Y Cyfarfod Llawn
Plenary
03/02/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn, dwi eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 2 Chwefror.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid datganoli plismona i Gymru? OQ63804
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli plismona a chyfiawnder? OQ63777
Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 1 a 7 gael eu grwpio.
Hoffwn ei gwneud hi'n eglur bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur ein bod ni eisiau i blismona gael ei ddatganoli i Gymru.
Diolch am yr ateb yna. Mae'n drueni bod eich cydweithwyr yn San Steffan yn gwneud hynny mor anodd i ddigwydd ag y maen nhw.
Mae Cymru mewn sefyllfa anarferol. Mae gennym ni Senedd sy'n gwneud deddfau, ond mae penderfyniadau ynghylch sut maen nhw'n cael eu plismona yn cael eu gwneud mewn gwlad arall. Mae comisiynau ac arbenigwyr wedi dadlau y dylid gwneud penderfyniadau plismona yng Nghymru i leihau dryswch a chymhlethdod. Ond er i chi, Prif Weinidog, wneud y ddadl dros Gymru yn cael y pwerau hyn, rydych wedi cael eich ceryddu gan eich cydweithwyr yn San Steffan. Pan ofynnwyd iddi a yw'n cefnogi datganoli plismona, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, yn syml, 'Nac ydw, dydw i ddim'—diystyriaeth ddamniol San Steffan o Gymru mewn pedwar gair ofnadwy. Rydych chi'n dweud wrthym ni drwy'r amser fod buddiannau pennaf Cymru yn cael eu gwasanaethu orau gan San Steffan. Rydym ni'n dal i aros am unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny. O ran cyllid rheilffyrdd, o ran pwerau plismona, mae'n ymddangos bod Llafur y DU wedi cefnu ar Gymru. Prif Weinidog, onid yw eu dirmyg yn sarhad nid yn unig i chi fel Prif Weinidog, ond i genedl?
Bydd gwahaniaethau rhwng Plaid Lafur Cymru a'r blaid ar lefel y DU bob amser. Dyna natur y setliad datganoledig. Nid yw hynny'n broblem; mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ddod—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim wedi deall natur y ddadl gyfansoddiadol. Os yw hynny'n wir, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn cydnabod bod 50 y cant o gyllid yr heddlu yng Nghymru yn dod o ffynonellau datganoledig. Roedd datganoli plismona yn rhywbeth a argymhellwyd gan gomisiwn Silk, comisiwn Thomas, a chan gomisiwn McAllister a Williams. Felly, rydym ni wedi bod yn eglur. Ein cymhelliad, fodd bynnag, yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwella plismona ar lawr gwlad. Dydw i ddim eisiau gweld diwygio cyfansoddiadol am ddim rheswm. Nid mater o gipio grym ar y ffordd i annibyniaeth yn unig yw hyn. Rydym ni'n credu fod cynllunio trefniadau disodli ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu yn gyfle i gymryd cam sylweddol tuag at ddatganoli llawn.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad hefyd ynglŷn â'r trafodaethau sydd wedi digwydd—
Does dim rhaid gofyn y cwestiwn.
Does dim rhaid gofyn y cwestiwn, ocê.
Na, Cefin Campbell—strêt i'r cwestiwn atodol.
Mi wnaf i fynd yn syth i'r cwestiwn atodol, os caf i.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb i Delyth. Mae'n amlwg bod gofynion heddlua yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn sydd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol. Mae yna enghreifftiau gan gomisiynydd heddlu Dyfed-Powys, sydd wedi tynnu sylw at faterion gwledig sydd yn gyfan gwbl wahanol, ac mae e'n cael ei gyfyngu oherwydd y strwythurau y mae e'n gorfod gweithio oddi mewn iddyn nhw.
Nawr, rŷch chi wedi pwysleisio gymaint o weithiau yn y Siambr yma bwysigrwydd y pŵer yna mewn partneriaeth. Mae yn dri chomisiwn annibynnol wedi nodi'r glir yr angen am ddatganoli cyfraith i Gymru, a dyna beth yw'ch safbwynt chi fel plaid hefyd. Mae'n amlwg eich bod chi'n methu darbwyllo eich Prif Weinidog yn San Steffan o'r angen hwn, a'ch Aelodau Seneddol chi hefyd. Felly, a gaf i ofyn pryd ŷch chi'n mynd i allu llwyddo dangos i ni fod y bartneriaeth yma mewn pŵer yn delifro i Gymru?
Wel, rŷn ni'n rili falch fod y Papur Gwyn, sy'n sôn am uno lluoedd yr heddlu, yn cydnabod yr amgylchiadau unigryw yng Nghymru. A dwi'n falch, cyn y cyhoeddiad, y cafodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfarfod gyda'r Gweinidog plismona, ac fe wnaethon nhw bwysleisio'n glir mai'r isafswm rŷn ni eisiau'i weld yw nad yw lluoedd yn cael eu cyfuno ar draws y ffin. Dwi wedi bod yn glir ein bod ni eisiau mynd ymhellach, dwi wedi bod yn glir ein bod ni eisiau gweld datganoli pan fydd hi'n dod i blismona yng Nghymru, ac mi fyddwn ni'n parhau i wthio am hynny.
Prif Weinidog, byddwch chi a minnau yn anghytuno ar blismona a'r lle gorau i'w leoli, boed hynny yn San Steffan neu yma yng Nghaerdydd. Ond un peth rwy'n credu y bydd y ddau ohonom ni'n cytuno arno yw pe bai'r ymwahanwyr yn cael eu ffordd ac yn chwalu'r Deyrnas Unedig, byddai plismona yn cael ei wanhau yn sylfaenol yn yr ynysoedd hyn a bydd y troseddwyr yn elwa ohono. Felly, a wnewch chi gytuno â mi mai'r Deyrnas Unedig yw'r endid gorau i sicrhau cyfraith a threfn drwy'r ynysoedd hyn, gan fod y gweithio ar y cyd hwnnw a'r undeb cryf hwnnw, y cydweithio, rhwng gwledydd yr Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn diogelu dinasyddion y wlad ardderchog hon sydd gennym ni ac mai dyna'r hyn y dylem ni fod yn canolbwyntio arno, yn hytrach na'r ddadl gul, ymwahanol, annibynnol y mae'r ochr arall bob amser yn ei thaflu atom ni?
Rydym ni eisiau gweld datganoli cryf mewn Teyrnas Unedig gref. Mae hynny'n gwbl eglur, ac rwy'n credu mai ni yw'r unig blaid sydd eisiau gweld hynny. Gadewch i mi hefyd ei gwneud hi'n eglur ein bod ni eisiau gweld newid o ran plismona, nid oherwydd ein bod ni eisiau gweld diwygio cyfansoddiadol am ddim rheswm, ar ffordd i annibyniaeth, ond oherwydd ein bod ni eisiau—[Torri ar draws.]—ein bod ni eisiau gweld gwell darpariaeth i'r bobl yng Nghymru. Mae'n bwysig, rwy'n credu, pan fyddwn ni'n cynllunio'r hyn a fydd yn disodli'r comisiynwyr heddlu newydd ei fod yn gyfle gwirioneddol i ni gymryd gafael ar yr agenda hon, i siarad am ffordd wahanol o atebolrwydd, a byddwn yn parhau i wthio i hynny ddigwydd. Wrth gwrs, mae'n gwneud synnwyr i ni gydweithredu ar draws y ffin o ran plismona, pan fo'n gwneud synnwyr. Meddyliwch am derfysgaeth—ni fydd gennym ni fyth y math o arbenigedd absoliwt mewn terfysgaeth a allai fod gennych chi mewn lle fel Llundain. Byddai'n rhaid i ni weithio gyda nhw a dibynnu arnyn nhw—nid rhywbeth y gallech chi ei wneud mewn Cymru annibynnol.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu'n llwyr eglurder eich datganiad y prynhawn yma, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli plismona. Mae'n bwysig—[Torri ar draws.] Rydych chi bob amser yn gwybod eich bod chi'n iawn pan fydd Plaid Cymru a'r Torïaid yn gweiddi arnoch chi ar yr un pryd. Mae eglurder eich datganiad wedi'i wreiddio yn y ddarpariaeth o gyfiawnder cymdeithasol i bobl ledled Cymru gyfan. Gwnaeth John Thomas, yn ei adroddiad, y pwynt yn eglur iawn, iawn bod angen datganoli plismona a chyfiawnder troseddol arnom ni nid yn unig oherwydd ein bod ni eisiau trwsio jig-so cyfansoddiadol, ond oherwydd bod Cymru yn ei haeddu. Mae Cymru'n haeddu'r driniaeth gyfartal yn y Deyrnas Unedig, fel sy'n cael ei fwynhau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Trwy ddatganoli cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol a phlismona, gallwn hefyd ddarparu cyfiawnder cymdeithasol yn y wlad hon. Dyna ddadl Llafur. Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi barhau—[Torri ar draws.]—y gwnewch chi barhau i ymgyrchu dros ddatganoli plismona a datganoli cyfiawnder troseddol.
Llywydd, rwyf i wedi bod yn eglur, gan gynnwys yn fy araith yn yr Institute for Government, bod angen i ni wneud cynnydd o ran datganoli plismona a chyfiawnder. Nid yw plismona a chyfiawnder yn syniadau haniaethol. Dangosodd comisiwn Thomas y gallai datganoli leihau troseddu. Gallan nhw wneud cymunedau yn fwy diogel a chynorthwyo dioddefwyr yn well. Nawr, rydym ni mewn trafodaethau gweithredol gyda Llywodraeth y DU ar wasanaethau prawf, ar gyfiawnder ieuenctid, ar blismona, a'n barn eglur ni yw bod angen i'r trafodaethau hynny gyflawni cynnydd gwirioneddol nawr. Nawr, rydym ni'n canolbwyntio adnoddau cyfyngedig lle maen nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar adegau allweddol yn hytrach na siarad er mwyn siarad. Rydym ni'n gweithio y tu ôl i'r llenni drwy'r amser ar y materion pwysig hyn. [Torri ar draws.] Rydych chi'n clywed mai ateb syml Plaid Cymru i hyn yw 'Fe wnawn ni weiddi'n uwch'. Pob lwc gyda hynny.
Brif Weinidog, dwi ddim, mewn gwirionedd, yn croesawu eglurder y datganiad heddiw oherwydd roeddwn i'n gwybod yn union beth yw'ch barn chi yn hyn. Rydyn ni i gyd yn gwybod beth yw barn y blaid, a fy marn i, ar hyn. Y gwir yw, rydyn ni'n siarad am hyn ac rydyn ni'n gwneud yr un dadleuon wythnos ar ôl wythnos. Fe allen ni ddweud beth bynnag rydyn ni'n moyn dweud yn y lle yma, ond dyw San Steffan ddim yn mynd i wrando.
Un ddadl gref o blaid datganoli plismona yw dangos ein bod ni'n defnyddio'r dylanwad sydd gyda ni'n barod yn effeithiol, oherwydd fe fyddai'n newid y lle hwn, datganoli plismona a chyfiawnder, gyda dros draean o waith ychwanegol. Dwi'n poeni ein bod ni'n colli cyfle ar ôl cyfle i ddangos ein bod ni o ddifrif ynglŷn â datganoli plismona. Er enghraifft, mae'r heddlu o hyd yn siarad nad oedden nhw wedi cael y jabs COVID sbâr ar yr amser cywir, a'u bod nhw wedi gorfod heddlua'r rheng flaen heb y jabs COVID. Mae ymgeiswyr i'r heddlu o hyd yn gorfod ymgeisio yn Saesneg, heb allu ymgeisio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ym maes y prifysgolion, mae Prifysgol Caerdydd heb gael ei gwobrwyo am waith ymchwil y police academy. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru addo nôl ym mis Rhagfyr ysgrifennu i unioni'r cam yma, ond dyw e'n dal ddim wedi digwydd. Brif Weinidog, dwi wedi codi'r materion yma sawl gwaith, pethau fyddai'n dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif am wneud hwn.
Allwch chi ddod i gwestiwn, plîs?
Pa gynllunio a pharatoi rydych chi yn ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau y bydd hyn yn digwydd? Diolch yn fawr.
Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i weld beth mwy allwn ni ei wneud o ran cyfiawnder ieuenctid a sicrhau ein bod ni'n datganoli hynny i Gymru. Fe gytunwyd y byddai swyddogion yn y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i edrych ar opsiynau i ail-lunio cyfrifoldebau yn y system gyfiawnder ieuenctid. Roedd hyn yn cynnwys goruchwyliaeth strategol, trefniadau partneriaeth a llywodraethu, a chyllido gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid fel man cychwyn.
Fe gawsom ni 14 mlynedd o gyni cyllidol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r Torïaid wedi dod â'n system cyfiawnder troseddol at ddibyn, i gyflwr o fod yn agos at chwalfa, oherwydd tanariannu ac oherwydd toriad o 20,000 o swyddogion yr heddlu, sydd ddim ond nawr yn cael eu hailgyflwyno. Mae'r mater i ni yn ymwneud â chael cyfiawnder a phlismona yn lleol—plismona lleol a chyfiawnder lleol. Yn sgil diddymu'r comisiynwyr heddlu a throseddu, mae yna ddiffyg democrataidd bellach o ran atebolrwydd a thryloywder y ddarpariaeth o blismona ar y cyd â'r holl swyddogaethau datganoledig eraill yr ydym ni'n gwybod bod yn rhaid ei cyflawni. Dyna'r bwlch, dyna'r gwactod y mae'n rhaid ei lenwi bellach, a'r unig ffordd resymegol, mae'n debyg, yw trwy ddatganoli cyfrifoldeb am blismona, ond hefyd trwy ddechrau datganoli'r systemau cyfiawnder, gan ddechrau gyda chyfiawnder ieuenctid, sydd eisoes wedi'i ddatganoli 90 y cant, i bob pwrpas. Gall y rhai sydd wedi eistedd yn y llysoedd ieuenctid hynny weld bod bron pob problem sy'n codi yn y llysoedd hynny yn ymwneud â swyddogaethau datganoledig. Mae'r rhain yn ddadleuon nawr yr wyf i'n meddwl bod yn rhaid eu gwneud gyda Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid iddyn nhw ddeall na allwn ni barhau fel yr ydym ni, a dyma'r unig ffordd resymegol a chall ymlaen ar gyfer darpariaeth well o gyfiawnder a darpariaeth well o blismona. A ydych chi'n cytuno?
Diolch, Mick, a diolch am ein hatgoffa ni mai'r hyn a ddigwyddodd o dan y Torïaid yw ein bod ni wedi gweld toriadau sylweddol o ran plismona, a bod Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn a chymryd y cyfrifoldebau hynny drosodd gyda phobl ar y rheng flaen yn ein cymunedau. Fe wnaeth wahaniaeth enfawr ac fe'i werthfawrogwyd yn fawr gan heddluoedd Cymru.
Rydych chi'n gwbl gywir—rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol nawr, gyda diwedd comisiynwyr heddlu a throseddu, i edrych ar yr atebolrwydd mewn gwirionedd—pwy maen nhw'n atebol iddo. Fel y dywedais i, mae 50 y cant o'r cyllid ar gyfer yr heddlu yn dod o Gymru mewn gwirionedd. Felly, mae'n gwbl gywir, os ydym ni'n gwneud y math hwnnw o gyfraniad, wrth gwrs y dylai fod mwy o atebolrwydd. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n parhau i'w wthio. Ni fyddwn ni'n cilio o hynny.
Rydych chi'n gwbl gywir ynghylch cyfiawnder ieuenctid—mae cynifer o'r arfau i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu dargyfeirio o fywyd o droseddu yn nwylo Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Yn amlwg, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw'r un math o driniaeth i Gymru ag yr ydych chi'n ei weld yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, er enghraifft, a ddatblygwyd gyda Manceinion. Byddai hwnnw'n gam cyntaf ar y ffordd honno a byddai'n gam ymlaen i'w groesawu'n fawr.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y ceisiadau i brifysgolion gan gymunedau ledled Islwyn? OQ63808
Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed bod cyfran uwch o bobl ifanc 18 oed yn mynd i addysg uwch o Islwyn o'i gymharu â gweddill Cymru, sy'n newyddion gwych, yn fy marn i, mewn ardal ddifreintiedig ac yn dangos y gwahaniaeth y gall Llywodraeth Lafur ei wneud. Mae codi dyheadau pobl ifanc yn y cymunedau hynny—pobl ifanc, rwy'n credu, sydd mor glyfar ac mor alluog ag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi ymrwymo iddo ac rydym ni eisiau gweld mwy o hynny.
Diolch. Diolch yn fawr iawn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Prif Weinidog, mae'r Western Mail wedi adrodd bod ymgeiswyr o'r rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru a anfonodd eu ceisiadau erbyn dyddiad cau mis Ionawr wedi cynyddu 13.6 y cant o'i gymharu â'r llynedd. Roedd y cynnydd yng Nghymru yn sylweddol uwch na'r cynnydd a welwyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn newyddion i'w groesawu ac yn dangos y cyfiawnhad dros y Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau yn cael gwared ar y ffi ymgeisio i fyfyrwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, a fydd bellach yn cael ei ymestyn i bobl sy'n gadael gofal. A chafwyd y cynnydd mwyaf i geisiadau o'i gymharu â'r llynedd mewn sefydliadau â'r gofynion mynediad mwyaf llym. Felly, Prif Weinidog, beth ydych chi'n ei gredu y mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am ansawdd addysg drwy Islwyn gyfan bod myfyrwyr sy'n gadael yr ysgol a'r coleg yn gosod eu bryd ar addysg brifysgol mewn niferoedd sy'n cynyddu'n barhaus a'u bod yn targedu astudio yn rhai o ganolfannau dysg uchaf eu bri y DU?
Diolch, Rhianon. Mae'r ffigurau hynny, rwy'n credu, yn wirioneddol galonogol. Cynnydd o 13.6 y cant i geisiadau gan ddysgwyr o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, sy'n uwch nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig—rwy'n credu bod hynny'n dweud rhywbeth pwysig iawn wrthym ni. Mae'n dangos bod pobl ifanc mewn lleoedd fel Islwyn yn anelu'n uchel. Maen nhw'n gadael ysgolion a cholegau gyda'r hyder i ymgeisio mewn ffordd na fu ganddyn nhw yn y gorffennol efallai. A phan fo dysgwyr o'r cymunedau hynny yn ymgeisio fwyfwy i brifysgolion sydd â gofynion mynediad uchel iawn, rwy'n credu bod hynny'n siarad cyfrolau am lefel y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn o'r cychwyn cyntaf, o frecwast mewn ysgolion a chefnogaeth o'r cychwyn cyntaf, ond hefyd y gefnogaeth y mae'r athrawon hynny yn ei rhoi o'u cwmpas. Rwy'n gwybod, fel Llywodraeth Cymru, ein bod ni'n credu y dylech chi bob amser gadw'r drysau hynny ar agor, ac mae ein system grantiau myfyrwyr, wrth gwrs, a'r cynnig hael yr ydym ni'n ei wneud—y cynnig mwyaf hael a blaengar yn y Deyrnas Unedig—yn fy marn i yn rhywbeth y dylid ei ddathlu a dylem ni atgoffa pobl ifanc o hynny ym mis Mai.
Prif Weinidog, nid yw'n syndod o gwbl i mi bod nifer yr ymgeiswyr prifysgol ledled Cymru yn sicr yn gostwng. Nawr, ar hyn o bryd, rydym ni ar waelod y tabl cynghrair ar gyfer ceisiadau prifysgol, â llai na thraean o fyfyrwyr Cymru yn gwneud cais i fynd i'r brifysgol. Yng Nghasnewydd ac Islwyn, 31 y cant oedd y gyfradd mynediad myfyrwyr yn 2025 ac mae wedi aros fwy neu lai'n ddisymud dros y pum mlynedd diwethaf. Nid oes amheuaeth bod y cyfuniad o gostau byw uwch, oherwydd eich partneriaid yn San Steffan, ffioedd dysgu uwch a phenderfyniadau ariannol gwael, fel cost diswyddo o £24 miliwn ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi atal myfyrwyr rhag mynd i'r brifysgol yn gyffredinol, ac eto mae cymorth allweddol fel prentisiaethau gradd yn gyfyngedig yng Nghymru, ac ni fydd dewisiadau ehangach ar gael tan i Medr eu cyflwyno yn 2027. Prif Weinidog, a ydych chi'n cymryd cyfrifoldeb felly am golli myfyrwyr sy'n ymgeisio i brifysgolion Cymru drwy fethu â chyflwyno mwy o ddewis mewn prentisiaethau gradd, ac a wnewch chi gyfaddef bod Llywodraeth Cymru wir ar ei hôl hi o ran y polisi hwn? Diolch.
Nac ydw, dydw i ddim, ac rwy'n credu ei bod hi'n rhyfeddol, a dweud y gwir, y gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei wneud. Rwy'n cofio, pan es i i'r brifysgol, roedd tua 7 y cant o'r boblogaeth yn mynd i'r brifysgol. Yn y flwyddyn 2000, tua 39 y cant oedd i ffigur. Erbyn heddiw, mae'n 54 y cant. Mae hwnnw'n gynnydd sylweddol, ac mae hynny diolch i'r gefnogaeth yr ydym ni wedi ei rhoi fel Llywodraeth Lafur Cymru.
Rwy'n credu ei bod yn adeg briodol i mi ddweud rhywbeth hefyd am y cynigion o ran ad-dalu'r ffioedd benthyciad i fyfyrwyr. Mae'n bwysig nodi bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cynnig y pecyn cymorth myfyrwyr mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU ar hyn o bryd. Dim ond Gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gallu pennu'r trothwy ad-dalu ar gyfer benthycwyr Cymru. Ni all Llywodraeth y DU benderfynu ar y trothwy ar gyfer myfyrwyr Cymru, ac mae unrhyw newid yn gofyn am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru. A hoffwn ei gwneud yn eglur heddiw nad oes gennym ni unrhyw fwriad o rewi'r trothwyon a dilyn Lloegr yn hyn o beth. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall goblygiadau llawn y newid. Mae angen asesiad effaith priodol arnom ni, a dyna'n amlwg yw ein safbwynt.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Ionawr, dim ond y mis diwethaf, fe wnaeth eich Llywodraeth ddefnyddio ei chytundeb gyda Phlaid Cymru i wthio cyllideb drwodd sy'n cadw Cymru fel un o'r rhannau treth uchaf o'r Deyrnas Unedig hon. Ers dros chwarter canrif, mae eich plaid wedi goruchwylio cylch twf isel, treth uchel sydd wedi gadael aelwydydd Cymru yn dlotach na'u cymdogion. Fe wnaethoch chi ddweud wrth y Senedd hon yn ddiweddar nad oes coeden arian hud, ac eto rydych chi'n parhau i flaenoriaethu gwariant ar wrthdyniadau cyfansoddiadol, biwrocratiaeth a materion nad oes gennych chi unrhyw gyfrifoldeb o gwbl amdanyn nhw, yn hytrach na rhyddhad treth y mae mawr ei angen ar bobl sy'n gweithio'n galed. Nawr, mae gennym ni etholiadau Senedd, sydd ar y gorwel, ym mis Mai, ac rwy'n credu bod pobl Cymru yn haeddu ateb onest. Felly, a gaf i ofyn i chi heddiw, os bydd Llywodraeth Lafur Cymru ar ôl yr etholiadau Senedd hynny, a wnewch chi ddiystyru unrhyw gynnydd i gyfraddau treth incwm Cymru drwy gydol tymor nesaf y Senedd—gwnewch neu na wnewch?
Wel, allaf i ddim credu fy mod i'n cael cwestiwn ar gyfraddau uchel o dreth gan rywun mewn plaid a'n gadawodd ni gyda'r gyfradd uchaf o drethu a fu gennym ni ers yr ail ryfel byd. Nawr, ni fyddai wedi bod ots gen i pe bai'r hyn a gawsom ni oedd gwasanaethau cyhoeddus gwych a chwistrelliad enfawr o arian i'n gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i hynny. Ni welsom ni unrhyw beth tebyg i hynny. Yr hyn a gawsom ni oedd anhrefn economaidd o ganlyniad i'ch Llywodraeth dros yr holl flynyddoedd hyn. Rydych chi'n siarad â mi am le'r ydym ni'n sefyll ar y pethau hyn. Dywedwch chi wrthyf i o le'r ydych chi'n mynd i gael y £300 miliwn yr ydych chi'n honni eich bod chi'n mynd i'w gymryd i ffwrdd o ran ardrethi busnes yn lleol. O le'r ydych chi'n mynd i gael yr arian hwnnw? Gadewch i ni siarad am o le mae'r arian hwnnw yn mynd i ddod, oherwydd rwy'n credu bod pobl Cymru eisiau clywed—pan fyddwch chi'n cyflwyno cynnig, maen nhw eisiau clywed realiti yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w dorri. Dydyn ni ddim wedi clywed hynny gennych chi. Dydyn ni ddim wedi clywed hynny gan unrhyw blaid wleidyddol arall. Pan ddaw i'r hyn y byddwn ni'n ei wneud yn hynny o beth, byddwn yn ei gwneud hi'n eglur yn ein maniffesto ble'r ydym ni'n sefyll.
Wnaethoch chi ddim rhoi ateb gonest i ni. Gofynnais i chi am 'gwnewch' neu 'na wnewch': a ydych chi'n mynd i godi trethi ai peidio? Yna fe aethoch chi ymlaen i sôn am y record—record honedig—y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, sydd wedi ein beichio â threthi uwch, dyledion uwch, diweithdra uwch a lefelau uwch o chwyddiant. Dyna'r record ers mis Gorffennaf 2024. Felly, gofynnais gwestiwn gwnewch/na wnewch syml i chi, ac fe wnaethoch chi wrthod rhoi ateb i mi. Rwy'n amau fy mod i'n gwybod pam—gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod eich cydweithwyr clyd ym Mhlaid Cymru wedi fflyrtio ers amser maith gyda'r syniad o ddefnyddio pwerau treth i hyrwyddo eu hagenda ymwahanu. Maen nhw wedi galw yn y gorffennol am gydraddoldeb â'r gyfundrefn dreth uwch yn yr Alban ac wedi eirioli dros gynnydd ym mhob un lefel o'r cyfraddau o dreth incwm.
Nawr, yn eich twyll diweddar gyda Plaid Cymru, fe wnaethoch chi unwaith eto yn union yr hyn yr oedden nhw ei eisiau i chi ei wneud er mwyn cadw eich Llywodraeth yn fyw. Felly, a allwch chi ddweud wrth weithwyr Cymru pam ar y ddaear y dylen nhw ymddiried mewn Plaid Lafur sy'n dawnsio fwyfwy i dôn Plaid Cymru? Onid yw'n wir, Prif Weinidog, er bod gennym ni Geidwadwyr Cymreig gynllun i ostwng cyfradd sylfaenol y dreth incwm, i arbed £450 y flwyddyn i'r teulu cyffredin sy'n gweithio'n galed, mai eich cynllun chi yw dilyn esiampl Plaid Cymru, gan roi eich dwylo yn ddyfnach ym mhocedi'r bobl hynny sy'n gweithio'n galed, ar y trywydd a fydd, mae gen i ofn, yn arwain at chwalfa drychinebus ein Teyrnas Unedig werthfawr?
Edrychwch, fy ymrwymiad i yw tyfu'r economi. Dyna fy niddordeb. Dyna lle mae ein pwyslais. Ac rydym ni'n gweld gwelliannau o ran y niferoedd sy'n hawlio diweithdra, er enghraifft. Mae'r niferoedd sy'n hawlio diweithdra heddiw yng Nghymru yn is nag yn y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Felly, mae'n rhaid i'r pwyslais fod ar fanteisio ar y cyfle untro hwn i ysgrifennu pennod newydd ar gyfer y wlad hon. Rydym ni wedi gweld y 14 mlynedd hynny o doriadau, a bellach mae gennym ni'r tapiau yn llifo eto. Dangosodd yr uwchgynhadledd fuddsoddi bod pobl yn gwbl barod i ddod i fuddsoddi yng Nghymru. Fe fyddan nhw, rwy'n credu, yn llai parod os byddan nhw'n gweld anhrefn o'r math sy'n cael ei fygwth yng Nghymru. Rydych chi eisiau gostwng y gyfradd sylfaenol o dreth incwm, yna mae'n rhaid i chi ddweud wrth bobl y bydd yn rhaid iddyn nhw aros yn hirach i'r rhestrau aros hynny leihau; bydd yn rhaid iddyn nhw weld yr arian sy'n mynd i anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion yn gostwng. Dyna realiti yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig. Ni fyddwn ni byth yn dilyn Plaid Cymru ar lwybr i annibyniaeth. Rydym ni'n blaid sydd wedi ymrwymo i ddatganoli ac wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau ysgrifennu pennod newydd; rydych chi, a bod yn onest, yn ysgrifennu eich llith goffa eich hun. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei weld wythnos ar ôl wythnos, gyda'r penderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau: mae'r dreth gyngor wedi treblu ers 1999 ac mae'n codi'n gyflymach yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig; mae ardrethi busnes yn uwch yma, gan beryglu tafarndai, siopau a strydoedd mawr Cymru; rydych chi'n bwrw ymlaen â threth dwristiaeth, a fydd yn atal ymwelwyr a'r gwario sy'n dod gyda nhw; ac rydych chi hyd yn oed, heddiw, yn mynd i wthio pris alcohol i fyny mewn ergyd arall i bocedi pobl gyffredin sydd eisoes wedi'u hymestyn i'r torbwynt. Felly, mae'r dewis yn eglur dros ben bellach, onid yw, i bobl yma yng Nghymru ym mis Mai. Rydych chi wedi gwrthod diystyru codiadau treth, mae Plaid Cymru yn eirioli dros godiadau treth, a dyna'r hyn y maen nhw'n mynd i'w gael os byddan nhw'n caniatáu twll arall gan Lafur a Phlaid Cymru. Felly, gallan nhw ddewis hynny neu gallan nhw ddewis dechrau gwirioneddol newydd gyda'r Ceidwadwyr Cymreig sy'n credu bod pobl—rydym ni'n blaid sy'n credu bod pobl—nid gwleidyddion yn gwybod sut i wario eu harian orau. Pam, Prif Weinidog, ydych chi mor mor ofn gadael i bobl Cymru benderfynu sut i wario eu cyflog y maen nhw'n gweithio'n galed i'w ennill? Pam mae pleidiau asgell chwith fel eich un chi a Phlaid Cymru bob amser eisiau cymryd mwy o bocedi pobl a rhoi llai iddyn nhw yn gyfnewid?
Wel, rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi cyfle i mi siarad am y sefyllfa o ran yr economi, gan ein bod ni'n cydnabod bod llawer o bobl mewn trafferthion. Mae rhai o'r bobl sydd wedi bod mewn trafferthion ers cryn amser yn fusnesau, ac, heddiw, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyhoeddi cynnydd o 15 y cant o ran y pecyn cymorth ar gyfer tafarndai a lletygarwch. Rydyn ni'n mynd ymhellach nag y maen nhw'n mynd yn Lloegr, gan ddarparu'r cymorth hwnnw nid yn unig i dafarndai, ond hefyd i letygarwch, i fwytai, i gaffis, gan ein bod ni'n cydnabod eu bod nhw o dan bwysau. Felly, rydym ni'n falch o weld, gan ein bod ni wedi cael swm canlyniadol o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ein bod ni wedi gallu cynorthwyo'r bobl hynny yn y cymunedau hynny.
Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn y blynyddoedd cyn Llywodraeth Lafur y DU yn San Steffan oedd toriadau ac anhrefn. Rydych chi'n blaid sydd mewn anhrefn ar hyn o bryd, heb unrhyw gynllun ar gyfer Cymru. Pa mor ddrwg y mae'n rhaid yw hi i'r blaid Dorïaidd ar hyn o bryd ei bod yn gwneud i Reform edrych yn ddeniadol? Mae honno'n sefyllfa wael i fod ynddi.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Neithiwr mi oeddwn i mewn ystafell yn llawn pobl o fyd busnes sy'n rhannu'r un dyhead â fi o weld Cymru ffyniannus a Chymru lewyrchus. Mae'r heriau y mae busnesau Cymru yn eu hwynebu, wrth gwrs, yn rhai gwirioneddol, ac mae Brexit, COVID a'r hinsawdd economaidd yn fwy cyffredinol wedi codi cwestiynau am hyfywedd nifer o sectorau. Mae'r diwydiant lletygarwch yn un o'r rheini. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o straeon am fusnesau, yn dafarndai a bwytai ac ati, yn cau am eu bod nhw'n methu cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae perchnogion tafarndai, er enghraifft, wedi bod yn siarad efo fi yn ddiweddar am beth fyddai effaith gweld cynnydd o £6,800 y flwyddyn yn eu trethi busnes o fis Ebrill. Felly, dwi'n croesawu'r penderfyniad gan y Prif Weinidog heddiw i roi £8 miliwn yn ychwanegol i ddarparu blwyddyn o ryddhad i eiddo lletygarwch bwyd a diod. Ond, wrth gwrs, all sector sydd yn werth £4 biliwn i economi Cymru ac sy'n cyflogi ymhell dros 150,000 o bobl ddim goroesi ar sail setliad blwyddyn yn unig. A ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo hynny?
Wel, rydym ni wedi bod yn eglur mai'r hyn yr ydym ni'n ei roi heddiw yw'r cymorth hwnnw o 15 y cant i ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer tafarndai, bwytai yng Nghymru. Fel y dywedais i, mae hynny'n ehangach na'r cynnig yn Lloegr, gan elwa 4,400 o eiddo yng Nghymru, a bydd cyfle i bobl wneud cais am y cymorth hwnnw drwy awdurdodau lleol o fis Ebrill ymlaen. Fel y gwyddoch chi'n iawn, rydym ni'n cyflawni cyllidebau yn flynyddol yn y lle hwn, felly byddai rhoi ymrwymiad heb wybod beth sydd o'n blaenau, rwy'n credu, yn anghyfrifol.
Rydych chi'n sôn am siarad â phobl fusnes. Roeddwn i'n siarad â phobl fusnes yr wythnos diwethaf hefyd. Maen nhw mewn ofn. Maen nhw mewn ofn o'r posibilrwydd o anhrefn ar ôl etholiad mis Mai. Maen nhw mewn ofn o'r ansefydlogrwydd a allai ddod. A'r un peth yr wyf i yn ei wybod am fusnes yw mai'r hyn y maen nhw ei eisiau yw sefydlogrwydd. Maen nhw eisiau gwybod beth sy'n dod nesaf. Maen nhw eisiau gweld sut mae'r dyfodol yn edrych. Gallan nhw weithio o gwmpas unrhyw beth os oes ganddyn nhw ryw synnwyr o hynny. Does ganddyn nhw ddim synnwyr o hynny ar ôl mis Mai ac maen nhw'n bryderus iawn, iawn am y peth, yn enwedig o ran ynni adnewyddadwy.
Rwy'n cytuno â chi bod byd busnes yn chwilio am sefydlogrwydd, a dyna pam mae'r agwedd o blaid busnes a ddangosir gan Blaid Cymru mor ddeniadol i gynifer o bobl sy'n arwain busnesau yng Nghymru nawr. Mae datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at ddefnyddio ei chyllideb ei hun, yn ogystal â chyllid canlyniadol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, i gefnogi'r sector lletygarwch. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog roi mwy o fanylion am hynny. A all gadarnhau, yn gyntaf oll, y dadansoddiad rhwng cyllid canlyniadol ac arian sy'n dod o gyllideb Cymru? Hefyd, beth fydd natur y cymorth gan ddefnyddio adnodd Llywodraeth Cymru ei hun, ac o ble daethpwyd o hyd i'r grym gwario ychwanegol yng nghyllideb 2026-27?
O fis Ebrill, bydd pob tafarn yn Lloegr yn cael 15 y cant oddi ar ei bil ardrethi busnes newydd, a bydd biliau wedyn yn cael eu rhewi mewn termau real am ddwy flynedd arall. Nid yw'n eglur o'r cyhoeddiad heddiw a yw'r sector lletygarwch yng Nghymru yn cael cynnig yr un cytundeb aml-flwyddyn, oherwydd mae'r datganiad ysgrifenedig yn cyfeirio at y flwyddyn ariannol nesaf yn unig. Fe wnaf i'r pwynt y gall cytundebau aml-flwyddyn olygu nifer o wahanol bethau. Beth fyddai cynllun tymor hwy y Prif Weinidog, oherwydd fy nheimlad i yw bod y sector lletygarwch angen mwy o sicrwydd ar gyfer y dyfodol?
Rwy'n credu pe baem ni wedi cynnig cytundeb aml-flwyddyn y byddwn i wedi cael fy meirniadu am fod yn hyf am yr hyn a fyddai'n digwydd ar ôl mis Mai. Mewn gwirionedd, rwy'n parchu pobl y genedl hon a fydd yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn sy'n digwydd nesaf. Rydych chi'n gofyn o le mae'r arian hwnnw yn mynd i ddod. Bydd pum miliwn o bunnoedd yn dod o ganlyniad i'r swm canlyniadol sy'n dod gan Lywodraeth y DU a £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n rhan o'r cynllun pontio ar gyfer yr ailbrisio.
Fe wnes i'r pwynt y gall cytundebau aml-flwyddyn olygu gwahanol bethau, gan gynnwys newidiadau strwythurol a all fod yn barhaus. Mae mesurau byrdymor yn aml yn atebion dros dro. Gan edrych i'r hirdymor, mae'n amlwg i mi fod y system ardrethi busnes yng Nghymru wedi torri'n sylfaenol. Mae'r sector lletygarwch yn wynebu argyfwng dirfodol, bydd llawer yn dweud wrthych chi. Mae'n system sydd angen newid brys a radical, rhywbeth y byddai Llywodraeth Plaid Cymru sydd o blaid busnes yn ei wneud yn flaenoriaeth. Mae'n bryd, rwy'n credu, troi'r fantol o blaid busnesau llai trwy ddylunio system drethi sy'n gadarn ar ochr busnesau bach a chanolig eu maint. Mae gennym ni dri lluosydd ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'r un isaf yn eithrio lletygarwch. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cywiro'r camgymeriad hwnnw. Mae hynny'n rhan o'n cynllun. Beth yw cynllun y Prif Weinidog?
Fe wnaethom ni ddweud wrthych chi heddiw yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i'w cynorthwyo. Yr union beth yr ydym ni'n ei ddangos yw ein bod ni'n cydnabod bod gwahaniaeth. Gadewch i ni hefyd gydnabod, mewn gwirionedd, bod newidiadau yn digwydd yn ein cymunedau, ac mae'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn o ran eu gwasanaethau cyhoeddus a'r busnesau yn eu cymunedau yn newid. Os yw pobl eisiau gweld y busnesau hynny yn llwyddo, mae angen iddyn nhw eu defnyddio. Mae angen iddyn nhw roi'r gorau i brynu pethau ar-lein. Mae angen iddyn nhw fynd allan o'u cartrefi a rhoi'r gorau i wylio Netflix. Mae angen iddyn nhw roi'r gorau i brynu'r botel honno o win gartref a mynd allan i'r dafarn. Dyna realiti yr hyn sy'n digwydd yma. Allwch chi ddim disgwyl i'r wladwriaeth gamu i mewn a gwneud y gwaith y dylai'r cyhoedd fod yn ei wneud.
Rwy'n credu mai'r hyn sydd gennym ni mewn Llywodraeth Lafur Cymru yw Llywodraeth sydd o ddifrif. Rwy'n credu bod hwn yn gyfnod difrifol. Mae angen arweinyddiaeth ddifrifol arno. Rwy'n gwrthod cael fy sylw wedi ei dynnu gan y rhai sy'n cyflwyno darlun tywyll. Dim ond yr wythnos hon, yr hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yw dangos ein bod ni'n bwrw ymlaen yn gadarn â phethau yma yn ystod misoedd olaf y Llywodraeth hon. Rydym ni newydd weld y cyfraddau ailgylchu gorau yr ydym ni erioed wedi eu gweld—canlyniadau gorau erioed unwaith eto. Rydym ni wedi cyflwyno'r bwndel babi yr wythnos hon. Heddiw, rydym ni hefyd wedi cyflwyno'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud o ran dŵr glân, Papur Gwyrdd, sy'n benderfynol o lanhau ein hafonydd ac erlyn llygrwyr. A gadewch i ni beidio ag anghofio bod Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn—yn erbyn—y mesurau a fyddai wedi cefnogi glanhau ein hafonydd. Rheoleiddio cryfach, gwell atebolrwydd, dyma'r pethau yr wyf i'n ei gredu y mae pobl Cymru eisiau eu gweld yn eu Llywodraeth nesaf, a dyna'r hyn y byddwn ni'n ei gynnig i bobl Cymru.
Plaid brotest yw Plaid Cymru. Mae pobl, rwy'n credu, eisiau gwasanaethau, nid sloganau. Dydyn nhw ddim eisiau gweld gwleidyddiaeth ffantasi, dydyn nhw ddim eisiau gweld pobl yn chwarae gyda'u bywydau a'u bywoliaethau. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth ddifrifol mewn cyfnod difrifol.
3. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau darpariaeth ddeintyddiaeth y GIG? OQ63807
Rydym ni'n ymwybodol bod llawer o bobl yn poeni na allan nhw gael mynediad at ddeintydd GIG gan fod llawer o ddeintyddion wedi gadael y GIG ar gyfer gwaith mwy proffidiol yn y sector preifat. Rydym ni wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes i newid y system, ac mae hyn wedi arwain at 530,000 o bobl bellach yn llwyddo i gael mynediad at ddeintydd GIG, nad oedden nhw'n gallu ei wneud yn flaenorol. Ond rydym ni eisiau mynd ymhellach. Diwygio contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG yw'r cam pwysicaf y gallwn ni ei gymryd tuag at wella mynediad at ddeintyddiaeth GIG. Mae'r contract newydd, a fydd yn weithredol o fis Ebrill 2026, yn cymell atal a darparu triniaeth ddeintyddol ar sail risg ac anghenion, tra ar yr un pryd yn darparu tâl teg a deniadol i'r proffesiwn deintyddol.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Hoffwn ganolbwyntio ar y contract deintyddol hwnnw, a chanlyniad o hynny, o'r hyn y gallaf ei weld, yw bod deintydd GIG hirsefydlog yn fy rhanbarth i newydd wneud y penderfyniad i fynd yn breifat. Fe wnaeth Crown Cottage Dental Care ym Medwas hysbysu'r holl gleifion y bydden nhw'n gwneud y newid mewn llythyr, oherwydd y newidiadau y mae'r Llywodraeth Lafur wedi eu gwneud i'r contract deintyddol. Mae etholwr wedi bod mewn cysylltiad â'm swyddfa sydd bellach bron yn 50 mlwydd oed ac wedi bod gyda'r practis penodol hwn ers pan oedd yn blentyn. Mae wedi cael gwybod y byddai'n rhaid iddo dalu ffi danysgrifio sefydlog i aros gyda'r deintydd sydd dros £1,000 y flwyddyn i'w deulu o bedwar.
Rhoddwyd llawer o sylw i'r ffaith bod deintyddion eraill sydd wedi mynd yn breifat yn ddiweddar am yr un math o resymau. Mae deintyddion GIG yng Nghymru wedi bod yn rhybuddio am y chwalfa i ddarpariaeth y GIG ers i mi gael fy ethol yn 2021. A ydych chi wedi bod yn anwybyddu'r rhybuddion hyn, Prif Weinidog, fel Prif Weinidog neu fel Gweinidog iechyd cyn hynny? Yn bwysicach fyth, beth ydych chi'n ei ddweud wrth deuluoedd fel yr un y soniais i amdano, y dywedwyd wrthyn nhw am ddod o hyd i £1,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer gofal deintyddol sylfaenol, a beth ydych chi'n ei wneud amdano?
