Y Cyfarfod Llawn
Plenary
02/07/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. A gaf i gymryd y cyfle, gan taw hwn fydd y cyfarfod diwethaf cyn i fenywod Cymru chwarae pêl-droed yn yr Ewros, wrth i'r Ewros gychwyn, i ddymuno, ar ein rhan ni, fel Senedd, i gyd, bob llwyddiant i'n tîm cenedlaethol ni wrth iddyn nhw ymgymryd â'u tasg o gystadlu yn yr Ewros a'n cynrychioli ni ar blatfform rhyngwladol fel tîm cenedlaethol pêl-droed am y tro cyntaf. Felly, pob llwyddiant iddyn nhw i gyd. Rŷn ni i gyd yn falch iawn o'r hyn y maen nhw eisoes wedi'i gyflawni ar ein rhan ni. [Cymeradwyaeth.]
Fe symudaf i ymlaen nawr at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465? OQ62948

Gwnaf, wrth gwrs. Roeddwn wrth fy modd yn agor y rhannau olaf o ffordd Blaenau'r Cymoedd i gael eu gwella ar 12 Mehefin. Bydd y datblygiad hwn yn cefnogi twf economaidd drwy gynhyrchu swyddi, meithrin ffyniant, darparu cyfleoedd, a gwella cysylltedd a buddion i gymunedau ledled y rhanbarth.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi bod yn helpu cwpl sy'n byw'n agos at yr A465 mewn perthynas â difrod a achoswyd i'w tŷ yn ystod y gwaith adeiladu. Mewn un achos, cafodd llawer o'r ffenestri gwydr dwbl yn eiddo fy etholwyr eu difrodi, ac mae Future Valleys Construction bellach wedi gosod rhai newydd. Cyn y gwaith adeiladu, cynhaliwyd arolwg o'r eiddo, a hyd y gwelaf, ni nododd unrhyw graciau yn yr adeilad. Ond flwyddyn yn ddiweddarach, dechreuodd fy etholwyr sylwi ar graciau sylweddol yn yr eiddo. Comisiynodd y cwpl arolwg preifat, a nododd lawer o graciau C1, ac yn waeth na hynny, crac yn wal eu garej, a oedd yn peryglu cadernid wal flaen y garej.
Mae fy etholwyr wedi dioddef yn drwm, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r pryder a'r straen o ganlyniad i'r sŵn, y llwch a'r tarfu wedi cael effaith fawr arnynt. Maent yn deall yr angen am ffordd newydd, ond mae arnaf ofn eu bod wedi cael eu trin yn ofnadwy. Y cyfan y mae fy etholwyr yn gofyn amdano yw bod y difrod o ganlyniad i'r gwaith hwn a achoswyd i'w heiddo yn cael ei atgyweirio. Mae FVC wedi derbyn copi o arolwg preifat fy etholwyr ac mae FVC wedi cadarnhau y byddant yn cynnal arolwg ôl-adeiladu o'r eiddo. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod y ffordd bellach ar agor, a wnewch chi roi pwysau ar FVC i gynnal yr arolwg a chwblhau'r gwaith sydd angen ei wneud ar eiddo fy etholwyr ar frys er mwyn datrys y mater unwaith ac am byth?
Wrth gwrs, yn sicr, a diolch i'r Aelod, ac yn wir, i ITV Cymru hefyd, a dynnodd sylw yn ddiweddar at yr heriau y mae llawer o bobl wedi'u hwynebu. Fel y mae Natasha Asghar wedi'i nodi, mae pobl yn cydnabod gwerth y ffordd hon, ond mae wedi achosi tarfu, ac rwy'n ymddiheuro am unrhyw darfu ar berchnogion tai.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod Future Valleys Construction yn cynnal asesiadau o eiddo unigol a'r darn o'r llwybr sydd wedi'i uwchraddio i gyd, ac yn amlwg, dylid anfon unrhyw hawliadau at eu hadran hawliadau. Nid yw'n ddyletswydd ar Weinidogion i ymhél ag unrhyw hawliadau unigol a wneir. Ond bydd asesiad sŵn ôl-adeiladu yn cael ei gynnal, a bydd hwnnw'n cael ei gwblhau'n llawn, gyda chanlyniadau ar gael yn nes ymlaen yn yr haf—ym mis Medi, rwy'n credu. Ac o ran hawliadau iawndal, gellir eu gwneud hyd at flwyddyn a diwrnod ar ôl cwblhau'r gwaith.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud y strydoedd yn fwy diogel i fenywod gerdded a beicio? OQ62962
Rydym eisoes yn cymryd camau i sicrhau bod cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel ac yn fwy cynhwysol, yn enwedig i fenywod a merched. A byddwn yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad, grymuso lleol ac ymyriadau'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael gwared ar y rhwystrau ac sy'n helpu i sicrhau y gall pawb deimlo'n fwy diogel ar ein strydoedd wrth gerdded, olwyno a beicio.
Diolch am yr ateb.
Efallai fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ymgyrch ddiweddaraf Cycling UK, 'My ride. Our right', sy'n ceisio tynnu sylw at y problemau penodol y mae menywod yn eu hwynebu wrth feicio. Credaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod menywod 50 y cant yn llai tebygol o feicio na dynion ac mai'r prif reswm pam yw nad yw menywod yn teimlo'n ddiogel. Maent yn dioddef o ddiffyg goleuo, bygythiadau, weithiau gan yrwyr, ac nid yw'r seilwaith cystal ag y dylai fod, ac mae hanner y menywod yn dweud eu bod yn beicio llai oherwydd eu pryderon ynghylch diogelwch. Felly, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud pethau gwych ar deithio llesol, gan symud pethau yn eu blaen, ond a allai sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol a datblygiadau presennol yn rhoi ystyriaeth i'r ffaith nad yw menywod, ar y cyfan, yn teimlo'n ddiogel wrth feicio ac wrth deithio'n llesol mewn ffyrdd eraill?
Yn sicr, a chredaf fod Julie Morgan wedi gwneud pwynt gwerthfawr ar ddiwedd ei chyfraniad drwy ddweud bod diogelwch yn berthnasol i bob dull o symud. Mae bod ag ofn beicio yn berthnasol hefyd i gerdded ac i olwyno mewn sawl ardal. Mae hyn yn rhywbeth y mae Delyth Jewell wedi'i godi gyda mi ar sawl achlysur, ac rydym wedi cael trafodaethau adeiladol da iawn ynghylch sut y gallwn wella diogelwch ar draws pob dull teithio. Nid yn unig ein bod ni eisiau strydoedd mwy diogel; rydym eisiau i bobl deimlo'n fwy diogel ar eu strydoedd hefyd.
Rwy'n llwyr gydnabod y rhwystrau y mae llawer o fenywod yn eu hwynebu o ran cerdded, olwyno a beicio, yn enwedig o ran diogelwch a seilwaith, a hyder hefyd. Nid wyf yn credu mai mater trafnidiaeth yn unig a wynebwn; mae'n fater cydraddoldeb, mae'n fater tegwch. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gryfhau sut rydym ni ac awdurdodau lleol yn ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn llawer cynharach yn y broses gynllunio o ran buddsoddi mewn cynlluniau cerdded, olwyno a beicio. Mae gennym y panel mynediad a chynhwysiant hefyd, sy'n ganolog yn Trafnidiaeth Cymru. Mae hwnnw'n llais hynod werthfawr i'r bobl sy'n aml yn fwy agored i niwed ac sy'n aml yn ofni gadael eu tai a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio'n llesol.
Felly, rydym hefyd yn meithrin y sgiliau, dylwn ddweud, Lywydd, ac yn darparu cymorth i awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi eraill ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, cynlluniau cynhwysol ac ymgysylltu cymunedol ystyrlon, gan fod yn rhaid gwrando ar leisiau menywod o'r cychwyn cyntaf, yn y cyfnod cynllunio a blaenoriaethu. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei fynnu ar lefel leol. Rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda'u panel mynediad a chynhwysiant, a thrwy'r agenda a ddisgrifiwyd gennym yn 'teithio i bawb', rydym yn sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys menywod, ar flaen ein hystyriaethau bob amser wrth fuddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth.
Diolch am eich ateb i Julie Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwyf am siarad am bobl ag amhariad ar y golwg, os yw hynny'n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd yn fy etholaeth i, yn Llandrindod, rydych chi'n ymwybodol iawn o'r cynllun teithio llesol a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynllun hwnnw mor eang bellach fel ei fod yn gorfodi cerbydau nwyddau trwm i yrru ar y palmant, sy'n creu perygl gwirioneddol i bobl ag amhariad ar y golwg, rhieni sy'n gwthio pramiau, a phobl sy'n beicio. Byddwn yn dweud nad oes gan bwy bynnag a gynlluniodd y cynllun owns o synnwyr cyffredin, oherwydd pe baech chi'n mynd yno ac yn ei weld â'ch llygaid eich hun, byddech yn deall y problemau y mae'n eu hachosi i gerddwyr a gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, a'r risgiau y mae'n eu hachosi. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i adolygu'r cynllun hwnnw, i sicrhau ei fod yn ddiogel i gerddwyr, ac os ydym yn mynd i gael unrhyw gynlluniau teithio llesol yn y dyfodol, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gerbydau nwyddau trwm sy'n gyrru ar ffyrdd cul?
Mae James Evans yn gofyn cwestiwn amserol iawn gan imi gyfarfod â chwmnïau cludo nwyddau a chyrff cynrychiadol ddydd Llun, lle codwyd y pryder hwn. Dros y penwythnos, cyfarfûm hefyd â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, lle codwyd pryderon tebyg hefyd. Felly, wrth gwrs, byddwn yn archwilio'r prosiect penodol hwnnw wrth inni fynd ati i adolygu'r canllawiau cynllunio ar gyfer teithio llesol, cam y mae nifer o sefydliadau bellach wedi dweud bod angen ei gymryd ar frys, i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed ar ein strydoedd.
Gaf fi ddiolch i Julie Morgan am godi'r mater pwysig dros ben yma? Mi fyddwch chi'n ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, fod newidiadau ar waith o ran polisi trafnidiaeth ysgol Rhondda Cynon Taf i ddarparu'r hyn sy'n statudol, sef pellter o 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd, yn hytrach na 2 filltir fel sy'n cael ei ddarparu ar y funud. Mae diogelwch yn fater y mae nifer o rieni a disgyblion wedi ei godi gyda mi fel rhywbeth sy'n eu pryderu nhw'n fawr, yn arbennig merched, a hynny yn y gaeaf, pan fydd hi'n dywyll wrth iddyn nhw ddechrau cerdded neu seiclo i'r ysgol, ac ar y ffordd adref. Mae o hefyd yn fater sy'n dod drosodd yn glir yn y ddogfen hon, sef adroddiad gan rieni Rhondda Cynon Taf, sy'n seiliedig ar sylwadau'r gymuned. Pa ddisgwyliadau sydd gennych chi fel Llywodraeth o ran yr hyn y dylai awdurdodau lleol ei wneud i sicrhau bod polisïau trafnidiaeth ysgol yn sicrhau diogelwch dysgwyr a bod eu lleisiau nhw yn cael eu clywed pan fydd yna ymgynghoriadau? Mi ddylai pawb allu teimlo'n ddiogel wrth deithio i'r ysgol.
A gaf i ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn a dweud, yn fy mhrofiad i, fod pob awdurdod lleol yn poeni am les a diogelwch pobl ifanc pryd bynnag y maent yn gwneud penderfyniadau ynghylch materion trafnidiaeth? Wrth gwrs, cynhaliwyd yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr yn ddiweddar, a oedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn o ran trafod yr heriau a wynebwn. Mae llawer o heriau o ran teithio gan ddysgwyr a chludiant dysgwyr, yn ogystal â rhai atebion ymarferol. Wrth gwrs, rydym yn bwrw ymlaen â rhai yn y tymor byr, gan gynnwys y cap o £1 ar docynnau i bobl ifanc ar fysiau. Ac wrth gwrs, bydd y Bil bysiau hefyd yn ein galluogi i adfer rheolaeth dros y rhwydwaith ac integreiddio gwasanaethau bysiau—gwasanaethau bysiau rheolaidd—â theithio gan ddysgwyr yn well. Ond mae hon yn broblem fawr yr ydym yn gweithio'n agos iawn gyda phob awdurdod lleol arni.
Ac o ran y trothwy milltiredd, mater i awdurdodau lleol yw hynny. Rydym yn cydnabod, ar ôl 14 mlynedd o gyni, fod cyllid yn brin, ond mae'r tapiau wedi'u hagor. Ac rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, o ganlyniad i'r ymyriadau niferus y byddwn yn eu gwneud, y bydd y sefyllfa o ran teithio gan ddysgwyr yn gwella'n sylweddol.
Cwestiynau'r llefarwyr fydd nesaf, ond, cyn i mi alw ar Gareth Davies i ofyn ei gwestiwn, mae’n bleser gen i groesawu Llywydd Senedd Deddfwriaethol De Cymru Newydd, sydd yn yr oriel gyhoeddus.
Mae'n bleser mawr croesawu i'n horiel, ac i'n Senedd, Llywydd Cyngor Deddfwriaethol De Cymru Newydd, Ben Franklin, a'ch dirprwyaeth. Ac fel y cawsom gyfle i'w drafod y bore yma, rydym yn ein cartref dros dro yma, nid yn ein cartref parhaol, sy'n cael ei adnewyddu ar gyfer y Senedd nesaf. Ond rydym wedi dod â byrllysg y Senedd gyda ni, sydd wedi'i osod o'n blaenau yma, a chawsom hwnnw yn rhodd hael iawn gan Senedd De Cymru Newydd i Senedd newydd Cymru, dros 20 mlynedd yn ôl. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd hwnnw, ac rydym yn ei drysori'n fawr, ac yn dod ag ef gyda ni lle bynnag yr awn.
Felly, diolch yn fawr, a chroeso i chi i Gymru. [Cymeradwyaeth.]
Croeso i Gymru. [Cymeradwyaeth.]
Felly, Gareth Davies—cwestiynau'r llefarwyr.
Diolch, Lywydd. Mae Gogledd Cymru yn ganolog i economi twristiaeth ein gwlad. Rydym yn croesawu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae'n hanfodol i'n heconomi ranbarthol, gan gyfrannu £1.8 biliwn yn uniongyrchol at economi gogledd Cymru bob blwyddyn. Heb os, bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael effaith fawr ar ein heconomi ranbarthol. Mae hyn, gydag amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ei hun yn rhagweld hyd at £576 miliwn o niwed i'r economi, yn mentro tanseilio un o'n diwydiannau mwyaf llwyddiannus. Mae'r dreth hon yn anfon y neges anghywir ar yr adeg waethaf sy'n bosibl i'r diwydiant, gyda nifer yr arosiadau dros nos yng Nghymru i lawr 29 y cant o gymharu â 2022, a mynegai teithio a thwristiaeth diweddaraf fforwm economaidd y byd yn gosod Prydain yn safle 113 allan o 119 o wledydd o ran cystadleurwydd prisiau. Bydd ei gwneud hyd yn oed yn ddrytach yn atal ymwelwyr, ac felly, refeniw i'n rhanbarth.
Ond o ystyried y bydd y dreth yn dod i rym, hoffwn wybod sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi busnesau bach yn sector twristiaeth y gogledd a fydd yn gorfod ymdopi â'r dreth ychwanegol hon ar eu diwydiant, ar ben y cynnydd mewn yswiriant gwladol, ardrethi busnes a chyfradd y dreth gyngor ar ail gartrefi. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ddweud wrthym pa drafodaethau y mae wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynglŷn ag effaith economaidd bosibl y dreth hon ar economi'r gogledd a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru hyn?
Wel, a gaf i ddiolch i Gareth Davies am ei gwestiwn? Ar y penwythnos, bûm i a llawer o aelodau eraill o'r Blaid Lafur draw yn Llandudno, cyrchfan wych i dwristiaid—lle godidog. Rydym yn ffodus iawn i gynrychioli etholaethau'r gogledd, onid ydym? Ac ar ddiwedd y gynhadledd, yn hytrach na rhuthro'n ôl i Riwabon, roeddwn yn meddwl y byddwn yn treulio ychydig bach mwy o amser yn yr ardal, yn buddsoddi ychydig bach mwy o amser yn yr ardal. A bûm draw yng Nghonwy hefyd, sydd hefyd yn lle gwych. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fod ganddynt y tŷ lleiaf yn y byd ar lan y môr yno. A dywedwyd wrthyf y bydd eich plaid yn cynnal eich cynhadledd chi yng nghyntedd yr atyniad twristaidd penodol hwnnw ar ôl yr etholiad y flwyddyn nesaf. [Chwerthin.]
Mewn ymateb uniongyrchol i'ch cwestiwn, credaf ei bod yn hollbwysig—a byddaf yn trafod y mater hwn gyda chyngor busnes gogledd Cymru ddydd Gwener—yn wirioneddol hanfodol ein bod yn ystyried yr ardoll ymwelwyr yn gyfle, yn yr un modd â llawer o leoedd eraill, fel Manceinion Fwyaf. Cafodd ei arwain gan fusnes yno, ac mae'r busnesau wedi'i groesawu. Pam? Am fod busnesau'n sylweddoli, os ydych chi am ddenu mwy o dwristiaid, os ydych am ychwanegu gwerth at y sector, fod yn rhaid ichi wneud lle yn werth dod iddo. Mae hynny'n golygu cael mwy o fuddsoddiad mewn digwyddiadau, safleoedd newydd, atyniadau newydd, profiadau newydd, eiconau diwylliannol newydd, a dim ond os oes gennych y buddsoddiad y gallwch chi wneud hynny. Felly, rwy'n dweud wrth y sector twristiaeth, 'Os gwelwch yn dda, gweithiwch gyda'ch awdurdodau lleol, gweithiwch gyda ni, cymaint â phosibl, i ddatblygu syniadau, i sicrhau y gallwn ddenu mwy o ymwelwyr yn y dyfodol, drwy well seilwaith ar gyfer twristiaeth, drwy well buddsoddiad mewn busnesau, drwy well buddsoddiad mewn gweithgarwch hyrwyddo, ac yn hollbwysig hefyd, mwy o fuddsoddiad mewn digwyddiadau mawr. Mae digwyddiadau mawr yn atyniad mawr, yn amlwg. Mae gennym y Tour de France, a fydd, yn fy marn i, yn dangos gwerth enfawr o ran denu digwyddiadau mawr i Gymru. Dim ond os oes gennym yr arian i fuddsoddi ynddynt y gallwn eu denu. Gall yr ardoll dwristiaeth wneud hynny. Gall roi'r adnoddau ychwanegol i ni fel y gallwn ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i mewn.
Rwy'n gwerthfawrogi craffter a ffraethineb Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma. Ond os ystyriwch y bwthyn bach yng Nghonwy, er enghraifft, a dyfynnu'r ffigur a roddais i chi o ostyngiad o 29 y cant mewn arosiadau dros nos yng Nghymru, sut y mae hynny'n mynd i helpu'r bwthyn hwnnw a staff a pherchnogion yr eiddo hwnnw a rhoi hyder iddynt ar gyfer y dyfodol?
Hoffwn godi hefyd sut y mae awdurdodau lleol wedi ymateb i'r ardoll hon. Mae cynghorau Wrecsam, sir Benfro, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili eisoes wedi dweud na fyddant yn codi'r ardoll ymwelwyr, gyda dim ond Cyngor Caerdydd hyd yn hyn wedi nodi y byddent yn codi'r dreth. Nid ydym yn gwybod eto a yw awdurdodau lleol gogledd Cymru'n bwriadu codi'r ardoll ymwelwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfodi mwy a mwy o gyfrifoldebau ar awdurdodau lleol, gyda chodiadau yn y dreth gyngor yn sylweddol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, gyda gogledd Cymru'n dioddef rhai o'r codiadau uchaf. Conwy, fel y crybwyllwyd gennych, Weinidog, a welodd y codiad uchaf, codiad anferthol o 10 y cant. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gydag awdurdodau lleol y gogledd ynghylch eu barn ar y dreth hon ac a ydynt yn bwriadu ei chyflwyno? Ac a wnaiff ofyn am gadarnhad ganddynt, os byddant yn ei chyflwyno, y bydd yr arian a godir yn cael ei glustnodi a'i wario ar gynnal a chadw seilwaith yn unig?
Mater i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr economi yw hwn yn bennaf, a'r Gweinidog cyllid hefyd. Ond rwy'n siarad yn rheolaidd gydag awdurdodau lleol yn y gogledd ynglŷn â'r fenter benodol hon, a byddaf yn cefnogi'r penderfyniadau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud ar draws y rhanbarth, boed hynny i gyflwyno'r ardoll, neu os ydynt yn dewis peidio â gwneud hynny, i wrthod gwneud hynny.
Dyna brydferthwch datganoli cyfrifoldebau i ranbarthau Cymru ac i awdurdodau lleol. Credaf ei bod yn gwbl deg mai'r cynghorau eu hunain sydd i wneud y penderfyniad hwn, oherwydd mewn rhai rhannau o'r gogledd, mae twristiaeth yn cyfrannu llawer mwy at yr economi nag mewn ardaloedd eraill, felly mae mwy o botensial i godi refeniw drwy'r ardoll, a thrwy wneud hynny, mae mwy o botensial i allu buddsoddi mewn lleoedd sy'n denu twristiaid.
Ac i sôn eto am y tŷ lleiaf yn y byd, y ffordd y cawn fwy o bobl i ymweld ag ef yw ei hyrwyddo'n well, sicrhau bod y strydoedd o'i amgylch yn lân ac yn ddeniadol, a gallwn wneud hynny drwy ddefnyddio'r adnodd sydd ar gael drwy'r ardoll, os yw awdurdodau lleol yn dewis ei gyflwyno.
Er bod gan y dreth dwristiaeth botensial i atal ymwelwyr rhag ymweld, nid yw'n gwneud dim i gynorthwyo gyda'r argyfwng tai, sy'n arbennig o ddifrifol yn y gogledd. Ni fydd y dreth hon yn helpu i ddatrys argyfwng tai gogledd Cymru. Yng Ngwynedd yn unig, mae 3,800 o bobl ar restr aros am dai cymdeithasol. Ac eto, nid yw premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi, hyd at 300 y cant, wedi trosi'n gartrefi fforddiadwy i bobl ifanc yn y rhanbarth, gyda'r premiymau yn sir Benfro at ei gilydd yn methu darparu tai lleol. Felly, er bod y Llywodraeth hon yn pentyrru beichiau newydd ar dwristiaid, sy'n gwneud cymwynas â ni drwy ymweld a gwario mwy o arian yma, nid ydym yn cyflawni unrhyw beth ar ran teuluoedd y gogledd sydd wedi'u cloi allan o'r farchnad. Mae angen cartrefi fforddiadwy arnom, wedi'u hadeiladu'n gyflym, cymhellion ar gyfer eiddo sydd ar gael i'w rentu drwy gydol y flwyddyn, a chymorth i landlordiaid lleol, nid trethi symbolaidd sy'n cosbi'r busnesau a'r swyddi y mae ein cymunedau'n dibynnu arnynt.
Mae angen 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn. Ac eto, dros y degawd diwethaf, nid yw hynny erioed wedi'i gyflawni. Rydym wedi galw am sefydlu tasglu pwrpasol o gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau sy'n perfformio arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor. Felly, o ystyried na fydd y dreth dwristiaeth yn helpu'r argyfwng tai, a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd heddiw yng ngogledd Cymru i ganolbwyntio'r ymdrechion adeiladu tai yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan y prinder tai, er mwyn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau eu hunain?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn. Mae'n mynd at wraidd yr hyn sydd angen i Lywodraeth ei wneud i ddarparu sicrwydd i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, ac mae darparu'r sicrwydd o do uwch eich pen yn hanfodol i hynny. Ond ni allwch ystyried un polisi ar wahân i feysydd polisi cysylltiedig. Oes, mae gennym dargedau enfawr, targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy newydd, ond ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn datrys yr her gynllunio sy'n ein hwynebu, ac fel y nododd Gareth Davies, yr angen am fwy o gynllunwyr. Gyda 14 mlynedd o gyni, pan oedd y Torïaid yn ei alw'n arbedion, mewn gwirionedd, yr hyn ydoedd oedd torri swyddi. Ac mae angen inni recriwtio, hyfforddi a sicrhau mwy o gynllunwyr os ydym am adeiladu tai mwy fforddiadwy i bobl.
Hefyd, rhan enfawr o'r ateb i'r her sy'n wynebu cymunedau gwledig a threfol fel ei gilydd yw'r angen i sicrhau swyddi gwell i bobl, ein bod yn rhyddhau pobl i allu caffael y cartref y maent ei eisiau. Ac yna gallwn fynd i'r afael â digartrefedd, a hefyd gallwn fynd i'r afael â'r diffyg symud o fewn y gadwyn dai hefyd, sy'n aml mor bwysig i economi ffyniannus.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Yn ôl yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hasesiad o fuddsoddiad hanesyddol y DU mewn gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd. Cadarnhaodd yr hyn yr oeddem wedi'i amau ers tro, sef bod Cymru wedi dioddef tanfuddsoddi cronig a systemig yn y maes hwn ers sawl degawd. Amcangyfrifodd ddiffyg mewn cyllid o o leiaf £2.4 biliwn i £5.1 biliwn dros gyfnod 2001-29, sy'n ychwanegol at y gwerth £4.6 biliwn o gyllid canlyniadol HS2 sydd wedi'i wrthod i Gymru yn annheg gan Lywodraethau olynol y DU. Yn anffodus, yn seiliedig ar ddadansoddiad annibynnol o'r adolygiad o wariant diweddar, ymddengys nad yw'r broblem hon yn dangos unrhyw arwydd o wella, ac os o gwbl, mae'r bwlch sydd eisoes yn bodoli yn tyfu'n agendor.
Er mwyn rhoi Cymru ar sail gyfartal â Lloegr, mae'r Athro Mark Barry wedi amcangyfrif y byddai angen o leiaf £250 miliwn y flwyddyn arnom ar gyfer gwelliannau i linellau craidd y Cymoedd a rhwydwaith Network Rail dros y 15 mlynedd nesaf, ffigur sy'n llawer mwy na'r £445 miliwn a neilltuwyd dros y degawd nesaf gan eich plaid yn San Steffan. Nid yw'n syndod, felly, fod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud bod cynlluniau'r Canghellor yn siomedig, ac nad ydynt yn mynd i'r afael â'r problemau systemig gyda sut y caiff gwariant seilwaith rheilffyrdd Cymru ei ariannu. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi asesiad diwygiedig o'r buddsoddiad hanesyddol mewn gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac a ydych chi'n credu y bydd yn dangos gostyngiad yn y diffyg a amcangyfrifwyd gennych yn wreiddiol erbyn 2029?
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Nid oes unrhyw beth newydd, mewn gwirionedd, yn unrhyw beth a godwyd heddiw ar y mater hwn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cydnabod, am y tro cyntaf, y bu tanfuddsoddi sylweddol—tanfuddsoddi hanesyddol—yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, ac roedd y £445 miliwn ychwanegol yn flaendal ar hynny. Nawr, y rheswm pam y llwyddodd y Llywodraeth i neilltuo'r lefel honno o gyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru oedd oherwydd dros y blynyddoedd, er gwaethaf cyni, rydym wedi gallu ariannu a bwrw ymlaen â nifer o gynlluniau yn seiliedig yr hyn a argymhellodd yr Arglwydd Burns, i sicrhau eu bod yn barod i'w rhoi ar waith, i sicrhau y gallem fwrw ymlaen â'r caniatâd cynllunio, y gallem fwrw ymlaen â'r cynlluniau manwl, ac yna naill ai sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno o fewn un cyfnod o wariant, neu eu galluogi i dynnu arian ychwanegol i lawr drwy gyfnodau gwariant y dyfodol. A dyna a glywsom gan y Canghellor, dyna a glywsom gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan ein Prif Weinidog ein hunain, mai dim ond y dechrau yw hyn o ran mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol hwnnw.
Pam fy mod yn dweud mai dim ond y dechrau yw hyn? Am fod y prosiectau sydd wedi'u cynnwys o fewn y ffrwd y cytunwyd arni, ffrwd brosiectau a gytunwyd rhyngom ni a'r Adran Drafnidiaeth, yn y tymor byr yn werth cyfanswm o £1 biliwn, a bydd y £445 miliwn yn datgloi cydrannau mawr cyntaf y buddsoddiad hwnnw, ac yna mae'r ffrwd brosiectau fwy hirdymor yn werth mwy na £4 biliwn ar brisiau heddiw. Dylwn ychwanegu, serch hynny, o ran HS2, yn y bôn, rydych chi'n cael cyllid canlyniadol Barnett ar ôl i'r arian gael ei wario neu ei ddyrannu, ac felly mae'r cyllid canlyniadol y dylem fod wedi'i ddisgwyl hyd yma oddeutu £350 miliwn. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, mae Trysorlys Cymru yn amcangyfrif y bydd oddeutu £431 miliwn. Felly, mae'n amlwg iawn fod Llywodraeth newydd y DU yn buddsoddi lle gwrthododd Llywodraethau eraill wneud hynny, gan gyflawni'r addewid i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.
Diolch am yr ateb yna.
Ond byddwn yn eich annog i edrych eto ar y cynllun hwnnw a'i ddiwygio er mwyn rhoi'r eglurder sydd ei angen arnom, ac i weld a yw'r tanfuddsoddi hwnnw'n parhau, neu fel yr egluroch chi, eich bod yn credu y bydd yn lleihau. Ond byddai gallu gwneud y wybodaeth honno'n gyhoeddus yn ddefnyddiol iawn.
Wrth gwrs, mae natur fympwyol trefniadau ariannu rheilffyrdd o dan y chwyddwydr yn fwyaf sydyn oherwydd ffiasgo East West Rail. Yn ystod dadl Plaid Cymru yr wythnos diwethaf, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, er bod y ffactor cymharedd ar y prosiect wedi’i addasu, heb i Lywodraeth Cymru gael gwybod ymlaen llaw yn ôl pob golwg, y byddai Cymru serch hynny’n derbyn rhywfaint o gyllid canlyniadol drwy’r adolygiad o wariant. A allech chi gadarnhau’r dyddiad y cawsoch wybod am y newid yn y ffactor cymharedd? A allwch chi ddweud hefyd beth yw union swm y cyllid canlyniadol, uwchlaw’r £1.2 miliwn yr oedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i dderbyn cyn y newid ac y mae Cymru bellach wedi’i dderbyn o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect hwn? Ac yn olaf, a allwch chi gadarnhau beth fydd cyfanswm tebygol y cyllid canlyniadol ar gyfer y prosiect hwn dros ei oes?
Mae hwn yn faes hynod gymhleth, a thrwy ddiwygio'r rheilffyrdd, rydym am ei weld yn cael ei symleiddio a mwy o dryloywder. I bob pwrpas, yr hyn sy'n digwydd gyda Chymru a Lloegr yw bod llawer o brosiectau'n cael eu cyflawni drwy ddefnyddio grantiau trafnidiaeth lleol. Mae hynny'n digwydd yng Nghymru, mae'n digwydd yn Lloegr. Yn Lloegr, ar gyfer y dinas-ranbarthau, gelwir y grantiau hynny'n 'setliadau trafnidiaeth gynaliadwy'r dinas-ranbarthau'. Felly, pan fydd Aelodau wedi bod yn disgrifio'r £2.5 biliwn ar gyfer Manceinion Fwyaf dros bum mlynedd, dyna, i bob pwrpas, yw'r setliad trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y dinas-ranbarth penodol hwnnw. Yma, mae wedi'i ddatganoli. Felly, rydym yn dosbarthu ein dyraniadau fel grantiau trafnidiaeth rhanbarthol. Byddant yn cael eu datganoli o ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.
Ond o ganlyniad i'r newyddion cadarnhaol iawn gan Lywodraeth y DU—maent wedi agor y tapiau ar fuddsoddiad mewn seilwaith am y tro cyntaf ers dyn a ŵyr pryd—o ganlyniad uniongyrchol i'r dyraniadau hynny, bydd Cymru'n cael £202 miliwn ychwanegol. Nawr, wrth gwrs, bydd yn mynd i mewn i'r grant bloc, ond mae'r cyllid canlyniadol hwnnw'n enfawr, ac mae hynny o ganlyniad i gael Llywodraeth y DU sydd, unwaith eto, yn buddsoddi mewn seilwaith, ac mae Cymru'n cael y budd o hynny hefyd ar ffurf y cyllid canlyniadol hwnnw.
Diolch am yr eglurhad. Hoffwn droi nawr at y cynllun i gyflwyno tocynnau bws am £1 i bobl 16 i 21 oed. Er ein bod yn croesawu egwyddor sylfaenol y cynllun, mae ei gynllun presennol yn ddiffygiol am nad yw'n darparu ar gyfer pobl o dan 16 oed ar hyn o bryd, a fyddai'n wynebu prisiau anghymesur o uchel o gymharu â'u cyfoedion. Pan godais hyn gyda chi ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaethoch chi gytuno i gynnal adolygiad o'r mater cyn i'r cynllun gael ei roi ar waith ym mis Medi. A allech chi gadarnhau bod hynny'n dal i fod yn wir? Ac a allwch chi warantu, o ganlyniad i'r adolygiad, y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys pobl o dan 16 oed mewn pryd ar gyfer ei gyflwyno? Ac a allwch chi hefyd daflu rhywfaint o oleuni ar y rheswm pam na chafodd pobl o dan 16 oed eu hystyried o fewn y cwmpas gwreiddiol?
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae llawer o waith wedi mynd rhagddo yn yr wythnosau diwethaf ers i'r mater gael ei drafod ddiwethaf, ond hoffwn ddiolch ar goedd i Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol o'r Senedd, Jane Dodds, am gyflwyno'r cynnig hwn. Credaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc ledled Cymru. Roeddwn yn Ysgol Dinas Brân yn Llangollen yn ddiweddar, ac wrth sgwrsio â myfyrwyr y chweched dosbarth yno ynglŷn â'u prif bryderon a'u heriau mewn bywyd, dywedodd un ohonynt, 'Wyddoch chi, i bob pwrpas, gallai ein cyfleoedd bywyd fod yn gyfyngedig i'r dyffryn hwn oni bai ein bod yn cael mynediad fforddiadwy at drafnidiaeth gyhoeddus, ac oni bai y gallwn gael gwasanaethau mynych a dibynadwy a diogel.' Wel, o ganlyniad i'r cap o £1 ar bris tocynnau, rydym yn mynd i ddarparu'r drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy honno. Ac o ganlyniad i'r Bil bysiau, rydym yn mynd i ddarparu gwasanaethau dibynadwy, diogel a mynych. Felly, rydym yn mynd i'r afael ag un o'r prif rwystrau i bobl ifanc wrth iddynt ymdrechu i gyrraedd eu potensial.
Nawr, o ran y trafodaethau gyda'r gweithredwyr bysiau, maent wedi bod yn eithaf dwys. Mae llawer iawn o weithredwyr. Mae'r her o ran pobl ifanc o dan 16 oed wedi'i chyfyngu, serch hynny, i nifer gymharol fach o weithredwyr yr ydym wedi bod yn trafod â hwy. Rwy'n falch o ddweud y bydd y Prif Weinidog ei hun yn gwneud cyhoeddiad am y cynllun cap prisiau yn nes ymlaen y mis hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ei groesawu.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ62932
Iawn. Rydym wedi buddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau trên, gyda threnau newydd sbon a threnau wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar ar gael i deithwyr ledled canolbarth a gorllewin Cymru, fel Cymru gyfan. Ac mae ein buddsoddiad wedi galluogi Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno mwy o wasanaethau, cynyddu capasiti, a chyflawni gwelliannau perfformiad cynaliadwy i deithwyr.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn yr adolygiad o wariant, dywedodd Rachel Reeves fod Llywodraeth Cymru wedi cael popeth y gofynnodd amdano, gan gynnwys buddsoddiad mewn rheilffyrdd. Mae fy nghwestiwn i chi heddiw'n syml: a yw hyn yn wir? Ac os yw'n wir, pam na ofynnoch chi am ddim byd, dim byd o gwbl, i'w fuddsoddi yn y rheilffyrdd i'r gorllewin o Gaerdydd? Oherwydd y gwir amdani yw nid yn unig fod yr adolygiad o wariant wedi darparu fawr iawn i reilffyrdd Cymru, ni ddarparodd unrhyw beth o gwbl i'r rheilffyrdd yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Dim byd i fynd i'r afael ag oedi a chanslo cronig ar reilffordd Calon Cymru, sydd â rhai o'r sgoriau boddhad cwsmeriaid gwaethaf ledled Cymru gyfan; dim byd i wella lein y Cambrian; dim byd ar gyfer gorsaf newydd yn Sanclêr, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo ond nad yw byth wedi dangos unrhyw fwriad i'w gyflawni. Gallwn fynd ymlaen, ond byddem yma am amser hir iawn. A ydych chi o'r farn, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pobl canolbarth a gorllewin Cymru yn haeddu llai, ac os nad ydych, pam na wnaeth Llywodraeth Cymru hyd yn oed ofyn, heb sôn am ymladd, am y math o fuddsoddiad y mae ei angen mor daer ar ein rheilffyrdd?
