Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/10/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Mike Hedges.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar argaeledd tai yn Abertawe? OQ63191
Nid moeth yw cartref sefydlog, mae'n sylfaen i fywyd diogel, a dyna pam mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi ymrwymo £2 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd. Nawr, yn Nwyrain Abertawe, mae hynny'n 700 o gartrefi cymdeithasol newydd, a 1,500 o deuluoedd yn dod yn berchnogion cartref—cynnydd mesuradwy gwirioneddol. A wnaethom ni ddim arafu; fe wnaethom ni gyflymu. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn falch o fod yn ysgogi'r rhaglen tai cymdeithasol fwyaf uchelgeisiol yn hanes ein cenedl.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n gofyn am adolygiad o dai sydd ar gael yn Abertawe. Mae angen i'r adolygiad hwn nodi nifer yr eiddo gwag hirdymor, gan gynnwys fflatiau uwchben eiddo busnes—rwy'n diffinio eiddo gwag hirdymor fel un sydd wedi bod yn wag ers pum mlynedd, a'r eiddo hynny yr oeddwn i'n cerdded heibio a oedd yn wag yn yr etholiad diwethaf, rwy'n debygol o fod yn cerdded heibio nhw'n wag yn yr etholiad nesaf; nifer yr ail gartrefi—nid yw'r gallu i siarad Cymraeg yn gwneud bod ag ail gartref yn dderbyniol, fel y dywedodd un o'r bobl yn Abertawe wrthyf i; llunio rhestr Airbnb, gan weithio tuag at drwyddedu Airbnb, ac i'w hunaniaeth gael eu rheoli yn yr un modd â thai mewn amlfeddiannaeth; ac, yn olaf, y tai cymdeithasol sydd ar gael. Oes, mae rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud, ond mae angen i ni gael mwy o gynnydd o ran tai cymdeithasol, ac mae angen i ni gynyddu nifer yr eiddo sydd gan gynghorau i'w rhentu.
Diolch yn fawr. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw asesu anghenion tai eu poblogaethau, ac, yn amlwg, mae angen i hynny gymryd demograffeg i ystyriaeth. Ac, fel y dywedais i, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n canolbwyntio ar anghenion y bobl sydd angen tai cymdeithasol. Dyna pam rydym ni wedi buddsoddi cymaint o arian.
Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld, fel rydych chi'n ei awgrymu, yw nifer enfawr o dai sydd wedi'u troi'n Airbnbs, a dyna pam mai un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yw cyflwyno mecanwaith i wneud yn siŵr bod yn rhaid i bobl gofrestru os ydyn nhw eisiau cyflwyno hyn i'w cartrefi. Mae gennym ni gyfres o fesurau ategol, ac, hefyd, byddwch yn ymwybodol bod 20 o awdurdodau lleol sydd eisoes wedi cyflwyno codi tâl ar bremiwm eiddo gwag hirdymor—mae 20 ohonyn nhw eisoes yn gwneud hyn.
Rydych chi wedi dweud, Prif Weinidog, y byddech chi'n taro'r addewid a wnaethoch chi yn eich maniffesto o 20,000 o gartrefi newydd i'w rhentu'n gymdeithasol erbyn yr etholiad. A wnewch chi, ac os gwnewch chi, pam mae Archwilio Cymru yn meddwl na wnewch chi?
Diolch yn fawr iawn. Mae'n wir ein bod ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni wedi darparu bron i 9,000 o gartrefi i'w rhentu yn y tair blynedd gyntaf. Nawr, rydym ni'n gwybod ei fod yn debygol o gyflymu tua diwedd y broses, oherwydd mae'n cymryd amser hir i adeiladu tŷ. Allwch chi ddim clicio eich bysedd a gweld pethau'n dod dros nos. Felly, rydym ni'n hyderus y byddwn ni'n gweld cynnydd enfawr i'r nifer. Byddwn yn cyrraedd yr 20,000 erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Felly, mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud ar hyn, ac mae hynny er gwaethaf y ffaith pan wnaethom ni gyhoeddi'r targed hwnnw, ein bod ni'n dod allan o COVID, roedd gennym ni chwyddiant enfawr, ac rydym ni wedi gweld ecsodus o adeiladwyr yn gadael o ganlyniad i Brexit. Felly, mae'r holl bethau hynny wedi arwain at anawsterau i ni gyrraedd y targed hwnnw, ond rydym ni'n mynd i ddod yn agos iawn, os nad cyrraedd y targed hwnnw, erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Fel pob Aelod o'r Senedd, dwi'n siŵr, diffyg tai a rhestrau aros hir ar gyfer tai yw un o'r materion mwyaf cyffredin y mae fy etholwyr yn ei godi gyda fi. Ac fe wnaeth fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Adam Price eich holi chi'n ddiweddar, Brif Weindiog, am eich ymateb i'r lleihad dramatig mewn codi tai sydd wedi bod ar draws Cymru, a hynny tra bod 94,000 o aelwydydd ar restr aros ar gyfer tai. Mae ffigurau'r Llywodraeth yn dangos cwymp o 26 y cant o ran y gwaith i godi tai newydd, ac mae hynny draean yn is na degawd yn ôl. Felly, ydych chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol nad yw gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod argaeledd tai yn cwrdd â'r galw yn ddigonol, tra bod cenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol wedi sicrhau cynnydd bach, sydd eto'n araf ond o leia'n mynd i'r cyfeiriad iawn? Sut ydych chi'n bwriadu rhoi mwy o ffocws ar y gwaith yma, er lles y trigolion dwi'n eu cynrychioli?
Diolch yn fawr iawn. Mae ein pwyslais wedi bod ar dai cymdeithasol, lle mae gennym ni, yn amlwg, fwy o reolaeth. Ond, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw dros 16,000 o gartrefi sector preifat yn cael eu cwblhau ers 2021. Nid yw'r ystadegau adeiladu tai diweddar yn cynnwys gwybodaeth gan yr holl arolygwyr preifat cymeradwy. Rydym ni'n debygol o weld tangyfrif o ran dechrau a chwblhau anheddau newydd ar draws pob deiliadaeth.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau rhwydwaith gogledd Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach eleni? OQ63232
Nid slogan yw rhwydwaith gogledd Cymru, ond rhywbeth sy’n digwydd yn barod. Fis diwethaf, fe wnaethon ni lansio'r bws T51 newydd. Ym mis Rhagfyr, byddwn ni’n dyblu’r gwasanaethau ar linell Wrecsam i Gaer. Erbyn mis Mai y flwyddyn nesa, bydd trenau ar brif linell y gogledd yn cynyddu 50 y cant. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd teithwyr yn gallu tapio i mewn a mas gyda system docynnau syml talu wrth fynd. Dyna beth yw delifro, a dyna beth yw uchelgais Llafur Cymru ar gyfer gogledd Cymru sy'n gysylltiedig ac yn ffyniannus.
Diolch i chi am eich ateb. Rwy'n falch eich bod chi wedi cyfeirio at y gwasanaeth bws fanna. Wrth gwrs, roedd e'n wasanaeth a oedd yn bodoli'n barod; rydych chi jest wedi newid y teitl. Ond dwi ddim yn cymryd dim byd oddi ar weddill eich ateb chi.
Cymaint ag y mae hynna i gyd i'w groesawu, rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn parhau i wario symiau syfrdanol ar brosiectau rheilffordd mawr, fel HS2—rwy'n credu eu bod nhw wedi cyrraedd £66 biliwn erbyn hyn—£7.6 biliwn ar East West Rail, a degau o biliynau yn rhagor wedi'u gwario ar Reilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr. Eto, mae pob un o'r rhain, fel y gwyddom, wedi'u dynodi fel prosiectau Cymru a Lloegr. Felly, mae Cymru yn helpu i dalu am y cyfan, er nad oes un metr o'r trac hwnnw yn dod i'n gwlad. Gadewch i ni roi hynny mewn persbectif. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn yn briodol, er enghraifft, yn metro de Cymru, ond mae hynny'n dal i fod yn llai na chost un draphont unigol yn rhan o gynllun HS2. Mae traphont dyffryn Colne wedi costio swm syfrdanol o £1.2 biliwn ar ei phen ei hun. Felly, o ystyried yr anghydraddoldeb parhaus o ran cyllid rheilffyrdd ac absenoldeb ymrwymiadau buddsoddi gwirioneddol y tu ôl i lawer o'r rhaglenni, fel rhwydwaith gogledd Cymru, onid yw'n bryd bod yn onest gyda phobl Cymru a chyfaddef bod yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yn fawr mwy na rhestr ddymuniadau, mewn gwirionedd? Yn sicr nid yw'n gynllun wedi'i ariannu'n iawn, ac rydym ni'n gwybod na fydd hynny'n newid tan fod Cymru yn cael cyllid teg ac yn stopio cael bargen annheg gan San Steffan.
Wel, byddwn ni bob amser yn brwydro i gael cyllid teg i Gymru, a byddwn ni bob amser yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y ddadl. Rydym ni yn credu mai'r buddsoddiad ychwanegol, y £445 miliwn, ddylai fod y cam cyntaf tuag at fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol rheilffyrdd yng Nghymru. Rydych chi'n gwybod cystal â minnau na allwch chi glicio eich bysedd a gwneud i'r pethau hyn ddigwydd dros nos. Mae'n cymryd amser maith i fynd trwy gynllunio, i wneud yn siŵr eich bod chi'n gwneud y peth iawn, a'u bod nhw i gyd yn gysylltiedig. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, o ran y gogledd a rhwydwaith y gogledd, a lansiwyd ym mis Mai yn unig, yw ein bod ni eisoes wedi buddsoddi £13.5 miliwn i sbarduno'r ddarpariaeth honno. Yr hyn sydd gennym ni'n ganolog i hynny fydd gwasanaeth metro gogledd Cymru, a bydd gan hwnnw gyswllt rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl. Rwy'n credu y bydd hynny'n newid y cyfleoedd i bobl. Fel y dywedais i, rydym ni'n mynd i gynyddu'r gwasanaethau ar brif reilffordd gogledd Cymru 50 y cant. Roedd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn cynnwys rhywfaint o gyllid hanfodol ar gyfer gwella trac yn Padeswood, a dyna'r cam cyntaf tuag at wella gwasanaethau rhwng Wrecsam a Lerpwl. Rydym ni'n gwybod bod gennym ni ffordd bell i fynd yn hyn o beth. Rydym ni'n gwybod, pan fyddwn ni'n cael cyfrifoldeb, y gallwn ni gyflawni pan fydd gennym ni'r pwerau yn ein dwylo ein hunain. Os edrychwch ar yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda metro de Cymru, buddsoddwyd £800 miliwn, gan drawsnewid y ffordd y defnyddir ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym ni'n falch iawn ein bod ni wedi gweld o leiaf un rhan o bump yn fwy o bobl yn defnyddio ein rheilffyrdd yng Nghymru nag a welsom cyn i'r buddsoddiad hwnnw gael ei wneud.
Diolch, diolch, Llyr, am godi hyn, oherwydd, ers dros ddegawd bellach, addawyd metro gogledd Cymru i'r gogledd. Mae'r £2.1 biliwn a ddyrannwyd i drawsnewid ein rhwydweithiau rheilffyrdd i'w groesawu, ond mae'n brin o'r hyn sydd ei angen i gwblhau'r gwaith. Rydym ni'n gwybod bod £1.1 biliwn wedi cael ei wario ar metro de Cymru a bod 36 o drenau tram wedi cael eu lleoli yn Ffynnon Taf. Rydych chi newydd ddweud, Prif Weinidog, y bydd cynnydd ar y brif reilffordd fis Mai nesaf—addewidion mawr ar gyfer mis Mai nesaf. Efallai na fyddwch chi hyd yn oed yma na'ch plaid mewn Llywodraeth ar ôl mis Mai, felly nid wyf i'n siŵr y dylech chi wir fod yn gwneud addewidion ar gyfer ar ôl mis Mai nesaf. Mae'r gogledd wedi cael ei gadael ar ôl yn aml, mae hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi taflu amheuaeth dros eich cyllid eich hun ar gyfer trydaneiddio rheilffordd y gogledd, a oedd yn ymrwymiad gan ein Llywodraeth Geidwadol y DU ni. Dylai hyn, ynghyd â diffyg cyllid HS2, gael ei ddyrannu'n briodol i Gymru. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet—y Prif Weinidog, hyd yn oed—yn cytuno â mi y dylai cyllid gael ei ddarparu gan Lywodraethau Cymru a'r DU? Nawr, roeddech chi'n groch iawn cyn yr etholiad diwethaf y dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud hyn. Dydych chi ddim yn ei wneud. Pryd ydych chi'n mynd i ddechrau? A gaf i'r wybodaeth ddiweddaraf am fetro gogledd Cymru? Diolch.
Allaf i ddim credu eich bod chi'n taflu cerrig atom ni ynghylch trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Mae'n hollol syfrdanol. Fe wnaethoch chi ddweud hefyd eich bod chi'n mynd i drydaneiddio'r trac i Abertawe. Beth ddigwyddodd i hynny? Ble mae hynny wedi mynd? Felly, peidiwch â dod a thaflu cerrig ataf i am rywbeth yr oeddech chi'n honni eich bod chi'n mynd i'w gyflawni ac na wnaethoch chi ei gyflawni yn eich 14 mlynedd mewn grym. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod Trafnidiaeth Cymru wedi cyflawni'r gwelliant mwyaf o ran prydlondeb yn y DU rhwng Ebrill a Mehefin, ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaeth 84 y cant o'n trenau redeg ar amser. Roeddwn i'n falch iawn o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth rwy'n credu, y diwrnod o'r blaen, yn dweud bod hynny'n well cyfradd prydlondeb nag sydd ganddyn nhw yn yr Almaen. Felly, mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono.
Roeddwn i'n falch iawn o fod yn bresennol yn lansiad rhwydwaith gogledd Cymru a gynhaliwyd yn fy etholaeth i ym Mhrifysgol Wrecsam, fel y dywedwch chi, ym mis Mai eleni, ac o siarad yno. Bydd y cynlluniau cyffrous a ddatgelwyd bryd hynny yn trawsnewid y rhwydwaith teithio ar draws ein rhanbarth. Wrth i ni agosáu at y garreg filltir chwe mis ers y lansiad, rwy'n ymwybodol bod mwy o drenau newydd wedi bod yn cyrraedd ac mae'n debyg bod y mwyafrif o deithiau a wneir ar drên ar y trenau newydd hynny bellach. Nod arall oedd dyblu amlder y trenau yr oedd mawr ei angen rhwng Wrecsam a Chaer, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud yn eich ateb cychwynnol i Llyr y bydd hynny'n digwydd y mis hwn. Ond a allech chi hefyd roi mwy o fanylion ac amlinellu pryd ydych chi'n credu y bydd camau uwchraddio eraill yn cael eu cymryd, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae angen i bobl deimlo eu bod nhw'n gallu cysylltu. Mae angen i ni roi opsiynau iddyn nhw beidio â defnyddio eu ceir eu hunain, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma. Bydd yn hollbwysig, pan fydd y Bil bysiau newydd yn weithredol, bod mwy o gyfle i lywodraeth leol benderfynu ar y llwybrau y mae pobl yn eu dilyn, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n adlewyrchu'r mathau o lwybrau y mae pobl eisiau teithio arnyn nhw, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyrraedd cymunedau sydd, efallai, ddim yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd. Felly, o ran yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud yn y dyfodol, ceir llu o gynlluniau. Fel y gwyddoch chi, yn ganolog i hyn y mae'r cyswllt rheilffordd uniongyrchol hwnnw rhwng Wrecsam a Lerpwl. Mae'r rhan honno yn Padeswood ohoni yn gwbl hanfodol. Felly, bydd bwrw ymlaen â hynny yn bwysig iawn. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth sôn bod y buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd yn gwneud gwahaniaeth—mae pobl yn sylwi arno. Dyna beth rydych chi'n ei gael pan fyddwch chi, mewn gwirionedd, yn gwneud Llywodraeth Lafur Cymru yn gyfrifol am faes lle'r ydym ni'n ei gymryd o ddifrif, yr ydym ni'n edrych i'r hirdymor, ac mae'n gwneud gwahaniaeth.
Edrychais ar gynlluniau rhwydwaith gogledd Cymru ar-lein a gwelais y dyddiadau targed dros y 10 mlynedd nesaf o'r buddsoddiad gwerth miliynau lawer o bunnoedd, y mae'n ddefnyddiol iawn eu gweld a'u mesur yn eu herbyn. Roeddwn i hefyd yn falch o weld y lifft newydd yn cael ei osod yn y Fflint—buddsoddiad o £5.5 miliwn. Mae'n un o'r gorsafoedd prysuraf yn y gogledd—newydd agor. Rwy'n edrych ymlaen at welliannau eraill i'r orsaf o gyflwyno mwy o gerbydau hefyd. Mae cludiant bws hefyd yn rhan o'r cynlluniau. Mae amlder a chysylltedd hefyd yn cael ei godi gyda mi mor aml. Felly, a allwch chi roi mwy o fanylion am sut y bydd hynny'n cael ei wella, yn y dyfodol? Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn. Ac rydych chi yn llygad eich lle bod yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yma yn brosiect hirdymor. Dyna pam mae angen i chi beidio â digalonni o ran y pethau hyn, a dyna pam rwy'n falch iawn bod cyn-Weinidogion y Llywodraeth wedi gwneud hynny—maen nhw wedi dweud eu bod nhw'n mynd i fuddsoddi. Mae yna demtasiwn gwirioneddol, pan fo gennych chi'r fath bwysau arnoch chi o bob cyfeiriad, i newid cyfeiriad hanner ffordd trwy brosiect. Ni ddigwyddodd hynny o dan y Llywodraeth hon, ac rydym ni'n gweld ffrwyth y penderfyniadau hynny nawr yn ein cymunedau.
Rydych chi'n gwbl gywir mai rhan o'r hyn yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud yma yw gwneud yn siŵr mai'r hyn yr ydym ni'n edrych arno yw teithio hygyrch. Felly, mae lifftiau yn hanfodol i bobl sydd efallai ag anableddau. Ond y peth arall yr wyf i eisiau ei bwysleisio yw pwysigrwydd y tocyn bws £1 sydd newydd gael ei gyflwyno. Mae hwn yn rhywbeth yr oedd yr Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod ni'n ei gyflwyno hefyd, ac rydym ni'n gweld gwahaniaeth. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n aruthrol gan bobl ifanc ledled y wlad hon, ac, yn amlwg, rydym ni'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei ehangu nawr, o fis Tachwedd, fel y gall plant hyd yn oed yn iau elwa o'r rhaglen beilot £1 honno.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ar Yom Kippur, gwelsom ymosodiad gwrthsemitig erchyll, milain, barbaraidd ym Manceinion, yn synagog Heaton Park. Ac, wrth gwrs, mae'n ddwy flynedd heddiw ers erchyllterau cyflafan 7 Hydref yn Israel, a gyflawnwyd gan derfysgwyr Hamas. Mae'r gymuned Iddewig, yn ddealladwy, yma yng Nghymru, ac ar draws y DU, yn ofni ymosodiadau pellach, ac maen nhw'n teimlo'n ofnus ac wedi'u brifo gan ymddygiad dibarch rhai protestwyr sy'n cefnogi terfysgwyr sy'n parhau i danio casineb ar ein strydoedd. A wnewch chi ymuno â mi heddiw i gondemnio'r rhai sy'n cymryd rhan mewn protestiadau o'r fath?
Edrychwch, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddefnyddio sensitifrwydd eithafol ar y diwrnod hwn o bob diwrnod. Rydym ni'n cofio, ddwy flynedd yn ôl, bod Hamas wedi ymosod ar sifiliaid diniwed yn Israel. Roedd y canlyniadau iddyn nhw a'u teuluoedd yn ofnadwy, ac mae pobl yn dal i gael eu dal yn wystlon hyd heddiw. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi bod yr ymdrechion i geisio datrys yr anghytundeb llwyr o ran hynny yn rhywbeth y dylid ei groesawu. Ond, yn amlwg, roedd canlyniadau ofnadwy i wladwriaeth Palesteina hefyd. Roedd ymosodiad Manceinion yn ffiaidd. Mae'n rhywbeth yr wyf i'n gobeithio ein bod ni i gyd yn ei gondemnio. Roeddwn i'n falch o allu siarad â Rabbi Rose yn synagog Caerdydd dros y penwythnos, ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth am y sefyllfa. Yom Kippur yw'r diwrnod mwyaf sanctaidd i'r gymuned Iddewig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd, fel gwleidyddion, yn apelio am dawelwch ac am garedigrwydd, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll gyda'n cymunedau ledled y genedl a gostwng y tymheredd yn hyn o beth. Ein cyfrifoldebau ni fel arweinwyr yn ein cymunedau yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n apelio ar bobl dawelu a pheidio â chodi'r tymheredd ar adeg sensitif iawn.
Byddwn yn cytuno â chi, Prif Weinidog. Mae angen i ni weld diwedd ar y rhyfel hwnnw sydd wedi bod yn parhau ers llawer rhy hir, rhyddhad yr holl wystlon a heddwch hir a pharhaol. Ond rwyf i braidd yn siomedig a thrist nad oeddwn i'n teimlo eich bod chi wedi rhoi ateb i'r cwestiwn a ofynnais. Fe wnes innau hefyd gyfarfod ag arweinwyr cymunedol Iddewig yr wythnos diwethaf ac fe wnes i gyfarfod ag eraill heddiw hefyd. Maen nhw'n ymwybodol iawn y gallen nhw fod wedi dioddef ymosodiad yn hawdd. Gras Duw, yn y bôn, wnaeth atal ymosodiad tebyg rhag digwydd yn rhywle fel Manceinion. Ni ddylai fod yn rhaid i'r gymuned Iddewig fyw mewn ofn. Maen nhw wedi cael llond bol o brotestiadau llawn casineb ar ein strydoedd. Mae Prif Weinidog y DU, wrth gwrs, a'r Ysgrifennydd Cartref wedi galw i brotestiadau gael eu canslo heddiw. Rwy'n cytuno â nhw. Ond dydych chi ddim. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, a wnewch chi alw ar brotestwyr i aros gartref a pheidio â bod ar ein strydoedd, heddiw o bob dydd?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cefnogi hawliau pobl i brotestio. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o bwy ydym ni fel cenedl ddemocrataidd. Ond rwy'n credu bod adegau pan fo angen i chi fod yn sensitif, ac rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod pan fo angen i chi fod yn sensitif.
A rhan o'r sensitifrwydd hwnnw, wrth gwrs, ddylai fod peidio â phrotestio ar ddiwrnod fel hwn, sy'n nodi'r pen-blwydd ofnadwy hwn i'r gymuned Iddewig yn Israel a ledled y byd. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n dal yn siomedig nad wyf i wedi clywed ateb agored i'r cwestiwn yna.
Prif Weinidog, mae geiriau yn hawdd iawn i bob un ohonom ni. Mae'n hawdd iawn i ni ddweud ein bod ni'n condemnio ymosodiadau, yn hawdd iawn i ni ddweud nad ydym ni eisiau gweld gwrthsemitiaeth nac unrhyw fath o gasineb crefyddol yn ein cymunedau. Byddem ni i gyd yn dweud y pethau hynny. Ond mae'r gymuned Iddewig yng Nghymru, maen nhw eisiau cyfiawnder ac maen nhw eisiau gweithredu, ac maen nhw'n dweud wrthyf i fod y llanw cynyddol o wrthsemitiaeth yn fater nad yw'n cael sylw digonol ar draws ein gwlad eto. Cefais fy hysbysu am enghreifftiau o graffiti gwrthsemitig ddim yn cael eu glanhau am wythnosau ar ôl cael eu hadrodd yn rhai o'n trefi a'n cymunedau, honiadau o ysgolion yn defnyddio deunyddiau amheus wrth geisio addysgu pobl am y gwrthdaro yn y dwyrain canol, a phobl yn ofni sut y gallen nhw gael eu trin gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ein GIG sydd wedi gwneud datganiadau a negeseuon gwrthsemitig ar-lein. Ni ddylai pobl orfod goddef y pethau hynny. Mae'n amlwg bod angen i ni wneud yn siŵr bod y pethau hynny'n cael sylw. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gallu cyflawni'r hyn yr wyf i'n gwybod yw nod pawb yn yr ystafell hon a'r Siambr hon, sef dileu'r math hwn o gasineb ar draws ein gwlad?
Gadewch i mi fod yn eglur: nid yw gwrthsemitiaeth yn dderbyniol, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn deall y neges honno'n uchel ac yn eglur ar draws ein cenedl. Nid oes gen i ddiddordeb mewn gwahanu ein cymunedau; mae gen i ddiddordeb mewn dod â phobl at ei gilydd. Hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu hymdrechion dros y penwythnos i wneud yn siŵr bod y gymuned honno, yn enwedig yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn teimlo bod ganddyn nhw'r gefnogaeth yr oedd ei hangen arnyn nhw. Roeddwn i'n falch o allu siarad â Rabbi Rose, ac rwyf wedi sicrhau ers hynny bod—. Ar ddechrau'r tymor, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y cyfarwyddwyr addysg i dynnu sylw at y cynnydd mewn tensiwn yn ein cymunedau ac i wneud yn siŵr bod hwn yn fater sy'n cael sylw yn ein hystafelloedd dosbarth.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Dwi am ddechrau trwy ddatgan cydymdeimlad dwysaf Plaid Cymru efo pawb a gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad erchyll ar synagog Heaton Park yr wythnos diwethaf. Mi ysgrifennais i at y Prif Weinidog yn gofyn am y camau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i sicrhau diogelwch y gymuned Iddewig yng Nghymru, a dwi'n croesawu'r datganiad ysgrifenedig y cawsom ni ddoe. Mae'n neilltuol o greulon, onid ydy, fod yr ymosodiad yma wedi digwydd ar ddiwrnod sanctaidd Yom Kippur, a dim ond ychydig ddyddiau cyn i ni heddiw gofio'r rhai a laddwyd yn ymosodiadau ciaidd Hamas ar 7 Hydref 2023. Mae miloedd o deuluoedd, wrth gwrs, yn Israel yn dal i ddioddef hyd heddiw a galaru. Ac, ar yr un pryd, mae'r hil-laddiad yn Gaza dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn destun cywilydd i'r gymuned ryngwladol.
Rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog, fel minnau, yn awyddus i sicrhau ein bod ni'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng rhyddid a diogelwch ar yr adeg hon o densiynau uwch, ond, dros y penwythnos, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cartref y DU y bydd yr heddlu yn cael mwy o bwerau i gyfyngu ar brotestiadau trwy ganiatáu iddyn nhw ystyried effaith gronnol gwrthdystiadau ailadroddus. Mae hyn yn peri pryder mawr i mi. Mae Plaid Cymru yn credu bod protest heddychlon yn hawl sylfaenol y mae'n rhaid ei ddiogelu. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ei bod hi'n cytuno â'r egwyddor honno hefyd?
Rwy'n cytuno'n llwyr bod yr hawl i brotestio yn egwyddor sylfaenol yn ein cymdeithas.
Diolch am yr ymateb. Ac wrth gwrs, dylem ychwanegu—ac rwy'n siŵr y byddai'r ddau ohonom ni'n ychwanegu—y dylai unrhyw un sy'n annog casineb neu'n achosi bygythiad deimlo grym llawn y gyfraith, yn sicr. Ond mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd Cartref yn bygwth cosb gyffredinol i'r holl brotestwyr oherwydd ymddygiad lleiafrif bach. Nawr, rwy'n ofni bod unrhyw ymgais gan y DU i gyfyngu'r hawl hwn yn gam cyntaf ar lethr llithrig a fydd yn golygu y bydd rhyddid i lefaru yn dod ychydig yn llai rhydd. Mae sefydliadau hawliau sifil a lleisiau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys ASau Llafur, wedi rhybuddio am y canlyniadau anfwriadol posibl. Ceir risg wirioneddol yma y gallai'r pwerau gwael hyn atal protestiadau y gellir eu cyfiawnhau'n llawn yn y dyfodol. Ac er bod plismona yn dal i fod yn fater a gedwir yn ôl am y tro, mae gan gyrff cyhoeddus o dan bwerau datganoledig ran i'w chwarae hefyd o ran hwyluso protestiadau, er enghraifft, felly ceir effaith bosibl arnyn nhw, ac wrth gwrs bydd yn effeithio ar hawl holl ddinasyddion Cymru. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau a oedd wedi cael ei gwneud yn ymwybodol o fwriadau'r Ysgrifennydd Cartref a pha sgyrsiau sydd wedi cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref ynglŷn â sut y bydd y pwerau newydd hyn yn effeithio'n ymarferol ar yr hawl i brotestio yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yw arwain yn y maes hwn. Ni allaf, bob wythnos, ddod yma i siarad ar ran yr Ysgrifennydd Cartref. Naddo, ni wnaeth fy hysbysu ymlaen llaw; ni fyddwn yn disgwyl iddi wneud hynny. Dydw i ddim yn dweud wrthi hi beth sy'n digwydd yng Nghymru, chwaith, ymlaen llaw. Dyna natur y setliad datganoli.
Doeddwn i ddim yn disgwyl ymateb diystyriol. Roedd yn gwestiwn dilys, ac rwy'n credu bod hyn yn cael effaith ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Dwi'n troi yn olaf at fater o bryder gwirioneddol i bobl yn y gogledd-orllewin, sef cau pont y Borth dros y penwythnos. Dwi'n falch o glywed bod y bont yn ailagor yn rhannol yn y dyddiau nesaf, ond yn nodi siom doedd Cyngor Sir Ynys Môn ddim wedi cael gwybod am hynny ymlaen llaw. Mae hi'n rhyfeddol, dair blynedd ar ôl cau'r bont ar frys, ar ôl tair blynedd o waith, tair blynedd, dwi'n cymryd, o'r arolygon mwyaf trylwyr posib ar y bont, fod yna broblem arall yn dod i'r amlwg. Mae o'n codi cwestiynau difrifol, mae gen i ofn, am y gwaith cynnal a chadw sydd wedi bod ar y bont dros y blynyddoedd, ac mae'r cau eto rŵan wedi creu anghyfleustra ac oedi difrifol, risg i wasanaethau brys, a bydd hyd yn oed agor rhannol yn mynd i gael effaith ar fusnes, ac mae eisiau cymorth iddyn nhw ar frys.
Ond mae hyn hefyd yn tynnu sylw eto at agwedd fyrdymor Llywodraeth Cymru o ran diddymu cynlluniau ar gyfer trydedd bont yn 2023. Nawr mae'n rhaid i ni wneud y ddadl unwaith eto dros bont newydd, ond gadewch i ni o leiaf gymryd rhai mesurau. Rwyf i wedi cefnogi system tair lôn ers amser maith, er enghraifft. Felly, a wnaiff y datblygiad diweddaraf hwn ysgogi Llywodraeth Cymru i gymryd y mater hwn o ddifrif, a chyflwyno mesurau i wella gwytnwch ar draws afon Menai, neu ai etifeddiaeth y Llywodraeth Lafur fydd un o esgeuluso'r seilwaith hanfodol a ddylai gadw Cymru'n symud?
Rwy'n deall rhwystredigaethau pobl yn sir Fôn dros y penwythnos; rwy'n gwybod ei fod yn anghyfleustra enfawr i bobl. Ond, yn amlwg, ni wnawn ni ymddiheuro am roi diogelwch yn gyntaf; dyna fydd ein blaenoriaeth bob amser. Mae hon yn bont 200 mlwydd oed. Gwnaed gwaith helaeth arni yn 2022, fel y gwyddoch chi. Cyfrifoldeb priffyrdd y DU yw'r cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r bont, ac fe'u gwnaed yn eglur ganddyn nhw eu bod nhw eisiau cyfyngu'r defnydd i gerbydau o dan 3 tunnell. A gaf i ei gwneud hi'n eglur nad yw'r Llywodraeth Cymru hon erioed wedi diystyru trydedd groesfan ar Ynys Môn? Ond, yn amlwg, byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i swm enfawr o arian ar gyfer hynny, ac, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth lle mae angen gwneud blaenoriaethau.
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag atal arian o dramor rhag ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Cymru? OQ63230
Mae uniondeb ein democratiaeth yn rhywbeth na ellir bod yn hyblyg yn ei gylch. Dyna pam rydym ni'n gweithio gyda Gweinidog diogelwch y DU ar y tasglu amddiffyn democratiaeth. Yng Nghymru, rydym ni wedi mynd ymhellach, gan gau arian tramor allan drwy ein Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a dim ond y mis hwn gwelsom gyn-arweinydd Reform yng Nghymru yn sefyll yn yr Old Bailey yn cyfaddef ei fod wedi cymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia. Nid llygredd yn unig yw hynny, mae'n arwydd rhybudd sy'n fflachio. Er y bydd Llafur bob amser yn amddiffyn ein Senedd, byddwn ni bob amser yn cadw ein democratiaeth yn ddiogel.
Roedd Nathan Gill yn cymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia gryn amser yn ôl, yn amlwg, ond, yn anffodus, nid yw'r broblem honno wedi diflannu. Mae Elon Musk yn taflu arian at y cyfryngau cymdeithasol, a pha un a ydyn nhw'n biliwnyddion o America, Rwsia neu Awstralia, nhw sydd berchen ar y rhan fwyaf o'r dulliau cyfathrebu ac maen nhw'n ceisio dylanwadu ar y ffordd yr ydym ni'n rhedeg ein gwlad, pa un a yw'n fater o ddweud wrth bobl fod miliwnyddion yn gadael y wlad oherwydd nad ydyn nhw eisiau talu eu cyfran deg o dreth, sy'n gwbl anwir, neu'n gamwybodaeth sy'n digwydd sydd â'r bwriad o osod un gymuned yn erbyn un arall yn ein plith. Pa drafodaethau mae Lywodraeth Cymru wedi eu cael i wneud Ofcom yn rheoleiddiwr priodol ac nid teigr papur, i wneud ymdrech bellach i fynd i'r afael â'r wybodaeth hon sy'n gwenwyno ein cymunedau?
Diolch yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd Ofcom yn arbennig o ran ei swyddogaeth o gynnal uniondeb yr hyn yr ydym ni'n cael ei ddarllen a'i weld ar-lein. Maen nhw wedi cael ystod ehangach o ddyletswyddau a phwerau i ddwyn gwasanaethau ar-lein i gyfrif. Nid yw'n ymwneud ag ymyrraeth dramor yn unig; mae hefyd yn ymwneud â diogelwch ar-lein. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth tynnu sylw at y ffaith bod Reform, Plaid Reform, wedi addo diddymu Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 ar ôl i reoleiddwyr ddechrau gorfodi ei phwerau dilysu oedran newydd yr haf hwn. Rwy'n bryderus iawn am hyn. Pa fath o fudiad gwleidyddol sy'n ystyried gwiriadau oedran ar gyfer pornograffi fel ymosodiad ar ryddid? Rwy'n falch iawn bod Ofcom yn cymryd hyn o ddifrif. Mae yna bwerau newydd ac maen nhw'n eu gorfodi. Fyddwn i ddim eisiau gweld hynny'n cael ei ddiddymu, ac nid wyf i'n credu y bydd y mwyafrif o bobl yng Nghymru eisiau gweld hynny. Felly, byddwn yn gofyn iddyn nhw edrych ar fanylion y polisïau prin iawn sydd wir yn bodoli yn arfdy Reform; dyma un ohonyn nhw.
Mae'r Aelod dros Ganol Caerdydd yn gwbl gywir i godi'r pwynt hwn, oherwydd, fel yr ydym ni wedi ei glywed, cyfaddefodd cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, a chyn-Aelod o'r lle hwn, ei fod wedi derbyn y llwgrwobrwyon hynny yn gyfnewid am hyrwyddo'r safbwyntiau o blaid Rwsia hynny tra'n gwasanaethu yn Senedd Ewrop—perygl eglur a phresennol i'n democratiaeth. Ac, yn bryderus, Prif Weinidog, nid digwyddiad ynysig yw hwn. Yr arweinydd Reform presennol yng Nghymru, nad yw'n byw yma yng Nghymru, mae'n werth nodi, yw Nigel Farage. Mae wedi mynegi edmygedd at Vladimir Putin yn flaenorol ac wedi ailadrodd naratif ffug Rwsia bod y gorllewin wedi ysgogi'r ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod Reform UK yn cyflwyno eu hunain fel perygl eglur a phresennol i'n diogelwch gwladol yma hefyd?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod yr achos diweddar ofnadwy yn yr Old Bailey gyda Nathan Gill yn dangos y perygl o ymyrraeth wleidyddol; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif iawn. Mae'n ddiddorol bod nifer y bobl yng Nghymru a ledled y DU sy'n poeni am hyn wedi cynyddu'n sylweddol: bedair blynedd yn ôl, roedd tua 38 y cant o bobl yn poeni amdano; Heddiw, mae 52 y cant o bobl yn poeni amdano. Rydym ni i gyd yn gwybod bod potensial iddo ddigwydd. Weithiau, rwy'n edrych ar rai o'r sylwadau ar fy nhudalen Facebook ac yn meddwl, 'O le ar y ddaear maen nhw'n dod?' a cheir rhai cliwiau yno o le mae rhai ohonyn nhw'n dod, er fy mod i'n derbyn bod llawer o bobl sydd â phroblemau gyda rhai o'r pethau yr wyf i'n eu hawgrymu hefyd.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod rhan i'w chwarae o ran amddiffyn democratiaeth. Fe wnes i gyfarfod â Gweinidog diogelwch Llywodraeth y DU, Dan Jarvis, a chefais sicrwydd bod gan y tasglu amddiffyn democratiaeth bwyslais digonol ar Gymru, a'u bod nhw'n mynd i gynyddu eu hymgysylltiad â ni, wrth i ni symud tuag at yr etholiadau hynny.
4. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i gynyddu gweithgarwch economaidd yng Nghymru? OQ63201
Mae ein cenhadaeth yn syml: mwy o swyddi o ansawdd i helpu pobl gyda'r heriau costau byw. Dyna pam mae Llafur Cymru yn darparu, gyda Llywodraeth y DU, bargeinion dinesig a thwf, porthladdoedd rhydd a pharthau buddsoddi, a dyna pam rydym ni'n cefnogi busnesau, drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru. Ers 2016, mae Busnes Cymru wedi cefnogi dros 37,000 o swyddi ac 8,500 o fusnesau newydd sbon, ac mae'r banc datblygu wedi cefnogi mwy na 500 o gwmnïau. Dydyn ni ddim yn stopio yn y fan honno; mae gennym ni'r uwchgynhadledd fuddsoddi ar y gorwel sy'n mynd i sianelu miliynau i led-ddargludyddion, diwydiannau creadigol ac ynni gwyrdd, gan gynyddu nifer y swyddi sydd gennym ni yng Nghymru, a rhoi'r sefydlogrwydd economaidd i Gymru sydd ei hangen arni.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r ysgogiadau allweddol sydd gennych chi yn eich arfdy i wella gweithgarwch economaidd yw'r system gynllunio, ac nid wyf i wedi siarad eto ag unrhyw un sy'n falch am y system gynllunio yma yng Nghymru, boed hynny'n ymgeiswyr neu'n bobl sy'n gwrthwynebu ceisiadau sy'n cael eu gwneud. Ond o ran y darlun macroeconomaidd, lle mae adeiladwyr bach yn ceisio datblygu tai mewn cymunedau bach, maen nhw wir yn cael trafferth yn talu'r costau ymlaen llaw a'r ansicrwydd y mae'r system gynllunio yn ei gynnig iddyn nhw o ran denu'r caniatâd a fyddai'n ffafriol iddyn nhw. Pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei roi i wneud y system gynllunio yn fwy deniadol, fel system gynllunio Lloegr, sy'n fwy buddiol o ran hawliau datblygu a ganiateir a chynorthwyo adeiladwyr bach i ddatblygu cyfleoedd tai yn ein cymunedau, fel y gall pobl ddod o hyd i'r cartrefi y maen nhw eu heisiau?
Diolch yn fawr iawn. Y peth cyntaf a wnes i pan gefais fy mhenodi'n Brif Weinidog oedd mynnu bod mwy o arian yn mynd i'r system gynllunio, gan fy mod i'n cydnabod bod hynny'n doriad ar gynhyrchiant economaidd. A dyna pam mae'r arian hwnnw wedi mynd i'r system gynllunio. Mae'n gwneud gwahaniaeth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael mwy o gymorth yn benodol gyda chynllunio. Felly, mae pethau'n symud ymlaen yn y meysydd hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n symud drwodd.
Mae un o'r problemau sydd gennym ni gyda sgiliau o ran cynllunio; mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r bobl iawn â'r sgiliau iawn yn gyson. Rydym ni'n dueddol o weld y bobl wych sydd gennym ni ac rydym ni'n eu cyflogi yn cael eu cymryd gan y sector preifat weithiau, felly mae'n rhaid i ni fod yn ailhyfforddi'n gyson a chael mwy o bobl i mewn i'n system gynllunio. Felly, gwneud yn siŵr bod gennym ni'r sgiliau iawn ar gael, y cynllunwyr iawn ar gael.
Mae hon yn enghraifft o swydd ystafell gefn sy'n gwneud gwahaniaeth i'r rheng flaen. Felly, pan fydd pobl yn siarad am dorri biwrocratiaeth a thorri staff ystafell gefn, maen nhw'n siarad am gynllunwyr. Felly, byddwch yn ofalus iawn. Roedd eich cynhadledd dros y penwythnos yn sôn am werth £43 biliwn o doriadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae honno'n enghraifft o'r math o beth y gallech chi fod yn meddwl y gallai fod yn ei dorri, ond mewn gwirionedd byddai hynny'n ddinistriol iawn o ran twf economaidd a swyddi.
Yn ôl yn 2023, dyfynnais ffigurau o adroddiad gan Co-operatives UK i'r Prif Weinidog ar y pryd, yn dangos mai cwmnïau cydweithredol Cymru oedd â'r trosiant blynyddol isaf yn y DU, yn gyfrifol am ddim ond 0.6 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae'r ffigurau ers i mi godi hynny, bron union ddwy flynedd yn ôl, wedi aros fwy neu lai'n statig: 521 o gwmnïau cydweithredol yn 2023, 518 yn 2024, a 519 yn 2025. Felly, gostyngiad i'r ffigyrau, yn ôl Co-operatives UK, a dim newid sylweddol i gyfanswm y trosiant blynyddol.
Mae gan gwmnïau cydweithredol ran sylweddol i'w chwarae o ran cryfhau economi Cymru a lefelau gweithgarwch economaidd. Ond er mwyn chwarae'r rhan honno, mae angen eu rhoi ar sail fwy cyfartal â modelau busnes eraill. Felly, a all y Prif Weinidog fyfyrio felly ar gynnydd Llywodraeth Cymru, nid yn unig o ran cynyddu nifer y cwmnïau cydweithredol, ond hefyd o ran cynyddu eu maint a'u heffaith? Oherwydd os yw'r ffigurau diweddaraf hyn yn ddibynadwy, mae'n ymddangos bod y cynnydd hwnnw wedi bod yn siomedig.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi'r mudiad cydweithredol a phrosiectau cymunedol. Mewn gwirionedd, bwriadwyd i ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu, drwy ein cefnogaeth i Gwmpas, wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella'r sefyllfa. Rydym ni wedi cynyddu'r cyllid £200,000 yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, er mwyn gweld beth arall y gellir ei wneud o ran tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned.
Mae trafodaethau am weithgarwch economaidd a thwf yn aml yn canolbwyntio ar elw, y ffeithiau a'r ffigurau du a gwyn, yn hytrach na'r rhai sy'n sylfaen i'n heconomi—y bobl sy'n ei phweru. Felly, Prif Weinidog, roeddwn i'n falch o'ch clywed, yn eich araith i gynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, yn cyflwyno cynlluniau, yn nhymor y Senedd nesaf, y bydd angen i unrhyw fusnes sy'n ceisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru dalu'r cyflog byw gwirioneddol, rhoi terfyn ar gontractau dim oriau camfanteisiol ac agor y drws i undebau llafur.
Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi galw amdano fy hun yn y gorffennol. Yn wir, mewn dadl gryno ychydig dros flwyddyn yn ôl, gofynnais, mewn ffordd debyg iawn, y dylai unrhyw sefydliad sy'n derbyn arian cyhoeddus fod wedi ymrwymo, o leiaf, i dalu'r cyflog byw gwirioneddol, i gynnig oriau wedi'u contractio i'w holl weithwyr os ydyn nhw eu heisiau, a chaniatáu mynediad i undebau llafur a hyrwyddo aelodaeth o undebau llafur.
Felly, a allwch chi heddiw, efallai, nodi camau nesaf y cyhoeddiad a wnaethoch chi yn y gynhadledd, a sut fydd hynny'n edrych? A ydych chi'n cytuno â mi, bod yn rhaid ni rymuso'r gweithwyr sy'n asgwrn cefn ein heconomi er mwyn datgloi ein heconomi a'n potensial economaidd?
Wel, diolch yn fawr iawn, Hannah. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi am eich gwaith yn bwrw ymlaen â'r agenda hon? Rwy'n credu y dylem ni fod yn falch iawn o'r ffaith mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd â chyfraith partneriaeth gymdeithasol wedi'i hymgorffori yn yr hyn a ddisgwylir os ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru yng Nghymru.
Felly, mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud o ran dyfnhau'r cysylltiad rhwng cyllid cyhoeddus a gwaith teg. Dyna'n union yr hyn a nodais yng nghynhadledd y Blaid Lafur: gwneud y cysylltiad hwnnw drwy'r ffaith, os ydych chi'n mynd i gael grant Llywodraeth Cymru, yna dylech chi fod yn talu'r cyflog byw gwirioneddol, dylech chi fod yn rhoi terfyn ar gontractau dim oriau, a dylech chi fod yn caniatáu i undebau llafur gael mynediad at y gweithlu.
Rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig hefyd i ni nodi ein bod ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar ei Bil Hawliau Cyflogaeth arloesol. Mae hwnnw'n bwysig iawn, rwy'n credu, i weithwyr y wlad hon. Mae'n debyg ei bod hi'n werth pwysleisio, unwaith eto, bod Reform yn blaid sydd wedi bod yn ceisio rhwystro hawliau gweithwyr, a'r hawliau a awgrymir ar gyfer gweithwyr, rhag cyrraedd y bobl yn ein cymunedau, a gallu eu hamddiffyn nhw yn y ffordd y mae undebau llafur yn ei hyrwyddo.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63197
Fel un o drigolion balch sir Benfro, rwy'n gwybod mai twristiaeth yw enaid ein cymunedau. Dyna pam, ers 2023, mae Llafur Cymru wedi buddsoddi £700,000 drwy Croeso Cymru, o'r pontŵn arnofiol newydd yn Abergwaun i gyfleusterau ymwelwyr wedi'u huwchraddio yng Nghaeriw a Chastell Henllys. Rydym ni hefyd yn cefnogi ein strydoedd mawr drwy'r gronfa Trawsnewid Trefi. A gadewch i mi fod yn eglur: mae ein hardoll ymwelwyr yn ymwneud â thegwch. Os bydd cynghorau yn dewis cyflwyno'r mesur hwn, bydd yr arian sy'n cael ei godi'n lleol yn aros yn lleol. Bydd hynny'n ariannu'r biniau, y toiledau a'r llwybrau troed y mae twristiaid yn eu defnyddio ac yn sicrhau bod y pwysau ar ein trigolion parhaol yn cael ei leddfu.
Prif Weinidog, y neges yr wyf i'n ei chael gan fusnesau twristiaeth yn sir Benfro yw eu bod nhw'n cael trafferth gyda nifer o wahanol fathau o bwysau diolch i bolisïau trychinebus gan eich Llywodraeth chi a'ch cydweithwyr yn San Steffan. Mae perchnogion busnesau bach yn sir Benfro sy'n rhedeg busnesau hunanarlwyo yn bryderus iawn am gynigion diweddaraf Llywodraeth y DU ar dystysgrifau perfformiad ynni, sy'n ddim mwy na lefel arall o fiwrocratiaeth i'r busnesau hyn orfod ymdopi â hi.
Mae perchnogion y busnesau hyn eisoes yn wynebu pwysau oherwydd polisi trothwy 182 diwrnod Llywodraeth Cymru, ac os bydd Llywodraeth y DU yn pwyso ar fusnesau twristiaeth i gydymffurfio â rheoliadau tystysgrifau perfformiad ynni, gallai achosi'r perygl o orfodi llawer o weithredwyr allan o fusnes. Felly, Prif Weinidog, dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth yn ei gallu i gynorthwyo busnesau twristiaeth Cymru drwy edrych ar sut y gall leihau pwysau rheoleiddiol a biwrocratiaeth. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa sylwadau rydych chi wedi eu gwneud i Lywodraeth y DU o ran rheoliadau tystysgrifau perfformiad ynni, a pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda gweithredwyr twristiaeth ynglŷn â'r mater penodol iawn hwn?
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ac rydym ni wedi dweud wrthyn nhw fod angen i'r dull ystyried y cyd-destun unigryw yng Nghymru. Byddwn yn ystyried a oes angen unrhyw gamau pan fydd y safbwynt polisi terfynol yn hysbys. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni wedi ymrwymo i dwristiaeth yng Nghymru. Y gwir yw y gallai'r ardoll ymwelwyr godi £33 miliwn y flwyddyn a byddai 90 y cant o'r refeniw hwnnw yn aros yn y gymuned leol. Ond hefyd mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr ardaloedd hynny sy'n denu twristiaeth yn addas i'r diben, a dyna pam rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y dydd Gwener hwn, at agoriad swyddogol datblygiad Glan Cei'r Gorllewin a Chanolfan Siopa Glan-yr-afon yn Hwlffordd. Mae hyn yn mynd i roi bywyd newydd i ganol y dref ac yn cymryd rhywfaint o'r gronfa Trawsnewid Trefi gwerth £20 miliwn yr ydym ni wedi ei hymrwymo i drawsnewid canol ein trefi.
6. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch effaith y seiberymosodiad ar Jaguar Land Rover ar economi Cymru? OQ63205
Mae ymosodiad seiber JLR wedi taro cyflenwyr yng Nghymru a'r bobl sy'n gweithio yn y cwmnïau hynny yn galed. Rydym yn croesawu gwarant benthyciad £1.5 biliwn y DU, ond mae angen i weithwyr Cymru wybod pryd y bydd yr arian yn glanio. Mae ein timau mewn cysylltiad dyddiol â thua 30 o gyflenwyr yng Nghymru, ac mae React a Working Wales eisoes yn barod i gynorthwyo unrhyw weithwyr sydd wedi'u heffeithio. Rwy'n falch iawn o weld ei bod yn ymddangos bod rhywfaint o symudiad yn hyn o beth y bore yma, gyda JLR yn cyhoeddi y bydd ailgychwyn gweithrediadau gweithgynhyrchu JLR yn raddol yn digwydd.
Diolch, Prif Weinidog. Yn Llanelli, mae ffatri Marelli, y mae llawer yn dal i gael ei hadnabod gan lawer yn y dref fel Morris Motors, wedi teimlo effaith sylweddol. Mae gweithwyr asiantaeth wedi cael eu diswyddo a dywedwyd wrth staff am aros gartref a gweithio'r oriau yn ôl, sy'n golygu'n anochel na fydd unrhyw oramser yn y cyfnod cyn y Nadolig, y maen nhw'n dibynnu arno. Mae Llywodraeth y DU, fel y dywedwch chi, wedi camu i mewn gyda gwarant benthyciad, ond fel y nododd y Financial Times ddoe, mae JLR wedi bod yn ddiofal o beidio â bod ag yswiriant seiber yn weithredol, yn enwedig gan fod yr ymosodiadau niweidiol ar Marks and Spencers a Co-op yn dangos faint o niwed y gall hyn ei wneud i fusnes.
Mae JLR yn eiddo i Tata, a ddylai, fel y mae'r FT yn ei nodi, fel cwmni mor fawr, allu ymdopi â siociau dros dro i'w gweithrediadau fel hyn, ac yn sicr nid y gweithlu ddylai ddioddef. Mae'r Confederation of British Metalforming yn dweud ei fod yn ofni niwed anadferadwy i gadwyn gyflenwi ceir y DU o'r canlyniadau o'r ymosodiad seiber hwn. Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas ar lefel uwch Tata a JLR. A wnaiff y Prif Weinidog wneud sylwadau pellach i Tata, y rhiant-gwmni, i ddarparu cymorth brys i gyflenwyr i lawr y gadwyn fel Marelli yn Llanelli?
Diolch yn fawr iawn. Dim ond i fod yn eglur, mae ein swyddogion yn sicr wedi bod mewn cysylltiad â chwmnïau yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio. Rydym ni'n parhau i fonitro'r effaith ar gwmnïau'r gadwyn gyflenwi, ac mae hynny'n cynnwys Marelli a Gestamp, y mae'r ddau ohonyn nhw'n gweithredu yn Llanelli. Mae ganddyn nhw weithlu cyfunol o 360 o bobl, ond ceir hefyd, fel y dywedwch, y gweithwyr asiantaeth sy'n dibynnu ar hyn hefyd.
Cefais gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Peter Kyle, yr wythnos diwethaf ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi ysgrifennu ato yn gofyn am fanylion ynglŷn â phryd y bydd y cyllid yn dod i lawr. Ond rydych chi'n gwbl gywir—rwy'n credu bod angen rhoi mwy o bwysau ar Tata a gofyn mwy o gwestiynau iddyn nhw pam nad oedd ganddyn nhw system fwy cadarn a system a oedd yn cefnogi'r gweithwyr i lawr y gadwyn, fel yr ydych chi'n ei awgrymu.
Prif Weinidog, mae yna lawer o bobl wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â'r sefyllfa sy'n parhau gyda JLR, o gofio bod y cwmni yn cefnogi dros 33,000 o bobl yn uniongyrchol a llawer mwy eto drwy eu cyflenwyr. Un o'r cyflenwyr hynny yw ZF Automotive UK, ym Mhont-y-pŵl, sydd y tu allan i'm hetholaeth i, ond sydd â chryn dipyn o'i weithwyr yn byw yn fy etholaeth i. Fe wn i fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i'r cwmni cyn hyn i uwchraddio eu llinell gynhyrchu cyn hyn, ond rwy'n rhagweld y bydd eu gweithwyr yn bryderus iawn oherwydd digwyddiadau diweddar. Er mai tuag at JLR yr anelwyd yr ymosodiad seiber, fe fydd hyn wedi effeithio ar y gadwyn gyflenwi i gyd, wrth gwrs. Prif Weinidog, rwy'n credu eich bod chi wedi ateb fy nghwestiwn i eisoes, ond a fyddwch chi'n cysylltu â'r cwmni arbennig hwnnw a'r busnesau bach eraill a allai fod yn y gadwyn gyflenwi sy'n bryderus iawn ar hyn o bryd?
Diolch yn fawr iawn. Dim ond gair i ddweud ein bod ni'n llwyr gydnabod pwysigrwydd JLR i economi Cymru. Rydym ni'n amcangyfrif bod 30 o gwmnïau yng Nghymru yng nghadwyn gyflenwi JLR. Mae gan Gymru 17 o gwmnïau sy'n cludo nwyddau yn uniongyrchol i JLR. O'r rhain, mae chwe chwmni yn fwy na 50 y cant yn ddibynnol ar JLR am eu busnes, sy'n effeithio ar 1,500 o swyddi o bosibl. Felly, mae hon yn sefyllfa hynod ddifrifol, a phe byddech chi'n dechrau cynnwys y cyflenwyr haen is a busnesau bach a chanolig yna fe fyddech chi'n sôn am 2,700 o swyddi. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi teimlo rhyddhad o weld bod pethau am gael eu troi yn ôl ymlaen yn JLR i bob golwg, ac felly fe fyddwn nhw'n cael y rhyddhad hwn, ond rwyf i o'r farn fod rhai gwersi difrifol iawn i'w dysgu gan y cwmni yn hyn o beth.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol cynllun cenedl noddfa y Llywodraeth? OQ63231
Mae helpu pobl sydd wedi cael eu hamddiffyn gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, yn aml ar ôl ffoi rhag rhyfel neu drais, yn cynrychioli gwerthoedd Cymreig ar waith. Mae'n ein helpu ni i lenwi bylchau o ran swyddi ac mae llawer ohonyn nhw'n cyfrannu at ein heconomi. Nawr, gadewch i ni fod yn onest. Mae rhai yn ceisio corddi hyn i fod yn rhywbeth nad ydyw. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roedd pawb bron iawn yn cytuno bod yn rhaid i ni ddod i'r adwy dros ffoaduriaid o Wcráin. Fe wnaethom ni hynny, a fe'u croesawyd nhw yng Nghymru gyda pharch a chydymdeimlad. Os cofiaf yn iawn, roedd rhai Aelodau sy'n ein beirniadu ni nawr yn pwyso arnom ni i wneud rhagor bryd hynny. Felly, allwch chi ddim ei chael hi y ddwy ffordd. Allwch chi ddim fod yn galw am gydymdeimlad un mis ac yn dweud rhywbeth gwahanol ychydig fisoedd wedyn.
Prif Weinidog, rydych chi a rhai eraill yn eich plaid chi'n anonest pan fyddwch chi'n awgrymu, trwy wrthwynebu eich polisi cenedl noddfa gwerth £55 miliwn, nad ydym ni'n malio am Wcreiniaid rywsut. Fe wyddoch chi nad yw hynny'n wir. Yr hyn y mae Reform yn ei wrthwynebu yw polisi sy'n rhoi arwydd neon uwchben Cymru sy'n dweud wrth weddill y byd—[Torri ar draws.]
Gadewch i ni glywed yr hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud. Ewch yn eich blaen, Laura Anne Jones.
Yr hyn y mae Reform yn ei wrthwynebu yw polisi sy'n rhoi arwydd neon uwchben Cymru sy'n awgrymu i weddill y byd y gallwch chi ddod yma, yn anghyfreithlon o bosibl, a defnyddio ein gwasanaethau, ein budd-daliadau, ein tai, pan fo ein GIG wedi ei ymestyn hyd yr eithaf eisoes a chyn-filwyr gennym sy'n cysgu ar y strydoedd. Nid yw Lloegr wedi ei hystyried hi'n hanfodol i ddatgan ei hunan yn genedl noddfa, na'r Alban chwaith. Ond mae'r ddwy wlad yn rhoi croeso i Wcreiniaid—y mae Reform yn ei groesawu—sy'n byw, yn gweithio ac yn cyfrannu heb label mawreddog o 'genedl noddfa' na chost hynny. Mae Wcreiniaid mewn rhannau eraill o'r DU yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Ond nid am Wcreiniaid yn unig y mae hyn, Prif Weinidog? Y chi a ddylai roi'r gorau i chwarae gwleidyddiaeth â hyn, a'r ochr hon i'r Siambr. Eich polisi—
Rwyf i wedi bod yn hael. Fe fydd angen i chi ddod at gwestiwn nawr.
Prif Weinidog, mae eich polisi chi o genedl noddfa yn anfon neges i'r rhai sy'n cyrraedd yma'n anghyfreithlon y byddan nhw yn derbyn gofal cyn pawb arall, o flaen teuluoedd Cymru, trethdalwyr Cymru—
Rydych chi am ofyn cwestiwn yn hytrach na dal i wneud dim ond darllen eich sgript. A wnewch chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch chi'n dda?
Pryd ydych chi am ddirwyn y polisi costus, diangen hwn i ben, neu a ydych chi'n ei weld yn rhedeg am gyfnod amhenodol, ac ar ba gost i'r trethdalwr y bydd hynny? Diolch.
Cafodd wyth deg dau y cant o gyllideb y genedl noddfa ei wario ar gefnogi pobl yn cyrraedd Cymru o Wcráin rhwng 2022 a 2024. A gadewch i mi ddyfynnu'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud ar eich tudalen Facebook:
'Fe ofynnais i Lywodraeth Cymru a fydden nhw'n amlinellu'r camau nesaf y maen nhw'n bwriadu eu cymryd i helpu Wcreiniaid yng Nghymru'.
Chewch chi mohoni hi'r ddwy ffordd. Dyna'r oeddech chi'n ei ddweud ar eich tudalen Facebook ychydig fisoedd yn ôl.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni sicrhau bod pobl yn deall nad Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu faint o geiswyr lloches a pha rai sy'n cael eu lleoli yng Nghymru. Os oes gennych chi ddyheadau o ran rhedeg y wlad hon, fe ddylech chi weithio allan pa bwerau sydd gennym ni i'w cyflawni. Mae addo pethau i bobl nad ydym ni'n gallu eu cyflawni yn ceisio taflu llwch i lygaid pobl. Mae Reform wedi dweud, pe byddech chi'n ennill yng Nghymru, y byddech chi'n terfynu defnyddio unrhyw adeilad ar gyfer rhoi llety i geiswyr lloches. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i wahardd defnyddio unrhyw adeilad ar gyfer lletya ceiswyr lloches.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n onest gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r mater hwn, a'ch bod chi'n onest mewn llefydd fel Caerffili, lle mae Reform yn annog polisïau gwrth-fewnfudo. Gadewch i ni fod yn eglur mai Caerffili sydd â'r ganran leiaf o unrhyw fan yng Nghymru o bobl a gafodd eu geni dramor—2.9 y cant—ac mae llawer o'r rhain yn gweithio yn ein gwasanaethau iechyd a gofal. A dim ond 0.05 y cant o'n cyllideb flynyddol dros chwe blynedd a gafodd ei wario ar y polisi hwn. Rwy'n falch ein bod ni wedi agor ein calonnau i bobl fel Wcreiniaid, i bobl a amddiffynnodd ein gwlad a'n helpu ni allan yn Affganistan, ac y mae angen i ni fod yn barod o ran Hong Kong hefyd.
Prif Weinidog, fe fyddai hi'n anodd iawn i chi ddod o hyd i unrhyw un nad yw'n cefnogi darparu noddfa i ffoaduriaid gwirioneddol. Eto i gyd, trwy gymylu'r gwahaniaeth rhwng mudo cyfreithlon a mudo anghyfreithlon, mae'r cynllun cenedl noddfa wedi amharu ar gefnogaeth i fewnfudo yng nghymunedau Cymru. Mae dyletswydd arnom ni i gartrefu ffoaduriaid gwirioneddol, ond wedyn hyd yn oed, mae'n rhaid i hynny yn y lle priodol ar yr amser priodol. Mae cymryd teuluoedd sy'n ffoi o Wcráin a'u gadael nhw yma yn annheg iddyn nhw a'r cymunedau hynny. Mae yna argyfwng tai yng Nghymru. Mae gen i etholwyr sy'n byw mewn pebyll, ac eto rydym ni am gymryd miloedd o fudwyr yn unol â pholisïau mewnfudo Llywodraeth y DU. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno, hyd nes y gallwn ni gartrefu ein poblogaeth bresennol, bod y cyhoedd yn annhebygol o gefnogi cynnig cartref i rai sy'n chwilio am fywyd gwell yma yng Nghymru?
Allaf i ddim credu—. Rydych chi'n waeth na Reform yn yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Mae hynna'n gwbl annerbyniol. Rydych chi'n annog ymraniad yn ein cymunedau. Rydym ni newydd weld sefyllfa ofnadwy dros y penwythnos lle gwelsom ni'r hyn y mae magu casineb yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae casineb yn brifo Cymru, ac fe gawn ni friff ar hyn yn y dyddiau nesaf. Rwy'n awyddus i ddod â'n cymunedau ynghyd. Dydw i ddim yn dymuno eu gweld yn rhanedig. Ac fe ddylech chi, o bawb, wybod mai'r hyn a gawn ni'n aml iawn gan bobl sy'n dod yma yw cyfraniad enfawr i'n cymunedau.
Fe wyddom fod bron i 50 y cant o'r meddygon a'r deintyddion sydd yng ngorllewin Cymru, er enghraifft, wedi cael eu hyfforddi dramor. Un o'r pethau yr wyf i'n falch iawn ohono yw bod grŵp meddygon ceiswyr lloches a ffoaduriaid Cymru gennym ni, a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau bod meddygon ac ymgynghorwyr sy'n cyrraedd Cymru yn gallu parhau i ymarfer yn y GIG. Yn aml iawn mae sgiliau gan y bobl hyn y gallwn ni eu defnyddio, ac rydym ni'n dibynnu arnyn nhw i barhau gyda'n gwasanaethau cyhoeddus.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n ystyried hyn yn annymunol ac yn gwbl anonest. Mae'r ffeithiau yn eglur iawn: mae'r genedl noddfa, yn wahanol i'r hyn a glywsom ni gan Reform ac, rwy'n ofni, yr hyn a glywn ni oddi wrth y Ceidwadwyr nawr—rydych chi'n newid eich meddwl, a bod yn onest—yn ymwneud â helpu pobl sydd yma yn gyfreithlon. Mae wyth deg dau y cant o'r gronfa honno wedi mynd ar Wcreiniaid. Fe fydd Mick Antoniw yn mynd allan unwaith eto i Wcráin am y pumed tro er mwyn darparu cymorth a nwyddau. Mae llawer ohonoch chi wedi bod yn gefnogol i hynny, felly, os gwelwch chi'n dda, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn yw cenedl noddfa: mae'n ymwneud â chefnogi'r rhai sydd angen ein cymorth. Mae gennym ni gymdogion a chyfeillion—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Aelod fynd yn ei blaen, os gwelwch chi'n dda. Jane Dodds—[Torri ar draws.] Na, peidiwch â siarad dan eich gwynt, Darren Millar. Jane Dodds, ewch yn eich blaen.
Mae llawer o'r Wcreiniaid sydd wedi cyrraedd yma'n gymdogion ac yn gyfeillion i ni erbyn hyn, ac mae llawer yn gweithio mewn proffesiynau lle mae eu hangen nhw arnom ni. Mae pobl nad ydyn nhw'n Wcreiniaid hyd yn oed yn gweithio yn ein gwasanaeth iechyd, yn ein cartrefi gofal, yn nyrsys, ac yn gweithio yn ein diwydiant lletygarwch. Nid oes lle i'r iaith annymunol a chywilyddus hon yma yng Nghymru. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Prif Weinidog, rydych chi wedi sôn llawer am eich cefnogaeth chi i'r genedl noddfa, ond fe hoffwn i ofyn i chi sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw cenedl noddfa yma yng Nghymru, a sicrhau ein bod ni'n ymosod yn wirioneddol ar y celwyddau a'r sefyllfaoedd cywilyddus y mae pobl yn sôn amdanynt sy'n ei rhoi mewn lle gwahanol. Diolch yn fawr.
Rwyf o'r farn bod hwn yn bwynt o bwys mawr i'r genedl. Rwy'n credu bod angen i bobl benderfynu ar ba ochr o'r ddadl hon maen nhw'n sefyll. A ydyn nhw'n dymuno bod o blaid ymraniad neu a ydyn nhw'n dymuno bod o blaid cydlyniad a gobaith mewn cymunedau? Mae hwnnw'n gwestiwn y bydd yn rhaid i bobl ei ofyn iddyn nhw eu hunain yn ystod y misoedd nesaf, ac yng Nghaerffili yn ystod y dyddiau nesaf. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall, ac rwy'n awyddus iddyn nhw ddeall, beth yw safbwynt ein plaid ni yn hyn o beth. Rwy'n falch ein bod yn genedl sy'n cefnogi pobl sydd wedi ffoi rhag sefyllfaoedd erchyll, fel y rhyfel yn Wcráin, fel Affganistan, ac fel y sefyllfa o ran hawliau dynol yn Hong Kong. Mae angen i ni gydsefyll â nhw. Rydym ni'n falch o gydsefyll gyda nhw, ac maen nhw'n rhoi cyfraniad gwerthfawr i'n cymunedau.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'r hyn rydych chi newydd ei ddweud i raddau helaeth iawn. Amseroedd pryderus a pheryglus iawn yw'r rhain, ac mae pobl sy'n amlwg yn wahanol, pobl ddu yn ein cymunedau, yn bryderus iawn. Mae'r rhai sy'n darparu ein gwasanaethau iechyd hanfodol, er enghraifft, yn bryderus iawn o ran yr elyniaeth y maen nhw'n ei hwynebu. Rwy'n cytuno â chi, y gorchwyl nawr i wleidyddion yw bod yn gwbl eglur. Rydym ni'n arweinwyr yn ein cymunedau. A ydym ni o blaid neu yn erbyn ymraniad a chasineb? Fe fyddwn i'n gobeithio y gall y mwyafrif helaeth o Aelodau yn y Siambr hon ddod at ei gilydd a dangos ein bod o blaid y cydlyniad cymunedol a'r cydweithrediad hwnnw, y croeso a'r goddefgarwch hwnnw yr ydych chi wedi'i ddisgrifio.
Sawl blwyddyn yn ôl, Prif Weinidog, fe luniodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol fel roedd ar y pryd adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a thynnodd dystiolaeth o bob rhan o'n cymunedau ac, ar sail drawsbleidiol, fe wnaeth argymhellion a oedd yn cynnwys camau gan Lywodraeth Cymru i fod yn genedl noddfa. Dyna oedd y cytundeb o fewn y Cynulliad Cenedlaethol bryd hynny. Mae angen i ni ailddatgan y consensws hwnnw rhwng pobl a chynrychiolwyr sy'n â'r feddylfryd briodol yn ystod y cyfnod peryglus a dychrynllyd hwn.
Diolch, John. Does gen i ddim byd i'w ychwanegu at hynna. Rwy'n credu eich bod chi wedi mynegi hynny'n dda iawn.
Diolch i'r Prif Weinidog. Dyna'r eitem yna ar ben.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i liniaru effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chodi'r cap budd-dal dau blentyn? OQ63199
Gadewch i mi fod yn hollol eglur: mae'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn bolisi na ellir ei amddiffyn yn foesol sy'n cosbi plant am amgylchiadau eu genedigaethau. Yn ddiamwys, cynnyrch degawd o gyni'r Torïaid ydyw sydd wedi ymwreiddio tlodi ac ymestyn anghydraddoldeb ledled ein gwlad. Er mai mater a gedwir yn ôl yw cynlluniau nawdd cymdeithasol, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, ein gwaith ar system budd-daliadau Cymru, y grant hanfodion ysgolion a'n rhaglen prydau ysgol am ddim i bawb, a phob un ohonyn nhw wedi cael ei gynllunio i roi arian yn ei ôl ym mhocedi teuluoedd ac amddiffyn plant rhag effeithiau gwaethaf y polisi hwn. Rydym ni'n mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli gweinyddu lles hefyd.
Rydym yn dal ati i godi'r terfyn dau blentyn a materion diwygio lles yn fwy eang gyda Llywodraeth y DU ym mhob tasglu tlodi plant a chyfarfod grŵp rhyngweinidogol.
Diolch i chi am eich ateb yn y fan yna. Rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn rydych chi newydd ei ddweud. Mae'r cap dau blentyn yn bolisi sy'n cosbi rhieni am fod yn dlawd, ond yn waeth na hynny, fel roeddech chi'n dweud, mae'n cosbi plant am gael eu geni yn dlawd. Mae'n rhywbeth atchweliadol, creulon ac fe ddylid ei ddiddymu.
Yr wythnos diwethaf fe wnaethom ni gynnal dadl ar gynllun Plaid Cymru i leihau tlodi, ac roedd honno'n canolbwyntio ar greu Cynnal, sef taliad plant ar gyfer Cymru. Nawr, mae Barnardo's Cymru wedi galw am gynllun o'r fath, fel gwnaeth Comisiynydd Plant Cymru. Roedd hi'n siomedig bod y Blaid Lafur wedi pleidleisio yn erbyn y syniad. Felly, rwy'n gofyn: yn ystod misoedd olaf y Llywodraeth hon, a fyddwch chi'n dadlau'r achos dros roi mwy o bwerau i Gymru, i sicrhau y gallwn ni fynd i'r afael â thlodi plant? Ac a fyddwch chi yn Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i'r Canghellor, yngylch yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, iddi hi ddefnyddio'r gyllideb i godi'r cap dau blentyn hwn ar fudd-daliadau unwaith ac am byth?
Diolch i chi, Delyth. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi galw yn gyson am newidiadau cadarnhaol o ran polisi nawdd cymdeithasol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant a diddymu'r rheol budd-daliadau o ddau blentyn a dim mwy. Fe wyddom ni fod polisïau nawdd cymdeithasol yn gallu effeithio ar dlodi plant, ac rydym ni o'r farn bod archwilio effaith polisi nawdd cymdeithasol yn ei gyfanrwydd yn bwysig iawn, yn hytrach na gwneud hynny'n ddarniog, gan ystyried polisïau unigol. Fe fydd hynny'n sicrhau y bydd pobl, a theuluoedd yn enwedig, yn gallu talu am eu hanfodion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £7 biliwn rhwng 2022 a 2026 mewn cynlluniau i gefnogi pobl ledled Cymru sy'n byw mewn tlodi. Mae'r cynlluniau hyn yn targedu'r cymorth at bobl yn yr angen mwyaf, ac maen nhw'n helpu pobl i fynnu eu hawliau a bod o gymorth wrth gadw arian ym mhocedi pobl.
Yn Llywodraeth Lafur Cymru, rydym ni'n parhau i weithio ledled y DU i archwilio sut y gall pwerau a gedwir yn ôl gefnogi ac ategu'r camau yr ydym ni'n eu cymryd yng Nghymru, nid yn unig i fynd i'r afael â thlodi yn yr hirdymor, ond i liniaru effeithiau gwaethaf byw mewn tlodi yn y byrdymor. Drwy ein hymgysylltiad ni â thasglu tlodi plant gweinidogol y pedair gwlad, rydym ni'n sicrhau bod profiad teuluoedd yng Nghymru yn cael ei ystyried yn y gwaith er mwyn archwilio a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi plant, ac wrth ddylanwadu ar sut bydd Llywodraeth y DU yn defnyddio ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant.
Cafodd grŵp rhyngweinidogol y pedair gwlad ar waith a phensiynau ei sefydlu ac fe wnaeth hwnnw gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mehefin. Y grŵp rhyngweinidogol hwnnw yw'r fforwm delfrydol i rannu'r gwaith rhagorol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cymaint o incwm â phosibl ar gyfer aelwydydd, ac fel rydych chi'n dweud, Delyth, i sicrhau y bydd llais Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn eglur o ran diwygio nawdd cymdeithasol.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau'r cynnydd yn neddfwriaeth y DU sy'n cael ei phasio mewn meysydd polisi datganoledig heb gydsyniad y Senedd? OQ63193
Diolch, Rhys. Ers i'r Llywodraeth Lafur fod mewn grym, ni welsom ni unrhyw doriadau yng nghonfensiwn Sewel, yn wahanol i'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol. Rwy'n parhau i gyflwyno sylwadau i Weinidogion y DU a rhoi cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ar y ffordd orau o amddiffyn ein setliad datganoledig.
Yn gwbl sicr, nid arsylwyr di-rym mohonom. Rydym ni'n weithredol wrth fynnu ein hawliau dan gonfensiwn Sewel, ac rydym ni'n dal ati i wneud hynny. Mae Llafur Cymru yn parhau i fod yn blaid datganoli. Rydym ni wedi diwygio'r Senedd i adlewyrchu'r pwerau sydd ganddi hi'n well, ac rydym ni wedi sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i siartio ein llwybr ymlaen. Rydym ni'n pwyso am ddatganoli cyfiawnder, Ystad y Goron a gweinyddu lles hefyd am ein bod yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Ers 2020, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol bod y Senedd hon wedi cael ei diystyru gan San Steffan ar lawer o faterion ar draws sawl gwahanol fater sydd wedi'i ddatganoli, o gyfraith yr UE a gadwyd yn ôl i gyfreithiau protestio. Nawr, wrth ddiystyru ewyllys y Senedd hon, fe ddywedodd Arglwydd Benyon, na chafodd ei ethol, mewn ffordd braidd yn nawddoglyd ei fod yn gobeithio, ymhen amser, y byddwn ni'n gweld yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac yn y bôn roedd yn dweud wrth gorff a etholwyd yn ddemocrataidd am beidio â phoeni oherwydd un diwrnod fe fyddem ni'n llwyr sylweddoli'r hyn y mae Tŷ'r Arglwyddi a San Steffan yn ei wneud ar ein cyfer ni, a'r peth iawn iddyn nhw ei wneud yw rheoli drosom ni.
Y tro diwethaf i mi godi'r mater gyda chi, Cwnsler Cyffredinol, roeddech chi'n cytuno bod confensiynau sydd ar waith i amddiffyn democratiaeth Cymru wedi bod yn ddiwerth yn y pen draw. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud heddiw unwaith eto ei bod hi'n falch nad yw Llywodraeth Lafur wedi diystyru'r Senedd eto, ac mae honno'n farn yr wyf innau'n ei rhannu, wrth gwrs, ac rwy'n hapus gyda hynny. Ond, wrth gwrs, yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, fe allwn ni weld, wrth edrych i'r dyfodol, nad yw confensiynau yn dda i ddim o ran amddiffyn setliad datganoli Cymru. Beth, felly, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud i sicrhau na all San Steffan ddiystyru'r Senedd hon unwaith eto?
Diolch i chi, Rhys. Mae yna nifer o faterion cymhleth ynglŷn â hyn, ond rydym ni'n falch iawn nad yw'r Llywodraeth bresennol wedi diystyru ewyllys y Senedd, a hir y parhaed hynny. Mae yna weithgorau y mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn arbennig yn eu mynychu ynghylch trefniadau cyfansoddiadol, sy'n cynnwys sicrhau ein bod ni'n gwreiddio confensiwn Sewel mewn ffyrdd amgen, hyd at a chan gynnwys y gyfraith—memorandwm cyd-ddealltwriaeth a hyd at ac yn cynnwys y gyfraith—ac mae hwnnw'n ddarn o waith sy'n parhau. Fe hoffem ni weld hynny'n fawr iawn, yn amlwg.
Ac yna, fe wyddoch chi cystal â minnau fod yna lawer o bethau cymhleth wedi digwydd pryd y gwnaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ddiystyru ewyllys y Senedd ac yna daeth rhywbeth yn gyfraith. Rydym ni'n wynebu sefyllfa ffeithiol wedyn pryd y digwyddodd i swyddogaethau perthnasol a roddwyd i Weinidogion Cymru, ac felly mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cymryd y camau priodol i sicrhau bod corff cyfraith Cymru yn adlewyrchu hynny'n gywir. Felly, mae yna rai materion cymhleth wedi bod pryd nad oedd y Senedd wedi dymuno i'r gyfraith gael ei phasio, ond fe gafodd ei phasio beth bynnag, ac wedyn mae'n rhaid i ni ystyried pa gamau sydd eu hangen i sicrhau bod cyfraith Cymru yn hygyrch ac yn gydlynol yng ngoleuni'r dyfarniadau hynny yn ein herbyn. Ond, yn amlwg, mae hi'n sefyllfa llawer gwell i fod ynddi lle mae ewyllys y Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd yn cael ei hystyried yn briodol gan Lywodraeth y DU.
Cwestiynau llefarwyr y pleidiau, nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ar 16 Ebrill fe benderfynodd Goruchaf Lys y DU fod y diffiniad o fenyw yn cyfeirio at ryw fiolegol. O ystyried bod hynny bron i chwe mis yn ôl, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers y dyfarniad i warchod mannau ar gyfer menywod yn unig?
Fel y gwyddoch chi, fe fu yna gyfres o sgyrsiau ynglŷn â'r canllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer hynny. Roeddem ni'n aros am y canllawiau hynny, ac mae yna adolygiad cynhwysfawr o bolisïau ar draws Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r canllawiau. Mae fy nghydweithiwr Jane Hutt wedi bod yn edrych ar y canllawiau hynny'n eang, a chyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i allu dweud beth fydd yr effaith, fe fyddwn ni'n ailgyflwyno'r canllawiau.
Fe ddaeth y dyfarniad hwnnw, Cwnsler Cyffredinol, chwe mis yn ôl. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn disgwyl i chi, a bod yn onest, fwrw ymlaen â hyn, fel gwelsom ni Lywodraethau eraill, fel Llywodraeth yr Alban, yn ei wneud. Fe ysgrifennodd y Rhwydwaith Hawliau Menywod at arweinwyr y pleidiau gwleidyddol i gyd sy'n cael eu cynrychioli yma yn y Senedd ar ôl y dyfarniad hwnnw. Rwyf i am ddarllen dyfyniad o'r llythyr a anfonwyd, lle maen nhw'n dweud:
'Mae gwrthodiad Llywodraeth Cymru i gydnabod "menyw" fel categori unigryw gyda'i anghenion penodol ei hun ac erydiad ein llecynnau a'n gwasanaethau rhyw sengl hanfodol o ganlyniad i hynny wedi cael ei ategu gan y bwlio, aflonyddu, cam-drin a'r clustiau byddar sydd wedi cael eu troi at yr ymdrechion i godi ein pryderon ni.
'Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru ar ddyfarniad y Goruchaf Lys yn mynegi unrhyw gydnabyddiaeth o gamgymeriadau'r gorffennol ac nid oes unrhyw ymrwymiad ynddo i glywed lleisiau menywod yn y dyfodol nac ymdrin â'n pryderon ni. Mae hi'n anffodus iawn hefyd nad yw'r gohebiaethau a anfonwyd yn flaenorol at y Prif Weinidog yn gofyn am gyfarfod i drafod ein pryderon wedi derbyn unrhyw ymateb.'
Nid fy mhortffolio i ydyw—
Nawr, chi yw'r Cwnsler Cyffredinol—rwy'n gallu eich clywed chi'n dweud nad eich portffolio chi ydyw—chi sy'n gyfrifol am weithredu'r dyfarniad hwn gan y Goruchaf Lys. Pam, felly, ydych chi a'r Prif Weinidog yn anwybyddu'r Rhwydwaith Hawliau Menywod?
Dydym ni ddim yn eu hanwybyddu nhw. Mae fy nghyd-Aelod, y mae hyn yn ei bortffolio, wedi cwrdd â nhw'n ddiweddar iawn.
Rwy'n edrych ymlaen at y dyfarniad ar hynny, ond mae'r Rhwydwaith Hawliau Menywod wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog a, hyd y gwn i, ni chawson nhw'r un.
Mae arweinydd fy mhlaid i, Darren Millar, wedi ysgrifennu yn ôl at y Rhwydwaith Hawliau Menywod yn cadarnhau safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig sef ein bod ni'n gallu diffinio'r hyn yw menyw ac y byddwn ni'n sicrhau llecynnau ar gyfer menywod yn unig. [Torri ar draws.] Fe hoffwn i weld Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i wneud yr un peth. Yn anffodus, mae Llywodraeth Lafur Cymru—fe allwch chi dwt-twtio gymaint ag a fynnoch chi, Cwnsler Cyffredinol, ond mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn frawychus o bell oddi wrth farn y cyhoedd.
A mater arall yr ydych chi'n bell o fod yn cyd-fynd â barn y cyhoedd ynglŷn ag ef yw mewnfudo. Dros yr haf, mewn cyfweliad gyda WalesOnline, fe ddywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r mater mewnfudo hwn yn peri penbleth llwyr i mi. Dydw i ddim yn deall sut y gall unrhyw un yng Nghymru fod yn poeni o gwbl am fewnfudo'.
A ydych chi'n sefyll dros y geiriau hynny?
Yn gyfan gwbl.
Cywilyddus—
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Cwnsler Cyffredinol, roeddwn i'n gwrando'r wythnos diwethaf ar Enillydd Gwobr Nobel sef Maria Ressa yn mynd i'r afael â'r union her o gamwybodaeth yr ymdriniwyd â hi'n gynharach yng nghwestiwn Jenny Rathbone. Roedd hi'n dadlau yn huawdl iawn na ellir cael ymddiriedaeth, na realiti a rennir, heb wirionedd, a heb hwnnw ni all democratiaeth weithredu yn briodol.
Ddoe, fe ddaeth Llywodraeth Cymru y llywodraeth gyntaf yn y byd i gyhoeddi Bil drafft sy'n creu gofyniad statudol ar gyfer trosedd gyffredinol o ddichell fwriadol at ddibenion dylanwadu ar etholiadau, ac rwy'n credu y dylid eich llongyfarch am hynny. Wrth wneud y cynnig hwn, a wnewch chi ddweud ychydig am sut y daethoch chi, yn y Llywodraeth, i'r casgliad ei bod hi'n angenrheidiol amddiffyn ffeithiau mewn democratiaeth, o ystyried yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu? Ac a wnewch chi gadarnhau bod y ffordd yr ysgrifennwyd y Bil yn golygu y bydd dyletswydd statudol ar Weinidogion i gyflwyno'r rheoliadau, felly, trwy is-ddeddfwriaeth? Ac a oes amserlen benodol iddyn nhw wneud hynny?
Diolch yn fawr, Adam, am y gyfres honno o gwestiynau. I fod yn eglur iawn ynglŷn â'n sefyllfa ni yn y broses, er hynny, fe anfonwyd y Bil i'w benderfynu arno gan y Llywydd ddydd Llun—gan y Prif Weinidog—yn ôl yr arfer. O ganlyniad i'r cytundeb diweddaraf gyda'r Comisiwn, fe gyhoeddodd y Llywodraeth y Bil drafft ar yr un pryd, at yr unig ddiben sef fod y Comisiwn a'i bwyllgorau yn gallu ystyried yr hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer craffu. Felly, nid yw'r Bil wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad pellach na sylwadau. Ond fe allaf i ddweud, wrth gwrs, fel dangosodd y dadleuon y llynedd, ein bod ni i gyd yn gytûn fod dichell mewn dadl wleidyddol ag effaith ddinistriol ar ddemocratiaeth, a dyna pam mae'r Bil wedi cael ei gyflwyno.
Nid wyf i wir yn teimlo fy mod i mewn sefyllfa, gan nad yw'r Llywydd hyd yn oed wedi penderfynu bod y Bil o fewn cymhwysedd y Senedd eto, i drafod pwyntiau manwl iawn arno. Mae'r Bil drafft, serch hynny, yno i bawb ei weld. Mae'n cynnwys rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud pethau amrywiol, ond, wrth gwrs, nid yw wedi'i gyflwyno i'r Senedd eto, hyd yn oed. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y dadleuon, wrth iddo fynd ar ei daith drwy'r Senedd, gan dybio bod y Llywydd yn dyfarnu ei fod yn ein cymhwysedd, nad yw wedi digwydd eto.
Nid fy lle i yw dymuno gwrthddweud unrhyw fater o ran y drefn briodol yma, ond o ran natur gyffredinol y cwestiynau y gwnaethom ni fynd drostyn nhw'n gynharach ac sy'n berthnasol i gynnwys y Bil yn fras, a wnewch chi ddweud a yw'r mathau o faterion o ran camwybodaeth ddigidol, ffugiadau dwfn er enghraifft, sy'n mynd yn ffactor gynyddol o ran camwybodaeth—p'un a yw'r materion hynny o fewn cylch gwaith y Senedd yn gyffredinol, fel y mae hefyd nid yn unig datganiadau a wneir gan ymgeiswyr, er enghraifft, ond gan drydydd partïon eraill hefyd, ac wrth archwilio deddfwriaeth, yn gyffredinol, yn y maes hwn, y gallai hynny fod yn ddigon eang i fynd i'r afael â'r ddau bosibilrwydd hynny?
Diolch i chi, Adam. Rydych chi'n dangos yn dda iawn pa mor gymhleth yw'r sefyllfa yn hyn o beth gan y cwestiwn, pa mor anodd yw hi i fframio cwestiwn hyd yn oed sy'n crisialu rhai o'r materion. Felly, rwy'n credu bod honno'n enghraifft ardderchog o gymhlethdod y maes hwn a pham rydyn ni wedi dod i gytundeb y dylid cyflwyno'r Bil. Ac fel rwy'n dweud, nid wyf i'n dymuno barnu unrhyw beth y mae'r Llywydd am ei ddweud o flaen llaw, ond yn amlwg gan dybio y bydd y Llywydd yn ystyried y Bil o fewn cymhwysedd y Senedd, ac rwy'n amlwg yn gobeithio yn fawr y bydd hi'n gwneud felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael y sgyrsiau hynny. Fe gafodd y Bil ei ddrafftio mewn ffordd sy'n caniatáu'r hyblygrwydd mwyaf posibl wrth graffu, ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor, pa bwyllgor bynnag fyddo hwnnw, ynghylch hynny, pan fydd y Bil wedi—. Nid wyf i hyd yn oed wedi ei gyflwyno i'r Senedd eto ac nid yw'r Llywydd wedi penderfynu ar ei gymhwysedd. Nid wyf i'n dymuno peidio ag ateb eich cwestiynau chi, ond rwy'n teimlo fy mod i ychydig allan o drefn o ystyried ein sefyllfa ni nawr yn y broses.
Wel, mae'n debyg bod hwn yn hollol newydd—. Rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ie. Felly, nid oeddwn i'n ymwybodol nad ydym ni'n cael trafod y Bil chwaith, er iddo gael ei gyhoeddi a'i bod hi cyn y penderfyniad, ac felly fe wnawn ni ddawnsio o amgylch hyn.
Yn olaf, mae yna faterion o ran Aelodau nad ydyn nhw wedi cael eu cynnwys yn y Bil drafft. Rwy'n tybio y bydd hi'n bosibl mynd i'r afael â'r rhain ar gamau diweddarach o'r Bil ac y bydd y Llywodraeth yn ymgysylltu yn llawn â'r cynigion hynny ar y cam priodol.
Ie, felly ein sefyllfa ni o ran y broses yw bod y Bil wedi cael ei anfon at y Llywydd am ei phenderfyniad hi ynglŷn â chymhwysedd. Nid ydym ni wedi cael hwnnw eto. Fe gytunodd y Llywodraeth y byddem ni'n cyhoeddi'r Bil ar gyfer Biliau blwyddyn 5 yn y Senedd hon ar adeg ei anfon i'w benderfynu arno ar gyfer hwyluso'r broses graffu, fel gall y Llywydd a'i Phwyllgor Busnes edrych ar hynny—gan dybio y canfyddir ei fod o fewn cymhwysedd—a sut olwg allai fod ar y craffu hwnnw. Ac i atgoffa pawb, y rheswm pam y gwnaethom ni hynny ar gyfer Biliau blwyddyn 5 yw oherwydd, yn amlwg, mae blwyddyn 5 yn fyr iawn. Felly, mae sefyllfa gennym ni lle mae'r amser sydd ar gael yn fyr iawn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gwybod mai'r drefn ar hyn o bryd ar gyfer cam olaf y Bil hwn yw i hynny fod ar y diwrnod olaf y bydd y Senedd hon yn eistedd. Felly, mae'n sefyllfa dynn iawn. Ond mae'n rhaid i mi aros am benderfyniad y Llywydd cyn i mi deimlo fy mod i'n gallu trafod unrhyw un o'r manylion ymhellach. Rwy'n edrych ymlaen—gan dybio y byddaf i'n gallu ei gyflwyno i'r Senedd—at gael set gynhwysfawr o sesiynau craffu, oherwydd mae'n bwysig iawn i ni wneud hyn yn iawn a sicrhau ei fod yn ymestyn i bob un o'r meysydd cywir yn ein bywyd gwleidyddol.
Dyna ddawnsio hyfryd a welsom ni'n digwydd yn y fan yna. [Chwerthin.]
3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r set gyntaf o ddata cyfiawnder Cymru i lywio ei pholisi a'i deddfwriaeth? OQ63196
Diolch, Rhys. Mae cyhoeddiad data cyfiawnder Cymru yn drobwynt. Am y tro cyntaf, fe allwn ni lunio polisi cyfiawnder yn seiliedig ar sefyllfa wirioneddol Cymru. Mae data a ddadgyfunwyd eisoes yn llywio ein gwaith ni ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, ac mae'n cael ei drafod rhwng Llywodraethau Llafur Cymru a'r DU erbyn hyn. Mae'n ein helpu ni i ddylunio gwasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion ein cymunedau, gan gynnwys y ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe, sy'n cynnig dewis arall yn seiliedig ar drawma yn hytrach na'r ddalfa. Rydym ni'n gobeithio yn daer y bydd hynny'n mynd rhagddo. Rydym ni'n defnyddio'r data hyn i gefnogi ein hachos dros ddatganoli cyfiawnder yn llawn, fel mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ei argymell.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n cytuno â'ch ymadrodd 'trobwynt', ond mae'n drobwynt sydd wedi cymryd amser maith i droi. Roedd y syniad y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddrafftio polisi cyfiawnder heb ddata o Gymru a ddadgyfunwyd yn chwerthinllyd, wir. Carwyn Jones a gomisiynodd adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru. Fe'i cyhoeddwyd chwe blynedd yn ôl i'r mis hwn, a dyma un o'r argymhellion yr oedd pawb yn cytuno arno—fe gytunodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder dan y Llywodraeth Geidwadol hyd yn oed ar ddata a ddadgyfunwyd i Gymru. O'r diwedd, wrth gwrs, fe gyhoeddwyd hynny'r wythnos diwethaf. Ond fe ddeallir nad yw llawer o feysydd pwysig y gofynnwyd amdanyn nhw wedi cael eu cyhoeddi, megis carcharu rhieni, marwolaethau yn y ddalfa, a nifer y carcharorion sy'n siarad Cymraeg. Pryd fydd y data pwysig hynny'n cael eu cyhoeddi, oherwydd mae'r rhain yn sylfaenol i bolisi Llywodraeth Cymru? Pryd fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi, ac a fydd yn rhaid i ni aros am chwe blynedd arall cyn gweld y rhain? Diolch yn fawr.
