Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/06/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da, bawb, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.

Cwmnïau Rheoli Eiddo

1. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i reoleiddio cwmnïau preifat sy'n rheoli anheddau? OQ62884

Diolch. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau rheoleiddio effeithiol ar weithgarwch cwmnïau sy'n rheoli eiddo preswyl. Mae Rhentu Doeth Cymru yn rheoleiddio gweithgarwch cwmnïau sy'n rheoli anheddau preswyl preifat. Bydd ein Bil diogelwch adeiladau sydd ar y ffordd yn cyflwyno rheoleiddio ar y rhai sy'n rheoli risg diogelwch adeiladau, ac rwy'n archwilio rheolaethau ar y rhai sy'n gyfrifol am reoli blociau lesddaliad ac ystadau a reolir yn breifat.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn 2022, roedd trigolion Dol Hendre yn Nhywyn yn talu oddeutu £550 o dâl gwasanaeth bob chwe mis. Mae cwmni rheoli newydd yno bellach ac maent wedi cynyddu'r taliadau i bron i £1,000 bob chwe mis. Mae trigolion yno'n teimlo'n gaeth. Maent yn gorfod parhau i dalu taliadau cynyddol neu wynebu'r posibilrwydd o gamau cyfreithiol. Mae'r cynnydd mewn taliadau gwasanaeth wedi rhoi straen ariannol sylweddol ar gymuned sydd at ei gilydd yn hŷn, wedi ymddeol neu wedi ymddeol yn rhannol. Mae dryswch a phryder ynghylch ble y mae arian y tâl gwasanaeth yn cael ei ddyrannu. Nid yw Dol Hendre yn enghraifft ynysig ac mae hyn yn digwydd ledled Cymru. Gwn nad ydych yn hoff o gapiau rhent, ond onid ydych chi'n credu bod yn rhaid cymryd camau i gyfyngu ar y codiadau afresymol a welir mewn taliadau gwasanaeth gan gwmnïau rheoli?

Diolch, Mabon. Diolch am godi hynny ar ran eich etholwyr. Credaf ein bod eisoes wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i sicrhau ein bod yn rheoleiddio gweithgarwch cwmnïau sy'n rheoli adeiladau preswyl yn effeithiol ledled Cymru. Er enghraifft, mae cyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gosod gofyniad statudol ar landlordiaid i sicrhau bod cartrefi'n addas i bobl fyw ynddynt. Rwyf hefyd yn gwneud diwygiadau sylweddol i daliadau gwasanaeth a materion lesddaliad pwysig eraill sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, ond mae gennyf ddiddordeb mewn mynd ymhellach—er enghraifft, cyflwyno cymwysterau gofynnol penodol ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â gweithgarwch rheoli. Byddaf yn ymgynghori ar y materion hynny cyn bo hir.

Mae busnesau preifat sy'n gweithredu yn y sector rhentu eisoes yn destun gofynion statudol mewn perthynas â'u gweithgarwch rheoli, ond rwy'n parhau i edrych ar sut y gellir cryfhau'r rhain. Er enghraifft, roedd ein Papur Gwyn diweddar ar dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd yn cynnwys nifer o fesurau i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd yn y sector rhentu preifat.

Er na allaf wneud sylwadau ar achos penodol, mae croeso ichi ysgrifennu ataf gyda manylion pellach ynglŷn â hynny.

Gwasanaethau Tân ac Achub

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella diwylliant y gweithle a safonau rheoli a llywodraethu yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru? OQ62852

Diolch, Sioned. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau tân ac achub i sicrhau cynnydd yn erbyn y materion sy'n peri cryn bryder a amlygwyd yn yr adolygiadau diwylliannol annibynnol diweddar. Rwyf wedi ymrwymo cyllid i gefnogi'r gwelliannau hyn ar draws y tri gwasanaeth. Byddaf yn ymgynghori'n ffurfiol ar gynigion diwygio llywodraethu yn ystod yr haf.

Diolch yn fawr. Fel y dywedwch, rydym wedi cael y canfyddiadau hynny sy'n peri pryder mawr, onid ydym, yn yr adolygiadau diwylliant? Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd adolygiad diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr fod y diwylliant naill ai wedi marweiddio neu wedi dirywio, gyda llawer yn disgrifio'r gwasanaeth fel clwb bechgyn gweithredol, gyda chysylltiadau personol yn ffafrio nepotistiaeth, ffafriaeth a diffyg atebolrwydd. Er y bu cynnydd mewn rhai meysydd, nododd staff fod amodau'n gwaethygu mewn agweddau allweddol fel tryloywder, arweinyddiaeth ac ymddygiad, gan adleisio pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wyf yn aelod ohono. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at fethiannau difrifol yn y ffordd y darparai'r awdurdod tân oruchwyliaeth.

Rwyf wedi cael gohebiaeth gan sawl etholwr sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth tân ac wedi rhannu eu profiadau gyda mi. Er enghraifft, disgrifiodd un etholwr fethiannau yn y broses gwyno, gan gynnwys agwedd ddiystyriol tuag at honiadau ynglŷn ag uwch-swyddogion. Teimlai un arall, ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth, fod yn rhaid iddynt ymddiswyddo ar ôl i'w cais i weithio'n wahanol gael ei wrthod—cais i weithio'n wahanol am fod plentyn wedi'u geni â chyflwr iechyd difrifol. Felly, pa gamau pendant rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod argymhellion yr adolygiad hwn yn cael eu rhoi ar waith yn llawn a bod y pryderon hirsefydlog hyn, sy'n parhau yn ôl pob golwg ac y mae staff wedi'u codi gyda mi, yn cael eu datrys o'r diwedd? Diolch.

13:35

Diolch, Sioned. Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau tân ac achub i sicrhau cynnydd yn erbyn y materion hynny sy'n peri cryn bryder a amlygwyd yn yr adolygiadau diwylliant annibynnol diweddar. Unwaith eto, hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi codi llais, a'r rhai sy'n parhau i godi llais gyda chi. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r cadeiryddion, comisiynwyr de Cymru a phrif swyddogion tân i drafod y materion hyn. Rwyf wedi gofyn i bob gwasanaeth tân ac achub ddarparu diweddariadau rheolaidd ar ddatblygiad a chyflawniad eu cynlluniau gwella diwylliant yn y fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub. Mae'n rhywbeth rwyf wedi ei fynnu. Darparwyd y cyntaf o'r diweddariadau hynny ym mis Mai, a byddant yn parhau.

Rwyf wedi ymrwymo cyllid o £350,000 i gefnogi gwelliannau i ddiwylliant ym mhob un o'r tri gwasanaeth tân ac achub. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer rhaglen gynhwysfawr i ddatblygu arweinyddiaeth, hyfforddiant i wella'r ffordd y caiff achosion disgyblu a chwynion eu trin, a phecyn hyfforddi a datblygu newydd ar gyfer aelodau'r awdurdod. Felly, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi awdurdodau tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru a gogledd Cymru i sefydlu paneli sicrwydd unigol, gydag arbenigwyr allanol priodol yn cael eu penodi. Felly, mae cynnydd yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn cael ei fonitro'n agos gan swyddogion, drwy eu cyfarfodydd misol gyda'r comisiynwyr, drwy fwrdd goruchwylio ymyrraeth. Felly, rwyf bellach wedi cwblhau rhan ymgysylltu'r rhaglen gyda rhanddeiliaid ar gynigion ar gyfer diwygio llywodraethu. Mae hynny wedi cynnwys trafodaethau manwl gyda'n fforwm partneriaeth gymdeithasol, a byddaf yn dechrau'r cynigion ymgynghori yn yr ychydig wythnosau nesaf.

Weinidog, ymwelais â gorsaf dân y Barri yn ddiweddar a gwelais pa mor wych yw'r gwaith y mae'r diffoddwyr tân hynny'n ei wneud. Maent yn mentro eu bywydau, fel y gwelsom, yn drasig, yn Lloegr yn ddiweddar, gyda diffoddwr tân yn marw yno mewn digwyddiad. Mae'n hanfodol bwysig cynnal hyder pobl yn y gwasanaeth tân, ac er fy mod yn croesawu'r adolygiadau a gomisiynwyd gennych i sicrhau bod arferion gwael yn cael eu dileu, mae'n wirioneddol bwysig rhoi gweledigaeth a golwg gadarnhaol o'r gwasanaeth tân, fel bod y diffoddwyr tân hynny yn y Barri, a ledled Cymru, yn teimlo eu bod yn aelodau gwerthfawr o'r gwasanaethau brys, ac yn y pen draw, yn gwneud gwaith gwych.

Diolch, Andrew. Diolch am hynny. Mae diogelwch diffoddwyr tân a diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig. Rwy'n falch eich bod wedi gallu ymweld â gorsaf dân y Barri. Rwyf wedi cael cyfle i ymweld â gorsaf Trelái a chyfarfod â rhai o'r diffoddwyr tân yno, a'r cadetiaid hefyd. Mae'r diffoddwyr tân yn gwneud gwaith anhygoel wrth weithio gyda chadetiaid a diffoddwyr tân y dyfodol, gobeithio. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gweithio'n galed drwy ein fforwm partneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod gennym gynigion ar gyfer y diwygio llywodraethu yr hoffem ei weld yn cael ei weithredu, ac i sicrhau yr eir i'r afael â'r holl broblemau a'r materion difrifol sy'n peri pryder a godwyd drwy'r adolygiadau diwylliant hynny, ac yr eir i'r afael â hwy yn iawn. Ond yn bendant, hoffwn dalu teyrnged i'r diffoddwyr tân sy'n mentro eu bywydau ddydd ar ôl dydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r dreth gyngor yn codi'n uwch ac yn uwch yma yng Nghymru ac yn rhoi pwysau ychwanegol enfawr ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes o dan bwysau. Gwyddom fod cynghorau'n wynebu anawsterau, ond nawr bydd yn rhaid i drethdalwyr dalu am godiadau cyflog sylweddol o 3.2 y cant i brif weithredwyr cynghorau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Rydym eisoes mewn sefyllfa lle mae rhai penaethiaid cynghorau yn ennill symiau tebyg neu hyd yn oed mwy na'r Prif Weinidog, neu hyd yn oed Prif Weinidog y DU, a nawr mae'r cyflogau hyn ar fin codi eto. A ydych chi'n cytuno â mi fod hyn yn eithaf anodd ei gyfiawnhau, ac onid yw'n bryd ichi ystyried rhoi cap ar y cyflogau hyn? Diolch.

Diolch, Laura. Mae tryloywder o ran cyflogau, yn enwedig cyflogau uwch-swyddogion, yn y sector cyhoeddus yn bwysig er mwyn cynnal ymddiriedaeth. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gosod cyflogau ei uwch-swyddogion, gan gynnwys y prif weithredwr. Cyhoeddir cyflogau'r prif weithredwr ac uwch-swyddogion eraill yn flynyddol yng nghyfrifon pob awdurdod, ac mae'n rhaid i unrhyw swydd newydd gyda chyflog o dros £100,000 gael ei chymeradwyo gan y cyngor llawn.

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod ni eisiau pobl dalentog i arwain ein hawdurdodau lleol. Maent yn gyrff cymhleth gyda chyfrifoldebau enfawr, ond nid oes unrhyw gyfiawnhad dros dalu symiau tebyg i Brif Weinidog un o wledydd y G7 i brif weithredwyr. Mae chwyddiant a phwysau arall ar gyllidebau cynghorau yn real, ac mae'n bwysig cydnabod na ddylai'r twf yng nghyflogau uchaf neuaddau tref fod yn bwysau ychwanegol ar gyllidebau. Gwyddom fod nifer y gweithwyr cynghorau yng Nghymru sy'n ennill cyflog o dros £100,000 wedi codi dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf i o leiaf 186. Mae'r rhain yn gyflogau na allai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ond breuddwydio amdanynt, ac eto gofynnir iddynt eu hariannu. Yn fy rhanbarth i, rydym wedi gweld canolfannau hamdden yn cau, llyfrgelloedd yn cau, ac rydym wedi gweld darpariaeth cludiant i'r ysgol yn lleihau wrth i gynghorau osod eu cyllidebau. Ac ni all fod yn iawn fod yn rhaid i'r bobl hyn ddewis rhwng canolfannau hamdden a llyfrgelloedd a thalu mwy mewn treth, tra bo penaethiaid neuaddau tref hefyd yn ennill cyflogau na allent ond breuddwydio amdanynt. Felly, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i weithio gyda'r awdurdodau lleol i roi mesurau ar waith fel y gellid cael rhywfaint o reolaeth ar y cyflogau uchaf hyn? A beth yw eich neges i bobl yn ein rhanbarthau sydd wedi gweld gwasanaethau'n cael eu torri ond sydd hefyd yn gorfod ariannu mwy a mwy o'r cyflogau uchaf hyn?

