Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/11/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da. Byddwn ni'n cychwyn y sesiwn y prynhawn yma gyda'r eitem gyntaf, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn dod gan Mark Isherwood. 

Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bawb? OQ63366

Mae llawer o bobl ledled Cymru yn gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac, fel Llywodraeth Lafur, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ddiogel, yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Gellir gweld hyn yn ein buddsoddiad sylweddol mewn pobl, seilwaith a fflyd trafnidiaeth gyhoeddus, i sicrhau bod anghenion pob teithiwr yn cael eu diwallu. Gyda'n buddsoddiad trawsnewidiol mewn rheilffyrdd, yn enwedig yn y Cymoedd, a'n Bil bysiau newydd, byddwn yn mynd llawer ymhellach i'w gwneud hi'n haws i bobl o bob oed a phob gallu ddewis trafnidiaeth gyhoeddus fel eu dewis cyntaf o ddull teithio. 

Mae gan bobl ddall a'r rhai sy'n gweld yn rhannol lai o opsiynau trafnidiaeth ar gael iddyn nhw ac felly mae teithio ar fws yn achubiaeth iddyn nhw. Mae Cŵn Tywys Cymru wedi rhybuddio bod diffyg ymrwymiadau hygyrchedd gorfodadwy yn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ar gyfer pobl ag amhariad ar y golwg, a dim ond unwaith y sonnir am hygyrchedd, heb safonau na mesurau eglur. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru wedi rhybuddio bod dyluniadau safleoedd bws peryglus yn gorfodi cerddwyr i groesi llwybr beiciau i fynd ar fws neu oddi arno, ac mae Cŵn Tywys Cymru hefyd yn galw i gynllun rhwydwaith bysiau Cymru gynnwys gofynion hygyrchedd wedi'u monitro, ymgysylltiad â theithwyr anabl, a seilwaith mwy diogel, gan gynnwys gwahardd ffiniau safleoedd bws a rennir, lle mae'n rhaid i deithiwr groesi lôn feicio fyw—sy'n arbennig o beryglus, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, i bobl anabl a'r rhai ag amhariad ar eu golwg. Mae Llywodraeth y DU wedi oedi cyflwyno ffiniau bysiau yn Lloegr. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i gael gwared ar ffiniau safleoedd bws. A fydd Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno moratoriwm ledled Cymru nawr, ac, os felly, pryd?

Wel, gadewch i mi fod yn eglur bod gennym ni ddull teithio i bawb yng Nghymru ac yn rhan o hynny, rydym ni'n adolygu 27,000 o safleoedd bws ledled Cymru o ran hygyrchedd. Rydych chi'n iawn, mae'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn gam pwysig, ac a dweud y gwir, ceir dyletswydd yn y Bil hwnnw i wella hygyrchedd yn barhaus. Mae honno yn y Bil ei hun. Felly, ar ben hynny, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw gwneud yn siŵr bod staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid wedi cyflawni hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae tua 1,000 o bobl wedi cwblhau hwnnw eisoes. 

Diolch, Mark—rwy'n falch iawn bod hyn yn cael ei godi. Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn hygyrch i bawb, ond, yn rhy aml, mae'r ffordd y mae safleoedd, gorsafoedd a gwasanaethau wedi'u cynllunio yn creu rhwystrau. Gall y diffyg cyhoeddiadau sain ar fysiau ei gwneud hi'n anodd i deithwyr dall neu'r rhai sy'n gweld yn rhannol deithio yn ddiogel, ac yn yr un modd, gall diffyg goleuadau stryd digonol wneud i fenywod deimlo'n nerfus am deithio ar ôl iddi dywyllu. Rydym ni'n siarad am bobl mewn sefyllfaoedd agored i niwed, ond, mewn gwirionedd, y ffordd y mae ein cymdeithas yn gweithio sy'n creu'r teimlad hwnnw o fod yn agored i niwed. Nid oes unrhyw beth cynhenid am fod yn fenyw, neu fod yn anabl, a ddylai wneud rhywun yn agored i niwed. Nawr, yn y gaeaf, mae'n dywyll yn gynharach, a bydd rhai pobl yn llai diogel neu'n teimlo'n llai diogel. Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi, os gwelwch yn dda, i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus gymryd camau ychwanegol i wneud yn siŵr bod teithwyr sy'n cael eu gwneud yn agored i niwed gan y rhwystrau hyn yn cyrraedd adref yn ddiogel? Er enghraifft, os bydd gwasanaeth yn cael ei ganslo neu ei derfynu yn gynnar, a ydych chi'n cytuno bod yr oriau ychwanegol o dywyllwch yn cyflwyno dyletswydd ychwanegol ar y darparwyr hynny i wneud yn siŵr bod teithwyr agored i niwed yn cyrraedd lle diogel?

Diolch yn fawr iawn. Ac rydych chi yn llygad eich lle, ac mae'r holl bwyntiau a wnaethoch chi yn hanfodol o ran sut rydym ni'n ymdrin ag anabledd yn y wlad hon. Yn amlwg, rydym ni wedi mabwysiadu'r dull model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod, mewn gwirionedd, ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i gydnabod—ac i newid hynny, a dweud y gwir—bod heriau i bobl, ac rydym ni'n edrych ar ein hunain yn ogystal â'r bobl ag anableddau eu hunain.

Un o'r pethau yr wyf i'n arbennig o falch amdano yw'r model cymorth i deithwyr sydd gennym ni yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw rydym ni wedi hyfforddi staff Trafnidiaeth Cymru i helpu i gynorthwyo teithio annibynnol. Felly, yn y mathau o sefyllfaoedd yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw, gellir eu helpu. Mae gennym ni wasanaeth y gellir ei drefnu ymlaen llaw i helpu teithwyr i symud yn annibynnol. Mae gennym ni staff Trafnidiaeth Cymru—ac rwy'n derbyn bod hyn yn fwy tebygol ar drenau—ar blatfformau ac ar y trenau. Maen nhw wedi'u hyfforddi ar gyfer yr anghenion hygyrchedd hynny. Hefyd, mae gennym ni'r cynllun waled oren, ar gyfer pobl ag anableddau cudd. Felly, mae rhai o'r anableddau yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw yn rhai sy'n amlwg iawn i ni, ond ceir llawer o anableddau cudd. Y newyddion da o ran cymorth i deithwyr, sydd, yn amlwg, yn berthnasol i reilffyrdd a bysiau, yw ein bod ni wedi gweld, yn enwedig o ran rheilffyrdd, cynnydd o 37 y cant o un flwyddyn i'r llall i wasanaethau cymorth i deithwyr a gwblhawyd. Felly, mae'r gwasanaeth yno; mae'n bwysig iawn nawr bod pobl yn gwybod ei fod yno, a'u bod nhw'n ei ddefnyddio ar gyfer yr union fathau o sefyllfaoedd yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw.

13:35

Prynhawn da, Brif Weinidog. Er nifer ymdrechion y Llywodraeth, mae tystiolaeth gan elusennau fel RNIB yn dangos nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb o hyd. Fe welais i hyn fy hun yn ddiweddar. Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn i ar y bws i'r dref. Daeth person dall ymlaen ar y bws, ac fe ofynnodd hi i'r person nesaf ati hi i ddweud pan fyddai hi wedi cyrraedd Fitzhamon Embankment. Ond doedd y person drws nesaf ddim yn gwybod ble roedd Fitzhamon Embankment, a daeth hi'n sgwrs rhwng y bws cyfan ble oedd Fitzhamon Embankment. Er bod y ddau ohonom ni, Brif Weinidog, yn adnabod Caerdydd yn dda iawn, dŷn ni ddim yn arbenigwyr ar bob stryd, ac mae modd cymysgu strydoedd, onid oes e? Mae'r ateb yn amlwg, onid yw e? Er ei bod hi'n braf gweld pobl yn helpu ei gilydd, yr ateb amlwg yw cyhoeddiadau sain, fel y dywedodd Delyth Jewell yn ei chwestiwn, ac fel sy'n digwydd ar drenau. Mae cyfle perffaith gyda ni gyda'r Bil bysiau i wella hygyrchedd, i wneud y bysiau'n hygyrch i bawb. Cyn pleidlais Cyfnod 3, a wnewch chi siarad â rhanddeiliaid fel yr RNIB i ystyried gwelliannau, neu ystyried cefnogi gwelliannau fel fy ngwelliant i, a fydd yn gwneud hygyrchedd yn well i bawb? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Mae'n wir bod yna gyfle yn ystod y Bil, dwi'n meddwl, i wella accessibility, ac mae hwnna'n commitment yn y Bil—i wneud hwnna'n gyson wrth i'r Bil fynd ymlaen, ac i'r dyfodol. Wrth gwrs, mae yna lot o siarad wedi bod gyda phobl ynglŷn â sicrhau bod ganddyn nhw'r posibiliadau, yn arbennig y rheini sydd â disabilities. Beth sy'n bwysig i ni yw ein bod ni'n edrych ar disabilities yn y ffordd fwyaf eang. Felly, wrth gwrs, mae hwnna'n cynnwys pobl sydd â diddordeb, yn yr RNIB, ond mae yna grwpiau eraill hefyd, ac mae'n bwysig nad ydym ni'n cadw neb allan o'r sgwrs yma.

Gwerth Ychwanegol Gros

2. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu gwerth ychwanegol gros Cymru? OQ63363

Creu mwy o gyfoeth yng Nghymru yw un o'm prif flaenoriaethau. Er nad oes gennym ni'r holl ysgogiadau sydd eu hangen i wneud i hyn ddigwydd ar gael i ni, rydym ni'n gwneud y gorau o'r pwerau sydd gennym ni, trwy fuddsoddiadau mewn seilwaith, sgiliau, mewnfuddsoddiadau, allforion a mentrau twf busnes. Mae ein huwchgynhadledd fuddsoddi fis nesaf yn enghraifft wych o weithredu cadarnhaol y Llywodraeth hon i ddenu buddsoddiad sylweddol i Gymru ac i dyfu economi Cymru, a chreu swyddi o ansawdd, i helpu pobl i dalu eu biliau.

Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Rydym ni'n gwybod bod gan Gymru werth ychwanegol gros o oddeutu 75 y cant o gyfartaledd y DU. Rydym ni hefyd yn gwybod ei fod wedi bod ar y lefel hon ers sawl blwyddyn. Rydym ni'n gwybod sut mae economïau cenedlaethol a rhanbarthol llwyddiannus yn edrych, â gweithlu hynod fedrus a chyflogau uchel. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd prifysgolion. Mae data ar bwysigrwydd prifysgolion ledled y byd o ran datblygu economïau yn cynnwys Lloegr, UDA ac Ewrop. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo sgilgynhyrchu o ymchwil prifysgolion, yn enwedig ym meysydd ynni gwyrdd, TGCh, gan gynnwys gemau cyfrifiadur, a gwyddorau bywyd? Ceir cyfleoedd enfawr yn y meysydd hyn y mae angen i ni eu cymryd. Mae'r rhain yn feysydd â chyflogau uchel a'r cyfle i gynhyrchu twf cyflym. Er mwyn i economi Cymru dyfu, rydym ni angen cefnogaeth a buddsoddiad yn ein prifysgolion.

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir, Mike, mai prifysgolion yw un o gryfderau mwyaf Cymru. Rwy'n credu nad canolfannau dysgu yn unig ydyn nhw, ond nhw yw peiriannau ein heconomi newydd. Rwyf i wedi gweld drosof fy hun rywfaint o'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe ar y rhaglen benodol hon, lle mae gwyddonwyr yn troi adeiladau yn orsafoedd pŵer. Roeddwn i'n falch iawn o fod wedi trefnu gosodiad un o'r waliau solar o'r prosiect ar ystad ddiwydiannol Trefforest pan oeddwn i'n gweithio mewn diwydiant. Yng Nghaerdydd a Wrecsam, mae gwaith ymchwil ym meysydd gwyddorau bywyd ac arloesi digidol yn creu cwmnïau a gyrfaoedd y dyfodol. Wrth gwrs, bydd y ddau faes hyn yn feysydd a fydd yn cael llawer o sylw yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi a fydd yn cael ei chynnal ym mis Rhagfyr.

13:40

Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cefais y fraint o draddodi'r anerchiad cloi yn nigwyddiad Diwydiant Sero Net Cymru yn Noc Penfro, lle codwyd cwestiwn pwysig: beth mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn ei olygu i sir Benfro? Nid oedd y diagnosis, Prif Weinidog, yn galonogol: mae'n canolbwyntio llawer gormod ar Loegr ac yn gadael llawer o rannau o Gymru a diwydiannau allweddol yng Nghymru allan o'r drafodaeth. Os ydym o ddifrif am wella gwerth ychwanegol gros Cymru a'n diogeledd ynni hefyd, mae'n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi'r diwydiannau a'r asedau hanfodol sydd gennym ni eisoes yn sir Benfro: porthladd ynni gorau'r DU ym mhorthladd Aberdaugleddau; purfa olew strategol bwysig Valero; a gorsaf bŵer nwy RWE Penfro, un o'r rhai mwyaf effeithlon o'i math yn Ewrop. Yn wir, mae tua 20 y cant o anghenion ynni y DU yn llifo trwy sir Benfro. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynnwys yn well yn strategaeth ddiwydiannol y DU, a bod cryfder ynni sir Benfro yn troi'n werth ychwanegol gros uwch—yn syml, swyddi o ansawdd da a ffyniant i'm hetholwyr?

Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cael trafodaeth drylwyr iawn gyda Llywodraeth y DU yn y cyfnod cyn y strategaeth ddiwydiannol. Roedd y blaenoriaethau a gyflwynwyd ganddyn nhw yn cyd-fynd yn llwyr â'r blaenoriaethau y gwnaethom ni ofyn iddyn nhw eu cyflwyno. Roedd ynni yn gwbl ganolog i hynny, ac mae'r dull sero net yn allweddol. Yn amlwg, byddwn yn chwilio nawr am fuddsoddiad pellach yng Nghymru, yn enwedig o ran ynni. Rwyf i wedi bod yn lobïo dros hynny i Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr i ni yng Nghymru yn enwedig o ran buddsoddiad ynni. Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi troi ato yn ddiweddar. Ceir cyfleoedd enfawr nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond, yn amlwg, yng ngogledd Cymru hefyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd enfawr a'r cyfraniad y gall hynny ei wneud nid yn unig at fynd i'r afael â'r materion ynni, ond hefyd, yn amlwg, at fynd i'r afael â'r swyddi o ansawdd yr ydym ni eu hangen yng Nghymru.

Mae tanberfformiad economaidd yn her barhaus i Gymru yn ei chyfanrwydd, wedi ei ddwysáu gan anghydraddoldebau is-ranbarthol dwfn o ran cynhyrchiant, buddsoddiad a chanlyniadau, yn enwedig rhwng ardaloedd y de-ddwyrain fel y Cymoedd a gogledd a gorllewin Cymru. Mae gwerth ychwanegol gros y pen yn amrywio gymaint â £13,620 rhwng y rhanbarthau sy'n perfformio orau a waethaf—tua hanner cyfartaledd Cymru gyfan. Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw ar ddiweithdra yn dangos cynnydd i 5.7 y cant, sy'n ddychweliad i lefelau uchaf y gaeaf diwethaf. Mae angen gwneud gwaith i wella'r economi, mae hynny'n amlwg, ond pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod hyn yn cael ei wireddu ar draws pob ardal o Gymru ac nad yw wedi'i ganolbwyntio'n fanwl mewn un rhan?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr bod cyfoeth Cymru yn cael ei ledaenu. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw wedi'i ganolbwyntio, fel y mae yn Lloegr ar Lundain a'r de-ddwyrain. Nid wyf i eisiau gweld y crynodiad hwnnw o gyfoeth yng Nghaerdydd a'r de-ddwyrain chwaith. Mae'n bwysig iawn bod y cyfoeth yn cael ei ledaenu.

Rwy'n pryderu am gyfraddau cynhyrchiant yng Nghymru. Rwy'n falch o weld, o ran twf cynhyrchiant llafur, mewn gwirionedd, yn 2022-23, ein bod ni wedi gwella yn gyflymach na'r ffigur yn y DU—1.3 y cant yng Nghymru, 0.2 y cant yn y Deyrnas Unedig. Felly, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae gennym ni lawer iawn mwy o waith i'w wneud.

O ran y gyfradd ddiweithdra, rydym ni'n credu bod yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn fwy o adlewyrchiad o gywirdeb yr hyn yr ydym ni'n ei weld yng Nghymru, ac mae hwnnw ar 4.1 y cant. Ym mis Mehefin, roedd hwnnw yn uwch na ffigur y DU.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

13:45

Prif Weinidog, rydym ni'n nodi Diwrnod y Cadoediad heddiw ac rydym ni'n anrhydeddu aberth a gwasanaeth y rhai a roddodd gymaint i ymladd dros y rhyddid yr ydym ni i gyd yn ei fwynhau heddiw. Ond mae cofio, wrth gwrs, hefyd yn ei gwneud yn ddyletswydd arnom ni i sicrhau bod gan y rhai sy'n gwasanaethu yn y fyddin ar hyn o bryd yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i amddiffyn ein gwlad a'n cadw ni'n ddiogel. Yma yng Nghymru, mae gennym ni sector amddiffyn o'r radd flaenaf, o Airbus a BAE Systems i General Dynamics, Sierra Nevada Corporation Mission Systems UK ac, wrth gwrs, llawer o rai eraill. Maen nhw'n cyflogi miloedd mewn swyddi hynod fedrus ac yn cefnogi ein diogelwch cenedlaethol. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, os ydym ni wir yn mynd i anrhydeddu'r rhai sy'n gwasanaethu, bod yn rhaid i ni hefyd sefyll yn gadarn â'n diwydiant amddiffyn? Ac a wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r gwŷr a'r gwragedd medrus yng Nghymru sy'n gweithio yn y sector hollbwysig hwn?

Diolch yn fawr iawn. Roedd yn fraint enfawr i mi fod wedi arwain y genedl yn y digwyddiad coffa ddydd Sul i dalu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd blaenorol. Roedd yn anrhydedd arbennig i mi yn gynharach yn yr wythnos fynd i dalu teyrnged i fy hen ewythr, a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf; cafodd ei wenwyno â nwy yn Ypres. Llwyddodd i ddod adref, ac roedd yn hyfryd mynd i osod torch yn Llandudoch i dalu teyrnged iddo. Mae dysgu am hynny wedi bod yn dipyn o daith, a'r hyn wnaeth fy nharo i yw yr effeithiwyd ar bob teulu yng Nghymru, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, gan ryfel. Cyffyrddwyd â phob cymuned gan ryfel. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod yr aberth hwnnw. Mae hefyd yn braf iawn gweld bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella cymorth i gyn-filwyr digartref. Ymwelais â Woody's Lodge, un o nifer o leoedd sydd wedi derbyn cyllid sylweddol i gefnogi tai i gyn-filwyr, yr wythnos diwethaf hefyd. 

O ran y diwydiant amddiffyn, mae'n bwysig nid yn unig ein bod ni'n cydnabod bod y bygythiad yn cynyddu yn rhyngwladol ond bod angen i ni ymateb i'r bygythiad hwnnw. Mae'n amlwg bod yr Unol Daleithiau yn tynnu'r cymorth y maen nhw wedi ei roi yn y gorffennol i amddiffyn Ewrop yn ôl, ac mae angen i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb am gamu i mewn i'r sefyllfa honno. Byddwch wedi gweld bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cynnydd o 2.3 y cant o gyllid yn cael ei wario ar amddiffyn i 2.5 y cant. Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod Cymru yn cael cyfran deg o'r buddsoddiad hwnnw. Fel y dywedwch, mae gennym ni rai cwmnïau rhagorol yma yng Nghymru. Mae hwnnw eto yn fater y llwyddais i'w godi gyda'r Gweinidog, Vernon Coaker, dros y penwythnos, gan wneud yn siŵr, unwaith eto, ein bod ni'n gweld ein cyfran o fuddsoddiad yng Nghymru. Rydym ni eisiau swyddi yng Nghymru. Rydym ni'n cyfrannu 7 y cant at y lluoedd arfog yng Nghymru o ran personél, er mai dim ond 5 y cant o'r boblogaeth sydd gennym ni. Felly, rydym ni'n haeddu, rydym ni angen ac rydym ni'n disgwyl cael ein cyfran deg o'r gyllideb amddiffyn.

Rydym ni gyda chi ar hynny, Prif Weinidog. Rydym ninnau hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod ein diwydiant amddiffyn yn ffynnu a bod Cymru yn cael y buddsoddiad y mae'n ei haeddu o ganlyniad i'r cynnydd i wariant Llywodraeth y DU ar amddiffyn. Ac, wrth gwrs, mae'r sector amddiffyn hwnnw yn dangos yr hyn y gallwn ni ei gyflawni oherwydd ei lwyddiant yng Nghymru hyd yma. Ond, yn anffodus, mae gennym ni argyfwng swyddi yng Nghymru hefyd. Mae gennym ni argyfwng swyddi—mae'r ffigurau heddiw yn dangos hyn—sy'n dangos beth sy'n digwydd pan fydd polisïau'r Llywodraeth yn methu â chefnogi diwydiant ac yn methu â chefnogi a chreu'r amgylchedd cywir ar gyfer twf.

Mae'r ffigurau'n druenus. Maen nhw'n dangos mai Cymru sydd â'r gyfradd ddiweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig—cyfradd sydd wedi cynyddu 50 y cant ers i Lafur ddod i rym ym mis Gorffennaf 2024, ac sydd bellach ar ei lefel uchaf ers 10 mlynedd. Ac nid bai Syr Keir Starmer a Rachel Reeves yn unig ydyw, oherwydd mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnogi cynnydd i yswiriant gwladol i gyflogwyr, rydych chi wedi arafu ein heconomi gyda therfynau cyflymder 20 mya, rydych chi wedi caniatáu i gynnydd gormodol i'r dreth gyngor gael ei orfodi ar ein dinasyddion, ac maen nhw wedi mynd heb eu hatal, ac rydych chi wedi deddfu a pharatoi'r ffordd ar gyfer mwy o drethi yng Nghymru ar fodurwyr a thwristiaid. Mae'n amlwg iawn i mi nad yw eich cynllun yn gweithio. Pryd wnewch chi newid trywydd a chefnogi ein cynlluniau treth isel i Gymru, sydd o blaid twf ac o blaid busnes?

Gadewch i mi fod yn eglur bod llawer o'r broblem o ran rheolaeth o rai o'r pethau hynny yn gysylltiedig â phethau fel Brexit, y gwnaethoch chi ei gefnogi, yn ymwneud â phethau fel tariffau y mae'r Unol Daleithiau wedi'u gorfodi. Mae gennym sylfaen weithgynhyrchu uwch yng Nghymru, felly mae hynny yn effeithio ar ein hallforion yn fwy nag y mae'n effeithio ar rai de-ddwyrain Lloegr, ac rydym ni wedi gweld, dim ond yr wythnos hon, yr effaith ar leoedd fel Aston Martin.

Fel y dywedais, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud nad yw'r arolwg llafurlu yn ddata dibynadwy o ran Cymru. Yr arolwg poblogaeth blynyddol yw'r data yr ydym ni'n eu defnyddio, a oedd yn 4.1 y cant, a oedd yn ein rhoi ni, a dweud y gwir, mewn sefyllfa ychydig yn well na'r Deyrnas Unedig. Gadewch i mi wneud y pwynt hefyd ein bod ni wedi cefnogi 43,000 o swyddi ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon. Felly, lle gallwn ymyrryd, lle gallwn wneud gwahaniaeth, rydym ni'n gwneud hynny.

13:50

Prif Weinidog, nid yw'n syndod i mi eich bod chi eisiau lladd ar yr ystadegau, gan eu bod nhw'n gwneud i chi edrych yn wael. Rwy'n gwybod eich bod chi'n hoffi rhoi'r bai ar Brexit. Digwyddodd Brexit chwe blynedd yn ôl, a hon yw'r gyfradd ddiweithdra uchaf ers deng mlynedd a gyhoeddwyd heddiw. Felly, allwch chi ddim neilltuo'r bai i Brexit na rhoi'r bai ar Arlywydd yr Unol Daleithiau am y trafferthion y mae Cymru yn eu hwynebu o dan eich goruchwyliaeth chi ac o ganlyniad i 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur sy'n methu, sydd wedi bod yn gwbl drychinebus i economi Cymru.

Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau pendant na ellir eu hosgoi. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi'r ffeithiau, ond dyma'r ffeithiau: mae diweithdra i fyny, mae chwyddiant i fyny, mae benthyg i fyny, mae trethi i fyny a'r unig beth sy'n mynd i lawr yw twf economaidd. Rydych chi wedi rhoi'r bai amdano ar bopeth a phawb arall heblaw chi eich hunain ac rydych chi'n gwrthod, fel bob amser, derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn sy'n mynd o'i le. Mae'n amlwg iawn i bawb arall yn y wlad hon bod polisïau treth uchel, gwrth-fusnes Llafur yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn gwthio cyfleoedd allan ac yn gwneud bywyd yn anoddach i deuluoedd sy'n gweithio'n galed a'r rhai sy'n chwilio am waith. Onid yw'n amlwg nad oes gennych chi unrhyw glem sut i redeg economi Cymru ac mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun credadwy i ostwng trethi, i leihau gwastraff ac i gael Cymru'n gweithio? [Torri ar draws.]

Mae'n wych clywed ymateb pawb arall. Nid oes gwir angen i mi ddweud unrhyw beth. Eich Llywodraeth Dorïaidd chi oedd â'r cyfraddau treth uchaf mewn cenhedlaeth. Eich Prif Weinidog Truss chi wnaeth chwalu'r economi. Ein Llywodraeth ni sydd wedi gwneud yn siŵr ein bod ar y trywydd iawn i ddarparu 100,000 o brentisiaethau. Ein Llywodraeth ni sydd wedi gweld cynnydd o 30 y cant i swyddi o fewnfuddsoddiad. Ac rydym ni'n gwneud yn siŵr ein bod yn sefyll yn barod ac yn arfogi pobl Cymru â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer buddsoddiad sydd ar ei ffordd i ni.

Diolch, Llywydd. Ddoe, rhoddodd y Canghellor ei harwydd cryfaf eto o'i bwriad o godi'r cap dau blentyn yn llawn o'r diwedd. Mae'n fesur cosbol, sydd wedi ymgorffori annhegwch a thlodi ar aelwydydd ar hyd a lled Cymru. Yn anffodus, roeddem ni'n gwybod bod y polisi hwn a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn rhan o'u hideoleg wleidyddol. Yr hyn nad oeddem ni wedi ei ddisgwyl oedd i Lywodraeth Lafur y DU barhau a chefnogi'r polisi hwnnw am gyhyd. Yn 2016, pan wnaeth Llywodraeth Cymru ddiddymu ei tharged o ddileu tlodi plant erbyn 2020, dywedodd mai gweithredoedd Llywodraeth y DU ar ddiwygio lles oedd ar fai. Os yw'r cap dau blentyn yn cael ei ddileu nawr, beth fydd rhesymeg y Prif Weinidog nawr am beidio â gosod targedau tlodi plant newydd, beiddgar ac uchelgeisiol?

Rydym ni, fel plaid, fel Plaid Lafur Cymru, wedi bod yn eglur ac yn gyson iawn o ran dweud ein bod ni eisiau gweld y cap budd-dal dau blentyn hwnnw yn cael ei ddiddymu. Roedd hyn yn rhywbeth y gwnaethom ni ei ofyn amdano o dan y Torïaid, mae'n rhywbeth y gwnaethom ni ofyn amdano yn gyson o dan y Llywodraeth Lafur, ac rwy'n gobeithio y gwnaiff y Canghellor ymateb ac y gwnaiff ddiddymu'r cap budd-daliadau hwnnw pan ddaw'r gyllideb.

Rydym ni yng Nghymru yn gwneud yr hyn a allwn i wella cyfraddau tlodi plant. Gallwch weld hynny yn y ffaith ein bod ni, ers 2022, wedi buddsoddi £7 biliwn i gynorthwyo'r cymunedau tlotaf yng Nghymru. Dim ond i roi enghraifft i chi, rydym ni wedi cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg o £30 yr wythnos i £40 yr wythnos. Mae gennym ni siawns gryfach o fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU.

Mae hwn yn un o lawer o feysydd lle mae'n amlwg bod llawer o bethau eraill y gallai Llywodraeth y DU fod yn helpu â nhw. Byddwn yn gyson yn ein negeseuon ar y rheini hefyd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod y byddan nhw wedi ymateb i'n galwadau cyson, rwy'n gobeithio, pan fydd y Canghellor yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw yn yr wythnosau nesaf.

13:55

Ond mae pobl ar hyd a lled Cymru wedi bod yn aros i Lywodraeth Lafur gefnu ar ei chefnogaeth i'r mesur Ceidwadol hwn. Prin y bydd wythnos yn mynd heibio heb i Aelodau Plaid Cymru yma ofyn i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mor bell yn ôl â 2013, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth:

'Mae cefnogi dileu tlodi plant a gwella cyfleoedd bywyd ein plant a'n pobl ifanc ar frig ein rhestr o flaenoriaethau.'

Ac eto, erbyn 2029, disgwylir i draean o blant yng Nghymru fod yn byw mewn teulu incwm isel. Mae hynny'n 34 y cant o blant—5 pwynt canran yn uwch na lle rydym ni ar hyn o bryd, gan wthio tua 32,000 yn fwy o blant i dlodi.

Mae Barnardo's, Biwro Cenedlaethol y Plant ac Amnesty UK ymhlith 67 o lofnodwyr sy'n cefnogi galwadau i strategaeth tlodi plant hir-ddisgwyliedig Llywodraeth y DU gynnwys targedau, gan adleisio galwadau dro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru wneud hynny hefyd cyn i'w strategaeth gael ei chyhoeddi. Ond anwybyddwyd y galwadau hynny. Os yw'r Prif Weinidog yn meddwl ei bod yn iawn am hyn, pam mae'n meddwl bod arbenigwyr ym maes tlodi plant yn ei gael yn anghywir?

Fe wnes i, ynghyd â llawer o'm cyd-Aelodau Llafur, ddod i fyd gwleidyddiaeth am yr union reswm o fynd i'r afael â'r math hwn o anghyfiawnder ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y ddadl a'n bod ni'n ceisio brwydro yn erbyn y pla hwn yn gyson. Rydym ni'n gwneud yr hyn a allwn o fewn cyfyngiadau ein cyllideb yng Nghymru.

Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi o'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Mae'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' wedi helpu 90,000 o bobl yng Nghymru i hawlio'r budd-daliadau lles y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Mae'r cynllun lleihau'r dreth gyngor yn cynnig cymorth ariannol i 260,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru. Mae gennym ni'r gronfa cymorth dewisol. Mae gennym ni fanciau bwyd, y lwfans cynhaliaeth addysg, y gronfa gynghori sengl, talebau banciau tanwydd, prydau ysgol am ddim. Mae'r holl bethau hyn yn mynd tuag at helpu gyda'r sefyllfa honno o ran tlodi plant.

Ond siawns na ddaeth y Prif Weinidog i fyd gwleidyddiaeth i ddweud ei bod eisiau dileu tlodi plant. Byddai wedi dod i fyd gwleidyddiaeth i geisio dileu tlodi plant mewn gwirionedd, does bosib. Mae hynny'n golygu gosod targedau ar gyfer gwneud hynny. Does dim lle i guddio nawr. Mae elusennau ac arweinwyr sector yn mynnu ar dargedau. Os yw Llywodraeth y DU yn cymryd camau sydd i'w croesawu ond yn rhy ddiweddar, mae'r Prif Weinidog yn rhedeg allan o esgusodion yn gyflym.

Rwy'n credu bod pobl yn gweld mwy o frys ym Mhlaid Cymru. Pan fydd y Prif Weinidog Llafur yn dweud nad yw eisiau targedau, rwy'n dweud gadewch i ni gael targedau. Pan fydd hi'n dweud 'na' i daliad plant, a nodwyd fel y polisi allweddol a fydd yn arwain at ostyngiad i gyfraddau tlodi plant yn yr Alban, rwy'n dweud, 'Ie, gadewch i ni geisio llunio cynllun i fynd i'r afael â hynny.' Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ei bod yn

'anodd iawn cael targedau gor-syml oni bai fod gennych chi ysgogiadau llawn dros nawdd cymdeithasol a threth'.

Ond rwy'n eich atgoffa bod hon yn Llywodraeth Lafur nad yw hyd yn oed eisiau meddu ar yr ysgogiadau hynny yn ei dwylo. Felly, rwy'n gofyn am y trydydd tro: beth sydd wir wrth wraidd gwrthwynebiad y Llywodraeth i gyflwyno targedau tlodi plant?

Diolch yn fawr iawn. Yr ysgogiadau yr ydych chi eu heisiau yn eich dwylo yw pob un ohonyn nhw, a fyddai'n eich gadael â bwlch o £12 biliwn mewn—

Nac ydw, dydw i ddim eisiau'r ysgogiadau, gan fy mod i eisiau bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn falch o fod yn rhan ohoni. Rwy'n credu ein bod ni'n sefyll mewn undod a'u bod nhw'n sefyll mewn undod â ni. Mae'r cyllid ychwanegol hwnnw yn ein helpu i fynd i'r afael â phroblemau tlodi yng Nghymru. Ond ni sy'n penderfynu ble rydym ni'n gwario'r arian hwnnw, ac rwy'n credu bod buddsoddiad o £7 biliwn mewn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru yn swm sylweddol o arian ac yn rhywbeth yr ydym ni'n falch iawn ohono.

Cefnogi Cyn-filwyr

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyn-filwyr yng Nghymru yn cael cefnogaeth gyson ac effeithiol ar ôl gadael y lluoedd arfog? OQ63407

Roedd hi'n fraint cael arwain y genedl ddydd Sul yn ein digwyddiad cofio yng Nghaerdydd. Mae ein dyled yn fawr i'r rhai wnaeth roi eu bywydau fel ein bod ni'n gallu byw yn rhydd heddiw. Mae'n bwysig hefyd diolch i gyn-filwyr am eu gwasanaeth, yn arbennig ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Dwi'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffeiriau swyddi a chynadleddau ledled Cymru sy'n cael eu mynychu'n rheolaidd gan gyn-filwyr, pobl sy'n gadael y gwasanaeth a chyflogwyr, ac mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn darparu cymorth bywyd i gymuned y lluoedd arfog.

14:00

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Mae hyn yn bwysig iawn.

Yn gynharach eleni, codais y bwlch rhwng personél lluoedd arfog o Gymru a Lloegr o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd. Yn syml, mae'n rhaid i aelodau'r lluoedd arfog o Gymru ddadgofrestru o'u meddyg teulu presennol cyn cofrestru gydag un newydd, efallai lle maen nhw wedi'u lleoli yn ystod y blynyddoedd i ddod. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar bersonél lluoedd arfog o Loegr, gan fod GIG Lloegr wedi cyflwyno hyblygrwydd sy'n caniatáu i bersonél lluoedd arfog barhau i fod wedi'i gofrestru gyda'u meddyg teulu milwrol a hefyd cofrestru fel claf dros dro neu ddeuol gyda meddyg teulu sifiliaid.

Hoffwn nodi hefyd nad oes gan GIG Cymru i Gyn-filwyr unrhyw fentor cymheiriaid iechyd meddwl benywaidd pwrpasol o hyd. Mae'r Cynghrair Cyn-filwyr Benywaidd wedi galw am hyn ers cryn amser, ac mae ei angen wedi cael ei gefnogi gan dystiolaeth a gasglwyd dros gyfres o weithdai gyda rhanddeiliaid, ond nid oes gennym ni un o hyd. Mae'r rhain yn bethau sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Pam mae'n cymryd cyhyd i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i'n personél lluoedd arfog?

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n falch iawn o allu siarad â'r comisiynydd cyn-filwyr dros y penwythnos, sydd wedi cyhoeddi ei adroddiad yn ddiweddar, ac yn ei adroddiad, rhoddodd ganmoliaeth amodol bod Cymru yn parhau i fod yn lle eithaf da i fod yn gyn-filwr. Rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylid ei nodi. Ond gwrandewch, ceir mwy y gallwn ni ei wneud bob amser. Rwy'n arbennig o falch ein bod ni wedi ariannu swyddogion cyswllt y lluoedd arfog i weithio trwy a chyda'n hawdurdodau lleol, gan eu cynorthwyo i gyflawni eu dyletswydd o sylw dyladwy o dan y cyfamod sydd wedi cael ei lofnodi. Ond o ran iechyd, mae'n bwysig bod cyn-filwyr sydd wedi cael eu hanafu mewn gwasanaeth yn derbyn gofal cyson ac o ansawdd uchel. Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd asesu anghenion yn lleol ac i ddarparu gwasanaethau yn unol â hynny, ac mae ganddyn nhw hyrwyddwyr lluoedd arfog ar lefel bwrdd a dyletswydd o sylw dyladwy.

Mae'n ddrwg gen i glywed nad oes mentor cymheiriaid benywaidd penodol o ran iechyd meddwl, ac rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylid ei gywiro, a byddaf yn mynd ar drywydd y mater hwnnw.

Mae'n iawn ein bod ni'n parhau i gymryd amser i anrhydeddu a diolch i'n cyn-filwyr, nid yn unig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ond bob dydd, a byddwn yn dweud mwy am hynny yn ddiweddarach, rwy'n gwybod. Mae nodi wyth deg mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ yn rhoi cyfle ychwanegol i ni wneud hyn, ond hefyd i atgoffa ein hunain o'n dyletswydd a'n hymrwymiad iddyn nhw. O'm mewnflwch fy hun, rwy'n gwybod bod llawer o broblemau yn wynebu ein cyn-filwyr a'r rhai sy'n dal i wasanaethu yng Nghymru. Mae mynediad at driniaeth, yn enwedig gofal deintyddol, yn destun pryder mawr. Mae adleoli'n aml ac absenoldeb systemau adnabod unedig yn aml yn creu rhwystrau rhag derbyn y gofal hwn. Hefyd, dim ond 56 y cant o gynghorau yng Nghymru sy'n diystyru taliadau iawndal wrth asesu budd-daliadau. Mae hyn yn creu loteri cod post arall lle mae rhai cyn-filwyr yn derbyn mwy o gymorth nag eraill. Prif Weinidog, pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gael gwared ar y rhwystrau hyn a sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael yr urddas a'r tegwch y maen nhw'n eu haeddu?

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gael cysondeb o ran triniaeth. Yn amlwg, mae'n mynd i amrywio ychydig ar draws y wlad, ond yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw cymeradwyo strategaeth cyn-filwyr gyffredin ar draws y DU, ac mae honno'n ymdrech ar y cyd â Llywodraeth y DU, lle rydym ni'n gweithio gyda nhw i wneud eu cyhoeddiadau o gynlluniau ar gyfer cyllid VALOUR i weithio yn effeithiol yng Nghymru, ac mae hynny'n £15 miliwn, ac mae hynny'n mynd i gael ei weinyddu hyd braich trwy Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, a bydd dyrannu cyllid yn cynnwys darpariaeth deg ledled y DU. Felly, rydym ni'n gweithio gyda nhw ar hyn. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei osgoi yw ailadrodd ymdrech. Ceir adegau pan fydd Llywodraeth y DU yn ceisio hedfan i mewn a gwneud pethau heb ymgynghori â ni. Mae hon yn enghraifft o ble maen nhw'n gweithio gyda ni.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae'n braf eich gweld chi. Hoffwn daflu goleuni ar fater sy'n rhy aml yn mynd heb ei weld o ran y lluoedd arfog, sef niwed gamblo ymhlith y rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad. Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe wedi dangos bod cyn-filwyr yng Nghymru fwy na 10 gwaith yn fwy tebygol na sifiliaid o ddioddef niwed gamblo. I lawer, rydym ni'n gwybod nad yw gamblo yn ymwneud ag adloniant; i'r grŵp hwn, gall fod yn ffordd o ymdopi â phoen a thrawma, yn enwedig i'r rhai sy'n byw gydag anhwylder straen ôl-drawmatig. Daw'r trafferthion hyn â chanlyniadau gwirioneddol, costau iechyd a gofal cymdeithasol uwch, mwy o gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol a cholli gwaith. Ac eto, rydym ni yn gwybod bod llawer o bersonél yn ofni y bydd gofyn am gymorth yn effeithio ar eu gyrfaoedd, neu sut maen nhw'n cael eu hystyried gan bobl eraill. Dywedodd un cyn-filwr wrth ymchwilwyr, pan wnaeth gyfaddef ei ddyledion gamblo tra oedd yn dal i wasanaethu, yn hytrach na chael cynnig cymorth, ei fod wedi cael ei anfon i garchar milwrol. Nid dyna'r math o ymateb sy'n adeiladu ymddiriedaeth neu obaith.

Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y mater hwn, ond a gaf i ofyn i chi hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru, sicrhau bod cyn-filwyr sydd angen y cymorth hwn yn gallu ei gael yn gyflym, yn gyfrinachol a heb ofn, stigma na chosb? Diolch yn fawr iawn.

14:05

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod y mater o gamblo yn rhywbeth a oedd yn flaenllaw iawn yn adroddiad y prif swyddog meddygol ddwy flynedd yn ôl, ac felly fe wnaeth wir daflu goleuni ar y mater hwn yng Nghymru. Rwy'n credu bod gwasanaeth arbenigol sy'n angenrheidiol i bobl sydd wedi bod trwy drawma penodol, a'r hyn y mae angen i ni ei sicrhau yw bod y gwasanaeth arbenigol hwnnw yno. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw datblygu'r gwasanaeth iechyd meddwl GIG Cymru i Gyn-filwyr hwnnw, sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer cyn-filwyr ag anawsterau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth milwrol, ac sy'n cynnig dull a mwy o bwyslais, gyda thimau pwrpasol o therapyddion, seicolegwyr, mentoriaid cymheiriaid, seicolegwyr cynorthwyol, staff gweinyddol a seiciatryddion sy'n gyn-filwyr, ac rwy'n credu bod perthnasedd yn y fan honno o ran gamblo a chaethiwed i gamblo yn arbennig. Felly, mae hwnnw'n faes lle rydym ni'n ceisio canolbwyntio sylw.

A'r ffaith, nawr, y bydd mwy o arian yn mynd i ddigartrefedd cyn-filwyr, lle gallwch gofleidio'r cymorth, lle gall pobl siarad â phobl sydd wedi bod drwy'r un profiadau â nhw—rwy'n credu bod hynny yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r cyn-filwyr eu hunain.

Prif Weinidog, ceir llawer o elusennau allan yna—ac rydych chi eisoes wedi sôn am Woody's Lodge yng Ngheredigion heddiw—ac maen nhw i gyd yn gwneud gwaith rhyfeddol yn helpu'r rhai sydd wedi gwasanaethu i ddod o hyd i sefydlogrwydd ar ôl eu gwasanaeth ac yn cynorthwyo eu teuluoedd hefyd. Hoffech chi ddweud mwy am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod cyn-filwyr yn cael y cartref diogel y maen nhw i gyd yn gobeithio amdano?

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod bod llawer iawn o waith eisoes yn cael ei wneud gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n arbennig o falch—ac rwy'n siŵr y byddwch chithau—bod arian yn dod i leoedd fel Oriel VC yn sir Benfro, Adferiad yn Llandrindod, ac yn amlwg Woody's Lodge yr ydym ni eisoes wedi sôn amdano yng Ngheredigion. Felly, mae'r rheini yn enghreifftiau o bobl a sefydliadau sydd wedi elwa yn uniongyrchol yn sgil ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni ar gyfer cyn-filwyr yn y wlad hon.

Gofal Plant

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fynediad at ofal plant ym Mlaenau Gwent? OQ63405

Mae mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, yn enwedig mewn lleoedd fel Blaenau Gwent, yn ganolog i agenda Llywodraeth Lafur Cymru. Y ffordd orau o fynd i'r afael â thlodi yw gwneud yn siŵr bod gan bobl swyddi o safon. Rydym ni i gyd yn gwybod y gall cost gofal plant fod yn syfrdanol gan berswadio pobl i beidio â mynd yn ôl i'r gwaith, a dyna pam rydym ni'n buddsoddi mwy na £150 miliwn eleni mewn rhaglenni gofal plant a ariennir i alluogi gofal plant i ddod yn fwy hygyrch a fforddiadwy i rieni ac i ganiatáu iddyn nhw fynd yn ôl i'r gwaith.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog. A'r union hygyrchedd hwnnw, wrth gwrs, sy'n gwneud gwahaniaeth i deuluoedd. Mynediad at ofal plant yw un o flociau adeiladu bywyd teuluol a'r porth sy'n galluogi pobl i ddychwelyd i'r gwaith ac i ddychwelyd i addysg.