Wel, rwy'n gobeithio yn ddiffuant na fydd yn rhaid i ni aros am chwe blynedd arall. Felly, unwaith eto, mae fy nghydweithiwr Jane Hutt wedi bod ar drywydd hyn ers cryn amser, ac mae nifer ohonom ni wedi bod â rhan yn hyn, ar draws y Llywodraeth, wrth geisio cael y data hyn. Mae'n rhaid i mi roi teyrnged i nifer o weithredwyr o'r tu allan hefyd, sydd wedi gweithio yn galed iawn er mwyn i ni gyrraedd ein sefyllfa bresennol. Mae yna, wrth gwrs, nifer o setiau data eraill yr ydym ni'n awyddus iawn i'w dadgyfuno, ac mae'r sgwrs honno'n parhau i raddau helaeth iawn. Mae gennym ni brosiect ymchwil ar hyn o bryd i geisio nodi'r holl setiau o ddata yr ydym ni'n awyddus i'w cael, nid yn unig y rhai sy'n ymddangos ychydig yn fwy amlwg nag eraill. Yr hyn yr wyf i'n gobeithio yn fawr amdano, nawr y mae'r darn hwn gennym ni, rydym ni wedi gosod plocyn i ddal y drws ar agor i ryw raddau—felly, nawr mae'r egwyddor wedi cael ei sefydlu ac rydym ni'n gallu dal i fyny gyda gweddill y data. Fe allwn ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau nad ydyn nhw'n afreal, ymarferol ynghylch rhan o hyn, ond fe allwn ni fynd i'r afael â'r problemau hynny gyda'n gilydd, ac fe allwn ni gael y data hynny.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn â darpariaeth gwasanaethau rheilffyrdd. Fe gefais i wybod nad oes unrhyw drenau wedi bod i'r gorllewin o Abertawe dros y ddau benwythnos diwethaf oherwydd gwaith peirianyddol, a bod gwasanaethau bysiau newydd rheilffyrdd wedi bod ar waith yn eu lle, gan achosi llawer iawn o dagfeydd. Nawr, fel rwyf i'n ei deall hi, rhwng Llanelli a Chaerfyrddin y mae'r gwaith peirianyddol yn digwydd. Nawr, mae hynny'n fy arwain i holi pam mae gwasanaethau ymhellach i'r gorllewin yn cael eu torri i ffwrdd yn llwyr. Oni fyddai hi'n bosibl i wasanaethau trên barhau i'r gorllewin o Gaerfyrddin, gyda bysiau yn cael eu rhedeg yn yr ardal sy'n cael ei heffeithio yn unig, sef rhwng Llanelli a Chaerfyrddin? Y gwir amdani yw nad yw gwasanaethau rheilffyrdd yn ôl a blaen o'r gorllewin Cymru yn ddigon boddhaol ac mae pobl sir Benfro wedi gorfod dioddef hynny ers amser maith iawn. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn digwydd wrth glywed bod Trafnidiaeth Cymru wedi cael ei enwi yn ddiweddar ymhlith gweithredwyr trenau lleiaf dibynadwy'r DU. Felly, yn amlwg, mae angen gwneud mwy i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n ddibynadwy. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu pa welliannau sy'n cael digwydd yn y broses o ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd er mwyn i bobl sy'n byw yn sir Benfro fod yn hyderus fod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth wirioneddol i'r mater arbennig hwn.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Wrth gwrs, fe glywsoch chi'n gynharach gan y Prif Weinidog am y gyfradd dda iawn o lwyddiant o ran y ddarpariaeth o wasanaethau a gyflwynwyd gan wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod y datblygiadau mawr sy'n digwydd o ran ein gwasanaethau gan Trafnidiaeth Cymru. Ond, wrth gwrs, mae yna adegau—. Mae gennym ffordd bell i ddal i fyny eto o ran y diffyg buddsoddiad yn y gorffennol, ac mae'n rhaid i mi ddweud, gan y Lywodraeth Geidwadol flaenorol, sydd wedi cael effaith amlwg ar seilwaith ein rheilffyrdd. Felly, yn sicr o ran y gorllewin, rwyf i am ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n mynd rhagddo. Pan fo gwaith peirianneg, wrth gwrs, mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu bob amser i gymryd lle'r rhai ar y rheilffordd, ond fe wn i y bydd hyn yn ymwneud â buddsoddiad yn y cledrau er mwyn gwella'r gwasanaethau i'r gorllewin.
Trefnydd, mi hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y ddau gan y Gweinidog dros ddiwylliant. Yn gyntaf, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd wedi ein brawychu gan y newyddion a ddaeth ddoe am y lladrad yn Sain Ffagan. Mae Amgueddfa Werin Cymru yn amlwg yn pryderu bod staff wedi bod ar y safle, ac yn falch iawn na chafodd neb eu hanafu. Ond, yn amlwg, casgliadau pobl Cymru ydy ein casgliadau cenedlaethol ni. Rydyn ni wedi cael amryw drafodaeth yma yn y Siambr ynglŷn â diogelwch y casgliadau cenedlaethol, rhybuddion, oherwydd toriadau i'r sector, bod diogelwch casgliadau yn fregus. Felly, mi hoffwn wybod gan y Gweinidog pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gweddill y casgliadau cenedlaethol yn ddiogel ac i gefnogi'r amgueddfa.
Yn ail, mi hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â sefyllfa fregus y sector diwylliannol. Mae NoFit State Circus wedi rhoi datganiad allan yr wythnos diwethaf yn dweud eu bod nhw mewn sefyllfa fregus dros ben. Mi ategwyd hynny yn ystod sesiwn craffu gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yr wythnos diwethaf. Felly, mi hoffwn ddatganiad gan Lywodraeth Cymru o ran beth ydy statws y sector celfyddydau yng Nghymru a pha gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad ydyn ni'n colli cyrff pwysig fel NoFit State.
Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.
Mae'n golled ofnadwy, ofnadwy o ran y lladrad o amgueddfa Sain Ffagan. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o hynny nawr. Fe ddigwyddodd ar 6 Hydref. Fe dorrodd dau i mewn i'r prif adeilad a dwyn gemwaith aur o'r Oes Efydd. Roedd yr amgueddfa, wrth gwrs, ar gau ar y pryd, ar yr adeg honno o'r nos, ond rwy'n credu y byddem ni i gyd yn dymuno diolch i'r staff a seiniodd y larwm yn gyflym a diolch i Heddlu De Cymru am ei ymateb cyflym. Ond rydym ni, rwy'n siŵr, yn ymuno ar draws y Siambr hon i fynegi dicter at y troseddwyr a ymosododd ar amgueddfa sy'n annwyl i'r cyhoedd, ac am y difrod a wnaethon nhw i'n treftadaeth genedlaethol. Fel rydych chi'n dweud, dyma'r casgliadau cenedlaethol, ac fe godwyd diogelwch y casgliadau cenedlaethol yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau.
Mae Amgueddfa Cymru wedi cynyddu diogelwch ym mhob un o'i safleoedd, fe wyddom ni hynny, ac yn ystyried gyda Heddlu De Cymru a ddylid cymryd unrhyw gamau diogelwch pellach. Rydym ni mewn cysylltiad rheolaidd ag Amgueddfa Cymru, ac mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn ymweld â'r safle heddiw. Mae diogelwch yn flaenoriaeth fawr i Amgueddfa Cymru ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys archwiliadau diogelwch o'i safleoedd i gyd, yn ogystal â chynnal ac uwchraddio systemau teledu cylch cyfyng a larwm yn rheolaidd. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi gallu rhoi'r diweddariad hwn, diolch i'ch cwestiwn chi heddiw.
O ran y sector diwylliannol, roedd 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', wrth gwrs, yn ddatganiad pwysig o ran ystod, ehangder a dyfnder ein treftadaeth ddiwylliannol wych. Yn ogystal â hynny, 'blaenoriaethau' yw'r gair cywir o ran buddsoddiad ar gyfer diwylliant, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn awyddus i ddiweddaru'r Senedd ar gyflwr y sector—fe wn i y bydd e'n dod gerbron y pwyllgor, ond mewn datganiadau sydd ar ddod hefyd.
Roeddwn i'n awyddus i godi dau fater gyda'r Trefnydd. Ddydd Sadwrn, roeddwn i'n falch iawn o fod yn bresennol yn seremoni Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru, y cyntaf o'u math, a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd hi'n noson wych ac roedd hwnnw'n achlysur ysbrydoledig iawn, a oedd yn cydnabod llwyddiannau rhagorol cerddorion du yng Nghymru. Mae hi'n anodd meddwl na chafodd hyn ei wneud o'r blaen, oherwydd mae cymaint o dalent y mae angen ei ddathlu. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am ymateb y Llywodraeth i hyn, os gwelwch chi'n dda.
Ac yna, yn ail, ddydd Iau diwethaf roeddwn i'n bresennol ac yn siarad mewn digwyddiad wrth y cerflun gwych o Gandhi, sydd i lawr yma ym Mae Caerdydd, a gynhaliwyd gan Gyngor Hindŵiaid Cymru, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Ymwrthod â Thrais. Felly, ar adeg pan mae'n teimlo fel bod y byd yn mynd yn gynyddol dreisgar, mewn gair a gweithred, yn feunyddiol, yn enwedig gyda'r ymosodiadau ofnadwy ar y gymuned Iddewig ym Manceinion yr wythnos diwethaf, mae hi mor bwysig ein bod ni'n hyrwyddo heddwch ac yn ymwrthod â thrais mewn unrhyw ffordd y gallwn ni, yn yr un modd ag y gwnaeth Gandhi. Felly, a wnaiff y Trefnydd roi datganiad ar sut mae Cymru yn hyrwyddo heddwch a didreisedd, fel gall yr holl gymunedau amrywiol yr ydym ni'n ddigon ffodus i'w cael nhw yma yng Nghymru deimlo eu yn bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u diogelu?
Diolch yn fawr, Julie Morgan, a diolch i chi am dynnu sylw at Wobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru. Maen nhw wedi cael eu galw yn 'ddigwyddiad cyntaf hanesyddol i Gymru', cenedl sydd bellach wedi naddu ei lle ei hun ar lwyfan cerddoriaeth ddu yn fyd-eang. Rwy'n credu bod hwnnw'n arwydd fod y cyfnod o ddiffyg cydnabyddiaeth wedi dod i ben a bod amser gwelededd, rhagoriaeth a pherchnogaeth wedi dechrau. Fe ddaeth rhai o'r geiriau hynny oddi wrth y gwirfoddolwyr, y tîm ymroddedig o bobl greadigol, gwirfoddolwyr, a ddaeth â'r digwyddiad hwn i fod. Mae enillwyr Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru yn cael eu coroni yng Nghymru—y dathliad cyntaf erioed o ragoriaeth mewn cerddoriaeth ddu—yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y bu modd i chi fod yn bresennol yno. Roeddwn i yn y derbyniad y noson gynt.
Rwy'n credu hefyd y bydden nhw'n awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod hynny hefyd yn cynnwys gwobrau i gantorion a cherddorion du sy'n defnyddio'r Gymraeg. Enillydd y wobr am y cyfansoddwr caneuon gorau oedd Kizzy Crawford am 'Codwr y Meirwon', ac fe roddwyd y wobr am y trac Cymraeg gorau i Aleighcia Scott, am 'Dod o'r Galon'. Mae hi'n wych gweld y diwylliant hwnnw'n dod at ei gilydd, sy'n rhan i raddau helaeth iawn, yn fy marn i, o Hanes Pobl Dduon Cymru 365, a welsom ni'n cael ei lansio hefyd yn Sain Ffagan, yr amgueddfa genedlaethol, dros y penwythnos diwethaf. Felly, diolch i chi am dynnu sylw at hynny. Fe wn i y byddai'r Aelodau yn cydnabod pa mor bwysig oedd hyn. Wrth gwrs, fe ddaeth cymorth ariannol oddi wrth Gymru Greadigol. Fe noddodd y Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru cyntaf ac mae'n noddi mentrau eraill ar lawr gwlad hefyd.
Ond rwy'n credu hefyd—ac mae hyn yn cysylltu â'ch ail gwestiwn chi—ei bod hi'n galonogol iawn ein bod ni'n cydnabod heddiw a'n bod ni'n rhoi cefnogaeth amlwg i ddigwyddiadau fel hyn sy'n hyrwyddo amrywiaeth, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol. Felly, diolch i chi am fod yn bresennol yn y digwyddiad a thynnu sylw at Ddiwrnod Rhyngwladol Ymwrthod â Thrais a'r cerflun o Gandhi, yr ydym ni i gyd yn ei weld bob dydd yn ôl pob tebyg wrth i ni ddod i mewn i'r bae. Rwy'n cofio pan gafodd y cerflun hwnnw ei ddadorchuddio a sut y cododd y gymuned leol yr arian ar gyfer y cerflun hwnnw. Rwy'n gwybod ei bod hi'n seremoni deimladwy iawn, fel mae hi'n flynyddol, er mwyn i bobl ddod at ei gilydd, dan arweiniad Cyngor Hindŵiaid Cymru, i gofio beth oedd Gandhi yn sefyll drosto o ran heddwch ac o ran hyrwyddo undod a chytgord hefyd.
Yr wythnos nesaf, fe fyddaf i'n rhoi datganiad ar Mae Casineb yn Brifo Cymru, sy'n ymwneud â'n hymrwymiad hirsefydlog iawn ni i hyrwyddo cydlyniad cymunedol, ac yn cydnabod hefyd pa mor bwysig yw hi i bobl wybod y gallan nhw roi gwybod am gasineb. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru gennym ni ac mae honno'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr, ac rwy'n awyddus i ddweud unwaith eto, heddiw, os gwelwch chi'n dda, wrthych chi i gyd sy'n Aelodau'r Senedd, sy'n cydnabod eich etholwyr, y gallwch chi ffonio'r ganolfan cymorth casineb os bydd unrhyw un ohonyn nhw'n ddioddefwyr troseddau casineb. Mae'r ganolfan ar gael 24 awr y dydd, 365, trwy gydol y flwyddyn, yn hate.crimewales@victimsupport.org.uk.
A dim ond gair i ddweud hefyd fy mod i'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig i ddoe ar yr ymosodiad ar synagog ym Manceinion, yn mynegi bod gweithredoedd o drais yn erbyn safleoedd ar gyfer addoliad yn fodd cignoeth o'n hatgoffa o bwysigrwydd dangos ein hymrwymiad cyffredin i heddwch a pharch cyffredinol. Rydym ni wedi bod yn myfyrio ar hynny'r prynhawn yma. Fe wnes i gadeirio fforwm cymunedol ffydd yr wythnos diwethaf, lle daeth rhai o bob ffydd at ei gilydd—Iddewon, Mwslimiaid, Cristnogion, Hindŵiaid, Dilynwyr Crefydd y Bahá'í, i gyd yn dod at ei gilydd. Mae eu harweinyddiaeth nhw mor bwysig. Mae cydnabod cymuned ffydd yn hanfodol. Maen nhw'n meithrin undod a gwytnwch yn wyneb digwyddiadau pryderus o'r fath, ac rydym ni'n gweithio yn agos gyda'n harweinwyr ffydd a chynrychiolwyr cymunedol i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl lle caiff amrywiaeth ei werthfawrogi a'i ddiogelu.
Mae mis Hydref yn gyfnod sanctaidd i'n cymuned Iddewig, ac mae hi'n ddwy flynedd heddiw, fel clywsom ni, ers ymosodiad Hamas ar Israel, gan gipio gwystlon nad ydynt wedi eu rhyddhau fyth. Ond fe welsom ni hefyd, fel y dywedais i yn fy natganiad, ymosodiadau yn Lloegr ar fosgiau dros y penwythnos diwethaf. Mae'n rhaid i ni gofio bod ein cymdeithas yn gynhwysol ac fe fydd hi'n parhau felly, er gwaethaf gweithredoedd erchyll nifer fach o unigolion llawn casineb. Ac roeddwn i'n falch o siarad nid yn unig â chynrychiolydd Iddewon de Cymru ar ein fforwm cymunedau ffydd wedi ymosodiad erchyll yr wythnos diwethaf—fe siaradais â hi ddydd Gwener—fe siaradais i hefyd â Chyngor Mwslimiaid Cymru heddiw. Felly, diolch i chi am dynnu sylw unwaith eto at y symbol hwnnw sydd yn ein bae—Gandhi—o heddwch ac ymwrthod â thrais.
A gaf i ategu'r sylwadau a wnaed gan y Trefnydd mewn cysylltiad â phwysigrwydd gwarchod ein mannau addoli a meithrin trafodaeth dda a chynhwysol gyda'n cymunedau ffydd yn y cyfnod anodd iawn hwn?
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â gwasanaethau strôc yng Nghymru? Fe wnes i gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda chlwb strôc Rhuthun a chlywed gan bobl yno a oedd wedi dioddef strôc, am eu profiadau, da a drwg. Roedd yn ymddangos yn glir iawn i mi nad ydym yn gwneud cynnydd digon da wrth geisio gwella canlyniadau i gleifion strôc yma yng Nghymru. Nid yw pawb yn cael mynediad at unedau strôc, nid yw pawb yn cael mynediad at wasanaethau ailalluogi yn y ffordd y dylen nhw, ac, yn benodol, mae'n ymddangos bod bwlch o ran darparu cymorth seicolegol, rhoi'r cymorth iechyd meddwl a llesiant hwnnw i bobl sydd wedi dioddef strôc, ac yn wir eu gofalwyr. Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad ar hyn, ac yn enwedig ynglŷn â'r cymorth seicolegol hwnnw.
Yn ogystal, cefais fy annog i godi pryderon am nad yw'r ymgyrch Cofiwch y Cam NESA (Act FAST) wedi ei adfywio a'i danio yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod symptomau strôc yn rhywbeth y mae angen i bobl fod yn ymwybodol ohonynt—mae'r wyneb, breichiau, lleferydd ac amser yn faterion sy'n hanfodol iawn, iawn i ganlyniad pobl. Felly, mae angen ymgyrchoedd cenedlaethol, ac mae angen i'r rhain gael eu hailadrodd yn rheolaidd fel y gall pawb fod yn ymwybodol o beth i'w wneud pe bai anwylyd neu nhw eu hunain yn dioddef strôc.
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Mae'n dda iawn eich bod chi'n cyflwyno sylwadau'r grŵp hwnnw yn Rhuthun i ni heddiw, y grŵp sy'n ymwneud â galluogi pobl i ddatblygu a darparu'r gwasanaethau strôc hynny. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys llawer o lysgenhadon, llawer o hyrwyddwyr sy'n gweithio ar draws ein hetholaethau. Mae ein Hysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yma heddiw, a bydd wedi clywed y pwyntiau a'r cwestiynau rydych chi'n eu gwneud. Gallwn fod yn falch iawn o'r ffordd y mae'r GIG yn ymateb o ran ei lwybrau i ofal ac o ran strôc a sut y dylem ni i gyd ddysgu hefyd, o ran ein cyswllt ein hunain â phobl, rhag ofn i strôc ddigwydd—neu ni ein hunain—beth sydd angen ei wneud a pha mor gyflym y mae angen ei wneud. Felly, diolch am dynnu sylw ato eto heddiw.
Gaf i—? Gwnaf i aros am eiliad, ar gyfer yr offer cyfieithu. Diolch.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y ddau ohonyn nhw gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a gofal? Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod y cynllun gweithredu clefydau prin yn dirwyn i ben flwyddyn nesaf—cynllun gweithredu a oedd yn mynd o 2021 i 2026. Wrth gwrs, er ein bod ni'n sôn am glefydau prin yn y fanna, mae yna filoedd o bobl yng Nghymru mewn gwirionedd yn dioddef o wahanol glefydau sy'n brin. Tybed a gawn ni ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ar le mae'r Ysgrifennydd Cabinet arni efo datblygu'r cynllun newydd a fydd yn mynd o 2026, gobeithio, ymlaen am o leiaf pum mlynedd wedi hynny.
Ac yn ail, mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod yr wythnos yma, yn dechrau ar 9 Hydref tan 15 Hydref, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Rŵan, fedraf i ddim amgyffred y boen mae pobl sydd yn colli plant yn mynd drwyddo fy hun—diolch byth am hynny—ond mae gormod o bobl yn gorfod byw drwy'r boen honno. A gawn ni felly ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros iechyd a gofal sydd yn rhoi diweddariad inni ynghylch y llwybr cenedlaethol ar gyfer galar plant—the national bereavement care pathway—os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor, am eich cwestiynau pwysig iawn.
Rydych wedi gofyn am ddau ddatganiad sy'n bwysig iawn i bobl Cymru, o ran y cynllun gweithredu clefydau prin—diweddariad, oherwydd yn amlwg nid ydym ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflawni'r cynllun hwn. Ond rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, a'i swyddogion a'i weithwyr proffesiynol, yn edrych ar hyn o ran y ffordd ymlaen, gan ddysgu, rwy'n siŵr, o'r modd y mae'r cynllun eisoes wedi'i gyflawni, ac yn wir mae wedi datblygu i ymwneud ag ymwybyddiaeth y cyhoedd yn ogystal ag ymwybyddiaeth glinigol o sut i ymateb i'r clefydau prin sydd yn anffodus, yn poeni llawer o'n hetholwyr.
Mae eich ail bwynt, rwy'n credu, yn bwysig iawn ac yn berthnasol o ran colli babi. Mae hwn yn gyfle i ni gofio beth mae hyn yn ei olygu i fywydau pobl. Wrth gwrs, bu ymateb cryf iawn o ran y Llywodraeth a byrddau iechyd, wrth edrych ar hyn o ran profedigaeth a chefnogaeth, a chydnabyddiaeth nad oedd yn cael ei gydnabod o gwbl ychydig o flynyddoedd a degawdau yn ôl. Mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd yr ydym nawr yn edrych ar iechyd a llesiant a phrofedigaeth, felly diolch am godi hynny hefyd.
Prynhawn da, aelod Cabinet. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan aelodau'r Cabinet priodol? Mae un yn ymwneud â'r sefyllfa frys sy'n wynebu camlas sir Fynwy ac Aberhonddu. Cawsom ddadl yma ym mis Gorffennaf a gwnaethpwyd ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru y byddai yna gynllun i gynnull grŵp gorchwyl a gorffen. Hyd yn hyn, nid yw hynny wedi digwydd, ac mae'r diffyg gweithredu hwn yn creu trallod i'r rhai yr effeithir arnynt, yn enwedig gan fod y dŵr dim ond yn cael ei sicrhau tan fis Mawrth 2026. Felly, tybed a allwn ofyn am ddatganiad llawn ar hynny, os gwelwch yn dda, gyda rhai amserlenni.
Ac mae'r ail mewn cysylltiad â'r grŵp cynghori annibynnol ar grid trydan Cymru yn y dyfodol. Roedd y grŵp hwn i fod i adrodd ym mis Mawrth eleni, ac mae'n dal heb wneud hynny. Mae hyn yn hanfodol er mwyn datblygu ein seilwaith a'n grid trydan ledled Cymru, ac rydym yn dal i aros am eu canfyddiadau. Felly, tybed a allech chi roi diweddariad eto i'r Siambr ar hynny hefyd, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Ydy, mae camlas Aberhonddu a sir Fynwy wedi bod yn—. Rydych chi wedi codi'r cwestiwn hwn yn y Siambr, ac rydych chi wedi cael ymateb cadarnhaol, ond nawr yw'r amser i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn sy'n digwydd nesaf. Rwy'n deall bod y grŵp gorchwyl a gorffen, a gafodd ei sefydlu, yn edrych ar atebion cynaliadwy tymor byr a thymor hir. Roedd i fod i gyfarfod ym mis Medi. Bu'n rhaid ail-gynnull y cyfarfod oherwydd salwch, ac rwy'n deall bod dyddiad dros dro o 20 Tachwedd bellach wedi'i gynllunio, a dylai'r grŵp hwnnw wneud camau pwysig i fynd i'r afael â'r materion. Ond diweddariad cadarnhaol yw, oherwydd bod ychydig o fwlch yn y broses, mae grŵp cynghori technegol wedi'i sefydlu i helpu i werthuso opsiynau penodol a darparu arweiniad arbenigol ar ddyfodol y gamlas i gefnogi gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen. Felly, rwy'n credu bod croeso mawr i'r ffaith bod y grŵp cynghori technegol hwnnw yn ei le cyn y grŵp gorchwyl a gorffen, oherwydd bydd y grŵp hwnnw'n cynnwys cyrff amgylcheddol a rhanddeiliaid y diwydiant, fel ein bod yn sicrhau bod yr holl ystyriaethau economaidd ac ecolegol yn cael eu hintegreiddio. Ond mae'n sefyllfa frys, onid yw hi, sy'n wynebu'r gamlas, a phwysau ariannol, ond mae ymrwymiad i uwchraddio gorsaf bwmpio Manorafon gwerth £5 miliwn, ac mae hynny'n ymyrraeth amserol sylweddol o ran ymestyn y trefniadau cyflenwi dŵr presennol rhwng yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Dŵr Cymru.
O ran eich ail gwestiwn, eto, mae'n bwysig iawn cael grŵp cynghori annibynnol ar y grid trydan i Gymru yn y dyfodol. Mae hwnnw wedi'i gynnull. Mae'n bwrw ymlaen â'r gwaith i adeiladu ar ddealltwriaeth o'r dulliau posibl o ddarparu seilwaith trosglwyddo trydan, ac mae aelodaeth eang, ystod eang o safbwyntiau, profiadau, yn y grŵp, ac rwy'n credu, o'n hadborth, bod llawer o wahanol bwyntiau yn cael eu codi ar draws y grŵp, sy'n gofyn am ddiweddariadau ac argymhellion dilynol. Oherwydd bod diweddaru'r grid yn dod â chostau ac effeithiau, mae angen i bob awdurdod a busnes fod yn rhan o hyn. Ond diolch am ei godi eto, oherwydd rydym wedi ymrwymo i osod disgwyliadau clir ar gyfer y rhwydwaith trosglwyddo trydan yn seiliedig ar y sylfaen dystiolaeth honno, felly ar anghenion economi, amgylchedd a chymunedau Cymru yn y dyfodol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ac, yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Galwaf am ddatganiad brys gan yr Ysgrifennydd dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar ariannu gofal cymdeithasol yn y gogledd. Yr wythnos diwethaf, ar ôl i gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfaddef bod gofal brys yn y gogledd mewn sefyllfa argyfyngus, derbyniodd Aelodau'r gogledd lythyr pryderus gan Fforwm Gofal Cymru ynglŷn â chyllid gofal cymdeithasol yn y gogledd. Fel maen nhw'n dweud, mae cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer rhyddhau cleifion yn amserol. Maen nhw'n ychwanegu, fodd bynnag, eu bod nhw wedi profi camweithrediad sylweddol o fewn y bwrdd iechyd yn y maes hwn. Y cynnydd o 4.72 y cant ar gyfer ffioedd gofal iechyd parhaus yn 2025-26 yw'r isaf yng Nghymru ac mae'n annigonol yn sgil y ffaith bod cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr wedi codi. Er bod angen cynnydd o 7 y cant i gynnal safonau'r llynedd, mae'r ffaith bod y bwrdd iechyd wedi gwrthod mabwysiadu methodoleg costio gofal iechyd parhaus genedlaethol wedi arwain at ganlyniadau annheg, gan gynnwys ffioedd is yng Nghonwy, lle mae anghenion gofal wedi cynyddu.
Mae'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn nodi bod gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i dalu gwir gost gofal—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Mark, os gwelwch yn dda.
—ac mae byrddau iechyd eraill wedi cymhwyso codiadau yn agosach at 6 y cant. Felly, mae Fforwm Gofal Cymru yn ceisio ymgysylltiad adeiladol i ddatrys yr argyfwng hwn ac yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn er mwyn sicrhau cyllid teg a chanlyniadau gwell i gleifion. Rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Wrth gwrs, mae hyn yn gyfrifoldeb traws-lywodraethol ac ar draws byrddau iechyd a llywodraeth leol o ran mynd i'r afael â'r materion hyn, ac rwy'n gwybod bod ein holl fyrddau iechyd yn ymgysylltu'n agos â'r awdurdodau lleol o ran darparu gofal cymdeithasol, ac, wrth gwrs, mae ein Hysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'n Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ymgysylltu'n frwd, yn gweithio i helpu i sicrhau bod darpariaeth gofal cymdeithasol nid yn unig yn gallu bod yn amserol ac yn effeithiol, ond yn gallu diwallu anghenion y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cynllunio ar gyfer y gaeaf yn yr NHS a gofal cymdeithasol, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith paratoi ar gyfer y gaeaf gyda'r NHS a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd Aelodau yn ymwybodol iawn o'r pwysau ychwanegol sydd ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod misoedd y gaeaf. Y llynedd, er enghraifft, fe wnaethon ni brofi ton fawr o salwch anadlol yn sgil cyfuniad o'r ffliw, COVID a feirws syncytiol anadlol. Fe roddodd hyn straen ar wasanaethau ambiwlans a gwasanaethau yn y gymuned a'r ysbyty dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Rwyf i wedi bod yn benderfynol o ddysgu'r gwersi o’r llynedd, gan gynyddu parodrwydd a gwydnwch ar gyfer eleni. Fe wnaethon ni ddechrau'r broses o gynllunio ar gyfer y gaeaf ar ddiwrnod olaf mis Mawrth, drwy gynnal uwch-gynhadledd genedlaethol y gaeaf. Yn bresennol roedd arweinwyr o'r NHS ac uwch-gynrychiolwyr o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r uwch-gynhadledd hon, ynghyd ag ystod eang o fforymau cydweithredol eraill, fel y pwyllgor gweithredu gofal, wedi cynnig cyfleoedd pwysig i nodi a dysgu gwersi o'r gaeaf a chytuno ar gamau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Dros y chwe mis diwethaf, mae gwaith ar y camau hyn wedi symud ymlaen yn gyflym, a'r mis diwethaf fe wnaeth byrddau partneriaeth rhanbarthol hwyluso'r broses o gyflwyno cynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cryfhau drwy adborth cenedlaethol. Mae disgwyl hefyd i gynlluniau gwydnwch gweithredol pellach sy'n cyfeirio at gapasiti ysbytai i ddelio ag ymchwydd gael eu cyflwyno erbyn diwrnod olaf mis Hydref.
Dirprwy Lywydd, mae ein gwaith modelu ar gyfer y gaeaf wedi nodi nifer o heriau. Rŷn ni'n rhagweld cynnydd mewn firysau anadlol fel y ffliw ac RSV, sy'n arferol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Rŷn ni'n cynllunio ar gyfer mwy o alw am wasanaethau meddygon teulu ar gyfer afiechydon anadlol acíwt, cynnydd mewn derbyniadau i adrannau brys oherwydd problemau anadlol, a brig dilynol o dderbyniadau brys i'r ysbyty. Mae firysau anadlol a'u lledaeniad hefyd yn gallu cael effaith ar y gweithlu ar draws yr NHS, meysydd gofal a gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny yn ei dro yn gallu effeithio ar gostau byw teuluoedd.
Dirprwy Lywydd, rŷn ni wedi cynnwys yr holl faterion hyn yn ein cynlluniau. Er mwyn atal lledaeniad, cael ein brechu rhag y ffliw, COVID-19 neu RSV yw'r pethau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu gwneud y gaeaf hwn. Mae'r brechiad rhag y ffliw yn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws a'i ddifrifoldeb, yn lleihau'r galw ar wasanaethau’r NHS ac yn lleihau'r risg y bydd y feirws yn lledaenu drwy weithleoedd, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, wedi gweld llai o bobl yn manteisio ar y brechiad hwn.
Dirprwy Lywydd, dim ond 40 y cant o bobl dan 65 oed sydd mewn perygl yn glinigol gafodd eu brechu y llynedd yng Nghymru, ac mae cyfraddau brechu ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd wedi gostwng. Eleni, rydym wedi buddsoddi yn ein seilwaith diogelu iechyd drwy gaffael brechlynnau ffliw yn ganolog am y tro cyntaf, gan sicrhau bod timau gofal iechyd yn cael y brechlyn a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ymgysylltu â rhai o'r cymunedau anoddaf eu cyrraedd.
Rydym yn blaenoriaethu ymgysylltu â staff iechyd a gofal ac yn cyflwyno mesurau monitro rhagweithiol mwy cadarn. Rydym hefyd yn cryfhau'r ffordd y mae pobl sy'n profi anawsterau anadlu, oherwydd y cyfuniad o dywydd oerach a bygythiad firysau anadlol, yn cael eu rheoli. Er enghraifft, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cyflwyno sgrinio clinigol cyflym o adroddiadau o broblemau anadlu. Bydd clinigwyr yn asesu difrifoldeb cyflwr person o bell cyn gwneud penderfyniad ynghylch cam nesaf eu gofal. Bydd hyn yn helpu'r rhan fwyaf o bobl i gael eu trin yn agosach at eu cartref.
Mae byrddau iechyd wedi datblygu cynlluniau ymateb anadlol i helpu pobl i dderbyn gofal amserol ac effeithiol gan leihau'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ac ysbytai. Mae rhan allweddol o'r cynlluniau hyn wedi'i thargedu at bobl â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint sydd mewn mwy o berygl o fod angen mynd i'r ysbyty ar frys. Bydd byrddau iechyd yn darparu bwndel gofal safonol i unigolion sydd â'r risg uchaf i gefnogi eu rheolaeth trwy gydol cyfnod y gaeaf. Ac mae'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf wedi bod ar gael mewn 99 y cant o fferyllfeydd cymunedol ers mis Mehefin. Mae hyn yn golygu y gall pobl bellach gael cyngor a thriniaeth am ddim heb yr angen am apwyntiad meddyg teulu.
Dirprwy Lywydd, cwympiadau yw'r ail reswm mwyaf dros alw ambiwlans ar ôl problemau anadlu. Maen nhw'n un o brif achosion anabledd, derbyniadau i'r ysbyty a'r angen am ofal hirdymor. Yn ystod misoedd y gaeaf, gwelwn fwy o gwympiadau, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn. Rydym wedi buddsoddi mewn offer codi a hyfforddiant rheoli cwympiadau ar gyfer cartrefi gofal, mwy o gapasiti ymateb i gwympiadau a thelegofal i leihau nifer y bobl nad ydynt wedi profi anaf ar ôl cwymp sy'n cael eu cludo i'r ysbyty yn awtomatig mewn ambiwlans.
Y maes gwaith arwyddocaol arall drwy gydol y flwyddyn oedd gwella llif ar draws y system iechyd a gofal. Rydym wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y GIG a llywodraeth leol i wella capasiti gofal cymunedol a chymdeithasol ac atal derbyniadau diangen i'r ysbyty, gwella rhyddhau o'r ysbyty, lleihau gorlenwi adrannau brys a lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans. Mae'r gwaith hwn wedi'i gefnogi gan grant newydd gwerth £30 miliwn ar gyfer trawsnewid llwybrau gofal eleni a'r gronfa integreiddio ranbarthol gwerth £146.8 miliwn, sy'n parhau i gefnogi rhaglenni cymunedol sy'n helpu pobl i adael yr ysbyty yn gynt neu i osgoi mynd i'r ysbyty yn gyfan gwbl. Rydym wedi cymryd sawl cam i fynd ymhellach cyn y gaeaf, gan gynnwys: archwilio model aseswr dibynadwy pob rhanbarth a darparu pecynnau cymorth i gefnogi partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol; cynlluniau gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i leihau cyfanswm oediadau llwybrau gofal a nifer y diwrnodau o oedi; a chynnal digwyddiadau gwella cyflym dros yr haf yn canolbwyntio ar gyflawni trosglwyddiadau cleifion ambiwlans o fewn 45 munud.
Rwy'n falch iawn, Dirprwy Lywydd, o adrodd bod y cynllunio cynhwysfawr hwn wedi dwyn ffrwyth cyn y gaeaf, yn ôl tystiolaeth data gweithredol sy'n dangos bod teithiau cludo defnyddwyr gwasanaethau â phroblemau anadlu mewn ambiwlans i'r ysbyty wedi gostwng hyd at 33 y cant, o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd. Mae perfformiad trosglwyddo cleifion mewn ambiwlans wedi gwella'n sylweddol, gydag oriau ambiwlans a gollwyd yn gostwng 25 y cant ym mis Awst eleni, o'i gymharu â mis Awst y llynedd. Mae siawns i bobl sydd yn cael ataliad ar y galon oroesi wedi cynyddu gyda gwelliant o 6 pwynt canran o ran cyfraddau cylchrediad digymell yn dychwelyd, yn dilyn lansio ein model clinigol newydd fis diwethaf. Mae data gweithredol yn dangos bod mwy o bobl wedi'u cyfeirio at ofal brys yr un diwrnod, gyda dros 80 y cant wedi'u rhyddhau heb eu derbyn. Ac, yn hollbwysig, mae gostyngiadau mewn oedi cyn rhyddhau o'r ysbyty a chyfanswm y diwrnodau o oedi yn cyfrannu at ein llwybrau targed ar gyfer eleni, gyda bron i 16 y cant yn llai o oedi cyn rhyddhau, a gostyngiad o 26 y cant yng nghyfanswm y diwrnodau o oedi o'i gymharu â mis Awst y llynedd.
Gwyddom fod amrywiad lleol o hyd, Dirprwy Lywydd, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod hyn yn newid. Mae gennym gynlluniau ar waith hefyd, i reoli cyfnodau o alw cynyddol am ofal plant ym mhob ysbyty, a chamau gweithredu i ddarparu gofal rhagweithiol a chydlyniant ar draws y GIG, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i gefnogi'r 0.5 y cant o bobl sydd fwyaf mewn perygl o gael eu derbyn i'r ysbyty ar frys. Rydym wedi datblygu cynllun cyfathrebu wedi'i dargedu 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi', a fydd yn hyrwyddo negeseuon iechyd y cyhoedd am sut i gadw'n iach a sut i ddewis y gwasanaeth cywir. Bydd hwn yn mynd yn fyw o fis Tachwedd.
Drwy weithredu cydgysylltiedig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn paratoi ar gyfer heriau'r gaeaf hwn, gan flaenoriaethu diogelwch cleifion a gofal tosturiol. Rwy'n annog pawb i chwarae eu rhan, boed hynny drwy gael eu brechu, cadw llygad ar gymdogion neu ddefnyddio'r GIG a gwasanaethau gofal yn gyfrifol. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ddechrau mis Rhagfyr ar y cynlluniau i wella trosglwyddo cleifion ambiwlans a diweddariad ar gyflawni eto ym mis Ionawr. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rydym i gyd yn cydnabod mai'r gaeaf yw'r prawf anoddaf i'n GIG a'n gofal cymdeithasol. Rwyf am gofnodi fy niolch i'r holl staff sy'n gweithio ar y rheng flaen yn ein GIG. Ond mae'n rhaid i mi ofyn a yw'r cynllun hwn yn cydweddu â graddfa'r argyfwng sy'n wynebu cleifion a staff ledled Cymru.
Gadewch i ni ddechrau gyda'r pethau sylfaenol. Mae bron i 800,000 o bobl bellach ar restr aros y GIG—yr ôl-groniad hiraf ym Mhrydain Fawr. Mae mwy na 22 gwaith cymaint o gleifion yn aros dros 36 wythnos o gymharu â chyn pandemig COVID. Felly, gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet: beth sy'n cael ei wneud y gaeaf hwn i atal y rhestrau aros hynny rhag tyfu hyd yn oed yn hirach? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd mwy o bobl yn baglu a chwympo, a bydd angen gofal orthopedig. Felly, rydw i eisiau gwybod beth rydych chi'n mynd i'w wneud i leihau hynny.
Mae gofal brys yn bryder mawr arall. Y gaeaf diwethaf, dim ond 39 y cant o alwadau ambiwlans coch a gyrhaeddodd o fewn wyth munud—y gwaethaf ar gofnod. Dim ond 63 y cant o gleifion a welwyd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr, pan fo'r targed yn 95 y cant. Yn 2024-25, collwyd 264,000 o oriau ambiwlans oherwydd eu bod yn ciwio y tu allan i ysbytai. Felly, a waniff yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ba gamau penodol newydd sydd wedi'u cymryd i leihau oedi wrth drosglwyddo y gaeaf hwn, ar ben y newidiadau sydd wedi'u gwneud heddiw, y mae wedi'u hamlinellu yn ei ddatganiad, a'r newidiadau a wnaed i gategoriau galwadau?
A wnewch chi hefyd ddweud wrthyf faint o welyau brysbennu ychwanegol sy'n cael eu creu mewn ysbytai i atal cleifion rhag aros yn hirach mewn ambiwlansys? Fe wnaethoch chi sôn am yr oedi wrth drosglwyddo o 45 munud, a allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw na fydd hynny'n cynyddu achosion o ofal mewn coridor yn ein hysbytai?
Mae brechu yn wasgbwynt arall. Fe wnaethoch chi nodi'n gywir mai'r cam ataliol pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd y gaeaf hwn yw brechu. Fel y dywedoch chi, dim ond 40 y cant a fanteisiodd ar frechiad ffliw ymhlith pobl mewn perygl difrifol yn 65 oed y llynedd. O ystyried bod eich ymgyrch 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi' i fod i fynd yn fyw ym mis Tachwedd, pam mae'r Llywodraeth wedi aros mor hir i lansio'r negeseuon iechyd cyhoeddus hyn? Pe bai'n cael ei lansio yn gynt, gallai mwy o bobl gymryd y brechlyn cyn i ni fynd i'r cyfnod o fwy o bwysau yn ystod y gaeaf.
Fe wnaethoch chi siarad am gwympiadau, ac mae buddsoddiad yn y maes hwnnw yn bwysig iawn. Mae gen i ddiddordeb cael gwybod sut rydych chi wedi ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o ran hwn hefyd. Yn sicr, mae'n bwysig ein bod ni, gyda'r sectorau hynny, yn gwneud pobl yn fwy heini ac iachach yn eu cartrefi eu hunain, sy'n atal cwympiadau. Hoffwn wybod sut maen nhw'n cyfrannu at y cynllun hwn hefyd.
Gan droi at ofal sylfaenol, mae meddygon teulu, fel y gwyddom, dan straen enfawr. Mae pob meddyg teulu bellach yn gofalu am tua 2,200 o gleifion, ar gyfartaledd. Mae hynny'n gynnydd o 30 y cant yn y llwyth gwaith ers 2013. Mae llawer o feddygfeydd ledled y wlad wedi cau yn ystod y degawd diwethaf, ac mae pobl yn dal i gael trafferth cael apwyntiadau. Rydym ni i gyd yn gwybod, os yw pobl yn llwyddo i gael apwyntiadau meddyg teulu, yna mae'n atal pobl rhag mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, mae gen i ddiddordeb cael gwybod pa gymorth ychwanegol rydych chi'n mynd i'w ddarparu i'n meddygon teulu a'n gofal sylfaenol y gaeaf hwn i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael yr apwyntiad meddyg teulu hwnnw.
Fe wnaethoch chi sôn am y gwasanaeth dolur gwddf, ac rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr iawn, ond pa adnodd sy'n mynd i gefnogi'r timau hynny? Nid yw'r bobl rydw i'n siarad â nhw yn gwybod am y gwasanaeth anhwylderau cyffredin. Dydyn nhw dal ddim yn gwybod ei fod ar gael. Felly, byddwn yn falch o wybod beth rydych chi'n ei wneud ynghylch hynny oherwydd, unwaith eto, pan fydd pobl yn ffonio 111 gyda rhai o'r problemau hyn, maen nhw'n dal i gael eu gwthio tuag at adrannau damweiniau ac achosion brys, sydd ddim yn dderbyniol.
O ran y gweithlu, gwyddom fod bron i 10 y cant o swyddi meddygon a deintyddion ysbyty yn wag yng Nghymru. Mae staff wedi blino, morâl yn isel, ac mae llawer yn gadael y proffesiwn. Felly, beth yw'r cynllun i gadw staff ar ein wardiau ac yn ein hambiwlansys y gaeaf hwn, oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd lefelau uchel o salwch—mae hi felly bob amser yn y gaeaf—dim ond i wneud yn siŵr bod gennym y staff yno ar y wardiau, ac yn ein lleoliadau gofal sylfaenol, a lleoliadau gofal eilaidd, i wasanaethu ein poblogaeth?
Fe wnaethoch chi amlygu, Ysgrifennydd Cabinet, mai'r broblem fwyaf sydd gennym yw gofal cymdeithasol a rhyddhau o'r ysbyty. Canfu Archwilio Cymru, yng Ngorllewin Morgannwg yn unig, fod 64,000 o ddiwrnodau gwelyau ysbyty wedi'u colli mewn 18 mis oherwydd oedi wrth ryddhau. Mae hynny'n costio tua £32 miliwn ledled y wlad, ond mae'r stori hon yn parhau i ailadrodd ei hun: cleifion sy'n heini yn cael eu dal mewn gwelyau ysbyty, tra bod ambiwlansys yn ciwio y tu allan a phobl heb eu rhyddhau. Fe wnaethoch chi sôn am y gronfa drawsnewid llwybr i ofal a'r gronfa integreiddio ranbarthol. Ydych chi'n meddwl bod yr arian hwn yn ddigon i ddatrys y broblem hon mewn gwirionedd, ac a allwch chi warantu na fydd cleifion sy'n ffit yn feddygol yn cael eu gadael mewn gwelyau ysbyty pan fydd wardiau'n mynd yn llawn ac yn orlawn?
Mewn ardaloedd gwledig, Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym y mater o gau unedau mân anafiadau. Maent yn darparu achubiaeth enfawr yn ystod misoedd y gaeaf i bobl sy'n baglu, llithro a chwympo. Yr hyn rydym ni'n ei weld yn fy etholaeth i—ac rwy'n siŵr mewn etholaethau eraill hefyd—yw'r gwasanaethau hynny'n cau a mwy o bobl yn cael eu gwthio tuag at adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, a gaf i ofyn i chi: beth mwy ydych chi'n ei wneud i wneud yn siŵr bod ein hadrannau mân anafiadau mewn ardaloedd gwledig yn cael eu diogelu y gaeaf hwn? Byddwn ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn cefnogi unrhyw weithred sy'n mynd i'r afael â'r problemau yr ydym yn eu hwynebu yn ystod y gaeaf. Ond byddwn hefyd yn dal y Llywodraeth i gyfrif os y gaeaf hwn, unwaith eto, gwelwn y pwysau sy'n wynebu ein GIG yn gwaethygu ac yn gwaethygu. Diolch.
