i fuddsoddi ynddo. Diolch.

17:05

Nid wyf yn gwybod am weddill y Siambr, ond rwy'n cael teimlad o déjà vu, ac rydych chi'n hollol iawn, Carolyn: ni, y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n dod â thrafodaeth, craffu a her yn rheolaidd i Lywodraeth Lafur Cymru am y gwasanaeth iechyd ofnadwy sy'n dal i fod gennym yma yng Nghymru. Ac nid wyf yn sôn am y meddygon, y nyrsys, y glanhawyr nac unrhyw beth felly. Maent hwy'n wych, yn gweithio. Rwy'n cael sylwadau ganddynt, Ddirprwy Lywydd, ynglŷn â pha mor wael yw'r amodau gwaith yn y bwrdd iechyd yn fy etholaeth.

Rydym wedi bod yma gymaint o weithiau o'r blaen, yn trafod cyflwr enbyd GIG Cymru, yn beirniadu Llafur. Chi sydd wedi llywyddu dros 27 mlynedd o fethiant, gyda chleifion yn talu'r pris am analluogrwydd Llafur, ac nid oes dim wedi newid. Ac nid yw Plaid Cymru'n ddi-fai, oherwydd rydych chi wedi cefnogi'r holl gyllidebau. Rydych chi wedi gweithio mewn clymblaid, rydych chi wedi bod mewn Llywodraeth am rai o'r blynyddoedd hynny. [Torri ar draws.] Wel, rydych chi'n sôn am Margaret Thatcher yn rheolaidd ac roedd hi 40 mlynedd yn ôl.

Ni ddylai'r cyhoedd fod yn ddideimlad yn wyneb y ffaith ddigalon mai Cymru sydd â'r amseroedd aros hiraf am driniaeth o bob un o bedair gwlad y DU; diffyg gwelyau ysbyty; a 12 awr—mawredd, rydych chi'n lwcus os yw'n 12 awr yn Ysbyty Glan Clwyd. Rwy'n clywed yn rheolaidd ei fod yn 48 awr, neu'n 72 awr hyd yn oed, clywais hynny gan etholwyr. Bron nad yw pobl yn dod allan gyda briwiau gwely ar ôl bod yn eistedd ar gadair drwy'r amser hwnnw. Ac mae amseroedd aros damweiniau ac achosion brys wedi gwneud gofal mewn coridorau'n norm ac nid yn rhywbeth 'a allai ddigwydd'. Ers etholiad diwethaf y Senedd, mae bron i 40,000 o bobl—a fi oedd yr un a roddodd y cais rhyddid gwybodaeth cyntaf i mewn i ofyn faint o bobl oedd wedi marw wrth aros ar restrau aros am driniaeth, a'r ffigur hwnnw oedd 8,500—ond ar draws Cymru mae bron i 40,000 o bobl a fu'n aros am driniaeth wedi marw.

Methodd y cyn-Weinidog iechyd Llafur gyrraedd ei thargedau ei hun ar restrau aros ac mae bellach yn Brif Weinidog Cymru. Felly, gwyddom nad yw methiant yn rhwystr i allu camu ymlaen yn Llafur Cymru. Ond ni ddylai pobl Cymru, ac ni fydd pobl Cymru'n derbyn methiant yn ein gwasanaeth iechyd mwyach.

Ni fydd yn hawdd, ond fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn trwsio'r llanast y bydd Llafur yn ei adael ar ôl ym mis Mai, gan y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i gael ein system iechyd i weithio fel y dylai i Gymru a'n hetholwyr hirddioddefus. Ni yw'r unig blaid sydd â chynllun credadwy i drwsio GIG Cymru. Felly, beth bynnag y byddwch chi'n ei gyflwyno yr wythnos nesaf o ran eich plaid, James, nid wyf yn ei gredu. Bydd ein cynllun gweithlu a seilwaith hirdymor yn moderneiddio'r GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru fwy nag erioed o'r blaen.

Byddwn yn datgan argyfwng iechyd ar unwaith ac yn rhoi camau ar waith i ailwampio GIG Cymru i greu mwy o welyau ysbyty yn lle'r 4,000 sydd wedi'u colli na fyddent wedi cael eu colli o dan Lywodraeth Geidwadol yng Nghymru. Byddwn yn creu wardiau ysbytai cymunedol i wella llif cleifion i mewn i ysbytai, a byddwn yn rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau i roi'r gofal sydd ei angen arnynt i'r 580,000 o bobl sydd ar hyn o bryd yn aros am driniaeth. Ac rwy'n falch iawn, a dywedais hyn yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ychydig ddyddiau'n ôl—

17:10

Gwnaf, gadewch i mi ddweud hyn. Rwy'n cefnogi ymgyrch Rhoi Diwedd ar Ofal Mewn Coridorau (BEDS) yn llwyr—ymgyrch sy'n cael ei harwain gan weithwyr proffesiynol meddygol. Byddwn yn gwrando ar yr arbenigwyr i wneud pethau'n iawn, gan roi gofal cleifion yn ôl ar y blaen yn y GIG, yn hytrach na thargedau ynni sero net nad ydynt yn gyraeddadwy a pholisïau brolio rhinweddau sydd wedi mynd ag arian mawr ei angen yn ogystal â'n meddygon a'n nyrsys i ffwrdd o'r rheng flaen. 

Diolch, Janet. Ar y pwynt roeddech chi'n ei wneud am ofal mewn coridorau, pan oeddech chi'n sôn am hynny yn eich sylwadau, roedd Aelodau'n cwyno ac yn ochneidio oddi ar y meinciau eraill. A yw hynny'n dangos i chi y diffyg uchelgais sydd gan rai pleidiau i leihau gofal mewn coridorau a rhoi diwedd arno, a derbyniad o fethiant, a bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar ofal mewn coridorau mewn gwirionedd?

Ydw, rwy'n cydnabod hynny. A'r hyn sy'n fy mlino yw'r holl wadu sy'n digwydd pan gawn y dadleuon hyn. Rydych chi'n gwadu'r gwirionedd. Ymhen pythefnos, efallai y bydd rhywun arall oddi ar un o'ch meinciau'n cyflwyno pryderon am ofal iechyd, ond ni wnewch ein cefnogi ni pan fydd gennym gynllun i'w datrys.

Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn anhapus â'r contract deintyddol newydd. Maent yn teimlo nad ydynt wedi cael eu clywed. Mae nifer y deintyddion sy'n teimlo bod modd gweithredu'r contract hyd yn oed yn llai na 5 y cant. Mae fy nghyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig wedi tynnu sylw'n fynych at y diffygion—[Torri ar draws.]—gyda'r contract deintyddol newydd ac wedi galw am fynd i'r afael â phryderon Cymdeithas Ddeintyddol Prydain. Rydym yn cefnogi eu galwadau i ariannu'r contract deintyddol yn iawn.

Mae Cymru wedi blino ar ddod yn olaf o ran gwasanaethau cyhoeddus ac mae wedi blino ar GIG toredig, gyda byrddau iechyd mewn mesurau arbennig yn norm. Rydym ni a'n hetholwyr yn haeddu cymaint mwy na'r methiant cyson mewn iechyd—

—a gawsom o dan y weinyddiaeth bresennol. Pleidleisiwch i'r Ceidwadwyr Cymreig ar 7 Mai, a chyn hynny drwy bleidlais bost. Diolch yn fawr.

17:15

A oeddech chi'n gwybod nad oes neb ym Mhowys yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth? A oeddech chi'n gwybod hynny? A oeddech chi'n gwybod, hefyd, nad oes neb yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf? Dyna honiad sy'n cael ei wneud dro ar ôl tro gan yr Ysgrifennydd iechyd, sydd wedi gwneud yr honiad hwnnw dros y 12 mis diwethaf. Wel, mae'n newyddion gwych, onid yw? Mae'n drawiadol iawn—bron yn anghredadwy. Mewn gwirionedd, pe bawn i'n Ysgrifennydd Iechyd, buaswn innau eisiau cyflwyno'r ystadegau hynny hefyd.

Ond mae yna broblem. Nid oes dim ohono'n wir. Mae'n honiad ffug. Nid camarweiniol yn unig ydyw; mae'n anghywir. Beth yw'r gwir? Mae'r gwir yma. Cefais lythyr gan fwrdd iechyd Powys ddoe. Y gwir, fel y nododd bwrdd iechyd Powys, yw bod cannoedd o bobl yn aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf, a dros ddwy flynedd am driniaeth. Ond yn fwy rhyfedd, mae Llywodraeth Cymru'n gwybod hyn eu hunain hefyd.

Gofynnais gwestiwn yn ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd iechyd yn gynharach y mis hwn. Gofynnais faint o bobl sydd wedi bod yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf a dros ddwy flynedd am driniaeth. Atebodd y Gweinidog:

'nid oedd unrhyw lwybrau cleifion a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf neu ddwy flynedd am driniaeth GIG.'