Rwy'n credu bod y cwestiwn yn gwbl annheg. Yn gyntaf oll, mae'n adolygiad cynhwysfawr o wariant dros gyfnod o dair blynedd. Os na allwch gyflawni o fewn yr amser hwnnw, ni allwch adeiladu o fewn yr amser hwnnw, ac mae'n frwydr i gael yr arian i adeiladu rhywbeth y bydd yn rhaid i chi anfon yr arian yn ôl amdano am na fyddwch chi'n ei gwblhau. Yn hytrach, am y tro cyntaf nawr, mae gennym arian datblygu. Ers blynyddoedd, nid ydym wedi gallu bwrw ymlaen â chynlluniau, nid yn unig yn ne-orllewin Cymru, canolbarth Cymru, ond hefyd ar draws Cymru gyfan. Nid ydym wedi gallu mynd ar eu trywydd oni bai ein bod ni wedi eu hariannu. Ond mae ariannu datblygu rheilffyrdd pan nad yw wedi ei ddatganoli'n anodd tu hwnt pan fyddwch chi'n cymharu'r math hwnnw o fuddsoddiad yn erbyn yr angen i fuddsoddi mewn ysbytai.
Bydd buddsoddi'n digwydd ar gyfer saith gorsaf newydd pan fyddwn yn gallu eu cael i gam cynllunio manwl gyda'r achos busnes llawn ar gael, a byddwn yn ceisio tynnu cyllid i lawr mewn rowndiau gwariant yn y dyfodol. Ond cytunwyd ar y prosiectau mwyaf datblygedig rhwng yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru oherwydd mai dyna'r prosiectau y gellir bwrw ymlaen â hwy yn ystod y cyfnod gwariant hwn. Ac nid wyf yn mynd i chwarae rhanbarthau yn erbyn ei gilydd. Mae'n hollol iawn ein bod ni'n bwrw ymlaen â'r prosiectau mwyaf datblygedig, y gallwn dynnu'r cyllid i lawr ar eu cyfer. Fel arall, gallai'r arian gael ei addo i ni, ond ni fyddai byth yn cael ei wario. Byddwn yn gwario'r arian hwnnw. Byddwn yn cyflwyno'r llinellau lliniaru yn ne Cymru. Byddwn yn adeiladu pum gorsaf ar hyd y llinellau lliniaru hynny yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn datrys cyfyngiadau capasiti ar y llinell Wrecsam i Lerpwl. Ac rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi'r llinell honno, ond rydym yn mynd i wneud y gwaith yn y tair blynedd nesaf. Rydym yn mynd i ddatrys anawsterau ar brif linell gogledd Cymru sy'n llesteirio'r gallu i gynyddu amlder gwasanaethau.
O ganlyniad i'r holl fuddsoddiad hwn, rydym yn mynd i weld cynnydd o 50 y cant mewn gwasanaethau rheilffyrdd ledled gogledd Cymru o fis Mai nesaf. Byddwn yn dyblu gwasanaethau rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer. Byddwn yn gweld gwasanaethau gwell. Bydd gennym ddau drên yr awr ar y llinell Wrecsam i Lerpwl yn y tair blynedd nesaf o ganlyniad i'r cyllid hwn. Byddwn yn gweld gwasanaethau ychwanegol yn ne Cymru yn ogystal â gallu delio â chyffordd orllewinol Caerdydd. Rydym am wneud yn siŵr fod buddsoddiad yn digwydd ledled Cymru, ond mae'n rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod chi'n adeiladu ffrwd fuddsoddi. Dyna beth rydym ni wedi'i wneud. Gyda'i gilydd, mae'n werth dros £4 biliwn dros y tymor hwy, ac mae hynny'n cynnwys prosiectau enfawr yn eich rhanbarth chi.
A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am y cwestiwn hwn? Mae hi braidd yn anonest pan fyddwch chi'n dweud nad ydych chi'n gosod rhanbarthau yng Nghymru yn erbyn ei gilydd pan oedd prosiect yn barod i fynd yn Sanclêr, roeddwn wedi cyfarfod â swyddogion Trafnidiaeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth ar y safle, roedd prosiect yn barod i fynd, ac eto mae pum gorsaf o fewn 13 milltir i'w gilydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn cael y golau gwyrdd o flaen prosiect yng ngorllewin Cymru sy'n barod i'w gyflawni. Felly, dywedwch wrthyf, Ysgrifennydd y Cabinet, os nad yw hynny'n chwarae ardaloedd o Gymru yn erbyn ei gilydd, beth ydyw? Oherwydd mae gennyf gymuned sy'n cefnogi ailagor yr orsaf reilffordd hon yn Sanclêr, mae'n cefnogi'r buddsoddiad a ddylai fod yn dod, a warantwyd gan y Llywodraeth flaenorol, ond roedd eich rhagflaenydd wedi dweud na ellid ei gyflawni. Felly, pam y mae Sanclêr wedi methu, pan fo pum gorsaf yn cael eu hadeiladu yn nwyrain Cymru?
Unwaith eto, nid wyf yn credu ei fod yn gwestiwn teg i'w ofyn. Rydym yn gweithio gyda'r rhanbarth ar y cynnig penodol hwn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU hefyd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gorsaf yno. Mae hynny'n rhan o'r ffrwd o welliannau mwy hirdymor rwyf newydd ei hamlinellu i Cefin Campbell.
Rydym yn gweithio hefyd gyda'r awdurdod lleol a'r cyd-bwyllgor corfforedig wrth iddynt lunio eu cynllun trafnidiaeth ranbarthol. Mater i'r rhanbarth fydd gallu cynghori Llywodraeth Cymru ar yr hyn y mae'n ei feddwl sy'n flaenoriaeth yn yr ardal honno, nid yn unig o ran cyfrifoldebau sydd gan y rhanbarth ei hun, ond hefyd cyfrifoldebau sydd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r cynllun hwn. Byddwn yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru hefyd i gyflwyno dyluniadau manwl ar gyfer y cynllun hwnnw.
Y broblem gyda rheilffyrdd, fel y nododd yr Arglwydd Hendy ei hun, yw ei bod yn aml yn cymryd mwy o amser i'w gyflawni, mae'n costio mwy nag y byddai rhywun yn ei obeithio, ond pan fyddwch wedi ei adeiladu, nid oes neb yn difaru ei wneud.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. I ddilyn rhai o'r materion hynny, hoffwn ofyn yn benodol i chi am ddwy o'r llinellau sydd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Mae llinell Calon Cymru, ac mae llinell y Cambrian hefyd. Ar linell Calon Cymru, cawsom addewid ar gyfer adfer y pumed gwasanaeth, a gafodd ei dynnu'n ôl. Hoffwn ofyn i chi am ddiweddariad o'r cynnydd ar hynny, ac ar y trenau newydd a addawyd ar gyfer y llinell honno. Mae'n hollol hanfodol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth, ond mae pobl yn dibynnu arno hefyd.
Ar linell y Cambrian, addawyd gwasanaeth bob awr i ni, a gwasanaeth dwy awr sydd gennym o hyd. Fe wnaethoch chi sôn am ogledd Cymru yn cael dau drên yr awr; breuddwyd yw hynny i ni. Mae'n bwysig inni edrych ar y llinellau penodol hynny. Hoffem i linell y Cambrian fod bob awr trwy gydol y flwyddyn, nid yn ystod misoedd yr haf yn unig. Drwy gydol y flwyddyn, rydym eisiau cerbydau lluosog ac rydym eisiau iddynt fod bob awr. A allech chi amlinellu beth yw eich cynlluniau, eich ymrwymiad, a'r amserlenni pendant yr hoffem eu gweld ar gyfer adfer y gwasanaethau hynny? Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i Jane Dodds am ei chwestiwn, ac unwaith eto, am y cymorth a roddodd i sicrhau'r pumed gwasanaeth newydd ar linell Calon Cymru? Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cyflawni hynny eleni yn y newid i'r amserlen ym mis Rhagfyr. Mae'r gwasanaeth hwnnw wedi'i gynllunio i fod yn well na'r gwasanaeth y mae'n cymryd ei le, yr un a gafodd ei ddileu oherwydd defnydd isel gan deithwyr.
Mae defnydd isel gan deithwyr yn fater mawr i ymdopi ag ef. Os ydym yn mynd i roi mwy o wasanaethau ar draws y rhwydwaith, rhaid inni gynyddu'r arian a gawn o docynnau. Er mwyn cynyddu'r arian a gawn o docynnau, rhaid inni sicrhau capasiti lle mae'r galw ar ei uchaf. Mae hynny'n sicrhau'r uchafswm o adnoddau i allu sybsideiddio'r gwasanaethau sydd â chost-y-teithiwr uwch. Felly, bydd cael mwy o bobl ar wasanaethau rheilffyrdd mewn rhannau eraill o Gymru o fudd i'r rhwydwaith rheilffyrdd yng nghanolbarth Cymru hefyd.
Ar y cerbydau trên, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu ei drenau teithio llesol ar y llwybr, ac rwy'n deall eu bod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd sy'n teithio. Ar linell y Cambrian, mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn gweithredu mwy o wasanaethau yn dilyn newid amserlen mis Mai: mae gwasanaeth newydd 16:30 o Amwythig i Aberystwyth wedi dechrau bellach, ynghyd â mwy o wasanaethau ar y Sul.
Rwyf eisiau dweud rhywbeth am berfformiad, oherwydd fe glywsom honiadau fod perfformiad yn warthus ar y rhwydwaith. Mewn gwirionedd, mae perfformiad gwasanaethau ar linell Calon Cymru a llinell y Cambrian wedi gwella. Mae mwy o wasanaethau wedi bod ar amser, gyda llai o ganslo o'i gymharu â'r llynedd. Rwy'n falch o ddweud bod yr ystadegau diweddaraf ar gyfer perfformiad rheilffyrdd y DU gyfan yn gosod Trafnidiaeth Cymru yn gadarn yn hanner uchaf y tabl.
Nid oes cymaint â hynny o amser er pan oedd gennym broblemau, roeddem yn ei chael hi'n anodd, ond maent bellach yn ddiogel yn hanner uchaf y tabl. Rwy'n falch o ddweud mai hwy yw'r gweithredwr gorau i mewn ac allan o Gymru o hyd, gydag 85 y cant o'u trenau o fewn tri munud i fod ar amser, o'i gymharu â 60 y cant ar gyfer Avanti West Coast, 67 y cant ar gyfer CrossCountry ac 81 y cant ar gyfer Great Western.
O ran canslo ar y dydd, unwaith eto, rwy'n falch o ddweud mai Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr gorau i mewn ac allan o Gymru eto ar gyfer y cyfnod diweddaraf, gyda dim ond 3.8 y cant wedi'u canslo ar y diwrnod, o'i gymharu â 3.9 y cant gan Great Western, 4.2 y cant gan Avanti West Coast, a mwy na dwbl cyfradd Trafnidiaeth Cymru gan CrossCountry—maent hwy ar 8.7 y cant. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth ystyried a chydnabod y ffaith mai Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr gorau i mewn ac allan o Gymru.
4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch y sector ynni yng ngogledd Cymru? OQ62941
Ar draws y Cabinet, rydym wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd a'r cyfleoedd datgarboneiddio sydd ar gael drwy ddefnyddio cynhyrchiant ynni adnewyddadwy a charbon isel yng ngogledd Cymru. Rydym yn gweithio ar draws pob diwydiant i sicrhau ein bod yn denu'r buddsoddiad i greu miloedd o swyddi a thwf gwyrdd ledled Cymru.
Diolch. Mae adroddiad newydd gan Oxford Economics sy'n gwerthuso cyfraniadau economaidd y sector niwclear sifil ledled y DU, a gomisiynwyd gan Gymdeithas y Diwydiant Niwclear, yn tynnu sylw at dwf parhaus y sector a'r manteision sylweddol y mae'n eu darparu, yn enwedig lle mae fwyaf o angen cymorth. Cynhyrchodd sector niwclear sifil Cymru £850 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros yn 2024, cynnydd o 20 y cant ers 2021, wedi'i yrru'n bennaf gan ddatblygiadau Hinkley Point C a Sizewell C yn Lloegr, gydag 830 o swyddi uniongyrchol yn y sector niwclear sifil yng Nghymru a 13,400 o swyddi yng Nghymru wedi'u cefnogi gan y sector. Mae'r adroddiad yn nodi y gallai gogledd Cymru weld cyfraniad economaidd tebyg i'r hyn a brofwyd yn ne-orllewin Lloegr, lle mae Hinkley Point C wedi'i leoli. Cyrhaeddodd gwerth ychwanegol gros niwclear £4 biliwn yn 2024, i fyny 50 y cant ers 2021. O ystyried y potensial hwn, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau datblygiad cyfleuster niwclear newydd yn Wylfa a sut y mae'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid y diwydiant i sicrhau bod gogledd Cymru'n elwa o'r cyfleoedd economaidd a'r swyddi y gallai hyn eu cynnig?
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn? Mae'n gwestiwn ardderchog. Nid oes unrhyw amheuaeth fod y cyfleoedd yn enfawr yn y sector niwclear sifil ar gyfer gogledd Cymru. Mae'n rhan o'r bwa niwclear, sy'n un o'r bwâu mwyaf bywiog o ran niwclear sifil yn unrhyw le yn Ewrop. Gwn fod Gweinidog yr Economi, Ynni a Chynllunio, sy'n arwain yn y maes hwn, yn ymgysylltu â'r sector, gyda chyrff cynrychioladol, gyda sefydliadau a chwmnïau unigol. Mae yna gyffro nad wyf yn aml yn ei deimlo o ran cyfleoedd i'r sector niwclear yng Nghymru. Mae Rolls-Royce wedi cyhoeddi eu bwriad i fuddsoddi symiau enfawr yn y gweithlu yng Nghymru ac yn y gadwyn gyflenwi, ac rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi yn hynod awyddus i ddenu pob ceiniog o fuddsoddiad y gallai'r fenter wych hon ei gynnig.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod y defnydd o drydan yn cynyddu’n aruthrol ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gweld mwy o bobl yn cael eu hannog i gynhyrchu eu trydan eu hunain, a phobl yn prynu mwy o geir trydan ac yn eu tsiarjo nhw adref. Ond, ar yr un pryd, mae capasiti’r grid yng ngogledd Cymru yn gyfyngedig iawn, yn enwedig yn ardaloedd Llŷn ac Eifionydd, lle mae pobl yn pryderu nad oes capasiti’n mynd i fod yna ar gyfer cynhyrchu trydan neu ar gyfer defnydd mawr o drydan yn symud ymlaen i’r dyfodol agos. Felly, pa drafodaethau mae’r Llywodraeth yn eu cael efo’r grid cenedlaethol er mwyn cynyddu capasiti yn yr ardal yna a sicrhau ei fod o’n addas i’r dyfodol?
A gaf i ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei gwestiwn? Mae hyn yn rhywbeth y mae Gweinidog yr Economi, Ynni a Chynllunio yn arwain arno. Ond mae potensial enfawr ar gyfer cynhyrchu oddi ar y grid, fel y mae'r Aelod wedi nodi, o ran rhaglenni cynhyrchu ar raddfa lai, a hefyd o bosibl, cyflwyno adweithyddion modiwlar bach. Mae'r Aelod yn hollol gywir fod capasiti'r grid o dan bwysau. Mae llawer o drafodaeth yn digwydd gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr her benodol hon, sydd nid yn unig yn wynebu deiliaid tai, fel y mae'r Aelod yn gywir i'w nodi, mae'n effeithio ar lawer o uchelgeisiau busnes hefyd. Mae angen ei ddatrys ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cyflawni mwy na'r disgwyl ar yr her benodol hon.

5. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch cefnogi busnesau y mae cau porthladd Caergybi wedi effeithio arnynt? OQ62965
Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, gyda'n timau, wedi gweithio law yn llaw ers cau'r porthladd i alinio ein cyfrifoldebau portffolio. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, gyda'u gwybodaeth leol, yn chwarae rhan ganolog yn y trafodaethau hynny ac yn llywio cynigion sy'n ymwneud â chymorth i fusnesau yr effeithir arnynt.
Diolch am yr ymateb. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r effaith economaidd ddofn a gafodd cau porthladd Caergybi, ac y mae'n parhau i'w chael ar y dref wrth gwrs. Rydym yn siarad am ostyngiad o bron i £0.5 biliwn o bunnoedd mewn masnach drwy'r porthladd ym mis Rhagfyr y llynedd, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol—nifer yr ymwelwyr i lawr 36 y cant, busnesau yn adrodd gostyngiad o 90 y cant mewn masnach, rai ohonynt, ac un gweithredwr gwesty'n unig yn colli gwerth bron i £15,000 o archebion dros nos. A hynny yn un o fisoedd masnachu prysuraf y flwyddyn.
Cynhaliwyd yr asesiad effaith gan Gyngor Sir Ynys Môn yn ôl ym mis Ionawr, ac ym mis Ebrill amlinellodd y cyngor eu pecyn arfaethedig ar gyfer cymorth busnes i Lywodraeth Cymru yn ffurfiol. Ond nawr, mae misoedd lawer wedi mynd heibio ers cau'r porthladd ac ers cyflwyno'r adroddiad gan y cyngor, ac mae busnesau lleol a'r awdurdod lleol wedi eu gadael yn y tywyllwch o hyd ynghylch y cymorth y gellid ei gael. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'n gwneud yr achos i'w gyd-Weinidogion yn y Cabinet dros becyn cymorth brys, ac a all busnesau ddisgwyl i'r cymorth hwnnw ddod yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn. Rwy'n cytuno bod y cau wedi cael effaith sylweddol ar Gaergybi yn arbennig, a chymunedau ymhellach i ffwrdd hefyd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am fynychu cyfarfod y tasglu yr wythnos diwethaf. Gallaf ddweud bod yr awdurdod lleol wedi cyflwyno cais am gyllid yr wythnos diwethaf ar gyfer pecyn cymorth i Gaergybi. Mae hyn yn cael ei werthuso cyn gynted â phosibl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, sy'n ystyried y cynigion a bydd yn ymateb yn fuan iawn. Mae'r pecyn hwnnw'n cynnwys dwy elfen. Nid wyf yn siŵr a wyf i fod i ddatgelu beth ydynt eto. Gallaf ddweud, rwy'n credu, eu bod yn ystyried potensial y sector mordeithio i fod o fudd i Gaergybi. Mae yna elfen arall hefyd sy'n ymwneud â chymorth busnes, megis partneru â Busnes Cymru, ehangu menter Trefi Smart Cymru, mentrau amrywiol yn ymwneud â marchnata, cyfathrebu, creu lleoedd a chyllid capasiti i'r cyngor. Ond nid wyf am roi gormod o fanylion gan mai lle Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yw eu darparu.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ62947
Mae grantiau bysiau i awdurdodau lleol wedi cynyddu yn 2025-26, gan sefydlogi gwasanaethau a chefnogi'r newid i fasnachfraint. Rydym yn cynyddu capasiti ar y gwasanaethau rheilffyrdd prysuraf, a phan fydd yr holl drenau newydd wedi'u cyflwyno, bydd gan Drafnidiaeth Cymru 485 o gerbydau, o'i gymharu â'r 270 a etifeddwyd gennym yn ôl yn 2018.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rhag ofn bod rhai Aelodau yma'n bresennol yn meddwl bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn wych, dyw e ddim. Mae ystadegau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos mai trenau Caerdydd yw’r ail fwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr. Mae’r un peth yn wir am fysus. Dwi wedi dweud wrthych chi o’r blaen fy mod yn aml yn cael fy ngwrthod i fynd ar fws oherwydd bod pram gen i ar gyfer fy mhlentyn, sy’n 22 mis oed. Mae’r bws arall sy’n dod wedyn—. Rwy'n gorfod aros yn hir iawn. Yn wir, mae’n llawer haws defnyddio’r car.
Ond mae yna siawns wirioneddol nawr y bydd y galw am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn cynyddu yn ddifrifol. Fe welon ni, gydag ymosodiad Rwsia ar Wcráin, bris tanwydd yn cynyddu i’r lefelau uchaf erioed. Rŷn ni wedi gweld, yn yr ansefydlogrwydd yn y dwyrain canol yn ddiweddar, brisiau olew crude yn cynyddu’n sylweddol iawn yn y mis diwethaf.
Wrth gwrs, does gennych chi ddim rheolaeth ar ynni a thanwydd, ond mae gennych chi reolaeth dros sicrhau bod yna drafnidiaeth gyhoeddus sy’n ddibynadwy ac yn fforddiadwy i bobl Cymru. Sut ydych chi’n bwriadu ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol, ar frys, ac a ydy hyn yn newid unrhyw gynlluniau sydd gennych chi? Diolch yn fawr.
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â chwestiynau a godwyd eisoes gan Cefin Campbell a Jane Dodds, gan fod problemau capasiti mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae angen inni ateb y galw hwnnw er mwyn sicrhau nad yw'r cyhoedd sy'n teithio yn cael eu gadael heb gludiant, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y mwyaf o'r arian a wneir o docynnau, y gellir ei ailfuddsoddi yn ei dro mewn ardaloedd o Gymru heb y math o wasanaethau mynych y mae ardaloedd mwy trefol yn aml yn elwa ohonynt. Felly, rydym yn gwneud ein gorau, trwy gaffael trenau newydd, i ddelio â materion capasiti ar y rhwydwaith rheilffyrdd, a chynyddu'r refeniw a godir ar y rheilffyrdd trwy wneud hynny.
O ran gwasanaethau bysiau, bydd y Bil bysiau'n mynd i'r afael â rhai o'r pryderon ynghylch capasiti. Bydd hefyd yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch rhwydweithiau nad ydynt yn diwallu anghenion y cyhoedd. Hefyd, mae gennym gynlluniau fel y cap o £1 ar bris tocynnau a gyflwynir cyn bo hir, a fydd o fudd sylweddol i'r rhai sy'n aml yn bell o'r gweithle—yn llythrennol y bobl bellaf o'r gweithle, a'r bobl sydd bellaf o allu cael mynediad at gyfweliadau swyddi gweddus, heb sôn am y swyddi eu hunain.
Mantra cadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru yw cynnig gwasanaethau diogel, dibynadwy a rheolaidd, boed hynny ar fws neu ar drên. Rwy'n gwybod y bydd yn gweithio gyda'r bwrdd a'r weithrediaeth i sicrhau ein bod yn darparu hynny, nid yn unig ar ein gwasanaethau rheilffyrdd, ond ar ein gwasanaethau bysiau yn ogystal.
Ar ynni, mae'r Aelod yn hollol gywir. Mae ansefydlogrwydd geowleidyddol wedi cyfrannu at godi costau. Rhaid i'r gweithredwr ysgwyddo hynny ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'r £600 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi dros dymor y Senedd hon mewn gwasanaethau bysiau mor hanfodol bwysig, oherwydd mae'n darparu rhywfaint o amddiffyniad rhag yr amrywiadau ym mhrisiau ynni a phrisiau tanwydd.
Mae'r symudiad tuag at drydaneiddio yn gyffrous oherwydd mae iddo botensial i ddatgarboneiddio'r fflyd drafnidiaeth yn go sylweddol. Ond mae hefyd yn golygu bod yn rhaid inni gofleidio'r dechnoleg fwyaf datblygedig. Ac mae yna gamau technolegol enfawr sy'n digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ystyried pa rai sydd wedi'u diogelu fwyaf ar gyfer y dyfodol. Ond mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar fod yn brynwr bysiau trydan newydd, er mwyn gallu gweithredu fel y sefydliad a fydd yn eu gosod ar brydles i weithredwyr ledled Cymru o dan y ddeddfwriaeth newydd.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62959
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn ystod o welliannau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws de-orllewin Cymru. Mae hyn yn cynnwys defnyddio trenau newydd, gwelliannau i hygyrchedd gorsafoedd, a'n cynlluniau ar gyfer masnachfreinio bysiau, a fydd yn dechrau yn gyntaf yn ne-orllewin Cymru.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu a gohebu gyda chi mewn perthynas â Grŵp Gweithredu Rheilffyrdd De Sir Benfro sy'n ymgyrchu am wasanaethau bob awr rhwng Doc Penfro, pen draw'r llinell, a Hendy-gwyn ar Daf, lle mae'r llinell yn rhannu, i gynyddu'r capasiti ar y rheilffordd, ond i wella'r cyfleusterau yno hefyd, gan ei gwneud hi'n fwy deniadol i bobl ddefnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd ar draws de sir Benfro. Nawr, rwyf wedi cyfarfod â hwy sawl gwaith ac yn eu cefnogi yn eu galwadau. A wnewch chi ymuno â mi i gyfarfod â Grŵp Gweithredu Rheilffyrdd De Sir Benfro, yn ne sir Benfro, i drafod eu cynlluniau a sut y gallwn weithio ar y cyd i ddatblygu cynllun strategol gwell ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd yn ne sir Benfro?
Gwnaf, yn sicr. Byddai'n bleser cyfarfod ag aelodau Grŵp Gweithredu Rheilffyrdd De Sir Benfro i drafod y cyfleoedd a allai ddod trwy fuddsoddiad pellach. Os caf, a fyddai'n bosibl gwahodd pwy bynnag sy'n brif swyddog trafnidiaeth o fewn y cyd-bwyllgor corfforedig, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnwys y cynnig hwn yn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, ac rwy'n credu ei bod yn werth i'r rhanbarth ystyried ble i'w osod yn y rhestr honno o flaenoriaethau?
Ac yn olaf, cwestiwn—
Wyth.
Cwestiwn 8. Diolch. Carolyn Thomas.
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru? OQ62951
Mae metro Gogledd Cymru ar y ffordd, diolch i'r weledigaeth gyffrous a chynigion rhwydwaith gogledd Cymru. Rydym yn dyblu gwasanaethau rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer, yn darparu 50 y cant yn fwy o wasanaethau ar brif linell gogledd Cymru, ac yn treialu gwasanaeth bws T13 newydd sy'n cysylltu'r Rhyl, Rhuthun a Dinbych.
Rwy'n falch fod y ffocws bellach ar ogledd Cymru. Mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, hygyrch a fforddiadwy yn flaenoriaeth enfawr i bobl hen ac ifanc a phobl anabl yng ngogledd Cymru. Mae trafnidiaeth bysiau cyhoeddus hefyd yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Cymru.
Ar y penwythnos, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gymdeithas Cŵn Tywys y Deillion, ac a gaf i groesawu—? Mae gennym Cathy yma, yn gwylio'r trafodion heddiw gyda'i chi tywys, Spencer. Felly, hoffwn ei chroesawu i'r oriel ac i'r sesiwn hon.
Cyfarfûm â Chymdeithas Cŵn Tywys y Deillion, sydd wedi codi materion yn ymwneud â hygyrchedd, megis safleoedd bysiau newydd yn cael eu symud i fan mwy heriol, fel bod rhaid iddynt groesi maes parcio, a pheryglon lonydd beicio hefyd, sy'n gwahanu palmentydd oddi wrth safleoedd bysiau. A ydych chi'n cytuno bod ymgynghori â gweithredwyr a sefydliadau anabledd yn bwysig iawn wrth osod safleoedd bysiau, cysgodfannau a seilwaith priffyrdd arall, er mwyn sicrhau bod diogelwch teithwyr yn cael sylw? Ac a wnewch chi gynnwys hyn ar wyneb y Bil neu o dan arweiniad yn y dyfodol?
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiwn, a chroesawu Cathy a Spencer i'r Senedd? Cyfarfûm â chynrychiolwyr o'r RNIB ar y penwythnos ac fe wnaethant gyfleu pryderon tebyg, ac rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod y panel mynediad a chynhwysiant yn gallu cyfrannu eu barn, eu pryderon a'u syniadau yn gynnar yn y safonau newydd a gyflwynir gennym ar gyfer safleoedd bysiau.
Mae'r gwaith ar safonau safleoedd bysiau cenedlaethol eisoes ar y gweill. Bydd y fframwaith yn llywio'r gwaith o gynllunio, gosod, cynnal a chadw seilwaith safleoedd bysiau ledled y wlad—gwaith enfawr i sicrhau bod gennym ddarpariaeth safon uchel o safleoedd bysiau ledled Cymru. Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn archwilio'r holl safleoedd bysiau ar sail ranbarthol ledled Cymru. Rwy'n credu bod gennym dros 24,000 o safleoedd bysiau ar hyn o bryd. Mae Trafnidiaeth Cymru'n archwilio'r cyfan wrth iddynt ddatblygu blaenraglen waith i flaenoriaethu safleoedd bysiau er mwyn eu gwella, ac rydym wedi gofyn iddynt sicrhau—sicrhau—eu bod yn cynnwys grwpiau defnyddwyr wrth benderfynu ar leoliad a chynllun y cyfleusterau gwell hyn, ac yn arbennig, eu bod yn ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd o rwystrau mynediad.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effeithiolrwydd y system cyfiawnder ieuenctid wrth atal troseddau ieuenctid? OQ62939

Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Mae'r 'Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, gan fabwysiadu dull hawliau plant yn gyntaf, gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar blant yn hytrach nag mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar wasanaethau, a diwallu anghenion unigol plant yn y system gyfiawnder neu'r rhai sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â hi.
Diolch. Ledled Cymru a Lloegr, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, gwelwyd cynnydd o un flwyddyn i'r llall yn nifer y troseddau profedig a gyflawnwyd gan blant, gan godi i oddeutu 35,600, gyda nifer y dedfrydau gwarchodol yn cynyddu 21 y cant i 660. Nawr, dyma'r cynnydd cyntaf o un flwyddyn i'r llall mewn dros ddegawd. Mae llawer o ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys fy etholaeth fy hun yn Aberconwy, wedi profi cynnydd enfawr o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc a gweithgarwch troseddol. Gall hyn effeithio ar ein preswylwyr, ein perchnogion busnes a'u cwsmeriaid, ac mae'n fater y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys.
Nawr, ar adeg pan welwyd cynnydd mewn trais mewn ysgolion a cham-drin syfrdanol wedi'i gyfeirio at athrawon, mae'n amlwg fod angen gweithredu llymach a hynny ar frys. Felly, a wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gysylltu â'ch cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, y system cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaethau prawf yng Nghymru i sicrhau bod ieuenctid sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a gweithgarwch troseddol yn rheolaidd yn cael eu dal a'u trin yn unol â hynny?
Diolch, Janet Finch-Saunders. Fe fyddwch yn cofio fy mod wedi gwneud datganiad yr wythnos diwethaf am ddiweddaru'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sef glasbrint sydd â phrif nod, fframwaith atal unigol ar gyfer gweithgarwch cyfiawnder ieuenctid, a gyhoeddwyd ar 17 Mehefin. Ac mae gennym ystod mor eang o dystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio i atal plant a phobl ifanc rhag dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder, ac ystod eang o weithgarwch sy'n cael ei gyflwyno nawr mewn meysydd fel gwaith ieuenctid, addysg, camddefnyddio sylweddau, iechyd a chefnogaeth i deuluoedd. Mae'n braf gweld ein gwasanaeth ieuenctid a'n gwaith ieuenctid yn ailddechrau nawr gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Ond rwyf eisiau rhoi'r ffeithiau i chi, Janet Finch-Saunders. Dros y 15 mlynedd diwethaf, bu gostyngiad dramatig a pharhaus yn nifer y plant sy'n troseddu ac yn cael eu dwyn i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ffurfiol yng Nghymru. Bu gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y plant sy'n mynd i ofal gwarchodol, ac rwy'n credu bod hynny'n dyst i'r dulliau ataliol a gwrthdyniadol sydd wedi'u sefydlu'n dda gan y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, a mabwysiadu cynyddol o'r hyn a ddisgrifiais i ateb eich cwestiwn sef gwaith partneriaeth effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth.
Nid yw cyfiawnder ieuenctid wedi'i ddatganoli wrth gwrs, er ein bod yn galw am ei ddatganoli, ond ddydd Llun diwethaf, llwyddais i gyfarfod â Gweinidog Cyfiawnder Ieuenctid Llywodraeth y DU, Syr Nic Dakin, a siarad am ffyrdd y gallwn symud ymlaen gyda datganoli cyfiawnder ieuenctid a dysgu gan ein gilydd. Yn wir, mae'n mynd i gymryd rhan yng nghyfarfod nesaf ein bwrdd cynghori cyfiawnder ieuenctid.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn y cyfarfod gyda Syr Nic Dakin, a wnaethoch chi ofyn am ymrwymiad, neu a roddwyd ymrwymiad, y byddai cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ddarparu yn y tymor San Steffan cyfredol? A ydych chi'n cynllunio ar y sail honno, fel Llywodraeth? A ddylai pleidiau gwleidyddol sy'n paratoi eu maniffestos ar gyfer etholiad nesaf y Senedd wneud hynny ar y sail fod cyfiawnder ieuenctid a phrawf yn mynd i gael eu datganoli erbyn 2030, yn ystod tymor nesaf y Senedd?
Diolch, Adam Price. Wrth gwrs, fe fyddwch chi'n gwybod ei fod ym maniffesto Llywodraeth y DU. Nawr, mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i'r Llywodraeth newydd ddod i rym o ran cyfiawnder ieuenctid. Rydym wedi cael sawl sgwrs gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ar fwrw ymlaen â'u hymrwymiadau maniffesto. Roedd yn amlwg yn ein hymrwymiad maniffesto fel Llywodraeth Lafur Cymru.
Y mis diwethaf y cyfarfu ein Dirprwy Brif Weinidog â'r Arglwydd Ganghellor. Cyfarfûm â Syr Nic Dakin ddoe, a thrafodais ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, a chytunwyd y byddwn yn ymgysylltu ag ef nawr—byddwn yn cyfarfod yn fuan—ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Oherwydd bod cymaint o waith wedi'i wneud, nid yw'n fater o wneud yr achos, mae'n fater o baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid. Mae gennym bellach raglen ymchwil cyfiawnder ieuenctid, sy'n adeiladu ar yr hyn a wyddom eisoes am gyfiawnder ieuenctid, datganoli cyfiawnder ieuenctid. Felly, rwy'n hyderus y gwelwn Lywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hyn.
Rwy'n ddiolchgar i chi, ac yn ddiolchgar am eich ymateb. Wrth gwrs, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol llwyr ein bod yn symud ymlaen yn gyflym gyda datganoli cyfiawnder ieuenctid ac agweddau eraill ar y system cyfiawnder troseddol a phlismona. Mae hyn wedi bod yn rhan o raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer bellach. Rydym wedi cefnogi hyn ers mor bell yn ôl â'm cyfnod i yn y Llywodraeth mewn gwirionedd.
A yw'n bryd nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, inni nodi rhaglen waith glir sy'n datganoli'r materion hyn a hefyd, yn hollbwysig, y rhaglen waith lle bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni cyfiawnder cymdeithasol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, a chyfiawnder hefyd i bobl sy'n dioddef o ganlyniad i fethiannau'r system bresennol? Mae'n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth nawr i'r Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU: symud yn gyflym i gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer Cymru.
Diolch, Alun Davies, a diolch am eich cefnogaeth gyson, yn seiliedig ar dystiolaeth, a dyna ble y dechreuodd hyn—yn seiliedig ar dystiolaeth y gwyddom fod datganoli cyfiawnder ieuenctid yn gwneud synnwyr yn weithredol, yn ogystal â'r ffaith ein bod yn gwybod eu bod yn bwerau at ddiben, onid ydynt? Oherwydd bydd yn profi i fod y ffordd orau y gallwn ddarparu cyfiawnder, ac mae'n gyfiawnder i'n cymunedau yn ogystal ag i'n pobl ifanc. Ac rwy'n credu mai dyna lle rydym yn dychwelyd at y gwaith a gynlluniwyd yn dda iawn yn ein glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sef gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru, dull penodol yng Nghymru o ymdrin â gwasanaethau cyfiawnder, a gydnabyddir eisoes gan Lywodraeth y DU, ond mewn gwirionedd, gall Llywodraeth y DU ddysgu o'r ffordd yr ydym ni wedi gweithio yng Nghymru. Felly, nid yw'n fater o archwilio; mae'n fater o baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag effaith gymunedol barhaus y camweddiad cyfiawnder a gaiff ei adnabod yn gyffredinol fel 'pump Caerdydd'? OQ62946
Diolch yn fawr, Vaughan Gething. Dyma achos ofnadwy o gamweinyddu cyfiawnder, ac rydym yn cydymdeimlo'n llwyr—rwy'n cydymdeimlo'n llwyr—â'r rhai a gyhuddwyd ar gam. Mae 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', a lansiwyd yn 2022, yn galw am ddim goddefgarwch yn wyneb pob anghydraddoldeb hiliol ac yn disgrifio sut rydym yn cydweithio â phartneriaid i fynd i'r afael â hiliaeth ar draws y system gyfiawnder.