Diolch i'r Aelod am restr lawn iawn o gwestiynau. Mewn perthynas â'i gwestiynau ar faglu a chwympiadau, oriau ambiwlans ac amseroedd ymateb, atebais y rheini yn y datganiad a roddais i; mae pobl eraill wedi gweld y rheini yn ddefnyddiol.
Mewn perthynas â'r pwyntiau a wnaeth am ofal mewn coridor, bydd yn gwybod mai disgwyliad y Llywodraeth hon yw nad yw pobl yn cael eu trin yn y coridor. Fy nisgwyliad absoliwt yw bod ysbytai'n gallu cyrraedd y targed trosglwyddo 45 munud a'r gofyniad i beidio â thrin pobl mewn coridorau heblaw mewn amgylchiadau eithriadol ofnadwy. Rwy'n credu imi nodi'n fanwl, y cynnydd yr ydym wedi'i wneud mewn perthynas â'r trosglwyddiad 45 munud dros y misoedd diwethaf, yr wyf yn gobeithio y byddwch wedi ei weld yn ddefnyddiol.
Mewn perthynas â'r pwyntiau a wnaeth am yr ymgyrch Helpu Ni i'ch Helpu Chi, dyma fersiwn gaeaf yr ymgyrch honno sy'n dechrau ym mis Tachwedd. Bu negeseuon wedi'u targedu yn rhedeg dros yr haf, eto wedi'u dwyn ymlaen eleni—felly, yn targedu rhieni dros yr haf, glasfyfyrwyr yn mynd i'r brifysgol ym mis Medi. Mae prif ymgyrch y gaeaf, fel y dywedais i, yn mynd yn fyw ym mis Tachwedd, gyda hysbysebu ar draws teledu, gan gynnwys ar-alw, ond hefyd radio, y wasg, cyfryngau cymdeithasol a digidol. Ffocws yr ymgyrch honno eleni yw'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, yr wyf yn credu y byddem i gyd yn cydnabod ei fod yn gwneud cynnydd mawr.
Mewn perthynas â'r cymorth i ofal sylfaenol, cyfeiriais eisoes yn fy natganiad at y gefnogaeth rydym ni'n ei ddarparu i feddygon teulu i nodi'r 0.5 y cant o'u cleifion gyda'r anghenion mwyaf cymhleth, sydd fwyaf tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty fel arall. Ac mae byrddau iechyd i gyd wedi cael cyfarwyddyd i gomisiynu'r gwasanaethau hynny gan feddygon teulu ar gyfer y gaeaf nesaf. Bydd hynny'n galluogi meddygon teulu i fod yn fwy rhagweithiol yn y gefnogaeth y maen nhw'n ei ddarparu i'r garfan hanfodol honno, sydd fel arall yn rhedeg risg ddifrifol o fod yn yr adran achosion brys.
Mae nifer y meddygon teulu mewn practis, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn gyffredinol gyson dros y blynyddoedd diwethaf, hyd yn oed lle bu rhywfaint o gydgrynhoi practisau. Un o'r heriau, wrth gwrs, yw sut rydym ni'n cefnogi meddygon teulu er mwyn rhoi'r amser ychwanegol hwnnw iddyn nhw wneud y gwaith hwnnw rydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud mewn perthynas â'r cleifion hynny sydd â'r angen mwyaf. Un o'r ffyrdd rydym ni'n darparu'r gefnogaeth honno yw trwy ddatblygu canolfannau gofal brys, sy'n galluogi ysbytai i gyfeirio pobl at y gofal cywir.
Mae gennym ystod o ymyraethau ar waith a all wedyn, yn rhagweithiol, roi cyngor i osgoi derbyniadau diangen. Mae gennym fodel treialu 'galw ac ymgynghori cyn cludo' mewn tair ardal bwrdd iechyd, sydd ag uwch-glinigydd yn darparu cyngor cyn gwneud penderfyniad ar gludo preswylwyr cartrefi gofal neu eraill i'r ysbyty. Rydym ni'n darganfod bod y rheini'n dwyn ffrwyth.
Gwnaeth bwynt pwysig ynglŷn â chefnogaeth i'r sector gofal cymdeithasol. Fel y soniais yn fy natganiad, eleni, rydym yn darparu £30 miliwn ychwanegol—a oedd yn ymddangos yn y cytundeb cyllideb yr oeddem yn gallu ei wneud gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol—sydd, i bob pwrpas, wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael i ofal cymdeithasol. Ac rwy'n nodi ar gyfer y cofnod, unwaith eto, bod ei blaid wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb a alluogodd hynny i ddigwydd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y cyhoeddiad. Dwi'n croesawu'r datganiad yma, yn enwedig y ffaith eich bod chi wedi dechrau cynllunio ynghynt y flwyddyn yma. Mi rydyn ni'n ymwybodol bod oerni'r gaeaf yn dod â heriau mawr i'n gwasanaethau iechyd a gofal, ac mae cynllunio strategol ymlaen llaw yn gwbl allweddol.
Mae cynllunio effeithiol ar gyfer y gaeaf yn dibynnu ar bob elfen o'r system, o ofal cynradd i adrannau brys, ac i ofal cymdeithasol, a'u bod nhw'n cydweithio'n effeithiol. Ond, wrth ystyried y ciwiau hir o ambiwlansys y tu allan i'n hysbytai, sydd yn adlewyrchiad o'r argyfwng acíwt mewn adrannau brys y rhybuddiodd cadeirydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr amdano'n ddiweddar—mae'n amlwg hefyd fod corridor care yn beryglus o uchel, ac wedi cael ei normaleiddio, gyda gormod o gleifion yn methu cael eu ryddhau'n brydlon i ofal y gymuned—y casgliad anochel yw nad ydy'r system yn gweithio fel y dylai ar hyn o bryd.
Rhan sylweddol o'r broblem ydy'r diffyg cynllunio ar gyfer y gweithlu—rhywbeth sy'n codi dro ar ôl tro yn fy sgyrisau i efo'r sector, a pham y bydd datblygu cynllun gweithlu newydd i'r gwasanaeth iechyd, felly, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Plaid Cymru. Yn benodol, mae angen datrysiad i'r sefyllfa lle mae digon o staff yn cael eu hyfforddi ond nid oes digon o swyddi iddyn nhw ar ôl graddio, er gwaethaf prinder parhaus o gapasiti staffio. O ganlyniad, mae nifer fawr o fyfyrwyr meddygol sy'n graddio yng Nghymru yn gorfod edrych y tu hwnt i Gymru er mwyn datblygu eu gyrfaoedd. Yr un hen stori.
Yn y cyd-destun yma, mae penderfyniad y byrddau iechyd i rewi recriwtio canolog, hyd yn oed ar gyfer gwaith locwm, o fis Awst tan fis Rhagfyr yn syfrdanol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi derbyn gohebiaeth gan raddedigion sy'n methu dod o hyd i unrhyw waith dros fisoedd y gaeaf. Yn gwbl ddealladwy, maen nhw bellach yn ystyried eu hopsiynau y tu allan i Gymru. Tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, egluro beth ydy'r rhesymeg tu ôl i'r penderfyniad yma? Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod y llwybrau gyrfaol i raddedigion meddygol Cymreig yn methu o ran sicrhau llif cynaliadwy o staff i wasanaeth iechyd Cymru?
Elfen arall sy'n dangos nad ydy'r system yn gweithio fel y dylai ydy'r problemau gyda rhyddhau cleifion o ysbytai yn brydlon. I roi un enghraifft, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer y cleifion sy'n profi gohiriadau o'r fath ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o 286 i 318, er gwaethaf yr her 50 diwrnod a lansiwyd ym mis Tachwedd y flwyddyn diwethaf, gyda chefnogaeth o dros £19 miliwn. Siom felly oedd clywed ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r cwestiwn ar y pwnc yma yr wythnos diwethaf, heb unrhyw esboniad o beth aeth o'i le na pham nad ydy ymyrraeth y Llywodraeth wedi dwyn ffrwyth ar lefel systematig a chenedlaethol. Felly, hoffwn eglurhad mwy cynhwysfawr o'r gwersi a ddysgwyd o fethiant yr her 50 diwrnod. Ar beth y gwariwyd yr arian? Pam na arweiniodd hynny at ostyngiad parhaol yn nifer y bobl sy'n cael eu dal yn yr ysbytai, yn enwedig yn y gogledd?
Mae'r agenda ataliol hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae gan y Llywodraeth darged i sicrhau bod o leiaf 75 y cant o bobl dros 65 oed yn cael brechiad ffliw bob blwyddyn, fel rydym ni wedi clywed, yn unol â chanllawiau'r WHO. Ond dydy'r targed yma byth wedi cael ei daro, neu o leiaf ddim ers rhai blynyddoedd. Mae'r canran wedi bod yn gostwng yn gyson ers gaeaf 2021, gan gynnwys grwpiau risg uchel. Dwi'n sylwi bod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn yr adroddiad diwethaf, wedi sôn am y rhaglen frechu genedlaethol a phwysleisio'r angen i'r byrddau iechyd wneud pob ymdrech i gyrraedd y targed erbyn diwedd y gaeaf, a bod yna newidiadau megis canoli'r system comisiynu gwasanaethau cynradd am gael eu cyflwyno, fel rydyn ni newydd ei glywed.
Gaf i ofyn felly sut bydd y newidiadau hyn yn ystyried y ffaith bod capasiti gwasanaethau cynradd wedi crebachu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gostyngiad o dros 7 y cant yn nifer y meddygfeydd teulu yng Nghymru ers y pandemig yn unig? Beth hefyd ydy'r dealltwriaeth o'r ffactorau sydd wedi bod yn gyfrifol am y gostyngiad diweddar yma? Mae etholwyr hefyd wedi dod ataf yn dweud eu bod nhw'n methu cael brechiad COVID oherwydd nad ydyn nhw'n 75 oed, er eu bod nhw yn eu 70au. Tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio beth ydy'r rhesymeg yma, a sut allwn ni sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu brechu ar gyfer COVID.
Mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet sôn am gwympo, a'r ffaith mai hwnnw yw'r ail brif reswm dros bobl yn mynd mewn i adrannau brys. Mae yna enghreifftiau da efo ni lle mae Care & Repair, er enghraifft, yn gweithio'n agos iawn efo therapyddion ac arbenigwyr iechyd lawr yn ardal Llanelli, er enghraifft. Tybed a ydy'r arfer da yma'n mynd i allu cael ei rolio allan. Pa waith mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud efo'r llefarydd ar gyfer tai er mwyn sicrhau bod y cydweithio yna yn parhau?
Yn olaf, efo'ch amynedd chi, Dirprwy Lywydd, mae hyn yn fy arwain i at y pwynt olaf, sef y wybodaeth gwbl gamarweiniol rydym ni wedi ei gael o du yr Unol Daleithiau, ac felly o du un o'r pleidiau sydd bellach yn fan hyn, Reform, yn rhoi'r bai am nifer o bethau ar barasetamol. A wnewch chi ymuno efo fi i gollfarnu hynny a beirniadu'r hyn y mae'r Blaid Reform wedi bod yn ei ddweud ynghylch parasetamol, a sicrhau bod pobl Cymru'n deall beth ydy pwysigrwydd meddyginiaeth o'r fath pan mae'n dod at eu hiechyd? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Mewn dau faes, mae'r cynsail ar gyfer ei gwestiynau yn gwbl groes i'r ffeithiau a nodais i yn fy natganiad. Fe wnes hi'n glir bod perfformiad trosglwyddo cleifion o ambiwlans yn gwella'n sylweddol. Gofynnodd i mi am dystiolaeth o hynny. Yn fy natganiad, nodais fod oriau ambiwlans a gollwyd—h.y. nifer yr oriau a dreuliwyd gan gleifion yng nghefn ambiwlansys, sef yn y bôn, fel y disgrifiodd, ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai—wedi gostwng 25 y cant eleni o gymharu â'r llynedd. Mae hynny'n ostyngiad sylweddol iawn. Nid dyma'r sefyllfa ddelfrydol, ond mae'n ostyngiad sylweddol iawn. Ac rydym wedi gweld, yn ystod y misoedd diwethaf, cynnydd sydyn iawn mewn perfformiad mewn perthynas â'r targed 45 munud. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'm tasglu targed cenedlaethol o 45 munud, sydd wedi helpu i lywio rhannau o'r system er mwyn cyflawni'r cynnydd. Ond i fod yn glir, rydym yn disgwyl i'r cynnydd hwnnw barhau ac yr adeiladir arno dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, oherwydd mae'n gwbl hanfodol, fel y gwn y byddai'n cydnabod.
Yr ail bwynt lle roedd ei gwestiynau yn wahanol i'r ffeithiau yw ym mherfformiad y system iechyd a'r system ofal wrth ryddhau'n gyflymach y cleifion hynny sy'n barod yn glinigol i fynd adref. Disgrifiodd yr her 50 diwrnod fel methiant. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Fel y gwnes yn glir yn fy natganiad, bu gostyngiad mewn oedi wrth ryddhau o'r ysbyty a chyfanswm y diwrnodau o oedi. Mae gennym 16 y cant yn llai o oedi wrth ryddhau o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd, a gostyngiad gwych o 26 y cant yng nghyfanswm y diwrnodau o oedi, a dyna sy'n cynyddu'r capasiti mewn gwelyau nad ydynt ar gael fel arall. I fod yn glir, mae pobl yn dal i aros yn rhy hir, ond mae gwelliant sylweddol ar draws y system, a bydd y gyllideb bellach yr oeddem yn gallu cytuno arni gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol yn gwella'r sefyllfa honno hyd yn oed ymhellach.
Mewn cysylltiad â brechiadau, mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Rwy'n falch o ddweud, fodd bynnag, er iddo nodi gostyngiad yn y defnydd, fel y gwnes i yn fy natganiad fy hun, o ganlyniad i rai o'r ymyraethau rydym ni'n eu gwneud, yn enwedig mewn perthynas â staffio, rydym wedi gweld mewn rhai mannau gynnydd o 20 y cant o gymharu â'r llynedd. Rydym ni'n dal eisiau i hynny fod yn llawer uwch, ond rydym ni'n gweld arwyddion o'r strategaethau newydd sydd gennym ar waith, gan ddefnyddio technegau ymddygiadol i gefnogi staff i fanteisio ar y cynnig hwnnw o frechlyn ac i atgoffa staff bod disgwyliad proffesiynol iddyn nhw wneud hyn. Rwy'n credu ein bod ni'n dechrau gweld hynny'n dwyn ffrwyth hefyd.
Gofynnodd bwynt penodol mewn perthynas â brechu COVID. Mae'r strategaeth y mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio mewn perthynas â chymhwysedd cael brechiad COVID ac wrth ddatblygu polisi brechlyn yn ehangach yn un sy'n dilyn cyngor clinigol annibynnol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy'n cael ei ffurfio ar gyhoeddiadau ac astudiaethau gwyddonol o ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid. Mae'r garfan gymhwysedd ar gyfer yr hydref eleni bellach wedi'i halinio â'r garfan gymhwysedd yn y gwanwyn, sef y cyngor a gawsom a dyma'r ffordd orau o sicrhau'r canlyniadau yr ydym i gyd eisiau eu gweld.
Yn ddiweddar, ymwelais â fferyllydd cymunedol yng Nghaerwys. Mae hi'n arbenigo ym maes problemau anadlol ond mae'n cael trafferth hyrwyddo ei hun. Mae hi'n dweud yn aml iawn fod pobl yn ymweld â hi ar ôl iddyn nhw fethu â chael apwyntiad meddyg teulu, ac mae'n dymuno petai'r gwrthwyneb yn wir ac y byddent yn dod ati hi yn gyntaf. Sut allwn ni ei helpu i hyrwyddo'r ffaith y gall helpu gyda phroblemau anadlol, eu bod nhw'n dod ati hi yn gyntaf, y llwybrau gorau i drigolion? A fydd hyn yn rhan o'r ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi ym mis Tachwedd? Diolch.
Byddwn yn cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei chwestiwn. Rwy'n credu bod yna bob amser achos dros edrych ar beth mwy y gallwn ei wneud i hyrwyddo'r gwasanaethau sydd gennym yno. Mae'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn un sy'n datblygu'n barhaus. Fel y soniais yn fy natganiad, mae gennym y gwasanaeth dolur gwddf, sydd wedi bod ar waith ers mis Mehefin. Mae gennym wasanaeth haint y llwybr wrinol yn ffrydio o fis Hydref, felly mae datblygiad parhaus o ran y gwasanaeth. Rwy'n credu bod dau beth. Mae'n dibynnu'n fawr ar gyfluniad lleol y gwasanaethau. Mae mwy y gallwn ei wneud yn genedlaethol, ac, yn wir, bydd yr ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi eleni yn canolbwyntio'n benodol ar hyrwyddo fferyllfeydd, fel bod pobl yn gwybod eu bod ar gael i bawb a'i fod yn lle da iawn ar gyfer y trefniadau anhwylderau cyffredin.
Roeddwn i yn Nhredegar yr wythnos diwethaf, yn agor Canolfan Iechyd a Lles Bevan. Mae ganddynt gyfres o adeiladau wedi'u cyd-leoli â fferyllfa. Felly os yw claf yn galw'r feddygfa, bydd yn cael cyfarwyddyd, yn aml iawn, i fynd i'r fferyllfa yn gyntaf. Felly, rwy'n credu ei fod yn dibynnu ar y rhwydwaith o berthnasoedd lleol a seilwaith, ond rwy'n sicr yn credu bod mwy y gallwn ei wneud. Rwy'n gobeithio y bydd y sbardun cenedlaethol y tu ôl i'r ymgyrch Helpwch Ni i'ch helpu Chi eleni, gyda ffocws penodol ar fferyllfeydd, yn atgoffa pobl o'r cyfle i gael apwyntiad mwy cyfleus.
Diolch am eich datganiad. Mae yna lawer i'w ddathlu. Mae'n ymddangos i mi fod cynllunio ar gyfer y gaeaf yn ymwneud â gofal iechyd ataliol cymaint ag y mae'n ymwneud â gofal iechyd ymatebol. Felly, mae'n wych clywed am y rhaglen frechu. Rydw i wedi trefnu cael y fy mrechlyn, y brechlyn ffliw, yfory, yn y Senedd. Rwy'n gobeithio bydd nifer o bobl yno, oherwydd mae'n rhaid i ni i gyd, fel y dywedwch chi, chwarae ein rhan yn hynny hefyd. Dyma'r tro cyntaf erioed i mi gael y brechlyn ffliw, felly arhoswch a gadewch i ni weld beth sy'n digwydd. [Chwerthin.]
Roeddwn i eisiau gwneud pwynt am ein presgripsiynwyr annibynnol, sydd o fewn ein fferyllfeydd cymunedol, a pha mor wych ydyn nhw. Mae angen mwy o hyrwyddo arnynt, er mwyn sicrhau bod pobl yn mynd atynt, oherwydd mae ganddyn nhw sgiliau mor wych.
Roeddwn hefyd eisiau gwneud pwynt difrifol am ofal cymdeithasol—fe wnaethoch chi ei grybwyll yn eich datganiad. Mae'n ymwneud â'n hysbytai—ein drws ffrynt a'n drws cefn—gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r cyfle i gadw pobl allan o'r ysbytai hynny. Dyfynnais y ffigur ym Mhowys: roedd 52 y cant o gleifion mewn ysbytai ym Mhowys, ar 2 Medi, yn barod i fynd adref, ond ni allent wneud hynny. Felly, rwy'n falch o glywed am y timau ar y cyd. Allech chi ddweud ychydig mwy am sut y gallwch chi hyrwyddo'r timau asesu annibynnol hynny a'r timau ar y cyd hynny i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y cynlluniau hynny'n iawn? Diolch.
Ie. Dim ond i gydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod am bresgripsiynwyr annibynnol, rwy'n credu ein bod bellach mewn man lle mae tua 50 y cant o'n fferyllfeydd yn gallu darparu'r gwasanaeth hwnnw, felly mae hynny'n amlwg yn gam sylweddol ymlaen. Rwy'n credu, o'r flwyddyn nesaf ymlaen, y bydd pob fferyllydd sydd â chymhwyster yng Nghymru yn graddio fel presgripsiynydd annibynnol. Felly, mae yna—. Mae ased enfawr yn ein system gofal iechyd, ac rydym yn ei weld yn gwneud gwahaniaeth. Ond fel y mae eich cwestiwn yn awgrymu, mae'n amlwg bod mwy y gallwn ragweld y gall bresgripsiynwyr annibynnol ei wneud, ac maen nhw'n awyddus iawn i allu gwneud hynny. Roeddwn i'n siarad yng nghynhadledd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, ac roedd y thema yno yn y maes hwn—ynghylch faint mwy o botensial sydd yna, mewn pob math o leoliadau, mewn gwirionedd, ond yn y cyd-destun hwn, efallai'n bwysicaf oll, lleoliadau cymunedol.
Rwy'n credu o ran y gwaith mewn perthynas â'r cydweithio mewn perthynas â rhyddhau yn gyflymach, yr hyn rwy'n credu ein bod wedi'i weld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i'r pwyslais yr wyf i a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi'i roi ar ddysgu o arfer da mewn gwahanol rannau o Gymru mae'n ddiwylliant cynyddol, Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, lle mae ardaloedd yn barod i gydnabod bod yna feysydd lle mae angen iddynt ddatblygu, ond hefyd tynnu sylw at ble maen nhw wedi cael llwyddiant arbennig o dda. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gweld diwylliant o ddysgu mwy agored yn ymddangos. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n digwydd unwaith—mae angen adeiladu arno, ac mae angen ei ymgorffori a'i gynnal.
Un o'r meysydd lle gwyddom y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf yw gweithredu'r model aseswr dibynadwy, a hynny yw—. Mae rhannau o Gymru wedi gwneud yn dda iawn mewn perthynas â hynny. Rwy'n credu ei bod yn wir dweud bod yna feysydd eraill lle nad yw ein disgwyliadau yn cael eu bodloni eto, ond mae disgwyl i ni gael adroddiad canlyniad archwiliad yr ydym wedi'i gynnal drwy Berfformiad a Gwella GIG Cymru i edrych ar ddatblygiad y model aseswr dibynadwy mewn gwahanol rannau o Gymru. Pan gawn ni'r canlyniadau hynny, byddwn yn gallu gweld pa addasiadau y mae angen i ni eu gwneud o ran ein disgwyliadau. Ond bydd y cyllid a roddwyd gennym y llynedd, sef £19 miliwn, a'r cyllid yr ydym wedi gallu ei roi eleni o ganlyniad i'r cytundeb cyllideb a gyflawnom ni gyda'r Aelod, o £30 miliwn yn ogystal, yn cefnogi rhai o'r ymyraethau hynny i ymwreiddio, a dyna'n amlwg yr ydym eisiau ei weld.
Rydym ni i gyd yn gwybod—. Rwy'n poeni am fy etholwyr trwy gydol y flwyddyn, ond rydym ni'n gwybod y gall fod yn eithaf hanfodol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Yn rhy aml, rwy'n clywed am gleifion sy'n cwympo i'r ddaear—ac mae hyn i lawr i'r ymddiriedolaeth ambiwlans, rwy'n sylweddoli hynny, ond mae pobl yn dirywio. Dros y gaeaf—. Cefais un y diwrnod o'r blaen, lle roedd dynes wedi cael strôc, ac roedd hi'n aros pum awr. Beth sydd wedi digwydd i'r awr aur hon y dywedwyd wrthym i gyd amdani? Roedd 6,073 o alwadau coch i wasanaethau ambiwlans fis Rhagfyr diwethaf i fis Ionawr. Mae 196 o alwadau yn ymwneud â pherygl uniongyrchol i fywyd yn cael eu gwneud bob dydd. Roedd dros 557,000 o ymweliadau ar wefan GIG 111 Cymru—y nifer uchaf erioed. Rydw i hyd yn oed nawr yn derbyn cwynion am y gwasanaeth hwnnw, oherwydd yr amser mae'n ei gymryd cyn cael ateb. Pan fo rhywun yn teimlo'n sâl, ni ddylent fod yn gorfod aros am amser maith.
Roeddwn i'n falch iawn o glywed am eich uchelgais ar gyfer trosglwyddiadau 45 munud. Byddai hynny'n foethusrwydd i ni ym mwrdd Betsi. Felly, gofynnaf i chi sicrhau eich bod chi'n siarad â bwrdd Betsi a gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r targed hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae pobl yn gorfod aros am oriau ac oriau, ac mewn seddi, cadeiriau a phethau, mewn poen mawr. Felly, mae'r rhai sydd o bosibl gyda—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, Janet, os gwelwch yn dda.
Rwy'n gwneud hynny. Gall y rhai a allai fod â phroblemau ar y galon ac effeithiau coronaidd difrifol ddirywio wrth iddynt aros mewn adran ddamweiniau ac achosion brys. Rydym ni'n gwybod eich bod wedi cymryd llawer o welyau allan dros y blynyddoedd; ydych chi wedi meddwl am roi mwy o welyau yn ôl i'n hysbytai? Wedi'r cyfan, maen nhw'n lleoliadau gofal iechyd, a dyna lle mae angen i'r gwelyau fod. Diolch.
Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi cwrdd â pherson sydd wedi cwympo, sydd wedi cael ei gludo i'r ysbyty sy'n awyddus i gael ei dderbyn ac i gael gwely ysbyty. Mae'r rhan fwyaf o gleifion rwy'n siarad â nhw eisiau cael y driniaeth fwyaf priodol iddyn nhw. Ac mewn gwirionedd yr hyn rydym ni'n ei wybod yw bod pobl yn cael eu derbyn am, efallai, cwymp, ac yna mewn gwirionedd unwaith y byddant yn yr ysbyty, gallant yn aml iawn waethygu o achosion eraill. Felly, mae'r ateb i bob problem y mae'r Aelod yn pwyso arnaf yn gyson, sef ynghylch gwelyau, rwy'n ofni yn mynd yn groes i'r dystiolaeth mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cefnogi'r gwasanaeth gorau sydd ar gael agosaf at gartref y claf, a dyna pam mae ymateb y gymuned mor bwysig. Felly, gofynnodd i mi beth rydym ni'n ei wneud mewn perthynas â hynny. Rydym wedi buddsoddi cyllid pellach eleni i fyrddau iechyd i gynyddu'r gwasanaethau hynny. Rydym wedi hyfforddi staff mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol mewn rheoli cwympiadau ar lefel 1. Ac i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ei fodel ymateb i gwympiadau, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru, y cyfeiriodd yr Aelod ato, wedi dyrannu cyllid ychwanegol i St John Ambulance Cymru fel y gallant gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans yn y gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn darparu'r gefnogaeth hon i bobl sydd wedi cwympo, lle bynnag y bo'n bosibl, mewn ffordd nad yw'n gofyn iddynt gael eu cludo i'r adran achosion brys ac nad yw'n gofyn iddynt gael eu derbyn. Dyna'r hyn y bydd y rhan fwyaf o gleifion yn dymuno, i gael y gofal sydd ei angen arnynt heb orfod cael eu derbyn, heb orfod mynd i'r ysbyty.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn am amlinellu'r holl bethau gwych rydych chi'n eu gwneud i geisio atal pobl rhag dod i'r ysbyty yn ddiangen a hefyd rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Dydw i ddim yn deall pam nad yw rhywun sydd â swydd sy'n golygu gweithio gyda channoedd o bobl mewn gofal rheng flaen, rhai ohonynt yn anochel â chlefydau heintus, yn dal heb gael eu brechu. Mae'n wirioneddol annealladwy.
Ond dau gwestiwn: cwympiadau a rôl amlgyffuriaeth. Pa mor dda ydyn ni am sicrhau nad yw pobl yn parhau i gymryd coctel o gyffuriau, rhai ohonynt yn nacáu ei gilydd, dim ond oherwydd eu bod yn ei chael hi'n anodd darllen y labeli ar y bocs neu'r poteli ac nad oes ganddynt flychau dosette er mwyn gwybod beth maen nhw i fod i'w gymryd ar ba ddiwrnod. Yn ail, mae cannoedd o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty y byddai'n well ganddynt aros gartref gyda gwell nyrsio iechyd cymunedol, ac felly meddwl oeddwn i tybed sut rydym ni'n gwneud o ran sicrhau bod gan bob cymuned ei thîm nyrsio ei hun sy'n gallu ymweld â'r bobl oedrannus agored i niwed sydd yn amlwg angen gofal parhaus.
Rwy'n credu bod y ddau bwynt yna'n bwysig iawn. Wrth ddylunio'r ymateb cymunedol i gwympiadau, bu ymgysylltiad fferylliaeth yn rhan o hynny, dim ond i wneud yn siŵr bod yr holl ystyriaethau perthnasol, gan gynnwys y pwyntiau pwysig yr oedd yr Aelod yn eu gwneud, yn cael eu hystyried. Mae rhai heriau wrth alinio hynny'n berffaith, fel y byddech chi'n gwerthfawrogi, ond mae'n amlwg bod angen i ddarpariaeth ddiogel a chynhwysfawr o'r math hwnnw o wasanaeth ar gyfer cwympiadau gymryd hynny i ystyriaeth yn llawn.
Yr hyn yr ydym eisiau ei weld yw gwasanaeth nyrsio cymunedol cryf saith diwrnod yr wythnos sy'n cefnogi timau amlddisgyblaethol. Dyna yn amlwg beth rydym ni eisiau ei weld. Rydym yn gweld cynnydd, yn rhannol o ganlyniad i'r her 50 diwrnod, ond mentrau eraill hefyd, i wella argaeledd cymorth saith diwrnod. Yn amlwg, mae heriau wrth gyflawni hynny, ac mae angen trafodaethau lleol ar hyn o bryd er mwyn gallu cyflawni hynny, yn ogystal â heriau recriwtio.
Rydym yn cefnogi'n weithredol fyrddau iechyd nawr i ehangu gwasanaethau nyrsio cymunedol trwy gydol yr wythnos drwy'r gronfa Ymhellach yn Gyflymach, sy'n werth tua £11 miliwn, ac rydym yn gweld hynny'n gwneud gwahaniaeth dros y penwythnos, a dyna'r hyn yr ydym yn amlwg eisiau ei weld. Mae'r cyllid hwnnw'n mynd i fyny. Rydym ni'n dechrau gweld y niferoedd yn dod i fyny. Rwy'n credu mai un o'r heriau mewn sawl rhan o'r GIG yw bod rhannau ohono yn gweithredu'n effeithiol fel gwasanaeth pum niwrnod, ac, wrth gwrs, fel y gwyddom i gyd, mae pobl yn mynd yn sâl ac yn cael damweiniau saith diwrnod yr wythnos. Ac felly bydd symud yn raddol i'r model hwnnw rwy'n credu yn rhywbeth sylfaenol yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gynllunio i wrthsefyll tywydd y gaeaf. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn ystod y mis diwethaf, symudodd Cymru o amodau sychder i lifogydd. Dyma realiti byw gyda newid hinsawdd. Mae ein tywydd yn mynd yn fwy eithafol ac yn anoddach ei ragweld. Dyna pam rydym eisoes wedi dechrau ein paratoadau ar gyfer cyfnod y gaeaf.
Gaeaf diwethaf, Dirprwy Lywydd, daeth storm Bert a storm Darragh â glaw trwm a gwyntoedd cryfion. Gwelsom lifogydd yn effeithio ar 768 eiddo, miloedd o gartrefi heb bŵer a phobl yn gorfod gadael 40 eiddo yn dilyn methiant tomen lo. Dim ond y mis diwethaf, yn wir, bu llifogydd mewn eiddo preswyl a masnachol ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe, Powys a sir Gaerfyrddin. Yn amlwg, mae hyn yn heriol iawn, ond rydym yn addasu i'r normal newydd hwn. Rydym yn buddsoddi mewn seilwaith cydnerth, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Swyddfa Dywydd i wella'r ffordd yr ydym yn ymateb i ragolygon tywydd garw ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i adolygu'r sbardunau ar gyfer ei rybuddion a'i hysbysiadau llifogydd. Mae hefyd yn gweithio gyda chymunedau i feithrin dealltwriaeth o'r hyn y mae'r rhybuddion a'r hysbysiadau hyn yn ei olygu iddynt.
Wrth i ni baratoi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, mae ein tîm diogelwch a gwydnwch cenedlaethol yn cynhyrchu rhagolwg ddwywaith y flwyddyn o wydnwch Cymru. Mae'n crynhoi gwybodaeth am ystod o risgiau hysbys, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â thywydd y gaeaf. Mae hyn yn rhoi golwg gyfunol i ni hwyluso cynllunio gwydnwch gwybodus yng Nghymru. Mae pob un o'r pedwar fforwm gwydnwch lleol yng Nghymru yn cynhyrchu cynlluniau unigol ar gyfer tywydd garw, gan gynnwys ar gyfer effeithiau tywydd nodweddiadol y gaeaf, gan nodi'r risgiau a'r mesurau lliniaru sydd eu hangen yn eu hardaloedd.
Wrth i ni agosáu at dymor stormydd 2025-26, mae ein strategaeth parodrwydd gaeaf yn cael ei llywio gan y gwersi anodd a ddysgwyd o stormydd Bert a Darragh ac eraill. Yn dilyn y stormydd hynny, cadeiriais gyfarfodydd gydag asiantaethau ac ymatebwyr allweddol i fyfyrio, mewn amser byr iawn ac ar raddfa, ar yr hyn a weithiodd yn dda a hefyd lle roedd angen gwelliannau. Cyflawnwyd gwaith atgyweirio brys yn gyflym, ac mae'r mewnwelediadau a gawsom wedi cryfhau ein gallu i ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol. Gwnaeth y digwyddiadau hyn, yn bendant, bwysleisio pwysigrwydd cydlynu cyflym, seilwaith gwydn a chynllunio rhagweithiol ymlaen llaw.
Fel y gwyddom, ein cymunedau a'n hunigolion mwyaf agored i niwed yn aml iawn yw'r rhai a fydd yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan ddigwyddiadau ac argyfyngau, ac felly mae dysgu'r gwersi hynny i lywio ein hymatebion i'r gaeaf sydd i ddod yn hollbwysig. Er enghraifft, fe wnaethom ddysgu o brofiad storm Darragh, ac mae gwaith bellach ar y gweill i wella argaeledd ac ansawdd data, yn enwedig am bobl agored i niwed, y gellir cael gafael arno a'i rannu'n fwy effeithiol gydag ymatebwyr brys.
Yn yr un modd, yn dilyn yr aflonyddwch a achoswyd gan storm Darragh, mae gweithredwyr rhwydweithiau trydan wedi gweithio drwy gydol misoedd yr haf i wella eu gwydnwch i dywydd y gaeaf trwy, er enghraifft, cael gwared ar goed sy'n hongian agosaf at linellau pŵer—bydd rhai Aelodau wedi gweld hyn yn digwydd—a buddsoddi i amddiffyn is-orsafoedd rhag dŵr llifogydd.
Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn heddiw, Dirprwy Lywydd, i dynnu sylw at rai o'r ffyrdd pwysig hefyd y gall pobl Cymru helpu i baratoi eu hunain ar gyfer y gaeaf. Gyda'r risg o lifogydd yn cynyddu dros gyfnod y gaeaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ei ymgyrch Barod am Lifogydd—Barod am Lifogydd. Mae'n annog pobl i gymryd y tri cham syml hyn i helpu cymunedau i fod yn barod am lifogydd. Un: gwiriwch eich risg o lifogydd wrth eich cod post ar-lein. Mae'n hawdd ei wneud. Mae gan wefan Cyfoeth Naturiol Cymru dudalennau gwe lle gall pobl, gan fy nghynnwys i, wirio'r risg o lifogydd i'w heiddo. Mae gan y gwasanaeth hwn fap rhyngweithiol hefyd. Yn ail, cofrestrwch am rybuddion llifogydd am ddim, o afonydd a'r môr. Gallwch gofrestru drwy wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu gysylltu â Floodline ar 0345 988 1188 i dderbyn rhybuddion llifogydd drwy e-bost neu drwy neges llais neu drwy neges destun. Ac yn drydydd, byddwch yn barod ar gyfer pan ragwelir llifogydd. Mae tudalennau gwe Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys cyngor ymarferol iawn i ddeiliaid tai ar beth i'w wneud cyn ac yn ystod ac ar ôl llifogydd. Felly, byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni am lifogydd i fanteisio ar yr adnoddau rhad ac am ddim hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Nawr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru bob amser yn gwneud gwelliannau i'w wasanaeth rhybuddion llifogydd, a gefnogwyd, gyda llaw, gan £6 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Felly, gall cwsmeriaid gael eu rhybuddion llifogydd trwy ffonio Floodline neu reoli eu cyfrifon ar-lein ac addasu eu dewisiadau o ran rhybuddion. Gallant deilwra'r neges maen nhw'n ei derbyn hefyd, gyda llaw, gan ddewis derbyn eu rhybuddion yn Gymraeg neu yn Saesneg—y cyfan yn helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar wasanaeth rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cynnal digwyddiadau cymorth rhwydwaith gwirfoddolwyr ledled Cymru ac mae'n cynghori grwpiau cymunedol ar gwblhau a chynnal profion ar gynlluniau llifogydd cymunedol. Mae hyn yn bwysig iawn, oherwydd mae'r rhain yn galluogi cymunedau i fod yn fwy rhagweithiol ac yn fwy gwydn wrth wynebu llifogydd ac mewn ymateb iddynt. Mae cyngor a chymorth ar sut i ymuno â grŵp llifogydd cymunedol, ynghyd â rhestr o sefydliadau sy'n darparu cymorth, fel y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a'r fforymau gwydnwch lleol, ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ac rwyf hefyd yn annog pawb ar yr adeg hon i edrych eto ar yswiriant eu tŷ. Nid yw polisïau yswiriant cartref safonol o reidrwydd yn cynnwys difrod gan lifogydd. Felly, rwy'n cynghori deiliaid tai i edrych ar hyn ar unwaith, gan y gall polisïau yswiriant llifogydd newydd gynnwys cyfnod aros o 30 diwrnod cyn iddynt ddod i rym. Felly, lle mae deiliaid tai yn cael trafferth cael yswiriant llifogydd, efallai na fyddan nhw i gyd yn ymwybodol bod yna gynllun ledled y DU o'r enw Flood Re, sy'n caniatáu iddyn nhw gael mynediad at yswiriant llifogydd fforddiadwy. Nawr, gallai hyn gynnwys yr aelwydydd hynny y gwrthodwyd yswiriant iddyn nhw neu sydd wedi cael llifogydd yn y gorffennol. Mae gwefan Flood Re yn darparu manylion dwsinau o yswirwyr sy'n gallu darparu polisïau trwy'r cynllun, ond rwy'n annog pobl—rwy'n annog pobl—i chwilio am y fargen orau.
Mae yna fenter yswiriant arall yr wyf am dynnu sylw ati: y cynllun ailgodi'n gryfach. Mae'n caniatáu i ddeiliaid tai osod mesurau gwrthsefyll llifogydd gwerth hyd at £10,000 wrth atgyweirio cartrefi ar ôl llifogydd, gan eu gwneud yn fwy gwydn i lifogydd. Nawr, wrth i ddeiliaid tai baratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau, hoffwn hefyd fynegi fy niolch, Dirprwy Lywydd, i'n hawdurdodau rheoli risg diflino am eu gwaith caled. Tra ein bod yn siarad ar hyn o bryd, bydd awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal gwiriadau ar seilwaith allweddol ac yn adolygu galluoedd ymateb brys. A thrwy'r awdurdodau rheoli risg hynny rydyn ni'n parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn rheoli perygl llifogydd. Yr wythnos diwethaf agorais gynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £25 miliwn yn Stevenson Street, y mwyaf a adeiladwyd erioed gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y cynllun yn darparu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd i dros 2,000 o gartrefi a busnesau yng Nghasnewydd. A dydd Iau byddaf yn agor cynllun canol y Rhyl Cyngor Sir Ddinbych. Mae canol y Rhyl wedi costio dros £60 miliwn a bydd o fudd i dros 548 o gartrefi a 48 o fusnesau. Ac os ydych chi'n cynnwys cynlluniau yng ngorllewin y Rhyl, dwyrain y Rhyl a Phrestatyn, rydyn ni wedi buddsoddi dros £100 miliwn yno yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i gadw cymunedau yn yr ardal yn ddiogel. Nid yw hwn yn swm dibwys; mae'n fwy o gyllid nag erioed o'r blaen. Gwnaethom ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ariannu gwell amddiffyniad rhag llifogydd i dros 45,000 o gartrefi yn ystod tymor y Senedd hon a, Dirprwy Lywydd, rydym yn cyflawni'r addewid hwnnw.
Ac fel y gwyddom, gall tywydd eithafol effeithio ar domenni glo segur hefyd. Felly, rydym yn parhau i weithio hefyd gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Mwyngloddio i sicrhau diogelwch tomenni glo segur yng Nghymru. Rydym wedi darparu mwy o gyllid nag erioed o'r blaen i helpu i wneud y tomenni glo hynny'n ddiogel, ac mae buddsoddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach yn fwy na £220 miliwn. Mae'r rhaglen genedlaethol o arolygiadau tomenni yn sicrhau bod y safleoedd sy'n peri'r pryder mwyaf yn cael eu harchwilio'n fwy rheolaidd. Felly, ers 2020, mae dros 3,000 wedi'u cwblhau. Rwy'n falch o gadarnhau na wnaeth yr arolygiad dros yr haf o domenni categori D a gwblhawyd yn ddiweddar godi unrhyw bryderon uniongyrchol, a bydd rhaglen arolygiadau'r gaeaf yn dechrau fis nesaf.
Wrth edrych i'r tymor hir, rydym wedi cyflwyno, wrth gwrs, ddeddfwriaeth sylfaenol newydd—Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025—a fydd yn diogelu pobl a chymunedau Cymru am genedlaethau lawer i ddod. Ond rydym hefyd yn barod ar gyfer yr heriau newydd sydd o'n blaenau. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i barhau i gyflawni ymrwymiadau yn fframwaith gwydnwch Cymru, sy'n gosod y weledigaeth strategol i wella gwydnwch ledled Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i baratoi ac ymateb i effeithiau tywydd y gaeaf, ac rwyf am gloi trwy ddiolch eto i'r holl bartneriaid ac ymatebwyr am eu holl waith caled. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am hyn. Rwy'n credu, yn ystod yr amser rydw i wedi bod yma a chyn hynny, roedd ymdopi â thywydd y gaeaf yn rhywbeth nad wyf yn credu ein bod ni erioed wedi meddwl y byddem yn wynebu mor fuan o ran y mesurau gwahanol a welwn nawr, o ran—. Yn Aberconwy yn fy ardal i ddydd Llun, roedd hi'n dywydd hyfryd, ond dros y penwythnos cawsom lifogydd ledled Aberconwy. Mae'r rhain yn digwydd—. Maen nhw'n anarferol eu natur, y ffordd maen nhw'n digwydd nawr. Rydym wedi dioddef effeithiau dinistriol stormydd a llifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydych chi wedi sôn am storm Burt, storm Darragh. Rydym wedi gweld llifogydd mewn tai, difrod i'r pier hiraf yng Nghymru, pier Llandudno, ac mae hyd yn oed ein porthladd yng Nghaergybi wedi cael ei gau.
Mae angen mwy o ffocws ac, mae'n rhaid i mi fod yn onest, roeddwn i'n meddwl bod eich datganiad yn rhoi tipyn o sicrwydd bod y timau hyn i gyd yn dod at ei gilydd. Oes gennym ni'r fforymau llifogydd lleol o hyd? [Torri ar draws.] Oes. Iawn, mae hynny'n ddiddorol i wybod, diolch. Yn 2024, cyhoeddwyd 1,057 o rybuddion llifogydd yng Nghymru, yr uchaf a gofnodwyd erioed. Mae dau gant saith deg pum mil o eiddo yng Nghymru yn dal i wynebu risg o lifogydd o ganlyniad i erydiad arfordirol, ac rwy'n siŵr y bydd y £600 miliwn rydych chi'n ei wario ar y Rhyl yn cael ei groesawu'n fawr gan y trigolion hynny.
Felly, mae gennym ni'r 300,000 eiddo hynny sy'n wynebu risg o hyd oherwydd erydiad arfordirol ac mae llawer mwy yn agored i lifogydd afonydd, gan gynnwys y 700 eiddo yr effeithiodd llifogydd arnyn nhw yn ystod storm Burt. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r ymgyrch Byddwch yn Barod am Lifogydd, ond byddaf yn edrych allan am honno. Efallai y gwnaf ei ddefnyddio yn un o fy ngholofnau papur newydd, oherwydd mae rhoi'r mentrau hyn ar waith yn beth da, ond os nad yw pobl yn gwybod amdanyn nhw, yna nid yw'n dda i chi fel Llywodraeth.
Felly, mae angen i ni gefnogi ein cartrefi bregus ac rwyf wedi nodi'r arian y gallwch chi ei gael unwaith y byddwch wedi cael llifogydd, ond rwyf wedi gofyn o'r blaen. Mae cynifer o bobl yn gofyn i mi, 'Y cyfan rwyf eisiau ei wneud, Janet, yw prynu llifddor ar gyfer fy eiddo.' Does ganddyn nhw ddim syniad o ble y gallan nhw eu cael, faint maen nhw'n ei gostio neu unrhyw beth. Felly, tybed a allai fod rhyw fath o fenter lle mae'r asiantaethau llifogydd hyn yn cysylltu â phawb, neu'r rhai y mae llifogydd yn fwyaf tebygol o effeithio arnyn nhw, i weld a fydden nhw'n hoffi llifddor neu o ble y gallan nhw ei gael—. Rwyf wedi bod yn gofyn hynny ers tair blynedd nawr, pan oedd y Gweinidog blaenorol yn ei swydd.
Mae'r pwyllgor newid hinsawdd, yn ei adroddiad, wedi dweud bod angen i ni ailystyried cyllid brys ar gyfer cartrefi, gwella'r ffordd rydym yn cyfeirio pobl at y cynllun yswiriant llifogydd, ac ymgorffori cymorth iechyd meddwl yn hyn i gyd, oherwydd yn rhy aml rydym yn cael pobl ofidus yn dod atom. Maen nhw'n poeni am eu bywydau eu hunain a'u teulu, ond hefyd am eu bywoliaeth. Mae gennym fusnesau sy'n rhoi'r gorau i fasnachu o ganlyniad i ddifrod llifogydd, ac wrth gwrs, eich cartref eich hun—os yw hwnnw'n destun llifogydd, mae'n anghredadwy.