13:40

Diolch, Laura. O ran y pwysau ar awdurdodau lleol, i'ch atgoffa, mae'r cyni rydym wedi bod drwyddo dros y 14 mlynedd diwethaf wedi rhoi llawer iawn o bwysau ar ein hawdurdodau lleol. Rydym wedi gwneud popeth o fewn y pwerau sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i ddiogelu awdurdodau lleol drwy gydol y cyfnod hwnnw, ond mae wedi bod yn anhygoel o anodd, ac mae awdurdodau lleol yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ar ôl y 14 mlynedd o gyni.

Mae prif weithredwyr awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am sefydliadau mawr a chyllidebau o gannoedd o filiynau o bunnoedd. Mae craffu lleol ar gyflogau yn rhan bwysig o sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei osod yn erbyn y cyd-destun hwnnw. Felly, mae pob awdurdod lleol yn cyhoeddi datganiad polisi cyflog blynyddol, gan nodi ei bolisi ar gyflogau a thaliadau, yn cynnwys manylion y trefniadau ar gyfer ei uwch-swyddogion, a chaiff hynny ei gymeradwyo gan y cyngor llawn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod gennych rôl i'w chwarae, serch hynny, efallai, fel yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol, o ran y cyflogau hyn yn mynd allan o reolaeth nawr, gyda phobl yn cael eu talu mwy na Phrif Weinidog un o wledydd y G7.

Ond Ysgrifennydd y Cabinet, dro ar ôl tro, rydym yn clywed Llywodraeth Cymru yn sôn am ei hymrwymiad i adeiladu mwy o gartrefi, ond y gwir amdani yw nad ydynt yn cael eu hadeiladu'n ddigon cyflym i ateb y galw. Yn ôl yr adroddiadau perfformiad diweddaraf, dim ond 19 y cant o awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru sy'n cyrraedd y targed i benderfynu ar geisiadau cynllunio o fewn yr amserlen a ffafrir. Mae hynny'n ostyngiad syfrdanol o 27 y cant o'r flwyddyn flaenorol. Gadewch inni fod yn glir, nid biwrocrataidd yn unig yw'r oedi hwn, mae'n atal darpariaeth cartrefi y mae eu hangen yn daer ar draws ein cymunedau. Mae datblygwyr, cymdeithasau tai a hyd yn oed y cynghorau lleol eu hunain yn cael eu llesteirio gan systemau cynllunio araf ac anghyson. Gyda dros 90,000 o bobl ar restrau aros am dai yng Nghymru, nid yn unig fod hyn yn rhwystredig, mae'n annerbyniol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd i wella cyflymder penderfyniadau cynllunio lleol ledled Cymru? Yn fwyaf arbennig, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu offer digidol modern a systemau wedi'u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial i symleiddio'r broses gynllunio, lleihau ôl-groniadau a darparu'r cartrefi y mae cymaint o'u hangen ar bobl? Diolch.

Diolch, Laura. Wel, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi bron i £2 biliwn yn nhymor y Senedd hon, sef y buddsoddiad mwyaf erioed, ac mae hynny wedi galluogi'r lefel uchaf erioed o ddarpariaeth. Bydd yn golygu y bydd gan fwy o bobl ledled Cymru fynediad at y cartrefi rhent cymdeithasol sydd eu hangen arnynt. Bydd gennym y gyllideb flynyddol fwyaf erioed o £411 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol ym mlwyddyn ariannol 2025-26, a dyna £81 miliwn ychwanegol o'i gymharu ag eleni.

Gwyddom fod angen mwy o gartrefi arnom, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu, ynghyd â'r sector. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn hyn o beth, ac roedd hynny'n rhywbeth a gydnabuwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y tasglu tai fforddiadwy. Derbyniais yr holl argymhellion rwy'n gyfrifol amdanynt, ac rwy'n awyddus iawn inni wneud popeth yn ein gallu. Rydym yn parhau i wthio hyn yn ei flaen cymaint ag y gallwn, gan weithio gydag eraill, gan fod hyn yn sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac nid yn unig yn nhymor y Llywodraeth hon, ond gwyddom y bydd angen mwy o gartrefi arnom yn y dyfodol hefyd. Felly, mae a wnelo â gwneud y gwaith nawr ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Ac rwy'n falch iawn o'r prosiectau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddwn yn fwy pryderus pe na bai'r prosiectau hynny ar y gweill. Ac unwaith eto, gyda'r prosiectau hynny, eleni unwaith eto fe roesom £10 miliwn ychwanegol tuag at ddatblygu 16 o gynlluniau tai fforddiadwy newydd ledled Cymru hefyd. Felly, rydym bob amser yn ceisio gwneud yr hyn a allwn. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd, ond yn bendant, mae hyn yn flaenoriaeth wirioneddol. Mae'r Llywodraeth yn buddsoddi'r lefelau uchaf erioed yn hyn.

13:45

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae adolygiad o wariant diweddar Llywodraeth y DU yn honni ei fod yn cymryd camau i adfer llywodraeth leol i sefyllfa ariannol gynaliadwy. Ond yma yng Nghymru, mae ein hawdurdodau lleol yn wynebu realiti gwahanol iawn. Er bod yr adolygiad yn brolio cynnydd o 3.1 y cant mewn termau real ym mhŵer gwario awdurdodau lleol ledled Lloegr, nid yw'r ffigur yn adlewyrchu'r sefyllfa yng Nghymru, lle mae cynghorau o dan fwy fyth o bwysau, gyda'r sefyllfa wedi'i gwaethygu gan fethiant Llywodraeth Lafur i'w digolledu'n llawn am y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Yn Lloegr, mae 100 y cant o'r gost yn cael ei thalu. Yng Nghymru, dim ond 86 y cant sy'n cael ei thalu. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i lenwi rhywfaint o'r bwlch hwnnw, ond mae awdurdodau lleol yn dal i wynebu diffygion parhaus gwerth miliynau o bunnoedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad y mae eich adran wedi'i wneud o effaith gronnol yr adolygiad o wariant hwn ar awdurdodau lleol Cymru a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, yn enwedig yng ngoleuni'r diffyg mewn perthynas â chyfraniadau yswiriant gwladol, sydd i bob pwrpas yn gofyn i gynghorau Cymru wneud iawn am  benderfyniadau a wnaed gan San Steffan?

Diolch, Peredur. Rydym wedi cael cyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy'n adeiladu ar y £1.6 biliwn a ddarparwyd yng nghyllideb yr hydref. Golyga ein bod yn gallu ymateb yn well i'n blaenoriaethau a chyflawni gwelliannau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. O'r adolygiad o wariant, gwyddom y byddwn mewn sefyllfa wahanol iawn i'r trywydd yr oeddem arno o dan Lywodraeth Geidwadol. Mae'n newyddion da fod Llywodraeth y DU, fel Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol a pharhaus mewn pethau fel tai cymdeithasol, ond rydym yn awyddus iawn i adeiladu ar y momentwm hwnnw.

O ran awdurdodau lleol ac yswiriant gwladol, cadarnhawyd swm y cyllid ar gyfer llywodraeth leol ddoe yn y gyllideb atodol. O ran yswiriant gwladol ac o ran dosbarthu'r cyllid hwn rhwng awdurdodau, mae'r is-grŵp dosbarthu wedi ystyried gwahanol ddulliau, ac maent yn disgwyl cadarnhau'r fethodoleg a argymhellir ganddynt dros yr wythnosau nesaf a sut y bydd y cyllid yn cael ei dosbarthu.

Iawn, diolch yn fawr. Diolch am eich eglurhad, ac fe arhosaf i glywed sut y caiff ei ddosbarthu, gan fod pob un ohonom yn ymwybodol o'r cymhlethdodau mewn llywodraeth leol. Ond mae a wnelo â'r ffaith bod diffyg o hyd, a'u bod yn gorfod gwneud mwy gyda llai.

Ond rwyf am symud ymlaen, Ysgrifennydd y Cabinet, at ran arall o'r adolygiad o wariant sy'n cadarnhau bod cyllideb gyfalaf Cymru ar i lawr. Erbyn 2029-30, bydd bron i 4 y cant yn is mewn termau real nag yn 2025-26. Ond beth y mae hynny'n ei olygu i'n cynghorau? Mae cyllidebau cyfalaf yn ariannu seilwaith hanfodol, fel ysgolion, tai, amddiffynfeydd rhag llifogydd, ffyrdd ac adeiladau cyhoeddus. Felly, mae grant cyfalaf sy'n lleihau yn golygu bod prosiectau'n arafu neu'n dod yn anfforddiadwy; mae'n rhaid i gynghorau ohirio gwaith uwchraddio neu dorri uchelgeisiau, ac yn y pen draw, mae ein cymunedau ar eu colled. Felly, pa asesiad y mae eich adran wedi'i wneud o sut y bydd y wasgfa hon ar gyfalaf yn effeithio ar awdurdodau lleol ledled Cymru? Ac yn bwysicach fyth, pam nad ydych chi a Gweinidogion Llafur eraill yng Nghymru yn herio aelodau eich plaid yn San Steffan am ddarparu setliad cyfalaf sy'n rhoi ein cynghorau ar system cynnal bywyd? O dan Lywodraeth Geidwadol, clywsom eiriau cryf gan Weinidogion Cymru am driniaeth o'r fath. Ble mae'r feirniadaeth honno nawr?

Diolch, Peredur. Yn olaf, ar y pwynt cyntaf a godoch chi, unwaith eto, ynghylch llywodraeth leol ac yswiriant gwladol a sut y bydd hynny'n digwydd, fel y soniais, bydd yn digwydd drwy'r is-grŵp dosbarthu. Maent wedi bod yn gweithio'n galed iawn. Maent wedi cael llawer o gyfarfodydd ynglŷn â hyn, gan edrych ar yr holl wahanol ffyrdd o wneud hynny. Ac fel y dywedais, byddant yn cadarnhau'r fethodoleg a argymhellir dros yr wythnosau nesaf.

Ar yr adolygiad o wariant, dim ond newydd ei gael ydym ni. Rydym yn dal i edrych yn fanwl arno. Rwy'n gweithio gyda fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Mark Drakeford, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ac mae'n bwysig archwilio'r holl fanylion yn hynny i gyd hefyd. Yn amlwg, mae'r Llywodraeth hon yn gwneud popeth yn ein gallu o fewn yr amlen sydd gennym i gefnogi llywodraeth leol. Rwy'n cyfarfod â llywodraeth leol yn rheolaidd. Roeddwn i fyny yn y gogledd yr wythnos diwethaf, yn cyfarfod ag arweinwyr yno. Maent yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd yn dilyn blynyddoedd lawer o gyni. Rwy'n deall hynny, ac mae a wnelo hyn â'r sgwrs a gawn, a'r bartneriaeth sydd gennym, wrth weithio gyda'n gilydd drwy gydol y broses hon hefyd.

13:50

Ac mae'n drueni fod cyni'n parhau o dan y Llywodraeth bresennol. Yn olaf, hoffwn godi mater arian yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2023, addawodd Keir Starmer roi rheolaeth dros gyllid rhanbarthol yn ôl i Gymru, ond nawr, mae'r adolygiad o wariant yn adrodd stori wahanol. Bydd cronfa twf lleol newydd Cymru yn cael ei goruchwylio, nid gan Lywodraeth Cymru, ond gan Swyddfa Cymru, estyniad o San Steffan. Mae'r cyfrifoldeb am ei chyflwyno yn nwylo'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, adran Lloegr, ac mae'r honiad o 'weithio mewn partneriaeth' wedi disodli unrhyw ymrwymiad gwirioneddol i barchu datganoli. Gadewch inni alw hyn yn beth ydyw: polisi Torïaidd wedi'i ailfrandio, o'r brig i lawr, polisi canolog sy'n diystyru Cymru.