Rwyf i wedi bod yn siarad ag etholwyr yn ddiweddar sy'n cael anawsterau gwirioneddol wrth geisio cael mynediad at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, oherwydd efallai nad yw cyrsiau coleg yn bodloni rhai o'r meini prawf y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gosod. Pan fyddwn ni'n targedu pethau mor dynn, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw eithrio llawer o deuluoedd o'r math o gymorth sy'n hollbwysig iddyn nhw a'u dyfodol. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod angen i ni adolygu nawr y ffordd yr ydym ni'n darparu cymorth gofal plant yng Nghymru i sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r mynediad mwyaf posibl at gymorth gofal plant ac i sicrhau bod gan fwy o deuluoedd fynediad at y math o ofal plant a all ganiatáu iddyn nhw adeiladu eu dyfodol? 

14:10

Diolch yn fawr, Alun. Rwy'n gwybod pa mor gryf yr ydych chi wedi hyrwyddo teuluoedd ym Mlaenau Gwent. Rydych chi'n gwbl gywir, rwy'n credu bod hyblygrwydd yn bwysig, yn enwedig i rieni sy'n hyfforddi yn galed i adeiladu dyfodol gwell iddyn nhw a'u teuluoedd.

Byddwch yn ymwybodol mai'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig yw bod pob plentyn tair a phedair oed yn cael gofal plant wedi'i ariannu am 30 awr yr wythnos. Mae hynny am 48 wythnos o'r flwyddyn, sy'n llawer mwy nag yn Lloegr, sy'n cynnig 38 wythnos. Ond yn ogystal â hynny, yng Nghymru, mae gennym ni'r gofal plant hwn i rai rhieni mewn addysg a hyfforddiant, yn ogystal â gwaith, ac nid yw hynny'n digwydd yn Lloegr. Ond rydych chi'n iawn, ceir rhai enghreifftiau lle, mewn gwirionedd, nid yw'r hyblygrwydd ar gael yn y system. Rydym ni'n ailasesu ac yn ceisio ehangu ein cynnig yn gyson. Mae'n bwysig, rwy'n credu, nodi bod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi gofyn i swyddogion ddatblygu opsiynau i ehangu cymhwysedd rhieni, yn y categori addysg a hyfforddiant yn benodol. Bydd y gwaith hwn, rwy'n gobeithio, yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol am unrhyw ehangu pellach o ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod yn rhaid i ehangu gael ei gefnogi gan y gweithlu a'r gyllideb i'w wneud yn gynaliadwy.

Prif Weinidog, mae rhieni yng Nghymru yn talu miloedd yn fwy am ofal plant nag yn unrhyw le arall yn y DU, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Mae costau gofal plant uchel yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi ac allan o waith, yn ôl gwaith ymchwil gan Sefydliad Bevan. Fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ehangu cynnig gofal plant Lloegr yn sylweddol i 30 awr o ofal plant am ddim, ar gael i rieni sy'n gweithio cymwys ar gyfer plant naw mis oed hyd at yr oedran pan oeddwn nhw'n dechrau'r ysgol. Diolch byth, mae'r Llywodraeth Lafur i lawr yr M4, sydd gennym ni nawr, wedi ymrwymo i barhau â'r darn pwysig hwn o waith. Gwrandawais yn astud ar gwestiwn Alun Davies, a'r ymateb y gwnaethoch chi ei roi iddo, ond eto mae'r ffaith yn parhau, Prif Weinidog, bod y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi gwrthod gwneud yr un cynnig gofal plant, sy'n golygu y gall rhieni Cymru barhau i fod mewn trafferthion gyda chostau gofal plant. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn eglur y byddem ni'n sicrhau bod Cymru yn cyd-fynd â Lloegr o ran gofal plant, pe baem ni'n ffurfio'r Llywodraeth Cymru nesaf. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi gynorthwyo rhieni sy'n gweithio'n galed gyda'u costau gofal plant trwy wrando ar alwadau'r Ceidwadwyr Cymreig a gwneud yr un cynnig â Lloegr? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cyfrannu £25 miliwn ychwanegol at ofal plant Dechrau'n Deg, diolch i gefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn hynny. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn yr ehangu yr oeddem ni eisiau ei weld. Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. [Torri ar draws.] Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar hyn mewn ffordd ymarferol iawn, oherwydd ni allwch droi'r pethau hyn ymlaen dros nos. Cynyddodd taliad y cynnig gofal plant ym mis Ebrill i £6.40 o £5, ac ar ben hynny yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw rhoi rhyddhad ardrethi busnesau bach o 100 y cant i ddarparwyr gofal plant. Nawr, mae hynny'n weithredu yn ymarferol iawn o ran gwneud yn siŵr y gallwn ni gyflawni pethau. Does dim pwynt gwneud cyhoeddiadau os nad oes gennych chi'r cyfleusterau gofal plant na'r bobl wedi'u hyfforddi. Mae hyn yn cymryd amser. Rydym ni'n ceisio gwneud hyn mewn ffordd gynhwysfawr ac eglur iawn, pryd rydym ni'n gwybod, pan fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad, bod darpariaeth yn dilyn.

Rhwydwaith Gwres yn Ne Cymru

5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddatblygu rhwydwaith gwres ar draws de Cymru? OQ63403

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn cael trafferth wrth dalu eu biliau ynni ar hyn o bryd, ac mae'n fater sy'n agos iawn at fy nghalon. Un o'r cyflawniadau yr oeddwn i fwyaf balch ohono yn Senedd Ewrop oedd sicrhau bod yn rhaid i bob gwlad yn yr UE ddatblygu strategaeth tlodi tanwydd. Rwy'n credu ei bod hi'n gwneud synnwyr perffaith archwilio opsiynau i gael gafael ar ynni rhad lle mae ar gael yn lleol, ac rwy'n falch iawn y bydd rhwydwaith gwres Caerdydd yn mynd yn fyw, wedi'i ariannu gan grant, gan Lywodraeth y DU a benthyciad di-log gan Lywodraeth Cymru, sy'n dod i gyfanswm o dros £15 miliwn. Buddsoddiad fel hwn, a fydd yn helpu i greu 20,000 o swyddi, fydd yn creu pŵer glân a chyfleoedd economaidd ym mhob rhan o Gymru.

14:15

Mae'r gwaith a wnaeth Cyngor Caerdydd hyd yn hyn i'w groesawu'n fawr. Mae'r Senedd, Canolfan Mileniwm Cymru a Choleg Caerdydd a'r Fro i gyd yn elwa ar gyflwyno'r rhwydwaith gwresogi bychan hwn, ac mae cynlluniau tebyg ar raddfa fechan wedi cael eu datblygu gan gynghorau Casnewydd a Cheredigion. Ond oni bai i'r sector cyhoeddus ymrwymo yn llwyr i'r strategaeth hirdymor hon ar gyfer trydan mwy rhesymol, gwyrddach—. Mae'r sector preifat yn blaenoriaethu Worthing yn Lloegr dros Gasnewydd yng Ngwent. Ac yn anffodus, yn wahanol i Loegr a'r Alban, nid oes gennym ni rwydwaith gwres gwyrdd ar gyfer Cymru, er gwaethaf yr holl waith a wnaethoch chi yn Senedd Ewrop. O ystyried ei bod hi'n llawer rhatach i osod piblinell rhwng Llanelli a Chwmbrân na'r biblinell nwy a gafodd ei datblygu o Ddoc Penfro i Gaerloyw, sut y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r uwchgynhadledd fuddsoddi sydd ar ddod i wneud i'r sectorau cyhoeddus a'r sector preifat weithio gyda'i gilydd ar y rhwydweithiau gwres uchelgeisiol y mae eu hangen arnom ni i sicrhau ein diogeledd ynni, yn ogystal â'n ffyniant diwydiannol yn y dyfodol ar draws y de?

Diolch yn fawr, Jenny. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle. Rwy'n credu bod rhwydwaith gwres Caerdydd yn enghraifft o arweiniad llwyr gan y sector cyhoeddus, a thrwy ein cenhadaeth economaidd a'n strategaeth ryngwladol rydym ni'n hyrwyddo Cymru yn weithredol fel cyrchfan ardderchog ar gyfer buddsoddiad ynni glân. Yn wir, yn ein huwchgynhadledd fuddsoddi ym mis Rhagfyr fe fyddwn ni'n arddangos y mathau hyn o gyfleoedd yn hollol—prosiectau ymarferol, uchelgeisiol sy'n trosi nodau hinsawdd yn swyddi da yng Nghymru.

Ar ben hynny, rwy'n credu ei bod yn werth dweud ein bod ni wedi cyhoeddi mapiau cyfleoedd gwres manwl eisoes gyda'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, yn nodi lle gall rhwydweithiau fel un Caerdydd weithio ar ei orau. Felly, beth mae hynny'n ei olygu yw caniatáu i gynghorau a datblygwyr—. Fe wnaethom ni gyfrannu'r arian cychwynnol, fe wnaethom nid ddangos iddyn nhw ble mae'r gwres i'w gael, ac mae hynny'n ei gymryd o fod yn syniad ac yn rhoi hyder i bobl symud o gam cynllun treialu hyd ddarganfyddiad. Felly, rydych chi'n hollol iawn, mae'n rhaid i'r sector cyhoeddus arwain, fel arall ni fydd y sector preifat yn gwneud yr ymchwil hwnnw ar y cam cychwynnol.

Prif Weinidog, yn y Barri, er enghraifft, y ffynhonnell wres yr oedd pobl yn ei hystyried yn y fan honno oedd y llosgydd a osodwyd yn ardal y dociau—yn gwneud llanast llwyr o'r system gynllunio gan yr awdurdod lleol ac roedd yn bla ar y trigolion yn yr ardal honno am ryw 10 mlynedd. Felly, os yw'r prosiectau hyn i fynd yn eu blaenau, mae angen i'r ffynhonnell wres sydd ei hangen fod â chefnogaeth y cyhoedd a chael caniatâd trwy'r system gynllunio. Mae'r llosgydd hwnnw a adeiladwyd yn y Barri yn cael ei ddatgymalu a'i dynnu yn dipiau mân ar hyn o bryd, ond roedd yn bla ar fywydau pobl yn yr ardal honno am 10 mlynedd. A wnewch chi ymrwymo yn Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod lleisiau'r gymuned yn cael eu clywed, fel nad oes rhaid i gymunedau eraill fynd trwy'r profiad distrywiol yr aeth tref y Barri drwyddo pan gafodd y llosgydd hwnnw ei gynnig ryw 15 mlynedd yn ôl?

Rwy'n ymwybodol iawn fod yna lawer o broblemau yn y gymuned leol ynglŷn â hynna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, lle bynnag y gallwn ni gael hynny, ein bod ni'n cael cefnogaeth y cymunedau lleol. Rwy'n credu bod rhwydwaith gwres Caerdydd yn enghraifft o sut y bydd hynny'n gallu gweithio. Maen nhw'n defnyddio'r gwres sy'n dod o gyfleuster adfer ynni Viridor ym Mharc Trident ym Mae Caerdydd. Fe allwch chi weld hwnnw o'r fan hon. Nid oes llawer o dai i'w cael o'i gylch yn agos, ac felly rydych chi'n osgoi rhai o'r materion a gafodd eu gweld mewn mannau eraill. Nawr, ar y safle hwnnw, fe fyddai 95 y cant o'r gwastraff hwnnw wedi mynd i safleoedd tirlenwi, ac fe wyddom ni sut yr ydym ni'n teimlo ynglŷn â safleoedd tirlenwi. Yr hyn sy'n digwydd wedyn yw bod hwnnw'n cael ei losgi. Mae'n cynhyrchu 250 GW o drydan. Mae hynny'n ddigon i gyflenwi 68,000 o aelwydydd. Y cynllun yw y bydd rhwydwaith gwres Caerdydd yn dal y gwres a gynhyrchir o gynhyrchu'r trydan, ac y bydd yn rhoi pwrpas newydd iddo yn y system ynni. Nid rhywbeth rhad yw datblygu'r system i ddechrau, ond yn amlwg pan fyddwch chi wedi gosod y piblinellau a phopeth arall, fe fydd hynny'n arwain at ynni sy'n llawer rhatach.

14:20
Gofal Iechyd Cymunedol

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yng ngogledd Cymru? OQ63406

Ar y cyfan, mae pobl yn dymuno cael mynediad at ofal iechyd mor agos at eu cartrefi â phosibl, ac mae gennym ni ymrwymiad hirsefydlog i symud y ddarpariaeth gofal iechyd o'r ysbytai ac i'r gymuned. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd ar lefel leol i ddiwallu anghenion ei phoblogaeth leol, gan weithio gyda'i randdeiliaid a'i bartneriaid allweddol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £36 miliwn yn flynyddol i'r bwrdd iechyd ar gyfer cefnogi gwasanaethau cymunedol amlbroffesiynol.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, Prif Weinidog, fe feirniadodd Jonathan Osborne, cyn-lawfeddyg ymgynghorol clust, trwyn a gwddf, Lywodraeth Cymru yn hallt am yr amseroedd aros cywilyddus i adrannau damweiniau ac achosion brys a welwn ni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac roedd yn beio'r Gweinidogion am fod y bwrdd iechyd yn dal i fod mewn mesurau arbennig. A wyddoch chi beth yr oedd ef yn ei amlinellu fel cam cyntaf i fynd i'r afael â'r broblem hon? Mwy o welyau mewn ysbytai cymunedol. Fe fyddem ni wedi cael 30 o welyau ychwanegol mewn ysbytai cymunedol yn ôl yn 2016 pe byddai Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei chynlluniau a gyhoeddwyd dair blynedd cyn hynny ar gyfer ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.

Yn realistig, mae angen llawer mwy o welyau arnom nawr na dim ond 30, ond, wedi mwy na 12 mlynedd o din-droi gan eich Llywodraeth chi, rydym ni wedi ymrwymo o'r diwedd i adeiladu'r ysbyty gyda chynlluniau ar raddfa sylweddol lai a dim ond 14 gwely a fydd yno. Mae cybydd-dod y Llywodraeth hon o ran y gogledd a buddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen hanfodol yn warthus o beth, pan fo'n fwy na hapus i daflu arian trethdalwyr at gynlluniau ideolegol nad oes neb wedi gofyn amdanyn nhw.

Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â Dr Osborne mai'r cam cyntaf i fynd i'r afael ag amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mwrdd Betsi yw creu mwy o welyau ysbyty cymunedol, ac a yw hi'n cytuno â mi nad yw aros 12 mlynedd am 14 gwely ychwanegol yn ddigon da i bobl sir Ddinbych na phobl ar draws y gogledd, yn wir, chwaith?

Edrychwch, yr hyn a wn i yw, ar y cyfan, mae hi'n well gan bobl gael gofal yn eu cartrefi eu hunain ac mae'r newid tuag at atal, at gefnogaeth gymunedol, yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei annog. Fe fu cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth—£36 miliwn i Betsi yn unig i gefnogi'r gwasanaeth cymorth cymunedol amlbroffesiynol hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn ei hyrwyddo.

Mae hi'n bwysig cydnabod, serch hynny, fod y bwrdd iechyd wedi cyflwyno achos busnes ar gyfer cam cyntaf safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, ac adeilad newydd yw hwnnw. Y cynllun yw cynnwys uned mân anafiadau, gwelyau gofal canolradd a gofal integredig. Ac rydych chi'n hollol gywir; rydym ni'n gobeithio y gallai hynny ysgafnu peth o'r pwysau yn Ysbyty Glan Clwyd drwy wella'r llif a byrhau oedi yn yr adran achosion brys.

Clinigau Sganio Babanod Preifat

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r safonau ymarfer mewn clinigau preifat sy'n gwneud sganiau babanod? OQ63391

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i ddarpar rieni gael sganiau babanod. Ar hyn o bryd mae sonograffeg preifat a sganiau babanod 3D a gynhelir gan ymarferwyr nad ydyn nhw'n rhai meddygol y tu allan i gwmpas y fframwaith rheoleiddio presennol yng Nghymru, ac fe ddylai'r cyhoedd fod yn ymwybodol o hynny. Rydym ni'n annog pob darpar riant yn gryf i ddefnyddio'r GIG neu wasanaethau dan oruchwyliaeth feddygol ar gyfer sganiau babanod, a honno yw'r ffordd orau o sicrhau eich diogelwch a chael gwybodaeth gywir, ddibynadwy.

Diolch i chi am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Fel gwyddoch chi, mae radiograffwyr blaenllaw wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â diogelwch gwasanaethau sganio babanod ar y stryd fawr heb fod yn rhai meddygol. Mae adroddiadau am fethu â nodi diagnosisau meddygol ac argyfyngau meddygol wedi ysgogi galwadau gan y gymuned radiograffwyr am reoleiddio mwy cadarn o ymarferiad uwchsain. Mae'r achosion wedi cynnwys clotiau gwaed yn cael eu camgymryd am ffetws wedi camffurfio, methiant i nodi beichiogrwydd ectopig gyda chanlyniadau a allent fod yn angheuol, ac annormaleddau difrifol heb eu canfod. Mae'r materion hyn yn codi pan fydd sganiau yn cael eu perfformio gan unigolion heb eu hyfforddi na'u rheoleiddio, fel gwnaethoch chi ei amlygu, yn aml mewn clinigau heb unrhyw oruchwyliaeth glinigol briodol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno na ddylai unrhyw riant wynebu trawma o ddiagnosis anghywir, ac, os felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal unigolion heb gymwysterau rhag cynnal sganiau o'r fath yng Nghymru? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn, Joel, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod y pryderon a godwyd gan adroddiadau diweddar oddi wrth rai o'r meddygon ymgynghorol. Ac mae hi'n bwysig cydnabod bod yna bobl yn gweithio yn y clinigau hyn sy'n ymarferwyr nad ydyn nhw'n feddygol, nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio, nad ydyn nhw'n ddarostyngedig i safonau statudol na chofrestriadau. Rydym ni'n gwrando ar rieni a gweithwyr proffesiynol. Rydym ni'n ystyried ar hyn o bryd sut y gellir grymuso rheoleiddio a goruchwylio, oherwydd mae clinigau preifat yn caniatáu i bobl nad ydyn nhw'n arbenigwyr ac nad oes ganddyn nhw gymwysterau i gynnal sganiau babanod, ac nid yw hynny'n iawn, yn ein barn ni.

14:25
Iechyd Diffoddwyr Tân

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i hyrwyddo a diogelu iechyd diffoddwyr tân? OQ63402

Mae'n bwysig ein bod ni’n diogelu iechyd y rhai sydd yno i'n hamddiffyn ni. Cyfrifoldeb y gwasanaethau tân ac achub yw hybu a diogelu iechyd diffoddwyr tân. Mae pob diffoddwr tân sy'n gwasanaethu yn cael gwiriadau ffitrwydd bob blwyddyn ac archwiliadau meddygol bob tair blynedd gan eu cyflogwyr.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.

Y tro diwethaf i mi godi'r mater hwn ym mis Mehefin, cafwyd cadarnhad bod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cael cais i gyflwyno cyngor ar y dystiolaeth sydd ar gael, a bod disgwyl y byddai adroddiad yn dod cyn diwedd y flwyddyn. Aeth sawl mis heibio erbyn hyn, ac mae diffoddwyr tân a'u cynrychiolwyr nhw'n dal i aros am eglurder ynghylch pryd y bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau ac ar ba ffurf y bydd. Rwyf i bron â bod yn gallu clywed sŵn crafu traed yn cael eu llusgo ynglŷn â'r mater hwn, Prif Weinidog. Felly, mae'n rhaid ailadrodd bod Asiantaeth Ryngwladol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ymchwil ar Ganser wedi datgan yn swyddogol bod diffodd tân yn broffesiwn sy'n achosi canser, symudiad a ddylai fod â goblygiadau mawr i'r ffordd y mae canser yn cael ei reoli i ddiffoddwyr tân, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws yr adroddiad hwnnw, yn benodol o ran a yw'r prif swyddog meddygol wedi cwblhau ei asesiad, a chadarnhau pa bryd y bydd y canfyddiadau ac unrhyw gamau gweithredu Llywodraeth sy'n deillio o hynny yn cael eu cyhoeddi? Ni fydd rhagor o oedi yn gwneud dim ond arwain at fwy o farwolaethau y gellid eu hosgoi.

Diolch yn fawr iawn, Luke, a gaf i ddiolch i chi am eich dyfalbarhad gyda'r mater hwn ac am hyrwyddo'r achos hwn sy'n agos iawn at eich calon chi, fe wn i? Mae'r Cyngor Ymgynghorol Anafiadau Diwydiannol wedi ystyried tystiolaeth newydd ers ei bapur sefyllfa. Maen nhw'n fodlon nad yw'r sefyllfa wedi newid. Mae nifer o adolygiadau sylweddol wedi edrych eisoes ar y risgiau i ddiffoddwyr tân. Fel rydych chi'n dweud, fe ofynnwyd i'r prif swyddog meddygol am gyngor i Weinidogion ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Fe fyddwn ni'n adrodd yn ôl i chi pan fydd hwnnw wedi cael ei gwblhau. Fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i ysgrifennu atoch chi. Er mwyn i chi fod yn ymwybodol, rwy'n disgwyl i Weinidogion gael y cyngor oddi wrth y prif swyddog meddygol cyn diwedd y mis hwn.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Janet Finch-Saunders.

Un Tribiwnlys Haen Gyntaf i Gymru

1. What progress has the Welsh Government made in drafting legislation to create a single first-tier tribunal for Wales? OQ63371

Diolch, Janet. Mae'r gwaith yn parhau i ddrafftio'r ddeddfwriaeth sy'n angenrheidiol i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer system dribiwnlys gydlynol, ddatganoledig, a fydd yn cynnwys tribiwnlys haen gyntaf newydd a thribiwnlys apêl i Gymru. Ein bwriad ni yw cael Bil tribiwnlysoedd drafft yn barod er mwyn iddo gael ei ystyried gan Lywodraeth nesaf Cymru.

Diolch i chi. Nawr, gwnaeth Papur Gwyn o 2023 ganfod bod y system dribiwnlys yng Nghymru yn hen ffasiwn, yn anhyblyg ac yn brin o gydlyniad. Cytunodd wyth deg wyth y cant â strwythur arfaethedig y system dribiwnlys unedig. Fe fyddai manteision yn cynnwys mwy o hyblygrwydd yn y system, cysondeb o ran gwneud penderfyniadau, prosesau mwy eglur a gwelliannau i broffil cyhoeddus y system dribiwnlys. Roedd naw deg un y cant yn cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru i dribiwnlys haen gyntaf Cymru. Ond ni chafodd unrhyw ddeddfwriaeth ei hawgrymu na'i phasio.

Cwnsler Cyffredinol, fe wnaethoch chi gynghori yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith ym Mangor fis diwethaf y bydd eich adran yn parhau i weithio ar y pecyn o ddiwygiadau ac y byddai'n cynhyrchu Bil drafft a fyddai'n barod i'w fwrw ymlaen gan Lywodraeth nesaf Cymru. A wnewch chi egluro pam, dros ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, nad yw'r Bil wedi dod gerbron y Senedd hon eto?

Ym mis Ebrill eleni, yn fy natganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol, fe roddais i gadarnhad i'r Senedd bryd hynny na fyddai'r Bil tribiwnlysoedd yn cael ei gynnwys ym mlwyddyn 5 y rhaglen ddeddfwriaethol. Roedd hynny'n peri peth gofid i ni nad oeddem ni'n gallu gwneud felly, ac nid yw hynny'n adlewyrchu unrhyw ddiffyg ymrwymiad i'n tribiwnlysoedd, ond yn adlewyrchu pa mor gymhleth yw'r Bil dan sylw. Felly, nid ydym ni wedi gallu cynhyrchu Bil yn ddigon cynnar i'w gyflwyno gan y Senedd gyfredol. Yn wir, mae gennym ni raglen lawn iawn ym mlwyddyn 5 yn barod. Felly, ein bwriad ni yw cael y Bil drafft hwnnw yn barod ar gyfer cael ei ystyried gan Lywodraeth nesaf Cymru ar ôl yr etholiadau ym mis Mai 2026. Rydych chi'n ei gwneud hi'n eglur iawn heddiw fod consensws ar draws y Siambr ynglŷn â'r angen i wneud hyn. Bydd y Bil drafft yn galluogi hynny, ac rwy'n siŵr y bydd unrhyw Lywodraeth Cymru sy'n dod i mewn yn deddfu hynny ym mlwyddyn 1 o'i rhaglen ddeddfwriaethol.

14:30
Capasiti Deddfwriaethol

2. Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'w galluogi i gynyddu faint o ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio mewn Seneddau yn y dyfodol? OQ63376

Diolch, Rhys. Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o weithredu rhaglen i ysgogi gwelliant parhaus yn y broses o ddatblygu deddfwriaeth fewnol.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Rydych chi'n siŵr iawn o fod ymwybodol mai un o'r prif ddadleuon dros ehangu'r Senedd hon oedd gwella'r craffu, ac y byddai hynny wedyn yn gwella bywydau pobl Cymru. Mae hi'n debyg ei bod yn deg dweud, efallai, nad yw'r ddadl honno wedi torri trwodd, torri ar draws, mewn gwirionedd, er mwyn y cyhoedd eto. Fel gwyddoch chi, yn ei hanes, nifer fechan o ddarnau o ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd o gymharu â deddfwrfeydd eraill, fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn nhymor 2016-21, fe basiodd y Senedd 22 o gymharu â 76 yn yr Alban a 46 yng Ngogledd Iwerddon. Yn y gorffennol, efallai fod hynny wedi cael ei esbonio oherwydd diffyg maint y lle hwn, ond ni fydd hynny'n wir ar ôl etholiad y flwyddyn nesaf, gyda mwy o gynrychiolwyr yma nag yn Stormont, a thri chwarter nifer yr Aelodau yn Senedd yr Alban. Felly, faint o wahaniaeth mae'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y bydd y 36 Aelod newydd yn ei wneud o ran effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru?

Diolch, Rhys. Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn, ac, yn amlwg, fe fydd y blaenoriaethau deddfwriaethol, yn y diwedd, yn cael eu cadarnhau maes o law gan y Llywodraeth ar ôl yr etholiad. Rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol eich bod yn rhagdybio bod mwy o ddeddfwriaeth yn beth da, a llai o ddeddfwriaeth yn beth drwg. Nid wyf i'n credu bod hynny'n wir, o reidrwydd. Rwyf i o'r farn y dylem ni lunio deddfau sy'n ofynnol, ac nid deddfau er eu mwyn eu hunain ar gyfer sgorio pwyntiau i fod mewn safle ar dabl cynghrair o ryw fath. Ond fe fydd y cynnydd ym maint y Senedd, a'r cynnydd posibl yn nifer y Gweinidogion, â goblygiadau i ffyrdd Llywodraeth Cymru o weithio, gan gynnwys gweinyddu a chyflwyno deddfwriaeth, ac, wrth gwrs, mewn ymateb i fwy o graffu, a dyna oedd prif bwrpas ehangu'r Senedd. Felly, rydym ni'n gobeithio y bydd craffu gwell yn digwydd yr holl ffordd drwy'r broses ac, yn y modd hwnnw, fe fydd gwelliant yn y deddfau a lunnir, yn amlwg.

Rydym ni yn y broses o roi cyfres o gamau gweithredu ar waith i ysgogi gwelliannau yn y broses o ddatblygu deddfwriaeth, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i—felly, dim ond rhestr yw hon o rai o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud—protocolau mwy cadarn ar gyfer cynllunio cynnar, ffyrdd mwy syml o weithio a mwy o arbenigedd yn y dasg o ddatblygu deddfwriaeth. Fe ddylai hynny ein helpu ni i sicrhau'r adnodd priodol gennym ni yn y lle iawn, ar yr amser iawn.

Fe fyddwn i'n portreadu'r peth fel hyn: os ewch chi o un pen i'r llall, fe fydd Llywodraeth sy'n dod i mewn yn ysu am fynd ati, fe fydd ganddi faniffesto a gyflwynodd i bobl Cymru, fe fydd pobl Cymru wedi cymeradwyo'r maniffesto hwnnw, ac fe fyddan nhw'n awyddus i drosi hwnnw'n rhaglen ar gyfer llywodraethu. Ond fe fydd angen cymorth ar Weinidogion newydd i drosi'r geiriad hwnnw yn y maniffesto yn ddeddfwriaeth sy'n gwneud synnwyr. Fe fydd angen help arnyn nhw i droi eu syniadau cychwynnol yn bethau y gellir eu mynegi mewn ffordd ddeddfwriaethol. Ac, a bod yn onest, fe fydd angen help arnyn nhw i ffrwyno peth o'u brwdfrydedd yn y dyddiau cyntaf hynny, fel bydd Biliau penodol gennych chi a fydd at ddibenion penodol. Yn y gorffennol, nifer fechan o Filiau y mae'r Senedd wedi eu pasio, ond mae'r rhain wedi tueddu i fod yn Filiau mawr iawn. Fe wnaeth Prif Weinidog blaenorol nodweddu peth fel hyn i mi, ac rwy'n gobeithio nad oes ots ganddo ef fy mod i'n ei ddyfynnu nawr, 'Os mai dim ond yn anfynych y daw'r bws heibio, fe fydd pawb yn gwthio arno, ond os oes bws arall i ddod ymhen 10 munud, efallai y byddwch chi'n disgwyl ac yn mynd ar y bws nesaf. Efallai y bydd hi'n fwy cyfforddus i fynd ar hwnnw'. Mae deddfwriaeth yr un fath. Os oes gennych chi nifer o Filiau â phwrpas bychan iddyn nhw'n mynd drwodd, yna fe fydd pobl yn canolbwyntio ar eu Biliau pwrpasol. Os mai dim ond yn achlysurol y daw un, yna fe fydd pawb yn ceisio cael popeth sy'n ymwneud â'r pwnc dan sylw yn y Bil, hyd yn oed y pethau sy'n perthyn o bell. Ac rwy'n credu mai honno fydd y wers i'r Llywodraeth newydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard. 

14:35

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prynhawn da, Cwnsler Cyffredinol. Fis diwethaf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad llafar yma yn y Senedd ynglŷn ag anghenion dysgu ychwanegol, gan fyfyrio ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a basiwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hi'n addef bod, rwy'n dyfynnu,

'anghysondeb yn y ffordd y caiff y diffiniadau ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol eu cymhwyso ledled Cymru.'

Nawr, yn ymarferol, mae hynny'n golygu y bu costau enfawr i ysgolion ac awdurdodau lleol o ganlyniad i'r Bil hwnnw. Mae hyn yn golygu bod awdurdodau lleol yn deall y Bil mewn gwahanol ffyrdd ac yn gwneud gwahanol ddarpariaethau mewn gwahanol leoedd, ac nid yw'r plant, yn y bôn, yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnyn nhw. Mewn geiriau plaen, fe gafodd yn Bil ei ddrafftio yn wael. Felly, pa wersi a gafodd eu dysgu gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r Bil hwn, ynglŷn â sut y cafodd ei ddrafftio, a pha fesurau a wnaethoch chi eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto?

Felly, o ran y ddeddfwriaeth, mae hynny'n gorgyffwrdd â'r sgwrs yr wyf i newydd ei chael gyda Rhys ab Owen, wrth gwrs. Fe gyflwynir y ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru yn y lle cyntaf, ond mae'n yn mynd trwy'r prosesau craffu, ac, yn y pen draw, fe gaiff ei derbyn gan y Senedd fel y gyfraith fel y dylid ei deddfu hi. Ac mae angen cyfres lawn o bethau i roi'r gyfraith honno ar waith wedyn, sy'n cynnwys cyhoeddi canllawiau, gweithio gyda rhanddeiliaid, ac ati. Mae hi'n amlwg o ran nifer fawr o Filiau, ac mae hi'n debyg mai dyna un ohonyn nhw, fod gweithio yn galed iawn yn ystod y broses graffu ar rai materion ynglŷn â rhoi Biliau ar waith—un arall fyddai Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, er enghraifft; rwy'n gallu meddwl am ambell un arall—lle mae angen edrych ar adroddiadau o'r gwersi a ddysgwyd, gan y Senedd, yn ei phrosesau craffu, ac, yn wir, gan y Llywodraeth, o ran y ffordd y bydd hi'n cynhyrchu deddfwriaeth yn y lle cyntaf. Ac yna, wrth gwrs, mae'r cam wedi'r gweithredu i'w ystyried hefyd.

Rwy'n credu mai un o'r pethau y gwnaethoch chi sôn amdano nawr oedd ymarfer anghyson ar draws yr awdurdodau lleol. Felly, mae hi'n bwysig iawn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hefyd i sicrhau bod y canllawiau sy'n mynd allan yn ddealladwy iddyn nhw yn y modd y bwriadwyd nhw, a'u bod yn eglur ac yn fanwl gywir o ran eu hieithwedd. Nid wyf i'n gallu dyfynnu'r canllawiau ADY i chi, mae arna' i ofn, ond nid wyf i'n siŵr eu bod yn gynwysedig yn y categori hwnnw. Ond rwyf i, yn ystod fy ngyrfa hirfaith, wedi gweld arweiniad y gellid ei ddehongli mewn mwy nag un ffordd, ac felly mae sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r ieithwedd gywir yn wers bwysig iawn i'w dysgu.

Diolch i chi am yr ateb yna. Mae hi'n amlwg, yn y pen draw—er, yn natganiad y Gweinidog, fe wnaeth hi sôn am ailgyhoeddi canllawiau—fod angen Bil newydd neu welliant i'r Bil cyfredol yn y dyfodol ar gyfer datrys hyn. Ond roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfaddef yn y bôn na ellid gwneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon oherwydd y diffyg gallu deddfwriaethol o fewn Llywodraeth Cymru. Roedd hwnnw'n bwynt a gafodd ei ailadrodd gan Rhys ab Owen. Felly, rydym ni mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod problem i'w chael ond nad yw hi'n gallu gwneud dim byd ynglŷn â'r peth, ac mae'r teuluoedd a'r plant sydd â'r angen am y gefnogaeth, am ddiwygio'r Bil hwn, mewn sefyllfa ansicr ac amhendant yn y cyfamser. Yn Gwnsler Cyffredinol, mae'n rhaid eich bod chi'n ystyried hwnnw'n fater sylweddol iawn, felly pam nad ydych chi'n rhyddhau gallu mewnol sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datrys y broblem hon cyn gynted â phosibl?

Nid oes gan y mater o ddeddfwriaeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd unrhyw beth i'w wneud â gallu Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi dod i'r funud olaf un. Rwy'n credu mai dim ond 100 neu fwy o ddiwrnodau sydd gennym ni ar ôl. Pan fyddwn ni'n dod yn ôl ar ôl y Nadolig, fe fydd pob un o Aelodau'r Senedd yn gweld eu bod nhw'n cyflawni cymaint o ddeddfwriaeth, gan gynnwys is-ddeddfwriaeth, fel fy mod i'n ofni y bydd angen meddyginiaeth arnom ni i gyd ar gyfer dal ati wrth fynd drwy gyfran ohoni. Yn syml, nid oes amser ar ôl gan y Senedd i wneud diwygiadau mawr o'r math hwnnw.

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw gweithio ar raglen o Filiau a diwygiadau ar gyfer blwyddyn gyntaf tymor y Llywodraeth newydd, a ddylai beidio â bod yn ddadleuol, yn wleidyddol ddadleuol, ac ati, ac felly fe fydd unrhyw Lywodraeth sy'n dod i mewn yn cael dechrau teg, os hoffech chi, ar gyfer rhai o'r pethau, ac, a bod yn onest, y bydd gan Weinidogion newydd rywbeth i dorri eu dannedd arno er mwyn iddyn nhw ymgyfarwyddo â hynny. Nid wyf i, mae arna' i ofn, yn gyfarwydd â'r union sefyllfa o ran y Bil ADY—yn amlwg, nid yw hynny yn fy mhortffolio penodol i—ond dyma un o'r pethau yr ydym ni'n eu hystyried: pa newidiadau sydd eu hangen ar ddeddfwriaeth o bosibl. Rwy'n credu bod y Senedd ei hun hefyd—. Wel, rydym ni i gyd y gwybod y bydd y Senedd ei hun—fe wnes i gymryd rhan ym mhwyllgor y seithfed Senedd, ac wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r Llywydd ynglŷn â'r peth—hefyd yn ystyried y darpariaethau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth, oherwydd, pan fydd mwy o Aelodau, bydd cyfle gwell i ni lunio'r ddeddfwriaeth honno'n briodol yn y lle cyntaf.

Diolch i chi. Nid wyf i'n siŵr fy mod i'n derbyn yn llwyr, serch hynny, na all Llywodraeth Cymru wneud unrhyw beth ynghylch hyn yn y cyfnod sydd ar ôl. Er gwaethaf y pwynt a wnaethoch chi, yn amlwg, nad yw hyn yn eich portffolio chi, mae rhoi Biliau gerbron, ac mae'n debyg nad yw rhai o'r Biliau sy'n cael eu cyflwyno yng ngweddill tymor y Senedd hon yn bethau a fyddai'n flaenoriaethau i bobl—Bil, er enghraifft, i ddodi mwy o reoliadau ar y sector twristiaeth, ar gyfer gwahardd rasio milgwn, a'r syniad chwerthinllyd, anymarferol hwn i blismona'r hyn y gall gwleidyddion ei ddweud neu beidio â'i ddweud. Nawr, nid wyf i'n deall pam mae'r rhain yn cael eu hystyried yn bwysicach na chael trefn ar addysg i'n plant. Efallai y gallech chi esbonio hynny i mi.

14:40

Nid ydyn nhw'n cael eu hystyried yn bwysicach. Tom, un o'r pethau na wnaethoch chi eu dysgu eto, rwy'n ofni, yw nad yw bywyd yn ddu a gwyn. Nid dewis pendant mohono rhwng hynny a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, wrth gwrs. Ystyr hyn yw sicrhau ein bod ni wedi dadansoddi'r gwersi a ddysgwyd yn gywir, ein bod ni wedi cefnogi plant ag ADY sydd yn y system ar hyn o bryd, ac, i'r dyfodol, ein bod ni'n rhedeg y system honno'n briodol. Y syniad hwn y gallem ni roi deddfwriaeth ar waith yn gyflym iawn ac y byddai hynny rywsut yn datrys y broblem o gymhwyso canllawiau anghyson ledled Cymru, er enghraifft, mae hi'n amlwg na fyddai hynny'n gweithio. Nid du a gwyn mohoni hi, mae arna' i ofn, ac nid wyf i'n siŵr fod y Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa mor arbennig o wych i ddweud wrthyf i beth mae pobl Cymru yn ei feddwl, o ystyried y gyfradd o gynrychiolaeth sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.

Diolch, Lywydd. Cafodd eich araith chi yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith, y cyfeiriwyd ati eisoes, yn yr adroddiad yn y Law Society Gazette, ei rhoi yn y mynegiant canlynol, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae unrhyw obaith o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru wedi cael ei gicio yn galed dros yr ystlys, gyda phrif gyfreithiwr y wlad yn cadarnhau nad yw hwnnw'n ddewis i'r dyfodol y gellir ei ragweld.'

Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi achub ar y cyfle nawr i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod o blaid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru? A wnewch chi gadarnhau, i ddileu unrhyw ddryswch, mewn gwirionedd, pan oeddech chi'n dweud yn eich araith nad fydd unrhyw Lywodraeth i Gymru yn eiriol dros rwystro cyfreithwyr o Gymru rhag gweithio yn Lloegr, nid oes unrhyw beth yng nghread awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân a fyddai yn atal cyfreithwyr o Gymru rhag parhau i ymarfer yn Lloegr neu mewn mannau eraill yn yr ynysoedd hyn, mewn unrhyw fodd?

Gwnaf. Diolch i chi, Adam, am y cyfle i unioni hyn. Dyma enghraifft arall dda arall o'r wireb 'ni ddylech gredu'r hyn y byddwch chi'n ei ddarllen yn y penawdau.' 'Ddywedais ddim mo'r ffasiwn beth. Rwyf i yn y broses o ysgrifennu yn ôl at Rhun—ac rwy'n credu ei fod ef wedi codi hyn mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog ar ddiwrnod pan nad oeddwn i'n gallu bod yn bresennol, yn anffodus—dim ond i ddweud hynny ar goedd nawr, ac fe fydd copi llawn o'r araith wedi ei atodi. Fe wnes i'r union bwynt ag y gwnaethoch chi nawr, mewn gwirionedd. Mae awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru yn datblygu yn anochel. Po fwyaf y byddwn ni'n deddfu yn y fan hon, y mwyaf fydd y deddfau hynny'n wahanol i'r rhai yn awdurdodaeth Lloegr. Nid oes gwahaniaeth os ydych chi'n ystyried honno'n awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio, mae corff o gyfraith ar wahân yn prifio yng Nghymru, ac mae angen i gyfreithwyr fod yn ymwybodol o'r corff hwnnw o gyfraith. Wrth ymarfer yng Nghymru, mae angen iddyn nhw allu cymhwyso'r gyfraith gywir yng Nghymru i'r pwnc cywir. Rwyf i wedi trafod cryn dipyn gydag Arglwyddes Brif Ustus Cymru a Lloegr ynglŷn â hyn—roedd hithau yng nghynhadledd Bangor hefyd—a chyda nifer o aelodau eraill o'r farnwriaeth hefyd, o ran sut y byddwch chi'n sicrhau bod y corff sy'n datblygu cyfraith i Gymru yn cael ei ddyfarnu mewn modd priodol.

Ond, yr hyn yr oeddwn i'n ei wneud oedd egluro i'r proffesiwn yng Nghymru, yr wyf i'n falch iawn ohono—a Chymro yw llywydd presennol Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr, ac fe wnaeth ef gyfraniad da iawn at gynhadledd Bangor—bod y Llywodraeth hon i Gymru—. Ac fe gymerais i rwydd hynt, mae arna' i ofn, o ragweld Llywodraethau Llafur eraill i Gymru—Llywodraethau eraill i Gymru—. Maddeuwch i mi, rwyf i am ddweud hynny eto, oherwydd llithriad tafod gennyf i nawr. [Chwerthin.] Ni fyddai unrhyw lywodraethau eraill i Gymru, roeddwn i'n sicr o hynny, yn dymuno cyfyngu cyfreithwyr o Gymru i Gymru yn y ffordd yr oedden nhw'n mynegi pryderon y gallai hynny ddigwydd. Roeddwn i o'r farn y byddai hwnnw'n beth cibddall iawn i'w wneud. Yn amlwg, mae yna nifer fawr o gyfreithwyr yn ymarfer ar y ddwy ochr i'r ffin, ac rydym ni'n awyddus i annog hynny.

Ond, fel gwyddoch chi, un o'm gorchwylion i yn y swydd arbennig hon yw hybu hygyrchedd i gyfraith Cymru. Fe wnes i gymryd rhwydd hynt hefyd i ddweud yn yr araith honno, ac fe ddywedais i hyn sawl gwaith yma yn y Siambr, fy mod i'n dymuno cyrraedd sefyllfa, os yw rhywun yn ymddangos mewn llys yng Nghymru mewn mater masnachol, er enghraifft, nid eich ymateb chi fyddai dymuno, 'Pob lwc'. Roedd gen i ffrind yn ymddangos bythefnos yn ôl mewn llys yng Nghaerdydd, ac fe ddywedais innau, 'Pob lwc'. Mae hi'n anodd iawn gwybod beth sydd mewn grym yng Nghymru. Mae llawer o'r llyfrau cyfreithiol dweud o hyd, '*nid mewn grym yng Nghymru', ac yna rydych chi'n dilyn y seren i lawr hyd waelod y dudalen lle nad oes dim yn fwy i'w gael, nad yw o unrhyw ddefnydd i chi o gwbl.