Yna mae'n mynd rhagddo i ddweud:

'Mae rhai llwybrau i drigolion Powys yn cael eu darparu gan fyrddau iechyd eraill yng Nghymru'

ac

'roedd 40 o lwybrau trigolion ym Mhowys a oedd yn cael eu darparu gan fyrddau iechyd eraill yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf, a 185 yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.'

Gallaf glywed yr Ysgrifennydd Iechyd yn dweud nad yw hyn yn newyddion. Wel, pam eich bod chi'n gwneud datganiadau camarweiniol, felly? Dewch wir, Ysgrifennydd iechyd. Mae'n ofnadwy o amharchus i'r bobl sy'n aros ar restr aros. Mae'r Ysgrifennydd iechyd yn gorffen ei ddatganiad ysgrifenedig drwy ddweud hyn:

'Mae gan rai o drigolion Powys lwybrau a ddarperir gan ymddiriedolaethau GIG Lloegr. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw data ar y llwybrau hyn.'

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dathlu nad oes neb yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, ac ar yr un pryd yn cyfaddef nad ydynt yn gwybod faint o bobl sy'n aros am driniaeth, sy'n codi pwynt arall: pam nad ydych chi'n gwybod hynny? Rydych chi'n ariannu bwrdd iechyd Powys i redeg gwasanaethau iechyd ym Mhowys. Yn sicr, dylech wybod faint o drigolion Powys sy'n aros am driniaeth, a ble maent yn aros, a pha mor hir y maent yn aros. Dylech wybod hyn i lywio polisi. Ond yn waeth na hynny, nid yn unig nad ydych chi'n gwybod hynny, rydych chi wedyn yn gwneud yr honiad nad oes neb yn aros mwy na dwy flynedd, sy'n honiad anghywir.

Pan fyddaf yn codi hyn gyda'r Ysgrifennydd iechyd, mae'n ateb bod disgwyl i mi ac Aelodau eraill wybod pan fydd yn gwneud yr honiadau hyn, ei fod yn gweithio ar set ddata wahanol, a'i fod wedi esbonio hyn sawl gwaith. Rwy'n deall hynny. Ond nid ydych yn cydnabod nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth ei hun, a phan fyddwch chi'n gwneud y datganiadau hyn, ac rydych chi'n dweud y dylwn i ddeall hyn—. Rydych chi'n gwneud yr honiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y datganiadau i'r wasg gan y Llywodraeth, ac rydych chi wedi bod yn gwneud hynny dros y 12 mis diwethaf, i'r cyhoedd; nid i Aelodau'r Senedd, i'r cyhoedd—

Mae'n wir, ydy—diolch am gydnabod hynny—ond nid ydych chi'n rhoi unrhyw gyd-destun. Rydych chi'n gwneud y datganiad hwnnw heb ddarparu unrhyw gyd-destun ehangach.

Ac yn rhyfedd, pan fyddaf yn ei godi gyda'r rheolwr busnes, fi yw'r un sy'n gorfod bod yn ofalus gyda'r iaith rwy'n ei defnyddio. Y Llywodraeth sy'n darparu datganiadau camarweiniol, nid fi. Os yw'r Ysgrifennydd iechyd eisiau i mi roi'r gorau i swnio fel record wedi torri, rwy'n dweud hyn: ymddiheurwch, cywirwch y cofnodion, ac ymrwymwch i ddarparu datganiadau cywir yn y dyfodol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud, Ysgrifennydd iechyd, os ydych am barhau i ddarparu'r set ddata fel rydych chi'n ei wneud, yw darparu'r cyd-destun ehangach nad yw eich ffigurau chi'n cynnwys y ffaith bod llawer o bobl yn aros mewn ardaloedd byrddau iechyd eraill yng Nghymru ac yn Lloegr.

Peidiwch â chwarae gydag ystadegau, oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn mae yna unigolyn yn aml yn aros mewn poen. Mae'n amharchus iawn i'r cannoedd o bobl sydd ar restr aros i glywed honiadau camarweiniol o'r fath, ac mae'n dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru ddealltwriaeth ddigonol o fwrdd iechyd Powys fel bwrdd iechyd heb ysbyty cyffredinol dosbarth.

Mae'n parhau i fod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru'n cydnabod dibyniaeth trigolion Powys ar ysbytai yn Lloegr yn eu datganiadau, yn eu data perfformiad, nac yn y ffordd y maent yn darparu cyllid a sut y caiff cyllid ei ddyrannu i leihau amseroedd aros. Rwy'n gobeithio y caf ymateb priodol gan yr Ysgrifennydd iechyd wrth iddo wneud ei sylwadau cloi, ac y bydd yn derbyn, yn y dyfodol, y bydd yn gwneud yn siŵr fod datganiadau'n cael eu gwneud gyda chyd-destun a chywirdeb.

17:20

Am ychydig o hwyl ar brynhawn Mercher, onid e? Ychydig o ddadlau yn ôl ac ymlaen, ychydig o herian. Ond ni ddylai fod yn hwyl. Rydym siarad am fywydau pobl yma. Rydym yn siarad am ystadegau, a'r tu ôl i bob ystadegyn mae unigolyn yn aros mewn poen, yn aros gydag anwylyd mewn poen am y driniaeth sydd ei hangen arnynt.

Hoffwn ddechrau, Ddirprwy Lywydd, drwy chwalu rhai o'r mythau a diolch i staff y GIG a phawb sy'n gweithio yn ein GIG am y gwaith aruthrol y maent yn ei wneud. Cawn ein beirniadu'n aml ein bod ni'n lladd ar Gymru, ein bod ni'n lladd ar y GIG. Na, i'r gwrthwyneb—rydym eisiau i Gymru a'r GIG wneud yn well nag y maent yn ei wneud. Rydym eisiau uchelgais, ei weld yn gwella, nid lladd arno a chanolbwyntio bob amser ar yr elfennau negyddol. Y broblem yw mai'r unig bethau y gallwn ni ganolbwyntio arnynt byth, oherwydd bod cymaint ohonynt, Ddirprwy Lywydd, yw'r elfennau negyddol. Rydym ar waelod pob tabl, boed hynny gyda'r GIG, addysg, neu'r economi.

Ond nid wyf yn credu bod gan Gymru GIG mwyach. Mae ganddi saith bwrdd iechyd yn gwneud pethau'n wahanol, pob un yn gwneud pethau ar ei ben ei hun. Mae Ysgrifennydd y Cabinet ac Ysgrifenyddion y Cabinet blaenorol bob amser wedi nodi mai mater i fyrddau iechyd yw darparu'r gwasanaethau—'Ni sy'n darparu'r fframwaith polisi iddynt hwy ei gyflawni o'i fewn.' Rwy'n credu bod hynny'n nonsens nawr. Rwy'n credu ei bod wedi dod yn eithaf amlwg fod y system lle mae'r GIG yn cael ei ailddosbarthu o dan 27 mlynedd o reolaeth Lafur yn fiwrocrataidd ac yn anniben. Oherwydd ble mae'r atebolrwydd?

Mae gŵr bonheddig wedi anfon cais rhyddid gwybodaeth i mewn, lle mae wedi fy nghynnwys i a fy nghyd-Aelod Paul Davies yn yr e-bost, yn gofyn sut ar y ddaear y cawn ni wared ar y rhai sy'n gwasanaethu yn ein byrddau iechyd, sy'n arwain y byrddau iechyd hynny. Oherwydd nid oes unrhyw atebolrwydd yno. Rydych chi wedyn yn dod at amser etholiad, ac rydych chi'n pleidleisio dros Lywodraeth yr ydych chi ei heisiau mewn grym. Yna mae'r blaid fuddugol honno'n rhoi Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i mewn, ac maent yn codi ac yn dweud, 'Wel, nid yw'n fater i ni. Y byrddau iechyd sy'n darparu'r gwasanaethau.'

Daw hynny â mi at y pwynt perthnasol ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yng ngorllewin Cymru ar hyn o bryd, gydag ailddosbarthu—. Na, mae'n ddrwg gennyf, nid ailddosbarthu, ond canoli gwasanaethau i ffwrdd o Fronglais ac unwaith eto, i ffwrdd o Ysbyty Llwynhelyg. Fel pob teulu yn sir Benfro, mae gennyf gysylltiad ag Ysbyty Llwynhelyg. Cefais fy ngeni yno, cafodd fy mrawd ei eni yno, bu farw fy mam-gu a fy nhad-cu yno, ac mae'r ysbyty hwnnw wedi cadw fy mam a fy nhad yn fyw. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r ysbyty hwnnw, ac nid wyf am adael i unrhyw Brif Weinidog ddweud wrthyf yn nawddoglyd fy mod i'n lledaenu camwirionedd, neu beth bynnag yw'r gair a ddefnyddiodd i'w ddisgrifio, ein bod ni'n codi bwganod, pan fyddwn yn sefyll dros yr etholwyr, yr union etholwyr y cafodd hithau hefyd ei hethol i'w cynrychioli.

