Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/11/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. 

O dan amgylchiadau chwerwfelys yr ydym ni'n estyn llongyfarchiadau a chroeso ein Senedd i Lindsay Whittle, yr Aelod newydd dros Gaerffili.

Croeso nôl, Lindsay.

Fe wnaeth Lindsay fy atgoffa i ychydig ddiwrnodau yn ôl, pan oedd y ddau ohonom ni'n aelodau o'r pwyllgor iechyd fel Aelodau Plaid Cymru yn ôl yn y bumed Senedd, fy mod i'n arfer ei gicio o dan y bwrdd os oeddwn i'n meddwl ei fod yn mynd oddi ar y trywydd ar unrhyw adeg. Gallaf ddweud wrth Lindsay nawr nad yw fy nghoesau yn ddigon hir i'ch cicio chi o'r fan hon, ond mae gen i reolaeth o'ch meicroffon [Chwerthin.] Felly, rwy'n mynd i agor eich meicroffon, Lindsay, a gofyn i chi rannu ychydig eiriau gyda'r Senedd.

Croeso nôl.

Yn gyntaf, diolch, Llywydd, mae'n bleser mawr gen i—

—mae'n bleser mawr cael fy nghroesawu yn ôl i Senedd Cymru. Roeddwn i yma o'r blaen ac rwy'n eithriadol o falch o fod wedi cael fy ethol i wasanaethu holl bobl etholaeth Caerffili. Fodd bynnag, wedi'i gymylu yng ngorfoledd etholiad, mae'n rhaid i ni byth, byth anghofio—a gallaf eich sicrhau chi, ni fyddaf i byth yn anghofio—cyfraniadau teilwng fy nghyfaill, Hefin David, a oedd yn golled ddofn i'w deulu ac i fywyd gwleidyddol Cymru. Roedd ei gyfraniad i wleidyddiaeth yn anferthol a mawr fydd y golled ar ei ôl; roedd Caerffili yn ei galon—gŵr a oedd â'r parch mwyaf. 

A gaf i ddiolch i'r holl bobl yma yn y Senedd hon? Mae'r staff yma wedi bod yn anhygoel. Rwyf i wedi cael wythnos gynefino anhygoel. Rwyf i wedi bod yma yn llythrennol bum diwrnod ers yr etholiad ac nid wyf i wedi rhoi'r gorau i weithio, a gallaf ddweud wrthych chi fod hynny'n arwydd gwych o aeddfedrwydd y Senedd hon, oherwydd, yn 2011, roeddech chi'n cael eich bwrw i'r dwfn yn llythrennol. Nid heddiw, ac mae hynny'n arwydd bod y Senedd yma i aros, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gwella wrth i'r degawdau fynd ymlaen ac ymlaen. A byddwch chi, pob un ohonoch chi yma, yn rhan o hanes. Ond, am y tro, hoffwn ddiolch i'r holl staff sydd wedi cymryd rhan, ac yn enwedig hefyd i Blaid Cymru, a wnaeth, yn 2011, fy mwrw i'r dwfn hefyd, ond dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny y tro hwn. Y staff a gyflogir gan Blaid Cymru hefyd, mae eu gwaith wedi bod yn ardderchog. 

Ond, am y tro, mae fy ymroddiad i holl bobl Caerffili. Byddaf yn gweithio'n ddiflino dros bob aelod o'r gymuned honno i sicrhau ein bod ni'n cael y fargen orau i'r gŵr, i'r wraig ac i'r plentyn cyffredin ar y stryd. Dyna pam rwyf i yma, ac rwy'n siŵr mai dyna pam rydych chi yma. Felly, diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich croeso. Rydych chi bellach i gyd yn ffrindiau newydd i mi, llawer ohonoch chi. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Fe awn ni ymlaen gyda'r gwaith. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n ateb y cwestiynau ar ran Eluned Morgan heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Llywydd, a chroeso yn ôl, Lindsay. Yn anffodus, nid wyf i yna yr wythnos hon, ond edrychaf ymlaen at eich gweld chi yno.

Cau Ysgolion Gwledig

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y broses ar gyfer cau ysgolion gwledig? OQ63361

Member
Huw Irranca-Davies 13:33:43
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Janet. Llywydd, os gwnewch chi faddau i mi am eiliad, a gaf i estyn fy nghroeso fy hun, a chroeso fy ngrŵp, i'n Haelod diweddaraf o'r Senedd, Senedd Cymru, Lindsay Whittle AS? Hefyd, a gaf i gymeradwyo'r deyrnged yr ydych chi newydd ei thalu ac, yn wir, y deyrnged a dalwyd gennych chi ar y noson, yn y cyfrif—ac roeddwn i yno—i gyn gyd-Aelod y mae hiraeth mawr ar ei ôl ac annwyl iawn, Hefin David, pan wnaethoch chi gydnabod yn eich araith dderbyn bod Hefin yn hyrwyddwr pybyr dros Gaerffili, a thros Gymru, ac y byddai'n gamp anodd ei ddilyn? Ac rydym ni'n cytuno, ond gwn ein bod ni'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelod newydd dros Gaerffili yma yn y Siambr ac ar bwyllgorau, ac mewn mannau eraill. Felly, croeso i chi. 

Janet, rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw ysgolion i'n cymunedau gwledig, a dyna pam mae ein cod trefniadaeth ysgolion yn cynnwys darpariaethau arbennig ar gyfer ysgolion gwledig. Mae'n rhaid i gynigion i'w cau ddilyn proses fwy manwl. Nid yw hyn yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau, ond mae'n gosod safonau uchel ar gyfer ymgynghori, gan roi cyfle i bawb â buddiant leisio eu barn, ac yn ei gwneud yn ofynnol ystyried pob dewis amgen posibl.

Diolch. Diolch am hynna. Rwy'n gwybod bod model llym ar gyfer naill ai cau neu uno ein hysgolion gwledig. Ein hysgolion cynradd yw curiad calon cymunedau gwledig. Nawr, yn fy awdurdod lleol i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mewn cymunedau fel Betws-y-coed ac Ysbyty Ifan, nid yn unig y maen nhw'n fannau dysgu ond yn sbardun i'r iaith Gymraeg a chydlyniant cymdeithasol. Nawr, rwy'n siomedig iawn bod aelodau Plaid Cymru ar yr awdurdod lleol, ac, yn wir, aelod y cabinet, am yr eildro bellach yn gwthio cynigion drwodd ar gyfer ymgynghoriad ar eu cau. Nawr, rydych chi'n dueddol o ddweud, 'Gwych, dyna'n union sut y dylai fynd'. Fodd bynnag, gwnaed rhagdybiaeth eisoes i gau un ysgol yn benodol. Nid wyf i'n credu bod cod trefniadaeth ysgolion 2018 yn mynd yn ddigon pell. Ychydig nosweithiau yn ôl, roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus, gyda dros 80 o bobl a, dros nos, roedd 1,000 o bobl wedi llofnodi deiseb. Mae'r ysgol hon yn ysgol y gwariwyd £0.5 miliwn arni yn eithaf diweddar, ac mae pobl—ysgol Betws-y-coed yw hon—yn gofyn pam mae'r rhagdybiaeth hon nawr i fwrw ymlaen â hyn—

13:35

Bydd angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, Janet Finch-Saunders.

Iawn. Felly, mae'r cod yn datgan bod yn rhaid rhoi ystyriaeth gydwybodol i bob dewis amgen ymarferol yn hytrach na chau, ac nid yw hynny wedi digwydd. Felly, eto, Dirprwy Brif Weinidog, a wnewch chi gymryd golwg ar hyn? Efallai'n wir y byddaf i'n dod â hyn i chi—

Na. Gofynnwch y cwestiwn. Nid oes angen i chi ei isgymalu. Gofynnwch y cwestiwn.

Iawn. O ystyried yr hyn sy'n digwydd yma, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai'r gymuned gael llais cryf—?

Fe wnaiff y Prif Weinidog ateb y cwestiwn nawr. [Torri ar draws.] Y Dirprwy Brif Weinidog.

Y Dirprwy Brif Weinidog. [Chwerthin.] Diolch, Llywydd, am y cywiriad yna.

Janet, diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n deall nad yw'n bosibl i mi wneud sylwadau ar rinweddau neu fel arall unrhyw gynigion awdurdod lleol unigol gan y gallen nhw gael eu cyfeirio at Weinidogion ar gyfer penderfyniad yn ddiweddarach.

Fe wnaethoch chi nodi'n gywir ein bod ni wedi cryfhau'r cod yn 2018 i gynnwys y rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig. Nawr, dylai'r ddadl dros gau, os caiff ei chyflwyno, unrhyw ysgol fod yn gadarn a dylai fod er budd pennaf y ddarpariaeth addysgol yn yr ardal honno. Mae'n rhaid mai'r brif ystyriaeth i unrhyw gynnig yw buddiannau dysgwyr. Mae'n rhaid ystyried dewisiadau amgen yn hytrach na chau, yn ogystal ag asesu'r effaith ar y gymuned ac, yn wir, ar y Gymraeg. Awdurdodau lleol, mae'n rhaid i mi fod yn eglur, sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol. Ond rwy'n gwybod, Janet, y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ffaith hefyd bod awdurdod lleol Conwy wedi elwa yn ddiweddar o ryw fymryn yn llai na £44 miliwn o fuddsoddiad hyd yma yn ei ysgolion, drwy'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu. Mae hynny, yn ogystal â buddsoddiad arall—yn y grant cyfalaf prydau ysgol am ddim, yr ysgolion bro, anghenion dysgu ychwanegol, a gofal plant—yn dangos y buddsoddiad yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng Nghonwy.

Cyllideb yr Hydref

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith cyllideb yr hydref sydd ar ddod ar Ddwyrain De Cymru? OQ63332

Diolch, Delyth. Rydym ni wedi nodi ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys buddsoddiad i dyfu ein heconomi a chreu mwy o swyddi. Rydym ni wedi tynnu sylw at sefyllfa unigryw Cymru i gyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy y DU, at amddiffyn ac at gytundebau twf deallusrwydd artiffisial. Ac rydym ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r cap budd-dal dau blentyn.

Diolch am hynna. Ceir adegau sy'n bwysig, wrth gwrs, ym myd gwleidyddiaeth. Dylai cyllideb y DU fod yn gyfle i newid pethau, ond mae'r holl arwyddion yn pwyntio i'r gwrthwyneb. Mae'n ymddangos bod Keir Starmer a Rachel Reeves yn benderfynol o ateb dicter pobl a'u gofid nid gyda thosturi ond toriadau, a thoriadau yn yr holl fannau anghywir. Nawr, dylai Cymru fod yn mynnu—rwy'n falch eich bod chi wedi gwneud hynny—bod San Steffan yn diddymu'r cap budd-dal dau blentyn a gwneud mwy i helpu teuluoedd gyda chostau byw, a chyflwyno treth gyfoeth i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus sydd mewn trafferthion yn iawn. Fe wnaf i ofyn a wnewch chi fynnu ar bob un o'r pethau hynny a pha mor hyderus ydych chi y byddan nhw'n gwrando arnoch chi, oherwydd mae pobl yn teimlo wedi'u siomi gan Lafur. Mae Plaid Cymru bellach yn cael ei hystyried fel y blaid a fydd yn ymladd dros ein cymunedau, a'r prawf diweddaraf o hynny yw Lindsay Whittle, sy'n eistedd gyda ni heddiw. Mae pobl Caerffili wedi anfon neges i San Steffan: 'Rydym ni'n mynnu gwell'. A fyddwch chi'n cyfleu hynny i Starmer a Reeves, ac a fydden nhw'n gwrando arnoch chi?

Rydym ni wedi negodi fel Llywodraeth Cymru o ddifrif gyda Llywodraeth y DU ar fuddsoddiad yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu, fel y byddwch chi'n gwybod, yn y dyraniadau cyllidebol diweddar, £143 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tomenni glo ym mhob rhan o Gymru, i ddelio â'r etifeddiaeth ddiwydiannol honno; £445 miliwn o gyllid rheilffyrdd ychwanegol, gan ddechrau—gan ddechrau—mynd i'r afael â thanariannu hanesyddol rheilffyrdd Cymru; £500 miliwn yn Tata Steel; £80 miliwn mewn ynni'r gwynt ar y môr ym Mhort Talbot; a £30 miliwn ar gyfer mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu yn y maes hwnnw hefyd. Felly, rydym ni'n buddsoddi mewn pobl a sgiliau a'r economi.

Ond, rhag ofn eich bod chi wedi methu'r cyhoeddiad, yn fwyaf arwyddocaol, yn ystod y dyddiau diwethaf, yn wir, yw y byddwn ni, yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth y DU a'r trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael ar flaenoriaethau, ar y cyllid twf lleol, yn gwneud penderfyniadau yma ar y cyllid twf lleol hwnnw. Ac mae'r cyllid twf lleol hwnnw, Llywydd, yn cyfateb i gyfran o 22 y cant o gyfanswm cyllid twf lleol y DU. Mae'n cyfateb, Delyth, i'r gyfran o gyllid y DU a ddyrannwyd i Gymru o dan y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a'r gronfa ffyniant gyffredin. Felly, bydd pob cornel o Gymru yn elwa ar y gronfa newydd hon, sydd werth mwy na £0.5 biliwn, i greu swyddi a chynyddu cynhyrchiant ledled Cymru gyfan.

13:40

Dirprwy Brif Weinidog, rydym ni ychydig wythnosau yn unig i ffwrdd o gyllideb Lafur y DU arall, a bydd hynny'n parhau'r dirywiad yn ein heconomi, rwy'n ofni. Clywsom araith y Canghellor cyn y gyllideb y bore yma, yn gwrthod diystyru codi trethi eto i bobl sy'n gweithio'n galed. O fewn munudau, plymiodd gwerth y bunt. Economeg Llafur ar waith yw hyn. Mae'r Canghellor wedi rhoi'r bai ar bawb am y sefyllfa economaidd bresennol ac eithrio arni hi ei hun. Rydym ni'n gwybod bod rhywfaint o ddatgysylltiad eisoes rhwng y pen hwn o'r draffordd a phen arall y draffordd. Rydym ni'n gwybod ein bod ni £72 miliwn yn brin yn dilyn y cynnydd i yswiriant gwladol y tro diwethaf. Felly, a gaf i ofyn felly, Dirprwy Brif Weinidog, a yw Llywodraeth Lafur Cymru yn cyd-fynd â gweledigaeth economaidd gyrydol Llafur y DU, ac a wnewch chi sicrhau nad yw Cymru yn cael ei gadael i ysgwyddo canlyniadau penderfyniadau eich cydweithwyr, gan orfodi trethdalwyr Cymru i dalu'r bil unwaith eto?

Peter, edrychwch, rwy'n eich caru chi'n fawr, ond rwy'n caru'n fwy fyth hyfdra Aelod Ceidwadol yn rhoi pregeth i ni ar reolaeth economaidd, pan oedd, am 14 mlynedd, anhrefn ac anghymhwysedd cyfresol o ran y gyllideb. Dangoswyd y Blaid Geidwadol, a oedd yn arfer dweud ar un adeg mai nhw oedd y blaid o onestrwydd economaidd ac yn y blaen, fel y ffugwyr yr oedden nhw. Roedd yn drychineb, ac rydym ni'n dal i godi'r darnau.

Ond dim ond i ddweud, Peter, yn eich ardal eich hun, yn y rhanbarth yr ydych chi'n dod ohono, rydym ni eisoes yn cefnogi datblygiad economaidd ar draws y rhanbarth cyfan hwnnw. Rydym ni'n cefnogi, er enghraifft, yr £1 biliwn—er enghraifft, Delyth, Peter, ac eraill—yn llinellau craidd y Cymoedd. Roeddem ni i fyny ym Merthyr ddoe. Roeddem ni'n edrych ar y buddsoddiad gyda TrC a wnaed o dan y Llywodraeth Lafur hon o ganlyniad i ddatganoli a'r pwerau sydd gennym ni i fuddsoddi gyda threthdalwyr Cymru, a gwelsom foderneiddio'r fflyd—bydd 95 y cant o'r fflyd honno yn drenau newydd erbyn diwedd y Senedd hon.

Os edrychwch chi ar y buddsoddiad y byddwn ni'n ei wneud nawr gyda'r gronfa twf leol, ar £0.5 biliwn, nid wyf i wedi clywed gair gan y Ceidwadwyr yn y cyfryngau nac yma yn y Siambr yn cymeradwyo hynny. Mae hynny'n gyflawni gwirioneddol ar gyfer pobl, mae'n rhaid i mi ddweud, a byddwn yn gwneud mwy yn y dyfodol. Felly, rwy'n erfyn arnoch chi, camwch i fyny unrhyw bryd y dymunwch a cheisiwch roi pregeth i'r Blaid Lafur ar lanhau eich llanast yr ydym ni wedi ei etifeddu gennych chi.

Y Blaid Lafur, wrth gwrs, wedi sefyll yn gadarn dros Gymru dros y degawdau, wedi amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n clywed y Ceidwadwyr yn chwerthin, ond mae etifeddiaeth Liz Truss yn cael ei gweld heddiw, ac ni wnaethoch chi ddweud dim amdano ar y pryd.

A wnewch chi sicrhau, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau, bod diwygio fformiwla Barnett ar yr agenda ar gyfer cyllideb hon y DU, oherwydd yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw cael ei thrin yn unol â gwir anghenion Cymru, ac nid cyfrif pennau yn unig? Mae Barnett yn gweithio i'r Alban. Nid oedd yn gweithio i Ogledd Iwerddon, felly cyflwynwyd fformiwla yn seiliedig ar anghenion. Mae angen yr un fformiwla honno â Gogledd Iwerddon ar Gymru ac mae'n bryd i ni ei derbyn. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y ddadl honno yn gryf iawn, iawn yn yr wythnosau nesaf.

Alun, diolch yn fawr iawn. Mae'r trafodaethau ynghylch fformiwla Barnett yn llawer mwy na thrafodaethau dirgel, oherwydd mae'n ymwneud â faint o gyllid sy'n dod yma i Gymru. Cydnabuwyd ers tro gan y Llywodraeth hon yng Nghymru ei bod ei hamser wedi dod i ben, ond rwy'n falch o ddweud wrthych, Alun, wrth gwrs, ein bod ni wedi sicrhau cytundeb gyda Llywodraeth y DU i archwilio, nawr, fformiwla Barnett a sut y dylem ni fwrw ymlaen â hyn. Ac rwy'n llongyfarch ein Hysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg a'r Prif Weinidog ar negodi'r lle hwnnw i ymgysylltu â hyn nawr gyda Llywodraeth y DU. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei olygu wrth fod â Llywodraeth Cymru yma, dan arweiniad Eluned Morgan, sy'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddweud, 'Gadewch i ni archwilio'r anghydraddoldebau hanesyddol hyn a'u datrys.' Diolch, Alun.

13:45

Wel, does dim llawer wedi newid. [Chwerthin.] Dirprwy Brif Weinidog, mae de Cymru, mewn gwirionedd, yn wynebu rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Yn fy etholaeth i yng Nghaerffili, mae bron i 30 y cant o blant yn byw mewn tlodi. Rydym ni'n gwybod am lawer o ysgolion yn fy ardal i lle mae pob un o'r disgyblion yn byw ar rai o'r aelwydydd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae tlodi yn effeithio ar 82 y cant o aelwydydd mewn cymunedau fel Parc Lansbury. Dyma'r ardal fwyaf difreintiedig yn ne Cymru, yn ôl mynegai amddifadedd lluosog diweddaraf Cymru. Am yr wyth mlynedd diwethaf, rwyf i wedi bod yn wirfoddolwr bob dydd Mercher ym manc bwyd Caerffili. Rwy'n gweld tlodi bob wythnos. Mae pobl Caerffili a Chymru wedi talu'r pris, yn fy marn i, am weithredoedd Llywodraethau San Steffan olynol a'r agenda cyni am lawer rhy hir.

Felly, Dirprwy Brif Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r Canghellor cyn cyllideb yr hydref i wneud y ddadl yn eglur na ddylai fy etholwyr yng Nghaerffili fod yn ysgwyddo baich y gyllideb? A dweud y gwir, byddwn yn gobeithio y byddwch chi'n pwysleisio, mewn gwirionedd, mai'r rhai sydd â'r ysgwyddau ehangaf ddylai fod yn talu eu cyfran deg trwy gyflwyno treth gyfoeth. Ac nid wyf i'n edrych ar unrhyw un ohonoch chi'n benodol. [Chwerthin.]

Llywydd, dywedais ein bod yn edrych ymlaen at y cyfraniadau ac, yn wir, yn hon ac eraill rwy'n credu y byddwn ni'n cael dadleuon a chwestiynau tanllyd yn hedfan yn ôl ac ymlaen. Dim ond i ddweud, rwyf i wedi amlinellu—rydym ni wedi amlinellu—eisoes fel Llywodraeth Cymru ble mae ein blaenoriaethau, ac maen nhw ym meysydd sgiliau, buddsoddiad a chyfleoedd i'n holl bobl. Rwy'n berson o'r Cymoedd hefyd. Rwy'n dod o ben Maesteg, sy'n ymestyn o gwm Llynfi o Gaerau i lawr i'r M4 a, beth fyddech chi'n ei alw, atyniadau McArthurGlen, ond afonydd Garw, Ogwr, a Gilfach hefyd. Mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn deall yn union beth rydych chi'n ei ddweud. A'r peth gorau y gallwn ni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yma—wedi bod yn berson sydd wedi gwasanaethu i fyny yn y fan honno fel Gweinidog ac wedi dod yn ôl yma i wneud y gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud yma yn y Senedd hon, yn y Senedd hon i Gymru—o fudd i'ch etholwyr. Ac mae hynny'n cynnwys, gyda llaw, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Felly, pan oedd y Llywodraeth Dorïaidd o dan gyni cyllidol yn diddymu Cychwyn Cadarn, fe wnaethon ni gadw ein Dechrau'n Deg i fynd; pan ddiflannodd y bwrsariaethau nyrsys, fe wnaethom ni gadw ein bwrsariaethau nyrsys i fynd. O ymgyrchu ar y meinciau hynny a'r meinciau hyn, fe wnaethom ni ymestyn y lwfans cynhaliaeth addysgol fel nad oes rhaid i bobl ifanc feddwl a allan nhw fforddio mynd i'r coleg—byddan nhw'n mynd i'r coleg oherwydd yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yma. Dyna lle mae angen i ni sefyll yn gadarn. O ran ein cynigion yma o fewn y Llywodraeth hon yng Nghymru a'r Senedd hon yng Nghymru, byddwn yn parhau, Lindsay, i wneud ein dadl yn eglur i Lywodraeth y DU. Llywodraeth i Lywodraeth, byddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn sefyll heb ofn na ffafriaeth ar gyflwyno safbwynt Llafur Cymru yn gadarn i Lywodraeth y DU. Ond mae'n rhaid i ni hefyd wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud yma, ac rwy'n credu ein bod ni wedi tanwerthu'r hyn y mae'r Senedd hon a'r Senedd hon yng Nghymru wedi ei wneud i wrthwynebu 14 mlynedd o gyni ac i barhau i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag dinistr y Torïaid. A nawr bod gennym ni gynnydd o £1.6 biliwn, fe allwn ni wneud mwy. Rydym ni wedi lleihau amseroedd aros dros y flwyddyn ddiwethaf o ddwy ran o dair. Bydd hwnnw yn fudd i'ch etholwyr, Lindsay, a byddwn yn parhau i fynd ymlaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Llywydd. Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rydym ni'n anfon ein dymuniadau gorau i'r Prif Weinidog a'i theulu ar yr adeg hon. Ac rwyf i hefyd eisiau talu teyrnged i ddewrder staff y rheilffyrdd a beryglodd eu bywydau i amddiffyn teithwyr yn ystod y digwyddiad ofnadwy yn Swydd Gaergrawnt dros y penwythnos. Diolchwn i'r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym ac rydym ni'n dymuno gwellhad cyflym iawn i bawb a gafodd eu hanafu.

A hoffwn hefyd, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, groesawu Lindsay Whittle i'r lle hwn fel yr Aelod dros Gaerffili. Mae Lindsay yn enghraifft wych i ni i gyd o'r hen ddywediad mai dyfal donc a dyr y garreg. [Chwerthin.] Felly, Lindsay, croeso i'ch lle. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â chi yn y misoedd i ddod.

Nawr, yn ôl at gwestiynau. Dirprwy Brif Weinidog, ym mis Mawrth 2023, addawodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, sef y Prif Weinidog bellach, gael gwared ar bob arhosiad dwy flynedd am driniaeth GIG erbyn mis Mawrth 2023. Aeth y terfyn amser hwn heibio dros ddwy flynedd yn ôl, felly a allech chi ddweud wrthym ni heddiw faint o bobl yng Nghymru sy'n dal i aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth GIG wedi'i chynllunio?

13:50

Darren, diolch am y cwestiwn yna. Gadewch i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi: fe wnaeth y rhestrau aros cyffredinol leihau eto ym mis Awst gostyngiad o tua 2,500 ers mis Gorffennaf. Bu cynnydd bach yn nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mis Awst. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw hyn yn annisgwyl. Rydym ni'n aml yn gweld hyn dros fisoedd yr haf. Mae'r data dros dro, gadewch i mi ddweud wrthych chi, ar gyfer mis Medi, yn dangos lleihad sylweddol pellach i faint y rhestr aros gyffredinol, a lleihad mewn arosiadau hir. Felly, 21.7 wythnos yw'r amser aros cyfartalog am driniaeth. Mae miloedd—miloedd—o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn cael eu darparu bob mis bellach, ac mae 20,000, er enghraifft, o lawdriniaethau cataract ychwanegol yn cael eu darparu ledled Cymru eleni yn rhan o'n cynllun gwerth £120 miliwn i leihau amseroedd aros hir. Nawr, gallwn barhau.

Mae mwy i'w wneud, Darren. Rwy'n sylweddoli hynny. Ond unwaith, dim ond unwaith, camwch ymlaen a chanmolwch y staff hynny sydd, gydag ymdrech enfawr, yn trawsnewid yr amseroedd aros a'r rhestrau aros. Canmolwch eu hymdrechion, oherwydd nid ydym ni byth yn clywed hynny. Rydym ni'n clywed y feirniadaeth, rydym ni'n clywed, 'Dydyn ni ddim yn gwneud digon', ac eto oherwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru, oherwydd i ni roi pwysau ar y byrddau iechyd, gweithio gyda nhw ac arnyn nhw, ond yn bennaf oll oherwydd bod gweision cyhoeddus ar y rheng flaen ym maes iechyd yn gwneud ymdrech enfawr i drawsnewid hyn—. Rydym ni'n gweithio, mae gennym ni fwy i'w wneud. Ond nid yw lleihad o ddwy ran o dair mewn 12 mis yn ddibwys. Rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir.

Gofynnais gwestiwn syml iawn i chi, sef faint o bobl sy'n dal i aros am ddwy flynedd a mwy, ac fe wnaeth yr ystadegau diweddaraf, wrth gwrs, ddangos bod y ffigur hwnnw wedi mynd i fyny i dros 8,500 sy'n dal i aros mwy na dwy flynedd neu fwy am driniaeth. Nawr, yn Lloegr, â phoblogaeth 18 gwaith y maint, dim ond 168 yw'r ffigur hwnnw. Mae'n gwbl annerbyniol bod cleifion yng Nghymru 500 gwaith yn fwy tebygol o aros am ddwy flynedd am driniaeth na rhai dros y ffin.

Nawr, mae Cymru, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod, o ganlyniad i gytundeb cyllideb Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU gyda'r fframwaith cyllidol, yn derbyn 20 y cant yn fwy o gyllid y pen nag yn Lloegr i'w wario ar ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ac eto mae un o bob pedwar o bobl yn dal i fod ar restr aros GIG yng Nghymru, ac mae pobl yn treulio mwy o amser yn ein hadrannau achosion brys hefyd. Ym mis Medi, bu mwy na 10,000 o bobl yng Nghymru yn aros dros 12 awr yn ein hadrannau achosion brys, ac mae hynny'n cynnwys mwy na 1,000 yn eich ysbyty newydd sbon o'r radd flaenaf, y Faenor, ger Cwmbrân. Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy'n rhedeg yr ysbyty hwnnw, wedi gwario mwy na £3 miliwn o arian trethdalwyr ar baneli solar, â chyfnod ad-dalu o dros ddau ddegawd. A ydych chi'n cytuno â mi y byddai cleifion a staff wedi bod yn llawer mwy diolchgar pe bai'r arian hwnnw wedi cael ei wario ar leihau amseroedd aros a gwella perfformiad yr adran achosion brys?

Mae'n drist gweld unwaith eto bod arweinydd yr wrthblaid yn methu â chydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud, dan arweiniad y staff rheng flaen hynny, i drawsnewid amseroedd aros. Rwyf i wedi cydnabod bod mwy i'w wneud, ond os edrychwch chi ar y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, yn sgil y buddsoddiad yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud, y buddsoddiad y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn yn y gyllideb ddiwethaf—. Gadewch i mi wneud hynny'n eglur: y buddsoddiad y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Felly, rydym ni'n gyrru amseroedd aros i lawr. [Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn myfyrio o'i gadair eu bod nhw'n cynyddu. Mae ffigurau mis Awst, fel y soniais yn fy ymateb uniongyrchol, yn cynyddu yn yr haf fel rheol, a byddwn ni'n cael mân ddirywiad ym mis Awst. Ond mae ffigurau rhagarweiniol mis Medi yn dangos unwaith eto y duedd ar i lawr gyson honno. Dywedwch 'diolch' wrth y staff sy'n sbarduno'r ymdrech hon. A hefyd mae'n fater o'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud.

Rydych chi'n dweud 'diolch' wrth y staff ac rwyf i'n dweud 'diolch' wrth y staff, ond a wnewch chi ddweud 'mae'n ddrwg gen i' wrth y cleifion a'r staff yr ydych chi'n eu siomi? Bu ganddyn nhw Weinidogion iechyd Llafur ers 26 mlynedd, ac ers 26 mlynedd dydyn ni ddim wedi gweld ond dirywiad yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ac, wrth gwrs, nid eich Llywodraeth chi yw'r unig bobl sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn. Mae'r Blaid Lafur wedi cael ei chefnogi gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd. Y gwir amdani, Dirprwy Brif Weinidog, yw bod GIG Cymru wedi torri. Mae cleifion yn aros yn hirach am driniaeth, yn hirach am brofion, yn hirach am ambiwlansys ac yn hirach yn ein hadrannau achosion brys nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Ac fel Llywodraeth Cymru, rydych chi wedi datgan argyfwng hinsawdd, rydych chi wedi datgan argyfwng natur. Rydych chi'n gwario miliynau ar staff a mentrau i ddarparu'r cynlluniau hyn tra bod cleifion yn dioddef mewn poen ar drolïau mewn coridorau yn ein hysbytai. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn ac yn datgan yr argyfwng iechyd y mae angen ei ddatgan fel y gallwn ni fynd i'r afael â'r pethau hyn unwaith ac am byth?

13:55

Wel, dyna ni. Dyna ni, dyfyniad y sesiwn hon gan arweinydd yr wrthblaid—'mae GIG Cymru wedi torri'. Gan y blaid nad oedd erioed eisiau gweld y GIG yn cael ei sefydlu, maen nhw bellach yn dweud wrthym ni fod y GIG wedi torri, gan y blaid a fyddai'n hapus i chwalu'r GIG, mae GIG Cymru, meddai, wedi torri. Nid yw wedi torri, mae o dan bwysau aruthrol. [Torri ar draws.] Mae o dan bwysau aruthrol—

Gadewch i'r Dirprwy Brif Weinidog barhau gyda'i atebion, os gwelwch yn dda.

Yn wir, diolch, Llywydd. Mae'r GIG o dan bwysau aruthrol. Rydym ni'n gweld mwy o gleifion bob dydd ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Rydyn ni'n gweld mwy o gleifion allanol bob dydd hefyd. Mae'r gofynion yn fwy. Pan sefydlodd Nye Bevan y GIG, dywedwyd ar y pryd y byddai'r GIG bob amser yn cael trafferth yn ymdopi â gofynion. Mae'r gofynion y dyddiau yma yn fwy, yn fwy sylweddol nag erioed o'r blaen. Ond rydym ni, nid y Ceidwadwyr, er gwaethaf eich heclo—[Torri ar draws.]—er gwaethaf eich heclo, Darren—[Torri ar draws.] Er gwaethaf eich heclo, byddwn ni'n parhau i fuddsoddi. Byddwn ni'n trawsnewid amseroedd aros. Byddwn ni'n trawsnewid oedi cyn trosglwyddo o ambiwlansys, sydd bellach wedi gostwng i'r lefel isaf ers mwy na phedair blynedd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gostwng y targedau canser, sydd bellach yn 60 y cant am y seithfed mis yn olynol. Byddwn yn parhau i wneud cynnydd. Ac ni wnawn ni dderbyn bod GIG Cymru wedi torri, oherwydd mae miloedd o bobl allan yna sy'n gweithio bob dydd, oherwydd nid pawb sy'n gallu mynd i gael gofal iechyd preifat. Nid oes gan bawb yr opsiwn wrth gefn hwnnw. Byddwn yn amddiffyn y GIG a byddwn yn ei drwsio lle nad yw'n gweithi yn effeithiol. Ni fyddai'r Torïaid byth yn gwneud hynny. Fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn ei sefydlu ac rydym ni'n ei weld eto.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf innau groesawu Aelod Caerffili yn ôl yma i'r Senedd?

Mae'n bleser croesawu'r Aelod dros Gaerffili yn ôl i'r Senedd. Roedd hwn yn isetholiad nad oedd neb ei eisiau, ac rwy'n ymuno â Lindsay Whittle, eto, i dalu teyrnged i Hefin David, y mae bellach yn dilyn ei ôl troed.

Yn y pen draw, fe wnaeth gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru atal gwleidyddiaeth raniadol Reform yn yr isetholiad hwnnw ac, os caf i ddweud, fel y gwelodd pobl Caerffili drwy honiad camarweiniol amlwg Llafur ei bod yn ras dau geffyl rhwng Llafur a Reform. Rwyf i wedi darllen yr erthyglau barn lle mae Aelodau Llafur bellach yn syrthio drostyn nhw eu hunain i ddweud eu bod nhw wedi gwybod ers wythnosau nad oedden nhw hyd yn oed yn y ras, ond roedden nhw'n hapus i gyd-fynd ag ymgyrch anonest a allai fod wedi agor y drws i'r dde boblyddol, ac rwy'n credu y dylen nhw fyfyrio ar hynny.

Wrth gwrs, yn dilyn y canlyniad hwnnw, mae Llafur yn dweud eu bod nhw'n gwrando ar y cyhoedd, ond maen nhw wedi cael 26 mlynedd i wrando. Gweithredu y mae pobl ei eisiau, ac maen nhw wedi cael digon ar aros bellach. Felly, gyda'r Prif Weinidog yn dweud ei bod yn meddwl bod, ac rwy'n dyfynnu,

'gwersi difrifol i ni eu dysgu yma ar bob lefel o lywodraeth',

a wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog ddweud wrthym ni, o safbwynt polisi, beth fydd yn newid?

Gallaf ymateb yn hapus i'r hyn a fydd yn newid, ond hefyd i'r hyn sydd wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi cael £1.5 biliwn ychwanegol, Rhun, yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru yng nghyllideb 2025-26. Rydym ni wedi lleihau arosiadau GIG yn sylweddol, ond mae mwy i'w wneud. Rydym ni wedi sicrhau 65 o swyddi mewnfuddsoddiad yn 2024-25. Mae hynny'n gynnydd o 23 y cant yn flynyddol, sydd wedi creu rhyw fymryn yn llai na 2,500 o swyddi newydd. Mae hynny'n gynnydd o 30 y cant mewn nifer y swyddi. Ceir llawer mwy o bethau eraill y gallaf i gyfeirio atyn nhw. Mae'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn y gymuned fusnes wedi diogelu mwy na 7,000 o swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni'n bwrw ymlaen â'r cynlluniau ar ganolfannau iechyd menywod, fel y bydd canolfan iechyd menywod ym mhob etholaeth erbyn mis Mawrth 2026. Rydym ni wedi sicrhau £125 miliwn i drwsio'r tyllau yn ein ffyrdd, pan ddywedodd pobl, 'A wnewch chi wrando, os gwelwch yn dda, a gwneud hyn?', ac rydym ni wedi gwneud hynny. Felly, o faterion bara menyn i faterion sylweddol, fel adeiladu 4,500 yn fwy o gartrefi i bobl fyw ynddyn nhw, rydym ni'n cyflawni, ac os cawn ni gefnogaeth i'r gyllideb ar gyfer y dyfodol, byddwn ni'n gallu gwneud cymaint mwy.

Doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai 'dim newid' yn cael ei gyflwyno mor eglur â hynna gan y Dirprwy Brif Weinidog, ond mae'n amlwg y dylai pobl fodloni eu hunain â mwy o'r un peth o dan Lafur. Cymerwch iechyd: mewn datganiad ysgrifenedig, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn rhan o fuddsoddiad o £120 miliwn i leihau rhestrau aros, bod disgwyliad, o ran arosiadau dwy flynedd, y byddem ni o leiaf yn aros yn gadarn ar y sefyllfa yr oeddem ni ynddi ym mis Mawrth, a disgwyliwyd i duedd ar i lawr ddilyn, ond y gwir amdani yw bod 300 yn fwy o bobl yn aros dros ddwy flynedd bellach. Rydym ni ar bron i 9,000 bellach. Sero erbyn 2023 oedd y targed.

Nawr, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi cyhoeddi ein cynlluniau ein hunain ar gyfer lleihau rhestrau aros, gan gynnwys symud yn gyflym â mwy o ganolfannau gofal dewisol, fel yr argymhellir gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Nawr, mae pob un ohonom ni eisiau GIG gwell. Nid yw'r GIG yn eiddo i un blaid. Felly, yn yr ysbryd hwnnw, a yw'r Dirprwy Brif Weinidog yn agored i gyfarfod â Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, i ddarganfod mwy am ein syniadau, a allai helpu i leihau amseroedd aros?

14:00

Y cyfarfod yr ydym ni wir, wir yn edrych ymlaen ato, o gofio bod hyn oll yn dibynnu ar benderfynu mewn gwirionedd beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer cyllid yn y dyfodol, yw i chi ac eraill hefyd i gerdded drwy'r drws hwnnw sydd wedi cael ei agor gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan, i siarad am beth ddylai'r blaenoriaethau fod. Mae'n rhaid i mi ddweud, rydym ni wedi dyrannu dros 98 y cant o'r gyllideb eisoes er mwyn canolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen, ond rydym ni wedi ei gwneud yn eglur iawn, fel y dywedodd fy nghyd-Ysgrifennydd, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, mai man cychwyn yw hwnnw mewn gwirionedd, nid y pwynt terfynol. Rydym ni eisiau cael y trafodaethau hynny gyda chi. Felly, os gwelwch yn dda, dewch yn eich blaen—ymunwch â'r trafodaethau hynny. Ond, wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni gydnabod ei fod yn fater o flaenoriaethau: 'Beth ydym ni'n buddsoddi ynddo?' a 'Beth nad ydym ni'n buddsoddi ynddo?' hefyd.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n synnu, o ystyried y canlyniadau sy'n gwaethygu o ran arosiadau dwy flynedd, nad oedd y Dirprwy Brif Weinidog yn agored i wrando ar ein syniadau amgen, am iechyd yn benodol. Mae'r cynnig yn dal i fod yno.

Wrth gwrs, mae methiannau ym maes iechyd yr un fath ym maes addysg hefyd. Rydym ni newydd weld arbenigwr blaenllaw yn gadael panel llythrennedd Llywodraeth Cymru, gan ddweud nad yw'n addas i'r diben. Mae hwnnw'n ddyfarniad eithaf damniol. Ym mhrofion darllen diweddaraf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, perfformiodd pob un o wledydd eraill y DU yn well na'r cyfartaledd rhyngwladol. Yng Nghymru, roedd 3 y cant yn is na'r cyfartaledd. Ac mae neges Elizabeth Nonweiler yn noeth: bydd y genhadaeth o wella llythrennedd i godi safonau yn methu oni bai fod y cynlluniau presennol yn newid. Felly, rwy'n dod yn ôl at fy nghwestiwn gwreiddiol. Beth sy'n mynd i newid? Mae'n fater o dargedau GIG yn cael eu methu. Mae'n fater o safonau ysgol yn dirywio. A yw'r Dirprwy Brif Weinidog yn deall rhwystredigaethau pobl yng Nghaerffili a ledled Cymru? Ac a wnaiff ef gydnabod y bydd gwneud yr un peth drosodd a throsodd arwain at ddim mwy na chael yr un canlyniadau dro ar ôl tro?

Rwy'n cydnabod y rhwystredigaethau hynny yn llwyr, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn bryder cyffredin nawr ynglŷn â'r hyn y gall Llywodraeth ei wneud i wella ansawdd bywyd pobl, ymdrin â phroblemau costau byw, ymdrin â'r amrywiaeth eang o gymorth gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Rydym ni wedi cadw'r buddsoddiad hwnnw i fynd dros yr holl flynyddoedd hyn, ac rydym ni bellach yn gwneud mwy.

Hoffwn herio'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, oherwydd mae'n adleisio pwynt a wnaed gan arweinydd y Ceidwadwyr funud yn ôl. Bu cynnydd bach, yn ffigurau mis Awst, o ran yr amseroedd aros. Ond mae'r patrwm cyson dros y flwyddyn ddiwethaf o ran amseroedd aros wedi bod ar i lawr, gostyngiad o ddwy ran o dair. Mae ffigurau mis Medi yn dangos dros dro ei fod yn ôl, eto, yn mynd i lawr. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni gydnabod hynny a chymryd sylw o'r data a'r ffeithiau a'r dystiolaeth.

Ac o ran addysg, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ei gwneud yn glir mai ei dwy brif flaenoriaeth yw cyrhaeddiad addysgol a phresenoldeb yn yr ysgol hefyd. Ond fe wnaethoch chi sôn am y panel arbenigwyr llythrennedd. Mae'r panel arbenigwyr llythrennedd hwnnw yn dod ag amrywiaeth eang o arbenigedd a phrofiad o ymchwil ac ymarfer ynghyd i sicrhau bod yr holl gymorth yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil eglur ar sut mae dysgwyr yn datblygu sgiliau darllen a llythrennedd ehangach. Mae hwnnw'n ddarn hollbwysig o waith, ac mae angen i ni fynd gyda'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio os ydym ni'n mynd i wella safonau mewn llythrennedd.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud nad oes unrhyw beth wedi newid, ac eto mae llawer o'r pethau yr wyf i wedi eu dweud yn dangos mewn gwirionedd ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth dros y 12 mis diwethaf yn sgil buddsoddiad gan Lywodraeth y DU. A byddwn yn parhau i wneud y gwahaniaeth hwnnw, os gallwn sicrhau cyllidebau yn y dyfodol. Felly, os gwelwch yn dda, dewch drwy'r drws hwnnw a siaradwch â ni am beth fydd eich blaenoriaethau. Ac rwy'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy ym maes iechyd, fel y mae'n rhaid i ni ei wneud ym maes addysg, fel y mae'n rhaid i ni ei wneud ar draws amrywiaeth eang o feysydd polisi. Ond mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud gwahaniaeth drwy'r holl flynyddoedd yr ydym ni wedi gwrthwynebu cyni'r Torïaid, a nawr rydym ni'n dechrau adeiladu yn ôl o'r sylfeini hynny.

Y Comisiwn ar Ddyfodol y DU

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu adroddiad y Comisiwn ar Ddyfodol y DU yn amserol? OQ63350

Diolch yn fawr iawn, John. Roedd y Comisiwn ar Ddyfodol y DU yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, ac roedden nhw'n cynnwys diwygio cyfansoddiadol, y mae'r Prif Weinidog a chyd-Weinidogion eraill yn ei godi yn gyson gyda Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU.

14:05

Dirprwy Brif Weinidog, mae'r adroddiad hwn, gan gyn-Brif Weinidog Llafur y DU Gordon Brown a'i gyd-Aelodau, yn adroddiad pwysig iawn i Gymru. Un agwedd sy'n arbennig o arwyddocaol yn fy marn i yw ei argymhellion o ran yr economi. Rydym ni'n gwybod bod ein heconomi yng Nghymru angen cefnogaeth a gwelliant sylweddol, ac mae'r adroddiad hwn yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau yn economi'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnig buddsoddiad graddfa fawr mewn clystyrau, fel lled-ddargludyddion a seiberddiogelwch yng Nghasnewydd a de-ddwyrain Cymru, er enghraifft; ailddosbarthu swyddi gwasanaeth sifil ac asiantaethau'r DU ymhellach allan o Lundain a'r siroedd cartref i Gymru—ac mae gennym ni enghreifftiau da yng Nghasnewydd o le mae hynny wedi bod yn llwyddiant mawr—a chyllid sylweddol ar gyfer ein seilwaith—rheilffyrdd ac ynni adnewyddadwy, er enghraifft. Dirprwy Brif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod adroddiad Gordon Brown yn ddarn difrifol o waith? Wedi'i gomisiynu gan ein cyd-Aelodau Llafur yn y DU pan oeddwn nhw'n wrthblaid, nawr, mewn Llywodraeth, mae'n rhaid iddo gael ei weithredu os yw'r cymunedau hynny sy'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl yn mynd i weld y newid trawsnewidiol sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu'r safonau byw a'r cyfleoedd bywyd y byddem ni i gyd eisiau eu gweld.

Yn sicr, John, a diolch am y cwestiwn yna, oherwydd fe wnaeth adroddiad Gordon Brown wneud rhai cynigion trawiadol iawn—cefnogi clystyrau diwydiannol, fel rydych chi wedi'i ddisgrifio, gan gynnwys pethau fel lled-ddargludyddion, datganoli swyddi sector cyhoeddus, ail-gydbwyso cyfleoedd economaidd i ymdrin â'r anghydraddoldebau. Felly, y dull wedi'i dargedu hwnnw, yn wir. Ac nid ydym ni'n aros i bobl eraill wneud y gwaith hwn i ni; rydym ni eisoes yn gweithio arno. Felly, fel y byddwch yn gwybod, yn eich ardal chi ac yn y rhanbarth, fe wnaethom ni gefnogi twf y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru; mae'n bennaf o gwmpas Casnewydd. Yn wir, ers dros ddegawd, rydym ni wedi cael cyd-fuddsoddiad gan brifysgolion, gan ddiwydiant a chan Lywodraeth y DU a phrifddinas-ranbarth Caerdydd hefyd. Ac mae mewn sefyllfa dda iawn—mae'r clwstwr hwnnw mewn sefyllfa dda iawn—i droi'r twf disgwyliedig i'r galw byd-eang am led-ddargludyddion yn swyddi a gyrfaoedd hirdymor, o ansawdd uchel, sy'n talu'n dda, ac mae ganddyn nhw weithlu ymroddedig a medrus yno. 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, dim ond i sôn, rydym ni wedi gweld dros £500 miliwn o fuddsoddiad preifat wedi'i gyhoeddi yn y sector, yn bennaf drwy KLA a Vishay yn creu ac yn diogelu dros 1,000 o swyddi â chyflogau da. Dyma'r math o fuddsoddiad y gallwn ni ei wneud yn uniongyrchol nawr yn sgil adroddiad Gordon Brown, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU hefyd yn y strategaeth ddiwydiannol i gefnogi'r dull hwnnw.

Tan fore Gwener ac y cefais y pleser o agor fy e-bost a gweld bod y cwestiwn atodol hwn wedi cael ei neilltuo i mi, roeddwn i, fel llawer o bobl, wedi anghofio am yr adroddiad penodol hwn. A dyna'r broblem, onid yw, Dirprwy Brif Weinidog? Mae'r adroddiad hwn, o safbwynt Llywodraeth y DU, yn ddibwys, a sut ydych chi, fel Dirprwy Brif Weinidog, yn mynd i weithio i geisio rhoi'r adroddiad yr ydych chi'n siarad â chymaint o ganmoliaeth amdano ar waith? Oherwydd, hyd y gwelaf i, yn ystod 18 mis cyntaf Llywodraeth y DU yn San Steffan, maen nhw wedi dweud wrthych chi ble i fynd bob tro rydych chi wedi gofyn am rywbeth.

Felly, Andrew, rwyf i mor falch eich bod chi wedi cael eich dewis ar gyfer y cwestiwn atodol yna, oherwydd gadewch i mi nodi mai un o'r prif faterion yn adroddiad Gordon Brown oedd sut rydym ni'n defnyddio strategaeth economaidd a strategaeth ddiwydiannol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Nawr, yng Nghymru, rydym ni'n bwrw ymlaen â hynny eisoes; mae'n hanfodol i'r ffordd yr ydym ni'n cyflawni ein strategaeth twf economaidd yng Nghymru. Felly, rydym ni wedi targedu buddsoddiad mewn seilwaith. Rydym ni'n cefnogi cryfderau'r sector fel twf lled-ddargludyddion, sydd wir wedi tanio'n wych. Rydym ni'n cefnogi mynediad teg at swyddi sector cyhoeddus. Byddai gen i ddiddordeb clywed os ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf yr ydym ni wedi clywed unrhyw beth llawn canmoliaeth gan y meinciau Ceidwadol am y dull yr ydym ni'n ei fabwysiadu o ran swyddi sector cyhoeddus a'r contract cymdeithasol sydd gennym ni, gan sicrhau mynediad teg at y swyddi hynny. Felly, mae ein dull, Andrew, yn seiliedig ar gyflenwi sy'n seiliedig ar le sy'n gweithio i bob un rhan o Gymru. Nid oes angen i ni aros am unrhyw adroddiad i fwrw ymlaen â hynny; rydym ni'n gwneud hynny eisoes.