Felly, rwy'n credu bod sawl mater ynghlwm yn hyn o beth, ac fe ddywedais i bytiau ynglŷn â hynny yn fy araith i. Mae angen i ni sicrhau bod proffesiwn cyfreithiol gennym ni sy'n gallu dyfarnu'r gyfraith fel mae hi yng Nghymru, yn ddwyieithog, sy'n bwysig iawn hefyd. Mae angen i ni sicrhau, os nad yw'n fasnachol hyfyw i wneud y gyfraith honno yn hygyrch o ran gwyddoniaduron a phethau eraill y mae cyfreithwyr yn cyfeirio atyn nhw'n rheolaidd, bod Llywodraeth Cymru yn camu i'r gofod hwnnw ac yn sicrhau ar ei gwefan ei hun ei bod yn dryloyw iawn ynglŷn â'r hyn sydd mewn grym yng Nghymru a'r hyn nad ydyw mewn grym yng Nghymru. Yn wir, Adam, fe wnaethoch chi a minnau gael dadl frwd iawn yn y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru), sydd yn Ddeddf erbyn hyn, a aeth drwodd ynghylch sicrhau bod Argraffydd y Brenin, er enghraifft, yn argraffu pethau mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd chwilio amdanyn nhw, a bod y derminoleg gywir gennym ni ar waith fel ei bod hi'n haws i bobl ddilyn yr hyn sydd yno.

I grynhoi, felly, yr hyn a ddywedais i oedd bod awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn datblygu yn anochel. Rywbryd yn y dyfodol, fe fydd yn rhaid i rywun gydnabod ei bod hi'n bodoli, ond mae hi'n bodoli os ydych chi'n ei chydnabod neu beidio, ac fe ddylai'r proffesiwn gael ei rymuso gan hynny a pheidio â theimlo ei fod yn cael ei leihau mewn unrhyw ffordd.

14:45

Fe roddodd Arglwyddes Brif Ustus Cymru a Lloegr araith ddiddorol iawn, gan gynnwys cyfeiriad at etymoleg y gair 'cwtsh', sydd o'r Ffrangeg, yn ôl pob tebyg—pwy wyddai? Ond fe fynegodd ei siom fawr hefyd am nad oedd y Bil Tribiwnlysoedd am gael ei gyflwyno yn nhymor y Senedd hon. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y gwaith ar y Bil drafft. A yw hi'n bosibl, Cwnsler Cyffredinol, i'r Bil drafft o leiaf gael ei gyhoeddi, pan fyddwch chi'n ei gwblhau, yn y tymor hwn, er mwyn i ni, ar sail drawsbleidiol, symud ymlaen a gobeithio gwneud cynnydd cyn gynted â phosibl ar y diwygiad cyfansoddiadol pwysig hwn?

Yn gwbl sicr, ein bwriad ni yw cyhoeddi'r Bil drafft. Rwy'n trafod gyda llywydd Tribiwnlysoedd Cymru am y peth. Rwyf i wedi dweud y byddwn ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i sicrhau y bydd y Bil hwnnw'n cael ei gyhoeddi, ac rydym ni'n parhau i wneud hynny'n union.

Yn olaf, Cwnsler Cyffredinol, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wythnos diwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyfarfod gyda Llywodraeth y DU ar gyfer ymchwilio i ddiwygio fformiwla Barnett. A wnewch chi rannu gyda'r Senedd pryd y bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal, pa Weinidogion y DU a fydd yn debygol o fod yn bresennol, a pha gynigion penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi gerbron? Fe wnaethoch chi ddweud mewn trafodaethau blaenorol fod Barnett, am mai confensiwn Trysorlys anstatudol ydyw, wedi ei ynysu, yn effeithiol, rhag goruchwyliaeth farnwrol. Ai safbwynt Llywodraeth Cymru felly yw y dylid rhoi unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol, unrhyw drefniadau cyllido tiriogaethol, ar sail statudol fel y byddai unrhyw wyriad oddi wrth yr egwyddorion y cytunwyd arnyn nhw'n ddarostyngedig i atebolrwydd cyfreithiol ac nid yn ddibynnol ar ewyllys da Gweinidogion y DU yn unig? Rwy'n arbennig o ymwybodol o'r posibilrwydd o newid gwleidyddol yn San Steffan yn y dyfodol. Oni bai ein bod ni'n rhoi hyn ar sail statudol, fe fyddwn ni'n agored i gael ein taro gan y tywydd gwleidyddol cyfnewidiol yn San Steffan.

Yr ateb syml i'r rhan gyntaf o'ch cwestiwn chi yw y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Chwefror a hynny ym Melfast. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid, yn dweud wrthyf i fod hynny'n wir. O ran gweddill eich cwestiwn chi, rwyf i o'r farn ein bod ni, dros y blynyddoedd diwethaf a'r Llywodraethau olynol, wedi gweld gwir angen i ddechrau ystyried rhoi'r confensiynau hyn i gyd yr ydym ni wedi bod yn dibynnu arnyn nhw ers cannoedd o flynyddoedd mewn cyfansoddiad ysgrifenedig neu ar ffurf ysgrifenedig, oherwydd, heb flewyn ar dafod, mae llywodraethau wedi gallu eu diystyru nhw'n llwyr, fel gwnaeth Llywodraeth Boris Johnson yn arbennig. Ni welsom ni hynny o'r blaen, ond am ein bod wedi gweld hynny nawr, mae hi'n amlwg y gallai hynny ddigwydd. Rwy'n credu mai'r farn gynyddol yw bod angen grymuso llawer o'r confensiynau hyn, gadewch i ni ddweud, fel eu bod yn bethau na ellir eu taflu o'r neilltu er hwylustod gwleidyddol. Rwy'n credu bod angen cynyddol i wneud hynny. Pe baech yn perswadio unrhyw Lywodraeth gyfredol yn y DU i roi ei fformiwla ariannu yn y gyfraith neu beidio, mae gen i farn bersonol i, ac rwy'n amau ei bod hi ychydig yn fwy digalon. Ond rwy'n credu bod barn gynyddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol fod ysgrifennu'r confensiynau i lawr a'u gwneud nhw'n orfodol yn llwybr pendant ymlaen ar gyfer cyfansoddiad Prydain yn fwy cyffredinol.

Diolch, Llywydd. Fy nghwestiwn i—. Efallai y dylem ni fod wedi ei baru, pe baem ni wedi gwybod. Mae'r cyfan wedi ei drafod. Fe wnaf i ei ofyn pe byddech chi'n dymuno, ond fe fyddai'n ailadrodd yn llythrennol air am air yr hyn a gafodd ei ddweud yn barod.

Hwn yw'r tro cyntaf, rwy'n credu, i rywun ofyn am dynnu cwestiwn yn ei ôl yn wirfoddol oherwydd ei fod wedi cael ei drafod eisoes mewn sesiwn. Fe gymerwn ni hwnnw fel cynnig na allwn ei wrthod, Janet Finch-Saunders. 

Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OQ63370].

14:50
Ailagor Rheilffyrdd

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i ailagor llinellau rheilffyrdd? OQ63377

Diolch i chi, Delyth. Er na chafodd y seilwaith rheilffyrdd ei ddatganoli i Gymru eto, byddwn yn parhau i wneud yr achos dros gyfran deg o gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith rheilffyrdd. Rydym ni'n ymfalchïo yn ein henw da am ailagor llinellau a oedd wedi cau, gan gynnwys rheilffordd Glynebwy ac ailddechrau gwasanaethau i deithwyr ar linell Bro Morgannwg.

Fe ddaw rhwystredigaeth weithiau am ein bod ni mor ddibynnol ar fympwyon San Steffan i gyflawni mewn maes fel hwn. Mae cysgod Beeching yn amlwg ar ein Cymoedd. Mae yna gymaint o orsafoedd a llinellau trên a gaewyd yn y 1960au oherwydd y toriadau trychinebus cibddall hynny. Mae Lindsay Whittle, Peredur Owen-Griffiths a minnau wedi ysgrifennu at Weinidog Rheilffyrdd y DU, Arglwydd Hendy, yn galw am astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd sy'n cysylltu Nelson â rheilffordd Cwm Rhymni. Nid bod o fantais i Nelson yn unig fyddai hyn. Mae cynlluniau yn bodoli ar gyfer cyswllt sy'n cysylltu llinell Cwm Rhymni â llinell Taf. Fe fyddai hynny'n cysylltu gwahanol Gymoedd. Fe fyddai ailagor y llinell sy'n cysylltu Nelson ag Abercynon yn sicr yn ffordd amlwg o wneud hynny. Mae'r hen linell a'r cledrau yn bodoli o hyd yn Nelson. Fe fyddai llawer o bobl sy'n byw yn lleol wrth eu boddau yn gweld y llinell honno'n ailagor. A yw hwnnw'n brosiect y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus ei weld yn mynd rhagddo ac a oes unrhyw rwystrau cyfreithiol o ran bwrw ymlaen ag ef?

Diolch, Delyth. Fel dywedais i, rydym ni'n awyddus iawn i ailagor llinellau caeedig lle mae hynny'n gwneud synnwyr. Nid y rhai a grybwyllwyd gennych yn eich ardal chi yw'r unig rai. Gallwn roi rhestr i chi yn fy ardal fy hun hefyd. Rydym yn cefnogi mewn egwyddor gomisiynu astudiaethau dichonoldeb ar yr opsiynau ar gyfer ailagor llinellau caeedig, ond mae'n rhaid iddynt fod yn seiliedig ar set o feini prawf, fel y byddech chi'n disgwyl—angen diffiniedig, digon o boblogaeth i gefnogi'r defnydd o unrhyw wasanaeth yn y dyfodol. Yn bwysig iawn hefyd, mae angen iddyn nhw ystyried y Bil bysiau newydd a'r gwasanaethau sy'n debygol o gael eu darparu, fel nad oes gennym ddyblygu, mae gennym ymuno ac yn y blaen. Fel y gwyddoch, mae seilwaith rheilffyrdd y tu allan i linellau craidd y Cymoedd yn fater a gedwir yn ôl, ond rydym yn gweithio'n agos gyda nhw ar welliannau seilwaith rheilffyrdd.

Gyda fy het gyflawni arnaf, yn hytrach na fy het Cwnsler Cyffredinol, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Ken Skates, yr Ysgrifennydd Cabinet, ar gyfres gyfan o ofynion i Lywodraeth y DU ynghylch sicrhau bod y setliad i Gymru yn gwneud synnwyr, a bod y grŵp Network Rail yn gwneud synnwyr a bod gennym gyfran decach o'r buddsoddiad rheilffyrdd hwnnw. Ond mewn gwirionedd, nid yw'n ymwneud â'r arian yn unig; mae'n ymwneud â chael dealltwriaeth briodol ar lefel Network Rail o beth yw anghenion y seilwaith i redeg y gwasanaethau rydym ni am eu rhedeg. Felly, nid llinellau caeedig yn unig ydyw, mae'n ymwneud ag uwchraddio llinellau, gwneud yn siŵr y byddant yn rhedeg y trenau ar y cyflymder cywir, yr holl bethau hynny hefyd. Ond byddwch yn dawel eich meddwl ei fod yn rhan o'r cynllun i edrych ar ailagor llinellau lle rydym yn gallu dangos y dichonoldeb.

Gweithgor Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar y gweithgor llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol? OQ63380

Diolch i chi, Rhys. Ar 16 Hydref, ysgrifennodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan anfon copi at Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgor a'r camau nesaf yn yr arfaeth. Mae hwnnw wedi cael ei gyhoeddi ar-lein.

Nid oeddwn i'n ymwybodol o hynny, felly rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud hynny, Cwnsler Cyffredinol. Ond nid wyf i'n ymddiheuro am godi Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol gyda chi unwaith eto. Rwy'n credu mai hwn yw'r trydydd tro i mi ei godi gyda chi. Yn eich ymateb y tro diwethaf, fe wnaethoch chi sôn am weithdy ym mis Mehefin. Fe fyddwn i'n falch iawn o gael gwybod mwy am ganlyniadau'r cyfarfod hwnnw. Fe ddaeth y cynllun treialu dwy flynedd i ben ddwy flynedd yn ôl. Yna fe gawsom ni werthusiad dwy flynedd gan Brifysgol Caerdydd, a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2024, a arweiniodd at bum argymhelliad clir iawn. I mi, mae manteision Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn eglur ac yn amlwg: gostyngiad enfawr o ran camddefnyddio alcohol a sylweddau, cynnydd o 18 y cant yn nifer y plant sy'n gallu parhau i fyw gydag un rhiant o leiaf, gostyngiad o 23 y cant yn nifer y plant sy'n byw mewn gofal maeth, a dim achosion gofal plant terfynol sy'n gostus ac ysgytiol. Cwnsler Cyffredinol, nid wyf i'n siŵr faint yn fwy o dystiolaeth sydd ei angen. Nid wyf i'n siŵr pam nad oes gennym ni Lysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol eisoes yma yng Nghaerdydd a ledled Cymru. A wnewch chi ddweud wrthyf i'n gryno iawn, cyn i mi fynd ar-lein, beth yw'r camau nesaf y byddwch chi'n eu cymryd yn ymwneud â hyn?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Gwnaf, Rhys, gyda phleser o'r mwyaf. Fe wnaeth y gweithgor gyfarfod pump o weithiau ac fe glywodd oddi wrth nifer o sefydliadau, megis y Ganolfan Arloesi Cyfiawnder ac Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Ar ôl eu cyfarfodydd a chael rhywfaint o adborth arbenigol, fe ddatblygodd y grŵp bapur trafod, a oedd yn cydnabod model Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol fel rhywbeth effeithiol a manteisiol i blant a theuluoedd, am yr holl resymau yr ydych chi newydd eu hamlinellu, gyda chefnogaeth eang i ymgorffori ymagwedd o ddatrys problemau mewn achosion cyfraith gyhoeddus, sy'n rhywbeth yr ydym ni'n ei gymeradwyo yn llwyr.

Eto i gyd, roedden nhw'n nodi nifer o heriau i gyflwyno'r Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol ledled Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys anghysondeb yn argaeledd y gwasanaethau ledled Cymru, rhai rhwystrau daearyddol, yn enwedig yn ardaloedd cefn gwlad, a rhai cyfyngiadau ariannol ar sawl lefel, y gwn i chi fod yn gyfarwydd â nhw. Roedd y gweithgor yn pwysleisio na ddylai'r Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol gael eu symud ymlaen ar eu pennau eu hunain, ond eu dodi yn y gyfundrefn fwy eang. Roedd hynny'n cynnwys y fframwaith ymarfer amlasiantaeth, y dull braenaru mewn cyfraith breifat, a'r dirwedd eang o ymyrraeth gynnar, atal, gwasanaethau ymyl gofal a gwasanaethau atal wedi'r llys.

Rhoddodd y rhwydwaith cyfiawnder teuluol ystyriaeth i'r papur yn eu cyfarfod nhw ar 22 Medi, a chynnig y dylid sefydlu dau grŵp gorchwyl a gorffen dan oruchwyliaeth y gweithgor, gyda'r nod o adrodd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd nesaf. Fe fydd y rhain ar gyfer mapio ac asesu darpariaeth gwasanaethau ymyl gofal presennol a chyfleoedd datblygu, ac ystyried materion o ran dyluniad y system a dylunio barnwrol sy'n angenrheidiol i gefnogi dull o ddatrys problemau yn y gyfraith gyhoeddus yng Nghymru.

Dim ond ar gyfer ychwanegu un gair olaf at hynny, fe wnes i drafod hyn hefyd gyda'r Arglwyddes Brif Ustus a chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, oherwydd, a bod yn onest, os na allwn ni ddatrys y materion ariannol, yna ni fyddwn ni'n gallu datrys hyn o gwbl. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol, er bod y llys yn llys effeithiol iawn, rwy'n credu, ac sy'n datrys nifer o broblemau o safbwynt barnwrol, o gyllidebau gwasanaeth datganoledig y daw'r arian i gyd sy'n talu amdano. Felly, mae angen i ni gael trefn ar hynny hefyd.

14:55
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:56:49
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag amseroedd aros trawma ac orthopedig ledled Cymru. Yr amser aros ar gyfartaledd ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw 18 wythnos, a'r amser aros ar gyfartaledd i rywun ddechrau ar driniaeth yw 28 wythnos, gyda 10 y cant o bobl yn aros 79 wythnos neu fwy i ddechrau ar driniaeth ar ôl i'r ysbyty gael yr atgyfeiriad, sy'n syfrdanol. Trefnydd, mae'r ffigurau hyn yn gwbl annerbyniol, oherwydd mae pobl yn byw mewn poen ac anghysur wrth iddyn nhw aros am driniaeth y mae taer angen amdani.

Fe ddylai gwella mynediad at ofal iechyd a byrhau amseroedd aros fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n cael clywed oddi wrth Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n cael ei wneud i gefnogi byrddau iechyd i fyrhau'r amseroedd aros hyn. Mae bron i chwe mis wedi bod ers y datganiad llafar diwethaf ar amseroedd aros, felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gyda byrhau amseroedd aros a sicrhau bod cleifion sy'n aros am driniaeth orthopedig yn gallu cael honno cyn gynted â phosibl.

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae byrhau amseroedd aros yn flaenoriaeth lwyr i'r Llywodraeth hon yng Nghymru, ac yn wir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn wir, mae hi'n flaenoriaeth i gyfarwyddwr newydd y GIG yng Nghymru a phawb sy'n ein cynghori ni, ac i bawb yn wir sy'n cyflawni o ran byrhau amseroedd aros fel hynny. Unwaith eto, diolch i chi am godi hyn. Mae hi'n bwysig ein bod yn gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran byrhau'r rhestrau aros a'r amseroedd aros hynny.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r bygythiad o golli swyddi yn Aston Martin yn Sain Tathan yn fy rhanbarth i. Rwy'n deall bod mwy na 100 o swyddi mewn perygl ac maen nhw mewn ymgynghoriad oherwydd effaith tariffau'r Unol Daleithiau a'r galw gwan o Tsieina, gyda'r mwyafrif, wrth gwrs, yn swyddi cynhyrchu tymor penodol a pharhaol.

Fe wyddom ni pa mor bwysig yw gweithgynhyrchu o ran yr economi yng Nghymru, ond mae'r bygythiad o ddiswyddiadau mor niferus yn dangos pa mor agored i niwed yw'r sector am ein bod ni'n ddibynnol ar gwmnïau rhyngwladol sy'n cael eu dylanwadu gan effeithiau macroeconomaidd. Felly, fe hoffwn i wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn gweithio gyda'r cwmni, sut rydych chi'n bwriadu ymateb pe byddai diswyddiadau yn digwydd ar raddfa eang, a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â'r strategaeth fwy eang i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu, gan gynnwys busnesau bach a chanolig.

Diolch yn fawr iawn i chi. Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am godi'r mater hwn ac efallai y caf ddatgan buddiant am mai yn fy etholaeth i hefyd y mae hyn, ac rwyf i wedi cwrdd â'r cwmni, ac fe ymwelais i â'r ffatri yn ddiweddar. Mae'r newyddion yn ofidus iawn i'r gweithwyr yn ffatri Aston Martin Sain Tathan, eu teuluoedd a'r gymuned leol. Rydym ni mewn cysylltiad uniongyrchol ag Aston Martin, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, yn ogystal â'r Prif Weinidog, wedi cael gwybod am y sefyllfa ddiweddaraf ac yn ymgysylltu. Fe fydd hi'n rhaid i ni aros am ganlyniad yr ymgynghoriad, ond rydym ni'n barod i weithio gyda'r cwmni ac asiantaethau partner i gynnig cefnogaeth a chynorthwyo gweithwyr pe byddai angen. Mae hi'n bryderus iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n clywed am effaith tariffau'r Unol Daleithiau a bennodd Donald Trump, a hefyd yn cydnabod, fel cafodd ei adrodd, y galw gwan o Tsieina. Ond a gawn ni gofio pa mor bwysig yw'r ffatri? Rwy'n credu bod cynullwr rhanbarthol undeb Unite yn dweud ddoe pa mor bwysig yw Aston Martin. Fe ddechreuodd gynhyrchu yn ne Cymru yn 2019, ac mae'n cyflogi hyd at 700 o bobl yn ei ffatri weithgynhyrchu yn Sain Tathan. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd Unite—roedden nhw'n disgrifio'r sefyllfa fel 'dinistriol', ac maen nhw'n dechrau ymgynghori gyda'r cwmni i liniaru diswyddiadau. Ond mae ymgysylltiad Llywodraeth Cymru, yn wir, wrth gwrs, â Llywodraeth y DU yn hanfodol hefyd.

15:00

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Mae'r un cyntaf yn dilyn y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd y bydd 1,100 o'i staff proffesiynol yn cael gwybod bod dyfodol eu swyddi yn ansicr. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn yr ad-drefnu academaidd y llynedd. Rwy'n croesawu ymrwymiad y brifysgol sef na fydd diswyddiadau gorfodol, ond rwy'n gwybod bod staff wedi codi eu llais, yn poeni y bydd swyddi amgen yn dod gyda chyflogau is, oriau gwahanol ac efallai telerau ac amodau gwaeth.

Ac yna, yn ail, a allai'r Trefnydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant y pleidiau gwleidyddol cofrestredig? Roedd canllawiau Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi'r strategaethau hyn i sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu Cymru fodern ac amrywiol, ac rwy'n credu bod y canllawiau yn annog pleidiau i gyhoeddi o leiaf chwe mis cyn yr etholiad ym mis Mai. Diolch.

Diolch, Julie Morgan. Diolch am eich cwestiynau pwysig iawn. 

A hefyd am eich ymrwymiad a'ch cefnogaeth hirsefydlog i Brifysgol Caerdydd a'i staff, ac am ymgysylltu â'r cyhoeddiadau a'r penderfyniadau anodd a wnaed gan Brifysgol Caerdydd, gan werthfawrogi'r penderfyniadau anodd y mae prifysgolion a cholegau yn gorfod eu gwneud yn ystod y cyfnod heriol hwn. Ond fel y dywedwch chi, rydym yn deall nad yw Prifysgol Caerdydd yn awgrymu unrhyw ddiswyddiadau gorfodol fel rhan o'i hadolygiad o staff gwasanaethau proffesiynol, ac y bydd rôl i bawb yn y strwythurau newydd. Wrth gwrs, nid yw Gweinidogion i fod i'w cyfarwyddo ar faterion academaidd neu staffio, ond mae'n amlwg iawn ein bod yn disgwyl i Brifysgol Caerdydd weithio'n agos gyda'u staff a'u hundebau myfyrwyr mewn partneriaeth gymdeithasol, a bod iechyd meddwl a llesiant staff a dysgwyr yn cael blaenoriaeth. Bydd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn gwneud datganiad yn y Senedd ar 25 Tachwedd ar ddyfodol y sector addysg drydyddol, a'r camau y byddwn ni, fel Llywodraeth, yn eu cymryd i weithio tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Rwy'n falch hefyd o gael eich ail gwestiwn, sy'n ymwneud â'r canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant. Roeddwn i'n gallu bod yn bresennol ar banel gwleidyddol y Senedd, a drefnwyd, fel y dywedwch chi, gan y Comisiwn Etholiadol, ddydd Gwener diwethaf, a dim ond i ddweud ei bod yn dda gweld yn y cyfarfod hwnnw—. Mae'n banel rheolaidd sy'n cyfarfod i edrych yn arbennig ar ddiwygio'r Senedd a'i effaith. Roedd y Ceidwadwyr, Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gyd yn cael eu cynrychioli yn y cyfarfod hwnnw. Ond ysgrifennais at yr holl bleidiau gwleidyddol cofrestredig ar 22 Hydref, oherwydd ein bod wrth y garreg filltir allweddol honno o ran yr argymhelliad cryf, sef canllawiau Llywodraeth Cymru, y dylai pleidiau gwleidyddol gyhoeddi eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymru o leiaf chwe mis cyn etholiad y Senedd yn 2026, sydd—. Rydym ni wedi pasio'r chwe mis—chwe mis i ffwrdd. Roedd hynny tua wythnos yn ôl.

Felly, rwy'n annog pleidiau gwleidyddol, fel y gwnes i yn y panel, i gyhoeddi eu canllawiau a'u rhannu'n agored ac yn dryloyw fel y gallwn weld y canllawiau. Ac rydym bob amser yn dysgu oddi wrth ein gilydd, ond y peth pwysicaf yw sut ydym yn nesáu at yr etholiadau, fel pleidiau, i sicrhau ein bod ni'n gallu cael Senedd amrywiol a modern, a dyna'r hyn rydym ni wrth gwrs wedi bod yn ceisio fel rhan o ddiwygio'r Senedd. Yr hyn sy'n bwysig yw'r ffaith bod Cymru'n arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig wrth gyhoeddi'r canllawiau hyn o dan y Ddeddf honno. Rydym yn gosod fframwaith ymarferol clir ar gyfer pleidiau gwleidyddol i gryfhau amrywiaeth a chynhwysiant nawr, cyn gofynion cyfreithiol yn y dyfodol o dan adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ac fel y dywedais i, drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn esiampl o ddemocratiaeth gynhwysol. Hefyd, mae'n rhoi cyfle i bleidleiswyr, pan fyddan nhw'n gweld ein strategaethau, edrych ar sut mae ymgeiswyr yn cael eu dewis, sut y gellir eu cefnogi, sut y gallwn ysgogi'r newid cadarnhaol hwnnw sydd ei angen i greu Senedd sy'n adlewyrchu ac yn cynrychioli pobl Cymru mewn gwirionedd.

Felly, hefyd rydym yn bwriadu rhoi adborth yn sgil y canllawiau, gan ein helpu i sicrhau ein bod yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i allu cyflawni hyn. A dim ond i ddweud nad dyma ddiwedd y broses, wrth gwrs. Byddwn yn parhau i adolygu'r canllawiau, ac rwy'n croesawu cydweithrediad parhaus rhwng pleidiau gwleidyddol fel y gallwn ni, gyda'n gilydd, barhau i gryfhau'r canllawiau wrth i ni symud ymlaen.

15:05

Hoffwn godi datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar fater rhagfarn yn y BBC, a arweiniodd at ymddiswyddiad cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, a phrif swyddog gweithredol Newyddion y BBC, Deborah Turness.

Wrth gwrs, nid yw darlledu wedi'i ddatganoli, ond gan fod etholiad y Senedd ym mis Mai, mae'n hanfodol bod ein darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn wleidyddol ddiduedd a chytbwys, ac y gallwn i gyd fod yn hyderus bod BBC Cymru yn rhoi sylw cytbwys i bob plaid wleidyddol. Mae'r sgandal diweddar hwn wedi niweidio'r hyder hwnnw yn y BBC, oherwydd nid ydym wedi gweld ond ychydig o ddigwyddiadau untro, rydym wedi gweld penderfyniadau golygyddol bwriadol sy'n camddehongli sylwadau neu sy'n hollol ragfarnllyd, gan chwalu eu canllawiau golygyddol eu hunain. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn mai dim ond y rhai ar y brig wnaeth ymddiswyddo.

Mae'r adroddiad gan Michael Prescott yn datgelu problem o ragfarn asgell chwith sefydliadol yn y BBC ac roedd yn teimlo ei fod yn gorfod datgelu'r ddogfen yn answyddogol gan ei bod yn cael ei hanwybyddu gan fwrdd y BBC. Felly, mae'n hanfodol bod ymddiriedaeth ac atebolrwydd yn cael eu hadfer yn y BBC, ac os oes problemau tebyg yn bodoli yn BBC Cymru, eu bod yn cael eu nodi. Felly, a allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu a fydd y Gweinidog Diwylliant ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwrdd â BBC Cymru i glywed beth maen nhw'n ei wneud i ymchwilio a nodi rhagfarn sefydliadol yn eu sefydliad a'r hyn maen nhw'n ei wneud i adfer ymddiriedaeth ac atebolrwydd yn y BBC i ddangos eu bod yn haeddu arian y rhai sy'n talu ffi'r drwydded?

Diolch am y cwestiwn yna. Yn amlwg, fel y dywedwch chi, nid yw darlledu wedi'i ddatganoli ac, yn wir, rydym ni i gyd wedi gweld a bod yn dyst i'r ffaith bod y cyfarwyddwr cyffredinol a'r pennaeth newyddion wedi ymddiswyddo dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Mae ymddiriedaeth ac atebolrwydd y BBC yn hollbwysig. Rydym yn dibynnu ar hynny, ac fel deiliaid trwydded hefyd. Ond rydym yn mwynhau perthynas gadarn a chryf iawn gyda'n darlledwyr yma yng Nghymru, ac wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni o ran ein democratiaeth a'n hymgysylltiad fel Senedd. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y byddwn, yn sicr, yn clywed mwy amdano. Nid wyf wedi siarad â'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn cydnabod sut mae'r bobl yn disgwyl yr ymddiriedaeth a'r atebolrwydd hwnnw yn ein BBC, sydd wrth gwrs mor bwysig i ni, pan fyddwn yn gwerthfawrogi rôl darlledwyr yma yng Nghymru.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth mewn perthynas â'r sgyrsiau y maen nhw wedi'u cael gyda bysiau First Cymru o ran yr anghydfod y maent yn ei brofi ar hyn o bryd gyda'u gyrwyr bysiau. Nawr, mae gyrwyr bysiau wedi bod ar streic ers nifer o fisoedd. Mae eu gofynion yn syml a theg iawn, ond mae First Cymru yn parhau i'w taro'n ôl. Felly, byddem yn ddiolchgar pe bai'r Trefnydd yn gallu cael un o'i chyd-Aelodau i roi datganiad ynglŷn â'r sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda First Cymru, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn sybsideiddio elw First Cymru.

Yn ail, a allwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd mewn perthynas â chefnogaeth i ddioddefwyr llifogydd? Rydym wedi gweld y llifogydd dinistriol diweddar yn sir Gaerfyrddin, ac mae trigolion wedi cael iawndal yn y sefyllfaoedd hynny, ond ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae Caer Castell, lle mae trigolion wedi cael tri achos o lifogydd dros y degawd diwethaf ac nid ydynt hyd yn hyn wedi derbyn cefnogaeth, gyda rhai ohonynt hyd yn oed yn ystyried methdaliad fel eu hunig gam nesaf. Felly, byddai datganiad ar hynny yn cael ei groesawu'n fawr gan y trigolion hynny.

15:10

Diolch yn fawr iawn, Luke Fletcher, am y ddau gwestiwn pwysig yna i'r bobl yr effeithir arnyn nhw gan y sefyllfaoedd a'r digwyddiadau hynny. Yn gyntaf, ar fysiau First Cymru a'r anghydfod, nid wyf yn ymwybodol o'n hymgysylltiad ni, ond rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei ddatrys wrth gwrs yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac mae ein Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 mor bwysig i ni o ran ffyrdd yr ydym yn rhoi cymhorthdal ac yn ariannu a chefnogi ein gwasanaethau, cyhoeddus a phreifat.

Rydych hefyd yn codi pwynt allweddol o ran effaith llifogydd a dioddefwyr llifogydd. Wrth gwrs, rydym wedi gweld, yn enwedig dros y dyddiau diwethaf, effaith llifogydd ar gymunedau sy'n peri pryder mawr. Efallai hefyd, pan fydd yna lifogydd, rydych chi'n tueddu i ganolbwyntio ar yr ardal benodol honno, ac eto mae yna ardaloedd eraill ledled Cymru yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae'n bwysig, dim ond o ran cefnogaeth, ymateb, iawndal, lle bo hynny'n briodol, ei bod yn glir ein bod yn sefyll gyda'n partneriaid. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig hefyd yw ein bod yn ariannu awdurdodau rheoli risg. Mae'n rhywbeth lle, wrth gwrs, rydym wedi buddsoddi mwy na £370 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ers 2021—y mwyaf erioed sydd wedi'i fuddsoddi dros un tymor y Senedd, oherwydd, yn amlwg, mae atal yn hanfodol—ac rydym yn sicrhau bod £77 miliwn ar gael i awdurdodau rheoli risg yng Nghymru, a dylai hynny wrth gwrs gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr o ran dyraniadau. Bydd yn bwysig ein bod yn ystyried yr effeithiau o ran bod o fudd i eiddo ac aelwydydd. Felly, diolch am y cwestiwn yna.

A allwn i ymuno â'r galwadau am gyflwyno'r datganiad ar Aston Martin ar frys, rheolwr busnes? Mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r problemau dybryd ar safle Sain Tathan. Rwy'n synnu nad oes unrhyw ddatganiad wedi dod oddi wrth adran yr economi. Mae'r gofynion gan Aston Martin yn ymddangos yn eithaf clir i mi. Mae un ohonynt yn ymwneud â gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyfran deg o'r cwota o £100,000 sy'n cael ei roi ar y gyfradd 10 y cant i America ar gyfer ceir, ac mae pryder gwirioneddol, o ystyried bod Aston Martin yn gynhyrchydd ceir gweddol fach, o'i gymharu â'r busnesau cadwyn mawr sy'n rhoi llawer o unedau i mewn i'r farchnad Americanaidd, y byddant yn cael trafferth sicrhau cyfran deg o'r cwota hwnnw, ac yn yr achos hwnnw bydd eu ceir yn cario tariff o 27.5 y cant yn y farchnad Americanaidd. Yn sicr, mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am y sefyllfa economaidd yn Asia, ac yn enwedig yn y farchnad Tsieineaidd, y gallent ei roi mewn datganiad, o ystyried bod gennych eich swyddfeydd allan yno rydych chi'n siarad amdanynt o hyd. Felly, pam mae Llywodraeth Cymru wedi bod mor dawel dros y mater hwn? Rwy'n annog ar frys i'r Gweinidog economi gyflwyno datganiad a dechrau siarad o blaid y ffatri yn Sain Tathan cyn ei bod yn rhy hwyr.

Rydym wedi bod yn siarad o blaid y ffatri yn Sain Tathan, ac unwaith eto rwy'n datgan buddiant yma fel yr Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg. Ond mae'n bwysig bod hyn yn cael ei wyntyllu a'i rannu heddiw, y prynhawn yma, adeg y cwestiynau busnes, ac fel y dywedais i, ac rwyf wedi ymateb i Heledd Fychan o ran ei chwestiynau, nid yn unig y mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad uniongyrchol ag Aston Martin, ond hefyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oherwydd mae hyn hefyd yn berthnasol i'r Adran Busnes a Masnach ar gyfer Llywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â'r pwynt pwysig iawn hwnnw rydych chi'n ei wneud, Andrew R.T. Davies, ynglŷn â sicrhau nad yw Aston Martin dan anfantais gan ei fod yn weithgynhyrchwr bach, sydd, wrth gwrs, yn bwrpasol iawn o ran Aston Martin a'r berthynas sydd ganddo, wrth gwrs, o ran masnach a busnes â'r farchnad, a'r farchnad nawr yn yr Unol Daleithiau wrth gwrs—mae 80 y cant, rwy'n meddwl, o'r farchnad ar gyfer eu ceir yn yr Unol Daleithiau. Felly, unwaith eto, mae'n bwysig bod hyn wedi'i wyntyllu heddiw ac rwy'n gwybod bod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ran lawn yn hyn, gyda'i swyddogion a gyda swyddogion Llywodraeth y DU hefyd. Byddaf yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, fel y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, ar y sgyrsiau a'r effeithiau hynny.

15:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, a gaf i fynegi fy siom yn gyntaf ynglŷn â'r ffaith na chafodd polisi iechyd anifeiliaid ei gyhoeddi ar lawr y Siambr? Cododd fy nghyd-Aelod, Paul Davies hyn mewn perthynas â'r tafod glas yr wythnos diwethaf, a'r bore yma, cawsom, unwaith eto, gyhoeddiad polisi drwy ddatganiad i'r wasg ynghylch y mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do sy'n dod i rym ddydd Iau—dim cyfle i ni herio'r Dirprwy Brif Weinidog ar y mesurau gorfodol hyn ar lawr y Senedd. Rwy'n credu bod hynny'n siomedig. Er ein bod yn croesawu'r penderfyniad, mae'n siomedig nad yw'r Senedd hon yn cael y cyfle i drafod hynny yn gyntaf.

Yn ail, mae maes tanio Castellmartin yn fy etholaeth yn ased strategol hynod bwysig ym mhortffolio seilwaith amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn wir, dyma lle mae tanciau Challenger 2 yn gallu hyfforddi, mae'n un o ddim ond dau le sy'n helpu gyrwyr tanciau Challenger 2 i hyfforddi, ac, yn wir, fe wnaethom groesawu Wcreiniaid i Gastellmartin i'w helpu i gael hyfforddiant ar gyfer defnyddio'r offer hefyd. Fodd bynnag, dangosodd adroddiadau yn y papurau Sul y gallai fod newid posibl yn y defnydd o Gastellmartin, er mwyn iddo gartrefu ymfudwyr. Nawr, byddai hyn yn golygu colli ased strategol hynod bwysig ac rwy'n meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaeth gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn neu gyda'r Swyddfa Gartref ynglŷn â chynlluniau ar gyfer maes tanio Castellmartin.

Diolch yn fawr iawn am y pwyntiau yna rydych chi'n eu gwneud. O ran y mater ynghylch y mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do, gwn fod datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, ymatebais yn llawn mewn perthynas â'r amserlenni o ran y polisi rheoli tafod glas, a phwysigrwydd ymgysylltu â'r rhai yr effeithir arnynt gan y tafod glas ac yna gallu gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r ffyrdd y mae polisi rheoli tafod glas y Llywodraeth hon wedi llwyddo i oedi ymlediad clefydau tan yr adeg o'r flwyddyn pan fydd y tymheredd yn is ac mae'r risg o drosglwyddo pellach gan fector yn cael ei leihau. Ond ydi, wrth gwrs, mae'n bwysig eich bod chi'n gofyn y cwestiynau hyn ac yn gwyntyllu'r pwyntiau hyn, fel y byddwch yn ei wneud, rwy'n gwybod, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd, trwy gwestiynau pwyllgor ac, yn wir, cwestiynau llafar y Senedd.

Nid wyf wedi cael unrhyw dystiolaeth o ran Castellmartin. Nid yw wedi'i ddatganoli, ond nid wyf wedi cael unrhyw gyswllt nac arwydd ynghylch Castellmartin.

4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: COP30 ac Wythnos Hinsawdd Cymru

Eitem 4 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig—COP30 ac Wythnos Hinsawdd Cymru. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 15:18:54
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae bellach yn ddegawd ers i tua 200 o genhedloedd uno tu ôl i gytundeb Paris, addewid byd-eang i gyfyngu ar gynhesu'r ddaear a lleihau allyriadau. Yn ystod y 10 mlynedd hynny, mae Cymru wedi chwarae ei rhan gyda phwrpas a phenderfyniad.

Rydym wedi ehangu ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi, rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu, adfer ein mawndiroedd gwerthfawr, a gweithio i gadw tanwydd ffosil yn y ddaear. Mae'r camau hyn wedi lleihau allyriadau, rhoi arian ym mhocedi pobl, amddiffyn ein mannau gwyrdd, hyrwyddo twf economaidd a dangos y gall Cymru arwain trwy esiampl. Rwy'n falch o'r cynnydd rydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod llawer o ysgogiadau mwyaf newid hinsawdd yn fyd-eang, ac ni all un genedl eu datrys ar ei phen ei hun. Dyna pam mae Cymru'n parhau i estyn allan, i ddysgu, i rannu, ac i arwain.

Rydym wedi cryfhau llais a dylanwad Cymru ar lwyfan y byd. Rydym yn un o sylfaenwyr Cynghrair Dan2 ac yn arweinydd yn y rhwydwaith Regions4. Trwy bartneriaethau fel hyn, rydym wedi cael mynediad at arfer gorau byd-eang, llunio polisïau gwell yma gartref, a helpu i greu'r cytundebau rhyngwladol sy'n amddiffyn ein cymunedau.

Dim ond wythnos diwethaf, cynrychiolwyd Cymru yn y gwaith o baratoi ar gyfer COP30, gan rannu ein gwersi, dod ag atebion eraill adref, a darparu'r sbardun a'r pwysau i ysgogi gweithredu byd-eang. Mae'r cydweithrediad hwn yn profi y gallwn arwain lle mae eraill yn oedi, ac y gall Cymru gael effaith fyd-eang. Mae'n adlewyrchu calon ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—ein dyletswydd i weithredu fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang.

Rhaid i ni barhau i wneud yr achos dros weithredu ar newid hinsawdd yn uchelgeisiol ac wedi'i arwain gan wyddoniaeth, wedi'i lywio gan arbenigedd ac wedi'i sbarduno gan yr effeithiau yn y byd go iawn yr ydym yn eu gweld heddiw. Mae effeithiau newid hinsawdd yn cael eu teimlo ar draws pob rhan o'n gwlad. Eleni yn unig, mae Cymru wedi gweld y gwanwyn a'r haf poethaf erioed, a'r amodau sychaf mewn bron i 50 mlynedd. Nid rhybuddion pell yw'r rhain. Nhw yw realiti hinsawdd sy'n newid, yma, ar hyn o bryd, ar ein stepen drws.

Mae'r gwobrau o gael hyn yn iawn yn wirioneddol werth ymladd drostynt. Wrth i lawer edrych ar COP30 ym Mrasil, gartref yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni nodi dechrau ein sgyrsiau cenedlaethol pwysig ein hunain ar newid hinsawdd trwy gynhadledd Wythnos Hinsawdd Cymru. Bydd y sgyrsiau hyn yn parhau i fis Rhagfyr a Ionawr a Chwefror, drwy raglen o ddigwyddiadau cymunedol ledled Cymru. Er mwyn canolbwyntio ar y sgyrsiau hyn, ar 21 Hydref, cyhoeddwyd papur trafod yn gofyn cyfres o gwestiynau sy'n gysylltiedig â'n cynllun cyllideb carbon nesaf, 2026 i 2030. Mae'r papur yn tynnu ar y cyngor annibynnol diweddaraf gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru a ffynonellau arbenigol eraill. Mae'n esbonio'r dirwedd bolisi bresennol ar draws sectorau allweddol yng Nghymru lle mae gennym y pwerau datganoledig i arwain—felly, o amaethyddiaeth a defnydd tir i dai a thrafnidiaeth. Mae'n archwilio gwahanol opsiynau ac yn gwahodd syniadau pobl Cymru ynghylch y llwybr gorau ymlaen, o ystyried pwysigrwydd cynyddol y sectorau hyn yn y newid i ddyfodol rhatach, gwyrddach a mwy diogel.

Nawr, wrth gwrs, nid ydym yn gweithio o gychwyn stond. Dim o gwbl. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da. Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi. Ym maes tai, rydym yn buddsoddi mewn ôl-osod cartrefi, cefnogi landlordiaid cymdeithasol a helpu aelwydydd i leihau eu biliau ynni. Mae ein safonau newydd yn golygu bod cartrefi yn gynhesach, iachach ac yn rhatach i'w rhedeg. Ym maes trafnidiaeth, rydym yn ehangu gwefru cerbydau trydan, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a'i gwneud hi'n haws cerdded a beicio. Mewn amaethyddiaeth a defnydd tir, rydym yn cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion cynaliadwy, adfer mawndiroedd ac i blannu coetiroedd newydd, gan ddiogelu ein hamgylchedd a'n heconomi wledig.

Ond mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd, ac, yn bwysig, mae cyfleoedd gwirioneddol i ni fanteisio arnynt. Felly, rydym ni'n gofyn: sut ydym ni'n datgloi'r manteision hynny? Sut ydym ni'n eu cyflymu a gwneud yn siŵr eu bod yn glanio'n deg, ar draws ein gwlad hardd? Rydym ni eisiau gwrando ar wahanol safbwyntiau a chwilio am y lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed weithiau. Rydym yn deall bod newid yn gallu bod yn anodd. Er bod mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn hanfodol i ddyfodol Cymru, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i ysgogi newid cadarnhaol yn y meysydd pwysicaf i bobl: diogelu ein hiechyd, diogelu natur, diogelu a chreu swyddi, sicrhau diogeledd ynni a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Trwy gydol y rhaglen uchelgeisiol hon o ddigwyddiadau, rydym yn cysylltu pobl, rydym yn ysgogi trafodaeth ac, yn bwysicaf oll, rydym yn gwrando. Rydym eisiau rhyddhau arloesedd ac ysbrydoli gweithredu ledled cymunedau Cymru. Bydd yr hyn a glywn wedyn yn cael ei wreiddio yn y paratoad manwl ar gyfer y cynllun lleihau allyriadau nesaf, sydd i'w gyhoeddi tua diwedd 2026.