Diolch. Mae camweinyddiad cyfiawnder 'pump Caerdydd' yn achos drwg-enwog. Cafwyd tri dyn diniwed yn euog o lofruddiaeth erchyll Lynette White ym 1988, a difethwyd bywydau dau ddyn arall, er na chawsant eu heuogfarnu. Cafwyd dwy fenyw ac un dyn, a orfodwyd gan yr heddlu i ddweud celwydd i helpu i sicrhau'r euogfarnau, yn euog yn ddiweddarach o dyngu anudon. Nid oes unrhyw swyddog heddlu erioed wedi'i ddisgyblu, a chwalodd achos llys cyn-swyddogion heddlu yn 2011. Roedd pob un o'r pum dyn a gyhuddwyd yn ddu, ond mae'r llofrudd go iawn, Jeffrey Gafoor, yn wyn.
Mae ystyr i'r achos o hyd, yn enwedig yn Butetown, lle cefais y fraint o'u cynrychioli fel cynghorydd cyn cael fy ethol i wasanaethu Butetown yn y Senedd hon. Mae hyn, fodd bynnag, wedi'i amlygu eto gan benderfyniad diweddar y Bwrdd Parôl i ryddhau'r llofrudd a gafwyd yn euog heb roi gwybod ymlaen llaw i deuluoedd 'pump Caerdydd' na'r gymuned leol yn Butetown.
Ddydd Iau nesaf, byddaf yn cynnal digwyddiad llofnodi llyfrau yn y Senedd ar gyfer llyfr The Boy from Tiger Bay gyda'r awdur Ceri Jackson a John Actie, un o 'bump Caerdydd'. Mae'r llyfr yn disgrifio digwyddiadau drwy lygaid John. Byddaf yn ysgrifennu atoch, ond fy nghwestiwn yw a fyddech chi'n cefnogi'r alwad am broses dan arweiniad barnwr i adolygu'r digwyddiadau a arweiniodd at y camweinyddu cyfiawnder, a'i effaith barhaus, gan gynnwys yr effaith barhaol ar y gymuned rwy'n ei chynrychioli.
Diolch, Vaughan Gething, a diolch am ein hatgoffa eto heddiw o'r achos ofnadwy hwn o gamweinyddu cyfiawnder, ac rwy'n siŵr ac yn gobeithio y bydd Aelodau o bob rhan o'r Senedd yn gallu mynychu ac ymuno a chefnogi lansiad y llyfr yr wythnos nesaf, The Boy from Tiger Bay, a chydnabod hefyd, rwy'n credu, fel y rhai a gyhuddwyd yn anghywir ar gam, y pump a gyhuddwyd ar gam, y pum dyn du a gafodd eu cyhuddo'n anghywir ac ar gam, er gwaethaf y ffaith, fel y dywedwch, fod y llofrudd go iawn, Jeffrey Gafoor, wedi'i ddal. Rwyf hefyd, dylwn ddweud, yn talu teyrnged i John Actie am y ffordd y mae wedi codi ei lais a dweud bod hyn yn rhywbeth y mae'n dal i fyw gydag ef. Ac rydych chi wedi sôn am y teimlad sy'n dal yn gryf iawn yn Butetown, yn y gymuned rydych chi wedi'i chynrychioli ers cymaint o flynyddoedd, fel cynghorydd ac fel Aelod o'r Senedd. Felly, edrychaf ymlaen at gael eich llythyr.
Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, y ffaith bod angen inni edrych ar y system cyfiawnder troseddol nawr, a chydnabod bod gennym gynllun gweithredu gwrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol i Gymru. Nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli—mae'n fater a gedwir yn ôl—er bod gennym achos clir dros ddatganoli cyfiawnder troseddol. Edrychaf ymlaen at gael eich llythyr, ac wrth gwrs, unwaith eto, at ychwanegu fy nghefnogaeth i lansiad y llyfr hwnnw yr wythnos nesaf.
Rwy'n ddiolchgar am gwestiwn pwysig iawn Vaughan Gething. Mae'n bwysig ein bod yn clywed hyn yn y Senedd—rhywbeth a ddigwyddodd heb fod ymhell o'r adeilad hwn. Yn anffodus, nid dyma'r unig achos o gamweinyddu cyfiawnder yn gysylltiedig â phobl o liw yng Nghaerdydd. Collodd Mahmood Mattan ei fywyd. Mewn achos arall, achos y tri a gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio gwerthwr papurau newydd yng Nghaerdydd, treuliodd Michael O'Brien 11 mlynedd a 43 diwrnod mewn carchar am lofruddiaeth na wnaeth ei chyflawni—naw mlynedd yn hirach na 'phump Caerdydd' hyd yn oed. Ar ôl ei ryddhau, didynnodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder £37,500 o'i iawndal am wely a phrydau bwyd. Yn ystod ei gyfnod yn y carchar, Drefnydd, bu farw ei dad, bu farw ei ferch; aeth i'w hangladdau wedi'i hebrwng gan swyddog heddlu arfog gyda gefynnau dwbl am ei ddwylo. Dyna a ddigwyddodd iddo. Mae Llywodraeth Lafur yn San Steffan, dan arweiniad cyn-fargyfreithiwr Michael O'Brien, yn dal i wrthod talu'r arian hwnnw yn ôl. Mae dyn a arferai ymladd dros gyfiawnder bellach yn gwrthod darparu cyfiawnder wedi iddo ddod i rym. A wnewch chi gytuno â mi, Drefnydd, fod gwrthod dychwelyd arian sy'n briodol ddyledus i bobl fel Michael O'Brien yn gwbl warthus, a pha sylwadau y byddwch chi'n eu gwneud i'ch partneriaid mewn grym yn San Steffan i gael yr arian hwnnw yn ôl? Diolch yn fawr.
Diolch eto. Mae'n bwysig, yma, ein bod wedi trafod ymhellach, ac rydych chi hefyd wedi deall a thynnu ein sylw at achosion eraill o gamweinyddu cyfiawnder. Unwaith eto, carwn eich annog i ysgrifennu ataf, yn enwedig mewn perthynas â Michael O'Brien. Rwy'n—. Fel y dywedais, nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ond mae gennym Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, sy'n goruchwylio, er enghraifft, ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol, ac mae angen inni weld bod cynnydd yn cael ei wneud a bod canlyniadau'n gwella. Ond mae'n rhaid i hyn ymwneud ag anghyfiawnderau hanesyddol hefyd, felly diolch am godi hynny, a chroeso i chi dynnu fy sylw ymhellach at hynny, yn ysgrifenedig.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, adroddodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, NSPCC, eu bod wedi cael y lefel uchaf erioed o alwadau am blant sydd mewn perygl o gam-drin domestig. Dywedodd yr NSPCC fod oddeutu traean o gysylltiadau lles plant ynghylch cam-drin domestig wedi arwain at atgyfeirio at awdurdodau, fel yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol plant. Rwy'n croesawu gwaith yr NSPCC. Fodd bynnag, mae'n destun pryder fod elusen yn gwneud mwy i ddiogelu plant rhag cam-drin domestig na'r gwasanaethau statudol sy'n gyfrifol am hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol plant yn diogelu plant rhag cam-drin domestig?
Diolch am eich cwestiwn, Altaf Hussain. Mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn wir, prif bwnc, prif thema, y cyfarfod hwnnw oedd plant sydd mewn perygl o gam-drin domestig, neu effaith trais ar blant mewn perthynas â cham-drin domestig. Roedd yn ffodus iawn ar yr achlysur hwnnw fod Jess Phillips, Gweinidog Llywodraeth y DU, wedi ymuno â ni, ac yn wir, ymunodd y comisiynydd cam-drin domestig dros Gymru a Lloegr, Nicole Jacobs, â ni hefyd.
Ond y ffrwd waith—. Mae gennym ffrwd waith ar blant a phobl ifanc yn rhan o'r strategaeth genedlaethol. Cawsom adborth ar y gwaith a wnaed. Felly, mae wedi'i lywio gan Lywodraeth Cymru, ar lefel genedlaethol, i sicrhau darpariaeth ar lefel leol hefyd. Ac mae hynny'n digwydd yn rhanbarthol, yn lleol, a chyda'n gwasanaethau arbenigol, nid yn unig NSPCC, sy'n chwarae rhan hanfodol, ond ochr yn ochr â gwasanaethau arbenigol gan Cymorth i Fenywod Cymru, Black Association of Women Step Out, Llamau a sefydliadau eraill.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, nid awdurdodau lleol yn unig sy'n methu ar ran dioddefwyr cam-drin domestig. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad arolygu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu ar Heddlu Gwent. Canfu Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi fod angen i'r llu wella pa mor brydlon y mae'n mynychu galwadau 999, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â dioddefwyr cam-drin domestig, a sicrhau eu bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai sy'n ffonio am unrhyw oedi cyn i swyddogion gyrraedd. Dywedodd yr arolygiaeth nad oes gan Heddlu Gwent ddealltwriaeth glir o pam ei bod yn cymryd mwy o amser i'r heddlu fynychu digwyddiadau sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig nag unrhyw ddigwyddiadau eraill. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â minnau ynghylch methiannau'r llu. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu, a'r Ysgrifennydd Cartref, ynghylch y camau y mae angen eu cymryd i sicrhau y gall Heddlu Gwent ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig?
Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn o ran y bartneriaeth, y bartneriaeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth o wasanaethau brys. Rwy'n cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu Emma Wools, ond hefyd comisiynydd heddlu a throseddu Gwent, Jane Mudd, a'i dirprwy, Eleri Thomas, sef yr uwch swyddog sydd â chyfrifoldeb am gyflawni strategaeth ein partneriaeth—i gyd yn rhan o'n hymgyrch genedlaethol i fynd i'r afael â'r pethau hyn. Felly, oes, mae pryder ynghylch adroddiad yr arolygydd. Dyma ble rwy'n gweithio ar draws y Llywodraeth gyda Jayne Bryant, sy'n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub yn benodol. Ond mae hyn yn rhywbeth rwy'n ddiolchgar eich bod wedi tynnu sylw ato heddiw, i wyntyllu a rhannu'r pryder cyhoeddus sydd gennym am sicrhau bod ein holl wasanaethau brys yn ymateb fel y mae'n rhaid iddynt fel dyletswydd statudol, yn ogystal â chyfrifoldebau clir.
Diolch eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gyda cham-drin domestig, rwyf am symud ychydig i ganolbwyntio ar oedolion gwrywaidd sy'n ffoi rhag trais domestig. Rwyf wedi siarad â chi o'r blaen am Jonathan’s House Ministries, a'r gwaith a wnânt gyda dioddefwyr gwrywaidd. Fe wnaethant godi pryderon gyda mi ynglŷn â chynlluniau 'rail to refuge' a 'road to rescue'. Ar hyn o bryd, mae angen atgyfeiriad gan linell gymorth cam-drin domestig er mwyn cael mynediad at y cynlluniau. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar ffyrdd o sicrhau bod gan bawb sydd ei angen fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i gyrraedd lloches, a chaniatáu i'r lloches atgyfeirio dioddefwyr at y cynlluniau, yn hytrach na dibynnu ar linellau cymorth cenedlaethol?
Diolch am godi'r pwynt pwysig hwnnw, ac rwyf wedi ateb cwestiynau o'r blaen. Rwyf hefyd wedi ymateb i ymholiadau am y cymorth a roddwn i wasanaethau fel llinell gymorth Dyn, er enghraifft. Ond mae Jonathan’s House yn rhywbeth lle mae angen inni edrych ar y dystiolaeth a deall y rhwystrau rhag darparu cymorth. Felly, diolch eto, a byddaf yn mynd i'r afael â hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Mae'r diffyg parch a ddangoswyd at bobl anabl yng Nghymru drwy ddull anhrefnus, anghyson, dryslyd ac anfoesol Llywodraeth Lafur y DU o ddiwygio lles wedi bod yn warthus ac yn anfaddeuol. A yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â Disability Rights UK fod Llywodraeth y DU yn dangos dirmyg dwfn tuag at bobl anabl drwy basio'r Bil trychinebus hwn, a hefyd barn Anabledd Cymru fod y Bil hwn yn anniogel?
Diolch am godi'r cwestiwn hwnnw, Sioned Williams. Rydych chi'n gwybod a byddwch wedi gweld y llythyr a ysgrifennais yr wythnos diwethaf at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, at Liz Kendall, yn amlinellu ein pryderon, pryderon sy'n seiliedig ar y dystiolaeth ynglŷn â sut y byddai pobl anabl yng Nghymru yn cael eu heffeithio—byddai bron i 200,000 yn cael eu heffeithio gan y newidiadau a argymhellwyd i'r taliad annibyniaeth personol. Rwy'n credu mai un o'r pwyntiau pwysicaf a wneuthum yn y llythyr hwnnw oedd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau cyn cynnal adolygiad o drefn y taliadau annibyniaeth personol, gan gynnwys y meini prawf ar gyfer mynediad at daliadau annibyniaeth personol. Daeth hynny o ganlyniad i'n hymgysylltiad â phobl anabl yng Nghymru, o ganlyniad i gyfarfod â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, cadeiryddion y tasglu hawliau pobl anabl, a helpodd i roi tystiolaeth o astudiaethau achos a gyflwynwyd ar bryderon ac effeithiau andwyol y cynigion fel y'u lluniwyd ar y pryd gan Lywodraeth y DU. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod gennym gonsesiynau bellach, a adlewyrchwyd yn y Bil a basiwyd neithiwr. Fe wnaethant fyfyrio ar ein galwad yn fy llythyr ddydd Mawrth diwethaf i gynnal yr adolygiad o daliadau annibyniaeth personol cyn gwneud unrhyw newidiadau. Mae hynny bellach wedi'i nodi mewn statud, ynghyd ag ymrwymiad i gyd-gynhyrchu gyda phobl anabl. Cyfarfûm â Stephen Timms ddydd Sul a'i wahodd i Gymru i gyfarfod â'n pobl anabl, i gyfarfod â chynrychiolwyr ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, a chynrychiolwyr y tasglu, i ymgysylltu â ni yma yng Nghymru, gyda phobl anabl, i weithio ar gyd-gynhyrchu'r adolygiad hwn.
Do, fe ddywedoch chi yn y llythyr at Liz Kendall eich bod yn credu y dylid cynnal adolygiad o daliadau annibyniaeth personol, wedi'i gyd-gynhyrchu, fel y dywedwch, gyda phobl anabl, cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i gymorth. Felly, a ydych chi'n cefnogi'r toriadau i hawlwyr newydd y taliad iechyd credyd cynhwysol, sy'n dal i fod wedi'u cynnwys yn y Bil a basiwyd neithiwr ac nad ymgynghorwyd arnynt? Ar gyfer hawliadau newydd o fis Ebrill nesaf, bydd cyfradd yr elfen iechyd o gredyd cynhwysol yn cael ei gostwng fwy na £2,400 y flwyddyn, gyda bron i bob hawlydd newydd yn cael eu heffeithio, ac efallai na fydd hawlwyr newydd o dan 22 oed yn gymwys ychwaith. Disgwylir i oddeutu 0.75 miliwn o bobl gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn i elfen iechyd y credyd cynhwysol. Rydych chi wedi mynnu dro ar ôl tro fod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar eich pryderon, a oedd yn cynnwys diffyg asesiad o effaith y diwygiadau hyn. Felly, pa asesiad a gawsoch neu a gynhaliwyd gennych ar effaith y toriadau i gredyd cynhwysol ar Gymru?
Rwy'n credu mai un o'r prif bwyntiau a godais nid yn unig yn fy llythyr, ond hefyd pan gyfarfûm â Syr Stephen Timms ddydd Sul, sef y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr adolygiad o daliadau annibyniaeth personol, oedd y ffaith nad oedd gennym asesiad effaith ar gyfer Cymru. Roeddem yn ddibynnol ar—. Oedd, roedd gennym dystiolaeth o ddata, ond nid oedd gennym asesiad effaith a oedd yn canolbwyntio ar Gymru. Galwais am hynny, a nodais eto pan gyfarfûm ag ef y dylem symud tuag at asesiadau effaith a oedd yn canolbwyntio ar Gymru, oherwydd wedyn, wrth gwrs, gallwn edrych yn glir, gyda'r dystiolaeth honno, ar beth fyddai effeithiau'r holl newidiadau. Rwy'n gobeithio nawr, oherwydd y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, fod hwn yn gyfle i edrych ar holl effeithiau'r newidiadau a gynigiwyd ac sydd bellach yn cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth.
Wrth gwrs, cafwyd rhai datblygiadau newydd pwysig o ganlyniad i'r Papur Gwyrdd a gafodd eu colli braidd—er enghraifft, y cyllid pellach sydd wedi'i ddarparu i helpu gyda dychwelyd i'r gwaith, y ffaith y bydd hynny ar gyfer pobl anabl, os ydynt yn dymuno ac yn gallu gwneud hynny, i ddychwelyd i gyflogaeth, ond hefyd, i fynd i'r afael â phethau fel yr oedi gyda Mynediad i Waith, ac i gael cyfle i gael hawl i roi cynnig arni, sydd wrth gwrs yn rhywbeth yr ydym ni wedi galw amdano ers amser maith—yr hawl i geisio dychwelyd i'r gwaith. Yna, os nad yw'n mynd i weithio, ni fyddant yn cael eu hailasesu neu o dan anfantais, sef yr hyn a ddaeth yn amlwg fel sicrwydd pwysig ddoe o ganlyniad i'r newid. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni sicrhau nawr ein bod yn cael y ffocws hwnnw ar Gymru a'n bod hefyd yn sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn cymryd yr awenau, gan fod cydgynhyrchu yn rhywbeth sydd wedi'i addo gan Lywodraeth y DU.
Mae'n dda clywed eich bod wedi gofyn eto—unwaith eto—am yr asesiad effaith ar gyfer Cymru. Felly, a gawsoch chi ymrwymiad ar hynny? Ni'ch clywais yn dweud a gawsoch chi ymrwymiad ar hynny ai peidio. Ac mae dryswch o hyd, onid oes, ynghylch beth y mae'r addewid i gael gwared ar y meini prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth personol o'r Bil yn ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd, a fyddai llais gan ASau mewn perthynas ag unrhyw newidiadau sy'n deillio o adolygiad Timms, gan na chafwyd unrhyw warant i roi argymhellion yr adolygiad ar waith mewn deddfwriaeth sylfaenol. Felly, a allwch chi gadarnhau pa wybodaeth a rannodd Stephen Timms gyda chi ddydd Sul am y cynllun newydd ar gyfer yr adolygiad, a ddatgelwyd mewn ffordd mor anhrefnus ar y funud olaf ddoe heb unrhyw ymgynghori? A fyddwch chi'n gofyn am warantau, er enghraifft, na fydd pobl anabl yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, mewn sefyllfa waeth o ganlyniad i'r adolygiad?
Mae gennym gyfle gwirioneddol nawr, onid oes, i bobl anabl yng Nghymru ddylanwadu ar y ffordd ymlaen. Cafodd cymal 5 ei dynnu o'r Bil. Cydnabu'r Gweinidog dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, Syr Stephen Timms, fod ASau o bob plaid wedi codi pryderon sylweddol ynghylch y newidiadau arfaethedig i feini prawf cymhwysedd taliadau annibyniaeth personol. Mae gennym gyfle nawr i ddylanwadu ar y ffordd ymlaen gyda phobl anabl. Rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth lle gallwn fanteisio ar y cyfle hwnnw. Mae gennym y dylanwad hwnnw i weithio rhwng Llywodraethau, ac rwy'n edrych ymlaen—. Rwyf wedi gwahodd Syr Stephen Timms i ddod i Gymru ac i gyfarfod â phobl anabl, ac inni symud ymlaen mewn ffordd adeiladol.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd mewn troseddau gwledig yng Nghymru fel yr adroddwyd gan NFU Mutual? OQ62960
Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad yn effeithiol, ac mae strategaeth newydd, ddiwygiedig ar gyfer troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt Cymru, a fydd yn cael ei lansio ym mis Gorffennaf, yn rhan allweddol o'n dull cydgysylltiedig o weithredu. Nod y strategaeth hon yw gwella ymhellach y cydweithio rhwng yr heddlu, asiantaethau partner a ffermwyr i leihau troseddau cefn gwlad.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi'n dweud y bydd y strategaeth honno'n cael ei lansio ym mis Gorffennaf. Mae hi bellach yn fis Gorffennaf, felly byddai diweddariad ar hynny'n ddefnyddiol. Ond fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi hyn gyda chi yn eich rôl fel Trefnydd ychydig wythnosau yn ôl oherwydd yr ystadegau damniol sy'n dangos, er bod lefelau troseddau cefn gwlad wedi gostwng yn yr Alban a Lloegr, yma yng Nghymru, rydym wedi gweld cynnydd. Ac mewn etholaethau fel fy un i, rydym wedi gweld mwy na 60 o feiciau cwad yn cael eu dwyn yn ardal Heddlu Dyfed-Powys yn 2024, a chollodd un ffermwr o sir Gaerfyrddin 75 o ddefaid mewn un cyrch. Rydym wedi gweld costau'n cynyddu 18 y cant, ar gost o £2.8 miliwn. Felly, byddai rhywfaint yn rhagor o wybodaeth am y strategaeth a amlinellwyd gennych, rhywfaint o wybodaeth ynghylch pryd yn ystod y mis hwn y caiff ei lansio—. A pha waith pellach ydych chi'n ei wneud gyda Rob Taylor, y comisiynydd troseddau cefn gwlad, i sicrhau bod cyllid hirdymor ar gael iddo barhau yn ei rôl o gydlynu fel y cydgysylltydd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am eich cwestiwn atodol, Sam Kurtz. Fe fyddwch yn gwybod bod y cyfrifoldeb hwn dros fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad ym mhortffolio Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Rydym yn croesawu adroddiad NFU Mutual, a gallaf roi sicrwydd i chi y bydd y Llywodraeth yn parhau i ariannu cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt Cymru tan haf 2028, ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu'r cymorth estynedig hwnnw. Bydd y strategaeth yn cael ei lansio ar y cyd â'r heddlu ddydd Iau 10 Gorffennaf.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru? OQ62937
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i gefnogi banciau bwyd ledled Cymru. Mae'r awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru wedi cael £311,410 o gyllid eleni i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i oresgyn rhwystrau i fynediad at fwyd, a storio a dosbarthu mwy ohono, gan gynnwys digon o fwyd dros ben, i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Diolch. Mae hwn yn fater sydd mor bwysig i gynifer o deuluoedd yn yr ardal a ledled Cymru. Mae banciau bwyd yn ein hardal ni'n ei chael hi'n anodd iawn. Mae rhoddion wedi lleihau yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd costau byw, ac yn enwedig yn y cyfnod cyn gwyliau'r ysgol, mae llawer o deuluoedd yn poeni. Mae banc bwyd Rhisga wedi dweud wrthyf, gan nad oes prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, fod llawer o deuluoedd yn yr ardal nad ydynt yn gwybod sut y byddant yn ymdopi. Nid yw pob plentyn yn edrych ymlaen yn ddi-gwestiwn at y gwyliau. Nid yw pob teulu'n gallu ymdopi. Nawr, mae'n rhaid i'r banc bwyd penodol hwn brynu bwyd ychwanegol wrth ragweld pwysau o'r fath. Yn aml, mae banciau bwyd yn cael galwadau ffôn gan ysgolion lleol yn gofyn am help, gan fod plant eisoes yn dod i mewn ar fore Llun heb fwyta'n iawn drwy'r penwythnos. Mae hynny cyn i'r gwyliau ddechrau. A ellir rhoi mwy o gymorth gan y Llywodraeth i'r banciau bwyd hyn i sicrhau, drwy gydol yr haf, fod plant llwglyd yn cael eu bwydo?
Diolch am eich cwestiwn pwysig. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag Ymddiriedolaeth Trussell a gwn fod yr Aelodau mewn cysylltiad agos â hwy. Rwy'n rhannu eu gweledigaeth o Gymru lle nad oes angen banciau bwyd mwyach, a gwn fod y weledigaeth honno wedi'i rhannu ar draws y Senedd. Wrth gwrs, mae hynny'n cysylltu â'n strategaeth tlodi plant a sut y gallwn dargedu'r rhai sydd fwyaf mewn angen, a sicrhau bod hyn yn cefnogi plant sy'n byw mewn tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi yn fwyaf arbennig. Mae hyn yn rhywbeth lle mae sicrhau bod ein cyllid yn mynd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol a banciau bwyd yn bwysig er mwyn cefnogi darpariaeth bwyd argyfwng.
Hoffwn dynnu sylw, yn ystod gwyliau'r haf, at y cyllid estynedig ar gyfer ein strategaeth bwyd a ffitrwydd drwy awdurdodau lleol. Rydym yn sicrhau bod y cyllid hwn ar gael, ac mae'n cael ei ymestyn yr haf hwn. Unwaith eto hefyd, rwy'n parhau i'ch annog, trwy eich cysylltiad ag etholwyr, i'w cyfeirio at gronfa gynghori sengl 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'. Yn Nwyrain De Cymru, rydym wedi helpu mwy na 124,000 o bobl o gymunedau difreintiedig i hawlio incwm ychwanegol o £64.5 miliwn. Rhaid inni sicrhau y gall ein teuluoedd ledled Cymru, yn enwedig teuluoedd â phlant a theuluoedd sydd mewn perygl, hawlio pob ceiniog a phunt y mae ganddynt hawl iddynt, ac elwa ar y rhaglen bwyd a ffitrwydd yn ystod gwyliau'r ysgol.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gymorth Llywodraeth Cymru i elusennau ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62931

Diolch, Paul Davies. Bydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cael cyllid craidd o £8.6 miliwn yn 2025-26 i ddarparu seilwaith cymorth i'r trydydd sector ledled Cymru. Bydd £218,000 ohono'n mynd i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i helpu sefydliadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn mynychu diwrnod agored yng Nghanolfan Therapi Sglerosis Ymledol HOPE yn Neyland yn fy etholaeth. Mae'r ganolfan yn cynnig therapi ocsigen, adsefydlu corfforol a chymorth cymdeithasol hanfodol i bobl â chyflyrau hirdymor fel canser, clefyd niwronau motor a COVID hir. Rwy'n siŵr y gallwch ddeall faint o achubiaeth yw'r ganolfan i gynifer o bobl yn sir Benfro, a thu hwnt yn wir. Nawr, mae'r ganolfan wedi bod yn darparu cymorth a gwasanaethau ers bron i 40 mlynedd, a hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sy'n ymwneud â'r ganolfan am y gwaith pwysig y maent wedi'i wneud dros y blynyddoedd, ac yn dal i'w wneud i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gydnabod gwaith anhygoel Canolfan Therapi Sglerosis Ymledol HOPE yn Neyland, sydd wedi bod yn trawsnewid bywydau ers bron i 40 mlynedd? Ac a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi elusennau fel hyn, fel y gallant barhau i ddarparu therapïau a gwasanaethau mawr eu hangen yn y gymuned yn y dyfodol?
Diolch, ac a wnewch chi roi fy nymuniadau gorau i Ganolfan Therapi Sglerosis Ymledol HOPE yn Neyland ddydd Gwener a diolch iddynt am eu hymroddiad parhaus, eu cefnogaeth a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i gynifer o bobl yn eich cymuned? Ac roeddwn eisiau nodi fy mod wedi cael y pleser o fynychu cynhadledd trydydd sector gofod3 y bore yma. Hon oedd y fwyaf a gawsant erioed. Roedd dros 1,000 o bobl yno, ac roeddwn yn falch o lansio'r weledigaeth newydd ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru, gan y bydd llawer o'r rhai sy'n cefnogi canolfan HOPE yn wirfoddolwyr yn ogystal â gweithwyr cyflogedig, ac ystyried ein cod ymarfer newydd ar gyfer cyllid, sy'n denu nid yn unig cyllid Llywodraeth Cymru a chyllido tair blynedd mwy hirdymor, ond awdurdodau lleol, cyrff iechyd a chyrff cyhoeddus eraill sy'n cefnogi'r sefydliadau gwerthfawr hyn yn ogystal.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mlaenau Gwent? OQ62943
Diolch yn fawr, Alun Davies. Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni i wneud hyn. Ers 2022, rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn i gefnogi teuluoedd ledled Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, i helpu i wneud y mwyaf o incwm aelwydydd a datblygu llwybrau allan o dlodi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Pam mai'r bobl dlotaf a'r mwyaf agored i niwed bob amser sy'n gorfod dioddef ac sy'n cael eu targedu pan fydd angen i'r Trysorlys arbed arian? Pam mai pobl a ddylai fod yn cael cefnogaeth y Llywodraeth sydd bob amser yn ddarostyngedig i'r toriadau hyn? Rwy'n croesawu'r gwaith a wnaethoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n croesawu'r safiad gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n gwbl glir y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn cefnogi ac yn sefyll dros bobl sy'n byw mewn tlodi a phobl ag anableddau sydd angen cefnogaeth ein cymuned gyfan, ac rwy'n croesawu'n fawr y datganiadau a wnaethoch yn ystod y dyddiau diwethaf ar y mater.
Ond mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n bryd nawr i Lywodraeth Cymru edrych ar ddod â llawer o'r rhaglenni sydd gennym i fynd i'r afael â materion tlodi ymhlith gwahanol bobl yn ein cymdeithas at ei gilydd i ddarparu dull mwy cynhwysfawr o ddelio â thlodi yn rhai o'n cymunedau mwyaf bregus. Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth ar yr agenda les ehangach i sicrhau nad ydym yn cael y trafodaethau amhriodol a welsom dros y dyddiau diwethaf, ond mai'r hyn sydd gennym yw penderfyniad clir y byddwn ni yng Nghymru bob amser yn diogelu'r bobl dlotaf, ac y bydd y Llywodraeth hon a'r Senedd hon bob amser yn ceisio sicrhau bod pobl dlawd a bregus yn ganolog i'r hyn y ceisiwn ei gyflawni?
Diolch am y cwestiwn pwerus hwnnw, Alun Davies. Rwy'n dweud diolch am gydnabod safbwynt Llywodraeth Cymru yn sefyll dros a chynrychioli rhai o bobl dlotaf Cymru. Ond rwy'n credu bod gennym well gobaith o ddatblygu system nawdd cymdeithasol dosturiol trwy ddylanwadu a gweithio gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n credu mai dyma lle byddwn i'n dweud ein bod bellach yn archwilio, er enghraifft, datganoli gweinyddu lles, oherwydd yn amlwg, gallai hyn ein galluogi i alinio rhai o'n gwasanaethau nawdd cymdeithasol sydd heb eu datganoli a'n taliadau i bobl yng Nghymru ag ymrwymiadau sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, fel sydd gennym yn siarter budd-daliadau Cymru.
Ond a gaf i wneud un pwynt yma i ddweud eto fy mod yn parhau i alw am ymrwymiad i roi diwedd ar y rheol budd-dal dau blentyn? Rwyf wedi gwneud y pwynt yn gyson y gallwn godi mwy o blant allan o dlodi yng Nghymru pe bai'r rheol budd-dal dau blentyn yn dod i ben, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei ddweud yn barhaus, ac rwy'n falch o gael cyfle i'w ddweud eto y prynhawn yma o ganlyniad i'ch cwestiwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gan dair etholaeth yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru y mae rhai o'r cyfraddau uchaf o dlodi plant yn y wlad, sef Blaenau Gwent, Dwyrain Casnewydd, Merthyr Tudful ac Aberdâr. Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Loughborough, mae 36 y cant o blant ym Mlaenau Gwent, 35 y cant o blant yn Nwyrain Casnewydd, a 34 y cant o blant ym Merthyr Tudful ac Aberdâr yn byw mewn tlodi. Mae'r rhain yn ffigurau syfrdanol yn ôl fy safonau i a dônt ar ôl i Sefydliad Joseph Rowntree rybuddio bod tlodi plant yng Nghymru ar y trywydd i gyrraedd y gyfradd uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd. Mae'r astudiaeth hefyd yn honni nad oes llawer o gynnydd wedi bod ar leihau tlodi yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf. Meddai Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan,
'Mae'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i leddfu tlodi i'w croesawu, ond mae llawer mwy i'w wneud.'
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n derbyn bod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma wedi methu mewn gwirionedd? Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch chi wrth yr Aelod dros Flaenau Gwent yn eich ateb iddo, ond roedd y camau hynny'n ymwneud â materion sy'n gysylltiedig â Llywodraeth y DU. Felly, mae'n amlwg fod angen i Lywodraeth Cymru newid trywydd, felly sut yn union y byddwch chi'n gwneud hynny? Diolch.
Wel, rwy'n ei chael hi'n anodd iawn ymateb i'r cwestiwn hwnnw pan fo pobl Cymru, ac yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, wedi dioddef 14 mlynedd o gyni. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn—
A 26 mlynedd ohonoch chi. Nid oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud â hynny.
Ac os siaradwch gydag unrhyw sefydliad, unrhyw ymchwil a thystiolaeth academaidd, 14 mlynedd o gyni y toriadau i ddiwygio lles—. Cyflwynwyd y terfyn dau blentyn gan y Llywodraeth Geidwadol. A dros y 24 awr ddiwethaf a chyn hynny, fe glywais wleidyddion Ceidwadol yn Llundain yn dweud eu bod yn pryderu am y newidiadau sydd wedi digwydd, o ganlyniad i sylwadau a gyflwynwyd, ar sail tystiolaeth, am nad oes digon o arian yn cael ei arbed o les ac y byddent yn symud ymhellach i dorri lles pe baent hwy mewn grym. A chlywais hynny gan Weinidogion Llywodraeth y DU.
Nawr, rwy'n deall eich awydd yma heddiw i godi'r materion hyn, ac fel y dywedais wrth Alun Davies, rwy'n credu ein bod yn gwneud popeth a allwn o fewn ein pwerau, ond rydym yn edrych ar ein pwerau ac i weld a oes angen pwerau pellach arnom. Ond rwy'n dweud bod y strategaeth tlodi plant wedi nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hwy ac i wneud y mwyaf o effaith y dulliau sydd ar gael i ni. Nawr, byddaf yn gwneud adroddiad cynnydd ar ein strategaeth tlodi plant yn yr hydref.
Ond a gaf i ddweud yn olaf, 'Anogwch eich holl etholwyr i hawlio beth sy'n ddyledus iddynt'? Edrychwch ar siarter budd-daliadau Cymru a gweld a yw eich awdurdodau lleol yn llwyddo i ddod â'r holl lwybrau hynny at ei gilydd, gan symleiddio mynediad at brydau ysgol am ddim, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a'r grant hanfodion ysgolion. Dyna beth a ddisgwyliwn ganddynt. Mae hynny'n helpu ein teuluoedd i gael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Hefyd, a gaf i groesawu'r ffaith eto—a diolch i'n cytundeb cydweithio hefyd, gyda Phlaid Cymru—mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob dysgwr ysgol gynradd? Mae 174,500 o blant ysgol gynradd yn elwa. Felly, rydym yn gwneud cynnydd. Rydym yn gwneud y cynnydd gorau pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd ar y materion hyn.

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymunedau ffydd Cymru? OQ62961
Diolch, Darren Millar. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda'n cymunedau ffydd drwy'r fforwm cymunedau ffydd. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth, cefnogi deialog rhyng-ffydd a meithrin cydlyniant cymunedol fel rhan o'n hymdrechion ehangach i gryfhau gwead cymdeithasol Cymru.
Nid wyf yn amau eich ymrwymiad personol i'n cymunedau ffydd, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae ein cymuned Iddewig yng Nghymru'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru'n eu cefnogi fel y dylent. Ddoe, gofynnais i'r Prif Weinidog a oedd hi'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i wahardd y grŵp Palestine Action o dan gyfreithiau gwrthderfysgaeth. Methodd ateb y cwestiwn. Gofynnais iddi a fyddai'n condemnio'r artistiaid a oedd yn gyfrifol am y siantio llawn casineb a gwrthsemitiaeth yn Glastonbury. Methodd ateb hynny hefyd. Gofynnais am sicrwydd na fyddai unrhyw arian trethdalwyr pellach yn cael ei roi i Ŵyl y Dyn Gwyrdd oni bai eu bod yn tynnu eu gwahoddiad i'r grŵp rap Kneecap yn ôl. Methodd ateb y cwestiwn hwnnw hefyd.
A ddoe, y tu allan i'r adeilad hwn, gwelsom brotest lle roedd protestwyr yn ailadrodd siantiau llawn casineb ar ôl iddynt gael eu gweiddi a'u sgrechian dros fegaffon gan siaradwr. A phrotest oedd honno a fynychwyd gan Aelodau Plaid Cymru a Llafur y Senedd hon. [Torri ar draws.] Mae'n hollol iawn—[Torri ar draws.] Mae'n hollol iawn fod yr heddlu'n ymchwilio iddynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar ran Llywodraeth Cymru heddiw, a wnewch chi ateb y cwestiynau y methodd y Prif Weinidog eu hateb ddoe? A pha sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r gymuned Iddewig yng Nghymru eich bod yn benderfynol o ddileu gwrthsemitiaeth ym mhob rhan o'n gwlad?
Cyn i chi ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am egluro: o'r hyn rwy'n ei ddeall, nid oes unrhyw Aelodau o'r Senedd hon yn destun ymchwiliad gan yr heddlu. Diolch.