Cawsom addewid na fyddem yr un geiniog ar ein colled, ac eto mae Cymru yn cael £1.1 biliwn yn llai o gymharu â'r cyllid y byddem wedi'i gael drwy'r UE. Yr hyn sy'n waeth yw bod y dull gweithredu Llafur newydd yn parhau i gau'r Senedd a Llywodraeth Cymru allan o benderfyniadau allweddol am ein dyfodol economaidd. Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar y pryd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid bellach, ddatganiad ysgrifenedig lle beirniadodd yn gryf benderfyniad Llywodraeth y DU i osgoi Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun cymorth rhanbarthol, gan ei ystyried yn enghraifft o'r berthynas anodd rhwng y ddwy Lywodraeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod y model ariannu hwn, a ddarperir drwy weinyddiaethau Whitehall, gan osgoi'r Senedd, yn tanseilio democratiaeth Cymru a gallu ein cynghorau i gynllunio'n strategol? Pa sylwadau y mae eich Llywodraeth wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ar y mater hwn? Ac efallai'n bwysicach fyth, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y dull gweithredu hwn heb brotestio go iawn a hwythau wedi condemnio'r un model yn union o dan Lywodraeth Geidwadol?

Diolch, Peredur. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Cymru yn derbyn oddeutu £630 miliwn dros dair blynedd, ac yn yr wythnosau nesaf, byddwn yn trafod manylion y cyllid hwn gyda Llywodraeth y DU, gyda'r bwriad o weithio gyda phartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer Cymru o fis Ebrill 2026, lle byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i roi trefniadau ar waith i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â sut y defnyddir ei chyllid i gefnogi ein huchelgeisiau economaidd a dod â ffyniant i bob rhan o Gymru.

O ran gweithio gyda llywodraeth leol, rwy'n falch iawn, yfory, y byddaf i, y Prif Weinidog, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llywydd CLlLC, yn llofnodi cytundeb partneriaeth strategol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Lansiwyd y cytundeb hwnnw'n ffurfiol yng nghynhadledd flynyddol CLlLC, ac rwy'n credu y bydd yn dyst i'n hymrwymiad ar y cyd i gydweithio er mwyn cyflawni dros bobl Cymru. A dyna sut rydym yn cydweithio o fewn Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol hefyd, gyda'r bartneriaeth honno ar y cyd, ac rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu llofnodi hwnnw yfory.

Pympiau Gwres

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar newidiadau arfaethedig i'r drefn o ran gosod pympiau gwres ar gyfer tai newydd a thai sy’n bodoli eisoes? OQ62873

Diolch, Vaughan. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer pympiau gwres o'r aer ar gyfer eiddo domestig. Yn amodol ar yr ymateb i'r ymgynghoriad, byddwn yn ceisio cyflwyno newidiadau i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 erbyn diwedd y flwyddyn.

Gwych. Gwn fod hyn braidd yn benodol, ond mae'n eithaf pwysig mewn gwirionedd, gan fod pympiau gwres o'r aer hŷn yn swnllyd, felly roedd rheol yn ein rheolau cynllunio a oedd yn golygu, yn y bôn, fod yn rhaid ichi gael bwlch mawr rhwng pwmp gwres ac eiddo cyfagos. Roedd hynny'n golygu, yn y bôn, ar gyfer tai teras neu dai pâr, ei bod yn anodd iawn ôl-osod pwmp gwres neu osod pwmp gwres newydd.

Cadarnhaodd Lloegr yn ddiweddar y byddent yn newid eu rheolau cynllunio i alluogi cenhedlaeth newydd o bympiau gwres tawelach a mwy effeithlon i gael eu gosod a'u hôl-osod mewn eiddo. Byddai cynnydd tebyg yma yng Nghymru yn dda, o ran effeithlonrwydd ynni a'r hinsawdd. Byddai cyfle economaidd ac effeithlonrwydd ariannol hefyd wrth ehangu'r galw am gynhyrchion pympiau gwres. Mae'n dda clywed y bydd cynnydd yn cael ei wneud erbyn diwedd y flwyddyn. A allwch chi roi mwy o eglurder ynghylch pryd y byddai hynny'n dod a phryd y gallai'r newid yn y rheolau cynllunio arwain at gyflwyno mwy o bympiau gwres?

Gwn fod darparwyr tai cymdeithasol, er enghraifft, eisiau cyflwyno'r cynhyrchion hyn i ystod o eiddo presennol. Byddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ac wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb mewn gweld ble y gellid gweithgynhyrchu a darparu'r rhain. Felly, a allwch chi roi mwy o eglurder i ni ynghylch pryd y gellid gwneud penderfyniad yma yng Nghymru, ar newid ein rheolau cynllunio ein hunain, i alluogi lefel lawer uwch o ôl-osod a chartrefi newydd i fanteisio ar bympiau gwres o'r aer?

13:55

Diolch, Vaughan. Wel, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig y mae pympiau gwres o'r aer yn ei chwarae wrth ymateb i'n hargyfwng hinsawdd a gwneud cynnydd tuag at nodau datgarboneiddio. Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau hawliau datblygu a ganiateir yn ei gwneud yn anodd i rai cartrefi osod pympiau gwres heb ganiatâd cynllunio, ac mae'r newidiadau arfaethedig a amlinellir yn yr ymgynghoriad yn anelu at gael gwared ar y rhwystrau hynny i osod, a thrwy hynny i gefnogi'r defnydd ehangach o bympiau gwres ledled Cymru.

Fel rydych chi'n ei ddweud yn gywir ddigon, cyflwynwyd canllawiau gosod pympiau gwres yn 2012. Fel y dywedwch, mae technoleg pympiau gwres wedi newid ers hynny, ac mae'r ymgynghoriad yn cynnig dileu'r rheol 3m honno. Mae ein hymgynghoriad yn cau ar 1 Gorffennaf, felly byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl nad ydynt wedi cyfrannu ato eto, ac sydd â diddordeb yn y maes, i wneud hynny. Fel y dywedais, ein nod yw cyflwyno'r newidiadau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae Llywodraeth y DU wedi dod â'u newidiadau i rym. Fe wnaethant ddechrau o'n blaenau yn yr ymgynghoriad, ond daethant â hynny i rym o 29 Mai eleni. Rydym yn disgwyl y bydd aliniad agos rhwng yr hawliau datblygu a ganiateir yn y ddwy wlad, a byddaf yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a'r Senedd pan fyddaf yn gwybod dyddiad y newidiadau tebygol hynny maes o law.

Yn 2024, gosodwyd 60,000 o bympiau gwres ardystiedig ledled y DU—ond defnyddiaf y gair 'ardystiedig' yn llac iawn—sydd 43 y cant yn uwch na'r ffigur ar gyfer 2023, i gyrraedd 275,000. Mae hyn yn parhau i fod ymhell ar ôl y targed o 600,000 erbyn 2028. Nawr, rwyf wedi codi pryderon dro ar ôl tro ar ran etholwyr a thrigolion eraill yng Nghymru, sydd—. Rwy'n credu eu bod yn fy ngweld fel yr unigolyn i droi ati nawr, gan fod llawer o bobl yn cysylltu â mi ynglŷn â mater gosod pympiau gwres diffygiol, yn enwedig o dan gynllun ECO4. Mae pobl wedi nodi biliau ynni uwch, wedi gorfod mynd heb wres na dŵr poeth oherwydd diffygion, ac wedi gorfod wynebu costau sylweddol i unioni'r difrod a achoswyd gan waith gosod gwael. Nid yw'n ddigon da. Mae'n peri straen sylweddol i lawer o drigolion ledled Cymru a'r DU yn gyffredinol.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, lle caiff arian trethdalwyr ei ddefnyddio i ariannu'r gwaith o osod pympiau gwres mewn eiddo preswyl, y dylai'r ddyletswydd i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau i safon uchel fod ar y rhai sy'n darparu'r grantiau i dalu'r cwmnïau hyn? Ac mae'n rhaid imi ddweud bod rhywfaint o'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan gwmnïau twyllodrus. A gaf i ysgrifennu atoch, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwyf wedi gofyn am ganiatâd y rhai sy'n cwyno—

Rydych chi wedi gofyn sawl cwestiwn nawr. A wnewch chi ddod â'ch cwestiynau i ben?

Rwyf wedi gofyn am ganiatâd y bobl hynny i rannu eu gwybodaeth gyda chi, ac maent wedi cytuno. A gaf i ysgrifennu atoch ynglŷn â hyn? Diolch.

Diolch am godi pryderon eich etholwyr, Janet. Rwyf bob amser yn fwy na pharod i dderbyn y pryderon hynny, ac os hoffech rannu hynny gyda mi a fy swyddfa, byddai hynny i'w groesawu.

Yn ogystal ag adolygu ein rheolau cynllunio ynghylch pympiau gwres, rydym hefyd yn cryfhau ein gwybodaeth a'n cyngor cyhoeddus, yn mynd i'r afael â materion sgiliau a'r gadwyn gyflenwi, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau mai'r dewisiadau gwyrdd yw'r dewisiadau mwyaf costeffeithiol. Felly, os gallwch anfon y pryderon hynny ataf, byddwn yn falch iawn o'u derbyn.

Hoffwn ddiolch i Vaughan am godi'r mater pwysig hwn. Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr ynglŷn â gosod pympiau gwres, ac maent yn ei chael hi'n anodd iawn, fel y nodwyd eisoes. Yn ogystal â'r rheol 3m rydych chi eisoes wedi ymateb iddi, mae'r ohebiaeth ddiweddaraf a gefais wedi ymwneud â'r pellter o 5m o lwybrau cerdded, felly tybed a oedd hynny wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn hefyd, oherwydd yn amlwg, rydym am annog pobl i osod pympiau gwres, gan eu bod yn ecogyfeillgar. Felly, tybed a oedd gennych unrhyw wybodaeth am hynny.

Diolch, Julie. Gwn fod nifer cynyddol o aelwydydd yn awyddus i fuddsoddi mewn gwresogi carbon isel, am resymau amgylcheddol ac i sefydlogi costau ynni yn y dyfodol. Mae'r rheoliadau presennol yn cael eu hystyried yn rhwystr i'r rhai sy'n barod i wneud y newid. Fel y dywedais, fel rhan o'r ymgynghoriad parhaus, rydym yn cynnig cael gwared ar y rheol 3m honno'n llwyr. Dylai ein newidiadau arfaethedig i'r system gynllunio baratoi'r ffordd i lawer o aelwydydd, gan sicrhau nad yw pympiau gwres wedi'u lleoli mewn lleoliadau amhriodol. Nid yw'r hawliau datblygu a ganiateir presennol yn caniatáu pympiau gwres o'r aer ar dŷ lle maent wedi'u lleoli ar wal neu do sy'n wynebu priffordd. Nod pennaf y cyfyngiad hwn yw lleihau'r effaith bosibl ar amwynder gweledol a chymeriad ardal. Mae'r ymgynghoriad presennol yn ystyried cael gwared ar y cyfyngiad ar leoli pwmp gwres o'r aer ar wal flaen sy'n wynebu'r briffordd—nid mewn ardal gadwraeth, yn amlwg—a byddwn yn eich annog chi a'ch etholwyr i sicrhau eich bod yn cael cyfle i lenwi'r ymgynghoriad, sy'n cau ar 1 Gorffennaf.

14:00
Toiledau Cyhoeddus

4. Beth yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus gan awdurdodau lleol? OQ62857

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol gael strategaeth toiledau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau statudol cynhwysfawr i gefnogi'r gofyniad hwn. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn ag a ydynt yn darparu cyfleusterau cyhoeddus a sut y cânt eu rheoli.

Yn 2022, arweiniais ddadl yn y Siambr arall yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod toiledau Changing Places yn cael eu darparu ledled Cymru ar gyfer pobl nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu fel arall, a phasiwyd y cynnig yn unfrydol. Ym mis Chwefror, yn dilyn cais llwyddiannus Mencap Cymru am gyllid gan gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth flaenorol y DU i osod toiledau Changing Places yng ngogledd Cymru, roeddwn yn falch iawn o fynychu a siarad yn agoriad swyddogol y toiled Changing Places newydd ym mhafiliwn chwaraeon Corwen. Rhaid diolch i Mencap Cymru a Chyngor Tref Corwen am wneud i hyn ddigwydd.

Fodd bynnag, mae ymdrechion i osod toiledau Changing Places yn parhau i wynebu rhwystrau. Yng Nghonwy, er enghraifft, ni ellid sicrhau lleoliad addas oherwydd costau cynnal a chadw uchel a ffioedd ymgynghori, a methodd ymdrechion i bartneru â lleoliadau trydydd sector a lleoliadau masnachol. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru roi camau ar waith o'r diwedd i fynd i'r afael â'r mater cyfiawnder cymdeithasol a hawliau pobl anabl hwn ddau ddegawd ar ôl iddi ddweud yn gyntaf y byddai'n gwneud hynny? Os felly, sut a phryd y bydd yn mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal gosod toiledau Changing Places ledled Cymru gan awdurdodau lleol neu mewn partneriaeth â hwy?