Rydym ni wedi agor sgwrs genedlaethol ar ein cynllun nesaf, oherwydd rydym ni'n gwybod nad her dechnegol yn unig yw hon y gallwn ni, fel Llywodraeth, ei datrys ar ein pen ein hunain. Mae'n rhaid iddi fod yn genhadaeth sy'n cael ei phweru gan bobl. Ac ydynt, mae'r materion wrth law yn gymhleth, yn enwedig mewn hinsawdd ariannol heriol. Yn erbyn y cefndir hwnnw, gwyddom fod yna bleidiau eraill, gan gynnwys yn y lle hwn, a fyddai'n well ganddynt ddewis anwybyddu neu wadu bod newid hinsawdd yn digwydd, cefnu ar ymrwymiadau, cael gwared ar y Ddeddf Newid Hinsawdd, dechrau ffracio yng Nghymru. Byddai hynny'n gwneud dim byd ond gwneud cymunedau yng Nghymru yn llai diogel ac yn llai sicr, dim ond er mwyn sgorio rhai pwyntiau gwleidyddol rhad, poblogaidd. Nid dyna fydd safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, byth. Nid dyna yw arweinyddiaeth. Ni fyddwn yn cynhyrfu a byddwn yn benderfynol. Ni allwn esgus bod yr argyfwng hinsawdd yn rhywbeth i'w anwybyddu. Allwn ni ddim gobeithio y bydd yn mynd i ffwrdd.

Ac felly heddiw rydw i eisiau gwneud addewidion cadarn i bobl Cymru. Ni fydd Llywodraeth Lafur Cymru byth yn gwadu ffeithiau newid hinsawdd. Ni fyddwn byth yn cael gwared ar ein huchelgais i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Ni fyddwn byth yn caniatáu ffracio yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio o ddydd i ddydd i gyflawni'r gyllideb garbon hon a'r cyllidebau carbon nesaf ac i greu'r dyfodol mwy diogel hwnnw. A byddwn yn sicrhau manteision swyddi a sgiliau a thwf economaidd mewn dyfodol glanach, gwyrddach a thecach, y byddai eraill yn ei warafun i bobl Cymru. Byddwn yn gwneud hynny gan weithio gyda chyflogwyr ac undebau, mentrau cymdeithasol a chymunedau, fel bod y buddion yn cael eu rhannu'n deg ym mhob rhan o Gymru.

Gall uchelgais hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol fynd law yn llaw. Gadewch inni barhau i arwain gyda dewrder, dan arweiniad gwyddoniaeth, gyda'n gilydd, gyda phwrpas, oherwydd bydd y dyfodol rydyn ni'n ei greu newydd yn diffinio'r Gymru a adawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:25

Fel y gwyddoch chi, wrth gwrs, mae cyllideb garbon 4 yn dibynnu ar ganlyniad llwyddiannus cyllideb garbon 3, Dirprwy Brif Weinidog. Felly, mae hynny'n 58 y cant erbyn 2030. Fodd bynnag, rydych chi a minnau'n gwybod bod amrywiaeth o ansicrwydd a allai effeithio ar lwybr Cymru i sero net. Mae camau gweithredu wedi'u hamlinellu gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, megis rhoi mwy o bwyslais yma ar gefnogi aelwydydd i osod system wresogi carbon isel. Rydym hefyd yn gwybod bod angen i Gymru drosglwyddo'n gyflym i wres trydanol carbon isel. Mewn gwirionedd, mae cymorth ar gael i rai preswylwyr trwy Nyth ac ECO4. Felly, mae gen i gwpl o gwestiynau i chi. A wnewch chi esbonio pam mae trigolion yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at gymorth gan Nyth oherwydd penderfyniad i beidio â chaniatáu paneli solar ar doeau gwastad? Mae hynny wedi achosi rhywfaint o bryderon i mi a rhai o fy etholwyr. A wnewch chi hefyd egluro pam mae preswylwyr mewn tai teras yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at gyllid ECO4 ar gyfer pympiau gwres o'r aer oherwydd oedi Llywodraeth Cymru cyn newid hawliau datblygu a ganiateir? Mae tai teras yn nodwedd gyffredin iawn yng Nghymru, gydag adroddiad gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru yn amcangyfrif eu bod yn cyfrif am oddeutu 40 y cant o gartrefi ar y pryd. Mae methiant Llywodraeth Cymru i gopïo'r newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir yn Lloegr yn golygu bod cymaint â 40 y cant o adeiladau yng Nghymru bellach yn cael eu rhwystro rhag cael y pympiau gwres pwysig hynny.

Mae nifer y mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus fesul pen yng Nghymru yn debyg i gyfartaledd y DU, ond yn bendant mae angen parhau i gynyddu yn unol â'r defnydd o gerbydau trydan. Gyda phrisiau ar gyfer cerbydau trydan newydd ac ail-law yn gostwng, mae cyfle i fanteisio'n gyflym ar yr amod bod y seilwaith cywir ar waith a bod pobl yn cael gwybodaeth hygyrch, gywir am y buddion hynny. Roedd Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn gosod targed ar gyfer cyflawni'r ddarpariaeth o wefru cyflym bob 20 milltir ar rwydwaith cefnffyrdd strategol Cymru, a hynny erbyn 2025. Unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet a Dirprwy Brif Weinidog, rydych chi a minnau'n gwybod nad yw'r targed hwnnw wedi'i gyrraedd.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi tynnu sylw at eu cred y dylid darparu cymhellion a marchnadoedd i'n ffermwyr a'n rheolwyr tir arallgyfeirio eu hincwm ar gyfer camau gweithredu gan gynnwys creu coetiroedd, adfer mawndiroedd ac ynni adnewyddadwy. Yn y bôn, maen nhw'n gwthio i leihau cynhyrchu bwyd. Mae gwallgofrwydd hynny yn syfrdanol, oherwydd mae polisi o'r fath yn arwain at fwy o ddibyniaeth ar fwyd o dramor, a thrwy hynny gynyddu a'i gwneud hi'n anoddach i ni gyflawni ein cyllideb garbon.

A wnewch chi hefyd egluro pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i fesur allyriadau ac effeithiau'r nwyddau rydym ni'n eu mewnforio i Gymru? Ar adeg pan fo COP30 yng nghoedwig law yr Amazon, dylem gydnabod yn y Senedd hon fod ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru. Felly, o gofio mai COP sy'n digwydd, dylem gofio y gall morwellt atafaelu carbon 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw. Rwy'n gwybod eich bod chi'n cytuno â mi ar forwellt, a sut y gallem ac y dylem fod yn gwneud mwy. Mae'r hyn rydym ni'n ei wneud yn fy nghalonogi, ond ar y cynlluniau sy'n gweithio, a lle gallwn weld gweithredu go iawn a chanlyniadau go iawn, dylem fod yn wirioneddol amlygu'r rheini a gwneud y meysydd hynny yn fwy.

Felly, yn olaf, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i wneud yr amgylchedd morol, nid tir yn unig, yn ganolog i gyflawni targedau natur a hinsawdd, a hefyd i wella rôl cronfa forol Cymru? Diolch.

15:30

Diolch yn fawr iawn, Janet. Roedd yna lawer o bwyntiau o fewn hwnna. Yn gyntaf oll, o ran y gyllideb garbon, mae'r holl gyllidebau carbon hyn yn heriol. Rydym yn debygol o fodloni'r targed gyda chyllideb garbon 2, fel y gwnaethom gyda chyllideb garbon 1. Bydd cyllidebau carbon 3 a 4 yn anoddach, ac yn enwedig ym meysydd amaethyddiaeth a thrafnidiaeth, a dad-drydaneiddio cartrefi a busnesau, i ynni gwyrdd, yn hytrach na mathau eraill o ynni. Felly, yr hyn y byddwn yn eirioli drosto'n gryf iawn, a'r hyn y byddwn yn parhau i eirioli drostio'n gryf iawn, yw ein bod yn cadw at y genhadaeth honno, oherwydd bydd hynny'n golygu rhai dewisiadau anodd.

Ar y mater o bympiau gwres o'r aer—roedd hwnnw'n bwynt manwl iawn yna, yr wyf yn hapus i ymdrin ag ef—fel y gwyddoch chi, rydym yn gweithredu dull carbon isel yn gyntaf. Felly, rydym yn asesu ar gyfer dichonoldeb pwmp gwres nawr fel rhywbeth diofyn, ond rydym hefyd yn ymwybodol iawn, Janet, o bryderon ynghylch cost gweithredu pympiau gwres, felly dyna pam mae gennym dargedau ynghylch lleihau tanwydd ac arbedion carbon wedi'u hymgorffori yng nghynllun Nyth.

Rydym hefyd yn eithaf awyddus, gyda llaw, fel yr ydym wedi gwneud yn glir dro ar ôl tro yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, ac yn teimlo, yn Llywodraeth Cymru, y gallai gostyngiad yng nghost trydan, a'r ffordd yr ydym mewn gwirionedd yn dynodi hynny o fewn biliau, er enghraifft, ysgogi'r newid i'r gwres carbon isel hwnnw yr ydych yn ei ddisgrifio. I rai aelwydydd incwm is, yn dibynnu ar, er enghraifft, nwy, gallai newid costau i drydan ddod â phwysau ariannol pellach. Felly, rydym ni'n chwilio am system holistaidd, lle mae'r newid i fathau mwy adnewyddadwy o ynni yn cael ei gymell, gan gynnwys trwy bethau fel tariffau cymdeithasol yno hefyd.

O ran y mannau gwefru yng Nghymru, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi nodi bod nifer y mannau gwefru yng Nghymru yn unol â chyfartaledd y DU, ond rydym yn gwneud llawer mwy o waith yn y maes hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn bwrw ymlaen gydag arloesedd a phwrpas.

O ran morwellt, rwy'n falch o ddweud y bore 'ma, Dirprwy Lywydd, rwyf wedi agor confensiwn cenedlaethol y DU, sy'n cael ei gynnal yn Techniquest dros y ddau ddiwrnod nesaf. Os yw unrhyw un o Aelodau'r Senedd yn dymuno galw heibio, rwy'n siŵr y byddent yn falch iawn o'ch gweld chi. Ond mae'n dangos yr arweinyddiaeth rydym ni'n ei ddangos yma yng Nghymru ar forwellt, a meysydd eraill o fewn yr amgylchedd morol.

Rwy'n cytuno â'ch pwyntiau ar fwyd lleol a'r defnydd o'n cynhyrchiad cynradd, ein cynnyrch sy'n dod oddi ar ein tir pori hardd yng Nghymru, ac y dylem fod yn gwneud y mwyaf o hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr. A dyna pam y gwnaethom gyflwyno'r strategaeth fwyd gymunedol, a pham rydym ni'n gwneud gwaith helaeth ar fwy o gaffael yn ein hystadau carchardai, o fewn ysgolion, gyda bwyta'n iach, a llawer mwy hefyd. Mae hyn i gyd yn gweithio.

Rwy'n cytuno â chi bod yn rhaid i ni fod yn ofalus o rai o'r cytundebau masnach a lofnodwyd cyn y Llywodraeth bresennol hon yn y DU, sydd wedi agor y marchnadoedd i eraill ddod â chynnyrch yma, sy'n teithio llawer ymhellach o amgylch y byd, ac yn aml nid yw i'r un safonau, o ran lles anifeiliaid nac enillion amgylcheddol ehangach ychwaith. Felly, po fwyaf y gallwn ei wneud i hyrwyddo bwyd lleol mewn gwirionedd, gorau oll.

Rwyf newydd ddod yn ôl, Dirprwy Lywydd, o Ddiwrnod Sir Drefaldwyn draw yn adeilad y Pierhead, ac roedd yn wych gweld llawer iawn o gynnyrch Cymreig lleol, o ansawdd da iawn yno, a llawer ohono, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'i hasiantaethau, wrth arloesi a dylunio'r cynhyrchion hynny, a'u cael i'r farchnad hefyd. Felly, ie, bawd i fyny am leihau milltiroedd bwyd a chefnogi cynnyrch bwyd lleol. 

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am hyn. 

Rwy'n croesawu'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, a'r hyn sy'n parhau o ran hynny. Rwyf hefyd yn teimlo'n anesmwyth braidd ynghylch yr hyn y gallai'r COP hwn ei gynnig, nid oherwydd Cymru, ond mewn mannau eraill. Y perygl gyda'r COP hwn yw y gallai fod yn esgus arall, cyfle arall i Lywodraethau'r byd gyfiawnhau pam nad yw achub y blaned ar frig eu rhestr o bethau i'w gwneud, cyfle arall i fethu targedau hanfodol. Rwy'n gwybod bod yn rhaid i ni aros yn optimistaidd, ond, bobl bach, mae'r byd yn osgoi ac yn oedi ac yn edrych tuag at yfory, ac yfory, ac yfory, wrth i'r blaned losgi.

Sefydlwyd cynadleddau COP i helpu i atal newid hinsawdd peryglus. Wel, mae'n rhy hwyr. Mae ein cymunedau yn dioddef o lifogydd, gyda dŵr yn mynd i mewn i gartrefi pobl, sy'n dinistrio bywoliaethau. Mae gennym blant sy'n cael eu dychryn gan law trwm. Rydym ni wedi gweld tomenni glo yn llithro i lawr llethrau mynyddoedd. Rydym ni wedi gweld tirlithriadau, llyncdyllau'n agor, oherwydd nad yw ein seilwaith yn gallu ymdopi â phatrymau tywydd sy'n newid. A fyddech chi'n ymuno â mi i gondemnio sylwadau'r rhai sy'n ceisio bychanu realiti'r trychinebau hyn rydym ni'n byw trwyddynt? Mae'n bryd, onid ydyw, ein bod ni'n teimlo dig cyfiawn, dicter ynghylch y cyfleoedd sy'n cael eu gwastraffu o flaen ein llygaid.

Roedd cartŵn ychydig flynyddoedd yn ôl yn The New Yorker, ac rydych chi'n ei weld weithiau ar y rhyngrwyd. Mae'n darlunio golygfa lle mae grŵp o blant wedi ymgasglu o amgylch coelcerth, a gallwch chi ddweud o'r hyn sy'n cael ei oleuo gan y fflamau y tu ôl iddyn nhw ei fod yn dir diffaith. Mae fel rhywbeth mewn hunllef dystopaidd. Ac mae un plentyn yn dweud, 'Wel, do, cafodd y blaned ei dinistrio, ond, am eiliad hyfryd, fe wnaethom ni greu llawer o werth i gyfranddalwyr.' Nawr, pan fyddwn yn siarad am yr angen am dreth gyfoeth, yr angen i ffrwyno gormodedd biliwnyddion—Bezoses, Musks y byd hwn—mae oherwydd y gallent ddewis atal yr argyfwng hwn rhag parhau, ond, yn lle hynny, maen nhw'n dewis mwy o gyfoeth. Mae ein systemau yn gadael iddyn nhw wneud hynny, oherwydd rydym ni'n byw mewn system gyfalafol sy'n blaenoriaethu twf—nid gofal, nid ansawdd bywyd, nid cwrteisi, nid cynaliadwyedd, nid hyd yn oed goroesi, ond twf. Ac i'r dirwedd o uffern honno yr ydym ni'n mynd.

Fel y dywedoch chi, Dirprwy Brif Weinidog, nid bygythiad o bell yw hwn, nid y diwrnod ar ôl yfory ond yfory, heddiw, mae eisoes yn digwydd, rydym ni'n cerdded tuag ato. Felly, oes, mae yna faterion yr wyf am eu gweld yn cael eu blaenoriaethu, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn COP. Mae yna bethau rwy'n gwybod y gallwn ni, fel Cymru, eu codi fel cenedl iswladwriaethol yr wyf yn gobeithio y byddwn yn parhau i fynd ar eu trywydd. Byddwn i wrth fy modd yn clywed mwy am hynny, os gwelwch yn dda. Byddwn i wrth fy modd yn gwybod mwy am y presenoldeb rydym ni wedi'i gael yn y COP hwn a'r hyn rydym ni'n gobeithio y gallwn ei gyflawni trwy hynny—sut mae arbenigedd Cymreig yn mynd i gael ei glywed. Ond hoffwn hefyd glywed gan y Llywodraeth hon, pan fydd ganddi drafodaethau tawel a chyfarfodydd cwrtais gyda Llywodraeth y DU, y bydd yn mynegi rhywfaint o'r dig cyfiawn hwnnw, y bydd yn cyfleu'r ymdeimlad o ddicter a phryder sy'n cael ei deimlo gan bobl ifanc, yn enwedig, ledled Cymru, ein bod yn gadael i'w dyfodol lithro trwy ein bysedd, a bod hwn yn un cyfle arall i weithredu, eiliad yn agosach at hanner nos.

Byddwn yn gofyn beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau y gweithredir wedyn ar y syniadau a rannwyd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, eu bod wedi'u hymgorffori mewn polisi ac arfer, oherwydd mae hynny'n tynnu sylw at gymaint o waith cadarnhaol sy'n digwydd—y prosiectau lleol, adfer mawndiroedd, dalgylchoedd afonydd, adeiladu cydnerthedd. Mae uchelgais. Mae gobaith, os ydym yn gweithredu. Gall gweithredu ar newid hinsawdd gryfhau cymunedau. Gall amddiffyn ein hamgylchedd bregus a chreu ffyrdd tecach o fyw. Ni allwn aros am yfory; mae'r bwystfil garw hwnnw yma eisoes. Nawr, rwy'n gwybod na allwn reoli beth sy'n digwydd yn Washington neu Beijing, ond gallwn reoli'r gwaith o gyrraedd ein targedau ein hunain. Felly, byddwn yn gofyn i chi hyn i gloi: a fyddech chi'n defnyddio hyn, os gwelwch yn dda, fel cyfle i ddyblu ein hymdrechion i wneud popeth yn ein gallu i gwrdd â'r heriau hynny sy'n ein hwynebu?

15:35

Delyth, diolch yn fawr am hynna. Ac ydym, tra bod eraill yn dewis cerdded i ffwrdd o hyn—mae rhai yn sôn am gael gwared ar eu hymrwymiad, rhywbeth yr oeddwn i'n credu oedd yn anhygoel sawl blwyddyn yn ôl, cael gwared ar eu hymrwymiad i'r targedau hinsawdd—rydym ni'n ailadrodd ein hymrwymiad. Byddwn yn glynu'n gadarn wrthynt, fel yr ydym wedi'i wneud yng nghyllideb garbon 1 a chyllideb garbon 2. Ac nid oherwydd, fel sy'n cael ei bortreadu'n aml allan yna, rhywle yn y rhyfeloedd diwylliant, bod y rhain yn faich anhygoel y mae'n rhaid i ni eu cyflawni neu bydd pethau ofnadwy yn digwydd. Mae oherwydd y cyfleoedd y mae hefyd yn eu rhoi o fod yno, nid yn unig mewn arweinyddiaeth, ond manteisio ar gyfleoedd marchnad arweinyddiaeth fyd-eang hefyd. Ac rydym ni wedi gwneud hyn mewn cymaint o ffyrdd.

Ydym, dim ond i'ch tawelu, rydym yn cael ein cynrychioli allan yna gan fy swyddogion yn COP. Ond nid yn unig yn COP, mae'n waith rydym ni wedi'i wneud yn arwain at COP—felly, yr ymgysylltiad rydym ni wedi'i gael gyda'r Cynghrair Dan2, gyda'r grŵp Regions4 hefyd. Maent yn gwerthfawrogi ein presenoldeb yno fel aelodau sefydlu'r Cynghrair Dan2, fel aelod blaenllaw o'r rhwydwaith Regions4, oherwydd nid yn unig rydym yn dysgu oddi wrth eraill, ond rydym yn sbarduno ymlaen. Rydych chi'n iawn yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud: mewn rhai ffyrdd, mae'n ofidus iawn nad oes gennym ymrwymiad cenedl fawr, chwaraewr mawr fel yr Unol Daleithiau, sy'n ymddangos fel petai'n troi ei chefn ar ei hymrwymiadau ar hyn o bryd. Ond yr hyn sydd gennym yw gallu Cymru, a gallu rhai o'r rheini, fel y dywedwch chi, endidau iswladwriaethol, i ddangos arweinyddiaeth mewn gwirionedd, ochr yn ochr â lleoedd fel Califfornia, talaith Efrog Newydd ac eraill, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i hyn.

Rydych chi'n codi'r pwynt yn gywir o ran yr hyn y gallwn ei wneud wrth ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU hefyd wedi'i gwneud yn glir iawn nad yw'n mynd i gerdded i ffwrdd o'r ymrwymiadau hyn chwaith. Bydd yn ysgogi. Mae'r rôl y gallwn ni ei chwarae wrth ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn arwyddocaol. Pan oeddwn yn wythnos newid hinsawdd Efrog Newydd 15 mis, 18 mis yn ôl, roedd diben go iawn i mi fod yno. Un o'r dibenion hynny oedd nid yn unig, eto, i wthio pobl a hyrwyddo arweinyddiaeth, ond i ymgysylltu â Llywodraeth y DU tra oeddem ni allan yna a'r Gweinidogion, a siarad â nhw'n uniongyrchol a dweud, 'Rydyn ni eisiau i chi fod wrth y bwrdd gyda CHAMP, y cynghrair uchelgais mawr.' Ac yn wir, o fewn 24 awr, roedd y Gweinidog wedi cyhoeddi, 'Ydym, rydym ni'n cofrestru, o'r diwedd.' Roedd Llywodraeth y DU wedi gwrthsefyll am flynyddoedd o dan y Ceidwadwyr. Dywedon nhw, 'Ydym, rydym ni'n gweld ei reidrwydd.'

Byddwn yn cadw'r ymrwymiad hwnnw i gloi tanwydd ffosil yn y ddaear. Byddwn yn cadw'r ymrwymiad hwnnw i fwrw ymlaen gyda'n cyllidebau carbon. Bydd yr hyn a gyflwynwn yn destun ymgynghoriad, oherwydd dyma'r ffordd y dylem ei wneud yng Nghymru: gwrando ac ymgysylltu â phobl ledled Cymru, gyda'r sgyrsiau hyn mewn llawer o gymunedau i glywed y syniadau ac i weithio gyda phobl ledled Cymru. Felly, rydym ni'n gwneud hynny gyda phobl Cymru. Yn y modd hwnnw, byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd. Ac yn y modd hwnnw, rydym ni'n adeiladu cydnerthedd ar gyfer y dyfodol, fel bod ein ffermio, ein diwydiant, ein cartrefi, y ffordd rydym ni'n teithio, yn llawer mwy cydnerth, ac nid ydym yn wynebu'r ofnau, er enghraifft, a grëir gan y geowleidyddiaeth yr ydym wedi'i gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lle rydym ni'n cael ein dal yn wystlon gan wladwriaethau petrocemegol fel Rwsia, a nwy ac ati.

Dyna beth yw hyn i gyd, diogelwch, gwneud yn siŵr bod gennym reolaeth o'r adnoddau ynni sydd gennym, a hefyd buddsoddi, mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, yn olaf, yn rhyngwladol. Rydym yn rhyngwladolwyr, ac yn falch o fod yn rhyngwladolwyr. Rydym yn gwneud popeth y gallwn yma adref, popeth y gallwn, ond byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn buddsoddiadau bach, ond buddsoddiadau pwysig, mewn lleoedd fel cenedl Wampis, lle rydym yn darparu cefnogaeth i ganŵau sy'n cael eu pweru gan yr haul a all wneud yn siŵr bod plant yn gallu cyrraedd apwyntiadau meddygol, gall plant gyrraedd ysgolion, ac ati, ac ati, y gall bydwragedd deithio i fyny ac i lawr system afon Amazon. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn Jenipher's Coffi, a phrosiect Mbale yn creu coetiroedd, sydd wedi bod â chymaint o ran bellach mewn rhyfeloedd diwylliant, efallai y bydd yn dod i fyny yn y ddadl heddiw. Ond mewn gwirionedd y ganran rydym ni'n ei wario o fewn ein cyllideb, gyda llaw, ar goetir dramor, dim ond i atgoffa pobl, yw 0.00001 y cant o'n cyllideb. Mae'n costio tua 15c y goeden. Felly, dewch â'r rhyfeloedd diwylliant, oherwydd rydyn ni'n falch o sefyll gyda phobl fel Jenipher. Rydw i wedi cwrdd â hi yn Ferrari's Coffee ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydw i wedi gweld beth mae hynny'n ei wneud i fudiad cydweithredol menywod yn Uganda. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n gwneud hynny. Dewch ag ef.

15:40

Fel y dywedwch chi, rydym wedi cyflawni llawer o bethau gwych er mwyn datgarboneiddio ein gwlad a chyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi cydnabod bod Cymru wedi bod yn llawer mwy cyson yn hyn na Lloegr, er enghraifft. Ond, fel y gwyddom, does dim lle i hunanfodlonrwydd. Roeddwn i'n siomedig iawn o weld bod Keir Starmer wedi mynd yr holl ffordd i Frasil, ar ôl helpu i sefydlu'r Tropical Forests Forever Facility, ac yna wedi penderfynu na fyddai'r DU yn buddsoddi ynddo. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol dorcalonnus, mewn gwirionedd. Mae'r WWF yn ei weld fel cyfle a gollwyd, y ffaith nad yw'r DU, un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, yn gallu helpu i achub y coedwigoedd trofannol, sydd i gyd yn y trydydd byd, ac mae'r rhan fwyaf o'r gwaith dymchwel y coedwigoedd trofannol yn cael ei achosi gan y rhai sydd eisiau bwydo'r bwystfil i fyny yng ngwledydd y gogledd. Felly, mae angen i ni ailadrodd yr un ymrwymiad i beidio â chaniatáu i unrhyw un o'n hanifeiliaid gael eu bwydo gan soia o goedwig yr Amazon.

Iawn. Mae mwy i'w wneud o hyd. Yn yr adborth rydych chi wedi'i gael hyd yma o'r ddogfen ardderchog hon, beth mae pobl eisiau ei wneud o ran datgarboneiddio ein cartrefi? Oherwydd rwy'n dal i fod yn siomedig nad oes gennym gynllun ardal, a dyna beth sydd ei angen arnom i fynd i'r afael â maint y tlodi tanwydd, sy'n effeithio ar un o bob pedwar cartref.

15:45

Diolch yn fawr iawn. Dyna'n union, Jenny, pam rydyn ni'n edrych ymlaen at y syniadau a'r awgrymiadau sy'n dod allan o'r sgyrsiau hyn rydym ni'n eu cael ar hyn o bryd ac yn mynd trwy fis Rhagfyr, Ionawr, Chwefror hefyd. Oherwydd rwy'n amau y bydd yna, yn gyntaf oll, alwadau i beidio â cholli'r enillion yr ydym wedi'u gwneud ac i barhau i ailadrodd ein hymrwymiad o ran tai, er enghraifft.

Rydym wedi gwneud cynlluniau ardal gyfan o'r blaen, felly tybed a fydd gennym gynigion yn dod ymlaen nawr i ddweud beth allwn ni ei wneud ar hynny, ond beth rydym ni'n ei wneud nid yn unig gyda landlordiaid cymdeithasol ond hefyd gyda'r sector rhentu preifat hefyd, beth rydym ni'n ei wneud gyda deiliaid tai preifat sy'n berchen ar eu heiddo eu hunain, sut ydym ni'n gwneud hynny yn y modd rydym ni'n dysgu o gynlluniau blaenorol. Felly, rydym ni'n edrych ymlaen at hynny yn dod ymlaen, ond gadewch i mi wneud yr ymrwymiad hwn i chi: mae cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn glir iawn bod hynny'n un o'r tri maes mawr y maen nhw'n eu gweld yn hanfodol i'n llwybr i ddatgarboneiddio yng nghyllideb garbon 3, heb sôn am 4. Ar y sail honno, bydd yn rhaid i ni gynyddu'r camau gweithredu, ond ei wneud mewn ffordd sy'n darparu'r cymhellion cywir i'r sector tai ddatgarboneiddio, ochr yn ochr ag amaethyddiaeth ac ochr yn ochr â busnes, ond hefyd trafnidiaeth.

Fe wnaethoch chi sôn am soia hefyd, ac mae hwn yn bwynt pwysig. Rwy'n falch o ddweud nad ydym yn dechrau o'r dechrau yma yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy a gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi gyfan i wneud hynny. Mae gennym broseswyr ar hyn o bryd sy'n ymateb ar hyn o bryd i bwysau defnyddwyr a chadwyn gyflenwi i leihau dibyniaeth ar soia wedi'i fewnforio, oherwydd mae'n broblem go iawn. Mae rhai proseswyr bellach yn ymgorffori porthiant heb soia fel rhan o'u hamodau cyflenwi. Mae gennym rai proseswyr a dosbarthwyr blaengar iawn yng Nghymru sy'n rhoi hyn yn gadarn yn eu contractau, ac mae ffermwyr yn barod i ddweud, 'Ydym, rydym ni'n barod am hynny', ond mae angen iddyn nhw wybod 'sut', beth maen nhw'n ei wneud fel dewis arall.

Ni allaf restru'r ystod gyfan o ymyraethau, ond er enghraifft, mae gennym eisoes y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Mae hwn yn cefnogi ffermwyr i ymateb i'r hyn sydd hefyd, gyda llaw, yn cynyddu costau mewnbynnau, gan gynnwys porthiant a brynwyd a phorthiant soia, trwy dyfu mwy o borthiant gartref heb wrteithiau artiffisial ac adeiladu'r stoc honno trwy'r cnydau y maent yn eu cynhyrchu. Roeddwn i ar gae gyda ffermwr arobryn ar Ynys Môn tua phedwar mis yn ôl yn edrych ar hyn, lle roedd mewn cae yn tyfu'r porthiant ar gyfer y gaeaf o fewn y caeau hynny. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae'r ffermwyr hynny'n cael eu taro gan y tywydd sydd gennym ni, llifogydd neu sychder. Felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'r gymuned ffermio i wneud hyn, a gyda'r gadwyn gyflenwi. Ond rydych chi'n hollol iawn, mae'n rhaid i'r cyfeiriad teithio fod i un cyfeiriad, sef nid datgoedwigo i gynhyrchu soia, darparu dewisiadau amgen, a'r dewisiadau amgen gorau yw'r rhai sy'n cael eu tyfu gartref, yn llythrennol, ar y fferm honno.

Un o'r pethau sydd ar goll o'r ddogfen a'ch datganiad heddiw yw unrhyw gyfeiriad at agregau. Pan ystyriwn fod MTAN 1 yn dweud y bydd agregau a gynhyrchir yng Nghymru yn cael eu monitro'n fanwl bob blwyddyn, ac y byddwn yn adolygu'r angen amdanynt, yn enwedig pan fyddwn wedi gweld cynnydd da yn cael ei wneud o ran ymgorffori deunyddiau wedi'u hailgylchu wrth adeiladu ffyrdd yng Nghymru, mae cymunedau fel Glyncoch yn fy rhanbarth yn cwestiynu pam eu bod yn parhau i ddioddef yn sgil diwydiannau echdynnol fel hyn.

Ble ydych chi'n gweld agregau yn benodol, a sut y gallwn symud ymlaen ar yr elfen hon? Ydych chi'n meddwl ein bod wedi gwneud digon o gynnydd o ran sicrhau ein bod yn ymgorffori deunyddiau wedi'u hailgylchu fel nad oes rhaid i'r natur echdynnol hon barhau? Rwy'n eich annog, Dirprwy Brif Weinidog, i edrych ar ffilm a gynhyrchwyd sy'n edrych yn benodol ar Glyncoch, o'r enw Hollow Mountain, sydd newydd gael ei rhyddhau. Mae'n dangos yr effaith amgylcheddol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd a pham mae angen i ni weld camau gweithredu os ydym yn mynd i weld cynnydd tuag at sero net.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. Yn gyntaf oll, rydych chi'n iawn, mae angen i ni wneud mwy a mwy, wrth i bob mis a phob blwyddyn fynd heibio, ar ailddefnyddio'r hyn sydd allan yna ar hyn o bryd sydd wedi'i echdynnu mewn ystod eang. Dyna pam rydym ni mor gryf o blaid yr holl ddull economi gylchol, ac mae hynny'n cynnwys o ran agregau—beth mwy allwn ni ei ddefnyddio, o ran adeiladu a dadadeiladaeth, o'r hyn sydd yno ar hyn o bryd ar y safle i ailadeiladu, addasu at ddibenion gwahanol, ac ati, beth gallwn ni ei wneud o ran adeiladu priffyrdd hefyd, hynny i gyd.

Heb os, fodd bynnag, mae angen diwydiant agregau arnom ar hyn o bryd. Mae bob amser wedi ei leoli mewn gwahanol rannau o'n cymunedau a gwahanol rannau o Gymru trwy hanes hir. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gweithio'n gyson i weld beth arall y gallwn ei wneud lle nad oes angen defnyddio diwydiannau echdynnol, oherwydd dyna'r ffordd rydym ni'n mynd gyda'r economi gylchol. Ond allwn ni ddim diystyru hynny dros nos, ni allwn wneud hynny. Mae'n rhaid i ni ystyried, o ran y pontio teg hwn hefyd, sut rydym yn symud i'r dull llawer mwy cylchol hwnnw, gan ddefnyddio'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ond gan gydnabod bod agregau yn dal i fod yn angenrheidiol ar gyfer sectorau penodol ac ar gyfer anghenion penodol. Felly, nid ydym yn mynd i gael gwared arno dros nos.  

15:50

Dirprwy Brif Weinidog, mae'n dda iawn eich clywed yn nodi'r cynnydd pwysig yr ydym wedi'i wneud yng Nghymru wrth chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r mater hanfodol hwn sy'n wynebu'r byd o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd, a'ch clywed yn ymrwymo i barhau â pholisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hefyd ein gwaith rhyngwladol pwysig gyda phobl fel Jenipher's Coffi a'r cymunedau y mae hwnnw'n eu cefnogi. Rwy'n cefnogi'r dull hwnnw ac mae'n dda iawn eich clywed chi'n dweud hynny.

Rydym yn aml yn siarad am feddwl yn fyd-eang a gweithredu'n lleol, Dirprwy Brif Weinidog. Yn fy etholaeth i, mae Gwastadeddau Gwent yn enghraifft dda o hynny. Rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol o ran diogelu a gwella'r asedau amgylcheddol gwerthfawr hynny a'r tirweddau unigryw hynny ar Wastadeddau Gwent, gyda'u gwasanaethau ecosystem posibl, megis storio carbon a storio capasiti llifogydd, er enghraifft, a'r ffordd y maen nhw'n cysylltu pobl â natur, Adeiladu'r gefnogaeth gyhoeddus hanfodol honno ar gyfer gwaith i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. A fyddech chi'n cytuno, yn y polisi cyffredinol, rydych chi'n bwrw ymlaen ag ef, ar fynd i'r afael â newid hinsawdd, Dirprwy Brif Weinidog, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr asedau amgylcheddol a natur lleol sydd gennym yng Nghymru a sut y gellir eu gwella i chwarae rhan lawn?

Byddwn, yn llwyr, John. Rwy'n cyd-fynd yn gryf â'r dull o gydweithio â chymunedau nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y gwnaethoch chi chwarae rhan mor ganolog yn ei chyflawni. Ond rydych hefyd yn ein hatgoffa bod natur a'r argyfwng hinsawdd yn mynd law yn llaw, ond felly hefyd ategu cydnerthedd natur a chydnerthedd hinsawdd hefyd.

Mae yna fantais fawr yn hyn, boed hyn yn Wastadeddau Gwent neu boed yn y gwaith rydw i wedi'i weld y bore yma o ran yr hyn rydym ni'n ei wneud mewn morwellt: hadu, ail-hadu, tyfu morwellt, plannu, ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Mae'n ysbrydoli pobl i gymryd rhan yn hyn hefyd. Mae morwellt yn enghraifft dda arall o ble mae nid yn unig yn helpu i ddatblygu cydnerthedd rhag rhai o'r effeithiau hinsawdd yr ydym yn eu gweld, ond mae hefyd o fudd sylweddol i natur a bioamrywiaeth.

O Wastadeddau Gwent i'r arfordir oddi ar Borth Dinllaen yn y gogledd, rydym yn canolbwyntio'n gyson, nid yn unig fel Llywodraeth, ond fel ein partneriaid, sefydliadau'r trydydd sector allan yna hefyd, ar sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur gyda'n gilydd, ond hefyd yn dod o hyd i'r atebion gyda'n gilydd, ac ysbrydoli pobl i roi'r syniad hwnnw o obaith i ni, fel y soniwyd yn y ddadl hon yn gynharach, oherwydd gall fod yn hawdd bod yn besimistaidd. Yr hyn y gallwn ei ddweud mewn gwirionedd yw, 'Gallwn weld y pethau hyn yn gweithio, mae angen i ni wneud mwy ohonynt'. 

Diolch, a diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn dweud bod newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom, o lifogydd yn ein cymunedau i brisiau bwyd cynyddol, ond mae'n anghofio sôn bod pobl Cymru eisoes yn wynebu rhai o'r biliau ynni uchaf yn Ewrop, wedi'u gwaethygu gan agenda sero net costus ac afrealistig y Llywodraeth ei hun. Mae'n sôn am arweinyddiaeth fyd-eang, ond mae teuluoedd ledled Cymru yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, ffermwyr yn boddi mewn biwrocratiaeth, a busnesau gwledig yn cael eu gwthio i ymyl y dibyn, i gyd tra bod Llafur yn curo ei hun ar y cefn am arwain y byd. Peidiwch ag anghofio, mae'r un Llywodraeth yn dod o hyd i filiynau, fel y dywedoch chi, i ariannu cynlluniau plannu coed yn Uganda, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi'u cymeradwyo gan y Ceidwadwyr, tra bod pobl gartref mewn trafferthion. Nid rhyfeloedd diwylliant yw dweud hynny. Gwelwn yn COP30 fod rhedfa newydd wedi'i chreu i ddarparu ar gyfer nifer o awyrennau jet yn hedfan i mewn, gan dorri coed i wneud hynny. Nid arweinyddiaeth hinsawdd yw hyn; rhagrith yw e'. Mae angen atebion ymarferol ar Gymru sy'n gweithio i bobl gyffredin: ynni fforddiadwy, diogeledd bwyd—

—a chefnogaeth wirioneddol i ffermwyr. Ysgrifennydd Cabinet, pan nad yw UDA, China nac India, y tair economi fwyaf ar y blaned, hyd yn oed yn mynd i'r uwchgynhadledd hinsawdd, rwyf eisiau gwybod a ydych chi'n meddwl y gellir cyfiawnhau mewn gwirionedd y gost i drethdalwyr Cymru oherwydd ei bod yn cael ei chynrychioli yno, ynghyd â'r polisïau drud rydych chi'n eu gosod ar bobl Cymru o ganlyniad, sy'n taro teuluoedd sy'n gweithio'n galed, a faint rydych chi'n meddwl y gellir ei gyflawni'n realistig heb y tair gwlad fawr hynny yno. Diolch. 

15:55

Ni allwn anghytuno'n fwy, ond fe wnaf i anghytuno mewn ffordd ddymunol. Yn gyntaf, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei gwneud hi'n hollol glir y bydd y buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud nawr mewn ynni adnewyddadwy a'r grid, gan ddatgarboneiddio ein trydan, yn rhoi nid yn unig y diogelwch ynni sydd ei angen arnon ni yn erbyn ysgytwadau geo-wleidyddol, ond fe fydd, mewn gwirionedd, yn arwain at ostyngiad mewn biliau. Bydd y buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud nawr yn gostwng y biliau hynny.

Yn ail, yr ymyriadau rydyn ni'n eu gwneud yn rhyngwladol, yr wyf yn falch iawn ohonyn nhw—. Ac fe fydd yn ddiddorol edrych yn ôl ar bobl sy'n troi eu cefnau ar y math yma o beth i weld a wnaethon nhw erioed sefyll ochr yn ochr â Pythefnos Masnach Deg a Jenipher's Coffi ac yn y blaen yn y gorffennol. Oherwydd cost plannu coeden, ar hyd y blynyddoedd rydyn ni wedi bod yn ymwneud â phlannu coed yn rhyngwladol, yw 15c y goeden. Fe wnaf i eich atgoffa chi mai 0.0001 y cant o'n cyllideb flynyddol sy'n mynd ar hynny. Rwy'n ailadrodd: 0.0001 y cant o'n cyllideb flynyddol.

Rwy'n cydnabod bod Reform yn gwadu newid hinsawdd yn llwyr. Dydyn nhw ddim yn cydnabod graddfa'r her. Dydyn nhw ddim yn credu y dylen ni wneud unrhyw beth am y peth. A gadewch i mi ddweud wrthych chi beth mae hynny'n arwain ato. Os yw Nigel Farage a'i blaid yn cael eu ffordd—. Rydyn ni'n dal i gydnabod nad oes gan Reform arweinyddiaeth yma yng Nghymru, wrth gwrs, ar hyn o bryd. Ond os yw Nigel Farage a'i debyg yn cael eu ffordd, yna’r hyn mae hynny'n ei olygu yw ein bod ni'n aberthu ein ffermwyr a'r bwyd rydym yn ei gynhyrchu wrth i ni wynebu sychder ac wrth i ni wynebu llifogydd. Rydyn ni'n aberthu ein prif seilwaith yng Nghymru wrth iddo gael ei oresgyn gan effeithiau newid hinsawdd. Rydyn ni'n aberthu cymunedau sy'n wynebu'n gyson nawr y trawma o lifogydd trawmatig a digwyddiadau tywydd. Rydyn ni'n troi ein cefnau arnyn nhw i gyd. Rydyn ni'n cerdded i ffwrdd. Dyna'r hyn rydych chi'n gofyn i ni ei wneud. Ac nid yn unig hynny, rydyn ni'n colli'r cyfle i sicrhau'r manteision economaidd a sgiliau a swyddi a ddaw yn sgil buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, mewn cyhoeddiadau eraill sy'n ymwneud â swyddi a sgiliau, ym Mhort Talbot, lle gallwn ni sicrhau'r manteision i'r porthladd a'r ynni adnewyddadwy, ac mae ei angen arnyn nhw ym Mhort Talbot. Mae e drws nesaf ata i.

Dyna'r hyn mae Reform yn gofyn i ni gerdded i ffwrdd oddi wrtho. Ar yr un pryd, fel maen nhw'n ei ddweud, fe fyddan nhw'n ailgyflwyno ffracio yng Nghymru ac fe fyddan nhw'n ailagor y pyllau. Wel, rydych chi'n byw yn y ganrif ddiwethaf. Rydyn ni'n ceisio creu canrifoedd i'n plant a'n hwyrion a'n hwyresau i gyd yn y dyfodol.

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol ar Gam-drin Pobl Hŷn

Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, adroddiad blynyddol ar gam-drin pobl hŷn. Galwaf ar y Gweinidog, Dawn Bowden.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wythnos Diogelu yw hi yr wythnos hon, wythnos sy'n ein gwahodd nid yn unig i ddathlu cyfraniadau amhrisiadwy pobl ledled Cymru, ond hefyd i fyfyrio ar y math o gymdeithas rydyn ni'n ei llunio ar gyfer y dyfodol. Mae diogelu wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor ddinistriol y gall fod pan fydd pethau'n mynd o chwith. Roedd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yr wythnos diwethaf ar yr adolygiad o ymarfer plant yng Ngwynedd yn ein hatgoffa'n glir o'r canlyniadau pan fydd systemau'n methu, a pham na ddylai ein gwyliadwriaeth a'n hymrwymiad i ddiogelu byth pallu.