Yna mae'r eironi o gyhoeddi'r cyfleusterau newydd sbon hyn yng ngogledd Cymru a dweud yn yr un gwynt am 'ddod â gwasanaethau'n agosach at y cymunedau', pan oedd Hywel Dda, ddyddiau yn gynt, yn sôn am ganoli gwasanaethau i ffwrdd o gymunedau mewn ysbyty nad yw'n addas i'r diben mwyach yng Nglangwili. Rwy'n adnabod Glangwili. Mae yn fy etholaeth i. Mae'n hen, mae wedi dyddio, mae'n orlawn, ac nid yw'n addas i'r diben yn y system y mae ynddi. Felly pam y mae'r bwrdd iechyd hwn wedi cael carte blanche gan y Llywodraeth hon, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, i fwrw ymlaen â pholisi o ganoli gwasanaethau mewn ysbyty nad yw'n addas i'r diben mwyach? Ble mae'r atebolrwydd? Dyna gwestiwn nad oes gan neb ateb iddo.

Rwy'n teimlo mor rhwystredig, unwaith eto, pan fydd gennym ddadleuon am y GIG, ei fod yn cael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol, yn ôl ac ymlaen. Fe wyddom ei bod yn dymor etholiad arnom. Rwy'n credu bod Lloyd Warburton yn cyfrif ar Twitter faint o ddyddiau sydd i fynd—71 diwrnod i fynd. Mae pobl wedi cael llond bol ar wleidyddiaeth a'r GIG yn cael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol. Oherwydd, fel rydym wedi dweud, mae'n fater o fywyd a marwolaeth, Dawn. Mater o fyw a marw. Mae'r Gweinidog yn chwerthin. Mae'r Gweinidog yn chwerthin ar bwynt ynghylch byw a marw. Dyma sydd mor rhwystredig.

Deuthum i'r lle hwn yn 2021 yn meddwl os yw syniad da yn syniad da, efallai mewn Senedd fach o ddim ond 60, y gellid ei godi a dweud, 'Wyddoch chi beth? Mewn gwirionedd, mae hwnnw'n syniad da a gallwn  symud ymlaen â hynny.' Yn ein maniffesto yn 2021, roedd gennym ganolfannau llawfeddygol fel ymrwymiad maniffesto. Cododd Mabon yn gynharach a dweud bod ganddynt syniad newydd sbon am ganolfannau llawfeddygol. Cawsom hynny yn 2021. Pam y cymerodd hi gymaint o amser i'r Llywodraeth hon gyflwyno canolfannau llawfeddygol pan gawsant eu cyflwyno gan Lywodraeth Geidwadol y DU i gael gwared ar yr ôl-groniad ar ôl y pandemig? Mae syniad da yn syniad da o ble bynnag y daw, felly pam nad ydym yn canolbwyntio ar syniadau da yn hytrach na gwleidyddiaeth y peth? Oherwydd yn y pen draw, dyma fywoliaeth pobl, bywyd a marwolaeth, ac mae teuluoedd wedi cael llond bol bellach ar yr holl ddadlau yn ôl ac ymlaen. Diolch, Ddirprwy Lywydd. 

17:25

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i roi ar gofnod unwaith eto y cynnydd rŷn ni wedi'i wneud yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y gwasanaeth iechyd.

Bum mlynedd yn ôl, ar ôl yr etholiad diwethaf, roeddem ni'n dal i fod yng nghanol y pandemig. Roedd gweithdrefnau rheoli heintiau caeth ar waith, ac roedd wardiau a gwelyau mewn unedau gofal dwys yn llawn o bobl gyda COVID-19. Mae'r pandemig wedi cael effaith tymor hir a pharhaol ar y gwasanaeth iechyd a'i staff. Mae'r gwasanaeth yn dal i adfer hyd heddiw o effeithiau'r camau y cymeron ni i sicrhau ei fod e'n gallu ailgyfeirio ei wasanaethau tuag at y pandemig mwyaf ers ffliw Sbaen.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, rŷn ni wedi wynebu argyfwng costau byw yn sgil chwyddiant parhaus uchel a chanlyniadau cyllideb ddifrifol Liz Truss a'i hapchwarae gyda'r economi. Fe wnaeth agwedd ddi-hid y Torïaid at gyllid cyhoeddus y wlad ac effaith niweidiol degawd o gyni amddifadu'r gwasanaeth iechyd o fuddsoddiad hanfodol. Dim ond ar ôl i Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ddod i rym ddwy flynedd yn ôl cafodd y sefyllfa ei datrys. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Rydych chi'n rhoi darlun o sefyllfa ac yn esbonio yn eich tyb chi pam fod y rhestrau aros a'r sefyllfa fel maen nhw, ond, wrth gwrs, mae'r un sefyllfa wedi bod yn wir cyn belled ag y mae'r Alban yn y cwestiwn, a Lloegr a Gogledd Iwerddon. Pam, felly, fod y sefyllfa yn waeth yng Nghymru?

Dwi'n mynd i fynd ymlaen i esbonio'r sefyllfa yng Nghymru a beth rŷn ni'n gwneud amdani.

Wrth i'r pandemig gilio, mae'r galw am ofal y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu. Mae poblogaeth sy'n heneiddio, cyflyrau sydd yn fwyfwy cymhleth, ac anghenion iechyd meddwl sy'n tyfu i gyd wedi cyfrannu at set o heriau sy'n newid trwy'r amser i'n gwasanaeth iechyd ymdopi â nhw.

Er gwaetha'r pwysau digynsail a gwasgfa'r Torïaid ar gyllid cyhoeddus, rŷn ni wedi diogelu gwariant ar iechyd. Mae Cymru'n gwario 9 y cant yn fwy y pen ar iechyd na Lloegr. Mae penderfyniadau cyllido yng Nghymru yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru. Rŷn ni wedi dewis diogelu gwasanaethau cyffredinol, presgripsiynau am ddim, a chynllunio iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd integredig. Rŷn ni wedi diogelu capasiti llawfeddygol, ac wedi buddsoddi yn hynny. Mae hyn yn cynnwys canolfan lawfeddygol newydd gwerth £29.4 miliwn yn y gogledd, a fydd yn darparu 1,900 o lawdriniaethau yn flwyddyn pan fydd hi'n agor ym mis Ebrill.

Rŷn ni wedi cadarnhau cyllid ar gyfer y ganolfan ddiagnostig ranbarthol newydd ym Mharc Iechyd Llantrisant. Bydd canolfan ganser newydd Felindre'n cael ei chwblhau erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, ac mae £38 miliwn wedi'i fuddsoddi i'r uned radiotherapi lloeren yn Ysbyty Nevill Hall. Erbyn hyn, mae gwasanaethau orthopedig penodol wedi'u clustnodi ar gyfer rhanbarth y de-orllewin, ac mae'r gwelyau orthopedig penodol wedi'u clustnodi yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi cefnogi mwy na 1,000 o lawdriniaethau ers mis Medi. Rŷn ni'n buddsoddi £13.9 miliwn mewn ail sganiwr PET yn Ysbyty Singleton, ac mae cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer sganiwr PET newydd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Ddirprwy Lywydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dwysáu ein ffocws ar leihau'r amseroedd aros hiraf fel rhan o'n cynllun £120 miliwn, ac ar wella llif y system. Mae hyn yn cyflawni canlyniadau. Mae amseroedd aros o ddwy flynedd wedi gostwng yn sylweddol i'w lefel isaf ers mis Chwefror 2021. Mewn rhai arbenigeddau mae'r amseroedd aros hiraf wedi'u torri fwy na hanner mewn un flwyddyn. Mae'r rhestr aros gyffredinol wedi gostwng saith mis yn olynol. Mae nifer—[Torri ar draws.] Yn sicr.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y £120 miliwn i helpu i leihau amseroedd aros y llynedd. Nodaf fod hynny wedi'i ddyrannu ar draws gwahanol fyrddau iechyd—Aneurin Bevan £15 miliwn, Betsi Cadwaladr £24 miliwn, Caerdydd a'r Fro £20 miliwn. Dim ond £115,000 a gafodd bwrdd iechyd Powys. Dyna 0.1 y cant o'r £120 miliwn. A allwch chi esbonio pam?

Fel y soniodd yr Aelod ei hun mewn sawl ymyriad a chyfraniad arall, nid oes gan Bowys yr ehangder llawn o wasanaethau y mae byrddau iechyd eraill yn eu darparu yng Nghymru, ac felly bydd y cyfraniad sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu targedau yn anochel yn llai. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Ond a ydych chi'n derbyn bod y bwrdd iechyd yn dal i orfod talu darparwyr eraill, boed yn Lloegr neu yng Nghymru, am y gwasanaeth hwnnw, felly oni ddylid cydnabod hynny?