A gaf i, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, groesawu Lindsay i'r Siambr hefyd? A phrynhawn da, Dirprwy Brif Weinidog. Mae adroddiad Brown, fel y cyfeiriwyd ato, yn cynnwys llawer o faterion, ond un yr oeddwn i eisiau canolbwyntio arno, y mae Lindsay hefyd wedi'i godi, yw'r egwyddor na ddylai neb yn ein gwlad gael ei adael yn anghenus. Prin y mae tlodi plant yng Nghymru wedi newid mewn cenhedlaeth; fe wnaeth ostwng rhyw fymryn, i 28 y cant, ond mae bellach wedi cynyddu i 31 y cant a disgwylir iddo godi, erbyn 2030, i 36 y cant—rhywbeth yr wyf i'n credu y dylai ein dychryn ni i gyd yn ofnadwy.

Un o'r rhwystrau mwyaf, rydym ni'n gwybod, yw gofal plant a mynediad at ofal plant am ddim. Rydym ni'n gwybod o'r adroddiad gan Pregnant Then Screwed bod rhieni incwm isel yma yng Nghymru yn gwario bron i 10 gwaith yn fwy o'u hincwm ar ofal plant na'r rhai yn y teuluoedd mwyaf cyfoethog. Felly, hoffwn glywed gennych chi, os caf, beth yw eich cynlluniau ar gyfer gofal plant am ddim. Rydym ni eisiau gweld gofal plant am ddim am 30 awr yr wythnos ar gyfer plant naw mis oed i bedair oed dros 48 wythnos. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i gynyddu gofal plant i'r teuluoedd hynny sydd ar incwm isel? Diolch yn fawr iawn.

14:10

Yn gyntaf oll, byddwn yn dweud fy mod i'n falch iawn, fel cyn-Weinidog plant a phobl ifanc a Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol yma yn y Senedd gryn amser yn ôl, o weld y sylw sy'n cael ei roi i hyn gan lawer o bleidiau yn y cyfnod cyn yr etholiad nesaf hefyd. Ac mae'n adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes. Mae'n ddiddorol nodi yma yng Nghymru nad ydym ni wedi cael un dull cyffredin yn unig o ymdrin â hyn; bu gennym ni gymorth wedi'i dargedu sy'n ceisio ymdrin â'r anghydraddoldebau hefyd—felly, er enghraifft, cymorth i rieni sydd mewn addysg bellach, addysg uwch, hyfforddiant ac ati, fel y gallan nhw gael gafael ar ofal plant hefyd.

Nawr, mae pawb yn cyflwyno eu cynigion ar hyn o bryd; mae rhai yn ei wneud yn gynnar iawn yn wir. Rwy'n falch o ddweud, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn hytrach na safbwynt maniffesto Llafur yn y dyfodol, ein bod ninnau hefyd yn meddwl am beth yw'r camau nesaf a sut rydych chi'n gwneud hynny'n raddol mewn ffordd gredadwy, fel y gallwch chi adeiladu ar yr hyn yr ydym ni eisoes wedi'i gyflawni. Byddwn yn dweud, yng Nghymru, ein bod ni wedi arwain ar yr agenda hon, mae'n rhaid i mi ddweud, ac rydym ni'n bwriadu mynd ymhellach hefyd—y Llywodraeth hon ac, rwy'n credu, unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol hefyd. Y cwestiwn yw ei dargedu ar le byddai'r cymorth yn fwyaf defnyddiol a hefyd sut rydym ni'n cyflwyno hwnnw'n raddol, yn mynd drwodd fesul blwyddyn hefyd. Ond rydym ni'n adeiladu o sylfaen gref iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac oes, mae'n rhaid i ni wneud mwy, nid yn unig o ran tlodi plant ond o ran tlodi teuluol yn gyffredinol. A cheir llawer iawn o ffactorau sy'n cyfrannu at y mynegeion tlodi hynny, ond mae angen i ni wneud mwy ar hynny.

Mae Cymru wedi cael ei chyfran deg—mwy na'i chyfran deg—o gomisiynau, ond maen nhw i gyd wedi cyflwyno rhesymau grymus yn seiliedig ar dystiolaeth pam mae angen diwygio trefn gyfansoddiadol y DU. Bydd rhai i'r chwith ohonof i'n ystyried hyn yn fogailsyllu, ond, mewn gwirionedd, mae pobl Cymru yn cael eu siomi gan y system bresennol, a rhoddaf enghraifft berffaith i chi: Nadine Marshall. Mae Nadine Marshall wedi bod yn ymgyrchu ers degawd ar ôl llofruddiaeth ei mab, a chyfraniad hynny oedd y siom gan y gwasanaethau prawf. Nawr, mae'n dorcalonnus i Nadine Marshall, er gwaethaf llawer o eiriau gwresog, er gwaethaf llawer o addewidion, weld, dros 10 mlynedd yn ddiweddarach, yr un camgymeriadau yn cael eu gwneud.

Nawr, mae chwe blynedd wedi mynd heibio ers y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Bu tair blynedd ers Comisiwn Brown—ac mewn gwirionedd rwy'n cytuno ag Andrew R.T. Davies, am unwaith. Bu dwy flynedd ers adroddiad Williams-MacAlister. Nid oes angen rhagor o bwyllgorau na chomisiynau nac adroddiadau pellach ar Gymru; mae angen newid ar Gymru, a chlywyd hynny'n groch ac yn eglur yng Nghaerffili bythefnos yn ôl—a croeso yn ôl i chi, Lindsay. Nawr, mae'r diwygiadau hollbwysig hyn o dan reolaeth y Blaid Lafur. Nid ydych chi'n wrthblaid mwyach. Pryd wnaiff y Blaid Lafur fanteisio ar y cyfle a sicrhau'r diwygiad gwirioneddol sydd ei angen ar Gymru? Diolch yn fawr.

Ar y pwynt diwygio cyfansoddiadol, rwy'n cytuno â chi, ac ni fyddech chi'n synnu at hyn, nad wyf i'n ei ystyried yn fogailsyllu. Ceir diwygio cyfansoddiadol sydd ar ochr pobl Cymru, sy'n gallu sicrhau manteision pendant.

Nawr, byddwn yn parhau i wneud y ddadl i Lywodraeth bresennol y DU. Rydym ni'n gobeithio y byddwn ni'n cael rhywfaint o gynnydd, mae'n rhaid i mi ddweud, mewn rhai meysydd, hefyd, o ddiwygio cyfansoddiadol. Ond rydym ni wedi dweud erioed bod datganoli yn broses, nid yn ganlyniad terfynol ar unrhyw adeg mewn amser, ac rydym ni'n parhau i wneud y ddadl seiliedig ar dystiolaeth dros ddiwygio cyfansoddiadol pellach, ond lle mae wir yn cyflawni dros bobl Cymru. Felly, rwy'n croesawu'r gefnogaeth yr ydych chi'n ei rhoi, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar hynny.

Myfyrwyr Cymraeg eu Hiaith

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n gadael Cymru i fynychu prifysgolion yn Lloegr? OQ63357

Diolch yn fawr iawn, Cefin. Rydyn ni’n cefnogi myfyrwyr o Gymru i wneud y penderfyniadau cywir iddyn nhw o ran ble maen nhw'n dewis astudio. Rŷn ni'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau bod dysgwyr yn gallu parhau â'u haddysg yn y Gymraeg. Rŷn ni hefyd yn helpu'r rhai sy'n astudio y tu allan i Gymru i gadw mewn cysylltiad â chyfleoedd gartref. Rydyn ni'n falch o gynnig y pecyn cymorth cynhaliaeth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i fyfyrwyr israddedig amser llawn o Gymru, pa un ai a ydyn nhw'n astudio yng Nghymru neu mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

14:15

Diolch yn fawr. Mae ystadegau diweddar yn dangos bod tua hanner y disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg a ddechreuodd gyrsiau prifysgolion eleni yn astudio dros y ffin yn Lloegr. Yn anffodus, mae hyn yn adlewyrchiad o sut mae eich polisïau addysg uwch presennol chi, fel y cynllun Seren, yn annog myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i chwilio am gyfleoedd y tu hwnt i Gymru.

Ar adeg pan ŷn ni’n wynebu heriau i gynnal gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog, mae mawr angen inni drio cadw cymaint o’n siaradwyr Cymraeg ifanc ni yma yng Nghymru. Achos rŷn ni’n gwybod bod nifer ohonyn nhw ddim yn dod nôl, a phan maen nhw wedi gadael Cymru, maen nhw’n colli eu hyder i siarad yr iaith Gymraeg.

Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae ein prifysgolion ni yn wynebu colledion ariannol sylweddol. Felly, Dirprwy Brif Weinidog, a fyddech chi’n barod i adolygu’r cynllun Seren er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi’n prifysgolion ni, yma yng Nghymru, yn arbennig yn y sector cyfrwng Cymraeg, er mwyn sicrhau bod mwy o’n myfyrwyr ni yn aros yma yng Nghymru?

Diolch, Cefin. A gaf i egluro? Rwy'n croesawu eich bod chi'n codi'r pwynt hwn, ond mae'n debyg bod pwynt o wahaniaeth yma, yn yr ystyr ein bod ni'n dymuno i'n myfyrwyr ni fod yn falch iawn o fod yn ddinasyddion Cymru wrth edrych tuag allan i'r byd mawr hefyd. Rwy'n dweud hyn fel un a fu'n fyfyriwr y tu allan i Gymru yn gyntaf, yna fe ddois i yn f'ôl i Gymru i gyflawni fy astudiaeth ôl-raddedig. Yna fe es i i weithio'r tu allan i Gymru ac yna hefyd, wedi gweld y goleuni, fe ddois i yn f'ôl i Gymru i weithio yma.

Rydym ni wedi ymrwymo i amddiffyn hawl myfyrwyr i ddewis astudio ym mha le bynnag y maen nhw'n dymuno. Felly, mae'n rhaid i ni dderbyn y bydd rhai pobl ifanc yn awyddus i symud o Gymru, fel gwnes innau, i weld pethau gwahanol ac ehangu eu gorwelion. Ond, wyddoch chi, fe fydd llawer ohonyn nhw'n dymuno dod yn eu holau, ac fe fyddan nhw'n awyddus i ddod yn eu holau a gwneud cyfraniad yma, naill ai mewn addysg neu yn yr economi yn fwy eang.

Felly, mae angen i ni ganfod ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â'r bobl ifanc hynny sy'n symud o Gymru i astudio a'u hannog nhw—rwy'n cytuno â chi—i ddal ati i ymarfer y Gymraeg. Bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn dymuno symud yn ôl adref yn nes ymlaen. Mae angen i ni wneud popeth a allwn ni i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd i'w cael yn ôl yma yng Nghymru.

Mae'n bleser gennyf i ddweud bod cynllun Cadw Cyswllt, sy'n cael ei redeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn wir yn helpu myfyrwyr Cymraeg sy'n astudio'r tu allan i Gymru i gadw mewn cysylltiad â chyfleoedd yng Nghymru. Hefyd, mae creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol bwysig hefyd. Felly, mae cynllun gweithredol Medr yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi ei gynllun ar gyfer y Gymraeg erbyn mis Awst 2026. Felly, fe fyddwn yn parhau i weithio ar hynny, ond rwy'n credu bod gwahaniaeth barn gennym ni o ran galluogi. Rydym ni o'r farn, yn y Llywodraeth hon i Gymru, y dylid galluogi ein myfyrwyr ni i fod yn falch o fod yn ddinasyddion Cymru, ble bynnag y maen nhw'n astudio, ac rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n dod yn eu holau i Gymru wedyn ac yn dod â'r doniau hynny gyda nhw.

Wel am ddiffyg uchelgais ofnadwy sydd gan Blaid Cymru ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Mae hi'n ymddangos eu bod nhw o'r farn mai peth drwg yw bod Cymry yn dymuno ymadael i fynd i astudio yn Rhydychen, Caergrawnt neu brifysgolion eraill ledled y Deyrnas Unedig. Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn ystyried hynny'n beth drwg. Rydym ni'n credu mai peth da ydyw hynny. Rydym ni'n dymuno bod yn uchelgeisiol ar ran ein pobl ifanc, i'n darpar fyfyrwyr yn y dyfodol.

Dirprwy Brif Weinidog, rwyf i am ddweud bod angen i ni wneud mwy na gobeithio y bydd y myfyrwyr hynny'n dychwelyd wedyn. Mae angen i ni greu'r amodau fel y byddan nhw'n dychwelyd. Yr unig ffordd i wneud hynny yw meithrin yr economi yng Nghymru. Dyna pam y cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig y cynllun uchelgeisiol hwnnw i feithrin ein heconomi drwy dorri trethi, torri ardrethi busnes yn gyfan gwbl, a chael gwared ar y dreth stamp.

Wrth i'r trafodaethau cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig barhau, a wnewch chi sicrhau mai meithrin yn economi yw canolbwynt llwyr hynny, ac a fyddwch chi'n cefnogi ein cynllun ni i ddiddymu'r dreth stamp yng Nghymru i annog mwy o bobl i symud yn ôl i Gymru ar ôl iddyn nhw raddio?

Mae hi'n ddiddorol wrth i chi edrych ar y gyfran o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw'n talu treth stamp ar hyn o bryd. Roedd yna gwpl o bethau y gwnaethoch chi eu dweud nawr. Un o'r rhain oedd mater ymgysylltu, oherwydd mae gennym ni benderfyniadau cyllidebol sylweddol ar ddod. Rydym ni'n falch fod trafodaethau yn mynd rhagddynt; gyda'r drws hwnnw y gwnaethom ni ei agor felly, mae rhai trafodaethau yn digwydd ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Ond a gaf i ddweud rhywbeth o ran arddull gyffredinol y sloganau Ceidwadol nodweddiadol ynghylch 'torri trethi, torri trethi'? Ar ryw adeg, bydd angen i ni siarad am fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hefyd, oherwydd fe fydd pawb yn fy nghymuned i, a llawer o gymunedau ledled Cymru, yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus cryf, cadarn, da, ac mae hynny'n golygu taro'r cydbwysedd iawn. Os yw'r agenda yn ymwneud â thorri trethi ar bob cyfrif a hynny'n unig, yna fe fydd y bobl hynny i gyd sy'n gweithio yn dioddef, oherwydd y nhw yw'r rhai sy'n dibynnu ar yr ysgolion, y gwasanaeth iechyd, y meddygon teulu lleol a phob dim arall. Ond mae'r drws yn agored; os oes unrhyw gynigion gennych chi, dewch i mewn drwyddo, os gwelwch yn dda.

14:20
Cyfleoedd Hyfforddi o Ansawdd Uchel

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at gyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel ym Mlaenau Gwent? OQ63360

Diolch, Alun. Rydym ni'n parhau i gefnogi cyfleoedd i bobl ledled Cymru ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo a chryfhau'r gweithlu a'r economi leol. Mae ein rhaglen Arloeswr gwerth £10 miliwn yn darparu cymorth cyflogaeth a sgiliau wedi'i deilwra, gan gynnwys mentora, gwasanaethau llesiant a hyfforddiant sgiliau gwyrdd. Mae Anelu'n Uchel, rhaglen brentisiaethau a rennir ym Mlaenau Gwent, wedi dathlu ei deng mlynedd yn ddiweddar. Mae hwnnw'n gynllun gwych sydd wedi cefnogi dros 200 o brentisiaid erbyn hyn gyda hyfforddiant o ansawdd uchel, sydd wedi arwain at gyflogaeth dda.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Brif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o ymuno â Gweinidogion yn lansio prosiect Arloeswr a dathliad Anelu'n Uchel fis diwethaf, fel ei gilydd. A ddoe, roeddwn i'n falch iawn o groesawu Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, i Lynebwy ar gyfer agor a lansio'r cyfleuster peirianneg gwerth uchel o Goleg Gwent, a gafodd ei adeiladu a'i agor yno eleni. Mae hyn yn arddangos buddsoddiad gwirioneddol yn nyfodol ein pobl ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chanmol yn haeddiannol felly oherwydd y buddsoddiad yn y seilwaith caled ym Mlaenau'r Cymoedd, fel ffordd Blaenau'r Cymoedd, a gwblhawyd yn gynharach eleni. Ond nawr mae'r Llywodraeth hon hefyd yn buddsoddi, ochr yn ochr â'i phartneriaid, ym mhobl y fwrdeistref a chymunedau ehangach Blaenau'r Cymoedd. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n bwrw ymlaen â strategaeth economaidd a diwydiannol er mwyn dyfodol ein cymunedau. A wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog ddod gyda mi i Flaenau Gwent, a helpu i lansio cynllun datblygu economaidd ar gyfer ardal Blaenau'r Cymoedd yn gyfan?

Diolch yn fawr iawn i chi. Ac rydych chi'n hollol iawn: mae'r gyfres o fuddsoddiadau a wnaethom ni dros nifer o flynyddoedd yng nghymunedau ein Cymoedd, Blaenau'r Cymoedd yn arbennig felly, wedi bod yn sylweddol. Ac fe allwn weld hynny, nid yn unig yn y seilwaith caled, fel cwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd, ond y miloedd o gyfleoedd y mae hynny'n ei olygu o ran swyddi, gan gynnwys gyda'r fenter beirianneg gwerth uchel, menter HiVE, sydd i'w chroesawu yn fawr, a lansiwyd ddim ond yr wythnos hon, gyda Jack Sargeant. Fe ddeilliodd honno o weledigaeth i greu canolfan arloesi a sgiliau yng nghanol Glynebwy, ac fe gaiff ei hariannu gan Lywodraethau Cymru a'r DU—yng ngoleuni rhai o'r cwestiynau a glywsom ni. Mae HiVE yn rhan o'r adfywiad hwn yn y Cymoedd uchaf, sy'n dod â chyfleoedd newydd i gwrdd, gyda llaw, ag anghenion y diwydiant, oherwydd y maen nhw'n rhan o hyn hefyd, a mynd i'r afael â bylchau sgiliau yn y dyfodol, a chodi dyheadau ein pobl ni i gyd yn ein Cymoedd. Ac fe gafodd ei gynllunio gyda'r dyfodol mewn golwg, ac felly mae'n cynnwys technoleg, creadigrwydd, cydweithio, gydag arfogi dysgwyr â'r sgiliau sydd eu hangen ar y cyflogwyr lleol hynny. Ond mae hyn ar ben y Cymoedd Technoleg. Mae hyn ar ben y gronfa twf leol y gwnaethom ei chyhoeddi hi hefyd. Mae llawer mwy i'w wneud eto, Alun, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gwrdd â chi i drafod beth arall y gallwn ni ei wneud.

Y Cynllun Gweithredu Dementia Nesaf

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y cynllun gweithredu dementia nesaf? OQ63319

Diolch, Mike. Rydym ni'n gweithio ar gynllun gweithredu dementia newydd i Gymru i ysgogi gwelliannau, a fydd yn tynnu oddi ar brofiad pobl â dementia a'u teuluoedd nhw. Fe fyddwn ni'n ymgynghori ar ddiwedd y flwyddyn galendr i lywio'r cynllun newydd hwn.

Diolch i chi am yr ateb yna. Mae diagnosis o ddementia yn aml yn sioc i'r unigolyn sydd â'r cyflwr a'r rhai sydd o'i gwmpas. Dyma'r diagnosis mwyaf brawychus y gallech chi neu unrhyw aelod o'ch teulu fyth ei gael. Ym mis Hydref, ochr yn ochr â Rebecca Evans, fe ymwelais i â Forget Me Not sef clwb dydd dementia yn Abertawe. Rwyf i wedi ymweld â'r hwb dementia yn Abertawe hefyd, Atgofion Cerddorol a grwpiau cymorth dementia. Mae'r angen yn daer am y cynllun gweithredu dementia.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yng nghynhadledd pobl hŷn ym mis Hydref y byddai £9 miliwn yn cael ei neilltuo i gyflawni'r cynllun gweithredu dementia. A wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog amlinellu a yw hyn ar gyfer cyflawni'r cynllun blaenorol, neu a gafodd y cyllid hwn ei neilltuo ar gyfer y cynllun newydd? Ac os ydyw hwn ar gyfer y cynllun newydd, beth a fwriedir ei gyflawni gydag ef? 

14:25

Diolch i chi, Mike, ac rwy'n hapus i egluro. Fel rhan o'r gronfa integreiddio ranbarthol, sy'n darparu £146.8 miliwn yn flynyddol i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol i hyrwyddo llesiant, yn hwnnw, fe gafodd £9 miliwn ei neilltuo i helpu i gyflawni'r cynllun gweithredu dementia i Gymru. Mae'r £9 miliwn hwnnw'n rhan o'r £12.7 miliwn y byddwn yn ei ddarparu bob blwyddyn i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cynllun gweithredu dementia cyfredol, a datblygu dull gweithredu cyffredin o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny'n bwysig ar gyfer cymorth dementia, ochr yn ochr â phartneriaid yn y trydydd sector. Fel roeddwn i'n sôn, Mike, fe fyddwn ni'n cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn ar ddiwedd y flwyddyn i lywio datblygiad y cynllun newydd, ac fe fydd y dystiolaeth a gaiff ei chyflwyno yn yr ymgynghoriad hwnnw yn helpu i lunio'r blaenoriaethau a fydd yn dod i'r golwg wedyn, gan gynnwys cynllunio ynghylch y ffordd orau y dylid defnyddio'r cyllid ynddi.

Economi Gorllewin Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella'r economi yng ngorllewin Cymru? OQ63324

Diolch, Paul. Mae ein buddsoddiad ni yng nghytundeb dinas Bae Abertawe yn datgloi dros £1 biliwn o gyllid ac yn creu miloedd o swyddi o safon ledled y gorllewin, gan helpu gyda heriau costau byw. Mae'r Porth Rhydd Celtaidd yn ysgogi diddordeb mewn cyfleoedd diwydiannol newydd yn y rhanbarth, ac fe fydd yr uwchgynhadledd fuddsoddi sydd ar ddod yn chwistrellu miliynau i'r sector ynni gwyrdd, a fydd yn rhoi hwb i niferoedd o swyddi ac yn cryfhau economi'r gorllewin drwy gyfrwng twf cynaliadwy a datblygu sgiliau.

Dirprwy Brif Weinidog, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol o'r broblem wirioneddol yn sir Benfro wrth i ganllawiau diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru ar nitradau mewn afonydd gael effaith enfawr ar ddatblygu yn yr ardal, a fydd ag effaith ddinistriol ar yr economi yn fy etholaeth i. Mae effaith ar lawer o geisiadau cynllunio sy'n mynd rhagddyn nhw ac mae cannoedd o gartrefi newydd mewn perygl, yn gynnwys cartrefi fforddiadwy, ac mae miloedd o swyddi mewn perygl yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Fel gwyddoch chi, mae hwn yn fater y gwnes i ei godi gyda Llywodraeth Cymru ers misoedd erbyn hyn, ac er y cafwyd adroddiadau am sefydlu tasglu gweithredu cyflym, dal i aros am unrhyw gynnydd yr ydym ni. Yn wir, mae arweinydd y grŵp Llafur ar Gyngor Sir Penfro hyd yn oed wedi mynegi ei farn ynglŷn â hyn, gan ddweud bod camau'r swyddogion a'r Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn 'codi cywilydd'. Felly, a wnewch chi wrando ar alwadau gwleidyddion o bob plaid a chyflymu'r camau i fynd i'r afael â'r mater hwn, fel gall datblygiadau pwysig fynd yn eu blaenau ac na fydd swyddi mewn perygl mwyach?

Diolch i chi, Paul. Nid gwrando yn unig yr ydym ni, ond rydym ni'n gweithredu eisoes, fel roeddech chi'n ei awgrymu nawr. Felly, mae asesiadau diweddaraf CNC, dim ond i egluro, yn cadarnhau bod llygredd maethynnau yn niweidio ardaloedd gwarchodedig morol. Felly, rydym ni'n ymdrin â hyn ar frys. Fe wnaethom ni gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 10 Hydref.

Ond er bod amrywiaeth o adeiladu tai yn parhau yn yr ardaloedd yr effeithir arnyn nhw, rydym ni'n derbyn bod datrys yr effaith bresennol ar ddatblygiadau'r dyfodol yn flaenoriaeth bennaf. Felly, rydym ni wedi sefydlu'r tasglu lefel uchel hwnnw, sydd wedi cyfarfod ar sawl achlysur erbyn hyn, sy'n cynnwys arweinwyr yr awdurdodau lleol, gyda llaw. Mae'n dwyn ynghyd Lywodraeth Cymru, CNC, awdurdodau lleol a Dŵr Cymru i nodi'r buddugoliaethau cyflym byrdymor a'r datrysiadau tymor hwy i ddatgloi datblygu cynaliadwy yn yr ardaloedd yr effeithir arnyn nhw. Ac rydym ni'n cefnogi hwnnw, gyda llaw, Paul, y cam hwnnw, gyda dros £2 filiwn o gefnogaeth i helpu'r awdurdodau lleol i weithredu eu mesurau niwtraliaeth maethynnau a chaniatáu i ddatblygiadau ddigwydd unwaith eto. Rwy'n hyderus, Paul, y byddwn ni'n dod o hyd i'r cydbwysedd hwnnw ac yn canfod y ffordd ymlaen drwy gyfrwng y tasglu a'r ymgysylltiad ag arweinwyr ledled yr ardaloedd yr effeithir arnyn nhw.

Prosiectau Ynni ar Raddfa Fawr

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau ei bod yn ofynnol i ddatblygwyr prosiectau ynni ar raddfa fawr gyfathrebu'n barhaus ac mewn modd ystyrlon â chymunedau lleol drwy gydol pob cam o'u datblygiadau? OQ63356

Diolch, Llyr. Rŷn ni wedi ymrwymo i gefnogi camau i drafod yn ystyrlon gyda chymunedau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses ddatblygu. Mae'r drefn gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol ar raddfa fawr yn rhoi nifer o gyfleoedd i gymunedau lleol drafod gyda datblygwyr wrth i gynlluniau symud ymlaen drwy'r broses gydsynio. Mae canllawiau ar y gweill a fydd yn rhoi gwybod i ddatblygwyr am yr arferion gorau sy'n ymwneud ag ymgysylltu cyn ymgeisio. Bydd y drefn newydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Rhagfyr.

Achos mae'n rhaid i fi ddweud, mae yna ormod o enghreifftiau dwi wedi dod ar eu traws nhw lle, ar ôl yr ymgynghoriad cychwynnol, mae yna dawelwch llethol wedyn. Mae yna enghraifft Ynni Celyn yng Ngwyddelwern yn fy rhanbarth i, lle roedd yna ddau ddigwyddiad diwedd y llynedd, a dyw'r gymuned ddim wedi clywed dim ers hynny, i bob pwrpas. Felly, dwi'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod angen mandadu'r cyrff yma, neu'r datblygwyr yma, i gynnal y trafodaethau parhaus yna gyda'r cymunedau, oherwydd dyna'r peth lleiaf maen nhw’n ei haeddu. A wnewch chi felly sicrhau bod y newidiadau rŷch chi'n sôn amdanyn nhw yn cael eu cyflwyno ar frys, a'u bod nhw'n digwydd mewn modd sydd yn mynd i olygu newid ar lawr gwlad, ac nid ar ddarn o bapur yn eich ffolder chi?

14:30

Diolch, Llŷr. Yn gyntaf i gyd, fe wnaethom ni nodi egwyddor allweddol o greu lleoedd ym 'Mholisi Cynllunio Cymru'—y dylai'r gymuned leol fod yn rhan o ddatblygiad pob cynnig, a bod anghenion a dyheadau ac iechyd a llesiant pawb yn cael eu hystyried o'r dechrau'n deg. Ond rydym ni'n cydnabod bod ymgysylltiad cynnar effeithiol yn fuddiol i gymunedau lleol a datblygwyr er mwyn deall pryderon ac anghenion y cymunedau lleol hynny wrth helpu i greu datblygiadau llwyddiannus.

Rydych chi'n gywir i bwysleisio'r brys o ran bod ag eglurder ynghylch rhai o'r rhain. Fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ar berchnogaeth leol a rhanberchnogaeth sy'n cynnig llwybr ar gyfer ymgysylltiad cymunedol ystyrlon. Fe fydd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad cadarn â'r gymuned ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol, ac yng ngwanwyn 2026, fe fyddwn ni'n nodi'r arfer gorau yn y cyfnod cyn dechrau gwneud cais. Felly, rydym ni'n deall yr angen taer sydd i wneud hyn, a'r awydd sydd mewn cymunedau am ymgysylltiad ystyrlon, ac rydym ni'n awyddus i hynny ddigwydd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Jane Hutt, felly, i wneud y datganiad busnes.

Member
Jane Hutt 14:31:45
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Bydd datganiad ar 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder', adolygiad ymarfer plant bwrdd diogelu gogledd Cymru, yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach y prynhawn yma. Yn ogystal â hynny, nid oes unrhyw bwnc wedi ei gyflwyno ar gyfer y ddadl fer yfory. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Fe hoffwn i roi ar gofnod fy siom nad oes datganiad llafar ar agenda heddiw gan y Dirprwy Brif Weinidog o ran polisi Llywodraeth Cymru i reoli feirws y tafod glas. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn, ac fe fydd hwnnw â goblygiadau sylweddol i'r diwydiant amaethyddol, ac rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud amser i'r penderfyniad hwnnw fod yn destun craffu yn y Siambr hon, er mwyn i'r Aelodau ofyn cwestiynau ynglŷn â manylion y cyhoeddiad hwnnw. Mae penderfyniad y Dirprwy Brif Weinidog i ddatgan parth cyfyngedig Cymru gyfan o 10 Tachwedd, er bod hwnnw i'w groesawu, yn rhy bwysig i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig yn unig. Mae hi'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad llafar yn yr union Siambr hon. Felly, Trefnydd, fe ddylai datganiad ar y tafod glas fod ar agenda heddiw, o ystyried goblygiadau hynny i'r diwydiant ffermio. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau y bydd datganiadau llafar ar benderfyniadau polisi mawr fel hyn yn digwydd yn y dyfodol, er mwyn gallu craffu ar y Llywodraeth ac y gall yr Aelodau ofyn cwestiynau yn agored a thryloyw ar ran pobl Cymru?

Diolch yn fawr, Paul Davies. Diolch i chi am y cwestiwn yna. I ymateb i amseriad y datganiadau a natur y datganiadau hynny, fe gyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar y tafod glas, fel gwyddoch chi, ac fel roeddech chi'n dweud, ar 30 Hydref, yn dilyn trafodaeth ford gron ar bolisi'r tafod glas yn y dyfodol gydag uwch gynrychiolwyr y sector da byw a milfeddygol ar 27 Hydref. Roedd hi'n bwysig i'r drafodaeth ford gron honno gael ei dilyn yn gyflym gan y datganiad hwnnw. Ystyrid mai datganiad ysgrifenedig oedd y ffordd fwyaf effeithiol o ddiweddaru Aelodau'r Senedd a'r diwydiant ar ddatblygiadau polisi tafod glas yn ystod y toriad.

Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig, fel mae'r datganiad ysgrifenedig yn ei amlinellu, y bydd parth cyfyngedig tafod glas yn cael ei ddatgan ar 10 Tachwedd ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn dirymu'r parth rheoli dros dro, a chyfyngiadau ar symud anifeiliaid ac ar lefel anheddau. Fe fydd hyn yn hwyluso symud anifeiliaid yn rhydd rhwng Cymru a Lloegr o 10 Tachwedd ymlaen.

Mae gwyliadwriaeth o ran y tafod glas yn mynd rhagddo yng Nghymru. Cafodd cyfanswm o 13 achos eu cadarnhau hyd yn hyn, sy'n cynnwys pedwar achos ym Mhowys a naw o fewn y parth rheoli dros dro yn sir Fynwy. Brechu, wrth gwrs, yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y tafod glas. Mae ein dull newydd ni o ymdrin â'r tafod glas yn golygu ei bod hi'n bwysicach nag erioed i ni fod yn barod ar gyfer effeithiau'r clefyd.

Yn olaf, Llywydd, fe fyddwn i'n dweud bod randdeiliaid yn unfryd yn eu cytundeb, gan gynnwys ynglŷn â'r angen i geidwaid anifeiliaid drafod brechu tafod glas eu buchesi a'u diadelloedd gyda'u milfeddygon nhw, yn enwedig cyn y cyfnod trosglwyddo gweithredol nesaf ar gyfer y clefyd, yng ngwanwyn 2026.

14:35

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ynglŷn â'r risg uwch oherwydd ffliw adar yng Nghymru? Fe gawsom ni dri achos yn ddiweddar, wrth gwrs—maen nhw i gyd yn gwbl anrheithiol o ran lles anifeiliaid, ond o ran busnesau teuluol cysylltiedig hefyd, ac mae yna oblygiadau i lawer o ran eu swyddi—roedd un ohonyn nhw yn fy rhanbarth i. Rydym ni wedi dysgu heddiw bod diwydiant dofednod Lloegr wedi cael gorchymyn i ddechrau cyfyngiadau symud, i bob pwrpas, o ddydd Iau, gyda gorchymyn gorfodol i gadw dan do yno, ar gyfer amddiffyn eu hadar ac amddiffyn eu bywoliaethau. Mae gennym ni barth atal yng Nghymru, ond, wrth gwrs, nid oes gennym ni'r un amddiffyniad am na chawsom ni gyhoeddiad o'r fath ar gyfer Cymru. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru er mwyn i ni allu deall beth yw'r cynllun i osgoi canlyniadau difrifol ffliw adar o ran lles anifeiliaid a'r economi? Disgrifiwyd straen presennol H5N1 fel y straen fwyaf peryglus erioed o ffliw adar. A ydych chi'n cytuno bod angen i Gymru weithredu nawr, a pheidio â'i gadael hi nes y bydd hi'n rhy hwyr?

Diolch yn fawr, Llŷr Gruffydd. Mae Llywodraeth Cymru yn eglur iawn: rydym ni'n ystyried ffliw adar yn ddifrifol iawn. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, a gweinyddiaethau eraill, i fonitro'r sefyllfa yn y DU ac yn rhyngwladol. Fe hoffem ni ddiolch i geidwaid dofednod ac adar caeth ledled Cymru am roi mesurau ar waith i gadw eu heidiau yn ddiogel rhag y feirws hynod heintus hwn. Mae hi'n hanfodol i bob un sy'n cadw adar weithredu nawr i wirio ac atgyfnerthu mesurau hylendid a bioddiogelwch, i amddiffyn eu hadar nhw.

So, diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Rwy'n falch fy mod i wedi cael gwneud y datganiad hwnnw wrth ymateb i chi heddiw.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Ar fabwysiadu priffyrdd y mae'r cyntaf. Mae datblygwyr yn gadael priffyrdd wedi eu hadeiladu ond heb fod yn y cyrraedd safon i unrhyw allu eu mabwysiadu. Nid yw'r cynghorau yn eu mabwysiadu nhw, ac mae trigolion yn cael eu gadael gyda thaliadau gwasanaeth ar gyfer rhywbeth sy'n swyddogaeth i'r cyngor, ac yn cael ei ariannu drwy'r dreth gyngor. Nid cwmnïau adeiladu bychain ydyn nhw'n unig. Mae Barratt wedi gadael Copper Quarter yn fy etholaeth yn yr union sefyllfa honno, ac maen nhw'n gwrthod trafod gyda'r cyngor ac yn gwrthod rhoi ateb i mi.

Yr ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yw cynhyrchiant yn y gwasanaeth iechyd. Yn Lloegr, mae yna gynllun i gynhyrchu gwelliant o 4 y cant flwyddyn ar ôl blwyddyn o ran cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ar gyfer cyflawni'r mandad oddi wrth y Llywodraeth. A yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwella cynhyrchiant 4 y cant? Fe hoffwn i'r datganiad gynnwys amlinelliad o gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sut y gall deallusrwydd artiffisial a gwariant cyfalaf gynhyrchu cynhyrchiant gwell.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Dau gwestiwn pwysig iawn. O ran mabwysiadu priffyrdd, os cawn ni ddechrau gyda hwnnw, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol, fe wn i, fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bryd hynny wedi sefydlu tasglu ffyrdd na chafodd eu mabwysiadu, yn ôl ym mis Hydref 2020, i ystyried y materion sy'n ymwneud â ffyrdd nad ydyn nhw wedi cael eu mabwysiadu yng Nghymru. Cafodd adroddiad terfynol ei gyhoeddi, sy'n cynnwys set o argymhellion, ac fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ohonyn nhw. Dau o'u hargymhellion nhw i gynyddu nifer y ffyrdd sy'n cael eu mabwysiadu oedd datblygu set o safonau cyffredin i'w defnyddio ar gyfer datblygiadau newydd yn ogystal â sefydlu canllawiau ar gyfer arfer da, ac mae pob un o awdurdodau lleol Cymru, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, a'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi cytuno i roi'r ddau argymhelliad ar waith. Mae hi'n ddiddorol, o ran eich etholaeth chi, mai un o'r argymhellion oedd darparu cyllid ar gyfer gwaith angenrheidiol i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau ynglŷn â'r ffyrdd lleol nad ydyn nhw wedi cael eu mabwysiadu. Yn 2023-24, fe ddyfarnwyd £130,000 i Gyngor Abertawe. Ac yn wir, er na wnaeth Cyngor Abertawe gyflwyno cais am gyllid ar gyfer 2024-25, yn y flwyddyn hon fe ddyrannwyd £80,000 i'r cyngor i'r perwyl hwnnw.

O ran eich materion a'ch cwestiynau ynglŷn â chynhyrchiant mewn gofal iechyd, mae'n amlwg bod y GIG yng Nghymru yn cyflawni ac yn gwneud cynnydd o ran arbedion a chynhyrchiant, ac fe gaiff ei gefnogi gan fwrdd cenedlaethol gwerth a chynaliadwyedd. Mae'r gwaith grŵp cynghori gweinidogol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ym mis Ebrill, yn nodi nifer o gamau ar gyfer gwella cynhyrchiant, sy'n cael eu dwyn ymlaen. Oherwydd mae'n amlwg y bydd angen i'r GIG barhau i gyflawni arbedion cynyddol a chynyddu camau gweithredu ar gyfer gwella cynhyrchiant wrth i ni fynd yn ein blaenau. Rydym ni wedi rhoi £115 miliwn i gynyddu'r cyllid cyfalaf ar gyfer y prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol yn 2025-26. Mae hwnnw ar gyfer cynnal a gwella ystad y GIG, ysgogi cynhyrchiant y GIG, buddsoddi mewn offer newydd a thechnoleg ddigidol, gyda'r gyllideb gyfalaf yn cynyddu i £614 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac fe fydd yn codi unwaith eto ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hwn yn fater lle ceir canolbwyntio pendant ar gynhyrchiant mewn gofal iechyd yng Nghymru.

14:40

Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar sefydlogrwydd ariannol Prifysgol Caerdydd, os gwelwch chi'n dda? Rydym ni'n clywed o hyd am yr anawsterau y mae Prifysgol Caerdydd yn eu hwynebu o dan ei his-ganghellor presennol, a fu'n destun pleidlais o ddiffyg hyder ynddo gan ei staff yn ddiweddar. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o nifer o brifysgolion ledled Cymru a'r DU a allai fod yn wynebu streic gan Undeb y Prifysgolion a'r Colegau, gyda phleidleisiau yn cael eu bwrw wrth i ni siarad yn y fan hon heddiw. Serch hynny, mae Prifysgol Caerdydd yn wynebu cyfres o heriau unigryw a achosir gan ddiffyg safbwynt clir ynghylch sut y dylid ei rhedeg hi.

Ystyriwch chi, er enghraifft, y llanastr o ran amserlennu a achoswyd gan system TG, nad oedd hi wedi cael ei phrofi'n iawn, i roi hynny ar gofnod—ni chafodd hyn ei ddatrys hyd yma. Mae staff yn dal i fod o dan fygythiad o gael eu diswyddo, gyda llawer o staff profiadol a hyddysg wedi ymadael eisoes am nad yw'r brifysgol yn gallu nodi dewisiadau ariannol cynaliadwy nad ydyn nhw'n golygu diswyddiadau. Mae myfyrwyr yn cael eu gadael gyda bylchau yn eu haddysg oherwydd diffyg staff, ac mae'r staff sydd ar ôl yn gweithio o dan bwysau eithafol—mater arall hefyd na chafodd ei ddatrys. A'r holl amser yma, yn hytrach na gwarchod ei myfyrwyr ei hun yng Nghymru, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn buddsoddi mewn campws yn Kazakhstan. Yn y cyfamser, mae ymarferion torri costau yn cael eu gwneud i gampws y brifysgol yng Nghaerdydd. Mae'r diffyg hwn o dryloywder ariannol ac o ran atebolrwydd yn parhau i fod yn fater arall na chafodd ei ddatrys.

Rwy'n siŵr fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa hon, ond rwy'n awyddus, fel llawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon, i drafod hyn ymhellach, ac felly fe fyddai croeso mawr i ddatganiad gan y Llywodraeth. Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Natasha Asghar. Mae hwn yn fater parhaus o ran y pwysau a'r angen i sicrhau bod cynaliadwyedd ariannol ar gyfer ein sector addysg uwch yng Nghymru. Cyfrifoldeb ein Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yw hwnnw, sy'n ymgysylltu â mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae hi'n bwysig ymgysylltu ar lefel yr is-ganghellor, ond gyda'r gweithlu hefyd—roddech chi'n sôn am y gweithlu—a gweithio yn agos gyda'r undebau llafur, wrth gwrs, o ran deall y pwysau ar y gweithlu o'u safbwynt nhw. Wrth gwrs, y myfyrwyr yw'r flaenoriaeth i bawb. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n gallu dod yn ôl ac ymdrin â'r cwestiynau hyn y tro nesaf y bydd cwestiynau llafar yn y Senedd i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.

Ychydig cyn y toriad, fe wnes i ofyn a fyddem ni'n cael diweddariad ar y strategaeth bwydo ar y fron gan y Gweinidog iechyd, ac fe ddywedodd y Trefnydd y byddai hi'n cysylltu ag ef. Ers hynny, mae tair menyw sy'n arbenigwyr ar fwydo ar y fron wedi cysylltu â mi yn fy etholaeth, wedi bod yn ymgynghorwyr llaetha ac yn rhan o'r fforwm bwydo ar y fron i Gymru gyfan. Maen nhw'n bryderus iawn ynglŷn ag arweinydd bwydo ar y fron, sydd wedi cael ei secondio i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Disgwylir i'r swydd honno ddod i ben ddiwedd eleni, ac nid oes sicrwydd cyhoeddus am yr hyn a fydd yn digwydd wedyn. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai'r Trefnydd yn ymdrin â hyn, oherwydd mae hi'n gwbl hanfodol fod ysgogiad gennym ni i wneud bwydo ar y fron yn fwy cyffredin a chefnogi bwydo ar y fron yng Nghymru, ac mae hyn yn achosi ansicrwydd.

Diolch yn fawr iawn i chi wir, Julie Morgan. Mae hi'n bwysig, pan fydd y cyfle hwn gennych chi i godi cwestiynau yn y datganiad busnes, ein bod yn mynd ar drywydd y materion—materion hanfodol fel bwydo ar y fron yng Nghymru. Fe wnes i hyn gyda'r Ysgrifennydd Cabinet yn dilyn eich cwestiwn chi'n gynharach yn ystod y tymor hwn cyn y toriad. Fy nealltwriaeth i yw bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gefnogi gweithredu'r cynllun gweithredu bwydo ar y fron ac yn cefnogi'r gwaith ar ein cynllun gweithredu ar gyfer bwydo babanod newydd yng Nghymru. I fod â chydlyniad wrth gyflawni hyn, mae secondiad swydd arweiniol i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau. Nid wyf i'n siŵr ai honno yw'r swydd y codwyd pryderon amdani gyda chi gan bobl allweddol a fu'n ymwneud â hyrwyddo a chyflwyno'r cynllun bwydo ar y fron Cymru gyfan ers amser maith. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, rwy'n deall, yn gweithio ar hyn o bryd i sefydlu'r swydd hon i'r hirdymor, ar gyfer gweithredu'r cynllun yn ei lawnder, ac fe fydd yr arweinydd yn parhau i ddatblygu a rhoi'r cynllun gweithredu ar gyfer bwydo babanod ar waith ac yn cysylltu hynny â'r gwaith ynglŷn â bwydo babanod â chyflawni'r cynllun iechyd menywod. Felly, mae yna gyfleoedd i'w cael, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cynnig peth sicrwydd, ond fe fyddaf i'n crybwyll hyn eto i gadarnhau y bydd y secondiad hwn yn cael ei ymestyn.

14:45

Prynhawn da, Trefnydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog diwylliant ynglŷn â'r gefnogaeth a'r cyllid i Amgueddfa Cymru. Fe es i ymweld â'r lle ddoe ac fe wnes i ddysgu llawer am y drefn sydd ganddyn nhw yno. Mae ganddyn nhw lif prosiectau mewn chwe lleoliad arall ledled Cymru. Maen nhw'n darparu sesiynau Dechrau'n Deg o fewn Amgueddfa Cymru yma yng Nghaerdydd, ac maen nhw'n cynllunio ac yn cynnal gweithdai ar gyfer cymunedau, yn enwedig y rhai sy'n anodd eu cyrraedd. Eleni, fe wnaeth dros 1,200 o bobl fynychu'r gweithdai hynny. Mae hwnnw'n adnodd gwerthfawr iawn ac yn rhywbeth sy'n gwneud i ni wenu ac yn dod â llawenydd i ni hefyd—rhywbeth sy'n bwysig iawn i'n bywydau ni o ran iechyd ataliol, iechyd meddwl a'n llesiant emosiynol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni wybod ychydig mwy am y cynlluniau ar gyfer ariannu adnoddau fel Amgueddfa Cymru ac adnoddau celfyddydol eraill hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, am gyflwyno adroddiad mor bwysig am eich ymweliad chi ag Amgueddfa Cymru. Ac ar gyfer tynnu sylw unwaith eto at yr hyn sy'n digwydd yn ein hamgueddfeydd cenedlaethol ac mewn amgueddfeydd ledled Cymru, fe wn i, ac fe gefais i sicrwydd, fod Amgueddfa Cymru yn ceisio ymgorffori cyfranogiad a chysylltiad cymunedol, ac fe wnaethoch chi roi rhai enghreifftiau gwych i ni o hynny heddiw eisoes. Maen nhw'n ystyried hyn fel canolbwyntio ar gyfranogiad diwylliannol fel rhywbeth y mae gan bawb hawl iddo, sy'n cysylltu â chymunedau wrth ddatblygu prosiectau gyda'r cymunedau. Fe wnaethoch chi sôn am sesiynau Dechrau'n Deg, yn cynhyrchu a datblygu gweithdai, ond mae'n datblygu'r prosiectau hyn ar y cyd â'r cymunedau. Wrth gwrs, mae hyn yn canolbwyntio hefyd ar leoliadau sydd wedi eu canoli ar eu cymunedau, er enghraifft Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ac Amgueddfa Wlân Cymru, a dderbyniodd Wobr Gymunedol y Faner Werdd am eu prosiectau garddio. Fe ymwelais innau â'r prosiect garddio yn Sain Ffagan ac fe welais i'r sgiliau, y mwynhad a manteision y prosiect garddio hwnnw hefyd a'r ardd hyfryd a ddeilliodd o hynny. 

Wrth gwrs, o ran cyllid, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r sector celfyddydau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, ac mae ein cyllid ni i'r sector diwylliant a'r celfyddydau wedi gweld cynnydd mewn refeniw eleni, gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn gweld cynnydd o 9.2 y cant eleni, o'i gymharu â'r llynedd. Ac, wrth gwrs, mae hwn yn fater sy'n gwneud i ni edrych hefyd ar ffyrdd y gall y cyfleusterau celfyddydol i gyd, drwy'r cynllun gweithredu, ehangu'r ymgysylltiad â Chyngor Celfyddydau Cymru, elwa ar ddysgu o'r sefydliadau cymunedol a'r ymgysylltiadau hynny y maen nhw'n eu creu. Rwyf i o'r farn fod Newid Byd yn brosiect sydd wedi grymuso unigolion ag anableddau dysgu i lunio profiadau o amgueddfeydd. 

Fe hoffwn i gefnogi'r hyn yr oedd Julie Morgan yn ei godi am bwysigrwydd bwydo ar y fron, oherwydd roeddwn i'n bresennol yn nigwyddiad Gwaith Gwych a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ganol y mis diwethaf, ac mae hi'n hollol amlwg fod llawer mwy o waith i'w wneud eto. Roedd hwnnw'n ddigwyddiad ardderchog ar gyfer rhannu arfer da, ond y frwydr y bu'n rhaid i Fro Morgannwg ei chael er mwyn cael cynorthwywyr gofal mamolaeth i gefnogi bwydo ar y fron ymhlith mamau—oherwydd yn sicr nid oes gan fydwragedd y math hwnnw o amser—. Mae'n rhaid i ni wneud i'r GIG ddarparu llawer mwy o gefnogaeth ac nid dim ond dibynnu ar y sector elusennol i hyfforddi gweithwyr cymorth bwydo ar y fron. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n mynd â hynny yn ei ôl. Ac mae angen i ni ystyried hyn yn rhan annatod o'r cynllun iechyd menywod, oherwydd beth arall sy'n bwysicach na hynny?