Nid polisi neu weithdrefn yn unig yw diogelu. Mae'n gyfrifoldeb ar y cyd sy'n cyffwrdd â phob rhan o'n gwaith a'n cymunedau. Yn ei hanfod, mae diogelu yn ymwneud â diogelu hawliau pobl i fyw'n ddiogel, yn rhydd o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae'n ymwneud â chreu amgylcheddau lle mae plant, oedolion a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u grymuso. Wrth i ni edrych i'r dyfodol, rhaid i'n hymrwymiad barhau i fod yn glir—i gryfhau partneriaethau, croesawu arloesedd, a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Oherwydd nid dim ond busnes pawb yw diogelu, mae'n sylfaen i gymdeithas deg a thosturiol.

Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cynllun gweithredu cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn, y ddogfen gyntaf o'i math yn y DU. Cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu trwy gydweithrediad trawslywodraethol â phartneriaid, gan adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i amddiffyn y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Fe wnaethon ni addo creu'r cynllun hwn yn y strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Nod y strategaeth honno yw adeiladu gwlad lle mae pobl hŷn yn cael eu parchu a'u cefnogi, lle gallan nhw aros yn annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau, cael gofal da, teimlo'n fodlon a chael eu trin ag urddas, gan ddilyn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn.

Mae'r cynllun gweithredu cenedlaethol yn cefnogi gwireddu'r weledigaeth hon drwy sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso a'u hamddiffyn rhag niwed. Mae'n mabwysiadu dull ataliol trawslywodraethol sy'n seiliedig ar ddeddfwriaeth Cymru megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n gosod dyletswydd glir ar gyrff cyhoeddus i amddiffyn oedolion a allai wynebu risg. Nod y cynllun gweithredu cenedlaethol yw sicrhau bod trefniadau diogelu ledled Cymru yn effeithiol, yn dryloyw ac yn ymatebol i anghenion unigolion agored i niwed, gan roi ffocws penodol ar bobl hŷn. Mae'r Ddeddf yn diffinio oedolyn sy'n wynebu risg fel rhywun sy'n profi, neu sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod, sydd ag anghenion gofal a chymorth, ac na all amddiffyn ei hun o ganlyniad i'r anghenion hynny. Mae'r fframwaith cyfreithiol hwn yn sail i'n gwaith diogelu ac yn sicrhau bod ein dull yn gadarn ac yn seiliedig ar hawliau.

Mae eleni'n nodi cylch adrodd cyntaf y cyfrifiad oedolion sy'n cael gofal a chymorth. Mae data wedi'i gasglu ac mae wrthi'n cael ei ddadansoddi nawr ar gyfer ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Bydd y data hwn yn rhoi gwell darlun i ni o'r boblogaeth oedolion sy'n cael gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar eu cyfer, gan sicrhau bod modd cynllunio'n well a rhoi ymyriadau wedi'u targedu ar waith.

Yng Nghymru, mae gennym ni hanes cryf o gydnabod ac ymateb i gam-drin oedolion. Ni hefyd oedd y cyntaf yn y DU i sefydlu swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn i weithredu fel llais annibynnol ac i eirioli dros bobl hŷn—cam sylweddol ymlaen i amddiffyn oedolion hŷn sy'n agored i niwed. Mae'r comisiynydd pobl hŷn presennol a'r cyn-gomisiynydd wedi bod yn ymwneud yn agos â datblygu'r cynllun hwn ac yn parhau i lywio'r ffordd y caiff ei weithredu.

Felly, rwy'n falch o gyflwyno i chi heddiw ein hadroddiad diweddaru blynyddol cyntaf ar ein cynllun gweithredu cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn. Gadewch i mi dynnu sylw at rai o'r cyflawniadau allweddol. Mae'r safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant diogelu wedi cael eu datblygu a'u gweithredu gan Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn cydweithrediad â byrddau diogelu rhanbarthol. Mae'r adolygiad o'r ddogfen ganllaw ar gam-drin domestig a diogelu pobl hŷn ar y gweill ar draws meysydd polisi diogelu a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ein hadolygiad diogelu unedig sengl arloesol wedi sicrhau dysgu thematig clir, ac yn caniatáu rhaglenni gwaith wedi'u targedu'n gliriach i ymdrin â materion allweddol. Cafodd y canllaw 'Cefnogi diwylliannau cadarnhaol' ei lansio gan Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, ynghyd ag adnoddau cysylltiedig, a chynhaliwyd gweminar yr oedd dros 300 o bobl yn bresennol ynddi. Bydd y deunyddiau a'r ffyrdd hyn o weithio yn helpu i integreiddio urddas a hawliau mewn lleoliadau gofal.

Ymhlith y meysydd ffocws allweddol yn yr ail flwyddyn mae coladu a defnyddio data'n well, canllawiau cliriach, cydweithredu ar draws sectorau, gwerthuso effaith a gwell monitro, a pharhau â'n gwaith ar draws y Llywodraeth i godi ymwybyddiaeth o gam-drin a sut mae'n effeithio ar bobl hŷn.

Rydyn ni'n parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i ymdrin ag achosion ac effaith rhagfarn ar sail oedran. Mae rhagfarn ar sail oedran yn gyffredinol ac yn amlygu ei hun mewn gwahanol agweddau ar ein bywydau bob dydd. Nid mater diwylliannol yn unig yw rhagfarn ar sail oedran, mae'n fater diogelu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi bod rhagfarn ar sail oedran yn ffactor risg mawr o ran cam-drin pobl hŷn. Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi cyhoeddi papur briffio sy'n amlinellu'r ffordd y mae rhagfarn ar sail oedran yn effeithio ar brofiadau pobl hŷn o gamdriniaeth. Mae'r fforwm cynghori gweinidogol ar heneiddio wedi bod yn trafod yr effeithiau hyn ac wedi ymgynnull gweithgor i archwilio opsiynau ar gyfer ymdrin â rhagfarn ar sail oedran yn ei holl ffurfiau. Mae'r grŵp yn datblygu cynigion i herio naratifau a stereoteipiau niweidiol, a chynlluniau gwaith i weithio gyda gwledydd eraill y DU i sicrhau mai pobl hŷn sy'n cael y sylw pennaf yn y rhaglen hon. Mae'r cynllun gweithredu cenedlaethol wedi'i seilio ar bartneriaeth, tosturi a'r gred ddiwyro bod pawb yn haeddu heneiddio'n ddiogel a chyda pharch.

Er mwyn symud ymlaen ymhellach, rwy'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i gefnogi ffrwd waith anghenion pobl hŷn, sy'n gweithio i wella'r ffordd y caiff y risgiau i bobl hŷn eu hasesu, ac ymgyrch Byw Heb Ofn sy'n canolbwyntio ar drais rhywiol yn erbyn pobl hŷn. Bydd ymgyrch ddilynol yn canolbwyntio ar gam-drin ariannol yn erbyn pobl hŷn. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i atal cam-drin, gan nad oes lle i gam-drin o unrhyw fath yng Nghymru.

Nid cynllun yn unig mo'r cynllun gweithredu, mae'n addewid ar waith, addewid na fydd mynd yn hŷn yng Nghymru byth yn golygu mynd yn fwy agored i niwed. Bydd yn golygu cael eich parchu'n fwy, cael eich diogelu'n fwy a chael eich clywed yn fwy. Mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae yn hyn, gan fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb. Diolch. 

16:00

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw gan y Gweinidog a chyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf ar y cynllun gweithredu cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn—y cynllun cyntaf o'i fath unrhyw le yn y DU, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, ac mae ei uchelgais yn sylweddol. Mae'r mater ei hun yn un y dylai pob un ohonon ni ar draws y Siambr hon ei drin gyda'r difrifoldeb mwyaf.

Rydym yn gwybod o'r dystiolaeth sydd ar gael bod llawer o bobl hŷn yn teimlo nad yw gwasanaethau wedi'u cynllunio gyda nhw mewn golwg. Nid yw llawer ohonyn nhw'n ymwybodol o'u hawliau na'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, mae eraill yn teimlo wedi'u llethu gan gymhlethdod y system y mae'n rhaid iddyn nhw ei llywio. Er bod y data sydd ar gael yn cadarnhau bod pobl hŷn yn wynebu pob math o gam-drin—corfforol, emosiynol, ariannol, domestig, rhywiol ac esgeulustod—mae pobl hŷn yn parhau i fod yn fwy agored i esgeulustod o gymharu â'r boblogaeth ehangach o oedolion. Eto, gyda'r canfyddiadau hyn, rydyn ni'n dal i wynebu problemau sylfaenol: diffyg data ystyrlon, cynhwysfawr am raddfa'r cam-drin yng Nghymru. Heb wybodaeth ddibynadwy, gyson, mae yna risg y byddwn ni'n llunio polisi yn y tywyllwch. Felly, Gweinidog, pryd fydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r bylchau mewn data, a sut y bydd yn sicrhau bod byrddau diogelu ledled Cymru yn adrodd gwybodaeth yn gyson ac yn dryloyw, fel y gallwn ni, o'r diwedd, adeiladu darlun llawn o'r hyn y mae pobl hŷn yn ei brofi ledled Cymru?

Rwy'n croesawu rhywfaint o'r cynnydd y tynnir sylw ato yn yr adroddiad: y gwaith ar yr olynydd i'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia; y pecyn cymorth llesiant preswylwyr, a ddatblygwyd gydag Age Cymru; y cymorth sy'n cael ei ddarparu i'r gofalwyr di-dâl drwy'r gronfa cymorth i ofalwyr—rwy'n credu bod hwnnw'n bolisi y gall pawb ar draws y Siambr hon ei gefnogi; cyhoeddi'r cod ymarfer ar gyfer Llais; a nifer o bethau eraill y gwnaethoch chi dynnu sylw atyn nhw. Ond rhaid i gynnydd, Gweinidog, gael ei farnu ar ganlyniadau, ac nid dim ond y cyhoeddiadau hynny. Mae gormod o bobl hŷn ledled Cymru, fel y dywedais i, yn dal i wynebu esgeulustod a'r cam-drin domestig hwnnw. Felly, Gweinidog, pa fesurau penodol y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno i annog a chefnogi pobl hŷn i adrodd am gam-drin? Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y system sydd ar waith yn ymateb yn gyflym, yn barchus ac yn gyson pan fyddan nhw'n codi pryderon?

Mater canolog sy'n cael ei godi dro ar ôl tro gan sefydliadau pobl hŷn yw hygyrchedd. Fel y dywedais i, mae llawer o bobl hŷn yn teimlo na allan nhw fanteisio ar y gwasanaethau na'r bobl hynny sydd yno i'w helpu. Felly, pan fydd y Llywodraeth yn dylunio'r cynlluniau hyn, sut allwn ni wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu heithrio rhagddyn nhw am resymau digidol? Mae angen i ni wneud yn siŵr bod yna ffyrdd eraill y gall pobl fanteisio arnyn nhw. Rydyn ni bob amser yn dweud wrth bobl, 'Ewch ar-lein', ond mae llawer o bobl hŷn yn teimlo wedi'u heithrio'n ddigidol. Felly, hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud yn y maes hwn i wneud yn siŵr bod pobl hŷn yn gallu cael help mewn ffordd fwy syml. 

Mater arall yw capasiti. Os ydyn ni eisiau gweld cam-drin yn cael ei atal a mesurau amddiffynnol i ddiogelu pobl, rhaid i wasanaethau gael y staff, y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw. Ar hyn o bryd, mae'r galw yn parhau i gynyddu. Felly, Gweinidog, allwch chi gadarnhau pa adnoddau ychwanegol a chymorth i'r gweithlu fydd ar gael i sicrhau bod y gwasanaethau yn gallu diwallu anghenion cymhleth dioddefwyr hŷn ledled Cymru?

Fe wnaethoch chi sôn am y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar ymdrin â rhagfarn ar sail oedran, mater y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei nodi fel ffactor risg mawr ar gyfer cam-drin. Mae rhagfarn ar sail oedran yn llywio'r ffordd y mae cymdeithas yn gweld pobl hŷn ac, yn hollbwysig, y ffordd y mae gwasanaethau yn ymateb iddyn nhw. Ond mae newid diwylliant yn fwy na dim ond bwriadau da, mae'n golygu newid y ffordd rydyn ni i gyd yn ymddwyn. Felly, os gaf i ofyn, Gweinidog, sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y ffrwd waith rhagfarn ar sail oedran yn arwain at newidiadau go iawn mewn ymddygiad a diwylliant ar draws y gwasanaethau cyhoeddus? Ac nid dim ond mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond ar draws cymdeithas yn ehangach, oherwydd allwn ni ddim cael strategaeth arall sy'n eistedd ar y silff ac nad yw'n gwneud unrhyw beth.

Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw, oherwydd mae pobl hŷn yng Nghymru yn haeddu byw yn ddiogel, yn annibynnol a chydag urddas. Maen nhw'n haeddu cael eu clywed, eu credu a'u diogelu. Ac yn anad dim, maen nhw'n haeddu Llywodraeth a chymdeithas sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi ac yn gweithredu mewn ffordd bendant i'w diogelu rhag pob niwed ledled y wlad. Diolch.

16:05

A gaf i ddiolch i James am y safbwyntiau a'r sylwadau hynny ac am y gefnogaeth gyffredinol i'r cynllun a'r cyfeiriad teithio a'r hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud? Unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn werth ailadrodd, fwy na thebyg: dyma'r cynllun cyntaf o'i fath yn y DU. Felly, rydyn ni'n torri ychydig o dir newydd yma i wledydd eraill y DU ddilyn ein harweiniad. Yr hyn rydyn ni'n dymuno ei wneud yw sicrhau nad yw oedran yn lleihau hawl yr unigolyn i gael ei drin gyda'r urddas y dylai ei ddisgwyl.

Nawr, os edrychwch chi ar draws ein cymdeithas, un o'r pethau sydd bob amser yn fy nharo i yw ymhlith ein gwirfoddolwyr. Mae ein gwirfoddolwyr yn bobl hŷn yn bennaf, ac mae ganddyn nhw gyfraniad enfawr i'w wneud i'n cymunedau, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw hynny'n cael ei anwybyddu, bod hynny'n cael ei gydnabod ac ati. Felly, mae'r strategaeth gyffredinol, mewn gwirionedd, yn ymwneud â chreu Cymru lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar y potensial i bobl effeithio ar ansawdd eu bywyd ac, yn bwysicach byth, i effeithio ar ansawdd y gwasanaethau maen nhw'n eu cael.

Rwy'n credu eich bod chi wedi siarad, yn gywir ddigon, am ddata a phwysigrwydd data, ac fe wnes i nodi yn fy natganiad mai hon yw blwyddyn gyntaf y cyfrifiad oedolion sy'n cael gofal a chymorth. Felly, rydyn ni dal wrthi'n dadansoddi'r hyn y mae'r data hwnnw'n ei olygu, a byddwn ni'n cyhoeddi canlyniad hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'n adlewyrchu'r broses sydd gennym eisoes i gasglu data ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth. Felly, mae'n adlewyrchu'r math hwnnw o broses, ond yr hyn y bydd data yn ei wneud i ni, a'r hyn y bydd y math newydd hwn o gasglu data yn ei wneud i ni, yw y bydd yn ein galluogi ni i ddatblygu ac i lywio ein penderfyniadau am y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i bobl hŷn, yn enwedig pobl hŷn yn ein system ofal. Dyna, i raddau helaeth, yw ein nod. Rydyn ni eisoes yn casglu data gan awdurdodau lleol a sefydliadau partner sy'n ymwneud â monitro'r llif i mewn ac allan o wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ond mae hyn yn mynd i fod ychydig yn fwy manwl, ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi'r ddealltwriaeth ddibynadwy a chlir honno i ni o sut mae darpariaeth gofal awdurdodau lleol yn newid dros amser, a sut mae angen i ni addasu hynny dros amser.

Fe wnaethoch chi sôn yn benodol iawn am allgáu digidol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rydyn ni'n gwybod y mae'r comisiynydd pobl hŷn newydd gyhoeddi adroddiad amdano. Rydyn ni'n bwriadu gwneud darn sylweddol o waith mewn ymateb i hynny, oherwydd mae pobl hŷn yn dal i gyfrif am y demograffig mwyaf o'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Ac rwy'n gwybod hynny o fy mhrofiad personol fy hun: mae gen i fam 87 oed. Fe wnaethon ni ddysgu hi sut i wneud FaceTime yn ystod COVID; mae hi wedi anghofio sut i wneud hynny nawr. Rwy'n rheoli ei chyllid, ac rwy'n delio â'i banc, ac mae gen i ei hap ar fy ffôn ac ati, a byddai gallu ei chael hi i wneud hynny bron yn amhosibl. Pwynt hynny yw, rwy'n gwneud hynny drosti, ond onid yw hynny'n gadael rhywun yn agored i gam-drin ariannol hefyd, lle nad ydyn nhw'n gallu gwneud y pethau hynny eu hunain, ac yn dibynnu ar eraill i'w wneud drostyn nhw?

Mae gennym ni raglen glir iawn ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth ynglŷn â hynny, ac mae hynny'n ymwneud â sicrhau bod gan bobl y cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a'r hyder i ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion. Felly, mae angen clir iawn ymhlith pobl hŷn, ac mewn gwirionedd mae'n rhaid i'r gwaith sydd angen i ni ei wneud yn y maes hwnnw grynhoi beth yw pedair prif flaenoriaeth y comisiynydd pobl hŷn, ac maen nhw'n ymwneud ag ymwybyddiaeth o hawliau, mae'n ymwneud â herio gwahaniaethu, annog arfer gorau a'r gyfraith sy'n effeithio ar bobl hŷn. 

Rwy'n credu bod y pwynt olaf roeddech chi'n ei wneud yn y fan yna, James, yn ymwneud â chefnogi'r gweithlu a sut allwn ni sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n gallu rheoli a chefnogi pobl â dementia yn effeithiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod ein dysgu a'n datblygiad ym maes dementia wedi'i gyflawni trwy dri maes allweddol hyd yn hyn. Mae hynny drwy fframwaith sefydlu Cymru gyfan, lle, fel isafswm, mae'n ofynnol i bob gweithiwr newydd gwblhau fframwaith sefydlu Cymru gyfan, sy'n cynnwys materion fel dangosyddion ac arwyddion dementia a sut i ddefnyddio hynny; mae rhaglen datblygu'r gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd, sy'n gyfres gynhwysfawr o gyfleoedd dysgu a datblygu o ran dementia sy'n parhau i gael ei darparu i'r sector cyfan yn rhanbarthol, yn ogystal â fframwaith Cymru gyfan; a sesiynau newydd cyflwyniad i ddementia Gofalwn Cymru, sy'n cael eu cynnal unwaith y mis i ddechrau, gyda'r gyntaf yn cael ei chynnal fis diwethaf—yn wir, ym mis Medi, y mis cyn diwethaf. Mae'r sesiynau hynny'n helpu pobl i ddeall beth yw dementia a sut mae'r symptomau hynny'n codi, ond yn bwysicaf oll, fe fyddan nhw'n ymwneud â sut i gefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia.

16:10

Dwi'n croesawu cyhoeddi'r cynllun yma heddiw, ac mae'n dda gweld bod y Llywodraeth yma yn arwain yn hyn o beth. Mae'n berffaith gywir i nodi bod camdriniaeth pobl hŷn yn un o'r heriau mwyaf brys sydd yn ein cymdeithas ni. Fodd bynnag, nid trwy glodfori mawredd amcanion datganedig mae mesur gwerth unrhyw gynllun, ond yn hytrach trwy weld canlyniadau'r gweithredu a ddaw yn ei sgil gyda'r adnoddau angenrheidiol y tu ôl iddo.

Felly, er fy mod yn croesawu'r datganiad yn gynnes, cyfyd rhai cwestiynau. Dwi am godi tri mater penodol, felly. Yn gyntaf, mae'r cynllun yn dweud fod

'pobl hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol pan fo angen'.

Fodd bynnag, mae'r datganiad hwn yn swnio’n wag i etholwyr yn ein hardaloedd gwledig oherwydd anhawster cyrraedd gwasanaethau. A wnaiff y Gweinidog ddarparu data penodol, rhanbarthol, sy’n dangos cyfartaledd yr amser teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i berson hŷn fedru cyrraedd y ganolfan argyfwng trais rhywiol agosaf, neu wasanaeth arbenigol cymorth i ddioddefwyr trais rhywiol, ar draws ein siroedd yma? O ystyried cyflwr gwael trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, pa fentrau uniongyrchol a gyllidwyd ar unwaith y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno er mwyn sicrhau nad yw’r gwasanaethau arbenigol hyn, sy’n hanfodol ac yn achub bywydau’n aml, yn anweithredol o ran mynediad i oroeswyr hŷn sy’n ynysig yn ddaearyddol? Ac o gofio bod amcan allweddol 2 yn canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau VAWDASV, pa fesurau atebolrwydd, y tu hwnt i fonitro cydymffurfiaeth grantiau, sy’n gysylltiedig ag amcanion blwyddyn 2 i warantu gwell darpariaeth ddaearyddol weladwy o gymorth arbenigol ar drais rhywiol yn ystod y flwyddyn i ddod?

Yn ail, mae’r cynllun yn datgan amcan craidd bod

'pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fyw’n annibynnol a chydag urddas ac...yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau diogelu'.

Mae’r amcan hwn yn hollol ddibynnol ar weithlu gofal cymdeithasol sefydlog. Sut y gall Llywodraeth Cymru ymrwymo’n gredadwy i gefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol pan fo sylfaen yr annibyniaeth honno—y gweithlu gofal cymdeithasol—yn dioddef o argyfwng difrifol o ran tâl, cadw staff ac urddas gwaith? Yn benodol, pa lawr cyllid uniongyrchol fydd yn cael ei osod er mwyn sicrhau bod gweithiwyr gofal cymdeithasol yn cael cyflog mynediad sy’n fwy na’r cyflog byw go iawn, ac sydd hefyd wedi’i feincnodi yn erbyn swyddi cymaradwy yn y sector cyhoeddus, gan wneud gofal cymdeithasol yn yrfa gystadleuol?

Mae amcanion blwyddyn 2 yn cyfeirio at ddatblygu fframwaith tâl a datblygiad i fod ar gael yn 2026. Pa gamau, felly, sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd, cyn y fframwaith hwn, i broffesiynoli’r sector ac i greu’r urddas sydd ei angen i ddenu a chadw’r staff angenrheidiol i ateb yr angen cynyddol a nodir yn y cynllun hwn? A beth ydy'r strategaeth benodol, gyda therfynau amser clir, i gysylltu nifer yr oriau gofal cartref a gomisiynir sydd eu hangen i ateb y galw demograffig gyda thargedau recriwtio a chadw Gofal Cymdeithasol Cymru, gan sicrhau bod y cyflenwad o weithwyr yn cyfateb i’r uchelgais datganedig ar gyfer byw’n annibynnol?

Yn drydydd, ac yn olaf, mae’r cynllun yn cydnabod bod llawer o ofalwyr hŷn yn gallu anwybyddu eu hanghenion eu hunain. Mae hyn yn gwaethygu’n sylweddol oherwydd y methiant systemig i ddarparu cymorth statudol. O ystyried bod gan ofalwyr di-dâl hawl statudol i asesiad ar gyfer seibiant o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, beth ydy cynllun y Gweinidog i fynd i’r afael ar fyrder â’r broblem enfawr o restrau aros am asesiadau, sy’n atal gofalwyr hŷn di-dâl rhag cael y seibiant hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw? Pa fecanwaith newydd, gorfodol, fydd yn cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cadw at derfyn amser statudol pendant ar gyfer cwblhau asesiadau cynhwysfawr o ofalwyr, yn enwedig gofalwyr hŷn, er mwyn atal lles y gofalwr rhag dirywio i bwynt argyfwng? Mae amcanion blwyddyn 2 yn ymrwymo i barhau i ariannu a monitro amrywiaeth o gymorth. Felly, pa gamau penodol fydd yn cael eu cymryd i sicrhau nad yw'r gronfa seibiannau byr yn ddim ond ateb ariannol dros dro, ond ei bod yn cael ei hintegreiddio â’r ddyletswydd statudol i asesu anghenion, gan ddarparu seibiant sy’n seiliedig ar anghenion ac yn gynaliadwy yn y tymor hir?

Fel y soniais, mae datganiadau o'r fath, wrth gwrs, i’w croesawu, ond mae angen gweld eu bod nhw'n cael eu gweithredu. Diolch.

16:15

Diolch. Diolch, Mabon, ac, unwaith eto, diolch am eich cefnogaeth a'ch croeso cyffredinol i'r gwaith rydyn ni'n ceisio ei wneud yma. Rydych chi wedi cydnabod ein bod ni, mewn gwirionedd, yn edrych ar gynllun cychwynnol. Rydyn ni wedi cael blwyddyn 1. Mae blwyddyn 1 wir yn ffurfio'r sail. Mae'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud ym mlwyddyn 1 wir yn ffurfio'r sail ar gyfer gwaith y mae angen i ni ei wneud ym mlynyddoedd 2 a 3, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r comisiynydd pobl hŷn sydd wedi mynegi ei dymuniad ein bod ni'n symud mor gyflym ag y gallwn ni i weithredu nifer o'r amcanion sydd gennym ni ar waith.

Rydych chi wedi codi nifer o bwyntiau—. O ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn amlwg mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, a bydd yr holl faterion rydych chi'n eu codi ynghylch mynediad at wasanaethau, yn enwedig gan y rhai mewn cymunedau gwledig, i gyd yn rhan o'r gwaith y mae'r ffrwd waith honno yn ei wneud o fewn y ffrwd waith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa i adrodd yn ôl ar hynny yn weddol gyflym. Ond holl bwynt hynny yw bod yn rhaid iddo fod ar gael i bawb. Yr hyn na allwn ni ei wneud yw, gallwn ni ddim o reidrwydd gysylltu polisi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol â'n system drafnidiaeth, ond gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl yn cael y mynediad priodol, pan fydd ei angen arnyn nhw, mewn modd amserol. Ac felly bydd hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried.

Y gweithlu gofal cymdeithasol—. Rwy'n credu ein bod ni wedi trafod hyn sawl gwaith, Mabon. Fe wnaethon ni sôn am hyn yr wythnos diwethaf yn nadl Plaid ar y gwasanaeth gofal cenedlaethol. Fe wnaf i ailadrodd yr hyn rydw i wedi'i ddweud. Rydyn ni wedi'n hymrwymo'n llwyr i'r gweithlu gofal cenedlaethol. Rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi cefnogi'r cyflog byw gwirioneddol. Rwy'n nodi eich sylwadau amdanon ni'n mynd ymhellach na hynny. Mae gennym ni uchelgais i wneud hynny. Mae gennym ni ymrwymiad i wneud hynny. Rydyn ni wedi llofnodi'r cytundeb cyflog teg, rhan o ddeddfwriaeth cyflogaeth y DU, ac mae hynny'n mynd i fod yn sail, heb unrhyw amheuaeth, i gyflog uwch yn y sector. Rydyn ni eisoes yn gweld bod ein gweithlu gofal cymdeithasol nawr ychydig yn is na'r gweithlu cyfatebol yn y GIG mewn gwirionedd—mae'n fater o geiniogau'r awr erbyn hyn. O'r fan lle roedden ni ychydig flynyddoedd yn ôl, lle'r oedd y bwlch hwnnw'n dipyn o fwlch ac yn golygu ein bod ni'n colli pobl o'r sector gofal cymdeithasol i'r GIG yn llu, dydyn ni ddim yn gweld hynny yn yr un modd nawr bod gennym ni hynny. Ond rwy'n uchelgeisiol i ni barhau ar y llwybr hwnnw, fel rydyn ni gyda'r fframwaith cyflog a chynnydd cyfan ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol, nad yw'n ymwneud â thâl yn unig. Mae'n ymwneud â phroffesiynoliaeth. Mae'n ymwneud â chamu ymlaen mewn gyrfa. Mae'n ymwneud â sefydlu ein hacademïau gofal cymdeithasol fel y gallwn ni dyfu ein rhai ein hunain a gallwn ni annog pobl o yrfaoedd eraill i ddod i mewn trwy'r awdurdodau lleol ac ati a datblygu'r llwybr gyrfa hwnnw.

Mae cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol, sef yr allwedd i broffesiynoleiddio, wedi bod yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn.  Yr wythnos hon, bydd yr arolwg o'r gweithlu gofal cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi, ac rwy'n credu y byddwch chi'n gweld trwy'r arolwg hwnnw yr ymateb gan y gweithlu gofal cymdeithasol ei hun o ran sut maen nhw'n fwyfwy bodlon â'u rôl fel gweithwyr gofal cymdeithasol—mae llawer iawn i'w wneud o hyd, a dydw i ddim yn llaesu dwylo yn hyn o beth, ond mae'n rhaid i ni ei gymharu â lle roedden ni, ac rydyn ni'n gweld gwelliant o flwyddyn i flwyddyn yn agwedd ein gweithlu o ran sut maen nhw'n teimlo am fod yn rhan o hynny.

O ran gofal cartref, Mabon, rwy'n credu mai un o'r materion gyda gofal cartref yw'r galw. Mae'r galw yn cynyddu'n esbonyddol trwy'r amser, a thrwy ein ffigurau llwybr gofal, rydyn ni'n gweld gostyngiadau eto, mis ar ôl mis. Rydyn ni'n gweld ymhell dros 200 yn llai o bobl yn wynebu oedi drwy'r system nawr nag y gwnaethon ni yr adeg hon y llynedd—dros 18,000 yn llai o ddiwrnodau o oedi ers yr adeg hon y llynedd. Ac nid yw hynny i gyd wedi digwydd ar ddamwain. Mae hynny wedi digwydd trwy ymdrech ar y cyd rhwng ein cydweithwyr yn y byrddau iechyd, ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a chydweithwyr y trydydd sector, sydd wedi cydweithredu a gweithio ar y cyd i nodi'r holl arferion gorau sydd allan yno sy'n galluogi pobl i symud drwy'r system yn gyflymach. Mae rhai ardaloedd sy'n gwneud yn well yn hynny o beth nag eraill. Mae rhai ardaloedd sy'n dal i ganfod bod hyn yn fwy o her na rhai ardaloedd, ac felly rydyn ni'n parhau i gael y cyfarfodydd rheolaidd hynny. Rwy'n cadeirio cyfres o gyfarfodydd nawr dros yr ychydig wythnosau nesaf yn arwain at y Nadolig gyda'n partneriaid ar ôl traed byrddau iechyd, lle byddwn ni'n edrych yn fanwl ar ble mae eu llwyddiannau, ble maen nhw'n wynebu mwy o heriau, a beth mwy y gallwn ni ei wneud i helpu i ymdrin â'r heriau hynny. Ond mae'r galw am ofal cartref—. Rydyn ni'n gweld mwy o bobl yn cael mynediad at ofal cartref nawr nag yr ydym ar unrhyw adeg ers i ni ddechrau cofnodi'r data hwn, ac, wrth gwrs, mae hynny'n fater i awdurdodau lleol—i gynllunio beth yw eu galw a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Ac wrth gwrs, dyna'n union oedd nod y grant trawsnewid llwybrau gofal gwerth £30 miliwn. Ei nod oedd sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu gwella ac ehangu'r capasiti cymunedol hwnnw, fel y gallen ni nid yn unig cael pobl allan o'r ysbyty yn gyflymach, ond y gallen ni atal pobl rhag mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.

Fe wnaethoch chi sôn am y cynllun seibiannau byr, ac, eto, fe wnaethon ni drafod hyn yr wythnos diwethaf, ac rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd eto bod y cynllun seibiannau byr yn ychwanegol at ddarpariaeth statudol. Mae hyn yn rhywbeth y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei gyflwyno yn ychwanegol at yr hyn rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol ei gyflawni o ran gofal seibiant, ac mae gennym ni gynllun y mae'n bosibl ei deilwra'n benodol iawn ar gyfer anghenion y gofalwr unigol, a'r adborth rydym yn ei gael gan y gofalwyr hynny yw bod hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r hyn y maen nhw'n ei wneud. Ond, unwaith eto, rwy'n rhannu eich rhwystredigaethau ynglŷn â'r anghysondeb o amgylch asesiadau o anghenion gofalwyr, ac mae'r gwaith hwn yn ddarn sylweddol iawn o waith drwy'r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr di-dâl, ac rwy'n gobeithio y cawn ni rai adroddiadau cynnydd pan fyddwn ni'n adolygu'r strategaeth honno i ofalwyr di-dâl ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Ac, yn olaf, rwyf eisiau dweud rhywbeth am y pwynt a wnaethoch chi ar hunanesgeulustod, oherwydd mae hynny'n faes mor bwysig sy'n cael ei danadrodd fwy na thebyg o—. Mae'n anodd dweud ei fod yn gam-drin, ond, mewn ffordd, fe all fod, oherwydd os nad yw pobl yn gofalu amdanyn nhw eu hunain, pam nad ydyn nhw'n gofalu amdanyn nhw eu hunain? A phwy sy'n monitro hynny a phwy sy'n adrodd amdano, a phwy sy'n gwneud yn siŵr eu bod yn cael gofal? Ond mae adolygiad terfynol ar y gweill ar gyfer ein canllawiau newydd ar hunanesgeulustod, sy'n mynd i helpu'r ymarfer rheng flaen a'r diogelu hwnnw, gobeithio.

16:25

Rwy'n falch iawn o allu siarad yn y datganiad pwysig hwn heddiw. Rwyf hefyd yn falch iawn bod y Gweinidog wedi sôn am ragfarn ar sail oedran, a'r ffaith ei fod yn fater diogelu. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod rhagfarn ar sail oedran yn gyffredin iawn yn ein cymdeithas ac yn un o'r rhesymau pam mae pobl hŷn yn cael eu cam-drin. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran, ac rwy'n falch iawn o glywed bod yna weithgor sy'n mynd i ymdrin â'r materion hynny yn benodol.

Ond un o'r pethau na soniodd y Gweinidog amdano yn ei datganiad oedd y fenter o blaid pobl hŷn a'r gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd, sef rhoi statws i ddinasoedd ac awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y gwaith maen nhw'n ei wneud i geisio cynnwys pobl hŷn yn y penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud. Ac rwy'n gwybod fy mod i'n falch iawn bod Caerdydd wedi cael y statws hwnnw ers 2022, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa mor bell yr oedd y fenter honno wedi lledaenu. Ac onid yw hi'n cytuno bod gwneud y math hwnnw o waith ar lawr gwlad, yn rhoi cyfleoedd i bobl hŷn cyn bod angen iddyn nhw fynd i gartref gofal neu gael gofal dwys, yn hanfodol bwysig a hefyd yn helpu i atal camdriniaeth?

Julie Morgan, diolch am y pwyntiau hynny a'r cwestiynau hynny. Rydych chi'n hollol iawn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dyrannu £1 filiwn y flwyddyn i bob awdurdod lleol i benodi hyrwyddwr o blaid pobl hŷn a fydd yn gweithio i ddatblygu'r mathau hynny o bolisïau sydd o blaid pobl hŷn yn yr awdurdod lleol. Fel y dywedwch chi yn gywir ddigon, Sefydliad Iechyd y Byd sy'n diffinio sut olwg sydd ar gymuned sydd o blaid pobl hŷn. Mae gennym ni 10 sydd wedi cael eu cydnabod yng Nghymru hyd yn hyn, ac rwy'n eithaf hyderus, o ystyried y sgyrsiau rydyn ni wedi bod yn eu cael â'r 12 awdurdod lleol sy'n weddill, y bydd pob un o'n 22 awdurdod lleol yn cael eu cydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd fel cymunedau sydd o blaid pobl hŷn erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Rwyf eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn parhau i ariannu'r hyrwyddwyr o blaid pobl hŷn o fewn awdurdodau lleol, a bydd hynny, gobeithio, yn cefnogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Yr elfen bwysig o'r gwaith maen nhw'n ei wneud yw ystyried popeth y mae awdurdod lleol yn ei wneud trwy lygaid pobl sy'n mynd yn hŷn a sut maen nhw'n gallu reoli eu hunain o amgylch eu cymunedau wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, ac yn gallu gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

16:30

Mae elusen Hourglass, sydd wedi ymrwymo'n arbennig i roi terfyn ar gam-drin pobl hŷn, wedi rhybuddio bod 2.6 miliwn o bobl hŷn wedi colli arian oherwydd camdriniaeth yn y DU, gyda rhagamcanion yn dangos y gallai dros 1.5 miliwn fod yn ddioddefwyr sydd wedi goroesi camdriniaeth bob blwyddyn erbyn 2030, ac mae'n cael ei ddisgrifio gan Hourglass fel yr argyfwng diogelu sy'n cael ei dangydnabod fwyaf yn ein hoes ni. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar hyn, yn Uwchgynhadledd Safer Ageing UK 2025 yfory ac fel arall?

Er i gynllun gweithredu cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 i atal cam-drin pobl hŷn amlinellu'n benodol fod angen gwella hyfforddiant dementia ar gyfer staff—rhywbeth rydych chi eisoes wedi cyfeirio ato—mae arolwg profiad bywyd 2025 Cymdeithas Alzheimer's Cymru wedi canfod bod hyn yn dal i gael effaith negyddol ar y rhai sy'n cael neu sydd wedi cael gofal proffesiynol. Pa gamau ydych chi wedi'u cymryd i ddiwallu'r angen brys am hyfforddiant dementia o ansawdd uchel ar gyfer pob aelod o staff gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gafodd ei nodi gan Gymdeithas Alzheimer's Cymru y mis hwn, ac i fonitro canlyniadau hyn?

Yn olaf, bob dydd—

Diolch, Mark Isherwood, am y cwestiynau hynny. Fel y dywedais i yn fy natganiad, rwy'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar y ffrwd waith anghenion pobl hŷn, sy'n gweithio i wella asesiadau risg i bobl hŷn a'r ymgyrch Byw Heb Ofn. Ac er bod honno'n canolbwyntio ar gam-drin pobl hŷn yn rhywiol, y darn nesaf o waith y bydd yn ei wneud yw ymgyrch sy'n canolbwyntio ar gam-drin pobl hŷn yn ariannol. Felly, mae hwnnw'n ddarn o waith sydd wedi'i gynllunio, oherwydd rydyn ni'n cydnabod—ac rwyf wedi cwrdd â grŵp o bobl hŷn sydd wedi dioddef cam-drin ariannol, ac fe wnes i gwrdd â nhw gyda'r cyn-gomisiynydd pobl hŷn—y cywilydd a'r embaras y gwnaethon nhw eu teimlo oherwydd eu bod nhw wedi bod yn destun cam-drin ariannol, oherwydd doedden nhw ddim yn teimlo bod hynny'n rhywbeth a fyddai byth yn digwydd iddyn nhw. Yn eithaf aml, mae'n digwydd iddyn nhw o fewn eu teuluoedd a dydyn nhw ddim eisiau dweud wrth unrhyw un am hynny. Yr elfen arall o gam-drin ariannol, wrth gwrs, yw eu bod yn agored iawn i sgamiau. Rydyn ni'n gwybod bod hwnnw'n faes allweddol y mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef ac mae hynny'n rhywbeth sy'n rhan o'r gwaith rwyf yn gweithio arno gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt.

Fe soniais i am y mater o allgáu digidol mewn ymateb i'r cwestiynau a godwyd gan James Evans. Rwy'n ymwybodol bod y comisiynydd pobl hŷn, fel y dywedais, wedi cyhoeddi adroddiad ar hynny ac mae'n rhan fawr o'r ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ein bod ni'n ymdrin ag allgáu digidol ar draws y boblogaeth, ond gan ganolbwyntio’n benodol iawn ar bobl hŷn. Maen nhw'n wynebu heriau gwahanol iawn o ran allgáu digidol am y rhesymau yr esboniais i yn fy ateb i James Evans.

Unwaith eto, o ran hyfforddiant ar gyfer dementia, dim ond i ailadrodd bod gennym ni fframwaith sefydlu Cymru gyfan a chymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol mewn lleoliadau oedolion, sy'n cynnwys dementia, ac mae'n ofynnol i bob gweithiwr newydd gwblhau'r hyfforddiant hwnnw, gydag adran 3 ar iechyd a lles yn ymdrin â materion fel dangosyddion ac arwyddion dementia a sut y gall hynny effeithio ar unigolion. Mae hyfforddiant rhanbarthol ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol gael cyfleoedd i ddysgu a datblygu ym maes dementia, yn ogystal â rhaglen Cymru gyfan, a sesiynau newydd Gofalwn.cymru sy'n rhoi cyflwyniad i ddementia. Maen nhw'n cael eu cynnal unwaith y mis, fe wnaethon nhw ddechrau ym mis Medi, a'u nod yw helpu pobl i ddeall beth yw dementia, sut mae'r symptomau hynny'n codi, ac yn bwysicaf oll, sut y gallan nhw gefnogi person i fyw'n dda gyda dementia. Felly, mae hynny'n digwydd eisoes, ac mae hynny'n cael ei wneud eisoes, ac yn amlwg byddwn ni'n parhau i fonitro pa mor effeithiol yw hynny, ond mae'n rhywbeth sy'n cael ei gyflwyno ar draws ein gweithlu gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae camdriniaeth o bobl hŷn yn parhau i fod yn un o'r mathau o gamdriniaeth sydd efallai'r fwyaf cuddiedig yn ein cymdeithas ni, ac mae'n rhaid i ni barhau i wneud mwy i'w hatal ac ymateb yn fwy effeithiol pan fydd yn digwydd.

Mae pwysigrwydd rhoi sylw cyfartal i atal yn ogystal ag amddiffyn yn glir, ac mae'n rhaid i weithio aml-asiantaeth fod yn effeithiol er mwyn cyflawni hynny. Gall eiriolaeth annibynnol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sydd mewn perygl, neu'n destun ymchwiliadau diogelu, gan helpu pobl hŷn i sicrhau bod eu llais nhw'n cael ei glywed. Rŷn ni wedi clywed, onid ŷn ni, am bwysigrwydd hynny dros yr wythnos ddiwethaf—sicrhau bod llais pobl yn cael ei glywed yn y sefyllfaoedd yma.

Felly, mae angen ymwybyddiaeth well, rydw i’n meddwl, o wasanaethau eiriolaeth ymhlith pobl hŷn a gweithwyr proffesiynol er mwyn helpu i sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei hangen. Felly, pa waith sy’n cael ei wneud i gynyddu mynediad at eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn sydd mewn perygl, neu sy’n destun ymchwiliadau diogelu? Diolch.

16:35

Diolch, Sioned. Unwaith eto, rwy'n cytuno â phopeth yr ydych chi'n ei ddweud. Un o'r pethau a wnaeth fy nharo i fi pan gymerais i'r rôl hon a darganfod bod pobl hŷn yn y portffolio, a phan ddechreuais i ymdrin â'r comisiynydd pobl hŷn a chwrdd â phobl hŷn, oedd, mewn gwirionedd, mai hwn oedd y tro cyntaf i mi iawn gydnabod sut mae gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio'n niweidiol ar fywydau pobl hŷn. Nid gwahaniaethu ar sail oedran amlwg o reidrwydd ydyw; mae'n fath o—. Rydym ni wedi wynebu hyn, onid ydym ni, fel menywod? Dyma'r rhywiaeth yr ydym ni, mewn ffordd, yn byw gyda hi; mae pobl hŷn yn byw gyda gwahaniaethu ar sail oedran.

Mae'n cymryd Llywodraeth i ymyrryd ac i amlygu i gymdeithas fod hyn yn digwydd, a dyma sut mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef. Dyna beth yw'r cynllun gweithredu mewn gwirionedd. Mae'n canolbwyntio ar wahaniaethu ar sail oedran. Mae'n canolbwyntio ar sut yr ydym ni'n ymdrin â gwahaniaethu ar sail oedran, sut yr ydym ni'n sicrhau bod gan bobl urddas ym mhopeth y maen nhw'n ei wneud, a bod ein polisïau a'n gweithdrefnau, ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud, yn ystyried sut mae pobl hŷn yn gweld hynny, a sut mae'n cael ei weld trwy lygaid pobl hŷn. Mae hynny mor bwysig pan fyddwn ni'n dod at atal a diogelu hefyd.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am eiriolaeth annibynnol. Yn sicr, un o ganlyniadau'r cynllun yn ei flwyddyn gyntaf oedd datblygu cod ymarfer ar gyfer Llais, ac mae hynny ar fin cael ei gyhoeddi nawr. Mae hynny'n ymwneud â mynediad, mae'n ymwneud â chymryd rhan, mae'n ymwneud â rhoi llais i'r bobl hynny. Rydych chi'n hollol gywir: mae'n anodd iawn i bobl eirioli drostyn nhw eu hunain. Hyd yn oed pan nad oes gennych chi'r holl rwystrau eraill yn eu lle, mae'n anodd eirioli drosoch chi eich hun. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cod ymarfer ar gyfer Llais yn helpu pobl i allu manteisio ar y cymorth a'r gwasanaethau eiriolaeth sydd eu hangen arnyn nhw, oherwydd gall Llais ddangos y cyfeiriad cywir iddyn nhw.