Mae'n cael ei gydnabod yn y cyllid a ddarparwn iddynt.

Fe wnaf gynnydd pellach, Ddirprwy Lywydd, os caf. Mae'r rhestr aros gyffredinol wedi gostwng saith mis yn olynol. Mae nifer y bobl sy'n aros am driniaeth y GIG ar ei lefel isaf ers bron i dair blynedd. Mae ychydig dros 32,700 o bobl yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf—y lefel isaf ers mis Medi 2020. Mae sawl bwrdd iechyd wedi llwyddo i ganolbwyntio ar ryddhau o'r ysbyty a llif cleifion. Mewn gofal wedi'i gynllunio, rydym yn darparu mwy o driniaethau y mis nag ar yr un pwynt y llynedd. Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan fyddin o staff ymroddedig y GIG sy'n gweithio drwy'r wythnos, ar benwythnosau a chyda'r nos, ac rwy'n diolch iddynt i gyd. A ydym ni lle rydym eisiau bod? Nac ydym. A ydym yn symud i'r cyfeiriad cywir? Ydym. Rydym yn parhau i gefnogi'r GIG i wneud newidiadau hirdymor drwy gynyddu cynhyrchiant theatr, cydweithio'n rhanbarthol, harneisio arloesedd, symleiddio atgyfeiriadau a chleifion allanol a gwneud gwell defnydd o gapasiti sector annibynnol lle mae'n briodol.

Nawr, fe glywsom y galwadau anochel heddiw fod yn rhaid datgan argyfwng iechyd. Sloganau, heb unrhyw sylwedd. Gwleidyddiaeth berfformiadol fas y Torïaid ar ei gwaethaf. Nid a oes yna bwysau yw'r cwestiwn—[Torri ar draws.] Slogan ydyw. Ac yna clywsom y cyfraniad gan yr Aelod Reform gwrth-GIG. Eisteddodd James Evans ar y meinciau hyn am flynyddoedd yn galw am ddatgan argyfwng iechyd; cyn gynted ag y syrthiodd i freichiau Nigel Farage honnodd fod Ceidwadwyr eraill wedi dweud wrtho am ei ddweud. Mae'n atgoffa rhywun o'r hyn y mae bargyfreithwyr yn ei ddweud yn y llysoedd pan fydd ganddynt dyst amheus yn rhoi tystiolaeth—'A oedd yn dweud celwydd bryd hynny neu a yw'n dweud celwydd nawr?'  Nid a oes yna—[Torri ar draws.] Iawn, yn sicr, James.

17:30

Fe ddywedoch chi fy mod yn erbyn y GIG. Mae fy nheulu'n gweithio yn y GIG. Rwy'n poeni'n fawr am y GIG. Myfyriwch ar y sylwadau hynny, maent yn gwbl ffiaidd.

Y pwynt rwy'n ei wneud, fel y bydd yr Aelodau yma'n ei gydnabod, yw bod yr Aelod hwn wedi sefyll ar y meinciau hyn yn galw am un polisi ac yna wedi symud sedd i'r fan acw a dweud nad oedd erioed yn credu yn y polisi hwnnw. Y pwynt rwy'n ei wneud yw ei bod hi'n anodd rhoi unrhyw hygrededd o gwbl i unrhyw honiadau o gefnogaeth i'r GIG gan yr Aelod Reform yng ngoleuni hynny.

Y cwestiwn, Ddirprwy Lywydd, yw nid a oes pwysau—yr un pwysau ag sy'n cael ei deimlo ledled y DU—ond sut rydym yn ymateb iddo. A'n hymateb fu buddsoddi mewn pobl, yn y gwasanaeth ac mewn modelau gofal newydd sy'n symud mwy o gefnogaeth yn nes at adref, yn union fel y buom yn ei drafod yn gynharach yn y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau offthalmoleg.

Rydym wedi tyfu'r gweithlu i'r pwynt lle mae mwy o bobl nag erioed yn gweithio yn GIG Cymru. Ers 2021, rydym hefyd wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Rydym wedi cefnogi recriwtio rhyngwladol, gan gryfhau cynlluniau hyfforddi domestig ar yr un pryd. Rydym wedi rhoi mentrau cadw staff newydd ar waith, yn ogystal â pholisïau gweithio hyblyg i gadw staff profiadol yn y gwasanaeth. Mae hynny'n bwysig, oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn, mae gweithiwr proffesiynol sy'n gwneud eu gorau glas ar ran cleifion. Maent yn haeddu ein parch, ein diolch a'n cefnogaeth. Rydym hefyd wedi diwygio'r ffordd y caiff gofal ei ddarparu i gefnogi pobl i fyw'n dda yn eu cymunedau eu hunain, gyda'r cymorth sydd ei angen arnynt mor agos at adref â phosib.

Ddirprwy Lywydd, mae perfformiad yn ymwneud â mwy nag amseroedd aros yn unig, mae a wnelo â chanlyniadau ac mae a wnelo â thegwch. Mae Cymru’n parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel mewn llawer iawn o feysydd—y niferoedd sy'n cael brechiadau, cyfranogiad mewn sgrinio a mynediad at ofal sylfaenol ar gyfer anghenion brys. Ers 2021, rydym wedi adfer ac ehangu rhaglenni sgrinio y tarfwyd arnynt gan COVID.

Mae cysylltiad agos rhwng canlyniadau iechyd yng Nghymru ac amddifadedd. Ers 2021, rydym wedi alinio buddsoddiad iechyd â'n hymrwymiadau ehangach i fynd i'r afael â thlodi, gwella tai a chefnogi gofal cymdeithasol. Ddoe, cyhoeddais gamau nesaf ein cenedl Marmot. Bydd Merthyr Tudful, sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot yn fabwysiadwyr egwyddorion Marmot cynnar i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Bydd y tri chyngor yn derbyn pecyn o gyllid dros ddwy flynedd i ddatblygu systemau tegwch iechyd a lledaenu arferion da.

Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir wrth y GIG beth sydd angen iddo ei wneud i wella mynediad amserol a diogel at ofal. Ond ein dull gweithredu ni bob amser yw gwneud hynny drwy roi'r cymorth, yr adnoddau a'r anogaeth sydd eu hangen arno i wella. Byddwn yn hyrwyddo'r rhagorol ac yn lledaenu'r gwaith da sy'n mynd rhagddo bob dydd ym mhob rhan o'n gwasanaeth iechyd ledled Cymru. A byddwn yn parhau i wneud hynny gyda'r rhai sy'n adnabod eu gwasanaeth orau—y staff, ei gleifion a'n cymunedau lleol.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl ar y GIG yma yn y Senedd heno. A gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i'r staff sy'n gweithio yn ein GIG, staff sy'n mynd y tu hwnt i'r galw bob dydd yn ein GIG. A phan fyddwn yn siarad â'n hetholwyr am eu profiadau o'r GIG, maent yn nodi'r pethau y teimlant eu bod yn anghywir, ond yr un peth nad ydynt byth yn ei nodi fel problem yn ein GIG yw gwaith caled ac ymroddiad y staff y dônt ar eu traws yn ein GIG. Ond mae'n rhaid i'r aelodau hynny o staff, yn union fel y cleifion sy'n dibynnu ar y GIG bob dydd, ddioddef amgylchedd anhygoel o anodd. Mae'r gwyrthiau y maent yn eu cyflawni yn wyrthiau am eu bod yn eu cyflawni yng nghyd-destun 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi darparu amseroedd aros o 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ambiwlansys yn ciwio'n rheolaidd y tu allan i ysbytai, yr arosiadau GIG hiraf yn unrhyw le yn y DU, gan gynnwys llawer dros ddwy flynedd, diffyg argaeledd apwyntiadau meddyg teulu a gofal mewn coridorau. Dyna hanes 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru—dyna y mae plaid honedig y GIG wedi'i gyflawni. Yn amlwg, mae angen i bethau newid a chredaf ei bod yn briodol, Ddirprwy Lywydd, fod y ddadl gyntaf gan y Ceidwadwyr Cymreig yn Siambr newydd y Senedd yn ddadl ar y GIG, gan ei bod yn arwydd gweledol, onid yw, o'r blaenoriaethau a'r dewisiadau rydym ni fel gwleidyddion yn eu hwynebu yn y penderfyniadau a wnawn. Oherwydd mae cyferbyniad, onid oes, ac mae'r Siambr newydd hon yn tynnu sylw at hynny.