Fe hoffwn i ofyn i chi ymuno â mi i roi sylw i Purple Tuesday, sef heddiw. Dyma'r seithfed flwyddyn ac mae'r diwrnod yn ymwneud â mudiad rhyngwladol ar gyfer gwella hygyrchedd a chynhwysiant i bawb fel cwsmeriaid a gweithwyr. Rwy'n dymuno llongyfarch canolfan siopa Dewi Sant yng nghanol Caerdydd am arwain y ffordd ar gynnal digwyddiad niwroamrywiol sy'n cynnwys llawer o wahanol grwpiau anabledd, ar gyfer helpu cwsmeriaid a chyflogwyr i ddeall pwysigrwydd sicrhau eu bod nhw'n gynhwysol—sefydliadau fel AP Cymru, sy'n trefnu seibiannau byr a gwyliau i deuluoedd sydd â phlant niwroamrywiol. Ac am foment wych i fod yn cyhoeddi pa mor bwysig yw'r Grŵp Sparrows ALN, yr wyf i'n siŵr y bydd Lindsay Whittle yn dal i'w gefnogi fel gwnaeth Hefin David yn frwd—rhieni a neiniau a theidiau sy'n darparu lleoedd lle mae teuluoedd niwroamrywiol yn teimlo eu bod yn gallu mynd gyda'u plant, heb orfod teimlo yn bryderus ynglŷn ag ymateb pobl eraill nad ydyn nhw'n deall sut mae bod yn gynhwysol. Ond mae yna sefydliadau eraill hefyd fel Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth a Chanolfan Byw'n Annibynnol Dewis. Felly, mewn gwirionedd, dyma'r diwrnod i ni fod yn gofyn sut y gallwn gynyddu nifer y cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd lefel 3 gyda'r achrediad hwnnw, er mwyn i bobl anabl fod â hyder y byddan nhw'n cael gwrandawiad teg pe bydden nhw'n ymgeisio am swyddi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:50

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny Rathbone, a diolch i chi am dynnu sylw at Ddydd Mawrth Porffor. Nid wyf i'n gwybod faint o gydweithwyr ac Aelodau ar draws y Senedd sy'n ymwybodol o Ddydd Mawrth Porffor. Mae'n taflu goleuni ar faterion hanfodol sy'n ymwneud â hygyrchedd, a'i ystyr yw bod busnesau yn cymryd yr awenau, gan gydnabod y bunt borffor, sef gallu pobl anabl a'u teuluoedd i wario y mae ffynonellau yn amcangyfrif ei bod yn £274 biliwn bob blwyddyn yn y DU yn unig, sy'n syfrdanol.

Diolch am dynnu sylw at sut mae canolfan Dewi Sant yn nodi Dydd Mawrth Porffor mewn sawl ffordd wych, unwaith eto, gan ymgysylltu ag ymwelwyr ar heriau hygyrchedd, arddangos cyfleusterau cynhwysol, gan gynnwys lleoedd newid, toiledau, lleoedd tawel a diogel ar gyfer anghenion synhwyraidd, canolfan cadair olwyn a sgwteri rhad ac am ddim, oriau tawel wythnosol, a dehongli Iaith Arwyddion Prydain drwy ap Convo.

Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n eu canmol nhw heddiw, a busnesau eraill, yn hynny o beth, ond fe fyddaf i'n mynd ar drywydd hwn. Fe gewch chi weld, o ran fy nghynllun hawliau pobl anabl sydd i'w gyhoeddi cyn bo hir, ein bod ni wedi ystyried y materion hyn, yn enwedig o ran cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd. Mae gennym ni weithgor gyda phobl anabl, o ganlyniad i'n hymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd, i ddwyn hyn yn ei flaen, a chan edrych at y sector cyhoeddus yn enwedig felly i gymryd yr awenau o ran cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd ond, yn wir, fe all y sector preifat arwain y ffordd yn aml.

Diolch. Prynhawn da, Trefnydd. Fe fyddwn innau'n eilio'r angen am ddatganiad llafar ar y tafod glas yn y Siambr hon am y rhesymau a gafodd eu hamlinellu yn dda iawn eisoes, ac rwyf innau o'r farn y dylai hynny fod wedi digwydd, mewn gwirionedd, yr wythnos hon.

A gaf i alw hefyd, yn ail, am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr oedi syfrdanol gydag amseroedd ymateb ambiwlans ac amseroedd trosglwyddo i ysbytai y mae pobl yn fy rhanbarth yn eu gweld? Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog yn gynharach y bydd y Llywodraeth yn gwneud cynnydd ar hyn, ond sut mae'r Llywodraeth am wneud cynnydd ar hyn? Mae'r Senedd yn haeddu cael gwybod ar lawr y Senedd.

Yn fy nghymhorthfa gynghori yng Ngwndy yr wythnos diwethaf, fe siaradais ag etholwr y bu ei wraig yn gorwedd ar lawr oer am bron i wyth awr am fod amheuaeth bod ei chlun wedi torri cyn i'r ambiwlans gyrraedd. Pan gyrhaeddodd hi'r ysbyty o'r diwedd, fe dreuliodd hi naw awr yn disgwyl y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor yng nghefn ambiwlans am nad oedd gwelyau ar gael. Dyna'r sefyllfa wirioneddol, yn anffodus, gyda GIG Cymru heddiw, system y mae'r Llywodraeth hon, gyda chefnogaeth gan Blaid Cymru, wedi methu â'i hunioni. Er ein bod ni'n cydnabod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cymryd camau i fyrhau arosiadau ambiwlans y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, mae honno'n broblem enfawr sy'n parhau, ac ni ddylai neb gael ei adael mewn poen ar lawr oer am wyth awr. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn nodi pa gamau uniongyrchol sy'n dod o'r canol, nid yn unig gan fyrddau iechyd, ond gan Lywodraeth Cymru ei hun, ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd lleol, i gael diwedd ar yr oediadau annerbyniol hyn am byth? Diolch.

Diolch yn fawr am eich cwestiynau. 

Mae polisi rheoli'r tafod glas ein Llywodraeth ni wedi llwyddo i ohirio ymosodiad y clefyd tan yr adeg o'r flwyddyn pan fydd y tymheredd yn is a'r perygl o fwy o drosglwyddiadau fector yn llai, ac mae ein camau ni wedi amddiffyn da byw a bywoliaethau dros gyfnod peryglus yr haf. Rwyf i, yn amlwg, wedi ymateb i'r cwestiwn ynghylch pam mae hi'n bwysig cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn gyflym iawn ar ôl y drafodaeth ford gron honno gyda'r rhanddeiliaid hynny—uwch gynrychiolwyr da byw a milfeddygol—ar 27 Hydref, ac wedi cydnabod, o ganlyniad i'r trafodaethau hynny, ei fod yn gyfle i ni sôn am barth cyfyngedig y tafod glas i Gymru gyfan, a gaiff ei ddatgan ar 10 Tachwedd. Roedd hi'n bwysig bod gwybodaeth yn cael ei rhyddhau bryd hynny, ar 30 Hydref, o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw â rhanddeiliaid, i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r datblygiadau.

A gaf i ddweud, mewn ymateb i ystadegau amser aros—ac, wrth gwrs, mae hi bob amser yn ofidus clywed am amseroedd aros annerbyniol i bobl ledled Cymru—o ran y darlun cyffredinol, mae'n rhaid i mi ddweud, yr hyn sy'n bwysig yw bod oedi wrth drosglwyddo o ambiwlans wedi lleihau i'w gyfradd isaf mewn mwy na phedair blynedd? Felly, mae yna enghreifftiau da iawn o'r ffordd y mae'r gwasanaeth ambiwlans a'r GIG yn ymateb, ac rydym ni'n gobeithio y gellir ailadrodd a gweld hynny'n digwydd ledled Cymru ac ar draws y gwasanaeth.

14:55
3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Eitem 3 yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad—Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch iawn o gael nodi cyflwyniad Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), un o'r ddau Fil olaf yn y flwyddyn olaf hon o dymor y Senedd. Pwrpas y Bil yw cryfhau atebolrwydd Aelodau'r Senedd drwy rymuso'r systemau sy'n rheoleiddio ac yn sancsiynu ein hymddygiad a'n hymarweddiad. Mae'n cyflawni yn unol â'r argymhellion sydd i'w cael yn adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn sgil eu hymchwiliad i atebolrwydd Aelodau yn unigol. Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am y gwaith diwyd a wnaethon nhw'n rhan o'r ymchwiliad pwysig hwnnw.

Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl safonau uchel ohonom ni, eu cynrychiolwyr nhw. Pan fydd unrhyw Aelod yn methu â bodloni'r safonau hynny, mae hi'n briodol bod y cyhoedd yn disgwyl y bydd canlyniadau, ac mewn achosion o gamymddwyn difrifol, fe ddylai'r canlyniadau fod yn ddifrifol. Yn y cyd-destun hwnnw, fe fydd Rhan 1 y Bil yn sefydlu system adalw ar gyfer Aelodau. Bydd y system adalw honno'n cryfhau ein hatebolrwydd i'r rhai yr ydym ni'n eu cynrychioli nhw. Bydd yn grymuso ein democratiaeth ac yn sicrhau mai gan yr etholwyr y bydd y gair olaf ynghylch a ddylid diarddel Aelod o'i swydd yn ystod tymor y Senedd yn dilyn camymddygiad difrifol. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer dau ddigwyddiad sbardun a fyddai'n arwain at Aelod i fod yn destun pôl adalw. Y cyntaf yw o ganlyniad i Aelod yn cael ei euogfarnu a'i ddedfrydu i garchar. Mae'r sbardun hwn yn cyd-fynd â'r ddarpariaeth bresennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n anghymhwyso Aelod os caiff ei garcharu am dros flwyddyn, a fydd yn sicrhau bod Aelod sy'n cael ei ddedfrydu i garchar am flwyddyn neu lai, gan gynnwys dedfrydau a ohiriwyd, yn destun pôl adalw yn awtomatig. Yr ail sbardun yw bod y Senedd yn cytuno ar argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y dylai Aelod fod yn destun pôl adalw. Mae hynny'n darparu'r pwyllgor â'r sancsiwn annibynnol a argymhellir yn ei adroddiad, ac mae'r gofynion yn y Bil ynghylch cyhoeddi canllawiau adalw yn sicrhau y bydd tryloywder o ran sut y bydd y sancsiwn terfynol hwnnw'n cael ei gymhwyso.

Dirprwy Lywydd, un cam fydd i broses y gyfundrefn adalw, fel mae'r pwyllgor yn ei argymhell. Bydd pôl adalw yn cael ei chynnal, sy'n debyg iawn i etholiad i'r Senedd mewn un etholaeth, i ganiatáu i etholwyr yr Aelod benderfynu a ddylid diarddel yr Aelod hwnnw neu beidio. Os bydd y pleidleiswyr yn penderfynu diarddel yr Aelod, fe fyddai hynny'n golygu bod swydd wag, ac fe fydd y sedd yn cael ei llenwi yn y ffordd arferol. Yn hyn o beth, mae'r Bil yn integreiddio'r system adalw â'r system etholiadol newydd ar gyfer etholiadau'r Senedd.

Dirprwy Lywydd, mae Rhan 2 y Bil yn cynnwys mesurau i rymuso proses safonau'r Senedd, yn enwedig o ran gweithrediad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Bydd y Bil yn rhoi'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar sail statudol ac yn galluogi'r Senedd i benodi aelodau lleyg i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a fydd yn dod ag elfen o annibyniaeth ac arbenigedd allanol i waith y pwyllgor. Fe fydd yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol i'r comisiynydd safonau o ran gallu cynnal ymchwiliadau i ymddygiad Aelod ar ei fenter ei hun, heb angen cwyn, ac fe fydd yn galluogi'r Senedd i sefydlu mecanwaith apeliadau o ran achosion ynghylch ymddygiad Aelod. Mae'r gyfres hon o fesurau yn cyflawni un o argymhellion y pwyllgor, ac yn cymryd cam sylweddol ymlaen at gryfhau a gwella'r system safonau, gan gyflwyno elfen bwysig o annibyniaeth i waith y pwyllgor.

Dirprwy Lywydd, mae Rhan 3 y Bil yn diwygio rhannau o adran 13 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n darparu'r pŵer i Weinidogion Cymru lunio'r rheolau ar gyfer etholiadau'r Senedd. Fel gŵyr yr Aelodau, cafodd y rheolau hyn eu nodi yn yr hyn a elwir yn gyffredin yn Orchymyn cynnal etholiadau. Yn gyntaf, mae'r Bil yn gwneud gwelliannau ar gyfer egluro bod pŵer gan Weinidogion Cymru nawr, fel erioed, i lunio troseddau etholiadol dan yr adran honno. Yn ail, mae'r Bil yn dodi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth yn y Gorchymyn cynnal etholiadau sy'n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau o ffeithiau anwir at ddibenion effeithio ar ethol ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd. Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer creu trosedd i fynd i'r afael â dichell fwriadol.

Fel mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei gydnabod, ac fel dywedais i yn y Siambr hon yn flaenorol, mae hwn yn bwnc hynod gymhleth. Nid yw'n rhywbeth y gallwn ei wneud ar frys gwyllt. Wrth i ni barhau i weithio ar gread y drosedd, fe fydd angen asesiad llawn o'r effaith ar y system gyfiawnder, sy'n ystyried unrhyw oblygiadau o ran hawliau dynol, yn ogystal â'r gofyniad am ymgynghoriad, sy'n cynnwys ymgynghoriad statudol gyda'r Comisiwn Etholiadol. Ond, Dirprwy Lywydd, drwy gynnwys y ddyletswydd hon yn y Bil rydym ni'n sicrhau y bydd y gwaith yn parhau o ran creu trosedd o ddichell fwriadol.

Bydd Aelodau'n ymwybodol mai prin iawn yw'r amser ar gyfer hynt y Bil hwn, ac rwy'n deall pa mor heriol yw'r amserlen. Yn dilyn cyhoeddi'r ddau adroddiad pwyllgor yn y gwanwyn, rydym ni wedi gweithio ar beth cyflymder i gyflwyno'r Bil ar gyfer caniatáu craffu yn nhymor y Senedd hon. Felly, mae'r Aelodau yn sicr o fod yn deall y bydd y Bil yn darparu ar gyfer elfennau allweddol system safonau fwy cadarn, ond fe fydd angen cyflwyno llawer o'r manylion a fydd yn sicrhau ei gweithrediad effeithiol hi, yn enwedig o ran y system adalw a chynnal pôl adalw, yn gynnar yn nhymor y Senedd nesaf.

Rwy'n croesawu'r sail adeiladol y gwnaeth yr Aelodau sydd â diddordeb yn y materion pwysig y mae'r Bil hwn yn ceisio mynd i'r afael â nhw ymgysylltu â mi ar sail drawsbleidiol hyd yma. Mae hi wedi bod yn bleser gwirioneddol ac yn fraint gweithio—. Mae hyn wedi bod yn gymhleth iawn, ac mae'r Aelodau wedi rhoi llawer o'u hamser i'w gyflawni, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am yr amser hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau wrth i'r ddeddfwriaeth bwysig hon symud yn ei blaen drwy'r Senedd.

Mae'r Bil yn mynegi eiliad nodedig yn hanes y Senedd hon. Bydd yn grymuso democratiaeth yng Nghymru ac yn sicrhau y bydd cynrychiolwyr yn y Siambr hon yn cael eu dal at y safonau uchaf o atebolrwydd. Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at gwestiynau'r Aelodau heddiw ac at graffu ar y Bil â manylder. Diolch.

15:00

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad yma y prynhawn yma. Rwy'n croesawu cyflwyno'r Bil gan y Llywodraeth a'r bwriad i gryfhau atebolrwydd Aelodau'r Senedd. Yn sicr, mae cynigion o fewn hwn sy'n nodi cam pwysig wrth adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd yn eu haelodau etholedig. Fel Ceidwadwyr Cymreig, credwn, fodd bynnag, fod yn rhaid i unrhyw fwriadau da gyd-fynd ag eglurder, ymarferoldeb, a mesurau diogelu priodol hefyd.

Yn Rhan 1 o'r Bil, mae'r egwyddor o adalw ar gyfer Aelodau'r Senedd yn un yr ydym wedi ei chefnogi ers amser maith. O ran y mecanwaith adalw sydd wedi'i gynnwys yn y Bil, rydym yn canmol y symudiad hwn i roi mwy o bŵer i bleidleiswyr ddal eu cynrychiolwyr etholedig i gyfrif. Mae'r gallu i ddiswyddo Aelod o'i swydd am fethu â chynnal safonau ymddygiad uchel yn fecanwaith atebolrwydd pwysig sydd wedi bod yn brin yn y Senedd hon ers gormod o amser. Ac fel y gwyddom, mae systemau o'r fath yn cael eu defnyddio ledled y byd ac wedi profi eu hunain i fod yn effeithiol. O ystyried y bydd newidiadau i'r system bleidleisio yn golygu na fydd y cyhoedd yn cael y cyfle i ethol ymgeiswyr unigol o'u dewis i Senedd Cymru yn y dyfodol, mae cael system sy'n hyrwyddo atebolrwydd uniongyrchol Aelodau'r Senedd i'r pleidleiswyr yn bwysicach fyth.

Fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'r Bil drafft yn nodi dau sbardun ar gyfer adalw. Yn gyntaf, euogfarn a dedfryd o garchar, gan gynnwys dedfrydau gohiriedig, ac, yn ail, penderfyniad y Senedd yn dilyn argymhelliad gan y pwyllgor safonau y dylai Aelod fod yn destun pôl adalw yn sgil camymddwyn difrifol. Mae'r egwyddor yn cael ei groesawu, ond mae'r manylion yn sicr yn bwysig. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwerthfawrogi hynny. Mae angen eglurder ynglŷn â beth yw 'camymddwyn difrifol' a pha fwyafrif fydd ei angen mewn Senedd ar gyfer argymhelliad o adalw. A fydd yna bethau fel isafswm y ganran a bleidleisiodd mewn pôl adalw a sut y bydd y mecanwaith yn gweithio yn system etholiadol Cymru sy'n datblygu? Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i helpu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn, ac nid wyf o reidrwydd yn disgwyl i'r Ysgrifennydd Cabinet eu hateb i gyd yma heddiw. Ac fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym eisiau pwysleisio'r angen i'r system fod yn deg, yn dryloyw ac yn gymesur hefyd. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno gweld mecanwaith sy'n cael ei sbarduno'n ddiangen, neu un sy'n cosbi Aelodau am fân doriadau neu doriadau technegol, yn hytrach na chamymddwyn sydd wir yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd, ac rwy'n credu bod y cydbwysedd hwnnw yn un y bydd angen i Aelodau y lle hwn ei herio'n briodol wrth i'r Bil hwn fynd ar ei hynt.

Mae'r ail ran, sydd mewn gwirionedd yn Rhan 3 o'r Bil, hefyd yn mynd i'r afael ag agwedd bwysig arall ar atebolrwydd—y mater o ddichell fwriadol gan Aelodau, neu, mewn gwirionedd, yr hyn sydd wedi'i amlinellu yn y Bil, gan ymgeiswyr ar gyfer etholiadau. Rydym yn sicr yn cefnogi'r egwyddor bod rhaid i anonestrwydd mewn bywyd cyhoeddus arwain at ganlyniadau. Ar yr un pryd, rhaid i'r diffiniadau o'r hyn sy'n gyfystyr â datganiad anwir neu gamarweiniol a throthwy bwriad fod yn glir, er mwyn sicrhau tegwch ac i amddiffyn dadl wleidyddol gyfreithlon. Mae'n ymddangos bron yn amhosibl deall sut y gellir profi bwriad gyda rhywfaint o hyn ar hyn o bryd. Felly, rhaid i unrhyw ddiwygiadau sicrhau nad ydynt yn cyflwyno mecanwaith lle gall gwrthwynebwyr gwleidyddol ymosod ar ei gilydd, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y Llywodraeth yn darparu sicrwydd ar rai o'r materion hyn mewn perthynas â dichell fwriadol.

Gwyddom, wrth gwrs, bod y Bil drafft hefyd yn cryfhau rôl y comisiynydd safonau ac yn ei gwneud yn ofynnol i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan gynnwys aelodau lleyg. Byddem yn meddwl bod annibyniaeth yn hanfodol i hyder y cyhoedd, ond mae angen eglurder ar sut mae'r aelodau hyn yn cael eu dewis, pam mae eu tymor yn cael ei amlinellu fel chwe blynedd pan fo tymor y Senedd yn bedair, ac a yw dwy flynedd allan o wleidyddiaeth yn ddigon hir cyn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer rôl ar y pwyllgor hwnnw.

O ran pŵer newydd y comisiynydd i ddechrau ymchwiliadau yn annibynnol, dylid ystyried mesur diogelu syml, efallai ei gwneud yn ofynnol i Lywydd neu Bwyllgor Busnes gadarnhau bod sail briodol cyn bwrw ymlaen, ac i warchod didueddrwydd. Efallai y bydd y Llywodraeth eisiau ystyried sut gellir sicrhau na fyddai'r comisiynydd ag ymlyniad wrth blaid, byddai wedi gwasanaethu mewn tymor blaenorol, neu y byddai wedi gweithio i Aelod o'r Senedd cyn ei benodi hefyd—cwestiynau y gwn y byddant yn cael eu cyflwyno'n ffurfiol i'r Ysgrifennydd Cabinet wrth i'r Bil hwn fod yn destun craffu.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, fel Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn craffu'n fanwl ar y Bil i sicrhau ei fod yn ymarferol, yn deg ac yn cyd-fynd â system etholiadol Cymru, gyda diffiniadau, trothwyon a mesurau diogelu clir. Hoffwn hefyd nodi ar hyn o bryd wrth gwrs fod Bil adalw a diswyddo Aelodau ar ei hynt drwy Senedd yr Alban, a byddai gennyf ddiddordeb cael clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei barn a'i hasesiad o'r ddeddfwriaeth honno, a pha wersi y gellir eu dysgu, wrth i honno gael ei chyflwyno drwy Senedd yr Alban, i ni yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

15:05

Diolch, Sam. Felly, rydych chi wedi amlinellu nifer o bethau; fe af drwy rai ohonynt. Rwy'n gwerthfawrogi eich barn ragarweiniol ynghylch ble rydym ni. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y broses graffu ar gyfer y Bil hwn. Mae hwn yn Fil eithaf anodd ei gyflwyno ar gyfer Llywodraeth, oherwydd mae'n ymwneud ag ymddygiad y Senedd, ac felly mae angen i ni fod yn ofalus iawn i sicrhau nad yw'r Llywodraeth yn tramgwyddo, a bod gan y Senedd y lefel gywir o lais yn hynny. Felly, dyna'r cymhlethdod cyntaf. Ac yna'r ail gymhlethdod yw gwneud yn siŵr ein bod yn adlewyrchu nifer y safbwyntiau ledled Cymru o gymdeithas ddinesig, o'r farnwriaeth ac o fannau eraill. Cymerodd y pwyllgor safonau lawer o dystiolaeth ar hyn, a'r farn consensws yw ei fod yn anodd iawn, felly mae'n anodd iawn ei wneud. Felly, bydd angen i ni ddod i farn gonsensws ar draws y Senedd ynglŷn â sut mae hyn yn edrych, ond ni allwn gytuno mwy â chi ar egwyddorion sylfaenol yr hyn rydych chi'n ei ddweud.

Felly, mae pôl adalw yn bwysig. Mae'n bwysig ei fod yn gweithio yng nghyd-destun Cymru, fel bod pobl yn teimlo bod Aelodau'n atebol am eu hymddygiad personol. Rydym wedi rhoi'r pôl ar waith fel pôl un cam ar argymhelliad y pwyllgor—fe wnaethoch chi gymryd llawer o dystiolaeth ar hyn—oherwydd y ffordd y bydd y system etholiadol newydd yn gweithio yng Nghymru, ac oherwydd y ffordd y mae hynny'n gweithio. Ac rwy'n cytuno â chi bod angen i'r sbardunau fod yn bwysig. Felly mae'r sbardun cyntaf yn awtomatig oherwydd carcharu. Rwy'n credu bod pawb, mae'n debyg, yn cytuno â hynny. Bydd yr ail un yn dibynnu ar y pwyllgor safonau yn cyflwyno cynllun a fyddai'n nodi ar gyfer y Senedd nesaf sut olwg fydd ar yr ymddygiadau hynny, ac i'r Senedd gymeradwyo'r cynllun hwnnw. Felly, dyna'r diogelwch, os mynnwch chi, fel nad yw'n gamwedd neu’n llithriad anfwriadol, yn niffyg disgrifydd gwell. Ac ni allwn gytuno â chi fwy am yr angen i hynny gael ei gymeradwyo gan y Senedd hon ac i bobl ddeall a chymryd o ddifrif sut y gallai'r ymddygiad hwnnw edrych i sbarduno'r mathau hynny o ddarpariaethau.

Roedd yna gwpl o bethau eraill a ddywedoch chi. Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â'r syniad y dylai'r comisiynydd orfod gofyn i'r Pwyllgor Busnes am olau gwyrdd i gynnal ymchwiliad annibynnol. Rwy'n credu mai pwynt yr ymchwiliad annibynnol yw ei fod yn annibynnol. Ond byddech chi'n disgwyl i'r comisiynydd nodi, wrth adrodd ar yr ymchwiliad hwnnw, pam y mae'r comisiynydd yn meddwl bod hynny'n bwysig.

O ran tymor y swydd, eto mae hyn yn rhywbeth rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei drafod gyda'r pwyllgor. Rwy'n credu bod tymor hirach na thymor y Senedd, er mwyn i chi gael rhywfaint o barhad, yn eithaf pwysig. Fyddech chi ddim eisiau iddyn nhw fod yn gydamserol ac yn gorfod ei sefydlu bob tro. Felly, rhaglen dreigl—. Efallai y byddech hefyd eisiau edrych ar dymhorau ychydig yn wahanol ar gyfer rhai ohonynt, felly byddech chi'n cael parhad ac nid proses 'pawb allan, pawb i mewn'. Dyma rai o'r pethau y bydd angen i ni eu trafod.

Yn yr un modd, lefel yr anghymhwyso—dwy flynedd allan. Mae yna seneddau lle na all unrhyw un sydd wedi bod yn gynrychiolydd etholedig ar unrhyw adeg, wasanaethu fel aelod lleyg. Mae gan eraill gymhwyster dwy flynedd. Unwaith eto, mae'n fater i'w drafod yn y pwyllgor. Rwy'n credu bod yna, fel y gallwch glywed, nifer o bethau i'w trafod. Ond o safbwynt y Llywodraeth, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod y Bil yn gymeradwyaeth gan y Senedd o'r holl bethau y mae'r system bwyllgorau yn eu cyflwyno fel gwelliannau ac ati.

15:10

Bwriad y Bil hwn, rwy'n credu, yw mynd i'r afael â'r argyfwng dirfodol yr ydym yn ei wynebu mewn democratiaethau ledled y byd ar hyn o bryd. Mae cwymp mewn ymddiriedaeth ym mhobman, ac mae'n fater o frys, onid yw, yr her rydym ni'n ei hwynebu. Felly, rwy'n credu bod y Llywodraeth i'w llongyfarch a dylai'r Senedd groesawu, rwy'n credu, unrhyw ymdrechion i fynd i'r afael â hyn yn ein cyd-destun penodol.

Mae rhan o'r Bil yn ceisio cymryd gwersi o rywle arall—rhannau o system San Steffan o ran adalwac yna eu haddasu i'n cyd-destun ni. Mae'r elfen arloesol yn y Bil, a'r un yr wyf am ganolbwyntio arni yn fy sylwadau, yn ymwneud â dichell fwriadol—Rhan 3 o'r Bil. Mewn gwirionedd, yma, rydym ni ar flaen y gad. Mae yna rai awdurdodaethau—De Awstralia, Tiriogaeth Prifddinas Awstralia—sydd hefyd wedi gwneud ymdrechion yn hyn o beth, ond ni fydd y Senedd genedlaethol gyntaf i gyflwyno'r gwaharddiad cyffredinol ar ddichell fwriadol yng nghyd-destun etholiadau. Rydym yn croesawu'r elfen sy'n creu dyletswydd ar Weinidogion i wahardd datganiadau anwir neu gamarweiniol at ddibenion ethol ymgeisydd.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld ffugiadau dwfn yn etholiad arlywyddol Iwerddon, gan honni bod yr ymgeisydd llwyddiannus—mae'n amlwg nad oedd wedi gweithio yn y cyd-destun hwnnw, diolch byth—wedi tynnu'n ôl o'r etholiad. Yn etholiad yr Iseldiroedd, roedd ffugiad dwfn ynghylch Frans Timmermans yn cael ei arestio, rwy'n credu, ac fe gollodd yr etholiad; i ba raddau y cafodd y ffugiad dwfn hwnnw effaith, pwy all ddweud ar hyn o bryd? Mae arweinydd yr wrthblaid yn Hwngari, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, wedi gwneud cwyn troseddol yn erbyn pennaeth staff Prif Weinidog Hwngari, Viktor Orbán, am gynhyrchu ffugiad dwfn lle mae'n dweud rhywbeth am bolisi pensiynau na wnaeth o gwbl. Felly, mae'n digwydd, onid yw, ac mae'n digwydd ar gyflymder cynyddol, ac mae'n digwydd yma. Nid wyf yn gwybod a welsoch chi, Cwnsler Cyffredinol, y sylwadau yn yr erthygl gan Yuliia Bond—aelod o'r gymuned Wcreinaidd yng Nghaerffili—a siaradodd yn arwrol am ei phrofiad yn yr etholiad. Nid democratiaeth oedd yr hyn a ddigwyddodd, meddai, gan siarad yn arbennig am y celwyddau am bolisi cenedl noddfa:

'roedd yn anhrefn wedi'i adeiladu ar gelwyddau. Cafodd taflenni llawn casineb, ofn a thwyllwybodaeth eu gwthio trwy ddrysau pobl heb un rhwystr, heb un system i'w hatal.

'A phan wnaethon ni geisio ei riportio...cawsom ein pasio o gwmpas fel problem nad oedd neb eisiau bod yn gyfrifol amdani.'

Yr hyn y mae hi'n ei ddweud yw, 'Edrychwch, allwn ni ddim caniatáu i hyn ddigwydd eto.' Felly, un o fy nghwestiynau, mewn gwirionedd—. Rwy'n gwybod ein bod wedi cael llawer o drafodaethau manwl a thechnegol ar hyn yn breifat, Cwnsler Cyffredinol, ond bydd aelodau'r cyhoedd eisiau gwybod pam na allwn roi'r gwaharddiad hwn ar waith ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, pan fyddwn ni'n mynd i wynebu fflyd o'r ffermydd bot ac ati, ac actorion gwleidyddol sydd â nodau llawn anfad. Pam na allwn roi'r gwaharddiad hwn ar waith nawr? Ac rwy'n credu hefyd, wrth gwrs, bod cytundeb gwleidyddol yr oedd dau Aelod yma yn rhan ohono, ac, yn wir, cadarnhawyd hynny mewn trafodaethau gyda Jane Dodds fel rhan o'r cytundeb cyllideb. Roedd hynny'n ymwneud ag Aelodau ac ymgeiswyr. Felly, mae gennym o leiaf lwybr tuag at greu trosedd ar gyfer ymgeiswyr, ond mae'r Bil ar hyn o bryd yn hollol dawel ynghylch Aelodau. Felly, a fyddwch chi'n gweithio gyda ni yng nghyfnodau diweddarach y Bil i sicrhau bod cydraddoldeb hefyd, bod gennym hefyd drosedd o ddichell fwriadol ar gyfer Aelodau presennol hefyd?

Mewn perthynas ag ymgeiswyr, mae'n cyfeirio at 'cyn neu yn ystod etholiad'. Mae 'yn ystod' yn eithaf syml i'w ddeall, onid yw e? Mae ar ôl diddymu. Mae 'cyn', mae'n ymddangos i mi, yn golygu unrhyw adeg cyn hynny. Allech chi gadarnhau bod hynny'n wir?

Mae adran 22 o'r Bil yn caniatáu i'r rheoliad ddiffinio beth yw datganiad o ffaith. A yw hynny'n ddigon eang i gwmpasu ffugiadau dwfn, er enghraifft? Ac mae hefyd yn caniatáu i'r rheoliad ddiffinio pwy yw targedau'r gwaharddiad, ac a yw hynny'n mynd i fod yn ddigon eang nid yn unig i dargedu ymgeiswyr, ond hefyd y bobl sy'n gweithredu fel dirprwyon ar ran ymgeiswyr—gwleidyddion eraill, er enghraifft, yn gwneud sylwadau at ddibenion ethol ymgeisydd, neu yn wir, ffermydd bot ac ati? Felly, a yw'n mynd i fod yn rhywbeth a fydd yn diogelu at y dyfodol o ran y dechnoleg, y cyfrwng, os mynnwch chi, y celwydd, ond hefyd pwy sy'n ei ddweud?

15:15

Ie, diolch, Adam. Yn amlwg, mae wedi bod yn wych cael cyfres o sgyrsiau gyda chi a Jane yn arbennig, ac eraill, yn y cyfnod cyn cyflwyno'r Bil hwn, ond mae'n amlwg bod gennym lawer o waith i ddod. Dim ond ar hynny—pam na allwn ni ei wneud ar gyfer 2026—fel y gwyddoch chi, byddwn wedi hoffi gwneud hynny, ond, fel mae'n digwydd, bydd y Bil hwn yng Nghyfnod 4 a fydd ar ddiwrnod eistedd olaf y Senedd. Ni fydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol tan ar ôl i ni ddiddymu, felly ni allaf ddod o hyd i unrhyw ffordd ymarferol o ddod â rhywbeth i rym cyn iddo fod yn Ddeddf. Os yw'n cael ei gyfeirio gan unrhyw un o gwbl, yna mae'n cael ei oedi hyd yn oed ymhellach. Dydw i ddim wedi gallu dod o hyd i unrhyw ffordd ymarferol o wneud hynny. Rydych chi'n gwybod eisoes ein bod wedi trafod hyn gydag ystod o randdeiliaid ledled Cymru. Maen nhw eisoes yn poeni am gynnal yr etholiad newydd, oherwydd mae mor wahanol i unrhyw etholiad arall o'r blaen ac ati, ac roedden nhw'n bryderus, rwy'n credu yw'r gair cywir, ynghylch ychwanegu hyd yn oed mwy o gymhlethdod at hynny. Felly, nid wyf wedi gallu dod o hyd i ffordd i wneud hynny. Rwy'n hapus i barhau i'w wneud, ond nid ydym wedi gallu dod o hyd i ffordd o wneud hynny.

Mae'r Gorchymyn cynnal etholiadau, y tro hwn yn ddwyieithog am y tro cyntaf, yn cynnwys cannoedd lawer o dudalennau eisoes. Rwy'n credu bod y gweinyddwyr etholiadol yn arbennig yn teimlo ei fod yn gam rhy bell. Rwy'n deall y pwynt rydych chi'n ei wneud, ond nid ydym wedi gallu dod o hyd i ffordd ymarferol o wneud hynny.

O ran a yw'n mynd yn ddigon pell, mae'r peth ffugiad dwfn yn bryderus iawn, onid yw e? Oherwydd bod angen i ni ddiogelu'r drosedd at y dyfodol fel nad yw pobl na allent fod wedi deall bod y peth yn ffugiad dwfn ac yn ailgyhoeddi neu ailbostio, neu beth bynnag, yn cael eu dal, ond rhywun a oedd yn gwybod neu a ddylai fod yn gwybod—. Mae'n ymwneud â pha un a ydym eisiau cynnwys rhyw elfen o 'fyrbwylltra', onid yw e'? Neu ei bod hi'n bosibl gwneud ymchwiliadau digonol i wybod. Felly, mae'n rhywbeth rydym ni eisiau ei drafod fel rhan o ddatblygiad y Bil, ac rydym wedi trafod hyn ein hunain.

Rwy'n awyddus iawn bod trosedd yn cael ei diogelu at y dyfodol fel ei bod yn ystyried technoleg, pwy yw'r cyhoeddwr, yr hyn y disgwylir i chi fod wedi ei wybod, a'i bod yn cynnwys cyhoeddi trwy ddirprwy neu asiant neu bethau eraill, fel na ellir chwarae'r system. Dydw i ddim yn anghytuno ag unrhyw beth yn y fan yna. Ond mae angen i ni weithio ar hynny fel rhan gydlynol o'r broses bwyllgor i weld ble y gallwn gyrraedd gyda hynny. A'r un peth ar gyfer Aelodau. Felly, rydym wedi nodi'r pwynt am ymgeiswyr ar wyneb y Bil ar hyn o bryd; byddem yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gan yr Aelodau rywbeth tebyg. Felly, bydd cod safonau ymddygiad ar gyfer Aelodau y byddant yn ddarostyngedig iddo, a bydd y ddarpariaeth adalw yn rhan o hynny, ond does dim rheswm pam, mewn rhai amgylchiadau, os ydyn nhw wedi cyflawni egwyddorion sylfaenol y drosedd, na fyddent yn gallu cael eu dwyn i gyfrif am hynny.

Mae yna rai materion cymhwysedd yma, y bydd angen i ni eu trafod yn y pwyllgor hefyd, yr wyf eisoes wedi'u rhannu gyda nifer o Aelodau, ynglŷn â'r ffaith bod gennym gymhwysedd dros etholiadau Cymru a'u cefnwlad, os dymunwch chi, ond, cyn gynted ag y byddwch chi'n ei ehangu, rydym yn crwydro i feysydd lle rwy'n credu y gallech ddadlau nad oes gan y Senedd bresennol gymhwysedd. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Rwy'n gobeithio nad yw'r Bil yn cael ei gyfeirio; unwaith y bydd yn cael ei gyfeirio, rydym ni wedi ei golli, i bob pwrpas, felly rwy'n awyddus iawn i ddilyn y trywydd hwn, os dymunwch chi, rhwng gwneud yn siŵr ein bod ni o fewn yr amlen gymhwysedd honno.

Ac yna, dim ond o ran y broses honno, eto, fel y dywedais i, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod y Senedd yn atebol am ei phrosesau ei hun. Felly, rwy'n credu y byddai'n bwysig iawn i welliannau gael eu cyflwyno gan Aelodau'r Senedd yn argymell bod ein Senedd yn gwneud pethau, ac nid y Llywodraeth yn dweud wrth y Senedd beth i'w wneud.

15:20

Cwnsler Cyffredinol, ni fydd yn syndod fy mod yn falch o weld yr ymrwymiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ddeddfwriaeth arfaethedig hon. Rwy'n credu'n gryf fod ewyllys ar y cyd yma i weld ein democratiaeth ddatganoledig yn cael ei gwella trwy ei gwneud mor dryloyw ac mor atebol â phosibl. Yr elfen ar adalw—mae'n hollol gywir bod gan yr etholwyr lais wrth ddiswyddo Aelod, a fydd, yn y bôn, yn y broses hon, ein sancsiwn terfynol fel rhan o'r gyfres honno o safonau ymddygiad sydd gennym yma yn y Senedd.

Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y ffordd rydych chi wedi derbyn ystod arall o argymhellion gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i wella ein prosesau safonau yn ehangach ar draws y maes hwn. Rwy'n credu bod yna gyfleoedd yno yn y ffordd y mae hynny'n cyd-fynd â rhywfaint o'r gwaith mwy cyffredinol rydym ni'n ei wneud i wella ymddiriedaeth a thryloywder mewn gwleidyddiaeth, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at bethau fel cael aelodau lleyg i wella'r arbenigedd annibynnol a'r mewnwelediad a'r annibyniaeth ei hun. Ond rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yma, wrth i'r ddeddfwriaeth ddatblygu, i barhau â'r sgyrsiau hynny, y byddwn yn eu croesawu'n fawr, gyda chi'ch hun i sicrhau ein bod yn gallu ategu ac ychwanegu at y gwaith rydym ni'n ei wneud yn enwedig ynghylch prosesau cryfach ar gyfer mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol a bwlio. Felly, a gaf i ofyn i chi ailddatgan y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio gyda mi a'r pwyllgor, yn benodol ynghylch y gwaith hwnnw ar urddas a pharch, i wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth hon yn mynd mor bell ag y gall i gefnogi popeth arall yr ydym yn ei wneud, i wneud yn siŵr ein bod yn adfer ymddiriedaeth mewn democratiaeth a'r tryloywder y mae ei angen i fynd ochr yn ochr â hi?

Ie, diolch yn fawr iawn, Hannah, am hynna. Byddaf yn hapus iawn i wneud yr ymrwymiad hwnnw. Byddwch chi'n gwybod, oherwydd rydym ni wedi gweithio arno gyda'n gilydd sawl gwaith, fy mod wedi teimlo ers tro bod angen gwahanol ffyrdd o ymdrin â phethau fel aflonyddu rhywiol yn y polisi. A byddwn yn gobeithio'n fawr y byddai'r Senedd yn gweld ei ffordd yn glir i benodi aelodau lleyg sydd ag arbenigedd mewn meysydd penodol, lle mae pethau arbennig o sensitif y mae angen i chi gael y fath arbenigedd er mwyn gallu dod i gasgliad priodol. Ac mae'n hollol hanfodol bod hynny'n cael ei ystyried yn annibynnol ar y broses wleidyddol, os mynnwch chi, am y rheswm hwnnw, yn arbennig oherwydd ein bod ni eisiau i bobl sy'n gweithio mewn gwleidyddiaeth ac o'i hamgylch ac yn ein Senedd ac o'i hamgylch deimlo'n ddiogel ac i deimlo bod yna fecanwaith adrodd y gallant ddibynnu arno.

Ni fyddwn yn synnu o gwbl i weld bod gwelliannau yn cael eu cyflwyno yn ystod hynt y Bil hwn ynghylch sbardunau awtomatig eraill ar gyfer adalw. Felly, rydym ni wedi rhoi'r un amlwg i mewn, ond does dim byd i atal aelodau'r pwyllgor rhag trafod a chymryd tystiolaeth ar sbardunau awtomatig eraill. Felly, gallai pobl sy'n cael eu canfod yn euog o droseddau dybryd eraill sbarduno deiseb adalw awtomatig, ac mae hynny'n rhywbeth i'w drafod, mae'n ymddangos i mi, yn y pwyllgor. Ac yna i wneud yn siŵr bod yna gyfwerthedd ar gyfer ymgeiswyr ac Aelodau dros y cyfnod gorgyffwrdd hefyd—rwy'n credu ein bod ni i gyd yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n credu, hefyd, oherwydd eich adroddiad pwyllgor safonau, bydd edrych ar sut y gallai mecanwaith apeliadau weithio a pha mor annibynnol y gallai hynny fod o fewn y broses ac a ddylai hynny fod yn orfodol neu beidio yn ddiddorol iawn. Yn y Bil, yn y cyflwyniad, mae'r rhain i gyd yn bwerau galluogi, oherwydd rydym yn teimlo'n gryf iawn y dylai'r Senedd wneud ei phenderfyniad ei hun.

A gaf i ddweud diolch yn fawr i chi, Cwnsler Cyffredinol, am eich ymrwymiad i brosesu'r ddeddfwriaeth hon ac i weithio gyda ni hefyd?

I'r rhai ohonom sy'n sefyll yn 2026 ac yn gobeithio cael ein hailethol, gallaf siarad yn bersonol ei fod yn pwyso'n drwm iawn arnaf beth allai swm a sylwedd y pedair blynedd hynny fod hyd at 2030. Wrth gwrs, nid ydym yn gwybod beth fydd y darlun gwleidyddol, ond, yn y pedair blynedd hynny, ni fydd unrhyw sancsiynau ar hyn o bryd i'r Aelodau hynny sy'n euog o ddichell fwriadol. Rydym ni wedi clywed rhai enghreifftiau rhyngwladol gan Adam, a dydyn ni ddim eisiau eu gweld yng Nghymru, ond un o'r materion sy'n atal pobl yw cael canlyniadau. I mi, bydd cyflwyno'r elfen o ddichell fwriadol ohono yn 2030 fel codi pais ar ôl piso, neu beth bynnag yw'r ymadrodd.

Felly, hoffwn roi ar gofnod—ac rwy'n gobeithio mai 'byddaf' fydd eich ateb—y byddwch yn parhau i gwrdd â'r rhai ohonom sydd eisiau cyflwyno awgrymiadau adeiladol o sut y gallwn gyflwyno hyn yn 2026 ar gyfer yr Aelodau, fel y gallwn deimlo'n fwy diogel yn y pedair blynedd sy'n arwain at 2030. Diolch yn fawr iawn.

15:25

Byddaf. Felly, rydw i wedi dweud o'r blaen, Jane, ac rwy'n hapus i'w ddweud ar gofnod, os gallwn ddod o hyd i ffordd i'w wneud, yna rydym ni'n hapus i ddod o hyd i'r ffordd honno. Dydyn ni ddim wedi gallu dod o hyd i ffordd i'w wneud, ond os oes ffordd i'w wneud ac y gallwn ddod o hyd iddi, yna'n sicr. Rwy'n hapus i ddweud hynny. Dydw i ddim eisiau rhoi gobaith ffug, serch hynny. Nid wyf wedi gallu dod o hyd i'r ffordd honno, ac nid oes unrhyw un o'n swyddogion wedi llwyddo chwaith. Ond os oes modd dod o hyd i ffordd, yna rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor eisiau edrych ar hynny hefyd.

Dim ond i ddweud hefyd fy mod yn credu mai'r hyn y bydd y Bil yn ei wneud yw ei gwneud hi'n orfodol i hyn ddigwydd yn y Senedd nesaf. Felly, ni fydd hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth arall ddweud, 'O, na, dydyn ni ddim eisiau gwneud hynna.' Byddai'n rhaid iddynt ddiddymu'r Bil—neu'r Ddeddf, fel yr ydym yn gobeithio y bydd erbyn hynny. Mae hwnnw'n far llawer uwch sef peidio â gwneud rhywbeth. Felly, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny. Fel y cyfryw, mae'n rhoi rhai amddiffyniadau ar waith. Felly, nid yw'n sefyllfa o wneud dim, ond rwy'n ofni, o ystyried y pwysau amser a'r gweddill ohono, nad ydym wedi gallu dod o hyd i ffordd, hyd yn hyn, i wneud hynny.

Hoffwn i ffocysu yn benodol ar yr elfennau sy'n ymwneud â'r broses o adalw. Achos, fel rydyn ni wedi clywed, yn yr oes yma o ddirywiad mewn ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau democrataidd, mae'n hanfodol bod gan bleidleiswyr Cymru hyder llwyr yn safonau ymddygiad y lle hwn, gan gynnwys eu grymuso nhw wedyn i allu barnu pan fydd y safonau yn cael eu torri. Felly, hoffwn i ddeall ychydig mwy ynglŷn â'r mecanweithiau perthnasol. Mae'r Bil, fel y mae, yn awgrymu y bydd digwyddiad sbardun A yn dod i effaith os yw Aelod o'r Senedd, ar ôl iddyn nhw gael eu hethol, yn eu cael yn euog yn y Deyrnas Gyfunol o drosedd. Wel, sut mae hyn yn cymryd y cyfnod y gallai apêl ei gymryd i gyrraedd llys barn i ystyriaeth? Hefyd, os bydd apêl yn llwyddiannus, a'r Aelod yn barod, o bosib, wedi'i adalw a'i ddisodli gan Aelod newydd, a'i staff wedi colli eu swyddi, sut mae'r Bil yn cyflwyno datrysiad i hynny?

Fel y'i drafftiwyd, mae'r Bil yn darparu, os ydych chi'n cael eich euogfarnu, yna rydych chi'n destun y ddeiseb adalw yn awtomatig. Nid yw deiseb adalw, wrth gwrs, yn anghymhwyso awtomatig. Efallai y bydd eich etholwyr yn penderfynu peidio â'ch tynnu allan, felly mae i fyny i'ch etholwyr a allwch chi roi achos iddynt y gallwch chi apelio drwy'r broses.

Nid yw'r Bil yn aros nes bod y broses apelio wedi'i chwblhau. Gallai hynny gymryd mwy o amser na thymor Senedd, mewn gwirionedd. Felly, gall rhai apeliadau gymryd blynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd. Mae hynny ar y cyd â systemau eraill, mewn gwirionedd. Mae'r rhan fwyaf o systemau yn gwneud hynny ar yr euogfarn gyntaf nad ydynt yn destun apêl. Yn amlwg, os, yn y pen draw, rydych chi'n cael eich rhyddhau o fai, yna gallwch sefyll eto.

Mae'n bwysig cofio nad yw darpariaeth adalw yn anghymhwyso awtomatig. Mae'n ffordd o fynd yn ôl at eich etholwyr a gofyn i'ch etholwyr am farn pa un a yw eich ymddygiad o'r fath fel nad ydyn nhw eisiau i chi eu cynrychioli. Ond mae'r Bil, fel y'i drafftiwyd, ar yr euogfarn gychwynnol honno, ydi. Mae hynny ar y cyd â systemau eraill o'r math hwnnw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu cyflwyno'r Bil hwn yn fawr ac edrychaf ymlaen at graffu ar y ddeddfwriaeth fel aelod o'r pwyllgor. Mae democratiaeth yn hanfodol i gymdeithas. Fel y dywedoch ddoe, yn eich datganiad ysgrifenedig, bydd y Bil yn adeiladu sylfeini llawer cryfach ar gyfer ein democratiaeth. Fel y mae Adam Price eisoes wedi dweud, mae'n fater o frys yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol.

Yn flaenorol, argymhellodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno mecanwaith deddfwriaethol i alluogi Senedd Cymru i sefydlu proses apelio. Fy marn i yw bod hwn yn gyfrwng deddfwriaethol priodol, a'i fod yn rhoi cyfle i gyflwyno proses apeliadau orfodol.

Rydw i wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud wrth gyd-Aelodau eisoes am y Llywodraeth—mae'n eithaf cymhleth, onid yw—peidio â bod yn rhy ragnodol, oherwydd mae hyn yn fater i'r Senedd. Ond a fyddech chi'n ystyried gosod proses apelio ar wyneb y Bil, yn hytrach na'i bod yn fater i'r Senedd gyflwyno proses apelio mewn ffordd fwy hyblyg?

15:30

Diolch, Lesley. Rwy'n credu mai dyna un o'r pethau y byddwn ni eisiau ei archwilio yn y pwyllgor. Fel y dywedais i, mae hwn yn Fil i'r Senedd osod ei chyfres ei hun o safonau, ac mae'r Llywodraeth yn galluogi'r drafodaeth honno i ddigwydd. Ond ni fyddwn yn synnu o gwbl i ddarganfod, ar ben arall y broses hon, bod nifer fawr o'r pethau hyn wedi dod yn orfodol ac ar wyneb y Bil. Ond rwy'n teimlo'n gryf iawn ei bod i fyny i'r Senedd a'r pwyllgor, yr wyf yn gwybod eich bod chi'n mynd i wasanaethu arno, ddod i'r casgliadau hynny ei hun, a'u hargymell i'r Senedd, yn hytrach na Llywodraeth yn dweud wrth y Senedd sut i ymddwyn.