Na. Maent yn ymchwilio i'r siantiau.
A gaf i wneud pwynt o drefn?
Ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet orffen ei sylwadau, iawn?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hynny yw, mae'n eithaf amlwg fod Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda chymunedau Iddewig a Mwslimaidd, ac rydym yn condemnio unrhyw gasineb ffiaidd a fynegir gan unigolion sy'n ceisio creu hinsawdd o ofn gyda'r nod o chwalu ein cymunedau. Dyna pam y mae gennym fforwm cymunedau ffydd, fel y gallwn ddod at ein gilydd, ac rydym yn dod at ein gilydd. Ac ar draws y Siambr hon, wrth inni fynd i'r afael â'r mater hwn, rwy'n credu ein bod yn gwybod bod casineb yn creu rhaniadau ac nad yw'n dderbyniol mewn unrhyw ffordd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n ofalus yn y ffordd y siaradwn ac y dysgwn oddi wrth ein gilydd ar y mater hwn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia—ac rwyf eisiau dod â hynny i mewn i'r drafodaeth hefyd—mae'r ddau'n ffurfiau ar fwlio annerbyniol sy'n gysylltiedig â rhagfarn ac nad oes iddynt unrhyw le mewn unrhyw ran o'n cymdeithas. Ac mae hyn yn bwysig iawn i'n plant a'n pobl ifanc, onid yw? Oherwydd rydym yn darparu arweiniad a chefnogaeth i ysgolion.
Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith ein bod yn gweithredu 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', rydym yn genedl noddfa, ac yn anffodus, mae llawer iawn o hiliaeth yn dal i fodoli yn ein cymdeithas, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hynny. Felly, gadewch inni symud ymlaen o hyn, galluogi pobl i fynegi eu pryderon a'u barn ac edrych ar bethau positif y fforwm cymunedau ffydd a'r datganiadau a wneuthum dros y dyddiau diwethaf am sefyllfa pobl yn y dwyrain canol, yn enwedig y Palesteiniaid a'r hyn y maent wedi bod yn ei ddioddef ac yn ei brofi. Ond mae ein hymrwymiad i wrthsemitiaeth yn hollol glir.
Jenny Rathbone, pwynt o drefn.
Diolch. Ar bwynt o drefn, rwyf am nodi wrth arweinydd y Ceidwadwyr fod Aelodau o'r tair plaid o fwy nag un Aelod wedi mynd i siarad â'r protestwyr ddoe ac mae'n hollol iawn eu bod yn gwneud hynny. Ni allwn ymatal rhag siarad â phobl am y gallem fod yn anghytuno â hwy neu beidio, ac mae'n rhaid inni gydnabod y sefyllfa ofnadwy sydd gennym yn y dwyrain canol, yn enwedig yn Gaza.
Nid wyf yn argyhoeddedig fod hwnnw'n bwynt o drefn, ond mae'n mynegi eich barn. Ac a gaf i dynnu sylw at rywbeth cyn i mi dderbyn mwy—? Rwy'n ymwybodol fod y mater wedi'i gyfeirio at yr heddlu i'w ymchwilio ac felly byddai'n amhriodol i mi wneud sylwadau pellach ar hyn, a charwn annog pob Aelod i fod yn ofalus yn y mater hwn.
A gaf i wneud pwynt o drefn? Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ofyn i arweinydd yr wrthblaid gywiro'r Cofnod gan nad oes unrhyw Aelod o'r Senedd hon yn destun ymchwiliad gan yr heddlu. Mae angen yr eglurder hwnnw arnom. Os edrychwch yn ôl ar y Cofnod, nid yw'n glir, a byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai dynnu'r sylw hwnnw'n ôl, ymddiheuro a chywiro'r Cofnod.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod dros—wel, arweinydd y Ceidwadwyr—yn cadarnhau'n agored nad oes unrhyw gyfeiriad fod unrhyw Aelod o'r Senedd yn destun ymchwiliad.
Yn sicr.
Ac rydych chi'n cadarnhau hynny?
Yn sicr.
Pam y gwnaethoch chi ei ddweud, felly?
Pam y gwnaethoch chi ei ddweud?
Dywedais fod y digwyddiadau ddoe yn destun ymchwiliad.
Roeddech chi'n gwybod yn union beth oeddech chi'n ei wneud.
Na, nid dyna a ddywedoch chi.
Mae'r Aelod wedi dweud yn glir nad yw'n dweud bod unrhyw Aelod o'r Senedd yn destun ymchwiliad.
Roedd yr ensyniad yn glir.
Yn olaf, cwestiwn 8, Julie Morgan.
8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau pobl anabl? OQ62958
Diolch, Julie Morgan. Rydym yn parhau i weithio gyda phobl anabl i wneud Cymru'n lle gwell i fyw. Nod y cynllun drafft ar hawliau pobl anabl yw creu newid cadarnhaol a pharhaol, gan roi'r model cymdeithasol o anabledd wrth wraidd ein huchelgais ar gyfer Cymru.
Diolch am yr ateb.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cynllun hawliau pobl anabl i greu cymdeithas sy'n gwbl hygyrch, ond i gyflawni hynny, rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn ymgysylltu â busnesau preifat.
Clywais gan un etholwr, myfyriwr prifysgol, sydd ag anabledd cudd ac wedi profi problemau sylweddol gyda mynediad at doiledau anabl, yn enwedig pan fo allan gyda'i ffrindiau yng nghanol y ddinas gyda'r nos. Mae wedi cael problemau arbennig gyda McDonald's yng nghanol dinas Caerdydd, er iddo ddangos cerdyn prawf anabledd i staff ar ei ffôn, ac rwy'n credu bod hyn yn gwbl annerbyniol. Mae hefyd wedi dweud ei fod wedi cael ei wrthod rhag cael mynediad at doiledau mewn bariau a bwytai eraill, er iddo esbonio i'r staff fod ganddo anabledd. Felly, mae hyn yn golygu bod fy etholwr bellach yn amharod i fynd allan i'r dref gyda'i ffrindiau a mwynhau ei hun fel unrhyw unigolyn ifanc arall am nad yw'n gwybod a fydd ganddo fynediad at doiled.
Felly, pa ymgysylltiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i gael gyda busnesau yng Nghymru i sicrhau bod anghenion pobl anabl yn cael eu diwallu?
Diolch, Julie Morgan. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at gynllun hawliau pobl anabl, fel y gwnes i. Diolch i'r bobl anabl a gymerodd ran weithredol yn cydgynhyrchu'r cynllun hwnnw ac sydd bellach yn ymgynghori ar y cynllun er mwyn inni allu ei wneud yn iawn, a diolch i'r Aelodau a fynychodd y digwyddiad ymgynghori yr wythnos diwethaf. Mae'r hyn y gwnaethoch chi dynnu ein sylw ato'n gwbl annerbyniol, ac mae'n dangos bod y model cymdeithasol o anabledd, sy'n ymwneud â rhwystrau sy'n anablu yn y gymdeithas yn gallu bod yn rhai cyhoeddus, gallant fod mewn gwasanaethau cyhoeddus, gallant fod mewn gwasanaethau statudol, ond hefyd yn y sector preifat. Dylid tynnu sylw at y driniaeth ofnadwy yn McDonald's a'r diffyg dealltwriaeth a darpariaeth doiledau i'w defnyddio, fel y gwnaethoch chi heddiw.
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol gynhyrchu strategaethau toiledau lleol. Mae McDonald's yn gweithredu nid yn unig yng Nghaerdydd ond ledled Cymru a'r byd, felly mae angen iddynt nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddwyn i'n sylw heddiw. Mae angen inni sicrhau bod cyfleusterau toiled lleol hygyrch ar gael a bod pobl anabl yn ymgysylltu, fel y maent wedi bod yn ei wneud mor gadarnhaol ac adeiladol, er enghraifft, yn natblygiad gorsaf fysiau Caerdydd. Yn ddiweddar, euthum i orsaf fysiau Caerdydd gyda Cŵn Tywys Cymru a gwelais y dylanwad y maent wedi'i gael ar gynllun gorsaf fysiau newydd gyda thoiledau hygyrch, ac i ddangos beth y gellir ei wneud gyda rheoliadau adeiladu a Changing Places os cânt eu gweithredu'n iawn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y ddau gwestiwn yn cael eu hateb gan y Llywydd.
1. Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i roi i wella hygyrchedd ac amlygrwydd ar-lein gwybodaeth am waith y Senedd er mwyn cefnogi gwell ymgysylltiad cyhoeddus ar draws Cymru? OQ62955
Nod ein strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu yw codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o'r Senedd ac annog pobl i gymryd rhan yn ein gwaith. Mae sicrhau bod gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch ar-lein yn rhan allweddol o hyn. Rydym yn cynnig teithiau ar-lein o amgylch y Senedd, yn ogystal â sesiynau addysg rhithwir, ac mae pwyllgorau'r Senedd yn sefydlu grwpiau ffocws ar-lein i drafod eu hymchwiliadau ac i gyfrannu at eu gwaith. Rydym yn adolygu ein gwefan er mwyn paratoi ar gyfer y seithfed Senedd, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau ei fod e'n haws i'w ddefnyddio ac yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.
Diolch am eich ymateb, Llywydd.
Mae hynny'n newyddion i'w groesawu am ei adolygu cyn y seithfed Senedd, oherwydd codais y pwynt hwn ar ôl iddo gael ei godi gyda mi gan etholwr ynglŷn â'i wneud yn fwy hygyrch. Rwy'n credu, weithiau, gyda'r wefan bresennol, fod angen i chi wybod sut i lywio'r system i gyrraedd lle mae angen i chi fod i weld pleidleisiau a phethau felly. Felly, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol cyn y seithfed Senedd i ailddatblygu a gwella ein platfform ar-lein, boed hynny'n ymwneud â phleidleisio, beth y mae datganoli'n ei olygu, neu sut y gall pobl gymryd mwy o ran. A allwch chi rannu mwy o wybodaeth heddiw ynglŷn â sut y gellir gwneud hynny mewn pryd ar gyfer y seithfed Senedd? Diolch.
Ni allaf rannu mwy o wybodaeth heblaw dweud ei fod yn digwydd a'n bod wedi ymrwymo i gynnal yr adolygiad hwnnw a rhoi gwelliannau ar waith y mae'n amlwg fod eu hangen ar gyfer y seithfed Senedd, ac i roi cyfle i bob Aelod yma rannu unrhyw farn sydd ganddynt ar sut yr hoffent weld newidiadau, a'r hyn y credant y dylent fod yn flaenoriaethau penodol ar gyfer newid, fel y gall ein democratiaeth ar-lein fod yn fwy hygyrch ac yn haws i bawb ei defnyddio. Rwy'n cael trafferth fy hun, weithiau, i ddod o hyd i'r union beth rwy'n meddwl fy mod i'n chwilio amdano ar-lein. Efallai mai fi yw hynny, ond weithiau mae angen inni wneud yn siŵr ei fod mor hygyrch â phosibl. Felly, mae'n wahoddiad i bawb gyfrannu at y broses honno lle rydych chi'n nodi gwelliannau y gellir eu gwneud. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gadael i mi wybod, ac fe wnaf i adael i'r bobl TG wybod, sef yr arbenigwyr, er mwyn gwneud i'r pethau hyn ddigwydd.
2. Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i wella hygyrchedd cofnodion pleidleisio ar wefan y Senedd? OQ62952
Cyhoeddir cofnod o'r holl bleidleisiau a gynhelir yn ystod trafodion y Senedd yn unol â'r gofynion a nodir yn y Rheolau Sefydlog a deddfwriaeth. Ar gyfer trafodion y Cyfarfod Llawn a phwyllgorau, cyhoeddir cofnod manwl o'r holl bleidleisiau, gan gynnwys manylion am sut y mae pob Aelod wedi pleidleisio, fel rhan o Gofnod y Trafodion. At hynny, mae crynodeb o bleidleisiau yn cael ei gyhoeddi ar y wefan gyhoeddus ar gyfer pob Cyfarfod Llawn, fel arfer o fewn hanner awr i ddiwedd pob cyfarfod. Mae hyn yn manylu ar sut y pleidleisiodd pob Aelod a'u hymlyniad gwleidyddol, yn ogystal ag unrhyw bleidleisiau drwy ddirprwy sydd ar waith.
Diolch am yr ymateb, Llywydd.
Rwy'n dod yn fwyfwy ymwybodol fod hanes pleidleisio Aelodau'r Senedd yn arbennig o anodd dod o hyd iddo wrth lywio gwefan y Senedd, ac rwyf wedi clywed gan etholwyr nad oeddent hyd yn oed yn ymwybodol y gellid cyrchu cofnodion pleidleisio. I gael mynediad at gofnodion pleidleisio'r Senedd, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i agenda'r Cyfarfod Llawn penodol ar gyfer trafodion y diwrnod hwnnw, ac nid yw'n hawdd dod o hyd iddo i rywun nad yw'n gyfarwydd â gwefan y Senedd. Mae yna fotwm bach sy'n eich galluogi i lawrlwytho'r crynodeb pleidleisio fel taenlen eithaf hynafol, sy'n dangos sut y pleidleisiodd yr Aelodau ar bob eitem. Fodd bynnag, mae gan Senedd y DU dudalen bwrpasol ar gyfer cofnodion pleidleisio, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio yn ôl teitl a dyddiad i ddod o hyd i eitem benodol, boed yn ddadl neu'n welliant i Fil. Gallant weld pa Aelodau a bleidleisiodd 'ie' neu 'na' a phwy a ymataliodd, ac mae'r wefan yn hawdd iawn i'w defnyddio.
Wrth gwrs, er budd tryloywder, mae gan bawb hawl i weld sut y mae eu cynrychiolydd etholedig yn pleidleisio ar fater penodol, ac ar hyn o bryd mae gwefan y Senedd yn gwneud hyn braidd yn anhygyrch i'r cyhoedd a gallai effeithio ar dryloywder y Senedd fel corff deddfwriaethol. Felly, pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael ynglŷn â hygyrchedd cofnodion pleidleisio trwy wefan y Senedd, ac a oes unrhyw gynlluniau i wella tryloywder trwy wella hygyrchedd y cofnodion hyn, yn debyg i Senedd y DU?
Rwy'n credu bod gennym thema gyffredin yn codi yn y ddau gwestiwn hyn yn ymwneud â hygyrchedd ein gwefan a gwybodaeth a gedwir arni. Mae'r wybodaeth yno, mae'n cael ei chyhoeddi, ond mae'n ymwneud â hygyrchedd a pha mor hawdd yw hi i ddefnyddio'r wefan honno.
Fel y dywedais yn fy ymateb i Hannah Blythyn, rydym yn gwneud gwaith i baratoi ar gyfer y seithfed Senedd i wneud y wefan yn haws i'w defnyddio. Un o'r pryderon sydd wedi'u codi, a thynnwyd sylw ato yn eich cyfraniad yno, Gareth, yw bod cyfleuster chwilio ein cofnod pleidleisio yn un nad yw cystal â rhai Seneddau eraill, ac mae angen i ni feddwl sut y gallwn ei gwneud hi'n bosibl chwilio cofnodion pleidleisio Aelodau yma mewn ffordd fwy fforensig. A chan fod yr Aelodau wedi gofyn am hynny, fe wnaf yn siŵr fy mod yn gofyn am hynny yn y gwaith sy'n cael ei wneud ar wella hygyrchedd.
Wrth gwrs, Aelodau, byddwn i'n dweud wrthych am fod yn ofalus ynghylch yr hyn rydych chi'n ei ddymuno. Mae'r cyfleuster chwilio cofnodion pleidleisio yn beth da iawn i ddemocratiaeth, ond efallai na fyddwch chi bob amser yn hoffi'r hyn y bydd y cyfleuster chwilio hwnnw'n ei ddatgelu yn y dyfodol ynghylch cofnodion pleidleisio unigol unrhyw Aelod. Ond y bobl sydd pia'r wybodaeth honno. Fel y dywedais, ac fel y cytunais, mae angen inni wneud y wybodaeth honno'n fwy hygyrch i bobl Cymru ac yn haws ei defnyddio. Felly, diolch am y cwestiynau.
Diolch i'r Llywydd.
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Rydyn ni'n symud ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd heddiw, a dwi'n galw ar Heledd Fychan.
Mi oedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod gwych ym Mhontypridd wrth i dros 300 o bobl heidio yno i gystadlu yn eisteddfod leol gyntaf erioed y dref. Fe ges i fodd i fyw yn y gynulleidfa yn gwrando ar lu o berfformiadau gydol y diwrnod, a dyma gyfle heddiw felly i rannu gyda chi pa mor arbennig oedd y diwrnod, a hefyd i ddiolch i bawb fu’n rhan o’r trefnu.
Rydym ni i gyd dwi’n siŵr yn cofio llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd y llynedd, a braf ydy gweld bod yr eisteddfod leol hon yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw wrth i’r gymuned leol ddod ynghyd a dathlu’r wledd o dalent a diwylliant yn yr ardal. O’r corau i’r unawdau o’r gwaith llenyddol i frwydr y bandiau, roedd hi’n wych bod yr eisteddfod yn rhoi llwyfan i gynifer rannu eu doniau. Roedd yn wych hefyd gweld cymaint o ddysgwyr yn cystadlu, a chymaint o bobl ddi-Gymraeg yn dod i fwynhau'r arlwy.
Ni fyddai digwyddiad fel hyn yn bosib, wrth gwrs, oni bai am waith caled ac ymroddiad y trefnwyr, y gwirfoddolwyr a’r noddwyr. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd at y digwyddiad, gan gynnwys Capel y Bont a Chlwb y Bont am y lleoliadau rhagorol. Gwych hefyd oedd bod yr holl waith wedi talu ar ei ganfed, gyda’r lleoliadau’n orlawn drwy gydol y dydd. Mi oedd nifer o’r cystadleuwyr a'r cefnogwyr hefyd wedi mwynhau arlwy caffis, marchnad, bwytai a thafarndai y dref, gan roi hwb pwysig i fusnesau lleol.
Mae eisteddfodau lleol ledled Cymru mor bwysig o ran parhad y Gymraeg fel iaith fyw yn ein cymunedau, ac fel iaith i bawb fwynhau, a gobeithio’n fawr felly y gwelwn ni Eisteddfod Pontypridd yn parhau i’r dyfodol. Does dim dwywaith bod lle a chroeso iddi ar y calendr blynyddol o eisteddfodau Cymru, ac mae yna awch am fwy ym Mhontypridd.
Thank you, Heledd.
Eitem 6 yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Difrod a chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm: Canfyddiadau cychwynnol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM8946 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru iddo ar 25 Mehefin 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw ar y papur trefn y prynhawn yma. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, ar 6 a 7 Rhagfyr, digwyddodd dau ddigwyddiad angori yng nherfynfa 3 porthladd Caergybi, yn gysylltiedig ag Irish Ferries. Arweiniodd y difrod o'r digwyddiadau hyn at gau'r porthladd yn llawn dros gyfnod prysur a phwysig y Nadolig. Ar 16 Ionawr, ailagorodd y porthladd, gyda Stena ac Irish Ferries yn hwylio ar amserlen ddiwygiedig o derfynfa 5. Fodd bynnag, mae terfynfa 3 eto i agor. Ddirprwy Lywydd, gofynnais am gael cynnal y ddadl hon heddiw i gyd-fynd ag ailagor y porthladd yn llawn. Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, clywsom fod yr ailagoriad llawn wedi'i ohirio tan o leiaf 15 Gorffennaf.
Ar 6 Mawrth, cynhaliodd y pwyllgor sesiwn i edrych ar gau'r porthladd. Yn benodol, fe wnaethom ganolbwyntio ar yr achos, cyfathrebu, adferiad ac effaith. Cawsom dystiolaeth gan nifer o dystion allweddol, gan gynnwys gweithredwr y porthladd, cynrychiolwyr defnyddwyr y porthladd, a Llywodraeth Cymru. Gwnaeth yr adroddiad chwe argymhelliad a daeth i bum casgliad. Rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw un o'n hargymhellion yn llawn, gan wrthod tri a derbyn y tri arall yn rhannol yn unig.
Ddirprwy Lywydd, rydym hefyd yn siomedig ynghylch datganiad uniongyrchol Llywodraeth Cymru a ryddhawyd mewn ymateb i'n hadroddiad. Fel Aelod hirsefydlog o'r sefydliad hwn, rwyf wedi gweld llawer o adroddiadau ac ymatebion pwyllgorau. Nid wyf yn cofio gweld unrhyw ymateb arall a oedd mor feirniadol o bwyllgor yn y ffordd yr oedd ymateb Llywodraeth Cymru. Hoffwn atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet nad yw pwyllgorau'n gweithio mewn gwactod. Nid oeddem yn eistedd mewn ystafell dywyll ac yn ystyried beth y dylem ei ddweud. Na, roeddem o ddifrif ynghylch yr ymchwiliad. Fe wnaethom seilio ein hadroddiad ar dystiolaeth gadarn. Fe wnaethom siarad â phobl allweddol o'r porthladd, pobl a oedd yn cynrychioli'r diwydiant cludo nwyddau, busnesau lleol, yr awdurdod lleol, tyst arbenigol annibynnol, a Gweinidogion Cymru eu hunain wrth gwrs. Fe wnaethom wrando ar yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud. Clywsom eu profiad ac fe wnaethom ddefnyddio'r wybodaeth honno i ddod i gasgliadau pwysig ac i wneud argymhellion, fel y gall Cymru baratoi'n well pe bai rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.
Un o'r pethau a wnaeth ein synnu wrth inni gasglu tystiolaeth oedd nad oedd yr un o'r tystion a holwyd yn gallu nodi'n glir pwy yn Llywodraeth Cymru, yn y pen draw, a oedd yn arwain ymateb Llywodraeth Cymru. Mae strwythur gorchymyn a rheoli cryf, gydag arweinyddiaeth glir, yn bwysig wrth ymateb i ddigwyddiad. Dyma pam y gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru gytuno ar Weinidog arweiniol i oruchwylio ac i fod yn atebol am yr ymateb rheoli mewn unrhyw achosion o'r maint a'r cymhlethdod hwn yn y dyfodol. Roeddem yn synnu gweld yr argymhelliad hwn yn cael ei wrthod a'r rhesymeg dros y gwrthodiad hwn. Meddai Llywodraeth Cymru:
'Rydyn ni’n credu’n gryf bod ymateb Llywodraeth Cymru wedi elwa ar allu ac arbenigedd sector y ddau Ysgrifennydd Cabinet.'
Nid yw cael unigolyn penodol i arwain ac ysgwyddo cyfrifoldeb am reoli digwyddiad yn golygu na all neb arall fod yn rhan ohono neu fod yn rhaid iddynt golli arbenigedd neu dalent aelodau eraill o'r Cabinet. Mae'n golygu bod un unigolyn clir sy'n dal yr awenau yn atebol. Wedi dweud hynny, roeddem yn falch o weld bod y diweddariad o'r ddogfen cyfrifoldebau gweinidogol a gyhoeddwyd fis diwethaf yn egluro cyfrifoldeb pob Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â phorthladdoedd. Bydd hyn yn ein helpu ni a rhanddeiliaid i ddeall yn well ble mae'r gwahanol feysydd cyfrifoldeb.
Ddirprwy Lywydd, rydym bellach wedi trafod yr arweinyddiaeth. Hoffwn symud ymlaen at fanylion ymateb Llywodraeth Cymru ei hun. Roedd yr adroddiad yn ei ddisgrifio fel ymateb hynod o araf. Dywedodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wrthym mai'r cyswllt cyntaf a gawsant gyda Llywodraeth Cymru oedd e-bost ar Noswyl Nadolig. Meddai'r cynrychiolwyr cludo nwyddau:
'Erbyn hynny, roedd y mater nid yn unig wedi bod ar y gweill ers bron i bythefnos, roeddem hefyd wedi sicrhau bod oriau gyrwyr yn llacio, ac roedd hynny wedi dod i ben'.
Roeddem wedi tybio y byddai'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi bod yn un o'r sefydliadau cyntaf y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cysylltu ag ef. Gallant rannu gwybodaeth i'w haelodau a sicrhau nad yw gyrwyr lorïau'n gwneud y siwrnai seithug hir i Gaergybi. Mae hyn yn wahanol iawn i'r dystiolaeth a glywsom am ymateb Llywodraeth yr Alban. Cysylltodd Transport Scotland â'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd ar 11 Rhagfyr i roi gwybod iddynt fod Caergybi ar gau, ac am y trefniadau wrth gefn yr oedd Llywodraeth yr Alban yn eu rhoi ar waith yn Castle Kennedy. Yn dilyn hyn, dywedodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd eu bod wedi cael eu gwahodd i alwadau bron yn ddyddiol gydag awdurdodau'r Alban.
Beirniadodd Cymdeithas Cludo ar y Ffyrdd Iwerddon y cyfathrebu gan y porthladd a'r awdurdodau. Fe wnaethant ddweud wrthym:
'Roedd ôl-groniad o dros 1,000 o drelars yn ardal Caergybi, ac roeddent yn dal i lifo i mewn, gan na ddywedwyd wrthym am stopio.'
Dyna ddyfyniad uniongyrchol o dystiolaeth y pwyllgor. Rydym yn deall o ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad fod Stena yn ôl pob golwg wedi bod yn rhy optimistaidd yn eu hasesiad o'r gallu i ailagor y porthladd, a bod Llywodraeth Cymru wedi annog Stena i gyhoeddi hysbysiad yn nodi y byddai'r porthladd ar gau am gyfnod amhenodol. Fodd bynnag, rydym yn dal i deimlo bod mwy o rôl i Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn. Pe baech chi wedi cyfathrebu'n rheolaidd â chwmnïau fel y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, rydym yn credu y byddai hyn wedi bod yn glir i Lywodraeth Cymru hefyd.
Rydym yn derbyn pwynt Llywodraeth Cymru fod y porthladd yn weithredwr masnachol, a bod hynny'n cyfyngu ar rôl a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r porthladd hefyd yn ddarn o seilwaith hanfodol, ac mae cau'r porthladd yn cael effaith ganlyniadol fawr ar fusnesau eraill a gyrwyr lorïau ac aelodau'r cyhoedd. Byddem yn awgrymu, o leiaf, fod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i gefnogi a hysbysu'r holl grwpiau hyn pan fo seilwaith cenedlaethol hanfodol yn methu. Fel y cyfryw, credwn y byddai gweithredu cynharach a chyfathrebu gwell gyda Llywodraeth Cymru wedi bod yn fuddiol iawn.
Fe wnaethom ganfod hefyd fod dull gweithredu araf mewn perthynas â'r polisi trafnidiaeth hirdymor wedi gwaethygu'r problemau a wynebwyd gan gludwyr nwyddau a defnyddwyr eraill y porthladd. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth porthladdoedd a morwrol Cymru, a chynllun cludo nwyddau a logisteg genedlaethol Cymru erbyn 2024. Nid oedd yr un o'r rhain ar waith pan gaewyd y porthladd. Mynegodd yr Athro Andrew Potter siom ynghylch y diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar gynllun cludo nwyddau newydd, gan ddweud wrthym, o ystyried bod yr un diwethaf yn 2008, fod hynny braidd yn esgeulus.
Er iddo gael ei wneud cyn fy nghyfnod i fel Cadeirydd y pwyllgor, roedd un o'r darnau cyntaf o waith a wnaed gan y pwyllgor yn ymwneud â phrinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a materion yn gysylltiedig â'r gadwyn gyflenwi. Gwnaeth yr adroddiad hwnnw sawl argymhelliad, gan gynnwys argymhelliad i gyflymu datblygiad cynllun cludo nwyddau, a fyddai'n ymgorffori'r argymhellion o'r adroddiad hwnnw i weithio ar frys gyda phartneriaid i wella'r ddarpariaeth o gyfleusterau gorffwys i yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr holl argymhellion hynny yn yr adroddiad. Ni allaf ond meddwl pe baent nid yn unig wedi derbyn yr argymhellion hynny ond wedi'u rhoi ar waith hefyd, efallai y byddai effaith cau'r porthladd ar yrwyr lorïau wedi'i lliniaru. Mae hyn oll yn gwneud imi feddwl ble oedd y Llywodraeth ar y mater hwn: pam y bu'n rhaid i yrwyr sydd mor allweddol i'n heconomi ddibynnu ar bolisi cyhoeddus a ddatblygwyd yn yr un flwyddyn ag yr ymddangosodd yr iPhone cyntaf? A sut y gwnaeth Llywodraeth yr Alban ymateb yn fwy effeithiol na Llywodraeth Cymru yn ôl pob golwg i gau porthladd yng Nghymru?
Fodd bynnag, er gwaethaf ymateb sydd i'w weld yn negyddol i'n hadroddiad, rydym yn falch o weld bod llawer o'r pryderon a godwyd gennym wedi'u hadlewyrchu yng nghylch gorchwyl y tasglu ar y cysylltiad môr rhwng Cymru ac Iwerddon. Nodwn fod y cylch gorchwyl yn datgan y bydd y tasglu'n canfod beth sydd ei angen ar Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru gan bob rhanddeiliad dros y tymor hwy nid yn unig er mwyn goroesi, ond i allu ffynnu. Gobeithiwn y gall y tasglu gyflawni'r dyhead hwnnw, gan fod porthladdoedd ffyniannus yn hanfodol i'n heconomi.
A sôn am borthladdoedd ffyniannus, hoffem sôn hefyd yn gyflym am ddargyfeirio masnach. Mae hwn yn fater y mae gan y pwyllgor bryderon yn ei gylch ac y mae wedi bod yn ei fonitro. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wrth y pwyllgor fod gwerth masnach drwy Gaergybi ym mis Rhagfyr 2024 bron i £0.5 biliwn yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Ar y pryd, nododd y byddai angen dadansoddi'r ffigurau hyn. Roeddem yn meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud y dadansoddiad ac a allai fod ganddi ffigur mwy cadarn bellach o effaith y cau.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddychwelyd yn fyr at yr oedi cyn ailagor y porthladd. Er bod y porthladd wedi bod yn ymdopi hyd yn hyn, rwy'n pryderu y bydd oedi pellach yn gwanhau gwydnwch y porthladd tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo. Rwy'n siŵr y bydd gan ddefnyddwyr, ac yn enwedig cludwyr nwyddau, lawer mwy o hyder yn y porthladd pan fydd y ddwy ddocfa ar agor. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Stena ynglŷn â'r dyddiad ailagor newydd a pha mor hyderus ydyw y bydd yn ailagor mewn pryd?
Cyn imi ildio, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad hwn. Fe wnaeth eu tystiolaeth a'u profiad ganiatáu inni wneud argymhellion pwysig, ac rydym yn siomedig i ddweud bod y Llywodraeth wedi eu gwrthod i raddau helaeth. Fodd bynnag, hoffwn hefyd danlinellu un elfen bellach o siom: er gwaethaf ymdrechion sylweddol, ni chawsom dystiolaeth gan Irish Ferries. Fe wnaethant benderfynu peidio ag ymwneud â'r ymchwiliad. Mae hyn yn rhwystredig, gan y gallent fod wedi bod yn un o'r tystion allweddol, nid yn unig fel un o'r ddau gwmni fferi sy'n defnyddio'r porthladd, ond hefyd o ystyried eu rhan yn y digwyddiad.
Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan Aelodau eraill i'w ddweud ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n dadl. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Andrew R.T. Davies, a'r tystion a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad? Rwy'n dal yr adroddiad yn fy llaw. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad cryf iawn, ar darfu sylweddol ym mhorthladd Caergybi, nad achoswyd gan storm Darragh. Credaf fod canfyddiad yn y wasg ac ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol mai storm Darragh a achosodd i'r porthladd gau, ond cawsom dystiolaeth nad oedd hynny'n wir. Cafwyd digwyddiadau angori cyn effaith fwyaf gwyllt storm Darragh ar y moroedd o amgylch Caergybi.
Mae'n adroddiad ysgafn, am ei fod yn canolbwyntio'n eithaf amserol ar y materion allweddol. Mae ynddo chwe argymhelliad. Mae'n drueni fod argymhelliad 1 wedi'i wrthod; argymhelliad 2 wedi'i wrthod; dim ond yn rhannol y cafodd argymhelliad 3 ei dderbyn; argymhelliad 4, wedi'i wrthod; argymhelliad 5, wedi'i dderbyn yn rhannol; ac argymhelliad 6, wedi'i dderbyn yn rhannol. Mae hynny'n eithaf siomedig, oherwydd os ydym yn ystyried argymhelliad 1, nid yw hwnnw ond yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd. Rhaid bod hynny'n flaenoriaeth. [Torri ar draws.] Felly, pam ddim derbyn? Gallaf ddeall bod Ysgrifennydd y Cabinet yno'n dweud mai dyna y mae'r tasglu'n ei wneud, felly derbyniwch yr argymhelliad ac amlinellwch yr hyn rydych chi'n ei wneud drwy'r tasglu.
Fe ddof at y tasglu—[Torri ar draws.] Fe ddof at y tasglu, gan iddo gael ei grybwyll mewn cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth yn gynharach heddiw, ac fe wnaethoch chi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gymryd rhan yn y tasglu. Rwy'n atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet fod yna borthladdoedd eraill sy'n gwasanaethu Iwerddon, yn sir Benfro. Mae porthladd Penfro yn fy etholaeth i, a phorthladd Abergwaun yn etholaeth Paul Davies—dau borthladd a ysgwyddodd y baich gwaith ychwanegol pan oedd porthladd Caergybi ar gau, ac nid ydym wedi cael cyfle i gyfrannu at dasglu Môr Iwerddon. Rwy'n deall efallai mai camgymeriad yw hynny, ond roeddwn am gofnodi hynny—nad Caergybi yw'r unig borthladd yng Nghymru sy'n gwasanaethu Iwerddon.
Ond yr hyn a oedd yn amlwg drwy'r ymchwiliad oedd pwysigrwydd porthladd Caergybi i Iwerddon. Weithiau, yma yng Nghymru, rwy'n credu ein bod yn tanbrisio gwerth y porthladd hwnnw. Credaf fod cau'r porthladd wedi tynnu sylw at yr angen inni gael strategaeth hirdymor. Rwyf wedi croesawu Cymdeithas Porthladdoedd Prydain i'r Pierhead sawl tro ers imi gael fy ethol. Ddirprwy Lywydd, rwyf i fy hun yn gyn-weithiwr Stena Line a arferai weithio ar y fferi rhwng Abergwaun a Rosslare pan oeddwn yn fyfyriwr. Roeddwn yn mwynhau'r swydd yn fawr, ond nid oeddwn yn ddigon o forwr i'w gwneud yn llawn amser. Ond yr hyn rwy'n ei ddeall yw'r gwerth y mae'n ei ddwyn i'r ardal. A'r dystiolaeth a roddwyd i ni gan yr awdurdod lleol a'r gymuned fusnes yng Nghaergybi yw effaith cau'r porthladd ar y gymuned ehangach honno, rhywbeth y bydd yr Aelod dros Ynys Môn yn ei grybwyll yn ei gyfraniad, rwy'n siŵr.
Ond pan edrychwn ar ble rydym yn mynd—. Rydym yn genedl forwrol. Rydym yn genedl forwrol, dylem ddeall gwerth y pethau hyn, nid gorfod aros i'r porthladd gau i ail-amlygu pwysigrwydd y cyfleuster hwn, y cyfleuster allweddol hwn. Dyma'r groesfan fyrraf rhwng y Deyrnas Unedig, neu rhwng Prydain, a Gweriniaeth Iwerddon. Mae'n cael llawer iawn o ddefnydd. Mae ganddo hygyrchedd yr A55. Mam bach, gwn y byddai Paul Davies a minnau wrth ein boddau'n cael ffyrdd deuol ar yr A40 i wasanaethu ein porthladdoedd i lawr yn ne Cymru. Ond gadewch inni ddeall bod porthladdoedd eraill wedi ysgwyddo'r baich gwaith ychwanegol. Mae pwysigrwydd Caergybi—ie, pa mor bwysig ydyw i'n heconomi ehangach ac i'r economi leol ar ynys Ynys Môn—ond hefyd pwysigrwydd porthladdoedd eraill sydd gennym yng Nghymru hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth—. Os edrychwn ar strategaeth fwy hirdymor—a nodaf safbwyntiau Ysgrifennydd y Cabinet ar dasglu Môr Iwerddon—rwy'n credu o ddifrif fod angen inni ystyried y buddsoddiad a gyhoeddwyd gan Stena Line ym mhorthladd Abergwaun, yn etholaeth Paul Davies, a'r ffocws ar ynni adnewyddadwy yn y porthladd ym Mhenfro. Rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol inni gael ffocws gwirioneddol bwrpasol, ffocws polisi, adnewyddiad i'r polisi mewn gwirionedd, ar ein porthladdoedd a'n seilwaith porthladdoedd yng Nghymru. Ac mae'n drist fod rhaid cau ar raddfa mor fawr yng Nghaergybi er mwyn inni fynd i'r afael â hyn eto. Rhywbeth arall sy'n amlwg iawn o'r adroddiad hwn hefyd oedd cryfder y teimlad ymhlith y rhai a gyfrannodd ato ynghylch y pwysigrwydd, y ffordd y mae porthladdoedd a harbyrau'n gatalyddion yn eu cymunedau, nid yn unig o ran cyflogaeth, ond drwy ymwelwyr a'r holl ymyriadau economaidd eraill y mae porthladdoedd a harbyrau'n eu denu i'w hardaloedd.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn fy mod i, fel aelod o'r pwyllgor, wedi gallu bod yn rhan o hyn, gyda fy muddiant personol fy hun mewn porthladdoedd a harbyrau. Hoffwn ailadrodd fy siom ynghylch ymatebion y Llywodraeth i rai o'r argymhellion, ond rwy'n gobeithio bod hwn yn gyfle inni ail-lansio, ailgadarnhau ac adnewyddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i borthladdoedd a'r seilwaith porthladdoedd yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i’r pwyllgor am wneud y darn yma o waith, ac am wneud y darn yma yn brydlon wedi’r digwyddiad yma, a oedd mor niweidiol, wrth gwrs, o ran masnach drwy borthladd Caergybi, ac ar y dref ei hun a’r gymuned ehangach? Rôn i’n crybwyll yn gynharach heddiw yr effaith fawr—y gwymp mewn masnach, y gwymp yn nifer y bobl oedd yn pasio drwy’r dre a’r arian oedd yn cael ei wario yn ystod y cyfnod hwnnw.