Rydym eisiau blaenoriaethu'r GIG. Fe wnaethom gyflwyno cynllun i drwsio ein GIG, ac eto nid yw wedi'i drwsio. Yn 2021, gwta bedair blynedd yn ôl, cafwyd cytundeb cydweithio—mae rhai'n cyfeirio ato fel clymblaid—rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur. Gallai Plaid Cymru fod wedi gofyn, yn y cytundeb hwnnw, am unrhyw beth yr oeddent ei eisiau, a phrif flaenoriaeth ein hetholwyr fyddai datrys rhai o'r problemau cronig yn ein GIG, ond ni wnaethant ddewis gwneud hynny, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaethant flaenoriaethu mwy o wleidyddion dros drwsio ein gwasanaeth iechyd gwladol. [Torri ar draws.] Dyna'r dewis a wnaethant, ac eto rydym yn eistedd mewn Siambr Senedd newydd sbon tra bo'n hysbytai'n dadfeilio y tu allan i'r drysau hynny. [Torri ar draws.] Dyna'r darlun o'r dewisiadau y mae Plaid Cymru yn eu gwneud.

17:35

Gofynnaf i bob Aelod—[Torri ar draws.] Gofynnaf i bob Aelod ar ddwy ochr y Siambr dawelu, os gwelwch yn dda. Hoffwn wrando ar ymateb yr Aelod sy'n cau'r ddadl, a hoffwn glywed yr hyn y mae'n ei ddweud, gan na allaf ei glywed ar hyn o bryd, am fod y lleisiau o'r chwith a'r dde yn ei foddi. Tom, gorffennwch, os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws] Iawn. Wrth gwrs.

Fe benderfynoch chi ddod i gytundeb â'r Llywodraeth ar y gyllideb eleni. A wnaethoch chi lwyddo gydag unrhyw beth yn y drafodaeth honno? Naddo. A oedd unrhyw beth am iechyd yn y drafodaeth honno? Nac oedd. Nid ydych chi'n gwybod beth y mae dod i gytundeb yn ei olygu. Wrth gwrs y byddem wedi ceisio dod i gytundeb. Rydym yn bleidiau gwahanol. Ni allem ddod i gytundeb ar bopeth; fe ddaethom i gytundeb ar iechyd meddwl, ac fe wnaethom gyflawni rhywbeth. Beth ydych chi wedi'i gyflawni mewn 27 mlynedd?

Wel, fe wnaethom bwyso am lawer o bethau, gan gynnwys ein cynllun ar gyfer y GIG, ond wrth gwrs, ni ddaethom i gytundeb â'r Blaid Lafur, oherwydd, fel arfer, mae Plaid Cymru a Llafur yn ôl gyda'i gilydd unwaith eto ar ddiwedd trafodaethau cyllidebol. Yn anochel, mae Llafur yn dilyn Plaid Cymru a Phlaid Cymru yn dilyn Llafur. Ac os yw Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â chael cynllun i drwsio ein GIG, mae angen iddynt ddweud y gwir ynglŷn â sut y byddent yn ei ariannu pe baent yn mynd ar drywydd eu hagenda annibyniaeth. Colli £21 biliwn mewn refeniw treth, £7,000 y pen, ac ni allant, am eiliad, ateb sut y byddent yn llenwi'r bwlch hwnnw. Byddai'n golygu toriadau mewn termau real i'n GIG pe baem yn dod yn wlad annibynnol. Dyna'r realiti.

Nawr, symudwn ymlaen o Blaid Cymru at y cyfraniad gan Reform heddiw, y cyfraniad gan James Evans a chan Reform. Edrychwch, gwn fod James wedi bod yn gwneud llawer o benderfyniadau yn ddiweddar ynglŷn â'i gyflogaeth yn y dyfodol, a dyna fu'r ysgogiad dros hyn, ond pe bawn i wedi gwybod, James, eich bod yn gystal perfformiwr, buaswn wedi mynd â chi i'r clwb comedi i lawr y lôn amser maith yn ôl. Oherwydd mae'n amlwg, onid yw, fod Reform yn credu yn yr agenda breifateiddio y dywedoch chi nad oeddent yn credu ynddi. Oherwydd heb fod mor bell yn ôl â hynny, fe ddywedoch chi:

'Mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau oll yn cytuno â GIG sydd am ddim yn y man lle caiff ei ddarparu, sy'n cefnogi cleifion ar draws y wlad, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau a sut y cânt fynediad at y system.'

Cefais fy mrawychu gan fersiwn Reform UK o newid ein GIG i system yswiriant debyg i'r un sydd ganddynt yn Ffrainc, lle gofynnir i bobl, y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, dalu am eu gofal iechyd, neu os oes ganddynt gyflyrau sy'n bodoli eisoes, ni allant gael yswiriant iechyd o gwbl, gan ganiatáu i'r bobl hynny ddioddef a marw ar restrau aros ddim ond am nad yw'n cyd-fynd â naratif gwleidyddol penodol Reform. Gwn nad oes gan fy mhlaid innau—eich plaid chi ar y pryd—unrhyw gynlluniau i newid i'r model hwn, a buaswn yn gobeithio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i newid i'r model hwn, gan nad wyf am weld ein GIG yn cael ei werthu ar y farchnad stoc er mwyn hyrwyddo gyrfa wleidyddol Nigel Farage. Dyna a ddywedoch chi ym mis Gorffennaf. Beth ydych chi'n ei gredu ym mis Chwefror?

17:40

Mae hen ddywediad gwych, onid oes, Tom: gall unigolyn doeth newid ei feddwl ond nid yw ffŵl yn gwybod sut i wneud hynny. Rwy’n eich rhoi chi yn y categori hwnnw. Ond gadewch inni ddychwelyd at rywfaint o realiti yma. Mae gennyf gryn ddiddordeb yn rhai o welliannau'r Ceidwadwyr Cymreig, mewn gwirionedd, gan eu bod yn siarad llawer am atebolrwydd a strwythur gweinidogol. Siaradodd Sam Kurtz ychydig am hynny. Ond roeddwn yn edrych ar y maniffesto diwygiedig a lansiwyd, ac nid oes unrhyw beth ynddo ynglŷn â newid i atebolrwydd gweinidogol. Nid oes unrhyw beth ynddo ynglŷn â strwythur y GIG a symud y deial. Y cyfan sydd ynddo yw creu cwango GIG newydd a fydd yn costio miliynau o bunnoedd. Nid yw hynny'n mynd i drwsio'r GIG. Rwyf wedi gweld y golau. Yn anffodus, roedd rhai pobl ar y meinciau hynny eisiau gweld y golau ond ni allent ddod draw. Yn anffodus, yr hyn a welais ac a glywais yn Reform yw plaid sydd eisiau newid Cymru, gwella ein GIG, a dyna pam fy mod i yma.

Wel, fel arfer, nid yw Reform wedi darllen y manylion gan eich bod yn amlwg wedi methu cofrestr arweinyddiaeth y GIG a oedd yn rhan o hynny. Ac rydych chi'n sôn am atebolrwydd. Dylech chi a Reform fod yn gwbl atebol am eich dyfyniadau a'r pethau rydych chi wedi'u dweud. Rwyf i, fel chi, yn ofni'r agenda breifateiddio o dan Lywodraeth Reform. Roeddech chi'n credu hynny ym mis Gorffennaf, ac er hwylustod gwleidyddol, nid ydych yn ei gredu nawr.

Mae'n gwbl amlwg, onid yw, fod gan Gymru ddewis rhwng GIG wedi torri o dan 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur. A phan fyddant yn edrych i ddewis pwy fydd yn gallu ei drwsio ar ôl 27 mlynedd, pan fyddant yn edrych ar newid, byddant yn edrych ar y dewisiadau y mae'r pleidiau hynny wedi'u gwneud yn y cyfnod hwnnw. Mae ganddynt dri dewis i'w gwneud. Mae ganddynt ddewis rhwng plaid a ddewisodd beidio â thrwsio ein GIG pan oedd ganddynt bŵer i wneud rhywbeth yn ei gylch, ond a ddewisodd fwy o wleidyddion, a phlaid sy'n parhau, dro ar ôl tro, yn eu geiriau eu hunain, i ddewis preifateiddio. Neu gallant ddewis plaid, yr unig blaid, sydd â chynllun i drwsio ein GIG. Dyna agenda'r Ceidwadwyr Cymreig. Dyna sut y byddwn yn trwsio ein GIG, Ddirprwy Lywydd, a dyna sut y byddwn yn trwsio Cymru.

Cyn imi ofyn y cwestiwn, mae llawer o fy etholwyr yn dweud wrthyf nad ydynt yn hoffi'r ymddygiad a welant yn y cwestiynau i Brif Weinidog y DU yn Llundain, pan fyddant yn cyfarth ac yn gweiddi ar ei gilydd ar draws y Siambr. Mae gennym etholiad mewn ychydig wythnosau, ac rwy'n derbyn hynny, ond nid yw'n ein helpu pan welwn yr un ymddygiad yma. Felly, rwy'n gofyn i bob Aelod ystyried, ac i bob plaid fyfyrio ar ein hymddygiad yn y Siambr yn yr wythnosau sy'n weddill o'r Senedd hon.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Eitem 13, cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Jane Hutt. 