Eich pwynt olaf oedd—. Wel, dyna oedd eich pwynt olaf, mewn gwirionedd, ond roedd pwynt arall wnaethoch chi am weithio amlasiantaeth. Rwy'n cymryd rhan fawr yng ngwaith VAWDASV sef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar gam-drin ariannol yn ymwneud â sut yr ydym ni'n asesu'r peryglon i'n poblogaeth hŷn yn gywir, ac ni all hynny gael ei wneud gan un asiantaeth yn unig. Bydd pobl hŷn yn ymdrin â llu o asiantaethau trwy gydol eu hoes, yn enwedig yn eu blynyddoedd diweddarach, p'un ai iechyd ydyw, p'un ai gofal cymdeithasol ydyw, p'un ai'r awdurdod lleol ydyw, p'un a yw'n beth bynnag y gallai fod. Mae'n rhaid i bob un o'r asiantaethau hynny ddod at ei gilydd a gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod risgiau'n cael eu nodi'n gywir a'u cyfarwyddo yn y ffordd gywir. Dyna beth yw nod y cynllun.

6. Dadl: Cofio

Eitem 6 yw'r ddadl ynghylch cofio. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wneud y cynnig. Ken Skates.

Cynnig NDM9036 Jane Hutt, Paul Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru, ac eleni rydym yn coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) a Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ).

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob cwr o Gymru sy'n gwasanaethu nawr neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr ledled Cymru.

4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel, gan nodi'r ansicrwydd yn y byd sydd ohoni.

5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys sifiliaid a gafodd eu hanafu a'u lladd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r cynnig hwn yn gysylltiedig nid yn unig â'n hanes, ond â'n hunaniaeth, ein gwerthoedd a'n dyfodol cyffredin. Roedd hwn yn gynnig ar y cyd ar draws y grwpiau pleidiau ymlaen llaw. Mae'n adlewyrchu dadleuon blaenorol mewn maes lle mae consensws cryf.

Mae'n galw arnom ni i gydnabod pwysigrwydd parhaol y cyfnod cofio i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, ac i anrhydeddu gwasanaeth ac aberth y rhai sydd wedi gwisgo lifrai ein lluoedd arfog. Mae'n ein gwahodd i gydnabod gwaith diflino y rhai sy'n cefnogi ein cyn-filwyr, i ailddatgan ein hymrwymiad i heddwch, ac i gofio pawb sydd wedi colli eu bywyd mewn rhyfel, gan gynnwys sifiliaid, y mae eu straeon yn aml yn cael eu hanghofio.

Mae eleni yn nodi wyth deg mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ—dwy garreg filltir a nododd ddiwedd y gwrthdaro mwyaf dinistriol yn hanes y ddynoliaeth. I lawer, nid troednodiadau hanesyddol yn unig yw'r penblwyddi hyn; maen nhw'n bersonol ac maen nhw'n atgofion byw. Yng Nghymru, mae'r cyfnod cofio wedi'i blethu i wead ein cymunedau, o'r cofebion yn y pentrefi lleiaf i'r gadwraeth genedlaethol, pan oedd y Prif Weinidog a chynrychiolwyr grwpiau'r pleidiau yn bresennol yn y senotaff ddydd Sul. Rydym ni'n ymgynnull bob mis Tachwedd nid i ogoneddu rhyfel, ond i anrhydeddu dewrder, aberth a gobaith am heddwch. Rydym ni'n gwisgo ein pabïau nid fel addurn, ond fel addewid y byddwn ni'n cofio, ac rydym ni'n cofio.

Rydym ni'n cofio'r dynion ifanc o bob cymuned a wnaeth ymladd yn jyngl Burma ac ar draethau Normandi. Rydym ni'n cofio'r menywod a wasanaethodd yn y Gwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol, Awyrlu Cynorthwyol y Menywod a Gwasanaeth Llynges Frenhinol y Menywod, a wnaeth gynnal ein gwlad tra bod eu hanwyliaid i ffwrdd. Rydym ni'n cofio'r masnachlongwyr o borthladdoedd ledled Cymru a heriodd confoiau'r Iwerydd, a Bechgyn Bevin, a oedd yn cloddio'r glo a wnaeth bweru ymdrech y rhyfel. Rydym ni'n cofio faciwîs, y nyrsys, y torwyr codau, y sifiliaid di-ri a ddioddefodd y Blitz, dognu a cholled. 

Rydym ni hefyd yn cofio amrywiaeth y rhai a wasanaethodd. Cafodd hynny ei adlewyrchu yn nigwyddiad Diwrnod VE y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Senedd, ac, yn fwy diweddar, roedden ni'n falch o barhau â'n cefnogaeth i'r gwasanaeth cofio pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, y gwnaeth fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol ei fynychu. A mynychodd fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ŵyl goffa wych y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghasnewydd yn y ganolfan gynadledda ryngwladol. Yn honno, fe wnaethom ni gofio 25 mlynedd ers diwedd y gwaharddiad ar bobl hoyw yn y lluoedd arfog, a gafodd ei gydnabood, wrth gwrs, yn gynharach yn yr wythnos gan Ei Fawrhydi'r Brenin.

Roedd Diwrnod VE, Buddugoliaeth yn Ewrop, yn foment o ryddhad a dathlu, ond roedd hefyd yn foment o bwyso a mesur. Roedd cost buddugoliaeth yn enfawr. Daeth Diwrnod VJ, Buddugoliaeth dros Japan, fisoedd yn ddiweddarach ar ôl rhywfaint o'r ymladd mwyaf creulon yn y Môr Tawel ac erchyllterau Hiroshima a Nagasaki. I lawer o deuluoedd Cymru, roedd Diwrnod VJ yn nodi dychwelyd anwyliaid a oedd wedi bod yn garcharorion rhyfel neu a oedd wedi gwasanaethu o dan amodau amhosibl eu dychmygu. I eraill, roedd yn nodi dechrau galar na fyddai byth yn gwella'n llwyr. Mae'r pen-blwyddi hyn yn ein hatgoffa ni fod heddwch yn werthfawr, bod rhyddid yn fregus, ac na ddylai'r aberth a gafodd ei wneud gan genedlaethau blaenorol fyth cael ei gymryd yn ganiataol.

Ond, wrth gwrs, nid yw'r cofio yn ymwneud â'r gorffennol yn unig, mae hefyd yn ymwneud â'r presennol a'r bobl sy'n parhau i wasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu mewn gwrthdaro a gweithrediadau ers hynny. Heddiw, mae miloedd o unigolion o Gymru yn gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Maen nhw'n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, y fyddin Brydeinig, yr Awyrlu Brenhinol a'r lluoedd arfog wrth gefn. Mae tua 7 y cant o luoedd arfog y DU yn dod o Gymru, o boblogaeth o 5 y cant. Maen nhw'n gwasanaethu mewn cyrchoedd cadw heddwch, gweithrediadau dyngarol ac i amddiffyn ein cenedl a'n cynghreiriaid. Maen nhw'n hyfforddi, maen nhw'n cael eu lleoli, maen nhw'n aberthu, ac maen nhw'n gwneud hynny gyda phroffesiynoldeb, gyda dewrder ac urddas tawel. Rydym ni'n ddyledus iddyn nhw, nid yn unig mewn geiriau, ond mewn gweithredoedd, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod ganddyn nhw'r gefnogaeth gywir sydd ei hangen arnyn nhw wrth wasanaethu ac ar ôl hynny. Mae'n golygu cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu teuluoedd milwrol: symud yn aml, bod ar wahân, baich emosiynol cael eich lleoli, a sut mae gan iechyd, tai, addysg a gwasanaethau eraill yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw ran i'w chwarae yn hynny. Mae'n golygu sicrhau nad yw cefnogaeth yn gorffen pan fydd gwasanaethu'n dod i ben.

Yng Nghymru, rydym ni'n falch o'n hymrwymiad i gyfamod y lluoedd arfog. Rydym ni'n falch o'r bartneriaeth rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac elusennau sy'n gweithio i gynnal yr addewid hwnnw. Mae'r ymrwymiad hwnnw yn un yr ydym ni'n disgwyl ei weld yn ehangu. Rydym ni eto i weld y manylion, ond rydym ni'n disgwyl gweld Bil nesaf y lluoedd arfog yn ymestyn y cyfamod dyletswydd gyfreithiol o sylw dyladwy yn ehangach ar draws y DU a Llywodraethau datganoledig. Rydym ni bob amser yn pwyso i wella ein cefnogaeth a'n darpariaeth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog, ac mae ein swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, wedi'u hariannu gan y Llywodraeth hon, yn codi ymwybyddiaeth o gymuned gyfan y lluoedd arfog ledled Cymru ac yn eu helpu nhw i gael gafael ar gymorth.

Rwy'n falch iawn o groesawu cyhoeddi strategaeth newydd y DU i gyn-filwyr, ac rwy'n croesawu'r tair thema newydd: sut rydym ni'n dathlu ac yn cofio gwasanaeth yn y lluoedd arfog, megis trwy ein cefnogaeth i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog a'n cynllun nofio am ddim ar gyfer y lluoedd arfog; sut rydym ni'n cydnabod y potensial mewn cyn-filwyr i gyfrannu—rydym ni eisiau i bobl, pan fyddan nhw'n gorffen eu gwasanaeth, ddod â'u sgiliau i Gymru a'u defnyddio, ac mae ein digwyddiadau cyflogaeth yn Wrecsam a Chaerdydd yn rhan o hynny. Rydym ni hefyd yn cydnabod y bydd angen cymorth ar rai, a dyna pam yr ydym ni'n parhau i ariannu gwasanaethau fel GIG Cymru i Gyn-filwyr. 

Mae'n bleser gennyf i gydnabod eiriolaeth Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru a'r ddealltwriaeth sydd ganddo. Rydym ni'n croesawu Ymgyrch NOVA yn cysylltu â Chymru, a byddwn ni'n ymgysylltu i helpu i'w gwneud yn llwyddiant. Byddwn ni'n ystyried ei alwadau am adolygiad GIG Cymru i Gyn-filwyr ar fentoriaid grwpiau cymheiriaid benywaidd ac ar alluogi achosion cymhleth, pontio didrafferth o amddiffyn i wasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a phartneriaid eraill i alluogi swyddi da i bobl y lluoedd yng Nghymru, a byddwn ni hefyd yn parhau â'n gwaith gyda Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin i sicrhau nad yw teuluoedd y lluoedd a'r aberth y maen nhw'n ei wneud yn mynd yn anghof ac nad ydyn nhw byth o dan anfantais.

Rhaid i ni hefyd gydnabod bod mwy i'w wneud, fodd bynnag. Nid yw heddwch yn oddefol, mae'n weithredol. Mae'n gofyn am ddewrder, cyfaddawdu ac ymrwymiad. Mae'n gofyn i ni wrando, dysgu ac arwain. Ac mae'n dechrau gyda chofio.

Yn olaf, mae'r cynnig hwn yn galw arnom ni i gofio pawb sydd wedi colli'u bywydau mewn rhyfel a gwrthdaro, gan gynnwys colledion sifil. Ac mae hwn yn bwynt hanfodol. Mae rhyfel nid yn unig yn hawlio milwyr, mae'n hawlio sifiliaid. Mae dynion, menywod a phlant yn cael eu dal yn y croestanio, wedi'u targedu gan fomiau neu wedi'u dadleoli gan drais. Mae'n hawlio trwy newyn, clefyd a thrawma. Mae'n gadael creithiau sy'n para cenedlaethau. Felly wrth i ni gofio, mae'n rhaid i ni gynnwys y lleisiau hyn. Rhaid i ni gofio'r Holocost, yr hil-laddiadau yn Rwanda a Bosnia, bomio Coventry a Dresden, y niwed sifil yn Gaza a De Sudan. Rhaid i ni gofio'r mamau na wnaethon nhw byth gweld eu plant yn tyfu, y plant na chawsant erioed brofiad o heddwch, a'r cymunedau wedi'u rhwygo gan drais.

Rhaid i goffa fod yn gynhwysol, rhaid iddo fod yn onest ac mae'n rhaid iddo fod yn alwad i weithredu. Felly, Dirprwy Lywydd, Aelodau o'r Senedd, rwy'n eich annog chi i gefnogi'r cynnig hwn nid fel arwydd symbolaidd, ond fel datganiad o bwy ydym ni. Rydym ni'n genedl sy'n cofio, sy'n anrhydeddu gwasanaeth, sy'n cefnogi ei chyn-filwyr ac sy'n ceisio heddwch. Rydym ni'n galaru dros bawb sydd wedi dioddef mewn rhyfel. Gadewch i ni wneud y Diwrnod Cadoediad hwn yn un o falchder a diben newydd. Gadewch i ni i gyd ailymrwymo i gyfamod y lluoedd arfog ac i'r sefydliadau sy'n ei gynnal. Gadewch i ni fod yn llais dros heddwch mewn byd cythryblus. Diolch o galon.

16:45

Hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n adlewyrchu eiliad yn ein bywyd cenedlaethol pan fyddwn ni'n cymryd seibiant yn dawel, ar y cyd a gyda pharch i gofio pawb a gollodd eu bywydau fel ein bod ni'n gallu mwynhau'r rhyddid sydd gennym ni heddiw. Bob blwyddyn, mae'r cyfnod cofio yn rhoi lle i ni anrhydeddu'r rhai a wasanaethodd, y rhai a ddioddefodd a'r rhai na ddaeth adref byth. Eleni, rydym ni'n nodi wyth deg mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. Rydym ni'n myfyrio unwaith eto ar y genhedlaeth anhygoel a wnaeth, yn ystod yr amseroedd tywyllaf, sefyll yn gadarn i amddiffyn ein hynysoedd. Daeth eu dewrder â'r heddwch yr ydym ni'n aml yn ei gymryd yn ganiataol. Fe wnaeth eu haberth lunio'r byd yr ydym ni'n ei adnabod heddiw.

I lawer ohonom ni, mae cofio yn bersonol. Gwasanaethodd fy nhad yn y fyddin ac fe wnaeth fy nhad-cu wasanaethu o'i flaen. Dioddefodd un yr arswyd o gael ei daro â thorpidos ddwywaith pan oedd ar y môr a goroesodd i adrodd y stori. Chwaraeodd y llall ei ran yn y broses o ryddhau Ewrop. Mae eu straeon yn cael eu cynnal yn fy nheulu i, fel bod straeon tebyg yn cael eu cynnal gan deuluoedd ar draws Cymru. Maen nhw'n ein hatgoffa ni fod cost rhyfel yn cael ei mesur nid yn unig mewn brwydrau, ond mewn tor bywydau, dyfodol wedi'i newid a theuluoedd wedi'u marcio am byth gan golled.

Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni hefyd yn cofio'r rhai a wasanaethodd mewn gwrthdrawiadau diweddarach. Rydym ni'n cofio'r rhai a wasanaethodd yn y gwrthdaro yn Ynysoedd y Falkland, lle cafodd dynion ifanc o Gymru eu hunain filoedd o filltiroedd i ffwrdd o gartref ar ochr bellaf y byd yn gwrthwynebu gorthrwm. Cefais i'r anrhydedd, ynghyd ag aelodau eraill o'r grŵp trawsbleidiol yn y Senedd, i osod torch wrth y gofeb yn Ynysoedd y Falkland, rhywbeth na fyddaf i byth yn ei anghofio. Rydym ni'n cofio'r Balcanau, gan gynnwys Kosovo, lle helpodd personél Cymru i ddod â sefydlogrwydd a thosturi i gymunedau a oedd wedi'u rhwygo gan drais. Rydym ni'n cofio gwrthdaro mwy diweddar yn Irac ac Affganistan, gwrthdaro a luniodd cenhedlaeth o filwyr a milwyr o Gymru. Rhoddodd llawer eu bywydau, dychwelodd llawer gyda chlwyfau, gweledig ac anweledig, ac rydym ni'n eu cadw nhw yn ein meddyliau heddiw.

Dirprwy Lywydd, mae Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn amddiffyn y Deyrnas Unedig ers amser maith. O'r gogledd i'r de, mae ein presenoldeb milwrol yn rhan annatod o'n cadernid cenedlaethol. Yn y de, mae gennym HMS Cambria. Mae'n dyst i ymrwymiad morwyr wrth gefn y llynges, dynion a menywod sy'n cydbwyso cymhlethdodau bywyd sifil â'r cyfrifoldebau uchaf o wasanaeth, a HMS Cambria yw cartref y Llynges Frenhinol yng Nghymru.

Yn fy etholaeth i fy hun yn Aberhonddu, mae Ysgol Frwydr y Troedfilwyr yn paratoi milwyr ar gyfer gwirionedd llym gwrthdaro modern. Mae ei hyfforddwyr, ei staff a'i hyfforddeion yn dangos proffesiynoldeb o'r radd flaenaf. Ochr yn ochr â nhw, mae'r 160fed Brigâd (Cymru) yn angori arweinyddiaeth y fyddin a'i pharodrwydd yma yng Nghymru. Yn y gogledd, mae RAF Fali yn parhau â'i waith hanfodol wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beilotiaid jetiau cyflym, gan gefnogi teithiau chwilio ac achub sydd wedi achub bywydau di-ri. Mae'r ganolfan yn atgoffâd o'r cysylltiad agos rhwng ein lluoedd arfog a'r cymunedau sy'n eu croesawu ac yn cael eu galw'n gartref.

Mae'r sefydliadau hyn nid yn unig yn hanfodol i'n diogelwch cenedlaethol—maen nhw'n rhan o wead cymdeithasol Cymru, gan ddarparu bywoliaethau, balchder a diben yn y cymunedau sydd wedi cefnogi ein lluoedd arfog ers cenedlaethau. Fel Gweinidog yr wrthblaid ar gyfer y lluoedd arfog a chyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, rwyf i bob amser yn cael fy nghyffwrdd gan gryfder urddas y rhai sy'n gwasanaethu, a chan dosturi y sefydliadau a'r gwirfoddolwyr sy'n eu cefnogi. Mae eu gwaith—tawel, amyneddgar ac yn aml heb ei weld—yn sicrhau nad oes unrhyw un sydd wedi gwisgo'r lifrai yn cael ei adael i wynebu ei frwydrau ar ei ben ei hun.

Mewn byd sydd wedi'i nodi gan ansicrwydd, mae'r alwad yn y cynnig hwn i chwilio am atebion heddychlon yn amserol ac yn angenrheidiol. Rhaid i heddwch bob amser fod yn uchelgais i ni, ond mae'n rhaid i ni gydnabod gyda gonestrwydd a diolchgarwch bod heddwch yn aml yn cael ei ddiogelu gan y rhai dewr sy'n barod i'w amddiffyn. Ac felly rydym ni'n sefyll yn y cyfnod cofio hwn. Rydym ni’n cofio pawb a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro, y rhai a syrthiodd ar y tir, y rhai a gafodd eu colli ar y môr a'r rhai na wnaethon nhw byth ddychwelyd o'r awyr.

Rydym ni'n cofio'r sifiliaid a gollodd eu bywydau, y teuluoedd sy'n galaru a'r cymunedau a gafodd eu llunio gan eu colled. Nid gweithred o edrych yn ôl yn unig yw cofio. Mae'n addewid, difrifol a pharhaol, i anrhydeddu cofio'r rhai sydd wedi mynd, i gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu heddiw, ac i sicrhau na fydd straeon milwyr a byddinwragedd a'u haberth ledled Cymru i'n hamddiffyn ni, ac i amddiffyn yr ynysoedd hyn, byth yn mynd yn angof.

16:50

Wrth i bob blwyddyn fynd heibio, mae ias sydd yn fwyfwy ingol rhywsut yn perthyn i Ddiwrnod y Cofio. Ydym, rydym ni'n cadw yn ein meddyliau ni aberth pob un mewn rhyfeloedd byd, ond rydyn ni'n effro hefyd i fethiant dros ddegawdau maith i gadw heddwch a'r pris uchel sy'n parhau i gael ei dalu am hynny hyd heddiw. 

Rydyn ni'n tystio heddiw, mewn ffordd, i wacter y geiriau a bortreadodd y rhyfel byd cyntaf fel rhyfel a fyddai'n dod â diwedd i bob rhyfel yn Sudan, yn Wcráin, yn Gaza, i enwi dim ond tri rhyfel neu hil-laddiad. Mae erchyllterau gormes a thrais yn dod â phoen a dioddefaint na allwn ni ei amgyffred i filiynau o bobl. A gadewch i ni ddweud hyn eto heddiw efo un llais: nad ydy arfogi gormeswr yn gydnaws â galw am gadoediad, nad ydy o'n gydnaws byth â galw am heddwch. 

Yn ôl ffigurau diweddaraf y Cenhedloedd Unedig, mae 117 miliwn o bobl wedi gorfod ffoi eu cartrefi ledled y byd yn sgil erledigaeth, rhyfel, trais neu droseddau yn erbyn hawliau dynol. Ymysg y rhain, mae 42 miliwn o ffoaduriaid. Efo poblogaeth y byd ar gynnydd, mae'n planed ni yn teimlo yn llai a llai o hyd wrth i bobl symud o un wlad i'r llall, neu hyd yn oed yn croesi cyfandiroedd, i geisio lloches a heddwch.

Gadewch inni gadw rhai gwerthoedd sylfaenol mewn cof heddiw, felly—gwerthoedd o heddwch, o ofal am ein cyd-ddyn, ac o dosturi. Gwlad o groeso, gwlad o garedigrwydd a gwlad o gefnogi eraill fu Cymru erioed, a dwi am weld hynny yn parhau, nid yn unig wrth anrhydeddu meirw y gorffennol a chynnig noddfa i'r anghenus, ond drwy addewid i gyn-filwyr heddiw hefyd na fyddan hwythau yn cael eu hanghofio chwaith, pa un ai yn fynediad i wasanaeth iechyd, gofal arbenigol yn sgil trawma, neu'r hawl i lety sefydlog a safonol. Mae dyletswydd arnom ni i gyd fel gwleidyddion i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cymunedau. 

Gadewch inni felly atgyfnerthu heddiw ein hymrwymiad i greu byd sydd yn fwy diogel, lle mae geiriau yn gallu cyflawni mwy nag arfau, a lle bod pob cyd-ddyn ym mhob cenedl yn gallu byw heb ofn, a lle mae cofio, fel rydym ni yn ei wneud ar y diwrnod yma'n flynyddol, am golledion a phoen rhyfel yn ein dylanwadu ni yn ddyddiol i fynnu heddwch.

16:55

Eleni, o ganlyniad i gamleoli'r cyntaf, prynais nid un ond dau babi. Mae'n debyg eich bod chi'n tybio pam rydw i'n rhannu stori mor gyffredin â chi ynghylch mater mor bwysig. Wel, prynais i fy mhabi cyntaf gan ferch fach iawn, tua saith mlwydd oed yn ôl pob tebyg, gyda chefnogaeth ei mam, a phrynais i fy ail gan ŵr bonheddig llawer agosach at 70 oed na saith oed, gan arddangos ei feret a'i fedalau'n falch. Roedd y bwlch rhwng y ddau o ran oedran a phrofiad yn enfawr, ond roedd ymrwymiad y ddau yn gyfartal iawn, gan fy llenwi â balchder a llawenydd bod, o ran y mater penodol hwn, y cenedlaethau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn dod at ei gilydd i wneud eu rhan a'n helpu ni i gofio ac i ddweud 'diolch' o galon i bawb a gollodd eu bywydau oherwydd rhyfel a gwrthdaro, fel y gallwn ni fwynhau'r rhyddid sydd gennym ni heddiw.

Ddydd Sul, roeddwn yn bresennol yn y prif wasanaeth coffa yn fy etholaeth i yn Wrecsam unwaith eto, lle cefais i fy nharo nid yn unig gan y nifer fawr o bobl a oedd yn bresennol, ond gan yr oedrannau a gafodd eu cynrychioli: yr hen, y canol oed, yr ifanc, y plant, gan gynnwys y cadetiaid, i gyd yn dod at ei gilydd gyda diben cyffredin.

Ar gyfer achlysur mor drist, roedd yn galonogol i'w weld. Wrth gwrs, mae Wrecsam wedi bod yn dref filwrol, erbyn hyn yn ddinas, ers rhyw 140 mlynedd, ac roedd cynrychiolaeth dda gan y fyddin ddydd Sul. Ond roedd yna hefyd lawer o'r ardal leol sydd â dim ond ychydig o gysylltiadau uniongyrchol, os unrhyw rai, â'r fyddin, y Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol a gwasanaethau eraill, ond a oedd yn dal i ddymuno bod yn bresennol a bod yn rhan o'r cynulliad blynyddol pwysig iawn. Gwnaeth eleni, wrth gwrs, nodi wyth deg mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn gwasanaethau Diwrnod y Cofio a Diwrnod y Cadoediad yn fy etholaeth fy hun a thu hwnt, p'un ai'n wyneb yn wyneb neu, efallai oherwydd iechyd gwael neu oedran, o'u cartrefi eu hunain o flaen eu setiau teledu. Rwyf i eisiau diolch hefyd i'r nifer o unigolion, gwirfoddolwyr ac elusennau sy'n cynnig cefnogaeth mor wych i'n cyn-filwyr.

Rwyf i hefyd eisiau diolch i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i'n cyn-filwyr, gan gynnwys GIG Cymru i Gyn-filwyr a swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, efallai eu bod yn fach o ran niferoedd, ond maen nhw'n gwneud gwaith mor werthfawr ledled ein gwlad. Rwyf i hefyd eisiau diolch i Lywodraeth y DU am weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru ar gefnogi cyn-filwyr drwy Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Felly, diolch Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod wedi gallu gwneud cyfraniad bach i'r ddadl heddiw. I gloi, hoffwn i ddweud yn syml, i bawb sydd wedi rhoi cymaint i ni, y byddwn ni a minnau yn eich cofio chi.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwy'n diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei gyflwyno. Fel Aelod o'r Senedd dros Fynwy, mae'n anrhydedd mawr i mi bob blwyddyn i fod yn bresennol yn y gwasanaethau coffa ledled y sir. Eleni cefais i'r fraint o ymuno â digwyddiadau coffa ym Mrynbuga a fy mhentref fy hun, Porthsgiwed, lle gwnes i osod torchau mewn teyrnged i'r rhai sydd wedi gwneud yr aberth eithaf hwnnw. Er mai dim ond arwydd bach o gofio yw'r rhain, mae eiliadau fel hyn yn dod yn fwy hanfodol bob blwyddyn. Maen nhw'n rhoi'r lle i ni fyfyrio, gwrando ac anrhydeddu'r aberth a gafodd ei wneud dros y rhyddid yr ydym ni'n ei fwynhau, ac yn aml yn eu cymryd yn ganiataol, heddiw. Rydym ni'n cofio'r rhai sydd wedi'u colli, nid yn unig ar adeg hon o'r flwyddyn, ond bob amser. Mae eu gwaddol yn byw yn ein cymunedau, ein gwerthoedd, ein hymrwymiad i heddwch.

Mae Diwrnod y Cofio wedi cael ei blethu'n ddwfn i wead Cymru, wedi'i adlewyrchu mewn traddodiadau, gwasanaethau a digwyddiadau lleol sy'n dod â'n cymunedau at ei gilydd. Mae'r eiliadau hyn nid yn unig yn meithrin undod, ond yn bwysicach fyth, yn dyfnhau'n dealltwriaeth o'r aberth sy'n cael ei wneud yn enw heddwch a rhyddid. Yn y byd heddiw, mae dealltwriaeth ac undod yn werthoedd y mae'n rhaid i ni eu cadw'n agos, nid yn unig ar Ddiwrnod y Cofio, ond bob dydd. Mae cofio nid yn unig yn ymwneud ag anrhydeddu'r rhai a gafodd eu colli mewn rhyfeloedd yn y gorffennol, ond hefyd am gydnabod y gwrthdaro sy'n digwydd ledled y byd heddiw. Rhaid i'n diolchgarwch ymestyn i'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, gan weithio'n ddiflino i ddod â heddwch a sefydlogrwydd i ranbarthau mewn argyfwng. 

Mae ein lluoedd arfog yn chwarae rhan hanfodol, nid yn unig dramor, ond yma gartref. Rydym ni wedi gweld eu hymrwymiad diwyro yn ystod cyfnodau o lifogydd, argyfyngau cenedlaethol a thrwy gydol y pandemig, bob amser yn barod i gefnogi ac amddiffyn ein cymunedau pan ofynnir iddyn nhw wneud hynny.

Rhaid diolch i deuluoedd cyn-filwyr, ac rwy'n gwybod yn dda fel tad cyn-filwr a gafodd ei anafu wrth wasanaethu am y niwed y gall ei achosi i deuluoedd. Felly, diolch i'r teuluoedd hynny am bopeth maen nhw'n ei wneud i gefnogi ein cyn-filwyr. Diolch i'r elusennau, sefydliadau ac unigolion niferus sy'n cefnogi personél ein lluoedd arfog yn ddiflino. Mae eu hymroddiad yn gyson a'u heffaith yn anfesuradwy. 

Mae ein cyn-filwyr heddiw yn wynebu gormod o broblemau wrth adael y lluoedd arfog, gan gynnwys digartrefedd a theimladau o unigedd yn aml. Mae'n annerbyniol bod unrhyw gyn-filwr yn wynebu caledi o'r fath ar ôl rhoi cymaint wrth wasanaethu Cymru a'r DU, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i sicrhau ein bod ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni i'w cefnogi nhw. Mae llawer sy'n gadael y lluoedd arfog yn gwneud hynny â baich o anafiadau corfforol cymhleth neu gyflyrau iechyd meddwl, sy'n adlewyrchu'r heriau enfawr y maen nhw wedi'u hwynebu wrth wasanaethu. Rhaid i'n GIG yng Nghymru fod wedi'i alluogi i roi’r gofal arbenigol sydd ei angen ar gyn-filwyr. Os nad ydyw, sut allwn ni ddisgwyl iddo roi'r gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu? Mae angen i ni weld mentrau fel mentoriaid cyfoedion parhaol ar draws ein byrddau iechyd, cam hanfodol i sicrhau cefnogaeth gyson hirdymor i'r rhai sydd wedi gwasanaethu. Yn anffodus, mae'r math hwn o barhad yn aml ar goll, ac mae'n bryd i ni newid hynny.

Wrth i mi ddechrau cloi, rwyf i eisiau diolch i weithredwyr bysiau a wnaeth gynnig hael i gyn-filwyr deithio am ddim yn ystod cyfnod y cofio eleni. Mae arwyddion fel hyn yn golygu llawer iawn, ac mae ein plaid ni'n credu y dylai'r gefnogaeth hon gael ei hymestyn yn barhaol ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn. Byddai'r gost yn gymedrol, ond byddai'r effaith yn ddwfn.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno dadl yfory, fel y gwyddoch chi, gan edrych ar hyn a rhai o'r ffyrdd amryfal eraill y gallwn ni gefnogi cymunedau'r lluoedd arfog hyd yn oed yn fwy. Rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau sy'n bresennol yma yn cymryd rhan yn honno yfory, fel y gallwn ni ddarparu newid a gwelliannau gweladwy yma yng Nghymru i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint i ni. Diolch.

17:00

Mae'n anrhydedd talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad, yn enwedig eleni, wrth i ni nodi wyth deg o flynyddoedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. Ond gyda'r rhyddhad hwnnw, daeth y buddugoliaethau hefyd ag anobaith dwfn miloedd o deuluoedd ledled Cymru a gafodd eu gadael i alaru dros anwyliaid a oedd wedi gwneud yr aberth eithaf.

Dros y penwythnos clywais gyn-filwr a wnaeth oroesi'r ail ryfel byd yn dweud ar y newyddion bod rhyfel yn wastraff ac yn drasiedi ofnadwy. Trasiedi sy'n anffodus yn parhau heddiw. Bydd gan bob un ohonom ni yn y Siambr hon berthnasau a aeth i ryfel. Cafodd fy hen dad-cu, Thomas Morris, ei ladd mewn brwydr ym Mesopotamia ym 1917. Dim ond 32 oed oedd ef. Ar ôl ei farwolaeth, treuliodd fy nhad-cu amser mewn cartref i blant amddifad. Roedd yn brofiad yr oedd prin yn siarad amdano, ond roedd ef hefyd yn ddioddefwr rhyfel.

Pan oeddwn yn y gwasanaeth coffa yn Nhreuddyn ddydd Sul, siaradais i â Morris. Roedd ef yn ffermwr o Fynydd yr Hôb, a rhannodd stori am sut y collodd teulu ffermio lleol bob un o'i dri mab mewn rhyfel. Roedd ef yn cario llun wedi'i fframio o dri cheffyl gwedd, pob un yn troi eu pennau ar y cyd. A dywedais y byddwn i'n dod ag ef i'r Senedd heddiw. Roeddwn dim ond eisiau rhannu hynny gyda chi. Dywedodd eu bod wedi troi eu pennau ar yr un eiliad ag y plygodd eu perchennog ei ben er cof am y rhai a gafodd eu colli. Roedd yn ddelwedd bwerus o golled a chofio ar y cyd.

Parhaodd Morris i siarad am anifeiliaid yn cael eu haberthu yn y rhyfel. Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, cafodd mwy na miliwn o geffylau eu cymryd oddi wrth sifiliaid ledled Prydain ar gyfer gwasanaeth milwrol, a dim ond 60,000 a ddychwelodd. Roedd eu rôl yn hanfodol, gan dynnu gynnau, cludo cyflenwadau a chludo ambiwlansys i'r rhai a oedd wedi’u hanafu. Ac yn yr Ail Ryfel Byd, tynnwyd laryncsau mulod i'w tawelu fel nad oedden nhw'n gallu brefu mewn ofn oherwydd y synau uchel o'u cwmpas. Cawsant eu cadw'n dawel. Roedden nhw'n arfer cario cyflenwadau ar draws llinellau'r gelyn yn Burma. Mae'n atgoffâd llym o greulondeb y rhyfel a'r diniwed a gafodd eu haberthu, yr anifeiliaid yn ogystal â'r bobl.

Wrth i ni gofio'r rhai a wasanaethodd a'r rhai na ddaeth adref, rydym ni hefyd yn anrhydeddu dewrder, tosturi a chadernid y rhai sy'n parhau i weithio dros heddwch heddiw. Mae eu haberth yn ein hatgoffa ni nad yw'r cofio yn ymwneud â'r gorffennol yn unig, mae'n alwad i amddiffyn yr heddwch a'r rhyddid yr ydym ni'n eu gwerthfawrogi heddiw, ac i sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol byth yn gorfod dioddef yr un golled. Diolch.

17:05

Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r rhai a gyflwynodd y cynnig hwn heddiw ac, wrth gwrs, rydym ni fel plaid yn ei gefnogi'n gadarn. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno, ar draws y Siambr hon, ei fod yn anrhydedd llwyr i gael gosod torchau ar ran ein hetholwyr ar Sul y Cofio a Diwrnod y Cofio. Bob blwyddyn, teimlaf yn ostyngedig wrth sefyll ochr yn ochr â chyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, teuluoedd, yn bwysig, pobl ifanc, ac aelodau o'n cymuned sy'n dod at ei gilydd i gofio'r rhai a roddodd bopeth dros ein gwlad. Fel y bydd llawer ohonoch chi yma'n gwybod, rwy'n dod o deulu ffermio, ond mae hanner arall fy nheulu yn rhai'r fyddin. Mae'r cysylltiad hwnnw wedi fy llunio’n ddwfn, a bydd gennyf bob tro barch ac edmygedd enfawr at ein lluoedd arfog ac at ein cyn-filwyr. Cefais fy magu yn gwrando ar straeon rhyfel a oedd yn ddiddorol a hyd yn oed yn ysbrydoledig, ond yr hyn sy'n aros gyda mi fwyaf yw'r golwg ar wyneb fy nhad-cu pan fyddai cwestiwn yn ei atgoffa o rywbeth nad oedd ef eisiau ailymweld ag ef. Dywedodd y distawrwydd a'i lygaid fwy na allai unrhyw eiriau erioed. Roedd yn ein hatgoffa, y tu ôl i bob medal, pob stori o ddewrder, mae poen ac aberth dwfn hefyd.

Ar y penwythnos, yn y Fenni, clywais i fwy o straeon gan gyn-filwyr—rhai llawen, rhai torcalonnus. Roedd y cyfeillgarwch rhyngddyn nhw'n amlwg ac yn ysbrydoledig, ond hefyd yr atgoffa clir bod  gwasanaethu'n gadael ei ôl. Mae llawer yn dal i gario'r creithiau hynny heddiw, yn weladwy ac yn anweladwy. Mae ein milwyr, ar y tir, ar y môr ac yn yr awyr, wedi rhoi, neu'n barod i roi eu bywydau er mwyn i ni fwynhau'r rhyddid yr ydym ni mor aml yn ei gymryd yn ganiataol. Rhaid i ni byth anghofio'r ddyled honno. Byddaf i bob amser yn ddiolchgar i'r arwyr hynny a hefyd i'r rhai a arhosodd gartref i gynnal y wlad—merched y tir, y gweithwyr ffatri, y nyrsys a phawb a wnaeth sicrhau bod ein cenedl yn dal i weithredu ac yn cael ei bwydo trwy gydol y dyddiau tywyllaf hynny. Mae fy nhad yn aml yn dweud wrthyf i sut, yn ystod y rhyfel, y daeth pobl i Frynbuga yn sir Fynwy i helpu ar y ffermydd. Roedden nhw'n gweithio oriau hir ac o dan amodau anodd, gan wneud eu rhan i helpu'r dynion a'r menywod a oedd yn gwasanaethu dramor. Mae'n rhan o'n hanes sy'n haeddu cael ei gofio gyda'r un balchder.

Yr Wythnos Goffa hon roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn y gwasanaeth yn y Fenni ddydd Sul, ac eto y bore yma ym Mrynbuga yn y castell. Mae gweld y genhedlaeth nesaf yn sefyll yn dawel mewn parch yn rhoi gobaith gwirioneddol eu bod yn deall ystyr cofio, eu bod yn wir yn deall graddfa'r aberth a gafodd ei wneud gan y rhai a ddaeth o'u blaen. Wrth i ni gofio'r rhai a syrthiodd yn y rhyfeloedd byd, mae'n rhaid i ni hefyd gofio'r rhai yn y gwrthdaro mwy diweddar—yn Ynysoedd y Falkland, yn y Gwlff, Irac, Affganistan—a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu heddiw, yn aml ymhell o gartref. Mae eu dewrder a'u hymrwymiad yn barhad byw o'r gwerthoedd yr ydym ni'n eu hanrhydeddu bob mis Tachwedd.

A hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl ddynion a menywod hynny yn fy rhanbarth i fy hun. Mae ein diolchgarwch, a hefyd ein cefnogaeth barhaus yn ddyledus iddyn nhw. Mae hynny'n golygu cynnal cyfamod y lluoedd arfog, cefnogi plant ein lluoedd arfog, ein swyddogion cyswllt, sicrhau bod gan yr holl gyn-filwyr gyfle i fanteisio ar y gofal, y tai a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw, yn enwedig pan ddaw i iechyd meddwl, gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei lunio'n bwrpasol ar gyfer y ddau ryw. Roeddwn i'n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod hynny heddiw, felly rwy'n gobeithio y bydd yr arian yn dilyn i sicrhau bod hynny'n wir. Mae hefyd yn golygu cefnogi teuluoedd sy'n sefyll y tu ôl i'n lluoedd, a gwerthfawrogi'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau yma yng Nghymru.

Felly, heddiw, a bob dydd, rydym ni'n cofio'r rhai sydd wedi gwasanaethu, y rhai a syrthiodd, a'r rhai sy'n parhau i fod yn barod i'n hamddiffyn ni. Rydym ni'n cofio eu dewrder, eu haberth a'r rhyddid y gwnaethon nhw ei sicrhau i ni i gyd. Byddwn ni'n eu cofio nhw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:10

Mae cofio, wrth gwrs, yn ferf. Nid enw yw e', mae'n weithred, ac nid yw'n llais goddefol yn unig. Ac mae'n her. Mae'n her i bob un ohonom ni. Mae'r weithred o gofio a sut yr ydym ni'n cofio aberth milwyr a byddinwragedd yn adlewyrchu pwy ydym ni a phwy yr ydym ni'n dymuno bod.

Pan gafodd y mynwentydd cyntaf eu gosod yn Fflandrys, ar ôl y rhyfel byd cyntaf, cafodd y cerrig beddi eu dylunio i fod yn unffurf, heb gyfeirio at grefydd na chenedligrwydd y milwr unigol, na'i reng na'i statws cymdeithasol. Mae'r holl ddynion hynny yn gorwedd gyda'i gilydd, yn unedig mewn dioddefaint ac aberth. A'r bobl a ddyluniodd y mynwentydd hynny oedd, wrth gwrs, y bobl a oedd wedi bod yn dyst i'r dioddefaint a'r aberth hwnnw. Roedden nhw'n bobl a oedd yn deall ystyr rhyfel. Roedden nhw'n gwybod sut oedd rhyfel yn swnio, sut oedd rhyfel yn arogli ac roedden nhw'n gwybod sut oedd rhyfel yn teimlo. Ac ar yr un pryd, flwyddyn ar ôl Diwrnod y Cadoediad yn 1919, cafodd y ddwy funud gyntaf o dawelwch ei chadw. Ac eto, yr ymateb i ryfel ac aberth a cholled oedd tawelwch, ac mae'r distawrwydd hwnnw'n siarad â phob un ohonom ni. Mewn sawl ffordd, mae'n fwy pwerus nag araith gwleidydd neu hyd yn oed y geiriau sy'n llawn bwriadau da. Mae'n gydnabyddiaeth bwerus o bobloedd wedi'u huno mewn colled ac aberth a pharch a diolchgarwch. Mewn sawl ffordd, y distawrwydd hwn yw'r symbol mwyaf pwerus sydd gennym ni o gofio.

Ond mae'n rhaid i gofio olygu mwy na dim ond digwyddiad yn cael ei gynnal unwaith y flwyddyn. Mae'n golygu, fel yr ydw i wedi'i ddweud, her i bob un ohonom ni. Mae'n golygu ein bod ni'n gofalu am gyn-filwyr, ein bod ni'n gofalu am deuluoedd cyn-filwyr. Mae'n golygu ein bod ni'n buddsoddi yn y lluoedd arfog heddiw, ein bod ni'n buddsoddi yn y bobl sy'n gwasanaethu heddiw, yn ogystal â gofalu am y dioddefwyr a'r rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i wrthdaro. Ond mae'n fwy na hyn, ac mae'n rhaid iddo fod yn fwy na hyn. Mae llawer ohonom ni wedi cyfeirio y prynhawn yma at y pen-blwydd yn wyth deg yr ydym ni wedi'i nodi eleni. Y genhedlaeth a wnaeth ymladd dros ffasgiaeth a'i gorchfygu yn y 1940au oedd yr un genhedlaeth a sefydlodd y Cenhedloedd Unedig. Cafodd y siarter ei llofnodi yn San Francisco ym mis Mehefin 1945, wrth i'r ymladd barhau. Ac mae'n ddogfen bwerus, oherwydd mae'n dweud:

'Ni bobloedd y Cenhedloedd Unedig'.