Felly, mi oedd hwn yn fater difrifol iawn, ac mae argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn dweud wrthym ni mai’r peth cwbl allweddol ydy bod gwersi yn cael eu dysgu o hyn. Mae’r adroddiad yma, ynddo’i hun, yn ddefnyddiol yn hynny o beth, ond beth mae o’n ei ddweud wrthym ni ydy bod rhaid i Lywodraeth Cymru, rŵan, barhau i gadw llygad barcud ar wytnwch y porthladd yma, i sicrhau ei fod o’n ffit am weddill y ganrif hon, a thu hwnt i hynny.
Mi wnaf i droi at argymhelliad 3 yn sydyn, a’r cyfathrebu fu ar y pryd, yn union wedi’r digwyddiad yma. Dwi’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun am y cyswllt gefais i yn ystod y cyfnod hwnnw. Mi rôn i’n canfod hynny yn ddefnyddiol iawn. Ond mae’n amlwg, onid ydy hi, fod yna aneglurder mawr wedi bod ynglŷn â lle ddylai cwmnïau cludo ddargyfeirio eu lorïau. Mae’r Road Haulage Association yn nodi mai Noswyl Nadolig oedd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gysylltu efo nhw. Ac ar lawr gwlad, mi oedd busnesau a theithwyr yn clywed gan Lywodraeth Cymru fod y porthladd yn mynd i fod yn ôl yn gweithio o fewn dyddiau, ac wedyn, gan Lywodraeth Iwerddon, rybuddion na fyddai’r porthladd yn ailagor cyn y Nadolig. A dyma ni yn dal heb y porthladd wedi’i agor yn llawn eto. Ond mae’r trydydd argymhelliad yna ynglŷn â’r cyfathrebu, yn dilyn y math yma o ddigwyddiad yn y dyfodol, yn bwysig iawn, iawn.
Argymhelliad 4 wedyn—hwn yn adleisio’r cwestiwn y cefais i gyfle i’w ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach heddiw, ynglŷn â’r lefel o gefnogaeth sydd angen ei roi o hyd i’r gymuned a’r busnesau wnaeth golli allan oherwydd y digwyddiad yma. A dwi’n nodi, o ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, fod yr achos terfynol wedi cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn i Lywodraeth Cymru, a bod yna ystyriaeth yn cael ei roi i gamau a all gael eu rhoi mewn lle. Ond, wir, mae angen penderfyniadau buan iawn, oherwydd rŵan mae angen yr help ar lawer o’r busnesau i wneud iawn am eu colledion nhw dros y misoedd diwethaf.
Mi wnaf i droi yn olaf at argymhelliad 6. Mae’r pwyllgor yn dweud y bydd o’n monitro gwaith y tasglu sydd wedi cael ei sefydlu. Felly, gair gen i ynglŷn â’r tasglu yma: i fi, fy nghonsérn i wedi’r digwyddiad oedd porthladd Caergybi, a gwytnwch porthladd Caergybi. Mae Samuel Kurtz yn hollol iawn i nodi bod yna borthladdoedd eraill yng Nghymru, ac mi ddefnyddiwyd y cyfle yma i ehangu, drwy’r tasglu, y golygon ar wytnwch y croesiad ar draws Môr Iwerddon yn fwy eang.
Mi wnaf i’r pwynt i’r gwrthwyneb o beth ddywedodd Samuel Kurtz. Mi ges i fy ngwahodd i un cyfarfod oedd i fod i drafod yn benodol beth oedd yn digwydd ym mhorthladd Caergybi. Beth glywais i oedd y drafodaeth yn y fan honno yn troi at borthladdoedd eraill Cymru. Felly, plis, plis, allwn ni, ar yr adegau pwysig hynny lle mae yna sylw i fod ar borthladd Caergybi, sicrhau bod y sylw yn aros ar borthladd Caergybi?
Ac mi wnaf i’r pwynt ehangach wedyn fod sôn am borthladd Caergybi yn golygu mwy na dim ond beth sy’n digwydd o gwmpas y môr ei hun. Oes, mae angen sicrhau bod gwersi wedi’u dysgu ynglŷn â pham oedd yna wendid yn y doc yn ei hun. Mae angen, o’r diwedd, plis, fynd i’r afael â’r ffordd i mewn ac allan o’r porthladd. Mi adeiladwyd yr A55 at borthladd Caergybi, ond nid i mewn i’r porthladd. Siawns ein bod ni wedi dysgu rŵan fod angen rhoi’r buddsoddiad i mewn.
Ymhellach i ffwrdd ychydig o’r porthladd, mae croesiad y Fenai, wrth gwrs. Mae yna ddiffyg gweithredu dybryd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chroesiad y Fenai. Do, mi wnaed y penderfyniad anghywir, dwi’n credu, i beidio â bwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu trydydd croesiad. Nid yn unig y cafodd hynny ei ganslo, ond does yna ddim byd wedi newid i deithwyr ar draws y Fenai ers hynny. Mae'n rhaid i ni weld gweithredu. Mae'n rhaid i ni weld rhagor o wytnwch yn yr holl elfennau hynny sydd yn creu porthladd, sydd mor bwysig. Hefyd, mae'n rhaid i mi sôn am yr adnoddau parcio lorïau ac ati a gollwyd yn sgil Brexit. Mae yna gymaint o gwestiynau sydd angen mynd i'r afael â nhw. Mae'n rhaid defnyddio'r sylw sydd wedi ei roi ar hyn yn sgil y digwyddiad ym mis Rhagfyr diwethaf i sicrhau ein bod ni yn adeiladu porthladd gwydn ar gyfer y dyfodol.
Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon.
Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad pwyllgor byr hwn, a ddaeth ar gais yr Aelodau ac a gynhyrchwyd gan yr hyn a oedd yn digwydd ar y pryd. Roedd yn amserol ac yn gyfredol. Mewn gwirionedd, rwy'n credu fy mod yn cofio bod digwyddiadau'n esblygu mewn amser real ar fore'r sesiwn dystiolaeth.
Yn ogystal â chyfrannu fel aelod o'r pwyllgor, rwyf hefyd yn cyfrannu fel Aelod o'r Senedd o ogledd Cymru sy'n ymwybodol iawn o arwyddocâd porthladd Caergybi i economi a chymunedau gogledd Cymru a thu hwnt. Yn wir, fe wyddom mai Caergybi yw porthladd fferïau prysuraf Cymru a'r porthladd gyrru i mewn ac allan prysuraf ond un yn y DU ar ôl Dover, a'i fod yn cefnogi dros 700 o swyddi yn uniongyrchol ar Ynys Môn a miloedd yn rhagor ar draws gogledd Cymru.
Rwy'n mynd i ganolbwyntio heddiw ar un neu ddwy agwedd benodol ar yr adroddiad a'r dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor, yn enwedig mewn perthynas ag argymhelliad 6, yn ogystal â lles a ffyniant y gweithlu a'r potensial i symud ymlaen mewn partneriaeth ystyrlon.
Cyn imi wneud hynny, hoffwn wneud sylw ehangach y cyffyrddodd y Cadeirydd ag ef yn ei sylwadau agoriadol, sef yr eglurder ynghylch cyfrifoldeb ac atebolrwydd gweinidogol, gan nad oedd hynny'n glir o gwbl, hyd yn oed yn sesiwn dystiolaeth y pwyllgor. Rwy'n cydnabod eich bod wedi gwrthod argymhelliad 1, ond rwy'n nodi hefyd fod y newidiadau gweinidogol hynny bellach wedi'u gwneud—. Fe dderbyniaf ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi'n llygad eich lle. Onid oedd yn amlwg pan agorodd y Cadeirydd y cwestiynau a phan geisiodd y ddau Weinidog ateb ar yr un pryd ar y pwynt ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol, gan ddangos yn weledol yr aneglurder, y dryswch ynghylch pwy oedd yn rheoli yn y sefyllfa hon?
Diolch. Ni chredaf fod y ffaith nad oedd pob un ohonom yn yr un ystafell ar gyfer ymchwiliad y pwyllgor wedi helpu, yn y bôn, ac roedd dau unigolyn ar sgriniau gwahanol hefyd. Ond rwy'n croesawu'r diweddariad sydd yno nawr yn y cyfrifoldebau gweinidogol wedi'u diweddaru, ers y mis diwethaf.
Os caf droi, i raddau mwy, at argymhelliad 6 a gwaith tasglu Môr Iwerddon a barn y pwyllgor y dylai ei amcan gynnwys sicrhau diogelwch y porthladd yn y dyfodol ochr yn ochr â chefnogi'r hyfywedd hirdymor, rwy'n credu bod hyn yn hanfodol i ddyfodol y gwasanaeth a'r seilwaith, ond hefyd i'r unigolion sy'n hollbwysig i wneud y gwasanaeth hanfodol hwn yn bosibl. O ran yr unigolion hynny, mae cylch gorchwyl y tasglu'n cynnwys pethau fel darpariaethau digonol ar gyfer lles staff a'r gweithlu, ystyried gweithwyr y porthladdoedd, gyrwyr a lles gweithlu'r gadwyn gyflenwi.
Ar ôl pwysleisio'r angen i gynnwys cynrychiolwyr y gweithlu yn y tasglu, rwy'n falch o weld bod undeb cenedlaethol y gweithwyr rheilffordd, morwrol a thrafnidiaeth (RMT) yno. Maent yn cynrychioli gweithwyr a morwyr, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet. Carwn ofyn i Lywodraeth Cymru adeiladu ar eu gwaith gyda'r undebau llafur, a'r pwyllgor hefyd, yn y tymor hwy, gan gynnwys cyflwyno mesurau Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer gweithwyr yng Nghymru.
Mewn ymateb i gasgliad 3 yn adroddiad y pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bylchau gwybodaeth mewn perthynas â materion cyflogaeth a'r cyflenwyr yng Nghaergybi. Er mai'r RMT yw'r undeb llafur cydnabyddedig yn Stena Line yng Nghaergybi, mae Irish Ferries ar hyn o bryd yn gweithredu contractau mordwyo tebyg i P&O. Yn y sesiwn ymholi, codais bryderon posibl ynghylch effaith rhai o'r arferion gwaith, yn benodol am fod Irish Ferries yn defnyddio model cyflogaeth cost isel heb unrhyw weithwyr parhaol, ac yn lle hynny, yn cynnig contractau dros dro. Nid am fy mod yn undebwr llafur balch yn unig rwy'n dweud hyn, ac rwyf wedi codi hyn gyda chyd-Aelodau o'r pwyllgor hefyd, mae hyn yn ymwneud ag iechyd a lles y gweithlu hwnnw a'r goblygiadau ehangach posibl.
Rwy'n credu y gallai'r ddeddfwriaeth, y Bil Hawliau Cyflogaeth, gynnig cyfle i lenwi'r bwlch, fel yr amlinellwyd yn yr ymateb i gasgliad 3, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd y sector gyda hyfforddiant, swyddi mwy diogel, a chymorth i forwyr Cymru ar wasanaethau llongau Iwerddon o Gaergybi, a phorthladdoedd ledled Cymru. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn cytuno ag ef ac y bydd yn mynd ar ei drywydd mewn partneriaeth briodol?
Fel y dywedodd Sam Kurtz, er yr adroddwyd fod porthladd Caergybi wedi cau oherwydd tywydd stormus, clywodd y pwyllgor yn ein tystiolaeth fod dwy long Irish Ferries wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau ddydd Gwener 6 a dydd Sadwrn 7 Rhagfyr yn nocfa 3 y porthladd cyn i'r tywydd waethygu yn sgil storm Darragh, a dywedodd y Cadeirydd hefyd nad oedd Irish Ferries wedi darparu tystiolaeth i'r pwyllgor, ac nad oeddent wedi ymateb i unrhyw ohebiaeth gan y Cadeirydd. Mae hyn, a bod yn ddiplomyddol, yn destun gofid. I mi, mae'r amharodrwydd i ymgysylltu'n codi pryderon ynghylch atebolrwydd, yn enwedig gan ein bod yn ceisio edrych ar y gwersi a ddysgwyd, ac rwy'n credu y dylem gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid cyhoeddus sylweddol, hyd at £40 miliwn, tuag at adnewyddu morglawdd Caergybi. Efallai mai Stena Line Ports sy'n berchen ar y porthladd, ond bydd Irish Ferries hefyd yn elwa o'r buddsoddiad cyhoeddus pwysig hwn.
Fel pwyllgor, fe wnaethom hefyd gwestiynu pwy sy'n pennu gweithgarwch rheoleiddio'r porthladd, ac rydym yn cydnabod bod hwnnw'n gyfrifoldeb a gedwir yn ôl. Credaf fod gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ddefnyddio'r pwerau sydd wedi'u datganoli i sicrhau manteision ehangach a hybu canlyniadau sydd er budd pobl a lleoedd yng Nghymru. Felly, unwaith eto, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio pŵer y pwrs cyhoeddus a chaffael i wneud hynny yn rhan o'i strategaeth porthladdoedd?
Rwy'n dirwyn i ben nawr, Lywydd, rwy'n ymwybodol fy mod wedi derbyn ymyriad byr, ond fe fyddaf—
Rwy'n derbyn yr ymyriad byr hwnnw, fel y gwyddoch, ond rydych chi bellach y tu hwnt i'r amser hwnnw.
Iawn, i gloi, felly, mae gwaith yn mynd rhagddo ar siarter morwyr i wella telerau ac amodau'r morwyr hynny ac i helpu gydag anghenion lles. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â chyd-Aelodau yn y Llywodraeth, bwyso ar Lywodraeth y DU ar hynny ac i sicrhau y ceir cynaliadwyedd a chymorth i'r gweithlu pwysig hwn sy'n cefnogi ein seilwaith wrth symud ymlaen? Diolch.
Diolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r adroddiad hwn yn y modd y gwnaeth, a chafwyd cyfraniadau da iawn ers hynny. Diolch i'r pwyllgor am ei waith ar fater o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn fy marn i, nid yw ymateb Llywodraeth Cymru'n ddigon da. Mae'n syfrdanol eu bod wedi gwrthod argymhellion 1 a 2. Rydych chi'n credu bod y digwyddiad wedi'i reoli'n dda, er na fu cysylltiad â chyrff masnach allweddol sy'n cynrychioli'r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd am bron i fis. Rydych chi'n credu bod y ddau Ysgrifennydd Cabinet dan sylw wedi dangos arweinyddiaeth gref, ond nid oedd Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Stena Line Ports na phorthladd Aberdaugleddau yn gwybod pwy oedd â'r cyfrifoldeb eithaf.
Yn ôl yr amserlen o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru, ar 12 Rhagfyr, nid oedd cau porthladd Caergybi yn cael ei ystyried yn fater argyfwng sifil mwyach, felly cafodd ei symud i fod yn rhan o gylch gwaith yr adrannau trafnidiaeth. Felly, un cwestiwn: nid ailagorwyd docfa tan 15 Ionawr, dioddefodd busnesau ar draws y gogledd, gan gynnwys fy un i yma, ac wrth gwrs, yn Ynys Môn, gwelwyd cwymp masnach o hyd at 90 y cant ar rai dyddiau, felly pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru israddio'r argyfwng fis ynghynt, ar 12 Rhagfyr? Pam y cysylltodd Transport Scotland ag aelodau'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt bob dydd yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond na wnaeth gwasanaeth sifil Cymru hynny tan Noswyl Nadolig? Cafwyd arweinyddiaeth gan yr Alban yma, yn hytrach na chan Gymru, ac mae'r cwestiynau hynny'n sylfaenol ac mae angen eu hateb. Diolch.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i gyfrannu at y ddadl ar ganfyddiadau cychwynnol ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i'r difrod storm ym mhorthladd Caergybi. Fel y bydd yr Aelodau'n cofio, bu angen ymdrech drawslywodraethol er mwyn cau'r porthladd. Rwyf yma heddiw yn ymateb ar ran yr holl Weinidogion a weithiodd gyda'i gilydd i ymateb i effaith cau'r porthladd, a hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith. Fel y nodwyd, rydym wedi cyflwyno ein hymateb i adroddiad y pwyllgor, ac rwy'n credu'n gryf fod y pwyllgor wedi cyflawni ei waith yn gyflym. Pe bai wedi cael mwy o amser, efallai y byddai wedi ystyried ystod ehangach o safbwyntiau gan bob rhanddeiliad, ac efallai y byddai ei ganfyddiadau wedi adlewyrchu'r safbwyntiau rydym ni'n eu clywed yng nghyfarfodydd y tasglu.
Nawr, mae cau porthladd Caergybi wedi dangos yn glir ei bwysigrwydd fel ased strategol y mae angen inni ofalu amdano, fel y mae llawer o Aelodau wedi'i nodi heddiw. Mae'n ganolfan drafnidiaeth allweddol ac yn llwybr i bobl, yn llwybr i weithredwyr y sector cludo nwyddau a logisteg, i bob cadwyn gyflenwi sy'n trosglwyddo nwyddau hanfodol i'r ddau gyfeiriad dros Fôr Iwerddon. Ar ôl gweithio'n agos gyda Gweinidog Gwladol Iwerddon dros drafnidiaeth pan oedd y porthladd ar gau, ymwelais â Dulyn yn ôl ym mis Mawrth i gyfarfod â Llywodraeth Iwerddon ac allforwyr a chludwyr nwyddau o Iwerddon. Roedd y ddwy Lywodraeth yn ymrwymedig i gydweithio ar ein pwyntiau mynediad strategol i Fôr Iwerddon, ac maent yn parhau i fod felly.
Fel y bydd Aelodau'r Senedd yn cofio, rwy'n ailadrodd bod porthladdoedd yng Nghymru sy'n ymdrin â thraffig Môr Iwerddon yn endidau masnachol, naill ai'n eiddo preifat ac yn cael eu gweithredu'n breifat, neu maent yn gweithredu ar sail ymddiriedolaeth. Roedd y camau a gymerwyd gennym drwy gydol y cyfnod pan oedd y porthladd ar gau yn caniatáu parhad wrth inni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion ar y cyd. Fe wnaethom sicrhau bod llongau'n cael eu dargyfeirio i borthladdoedd eraill yng Nghymru, fe wnaethom weithio ochr yn ochr ag adrannau Llywodraeth y DU i agor llwybrau ychwanegol, fe wnaethom sicrhau nad oedd unrhyw waith ffordd yn digwydd ar y ffyrdd allweddol yng Nghymru sy'n arwain at y porthladdoedd, ac fe wnaethom sicrhau bod digon o gapasiti rheilffyrdd i mewn i'n trefi porthladd.
Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Iwerddon a minnau’n gweithio’n agos i sicrhau bod pobl a nwyddau’n gallu croesi Môr Iwerddon cyn gwyliau’r Nadolig. Rydym yn cydnabod bod y porthladd yn eiddo preifat ac yn cael ei weithredu’n breifat a bod yn rhaid i’r ddau gwmni fferi preifat a oedd yn gweithredu o’r porthladd fod yn un pwynt gwybodaeth ar gyfer cyfleu amserlenni fferi a phatrymau gwasanaeth.
Nawr, rydym wedi ymateb yn uniongyrchol i argymhelliad 3 gyda 23 pwynt. Gyda'i gilydd, rwy'n credu eu bod yn dangos yn glir iawn sut y datblygodd ymateb Llywodraeth Cymru i'r digwyddiad a chau'r porthladd. Roedd ffurfio tasglu Môr Iwerddon yn gam uniongyrchol a gymerais yn dilyn cau'r porthladd. Rydym newydd orffen y trydydd o chwe chyfarfod ac mae nifer yr aelodau, sy'n cynrychioli llu o randdeiliaid sydd â buddiant ym mhorthladdoedd Cymru ac mewn teithio ar draws Môr Iwerddon, wedi dangos eu hymrwymiad parhaus, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu hamser yn rhannu eu harbenigedd hyd yma—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Fe sonioch chi am y rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â hyn. O ystyried y dystiolaeth, neu'r diffyg tystiolaeth, gan Irish Ferries—pwynt a godwyd gan Hannah Blythyn—a yw Irish Ferries yn gyfranwyr gweithredol yn nhasglu Môr Iwerddon, o ystyried eu bod yn fusnes yn fy etholaeth, yn hwylio o Ddoc Penfro hefyd?
Maent yn gyfranwyr gweithredol, gallaf gadarnhau hynny. Maent yn gyfranwyr gweithredol iawn yng ngwaith y tasglu.
Fel tasglu ac fel Llywodraeth, rydym yn sylweddoli bod gwersi i'w dysgu bob amser a phethau y gallem eu gwneud i wella sefyllfaoedd yn y dyfodol. Wrth edrych yn ôl a chyda rhywfaint o ddysgu ar y cyd, rydym yn y broses o nodi elfennau y gallem eu gwneud yn wahanol pe baem byth mewn senario debyg eto gyda phorthladd yn cau. Mae'r trafodaethau a gawsom hyd yma gyda'r tasglu wedi ein galluogi i gydnabod y bobl a'r sefydliadau y byddai angen i ni eu cynnull mewn senario o'r fath. Yng nghyfarfodydd y tasglu, mae rhanddeiliaid wedi rhannu'r gwersi a ddysgwyd ganddynt, heriau yn y dyfodol a chyfleoedd y gallent eu hwynebu. Rydym wedi trafod ar y cyd sut y gallai cydweithio rhwng y diwydiant a Llywodraethau arwain at welliannau pellach mewn unrhyw ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid hefyd wedi pwysleisio nad ydynt am i Lywodraethau ddweud wrthynt beth i'w wneud, ac rydym yn cytuno. Rydym yn credu mewn sybsidiaredd, y dylai penderfyniadau gael eu gwneud gan y cyrff mwyaf priodol, a bod gennym ni, fel Llywodraeth Cymru, rôl yn cynnull rhanddeiliaid a dangos a helpu i ddod o hyd i atebion i broblemau, fel y gwnaethom ym mis Rhagfyr, ac fel rydym wedi parhau i'w wneud ers i'r porthladd gau.
Mewn ymateb i'r pwynt a godwyd gan Samuel Kurtz ynghylch presenoldeb Rhun ap Iorwerth yng nghyfarfod diwethaf y tasglu, rwy'n cadarnhau eto fod y cyfarfod diwethaf yn ymwneud yn benodol â sut yr effeithiodd cau'r porthladd ar bobl a busnesau Caergybi, ac rwy'n falch o ddweud fy mod yn deall bod Aelodau o dde-orllewin Cymru wedi cael eu gwahodd i gyfarfod nesaf y tasglu, sef cyfarfod ehangach am borthladdoedd mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae'r cyfarfod hwnnw ar 7 Gorffennaf; os nad ydych chi wedi cael manylion eto, fe'u hanfonaf eto, ond rwy'n credu eich bod wedi cael gwahoddiad.
Mae Stena Line Ports wedi ymrwymo i ddyfodol hirdymor porthladd Caergybi fel cysylltiad hanfodol rhwng Cymru ac Iwerddon, ac maent yn rhoi strategaeth fuddsoddi ar waith. Bydd hyn yn sicrhau gwydnwch y seilwaith ac yn diogelu dyfodol y porthladd. Bydd Stena Line Ports yn cydweithio â gweithredwyr y fferïau i sicrhau y gellir gwneud y gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol ar y ddwy ddocfa i ddiogelu gwydnwch y strwythurau, gan gynnal gweithgarwch a chapasiti llawn yn y porthladd hefyd.
Bydd y tasglu'n cynhyrchu set o argymhellion i nodi'r camau gweithredu y mae angen i aelodau'r tasglu fwrw ymlaen â hwy, a byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Senedd pan fydd y tasglu wedi cwblhau ei waith ddiwedd mis Hydref, yn nodi'r argymhellion hynny. Yna, byddwn yn ystyried yr argymhellion mewn mwy o fanylder wrth inni weithio i gyhoeddi strategaeth ar gyfer porthladdoedd, cludo nwyddau a logisteg cyn mis Mai nesaf. Diolch.
Rwy'n galw yn awr ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—Andrew R.T. Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Tynnodd Sam Kurtz sylw at ran bwysig iawn o'r hyn roeddem yn ymchwilio iddo, sef y rhagdybiaeth fod y newyddion yn dweud wrthym am storm Darragh; ni ddigwyddodd y digwyddiad pan oedd storm Darragh yn taro Caergybi mewn gwirionedd, fe ddigwyddodd cyn storm Darragh, ac yn amlwg felly, roedd materion eraill i'w hystyried ynghylch morwriaeth ac ati, ac roedd hynny'n ystyriaeth bwysig iawn i fyfyrio arni, a chyflwynodd y porthladdoedd allweddol eraill, Doc Penfro, ac Abergwaun yn amlwg, i'w hystyried yn y strategaeth gyffredinol y mae Llywodraeth Cymru yn ei mabwysiadu.
Yn amlwg, cyflwynodd Rhun y pwyntiau, fel Aelod etholaeth, am yr anhrefn ar yr ynys. Fel y clywsom gan Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd Iwerddon, mae 1,000 o lorïau a 1,000 o gerbydau ar ynys Ynys Môn ar unrhyw adeg benodol. Mae'n dasg enfawr i unrhyw le allu ymdopi â hynny, ond pan fo seilwaith mor gyfyngedig ar waith, mae honno'n dasg hyd yn oed yn fwy. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch hefyd am y pontydd i ynys Ynys Môn a'r beirianneg gyffredinol sy'n gwasanaethu'r porthladd yn bethau y mae angen i unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol eu hystyried, yn enwedig pan glywn mai dyma'r porthladd mwyaf ond un yn y DU. Nid ydym yn sôn am ryw fath o gilddwr. Rydym yn sôn am y porthladd mwyaf ond un yn y DU, ffaith a grybwyllwyd sawl gwaith mewn adroddiadau ar y newyddion, ac rwy'n credu bod hynny wedi dangos i bobl beth oedd maint yr hyn a oedd yn digwydd yno.
Cyflwynodd Hannah Blythyn y pwynt ynghylch morwriaeth, ac yn amlwg, y pryderon a oedd gennym am griwiau dros dro, a'r gallu i longau gael eu rheoli a'u peiriannu mewn ffordd ddiogel, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd y pwyllgor yn awyddus i gadw llygad arno, rwy'n siŵr. Nodais nad ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r cais gan Hannah Blythyn ynghylch pa ystyriaeth bellach y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r hyn y gallai ei wneud i edrych ar y mater, ac efallai y gallai ysgrifennu at ein pwyllgor i roi gwybod i ni beth y mae ei adran yn ei wneud ar y pwynt penodol hwn.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at yr effaith ar fusnesau, sy'n ystyriaeth allweddol. Adroddodd rhai busnesau ostyngiad o 90 y cant yn eu trosiant. A chlywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog fod ystyriaeth barhaus yn cael ei rhoi i gymorth posibl i fusnesau, ond mae hi bellach yn fis Gorffennaf, tua wyth mis ar ôl eu cyfnod prysuraf, ac mae busnesau'n chwilio am ryw fath o sicrwydd, rhyw fath o eglurder ar y mater penodol hwn. Felly, gorau po gyntaf y gall y Gweinidog gyflwyno cynigion ar hynny, rwy'n siŵr y byddai hynny'n cael croeso mawr.
Ac yna ymatebodd y Gweinidog, ac ni soniodd am y ffeithiau y tynnodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd ein sylw atynt ynglŷn â'r cyfathrebu, nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â hwy tan Noswyl Nadolig, tra bo Llywodraeth yr Alban wedi cysylltu â hwy tua phedwar diwrnod ar ôl y digwyddiad. Ni thynnodd sylw at sut y llwyddodd Llywodraeth yr Alban i ymateb gyda'r hyn a oedd yn ymateb rhagorol yn ôl y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, ac roedd Llywodraeth Cymru yn araf i gyfathrebu â chyrff masnach. Ac yn amlwg, mae dryswch ynghylch cyfrifoldebau, rhywbeth unwaith eto nad aeth i'r afael ag ef yn fy marn i yn ei ymateb i mi fel Cadeirydd nac i aelodau eraill y pwyllgor, er fy mod yn deall bod y Prif Weinidog yn amlwg wedi aildrefnu cyfrifoldebau o fewn y Llywodraeth gyda'i chyhoeddiadau oddeutu pythefnos yn ôl.
Ac fel y dywedais, rwy'n ailadrodd y pwynt ynglŷn â chymorth i fusnesau. Mae'n hanfodol fod y cymorth hwnnw ar gael, fel y gall busnesau fod yn hyderus y gallant geisio rhyw fath o iawndal am golledion. Ond mae'r adroddiad yn dyst i'r dystiolaeth a gasglwyd gennym. Nid yw'n rhywbeth a gasglwyd gennym ar ein pen ein hunain neu mewn ystafell dywyll, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol: maent yn ddatganiadau gan dystion, ac mae pob un ohonynt yno i bobl eu gweld. Rwy'n mawr obeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â'i gyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, yn gwrando ac yn mabwysiadu dull o weithredu yn unol â hynny, ac edrychwn ymlaen at argymhellion y tasglu ym mis Hydref, fel y gallwn adeiladu ar yr ymagwedd gadarnhaol honno ac adeiladu seilwaith porthladdoedd mwy cynaliadwy a gwydn yma yng Nghymru. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar gyfer cyfraith Owain. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8940 Hefin David
Cefnogwyd gan Altaf Hussain, Janet Finch-Saunders, Joyce Watson, Natasha Asghar, Rhianon Passmore, Rhys ab Owen
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar Gyfraith Owain, sydd wedi'i enwi ar ôl Owain James o Gaerffili, a fu farw yn 2024 o diwmor ar yr ymennydd.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai sicrhau:
a) bod yn rhaid cael cydsyniad gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, i drin a storio meinwe tiwmor, a hynny cyn y llawdriniaeth;
i) dylai'r broses gydsyniad gynnwys esboniad ysgrifenedig clir o sut y bydd meinwe a dorrwyd allan yn cael ei storio ar ôl llawdriniaeth, ac archwiliad patholegol a histolegol; a
ii) dylai'r cydsyniad amlinellu y bydd yr holl feinwe sy'n weddill yn eiddo i'r claf, a dim ond caniatâd gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, all benderfynu ar ei ddefnydd;
b) y bydd y swm lleiaf posibl o feinwe tiwmor a dorrwyd allan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddiad patholegol a histolegol, gan sicrhau cywirdeb diagnostig;
c) bod yn rhaid i'r meinwe tiwmor a dorrwyd allan sy'n weddill gael ei rhewi'n gyflym neu ei rhewi'n ffres, ar -80 gradd canradd, heb unrhyw gemegau na chadwolion (gan gynnwys halwynog neu baraffin). Dylid storio meinwe mewn sawl cyfnifer (aliquot), lle bo modd, er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o feinwe yn y dyfodol at wahanol ddibenion; a
d) pan fydd sefyllfaoedd brys yn codi ac nad yw cydsyniad yn bosibl cyn llawdriniaeth, rhaid dilyn yr un protocol ar gyfer storio meinwe a rhaid cwblhau'r broses o gael cydsyniad o fewn 48 awr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch i chi am y cyfle i drafod y cynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau o'r gwahanol bleidiau a gynrychiolir yn y Senedd sydd wedi nodi eu cefnogaeth i'r cynnig. Mae'n golygu llawer. Rydym newydd orffen cyfweliad gyda'r BBC, sy'n mynd i gynnwys y ddadl hon ar Politics Wales ddydd Sul.
Efallai fod yr Aelodau wedi gweld y cynnig ar y papur trefn heddiw ac wedi meddwl tybed pam fy mod wedi ei gyflwyno. Efallai eu bod wedi meddwl tybed beth a olygai, am eu bod yn ansicr ynglŷn â'r pwnc, neu'n chwilfrydig i weld beth y mae'n ceisio ei gyflawni. Rwyf am roi ychydig o gefndir i'r Aelodau nawr, ac esbonio pam y mae'r cynnig yn galw am sefydlu cyfraith Owain.
Mae cyfraith Owain wedi'i henwi ar ôl fy etholwr, Owain James o Gaerffili a fu farw y llynedd. Dim ond 34 oed oedd Owain pan gafodd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd malaen gradd 4 a oedd yn 14 cm o faint yn y llabed flaen ar yr ochr dde. Dywedodd ei niwrolawfeddyg ei fod yn un o'r tiwmorau mwyaf y daeth ar ei draws erioed yn ei gyrfa broffesiynol. Roedd yn ergyd hollol ddinistriol i Owain, ei wraig Ellie, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw, a'i ferch Amelia, a oedd ond yn 18 mis oed ar y pryd. Tan hynny, roedd Owain bob amser wedi bod yn ddyn ifanc ffit ac iach.
O'r dechrau un, nid oedd prognosis Owain yn dda. Dywedwyd wrtho, pe bai'n gwneud dim, y byddai ganddo wythnosau i fyw. Cafodd lawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, a chafodd 50 y cant o'r tiwmor, 7 cm ohono, ei dynnu. Dywedwyd wrtho gan ei oncolegydd mai radiotherapi a chemotherapi oedd yr unig opsiynau a oedd ar gael iddo ar y GIG—mae hynny'n dal i fod yn wir—ac na fyddai hynny'n lleihau maint y tiwmor a oedd ar ôl. Cafodd ei gynghori mai ei obaith gorau oedd y byddai'r driniaeth yn cadw'r tiwmor rhag aildyfu am gyfnod o amser cyn iddo ddechrau tyfu eto.
Ni allai teulu Owain dderbyn hyn, ac felly fe wnaethant chwilio am driniaeth breifat y tu allan i'r GIG. Fe ddaethant o hyd i frechlyn wedi'i bersonoli a oedd yn defnyddio meinwe tiwmor y claf i addysgu'r system imiwnedd i adnabod y celloedd canser. Y broblem yma, fodd bynnag, oedd bod angen meinwe tiwmor wedi'i rewi'n ffres ar Owain i ddatblygu dos digonol o'r brechlyn. Roedd Owain wedi cael 7 cm o feinwe wedi'i dynnu drwy lawdriniaeth ond yn anffodus, dim ond 1 cm o hwn a gafodd ei rewi'n ffres ac y gellid ei ddefnyddio. Roedd gweddill y meinwe tiwmor wedi'i gadw mewn cemegyn—gyda pheth ohono wedi'i ddefnyddio ar gyfer histoleg a gweddill y meinwe heb fod o unrhyw ddefnydd i unrhyw un. Ers hynny, mae patholegydd allanol wedi dweud wrth deulu Owain nad oedd angen defnyddio cymaint â hynny o feinwe ar gyfer gwneud diagnosis, ac y gellid bod wedi arbed mwy ohono.
Golygodd hyn mai dim ond tri dos o frechlyn a gafodd Owain, pan ddylai fod wedi cael rhywbeth yn debycach i 30 dos. Fodd bynnag, bwriodd ymlaen â'i driniaeth, gan mai dyma oedd ei obaith gorau o hyd. Cafodd Owain sgan chwe mis ar ôl ei lawdriniaeth. Cwblhaodd y radiotherapi, tri chylch o gemotherapi, tri dos o frechlyn a nifer fach o therapïau naturiol eraill i roi hwb i'w imiwnedd. Cynhyrchodd hyn sgan clir. Roedd y tiwmor 7 cm a oedd yn weddill wedi lleihau'n llwyr o ran ei faint, i'r graddau na ellid ei ganfod.
Roedd ei adferiad mor rhyfeddol nes bod ei achos yn ffocws astudiaeth ddiweddarach a gyhoeddwyd mewn cyfnodolyn gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid, y Journal of Neuroscience. Parhaodd Owain i gael sganiau clir am naw mis cyfan, ac ansawdd bywyd normal iawn. Rwy'n cofio cael galwad gan Ellie, yn dweud wrthyf fod y tiwmor wedi diflannu'n llwyr, a pha mor hapus oedd hi a'r teulu, a pha mor falch oeddwn i a fy nhîm fod hyn wedi digwydd.