Cynnig NDM9166 Elin Jones

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-6;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 7-12;

d) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jane Hutt 17:43:32
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Rwy'n cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudwn yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

14. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 9, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—rhannu swydd Cadeirydd pwyllgor. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 9. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor: O blaid: 33, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y bleidlais nesaf ar eitem 12, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn ni'n pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

17:45

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y GIG a gofal cymdeithasol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais bwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant—mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod. 

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y GIG a gofal cymdeithasol. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, yn enw James Evans. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod. 

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y GIG a gofal cymdeithasol. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw James Evans.: O blaid: 2, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i wrthod. 

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y GIG a gofal cymdeithasol. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nag wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod. 

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni heno.

15. Dadl Fer: Cymoedd actif, bywydau iachach: Sut y gall chwaraeon llawr gwlad a chymunedol newid bywydau

Byddwn ni'n symud yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Buffy Williams i siarad. 

I'r Aelodau sy'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda. Buffy.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pan fyddwn yn meddwl am chwaraeon, rydym yn meddwl ar unwaith am gystadlu, ennill neu golli, yr eiliadau mawr a welwn ar y teledu, y ddrama a'r balchder, yr ewfforia a'r torcalon. Rydym yn meddwl am ddigwyddiadau fel y Chwe Gwlad neu Gemau Olympaidd y Gaeaf, achlysuron enfawr sy'n dod â phobl ynghyd ac yn creu arwyr. Mae'r eiliadau hynny'n bwysig, gan mai'r eiliadau hynny sy'n adeiladu ein modelau rôl.

Yn y Rhondda, rydym yn hynod falch o'r athletwyr sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf: pêl-droedwyr fel Cian Ashford, sy'n cynrychioli clwb Dinas Caerdydd; chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru fel Cam Winnett, Keiron Assiratti a Tomos Williams; pêl-droedwyr benywaidd proffesiynol fel Gemma Evans, sy'n cynrychioli Cymru a Lerpwl; hyfforddwyr fel Robert Page, a arweiniodd Gymru i Gwpan y Byd; a Chris Jones, y mae ei ymroddiad i chwaraewyr ifanc drwy rygbi ysgolion y Rhondda wedi siapio cenedlaethau, ac y mae ei MBE diweddar yn gydnabyddiaeth nid yn unig o ymrwymiad personol, ond o werth chwaraeon llawr gwlad.

Maent yn dangos i'n pobl ifanc beth sy'n bosib, y gall talent dyfu o'n cymunedau a chyrraedd y llwyfannau mwyaf. Ond y gwir amdani yw bod chwaraeon yn y Rhondda yn ymwneud â chymaint mwy na chystadlu elît. Oherwydd, i'r rhan fwyaf o bobl, nid mater o godi cwpan yw chwaraeon, mae a wnelo â pherthyn, cysylltiad a chymuned. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'r Gweinidog yw hwn: sut y mae Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod yr un buddsoddiad mewn cymorth parhaus i systemau llawr gwlad ag sydd i lwyddiant elît, gan mai dyna sy'n gwneud y llwyddiannau hynny'n bosib yn y lle cyntaf?

Ddirprwy Lywydd, pan siaradwn am chwaraeon tîm, wrth gwrs, rydym yn siarad am dimau, ond nid y timau ar y cae yn unig. Mae tîm go iawn yn cynnwys hyfforddwyr yn rhoi ei nosweithiau ar ôl bod yn y gwaith, rhieni'n sefyll ar yr ystlys yn y glaw neu mewn canolfan chwaraeon lawn, neiniau a theidiau yn gwneud bwyd ar ôl y gêm neu ar ôl y gystadleuaeth ddawns, gwirfoddolwyr yn rhedeg y siop fyrbrydau, aelodau'r pwyllgor yn llenwi ffurflenni cyllid ar nos Wener, a'r car teuluol sy'n dod yn ystafell newid ar olwynion, gydag esgidiau mwdlyd neu wisgoedd chwyslyd yn difetha'r seddi ar y ffordd adref o'r sesiwn hyfforddi. Mae chwaraeon yn amlgenhedlaeth oherwydd hyn. Mae'n cysylltu pobl ar draws pob oed, a'r cyfraniadau hyn yw sylfeini chwaraeon llawr gwlad. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog: sut y mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r gwirfoddolwyr sy'n cynnal chwaraeon llawr gwlad, a pha gymorth ymarferol sydd ar gael i sicrhau bod clybiau cymunedol yn parhau i fod yn hyfyw i genedlaethau'r dyfodol?

Peth arall sy'n diffinio chwaraeon llawr gwlad yn y Rhondda yw cynhwysiant. Nid yw chwaraeon yn ein cymunedau yn dangos cerdyn coch i gyfranogwyr; mae'n agor drws y clwb ac yn eu croesawu â breichiau agored. Rydym yn gweld hyn drwy waith anhygoel Rhondda Polar Bears, sy'n darparu cyfleoedd i nofwyr ag anableddau dysgu gymryd rhan, cyflawni a pherthyn. Rydym yn ei weld yn Pêl-rwyd Rhondda, sef y clwb chwaraeon menywod mwyaf yng Nghymru, rwy'n siŵr, sy'n creu lle, hyder a chyfleoedd arweinyddiaeth i ferched a menywod, ac mae ein gwaith i ddod o hyd i gartref parhaol iddynt yn parhau. Rydym yn ei weld yn RSD Dance Cheer & Gymnastics, sy'n mynd â phobl ifanc o'n Cymoedd i'r llwyfannau rhyngwladol, gan roi profiadau iddynt yn y gwahanol wledydd na fyddent byth wedi'u dychmygu fel arall. A gwelwn gyfle nid yn unig mewn cyfranogiad, ond mewn llwybrau i yrfaoedd, gan gynnwys prentisiaethau mewn chwaraeon a ddarperir drwy Urdd Gobaith Cymru, gan helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau, hyder a dyfodol wedi'i wreiddio yn eu cymunedau a'u hiaith.

Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn creu cyfleoedd sy'n gynhwysol, yn hygyrch ac yn newid bywydau. Felly, fy nghwestiwn nesaf i'r Gweinidog yw: pa gymorth wedi'i dargedu sydd ar gael i sicrhau bod gan glybiau cymunedol cynhwysol, yn enwedig y rhai sy'n cefnogi cyfranogwyr anabl, sy'n ehangu cyfleoedd i fenywod a merched, ac sy'n datblygu gyrfaoedd yn y dyfodol mewn chwaraeon, yr adnoddau a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i dyfu?

Er bod chwaraeon tîm yn aml yn cael y prif sylw, rhaid inni gydnabod llwyddiannau unigolion hefyd. Oherwydd yn y Rhondda, nid yn unig ein bod yn cynhyrchu timau cryf, rydym yn cynhyrchu unigolion eithriadol yn ogystal. Mewn disgyblaethau fel cic-focsio a bocsio heb fenig, mae athletwyr lleol o'r Rhondda wedi ennill teitlau byd ac Ewropeaidd. Rydym yn gweld pencampwriaethau dartiau wythnosol ar draws ein cymunedau, gan gynnwys yn y Baden yn Ynyshir, diolch i Emrys Darts. Mae gan glwb tenis y Rhondda yn Nhreorci gyrtiau o safon a chlwb newydd godidog, a chyn bo hir byddwn yn gweld y bocsiwr proffesiynol Rhys Edwards yn camu i'r cylch yng Nghaerdydd ar gyfer ei ornest am y teitl Prydeinig. Mae'r llwyddiannau hyn yn tyfu o amgylcheddau llawr gwlad, lleoedd fel clybiau bocsio Pen-y-graig a'r Maerdy, yn union fel y mae chwaraeon tîm yn ei wneud. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog: pa gymorth sydd ar gael i chwaraeon unigolion ar lawr gwlad, yn enwedig y rhai nad ydynt bob amser efallai'n cael yr un sylw neu fynediad at gyfleusterau â chwaraeon tîm mwy?

Mae chwaraeon yn y Rhondda'n esblygu’n gyson. Rydym yn gweld timau newydd yn cael eu ffurfio a gweithgareddau newydd yn dod i’r amlwg. Gwelwn dimau rownderi'n cael eu sefydlu, fel Meet the Fachers a Rounder Twist. Gwelwn chwaraeon cymdeithasol fel rygbi a phêl-droed dan gerdded yn tyfu, gyda Wattstown Warriors yn un o’r timau mwyaf llwyddiannus. Ac nid manteision corfforol yn unig sydd i hyn. Gwyddom fod chwaraeon cymunedol yn cefnogi iechyd meddwl, yn meithrin gwydnwch ac yn lleihau ynysigrwydd. Mae’n rhoi strwythur, trefn a chysylltiad i bobl. Mae clybiau a thimau’n dod yn lleoedd lle mae pobl yn siarad, yn rhannu ac yn cefnogi ei gilydd, yn aml heb sylweddoli mai dyna sy’n digwydd. Felly, gofynnaf i’r Gweinidog: sut y mae chwaraeon llawr gwlad yn cael eu cydnabod yn rhan o strategaeth iechyd meddwl ac iechyd ataliol ehangach Cymru? A pha gyllid sydd ar gael i gefnogi clybiau sy’n darparu manteision lles yn eu cymunedau?