Ar lefel bersonol, ac nid fel aelod o'r Llywodraeth, rwyf wedi meddwl ers tro y dylai proses apelio o'r fath fod ar waith. Ac, fel y dywedais mewn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn enwedig ar gyfer troseddau lle efallai y byddech chi'n meddwl bod lefel o arbenigedd yn angenrheidiol wrth ymdrin â mathau arbennig o gymhleth o honiadau—mae aflonyddu rhywiol yn un ohonynt, ond gallai rhai mathau o ddwyll hefyd fod mewn categori o'r fath. Felly, mae cael set o aelodau lleyg yn eu lle y gellir tynnu arnyn nhw ar gyfer arbenigedd ac ati, nid o reidrwydd fel panel sefydlog, yn un o'r pethau yr wyf yn gobeithio y bydd y pwyllgor yn ei archwilio.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar Fil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford. 

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Ddoe, cyflwynwyd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) i'r Senedd. Mae'r Bil yn cynnwys pum Rhan, dwy Atodlen, ac mae wedi'i drefnu mewn 60 adran. Nod y Bil yw gwella, cynnal a hyrwyddo llety ymwelwyr yng Nghymru.

Y Bil yw'r darn olaf mewn rhaglen waith a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, ac roeddwn i eisiau diolch yn arbennig i Siân Gwenllian am ei chyfraniad sylweddol at ddatblygiad y Bil, fel Aelod dynodedig yn ystod oes y cytundeb. Rydw i'n diolch iddi hi hefyd am ei diddordeb parhaus wrth i'r Bil symud tuag at ei gyflwyno gerbron y Senedd heddiw. 

Dirprwy Lywydd, mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru, ac yn enwedig mewn rhai rhannau o'n gwlad. Mae llywodraethau olynol Cymru wedi buddsoddi yn y diwydiant a'i hyrwyddo fel cyrchfan i ymwelwyr o fewn Cymru, a thu hwnt. Mae'r Bil wedi'i wreiddio yn y dull ehangach hwn. Mae'n creu cod cyfraith Cymru ar dwristiaeth, gan ailadrodd a moderneiddio swyddogaethau datblygu twristiaeth cyffredinol Gweinidogion Cymru, a sicrhau bod y diwydiant yn elwa ar sail ddeddfwriaethol glir, hygyrch, ddwyieithog a chyfoes.

Fel y gŵyr yr Aelodau yma, mae'r Bil yn ddarn cydymaith i Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc (Cymru) 2025, fel y'i pasiwyd gan y Senedd hon yn gynharach eleni. Roedd y Ddeddf honno yn darparu ar gyfer cofrestru pob llety ymwelwyr yng Nghymru. Mae'r Bil hwn yn darparu y dylid trwyddedu llety o'r fath yn y dyfodol, gan ddechrau gyda busnesau hunangynhwysol, hunanarlwyo. Mae gan Awdurdod Refeniw Cymru gyfrifoldeb am greu a rheoli'r gofrestr, a fy mwriad yw y dylai'r awdurdod hwnnw hefyd reoli'r porth ar-lein ar gyfer trwyddedu. Yn y modd hwn, bydd gan ddarparwyr llety un lle i fynd, i reoli eu cofrestriad a'u rhwymedigaethau trwydded.

Dirprwy Lywydd, mae'r Bil yn sefydlu'r cysyniad o 'ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr', gan nodi'r safon y dylai'r rhan fwyaf o lety ymwelwyr eisoes fod yn ei bodloni, ac y byddai ymwelwyr eisoes yn ei disgwyl. Mae hwn yn gyfieithiad o'r cysyniad o 'ffitrwydd i fod yn gartref' o gyfraith tai i gyd-destun penodol llety ymwelwyr.

Fel amod cyffredinol, rhaid i'r llety hwnnw fod o safon, er enghraifft mewn perthynas â sefydlogrwydd adeileddol neu hylendid, fel nad yw'n peri risg o niwed i ymwelwyr nac yn peryglu eu profiad trwy golli amwynder. Yna bydd angen bodloni pum amod penodol, dogfennol yn y sector hunangynhwysol, hunanarlwyo, lle bydd yn ofynnol i ddarparwr llety fod â thystysgrif diogelwch nwy cyfredol, tystysgrif diogelwch trydanol cyfredol, tystysgrif yswiriant cyfredol, a chadarnhad bod asesiad risg tân a larymau mwg a charbon monocsid hefyd wedi'u sicrhau.

Mae'r Bil yn nodi cyfundrefn orfodi i'r rhai sy'n methu â bodloni ei gofynion. Fodd bynnag, mae'r dull wedi'i wreiddio mewn cymesuredd, yn seiliedig ar wybodaeth, addysg, anogaeth ac uwchgyfeirio, cyn defnyddio pwerau gorfodi. Rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, y bydd y mwyafrif helaeth o ddarparwyr llety yn awyddus i unioni unrhyw broblemau a nodwyd ymhell cyn yr angen i gymryd camau gorfodi. Fodd bynnag, mae'n iawn, lle mae toriadau'n barhaus neu'n cael eu hailadrodd, bod cyfundrefn orfodi o rybuddion, hysbysiadau adferol, cosbau ac erlyniad ar waith er mwyn diogelu uniondeb y system drwyddedu.

Bydd hyn i gyd yn rhoi hyder i ymwelwyr ac yn mynd i'r afael â phryderon bod y farchnad lety yn cael ei ystumio gan y graddau gwahaniaethol y mae darparwyr yn eu deall ac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau presennol. Mae hwn yn fater penodol i'r busnesau hynny sy'n gwneud popeth y gallant i wneud y peth iawn, gan gynnwys talu'r gost o gyflawni rhwymedigaethau statudol. Mae awdurdodau lleol yn yr Alban, lle mae cynllun trwyddedu eisoes ar waith, er enghraifft, yn adrodd nad oedd nifer sylweddol o ymgeiswyr yn gallu dangos eu bod wedi bodloni eu gofynion rheoleiddiol pan gyflwynwyd cynllun trwyddedu'r Alban.

Dirprwy Lywydd, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Ddeddf ardoll tmwelwyr yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Refeniw Cymru greu cofrestr o'r holl ddarparwyr llety ymwelwyr a'r holl lety a gynigir gan bob un ohonynt yng Nghymru. Mae adran 36 o'r Bil hwn yn gosod gofyniad cyfatebol i Weinidogion Cymru gyflwyno cofrestr o lety ymwelwyr trwyddedig yng Nghymru. Mae adran 45 yn gosod dyletswydd ar Awdurdod Refeniw Cymru a Gweinidogion Cymru ar y cyd i gynhyrchu cyfeiriadur sydd ar gael i'r cyhoedd, gan ddod â'r ddwy gofrestr at ei gilydd. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr llety a llwyfannau gynnwys rhifau cofrestru a dolen i'r cyfeiriadur hwnnw yn eu holl hysbysebion, fel y gall unrhyw ymwelydd â Chymru neu o fewn Cymru fod yn hyderus bod ei lety yn bodloni'r rhwymedigaethau cyfreithiol. Wrth wneud hynny, fel y dywedais, Dirprwy Lywydd, mae'r Bil yn sicrhau tegwch lle mae'n rhaid i bob busnes fodloni eu gofynion er mwyn cael trwydded, gan ddiogelu sefyllfa'r nifer o fusnesau sy'n cydymffurfio yn y broses.

Dirprwy Lywydd, mae'r Bil hefyd yn sicrhau tegwch ym meysydd gosod tymor byr a thymor hir. Fel y mae'n sefyll, os yw unigolyn yn dewis gosod eiddo i denant tymor hir, rhaid i'r person hwnnw gofrestru fel landlord, cael trwydded ei hun neu drwy asiant penodedig, a sicrhau bod rhwymedigaethau statudol yn cael eu bodloni. Mewn cyferbyniad, os yw'r un unigolyn yn dewis gosod eiddo i ymwelwyr ar sail tymor byr, gellir ei restru ar blatfform ar-lein a gellir dechrau cymryd archebion ar unwaith. Dros y tymor hwn, bydd cyfres o fesurau wedi'u cyflwyno i sicrhau cydbwysedd priodol rhwng economi ymwelwyr ffyniannus a'r cymunedau hynny sy'n croesawu ymwelwyr i'w plith. Mae'n rhaid i'r cydbwysedd hwnnw gynnwys dull mwy cyson o ran y gofynion a osodir ar y rhai sy'n cynnig llety ar sail tymor byr a thymor hir. Fel yn achos gosod tymor hir, felly, mae'r Bil yn ei gwneud yn glir, yn ogystal â bod angen cael trwydded, bod darparwyr llety hunangynhwysol, hunanarlwyo yn uniongyrchol gyfrifol i'w hymwelwyr am ddarparu llety y mae'n ffit iddynt aros ynddo.

Dirprwy Lywydd, nod Llywodraeth Cymru yn y Bil hwn yw cymeradwyo ymdrechion y busnesau niferus hynny yn y sector sy'n gweithio'n galed i greu perthynas sy'n cefnogi ei gilydd, sy'n dathlu diwylliant, iaith a thirweddau Cymru, sy'n dod ag arian i gymunedau, ac sy'n cynnig gyrfaoedd gwirioneddol sy'n cefnogi pobl i adeiladu eu bywydau yn eu cymunedau cartref. Mae sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng gosod tymor byr a thymor hir yn rhan o'r ymdrech i gefnogi'r perthnasoedd hynny sy'n cefnogi ei gilydd y mae dyfodol llwyddiannus twristiaeth yn anochel yn dibynnu arnynt. Hefyd, er mwyn cefnogi'r ymdrechion hynny, mae'r Bil yn cynnwys pŵer penodol i gyhoeddi cod ymarfer a chanllawiau fel rhan o ailddatgan swyddogaethau o dan Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969.

Bwriad y polisi yma yw datblygu cyfres eang o ganllawiau arfer gorau ar gyfer y sector. Er y bydd canllawiau penodol yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r cynllun trwyddedu, dros amser, bydd y cod ymarfer yn creu un gyfres o wybodaeth, canllawiau ac arfer gorau ar gyfer busnesau presennol a darpar fusnesau yng Nghymru, gan gynorthwyo'r diwydiant yn ei ymdrechion i hyrwyddo datblygiad twristiaeth yng Nghymru. Pe bai'r Bil yn cael ei gymeradwyo gan y Senedd, bydd tua thri chwarter y darparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r amodau trwyddedu a amlinellwyd yn gynharach yn y datganiad hwn.

Ond nid dyna ddiwedd y Bil. Mae'n creu gallu i Senedd yn y dyfodol ychwanegu mathau pellach o lety ymwelwyr i'r drefn drwyddedu, ac i ddatblygu'r gofynion trwyddedu eu hunain i ddiwallu anghenion yn y dyfodol. Byddai unrhyw gynigion o'r fath, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs yn destun craffu gan Senedd yn y dyfodol. Pwynt y Bil fel y'i drafftiwyd yw diogelu'r ddeddfwriaeth at y dyfodol, gan greu llwybr i gefnogi'r diwydiant yn gryfach pan fydd hynny'n ddymunol.

Dirprwy Lywydd, i orffen lle y dechreuais i, mae'r Bil hwn yn gynnyrch cydweithio trawsbleidiol yn gynharach yn nhymor y Senedd. Rydw i'n edrych ymlaen at y broses graffu, ac rydw i'n gobeithio'n fawr y bydd y broses honno yn dilyn yn yr un ysbryd, wrth i ni symud at nod y gwn sydd yn cael ei rannu ar draws y Siambr: economi ymwelwyr gref a chynaliadwy yng Nghymru. Diolch yn fawr.

15:40

Diolch i chi am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwy'n croesawu cyflwyno'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn ofalus, er fy mod yn siŵr y gallech fod wedi dod o hyd i deitl mwy bachog ar ei gyfer. Fel y dywedoch yn gywir, mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru, yn enwedig yn y cymunedau gwledig ac arfordirol hynny lle nad oes llawer o ddiwydiannau amgen ar ôl. Mae ailddatgan a moderneiddio swyddogaethau datblygu twristiaeth y Gweinidogion, a'r uchelgais i ddarparu fframwaith deddfwriaethol clir, dwyieithog a hygyrch—ac mae hwn yn bwynt pwysig—yn gamau cadarnhaol. Dylai'r bwriad i greu porth ar-lein sengl drwy Awdurdod Refeniw Cymru ar gyfer cofrestru a thrwyddedu hefyd helpu i leihau dyblygu i ddarparwyr llety.

Lle rwy'n dymuno taro nodyn o rybudd, fodd bynnag, yw sut mae'r system drwyddedu yn cael ei gweithredu yn ymarferol. Fe wnaethoch chi sôn am 'ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr' a'r drefn orfodi gymesur sydd wedi'i gwreiddio mewn gwybodaeth, addysg ac anogaeth. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y rhan fwyaf o ddarparwyr eisoes yn bodloni'r safonau hyn a byddant yn ymateb yn adeiladol i'r canllawiau. Ond mae'n rhaid i'r pwerau gorfodi eang a gynigir, yn enwedig mynediad i eiddo preifat ac atafaelu dogfennau, fod yn cyd-fynd â mesurau diogelu cadarn i atal gorgyrraedd. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allwch chi egluro pa amddiffyniadau fydd ar waith i sicrhau bod y pwerau hyn yn parhau i fod yn gymesur, yn dryloyw ac yn destun goruchwyliaeth?

Rwyf hefyd eisiau crybwyll y cyfeiriadur arfaethedig sy'n dwyn ynghyd gofrestr Awdurdod Refeniw Cymru a'r gofrestr drwyddedu newydd. Mae tryloywder yn cael ei groesawu a dylai gwesteion allu gwirio bod llety yn gyfreithlon. Ond, fel y'i drafftiwyd, gallai llwyfannau archebu fod yn atebol yn gyfreithiol os yw gwestywr yn mewnbynnu rhif cofrestru anghywir—gwybodaeth yn gyfan gwbl allan o reolaeth y platfform archebu. Rwy'n gwerthfawrogi eich amcan o sicrhau tegwch, ond mae'n rhaid i ni osgoi creu system lle mae llwyfannau yn cael eu cosbi am wybodaeth na allant ei gwirio'n rhesymol. Felly, sut y byddwch chi'n ymrwymo i ddatrys hyn yn ystod hynt y Bil?

Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch dynnu sylw at nod y Bil o sicrhau tegwch rhwng gosod tymor byr a thymor hir. Er bod cysondeb yn bwysig, mae angen i ni hefyd gydnabod proffil go iawn y rhan fwyaf o westywyr Cymru. Mae data gan Airbnb yn awgrymu bod y mwyafrif yn rhestru un eiddo yn unig ac yn ennill tua £6,000 y flwyddyn, gyda llawer yn dibynnu ar yr incwm hwnnw i ymdopi â chostau byw, ac eraill yn gweithio mewn swyddi ychwanegol hefyd. Nid gweithredwyr masnachol yw'r rhain sy'n manteisio ar y bwlch; maent yn bobl leol sy'n cyfrannu at economi ymwelwyr ac yn croesawu'n gynnes westeion i Gymru. Felly, sut ydych chi'n sicrhau bod y system drwyddedu yn gwahaniaethu'n iawn rhwng y gweithredwyr ar raddfa fawr a'r unigolion hynny sy'n rhannu eu cartrefi neu un eiddo arall er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd?

Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y gwyntoedd blaen y mae'r sector eisoes wedi'u hwynebu: y trothwy 182 noson ar gyfer ardrethi busnes, y posibilrwydd o dreth dwristiaeth a nawr cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer gofyniad tystysgrif perfformiad ynni ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo. Beth bynnag yw barn rhywun ar bob mesur, gyda'i gilydd maent wedi creu cyfres o newidiadau o fewn un sector mewn cyfnod anhygoel o gyflym. Rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â gosod beichiau pellach sy'n gyrru'r gweithredwyr bach hynny, y busnesau cyfreithlon hynny, allan o'r sector yn gyfan gwbl. Dyna pam mae'n rhaid i ffioedd trwyddedu fod yn gymesur â graddfa gweithredu a pham mae'n rhaid i'r system fod yn syml, yn ddigidol ac yn gyson ledled Cymru. Mae'r cyfnod cymeradwyo 80 diwrnod ar gyfer trwyddedau newydd ac adnewyddiadau blynyddol mewn perygl o greu oedi a chost i awdurdodau lleol a gwestywyr. Ar gyfer darparwyr bach, tymhorol yn arbennig, gallai hyn olygu colli incwm a chreu ansicrwydd. A fyddwch chi'n myfyrio a ellid symleiddio'r amserlenni a'r cylchoedd adnewyddu hyn?

Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gyfeirio at brofiad yr Alban, ac mae'n iawn dysgu ohono. Yn yr Alban, ni allai cyfran sylweddol o ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth pan ddechreuodd trwyddedu. Ond dylem hefyd gydnabod y canlyniadau anfwriadol a welir mewn mannau eraill, yn rhyngwladol. Yn Sbaen, cafodd dros 66,000 eiddo eu tynnu oddi ar lwyfannau ar ôl cyflwyno rheolau llymach, sydd yn anochel wedi gwthio prisiau i fyny. Yng Nghaeredin, mae prisiau gwestai wedi cynyddu tra bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi asesiad effaith ar sut mae modelau tebyg wedi effeithio ar dwristiaeth mewn mannau eraill a sut y byddai'r newidiadau arfaethedig yma yn effeithio ar y sector twristiaeth yng Nghymru?

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfeiriad at bwysigrwydd economi ymwelwyr sy'n dathlu'r iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n tirwedd. Mae'r cydbwysedd hwnnw rhwng twristiaeth ffyniannus a chymunedau ffyniannus yn cael ei rannu ar draws y Siambr. Ond nid diwydiant yn unig yw twristiaeth yn yr ardaloedd hynny, mae'n achubiaeth. Os bydd rheoleiddio yn dod yn ormodol, rydym yn peryglu gwagio'r union gymunedau rydym ni'n ceisio eu hamddiffyn. Felly, er fy mod yn cefnogi amcanion y Bil, edrychaf ymlaen at graffu'n fanwl arno dros yr ychydig fisoedd nesaf ac edrychaf ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi, Ysgrifennydd Cabinet, tuag at y nod hwnnw. Diolch.

15:45

Diolch yn fawr i Sam Kurtz am beth ddywedodd e pan oedd yn croesawu agweddau o'r Bil. 

Diolch am y croeso gofalus a roddwyd gennych a'ch cymeradwyaeth o rai agweddau ar y Bil—codio cyfraith bresennol sy'n ei gwneud yn fwy hygyrch, yr un pwynt mynediad i gofrestru a thrwyddedu trwy ACC.

O ran rhai o'r cwestiynau mwy penodol, mae'r drefn orfodi wedi'i chynllunio'n llwyr i fod yn gymesur ac yn ysgafn. Mae yna gyfres o gamau y byddai'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu fynd drwyddynt cyn i chi gael erlyniad. Rwy'n credu y bydd yr erlyniad hwnnw'n brin iawn mewn gwirionedd. Nid nod y Bil yw cael erlyniad. Nod y Bil yw annog pobl i gydymffurfio â'r gofynion a'i gwneud mor hawdd â phosibl iddynt wneud hynny. Ond mae'r Bil yn nodi'r rhwymedigaethau ar yr awdurdod trwyddedu mewn perthynas â sicrhau bod hysbysiadau adfer, er enghraifft, yn cael eu darparu, cyfleoedd i ddarparwyr llety ymwelwyr unioni toriadau cyn i chi byth gyrraedd y pwynt lle gallai trwydded gael ei ddirymu.

Nid wyf yn credu ei bod yn afresymol disgwyl i lwyfannau archebu gymryd cyfrifoldeb am gyhoeddi gwybodaeth gywir. Ni fydd yn anodd gwirio'r wybodaeth, oherwydd bydd y rhif cofrestru yno ar y gofrestr i unrhyw un edrych arni. Os yw'n gamgymeriad syml, os yw rhywun newydd basio'r wybodaeth anghywir i chi, mae'r Bil yn ymdrin â hynny trwy ganiatáu i bobl ei gywiro cyn gynted ag y caiff ei ddwyn i'w sylw. Nid pwrpas y Bil yw mynd ar drywydd pobl sydd wedi gwneud camgymeriadau gonest ac sy'n dibynnu ar yr wybodaeth a ddarperir gan eraill. Ond o ystyried hynny, y rhif hwnnw yw'r ffordd y gall ymwelydd wedyn wirio bod yr hysbyseb honno yn ddilys, bod y llety sy'n cael ei gynnig wedi'i drwyddedu'n briodol. Ni fyddwn yn barod i roi'r gorau i ddweud bod yn rhaid i lwyfannau archebu eu hunain gymryd cyfrifoldeb am yr wybodaeth y maent yn ei darparu.

Rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth Sam Kurtz, Dirprwy Lywydd, ynghylch natur gweithredwyr ar raddfa fach yng Nghymru. Dyna pam rydym ni wedi dechrau'r drefn drwyddedu hon yn fwriadol trwy ei gwneud yn ofynnol i bobl wneud y pethau y mae'n ofynnol iddynt eu gwneud eisoes. O'r pum amod penodol, mae pedwar ohonynt eisoes yn rhwymedigaethau cyfreithiol, p'un a ydych chi'n ddarparwr bach neu beidio. Mae'r un mor bwysig i rywun sy'n aros mewn eiddo darparwr bach fod y rheoliadau tân wedi cael eu bodloni'n iawn, bod y cyflenwad trydan mewn trefn dda, fel y mae'r drefn pan fyddwch yn aros mewn eiddo darparwr mawr. Felly, rydym ni'n dechrau gyda'r pethau y dylai pobl fod yn eu gwneud eisoes. Credwn fod y mwyafrif helaeth eisoes yn gwneud hynny.

Ond byddwch wedi clywed, Sam, hefyd, am gwynion gan fusnesau cyfreithlon yn y diwydiant bod twf llwyfannau ar-lein wedi caniatáu i bobl fynd i mewn i'r farchnad weithiau'n anymwybodol o'r hyn y dylent fod yn ei wneud. Felly nid ydynt yn talu'r costau y mae pobl eraill yn eu hysgwyddo, ac maen nhw'n tanseilio'r busnesau cyfreithlon hynny. Ac mewn gwirionedd, pe bai rhai pobl yn dewis peidio â pharhau yn y diwydiant oherwydd nad oeddent yn barod i wneud y pethau sylfaenol hynny, nid wyf yn siŵr y byddwn yn colli dagrau oherwydd iddyn nhw benderfynu bod rhywbeth arall y byddai'n well ganddyn nhw ei wneud a bydd yr archebion hynny'n mynd i'r busnesau hynny sy'n gwneud yr holl bethau y mae disgwyl iddyn nhw eu gwneud. Oherwydd ein bod yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wneud y pethau y dylent fod yn eu gwneud eisoes, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, dyna pam rydym yn siŵr y gallwn gadw ffioedd trwyddedu i oddeutu £75. Rwy'n credu eu bod nhw'n gymedrol o gymharu â'r hyn y gallent fod.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod, Dirprwy Lywydd. Mae'r system wedi'i chynllunio i fod yn syml, mae wedi'i chynllunio i fod yn ddigidol. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu defnyddio llawer o'r technegau newydd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig, fel y gellir lanlwytho pethau'n awtomatig, eu gwirio'n awtomatig. Bydd y system yn cael ei gweithredu'n gyflym iawn. Os oes oedi yno, yna mae'r Bil yn caniatáu i drwyddedau trosiannol a dros dro gael eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau nad yw pobl dan anfantais oherwydd oedi y tu hwnt i'w rheolaeth. Ond fy nisgwyliad yw ein bod ni'n adeiladu'r system, gan ddefnyddio'r holl dechnoleg fodern sydd ar gael i ni, fel ei bod yn syml, yn gyflym, yn hawdd ei defnyddio, ac yna mae hynny'n caniatáu i bobl sy'n cael y drwydded hysbysebu hynny, fel bod y rhai sy'n ymweld â'u heiddo yn gwybod eu bod yn mynd i rywle lle mae'r holl amddiffyniadau priodol hynny ar waith.

15:50

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad.

Roeddwn yn ddiolchgar am y sgyrsiau a gawsom yn y cyfnod cyn heddiw ynghylch y Bil hwn. Rydym ni ar y meinciau hyn yn croesawu'r pwysigrwydd y mae'r Bil hwn yn ei roi ar sicrhau bod pobl sy'n aros mewn llety tymor byr yng Nghymru yn ddiogel. Bydd creu'r enw da hwnnw yn ddelfrydol yn arwain at fwy o bobl yn ymweld. Rydym i gyd eisoes yn gwybod am bwysigrwydd ein sector twristiaeth, fel y nodwyd gan Sam Kurtz a nifer o Aelodau eraill yn y Siambr hon dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rydym yn gwybod pa mor ganolog yw busnesau bach i'r sector.

Roedd diwydiannau twristiaeth yn cyfrif am 11.8 y cant o gyflogaeth yng Nghymru yn 2022, a chyfrannodd diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth 5.1 y cant at y gwerth ychwanegol gros (GYC) yng Nghymru yn yr un flwyddyn. Felly, mae'n hanfodol i iechyd ein diwydiant twristiaeth, pan fydd pobl yn dod i Gymru, eu bod yn gwybod bod safon ddiogelwch eu llety'n uchel. Credwn, mewn gwirionedd, bod y Bil hwn yn gam pwysig i wireddu hyn a sicrhau bod y sector hollbwysig hwn yn cynnal y safonau uchel hynny.

Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod pwysigrwydd cadw'r system hon yn syml, nad yw'r broses hon yn ormod o faich ar ein sector twristiaeth, yn ogystal â sicrhau nad yw costau'r rheoliadau hyn yn rhy uchel. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn croesawu'r hyn y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i ddweud, nad yw'r Bil yn ymwneud ag erlyn darparwyr sydd wedi gwneud camgymeriadau gonest wrth gofrestru. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, mewn theori, pan edrychwch ar y Bil a'r hyn y mae'n ei nodi, byddai'r mwyafrif, os nad pob un darparwyr llety yn ceisio cynnal neu o leiaf gadw at y safonau a nodir gan y Bil hwn fel ffordd o sicrhau bod eu hymwelwyr yn gwybod eu bod yn dod i le diogel. Felly, i raddau helaeth, byddai'r Bil hwn yn hunanreoleiddio.

Yn hanfodol, mae angen i'n cymunedau hefyd fod yn flaenoriaeth yn y Bil hwn. Bydd cymuned ffyniannus a bywiog dim ond yn gwella profiad y rhai sy'n ymweld, felly dylai twristiaeth weithio mewn cytgord â'r cymunedau hynny. Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio beth mae'r Bil yn ei wneud i sicrhau bod llety perthnasol yn cydymffurfio â'r rheoliadau hyn, a thrwy hynny sicrhau bod safonau diogelwch uchel yn cael eu sicrhau ledled Cymru, a sut y bydd y Bil yn rhoi cymunedau wrth ei galon?

15:55

Diolch yn fawr, Luke Fletcher. Diolch am y cyfle i drafod y Bil cyn ei gyflwyno. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Luke Fletcher. Mae'r Bil yn ymwneud â chymeradwyo enw da'r diwydiant a chaniatáu i'r diwydiant ddefnyddio system drwyddedu i roi hyder i ymwelwyr, fel bod pobl sy'n ymweld o fewn Cymru ac yn dod i Gymru yn gwybod eu bod yn dod i rywle lle mae eu diogelwch yn cael ei ystyried yn briodol a lle mae camau y mae pobl eisoes yn eu cymryd wedi'u hardystio.

Sut bydd y Bil yn cael ei reoleiddio? Rwy'n credu bod Luke Fletcher yn iawn: bydd yn hunanreoleiddio i raddau helaeth, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl yn y diwydiant eisiau gwneud y pethau hyn beth bynnag, a byddant yn dangos hynny trwy'r camau y maen nhw eisoes wedi'u cymryd. Ond bydd yna hefyd, rwy'n credu, elfen sylweddol o reoleiddio gan ddinasyddion, oherwydd yn amlwg mae'r rhain yn lleoedd y mae pobl yn ymweld â nhw.

Cymerais y cyfle ar y penwythnos, pan oeddwn yn paratoi ar gyfer heddiw, i ofyn i Copilot roi adroddiad i mi o'r hyn y mae'r adborth platfform ar-lein gan ymwelwyr â Chymru yn ei ddweud wrthym beth yw barn pobl am y llety. O fewn 30 eiliad roedd wedi edrych trwy'r holl ffurflenni adborth hynny ac wedi rhoi adroddiad i mi yn tynnu sylw at y gwahanol bryderon y mae pobl wedi'u hamlygu. Mae'r cyfoeth o wybodaeth i ddinasyddion mewn diwydiant fel twristiaeth bellach yn anhygoel, o'i gymharu â'r hyn a oedd yn digwydd flynyddoedd yn ôl pan oeddech chi'n rhoi cwpl o sylwadau mewn llyfr ymwelwyr. Rwy'n credu, pan fydd pobl yn gwybod bod yna gyfundrefn drwyddedu, pan fyddant yn gweld y rhif hwnnw ar yr hysbyseb ac ati, byddant yn gwybod bod eu hadborth yn wirioneddol ddylanwadol o ran y ffordd y bydd y diwydiant yn cael ei reoli yn y dyfodol.

Ac yna, yn olaf, pwynt pwysig iawn a wnaeth Luke Fletcher: mae hwn yn ddiwydiant sy'n dibynnu ar berthynas dda â'r cymunedau lletyol lle mae ymwelwyr yn dod iddynt ond mae pobl eraill yn byw eu bywydau cyfan ynddynt. Cyfeiriodd Luke Fletcher at gyflogaeth yn y diwydiant. Rwy'n credu bod dyfodol twristiaeth Cymru yn un lle bydd cynnyrch o safon yn darparu cyflogaeth nid yn unig yn dymhorol, ond drwy gydol y flwyddyn, a lle mae pobl yn gweld cyflogaeth mewn twristiaeth nid fel peth dros dro, rhywbeth rydych chi'n ei wneud wrth i chi chwilio am rywbeth gwell, ond rhywbeth lle gallwch weld llwybr gyrfa o'ch blaen. Mae hynny'n dibynnu ar berthynas gynaliadwy rhwng y diwydiant twristiaeth a'r cymunedau lletyol hynny.

Gwyddom fod y twf cyflym iawn yn y maes gosod tymor byr wedi cael effaith mewn rhai lleoedd sy'n golygu nad oes lleoedd ar gael i bobl sydd eisiau byw yno trwy gydol y flwyddyn i rentu neu i brynu. Bu camau sylweddol, yn aml ar y cyd rhwng pleidiau yn y Senedd hon yn ystod tymor y Senedd hon, i greu sefyllfa decach. Mae'r Bil hwn yn cyfrannu at hynny, oherwydd bydd y gofynion y bydd yn rhaid i chi ymgymryd â nhw fel landlord os ydych chi'n gosod ar sail tymor byr bellach yn llawer agosach at y gofynion y mae'n rhaid i chi ymgymryd â nhw os ydych am osod ar sail tymor hir, gan ddileu cymhelliant i bobl osod ar sail tymor byr oherwydd eu bod yn credu bod hynny'n llwybr rheoleiddio haws iddynt. Nid dyna oedd y bwriad erioed. Mae'r Bil hwn yn cywiro pethau. Rwy'n credu y bydd yn ychwanegu at yr ymdeimlad hwnnw o berthynas gytûn rhwng y diwydiant a'r lle y mae'n dibynnu arno.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae croeso mawr i ddeddfwriaeth cofrestru llety ymwelwyr, gan fod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon drwyddedu eisoes ar waith. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried cyflwyno rheoliadau o'r fath. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno na fyddai'n iawn pe bai Cymru yr unig wlad yn y DU heb gynllun o'r fath. Ni fyddai ymwelwyr yn gwybod a oedd y llety yr oeddent yn aros ynddo o safon uchel o gynnal a chadw, neu hyd yn oed a oedd yn cydymffurfio â safonau ffitrwydd. Pe na bai gennym y ddeddfwriaeth hon, rwy'n credu y byddai'r effaith ar ein diwydiant twristiaeth yn negyddol iawn, rhywbeth rwy'n siŵr na fyddai neb yn y Siambr hon eisiau ei weld.

16:00

Diolch i Lesley Griffiths am y pwynt yna, ac fel Aelod sy'n cynrychioli rhan o Gymru ar hyd y ffin, rwy'n gwybod ei bod yn aml mewn cytgord â'r ffordd y mae'r gwahanol gyfundrefnau yn dylanwadu ar ymddygiad pobl. Ac mae hi'n hollol gywir, Dirprwy Lywydd, i dynnu sylw at y ffaith ers i ni wneud ein hymrwymiad i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, mae Llywodraeth newydd y DU hefyd wedi gwneud ymrwymiad i gofrestru gosod llety tymor byr yn Lloegr hefyd. Mae Gogledd Iwerddon wedi cael cynllun ers degawdau. Mae cynllun yr Alban bellach ar waith yn llawn eleni. Bydd cynllun yn Lloegr. Ni allwn fforddio, er mwyn y diwydiant, i Gymru gael ei gadael fel yr unig le heb gynllun cyfreithiol. Byddai gan bobl sy'n ymweld ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig fesurau diogelu ar waith. Cymru fyddai'r unig le y gallech chi ddod iddo heb yr hyder hwnnw. Yn sicr nid yw hynny er budd y diwydiant, ac mae'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu cyhoeddi'r Bil yma. Mae Cymru yn croesawu ymwelwyr ac mae unrhyw gam i wella eu profiadau o aros yn ein bröydd ni yn un cadarnhaol a synhwyrol. Mi fydd y Bil yma yn helpu sicrhau bod ymwelwyr mewn llety gwyliau tymor byr yn ddiogel yn ystod eu harhosiad, a thrwy wybod bod gan y llety maen nhw'n aros ynddo fo drwydded bwrpasol, mi fyddan nhw'n gwybod bod gwiriadau trydan a nwy cyson yn cael eu cynnal, bod yr yswiriant priodol ar waith a bod diogelwch tân wedi cael ei ystyried. 

Yn aml iawn, wrth gwrs, mae llety gwyliau tymor byr yn bodoli ochr yn ochr â chartrefi pobl leol, a dwi'n gwybod am strydoedd cyfan yn etholaeth Arfon—yn Llanberis a Bethesda, er enghraifft—lle mae bron pob yn ail dŷ yn llety gwyliau tymor byr erbyn hyn. Ac ar y cyfan, mae'r ymwelwyr yn parchu'r ffaith eu bod nhw'n byw yng nghanol teuluoedd, ond ddim bob tro, yn anffodus. Mae yna sawl enghraifft o ddiffyg parch at gymdogion—sŵn yn hwyr yn y nos neu'n gynnar yn y bore, parcio heb ystyried anghenion cymdogion, ac yn yr achosion gwaethaf, ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Mewn rali 'Hawl i fyw gartref' y gwnes i siarad ynddi hi ym Methesda ddydd Sadwrn, fe glywyd sôn am y pryderon yma, y problemau sy'n cael eu hachosi gan ymwelwyr sydd yn ddiystyriol o'r cymdogion o'u cwmpas nhw. Felly, buaswn i'n licio gofyn beth sydd yn y Bil yma a fydd yn rhoi llais i gymdogion yn y broses o gytuno trwydded, neu mewn proses o ddiddymu trwydded, efallai, yn sgil cwynion cymdogion. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos fod y Bil yn syrthio'n brin o daro'r cydbwysedd iawn yna rhwng buddiannau ymwelwyr a buddiannau pobl leol, a does yna ddim dyletswydd glir ar wyneb y Bil yn rhoi hawl i bobl leol gwyno i'r awdurdod trwyddedu. 

I gloi, dwi'n ddiolchgar iawn i chi am eich bodlonrwydd i ystyried y mater penodol o hawliau cymdogion, a dwi hefyd yn diolch am y cydweithio adeiladol sydd wedi bod ar y Bil yma. Diolch.  

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ac am y sylwadau y gwnaeth hi agor â nhw. Wrth gwrs, mae Cymru yn croesawu ymwelwyr mewnol i Gymru, ond pobl sy'n dod i Gymru o'r tu fas hefyd. Pwrpas y Bil yw cryfhau'r sector i wneud mwy fel yna yn y dyfodol. 

Diolch i Siân Gwenllian am y pwynt mae hi'n ei wneud am gymdogion. Dwi'n cytuno gyda hi. Yn fy etholaeth i, dwi'n gwybod bod rhai strydoedd nawr lle mae pobl yn trio byw ochr yn ochr â thai sydd nawr jest yn croesawu pobl sy'n aros dros nos neu dros y penwythnos. Mae rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, yn parchu pobl eraill, ond mae rhai pobl yn dod i Gaerdydd i gael amser da dros y penwythnos, a dydyn nhw ddim yn meddwl lot am yr effaith mae hwnna'n ei chael ar y bobl sy'n trio byw bob dydd ar yr un strydoedd. 

Felly, Dirprwy Lywydd, mae Siân Gwenllian yn gywir nad yw'r Bil, ar hyn o bryd, yn ymdrin yn uniongyrchol â rhai o'r pwyntiau hynny a wnaeth. Bydd y drefn a nodir ynddo yn caniatáu i bobl wneud cwynion am eu llety yn eu cymunedau a bydd yn caniatáu i Weinidogion ystyried a oes angen asesiad arall cyn rhoi trwydded lle mae'r pryderon hynny'n codi.

Fodd bynnag, mae yna ddarpariaethau yn y Bil a fyddai'n caniatáu i ni ystyried a fyddai modd gwneud mwy i ymdrin â'r math o amgylchiadau y mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw atyn nhw. Mae nifer o Aelodau y prynhawn yma wedi pwysleisio'r broses o graffu a'r ffordd y gall hynny wella'r Bil. Rwy'n edrych ymlaen at sgyrsiau eraill am ffyrdd y byddai modd ymdrin â'r broblem y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ati, naill ai drwy'r Bil neu drwy'r system gynllunio, neu drwy gyfuniad o'r ddau, ac at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr. Rwyf wedi dweud sawl gwaith, Dirprwy Lywydd, nad wyf erioed wedi bod yn gysylltiedig â Bil na chafodd ei wella gan y broses o graffu, a does dim amheuaeth gen i y bydd hwn yn Fil a fydd yn elwa ar y gwaith y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ei wneud yn ystod yr wythnosau i ddod.

16:05
5. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Eitem 5 yw datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y rhaglen sgiliau hyblyg. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Sgiliau yw asgwrn cefn cadernid economaidd Cymru a'i ffyniant yn y dyfodol. P'un a yw'n ymwneud â chefnogi ein cymunedau i addasu'n llwyddiannus i bontio teg, datgloi potensial arloesi digidol a deallusrwydd artiffisial, neu baratoi ein pobl ifanc ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, buddsoddi mewn pobl yw'r ffordd rydyn ni'n adeiladu Cymru decach a chryfach.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at waith ystyrlon, datblygu eu potensial a chyfrannu at economi ffyniannus. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i lwyddo, ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru a beth bynnag fo'u hamgylchiadau neu eu cefndir. Mae Cymru'n Gweithio yn cynnig cymorth pwrpasol i helpu unigolion i ddod o hyd i waith ac aros ynddo, ac mae ein gwarant i bobl ifanc yn sicrhau bod gan bawb o dan 25 oed fynediad at waith, addysg neu hyfforddiant. Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid cyflenwi—Medr, colegau addysg bellach ac addysg uwch, a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol—i feithrin diwylliant o ddysgu gydol oes ac uwchsgilio. Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo gwaith teg ac yn ymdrin ag anghydraddoldeb economaidd trwy gymorth sy'n targedu grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Rydyn ni hefyd yn cefnogi gweithwyr a chyflogwyr yng Nghymru bob cam o'r ffordd trwy fuddsoddiad craff wedi'i dargedu mewn sgiliau sy'n helpu pobl a busnesau i ffynnu a thyfu.

Llywydd, rwyf eisiau achub ar y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y rhaglen sgiliau hyblyg, un o'n mentrau sgiliau blaenllaw sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru i fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain ac i ddatblygu gweithlu cryfach, mwy medrus. Nawr, er bod y rhaglen hon wedi bod yn cefnogi hyfforddiant uwchsgilio ers dros ddegawd, rydyn ni wedi cynyddu'r arlwy eleni, ac mae'r ymateb gan fusnesau wedi bod yn anhygoel. Dydw i ddim wedi cael fy synnu gan yr ymateb hwn. Fy nghefndir fel peiriannydd a chyn-brentis a wnaeth fy argyhoeddi mai dyma'r llwybr iawn i'w gymryd.

Llywydd, nôl ym mis Mai roeddwn i'n falch iawn o nodi lansio'r rhaglen estynedig gydag ymweliad ag IQ Endoscopes yng Nghas-gwent. Maen nhw'n fusnes dyfeisiau meddygol arloesol newydd sydd wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y gall y cyllid hwn ei wneud, gan gefnogi dros 170 o gyfleoedd hyfforddi technegol neu arweinyddiaeth a rheoli unigol i'w staff yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, mae 164 o geisiadau i'r rhaglen sgiliau hyblyg wedi'u cymeradwyo, gan gefnogi dros 10,500 o ymyriadau uwchsgilio neu hyfforddi unigol. Mae hynny'n golygu bod dros 150 o fusnesau unigol ar draws pob sector yng Nghymru yn elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu 50 y cant o gostau hyfforddiant achrededig. Mae busnesau o bob maint a math ac o bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru wedi elwa ar y rhaglen sgiliau hyblyg. Rydyn ni wedi cefnogi cwmni Bisley o Gasnewydd i ymgymryd â hyfforddiant ar draws eu hadrannau gweithgynhyrchu, gwasanaeth cwsmeriaid, logisteg, peirianneg a dylunio. Maen nhw wedi adrodd cynhyrchiant gwell, galluoedd arwain cryfach, cyfraddau trosiant is ac ehangu llwyddiannus i farchnadoedd newydd o ganlyniad i hynny. Rydyn ni wedi cefnogi'r cwmni digidol a thechnoleg Box UK o Gaerdydd i ymgymryd â hyfforddiant wedi'i dargedu ar draws sawl disgyblaeth, gan gynnwys sgiliau technegol ar gyfer datblygwyr, dylunwyr profiad defnyddiwr, perchnogion cynnyrch a pheirianwyr systemau. Fe wnaethon nhw groesawu effaith y cyllid sydd wedi ymestyn eu cyllideb hyfforddi fewnol ac wedi galluogi mwy o weithwyr i fanteisio ar hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n benodol i'w rôl. Llywydd, fe wnaeth y ddau gwmni hefyd ganmol y gwasanaeth rhagorol, clir ac effeithlon a ddarparwyd gan Busnes Cymru a pha mor rhwydd a syml yw'r broses ymgeisio.

Llywydd, rydyn ni hefyd yn alinio ein buddsoddiad â'r gweithgaredd ym mharth buddsoddi Wrecsam a sir y Fflint, i gydnabod pwysigrwydd hanfodol sgiliau wrth alluogi trawsnewid y gogledd-ddwyrain yn ganolfan ar gyfer gweithgynhyrchu uwch, arloesi a chyflogaeth o ansawdd uchel. Mae dros £1.25 miliwn o'r rhaglen sgiliau hyblyg wedi'i gymeradwyo yn sir y Fflint a Wrecsam yn unig mewn sectorau amrywiol gan gynnwys awyrofod, gweithgynhyrchu, modurol, fferyllol, peirianneg a choedwigaeth. Mae'r buddsoddiad hwn yn adeiladu ar yr enw da sydd gan y gogledd-ddwyrain eisoes am weithgynhyrchu medrus o'r radd flaenaf.

Dim ond yr wythnos diwethaf, fe ges i gyfle i ymweld â Kronospan, gwneuthgynhyrchydd blaenllaw sy'n gwneud paneli pren ar gyfer dodrefn, manwerthu a DIY yn y Waun. Fe ymwelais i er mwyn darganfod mwy am yr hyfforddiant maen nhw wedi'i gynnal gyda chymorth y rhaglen sgiliau hyblyg. Diolch i'r rhaglen, mae Kronospan wedi hwyluso hyfforddiant sgiliau gwell ar gyfer dros 200 o weithwyr, gan gynnwys sgiliau gweithrediadau a swyddfa. Roeddwn i'n falch iawn o weld yn uniongyrchol sut mae'r rhaglen sgiliau hyblyg yn helpu busnesau ledled Cymru i fanteisio ar yr hyfforddiant a'r arbenigedd sydd eu hangen arnyn nhw i dyfu'n gynaliadwy ac i ddarparu swyddi o ansawdd uchel.

Llywydd, un o gryfderau mawr y rhaglen yw'r ffordd y mae'n ymateb i fusnesau, i'r galw gan fusnesau ac i newid o ran busnesau. Gall cyflogwyr ddewis eu darparwyr hyfforddiant achrededig eu hunain ac mae yna broses ymgeisio syml a chyflym drwy Busnes Cymru. Rydyn ni wedi'i gwneud hi'n haws nag erioed o'r blaen i gyflogwyr fanteisio ar gymorth uwchsgilio, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod y gallu i ymgymryd â hyfforddiant amserol a hyblyg yn allweddol i lwyddiannau parhaus busnesau.

I gloi, Llywydd, hoffwn achub ar y cyfle i annog pob Aelod ar draws y Siambr i rannu a hyrwyddo'r rhaglen hon, i ystyried sut y gallan nhw helpu i sicrhau bod cyflogwyr yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain yn archwilio sut y gall y rhaglen sgiliau hyblyg gefnogi a chryfhau eu gweithlu. P'un a yw'n ceisio llenwi bylchau sgiliau, cadw staff neu ddenu talent newydd, gall y rhaglen sgiliau hyblyg helpu unrhyw fusnes i fuddsoddi yn ei ddyfodol, a thrwy rymuso unigolion â'r sgiliau a'r cyfleoedd cywir, rydyn ni nid yn unig yn paratoi ar gyfer yfory, rydyn ni'n ei lunio'n weithredol ledled Cymru. Diolch yn fawr.

16:10

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ar y rhaglen sgiliau hyblyg ac yn wir ei ymrwymiad personol i wella'r ddarpariaeth sgiliau ledled Cymru? Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud mai sgiliau yw asgwrn cefn cadernid economaidd Cymru a'i ffyniant yn y dyfodol, a bod buddsoddi mewn pobl yn hanfodol os ydyn ni eisiau adeiladu Cymru decach a chryfach. Mae sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at waith ystyrlon a datblygu eu potensial yn uchelgais sy'n cael ei rannu ar draws y Siambr hon.

Gweinidog, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith bod y rhaglen wedi cael ei hehangu eleni, gan ddisgrifio'r ymateb gan fusnesau, rwy'n credu, fel 'anhygoel'—gair mawr. Mae'r cynnydd mewn cyllid o £1.3 miliwn i dros £7.5 miliwn yn dangos yn glir bod cyflogwyr eisiau buddsoddi yn eu gweithlu. Croesewir yr enghreifftiau a roddwyd gennych—Bisley yng Nghasnewydd, Box UK yng Nghaerdydd, a hefyd i fyny yn y gogledd yn y parth buddsoddi. Ond fel gydag unrhyw fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwariant yn cael effaith fesuradwy ac yn cyflawni gwerth hirdymor. Cyfeiriwyd at fwy na 10,500 o ymyriadau uwchsgilio sydd wedi'u cymeradwyo yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a chefnogaeth i dros 160 o fusnesau ar draws pob awdurdod lleol. Mae'r prif niferoedd hynny'n gadarnhaol, ond mae angen i ni wybod sut mae hyn yn trosi'n ganlyniadau. Felly, Gweinidog, allwch chi nodi'r dystiolaeth o effaith? Yn benodol, a yw busnesau wedi gweld gwelliannau mesuradwy mewn cynhyrchiant, cadw staff neu gynnydd o ganlyniad i hyn? Faint o unigolion sydd wedi ennill cymwysterau sydd wedi gwella eu rhagolygon gyrfa neu, yn wir, eu cyflogau yn uniongyrchol? A sut mae'r Llywodraeth yn olrhain canlyniadau y tu hwnt i'r hyfforddiant ei hun?

Yn gywir ddigon, mae'r rhaglen yn blaenoriaethu sectorau allweddol fel peirianneg, gweithgynhyrchu a digidol, ond mae'n hanfodol ein bod ni hefyd yn canolbwyntio ar y sectorau hynny sy'n wynebu'r pwysau mwyaf dwys o ran y gweithlu, yn enwedig gofal cymdeithasol ac adeiladu. Felly, Gweinidog, allwch chi gadarnhau faint o gyflogwyr yn y ddau sector hynny sydd wedi elwa hyd yn hyn, ac a oes allgymorth wedi'i dargedu i wella ymgysylltu?

Rwyf hefyd eisiau cyffwrdd â'r dirwedd sgiliau ehangach sy'n gysylltiedig â chyfleoedd economaidd mawr Cymru. Y disgwyl yw y bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn chwarae rôl ganolog wrth i Gymru bontio i ynni carbon isel, gyda'r potensial i greu miloedd o swyddi ym meysydd ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen a gweithgynhyrchu uwch. Ond, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwnnw, bydd angen gweithlu gyda sgiliau arbenigol, nid yn unig yn y sectorau sy'n datblygu, ond hefyd yn y diwydiannau traddodiadol sy'n sail iddyn nhw, oherwydd mae gan Gymru hanes balch ym maes olew a nwy, ac mae yna weithwyr medrus iawn yn y sectorau hynny y bydd eu harbenigedd yn hanfodol i gyflawni'r pontio teg hwnnw. Rhaid peidio â cholli'r sgiliau sydd ganddyn nhw ym meysydd peirianneg, rheoli prosiectau, gweithrediadau a diogelwch. Felly, sut mae'r rhaglen sgiliau hyblyg yn cefnogi gweithwyr yn y sector olew a nwy a'r gadwyn gyflenwi i ailhyfforddi, ailsgilio a throsglwyddo eu harbenigedd i ddiwydiannau'r dyfodol heb daflu'r llo a chadw'r brych, gan wybod pwysigrwydd y diwydiannau hynny i'n ffawd economaidd bresennol yng Nghymru?