'Ni'r bobl'—nid y Llywodraethau, ond y bobl a wnaeth siarad am yr hyn yr oedd aberth a rhyfel wedi'u golygu i'r genhedlaeth honno ar yr adeg honno. Ac fe wnaethon nhw sefydlu'r Cenhedloedd Unedig i greu'r amodau ar gyfer heddwch. Sefydlodd yr un genhedlaeth y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, oherwydd eu bod yn gwybod beth oedd colli hawliau dynol yn ei olygu. Nid dim ond ein gallu ni i siarad yma yw hawliau dynol, er bod hynny'n wir, ond yr hawl i fyw mewn heddwch, a'r hawl i fyw heb ragfarn, a'r hawl i fyw heb hiliaeth a'r holl bethau eraill yr oedd pobl wedi'u hwynebu ar y pryd. Ac mae'r genhedlaeth honno hefyd wedi sefydlu sylfeini'r prosiect heddwch mwyaf yr ydym ni wedi'i weld ar ein cyfandir, yr Undeb Ewropeaidd. A dyna'r genhedlaeth honno a oedd wedi bod yn dyst i wrthdaro a rhyfel, ond a rannodd yr ymrwymiad dyfnaf oll, i roi yn ei le ddyfodol lle mae ffiniau'n cael eu dileu ac nid eu hadeiladu, waliau'n cael eu dymchwel, bod hawliau dynol yn gyffredinol ac yn cael eu gorfodi'n agored ac yn deg, a dyna pam y gwnaethom ni a nhw greu'r  Cenhedloedd Unedig.

A dyna pam mae cofio yn ferf weithredol ac nid enw goddefol yn unig. Mae'n her i ni i gyd. A heddiw, gwelwn ni’r heddwch hwnnw ar ein cyfandir wedi'i chwalu gan ffasgiaeth newydd—ffasgiaeth Putin, sydd wedi rhyddhau rhyfel eto ar ein cartref Ewropeaidd. Ac efallai, Llywydd, un o'r teyrngedau mwyaf y gallwn ni ei wneud heddiw i'r cenedlaethau a orchfygodd Hitler ac a greodd heddwch ymhlith ein pobloedd yw ymuno eto i greu heddwch newydd, heddwch sydd wedi'i wreiddio yn y gwerthoedd bythol hynny o genedlaethau'r rhyfel a osododd y sylfeini cyntaf hynny. Ond mae'r heddwch hwnnw o dan fwy o fygythiad heddiw nag ar unrhyw adeg ers 1945. A chyda'ch caniatâd, Llywydd, fe wnaf i orffen fy nghyfraniad heddiw gyda synau Ewrop: nid distawrwydd y cadoediad, ond rhybuddion cyrchoedd awyr yn Kyiv. Y rhybuddion cyrchoedd awyr yr ydym ni wedi bod yn dyst iddyn nhw ac rydym ni i gyd wedi'u clywed heddiw, ac mae'r cyrchoedd hynny'n digwydd, a'r cyrchoedd hynny sy'n ein lleihau ni i gyd heddiw. Diolch.

17:15

Rŷn ni'n byw mewn cyfnod rhanedig iawn, ond dylai cofio ein huno ni, fel y dywedodd Alun ynglŷn â'r beddau yn Fflandrys—ein huno ni ar draws ffydd, diwylliannau, cefndiroedd, cenedligrwydd. Mae heddiw yn gyfle i gofio pawb sydd wedi gwasanaethu a dioddef mewn rhyfeloedd ar draws y canrifoedd. Sul y Cofio eleni, wrth gwrs, roedd Cymru yn chwarae rygbi yn erbyn yr Ariannin, a bydd nifer fan hyn yn cofio milwyr o Gymru yn ymladd yn erbyn milwyr o'r Ariannin. Tra ym Mhatagonia, welais i enw Cymraeg ar gofeb filwrol ar y ffordd i Gwm Hyfryd. Wedi holi, gwnes i ddarganfod bod y dyn ar y gofeb yn or-ŵyr i un o'r bobl gyntaf, un o'r fintai gyntaf, aeth allan ar y Mimosa, Thomas Tegai Awstin. Cefais y pleser o gyfarfod â'i deulu fe, teulu sydd o hyd yn gefn i'r gymuned Gymraeg yno. Mae hyn yn dangos sut y mae ffrind yn gallu cael ei droi yn elyn yn rhy gyflym o lawer. Ond fel dangosodd dydd Sul ac fel mae hanes Ewrop yn dangos inni, mae modd troi gelynion nôl yn gyfeillion hefyd. Mae'n bwysig cofio hynny.

Bydd rhai ohonoch chi'n cofio pan gafodd y Cardinal Basil Hume ei alw'n anwladgarol am weddïo dros filwyr Prydain a'r Ariannin. Dadleuodd ef, yn wyneb beirniadaeth, mai ei ddyletswydd Gristnogol oedd gweddïo dros bawb sy'n dioddef ac sy'n marw mewn rhyfel, ffrind neu elyn, oherwydd ein bod ni i gyd yn blant i Dduw. Mewn trafodaeth yr wythnos diwethaf, dywedodd rhywun wrthyf i fod y DU yn wlad Gristnogol. I unrhyw un sy'n ceisio defnyddio ein ffydd fel modd i wahanu, mae'n werth cofio geiriau Basil Hume, ac, yn bwysicach fyth, mae'n werth cofio geiriau Iesu Grist a sut roedd Iesu Grist yn trin pobl y tu allan i'w genedl a'r tu allan i'w ffydd. Yn anffodus, rydym ni'n byw mewn oes sy'n dieithrio pobl eraill. Rydym ni'n dad-ddyneiddio, rydym ni'n canolbwyntio ar wahaniaethau, yn hytrach nag ar yr hyn sy'n gyffredin rhyngom. Rydym ni'n rhoi pobl mewn categori yn bell i ffwrdd oherwydd eu cenedligrwydd, neu'u ffydd, neu hyd yn oed pa blaid wleidyddol y maen nhw'n pleidleisio drosti.

Nid oedd yn rhaid i Brydain sefyll ar ei phen ei hun ar unrhyw adeg yn ystod yr ail ryfel byd. Oherwydd ei hymerodraeth, fe wnaeth dynion a menywod o bob cyfandir ymladd dros ddemocratiaeth—undod rhyngwladol yn erbyn cyfundrefn Natsïaidd a oedd eisiau byd o ethnigrwydd pur. Yr amcangyfrif yw bod bron i 170,000 o filwyr Indiaidd Prydain wedi colli eu bywydau, gyda chwarter miliwn arall o filwyr India wedi'u hanafu neu wedi dod yn garcharorion rhyfel. Mae'r ffigurau hyd yn oed yn uwch ar gyfer milwyr y cynghreiriaid Mwslimaidd, gyda 1.5 miliwn yn cael eu lladd yn yr ail ryfel byd. Mae plac wrth y gofeb ryfel genedlaethol yng Nghaerdydd—ac os nad ydych chi wedi'i weld, ewch os gwelwch yn dda—sy'n cydnabod aberth dynion a menywod ethnig amrywiol y Gymanwlad. Pan gafodd ei ddadorchuddio, datgelodd y plac hwn straeon hanes teulu o ddynion a menywod ifanc a wnaeth gyrraedd Caerdydd o'r Caribî yn ystod cyfnod y ffyniant glo, gan wneud Tiger Bay yn gartref iddyn nhw. Mae'n adrodd amdanynt yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gofrestru, y cyfrifoldeb oedd ganddyn nhw i gofrestru a gwasanaethu Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'r lluniau sydd wedi'u rhannu gan deuluoedd yn dangos dynion ifanc am byth wedi'u rhewi mewn amser am byth.

Mae'r ymerodraeth wedi hen ddiflannu, byth i ddychwelyd, ond rwy'n credu bod gan Gymru a'r DU rôl i'w chwarae yn y byd o hyd. Gallwn ni fod yn gadarnle goddefgarwch, caredigrwydd a pharch. A dyna pam nad ydym ni byth yn anghofio'r aberth a wnaeth cymaint dros ein rhyddid ni. Diolch yn fawr.

17:20

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru nawr—Ken Skates.

Diolch, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu teyrngedau heddiw? Rydym ni wedi clywed teyrngedau o natur bersonol a myfyrdodau ynghylch anwyliaid sydd wedi gwasanaethu, ac mae yna deyrngedau wedi bod i bawb sydd wedi gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu. Tynnodd Lesley Griffiths sylw at amrywiaeth a maint y presenoldeb yn Wrecsam ddydd Sul, ac mae'n wir, roedd y presenoldeb yn anhygoel, roedd yr amrywiaeth yn wirioneddol drawiadol, ac rwy'n credu bod hyn wedi'i adlewyrchu ar draws ein holl gymunedau ac yn dangos bod gennym ni fudiad cynyddol o bobl sydd wir eisiau cymdeithas fwy sifil yn ddiffuant, cymdeithas fwy parchus, cymdeithas fwy cyfrifol, ac un sy'n cofio cost ddinistriol gwrthdaro a rhyfel.

Cyfeiriodd Peter Fox at undod. Rwy'n credu ei bod yn eironig bod ein lluoedd arfog, sy'n cael eu defnyddio pryd, a lle, mae anghytundeb a gwrthdaro difrifol, mor aml yn dod â ni at ein gilydd mewn undod i addo ein hymrwymiad i heddwch. Mae llawer o erchyllterau, llawer o wrthdaro, rhyfeloedd, brwydrau a gweithredoedd hil-laddiad wedi cael eu hamlygu heddiw, ond hefyd gan bob un person sydd wedi cyfrannu, yr angen i fynd ar drywydd heddwch a'i amddiffyn, a dywedodd James Evans fod yn rhaid i heddwch gael ei amddiffyn gan y rhai sydd â'r dewrder i'w amddiffyn. Mae hynny'n hollol gywir.

O ran dewrder, dywedodd cyn-filwr wrthyf i ddydd Sul nad dewrder yw gweithredu yn absenoldeb risg. Dewrder yw mynd ar drywydd yr hyn sydd ei angen arnom ni gan wybod yn iawn beth yw'r her, y golled a'r dioddefaint y bydd yn rhaid eu goresgyn. Wel, mae gwythiennau ein lluoedd arfog yn llifo gyda dewrder, a, Llywydd, heddiw rydym ni'n eu hanrhydeddu ac yn eu cofio.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yr eitemau nesaf yw eitemau 7 a 8 ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), ac oni bai fod dau Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 7 a 8, yr egwyddorion a'r penderfyniad ariannol, yn cael eu trafod gyda'u gilydd a'u pleidleisio ar wahân.

7. & 8. Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Ac felly, os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, mi wnaf i ofyn i'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9038 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).

Cynnig NDM9039 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Member
Huw Irranca-Davies 17:24:25
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser mawr gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), a chyflwyno cynnig ar y penderfyniad ariannol. Llywydd, hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1.

Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi'i wneud i gyflwyno'r adroddiadau cynhwysfawr a defnyddiol iawn o fewn amserlen dynn iawn, ac, yn benodol, rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd y dylai'r Senedd gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, yr wyf yn gobeithio y bydd yr Aelodau heddiw hefyd yn eu cymeradwyo. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a'r cymunedau sydd wedi cyfrannu at, wedi cefnogi ac, yn wir, wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth hanfodol hon. Mae persbectif, arbenigedd a her pob un ohonyn nhw wedi bod yn allweddol wrth lunio a mireinio'r Bil hwn hyd yn hyn a bydd hynny'n parhau wrth i ni fynd trwy gamau nesaf y broses ddeddfwriaethol.

Wrth drafod deddfwriaeth, Llywydd, mae'n aml yn hawdd i ni fel llunwyr polisi ganolbwyntio ar unwaith ar fanylion y polisi. Ond, cyn i ni wneud hyn, rwyf am gymryd eiliad heddiw i gydnabod yr effaith y bydd y Bil hwn yn ei chael ar fyd natur yng Nghymru. Yn ei hanfod, bydd y ddeddfwriaeth hon yn cryfhau diogelwch amgylcheddol. Bydd yn ein hysgogi ymlaen yn y blynyddoedd tyngedfennol sydd i ddod. Bydd yn sail i'n gweithredoedd i warchod ac adfer yr amgylchedd yn ystod argyfwng hinsawdd a natur. Ac mae'r Bil yn cyflawni hyn mewn tair ffordd. Mae'n sefydlu amcan amgylcheddol, yn cyflwyno pedair egwyddor amgylcheddol craidd a dyletswyddau i integreiddio diogelu'r amgylchedd. Byddwn ni'n creu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru i oruchwylio a gorfodi cyfraith amgylcheddol. Mae'r Bil hefyd yn sefydlu fframwaith sy'n grymuso Gweinidogion Cymru i osod targedau mewn is-ddeddfwriaeth i gyfrannu at atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth.

Pan gyflwynais i'r Bil hwn ym mis Mehefin, fe dynnais i sylw at y rôl hanfodol y bydd yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ers hynny, mae'r brys wedi cynyddu, gyda'r DU yn profi ei haf poethaf erioed—1.5 gradd yn uwch na'r cyfartaledd—gan achosi sychder a achosodd niwed i ecosystemau ac amaethyddiaeth. Mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod hinsawdd a natur y ddaear eisoes yn pasio pwyntiau tipio allweddol. Mae hynny'n golygu, nawr yn fwy nag erioed o'r blaen, fod yn rhaid i ni i gyd weithredu i ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru, sydd mor hanfodol i'n lles ein hunain.

Mae'n galonogol bod argymhellion y pwyllgor yn adlewyrchu'r brys hwn ac rwy'n cydnabod bod yna feysydd yn y Bil a allai, yn wir, gael eu gwella. Felly, rwyf wedi ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid, a byddaf yn mynd i'r afael â rhai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn fuan. Rwyf hefyd yn bwriadu amlinellu gwelliannau'r Llywodraeth mewn datganiad ysgrifenedig yn ddiweddarach yr wythnos hon. Ond, yn y cyfamser, byddaf yn ymateb i argymhellion allweddol ac yn tynnu sylw at welliannau yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno, er na allaf ymdrin â phob pwynt unigol heddiw.

O ran yr egwyddorion amgylcheddol, byddwn yn cyflwyno gwelliannau newydd i osod dyddiad cyhoeddi pendant ar gyfer yr egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio datganiad diogelu'r amgylchedd, yn ogystal â chynnwys proses i alluogi'r Senedd i graffu a nodi argymhellion cyn iddo gael ei gwblhau. Byddwn ni hefyd yn gofyn i Weinidogion Cymru adolygu'r datganiad yn rheolaidd. Er mwyn mynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid ynghylch cwmpas dyletswyddau Gweinidogion Cymru i lunio polisïau, byddwn ni'n egluro bod y dyletswyddau hyn yn berthnasol i bob polisi sy'n cael ei lunio oni bai bod nad oes unrhyw effaith ar yr amgylchedd neu fod yr effaith honno'n ddibwys, sy'n drothwy isel iawn mewn gwirionedd. Bydd y Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru esbonio yn y datganiad sut y caiff effeithiau o'r fath eu pennu. Byddwn ni'n archwilio sut mae'r diffiniad o 'bolisi' yn cael ei egluro ymhellach i sicrhau bod y dyletswyddau'n glir ac yn effeithiol.

Gan droi at Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, byddwn ni'n cryfhau annibyniaeth y sefydliad ymhellach, gyda gofynion newydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu digon o gyllid ac i ystyried annibyniaeth y swyddfa wrth arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â hi. Byddwn ni hefyd yn dileu rôl Gweinidogion Cymru o broses adolygu'r pwyllgorau i gynyddu hyder yn annibyniaeth y swyddfa oddi wrth y Llywodraeth. Byddwn ni'n sicrhau bod ymgynghori â'r swyddfa mewn achosion lle gallai Gweinidogion Cymru fod eisiau newid y diffiniad o gyfraith amgylcheddol drwy reoliadau. Byddwn ni'n egluro ymhellach ddarpariaeth bwysig ynghylch galluogi dinasyddion i gael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol trwy ddarparu sylwadau yn uniongyrchol i'r swyddfa. Ac rydym wedi gwrando'n astud ar bryderon ynghylch yr angen i sicrhau bod y swyddfa yn weithredol cyn gynted â phosibl. Felly, byddwn ni'n ychwanegu gofyniad statudol cychwynnol i'w swyddogaethau gorfodi gael eu cychwyn o fewn dwy flynedd i'r Cydsyniad Brenhinol, gydag opsiwn i ymestyn hyn am gyfnod pellach, ond dim ond os yw'r Senedd yn cytuno. Bydd hyn yn cydbwyso hyblygrwydd â'r risgiau cynhenid sydd ynghlwm wrth sefydlu sefydliad arbenigol iawn.

Byddwn ni hefyd yn darparu i'r Senedd gymryd mwy o ran yn y broses benodi, drwy fod yn rhan o'r panel recriwtio ar gyfer rolau anweithredol. O ran y targedau bioamrywiaeth, byddwn ni'n cymryd camau i gyflymu'r gwaith o'u datblygu a'u gweithredu, er mwyn sicrhau bod gennym fframwaith cadarn ar gyfer gosod targedau.

Rydym wedi gwrando ar bryderon ynghylch yr angen i adlewyrchu natur frys yr argyfwng natur, a'r angen am dargedau cynnar ac uchelgeisiol i ysgogi camau gweithredu uniongyrchol i atal y dirywiad parhaus ym mioamrywiaeth Cymru. Felly, mewn ymateb, rydym yn bwriadu lleihau'r amserlenni ar gyfer cyflwyno targedau bioamrywiaeth, o dair blynedd i ddwy flynedd ar ôl y Cydsyniad Brenhinol.

Rydym hefyd yn cydnabod y pryderon a godwyd ynghylch diffyg manylion ar hyd y targed, a safbwynt rhanddeiliaid bod angen targedau byrdymor i ysgogi cynnydd tuag at dargedau hirdymor yn y dyfodol. Byddwn felly yn nodi gofynion ar gyfer targedau byrdymor a hirdymor. Os na fydd targed yn cael ei gyrraedd, byddwn ni'n lleihau'r amserlen i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad yn esbonio pam ac yn nodi'r camau i sicrhau bod y targed yn cael ei gyrraedd, o 12 mis i chwe mis.

Byddwn ni hefyd yn gwneud gwelliannau i gryfhau cynllun adran 6 Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cydymffurfio â'u dyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth. Byddwn yn ystyried gofyniad i'r cynllun nodi cynigion a pholisïau sy'n cwmpasu pob maes y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdano, a allai gyfrannu at gyflawni'r targedau.

Byddwn ni'n cynnwys gofynion newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynllun adran 6 Gweinidogion Cymru nodi eu cynigion hirdymor hyd at 2050, gan alinio â gweledigaeth 2050 yn y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang. Rydym hefyd, Llywydd, eisiau sicrhau bod ein targedau'n cyd-fynd ag iteriadau o'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang yn y dyfodol. Felly, byddwn ni'n cyflwyno dyletswydd i adolygu effeithiolrwydd y targedau.

Roedd y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil. Mae fy ymateb i'r pwyllgor cyn y ddadl hon, yn unol ag argymhellion y pwyllgor, yn cydnabod fy mod yn derbyn y mwyafrif o'r argymhellion.

Felly, i gloi, Llywydd, mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol, a fydd yn chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu a gwella ein hamgylchedd heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan gefnogi Cymru wydn a'n helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang. Felly, rwy'n annog Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a datrysiad ariannol y Bil. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith sydd nawr—Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ar Fil rŷn ni wedi bod yn aros amdano fe yn eiddgar iawn. Cyn troi at yr adroddiad, mi licien i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i'n helpu ni wrth inni drafod y Bil fel pwyllgor. Hefyd, dwi am ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymgysylltu â'r pwyllgor mewn ffordd mor adeiladol yn y cyfnod cyn cyflwyno'r Bil ac yn ystod Cyfnod 1.

Serch hynny, mae'n drueni nad ydym ni wedi cael rhagrybudd o rai o'r pethau y dywedoch chi yn eich cyflwyniad, oherwydd mae hynny'n tanseilio llawer iawn o'r pwyntiau roeddwn i'n bwriadu eu gwneud. Ond, dyna fe. Felly, os maddeuwch chi i mi, mi wnaf i drio cofio popeth rŷch chi wedi'i ddweud, ond bydd yn rhaid imi atgoffa fy hun wrth fynd yn fy mlaen, efallai, o hynny.

Mae hynny'n tanlinellu'r diffyg o ran peidio â chael ymateb i adroddiad Cyfnod 1 cyn y ddadl ar Gyfnod 1. Rydw i'n deall, wrth gwrs, fod popeth o fewn trefn—does dim rheol wedi cael ei thorri fan hyn—ond yn ymarferol, dwi’n meddwl ei bod yn well ein bod ni’n cael y deunydd cyfan wrth ein bysedd cyn inni orfod ymateb mewn dadl fel hon a gwneud penderfyniad ar a ddylai e fynd i Gyfnod 2, wrth gwrs.

Beth bynnag, fel pwyllgor, dydyn ni ddim wedi cuddio’r ffaith ein bod ni am i Lywodraeth Cymru ddeddfu i ymdrin â'r bwlch llywodraethiant amgylcheddol sylweddol sydd gennym ni ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, na'n dymuniad ni ychwaith i gyflwyno targedau bioamrywiaeth sy'n rhwymo'n gyfreithiol i sbarduno camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur parhaus. Rŷn ni’n falch, felly, fod y Bil nawr wedi'i gyflwyno, er yn llawer hwyrach nag y byddem ni efallai wedi hoffi, fel pwyllgor.

Wrth graffu ar y Bil, fe wnaethon ni drafod egwyddorion cyffredinol pob un o'i dair Rhan sylweddol, ac mi fyddaf yn siarad amdanyn nhw yn eu tro. Mae Rhan 1 yn cyflawni ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i ymgorffori'r egwyddorion amgylcheddol sydd wedi’u cydnabod yn rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Mae'n ceisio sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu hymgorffori ar draws polisïau’r dyfodol a’r broses ddeddfu yng Nghymru, gan gryfhau'r sylfaen ar gyfer diogelu'r amgylchedd a llywodraethu. Roedd cefnogaeth gref ymhlith cyfranogwyr i'r dull yma.

Roedd y dystiolaeth a gawson ni mewn perthynas â Rhan 2 yn bwerus hefyd. Mae angen corff goruchwylio amgylcheddol newydd ar Gymru i ddwyn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i gyfrif mewn perthynas â'u rhwymedigaethau amgylcheddol. Mi wnaeth cyfranwyr bwysleisio bod yn rhaid i'r corff hwn fod yn wirioneddol annibynnol, a bod yn rhaid iddo gael pwerau gorfodi cadarn a digon o adnoddau hefyd os yw’n mynd i ennyn hyder y cyhoedd a chyflawni canlyniadau ystyrlon.

Fel y gwnaethon ni nodi yn ein hadroddiad fel pwyllgor, sef 'Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030', a gyhoeddon ni, wrth gwrs, nôl ym mis Ionawr eleni, mae colli bioamrywiaeth yr un mor bwysig â newid hinsawdd, ac mae’n galw am yr un ymateb brys, ond dyw e ddim wedi cael yr un ffocws polisi na blaenoriaeth mewn deddfwriaeth. Mae Rhan 3 o'r Bil yn rhoi cyfle inni fynd i'r afael â hynny. Fe glywon ni gan gyfranwyr y bydd targedau bioamrywiaeth sy'n rhwymo'n gyfreithiol yn hanfodol i sbarduno camau gweithredu i gyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth domestig a byd-eang Cymru. Felly, o gofio’r gefnogaeth gref ymhlith cyfranwyr i bob un o dair Rhan y Bil, rŷn ni’n falch o allu argymell fel pwyllgor fod y Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.

Nawr, cyn symud ymlaen at rai o'r materion allweddol sy’n codi yn ein hadroddiad ni, mae'n bwysig myfyrio ar amseriad y Bil. Goblygiadau'r penderfyniad i gyflwyno'r Bil yn ddiweddarach yn y chweched Senedd yma yw y bydd y cyfrifoldeb am ei weithredu yn disgyn ar ysgwyddau Llywodraeth nesaf Cymru. Mi oedd hwn yn bryder allweddol a godwyd gan lawer o gyfranwyr. Fe glywon ni alwadau cryf am ragor o eglurder a chryfder yn narpariaethau'r Bil i sicrhau ei fod yn cyflawni’r bwriad polisi yn llawn, ac am amserlenni mwy uchelgeisiol hefyd i'w alluogi iddo gael ei weithredu'n gyflym. Mae’r argymhellion rŷn ni wedi’u gwneud yn ymateb i'r galwadau hyn, ac mi wnaf i edrych yn ôl ar sylwadau'r Dirprwy Brif Weinidog, sydd wrth gwrs wedi cyfeirio at y bwriad i newid gêr yn hynny o beth.

Fe wnaethon ni 42 o argymhellion i gyd. Mae 36 o'r rhain yn trafod gwelliannau i'r Bil. Rŷn ni’n disgwyl cael ymateb ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn fuan, ond, wrth gwrs, byddwn i yn ei annog e, fel y mae e eisoes wedi'i awgrymu wrth agor y ddadl yma, i fod yn agored i'w ddarbwyllo o ran gwelliannau wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy'r camau sy'n weddill o'r broses graffu.

Fe wnaf i felly droi at rai o'r materion allweddol a gododd yn ystod ein gwaith craffu ni. Yn gyntaf, ar Ran 1, dwi am ganolbwyntio fy sylwadau ar gymhwyso’r egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio camau i ddiogelu'r amgylchedd. Mae’r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi'r hyn sy'n cael ei alw'n 'ystyriaeth arbennig' i’r egwyddorion wrth wneud polisi yn gam rŷn ni heb os yn ei groesawu, ac yn un a ddylai arwain at wneud yr egwyddorion yma’n rhan amlwg o’r broses o wneud penderfyniadau. Ond fe glywon ni gan gyfranwyr fod cyfyngu ar gwmpas y ddyletswydd i bolisi sydd ag effaith amgylcheddol, neu a allai gael effaith o’r fath, yn arwain at ansicrwydd, yn gadael lle i ddisgresiwn sylweddol ac yn tanseilio’r egwyddor integreiddio. Felly, rŷn ni wedi galw am ymestyn cwmpas y ddyletswydd i bob polisi, i fynd i'r afael â hyn.

Rŷn ni hefyd wedi galw am gryfhau ac ymestyn y ddyletswydd adran 5 ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau ei bod yn cyflawni manteision amgylcheddol pendant. O ran y datganiad o dan adran 6, dyw hi ddim yn bosibl gorbwysleisio arwyddocâd y cymal yma. Y datganiad yma fydd yn pennu ystyr yr egwyddorion amgylcheddol a sut i’w dehongli a'u cymhwyso nhw yng nghyd-destun Cymru. Gresyn felly oedd hi nad yw'r Bil yn rhoi cyfle i'r Senedd graffu ar hynny mewn ffordd fwy ystyrlon. Fel pwyllgor, rŷn ni’n credu bod hwn yn beth amlwg sydd wedi’i adael allan, ac yn fater rŷn ni wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd i'r afael ag ef. Nawr, mi wnaeth e sylwadau ynglŷn ag adran 6, felly gobeithio'n wir y cawn ni gyfle i weithio gyda'r Llywodraeth i gryfhau hynny yng Nghyfnod 2.

Gan symud ymlaen at ail Ran y Bil, i lawer o gyfranwyr mae sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru yn gam hirddisgwyliedig. Yn ddealladwy, felly, maen nhw'n awyddus i'r corff hwn fod ar waith yn yr amser byrraf posibl. Er y bydd Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru yn cael ei sefydlu'n gyfreithiol ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, Llywodraeth nesaf Cymru fyddai'n penderfynu pryd y byddai'r corff yn dod yn weithredol, oni bai bod y Gweinidog yn awgrymu bod hynny am newid ymhlith y gwelliannau posib ddaw ymlaen. Fydd dim rhaid i unrhyw Lywodraeth newydd, fel mae'n sefyll, beth bynnag, gadw at yr amserlen ddwy flynedd y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i nodi, oni bai bod darpariaeth benodol ar gyfer hynny yn y Bil. Nawr, i ymateb i hyn, rŷn ni wedi argymell fel pwyllgor y dylid cynnwys darpariaeth codiad haul, neu sunrise provision, ar gyfer Rhan 2. Mi fyddai hynny yn cynnig amddiffyniad pwysig rhag oedi pellach, gan gynnwys oedi o ganlyniad i unrhyw newid mewn Llywodraeth.

Bydd y swyddfa—Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru dwi'n sôn amdani hi yn fan hyn, wrth gwrs—yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei rhwymedigaethau amgylcheddol. Nawr, i sicrhau hygrededd ac i gynnal hyder y cyhoedd, mae'n rhaid i annibyniaeth y swyddfa fod y tu hwnt i bob amheuaeth. Mi oedd yna farn glir ymhlith y cyfranwyr nad yw'r Bil fel y mae wedi’i ddrafftio yn taro’r nodyn yn hyn o beth. Ond dwi eto yn croesawu'r sylwadau mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi'u gwneud ar annibynniaeth y corff yma. Mae yn hanfodol, dwi'n meddwl, ynghyd â sicrhau cyllid digonol, i wneud yn siwr bod yna ddim ansicrwydd ynglŷn â rôl y swyddfa, a'i bod yn gwella tryloywder ac yn lliniaru'r risg, neu'r risg ganfyddedig, efallai, o ddylanwad gan y Llywodraeth. Eto, rŷn ni'n edrych ymlaen at drafod y newidiadau posibl yng Nghyfnod 2.

Yn olaf, fe glywon ni fod posibilrwydd i Ran 3, ar dargedau bioamrywiaeth, helpu i droi’r llanw ar golli natur yng Nghymru, ond mae yna wendidau allweddol o fewn y fframwaith gosod targedau y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw. Mae'r rhain yn cynnwys diffyg targed sydd â therfyn amser ar wyneb y Bil, y disgresiwn eang ar gyfer hyd y cyfnod targed, ac yn olaf, ac efallai yn bwysicaf, yr amserlen o dair blynedd ar gyfer gosod y gyfres gyntaf o dargedau blaenoriaeth. Unwaith eto, mae'r pyst gôl wedi symud yn hynny o beth, o beth dwi'n ei ddeall, felly mae'n bosibl y bydd yna gyfaddawd yn dod yn hynny o beth.

Llywydd, mae gennym ni gyfle fan hyn i sicrhau bod y Bil yn rhoi trefniadau llywodraethiant amgylcheddol cryf ac effeithiol ar waith, sy'n cyflawni dros amgylchedd naturiol Cymru. Gall y Bil arwain at y newid gweddnewidiol sydd ei angen arnom ni i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a gafodd ei ddatgan ar ddechrau’r Senedd yma. Ond i wneud hyn, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r Bil fod yn gliriach, yn gryfach ac yn fwy uchelgeisiol. Fel y dywedais i ar y cychwyn, rŷn ni'n edrych ymlaen at gydweithio ar wneud hynny, ond mi fyddai wedi bod yn braf cael ychydig o awgrym o'r hyn a oedd i ddod. Diolch.

17:40

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Daeth adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil i ddau gasgliad a gwnaeth wyth argymhelliad. Mae'n siomedig mai dim ond ymateb dros dro gan yr Ysgrifennydd Cabinet rydym ni wedi derbyn, ond edrychaf ymlaen at dderbyn ymateb cadarnhaol i'n hargymhellion maes o law.

Mae'r oedi i gyflwyno'r Bil pwysig hwn yn bryder i'r pwyllgor, ac nid ydym ni o'r farn bod yr oedi hwn wedi'i esbonio'n ddigonol i'r Senedd. Fe wnaethom sylwi na fydd Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru efallai yn weithredol am hyd at ddwy flynedd o'r adeg y rhoddir Cydsyniad Brenhinol, ac mae rhai darpariaethau sylweddol yn y Bil i'w dechrau drwy Orchymyn yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru. Ar ben hynny, nid yw'r Bil ei hun yn gosod targedau bioamrywiaeth, ac nid yw ond yn ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau sy'n gosod targedau mewn pedwar maes blaenoriaeth o fewn tair blynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. O ganlyniad, fe ddaethom ni i'r casgliad, heb dystiolaeth gadarn i'r gwrthwyneb, yr ymddengys nad yw'r Bil yn flaenoriaeth mwyach gan Lywodraeth Cymru.

O dan Ran 1 o'r Bil, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru nodi sut mae'r pedair egwyddor yn adran 2 yn ymwneud â'i gilydd, a sut maen nhw'n ymwneud â'r amcan amgylcheddol a nodir yn adran 1. Fodd bynnag, nid oes gofyniad penodol yn y Bil i amlinellu dehongliad yr egwyddorion. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gael gwared ar y posibilrwydd o ansicrwydd ac o ganlyniad darparu eglurder ynghylch dehongliad yr egwyddorion. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrthym ni fod y pedair egwyddor amgylcheddol wedi'u hen sefydlu a bod pobl yn eu deall, nid ydym yn credu bod hyn yn esbonio, gan ddefnyddio rhestr anghynhwysfawr, beth yw 'gwneud polisi'.

Gan droi nawr at Ran 2 o'r Bil, ynglŷn â Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni y bydd y corff newydd hwn yn annibynnol ar y Llywodraeth. Fe ddywedon ni y byddai datganiad i'r perwyl hwn yn ddefnyddiol ac, o ganlyniad, fe wnaethom ni argymell y dylid diwygio'r Bil i gynnwys darpariaeth sy'n cadarnhau'n benodol annibyniaeth Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru o'r Llywodraeth.

Mae adran 29 yn darparu ar gyfer ystyr 'cyfraith amgylcheddol', diffiniad sylfaenol yn y Bil. Mae is-adran (4) yn darparu pŵer, os caiff ei arfer, i effeithio'n sylweddol ar ddarpariaethau yn y Bil drwy ychwanegu, diwygio neu ddileu darpariaethau y gellir eu hystyried yn 'gyfraith amgylcheddol' at ddibenion y Ddeddf. Mae gan unrhyw ddiwygiad i'r diffiniad effaith sylweddol ar gwmpas swyddogaethau Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Rydym ni'n cydnabod bod manteision i gael gwared ar amwysedd ynghylch a yw darpariaeth benodol yn dod o dan y diffiniad, ac y gallai fod angen adlewyrchu penderfyniadau llys ar faterion o'r fath. Rydym ni felly yn cydnabod y gellir cyfiawnhau'r pŵer mewn egwyddor. Fodd bynnag, o ystyried ehangder y pŵer a'i effaith bosibl ar swyddogaethau Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, fe wnaethom ni argymell y dylai'r pŵer gwneud rheoliadau hwn fod yn ddarostyngedig i ffurf uwch o weithdrefn gymeradwyo'r Senedd. Yn benodol, dylid diwygio'r Bil i fynnu ymgynghoriad gorfodol, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, a chyfnod cyflwyno hirach yn y Senedd i ganiatáu digon o amser i graffu'n ystyrlon.

Yn olaf, credwn fod y fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth yn Rhan 3 o'r Bil yn un byrbwyll, ac mae gennym ni amheuon ynghylch i ba raddau y bydd y targedau yn gwneud cyfraniad ystyrlon tuag at gyflawni'r nodau y maen nhw'n ceisio eu dilyn. Mae gennym ni amheuon hefyd ynghylch hygyrchedd Rhan 3. Yn ein barn ni, mae'n enghraifft o'r peryglon posibl o fewnosod darpariaeth sylweddol newydd yn y ddarpariaeth bresennol.

Rydym ni'n cydnabod nad ein swyddogaeth ni yw gwneud sylwadau ar bolisi amgylcheddol, ond rydym ni'n ymwybodol o'r fframwaith deddfwriaethol amgylcheddol cynyddol gymhleth yng Nghymru. Rydym ni'n pryderu bod cynnwys targedau bioamrywiaeth gan Lywodraeth Cymru, heb ddarparu canllawiau ac eglurder pellach, yn ychwanegu at gymhlethdod y fframwaith statudol hwnnw a'r dasg sy'n wynebu awdurdodau cyhoeddus sy'n gorfod cydymffurfio â'r gyfraith. Yn ein barn ni, mae'r cymhlethdod a'r diffyg eglurder hwn yn peryglu'r canlyniadau y mae'r Bil yn ceisio eu cyflawni, ac y mae arnom ni eisiau eu gweld yn cael eu cyflawni. 

17:45

A Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf—Peredur Owen Griffiths. 

Diolch, Llywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw, ac yn falch o nodi bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn bob un o'r chwe argymhelliad mewn ymateb cyn y ddadl heddiw, ac i beidio ag ypsetio Llyr, wrth gwrs, drwy ddweud ein bod ni wedi cael ymateb ymlaen llaw, sydd yn gwneud fy ngwaith i'n haws o ran cyfrannu yn y ddadl. 

Ond gadewch i mi ddechrau gyda chyfnod arfarnu'r Bil. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif cyfanswm cost o £33.64 miliwn dros gyfnod arfarnu o 10 mlynedd. Fodd bynnag, nid yw'n ceisio cymhwyso'r buddion dros yr un cyfnod amser. Yn hytrach, mae'n cyflwyno amcan gost o £664 miliwn a buddion o fwy na £1.7 biliwn dros gyfnod llawer hirach o 78 mlynedd. Rydym yn deall bod yr amserlen estynedig hon yn gyson â sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i'r afael â Deddf yr Amgylchedd 2021. Dywedwyd wrthym ni hefyd fod bras amcangyfrif yn cael ei gyflwyno gan nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu elwa'n ariannol o fuddion y rhan fwyaf o agweddau ar y Bil, sydd eto i'w penderfynu. Er ein bod yn cydnabod bod costau a buddion yr amgylchedd yn aml yn dod i'r amlwg dros y tymor hir, rydym ni wedi ei chael hi'n anodd iawn asesu cywirdeb rhagamcanion hirdymor o'r fath. Ac er ein bod yn gyffredinol fodlon â'r goblygiadau ariannol a gyflwynir, mae'n bwysig cydnabod bod y darlun llawn yn parhau i fod yn ansicr. Rydym ni'n arbennig o bryderus nad yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn darparu unrhyw esboniad na dadansoddiad ar gyfer yr amcan gost o £664 miliwn. Mae'r diffyg tryloywder hwn yn tanseilio hyder yn y ffigurau. Dyma pam rydym ni wedi galw ar y Dirprwy Brif Weinidog i esbonio sut y cyfrifwyd y ffigur hwn mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2, ac rwy'n falch o weld ei fod wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad hwnnw. Fe glywsom ni hefyd y bydd modelu pellach yn cael ei gynnal wrth i'r Bil fynd rhagddo, ac y caiff ffigurau mwy cywir eu darparu ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Gan fod hyn ymhell o fod yn ddelfrydol, rydym ni wedi argymell bod y Dirprwy Brif Weinidog yn cyhoeddi asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a chadarn i gyd-fynd ag is-ddeddfwriaeth, ac rwy'n croesawu'r sicrwydd a ddarparwyd yn ei ymateb.

Wrth edrych ymlaen, rydym yn disgwyl i asesiad clir o gostau a manteision gwirioneddol y Bil gael ei gynnwys yn yr adolygiad ôl-weithredu. Fel rydym ni wedi sylwi mewn perthynas â Biliau eraill, mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth yn cyflawni gwerth am arian ac yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd. Mae'n arbennig o bwysig o ystyried cwmpas ac arwyddocâd y Bil hwn a natur gyffredinol yr amcangyfrifon a gyflwynwyd. Mae ein trydydd argymhelliad, felly, yn gofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog feintioli'r costau a'r buddion gwirioneddol sy'n deillio o'r Bil fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu, ac i gadarnhau amserlenni'r adolygiad. Unwaith eto, mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn derbyn yr argymhelliad hwn, er bod amseriad yr adolygiad ôl-weithredu yn parhau i fod yn aneglur, a byddwn yn croesawu eglurhad pellach ganddo ar hyn.

Yn olaf, Llywydd, fe hoffwn i droi at y costau sy'n ymwneud â'r endid arfaethedig Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Fe ddywedwyd wrthym ni fod angen corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol newydd i gyflawni cyd-destun polisi a deddfwriaethol gwahanol Cymru. Amcangyfrifir y bydd y swyddfa yn costio oddeutu £20 miliwn dros 10 mlynedd, gyda chostau rhedeg blynyddol o £2.79 miliwn, sy'n seiliedig ar gostau rhedeg Environmental Standards Scotland. Rydym yn synnu gan y gymhariaeth hon, o ystyried y pwyslais ar greu corff wedi'i deilwra i gyd-destun Cymru, ac rydym yn siomedig nad yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn darparu unrhyw ddadansoddiad o'r costau rhedeg blynyddol hyn, yn enwedig mewn perthynas â staffio ac effaith y costau ar Archwilio Cymru. Mae hyn mewn cyferbyniad â'r fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth, lle darperir dadansoddiad clir o gostau staffio a gweithredu.

O ganlyniad, rydym wedi gofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog roi mwy o fanylion am gost rhedeg flynyddol y swyddfa ac egluro sut mae ffigurau'r Alban wedi'u haddasu ar gyfer Cymru. Yn ogystal, rydym wedi gofyn am ddadansoddiad o'r adnoddau staffio sydd eu hangen i redeg y swyddfa, ac amcangyfrif o effaith y gost ar Archwilio Cymru, gan ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

Rwy'n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein tri argymhelliad olaf ac wedi ymrwymo i ddiweddaru'r RIA ar ôl Cyfnod 2. Rwy'n croesawu'r dull cadarnhaol y mae wedi'i gymryd wrth ymgysylltu â'r pwyllgor ar y Bil hwn. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Mae'n ddiwrnod da i Gymru heddiw bod hyn yn cael ei gyflwyno, a byddwn ni fel grŵp yn cefnogi'r Bil hwn mewn egwyddor. Fel y soniodd Cadeiryddion eraill pwyllgorau, mae llawer mwy i'w wneud ar hyn o ran yr agweddau ariannol, ond, hefyd, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y Bil hwn bellach yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac, yn wir, y bobl a'r busnesau hynny sy'n credu y gallan nhw lygru ein tir a'n dyfroedd.

Mae'n destun cywilydd cenedlaethol, fodd bynnag, mai Cymru yw'r genedl olaf yn y Deyrnas Unedig i gael swyddfa ddeddfwriaethol briodol ar gyfer diogelu'r amgylchedd, fel y tynnwyd sylw ato gan ein cyd-Aelod Alun Davies AS yn ystod sesiynau craffu blaenorol. Addawyd y Bil hwn yn 2018 a dyma ni nawr yn 2025. Fel y dywedodd Alun, mae hwn yn fethiant gwleidyddol difrifol, ac rwy'n cytuno ag ef. Mae hyn bellach wedi gosod y Senedd a'r Bil mewn sefyllfa anodd iawn. Gan na fydd y rhan fwyaf o ddarpariaethau'r Bil hwn yn dod i rym tan y seithfed Senedd, mae posibilrwydd a siawns gwirioneddol na fydd yn cyflawni ei bwrpas terfynol y mae pob aelod o'n pwyllgor wedi ymrwymo iddo. Fe ddylem ni roi sylw i'r rhybudd gan Dr Viviane Gravey. Fe ddywedodd hi

'mae llawer o'r Bil hwn wedi ei sgrifennu ar sail y dybiaeth y bydd Gweinidogion Cymru heddiw a'r dyfodol o hyd yn gofalu am yr amgylchedd'—

a dyna yw'r broblem—

'Mae'n grêd braf i'w harddel, ond rwy'n credu os ydych chi'n ymdrechu i greu Bil, mae angen i chi baratoi ar gyfer adeg pan fydd gennych chi Weinidogion yng Nghymru na fydd yn poeni cymaint am yr amgylchedd.'

Mae yna gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol rhwng llawer ohonom ni yma heddiw ac, yn wir ymhlith ein pwyllgor, ond mae risg wirioneddol, ar ôl yr etholiadau y flwyddyn nesaf, y gallai fod, mewn rhyw ffordd, Llywodraeth sy'n —. Mae'n debyg y gallwn i feddwl am blaid fel Reform, sydd wedi bod yn ddetholus iawn, iawn, yn sôn am lawer o bethau y maen nhw'n mynd i'w wneud a pheidio â'i wneud, a byddai'n gymaint o drueni pe na bai'r math hwnnw o gonsensws trawsbleidiol ar gyfer yr hyn mae arnom ni eisiau ei ddiogelu heddiw.

Tynnwyd sylw at rywbeth arall a allai peryglu tanseilio'r ddeddfwriaeth hon gan Ruth Chambers, a ddywedodd,

'Holl ddiben integreiddio yw rhoi lle i'r amgylchedd ym mhob polisi.