Ddirprwy Lywydd, pan edrychwn ar y darlun llawn, mae un peth yn glir iawn: nid ymwneud â chystadlu, ennill neu golli'n unig y mae chwaraeon cymunedol a chwaraeon llawr gwlad; mae'n ymwneud â seilwaith, cymorth iechyd, ymgysylltiad ag ieuenctid a chyfle. Yng nghymunedau'r Cymoedd fel y Rhondda, lle mae daearyddiaeth yn siapio cyfle, mae mynediad at gyfleusterau o safon yn eithriadol o bwysig. Rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol y gall buddsoddiad a phartneriaethau ei chael, fel y caeau pob tywydd yng Nglynrhedynog, Baglan a chanolfan chwaraeon Rhondda Fach, yn ogystal â'r gampfa o'r radd flaenaf yng nghanolfan chwaraeon Ystrad, a'r gwaith adnewyddu gwych ar y pwll nofio yn y Maerdy.

Mae gennym ddau dîm, Cambrian United ac Ynyshir Albions, yng Nghynghrair JD Cymru South, gydag unigolion arloesol yn llywio'r cynnydd: Phil Williams, y mae ei ymroddiad wedi arwain at gae pob tywydd a chynlluniau cyffrous i adeiladu ar y cyfleusterau gwych yn Cambrian United; a Cei Mason, sy'n gweithio'n galed ar gynlluniau i adeiladu cyfleuster cymunedol newydd sbon yn Ynyshir. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn i fod ar y daith honno gyda nhw, yn ogystal â Chlwb Pêl-droed Ton Pentre, yn fwy diweddar, sy'n glwb llawn hanes, ac sydd bellach, unwaith eto, yn llawn egni a brwdfrydedd i gyflawni eu cynlluniau cyffrous dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ddiweddar, cyfarfûm â Tom James, chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru, sydd wedi agor campfa yn Porth. Mae gan Tom gynlluniau cyffrous i weithio gyda phobl ifanc yn y Rhondda, ac edrychaf ymlaen at gefnogi ei ymdrechion ymhell i'r dyfodol. Rydym yn parhau i edrych ymlaen, drwy weithio mewn partneriaeth, at wneud cae rygbi pob tywydd yn realiti yng Ngholeg y Cymoedd yn Llwynypia—prosiect a fyddai'n trawsnewid mynediad i chwaraewyr a chlybiau ar draws y Rhondda.

Felly, fy nghwestiynau olaf i'r Gweinidog yw'r rhain: sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan gymunedau fel y Rhondda fynediad at gyfleusterau chwaraeon modern o ansawdd uchel? A pha fuddsoddiad hirdymor sydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod gan glybiau llawr gwlad ar draws pob camp y seilwaith sydd ei angen arnynt nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu?

Ddirprwy Lywydd, nid yw cymunedau fel fy un i erioed wedi bod yn brin o ymrwymiad, nid ydynt erioed wedi bod yn brin o falchder ac nid ydynt erioed wedi bod yn brin o bobl sy'n fodlon rhoi eu hamser i eraill. Mae chwaraeon llawr gwlad yn y Rhondda yn adlewyrchu'r gorau ohonom—pobl gefnogol, anhunanol a gwydn. Nid a yw chwaraeon llawr gwlad yn bwysig yw'r cwestiwn. Fe wyddom eu bod yn bwysig. Y cwestiwn yw a ydym yn mynd i barhau i fuddsoddi ynddynt, eu cefnogi a'u cydnabod am y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae mewn cymunedau fel fy un i—fel cymunedau pob un ohonom. Oherwydd, pan fydd chwaraeon llawr gwlad yn ffynnu, mae cymunedau'n ffynnu. Diolch.

17:55

Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Buffy Williams am arwain y ddadl fer hon a thynnu sylw at yr holl chwaraeon gwych sydd ar gael yn ei hetholaeth a'r gwaith a wneir yno gan wirfoddolwyr.

Lywydd, yn ddiweddar cefais y pleser o siarad â'i rhagflaenydd, neu un o'i rhagflaenwyr yn y lle hwn, cadeirydd bwrdd cynghori Cambrian United, Leighton Andrews, pan enillodd tîm Cambrian a'r sefydliad yng ngwobrau partneriaid gwerthfawr Gyrfa Cymru, gan ddangos bod clybiau chwaraeon yn mynd ymhell y tu hwnt i'w dyletswyddau ar y cae yn eu cymunedau lleol.

Hoffwn ddechrau lle dechreuodd yr Aelod, drwy ddiolch a chydnabod y bobl sy'n gwneud chwaraeon llawr gwlad yn bosib—y gwirfoddolwyr, yr hyfforddwyr, y sefydliadau—yr arwyr lleol sy'n rhoi eu hamser a'u hegni wythnos ar ôl wythnos. Hebddynt hwy, ni fyddai unrhyw glybiau cymunedol, unrhyw dimau lleol nac unrhyw gyfleoedd i bobl o bob oed fod yn egnïol yn eu cymunedau lleol.

18:00

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ildio, ac am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd. Rwyf eisiau diolch i Ty Francis a Lukas Gamble, a sefydlodd Jersey for All, sydd yn y bôn yn cefnogi timau llawr gwlad i gael cit newydd sbon a hwyluso hynny iddynt, sy'n rhyfeddol yn fy marn i, yr hyn y maent wedi'i wneud dros y cwta saith mlynedd ers iddynt ei lansio.

Yn ail, ddoe fe groesawais Christopher McEwen o Glwb Bocsio Amatur Penfro a Doc Penfro yn y Pierhead ar gyfer dangosiad o'r rhaglen ddogfen, Fighters, sy'n edrych ar y gefnogaeth a roddir i bobl anabl i deimlo eu bod wedi'u grymuso drwy focsio amatur. Felly, buaswn yn croesawu'r cyfle i eistedd gyda chi, Weinidog, i drafod y rhaglen y mae Christopher McEwen yn arwain arni yn fanylach a sut y gallwn ei chyflwyno ledled Cymru.

Rwy'n hapus i drafod gyda'r Aelod, Ddirprwy Lywydd, ac fe ychwanegaf fy niolch i'r ddau sefydliad am y gwaith y maent yn ei wneud. Fe siaradaf am rwystrau a chynhwysiant yn nes ymlaen, felly os caf wneud rhywfaint o gynnydd, Ddirprwy Lywydd.

Mae chwaraeon llawr gwlad a chymunedol yn bwysig oherwydd eu bod yn cyflawni llawer mwy na chyfranogiad yn unig, fel y clywsom eisoes. Mae'n cefnogi lles corfforol a meddyliol, gan helpu pobl i gadw'n egnïol a gwella ansawdd eu bywyd. Mae'n chwarae rôl ataliol, gan gefnogi ffyrdd iachach o fyw ymhell cyn i bobl gyrraedd pwynt argyfwng. Mae hefyd yn darparu gwerth cymdeithasol. Daw clybiau cymunedol â phobl at ei gilydd, maent yn lleihau ynysigrwydd, maent yn creu mannau diogel, croesawgar lle mae pobl yn teimlo'u bod yn perthyn ac yn cael eu croesawu. I lawer o bobl, a llawer o bobl ifanc yn arbennig, mae chwaraeon yn darparu strwythur. Mae'n darparu modelau rôl cadarnhaol ac mae'n darparu ymdeimlad o bwrpas. Yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, mae chwaraeon llawr gwlad yn darparu cyfleoedd bywyd, ac nid ymwneud yn unig â'r niferoedd sy'n cyfranogi y mae ein dull ni o weithredu.

Fel y dywedodd yr Aelod yn ei chwestiwn agoriadol, nid yw ein llwyddiannau ar lefel elît yn digwydd heb y buddsoddiad ar lawr gwlad. Heb glybiau llawr gwlad sy'n darparu cyfleoedd ar draws cymunedau yng Nghymru, ni fyddem yn gallu cynhyrchu'r unigolion i berfformio a llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol. Er enghraifft, heb fuddsoddi mewn llifoleuadau dair blynedd yn ôl, ac eto mewn paneli solar eleni, efallai na fyddai Clwb Rygbi Pen-y-graig mor gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan gefnogi'r holl fechgyn a merched ifanc hynny ar ddechrau eu taith yn y byd chwaraeon.