Diolch am godi'r mater pwysig hwn ac am dynnu sylw at adnewyddu'r toiledau yng Nghorwen a'r gwaith a wnaed ar hynny. Mae'n doiled cwbl hygyrch sy'n ystyriol o bobl â dementia, sy'n wych. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfranogiad cymunedol a dinasyddiaeth weithredol i bobl anabl, ac mae hynny'n cynnwys cael gwared ar rwystrau fel argaeledd cyfyngedig cyfleusterau fel toiledau Changing Places. Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol barhau i fanteisio ar bob cyfle i siarad â'r cyhoedd a grwpiau cynrychioliadol am yr heriau a wynebant o ran mynediad at gyfleusterau toiled lleol, a siarad hefyd â phartneriaid allweddol fel cynghorau tref a chymuned i wrando a gofyn am farn ar eu gwaith yn nodi a darparu atebion cynaliadwy. Felly, mae yna gyfleoedd. Mae gennym ein canllawiau statudol, sy'n pwysleisio'r angen i wneud gwell defnydd o gyfleusterau toiled presennol y tu hwnt i ffocws ar doiledau cyhoeddus traddodiadol hefyd, o ystyried yr heriau ariannol o ddarparu a chynnal a chadw'r math hwn o gyfleuster. 

Rwy'n falch iawn y bydd Theatr Clwyd yn cynnwys toiled Changing Places yn eu hadeilad newydd yn y dyfodol. Mae toiledau cyhoeddus yn hanfodol, ond gan nad ydynt yn rhan o ddyletswydd statudol y cyngor a bod llawer o gynghorau'n cael ei chael hi'n anodd ar ôl blynyddoedd o gyni a thoriadau, mae nifer wedi eu trosglwyddo i gynghorau tref a sefydliadau eraill. Rwy'n deall bod cyllid y Pethau Pwysig Croeso Cymru y gronfa ffyniant gyffredin wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer toiledau ac roedd croeso mawr iddo, ond mae angen cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer toiledau cyhoeddus, sy'n eu gwneud yn anfforddiadwy yn yr hinsawdd bresennol, lle mae cynghorau'n gofyn, 'A wnawn ni dorri llyfrgelloedd neu doiledau?'  Mae toiledau cyhoeddus modern yn well ac mae'r cyhoedd yn eu ffafrio lle cânt eu staffio mewn adeilad wedi'i oleuo'n dda a lle maent yn hygyrch. Ysgrifennydd y Cabinet, a ellir gwneud mwy gyda pherchnogion busnesau preifat neu adeiladau cyhoeddus eraill yn y dyfodol? A allwch chi awgrymu unrhyw ffyrdd eraill y gallwn gadw toiledau cyhoeddus ar agor? Diolch.

14:05

Diolch, Carolyn. Diolch am hynny, a hefyd am dynnu sylw at y toiledau cyhoeddus newydd yn eich ardal chi hefyd. Mae canllawiau statudol cynhwysfawr wedi'u cynhyrchu i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu strategaethau toiledau lleol. Y ffocws yn y canllawiau hyn yw gwneud gwell defnydd o gyfleusterau toiledau presennol y gellid eu gwneud yn hygyrch i'r cyhoedd yn ehangach, y tu hwnt i ffocws ar doiledau cyhoeddus traddodiadol, fel y soniais, yn enwedig o ystyried yr heriau ariannol o ddarparu a chynnal y math hwn o gyfleusterau.

Y nod yw y bydd awdurdodau lleol yn ystyried yr ystod eang o gyfleusterau toiled presennol sydd ar gael yn adeiladau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat wrth ddatblygu eu strategaeth. Mae'n bwysicach nag erioed annog atebion creadigol; rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n ei awgrymu. Mae'n bwysig ein bod ni'n annog y meddwl creadigol hwnnw, oherwydd fe wyddom pa mor bwysig yw cyfleusterau toiled i sicrhau bod pobl yn cael mynediad i'r cyfleusterau hynny, yn enwedig i allu mynd allan gan wybod ble y gallant cael mynediad i'r cyfleusterau hynny hefyd, i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus y gallant fynd allan.

Anogir awdurdodau lleol i ystyried mecanweithiau eraill sydd ar gael iddynt, megis trosglwyddo asedau cymunedol, grymuso cynghorau tref a chymuned a mentrau cymdeithasol i gymryd cyfrifoldeb am reoli toiledau cyhoeddus pwrpasol os yw'r cynigion yn gynaliadwy. Er mwyn cynorthwyo gyda chynaliadwyedd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod toiledau cyhoeddus pwrpasol yng Nghymru erbyn hyn yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant.

Cymunedau Cymraeg

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leddfu’r argyfwng tai mewn cymunedau Cymraeg cyn diwedd y Senedd hon? OQ62874

Diolch, Cefin. Fy mlaenoriaeth yw darparu mwy o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru, ac rydym wedi dyrannu lefelau uwch nag erioed o gyllid yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel rhan o gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor i gymhwyso a gwerthuso ystod o ymyriadau mewn cymunedau penodol sy'n siarad Cymraeg.

Diolch. Roedd gwarchod dyfodol ein cymunedau Cymraeg trwy sicrhau tegwch yn y farchnad dai yn rhan ganolog o’r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ond mae’r gwaith o leddfu’r argyfwng tai yn ein cymunedau yn parhau ar ei hanner, ac mae diffyg tai fforddiadwy yn dal i yrru teuluoedd a phobl ifainc o’u cymunedau, gan gynnwys yn y sir lle dwi’n byw, yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi gweld cwymp yn y ganran o siaradwyr Cymraeg o dros 50 y cant yn 2001 i dan 40 y cant yn 2021.

O ran argymhellion tai y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, er ei bod hi'n galonogol clywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd yn cytuno mewn egwyddor gyda'r argymhellion hynny, yn anffodus doedd yna ddim amserlen glir ar gyfer ei gweithredu. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n cymunedau Cymraeg ni yn wynebu argyfwng heddiw. Dyw oedi ddim yn bosibl. Felly, allwch chi ymrwymo y bydd symud ymlaen gydag unrhyw bolisi i leddfu'r argyfwng tai yn ein cymunedau Cymraeg yn digwydd cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf?

Diolch, Cefin. Fel chithau ac eraill yma, rwyf am weld y Gymraeg yn ffynnu ar draws Cymru gyfan, ac rwy'n deall yr heriau y mae'r iaith yn eu hwynebu yn ei chadarnleoedd traddodiadol, fel y sonioch chi. Rwy'n croesawu adroddiad cynhwysfawr y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a'r trafodaethau trawslywodraethol a'r cydweithredu a welwyd wrth baratoi ein hymateb. Ceir cydnabyddiaeth fod hyn yn gyfrifoldeb cyfunol sydd gennym ar draws y Cabinet cyfan dros yr iaith Gymraeg.

Rwy'n llwyr ddeall pwysigrwydd cynnal ein cymunedau Cymraeg, a'r rôl bwysig y gall polisi tai ei chwarae. Fel y sonioch chi, derbyniais yr holl argymhellion sy'n berthnasol i dai yn adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac rydym eisoes wedi bod yn gweithio ers peth amser ar yr argymhellion hynny, ac yn parhau i flaenoriaethu'r gwaith hwnnw. Gwn fod fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i wneud datganiad llafar yn yr hydref ar waith y comisiwn a'n hymateb, ond rydym yn gwneud nifer o bethau eisoes o fewn fy mhortffolio.

Soniais am brosiect Perthyn; mae'n rhan sylweddol o'r cynllun, lle mae cyllid ar gael i rymuso cymunedau i ddatblygu atebion cymdeithasol, economaidd a thai. Hyd yn hyn, bu pedair rownd o gynllun grantiau bach Perthyn, ac mae 65 o ddyraniadau grant wedi'u gwneud i gefnogi a sefydlu busnesau cymdeithasol newydd neu brosiectau tai dan arweiniad y gymuned. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth cyngor a chymorth arbenigol i helpu i fentora cymunedau a chefnogi. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo, ac fel y dywedais, bydd fy nghyd-aelod o'r Cabinet yn darparu datganiad llafar yn nhymor yr hydref.

14:10
Ymgysylltiad Democrataidd Lleol

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyflwyno cynigion i wella ymgysylltiad democrataidd lleol a chynyddu cyfranogiad cyn yr etholiadau lleol nesaf yn 2027, o ystyried y bu nifer y pleidleiswyr mewn llawer o etholiadau llywodraeth leol yn llai na 40 y cant? OQ62881

Diolch, Adam. Dylem i gyd gefnogi camau i hybu ymgysylltiad democrataidd. Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd. Bydd y platfform gwybodaeth etholiadau, y grant ymgysylltiad democrataidd a'r Cwricwlwm i Gymru oll yn helpu pobl i chwarae eu rhan yn etholiadau 2027.

Mae'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau lleol—ac, yn wir, yn etholiadau'r Senedd—yn parhau i fod yn llawer rhy isel i ddemocratiaeth iach, weithredol. Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn galluogi cynlluniau peilot i hybu cyfranogiad. A wnaiff y Gweinidog ddefnyddio etholiadau mis Mai 2027 i brofi ystod o fesurau? Gallai hynny gynnwys ar-lein, pleidleisio drwy neges destun, gorsafoedd pleidleisio dros dro mewn archfarchnadoedd, ac yn y blaen.

Y dull gorau ar gyfer chwyddo'r nifer sy'n pleidleisio, wrth gwrs, yw dyletswydd ddinesig gyffredinol i bleidleisio, a elwir hefyd yn bleidleisio gorfodol. A wnaiff hi gadarnhau bod yr un Ddeddf yn caniatáu cynllun peilot ar gyfer pleidleisio gorfodol? A wnaiff hi ddechrau'r gwaith cwmpasu nawr, fel bod y Llywodraeth nesaf mewn sefyllfa i brofi rhinweddau'r dull hwn o wella iechyd ein democratiaeth?

Diolch, Adam. Yn hollol, mae'n bwysig ein bod yn achub ar bob cyfle i godi pwysigrwydd pleidleisio mewn etholiadau, fel y dylem oll ei wneud, ac yn enwedig felly ar gyfer ein hetholiad ein hunain, ond etholiadau llywodraeth leol hefyd, lle gwyddom fod hynny mor bwysig. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae. Rwy'n awyddus iawn i bob un ohonom ei wneud.

Rydym yn siarad â phobl ifanc yn enwedig, a'n holl etholwyr eraill, am ein rôl ni yma. Ond hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud wrth bobl beth y mae cynghorwyr lleol yn ei wneud hefyd. Weithiau, rwy'n meddwl ein bod ni fel gwleidyddion bob amser yn hoffi dweud y gallwn wneud popeth, ond mewn gwirionedd, mae gennym gynghorwyr lleol sy'n cael eu hethol ar gynghorau, mae gennym ein Haelodau Seneddol hefyd, sy'n cyflawni rolau gwahanol.

Yn bersonol, roeddwn yn gwerthfawrogi'r cyfle a gefais pan oeddwn yn yr ysgol i fynd i ymweld â chanolfan ddinesig Casnewydd a gweld dadl yn digwydd yno. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, os gallwn geisio annog hynny hefyd, i ennyn diddordeb pobl ifanc yn y rôl bwysig y mae cynghorwyr lleol yn ei chwarae.

Ar ddyletswydd ddinesig i bleidleisio, rwy'n credu bod unrhyw gynnig sy'n hybu ymgysylltiad democrataidd yn haeddu cefnogaeth ac ystyriaeth ofalus iawn. Ni fyddem yn gallu gwneud newid o'r fath yn ystod y Senedd bresennol, ond rwy'n siŵr y bydd yn fater a fydd yn parhau i gael ei drafod. Efallai y gallech ysgrifennu ataf ymhellach ar fater y cynlluniau peilot yn enwedig, a gallwn ymateb i chi yn unol â hynny.

Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cymorth sydd ar gael i berchnogion tai y mae concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn effeithio ar eu heiddo? OQ62886

Diolch, Heledd. Rwy'n cydnabod pa mor anodd yw'r sefyllfa i bob preswylydd yr effeithir arnynt gan RAAC mewn cartrefi preifat a chymdeithasol, a'r straen y mae hyn yn ei chreu i unigolion a theuluoedd. Rydym yn parhau i weithio gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, a allai gynnig cymorth ariannol i berchnogion tai.