Rwy'n credu bod angen—a nodwyd hyn yn un o'n hadroddiadau newid hinsawdd—mae angen gwybod mwy am y ffordd mae rhybuddion llifogydd yn gweithio. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i wella'r ffordd yr eir ati i ymgysylltu â'r cyhoedd o ran y systemau rhybuddio hyn, a darparu eglurder ynghylch pryd y dylid cymryd camau. Oherwydd datgelodd tystiolaeth a glywsom yn ein pwyllgor fod llawer o bobl yn teimlo wedi eu siomi gan y systemau rhybuddio llifogydd. Wyddoch chi beth, roedden nhw'n mynd i ffwrdd ar fy ffôn trwy'r amser, a negeseuon e-bost—fe ganodd fy ffôn gymaint o weithiau ddydd Sul yn dweud wrthyf am yr ardaloedd llifogydd bach. Roeddwn i'n gweld hynny fel rhywbeth cadarnhaol, mewn gwirionedd. Rwy'n eich annog i weithio gyda'n sefydliadau i feithrin ymwybyddiaeth.
Yn y bôn, roeddwn i'n mynd i ofyn i chi—ond rydych chi eisoes wedi ei ateb i mi—a fyddwch chi'n rhoi atal, amddiffyn a phobl wrth wraidd eich cynlluniau ar gyfer ymdopi yn y gaeaf a gweithredu'r rhestr gyswllt mewn argyfwng hon i'w rhannu? A fy nghais olaf: rhowch wybod i ni, rhowch wybod i cynghorwyr, pan fydd llifogydd yn eu hardal eu hunain. Dim ond pan gaiff ei drydar rydyn ni fel ASs yn dod i wybod amdano; byddai'n dda, fel yr AS lleol, pe baem yn cael ein hysbysu gan y tîm gwydnwch lleol. Diolch.
Janet, diolch yn fawr iawn i chi. Diolch am y cyfraniad hwnnw, sy'n eang. Rydych chi'n iawn: maen nhw'n ymddangos yn anarferol eu natur erbyn hyn, ond dyma'r normal newydd. Rydyn ni'n ei gael yn amlach, mae'n fwy dwys, yn fwy trawmatig, ac rydyn ni'n llythrennol yn newid o statws sychder i lifogydd, ac, er ein bod ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r Swyddfa Dywydd ac yn edrych ymlaen ar sail tri mis, mae'r tywydd yn fwyfwy anrhagweladwy. Felly, gallwn ni ddisgwyl yr annisgwyl nawr. Dyna'r hyn rydyn ni'n ei weld. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth fyfyrio ar hynny, Dirprwy Lywydd, pa mor bwysig yw hi i bob un ohonom weld beth sy'n digwydd yma nawr gyda newid hinsawdd a chynhesu byd-eang, oherwydd nid yw'r un digwyddiad ynddo'i hun yn gynhesu hinsawdd, ond mae'r cyfeiriad teithio, yr amlder, y dwysedd, yn ganlyniad uniongyrchol i'r dyddodiad uwch a'r sychder, weithiau, a achosir gan fwy o leithder yn cael ei gario yn yr aer. Felly, mae angen i ni lynu'n gadarn wrth ein huchelgeisiau newid hinsawdd a mynd i'r afael â hynny, yn ogystal â bod yn fwy gwydn.
Fforymau gwydnwch lleol, ydyn, maen nhw'n dal i fodoli. Yr ymgyrch Byddwch yn Barod am Lifogydd, byddwn i'n eich annog chi a'r holl Aelodau, byddwn, rhowch hynny allan yn eich cylchlythyrau a'ch gwybodaeth a'ch cyfryngau cymdeithasol, fel nad yw unigolion yn teimlo'n ddiymadferth. Gallan nhw edrych ar y cyngor hwnnw am beth i'w wneud cyn, ymlaen llaw, yn ystod ac ar ôl. Ac mae wir yn helpu gyda'r cymunedau a'r unigolion hynny yn gweithio gyda'i gilydd ar ymateb cymunedol.
Mae'r cyllid allan yna ar gyfer y rhai gwydnwch rhag llifogydd hynny ar gyfer eiddo unigol. Felly, gallen nhw fod yn bethau fel llifddorau, drysau llifogydd, pethau syml. Gallai fod yn bethau fel arwynebau caled yn hytrach na charped, a chyngor ar hynny, a helpu gyda'r buddsoddiad. Felly, mae'r cyllid hwnnw gyda'r awdurdodau rheoli risg, sef yr awdurdodau lleol. Felly, unwaith eto, yn eich cylchlythyrau, rhowch y wybodaeth honno allan yna. Cysylltwch â'ch awdurdod rheoli risg, eich awdurdod lleol, siaradwch am fesurau gwydnwch rhag llifogydd ar eich busnes a'ch eiddo unigol. A byddwch chi'n gwybod—mae'n ddrwg gennyf, rydw i jyst yn edrych draw ar gyd-Aelodau yma—pan ydyn ni wedi bod ar y strydoedd lle mae pobl wedi bod yn destun llifogydd, mae'r busnesau hynny yn ogystal ag aelwydydd sydd wedi manteisio ar yr arian rydyn ni wedi'i roi ar gael trwy awdurdodau lleol wedi bod nôl yn gweithredu o fewn 24 awr. Rwyf wedi ei weld gyda siop goffi a oedd yn gweithredu, yn gweini pobl oedd yn dal i lanhau eu heiddo allan, oherwydd doedden nhw ddim wedi eu cael nhw i mewn, ond roedden ni'n dweud wrthyn nhw, 'Defnyddiwch yr arian; gwnewch hynny y tro nesaf fel eich bod chi'n barod'.
A'r peth arall, fel y soniais, yw y dylech chi edrych ar eich yswiriant os ydych chi wedi cael llifogydd, am y dull ailgodi'n gryfach. Oherwydd, unwaith eto, mae yswirwyr yn awyddus iawn, os ydych chi wedi cael llifogydd, i'ch helpu i'ch ariannu. Mae'r yswirwyr hyn yn rhoi hyd at £10,000 o gyllid i'ch galluogi i roi eich pwyntiau trydan yn uwch, gosod arwyneb caled yn hytrach na charped ac yn y blaen, a meddwl sut allwch chi leihau'r effaith. Felly, diolch am eich sylwadau, a, byddwn, fe fyddwn ni'n parhau i roi pobl a lleoedd, cymunedau, wrth wraidd ein dull o baratoi ar gyfer y gaeaf.
Diolch ichi, Dirprwy Brif Weinidog, am y datganiad. Mae’r gaeaf, erbyn hyn, wrth gwrs, yn dymor sydd yn peri pryder i nifer o bobl. Fe wnaf i jest aros ichi ar gyfer hwnna. Na, mae'n iawn. Popeth yn iawn. Grêt.
Mae tywydd garw yn cael effaith materol, wrth gwrs, ar ein hadeiladau, ein tirluniau ac ar ein cymunedau, ond mae e hefyd yn cael effaith seicolegol ar ein poblogaethau. Fe gofiwn ni y tirlithriad y llynedd yng Nghwmtillery, atgoffâd brawychus o’r etifeddiaeth a gawsom o’n hanes diwydiannol. Nawr, archwiliwyd y tip hwnnw yn yr haf y flwyddyn roedd hwnna wedi digwydd, ac, o beth dwi'n ei ddeall, doedd dim canlyniadau problemus mawr yn cael eu recordio. Ond, erbyn y mis Tachwedd, wedi cyfnod o law trwm, symudodd y tir. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar y ffaith bod tai wedi gorfod cael eu gwagio, bu i gymuned gyfan deimlo dychryn. Rhaid gofyn, felly, a ydy archwiliadau bob chwe mis yn ddigonol mewn cyfnodau o dywydd sydd mor anrhagweladwy, cyfnod lle mae risg yn gallu cynyddu. A ydych chi fel Llywodraeth yn edrych i gynyddu amlder yr archwiliadau, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf? A allwch chi roi diweddariad inni ar hynny, plis?
Wrth gwrs, byddai hynny’n golygu mwy o gost, a dwi'n derbyn hynny, ac mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan dalu lot mwy tuag at gostau cadw’r tomenni hyn yn saff. Rŷn ni'n siarad yma am efallai cannoedd o domenni glo y gallai fod yn risg uchel, a miloedd mwy sy'n dal i greithio'n mynyddoedd ni. Nid problem Gymreig yn unig ydy hyn. Mae'n waddol o'n hanes diwydiannol, lle cymerwyd y cyfoeth i ffwrdd oddi wrthym. Mater o gyfiawnder i'n cymunedau ydy cael yr arian yma yn ôl. Felly, buaswn i'n gofyn: pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gael mwy o arian tuag at hyn, pe bai'n rhaid cynyddu amlder yr archwiliadau?
Nawr, gyda thywydd garw, wrth gwrs, gall tirlithriadau a llifogydd droi'n broblem sylweddol. Dwi'n gwybod y bydd Heledd Fychan yn gofyn i chi am hyn hefyd. Hoffwn i wybod pa waith sy'n mynd rhagddo i baratoi a diogelu'r cymunedau, busnesau a thai hynny sydd wedi dioddef gyda llifogydd gwael yn ddiweddar. Ymhellach i'r hyn rydych chi wedi'i ddweud yn barod, rydych chi wedi siarad am sut waith sydd yna i gydlynu rhwng llywodraethau lleol, rhwng awdurdodau gwahanol. Buaswn i'n gofyn, yn ychwanegol i hynny: pa gymorth seicolegol ydych chi'n rhagweld y bydd ei angen i baratoi ar gyfer y gaeaf o ganlyniad i stormydd, tirlithriadau, llifogydd a mwy? Dwi'n gwybod, efallai, y bydd hyn yn rhywbeth yn y portffolio iechyd, ond mae e mor integredig gyda hyn i gyd. Oes yna gyllid penodol ar gyfer hyn? Sut mae'n cael ei gategoreiddio? A beth ydyn ni'n gwneud yn arbennig i helpu plant yn y cymunedau hyn sydd yn wynebu'r risg fwyaf? A diolch i chi am yr hyn rydych chi wedi'i ddweud.
Diolch yn fawr iawn, Delyth, am y pwyntiau hynny yn y fan yna. Rydych chi'n iawn am yr effaith seicolegol, o'r ymweliadau rwyf wedi'u gwneud â phobl sydd wedi cael llifogydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Ac wrth gwrs, rydyn ni nawr yn gweld llifogydd yn digwydd mewn mannau lle na fyddem yn disgwyl eu gweld, llifogydd dŵr wyneb, lle mae lleoedd ar gopaon bryniau yn cael llifogydd, yn ogystal ag yn y cymoedd, gyda ffo cyflym i lawr i'r cymoedd hynny, ac o fewn yr awr, eiddo dan ddŵr heb unrhyw ffordd o roi gwybod iddyn nhw'n ddigonol, waeth beth fo'r rhybuddion llifogydd ac yn y blaen. Felly, mae'r effaith seicolegol honno yn enfawr, a gall fod yn barhaol hefyd. Rwy'n gwybod fy mod wedi cwrdd â phobl gyda chyd-Aelodau yma, allan yn cwrdd â thrigolion, ac mae rhai eiddo yn destun llifogydd dro ar ôl tro. Felly, rydych chi'n byw gyda'r ofn hwnnw bob tro mae llifogydd, ac mae hynny'n hollol ofnadwy.
Felly, un o'r pethau rydyn ni wedi'u gwneud, yn seiliedig ar yr adborth rydyn ni wedi'i glywed gan bobl ledled Cymru, mae'n rhaid i mi ddweud, yw ein bod ni wedi rhoi cyllid refeniw ychwanegol i'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, sy'n eu galluogi i gael mwy o bresenoldeb mewn gwahanol ardaloedd lle gallan nhw weld bod blaenoriaeth, gan gynnwys y cymunedau hynny sy'n destun llifogydd yn fwy rheolaidd, a lle mae'r ofn yn fwy. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni hefyd edrych ar y cymorth seicolegol ehangach hwnnw sydd allan yna yn y gymuned, gan gynnwys i'n pobl ifanc, oherwydd mae'n ofnadwy gyda'r llifogydd untro, ond pan ydych chi'n byw mewn ofn cyson, rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod y cymorth ehangach hwnnw y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith ar gyfer cymorth iechyd meddwl ac yn y blaen ar gael i bawb, ond yn enwedig i bobl ifanc hefyd, y mae'n rhaid eu bod nid yn unig yn ofnus, ond wedi drysu'n llwyr ynghylch yr hyn sy'n digwydd gyda hyn.
Fe wnaethoch chi sôn am fater Cwmtyleri. Roedd e'n foment arwyddocaol pan oeddwn i i fyny yng Nghwmtyleri, ac mae'n dipyn o beth pan ydych chi'n sefyll yno yn y tywyllwch yn y bore, ac rydych chi i fyny i'ch crimogau mewn slyri tywyll, oer, ac rydych chi'n meddwl, 'Wel, mae e i fyny yn erbyn y tŷ hwnnw yn y fan yna hefyd.' Mae'n creu argraff barhaol arnoch. Ond roedd yr hyn a ddigwyddodd yno yn adlewyrchiad llwyr o ddwysedd y glaw. Dywedwyd wrthyf fod y cwlfer, a oedd yn hysbys—roedd cwlfer yno—roedd cymaint â 25 gwaith y gollyngiad trwy'r cwlfer hwnnw ag y dylai fod wedi bod yn mynd drwyddo yn y fan yna. Felly, fe chwythodd y cwlfer hwnnw ar agor. Felly, dyna pam maen nhw yno nawr, fel rhan o'n buddsoddiad, yn sicrhau bod ymyl y domen honno'n iawn, ac yn archwilio'r gweddill.
Rydych chi'n dweud yn gywir ddigon, 'Wel, beth sy'n digwydd gyda'r tomenni eraill?' Wel, yn seiliedig ar yr arbenigedd gorau sydd ar gael, y tomenni categori D hynny, mae yna neges o sicrwydd. Allwn ni byth warantu popeth, ond mae'r ffaith ein bod ni i mewn yno nawr ddwywaith y flwyddyn, yn monitro'r tomenni categori D hynny yn ffisegol ar lawr gwlad—dydy rhai ohonyn nhw ddim yn agos at boblogaethau, gyda llaw—ond yn eu monitro, ond rydyn ni hefyd yn defnyddio gwyliadwriaeth drôn ar ben hynny. Y monitro electronig yn y ddaear gyda dangosyddion yn y ddaear yw hynny. Mae yna lawer o dechnoleg.
Felly, byddwn ni'n parhau i wneud hynny, a byddwn ni'n parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU. Rydyn ni'n falch ein bod wedi cyrraedd pwynt lle mae gennym dros £220 miliwn, ac mae gennym Lywodraeth y DU sy'n cydnabod eu cyfrifoldeb, ond rydyn ni'n gwybod y bydd yn rhaid i ni fynd yn ôl atyn nhw a dweud, 'A thu hwnt i'r ddwy flynedd, tair blynedd hyn, bydd angen i ni wneud mwy a mwy.' Mae ffigurau wedi cael eu crybwyll, mae amcangyfrifon wedi cael eu nodi, ffigurau o gwmpas £600 miliwn. Efallai bod hynny'n gywir neu efallai ddim, ond rydyn ni'n gwybod y bydd angen llawer mwy, ac rydyn ni'n credu y dylai fod yn bartneriaeth rhwng yr hyn y gallwn ni ei roi yma yng Nghymru—. Cofiwch, fe wnaethon ni roi dros £100 miliwn cyn i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy i'n helpu, felly rydyn ni wedi ymrwymo iddo. Felly, byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Ond, rydych chi'n iawn, mae'r effaith seicolegol yn aml yn cael ei hanwybyddu. Mae angen i ni baratoi ar gyfer hyn, rhoi pobl yn ôl ar eu traed gyda'u cartrefi a'u busnesau ar ôl hynny, ond hefyd edrych ar y mater seicolegol, a helpu pobl i adeiladu gwydnwch yn y ffordd honno hefyd.
Diolch am eich datganiad, ac rwy'n croesawu'r £100 miliwn sydd wedi'i wario dros 10 mlynedd yn y Rhyl a Phrestatyn, gan ddiogelu cannoedd, miloedd o bosibl o gartrefi a busnesau yno rhag llifogydd. Rwy'n cofio, fel cynghorydd, delio â chyfeintiau annisgwyl o eira ac yna glaw tebyg i monsŵn yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Mae'r cyhoedd yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, fel ein cynghorau, i helpu i'w hamddiffyn a chadw priffyrdd ar agor.
Dydy rhai ffosydd a chwlferi ddim yn eiddo i'r cyngor, maen nhw'n dod o dan dirfeddianwyr preifat. Dydy pobl ddim yn sylweddoli. Nawr, yn dilyn blynyddoedd o gyni, mae gwasanaethau'r cyngor wedi'u hymestyn i'r eithaf. Ydych chi'n cytuno bod angen cyllid yng nghronfeydd wrth gefn cynghorau i ddelio â stormydd eira annisgwyl, tywydd rhewllyd, gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf a llifogydd? Ac a fyddech chi'n helpu cynghorau trwy dynnu sylw at y ffaith mai'r tirfeddianwyr eu hunain sy'n gyfrifol am sicrhau nad oes dŵr yn rhedeg oddi ar eu tir i'r briffordd gyhoeddus—nid cyfrifoldeb cynghorau yn unig yw'r cyfan—a bod angen iddyn nhw gadw eu ffosydd a'u cwlferi eu hunain yn glir?
Diolch yn fawr iawn, Carolyn, am y cwestiynau hynny yn y fan yna. Dydw i ddim eisiau tresmasu ar unrhyw awdurdod lleol unigol, ond rydych chi'n iawn ar yr egwyddor. Weithiau mae angen y cronfeydd wrth gefn hynny ar gyfer y digwyddiadau annisgwyl hynny. Felly, weithiau, pan fyddwch chi'n clywed y galwadau ar i gynghorau wagio eu cronfeydd wrth gefn, mae hynny'n dangos anwybodaeth o'r ffaith mai dyna beth yw diben y cronfeydd wrth gefn hynny—ar gyfer y digwyddiadau annisgwyl hynny y bydd angen iddynt fynd i'r afael â nhw.
Mae'n werth nodi yn rhan o hyn hefyd, fel y gwyddoch o ddigwyddiadau stormydd blaenorol, bod gennym y cynllun cymorth ariannol brys o fewn Llywodraeth Cymru y gallwn alw arno os yw'r stormydd yn ddifrifol iawn. Ond o dan storm Bert a storm Darragh, gyda chymorth fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd cyllid, fe aethom y tu hwnt i hynny, a gwneud yn siŵr, lle roedd y dwyster mwyaf, ein bod ni'n camu i mewn gyda mwy o gyllid, yr oeddem yn gallu dod o hyd iddo. Dydw i ddim yn dweud y gallwn ni wneud hynny bob tro, ond byddwn ni'n ceisio gwneud hynny.
O ran perchnogaeth ffosydd, perchnogaeth glannau cyrsiau dŵr ac afonydd, diolch eto am godi hyn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i bwysleisio bod unrhyw un sy'n berchen ar dir neu eiddo sydd naill ai'n cynnwys neu sydd wrth ymyl afon, nant neu ffos yn berchennog glannau, gan gynnwys fi fy hun, oherwydd mae gen i un yn llifo trwy fy ngardd. Felly, mae egwyddorion perchnogaeth wedi'u sefydlu mewn cyfraith gyffredin ers dros 200 o flynyddoedd, ond mae trafodaethau diweddar ynghylch rheoli'r risg o lifogydd yma yn y Senedd yn awgrymu nad yw llawer o dirfeddianwyr yn ymwybodol o'r cysyniad. Felly, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu—a gadewch i ni ei roi ar gofnod yma eto—ddogfen ganllaw sy'n esbonio i dirfeddianwyr sut mae'n gweithio, sut y gallai effeithio arnyn nhw, a beth yw eu cyfrifoldebau. Felly, rwy'n annog Aelodau yn gryf—rwy'n gwneud hyn i'r holl Aelodau heddiw, Janet a phawb arall—i rannu'r canllawiau hynny gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer tirfeddianwyr glannau, ar eu rolau a'u cyfrifoldebau wrth reoli'r risg o lifogydd. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â gwydnwch ar y cyd, pawb yn chwarae eu rhan, ac mae hynny'n cynnwys cynnal a chadw cyrsiau dŵr ac asedau cysylltiedig, gan gynnwys ffosydd, y mae angen iddynt gael eu cynnal yn y cyflwr gorau posibl. Gyda llaw, mae hynny'n wir am fy un i, yn fy ngardd, i dynnu sylw at hynny.
Ac yn olaf, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi'r datganiad heddiw yn fawr. Mae'n bwysig iawn i gymaint o bobl ledled Cymru sydd, fel y dywedoch chi'n gywir ddigon, yn teimlo'n ofnus bob tro y mae'n bwrw glaw yn drwm, a hynny'n gwbl briodol, o ystyried y tywydd eithafol rydyn ni'n ei weld. O ran yr ymgyrch Byddwch yn Barod am Lifogydd, rwy'n ei chefnogi'n llwyr, wrth gwrs fy mod i, ond os edrychwn ni ar adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ynglŷn â llifogydd, roedd yn sôn am yr angen i wneud mwy i adeiladu gwydnwch. Rydych chi'n cyfeirio, yn eich datganiadau, at gynlluniau llifogydd cymunedol, grwpiau llifogydd cymunedol, ond dydy'r rhain ddim yn bodoli ym mhob rhan o Gymru. Yn sicr, dydyn nhw ddim yn bodoli ym mhob cymuned sy'n dioddef llifogydd yn aml. Does ganddon ni ddim fforwm llifogydd yng Nghymru ac mae'r ffordd y mae'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn gallu gweithio yma yng Nghymru yn gyfyngedig iawn.
Felly, ar gyfer y cymunedau hynny lle does dim cynlluniau llifogydd, lle does dim grwpiau llifogydd cymunedol, sut ydych chi'n awgrymu y gallan nhw roi'r cynlluniau hyn ar waith? Oherwydd, er enghraifft, gallaf feddwl am lawer o achosion lle mae pobl wedi gwneud popeth posibl eu hunain, ond mae dal angen i awdurdodau ac eraill gamu i fyny a darparu'r cymorth hwnnw iddyn nhw. Nid pob cymuned sy'n gallu gwneud ei hun yn wydn, a chyda rhai o'r buddsoddiadau, mae'n mynd i gymryd amser hir iawn iddyn nhw weld unrhyw fanteision. Felly, sut allwn ni eu cefnogi, lle maen nhw'n barod, ond nad ydyn nhw'n gallu ymdopi ag ef?
Rydych chi'n hollol iawn. Mae yna fater cyfiawnder cymdeithasol o dan hyn hefyd, oherwydd rydw i wedi ei weld yn fy ardal fy hun, lle mae rhai cymunedau yn barod iawn ac yn gallu camu ymlaen a byddant yn mynd i safle CNC, yn edrych ar y canllawiau am ddim sydd ar gael, yn siarad â'r fforymau cydnerthedd lleol a dweud, 'Iawn, sut y byddwn ni, i gyd gyda'n gilydd, yn barod am yr hyn rydym ni am ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw a helpu ein gilydd wedyn, ar ôl hynny hefyd?' Rydw i wedi gweld hyn yn ar waith, ac os ewch chi i leoedd—. Mae yna waith canmoladwy iawn sydd wedi'i wneud mewn llefydd fel Ynysgynwraidd, er enghraifft, ond mae yna lawer o bobl yno sy'n deall y sefyllfa'n iawn ac yn barod amdani.
Mae'r her yn dod yn y cymunedau hynny lle nad yw'r capasiti hwnnw ar gael yn rhwydd, ond mae yno—byddwn i'n dadlau ei fod yno—ond mae angen cymorth ychwanegol. Rwy'n credu bod rôl yma, gyda chymorth y cyllid refeniw ychwanegol rydym ni'n ei roi i'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, i weithio gyda'r cymunedau hynny yn arbennig, ond hefyd gyda chynrychiolwyr etholedig lleol. Rydw i wedi gweld hyn fy hun yn fy ardal fy hun, weithiau, rwy'n cael cynrychiolwyr lleol sy'n wirioneddol ymwybodol o'r sefyllfa ac yn dweud, 'Ie, yn hollol, rwy'n gweld beth yw fy rôl i yn hynny; fe wnaf ddod â'r gymuned at ei gilydd, byddaf yn gweithio gyda nhw a byddwn yn rym da yma i baratoi ar gyfer digwyddiadau llifogydd, ac ati, yn y ffordd rydym ni'n ei wneud.' Ac yna, mewn ardaloedd eraill, mae'n fwy anodd. Felly, dyma'r her. Nid yw'n ymwneud ag arian yn unig; rwy'n credu ei fod yn ymwneud â bod â meddylfryd nawr hefyd, ar draws Cymru gyfan, yn wyneb yr hyn rydym ni'n ei wynebu nawr, i ddweud, 'Sut ydym ni'n ailadrodd?'
Mae yna rai trafodaethau diddorol, ac mae Plaid Cymru yn cyflwyno syniadau ynglŷn â sut rydym yn cryfhau fforwm llifogydd cenedlaethol. Rydym ni'n buddsoddi yn y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol nawr i flaenoriaethu ble mae angen iddyn nhw fynd a gweithio gyda chymunedau. Rwy'n credu bod rhywbeth i'w wneud, yn y dyfodol, wrth edrych ar sut rydych chi'n gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ymgorffori ym mhobman, heb fod yn rhagnodol, oherwydd bydd yn wahanol o le i le. Ond hoffwn weld pob cymuned mewn sefyllfa lle mae ganddynt naill ai'r capasiti neu'r gallu i gamu ymlaen gyda chefnogaeth a bod yn barod ar gyfer llifogydd. Ond ar hyn o bryd, byddwn i'n dweud, 'Edrychwch ar yr hyn y mae'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn ei wneud; gwrandewch ar y cyngor Byddwch yn Barod am Lifogydd a pheidiwch â bod ofn, yna ffonio eich AS neu'ch cynrychiolydd etholedig lleol a dweud, "Sut ydym ni'n gwneud i hyn ddigwydd? Allwn ni fynd ymlaen ag ef, oherwydd ni ddylem gael ein gadael dan anfantais yma?"
Felly, mae cymorth ar gael, mae cyllid ar gael. Rwy'n credu bod angen i ni ledaenu'r gair, i ddweud y gwir, bod yna fodel o fforymau cymunedol sy'n bodoli, a dyna sut rydym ni'n ei gael i fwy o leoedd. A'r ongl gyfiawnder cymdeithasol, mae'r syniad yna wedi fy nharo'n fawr. Rwyf wedi ei weld yn gweithio, gyda llaw, yn fy ardal fy hun; mae gennym lefydd fel top y Garth, sef ochr mynydd, ond mae wedi dioddef dŵr yn gorlifo. Ond gan ddod ynghyd â'r awdurdod lleol ac eraill a'r cynghorwyr a'r trigolion, bobl bach, maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth yno. Mae angen i ni ailadrodd hynny. Ac nid yw honno'n ardal gyfoethog; nid yw honno'n ardal â llawer o weithwyr proffesiynol wedi ymddeol, ond maen nhw'n deall difrifoldeb y peth a daeth pawb at ei gilydd. Felly, mae angen i ni wneud mwy o hynny. Diolch.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf: cadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn parhau i fod yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth yma yng Nghymru. Wrth i ni fynd i mewn i aeaf arall gyda chostau ynni uchel a phwysau ehangach ar incwm aelwydydd, rydym yn cydnabod yr heriau y mae llawer o deuluoedd ledled Cymru yn eu hwynebu. Er bod costau ynni wedi gostwng ers eu hanterth yn 2022, maent yn parhau i fod ymhell uwchlaw lefelau cyn yr argyfwng ac yn parhau i effeithio'n anghymesur ar aelwydydd agored i niwed.
Ysgrifennais at bob Aelod o'r Senedd ac Aelodau Seneddol ym mis Gorffennaf, gan dynnu sylw at y gefnogaeth wedi'i dargedu rydym ni'n ei darparu i'r rhai sydd ei hangen fwyaf. Rydym yn gwybod y gall y gaeaf fod yn gyfnod heriol i aelwydydd heddiw, felly rwy'n cyhoeddi £940,000 ychwanegol i awdurdodau lleol ei ddosbarthu ar gyfer eu cymorth bwyd brys, a £600,000 ychwanegol i gefnogi'r broses o ddarparu mannau cynnes a diogel o fewn y cymunedau lleol ledled Cymru. Mae'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf yn tynnu sylw at raddfa'r her. Ym mis Hydref 2024, roedd 340,000 o aelwydydd, 25 y cant, mewn tlodi tanwydd, gyda 215,000 arall, 16 y cant, mewn perygl. Mae ein cefnogaeth yn mynd i sawl cyfeiriad, gan helpu pobl i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi, gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi, cynnig cymorth brys i aelwydydd mewn argyfwng, ac ariannu mannau a chanolfannau cynnes a chroesawgar yng nghanol cymunedau ledled Cymru.
Yn ystod y ddadl ddiweddar ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol 'Cynyddu’r gwres cyn 2160: amser i gyflymu'r gwaith o drechu tlodi tanwydd', anogais unrhyw un ar incwm isel sy'n cael trafferth cadw eu cartref yn gynnes i gysylltu â'n gwasanaeth cyngor Nyth am ddim a'n rhwydwaith 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi', i sicrhau bod ganddynt gymorth cyn i'r gaeaf gyrraedd. Mae'n ofynnol i gyflenwyr ynni hefyd gefnogi cwsmeriaid sy'n cael eu hunain mewn caledi ariannol, ac mae'n rhaid iddynt helpu cwsmeriaid agored i niwed i archwilio camau i reoli lefelau dyled. Ailadroddais y negeseuon hyn mewn cyfarfod diweddar o'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, y mae ei aelodaeth yn cynnwys sefydliadau ledled Cymru sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r rhai mewn angen. Mae'n bwysig ein bod yn estyn allan ac yn gwneud pobl yn ymwybodol bod cymorth ar gael.
Rydym yn buddsoddi mwy na £30 miliwn yn ein cynllun Nyth eleni i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd trwy leihau biliau ac allyriadau carbon. Gall y cynllun leihau biliau a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy osodiadau â sicrwydd ansawdd. Mae pob cartref cymwys yn derbyn asesiad tŷ cyfan gan aseswr ôl-osod cymwysedig, ac mae sampl ohonynt yn cael eu hadolygu gan ein gwasanaeth sicrhau ansawdd annibynnol. Mae hyn yn sicrhau bod y mesurau a argymhellir yn darparu'r arbedion ynni a charbon gorau, a bod anghenion deiliaid tai yn cael eu hystyried. Fel rhan o'r contract newydd ar gyfer Nyth, rydym wedi lansio gwasanaeth cynghori ynni annibynnol, sy'n hygyrch i bob cartref ledled Cymru ac sy'n cynnig arweiniad ymarferol ar wella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau ynni. Mae ein gwefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ynni cartrefi, gan gynnwys camau am ddim neu gost isel i wneud cartrefi yn glyd y gaeaf hwn.
Wrth i ni agosáu at fisoedd y gaeaf, mae ein cynghorwyr Nyth yn gweithio'n weithredol ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i aelwydydd sy'n profi tlodi tanwydd. Maen nhw'n hyrwyddo Nyth ar draws pob platfform cyfryngau cymdeithasol ac yn cydweithio â'r holl awdurdodau lleol i gyflwyno ymgyrchoedd post uniongyrchol wedi'u targedu. Derbyniodd bron i 11,000 o aelwydydd ar draws pedwar awdurdod lleol—Caerdydd, Casnewydd, Gwynedd a Phen-y-bont ar Ogwr—bost uniongyrchol ynghylch Nyth ym mis Medi yn unig. Mae gwaith tebyg wedi'i gynllunio gyda chwe awdurdod lleol arall dros fisoedd y gaeaf. Mae tîm Nyth wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Torfaen a sir Fynwy i ddefnyddio data tracio teuluoedd incwm isel i dargedu cymorth i deuluoedd incwm isel sy'n fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau gweithgarwch post uniongyrchol yn yr awdurdodau lleol sy'n weddill ledled Cymru.
Mae rheolwyr datblygu partneriaid Nyth yn gweithio gyda'n staff rheng flaen ar draws ystod eang o sefydliadau rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael drwy Nyth ac yn gwybod sut i gyfeirio cwsmeriaid i gael cymorth. Mae cylchlythyrau wedi'u cyhoeddi i 755 o sefydliadau partner hyd yma. Mae lefel uchel o atgyfeiriadau i'r cynllun trwy fisoedd yr haf wedi bod yn galonogol, gan ganiatáu i'r aelwydydd hyn dderbyn y cyngor a'r gefnogaeth angenrheidiol cyn i'r tywydd oer gyrraedd. Mae'r gwasanaeth dosbarthu, gan gynnwys cymorth argyfwng i bobl heb system wresogi neu ddŵr poeth, wedi'i baratoi i ymateb i ymchwydd yn y galw wrth i bobl geisio gwresogi cartrefi am y tro cyntaf dros y gaeaf.
Rydym hefyd yn gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd trwy roi mwy o arian ym mhocedi pobl, rhoi hwb i incwm, cryfhau cydnerthedd ariannol—prif flaenoriaethau i'r Llywodraeth hon. Rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael pob punt sydd ganddynt hawl iddi. Mae ein hymgyrch manteisio ar fudd-daliadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ymwybyddiaeth o gymorth ariannol yn tyfu ac mae mwy o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rydym wedi cynyddu'r gronfa cymorth dewisol ar gyfer 2025-26 £1 miliwn i £39.5 miliwn, gan barhau â'n hymrwymiad i ddarparu cymorth i aelwydydd ledled Cymru sy'n parhau i wynebu caledi ariannol eithafol.
Mae'r gronfa yn darparu cyfraniadau trwy gydol y flwyddyn tuag at gostau olew a nwy, gan gefnogi ein cymunedau gwledig. Mae ein cyllid wedi galluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun talebau tanwydd a chronfa wres genedlaethol yng Nghymru, ac mae'r cynllun wedi darparu cymorth i aelwydydd cymwys sy'n talu ymlaen llaw am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae hyn yn cynnwys darparu talebau tanwydd ar gyfer cartrefi gyda mesuryddion rhagdalu, a chyflenwadau olew neu nwy i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â rhwydwaith nwy'r prif gyflenwad.
Rhan arall o'n cefnogaeth barhaus yw ein cyllid ar gyfer hybiau diogel a chynnes, sy'n darparu mannau cynnes a diogel yn y gymuned lle gall pobl gael cwmni a chael amrywiaeth o gyngor a chymorth. Gyda'r cyllid ychwanegol rydw i wedi'i gyhoeddi, bydd hyn yn dod â'n buddsoddiad yn y fenter hybiau diogel a chynnes i dros £4.6 miliwn ers 2022, gan gefnogi dros 600 o hybiau cynnes yng nghanol ein cymunedau ledled Cymru. Ddoe, ymwelais ag un o'r mannau hyn yn hyb Ystum Taf a Gabalfa i ddangos y gwerth y maent yn ei gynnig drwy gydol y flwyddyn o ganlyniad i gyllid Llywodraeth Cymru. Mae'r hybiau yn darparu cyfle gwych i bobl yn y gymuned leol gysylltu ag eraill, cadw'n gynnes, a chael mynediad at wasanaethau cyngor mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Fe wnaf orffen y datganiad hwn, Dirprwy Lywydd, drwy ailadrodd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y brwydrau y mae pobl yn eu hwynebu, ac rydym yma i helpu. Gofynnaf i'r holl Aelodau ac unrhyw un sy'n gwylio hwn sy'n adnabod rhywun a allai elwa ar ein cefnogaeth i annog eich etholwyr, eich cymdogion a'ch ffrindiau i gysylltu â ni. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n rhaid i gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn fod yn flaenoriaeth os ydym am osgoi peryglu bywydau neu roi straen ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes wedi'u llethu. Yn anffodus, mae nifer y bobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi cynyddu. Yn ôl National Energy Action Cymru, mae dros bedwar o bob pum cartref incwm isel yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Addawodd Ed Miliband dorri £300 oddi ar filiau ynni cartrefi, ond mae'r cap prisiau wedi parhau i godi o dan ei arweinyddiaeth. Mae Ofgem yn amcangyfrif bod dyled ynni aelwydydd dros £4 miliwn, mwy na dwbl y lefelau cyn yr argyfwng. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n iawn: mae'r rhain yn heriau, ac mae angen gweithredu ar gartrefi cynnes. Er fy mod yn croesawu'r cyllid ychwanegol rydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw, faint ohono fydd yn gwneud unrhyw beth i gadw pobl yn gynnes y gaeaf nesaf?
Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n cytuno na ellir cymharu hybiau cynnes â chartrefi cynnes? Er fy mod yn croesawu'r buddsoddiad gwreiddiol yn y cynllun Nyth, mae llawer o aelwydydd, yn enwedig yn fy etholaeth i, yn wyliadwrus ynglŷn â chynlluniau effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru. Sut fyddwch chi'n rhoi sicrwydd i bobl sy'n byw mewn llefydd fel Caerau, y cafodd eu cartrefi eu difetha gan gynlluniau blaenorol, bod Nyth yn wahanol, nad oes cynlluniau inswleiddio amheus mwyach?
Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr atebion a gynigir gan Nyth yn addas ar gyfer ein stoc dai sy'n heneiddio? Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad bod 11,000 o aelwydydd wedi derbyn post yn uniongyrchol fis diwethaf. Faint o'r aelwydydd hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad â chynghorwyr Nyth? Nid oes unrhyw beth yn eich datganiad sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau sy'n wynebu'r aelwydydd hynny sydd oddi ar y grid, ac fel y gwyddoch yn iawn, mae'r rhai sy'n dibynnu ar olew gwresogi neu LPG mewn mwy o berygl o dlodi tanwydd. Pa gymorth penodol sy'n cael ei ddarparu i'r aelwydydd hynny?
Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n dweud eich bod chi'n mynd i'r afael â thlodi tanwydd trwy roi mwy o arian ym mhocedi pobl, ond wrth gwrs, mae hyn yn bennaf y tu allan i'ch rheolaeth. Mae Canghellor y Trysorlys yn rheoli'r pwrs, ac mae'r holl arwyddion yn pwyntio at gyllideb lem fis nesaf. Ysgrifennydd Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Rachel Reeves ynglŷn â diogelu'r cyhoedd yng Nghymru rhag codiadau treth a thoriadau lles er mwyn cefnogi economi'r DU? Ydych chi wedi codi'r mater o dlodi tanwydd yng Nghymru'n benodol?
Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, ysgogydd mawr tlodi tanwydd a biliau ynni cynyddol yw cymorthdaliadau gwyrdd Ed Miliband. Ydych chi wedi ei annog i roi'r gorau i'r cynlluniau hynny er mwyn gostwng biliau? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch am y cwestiynau yna. Byddwch i gyd wedi gweld heddiw bod gennym nifer o ddatganiadau'r Llywodraeth sy'n sicrhau ein bod yn alinio ein holl ymdrechion ar draws y Llywodraeth o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n ymwneud ag atal, iechyd a gofal cymdeithasol, cydnerthedd o ran rhagolygon llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd, ac, yn wir, fy natganiad hefyd o ran mynd i'r afael â thlodi, i gyd yn alinio i ddangos blaenoriaethau'r Llywodraeth hon o ran gweithredu.
Roedd yna lawer o gwestiynau. Ni fyddaf yn gallu eu hateb i gyd. Ond fe wnaethoch chi sôn am y pwynt ynghylch y cap prisiau, ac fe wnes i gyfarfod ag Ofgem yn ddiweddar. Ysgrifennais at holl Aelodau'r Senedd, byddwch wedi derbyn fy llythyr, i'w diweddaru am yr hyn oedd gan Ofgem i'w ddweud. Bydd y cynnydd o 2 y cant yn y cap prisiau ym mis Hydref yn golygu bod biliau ynni yn codi o £1,720 i £1,755, cynnydd o tua £2.93 y mis i'r aelwyd gyffredin. Dywedais pa mor bryderus oeddem ni fel Llywodraeth o ran yr effaith ar aelwydydd sydd eisoes yn cael trafferth talu costau hanfodol.
Wrth gwrs, un pwynt a wnaethant mewn ymateb—ac fe wnaethoch chi gyfeirio at Lywodraeth y DU—yw y bydd hanner y cynnydd yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol i gefnogi aelwydydd sy'n cael trafferth talu eu biliau, trwy ymestyn y Gostyngiad Cartrefi Cynnes, a fydd mewn gwirionedd yn sicrhau bod talwyr biliau sy'n derbyn budd-daliadau prawf modd bellach yn gymwys i gael ad-daliad bil trydan o £150. Amcangyfrifir y bydd 110,000 o aelwydydd Cymru yn derbyn y taliad hwn.
Wrth gwrs, mae yna nifer o faterion eraill a godais gydag Ofgem, ond fe wnes i fynd i'r afael â'r rheini yn fy llythyr, o ran y pwyntiau a wnes i. Rwy'n credu ei fod yn ddatblygiad pwysig iawn. Fe wnaethom ddechrau'r cyllid ar gyfer hybiau a mannau clyd yn ôl pan oedd effaith yr argyfwng costau byw yn cael effaith mor andwyol ar aelwydydd, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cyhoeddi cyllid pellach heddiw ar gyfer ein hybiau a'n mannau clyd. Wrth gwrs, mae'r rhain yn cael eu defnyddio gan y trydydd sector, gan grwpiau cymunedol, gan awdurdodau lleol, mewn ffordd greadigol iawn. Mae'n £600,000 ychwanegol yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw, sy'n cefnogi mannau clyd a diogel o fewn cymunedau lleol. Ond hefyd, mae hyn yn ymwneud â chefnogi aelwydydd o ran eu hanghenion, felly mae'n bwysig fy mod hefyd wedi cynyddu'r cymorth bwyd brys i aelwydydd hefyd.
Rwyf eisoes wedi rhoi yn fy natganiad cryn dipyn o ffigurau am aelwydydd y mae Nyth yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol, 11,000 o aelwydydd ar draws pedwar awdurdod lleol, fel yr wyf eisoes wedi sôn. Yr hyn sy'n bwysig yw bod hyn i gyd yn cysylltu â'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda'n siarter budd-daliadau yng Nghymru, gyda'n gwaith gyda Pholisi ar Waith er mwyn i awdurdodau lleol ddefnyddio'r data tracio teuluoedd incwm isel hwnnw i dargedu cymorth mewn gwirionedd. Dyna lle mae angen i ni gyrraedd y teuluoedd incwm isel hynny sy'n fwy tebygol o fyw mewn tlodi tanwydd, i wneud yn siŵr bod ganddynt fynediad at yr wybodaeth fel y gall yr awdurdodau lleol eu targedu'n uniongyrchol.
Fe wnaethoch chi godi'r mater o gyllid a chefnogaeth i aelwydydd oddi ar y grid, ac, unwaith eto, yn fy natganiad, roeddwn yn gallu tynnu sylw at y cyllid rydym ni'n ei roi yn y gronfa cymorth dewisol, sydd ar gael ar gyfer tanwydd oddi ar y grid. A'r gronfa cymorth dewisol, fel rydw i wedi dweud, rydym ni wedi cynyddu'r gronfa honno eleni, ond hefyd, mae'n bwysig ein bod ni hefyd wedi ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd. Rwy'n cofio pan wnaethom ddatblygu'r bartneriaeth honno gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd, ac rwy'n credu ein bod wedi dysgu amdano gan Gordon Brown, a oedd mewn gwirionedd yn arwain hyn yn yr Alban, a'r mannau clyd a'r mentrau cynnes hefyd. Cyflwynodd y Sefydliad Banc Tanwydd, fel y dywedais i, y cynllun cronfa wres yng Nghymru. Mae hyn mewn gwirionedd yn darparu cefnogaeth i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith nwy prif gyflenwad. Mae'n cynnwys cyflenwadau olew a nwy i'r rhai yr effeithir arnynt.
O ran cynllun Cartrefi Clyd Nyth, mae eisoes yn cael effaith. Nid wyf am fynd yn ôl dros y pwyntiau a wnes i, ond fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt am gynlluniau ardal. Mae swyddogion yn datblygu opsiynau ar gyfer datgarboneiddio o fewn ardaloedd daearyddol, fel dull cyflenwol i'r cynllun sy'n cael ei arwain gan alw. Maent yn edrych ar y lledaeniad hwnnw o aneffeithlonrwydd ynni, tai, atebion technoleg posibl, effeithiau ar arbedion maint, a chefnogi gwaith adfer tai mewn rhai ardaloedd, er enghraifft lle bu inswleiddio waliau allanol gwael, a achosodd broblemau i berchnogion tai.
Mae ein gwaith ar gynlluniau yng Nghaerau, Pen-y-bont ar Ogwr ac Arfon yn mynd rhagddo'n dda. Felly, rwy'n credu bod fy natganiad yn cwmpasu llawer o'r pwyntiau a wnaethoch. Ond mae'n bwysig bod y rhain yn ffyrdd yr ydym yn gweithio gyda'n gilydd arnynt ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, i weld mai dyma'r ffordd y gallwn gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt.
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd y bydd dros dri chwarter y pensiynwyr yng Nghymru a Lloegr sydd ag incwm blynyddol o £35,000 neu lai bellach hefyd yn gymwys i gael taliad tanwydd y gaeaf hwn. Rydym yn sicr yn galw am hynny fel Llywodraeth.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Fe sonioch chi yn eich datganiad am y ffaith fod chwarter o aelwydydd Cymru bellach yn byw mewn tlodi tanwydd. Ymhlith teuluoedd incwm isel, rŷn ni'n gwybod, onid ydym, fod y darlun yn llawer mwy difrifol, gyda thros bedwar o bob pump ohonyn nhw yn byw mewn tlodi tanwydd, a bron i chwarter ohonyn nhw yn wynebu tlodi tanwydd difrifol.
Rŷn ni'n sôn fan hyn am bobl sy'n byw ymhob un o'n hetholaethau ni—am bensiynwyr sy'n eistedd mewn cotiau a blancedi, am deuluoedd â phlant sy'n gorfod byw mewn cartrefi oer, llaith, sy'n peryglu eu hiechyd. A hyn mewn cenedl sy'n rhan o undeb y Deyrnas Gyfunol—un o economïau mwyaf y byd. Dyw hi ddim yn teimlo felly i bobl Cymru.