Ac wrth droi at yr economi wledig, dywedodd y Gweinidog fod busnesau o bob maint a math ledled Cymru yn cael budd o'r rhaglen hon, ond nid yw llawer o fusnesau tir ac amaethyddol yn teimlo bod y cynllun wedi'i gynllunio'n benodol gyda nhw mewn golwg. Erbyn hyn, oedran canolrifol prif wneuthurwr penderfyniadau ar fferm yng Nghymru yw 61, a dim ond 3 y cant o benaethiaid deiliadaethau sydd o dan 35 oed— ffigurau syfrdanol sy'n dangos bod argyfwng sgiliau o'n blaenau ni. Oherwydd mae ffermio, coedwigaeth a defnydd tir yn cael eu trefnu o dan y categori 'sero net', ond efallai na fydd llawer o ffermwyr sy'n ceisio hyfforddiant ym meysydd rheoli busnes, technoleg, cynhyrchu bwyd neu arallgyfeirio yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yno. Felly, Gweinidog, faint o fusnesau ffermio neu fusnesau tir sydd wedi manteisio ar y rhaglen hyd yn hyn, ac a wnewch chi adolygu'r categoreiddio a'r hyrwyddo i sicrhau bod ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn deall bod y cynllun ar eu cyfer nhw, nid yn unig ar gyfer sgiliau amgylcheddol, ond hefyd ar gyfer y sgiliau craidd sydd eu hangen arnyn nhw i redeg busnes fferm modern?

Mae hygyrchedd yn parhau i fod yn broblem hefyd. Er bod y model cyd-ariannu 50 y cant yn gweithio i gyflogwyr mwy o bosibl, gall busnesau bach a micro, yn aml y rhai sydd angen cymorth fwyaf, ei chael hi'n anodd ariannu'r hanner sy'n weddill. Felly, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried trefniadau cyd-ariannu mwy hyblyg neu daliadau cam wrth gam ar gyfer busnesau bach a chanolig a microfusnesau?

Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud, trwy rymuso unigolion â'r sgiliau cywir, mae Cymru nid yn unig yn paratoi ar gyfer yfory, ond yn ei lunio'n weithredol. Rwy'n cytuno. Ond os yw'r rhaglen hon yn mynd i gyflawni'r addewid hwnnw, mae'n rhaid iddi gyrraedd pob sector o'r economi—y rhai sy'n tyfu, y rhai sydd dan bwysau a'r rhai sy'n pontio. Mae hynny'n golygu ein canolfannau diwydiannol a'n cymunedau gwledig, ein sectorau uwch-dechnoleg a'n cwmnïau teuluol, ac, ie, y gweithwyr medrus yn ein diwydiannau olew a nwy, y bydd eu harbenigedd nhw'n hanfodol wrth adeiladu dyfodol mwy disglair. Buddsoddi mewn sgiliau yw un o'r adnoddau mwyaf pwerus sydd gennym ni i gryfhau economi Cymru. Felly, gadewch i ni sicrhau bod y rhaglen hon yn wirioneddol hyblyg, yn deg ac yn cyflawni i bawb ledled Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:15

A gaf i ddiolch i Sam Kurtz am y gyfres o gwestiynau a'i adborth adeiladol bob amser ar y materion hyn? Ac rwy'n croesawu ei ymrwymiad parhaus i ddatblygu sgiliau ar gyfer dyfodol Cymru. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi dweud ei fod yn uchelgais cyffredin, ac mae hynny'n sicr yn wir; gallaf weld hynny.

Dim ond pwynt i'r Aelod: mae'r rhaglen hon yn ymestyn yn llawer ehangach na'r gogledd-ddwyrain a rhai o'r busnesau y gwnaethon ni sôn amdanyn nhw. Yn ardal pob awdurdod lleol, mae busnesau sydd wedi cael cyllid drwy'r rhaglen hon, ac mae'n fuddsoddiad gan y busnesau eu hunain. Dylen nhw fod eisiau buddsoddi yn eu gweithlu eu hunain, ac maen nhw'n mynd ati i wneud hynny. Mae'r adborth rydyn ni wedi'i gael gan fusnesau yn y rhaglen estynedig wedi bod yn addawol iawn, iawn ac rwy'n ei annog efallai i ddarllen yr erthygl ar borth sgiliau'r gogledd, sy'n sôn am fusnesau'r gogledd ledled y wlad sydd wedi manteisio ar gymorth hyblyg, a'r hyn y mae arweinwyr busnes yn ei ddweud. Maen nhw'n dweud ei bod yn rhoi'r hyfforddiant penodol iawn hwnnw sydd ei angen arnyn nhw i dyfu eu busnesau ymhellach, fel y nododd yr Aelod, i wella cynhyrchiant mewn rhai meysydd, ac yna i gadw talent a buddsoddi yn eu gweithlu eu hunain. Mae'r erthygl honno'n nodi'n eithaf clir ein bod ni'n gwneud hynny yn y gogledd a'i fod yn cael ei ailadrodd ar draws y wlad hefyd. Fe soniais i fod Box UK yn un ohonyn nhw ac fe soniais i am Bisley yn fy natganiad agoriadol yn y fan yna. Yr hyn sy'n bwysig iawn pan ei bod yn cyfeirio at y rhaglen gyffredinol—. Mae yna lawer o sectorau sydd eisoes yn rhan o'r rhaglen. Mae'n rhaglen hyblyg. Mae'n gwrando ar anghenion diwydiannau. Pan oeddwn i yn Kronospan yr wythnos diwethaf, fe ofynnais i iddyn nhw, 'Ar gyfer beth rydych chi wedi'i defnyddio?' ac un o'r pethau maen nhw wedi'i defnyddio ar ei gyfer yw hyfforddi 20 o beirianwyr cynnal a chadw—y gosodwyr mecanyddol—i ddysgu sgiliau weldio newydd. Mae Sam a minnau wedi cael sgyrsiau am lawer o gyfleoedd weldio i ni. Ond dyna'n union beth oedd ei angen ar y busnes. Rydyn ni wedi ymateb i'r rhaglen honno. Ac rwy'n credu eu bod nhw wedi ymateb yn dda oherwydd yr her yn y fan yna.

A'r hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth bob busnes ledled Cymru, ac mae'n rhan o'r rheswm pam y gwnes i gyflwyno'r datganiad hwn heddiw, yw: ewch ati i gael sgwrs gyda'r tîm yn Busnes Cymru i weld a yw hyn yn iawn i chi. Mae'n hyblyg iawn o ran yr hyn y mae'n ceisio ei wneud. Mae'r gyfradd gymeradwyo a'r amser gweithredu yn ddau ddiwrnod a hanner ar gyfartaledd, felly mae'n system gyflym i brosesu hynny a'i wirio. Ac yna os oes yna fusnesau unigol—. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi sôn am faterion gwledig. Os oedd e' eisiau cael sgwrs â mi ar wahân i hynny a fy nghyfeirio at fusnes unigol, rwy'n hapus i swyddog ystyried hynny. Nid cronfa i'r sectorau blaenoriaeth allweddol yn unig yw hon. Maen nhw'n cael eu hamlygu oherwydd eu bod nhw'n sectorau twf blaenoriaeth allweddol. Rwy'n cydnabod bod mwy o sectorau sydd angen cymorth, ac mae yna gyfleoedd yn y rhaglen hon.

Roeddwn i eisiau cymryd y pwynt, Cadeirydd, ar bontio teg a'r diwydiant olew a nwy. Mae Sam Kurtz, yn enwedig ar sgiliau, ond yn ei ranbarth ei hun hefyd, yn hyrwyddo'r diwydiannau sy'n bwysig yn yr ardal leol honno. Mae'n dweud, 'Sut allwch ni sicrhau nad yw'r bobl hynny a'u setiau sgiliau yn cael eu colli yn y dyfodol, a'r cyfleoedd uwchsgilio?' Rwy'n credu mai dyna'n union beth mae'r rhaglen hon yn ei wneud. Gall busnesau yn y sector hwnnw edrych i'r dyfodol: 'Pa sgiliau sydd eu hangen arnon ni? Sut allwn ni uwchsgilio ein staff o ran hynny?' Mae yna lawer o enghreifftiau ar gael. Rwy'n credu bod hyn yn llwyddiant gwirioneddol hyd yma. Mae arian i'w wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol eleni, ac rwy'n gobeithio, gyda'r gyllideb yn mynd drwyddo—mae eisoes wedi'i amlinellu yn y gyllideb ddrafft—y bydd rhaglen yn parhau yn y flwyddyn nesaf, oherwydd mae'n ymateb i anghenion y diwydiant. Nid fy ngeiriau i ydyn nhw. Ond mae'r cyrsiau cryno, byr hynny y mae busnesau yn eu dymuno, mae busnesau yn eu cael. Felly, byddwn i'n annog yr Aelod i wneud hynny. Rwy'n hapus i gael sgwrs ehangach ar faterion gwledig gydag ef. Mae'n sector pwysig i economi Cymru. Rydyn ni'n cydnabod hynny ac os gallwn ni wneud mwy yn y maes hwnnw, yna bydden ni eisiau gwneud hynny.

16:20

Diolch am y datganiad gan y Gweinidog.

Yn debyg i Sam Kurtz, dydw i ddim yn amau ymrwymiad y Gweinidog i'r agenda sgiliau yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod y rhaglen sgiliau hyblyg yn un o'r straeon cadarnhaol hynny sydd gennym ni yn ein hecosystem sgiliau yng Nghymru.

Un peth rwyf eisiau ei godi yn rhan olaf datganiad y Gweinidog yw mai un o gryfderau mawr y rhaglen sgiliau hyblyg yw'r ffordd y mae'n ymateb i'r galw a'r newid o ran busnesau. Mae hynny, wrth gwrs, yn swnio'n ymatebol iawn yn hytrach na'n rhagweithiol, ac un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud wrth y Gweinidog yw mai'r hyn y gofynnir amdano neu y gelwir amdano'n gyson neu sy'n eitem gyson yn y sgwrs a geir gyda darparwyr AB a busnesau yw, oes, mae angen yr hyblygrwydd hwnnw arnyn nhw, y gallu hwnnw i fynd i'r Llywodraeth a gweld y Llywodraeth fel galluogwr, ond mae angen yr arweinyddiaeth honno gan y Llywodraeth hefyd. Un feirniadaeth y gwnes i ei chlywed eto yng nghynhadledd Cymdeithas y Contractwyr Trydanol ychydig ddiwrnodau yn ôl yng Nghaerdydd oedd bod yna deimlad o hyd ymhlith busnesau a darparwyr AB nad ydyn nhw i gyd yn yr ystafell ar yr un pryd yn trafod sut allwn ni ddatrys rhai o'r heriau hynny rydyn ni'n eu hwynebu o fewn y system sgiliau yma yng Nghymru. Mae rhai o'r heriau hynny yn ymwneud yn rhannol ag ariannu, yn rhannol â'r ochr strwythurol. 

Pe bawn i'n mynd i'r afael â'r cyllid yn gyntaf, mae Sam Kurtz yn iawn. Mae cyllid wedi cynyddu ar gyfer y rhaglen sgiliau hyblyg ac mae hynny'n dangos yr awydd a'r angen ymhlith busnesau i allu cael mynediad at y cyllid hwnnw i allu ail-sgilio eu gweithlu pan edrychwn ni tuag at bethau fel pontio teg a'r symud i sero net. Ac rydyn ni wedi gweld yn y gyllideb fod y cynnydd yn yr agenda sgiliau yn cael ei groesawu gan ddarparwyr AB, ond rydyn ni'n clywed yn gyson eto, 'Nid yw'n ddigon o arian i allu cyflawni'r hyn rydyn ni eisiau ei gyflawni.' Nawr, dydw i ddim yn mynd i sefyll yma a dweud wrth y Gweinidog bod yn rhaid iddo roi mwy o arian o'r gyllideb neu'r gyllideb heb ei dyrannu i'r rhaglen sgiliau. Yr hyn y mae gen i fwy o ddiddordeb mewn trafod â'r Gweinidog yw sut allwn ni ddod o hyd i arian sydd eisoes yn y system a'i ddefnyddio mewn ffordd wahanol. Felly, er enghraifft, rydyn ni wedi cael sgyrsiau ynghylch sut y gall bargeinion dinesig chwarae rhan wrth ariannu'r agenda sgiliau, sut all awdurdodau lleol chwarae rhan wrth ariannu'r agenda sgiliau, a thrwy hynny ddefnyddio'r arian hwnnw sydd eisoes yn y system i allu hyrwyddo ein nodau o fewn yr agenda sgiliau.

Wrth gwrs, mae gen i lawer o gydymdeimlad â'r Llywodraeth ynghylch y diffyg cyllid ar gyfer sgiliau, yn enwedig pan wnaethon ni golli'r cyllid Ewropeaidd hwnnw, ond rydyn ni wedi gwybod am hynny ers tro nawr. Mae wedi bod yn broblem gyson yn y system, felly mae gwir angen i ni ddod o hyd i ateb ynghylch y mater penodol hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod pryder gwirioneddol—nid dim ond yn y lle hwn, ond y tu allan i Gymru, yn ein cymunedau, o fewn y darparwyr AB a'r busnesau hynny—ein bod, ar hyn o bryd, pan fyddwn ni'n siarad am ynni gwynt ar y môr a'r Porthladd Rhydd Celtaidd, bron yn gwerthu ffantasi i'n pobl ifanc. Rydyn ni'n dweud, 'Ewch i mewn i'r diwydiant hwn, ewch a dilynwch y cwrs iawn i fynd i mewn i'r diwydiant hwnnw', ond nid oes buddsoddiadau yn cael eu gwneud i wneud yn siŵr ein bod ni wedyn yn gallu gwireddu hynny a sicrhau bod swydd i'r bobl hynny ar ddiwedd eu cyrsiau. Felly, mae gwir angen i ni ddatrys y mater hwnnw ynghylch cyllid. Mae gwir angen i ni sicrhau ein bod ni ar flaen y gad ar hyn, oherwydd mae nifer o wledydd eraill—y mae Lloegr yn un ohonyn nhw, ond, ar y cyfandir, yr Iseldiroedd a Ffrainc, fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen—eisoes yn gwneud y buddsoddiadau hyn ac eisoes yn mynd i fod yn cymryd llawer o'r buddsoddiad hwnnw a fydd yn dod o'r Porthladd Rhydd Celtaidd o bosibl, o'r rhaglenni ynni gwynt ar y môr, gan osgoi de Cymru yn llwyr. Felly, mae gwir angen i ni ddatrys y mater hwnnw.

Yn olaf, mae'r rhaglen sgiliau hyblyg—ac fe wnes i sôn am broblemau strwythurol o fewn yr agenda sgiliau—yn un o nifer o raglenni sydd gan Lywodraeth Cymru ar sgiliau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn un o nifer o sefydliadau sy'n darparu rhaglenni. Nawr, un o'r pryderon sydd gennym ni yw bod y dirwedd neu'r ecosystem sgiliau yng Nghymru yn eithaf tameidiog. Mae llawer yn digwydd, llawer o wahanol botiau o gyllid yn cael eu defnyddio. Yr hyn yr hoffwn i gael gwybod gan y Gweinidog yn y fan yma yw pa fath o waith y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i sicrhau ein bod ni wedi mapio'r hyn sydd ar gael yng Nghymru, sut ydyn ni wedyn yn sicrhau ein bod ni'n cyfeirio pobl at y rhaglenni hynny sydd ar gael a'u bod nhw i gyd yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd, oherwydd mae yna deimlad ar hyn o bryd nad yw pethau'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd. Os gallwn ni ddatrys y materion strwythurol hynny, yna rydyn ni mewn sefyllfa gref iawn wedyn i allu datrys y cyllid. Felly, byddwn i wir yn croesawu barn y Gweinidog ar hynny.

16:25

Diolch, Luke. Fel Sam, rwy'n rhannu ymrwymiad yr Aelod tuag at sgiliau, ac rwyf wedi gwerthfawrogi'r sgyrsiau rydyn ni wedi'u cael yn y Siambr, yr adborth adeiladol pan fo'r Aelod yn gofyn cwestiynau i mi, ond hefyd y tu allan i'r Siambr yn rhai o'r cyfarfodydd rydyn ni wedi'u cael, trafodaethau yn enwedig ar y pwynt ynghylch rhagolygon ar gyfer y dyfodol a lle y gallwn ni dynnu gwahanol botiau, efallai, o arian i lawr neu agor drysau i ganiatáu i ddiwydiant a dysgwyr fanteisio arnyn nhw, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gwrdd eto yn y dyfodol i drafod hynny yn fwy manwl a meddwl am hynny.

Soniodd yr Aelod am fod yn ymatebol yn hytrach nag yn rhagweithiol. Byddwn i'n gwthio nôl yn ysgafn ar rywfaint o hynny. Rwy'n credu ei fod yn ymatebol oherwydd dyna'r hyn y gofynnodd diwydiant amdano pan wnaethon ni werthuso'r rhaglen o'i iteriad ychydig flynyddoedd yn ôl. Rydyn ni wedi ymateb i'r angen drwy sicrhau amseroldeb—mae'r cais yn fwy syml nawr—amseroldeb yr ymateb gan swyddogion i gymeradwyo hynny, ac rwy'n credu bod hynny wedi'i brofi yn yr ystadegau y gwnes i eu rhestru'n gynharach—amser cyflawni o ddau ddiwrnod a hanner ar gyfartaledd ar gyfer hynny—a gallwch chi weld o rai o'r astudiaethau achos o amgylch y rhaglen, lle mae busnesau wedi dweud ei bod yn rhaglen wych, does dim angen meddwl dwywaith amdani, mae'n cymell eu hyfforddiant, mae'n gwella eu galluoedd, ac mae'n rhan o'r hyblygrwydd hwnnw wrth gael y cwrs maen nhw ei eisiau, ond hefyd yr ymateboldeb sydd ei angen arnyn nhw gan y Llywodraeth a'r darparwyr hyfforddiant i allu gwneud hynny.

Wedi dweud hynny i gyd, rydyn ni wrthi'n gweithio gyda diwydiannau i ddweud bod y cyllid hwn ar gael. Rydyn ni'n hyrwyddo'r rhaglen sgiliau hyblyg trwy ein sianeli gyda swyddogion. Mae hi allan yno; mae ymgyrch ar waith i annog busnesau i gamu ymlaen, felly er ei bod yn ymatebol ei natur er mwyn ymateb i anghenion y diwydiant, mae'n rhagweithiol iawn wrth fynd allan a rhoi gwybod i bobl am y gronfa, ac mae hynny'n rhan o'r datganiad heddiw hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n dangos awydd gan Lywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i fuddsoddi, felly mae'n dangos awydd gan ddiwydiant i eisiau hyfforddi a datblygu eu gweithlu, ond mae hefyd yn dangos yr awydd sydd gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaethoch chi siarad am, efallai, botiau o arian o wahanol leoedd. Wel, rwy'n credu mai dyna'r hyn y gwnaethon ni eleni. Felly, pan wnaethon ni gynyddu'r gyllideb chwe gwaith eleni, fe wnaethon ni edrych ar yr hyn y mae diwydiant yn ei ddymuno, yr hyn sydd ei angen arno a sut allwn ni wella hynny ymhellach, ac fe wnaethon ni hynny trwy fuddsoddi mwy yn y rhaglen hon—ie, gyda chyllid ychwanegol, ond fe wnaethon ni hefyd edrych ar sut allwn ni defnyddio arian yn well, o fewn portffolio yr economi, i ymateb iddyn nhw. Fel y dywedais i, mae e' eisoes yn y gyllideb ddrafft yno.

Llywydd, fe soniodd Luke Fletcher am y rôl a'r cyfle pwysig yn ei ranbarth ei hun a'r sector ynni gwynt ar y môr. Rwy'n credu ei fod yn sector pwysig iawn, iawn yno. Yr hyn y gall y rhaglen sgiliau hyblyg ei gynnig, nid yn unig i'r cwmnïau hynny o'r radd flaenaf sy'n edrych i fuddsoddi, ond i'r gadwyn gyflenwi, y gadwyn gyflenwi hanfodol, yw ei bod yn cynnig ffordd o fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw, ar yr adeg y mae ei angen arnyn nhw, yn y modd amserol hwnnw. Fe af i'n ôl at fy mhrofiad yn Kronospan yr wythnos diwethaf. Rwyf wedi sôn am yr 20 weldiwr gyda Sam Kurtz; fe wnes i gwrdd hefyd â rhai prentisiaid a oedd ar eu gwyliau haf, yn ôl ar y safle yn Kronospan. Yr hyn a wnaethon nhw yn ystod gwyliau'r haf oedd ymgymryd â hyfforddiant trwy'r rhaglen sgiliau hyblyg i wella eu galluoedd. Gallwn ni wneud yr un peth ym maes ynni gwynt ar y môr. Os yw'r diwydiant eisiau buddsoddi, rydyn ni yno, yn barod i fuddsoddi ochr yn ochr ag ef trwy'r broses ymgeisio rydyn ni wedi'i sefydlu.

Ac rwyf eisiau annog Aelodau, yn y sgyrsiau, yn enwedig y ddau lefarydd, rydyn nhw'n eu cael gyda diwydiant yn uniongyrchol yn wythnosol, fel yr ydyn ni'n eu cael, i ofyn i fusnesau ystyried edrych ar y rhaglen hon. Mae'n rhaglen dda iawn i uwchsgilio'r gweithlu presennol. Daliwch ati i gael y sgyrsiau gyda mi ynghylch ble y gallwn ni wneud mwy i gefnogi yn y maes hwn. Nid dyma'r unig gronfa o arian sydd ar gael: mae gennym ni'r gyllideb prentisiaethau, £144 miliwn—y mwyaf rydyn ni erioed wedi'i fuddsoddi, Llywydd; mae gennym ni gronfa ddysgu undebau Cymru, cronfa dda iawn yr oedden ni'n gallu dod â hi yn ôl i'r lefel dyraniad flaenorol; ac mae gennym ni lawer o fuddsoddi mewn sgiliau o bortffolios eraill—y Gweinidog addysg, y Gweinidog addysg uwch ac addysg bellach trwy Medr hefyd.

Mae'r pwynt olaf rwyf eisiau ei wneud, Cadeirydd, cyn cloi'r cwestiwn penodol hwn, yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd a'r profiad y gwnaeth Luke Fletcher ei ddisgrifio, rwy'n credu, o gynhadledd Cymdeithas y Contractwyr Trydanol yr wythnos hon. Dyna'n union a wnaeth yr adolygiad o sgiliau gwyrdd. Fe wnaethon ni gynnal adolygiad tymor byr o sgiliau gwyrdd. Roedd yn un o bedwar adolygiad tymor byr a gafodd eu cynnal gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a minnau yn ddiweddar. Rydyn ni wedi adrodd ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw a'r argymhellion, ond dyna'n union y gwnaeth hynny: fe ddaeth ag aelodau o ddiwydiant, undebau llafur, darparwyr addysg a chyrff y Llywodraeth ynghyd ac edrychodd ar yr hyn rydyn ni'n ei gynnig nawr, yr hyn y gallwn ni wneud mwy ohono a'r hyn y gallwn ni ei gryfhau, ac rwy'n credu bod Cymdeithas y Contractwyr Trydanol wedi croesawu canlyniad yr adolygiad hwnnw. Byddwn ni’n gweithio gyda nhw a'r holl randdeiliaid i wireddu'r cyfleoedd yn y dyfodol, yn enwedig yn y mannau gwyrdd lle rydyn ni i gyd yn cytuno bod llawer o gyfleoedd i Gymru yn y dyfodol.

16:30

Er mwyn gwireddu economi sy'n gweithio i Gymru, mae angen iddi weithio i'r rhai sydd â'r pŵer i ysgogi'r economi honno, ac rydyn ni'n gwneud hynny trwy fuddsoddi a chefnogi'r gweithlu nawr ac yn y dyfodol. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae sgiliau yn ganolog i hynny, nid yn unig sgiliau yn y lle cyntaf, ond cyfleoedd parhaus i uwchsgilio. Mae'r rhaglen sgiliau hyblyg yn enghraifft ardderchog o'r ffordd y gall hynny weithio yn ymarferol a'r gwahaniaeth y gall ei wneud. Roedd yn arbennig o galonogol clywed yn eich datganiad am y buddsoddiad yn y gogledd-ddwyrain. Y buddsoddiad o £1.25 miliwn yn sir y Fflint a Wrecsam yn unig, ac mae hynny'n fuddsoddiad sylweddol yn ein cornel ni o'r wlad.

Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn bod angen i Aelodau helpu neu roeddech chi'n annog Aelodau i helpu i rannu a hyrwyddo'r rhaglen. Felly, beth fyddai eich neges i unigolion a sefydliadau am fanteision a gwerth y rhaglen hon, a'r hyn y mae ganddi i'w gynnig iddyn nhw a'u busnesau, ond hefyd i'r rhai sy'n gweithio iddyn nhw? Felly, sut allwn ni adeiladu yn y ffordd orau ar y cynnydd gwych hwn sydd wedi'i wneud er budd pobl a chymunedau ledled y gogledd. Diolch.

A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am y cwestiynau hynny? Rydych chi'n hollol gywir: rydyn ni'n falch iawn, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, o'n sector gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg, sef yr ardal yr wyf i a'r Aelod yn ei chynrychioli. O fod wedi gweithio yn y diwydiant hwnnw, rydyn ni'n bendant yn deall bod angen i ni ddarparu cyllid a darparu'r hyblygrwydd sydd ei angen ar ddiwydiant i uwchsgilio ei weithlu os ydym am barhau i arwain y byd yn y maes hwnnw. Mae'r Aelod yn cyfeirio'n briodol at y buddsoddiad yn sir y Fflint a Wrecsam. Rydyn ni wedi cael y gyfran fwyaf o'r cyllid, Cadeirydd, sef dros £1.25 miliwn. Fe welais i hynny yn Kronospan yr wythnos diwethaf, ac fe allwn ni ei weld mewn llawer o fusnesau ar draws y ddwy ardal yno.

Fe agorodd yr Aelod trwy ddweud bod buddsoddi mewn pobl yn hanfodol i hyn i gyd. Felly, rwy'n dweud yn fy natganiad mai buddsoddi mewn pobl yw'r ffordd rydyn ni'n adeiladu Cymru decach a chryfach. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth fusnesau ledled y wlad, ac Aelodau sy'n dymuno rhannu'r neges honno—a dyma'r neges gywir, y tynnodd Hannah sylw ati—yw peidiwch â gwrando arnaf i yn unig; gwrandewch ar bobl yn y sector. Pan ydyn ni'n buddsoddi mewn pobl, rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n buddsoddi yn eu canlyniadau yn y dyfodol. Dyma'r hyn a ddywedodd prif weithredwr Kronospan am y rhaglen:

'Mae ein pobl wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, ac mae buddsoddi mewn hyfforddiant yn hanfodol i gynnal y safonau uchel o arloesi ac ansawdd y mae Kronospan yn adnabyddus amdanyn nhw'n fyd-eang... mae'r cymorth rydyn ni wedi'i gael drwy Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi ni i wella galluoedd ein tîm, a sicrhau ein bod ni'n parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang.'

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth fusnesau ledled y wlad yw: gwrandewch ar brif weithredwr Kronospan. Fe wnaeth e' weithio i'w busnes nhw. Fe all e' weithio i'ch un chi. Ymgysylltwch â'r broses. Efallai y gwnaf i anfon nodyn at bob Aelod, yn tynnu sylw at y ffordd y gallan nhw hyrwyddo'r ddolen i wefan Busnes Cymru, lle mae modd gwneud cais am y rhaglen sgiliau hyblyg. Mae yna amser cymeradwyo o ddau ddiwrnod a hanner ar gyfartaledd. Mae'n hyblyg, er mwyn diwallu'r anghenion sydd gan eich busnes unigol chi. Rwy'n gobeithio y bydd busnesau yn eich rhanbarth eich hun, fel yr ydyn ni wedi'i weld yma, a busnesau ledled Cymru, yn rhoi ymateb tebyg i'r hyn y mae prif weithredwr Kronospan eisoes wedi'i ddweud.

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, mae'n bleser gen i glywed, yn ogystal â chefnogi cwmni dodrefn swyddfa Bisley yn fy etholaeth i, fod y gronfa estynedig wedi cefnogi'r sector lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd. Bydd Wythnos Dechnoleg Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd yn ddiweddarach y mis hwn yn arddangos ymhellach ein potensial byd-eang yn y sectorau hyn.

Mae pob swydd lled-ddargludyddion cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru yn cefnogi 1.24 o swyddi eraill yn economi ehangach y DU, sef cyfanswm o dros 4,000 o weithwyr yn y DU. Wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, mae'n sector cystadleuol, ac mae angen i ni fod yn hyblyg yn y ffordd rydyn ni'n cefnogi dysgu proffesiynol cyson. Felly, Gweinidog, allwch chi amlinellu sut y gallai'r sector elwa ymhellach ar y cyllid hwn yng ngoleuni'r realiti hwnnw?

Wel, diolch, John, nid yn unig am dynnu sylw at y buddsoddiadau sydd wedi'u gwneud yng Nghasnewydd, ond hefyd am dynnu sylw at Wythnos Dechnoleg Cymru sy'n digwydd yn fuan iawn. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn bresennol yn Wythnos Dechnoleg Cymru, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n gyffrous iawn i fod yno, i gymryd rhan yn y sgyrsiau a fydd yn digwydd am fuddsoddi yn y dyfodol. Hefyd, mae gennym ni uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru i edrych arni hefyd.

Nid y diwydiant lled-ddargludyddion yw'r unig ddiwydiant y buddsoddwyd ynddo yng Nghasnewydd, ond mae'r clwstwr lled-ddargludyddion—. Fe glywsoch chi'r Dirprwy Brif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sector hwnnw a chryfder y sector yma yng Nghymru. Roedd hi'n bleser, yn gynharach eleni, ymuno â'ch cyd-Aelod etholaethol, Jane Bryant, yn agoriad cyfleuster o'r radd flaenaf KLA yng Nghasnewydd. Mae KLA yn un o'r cwmnïau sydd wedi cael eu cefnogi drwy'r gronfa sgiliau hyblyg i hyfforddi ac uwchsgilio eu gweithlu, yn yr un modd â Vishay.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth y clwstwr yw: rydyn ni'n gwybod ei fod yn sector sy'n symud yn gyflym, felly mae angen i'r hyblygrwydd fod yno. Unwaith eto, rwy'n cyfeirio at yr hyn y mae'n ei ddweud. Teitl y datganiad hwn yw 'Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg'. Mae'n cael ei galw'n 'hyblyg' am ei bod hi, ac mae'n caniatáu i gwmnïau fel Vishay a KLA wella eu harlwy hyfforddiant, cadw staff, denu talent newydd i Gasnewydd ac i'r clwstwr lled-ddargludyddion.

Rwyf eisiau dweud, Llywydd, o ran Casnewydd, yn ei chyfanrwydd mae Casnewydd wedi cael dros £470,000 o gyllid sgiliau hyblyg hyd yma eleni. Mae rhai o'r busnesau yno wedi cael eu crybwyll, ond mae mwy na dim ond y tri sy'n arwain y ffordd mewn sectorau pwysig fel y clwstwr lled-ddargludyddion, a phwysigrwydd hynny i economi Cymru.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder'—Adolygiad Ymarfer Plant Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Eitem 6 sydd nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder', adolygiad ymarfer plant bwrdd diogelu gogledd Cymru. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Lynne Neagle.

16:40

Mae 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder', yr adroddiad gan fwrdd diogelu rhanbarthol gogledd Cymru, wedi'i gyhoeddi y prynhawn yma. Mae'r adroddiad wedi'i enwi gan oroeswyr y cam-drin a gyflawnwyd gan Neil Foden. Ef oedd eu pennaeth, rhywun y dylen nhw a'u teuluoedd fod wedi gallu ymddiried ynddo, ac rwyf am ddechrau fy sylwadau heddiw drwy dalu teyrnged i ddewrder rhyfeddol y goroeswyr.

Mae teitl yr adroddiad yn adlewyrchu eu dewrder. Mae eu parodrwydd i gefnogi proses yr adolygiad ac i helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc eraill yn ysbrydoledig. Rwyf hefyd eisiau dweud wrthyn nhw ei bod yn wirioneddol ddrwg gennyf am y gamdriniaeth y gwnaethon nhw ei dioddef, mae'n ddrwg gennyf am yr ymddiriedaeth a fradychwyd, ac mae'n ddrwg gennyf eu bod wedi eu methu gan gynifer o'r bobl a'r sefydliadau a ddylai fod wedi eu hamddiffyn. Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i banel yr adolygiad, dan arweiniad Jan Pickles OBE. Mae'r adolygiad hwn wedi bod yn un helaeth, gan rychwantu'r cyfnod rhwng Ionawr 2017 a Medi 2023. Mae diwydrwydd y panel a'r dull a oedd yn canolbwyntio ar oroeswyr wedi bod yn wych, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd.

Mae 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder' yn adroddiad sobreiddiol a syfrdanol i'w ddarllen, gan dynnu sylw at ddim llai na 50 o gyfleoedd i weithredu ac ymyrryd. Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl sy'n darllen yr adroddiad ac yn gwrando ar y sylw y mae'n ei gael yn siomedig ac yn rhwystredig ein bod ni unwaith eto mewn sefyllfa lle rydym yn dysgu gwersi yn sgil manteisio'n ofnadwy ar ymddiriedaeth. Rwyf am fod yn glir: ni ddylai'r digwyddiadau hyn byth fod wedi digwydd, ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i sicrhau na fyddan nhw byth yn cael eu hailadrodd.

Mae'r adroddiad yn gwneud 27 o argymhellion ar gyfer gweithredu, yn lleol ac yn genedlaethol, sy'n rhychwantu fy mhortffolio i a phortffolio y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Heddiw, rwy'n cadarnhau ein bod ni'n derbyn yr holl argymhellion a gyfeiriwyd atom ni, a'n bod yn ymrwymo i weithredu ar bob un ohonyn nhw ar unwaith. Rwyf hefyd yn cadarnhau y byddwn ni'n gweithio gyda'r holl sefydliadau a enwir yn yr adroddiad i sicrhau bod yr argymhellion sydd wedi'u cyfeirio atyn nhw yn cael eu gweithredu'n llawn. Rydym wedi dechrau'r gwaith hwnnw ar unwaith.

Bydd y Gweinidog a minnau'n ysgrifennu at gadeirydd bwrdd prosiect gweithdrefnau diogelu Cymru, gan eu cyfarwyddo i sicrhau bod canfyddiadau'r adroddiad hwn yn cael eu hintegreiddio'n llawn yn adran 5 o weithdrefnau diogelu Cymru. Rydym hefyd wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Cymru asesu effeithiolrwydd y trefniadau wedi'u diweddaru o fewn chwe mis i'w gweithredu. Mae hyn yn adlewyrchu un o ganfyddiadau'r adroddiad sef, er bod gweithdrefnau'n gadarn, mae'n rhaid gwarantu eu bod yn cael eu cymhwyso'n gyson ac yn effeithiol.

Rydym wedi cyfarwyddo swyddogion i ddiweddaru ac adnewyddu'r gweithdrefnau disgyblu a diswyddo ar gyfer canllawiau staff ysgolion, ac, wrth wneud hynny, byddwn yn ystyried cynnwys adran polisi ar bryderon lefel isel, yn unol â chanfyddiadau'r adroddiad. Bydd ein strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, yr ymgynghorwyd arni'n ddiweddar, yn cael ei phrofi'n llawn yn erbyn canfyddiadau'r adroddiad cyn iddi gael ei chyhoeddi'n derfynol. 

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i eisoes wedi cyhoeddi fy mwriad i fwrw ymlaen ag adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion. Er i'r ymrwymiad hwn gael ei wneud cyn i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, byddaf yn sicrhau bod y materion a godwyd yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o'r adolygiad hwnnw. Byddwn hefyd yn diweddaru holl ddogfennau canllaw Llywodraeth Cymru y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, gan gynnwys y fframwaith lleihau arferion cyfyngol. 

Gan weithio gydag arbenigwyr a phartneriaid, byddwn yn comisiynu hyfforddiant ac adnoddau ar ganfyddiadau'r adroddiad, troseddwyr rhyw a meithrin perthnasoedd amhriodol, a fydd ar gael i holl staff ysgol, gwirfoddolwyr a llywodraethwyr. Byddwn yn mabwysiadu dull unwaith i Gymru, a bydd yn ofynnol i bawb sydd wedi'u lleoli mewn ysgolion neu sy'n gweithio gydag ysgolion ymgymryd â'r hyfforddiant hwn. Ar yr un pryd, byddwn yn sicrhau bod yr addysgu, y dysgu a'r dysgu proffesiynol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, RSE, yn cynnwys y dystiolaeth, yr adnoddau a'r dysgu proffesiynol diweddaraf ar feithrin perthnasoedd amhriodol a themâu cysylltiedig, a byddwn yn sicrhau bod cynghorydd RSE ar gyfer pob awdurdod lleol.

Rydym hefyd yn bwriadu mynd ymhellach na'r argymhellion yn yr adroddiad. Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ei bod yn bwrw ymlaen ag adolygiad cryfhau llywodraethu diogelu cenedlaethol. Bydd y cam cyntaf, fydd yn para tua chwe mis, yn canolbwyntio ar sut mae asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd ar draws y system ddiogelu i sicrhau goruchwyliaeth glir a sicrwydd ansawdd cadarn. Yn dilyn hynny, bydd ail gam yn edrych yn fanwl ar weithredoedd sectorau penodol. Gallaf gadarnhau heddiw y bydd y cyntaf o'r adolygiadau manwl hynny'n edrych ar y sector addysg.

Gan adeiladu ar ganfyddiadau'r adolygiad cryfhau llywodraethu diogelu cenedlaethol a gwaith yr adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion, bydd yr ystyriaeth fanwl honno o'r sector addysg yn sicrhau bod ein prosesau mor gadarn ag y gallant fod a'u bod yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gyson. Bydd y Gweinidog a minnau hefyd yn ysgrifennu at y byrddau diogelu rhanbarthol, awdurdodau lleol, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru i dynnu sylw at ganfyddiadau'r adroddiad, gan eu cyfarwyddo i ystyried a gweithredu arnynt. Byddwn ni'n gwneud gwaith dilynol bob chwe mis i sicrhau ein bod ni'n cael y sicrwydd sydd ei angen arnom bod y materion hyn yn cael sylw.

Rwyf hefyd eisiau sicrhau Aelodau, er ein bod ni'n cymryd camau ar lefel genedlaethol, nad ydym wedi colli golwg ar yr hyn a ddigwyddodd yn lleol yn yr ysgolion ac yn yr awdurdod lleol. Mae'r methiannau o fewn yr ysgol ac o fewn Cyngor Gwynedd wedi'u nodi'n glir yn yr adroddiad. Maen nhw'n syfrdanol, yn siomedig ac yn ofidus. Roedd y plant hynny, a phob un o'n plant, yn haeddu gwell. Rwy'n gwybod bod Cyngor Gwynedd wedi cymryd cyfrifoldeb am eu methiannau ac wedi ymddiheuro i'r goroeswyr. Maen nhw wedi ymrwymo i gymryd camau i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adroddiad, a byddaf yn eu dwyn i gyfrif am hynny. Rydym yn sefydlu grŵp sicrwydd gweinidogol a fydd yn goruchwylio'r camau fydd yn cael eu cymryd gan Gyngor Gwynedd i weithredu ar yr adroddiad hwn. Fe fyddaf i yn cadeirio'r grŵp hwn, a fydd yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac arweinydd ac aelodau eraill o gabinet Cyngor Gwynedd. Bydd cyfarfod cyntaf y grŵp yn cael ei gynnal ar 18 Tachwedd. 

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r angen i sicrhau bod cymorth priodol ar gael i'r ysgolion, ac i gefnogi plant a phobl ifanc ledled yr ardal. Rwyf wedi cytuno ar becyn o gymorth i Gyngor Gwynedd er mwyn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r CPR ac i roi'r sicrwydd sydd ei angen ynghylch diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Byddaf yn monitro'r effaith y bydd hyn yn ei chael yn agos. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn rheolaidd am y cynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn a'r gwaith a wnaed gyda Chyngor Gwynedd a ledled Cymru.

I gloi, hoffwn ddatgan fy ymrwymiad i, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, i blant a phobl ifanc Cymru. Rydym am i chi fod yn ddiogel, rydym am i chi gael ei gefnogi ac rydym am i chi allu dilyn eich breuddwydion heb wynebu camdriniaeth, gwahaniaethu neu niwed. Rydyn ni eisiau i Gymru fod y lle gorau i dyfu i fyny, ac rydym wedi ymrwymo i wrando arnoch chi a gweithredu ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym. Rhaid i unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon am ddiogelwch neu les plentyn neu berson ifanc adrodd am y pryderon hynny. Mae'n well rhoi gwybod am bryder a dod o hyd i ddim na chadw'n dawel a cholli cyfle i amddiffyn plentyn. Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

A gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad y prynhawn yma, a hefyd am gyfarfod â mi neithiwr i drafod hyn? Rwyf eisiau dechrau trwy ddweud fy mod yn meddwl am ddioddefwyr Neil Foden. Rwyf eisiau talu teyrnged i'w dewrder wrth siarad yn gyhoeddus, ac am roi'r athro cywilyddus yn yr union le y dylai fod: yn y carchar. Dylai ysgolion fod yn fannau diogel i'n plant, ac rwy'n credu'n gryf y dylen ni wneud pob ymdrech i geisio atal rhywbeth mor ffiaidd â hyn rhag digwydd eto. I'r dioddefwyr, mae'n ddrwg gennyf innau hefyd am y gamdriniaeth rydych chi wedi'i dioddef a'r trawma parhaus oherwydd esgeulustod cyngor Gwynedd sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru.

Rwyf hefyd eisiau dweud pa mor siomedig ydw i na chafodd yr adroddiad hwn ei gyhoeddi yn ôl y disgwyl am 3 p.m. heddiw, ac mae'n amlwg ei fod wedi cael ei rannu â rhai o'r cyfryngau ymlaen llaw. Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi daflu rhywfaint o oleuni ar pam fod y cyfryngau wedi gweld yr adroddiad hwn cyn i ni, yr Aelodau etholedig, ei weld? A gafodd amseriad ei gyhoeddi ei drafod gyda Llywodraeth Cymru? [Torri ar draws.] Mae'n fater pwysig iawn mewn gwirionedd. Ni allaf wadu bod yr adroddiad hwn yn anodd iawn i'w ddarllen, fel y sonioch chi. Heb amheuaeth, mae troseddau afiach Foden wedi peri braw i'r wlad ac mae pobl, yn gywir ddigon, eisiau atebion, ac maen nhw'n haeddu'r atebion hynny, yn enwedig o ran sut y llwyddodd rhywun mewn safle o bŵer fel hwn i wneud hyn am gymaint o amser, a chyda rhwydd hynt.

Nod sylfaenol yr adolygiad yw nodi p'un a gollwyd unrhyw gyfleoedd yn y gorffennol i atal yr anghenfil hwn, ac mae'n ddrwg gennyf ddweud, mi oedd yna. Roedd yna faneri coch, ond cawson nhw eu hanwybyddu. Roedd yna fethiannau systematig gan amryw o asiantaethau a sicrhaodd fod Foden yn gallu cam-drin nifer o ferched. Yn wir, collwyd mwy na 50 o gyfleoedd i weithredu i atal Foden rhag cam-drin plant yn rhywiol. Cafodd pryderon eu codi'n flaenorol gyda chyngor Gwynedd, sy'n cael ei reoli gan Blaid Cymru, fod Foden yn cwrdd â phobl ifanc yn eu harddegau ar ei ben ei hun, ond penderfynodd yr awdurdod lleol beidio ag ymchwilio'n ffurfiol.

Ysgrifennydd Cabinet, mae gan y cyngor lawer i ateb drosto yma, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n diweddaru'r canllawiau 'Gweithdrefnau disgyblu a diswyddo staff ysgolion', ond a oes unrhyw unigolyn neu unigolion yn y cyngor wedi cael eu dwyn i gyfrif am y methiannau hyn? Os felly, pa gamau sydd wedi'u cymryd yn eu herbyn?

Mae gennyf gwestiynau difrifol ynglŷn â rôl cyngor Plaid Cymru yn hyn. Gwrthododd arweinydd yr awdurdod lleol yn gywilyddus ymddiheuro i ddioddefwyr y rheibiwr. Ceisiodd gadw gafael ar ei swydd yn anfoddog, ond diolch byth, ymddiswyddodd yn y pen draw ar ôl i rai o'i gydweithwyr eraill yn y cyngor ymddiswyddo yn sgil y ffaith iddo wrthod ymddiheuro. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n gwerthfawrogi na allwch chi wneud sylwadau ar yr hyn sy'n digwydd o fewn Plaid Cymru, ond a ydych chi'n cytuno â mi bod angen craffu ymhellach ar y camau hyn? Er enghraifft, sut ar y ddaear y caniatawyd i Foden barhau i gael ei gyflogi gan gyngor Gwynedd tan yr adeg y dechreuodd yr achos yn ei erbyn?

Roedd yr adroddiad yn rhestru cyfres o fethiannau ar ran yr awdurdod lleol. Maen nhw'n cynnwys methu â dilyn gweithdrefnau diogelu statudol, methu â rhoi gwybod i'r ysgol am ganlyniadau diogelu allweddol, diystyru pryderon ac annog pobl i beidio ag adrodd, methu â chyfweld â'r plentyn neu'r rhieni yn dilyn atgyfeiriadau difrifol, methu ag uwchgyfeirio materion, methu â gweithredu ar ymddygiad a oedd yn amlwg yn amhriodol, methu â chysylltu â'r heddlu neu ddiogelu plentyn yn ystod digwyddiad critigol, a methiant systematig i herio ymddygiad y pennaeth. Mae hyn yn ddamniol, Ysgrifennydd Cabinet.

Cafodd Foden ei geryddu'n flaenorol gan y rheoleiddiwr addysgu a chafodd ei wahardd o'i undeb yn 2020, ond flwyddyn yn ddiweddarach cafodd fwy o gyfrifoldeb fel 'uwch bennaeth strategol' yn goruchwylio dwy ysgol wahanol yn y gogledd. Gwyddom fod Foden wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw gyhuddiadau yn ymwneud â Foden yn ystod y cyfnod hwn? A wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal unrhyw fath o broses fetio ac a oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i'r broses fetio yng ngoleuni'r drosedd erchyll hon? O ystyried ei fod yn rhoi tystiolaeth i'r Llywodraeth, allwch chi gadarnhau a wnaeth Llywodraeth Cymru erioed talu unrhyw gostau llety i Foden pan oedd yma yng Nghaerdydd? Dydw i ddim, mewn unrhyw ffordd, yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol yma. Rydw i ond yn ceisio cael atebion. [Torri ar draws.] Na, mae'n wir.

Gan droi at y camau rydych chi wedi'u hamlinellu yn eich datganiad y prynhawn yma, rwy'n croesawu llawer o'r camau rydych chi wedi'u crybwyll, ac rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion yr adroddiad. O ran y grŵp sicrwydd gweinidogol sy'n cael ei sefydlu i oruchwylio'r camau sy'n cael eu cymryd gan gyngor Gwynedd, a allaf gael ymrwymiad gennych chi heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd y Senedd hon yn cael diweddariadau rheolaidd a thryloyw, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, fel y gallwn ni i gyd barhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn llawn? Bydd y pecyn cymorth i'r cyngor i'w helpu i weithredu newidiadau yn cael ei groesawu, rwy'n siŵr, ond allwch chi ymhelaethu ar sut olwg fydd ar hwnnw yn y dyfodol?

Ysgrifennydd Cabinet, nawr bod y methiannau wedi'u nodi ac mae ymateb y Llywodraeth wedi'i nodi, allwch chi daflu rhywfaint o oleuni ar yr amserlenni dan sylw, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithredu'n gyflym ar achos fel hyn? Cymharodd yr adolygiad y methiannau yn yr achos hwn â'r achos yn ymwneud â'r athro a'r pedoffil John Owen ym Mhontypridd dros 20 mlynedd yn ôl. Yn amlwg, nid yw gwersi wedi'u dysgu yn yr 20 mlynedd diwethaf, gan ein bod ni yma eto heddiw. Pa sicrwydd allwch chi ei roi, Ysgrifennydd Cabinet, nad oes cyfleoedd eraill wedi'u colli mewn ysgolion eraill mewn siroedd eraill ledled Cymru?

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod angen i ni wneud popeth y gallwn ni i amddiffyn ein plant. Hoffwn ddirwyn fy sylwadau i ben, Ysgrifennydd Cabinet, trwy dalu teyrnged unwaith eto i'r dioddefwyr dewr sydd wedi codi eu llais yn yr achos hwn ac ym mhob achos o gamdriniaeth. Rwyf wir yn gobeithio ac yn gweddïo y bydd camau priodol yn cael eu cymryd, ac yn cael eu cymryd yn gyflym, yn dilyn yr adolygiad hwn i sicrhau nad oes rhaid i ni byth sefyll yma eto a chael trafodaeth tebyg i'r un rydyn ni'n ei chael heddiw. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Natasha, am y sylwadau hynny. Fel chithau, rwy'n meddwl am y dioddefwyr sydd wedi dangos dewrder eithriadol, nid yn unig wrth ddod ymlaen i atal Neil Foden, ond hefyd wrth gymryd rhan yn y broses adolygu, y mae'n ei bod wedi bod hyd yn oed yn fwy trawmatig i'r bobl ifanc hynny. Ond heb eu cyfranogiad yn y broses honno, ni fyddai gennym ni'r adolygiad trylwyr sydd o'n blaenau ni heddiw.

Mae'n adroddiad gwirioneddol syfrdanol. Roedd rhannau ohono a wnaeth ddwyn fy anadl wrth ei ddarllen; mae e' mor syfrdanol â hynny. Yn sicr, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ddysgu'r gwersi. Mae'n rhoi naratif manwl iawn i ni o ran yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfnod hwnnw. Mae'n adroddiad helaeth iawn. Fe wnaeth yr adolygwyr gyfweld â 140 o bobl, felly mae gennym ni ddarlun clir iawn o'r hyn a ddigwyddodd. Ac rydych chi'n iawn: roedd yna faneri coch, cawson nhw eu hanwybyddu, ac roedd yna'r 50 o gyfleoedd hynny i atal ei ymddygiad troseddol a chamdriniol.