Diolch am yr ymateb hwnnw. Fel y gwyddoch, ers dros flwyddyn, rwyf wedi bod yn codi sefyllfa grŵp bach o berchnogion tai yn Hirwaun sydd â RAAC. Mae perchnogion tai wedi dweud wrthyf eu bod yn byw mewn ofn a phryder cyson ynglŷn â sut y dônt o hyd i arian i wneud eu cartrefi'n ddiogel, ac maent yn ofni y bydd eu nenfydau'n disgyn ar eu pennau. Yn y darllediad newyddion ar ITV diweddar am y mater, ymateb Llywodraeth Cymru oedd:

'Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn annog pob perchennog tŷ i gynnal arolygon i nodi graddau'r RAAC yn eu cartrefi'.

Ond mae'r perchnogion tai dan sylw dros 75 oed i raddau helaeth, mae rhai yn eu nawdegau, ac wedi prynu eu heiddo yn llawn ffydd o dan y cynllun hawl i brynu. Maent yn dibynnu'n bennaf ar bensiynau'r wladwriaeth ac yn methu fforddio'r arolygon, ac nid ydynt yn gymwys i gael grantiau awdurdodau lleol. A wnewch chi ymrwymo nawr i gyfarfod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r trigolion i ddod o hyd i ateb a rhoi diwedd ar eu pryder a'u hofn cyson y bydd eu toeau'n disgyn ar eu pennau?

14:15

Diolch, Heledd. Diolch am godi hyn, gan fy mod yn gwybod eich bod wedi gwneud hynny yn y gorffennol hefyd—fel y dywedwch, rydych chi wedi bod yn gweithio ar hyn. Rwy'n ymwybodol fod Trivallis wedi dechrau ei raglen gyweirio RAAC ar gyfer ei stoc dai ar ystad Gŵyr yn Hirwaun. Rwy'n deall mai'r bwriad wrth osod y system dec diogelwch yw darparu datrysiad strwythurol parhaol, yn hytrach nag ateb dros dro.

Mewn perthynas â pherchnogion tai preifat, rwy'n ymwybodol fod yr awdurdod lleol wedi ymgysylltu â pherchnogion cartrefi ac yn cynnig y cymorth grant trwy ei drefniadau cymorth ariannol arferol. Rwy'n deall nad yw rhai perchnogion tai wedi cynnal unrhyw arolygon eto, fel y sonioch chi. Rwy'n annog y rhai sy'n gallu cynnal yr arolygon i wneud hynny ac i ymgysylltu ag awdurdodau lleol, sy'n barod i'w cefnogi.

Rwyf hefyd yn deall bod Trivallis wedi cynnig mynediad at eu contractwyr i berchnogion a landlordiaid preifat, i helpu i leihau costau i berchnogion tai trwy gael gwared ar orbenion. Nid ydym yn gallu cynnig benthyciadau di-log uniongyrchol i dalu costau gwaith, ond ceir nifer o opsiynau ariannu, grantiau a benthyciadau, a allai fod ar gael trwy'r awdurdod lleol, yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd. Felly, mewn achosion o'r fath, bydd trafodaethau gyda'r awdurdod lleol yn bwysig iawn.

Cartrefi Clyd

8. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella effeithiolrwydd y cynllun cartrefi clyd? OQ62879

Rwyf wedi cytuno ar sawl newid i'r cynllun Nyth, gan gynnwys cyflwyno llwybr argyfwng, i gynyddu nifer yr aelwydydd y gall eu cefnogi. Mae swyddogion yn parhau i fonitro perfformiad y cynllun a byddant yn cyflwyno argymhellion pellach yn ôl yr angen.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros gryn dipyn o amser bellach, mae etholwyr wedi cysylltu â mi am eu bod wedi cael problemau gyda gosodwyr trydydd parti mewn perthynas â'r rhaglen Cartrefi Clyd. Gallai hynny gynnwys crefftwaith gwael neu waith nad yw'n cael ei gwblhau'n briodol a chyfathrebu gwael hefyd rhwng y cwmni a pherchennog yr eiddo. Tybed a yw hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n ymwybodol ohono ac y mae eraill wedi cysylltu â chi yn ei gylch. A oes meini prawf ar gyfer gosodwyr, ac os felly, a ellid newid y rhestr honno neu a oes angen newid y meini prawf? Hefyd, beth y dylai preswylwyr ei wneud os ydynt yn profi crefftwaith gwael gan gontractwyr trwy'r cynllun?

Diolch, Russell. A diolch am godi hynny. Mae gennym waith monitro a gwerthuso cynllun Nyth Cartrefi Clyd, a bydd hynny'n ein helpu i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion o ran gostwng biliau ar gyfer aelwydydd bregus a'u codi allan o dlodi tanwydd. Byddaf yn cyhoeddi adroddiad ar gynnydd ar ddechrau tymor yr hydref, i gwmpasu'r gweithgaredd hwnnw yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Rydych chi'n iawn, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n diogelu ein trigolion rhag crefftwaith gwael. Mae gennym drefniadau sicrhau ansawdd. Yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag gosod mesurau sy'n anaddas neu o safon isel. Mae gosodwyr yn destun sicrwydd ansawdd annibynnol, i sicrhau safonau PAS 2035, sef y fframwaith swyddogol ar gyfer ôl-osod tŷ cyfan yn y DU ac mae'n nodi eu proses a'u harfer gorau o fewn y diwydiant. Mae British Gas, ein hasiantau cyflenwi ar gyfer y rhaglen, wedi bod yn gweithio'n agos gyda chontractwyr i sicrhau eu bod yn uwchsgilio eu gweithlu hefyd, a'n bod yn dysgu unrhyw wersi o gynlluniau yn y gorffennol. Ac mae contractwyr yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i bawb sy'n gweithio ar y cynllun i sicrhau eu bod yn gymwys i gyflawni gofynion PAS 2035.

Mae'r gwerthusiad a'r sicrwydd ansawdd hwnnw ar gael ar gyfer y cynllun, felly rwy'n awgrymu yn y lle cyntaf y dylai eich etholwyr ysgrifennu at neu gysylltu â'r asiant cyflawni—sef British Gas— a rhoi gwybod am y mater i gynllun Nyth hefyd. Ond gallwch bob amser ysgrifennu ataf i os ydych chi'n gweld patrwm penodol. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech chi'n gwneud hynny hefyd.

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Felly, fe awn ni ymlaen i'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf yn mynd i fod gan Sioned Williams.

Addysg Ddemocratiaeth

1. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod dysgwyr mewn ysgolion a cholegau yn cael eu haddysgu'n effeithiol am ddemocratiaeth Cymru? OQ62853

Mae dinasyddiaeth yn rhan ganolog o'n cwricwlwm. Mae datblygu dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau democrataidd fel dinasyddion yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol i ddatblygu adnoddau ar gyfer ysgolion cyn etholiadau 2026.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, pan oedden ni'n trafod canllawiau newydd y Llywodraeth ar amrywiaeth a chynhwysiant i bleidiau gwleidyddol, fe gyfeiriwyd at bwysigrwydd dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl o bob math rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Ac wrth ymateb i bwyntiau a godwyd am effaith diffyg addysg wleidyddol, dywedwyd ei bod hi'n bwysig bod y Llywodraeth, a chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn edrych ar y cwricwlwm fel ffordd o addysgu ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion.

Mae'n amlwg, o siarad â phobl ifanc, eu bod nhw'n teimlo nad yw'r addysg maen nhw'n ei derbyn ar hyn o bryd yn ddigonol o ran hynny, ac rôn i wedi brawychu o glywed pobl ifanc ym Merthyr yn ddiweddar yn dweud, wrth gael eu holi gan y BBC, nad oedden nhw'n ymwybodol eu bod nhw'n medru pleidleisio yn 16 oed.

Mae dysgu am ddinasyddiaeth yn elfen ym maes dysgu a phrofiad mandadol y dyniaethau yn y cwricwlwm, fel y dywedoch chi, ond mae angen mynd ymhellach, ac rwyf wedi awgrymu'n flaenorol nifer o ffyrdd y gellid sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu'n fwy penodol ar gyfer addysg wleidyddol. Mae'n gyfnod o ddiwygio etholiadol. Ydych chi'n cytuno, felly, mai dyma'r amser perffaith i sicrhau'r ddemocratiaeth orau i Gymru drwy gymryd camau pendant i godi ymwybyddiaeth ymhlith ein dysgwyr mewn ysgolion a cholegau?

A gaf i ddiolch i Sioned am ei chwestiwn atodol? Fel y noda, mae dinasyddiaeth yn ganolog i'r cwricwlwm. Un o'r pedwar diben, fel y bydd hi'n gwybod, yw sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, ac yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau democrataidd. Fel y mae hi eisoes wedi'i nodi, mae hon yn rhan orfodol o faes dysgu a phrofiad y dyniaethau, ac mae'r datganiadau 'beth sy'n bwysig' yn glir y dylid cefnogi dysgwyr i ddysgu am ddinasyddiaeth a dinasyddiaeth weithredol, am wahanol fathau o drefniadau llywodraethu, gan alluogi dysgwyr i ddeall eu rolau a'u cyfrifoldebau mewn system ddemocrataidd.

Gan fod pobl ifanc 16 ac 17 oed bellach yn gymwys i bleidleisio yng Nghymru, rwy'n cytuno â hi fod hyn yn bwysicach nag erioed. Rydym yn gweithredu'n ystyrlon yn y gofod hwn. Mae gennym y grant ymgysylltiad democrataidd, sy'n ariannu prosiectau a gyflwynir yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae hynny'n cynnwys y sesiynau Deialog Ddigidol, y gwn ei bod wedi bod yn rhan ohonynt, ac y bûm innau'n rhan ohonynt yn fy etholaeth fy hun. Mae hefyd yn cynnwys sesiynau ar fynd i'r afael â chamwybodaeth a chefnogi gweithdy democratiaeth ar waith dinas Caerdydd. 

Mae gennym hefyd adnoddau ar Hwb a'r grant ymgysylltiad democrataidd. Rydym wedi dyrannu £657,093 i gefnogi gweithgareddau democrataidd yng Nghymru, sy'n swm sylweddol o arian. Mae ceisiadau am y grant hwnnw ar hyn o bryd ar gam gwerthuso'r panel, a bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod yn fuan a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Mae gennym hefyd adnoddau Politics Project, sy'n cael eu hariannu gan y grant ymgysylltiad democrataidd. Mae'r ymgysylltiad â Deialog Ddigidol wedi bod yn arwyddocaol iawn. Mae dros 4,300 o ddysgwyr wedi cymryd rhan ers ei sefydlu. Felly, rydym yn gweithredu, a chaiff ein holl weithredoedd eu hategu gan ymrwymiadau statudol ein Cwricwlwm i Gymru.

14:25

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n wych fod ein pobl ifanc yn cael dysgu am ein proses ddemocrataidd, ond beth a ddysgir iddynt am eu rhwymedigaeth o dan y broses ddemocrataidd honno? Yn rhy aml rydym yn addysgu pobl am eu hawliau, ond nid ydym yn dweud dim am eu dyletswyddau a'u rhwymedigaethau. Mae gan ddinasyddion ddyletswydd i gadw at reolaeth y gyfraith, rhwymedigaeth i gynnal gwerthoedd Prydeinig. Drwy beidio ag egluro'r dyletswyddau hyn, rydym yn caniatáu i raniadau diwylliannol ddigwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n sicrhau bod pob plentyn sy'n cael ei addysgu yn ein hysgolion nid yn unig yn ymwybodol o'r system ddemocrataidd, ond hefyd o'u rhwymedigaeth i gynnal ein rhyddid democrataidd—mewn geiriau eraill, ufudd-dod i'n democratiaeth? Diolch.