Mae pobl Cymru wedi'u taro'n hynod galed, fel rŷn ni wedi'i glywed, gan dlodi tanwydd. Ers 2021 mae bil cyfartalog tanwydd deuol wedi cynyddu bron £500, ac yma yng Nghymru, rŷn ni'n talu mwy na neb arall, yn aml iawn, yn sgil y gwahaniaeth rhanbarthol mewn prisiau ynni. Di'n meddwl bod hyn yn dangos methiant dwbl: methiant San Steffan i amddiffyn teuluoedd rhag costau ynni cynyddol, a methiant Llywodraeth Cymru yma i weithredu'n ddigon cyflym i wneud gwahaniaeth i'r lefel o dlodi tanwydd y maen nhw'n ei phrofi a'u gwarchod nhw.
Mae'n hen bryd cyflwyno tariff cymdeithasol, onid ydyw, i ddiogelu cartrefi bregus. Dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o warchod pobl Cymru rhag tlodi tanwydd. A ydych chi'n cytuno bod y ffaith nad oes un wedi'i gyflwyno hyd yn hyn yn adlewyrchu diffyg ewyllys gwleidyddol gan Lywodraeth San Steffan—tra bod cwmnïau ynni yn parhau i wneud elw anferth, anfoesol, a thra bod teuluoedd yng Nghymru yn wynebu caledi, oerni a dyled? Felly, hoffwn ofyn i chi: beth yn union sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wirioneddol bwyso ar San Steffan i weithredu ar dariff cymdeithasol? A beth yw'r rheswm y mae'n ei roi dros ei diffyg gweithredu?
Mae llawer o gartrefi yng Nghymru mewn dyled neu ar fesuryddion rhagdalu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyngor gan Ofgem i newid tariffau neu dalu drwy ddebyd uniongyrchol mewn gwirionedd yn helpu'r bobl sydd fwyaf mewn perygl?
Ac wedyn, o ran y rhaglen Cartrefi Clyd, sut ydych chi yn gwneud yn siŵr bod y rhaglen hon wedi'i thargedu'n well ac yn hygyrch i'r cartrefi sydd ei hangen fwyaf? Pam ydych chi, er enghraifft, wedi penderfynu peidio â defnyddio'r symiau sylweddol o arian canlyniadol sydd wedi dod i Gymru yn sgil y biliynau o fuddsoddiad gan Lywodraeth San Steffan yn ei chynllun Cartrefi Cynnes hi? Roedd targedau interim tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru i fod wedi'u cyhoeddi erbyn hyn. Mis Medi oedd yr addewid yn eich ymateb chi i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pam rŷch chi wedi methu â chyflawni'r ymrwymiad hwnnw?
Un pwynt arall y mae angen ei wneud yn glir heddiw: rhaid inni beidio â normaleiddio tlodi tanwydd. Er eu bod yn llefydd croesawgar a chymdeithasol braf, ni ddylai fod yn dderbyniol bod miloedd yn dibynnu ar hybiau twym bob gaeaf i'w cadw'n dwym, fel bod hynny'n rhan arferol o fywyd bob dydd. Ydych chi'n cytuno bod y cysyniad o ganolfannau fel hyn yn symbol o fethiant systemig a gwleidyddol—methiant i sicrhau bod pobl yn gallu byw mewn cartrefi sy'n dwym, effeithlon ac yn fforddiadwy, a rhybudd bod rhywbeth mawr, rhywbeth sylfaenol, o'i le o ran y system les?
Hoffwn i godi'n sydyn un pwynt penodol am y cyllid sydd wedi'i ddarparu i'r Fuel Bank Foundation. Fel ymddiriedolwr banc bwyd, rwyf wedi gweld bod y cynnydd mewn galw a'r cynnydd mewn gwariant ar hanfodion wedi arwain at lai o gyllid, er enghraifft, ar gyfer darparu talebau i bobl mewn caledi i helpu gyda biliau tanwydd. Rŷn ni wedi gorfod penderfynu torri'n ôl ar y math yna o gymorth.
Ond wedyn fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad, gan erfyn arnom ni fel Aelodau i sôn am y cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru yn y cymunedau, felly fe wnes i droi at y Fuel Bank Foundation i holi a fyddai modd i ni fel elusen weithio mewn partneriaeth â nhw. Bedwar diwrnod yn ôl fe ges i ateb. Fe ddywedwyd bod eu holl gyllid mwy neu lai wedi'i wario a'i glustnodi, felly doedd dim modd cefnogi partneriaid newydd ar hyn o bryd, ac roedd modd inni gyfeirio achosion brys. Ond fe hoffwn i wybod sut rŷch chi'n sicrhau bod y cyllid sydd wedi'i ddarparu iddyn nhw'n cael ei fonitro a'i werthuso, ac a fydd yna fwy o wariant wedyn, o'r hyn rŷch chi wedi sôn amdano heddiw, i fedru cynyddu'r partneriaethau yng Nghymru?
Allwn ni ddim fforddio gaeaf arall o oerni, tlodi a phryder. Mae gan y bobl yma yng Nghymru hawl sylfaenol i fyw mewn cynhesrwydd a diogelwch. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, mae gan bobl hawl yng Nghymru i fyw mewn cartrefi cynnes a diogel, a hefyd i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'w cartref. Byddwn i'n dweud, mewn ymateb i'ch pwynt am gefnogaeth i fannau cynnes a chanolfannau clyd, yr hyn sy'n ddiddorol—ac rwy'n siŵr eich bod chi i gyd wedi bod ynddynt yn eich etholaethau—yw eu bod yn lleoedd lle mae pobl eisiau mynd i wneud pethau gyda'i gilydd, i gymdeithasu, i gael mynediad at luniaeth, at wasanaethau cyngor. Mae'r hyb yr ymwelais ag ef yng Nghaerdydd, mewn gwirionedd, rwy'n credu yn enghraifft go iawn. Mae yna 21 o hybiau, sy'n cymryd—. Ydy, mae ein cyllid grant yn helpu'r mentrau hyn, ond wrth i chi gerdded drwy'r drws, mae gennych siop goffi ar y chwith, mae gennych fwyd fforddiadwy, mae gennych wasanaethau cyngor, mae gennych wasanaeth llyfrgell, mae gennych neuadd gymunedol gyda grwpiau yn cyfarfod, gwasanaethau cynghori ariannol, mae gennych gyfrifiaduron ym mhobman, siop swyddi, a'r teimlad gwirioneddol o optimistiaeth a hawl. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt. Mae'n ymwneud â'r hawl i leoedd lle gall pobl gyfarfod gyda'i gilydd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddwch chi'n ei wneud hefyd: ymweld â'r hybiau hynny yn eich ardal chi.
O ran yr amcangyfrifon tlodi tanwydd, roedd gennym y pennawd wedi'i ddiweddaru hwnnw, ac fe wnaethom drafod hyn yn y grŵp trawsbleidiol—yr amcangyfrifon tlodi tanwydd, a gyhoeddwyd ar 7 Awst. Disgwylir cyhoeddi dadansoddiad manwl o dlodi tanwydd ar gyfer 16 Hydref, felly mae hynny'n dod yr wythnos nesaf. Mae'n seiliedig ar arolwg cyflwr tai Cymru ac mae wedi modelu gwybodaeth o ddata gweinyddol i adlewyrchu newidiadau diweddar i incwm aelwydydd a phrisiau tanwydd.
Mae'n bwysig ein bod yn cyhoeddi'r dangosfwrdd tlodi tanwydd wedi'i ddiweddaru ar yr un pryd, pan fyddwn yn cael y ffigurau, er mwyn sicrhau bod gennym wybodaeth mor gyfredol â phosibl i'r rhai sy'n dibynnu ar y data. Ond mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob offeryn sydd ar gael—ac rydw i wedi bod trwy hyn yn fy natganiad—i helpu aelwydydd i ymdopi â'u biliau ynni, i'w cadw'n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys y £35 miliwn hwnnw y flwyddyn ariannol hon i gynllun Cartrefi Clyd Nyth. Mae'n cynnwys llwybr argyfwng, gan ddarparu cymorth brys i aelwydydd heb system wresogi na dŵr poeth. Mae'n cynnwys gwasanaeth cyngor diduedd am ddim er mwyn i aelwydydd gael mynediad at y cynllun mwyaf priodol ar gyfer eu hamgylchiadau unigol.
Rwyf eisoes wedi sôn, wrth gwrs, am fynediad at ffynonellau cymorth a chyllid eraill, fel ein cronfa cymorth dewisol, a hefyd y Sefydliad Banc Tanwydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn cydnabod bod yr amcangyfrifon tlodi tanwydd yn ein helpu i ddatblygu targed ystyrlon sy'n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni. Bydd y targed hwnnw'n helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd, bydd yn arwain at filiau is i ddeiliaid tai ac yn gwella cysur thermol hefyd. Nid ni sydd â'r ysgogiadau i gyd.
Roeddwn i eisiau symud yn gyflym, Dirprwy Lywydd, at eich cwestiwn ynglŷn â'r tariff cymdeithasol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi galw amdano yn gyson, dro ar ôl tro—sef cyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed. Rwy'n croesawu cyhoeddiad diweddar OVO, Green Alliance ar yr achos dros darfiff cymdeithasol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Fe wnes i godi hyn gydag Ofgem. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Ofgem gymryd rhan mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU er mwyn datblygu tariff cymdeithasol ar gyfer amddiffyn aelwydydd agored i niwed ymhellach. Rydym ni wedi galw, wrth gwrs, am hyn ar draws y Siambr, rwy'n credu. Mae hyn yn rhywbeth lle cawsom gefnogaeth drawsbleidiol.
Hoffem weld adolygiad cyfannol o daliadau ynni manwerthu i gynnwys diwygio taliadau sefydlog, ac mae ymgynghoriad ar hynny. Bydd taliadau sefydlog yn peri anfantais—. Yn enwedig y ffioedd uchaf yn y gogledd, lle ceir hefyd y lefel uchaf o ynni adnewyddadwy, nad yw o fudd i bobl yn y gogledd—. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn gweld pwysigrwydd ymateb i ymgynghoriad Ofgem i leihau taliadau sefydlog hefyd.
Mae hyn yn rhywbeth lle soniais hefyd am gyflenwyr ynni. Mae ganddyn nhw rôl a chyfrifoldeb allweddol i gefnogi eu cwsmeriaid. Rwy'n cwrdd â nhw, ac rydym yn disgwyl i gwmnïau weithio gyda chwsmeriaid sy'n cael trafferth yn hytrach na'u gwthio tuag at ddatgysylltu.
Dyma'r holl ffyrdd yr ydym yn eu defnyddio i geisio cefnogi pobl o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rydym eisiau gwybod bod y dull hwn yn mynd i sawl cyfeiriad, gan helpu pobl i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi, gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, cynnig cymorth brys, ac ariannu mannau cynnes a chroesawgar yng nghanol ein cymunedau.
Roeddwn yn falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymweld â hyb Ystum Taf a Gabalfa yng Ngogledd Caerdydd ddoe, sy'n darparu cynhesrwydd a chwmni i'r gymuned leol. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, llyfrgell annibynnol oedd hon yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae cymaint o gyfleoedd gwych yno ar gyfer gwahanol weithgareddau. Soniodd am y caffi gwych sydd yno hefyd. Rwy'n canmol Cyngor Caerdydd am eu buddsoddiad yn yr hyb hwn ac yn yr hybiau eraill ledled Caerdydd, ac wrth gwrs buddsoddiad Llywodraeth Cymru. Rwy'n croesawu'n fawr y cyllid ychwanegol y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i gyhoeddi heddiw, yn enwedig y £600,000 ar gyfer mannau clyd a diogel.
Y llynedd ymwelais â chanolfan glyd yn eglwys Sant Andreas yn Llwynbedw, felly rwy'n credu y gall hybiau cynnes fod mewn llawer o leoliadau gwahanol. Rwy'n deall bod y grŵp hwn a ffurfiwyd wedi parhau i gyfarfod trwy gydol y flwyddyn. A all yr Ysgrifennydd Cabinet roi unrhyw enghreifftiau eraill i ni o hybiau cynnes sydd wedi arwain at weithgareddau hirdymor yn y lleoedd y maent wedi'u lleoli? Oherwydd rwy'n credu bod yr hybiau hyn yn golygu llawer mwy na chynhesrwydd. Maen nhw hefyd yn golygu cwmni.
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan. Pan oeddwn i'n ymweld â'r hyb yn Ystum Taf a Gabalfa—maen nhw wedi manteisio, gan fod y cyllid wedi mynd i awdurdodau lleol, ar ein cyllid ar gyfer hybiau cynnes, mannau clyd. Roedden nhw'n dweud yn yr haf ei fod yn lle da i fod ynddo. Mewn gwirionedd, mae angen i chi allu peidio â bod yn rhy boeth yn yr haf, ac mae ganddyn nhw'r ardd fechan hyfryd honno yng nghanol yr hyb a'r neuadd gymunedol. Mae cymaint o bethau yn digwydd yn yr hyb, gan gynnwys, wrth gwrs, llawer o weithgareddau i blant. Gallwn weld bod yna ystod eang o bethau wedi'u cynllunio ar gyfer hanner tymor, Calan Gaeaf, gweithdai, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu—yr holl bartneriaethau sy'n gysylltiedig. Yn wir, roedd y caffi yn cael ei redeg gan Lew, sydd hefyd yn rhedeg y caffi yn hyb Trelái yng Ngorllewin Caerdydd.
Pwynt cadarnhaol iawn yw bod ymchwil gan Brifysgol Abertawe i hybiau cynnes Abertawe wedi dangos eu bod wedi chwarae rhan sylweddol wrth feithrin cysylltiadau cymdeithasol, lliniaru unigrwydd a gwella llesiant cyffredinol defnyddwyr. Ymwelais hefyd â man yn Nhonpentre a oedd hefyd yn cael ei redeg gan grŵp gwirfoddol, yn cefnogi cyn-filwyr yn arbennig hefyd. Wrth gwrs, yn yr hyb hwnnw yn Nhonpentre mae yna luniaeth a gemau yn cael eu chwarae, cerddoriaeth hefyd. Mae'n fan lle mae pobl yn mwynhau dysgu am lawer o gyfleoedd creadigol newydd, yn ogystal â chael cyngor ac arweiniad. Felly, maen nhw wir wedi datblygu i fod yn rhywbeth sy'n nodwedd o Gymru.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Ni allaf fod yr unig un yma sy'n meddwl ei bod hi'n eithaf trist bod pobl yn gorfod mynd i ganolfan glyd er mwyn cadw'n gynnes yn y gaeaf. Mae'n wych bod yna weithgareddau a bod problem unigrwydd yn cael ei datrys, ond gellir gwneud hynny mewn ffyrdd eraill trwy ganolfan gymunedol, ac rydych chi wedi siarad am weithgareddau'r haf. Mae hybiau cynnes yn lleoedd y mae pobl yn mynd iddynt ac maen nhw'n mynd adref i le oer. Nid yw hynny'n iawn o gwbl, ac, er fy mod i'n clywed y pethau da amdanyn nhw, nid wyf yn credu bod hwn yn rhywbeth i'w ddathlu'n ormodol sef bod gennym ganolfannau clyd y mae pobl yn mynd iddynt er mwyn gofalu amdanynt eu hunain i bob pwrpas.
Siaradais yn y ddadl gynharach ar y GIG a gofal cymdeithasol yn y gaeaf, ac rydym yn gwybod bod cartrefi oer yn cyfrannu'n sylweddol at gyflyrau iechyd. Felly, mae'n rhaid bod rhywfaint o feddwl ar y cyd yn digwydd yma. Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: un o'r pethau y gofynnwyd amdano yw bod gennym dargedau interim. Mae gennych dargedau—ac rwy'n hoff iawn o dargedau—erbyn 2035, ond hoffwn ofyn i chi ystyried targedau interim, fel ein bod mewn gwirionedd yn mynd ymlaen a symud ymlaen i wneud cartrefi y mae pobl yn byw ynddynt 24 awr y dydd yn gynhesach. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n credu bod llawer o'r hybiau, mannau clyd—nid ydynt yn galw eu hunain yn hybiau, neu mae rhai ohonyn nhw yn—mewn gwirionedd mewn canolfannau cymunedol, eglwysi, ac rwy'n credu mai un o'r pethau a ddigwyddodd gyda'r pandemig oedd bod llawer o'r lleoedd hyn wedi cau i bob pwrpas a oedd eisoes yn cynnig clybiau cinio, lleoedd i bobl gyfarfod, felly roedden nhw'n rhan o'r gymuned. Fe wnaethom ymateb, oni wnaethom, yn yr argyfwng costau byw ar ôl y pandemig i weld a fyddai hwn yn cael ei groesawu. Cafodd ei dreialu, mewn gwirionedd, ac rwy'n cofio mynd i etholaeth lle roedd yr awdurdod lleol a'r cymunedau newydd ddechrau arni, ac roedd 300 wedi agor. Rwy'n cofio cwrdd â rhieni iau a ddywedodd, 'Mae hwn yn fan lle rydym ni'n hoffi dod at ein gilydd.' Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid ei weld yng nghyd-destun darpariaeth gymunedol yng Nghymru, yr ydym hefyd yn ei gwella.
Rydych chi'n iawn, mae angen i ni gael targedau ystyrlon sy'n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni. Rwyf wedi sôn am hynny eisoes. Rydym ni eisiau cael y targed hwnnw sy'n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni. Nawr mae gennym yr amcangyfrifon, ac rydym yn aros tan 16 Hydref i gael y manylion terfynol hynny ac yna i symud ymlaen, o ran ein hamcangyfrifon tlodi tanwydd, i dargedau ar gyfer ein cynllun tlodi tanwydd. Mae gennym grŵp cynghori ar dlodi tanwydd sy'n gweithio'n agos iawn gyda'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd.
Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio y byddwch chi'n ei weld, a bydd yr Aelodau wedi gweld heddiw, ein bod wedi cael dull cydweithredol o ymdrin â pharatoadau ar gyfer y gaeaf, yn bendant, o ran cefnogaeth Llywodraeth Cymru ac alinio popeth. Ond does dim amheuaeth mai'r £35 miliwn yng nghynllun Cartrefi Clyd Nyth i gynorthwyo'r bobl hynny ar incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith gyda mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim, datrysiadau gwresogi carbon isel fforddiadwy, yw'r ateb yn sicr, ynte, er mwyn galluogi pobl i fynd o gartref cynnes i fan cymunedol. Felly, unwaith eto, rydym yn gobeithio y byddwn yn gweld canlyniadau'r holl ymgysylltiad y mae Nyth a'r cynghorwyr annibynnol yn ei wneud er budd pawb.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch. Rwyf eisiau canmol canolfannau clyd yn fawr iawn. Dydw i ddim yn anghytuno â Jane Dodds o gwbl, ond mae gen i lawer o etholwyr sydd wedi dod yn wŷr neu wragedd gweddw yn ddiweddar ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn ysgogi eu hunain i baratoi pryd poeth mewn gwirionedd, ac, o ganlyniad, maen nhw'n mynd yn sâl. Ac mae llawer o bobl sydd â'u hiechyd yn dirywio yn ei chael hi'n anodd iawn sefyll wrth bopty a choginio pryd o fwyd iawn. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn ogystal â lle cynnes i gymdeithasu, fod gennym hefyd fan lle gall pobl brynu pryd poeth wedi'i baratoi'n iawn yn ystod y gaeaf, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n un o'r pethau a fydd yn cadw pobl allan o'r ysbyty. Felly, fy nghwestiwn ynglŷn â hynny fyddai: faint o'r 600 o ganolfannau clyd sy'n gallu gweini bwyd poeth wedi'i baratoi'n ffres fel y gallwn gael rhyw fath o strategaeth ar gyfer sicrhau eu bod i gyd yn gallu cyflawni hynny?
Ac yn ail, roeddwn i'n meddwl, o ran y manylion ynghylch Cyngor Caerdydd yn anfon negeseuon e-bost neu bost uniongyrchol at bobl, gan nad ydy hyn yn rhan o bolisi ac arfer, sut oedden nhw'n gallu targedu'r wybodaeth tuag at y bobl rydym ni'n credu yw'r rhai sydd â'r angen mwyaf? Oherwydd, hyd y gwn i, nid ydynt yn rhan o'r traciwr teuluoedd incwm isel, ac mae'n rhywbeth rydw i'n mynd i'w godi gydag arweinydd Cyngor Caerdydd, i ddarganfod y rheswm dros hynny. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a dim ond i ddweud, eto, rydyn ni'n cysylltu i fyny—. Rwyf wedi cyhoeddi mwy o arian i awdurdodau lleol ar gyfer eu cymorth bwyd brys, sydd, wrth gwrs, yn gallu cael ei ddefnyddio yn llawer mwy creadigol na dim ond rhoi arian i fanciau bwyd, ac mae hyn yn gwneud i mi gysylltu â'n buddsoddiad—ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd yma gyda mi—. Mae'r cyllid partneriaethau ar y cyd sy'n cael ei roi i'n partneriaethau bwyd ar gyfer pob awdurdod lleol yn gwneud y pethau mwyaf anhygoel ledled Cymru. Fe es i i ginio yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar mewn neuadd eglwys sy'n cael ei rhedeg gan bartneriaeth fwyd leol sir Gâr. Mae'r ciniawau yn cael eu darparu gan fwyty lleol—mae'r cogydd yn mynd unwaith yr wythnos, mae'n gwneud pryd o fwyd, ac mae pobl yn dod i mewn ac maen nhw'n talu, neu dydyn nhw ddim yn talu, am ginio da iawn. Ddoe, yn Gabalfa, Ystum Taf ac, yn wir, mewn hybiau eraill yng Nghaerdydd, maen nhw'n gwneud prydau bwyd—prydau fforddiadwy iawn hefyd—yn y caffi, yn ogystal â choffi, byrbrydau ac ati. Caeodd llawer o glybiau cinio yn ystod y pandemig; mae rhai ohonyn nhw'n dechrau eto'n raddol. Felly, rwy'n mynd i fynd allan yn benodol a gofyn i awdurdodau lleol—ac rwy'n cwrdd â'n cydlynwyr partneriaethau bwyd—i ddweud, a thrwy'r sector gwirfoddol, 'Allwn ni greu mwy o brydau poeth yn y canolfannau hyn?'
Rydych chi wedi codi'r pwynt am—. Pan wnes i gyfarfod â'r aelod cabinet, Peter Bradbury, ddoe am ffyrdd yr oedden nhw'n targedu pobl, nid yn unig ar gyfer Nyth, ond ar gyfer mynediad arall at gymorth ariannol, roedd yn gefnogol iawn i siarter budd-daliadau Cymru. Roedd yn—. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio offeryn tracio LIFT ac yn dechrau defnyddio offeryn tracio polisi LIFT. Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n rhan o'n partneriaeth o 12 o awdurdodau, mae eraill yn ymuno. Maen nhw eisiau gwybod pwy sy'n agored i niwed. Yn wir, mae angen i gyflenwyr ynni wybod pwy sy'n agored i niwed. Yn wir, eto, gyda'r mater llifogydd hefyd i aelwydydd, mae pob awdurdod lleol—. Mae angen i ni wybod pwy sy'n agored i niwed, ac mae angen i ni wneud yn siŵr, fel rheolwyr datblygu partneriaid Nyth, bod 755 o sefydliadau partner yn cyfeirio cwsmeriaid i gael help. Felly, mae gwir angen i ni wybod anghenion ein poblogaeth ac estyn allan i sicrhau eu bod yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar y model buddsoddi cydfuddiannol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae cyllid cyfalaf, sy'n destun y datganiad hwn, wedi bod yn fater o ddadl gyhoeddus trwy gydol y cyfnod datganoli. Penderfynodd Llywodraethau cynnar Cymru beidio â mabwysiadu'r modelau PFI a ddatblygwyd gan Lywodraethau'r DU ar y pryd, ac fe gawsom ni ein beirniadu yn aml am beidio â gwneud hynny. Fodd bynnag, mae doethineb y penderfyniad hwnnw wedi cael ei gadarnhau ers tro.
Heddiw, dydy Cymru ddim yn dioddef o'r asedau amddifad sydd wedi digwydd yn Lloegr, nac yn wynebu'r anghydfodau parhaus sy'n ymwneud â dychwelyd cyfleusterau o stiwardiaeth PFI i berchenogaeth gyhoeddus. Yn anad dim, dydyn ni ddim wedi wynebu'r effeithiau niweidiol ar gyllidebau adnoddau y mae ad-daliadau PFI wedi'u hachosi ac maen nhw'n parhau i'w hachosi mewn mannau eraill.
Nawr, Dirprwy Lywydd, dim ond oherwydd y cynnydd cyflym mewn arian cyhoeddus, gan gynnwys cyfalaf, a ddigwyddodd dros ddegawd cyntaf datganoli yr oedd y dewis hwnnw yn bosibl. Fodd bynnag, daeth hynny i ben gyda dechrau'r blynyddoedd hir o gyni. Yn y polisi diffygiol a methiannus hwnnw, efallai mai'r agwedd fwyaf ffôl oedd y ffaith i Lywodraethau Ceidwadol olynol wrthod manteisio ar gyfraddau llog isel yn fyd-eang i gryfhau gwariant cyfalaf yn economi'r DU yn y cyfnod ar ôl 2010. Roedd y cyfle hwnnw a gollwyd yn stori, i raddau helaeth, o esgeuluso'r ffactorau sy'n ysgogi cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gynnwys rôl hanfodol buddsoddiad cyhoeddus. Yn yr oes honno o ddiffyg cyfalaf, cadwodd Llywodraethau Cymru olynol at hierarchaeth gyfalaf syml lle rydym bob amser yn defnyddio'r arian rhataf yn gyntaf. Rydym yn dechrau bob amser gyda chyfalaf confensiynol. Dim ond pan mae hwnnw wedi'i ddefnyddio i'r eithaf rydym yn troi at y gwahanol fathau o fenthyca cyfalaf. A dim ond pan mae'r rheina wedi'u disbyddu ac mae prosiectau cyfalaf angenrheidiol yn parhau heb eu hariannu rydym wedi troi at greu a defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol, model sydd bellach wedi galluogi £1.14 biliwn ychwanegol mewn asedau cyhoeddus—buddsoddiad na fyddai wedi digwydd pe na baem wedi datblygu'r MIM.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Gadewch i mi, Dirprwy Lywydd, roi'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn cyd-destun. Dros y tymor hwn, mae ein cyllidebau cyfalaf wedi dod i gyfanswm o tua £15 biliwn. Felly, mae'r model buddsoddi cydfuddiannol wedi caniatáu i ni gryfhau ein gwariant cyfalaf o ryw 7.5 y cant. Neu, o'i fesur mewn ffordd arall, mae buddsoddiad sy'n defnyddio'r model wedi bod yn hafal i 114 y cant o gyfanswm y benthyciadau cyfalaf y caniateir i Lywodraeth Cymru ei wneud. Nid swm dibwys mohono, Llywydd. Gellir mesur manteision ychwanegol y gwariant yn nhermau amseroedd teithio mwy dibynadwy a mwy diogel ar ffordd Blaenau'r Cymoedd; llawer llai o allyriadau carbon o ystad addysgol y gall ein cymunedau fod ac yn falch ohoni ac y maen nhw'n falch ohoni; a gofal canser ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad helaeth sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am bob un o'n cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol wrth i'w hymarferion caffael priodol ddod i ben. Heddiw, gallaf roi rhywfaint o'r wybodaeth hon gyda'i gilydd i'r Aelodau.
Fel y dywedais i, rydym wedi denu buddsoddiad ychwanegol o dros £1 biliwn mewn seilwaith cyhoeddus. Mae hynny'n cynnwys £590 miliwn i gwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465—a gwblhawyd ar amser ac o fewn y gyllideb ar 30 Mai eleni; mae £65 miliwn wedi'i fuddsoddi yng nghampws ysgol pob oed newydd sir y Fflint ym Mynydd Isa, a gwblhawyd ym mis Ebrill eleni; mae £53 miliwn wedi galluogi tair ysgol gynradd newydd yn Rhondda Cynon Taf, y mae pob un ohonyn nhw'n weithredol erbyn hyn; mae £312 miliwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre—mae'r ganolfan honno bellach yn cael ei hadeiladu—ac, yn fwyaf diweddar, rydym wedi cytuno ar £119 miliwn ar gyfer prosiect dau gampws Coleg Caerdydd a'r Fro, sy'n cynnwys canolfan dechnoleg uwch ym Maes Awyr Caerdydd a champws ar lannau'r Barri. Mae'r prosiect hwnnw'n cael ei adeiladu nawr hefyd.
Ni fyddai'r buddsoddiadau hyn wedi bod yn bosibl o'n cyllidebau cyfalaf traddodiadol, wedi'u cyfyngu fel y maen nhw wedi bod. Nawr, rwy'n cydnabod, wrth gwrs, bod yna gostau cyfle i fenthyca bob amser. Ond mae defnydd gofalus o'r model buddsoddi cydfuddiannol yn golygu y bydd modd rheoli'r effaith ar gyllidebau adnoddau yn y dyfodol. Ar anterth ein gwariant ar gynlluniau MIM cyfredol—hynny yw, yn 2028-29—bydd y gost yn cyfateb i oddeutu 0.4 y cant o gyfanswm ein cyllideb adnoddau. Rwy'n hyderus bod hyn yn bosibl ac yn ddymunol, gan ddyrannu swm cymedrol o adnoddau i ariannu buddsoddiad ychwanegol mewn cyfalaf na fyddai wedi digwydd fel arall.
Mae hynny i gyd, Llywydd, hefyd yn cael ei atgyfnerthu gan nodweddion dylunio gwnaed yng Nghymru y model, sy'n ei wahaniaethu oddi wrth fodelau PFI cynharach. Yn y lle cyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfran ecwiti o hyd at 20 y cant ym mhob cynllun MIM, gan wneud hynny drwy gyfrwng Banc Datblygu Cymru. Mae'r gyfran ecwiti honno yn sicrhau dau fantais: yn gyntaf, mae Banc Datblygu Cymru yn gweithredu fel cyfranddaliwr sylweddol, gan gynrychioli budd y cyhoedd ar fwrdd pob cwmni prosiect sydd wedi'i gontractio i gyflawni cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol, ac mae hynny'n darparu diwydrwydd dyladwy wrth wneud penderfyniadau buddsoddi a thryloywder yn ystod gweithrediadau cwmni. Ac mae'r gyfran ecwiti honno hefyd yn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gallu ennill elw ar fuddsoddiad yn y seilwaith, a gall hynny wedyn gael ei ailgylchu ar gyfer buddsoddiad pellach ac ychwanegol.
Nawr, Llywydd, mae wedi bod yn nodwedd nodedig o'n dull gweithredu bod partneriaid yn cymryd cyfrifoldeb am reoli cyfleusterau caled yn unig. Nid yw bwndel cymhleth o wasanaethau, a oedd yn nodwedd o fodelau cynharach, wedi'u hailadrodd yn y MIM. Mae'r agweddau hyn yn parhau i fod yn gadarn ar ochr gyhoeddus y bartneriaeth hon.
Ac felly, Llywydd, rydym wedi buddsoddi cyfanswm o oddeutu £22 miliwn mewn cynlluniau MIM hyd yma, gan ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol. Mae modelu yn awgrymu y bydd pob £1 a fuddsoddir fel ecwiti cyhoeddus mewn prosiect model buddsoddi cydfuddiannol yn ennill mwy na £3 yn ôl. Bydd Banc Datblygu Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y buddsoddiadau hyn yn rheolaidd; gwybodaeth y byddwn yn parhau i'w darparu trwy ein hadroddiadau MIM cyfnodol.
A thrwy'r model, rydym hefyd wedi sicrhau bod amcanion polisi cyhoeddus ehangach yn cael eu dilyn a'u cyflawni. Mae'r contractau rydym yn cytuno arnyn nhw wedi'u trefnu o amgylch yr egwyddor 'rhywbeth am rywbeth', gyda rhwymedigaethau clir ar bartneriaid i ddarparu buddion cymunedol. Mae'r gofynion hyn wedi arwain at ganlyniadau canmoladwy, fel gwefan yr Academi, platfform a ddyluniwyd gan Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru i ddarparu cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i gwmnïau ac unigolion ledled Cymru, neu brosiect mentrau cymunedol A465 Cymoedd y Dyfodol, sydd wedi helpu i ariannu grwpiau a sefydliadau nid-er-elw yn ardal y Cymoedd. Mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd ar y model yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am sut mae'r MIM wedi gallu ysgogi buddsoddiad ychwanegol yn ein pobl a'n cymunedau trwy ddefnyddio'r polisi buddion cymunedol hwnnw, ochr yn ochr â'r cannoedd o filiynau o bunnoedd a wariwyd yn y gadwyn gyflenwi leol a'r cannoedd o swyddi a gymerwyd gan bobl leol.
Llywydd, mae yna gwestiwn, wrth gwrs, ynghylch a fydd y model yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Penderfyniad Llywodraeth newydd fydd hwnnw yn dilyn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf, ond mae'n amlwg i mi na fydd galwadau am fuddsoddiad newydd yn dod i ben ac, er gwaethaf yr ychwanegiadau diweddar i'n cyllidebau cyfalaf cyhoeddus, bydd ein gallu i ddiwallu pob angen yn y modd hwnnw yn parhau i fod yn gyfyngedig. Wrth gwrs, fel Llywodraeth, rydym yn parhau i wneud yr achos dros gael mwy o fynediad at gyfalaf traddodiadol trwy fwy o fenthyca. Dylai Llywodraeth Cymru gael mynediad at gyfalaf drwy gyfundrefn ddarbodus, lle mae Gweinidogion Cymru yn pennu lefelau effeithiol o fenthyca. Yn y cyfamser, rwy'n parhau i fod yn falch bod Cymru wedi datblygu a defnyddio model buddsoddi sy'n arloesol ac yn gymdeithasol gyfrifol; model y gall Gweinidogion Cymru yn y dyfodol ddibynnu arno fel ffordd o ddenu buddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith cyhoeddus; ac i gyflymu buddsoddiad o'r fath lle nad yw cyfalaf traddodiadol ar gael fel arall. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad yma y prynhawn yma ac am ddarparu copi o'r wybodaeth ynddo ymlaen llaw. Felly, diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Ac efallai hefyd rannu mwynhad ysgafn o bethau fel modelau buddsoddi cydfuddiannol, a all fod yn sych i lawer o bobl ond sydd, mewn gwirionedd, yn rhan bwysig iawn o'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau pwysig yma yng Nghymru.
Mae gen i ychydig o bwyntiau ehangach cyn i mi edrych ar rai manylion o fewn hyn, oherwydd rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith modern ar gyfer ein hysgolion, ein hysbytai a'n rhwydweithiau trafnidiaeth. Ar yr ochr hon i'r Siambr, byddem yn parhau i gefnogi modelau arloesol fel hwn a all ddarparu'r manteision gwirioneddol, diriaethol hynny i'n cymunedau.
Rwyf eisiau gwneud ychydig o bwyntiau ar yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddechrau o ran PFI. Mae'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â mabwysiadu'r modelau PFI, ond mi oedd yna, wrth gwrs, gyrff cyhoeddus yng Nghymru a ddewisodd ddefnyddio PFI. Rwy'n ymwybodol o nifer o gynghorau ac eraill a ddewisodd PFI fel ffordd o ariannu'r gwaith o ddarparu seilwaith pwysig, ac efallai y byddan nhw'n dadlau na chawson nhw eu gorfodi i wneud hynny o reidrwydd, ond nad oedd ganddyn nhw fawr o ddewis efallai pan oedden nhw'n gwneud y dewisiadau ymddangosiadol hynny ar gyflawni rhai o'r prosiectau hynny. Mae'n werth nodi hynny, fwy na thebyg. Mae hefyd yn werth nodi, gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi beirniadu Llywodraethau Ceidwadol ar lefel y DU, fod PFI wedi'i chyflymu o dan Tony Blair yn ystod y 2000au wrth gwrs, gan adael trethdalwyr y dyfodol gydag ymrwymiad gwariant o £215 biliwn yn sgil dewisiadau'r Llywodraeth Lafur honno trwy'r 2000au. Tra'n cydnabod mai John Major gyflwynodd PFI i ddechrau, Llywodraeth Tony Blair wnaeth y mwyaf o PFI.
Pwynt ehangach arall yr hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet efallai: fe wnaeth e' bwynt athronyddol tuag at ddiwedd ei ddatganiad, gan ddweud bod cwestiwn o hyd ynghylch a fyddwn ni'n parhau i ddefnyddio'r MIM yn y dyfodol. Rwy'n derbyn pam ei fod wedi gwneud y pwynt hwnnw, ond byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod ei farn bersonol, os oedd e'n mynd i fod yn ôl yn yr esgidiau hynny ar ôl mis Mai, a dydw i ddim yn credu y bydd e', ond beth yw ei farn bersonol o MIM, ac a ddylai Llywodraeth yn y dyfodol, yn ei farn ef, barhau i ymgysylltu â hynny.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet bwynt pwysig ynghylch y gyfran ecwiti o 20 y cant sydd gan Lywodraeth Cymru, i bob pwrpas, gyda'r prosiectau hyn, felly hoffwn ofyn ychydig o bwyntiau penodol mewn perthynas â hynny. Yn gyntaf, o ran Canolfan Ganser Felindre, fel y nododd, mae'n brosiect MIM blaenllaw, ac yn un o'r rhai â'r proffil uchaf yma yng Nghymru. Mae dwy flynedd wedi mynd heibio erbyn hyn ers dechrau'r cyfnod adeiladu, felly tybed a allai'r Gweinidog gadarnhau a yw'r prosiect yn dal i fod ar y llwybr cywir i agor yng ngwanwyn 2027, fel y nodwyd yn wreiddiol, oherwydd mae'n gyfleuster pwysig iawn wrth gwrs, a byddai unrhyw oedi neu ansicrwydd yn achosi pryder, yn gywir ddigon.
O ran addysg a'r rôl y mae MIM yn ei chwarae mewn addysg, mae Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru wedi gosod rhai nodau uchelgeisiol, sy'n galonogol i'w gweld, gan ddarparu hyd at 30 o ysgolion a cholegau newydd o dan y fframwaith, ond tybed faint o'r prosiectau hyn sydd wedi'u cymeradwyo'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, ar ba fath o amserlenni, ac yn hollbwysig, sut y bydd gwerth am arian yn cael ei asesu gyda phortffolio mor fawr o waith, a pha fath o sicrwydd y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei roi mai dyma'r model cywir ar gyfer y prosiectau hynny.
O ran ystad y GIG, rydym yn ymwybodol bod ôl-groniad amcangyfrifedig o tua £1 biliwn o ran gwaith cynnal a chadw, a allai gael ei sortio i raddau helaeth gyda buddsoddiad sylweddol. Wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â brics a morter yn unig; mae'n ymwneud â diogelwch cleifion a gofal cleifion a'r amodau y mae ein staff yn gweithio oddi tanyn nhw. Felly, rwy'n meddwl tybed sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi asesu'r defnydd o MIM wrth fynd i'r afael â'r argyfwng yn seilwaith y GIG, ac os nad yw'n opsiwn, pam nad yw'n cael ei ystyried.
Hoffwn hefyd gefnogi pwynt yr Ysgrifennydd Cabinet ar y buddion cymunedol y mae MIM yn eu darparu hefyd, ond byddai gen i ddiddordeb mewn deall sut mae'n cael ei sicrhau bod y nodau cymunedol hynny'n cael eu cyflawni trwy gyflawni'r budd cymunedol hwnnw, ac a oes data blynyddol ar gael ar gyfer asesu'r sicrwydd hwnnw hefyd.
Felly, i gloi, Llywydd, mae pobl Cymru yn sicr yn disgwyl seilwaith sy'n gweithio—nid dim ond penawdau uchelgeisiol, ond cyflawni go iawn. Wrth gwrs, maen nhw eisiau ysgolion sy'n codi safonau, ysbytai sy'n addas i'r diben, a ffyrdd sy'n cefnogi twf ym mhob rhan o'n cenedl. Yn anad dim, maen nhw'n disgwyl didwylledd, gwerth am arian, a Llywodraeth sy'n cyflawni gyda chyfrifoldeb hirdymor. Felly, rydym yn cefnogi nodau MIM, ac mae gennym ddiddordeb mewn deall sut y gellir ei hymestyn yn ehangach, os a lle bo hynny'n briodol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Sam Rowlands am y cwestiynau.
Hoffwn ymddiheuro am y ffaith bod yr Aelod o'r farn bod y datganiad yn sych. [Chwerthin.] Dydy hi ddim bob amser yn bosibl gwneud datganiadau cyllid o'r ddarllenfa hon mewn ffordd ddifyr, heblaw i nifer dethol o gyd-Aelodau yma. Rwy'n ddiolchgar iddo, fodd bynnag, am ei gwestiynau.
Mae'n iawn, wrth gwrs, bod rhai asiantaethau eraill wedi defnyddio PFI yn y dyddiau cynnar hynny ac, yn wir, fe wnaeth Llywodraeth Cymru helpu i brynu rhai o'r contractau hynny yn ddiweddarach, pan oeddem yn hyderus y byddai gwneud hynny yn cynrychioli gwell gwerth i'r pwrs cyhoeddus. Rwy'n gobeithio, Llywydd, fy mod i'n eciwmenaidd yn fy meirniadaeth fy hun o Lywodraethau olynol y DU yn y dyddiau cynharach hynny.
Gofynnodd yr Aelod i mi a wyf yn credu bod yna ddyfodol i'r model buddsoddi cydfuddiannol yn nhymor nesaf y Senedd, wel, yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw bod yna biblinell o brosiectau sy'n ymestyn y tu hwnt i'r tymor hwn. Nawr, fyddan nhw ddim yn barod ar gyfer gwneud penderfyniadau terfynol tan ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf, ond yn sicr, pwy bynnag fydd yn gwneud y swydd hon yn y dyfodol, bydd ganddyn nhw gynigion ar gyfer modelau buddsoddi yn y dyfodol, ac ar yr amod eu bod nhw'n credu eu bod nhw'n cynrychioli gwerth am arian ac y gellir eu cefnogi yn y modd hwnnw, dydw i fy hun ddim yn gweld unrhyw reswm pam na fyddech chi'n bwrw ymlaen â'r prosiectau hynny.
Mae ysbyty Felindre yn parhau i fod ar y trywydd iawn i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2027, ac i'r cleifion cyntaf gael eu trin ar y safle newydd ym mis Ebrill y flwyddyn honno. Mae'n rhaid i bob un o'r prosiectau MIM basio'r hyn a elwir yn 'brawf gwerth presennol net'. Mae'n brawf a osodir yn nogfennau'r Trysorlys sy'n eich galluogi i fod yn hyderus bod unrhyw gynllun unigol yn darparu gwerth am arian. Mae'r holl gynlluniau sydd wedi cael eu cefnogi hyd yma wedi pasio'r prawf hwnnw, ac rydym yn hyderus, felly, bod manteision pob un ohonyn nhw yn gorbwyso'r costau. Ond mae yna gostau, ac mae'n rhaid i chi ddod yn ôl at hynny fel Gweinidog cyllid, lle rydych chi'n edrych i weld faint o wariant cyfalaf y gellir ei ddefnyddio trwy'r MIM, oherwydd mecanwaith benthyca ydyw, ac mae'n rhaid cefnogi'r benthyca hynny, ac mae'r benthyca yn golygu bod yn rhaid i chi roi refeniw o'r neilltu bob blwyddyn dros gyfnod o 25 neu 30 mlynedd, i ddelio â'r goblygiadau refeniw hynny.
Nawr, eleni, rydym yn darparu £50 miliwn mewn refeniw i gefnogi'r benthyca drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol. Ar hyn o bryd, bydd hynny'n codi i £100 miliwn ym mlwyddyn ddrutaf y cynllun, sef 2028-29. Os ydych chi'n Weinidog cyllid, yr hyn rydych chi'n ei ddarganfod yw bod eich cyd-Aelodau yn awyddus iawn i wneud y mwyaf o'r refeniw sydd ganddyn nhw i allu delio â'r heriau rydym yn eu hwynebu o ddydd i ddydd ym mhob un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Bob tro rydych chi'n cytuno ar brosiect MIM newydd, rydych chi'n lleihau faint o gyfalaf sydd ar gael ar gyfer pethau eraill. Dyna'r cyfrifiad y mae'n rhaid i chi ei wneud. Dyna pryd rydych chi'n edrych ar y swm mawr iawn hwnnw o arian a ddyfynnodd yr Aelod am ôl-groniadau'r GIG. Byddai gennych chi ganlyniad refeniw mawr iawn yn y pen draw pe baech chi'n mynd i'r afael ag ef yn y ffordd honno. Rwy'n credu, fel y dywedais i, bod yna ddyfodol i'r model buddsoddi cydfuddiannol, ond rwy'n credu ei fod at ddibenion penodol, gyda rheolaeth ofalus o ganlyniadau refeniw gwneud buddsoddiadau o'r fath.
O ran buddion cymunedol, mae gennym ddata sy'n ymddangos yn rheolaidd wrth i'r cynlluniau ddatblygu. Fe gyfeiriais i yn fy natganiad at ffordd Blaenau'r Cymoedd. A gaf i ddweud bod £400 miliwn wedi'i wario ar adeiladu'r ffordd honno yng Nghymru? Cafodd dros £230 miliwn o'r arian hwnnw ei wario yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd; roedd 73 y cant o weithwyr ar y cynllun wedi'u lleoli yng Nghymru; roedd 44 y cant o'r holl weithwyr a weithiodd arno yn dod o ardal Blaenau'r Cymoedd; crëwyd 2,200 o swyddi newydd, gan gynnwys 765 o bobl a oedd yn cael eu hadnabod o fewn y system fel gweithwyr ag anfanteision, a chymerwyd 114 o'r swyddi hynny gan bobl a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod estynedig. Mae yna gyfoeth o ddata sy'n cael ei gasglu ochr yn ochr â'r holl gynlluniau hyn, ac rydym yn anelu at gyhoeddi'r data hwnnw yn y datganiadau a wnawn ddwyaith y flwyddyn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Dwi wedi mwynhau darllen yr adroddiad ar yr annual mutual investment model, a gweld yr ystadegau, rhai ohonyn nhw roeddech chi'n sôn amdanyn nhw yn y fan yna.