Fe wnaethoch chi godi rhai materion ynghylch staffio ac a oes unrhyw un wedi cael ei ddiswyddo. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol, Natasha, mai mater i'r awdurdod lleol yw materion disgyblu. Mae yna staff sydd wedi'u hatal dros dro ar hyn o bryd. Bydd proses ddisgyblu yn cael ei chynnal. Mae'n hanfodol bod yr ymchwiliadau hynny'n gadarn ac yn cael eu dilyn yn llawn.

O ran y materion rydych chi wedi'u codi ynglŷn â rôl Neil Foden wrth roi rhywfaint o gyngor i Lywodraeth Cymru yn flaenorol—ac fe roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd pan oeddwn i'n Gadeirydd—rwyf eisiau bod yn hollol glir nad oedd gan neb yn y Llywodraeth nac yn y pwyllgor unrhyw syniad mai dyna'r math o berson ydyw. Y ffordd y mae pedoffiliaid yn gweithredu yw cuddio'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ac mae'n amlwg o'r adroddiad ei fod wedi gwneud popeth a wnaeth trwy guddio mewn man amlwg. Roedd wedi meithrin personoliaeth enfawr o amgylch ei hun fel ffigur yn y cyfryngau yng Nghymru. Doedden nhw chwaith ddim yn ymwybodol o'r math o berson ydoedd. Dyna, yn anffodus, sut y gall pedoffiliaid a phobl sy'n cam-drin plant fod, a dyna pam mae angen i ni fwrw ymlaen â'r camau eraill sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

O ran y grŵp sicrwydd gweinidogol rydyn ni wedi'i sefydlu i gefnogi Cyngor Gwynedd, rwy'n hapus iawn i roi cadarnhad i chi ein bod ni'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yn y dyfodol. Mae gennym ni amserlenni ar gyfer y camau gweithredu yn ein hymateb. Er enghraifft, mae'r adolygiad o lywodraethu diogelu y mae fy nghyd-Aelod Dawn Bowden yn arwain arno yn mynd i gymryd tua chwe mis. Bydd hwnnw'n edrych ar y gwaith amlasiantaethol ym maes diogelu, sy'n amlwg yn cynnwys addysg. Bydd y ffocws penodol ar addysg yn dilyn yn syth ar ôl hynny. Mae'r adolygiad o lywodraethwyr hefyd yn ddarn cymhleth o waith, oherwydd mae llywodraethwyr wedi'u hymwreiddio mewn cymaint o ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar addysg, felly mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar hynny a'i ddadansoddi a'i wneud yn gywir. Byddwn ni'n mynd ati i wneud y gwaith mor gyflym ag y gallwn ni. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod yr hyn sy'n cael ei ddweud yn yr adroddiad, sef nad ellir ystyried yr un o'r argymhellion hyn ar eu pennau eu hunain. System yw hon, a dyna pam mae'n rhaid i'r gwaith gael ei wneud mewn trefn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ymagwedd systemig at yr holl faterion hyn.

Fe wnaethoch chi sôn am ymchwiliad Clywch. A gaf i gadarnhau bod yr holl argymhellion a wnaed gan Clywch wedi'u gweithredu? Yr hyn y mae'r adroddiad hwn wedi'i ddangos yw methiant nid o ran polisi fel y cyfryw—ond mae angen i ni edrych ar lle y gallwn ni gryfhau polisi o hyd—mae'n fethiant o ran gweithredu a dilyn y canllawiau ar lawr gwlad gan yr asiantaethau dan sylw.

16:55

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch hefyd am eich ymateb cadarn chi i'r adroddiad. Mae'r adroddiad yn tanlinellu sut y methwyd plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel wrth fynychu eu hysgol, wrth ddysgu, wrth fwynhau gyda'u ffrindiau, wrth dyfu'n oedolion. Mae gweld yr ymadrodd, 'Roedd hwn yn gyfle a gollwyd' 50 o weithiau yn torri calon, yn siomi ac yn brawychu. Hoffwn danlinellu bod ein meddyliau ni i gyd gyda'r plant sydd wedi dioddef camdriniaeth mor ofnadwy, a chyda'u teuluoedd. Rŷn ni'n edmygu eu dewrder ac yn anfon nerth atyn nhw a'u cymuned, sydd wedi cael eu creithio mewn modd anfaddeuol. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o sicrhau bod yr adroddiad hwn wedi mynd at wraidd sut y caniatawyd y niwed cwbl annerbyniol hwn i ddigwydd, gan ddadlennu'r gwendidau systemig y mae angen mynd i'r afael â nhw heb oedi ac yn gwbl ddilyffethair, fel na fydd plant, yn unrhyw ran o Gymru, fyth eto yn cael eu niweidio yn y fath fodd.

I fi, un o'r pethau mwyaf annerbyniol yw na wrandawyd ac na roddwyd lle i lais y plentyn fel rhan ganolog o'r prosesau yr oedd i fod i'w cadw rhag niwed. Mae hi'n destun pryder a sioc na fu ymdrech o gwbl i holi'r plant am weithredoedd Foden dros gyfnod o bump i chwe blynedd. Roedd eu lleisiau nhw ar goll yn llwyr. Dyna oedd canfyddiad ymchwiliad Clywch ugain mlynedd yn ôl hefyd, a rhaid holi pam roedd y lleisiau yna'n parhau i fod ar goll. Rhaid holi pam fod dros hanner o argymhellion 'Clywch' hefyd yn yr adroddiad yma ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n feirniadaeth mor enbyd.

Gallwn ni byth gymryd yn ganiataol fod plentyn yn ddiogel. Mae diogelu yn fwy na dim ond amddiffyn rhag niwed, mae'n ymwneud â rhoi llais i blant. Mae'n golygu gwrando arnyn nhw, cymryd eu teimladau o ddifrif, ymddiried yn eu profiadau a gweld sefyllfa trwy lens eu safbwynt nhw.

Ond mae'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir drwyddi draw, ac yn benodol yn argymhelliad 1, nad yw'r hyn a ddysgwyd gan adroddiad 'Clywch' wedi ei wreiddio'n ddigonol, a'r hawl yna i gael llais wedi ei anwybyddu. Fe ddywedon ni 'byth eto' ar ôl Clywch, ac rŷn ni wedi dweud 'byth eto' heddiw—gormod o weithiau o'r blaen, a dyma ni unwaith eto.

Mae'r adolygiad yn dangos gwendidau sy'n effeithio ar ddiogelu ledled Cymru, nid yng Ngwynedd yn unig. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gwarantu i ni i gyd, ac yn enwedig i'r plant sydd wedi dioddef mor enbyd dan law Foden a'r system oedd i fod i'w diogelu rhag paedoffiliaid fel fe, y bydd yn sicrhau na fydd gwersi unwaith eto'n mynd heb eu dysgu, na fydd yna gyfleon eto yn cael eu colli? Ydych chi'n hyderus—yn gwbl hyderus—heddiw y gallwch chi ddweud bod 'byth eto' yn golygu byth eto?

O ran y gweithredu rŷch chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad i sicrhau newid, sut byddwch yn sicrhau bod y monitro a'r trosolwg sydd yn amlwg eu hangen yn effeithiol ac yn gwirio bod newid parhaus a pharhaol yn digwydd?

Mae'r adroddiad yn awgrymu yn argymhelliad 8 nad oes yna ddealltwriaeth ddigonol o dechnegau meithrin perthynas amhriodol. Rŷch chi wedi cydnabod heddiw fod angen gweithredu i sicrhau bod pob un yn effro ac yn medru adnabod y technegau yma drwy hyfforddiant proffesiynol a thrwy'r cwricwlwm. Ond sut wnewch chi sicrhau bod ein staff dysgu yn teimlo eu bod nhw wedi eu harfogi'n ddigonol i wneud hyn dwy'r cod addysg rhywioldeb a pherthynas? Pa adnoddau ychwanegol fydd ar gael, er enghraifft, i sicrhau cefnogaeth briodol i waith y cynghorydd RSE? A fydd yna gyllid newydd ar gael i bob awdurdod lleol, nid yn unig Gwynedd, ar gyfer y gwaith hanfodol hwn?

Mae'r adroddiad yn sôn am gamddealltwriaeth sylfaenol a phryderus hefyd o ran y system diogelu a threfniadau cam 5 o ran y trothwy ar gyfer ymyriad, addasrwydd ar gyfer gweithio gyda phlant, a beth sy'n dderbyniol o ran ymddygiad oedolion sydd mewn safle o rym ac ymddiriedaeth. Roedd Foden yn unigolyn grymus, dylanwadol. Mae'n syfrdanol gweld sut methwyd cymaint o arwyddion pryderus o ran ei ymddygiad, arwyddion ddylai fod wedi arwain at weithredu brys a chadarn. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod pryderon a rhybuddion am ffigyrau dylanwadol yn benodol yn cael eu hadnabod yn gynharach? A sut bydd y wers bod dim byd yn bwysicach na lles a diogelwch plant yn cael ei dysgu? Sut wnewch chi fesur bod hynny yn treiddio?

Gallwn hyfforddi llywodraethwyr, gallwn ymgrymuso ein plant a'n pobl ifanc, gallwn gryfhau canllawiau a gweithdrefnau, ond heb fod yna fodd i fesur llwyddiant hynny, heb fedru sicrhau bod newid mewn diwylliant o ran pawb sy'n rhan o'r broses, yn swyddogion, yn aelodau etholedig, yn staff dysgu—pawb ohonom sydd â dyletswydd i gadw plant yn ddiogel—mae'r ymadrodd 'byth eto' yn ddim ond geiriau gwag, a bydd y plant sy'n ddioddefwyr, sy'n oroeswyr, wedi eu bradychu unwaith eto.

Rŷch chi wedi amlinellu eich bod yn gweithredu ar holl argymhellion yr adroddiad ar unwaith, ond pa gamau pendant sy'n mynd i gael eu blaenoriaethu o ran hyn? Diolch.

17:05

Diolch yn fawr iawn, Sioned. Rwy'n cytuno â chi, cafodd y plant hynny gam. Mae'r 50 o gyfleoedd a gollwyd yn siarad drostyn nhw eu hunain, mewn gwirionedd. Fel chithau, un o'r pethau mwyaf syfrdanol i mi oedd pa mor absennol oedd llais y plentyn, ac roeddwn i'n bersonol yn gweld hynny'n arbennig o syfrdanol mewn gwlad fel Cymru lle rydyn ni wedi rhoi hawliau plant wrth wraidd ein proses o lunio polisi, ac roedd hi'n eithaf amlwg yn yr adolygiad nad oedd lleisiau'r plant hynny prin yn cael eu clywed o gwbl. A phe bai ymgais wedi bod i siarad â'r plant hynny yn gynharach, byddai hyn wedi dod i'r amlwg yn gynharach. Felly, mae yna faterion difrifol y mae angen ymdrin â nhw yn y fan yno. Maen nhw'n faterion, yn amlwg, i ni eu hystyried fel Llywodraeth, ond mae angen i bob asiantaeth nawr edrych eto ar sut maen nhw'n gwneud yn siŵr bod llais y plentyn yn ganolog i'r hyn y maen nhw'n ei wneud. Felly dylai hi fod beth bynnag. Mae wedi bod yno ers i ni basio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan roi llais a rheolaeth i blant a phobl ifanc. Ond mae hyn wedi methu'n wael iawn yn y sefyllfa hon.

Felly, rydyn ni'n diweddaru ein canllawiau diogelu statudol ar gyfer addysg, i wneud yn siŵr bod llais y plentyn yn ganolog i drefniadau diogelu. Ac rydyn ni'n gofyn i bob sefydliad adolygu ei bolisïau i wneud yn siŵr eu bod wir yn adlewyrchu llais y plentyn a'r dysgu o'r adolygiad ymarfer plant, ac mae'n rhaid i hynny gael ei weld yn ymarferol, nid dim ond ar bapur. Rydyn ni'n gofyn i bob bwrdd diogelu rhanbarthol sicrhau bod ganddo oruchwyliaeth o'r holl gamau gweithredu sy'n cael eu cymryd i ymwreiddio'r dysgu o'r adolygiad hwn, ac rydyn ni'n gofyn iddyn nhw am ddiweddariad ysgrifenedig ar y gweithgarwch yn y maes hwnnw erbyn mis Mawrth 2026. Ac rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw roi tystiolaeth o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd.

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei glywed, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad oes unrhyw sefydliad yn meddwl nad oes rhaid iddyn nhw wneud hynny. Yn amlwg, mae Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn, yn unol â'u rhaglenni arolygu, hefyd yn adrodd ar lais y plentyn. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod gydag AGC a chydag Estyn, yr ydym wedi gofyn iddo gynnal arolygiad diogelu yng Nghyngor Gwynedd. Mae hynny'n digwydd yr wythnos nesaf. Bydd y Gweinidog a minnau yn cwrdd ag AGC ac Estyn i gael eu canfyddiadau ar hynny.

Mae yna ffyrdd eisoes o wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gallu gwneud eu barn yn hysbys. Yn amlwg, mae gennym ein rheoliadau cynghorau ysgol ond, yn amlwg, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein gweithdrefnau diogelu yn cryfhau'r disgwyliad hwnnw y bydd lleisiau plant yn ganolog i hynny.  I mi hefyd, rwy'n credu, un o'r materion allweddol yma oedd y diffyg chwilfrydedd proffesiynol. Mae hynny, mor aml, on'd yw e, yn thema mewn achosion lle mae plant wedi cael cam. Ac un o'r pethau roeddwn i'n ei hoffi'n fawr yn yr adroddiad oedd yr her i bob un ohonon ni feddwl am yr hyn na allwn ni ei ddychmygu pan ddaw i blant, ond yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn oedd eu bod wedi rhoi mantais yr amheuaeth i gyd i gamdriniwr cyson.

Dim ond i'ch sicrhau chi y bydd monitro yn beth allweddol rydyn ni'n ystyried bwrw ymlaen ag ef. Mae'n rhaid iddo ddigwydd, oherwydd mae'r canfyddiadau'n nodi nad yw polisïau wedi cael eu gweithredu ar lawr gwlad. Y ffordd rydym yn ei fonitro fydd yn sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto.

Fe wnaethoch chi godi'r pwyntiau am addysg a hyfforddiant. Mae dau fater yn y fan yma. Mae sut rydyn ni'n addysgu plant a phobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn fwy diogel rhag y mathau hyn o niwed. Ac fel rhan o'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru, mae hyrwyddo perthnasoedd iach a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'r hyn rydyn ni'n ei olygu wrth berthnasoedd afiach yn rhan allweddol o'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ond rydyn ni'n gwybod bod hynny'n beth anodd a heriol i ysgolion ymdrin ag ef. Dyna pam, fel rhan o'n grantiau cwricwlwm, fe gyhoeddais i £4.2 miliwn ar gyfer Prosiect Addysg Cwtsh. Maen nhw'n mynd i fod yn gweithio gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru i wneud yn siŵr bod cynnig 'unwaith i Gymru' o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb. Felly, bydd gan bob awdurdod lleol gynghorydd addysg cydberthynas a rhywioldeb a byddwn ni'n gweithio gyda nhw i wneud yn siŵr bod meithrin perthnasoedd amhriodol a'r ffordd y mae pedoffiliaid yn gweithredu yn cael eu cynnwys yn hynny.

Ond mae hefyd yn ymwneud â hyfforddi'r gweithlu. Mae gennym ni Dysgu ar waith nawr, felly nawr bod yr adroddiad wedi'i gyhoeddi, byddwn ni'n trafod y materion hyfforddi gyda nhw. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, mae angen i bawb mewn ysgol gael yr hyfforddiant hwnnw i ddeall sut mae pobl sy'n meithrin perthnasoedd amhriodol â phlant ac yn eu cam-drin yn gweithredu. Ond hefyd, yn y strategaeth y mae Dawn wedi ymgynghori arni—y strategaeth 10 mlynedd i atal cam-drin plant yn rhywiol—mae honno'n cynnwys ymrwymiad hefyd, fel un o'r blaenoriaethau cynnar, i roi fframwaith hyfforddi ar waith fel bod pawb yn gallu cael eu huwchsgilio yn y maes hwn. Ac mae gan y strategaeth honno gynlluniau cyflawni tair blynedd hefyd, on'd oes, a fydd yn sicrhau bod modd ymgymryd â'r monitro hwnnw. Ond rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn hollol hanfodol ein bod ni'n monitro hyn nes nad oes modd ei fonitro mwyach, mewn gwirionedd; fel arall, ni fyddwn ni'n gweld y newid y mae angen i ni ei weld.

17:10

Wrth gwrs, rydyn ni'n meddwl am y dioddefwyr. Prin bod angen dweud hynny. Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am arwain o'r blaen drwy gadeirio'r grŵp sicrwydd gweinidogol, ond rwyf eisiau myfyrio ar ddiffyg cof hanesyddol Heddlu Gogledd Cymru ac awdurdodau lleol gogledd Cymru. Tra bod hyn i gyd yn digwydd, fe gawson ni adroddiad Waterhouse, fe gawson ni adroddiad Ymgyrch Pallial, fe gawson ni euogfarn John Allen a gafodd ei garcharu am oes. Roedd yr holl bethau hyn yn digwydd ar y pryd, ac rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall pam nad oedd awdurdodau lleol yn fwy effro i'r ffaith y dylai ei ymddygiad, yn amlwg, fod wedi gofyn i ni fod yn amheus.

'Ni ystyriodd yr asiantaethau addasrwydd...ymddygiad Foden yn cael cyswllt a rhyngweithio mor agos'

â'r plentyn hwn. Mae hyn yn anhygoel. Ac mae hyn yn 2018: am yr eildro yn y mis hwnnw,

'ni roddwyd gwybod i Gadeirydd y Llywodraethwyr, er mai hwn oedd yr ail atgyfeiriad'.

Os nad ydyn ni i gyd yn cadw at y fframwaith rydyn ni'n ei osod ar gyfer amddiffyn ein plant, ac os nad ydyn ni'n myfyrio ar yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill yr ardal, mae'n wirioneddol ddinistriol.

Yn sicr, rwy'n croesawu'r adolygiad o gyrff llywodraethu, oherwydd mae hyn yn hanfodol, oherwydd mae gan benaethiaid lawer iawn o bŵer yn hyn. Dyna pam ei fod mor ddinistriol nad oedd cadeirydd y llywodraethwyr wedi cael gwybod. Dydyn ni ddim yn sôn am ysgol fach arbennig yma, rydyn ni'n sôn am yr ysgol uwchradd fwyaf ym Mangor gyfan, a oedd yn amlwg yn denu pobl ifanc o awdurdodau lleol eraill hefyd. Felly, rwy'n credu bod gwir angen i ni fyfyrio ar hyn a gofyn i Heddlu Gogledd Cymru pam nad oedd y golau ymlaen, a sut ar y ddaear na allen nhw fod yn dysgu o hyn a sicrhau mai nhw oedd yr awdurdod gorau posibl ar gyfer diogelu, yn hytrach na pheidio â dysgu o'r gorffennol. Mae gennym ni gymaint i'w ddysgu o hyn. Dydw i ddim wedi gallu darllen yr adroddiad i gyd, ond rwy'n wirioneddol bryderus ein bod ni'n gweld hanes yn cael ei ailadrodd yn y ffordd hon.

Diolch, Jenny. Rwy'n credu bod y rheini yn bwyntiau teg, mewn gwirionedd, am sut nad ydyn ni'n dysgu o'r profiadau hyn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr mai dyma'r tro olaf i rywun sefyll yma yn dweud hynny. Roedd cymaint o faneri coch, roedd hi'n hollol anhygoel na chafodd ei ddal yn gynt. Ac fe wnes i ddim dweud mewn ymateb i Sioned, a gododd y pwynt am ei addasrwydd i weithio gyda phlant, hyd yn oed os oedden nhw'n teimlo nad oedd ef wedi cyrraedd y trothwy ar sail amddiffyn plant, roedd yn amlwg yn bodloni'r meini prawf o ran peidio â bod â'r ffiniau priodol ac o ran yr addasrwydd i weithio gyda phlant, ond ni wnaeth hynny arwain at unrhyw weithredu, sy'n hollol warthus.

Rwy'n credu bod yr adolygiad llywodraethu yn bwysig iawn. Mae gennym ni lawer iawn o lywodraethwyr rhagorol sy'n gwneud gwaith da iawn ar sail wirfoddol, ond mae'r byd wedi newid llawer. Mae gofyn iddyn nhw wneud pethau cymhleth ac mae angen i ni wneud yn siŵr nawr bod ganddon ni system sy'n llywodraethu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Pan gewch chi gyfle i ddarllen yr adroddiad yn drylwyr, fe welwch chi nid yn unig na chafodd cadeirydd y llywodraethwyr wybod am bethau, ond nodwyd ei fod wedi cael llythyrau wedi'u drafftio gan Neil Foden, a gafodd eu hanfon allan wedyn yn ei enw ei hun. Nawr, nid dyna sut mae'r berthynas rhwng cadeirydd llywodraethwyr a phennaeth i fod i weithredu.

O ran yr heddlu, rwy'n amlwg wedi bod yn bryderus iawn am yr hyn rydw i wedi'i ddarllen. Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi ymddiheuro am eu rôl yn hyn. Maen nhw wedi dweud y bydden nhw'n croesawu ac yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau rhoi mwy o wybodaeth, ac yn wir unrhyw un sydd eisiau rhoi gwybod am bryderon am unrhyw blentyn. Ond, dim ond i roi gwybod i chi, oherwydd bod y cyfeiriadau at yr hyn a ddigwyddodd o ran atal bechgyn yn gorfforol, bechgyn eithaf ifanc, yr oedd gan bob un ohonyn nhw anghenion dysgu ychwanegol, hefyd yn syfrdanol iawn, rydw i'n mynd i ysgrifennu at y Fonesig Diana Johnson, sef y Gweinidog dros blismona ac atal troseddu, i ofyn am ei sicrwydd bod penderfyniadau ar ymchwiliadau ac erlyniadau o ran hyn yn gadarn ac y gallwn ni fod yn hyderus bod y rheini sy'n cyflawni troseddau ofnadwy o'r fath yn cael eu cosbi'n llawn am y troseddau y maen nhw'n eu cyflawni.

17:15

Diolch am y cyfle i gyfrannu y prynhawn yma fel yr Aelod lleol dros y ddwy ysgol sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad yma: Ysgol Friars ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Dwi'n cyfrannu hefyd fel cyn-ddisgybl o Ysgol Friars. Mae heddiw yn ddiwrnod tywyll iawn efo cyhoeddi'r adroddiad. Dyma i ni gatalog erchyll o fethiannau sy'n peri gofid mawr—dim llai na 52 o gyfleon wedi cael eu colli. Mae'r adroddiad yn ysgytwol, yn peri dychryn a sioc o'i ddarllen o, ac mae ein meddyliau ni i gyd efo'r plant sydd wedi dioddef camdriniaeth erchyll, yn ferched ac yn fechgyn, fel rydyn ni'n dod i ddeall mwy a mwy heddiw o ddarllen yr adroddiad. Maen nhw wedi bod yn hynod o ddewr yn rhannu eu profiadau, ac mae pawb ohonon ni—pawb ohonon ni—yn ymddiheuro o waelod calon i chi, i'r plant yna. Roedd eich lleisiau chi ar goll a chawsoch chi eich gadael i lawr.

Dwi'n mynd i ofyn y cwestiynau hollol amlwg. Rydych chi wedi ateb rhai ohonyn nhw, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n werth ailadrodd rhai ohonyn nhw. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau—sut ydyn ni'n mynd i sicrhau—fod diogelu plant yn mynd i gael ei weld drwy lens y plentyn o hyn ymlaen? Mae'r adroddiad yn dangos hwnna'n glir: mae lens y plentyn wedi bod ar goll yn yr achos yma. A sut ydych chi am sicrhau—sut ydyn ni am sicrhau—y bydd y cwestiwn, 'Beth os ydw i'n iawn?' ynglŷn ag unrhyw amheuon am ddiogelwch plant, sut mae'r cwestiwn yna, yn dod yn normal, yn hytrach na'r cwestiwn sydd efallai'n tueddu i gael ei ofyn, ac yn sicr oedd yn cael ei ofyn yn yr achos yma, 'Beth os ydw i'n anghywir?' Hynny yw bod camau pwrpasol yn digwydd yn sgil unrhyw amheuon, a bod llais y plentyn yn dod yn gwbl ganolog yn y broses yna.

Rydych chi wedi sôn am y bwrdd sicrwydd rydych chi wedi'i sefydlu. Buaswn i'n licio gwybod tipyn bach mwy am hwnnw. Beth yn union ydy rôl hwnnw? Beth ydy'r amserlen mae hwnna'n gweithio iddi hi? A fydd yna argymhellion yn deillio o'r gwaith penodol yna? Ugain mlynedd ers cyhoeddi argymhellion 'Clywch', mae'n rhaid sicrhau bod yr holl argymhellion yn adroddiad Jan Pickles yn cael eu gweithredu ar frys. Yn anffodus, mae yna baedoffeils cyfrwys allan yna, ac mi fydd yna ddynion pwerus eraill fath â Neil Foden yn grŵmio ac yn normaleiddio camdriniaeth, ac ein gwaith ni i gyd—ni i gyd—ydy rhoi stop ar y gamdriniaeth cyn gynted ag mae hi'n cael ei amau, a hynny drwy roi prosesau cwbl gadarn mewn lle. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch yn fawr iawn, Siân. Allwn i ddim cytuno mwy â chi; mae'n gatalog ofnadwy o gyfleoedd a gollwyd, ac, fel y dywedais i wrth Sioned, mae'r diffyg ymagwedd sy'n canolbwyntio ar blant at hyn yn rhywbeth sydd wedi diffinio'r methiannau hyn, yn fy marn i. Rydyn ni'n mynd i gymryd—rydyn ni yn cymryd—camau. Rydyn ni'n adolygu ein canllawiau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel', sef y canllawiau sy'n weithredol mewn ysgolion. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod y dysgu o'r adolygiad ymarfer plant hwn yn cael ei ystyried yn llawn yn hynny, a bydd hynny'n cynnwys ffocws ar sut y gallwn ni sicrhau bod llais plant yn llawer mwy canolog i bopeth fel rhan o'r adolygiad o weithdrefnau diogelu Cymru sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd hynny hefyd yn mynd i'r afael â materion llais plant. Ac nid dim ond y bwrdd diogelu yr ydym yn mynd i ofyn iddo wneud hynny; rydyn ni hefyd yn mynd i ofyn i AGC fynd i mewn wedyn a chael golwg i weld a yw pob un ohonyn nhw wedi gwneud hynny, ac adrodd yn ôl i ni.

O ran y bwrdd sicrwydd gyda Chyngor Gwynedd, fel y dywedais i, fi, Dawn a Jayne fydd hwnnw fel Gweinidogion, yn ogystal ag uwch aelod cabinet yng Nghyngor Gwynedd. Bydd cyfarfod cyntaf y bwrdd hwnnw yn cael ei gynnal ar 18 Tachwedd. Mae hwnnw'n mynd i gyfarfod bob chwarter i roi'r sicrwydd angenrheidiol i ni fod yr argymhellion ar gyfer yr ysgol a'r awdurdod lleol yn cael eu gweithredu. Rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn eu bod nhw wedi nodi eu hymateb eu hunain i'r adroddiad hwn, ac mae'r bwrdd ymateb yn cael ei gadeirio gan yr Athro Sally Holland, ac rwy'n croesawu ei chyfranogiad yn hynny, ond bydd y bwrdd sicrwydd wedyn yn gyfle i ni hefyd graffu ymhellach ar y gwaith sy'n cael ei wneud drwy hynny.

Rwy'n credu bod hynny'n mynd at wraidd y mater, on'd yw e? Mae'n ymwneud â meddwl am yr hyn na allwn ni ei ddychmygu, a meddwl, 'Beth os ydw i'n iawn?' yn hytrach na, 'Beth os ydw i'n anghywir?', a dyna'n amlwg beth ddigwyddodd o'r adroddiad hwn. Ar gymaint o achlysuron, fe wnaethon nhw roi mantais yr amheuaeth iddo pan ddylen nhw fod wedi bod yn rhoi plant yn gyntaf. 

Mae dewrder y plant wrth ddod â chyfiawnder wedi taflu goleuni ar y methiannau dwfn a phoenus hyn. Mae'r rhain yn fethiannau a barodd am flynyddoedd ar draws asiantaethau ac o fewn systemau a oedd i fod i amddiffyn y plant hynny. Rydyn ni wedi clywed llawer o faterion yn cael eu codi, ond mae dau yr oeddwn i eisiau sôn amdanyn nhw: methiant gwaith amlasiantaethol, a'n bod ni wedi colli lleisiau'r plant.

Ers i mi ddod yn Aelod o'r Senedd, rwy'n teimlo bod hyn yn adleisio achosion eraill yr ydym wedi siarad amdanyn nhw yma yn y Siambr—marwolaethau trasig Kaylea Titford, Logan Mwangi a Lola James—eto lle y gwnaeth gwaith amlasiantaethol a'r ffaith na wrandawyd ar blant olygu bod y plant hynny wedi marw. Rwyf wedi galw yn y Siambr o'r blaen am adolygiad cenedlaethol annibynnol o ddiogelu plant, oherwydd dydy'r rhain ddim yn broblemau lleol, dydyn nhw ddim yn broblemau gwleidyddol, maen nhw'n rhai systemig. Rydyn ni'n wlad fach, ond dyma ni gyda methiant mawr arall o ran systemau a pheidio â gwrando ar blant.

Felly, fy nghwestiwn i chi, Aelod Cabinet, os gallaf, yw tynnu i mewn—. Os oedden ni'n teimlo ei bod yn bwysig gwrando ar y plant hynny, yna, yn yr un modd, ym mhopeth rydych chi'n ei wneud, yn cario ymlaen, rhaid i ni wrando ar leisiau'r plant hynny fel goroeswyr. Felly, a gaf i ofyn i chi, os gwelwch yn dda: sut ydych chi'n bwriadu cynnwys lleisiau goroeswyr, ac, yn wir, goroeswyr y cam-drin hwn a cham-drin arall eu hunain, yn eich grŵp, y grŵp sicrwydd gweinidogol, ac yn yr adolygiad cryfhau llywodraethu diogelu? Diolch yn fawr iawn.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Jane. Rydych chi'n hollol gywir bod hyn yn fethiant sawl asiantaeth i weithredu polisïau, a dyna pam mai blaenoriaeth gyntaf yr adolygiad cryfhau llywodraethu diogelu fydd edrych ar y rhyngweithio amlasiantaethol hwnnw ym maes diogelu. Bydd yn cynnwys y rolau a chwaraeir gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, y bwrdd diogelu rhanbarthol a'u holl bartneriaid ac arolygiaethau, a bydd y cam cyntaf yn cymryd yr adolygiad cyffredinol hwnnw o lywodraethu. Fel y dywedais, bydd addysg yn rhan o hynny, ond yna byddwn ni'n symud ymlaen i gynnal adolygiad â ffocws.

Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am waith amlasiantaethol a'r methiannau o ran hynny. Rwy'n credu os edrychwch chi ar yr adroddiad ar yr hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman, roedd y methiannau yno yn fethiannau systemig gan asiantaethau nad oeddent yn gweithio gyda'i gilydd ac mae'n rhaid i ni ddysgu'r gwersi o hynny, oherwydd mae'n rhywbeth sy'n codi yn llawer rhy aml. Felly, mae ein hadolygiad yn mynd i gael ffocws cychwynnol cryf iawn ar yr ymagwedd amlasiantaethol at y pethau hyn. Mae'n heriol, yn amlwg, i gynnwys goroeswyr, o ran gwneud yn siŵr nad ydym yn ail-drawmateiddio pobl, ond fe wna' i ofyn i swyddogion edrych ar sut y gallwn ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny fel rhan o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, ac ni fyddai'r adroddiad hwn yn gallu taflu cymaint o oleuni ar yr hyn sydd wedi digwydd pe na baem wedi cael lleisiau'r goroeswyr yn rhan lawn o'r adolygiad hwn, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am yr hyn maen nhw wedi'i wneud.

Mae'n adroddiad hynod ddigalon sydd gennym o'n blaenau y prynhawn yma. Fe wnaethoch gyfeirio, mewn ymateb cynharach i Aelod, fod argymhellion adroddiad 'Clywch' wedi'u gweithredu. Yn anffodus, un o'r argymhellion allweddol hynny oedd goruchwyliaeth genedlaethol o adolygiadau diogelu. Yn 2018, tynnodd Llywodraeth Cymru ar y pryd yr oruchwyliaeth genedlaethol honno yn ôl. Sylw arall sydd wedi dod allan o'r adroddiad hwn yw bod y pennaeth dan sylw yn ffigur pwerus. Mae hon yn thema ailadroddus pan fyddwn ni'n gwrando ac yn darllen y mathau hyn o adroddiadau. Mae Cymru, fel y mae Aelodau eraill wedi nodi, yn wlad fach a dyna lle mae goruchwyliaeth genedlaethol a chymorth cenedlaethol yn helpu i chwalu'r celloedd hynny o reolaeth y mae unigolion fel y pennaeth hwn wedi'u creu. Felly, ydych chi'n credu mai camgymeriad oedd tynnu'r oruchwyliaeth genedlaethol honno o'r adolygiadau diogelu lleol yn ôl yn 2018? Ac os ydych, a wnewch chi ymrwymo i adfer yr argymhelliad allweddol hwnnw o adroddiad 'Clywch' a chyflwyno goruchwyliaeth genedlaethol o adroddiadau o'r fath yn y dyfodol?

Diolch, Andrew. Rwy'n credu mai'r hyn rydych chi'n sôn amdano yw gwasanaeth ymchwilio annibynnol Llywodraeth Cymru. Rwyf am fod yn gwbl glir gydag Aelodau nad yw goruchwyliaeth genedlaethol o ddiogelu wedi'i thynnu'n ôl. Mae hynny'n parhau, fel y mae wedi bob amser. Hefyd, mae yna ofyniad o hyd ar gyrff llywodraethu i benodi ymchwilydd annibynnol. Yr hyn a newidiodd yn 2018 yw bod Llywodraeth Cymru yn ariannu cwmni i ddarparu ymchwilwyr annibynnol i gyrff llywodraethu. Fel yr wyf yn ei ddeall—ac, yn amlwg, roedd cyn fy amser i—doedd hynny ddim yn cael ei ddefnyddio llawer gan gyrff llywodraethu, ac roedd rhai cwynion wedi'u gwneud hefyd am y gwasanaeth. Felly, cafodd y gwasanaeth ei hun ei ddileu, ond fe wnaethom ei gwneud hi'n hollol glir bod angen iddyn nhw gael ymchwilwyr annibynnol o hyd. Felly, nid yw'r gofyniad ar awdurdodau lleol i gael hynny wedi newid o gwbl, ac nid yw'r oruchwyliaeth genedlaethol o ddiogelu chwaith. Rydyn ni wedi gofyn i'r BBC gywiro'r stori honno.

17:30

Dwi am ddechrau drwy gydnabod y boen a'r dioddefaint mae plant wedi gorfod mynd drwyddo dan law'r paedoffil angenfilaidd yma oedd yn brifathro yng Ngwynedd, ac, wrth gwrs, diolch am ddewrder y rhai hynny gododd eu llais a mynnu cael cyfiawnder. Mae'n amlwg bod llawer gormod o gyfleon wedi cael eu colli i atal yr ysglyfaeth yma rhag parhau i weithredu, ac mi ddylai fod yn destun cywilydd inni oll fod achos yr ysglyfaeth yma'n atseinio gymaint gyda'r achosion arweiniodd at adroddiad 'Clywch' 20 mlynedd yn ôl. Ond mae yna ddwy elfen benodol dwi am eu huwcholeuo, os gwelwch yn dda, sydd wedi cael eu nodi yma'n barod, ond tybed a oes posib ymhelaethu?

Y cyntaf ydy llais y plentyn. Mae'n amlwg nad ydy llais y plentyn wedi cael ei wrando arno ac nad ydy'r plant wedi cael digon o sylw. Mae'n rhan o'n diwylliant gwleidyddol ni fan hyn i sôn am lais y plentyn. Mae'n rhywbeth rydyn ni'n sôn amdano yn y cylchoedd yma, ond dydy o ddim wedi treiddio i ddiwylliant gweddill Cymru, heb sôn am ddiwylliant addysgiadol Cymru. Felly, pa gamau ydyn ni am eu cymryd, ac rydych chi am arwain arnyn nhw yn hyn o beth, er mwyn sicrhau bod y diwylliant yna o wrando ar lais y plentyn am newid a chael ei gymryd o ddifrif?

A'r ail un ydy hyfforddiant. Unwaith eto, mae'n amlwg bod y drefn hyfforddiant bresennol yn gwbl annigonol, boed hynna'n hyfforddiant i athrawon, i lywodraethwyr, i swyddogion y cyngor ac i bawb arall sydd yn ymhél â hyn, yn hyfforddiant swyddogol neu'n hyfforddiant ar adnabod pryd mae rhywun yn cael ei grŵmio. Beth ydyn ni am ei weld yn newid er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yna yn gwella ac yn effeithiol, a bod pawb yn cymryd rhan yn y broses honno—pawb sydd yn rhan o edrych ar ôl plant? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Mabon. Yn amlwg, mae nifer o Aelodau wedi codi pryderon am lais y plentyn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pryderon sydd wedi'u codi. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei drafod ymhellach fel Llywodraeth. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein hymrwymiad i hawliau plant yn realiti ar lawr gwlad i ni ac i'r holl asiantaethau.

Fel y dywedais i, byddwn ni'n cymryd camau i gryfhau'r canllawiau cadw dysgwyr yn ddiogel, yn ogystal â'r gweithdrefnau diogelu. Rydyn ni hefyd yn gofyn i fyrddau diogelu rhanbarthol ddangos sut y byddan nhw'n ystyried llais y plentyn, a byddwn ni'n gofyn i AGC adrodd yn ôl i ni ar sut maen nhw wedi gwneud hynny, oherwydd mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau i fonitro hyn.

Mae hyfforddiant yn hanfodol, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd hyfforddiant ar gael i bawb mewn ysgolion. Byddwn ni, nawr bod yr adroddiad wedi cael ei gyhoeddi, yn cael y drafodaeth honno gyda Dysgu. Mae hynny'n golygu pawb mewn ysgol, nid dim ond athrawon neu gynorthwywyr addysgu, ond mae'n ymwneud â gofalwyr a gweinyddwyr, fel bod gan bawb yr ymwybyddiaeth honno, ond hefyd drwy ein haddysg cydberthynas a rhywioldeb, i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc y ddealltwriaeth honno o'r hyn sy'n ymddygiad amhriodol afiach a'u bod yn gallu cadw eu hunain yn ddiogel. 

Wrth gwrs, mae pawb yma yn meddwl am bawb a oedd yn gysylltiedig a geisiodd siarad allan a stopio'r cam-drin hwn, ac na wnaeth pobl wrando arnyn nhw. Ac nid dim ond y plant fydd hynny; bydd teuluoedd, aelodau staff hefyd, i gyd wedi cael eu trawmateiddio gan yr hyn y gallen nhw ei ystyried fel eu methiant eu hunain, ac rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â hynny.

Rydyn ni'n gwybod ei fod yn cuddio mewn golwg plaen ac rydyn ni'n gwybod mai dyna beth mae pobl yn ei wneud, felly rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n grymuso unigolion i gredu ynddyn nhw eu hunain a grymuso'r unigolion hynny, pan maen nhw'n amau rhywbeth, i ddod ymlaen ac i sicrhau bod pobl yn gwrando arnyn nhw hefyd.

Roedd adroddiad Waterhouse—ac roeddwn i'n gynghorydd pan gafodd hwnnw ei gyhoeddi—yn gwneud argymhellion i gynghorwyr ac yn rhoi rhestr o gwestiynau i gynghorwyr ofyn i'w hawdurdodau lleol am arferion diogelu plant. Roedd hynny eto, wrth gwrs, yn adolygiad amser maith yn ôl. Byddwn i'n gofyn yn barchus i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n credu y dylai'r un peth ddigwydd, y dylid rhoi cwestiynau i awdurdodau lleol y disgwylir i'w cynghorwyr ofyn iddyn nhw am eu systemau o ran amddiffyn eu plant. Oherwydd rydyn ni i gyd yn rhieni corfforaethol ar ddiwedd y dydd. Mae pawb sy'n cael ei ethol ar ba bynnag lefel yn rhiant corfforaethol, ac mae'n ddyletswydd ar bawb yn y gofod hwnnw i holi, i chwilio am unrhyw beth y gallan nhw ei wneud i sicrhau bod hynny'n cael ei gymryd o ddifrif.

Rwy'n credu y byddai'n werth edrych ar a yw cynghorau, mewn gwirionedd, yn craffu'n briodol ar aelodau cabinet sy'n gyfrifol am addysg a phlant. Fe ddechreuais i wneud hynny flwyddyn yn ôl. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych, wnes i ddim mynd yn bell iawn, oherwydd roedd y cynghorau yn ei drin fel cais rhyddid gwybodaeth, ar unwaith. Ond os nad yw cynghorwyr yn gofyn y cwestiynau trwy graffu ar aelodau'r cabinet yn y cyngor am ddiogelwch plant mewn addysg, yna does dim syndod ein bod ni'n gweld methiannau fel hyn.

Ond, unwaith eto, rwyf am gofnodi fy niolch i'r holl bobl hynny a wrandawodd yn y diwedd—dyna'r cam cyntaf—a'r rhai a ofynnodd i bobl wrando arnyn nhw.

17:35

Diolch, Joyce. Rwy'n credu bod yr hyn rydych chi wedi'i ddweud yn ymwneud â chwythu'r chwiban hefyd, a phobl yn teimlo'n gyfforddus ynglŷn â chwythu'r chwiban. Mae'r adolygiad yn glir nad oedd staff yn teimlo eu bod yn gallu chwythu'r chwiban, na hyd yn oed yn gwybod sut i fynd ati i chwythu'r chwiban pan oedden nhw'n nodi ymddygiadau a oedd yn achosi pryder iddyn nhw. Felly, rydyn ni'n gofyn i fyrddau diogelu rhanbarthol hefyd, i geisio sicrwydd ganddyn nhw fod polisïau chwythu'r chwiban perthnasol ar waith, ac rydyn ni'n gofyn am ddiweddariad ysgrifenedig ar hynny, gyda thystiolaeth ategol, erbyn 2 Mawrth 2026.

Fe wnaethoch chi sôn am y teuluoedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofnodi pa mor drawmatig y bydd hyn i gyd wedi bod i'r teuluoedd, ac nid dim ond teuluoedd y merched a gafodd eu cam-drin yn rhywiol. Roedd yna fechgyn a oedd yn cael eu hatal yn gorfforol yn y ffordd fwyaf amhriodol ac ofnadwy—bechgyn ifanc, yr oedd pob un ohonyn nhw'n blant ag anghenion dysgu ychwanegol, sy'n hollol waradwyddus. Fe wnaeth rhieni gwyno, ond yna ni ddilynwyd y polisi cwynion chwaith yn y broses honno. Byddwn ni'n cyhoeddi polisi cwynion sydd wedi'i adolygu, ei ddiweddaru a'i gryfhau yn fuan, yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu i fynd i'r afael â hynny.

Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig am gynghorwyr. Hoffwn eich sicrhau bod y Gweinidog a minnau yn ysgrifennu at yr holl arweinwyr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am ganfyddiadau'r adolygiad, i dynnu eu sylw at yr argymhellion penodol y credwn y dylen nhw ganolbwyntio arnyn nhw, a byddwn ni'n gofyn am sicrwydd ganddyn nhw. Rwy'n credu mai'r neges yma, mewn gwirionedd, yw bod hyn yn fusnes i bawb, on'd yw e? Mae'n rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb am ddiogelu plant a meddwl am yr hyn na allwn ni ei ddychmygu pan fydd gennym ni unrhyw bryderon.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n adroddiad dirdynnol iawn. Fe ges i fy synnu, a bod yn onest, gan y cyfleoedd a gollwyd a restrwyd, yr oedd hi'n ymddangos bod llawer ohonyn nhw'n gyfleoedd y dylid bod wedi achub arnyn nhw er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, ond a gollwyd nid yn unig gan yr awdurdod lleol—sydd, wrth gwrs, yn ddealladwy, wedi bod yn ffocws sylwadau llawer o bobl—ond hyd yn oed y gwasanaeth iechyd, swyddog cyswllt yr heddlu yn yr ysgol, ac, wrth gwrs, y staff addysgu hynny a ddylai fod wedi gallu nodi'r pethau hyn oedd yn digwydd o dan eu trwynau bob dydd ac a oedd, yn wir, yn ei drafod, ond doedden nhw ddim yn ei godi mewn capasiti mwy proffesiynol.

Cwpl o gwestiynau sydd gen i, os caf i, oherwydd mae llawer eisoes wedi'u gofyn. Roedd yn ymddangos i mi fod gan yr awdurdod lleol fwy o obsesiwn â'r niwed y gallai polisi cinio ysgol ei wneud i enw da nag yr oedden nhw am y niwed y gallai ymchwilio i'r hyn a allai fod wedi bod yn sgandal cam-drin plant ac yn sgandal bedoffilia ei wneud i enw da. Mae hynny, i mi, yn hollol syfrdanol, ei bod hi'n ymddangos bod mwy o sylw wedi cael ei roi i hynny na'r sgandal hon o gam-drin plant a oedd yn digwydd gyda'r merched ifanc hyn, ac, yn wir, y bechgyn ifanc rydych chi wedi sôn amdanyn nhw a oedd yn cael eu hatal yn gorfforol. Pa synnwyr o gymesuredd sydd gan bobl pan fyddan nhw'n canolbwyntio ar y pethau anghywir hynny? Mae'n syndod i mi eu bod yn ymddangos eu bod nhw'n canolbwyntio ar hynny, yn hytrach na'r gamdriniaeth. Ac roedd pobl yn amlwg, erbyn hynny, wedi bod yn chwythu'r chwiban am y pryderon oedd ganddyn nhw.

Yr ail beth rydw i eisiau ei ofyn yw, mae'n fy synnu hefyd nad oes unrhyw bŵer i orfodi athrawon unigol i fynychu a chymryd rhan mewn cyfweliadau mewn perthynas â'r mathau hyn o adolygiadau. Mae'n cael ei nodi yn yr adroddiad—a dydw i ddim wedi gallu ei ddarllen na'i astudio'n fanwl—ond mae'n cael ei nodi yn yr adroddiad bod ceisiadau dro ar ôl tro i'r ysgol ddarparu cronoleg o ddigwyddiadau, ac i ddata a chofnodion fod ar gael i'r bobl oedd yn cynnal yr adolygiad, ac ni chawson nhw eu darparu. A bod rhai o'r staff yr oedden nhw eisiau siarad â nhw yn llai na chydweithredol, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, pan edrychwch chi ar yr adroddiad. Mae hynny'n warthus. Dylen nhw gael eu gorfodi i gymryd rhan yn yr adolygiadau hyn, fel bod pobl yn gallu canfod y gwir am yr hyn sydd wedi digwydd, ei ddatgelu a'i ddwyn i olau dydd. Felly, pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd? Nid yw'n argymhelliad yn yr adroddiad, ond rwy'n credu bod angen ei ystyried fel rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, yn ychwanegol at yr argymhellion hynny, er mwyn gwella'r sefyllfa.

Y trydydd peth rydw i eisiau ei ofyn yw am y GIG. Mae'r ffaith bod pennaeth yn troi i fyny i apwyntiad gynaecoleg gyda phlentyn yn gwbl amhriodol. Ac yna mae'r ffaith bod y GIG wedi anfon y llythyr dilynol i'r ysgol, at y pennaeth, nid at y rhiant, ond i'r ysgol wedyn, yn rhyfeddol. Tybed pa ddarn o waith sydd wedi'i wneud—ac fe ddylai hyn fod yn rhywbeth y gellid ei wneud ar unwaith—i adolygu pob achos lle mae llythyrau wedi cael eu hanfon at ysgolion yn hytrach nag at rieni, nid dim ond yn y gogledd, ond ledled y wlad. Mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n argymhelliad hollol briodol, unwaith eto, sydd wedi'i golli gan y bwrdd adolygu.

Rwyf am ddiolch iddyn nhw am y gwaith. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn anodd iawn i'w wneud, yn enwedig gyda'r canfyddiadau y maen nhw wedi dod iddyn nhw a'r argymhellion sydd wedi'u gwneud, ac maen nhw'n amlwg wedi gwneud gwaith rhagorol. Ond mae'r rheini yn ddau beth, rwy'n credu, y dylem fod yn pwyso amdanyn nhw hefyd o ran newidiadau yn y dyfodol.

17:40

Diolch, Darren. Ac, ydy, mae'n adroddiad dirdynnol, ac un o'r pethau mwyaf syfrdanol yw, yn hytrach na phoeni am y plant, roedd rhai o'r staff a oedd agosaf at hyn yn poeni mewn gwirionedd am y posibilrwydd y byddai honiadau ffug yn cael eu gwneud yn erbyn y pennaeth. Mae hynny'n wirioneddol syfrdanol. Rydyn ni wedi nodi'n glir iawn y prynhawn yma bod yn rhaid i bethau newid, bod yn rhaid i bolisïau gael eu rhoi ar waith, bod yn rhaid i lais y plentyn fod wrth wraidd y ffordd rydyn ni'n bwrw ymlaen â hyn, ac mae'r bobl ifanc hynny wedi rhoi llwyfan i ni wneud hynny heddiw gyda'r adroddiad.

O ran y pŵer i orfodi, does dim pŵer i orfodi, fel y gwyddoch rwy'n credu. Yr hyn sy'n rhoi sicrwydd i mi yw pa mor helaeth a thrwyadl yw'r adroddiad hwn. Fe wnaethon nhw siarad â dros 140 o dystion. Roedden nhw yn yr ysgol am gyfnodau estynedig iawn. Roedd yna gyfathrebu â theuluoedd. Roedd yna gyfeiriad e-bost i bobl gysylltu ag unrhyw faterion yr oedden nhw am eu codi. Mae hwn wedi bod yn archwiliad trylwyr iawn, a phan gewch chi gyfle i ddarllen yr adroddiad, fe welwch chi ei fod yn ddisgrifiad manwl iawn o'r hyn a ddigwyddodd. Ac, fel chi, mae'n gas gen i'r ffaith bod yna bobl, er mai nifer cymharol fach o bobl oeddent, na wnaethant gydweithredu â hynny.