Diolch, Altaf. Mae hwnnw'n bwynt pwysig, onid yw? Bod dyletswyddau ynghlwm wrth hawliau. A byddwn i'n dweud bod honno'n agwedd allweddol ar ein cwricwlwm. Nid addysgu pobl ifanc am eu hawliau'n unig a wnawn. Mae'r cwricwlwm yno hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn dod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yn y byd. Dyna ran allweddol o'r hafaliad. Mae'n hanfodol ein bod yn annog pobl ifanc i ddysgu am ddemocratiaeth, ond yr un mor bwysig eu bod yn sylweddoli bod cyfrifoldebau ynghlwm wrth hynny, a byddwn yn dadlau bod hynny eisoes wedi'i gynnwys yn y Cwricwlwm i Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n cytuno, wrth addysgu ein dysgwyr am bwysigrwydd democratiaeth a chymryd rhan mewn democratiaeth, y gallwn dynnu ar ein hanes yng Nghymru a brwydrau gweithwyr i gael y bleidlais, megis mudiad y Siartwyr a gwrthryfel Casnewydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Ac yng Ngwent a'r cyffiniau, rydym yn defnyddio hanes Siartiaeth i ennyn diddordeb ein pobl ifanc, gyda dysgu rhyngweithiol mewn gweithdai archifau, ymweliadau ysgol, pecynnau addysgu digidol, hanes maes trwy ymweliadau â chofebion ac ymweliadau â murluniau a llawer mwy. Ac mae Gwrthryfel Casnewydd yn dod â hanes yn fyw i'n plant ifanc ac yn cynnau eu diddordeb, er enghraifft gyda gorymdaith wrth olau ffaglau bob mis Tachwedd a fynychir gan lawer o deuluoedd ifanc. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n cytuno bod y rhain yn enghreifftiau da iawn yng Ngwent o'r ffordd y gallwn ennyn diddordeb ein dysgwyr yn y broses ddemocrataidd trwy wersi'r gorffennol? 

Diolch am y cwestiwn hwnnw, John, ac mae'n wych clywed am yr holl waith sy'n digwydd yng Nghasnewydd sy'n manteisio ar y traddodiad balch yno gyda phethau fel y Siartwyr a gwrthryfel Casnewydd. Ac mae'n hanfodol fod pobl ifanc yn dysgu am y pethau hynny, ond wrth gwrs mae honno'n nodwedd bwysig iawn hefyd o'r Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn ei alw'n cynefinyr ymdeimlad fod dysgu pobl yn deillio o'u cymunedau, a'r ymdeimlad o hunaniaeth sydd ganddynt. Felly, bydd hynny'n wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae'r cwricwlwm yn darparu hyblygrwydd i feithrin yr ymdeimlad o gynefin mewn gwahanol rannau o Gymru.

Cyllid Ysgolion

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid ysgolion ar gyfer ysgolion yng Nghanol De Cymru? OQ62865

Mae penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod lleol yn rhan o'u gwaith ar osod y gyllideb yn gyffredinol. Mae hyn yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu anghenion ac amgylchiadau lleol ac i ariannu ysgolion yn unol â hynny.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae llawer o ysgolion yng Nghanol De Cymru yn wynebu diffyg yn eu cyllideb ac o dan bwysau sylweddol. A wnewch chi ymrwymo heddiw i wneud yn siŵr, pa bynnag gytundeb ariannol a gyrhaeddir ar gyflogau athrawon yma yng Nghymru, y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r ymrwymiad hwnnw'n llawn ac na fydd yn rhaid i ysgolion ddefnyddio eu cyllidebau eu hunain i wneud iawn am unrhyw ddiffygion?

14:30

A gaf i ddweud wrth Andrew R.T. Davies, a diolch am y cwestiwn atodol, fy mod wrth gwrs yn cydnabod y pwysau sydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol? Rwy'n gwerthfawrogi ymdrechion y gweithlu addysg yn fawr wrth iddynt barhau i weithredu o dan amgylchiadau mor heriol.

Dylwn atgoffa'r Aelod, er gwaethaf y pwysau cyllidebol parhaus rydym wedi'i wynebu, ein bod wedi parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r cynnydd o 4.5 y cant i'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2025-26 yn adeiladu ar gynnydd blaenorol o 9.4 y cant yn 2022-23, 7.9 y cant yn 2023-24 a 3.3 y cant yn 2024-25. Daeth y cyllid ychwanegol a roesom yn y setliad llywodraeth leol gyda llythyr a nodai fod y cyllid hwnnw yno i gydnabod y pwysau yr oedd awdurdodau lleol wedi'i nodi i mi, mewn ysgolion, mewn ADY yn benodol, yn ogystal â gofal cymdeithasol wrth gwrs. Rhwng cyllid ychwanegol eleni a chyllid ychwanegol y llynedd, mae'r sector addysg ar fin elwa o £2.62 miliwn ychwanegol o gyllid i helpu ysgolion, colegau a lleoliadau eraill i ddiwallu anghenion eu dysgwyr.

Ar eich pwynt penodol ynglŷn â chyflogau athrawon, rydym wedi ymrwymo i ariannu'r cynnydd o 4 y cant drwy arian sydd eisoes wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol, a chyllid ychwanegol llawn ar gyfer yr 1 y cant pellach. Felly, ni fydd angen i ysgolion ddod o hyd i'r cyllid eu hunain, ac mae hynny er mwyn cydnabod y pwysau sydd arnynt.

O ystyried y diffygion cyllidebol sylweddol a chynyddol y mae nifer o ysgolion yng Nghanol De Cymru yn eu hwynebu, gyda rhai cymaint ag £1 filiwn yn ôl y sôn, sut y gellir ystyried bod y ffordd o ariannu addysg yn ymarferol? Gwyddom fod yn rhaid i ysgolion dorri staff, uno dosbarthiadau, canslo tripiau, torri'r pethau sylfaenol, gyda chyllidebau wedi'u hymestyn i'r eithaf. Yn ôl NAHT Cymru, mae dros hanner yr arweinwyr ysgolion yn disgwyl bod mewn diffyg eleni. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn cael yr adnoddau priodol i ddiwallu anghenion disgyblion, yn enwedig gyda newidiadau i anghenion dysgu ychwanegol? Rydym yn clywed yn gyson am athrawon yn dweud na allant ddiwallu anghenion disgyblion. Yn amlwg, yr elfen arall, wrth gwrs, yw cefnogi lles athrawon yn wyneb llwyth gwaith cynyddol, pan fyddant mor bryderus am y cyllidebau hynny.

Diolch am eich cwestiwn, Heledd. Fe wnaethoch fy nghlywed yn tynnu sylw at y cyfanswm a ddarparwyd gennym mewn cyllid ychwanegol ar gyfer addysg dros y ddwy flynedd ariannol. Yn rhan o hynny, rydym wedi darparu cyllid sylweddol yn uniongyrchol i ysgolion drwy'r grant addysg awdurdod lleol, ac mae'r arian hwnnw'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion. Yn rhan o'r cyllid hwnnw hefyd—. Ac fe gyfeiriais at y pwysau ar ADY; mae honno wedi bod yn thema gyson a godwyd gyda mi gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Felly, fe wnaethom gyhoeddi cyllid ychwanegol hefyd ar gyfer ADY yn rhan o hynny. Ers 2020, rydym wedi darparu dros £150 miliwn o gyllid grant refeniw i awdurdodau lleol ac i ysgolion i gefnogi'r ddarpariaeth ADY. Yn ychwanegol at hynny, rydym wedi blaenoriaethu buddsoddiad mewn cymorth cyfalaf, yn enwedig ar gyfer ADY. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae mwy na £170 miliwn wedi'i fuddsoddi i wella cyfleusterau i ddysgwyr ag ADY. Mae gennym hefyd £750 miliwn yn yr arfaeth yn rhan o'r rhaglen dreigl naw mlynedd ar gyfer cyfleusterau arbenigol, gan gynnwys, yn amlwg, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Natasha Asghar.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae gormod o fyfyrwyr nad ydynt yn cyrraedd eu potensial llawn mewn mathemateg yma yng Nghymru. Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, ond geiriau prif arolygydd Estyn, Owen Evans. Daw ei feirniadaeth yn dilyn adroddiad gan arolygwyr Estyn a ganfu fod safonau mathemateg ledled y wlad yn llawer rhy isel. Yn anffodus, ni all hyn fod yn syndod i Lywodraeth Cymru, o ystyried bod ein perfformiad mewn mathemateg wedi plymio yng nghanlyniadau diweddaraf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr o dan oruchwyliaeth Llafur. Yn y pen draw, mathemateg yw asgwrn cefn ein heconomi yn y dyfodol, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ni allwn fforddio ei thanseilio ymhellach. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r adroddiad diweddaraf, pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd, ac yn mynd i'w cymryd, i wella'r sefyllfa o ran mathemateg yn ein hysgolion?

14:35

Diolch, Natasha. Fel y gwyddoch, mae codi safonau mewn mathemateg a rhifedd yn flaenoriaeth hollbwysig i mi. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Estyn i roi cymorth ychwanegol ar waith i fynd i'r afael â'r pryderon a amlinellwyd yn eu hadroddiad, ac rwyf hefyd wedi derbyn yr holl argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a nodwyd yn eu hadroddiad.

Felly, un o'r pethau a wnaethom yw gweithio'n agos gydag Estyn i ddatblygu manylion ychwanegol ar gynnydd mewn mathemateg, fel bod pob athro, boed yn arbenigwr ai peidio, yn gymwys i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr. Mae'r cymorth proffesiynol cenedlaethol newydd hwn, a ddatblygwyd gyda Phrifysgol Abertawe, yn cael ei dreialu ar hyn o bryd. Byddwch wedi gweld fy nghyhoeddiad am gyllid grant y cwricwlwm. Fel rhan o hynny hefyd, ceir cyllid penodol ar gyfer prosiect o'r enw 'Primed for success', a gynlluniwyd i gefnogi plant yn eu cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, adeg y gwyddom y gall fod yn anodd. Fel y gwyddoch, rydym yn gweithio hefyd i roi'r fframwaith llythrennedd a rhifedd ar sail statudol.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet; rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Gwn ein bod wedi trafod myfyrwyr; rwyf am symud ymlaen at athrawon nawr.

Nododd adroddiad Estyn fod agweddau ar addysgu gwael yn rheswm dros gynnydd cyfyngedig disgyblion. Tynnodd sylw hefyd at amrywio eang yn y ffordd yr addysgir mathemateg ledled y wlad. Mae'r amrywio hwn wedi'i briodoli'n rhannol i'r gostyngiad mewn cymorth penodol i bynciau, gyda diffyg cymdeithasau proffesiynol i athrawon droi atynt pan fo angen cyngor. Mynegwyd pryderon hefyd gan arweinwyr ysgolion ei bod hi'n anodd recriwtio arbenigwyr mathemateg, gan arwain at recriwtio athrawon nad ydynt yn arbenigwyr i addysgu mathemateg. Roedd materion eraill a amlygwyd yn yr adroddiad yn cynnwys athrawon yn cynllunio tasgau i gadw disgyblion yn brysur, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn roeddent am ei ddysgu, a pheidio â herio myfyrwyr yn ddigonol. Roedd diffyg dealltwriaeth hefyd ynghylch gofynion a chanllawiau'r cwricwlwm newydd, ac athrawon heb fod yn gwybod at bwy i droi am atebion. Nid yw hyn yn ddigon da, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod ysgolion Cymru'n cael yr athrawon mathemateg y mae cymaint o'u hangen arnynt, a bod y cymorth cywir ar waith i'w helpu i ddarparu'r math o addysg y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu?

Diolch. Yn amlwg, mae recriwtio athrawon mathemateg yn rhan allweddol o hyn, ac rwy'n ymwybodol fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod yn edrych ar y mater. Yn amlwg, rydych chi wedi gweld pa mor heriol yw rhai o'r ffigurau, oherwydd, os oes gennych radd mewn mathemateg, mae gennych ddewis o broffesiynau y gallwch fynd iddynt. Felly, un peth allweddol i ni yw gwneud dod yn athro mathemateg mor ddeniadol â phosibl. Gwn eich bod yn ymwybodol o'n cynllun cymhelliant, sy'n darparu taliadau ychwanegol i fyfyrwyr sy'n dewis astudio i addysgu mathemateg yn ein hysgolion. Ond gwn hefyd fod yn rhaid inni edrych ar draws yr ystod o resymau pam fod hyn yn heriol i ni. Dyna pam fy mod wedi cyhoeddi'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg. Fe gyfeirioch chi yn eich cwestiwn at faterion yn ymwneud ag ansawdd addysgu. Yn amlwg, fe wnaethom drafod hynny pan gawsom adroddiad Estyn. Mae Estyn yn adolygu ansawdd addysgu a dysgu ar ein cyfer ni hefyd, ond fel y dywedais, rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Estyn i ddarparu'r math o fanylder a amlygwyd gennych fel rhywbeth y mae athrawon yn cael anhawster ag ef. Mae hynny'n arbennig o hanfodol os nad oes gennych athro mathemateg arbenigol yn darparu hynny. Mae angen y cymorth ychwanegol hwnnw arnynt.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n Aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â llawer o fy nghyd-Aelodau. I grynhoi, rhai o'r pethau rwyf wedi'u dysgu ers ymuno â'r pwyllgor, mewn ychydig fisoedd yn unig, yw: fod 20 y cant o fyfyrwyr yn gadael yr ysgol gynradd yn anllythrennog; fod safonau mathemateg yn gostwng i lefelau sy'n peri pryder; canlyniadau PISA gwael; cwricwlwm sy'n peri dryswch; diffyg cymorth i athrawon; argyfwng recriwtio a chadw athrawon; dull darllen a wrthbrofwyd yn cael ei wthio ar ein hysgolion; absenoliaeth yn rhemp; ymddygiad gwael a thrais yn ein hystafelloedd dosbarth; a blaenoriaethau cyfeiliornus, gyda £12 miliwn o gyllid yn mynd tuag at gerddoriaeth, a dim ond £8.7 miliwn mewn cymhariaeth yn cael ei wario ar fathemateg, llythrennedd, gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl y rhestr hir honno, yn syml: a oes unrhyw beth y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud yn iawn o ran addysg yng Nghymru? Diolch.