Wel, edrychwch, mae bob amser yn siomedig pan fydd deintydd yn penderfynu lleihau neu roi terfyn ar ei ymrwymiad i'r GIG. Pan fydd hynny'n digwydd, mae'n bwysig nodi bod y cyllid ar gyfer y ddarpariaeth a gollwyd yn aros gyda'r bwrdd iechyd, ac mae'n cael ei ddisodli ar lefel y bwrdd iechyd o ran gwasanaethau eraill y gellir eu rhoi.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael cyd-destun ar gyfer hyn. Mae gwerth contractau a ddychwelwyd yn llai na 3 y cant o weithgarwch a gomisiynwyd mewn termau ariannol, felly mae'n llai na gwerth £7.9 miliwn o ddychweliadau contract a welwyd yn 2023-24. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael synnwyr o'r hyn sy'n digwydd ledled y wlad. Ceir pocedi lle mae'n heriol iawn ac rydym ni'n ymwybodol o hynny. Dyna pam, er enghraifft, yr ydym ni'n cymell deintyddion i fynd i ardaloedd gwledig. Rydym ni'n rhoi codiad cyflog ychwanegol o £7,000 iddyn nhw i hyfforddi a gweithio mewn ardaloedd gwledig.
Ond y peth arall y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n hyfforddi mwy o ddeintyddion sy'n hanu o Gymru, ac rwy'n falch iawn o weld bod Prifysgol Caerdydd, er enghraifft, wedi cynyddu'n sylweddol nifer y deintyddion sy'n dod o Gymru. Felly, y llynedd, roedd tua 15 y cant o'r holl fyfyrwyr deintyddiaeth yn dod o Gymru. Rwy'n falch iawn o weld heddiw bod hyd at 46 y cant o fyfyrwyr deintyddiaeth newydd, o ganlyniad i ni roi pwysau arnyn nhw i gydnabod bod angen i chi hyfforddi deintyddion o Gymru, ac rydych chi angen iddyn nhw hyfforddi a gwneud eu gwaith lleoliad yng Nghymru mewn gwirionedd, lle maen nhw'n fwy tebygol o aros wedyn.
Fel yr ydych chi wedi ei gydnabod, Prif Weinidog, mynediad at ddeintydd GIG yw un o'r materion mwyaf dybryd y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu, ac yn enwedig yn fy rhanbarth i, Gogledd Cymru. Dim ond yn ddiweddar, rydym ni wedi clywed cyhoeddiad y disgwylir i chwe phractis deintyddol yn y gogledd gau o fis Mawrth eleni, gan adael miloedd o'm hetholwyr yn y gogledd heb fynediad at eu gofal deintyddol GIG arferol. Ac, fel yr ydych chi wedi ei gydnabod, nid yw'n broblem ynysig, ond mae'n sicr yn un ddifrifol i'm hetholwyr yn y gogledd. Mae deintyddion eu hunain yn eglur bod y system bresennol yn anghynaliadwy. Mae trefniadau cytundebol, heriau recriwtio a chadw, a chostau cynyddol yn gyrru practisau oddi wrth y ddarpariaeth GIG honno. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, o fewn eich rheolaeth a'ch gallu yn llwyr i wneud rhywbeth amdano, gan ei fod yn fater cwbl ddatganoledig ar orchymyn Llywodraeth Lafur Cymru yma. Felly, gyda'r contract newydd yn cael ei weithredu ym mis Ebrill eleni, a fyddwch chi'n gallu sicrhau na fydd mwy o bractisau deintyddol yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru yn cau?
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni, ers 2022, wedi gweld 530,000 o gleifion newydd yn cael eu derbyn gan y GIG yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n newid rhyfeddol, ac mae'n rhywbeth y maen nhw'n edrych arno gydag eiddigedd yn Lloegr. Mae hynny cyn i ni edrych ar y 213,000 o apwyntiadau brys—apwyntiadau brys—ar gyfer cleifion newydd ledled Cymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei gydnabod, fel y dywedais i, yw bod pocedi lle mae angen i ni redeg i mewn ac ailgyflwyno'r ddarpariaeth. Weithiau mae'r ail-gaffael hwnnw yn cymryd ychydig o amser, ond dyna'n union sy'n digwydd yng Ngogledd Cymru yn yr ardaloedd hynny yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw. Un o'r pethau yr oeddem ni'n benderfynol o'i wneud oedd gwneud yn siŵr nad oedd gennym ni system lle'r oedd yn rhaid i bobl ffonio o gwmpas llawer o wahanol bractisau. Felly, rydym ni'n falch iawn bod y porth mynediad deintyddol hwnnw wedi cael ei lansio bellach, ac mae hynny'n symleiddio'r llwybr mynediad a'i wneud yn decach i bawb.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rydych chi'n iawn i ddweud bod yr arian yn aros gyda'r bwrdd iechyd a bod cymhelliad i ddeintyddion gwledig, ond nid oes unrhyw ddeintyddion sydd eisiau mynd i'r GIG oherwydd y contract ac oherwydd bod y newidiadau i'r contract ym mis Ebrill, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan Peredur, yn golygu nad yw deintyddion yn fodlon mynd i ddeintyddiaeth GIG.
Ym Mhowys, mae 4,000 o oedolion ar restr aros y GIG. Yn sir Faesyfed, sy'n talu'r pris am ei natur wledig, mae gennym ni Drefyclo, tref o 3,000 o bobl, a Llandrindod, tref o 6,000 o bobl, heb ddeintydd GIG o gwbl. Fe wnes i gyfarfod â gŵr o Landrindod a ddechreuodd driniaeth ddeintyddol ar ddau dant bum mlynedd yn ôl. Yn y cyfnod hwnnw, mae wedi colli dant a phum mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i aros am y driniaeth sydd ei hangen arno mor daer ac mae mewn poen sylweddol.
Rydyn ni'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y contract, rydym ni'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr arian yn aros gyda'r bwrdd iechyd, ond nid yw deintyddion GIG eisiau mynd i ddeintyddiaeth GIG yng nghefn gwlad Cymru. Felly, rydym ni wir angen newid sylweddol i'r contract sydd ar y gorwel er mwyn sicrhau ein bod ni'n denu'r deintyddion hynny i driniaeth y GIG ledled Cymru, ond mewn ardaloedd gwledig yn arbennig. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i fod yn ei wneud am hynny? Diolch yn fawr iawn.
Rydym ni o ddifrif am wneud yn siŵr y gallwn ni roi'r ddarpariaeth honno. Bu gen i ddiddordeb mawr o weld ym Mhowys mai'r bwrdd iechyd, mewn gwirionedd, sy'n ymgymryd â llawer o'r cyfrifoldeb hwn eu hunain, gan ddefnyddio therapyddion deintyddol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud gwell defnydd o therapyddion deintyddol, a dyna pam rwy'n falch, er enghraifft, ein bod ni'n gweld mwy o'r rheini yn cymhwyso ym Mhrifysgol Bangor am y tro cyntaf fis Medi diwethaf. Rwyf i eisiau gweld mwy o'r rheini. Rwyf i eisiau gweld cydnabyddiaeth y gall, mewn gwirionedd, llawer iawn o waith sy'n cael ei wneud gan ddeintyddion gael ei wneud gan therapyddion deintyddol. Mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud fel Llywodraeth: cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cymwysterau hynny.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y rhaglen o waith ar gefnffyrdd sy'n digwydd ac sydd ar y gweill yn Sir Fynwy? OQ63776
Mae gwneud yn siŵr bod ein ffyrdd yn ddiogel yn gyfrifoldeb sylfaenol i Lywodraeth Cymru, ac weithiau mae angen i ni gomisiynu gwaith i sicrhau bod y ffyrdd hynny'n ddiogel trwy wneud gwaith a all, yn anffodus, darfu ar bobl sy'n byw yn yr ardal. Dechreuwyd gwaith yr wythnos diwethaf ar ddau brosiect pwysig ar ein cefnffyrdd yn sir Fynwy: disodli'r rhwystrau diogelwch ar yr A40 rhwng Rhaglan a chylchfan Hardwick yn y Fenni, a gosod croesfan i gerddwyr ar yr A4042 ym Mhenperllenni.
Diolch i chi, Prif Weinidog. Pan osodais i'r cwestiwn hwn, roedd pryderon sylweddol mewn llawer o'n cymunedau ni yn yr etholaeth ynglŷn â'r gwaith sy'n parhau ar ffordd yr A4042. Fe gyhoeddwyd gorchymyn rheoleiddio traffig sy'n awgrymu y gallai darn 7.5 milltir o'r ffordd gael ei gau yn ysbeidiol am hyd at chwe mis. Nid yw hi'n syndod fod hyn wedi achosi pryder gwirioneddol ymhlith trigolion a busnesau. Yn ffodus, fe roddwyd eglurder yn y diwedd wedi sawl ymyriad, ond ni ddylai fod angen anfon llythyrau at yr Ysgrifennydd Cabinet, datganiadau busnes ac, yn wir, y cwestiwn heddiw er mwyn cael gafael ar wybodaeth sylfaenol. Mae angen cyfathrebu eglur ar fusnesau a thrigolion, ac mewn da bryd, ac ni chafwyd hynny yn yr achos hwn.
Yn yr un modd, gyda'r gorchymyn traffig ffyrdd a roddwyd ar waith dros ddwy flynedd yn ôl ar yr A40 a'r M48 ar gyfer gwaith ar y rhwystrau diogelwch, ni chafwyd unrhyw fanylion nac amserlenni, ac ni roddwyd unrhyw esboniadau. Mae hi wedi cymryd dros 130 wythnos a dim ond yn ddiweddar y mae cynnydd wedi dechrau, fel roeddech chi'n ei nodi. Mae diffyg eglurder fel hyn yn gwbl ddi-fudd, i'r cynghorau a'r cymunedau. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth chi fyfyrio ar yr angen am welliant sylweddol o ran eglurder yr wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru pan fo hynny'n debygol o effeithio ar lawer o bobl a busnesau?
Rwy'n awyddus i'ch sicrhau chi nad yw'r hysbysiadau hyn yn darlunio parhad gwirioneddol y cyfyngiadau ac na ddylid eu dehongli nhw fel cyfnodau cau ffyrdd hirdymor. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol mai honno oedd y sefyllfa bob amser drwy gydol y cyfnod y buoch chi'n gweithio fel cynghorydd. Roedd y gorchymyn hwn yn ymwneud yn benodol â'r rheolaeth dros dro ar draffig sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith ar groesfan i gerddwyr ym Mhenperlleni. Rwy'n dymuno dim ond sicrhau pobl y byddwch chi'n dal i allu mynd i dafarn y Goose and Cuckoo trwy'r cyfnod hwnnw—fe ddown yn ein holau at 'Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio ein tafarndai lleol'—ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod pwysigrwydd y cymunedau gwledig a busnes hynny.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymunedau i gynnal mynediad at wasanaethau lleol hanfodol? OQ63784
Mae cefnogi cymunedau i gynnal mynediad at wasanaethau lleol hanfodol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle yr effeithir o bosibl yn anghymesur ar boblogaethau gwasgaredig wrth dynnu gwasanaethau bob dydd yn eu holau. I roi enghraifft o'r camau y gwnaethom ni eu cymryd, rydym ni'n buddsoddi £112 miliwn arall mewn llywodraeth leol yn 2026-27, a fydd yn cefnogi gwasanaethau allweddol—cynnig na wnaeth eich plaid chi ei gefnogi.
Un peth yr oeddwn i'n siomedig yn ei gylch gyda'r Llywodraeth hon oedd pan godais i'r mater o gau gwasanaethau bancio o'r blaen. Mae'r Banc Lloyds diwethaf wedi cau yn Noc Penfro, sy'n golygu nad oes gan dde sir Benfro unrhyw wasanaethau bancio o gwbl gan fanciau'r stryd fawr erbyn hyn. Fe godais i hyn ar lawr y Siambr hon o'r blaen ac fe addawyd cefnogaeth gan y Llywodraeth hon yn fy ymgyrch i. Mae dros 1,500 wedi arwyddo deiseb yn y gymuned i gefnogi hynny, yn eiriol dros ganolfan fancio yn ne sir Benfro, ond nid wyf i wedi cael unrhyw ohebiaeth, ynglŷn â'm datganiad busnes i, gan y Llywodraeth hon. Felly, dim ond geiriau teg yw'r cwbl, Prif Weinidog, o ran eich bod chi'n dweud eich bod chi'n gefnogol i wasanaethau a chymunedau yng nghefn gwlad, ond ni chefais i unrhyw beth o gwbl oddi wrth eich Llywodraeth chi. Pam felly?
Fe af ar drywydd hynny, ond gadewch i mi ddweud wrthych chi fod pwysau enfawr ar fancio ledled Cymru. Rwy'n credu bod cyhoeddiadau eraill wedi bod yn sir Benfro yn ddiweddar a oedd yn peri pryder hefyd. Nid wyf i'n credu y gall y Llywodraeth gamu i'r adwy ym mhob achos unigol. Rwy'n credu bod angen i'r sector preifat gymryd cyfrifoldeb yn hyn o beth. Ond wrth gwrs, pan fyddwn ni'n cydnabod bod ardal eang iawn lle nad oes modd defnyddio'r gwasanaethau hynny o gwbl, fe allwn ni wneud yr hyn a allwn ni i gamu i'r adwy ac annog eraill i gamu i'r adwy ar gyfer gweithio gyda'n gilydd. Fe fyddaf i'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol i fynd ar drywydd hynny.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar werth y gadwyn gyflenwi niwclear i economi Cymru? OQ63803
Mae'r gadwyn gyflenwi niwclear yn hynod werthfawr i economi Cymru, ac rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i'w datblygiad. Enillodd cant naw deg o gyflenwyr o Gymru gontractau yn Hinkley Point C, gyda £188 miliwn wedi'i dderbyn o £815 miliwn o wariant a ragolygir. Mae Sizewell C wedi addo gwario o leiaf £900 miliwn gyda chyflenwyr o Gymru hefyd. Gyda'i gilydd, mae hyn yn dangos bod y gadwyn gyflenwi yng Nghymru mewn sefyllfa dda iawn i sicrhau cyfleoedd ym mhrosiect adweithydd modiwlaidd bach Wylfa.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am dynnu sylw at werth cyfredol y gadwyn gyflenwi niwclear yn Hinkley a Sizewell fel ei gilydd. Mae'r gadwyn gyflenwi niwclear yn cynnwys 345 o wahanol sefydliadau busnes yng Nghymru. Pan oeddech chi'n sôn yn gynharach am eich dyhead i dyfu'r economi yng Nghymru, i gael mwy o swyddi gwerthfawr sydd â chyflog da, mae'r sector hwn mewn sefyllfa berffaith i gyflawni hynny, gyda'r potensial i gynyddu hyd at chwe gwaith yn ystod y degawd nesaf.
Mae hynny'n cael ei ategu gan gefnogaeth drawsbleidiol o ran polisi, ond hyd yn oed yn bwysicach fyth mae hyn yn ymwneud â dewisiadau buddsoddi terfynol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth bresennol y DU. Yng Nghymru, mae hynny fwyaf amlwg yn Wylfa, gyda thechnoleg gan Rolls-Royce. Fel roedd y grŵp trawsbleidiol ar ynni niwclear yr wyf yn ei gadeirio yn tynnu sylw ato heddiw, dim ond pan fydd y Llywodraeth hon yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid eraill ar gyfer cyflawni hynny y bydd y cyfleoedd hynny'n dod.
A wnewch chi gadarnhau mai polisi'r Llywodraeth hon yw cefnogi ynni niwclear newydd yng Nghymru yn rhan o'r gymysgedd honno o ynni yn y dyfodol? A wnewch chi gadarnhau hefyd mai polisi'r Llywodraeth hon yw gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, yn enwedig â'r Adran Busnes a Masnach a'r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, i ddefnyddio pob ysgogiad i feithrin y gadwyn gyflenwi niwclear yma yng Nghymru? Os felly, a wnewch chi gadarnhau mai dyna'r cyfarwyddiadau y gwnaethoch chi eu rhoi i'ch swyddogion yn Llywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â phartneriaid a meithrin economi'r gadwyn gyflenwi niwclear yma yng Nghymru?
Rydym ni ar drothwy pennod newydd, rwy'n meddwl, yn economi Cymru. Rwy'n credu y gallai Llywodraeth newydd ansefydlog beryglu cyfran o'r buddsoddiad hwnnw, fel cawsom ni ein rhybuddio gan lawer o gwmnïau. Rwyf i wedi eiriol yn ddiflino dros fuddsoddiad yn Wylfa. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i hyn, ac rwy'n credu y bydd hynny'n drawsnewidiol i economi'r gogledd. Nid wyf i'n petruso dim rhag dweud wrth gwrs ein bod ni'n cefnogi ynni niwclear newydd ac y byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod ni'n cael cymaint o fudd o hynny ag y gallwn ni ar gyfer cwmnïau cyflenwi yng Nghymru.
Mewn gwirionedd, y penwythnos diwethaf, roeddwn i gydag un o'r cwmnïau hynny a allai gyflenwi i'r gogledd o bosibl, sef cwmni peirianneg Ledwood. Maen nhw wedi arwyddo cytundebau enfawr ar gyfer Hinkley C eisoes. Maen nhw'n edrych ar y cyfleoedd ar gyfer Wylfa. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud i bethau gyd-fynd â'i gilyddu. Rwyf i wedi gofyn eisoes i gael canolbwyntio mewn un o'n cyfarfodydd Cabinet yn y dyfodol ar sut y gallwn ni wneud y mwyaf posibl o'r cyfleoedd a ddaw o'r buddsoddiad hwnnw yn y gogledd.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i leihau rhestrau aros y GIG yn Nwyrain De Cymru? OQ63773
Er ein bod ni'n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud eto, rydym ni'n falch dros ben fod ein buddsoddiad cynyddol enfawr i fyrhau rhestrau yng Nghymru yn talu ar ei ganfed. Fis diwethaf, fe welsom ni'r gostyngiad mwyaf mewn rhestrau aros a welsom ni erioed—23,000 yn llai mewn mis. Rwy'n credu ei bod hi'n werth atgoffa pobl mai'r amser aros cyfartalog yng Nghymru yw 19 wythnos. Dros y 12 mis diwethaf, mae canran y bobl sy'n aros am ddwy flynedd wedi lleihau fwy na 80 y cant ym myrddau iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf. Ledled Cymru, mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng 90 y cant ers anterth y pandemig. Mae hwn yn waith anhygoel gan aelodau gweithgar y GIG yng Nghymru.
Prif Weinidog, diolch i chi am eich ymateb, ond fe fydd rhaid i mi anghytuno â chi, oherwydd, yn fy marn i, mae ein GIG ar ei liniau oherwydd degawdau o gamreolaeth a chamweinyddiad gan eich plaid chi. Mae un o'm hetholwyr i wedi bod ar restr aros y GIG ar gyfer llawdriniaeth orthopedig ac fe ddywedwyd wrth hwnnw y gallai fod yn disgwyl aros am tua 98 wythnos. Fe aeth y dolur mor enbyd fel na allai ddioddef rhagor. Roedd yn rhaid iddo roi gorau i weithio oherwydd ei boen gronig, ac fe gafodd hynny effaith fawr ar ei iechyd meddwl ac fe gafodd effaith fawr ar ei allu ef i gefnogi ei dad, a oedd yn cael triniaeth canser ar y pryd. Am ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r boen, fe wnaeth fy etholwr gais am gyllid S2, sy'n caniatáu i drigolion cymwys Cymru gael triniaeth feddygol a gynllunnir sy'n cael ei hariannu gan y GIG mewn gwlad yn yr UE, ond cael ei wrthod a wnaeth oherwydd fe ystyriwyd bod cyfiawnhad i'w arhosiad ef. Yn y diwedd, fe aeth fy etholwr i Lithwania ei hun ar gyfer y llawdriniaeth ar gost o £3,500, a dalodd yn breifat gyda chymorth gan gynilion ei deulu a benthyciad. Diolch byth, fe gafodd fy etholwr ei lawdriniaeth ac mae'n gwella, ond nid yw pawb yn gallu cael gafael ar arian i dalu am eu gofal yn breifat. Prif Weinidog, sut all hi fod yn dderbyniol i'm hetholwr—a llawer o rai eraill, yn ôl pob sôn—gael eu gorfodi i wario miloedd ar deithio dramor am driniaeth, pan ddylen nhw fod yn gallu ei chael yn nes adref mewn amser derbyniol? A wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i adolygu'r meini prawf ar gyfer cyllid S2 i sicrhau eu bod yn addas i'r diben? Diolch i chi.
Y tro diwethaf i ni gael y cyfraddau boddhad uchaf yn y GIG oedd yn ôl yn 2010. Efallai y byddwch chi'n meddwl am yr hyn a oedd yn digwydd bryd hynny. Dyna pryd roedd gennym ni Lywodraeth Lafur. Dyna pryd roedd dealltwriaeth ynglŷn â'i bod hi'n rhaid cefnogi'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus. Yna fe gawsom ni 14 mlynedd o doriadau a chyni'r Torïaid, 14 mlynedd pryd y bu'n rhaid i ni amddiffyn y setliad datganoli. Wrth gwrs, wrth i'r llifddorau agor unwaith eto nawr, fe fydd hi'n cymryd ychydig o amser i bethau wella i ni, ond gwella yr ydym ni. Dyna pam rwy'n falch iawn o weld, yn enwedig ym mwrdd Aneurin Bevan, ein bod ni wedi gweld y rhestrau aros hwyaf hynny'n gostwng 80 y cant.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Y Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae dau newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae dadl heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Llesiant Plant ac Ysgolion wedi cael ei gohirio. Mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory tan yr wythnos nesaf. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar gyflawni prosiectau ffyrdd yn y gorllewin. Fel gwyddoch chi, dros y blynyddoedd, rwyf wedi codi pryderon yn barhaus ynglŷn â thraffig a diogelwch ar yr A487 yn Nhref Isaf Abergwaun yn fy etholaeth i. Er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, nid oes unrhyw gynnydd wedi bod o ran gwella diogelwch yn yr ardal hon er mwyn y gymuned leol. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun ffordd yn ei gwneud hi'n ofynnol i gerddwyr groesi'r un bont ag y mae cerbydau o bob maint yn ei defnyddio, sydd, fel rydych chi'n deall, yn rhoi trigolion mewn sefyllfa hynod anniogel. Mae hwn yn fater sydd uwchlaw gwleidyddiaeth plaid, ac fe fues i'n gweithio gyda'r AS lleol i sicrhau datrysiad diogel ar gyfer y gymuned. Fe wnaethom ni gyfarfod â'r Ysgrifennydd Cabinet i drafod hyn ym mis Mehefin y llynedd, ac ers hynny rydym ni wedi bod yn ceisio cael cyfarfod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Fe es i ar drywydd Llywodraeth Cymru ym mis Hydref, ac ni chawsom ni fyth ymateb i'm gohebiaeth i, felly, Trefnydd, mae'r gymuned yn anobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o weithredu, ac felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei phrosiectau ar y ffyrdd yn y gorllewin, er mwyn i ni gael deall yn beth yn union sy'n cael ei wneud i wella'r seilwaith lleol a'i gwneud hi'n fwy diogel i'm hetholwyr i gyd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Mae hyn yn amlwg yn fater penodol iawn; roeddech chi'n sôn am faterion diogelwch ar y ffyrdd yn Abergwaun yn eich etholaeth chi. Rwy'n falch eich bod chi wedi bod yn cydweithio â chynrychiolwyr etholedig, ac mae'n debyg bod hynny'n golygu Cyngor Sir Penfro hefyd, oherwydd eu bod nhw'n cael cyllid a ddyrannwyd ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd. Ond fe fyddaf i'n codi'r mater hwn o ran y cwestiwn ynglŷn â gohebiaeth ac yn cyfarfod â swyddogion yr Ysgrifennydd Cabinet i ystyried yr un mater hwnnw o ran prosiectau ffyrdd yn y gorllewin.
Trefnydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed i'n codi sefyllfa druenus trigolion Teras Clydach yn Ynysybwl, sy'n wynebu'r perygl uchaf i fywyd oherwydd llifogydd, yn fwy nag unrhyw gymuned arall yng Nghymru. Ddoe, fe gytunodd cabinet cyngor Rhondda Cynon Taf i brynu'r stryd a dymchwel y cartrefi. Rwy'n croesawu bod datrysiad wedi ei gytuno, ond rwy'n gobeithio y gallwn ni gydnabod pa mor arwyddocaol yw'r penderfyniad hwn, yn ogystal â maint yr archoll i drigolion sy'n gorfod gadael eu cartrefi, a rhai ohonyn nhw wedi bod yn byw yno ers degawdau.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd a fydd yn amlinellu pa wersi a gafodd eu dysgu yn y broses hon. Yn amlwg, roedd cyllid helaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer modelu, gwneud astudiaethau dichonoldeb ac ati, ond cyngor Rhondda Cynon Taf sydd wedi dod o hyd i ddatrysiad yn y pen draw. Sut y bydd profiad trigolion Teras Clydach yn helpu i saernïo polisi yn y dyfodol? Oherwydd fe fydd cymunedau eraill yn gofyn nawr, 'Os cafodd y rhain eu cefnogi, pa bryd y cawn ninnau?'
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rwy'n credu bod llawer ohonom ni wedi clywed y sylw sylweddol yn y cyfryngau ddoe ynglŷn â'r sefyllfa yn Ynysybwl. Mewn gwirionedd, fe glywais i arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn esbonio'r sefyllfa yn fanwl iawn—y Cynghorydd Andrew Morgan—ac, yn amlwg, mae'n rhaid bod hyn yn effeithio yn fawr iawn ar bobl y gymuned honno, yn Nheras Clydach. Mae cydnabyddiaeth gref o effaith newid hinsawdd. Felly, rwy'n credu bod eich pwyntiau chi ynglŷn â'r gwersi a ddysgwyd, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r dyfodol, yn bwysig iawn.
Felly, fe fyddaf i'n mynegi'r pwynt hwn a wnaethoch chi heddiw yn eglur gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet, sy'n gwbl ymwybodol o hyn, ac yn cydnabod hefyd fod Rhondda Cynon Taf wedi gweithio yn glòs iawn gyda'r trigolion, o ran mynd i'r afael â'r sefyllfa anodd iawn hon. Ac mae'n rhaid dysgu gwersi i'r dyfodol, o ran effaith newid hinsawdd ar ein cymunedau.
Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad am y cynnydd yn y broses o symud tuag at ddiddymu elwa ar ofal maeth a phreswyl ar gyfer plant yng Nghymru? Nid wyf i'n gwybod a yw'r Trefnydd wedi gweld yr adroddiadau yn y wasg dros y penwythnos am sut mae hi yn Lloegr nawr, gyda thri chwmni o Lundain yn ddarparwyr mwyaf gofalwyr maeth yn Lloegr erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, roedd adroddiad diweddar yn canfod bod elw'r cwmnïau mwyaf ar gyfradd tua 19 y cant yn uwch nag a fyddai'n ddisgwyliedig mewn marchnad effeithiol, ac mae'r diwydiant yn werth tua £2.2 biliwn yn Lloegr ar ei phen ei hun.
Felly, onid ydych chi o'r farn y dylem ni fod yn falch iawn yn Llywodraeth Cymru ein bod ni'n rhoi lles ein plant sy'n cael gofal o flaen gwneud elw? Rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion ynglŷn â sut yr ydym ni'n symud tuag at hynny.
Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan. Fel hyn y mae Cymru yn arwain y ffordd. Ni fydd y genedl gyntaf yn y DU i ddeddfu i gael ymwared ar elwa ar ofal preswyl a maeth plant. Wrth gwrs, mae'r cyfan yn rhan o sylfaen trawsnewidiad gwasanaethau plant. Ac rwy'n rhoi teyrnged i Julie Morgan, a ysgogodd hyn yn ddiflino yn ei swyddogaeth weinidogol ffurfiol, ac, wrth gwrs, fe gafodd hynny ei symud yn ei flaen, ac rydym ni wedi pasio'r ddeddfwriaeth yn y fan hon.
Do, fe welais i'r adroddiadau hynny yn y wasg ynglŷn â'r elwa sy'n digwydd yn y sector hwn—ofnadwy o ran y sôn am yr elw hwnnw, ac nad yw'r arian hwnnw'n mynd i'n plant. Rwy'n credu, hefyd, fod rhaid i ni gydnabod bod yr awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd nawr. O fis Ebrill eleni, fe fydd trefniadau newydd yn gweld arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi o'r newydd mewn gwasanaethau i blant, yn hytrach na'i dynnu allan fel elw. Dyna'r pwynt allweddol, onid e, sef mai er mwyn y plant y buddsoddir yr arian, ac nid er elw i neb arall. Fe fydd hynny'n gwella gwasanaethau, yn eu gwneud nhw'n gynaliadwy ac yn helpu datblygiad proffesiynol y gweithlu.
Dim ond i fynegi ar goedd unwaith eto—ac fe gafodd hyn ei basio gan y Senedd hon—rydym ni wedi ymrwymo £68 miliwn o refeniw dros y tair blynedd nesaf, ac fe gafodd £75 miliwn arall ei ymrwymo dros y cyfnod rhwng 2025-26 a 2028, ac mae hynny'n cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni'r agenda. Rydym ni wedi rhoi cyllid grant i Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru hefyd, gan eu helpu nhw i gynllunio hyn ar lefel genedlaethol—cynllunio gwasanaethau newydd a lliniaru cynnydd yng nghostau lleoli. Wrth gwrs, mae'r rhain yn drefniadau trosiannol, sy'n bwysig iawn. Mae hyn yn caniatáu amser i ddarparwyr presennol symud at fodelau nid-er-elw. Ac roedd pobl ifanc â phrofiad o ofal yng Nghymru—ac roeddech chi ar flaen y gad yn hyn o beth, Julie—yn ymwneud yn uniongyrchol â datblygiad y ddeddfwriaeth hon. Ac, wrth gwrs, egwyddor graidd y newid hwn yw y dylai gofal am blant sy'n derbyn gofal fod yn seiliedig ar werth tosturiol a chyhoeddus, ac nid ar elw nac enillion masnachol.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar ddyfodol gwasanaethau parcio a theithio yng Nghaerdydd, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w hyrwyddo? Fel gwyddoch chi'n ddiamau, mae yna gynnig ar hyn o bryd i gau gorsaf parcio a theithio Dwyrain Caerdydd ym Mhentwyn, a defnyddio'r tir ar gyfer ailddatblygiad masnachol, gyda chanolfan ddata yn un o'r dewisiadau. Ond mae dod â'r gwasanaeth hwn i ben yn annoeth iawn ac fe fydd yn effeithio ar gleifion, staff ac ymwelwyr, sy'n dibynnu ar y cyfleuster hwn i raddau helaeth iawn i gael mynd i Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hi'n amhosibl parcio wrth yr ysbyty hwn eisoes, ac mae'r ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus bresennol yn gwbl annigonol ar gyfer anghenion y cyhoedd.
Trefnydd, pan fo'r cyhoedd yn sôn am fethiant Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth, sefyllfa yn union fel hon sydd ganddyn nhw dan sylw. Mae seilwaith trafnidiaeth canolog yn cael ei dynnu i ffwrdd, darn wrth ddarn, heb ddewis arall credadwy yn bresennol. Mae cannoedd o bobl yn dibynnu bob dydd ar y cyfleuster parcio a theithio hwn, ac ni fydd cael gwared arno yn gwella hygyrchedd, ond yn creu anhrefn. Ar yr un pryd, mae'r Llywodraeth hon yn siarsio pobl i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, Trefnydd, nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y byddai datganiad gan y Llywodraeth hon yn beirniadu penderfyniad Cyngor Caerdydd yn cael gwrandawiad da iawn gan y bobl y mae'r Senedd hon yn honni ei bod yn eu cynrychioli nhw. Diolch i chi.
Diolch i chi, Joel James, am y cwestiwn yna. Cwestiwn i Gyngor Caerdydd yw hwn, wrth gwrs. Mae'n gysylltiedig iawn â'u cyfrifoldebau a'u gwasanaethau nhw o ran ar y ffyrdd a theithio llesol. Felly, rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwneud y pwyntiau hynny gyda'r cyngor yn uniongyrchol.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar effaith bosibl y cynigion gan Undeb Rygbi Cymru i dorri un o bedwar rhanbarth proffesiynol Cymru, a'r ddealltwriaeth yn eang yw mai'r Gweilch yn arbennig sydd mewn perygl. Dros yr wythnosau diwethaf, fe fu yna rwystredigaeth a dicter cynyddol oherwydd y cynigion hyn, ac nid dadl am chwaraeon proffesiynol yw hon yn unig. O'r ysgolion i'r caffis, o'r clybiau rygbi cymunedol i'r cynghorau lleol, mae pryder mawr ynglŷn ag effaith ddiwylliannol ac economaidd ehangach yn dilyn diddymu tîm proffesiynol sy'n rhoi sail i lwybrau cyfranogi, balchder lleol a hunaniaeth ranbarthol, a chyfleoedd ar gyfer adfywio. Mae pryder difrifol hefyd ynglŷn â dyfodol y cynlluniau i ailddatblygu maes Sain Helen yn Abertawe. Fe allai colli'r Gweilch roi'r adfywiad hwnnw mewn perygl, gan niweidio ecosystemau economaidd lleol sy'n dibynnu ar weithgarwch sy'n gysylltiedig â chwaraeon a phroffil chwaraeon yn y ddinas.
Felly, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian cyhoeddus mewn rygbi proffesiynol, ac o ystyried ei hymrwymiadau i adfywio, llesiant diwylliannol a chorfforol, fe hoffwn i gael gwybod pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog gydag URC am ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd llawn y cynigion hyn, a pha gamau a fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau gan URC yn peri niwed parhaol i gymunedau yn fy rhanbarth i.
Diolch i chi am godi'r cwestiwn yna a'r pwynt yna, ac am dynnu sylw at fater cyfredol iawn o ran effaith y golled honno. Y Gweilch yw'r rhain, wrth gwrs, o ran yr effaith ar Abertawe yn arbennig felly, a'r ardal gyfagos, y rhanbarth ac ar Gymru. Mater i URC yw hwn, wrth gwrs, ond mae hi'n bwysig bod cynrychiolwyr etholedig, yn wir, ar lefel leol a chenedlaethol, yn gallu codi'r materion hyn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n awyddus i ofyn i chi, os gwelwch chi'n dda, am ddatganiad ar Dechrau'n Deg a gweithrediad Dechrau'n Deg ledled Cymru. Roeddwn i'n falch o allu gweld bod y cyllid ar gyfer Dechrau'n Deg wedi ei ddwyn ymlaen o'r cytundeb a wnaethom ni'r llynedd. Mae Dechrau'n Deg a darpariaeth gofal plant am ddim i bob plentyn yng Nghymru yn gwbl hanfodol ar gyfer nifer o faterion, fel gwyddom ni. Mae'n helpu i fynd i'r afael â thlodi plant, mae'n sicrhau bod rhieni yn cael cyfle i fynd yn ôl i'w gwaith, ac mae'n sicrhau bod plant yn barod ar gyfer eu haddysgu yn yr ysgol. Felly, mae hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod cyfle i sicrhau y bydd Dechrau'n Deg ar gael i bob plentyn ledled Cymru, yn enwedig yn ardaloedd cefn gwlad. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gaf i ofyn i chi am ddatganiad i amlinellu niferoedd y plant sy'n elwa ar Dechrau'n Deg erbyn hyn a beth yw'r cynlluniau sy'n mynd rhagddynt hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch am godi'r cwestiwn pwysig hwn, oherwydd rydym ni'n gwneud cynnydd rhagorol wrth gyflwyno gofal plant o ansawdd uchel i blant dwyflwydd oed ledled Cymru drwy raglen Dechrau'n Deg. Cyflwyniad cam wrth gam yw hwn; mae'n ystyried faint o le sydd ar gael, fel gwyddoch chi, yn y sector gofal plant. Mae data gofal plant diweddaraf Dechrau'n Deg yn unig yn dangos ein bod ni wedi rhagori ar ein nod dros y ddwy flynedd o gyflwyno cam 2—9,500 o blant dwyflwydd oed ychwanegol yn yr ardal hon. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos ein bod wedi cynnig lleoedd gofal plant i dros 13,400 o blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae dros 10,000 o'r plant hyn wedi elwa ar y rhaglen drwy gymryd lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg. Yn wir, mae'r data diweddaraf yn dangos bod dros 80 y cant o blant yn cymryd lleoedd gofal plant Dechrau'n Deg. Ac, wrth gwrs, diolch i'ch ymgysylltiad a'ch cefnogaeth chi hefyd mae £25 miliwn ychwanegol i'w ehangu ymhellach—a dyna gam 3. Mae hynny'n dibynnu ar y niferoedd a fydd yn manteisio arnyn nhw, ond fe fyddem yn disgwyl i gam 3 fod ar gael i ragor na 4,000 o blant ychwanegol. Rwy'n falch iawn fod Merthyr ac Abertawe wedi ehangu eu cynigion i bob plentyn dwyflwydd oed yn eu hardaloedd nhw.
Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad y Llywodraeth. Ynglŷn â Gaza y mae'r cyntaf. Er bod y cyfryngau yn colli diddordeb yn Gaza yn rheolaidd, mae llawer o'm hetholwyr a minnau'n pryderu am yr argyfwng dyngarol, ac yn wahanol i'r camerâu teledu, nid yw hwnnw wedi diflannu. Yr wythnos diwethaf fe laddodd Israel Balestiniaid yn Gaza yn y trais diweddaraf, sy'n ychwanegu at fwy na 70,000 o Balestiniaid a laddwyd yn ystod y rhyfel yn Gaza. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cymorth dyngarol i'r Palestiniaid a hyrwyddo datrysiad dwy wladwriaeth sy'n gysylltiedig â chreu gwladwriaeth Palesteina?
Hefyd, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar swyddogaeth addysg bellach yn yr economi wrth uwchsgilio'r gweithlu a darparu cyfle i ddysgu gydol oes? Mae swyddogaeth bwysig i addysg bellach. Os ydym ni'n bwriadu tyfu economi Cymru a bod â'r gweithlu medrus sy'n angenrheidiol ar gyfer twf economaidd, mae angen sector addysg bellach sy'n ffynnu.
Diolch yn fawr iawn i chi, Mike Hedges. Wrth gwrs, mae hi mor ddigalon clywed am farwolaethau eraill yn Gaza. Rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r cwestiwn hwn er mwyn i ni allu dweud ein bod ni'n gobeithio'n ddiffuant—. Mewn gwirionedd, rydym ni ar gam bregus iawn o'r cadoediad, ac rydym ni'n gobeithio yn ddiffuant y bydd datrysiad heddychlon mwy parhaol. Roeddem ni'n gobeithio bob amser mai dechrau datrysiad heddychlon mwy parhaol oedd hwn o ran y cadoediad. Fe wyddoch chi fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfanswm o £450,000 at apêl ddyngarol y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y Dwyrain Canol, ac fe godwyd £4 miliwn arall hefyd gan bobl a chymunedau ledled Cymru. Nid oes unrhyw ddeialog bellach wedi bod, fel rydym ni'n deall, o ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, er enghraifft, o ran y datrysiad dwy wladwriaeth. Mae hwn yn fater lle rydym ni'n canolbwyntio ar yr apêl ddyngarol. Mae hi'n bwysig ein bod yn gweld croesfan Rafah yn ailagor i ganiatáu i bobl symud. Mae angen gwneud llawer mwy i ganiatáu cyfraddau uwch o gymorth dyngarol i mewn i'r llain.
O ran eich ail gwestiwn, addysg bellach a'r economi a phwysigrwydd addysg alwedigaethol, rwy'n falch o adrodd bod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cwrdd ag is-ganghellor pob prifysgol yng Nghymru ac wedi cael trafodaethau adeiladol a chadarnhaol iawn. Mae sefydliadau trydyddol y gogledd â rhan ganolog wrth ddatblygu'r gweithlu medrus y mae ei angen, yn enwedig o ran fferm wynt ar y môr Awel y Môr yn y dyfodol. Fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru uwchgynhadledd sgiliau ar 22 Ionawr yn y cyfleusterau gwych sydd gan Goleg Menai yn Llangefni, lle bu'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn ymgysylltu. Hefyd, wrth gwrs, fe welsoch chi'r cyfeiriad strategol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn y datganiad ysgrifenedig yn ôl ym mis Mehefin gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ôl-groniadau sylweddol ar gyfer triniaethau coden y bustl, dermatoleg, hernia ac endosgopi. Fe godais i'r cwestiwn hwn yr wythnos diwethaf gyda'r Prif Weinidog. Fe hoffwn i gael eglurhad, oherwydd fe ddywedodd hi fod gostyngiad o 97 y cant wedi bod yn nifer y cleifion dermatoleg sy'n aros am eu triniaethau. Roedd hynny yn ei hymateb i mi'r wythnos diwethaf. Nawr, nid dyna'r profiad y mae fy etholwyr i'n ei gael. Fe adroddir mewn gwirionedd na chafodd 11,600 o achosion gofal iechyd sydd wedi pentyrru eu cofnodi hyd yn oed fel rhai sy'n aros am driniaeth wedi'i chynllunio rhwng misoedd Ebrill ac Awst y llynedd. Ym mis Gorffennaf 2025, roedd dros 6,854 o bobl yn aros am endosgopi diagnostig, cynnydd o 4,985 oddi ar y flwyddyn flaenorol. Yn 2024, yr amser aros am lawdriniaeth frys ar goden y bustl oedd 32 wythnos ar gyfer cleifion mewnol. Daeth un etholwr i'm gweld i ar ddydd Gwener yr oedd ei goden y bustl wedi byrstio, ar ôl bod yn aros am dros 100 o wythnosau. A wnewch chi gadarnhau bod gostyngiad pendant o 97 y cant wedi bod o ran cleifion dermatoleg—mewn geiriau eraill, eu bod nhw wedi cael eu triniaethau? Diolch i chi. Er fy mod i'n amheus iawn mai dyna'r achos.
Janet Finch-Saunders, rydych chi'n amlwg—fe glywsoch chi nid yn unig gan y Prif Weinidog o ran y lleihad trawiadol hwnnw yn yr amseroedd aros, ond fe welsoch chi hynny hefyd yn y cofnod ystadegol ac, yn wir, wrth gwrs, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y datganiad hwnnw a oedd yn galluogi pob Aelod, gan gynnwys chi, i holi ynglŷn â'r cynnydd sy'n digwydd o ran mynd i'r afael ag amseroedd aros. Yn amlwg, o ran yr etholwyr a'r materion sydd wedi codi fel yna, fe fyddech chi'n mynd, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi mynd, at fwrdd Betsi Cadwaladr ar eu rhan nhw, am mai'r bwrdd sy'n gyfrifol. Ond, rwy'n eich annog chi i edrych ar y datganiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf.