'Mae'r Bil...yn cyfyngu'r ddyletswydd integreiddio i bolisi amgylcheddol yn unig... Pam fod â dyletswydd i integreiddio'r amgylchedd i'r amgylchedd? Nid yw'n gwneud synnwyr. Felly, rwy'n credu bod y cwmpas yn broblem'.

Fel y prif Aelod dros y Ceidwadwyr Cymreig ar y mater yma, rwy'n bwriadu i ni gyflwyno rhai gwelliannau cadarn iawn, yn y dyfodol.

Methiant arall yw diffyg datganiad drafft adran 6. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw ddadl a dim craffu ar y datganiad gan y Senedd nac unrhyw bwyllgor. Dyma enghraifft arall o'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn adnabyddus amdano yn y llyfrau hanes: gogor-droi a datblygu Biliau sy'n darparu fframwaith yn hytrach na manylion. Edrychwch ar Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025, a nawr y Bil hwn. Yr hyn sy'n gyffredin i bob un ohonyn nhw yw gor-ddibyniaeth ar reoliadau, datganiadau a chanllawiau yn y dyfodol. Mae'n ddull deddfwriaethol a allai wirioneddol lesteirio unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol. Er enghraifft, lle'r Llywodraeth nesaf fydd drafftio ac ymgynghori ar dargedau. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, Dirprwy Brif Weinidog, pam ydych chi'n parhau i wrthod y prif darged o wrthdroi'r dirywiad mewn natur erbyn 2030 a'i adferiad clir erbyn 2050? Fel y nododd Cyswllt Amgylchedd Cymru, mae'r amserlen tair blynedd ar gyfer cyflwyno rheoliadau, sy'n gosod y gyfres gyntaf o dargedau, yn golygu na fydd targedau'n cael eu gosod tan 2029. Mae hyn yn wallgof, fel y mae fy nealltwriaeth efallai na fydd cynlluniau cyflawni ochr yn ochr â thargedau statudol. Ac yna mae gennym ni Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru—yr OEGW. Fel gyda phob corff, mae eglurder pwrpas ac atebolrwydd yn hanfodol. Am y rheswm hwn mae angen mynd i'r afael â phryderon ynghylch swyddogaeth y swyddfa, ac mae angen mynd i'r afael â nhw fel rhan o unrhyw welliannau yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y byddwn yn gobeithio mynd i'r afael â'r pwyntiau hynny yn y dyfodol.

Yn olaf, cafwyd rhywfaint o ystyriaeth ynglŷn â'r berthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yr hyn y byddwn yn croesawu eglurder arno nawr yw sut y bydd y Bil hwn yn cyd-fynd â Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Er enghraifft, mae perygl y gallai fod gwrthdaro rhwng nodau'r ddeddfwriaeth hon â'r pedwerydd amcan, sef gwarchod a gwella'r cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, a hyrwyddo mynediad y cyhoedd atyn nhw a'u hymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg, hyrwyddo a hwyluso ei defnydd. Ar y cyfan, mae'r egwyddorion cyffredinol yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae'r manylion coll sydd wedi'u hamlygu nid yn unig gen i, ond gan eraill heddiw, a'r oedi gyda'r Bil hwn, yn symbol o fethiant gan y Llywodraeth Lafur bresennol hon yng Nghymru—

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:55

—bod angen i ni nawr gymryd yr argyfyngau natur a hinsawdd o ddifrif. 'Gwell hwyr na hwyrach', medd pobl. Rwy'n gobeithio, gyda'r mater hwn, nad rhy ychydig, rhy hwyr yw hi. Diolch yn fawr.

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog, a diolch i dîm y Bil a'r rhai sydd wedi cynorthwyo'r pwyllgor dros yr wythnosau diwethaf, a'r rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni hefyd. Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth. Rwy'n ei groesawu fe, ac rŷn ni fel plaid yn gefnogol o'r egwyddorion y tu ôl iddo.

Ie, mae'n hirddisgwyliedig, ac ydyn, rydyn ni wedi bod ar ei hôl hi gyda'r bwlch llywodraethiant amgylcheddol. Mae hynny oll yn destun gofid. Ond mae'n rhaid i ni nawr ffocysu ar beth sydd o'n blaenau. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i groesawu rhanddeiliaid i drafodaeth ford gron am y prif heriau amgylcheddol sy'n wynebu ein cymunedau ac fel y gall y Bil hwn gael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r rheini.

Mae'r Bil hwn yn y pen draw yn Fil am rym, Bil a allai ddechrau cywiro'r anghydbwysedd grym sydd wedi bodoli yn ein cymunedau ers yn rhy hir—cymunedau sydd wedi grymuso'r byd gyda'n hadnoddau, ond sydd wedi'u gadael wedi'u dadrymuso gan waddol diwydiant, aer budr, tir halogedig, afonydd llygredig. Gallai'r Bil hwn, os caiff ei ddeddfu'n gywir, o'r diwedd rymuso dinasyddion i arfer eu hawliau i amgylchedd sy'n lân, byd naturiol sy'n ffynnu, trwy gorff sydd yno i weithio iddyn nhw. Dyna'r nod. Dyna beth fyddwn ni'n pwyso amdano, ac fe hoffwn i ddiolch ar y Cofnod i Cyswllt Amgylchedd Cymru, y Gynghrair Werdd, yr RSPB, y WWF, Cyfeillion y Ddaear Cymru, yr holl grwpiau hynny sy'n ceisio gwneud y Bil hwn yn well. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw wrth i'r Bil fynd rhagddo.

Nawr, byddaf yn canolbwyntio yn fy ychydig sylwadau ar ba welliannau sydd angen eu gwneud yn y Bil hwn. Mae rhai ohonyn nhw eisoes wedi'u hamlinellu, wrth gwrs, gan y Dirprwy Brif Weinidog y prynhawn yma, ac, unwaith eto, rwyf eisoes wedi nodi fy mod i'n cefnogi ei egwyddorion. Nawr, wrth amlinellu ei egwyddorion ei hun, y newid mwyaf y mae angen i ni ei weld yn y Bil o ran y Rhan gyntaf yw sicrhau bod y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru yn berthnasol i bob polisi, nid polisi amgylcheddol yn unig, fel arall rydym ni'n peryglu gweithio mewn corneli. Nawr, rwy'n croesawu rhywfaint o'r geiriad a glywais gan y Dirprwy Brif Weinidog ar hyn.

Ac yna i droi at Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru ei hun, mae'n rhaid iddo fod yn annibynnol ar y Llywodraeth. Rhaid pwysleisio hynny'n benodol. O ran cyllid, mae angen digon o arian arno. Nawr, mae'n destun chwilfrydedd, ac roedd y Pwyllgor Cyllid, rwy'n gwybod, wedi cwestiynu'r rhesymeg dros seilio costau Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru ar fodel yr Alban. Rhagwelir y bydd y corff yn cael mwy na £300,000 yn llai na chorff yr Alban pan fydd gan y Swyddfa gylch gwaith ehangach. Fe hoffwn i ddeall mwy am hynny, os gwelwch yn dda.

Siaradais am rym. Mae'r graddau y bydd gan ddinasyddion unigol yng Nghymru neu sefydliadau anllywodraethol y grym i gyfarwyddo'r corff hwn i wneud rhywbeth—i ymchwilio, neu gywiro anghywir—ymhlyg, nid yn benodol. Mae angen newid hynny, unwaith eto, os ydym ni wir eisiau grymuso pobl. Pam na all dinasyddion Cymru gael yr un hawliau penodol â dinasyddion mewn gwledydd cyfagos? Unwaith eto, roedd rhai geiriau ar hyn yn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, a byddwn yn awyddus gwybod pa mor bellgyrhaeddol fydd y newidiadau yn hynny o beth.

Mae yna gwestiwn ynghylch yr awdurdodau cyhoeddus hynny mewn meysydd a gedwir yn ôl—fel Ystad y Goron, Network Rail a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder—sy'n gweithio mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. A fyddan nhw'n yn dod o dan gylch gwaith Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru? Unwaith eto, nid yw'n glir. Rwy'n sylweddoli bod hynny'n fater o gymhwysedd, ond yn sicr fe ddylem ni fod yn mewnosod grymoedd i Lywodraethau'r dyfodol ddiweddaru'r rhestr hon wrth i rymoedd pellach ddod i'r lle hwn.

O ran diben cyffredinol Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, mae ein pwyllgor, Archwilio Cymru a'r aseswr dros dro i gyd wedi dadlau bod yn rhaid cwtogi hyn i ganolbwyntio ar ddiogelu'r amgylchedd ac asesiadau yn unig, i ddarparu eglurder o ran diben, ac osgoi unrhyw berygl o ddryswch neu lastwreiddio.

O ran targedau, mae angen targedau tymor hir a thymor byr arnom ni. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ar hynny. Mae angen gosod y targedau yn gyflymach. Unwaith eto, rwy'n croesawu bod yna weithredu ar hyn. Efallai y byddai 18 mis yn fwy rhesymol na dwy flynedd, ond mae'n dda ei fod wedi ei leihau o dair blynedd.

Mae angen i ni hefyd weld targedau sydd nid yn unig yn canolbwyntio ar wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ond ar ei adfer, er mwyn osgoi Llywodraethau'r dyfodol yn gallu tanseilio'r hyn y mae'r Bil hwn yn ei fwriadu. Dylai Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru fod â rhan wrth fonitro ac adrodd ar y targedau hynny. Mae hwn yn Fil a fydd yn llwyddo dim ond os caiff ei weithredu'n gadarn. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i gynnwys y ddau newid mawr hyn a pheidio â'u cysylltu.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe wn i fod fy amser yn y ddadl hon yn brin, ond dyna rai o'r gwelliannau y byddaf yn pwyso amdanynt. Byddaf yn dweud eto, i gloi, y gallai'r Bil hwn rymuso cymunedau Cymru mewn ffordd a allai fod yn dawel chwyldroadol. Gallai roi ymdeimlad o ddylanwad a llais yn ôl i leoedd sydd wedi dioddef o ddirywiad amgylcheddol ac ecsbloetio. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach.

18:00

Rwy'n cefnogi'n gryf egwyddorion y Bil hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn eu cefnogi yma heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig bod gennym ni Fil cryf yng Nghymru, sy'n dangos ein hymrwymiad i'r amgylchedd, i fioamrywiaeth, ac i natur yng Nghymru. Rwy'n falch y bûm i ar y pwyllgor newid hinsawdd sydd wedi bod yn craffu ar y Bil trwy gydol Cyfnod 1. Rwy'n credu bod argymhellion y pwyllgor yn bwysig iawn ac yn gryf iawn.

Fe wn i y bu'r Ysgrifennydd Cabinet yn barod iawn i dderbyn, ac y bu'n gwrando'n ofalus iawn ar y pwyllgor a hefyd ar yr holl sefydliadau rhagorol sydd gennym ni yma yng Nghymru sy'n eirioli dros yr amgylchedd. Roedd ei gyflwyniad i'r ddadl yn galonogol iawn, ac roeddwn i'n gallu gweld ei fod yn cyd-fynd â llawer o'r argymhellion rydym ni wedi'u gwneud yn y pwyllgor. Yn amlwg, bydd yn rhaid i ni aros i weld ymateb ffurfiol y Llywodraeth, ond, fel y dywedaf, mae'n swnio'n addawol iawn.

Ddoe, roeddwn i hefyd yn falch iawn o gwrdd â nifer o sefydliadau, fel y mae Delyth wedi cwrdd—y Gynghrair Werdd, yr RSPB, Cyswllt Amgylcheddol Cymru a Plantlife—lle buom yn trafod y Bil. Fe ddywedon nhw faint maen nhw'n croesawu'r Bil, ac roedden nhw'n frwdfrydig iawn amdano. Ond roedden nhw'n gobeithio y byddai'n cael ei gryfhau mewn rhai ffyrdd, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi mynd i'r afael â nifer o'r materion hynny yn ei gyflwyniad. Mae wedi ymdrin ag argymhelliad y pwyllgor, gyda chefnogaeth y gwahanol sefydliadau, y dylai'r ddyletswydd a roddir ar Weinidogion Cymru gwmpasu'r holl bolisi, ac nid dim ond yr hyn sy'n ymdrin yn benodol â'r amgylchedd, sef ein hargymhelliad 2 ni. Rwy'n credu ei fod wedi dweud yn ei gyflwyniad bod hynny'n rhywbeth y byddai'n cyd-fynd ag ef. Hefyd, dylid diogelu ein hargymhelliad 12, y dylai'r corff goruchwylio newydd fod yn annibynnol, gael yr adnoddau a'r cyllid cywir i wneud ei waith yn gywir—argymhelliad 15.

Mae'r asiantaethau amgylcheddol hefyd yn pwysleisio, rwy'n credu fel y mae Delyth eisoes wedi dweud, y dylai fod hawl i'r cyhoedd a sefydliadau gyflwyno sylwadau i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru os oeddent yn teimlo bod methiant i gydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, sef ein hargymhelliad 21. Ac yn olaf, dylai fod targedau tymor byr yn ogystal â hirdymor, a dylid cyflwyno'r dyddiad terfynol ar gyfer deddfu. Felly, rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn, yr hyn a ddywedodd yn y dechrau. A hefyd, roedd yr RSPB yn awyddus i bwysleisio eu bod yn croesawu 'atal a gwrthdroi', ond maen nhw'n credu y dylid cynnwys 'adfer'. A sylwais iddo ddefnyddio'r gair 'adfer' yn benodol yn ei gyflwyniad.

Un o'r rhesymau pam rwy'n cefnogi'r Bil hwn yn gryf iawn yw fy mod yn hyrwyddwr rhywogaethau y Senedd ar gyfer y capiau cwyr. Rydym yn gwybod, pan fydd capiau cwyr yn ffynnu, ei fod yn arwydd da bod bioamrywiaeth yn mynd yn ffynnu. Bob hydref, rydw i wedi ymweld â man yng Nghaerdydd lle ceir capiau cwyr. Y llynedd, es i gronfa ddŵr Llysfaen, a'r flwyddyn gynt es i fynwent Cathays, ac roedd hi'n gwbl wefreiddiol a chyffrous dod o hyd i'r capiau cwyr hollol hardd hyn, nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod eu bod yno nes y dygwyd nhw i fy sylw. Rydw i wedi bod gyda Plantlife Cymru bob blwyddyn.

Mae Cymru yn cael ei dosbarthu fel lle rhagorol ar gyfer capiau cwyr ac, o safbwynt yr Undeb Ewropeaidd, rydym ni'n wirioneddol ar flaen y gad. Ond rwy'n credu nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli, hyd yn oed pan nad yw'r ffyngau yn weladwy, eu bod yn dal i fod yno yn segur yn y pridd, a dyna pam mae'n hollol bwysig gydag unrhyw ddatblygiadau sy'n digwydd, unrhyw wrtaith sy'n cael ei ddefnyddio, y dylid cymryd gofal gwirioneddol nad ydym ni'n niweidio pethau fel y capiau cwyr sydd o dan yr wyneb. Felly, rydw i eisiau dweud fy mod i'n meddwl mai dyna un o'r rhesymau rwy'n teimlo mor frwdfrydig, ar ôl cael y wefr o weld y capiau cwyr hyn.

Rwy'n gwybod bod llawer iawn o gefnogaeth yn y gymuned i'r Bil hwn, ac rwyf wedi cael e-byst di-ri gan etholwyr yn fy annog i gefnogi'r Bil a'i gryfhau yn y ffyrdd y gwnaethom ni eu trafod. Rwyf hefyd wedi derbyn llythyr, yn rhyfeddol, gan etholwr dwy a thri chwarter oed, y byddaf yn ei ddal i fyny i'w ddangos i chi, yn dweud wrtha i pa mor bwysig yw natur iddi. Yn ddiweddar, gwelodd las y dorlan ym mharc y Rhath. Gofynnodd i mi sôn wrthych chi yn benodol am y ffaith y dylai'r Bil gwmpasu pob maes polisi fel y gall barhau i fwynhau natur wrth iddi brifio ac i sicrhau bod dyfodol gwell i bobl a natur yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai gan yr Ysgrifennydd Cabinet unrhyw sylwadau penodol ar gyfer fy etholwr ifanc iawn, sydd â dyfodol disglair o ymgyrchu o'i blaen. Diolch. 

18:05

Mae'n wych clywed bod cymaint o gonsensws ar draws y Siambr ar gyfer hyn, ac mae'n hollol briodol mai felly y dylai hi fod. Rwyf hefyd wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr, ac felly rwy'n credu ei bod hi'n gwbl amlwg bod llawer o bobl yn angerddol iawn am natur a'r amgylchedd ac yn bryderus iawn am ei gyflwr presennol. Gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddifodiant yng Nghymru, a Chaerdydd yn un o'r dinasoedd sydd fwyaf mewn perygl o ran llifogydd, mae angen i ni gymryd camau nawr i wrthdroi'r problemau rydym ni'n eu hwynebu.

Un o'r pethau y mae angen i'r Bil hwn ei wneud yw sicrhau bod afonydd a gorlifdiroedd yn cael eu diogelu rhag datblygu, oherwydd fel arall byddant yn torri Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a phobl y dyfodol fydd yn rhaid clirio'r llanast a grëwyd pan fyddwn yn adeiladu yn y lleoedd anghywir.

Rwy'n cytuno â phobl eraill bod yn rhaid i'r egwyddorion amgylcheddol hyn fod yn berthnasol i bob polisi, oherwydd nid yw'n ddefnyddiol canolbwyntio ar yr amgylchedd yn unig, mae'n rhaid i chi ganolbwyntio ar bob agwedd ar bolisi cyhoeddus, ac mae bod yn gynhwysfawr yn hollol hanfodol. Mae angen mwy o fwytawyr sglefrod môr, oherwydd bydd o fudd i dwristiaeth, ac yn bendant mae angen i ni hefyd wahardd plastig rhag halogi llysiau, oherwydd ein hiechyd—gweler cynnig Rhys ab Owen yr wythnos diwethaf.

Mae llawer o ohebwyr wedi dweud ei bod hi'n hanfodol bod yn rhaid i'r swyddfa llywodraethu amgylcheddol fod yn gwbl annibynnol, ac mae angen ymgorffori hynny yn y Bil. Mae angen i ni ddiogelu hyn yn y dyfodol, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders. Felly, fe hoffwn i weld mwy o rôl i'r Senedd wrth benodi aelodau'r bwrdd fel nad ydym yn cael Llywodraeth yn y dyfodol sydd eisiau gwyrdroi cynnydd ar yr amgylchedd gan benodi pobl na fydd yn gwneud dim.

Rwy'n credu hefyd ei bod hi'n bwysig iawn, o ystyried diddordeb pobl ledled Cymru, fod y cyhoedd yn gallu anfon sylwadau i'r swyddfa llywodraethiant amgylcheddol os ydyn nhw'n meddwl nad yw sefydliadau'n cadw at y gyfraith, oherwydd ni all y swyddfa hon fod ym mhobman trwy'r amser. Mae gan bawb—boed yn gasglwyr sbwriel neu bobl sydd eisiau mynd i nofio mewn dŵr heb ei lygru—ran i'w chwarae yn hyn. Mae angen i ni gael egni ac ymrwymiad dinasyddion i wella ein hamgylchedd presennol.

Rwy'n credu bod angen i'r targedau fod yn rhai doeth. Ni allwn ni gael targedau gwan ac mae angen i ni osod rhai targedau yn llawer cyflymach nag ar gyfer 2029. Mae angen targedau tymor byr arnom ni i ddelio â materion uniongyrchol ac mae angen targedau clir iawn. Clywais beth oedd pobl eraill yn ei ddweud am 2030. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol yn hyn ac mae angen i ni sicrhau bod y targedau yn gwrthdroi'r dirywiad a fu, gan sicrhau ein bod yn adfer natur ym mhob ardal. Ni allwn ei adael i ryw brosiect ail-wylltio pell i ffwrdd, na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn cael ei weld, er bod ganddyn nhw ran bwysig hefyd. Rydym ni eisiau i bawb yng Nghymru allu mwynhau natur a'i rhyfeddod.

Edrychaf ymlaen at glywed y cynigion penodol a wneir yng Nghyfnod 2 i gryfhau'r Bil hwn a'i wneud yn addas i'r diben.

18:10

Dyma Fil arall a wnaed yn angenrheidiol gan Brexit a'r diffyg llywodraethu a ymddangosodd pan beidiodd goruchwyliaeth y Comisiwn Ewropeaidd a'r llysoedd. Ond ni all natur aros mwyach. Fel y dywedodd Janet yn gynharach, rwy'n bryderus iawn am yr ansicrwydd gwleidyddol presennol. Rydym ni wedi gweld yn aml fod y pleidiau hynny a symbylodd Brexit, ac sy'n dal i ddiystyru brys yr argyfyngau natur a hinsawdd, yn barod i ohirio neu lastwreiddio gweithredu. Ni allwn ni ganiatáu i hyn ddigwydd yng Nghymru.

Rhaid i'r Bil hwn basio cyn diwedd tymor y Senedd, a rhaid iddo gynnwys amserlen glir, gyfreithiol gyfrwymol ar gyfer gweithredu. Dim ond wedyn y gallwn ni sicrhau na chollir y momentwm y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'i feithrin ar wella'r amgylchedd.

Mae'r rhai sy'n anwybyddu natur yn methu â gweld ei fod yn sail i bopeth: ein hamgylchedd, ein heconomi, a'n lles. Mae'n gydbwysedd cain, ac os ydym ni'n ei gymryd yn ganiataol, yna gwae ni. Dyna pam mae'n rhaid i'r ddeddfwriaeth hon nodi targedau tymor byr a hirdymor sy'n gyfreithiol gyfrwymol. Rhaid i lywodraethau olynol gael eu dwyn i gyfrif am weithredu brys, ac mae hynny'n golygu buddsoddiad parhaus hefyd. Rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi mynd i'r afael â hyn yn y cyflwyniad. Mae'n nodio—mae hynny'n dda.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol, a thrwy'r rhaglen Rhwydweithiau Natur, mae wedi buddsoddi'n sylweddol mewn adfer cynefinoedd a chreu partneriaethau natur lleol sy'n gwneud gwaith rhagorol gyda chymunedau ledled Cymru. Mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi creu mwy na 4,000 o fannau natur ar gyfer tyfu cymunedol, gyda chefnogaeth tua 20,000 o wirfoddolwyr. Mae'r prosiectau hyn nid yn unig yn adfer ein hamgylchedd, maen nhw'n trawsnewid bywydau pobl trwy'r lles meddyliol a chorfforol sy'n dod yn eu sgil.

Erbyn hyn mae gennym ni fwy na 2,400 o safleoedd pryfed peillio, 700 o berllannau cymunedol, ac 86 o erddi therapiwtig. Rydym ni hefyd wedi gweld cyllid ar gyfer coridorau bywyd gwyllt, safleoedd natur lleol, a rheoli ochrau ffyrdd i gefnogi bioamrywiaeth. Ger Llanelwy, er enghraifft, oherwydd newid yn rheoli ochrau ffyrdd, mae bioamrywiaeth wedi cynyddu 300 y cant, a hynny mewn dim ond pedair blynedd. Dyna sut beth yw cynnydd, ac mae'n rhaid iddo barhau.

Mae angen i ni gysylltu pobl â natur fel eu bod yn ei werthfawrogi a'i ddeall mewn gwirionedd, fel Julie a'i chapiau cwyr. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth. Rhaid i ni hefyd fod yn glir ynglŷn â'r hyn rydym ni'n ei olygu wrth 'amgylchedd'. Yn rhy aml, mae'r gair yn cael ei ddehongli'n hollol lythrennol, gan ganolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig, newid hinsawdd, neu dargedau carbon, gan hepgor natur. Rhaid i egwyddorion amgylcheddol lywio pob polisi ar draws pob adran, a rhaid iddyn nhw gynnwys bioamrywiaeth yn benodol.

Rwy'n cofio fel cynghorydd bod polisi amgylcheddol yn aml yn cael ei ystyried fel rhywbeth yn ymwneud dim ond â lleihau carbon, ynni adnewyddadwy, ailgylchu, neu gerbydau trydan—nid oedd pobl yn deall. Mae'r rhain i gyd yn bwysig, ond heb ystyried yr argyfwng natur a cholli bioamrywiaeth, mae'r darlun yn anghyflawn. Rhaid crybwyll bioamrywiaeth yn glir ar wyneb y Bil. Ni all cyrff cyhoeddus adael hyn i adrannau priffyrdd, stryd neu gynllunio. Mae gan bob rhan o'r Llywodraeth ran yn hyn, yn addysg a gofal cymdeithasol a datblygu busnes.

Ac yn olaf, fel y soniwyd yn gynharach, rhaid i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru fod yn wirioneddol annibynnol, wedi'i diogelu rhag ymyrraeth wleidyddol a bod â chyllid digonol i wneud ei gwaith yn effeithiol. Rwy'n credu bod hynny'n cael sylw hefyd yn y rhagymadrodd, ond ni chawsom ni gyfle i ddarllen y datganiad hwnnw o'r blaen, felly ymddiheuraf os ydw i wedi ei gynnwys nawr. Mae'n ddarn o ddeddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol, a fydd â rhan allweddol wrth ddiogelu a gwella ein hamgylchedd ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan gefnogi Cymru gydnerth a'n helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang, ac rwy'n falch o'i chefnogi yn y dyfodol.

18:15

Mae'n rhaid i ni wneud mwy na dim ond pasio deddfwriaeth ddatganiadol, oherwydd nid oes gan ddeddfwriaeth ddatganiadol unrhyw ddannedd, ac mae hon yn her sydd gen i i'r Llywodraeth yn hyn o beth. Rwy'n cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil hwn a byddaf yn pleidleisio drosto. Fodd bynnag, mae arnaf i eisiau herio'r consensws sydd gennym ni yma, oherwydd yn rhy aml mae gwagedd gwleidyddion yn teyrnasu, ac rydym yn credu y gallwn ni newid pethau yn eithaf sylfaenol ac fel arfer y tu hwnt i'n rheolaeth yn syml trwy basio deddfau ar y materion hyn. Nawr, mae'r Llywodraeth yn gofyn i ni basio'r ddeddfwriaeth hon cyn diddymu'r Senedd, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn yn gwneud hynny. Ond rwy'n cofio pan oedd hyn yn bwysig ac yn argyfwng yn ôl yn 2018, a phan awgrymodd y Llywodraeth y ddeddfwriaeth hon am y tro cyntaf, ac nid oedd y Gweinidog, y Dirprwy Brif Weinidog, yn gallu cynnig unrhyw esboniad credadwy o gwbl pam mae hi wedi cymryd saith mlynedd i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon.

Nawr, pe bai hyn yn rhywbeth unwaith yn unig, ac mai dim ond un o'r pethau hynny oedd hwn, byddwn i'n eithaf bodlon gwrando ar yr hyn sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd wedi clywed Gweinidogion yn esbonio pam y cyflwynwyd deddfwriaeth iechyd cyhoeddus, yr wyf yn cofio ei chyflwyno gyntaf gan Mark Drakeford pan oedd yn Weinidog Iechyd yn ôl yn y Senedd yn 2011. Ni lwyddwyd ei phasio cyn diddymu'r Senedd, ac rydym ni i gyd yn cofio hynny yn 2016. Cafodd ei ailgyflwyno, yna, ar ôl yr etholiad, ac fe'i gweithredwyd trwy offerynnau statudol yn y chwe mis diwethaf ac yn y flwyddyn ddiwethaf. Nawr, pam mae wedi cymryd degawd i'r Llywodraeth wneud hynny? Mae angen esboniad gweddus gan y Llywodraeth pam mae pwerau yn cael eu darparu gan y lle hwn, ond nad ydyn nhw'n yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth. Ac fe welsom ni'r un peth gyda'r ddeddfwriaeth rhentu cartrefi. Rwy'n cofio eistedd ar y pwyllgor hwnnw, pwyllgor y Bil hwnnw; Lesley Griffiths oedd yn sefyll o'n blaen ar y pryd cyn diddymu'r Senedd yn 2016. Dywedwyd wrthym ni bryd hynny, ac fe wnaethon ni bleidleisio drosto, bod angen i ni wella bywydau rhentwyr yng Nghymru. Dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, y gwireddwyd hynny. Felly, pam y gofynnir i ni bleidleisio dros y ddeddfwriaeth hon dro ar ôl tro, ond nid yw'r Llywodraeth yn gallu cyflawni canlyniadau'r gyfraith hon ac nid yw'n gallu cyflawni'r polisi? Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylai fod angen ymchwiliad seneddol iddo. Fe ddylem ni adolygu pam a sut mae'r Llywodraeth nid yn unig yn deddfu ond yn cyflawni polisi, oherwydd mae methiannau gwirioneddol yma. Mae yna fethiannau gwirioneddol yma o ran y broses seneddol a llywodraethol. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylai pob un ohonom ni, ar draws y Siambr hon gyfan, fod â diddordeb ynddo ac y dylen ni ei adolygu. Felly, rwy'n credu bod angen esboniad gan y Dirprwy Brif Weinidog pam mae hyn wedi cymryd cymaint o amser. Fe roesom ni sawl cyfle iddo esbonio hyn yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac, mae arna i ofn dweud, ni dderbyniodd unrhyw un ohonyn nhw. Felly, chi sy'n gyfrifol, mae arna i ofn, Dirprwy Brif Weinidog. Mae arnom ni angen ac rydym yn haeddu, ac mae'r Senedd hon yn haeddu, esboniad.

Ond mae angen i ni hefyd edrych o ddifrif ar sut rydym ni'n deddfu yn y fan yma, oherwydd rydw i newydd glywed nifer o areithiau am osod targedau, fel pe bai'r weithred o osod targedau mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau'r targedau hynny. Wel, wrth gwrs, roedd y ddyletswydd i gyflawni datblygu cynaliadwy yn rhan o ddeddfwriaeth 1998 a sefydlodd y fan yma yn y lle cyntaf. Ond nid oedd hynny'n ddigon da, felly yna fe gawsom ni'r Bil datblygu cynaliadwy, a drodd yn Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, a gyrhaeddodd y llyfr statud yn 2015 neu 2016. A nawr mae gennym ni Fil arall, sef gosod targedau i gyflawni'r union bethau yr oeddem ni'n meddwl ein bod yn eu cyflawni tua degawd yn ôl. Ond rydym ni hefyd wedi cael Bil yr Amgylchedd (Cymru), a ddaeth yn Ddeddf yn 2015 neu yn 2016 eto, fe gawsom ni Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 drwy'r Senedd hon, ac fe welsom ni sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl gynlluniau gwahanol y dywedwyd wrthyn nhw eu gwneud er mwyn cyflawni'r math o reolaeth dros ecoleg ac ecosystemau yr ydym ni newydd glywed yn cael ei drafod y prynhawn yma. Felly, rydym ni'n creu strwythurau a thargedau newydd fwyfwy biwrocrataidd a chymhleth na fydd yn cael eu cyflawni ac, mewn gwirionedd, os darllenwch chi'r Bil, ni fyddan nhw hyd yn oed yn cael eu cyflwyno tan ddiwedd y Senedd nesaf.

Felly, rwy'n credu bod angen i ni—. Byddwn yn pasio'r Bil heddiw i fynd ymlaen i'r cam nesaf, ond rwy'n credu wrth wneud hynny, mae angen i ni gael sgwrs ddifrifol, fel Senedd ac fel Llywodraeth, ynghylch sut rydym ni'n deddfu, diben y ddeddfwriaeth honno, ac yna beth rydym ni'n ei adael ar y llyfr statud. Achos mae hi'n bryder cynyddol imi ac yn destun gofid mawr imi mae'r hyn rydym ni'n ei wneud yw pentyrru cyfreithiau ar y llyfr statud na chawn nhw fyth eu cyflawni, fyth eu gweithredu—

18:20

—ac sy'n creu gofynion beichus a chymhleth ar gyrff cyhoeddus, nad ydyn nhw eu hunain yn gallu eu cyflawni, ac yna'r hyn sydd gennym ni yw dim newid yn realiti yr hyn a welwn ni o'n blaenau. Yna, felly, bydd ein plant a'n hwyrion yn pasio Deddf arall i wneud yn union yr un peth â'r hyn rydym ni'n ei wneud heddiw. Felly, rwy'n credu bod angen sgwrs anodd iawn ar y materion hyn, a dyna fy her i'r Llywodraeth.

Member
Huw Irranca-Davies 18:22:04
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch i bawb. Rwy'n croesawu'n fawr yr holl sylwadau y mae Aelodau wedi'u gwneud heddiw, a'r ysbryd y cawsant eu gwneud ynddo. Ti hefyd, Alun. [Chwerthin.]

Rwyf wedi esbonio heddiw pam mae'r Bil hwn yn hanfodol i ddiogelu a chyfoethogi’r amgylchedd.

Gadewch i mi droi, Dirprwy Lywydd—rydw i am geisio, yn gyflym iawn, iawn, gyda'ch amynedd, ddal sylw ar rai o'r sylwadau. Yn gyntaf oll, Llyr, fe gawn ni'r ymateb llawn i'ch argymhellion chi ac argymhellion Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn fuan iawn. Ond rwy'n gobeithio bod fy sylwadau rhagarweiniol, y byddwn yn awgrymu eu bod ychydig yn anarferol mewn dadl egwyddorion cyffredinol, yn manylu fel y gwnes i, yn dangos i ba raddau rydym ni'n ymateb i argymhellion y pwyllgor, ond hefyd i randdeiliaid. Ac un o nodweddion y ffordd rydym ni wedi cyflwyno'r Bil hwn yw ymgysylltu dwys â rhanddeiliaid, munud wrth funud, o ddydd i ddydd, i weld ble y gallwn ni wneud gwelliannau.

Fe wnaethoch chi sôn am bethau penodol yma. Fe wnes i grybwyll annibyniaeth Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru yn y sylwadau agoriadol—y brys. Rwy'n cytuno, fe allwn ni fanylu ar hyn yn y camau nesaf. A hefyd, fel y mae rhai pobl wedi nodi hefyd, gwneud yn siŵr na all Llywodraeth y dyfodol ddiddymu hyn yn hawdd iawn. Gall Llywodraethau'r dyfodol wneud beth bynnag mae arnyn nhw eisiau ei wneud, wrth gwrs, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth hon yn ddigon cadarn ac yn ddigon clir, ac yn anodd iawn ei gwrthdroi, ac eithrio yng ngŵydd llawn y Senedd sy'n caniatáu i hynny ddigwydd. Ac rwy'n dweud nawr, 'Gochelwch, gochelwch.'

Y sylw arbennig a grybwyllwyd gennych chi—byddwn yn trafod hyn ar y pwyllgor, ond mae'r sylw arbennig wedi ei gynnwys yn fwriadol, fel y gwnaethom ni ei amlinellu o'r blaen. Mae'n gryfach nag 'ystyried' syml. Adran 6, fel y soniais i yn fy sylwadau amlinellol—fe allwn ni ei chryfhau. Fe allwn ni gryfhau annibyniaeth, fe allwn ni gryfhau gosod targedau. Cymal 'codiad haul': diddorol, oherwydd rwy'n credu y gallaf i esbonio pan fyddwn yn ymgynnull fel pwyllgor mai dyna, i bob diben, mai dyna beth rydym ni'n ei gyflawni a'r hyn y gallwn ni ei wneud yma, ac fe allwn ni saernio hynny.

Mike, yn yr un modd, o ran craffu ystyrlon, rwy'n credu y byddwch chi wedi gweld yn rhai o'm sylwadau agoriadol, ond fe allwn ni ddod yn ôl atoch chi gyda mwy o fanylion— fe allwn ni gryfhau'r craffu ystyrlon hwnnw. Ac o ran cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer natur a bioamrywiaeth, nawr ac wrth inni fynd rhagddi â chamau dilynol, fe allwch chi fod yn sicr bod hyn yn cael ei arwain gan dystiolaeth, yn cael ei arwain gan arbenigwyr, wedi'i lunio gan randdeiliaid, ac yn glir iawn ynghylch yr hyn a ragwelir o ran canlyniadau. Byddwn hefyd yn egluro, gyda llaw, ystyr 'gwneud polisi' wrth i ni fwrw ymlaen efo hyn drwy'r pwyllgor a dehongli egwyddorion ac agweddau eraill.

Peredur, diolch am eich sylwadau. Byddwn yn darparu costau manwl pellach mewn asesiadau effaith rheoleiddiol wedi'u diweddaru wrth i hyn fynd rhagddo. Bydd amseru pethau fel adolygiadau ôl-weithredu yn cael ei bennu gan y tair ffrwd waith, a bydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyd-fynd â'r targedau bioamrywiaeth pan fyddant yn cael eu gosod mewn rheoliadau hefyd. Ac mae yna bwyntiau eraill a godwyd gennych chi, y byddwn ni yn eu harchwilio hefyd.

Janet, a gaf i ddiolch i chi am eich cefnogaeth gref? Fe wnaethoch chi grybwyll peryglon Llywodraeth yn y dyfodol nad yw'n rhoi pwys mawr ar natur. Rwy'n cytuno â chi. Os ydych chi eisiau Llywodraeth sy'n rhoi pwys ar natur, pleidleisiwch drosti. Ond byddwn ni, yn ôl fy natganiad agoriadol, yn cryfhau'r ddeddfwriaeth mewn sawl ffordd sylweddol i'w gwneud hi'n anodd iawn, iawn i Lywodraeth y dyfodol wanhau'r hyn sydd gennym ni nawr, wrth i ni ei lywi trwy'r pwyllgor, i'w rhoi ar waith mewn gwirionedd.

Delyth, rydych chi'n hollol iawn, bydd hyn yn grymuso dinasyddion a chymunedau Cymru. Roedd pwyslais cryf yn nhrafodaethau'r pwyllgor ar hyn, fel gyda rhanddeiliaid hefyd, ac fe allwn ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

Julie, roeddwn i yno gyda chi yn Llys-faen yn edrych ar y capiau cwyr gogoneddus hynny ar lannau'r gronfa ddŵr yno. Fe allaf i eich sicrhau chi, fel y dywedoch chi'n briodol, rydw i wedi bod yn gwrando ar y pwyllgor a'r rhanddeiliaid, a lle rydw i wedi clywed yr awydd i gryfhau ardaloedd, ac y gallwn ni weld y rhesymau dros wneud hynny, byddwn yn gwneud y gwelliannau hynny. Dyna oedd fy ymagwedd at ddeddfwriaeth erioed. Rydym ni'n dechrau gyda'r hyn sydd gennym ni—a byddwn yn honni, gyda llaw, bod yr hyn sydd gennym ni nawr yn dda iawn fel y mae—ond byddwn yn ei ddatblygu a byddwn yn gwella hyn, am yr holl resymau rydym ni wedi'u nodi. Felly, rwy'n awyddus i weithredu ar hyn gyda chefnogaeth pwyllgorau. Dim ond neges gan y gwneuthurwr polisi 62 mlwydd oed a thri chwarter hwn i'ch etholwr dyflwydd oed a thri chwarter: rwy'n dweud, 'Gadewch i ni wneud y byd yn lle gwell gyda'n gilydd.' Byddwn ni'n gwneud ein gwaith ni yma, ac mae gennych chi yn y fan yna rwy'n credu rhywun a fydd yn hyrwyddo'r amgylchedd yn y dyfodol.

Jenny, fe wnaethoch chi nodi'n briodol bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon i natur a bioamrywiaeth ein hafonydd a'n hamgylchedd morol, gan leihau llygredd, helpu'r capiau cwyr, a, gyda llaw, dod â budd—mae yna rai yn y Siambr hon—i'n nofwyr gwyllt hefyd wrth wneud hynny.

Carolyn, mae'n rhaid i'r Bil hwn, a gryfhawyd wrth iddo fynd rhagddo, basio, fel y gwnaethoch chi ein hatgoffa ni, yn nhymor hwn y Senedd. Mae gennym ni gyfrifoldeb. Rwy'n deall y sylwadau a wnaed gan eraill yn dweud, 'Pam mae'n cymryd mor hir?' Rydw i yn y sefyllfa ffodus bod gen i'r ddeddfwriaeth hon erbyn hyn, gyda'r swm enfawr o waith a wnaed—mae'n rhaid i ni bleidleisio ar y ddeddfwriaeth hon cyn i ni gyrraedd diwedd y Senedd. Fe allwn ni wneud hynny, yn seiliedig ar yr ymgysylltiad cadarnhaol a gawsom ni eisoes a'r gefnogaeth a gawsom ni yma yn y Siambr hon. Rydych chi'n dweud yn briodol bod hyn yn uchelgeisiol ac yn drawsnewidiol.

Alun, rwy'n derbyn eich her. Welwch chi mohona i yn plymio yn ôl i hanes hyn eto yma heddiw, ond rwy'n credu eich bod chi'n rhy besimistaidd gyda hyn. Mae hyn yn fwy na deddfwriaeth ddatganiadol. Mae gan hyn y fantais, oherwydd mae wedi cymryd ychydig yn hirach, o fod yn eithriadol—eithriadol—yn ei lluniad, ei saerniaeth. Mae'n seiliedig ar y dystiolaeth orau, gan gynnwys ein rhwymedigaethau rhyngwladol ar natur a bioamrywiaeth hefyd.

Rwy'n cofio fy rhagflaenydd yn dweud wrthyf pan oeddwn i'n gwneud yr un sylwadau â chi—'Pam na allwn ni fwrw ymlaen â hyn?' Ac roedden nhw'n dweud, 'Wel, mae angen i ni ddeall y fframwaith yn rhyngwladol hefyd, a deall, pan fyddwn ni'n datblygu'r targedau, mae'n well iddyn nhw fod y targedau cywir, nid targedau twp, rhai tila diawaledig—maddeuwch y rheg—Dirprwy Lywydd, ond mewn gwirionedd rhai sydd wedi'u saernio'n dda iawn ac sy'n dangos cryn ôl meddwl.' [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod—rhai tila. [Torri ar draws.] Diolch, dyna ni.

Mae gan hyn hefyd y fantais nawr o dynnu ar gynsail yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ac mae hynny wedi ei wella o ganlyniad. Bydd deddfwriaeth yng Nghymru yn well. Mae'n Bil da nawr, bydd yn well pan ddaw o'r pwyllgor.

O ran amseru, rwy'n falch iawn o fod yn bwrw ymlaen â hyn nawr, ac ymgysylltu'n adeiladol i gyflawni nid yn unig ddeddfwriaeth, ond canlyniadau trawsnewidiol i'r amgylchedd.

Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r amser rydym wedi ei roi i ddatblygu'r Bil wedi ei wneud yn Fil gwell. Mae hynny'n cynnwys cydweithio clos â rhanddeiliaid a gwrando ar adborth y pwyllgorau craffu. Mae hefyd yn cynnwys adeiladu dull gwirioneddol Gymreig, sy'n gryfach drwy ddysgu o'r gwersi rydym ni wedi eu gweld yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon eto.

Byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgorau gydag ymateb ar bob un o'r argymhellion a'r materion a godwyd gan wahanol Aelodau heddiw ar adroddiadau'r pwyllgor. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'n cynnig a chytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Diolch yn fawr.

18:25

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae'n ddrwg gen i, wnaethoch chi wrthwynebu, Laura? Rwy'n ymddiheuro, Laura, wnes i ddim ei weld. Mae gwrthwynebiad, felly byddwn nawr yn cynnal pleidlais yn yr amser pleidleisio.

18:30

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dydw i ddim wedi cyrraedd mor bell â hynny eto. Ar gyfer Aelodau, a allwn ni atgoffa ein hunain na allwn bleidleisio ar yr agenda ariannol nes i ni bleidleisio ar y cynnig gwreiddiol?

Felly, rydyn ni nawr wedi cyrraedd yr amser pleidleisio. 

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio. 

A oes unrhyw un eisiau canu'r gloch? Oes. Mae angen tri Aelod arnaf. Rydw i wedi cael un, dau—tri. Rydw i wedi cael tri Aelod yn gofyn am ganu'r gloch. Canwch y gloch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

18:35
9. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais ar eitem 7, egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7: Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru): O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, y penderfyniad ariannol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8: Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru): O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:38.