Mae yna argymhelliad y byddwch chi wedi'i weld sydd wedi'i anelu at Betsi Cadwaladr. Rwyf eisoes wedi trafod gyda'r Gweinidog a chyda swyddogion bod angen i hyn gael ei ystyried yn ehangach. Dylai fod yn faner goch aruthrol o fawr: pennaeth yn troi i fyny i apwyntiad gynaecolegol gyda phlentyn. Mae'n syfrdanol, on'd yw e, mewn gwirionedd? Felly, byddwn ni'n gofyn i bob bwrdd iechyd ystyried hyn—a gallaf weld Jeremy yn y fan yna hefyd. Mae'n rhaid i ni gael y sicrwydd hwnnw. Fe wnaeth pobl yn y gwasanaeth iechyd godi pryderon, ond yn y fan yna eto, ni chafodd y pryderon hynny eu cymryd yn ddigon o ddifrif.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Nid yn aml ŷn ni fel Senedd yn dod at ein gilydd i arswydo ac i dristáu, ac mae hon yn un o'r adegau hynny. Dwi wedi cael cyfle y prynhawn yma i ddarllen yn frysiog iawn yr adroddiad, ac fel mae cymaint o bobl wedi dweud, mae'r darllen yn gwbl anghyfforddus, ac mae'r canfyddiadau yn erchyll. Mae'n anhygoel bod y pedoffeil yma wedi gallu cam-drin cymaint o bobl ifanc heb gael ei adnabod fel pedoffeil o gwbl, a neb wedi ei herio fe hefyd, dros gymaint o amser.

Dwi eisiau dechrau drwy gydnabod gwytnwch a chryfder anhygoel y dioddefwyr sydd wedi goroesi profiadau cwbl erchyll gan berson roedden nhw i fod i ymddiried ynddo fe. Fel llefarydd addysg Plaid Cymru, dwi eisiau cydnabod dewrder y merched ifanc—merched oedden nhw yn bennaf, wrth gwrs, er bod bechgyn hefyd—ond dwi eisiau cydnabod dewrder y rhain ac ymddiheuro iddyn nhw am fethiannau systemau diogelu a ddylai wedi eu hamddiffyn nhw rhag cael eu cam-drin yn y fath ffordd. Felly, byddwn i'n licio gofyn i chi pa gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r dioddefwyr yma a'u teuluoedd ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw yn sicr dioddef creithiau emosiynol yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, ac mi fyddan nhw am flynyddoedd eto. 

Mae hon yn bennod hynod o boenus a chywilyddus yn hanes addysg yng Nghymru unwaith eto, 20 mlynedd ar ôl adroddiad Clywch. Yr hyn sy'n siomedig yw bod yr adroddiad—a dwi'n ddiolchgar iawn i Jan Pickles am y gwaith manwl y mae hi wedi gorfod ei wneud o dan amgylchiadau anodd iawn—yn cydnabod nad yw nifer o argymhellion Clywch ddim wedi cael eu gweithredu yn llawn. Rŷch chi wedi delio â hyn yn barod, ond byddwn i'n licio gwybod mwy am beth sydd ddim wedi cael ei wneud yn iawn dros y 20 mlynedd diwethaf, a pha gamau ŷch chi'n bwriadu eu cymryd i wneud yn siŵr eu bod nhw yn cael eu gwireddu. 

Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto, ac mae hynny'n golygu gwell atebolrwydd. Oes, mae cwestiynau i'w gofyn am rôl cyrff llywodraethol, eu cyfrifoldebau nhw, ac anghenion hyfforddiant, yn ogystal. Mae yna gwestiynau i'w gofyn am gyfrifoldebau yr awdurdod lleol dan sylw, yn aelodau etholedig a swyddogion, a chyrff eraill sy'n ymwneud â diogelu plant.

Ond heddiw, y gymwynas bennaf y gallwn ni ei thalu i'r dioddefwyr yw ein bod ni yn cymryd ystyriaeth o'r dystiolaeth y maen nhw wedi'i rhoi i ni a'n bod ni'n edmygu eu dewrder nhw am wneud hynny, a'n bod ni'n sicrhau dyw hyn byth yn digwydd eto. O ran sicrhau nad yw llais pobl ifanc ddim yn mynd ar goll yn y system—ac mae hynny, fel sydd wedi cael ei nodi sawl gwaith, mor, mor bwysig, bod y dioddefwyr yn cael eu clywed—pa gamau y byddwch chi'n rhoi yn eu lle i sicrhau bod llais pobl ifanc yn ganolog i'r system ddiogelu, a beth sydd angen digwydd i hynny gael ei weithredu yn effeithiol?

Dwi jest eisiau gorffen drwy ddweud hyn: dwi'n falch iawn eich bod chi, fel Llywodraeth, yn bwriadu derbyn pob un o'r argymhellion, ac yn sicr mi fyddaf i a Phlaid Cymru yn cefnogi eich ymdrechion chi i sicrhau bod camau'n cael eu gosod yn eu lle i adfer ffydd pobl ifanc yn ein system addysg ac, fel y dywedodd Sioned Williams yn gynharach, i sicrhau bod 'byth eto' yn golygu byth eto.

17:50

Diolch, Cefin. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, gallwn anrhydeddu dewrder y bobl ifanc hyn trwy wneud yn siŵr nad yw hyn byth byth yn digwydd eto. Hoffwn eich sicrhau bod goroeswyr Neil Foden wedi cael eu cefnogi. Rydym wedi cael y sicrwydd hynny gan y bwrdd diogelu rhanbarthol a Chyngor Gwynedd.

Dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i gwestiynau Siân am y grŵp sicrwydd gweinidogol ein bod hefyd wedi darparu cyllid o £523,000 dros y ddwy flynedd academaidd nesaf i Gyngor Gwynedd. Bydd hynny i gefnogi llesiant yn yr ysgolion a sicrwydd diogelu ehangach. Bydd hynny'n cynnwys cefnogaeth i'r ysgol ddod yn wybodus am drawma. Ni fyddaf yn ailadrodd yr amrywiaeth o bethau sydd gennym mewn ysgolion yn gyffredinol i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi.

Mae argymhellion ymchwiliad Clywch—rydw i wedi eu darllen i gyd—i gyd wedi'u gweithredu. Yr her yma oedd nad oedd y polisïau a gododd o hynny yn cael eu gweithredu ar lawr gwlad. Dyna beth mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw, yn ogystal ag edrych—mae hyn yn fusnes pawb—ar beth arall y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod yn cryfhau'r holl ddiogeliadau o amgylch plant a phobl ifanc.

Rwyf am ddweud hefyd, oherwydd, yn amlwg, mae hwn wedi bod yn ddatganiad heriol, bod yna lawer iawn o waith da iawn yn ein hysgolion a phobl sy'n ddibynadwy ac yn garedig ac sy'n gofalu am ein plant. Yr hyn na allwn ei gael yw'r bobl ofnadwy yma yn gwneud y pethau ofnadwy hyn i blant, a dyna beth na ddylai ddigwydd byth eto.

Rwy'n wirioneddol ymroddedig ar lais y plentyn. Rydw i wedi dod i'r rôl hon o gefndir bod yn gadeirydd y pwyllgor, ac rwy'n rhoi'r sicrwydd i chi y byddwn yn gwneud yn siŵr, yn yr holl waith rydyn ni'n ei wneud, y bydd gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd hynny.

7. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025

Y eitem nesaf fydd yr eitem ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025. Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y cynnig yma—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9030 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Symudaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025.

Llywydd, eleni, am y tro cyntaf, mae gan y Senedd y pŵer i osod lluosyddion gwahaniaethol ym maes ardrethi annomestig. Cynhaliwyd ymgynghoriad yn gynharach eleni ar gynigion ar gyfer defnyddio'r pwerau hyn ac, ar 7 Hydref, cyhoeddwyd canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw. Cadarnhaodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau angenrheidiol i alluogi'r cynigion i gael eu gweithredu ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Os bydd y rheoliadau hyn yn llwyddo, bydd lluosydd manwerthu is yn cael ei gyflwyno i ail-gydbwyso'r system ardrethi annomestig o blaid siopau bach a chanolig. Mae hyn yn adlewyrchu'r heriau unigryw sy'n wynebu siopau manwerthu brics a morter, yn enwedig trwy eu hamlygiad i gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu £250 miliwn bob blwyddyn o ryddhad parhaol, sydd o fudd i fwy na hanner talwyr ardrethi busnes yng Nghymru. Ac, yn ogystal â hyn, ers 2020, rydym wedi dyrannu mwy na £1 biliwn mewn rhyddhad dros dro i'r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf uniongyrchol gan heriau economaidd diweddar.

Mae'n bwysig, wrth gwrs, y gellir gweithredu a chynnal y lluosydd manwerthu is heb leihau'r cyfraniad cyffredinol a wneir gan drethi annomestig at ariannu gwasanaethau lleol hanfodol ledled Cymru. Dyna pam rydyn ni hefyd yn galluogi lluosydd uwch, a fyddai'n codi swm cymedrol o refeniw ychwanegol o eiddo gwerth uchel. Mae'r rheoliadau yn nodi'r eiddo a fydd yn ddarostyngedig i'r lluosydd manwerthu a'r lluosydd uwch. Maen nhw'n cael eu dwyn ymlaen yn awr i roi digon o amser i awdurdodau lleol weithredu'r newid strwythurol hwn i'r system ardrethi annomestig. Bydd rheoliadau pellach yn rhagnodi gwerthoedd y lluosydd gwahaniaethol hyn. Bydd gwerthoedd yr holl luosyddion ar gyfer 2026-27 yn cael eu pennu yn ddiweddarach eleni, pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gael i lywio'r penderfyniadau hynny.

Rwy'n ddiolchgar, Llywydd, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

17:55

Fel y byddwch chi'n ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Plaid Cymru wedi bod yn eirioli am yr angen i ddiwygio'r rheoliadau ardrethi annomestig ers sbel. Yn ein cynllun cynhwysfawr ar gyfer yr economi, 'Gwneud i Gymru Weithio', fe wnaethon ni sôn am yr angen i deilwra'r lluosydd er mwyn lleihau'r baich trethiannol ar ein busnesau domestig fel rhan o weledigaeth ehangach i adfywio strydoedd mawr ein cymunedau. 

Felly, mi rydyn ni'n cefnogi a chroesawu'r rheoliadau yma, sydd, i raddau, yn rhoi hyn ar waith. Mi rydyn ni'n credu bod yna sgôp i fynd llawer ymhellach. Mi fyddem ni yn hoffi gweld, er enghraifft, fod bwytai a thafarndai yn medru derbyn y cyfraddau ffafriol o dan reoliadau o'r fath. Roeddech chi'n sôn bod yna waith pellach yn mynd rhagddi. Oes yna ystyriaeth o ran ehangu sgôp y rheoliadau, a pham, yn benodol fan hyn, bod yna rai pethau sydd ddim yn cael eu crybwyll? A gaf i ofyn hefyd beth ydy'r bwlch ariannol rydych chi wedi amcangyfrif sydd angen ei lenwi gan ddarparu lluosydd gymharol uwch i sefydliadau manwerthu mawr?

Mae'n bwysig bod hyn yn cael ei weld fel dim ond un ymhlith amryw o fesurau i wella cefnogaeth ar gyfer ein busnesau bach lleol a'r stryd fawr. Yn benodol, rydyn ni wedi hen ddadlau dros alluogi'r Senedd i fedru datblygu trethiant tir gwag er mwyn hybu gwell defnydd o adeiladau'r stryd fawr. Dwi'n gwybod eich bod chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn hyderus y byddai'r pwerau yna yn dod i Gymru o dan y Llywodraeth bresennol yn San Steffan. Oes yna ddiweddariad gennych chi o'r trafodaethau perthnasol, ac a fydd y pwerau yma mewn grym cyn yr etholiad nesaf?

Jest i ddweud diolch i Blaid Cymru am y gefnogaeth maen nhw wedi'i rhoi i'r polisi dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma'r tro cyntaf i'r pwerau ddod atom ni i'w defnyddio nhw. A dwi'n cytuno gyda Heledd Fychan—bydd sgôp i wneud mwy gyda'r pwerau yn y dyfodol.

Ond i fod yn glir, Llywydd, yr hyn y mae'r rheoliadau hyn yn ei wneud yw gosod cwmpas y defnydd o'r pwerau hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Nid yw'r dewis o flaen y Senedd rhwng hyn neu ddefnydd mwy helaeth o'r pwerau. Mae rhwng hyn ac aros gyda'r status quo. Ac ni fydd cyfle pellach i bleidleisio ar ddefnydd ehangach o'r pwerau hyn yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd.

Yr hyn a fydd yw rheoliadau pellach ar ble y bydd gwerthoedd ariannol y lluosyddion newydd hyn yn cael eu gosod. Y rheswm na allwn wneud hynny ar hyn o bryd yw bod ailbrisio ardrethi annomestig yn dod i rym ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Nid yw gwaith yr ailbrisio hynny wedi'i gwblhau eto, a bydd y ffigurau gwirioneddol y byddwn yn eu hatodi i wahanol luosyddion yn dibynnu ar ganlyniad y gwaith hwnnw.

Os oes rhaid i ni godi cyfradd ychwanegol gymedrol ar y manwerthwyr mwy hynny, rydym yn sôn am swm cymedrol iawn, rwy'n credu, ar nifer fach iawn o safleoedd—tua 3,000 o safleoedd i gyd ledled Cymru. Ond nid wyf wedi gwneud penderfyniad ar hynny, oherwydd nid oes gennyf yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnaf o gwblhau'r ymarfer ailbrisio. Byddaf yn dod â rheoliadau pellach gerbron y Senedd os cymeradwyir y rheoliadau heddiw.

18:00

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynllunio a Seilwaith

Eitem 8 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cynllunio a Seilwaith, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sy'n gwneud y cynnig yma—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM9028 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Cynllunio a Seilwaith i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n cynnig y cynnig. 

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am yr ystyriaeth y maen nhw wedi'i rhoi i femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn a'r adroddiadau y maen nhw wedi'u cyhoeddi. Mae'r Bil yn gwneud darpariaethau sydd wedi'u cynllunio i gyflymu a symleiddio cyflawni seilwaith critigol i gefnogi twf economaidd. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chydsynio cynlluniau seilwaith, diwygiadau i'r broses gorchymyn prynu gorfodol, diwygiadau i Ddeddf Priffyrdd 1980 a dull strategol o adfer natur.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nodau polisi cyffredinol y Bil ac wedi gweithio ar ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon a sut mae'n berthnasol i Gymru. Ar gaffael gorfodol, byddai'r darpariaethau arfaethedig yn moderneiddio'r broses. Er enghraifft, maent yn hwyluso cyfathrebu electronig ac yn cyflwyno gweithdrefnau mwy effeithlon ar gyfer cadarnhau penderfyniadau lle nad oes gwrthwynebiadau. Mae'r darpariaethau yn y Bil yn cyd-fynd ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i adeiladu economi gryfach a glanach. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am brosesau cydsynio modern, effeithlon i sicrhau'r ymrwymiadau hyn ac rydym eisoes wedi cyflwyno Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, a fydd yn gwella'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru drwy'r drefn gydsynio sylweddol hon i brosiectau seilwaith. Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn darparu manteision tebyg i'n Deddf newydd trwy foderneiddio cyfundrefnau cydsyniol eraill sy'n cael effaith ar gyflawni cynlluniau seilwaith pwysig yng Nghymru. Er enghraifft, bydd yn galluogi system ffioedd ar gyfer cydsyniad harbwr wedi'i moderneiddio ac yn gwella'r ffordd yr ydym yn ymdrin ag archwiliadau o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992.

Ym mis Mawrth, fe wnaethom osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, a gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ym mis Mai, Mehefin, Awst a Hydref. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi holl ddarpariaethau hynny o'r Bil sy'n bodloni'r prawf yn Rheol Sefydlog 29. Nodaf fod y pwyllgorau wedi mynegi pryder ynghylch darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â gweithdrefnau cyn ymgeisio ar gyfer datblygiadau a ystyrir drwy broses prosiect seilwaith arwyddocaol cenedlaethol Llywodraeth y DU ac, fel y dengys cyfundrefn gydsynio CIS newydd Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ac annog ymgysylltu rhwng datblygwyr â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar brosiectau seilwaith.

Cyn i mi fod yn fodlon cefnogi'r ddarpariaeth hon, gofynnais am sicrwydd gan Matthew Pennycook AS, y Gweinidog tai a chynllunio, y bydd ymgysylltu ystyrlon cyn ymgeisio yn parhau i fod yn rhan annatod o'r broses Cynllun Integredig Sengl Cenedlaethol. Gallaf gadarnhau, er eu bod yn cymryd dulliau gwahanol, bod cyfundrefn CIS Llywodraeth Cymru a darpariaethau Bil CISC yn cael eu hategu gan yr angen i ymgeiswyr ymgymryd ag ymgysylltiad cynnar, ystyrlon a chymesur â rhanddeiliaid perthnasol. Gan gydnabod y bydd y Bil yn symleiddio ac yn cyflymu'r prosesau sy'n gysylltiedig â chyflawni seilwaith a datblygu yng Nghymru, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn rhoi ei chydsyniad. Diolch.

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o fedru cyfrannu at y ddadl yma.

Fe wnaethom, fel pwyllgor, ystyried memoranda 1 i 4 mewn perthynas â'r Bil hwn. Nid oeddem yn gallu ystyried memorandwm 5 oherwydd y dyddiad cau eithriadol o dynn i adrodd. Nawr, yn ein hadroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf a'r ail, nodwyd pryderon a godwyd gan randdeiliaid nad yw'r cynigion yn y Bil yn cyd-fynd â deddfwriaeth polisi amgylcheddol Cymru, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Un o'r prif feysydd pryder oedd y cynnig i gael gwared ar rai gofynion cyn ymgeisio o brosiectau seilwaith arwyddocaol cenedlaethol, neu'r CISC, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, wrth gwrs. Nawr, ar hyn o bryd mae gofyniad deddfwriaethol i berson sy'n bwriadu gwneud cais am ganiatâd datblygu ymgynghori â phobl benodol ynghylch y cais arfaethedig. O dan y diwygiadau arfaethedig, bydd y gofyniad hwn mewn perthynas ag awdurdod cyhoeddus perthnasol yn cael ei ddisodli gan ofyniad i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Credwn fod y broses ymgynghori cyn ymgeisio yn gyfle pwysig ac weithiau, mewn gwirionedd, yr unig gyfle ystyrlon i gymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill gael eu clywed. Credwn fod gwanhau posibl o'r gofynion ymgynghori cyn ymgeisio mewn perygl o greu problemau sylweddol na fyddant yn cael eu nodi tan yn ddiweddarach yn y broses ddatblygu. Nawr, rydym yn ddiolchgar bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gofyn am sicrwydd gan Weinidog Tai a Chynllunio Llywodraeth y DU ar y mater hwn, fel y mae hi newydd amlinellu. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu y gallai'r dull arfaethedig arwain at sefyllfa lle na fydd y broses ar gyfer CISC yng Nghymru a phrosiectau seilwaith sylweddol Cymru yn cael eu halinio. Mae hynny'n sicr yn bryder i ni.

Roedd rhanddeiliaid hefyd yn pryderu am y cynlluniau cyflawni amgylcheddol a'r ardoll adfer natur fel mecanweithiau i ganiatáu i ddatblygwyr yn Lloegr wneud cyfraniadau ariannol yn hytrach na gweithredu mesurau lliniaru. Rydym yn cydnabod na fydd y mecanweithiau hyn yn berthnasol i Gymru, fodd bynnag, rydym yn nodi pryder rhanddeiliaid y gallent gael eu defnyddio i roi pwysau anffurfiol ar awdurdodau cynllunio Cymru i ddatblygu dull tebyg. Nid ydym eto wedi derbyn sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw ddull o'r fath yn cael ei ganiatáu o dan y polisi cynllunio a'r ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru. Yn ein hadroddiad, nodwyd gwelliant arfaethedig Cyswllt Amgylchedd Cymru i atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag hwyluso datblygiadau a allai effeithio'n andwyol ar safleoedd neu gynefinoedd gwarchodedig, megis coetir hynafol, yn enwedig, wrth gwrs, ar ystad goetir Llywodraeth Cymru. Felly, byddem yn ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau a yw ei swyddogion wedi gallu ceisio gwelliannau i'r Bil i liniaru hyn.

O ystyried bod materion y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd, nid ydym fel pwyllgor yn gallu argymell ar hyn o bryd bod y Senedd yn cytuno i roi cydsyniad. Fel y soniwyd, nid ydym wedi gallu ystyried y memorandwm diweddaraf mewn perthynas â'r Bil hwn. Dylem gael mwy o amser os ydym am chwarae rôl ystyrlon yn y broses gydsynio ddeddfwriaethol hon. Mae'n rhywbeth rwy'n teimlo nad ydym ni, fel pwyllgor y Senedd, wedi gallu ei wneud yn yr achos hwn, yn enwedig mewn ffordd y byddwn ni fel Aelodau ac, yn wir, y rhai rydym ni'n eu cynrychioli yn disgwyl i ni ei wneud.

18:05

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd ar bedwar o'r pum memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cynllunio a Seilwaith. Gosodwyd y pumed memorandwm ar ôl i'r pwyllgor gyfarfod am y tro olaf cyn y toriad hanner tymor. Felly, ni chafodd y pwyllgor, fel y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ddigon o amser i ystyried y mater yn drylwyr ym memorandwm Rhif 5 ac adrodd i'r Senedd. Rwy'n credu bod hynny'n fater o bryder.

Mae adroddiadau'r pwyllgor wedi canolbwyntio ar dri phrif fater o ddiddordeb: gweithio rhynglywodraethol, y rhyngweithio â'r Bil a deddfwriaeth cydgrynhoi cynllunio Llywodraeth Cymru, a'r pwerau dirprwyedig yn y Bil.

Yn adroddiad cyntaf y pwyllgor, fe wnaethom dynnu sylw at y ffaith nad yw'n glir o'r memorandwm pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yn ystod datblygiad y Bil ynghylch effaith y Bil ar faterion datganoledig. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o drafodaeth fanwl, efallai na fyddem yn disgwyl gweld yr Ysgrifennydd Cabinet yn mynegi pryder am sawl cymal o'r Bil am resymau yn cynnwys cam-alinio polisi Llywodraeth Cymru, canlyniadau anfwriadol posibl yn y rhanbarth ar y môr, a chymhwyso darpariaethau penodol i Gymru. Gofynnodd y pwyllgor am eglurder ynglŷn â phryd y daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o gynigion deddfwriaethol Llywodraeth y DU a phryd y daeth yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r materion a ddaeth i'r golwg mewn perthynas â thri chymal penodol yn y Bil.

Gofynnodd y pwyllgor hefyd i'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut y dylanwadwyd ar ddrafftio'r Bil gan Lywodraeth Cymru. Mae'r memorandwm hefyd yn aneglur ynghylch i ba raddau y gall y Bil effeithio ar gynnig Llywodraeth Cymru ei hun i gydgrynhoi'r gyfraith gynllunio fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bellach yn craffu ar y Biliau cydgrynhoi cynllunio ac, yn adroddiad cyntaf y pwyllgor, fe wnaethom felly ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a oes gan y Bil oblygiadau i'r Biliau cydgrynhoi.

Yn nhrydydd adroddiad y pwyllgor, fe wnaethom grynhoi ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n cais am eglurder. Ychydig o ymatebion allweddol i'r Aelodau sylwi arnynt: dechreuwyd ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'r DU yr haf diwethaf, ond ni ddechreuwyd trafodaeth ffurfiol ar gynnwys y Bil tan fis Tachwedd. Yna gwnaed yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r materion gyda chymalau 24, 28 a 38 fel y cawsant eu rhifo wrth eu cyflwyno. Rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn gallu dylanwadu ar ddrafftio darpariaethau'r Bil sy'n gysylltiedig â phwerau cydsynio seilwaith, ond dim ond tan i'r Bil terfynol gael ei gyflwyno i Senedd y DU y cynhaliwyd dadansoddiad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru a nodwyd y materion a godwyd yn y memorandwm. O ganlyniad, mae'r pwyllgor yn siomedig bod y Bil a gyflwynwyd i Senedd y DU yn cynnwys darpariaethau sy'n peri pryder i Lywodraeth Cymru, o ystyried y misoedd o ymgysylltu rhwng y ddwy Lywodraeth cyn cyflwyno'r Bil.

O ran rhyngweithio rhwng y Bil a'r Biliau cydgrynhoi cynllunio, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym na fydd y Bil yn effeithio ar gynnwys y prif Fil Cynllunio (Cymru). Fodd bynnag, mewn nifer fach o achosion, bydd y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) a Biliau Llywodraeth y DU yn diwygio'r un darpariaethau â Deddf arall. Pan fo hynny'n wir, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym y gellid ymdrin â'r Bil darpariaethau canlyniadol sy'n ystyried y diwygiadau a wnaed gan Fil Llywodraeth y DU a gellid ymdrin â diwygiadau pellach a wnaed i'r Bil gan Senedd y DU yn ystod cyfnod ystyriaeth fanwl y pwyllgor ar gyfer y Bil cydgrynhoi os oes angen.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor pe bai'r amseroedd seneddol yn dod yn broblem, roedd Llywodraeth Cymru yn gweld tri datrysiad posibl: yn gyntaf, trwy ddefnyddio cyfnod ystyriaeth fanwl y Senedd; yn ail drwy Senedd y DU yn diwygio Bil Llywodraeth y DU; ac yn drydydd, defnyddio pŵer rheoleiddio arfaethedig o fewn y Bil darpariaethau canlyniadol, ac os, pan fydd yn cael ei ddeddfu, gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol o ganlyniad i Fil Llywodraeth y DU.

Yn olaf, mae'r Bil yn cynnwys nifer fawr o bwerau dirprwyedig, y mae rhai ohonynt yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru i'w harfer mewn meysydd datganoledig. Mae rhai pwerau hefyd yn cael eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol i weithredu mewn meysydd datganoledig. Mae un pŵer o'r fath yng nghymal 34 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i osod rheolau ynghylch dyddiadau cau ar gyfer penderfyniadau. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor fod hyn oherwydd nad yw'r pwerau gwneud rheolau a rheoliadau a roddwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 wedi'u trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac felly mae'n briodol i'r pŵer gael ei roi i'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr achlysur hwn, ond gyda rôl gydsyniol i Weinidogion Cymru. Gofynnodd y pwyllgor i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU gynnwys darpariaethau yn y Bil a fyddai'n trosglwyddo'r pwerau gwneud rheolau a rheoliadau a roddwyd gan Ddeddf 1992 i Weinidogion Cymru i alluogi'r pŵer gwneud rheoliadau yng nghymal 34 o'r Bil i gael ei ddirprwyo i Weinidogion Cymru. Fel y nodwyd ym mhedwerydd adroddiad y pwyllgor, nid oedd ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i'r afael ag argymhelliad y pwyllgor ac roedd y pwyllgor o'r farn bod hyn yn destun gofid.

18:10

Un agwedd o'r LCM yma ydy'r ymwneud efo'r defnydd o bwerau gorfodol, wrth i'r sector gyhoeddus fynd ati i brynu tir ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol, er enghraifft. Rydym ni'n gwybod bod diffyg tir a'r problemau wrth gaffael tir yn cael eu henwi fel un o'r rhwystrau pennaf wrth geisio cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol newydd. Fedrwch chi gadarnhau y bydd yr LCM yn galluogi awdurdodau lleol i ystyried gwerth y farchnad, nid gwerth gobeithiol, wrth wneud gorchymyn pryniant gorfodol, ac y bydd y cyfraddau iawndal sy'n cael eu talu i berchnogion tir yn lleihau yn Lloegr ond yn aros yr un peth yng Nghymru—cadarnhad fy mod i wedi deall y sefyllfa'n iawn, os gwelwch yn dda? Ac oes gennych chi fwriad i leihau'r iawndal yng Nghymru drwy is-ddeddfwriaeth Gymreig? Os oes gennych chi, beth ydy'r amserlen ar gyfer y gwaith yna? Ond os dydych chi ddim am wneud hynny, wnewch chi egluro pam? O ystyried bod gennym ni'r pwerau gorfodaeth yn barod, mae gennym ni uchelgais yng Nghymru i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol, ac mi allai defnyddio is-ddeddfwriaeth yrru hynny ymlaen. Diolch.

Mae hwn yn Fil cymhleth ac rwyf am ofyn cwpl o bethau i'r Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd nid wyf wedi deall yn llawn a yw hyn yn gwanhau ein gallu i gynnal y safonau yr ydym wedi'u gosod yng Nghymru ar gyfer safonau sero net ar gyfer tai newydd yn ogystal ag ansawdd a nifer y tai fforddiadwy. Mae hyn oherwydd bod maer Llundain yn ddiweddar wedi chwalu'r safonau a'r nifer o dai cymdeithasol sy'n mynd i gael eu hadeiladu yn Llundain, er gwaethaf argyfwng tai gwirioneddol ddifrifol yno, sydd ddim yn annhebyg i'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghaerdydd. Mae'n ymddangos bod maer Llundain yn mynd ar drywydd tai am unrhyw bris, ni waeth beth fo'r ansawdd, ac yn cerdded i ffwrdd o anghenion y rhai sydd eu hangen fwyaf. Felly, sut mae'r Bil hwn mewn unrhyw ffordd yn tanseilio ein gallu i gynnal ein safonau sero net, y gellid eu mabwysiadu gan weddill y DU pe baent yn meddwl felly? Fel arall, rydym yn syml yn gorfod ôl-osod tai nad ydynt wedi'u hadeiladu i'r lefel briodol sydd ei hangen o fewn ein gofyniad i leihau'r allyriadau carbon sy'n deillio o wresogi ein cartrefi.

18:15

Diolch i gyd-Aelodau am y pwyntiau hynny ac mae rhai pwyntiau manwl i mi ymateb iddynt. Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges, mewn gwirionedd, am allu nodi rhai o ymatebion Llywodraeth Cymru i rai o'r materion allweddol hynny a godwyd yn ystod y craffu. Mae'r newidiadau mewn gwirionedd yn ymwneud â moderneiddio'r ddeddfwriaeth bresennol a'i gwneud yn fwy priodol ar gyfer archwilio prosiectau. Mae'r newidiadau a wnaed yn fach yn gyffredinol, ond maent yn gwneud gwelliannau bach i wella prosesau. A bydd y newidiadau yn effeithio ar nifer fach o brosiectau, ond, wrth gwrs, mae'n dal yn bwysig iawn gwneud yn siŵr eu bod yn effeithiol.

O ran yr amseriad, er bod memorandwm Rhif 5 wedi'i osod yn y Senedd yn unol â'r amserlenni a nodir yn Rheol Sefydlog 29, rwy'n cydnabod yn llwyr fod gan bwyllgorau amser cyfyngedig i'w ystyried cyn y ddadl hon. Fodd bynnag, mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn ymwneud â materion sydd wedi cael eu hystyried o'r blaen gan bwyllgorau ac nid ydynt yn codi unrhyw faterion newydd nad ydynt wedi bod yn destun craffu o'r blaen, ac nid oes unrhyw newid sylfaenol wedi'i godi gan y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol penodol hwn. Felly, rydw i eisiau tawelu meddwl cyd-Aelodau o ran y pwynt hwnnw.

O ran yr CISC, a'r gofynion cyn ymgeisio o ran ymgysylltu â'r cyhoedd, rwy'n credu bod hynny'n bwynt hollol hanfodol sydd wedi'i godi gan bwyllgorau. Ac fel y soniodd eraill, fe wnes i godi hyn yn benodol gyda Gweinidog Tai a Chynllunio Llywodraeth y DU, ac yn nodi, mewn gwirionedd, ein dull o fewn ein deddfwriaeth yng Nghymru ar gyfer pethau y mae gennym gyfrifoldeb amdanynt yma. Mae'n ymwneud yn fawr â'r dull hwnnw o ymgysylltu â'r gymuned â chymunedau a rhanddeiliaid perthnasol hefyd. Cadarnhaodd Gweinidog Llywodraeth y DU fod dechrau dwys ac ymgynghori yn parhau i fod yn ganolog i ddull Llywodraeth y DU o ran cydsynio seilwaith o dan ei chyfundrefn CISC. Ac roeddwn i'n gallu ysgrifennu at gyd-Aelodau ym mis Awst ar y pwynt penodol hwnnw, gan nodi, fel y dangoswyd gan fesurau yn Neddf Seilwaith (Cymru) 2024 a fydd yn cyflwyno'r broses CIS, ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Er nad yw'r darpariaethau perthnasol yn y Bil sy'n ymwneud â phrosesau CISC o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, rydym am sicrhau bod y sefyllfa a'r broses yr un mor ddwys ar y dechrau lle mae datblygiad yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd ar hynny. Rwy'n gwybod, pan edrychwch ar bopeth y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddweud yn gyhoeddus, pan edrychwch ar fanylion ei hymgynghoriad ei hun, fe welwch fod ymrwymiad cryf iawn i'r dechrau dwys hwnnw hefyd, ond mae'n rhan annatod o'n dull penodol ein hunain yng Nghymru.

O ran y dull gweithredu yn ymwneud â natur, ar ôl ystyried y darpariaethau, rwy'n sicr bod y rhain ar y cyd â'r diwygiadau ehangach i'r gronfa adfer natur. Maen nhw'n golygu na ddylai unrhyw newidiadau yn Lloegr effeithio'n negyddol ar safleoedd trawsffiniol yng Nghymru. Rwy'n cydnabod y pryderon hynny sydd wedi'u codi gan grwpiau amgylcheddol a'r heriau sy'n wynebu datblygwyr pan fyddwch chi'n gweithredu ar draws ffiniau, ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod datblygiad yn gynaliadwy ac wedi ymrwymo i nodi lle mae ffyrdd mwy strategol o fynd i'r afael â'r materion systemig, er enghraifft llygredd maethynnau, sy'n bryder sylweddol i bob un ohonom. Byddwn yn monitro gweithrediad y gronfa adfer natur ac yn ystyried a allai dull tebyg weithio i ni yma yng Nghymru.

Ac wrth droi, yn fyr—mae'n ddrwg gennyf, Llywydd—at y Bil Cynllunio (Cymru), yn seiliedig ar hynt bresennol y Bil Cynllunio a Seilwaith drwy'r Senedd, rydym yn rhagweld na fydd problem o ran amseriad y Biliau.

O ran prynu gorfodol, fel y'u cyflwynwyd, mae cymalau 83 i 87 ac 89 i 92 yn gwneud sawl diwygiad i'r broses gorchymyn prynu gorfodol cyffredinol a'r rheolau iawndal, ond mae'r rheini y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Bydd y darpariaethau hynny'n caniatáu cyflwyno hysbysiad statudol yn electronig, gofynion symlach ar gyfer hysbysiadau papurau newydd a mwy o ddirprwyo penderfyniadau ac i awdurdodau gymryd meddiant cynharach o dir ac eiddo. Mae'r Bil hefyd yn ymestyn darpariaethau presennol sy'n ymwneud ag adran 14A o Ddeddf Iawndal Tir 1961, sy'n caniatáu dileu gwerth gobaith. Mae hefyd yn ychwanegu cynghorau tref a chymuned at y rhestr o awdurdodau caffael lle maent yn defnyddio pwerau prynu gorfodol i hwyluso tai fforddiadwy neu gymdeithasol. Mae ein swyddogion Llywodraeth Cymru wedi sicrhau gwelliannau i'r darpariaethau hyn i sicrhau na fyddent yn ymyrryd â'r darpariaethau mewn Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith o dan ein Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 ein hunain sy'n ymwneud â meddiant tir dros dro. Er bod y darpariaethau hyn yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl ac nad ydynt o fewn cymhwysedd y Senedd, roeddem yn gallu cael, fel y dywedais, rai gwelliannau i'r meysydd hynny a oedd yn ymwneud â chyfrifoldebau Gweinidogion Cymru.

Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i ateb y rhan fwyaf o'r materion hynny. Rwy'n cyfeirio cyd-Aelodau unwaith eto at y llythyrau rydw i wedi'u hanfon at y pwyllgor, lle rwyf wedi ceisio mynd i'r afael yn fanylach â rhai o'r pryderon, yn enwedig ynghylch y broses CISC, gan fy mod yn gwybod mai dyma'r prif bryder.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. & 10. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

Eitemau 9 a 10 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10 yn cael eu grwpio i'w trafod, gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes gwrthwynebiad i hynny, fe wnaf alw, felly, ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gyflwyno'r cynnig ar egwyddorion cyffredinol y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Felly, Jayne Bryant i gyflwyno'r cynnig yna. 

Cynnig NDM9026 Jayne Bryant

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).

Cynnig NDM9027 Jayne Bryant

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Rwy'n cynnig. A ddylwn i ddod i fyny?

Buaswn, mi fuaswn i, Llywydd. Daeth fy meicroffon ymlaen yn y fan yna. Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynigion gerbron y Senedd heddiw.

Wrth i mi ddechrau fy araith, rwy'n meddwl am y 350 o bobl a rannodd eu profiad bywyd o ddigartrefedd i ddatblygu'r Bil hwn. Mae'r pwysau o gael hyn yn iawn iddyn nhw yn drwm ar fy ysgwyddau, fel mae'n siŵr ei fod ar ysgwyddau pob un ohonom ni. Mae'r Bil hwn wedi'i lunio ar eu profiad nhw ac wedi'i hogi gan arbenigedd ein partneriaid cyflenwi. Diolch i bob un ohonyn nhw am eu gwaith, sy'n llunio llwybr gweithredu.

Fe hoffwn i ddiolch i'r Cadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau sydd wedi gweithio ar y Bil hwn: i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hargymhellion ystyriol a phragmataidd; i'r Pwyllgor Cyllid am eu hasesiad cadarn o'r ddeddfwriaeth; ac i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am eu hystyriaeth eang, fanwl o'n bwriadau polisi. Rwyf wedi darparu ymatebion ysgrifenedig i bob un ohonoch chi cyn y ddadl heddiw.

Rwy'n croesawu'n arbennig yr argymhelliad y dylai'r Senedd gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae'r Bil yn rhan o'n huchelgais hirdymor i wneud digartrefedd yn beth prin, yn beth byr ac yn rhywbeth na chaiff ei ailadrodd, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau digartrefedd yn cael eu dylunio gyda thrawma mewn golwg, a bod atal digartrefedd yn gyfrifoldeb gwasanaeth cyhoeddus Cymru. Rwy'n falch bod yr egwyddorion hyn yn cael eu cefnogi, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ymateb.

Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am eu casgliadau eu bod yn gyffredinol fodlon â goblygiadau ariannol y Bil, fel y nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, yn amodol ar y sylwadau a'r argymhellion yn eu hadroddiad. Disgwylir i weithredu'r Bil gostio £247 miliwn mewn termau gwerth presennol dros gyfnod o 10 mlynedd. Os yw'r diwygiadau'n cyflawni gwell canlyniadau atal a rhyddhad fel y bwriadwyd, bydd y costau hyn yn cael eu gorbwyso gan fudd gwerth presennol o £481 miliwn. Mae hynny'n golygu buddion ariannol net o £235 miliwn dros 10 mlynedd, sy'n golygu y bydd pob £1 a fuddsoddir yn cynhyrchu £2 o fudd. Ac os yw'r buddion iechyd ac enillion anariannol i unigolion hefyd yn cael eu cynnwys, yna bydd £703 miliwn o fuddion cymdeithasol net yn cael eu cyflawni, sy'n golygu £4 o fuddion am bob £1 a wariwyd.

Roedd argymhellion ar gyfer diwygiadau i'r Bil yn gyfyngedig. Mae'r mwyafrif yn anelu at gryfhau gweithredu a chreu'r cyd-destun ar gyfer cyflawni llwyddiannus. Mae wedi bod yn bosibl, felly, derbyn neu dderbyn mewn egwyddor y mwyafrif helaeth o'r argymhellion. Nid wyf yn bwriadu mynd i'r afael â phob un o'r argymhellion yma. Rwyf wedi gwneud hynny yn fy ymatebion ysgrifenedig, ond byddaf, fodd bynnag, yn mynd i'r afael â cheisiadau penodol am ddiweddariadau a rhai meysydd heriol. Mae pob un o'r pwyllgorau wedi nodi pwysigrwydd gweithredu effeithlon ac wedi galw am fwy o eglurder ar wyneb y Bil. Mae'r argymhellion yn amrywiol o ran ffurf, ond bwriad pob un yw sicrhau bod y Bil yn cael ei weithredu ac y gwireddir ei fanteision yn llawn. Mae hwn yn amcan a rennir ac fe hoffwn i ddarparu eglurder. Rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ddrafftio gwelliant i gyhoeddi diweddariadau cynnydd a gofyniad am werthuso ar wyneb y Bil, gan gynnwys adolygiad o 'gofyn a gweithredu'.

Rwy'n nodi'r galwadau i gyhoeddi amserlen. Nid wyf yn credu bod hyn yn perthyn i wyneb y Bil, ond rwy'n hapus i'w gyhoeddi, pe bai'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol. Mae fersiwn lefel uchel eisoes wedi'i rhannu gyda'r Pwyllgor Cyllid.

Thema allweddol arall yw cydbwyso atebolrwydd unigol gyda system sy'n seiliedig ar drawma. Mae hyn wedi gofyn am lywio gofalus. Rwy'n deall bod safbwyntiau ar gyflawni'r cydbwysedd hwn yn gymysg. Mae rhai yn dymuno ein gweld yn mynd ymhellach wrth agor y system, tra bod eraill eisiau gweld mwy o rwystrau ar gyfer ymddygiad sy'n peryglu'r gweithlu a'r system. Credaf fod y Bil hwn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir. Mae'n dileu'r elfennau o angen blaenoriaethol a phrofion bwriad, a oedd yn eithrio rhai, mae'n manylu ar y cysyniad o ymddygiad annerbyniol ac yn cyflwyno'r prawf manipiwleiddio bwriadol. Mae hefyd yn diogelu'r gweithlu digartrefedd ac yn sicrhau bod llety dros dro yn ddiogel i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yno. Rwy'n amharod i ddiwygio'r Bil ymhellach a newid y ddeinameg yma. Bydd cefnogi arweiniad a hyfforddiant yn gwneud yn glir mai ein pwyslais yw sut i helpu pobl, nid a ddylid helpu pobl.

Gofynnodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd am ddiweddariad ar ein gwaith i gynnwys yr heddlu yn y Bil. Fe hoffwn i hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar broses gydsynio Gweinidog y Goron. Nid yw'r broses ffurfiol o gydsynio wedi dod i ben eto, ond mae sgyrsiau cadarnhaol o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi parhau ers cyflwyno. Rwy'n hyderus y byddwn yn sicrhau cydsyniad i gynnwys yr holl gyrff a restrir o dan y ddyletswydd i 'ofyn a gweithredu' a'r ddyletswydd estynedig i gydweithredu, sy'n golygu y bydd y dyletswyddau hyn yn berthnasol i garchardai, y gwasanaeth prawf, cyfiawnder ieuenctid, yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fodd bynnag, mae pryderon wedi'u codi mewn perthynas â natur eang y pwerau gwneud rheoliadau ar gyfer y dyletswyddau i 'ofyn a gweithredu' ac i gydweithredu. Cyflawni'r Bil hwn i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yw fy mlaenoriaeth. Felly, er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon ac i sicrhau cydsyniad, rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant i'r pwerau gwneud rheoliadau yng Nghyfnod 2. Effaith y gwelliant hwn fydd gofyn am gydsyniad ychwanegol gan Weinidogion y Deyrnas Unedig pan fydd y pŵer yn cael ei arfer mewn perthynas ag awdurdodau a gedwir yn ôl. Bydd hyn yn darparu mecanwaith ar gyfer ychwanegu awdurdodau a gedwir yn ôl ychwanegol yn y dyfodol, ar yr amod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydsynio ar y pryd.

Bydd y Senedd yn ymwybodol nad yw'r heddlu wedi'u rhestru yn y Bil ar hyn o bryd. Fel yr wyf wedi gwneud yn glir, credaf fod cyfraniad gwerthfawr y gallai'r heddlu ei wneud, ac rwyf wedi cwrdd â Gweinidogion y Swyddfa Gartref i drafod hyn. Fodd bynnag, nid yw hi wedi bod yn bosibl sicrhau cefnogaeth y Swyddfa Gartref, ac felly nid wyf yn gallu ymgorffori'r heddlu yn y Bil ar hyn o bryd. Byddaf yn gweithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid yng Nghymru i archwilio dulliau andeddfwriaethol amgen i gyflawni ein bwriadau polisi, ac mae cefnogaeth i'r gwaith hwn ac arferion da y gallwn ni adeiladu arnyn nhw.

Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am y nifer fach o argymhellion technegol y maen nhw wedi'u gwneud. Yng Nghyfnod 2, rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliannau i gyfyngu ein drafftio mewn perthynas â chofrestrau tai cyffredin, ac i ofyn am weithdrefn gymeradwyo'r Senedd mewn perthynas ag adrannau 35 a 38 o'r Bil. Rwyf hefyd yn cadarnhau fy ymrwymiad i gyhoeddi canllawiau sy'n mynd i'r afael â phob rhan o'r Bil, gan gynnwys adran 33, a byddaf yn gwneud gwelliant yng Nghyfnod 2 sy'n gofyn am hyn.

Llywydd, rwyf wedi ceisio gwneud sylwadau heddiw ar y meysydd mwy heriol o'n gwaith. Fodd bynnag, nodaf eto, ar y cyfan, fod gwelliannau yn gyfyngedig iawn, ac rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth eang y mae'r Senedd wedi'i roi i'r Bil hwn. Gwn o brofiad mai dim ond deddfwriaeth sy'n cryfhau craffu da, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau yn y Senedd am eu gwaith ar y Bil hwn ac am y gwaith y byddant yn ei wneud yn y dyfodol i sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn beth brin, yn beth byr ac yn rhywbeth na chaiff ei ailadrodd. Rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r Bil. Diolch.

18:30

Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i siarad yn gyntaf, John Griffiths.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n falch o siarad yn y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, sydd wedi ymgymryd â gwaith craffu ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 1. Yn gyntaf, fe hoffwn i ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth am eu cyfraniadau gwerthfawr, a helpodd i lunio ein hadroddiad.

Mae'r Bil yn cynnwys ystod o ddarpariaethau sy'n ymwneud â digartrefedd a dyrannu tai cymdeithasol, sy'n faterion o bwys mawr i ni fel pwyllgor. Rydym yn teimlo'n gryf na ddylai unrhyw un orfod profi trawma digartrefedd ac, felly, rydym yn croesawu camau gweithredu sydd â'r nod o fynd â ni ymhellach tuag at y nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni, rydym yn argymell bod egwyddorion cyffredinol y Bil yn cael eu cytuno gan y Senedd. Er ein bod yn nodi'r gefnogaeth eang gan randdeiliaid i nodau'r Bil, rydym hefyd yn cydnabod bod pryderon sylweddol wedi'u codi mewn perthynas â rhai agweddau. Ni fydd deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i gyflawni'r uchelgais o roi terfyn ar ddigartrefedd. Mae angen ymdrech fawr i ddarparu mwy o dai cymdeithasol, a fydd yn allweddol i'w lwyddiant. Ochr yn ochr â mwy o gyflenwad, mae angen digon o adnoddau i gyflawni'r newidiadau. Rhaid i'r agweddau hyn gael eu blaenoriaethu gan y Llywodraeth bresennol a'r dyfodol os yw nodau'r Bil am gael eu cyflawni.

Mae ein hadroddiad yn nodi ein hargymhellion a'n casgliadau, sy'n nodi'r newidiadau a gredwn ni sydd eu hangen i gryfhau'r ddeddfwriaeth hon. Byddaf yn amlinellu rhai o'r meysydd hyn heddiw.

O ran gweithredu, er bod ein hargymhelliad ar gyfer dyletswydd i gyhoeddi amserlen wedi'i wrthod, rwy'n falch bod amseroedd wedi'u darparu mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n croesawu'n fawr yr hyn oedd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud yn gynharach, sy'n ddefnyddiol iawn, o ran pryderon y pwyllgor. Credwn fod sicrwydd ar amseroedd yn hanfodol wrth baratoi ar gyfer gweithredu, ac wrth gwrs rhaid defnyddio amser yn ddoeth, gan gynnwys ar gyfer hyfforddi ac adnoddau'r sector.

Mae Rhan 1 o'r Bil yn cynnwys darpariaethau sydd â'r nod o atal digartrefedd, yr ydym ni a rhanddeiliaid yn gyffredinol yn eu croesawu. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol yn pryderu y gallai hyn arwain at fwy o alw ar system sydd eisoes dan bwysau. Byddai'r Bil yn diddymu'r angen blaenoriaethol a phrofion digartrefedd bwriadol, sy'n golygu y bydd pob ymgeisydd yn gallu cael cymorth digartrefedd os ystyrir ei fod yn gymwys. Mae'r rhain yn newidiadau sylweddol ond dadleuol, ac fe glywsom ni farn gymysg ynghylch a ddylid eu cynnwys.

Gan na ddefnyddir y profion yn aml a chan fod y bobl fwyaf agored i niwed yn aml yn cael eu cosbi gan y rhain, rydym yn cytuno y dylid diddymu'r profion. Er gwaethaf hyn, rydym o'r farn y dylid gwrando ar bryderon awdurdodau lleol, a dylid lliniaru yn effeithiol unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ddiddymu'r profion. Rydym yn deall y bydd diddymu'r profion hyn ymhlith y darpariaethau terfynol i'w gweithredu. Yn y cyfamser, dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod gan awdurdodau lleol offer gweithredol eraill ar gael. Dylid darparu adnoddau a chymorth pwrpasol i gynyddu faint o wasanaethau cymorth dwys sydd ar gael i aelwydydd sydd mewn cryn angen. Rydym ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi modelau arfer da o wasanaethau cymorth dwys ar gyfer aelwydydd o'r fath, ac y dylen nhw ddarparu'r adnoddau a'r arweinyddiaeth sydd eu hangen i fynnu bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu ym mhob awdurdod lleol. Mae'r cydbwysedd hwnnw y soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet amdano yn gynharach yn ein barn ni yn hollbwysig i gael hyn yn iawn, ac eto rwy'n croesawu'r hyn oedd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud.