Yn anffodus, achosodd metastasis i'w diwmor ailymddangos mewn man arall. Y tro hwn, roedd y tiwmor yn rhy ymosodol a bu farw Owain ym mis Mehefin 2024. Mae Ellie, sy'n 35 oed, bellach yn byw gyda'r edifeirwch na fu modd iddynt ddatblygu a chael digon o ddosau ar gyfer mwy na'r tri brechlyn. Pe bai mwy ohonynt wedi bod, rydym yn teimlo y byddai Owain yn dal yn fyw heddiw.
Felly, dyna'r cefndir trist iawn i'r rheswm pam ein bod ni yma heddiw yn trafod fy nghynnig ar gyfer cyfraith Owain. Nid ar gyfer y brechlyn a ddefnyddiwyd i drin Owain yn unig y gellir defnyddio meinwe wedi'i rewi'n ffres. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer brechlynnau a therapïau eraill, ac at ddibenion ymchwil ac i greu dilyniant genom llawn. Mae'n cael ei ystyried yn ddull safon aur o gadw meinwe dynol—barn a rennir gan lawer o'r rhai sy'n gyfarwydd â'r maes, fel gweithwyr proffesiynol meddygol, patholegwyr ac elusennau uchel eu parch, fel yr Elusen Tiwmor yr Ymennydd ac Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd.
Fodd bynnag, dim ond pan fydd y tiwmor wedi'i rewi'n ffres y gellir ei ddefnyddio yn y ffordd hon, ac fel y clywsom eisoes, ni wnaed hynny yn achos Owain. Nod cyfraith Owain yw mynd i'r afael â hyn. Mae'n ceisio gwneud hon yn broses ddiofyn ar gyfer storio meinwe wedi'i dynnu drwy lawdriniaeth yng Nghymru—rhewi ffres—ynghyd â gwella prosesau histolegol a phatholegol, fel bod angen llai o feinwe, a'r cyfan gyda chaniatâd penodol y claf.
Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar diwmorau'r ymennydd adroddiad ar chwalu'r rhwystrau i ddod o hyd i iachâd ar gyfer tiwmorau'r ymennydd. Roeddent yn dweud bod yn rhaid inni sicrhau bod seilwaith cadarn ar gyfer storio a chasglu meinwe ar waith ledled y Deyrnas Unedig. Yn ogystal, cyhoeddodd Cymdeithas Niwro-oncoleg Prydain ddatganiad sefyllfa o'r enw 'Guideline for Tissue Sampling of Brain Tumours'. Fe'i llofnodwyd gan wyth meddyg uchel eu parch gydag arbenigedd clinigol helaeth, ac mae'n cydnabod yr angen i gael meinwe wedi'i rewi'n ffres.
Yng Nghymru, fe allwn arwain y ffordd, ac os na wnawn hynny, pam ddim? Dyna fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgrifennais atoch, Ysgrifennydd y Cabinet, ar 25 Ebrill a gofynnais a oedd yn rhywbeth y gallech ei gefnogi. Er na wnaethoch chi ymrwymo i hynny, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Yn eich llythyr, fe ddywedoch chi fod y cynnig ar gyfer cyfraith Owain yn codi cwestiynau pwysig ynghylch cadw meinwe a faint o feinwe sydd ei angen at ddibenion diagnostig.
Ond fe wnaethoch chi ddweud hefyd efallai na fydd gorfodaeth gyffredinol i rewi holl feinwe tiwmor ar yr ymennydd yn rhoi digon o ystyriaeth i'r ffaith y gall y cyfaint o feinwe sydd ei angen i sicrhau diagnosis cywir amrywio'n sylweddol yn achos pob claf unigol. Er y gall cyflwyno meinwe ffres heb ei gadw mewn cemegyn fod yn well i'w gwneud hi'n bosibl ei rewi'n ffres, fe ddywedoch chi fod rhaid cydbwyso hyn â'r angen i gael diagnosis cywir ac amserol. Ond fel y dywedais, gofynnodd Ellie James am gyngor gan batholegydd allanol a ddywedodd ei fod yn gyfaint diangen o feinwe. Gallem fod wedi cadw mwy o feinwe at ddibenion achub bywyd Owain, neu o leiaf ei ymestyn.
Anfonodd teulu Owain un neu ddau o sleidiau o'i feinwe—tua 5 mm yn ôl pob tebyg—at wyddonwyr yn yr Almaen. Roeddent yn gallu dadansoddi a chadarnhau diagnosis Owain, a phrofi am filoedd o fwtaniadau gyda'r cyfaint bach hwnnw o feinwe. Nid oedd eich llythyr ataf yn cyfeirio at yr angen i rewi meinwe'n ffres ar ôl histoleg. Cafodd taid Owain ddiagnosis o diwmor yr ymennydd gradd 4 ar ddechrau'r 1990au. Cynigiwyd yr un llwybr triniaeth yn union iddo ag i Owain 30 mlynedd yn ddiweddarach. Dylem gydnabod, gyda darganfyddiad glioblastoma, sy'n diwmor yr ymennydd gradd 4, ym 1926, fod hyd canolig goroesiad yn 12 mis. Heddiw, ganrif yn ddiweddarach, mae'n 12 mis.
Felly, yr hyn yr hoffwn ei wneud gyda fy nghynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw, Lywydd, yw y byddwn yn hoffi i Ysgrifennydd y Cabinet ateb rhai o'r cwestiynau a ofynnais yn y llythyr. A oes unrhyw arwydd—? A fyddai dirprwy brif swyddog meddygol Cymru yn fodlon cyfarfod â mi ac Ellie James i drafod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ffordd ymlaen?
Dyma stori ddynol iawn am fy etholwr a fu farw o diwmor yr ymennydd yn llawer rhy ifanc. Ellie a gafodd y syniad o gyfraith Owain, a gofynnodd i mi ei gyflwyno ger bron Siambr y Senedd heddiw. Edrychaf ymlaen at y ddadl. Edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Ond yn bennaf oll, edrychaf ymlaen at weld cynnydd ar y mater hwn.
Diolch i Hefin am gyflwyno ei gynnig deddfwriaethol, un rwy'n ei gefnogi'n llawn. Fodd bynnag, mae gennyf rai awgrymiadau am bethau y mae angen eu hystyried wrth ddrafftio cyfraith Owain. Mae fy mhryder yn ymwneud â sut y mae meinweoedd sy'n perthyn i'r rhai sydd â chredoau crefyddol dwfn yn cael eu trin. Er enghraifft, mae'n gred Islamaidd fod y corff cyfan, gan gynnwys yr holl organau, aelodau, rhannau o'r corff a meinweoedd, yn cael eu hystyried yn sanctaidd ac y dylid eu trin â pharch. Mae Islam yn parchu bodau dynol, yn fyw neu'n farw. Mae hyn yn berthnasol i rannau o'u cyrff yn ogystal â'u cyrff eu hunain. Felly, os yw rhan o'r corff yn cael ei dorri oddi ar fod dynol, neu os caiff meinwe ei dynnu, rhaid iddynt gael eu claddu a pheidio â chael eu taflu ymaith fel gwastraff neu eu llosgi. Ni ddylid golchi'r organ a dorrir cyn ei gladdu ac nid oes gweddi angladdol i'w chynnig amdano, dim ond ei lapio mewn darn o ddefnydd a'i gladdu. Hoffwn weld cyfraith Owain yn ystyried y ffeithiau hyn a gwneud addasiadau yn y ddeddfwriaeth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Dim ond i ddweud ein bod wedi ystyried hynny'n eitem yn adran 2(a)(ii) o'r ddeddfwriaeth. Felly, yr hyn y gwnaethom ofyn amdano yw cydsyniad a fydd yn nodi y bydd yr holl feinwe sy'n weddill yn eiddo i'r claf, a dim ond caniatâd gan y claf neu'r perthynas agosaf, lle bo hynny'n briodol, a all bennu ei ddefnydd. Felly, syniad y gyfraith yw galluogi hynny mewn gwirionedd. Nid yw'r hawl honno'n bodoli nawr oherwydd, ar hyn o bryd, os cymerir darn o feinwe, nid y claf sy'n penderfynu i ble mae'n mynd. Felly, mae'r gyfraith hon yn helpu gyda hynny ac yn helpu i fynd i'r afael â'r pryder hwnnw.
Yn hollol, ydy. Diolch, a gadewch imi orffen hyn i gyd.
Hoffwn weld cyfraith Owain yn ystyried y ffeithiau hyn, fel yr awgrymoch chi, ac yn gwneud addasiadau yn y ddeddfwriaeth a ddylai gynnwys, fan lleiaf, ffordd o gynnwys dewisiadau crefyddol yn rhan o'r ffurflen gydsynio. Gobeithio y bydd Hefin yn cytuno â'r rhain, gan ei fod eisoes wedi newid yn ôl yr angen, ac edrychaf ymlaen at weld ei gynnig deddfwriaethol yn cael ei wireddu. Diolch yn fawr.
Dwi am ddechrau drwy ddiolch i Hefin am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol yma heddiw. Mi allaf gadarnhau y byddwn ni fel plaid yn ei gefnogi'n llawn. Mae'n briodol ein bod ni'n dechrau drwy estyn ein cydymdeimladau dwysaf a mwyaf diffuant i deulu Owain James. Mae'n anodd dychmygu'r boen a'r golled y maen nhw wedi gorfod ei ddioddef. Mae'n amlwg iddo frwydro'n ddewr, ac mae'n gwbl briodol, felly, ein bod ni'n dangos y parch teilwng yma iddo drwy feddwl sut gallwn ni wella'r sefyllfa i eraill yma yng Nghymru.
Mae'r cynnig hwn yn adlewyrchu dwy egwyddor greiddiol sydd wrth galon ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Y cyntaf ydy bod yr NHS yn eiddo i’r cyhoedd, ein gwasanaeth ni i gyd, ac mai ei brif ddiben ydy gwasanaethu’r bobl. Yn ail, llais y claf, ei farn, ei ofnau a’i ddymuniadau a ddylai fod yn ganolog i bob penderfyniad. Dylai hynny fod yn wir bob tro, heb eithriad, heb esgus.
Mae’r ddadl yma heddiw yn rhoi cyfle i ni nodi rhai o’r heriau sydd yn wynebu cleifion tiwmor yr ymennydd yma yng Nghymru, yn benodol y broses boenus a hir cyn cael diagnosis, a’r problemau er mwyn cael y diagnosis hwnnw, ynghyd â phrinder teclynnau diagnosis hanfodol, megis peiriannau sganio. Hyd yn oed ar ôl derbyn diagnosis, mae gennym ni brinder canolfannau triniaeth arbenigol, gyda llawer gormod o’n cleifion yn gorfod teithio pellteroedd maith ar adegau o wendid er mwyn derbyn eu triniaeth.
Wythnos diwethaf, fe wnes i gyflwyno cynnig yn galw am wella cynllunio gweithlu’r allied health professionals, ac mae cyd-destun y ddadl yma heddiw yn crisialu pam fod angen hyn, oherwydd bod cynifer o’r therapyddion yma yn hanfodol ar gyfer cynorthwyo taith cleifion tiwmor yr ymennydd.
Mae canser yr ymenydd yn lladd mwy o blant a phobl ifanc na'r un canser arall, ond eto mae’n dioddef o’r ffaith nad oes yna lawer o bres ymchwil yn cael ei neilltuo i’r math arbennig yma o ganser.
Mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i atgoffa ein hunain o'r cyd-destunau sy'n wynebu cleifion a'u teuluoedd wrth iddynt frwydro yn erbyn y clefyd creulon hwn. Mae'r Bil arfaethedig sydd o'n blaenau heddiw yn codi mater penodol ynglŷn â chydsyniad a defnyddio meinweoedd tiwmor, materion nad ydym fel arfer yn cael cyfle i'w trafod yn y Siambr hon, ond materion o bwys enfawr y mae'n rhaid eu hystyried a gweithio drwyddynt. Felly unwaith eto, diolch i Hefin am y ddadl hon. Ond mae'n codi rhai cwestiynau, ac mewn ysbryd tosturiol hoffwn godi ambell gwestiwn ynghylch ymarferoldeb y ddeddfwriaeth arfaethedig yn y gobaith o gefnogi ei nodau mor gryf a sensitif â phosibl.
Yn gyntaf, amlinellodd Hefin sefyllfaoedd lle na fydd cael cydsyniad cyn llawdriniaeth yn ymarferol o bosibl, ac rydych chi'n argymell cyfnod o 48 awr ar ôl llawdriniaeth i sicrhau bod modd cadarnhau cydsyniad. A gaf i ofyn sut y gwnaethoch chi gyrraedd y ffigur o 48 awr? A ydych chi'n teimlo'n hyderus fod hyn yn caniatáu cydbwysedd teg rhwng cadarnhau cydsyniad cyn gynted â phosibl gan sicrhau hefyd fod cleifion yn cael digon o amser i wella digon i gyfrannu'r cydsyniad hwnnw'n ystyrlon? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys â theulu Owain, a diolch i Hefin am gyflwyno hyn ac i deulu Owain am y cynnig deddfwriaethol ac am ei ddwyn gerbron y Senedd hon heddiw. Rwy'n cefnogi'r cynnig ar gyfer y Bil arfaethedig hwn er cof am Owain James, cynnig sydd wedi'i ysbrydoli gan yr angen brys am newid i'r ffordd y caiff meinwe tiwmor yr ymennydd ei drin. Bu farw fy mam hefyd o diwmor ar yr ymennydd, felly mae'n fater sy'n hynod bersonol i mi.
Tiwmorau'r ymennydd yw'r canser sy'n lladd y nifer fwyaf o blant ac oedolion o dan 40 oed, ond dim ond 1 y cant o'r cyllid ymchwil canser cenedlaethol y maent yn ei gael. Mae teuluoedd fel fy un i ac Owain yn cael cam nid yn unig gan ymchwil, ond hefyd gan y ffordd y caiff meinwe tiwmor gwerthfawr ei reoli. Bydd cyfraith Owain yn ymgorffori'r egwyddor allweddol fod yn rhaid i gleifion a theuluoedd gael gwybodaeth lawn a gallu cydsynio cyn i unrhyw feinwe tiwmor gael ei storio neu ei ddefnyddio. Mae'n gwarantu bod samplau tiwmor yn cael eu cadw heb gemegau niweidiol, a'u rhewi ar -80 gradd canradd mewn samplau lluosog, gan sicrhau hyfywedd ar gyfer ymchwil a all achub bywydau yn y dyfodol. Mae hyn yn fwy na phrotocol technegol. Mae'n fater o urddas, parch a gobaith i deuluoedd sy'n wynebu diagnosis dinistriol.
Drwy gefnogi'r cynnig hwn rydym yn dangos parch at y rhai rydym wedi'u colli ac yn ymrwymo i adeiladu dyfodol gwell i'r rhai sy'n dal i ymladd. Rwy'n sefyll yn gadarn o blaid cyfraith Owain ac yn annog yr Aelodau i wneud yr un peth. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau fy ymateb, os caf, drwy gydymdeimlo â Mrs Ellie James a diolch iddi am ei phenderfyniad i wella canlyniadau i bobl eraill sy'n wynebu amgylchiadau tebyg.
Fy ymrwymiad, Ddirprwy Lywydd, yw inni gael ein llywio ym mhopeth a wnawn gan dystiolaeth glinigol ac ymarfer gorau i bob claf wrth ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth neu bolisi. Mae ymarfer patholeg y GIG yn effeithlon wrth ddefnyddio'r cyfeintiau lleiaf o feinwe sy'n bosibl i sefydlu diagnosis a phroffil moleciwlaidd llawn. Mae meinwe wedi'i rewi'n ffres yn wirioneddol werthfawr ar gyfer rhai cymwysiadau ymchwil a thechnolegau moleciwlaidd sy'n datblygu, ond ar hyn o bryd ni all gymryd lle meinwe wedi'i sefydlogi â fformalin mewn paraffin ar gyfer cael diagnosis amserol a chywir.
Mae'r adran niwropatholeg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn storio meinwe diagnostig wedi'i rewi'n ffres yn rheolaidd, ac roedd Cymru yn un o'r rhai a aeth ati'n gynnar i fabwysiadu casglu a rhewi meinwe tiwmor ffres—ymhell o flaen llawer o adrannau niwropatholeg yn y DU mewn gwirionedd, gan arwain y ffordd, yng ngeiriau'r Aelod. Gwnaed hyn yn bosibl drwy gydweithio'n agos â labordy genomeg feddygol Cymru gyfan, a ehangodd ei alluoedd profi moleciwlaidd ar gyfer tiwmorau solet, gan gynnwys tiwmorau'r ymennydd, yn dilyn cyllid ychwanegol a ddarparwyd gennym yn 2019. O ganlyniad, cafodd sampl tiwmor ffres Mr James ei gadw ar adeg y diagnosis, a hynny cyn i ganllawiau Coleg Brenhinol y Patholegwyr gael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2024.
Sefydlwyd y seilwaith a'r gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer casglu a rhewi meinwe tiwmor y system nerfol ganolog yn benodol er mwyn cefnogi technolegau moleciwlaidd sy'n datblygu, yn ogystal ag ymchwil, yn enwedig yng nghyd-destun treialon clinigol. Ac mae treialon clinigol yn chwarae rhan bwysig yn y broses o reoli tiwmorau'r ymennydd ymosodol, gan gynnig mynediad at therapïau arbrofol lle gall prognosis fod yn wael fel arall. Mae'r rhan fwyaf o dreialon yn galw am ddiagnosis meinwe wedi'i gadarnhau, ac mae cleifion yn aml yn anghymwys heb hynny.
O dan fframweithiau cyfreithiol a moesegol cyfredol, gan gynnwys Deddf Meinweoedd Dynol 2004, rhaid i bawb sy'n cael llawdriniaeth yng Nghymru neu weddill y DU ddarparu cydsyniad dilys, gan gynnwys caniatâd i gadw meinwe at ddibenion diagnostig. Er nad yw'r Ddeddf yn diffinio meinwe fel rhywbeth sy'n eiddo cyfreithiol, fel petai, i'r claf, mae'n rhoi cydsyniad wrth wraidd pob penderfyniad y tu hwnt i ddiagnosis, gan sicrhau bod cleifion yn cadw rheolaeth lawn dros ei ddefnydd. Byddai hyn wedi bod yn wir pan oedd Mr James yn cael triniaeth.
Am resymau yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau yn eu deall, mae cydsyniad cychwynnol o reidrwydd yn eang, gan nad yw'n bosibl rhagweld yn gyfan gwbl ymlaen llaw pa brofion moleciwlaidd diagnostig neu dreialon clinigol y gallai fod ar y claf eu hangen neu y gallai elwa ohonynt. Mae'r dull hwn yn gadarn ac mae hefyd yn canolbwyntio ar y claf, sy'n bwysig. Mae'n diogelu cleifion rhag cael eu llethu o bosibl ar adeg y llawdriniaeth, gan gydnabod y defnydd esblygol o feinwe mewn meddygaeth fodern, rhywbeth y clywsom amdano yn y ddadl heddiw. Pan ystyrir ymchwil neu brofion allanol, gofynnir am gydsyniad pellach bob amser ar ôl diagnosis, a gall cleifion dynnu cydsyniad yn ôl neu wrthod rhoi cydsyniad ar unrhyw adeg.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymrwymedig i gefnogi ymdrechion cenedlaethol i wella prosesau archifo meinweoedd a mynediad cyfartal at brofion genomig. Mae fy swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth genomeg feddygol Cymru gyfan, Genomics England a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod ein harferion yn parhau i fod yn flaengar, ac er budd gorau ein cleifion. Mae rhwydwaith niwro-oncoleg Cymru yn cynnwys grŵp ymroddgar ac arbenigol iawn o glinigwyr sydd wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i wella canlyniadau i bobl â thiwmorau'r ymennydd. Cydnabuwyd eu hymroddiad yn ddiweddar wrth iddynt ennill statws canolfan ragoriaeth Tessa Jowell ar gyfer rheoli cleifion tiwmor yr ymennydd. Rwy'n credu bod y llwyddiant hwn yn adlewyrchu ymrwymiad eithriadol y tîm hwnnw. Mae'r gwasanaeth niwropatholeg hefyd wedi ennill achrediad UCAS yn ddiweddar, gan ddangos ymhellach y safonau uchel a geir mewn gofal diagnostig. Fel y bydd yr Aelodau'n cydnabod rwy'n siŵr, mae'r rhain yn gyflawniadau arwyddocaol i Gymru.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cydnabod bod datblygiadau mewn triniaeth ganser yn dibynnu ar ddysgu a datblygiad parhaus. Oherwydd yr union ymrwymiad hwnnw i dystiolaeth ac ymarfer gorau, mae'n rhaid inni fwrw ymlaen gyda gofal. Ym marn y Llywodraeth, mae cyflwyno gofyniad statudol i rewi holl feinwe tiwmor yr ymennydd yn ffres yn creu perygl o ganlyniadau anfwriadol. Mae timau clinigol eisoes yn defnyddio eu crebwyll arbenigol i gydbwyso anghenion diagnostig gyda'r potensial ar gyfer ymchwil a therapi newydd. Gallai diystyru'r disgresiwn clinigol hwnnw trwy ddeddfwriaeth beryglu'r gallu i wneud diagnosis amserol neu greu gwrthdaro lle mae cyfaint y meinwe'n gyfyngedig, a dyna pam nad yw'r Llywodraeth yn credu bod yr achos wedi'i wneud o blaid deddfwriaeth.
Gofynnodd yr Aelod i mi gadarnhau'r cyngor y seiliwyd safbwynt Llywodraeth Cymru arno. Gallaf gadarnhau, ar ôl cael y llythyr ganddo, fy mod wedi ceisio cyngor pellach gan bwyllgor cynghori gwyddonol Cymru, sef y pwyllgor cynghori statudol perthnasol, ac mai eu cyngor hwy sy'n llywio'r safbwynt a nodaf yn yr ymateb hwn heddiw.
Ddirprwy Lywydd, mae'n gwbl gywir mewn mater mor bwysig fod pobl, yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, yn cael cyfle i herio'r sail resymegol dros bolisi, i brofi safbwyntiau, ac yn wir, i ddadlau dros newid lle teimlant ei fod yn angenrheidiol. Ac rwyf am ailadrodd fy niolch i Mrs James am y modd y mae'n hyrwyddo'r materion pwysig hyn, drwy'r Aelod a'i gynnig ar gyfer Bil heddiw, ac yn fwy eang.
Dwi'n galw ar Hefin David i gloi'r ddadl.
Fe af drwy dri phwynt allweddol, yn gyntaf oll, mewn ymateb i Mabon ac Altaf. Bydd y meinwe yn eiddo i'r claf. Mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn eiddo i'r cyhoedd. Mae'r meinwe'n parhau i fod yn eiddo i'r claf, sy'n ateb cwestiwn Altaf. O ran penderfynu ar 48 awr a godwyd gan Mabon, gallech ei ymestyn i 72 awr, ond po hiraf y byddwch chi'n gadael cydsyniad, yr anoddaf fydd hi i'w gael. A hefyd, y claf sydd piau cydsynio. Y pwynt allweddol yw na allwch wneud hyn heb i'r claf roi'r cydsyniad hwnnw. Gallech gael cydsyniad gan berthynas agosaf os yw'r claf yn ei ddirprwyo, ond mae'n gwestiwn. Ystyrir bod 48 awr yn amser optimaidd i wneud y penderfyniadau hynny. At ei gilydd, mae cleifion tiwmor yr ymennydd yn aml yn ôl ar eu traed wedi'r amser hwnnw.
Mewn perthynas ag ateb Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n derbyn y pwynt fod angen barn glinigol arbenigol wrth gwrs. Dyna oedd ein rheol aur yn ystod COVID. Rwy'n nodi'n unig, yn achos Owain, fod y farn glinigol arbenigol honno wedi'i phrofi'n anghywir yn ddiweddarach, ac felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o allu herio ac apelio yn erbyn hynny. Wrth i gost brechlynnau ddechrau gostwng, a thriniaethau imiwnotherapi'n dod ar gael yn ehangach, gan droi canser o fod yn salwch angheuol i fod yn un sy'n cyfyngu ar fywyd, daw argaeledd meinwe'n allweddol, ac rwy'n credu, yn y pen draw, y bydd y DU a gwledydd eraill yn dechrau symud ar hyd y llwybr tuag at gyfraith o'r fath beth bynnag. Rwyf eisiau dweud un peth olaf: gadewch inni gofio Owain am bopeth y mae wedi'i wneud heddiw. Er ei fod wedi ein gadael, mae wedi cyfrannu at y ddadl ar gadw cleifion yn fyw am amser hirach.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar argyfwng iechyd. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8944 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Rwy'n agor y ddadl hon heddiw gyda gwirionedd syml ond pwysig: mae Cymru'n wynebu argyfwng iechyd, ac mae'n bryd i Lywodraeth Lafur Cymru gyfaddef hynny o'r diwedd.
Mae'r GIG yng Nghymru yn y cyflwr gwaethaf erioed. Heddiw, mae bron i un o bob pump o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth. Mae bron i 800,000 o lwybrau cleifion ar agor, ac mae dros chwarter miliwn o bobl wedi bod yn aros am fwy na naw mis am ofal. Mae miloedd yn dal i aros dros ddwy flynedd, rhywbeth sydd bron wedi'i ddileu yn Lloegr. Ac os nad yw hynny'n argyfwng, nid wyf yn gwybod beth sydd. Bydd Llafur yn dweud wrthym am eu cronfa o £120 miliwn i dorri rhestrau aros. Byddant yn dweud wrthym am Gymru'n dod yn genedl Marmot. Ond nid hashnodau a sloganau sydd eu hangen ar gleifion yn Aberhonddu, Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent; maent angen triniaeth ac maent ei angen nawr.
Gennym ni y mae'r amseroedd aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Ym mis Ebrill, dim ond 67 y cant o gleifion damweiniau ac achosion brys a welwyd o fewn pedair awr yma yng Nghymru, tra yn Lloegr, mae'r ffigurau, er yn heriol, yn gyson yn well ym mhob man. Bob mis, mae dros 100,000 o bobl yng Nghymru yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Tra byddant yn aros, mae ambiwlansys yn ciwio tu allan, heb allu dadlwytho cleifion, gan fynd ag amser parafeddygon a ddylai fod ar y ffordd yn achub bywydau. Nid yw gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cyrraedd ei darged amseroedd ymateb wyth munud ar gyfer galwadau sy'n peryglu bywyd ers pedair blynedd yn olynol. Ac mae'n cyrraedd llai na hanner y galwadau hynny o fewn yr amser.
Ddirprwy Lywydd, gadewch inni gofio'r realiti dynol. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, arhosodd mam-gu 84 oed am 30 awr am ambiwlans ar ôl torri ei chlun. Mewn achos arall, gorweddodd claf ar y llawr am 46 awr yn aros am help. Ac mae crwner yng Nghymru wedi dweud bod cleifion yn marw am nad yw ambiwlansys yn cyrraedd mewn pryd. Os nad yw hynny'n argyfwng, Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod beth sydd.
Ond nid yw'r argyfwng yn gorffen wrth ddrysau'r ysbyty. Mae gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru wedi'u llethu. Rydym wedi colli bron 20 y cant o'n practisau meddygon teulu mewn degawd ac erbyn hyn mae gennym dros 2,200 o gleifion i bob meddyg teulu yng Nghymru—dwbl y cyfartaledd Ewropeaidd. A yw'n syndod pam y mae pobl yn rhoi'r gorau i geisio cael apwyntiad meddyg teulu ac yn mynd i adrannau ddamweiniau ac achosion brys yn lle hynny, gan ychwanegu at y pwysau ar ein hadrannau brys?
Mae deintyddiaeth y GIG yng Nghymru ar chwâl. Ni all un o bob tri o bobl ddod o hyd i ddeintydd GIG a chaiff llawer o rieni eu gorfodi i yrru eu plant i Loegr am ofal deintyddol. Clywais gan etholwyr yn fy ardal sy'n defnyddio'r pecynnau llenwi dannedd o'r siop ar eu dannedd am eu bod yn byw mewn poen bob dydd ac am na allant gael apwyntiad deintydd. Penderfynodd un o fy etholwyr dynnu eu dant eu hunain â gefel am na allent gael apwyntiad GIG. Mae'n echrydus.
Mae'n argyfwng ar wasanaethau iechyd meddwl hefyd. Mae plant yng Nghymru wedi aros hyd at 99 wythnos am apwyntiad dilynol gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Arhosodd un person ifanc o Gaerdydd am 14 mis i gael asesiad cychwynnol yn unig. Nid oedi'n unig yw hyn, nid niferoedd yn unig, ond bywydau pobl yn cael eu rhoi mewn perygl.
Bydd Llafur yn dweud eu bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ond sut y gallwch chi fynd i'r afael ag anghydraddoldebau os na allwch gael y driniaeth sydd ei hangen i bobl mewn pryd? Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu sylw at gynllun cenedl Marmot, ond tynnu sylw oddi ar yr argyfwng uniongyrchol sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru a wna hynny. Fel y dywedais, byddant yn nodi'r gronfa rhestrau aros o £122 miliwn, ond nid oes dim o'r arian hwnnw wedi'i ddyrannu i ofal trawsffiniol. Gwariwyd £1.5 biliwn ar iechyd ers 2021 gan Lywodraeth Cymru ac mae'r rhestrau aros yn dal i fod yn fwy nag erioed. Nid yw'r arian hwnnw'n cyflawni i gleifion ac nid oes gennym gynllun clir o sut y mae'n mynd i wella.
Ac er bod y galw am ofal wedi cynyddu, mae'r Llywodraeth Lafur wedi torri mwy na 4,000 o welyau ysbyty ers datganoli ac mae hefyd wedi cau ysbytai cymunedol ledled Cymru. Ac os gwrandewch ar y Prif Weinidog blaenorol, mae'n credu bod angen inni fynd ymhellach, a thorri mwy o welyau a thorri mwy o ysbytai, gan ddileu capasiti lleol y mae cymunedau'n dibynnu arno. Rydym yn gweld y canlyniadau nawr, onid ydym? Ysbytai llawn, canslo llawdriniaethau dewisol, ambiwlansys yn methu dadlwytho a chleifion yn aros mewn coridorau gydag argyfwng gofal coridor yn dod yn norm.
Ddirprwy Lywydd, ni allwn wella hyn os na wnawn ei wynebu. Mae angen cynllun adfer clir ar ein GIG gydag atebolrwydd, nid sloganau. Mae angen cynllun gweithlu priodol arno i recriwtio a chadw staff ledled Cymru, ac mae angen i hynny ddigwydd ym mhob cymuned. Ond mae angen buddsoddi mewn gofal cymdeithasol hefyd fel y gellir rhyddhau cleifion yn ddiogel, gan ryddhau gwelyau ysbyty a lleihau oedi ambiwlansys. Ac mae angen yr ewyllys wleidyddol, yr ewyllys wleidyddol yma, i dorri gwastraff ar draws ein GIG a ffocysu pob punt ar ddarparu ar gyfer cleifion.
Nid er mwyn bachu penawdau y caiff argyfwng iechyd ei ddatgan, mae a wnelo â gonestrwydd a brys ac mae a wnelo â gwneud yr hyn sy'n iawn. Mae a wnelo â dweud wrth y fam sydd wedi aros tair blynedd am lawdriniaeth ein bod ni'n eich gweld ac y byddwn yn gweithredu. Mae a wnelo â dweud wrth y parafeddyg a dreuliodd 12 awr y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys gyda chlaf fod help yn dod. Ac mae a wnelo â dweud wrth yr unigolyn ifanc sy'n aros am gymorth iechyd meddwl na fydd y system yn eu hanghofio.
Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am ein GIG yng Nghymru ers 26 mlynedd. Maent wedi cael pob cyfle i gynllunio, darparu a diogelu ein gwasanaeth iechyd, ond yr hyn a welwn heddiw yw system ar ei gliniau, cleifion yn dioddef a staff wedi gorflino. Mae llawer o bobl yn dweud, 'Gadewch inni roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Gadewch inni droi at bleidiau gwleidyddol eraill i ddatrys y broblem.' Ond nid yw hynny'n mynd i weithio ychwaith, oherwydd, oddi tanynt hwy, ni fydd y GIG yn bodoli. Caiff ei ddisodli gan system Ffrengig yn seiliedig ar yswiriant a fydd yn golygu bod pobl yn talu ymlaen llaw, gyda chostau uwch a rhai pobl heb yswiriant o gwbl hyd yn oed, yn dioddef mewn poen tra bod ein GIG yn cael ei chwalu. Ac nid yw hynny'n rhywbeth rwyf i ei eisiau ac nid yw'n rhywbeth y bydd y Blaid Geidwadol yn ei gefnogi byth.
Os nad heddiw yw'r amser i ddatgan argyfwng iechyd, pryd fydd hi'n amser? Ddirprwy Lywydd, mae arnom ddyletswydd i bobl Cymru i fod yn onest ynglŷn â chyflwr ein gwasanaeth iechyd. Mae arnom ddyletswydd iddynt i weithredu. Mae arnom ddyletswydd iddynt i ddiogelu ein GIG, i ddiogelu bywydau. Oherwydd os na allwn ni wneud hynny ac os ydym yn gwadu maint yr argyfwng, bydd pobl yn marw ac yn dioddef yn ddiangen. Felly, dyna pam rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr hon heddiw i gefnogi'r cynnig hwn. Gadewch inni ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru a gadewch inni ddechrau'r gwaith caled ac angenrheidiol o roi ein GIG yn ôl ar ei draed, i gyflawni ar ran y trethdalwyr sy'n talu amdano ac i gyflawni er mwyn y cleifion sydd ei angen. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru yn wynebu cynnydd yn y galw yn sgil newidiadau demograffig a goblygiadau lefelau gordewdra cynyddol a phroblemau iechyd cronig hirdymor, ond nid yw hyn yn golygu bod argyfwng iechyd.
2. Yn nodi'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn ac i wella iechyd pobl a gwella mynediad at ofal iechyd gan gynnwys:
a) £120m i leihau amseroedd aros a maint cyffredinol y rhestr aros;
b) newidiadau i'r contract meddygon teulu i ddarparu parhad yn y gofal i bobl â chyflyrau hirdymor; ac
c) Cymru yn dod yn Genedl Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.
Dwi am ddiolch i'r Ceidwadwyr am sicrhau y ddadl yma heddiw. Mi fyddwn ni ym Mhlaid Cymru yn pleidleisio o blaid y cynnig. Wedi'r cyfan, Plaid Cymru oedd y cyntaf i alw ar y Llywodraeth i ddatgan argyfwng iechyd, nôl ym mis Chwefror 2024, felly mae'n galonogol gweld y gwrthbleidiau eraill yn dilyn arweiniad y blaid.
Ar adeg ein dadl bryd hynny, roedd y rhestrau aros yn yr NHS yn cynnwys dros 762,000 o lwybrau triniaeth, gan effeithio ar 582,000 o unigolion. Roedd bron i 58,000 ohonyn nhw yn aros dros flwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf. Roedd y rhestrau aros yn codi a chodi, gan gyrraedd record newydd bedair gwaith mewn blwyddyn.
Ers hynny, dros 15 mis yn ddiweddarach, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu eto fyth. Mae'r ffigurau bellach yn sefyll ar 789,929 o lwybrau triniaeth a 611,100 o unigolion yn disgwyl triniaeth. Mae hyn yn gyfystyr â chynnydd cyfartalog o 56 o bobl bob dydd ers ein dadl ni nôl ym mis Chwefror 2024.
Dros yr un cyfnod, mae rhestrau aros wedi torri record naw gwaith arall, ac mae pob un o'r saith bwrdd iechyd rhanbarthol wedi aros dan fesurau arbennig o ryw fath neu'i gilydd. Yn waeth byth, mae'r nifer sy'n aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu i 73,200, er gwaethaf y targed diwygiedig i ddileu'r holl achosion hyn erbyn y gwanwyn eleni.
Felly, er gwaethaf ein bod ni ar ein trydydd Prif Weinidog a thrydydd Gweinidog iechyd, a thargedau sy'n newid fel y gwynt, mae record methiant y Llywodraeth Lafur yma yn gyson, yn barhaus ac yn annerbyniol.
A beth sy'n ei wneud yn waeth? Y ffordd y maent yn gwrthod cyfaddef methiant, heb sôn am newid cwrs. Cymerwch hyn: yn ôl yn ein dadl wreiddiol ym mis Chwefror 2024, gwrthododd y Gweinidog iechyd ar y pryd, sydd bellach yn Brif Weinidog, y syniad o argyfwng iechyd yn gyfan gwbl. Ni allai weld ei bwynt, er bod y rhai a ddôi'n gymheiriaid gwleidyddol iddi dros y ffin yn Lloegr yn gwthio am yr un datganiad. Nid arweinyddiaeth oedd hynny. Gwadu realiti ydoedd, sbin. Yr un hen drefn dreuliedig, doredig gan blaid sydd wedi bod yn gyfrifol am y GIG yng Nghymru ers chwarter canrif, ac sydd wedi ei ddifa. Ac os yw'r Prif Weinidog o ddifrif yn credu mai dim ond nawr y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn colli amynedd gyda rhestrau aros, carwn awgrymu ei bod hi'n dechrau ymarfer gwrando newydd.