Fe hoffwn i ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth i ymateb i'r datblygiadau diweddaraf yn achos menywod y 1950au. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai menywod a aned yn y 1950au yn cael iawndal, er eu bod nhw wedi profi gwahaniaethu pan newidiwyd eu hoedran pensiwn nhw. Mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi derbyn bod camweinyddu wedi digwydd, ond mae'n gwrthod unioni'r cam hwnnw. Mae hyn yn anghyson yn fewnol, yn afresymol, yn anghyfiawn. Nid achos syml o gyfathrebu diffygiol oedd hyn yn unig; gwahaniaethu croes i gyfraith ryngwladol oedd hyn. Mae'r menywod hyn yn iawn i fod yn lloerig, ond mae yna lwybr i gyfiawnder sy'n agored o hyd. Nid yw cyfryngu yn ddewisol erbyn hyn; dyma'r cwrs cywir i'w ddilyn. Er mwyn y menywod hynny a gafodd eu trin mor wael gan system San Steffan, heb sôn am y menywod hynny i gyd a fu farw heb gael yr arian a oedd yn ddyledus iddynt, a wnaiff y Llywodraeth hon ddatganiad yn mynnu bod lleisiau'r menywod hyn yn cael eu clywed?
Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â'm hetholwyr i, gan gynnwys Kay Clarke, ar ôl eich cwestiwn chi i'r Cwnsler Cyffredinol. Roedd hynny'r diwrnod cyn i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud. Wrth gwrs, mae penderfyniadau, fel rydym ni'n ymwybodol i gyd, ynglŷn â phensiwn y wladwriaeth, gan gynnwys iawndal sy'n ymwneud â methiannau o ran cyfathrebu, yn aros yn gyfan gwbl gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n awyddus i gydnabod y trallod a brofodd llawer o fenywod o ran y mater hwn, ac er mai yn San Steffan y gwneir penderfyniadau ar bensiynau, rwy'n annog unrhyw fenyw sy'n ansicr am ei hawl neu ei sefyllfa ariannol i geisio cefnogaeth, yn enwedig o ran ein cyfrifoldebau ni, gan y gwasanaethau cynghori yr ydym ni'n eu hariannu. Rwy'n dymuno edrych yn benodol ar hynny o ran y garfan o'r menywod hyn yr effeithir arnynt. Felly, roeddwn i'n dymuno dweud heddiw ein bod ni'n parhau, yn Llywodraeth Cymru, i fod mewn cysylltiad uniongyrchol â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r mater hwn, gan ddefnyddio pob dull sydd ar gael i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o ymgysylltiad ystyrlon, tryloywder a thegwch i fenywod yng Nghymru yr effeithir arnynt gan newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth.
Yn ystod ei ddatganiad llafar ddydd Mawrth diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd, yn Abertawe ac ym Mhowys, nad oes neb yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth neu fwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol. Roedd datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yn anghywir, ac rwy'n credu ei fod wedi camarwain y Senedd. Nid dyma'r tro cyntaf iddo wneud yr honiad hwn heb ddarparu'r cyd-destun ehangach na chydnabod nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth ei hun. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod yn iawn fod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod cannoedd o bobl yn aros am apwyntiadau a thriniaeth. Mae'n rhwystredig iawn i'r cannoedd o bobl sy'n aros am driniaeth, yn aml mewn poen, pan gyfeirir atynt fel 'neb', a chlywed gwybodaeth gamarweiniol o'r fath yn cael ei chyflwyno gan yr Ysgrifennydd iechyd. Byddwn yn gofyn i'r Trefnydd, gyda chytundeb y Llywydd, ofyn i'r Ysgrifennydd iechyd wneud datganiad i'r Senedd i ymddiheuro ac egluro'r sefyllfa gywir.
Russell George, rwy'n ofidus ynglŷn â'ch iaith chi heddiw o ran yr hyn yr ydych chi'n ei honni. Cafodd datganiad ei wneud yr wythnos diwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac wrth gwrs, yn ystadegol, mae hynny ar gofnod ffurfiol a swyddogol. Fe gafodd eich pwynt chi ei wneud. Ond rwy'n pryderu ynglŷn â hyn ac yn amlwg rwy'n gofyn i chi ystyried y pwyntiau a wnaethoch chi, ac edrych hefyd ar y datganiad hwnnw a gafodd ei wneud yr wythnos diwethaf ac edrych ar y cofnodion ystadegol o ran yr ystadegau ynglŷn ag amseroedd aros.
Ond, wrth gwrs, rydym ni'n dymuno sicrhau bod pob claf yng Nghymru yn ymwybodol o'r cynnydd mawr a gafodd ei wneud o ran lleihau amseroedd aros, oherwydd mae hynny'n golygu eu bod nhw'n cael eu triniaethau. Dros y penwythnosau i gyd, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ein staff o ganlyniad i'r arian ychwanegol yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sôn amdano'r wythnos diwethaf yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl o ran y buddsoddiad hwnnw a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ein gweithwyr iechyd proffesiynol, o ddydd i ddydd, i gefnogi ein cleifion a'n hetholwyr.
Dim ond er eglurder, fe wrandawais i ar sylwadau'r Aelod a'i glywed ef yn dweud mai dyna oedd ei gred a'i farn ef ar y pryd hwnnw. Dyna pam na wnes i ymyrryd yn y cwestiwn. Jenny Rathbone.
Ar nodyn ysgafnach, fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddod i weld yr arddangosfa Armenaidd fendigedig yn yr Oriel, a fydd yno tan ddiwedd mis Mawrth, lle cafodd yr arteffactau eu hachub, llawer ohonyn nhw o Dwrci, yn dilyn yr hil-laddiad ym 1915, ac roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â ffoadur o Nagorno-Karabakh a oedd yn ddioddefwr y glanhau ethnig a ddigwyddodd ddwy neu dair blynedd yn ôl.
Roeddwn i'n meddwl tybed a gawn i ofyn am ddau ddatganiad. Un, mae asesu parhaus yn offeryn pwysig i fesur ansawdd addysgu a dysgu, ond, wrth i mi siarad ag athrawon ysgolion uwchradd rheng flaen a'u huwch dîm arweinyddiaeth, rwy'n pryderu o glywed am asesiadau cofnodedig cymhwysedd Cymraeg a Saesneg sy'n effeithio yn sylweddol ar iechyd meddwl athrawon a myfyrwyr. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar unrhyw gynlluniau i adolygu'r asesiadau heb arholiad i'w gwneud nhw'n llai beichus?
Yn ail, gan mai ynni rhatach yw un o'r ymyriadau pwysicaf ar gyfer gwneud busnesau Cymru yn gystadleuol â gweithgynhyrchwyr yn Ewrop—
Jenny, 'does gennych chi ddim amser ar gyfer datganiad arall.
—a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu rhwydwaith gwres ar gyfer y de?
A gaf innau gytuno hefyd fod yr arddangosfa Armenaidd yn un ardderchog heddiw, sy'n annog undod a chydlyniad? Rwy'n annog pawb i fynd i weld yr arddangosfa.
Dim ond o ran eich cwestiwn chi ynglŷn â'r asesiadau a'r ffaith fod asesiadau nawr heb arholiad—. Mae cwestiynau, rwy'n deall, wedi eu codi ynglŷn â'r llwyth gwaith—y materion logistaidd ac o ran llwyth gwaith yr athrawon a'r arweinwyr canol—ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymwybodol o hynny. Mae'r rhain yn ymwneud â'r cymwysterau cenedlaethol 14-16 diwygiedig. Fe wnaeth Cymwysterau Cymru a CBAC gyfarfod â phenaethiaid a'r undebau cyn y Nadolig i gael deall y newidiadau penodol, ac maen nhw wedi ymrwymo i ddiweddaru ac ymgysylltu â'r undebau a'r penaethiaid fel rhan o'r broses barhaus o gyflwyno'r cymwysterau cenedlaethol 14-16 newydd.
Rwy'n ymwybodol o'r ail gwestiwn, Dirprwy Lywydd, ond rwy'n deall faint o amser sydd wedi mynd, ac fe fyddwn i'n gobeithio y gallai'r Aelod ddod yn ôl gyda'r cwestiwn hwnnw i mi'r wythnos nesaf, os gwêl hi'n dda.
Fe hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Dirprwy Brif Weinidog ar lanweithdra yn ein trefi yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n clywed yn aml am Lywodraeth Cymru yn ei llongyfarch ei hun am ei henw arbennig o dda gyda'r amgylchedd ac am gyfradd ailgylchu uchel Cymru, ond yn sicr ni fyddech chi'n credu hynny pe baech chi'n cael eich gollwng mewn rhai ardaloedd trefol yng Nghymru, fel rhannau o'r Rhyl yn fy etholaeth i, lle mae safonau glendid wedi gostwng mewn ffordd drawiadol iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf i wedi sylwi bod ein strydoedd ni'n mynd yn gynyddol fudr, ac mae'r dystiolaeth yn cefnogi hyn. Mae cyfraddau sbwriel yng Nghymru wedi cyrraedd sefyllfa argyfyngus, gyda'r grŵp ymgyrchu Cadwch Gymru'n Daclus, wrth gyhoeddi ei adroddiad blynyddol y llynedd, yn canfod y canlyniadau gwaethaf ar gyfer glendid ar y strydoedd yn y 17 mlynedd ers i'r elusen ddechrau, gyda chynnydd o 286 y cant yn niferoedd y strydoedd butraf. Fe dynnwyd sylw at Gaerdydd fel un o'r mannau gwaethaf, ac rwyf i wedi gweld y sefyllfa yn dirywio dros y blynyddoedd y bues i'n teithio yn ôl a blaen yma yn Aelod o'r Senedd, ac rwyf i wedi ei gweld hi'n gwaethygu yn sir Ddinbych hefyd. Mae yna gyfrif ar X, neu Twitter fel yr oedd, o'r enw 'Dirty Wales', sy'n dangos lluniau o strydoedd budr ar gyfer codi cywilydd ar yr awdurdodau er mwyn iddyn nhw eu glanhau. Ac fe sefydlwyd y cyfrif hwn gan rywun a gafodd y profiad digalon o groesawu perthnasau o dramor i Gymru a oedd wedi eu siomi yn fawr gan y sbwriel a'r budreddi.
Gareth, mae angen i chwithau orffen hefyd, os gwelwch chi'n dda.
Felly, a gawn ni glywed oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ynglŷn â sut y mae ef yn cydlynu â'r awdurdodau lleol i lansio ymgyrch i roi diwedd ar yr ysbwriel a'r budreddi cynyddol, sy'n hagru ein cymunedau trefol—
Diolch i chi, Gareth.
—fel y Rhyl yn fy etholaeth i?
Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi y dylem ni ymfalchïo yn y ffaith mai Cymru yw'r genedl yn yr ail safle yn fyd-eang am ailgylchu yn llwyddiannus. Fe ddylem ni fod yn falch o hynny, ac rwy'n gobeithio eich bod chwithau'n falch hefyd. Mae gennym ni raglen gynhwysfawr o gymorth ar gyfer cefnogi'r awdurdodau lleol i hwyluso gwelliannau i'w perfformiad o ran ailgylchu yng Nghymru. Rydych chi'n mynd y tu hwnt i hynny o ran eich pwyntiau chi heddiw, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dangos bod mwy na hanner—55 y cant—o gynghorau wedi cyflawni neu wedi gwneud yn well na'r nod o 70 y cant yn y flwyddyn gyntaf, gyda 90 y cant wedi gwella eu perfformiad wrth ailgylchu. Ac, wrth gwrs, mae yna broses sefydledig o ran cyflawni'r nod statudol hwnnw. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig, i chi ac i'ch cymunedau, yw'r canllawiau arfer gorau sydd gan Lywodraeth Cymru, o ran cyllid cyfalaf ar gyfer seilwaith, cymorth technegol gan gynghorwyr arbenigol, ac astudiaethau achos eang o arfer da. Rydych chi wedi mynd y tu hwnt i effaith ailgylchu, fe wn i ac rwy'n deall hynny, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig cydnabod y cydweithio da rhwng yr awdurdodau lleol a'r gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Ac yn wir, ie, fel dywedais i ar y dechrau, o ran yr ymateb i'ch cwestiwn chi, ni yw'r ail ymysg cenhedloedd mwyaf llwyddiannus—. Pam na wnewch chi roi canmoliaeth am hynny? Ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n dwyn i gyfrif y rhai nad ydyn nhw wedi cyrraedd eu posibiliadau o ran ailgylchu hyd yn hyn.
Rwy'n gofyn i'r Aelodau gadw at eu hamseroedd oherwydd, heb iddyn nhw wneud felly, ni chaiff eraill gyfle i siarad. Roedd yna 17 Aelod yn dymuno siarad yn y rhan hon. Rydym ni wedi defnyddio'r amser hwnnw eisoes. Mae yna bedwar Aelod arall heb eu galw eto. Os bydd yr Aelodau yn mynd dros ben eu hamseroedd, fe fyddan nhw'n dwyn cyfleoedd oddi ar bobl eraill i siarad mewn gwirionedd. Diolch, Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: mwy o gartrefi Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth i ni fynd i i mewn i fisoedd olaf tymor y Senedd hon, rwy'n dymuno egluro un peth: fe wnaethom ni addo darparu mwy o gartrefi, ac rydym ni'n cyflawni hynny. Mae cartref da, diogel yn rhoi sail i bopeth arall ym mywydau pobl—eu hiechyd, eu llesiant a'u cyfleoedd. Dyna pam mae tai wedi bod yn flaenoriaeth ganolog i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Ac rydym ni wedi cyflawni yng nghanol rhai o'r amgylchiadau anoddaf a wynebodd y sector tai mewn cenhedlaeth—trwy'r pandemig, cadwyni cyflenwi toredig, costau cynyddol, cyfraddau llog uchel ac ergydion economaidd yn fwy eang nad oedden nhw o'n gwneuthuriad ni. Er gwaethaf hynny i gyd, mae'r ddarpariaeth o dai yng Nghymru wedi parhau i fod yn gydnerth am fod y Llywodraeth hon wedi camu i'r adwy, a chefnogi adeiladwyr, a datgloi safleoedd a chadw'r system yn rhedeg.
Yn ôl ym mis Tachwedd, roeddwn i'n myfyrio ar yr ystadegau diweddaraf am dai fforddiadwy, a oedd yn adrodd bod y Llywodraeth hon ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd. Roedd y rhain yn arddangos cynnydd o 12 y cant hefyd yn y cyflenwad yn 2024-25 o gymharu â'r flwyddyn cynt, a'r cyfanswm uchaf ers dechrau'r cofnodion yn 2007. Mae hynny'n golygu bod y Llywodraeth hon wedi cyflawni'r gyfradd uchaf o dai fforddiadwy ers degawdau ac, yn hollbwysig, rydym ni wedi adeiladu llif prosiectau a fydd yn cario'r momentwm hwnnw i'r dyfodol. Nid yw'r cynnydd hwnnw wedi digwydd trwy hap a damwain. Fe ddaeth o ganlyniad i lywodraeth weithgar sydd wedi cefnogi adeiladwyr tai, rhai mawrion a bychain, wedi cefnogi mentrau bach a chanolig, wedi datgloi safleoedd a oedd wedi pallu, wedi buddsoddi mewn sgiliau ac arloesi, ac wedi cynnal hyder yn y farchnad.
Ac nid yw hyn yn ymwneud â thai cymdeithasol yn unig. Mae ystadegau swyddogol yn dangos hefyd fod bron i 18,000 o gartrefi wedi cael eu hadeiladu yn y sector preifat yng Nghymru ers 2021 yn ystod pedair blynedd gyntaf tymor y Llywodraeth hon, er gwaethaf effaith ddinistriol mini-gyllideb Liz Truss, Brexit, sgil-effeithiau'r pandemig, a chostau cynyddol deunyddiau a llafur.
Rydym yn benderfynol o barhau i weithio gyda datblygwyr i gefnogi pobl i brynu eu cartrefi eu hunain. Mae gan Cymorth i Brynu—Cymru fwy na 70 o ddatblygwyr sydd wedi cofrestru ac yn elwa ar gwsmeriaid newydd. Mae wedi helpu bron i 15,000 o bobl i brynu cartref newydd yn ystod ei oes, ac, ers Ebrill 2022, mae 85 y cant o brynwyr wedi bod yn brynwyr tro cyntaf.
Rydym wedi symleiddio a chryfhau'r gefnogaeth i adeiladwyr mentrau bach a chanolig drwy gronfa eiddo preswyl Cymru, gan helpu i ddadflocio safleoedd lle mae gwaith wedi dod i ben dros dro ac i gyflwyno datblygiadau tybiannol a datblygiadau nad ydynt yn rhai tybiannol. Dros y degawd diwethaf, mae cymorth BBaChau wedi helpu i ddarparu dros 1,000 o gartrefi a chefnogi mwy nag 80 o gwmnïau adeiladu tai yng Nghymru.
Ac nid ydym yn arafu. Rwy'n gweithio'n agos gydag arweinwyr awdurdodau lleol a'u cymheiriaid, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sbarduno cyflawni ac i ddarparu arweinyddiaeth ac ymrwymiad uniongyrchol i'w cefnogi i fynd i'r afael ag anghenion tai, a gweithio ar y cyd i ymateb i argymhellion y tasglu tai fforddiadwy. Mae hynny'n cynnwys argaeledd tir. Ar hyn o bryd mae gan ein His-adran Lle 26 o safleoedd, sy'n cwmpasu dros 1,300 erw, gyda'r potensial i ddarparu tua 7,000 o gartrefi newydd.
Rydym eisoes wedi llofnodi contract gyda Barratt Redrow i gyflawni datblygiad tai carbon sero net mwyaf y DU, ac un o'r mwyaf yn Ewrop. Bydd safle fferm Cosmeston yn gweld 576 o gartrefi newydd a fydd yn cyflawni carbon sero net trwy ddylunio a thechnolegau arloesol. Bydd hanner cant y cant o'r cartrefi yn fforddiadwy, gyda 219 ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys ysgol gynradd newydd, man agored a llwybr teithio llesol, gan greu cymuned gynhwysfawr, gynaliadwy.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod £11 miliwn ychwanegol o gyllid ad-daladwy ar gael ar gyfer y cynllun benthyciadau tir ar gyfer tai yn y flwyddyn ariannol hon, a fydd, gyda chyllid benthyciadau ailgylchadwy, yn darparu cyfanswm o £23 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ei nod yw cefnogi'r gwaith o ddarparu hyd at 850 o gartrefi ychwanegol drwy sicrhau safleoedd tir ar gyfer datblygu tai a helpu i sicrhau nad yw cyfleoedd yn cael eu colli i'r sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae cyfanswm o £90 miliwn o gyllid benthyciadau ailgylchadwy eisoes wedi'i fuddsoddi yn y cynllun ers ei sefydlu i sicrhau tir ar gyfer cyflawni hyd at 7,400 o gartrefi. Rwyf hefyd wedi ailagor ein cynllun benthyciadau cost isel LCC, gan roi £36 miliwn tuag at gynllun sydd eisoes ar y trywydd iawn i ddarparu dros 270 o gartrefi fforddiadwy newydd a gwelliannau i dros 4,000 o eiddo presennol.
Ochr yn ochr â chyflawni tymor hir, rydym wedi parhau i weithredu'n benderfynol lle mae'r angen mwyaf am dai. Ym mis Hydref, cyhoeddwyd £55 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, TACP, gan gynyddu'r dyraniad eleni i £155 miliwn. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein bod wedi dyrannu £50 miliwn dangosol ar gyfer 2026-27. Mae TACP yn galluogi cartrefi o ansawdd da i gael eu cyflawni ar gyflymder trwy gaffaeliadau, trawsnewidiadau, adnewyddu eiddo gwag, ac mae eisoes wedi cefnogi miloedd o aelwydydd wrth greu asedau sy'n aros o fewn y system dai cymdeithasol am y tymor hir.
Rydym yn parhau â'n hymdrechion i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Ym mis Rhagfyr, yn dilyn canfyddiadau gwerthusiad annibynnol, cyhoeddais estyniad y grant cartrefi gwag, gan gynnwys cynllun treialu dileu'r gofyniad am gyfraniad ariannol awdurdod lleol. Rwy'n falch iawn bod tri awdurdod lleol arall wedi cytuno i gymryd rhan yn y grant y flwyddyn nesaf, gyda, gobeithio, mwy yn ymuno. Rydym eisoes wedi cyhoeddi'r llawlyfr eiddo gwag yng Nghymru, sy'n darparu canllawiau ymarferol, cam wrth gam i awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid ynghylch nodi ac ymyrryd er mwyn eu defnyddio unwaith eto.
Yn y cyfamser, mae Cynllun Lesio Cymru yn mynd o nerth i nerth, gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol bellach wedi cofrestru a dros 480 o eiddo yn rhan o'r cynllun. Byddaf hefyd yn atgoffa'r Aelodau ein bod wedi cyhoeddi'r 'Canllaw Gweithredu Tai Gwledig Cymru' fis diwethaf, a fydd yn cefnogi cyflawni mewn ardaloedd lle mae pwysau fforddiadwyedd, safleoedd bach a chyfyngiadau amgylcheddol yn aml yn croestorri. Ochr yn ochr â hyn, mae blwyddyn arall o gyllid ar gael i alluogwyr tai gwledig, y mae eu rôl yn broceru cynlluniau, ymgysylltu â chymunedau a datgloi tir eisoes wedi cyfrannu'n uniongyrchol at y cynnydd tuag at y targed o 20,000 o gartrefi.
Mae tai a arweinir gan y gymuned yn faes pwysig arall, lle mae cefnogaeth barhaus drwy Cwmpas a Prosiect Perthyn yn galluogi cymunedau, yn enwedig cymunedau Cymraeg eu hiaith yr effeithir arnynt gan bwysau'r farchnad dai, i gyflwyno atebion lleol. Yn ddiweddar, dyfarnais £204,000 arall o gyllid i Cwmpas ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mewn mannau eraill, mae Tai ar y Cyd yn ganolog i'n hymdrech i adeiladu cartrefi yn well ac yn gyflymach. Rydym yn cefnogi dulliau modern o adeiladu, dylunio safonol a gweithgynhyrchu oddi ar y safle, a fydd yn gwella perfformiad, yn lleihau costau oes gyfan ac yn lleihau carbon ymgorfforedig. Rwyf wedi dyfarnu £270,000 ychwanegol i'r bartneriaeth arobryn, gan gryfhau ei rôl ymhellach wrth gyflymu'r gwaith o gyflawni tai fforddiadwy o ansawdd uchel.
Dirprwy Lywydd, mae sicrwydd hirdymor, gyda chefnogaeth y cyfalaf tai cymdeithasol mwyaf erioed, gyda buddsoddiad dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hon—gan gynnwys £466 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon yn unig—wedi galluogi awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a phartneriaid cyflawni i gynllunio, buddsoddi a chyflawni ar raddfa fawr. Gyda'i gilydd, mae hyn yn cynrychioli lefel o gyflawni a newid system na ddylid ei danbrisio. Mae'r cyflenwad tai yn cynyddu. Mae cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae cynlluniau gwledig a chymunedol yn cael eu dadflocio. Mae ansawdd a chynaliadwyedd yn gwella. Mae prynwyr tro cyntaf yn mynd ar yr ysgol eiddo, ac mae'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad yn parhau i fod yn sail i'r rhaglen gyfan. Yn bwysicaf oll, mae bywydau pobl yn cael eu newid o ganlyniad.
Nid yw cyflawni tai ar y raddfa hon wedi bod yn hawdd. Roedd angen ymagwedd benderfynol, hyblygrwydd a phartneriaeth yn wyneb pwysau byd-eang a domestig ymhell y tu hwnt i'n rheolaeth. Ond mae cyfeiriad y daith yn glir: rydym yn cyflawni ein rhaglen lywodraethu ac yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer tymor y Senedd nesaf. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, mae cartref da yn meithrin hyder, mae'n cefnogi iechyd gwell, ac yn rhoi'r sylfaen er mwyn i bob plentyn ffynnu. Rwy'n annog pob plaid i ymrwymo i'r rhaglen uchelgeisiol hon o dai ar draws sectorau cymdeithasol, preifat a chanolraddol dros dymor y Senedd nesaf a thu hwnt.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cynllunwyr, adeiladwyr, grwpiau cymunedol a phartneriaid ledled Cymru. Mae'r cartrefi sy'n cael eu cyflawni heddiw, a'r rhai sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol, yn ganlyniad i'w hymrwymiad a'u harbenigedd. Diolch.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rydych wedi dweud bod ystadegau swyddogol yn dangos bod bron i 18,000 o gartrefi sector preifat wedi'u hadeiladu yng Nghymru ers 2021, yn ystod pedair blynedd gyntaf tymor y Llywodraeth hon. Er y gall y ffigur hwnnw swnio'n gadarnhaol, nid yw'n dweud y stori lawn, yn enwedig wrth ystyried effeithiau negyddol polisïau fel agenda treth uchel, gwrth-fusnes Llywodraeth Lafur y DU, sydd wedi ychwanegu heriau pellach yn y sector tai.
Y gwir amdani, yn gyffredinol, yw bod nifer y tai a gafodd eu cwblhau yng Nghymru wedi bod yn gostwng. Mae dadansoddiad gan Savills yn dangos bod niferoedd y cartrefi newydd a gafodd eu cwblhau bellach ar eu lefel flynyddol isaf ers mis Mawrth 2015, gyda data tystysgrifau perfformiad ynni yn dangos gostyngiad o 10 y cant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae hyn yn dangos bod y duedd ddiweddar yn symud i'r cyfeiriad anghywir, er gwaethaf y prif ffigurau sy'n cael eu dyfynnu heddiw. Ar yr un pryd, mae prosiectau adeiladu preswyl newydd wedi gostwng yn sydyn. Yn ôl StatsCymru, mae nifer y prosiectau sy'n dechrau bellach yn is na thai a gafodd eu cwblhau, sy'n rhybudd clir ar gyfer cyflenwad yn y dyfodol. O ganlyniad, mae nifer y prosiectau sy'n dechrau yn agos at ei lefel isaf ar gofnod bob blwyddyn. Mae cydsyniad cynllunio yn parhau i fod yn isel iawn, ac er bod cynnydd bach yn 2024, nid yw hyn wedi bod yn ddigon i newid y darlun cyffredinol.
Mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi rhybuddio, heb gynnydd sylweddol mewn cydsyniadau cynllunio, mae'n annhebygol y bydd nifer y tai sy'n cael eu cwblhau yn tyfu'n sylweddol yn y tymor byr. Mae ymchwil diwydiant yn atgyfnerthu'r pryder hwn, gan ddangos bod y cyflenwad tai cyffredinol yn parhau i fod yn is o lawer na'r lefel sydd ei hangen i ateb y galw am dai yn y dyfodol. Mae cydsyniad cynllunio, yn arbennig, yn dal i fod yn is o lawer na'r anterth hanesyddol, gan godi cwestiynau difrifol am lif prosiectau hirdymor cartrefi newydd. Gyda'r cyflenwad tai cyffredinol yn gostwng ac yn is na'r anghenion hirdymor, sut mae'r Llywodraeth hon yn cysoni ei honiad o gyflawni yn wyneb realiti dirywiad adeiladu ehangach sy'n peryglu tanseilio cyflenwad tai'r farchnad?
Rydych wedi dweud yn eich datganiad eich bod wedi ailagor cynllun benthyciadau cost isel yr LCC, gan roi cyllid tuag at welliannau i 4,000 o eiddo presennol. Ond, Ysgrifennydd Cabinet, nid yw'n glir pa ganlyniadau mesuradwy sydd wedi'u cynhyrchu. Mae angen tystiolaeth gliriach ar y gostyngiad cyfartalog mewn biliau ynni cartrefi, pa un a oes gostyngiadau wedi'u gwirio mewn allyriadau carbon, a sut mae'r canlyniadau hyn yn helpu tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo hynny. Nid yw'n ddigon da i ddweud 'gwelliannau', oherwydd, fel y gwelsom gydag ôl-osod inswleiddio waliau ceudod a mathau eraill o inswleiddio, gall leihau awyru mewn cartrefi, cynyddu lleithder ac arwain at falltod du. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwelliannau i eiddo yn rhoi gwerth am arian ac yn cyflawni gwelliannau sylweddol ac amlwg yn ansawdd cartrefi?
Ysgrifennydd Cabinet, rydych hefyd wedi cyfeirio at y ffaith eich bod wedi symleiddio a chryfhau'r gefnogaeth i adeiladwyr BBaChau. Fodd bynnag, ni wnaethoch sôn am y prinder difrifol o weithwyr mewn rolau adeiladu ac ôl-osod effeithlonrwydd ynni yng Nghymru, a fydd yn effeithio'n ddifrifol ar y busnesau bach a chanolig hyn. Efallai nad ydych wedi sylweddoli, ond mae'r diffyg hwn yn her fawr i'r gwaith o gyflawni mwy o gartrefi. Fel y soniwyd yr wythnos diwethaf, mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a fforymau adeiladu Cymru yn amcangyfrif y byddai angen tua 11,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol ar Gymru erbyn 2028. Yn y cyfamser, mae 76 y cant o gwmnïau adeiladu Cymru yn adrodd bod diffyg crefftwyr medrus, yn enwedig towyr, bricwyr, plymwyr, arbenigwyr gwresogi, awyru ac aerdymheru, plastrwyr a'r rhai sydd â sgiliau adeiladau cynaliadwy neu dechnoleg newydd, yn oedi prosiectau.
Rydych wedi sôn yn helaeth am becynnau cyllido a chynlluniau benthyciadau, ond wedi methu â chydnabod bod y diwydiant yn cael trafferth. Mae rolau arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer ôl-osod sero net, gan gynnwys cydlynwyr ôl-osod, arbenigwyr amlenni adeiladau ac aseswyr ynni, i gyd yn brin hefyd, sy'n cael ei waethygu gan dueddiadau demograffig a chyfleoedd hyfforddi sy'n dirywio. Mae niferoedd prentisiaethau wedi gostwng, gyda thoriadau yn lleihau prentisiaethau adeiladu newydd ar adeg pan fydd cyflogwyr yn cael trafferth denu gweithwyr iau, bod â gweithlu sy'n heneiddio a chronfa dalent yn y dyfodol sy'n crebachu. O ystyried yr angen brys am filoedd o weithwyr adeiladu ac ôl-osod ychwanegol i gyflawni nodau tai Cymru, ble mae'r gefnogaeth iddynt? Mae angen targedau a strategaethau penodol i dyfu'r gweithlu medrus flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rwy'n nodi eich bod wedi aros yn hollol dawel ynghylch hyn.
Fel y gwyddoch, mae dadansoddiad wedi nodi'n gyson, hyd yn oed gyda'r cynnydd honedig mewn cyflawni, bod y cyflenwad tai yn parhau i fod yn annigonol i fynd i'r afael â digartrefedd a rhestrau aros hir. Mae ffigurau wedi nodi nad yw cyflawni tai cymdeithasol yn hanesyddol wedi cyrraedd targedau, ac mae digartrefedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfamser, mae tystiolaeth o'r farchnad yn dangos problemau parhaus o ran fforddiadwyedd, gan gynnwys adroddiadau bod Cymru yn parhau i fod ymhlith y rhannau lleiaf fforddiadwy o Brydain i brynwyr tro cyntaf, er gwaethaf honiadau ynghylch cyflawni tai. Os nad yw'r ffocws datganedig ar gyflawni—
Allwch chi ddod i ben nawr os gwelwch yn dda, Joel?
Iawn, dyma'r cwestiwn olaf. Os nad yw'r ffocws datganedig ar gyflawni wedi lleihau digartrefedd neu wella fforddiadwyedd yn sylweddol, pa gamau y bydd y Llywodraeth hon yn eu cymryd i sicrhau bod y cyflenwad tai yn bodloni nid yn unig targedau rhifiadol, ond hefyd yn mynd i'r afael â phrofiadau personol o ran byw mewn tai anaddas a phwysau fforddiadwyedd? Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Joel. Efallai eich bod wedi methu'r ffaith fy mod wedi dweud ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu ym mis Tachwedd eleni. Mae hynny'n gyflawniad rhyfeddol gan bawb sy'n cymryd rhan. Rwy'n credu y dylem dalu teyrnged i bawb, o awdurdodau lleol i adeiladwyr tai, sydd i gyd wedi dod at ei gilydd i wneud i hyn ddigwydd. Mae'n gamp fawr, ac mae'n gyflawniad enfawr. Ond mae'r cyflawniad hwnnw wedi cael ei helpu gan—ac mae'r sector wedi dweud wrthyf—flynyddoedd o gyfarwyddyd, o gyllid sydd wedi dilyn, ac ymrwymiad gwirioneddol gan y Llywodraeth hon a Llywodraethau blaenorol i wneud yn siŵr bod gennym lif prosiectau cryf iawn ar gyfer adeiladu'r cartrefi hynny yn y sector cymdeithasol.
O ran cymorth adeiladu tai, mae bron i 18,000 o gartrefi yn y sector preifat wedi'u cwblhau ledled Cymru ers 2021. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag adeiladwyr tai, ac rydym yn gwybod eu bod yn chwarae rhan hanfodol drwy ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru ac adeiladu'r cartrefi preifat hynny hefyd. Rwy'n gwybod bod y sector adeiladu tai wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn ddiweddar cwrddais â busnesau bach a chanolig ac adeiladwyr tai mawr a chynrychiolwyr y diwydiant, gan gynnwys Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, dim ond i drafod pa gamau y gellid eu cymryd i gefnogi adeiladu tai yng Nghymru. Mae gennym nifer o gynlluniau sy'n cael eu gweinyddu gan Fanc Datblygu Cymru ar ein rhan, ac maent yn cefnogi prynwyr a datblygwyr tai, ac mae amrywiaeth o gymorth ar gael i adeiladwyr tai, gan gynnwys cynlluniau sy'n benodol ar gyfer y sector BBaChau.
Fel y dywedais i, mae gennym ein cynllun, sef Cymorth i Brynu. Mae hwnnw'n gynllun rydym ni wedi parhau ag ef yng Nghymru. Fe wnaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU ddod ag ef i ben yn Lloegr. Mae gennym fwy na 70 o ddatblygwyr yng Nghymru wedi cofrestru, ac maent yn elwa ar gwsmeriaid newydd.
Gyda'r cynllun benthyciadau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, buddsoddwyd ychydig dros £79 miliwn o gyllid benthyciadau yn 2023-24, a chyflawnodd hynny oddeutu 220 o gartrefi carbon isel ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol, a sicrhau bod 22 eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yn nhymor y Llywodraeth hon, yn ogystal â chyflymu'r gwaith o ddarparu saith safle newydd, gan ddarparu o leiaf 86 o gartrefi rhent cymdeithasol yn nhymor y Llywodraeth nesaf. Felly, roedd ein benthyciad datblygu LCC, rhaglen 2023 wedi'i gordanysgrifio, felly agorodd swyddogion y cynllun ar gyfer mynegi diddordeb, ac o ganlyniad, cyhoeddwyd £90 miliwn ychwanegol o gyllid benthyciad ym mis Mawrth 2025. Mae hynny'n mynd i helpu'r sector tai gyda chostau cynyddol dyled a chefnogi'r gwaith o gyflawni 277 o gartrefi fforddiadwy. Bydd cant a phedwar ar bymtheg o'r rheiny yn cael eu cyflawni yn nhymor y Senedd hon, a bydd gwaith gwella i 4,397 o gartrefi presennol.
Fe wnaethoch chi sôn am sgiliau, ac rwy'n dod o linach hir o bobl sy'n gweithio yn y sector adeiladu. Roedd fy nhad yn blastrwr a theilsiwr, roedd fy ewythr yn döwr, roedd fy nhad-cu yn baentiwr a phapurwr, ac ewythr arall yn friciwr. Felly, rwy'n teimlo fy mod wedi'u siomi nhw gan nad ydw i yn y sector hwnnw fy hun, ond rwy'n dysgu ganddyn nhw. [Chwerthin.] Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr bwysigrwydd y sector sgiliau, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, dim ond i sicrhau bod sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig wrth wraidd ein polisi sgiliau gwyrdd. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog sgiliau wedi cadarnhau sgyrsiau ynghylch adfer y prentisiaethau adeiladu ac amgylchedd adeiledig lefel 2. Ar hyn o bryd mae Medr yn cynnal adolygiad o'r holl fframweithiau prentisiaethau, a'r sector amgylchedd adeiledig ac adeiladu yw'r gyfran gyntaf o'r adolygiad hwnnw. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y pwyntiau a wnaethoch ar hynny.
Mae tai yn rhan o'm gorffennol i hefyd, yn digwydd bod. Mi oedd fy nhad, pan wnaeth o ymddeol, yn bennaeth yng Nghyngor Dosbarth Dwyfor oedd yn edrych ar ôl y tai cyngor ar y pryd hynny, ac roedd fy nhaid yn un o'r bobl a wnaeth adeiladu'r tai yn Lerpwl. Felly, dwi'n meddwl bod gennym ni i gyd straeon tebyg o gysylltiadau efo'r sector tai.
Mae Plaid Cymru yn croesawu'r buddsoddiad newydd rydych chi'n ei gyhoeddi heddiw, yn enwedig yr agweddau sydd yn cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol yng Nghymru. Mae o'n gam cadarnhaol sy'n adlewyrchu galwad cyson y meinciau yma am ffocws ar gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Ond mae hi’n bwysig ailadrodd y gwirionedd syfrdanol fod un o bob 14 aelwyd yng Nghymru yn aros am gartref cymdeithasol, a bod un o bob 215 aelwyd yn gaeth mewn llety dros dro. Felly, yn y cyd-destun yna, mae hi'n teimlo ychydig bach yn chwithig i weld naws o ddathlu pan fo argyfwng tai yn realiti byw i gynifer o bobl bob dydd.
Mae gennym ni argyfwng tai yng Nghymru ac mae angen arweinyddiaeth glir, a dim ond yr wythnos diwethaf ddaru Plaid Cymru gyflwyno dadl yn tynnu sylw at yr angen dybryd i gynyddu'r stoc o dai cymdeithasol. Mae ymrwymiad y Llywodraeth i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu erbyn diwedd y tymor yn gam hanfodol i fynd i'r afael â digartrefedd ac i leddfu'r pwysau ar wasanaethau tai, ond mae'n bwysig nodi bod y Llywodraeth yn cynnwys tai cymdeithasol gwag yn y ffigurau yma, ac felly dydy'r rhain, yr 20,000 yma, ddim i gyd yn gartrefi ychwanegol, oherwydd mae cyfran eithaf sylweddol o'r ffigwr 20,000 o dai gwag yn rhai sydd yn cael eu hadnewyddu—hynny yw, roedden nhw yn y stoc yn barod, ond maen nhw'n cael eu hadnewyddu. Gwneud y pwynt ydw i; jest tynnu sylw at hynny.
Dydy o ddim yn glir o'ch datganiad chi o ble yn union mae'r buddsoddiad yma sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn dod. Mi fyddai hynny'n wybodaeth a fyddai'n ddefnyddiol i ni, dwi'n meddwl, ac er ein bod ni, wrth gwrs, yn croesawu bob tro mae yna arian ychwanegol, mae angen cynaliadwyedd ariannol hirdymor ar gyfer y sector yn y dyfodol, a dyna'r sicrwydd, wrth gwrs, y gallai sefydlu Unnos, sef polisi Plaid Cymru, ei roi. Dyna'r sicrwydd hirdymor sydd ei angen.
Yn ystod ein dadl ni'r wythnos diwethaf, fe wnaethon ni sôn am adroddiad y tasglu tai fforddiadwy, sy'n nodi'n glir y rhwystrau strwythurol sy'n dal y sector tai yn ôl, ac, wrth gwrs, mae'r adroddiad yn amlinellu camau ymarferol y gellir eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad. Dwi am eich holi chi eto heddiw am dryloywder o gwmpas lle rydyn ni arni yn union efo argymhellion y tasglu yna. A gawn ni wybod pa rai o'r argymhellion sydd wedi cael eu cyflawni, a lle mae yna broblemau yn dal i fod, er mwyn inni fedru deall yn well beth ydy'r rhwystrau a beth sydd angen ei wneud yn y tymor hir?
Yn olaf, mi ddylai cartref addas a hygyrch fod yn hawl sylfaenol, ond o dan ganllawiau TACP ar safonau tai, mae hi'n dweud yn eithaf clir y dylid mabwysiadu hygyrchedd lle bo'n gost effeithiol i wneud hynny. Beth yn union ydy ystyr hynny? Mi fyddai ddefnyddiol cael gwybod beth yn union mae hynny'n ei olygu. Hoffwn i wybod hefyd ydych chi'n meddwl bod angen diwygio'r canllawiau yma, y canllawiau o gwmpas hygyrchedd, er mwyn dod â nhw yn fwy ffit i bwrpas ac er mwyn sicrhau bod cartrefi newydd yng Nghymru yn wirioneddol addas i anghenion y bobl sydd eu hangen. Diolch.
Diolch, Siân, a diolch am y cwestiynau yna. O ran y rhestr aros am dai cymdeithasol, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod nad yw rhestrau aros yn fesur o anghenion tai; maen nhw'n fesur o bwy fyddai'n hoffi a phwy sydd wedi gwneud cais i fyw mewn tai cymdeithasol. Gall unrhyw un wneud cais am dai cymdeithasol mewn sawl ardal, ac felly maen nhw'n cynnwys pobl sy'n byw mewn tai diogel ond sy'n dymuno symud i dai cymdeithasol. Felly, pan osodwyd y targed o 20,000, cafodd ei osod fel ffigur a oedd yn uwch na'r amcanestyniadau angen tai fforddiadwy ar y pryd—dim ond i wneud hynny'n glir. Yn amlwg, byddai anghenion tai wedi newid ers hynny, ond dylid croesawu'r lefel hon o gyflawni, rwy'n credu, wrth fynd i'r afael â'r anghenion parhaus.
O ran yr eiddo gwag, o ran yr enghraifft i'w defnyddio trwy TACP, rydym wedi bod yn glir iawn o'r cychwyn cyntaf am y rôl bwysig y mae caffaeliadau ac eiddo presennol yn ei chwarae wrth ddarparu tai i'r rhai mewn angen. Ailddatganodd y tasglu tai fforddiadwy annibynnol y sefyllfa hon, a heb fuddsoddi yn yr eiddo hyn i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio unwaith eto, gallent fod wedi cael eu gwerthu, gallent fod wedi cael eu colli o'r sector tai cymdeithasol yn gyfan gwbl. Felly, fe wnaethon nhw argymell y dylid eu cyfrif tuag at y targed lle roedd buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud yn yr eiddo, ac roedd yn argymhelliad a dderbyniais. Nid oedd yr eiddo hyn yn cynnig llety diogel i bobl, maen nhw nawr, ac mae hyn wedi'i wneud yn gyflym ac wedi'i gefnogi gan fwy na £400 miliwn o gyllid TACP dros y tair blynedd diwethaf. Felly, ers dechrau TACP yn 2022-23, roedd 936 o eiddo gwag wedi'u trawsnewid i eiddo y gellid eu defnyddio eto drwy'r rhaglen ym mis Mawrth 2025, ac rydym yn rhagweld 136 arall erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Felly, rwy'n credu ei bod bob amser yn dda atgoffa ein hunain bod y rhain yn gartrefi sydd nawr yn cael eu defnyddio unwaith eto, i wneud yn siŵr eu bod yn gartrefi o ansawdd da i bobl.