Mae ein hadroddiad yn nodi'r anesmwythder a fynegwyd gan rai ynglŷn â chadw prawf cysylltiad lleol yn ei ffurf bresennol, ynghyd â phrawf cysylltiad lleol â Chymru newydd. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, rydym yn cefnogi'r prawf newydd a'r eithriad i bobl os ydyn nhw neu rywun yn eu cartref mewn perygl o ddioddef camdriniaeth. Fodd bynnag, rydym o'r farn y bydd grwpiau agored i niwed eraill a fyddai'n elwa o eithriad o'r fath. Rydym yn sylweddoli bod angen rhagor o waith ar hyn ac rydym ni wedi argymell bod hyn yn cael ei wneud er mwyn cynnig amddiffyniad i eraill sydd ei angen. Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi ei bod yn derbyn hyn.

Rydym yn croesawu'r ddyletswydd i ddarparu cymorth i gadw llety addas, gan fod hwn yn offeryn allweddol i sicrhau bod rhywun yn gallu cynnal tenantiaeth. Mae cymorth o'r fath yn rhan hanfodol o atal achosion cyson o ddigartrefedd. Fodd bynnag, rydym yn cytuno â rhanddeiliaid y dylai fod ar gael i'r rhai sydd ei angen y tu hwnt i'r cyfnod o 12 mis a bennir yn y Bil. Mewn ymateb i'n hargymhelliad, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi y gellir ymestyn y cymorth. Ond, gan nad oedd hynny'n glir i randdeiliaid, fe hoffwn i ailadrodd yr angen am eglurder. Rwy'n falch bod ein galwad i edrych eto ar lefel yr angen am gymorth o'r fath wedi'i dderbyn, gan ein bod wedi clywed ei fod yn debygol o fod yn llawer uwch na'r 10 y cant o aelwydydd a amcangyfrifir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.

Mae'r Bil yn galluogi awdurdod lleol i roi terfyn ar ei ddyletswydd i gefnogi rhywun mewn rhai amgylchiadau. Rydym yn cytuno bod yn rhaid i awdurdod allu ymateb i ymddygiad annerbyniol, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael offer priodol i wneud hynny'n effeithiol. Fodd bynnag, nid yw rhoi terfyn ar gymorth digartrefedd yn ateb cynaliadwy, a dim ond fel dewis olaf y dylid cymryd cam o'r fath. Rhaid i opsiynau pellach fod ar waith i alluogi awdurdodau i ymateb i ymddygiad gwael heb roi terfyn ar gefnogaeth.

Fe hoffem ni weld y Bil yn cael ei ddiwygio i egluro y gall dyletswydd ddod i ben dim ond os yw'r holl fecanweithiau cymorth eraill wedi'u disbyddu. Ac eto, mae'n dda clywed beth sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud, ond fe hoffem ni ymhelaethu ymhellach ar y rhesymeg dros safiad penodol Llywodraeth Cymru ar hyn. A hefyd ar y mater hwn, ac i amddiffyn pobl agored i niwed, rhaid i ganllawiau fod yn glir na ddylid terfynnu dyletswyddau tuag at oroeswyr camdriniaeth oherwydd ymddygiad rhywun sy'n byw gyda nhw ac sy'n eu camdrin nhw.

Rydym ni'n croesawu'r ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' ac yn cytuno bod gan hyn y potensial i adnabod llawer o bobl sydd angen cymorth digartrefedd ac i'w helpu i gael mynediad ato. Fe gawsom ni ein synnu bod rhai sectorau allweddol wedi eu hepgor o'r rhestr o gyrff cyhoeddus ac mae wedi bod yn ddiddorol clywed beth oedd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud, yn enwedig efallai mewn perthynas â'r heddlu. Byddai'n dda cael rhagor o wybodaeth maes o law am yr hyn y gallai'r dulliau amgen hynny y soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet amdanyn nhw eu cynnwys.

Ynghylch Rhan 2 y Bil, sef dyrannu tai cymdeithasol, rydym ni wedi tynnu sylw at ein pryderon sylweddol ynghylch rhoi pŵer i awdurdodau lleol bennu categorïau o bobl sy'n gymwys i gael tai cymdeithasol. Bydd pŵer o'r fath yn rhoi hyd braich rhyngddom â'r syniad cyffredinol y gall unrhyw un wneud cais am dŷ cymdeithasol, ac rydym yn amheus ynghylch ei gynnwys yn y Bil. Ni chlywsom ni dystiolaeth i gefnogi'r ddarpariaeth, ac nid ydym ni'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau ei hachos dros y ddarpariaeth hon yn ddigonol.

Llywydd, gallaf weld bod amser yn prysur gerdded, felly efallai y gallwn i ddim ond dweud eto, fel y dywedais i yn gynharach, ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ond credwn y byddai gweithredu ar ein hargymhellion yn gwneud y ddeddfwriaeth yn fwy effeithiol. Rwy'n croesawu'n fawr rai o'r pwyntiau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u gwneud heddiw mewn ymateb i'n pryderon, ond byddem yn dal i ofyn fel pwyllgor bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych yn ofalus iawn ar yr holl bwyntiau rydym ni wedi'u codi, a rhai o'r pwyntiau rydw i wedi'u crybwyll heddiw. Diolch yn fawr.

18:35

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf—Peredur Owen Griffiths. 

Diolch, Llywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle yma i gymryd rhan yn y ddadl ar ran y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn tri o'n hargymhellion, ond mae'r tri argymhelliad sy'n weddill wedi eu derbyn mewn egwyddor yn unig. Hoffwn gymryd munud neu ddau i amlinellu safbwynt y pwyllgor.

Rydym yn eithaf bodlon â goblygiadau ariannol y Bil fel y'u nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, mae gennym ni rai pryderon ynghylch cadernid y dystiolaeth a ddefnyddir fel sail i'r amcangyfrifon costau. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yr heriau a achosir gan ddata cyfyngedig ac ystadegau afreolus dros y pum mlynedd diwethaf. Er ein bod yn derbyn bod y dystiolaeth orau sydd ar gael wedi'i defnyddio, credwn fod angen modelu pellach i ddeall cost digartrefedd yn y sector cyhoeddus mewn gwahanol sefyllfaoedd

Dyna pam mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw am gynnal a chynnwys dadansoddiad sensitifrwydd mewn asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru ar ôl Cyfnod 2. Rwy'n falch o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr argymhelliad hwn a bydd yn ystyried gwahanol ragdybiaethau ynghylch cyfraddau twf a'r effaith ar amcanestyniadau cost yn yr asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cyllid i awdurdodau lleol yn ystod blynyddoedd cyntaf y gweithredu ac mae'n disgwyl i fanteision ariannol fwy na gwrthbwyso costau deddfwriaeth erbyn 2028-29. Credwn fod yn rhaid i awdurdodau lleol gael eu cefnogi trwy gydol y cyfnod pontio, nid dim ond ar y dechrau, yn enwedig os bydd oedi gyda'r buddion ariannol hynny.

Mae ein hail argymhelliad yn ceisio eglurder ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried fel blynyddoedd cyntaf y cyfnod gweithredu at ddibenion ariannu, ac yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i roi sicrwydd y bydd cyllid yn parhau pe bai diffygion yn ymddangos. Mewn ymateb, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn nodi'r gwahanol gamau gweithredu dros gyfnod o 10 mlynedd ac yn cydnabod y bydd angen buddsoddiad wedi'i dargedu ar gyfer camau diweddarach. Mae hi hefyd yn derbyn, mewn egwyddor, y dylai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol barhau i ddarparu cyllid i gefnogi awdurdodau lleol os bydd diffygion cyllido yn codi o ganlyniad i beidio â gwireddu buddion ariannol cyn gynted ag y disgwyliwyd.

Gan droi at feysydd penodol yn ein hadroddiad, fe glywsom ni fod rhywfaint o fuddsoddiad eisoes wedi'i wneud i helpu awdurdodau lleol i gysoni eu system ddigartrefedd wrth baratoi ar gyfer y Bil. Mae ein trydydd argymhelliad yn gofyn am ddadansoddiad o'r cyllid hwn, y gweithgareddau y mae wedi'u cefnogi, a manylion ynghylch sut a phryd y bydd cyllid yn y dyfodol yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol i adlewyrchu eu hanghenion unigol. Unwaith eto, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ac yn ymrwymo i ddiweddaru'r pwyllgor ar ôl cyhoeddi cyllideb ddrafft fanwl Llywodraeth Cymru ddoe.

Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r pwysau capasiti sy'n wynebu awdurdodau lleol, ac fe glywsom ni fod rhai eisoes yn ailstrwythuro yn disgwyl y Bil. Mae ein pedwerydd argymhelliad yn canolbwyntio ar y mater hwn ac yn galw ar i'r Ysgrifennydd Cabinet ddarparu manylion am y gweithgareddau ailstrwythuro hyn a'r costau cysylltiedig, ac i gadarnhau a yw'r costau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Gan dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau nad yw'r gost lawn o weithredu yn yr asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i haddasu ar gyfer unrhyw waith a wnaed eisoes gan awdurdodau lleol.

Mewn perthynas â Rhan 2 o'r Bil, nodwn y bydd y pŵer gwneud rheoliadau arfaethedig yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu gwybodaeth safonol i'w chynnwys yn y gofrestr dai gyffredin. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r bylchau presennol mewn data tai cymdeithasol, ond rydym yn teimlo bod angen rhagor o waith yn y maes hwn. Dyna pam mae ein pumed argymhelliad yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i gytuno ar y data i'w gynnwys ym mhob cofrestr, ac i gadarnhau a yw cynnal cofrestr dai gyffredin yn parhau i fod yn cost-niwtral i'r rhai sydd eisoes yn eu gweithredu. Rwy'n falch o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac y bydd yn prysuro ymlaen gyda'r ymgysylltiad rhanddeiliaid hwn ac yn adrodd yn ôl i ni.

Yn olaf, Llywydd, mae'r pwyllgor am ail-bwysleisio pwysigrwydd adolygiad ôl-weithredu cadarn, ac rydym yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i fonitro costau a buddion gwirioneddol. Mae ein chweched argymhelliad—a’n hargymhelliad olaf—yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet egluro ei dull o fonitro ac adolygu gweithrediad y Bil, gan gynnwys yr amserlen arfaethedig. Eto, mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr argymhelliad hwn ac yn bwriadu egluro ei dull drwy welliannau yng Nghyfnod 2. Diolch yn fawr.

18:40

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Daeth adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil i ddau gasgliad a gwnaeth bum argymhelliad. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei hymateb, a ystyriodd y pwyllgor ddoe.

Yn gyntaf, o ran hygyrchedd y Bil, mae'r pwyllgor yn credu nad yw'r Bil yn hawdd i'w ddilyn, ac, o ganlyniad, nid yw'n hawdd deall pa newidiadau sy'n cael eu gwneud trwy ddarllen y Bil ar ei ben ei hun. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor, unwaith y gorfodir y ddeddfwriaeth, byddai pob darllenydd yn gallu cael mynediad at fersiwn gynhwysfawr o Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 fel y'i diwygiwyd. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn ymwybodol mai dim ond gwasanaethau taledig fel Westlaw a LexisNexis sy'n darparu fersiynau cynhwysfawr o'r Deddfau fel y'u diwygiwyd mewn modd amserol. Mae'n annhebygol y bydd gwasanaethau o'r fath yn hygyrch ac ar gael i ddinasyddion Cymru, ac efallai y bydd angen iddyn nhw ddeall y fframwaith ar gyfer digartrefedd a deddfwriaeth tai yng Nghymru ac felly eu hawliau o dan y ddeddfwriaeth.

Gan barhau â'r thema o hygyrchedd, roedd gan y pwyllgor beth pryderon am ddarpariaethau yn y Bil o ran y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu'. Trwy adran 21, mae adran newydd yn cael ei hychwanegu at Ddeddf 2014 sy'n creu dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus penodol i adnabod lle gall unigolion fod yn ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd, ac yna ceisio eu caniatâd i wneud atgyfeiriad at yr awdurdod tai lleol. Mae'r pwyllgor yn nodi yn yr adroddiad hwn fod mwy na dwsin o awdurdodau cyhoeddus wedi'u nodi ar wyneb y Bil. Ond mae'r Llywodraeth hefyd yn ceisio pŵer Harri'r Wythfed a fyddai'n ei galluogi i ychwanegu at y rhestr. Mae'r pwyllgor o'r farn ei bod hi'n anffodus, o safbwynt hygyrchedd y gyfraith, nad yw rhestr derfynol o gyrff cyhoeddus y disgwylir iddyn nhw fod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' eisoes wedi eu nodi ar wyneb y Bil.

Byddaf yn symud ymlaen at ystyriaeth y pwyllgor o gynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer gweithredu'r Bil. Bydd y cynlluniau hyn yn ymestyn y tu hwnt i'r seithfed Senedd ac i mewn i'r wythfed Senedd. O ystyried cylch gwaith y pwyllgor a phwyslais ein craffu, nid ydym yn teimlo y gallwn ni wneud sylwadau ar barodrwydd y sector a'i allu i reoli gofynion y ddeddfwriaeth newydd ac felly cyflymder ei weithredu'n llawn. Fodd bynnag, byddai swyddogaeth y pwyllgor yn helpu i sicrhau bod y Senedd yn gwneud cyfraith dda nad yw'n gorddirprwyo pŵer i'r Weithrediaeth i'w ddefnyddio ar adeg amhenodol yn y dyfodol. Am y rheswm hwn mae'r pwyllgor yn credu y dylid cryfhau'r Bil i amddiffyn y Senedd a swyddogaeth ei Aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd, ac felly rydym ni wedi gwneud dau argymhelliad.

Yn gyntaf, dylid diwygio'r Bil fel ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd i'r Senedd erbyn diwedd 2028 fan bellaf ar y camau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth i symud ymlaen tuag at weithredu'r Ddeddf yn llawn. Dylid diwygio'r Bil hefyd fel bod angen cyflwyno adroddiad pellach gerbron y Senedd erbyn diwedd 2029, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gweithredu'r Ddeddf. Mae'r pwyllgor yn credu bod yn rhaid i'r adroddiad cynnydd hwn gynnwys manylion unrhyw oedi yn yr amserlen weithredu a amlinellir yn yr adroddiad cyntaf, a'r rheswm dros yr oedi hyn. Yn ail, mae'r pwyllgor o'r farn y dylid diwygio'r Bil fel ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru werthuso'r Ddeddf, gan gynnwys ei heffeithiolrwydd wrth gyflawni ei hamcanion, erbyn diwedd 2033. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i gyflwyno gwelliannau i fynd i'r afael â'r ddau argymhelliad hyn.

Yn olaf, mae'r pwyllgor wedi gwneud dau argymhelliad ynghylch pwerau dirprwyedig penodol yn Rhan 2 o'r Bil sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer dyraniad tai cymdeithasol. Mae adran 35 yn dirprwyo pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru a fydd yn eu galluogi i ragnodi dosbarthiadau o bobl y caniateir eu trin fel personau cymwys sy'n ddyledus o ffafriaeth resymol wrth ddyrannu tai cymdeithasol. Cynigir y byddai rheoliadau o'r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn ddiddymu'r Senedd. Argymhelliad 4 yn adroddiad y pwyllgor yw y dylid diwygio'r Bil fel bod y rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd.

Yn yr un modd, gan y gall rheoliadau a wneir o dan adrannau newydd 160D a 160E, fel y'u mewnosodwyd gan adran 38 o'r Bil, roi swyddogaethau i awdurdodau tai lleol, nid yw'r pwyllgor o'r farn y bydd y weithdrefn ddiddymu yn caniatáu i'r Senedd graffu'n briodol. Ac o ran argymhelliad 5, dylid diwygio'r Bil fel bod y rheoliadau hyn hefyd yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd. Unwaith eto, mae'r pwyllgor yn croesawu derbyniad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r argymhellion hyn. Diolch, Llywydd.

18:45

Rwy'n gwybod bod pawb yma yn cefnogi gwelliannau i fynd i'r afael â digartrefedd, ac o safbwynt y Ceidwadwyr, rydym ni'n croesawu ymdrechion i wneud hynny, yn enwedig wrth helpu pobl i osgoi dod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Felly, yn hyn o beth rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.

Fodd bynnag, byddaf yn dweud, ar ôl ymgynghori â nifer o randdeiliaid, ei bod yn amlwg nad ffon hud yw'r ddeddfwriaeth hon. Mae graddfa'r argyfwng digartrefedd yng Nghymru, wedi'i waethygu gan gyflwr ofnadwy y ddarpariaeth dai, y gwrthdaro ym mholisïau Llywodraeth Cymru ar dai a'r amgylchedd, a'r ffaith bod y gyfradd adeiladu tai ar un o'i lefelau isaf erioed, wedi arwain llawer i gredu y bydd effaith y Bil yn gyfyngedig. Rhaid i ni hefyd gydnabod bod digartrefedd yn aml wedi'i wreiddio mewn amgylchiadau personol cymhleth—chwalu perthynas, dibyniaeth, anhwylder straen ôl-drawmatig, gwrthdaro teuluol, pontio o ofal neu garchar, cam-drin domestig—ac mae cartrefu unigolion sydd â'r fath fregusrwydd ac anghenion cymhleth yn bell o fod yn syml.

Er y gallwn ni ac y dylem ni ddarparu gwasanaethau cymorth cadarn, rydym ni'n mynd i wynebu heriau parhaus, a gall hyn esbonio pam, er gwaethaf ymdrechion cynyddol gan awdurdodau lleol, mae'r cyfraddau atal a lliniaru digartrefedd wedi aros yn sefydlog ers Deddf Tai (Cymru) 2014. Felly, yn ei ffurf orau, credaf na fydd y Bil hwn yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd, ond yn hytrach yn helpu i wella cyflymder a hygyrchedd darparu llety i'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu'r rhai sydd eisoes yn. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud y bydd y Bil yn ehangu mynediad at wasanaethau digartrefedd ac yn gwella cefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen.

Rwyf wedi siarad yn uniongyrchol â staff rheng flaen mewn gwasanaethau digartrefedd a llety dros dro, ac maen nhw'n wynebu heriau sylweddol, bygythiadau cyson o drais a thâl annigonol sy'n methu ag adlewyrchu straen a phwysau eu swyddi. Os yw'r Bil hwn i lwyddo, rhaid ei ategu gyda chefnogaeth sylweddol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector; nid yn unig ariannol, ond hefyd o ran iechyd a lles. Mae angen cyllid hirdymor arnom ni hefyd ar gyfer gwasanaethau sy'n cefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio gan gaethiwed a thrais. Pryder parhaus yw natur tymor byr cylchoedd cyllido, sy'n arwain at drosiant staff uchel ac sy'n tanseilio cysondeb gwasanaethau. Nid yw hyn i ddweud na ddylem ni geisio, ond mae'n rhaid i ni fod yn realistig. Nid yw'r Bil yn cynnig datrysiad cyflym ac mae llawer o faterion brys y tu hwnt i'w gwmpas.

Pryder mawr a godwyd gan randdeiliaid yw'r diffyg tai sydd ar gael. Mae'r farchnad rhentu preifat yn crebachu mewn sawl rhan o Gymru ac nid oes digon o gartrefi i ateb y galw. Mae'r cynnig i gael gwared ar y gofrestr flaenoriaeth a'r profion bwriad yn ddadleuol. Er fy mod i'n cyfaddef, fodd bynnag, bod y rhan fwyaf o bobl sy'n dweud eu bod yn ddigartref ar hyn o bryd yn bodloni meini prawf blaenoriaeth, mae newid i fodel cyntaf i'r felin mewn system sydd eisoes dan bwysau yn peryglu gwaethygu'r broblem a chynyddu pwysau ar wasanaethau.

O safbwynt technegol, mae'r Bil yn gofyn am ddiwygiad sylweddol. Er enghraifft, rhaid cydbwyso agweddau'r Bil ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn derbyn atgyfeiriadau tai gan awdurdodau lleol â dyletswydd tebyg ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth berthnasol am anghenion tai a chymorth tenantiaid. Bydd hyn yn helpu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i wneud penderfyniadau gwybodus sydd o fudd i unigolion a chymunedau, gan sicrhau tenantiaethau cynaliadwy. Heb yr wybodaeth hon, mae risgiau gwirioneddol i ddiogelu a chydlyniant cymunedol. Yn ogystal, mae'r Bil yn mynnu bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr preifat yn dyrannu eiddo ar gyfer cofrestr dai gyffredin a gynhelir gan awdurdodau lleol. Os caiff ei weithredu, mae'n hanfodol bod y gofrestr hon yn cynnwys tai cymdeithasol yn unig, nid tai marchnad neu fyfyrwyr, ac yn caniatáu trosglwyddiadau angenrheidiol y tu allan i'r gofrestr.

Rydym yn croesawu'r eithriad parhaus rhag atgyfeirio ar gyfer ymgeiswyr sydd mewn perygl o gamdriniaeth os byddant yn dychwelyd i'w hardal cysylltiad lleol, a'r diffiniad ehangach o gam-drin i gynnwys ffurfiau domestig a ffurfiau eraill—y ddau yn amddiffyniad hanfodol i unigolion agored i niwed. Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad yw'r Bil yn eithrio cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru o'r prawf cysylltiad lleol. Er ein bod yn cydnabod addewid yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno is-ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â hyn, rydym yn pryderu am yr ymrwymiad hwn y tu hwnt i'r tymor seneddol presennol, yn enwedig o ystyried yr amserlen weithredu sy'n ymestyn i'r Senedd nesaf. Felly, safbwynt cadarn ein grŵp yw y dylid ymgorffori eithriad i gyn-filwyr.

Yn olaf, mae'n rhaid i mi fynegi siom na wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar y Bil drafft, gan ddewis ymgynghori ar y Papur Gwyn yn unig. Mae absenoldeb mewnbwn gan y sector tai wrth ddrafftio wedi creu teimlad bod y Bil yn cael ei frysio, sy'n peryglu creu canlyniadau annisgwyl.

I gloi, er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, mae'n rhaid i ni fod yn glir am ei gyfyngiadau. Bydd angen llawer mwy i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae angen i ni gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, rhyddhau'r farchnad yn sylweddol i adeiladu mwy o gartrefi a datrys gwrthdaro polisi sy'n rhwystro cynnydd ar hyn o bryd. Heb fynd i'r afael â'r materion ehangach hyn, bydd nodau'r Bil hwn yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd. Diolch.

18:50

Mae Plaid Cymru yn croesawu egwyddorion cyffredinol y Bil yma, sy'n anelu at atal digartrefedd, gwella'r cymorth sydd ar gael ac i sicrhau system decach i bawb. Nid mater o dai yn unig ydy digartrefedd, wrth gwrs; mae'n fater sy'n ymwneud ag iechyd, addysg, lles a chydraddoldeb. Dwi'n gefnogol o'r Bil yma, sy'n ceisio newid y dull o ymateb, gan symud oddi wrth ymateb i argyfyngau tuag at ymagwedd ragweithiol, sy'n ceisio atal yr argyfwng yn y lle cyntaf. Ond mae hi'n amlwg o'r cyfraniadau sydd wedi bod cyn belled fod angen cryfhau rhai o'r manylion wrth i ni symud ymlaen at y cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol.

Does yna ddim amser mwy prydlon na'r presennol i weithredu. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r data'n dangos bod dros 13,000 o bobl wedi ceisio cymorth oherwydd digartrefedd. Mae dros 10,000, gan gynnwys bron i 3,000 o blant, yn byw mewn llety dros dro, yn aml heb gyfleusterau sylfaenol fel cegin i goginio. Ac er bod Llywodraeth Cymru wedi honni eu bod nhw'n blaenoriaethu digartrefedd, mae'r ffigurau'n dangos realiti gwahanol, ac mae hi'n cael ei rhagweld y gallai digartrefedd godi 24 y cant erbyn 2041.

Mae'n argyfwng, felly, onid ydy? Does yna ddim amheuaeth bod y Bil yn cynnwys camau cadarnhaol, a dwi'n croesawu'r dull 'gofyn a gweithredu', ond dwi yn teimlo bod yna gyfle i fynd ymhellach a bod angen ehangu'r rhestr o gyrff cyhoeddus sydd yn delio efo pobl ar lawr gwlad, megis ysgolion, yr heddlu a meddygon teulu. A dwi'n meddwl bod eisiau eglurhad pellach ar sut bydd y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' yn cael ei monitro. Ac mae eisiau gofyn cwestiynau ynghylch ydy'r capasiti yno i weithredu'r ffordd yma mewn ffordd ymarferol.

Dwi'n meddwl bod yna gyfle i gryfhau gofynion a disgwyliadau ynghylch casglu a chyhoeddi data. Mae yna fylchau yn y Bil ynghylch sut y gall data gyfrannu at drawsnewid y system. Mae yna gyfle i fod yn fwy uchelgeisiol drwy sicrhau digideiddio, cysondeb rhwng awdurdodau lleol, a galluogi pobl i fonitro eu safle ar y gofrestr, er enghraifft.

Gan droi at Ran 2 o'r Bil yn benodol, dwi yn meddwl bod angen craffu hwn yn ofalus iawn, a dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael y cyfle i wneud y craffu yna yn iawn eto. Ychydig iawn o bobl sydd wedi cyfeirio at hwn y prynhawn yma. Mi fuasai Rhan 2 yn rhoi pŵer disgresiynol i awdurdodau lleol i benderfynu pwy sy'n gymwys i gael tai cymdeithasol. Ac, i fi, mae hynny'n mynd yn groes i'r egwyddor sylfaenol y dylai unrhyw berson gael gwneud cais am dŷ cymdeithasol. A dwi yn poeni bod dod â hwn i mewn yn cyflwyno ffordd wahanol o wneud y cyfrif o faint o bobl sydd ar y rhestrau aros, yn hytrach nag yn cynnig datrysiadau tymor hir. Yn fy marn i, mi ddylai tai cymdeithasol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o gyffredinoldeb, sef universality, ac mae'n rhaid i ni wrthsefyll y stigma sy'n gysylltiedig â thai cymdeithasol. Ond dwi yn poeni bod y ddeddfwriaeth yn ei drafft presennol mewn perygl o wneud y gwrthwyneb i hynny, ac mae'r pwyllgor yn nodi nad ydy'r achos wedi'i wneud dros yr agwedd benodol yma o'r Bil, ac felly dwi yn edrych ymlaen at glywed beth fydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud a beth fydd yr eglurhad dros gynnwys y darn yma.

A fy mhwynt olaf ydy, er fy mod i'n cefnogi egwyddorion y Bil yma, wrth gwrs, mae mynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru yn mynd i olygu llawer iawn mwy na phasio'r Bil yma. Dwi'n credu, ac mae Plaid Cymru yn credu, fod angen deddfu i roi'r hawl i dai digonol yn rhan annatod o'r gyfraith yma yng Nghymru ac, yn hollol greiddiol, mae'n rhaid cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn sylweddol er mwyn datrys yr argyfwng tai drwyddi draw. Felly, mae yna gyfle yma i newid bywydau drwy'r Bil yma, ond mae yna elfennau ohono fo angen eu craffu, a dwi yn meddwl hefyd bod yn rhaid rhoi hwn mewn cyd-destun llawer iawn ehangach o beth sydd angen ei wneud ynghylch yr argyfwng tai yng Nghymru. Diolch.

18:55

Rwy'n falch iawn o siarad heddiw am egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n cefnogi'r egwyddorion hynny, rwy'n credu ei fod yn gam ymlaen, ac rwy'n cefnogi'r nod o wella atal a lliniaru digartrefedd yng Nghymru, y ffaith ei fod yn canolbwyntio ar atal ac, yn benodol, yn cael gwared ar fwriad, sydd yn fy marn i wedi achosi problemau mawr wrth atal digartrefedd.

Fodd bynnag, mae yna rai pwyntiau rydw i eisiau eu gwneud heddiw, yn enwedig o ran sut mae digartrefedd yn effeithio ar bobl sy'n gadael gofal, a sut mae'r Bil penodol hwn yn eu helpu. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae mwy nag un o bob pedwar o'r holl bobl ifanc ddigartref wedi bod mewn gofal, gyda 26 y cant o unigolion sydd â phrofiad o ofal wedi cysgu ar soffas ffrindiau neu deuluoedd, ac 14 y cant wedi cysgu ar y strydoedd.

Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod bwlch amlwg rhwng y ddeddfwriaeth a'r arfer o ran trefnu llety addas yn ymarferol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Mae'n dal i fod yn gyffredin i bobl ifanc gael eu rhyddhau o'r system gofal yn uniongyrchol i'r system ddigartrefedd, sy'n gwbl annerbyniol, oherwydd ein cyfrifoldeb ni yw'r bobl ifanc hyn. Mae'r ffaith eu bod yn mynd yn uniongyrchol i'r system ddigartrefedd yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd y Bil hwn yn ei atal, oherwydd yn sicr mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod gan bobl sy'n gadael gofal fynediad at dai diogel pan fyddant yn dod allan o'r system ofal. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau eu bod yn gallu ffynnu a phrifio yn eu bywydau fel oedolion trwy gael mynediad at gartref, a pheidio â gadael i'w profiadau mewn gofal ddiffinio eu dyfodol.

Mae'r Bil yn ei ffurf bresennol yn cynnwys darpariaeth i gefnogi pobl sy'n gadael gofal hyd at 21 oed, a phobl sy'n gadael gofal mewn addysg hyd at 25 oed. Yn gyntaf oll, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a allai gadarnhau a yw hyn ar gyfer pobl sy'n gadael gofal mewn addysg amser llawn, neu a yw hefyd yn cynnwys addysg ran-amser? Rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn, oherwydd mae cymaint o bobl mewn addysg ran-amser yng Nghymru.

Yn ail, y duedd bresennol, yn gyffredinol, yw bod oedolion ifanc yn dewis aros yn eu cartref teuluol oherwydd effaith costau byw cynyddol, ac mae tua 30 y cant o bobl ifanc 25 i 29 oed yn byw gyda'u rhieni, a mwy nag 11 y cant o bobl 30 i 34 oed. Felly, pam ddylem ni fod yn disgwyl i bobl sy'n gadael gofal fyw yn annibynnol yn y system ddigartref o 21 oed, pan nad oes rhaid i'w cymheiriaid wynebu hyn? Rwy'n credu bod y Bil hwn yn gyfle i geisio unioni hynny. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn meddwl am hynny.

Hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cofio, i bobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi plant preswyl, nad oes ganddyn nhw'r dewis n o'r cynllun Pan Fydda i'n Barod, sydd ar gael i blant mewn cartrefi maeth. Rwy'n credu ei fod yn sioc go iawn pan maen nhw'n cyrraedd deunaw oed ac yn gorfod gadael y cartref preswyl y buon nhw ynddo o bosib ers amser maith. Mae Lleisiau o Ofal Cymru a'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn glir gyda'u safbwynt y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn cymorth gadael gofal y tu hwnt i 21 oed—dylai fod yn 25 oed ym mhob achos. Rwy'n credu yn Lloegr ei fod hyd at 25, felly fe hoffwn i feddwl y gallai Cymru sicrhau bod ein pobl sy'n gadael gofal yn cael gofal cystal ag y gallan nhw.

Mae yna rai materion eraill hefyd. Rwy'n credu mai diddymu angen blaenoriaethol yw'r peth gorau i'w wneud, ond rwy'n credu y dylid rhoi ystyriaeth ofalus i bobl sy'n gadael gofal, fel nad ydyn nhw'n cael eu heffeithio'n negyddol gan hynny. Hefyd, o ran y prawf cysylltiad lleol, rwy'n credu bod yr effaith ar bobl sy'n gadael gofal o beidio â bod wedi'u heithrio o'r prawf cysylltiad lleol yn un yr wyf yn pryderu amdano, oherwydd mae gan bobl sy'n gadael gofal gysylltiadau yn aml ag ardaloedd nad ydyn nhw yn gysylltiadau teuluol, a rhwydweithiau cyfeillgarwch sy'n eu cysylltu ag ardal benodol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y cysylltiadau hynny'n cael eu cydnabod fel rhai hollol hanfodol, ac yn hanfodol i'w cysylltiadau â chymunedau lleol. Felly, rwy'n gobeithio y gallem ni ystyried eithrio pobl sy'n gadael gofal o'r prawf penodol hwnnw. Ac o ran 'gofyn a gweithredu', rwy'n cefnogi'r cynnig y dylid ei ymestyn i gyrff eraill, ac, yn arbennig, addysg.

Felly, rwy'n croesawu'r Bil a'i amcanion, ac rwy'n credu ei bod yn wych ein bod yn cymryd y cam hwn ymlaen. Ond rwy'n credu ei fod yn gyfle i roi mwy o amddiffyniad i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a'r rhai y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanyn nhw mewn gwirionedd. Diolch.

19:00

Rwy'n llwyr gefnogi egwyddorion y Bil, a pholisi Tai yn Gyntaf Caerdydd, oherwydd y difrod enfawr sy'n cael ei wneud i bobl sy'n canfod eu hunain ar y stryd. Mae hwn yn ddewis llawer drutach na rhoi tai iddyn nhw, hyd yn oed os mai dim ond llety dros dro ydy hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl synhwyrol ein bod yn ymestyn y diffiniad o'r bygythiad o ddigartrefedd o 56 diwrnod, neu wyth wythnos, i chwe mis neu 26 wythnos, oherwydd mae hynny'n amlwg yn cyd-fynd â faint o gyfnod rhybudd y mae'n rhaid i landlordiaid ei roi os ydyn nhw am gael yr eiddo yn ôl gan y tenant. Mae'n hanfodol y cedwir yn gadarn at y cysylltiad lleol â Chymru, fel arall byddwn yn cael yr holl faterion digartrefedd nad ydynt yn cael eu trin yn briodol yn Lloegr. Mae'r methiant i gau'r bwlch o atal yr hawl i brynu yn rhywbeth a ddylai bryderu ni i gyd. Ond ni allwn ni yn ein gwlad fach ddatrys holl broblemau digartrefedd yn Lloegr yn ogystal â'r rhai yng Nghymru.

Oes, mae arnom ni eisiau i ddigartrefedd fod yn beth brin, yn beth fyr ac yn rhywbeth nad yw'n cael ei ailadrodd. Mae hynny'n uchelgais, ond rwy'n ofni fy mod yn cytuno braidd â Joel James bod effaith hyn yn debygol o fod yn gyfyngedig oni bai ein bod yn gallu dod o hyd i ffyrdd o gynyddu faint o lety fforddiadwy, sef tai cymdeithasol yn bennaf. Mae yna anghytgord mor enfawr rhwng y galw a'r cyflenwad. Mae sefydliadau fel y Wallich yn gwneud gwaith gwych yn fy etholaeth i wrth adsefydlu pobl sydd wedi profi digartrefedd, naill ai oherwydd chwalu teulu, problemau caethiwed neu broblemau iechyd meddwl, a'u galluogi i adfer eu hurddas a hefyd eu gallu i gynnal tenantiaeth. Fel arall, rydym ni'n syml yn tanseilio pobl.

Un o'r pethau yr hoffwn i weld mwy o sylw yn cael ei roi iddo yw'r syniad o lety Foyer i bobl ifanc. Lle mae'r berthynas deuluol wedi chwalu a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i symud allan, naill ai oherwydd gorlenwi neu oherwydd camdriniaeth, mae angen i ni fod yn cefnogi pobl ifanc i allu cynnal tenantiaeth yn hytrach na dim ond disgwyl iddyn nhw rywsut gaffael y gallu i reoli eu biliau ar incwm bach iawn.

Rwy'n nodi bod Shelter yn ymddangos i fod wedi gwneud rhywfaint o waith effeithiol iawn, o'r adroddiad a gafwyd ganddyn nhw, oherwydd mae'n rhyfeddol eu bod wedi llwyddo i atal digartrefedd mewn naw o'r 10 achos y buon nhw'n gweithio arnyn nhw, ac mae hynny'n eithaf rhagorol mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor sy'n mynd i archwilio hyn yn ceisio canfod sut y gwnaethon nhw lwyddo i wneud hynny ac a ellir cymhwyso hynny fel mater o drefn.

Rwy'n credu mai un o'r pethau yr ofnaf fy mod i ychydig yn sinigaidd amdano yw'r ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' yma, oherwydd rydym ni'n gwybod nad yw'r gwasanaeth carchardai, gan fwyaf, yn gwneud y trefniadau sydd eu hangen i sicrhau bod gan bobl rywle i fynd, wrth adael y carchar, oherwydd fel arall bydd y gyfradd ailadrodd yn parhau i fod mor ofnadwy ag y mae.

Rwy'n credu bod llawer i'w ganmol yn hyn, ond mae llawer i'w wneud i sicrhau bod y geiriau cain yn y Bil hwn, sy'n amlwg yr hyn y mae'r panel tai arbenigol wedi gofyn i ni ei wneud, yn cael eu hategu gan y newidiadau polisi sydd eu hangen i sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy ar gael.

19:05

Fel Aelodau o'r Senedd, mae digartrefedd a materion tai yn llenwi ein blychau e-bost, ac mae cael cartref lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel ac yn sicr yn hawl ddynol sylfaenol. Felly, mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn cael ei groesawu'n fawr ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn iawn. Rwy'n cytuno â John Griffiths ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ofalus i dderbyn argymhellion y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Rhaid mai'r brif flaenoriaeth yw pwyslais ar gamau ataliol. Mae angen gweithredu hynny'n gynnar er mwyn osgoi unigolyn rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae angen yr ymyrraeth gynnar honno i sicrhau bod unrhyw un sy'n byw gyda bygythiad digartrefedd yn derbyn y gefnogaeth a'r cyngor cywir mewn modd amserol. Roeddwn i'n falch iawn o weld ymestyn y diffiniad o fod dan fygythiad o ddigartrefedd o 56 diwrnod i chwe mis. Mae hynny'n cael ei groesawu'n fawr ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael effaith sylweddol ar nifer y bobl sy'n ddigartref yng Nghymru. Sawl gwaith y mae etholwr wedi cysylltu â ni yn rhy hwyr i'w hatal rhag colli eu cartref?

Rwy'n siŵr bod hyn yn berthnasol i'r nifer o sefydliadau sy'n helpu unigolion yn eu cais i ganfod llety addas. Rwy'n credu y bydd yr estyniad hwn yn atal rhywfaint o ddigartrefedd yn y lle cyntaf. Mae llawer o'r dystiolaeth rydym ni wedi'i chlywed yn ystod y gwaith craffu cynnar ar y Bil, yn enwedig gan sefydliadau sy'n gweithio i roi terfyn ar ddigartrefedd, wedi croesawu'r newid arfaethedig hwnnw. Mae angen i ni hefyd atal teuluoedd rhag cael eu rhoi mewn llety dros dro sy'n gwbl anaddas, heb unrhyw gyfleusterau i allu bwydo neu ofalu am eich teulu.

Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi siarad am y costau ariannol yn eich datganiad agoriadol, ond, wrth gwrs, ni ellir goramcangyfrif cost ddynol digartrefedd. Mae'n drawmatig ac rwy'n gwybod eich bod yn bersonol wedi ymgysylltu â llawer o unigolion sydd yn anffodus wedi cael profiad o fyw felly. Rwy'n credu y bydd yr ymgysylltiad hwnnw y soniwyd amdano gyda dros 300 o bobl yn gwella'r darn hwn o ddeddfwriaeth.

Roedd gen i ddiddordeb arbennig clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud yn ystod y gwaith craffu y bydd dileu'r prawf angen blaenoriaethol o fudd i gymaint o bobl. Rydym yn gwybod nad oedd awdurdodau lleol yn gweithredu gydag angen blaenoriaethol yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn darparu llety yn gyflym i gymaint o bobl â phosibl. Cafodd y prawf hwnnw ei ddileu flynyddoedd lawer yn ôl yn yr Alban, felly pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion wedi'u cael gyda'u cymheiriaid yn yr Alban i ddeall effaith dileu angen blaenoriaethol? Yn benodol, a oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw?

Fel rhan o atal digartrefedd, mae angen darparu cymorth cynnar i bawb a bydd dileu'r prawf bwriad yn darparu hyn. Mae dim ond yr ymadrodd 'digartrefedd bwriadol' yn gwneud imi anesmwytho. Pam fyddai unrhyw un yn gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol? Roedd gen i etholwr a oedd eisiau gadael perthynas gamdriniol a dywedwyd wrthi y byddai hynny'n gwneud ei hun yn ddigartref yn fwriadol, ac felly ni fyddai unrhyw gymorth na llety amgen yn cael ei gynnig. Ni all hynny fod yn iawn.

Er fy mod yn gwerthfawrogi bod nifer y bobl ledled Cymru yr ystyrir eu bod wedi gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol yn gymharol fach, rwy'n croesawu'n fawr cael gwared ar y prawf hwn. Rwy'n ei weld fel rhan hanfodol o'r ddeddfwriaeth hon a'i nodau. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod rhai awdurdodau lleol yn pryderu am ddileu'r prawf hwn a chyflwyno'r prawf camfanteisio bwriadol rydych chi'n ei gynnig. Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet egluro beth mae'r prawf newydd yn anelu at ei gyflawni wrth atal digartrefedd?

Byddwn i gyd wedi gweld cyflwr ofnadwy rhai o'r llety dros dro yn ein hetholaethau sy'n cael eu cynnig i unigolyn pan fyddant yn ddigartref. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad a nodir yn y Bil i gyhoeddi adroddiad bob pum mlynedd ar y defnydd a'r cyflwr o lety dros dro. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at gynnydd sylweddol mewn safonau. Ond wrth gwrs, dylai llety dros dro fod yn ddewis olaf. Wrth gwrs, rwy'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ond edrychaf ymlaen yn fawr at graffu pellach ar y Bil fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

19:10

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai nawr i ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant.

Diolch, Llywydd. Gadewch i mi ddechrau trwy ddiolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw. Rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn i mi fod atal digartrefedd yng Nghymru yn uchelgais y mae'r holl bleidiau yn ei rannu. Mae hi wedi cymryd blynyddoedd i ddatblygu'r Bil hwn. Fel y dywedais i, rydyn ni wedi mynd trwy broses hir ar hyn, ac mae fy rhagflaenydd, Julie James, wedi mynd trwy'r broses honno hefyd. Dim ond siarad â'r 350 o bobl hynny sydd â phrofiad bywyd, pan oeddwn i'n gallu cyflwyno'r Bil, ac i allu clywed a siarad yn uniongyrchol â'r bobl hynny a ddaeth i'r Senedd—. Mae hyn yn fy atgoffa o hynny, ac rydw i'n meddwl amdanyn nhw.

Wrth gwrs, mae yna feysydd o'r Bil lle hoffai Aelodau weld newid ac rwy'n agored i weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y meinciau hyn ar y newidiadau hynny. Ond mae'n amlwg i mi fod sylfeini'r Bil hwn yn gryf, mae'r uchelgais yn glir ac mae'r pwrpas yn iawn. Mae'r farn hon yn cael ei chefnogi gan y pwyllgorau craffu a chan ein rhanddeiliaid, ac rwy'n eich annog chi i gyd i gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny heddiw.

Llywydd, cafwyd llawer o gyfraniadau. Gallaf weld na fyddaf yn gallu mynd trwy'r holl gyfraniadau hynny, ond rwyf wedi gwneud llawer iawn o nodiadau. Mae hwn yn Fil beiddgar ac uchelgeisiol iawn. Mae'n mynd i drawsnewid ein system digartrefedd, felly mae'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, ac yn osgoi gwthio pobl tuag at argyfwng. Ac mae hynny'n rhywbeth y soniodd Siân Gwenllian a Lesley Griffiths amdano, am bwysigrwydd yr ymyrraeth gynnar honno, a siaradodd Lesley yn bwerus iawn am y bobl hynny sydd wedi cael eu bygwth â digartrefedd, a'r gwahaniaeth y bydd y newid hwnnw o symud i atal o 56 diwrnod i chwe mis yn ei wneud.

Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths am ei gyfraniad ac am sôn hefyd, fel y gwnaeth Aelodau eraill, am gyflenwad. Yn amlwg, rwy'n deall bod cyflenwad yn rhan o'r pos cyfan hwn, ond rydym yn gwybod bod creu mwy o gartrefi yn un o'n blaenoriaethau allweddol, yn enwedig gan ein bod yn gwybod am dai cymdeithasol a sut y gall hynny helpu i leihau tlodi, gwella iechyd corfforol a meddyliol a lles, helpu canlyniadau addysgol a helpu i ysgogi twf economaidd. Ond gadewch i ni fod yn glir, rydym yn rhoi'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, dros £2 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon, i mewn i dai, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Mae hynny'n rhan fawr o'r jig-so cyfan hwnnw.

Diolch, Peredur, am eich cyfraniad. Rydw i wedi bod yn glir iawn bod angen buddsoddiad ymlaen llaw. Roedd hynny'n rhywbeth, eto, yr oeddech chi'n gallu ei nodi hefyd, a bod hynny'n cael ei gynnwys yn y gyllideb ddrafft hefyd, wrth i awdurdodau lleol ddechrau'r broses bontio honno. Mae hynny'n bwysig iawn a byddwn ni'n parhau, yn amlwg, i weithio gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, ond, fel y mae eraill wedi dweud, mae yna gost ynghlwm wrth wneud dim hefyd. Ar hyn o bryd, mae ein system yn gwthio pobl i'r pwynt argyfwng hwnnw ac mae'r gost ddynol yna yr ydym i gyd yn ymwybodol ohoni hefyd. Bydd dull graddol, ac rwy'n credu bod hynny'n hanfodol er mwyn gweithredu'r Bil yn effeithiol, a bydd hynny'n sicrhau bod ein partneriaid darparu yn ymgysylltu'n llawn.

Fe wnaeth Joel James sôn am y gweithlu, ac rwy'n gwybod bod y gweithlu yn hollol anhygoel. Allwn ni ddim rhoi terfyn ar ddigartrefedd heb weithlu cryf, medrus a gefnogir. Mae staff yn gwneud gwaith hanfodol, yn aml o dan amodau anodd iawn, ac rydyn ni, yr holl Siambr—rwy'n siŵr y gallaf siarad ar ein rhan ni i gyd—yn ddiolchgar iawn am bopeth y mae'r gweithlu yn ei wneud. Mae gennym ni grŵp gorchwyl a gorffen ar y gweithlu, ac mae hwnnw'n datblygu argymhellion ar bethau fel cyflog, sgiliau, staff cymorth, recriwtio a chomisiynu.

Hoffwn hefyd sôn am y pwynt a wnaeth Joel o amgylch cyn-filwyr hefyd. Rydym wedi gofyn i swyddogion ystyried cynlluniau i atal cysylltiad lleol rhag gweithredu fel mecanwaith blaenoriaethu i gyn-filwyr sy'n gwneud cais am dai cymdeithasol, gan ddefnyddio ein pwerau presennol, a bydd hyn yn helpu i atal cyn-filwyr rhag cael eu gwthio i lawr y rhestr ar gyfer tai cymdeithasol dim ond oherwydd nad oes ganddyn nhw gyswllt lleol. Felly, rydym hefyd wedi dechrau adolygu ein llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau'r lluoedd arfog hefyd. Soniodd Siân Gwenllian fod rhestrau aros tai cymdeithasol yn gofrestrau o bobl a fyddai'n dymuno tai cymdeithasol, ond nid ydynt yn gofrestrau o angen tai ac ni ellir dibynnu arnynt i asesu angen tai, ar lefel genedlaethol na lleol.

Mewn ymateb i Julie Morgan, rwy'n gwybod ei bod yn poeni'n fawr iawn am bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, fel yr wyf innau'n ei wneud ac, fel y gwn i, y mae Aelodau eraill yn y Siambr heddiw, rwyf am ddiolch iddi am dynnu sylw at faterion pwysig pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a pha mor aml maen nhw wedi cael eu gadael allan yn yr oerfel gan ein system. Rwy'n credu bod ceisio cadw pobl sy'n gadael gofal y tu allan i'r system ddigartrefedd hon yn hollbwysig. Rwy'n credu mai dyma un o'r pethau y bydd y Bil hwn yn ei wneud. Dydyn ni ddim eisiau gweld person ifanc yn gadael gofal ac yn cael ei gymryd i'r gwasanaethau digartrefedd. Nid dyna fydd y Bil hwn yn ei wneud. Mae hyn, rwy'n credu, yn mynd i unioni hynny. Ond mae'n canolbwyntio ar y pwynt pontio. Felly, pan fydd person ifanc yn gadael gofal ac yn wynebu'r risg fwyaf o ddigartrefedd, mae'n sicrhau bod y rhai sy'n gadael gofal, p'un a ydyn nhw'n ddigartref neu beidio, yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer tai cymdeithasol. Felly, mae'r Bil yn adlewyrchu'r chwe chategori o bobl sy'n gadael gofal a nodir yn ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a bwriedir i'r adran newydd o ddyletswyddau 108A weithredu ochr yn ochr â dyletswyddau presennol a nodir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ac nid yn eu lle. Ond rwy'n croesawu argymhelliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y dylid asesu'r achos dros ymestyn darpariaethau sydd wedi'u hanelu at bobl sy'n gadael gofal yn y dyfodol, ac rwyf wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor a byddaf yn edrych ar hyn fel rhan o'n gwaith ehangach. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor, os oes angen newid i ddeddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol, yna mae'n well ei wneud drwy'r diwygiad i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, gan y bydd hyn yn gofyn am ystyriaeth fwy helaeth gyda rhanddeiliaid.

Ond, Llywydd, mae hwn yn bolisi rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn poeni'n fawr amdano, ac rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r Bil. Diolch.

19:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 9 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu i'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r ddau gynnig yna o dan y Bil yma wedi cael eu derbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cyfnod Pleidleisio

Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth at y bleidlais. Un bleidlais yn unig sydd heno, ac mae'r bleidlais honno ar eitem 8. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cynllunio a Seilwaith yw hwn. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 11 yn ymatal ac un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 8—Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynllunio a Seilwaith: O blaid: 36, Yn erbyn: 1, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:22.