Un mis ar ddeg yn ôl, nid oedd yn ddim ond ymarfer cysylltiadau cyhoeddus, heb unrhyw wrando go iawn yn digwydd. Nawr dylai dreulio'r haf yn gwrando ar straeon y rhai sy'n dal i aros mewn poen, mewn ofn ac mewn anobaith, oherwydd mae honni bod y Llywodraeth hon yn gwneud cynnydd yn yr un wythnos ag y tyfodd y rhestrau aros ac y cyrhaeddodd y nifer sy'n aros dwy flynedd 9,000 nid yn unig yn gamarweiniol, mae'n sarhaus. Gosododd ei Llywodraeth darged o 8,000 erbyn y gwanwyn a'i fethu. Roedd eisoes wedi cefnu ar y nod gwreiddiol i ddileu'r amseroedd aros hyn erbyn mis Mawrth 2023. Nid cynnydd yw hyn, ond ymwrthod â chyfrifoldeb.
Felly, pwy sy'n mynd i gamu i'r adwy lle mae Llafur wedi methu? Nid y Torïaid, sy'n rhy brysur yn dod o hyd i ffyrdd newydd o fod ar yr ochr anghywir i hanes tra bo'u gwaddol o gyni'n parhau i aflonyddu ar ein gwasanaethau. Ac yn sicr nid fwlturiaid poblyddol y dde eithafol, nad ydynt hyd yn oed yn cuddio eu huchelgais i werthu ein GIG i'w ffrindiau a gwerthu yswiriant drud i'r rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai lleiaf abl i allu ei fforddio. Plaid Cymru sy'n mynd i allu gwneud hynny, gyda chynlluniau go iawn, uchelgais go iawn a gweledigaeth go iawn i fynd i'r afael â'r ôl-groniad, i ailadeiladu gofal sylfaenol, i symud tuag at atal, i ddiwygio llywodraethiant a darparu gwasanaeth gofal gwladol o'r diwedd. Dyma sut beth yw arweinyddiaeth, ac ni all ddod yn ddigon buan.
Nid wyf yn credu bod gennym argyfwng iechyd. Mae gennym argyfwng iechyd cyhoeddus yn bendant, ond rwy'n credu y dylem fod yn falch o'r gwaith y mae ein meddygon ymgynghorol yn yr ysbytai yn ei wneud i ddod yn fwy effeithlon ac i ddelio â'r ôl-groniadau sydd wedi cronni o ganlyniad i COVID. Ond nid oedd y Ceidwadwyr na llefarydd Plaid Cymru eisiau siarad am unrhyw beth heblaw'r rhestrau aros a'r dioddefaint. Rwy'n derbyn yn llwyr fod rhai pobl yn gorfod aros—
Jenny, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n credu eich bod yn camddarlunio yno braidd, oherwydd fe siaradais i am ddeintyddiaeth, fe siaradais am iechyd meddwl, siaradais am nifer o elfennau gwahanol yn fy agoriad, felly rwy'n gobeithio y gwnewch chi gofnodi eich bod yn cydnabod hynny, os gwelwch yn dda.
O'r gorau. Rwy'n mynd i symud ymlaen at rai o'r materion eraill hyn, rwy'n credu bod y ddau ohonoch chi'n gyfforddus iawn yn siarad am restrau aros a'r problemau y mae'n eu hachosi i gleifion unigol, ac rwy'n cydnabod yn llwyr fod yn rhaid inni ddelio â hynny, ond mae'n rhaid inni edrych ar yr achosion sylfaenol hefyd sy'n llawer mwy pryderus—problemau hirdymor y mae angen inni ddechrau ymdrin â hwy ac nad ydych chi fel pe baech chi eisiau siarad amdanynt.
Diolch am ildio. Rwy'n derbyn bod y sgandal rhestrau aros yn symptom o broblem ddyfnach yn y gwasanaeth iechyd, a bod hynny'n ymwneud ag edrych ar yr agenda ataliol, edrych ar ofal cymdeithasol, edrych ar ofal sylfaenol. Rydym wedi cynnig dadleuon ynghylch yr holl bethau hyn. Nid ydych chi wedi cefnogi pob un ohonynt; rydym yn derbyn hynny, ond nid yw eich Llywodraeth yn mynd i'r afael â hynny. A ydych chi'n derbyn hynny?
Rwy'n derbyn, hyd yn hyn, nad oes neb wedi bod eisiau dadlau yn y dadleuon hir y materion atal ac ymyrraeth gynnar yr wyf i am eu trafod yn y tymor hir. Ond mae'n dda clywed eich bod chi'n derbyn bod problem yno hefyd.
Felly, mae'n rhaid inni gydnabod bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn tynnu sylw'n glir iawn at y ffaith bod angen inni wneud mwy am atal. Nid ydym byth mynd i gyrraedd—ac nid ydym ychwaith eisiau gorffwys ar ein rhwyfau a dweud, 'O, fe awn i'r afael â'r rhestrau aros', mae'n rhaid inni gael cenedl lawer iachach. Ac mae hynny'n golygu bod angen inni ddechrau o'r dechrau.
Ddoe, clywsom am y cynnydd a wnaethom ar iechyd y geg ymhlith plant. Mae'n enghraifft glir iawn o sut y mae ymyrraeth gynnar wedi arwain at ostyngiad enfawr yng nghanran y plant ysgol gynradd sydd wedi colli dannedd, neu sydd â dannedd coll neu lenwadau yn eu dannedd. Mae'n ystadegyn pwysig iawn. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf cywir o ddeall lle mae'r amddifadedd a hefyd lle mae angen inni roi cymorth ychwanegol. Ond mae'n wirioneddol arwyddocaol os ydym yn gweld gostyngiad o draean yn nifer y disgyblion yn gyffredinol nad oes ganddynt bydredd dannedd mwyach.
Mae Janet Finch-Saunders wedi codi ei llaw i ofyn am gael gwneud ymyriad. A ydych chi'n dymuno ei dderbyn?
Iawn, fe wnaf dderbyn yr ymyriad. Ni wnes eich gweld.
Janet, yr ymyriad.
Ie, mae'n ddrwg gennyf, nid oedd fy meicroffon wedi'i agor. Os caf ofyn i'r Aelod, Jenny Rathbone, o ystyried ei bod yn cynrychioli ei holl etholwyr, sut na all hi weld, yn ei hetholaeth ei hun, fod gennym argyfwng iechyd. A hefyd, mae hi wedi dyfynnu comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, neu'r wythnos cynt, mynegais fy mhryderon ynglŷn â'i rôl. Onid yw hi'n cytuno â mi y gallai'r arian sy'n cael ei wario ar gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r swydd—y gallai'r arian hwnnw ein helpu ni'n well pe bai hwnnw'n mynd i mewn i'r gwasanaeth iechyd, yn hytrach na chyllido comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol?
Diolch am gynnig yr awgrym hwnnw. Rwy'n anghytuno â hynny'n sylfaenol.
Ond ni allwn aros nes bod plant yn mynd i'r ysgol, mae'n rhaid inni ymyrryd yn llawer cynharach, ac mae hynny'n cynnwys y gwasanaeth iechyd. Mae angen inni gefnogi pobl yn well cyn geni, mae angen inni gefnogi pobl yn well ar ôl geni, ac fel y soniais ddoe yn fy ymyriad, nid mater o fesur dannedd plant ar ôl iddynt gael dannedd ydyw, beth a wnawn i ddiogelu dannedd plant cyn iddynt ddod allan o'r deintgig? Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd iechyd yn ei ymateb yn gallu dweud wrthym beth yw rôl ymwelwyr iechyd o ran cynghori rhieni i roi dim byd ond dŵr neu laeth mewn potel a pheidio byth â rhoi diodydd pop mewn potel, oherwydd mae hynny'n sicr o roi pydredd dannedd i blentyn.
Rwyf hefyd eisiau sôn mai'r rheswm pam ein bod mor sâl yw'r ymgais fwriadol—wel, gweithred fwriadol, gan y diwydiant bwyd, sy'n gweithredu'n union fel y diwydiant tybaco, i werthu bwyd i ni sy'n ein lladd. Rwy'n falch o ddweud bod Wes Streeting wedi dechrau siarad am gost hyn i'r gwasanaeth iechyd, ac os na chymerwn gamau pendant nid yn unig i ofyn yn garedig i'r diwydiant bwyd newid y ffordd y maent yn hyrwyddo bwydydd sy'n ein lladd, ond i—. Hefyd, rwy'n credu y dylid cael cymhellion cyllidol i wneud iddynt newid.
Mae pobl yn ein holl gymunedau, yn enwedig ein cymunedau tlotaf, angen mynediad at fwyd glân, ffres, heb ei halogi gan ychwanegion, oherwydd fe wyddom fod hyn yn prysur ddod yn brif achos marwolaeth gynnar, wrth iddo arwain at ddiabetes, at glefyd y galon ac at gyflyrau eraill—clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint—hefyd. Mae'n rhaid inni gael rheolaeth ar hyn, ac mae angen inni ddechrau sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at fwyd ffres—
Jenny, rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi.
—a deiet iach. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Iechyd yw un o'r prif bethau y mae etholwyr yn cysylltu â mi yn ei gylch, ac rwy'n ofni dweud ei fod am yr holl resymau anghywir. Mae'n amlwg fod Llywodraethau Llafur olynol wedi methu mynd i'r afael â'r heriau yn ein gwasanaeth iechyd dros y blynyddoedd. Os rhywbeth, mae pethau'n parhau i fynd o ddrwg i waeth o dan oruchwyliaeth Llafur, ac efallai'n fwy pryderus, mae'n ymddangos bod methiant o fewn Llywodraeth Cymru i newid pethau'n arwain at ddyrchafiad. Llywyddodd Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan i gyd dros y briff iechyd, gan fethu cyflawni canlyniadau llwyddiannus, a dod yn Brif Weinidogion yn y pen draw, er mai am gyfnod byr yn achos un ohonynt. Efallai mai dyna pam y gallai deiliad presennol y swydd fod wedi neidio ar y cyfle i fod yn Weinidog iechyd. Gwell lwc tro nesaf, ie, Ysgrifennydd y Cabinet?
Mae rhestrau triniaeth y GIG yn parhau i fod yn gywilyddus o uchel, gydag ychydig llai na 780,000 o lwybrau cleifion ar agor, ac mae hynny bron yn un o bob pedwar o bobl. Yn fy marn i, dylai Llywodraeth Cymru fod â chywilydd ynghylch yr ystadegyn hwnnw. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod amseroedd aros o ddwy flynedd am driniaethau wedi codi yng Nghymru eto i 9,600, er mai dim ond 171 yw'r ffigur yn Lloegr.
Dim ond 50 y cant o'r galwadau coch, y mwyaf difrifol, a gafodd ymateb ambiwlans brys o fewn yr amser targed o wyth munud, i lawr o'r mis blaenorol, ac rydym yn dal i fod ymhell iawn o'r targed o 95 y cant o gleifion i aros llai na phedair awr yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru.
Dyna'r darlun llwm yn genedlaethol, ac rwy'n ofni nad yw'n ddim gwell yn lleol. Yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru, mae gennym fwy na 141,000 o lwybrau cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gyda 14,716 o gleifion yn aros dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf. Ym mis Ebrill 2025, roedd 24,666 o gleifion wedi bod yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth, ac mae bron i un o bob pump o gleifion yn aros mwy na blwyddyn. Nid yn unig hynny, roedd 374 o gleifion yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mis Ebrill 2025.
Mae 57.5 y cant o gleifion ysbyty'r Faenor yn aros llai na phedair awr yn ei adran frys, y pedwerydd gwaethaf yng Nghymru. Yn syfrdanol, roedd 1,115 o gleifion yn aros mwy na 12 awr yn y Faenor ym mis Mai eleni, sy'n 15 y cant o gyfanswm y cleifion a welir yn yr adran. Nid ystadegau'n unig yw'r rhain. Maent yn etholwyr i mi, sy'n dihoeni mewn poen yn yr ystafell aros, ar y rhestrau aros i gael triniaeth, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.
Fel y dywedais, pethau'n ymwneud â'n gwasanaeth iechyd—ac mae'n rhaid imi bwysleisio, nid ydynt wedi'u hanelu o gwbl at y staff ymroddedig sy'n gweithio o dan bwysau aruthrol ac mewn amodau heriol—yw'r pwnc trafod mwyaf cyffredin y mae etholwyr yn cysylltu â mi yn ei gylch. Rwyf am rannu rhai enghreifftiau o'r sefyllfaoedd ffiaidd y mae pobl go iawn yn eu hwynebu yma yng Nghymru. Dim ond ciplun syml yw hwn o rai o'r achosion y deuthum ar eu traws ers dod yn Aelod o'r Senedd yn 2021.
Etholwr a orfodwyd i aros wyth awr yng nghefn ambiwlans ar ôl cael strôc. Etholwr 86 oed yn gorfod aros wyth awr yn yr oerfel a'r glaw, ar ôl dioddef cwymp cas mewn parc manwerthu. Etholwr 65 oed yn cael ei orfodi i aros am 37 awr yn adran damweiniau ac achosion brys y Faenor gydag amheuaeth o waedu ar yr ymennydd. Ddwywaith, mae ysbyty'r Faenor wedi rhyddhau'r corff anghywir i deuluoedd. Bu'n rhaid i un teulu gynnal ail angladd ar ôl amlosgi corff person gwahanol. Etholwr yn dioddef trawiad ar y galon yn wynebu amser aros o bum awr am ambiwlans.
Mae etholwyr sy'n cael eu trin mewn lleoliadau annerbyniol mewn ysbytai, fel cadeiriau breichiau, coridorau a chypyrddau, yn fwyfwy cyffredin yn fy mewnflwch. Efallai mai un o'r achosion mwyaf emosiynol y deliais ag ef yw un y soniais amdano yma yn y Siambr hon o'r blaen, ac rwy'n teimlo y dylwn sôn amdano eto, etholwr 98 oed a wynebai amser aros o 14 awr am ambiwlans ar ôl cwympo yn ei chartref. Ddau ddiwrnod ar ôl y cyswllt cychwynnol, gwaethygodd ei chyflwr, cyrhaeddodd ambiwlans ei chartref a mynd â hi i'r Faenor, lle wynebodd amser aros o naw awr a hanner mewn ambiwlans cyn cael ei derbyn i'r ysbyty. Cafodd ei throsglwyddo wedyn i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle ffoniodd meddyg fab fy etholwr, a oedd yn digwydd bod y tu allan yn y maes parcio, i ddweud wrtho am frysio i'r ysbyty am nad oedd gan ei fam lawer o amser i fyw. Ar ôl mynd i mewn i'r ysbyty'n fuan ar ôl yr alwad, cafodd wybod bod ei fam wedi marw bedair awr cyn i'r alwad gael ei gwneud.
Os nad yw hanesion erchyll a thrasig fel hyn yn ddigon i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod rhywbeth o'i le'n ofnadwy a datgan argyfwng iechyd, nid wyf yn gwybod beth arall y mae'n mynd i'w gymryd. Rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr holl gyfraniadau a wnaed yma heddiw yn y ddadl ac yn gweithredu'n unol â hynny. Diolch.
Byddaf yn cefnogi'r cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd. Mae ein gwasanaethau iechyd wedi bod mewn argyfwng ers blynyddoedd lawer, a chydnabod y sefyllfa yr ydym ynddi yw'r cam cyntaf i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Wrth gwrs, bob tro y gwelwn yr ystadegau rhestrau aros yn cael eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru, bob tro, yn ceisio rhoi sbin cadarnhaol ar y ffigurau hynny. Ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fethu cyflawni eu targedau eu hunain bob tro y cânt eu cyhoeddi ac yn anffodus, nid oes ganddynt unrhyw obaith o gyrraedd eu targedau eu hunain.
Testun rhwystredigaeth pellach yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi gwybodaeth gamarweiniol am amseroedd aros cleifion Powys. Ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nad oes gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys unrhyw gleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth. Mae hynny'n anghywir ac mae'r Llywodraeth yn gwybod ei fod yn anghywir, ond maent yn parhau i gyhoeddi'r gamwybodaeth honno. Wrth siarad am gleifion Powys, dylai Llywodraeth Cymru wneud hynny gan adrodd ar y sefyllfa'n gywir. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru'n gwybod bod y rhan fwyaf o gleifion ym Mhowys yn cael eu triniaeth dros y ffin yn Lloegr, neu mewn ysbytai eraill mewn rhannau eraill o Gymru. Wrth gwrs mae'n wir nad oes unrhyw glaf ym Mhowys yn aros am driniaeth mewn ysbyty cyffredinol dosbarth yn y sir, gan nad oes un i'w gael. Felly, mae hyn yn dangos—mae hyn yn dangos—camddealltwriaeth sylfaenol o sut y mae gwasanaethau iechyd yn cael eu comisiynu a chleifion yn cael gwasanaethau gofal iechyd ym Mhowys.
Rwyf am siarad am welliant y Llywodraeth Lafur heddiw. Mae'r Llywodraeth yn honni eu bod yn mynd i'r afael â mater gwella amseroedd aros. Pe bai'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â lleihau amseroedd aros yng Nghymru, byddent yn defnyddio'r capasiti dros ben sydd ar gael yn Lloegr—capasiti dros ben ychydig dros y ffin. Mae capasiti dros ben yn Henffordd, yng Nghroesoswallt, yn Amwythig a Telford—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau gwneud ymyriad?
Diolch. Yn fy mhrofiad i—. Mae gennyf deulu a pherthnasau a ffrindiau sy'n byw ar draws y ffin ac maent wedi bod yn dweud straeon wrthyf yno am ofal yn y coridorau, y clywais amdano'n flaenorol gan Mabon, a phroblemau gydag aros mewn ambiwlansys hefyd. Felly, rwy'n gwybod nad yw'n berffaith ar draws y ffin, fel cymhariaeth.
Ni ddywedais ei fod yn berffaith ar draws y ffin. Rwy'n credu mai'r hyn rydych chi'n siarad amdano yw gofal brys, ac rwy'n derbyn hynny, ond rydym ni'n siarad am driniaeth, triniaeth wedi'i chynllunio. Am hynny rwy'n siarad. Ac rydym yn gwybod bod yr hyn rwyf newydd ei ddweud yn gywir, oherwydd mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gofyn i ddarparwyr yn Lloegr, yn yr ysbytai rwyf newydd eu crybwyll, i arafu triniaeth yn fwriadol er bod capasiti i'w trin. Ac rydym yn siarad am ofal wedi'i gynllunio, nid gofal brys. Felly, rwy'n deall pam eich bod chi'n gwneud y pwynt.
Ond pam y gwnaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y penderfyniad hwnnw? Fe wnaethant y penderfyniad hwnnw, yn ôl yr hyn a ddywedant, am fod angen iddynt weithredu fel hyn i ymateb i'r disgwyliadau ariannol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nid oes a wnelo hyn â diffyg capasiti mewn gwasanaethau iechyd ledled y DU, mae'n benderfyniad ariannol llwyr. Ac wrth gwrs, rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Deisebau wedi trafod yr union fater hwn ynglŷn ag amseroedd aros Powys yn gynharach yr wythnos hon, yn dilyn deiseb a gyflwynwyd gan Joy Jones. Nid oes unrhyw fath o esgus dros ofyn i ddarparwyr yn Lloegr arafu'r broses o ddarparu gofal i gleifion Powys, er bod digon o gapasiti'n bodoli. Mae'n gwbl annerbyniol trin cleifion Powys fel dinasyddion eilradd. Wrth gwrs, pan wyf wedi tynnu sylw'r Prif Weinidog, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd at hyn, mae'r ddau ohonynt wedi dweud wrthyf ar wahanol adegau nad yw hyn yn dderbyniol. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud—mewn pwyllgorau, yn y Siambr hon ac mewn datganiadau i'r wasg—fod yr hyn rwyf newydd ei ddisgrifio'n annerbyniol. Ond y gwir amdani yw bod y Llywodraeth yn derbyn y sefyllfa. Maent yn derbyn y bydd cleifion Powys yn aros yn hwy na chleifion Lloegr pan fyddant yn cael eu trin yn yr un ysbytai a phan fyddant yn cael eu gweld gan yr un gweithwyr iechyd proffesiynol, yn syml am eu bod yn byw ym Mhowys.
Fis diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd iechyd y bydd £120 miliwn yn cael ei ddarparu i helpu i leihau amseroedd aros. 'Mae hyn yn newyddion da,' meddyliais. 'Rhaid bod hyn yn newyddion da i gleifion Powys.' Caiff hyn ei grybwyll hefyd yng ngwelliant y Llywodraeth heddiw. Mewn ymateb ysgrifenedig i fy nghwestiwn ysgrifenedig yr wythnos hon, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet, o'r 200,000 o apwyntiadau a grybwyllwyd i leihau maint y rhestr aros yn ei chyfanrwydd, na fyddai unrhyw un o'r rhain yn helpu cleifion Powys sy'n aros am driniaeth yn ysbytai Lloegr. Sero.
Mae daearyddiaeth unigryw Powys yn golygu bod mwy o'i thrigolion yn agosach at ysbytai yn Lloegr nag at ysbytai yng Nghymru. Yn wir, yr unig ysbyty yng nghanolbarth Cymru yw Aberystwyth wrth gwrs, sydd dan fygythiad ar hyn o bryd gydag israddio gwasanaethau strôc hanfodol. Ar hyn o bryd mae 12,000 o gleifion Powys yn aros am driniaeth mewn ysbytai yn Lloegr. Bydd y cleifion hynny, yn gywir ddigon, yn teimlo'u bod yn cael cam yng nghyhoeddiad y Llywodraeth, cyhoeddiad y mae'r Llywodraeth ei hun wedi cyfaddef na fydd yn cynnwys unrhyw gymorth iddynt hwy.
Wrth imi ddod i ben, rwyf am ddweud, mewn un frawddeg, beth y credaf y dylai'r Llywodraeth ei wneud. Fe roddaf hyn mewn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. A wnaiff ddefnyddio rhan o'r gronfa £120 miliwn a gyhoeddodd 13 diwrnod yn ôl i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei ariannu i bwynt lle gall brynu capasiti gofal iechyd yn Lloegr, yn seiliedig ar dargedau amseroedd aros yn Lloegr?
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i James Evans ac yn amlwg, i fy ngrŵp am gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer dadl heddiw. Mae'r cynnig hwn a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn syml am reswm. Y cyfan y mae'n gofyn i ni ei wneud, mewn gwirionedd, yw siarad heb flewyn ar dafod. Nid oes ond angen edrych ar restrau aros y GIG, ein hamseroedd aros damweiniau ac achosion brys, ein hamseroedd aros ambiwlansys, ein hamseroedd aros deintyddiaeth, ein hamseroedd aros iechyd meddwl, i wybod bod Cymru mewn argyfwng iechyd. Gall pawb yng Nghymru weld hynny, heblaw Gweinidogion Senedd Lafur Cymru mae'n ymddangos.
Mae unrhyw un sydd wedi rhyngweithio â'n gwasanaeth iechyd yn gwybod ei fod dan bwysau enbyd, gyda chleifion a staff ar ben eu tennyn. Mae'r staff yn gweithio'n anhygoel o galed mewn amgylchiadau anodd iawn, ac maent yn haeddu cymaint o glod ag y gallwn ei roi iddynt. Pan gewch chi'r driniaeth, fe wyddom ei bod hi'n ardderchog. Mynd i mewn i'r system i gael y driniaeth honno yw'r frwydr.
Fe glywsom gan ein llefarydd iechyd, James Evans, am gyflwr syfrdanol ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Yn fwyaf arbennig, yn fy rhanbarth i, mae un o bob pump o gleifion bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn aros dros bedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Rwyf i fy hun wedi bod yn yr adran damweiniau ac achosion brys ac wedi bod yn dyst i 18 awr a mwy o aros ar fwy nag un achlysur dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Cafodd digwyddiadau critigol eu datgan ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, yn dilyn pwysau a galw parhaus. Mae cannoedd hefyd yn dal i aros am ddwy flynedd yn y bwrdd iechyd, ac mae'r rhestr aros ar gyfer pediatreg gymunedol wedi tyfu 117 y cant rhwng 2015 a 2024. Mae Natasha Asghar eisoes wedi nodi'r ystadegau llwm a'r enghreifftiau yn ein rhanbarth, felly nid wyf am ailadrodd. Ond fe wnaf gadarnhau pa mor ofnadwy yw pethau yn ein rhanbarth ni ac ar draws Cymru.
Yr hyn sy'n wirioneddol bryderus, Ysgrifennydd y Cabinet, yw nad yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn cydnabod maint y broblem, ac nid ydynt hyd yn oed i'w gweld yn meddwl mai eu cyfrifoldeb hwy ydyw. Ddoe, clywais y Prif Weinidog yn dweud bod y Gweinidog iechyd yn pwyso ar war y bobl sy'n gyfrifol am amseroedd aros o ddwy flynedd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae'r bobl sy'n gyfrifol am ein gwasanaeth iechyd, a'r amseroedd aros hir iawn hynny ledled Cymru yn eistedd yn yr ystafell hon neu ym Mharc Cathays. Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gyfrifol am ein hamseroedd aros cronig yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae ein hamseroedd aros am ambiwlans, ac amseroedd aros lle mae pobl, fel y dywedodd James Evans yn gynharach, yn marw wrth aros am ambiwlans, neu'n gorwedd ar y llawr am oriau annerbyniol—yr henoed yn aros am ambiwlans. Nid yw'r Llywodraeth hon yn cynhyrfu dim pan fo'n awyddus i wario £120 miliwn ar fwy o Aelodau i'r Senedd, er mai'r hyn sydd ei angen ar Gymru mewn gwirionedd yw mwy o feddygon a nyrsys.
Mae yna bethau cadarnhaol i'w gweld ledled Cymru. Roeddwn yn falch iawn o ymweld ag uned radiotherapi Felindre yn Ysbyty Nevill Hall ym mis Mawrth, yn y Fenni yn fy rhanbarth i, uned y mae ei hangen yn ddybryd ac un y mae croeso mawr iddi, ond mae wedi cymryd amser hir iawn i bobl yn fy rhanbarth i gael y gofal canser y maent yn ei haeddu. Rydym yn wynebu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Hoffwn fynd â ni'n ôl at or-feddyginiaethu problemau, gan y gallem gael llawer mwy o feddygon a llawer mwy o nyrsys, a byddai'r broblem hon gennym o hyd os nad awn i'r afael â rhai o'r achosion. Un o'r ffeithiau mwyaf syfrdanol a ddysgais heddiw, o ganlyniad i'r holl frwdfrydedd dros bigiadau i ddatrys gordewdra sy'n cael eu hyrwyddo ar y rhyngrwyd heb unrhyw archwiliadau i wirio addasrwydd pobl na'r effaith hirdymor ar eu hiechyd, yw bod tri i bedwar unigolyn sydd wedi defnyddio'r pigiadau hyn y maent wedi'u prynu ar y rhyngrwyd bellach yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob dydd yng Nghaerdydd, a'r rhain yw'r bobl a fydd yn atal rhywun rhag cael y llawdriniaeth a gynlluniwyd y gallai fod ei hangen arnynt. Rwy'n falch o weld bod Altaf Hussain yn nodio ac yn cydnabod bod hon yn broblem. Mae gennym broblemau cymdeithasol y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy. Nid ydym yn mynd i ddelio â'r broblem drwy gael mwy o feddygon a nyrsys yn unig.
Ie, diolch am eich ymyriad, Jenny. Ar y mater penodol hwnnw, rwy'n credu mai diben y pigiadau hynny oedd ceisio helpu gyda gwahanol resymau iechyd. Mae pobl yn eu defnyddio ar gyfer gordewdra, ond nid dyna oedd eu bwriad. Mae angen mwy o wybodaeth amdanynt, ac mae hynny'n rhywbeth nad wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn gwadu bod ei angen.
Ond rydych chi hefyd yn sôn am atal, sy'n hynod o bwysig. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yma'n gwadu'r ffaith, ac na fyddai'n cydnabod bod angen inni ganolbwyntio ar atal, ond ble mae'r agenda atal hon y clywn gymaint amdani? Nid wyf wedi gweld dim ohoni, ac yn sicr, nid yw'n trosi'n ystadegau da. Ac mae'r ystadegau y mae pob un ohonom yn siarad amdanynt heddiw yn bwysig. Maent yn bwysig iawn ac maent yn paentio darlun llwm iawn o sut y mae eich Llywodraeth wedi methu rhoi iechyd ar frig yr agenda dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae'r ffordd rydym yn delio â phethau yng Nghymru yn embaras o gymharu â gweddill y DU.
Mae angen inni gael pobl allan o'r ysbyty ac i mewn i'r gymuned yn gyflymach. Mae angen inni ryddhau'r gwelyau, ac mae angen inni gael pobl i mewn i'r gymuned. Bydd hynny'n helpu gyda'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Gallwn wneud hynny drwy roi mwy o arian yn y mannau cywir. Mae'n hawdd rhoi eich bysedd yn eich clustiau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ni fydd hynny'n lleihau'r rhestrau aros nac yn gwneud i ambiwlansys gyrraedd yn gyflymach, nac yn lleihau amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae peidio â defnyddio cynnig o help gan GIG Lloegr, fel rydym newydd glywed, am ei fod yn Lloegr ac am nad ydych chi eisiau gofyn am help yn warthus pan fo gwir angen yr help arnom.
Bydd datgan argyfwng iechyd yn mynd beth o'r ffordd tuag at ddangos bod Llywodraeth Cymru yn deall maint y broblem a wynebwn yng Nghymru. Efallai wedyn y gwnewch chi roi'r gorau i'ch prosiectau porthi balchder a'r pethau sy'n tynnu sylw oddi wrth yr hyn sy'n bwysig a chanolbwyntio ar ymdrechion ein gwasanaeth iechyd gwael er lles cleifion a staff fel ei gilydd ledled Cymru. Mae pobl Cymru wedi dioddef yn rhy hir. Mae eich cyflawniad ym maes iechyd yn gywilyddus. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n annog pawb yn y Siambr i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw.
Mae gwasanaeth iechyd gwladol y DU yn aml wedi cael ei ystyried yn system ofal iechyd orau'r gwledydd datblygedig, ac mae’n rhaid inni weld ei werth. Cyn 2010, gwelwyd cynnydd o oddeutu 6 y cant gan y Llywodraeth Lafur, ac mae hyn yn adlewyrchu data o 2010 i 2013, sef cyn i’r tanariannu gael effaith sylweddol, ond rhwygwyd ffabrig ein cymdeithas gan gyni parhaus y Torïaid dros nifer o flynyddoedd. Ni chododd cyllid iechyd gyda chwyddiant nac angen, roedd codiadau cyflog yn isel, ar 1 y cant, ac roedd gweithwyr dan bwysau. Roedd y gwasanaeth yn fregus pan ddaeth COVID, gan gynyddu rhestrau aros i’r lefelau uchaf ers saith mlynedd, ac rydym yn dal i ddod dros hynny.
Fe wnaeth y toriadau cyni hynny wanhau a rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus hefyd, yn cynnwys gofal cymdeithasol, tai a gwasanaethau ataliol, fel diogelu'r cyhoedd a hamdden, hyd nes y bu bron iddynt chwalu. Mae iechyd yn ymwneud â mwy na'r GIG yn unig; mae'n ymwneud â mynediad at gyflogaeth deg, gwaith da, safon byw iach, cymunedau iach a chynaliadwy, bwyd da—Jenny—mynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu a'u canlyniadau, yn ogystal â mynd ar drywydd cynaliadwyedd amgylcheddol a chydraddoldeb iechyd gyda'i gilydd. Dyma egwyddorion Marmot gan Syr Michael Marmot, yr arbenigwr iechyd cyhoeddus, sy'n cael eu mabwysiadu wrth i Gymru ddod yn genedl Marmot.
Ceir galw cynyddol oherwydd newidiadau demograffig. Mae llawer o bobl yn dewis dod i ogledd Cymru i ymddeol, er enghraifft, ac mae canlyniadau'n deillio o ordewdra, problemau iechyd cronig hirdymor, gwledigrwydd a phobl yn byw'n hwy, a'r angen am fuddsoddiad mewn technoleg newydd ac adeiladau. Ond nid yw hyn yn golygu bod yna argyfwng iechyd.
Diolch byth, flwyddyn yn ôl, newidiodd Llywodraeth y DU, gan agor y tapiau. Mae rhestrau aros yn lleihau. Mae gennym ganolfan orthopaedig newydd yn cael ei hadeiladu yng ngogledd Cymru a fydd yn trawsnewid gwasanaethau orthopaedig dewisol ac yn darparu manteision i gleifion, staff a chymuned ehangach y gogledd drwy gyflawni 1,900 o driniaethau a gynlluniwyd y flwyddyn. Mae gennym hefyd welyau mynediad, rhyddhau ac adfer yn agor mewn cyfleuster newydd yn y Fflint, cyfleusterau cymunedol newydd yn Ninbych a Bangor, ac eleni, gobeithio, buddsoddiad yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld newid gwirioneddol a chadarnhaol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda sefydlogrwydd wedi'i addo o dan arweinyddiaeth newydd. Bydd yn cymryd peth amser i gyrraedd lle mae angen inni fod. Mae'r bwrdd iechyd yn sefydliad ambarél mawr a chymhleth ac mae'n cymryd amser i wreiddio newid. Ond diolch i Lywodraeth Lafur Cymru, rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol i gynyddu lefelau recriwtio i'r bwrdd iechyd, yn ogystal ag ysgol feddygol gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, a hyfforddiant nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y cyfleusterau meddygol newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. [Torri ar draws.] Fodd bynnag, mae lefelau cadw staff yn parhau i fod yn broblem wrth i forâl barhau i gael ei effeithio.
Diolch. Rwy'n clywed eich apêl angerddol am fwy o fuddsoddiad yn ein GIG, ac ni fyddwn yn anghytuno â hynny, ond pam mai Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru, oedd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig erioed i dorri cyllideb y GIG, os yw ariannu ein GIG mor bwysig?
Iawn. A gaf i ddweud, roeddwn yn gynghorydd ar y pryd? Ac un flwyddyn, iawn, aeth arian i ofal iechyd cymdeithasol am ei fod ar ei liniau. Nawr, nid y gwasanaeth iechyd gwladol, y GIG, yn unig yw iechyd; mae hefyd yn cynnwys gofal iechyd cymdeithasol. Roedd ar ei liniau oherwydd cyni a thoriadau gan y Ceidwadwyr i wasanaethau cyhoeddus. Diolch yn fawr iawn.
Mae angen inni edrych hefyd ar amodau gwaith, darparu oriau mwy cyfeillgar i deuluoedd a rhannu swyddi, yn hytrach na'r sifftiau treigl 12 awr. Mae angen inni edrych hefyd ar lety i staff, fel y gallwn gyflogi pobl ac fel y gallant fyw yn yr ardal hefyd. Mae'n anodd recriwtio pan nad oes tai ar gael. Mae angen dull system gyfan.
Rwy'n gwrthod lladd ar ein GIG gwych. Rwy'n falch iawn ei fod gennym yma. Os yw gwleidyddion yn parhau i ladd ar y bwrdd iechyd, bydd yn parhau i'w chael hi'n anodd recriwtio pobl. Y GIG yw ei staff. Mae'n ofnadwy o ddigalon. Rhaid inni ddathlu eu hymdrechion a'u llwyddiannau a pheidio ag anghofio'r nifer o bobl sy'n derbyn gofal rhagorol ddydd ar ôl dydd. Nid wyf byth yn clywed am y gwaith gwych sy'n digwydd. Gwn fod pob un ohonom yn cael gwaith achos pan fydd sefyllfaoedd yn mynd yn wirioneddol ddrwg i bobl, ond nid ydym byth yn clywed am y pethau cadarnhaol. Mae angen inni siarad amdanynt. Rhaid inni ddiogelu gofal iechyd sy'n rhad ac am ddim lle caiff ei ddefnyddio a gwneud y buddsoddiad angenrheidiol i sicrhau bod ein GIG yn gynaliadwy.
Rwy'n bryderus iawn fod y Ceidwadwyr a Reform yn credu bod mwy o doriadau y gellir eu gwneud i'n gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw hynny'n wir. Nid ceisio ei wanychu fel mai preifateiddio yw'r unig opsiwn yw'r dull cywir. Mae'r bwrdd iechyd yn wynebu heriau parhaus, ac mae'n cydnabod bod pobl yn rhwystredig ac yn bryderus ynghylch amseroedd aros, ond mae bwrdd Betsi wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar leihau rhai o'r amseroedd aros i'r bobl sy'n aros hiraf, a bydd yn parhau i flaenoriaethu torri amseroedd aros wrth inni symud ymlaen. Mae hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae £120 miliwn wedi'i ddyrannu i leihau amseroedd aros a rhestrau aros yn gyffredinol. Diolch.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ac ymuno â fy nghyd-Aelodau i alw am ddatgan argyfwng iechyd. Rwy'n awyddus i ddadlau'r achos dros y rheswm pam fod y sefyllfa yn ein gwasanaeth iechyd yn argyfwng ac y dylai fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Hoffwn siarad dros fy etholwyr, dros gleifion, ac fel cyn-weithiwr GIG, dros ein gweithwyr gofal iechyd, sy'n wynebu mwy na heriau'n unig.