O ran Unnos, rwy'n gwybod bod y rhaglen waith tai fforddiadwy, Unnos gynt, wedi bod yn hwylusydd pwysig ar gyfer cynyddu graddfa a chyflymder cyflawni tai fforddiadwy a chymdeithasol, a bod y gwaith hwnnw'n cynnwys cyflwyno'r llyfr patrwm 'Tai ar y Cyd', ac roedd hynny mewn cydweithrediad â 24 o LCCau; y 'Canllaw Gweithredu Tai Gwledig Cymru', a gyhoeddwyd ychydig cyn y Nadolig; y 'Llawlyfr ar Eiddo Gwag yng Nghymru', a gyhoeddwyd cyn y Nadolig; ac rydym hefyd wedi cael arfarniadau ar opsiynau wedi'u cwblhau ar y rhaglen hyfforddi i arfogi dysgwyr â'r wybodaeth angenrheidiol i ymgymryd â rôl swyddog datblygu tai cymdeithasol. Felly, rydym wedi mynd â'r gwaith hwnnw ymlaen.
Ac o ran argymhellion y tasglu tai fforddiadwy, rwy'n hapus iawn, efallai, i ddarparu datganiad ysgrifenedig ar ôl cyfarfod nesaf y grŵp gweithredu, sydd yn ddiweddarach ym mis Chwefror, felly byddaf yn gwneud hynny cyn diwedd y tymor. Y cyfarfod diwethaf a gadeiriais o'r grŵp gweithredu argymhellion y tasglu—nid yw'n deitl bachog; os bydd unrhyw un yn cynnig teitl gwell, byddwn yn awyddus i'w glywed—fe wnes i gadeirio hwnnw yn ôl ar 8 Rhagfyr ac rydym mewn gwirionedd yn mabwysiadu dull tîm Cymru o ran hyn, gan gymryd perchnogaeth ar y cyd o'r argymhellion a'r gwaith cyflawni a monitro. Rwyf wedi gofyn bod pob argymhelliad yn cael ei gymryd gan y rhai sydd â'r arbenigedd yn y maes, oherwydd mae gennym lawer o bobl dda o amgylch y bwrdd hwnnw ac rwy'n credu yn eu hymrwymiad, maen nhw i gyd eisiau cyflawni hyn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn defnyddio eu harbenigedd i fynd â'r rheini ymlaen. Felly, rydym yn gwneud cynnydd da, yn enwedig ar bethau fel nodi tir, adnoddau'r system gynllunio ac olrhain cynlluniau a chymorth sgiliau.
Rwyf hefyd wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gydag awdurdodau lleol ar sail ranbarthol, ac mae pob un o'r cyfarfodydd hynny wedi canolbwyntio ar weithredu argymhellion y tasglu. Felly, rydw i wedi bod yn siarad â nhw'n uniongyrchol am eu rolau, ac rydw i hefyd wedi cael trafodaethau da iawn gyda'r holl fyrddau iechyd ar argaeledd tir.
Dim ond dau lefarydd sydd wedi cael cyfle i siarad ac rydym wedi defnyddio'r 30 munud llawn a neilltuwyd ar gyfer y datganiad hwn. Rwy'n bwriadu galw pawb arall, ond gofynnaf i chi gadw at eich terfynau amser hefyd, os gwelwch yn dda. Rydych chi i gyd yn wleidyddion profiadol, gallwch chi i gyd wneud hynny, felly gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud hynny. John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Byddwch yn ymwybodol bod darparu cartrefi fforddiadwy yn flaenoriaeth absoliwt, i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Fe wnaethom rywfaint o waith ar gyflenwad tai cymdeithasol ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac rydym ar hyn o bryd yn gwneud gwaith dilynol, ac rydym yn parhau i glywed pryderon am nifer y bobl mewn llety dros dro—rwy'n credu bod hyn tua 11,000 o bobl a bron i 3,000 o blant. Felly, mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am hyd yn oed mwy o gynnydd, er fy mod yn ymuno â chi i dalu teyrnged i'r sector tai wrth weithio tuag at y targed hwnnw o 20,000 o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu.
Rydych wedi derbyn, Ysgrifennydd Cabinet, yr angen i symud ymlaen at sefyllfa lle bydd tua 20 y cant o'n stoc dai yng Nghymru yn cynnwys tai cymdeithasol fforddiadwy, ac rwy'n meddwl tybed dros ba gyfnod o amser y gallech weld hynny'n cael ei gyflawni, a hefyd a fyddech yn derbyn y gallai corfforaeth ddatblygu genedlaethol i Gymru chwarae rhan bwysig iawn wrth helpu i gyflawni hynny ac alinio ein gwaith o ran tai ac adfywio pan ddaw at arwain ar gyflawni safleoedd strategol ar raddfa fawr. Diolch yn fawr.
Diolch John, a diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, yn gyntaf oll, John, am eich holl waith a holl waith pob aelod o'r pwyllgor. Rwy'n credu eich bod wedi cymryd diddordeb mor gryf yn hyn. Rwy'n croesawu'n fawr yr holl waith rydych chi wedi'i wneud dros dymor y Senedd hon ac yn parhau i'w wneud hyd at ddiwedd tymor y Senedd. Rwy'n gwybod bod ystod o waith ar y gweill i gyflawni'r argymhellion yr ydym wedi'u derbyn. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn croesawu'r ffaith bod gennym y targed tai mwyaf uchelgeisiol yn hanes ein cenedl. Rydym wedi cefnogi hynny gyda dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hon, ac roedd hynny'n cynnwys £466 miliwn yn 2025-26 yn unig. Rydym yn cydnabod bod angen clir am bethau fel aelwydydd un person, ac mae hynny'n amlwg o asesiadau marchnad dai leol ein hawdurdodau lleol. Ond rydym yn bwriadu canolbwyntio ein hymdrechion ar alinio ein darpariaeth, trwy ein prosbectws tai cymdeithasol, â thystiolaeth o angen. Felly, fel y dywedais i, mae gwaith ar y gweill ar yr argymhellion yr ydym wedi'u derbyn gan y pwyllgor.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen bum mlynedd ar gyfer llywodraethu hyd at Ebrill 2026, roedd yn cynnwys yr ymrwymiad penodol i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu. Rydych chi'n dweud heddiw eich bod ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd—chwe mis yn hwyr—ond fe wnaethoch chi fethu â dweud eich bod wedi ychwanegu cartrefi nad ydynt yn adeiladau newydd ac nad ydynt ar gyfer rhent cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi rhent canolradd a chynlluniau rhannu perchnogaeth. Pam nad ydych chi'n gwneud hyn yn glir, neu'n cyfeirio at y data swyddogol sy'n dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gostwng tai cymdeithasol newydd yng Nghymru dros 70 y cant yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad, y Senedd bellach, o 1999, a oedd yn cynnwys Llywodraeth glymblaid Llafur-Plaid Cymru; bod adolygiad tai y DU yn 2012 wedi dweud bod gan Lywodraeth Cymru y lefel gyfrannol isaf o wariant tai o bell ffordd erbyn 2010 o unrhyw un o'r pedair gwlad yn y DU; mai dim ond chwe blynedd a gymerodd Llywodraeth Geidwadol y DU o 2010 i gyflawni dwywaith cymaint o dai cyngor yn Lloegr—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Mark, os gwelwch yn dda.
[Anghlywadwy.]—gyda'r Llywodraeth Lafur flaenorol, tra bod Cymru ar ei hôl hi; ac, yn olaf, hyd yn oed y llynedd, Cymru oedd yr unig genedl yn y DU i weld llai o gofrestriadau cartrefi newydd nag yn 2012?
Diolch, Mark. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod y difrod y mae'r polisi Ceidwadol o hawl i brynu wedi'i achosi yn y wlad hon, gan dynnu allan cymaint o dai cyngor, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU. O ran cyflawni ein targed, gadewch i ni fod yn glir: mae hwn yn gyflawniad enfawr. Byddwn yn cyflawni 20,000 o gartrefi i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd eleni. Mae hynny er gwaethaf y pwysau yn ein herbyn yn sgil chwyddiant. Cawsom gyllideb drychinebus Liz Truss, rydym ni wedi cael Brexit, rydym ni wedi cael yr holl bwysau hynny ar sgiliau hefyd—yr holl bethau hynny a achoswyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, gadewch i ni beidio ag anghofio hynny.
Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni 93 y cant o'r targed erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Mae cannoedd mwy ar y gweill. Rydym ni ar y trywydd iawn, gyda'r ystadegau swyddogol yn dangos y gallwn gyrraedd yno. Erbyn diwedd eleni, byddwn yn rhagori ar y targed hwnnw. Mae gennym lif prosiectau cryf iawn, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd. Dyna'r ymddiriedaeth y mae'r sector wedi'i roi ynom ni, yr hyder yr ydym wedi'i roi i'r sector, trwy'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, trwy drafodaethau cyson a chanllawiau polisi—ein bod eisiau cyflawni hyn, ac rydym eisiau mynd ymhellach ac yn gyflymach hefyd. Ac rydym unwaith eto yn talu teyrnged i'r sector am bopeth maen nhw wedi'i wneud ar hyn.
Fe wnaethoch chi ddechrau eich datganiad trwy ddweud bod tai da yn sail i iechyd, llesiant a chyfleoedd pobl, a byddwn yn cytuno'n llwyr. Ar gyfer pobl anabl, mae hynny'n arbennig o wir. Mae un o fy etholwyr yn defnyddio cadair olwyn wedi'i phweru ac yn ddiweddar mae'r awdurdod lleol wedi prynu tŷ a'i addasu ar ei chyfer. Ond nid yw hi'n gallu symud i mewn i'r eiddo oherwydd nad yw'r addasiadau yn darparu digon o le troi i'w chadair olwyn wedi'i phweru. Dywedwyd wrthi mai'r rheswm oedd bod y dyluniadau yn seiliedig ar fanylebau ar gyfer cadeiriau olwyn heb bŵer, sydd â radiws troi llai na chadeiriau olwyn wedi'u pweru.
O dan y safonau gofynnol ar gyfer cartrefi a ariennir drwy'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, rhaid i lety fod yn hygyrch ar gyfer anghenion penodol y rhai sy'n byw yno. A allech chi gadarnhau sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu cymhwyso'n gyson ledled Cymru? Pa oruchwyliaeth sy'n bodoli i sicrhau bod contractwyr a chymdeithasau tai sy'n gwneud addasiadau yn dilyn y canllawiau ac yn dylunio cartrefi sy'n diwallu anghenion pob preswylydd anabl?
Diolch, Sioned. Diolch am hynna. Rydym wedi cynyddu buddsoddiad mewn addasiadau i'r cartref fel y gall awdurdodau lleol ymateb yn gyflymach a chefnogi'r rhai sydd ag anghenion cymhleth a brys. Mae awdurdodau lleol yn parhau i dderbyn £3 miliwn ychwanegol o gyllid blynyddol drwy'r gronfa tai â gofal i leddfu rhai o'r pwysau rydym ni'n gwybod sydd ar y grant cyfleusterau i bobl anabl. Pe gallech chi ysgrifennu ataf ymhellach ar yr achos penodol hwnnw, byddwn i'n hapus i edrych arno.
Diolch am eich datganiad. Fel y dywedwch chi, Ysgrifennydd Cabinet, mae cyflawni 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn rhywbeth y dylid ei ddathlu. Fodd bynnag, rwy'n pryderu gweld nifer y teuluoedd sydd mewn llety dros dro ledled Cymru. I deulu fod wedi'i gartrefu mewn llety dros dro, yn enwedig mewn llety gwely a brecwast, rwy'n credu fod hyn yn gwbl amhriodol. Mae peidio â gallu paratoi a choginio prydau bwyd, peidio â gallu cynnig amgylchedd tawel i blentyn ymgymryd â gwaith ysgol, a rhoi pobl mewn llety lle mae safonau'n is na'r rhai y byddwn ni ein hunain eisiau eu gweld, yn annerbyniol. Mae'n hanfodol bod y maes hwn o ran anghenion tai yn gwella. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac egluro pa waith rydych chi'n ei wneud gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod nifer y teuluoedd mewn llety dros dro yn lleihau ar frys? Diolch.
Diolch am y cwestiwn yna. Bob tro rwy'n gweld y rhifau o ran llety dros dro, rwy'n cofio eu bod nhw'n bobl—nid rhifau ydyn nhw. Mae plant ar y rhestr honno hefyd. Mae'n aros gyda mi mewn gwirionedd—rwy'n meddwl am hyn bob tro rwy'n gweld y rhifau hynny. Mae'n anodd iawn, oherwydd rydych chi'n gweld yr ystadegau, ac weithiau rydym ni'n anghofio nad yw'n rhif statig. Rydym yn gweld awdurdodau lleol yn symud rhwng 650 ac 800 o bobl allan o lety dros dro bob mis i gartrefi parhaol, ac mae hynny'n wirioneddol gadarnhaol. Ond mae gormod o bobl mewn llety dros dro o hyd.
Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol gyda buddsoddiadau sylweddol mewn atal digartrefedd a chymorth tai, i geisio lleihau'r llif o bobl sydd angen llety dros dro. Rydym hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i symud ymlaen o lety dros dro gyda'r £155 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn TACP eleni. Ond rydym hefyd yn lleihau ein dibyniaeth ar ffurfiau llai addas o lety dros dro, fel gwestai a llety gwely a brecwast. Gostyngodd y defnydd o'r rheiny 6 y cant ledled Cymru wrth gymharu Hydref 2024 â Hydref 2025. Mae nifer y plant dibynnol mewn llety dros dro wedi bod yn gostwng dros y misoedd diwethaf. Mae'r data diweddaraf yn dangos gostyngiad o 13 y cant yn yr un cyfnod, rhwng Hydref 2024 a Hydref 2025. Unwaith eto, rwy'n dal i deimlo bod gormod yma, ond rydym yn gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol i leihau'r nifer hwnnw.
Siaradais â rhai datblygwyr ddoe, Ysgrifennydd Cabinet. Dywedon nhw wrthyf nad mater o adeiladu tai yn unig ydyw—mae cymaint o faterion cymhleth eraill, un ohonyn nhw yw mynediad at gyfleustodau a gwasanaethau. Rwyf eisiau gwybod pa waith rydych chi'n ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i sicrhau bod byrddau iechyd a meddygfeydd yn cael gwybod am dai newydd sy'n cael eu hadeiladu. Oherwydd mae bwrdd Caerdydd a'r Fro eisoes o dan straen anhygoel. Maen nhw'n dweud wrthyf mai rhan o'r broblem honno yw bod y fformiwla ariannu sydd ar waith ar hyn o bryd yn seiliedig ar hen ddata. Mae rhai o'r data ar gyfer y mynegai anghenion ychwanegol yn mynd yn ôl i gyfrifiad 2001 neu hunan-adroddiadau o arolwg aelwydydd cyffredinol 1998. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen i feddygon teulu fod â'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau o fewn y gymuned fel y gallant gynllunio cymaint â phosibl. Mae tai newydd yn hanfodol ac yn cael eu croesawu; yr hyn y mae angen i ni ei osgoi yw sefyllfa lle mae person neu deulu yn symud i mewn ac nad oes ganddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Diolch yn fawr.
Yn hollol, Rhys. Mae'n bwynt pwysig iawn. Gyda fy nghyd-Ysgrifennydd yn y Cabinet, Rebecca Evans, sydd â chyfrifoldeb am gynllunio, rydym yn trafod y materion hyn yn rheolaidd. Yr enghraifft a roddais yn y datganiad yn gynharach oedd Fferm Cosmeston a'r 576 o gartrefi newydd. Bydd hynny'n cynnwys ysgol gynradd newydd, man agored, teithio llesol, a bydd hynny'n creu cymuned gynhwysfawr a chynaliadwy. Dyna beth rydym ni eisiau ei weld. Rydym ni eisiau i'r cymunedau hynny gael eu dwyn at ei gilydd, i wneud yn siŵr bod ganddynt y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. Rydym ni'n gwybod y bydd cymunedau o amgylch hynny a'r pwysau arnyn nhw yn fawr iawn ym meddyliau pobl eraill. Mae cysylltu'r rheini ag ysgolion cynradd, y mannau agored hynny, i greu cymuned gynaliadwy yn bwysig iawn, ac mae honno'n enghraifft dda sy'n digwydd yn eich rhanbarth chi hefyd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 ar ein hagenda ni heddiw yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9127 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau drafft hyn, sy'n rhan o weithredu Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi.
Mae'r rheoliadau'n cefnogi gweinyddu'r ardoll ymwelwyr yn effeithiol gan Awdurdod Cyllid Cymru, gan sicrhau bod prif gynghorau yn cadw 90 y cant o'r refeniw y maent yn ei godi. Er mwyn gwneud hynny, mae'r rheoliadau'n gosod cap ar y swm y gall ACC ei ddidynnu o refeniw ardoll ymwelwyr i dalu ei gostau gweithredu ei hun. Mae hwn yn ddewis polisi bwriadol i sicrhau tegwch ac eglurder i brif gynghorau sy'n ceisio cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn cyflawni ymrwymiadau a wnaed yn ystod gwaith craffu ar y Bil ac mewn llythyr dilynol at arweinwyr cynghorau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Trwy gapio adferiad costau'r ACC, rydym yn dileu rhwystr posibl rhag mabwysiadu oherwydd ni fydd cynghorau yn wynebu costau ymlaen llaw ar gyfer gweithredu a dim ond costau gweinyddol parhaus fydd yn cael eu hadennill o refeniw.
Fel erioed, Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr ystyriaeth ofalus y mae wedi'i rhoi i'r rheoliadau hyn. Nododd adroddiad y pwyllgor un pwynt adrodd technegol, bod y term 'ardoll ymwelwyr' wedi cael ei ddefnyddio ar sawl achlysur ond heb ei ddiffinio. Wedi hynny, rwyf wedi ymateb i'r pwyllgor sy'n nodi barn y Llywodraeth mai dim ond yr ystyr a ddarperir eisoes yn Neddf 2025 y gellir ei roi i'r defnydd o'r term 'ardoll ymwelwyr', gan ei wneud yr unig ddiffiniad perthnasol.
Mae'r rheoliadau'n gam ymarferol i gyflawni polisi sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan y Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn eu cefnogi y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 19 Ionawr ac ymateb Llywodraeth Cymru yr wythnos ganlynol. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau.
Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at y ffaith bod y term 'ardoll ymwelwyr' wedi cael ei ddefnyddio ar sawl achlysur ond nid yw wedi'i ddiffinio. Mae adroddiad y pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam nad oes diffiniad o 'ardoll ymwelwyr' yn ymddangos yn y rheoliadau. Fel y dywedodd y Gweinidog newydd, mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw'n cytuno â'r pwynt adrodd. Mae'n dadlau y gallai'r cyfeiriad at 'ardoll ymwelwyr' yn y rheoliadau olygu ardoll ymwelwyr a gyflwynwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 yn unig a bod yn amlwg o'r cyd-destun at beth mae'r term yn cyfeirio.
Mae'r cyntaf o bwyntiau adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu'r ardoll ymwelwyr i gronfa gyfunol Cymru. Mae'r ail yn nodi esboniad gan y Llywodraeth bod yr offeryn wedi'i baratoi y tu allan i'r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymru, ac felly efallai y bydd angen mân welliannau fformatio yn ystod y broses gofrestru.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol iawn o wrthwynebiad y Ceidwadwyr Cymreig i'r egwyddor o dreth dwristiaeth yma yng Nghymru, ac mae'r rheoliadau hyn yn cymryd cam pellach tuag at wneud y dreth honno'n realiti i fusnesau ac ymwelwyr yma yng Nghymru.
Rydym yn gwybod bod Cymru'n dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth, diwydiant gwerth biliynau o bunnau sy'n cefnogi teuluoedd, busnesau bach, gweithwyr lletygarwch a chefnogi ein cymunedau drwy'r gadwyn gyflenwi. Mae ardoll ymwelwyr yn anfon y neges anghywir ar yr adeg anghywir, sef bod dod yma yn costio mwy, bod ymwelwyr yn faich i'w drethu, yn hytrach na budd i'n heconomi ac i'n cymunedau i'w groesawu. Ac rwy'n gwybod nad yw twristiaeth yn sicr yn gysyniad haniaethol. Mae ein gwestai lleol yn aros ar agor trwy'r gaeaf, mae ein caffis yn cadw staff yn gyflogedig, atyniadau yn buddsoddi mewn gwelliannau a chymunedau'n parhau i fod yn fywiog. Felly, gall hyd yn oed tâl ychwanegol bach ddylanwadu ar ble mae pobl yn dewis mynd, yn enwedig i deuluoedd, ar gyfer teithiau bws a theithwyr annibynnol. Ac unwaith y bydd nifer yr ymwelwyr wedi'i lleihau'n sylweddol, gall fod yn anodd iawn adfer hynny.
Os mai'r nod, wrth gwrs, yw cefnogi seilwaith, rheoli'r pwysau a all godi yn ein cymunedau a gwella profiadau ymwelwyr, yna dylem fod yn gweithio ar y cyd â'r sector twristiaeth, nid ei drethu ymhellach. Bydd defnyddio cyllid presennol yn well, buddsoddiad wedi'i dargedu a chynllunio craffach yn cyflawni llawer mwy nag ardoll sy'n peryglu tanseilio hyder yn y sector. Dylem fod yn annog pobl i ymweld, i aros yn hirach ac i ddychwelyd, ond yn hytrach heddiw rydym yn clywed rheswm arall iddyn nhw fynd i rywle arall. Am y rhesymau hynny, ni fyddwn yn cefnogi'r rheoliadau gan ein bod yn gryf yn erbyn cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, wrth gwrs, gwaith Mr Rowlands yw gwrthwynebu'r polisi. Rydym wedi clywed set o ddadleuon wedi'u hymarfer yn dda a gafodd eu trechu'n llwyr gan y Senedd mewn pleidlais ar ôl pleidlais yn ystod hynt y Bil. Ei swydd ef yw gwrthwynebu, fy swydd i yw sicrhau bod penderfyniadau'r Senedd wrth basio'r Bil ardoll ymwelwyr yn cael eu rhoi ar waith. Dyna beth mae'r rheoliadau hyn yn ei wneud, a dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau eu cefnogi y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 5 yw'r Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026. Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Dawn Bowden.
Cynnig NDM9128 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 ac maent yn effeithio ar Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Maen nhw'n rhoi gofynion cytundebau masnach rydd y DU gyda Norwy, Liechtenstein a Gwlad yr Iâ, cytundeb masnach rydd yr AEE, a'r Swistir ar waith, a byddant yn cymeradwyo hygyrchedd y ddeddfwriaeth i'r rheoleiddiwr ac ymgeiswyr perthnasol.
Mae adran 3 o Ddeddf 2022 yn rhoi'r pŵer i'r awdurdod cenedlaethol priodol wneud rheoliadau at ddibenion gweithredu, neu mewn cysylltiad â gweithredu unrhyw gytundeb cydnabyddiaeth ryngwladol y mae'r DU yn barti iddo. Yn 2023, cyflwynwyd rheoliadau ledled y DU sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob rheoleiddiwr, gan gynnwys y rhai sy'n gyfrifol am safonau proffesiynol yng Nghymru, fodloni rhwymedigaethau o dan gytundeb masnach rydd yr AEE ynghylch cydnabod cymwysterau proffesiynol. Ar yr un pryd, gwnaeth Cymru ei Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 ei hun a oedd yn tynnu proffesiynau datganoledig Cymru, gan gynnwys gofal cymdeithasol, allan o gwmpas rheoliadau'r DU a'u disodli â darpariaethau penodol i Gymru.
Fodd bynnag, ni wnaeth y rheoliadau Cymreig hyn ddiwygio Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, oherwydd byddai gwneud hynny yn gofyn am newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae'r diwygiadau yn y rheoliadau drafft hyn yn diweddaru rhannau o'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol yn gyfredol ac yn cydymffurfio â gofynion cytuneb masnach rydd yr AEE a chytundeb y Swistir. Maent yn dileu gweithwyr gofal cymdeithasol o gwmpas rheoliadau Cymru 2023 ac felly byddant yn gwella hygyrchedd y ddeddfwriaeth ar gyfer y rheoleiddiwr a cheisiadau perthnasol. Rwy'n cymeradwyo'r gwelliannau hyn i'r Siambr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.
Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 26 Ionawr ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol. Mae'r cyntaf yn nodi bod y rheoliadau'n mewnosod termau diffiniedig amrywiol yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gan gynnwys un cyfeiriad at y term 'ymarfer dan oruchwyliaeth'. Fodd bynnag, nid yw 'ymarfer dan oruchwyliaeth' wedi'i ddiffinio yn Neddf 2016, nac yn y rheoliadau. Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru esbonio pam.
Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod y term 'ymarfer dan oruchwyliaeth' eisoes wedi'i ddeall yn dda mewn systemau cydnabod cymwysterau proffesiynol. Mae'r ymateb hefyd yn nodi bod angen rhywfaint o hyblygrwydd wrth ddehongli'r term, ac y gallai gor-bresgripsiynu mewn deddfwriaeth sylfaenol gyfyngu ar allu Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau bod trefniadau goruchwylio yn gymesur. Mae'r pwyllgor hefyd wedi nodi ymateb Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gofynnaf i'r Gweinidog, yn ei hymateb i'r ddadl hon, gadarnhau ei bod yn gwbl fodlon bod drafftio'r rheoliadau yn ddigon clir i'r term 'ymarfer dan oruchwyliaeth' gael ei ddehongli fel y bwriadwyd.
Mae'r ail bwynt adrodd yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r cofrestrydd roi hysbysiad o benderfyniad ynghylch cofrestru neu adnewyddu ymgeisydd gwladwriaethol o fewn pedwar mis i'r cais gael ei gyflwyno. Mae'r gwelliant yn nodi, pan fo'r cofrestrydd yn methu â rhoi hysbysiad o benderfyniad o fewn y cyfnod hwnnw, bod y methiant hwnnw i'w drin fel penderfyniad y cofrestrydd. Fodd bynnag, nid yw'n glir o'r rheoliadau a fyddai methiant cofrestrydd i ymateb yn cael ei drin fel penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod y cais.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw effaith arfaethedig y darpariaethau yn darparu bod y cais yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod yn awtomatig. Yn hytrach, y bwriad yw galluogi'r ymgeisydd i gael mynediad i'r fframwaith apeliadau presennol os nad yw'r cofrestrydd wedi cydymffurfio â'r terfyn amser statudol. Diolch.
A galwaf ar y Gweinidog i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth ymateb, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y rheoliadau'n ddigon clir o ran diffiniad o'r term 'goruchwyliaeth', a nod y gwelliannau hyn yn syml yw sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol yn gyfredol ac yn cydymffurfio'n fewnol â'r gofynion angenrheidiol sy'n deillio o gytundeb masnach rydd yr AEE a chytundeb y Swistir ar gydnabod cymwysterau proffesiynol. Bydd hyn yn gwella hygyrchedd deddfwriaeth i'r rheoleiddiwr a'r ceisiadau perthnasol, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen i'r eitem nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 6 a 7, rheoliadau iechyd y cyhoedd (isafbris am alcohol) 2026, eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed gwrthwynebiad.
Felly, galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy.
Cynnig NDM9129 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Parhau) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2025.
Cynnig NDM9130 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd heddiw yn datblygu ac yn bwriadu parhau â llwyddiant y polisi isafbris uned yng Nghymru. Cyflwynwyd yr isafbris uned gyda phwrpas clir: lleihau'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â gor-ddefnydd o alcohol. Ei nod oedd, ac mae'n parhau i fod felly, mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau sy'n ymwneud yn benodol ag alcohol, trwy leihau'r defnydd ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol.
Mae'r polisi hwn yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Ochr yn ochr ag isafbris uned, rydym yn parhau i fuddsoddi dros £67 miliwn bob blwyddyn mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac mae'r gwasanaethau hyn yn darparu cymorth hanfodol, gan gynnwys adsefydlu ac addysg, i'r rhai yr effeithir arnynt gan gamddefnyddio alcohol a chyffuriau.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi monitro effaith isafbris uned yn ofalus. Mae prisiadau annibynnol, yr adroddiad gweithredu ac effaith ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus a thystiolaeth a gasglwyd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, i gyd wedi llywio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r pwyllgor am ei waith a'i argymhellion, a oedd yn cynnwys yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau i barhau ag isafbris uned y tu hwnt i fis Mawrth 2026 a cheisio cynyddu'r isafbris uned ar gyfer alcohol.
Mae'r dystiolaeth yn glir: mae isafbris uned wedi cyfrannu'n gadarnhaol at ei amcanion bwriadedig, ac mae ei weithrediad wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan. Yn ogystal, fe wnaethom gomisiynu modelu wedi'i ddiweddaru gan Sheffield Addictions Research Group. Asesodd eu dadansoddiad effaith isafbris uned parhaus ac archwilio opsiynau ar gyfer addasu'r pris. Mae'r canfyddiadau'n cefnogi cynnydd i 65c yr uned, a fyddai'n cynnal effeithiolrwydd y polisi mewn termau real, ac yn alinio Cymru â'r Alban. Rydym yn cydnabod y gallai rhai grwpiau, megis yfwyr dibynnol ar incwm isel, fod yn agored i newidiadau mewn prisiau, a dyna pam y byddwn yn parhau i ddarparu cymorth drwy ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac yn sicrhau bod negeseuon iechyd cyhoeddus clir yn cyd-fynd ag unrhyw newidiadau.
Mae'n bwysig cydnabod y cyd-destun y mae isafbris uned wedi gweithredu ynddo. Roedd ei gyflwyno yn cyd-daro â'r pandemig a'r argyfwng costau byw, ffactorau sydd wedi dylanwadu ar agweddau a phatrymau defnydd. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r dystiolaeth yn dangos bod isafbris uned wedi helpu i leihau argaeledd cynhyrchion alcohol cryfder uchel, cost isel, cam cadarnhaol tuag at annog yfed cyfrifol.
Mae'r Ddeddf wreiddiol yn cynnwys cymal machlud, sy'n golygu y byddai'r darpariaethau presennol yn dod i ben ar 1 Mawrth 2026, oni bai fod deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno. Felly, heddiw rwy'n cyflwyno rheoliadau i sicrhau bod isafbris uned yn parhau y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw, ac, yn ail, i gynyddu'r isafbris uned i 65c yr uned. Bydd y mesurau hyn yn ein helpu i adeiladu ar y cynnydd a wnaed a diogelu iechyd a llesiant pobl yng Nghymru ymhellach.
Felly, i grynhoi, nid penderfyniadau polisi yn unig yw'r ddau gynnig hyn; maent yn ymyriadau iechyd cyhoeddus sy'n achub bywydau, maent yn lleihau niwed ac yn cefnogi cymunedau iachach. Nid yw isafbris ar gyfer alcohol wedi'i gynllunio i weithio ar wahân, a byddwn yn parhau i gefnogi ein gwaith eang yn y maes camddefnyddio sylweddau, wedi'i dargedu at atal, cefnogi ac adferiad a mynd i'r afael ag argaeledd. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y ddwy set o reoliadau drafft ar 19 Ionawr. Mae adroddiadau'r pwyllgor yn cynnwys yr un pwyntiau adrodd craffu ar rinweddau. Maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith bod yr offerynnau priodol wedi'u paratoi y tu allan i'r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymru ac felly efallai y bydd angen mân welliannau fformatio yn ystod y broses gofrestru os cânt eu cymeradwyo gan y Senedd. Nid oedd angen ymateb Llywodraeth Cymru i'r naill adroddiad na'r llall.
Rwy'n ymateb i hwn heddiw nid fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ond yn fy rhinwedd fy hun, yn cynrychioli ein grŵp. Nawr, er bod y bwriad y tu ôl i'r polisi hwn yn dda, nid ydym yn credu bod y ddeddfwriaeth yn ei ffurf bresennol yn gwbl gydnaws â'i nodau. Nid oes digon o dystiolaeth bendant i barhau â hi, heb sôn am y cynnydd o draean yn yr isafbris. Mae'n bwysig nodi, hefyd, bod y ddeddfwriaeth hon yn cael effaith anghymesur ar y rhai sydd ag incwm is.
Hefyd, mae pryder y bydd pobl â dibyniaeth ar alcohol yn anffodus yn parhau i brynu alcohol, a fydd dim ond yn peri niwed ariannol iddyn nhw eu hunain ac yn ôl pob tebyg i'w teuluoedd. Rydym yn siarad am yr agenda atal llawer yn y Siambr hon, ond mae angen i ni weld atal yn cael ei weithredu. Byddai'n well gweld egni'r Llywodraeth yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion sylfaenol camddefnyddio alcohol neu alcoholiaeth a gwella cefnogaeth i'r rhai sydd mewn adferiad, yn hytrach na defnyddio polisïau sy'n cael effaith niweidiol ar y rhai mwyaf agored i niwed. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod y ffaith nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn cyflawni fel y bwriadwyd. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod marwolaethau sy'n benodol oherwydd alcohol wedi cynyddu i uchafswm newydd, gyda 262 o farwolaethau wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2023. Mae derbyniadau i'r ysbyty sy'n benodol yn ymwneud ag alcohol hefyd yn parhau i gynyddu, gyda dros 12,000 o dderbyniadau yn cynnwys mwy na 8,000 o unigolion. Y gwir amdani yw eich bod 2.8 gwaith yn fwy tebygol o gael eich derbyn am gyflwr sy'n ymwneud ag alcohol os ydych yn dod o ardal fwy difreintiedig yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, nid oes digon o dystiolaeth gref bod y polisi hwn yn gweithio fel y bwriadwyd, a byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud yn dda i ganolbwyntio eu hymdrechion ar bolisïau gwell sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn hytrach na cheisio ehangu'r wladwriaeth faldodus fel y'i gelwir a rheoli pris cynnyrch arall yng Nghymru, er bod ei fwriad yn glodwiw. Mae angen i fwy o amser ac arian gael ei fuddsoddi mewn atal, nid cyfyngiad. Am y rhesymau hyn, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn cynigion i barhau a chynyddu'r isafbris uned.
Wrth inni ystyried y rheoliadau yma heddiw, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig dechrau trwy gydnabod bod hwn yn bwnc cymhleth, ac yn un sy'n codi cwestiynau dilys am iechyd, cydraddoldeb ac effaith ar gymunedau. Dydy penderfynu ar bris alcohol byth yn rhywbeth syml, ac mae'n haeddu ystyriaeth ofalus yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach nag ar reddf neu ar ideoleg. Serch hynny, pan ydyn ni'n edrych yn onest ar y data sydd o'n blaenau ni, mae graddfa'r her sy'n ein hwynebu yn glir. Yn 2023, gwelwyd y nifer uchaf erioed o bobl yn marw o ganlyniad i gamdriniaeth alcohol. Ar yr un pryd, amcangyfrifir bod niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn costio tua £159 miliwn o bunnoedd i Gymru bob blwyddyn.
Mae'r ffeithiau hyn yn tanlinellu pam mae'n rhaid inni barhau i ystyried mesurau sy'n gallu lleihau niwed yn y tymor hir. O ystyried y cyd-destun yma, felly, dwi'n croesawu'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw. Mae'r cynnig i godi'r isafbris fesul uned o alcohol yn adlewyrchu realiti economaidd syml, sef dros y pum mlynedd diwethaf, mae chwyddiant wedi erydu gwerth y polisi presennol. Heb addasu'r lefel, mae effeithlonrwydd yr isafbris yn lleihau'n raddol, gan danseilio'r union amcanion a gafodd ei gyflwyno ar eu cyfer. Wrth gwrs, dydy'r polisi yma ddim am ddatrys problem cam-drin alcohol Cymru yn llwyr, nac ychwaith am effeithio ar nifer y bobl sydd yn cam-drin alcohol. A does neb yn esgus ei fod o yn mynd i ddatrys yr holl broblemau'n ymwneud â cham-drin alcohol. Felly, dydy o ddim yn disodli'r angen am wasanaethau cefnogaeth cryf i bobl sy'n byw gyda phroblemau alcohol, nac am waith parhaus i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd am yfed cyfrifol. Yn hytrach, dylid ei weld fel un rhan o becyn ehangach o fesurau ataliol. A dyna pam dwi'n croesawu rhywbeth arall ddaru i'r Gweinidog ddweud ynghynt, sef y bwriad i barhau â'r camau sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â cham-drin alcohol.
Mae'r dystiolaeth gan Alcohol Change UK yn awgrymu bod yr isafbris hyd yma wedi cael yr effaith fwriadol o dargedu diodydd rhad a chryf iawn, sy'n gysylltiedig yn anghymesur â niwed difrifol, yn enwedig ymhlith yfwyr bregus sy'n ddibynnol ar alcohol.
Mae hefyd yn arwyddocaol bod y gwerthusiadau hyd yma heb ganfod tystiolaeth gref o'r canlyniadau andwyol a ragwelwyd gan rai, megis gwthio pobl at sylweddau eraill neu eu bod nhw am deithio pellteroedd er mwyn prynu alcohol y tu allan i Gymru. Dydy hynny ddim wedi digwydd.
Mae profiad yr Alban yn cynnig cyd-destun defnyddiol hefyd. Yno, mae'r penderfyniad i godi'r isafbris wedi'i seilio ar fodelu sy'n awgrymu gostyngiadau sylweddol mewn yfed niweidiol a marwolaethau dros amser. Ni ellir, wrth gwrs, gwarantu hynny, ond mae'n dystiolaeth berthnasol y dylid ei hystyried o ddifrif.
Yn olaf, mae'n bwysig bod yn glir nad treth yw'r mesur yma. Dydy'r Llywodraeth na'r Senedd yma ddim yn elwa'n ariannol ohono. Y nod yma ydy dylanwadu ar batrymau yfed er lles iechyd y cyhoedd.
Dirprwy Lywydd, ar ôl pwyso a mesur y dadleuon yma ac ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, dwi wedi dod i'r casgliad mai parhau gyda'r isafbris, a'i ddiweddaru i adlewyrchu chwyddiant, ydy'r cam mwyaf cyfrifol. Mae'n gam cymedrol, ond un sy'n rhoi blaenoriaeth i les pobl a chynaliadwyedd ein gwasanaethau iechyd yn yr hir dymor.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb.
Diolch yn fawr iawn. Dim ond i ailadrodd—ac rwy'n diolch i bawb am eu sylwadau heddiw—prif ffocws isafbrisio unedau yw lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ar lefel poblogaeth, ac rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd deall ei effaith ar bob grŵp, gan gynnwys yfwyr dibynnol sydd ar incwm isel a allai fod yn agored i niwed gan newidiadau mewn prisiau alcohol. Rydym ni hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd y negeseuon iechyd cyhoeddus clir ac effeithiol hynny o ran isafbrisio unedau ac effaith ehangach yfed alcohol ar iechyd corfforol a meddyliol.
Byddwn ni hefyd yn parhau i weithio gyda'n byrddau cynllunio ardal i sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau a chefnogaeth ar waith i gefnogi pobl sy'n wynebu problemau alcohol. Alcohol yw'r sylwedd mwyaf problematig y mae pobl yn ceisio cymorth ar ei gyfer. Roeddwn i eisiau ailadrodd, hefyd, y byddai'r cynnydd yn y pris arfaethedig o 65c yr uned o alcohol yn cyd-fynd â'r Alban, ac roedd y dewisiadau hyn wedi'u hategu gan fodelu a dadansoddi trylwyr iawn a gafodd ei gynnal gan Sheffield Addictions Research Group. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu cefnogi hwn heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cymryd y cam hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan eitem 7 tan y cyfnod pleidleisio hefyd.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9126 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch iawn o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026, sy'n gwneud mân ddiwygiadau i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2020. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i sicrhau bod cynllun masnachu allyriadau'r DU yn parhau i fod yn ddull cadarn, teg ac effeithiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, wrth liniaru risg gollyngiadau carbon i ddiwydiannau yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r Gorchymyn yn galluogi gweithredwyr i ddewis cael eu data gweithgareddau ar gyfer 2020, neu 2020 a 2021, wedi'u heithrio at ddibenion pennu'r gymhariaeth hanesyddol ar gyfer y cyfnod dyrannu 2027 i 2030. Y prif nod yw lliniaru effaith pandemig COVID-19 ar gymariaethau hanesyddol. Mae'r Gorchymyn yn cadw meincnodau dyraniad am ddim cyfredol System Masnachu Allyriadau y DU sy'n cael eu defnyddio yng nghyfrifiad y dyraniad am ddim ar gyfer cynllun blwyddyn 2027, ac yn mabwysiadu gwerthoedd meincnod yr UE wedi'u diweddaru ar gyfer blynyddoedd 2028, 2029 a 2030 o'r cyfnod dyrannu 2027 i 2030. Mae'r Gorchymyn yn galluogi dileu'r dyraniad am ddim yn raddol ar gyfer sectorau wedi'u cynnwys yn null addasu ffiniau carbon y DU, CBAM, yn ystod y cyfnod 2027 i 2030. Mae'r Gorchymyn yn egluro'r gofyniad adrodd blynyddol sy'n berthnasol i osodiadau sy'n cael dyraniad am ddim ac sy'n dewis rhoi'r gorau i'w gweithgareddau am byth, ac mae'r Gorchymyn yn cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban yn diriogaethol. Gwnaethon ni ofyn am gyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar y cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn. Drwy wneud cynllun masnachu allyriadau'r DU yn ddull mwy cadarn, teg ac effeithiol ar gyfer lleihau allyriadau, wrth sicrhau y gall ein diwydiannau barhau i gystadlu'n fyd-eang, byddwn ni mewn gwell sefyllfa i gyflawni nodau datgarboneiddio Cymru.
Fel bob amser, hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu craffu diwyd a thrwyadl ar y Gorchymyn. Felly, Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf i'r cynnig i'r Siambr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 26 Ionawr ac ymateb Llywodraeth Cymru. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol. Mae'r pwynt adrodd cyntaf yn nodi mae nod y Gorchymyn yw mewnosod testun yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2019/331 ar ôl ymadrodd penodol. Fodd bynnag, nid yw'r ymadrodd penodol hwn yn ymddangos yn rheoliadau'r UE mewn gwirionedd. Felly, mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro ble y dylai'r testun arfaethedig gael ei fewnosod. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt adrodd hwn, ac mae'n nodi ei bod yn gweithio ochr yn ochr â'r Llywodraethau eraill sy'n ffurfio Awdurdod Cynlluniau Masnachu Allyriadau'r DU i unioni'r gwall cyn gynted â phosibl.
Mae'r ail bwynt adrodd yn amlygu nad yw'r Gorchymyn wedi'i wneud na'i osod yn ddwyieithog. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi y bydd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn destun craffu seneddol y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac felly nid yw'n cael ei ystyried yn rhesymol ymarferol i wneud hynny.
A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i ymateb.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am ddod â hyn at ein sylw o dan bwynt craffu 1, ac fe wnaethon ni dderbyn y pwynt a gafodd ei godi. Fel y nododd y Cadeirydd, rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â'r Llywodraethau eraill sy'n ffurfio Awdurdod Cynlluniau Masnachu Allyriadau'r DU i benderfynu ar y dewis gorau ar gyfer ymdrin â'r mater hwn, ac yn wir, y nod yw, unioni'r camgymeriad cyn gynted â phosibl. Felly, diolchaf i'r Cadeirydd am ei gyfraniad i'r ddadl hon ac, dim ond i nodi, bydd y cynllun masnachu allyriadau yn y DU hwn yn parhau i fod yn bolisi pwysig iawn i Gymru. Mae'n rhoi'r arwydd buddsoddi hanfodol hwnnw sy'n cymell y sectorau hynny o'r economi i drawsnewid ac i ffynnu mewn byd sero net. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 9 wedi'i gohirio tan 3 Mawrth.