Wel, rwy'n credu bod rhywfaint o graffu gwirioneddol y tu ôl i'ch cwestiynau blaenorol, ac fe wnaethoch lanast o bethau gyda'ch trydydd cwestiwn, gan fod cymaint o gamwybodaeth yno, nid wyf yn gwybod ble i ddechrau. Mae'r ffigurau y mae'r Ceidwadwyr yn eu dyfynnu ar blant anllythrennog—ac nid wyf yn hoff o'r term hwnnw beth bynnag—yn seiliedig ar adroddiad hen iawn. Mae'r ffigurau a ddarparwyd gennych ar gymorth ariannol drwy grantiau'r cwricwlwm yn anghywir. A gadewch imi ddweud, Natasha, nad wyf yn ymddiheuro am ariannu ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Nid wyf eisiau byw mewn gwlad lle mai'r unig blant a all fforddio dysgu am gerddoriaeth yw'r plant y gall eu rhieni fforddio talu amdano. Ond beth bynnag, mae'r hyn rydych wedi'i ddweud yn anghywir: ym meysydd mathemateg, gwyddoniaeth a llythrennedd, rydym yn gwario dros £23 miliwn ar draws y meysydd blaenoriaeth hyn yn rhan o grantiau'r cwricwlwm. Felly, gyda phob parch, rwy'n awgrymu y dylech fynd yn ôl ac edrych ar eich ffigurau.

14:40

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Felly, hoffwn ddilyn yr un thema yn fy nghwestiwn cyntaf ar yr adroddiad mathemateg diweddar gan Estyn. Roedd ei ganfyddiadau'n llym, fel rydym eisoes wedi'i glywed, gyda'r datganiad bod safonau disgyblion mewn mathemateg yn rhy isel. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, fodd bynnag, yw ein bod wedi bod yma o'r blaen. Yn 2013, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar arferion da mewn mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4. Yn 2015, cyhoeddodd Estyn adroddiad pellach, a archwiliai safonau mewn mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 3. Ac fel y mae'r adroddiad diweddaraf yn ei ddatgan:

'Mae llawer o'r un heriau o fewn addysgu mathemateg yn parhau.'

Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu, ond rwy'n credu bod ailgylchu adroddiadau damniol ar safonau ysgolion bob 10 mlynedd gam yn rhy bell, ac mae disgyblion yn haeddu gwell. Mae angen i bethau newid. Felly, rwy'n cymryd bod Gweinidogion eraill wedi gweithio'n agos gydag Estyn, ond beth fyddwch chi'n ei wneud yn wahanol i bob Gweinidog addysg arall aflwyddiannus o'ch blaen?

Wel, diolch am eich cwestiwn, Cefin. Ac os caf roi sicrwydd i chi nad wyf mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynghylch yr heriau a nodwyd yn adroddiad Estyn. Yr hyn sy'n fy nghadw'n effro yn y nos yw'r syniad y gallem fod yn gwneud cam ag unrhyw blentyn. Nawr, ni allaf wneud sylwadau ar ba mor uniongyrchol ai peidio y mae Gweinidogion blaenorol wedi gweithio gydag Estyn ar fater mathemateg. Ni allaf ond dweud wrthych fy mod i'n gweithio'n agos iawn gyda hwy ar fater mathemateg. Ac yn wir, mae gennym secondeion o Estyn yn ymuno â ni ar hyn o bryd, sy'n gweithio ar y manylion a ddisgrifiais wrth ymateb i Natasha.

Felly, yr hyn rwy'n ceisio'i wneud gydag Estyn—. Yn amlwg, maent yn arolygiaeth annibynnol, fel y dylent fod, ac mae'n rhaid iddynt daflu goleuni ar unrhyw feysydd lle maent yn credu bod diffygion, ac rwy'n croesawu hynny. Ond rwyf hefyd wedi ceisio datblygu system lle rydym yn gweithio gyda'n gilydd o ddifrif i fynd i'r afael â'r problemau hynny, ac maent yn dod i mewn—fel y dywedais, mae gennym secondeion o Estyn—maent yn gweithio'n agos iawn gyda ni. Pan fyddwn yn edrych ar bolisïau, rwyf bob amser yn awyddus i gael barn gan Estyn, gan fod ganddynt drosolwg unigryw ar yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion.

Wel, diolch yn fawr iawn. Dwi eisiau symud ymlaen nawr at yr addewidion a wnaethoch chi ar gyfer yr etholiad cyffredinol y llynedd, sef y byddech yn rhoi mwy o arian ar gyfer addysg ac athrawon yng Nghymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae gan un o bob pum ysgol yng Nghymru ddiffygion yn eu cyllideb, ac mae hynny, ar y raddfa bresennol, yn debygol o godi i'r hanner y flwyddyn nesaf a thros 80 y cant mewn diffygion y flwyddyn ganlynol.

Ar y naill law, mae undebau athrawon wedi mynegi anniddigrwydd ar ôl methu â chael eglurder wrthych chi a yw'r cyllid ychwanegol sydd wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn y cynnydd mewn gwariant ar addysg yn Lloegr yng nghyllideb yr hydref, yn cael ei wario ar ysgolion yng Nghymru. Hefyd, mae methiant Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i anrhydeddu'n llawn y cynnydd mewn yswiriant gwladol i weithwyr yn y sector cyhoeddus yn golygu bod angen i Lywodraeth Cymru dynnu ar eu cronfeydd wrth gefn er mwyn gwneud y gwahaniaeth rhwng y ddau. Felly, mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu heriau cyllidol ar ddau ffrynt. Felly, y cwestiwn yw hyn: pan addawodd Llafur bartneriaeth mewn grym, a oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl, dim ond blwyddyn yn ddiweddarach, y byddai'r bartneriaeth honno rhwng Llafur yng Nghymru a San Steffan yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar gyllidebau ysgolion, sydd eisoes dan bwysau mawr?

14:45

Diolch, Cefin. Fe wnaethoch fy nghlywed yn dweud mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, eleni ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fod ysgolion a'r system addysg ehangach yng Nghymru wedi elwa o werth £262 miliwn o gyllid ychwanegol. Mae hynny'n ychwanegol at y cynnydd o 4.5 y cant yn y grant cynnal ardrethi, sydd hefyd yn ariannu addysg, a dylwn ddweud wrthych fod y cynnydd hwnnw mewn cyllid yn ganlyniad uniongyrchol i'r bartneriaeth mewn grym. Pan gyhoeddodd Llywodraeth Lafur newydd y DU eu cyllideb gyntaf, roedd cyllid ychwanegol i ni yng Nghymru, y bu modd i mi ei fuddsoddi yn ein hysgolion.

O ran y cyhoeddiad diweddaraf, yn amlwg, fe fyddwch wedi clywed am y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru, bron i £5 miliwn i Gymru, o ganlyniad i'r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth y DU. Fe fyddwch yn ymwybodol, o dan ddatganoli, mai ni sy'n gwneud y penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff yr arian hwnnw ei wario, a byddwn yn disgwyl ichi gefnogi hynny. Byddwn yn cael trafodaethau fel Cabinet ar ddyrannu adnoddau ychwanegol, ond gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn dadlau'n gryf iawn, fel y gwneuthum ers dod i'r Llywodraeth, o blaid mwy o gyllid ar gyfer addysg.

Felly, nid yw'n glir a yw'r cyllid canlyniadol yn mynd i ysgolion, ond fe arhoswn, efallai, am ddatganiad gennych ar hynny.

Felly, hoffwn sôn, yn fy nghwestiwn olaf, am yr uwchgynhadledd ymddygiad a gynhaliwyd gennych ychydig wythnosau yn ôl. Yn dilyn yr uwchgynhadledd, fe gyhoeddoch chi ddatganiad i'r wasg gyda phennawd a oedd yn addo pum cam gweithredu i fynd i'r afael ag ymddygiad mewn ysgolion ar unwaith. Nawr, er bod cynnwys y datganiad i'r wasg yn amlinellu pum maes ffocws, mae'r cywair a'r iaith a ddefnyddiwyd yn awgrymu bod rhai o'r rhain yn dal i fod yn y cyfnod cynllunio neu ymgynghori, yn hytrach na'u bod yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith. Nawr, gan na chefais fy ngwahodd, clywais fod sôn wedi bod am ymrwymo i gael gwared ar rai pethau a rhoi ystyriaeth lawn i faterion eraill. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pa rai o'r pum maes ffocws a gyhoeddwyd sy'n cael eu rhoi ar waith ar unwaith, pa rai sy'n dal i fod yn y cyfnod cynllunio neu ymgynghori, a sut y disgwylir i ysgolion elwa yn y tymor byr o'r hyn sydd i'w weld yn becyn i ymgyrraedd ato i raddau helaeth?

Diolch, Cefin. Credaf fy mod wedi nodi'n eithaf clir yn fy ateb blaenorol fod ysgolion wedi elwa o'r cyllid canlyniadol hwnnw gan Lywodraeth y DU, ac nid oes penderfyniadau wedi'u gwneud eto ynglŷn â'r cyhoeddiad cyllid diweddaraf.

O ran eich cwestiynau ynglŷn â'r uwchgynhadledd ymddygiad, fel y dywedoch chi, fe nodais bum cam gweithredu uniongyrchol yr ydym yn gweithio arnynt yn weithredol ar hyn o bryd. Nid wyf am ailadrodd y camau gweithredu hynny yma, ond roedd yn ddiwrnod buddiol a chynhyrchiol iawn. Fe wnaethom dreulio'r diwrnod cyfan mewn trafodaethau gweithdy, yn edrych yn fanwl ar fanylion yr heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu gydag ymddygiad. Nid oes atebion hawdd ar hyn, Cefin. Os oes unrhyw un yma'n credu bod rhyw fath o ateb hud i'r materion hyn, mae arnaf ofn eich bod yn anghywir, gan fod y rhain yn faterion cymhleth. Ymrwymais yn yr uwchgynhadledd hefyd—gan inni gael trafodaeth mor fanwl yr oeddwn i a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn rhan weithredol ohoni—ein bod ni eisiau sicrhau ein bod yn nodi popeth a ddywedwyd yn y cyfarfod hwnnw. Felly, yn amlwg, crynhois bum cam gweithredu uniongyrchol y gallem fwrw ymlaen â hwy, ond byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o'r materion eraill a godwyd yn rhan o'r uwchgynhadledd. Nid yw hwn yn fater syml, ac fel y dywedaf, mae unrhyw un sy'n credu ei fod yn fater syml yn anghywir.

14:50

Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OQ62860].

Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr uwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad? OQ62858

Yn dilyn yr uwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad, cyhoeddais bum cam gweithredu uniongyrchol i fynd i'r afael â materion ymddygiad dybryd. Bydd allbynnau'r uwchgynhadledd yn llywio cynllun gweithredu ymatebol i ategu'r rhaglen waith yn y dyfodol ar ymddygiad. Rwyf hefyd yn hwyluso gwaith ar ffonau symudol mewn ysgolion gyda phartneriaid allweddol ac arbenigwyr perthnasol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n rhaid imi ddweud o'r cychwyn cyntaf pa mor siomedig wyf i na chafodd unrhyw un o Aelodau'r gwrthbleidiau wahoddiad i'r uwchgynhadledd hon, yn enwedig gan fod hwn yn fater y gall pob un ohonom gydweithio arno i'w ddatrys yn unedig. Ar ôl edrych ar restr o westeion yr uwchgynhadledd, cefais fy synnu braidd o weld bod mwy na 30 o swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i chi gyfiawnhau pam fod angen cymaint o swyddogion y Llywodraeth yn yr uwchgynhadledd. Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwael a thrais yn ein hystafelloedd dosbarth, heb os, yn rhywbeth y mae pob un ohonom, ni waeth beth fo'n plaid, eisiau ei weld, yn enwedig gan ei fod ar gynnydd.