Efallai y gwnaf i ddechrau, mewn gwirionedd, gyda lle gwnaethoch chi orffen eich datganiad, o ran cyfyngiadau'r ffaith nad oes gennym bwerau benthyca, eich bod wedi gorfod dod o hyd i'r ffordd greadigol hon o wneud yr hyn y dylai unrhyw Lywodraeth fod yn gallu ei wneud, a buddsoddi mewn seilwaith cyfalaf. Felly, allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen â hyn? Oherwydd y ffaith ein bod ni wedi ein cyfyngu gymaint, Senedd ydyn ni, dylai fod gennym y pwerau hyn yma yng Nghymru, ac mae gan hyd yn oed ein hawdurdodau lleol fwy o hyblygrwydd yn hyn o beth. Felly, byddem yn ddiolchgar am ddiweddariad ar y ffordd allweddol honno ymlaen, fel y gallwn, gobeithio, edrych ar bob ffordd bosibl o allu buddsoddi.
Rwy'n ddiolchgar hefyd eich bod wedi amlinellu'r rhinweddau cymharol, o gymharu â'r mathau traddodiadol o PFI, ond, yn sicr, o ran yr angen i edrych nawr ar sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bob cyfle posibl i fuddsoddi, rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaethoch am ddull tymor byr Llywodraeth flaenorol y DU lle dylem fod wedi bod yn buddsoddi pan oedd cyfraddau buddsoddi yn isel. Ar bob un o'r pethau hynny, rwy'n adleisio'r teimladau hynny.
Ond os gallaf ofyn ynghylch rhai pwyntiau penodol sy'n wahanol i'r rhai a glywsom gan y siaradwr blaenorol, o ran Prosiect Cymoedd y Dyfodol, yn amlwg, mae yna lawer o ystadegau gwych sydd wedi'u dyfynnu, cyflawnwyd a rhagorwyd ar rai targedau, ond nid pob un. Er enghraifft, mae'r targed ar gyfer cyflogi prentisiaid 14 y cant yn is na'r targed arfaethedig. Mae hyfforddiant yn 85 y cant o gyfanswm y prosiect. Roedd plannu coed, er enghraifft, 84 y cant o ddangosydd perfformiad allweddol y prosiect a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol. Felly, roeddwn i eisiau deall sut mae'r rhain yn cael eu monitro a sut rydych chi'n gallu sicrhau bod y targedau hyn yn cael eu cyflawni. Yn amlwg, lle y rhagorir arnynt, dydyn ni ddim yn mynd i gwyno am y rheini, ond roedd rhai o'r pethau, fel plannu coed, yn fy nharo'n eithaf rhyfedd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech efallai egluro rhai o'r rheini.
Hefyd, o ran y meini prawf budd cymunedol, rwy'n deall o'ch ateb i'r llefarydd blaenorol bod yna ffyrdd o fonitro ac yn y blaen. Ond beth yw'r mecanweithiau gorfodi perthnasol os canfyddir eu bod yn torri'r rhwymedigaethau hyn?
Os gallaf, o ran Felindre hefyd, rydym i gyd yn gwybod bod yna ddadleuon tra hysbys wedi bod ynglŷn â'r consortiwm sy'n arwain y gwaith o adeiladu canolfan ganser newydd Felindre. Rydym yn gwybod bod euogfarnau o rigio cynigion wedi bod sy'n destun apeliadau ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi'n gallu cadarnhau a fyddai gwrthod yr apeliadau hyn yn ysgogi'r Llywodraeth i ailystyried ei chontract mewn perthynas â'r cwmnïau hyn. Rwy'n credu bod yna nifer o gwestiynau yn y fan yna y byddem yn gwerthfawrogi cael y cyfle hwnnw i'w deall.
O ran Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, pa gyfle sydd ar gael iddyn nhw ddiwygio telerau'r MIMs presennol? Cwestiwn arall, mae arna' i ofn.
Ond, ar y cyfan, rwy'n credu, fel y sonioch chi, mai ffordd greadigol o gwmpas rhywbeth lle rydym yn destun cyfyngiadau yw'r rhain, yn y bôn. Os gallwn ni weld cynnydd gyda dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, rwy'n credu y byddai hynny o fudd nid yn unig i'r Senedd hon, ond i seilwaith ledled Cymru.
Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Llywydd, am y cwestiynau ychwanegol yna.
Rwy'n credu bod brawddeg olaf Heledd Fychan, am 'ffordd greadigol o gwmpas' pethau, yn grynodeb eithaf da o MIM. Mae'n ffordd o geisio gwneud cynnydd o dan amodau lle mae pob llwybr arall wedi'i ddisbyddu, a dyna'r hyn roeddwn i'n ei olygu wrth yr hierarchaeth gyfalaf. Rydyn ni bob amser yn disbyddu'r arian rhataf yn gyntaf. Ac yna, os na allwch chi reoli popeth rydych chi eisiau ei wneud gyda hynny, mae'n rhaid i chi symud ar hyd yr hierarchaeth, ac ar rai pwyntiau rydych chi'n gorfod mynd am y MIM hefyd.
Efallai y bydd yr angen amdani yn cael ei leihau yn y dyfodol. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae gennym £365 miliwn yn fwy o gyfalaf nag yr ydym wedi'i gael yn y—. Rwy'n credu ei fod yn fwy nag oedd gennym yn y 10 mlynedd blaenorol gyda'i gilydd o dan y cyfnod o gyni. Felly, mae hynny'n chwistrelliad sylweddol iawn o gyfalaf. Ond pan ydych chi'n gorfod gwneud iawn am 14 mlynedd o danfuddsoddiad, fy nghasgliad fy hun yw, am rywfaint o amser o leiaf, y bydd ein hanghenion yn rhagori ar ein gallu i'w bodloni o'r ffyrdd cwbl gonfensiynol hynny, ac, felly, dylai'r MIM barhau i fod yn opsiwn o leiaf.
Mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn parhau. Fe ges i fy nghyfle olaf i gwrdd â Gweinidog y Trysorlys yr wythnos cyn diwethaf. Fe wnes i unwaith eto fynd trwy'r ffordd yr hoffem i Lywodraeth y DU weithredu. Yn gyntaf, wrth ddiweddaru'r ffigurau sydd o fewn y fframwaith cyllidol presennol, rydym yn gyfyngedig i'r £1 biliwn y llwyddais i'w negodi gyda David Gauke pan oedd yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys nôl yn 2016. Mae'r ffigurau hynny wedi bod yn ddigyfnewid ers bron i ddegawd. Mae angen iddyn nhw gael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant. Ond y tu hwnt i hynny—ac mae hwn yn bwynt y mae Mike Hedges wedi ei esbonio'n well na fi yn aml ar lawr y Senedd—mae angen cyfundrefn fenthyca ddarbodus ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y ffordd y mae gan lywodraeth leol gyfundrefn fenthyca ddarbodus. Yna, ni fyddem yn siarad am orfod diweddaru ffigurau, ac yn y blaen, yn y modd hwnnw. Fe wnes i'r ddau bwynt hynny yn fy nghyfarfod diwethaf.
Diolch i Heledd Fychan am yr hyn a ddywedodd, gan adleisio'r hyn a ddywedais i, am y methiant i fenthyca pan oedd cyfraddau llog yn isel. Wrth gwrs, mae cyfraddau llog yn un o'r newidynnau hanfodol yn y model MIM—p'un a allwch chi fodloni'r cyfrifiad gwerth presennol net hwnnw. Pan mae cyfraddau llog yn uchel, mae'n anoddach gwneud hynny. Pan mae cyfraddau llog yn gostwng—ac maen nhw wedi gostwng bedair gwaith yn y 12 mis diwethaf—mae'n gwneud y model yn fwy hyfyw eto. Felly, mae'n sensitif iawn, fel model, i newidiadau mewn cyfraddau llog.
Rydym yn monitro'r contractau ar lefel adrannol. Dydw i ddim yn gwneud hynny fy hun. Mae fy nghyd-Aelodau ym maes trafnidiaeth, addysg ac iechyd yn monitro'r ffordd y caiff contractau eu cyflawni o un wythnos i'r llall. Dydw i ddim yn gwybod y manylion i gyd, ond rwy'n cofio rhywun yn dweud wrthyf eu bod nhw wedi plannu dros 100,000 o goed yn y cam olaf hwnnw o ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac efallai mai un o'r rhesymau pam na gyrhaeddodd hynny'r cyfanswm terfynol oedd oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw wneud rhywfaint o waith arbennig i amddiffyn glöyn byw britheg y gors.
Rwy'n falch o weld bod fy nghyd-Aelod yn nodio arnaf. Roeddwn i'n ei ysgrifennu i lawr, yn ceisio gwneud yn siŵr fy mod i'n ei gofio'n gywir. Daeth i'r amlwg bod hwn yn safle arbennig iawn ar gyfer y glöyn byw cymharol brin hwnnw. Gwnaethpwyd llawer o waith cynefin, ond gallai olygu bod llai o goed wedi'u plannu o ganlyniad iddo. Mae'r model MIM yn cael ei orfodi trwy'r contract. Mae'n bwysig iawn bod gennych chi bobl sy'n gallu negodi'r contract ar y dechrau mewn ffordd sy'n eich galluogi i barhau i orfodi ei amodau.
O ran Felindre, rydym yn hyderus bod Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi dilyn yr holl reolau caffael angenrheidiol, a bod y contractau wedi'u llofnodi yn unol â gofynion y gyfraith. Mae'r rhain yn aml yn gwmnïau mawr iawn sydd â llawer o is-grwpiau gwahanol. Rhywle o gwmpas y byd, efallai bod rhywbeth wedi mynd o'i le mewn rhyw ran ohono, ond nid yw hynny'n uniongyrchol wir yn achos y cwmnïau sy'n ymwneud â'r gwaith ei hun.
Yn olaf, gofynnodd yr Aelod a fyddai'n bosibl i Lywodraeth ddiwygio telerau'r contract yn y dyfodol. Dim ond trwy negodi. Nid oes gallu unochrog gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio contract. Gallwch chi wneud hynny os yw'r parti arall yn agored i'r ailnegodi hwnnw.
Er bod yna alw parhaus am ysgolion newydd, ysbytai newydd a ffyrdd newydd, does byth digon o gyfalaf i adeiladu popeth sydd ei eisiau ac sydd ei angen arnom. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â mabwysiadu'r model PFI a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU, er iddi gael ei beirniadu am beidio â gwneud hynny. Wnaethon ni ddim mo hynny yn Abertawe chwaith, er i ni gael ein beirniadu unwaith eto am beidio â gwneud hynny. Mae doethineb y penderfyniadau hynny wedi cael ei gadarnhau wrth i gyfanswm cost PFI ddod yn hysbys.
Rwy'n croesawu'r defnydd o gyfalaf trafodion ariannol i gefnogi buddsoddiad MIM. Yr hyn y byddwn i'n ei ofyn yw a yw'r model buddsoddi cydfuddiannol yn fath ysgafn o PFI. Er na fydd elfennau gwaethaf PFI—megis peidio â chyllido gwasanaethau meddal ac offer cyfalaf, a thaliadau fel £20 i newid bwlb golau—yn digwydd, mae'n dal i fod yn ymrwymiad hirdymor a fydd yn cael effaith ar gyllidebau refeniw am amser hir. Pam nad yw'r Ysgrifennydd cyllid yn credu, ar gyfer ysgolion, y byddai'n rhatach i Lywodraeth Cymru ariannu benthyciadau awdurdodau lleol i dalu am adeiladu'r ysgolion, a gadael iddyn nhw fenthyca gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, yn hytrach na defnyddio MIM, gan ddefnyddio eu gallu benthyca darbodus?
Diolch i Mike Hedges am y pwyntiau hynny. Mae'n iawn. Cyfalaf trafodiadau ariannol rydym yn ei ddefnyddio. Nid dyma'r cyfalaf hawsaf i'w ddefnyddio yng Nghymru bob amser. Mae rhai rhannau o'r byd yr ydym yn delio â nhw wedi arfer derbyn grantiau ac maen nhw'n llai agored i'r syniad o gymryd benthyciadau ad-daladwy, a dyna beth yw FTCs. Felly, does dim yr awydd amdanyn nhw y gallech fod wedi'i ddisgwyl bob amser, ac mae hyn wedi bod yn ddefnydd da iawn ohonyn nhw.
O ran y pwynt a wnaeth Mike am fenthyca awdurdodau lleol, yn ein hierarchaeth gyfalaf, byddwn i bob amser yn mynd at fenthyca awdurdodau lleol cyn i mi fynd at MIM, lle mae'r awdurdodau lleol hynny mewn sefyllfa i ymgymryd â benthyca darbodus pellach. Fel y bydd Mike Hedges yn gwybod yn dda iawn, mae yna sbectrwm eang yng Nghymru ymhlith ein hawdurdodau lleol o'r rhai sydd wedi dod i ddiwedd benthyca darbodus, lle maen nhw fwy neu lai wedi dod i derfyn yr hyn y gallan nhw ei fenthyca, ac eraill sydd wedi gwneud llawer llai o ddefnydd o'r cyfleuster hwnnw. Lle mae benthyca llywodraeth leol yn bosibl, byddai'n well gen i ddefnyddio hynny na mynd at fodel buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd mae'n rhatach, ond nid yw bob amser yn bosibl, yn dibynnu ar amgylchiadau awdurdodau lleol unigol.
Yn dilyn ymlaen o gyfraniad Heledd Fychan, rwy'n pryderu bod y model buddsoddi cydfuddiannol, fel y sonioch chi, yn ffordd greadigol o gwmpas y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru nifer pitw o bwerau benthyca. Yn yr holl brosiectau yn fy rhanbarth i, Canol De Cymru, roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu cyfwerth â dwbl neu fwy y gyfradd llog o gymharu â'r hyn yr oedd Llywodraeth y DU yn ei dalu ar fenthyca i fuddsoddi. Mae gan y prosiectau hyn yn ein cymunedau ddewis rhwng dim buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru neu fuddsoddiad ond gyda threth unigryw Gymreig.
Roedd yn ddiddorol clywed Mike yn sôn am fath ysgafn o PFI yn ei gyfraniad, oherwydd caiff hyn ei dalu'n bennaf i gwmnïau preifat nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru. Ydych chi'n poeni nad yw hynny'n werth da i drethdalwyr Cymru? Oherwydd gallai miliynau o bunnoedd fod wedi'u harbed pe bai'r buddsoddiadau hyn wedi gallu cael eu gwneud yn yr un modd ag y mae Llywodraeth y DU, neu hyd yn oed, fel yr awgrymodd Mike, awdurdodau lleol, yn buddsoddi. Rwy'n ei chael hi'n syfrdanol bod pwerau benthyca cyfunol Caerdydd ac Abertawe yn fwy na phwerau benthyca ein Llywodraeth yma.
Wrth gwrs, rwy'n falch bod gennym ffordd o fuddsoddi pan nad oes opsiynau eraill ar gael. Rwy'n gwerthfawrogi na fyddem wedi gweld llawer o'r prosiectau hyn oni bai am MIM, ond efallai i ddilyn cwestiwn athronyddol Sam Rowlands, ydych chi'n cytuno bod y model hwn yn ffordd greadigol o gwmpas hyn, ond fel llawer o bethau yn setliad datganoli Cymru, nad yw'n ateb hirdymor? Diolch yn fawr.
Llywydd, rwy'n credu fy mod wedi cytuno â Heledd Fychan bod ei therm 'ffordd greadigol o gwmpas pethau' yn grynodeb teg o'r model buddsoddi cydfuddiannol. Ond fel y dywedodd yr Aelod rwy'n credu ar y diwedd, nid dewis rhwng y cynllun hwn a chynllun gwell mohono. Mae hwn yn ddewis rhwng defnyddio'r math hwn o fuddsoddiad neu beidio â gallu buddsoddi o gwbl. Nid yw'n peidio â gallu gwneud popeth rydyn ni eisiau ei wneud o fewn ffiniau cyfalaf a benthyca confensiynol yn anhawster sy'n unigryw i Gymru. Mae Llywodraeth yr Alban, sydd mewn sefyllfa well nag yr ydym ni ynddi mewn rhai ffyrdd o ran benthyca, wedi mabwysiadu'r model buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd hyd yn oed gyda'u gallu llai cyfyngedig i ariannu pethau, fe wnaethon nhw hefyd ganfod bod yna bethau na allent eu rheoli heb ddefnyddio model o'r math hwn, ac maen nhw wedi addasu'r MIM, ar ôl gweld y llwyddiant mae wedi'i gael yma yng Nghymru. Felly, dyma'r math olaf o fenthyca rydyn ni'n mynd ato, nid y cyntaf, ond mae gen i deimlad y bydd pobl yn sefyll yma yn y dyfodol yn adrodd i chi ar ddefnydd ychwanegol ohono er mwyn gallu diwallu anghenion hanfodol na ellir eu diwallu mewn ffyrdd eraill.
Yn olaf, Julie Morgan.
Diolch. Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â'r datganiad hwn yma heddiw. Fel y dywedwyd eisoes, mae'r model MIM yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu Canolfan Ganser Felindre yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, a fydd yn arwain at ganolfan ganser flaenllaw gyda'r dechnoleg arloesol fwyaf diweddar yn Ewrop ar gyfer pobl de-ddwyrain Cymru.
Rwy'n credu bod y system MIM, fel y'i gweithredwyd wrth adeiladu'r ganolfan ganser yng Ngogledd Caerdydd, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'r cynllun, fel yr ydych eisoes wedi'i gadarnhau, ar amser, ar y trywydd iawn, a bydd yn agor yn 2027. Ar ôl siarad a thrafod gyda'r rheolwyr prosiect sydd wedi bod yn gweithredu'r prosiect yn Felindre, mae'n eithaf amlwg eu bod nhw yn gweld manteision y model MIM. Roedd cystadleuaeth lawn ac agored ar gyfer y contract, a wnaeth ganiatáu ar gyfer llawer o arloesedd. Dywedwyd wrthyf efallai na fyddai rhai rhannau o gynllun Felindre fel y mae wedi'i gynllunio nawr wedi cael eu gweld heb y broses MIM, yn enwedig o ran yr ynni isel sydd wedi'i gynllunio.
Mae'r gofynion o ran buddion cymunedol wedi bod yn un o sbardunau'r prosiect, gydag allgymorth wedi'i dargedu a recriwtio o grwpiau difreintiedig, ymgysylltu ag ysgolion, addysgu am STEM ac adeiladu, a helpu grwpiau cymunedol gyda chyllid neu waith llaw. Mae cysylltiad cryf wedi'i feithrin â'r gymuned leol.
Ac, wrth gwrs, gyda MIM mae llawer mwy o dryloywder a chyfranogiad y llywodraeth o gymharu â PFI, sy'n golygu bod y prosiectau'n destun llawer mwy o graffu. Rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd cyllid wedi dweud yn ei fewnbwn pa mor bwysig yw hi bod Llywodraeth Cymru yn cael sedd wrth y bwrdd drwy Fanc Datblygu Cymru, oherwydd mae hyn yn golygu bod y Llywodraeth yn gwbl gyfredol â'r sector preifat o ran yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Felly, rwy'n credu bod hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno mai'r sedd wrth y bwrdd yw un o'r pethau pwysicaf am brosiect MIM? Rwy'n credu ei fod wedi dangos rhagwelediad mawr i beidio â dilyn y model PFI ar yr adeg y gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad hwnnw, ond a yw'n credu y dylid newid unrhyw beth am y model MIM yn y dyfodol os yw'n parhau i gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol?
Diolch i Julie Morgan am yr holl bwyntiau hynny, Llywydd. Rydym ni wedi clywed gan gyfranwyr eraill y bu cynllun Felindre yn gynllun dadleuol mewn rhai agweddau, ac roedd arnaf i eisiau diolch i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am y gefnogaeth gadarn y mae hi wedi'i dangos i'r wobr sydd i'w hennill yma, sef ysbyty canser o'r radd flaenaf ar gyfer holl ardal de-ddwyrain Cymru. Rwy'n gwybod y bydd hi wedi treulio oriau ac oriau yn siarad â thrigolion yn ei rhan hi o Gaerdydd, gan ddadlau'r achos hwnnw iddyn nhw a gwneud yn siŵr ein bod ni, yn y diwedd, yn canolbwyntio ar ble roedd yr enillion mwyaf i'w cael.
Mae hi'n iawn fod y gyfran ecwiti, y ffaith ein bod yn cymryd cyfran yn y cwmni, cyfran o 20 y cant sy'n rhoi hawl i ni i sedd ar y bwrdd i gynrychioli'r cyhoedd fel cyfranddalwyr yn y cynllun hwnnw, yn un o nodweddion gwahaniaethol y model buddsoddi cydfuddiannol. Nid oedd erioed yno yn fenter cyllid preifat. Ni chynrychiolwyd budd y cyhoedd erioed ar lefel yna o'r bwrdd, ac ni chafodd y cyhoedd gyfran o'r elw a wnaed o ganlyniad i'r cynlluniau menter cyllid preifat hynny. Nawr, os oes elw i'w wneud gan gwmnïau model buddsoddi cydfuddiannol yn y dyfodol, bydd y cyhoedd yn cael enillion ar yr elw hynny, felly byddwn yn gallu parhau i'w hailfuddsoddi ac, yn wir, eu hail-fuddsoddi yn y math o gynllun sy'n ysbyty newydd Felindre, cynllun cymhleth iawn oherwydd y cyfleusterau o fri, yr angen i sicrhau'r amodau clinigol lle gellir darparu gofal canser. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud bod y broses model buddsoddi cydfuddiannol mewn rhai ffyrdd wedi arwain peth o'r arloesi hynny yn y cynllun Felindre hwnnw ac y bydd hynny er budd cleifion yn y dyfodol.
I ateb cwestiwn olaf Julie Morgan—ydw i'n gweld ffyrdd y gallai'r cynllun ddatblygu yn y dyfodol—wel, rwy'n credu ei bod hi wedi ateb y cwestiwn ei hun, sef bod y system yn caniatáu arloesi. Mewn gwirionedd, mae'n rhoi cryn bris ar arloesi, ac mae hynny'n golygu ei fod yn gynllun sy'n gallu parhau i ddatblygu, a model sy'n gallu mynd ymlaen i ddatblygu, fel y gallwn ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y gorau ohono ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd nesaf, ar deithiau bws am £1. Yr Ysgrifennydd i wneud y datganiad yma—Ken Skates.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am lansiad ein cynllun peilot prisiau gwell i bobl ifanc. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol ein system drafnidiaeth gyhoeddus ac, yn bwysicach fyth, yn nyfodol ein pobl ifanc. Mae'r cynllun yn cyflawni blaenoriaethau a osodwyd i Lywodraeth Cymru gan Brif Weinidog Cymru i ddarparu rhwydwaith bysiau gwell.
Gwyddom y gall cost trafnidiaeth fod yn rhwystr i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyfleoedd gwaith a'r gymuned ehangach, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod pobl ifanc eu hunain a'r rhai sy'n cynrychioli eu barn wedi galw yn gyson am gynllun fel hyn. Mae'r cynllun yn ymwneud â chwalu rhwystrau. Mae'n ymwneud â sicrhau nad yw lle mae person ifanc yn byw yn cyfyngu ar eu gallu i astudio, i ddod o hyd i waith, neu yn syml i fwynhau'r un cyfleoedd â'u cyfoedion mewn mannau eraill. Mae'r cynllun peilot hwn, felly, yn diwallu'n uniongyrchol y blaenoriaethau hynny. Bydd yn cefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd ar adeg o bwysau ariannol go iawn. Bydd yn ein helpu i adeiladu rhwydwaith bysiau cryfach, mwy cynaliadwy wrth i ni symud tuag at fasnachfreinio, a bydd yn cyflawni ein huchelgeisiau ehangach i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi.
Mae llwyddiant y cynllun hwn yn dibynnu ar gydweithio cryf. Mae cwmnïau bysiau yn cymryd rhan yn y cynllun ar sail wirfoddol, ac fe hoffwn i ddiolch i gwmnïau a'u cyrff cynrychioliadol am y ddeialog adeiladol a'r cynnydd rydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn. Mae cydweithio cryf wedi arwain at gyfranogiad gwmnïau sy'n cwmpasu'r rhwydwaith bysiau llawn ledled Cymru. Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos ymrwymiad ar y cyd i gael mwy o bobl ifanc i deithio ar fws, i gynyddu cwsmeriaid ac i sicrhau bod ein rhwydwaith bysiau yn parhau i fod yn wydn wrth i ni baratoi ar gyfer symud i fasnachfreinio bysiau.
Fel rhan o gyllideb 2025-26, gwnaed ymrwymiad o £15 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cynnig prisiau gwell ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed ar draws blwyddyn ariannol 2025-26. Ers hynny, rydym ni wedi gwrando ar bobl ifanc, eu heiriolwyr a'r sector, ac wedi buddsoddi £7 miliwn ychwanegol i ymestyn y cynllun i gwmpasu pawb 21 oed ac iau.
Dechreuodd cam cyntaf y cynllun ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed ar y cyntaf o Fedi, gydag uchafswm pris o £1 am docyn unffordd a £3 am docyn dydd. Mae'n bleser gen i adrodd y bu'r defnydd yn rhyfeddol. Ers lansio'r peilot, mae mwy na 26,000 o bobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer FyNgherdynTeithio am ddim, sydd eisoes yn rhagori ar gyfanswm nifer y ceisiadau blynyddol a dderbyniwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 38 y cant yn nifer y cardennau mewn cylchrediad ers dechrau'r cynllun.
Mae'r ffigurau hyn yn dangos y tu hwnt i amheuaeth bod yr archwaeth yno, bod pobl ifanc yn awyddus i fanteisio ar deithio fforddiadwy, a bod y cynllun hwn yn cael effaith wirioneddol o'r diwrnod cyntaf. Rydym ni wedi cefnogi'r cyflwyniad gydag ymgyrch farchnata wedi'i thargedu a fydd yn parhau dros y misoedd nesaf, gan sicrhau bod cymaint o bobl ifanc cymwys â phosibl yn ymwybodol o'r cynllun, ac yn gallu elwa ohono.
Bydd ail gam y cynllun yn ymestyn yr un cynnig i blant rhwng pump a phymtheg oed ar ôl hanner tymor, gan ddechrau ar 2 Tachwedd. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda chwmnïau bws ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â rhai o'r cymhlethdodau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r grŵp oedran hwn, yn enwedig lle mae gorgyffwrdd rhwng y cynllun a threfniadau teithio dysgwyr presennol. Ond rwy'n falch o ddweud bod yr ymgysylltiad â'r sector wedi bod yn gryf iawn mewn gwirionedd, ac rydym ni'n gobeithio y byddwn yn gallu cyflwyno'r cynllun fel y cynlluniwyd.
Gall prisiau fforddiadwy chwarae rhan bwysig wrth ategu a chyfrannu tuag at atebion i'r heriau sy'n ymwneud â darpariaeth cludiant ysgol. Ond fe hoffwn i fod yn glir nad ffon hud yw'r cynllun hwn, a bydd polisi trafnidiaeth ysgol pwrpasol ac, yn wir, cyllid yn parhau i fod yn hanfodol.
Rhaid gwerthuso cynllun peilot o'r raddfa hon yn drylwyr. Felly, byddwn yn cynnal gwerthusiad annibynnol i asesu effeithiolrwydd y cynllun. Bydd hyn yn archwilio a yw'r peilot yn cyflawni ei amcanion. Yn bwysig, bydd cwmnïau bysiau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allanol yn rhan o'r gwerthusiad hwnnw, ynghyd â phobl ifanc. Bydd unrhyw benderfyniadau ynglŷn ag ymestyn y cynllun yn rhai i'w gwneud gan y Llywodraeth nesaf, ond mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar farn a all helpu i lunio dyfodol y cynllun.
Nawr, rwy'n gwybod y bydd rhai Aelodau yn gofyn pam nad ydym ni'n dilyn model yr Alban wrth gynnig teithio bws am ddim i bob person ifanc, ond y gwir syml yw y byddai cynllun o'r fath yn anfforddiadwy yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Byddai graddfa'r costau dan sylw ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n gynaliadwy i gyllideb Cymru. Yn hytrach, rydym wedi mynd ati mewn ffordd wahanol, un sy'n cydbwyso fforddiadwyedd i deuluoedd gyda'r angen i ddarparu gwerth am arian i drethdalwyr.
Fe wnaethom ni raglen glir ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i wella prisiau i bobl ifanc, a thrwy'r cynllun peilot hwn rydym ni nid yn unig wedi cyflawni'r addewid hwnnw ond rydym ni hefyd wedi mynd ymhellach. Mae'r cynllun peilot hwn yn cynrychioli buddsoddiad mawr yn ein pobl ifanc, ac yn nyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae wedi cael ei gyflwyno ar amser gyda chefnogaeth cwmnïau bysiau, cynghorau a phobl ifanc eu hunain. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ar hyd a lled Cymru.
Trwy gapio prisiau, rydym yn chwalu rhwystrau i deithio, cefnogi mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hamdden ac annog y genhedlaeth nesaf i ddefnyddio bysiau fel rhan o'u bywydau bob dydd. Ni ddylai unrhyw un ifanc yng Nghymru deimlo ei fod wedi'i ynysu oherwydd cost trafnidiaeth. Mae'r cynllun hwn yn ymwneud â rhoi'r rhyddid iddyn nhw symud, i gysylltu a ffynnu.
Fe hoffwn i ddiolch i bawb a chwaraeodd ran wrth gyflwyno'r cynllun hwn, gan gynnwys Aelodau ar draws y Siambr hon, ac yn enwedig Jane Dodds, y mae ei chefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy drwy'r amser. Mae hwn yn gynllun sy'n rhoi pobl ifanc yn gyntaf, yn cefnogi ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer diwygio bysiau, ac yn ein helpu i greu Cymru decach a gwyrddach lle mae cyfleoedd o fewn cyrraedd pawb. Diolch.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad yma y prynhawn yma ac, unwaith eto, am ei rybudd ymlaen llaw o'r datganiad a'r wybodaeth ynddo.
Mae'n brynhawn braidd yn rhyfedd i mi, Llywydd, oherwydd siaradais ychydig funudau yn ôl ac fe gytunais yn fras â'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid, ac fe hoffwn i fynegi fy nghefnogaeth eang i'r Ysgrifennydd Cabinet trafnidiaeth yma heddiw hefyd i'r cynllun hwn. Mae croeso i unrhyw fenter sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl ifanc yng Nghymru gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a'r cyfleoedd cymdeithasol hynny.
O ran y gwerth am arian yr ymddengys fod y cynllun hwn yn ei gyflwyno, mae'n sicr yn ymddangos fel syniad da. Oherwydd nid yw trafnidiaeth yn ymwneud â mynd o A i B yn unig, wrth gwrs. Yn fy marn i, mae'n rhaid ei ystyried fel cyswllt economaidd hanfodol. Mae teithio fforddiadwy yn hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at golegau, prentisiaethau a swyddi. Heb hyn, mae llawer yn wynebu rhwystr real iawn sy'n peryglu eu gadael ar ôl. Ac o safbwynt economaidd, mae helpu pobl ifanc i gael addysg a hyfforddiant yn golygu gweithlu mwy medrus, cyfraddau cyflogaeth uwch ac economïau lleol cryfach. Weithiau rwy'n teimlo ychydig yn amheus o bob math o lywodraethau pan maen nhw'n siarad am y gwahaniaeth maen nhw'n ceisio ei wneud o ran ein heconomi, oherwydd rwy'n credu yn sylfaenol mai busnes sy'n gyrru ein heconomi. Ond, yn sicr, mae gan y Llywodraeth ran i sicrhau bod cynlluniau fel hyn yn galluogi ein heconomi i dyfu, galluogi ein pobl ifanc, neu bawb, i gael mynediad i'r cyfleoedd cyflogaeth ac addysg hynny. Mae yna ychydig o bwyntiau yr hoffwn i eu codi gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, ac efallai y bydd yn ateb y cwestiynau rwy'n eu cyflwyno iddo y prynhawn yma.
Wrth gwrs, un o'r heriau mawr sy'n wynebu pobl ifanc yw nid yn unig cost trafnidiaeth a theithio, ond o ran trafnidiaeth gyhoeddus, does dim diben iddo fod yn rhad os nad yw byth yn cyrraedd yn y lle cyntaf, neu nad yw ar gael iddyn nhw, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Mae llawer o'n pobl ifanc yn wynebu naill ai gwasanaethau bysiau anaml neu ddiffygiol. Mae'r gwasanaeth ar lawer o lwybrau yn ddim ond ychydig weithiau y dydd, neu ddim o gwbl yn ystod nosweithiau a phenwythnosau yn yr ardaloedd gwledig hynny, gan ei gwneud hi'n anodd i ddysgwyr ddibynnu ar fysiau i gyrraedd colegau neu brentisiaethau ar amser. Mae'r diffyg gwasanaeth dibynadwy hwn nid yn unig yn anghyfleus, gall achosi i bobl ifanc golli'r cyfleoedd addysg neu waith hanfodol hynny, neu orfodi teuluoedd i dalu am drafnidiaeth amgen gostus. Cyflwynwyd yr enghraifft honno i mi y bore 'ma. Bydd gan lawer o Aelodau yn y Siambr hon fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, efallai, gyda nhw ar hyn o bryd, a byddech chi wedi meddwl y byddai taith ar drafnidiaeth gyhoeddus o Abertawe i Fae Caerdydd yn eithaf syml. Ond i'r myfyrwyr hynny—. Roedd fy myfyriwr i y bore 'ma yn hwyr—ac nid wyf yn mynd i ddweud ei enw, wrth gwrs—ac roedd hynny oherwydd nad oedd y bws hwnnw'n ddibynadwy, waeth beth fo'r gost. Yn y pen draw, roedd yn rhaid iddo gael tacsi. Felly, mae yna enghreifftiau go iawn yn digwydd heddiw, hyd yn oed gyda'r cynllun fel y mae eisoes.
Felly, os ydym am weld manteision economaidd gwirioneddol o'r cynllun hwn, rhaid i Lywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n rhedeg yn rheolaidd ac ar adegau sy'n cyd-fynd ag amserlenni dysgwyr, a hefyd sicrhau, pan fydd y niferoedd hynny'n cynyddu—fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i amlinellu, bu cynnydd sylweddol eisoes—bod capasiti yn y rhwydwaith hwnnw i ymdopi â'r cynnydd hwnnw hefyd, y galw cynyddol hwnnw.
Mae data Llywodraeth Cymru ei hun hefyd yn dangos bod 41 y cant o bobl ifanc yn nodi mai trafnidiaeth yw'r rhwystr mwyaf i ddechrau cwrs neu gael swydd, a dyna pam y gallai'r cynllun hwn fod yn drawsnewidiol. Mae'n helpu i fynd i'r afael â rhwystr allweddol mewn sgiliau, datblygiad a chyfranogiad y gweithlu, ac rwy'n credu, fodd bynnag, bod angen gofyn y cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet pam na chafodd ei gyflwyno yn gynt. Yn Lloegr, maen nhw wedi cael uchafswm pris ers mis Ionawr 2023, bron i dair blynedd yn ôl, ac nid oedd hynny ar gyfer pobl ifanc yn unig, roedd hynny ar gyfer pob teithiwr draw yn Lloegr. Felly, byddai gen i ddiddordeb clywed ei ymateb pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser i roi'r cynllun hwn ar waith.
O ran cyflwyno'r cynllun ei hun, rydym ni wedi clywed pryderon bod y Llywodraeth yn rhuthro i gyhoeddi cyn cael trefn ar y cyflawni. Llywydd, rydym ni wedi clywed adroddiadau gan y Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr yn dweud, hyd yn oed wrth lansio'r cynllun, nad oedd manylion cyllid wedi'u cwblhau eto, ac nad oedd cwmnïau yn glir sut y byddai ad-daliad yn gweithio na sut y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu'n lleol, sy'n bryderus. Rydym ni i gyd yn gwybod beth sy'n digwydd pan fydd syniad da yn cael ei reoli'n wael—mae'n peryglu colli ymddiriedaeth y cyhoedd. Os yw'n tangyflawni, pobl ifanc, efallai, fyddai'n cael eu siomi. Felly, tybed a fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn myfyrio ar hyn, ac a yw gwersi wedi'u dysgu o ran cyflawni'r cynllun hwn hyd yn hyn, er gwaethaf rhai o'r pethau cadarnhaol sydd wedi digwydd eisoes. Rydym ni hefyd wedi clywed pryderon gan gwmnïau bysiau am ad-daliadau ac eglurder cyllid, ac, wrth gwrs, os nad yw'r rhain yn cael eu datrys, gall cwmnïau leihau eu gwasanaethau, a allai peryglu dadwneud rhywfaint o'r gwaith da hwn.
Clywais yr Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am y gwerthusiad a fydd o'r cynllun peilot hwn. Ni soniodd pryd y byddai'r gwerthusiad hwnnw, felly byddai gen i ddiddordeb deall pryd mae'n meddwl y gallai hynny ddigwydd ac a allai fod rhywbeth yn ei le cyn yr etholiad, a allai roi rhywbeth i lywodraeth y dyfodol feddwl amdano o ran ei chyflwyno yn y dyfodol.
Rwy'n ymwybodol o amser, Llywydd, felly, i grynhoi, mae trafnidiaeth fforddiadwy a dibynadwy yn fwy na chyfleuster; mae'n sbardun economaidd, sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl ifanc gael mynediad at addysg a chyflogaeth, a bydd yn adeiladu cenedl gryfach, mwy ffyniannus gyda gweithlu sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Felly, mae'r math hwn o gynllun yn cael ei gefnogi'n eang, a byddai gen i ddiddordeb yn ymatebion y Cabinet i'm cwestiynau penodol. Diolch yn fawr iawn.
Byddai'n bleser ymateb i Sam Rowlands, ac rwy'n diolch iddo am ei sylwadau caredig am y cynllun. Ag yntau'n Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru, bydd Sam yn ymwybodol nad yw tua 20 y cant o bobl ifanc yn gallu mynychu eu cyfweliadau swydd oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy neu absenoldeb trafnidiaeth gyhoeddus.
Rwy'n credu bod Sam wedi tynnu sylw at nifer o faterion y mae angen i ni eu goresgyn wrth i ni symud tuag at fasnachfreinio a hefyd trwy fasnachfreinio. Yr hyn sydd ei angen ar y cyhoedd yw dull cost-effeithiol o fynd o A i B— mae'n rhaid iddo fod yn fforddiadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae'n rhaid i'r drafnidiaeth fod ar gael i'r graddau priodol. Mae'n rhaid i ni gael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cryf. Er mwyn cael hynny, mae'n rhaid i ni gynyddu'r rhwydwaith. Dim ond drwy gael mwy o arian trethdalwyr neu fwy o arian o docynnau y gallwch chi ariannu'r gwaith o gynyddu'r rhwydwaith. Os ydych chi'n canfod y sefyllfa honno lle mae gennych chi'r prisiau fforddiadwy cywir, yna rydych chi'n cael mwy o gwsmeriaid, ac, wrth wneud hynny, rydych chi'n cael mwy o deithwyr.
Mae'r cynllun hwn, rwy'n credu, yn gynllun buddsoddi i arbed. Bydd yn arbed symiau eithaf sylweddol i bobl ifanc yn y tymor byr. Yn y tymor hwy, oherwydd rwy'n credu y bydd yn arwain at gynnydd hirdymor yn nifer y teithwyr, bydd wedyn yn ein galluogi i leihau'r cymhorthdal, o bosib, rydym yn ei dalu i'r rhwydwaith bysiau ar hyn o bryd, neu fe allwn ni ddefnyddio'r refeniw ychwanegol hwnnw o'r blwch tocynnau i gynyddu maint y rhwydwaith. Byddai hynny'n ateb pryderon pobl, byddai, yng nghefn gwlad Cymru, ond hefyd mewn rhai rhannau mwy trefol o Gymru, nad yw'r rhwydwaith bysiau yn aml yn diwallu eu hanghenion.
Nawr, rydym ni hefyd yn mynd i fynd i'r afael ag argaeledd gwasanaethau trwy fasnachfreinio bysiau pan fyddwn yn dylunio rhwydwaith sy'n diwallu anghenion teithwyr, a hefyd amserlen sy'n diwallu anghenion dysgwyr, sy'n diwallu anghenion pobl sydd angen mynd i'r gwaith, i hyfforddiant, i addysg, a hefyd rhwydwaith sy'n ddibynadwy ac yn ddiogel. Nawr, er mwyn cynyddu diogelwch, rydym ni'n mynd i weld mwy o fuddsoddiad mewn goleuadau stryd, mewn arosfannau bysiau, mewn gorsafoedd bysiau, ac er mwyn gwella dibynadwyedd, mae angen gwario mwy o gyfalaf ar fesurau blaenoriaeth ar gyfer llwybrau bysiau. Mae hyn i gyd yn rhan o'r pecyn o ddiwygio bysiau, felly mae ymdrin â'r gost, ymdrin ag argaeledd gwasanaethau bysiau, ymdrin â dibynadwyedd, ac ymdrin â materion diogelwch i gyd ar agenda'r Llywodraeth.
Nawr, mae hon wedi bod yn rhaglen waith hynod gymhleth i'w chwblhau mewn cyfnod cymharol fyr o amser, yn enwedig oherwydd bod gennym ni rywbeth fel 130 o gwmnïau bysiau yng Nghymru, ond rwy'n hynod ddiolchgar i'r cwmnïau hynny ac i'w cyrff cynrychioliadol am drafodaethau mor adeiladol, cynhyrchiol ac effeithlon. A do, bu i lawer peth godi yn ystod dylunio'r rhaglen hon, ond fe gawsom ni bopeth i fwcl ac fe wnaethon ni ei lansio ar amser, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc. Roeddwn i, yn wir, yn y Rhyl ddydd Gwener diwethaf yn cwrdd â phobl ifanc, a dywedodd un o'r bobl ifanc y cyfarfûm â nhw eu bod nhw nawr yn arbed £2.50 ar bob un daith maen nhw'n ei wneud, sy'n eithaf anhygoel.
O ran y gwaith pellach a fydd yn digwydd, wedi chwe mis bydd gennym ni adroddiad dros dro ar ganlyniad hyn, ac yna, ymhen naw mis, bydd gennym ni adroddiad llawn. Hyd yn hyn, mae'r holl ddata rydym ni'n ei dderbyn gan Drafnidiaeth Cymru a gan gwmnïau bysiau yn eithaf rhyfeddol, a phwy bynnag sy'n ddigon ffodus i fod â'r portffolio trafnidiaeth ar ôl yr etholiad, byddwn yn eu hannog i gadw'r cynllun hwn os yw'r dystiolfaeth yn dangos y bu'n llwyddiant, oherwydd bydd yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau bysiau, a fydd yn golygu mwy o arian tocynnau, a fydd yn ei dro yn gwella'r rhwydwaith bysiau ei hun, a bydd yn rhoi cyfle enfawr o ran grymuso ac o ran galluogi pobl ifanc ar hyd a lled Cymru.
Croesawaf y datganiad hwn yma heddiw ynghylch yr uchafswm pris o £1 am docynnau bws. Mae hwn yn gam addawol ymlaen i sicrhau bod prisiau tecach a mwy fforddiadwy i bobl ifanc, a dyna'n union pam y galwais am gynnwys pobl dan 15 oed yn y cynllun o'r cychwyn cyntaf, ar ôl siarad ag Aelodau'r Senedd Ieuenctid yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach eleni. Felly, mae teithio fforddiadwy yn ffactor allweddol sy'n annog newid dulliau teithio a rheoli costau byw, yn enwedig i'r teuluoedd hynny ar incwm is.
Rydym ni wedi clywed dro ar ôl tro gan y Llywodraeth am yr addewidion i gyflwyno uchafswm prisiau, felly mae'n braf nawr bod y rhaglen hon yn cael ei gweithredu, ac mae'n gam cadarnhaol ymlaen tuag at fynd i'r afael â chanlyniadau blynyddoedd o danfuddsoddi yn y sector. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddai llawer yma heddiw yn cytuno nad yw'r rhaglen yn mynd yn ddigon pell, neu cyn belled ag yr hoffem iddi fynd. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi dadlau'n gyson dros systemau trafnidiaeth sydd wedi'u cynllunio ar sail anghenion cymdeithasol. Mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau mynediad cyfartal i bawb yng Nghymru i drafnidiaeth fforddiadwy. Felly, fe hoffwn i hefyd dynnu sylw at ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i gwestiwn tebyg a ofynnais flwyddyn yn ôl, lle dywedodd y byddai Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad pellach i helpu i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, uchelgeisiau sydd ar hyn o bryd wedi'u cyfyngu gan faint o gyllid sydd ar gael. Felly, er bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, fe hoffwn i ofyn pa ystyriaeth sydd wedi'i roi i ehangu'r rhaglen i gynnwys pobl o bob oed a pha drafodaethau a fu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau cyllid priodol i wireddu'r weledigaeth hon.
Er ei bod hi'n galonogol clywed am y cynnydd yn nifer y teithwyr, rhaid i ni hefyd ystyried y goblygiadau i wasanaethau oherwydd y cynnydd disgwyliedig yn y galw, a bydd hyn yn gwneud y gost raddol o ehangu capasiti bysiau yn fwyfwy heriol. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â thrawsnewid patrymau teithio trwy ddefnyddio bysiau, rhaid iddi sicrhau, ochr yn ochr â phrisiau llai, fel rydych wedi awgrymu eich hun, Ysgrifennydd Cabinet, bod digon o gapasiti i wasanaethu'r teithwyr hynny. Felly, a gaf i ofyn pa sicrwydd sydd yna, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd asesiadau yn cael eu cynnal i adolygu ansawdd a fforddiadwyedd y gwasanaethau hyn? Ac rwy'n siŵr, fel rhan o'r adolygiad hwnnw rydych chi wedi bod yn siarad amdano, y bydd hynny'n rhan o hynny.