Eitem 10 yw cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2), a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9125 Mark Drakeford
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Cyllid (Rhif 2) i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y cynnig.
Ar 26 Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys newidiadau i'r cyfraddau treth incwm sy'n cael eu defnyddio ar gyfer incwm sy'n deillio o eiddo, mae'r newidiadau hynny i'w cyflwyno o fis Ebrill 2027 ymlaen. Mae set newydd o gyfraddau treth incwm yn mynd i gael eu sefydlu i adlewyrchu'r newid polisi hwnnw. Bydd y newid yn cael ei gyflawni drwy'r Bil Cyllid (Rhif 2), a gafodd ei gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin ar ôl i'r ddadl ar benderfyniad y gyllideb, a gafodd ei chynnal ar 2 Rhagfyr orffen. Wedi'u cynnwys yn y Bil mae gwelliannau i weithrediad cyfredol cyfraddau treth incwm Cymru, sy'n gwahanu incwm o eiddo oddi wrth incwm nad yw'n gynilion, ac nad yw o ddifidendau, a thrwy hynny ddarparu ar gyfer sefydlu cyfradd eiddo benodol yng Nghymru.
Mae'r Bil Cyllid (Rhif 2) hefyd yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a fydd yn dod i rym ar ddyddiad y gwnaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno arno. Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi'r Senedd i osod cyfraddau penodol ar gyfer cyfraddau eiddo Cymru yn ychwanegol at ardrethi presennol Cymru. O ganlyniad, bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn dod yn ddwy gyfradd ar wahân—un ar gyfer incwm nad yw'n eiddo, cynilion neu ddifidendau, a'r llall ar gyfer cyfraddau eiddo Cymru.
Dirprwy Lywydd, ar 16 Rhagfyr, gosodais i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol y Bil. Roedd yn nodi barn Llywodraeth Cymru mai pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r unig ffordd y mae'n bosibl datganoli'r pŵer ychwanegol hwn i'r Senedd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli'r pŵer ychwanegol hwn i'r Senedd i amrywio cyfraddau incwm eiddo Cymru. Bydd yn gam tuag at y Senedd yn cael pwerau treth incwm y mae modd eu defnyddio'n fwy effeithiol i gefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac uchelgeisiau pobl Cymru. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynigion ac i roi eu cydsyniad y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Buaswn i'n licio gwneud ambell i sylw ar ran y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r memorandwm yma. Roedd y pwyllgor yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddarparu tystiolaeth am y memorandwm wrth i ni graffu ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2026-27 ar 21 Ionawr. Roedd y sesiwn honno yn gyfle inni edrych yn fanylach ar oblygiadau'r Bil i Gymru ac ar gyfrifoldeb cyllidol presennol y Senedd a'i chyfrifoldebau cyllidol ar gyfer y dyfodol.
Ar y dechrau, hoffem ni gofnodi ein cefnogaeth i egwyddor datganoli pwerau i osod cyfraddau treth incwm eiddo Cymru ar wahân. Rydym ni hefyd yn cydnabod y gall y symiau dan sylw fod yn gymedrol yng nghyd-destun cyllideb gyffredinol Cymru. Fodd bynnag, nid dim ond arwyddocâd ariannol sydd gan y ddarpariaeth hon; mae'n cynrychioli estyniad bach ond pwysig a chymesur i ddatganoli, a chydnabyddiaeth y dylai penderfyniadau am drethiant yng Nghymru gael eu gwneud yn gynyddol yng Nghymru.
Rydym ni'n nodi bod gweithredu'r pŵer hwn yn ymarferol yn codi nifer o gwestiynau gweithdrefnol a pholisi pwysig. O dan gymal 8(2) o'r Bil, byddai pŵer y Senedd i osod cyfraddau treth incwm eiddo Cymru yn dod i rym ar ddiwrnod wedi'i bennu gan Drysorlys EF, gyda'r gweithredu cynharaf posibl ar gyfer blwyddyn dreth 2027-28.
Yn ystod ein trafodaethau, gwnaethon ni ystyried sut y byddai angen i weithdrefnau presennol y Senedd ddatblygu i gynnwys pleidlais flynyddol ychwanegol ar gyfraddau treth incwm eiddo ochr yn ochr â'r penderfyniad presennol ar gyfraddau treth incwm Cymru. Fel y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei gydnabod yn ystod ein sesiwn graffu, mae gan hyn oblygiadau i Reolau Sefydlog, i drefnu busnes y gyllideb, ac i eglurder a thryloywder rôl gosod trethi'r Senedd. Rydym ni'n credu y bydd angen i'r Pwyllgor Busnes ystyried y cwestiynau gweithdrefnol hyn yn ofalus maes o law.
Fe wnaethon ni hefyd archwilio'r rhyngweithio rhwng datganoli arfaethedig pwerau treth incwm eiddo a phenderfyniadau polisi diweddar Llywodraeth y DU. Yn benodol, fe wnaethon ni drafod newidiadau i'r ffordd y mae incwm eiddo yn cael ei drin wrth gyfrifo rhwymedigaethau treth incwm, a chyflwyno cyfraddau treth uwch ar incwm eiddo o ganlyniad i gyllideb hydref y DU. Mae gan y newidiadau hyn y potensial i effeithio ar faint a dosbarthiad y sylfaen dreth. O ganlyniad, gwnaethon ni ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am eglurhad pellach ar sut y byddai'r rhagolygon refeniw yn cael eu rhannu rhwng cyfraddau treth incwm Cymru ac unrhyw dreth incwm eiddo sydd newydd ei datganoli yn 2027-28, ac ar ba raddau y mae newidiadau polisi'r DU wedi dylanwadu ar y rhagolygon hynny.
Rydym ni hefyd yn awyddus i ddeall effeithiau ymddygiadol posibl y polisïau cyfunol hyn, er enghraifft, a allan nhw ysgogi mwy o ymgorffori gan gwmnïau cyfyngedig ymhlith landlordiaid, ac o ran y goblygiadau ar gyfer unigolion â chodau treth Cymru sy'n cael incwm eiddo yn Lloegr ac i'r gwrthwyneb. Mae'r ymatebion ymddygiadol hyn yn bwysig nid yn unig ar gyfer rhagolygon refeniw, ond hefyd ar gyfer tegwch ac effeithiolrwydd y system dreth yn ei chyfanrwydd.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe wnaethon ni edrych ar ddatblygiad pellach ym maes polisi trethiant eiddo. Fe wnaethon ni nodi bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno mansion tax yn Lloegr o 2028 ymlaen ar y rhan fwyaf o eiddo preswyl sydd yn werth dros £2 filiwn. Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu rhagor o wybodaeth am fecanwaith gweithredu'r polisi hwn, ac, yn bwysig, gwybodaeth ynghylch a oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i gyflwyno treth, ardoll neu surcharge tebyg yng Nghymru, pe byddai'n dymuno gwneud hynny yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth i'r materion hyn ddatblygu rhwng rŵan a diddymiad y Senedd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Mae'n ddrwg gennyf i, doedd dim golau. Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y pwyllgor y memorandwm yn ein cyfarfod ar 19 Ionawr a chytunodd ein hadroddiad yn ein cyfarfod ar 26 Ionawr. Roedd y memorandwm yn ceisio cydsyniad o ran un elfen o'r Bil, sef creu math newydd o dreth incwm, treth incwm eiddo, ac i gyfraddau treth incwm eiddo Cymru gael eu pennu gan y Senedd. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u nodi yng nghymal 8 a pharagraffau 2 i 4 o Atodlen 2 i'r Bil. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno ag asesiad Llywodraeth y DU o'r darpariaethau sy'n gofyn am gydsyniad. Cytunodd y pwyllgor ag asesiad Llywodraeth Cymru y byddai angen cydsyniad y Senedd ar y darpariaethau. Gwnaethon ni nodi nad yw'r Bil yn dirprwyo unrhyw bwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru.
Mae cymal 8(2) o'r Bil yn nodi y bydd y darpariaethau ar gyfer cyfraddau treth eiddo Cymru ar wahân sydd i'w pennu gan y Senedd yn dod i rym ar ddiwrnod wedi'i bennu gan Drysorlys EF drwy reoliadau. Y cynharaf y mae modd dod â'r darpariaethau hyn i rym yw blwyddyn dreth 2027-28. Nid yw'r memorandwm yn rhoi gwybodaeth am yr ymgysylltu rhwng Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru ar y Bil. Yn benodol, nid oes unrhyw wybodaeth ynglŷn ag a gafodd trafodaeth ei chynnal ynghylch a allai Gweinidogion Cymru fod wedi cael y pŵer i ddod â'r rheoliadau hyn i rym ar gyfer Cymru, yn hytrach na Thrysorlys EF.
Felly, rydym ni'n gofyn yn ein hadroddiad am esboniad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar sut mae cymal 8(2) o'r Bil yn ystyried egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig, sy'n darparu y dylai pwerau dirprwyedig mewn Biliau'r DU mewn meysydd datganoledig gael eu rhoi i Weinidogion Cymru yn unig. Rydym ni hefyd yn gofyn am gadarnhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r sicrwydd sydd wedi'i gael gan Lywodraeth y DU y bydd y pŵer sy'n cael ei gynnig ar gyfer y Senedd yn y Bil yn cychwyn ac, yn unol â hynny, y dyddiad y mae'n disgwyl i Drysorlys EM gychwyn y pwerau hynny.
Yn olaf, rydym ni'n cydnabod bod y Bil yn cyflwyno ysgogiad ariannol newydd i Gymru drwy gyflwyno'r pŵer i osod cyfraddau Cymreig ar wahân ar gyfer treth incwm eiddo. Felly, mae'r pwyllgor wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU, fel rhan o'r trafodaethau sy'n ymwneud â'r Bil hwn, ar y pwnc o ddatganoli elfennau eraill a gedwir yn ôl o'r dreth incwm ymhellach. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, incwm difidend.
Cwestiwn personol: a fydd y swm sy'n cael ei godi yng Nghymru o'r dreth hon yn cael ei dynnu o'r grant bloc?
Fel yr ydyn ni wedi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw, maen nhw'n gofyn i ni gefnogi pwerau codi trethi pellach i Gymru drwy'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma heddiw.
Yn ei hanfod, mae'r cynnig hwn yn gam arall tuag at gyflwyno mwy o dreth, creu system dreth ar wahân i weddill y DU ymhellach, ac yn ehangu gallu Llywodraeth Cymru i osod taliadau eraill drwy'r dreth incwm eiddo. Rydym ni'n parhau i fod yn glir ar y meinciau hyn nad trethi ychwanegol yw'r ysgogiad cywir bob tro i geisio gwella'r gwasanaethau neu'r canlyniadau sydd eu hangen ar bobl ac y maent eisiau eu gweld. Gall y trethi hynny ohirio buddsoddiad, gallan nhw danseilio busnesau lleol, a gallan nhw drosglwyddo'r baich ar deuluoedd cyffredin sydd eisoes yn teimlo'r wasgfa o gostau byw cynyddol. Rydym ni'n credu y dylai'r pwerau yn y lle hwn gael eu defnyddio'n gyfrifol, a dylai pob ymdrech sydd gan y lle hwn fynd at ystyried y pwerau presennol hynny i sicrhau eu bod yn gweithio orau i bobl Cymru, nid ceisio cyflwyno pwerau codi trethi newydd bob tro. Mae rhoi mwy o bwerau trethi heb fesurau diogelu cadarn, heb atebolrwydd clir, a heb dystiolaeth gref y byddai'n darparu canlyniadau gwell i Gymru yn rhywbeth na allwn ni ei gefnogi. Am y rhesymau hyn, byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma heddiw.
Mi hoffwn i gadarnhau y bydd Plaid Cymru yn cefnogi hyn heddiw, er, os ydyn ni'n edrych ar y Bil yn ei gyfanrwydd, rydym ni'n gresynu ar rai o'r elfennau, ond yn sicr, os ydyn ni'n edrych ar effaith benodol y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, mae o'n rhywbeth inni ei groesawu, ac rydym ni'n hapus i'w gefnogi. Mae nifer o'r cwestiynau roeddwn i'n mynd i'w codi wedi eu holi, felly wnaf fi ddim ailadrodd.
Un o'r pethau roeddwn i eisiau ei ofyn ydy: ydych chi'n gweld unrhyw rwystrau rhag ein bod ni'n gallu eu cyflwyno nhw yn 2027-28? Oes yna unrhyw asesiad cychwynnol wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Cabinet o'r goblygiadau posib o ddefnyddio y grym yma? Er enghraifft, pa lefel o refeniw allai hyn ei godi, a beth ydy'r newidiadau ymddygiad posib dan ystyriaeth? Yn sicr, mae hwn yn gam tuag at sicrhau bod y Senedd hon yn gallu codi trethiant incwm eiddo. Mae’n gadarnhaol, mae o'n gam tuag at greu system drethiannol gryfach, decach, sy'n ehangu hyblygrwydd fframwaith cyllidol Cymru. Mae mwy i'w wneud, ond mae i'w groesawu, a dyna pam y byddwn ni'n ei gefnogi.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth. Cafodd nifer o gwestiynau eu codi ynglŷn â phryd y bydd y pŵer ar gael i'r Senedd. Nid wyf i'n credu ei bod yn bosibl rhagweld hynny oherwydd gallai'r Senedd y prynhawn yma wrthod tynnu'r pŵer hwn i lawr. Mae'n rhaid i'r trafodaethau yr ydw i wedi'u cynnal ddwywaith gyda'r Gweinidog perthnasol yn y Trysorlys aros nes bod y Senedd wedi penderfynu a yw'n dymuno manteisio ar y posibilrwydd diweddaraf hwn ar gyfer datganoli ai peidio.
Gofynnodd nifer o Aelodau gwestiwn ynglŷn â'r swm o arian sy'n gysylltiedig â threth incwm eiddo ar wahân i Gymru. Wel, yn 2023-24, roedd incwm eiddo yn cyfrif am 1.6 y cant o incwm nad oedd yn gynilion, nad oedd yn ddifidend yng Nghymru. Mae hynny'n golygu, mewn gwirionedd, ein bod ni'n sôn am godi tua £50 miliwn y flwyddyn, os ydych chi'n gwahanu incwm sy'n deillio o eiddo a'i wneud yn destun penderfyniad ar wahân. Ac, wrth gwrs, y pwynt a gafodd ei wneud yn dda gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sef pe bai'r Senedd yn cytuno i basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, bydd goblygiadau i'r Senedd ei hun o ran ei gweithdrefnau.
Ond unwaith eto, Dirprwy Lywydd, yr hyn a welwch chi mewn gwirionedd yn y ddadl hon ar lawr y Senedd yw'r ffawtlin sydd wedi bod yno erioed: y Blaid Geidwadol Gymreig, adweithiol i'w chraidd, yn benderfynol o wrthwynebu unrhyw gynnydd yn achos datganoli. Ni waeth pa mor fach a pha mor synhwyrol, bydden nhw yn ei erbyn, ac rydym ni wedi clywed hynny eto y prynhawn yma. Ar ochr hon y Siambr, rydym ni wedi cael croeso i'r cynigion hyn.
Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi anghytuno â'r Trysorlys sawl gwaith dros sawl blwyddyn, ond roedd yn galonogol iawn yn yr achos hwn gweld y Trysorlys ei hun yn cydnabod bod mater datganoli yma; bod y Trysorlys ei hun wedi cynnig y dylai'r Senedd dderbyn y darn ychwanegol hwn o ddatganoli, fel y dylai penderfyniadau ynghylch incwm eiddo gael eu gwneud lle y dylen nhw gael eu gwneud, yma yng Nghymru. Llafur yw plaid datganoli ac mae hon yn enghraifft bendant iawn o hynny.
Bydd y pwerau hyn yn gymedrol o ran eu cwmpas, ond er hynny, yn ychwanegu at repertoire datganoli cyllidol, proses y gwnaeth y Llywodraeth Geidwadol gychwyn yn ei Deddf Cymru 2017. Llywodraeth Geidwadol a wnaeth basio pwerau treth incwm i Gymru, a byddai'r Llywodraeth a benderfynodd ar hynny yn ddryslyd iawn o glywed nad yw'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn bwriadu cefnogi tuedd bolisi y gwnaethon nhw eu hunain ei chychwyn. Gobeithio y bydd Aelodau eraill yma yn cefnogi'r cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 11 heddiw yw'r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9131 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 1-8;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 9-11;
d) Atodlen 2;
e) Adrannau 12-30;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 31-45;
h) Atodlen 4;
i) Adrannau 46-47;
j) Teitl hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. A ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth arall?
Ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth arall? Na. Gwych.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Na.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 4, y Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, naw yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 4. Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026: O blaid: 37, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A gaf i atgoffa pob Aelod os ydych chi ar-lein, mae angen i chi fod â'ch camerâu wedi'u troi ymlaen?
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 6, Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Parhau) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Parhau) 2026: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais olaf y prynhawn yma ar eitem 10, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2). Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2): O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull. Byddwn i'n annog Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:27.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:39, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Trown at Gyfnod 3 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).
Y grŵp cyntaf o welliannau yw'r rhai sy'n ymwneud ag atal. Gwelliant 32 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 32 (Rhys ab Owen).
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cydweithredu â mi i ddatblygu'r gwelliannau sy'n cael eu cyflwyno ger eich bron y prynhawn yma. Rhaid diolch yn arbennig i Mostyn yn fy swyddfa, y timau clercio a chyfreithiol, ac yn enwedig Crisis, Shelter Cymru a Cymorth Cymru. Mewn gwirionedd, cefnogir pob un o'r pedwar gwelliant yn fy enw i yn y grŵp hwn gan Crisis, Shelter Cymru, Cymorth Cymru, End Youth Homelessness Cymru, Llamau, Tai Pawb, y Wallich a Sefydliad Cymunedol Bridgeman.
O ran gwelliannau 34 a 35, maent yn mynd i'r afael â'r ffaith bod hepgoriad o hawl i adolygu'r camau rhesymol a gymerwyd yn ystod y ddyletswydd atal. Fy nealltwriaeth i, o dan ddrafft presennol y Bil, dim ond ar ôl i'r ddyletswydd atal ddod i ben y bydd person yn cael yr hawl i ofyn am adolygiad o'r camau rhesymol a gymerwyd o dan y ddyletswydd atal. Yn syml, mae hynny'n golygu y bydd yr hawl i adolygu yn digwydd dim ond ar ôl i'r person golli ei gartref a dod yn ddigartref. Yng ngoleuni'r dystiolaeth a roddwyd ar y pwynt hwn yn ystod craffu Cyfnod 1 ar y Bil hwn, nid wyf yn credu mai dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru.
Felly, byddai fy ngwelliannau yn cywiro hyn drwy alluogi ymgeisydd a oedd yn teimlo nad oedd camau rhesymol wedi'u cymryd i atal ei ddigartrefedd i ofyn am adolygiad yn ystod y ddyletswydd atal chwe mis. Mae gwelliant 32 yn cryfhau gwelliannau 34 a 35, oherwydd mae'n egluro bod yn rhaid i awdurdodau lleol gadw cofnodion o'r camau rhesymol a gymerwyd yn ystod y ddyletswydd atal. Mae hwn yn welliant gweinyddol syml ond pwysig i sicrhau tegwch a thryloywder. Er mwyn i adolygiad gael ei gynnal mewn modd teg, mae'n hanfodol bod cofnod o'r camau a gymerwyd yn cael ei gadw gan yr awdurdod lleol.
Mae gwelliant 33, yr wyf yn falch o weld ei fod yn cael ei gefnogi'n ffurfiol gan Joel James a'r grŵp Ceidwadwyr Cymreig, yn ei gwneud yn ofynnol, wrth benderfynu a yw llety yn addas i berson, i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw asesiad o achos person a gynhelir yn unol ag adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Pam mae angen hynny? Canfu cyfraith achos ddiweddar nad oedd y methiant i gynnal yr asesiad yn annilysu'r penderfyniad addasrwydd, a chafodd hynny ei gadarnhau gan y Llys Apêl. Heb y gwelliannau hyn, byddai'r Bil yn galluogi sefyllfa o'r fath i godi yma yng Nghymru. Mae hyn yn gwbl groes i nod y ddeddfwriaeth hon, sef creu system gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Codais y pwynt hwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol yr wythnos diwethaf. Roedd hi'n anghytuno â'r angen i ddiwygio'r ddeddfwriaeth, gan ddweud bod y gyfraith achos, mewn gwirionedd, ac rwy'n dyfynnu, yn
'cryfhau'r sefyllfa yng Nghymru yn sylweddol iawn.'
Dydw i ddim yn deall y sylw hwnnw. Mae'r gyfraith achos yn amlwg yn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud heb asesiadau. Nid yw hynny'n cryfhau sefydlu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar bobl. Mewn gwirionedd, mae'n gwneud y gwrthwyneb. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pwynt hwn. Credaf y byddai'n cryfhau'r Bil hwn; byddai'n rhoi eglurder ar yr angen am asesiadau i lywio penderfyniadau ac adolygiadau. Byddai hyn yn ymdrin ag unrhyw faterion a achosir gan y gyfraith achos ddiweddar. Diolch.
Bwriad y gwelliant rydw i wedi'i gynnig yw egluro bod yn rhaid ystyried cynnwys yr asesiad o anghenion tai wrth wneud unrhyw benderfyniad ynghylch addasrwydd llety, yn ogystal ag unrhyw gam adolygu dilynol. Ar hyn o bryd, y sefyllfa yw bod y penderfyniadau ynghylch darparu llety i'w gwneud heb hawl i wybod a oes gan yr ymgeisydd unrhyw ofynion tai penodol, neu beth yw'r gofynion hynny. Mae hyn yn creu risg bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth anghyflawn. Byddai ei gwneud yn ofynnol i swyddogion adolygu roi sylw i'r asesiad o anghenion tai yn galluogi gwneud penderfyniadau cadarn ac ar sail gwybodaeth a byddai'n lleihau'r tebygolrwydd y bydd llety anaddas yn cael ei gynnig i ymgeiswyr.
Mae pryderon hefyd wedi'u codi yng ngoleuni cyfraith achos ddiweddar yn Lloegr ynglŷn â phenderfyniadau ar addasrwydd a wnaed yng nghyd-destun asesiadau anghenion tai diffygiol. Yn y cyd-destun hwnnw, ac o gofio bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i symud tuag at ddull sy'n canolbwyntio mwy ar y person o wasanaethau digartrefedd yng Nghymru, ystyrir ei bod yn briodol ac yn ddefnyddiol gwneud yn glir bod yn rhaid ystyried asesiad o anghenion tai wrth benderfynu ar addasrwydd llety. Bwriad hefyd yw egluro bod rhaid i'r un sy'n gwneud y penderfyniad hefyd ystyried unrhyw ddiffygion a nodwyd yn yr asesiad hwnnw. Diolch, Llywydd.
Mae hyn i gyd yn ymwneud ag atal digartrefedd. Rwyf am ganmol rôl Cyngor Caerdydd wrth ddefnyddio tai yn gyntaf fel strategaeth i gyflawni eu rhwymedigaethau lle bo hynny'n bosibl.
Ar hyn o bryd rwy'n ymdrin ag achos plentyn heb warcheidwad cyfreithiol sydd dan fygythiad o gael ei droi allan ddiwedd yr wythnos hon. Mae ei warcheidwad cyfreithiol wedi marw ac nid yw'r llysoedd wedi penderfynu eto a yw'r person sy'n gwneud cais i gymryd ei le yn gymwys yn briodol i ymgymryd â'r cyfrifoldeb sylweddol hwnnw. Mae'r cartref y mae wedi byw ynddo am y rhan fwyaf o'i fywyd yn addas ar gyfer ei anghenion, gan y bydd angen ystafell wely ar wahân i'r plentyn ar bwy bynnag y mae'r llysoedd yn ei benodi. Ond ar hyn o bryd mae'r landlord cymdeithasol o'r farn bod yr hawliau o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i'r plentyn hwn gael ei droi allan ar y sail ei fod yn rhy ifanc i etifeddu'r denantiaeth.
Felly, a yw cymalau atal y Bil digartrefedd yn ddigon cryf i ddiwallu anghenion pennaf y plentyn? Mae adran 4 eisoes yn nodi'r hawl i adolygiad, a fy nheimlad i yw bod addasrwydd y llety rydw i newydd ei osod eisoes yn achos cryf iawn i'r landlord cymdeithasol i, gobeithio, ddod i'r farn y dylai'r plentyn hwn aros yn yr eiddo hwn hyd nes y bydd gwarcheidwad cyfreithiol yn cael ei benodi a fydd wedyn yn gallu cymryd y denantiaeth drosodd.
Yn amlwg, mae'n rhaid i bob landlord amddiffyn hawliau pob dinesydd i gael ei asesu'n deg, ac mae angen atal rhywun sy'n ceisio ecsbloetio'r system rhag gwneud hynny—honni ar gam fod ganddo hawliad i eiddo. Nid wyf yn argyhoeddedig bod angen diwygio pellach ar y Bil yn hyn o beth, ond byddwn yn croesawu barn yr Ysgrifennydd Cabinet, heb, yn amlwg, wybod unrhyw beth am y manylion.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu. Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Cyn i mi siarad am y gwelliannau yn y grŵp hwn, hoffwn gofnodi fy niolch i gyd-Aelodau yma yn y Senedd ac i'n partneriaid am eu hymgysylltiad a'u diddordeb yn y Bil. Croesawaf yn arbennig ymgysylltiad Siân Gwenllian a Joel James, ac am eu rhyngweithio cyson a hir â'r gwaith hwn. Croesawaf welliannau a gyflwynwyd gan Rhys ab Owen yng Nghyfnod 3 a'r cyfle maen nhw'n ei roi ar gyfer trafodaeth bwysig heddiw. Boed hynny drwy rôl ar bwyllgorau, wrth gyflwyno gwelliannau, neu gefnogi ein nodau polisi ehangach, mae llawer o gydweithwyr yma a thu allan i'r Senedd wedi cyfrannu at esblygiad y ddeddfwriaeth hon—deddfwriaeth sy'n sefyll i wneud gwahaniaeth gwirioneddol iawn i bobl Cymru.
Rwy'n gwybod bod cytundeb eang ar gyfer egwyddorion y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu ein bod yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i sicrhau bod y Bil hwn yn croesi cyfnodau olaf craffu yn ddiogel. Ni allwn fforddio cael hyn yn anghywir. Yn greiddiol i'r Bil hwn mae profiad bywyd 350 o bobl sydd wedi goroesi arswyd digartrefedd. Datblygwyd y Bil hwn gyda nhw, ac mae ein gwaith heddiw ar eu cyfer nhw.
Fodd bynnag, rhaid i ni beidio ag anghofio bod yn rhaid i awdurdodau lleol allu gweithredu'n dda er mwyn gwireddu ein nodau. Rydym ond yn cyflawni ein huchelgais polisi trwy sicrhau bod y Bil hwn yn gyflawnadwy. Mae hwn yn gydbwysedd anodd a bregus, ond cydbwysedd rwy'n credu ein bod wedi'i gyflawni. Mae rhai gwelliannau heddiw yn peryglu'r cydbwysedd hwn, ac rwy'n annog pwyll. Rhaid i ni gynnal sefydlogrwydd i sicrhau bod y cyfleoedd a gynigir drwy'r diwygiadau hyn yn cael eu gwireddu, ac rwy'n gofyn i bawb ystyried hyn yn ofalus wrth i ni symud ymlaen â'r ddadl hon.
Felly, gadewch i mi symud yn awr at y gwelliannau yng ngrŵp 1. Mae adran 4 o'r Bil yn mewnosod adrannau 63A a 63B newydd yn Neddf Tai (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan bob ymgeisydd sydd â dyletswydd yn ddyledus iddo ei gynllun atal, llety a chymorth ei hun—PSAP yn fyr—a bod y cynllun yn cael ei gynnal a'i gadw dan adolygiad. Mae cyflwyno PSAPs yn allweddol i'n ffocws ar atal. Fel y mae teitl y cynlluniau yn ei gwneud yn glir, mae angen asesiad cyfannol o anghenion yr ymgeisydd mewn perthynas ag atal neu liniaru digartrefedd a materion ehangach yn eu bywydau, yn ogystal ag ystyried pa lety a allai fod yn angenrheidiol.
Bydd y PSAP yn sicrhau bod pawb sydd â dyletswydd yn ddyledus iddynt yn derbyn cymorth wedi'i deilwra i'w hanghenion. Bydd yn symud ffocws awdurdodau tai lleol o ddarparu proses dechnegol i ddull sy'n canolbwyntio ar y person.
Mae gwelliannau 32 a 34 yn dangos camddealltwriaeth sylfaenol o'r Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn enwedig rôl y PSAP. Mae'r Bil yn nodi'n glir bod y PSAP yn rhan o gofnodion ysgrifenedig ymgeisydd ac yn disgrifio'n fanwl rôl ar y cyd i'r awdurdod tai lleol a'r ymgeisydd wrth lunio eu cynllun. Ar ben hynny, mae'n nodi rhestr helaeth o ofynion ar gyfer y PSAP, gan gynnwys cofnodi'r camau rhesymol i'w cymryd i atal digartrefedd ac i sicrhau bod yr ymgeisydd yn cael copi o'r cynllun.
Rhaid cynnal ac adolygu'r PSAP. Mae adran 63B newydd yn nodi gofyniad trylwyr i adolygu'r PSAP bob wyth wythnos neu pan fydd amgylchiadau'n newid, ac mae adran 5 o'r Bil yn rhoi hawl i'r ymgeisydd ofyn am adolygiad o'i PSAP ar unrhyw adeg pan fo'n ofynnol i'r awdurdod tai lleol gynnal y cynllun, gan wneud diben gwelliant 35 yn gwbl ddiangen. Mae'r mesurau diogelu cryf hyn yn sicrhau bod PSAPs yn cael eu hasesu'n briodol, eu cadw dan adolygiad a'u hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau ar addasrwydd llety.
Yng Nghymru, rhaid i awdurdodau tai lleol eisoes asesu a yw llety yn addas ar gyfer pob aelod o'r aelwyd wrth gyflawni swyddogaethau digartrefedd. Nodaf gyfeiriad Rhys at gyfraith achos ddiweddar. Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau yn y Bil yn sicrhau bod y Bil yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r materion sy'n codi o'r achosion y credaf eu bod y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Felly, nid oes angen gwelliant 33, a gyflwynwyd gan Rhys, na gwelliant 67, a gyflwynwyd gan Joel. Mae'r Bil yn nodi set gynhwysfawr o ofynion i ddarparu fframwaith sy'n ystyriol o drawma, sy'n canolbwyntio ar y person i ymateb i ddigartrefedd. Nid yw'n glir i mi, felly, beth yw pwrpas ychwanegol y gwelliannau hyn. Maen nhw'n ddiangen ac yn dyblygu, ac rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn eu herbyn. [Torri ar draws.] Haws dweud na gwneud yn y fan yna. [Chwerthin.]
Rhys ab Owen nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. 'Diangen', efallai y byddech chi'n dweud, Ysgrifennydd Cabinet, ond does dim rhaid i chi wrando arnaf pan fyddaf yn dweud eu bod yn angenrheidiol. Os oes unrhyw amheuaeth y bydd y gyfraith achos yn effeithio ar yr hawl i adolygu, edrychwch ar bwy sy'n cefnogi'r rhain, fel yr wyf eisoes wedi dweud: Crisis, Shelter Cymru, Cymorth Cymru, End Youth Homelessness Cymru, Llamau, Tai Pawb, y Wallich, Sefydliad Cymunedol Bridgeman—dyma'r sefydliadau sy'n cefnogi unigolion digartref bob dydd. Dylem fod yn gwrando ac yn gweithredu yn unol â'u profiad, eu tystiolaeth a'u pryderon. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, 24 o blaid, 24 yn erbyn, ac felly dwi'n bwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant wedi ei drechu—24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn.
Gwelliant 32: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 33 yw'r gwelliant nesaf. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 33 (Rhys ab Owen).
Ydy, gan Rhys ab Owen. Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'n gyfartal eto. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly canlyniad y bleidlais yw bod 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwelliant 33 wedi ei wrthod.
Gwelliant 33: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 67. Ydy e'n cael ei gynnig, Joel James?
A yw gwelliant 67 yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 67 (Joel James).
Ydy.
Oes gwrthwynebiad i welliant 67? [Gwrthwynebiad.]
Oes.
Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 67. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais unwaith eto yn gyfartal. Rwy'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 67. Canlyniad y bleidlais: 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 67 wedi ei wrthod.
Gwelliant 67: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 34. Ydy e'n cael ei gynnig, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 34 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Joel James).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 34? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae e. Felly, gymerwn ni bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais eto yn gyfartal. Rwy'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 34. Y canlyniad, felly, yw 24 o blaid, 25 yn erbyn, neb yn ymatal. Mae gwelliant 34 wedi ei wrthod.
Gwelliant 34: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 35. Ydy e'n cael ei gynnig, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 35 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Joel James).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gymerwn ni bleidlais ar welliant 35. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Rwy'n defnyddio fy mhleidlais yn erbyn y gwelliant. Felly, 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 35 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 35: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Yr ail grŵp o welliannau nawr, ac mae'r ail grŵp o welliannau yn ymwneud â chysylltiad lleol. Gwelliant 36 yw'r prif welliant. Rhys ab Owen sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 36 (Rhys ab Owen).
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i dîm yr Ysgrifennydd Cabinet am eu hamser ddoe wrth drafod y gwelliannau hyn yn benodol. Yn y pen draw, roedd yn amlwg efallai y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet a'i thîm wedi dymuno i mi dynnu'r set o welliannau yn ôl, ond byddaf yn mynd ymlaen i esbonio pam nad wyf wedi gwneud hynny a pham rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn angenrheidiol.
Mae tystiolaeth sylweddol eisoes bod rhai grwpiau yn fwy agored i niwed o'r prawf cysylltiad lleol. Mae gwelliant 42 yn diogelu nifer fach o bobl nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad lleol o gwbl. O dan y Bil, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, byddai person o fewn y grŵp bach hwn yn gallu gwneud cais i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru a byddai ganddo hawl i lety dros dro am gyfnod cyfyngedig yn unig, ond nid i'r brif ddyletswydd tai. Mae canlyniadau'r diwygiadau hyn yn methu yn sylweddol, gan fod profiad a thystiolaeth yn dangos yn glir pa mor anodd yw hi i roi terfyn ar eu digartrefedd.
Rwy'n ddiolchgar unwaith eto i Joel James a'r Ceidwadwyr Cymreig am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth ffurfiol, ac rwy'n falch bod gennym gefnogaeth eto gan Crisis, Shelter Cymru, Cymorth Cymru, End Youth Homelessness Cymru, Llamau, Tai Pawb, y Wallich a Sefydliad Cymunedol Bridgeman, sy'n cynghori hyn, ac rwy'n dyfynnu: 'Rydym yn dal i gredu, fel y'i drafftiwyd, nad yw'r Bil yn darparu amddiffyniad digon cryf i bobl yn y sefyllfa hon.'
Byddai gwelliant 49 yn golygu, pan fydd ymgeisydd wedi teithio o un gymdeithas dai leol—awdurdod A—i awdurdod tai lleol arall—awdurdod B—y gall yr ymgeisydd adennill unrhyw gostau teithio rhesymol yr aed iddynt oddi wrth awdurdod B, os yw dyletswydd tai yn ddyledus iddo gan yr awdurdod hwnnw. Ac mae hyn yn syml, oherwydd mae digartrefedd a thlodi yn mynd law yn llaw. Er enghraifft, un o'r ddau brif reswm pam y mae pobl yn dod yn ddigartref yw problemau yn y system, sy'n cynnwys costau cynyddol tai, y trap tlodi a thoriadau budd-daliadau lles.
Nod fy ngwelliant yw sicrhau nad yw'r prawf cysylltiad lleol yn ychwanegu at y pwysau tlodi hwnnw. Yn fyr, gallai olygu, pe bai person digartref y mae ei ddyletswydd tai yn gorwedd ar Gyngor Caerdydd yn aros dros dro yn Abertawe, y gall Cyngor Caerdydd ddigolledu'r gost o deithio yn ôl i Gaerdydd ar drafnidiaeth gyhoeddus o'r gronfa gan Gyngor Caerdydd. Yn ddiddorol, pe na bai prawf cysylltiad lleol, ni fyddai angen i'r unigolyn hwnnw deithio o gwbl a gellid ei gartrefu yn Abertawe. Fodd bynnag, o gofio bod y prawf i aros ynddo, ni ddylai costau unigolion digartref sy'n teithio i'r awdurdod perthnasol gael eu talu gan yr unigolyn hwnnw sydd eisoes mewn amgylchiadau mor anodd.
Mae gweddill fy ngwelliannau yn y grŵp yn ymwneud â phwy y mae'n rhaid i'r awdurdod tai lleol sicrhau llety addas ar eu cyfer. Dywedodd sawl tyst, gan gynnwys yr Athro Mackie, yr Athro Fitzpatrick, Shelter Cymru, Cymorth Cymru, y Wallich, Crisis, G4S Community, Clinks a'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol y byddent o blaid rhoi categorïau sydd wedi'u heithrio ar wyneb y Bil, gyda'r bwriad o adfer cysylltiad lleol ar gyfer y categorïau hynny yn y dyfodol os bydd yn digwydd, mewn gwirionedd, arwain at effeithiau na ellir eu rheoli. Ac mae'n bwysig i ni fynd i'r afael â'r pwynt am effaith na ellir ei reoli. Er enghraifft, mae gwelliannau 37 a 44 yn eithrio unigolyn rhag y prawf cysylltiad lleol os yw'r ymgeisydd mewn perygl o gamdriniaeth os yw'r achos yn cael ei gyfeirio at awdurdod tai arall. Bydd angen tystiolaeth o'r risg honno a fydd yn cyfyngu ar gymhwyso'r gofyniad. Hefyd, mae geiriad y gwelliant yn adlewyrchu'r hyn a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei Phapur Gwyn.
Byddai gwelliannau 38 a 45, sy'n cyfeirio at sefyllfaoedd lle mae'r ymgeisydd wedi dioddef camdriniaeth a bydd yn profi trawma o ganlyniad i'r gamdriniaeth honno os yw'r achos yn cael ei gyfeirio at awdurdod lleol arall, hefyd yn gofyn am yr un lefel o dystiolaeth. Yn ogystal, unwaith eto, mae hyn yn adlewyrchu geiriad y cynnig ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth, sydd, wrth gwrs, yn seiliedig ar argymhelliad y panel arbenigol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Crisis, Prifysgol Caerdydd, Shelter Cymru, Cymorth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin, cyngor Conwy, Cyngor Sir Penfro, Cartrefi Cymunedol Cymru a Tai Pawb. Mae hyn hefyd yn wir am welliannau 41 a 48, sy'n ymwneud â phobl sydd â phrofiad o ofal, a 36 a 43, cyn-filwyr a'r rhai a oedd yn byw gyda nhw.
O ran cyn-filwyr, mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru wedi rhannu pryderon nad yw'r Bil yn darparu eithriad rhag y prawf cysylltiad lleol i gyn-filwyr milwrol a'u teuluoedd yng Nghymru. Nododd y comisiynydd, ac rwy'n dyfynnu eto:
'Mae methiant i ddarparu eithriad cysylltiad lleol i gyn-filwyr digartref yng Nghymru yn eu rhoi dan anfantais amlwg o’i gymharu â chyn-filwyr yn Lloegr ac yn mynd yn groes i ysbryd Cyfamod y Lluoedd Arfog.'
Unwaith eto, mae gwelliannau 39 a 46, sy'n cyfeirio at garcharorion y mae'n ofynnol iddynt symud o un awdurdod lleol i'r llall fel rhan o'u hadsefydlu neu i gynorthwyo i fodloni'r cyfyngiad a osodwyd ar ble y gallant fyw, yn adlewyrchu gofyniad y panel arbenigol a'r cynnig yn y Papur Gwyn. Yn ogystal, mae rhanddeiliaid wedi nodi cysylltiad lleol fel rhwystr, rhwystr enfawr, i adsefydlu pobl sy'n gadael y carchar. Clywodd y pwyllgor hyd yn oed gan HMPPS, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Dywedon nhw y byddai'n ddefnyddiol cael hyblygrwydd i eithrio pobl sy'n gadael y carchar rhag brofion cysylltiad lleol presennol, gan fod yna, ac rwy'n dyfynnu eto,
'amgylchiadau penodol lle gall pobl elwa ar ddechrau newydd'.
Ac yn olaf, Llywydd, byddai gwelliannau 40 a 47 yn cynorthwyo'r rhai sy'n ceisio gwella ar ôl camddefnyddio cyffuriau a sylweddau eraill. Ategir hyn gan adroddiad 'Rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru: adolygiad deddfwriaethol' a gyhoeddwyd yn 2023. Canfu hwn, er enghraifft:
'Y gall cael eu gorfodi i aros mewn ardal benodol, yn agos at gysylltiadau sy'n gysylltiedig â'u defnydd o sylweddau a'r risg o ecsbloetio troseddol, gael effaith negyddol ar adferiad unigolyn.'
Fe wnaethon nhw hefyd glywed y canlynol gan arbenigwr ar y mater:
'Mae llawer o bobl eisiau symud allan o'r ardal gan fod ganddyn nhw gysylltiadau â defnyddio cyffuriau neu drais yn eu hardal leol. Nid yw'r gyfraith bresennol yn ystyried hyn ac mae pobl yn cael eu dal mewn cylch o ddigartrefedd oherwydd nad ydynt yn gallu symud i ffwrdd o'u gorffennol os nad oes ganddynt gysylltiad lleol y tu allan i'w hardal.'
Mae'n rheol chwerthinllyd sy'n atal pobl rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r dystiolaeth, Aelodau'r Senedd, yn glir ac mae angen yr eithriadau. Mae angen y cymorth. Edrychaf ymlaen at y bleidlais ar bob un o'r categorïau hynny. Diolch yn fawr.
Mae'r gwelliannau rydw i wedi'u cynnig yn cael eu cyflwyno i gydnabod y dystiolaeth a ddarperir yn gyson gan bobl â phrofiad bywyd, sy'n aml yn dweud wrthym eu bod yn cael trafferth deall a llywio drwy systemau gweinyddol cymhleth. Roedd y pryder hwn hefyd yn thema dro ar ôl tro yn ystod sesiynau tystiolaeth y pwyllgor. Yn erbyn y cefndir hwnnw, ystyrir ei bod yn fuddiol, pan fydd ymgeisydd yn cael ei gyfeirio at awdurdod yn Lloegr ar sail cysylltiad lleol, i'r awdurdod tai lleol sy'n cyfeirio sicrhau bod yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu'n glir am yr atgyfeiriad a'i oblygiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y gall y systemau cymorth a chefnogaeth a ddarperir gan awdurdodau Lloegr fod yn wahanol i'r rhai sydd ar gael yng Nghymru. Ni fyddai'r gwelliant hwn yn gosod baich sylweddol ar awdurdodau lleol. I'r gwrthwyneb, gellid bodloni'r gofyniad yn rhwydd trwy ddarparu canllawiau clir, mewn iaith glir wedi'u drafftio'n ganolog ac ar gael i'w defnyddio gan bob awdurdod lleol. Diolch, Llywydd.