Ddirprwy Lywydd, soniodd yr Aelod am bwysigrwydd iechyd meddwl yn ei chyfraniad. Roeddwn yn falch o lansio menter newydd gan Lywodraeth Cymru y llynedd mewn partneriaeth â Mind a UK Coaching. Rydym wedi ariannu 1,000 o gyrsiau hyfforddi ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar gyfer clybiau pêl-droed cymunedol, gan weithio'n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae 350 o glybiau a hyfforddwyr wedi manteisio ar y cyfle, gan wella'r rôl y gallant ei chwarae yn cefnogi pobl agored i niwed yn eu cymunedau. Ddirprwy Lywydd, gwneuthum hyn am fy mod wedi gweld pŵer chwaraeon a'r rôl y gall chwaraeon ei chwarae pan lansiodd clwb Cei Connah yn fy etholaeth adran lesiant mewn ymateb i golli un o'u chwaraewyr a fy ffrind gorau ers 20 mlynedd, Jamie Wynne, i hunanladdiad. Yn fwy diweddar, rydym wedi gweithio i gyflwyno'r fenter hon i glybiau rygbi, ac rwy'n annog pob clwb rygbi, pob clwb pêl-droed yng Nghymru a phob Aelod o'r Senedd hon i annog eu clybiau cymunedol i gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.

Rwy'n cytuno â'r Aelod pan fo'n tynnu sylw at y rôl y mae gwirfoddoli'n ei chwarae. Mae gwirfoddoli'n allweddol i lwyddiant ein holl glybiau llawr gwlad yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflenwi ledled y wlad, gan gynnwys awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu cenedlaethol a'r sector gwirfoddol, i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd cymunedau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Y pwynt y mae'r ddau Aelod a siaradodd yn y ddadl wedi'i godi yw'r un am gynhwysiant. Mae cynhwysiant yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, gan fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal rhai pobl rhag cymryd rhan, boed y rhwystrau hynny'n ymwneud â chost, hyder, hygyrchedd neu leoliad. Rhaid i chwaraeon llawr gwlad fod yn agored i bawb, beth bynnag y bo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Un enghraifft yw cronfa PAWB Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sydd wedi cefnogi 1,000 o bobl ifanc mewn 417 o glybiau ledled Cymru, ac mae rhaglenni tebyg mewn rygbi ac mewn chwaraeon eraill, yn ogystal â chyfraniadau gan eraill, fel y nododd Sam Kurtz.

Ddirprwy Lywydd, fe wyddom fod atebion a arweinir gan y gymuned mor bwysig i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny. Clybiau lleol, pobl leol a sefydliadau lleol sy'n deall eu cymunedau orau. Ein rôl ni fel Llywodraeth, gyda Chwaraeon Cymru, yw galluogi a chefnogi ein clybiau drwy fuddsoddi ynddynt. Rydym wedi gwneud hyn drwy fuddsoddi gwerth dros £59 miliwn o gyllid cyfalaf drwy Chwaraeon Cymru mewn cyfleusterau newydd ac wedi'u huwchraddio mewn cymunedau yn ystod tymor y Senedd hon. Un enghraifft o brosiect sydd wedi elwa o'r buddsoddiad hwn yw cae trydedd genhedlaeth yng Ngholeg y Cymoedd y bydd etholwyr yr Aelod yn gyfarwydd iawn ag ef. Rwy'n falch ein bod wedi cynyddu'r cyllid i mewn i'r flwyddyn nesaf, gan ganiatáu buddsoddiad pellach mewn cyfleusterau chwaraeon ledled y wlad yn y dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, enghraifft arall o fuddsoddiad yn ein clybiau cymunedol yw grant arbed ynni Chwaraeon Cymru. Mae'r cynllun hwn wedi buddsoddi mwy na £5.4 miliwn mewn 307 o brosiectau yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig. Ar gyfartaledd, mae pob clwb wedi arbed tua £3,000 ar filiau ynni y flwyddyn. Cefais yr anrhydedd, yr wythnos hon, o ymweld ag un cynllun o'r fath yn Sefydliad Lles Glowyr Llai i weld y buddsoddiadau mewn paneli solar a gosodiadau gwresogi sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r clybiau sy'n chwarae oddi yno. Fe wnaf gynnig rhai enghreifftiau i'r Aelod yn ei hetholaeth hi: gosod paneli solar yn Phoenix Dance and Gymnastics ac yng Nghlwb Golff Aberdâr drwy'r cynllun grant arbed ynni ; llifoleuadau yng Nghlwb Pêl-droed Ton Pentre drwy gronfa Be Active Cymru.

Ond Ddirprwy Lywydd, nid drwy Chwaraeon Cymru yn unig y byddwn yn buddsoddi. Rydym hefyd yn buddsoddi drwy raglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu grantiau cyfalaf i helpu sefydliadau cymunedol, gan gynnwys clybiau chwaraeon, i wella eu cyfleusterau. Mae'r grantiau'n helpu i sicrhau y bydd adeiladau cymunedol a mannau gwyrdd yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi gweld grantiau mawr—£250,000 yng Nghlwb Criced Porthaethwy ar Ynys Môn, a £300,000 yng Nghlwb Rygbi Tyllgoed yng Nghaerdydd. Rydym wedi gweld enghreifftiau ledled y wlad eto. Mae'r clybiau hyn wedi defnyddio'r cyllid i ddarparu gwell cyfleusterau nid yn unig i'w chwaraewyr, ond i'w cymuned ehangach.

Ddirprwy Lywydd, nid yw chwaraeon llawr gwlad yn bodoli'n annibynnol ar bopeth arall. Mae eu heffaith yn rhychwantu iechyd, addysg, datblygu cymunedol a phartneriaeth gymdeithasol. Dyna pam ein bod yn parhau i weithio ar draws y Llywodraeth a chyda'n partneriaid i alinio chwaraeon a gweithgarwch corfforol ag amcanion polisi ehangach. Y tu hwnt i'r manteision amlwg uniongyrchol i iechyd a lles cymdeithasol i'n cymunedau, fe wyddom fod y buddsoddiad a wnawn mewn chwaraeon yn cyfrannu at ecosystem sydd â llwybrau at berfformiad ar lefel elît a llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd.

Yn bersonol, rwy'n falch o'r gwaith y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud i harneisio manteision llwyddiant ein timau cenedlaethol, gan gynnwys y gronfa cymorth i bartneriaid gwerth £1 filiwn sy'n cyflwyno gweithgareddau ledled y wlad i ddathlu llwyddiant ein tîm pêl-droed menywod yn Ewros UEFA yr haf diwethaf. Cefnogodd y cyllid amrywiaeth o ddigwyddiadau, prosiectau creadigol ac adnoddau dysgu i dynnu sylw at dalent Cymru, gan adeiladu gwaddol a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn hyrwyddo mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon a diwylliant sy'n parhau ymhell y tu hwnt i unrhyw bencampwriaeth.

Nid llwyddiant mewn mannau eraill yn unig a ddathlwn. Mae Cymru wedi bod ac fe fydd yn parhau i fod yn gefndir i ddigwyddiadau chwaraeon mawr sy'n denu diddordeb byd-eang. Rydym wedi bod yn glir fel Llywodraeth fod yn rhaid inni wneud y gorau o'r cyfleoedd hyn i gael effaith hirdymor. Felly, pan ddaeth pencampwriaeth agored AIG i fenywod a'r golffwyr benywaidd gorau yn y byd i glwb golff Brenhinol Porthcawl yr haf hwn, fe wnaethom agor cronfa gwaddol golff i fenywod gwerth £1 filiwn i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu menywod a merched yn y gamp, gan gynnwys cyfleusterau newid gwell a mwy cynhwysol. Cefais yr anrhydedd o weld hyn ar waith yn Wrecsam ychydig wythnosau yn ôl.

Ddirprwy Lywydd, ym mis Rhagfyr, cyhoeddais fuddsoddiad ychwanegol o £2.5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon ledled y wlad, i ariannu amryw o brosiectau newydd ac arloesol, gan gynnwys gwaith uwchraddio mawr i gyfleusterau a chymorth ar gyfer llwybrau elît. Fe wnaethom gynnwys cronfa gwerth £1 filiwn yn hynny ar gyfer Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu cyfleusterau llawr gwlad ac i ferched ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd, gan gynnwys cae 3G newydd. Disgrifiwyd hyn gan brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru fel gwaddol pwysig i Ewros y menywod a chatalydd ar gyfer twf yn y dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, rwyf am wneud dau beth: rwyf am gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod chwaraeon ar lefel gymunedol yn parhau i newid bywydau, yn parhau i gryfhau cymunedau, ac yn parhau i helpu i ddarparu dyfodol iachach a mwy egnïol i'n Cymoedd ac i Gymru gyfan. A Ddirprwy Lywydd, dywedais fy mod eisiau gwneud dau beth: fy ail beth, i gloi, yw dymuno'r gorau i Rhys Edwards ar ran y Senedd hon a Llywodraeth Cymru yn yr ornest bencampwriaeth a gynhelir yng Nghaerdydd cyn hir.

18:10

Diolch i'r Gweinidog ac i Buffy, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:10.