Yng ngoleuni hyn, fe hoffwn i hefyd droi at her fawr o'n blaenau: y Bil bysiau. Gyda'r rhaglen wedi'i chynnwys yn y gyllideb flynyddol sydd i ddod, mae'n hanfodol bod y symudiad tuag at ddiwygio gwasanaethau bysiau yn arwain at system brisiau fforddiadwy i bobl ledled y wlad. Clywais yn uniongyrchol gan yr Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig am bwysau cost ychwanegol y gallai'r Bil Bysiau ei roi ar gyllideb Cymru. Felly, fe hoffwn i glywed heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod goblygiadau'r rhaglen hon wedi'u hystyried yn llawn wrth i ni symud yn raddol tuag at fodel masnachfreinio. Mae rhywfaint o bryder y gallai masnachfreinio greu problemau i wasanaethau bysiau yn y dyfodol yn ehangach ac, wrth i ni graffu ar y Bil, bydd angen ateb llawer o'r cwestiynau fel ein bod yn osgoi unrhyw risgiau annisgwyl ac i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny. Wrth gwrs, un o'r cwestiynau hynny yw teithio i ddysgwyr, ac nid yw'r polisi hwn a'r Bil bysiau yn ffon hud ar gyfer cludiant ysgol. Felly, a gaf i gael sicrwydd heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet bod cynllun clir ar waith i integreiddio'r rhaglen hon â'r model masnachfraint yn y dyfodol a'r cwestiwn ehangach hwnnw ynghylch polisïau trafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth i ysgolion? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiynau hefyd ac am groesawu'r rhaglen benodol hon o waith? Rwy'n credu ei fod yn dangos llwyddiant cynnar y cynllun hwn bod pob plaid bellach yn ei gefnogi'n llawn, rwy'n credu. Mae fforddiadwyedd yn fater enfawr. Nid model yr Alban, rwy'n credu, yw'r model cywir. Rwy'n credu mai'r ffordd goch Gymreig mewn gwirionedd yw'r ffordd y dylai cenhedloedd eraill efallai fod yn dilyn ei hesiampl oherwydd, yn hollbwysig, yr hyn y mae ein fforddd ni yn ei wneud yw sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd i deithwyr a hefyd fforddiadwyedd a chynaliadwyedd i'r trethdalwr, i Lywodraethau. Yn yr Alban, mae'r broblem gyda chael trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc yn ddeublyg: (1) nid ydych chi'n cynyddu'r gwerthiant tocynnau—efallai y byddwch chi'n cynyddu nifer y teithwyr sydd gennych chi, ond nid ydych chi'n cynyddu'r gwerthiant tocynnau, felly ni allwch chi wedyn gynyddu'r rhwydwaith o ganlyniad i gynyddu faint o refeniw rydych chi'n ei gynhyrchu; ac yna (2), canfuwyd yn yr Alban, mewn rhai achosion, bod bysiau wedi cael eu camddefnyddio ac mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn broblem mewn rhai ardaloedd. Rwyf yn credu ein bod wedi sicrhau'r cydbwysedd hwnnw o ran fforddiadwyedd a chynaliadwyedd, ac rwy'n credu hefyd ein bod ni wedi sicrhau'r cydbwysedd hwnnw o ran sicrhau bod y capasiti yno i gefnogi'r cynllun hwn. Fodd bynnag, yn amlwg, mae'r adolygiad yn mynd i fod yn hanfodol bwysig wrth fesur a oes angen capasiti pellach, pe bai'r cynllun hwn yn parhau i'r dyfodol y tu hwnt i'r cyfnod peilot.
Rydym ni wedi trafod gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r meiri metro yn Lloegr—yn bennaf, y meiri metro hynny yn Lerpwl a Manceinion—y costau a'r manteision o uchafswm prisiau i deithwyr beth bynnag eu hoed. Gallant fod â rhan hanfodol yn symleiddio'r drefn prisiau a chynyddu cwsmeriaid. Unwaith eto, mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw o ran prisiau.
Rwy'n credu, fel y mae Peredur wedi siarad amdano, bod mynediad at drafnidiaeth fforddiadwy yn hanfodol bwysig. Dylid ei hystyried, trafnidiaeth gyhoeddus, yn fy marn i, yn wasanaeth cyhoeddus, ac ni ddylem ni fyth adael unrhyw un ar ôl. Yn gyntaf oll, roedd yn rhaid i ni sefydlogi'r rhwydwaith bysiau ar ddechrau'r Senedd hon, ond gyda threigl amser, gan ein bod wedi creu sefydlogrwydd a sicrhau bod llwybrau bysiau wedi'u diogelu, rydym ni wedi gallu troi ein meddyliau at sut y gallwn ni gyflwyno ffyrdd creadigol o gynyddu cwsmeriaid, ac rwy'n credu y bydd hyn yn cyflawni hynny.
O ran trafnidiaeth i ddysgwyr, mae Peredur yn hollol iawn. Nid yw hwn yn un ateb unigol i'r hyn sy'n fater cymhleth iawn, iawn. Bydd y Bil Bysiau hefyd yn cyfrannu, yn union fel y mae hyn yn cyfrannu, at gynorthwyo dysgwyr sy'n cael trafferth cael mynediad at gludiant bws fforddiadwy. Felly hefyd bydd gwell defnydd o ddata. Rydym ni wedi bod yn astudio'r math o ddadleuon a fu mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig ynglŷn â chostau cynyddol trafnidiaeth i ddysgwyr, a'r hyn sy'n eithaf amlwg yw bod rhai o'r materion hynny a drafodwyd gennym ni a rhai o'r ffyrdd ymlaen y gwnaethom ni gytuno arnyn nhw yn yr uwchgynhadledd trafnidiaeth i ddysgwyr yn gynharach eleni bellach yn cael eu hystyried mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond, fel y dywedais i, mae hwn yn faes hynod gymhleth. Mae'n costio tua £204 miliwn y flwyddyn i'r trethdalwr ar hyn o bryd, felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn gostwng y gost, ond hefyd sicrhau bod trafnidiaeth i ddysgwyr ar gael mor eang â phosibl.
Mae'n newyddion gwych bod y nifer mwyaf erioed o bobl ifanc wedi cofrestru hyd yn hyn ar gyfer FyNgherdynTeithio. Yn sicr, rwyf wedi ceisio gwneud fy rhan i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun newydd i bobl ifanc, gan gwrdd â Ben Harris, sy'n Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Delyn, yng ngorsaf fysiau yr Wyddgrug ar ddechrau'r mis i hyrwyddo'r cerdyn newydd yno.
Fe ddywedoch chi yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd yr ymgyrch farchnata wedi'i thargedu yn parhau am fisoedd i ddod. A gaf i ofyn pa ffurf fydd i hynny a, mewn gwirionedd, beth all Aelodau ei wneud yn rhan o hynny i hyrwyddo ymhellach yr hyn rwy'n credu sy'n gynllun ardderchog sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled y wlad—nid yn unig gyda'r defnydd o'r cerdyn, ond y gwasanaethau y gallwch chi ei ddefnyddio arnyn nhw, fel TrawsCymru a'r T8 bythol boblogaidd yn fy ardal i nawr, a hefyd y T51 sydd newydd ei gyflwyno, a fydd yn cysylltu'r Rhyl â Wrecsam drwy Ddinbych a Rhuthun?
Y peth arall yr hoffwn i ei godi, ar gorn y gwaith a wnes i gyda Ben a chael crwydro o gwmpas gorsaf fysiau yr Wyddgrug, yw, yn amlwg, pan fyddwch chi'n cyflwyno rhywbeth sy'n llwyddiannus, mae pobl yn croesawu hynny, ond yna maen nhw bob amser eisiau mwy hefyd. Felly, wrth gwrs, mae gennym ni'r Bil Bysiau, a'r nod yn gyfan gwbl yw gwneud trafnidiaeth bws yn llawer mwy hygyrch a deniadol, ac rwy'n credu mai un o'r pethau a fyddai'n helpu pobl, o fy mhrofiadau fy hun, yw cael mwy o arwyddion bws clyfar, yn enwedig mewn gorsafoedd bysiau. Nid oes rhaid i hyn fod ym mhob safle bws, ond gallai fod yn yr orsaf fysiau ei hun. Felly, a yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ei ystyried? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? Rwy'n falch iawn y bu hi'n hyrwyddo'r cynllun hwn mor frwd i etholwyr. Rwyf hefyd yn falch iawn bod yr Aelodau Senedd Ieuenctid wedi dangos cymaint o ddiddordeb hefyd. Credaf, Llywydd, fod y Senedd Ieuenctid yn cyfarfod ar 22 Tachwedd. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i ymuno â'r Senedd Ieuenctid ar yr achlysur penodol hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod trafnidiaeth gyhoeddus, a bysiau yn arbennig, yn un o'r eitemau agenda a fydd yn cael eu trafod.
Bydd Hannah yn ymwybodol o ysgol uwchradd eithaf arwyddocaol yn fy etholaeth i, Ysgol Dinas Brân yn Llangollen, yn nyffryn Dyfrdwy. Ac ychydig cyn i'r cynllun hwn gael ei lansio, es i siarad â myfyrwyr chweched dosbarth, ac fe ddywedodd un ohonyn nhw, Jackson, fod cost cludiant bws yn rhwystr i deithio i mewn ac allan o'r dyffryn, os yw pobl ifanc yn dymuno teithio rhywfaint o bellter. Ac mae hon yn ardal wledig iawn yr wyf yn ei chynrychioli. Yr hyn sy'n fy nharo i oedd iddo ddweud, 'Ni ddylid cyfyngu uchelgeisiau a gobeithion unrhyw berson ifanc i ddyffryn', ac mae'r rhaglen hon yn fy marn i wir yn galluogi ac yn rhoi'r rhyddid i bobl ifanc fynd i waith, i gael y swyddi maen nhw eisiau, i fynd i addysg, i beidio â gorfod poeni ddydd ar ôl dydd, am fforddiadwyedd.
Mae Hannah yn gwneud pwynt pwysig iawn am safleoedd bysiau a seilwaith bysiau yn ei gyfanrwydd. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn llunio safonau ansawdd safleoedd bysiau, a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o fasnachfreinio. Bydd safleoedd bysiau yn parhau i fod yn gyfrifoldeb llywodraeth leol, ond fe hoffem ni weld y safonau uchaf yn cael eu cymhwyso i safleoedd bysiau newydd. Mae gennym ni dros 20,000 o safleoedd bysiau ledled Cymru, ac mae eu gwneud yn fwy diogel, gan ddarparu gwybodaeth fwy cywir a chyfredol am wasanaethau bysiau a'u gwneud yn hygyrch—felly, dim ond cael pethau syml fel meinciau glân a phalmentydd wedi eu dylunio'n bwrpasol yn hanfodol bwysig i bobl deimlo'n ddiogel a chael gwybodaeth gyfredol.
Ac o ran yr ymgyrch farchnata sy'n digwydd, mae'n cael ei harwain gan Trafnidiaeth Cymru. Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar unrhyw berson ifanc am y cynllun ar dudalennau FyNgerdynTeithio. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod wrth wraidd popeth y bu Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud ar y cynllun penodol hwn. Mae'n llawer mwy cymhleth nag y gallaf ei ddeall, ond rwy'n deall y bu cyrhaeddiad y cynllun a'r diddordeb ynddo yn eithriadol, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu, yn wir, gan nifer y bobl ifanc sydd wedi gwneud cais am eu cerdyn FyNgerdynTeithio ac, yn wir, nifer y bobl ifanc hyd yn hyn, ers lansio'r rhaglen ym mis Medi, sydd wedi teithio ar wasanaethau bws. Rydym ni wedi gweld cynnydd anhygoel yn nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio bysiau o ganlyniad i hyn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n falch iawn o weld llwyddiant anhygoel y cynllun hwn gyda, fel y dywedwch chi, mwy na 28,000 o bobl ifanc wedi cofrestru mewn ychydig dros fis. Rwy'n falch iawn o fod wedi chwarae rhan fach yn hyrwyddo hyn. Mae'n dweud rhywbeth grymus wrthym ni, onid yw, sef, pan fyddwn yn cael gwared ar rwystrau, mae cyfleoedd yn codi. Nid yw hyn yn ymwneud â theithio rhatach yn unig; mae'n ymwneud â rhoi rhyddid i bobl ifanc fynd i'r coleg, cyfweliadau swydd a gweld ffrindiau. Mewn ardaloedd gwledig fel Brycheiniog a Sir Faesyfed, lle mae costau trafnidiaeth yn uchel ac ynysu yn real, mae'r cynllun yn wirioneddol drawsnewidiol. Rydw i, fel eraill, wedi siarad â phobl ifanc sy'n byw yn lleol, ac maen nhw wrth eu bodd gyda'r cynllun hwn. Dyma'r dechrau. Mae arnom ni eisiau iddo fod yn newid cenhedlaeth mewn pobl ifanc sy'n defnyddio bysiau fel eu bod nhw mewn gwirionedd wedi arfer â gallu defnyddio bysiau ar gyfer cyfleoedd bob dydd. Felly, mae'n ymwneud â'r hinsawdd hefyd.
Mae yna un mater, sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Rydw i wedi siarad â chi am hyn o'r blaen. Rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn gorfod mynd trwy broses ymgeisio. Rwy'n pryderu y bydd yna bobl ifanc nad ydyn nhw'n gwneud hynny oherwydd pob math o rwystrau, neu efallai y byddant yn rhoi'r gorau iddi—efallai mai pobl ifanc sydd wedi arfer â'r broses honno. Felly, dim ond meddwl oeddwn i: a allech chi roi gwybod i ni sut rydych chi'n mynd i hyrwyddo hynny, yn enwedig trwy ysgolion? A fydd athrawon yn gallu gwneud hynny ar ran eu dosbarthiadau, er enghraifft? Ond diolch yn fawr iawn.
Wel, a gaf i ddiolch i Jane Dodds am y gefnogaeth anhygoel y mae hi wedi'i gynnig yn ystod bodolaeth y cynllun hwn ac yn ystod ei gynllunio? Ac mae Jane yn hollol iawn, mae gan 26,000 o bobl ifanc ychwanegol FyNgherdynTeithio erbyn hyn. Ac o fis Tachwedd, pan fydd plant pump i 15 oed yn gallu elwa o'r cynllun hwn, bydd rhywbeth fel oddeutu 500,000 o bobl ifanc yn gallu teithio am £1. Mae hynny'n nifer eithaf rhyfeddol o bobl a fydd yn elwa o'r cynllun hwn. Ac nid nhw yn unig, wrth gwrs: ond hefyd eu rhieni a'u gofalwyr. Ac mae Jane yn hollol iawn hefyd, bod hyn yn arbennig o fuddiol mewn ardaloedd gwledig, lle mae prisiau yn aml yn uwch oherwydd bod llwybrau bysiau yn aml yn llawer hirach. Felly, mae hwn yn gynllun hynod fuddiol i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig.
Rydym yn edrych ar sut y gallwn ni symleiddio'r system drwy'r amser i sicrhau nad yw'n peri rhwystrau ac nad yw pobl yn cael eu hatal rhag gwneud cais am y FyNgherdynTeithio. Mae gennym ni hefyd banel mynediad a chynhwysiant o fewn Trafnidiaeth Cymru sy'n gallu ein cynghori ar unrhyw rwystrau. Felly, ydym, rydym ni'n ymgysylltu ag ysgolion, rydyn ni'n ymgysylltu â cholegau, rydyn ni'n ymgysylltu trwy'r panel mynediad a chynhwysiant a gydag Aelodau Senedd Ieuenctid i sicrhau bod y system mor syml â phosibl. Ac mae Jane Dodds yn hollol gywir: mae hwn yn bolisi sydd wir yn chwalu rhwystrau. Mae'n galluogi a grymuso a rhyddhau pobl ledled Cymru.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn a'r derbyniad gwych o'r cynllun tocynnau bws gwerth £1 ac yn llongyfarch Trafnidiaeth Cymru hefyd ar ddarparu 26,500 o docynnau FyNgherdynTeithio hefyd. Nid yw hynny'n gamp hawdd.
Roeddwn i'n arfer cael trafferth hyrwyddo cynllun FyNgerdynTeithio i bobl ifanc, felly mae hyn yn dda iawn. Hefyd y bartneriaeth yn ogystal gyda chwmnïau: roeddwn i'n siarad ag Arriva Gogledd Cymru, ac fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi dod â saith bws ychwanegol i helpu gyda chapasiti, sy'n dda iawn. Rwy'n gwybod y bu gyrwyr yn poeni ychydig am gynllun FyNgherdynTeithio cyn efallai hepgor y bobl dan 16 oed, ac fe ellir cyflwyno hyn nawr o fis Tachwedd, sy'n dda iawn, felly mae hynny'n gweithio gyda gyrwyr hefyd.
Ac rwy'n gwybod bod cwmnïau—. Mae'n bwysig iawn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cynnal ar gyfer pobl eraill, ar gyfer pobl hŷn, felly bydd cael pobl iau ar y bysiau yn helpu, yn bydd, yn cynyddu'r defnydd hwnnw a'r capasiti, a, gobeithio, byddant yn parhau i'w ddefnyddio.
Mae cael un pris a hyrwyddo yn gweithio, yntydi? Felly, rydw i'n mynd i fod yn hy braidd ac rydw i'n mynd i ddweud: a fyddech chi'n ystyried ymestyn cynllun peilot i ddefnyddwyr eraill, efallai fel rhan o rwydwaith gogledd Cymru? Diolch. [Chwerthin.]
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas, nid yn unig am ei chyfraniad heddiw a'i chwestiynau, ond hefyd am fod yn amddiffynnwr a hyrwyddwr gwych o wasanaethau bysiau ers blynyddoedd lawer iawn, gan gynnwys yn ystod ei chyfnod fel cynghorydd ymroddedig iawn yng Nghyngor Sir y Fflint?
Rwy'n credu bod Carolyn yn hollol iawn: mae'r cynllun hwn gymaint yn gliriach ac yn symlach na'r cynllun y mae'n ei ddisodli. Roedd FyNgherdynTeithio bob amser yn eithaf poblogaidd wrth gynnig traean o ostyngiad ar docyn bws, ond roedd yn dal i olygu bod angen cyfrifo a bod prisiau'n amrywio cymaint ar draws gwahanol lwybrau ac ar draws gwahanol rannau o Gymru. Mae hyn yn dod â symlrwydd llwyr: uchafswm pris o £1 y tocyn, ni waeth ble rydych chi'n mynd, ar ba adeg o'r dydd, rhwng pa gymunedau, ac rwy'n credu mai dyna sydd wedi arwain at gymaint o bobl yn defnyddio FyNgherdynTeithio a chymaint mwy o bobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau bws. Ac roeddwn i gydag Arriva ddydd Gwener eto yn y Rhyl, ac fe ddywedwyd wrthyf i am y cynnydd rhyfeddol yn nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio eu gwasanaethau. Maen nhw'n hynod gyffrous am hyn, oherwydd maen nhw'n gweld hyn fel cyfle i gynyddu cwsmeriaid ar gyfer y tymor hir—nid yn unig ar gyfer y cyfnod peilot hwn, ond am lawer, lawer o flynyddoedd i ddod, a bydd hynny'n dod â chynaliadwyedd i'r rhwydwaith.
Roeddwn i hefyd yn falch iawn fy mod wedi gweld y bysiau T51 newydd gyda'u lifrai, sy'n cynnwys logo rhwydwaith gogledd Cymru, fel rhan o'r ymweliad a wnes i i'r Rhyl ddydd Gwener. Ac wrth gwrs, lle unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol yw ystyried pa fath o gynlluniau peilot i'w cynhyrchu, ond rwy'n hapus iawn i ystyried un ar gyfer rhwydwaith gogledd Cymru.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn cael eu rhestru fel rhai llai fforddiadwy na'r rhai sy'n gweithredu yn Lloegr a'r Alban, felly rwy'n falch iawn o weld bod y Llywodraeth, gyda rhywfaint o ysgogiad gan Jane Dodds—ac rwy'n credu eich bod wedi tanbrisio eich cyfraniad yn y fan yna, Jane, ond rhywfaint o ysgogiad gan Jane Dodds—wedi ymateb gyda'r cynllun penodol ac, mae'n ymddangos, hynod o lwyddiannus hwn, o'i gymharu â chynlluniau blaenorol.
Cefais sgwrs debyg y bore yma gyda myfyriwr sy'n teithio o faestref yng Nghaerdydd i'r Barri i fynd i'r coleg, ac ni all wneud hynny ar y bws. Felly, fel y dywedodd Jane Dodds eisoes, dim ond dechrau'r daith yw hwn. Wrth gwrs, mae angen i ni weld gwasanaethau bws estynedig. Dros y penwythnos, clywais feirniadaeth na allwch chi gyrraedd o Radur i ganol y ddinas mewn pryd erbyn 10.30 y bore, ac ni allwch chi gael bws o ganol y ddinas i Landaf ar ôl 7 yr hwyr ar ddydd Sul. Felly, mae angen i ni edrych ar wasanaethau penwythnos hyd yn oed mewn ardaloedd trefol.
Cwestiwn cyflym am y cerdyn ei hun. Rwy'n cofio, pan oedd gen i gerdyn bws fy hun yn yr ysgol, digwyddiad rheolaidd fyddai pobl yn anghofio eu cerdyn, pobl yn colli eu cerdyn. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i hyn a rhai sgyrsiau anodd y gallai rhai gyrwyr bysiau eu cael gyda defnyddwyr y cerdyn, pan fyddant wedi ei adael ar ôl neu wedi colli'r cerdyn? Diolch yn fawr.
[Anghyglyw.]
Os gallaf gael y—. Ydy. Mae meicroffon yr Ysgrifennydd Cabinet ymlaen nawr.
Diolch. A gaf i ddiolch i Rhys ab Owen am ei gwestiynau ac am ei gefnogaeth i'r cynllun? A byddwn, byddwn i'n cytuno bod Jane Dodds wedi tanbrisio ei rôl wrth gyflwyno hyn. Mae'n gynllun eithriadol. Mae'n gynllun fforddiadwy, rwy'n credu, un a fydd yn helpu i ehangu'r rhwydwaith os yw'n parhau yn y dyfodol, oherwydd mae'n cynhyrchu refeniw ychwanegol trwy niferoedd teithwyr ychwanegol.
Drwy fasnachfreinio bysiau, rydym ni wedi datblygu opsiwn rhwydwaith tair haen ledled Cymru: rhwydwaith sylfaenol, yn seiliedig ar gymorth refeniw cyfredol; rhwydwaith uchelgeisiol, yn seiliedig ar gynnydd; ac yna y rhwydwaith 'gorau', yn seiliedig ar yr uchafswm o arian sydd ar gael. A'r hyn rydym ni'n mynd i fod yn ei wneud yw adolygu faint o refeniw a godir trwy'r cynllun hwn. Bydd hynny wedyn yn ein galluogi i ddylunio rhwydwaith yn seiliedig ar y refeniw sydd ar gael wrth symud ymlaen, o ran y cymhorthdal gan y Llywodraeth ac o ran faint o docynnau a werthir, ac yna byddwn yn gallu cyflwyno'r rhwydwaith hwnnw. Ond rwy'n hyderus iawn, iawn y byddwn yn gallu dylunio rhwydwaith bysiau estynedig yn y dyfodol, o ganlyniad i gynyddu nifer y teithwyr ac felly cynyddu refeniw o'r tocynnau a werthir. Ond, yn amlwg, lle Lywodraethau'r dyfodol fydd penderfynu ar faint o gymorth ariannol a gynigir i'r rhwydwaith.
Ni fydd angen FyNgherdynTeithio ar blant pump i 15 oed, felly nid oes angen iddyn nhw boeni am ei adael gartref neu ei golli. Ac, wrth gwrs, mae hi wastad yn bosib i yrwyr bws ddefnyddio'i grebwyll os bydd rhywun ifanc yn colli neu'n gadael ei gerdyn gartref.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr eitem yna.
Eitem 9 sydd nesaf, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd Meddwl yw hyn, a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant sy'n gwneud y cynnig—Sarah Murphy.
Cynnig NDM8991 Sarah Murphy
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd Meddwl i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Iechyd Meddwl fel y'u nodir yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Mae hwn mewn difrif yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiwygio deddfwriaeth iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr, a bydd y Bil, os caiff ei ddeddfu, yn dod â Deddf Iechyd Meddwl 1983 i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd yn helpu i leihau'r anghydraddoldebau hynny ac yn rhoi mwy o ymreolaeth i bobl, mwy o ddewis, a chynyddu llais y claf yn eu gofal a'u triniaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy gydol y broses o ddrafftio'r Bil hwn ac yn ystod ei hynt drwy'r Senedd, ac fe hoffwn i ddiolch i'm swyddogion, sydd wedi gwneud llawer iawn o waith ar hyn.
Mae ein Mesur iechyd meddwl nodedig ein hunain wedi llywio datblygiad y Bil. Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â chynlluniau gofal a thriniaeth ac ymestyn eiriolaeth i bobl yn Lloegr yn cyd-fynd â'r sefyllfa sydd gennym ni eisoes yng Nghymru, yr ydym ni wedi arwain arni. Pan wnaethom ni nodi bod angen pwerau ychwanegol i Gymru, cytunodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio'r Bil, felly mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud darpariaeth ganlyniadol i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, ac mae hyn yn darparu mesurau diogelu cyfansoddiadol angenrheidiol.
Llywydd, mae rhai Aelodau yn y Siambr wedi gofyn pam na allwn ni gael ein Bil Iechyd Meddwl ein hunain i Gymru i gyflawni'r un bwriad polisi. Gadewch i mi fod yn hollol glir am hyn. Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn, ac yn wir yn Neddf 1983, yn ymwneud â meysydd a gedwir yn ôl a datganoledig. Mae'r berthynas rhwng agweddau a gedwir yn ôl a datganoledig, er enghraifft, rhwng y system cyfiawnder troseddol a'r gwasanaethau iechyd, yn golygu mai Bil y Deyrnas Unedig yw'r mecanwaith priodol i gyflawni'r newidiadau polisi hyn. Ni fyddai deddfu ar sail Cymru yn unig, mewn Bil Senedd, yn cyflawni'r un bwriad polisi, gyda sylw ar draws y systemau cyfiawnder ac iechyd mewn un darn o ddeddfwriaeth, fel y mae'r Bil hwn ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei wneud.
Yn y bôn, mae'r Bil yn sicrhau, lle mae ar bobl angen cefnogaeth gwasanaethau arbenigol, bod y gwasanaethau hynny yn wirioneddol ganolbwyntio ar y person ac yn ymateb i anghenion. Mae hefyd yn gwbl gyson â'n hymrwymiad i leihau dibyniaeth ar ofal ysbyty i bobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth, ac i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal yn y gymuned, gartref neu mor agos at adref lle bynnag y bo modd.
Rydym ni'n mynd i'r afael â chymorth iechyd meddwl yng Nghymru mewn modd sy'n seiliedig ar hawliau, fel y nodir yn ein strategaeth 10 mlynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mae'r Bil yn cefnogi hyn. Bydd yn rhoi mwy o ddewis a chyfle i gymryd rhan i rai o'n hunigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn y gofal a gânt, ac yn sicrhau y caiff yr hawliau hyn eu cymhwyso'n gyson ledled Cymru a Lloegr.
Rwy'n deall y bydd yr Aelodau yn rhwystredig bod yn rhaid i ni gyflwyno chweched memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mor agos at y ddadl heddiw, ac effaith hyn ar allu'r Senedd i graffu ar y gwelliannau hynny. Yn anffodus, nid fu gennym ni reolaeth dros yr amseru. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl bwyllgorau am eu gwaith ar y Bil hwn, a'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol, a fydd yn helpu'r Senedd i ddod i benderfyniad ynghylch cydsyniad. Llywydd, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr i gyfrannu. Peter Fox.
Diolch, Llywydd. Mae fy nghyfraniad heddiw yn ymwneud â'r tri memorandwm cyntaf ar gyfer y Bil hwn. Nid oeddem yn gallu ystyried y tri memorandwm diwethaf oherwydd amseriad y dyddiadau cau ar gyfer adrodd a'r penderfyniadau hwyr i ymestyn y dyddiadau cau hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes o'r blaen yn nodi ein pryderon am hyn. Wrth lunio ein hadroddiadau ar y memoranda hyn, rydym wedi ystyried barn rhanddeiliaid ac wedi clywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog. Gwnaethom 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, sydd wedi'u nodi'n llawn yn ein hadroddiadau. Hoffwn ganolbwyntio ar nifer fach o'r rhain heddiw, ac yn arbennig ymateb y Gweinidog iddynt.
Gwrthododd y Gweinidog argymhellion 3 a 7 yn ein hadroddiad. Gwnaed yr argymhellion hyn i gydnabod y cymhlethdod a'r gorgyffwrdd rhwng y Ddeddf Iechyd Meddwl a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Roedden nhw'n galw am fframwaith cyfreithiol clir, ymarferol ar gyfer gweithredu'r Bil yng Nghymru er mwyn sicrhau cydlyniant ac eglurder i gleifion a gweithwyr proffesiynol. Roeddem eisiau sicrhau bod diwygiadau fel dogfennau dewis ymlaen llaw a phersonau enwebedig yn cael eu hintegreiddio â chyfraith ac ymarfer presennol Cymru. Wrth wrthod yr argymhellion hyn, ymddengys mai safbwynt y Gweinidog yw bod y Ddeddf a'r Mesur yn wahanol ac yn gwasanaethu dibenion gwahanol, ac felly, nid oes angen fframwaith cyfreithiol i alinio'r ddau. Fodd bynnag, mae canolbwyntio ar y gwahanu cyfreithiol hwn yn peryglu tanseilio profiad ymarferol defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol sy'n gorfod llywio drwy'r ddau fframwaith ar yr un pryd.
Gwnaed argymhellion 3 a 7 i gydnabod y gorgyffwrdd mewn teithiau cleifion rhwng gofal gwirfoddol a gorfodol, yr angen am eglurder ynghylch sut y bydd darpariaethau newydd, megis dogfennau dewis ymlaen llaw a phersonau enwebedig, yn rhyngweithio â'r hawliau presennol o dan y Mesur a chanfyddiadau adroddiad dyletswydd 2015 i adolygu ar y Mesur.
Gweinidog, yng ngoleuni fy mhryderon heddiw, gofynnaf i chi ailystyried eich ymateb i argymhellion 3 a 7 ac ymrwymo i gyhoeddi fframwaith gweithredu sy'n nodi'n glir sut y bydd y Mesur a'r Bil yn gweithredu gyda'i gilydd yn ymarferol. Gofynnaf hefyd i chi egluro rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau o dan y ddau ddarn o ddeddfwriaeth ac ymrwymo i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn deall eu hawliau a sut i'w harfer ar draws y ddau fframwaith cyfreithiol.
Yn olaf, mae eich ymateb i'n hadroddiad yn nodi y byddwch yn datblygu cynllun gweithredu. Ydych chi mewn sefyllfa i'n diweddaru ar y cynnydd gyda hynny? Diolch.
Mike Hedges nesaf, sef Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gosod pedwar adroddiad ar y chwe memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf y pwyllgor, ar y ddau femorandwm cyntaf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, ym mis Ebrill, a gosodwyd adroddiad diweddaraf y pwyllgor, ar femorandwm Rhif 5, ddydd Mercher diwethaf. Ni chaniatawyd digon o amser i'r pwyllgor graffu ar femorandwm Rhif 6 mewn ffordd ystyrlon, gan mai dim ond dydd Mawrth diwethaf y cafodd ei osod gerbron y Senedd.
Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar y safbwyntiau a fynegwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad cyntaf. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r pwyllgor yn aml yn codi pryderon am Lywodraeth Cymru yn defnyddio Biliau Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na chyflwyno Biliau i'r Senedd hon. Mae'r pwyllgor yn credu bod diffyg democrataidd yn dod i'r amlwg o ganlyniad i ddull gweithredu'r Llywodraeth yn y maes hwn. Yn yr un modd, rydym o'r farn bod y defnydd o'r Bil hwn i wneud darpariaeth ym maes iechyd meddwl, sy'n faes polisi datganoledig, yn cyfrannu at y diffyg digroeso hwnnw.
Mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru, gofynnodd y pwyllgor pa ystyriaeth a roddwyd i ddeddfu ochr yn ochr â Llywodraeth y DU drwy Fil a gyflwynwyd i'r Senedd. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod llawer iawn o ddarpariaeth drawsffiniol o wasanaethau iechyd meddwl rhwng Cymru a Lloegr, a bod peidio â chymryd darpariaethau yn y Bil hwn mewn perygl o gynyddu gwahaniaeth rhwng gwasanaethau sydd ar gael yn y ddwy wlad.
Fodd bynnag, nid yw'r pwyllgor yn gweld dadleuon Llywodraeth Cymru yn argyhoeddiadol. Credwn y dylai fod yn bosibl i Lywodraethau Cymru a'r DU ddyfeisio a chynnig atebion deddfwriaethol trwy weithio a mecanweithiau rhynglywodraethol priodol, i liniaru unrhyw risgiau canfyddedig o wahaniaeth. Byddai mabwysiadu'r dull hwn wedi ei gwneud yn bosibl cyflwyno Bil i'r Senedd i gyflawni'r un amcanion. Felly, mae'r pwyllgor o'r farn bod y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael yr effaith o neilltuo'r Senedd fel deddfwrfa, ac yn atal Aelodau etholedig y Senedd rhag cael cyfle i graffu ar fanylion y ddeddfwriaeth.
Galwodd y pwyllgor yn ei adroddiad ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut mae'r dull yn ystyried datganoli. Mewn ymateb, clywodd y pwyllgor fod y rhyngwyneb rhwng y meysydd a gedwir yn ôl a'r rhai datganoledig yn y Bil yn golygu mai Bil y DU yw'r mecanwaith priodol i gyflawni newidiadau polisi. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y Senedd yn cael llai o graffu drwy'r dull a fabwysiadwyd, er ei bod yn dweud bod angen cydbwyso'r ystyriaeth hon â'r angen i gyflawni newid cadarnhaol i Gymru.
Fel y mynegwyd yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 3, mae'r pwyllgor yn siomedig gan ansawdd cyffredinol ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad cyntaf. Am y rheswm hwn, nid yw ein barn ar y dull a fabwysiadwyd yn newid rhwng ein hadroddiad cyntaf a'n hail adroddiad.
Mae'r pwyllgor o'r farn mai'r ffordd orau o gyflawni canlyniadau sydd er budd gorau Cymru yw deddfu drwy gyfrwng Bil Llywodraeth Cymru yn y Senedd. Nid yw'n glir i'r pwyllgor sut mae'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru, sef neidio ar gwt deddfwriaeth a gynlluniwyd ar gyfer Lloegr, yn parchu datganoli i Gymru.
James Evans.
Mae'n ddrwg gen i—cefais fy nal gennych chi yn y fan yna, Llywydd. [Chwerthin.]
A gaf i ddweud o'r cychwyn cyntaf ei bod yn gadarnhaol gweld y Bil Iechyd Meddwl hwn yn cael ei gyflwyno? Rwy'n gwybod bod yna amheuon gan bwyllgorau, ac mae'n bwysig iawn bod yna amheuon a meysydd y gallwn wella arnynt, ond mae angen i ni wybod ble rydym ni wedi bod ac i ble rydym ni'n mynd. Os edrychwch ar yr hen ddeddfwriaeth rydym ni wedi bod yn ei dilyn, mae'n hen ffasiwn, mae'n dod o gyfnod yn y gorffennol, ac mae angen ei dwyn i'r byd modern. Felly, rwy'n gefnogol iawn i'r Bil hwn. Roedd yn Fil a gyflwynwyd o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol. Roedd un peth a wnaeth fy ngwylltio i yn fawr, sef ei fod wedi cael ei roi o'r neilltu ar un adeg, ond dyna ni, allwn ni ddim bod yn hapus trwy'r amser. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, Mike, am drueni. [Chwerthin.] Ond rwy'n falch ei fod yn ôl nawr ac mae ar y bwrdd.
Gweithiais yn agos iawn gyda thri Gweinidog iechyd meddwl a llesiant yma—yr un i lawr yn y blaen, yr un nad yw yn y Siambr, a'r Gweinidog presennol—ar fy Mil. Rwy'n falch iawn o weld beth sy'n cael ei gyflwyno yma. Mae'r Bil hwn yn dod â dewis ac ymreolaeth, yn cynnwys y cyfyngiadau lleiaf a buddion therapiwtig—mae'r rhain i gyd yn cael eu cyflwyno trwy'r ddeddfwriaeth newydd—sydd yn fy marn i yn bwysig iawn yn y ffordd rydym ni'n symud deddfwriaeth iechyd meddwl ymlaen yma ym Mhrydain, nid yn unig yng Nghymru.
Rwyf, fel y dywedodd y rhan fwyaf o bobl, yn siomedig na allwn ddeddfu yma yng Nghymru, ond, o brofiad personol, rwy'n gwybod pa mor anodd yw'r maes hwn. Pan fyddwch chi'n mynd i mewn i dechnegau cyfreithiol y Bil hwn, byddai cael amrywiad gwahanol yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud hi'n anodd iawn ei weithredu. Mae'n debyg mai gwneud hyn ar sail ledled y DU yw'r lle gorau i ymdrin â'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Hoffwn weld pethau'n newid yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod ein bod wedi cael y strategaeth iechyd meddwl wedi'i diweddaru gan y Gweinidog, a oedd yn mynd i'r afael â rhai o'r pethau yr oeddwn i eisiau eu gweld yn newid, ond mae'n bwysig bod y ddwy ddogfen hynny'n cyd-fynd ac yn gweithio gyda'i gilydd yn y maes hwn.
Un peth rydw i'n eithaf hapus yn ei gylch, mewn gwirionedd, yw disodli'r perthynas agosaf gyda pherson penodedig. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un yn y Siambr hon ddeall pa mor bwysig yw hynny i bobl sy'n dioddef trais domestig, er enghraifft. Gallai eu perthynas agosaf fod eu camdriniwr, sydd mewn gwirionedd yn gweithredu ar eu rhan mewn sefyllfaoedd meddygol ynglŷn â'u hiechyd meddwl. Mae angen newid hynny, ac rwy'n falch iawn bod hynny wedi symud.
Un peth rydw i ychydig yn siomedig yn ei gylch yn y Bil yw nad wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell i ymgorffori hawliau plant. Mae plant yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl cymaint ag unrhyw un arall, ac rwy'n credu bod angen pwyslais cryfach yn y Bil hwn ar ganiatáu i blant gael ailasesiadau. Mae hynny'n rhywbeth rydw i eisiau ei weld. Rwy'n gwybod nad yw'n cael ei gynnwys ar hyn o bryd, ond rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog wthio hynny hyd yn oed ymhellach. Oherwydd os ydym am weld hawliau plant yn cael eu parchu, mae angen iddynt allu cael mynediad at ofal amserol a'i ailasesu. Mae plant yn mynd trwy'r system, yn gadael y system, ac yna os ydyn nhw eisiau cael eu hiechyd meddwl wedi'i ailasesu, mae'n rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i'r dechrau a mynd trwy'r cyfan eto. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n briodol.
Do, dywedom fod rhai pryderon gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog godi'r rheini, ond a gaf i roi ar y cofnod y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn? Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ei gyflwyno. Mae angen y ddeddfwriaeth hon, ac mae'n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o bobl ledled y wlad. Hoffwn ganmol Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n sefyll ar y blaen, Lynne Neagle, Jayne Bryant, a chi, Sarah, am y gwaith rydych chi wedi'i wneud ar baratoi'r Bil hwn. Rwy'n gwybod nad yw pawb yn mynd i fod yn hapus yn y Siambr hon, ond gallaf ddweud bod hwn yn lle llawer gwell na lle rydym ni wedi bod ynddo yn y gorffennol. Felly, diolch yn fawr iawn.
Mae'r Bil hwn yn cynrychioli cyfle hirddisgwyliedig i gryfhau'r gyfraith iechyd meddwl, ac rydym yn croesawu ymdrechion i foderneiddio'r fframwaith presennol sydd wedi hen ddyddio. Fodd bynnag, mae'r broses unwaith eto wedi codi pryderon ynghylch sut mae deddfwriaeth y DU yn rhyngweithio â chyfrifoldebau datganoledig. Mae'n bryderus iawn bod Cymru'n parhau i ddilyn esiampl San Steffan ar fater mor hanfodol, yn hytrach na thorri ein cwys ein hunain yn rhagweithiol, gorfodi ein Mesur iechyd meddwl ein hunain a sicrhau y cydymffurfir ag ef. Mae'r angen am ddiwygio yng Nghymru wedi bod yn glir ers blynyddoedd lawer, ond mae gweithredu wedi cael ei ohirio. Mae'r diffyg ffocws hwn ar y maes hanfodol, pwysig hwn wedi arwain at Lywodraeth Cymru yn gorfod gweithio o fewn cyfyngiadau deddfwriaeth y DU, yn hytrach na llunio fframwaith sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau gwahanol Cymru o'r cychwyn cyntaf. Mae hefyd yn adlewyrchu'r setliad datganoli gwael a pham y mae angen i'r Llywodraeth hon ymladd dros ddatganoli cyfiawnder.
Mae cwestiynau hefyd ynglŷn â sut y bydd y gweithlu, y seilwaith a'r capasiti digidol angenrheidiol yn cael eu datblygu i gefnogi'r diwygiadau hyn yn ymarferol. Heb hynny, mae nodau'r Bil mewn perygl o beidio â chael eu gwireddu'n llawn yng Nghymru. Felly, edrychaf ymlaen at glywed cynlluniau'r Gweinidog mewn ymateb i'r problemau gwirioneddol hyn a fydd yn codi.
Rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod blaenoriaethau Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n llawn wrth i'r Bil fynd rhagddo, a bod trefniadau gweithredu yn y dyfodol yn cael eu harwain gan Gymru, nid gan San Steffan. Fodd bynnag, mae brys yn y maes hwn, ac mae gwir angen gweld newidiadau sy'n cael eu hyrwyddo yn y Bil yn cael eu gweithredu yng Nghymru, yn ogystal ag yn Lloegr. Ar y sail hon, a'r ffaith ein bod yn cefnogi nodau'r Bil hwn yn gyffredinol ac yn cydnabod pwysigrwydd symud ymlaen gyda newid cadarnhaol, byddwn yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y Bil hwn.
Y Gweinidog iechyd meddwl nawr i ymateb. Sarah Murphy.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Roeddwn i eisiau ailadrodd eto, gan fod nifer ohonoch wedi sôn amdano, fy mod yn ymddiheuro i Aelodau'r Senedd nad yw hyn wedi gadael llawer iawn o amser ar gyfer craffu—y ffordd y cafodd hwn ei wneud—ac i ystyried y gwelliannau. Gosodwyd dau welliant mân a thechnegol gan Lywodraeth y DU ar 16 Medi, sef y dyddiad cynharaf posibl i mi eu hanfon ymlaen i'r Senedd bryd hynny, yn dilyn toriad y Senedd. Rwy'n cydnabod hynny ac yn ymddiheuro, ac rwy'n diolch i bawb eto am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud mewn cyfnod byr.
Roeddwn i eisiau mynd i'r afael â'r hyn yr oeddech chi'n ei ofyn am y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Mesur Iechyd Meddwl. Fel y gwyddom, maent yn eithaf gwahanol i'w gilydd o ran nod a chwmpas, ond rydym yn hynod falch, fel y dylem fod, o'n Mesur iechyd meddwl, sydd wedi'i wneud ar gyfer Cymru ac sy'n unigryw i Gymru. Mae wedi llwyddo i wella mynediad at gymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol trwy sefydlu'r gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol, ac mae hefyd wedi helpu i gryfhau hawliau pawb sy'n cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, er enghraifft trwy ymestyn eiriolaeth a gosod cynlluniau gofal a thriniaeth ar sail statudol. Mae'r Mesur nawr yn un o gyfres o ddulliau sydd gennym yng Nghymru sydd wedi helpu i foderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ein ffocws ar atal, ac mae'r dull yn y pen draw yn bwriadu lleihau'r angen am orchymyn cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Dyna sut y byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd.
Gallaf roi ychydig o'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y gweithrediad. Mae'r Bil yn cyd-fynd â'n dull strategol yng Nghymru, wrth gwrs, ac felly mae rhywfaint o'r gwaith angenrheidiol i gefnogi'r gwaith gweithredu eisoes ar y gweill, er enghraifft gwella cymorth cymunedol ar gyfer anabledd dysgu ac awtistiaeth, y ddau hefyd yn fy mhortffolio. Rydym yn trawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl i ddarparu'r dull gofal fesul cam hwnnw gyda'r nod, unwaith eto, o leihau'r angen am uwchgyfeirio, gwasanaethau mwy arbenigol neu gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Rydym hefyd yn buddsoddi yn ein gweithlu iechyd meddwl drwy'r cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol, sy'n cynnwys y rôl graidd o gefnogi gweithrediad y Ddeddf Iechyd Meddwl yng Nghymru. Hefyd, wrth i hwn gael ei gyflwyno, ac fel y gwnawn bob amser yng Nghymru—ac rwy'n credu ein bod ni'n arwain arno—byddwn bob amser yn cael mewnbwn rhanddeiliaid, byddwn yn cael profiad bywyd, a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar bobl yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd.
Roeddwn i hefyd eisiau codi fy mod yn wirioneddol ddiolchgar i'r pwyllgorau am y gwaith rydych chi'n ei wneud. Rwy'n parchu'r adroddiadau rydych chi wedi'u darparu. Ar ôl bod yn Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, er yn fyr iawn—pedair wythnos i fod yn fanwl gywir—hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw, ac mae'r bobl sy'n gweithio ar y pwyllgor hwnnw hefyd yn hollol wych ac maen nhw'n gwybod eu pethau, roeddem bob amser yn gofyn: ond oni fyddem ni wedi gallu gwneud hyn ein hunain? Oni allai'r Senedd fod wedi gwneud hyn ei hun? Mae'n hollol iawn, i ni ofyn y cwestiwn hwnnw. Unwaith eto, byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais i yn fy araith, sef na fyddwn wedi gallu gwneud hynny yn yr achos hwn, oherwydd nid oedd dim ond yn ymwneud â pheidio â bod â gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr o ran iechyd ac iechyd meddwl, sydd wedi'i ddatganoli. Roedd hyn yn ymwneud â chyfiawnder troseddol ac agwedd pwerau'r heddlu ohono, yn enwedig adrannau 135 a 136.
Hoffwn innau hefyd weld datganoli cyfiawnder troseddol i Gymru, ond roedd yn rhaid i mi weithio o fewn y paramedrau a oedd gen i o fewn y Bil hwn, ac ar hyn o bryd dyna lle rydym ni. Dyna pam rwy'n credu'n llwyr fod gosod hwn heddiw a chefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol er budd gorau pobl Cymru. Bydd yn gwneud popeth yr oedd James Evans wedi bwriadu eu gwneud gyda'i Bil Aelod preifat, a phopeth rwy'n credu ein bod ni i gyd eisiau ei weld ar gyfer pobl ledled Cymru, mewn amgylchiadau penodol iawn pan fydd yn rhaid iddynt gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Rwy'n gobeithio bod hynny wedi rhoi sicrwydd i lawer ohonoch chi. Rwy'n fwy na hapus i barhau i ddod yn ôl a rhoi diweddariadau ar hyn. Mae'n daith, byddaf yn onest gyda chi, a James, rwy'n credu hefyd y dylem barhau i wthio am fwy o ddarpariaeth a chynhwysiant plant a phobl ifanc. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ni fydd angen cyfnod pleidleisio, felly dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.