Mae GIG Cymru mewn argyfwng, ac yn fy etholaeth i, ni allai'r argyfwng hwnnw fod yn gliriach nag yn Ysbyty Glan Clwyd. Gan Ysbyty Glan Clwyd y mae'r amseroedd aros gwaethaf yng Nghymru gyfan bellach, ac mae cleifion yn fy etholaeth yn aros am oriau yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys ac am flynyddoedd weithiau am lawdriniaethau cyffredin. Y bore yma, roedd cleifion yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn aros dros chwe awr, ac mae hynny ar ddiwrnod da. Y tu ôl i bob un o'r ystadegau hyn, mae unigolyn go iawn, ac rwy'n clywed straeon brawychus yn fy nghymhorthfeydd etholaethol gan gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae 790,000 o lwybrau gofal yng Nghymru, gyda 200,000 ohonynt, sy'n nifer syfrdanol, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r sefyllfa i blant yr un mor ddifrifol, gyda 481 o rai dan 18 oed ym mwrdd Betsi bellach yn aros dros ddwy flynedd am ofal, rhan o'r cynnydd o 1,016 y cant yn y rhestrau aros pediatreg cymunedol ers 2018.
Ni allwn barhau fel hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng natur a hinsawdd; mae angen inni ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru nawr. Yn wahanol i'r argyfyngau natur a hinsawdd ffasiynol a hyrwyddir gan y sefydliad, nid yw'r argyfwng hwn yn atyniadol ond mae'n galw am gamau brys, ac mae'n golygu mwy o farwolaethau y gellir eu hatal, dioddefaint hirfaith ac erydu ymddiriedaeth yn y GIG: canlyniadau go iawn i bobl go iawn yn datblygu bob dydd yn ein cymunedau. Mae datgan argyfwng iechyd yn gyfaddefiad gonest fod y system yn methu a bod angen rhoi mesurau eithriadol ar waith.
Mae a wnelo hyn â chynnal y lefel o urddas y mae pobl yn ei disgwyl gennym. Ni ddylai unrhyw un yn un o wledydd datblygedig y byd orfod dioddef yr amseroedd aros y mae pobl Cymru wedi gorfod eu dioddef o dan GIG Cymru. A phe baem yn symud i'r cyfeiriad iawn, efallai y byddwn yn teimlo'n wahanol, ond nid ydym, gyda hyd at 9,600 o bobl yn aros am ddwy flynedd ym mwrdd Betsi Cadwaladr a chynnydd o bron i 15 y cant o'r mis blaenorol.
Mae datgan argyfwng iechyd yn arwydd fod Llywodraeth Cymru yn malio digon i gymryd camau i roi iechyd y bobl o flaen cyfleustra gwleidyddol. Dywedir wrth bobl dro ar ôl tro y bydd pethau'n gwella. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am uchafswm aros o flwyddyn, llawdriniaethau ar lwybr cyflym, gwasanaeth meddyg teulu saith diwrnod, canolfannau llawfeddygol newydd a thîm adfer go iawn sy'n adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r rhain yn gamau pendant sy'n mynd y tu hwnt i dargedau a mwy o arian. Mae prif weithredwr GIG Cymru wedi galw am ymateb ar yr un lefel â'r ymateb i bandemig COVID-19, ac rwy'n cytuno, gan fod hwn yn argyfwng sy'n galw am ymateb tebyg.
Gan fod gennyf amser, rwyf am ymateb i'r sylw a wnaed gan yr Aelod dros Ogledd Cymru am Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych, gan ei fod wedi'i lastwreiddio'n llwyr o gymharu â'r hyn a addawyd i bobl y Rhyl a Phrestatyn yn wreiddiol dros 10 mlynedd yn ôl. Mae'r Aelod ei hun wedi bod yn gymharol dawel ynglŷn â'r mater hwn ers amser, gan iddo gael ei godi sawl gwaith yn Siambr y Senedd hon—[Torri ar draws.] Fe wnaf orffen fy mrawddeg. Ond mae cynnydd yn cael ei wneud, a nawr, mae'r Blaid Lafur yn ceisio cymryd arnynt eu bod wedi gwneud popeth yn iawn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Y gwir amdani yw nad yw'r hyn a addawyd i bobl y Rhyl a Phrestatyn dros 10 mlynedd yn ôl wedi'i gyflawni mewn gwirionedd, a'r oedi cyn adeiladu'r peth ei hun. Gwnaf, fe ildiaf.
Iawn. Y rheswm pam na lwyddodd i symud ymlaen oedd oherwydd costau chwyddiant a achoswyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Ni chawsom unrhyw gyllid cyfalaf nes i Lywodraeth Lafur y DU ddod i rym, ac mae rhywfaint o gyllid cyfalaf wedi'i ddarparu bellach i Lywodraeth Lafur Cymru, sy'n golygu bod cyllid cyfalaf ar gael. Felly, rwy'n gobeithio bod cyfle nawr i symud ymlaen ag ysbyty Alexandra.
Pan gafodd ei gynllunio'n wreiddiol, roedd yn ffracsiwn o'r gost, a phe bai'r ysbyty hwnnw wedi'i ddarparu fel yr addawyd ar y pryd, byddai wedi parhau i fod yn ffracsiwn o'r gost gyfredol. Ie, chwyddiant wrth gwrs, a bydd codiadau prisiau bob amser yn cynyddu, wrth gwrs y byddant. Dyna natur yr economi. Ond pe bai wedi'i ddarparu yn 2013, 2014 fel yr addawyd yn wreiddiol, byddent wedi cael yr ysbyty hwnnw fel yr addawyd am ffracsiwn o'i bris cyfredol. Dyna'r realiti, ac mae'r Blaid Lafur wedi methu ar ran fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd, a dyna pam y colloch chi'r sedd yn 2021 yn ôl pob tebyg.
Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd nawr i gyfrannu i'r ddadl. Jeremy Miles.

Diolch, Lywydd. Y prynhawn yma, rydym yn ymroi unwaith eto i hoff gêm yr wrthblaid, cicio'r GIG nes ei fod yn ddu-las. Y tro hwn, mae eu gêm bêl-droed wleidyddol gyda'r GIG wedi'i lapio nid yn yr un hen alwad am ymchwiliad cyhoeddus, ond mewn galwadau heddiw i ddatgan argyfwng iechyd. Ond Lywydd, yr un peth ydyw: gwrthblaid na all ond gweld y gwaethaf yn y GIG ac na all ganmol unrhyw beth, gan bigo a chrafu ar ffabrig y sefydliad gwerthfawr hwn y mae pob un ohonom yn dibynnu arno, lle mae staff gweithgar ac ymroddedig ledled Cymru yn darparu gofal gwych bob dydd, gofal sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pob un ohonom. Mae pob cyhuddiad, pob sarhad dan rith craffu, yn ergyd fawr i forâl staff.
Felly, gadewch inni gymryd saib o'r ymagwedd negyddol ddi-ildio hon i gydnabod peth o'r gwaith caled hwnnw heddiw. Diolch i waith caled—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
—ac ymroddiad staff y GIG y dywedir wrth y niferoedd uchaf erioed o bobl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
A ydych chi'n derbyn ymyriad, Weinidog?
Nac ydw.
Nid yw'r Gweinidog yn derbyn ymyriad.
Diolch i waith caled ac ymroddiad staff y GIG y dywedir wrth y niferoedd uchaf erioed o bobl nad oes ganddynt ganser bob blwyddyn. Mae cyfraddau goroesi canser am flwyddyn yn gwella. Mae cyfraddau goroesi clefyd y galon yn gwella. Mae arosiadau hir ar eu lefelau isaf yn nhymor y Senedd hon, gyda mwy i ddod. Mae gan fwy o bobl fynediad cyflymach at ofal iechyd meddwl, a rhai enghreifftiau gwirioneddol flaenllaw o ofal—y wlad gyntaf yn y DU i gynnig gwasanaeth profi iechyd rhywiol cyfrinachol ar-lein, i newid y gyfraith ar roi organau, i gyflwyno '111, pwyso 2'. Mae diwygiadau gofal sylfaenol yn trawsnewid gofal fel bod mwy o bobl yn cael eu gweld yn agosach at adref heb fod angen atgyfeiriad i'r ysbyty. Ac mae canolfan llosgiadau a llawfeddygaeth blastig de Cymru yn Abertawe yn darparu gofal sy'n newid bywydau i bobl ledled Cymru, a rhannau helaeth o dde Lloegr.
Clywais lefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn dweud ar o leiaf ddau achlysur, 'Os nad yw hynny'n argyfwng, nid wyf yn gwybod beth sydd'. Felly, gadewch imi ddweud wrtho beth yw argyfwng iechyd: COVID, brech M, rhyfel, terfysgaeth. A bydd y cyhoedd yn edrych ar y ddadl hon ac yn gweld ynddi—yn gywilyddus, ar fater mor bwysig—ei bod wedi'i sbarduno gan slogan ac nid gan sylwedd.
Rwy'n ymwybodol iawn fod yna broblemau y mae angen eu datrys yn y GIG. Mae llawer o achosion lle mae gofal wedi methu cyrraedd y safonau uchel yr ydym wedi'u gosod. Mae crwneriaid, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac eraill wedi tynnu sylw at ble mae hyn wedi digwydd ac rydym wedi cael adborth a chwynion gan unigolion hefyd. Ac rwyf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r problemau hyn, gydag arweinwyr y GIG, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal a chanlyniadau gwell. Ond Lywydd, nid argyfwng iechyd yw hynny. Rwyf wedi cyhoeddi swm uchelgeisiol o £120 miliwn i barhau i leihau amseroedd aros a'r rhestr aros eleni—cynlluniau i Gymru fynd i'r afael ag achosion sylfaenol afiechyd, i gau'r bwlch anghydraddoldeb iechyd sy'n amddifadu cymaint o bobl o fywyd hirach ac iachach, pethau y mae'r Torïaid yn eu hystyried yn ymrannol ac yn ddibwys.
A beth yw eich barn chi am ein cynlluniau i helpu i reoli a mynd i'r afael â gordewdra, a allai, os na chaiff ei reoli, achosi ton o alw a goddiweddyd ysmygu fel prif achos afiechyd ataliadwy yng Nghymru? Wel, wrth gwrs, nid ydynt yn hoffi hynny ychwaith. Mewn gwirionedd, fe wnaethant bleidleisio yn erbyn rheoliadau hanfodol a fydd yn dechrau mynd i'r afael â hyrwyddo dirwystr ac argaeledd bwydydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr, yn union fel y gwnaethant bleidleisio yn erbyn ein cyllideb, gan wrthwynebu cynnydd i gyllid rheng flaen y GIG, yn cynnwys codiad cyflog i staff y GIG. Mae'n amlwg fod hon yn wrthblaid sy'n benderfynol o fyw yn driw i'w henw ac chwyno am bob cam a gymerwn i gefnogi ein GIG, i gydsefyll gyda staff ein GIG, i wella mynediad at wasanaethau'r GIG, ac i wella canlyniadau i bobl Cymru.
Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Cefais fy synnu’n llwyr gan ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd yn hunanfodlon iawn yn fy marn i ac yn anwybyddu’r argyfwng y mae ein GIG ynddo ac y mae pob un ohonom yn ei weld bob dydd o’r flwyddyn. A dweud y gwir, mae hon yn Llywodraeth Lafur sydd wedi rhedeg allan o syniadau, sydd wedi chwythu ei phlwc, sy’n gwneud cam â chleifion ac sy'n gwneud cam â staff ein gwasanaeth iechyd gwladol hefyd.
Dewch inni edrych ar y ffeithiau. Rydym wedi sôn am rai ohonynt heddiw ac wedi eu clywed yn barod, ond mae'n werth atgoffa ein hunain yn eu cylch cyn inni wasgu ein botymau i bleidleisio. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, mae yna debygolrwydd o 50:50 y bydd ambiwlans yn cyrraedd mewn pryd mewn sefyllfa bywyd a marwolaeth. Mae cleifion yn marw wrth aros am oriau i barafeddygon gyrraedd. Ac os ydynt yn ddigon ffodus i gael ambiwlans, maent wedyn yn marw y tu allan i ddrysau'r ysbyty, wrth aros yn ddi-urddas yng nghefn ambiwlans am oriau lawer. Mae'r ychydig bobl sy'n cyrraedd drwy ddrws yr adran achosion brys yn eistedd ar seddi caled, plastig, anghyfforddus yn dihoeni mewn poen am oriau cyn iddynt gael eu gweld yn iawn er mwyn pennu eu sefyllfa a chael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.
Ar ben hyn, mae gennym wasanaeth deintyddol yng Nghymru sy'n methu ar ran llawer o'n cleifion hefyd. Rhaid i bobl dynnu eu dannedd eu hunain allan gyda gefel am na allant gofrestru gyda deintydd GIG, neu deithio'r holl ffordd i'r Alban o Gymru gan mai dyna'r unig le y gallant gofrestru gyda deintydd y GIG. Mae un o bob pedwar o bobl yng Nghymru ar restr aros y GIG, ac os ydych chi ar restr aros y GIG, rydych chi fwy na 500 gwaith yn fwy tebygol na thros y ffin yn Lloegr o aros am ddwy flynedd neu fwy. [Torri ar draws.] Mae targedau canser yn cael eu methu'n rheolaidd. Mae ein targedau amseroedd aros yn cael eu methu'n rheolaidd. Mae ein targedau perfformiad brys yn cael eu methu'n rheolaidd. Mae ein targedau ambiwlansys yn cael eu methu'n rheolaidd. Mae digwyddiadau critigol yn cael eu datgan gan ein gwasanaeth ambiwlans yn eithaf aml. Mae digwyddiadau critigol yn cael eu datgan yn ein hysbytai yn aml. Mae gennym weithwyr iechyd proffesiynol yn dweud wrthym nad oes gennym ddigon o welyau, nad oes gennym ddigon o staff oherwydd yr argyfwng recriwtio y mae'r Llywodraeth hon yn gwbl gyfrifol amdano.
Felly, nid 'A oes gennym argyfwng?' yw'r cwestiwn, gan fod gennym un; y cwestiwn yw pam ar y ddaear fod y Llywodraeth Lafur aflwyddiannus hon yn gwrthod derbyn bod argyfwng. Oherwydd os nad ydych chi'n derbyn bod argyfwng, ni fyddwch chi byth yn llwyddo i fynd i'r afael ag ef unwaith ac am byth. A dyna'r drasiedi i ni yma yng Nghymru. Mae gennym Lywodraeth Cymru sy'n gwrthod cydnabod yr argyfwng y mae ein GIG ynddo, ac felly ni fydd byth mewn sefyllfa i fynd i'r afael ag ef a'i unioni. Wel, dyna fyddwn ni'n ei wneud, o gael y cyfle fis Mai nesaf. Ac mae eich plaid chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn haeddu'r grasfa y bydd yn ei chael yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf. Oherwydd nid ydym yn cicio ein GIG, rydym yn cicio Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gwneud cam â'n GIG ac yn gwneud cam â'i staff.
Rwy'n mynd i ddod at rai o'r sylwadau. Onid yw'n rhyfeddol—[Torri ar draws.] Onid yw'n rhyfeddol fod gennym gyn-Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a ddatgelodd y gwir am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ein GIG pan ddywedodd fod gormod o welyau a gormod o ysbytai yma yng Nghymru? Tra bo gennym y meddylfryd hwnnw yn Llywodraeth Cymru, unwaith eto, nid ydym byth yn mynd i fynd i'r afael—[Torri ar draws.] A ddywedoch chi eich bod chi'n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad gennych, os hoffech chi ailadrodd eich honiad.
Rydych chi wedi cael sawl cais am ymyriad.
Do, ond rwy'n fwy na pharod i dderbyn yr un hwn. Dof at y lleill yn nes ymlaen. Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a hoffech chi wneud ymyriad?
Ewch yn eich blaen, Darren Millar.
Roeddwn yn credu fy mod i wedi'i glywed yn dweud ei fod yn iawn ynglŷn â hynny, ac roeddwn yn awyddus iawn i glywed beth fyddai'n ei ddweud i amddiffyn hynny. Ond fe ddywedaf hyn: os na wnewch chi wrando arnom ni, o leiaf gwrandewch ar y cleifion sy'n ysgrifennu at bob un ohonoch fel Aelodau o'r Senedd bob dydd. Gwrandewch ar eu profiadau hwy, oherwydd os gwrandewch arnynt hwy, nid oes unrhyw amheuaeth fod ein GIG mewn argyfwng. Gwrandewch ar y gweithwyr proffesiynol, yn cynnwys prif weithredwr y GIG yma yng Nghymru, a ddywedodd wrth y Prif Weinidog, pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, fod angen ymateb iechyd a gofal cymdeithasol arnom ar yr un lefel â'r ymateb i COVID-19. Roedd hi am i argyfwng gael ei ddatgan er mwyn inni allu mynd i'r afael â'r problemau yn ein gwasanaeth ambiwlans. Ni wnaeth ei ddatgan; fe anwybyddodd y galwadau penodol hynny. Felly, tra byddwch chi'n rhoi eich bysedd yn eich clustiau a'ch dwylo dros eich llygaid, mae pobl yn marw, maent yn mynd yn ddall, am nad ydynt yn cael y profion a'r driniaeth, ac rydym mewn sefyllfa lle na all pethau ond gwaethygu. Rwyf wedi cael dau gais am ymyriad. Fe dderbyniaf un gan Carolyn Thomas yn gyntaf ac yna Jenny Rathbone.
Onid ydych chi'n credu y gallai'r rhethreg hon atal pobl rhag ffonio am ambiwlans neu fynd i weld y deintydd wrth i chi godi'r bwganod hyn? Dyna pa mor bell rydych chi'n mynd. Ac os gwelwch yn dda, tynnwch eich sylwadau yn ôl: nid yw siarad am gicio yn dderbyniol yn y Siambr hon.
Rwyf bob amser wedi bod o'r farn fod angen inni fod yn onest ynglŷn â chyflwr ein gwasanaethau cyhoeddus, fel y gallwn fynd i'r afael â'r heriau ynddynt a'u datrys, nid gwadu bod yna broblemau, sef ymagwedd y Blaid Lafur, i bob golwg.
Rwy'n cael digon o ohebiaeth gan fy etholwyr am wasanaethau iechyd, ac rwy'n eu hateb ac yn cymryd camau sy'n eu galluogi i gael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt. Nid wyf byth yn clywed pobl yn dweud, 'Ni chefais unrhyw fudd o'r camau a gymerwyd gennych'.
Wel, rwy'n falch iawn o glywed mai dyna sut y mae hi arnoch chi. Yn anffodus, nid yw'n wir i bawb. Mae llawer o bobl yn y Siambr hon nad ydynt yn cael atebion boddhaol pan fyddant yn ysgrifennu at eu byrddau iechyd lleol, a dyna pam fod llawer o'n byrddau iechyd, mae arnaf ofn, yn destun lefelau uchel o ymyrraeth neu fesurau arbennig o ganlyniad i'r argyfwng y mae ein gwasanaeth iechyd ynddo.
Mae angen inni fod yn onest ynglŷn â maint yr heriau. Mae angen inni fod yn onest ynglŷn â'r ffaith bod peidio â chanolbwyntio ar y mater hwn wrth ganolbwyntio ar faterion eraill nad ydynt, a bod yn onest, yn flaenoriaeth i bobl Cymru, yn golygu bod arian a ddylai fod yn mynd i'n GIG yn cael ei ddargyfeirio at bethau eraill. Dyna pam ein bod yn credu—ac rwy'n falch o weld bod Plaid Cymru yn cytuno â ni—fod angen inni ddatgan yr argyfwng hwn yn ein gwasanaeth iechyd gwladol fel y gallwn ffocysu holl adnoddau'r Llywodraeth ar ddatrys y broblem hon. Oherwydd os nad oes gennym ein hiechyd, nid oes gan ein gwlad unrhyw beth. Rwy'n annog pobl i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cymerwn ni bleidlais, oni bai fod tri Aelod o'r Senedd eisiau i fi ganu'r gloch.
Fe wnawn ni symud ymlaen i'r bleidlais gyntaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar argyfwng iechyd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, yn ymatal neb, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Argyfwng iechyd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Felly, fe wnawn ni bleidleisio ar y gwelliant. Gwelliant 1 sydd yn gyntaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Argyfwng iechyd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8944 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru yn wynebu cynnydd yn y galw yn sgil newidiadau demograffig a goblygiadau lefelau gordewdra cynyddol a phroblemau iechyd cronig hirdymor, ond nid yw hyn yn golygu bod argyfwng iechyd.
2. Yn nodi'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn ac i wella iechyd pobl a gwella mynediad at ofal iechyd gan gynnwys:
a) £120m i leihau amseroedd aros a maint cyffredinol y rhestr aros;
b) newidiadau i'r contract meddygon teulu i ddarparu parhad yn y gofal i bobl â chyflyrau hirdymor; ac
c) Cymru yn dod yn Genedl Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Argyfwng iechyd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio y prynhawn yma.
Fe fyddwn ni yn symud ymlaen nawr i'r ddadl fer. Os gall Aelodau adael y Siambr, os ydyn nhw'n gwneud, yn dawel.
Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel, fe gaiff y ddadl fer heddiw ei chyflwyno gan Julie Morgan. Gallwch ddechrau.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nadl heddiw drwy sôn wrthych am fy etholwr Zach Stubbings, a fu farw ym mis Ionawr eleni yn 46 oed. Ganwyd Zach yng Nghaerdydd, ac ar ôl ei arholiadau TGAU, aeth ymlaen i wneud prentisiaeth gyda’r Llu Awyr Brenhinol. Fe wnaeth yn rhagorol ac roedd ar y brig yn ei ddosbarth. Aeth yn ei flaen i gysegru ei fywyd i wasanaethu yn yr RAF am 15 mlynedd.
Nid oedd Zach yn beilot, cafodd hyfforddiant deuol fel winshmon a gweithiwr winsh, a hedfanodd dros 2,000 awr ar hofrenyddion Sea King ar deithiau chwilio ac achub. Roedd y gwaith a wnaeth yn hynod o arbenigol. Roedd Zach wrth ei fodd â'i swydd ac roedd yn uchel ei barch ymhlith ei gyfoedion a'i gydweithwyr. Treuliodd amser mewn lleoliadau ledled y byd, gan gynnwys yn Cyprus, Hong Kong ac Ynysoedd Falkland, a threuliodd ran olaf ei yrfa yn RAF y Fali ar Ynys Môn.
Roedd Zach yn rhan o gyrchoedd achub peryglus i lifogydd yn Eryri a thros Fôr Iwerddon. Roedd hefyd yn rhan o'r criw a alwyd i helpu yn ystod trychineb bae Morecambe yn 2004, pan foddwyd 21 o gasglwyr cocos gan lanw cyflym. Roedd hefyd yn rhan o'r tîm a hyfforddodd y Tywysog William pan oedd wedi'i leoli yn RAF y Fali, gan gymryd rhan mewn cyrchoedd chwilio ac achub ar hofrenyddion Sea King.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Yn 2013, pan oedd yn gweithio yng ngogledd Cymru, datblygodd Zach frech. Roedd newydd gael siwt hedfan newydd wedi'i darparu ar ei gyfer, felly roedd yn meddwl mai adwaith i'r siwt newydd honno ydoedd. Gwnaed profion gwaed, a chafodd Zach y newyddion ofnadwy fod ganddo myeloma ymledol—math o ganser y gwaed. Ar wahân i'r frech, nid oedd gan Zach unrhyw symptomau eraill. Roedd yn hynod o heini ac iach a'r un mor ffit ag arfer, felly roedd y diagnosis yn sioc enfawr iddo ef a'i deulu. Dewisodd Zach ddelio â'i ddiagnosis yn ei ffordd gadarnhaol arferol, ac roedd yn bendant y byddai'n gwneud y gorau o'i fywyd.
Symudodd Zach i Lincoln a chafodd ei driniaeth ganser yn Nottingham. Cafodd drawsblaniad o'i fôn-gelloedd ei hun, proses lle maent yn tynnu bôn-gelloedd allan ac yna'n eu rhoi yn ôl i mewn. Dechreuodd wella'n araf a chafodd ei ryddhau ar sail feddygol o'r RAF, ond wedyn aeth i weithio i'r gwasanaeth chwilio ac achub sifil yng ngogledd Cymru. Ar ôl ychydig, penderfynodd drosglwyddo'n ôl adref i Gaerdydd, a dyma ble y cyfarfu ag Anna-Louise Bates, a fyddai'n dod yn wraig iddo yn 2020.
Bydd llawer ohonoch yn adnabod Anna-Louise. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf, Stuart, a'i mab ifanc, Fraser, mewn damwain car, penderfynodd Anna-Louise roi eu horganau gan arwain at achub llawer o fywydau yn sgil hynny. Sefydlodd Anna-Louise yr elusen Believe yn eu henwau, a nod yr elusen honno yw lledaenu ymwybyddiaeth o roi organau a darparu cefnogaeth i bawb yr effeithir arnynt gan roi organau. Gyda'i dewrder a'i chryfder arferol, mae Anna-Louise yn parhau â'r frwydr dros Zach. Roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig ein bod ni'n gwybod popeth am Zach a'i fywyd yn yr RAF a chydag Anna-Louise, cyn imi symud ymlaen at y rhan nesaf.
Ym mis Mehefin y llynedd, daeth Zach i fy ngweld i fel ei Aelod Senedd, oherwydd darganfu'r hyn y credai ei fod yn gysylltiad achosol rhwng ei ddiagnosis canser a'r mygdarth a anadlodd wrth weithio ar hofrenyddion yr RAF am 15 mlynedd. Roedd eisiau fy help gyda'i ymgyrch i ledaenu ymwybyddiaeth o'r cysylltiad hwn ac i helpu i gael cydnabyddiaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y canserau hyn yn cael eu hachosi gan y mygdarth gwenwynig sy'n dod o hofrenyddion yr RAF.
Sefydlodd Zach ei ymgyrch yn 2013 a darganfu nad oedd ar ei ben ei hun. Roedd llawer o gyn-filwyr eraill a oedd wedi gweithio ar hofrenyddion yr RAF fel y Sea King, ac eraill fel hofrenyddion Westland Wessex, Puma a CH-47 Chinook, hefyd wedi datblygu gwahanol fathau o ganser. Enw'r grŵp oedd Fly Hard, Fight Hard, ac roedd ganddo'r arwyddair 'shoulder to shoulder', ac fe'i sefydlwyd gyda thri chydweithiwr arall a oedd yn dioddef o ganser i ddarparu cefnogaeth a lledaenu ymwybyddiaeth.
Dechreuodd iechyd Zach waethygu'n raddol o tua hydref 2022, ond ni wanychodd ei benderfyniad a'i frwydr i sicrhau cyfiawnder. Nid ymladd drosto'i hun yn unig a wnâi, roedd yn ymladd dros bobl eraill a oedd wedi cael eu heffeithio hefyd. Yn wir, y llynedd roedd yn fodlon cyfarfod â mi a swyddog o adran lluoedd arfog Llywodraeth Cymru yn ei wely ysbyty. Yn anffodus, ychydig cyn y cyfarfod, dirywiodd iechyd Zach yn gyflym, felly ni ddigwyddodd y cyfarfod, a bu farw ym mis Ionawr.
Mae'r neges yn lledaenu erbyn hyn am y cysylltiad achosol tybiedig rhwng y mygdarth gwenwynig o hofrenyddion yr RAF a chyn-filwyr sy'n cael diagnosis o ganser. Ceir honiadau fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwybod am beryglon y mygdarth gwenwynig mor bell yn ôl â 1999, ond nid yw hyn wedi'i brofi'n bendant eto. Mae mwy na 180 o achosion wedi'u dwyn gan gyfreithwyr ar ran pobl ledled y DU yn erbyn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Hyd yma, mae chwe achos wedi'u setlo gan y Weinyddiaeth Amddiffyn y tu allan i'r llys, ac un o'r achosion hynny oedd un Zach, ond parhaodd i ymgyrchu dros eraill.
Cafodd hofrenyddion Sea King eu tynnu allan o wasanaeth yn 2018. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio hofrenyddion Westland Wessex yn 2003, ond mae'r hofrenyddion Puma a CH-47 Chinook yn dal i gael eu defnyddio. Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyfeirio at brofion blaenorol a gynhaliwyd ar hofrenyddion ar ran yr RAF nad oeddent yn dangos arwydd fod y criw awyr yn agored i lefelau peryglus o halogion, ac rwy'n ymwybodol hefyd o seithfed adroddiad y grŵp arbenigol meddygol annibynnol ar iawndal meddygol i'r lluoedd arfog a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf, sy'n dod i'r casgliad nad yw'r data presennol yn cyrraedd y trothwy ar gyfer achosiaeth. Fodd bynnag, dywedodd y cwmni cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o'r personél milwrol fod adroddiad wedi argymell y dylid addasu'r hofrennydd i ddargyfeirio'r mygdarth egsôst, ond honnodd fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu gweithredu ar yr argymhellion hyn.
Dywedodd Zach wrth Anna-Louise y byddai'n gyson yn sefyll yn y mygdarth egsôst o'r hofrenyddion yn ystod ei waith, a dyna oedd natur y swydd. Dywedodd y byddai ei helmed yn aml wedi'i gorchuddio'n llwyr â huddygl y byddai'n ei anadlu i mewn. Dim ond ym mis Chwefror eleni y dechreuodd y Weinyddiaeth Amddiffyn brofi allyriadau egsôst hofrenyddion a gâi eu defnyddio, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswydd gofal am bersonél.
Felly, beth y gallwn ni ei wneud yma yn y Senedd i helpu ymgyrch Zach? Mae angen inni ledaenu ymwybyddiaeth o'r cysylltiad posibl rhwng mygdarth gwenwynig o hofrenyddion a chyn-filwyr sy'n cael diagnosis o ganser. Mae angen inni addysgu meddygon teulu i fod yn ymwybodol o hanes milwrol unigolyn ac y gallai hyn arwain at gymhlethdodau yn ddiweddarach mewn bywyd. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i sgrinio ddigwydd yn gynt o lawer. Mae angen nodi'n glir i gyn-filwyr beth i'w wneud os cânt ddiagnosis o ganser. Mae angen addysgu ein recriwtiaid newydd am y peryglon posibl. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn a phwyso arnynt i ddatgelu nifer y cyn-filwyr a fu'n hedfan mewn hofrenyddion, a ddaeth i gysylltiad â mygdarth gwenwynig ac sydd wedi datblygu canser o ganlyniad. Mae hwn yn ddata sydd ei angen ar frys. Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn eisoes wedi dechrau'r broses, ond mae angen iddi weithredu'n gyflym am fod pobl yn marw. Rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fynd ar drywydd hyn gyda'i swyddog cyfatebol yn San Steffan i wneud dadansoddiad o faint o bobl yr effeithiwyd arnynt yn y modd hwn. Mae hefyd yn bwysig iawn fod y cyfarpar diogelu personol a ddefnyddir yn yr hofrenyddion gan bersonél sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd yn ddigonol.
Yn anffodus, nid yw Zach yma mwyach i barhau â'i ymgyrch dros gyfiawnder, felly mae arnom ddyletswydd iddo i barhau â'r hyn a gyflawnodd. Rwy'n falch fy mod wedi gallu gwyntyllu pryderon Zach heddiw a'u cofnodi yma yn Senedd Cymru. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A Julie, diolch am godi'r mater hwn ac am rannu stori drasig Zach, ac Anna-Louise hefyd. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ddathlu Wythnos y Lluoedd Arfog, a oedd yn gyfle inni ddiolch i bawb sy'n gwasanaethu, ein cyn-filwyr a'u teuluoedd am eu gwasanaeth. Ymwelodd y Prif Weinidog ag RAF y Fali gyda'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a minnau i gyhoeddi cynlluniau i gryfhau cyfamod y lluoedd arfog. Rydym yn croesawu hyn ac edrychwn ymlaen at gael rhagor o fanylion. Rydym yn gwbl ymrwymedig i egwyddorion y cyfamod, ac rydym yn cydnabod bod gwasanaeth yn gosod gofynion unigryw ar bobl, ac yn gyfnewid am hynny, ni ddylai beri anfantais i bobl.
Nawr, yr wythnos diwethaf, bydd yr Aelodau'n cofio fy natganiad yn y Siambr am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Mae'r ddadl fer hon yn gyfle pellach i gydnabod cyfraniad cymuned ein lluoedd arfog, ac yn enwedig yr holl rai sydd wedi hedfan yn rhan o wasanaeth chwilio ac achub yr RAF. Diolch i chi am eich gwasanaeth. Drwy RAF y Fali a'i hyfforddiant i weithredwyr chwilio ac achub, ac yn flaenorol pan oedd criwiau wedi'u lleoli mewn rhannau eraill o Gymru, roedd y Sea King yn bresenoldeb eiconig yn ein hawyr.
Julie, mae'r ddadl fer hon yn ymwneud â materion yr ydych wedi ysgrifennu ataf yn eu cylch yn ddiweddar, ac mae hefyd wedi cael sylw yn y cyfryngau, a hynny'n briodol. Rwy'n falch o weld bod y mater wedi cael ei adolygu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan ei grŵp arbenigol meddygol annibynnol, a'i fod yn cael ei ystyried gyda'r difrifoldeb mwyaf. Nawr, efallai nad ei ganfyddiadau yw'r hyn y mae'r rhai sy'n ymgyrchu yn ei geisio o ran y camau uniongyrchol nesaf. Ar hyn o bryd, nid yw'r grŵp arbenigol wedi dod o hyd i gysylltiad ac nid yw wedi gwneud argymhelliad ar gyfer sgrinio galwedigaethol o fewn y Llu Awyr Brenhinol. Fodd bynnag, mae iaith yr adroddiad yn caniatáu'r posibilrwydd o ddatblygu corff o dystiolaeth. Mae byddin yr Unol Daleithiau wedi cynnal adolygiadau yn y maes hwn ac wedi cyrraedd safbwynt tebyg, gan argymell astudiaethau pellach.
Nawr, mae gofal meddygol ac iechyd galwedigaethol i'r rhai sy'n gwasanaethu yn un o gyfrifoldebau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda thriniaeth yn cael ei darparu drwy'r Gwasanaeth Meddygol Amddiffyn a thrwy'r GIG hefyd. Mae setlo pob hawliad, iawndal am anafiadau neu gyflyrau a gafwyd o ganlyniad i'r gwasanaeth hefyd yn un o'u cyfrifoldebau, ond gallwn ychwanegu ein lleisiau o Gymru, adlewyrchu'r hyn a glywn ac a welwn, ac rydym yn iawn i godi pryderon a phwyso am sicrwydd pan fydd cyfrifoldeb am y materion hyn mewn mannau eraill. Mae'r ddadl hon ei hun yn gyfle i godi pryderon, ac rwy'n hapus i godi'r llais hwn o Gymru eto gyda'r Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd iawn, ac rwy'n hyderus fod gennym rywun yn y swydd sydd â chyn-filwyr a buddiannau eu teuluoedd yn agos at ei galon. Y Gweinidog Al Carns yw'r Aelod Seneddol mwyaf medalog o fewn cof, ac mae'n rhywun y gwn fod ganddo angerdd gwirioneddol dros gefnogi a sicrhau cyfiawnder i gyn-filwyr.
Hoffwn droi at gyn-filwyr a'r gwasanaeth iechyd. Mae gennym gyfrifoldeb i ddangos parch dyladwy at gymuned y lluoedd arfog mewn perthynas â gofal iechyd. Rydym am i'n GIG ddarparu gwasanaethau rhagorol i bawb, ac o fewn hynny, rydym yn cydnabod y gallai fod heriau penodol yn wynebu cymuned y lluoedd arfog. Mae ein cynllun meddygon teulu sy'n ystyriol o gyn-filwyr yn rhan bwysig o hynny, gan ddatblygu eu hymwybyddiaeth o gyn-filwyr a nodi gwasanaeth blaenorol fel cod ar gofnodion GIG.
I gloi, hoffwn gydnabod dewrder pawb sy'n ymgyrchu ar ran eraill, yn enwedig pan fyddant yn delio â'u problemau iechyd eu hunain, ac mewn rhai achosion, eu colledion eu hunain. Mae dewrder a dycnwch yn rhinweddau y credaf y byddai pawb ohonom yn hoffi eu cael, ac mae gweld eraill yn arddangos priodoleddau o'r fath yn gwneud i rywun deimlo'n ostyngedig iawn. Julie, diolch am gyflwyno'r ddadl fer hon a dangos eich cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, sy'n rhoi cymaint i gadw ein gwlad yn ddiogel mewn byd ansicr iawn. Diolch.
Diolch i chi'ch dau am eich cyfraniadau.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:41.