Hoffwn i ddechrau drwy ailddatgan fy nghefnogaeth i i egwyddorion craidd y Bil yma, yn enwedig y bwriad i gryfhau'r system a sicrhau ei bod hi'n gweithredu'n decach ac yn fwy effeithiol i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Dwi yn tynnu eich sylw chi bod Plaid Cymru, yn ystod Cyfnod 2, wedi sicrhau tynnu adran 35 allan o'r Bil. Dwi'n meddwl bod hynny wedi bod yn gam pwysig ymlaen. Mi fyddai cynnwys adran 35 wedi tanseilio'r egwyddor o gyffredinoliaeth—universalism. Mae honno'n egwyddor graidd i ni yn y blaid. Felly, dwi yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei chefnogaeth yn ystod Cyfnod 2 er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny yn y Bil.
Dwi eisiau siarad am y gwelliannau ar gysylltiad lleol, gwelliannau yr ydym ni, i raddau helaeth, yn eu gwrthwynebu, ond dwi eisiau egluro pam, a bod yn gwbl glir ein bod ni, wrth gwrs, yn cydymdeimlo efo'r pryderon sydd yn sail iddyn nhw. Yn ei hanfod, mae'r ddadl yma'n mynd at galon egwyddor yr 'amgylchiadau arbennig', mewn dyfynodau—'special circumstances'. Yn ymarferol, dyma'r mecanwaith sydd yn medru sicrhau bod unigolion neu grwpiau penodol nad ydyn nhw'n ffitio'n daclus i mewn i reolau cyffredinol yn dal i gael eu diogelu. Ein safbwynt ni ydy y dylid cynnwys a thrin yr amgylchiadau arbennig yma mewn ffordd briodol drwy reoliadau cadarn a hyblyg, yn hytrach na rhestru grwpiau penodol ar wyneb y Bil ei hun.
Rŵan, dwi'n llwyr gydnabod bod rhai o'r grwpiau sy'n cael eu crybwyll yn y gwelliannau, gan gynnwys cyn-filwyr a phobl sydd yn gadael gofal ac yn y blaen, wrth gwrs yn wynebu anfanteision gwirioneddol. Mae'r gwaith mae Plaid Cymru wedi bod yn ei wneud efo cyn-filwyr a grwpiau bregus eraill yn dangos ein hymrwymiad iddyn nhw yn ddiamwys. Felly, dydy'r ddadl yn erbyn ddim oherwydd diffyg ewyllys, wrth gwrs, na diffyg dealltwriaeth o'r heriau sy'n bodoli. Ond mae yna gwestiwn egwyddorol yma, a dydy hi ddim yn rhesymol, yn ein barn ni, i gynnwys rhai grwpiau ar wyneb y Bil, ac yna, os bydd angen cydnabod grwpiau eraill yn y dyfodol, gorfod gwneud hynny drwy ganllawiau neu is-ddeddfwriaeth lai cadarn. Mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y gwelliannau yn debygol o greu hierarchaeth gymhleth, ac, o bosib, anghyfiawn, rhwng gwahanol grwpiau o bobl, gan godi rhai i statws deddfwriaeth sylfaenol. Nid dyna ydy'r ffordd fwyaf synhwyrol na theg o ddylunio system sy'n honni bod yn seiliedig ar angen. Yn hytrach, mae hyn yn tanlinellu unwaith eto bwysigrwydd defnyddio'r pwerau rheoleiddio sydd yn y Bil. Trwy reoliadau, fe ellir ystyried pob grŵp a allai fod dan anfantais yn eu cyfanrwydd a sicrhau bod unrhyw driniaeth wahaniaethol yn gwbl gyfiawnadwy ac yn gymesur, a gellir cael ymgynghori pwrpasol er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol.
Ac yn olaf, Llywydd, gan droi at welliannau Joel James, 68 a 69, ein dealltwriaeth ni ydy y byddai'r rhain yn gofyn am gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau peryglu cymhwysedd deddfwriaethol y Bil yma, o ystyried yr amserlen dynn sydd iddi hi a'r cynnwys pwysig, felly fedrwn ni ddim cefnogi'r rheini ar hyn o bryd.
Felly, i gloi, er ein bod ni yn cydymdeimlo'n llwyr efo'r bwriadau y tu ôl i’r gwelliannau yma, rydym ni'n credu'n gryf mai’r llwybr mwyaf cadarn, teg, synhwyrol ydy defnyddio y fframwaith o reoliadau i ddelio ag amgylchiadau arbennig, yn hytrach na chreu system gymhleth a darniog ar wyneb y Bil ei hun.
Hoffwn ddweud bod rhaid cymryd gofal gydag unrhyw ymgais i wanhau'r ddyletswydd cysylltiad lleol, oherwydd yr argyfwng tai sydd hyd yn oed yn fwy acíwt mewn rhai rhannau o Loegr, sy'n sicr o annog pobl i symud i Gymru os ydynt yn meddwl y gallant lwyddo i wneud hynny.
Mae methiant Llywodraeth y DU i weithredu ar atal yr hawl i brynu, er gwaethaf y ffaith iddi gyhoeddi ei bwriad i wneud hynny, yn cael effaith wirioneddol ddinistriol ar y sefyllfa lle gwelir lleihad nifer y cartrefi cymdeithasol mewn ardaloedd o angen tai enfawr a llety rhent preifat drud iawn, er enghraifft Llundain. Felly, byddai gen i bryderon sylweddol ynghylch agor y drws mor llydan fel y byddai pawb yn teimlo y gallent lifo i mewn.
Ond onid ydym yn genedl noddfa?
Mi ydym ni'n genedl noddfa, ond mae'r niferoedd dan sylw yn fach, ac mae'r rheini yn bobl sydd eisoes wedi cael eu hanfon atom gan Lywodraeth y DU, ac mae angen i ni sicrhau nad ydyn nhw'n camddefnyddio'r genedl noddfa honno.
Yn yr un modd, o ran dadlau pwy ddylai fod â chysylltiad lleol, rydym eisoes wedi clywed am gyn-filwyr, goroeswyr camdriniaeth, cyn-garcharorion. Gallai Llywodraeth bengaled yn Llundain yn y dyfodol drosglwyddo carcharor yn fwriadol i garchar yng Nghymru ar ddiwedd ei ddedfryd fel gweithred fwriadol i ddweud, 'Wel, mae gennych chi'r ymrwymiad penagored; fe gewch chi setlo hyn.' Mae'n rhaid i ni fod â'r pwerau i'w gyfyngu i'r rhai sy'n amlwg y bobl rydw i wedi sôn amdanynt, yn ogystal â grŵp bach iawn o bobl deithiol y byddai'n bosibl rhoi cymal eithriad iddynt os na allent honni bod ganddynt gysylltiad lleol unrhyw le ym Mhrydain.
Felly, rwy'n credu y dylem droedio'n ofalus gyda hyn yng nghyd-destun y ffiniau di-dor yr ydym yn gweithredu ynddynt a'r angen i sicrhau ein bod yn gallu ymdrin â'r niferoedd sydd eisoes angen llety cymdeithasol, a pheidio â'i gwneud hi'n amhosibl i ni sicrhau bod pawb yn cael eu lletya yn briodol.
Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â gwelliant 43, i roi hawl ddigonol i'n haelodau gweithredol yn y lluoedd arfog a'n cymuned lluoedd arfog i dai gydag eithriad rhag meini prawf lleol. Mae ein Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru wedi bod yn glir iawn, ac mae'n gwneud gwaith eithriadol wrth gynrychioli ein cymuned cyn-filwyr ledled Cymru, a'u teuluoedd, ac os yw'r comisiynydd cyn-filwyr yn dweud bod hyn yn mynd i greu problem iddyn nhw, yna rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i'r Senedd ei gymryd o ddifrif. Felly, hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r gwelliant hwnnw. Hoffwn glywed gan y Gweinidog, mae'n debyg, pan fydd hi'n ymateb i'r rhan hon o'r ddadl, pam y mae Llywodraeth Cymru o bosib yn teimlo na allant gefnogi'r gwelliant hwn. Oherwydd roeddwn bob amser dan yr argraff bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cymuned gyn-filwyr ledled Cymru, a'r bobl hynny sydd wedi gwasanaethu ein cenedl ac a oedd yn mynd i wneud yr aberth eithaf fel y gallwn ni i gyd fyw ein bywydau. Felly, hoffwn gael esboniad gan y Llywodraeth pam nad ydyn nhw'n mynd i gefnogi gwelliant 43. Diolch, Llywydd.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu—Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn yn ymwneud â rôl cysylltiad lleol mewn perthynas â dyletswyddau digartrefedd ac mewn perthynas ag atgyfeiriadau rhwng awdurdodau. Felly, nid yw'r Bil yn newid yr amgylchiadau lle gall person fod â chysylltiad lleol ag ardal. Maen nhw'n cwmpasu ystod eang o amgylchiadau sy'n gysylltiedig â phreswyliad, cyflogaeth, cysylltiadau teuluol ac amgylchiadau arbennig sy'n cysylltu person ag ardal. Mae hyn yn sicrhau bod gan awdurdodau tai lleol hyblygrwydd i ystyried amgylchiadau penodol a allai fod yn benodol i unigolion neu eu hardal eu hunain, yn ôl yr angen.
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys ystod o bwerau gwneud rheoliadau mewn perthynas â chysylltiad lleol. Mae'r pwerau hyn yn ein galluogi i fireinio cwmpas cysylltiad lleol ymhellach drwy nodi amgylchiadau lle mae gan berson gysylltiad lleol ag ardal, gan ddarparu ar gyfer eithriadau ychwanegol rhag atgyfeiriad cysylltiad lleol, ac eithriadau ychwanegol rhag y gofyniad i gael cysylltiad lleol â Chymru.
Mae gwelliannau 36 i 48 yn cynnig cyfres o amgylchiadau lle byddai person yn cael ei eithrio rhag y prawf cysylltiad lleol â Chymru newydd, a nodir yn adran 6 o'r Bil. Llywydd, ni allaf ddatgan yn ddigon cryf y perygl y mae'r gwelliannau hyn yn ei achosi i uniondeb y Bil. Mae'r gwelliannau mewn perygl o orlwytho awdurdodau lleol yng Nghymru, gan greu cost sylweddol na ellir ei fesuroli ac yn tanseilio'n ddifrifol nodau'r Bil cyfan. Maen nhw'n angyflawnadwy ac yn peryglu effeithiolrwydd y pecyn o fesurau wedi'i guradu'n ofalus sydd yn y Bil.
Mae'r system ddigartrefedd ddiwygiedig i Gymru, a sefydlwyd gan y Bil hwn, yn arwain y byd ac yn sicr y system fwyaf cynhwysol yn y DU. Fel yr wyf wedi dweud nifer o weithiau ar draws pob cyfnod o'r Bil, mae'n rhaid i ni sicrhau bod adnoddau i weithredu'r Bil hwn wedi'u targedu at gymunedau yng Nghymru. Mae cysylltiad lleol yn offeryn allweddol i sicrhau bod adnoddau awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar bobl yn eu cymunedau. Mae'r gwelliannau hyn yn tanseilio hyn. Maent yn methu ag ystyried goblygiadau trawsffiniol, ac yn gwneud awdurdodau lleol Cymru yn gyfrifol am nifer enfawr o bobl heb unrhyw gysylltiad â Chymru.
Fel y gwnaeth ein Papur Gwyn yn glir, rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau a allai fod dan anfantais oherwydd cysylltiad lleol, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i archwilio ymhellach sut y gallwn liniaru'r effaith hon. Fodd bynnag, rhaid gwneud hyn yn ofalus iawn, gan weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod dull priodol yn cael ei gymhwyso ledled Cymru. Dyma'r rheswm pam mae'r Bil yn cynnwys ystod o bwerau gwneud rheoliadau mewn perthynas â chysylltiad lleol, sy'n caniatáu i ni fireinio cwmpas y Bil dros amser, gan reoli'r risgiau sylweddol hyn. Felly, rwy'n annog Aelodau yn gryf i bleidleisio yn erbyn y gwelliannau niweidiol hyn, sy'n peryglu cyfanrwydd y Bil hwn.
Gan symud nawr at y gwelliannau sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau cysylltiadau lleol neu symud rhwng awdurdodau lleol, byddai gwelliant 49 yn caniatáu i ymgeiswyr digartrefedd hawlio eu costau teithio yn ôl gan awdurdod y mae arno ddyletswydd tuag atynt o dan adran newydd 75, os ydynt wedi teithio i'r awdurdod hwnnw gan awdurdod arall nad oedd arno ddyletswydd adran 75. Mae'r gwelliant yn aneglur, yn enwedig mewn perthynas â pham mae ymgeisydd yn teithio rhwng awdurdodau. Mae'n fras iawn, gan fynd y tu hwnt i'r achosion hynny lle mae person yn cael ei gyfeirio o un awdurdod i'r llall, heb ystyried effeithiau trawsffiniol. Nid oes unrhyw fesurau diogelu i reoli'r gost i awdurdodau lleol neu i fynd i'r afael â chanlyniadau anfwriadol sy'n gysylltiedig â theithio diangen, neu ddefnyddio'r dull trafnidiaeth mwyaf cost-effeithiol.
Nid wyf yn gallu cefnogi'r gwelliant hwn, nad yw wedi'i godi mewn unrhyw gyfnod cynharach yn natblygiad deddfwriaethol, gan gynnwys yn ystod gwaith y panel adolygu arbenigol neu'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn. Ni fu unrhyw ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, partneriaid sector, pobl â phrofiad bywyd na'r sector digartrefedd a chyngor ehangach ar fesur fel hwn, ac, yn sicr, nid oes unrhyw bryderon wedi'u codi gyda mi ar y mater hwn. Heb yr ymgysylltiad hwn, nid oes unrhyw dystiolaeth i ddeall effaith y gwelliant a'i oblygiadau ariannol.
Mae gwelliannau 68 a 69 wedi'u cysylltu, ac maent yn gwneud darpariaeth i ymgeiswyr a drosglwyddir i awdurdod tai lleol yn Lloegr gael gwybodaeth benodol. Mae adran 14(7) o'r Bil yn gwneud newidiadau i'r gyfraith sy'n gymwys i awdurdodau tai lleol yn Lloegr pan fydd person yn cael ei gyfeirio atynt o Gymru. Mae'r newidiadau yn adlewyrchu'r ffaith y bydd angen i flaenoriaeth a bwriad gael eu diddymu yng Nghymru, ond y byddant yn aros yn Lloegr, ac mai awdurdodau lleol yn Lloegr sydd i asesu a oes arnynt ddyletswyddau tuag at bobl sy'n ceisio eu cymorth o dan y gyfraith sy'n berthnasol yno.
Mae'n gosod gofyniad ar awdurdodau tai yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth benodol i ymgeisydd pan fyddant yn eu cyfeirio at awdurdod yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau pa ddyletswydd fydd yn ddyledus gan yr awdurdod yn Lloegr, esboniad o'r ddyletswydd honno a chadarnhad o hawliau adolygu a fydd yn berthnasol o dan y gyfraith sy'n berthnasol yn Lloegr. Mae adran 16 o'r Bil eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai yng Nghymru hysbysu ymgeisydd am benderfyniad i'w gyfeirio at awdurdod mewn ardal arall, y rhesymau pam y maent wedi gwneud y penderfyniad hwn, yr effaith ar eu hawliau, a'u hawliau i adolygiad o dan y gyfraith yng Nghymru. Mae'n rhaid i awdurdodau tai lleol yn Lloegr benderfynu pa ddyletswyddau sy'n berthnasol i berson sy'n cael ei gyfeirio atynt, yn unol â'r gyfraith sy'n berthnasol yno.
Mae'r Bil eisoes yn taro'r cydbwysedd cywir trwy sicrhau bod pobl sy'n cael eu cyfeirio at awdurdodau tai yn Lloegr yn cael eu trin gan yr awdurdodau hynny fel rhai sydd wedi gwneud cais am gymorth digartrefedd. Mae'n rhaid i'r awdurdodau derbyn benderfynu pa ddyletswyddau sy'n berthnasol o dan y gyfraith sy'n berthnasol yn Lloegr. Mae mynd ymhellach a chael awdurdodau tai lleol Cymru yn nodi pa ddyletswyddau fydd yn ddyledus gan yr awdurdod yn Lloegr mewn perygl o fynd yn rhy bell, ac mae'n bosibl y byddai'n achosi dryswch. Anogaf yr Aelodau yn gryf i wrthod gwelliannau 36 i 49, 68 a 69.
Rhys ab Owen sy'n ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi’n gwerthfawrogi dadleuon Siân Gwenllian, ond dwi ddim yn cytuno. Dyw cael y rhain ar wyneb y Bil ddim yn mynd i gymhlethu pethau. Beth fydd yn gallu cymhlethu pethau, ac a fydd yn cymryd mwy o amser, llawer mwy o amser, fydd ei wneud e trwy reoliadau—rheoliadau sydd yn aml ddim yn cael eu sgrwtineiddio cystal â Biliau pan fônt yn cael eu craffu.
Mae angen y grwpiau sydd wedi cael eu rhoi yn fy ngwelliannau yn hollol glir. Mae dim ond angen i chi fynd i siarad â’r digartref ar ein strydoedd ni i weld bod y grwpiau yma yn cael eu cynrychioli yn glir iawn. Yn ddiddorol, dwi heb glywed trwy’r ddadl i gyd unrhyw enghraifft o grŵp a ddylai gael ei gynnwys sydd wedi cael ei adael mas yn fy ngwelliannau i.
Jenny Rathbone, nid mater o bawb yn llifo i mewn yw hwn, a dydw i ddim yn siŵr a ddylem fod yn defnyddio iaith fel yna, Jenny. Mae'n siŵr nad dyna'n union yr oeddech yn ei olygu. Yn amlwg, byddai'n gyfyngol, ac mae fy ngwelliannau yn creu cyfyngiad. A chyda'r parch mwyaf, nid wyf yn credu y dylem fod yn deddfu yn y lle hwn ar sail yr hyn y gallai Llywodraeth San Steffan, o bosib yn sinistr, ei wneud neu beidio. Mae'r tebygolrwydd y bydd Llywodraeth San Steffan yn penderfynu anfon yr holl garcharorion o garchardai Lloegr i garchardai Cymru mor annhebygol, ac yna iddyn nhw benderfynu eu bod eisiau aros yng Nghymru.
Nid wyf yn cytuno bod y gwelliannau hyn yn anghyflawnadwy. Yn sicr, os, ar y naill law, rydych chi'n meddwl y byddant yn cael eu cynnwys mewn rheoliadau yn y dyfodol, yn amlwg gallant fod yn gyflawnadwy. Ac nid wyf yn cytuno y gellir gweld y gwelliannau hyn yn rhai niweidiol. Diolch.
Gallwch weld, rwy'n gobeithio, fodd bynnag, bod risgiau yn gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth hon, er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl ddigartref yng Nghymru.
Wrth gwrs, ac mae cyfyngiadau clir ar bwy all fod yn gymwys, pwy y gellir ei ystyried yn addas i'r categorïau cyfyngedig yn y gwelliant. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymdrin â'ch pryder ac, wrth gwrs, os oes problemau yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni gofio bod y fath beth â chraffu ôl-ddeddfwriaeth, diwygio ôl-ddeddfwriaeth.
Nid wyf yn cytuno bod fy ngwelliannau yn niweidiol. Unwaith eto, mae'r rhain yn bryderon sydd wedi'u codi gan elusennau digartrefedd. Unwaith eto, a gaf i atgoffa pawb bod y gwelliannau hyn, y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u disgrifio fel niweidiol, wedi cael eu cefnogi gan Crisis, Prifysgol Caerdydd, Shelter Cymru, Cymorth Cymru, CLlLC, Cyngor Sir Gaerfyrddin, cyngor Conwy a Chyngor Sir Penfro? Mae'r cynghorau hyn—ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud na fyddent yn gallu eu cyflawni, y gwelliannau—yn eu cefnogi, fel y mae Cartrefi Cymunedol Cymru a Tai Pawb. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam y dylid anwybyddu'r mater clir hwn heddiw, ac rwy'n annog pawb i bleidleisio o blaid. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly pleidlais ar welliant 36. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Gwelliant 36: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 37. Ydy e'n cael ei gynnig, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 37 (Rhys ab Owen).
Ydy. Oes yna wrthwynebiad i 37? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 37. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 37 wedi'i wrthod.
Gwelliant 37: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 38. Ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 38 (Rhys ab Owen).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 38? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae e, felly pleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 38 wedi'i wrthod.
Gwelliant 38: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rhys ab Owen, gwelliant 39.
Cynigiwyd gwelliant 39 (Rhys ab Owen).
Mae'n cael ei gynnig, ydy. Ydy e'n cael ei gymeradwyo? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 39. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 39 wedi'i wrthod.
Gwelliant 39: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 40. Ydy e'n cael ei gynnig, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 40 (Rhys ab Owen).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 40? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 40. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 40 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 40: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 41, Rhys ab Owen. Ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 41 (Rhys ab Owen).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 41. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 41 wedi'i wrthod.
Gwelliant 41: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 42. Ydy e'n cael ei gynnig, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 42 (Rhys ab Owen).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 42? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 42. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 42 wedi'i wrthod.
Gwelliant 42: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 43 yn cael ei gynnig, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 43 (Rhys ab Owen).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 43. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 43 wedi'i wrthod.
Gwelliant 43: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 44. Ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 44 (Rhys ab Owen).
Ydy, gan Rhys ab Owen. Oes gwrthwynebiad i hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 44. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi'i wrthod.
Gwelliant 44: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 45. Ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 45 (Rhys ab Owen).
Ydy, gan Rhys ab Owen. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 45. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 45 wedi'i wrthod.
Gwelliant 45: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 46. Ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 46 (Rhys ab Owen).
Ydy, gan Rhys ab Owen. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 46. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, a 36 yn erbyn. Mae gwelliant 46 wedi'i wrthod.
Gwelliant 46: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rhys ab Owen, ydy gwelliant 47 yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 47 (Rhys ab Owen).
Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 47? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 47. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, a 36 yn erbyn. Mae gwelliant 47 wedi'i wrthod.
Gwelliant 47: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 48 yn cael ei gynnig gan Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 48 (Rhys ab Owen).
Ydy. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 48. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, a 36 yn erbyn. Mae gwelliant 48 wedi'i wrthod.
Gwelliant 48: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 49. Ydy e'n cael ei gynnig gan Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 49 (Rhys ab Owen).
Ydy. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 49. Cau'r bleidlais. O blaid 1, yn ymatal 22, a 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 49 wedi'i wrthod.
Gwelliant 49: O blaid: 1, Yn erbyn: 25, Ymatal: 22
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 3 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â dod â dyletswyddau digartrefedd i ben. Gwelliant 50 yw'r prif welliant. Rhys ab Owen sy'n cynnig gwelliant 50 a'r grŵp yma.
Cynigiwyd gwelliant 50 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Joel James).
Diolch yn fawr, Llywydd. Diben gwelliant 50 yw sicrhau y gwneir ymgeiswyr yn ymwybodol o gyngor annibynnol am ddim os yw awdurdod lleol yn awgrymu dod â'r brif ddyletswydd dai i ben—hynny yw'r opsiwn tai heblaw cartref cymdeithasol neu gartref rhent preifat. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ymgeiswyr gael cyngor annibynnol ynghylch canlyniadau derbyn cynnig o'r fath ac i wneud penderfyniad gwybodus. Dylai hefyd helpu i atal pobl rhag teimlo dan bwysau i ddod â'r ddyletswydd dai i ben mewn ffordd nad yw'n diwallu eu hanghenion.
Ar gyfer awdurdodau lleol, bydd sicrhau bod gan ymgeiswyr fynediad at gyngor annibynnol hefyd yn rhoi hyder bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud ac yn lleihau'r risg y bydd penderfyniadau'n cael eu herio yn nes ymlaen. Argymhellodd y panel adolygu arbenigol y dylai ehangu'r ffordd o roi terfyn ar brif ddyletswydd tai yn y fath fodd gyd-fynd â chyfres o fesurau diogelu clir i sicrhau bod cynigion llety amgen yn ddigon diogel ac nad yw ymgeiswyr yn teimlo dan bwysau i dderbyn cynnig nad yw'n unol â'u hanghenion a'u dymuniadau.
Er bod nifer o'r mesurau diogelu hyn yn ymddangos yn y Bil, mae'r cynnig bod ymgeiswyr yn cael cynnig mynediad at gyngor annibynnol yn absennol. Er bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi argymell—ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn hyn—y dylai canllawiau statudol ymdrin â'r angen i awdurdodau lleol gynnig cyngor annibynnol yn y sefyllfa hon, rwy'n cytuno â'r elusennau digartref y dylid cynnwys y gofyniad hwn ar wyneb y Bil, o ystyried arwyddocâd yr amddiffyniad y mae'n ei ddarparu.
Unwaith eto, diolchaf i Joel a'r Ceidwadwyr Cymreig am gefnogi'n ffurfiol nid yn unig gwelliant 50 ond hefyd gwelliant 51 yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 51 yn ymwneud â'r cymal ar ymddygiad treisgar neu fygythiol ac mae'n ceisio gwelliannau i sicrhau na fydd cymhwyso'r cymal hwn yn niweidio'n annheg y rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth. Ni allaf bwysleisio digon, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni geisio amddiffyn ein gweithlu digartrefedd gwerthfawr, rhaid i ni hefyd ystyried sut y gellir cydbwyso'r mesurau hyn gyda dull sy'n seiliedig ar drawma sy'n ystyried yr unigolyn sy'n cyflawni'r ymddygiad annerbyniol, ei sefyllfa a'r effaith y bydd cymhwyso'r cymal hwn yn ei chael arnyn nhw a'u teuluoedd. Mae fy ngwelliant 51 yn cyflawni hynny ar gyfer y rheini sydd wedi dioddef camdriniaeth.
Yn olaf, mae gwelliant 52 yn dileu'r is-adran difrod eiddo yn llwyr. Rwy'n cytuno â'r elusennau digartref nad oes lle i ddifrod eiddo mewn deddfwriaeth tai. Mae difrod eiddo eisoes yn fater troseddol; mae mesurau digonol eisoes i ddelio â difrod eiddo o dan gyfraith droseddol. Nid oes angen ei ddyblygu yng nghyfraith tai. Diolch yn fawr.
Cynigir y gyfres hon o welliannau i sicrhau bod adran 19 o'r Bil yn rhoi mwy o ystyriaeth i drawma. Rwy'n ymwybodol iawn, fel y nodwyd yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, y gall goblygiadau'r cymalau hyn fod yn ddramatig i berson sy'n cael ei ryddhau o wasanaethau cymorth. Mae'r rhai sy'n cael eu rhyddhau o dan y cymalau hyn mewn perygl o golli mynediad at gymorth hanfodol, wynebu digartrefedd am gyfnod hir a phrofi datblygiad anghenion cymorth ychwanegol.
Felly, bwriad gwelliannau 71 a 72 yw sicrhau pe bai'r cymal ar ddifrod i eiddo yn aros yn y Bil, nad yw'n cosbi'n annheg unigolion sydd wedi rhannu cartref gyda rhywun sydd wedi bod yn dreisgar ac yn camdrin. Maen nhw hefyd yn gwneud yn glir mai dim ond mewn amgylchiadau lle na all awdurdodau gyflawni eu swyddogaethau yn ddiogel y dylid defnyddio'r ddyletswydd, ac y dylid defnyddio pwerau o'r fath fel dewis olaf i amddiffyn aelodau o'r cartref sydd wedi profi camdriniaeth.
Mae gwelliant 73 yn mynd i'r afael â'r cymal ar ymddygiad treisgar neu fygythiol, ac mae'n cynnwys yr un amddiffyniadau, gan sicrhau nad yw unigolion yn cael eu heffeithio'n annheg, a bod cyflawni dyletswydd yn digwydd dim ond pan fo ystyriaethau diogelwch yn ei gwneud hi'n anochel. Rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn cyd-fynd yn agos â chasgliadau 7 ac 8 o adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Rwy'n cydnabod ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ac iddi ddatgan ei hamharodrwydd i ddiwygio'r adrannau hyn. Fodd bynnag, yn seiliedig ar ein profiad, yn enwedig cymalau amgylchiadau arbennig mewn meysydd eraill o ddeddfwriaeth sy'n cael eu camgymhwyso neu eu gweithredu mewn ffyrdd nad ydyn nhw'n canolbwyntio ar y person neu'n seiliedig ar drawma, credaf y byddai'r gwelliannau hyn yn cryfhau'r ddeddfwriaeth ymhellach ac yn diogelu unigolion sy'n profi digartrefedd a'r staff sy'n eu cefnogi.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu canllawiau ar y cymalau hyn. Serch hynny, rwy'n dweud bod y gwelliannau hyn yn angenrheidiol i ddarparu eglurder a chysondeb wrth gymhwyso'r cymalau hyn, gan sicrhau bod y Bil yn cyflawni ei amcanion heb achosi niwed anfwriadol. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu. Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i ddiolch i Rhys ab Owen a Joel James am eu gwelliannau yn y grŵp hwn, sy'n ymwneud ag amgylchiadau lle gellir dod â dyletswyddau digartrefedd i ben.
Rwyf wedi ei gwneud hi'n glir trwy gydol Cyfnod 1 a 2 y dylai fy mhwyslais i a phwyslais ein partneriaid bob amser fod ar sut rydym ni'n helpu pobl, nid a ydym ni'n eu helpu. Fodd bynnag, mae'n wirionedd anghyfforddus bod rhaid galluogi awdurdodau lleol i roi terfyn ar ddyletswyddau i bobl sy'n peri risg annerbyniol i eraill. Y staff sy'n rhedeg ein gwasanaethau digartrefedd yw ein hased mwyaf; maen nhw'n greiddiol i bopeth rydym ni'n ei wneud. Mae'n annerbyniol iddyn nhw wynebu trais neu fygythiadau yn y gweithle, ac mae'r Bil yn darparu'r offer i awdurdodau lleol fynd i'r afael â hyn. Nid yw hwn yn benderfyniad rydw i wedi'i wneud ar chwarae bach, ond mae'n rhaid i mi gydbwyso hawliau ymgeiswyr â diogelu ein gweithlu; hebddyn nhw, ni fyddwn ni byth yn cyflawni ein nodau.
Mae adran 19 o'r Bil yn galluogi awdurdodau lleol i roi terfyn ar ddyletswyddau lle mae ymddygiad treisgar a bygythiol neu ddifrod bwriadol neu ddifrifol i eiddo, ond dim ond os nad oes amgylchiadau arbennig a fyddai'n gofyn am barhau â'r dyletswyddau, ac, mewn perthynas â difrod, dim ond pan nad oes gan yr ymgeisydd esgus rhesymol dros ei weithredoedd. Rwy'n disgwyl i'r darpariaethau hyn gael eu defnyddio'n ofalus ac rwy'n credu bod y Bil fel y'i drafftiwyd yn sicrhau'r cydbwysedd cywir, os nad yw'n anodd.
Mae gwelliant 50 yn ymwneud ag adran 7 o'r Bil, sy'n nodi amgylchiadau pellach lle gall y brif ddyletswydd i sicrhau llety i ymgeiswyr yn adran 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ddod i ben. Mae'r Bil yn caniatáu i'r brif ddyletswydd dai gael ei chyflawni i ystod ehangach o ddewisiadau llety na'r ddeddfwriaeth bresennol. Gellir cyflawni'r brif ddyletswydd yn adran 75 lle mae llety addas ar gael am o leiaf 12 mis.
Mae'r Bil yn cynnwys mesurau diogelu: rhaid i'r ymgeiswyr gael gwybod yn ysgrifenedig am ganlyniadau posibl cytuno i ddod â'r brif ddyletswydd i ben, a rhaid iddyn nhw gytuno y dylai'r ddyletswydd ddod i ben. Yn ogystal, yn hollbwysig, mae adran 18 o'r Bil yn nodi bod yn rhaid i'r awdurdod tai lleol hefyd wirio gyda'r rhai a ddarperir y dewisiadau llety hyn i sicrhau bod y trefniadau byw yn gweithio'n dda ac i'w helpu i osgoi bod yn ddigartref eto.
Mae gwelliant 50 yn cynnig gofyniad ychwanegol: bod yn rhaid rhoi cyfle rhesymol i ymgeiswyr gael cyngor annibynnol cyn cytuno i ddod â'r brif ddyletswydd i ben o dan adran 75. Mae'r cod canllawiau eisoes yn annog awdurdodau lleol i gyfeirio pob ymgeisydd at gyngor annibynnol. Felly, rwyf o'r farn nad yw'r gwelliant yn angenrheidiol. Rwyf hefyd yn anghytuno â rhagdybiaeth y gwelliant. Mae targedu cyngor annibynnol dim ond at y rhai y cyflawnir eu dyletswydd mewn un ffordd yn tanseilio egwyddor ehangach y dylai cyngor annibynnol fod ar gael i bob ymgeisydd, nid yn unig y rhai yr effeithir arnyn nhw gan y ddarpariaeth benodol hon.
Mae gen i bryderon hefyd am ganlyniadau anfwriadol. Nid yw'n glir beth fyddai'n gyfle rhesymol a byddai dehongliad o hyn yn debygol o amrywio rhwng ardaloedd. Mae'n bosibl y byddai'r gwelliant hwn yn arwain at oedi wrth symud pobl drwy'r system, gan atal ymgeiswyr rhag cael mynediad at lety addas yn brydlon, gyda chostau ariannol a chymdeithasol o ganlyniad yn ymwneud â mwy o amser a dreulir mewn llety dros dro. Felly, rwy'n annog pob Aelod i wrthwynebu gwelliant 50. Mae'n ddiangen, yn aneglur ac yn peryglu canlyniadau anfwriadol.
Mae gwelliant 51 a gynigiwyd gan Rhys ab Owen yn mewnosod llinell ychwanegol yn adran 19 o'r Bil, sy'n nodi, pan fo ymgeisydd yn rhywun sydd wedi dioddef cam-drin, neu pan fo ymddygiad treisgar neu fygythiol ymgeisydd yn gysylltiedig â cham-drin, na ellir dod â dyletswyddau digartrefedd i ben. Yn yr un modd, mae gwelliant 73 a gynigiwyd gan Joel James yn ychwanegu llinell ychwanegol at adran 19 sy'n nodi, pan fo dinistr bwriadol neu ddifrod difrifol i eiddo, a bod difrod yn gysylltiedig â cham-drin, na ellir dod â dyletswyddau digartrefedd i ben.
Rwy'n deall nod y gwelliannau hyn, ond rwy'n credu bod y Bil eisoes yn cynnwys digon o fesurau diogelu i fynd i'r afael â nhw. Nid yw'n angenrheidiol nac yn briodol nodi un enghraifft a gwmpesir gan y ddarpariaeth amgylchiadau arbennig. Mae canlyniadau anfwriadol wrth wneud hynny a allai arwain pobl i deimlo mai cam-drin yw'r unig reswm sy'n gallu negyddu effaith y prawf, ac mae hyn yn anghywir. Mae canllawiau yn offeryn mwy effeithiol i nodi'r ystod o achosion neu amgylchiadau y dylai awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi terfyn ar ddyletswyddau lle mae trais neu ymddygiad bygythiol neu ddinistrio bwriadol neu ddifrod difrifol i eiddo.
Mae gwelliant 52 yn dileu darpariaeth o'r Bil a fyddai'n golygu na fydd awdurdodau lleol yn gallu dod â dyletswydd i ben ar ôl difrod bwriadol a byrbwyll i eiddo. Rwy'n credu y dylai hyn aros yn y Bil. Fel y dywedais, mae'r amgylchiadau pan ellir dod â dyletswyddau i ben yn gyfyngedig iawn, ond maen nhw'n angenrheidiol.
Rhaid i aelodau gydnabod bod llawer o bobl ledled Cymru yn byw mewn lleoliadau ymgynnull lle maen nhw'n rhannu gofod neu adeiladau cyffredin. Ni allaf orbwysleisio'r risg sy'n bodoli os yw'r eiddo hwnnw'n cael ei ddinistrio'n fwriadol neu'n fyrbwyll gan ddifrod difrifol a achosir iddo. Mae gan ddinistrio o'r fath oblygiadau ariannol ac yn effeithio ar drigolion eraill. Yn bwysicaf oll, mae'n peri risg i fywyd. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu pob preswylydd a'u gweithlu, ac am y rheswm hwn credaf fod yn rhaid gwrthod gwelliant 52.
Gan droi at welliannau 71 a 72 a gynigiwyd gan Joel James, byddai'r rhain yn diwygio'r Bil i'r perwyl, lle mae trais, bygythiad o drais, dinistrio bwriadol neu ddifrod difrifol i eiddo, y gellid dod â dyletswyddau i ben dim ond pan fo ymddygiad o'r fath yn golygu na all awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau yn ddiogel.
Mae gen i bryderon difrifol ynglŷn â goddrychedd y term 'yn ddiogel', a fyddai'n arwain at ddryswch a chymhlethdod diangen wrth weithredu. Mae'r gwelliannau yn arwain at beryglon difrifol ynghylch canlyniadau anfwriadol. Fe allan nhw arwain at fwy o bobl yn cael eu heithrio o wasanaethau, yn dibynnu ar sut mae awdurdodau lleol yn ceisio dehongli 'yn ddiogel'. Felly, gofynnir i'r Aelodau wrthod gwelliannau 71 a 72.
Llywydd, fe wn i na fydd neb yn y Siambr hon yn gyfforddus wrth ddiffinio sut y gallai dyletswyddau digartrefedd hanfodol ddod i ben. Nid yw'n rhywbeth rydw i'n ei fwynhau chwaith. Ond mae'n rhaid cael terfynau; ni allwn ni ganiatáu i'n gweithlu tai ddioddef trais neu fygythiadau yn y gwaith, neu i'n stoc llety cyfyngedig gael ei ddifrodi neu ei ddinistrio'n fwriadol. Rhaid i ni ganiatáu i awdurdodau lleol wneud yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud i amddiffyn pobl sy'n byw mewn llety dros dro. Felly, rwy'n annog y Senedd i wrthod gwelliannau 50, 51, 52, 71, 72 a 73.
Rhys ab Owen i ymateb.
Fe drown ni at y bleidlais, rwy'n credu Llywydd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 50. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly byddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Mae gwelliant 50 yn methu: 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn.
Gwelliant 50: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Joel James, gwelliant 68. A yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 68 (Joel James).
Ydy.
A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad. Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 68. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 68 wedi ei wrthod.
Gwelliant 68: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 69 (Joel James).
Ydy.
A oes gwrthwynebiad i welliant 69? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cymerwn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 69. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 69 wedi ei wrthod.
Gwelliant 69: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 4 o welliannau yw'r grŵp sy'n ymwneud â chymorth i gadw llety addas. Gwelliant 70 yw'r prif welliant. Joel James sy'n cynnig y gwelliant yma. Joel James.
Cynigiwyd gwelliant 70 (Joel James).
Diolch, Llywydd. Byddaf yn siarad am y prif welliant. Byddai'r gwelliant hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol, wrth benderfynu a oes angen cymorth i ymgeisydd gadw llety addas ai peidio, roi sylw dyledus i farn y landlord cymdeithasol perthnasol. Mewn llawer o achosion, gall y landlord cymdeithasol gael gwybodaeth fanylach a chyfredol am amgylchiadau a sefyllfa dai'r tenant, ac felly mae mewn sefyllfa dda i ddarparu gwybodaeth yn rhan o'r asesiad hwnnw. Byddai ystyried safbwyntiau o'r fath yn cefnogi gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a chytbwys, ac yn helpu i sicrhau bod cymorth priodol a chymesur yn cael ei ddarparu. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet, Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn yn ymwneud â newidiadau i adran 17 o'r Bil, y ddyletswydd newydd i ddarparu cymorth i gadw llety addas. Mae gwelliant 70 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i farn y landlord cymdeithasol cofrestredig wrth benderfynu a yw ymgeisydd yn deilwng o'r ddyletswydd hon. Rwy'n sylweddoli y bydd gan landlord farn bwysig ar sut y dylid cefnogi tenant, fel y bydd gan wasanaethau cyhoeddus eraill a allai fod yn gysylltiedig ag aelwyd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi atgoffa cyd-Aelodau y drafftiwyd y ddyletswydd mewn modd sy'n rhoi'r person wrth ei chanol. Nid yw'n ddyletswydd gyffredinol sy'n ddyledus i bob ymgeisydd, mae'n ddyletswydd arbenigol sy'n ddyledus i'r rhai mwyaf agored i niwed yn unig. Mae'n dibynnu ar gydsyniad gweithredol yr ymgeisydd na ddylid diystyru ei lais. Mae'r gwelliant yn tanseilio nod y ddyletswydd, gan flaenoriaethu barn un corff dros eraill a thros yr ymgeisydd eu hunain.
Mae'r ddyletswydd atal ddiwygiedig a'r darpariaethau newydd 'gofyn a gweithredu' eisoes yn golygu y gall landlord cymdeithasol cofrestredig gyfeirio ymgeiswyr sydd mewn perygl o fod yn ddigartref at awdurdod tai lleol am gymorth. Mae'r ddyletswydd atal wedi'i chynllunio drwy'r Bil i hwyluso ymgysylltu llawer cynharach ag ymgeiswyr posibl. Mae'r Bil yn creu proses gydlynol, a fydd yn sicrhau cymorth i ymgeisydd ym mhob cam o'u cyfnod yn ddigartref—ymyrraeth gynnar ac atal, cymorth os na ellir atal digartrefedd a chymorth tymor hwy i greu tenantiaethau llwyddiannus.
Mae'r broses yn cynnwys cydweithio ac ymateb aml-asiantaeth trwy 'ofyn a gweithredu', cydlynu achosion a'r ddyletswydd i gydweithredu. Bydd yn rhaid i awdurdodau tai lleol gael prosesau ar waith wrth benderfynu a ddylid gwneud cais neu ymestyn y ddyletswydd i helpu rhywun i gadw llety, a bydd ceisio barn gan bartneriaid yn allweddol i hyn. Mae er budd yr holl bartïon i helpu'r ymgeisydd i gadw eu llety ac atal digartrefedd cyson. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn, sy'n ddiangen, yn dyblygu ac sy'n tanseilio ein bwriad polisi. Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn gwelliant 70.
Joel James i ymateb.
Fe hoffwn i droi at y bleidlais.
Y cwestiwn yw: a oes gwrthwynebiad i welliant 70? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 70. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 70 wedi ei wrthod.
Gwelliant 70: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 71 (Joel James).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 71? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 71. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly gwnaf i fwrw fy mhleidlais yn erbyn gwelliant 71, sy'n golygu mai'r canlyniad yw: o blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 71 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 71: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 51. Yw e'n cael ei symud, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 51 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Joel James).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 51. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant yma. Y canlyniad yw 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 51 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 51: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 72.
Gwelliant 72. A yw'n cael ei gynnig, Joel James? [Torri ar draws.] Wnes i ddweud—? Gwelliant 52.
Gwelliant 52. Ydy e'n cael ei symud gan Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 52 (Rhys ab Owen).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gwelliant 52. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, dau. Mae yna naw yn ymatal a 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 52 wedi ei wrthod.
Gwelliant 52: O blaid: 2, Yn erbyn: 37, Ymatal: 9
Gwrthodwyd y gwelliant
Nawr rydym ni'n dod at welliant 72. Gwelliant 72. Joel James, a yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 72 (Joel James).
Ydy, mae e.
Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 72. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 72. Mae gwelliant 72 yn methu, felly. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn.
Gwelliant 72: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 73. A yw'n cael ei gynnig gan Joel James?
Cynigiwyd gwelliant 73 (Joel James).
Ydy.
Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 73. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 73. Mae gwelliant 73 yn methu. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 73 wedi methu.
Gwelliant 73: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud â dyletswydd i ofyn a gweithredu. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliannau hynny—Jayne Bryant.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Jayne Bryant).
Diolch, Llywydd. Mae'r ddyletswydd newydd i ofyn a gweithredu a nodir yn adran 20 o'r Bil yn ychwanegiad trawsnewidiol at ddeddfwriaeth ddigartrefedd yng Nghymru. Mae'n cyflawni cred hirdymor y Llywodraeth hon bod atal digartrefedd yn gyfrifoldeb y gwasanaeth cyhoeddus cyfan. Bydd yn allweddol i sicrhau ein bod yn ymyrryd i gynorthwyo pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd ar y cyfle cynharaf a bod y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo pobl. Rwy'n falch o gyflwyno cyfres o welliannau technegol i'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio'r rhestr helaeth o gyrff a fydd yn dod o dan y ddyletswydd.
Mae'r diwygiadau yn yr adran hon yn ymwneud â newidiadau i'r term y byddwn yn ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhai a fydd yn dod o dan y ddyletswydd newydd i ofyn a gweithredu. Ar hyn o bryd mae'r Bil yn defnyddio'r term 'awdurdod cyhoeddus penodedig'. Bydd fy ngwelliannau yn disodli'r term hwn gyda 'person penodedig'. Wrth wneud y diwygiadau hyn, rydym ni'n cysoni'r derminoleg a ddefnyddir mewn mannau eraill yn Neddf Tai (Cymru) 2014. Rwyf hefyd yn gwneud cyfres o ddiwygiadau technegol eraill i'r ddyletswydd newydd i ofyn a gweithredu fel bod, lle mae'n sôn am unigolion, mae'n defnyddio'r term yn hytrach na pherson. Bydd hyn yn osgoi'r posibilrwydd o ddryswch yng ngoleuni'r newidiadau rydym ni'n eu gwneud i'r defnydd o'r term 'person penodedig' yn hytrach nag 'awdurdod cyhoeddus penodedig', a bydd yn gwella hygyrchedd y ddeddfwriaeth. Gwelliannau 3, 5, 7, 8, 9, 11, 12, 14, 16, 18, 20 a 24 yw'r rhain. Mae'r newidiadau hyn i'r iaith yn ddiwygiadau technegol i helpu eglurder. Nid ydyn nhw'n gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i weithrediad nac effaith y Bil. Rwy'n gobeithio y gall cyd-Aelodau eu cefnogi.
Gan droi nawr at y gwelliannau anllywodraethol. Nodaf welliannau 53 a 54, a gyflwynwyd gan Rhys ab Owen, i gynnwys awdurdodau addysg lleol a gwasanaethau gofal sylfaenol o fewn y ddyletswydd i ofyn a gweithredu. Cydymdeimlaf â gwelliannau sy'n ceisio ychwanegu ymhellach at y rhestr o gyrff sy'n destun 'gofyn a gweithredu'. Fodd bynnag, fel yr ydym ni wedi archwilio'n helaeth trwy Gyfnod 1 a Chyfnod 2, mae yna sefydliadau lle nad oes angen eu hychwanegu at wyneb y Bil, lle nad honno yw'r ffordd gywir i gyflawni ein bwriad polisi, neu lle nad yw cynhwysiant yn cyd-fynd â chytundebau ehangach yn y sector. Mae'r Bil yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i ganiatáu inni ychwanegu cyrff at y rhestr, pe bai hyn yn bosibl yn y dyfodol. Mae fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru hefyd wedi cyflwyno gwelliant i gynnwys adolygiad ffurfiol o 'gofyn a gweithredu' o fewn y Bil, yr wyf yn gobeithio y bydd y Senedd yn ei gefnogi.
Mae gwelliant 53 yn ceisio cymhwyso'r ddyletswydd i ofyn a gweithredu i wasanaethau gofal sylfaenol. I fod yn glir, mae effaith y gwelliant yn mynd y tu hwnt i feddygon teulu, ac mae'n cynnwys fferyllwyr, optegwyr a deintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' eisoes yn cael ei gosod ar fyrddau iechyd lleol, a bydd yn cwmpasu ystod o wasanaethau iechyd blaenoriaeth, gan gynnwys gofal brys ac mewn argyfwng, gofal cleifion mewnol a gwasanaethau defnyddio sylweddau iechyd meddwl, a rhai gwasanaethau y gellir cael gafael arnyn nhw trwy wasanaeth gofal sylfaenol. Wrth fynd ar ofyn gofal sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn gwneud hynny drwy drefniadau contractio a reolir gan fyrddau iechyd lleol ledled Cymru. Rhaid rheoli unrhyw ofynion newydd gofal sylfaenol gyda'n gwaith presennol ar iechyd cynhwysiant, a'u gweithredu mewn partneriaeth â'r gwahanol sectorau. Rwy'n cydnabod rhan bwysig gwasanaethau gofal sylfaenol mewn digartrefedd. Mae meddygon teulu eisoes yn gweithredu o dan rwymedigaethau moesegol a phroffesiynol ac yn cynorthwyo byrddau iechyd lleol i ddiogelu a chynhwysiant iechyd a gofal.
Mae apwyntiadau meddygon teulu yn gyfyngedig o ran amser. Gallai gosod dyletswydd statudol 'gofyn a gweithredu' o fewn ymgynghoriad 10 munud ddisodli gofal clinigol a pheryglu creu canlyniadau anfwriadol i fynediad a diogelwch. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol eraill wedi eu hymestyn yn yr un modd. Rwy'n credu mai'r peth gorau yw rhoi'r ddyletswydd ar fyrddau iechyd sydd eisoes â chyfrifoldeb statudol ehangach a'r grym i gomisiynu. Mae hyn yn cynnwys gofal brys ac mewn argyfwng, gofal cleifion mewnol a gwasanaethau defnyddio sylweddau iechyd meddwl. Mae gwaith ar y gweill gyda gwasanaethau iechyd i gymryd camau pellach yn y maes hwn y tu allan i'r ddeddfwriaeth, ac felly nid wyf yn credu bod ychwanegu gwasanaethau gofal sylfaenol i'r Bil yn angenrheidiol neu'n briodol.
Mae gwelliant 54 yn ceisio gosod yr awdurdod addysgol lleol o dan ddyletswydd i ofyn a gweithredu, ac mae gwelliant 66 yn welliant canlyniadol. Mae'r gwelliant hwn yn dangos camddealltwriaeth sylfaenol o sut y bydd 'gofyn a gweithredu' yn gweithio, ac yn gosod y ddyletswydd ar gyrff na fydd yn gallu cyflawni ei nodau yn ystyrlon. Mae'r gwaith uniongyrchol a wneir gyda rhieni neu blant gan awdurdodau addysgol lleol yn amrywio ledled Cymru. Ni fyddai gosod dyletswydd arnyn nhw yn cyflawni ein nodau polisi. Mae ein hysgolion mewn sefyllfa dda i helpu plant a'u teuluoedd, ond y ffordd orau o wneud hynny yw trwy adeiladu ar arferion da presennol. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau eisoes o dan Ddeddf Addysg 2002 i wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gyda'r bwriad o ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill, gan gynnwys byrddau llywodraethu, roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu pa drefniadau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud i gydymffurfio â'u dyletswydd. Yn fy marn i, a barn yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, mae'r ddyletswydd bresennol hon i hyrwyddo lles plant yn cwmpasu trefniadau ar gyfer plant sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. O ystyried ehangder y gyfraith bresennol, nid oes angen i ni ei dyblygu o fewn y Bil hwn ac yn hytrach fe allwn ni geisio adeiladu ar yr arferion da rydw i wedi eu gweld drosof fy hun mewn ysgolion, gan ddiwygio'r canllawiau presennol 'Cadw dysgwyr yn ddiogel'—gwaith sydd eisoes ar y gweill. Mae yna arferion rhagorol mewn ysgolion sy'n gysylltiedig â mentrau ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ymgysylltu â theuluoedd a diogelu. Mae hyn yn darparu'r sylfaen briodol i ni wneud ein gwaith ac yn ennill cefnogaeth ysgolion, athrawon a'r undebau addysg gyda ni.
Mae gwelliant 21, yr wyf i wedi'i gyflwyno, yn egluro nad yw'r dyletswyddau newydd yn adrannau 94A(5)(b), (5)(c), sy'n rhan o'r ddyletswydd 'gofyn a gweithredu', yn effeithio ar hawliau'r bobl hynny sy'n dod o dan y ddyletswydd i sicrhau meddiant gwag. Mae'r newid hwn yn cael ei wneud mewn ymateb i adborth gan gymdeithasau tai sydd wedi codi pryderon y gallai'r drafftio presennol gael y canlyniadau anfwriadol o ymyrryd â thrafodion troi allan.
Fe ddylwn i wneud yn glir fy mod i o'r farn gref y bydd 'gofyn a gweithredu' yn allweddol wrth sicrhau bod cymdeithasau tai yng Nghymru yn ymgysylltu â'u cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol mewn da bryd er mwyn osgoi digartrefedd. Rwy'n disgwyl iddyn nhw weithio'n agos gydag awdurdodau tai lleol, gan ddefnyddio'r holl ddewisiadau perthnasol i sicrhau na wneir rhywun yn ddigartref. Fodd bynnag, rwy'n nodi'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ar draws cymdeithasau tai yng Nghymru i roi terfyn ar droi pobl allan a'u gwneud yn ddigartref a'r gyfradd isel iawn o droi allan ar hyn o bryd. Oherwydd y gwaith hwn ac ymrwymiad parhaus cymdeithasau tai i beidio byth â throi pobl allan a'u gwneud yn ddigartref nad yw'r Bil hwn yn deddfu mewn perthynas â throi allan.
Mae'n wirionedd anffodus y bydd rhai achosion eithriadol lle gadewir cymdeithas dai heb unrhyw ddewis ond dechrau achos troi allan. Yn yr achosion hyn, rwy'n disgwyl iddyn nhw weithio'n agos gydag awdurdodau tai lleol, gan ddefnyddio'r holl ddewisiadau perthnasol i sicrhau na wneir rhywun yn ddigartref. Fodd bynnag, rwy'n derbyn bod yn rhaid i gymdeithasau tai allu cael mynediad i'r system gyfreithiol. Nid yw'r Bil yn ceisio ymyrryd â thrafodion troi allan ac rwyf, felly, o'r farn bod gwneud y newid bach hwn i wneud hyn yn glir yn y Bil yn ddull pragmataidd.
Nod gwelliant 74 yw cyflawni'r un nod, ac felly gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliant 74 a chefnogi gwelliant 21. Felly, gofynnaf felly i'r Aelodau wrthwynebu gwelliannau 53, 54, 66 a 74 nad ydyn nhw gan y Llywodraeth, ac i bleidleisio o blaid gwelliannau 1-20, 21, 22-27, 29 a 31 y Llywodraeth.
Fel rydym ni wedi clywed, bwriad gwelliant 74 yw lleihau'r risg y bydd achos meddiant yn hirwyntog neu'n or-gymhleth oherwydd anghydfodau ynghylch a yw landlord wedi cydymffurfio â'r dyletswyddau 'gofyn a gweithredu' wrth geisio gwneud hawliadau o'r fath. O ystyried ehangder y ddyletswydd fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd a'r pwyslais penodol a roddir ar y gofynion cysylltiedig, mae risg y gallai hawliadau meddiant droi yn ddadleuon technegol sy'n tynnu sylw oddi wrth faterion sylweddol gerbron y llys. Mae'r gwelliant felly yn ceisio hyrwyddo mwy o sicrwydd cyfreithiol ac effeithlonrwydd gweithdrefnol wrth gynnal achosion meddiant. Diolch.
Mae'r ddyletswydd newydd 'gofyn a gweithredu' yn greiddiol i lwyddiant y Bil yma wrth inni symud tuag at gyfundrefn ataliol—cyfundrefn sydd yn ceisio adnabod y broblem cyn iddo fo ddatblygu yn argyfwng. Yn ystod Cyfnod 2, mi wnes i geisio cryfhau'r ddarpariaeth yma drwy gynnwys yr heddlu ar y rhestr, a hefyd drwy ddarparu ar gyfer adolygu'r drefn gyfan ymhen dwy flynedd. Ond, wrth gwrs, dydy heddlua ddim wedi cael ei ddatganoli, a byddai gwthio hyn wedi gallu peryglu cymhwysedd y Bil, ac roeddwn i'n awyddus i beidio creu sefyllfa felly. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni weledigaeth eangach ac, yn y tymor hwy, dwi'n credu bod yna gonsensws eang fod yna le i gynnwys meysydd megis addysg ac iechyd cynradd, heddlua, pan ddaw o i Gymru, a hynny o fewn fframwaith 'gofyn a gweithredu' bwriadol.
Ond mae'n rhaid inni fod yn realistig, ac rydym ni oll, ar hyn o bryd yn ymwybodol o’r pwysau aruthrol ar y sectorau yma o ran capasiti, adnoddau a’r gweithlu. Felly, ar y sail yna, fe fyddwn ni'n ymatal ar y gwelliannau sy’n ceisio ychwanegu’r cyrff addysg ac iechyd ar wyneb y Bil ar hyn o bryd. Mae hynny'n rhoi arwydd ein bod ni yn cydnabod eu rôl ataliol allweddol nhw ac nad ydyn ni eisiau cau’r drws ar eu cynnwys yn y dyfodol. Yn hytrach, rydym ni o’r farn y dylai unrhyw ehangu pellach ar y ddyletswydd hon fod yn seiliedig ar werthusiad tystiolaeth cadarn a dealltwriaeth lawn o’r goblygiadau ymarferol i’r gwasanaethau dan sylw. Mae gennym ni welliant yn nes ymlaen fyddai, o'i basio, yn golygu ein bod ni'n adolygu hyn i gyd ymhen dwy flynedd ac yn gallu ychwanegu cyrff ar y pwynt yna os oes yna dystiolaeth i gefnogi hynny. Felly, byddaf yn gofyn ichi gefnogi hwnna yn nes ymlaen. Diolch.
Wrth gwrs, mae gwasanaethau gofal sylfaenol ac ysgolion yn wasanaethau cymunedol gwirioneddol y mae pobl a phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn debygol o ddod ar eu traws. Byddwn hefyd yn cynnwys yr heddlu yn hynny, ond, wrth gwrs, nid yw plismona wedi'i ddatganoli, fel y dywedodd Siân Gwenllian eisoes. Dydw i ddim yn cytuno â'r ddadl pwysau, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny bob amser yn bresennol. Bydd pobl bob amser yn dadlau bod gormod o bwysau ar blismona neu addysg neu ar iechyd i wneud hyn. Ac rwy'n deall, o sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ac o siarad â'i swyddogion ddoe, fod yna awgrym fod yna wewyr meddwl ymhlith y sectorau addysg a meddygol.
Ond fe hoffwn i esbonio pam rwy'n credu bod angen y gwelliannau hyn. Yn gyntaf, os caf i ymdrin â meddygon teulu, mynegodd yr Athro Mackie a'r Athro Fitzpatrick siom am eithrio gofal sylfaenol o'r rhestr, gyda'r Athro Fitzpatrick yn nodi ei fod, ac rwy'n dyfynnu yn,
'Un o'r gwasanaethau cymunedol pwysicaf y mae pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn...debygol iawn o ddod i gysylltiad ag ef.'
Gyda chymaint o wasanaethau eraill yn diflannu o'n cymunedau, mae gennych chi ofal sylfaenol o hyd yn y rhan fwyaf o'n cymunedau. Dywedodd Dr Cosh, gan fod gofal sylfaenol yn gweld y mwyafrif o bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, mai gwneud y gwasanaethau hynny'n destun dyletswyddau 'gofyn a gweithredu' yw—ac eto rwy'n dyfynnu,
'yr allwedd i ddatgloi'r rhan atal o'r ddyletswydd hon.'
Ac roedd nifer o dystion eraill a oedd hefyd yn gefnogol o gynnwys gofal sylfaenol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Rhondda Cynon Taf a Chwm Taf Morgannwg. Mae'r union bobl rydym ni'n dweud eu bod o dan ormod o bwysau mewn gwirionedd yn cefnogi cynnwys gofal sylfaenol.
Nawr, o ran darparwyr addysg, argymhellwyd eu cynnwys gan y panel adolygu arbenigol. Mae'r gwelliant fel y'i drafftiwyd yn gosod y ddyletswydd ar awdurdodau addysg, yn hytrach nag ar athrawon ac ysgolion. Galwodd rhanddeiliaid sy'n cynrychioli pobl ifanc yn unfrydol am gynnwys y sector addysg yn y ddyletswydd, gyda Voices from Care yn nodi mai dyma'r gwasanaeth cyhoeddus y mae bron pob plentyn a phob person ifanc yn gysylltiedig ag ef bob dydd. Adleisiwyd y pwynt gan GISDA, Cyngor Dinas Casnewydd a Chymuned G4S.
Nawr, er y rhoddir yr argraff bod y sectorau addysg a meddygol yn pryderu am fy ngwelliannau, rwy'n gobeithio fy mod i wedi dangos y prynhawn yma bod tystiolaeth glir wedi'i chyflwyno gan ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y rhai yn y sectorau addysg a meddygol, sy'n cefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb. Na, does dim ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes gwrthwynebiad? Na, dim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2. Ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 2 (Jayne Bryant).
Jayne? Mae'n cael ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Jayne Bryant).
A oes gwrthwynebiad i welliant 3? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni dderbyn gwelliant 3.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4. Ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 4 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e'n cael ei gynnig. Felly, a oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Jayne Bryant).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 6. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 6 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? Nac ydy. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 7.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Cynigwyd.
Ydy e'n cael ei wrthwynebu? Nac ydy. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 8.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Jayne Bryant.
Cynigwyd.
Mae e'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 9. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 9 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 10. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 10 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad. Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 11. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 11 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 11 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 12.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Mae e'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 13.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Mae e'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 14.
Cynigiwyd gwelliant 14 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Unrhyw wrthwynebiad i welliant 14? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 15. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 15 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 16. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 16 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 17. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 17 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 18. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 18 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 19. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 19 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 20. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 20 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 21.
Cynigiwyd gwelliant 21 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Mae e'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 22. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 22 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 74. Ydy e'n cael ei symud?
Gwelliant 74. A yw'n cael ei gynnig?
Na, dyw e ddim yn cael ei symud. Oes unrhyw wrthwynebiad i hynny?
Rydyn ni ond yn gwirio gwelliant pwy yw un 74. Ai eich un chi, Joel?
Eich un chi. A yw'n cael ei gynnig? Nac ydy, dydy e ddim. Diolch am hynny
A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny?
Nac ydy. Dydy gwelliant 74 ddim yn cael ei gynnig
Ni chynigiwyd gwelliant 74 (Joel James).
Cynigiwyd gwelliant 23 (Jayne Bryant).
Cynigwyd
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 23? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 24. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 24 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 25.
Cynigiwyd gwelliant 25 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Mae e'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 26. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 26 (Jayne Bryant).
Cynigwyd.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 53. Rhys ab Owen, ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 53 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 53. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 12 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 53 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 53: O blaid: 12, Yn erbyn: 24, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 54. Rhys ab Owen, ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 54 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 54. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 11 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 54 wedi ei wrthod.
Gwelliant 54: O blaid: 13, Yn erbyn: 24, Ymatal: 11
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 27. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 27 (Jayne Bryant).
Oes gwrthwynebiad i welliant 27? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chydgysylltu achosion, a gwelliant 55 yw'r prif welliant. Rhys ab Owen sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 55 (Rhys ab Owen).
Diolch, Llywydd. Mae adrannau 23 a 24 yn gofyn am brotocolau ar gyfer ymdrin ag achosion sy'n ymwneud â phobl sy'n gadael gofal a phobl sydd ag angen arbennig am gymorth. Croesawodd Voices from Care Cymru ac End Youth Homelessness Cymru y protocolau ar y cyd gyda gwasanaethau cymdeithasol, ond galwodd ar Lywodraeth Cymru i orfodi arfer da a chyfathrebu rhwng gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau digartrefedd gyda thempledi protocol cenedlaethol. Mewn gwirionedd, cyfeiriodd End Youth Homelessness Cymru at enghraifft sy'n bodoli eisoes yn sir Gaerfyrddin o dîm ar y cyd sydd eisoes wedi'i sefydlu, gyda phrotocolau gweithio ar y cyd gan weithwyr cymdeithasol, cynghorwyr dewisiadau tai a chydlynwyr digartrefedd ieuenctid, sy'n gweithio'n dda iawn, gyda chanlyniadau gwych.
O gofio bod swyddogion wedi awgrymu i mi ddoe y gallai Llywodraeth Cymru wrthwynebu'r gwelliannau hyn oherwydd bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno i awdurdodau lleol ddatblygu modelau lleol, rwy'n credu y gallaf i roi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, ar ôl darllen gwelliant 56 yn ofalus, y byddwch chi'n gweld mai diben y protocol cenedlaethol yw, ac rwy'n dyfynnu o destun cyfreithiol fy ngwelliant, i fod yn 'templed i gynorthwyo'. Y gair pwysig i Lywodraeth Cymru yma yw 'cynorthwyo'. Nid templed i orchymyn.
Mae gwelliant 55 yn ei gwneud yn ofyniad i gyngor neu fwrdeistref sirol yng Nghymru gyhoeddi protocol ar gyfer ymdrin ag achosion. Unig nod y gwelliannau hyn yw cynorthwyo gyda monitro. Mae gweithredu o'r fath yn cyd-fynd â barn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y dylai Llywodraeth Cymru fonitro cydweithredu. Diolch yn fawr.
Siân Gwenllian.
Dwi ddim yn dymuno siarad ar hwn.
Iawn. Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Diolch, Llywydd. Mae adran 24 y Bil yn cyflwyno dyletswydd statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael protocol ar gyfer ymdrin ag achosion sy'n ymwneud â phobl y mae angen arbennig am gymorth arnyn nhw. Mae gwelliant 55 yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu protocol cydlynu achosion lleol, ac mae gwelliant 56 yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi protocol templed cenedlaethol ar gyfer cydlynu achosion i gynorthwyo awdurdodau lleol.
Diben y protocol yw cyflawni, ymhlith amcanion penodedig eraill, gydlynu achosion yn effeithiol ar gyfer unigolion penodol gyda sefydliadau partner. Mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn defnyddio modelau cydlynu achosion sy'n tynnu ynghyd amrywiaeth o sefydliadau i gefnogi unigolion ag anghenion lluosog a chymhleth. Mae'r modelau hyn yn amrywio o ran ffurf ac yn adlewyrchu demograffeg a thirwedd ardaloedd lleol. Mae rhai wedi'u datblygu ac yn rheoli nifer sylweddol o achosion ac y gall eraill gymryd dull ar raddfa lai.
Yn gryno, nid yw modelau cydlynu achosion yr un peth ledled Cymru, ac ni ddylen nhw fod. Nid ydyn ni eisiau ail-greu’r hyn sy'n bodoli eisoes. Mae'r holl dystiolaeth ar fforymau aml-asiantaeth yn dangos bod prynu i mewn a pherchnogaeth lleol yn allweddol i'w llwyddiant. Rydyn ni eisiau datblygu arfer sydd wedi'i ddatblygu gan awdurdodau lleol oherwydd ei fod yn gweithio iddyn nhw, nid gorchymyn model na fydd yn gweithio, yn ôl pob tebyg. Am y rheswm hwn, ni allaf i gefnogi gwelliant 56, sy'n ceisio gosod protocol cenedlaethol, dull na fydd yn gweithio ac nad yw'n adlewyrchu'r arfer presennol. Yn lle hynny, bydd canllawiau ymarfer yn nodi'r egwyddorion ar gyfer datblygu'r protocolau hyn, ochr yn ochr â gwybodaeth am drothwy a rheoli achosion, y byddwn ni'n cynhyrchu ar y cyd gyda phartneriaid. Mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill.
Mae gwelliant 55 yn camddeall yr ethos partneriaeth weithredol y tu ôl i adran 24. Mae cydlynu effeithiol yn dibynnu ar gyfnewid gwybodaeth, perthnasoedd cryf a chyfathrebu, ac nid oes yr un ohonyn nhw'n cael eu sefydlu trwy'r ymarfer papur y mae'r gwelliant hwn yn ei hyrwyddo. Mae'r gwelliant yn awgrymu y bydd yr awdurdod lleol yn datblygu ei fodel ei hun ac yna'n rhoi gwybod i eraill amdano trwy ei gyhoeddi. Mae hyn yn tanseilio diben cydlynu achosion, yn rhwystro cynhyrchu ar y cyd ac yn cyfyngu ar hyblygrwydd. Rhaid i'r model ei hun gael ei ddatblygu ar y cyd a'i berchen ar y cyd, i sicrhau ei fod yn gweithio i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthwynebu'r gwelliant hwn.
Rhys ab Owen i ymateb.
Dim byd i'w ychwanegu. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 55? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae fe. Felly, fe gymerwn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 55. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 55. Felly, o blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwelliant 55 wedi'i wrthod.
Gwelliant 55: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 56. Ydy e'n cael ei gynnig gan Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 56 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais, gwelliant 56. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais yn erbyn gwelliant 56. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 56 yn methu.
Gwelliant 56: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 7. Mae'r seithfed grŵp yma o welliannau amrywiol. Gwelliant 28 yw'r prif welliant, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cyflwyno'r gwelliannau yma.
Cynigiwyd gwelliant 28 (Jayne Bryant).
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 28 yn ymwneud ag adran 28(4) y Bil, sy'n gwella adran 98 o Ddeddf 2014 i sicrhau bod canllawiau statudol o dan Ran 2 o'r Ddeddf honno yn cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â phob partner perthnasol. Mae'r gwelliant yn dechnegol ei natur ac yn sicrhau bod yr iaith sy'n cael ei defnyddio yn y ddarpariaeth newydd yn gyson â'r iaith sy'n cael ei defnyddio yn adran 98 ac yn cyfeirio at Ran 2 o Ddeddf 2014.
Mae gwelliant 30 hefyd yn ymwneud ag adran 98 o Ddeddf 2014 ac mae'n dechnegol ei natur, gan sicrhau cysondeb terminoleg o fewn adran 98. Mae'n rhoi eglurder bod y canllawiau y gall Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan adran 98 o Ddeddf 2014 yn ymwneud â Rhan 2 o'r Ddeddf honno.
Siân Gwenllian.
Ddim ar y grŵp yma.
Neb arall. Grŵp 8 yw hwn. [Torri ar draws.] Nage—grŵp 7 yw hwn. Diolch. Ie, fy nghamgymeriad i. Grŵp 7 yw hwn. Unrhyw beth—? Neb yn siarad. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 8 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chyflwr y llety. Gwelliant 80 yw'r prif welliant. Siân Gwenllian sy'n cyflwyno'r gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 80 (Siân Gwenllian).
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r gwelliant yn y grŵp yma yn fy enw i yn ymwneud â chyflwr ac ansawdd y llety, ac yn benodol y ddarpariaeth o dan adran 29 o Ddeddf 2014. Mae'r adran yna yn nodi’n glir na ddylai awdurdod lleol ystyried llety sy’n cynnwys perygl categori 1 fel llety addas. Gadewch inni fod, felly, yn gwbl glir ar yr egwyddor sylfaenol: ni ddylai neb orfod byw mewn llety sy’n anaddas i fyw ynddo fo, ac mae'r gwelliant yn y grŵp yma yn fy enw i yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r broblem honno.
Mae peryglon categori 1 yn cael eu cydnabod fel risg difrifol i iechyd a diogelwch preswylwyr mewn eiddo—pethau fel grisiau peryglus, diffygion trydanol, tamprwydd sylfaenol. Mae mynd i’r afael â’r materion yma yn hollbwysig am eu bod nhw hefyd yn bygwth llesiant yr unigolyn—dydy o ddim jest yn fater o ddiogelwch ac iechyd; mae llesiant yn dod i mewn iddo fo hefyd. Mae gan awdurdodau lleol eisoes ddyletswydd statudol i weithredu yn erbyn y peryglon yma, felly fyddai ychwanegu’r gofyniad yma ar wyneb y Bil ddim yn chwyldroadol nac yn faich newydd sylweddol, ond, yn hytrach, mi fyddai fo’n gwneud yn eglur nad ydy hi'n dderbyniol i awdurdodau lleol gomisiynu neu ystyried llety sy'n cynnwys y peryglon yma. Rydym ni'n credu'n gryf y dylai'r safon sylfaenol, sef na all llety sy'n cynnwys perygl categori 1 fyth fod yn addas—bod angen i hynny, felly, fod ar wyneb y Bil. Mae hyn yn gosod llinell ddisgwyliadau clir ac yn anfon neges ddiogelwch bendant ynghylch unigolion sy'n wynebu amgylchiadau o'r fath yna bob dydd. Felly, ar y sail yna, dwi'n gofyn i chi gefnogi'r gwelliant yma—cam synhwyrol, cymesur ac egwyddorol i sicrhau nad ydy llety o dan unrhyw amgylchiadau yn tanseilio diogelwch na llesiant y bobl fwyaf agored i niwed.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb—Jayne Bryant.
Nod gwelliant 80 yw gwahardd defnyddio llety sy'n cynnwys perygl categori 1 ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau digartrefedd. Gadewch i mi ddweud yn gyntaf ac yn glir na ddylai neb fyw mewn llety sy'n anniogel, a gallwn ni gytuno'n gryf ar y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn. Fel yr wyf i wedi nodi yn fy ymateb i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, mae gan Weinidogion Cymru eisoes ddigon o bwerau i gyflawni ein bwriad polisi ar addasrwydd llety drwy is-ddeddfwriaeth. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ddiangen.
Mae'r Papur Gwyn yn nodi sawl maes sy'n ymwneud ag addasrwydd llety lle byddwn ni'n blaenoriaethu defnyddio'r pwerau deddfwriaethol eilaidd hyn. Mae'r rhain yn cynnwys peryglon categori 1, ond hefyd newidiadau sy'n gysylltiedig â gorlenwi a rhannu mannau cysgu. Mae sawl maes lle mae angen gweithredu i wella cyflwr llety, ac rwy'n credu bod angen ystyried y rhain gyda'i gilydd, gan weithio gyda'n partneriaid cyflenwi. Bydd datblygu is-ddeddfwriaeth yn barhaus gyda'n partneriaid yn sicrhau ein bod ni'n darparu ymateb effeithiol sy'n ystyried y materion ehangach hyn a bydd yn ein galluogi ni i weithio trwy faterion cymhleth, fel sut mae peryglon yn cael eu hadrodd arnyn nhw ar ôl lleoli, amserlenni ar gyfer ymateb ac unrhyw eithriadau angenrheidiol. Mae hefyd yn angenrheidiol sicrhau ein bod ni'n deall yr effeithiau ar bob awdurdod lleol ac yn cynnig cymorth ychwanegol i'r rhai y mae'r newidiadau yn effeithio'n anghymesur arnyn nhw.
Mae angen i ni fod yn gydnaws â safonau ansawdd tai Cymru a'r gofynion newydd i landlordiaid ymchwilio i beryglon difrifol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill eleni. Bydd y mesurau hyn yn cryfhau atebolrwydd a thryloywder ar draws y sector ac yn herio methiannau annerbyniol gan landlordiaid. Fodd bynnag, mae angen peth amser i ymwreiddio'r newidiadau ac i sicrhau bod ein his-ddeddfwriaeth yn cyfannu i'r cyd-destun polisi ehangach hwn. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliant diangen hwn, ond nodaf i fy ymrwymiad parhaus i ddefnyddio'n pwerau presennol i gyflawni'r un nod. Nid ymrwymiad mympwyol yw hwn. Mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn trafod gydag awdurdodau lleol er mwyn i'r Llywodraeth nesaf allu cyflwyno rheoliadau yn gynnar yn yr wythfed Senedd. Gofynnaf felly i'r Aelodau wrthod gwelliant 80.
Siân Gwenllian i ymateb.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gweld yr hyn mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, ond dwi yn dymuno symud y gwelliant yma i bleidlais, oherwydd mae peryglon categori 1 yn cael eu cydnabod fel risg difrifol i iechyd a diogelwch preswylwyr mewn eiddo, ac mae'n fater o egwyddor bwysig wnaiff symud pethau ymlaen yn gynt, dwi'n credu, o'i gael o ar wyneb y Bil. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 80? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 80. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 80, ac felly canlyniad y bleidlais yw bod 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwelliant 80 wedi'i wrthod.
Gwelliant 80: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â chydweithredu. Gwelliant 57 yw'r prif welliant. Rhys ab Owen sy'n cynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 57 (Rhys ab Owen).
Diolch yn fawr, Llywydd. Byddwch chi'n falch o wybod bod y rhesymau dros y gwelliannau hyn union yr un fath â'r rhai a gafodd eu hamlinellu ar gyfer grŵp 5 ar gyfer y sectorau addysgol a meddygol, felly ni fyddaf i'n dweud llawer. Byddai'r gwelliannau yn fy enw i yn ymestyn y ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodedig i gydweithredu â chais gan awdurdod lleol i gynnwys practisau meddygon teulu ac awdurdodau addysg lleol yng Nghymru. Ni wnaf i ailadrodd y rhesymau pam fy mod i o'r farn bod hyn yn syniad da. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth dda. Diolch yn fawr.
Mae'r gwelliannau hyn i adran 32 wedi'u cynnwys i gyflawni nifer o amcanion cysylltiedig a phwysig. Yn gyntaf, maen nhw'n ceisio sicrhau bod gan landlordiaid gyfle i fanteisio ar wybodaeth berthnasol am anghenion tai a chymorth aelwydydd pan fydd yn ofynnol iddyn nhw gydymffurfio â chais i ddarparu llety, a thrwy hynny eu galluogi i wneud penderfyniad dyrannu priodol a gwybodus. Yn ail, mae'r gwelliannau yn egluro bod y ddyletswydd hon yn berthnasol dim ond o ran stoc tai cymdeithasol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn benodol, maen nhw'n ei gwneud yn glir nad yw'n bosibl cyfarwyddo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddyrannu llety o'u portffolios tai'r farchnad, rhent canolradd neu lety myfyrwyr. Yn drydydd, mae'r gwelliannau'n darparu bod yn rhaid i ganllawiau statudol priodol fod ar waith cyn i'r darpariaethau hyn ddod i rym, er mwyn ategu gweithredu cyson ac effeithiol. Yn olaf, maen nhw'n sicrhau ei bod yn ofynnol i awdurdodau tai lleol yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ystyried y canllawiau wrth arfer eu swyddogaethau o dan y darpariaethau hyn. Diolch.
Nod gwelliannau 57 a 58, a gyflwynwyd gan Rhys, yw cynnwys awdurdodau addysg lleol a gwasanaethau gofal sylfaenol yn y ddyletswydd i gydweithredu. Am y rhesymau yr wyf eisoes wedi'u nodi o ran gwelliannau 53 a 54, ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn, sy'n amhriodol o eang ac yn anghydnaws â diben y ddyletswydd.
Mae'r ddyletswydd i gydweithredu yn galluogi awdurdodau tai lleol i ofyn am gydweithrediad personau penodedig wrth arfer eu swyddogaethau digartrefedd. Byddai ymestyn y ddyletswydd hon i awdurdodau addysg lleol a gwasanaethau gofal sylfaenol yn amhriodol, gan fod y cyrff hyn yn annhebygol o allu cyfrannu'n ystyrlon at nodau bwriadedig y ddyletswydd. Byddai'r gwelliannau yn rhoi'r ddyletswydd nid yn unig ar feddygon teulu, ond ar fferyllwyr, optegwyr a deintyddion y GIG—cyrff na all chwarae unrhyw rôl berthnasol i'r ddyletswydd. Yn yr un modd, nid yw dyletswydd sydd wedi'i rhoi ar yr awdurdod addysg yn targedu rolau proffesiynol perthnasol.
Mae'r Bil yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau sy'n golygu y gallwn ni ychwanegu cyrff perthnasol at y rhestr o unigolion sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd dros amser. Y pŵer hwn yw'r dull mwyaf priodol ar gyfer ychwanegu at y rhestr yn y dyfodol, gan ganiatáu ymgynghori priodol a sicrhau bod y rhai sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn gallu cyflawni'u nodau'n ystyrlon. Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn. Rhaid i'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd i gydweithredu fod mewn sefyllfa i gynorthwyo awdurdodau tai lleol yn unol â diben y ddyletswydd. Nid felly'r cyrff a ychwanegir trwy'r gwelliannau hyn.
Mae adran 32 yn cyflwyno dyletswydd newydd ar landlordiaid cymdeithasol i gydymffurfio â chais awdurdod lleol i gynnig llety addas i ymgeisydd y mae'r ddyletswydd ddigartrefedd derfynol yn ddyledus iddo, oni bai bod rheswm da i beidio â gwneud hynny. Mae gwelliant 75 yn cynnig mewnosod llinell ychwanegol yn adran 32, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y ddyletswydd hon yn gweithredu dim ond o ran tai cymdeithasol a fyddai ar gael ar gyfer dyraniad o dai cymdeithasol o dan 160B o Deddf Tai 1996, ac mae hynny felly dim ond yn gynnig llety at ddibenion Rhan 6 o'r Ddeddf Tai.
Nid wyf i'n credu bod angen hyn. Mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gynnig llety addas oni bai bod rheswm da i beidio â gwneud hynny. Byddai diffyg llety addas yn rheswm da. Nid oes disgwyl i landlordiaid cymdeithasol gynnig na darparu llety y maen nhw'n ei reoli neu'n berchen arno at ddibenion heblaw am dai cymdeithasol. Byddai disgwyliad o'r fath yn afresymol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant 75 gan ei fod yn ddiangen.
Yng Nghyfnod 2, cyflwynais welliant sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi canllawiau, gan ddisodli'r pŵer yn ôl disgresiwn blaenorol i gyhoeddi canllawiau, ar y mater hwn. Diben y canllawiau yw cefnogi awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol i weithredu'r ddyletswydd newydd yn adran 32. Gall pob partner felly fod yn sicr y bydd canllawiau ar waith.
Mae gwelliant 76 yn ceisio gwneud canllawiau ar rannu gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth i gefnogi adran 32 yn ofynnol, ac mae gwelliant 77 yn gosod gofynion ynghylch amseru cyhoeddi. Gan mai dim ond i lety addas y gall awdurdodau lleol gyflawni'r ddyletswydd derfynol, mae'n dilyn y bydd angen iddyn nhw rannu gwybodaeth berthnasol a gwneud hynny yn unol â'r trefniadau presennol i gyflawni hyn.
Mae cydweithredu da yn dibynnu ar gyfnewid gwybodaeth sy'n angenrheidiol, yn gymesur ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Rwyf wedi ei gwneud yn glir, ar sawl achlysur, mai'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu yn y modd hwn, yw trwy ddefnyddio protocolau rhannu gwybodaeth. Rwy'n ymrwymedig i gefnogi'n partneriaid i ddatblygu'r rhain ac mae fy swyddogion eisoes mewn cysylltiad â thîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru i nodi ffyrdd o ddarparu'r cymorth hwn.
Rhaid i mi ddweud hefyd nad yw drafftio gwelliant 76 yn gweithio yn y ffordd yr wyf i'n amau ei fod wedi'i fwriadu. Wrth geisio gofyn am ganllawiau ar rannu gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth, mae'r gwelliant yn creu effaith niweidiol annymunol. Mae'n awgrymu, trwy leoliad y geiriau sydd wedi'u mewnosod a'r cyfeiriad at 'yn benodol', y gall y canllawiau gofynnol am 'resymau da', 'cyfnodau rhesymol' a 'cheisiadau rhesymol' ond ymwneud â rhannu gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth. Rydyn ni eisiau i'r canllawiau hefyd ymwneud â phethau eraill, fel argaeledd stoc dai addas. Felly, gan adael rhinweddau'r effaith arfaethedig o'r neilltu, ni allaf ei gefnogi ar sail dechnegol.
Ni fydd gwelliant 77 ychwaith yn gweithio fel yr wyf yn tybio y bwriadwyd. Byddai'r gwelliant yn gofyn bod canllawiau ar waith cyn deddfu, ond mae'r deddfu yn digwydd ar adeg cael Cydsyniad Brenhinol. Byddai hyn yn gofyn i'r canllawiau gael eu cyhoeddi cyn i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol, a fyddai'n anymarferol. Rydyn ni'n amau mai'r bwriad oedd i'r canllawiau fod yn ofynnol cyn i'r adran ddod i rym, yn hytrach na chyn deddfu, ond nid dyna fyddai'r gwelliant yn ei gyflawni.
Mae gwelliant 78 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol ystyried y canllawiau, ac fel y dywedais i, nid yw'r gwelliannau ehangach sy'n ymwneud â'r canllawiau hyn yn gweithio, felly rwy'n amau y gallai'r gwelliant hwn ddisgyn. Beth bynnag, nid oes angen gwelliant i'r perwyl hwn. Mae adran 98 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried canllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fyddan nhw'n arfer eu swyddogaethau digartrefedd. Felly, rwy'n annog pob Aelod i wrthod gwelliannau 57, 58, 75, 76, 77 a 78.
Rhys ab Owen i ymateb. Na. Felly, gwnawn ni symud at bleidlais ar welliant 57. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Felly, agor y bleidlais ar welliant 57. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 12 yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 57 wedi ei wrthod.
Gwelliant 57: O blaid: 12, Yn erbyn: 24, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 58. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 58 (Rhys ab Owen).
Ydy. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 58. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 12 yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 58 wedi ei wrthod.
Gwelliant 58: O blaid: 12, Yn erbyn: 24, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 75 (Joel James).
Ydy.
A oes gwrthwynebiad i welliant 75? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 75. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 36 yn erbyn. Mae gwelliant 75 wedi'i wrthod.
Gwelliant 75: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 76, Joel James. A yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 76 (Joel James).
Ydy, mae e'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 76. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 36 yn erbyn. Mae gwelliant 76 wedi'i wrthod.
Gwelliant 76: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 77 (Joel James).
Ydy. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 77. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 36 yn erbyn. Mae gwelliant 77 wedi'i wrthod.
Gwelliant 77: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 78 (Joel James).
Ydy, gan Joel James.
A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 78. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 78 wedi ei wrthod.
Gwelliant 78: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 10 yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â manipiwleiddio bwriadol. Gwelliant 59 yw'r prif welliant. Rhys ab Owen.
Cynigiwyd gwelliant 59 (Rhys ab Owen).
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae gwelliant 59 yn galluogi ailystyried y prawf manipiwleiddio bwriadol pan fo newid perthnasol mewn amgylchiadau. Mae gwelliant 60 yn sicrhau, er mwyn defnyddio'r prawf manipiwleiddio bwriadol, bod yn rhaid iddi fod yn glir mai bwriad y person oedd manipiwleiddio system yn fwriadol. Mae gwelliant 61 yn amddiffyn pobl y gallai fod wedi eu canfod eu bod wedi manipiwleiddio'n fwriadol, ond a oedd yn destun cam-drin domestig neu orfodaeth, a arweiniodd at y camau hyn. Mae gwelliant 62 yn darparu y dylai'r awdurdod lleol ysgrifennu llythyr 'bwriadu' cyn defnyddio'r cymal manipiwleiddio bwriadol. Ac yn olaf, mae gwelliant 63 yn galluogi Llywodraeth Cymru i wneud rheoliadau i ddefnyddio amserlen y mae'r prawf manipiwleiddio bwriadol yn parhau i fod yn fyw yn ei hystod. Byddai hyn yn cadw'r ataliad i bobl beidio â manipiwleiddio'r system, ond byddai hefyd yn golygu nad yw pobl yn cael eu gwahardd am oes.
Pam mae angen y gwelliannau hyn? Wel, rwy'n cytuno â phryderon nid yn unig y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel sydd wedi'u hamlinellu yng nghasgliad 4 o'i adroddiad Cam 1 ar y Bil, ond hefyd, unwaith eto, yr elusennau digartrefedd, bod yn rhaid i ni sicrhau bod prawf manipiwleiddio bwriadol yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n seiliedig ar drawma, fel nad yw'n gadael pobl sy'n agored i niwed heb fedru cael mynediad at dai cymdeithasol, ac nad yw'n gwneud sefyllfa pobl agored i niwed hyd yn oed yn waeth. Mae angen i ni gadw ar flaen ein meddyliau nad bwriad y Bil hwn yw cosbi, ond dod â digartrefedd i ben yng Nghymru. Byddai fy ngwelliannau 59 i 63 yn ein gweld ni'n gweithredu ar yr egwyddor bwysig honno. Diolch yn fawr.
Diolch i Rhys am gyflwyno'r gwelliannau hyn. Bwriad y prawf manipiwleiddio bwriadol yw datgymell rhag unrhyw weithred fwriadol sy'n peryglu llety presennol unigolyn er mwyn cael mynediad at dai cymdeithasol, neu gael flaenoriaeth wrth wneud cais amdano. Ni fydd y prawf yn effeithio ar fynediad at gymorth digartrefedd. Bydd yn golygu na fydd yr ymgeisydd yn cael ffafriaeth ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'i ddigartrefedd. Bydd unrhyw ffafriaeth resymol arall yn cael ei gadw. Bydd unrhyw ddyletswydd ddigartrefedd sy'n berthnasol iddyn nhw yn parhau i fod yn ddyledus i ymgeiswyr.
Mae gwelliant 59 yn cynnig gwella adran 35, fel na fyddai ymgeisydd y cafodd ei ganfod yn flaenorol ei fod wedi manipiwleiddio'r system tai yn fwriadol, ar ôl gofyn am ailystyriaeth yn dilyn newid mewn amgylchiadau, yn cael ei drin fel ei fod wedi gwneud hynny mwyach. Rwy'n deall y bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwn, ond, yn ymarferol, mae'n ddiangen ac yn anymarferol. Nid yw'n glir sut y byddai newid amgylchiadau yn effeithio ar y camau cychwynnol y gwnaeth yr ymgeisydd ei gymryd i fanipiwleiddio'r system yn fwriadol, a bydd y gwelliant yn creu dryswch ac yn arwain at anghysondeb yn ymarferol. Mae'r Bil eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol adolygu penderfyniadau sy'n ymwneud â manipiwleiddio bwriadol pan fydd ymgeiswyr yn gofyn am hynny.
Mae gwelliant 60 yn cynnig gwelliannau eraill i adran 35, sy'n dyblygu'r drafftio presennol. Yn amlwg, mae hyn yn ddiangen, ac mae drafftio'r prawf manipiwleiddio bwriadol newydd yn disgrifio'n ddigonol y gweithredoedd neu'r hepgoriadau sydd wedi'u bwriadu i olygu ceisio manipiwleiddio'r system dyrannu tai. Mae'r drafftio presennol ynghylch y prawf eisoes yn cyflwyno diogelwch ychwanegol drwy egluro na ddylai gweithredoedd neu hepgorion a gafodd eu cyflawni'n ddidwyll gan berson nad oedd yn ymwybodol o ffaith berthnasol eu hystyried yn fwriadol. Felly, rwy'n annog Aelodau i wrthod gwelliant 60 ar y sail ei fod yn dyblygu'r drafftio presennol.
Mae gwelliant 61 yn gwella adran 35 i ddarparu nad yw ymgeiswyr a oedd yn ddioddefwyr cam-drin yn cael eu canfod i fod wedi manipiwleiddio'r system dai yn fwriadol. Er fy mod i'n deall y pryder i'r rhai sydd wedi wynebu cam-drin, mae'r prawf eisoes yn darparu mesurau diogelu digonol, sy'n cael eu drafftio'n eang i gynorthwyo cynhwysiant a hyblygrwydd.
Mae'r prawf manipiwleiddio bwriadol yn berthnasol dim ond pan fydd ymgeisydd yn rhoi'r gorau i feddiannu llety a oedd yn rhesymol iddo ei feddiannu. Gadewch i mi fod yn glir, ni fyddai byth yn rhesymol i rywun sy'n wynebu cam-drin barhau i feddiannu llety gyda'i gamdriniwr. Byddai profiad o gam-drin o fewn y llety hwnnw yn ei gwneud yn afresymol i'w feddiannu, felly ni fyddai'r prawf yn berthnasol mewn amgylchiadau o'r fath. Yn ogystal, hyd yn oed pan fo ymgeiswyr wedi ymrwymo i drefniadau sy'n arwain at roi'r gorau i feddiannu llety y byddai fel arall wedi bod yn rhesymol iddyn nhw ei feddiannu, dim ond pan nad oes rheswm da arall pam y daeth y person yn ddigartref y gall y prawf fod yn berthnasol. Felly, rwy'n credu nad yw'r gwelliant hwn yn angenrheidiol ac yn cyfyngu'r ddarpariaeth yn ddiangen.
Mae gwelliant 62 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod tai lleol ysgrifennu at yr ymgeisydd yn rhoi gwybod iddo ei fwriad i ddefnyddio'r prawf a chaniatáu digon o amser i'r ymgeisydd ymateb yn ysgrifenedig. Nid oes modd gweithredu'r gwelliant hwn yn effeithiol. Fel yr wyf i wedi mynegi'n barhaus, bydd yn bwysig bod goblygiadau ymddygiad yn cael eu trafod gydag ymgeiswyr yn gynnar er mwyn atal digartrefedd diangen rhag digwydd, a bydd hyn yn cael ei ddarparu ar ei gyfer mewn canllawiau. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, dim ond pan fydd wedi cyflawni'r prawf y bydd yr ymddygiad sy'n bodloni'r prawf yn dod i sylw awdurdod. Yn yr achosion hyn, ni fydd gan unrhyw ohebiaeth rybuddio unrhyw bwrpas.
Mae gwelliant 63 yn darparu er mwyn i Weinidogion Cymru ragnodi mewn deddfwriaeth yr amser hwyaf y gall prawf manipiwleddio bwriadol ac unrhyw ddileu dilynol o ran dewis rhesymol fod mewn grym ar gyfer ymgeisydd. Unwaith eto, mae gwelliant o'r fath yn anymarferol ac nid yw'n ystyried pwysau lleol fel hygyrchedd tai cymdeithasol a'r llety dros dro sydd ar gael. Mae'r gwelliant hefyd yn ennyn pryder ynghylch canlyniadau anfwriadol. Nid ydyn ni eisiau i bobol wynebu risg o aros mewn llety dros dro am gyfnod hirach nag y mae'n rhaid iddyn nhw, neu ddatgymell rhag defnyddio ffurfiau ehangach o lety. Gallai amserlen anymarferol arwain at ymgeiswyr yn cael eu dadflaenoriaethu am gyfnod hirach a thanseilio'r hyblygrwydd sydd gan awdurdodau lleol ynghylch defnyddio'r prawf, gan greu ras am yr amserlen hiraf, nid y byrraf, a rhoi pwysau ychwanegol ar ddyraniad tai cymdeithasol.
Roedd cyflwyno'r prawf manipiwleiddio bwriadol yn argymhelliad gan y panel adolygu arbenigol ac mae wedi'i ddrafftio'n ofalus iawn i sicrhau ei fod yn darparu cydbwysedd rhwng atebolrwydd a chefnogaeth. Bydd canllawiau yn chwarae rhan hanfodol wrth weithredu'r prawf a bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r canllawiau hyn. Felly, ni allaf i gefnogi gwelliannau 59, 60, 61, 62 a 63 ac rwy'n annog y Senedd i bleidleisio yn eu herbyn.
Ydy Rhys ab Owen yn moyn ymateb? Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 59? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 59. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 59: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 60 yn cael ei symud, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 60 (Rhys ab Owen).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 60. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 60 wedi ei wrthod.
Gwelliant 60: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 61 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 61 (Rhys ab Owen).
Ydy, mae e, gan Rhys ab Owen. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 61. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Mae gwelliant 61 wedi ei wrthod, gyda 24 pleidlais o blaid a 25 yn erbyn.
Gwelliant 61: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 62 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 62 (Rhys ab Owen).
Ydy, gan Rhys ab Owen. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mi gymrwn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 62. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 62 wedi ei wrthod.
Gwelliant 62: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rhys ab Owen, gwelliant 63.
Cynigiwyd gwelliant 63 (Rhys ab Owen).
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni agor y bleidlais ar welliant 63. Cau'r bleidlais. O blaid dau, naw yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 63 wedi ei wrthod.
Gwelliant 63: O blaid: 2, Yn erbyn: 37, Ymatal: 9
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 11 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chofrestrau tai. Gwelliant 79 sydd gyntaf. Joel James sy'n cynnig gwelliant 79.
Cynigiwyd gwelliant 79 (Joel James).
Diolch, Llywydd. Gan mai dyma'r tro olaf i mi siarad heddiw, hoffwn i ailadrodd fy niolch blaenorol i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei hagwedd agored a'i hymgysylltu trwy gydol y broses hon, yn enwedig yng Nghyfnod 2, a diolch hefyd i'r rhai sydd wedi rhoi cymorth a chefnogaeth i mi wrth ddrafftio'r gwelliannau hyn.
Mae'r prif welliant hwn yn ceisio eithrio trosglwyddiadau rheoli, wedi'u cyflawni gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, o'r gofyniad i gael eu prosesu drwy'r gofrestr tai cyffredin. Byddai hyn yn cydweddu sefyllfa landlordiaid cymdeithasol cofrestredig â'r hyn sydd eisoes yn berthnasol i dai sy'n eiddo i awdurdodau lleol, pan fo trosglwyddiadau o'r fath wedi'u heithrio o'r fframwaith dyraniadau yn rhinwedd adran 159(5) o Ran 6 o Ddeddf Tai 1996.
Y rhesymeg dros yr eithriad hwn yw na fyddai, mewn llawer o achosion, yn ymarferol ei gyflawni, ac y gallai danseilio prif ddiben trosglwyddiadau o'r fath, sef sicrhau diogelwch a llesiant tenantiaid. Byddai darparu eithriad clir felly yn cefnogi ymyriadau amserol ac effeithiol lle mae angen ailgartrefu ar frys. Diolch.
Mae ein gwelliannau ni yn y grŵp yma yn gosod dyletswydd glir ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod gwybodaeth gyffredinol am gofrestrau tai, a'u gweithrediad wrth ddyrannu llety, yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.
Mae hwn yn welliant pwysig ac amserol. Ar hyn o bryd, er bod rhywfaint o ddata yn cael eu casglu a'u cyhoeddi ar StatsWales, does yna ddim data am y cofrestrau tai eu hunain ar gael mewn ffordd gyson na hygyrch, sydd yn anhygoel, a dweud y gwir. Ar y gorau, mae'r data yn ymddangos ar lefel eithaf uchel mewn asesiadau marchnad tai lleol, ac mae'r rhain yn cael eu diweddaru yn fympwyol, mae'n ymddangos, ar draws Cymru. Dwi yn ymwybodol bod rhanddeiliaid fel Shelter, er enghraifft, yn gorfod dibynnu ar geisiadau rhyddid gwybodaeth i ganfod faint o bobl sydd ar restrau aros, sy'n dangos pa mor anodd ydy cael gafael ar ddata cynhwysfawr. Dyna pam dwi yn credu bod cael canllawiau statudol yn hanfodol yn y maes yma. Mae cael data am gofrestrau tai yn cynnig cyfle gwirioneddol i wella tryloywder ar gyfer ymgeiswyr hefyd, ond ni fydd modd gwneud hynny os nad oes yna gysondeb o ran y ffordd mae'r data yn cael eu casglu, eu cofnodi a'u cyflwyno.
Mae yna rai enghreifftiau o arfer da yn barod. Mae Cyngor Caerdydd, er enghraifft, wedi datblygu cyfrifiannell amseroedd aros ers dros ddegawd, sy'n galluogi ymgeiswyr i weld gwybodaeth am nifer y cartrefi sydd ar gael a'u siawns nhw o gael dyraniad. Mae'r data sy'n sail i hynny eisoes yn cael eu casglu, ond dydy'r dull yma ddim wedi cael ei rowlio allan yn genedlaethol. Mi fyddai rhoi gofyniad cenedlaethol ar awdurdodau lleol i gyflwyno data manylach am restrau aros yn galluogi llunio darlun cenedlaethol clir o'r angen am dai—wel, o leiaf mi fyddai'n gliriach na'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd—ac mi fyddai modd defnyddio'r data yma yn well ar gyfer gosod targedau a monitro cynnydd.
Felly, dwi yn gofyn i'r Senedd gefnogi'r gwelliant yma. Mae gosod dyletswydd ar Weinidogion i gyflwyno canllawiau clir ar gasglu a chyhoeddi data yn gam synhwyrol a chymhesur i sicrhau cysondeb a gwell tryloywder. A dwi yn diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gydweithio efo fi ar y mater pwysig yma ers i ni ei drafod o'n gyntaf yng Nghyfnod 2.
Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i Siân Gwenllian a Joel James am gyflwyno'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Rwy'n croesawu'n arbennig gwelliannau Siân ar gofrestrau tai cyffredin a chofrestrau tai hygyrch, ac am y trafodaethau adeiladol a chydweithredol a gawsom ni dros yr wythnosau diwethaf. Mae'r ddwy ohonon ni'n cydnabod pwysigrwydd gwella tryloywder, cysondeb a dealltwriaeth y cyhoedd o'r angen am dai yng Nghymru. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i sicrhau y bydd gan y cyhoedd yn gyffredinol wybodaeth well a mwy cyson am y data sy'n cael ei gadw ar gofrestrau tai cyffredin a hygyrch.
Gadewch i mi ddechrau trwy ymdrin â gwelliant Joel. Nod gwelliant 79 yw nodi y dylai llety sy'n eiddo i landlord cymdeithasol neu sydd wedi'i reoli gan landlord cymdeithasol y dylai gael ei ystyried y tu allan i'r hyn sy'n cael ei gynnig drwy'r gofrestr tai cyffredin, gynnwys trosglwyddiadau llety i denantiaid sydd eisoes o dan gontract diogel neu gontract safonol rhagarweiniol. Mae Deddf Tai 1996 yn darparu eithriadau clir ar gyfer cynigion llety sy'n dod y tu allan i ddyraniadau tai cymdeithasol. Mae'r eithriadau hyn yn berthnasol i ddeiliaid contractau diogel a deiliaid contractau safonol rhagarweiniol presennol, pwy bynnag yw'r landlord. Felly, mae landlordiaid cymdeithasol eisoes wedi'u heithrio wrth gynnig llety i ddeiliaid contractau presennol, oni bai eu bod yn drosglwyddiadau ar gais yr ymgeisydd, ac felly mae'n bosibl gwneud y rhain y tu allan i'r gofrestr tai cyffredin. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ddiangen gan fod yr eithriad y mae'n ceisio ei gyflawni eisoes ar waith.
Gan droi at y gwelliannau a gafodd eu cyflwyno gan Siân, mae adran 37 o'r Bil eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestrau tai cyffredin a hygyrch gael eu sefydlu a'u cynnal gan awdurdodau tai lleol ac mae'n gwneud darpariaeth am reoliadau o ran y cofrestrau hyn. Mae'r gwelliannau hyn yn egluro disgwyliadau am yr wybodaeth a ddylai fod ar gael drwy'r cofrestrau hyn. Fe wnaf i ymdrin â phob gwelliant yn fyr.
Mae gwelliant 81 yn sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer cofrestrau tai cyffredin ac yn gysylltiedig â nhw. Mae gwelliant 82 yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheoliadau hyn ddarparu ar gyfer dau ganlyniad allweddol: bod yr ymgeisydd yn gallu cael mynediad at wybodaeth sy'n ymwneud â'i gais ei hun; a chyhoeddi gwybodaeth gyffredinol sy'n cael ei chadw ar y gofrestr. Bydd y darpariaethau hyn yn gwella dealltwriaeth ymgeiswyr ac yn cryfhau tryloywder o ran yr angen am dai lleol a chenedlaethol.
Mae gwelliant 83 yn galluogi'r rheoliadau i wneud darpariaeth ynghylch creu, casglu, coladu a chyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gofrestr neu'i gweithredu wrth ddyrannu tai. Bydd y pŵer eang hwn yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyhoeddi data yn gyson ac yn ystyrlon. Mae gwelliant 84 yn egluro y caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer galluogi swyddogaethau i gael eu harfer naill ai gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau tai lleol, fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn sicrhau y gall rheoliadau osod gofynion ar Weinidogion Cymru.
Mae gwelliant 85 yn sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer cofrestrau tai hygyrch ac yn gysylltiedig â nhw, gan atgyfnerthu'r ymrwymiad i wneud y rheoliadau a darparu sicrwydd i bartneriaid ynghylch cyflawni. Ar gyfer y gofrestr tai hygyrch, sy'n gofrestr o lety yn hytrach nag unigolion, mae gwelliant 86 yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau ddarparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth yn gyffredinol am weithrediad y gofrestr o fewn dyraniadau.
Mae gwelliant 87 yn sicrhau bod rheoliadau'n cynnwys creu, casglu, coladu a chyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gofrestr neu ei gweithredu. Mae'n darparu cymesuredd â'r gwelliant sy'n ymwneud â'r gofrestr tai cyffredin, wrth ganiatáu i'r manylion rheoleiddio gael eu haddasu'n fwriadol ar gyfer sut mae cofrestrau tai hygyrch yn cael eu rheoli'n lleol.
Mae gwelliant 88 yn egluro bod modd rhoi swyddogaethau o dan y rheoliadau i Weinidogion Cymru neu awdurdodau tai lleol. Yn yr un modd â chofrestrau tai cyffredin, bydd yn sicrhau bod modd gosod swyddogaethau ar Weinidogion Cymru o fewn y rheoliadau.
I gloi, Llywydd, diolch eto i Siân am ei hymgysylltu cadarnhaol ar y gwelliannau hyn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cryfhau'r Bil gyda'n gilydd a galluogi gwell tryloywder a dealltwriaeth gan y cyhoedd o'n system tai cymdeithasol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 81 i 88 a gwrthod gwelliant 79.
Joel James i ymateb.
Rwy'n hapus i symud i'r bleidlais.
Gwelliant 79. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 79. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 79 wedi ei wrthod.
Gwelliant 79: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 81. Ydy e'n cael ei symud, Siân Gwenllian?
Cynigiwyd gwelliant 81 (Siân Gwenllian).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 81? Nac oes. Mae gwelliant 81 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 82. Yw e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 82 (Siân Gwenllian).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 82? Nac oes. Mae e wedi cael ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 83, Siân Gwenllian?
Cynigiwyd gwelliant 83 (Siân Gwenllian).
Oes gwrthwynebiad i welliant 83? Nac oes. Mae e wedi cael ei basio, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 84. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 84 (Siân Gwenllian).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 85. Yw e'n cael ei gyflwyno?
Cynigiwyd gwelliant 85 (Siân Gwenllian).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 85 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 86. Yw e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 86 (Siân Gwenllian).
Ydy, gan Siân Gwenllian. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'n cael ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 87. Yw e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 87 (Siân Gwenllian).
Ydy, gan Siân Gwenllian. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 87 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 88. Yw e'n cael ei symud, Siân Gwenllian?
Cynigiwyd gwelliant 88 (Siân Gwenllian).
Ydy. Oes gwrthwynebiad iddo fe? Nac oes. Ac felly mae gwelliant 88 wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 12 yw'r grŵp nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â gwarantau rhent. Gwelliant 89 yw'r prif welliant. Siân Gwenllian sydd i'w gynnig.
Cynigiwyd gwelliant 89 (Siân Gwenllian).
Diolch yn fawr iawn. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â gwarantau rhent, ac yn benodol yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau clir i awdurdodau lleol ar wneud trefniadau lle mae awdurdod lleol yn gwarantu taliad rhent ar ran tenant. Felly, mae hwn yn ymwneud efo'r tenantiaid mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni, a'r pwrpas ydy tynnu sylw, mewn gwirionedd, at gyfle gwirioneddol i gryfhau’r Bil wrth gyflwyno darpariaethau ar warantwyr rhent, yn unol â’r bwriad polisi a oedd wedi ei nodi gan Lywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn ar dai digonol—y Papur Gwyn y buom ni yn rhan o'i baratoi yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio.
Yn y ddogfen yna, mae’r Llywodraeth yn cydnabod yr angen am ddull cenedlaethol cyson, efo meini prawf clir, er mwyn helpu pobl nad oes ganddyn nhw fynediad at warantwyr preifat. Ac mae hyn yn fater hynod ymarferol. Mae llawer o’r sefydliadau yr ydym ni'n cydweithio efo nhw yn cefnogi pobl sy’n byw mewn tlodi, neu’n agos iawn at dlodi, ac sydd heb rwydwaith cymorth cymdeithasol cryf. I’r bobl hynny, gall y gofyniad i ddarparu gwarantwr wrth geisio rhentu cartref fod yn rhwystr sylweddol, ac weithiau dŷn nhw ddim yn gallu symud ymlaen ac yn parhau i fod yn ddigartref oherwydd y rhwystr yma. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc sy’n profi digartrefedd neu sy’n ceisio ailsefydlu ar ôl cyfnod o ansicrwydd tai.
Mae gwarantau rhent sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol yn gallu gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i unigolion sydd yn methu sicrhau llety hebddyn nhw. Ac ar hyn o bryd, mae eu defnydd nhw yn amrywio’n sylweddol rhwng ardaloedd. Mae yna ddiffyg cysondeb o ran pwy sy'n gymwys, y telerau, a sut mae’r cymorth yn cael ei hyrwyddo neu ei gynnig. A dyna pam dwi'n meddwl bod y gwelliant yma mor bwysig. Trwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau, ar ôl ymgynghori efo awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol, fe ellir annog awdurdodau lleol i gynnig y cymorth hwn yn amlach ac yn fwy cyson ar draws Cymru.
Yn bwysig i'w gofio—dydy o ddim yn creu dyletswydd galed ar awdurdodau lleol i weithredu cynllun penodol, ond yn hytrach mae o'n darparu fframwaith cenedlaethol clir sy’n cefnogi ac yn grymuso awdurdodau lleol i helpu’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu cau allan o’r farchnad rhentu preifat. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i Siân Gwenllian am gyflwyno'r gwelliant hwn, ac rwyf i wedi bod yn falch o weithio gyda hi i ddatblygu'r ddarpariaeth arfaethedig.
Rwy'n cefnogi'r gwelliant sy'n ffurfioli ymrwymiad y gwnaethon ni yn y Papur Gwyn ynghylch sicrhau llwybr tuag at dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd. O ganlyniad i'r diwygiad, bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddatblygu canllawiau cenedlaethol i awdurdodau lleol ar ddarparu cynlluniau gwarantu rhent. Mae cynnwys y gwelliant hwn yn ategu ffocws atal cryf y Bil. Mae'n galluogi defnyddio dull ychwanegol i leihau rhwystrau rhag rhentu, gwella mynediad at dai a galluogi sefydlogrwydd tai unigol. Mae cynlluniau gwarantu rhent o fantais benodol i'r grwpiau sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddigartrefedd, gan gynnwys pobl ar incwm isel a'r rhai sy'n gadael gofal. Felly, rwy'n croesawu'r gwelliant a gafodd ei gyflwyno heddiw gan Siân. Mae'n cryfhau'r pecyn cymorth atal digartrefedd sy'n cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol ac yn cefnogi diben ein polisi ynghylch ymyrraeth gynnar ac atal digartrefedd yn gynnar yn y system.
Siân Gwenllian i ymateb?
Na. Felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 89? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 89 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 13 yw'r grŵp nesaf o welliannau, y grŵp olaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud ag adolygu a gweithredu'r Ddeddf. Gwelliant 90 yw'r prif welliant. Siân Gwenllian i gyflwyno'r gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 90 (Siân Gwenllian).
Diolch yn fawr iawn. Y nod efo'r gwelliannau yn y grŵp yma, yn eithaf syml, ond yn bwysig, ydy sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad clir a thryloyw o'u hadolygiad o sut mae'r Bil hwn yn gweithredu yn ymarferol a beth ydy ei effaith wirioneddol ar y system a'r bobl y bwriedir iddo fo eu cefnogi.
Gan gyfeirio'n ôl at y drafodaeth gynharach ar y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu', mi wnes i ddweud ein bod ni'n cydymdeimlo'n gryf efo'r egwyddorion sy'n sail i hynny. Dwi am weld y ddyletswydd yma'n gweithredu'n effeithiol ac, yn y tymor hwy, dwi eisiau gweld y ddyletswydd yn ehangu i gynnwys ystod ehangach o gyrff cyhoeddus, lle bo hynny'n briodol, er mwyn cryfhau yr agweddau ataliol, hollbwysig yn y maes yma. Dyna pam mae cael adroddiad statudol mor allweddol—ddim yn unig i fesur ei effaith o, er bod hynny yn bwysig yn ei hun, wrth gwrs, ond hefyd er mwyn llywio'r camau nesaf. Mi fyddai adroddiad o'r fath yn cynnig sail dystiolaeth glir i benderfynu pa welliannau pellach sydd eu hangen wrth symud ymlaen, ac a ydy'r amser yn briodol i gynnwys cyrff cyhoeddus pellach o fewn cwmpas y ddyletswydd. Ac fe allai hyn gynnwys yr heddlu hefyd, wrth gwrs, pe bai'r pwerau yn cael eu datganoli i Gymru, maes o law, yn unol â galwad y Senedd yma.
Mi fyddai adroddiad statudol yn darparu pwynt adolygu bwriadol i asesu sut mae 'gofyn a gweithredu' yn gweithio ar lawr gwlad, ac mi fyddai o'n caniatáu inni adlewyrchu ar brofiad y cyrff sydd eisoes o fewn cwmpas y ddyletswydd ac, fel roeddwn i'n dweud, ystyried yn ofalus a ddylid ymestyn y ddyletswydd. Dwi wedi gwrando yn ofalus ar y dadleuon sydd wedi cael eu cyflwyno gan athrawon a meddygon teulu ynghylch y pwysau sylweddol y maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd, a dyna pam roedden ni'n ymatal ar y gwelliannau hynny. Yn ein barn ni, mae eu heithrio nhw ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—hynny ydy’r penderfyniad cywir. Ond wrth symud ymlaen, wrth gwrs, fe all y sefyllfa yna newid.
Mae'n gwelliant olaf ni yn y grŵp yma yn un pwysig hefyd. Mae o'n sicrhau nad ydy'r adran sy'n delio efo manipiwleiddio bwriadol yn cael ei weithredu ochr yn ochr ar ddarpariaeth ehangach ar fwriadwyedd, sef intentionality. Hynny yw, dŷn ni ddim am weld intentionality yn gorffen cyn i fanipiwleiddio bwriadol ddod i mewn, a vice versa. So, yr amcan efo cyflwyno gwelliant syml, ymarferol ydy amlinellu'n glir na ddylid gweithredu'r ddau brawf ar yr un pryd. Dydy o ddim yn gwneud synnwyr, yn ddeddfwriaethol nac yn weithredol, i'w cael nhw yn rhedeg ochr yn ochr. Ac mae'r gwelliant, felly, yn sicrhau eglurder o fewn y Bil ac yn osgoi anghysondebau posib wrth ei weithredu fo.
Felly, ar y sail yna, mi fydd ein gwelliannau ni yn y grŵp yma yn cryfhau'r ffordd ymlaen. Dwi eto yn diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gydweithredu yn adeiladol wrth inni drafod y gwelliannau penodol yma. Mi fyddai gosod gofyniad clir i gyhoeddi adroddiad statudol yn sicrhau atebolrwydd, yn cryfhau'r ddeddfwriaeth ac yn darparu'r mecanwaith angenrheidiol i sicrhau bod y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' yn gallu esblygu'n gyfrifol ac ar sail dystiolaeth wrth inni symud ymlaen.
Dyna fy nghyfraniad olaf i yn y drafodaeth yma y prynhawn yma, a dwi yn edrych ymlaen i Gyfnod 4 ac i weld y Bil pwysig yma yn symud ymlaen ac yn dod yn rhan o'r statud yma yng Nghymru.
Rwy'n siŵr y bydd pawb yn falch mai hwn yw fy nghyfraniad olaf heno. [Chwerthin.] Ni fyddaf i'n cynnig gwelliant 64 oherwydd ei fod yn cyflawni'r un peth â gwelliant 94 drwy Siân Gwenllian, ac rwy'n annog pawb i gefnogi'r gwelliant hwnnw.
O ran gwelliant 65, byddai'n gweld diddymu gwahaniaethau yn yr hawl sy'n gysylltiedig ag angen blaenoriaethol a diddymu gwahaniaethau yn yr hawl sy'n gysylltiedig â digartrefedd bwriadol yn dod i rym erbyn 31 Mawrth 2028 fan bellaf. Pam y dyddiad cau hwnnw, efallai eich bod chi'n gofyn? Wel, mae diddymu angen blaenoriaethol a bwriadoldeb yn hanfodol i sefydlu system ddigartrefedd sy'n ystyriol o drawma ac sy'n canolbwyntio ar y person. Fodd bynnag, fel y mae'n sefyll, mae'n hynod siomedig darllen nad yw'r memorandwm esboniadol yn ymrwymo i'w dileu tan 2031—nid yn y seithfed Senedd, ond yn yr wythfed Senedd.
Mae sefydliadau yn aml yn gweld y cymal bwriadoldeb yn cael ei gamddehongli a'i gamddefnyddio mewn ffyrdd nad ydyn nhw'n cyd-fynd â safbwyntiau'r Senedd hon, ac nid ydyn nhw'n cyd-fynd â'r rhesymau pam y cafodd y ddeddf hon ei chyflwyno yn y lle cyntaf. Mae enghreifftiau diweddar iawn o gamddefnyddio'r cymal bwriadoldeb o waith achos Shelter Cymru yn cynnwys hyn: person sydd wedi gwneud ei hun yn ddigartref yn fwriadol oherwydd ei fod wedi gadael llety dros dro i aros gyda'r teulu ar ôl cael y clefyd crafu o amodau gwael y tŷ. Roedd achos arall o ddigartrefedd bwriadol pan wrthododd berson lety dros dro yn yr un ardal leol â'i gamdriniwr. Gallai hyn barhau tan 2031 os nad yw fy ngwelliannau i'n pasio.
Mae sgyrsiau gydag arbenigwyr â phrofiad a gweithwyr rheng flaen yn datgelu'r broblem enfawr gyda'r rhagdybiaeth bod person wedi gwneud ei hun yn ddigartref yn fwriadol. Yn aml, mae hyn yn achos o gamddehongli angen cymorth heb ei ddiwallu, llety anaddas, galwad am gymorth, ofn cam-drin, ecsbloetio gweithgarwch troseddol ac, mewn rhai achosion, pobl yn gyffredinol yn credu'u bod yn gwneud y peth gorau i osgoi mynd i ddyled. Yn amlwg, mae angen y diddymu, ond efallai eich bod chi'n gofyn a yw 31 Mawrth 2028 yn rhy gynnar. Wel, nac ydyw, a dyma pam: mae ymchwil o'r Alban, lle mae angen blaenoriaethol wedi'i ddiddymu'n raddol, yn dangos bod rhanddeiliaid yn teimlo y gallai'r newid fod wedi cael ei fyrhau'n sylweddol. Ac mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn gweithredu heb angen blaenoriaethol, ac mae defnyddio bwriadoldeb yn brin iawn. Yn 2024-25, dim ond 240 o ddyfarniadau angen blaenoriaethol a gafodd eu cofnodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru, a daeth 43 y cant o'r rheini gan un awdurdod, gyda dim ond wyth awdurdod lleol wedi'u cofnodi fel rhai sy'n defnyddio'r prawf hwn. Ac yn ystod yr un flwyddyn, dim ond 87 o bobl, 0.65 y cant o ymgeiswyr cymwys, a gafodd eu hystyried yn fwriadol ddigartref ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Yn amlwg, nid ydyn ni'n rhagweld y byddai diddymu angen blaenoriaethol a bwriadoldeb yn achosi llwythi achosion mawr a byddai'n achosi i lwythi achosion gynyddu'n sylweddol. Felly, pam yr oedi, Ysgrifennydd Cabinet? Cofiwch y byddai'r newidiadau polisi hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl agored i niwed. Diolchaf unwaith eto i'r elusennau digartrefedd sydd wedi fy helpu i ac wedi cefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch yn fawr.
Mae'r ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' yn cynrychioli newid diwylliannol sylweddol yn y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn nodi ac yn ymateb i risg digartrefedd ac rwy'n deall yr awydd i sicrhau bod ei weithredu yn destun craffu clir ac amserol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod adran 38 y Bil eisoes yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad ac effaith y newidiadau y mae'r Ddeddf hon yn eu gwneud ac i gyhoeddi adroddiad o fewn pedair blynedd i'r Ddeddf yn dod i rym yn gyflawn. Fodd bynnag, rwy'n derbyn efallai na fydd yr adolygiad eang hwn o'r Ddeddf yn caniatáu i ni archwilio gweithredu cynnar 'gofyn a gweithredu' ar yr adeg fwyaf ystyrlon.
Mae'r gwelliannau y gwnaeth Siân Gwenllian eu cyflwyno yn ceisio ymdrin â hyn. Gyda'i gilydd, mae gwelliannau 90-93 yn sicrhau bod 'gofyn a gweithredu' yn cael ei adolygu'n gynharach ac ar ei delerau ei hun, wrth gadw'r adolygiad ehangach ar draws y Ddeddf gyfan sy'n ofynnol o dan adran 38. Cymeraf y gwelliannau hyn yn eu tro.
Mae gwelliant 90 yn gwella adran 38 i ddileu'r gofyniad bod yn rhaid i'r adolygiad ar draws y Ddeddf gyfan ei hun gynnwys adroddiad sy'n cynnwys pob rhan o'r Ddeddf. Mae hyn yn adlewyrchu'r bwriad ar gyfer dyletswydd adrodd gynharach ar wahân, yn benodol ar 'gofyn a gweithredu', gan osgoi dyblygu diangen rhwng adroddiadau.
Mae gwelliant 91 yn creu gofyniad adrodd pwrpasol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith adran 94A—y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu'—o fewn dwy flynedd i'r darpariaethau 'gofyn a gweithredu' ddod i rym. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i hyfforddiant ac arweiniad ar y darpariaethau gael eu hymwreiddio ac i dystiolaeth gynnar ddod i'r amlwg, gan alluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn gyflym i'r hyn sydd wedi'i ddysgu.
Mae gwelliant 92 yn addasu adran 38(3) fel bod adolygiad y Ddeddf gyfan yn canolbwyntio ar weddill y newidiadau y mae'r Ddeddf yn eu cyflawni, gan gydnabod y bydd 'gofyn a gweithredu' eisoes wedi bod yn destun ei adolygiad wedi'i dargedu a'i adroddiad cyhoeddedig ei hun. Mae hyn yn cadw eglurder ar draws fframwaith adrodd y Bil.
Mae gwelliant 93 yn rhoi hyblygrwydd ynghylch amseriad adolygu'r Ddeddf gyfan drwy ganiatáu i Weinidogion Cymru gynnal yr adolygiad o newidiadau unigol pan fo'r darpariaethau perthnasol mewn grym yn sylweddol. O ystyried y dull cychwyn yn raddol yr ydyn ni'n ei fabwysiadu ar gyfer y ddeddfwriaeth, mae'r gwelliant yn sicrhau y gall y broses adolygu gydweddu'n agosach â chyflawni yn ymarferol, yn hytrach na bod ynghlwm wrth un dyddiad ar gyfer y Ddeddf gyfan.
Mae'r diwygiadau hyn yn rhoi strwythur adolygu cydlynol a chymesur. Maen nhw'n sicrhau bod 'gofyn a gweithredu', un o'r diwygiadau mwyaf arwyddocaol yn y Bil, yn cael adolygiad amserol, â ffocws heb greu dyletswyddau sy'n gorgyffwrdd na dyddiadau cau sy'n gwrthdaro. Ar yr un pryd, mae'r gwelliannau'n cadw uniondeb adolygiad ehangach y Ddeddf yn adran 38, ac yn sicrhau bod craffu yn parhau i fod yn gadarn ar draws y ddeddfwriaeth. Am y rhesymau hynny, rwy'n cefnogi gwelliannau 90-93 ac yn gwahodd yr Aelodau i gytuno i'r rheini.
Gan droi at welliant 65 gan Rhys ab Owen, mae hwn yn cynnig dyddiad cychwyn penodol o fis Mawrth 2028 ar gyfer diddymu'r angen blaenoriaethol a'r bwriadoldeb. Rwy'n deall yn llwyr yr awydd i weld y profion hyn yn cael eu dileu cyn gynted â phosibl. Maen nhw'n anghyson â'r system sy'n ystyriol o drawma, sy'n canolbwyntio ar y person yr ydyn ni'n ei datblygu, ac mae'r Bil eisoes yn ymrwymo i'w diddymu. Fodd bynnag, ni allai'r dystiolaeth gan randdeiliaid a phob un o'r tri phwyllgor fod wedi bod yn gliriach. Mae'n rhaid i'r darpariaethau hyn ddod ar ddiwedd gweithredu, unwaith y bydd y dyletswyddau atal, yr arfer dyrannu a'r ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' wedi ymwreiddio, ac unwaith y bydd gan y system y gallu i reoli'r dyletswyddau ehangach yn ddiogel.
Mae awdurdodau lleol yn arbennig wedi bod yn onest am y pwysau maen nhw'n eu hwynebu. Mae llety dros dro dan straen dwys, llwythi achosion yn uchel a'r cyflenwad tai yn gyfyngedig. Maen nhw eisoes yn ailstrwythuro i symud tuag at atal cynharach, ond mae angen yr amser a'r lle arnyn nhw y mae'r dull graddol yn ei ddarparu. Byddai dyddiad olaf un sefydlog yn 2028 yn torri ar draws y dilyniant gofalus hwnnw. Byddai'n dod â'r diwygiadau sy'n llyncu adnoddau i rym cyn bod y system yn barod, yn cynyddu'r pwysau ar lety dros dro, ac yn tanseilio'r manteision y mae'r Bil wedi'i gynllunio i'w cyflawni. Rydym ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddileu anghenion blaenoriaethol a bwriadoldeb, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac sy'n cefnogi'r system gyfan. Am y rhesymau hynny, ni allaf i gefnogi gwelliant 65.
Gan droi at welliannau sy'n ymwneud yn benodol â dechrau'r prawf manipiwleiddio bwriadol a dileu'r prawf bwriadoldeb, rwy'n diolch unwaith eto i Siân Gwenllian am gyflwyno gwelliant 94, sy'n berthnasol i ddechrau'r prawf manipiwleiddio bwriadol a diddymu'r prawf bwriadoldeb. Fel yr ydyn ni wedi'i drafod, mae'r Bil yn cyflwyno prawf manipiwleiddio bwriadol newydd. Os canfyddir bod ymgeiswyr wedi manipiwleiddio'r system ddigartrefedd yn fwriadol i gael mynediad at dai cymdeithasol, gall yr awdurdod tai lleol ddileu blaenoriaeth resymol sy'n cael ei rhoi trwy ddigartrefedd.
Mae'r Bil hefyd yn dileu'r prawf bwriadoldeb, sef un o'r profion sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i benderfynu'r hawl i gael cymorth digartrefedd, ac os caiff ei ganfod bod ymgeisydd yn ddigartref yn fwriadol, ni fydd y brif ddyletswydd digartrefedd yn ddyledus iddo. Mae'r profion hyn yn berthnasol mewn gwahanol systemau deddfwriaethol ac yn arwain at ganlyniadau gwahanol. Fodd bynnag, rwy'n deall pam mae llawer o'n partneriaid o'r farn na ddylai'r profion gael eu cynnal ar y cyd gan godi risg anfantais gronnol i ymgeiswyr. Effaith gwelliant 94 yw sicrhau na all y prawf manipiwleiddio bwriadol ddechrau nes bod y ddarpariaeth sy'n dileu'r prawf bwriadoldeb yn ddechrau. Rwyf i eisoes wedi amlinellu fy ymrwymiad i ddilyniannu dechrau adrannau 10 a 35 i atal unrhyw ganlyniadau anfwriadol pe bai'r ddau brawf yn cael eu cynnal ar yr un pryd. Rwy'n hapus i ddangos yr ymrwymiad hwnnw ymhellach, drwy gefnogi gwelliant 94. Mae gwelliant 64 yn ceisio cyflawni'r un peth. Er fy mod i, felly, yn cefnogi bwriad Rhys ab Owen, rhaid i mi wrthod y gwelliant, gan ei fod yn dyblygu gwelliant 94.
Felly, unwaith eto, rwy'n diolch i Siân a Rhys am gyflwyno'r gwelliannau hyn ac yn galw ar yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 90 i 94 ac i wrthod gwelliannau 64 a 65. Diolch, Llywydd.
Ydy Siân Gwenllian yn moyn ymateb? Nac ydy. Gwelliant 90. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 90. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn.
Mae'n drwg gennyf i. Rydw i dal ar y bleidlais olaf, mae'n debyg, neu mae fy nghyfrifiadur felly.
Cau'r bleidlais ar welliant 90. O blaid 38, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Mae gwelliant 90 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 90: O blaid: 38, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 91 yn cael ei symud gan Siân Gwenllian?
Cynigiwyd gwelliant 91 (Siân Gwenllian).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 91 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 92 yn cael ei symud gan Siân Gwenllian?
Cynigiwyd gwelliant 92 (Siân Gwenllian).
Symud.
Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 92. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae gwelliant 92 yn cael ei gymeradwyo.
Gwelliant 92: O blaid: 37, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 93 yn cael ei gynnig gan Siân Gwenllian?
Cynigiwyd gwelliant 93 (Siân Gwenllian).
Symud.
Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 93 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 29. Yn cael ei gynnig gan Ysgrifennydd y Cabinet—ydy e'n cael ei gynnig?
A yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 29 (Jayne Bryant).
Wedi'i gynnig.
Mae'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 30. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 30 (Jayne Bryant).
Wedi'i gynnig.
Oes gwrthwynebiad? Nac oes.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 66. Rhys ab Owen, ydy e'n cael ei symud? Chwechdeg chwech.
Cynigiwyd gwelliant 66 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. Felly, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais, felly, ar welliant 66. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Gwelliant 66: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 31 gan Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 31 (Jayne Bryant).
Wedi'i gynnig.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 31 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rhys ab Owen, dwi'n credu nad ydych chi'n moyn symud gwelliant 64. Felly, os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, mae gwelliant 64 heb ei symud.
Ni chynigiwyd gwelliant 64 (Rhys ab Owen).
Ydy gwelliant 65, Rhys ab Owen, yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 65 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 65? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 65. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 65 wedi'i wrthod.
Gwelliant 65: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 94 yw'r gwelliant olaf. Ydy e'n cael ei symud, Siân Gwenllian?
Cynigiwyd gwelliant 94 (Siân Gwenllian).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, fydd dim angen pleidlais ar welliant 94. Mae wedi'i gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n golygu ein bod ni wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo fe wedi'u derbyn.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar Gyfnod 3 heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:24.