Cafodd yr uwchgynhadledd ymddygiad hon sylw cyson fel cam mawr ymlaen i sicrhau newid yn ein hysgolion, felly rwy'n gobeithio'n fawr nad siop siarad ac ymarfer cysylltiadau cyhoeddus yn unig ydoedd. I mi, roedd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Mai yn brin o gamau gweithredu cadarn, ac nid oedd unrhyw sôn o gwbl am arfau na thrais yn ein hysgolion yn eich ymateb i gwestiwn ysgrifenedig fy arweinydd Darren Millar ar yr uwchgynhadledd. I leddfu fy ofnau, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu rhai o'r atebion y gallwn ddisgwyl eu gweld ar unwaith i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael yn ein hysgolion o ganlyniad i'r uwchgynhadledd ymddygiad? Diolch.

Diolch, Natasha. Fe wnaethoch gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig am yr uwchgynhadledd, lle nodais fy mod yn fwy na pharod i roi gwybodaeth i chi, Cefin Campbell a Jane Dodds, yn ogystal â llefarwyr y gwrthbleidiau, am allbynnau'r uwchgynhadledd. Hyd yma, nid oes unrhyw un wedi gofyn i mi am hynny. Roedd 30 o swyddogion Llywodraeth Cymru yn yr uwchgynhadledd, ond diben cael y nifer hwnnw o swyddogion Llywodraeth Cymru yno oedd fy mod wedi dweud yn glir iawn nad oeddwn am gael digwyddiad lle roedd pawb yn eistedd yno'n gwrando ar areithiau polisi. Roeddwn am i hyn ymwneud â thrafod gyda phobl ar y rheng flaen yr hyn sydd angen i ni ei wneud i newid pethau. Felly, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yno yn hwyluso ac yn cofnodi'r drafodaeth wrth y bwrdd, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am y gwaith a wnaethant ar hynny. Ac rwy'n credu ei bod yn eithaf rhyfeddol eich bod wedi tynnu sylw at hyn, mewn gwirionedd.

Nid wyf yn cytuno â chi fod y datganiad i'r wasg yn brin o gamau gweithredu. Fe wnaethom nodi pum cam gweithredu uniongyrchol y byddem yn eu cymryd. Fel y dywedais wrth Cefin, hoffwn sicrhau ein bod yn cofnodi popeth a ddywedwyd yn yr uwchgynhadledd ar y gwahanol fyrddau i sicrhau bod materion a syniadau pawb yn cael eu nodi. Cyn yr uwchgynhadledd, cawsom y cyfarfod bord gron ar drais mewn ysgolion, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r heddlu ac eraill am gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw. Rhoddodd hwnnw gamau gweithredu i ni hefyd. Un o'r rheini fydd adolygu'r canllawiau yn y maes hwn, er, fel y dywedais wrthych o'r blaen, eisoes gall ysgolion wahardd rhywun sy'n cael eu dal gydag arf yn yr ysgol ar unwaith. Fe wnaethom drafod yn y cyfarfod bord gron hefyd y gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghaerdydd, er enghraifft, ar eu fframwaith arfau. Felly, rydym yn awyddus i ddysgu o arferion da yn y maes hwnnw, a hefyd i weithio gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo i hyrwyddo Cymru ddi-drais. Felly, mae llawer o gamau gweithredu yn deillio o'r uwchgynhadledd. Dim ond hyn a hyn y gallwch ei roi mewn datganiad i'r wasg, ac rwy'n ailadrodd y cynnig eto i'ch briffio chi a Cefin, ac yn wir, unrhyw Aelodau a hoffai gael mwy o fanylion am y gwaith a wnaethom yn yr uwchgynhadledd. Ac os caf i fanteisio ar y cyfle hwn, Lywydd, i ddiolch i bawb a fynychodd. Mae'r rhain yn faterion anodd a chymhleth iawn, ond cawsom ddiwrnod ysbrydoledig a chalonogol iawn, lle gweithiodd pawb yn galed a mynd ati i geisio dod o hyd i atebion i broblemau cymhleth.

14:55

Ni ofynnwyd cwestiwn 5 [OQ62883].

Gwn ei bod yn ddiwrnod heulog, ond rwy'n disgwyl i'r Aelodau fod yn y Siambr pan fyddant wedi cyflwyno cwestiynau.

Cwestiwn 6, felly.

Rwy'n falch eich bod yma, Joyce. Eich cwestiwn chi, Joyce Watson.

Oedolion sy'n Ddysgwyr mewn Addysg Bellach

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr mewn addysg bellach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62859

Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu cymorth ariannol i ddysgwyr sy’n oedolion o fis Medi 2025 ymlaen, gyda grantiau dysgu o hyd at £1,919 gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu am hanfodion. Mae Medr yn ariannu colegau addysg bellach ac awdurdodau lleol i ddarparu ystod o gyfleoedd dysgu i oedolion, gan gynnwys sgiliau hanfodol, Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, a chyrsiau sgiliau galwedigaethol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn y bydd y cyhoeddiad hwnnw'n newyddion da iawn i unigolion sydd eisiau dychwelyd at ddysgu. Rwy'n falch iawn o weld nad oes rhaid ad-dalu'r grant ychwaith, ac mae hefyd wedi'i gynyddu i helpu myfyrwyr gyda'r argyfwng costau byw presennol sy'n wynebu llawer o'r myfyrwyr hynny. Felly, a ydych chi'n cytuno bod darparu grantiau o'r fath yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr sy'n oedolion i aros mewn addysg neu ddychwelyd at addysg, gan wella nid yn unig eu disgwyliadau a'u dyfodol eu hunain, ond rhai eu teuluoedd hefyd?

Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedoch chi, Joyce. Dyna pam fy mod mor falch o allu cyhoeddi ar 2 Mehefin, ar gyfer dysgwyr cymwys 19 oed a hŷn sy'n parhau neu sy'n dechrau astudio ym mlwyddyn academaidd 2025-26, fod grant dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach wedi'i gynyddu yn unol â chwyddiant. Hyd yma mae dysgwyr wedi derbyn hyd at uchafswm o £1,500 i'w helpu gyda chost astudio cwrs hyd at a chan gynnwys lefel 3, ac mae'r swm hwnnw wedi aros yr un fath ers 2012 mewn gwirionedd. Felly, roeddwn wrth fy modd fy mod wedi gallu ei gynyddu, a'i gynyddu oddeutu traean, sydd, yn fy marn i, yn rhoi llawer iawn o gymorth ychwanegol. Felly, bydd y ffigur hwnnw nawr yn codi i £1,919, a chredaf y bydd y £419 ychwanegol yn helpu rhai o gartrefi incwm isel ymhellach i leihau'r rhwystrau ariannol sy'n gysylltiedig ag astudio, ac mae'n dangos fy ymrwymiad parhaus, ac ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru, i sicrhau y gall dysgwyr gael mynediad at addysg ar bob cam o'u bywydau. Yn ogystal â hynny, felly, byddwn yn cynnal adolygiad llawn o grant dysgu Llywodraeth Cymru i adlewyrchu ein hadolygiad o'r lwfans cynhaliaeth addysg, i ystyried, yn ogystal â'r cynnydd hwn, a ddylid codi'r trothwy ar gyfer isafswm incwm aelwydydd hefyd yn unol â chwyddiant, fel y gallwn sicrhau bod mwy fyth o ddysgwyr yn elwa o hynny.

Cynnal a Chadw Adeiladu Ysgolion

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ariannu’r gwaith o gynnal a chadw adeiladau ysgolion? OQ62869

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol yw cynnal a chadw adeiladau ysgolion, gan mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i reoli eu hystadau addysg. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w cefnogi gyda'r swyddogaeth hon, gan ddarparu gwerth £286 miliwn o gyllid cyfalaf cynnal a chadw ar draws ysgolion yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y cofiwch efallai, beth amser yn ôl, codais fater ysgol Santes Monica yng Nghaerdydd, a oedd, ers nifer o flynyddoedd, wedi'i hamgylchynu gan sgaffaldiau. Yn wir, fe wnaeth nifer o'r plant yno ddechrau a gorffen eu haddysg yn yr ysgol gyda sgaffaldiau o amgylch yr adeilad o hyd. Diolch byth, yn dilyn ymyriadau gan y cyngor, mae'r sgaffaldiau bellach wedi'u tynnu i lawr ac mae'r gwaith wedi'i gwblhau—ond nid dyma'r unig ysgol yng Nghaerdydd, fel y gallech fod wedi'i weld o'r sylw diweddar am Ysgol Gynradd Parc y Rhath, er enghraifft. Felly, fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cynghorau fel Caerdydd yn cwblhau'r gwaith adfer a chynnal a chadw mor gyflym â phosibl? Diolch.

15:00

Diolch, Joel. Fel y nodoch chi, mae nifer o ysgolion yng Nghaerdydd mewn cyflwr gwael. Euthum i weld Ysgol Gynradd Albany yng Nghaerdydd, sydd yn y sefyllfa honno. Rwy'n gwybod bod Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd o dan bwysau digynsail ar draws eu hystad addysg ac yn blaenoriaethu eu cyllid cyfalaf ar gyfer boeleri, gwaith iechyd a diogelwch brys a rheoledig, a hapddigwyddiadau. Ond gallaf ddweud wrthych fy mod yn cyfarfod â Chaerdydd i drafod y mater. Byddaf eisiau deall beth yw'r pwysau ac i ba raddau y mae'r awdurdod lleol yn blaenoriaethu buddsoddiad yn ei hadeiladau ysgol.

Plant sydd â Syndrom Tourette

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant sydd â syndrom Tourette yn cael cymorth priodol yn yr ysgol? OQ62878

Drwy ddiwygio'r system addysg, rydym yn cefnogi plant sydd â syndrom Tourette i ymgysylltu, dysgu a ffynnu. Mae ein cwricwlwm newydd, ein system anghenion dysgu ychwanegol a'n dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a llesiant yn creu newid i amgylchedd yr ysgol sy'n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd eu potensial llawn.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae un o bob 100 o bobl yn byw gyda Tourette's ac yn ddiweddar daeth etholwr i gysylltiad â mi i ddweud ei bod wedi bod yn gofyn am ddiagnosis a chymorth i'w mab, ond ei bod wedi cael ei throsglwyddo o un gweithiwr proffesiynol i'r llall heb i fawr o gynnydd gael ei wneud. Mae hi wedi cael ei siomi gan ddiffyg cefnogaeth ysgol y plentyn ac mae'n dweud bod diffyg dealltwriaeth lwyr hefyd o syndrom Tourette.

A gaf i ofyn pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn â syndrom Tourette a sicrhau bod plant yn cael diagnosis amserol? A pha gynlluniau sydd gennych i wella ansawdd yr hyfforddiant ar syndrom Tourette ac anhwylderau ticiau eraill ar gyfer athrawon a staff cymorth?

Hoffwn ddweud bod gan Tourette.org adnodd da iawn gyda phrawf bach ar y diwedd, ac er imi fethu cael yr 80 y cant o drwch blewyn, byddaf yn ei wneud eto, ac fe ddysgais lawer iawn. Diolch.

Diolch am y cwestiwn atodol, Carolyn. Nid wyf wedi trafod Tourette's yn benodol gyda Sarah Murphy, ond rwyf wedi trafod gyda hi a gyda Jeremy Miles yr heriau a wynebwn gyda phlant yn aros am asesiad niwroddatblygiadol a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar eu haddysg. A dylwn ddweud—ac rydym wedi ailadrodd hyn sawl gwaith wrth ysgolion—nad oes angen diagnosis ar blant er mwyn cael cymorth yn yr ysgol. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig yn yr achos hwn.

O ran hyfforddiant, mae dolenni ar Hwb sy'n tywys staff ysgol at yr adnoddau e-ddysgu sydd ar gael drwy'r Tîm Niwroamrywiaeth Cenedlaethol a Tourettes Action, ac mae'n darparu dolen at gymorth addysg a hefyd yn darparu mynediad at gymunedau o ymarfer sy'n cynnwys Tourette's a chyngor mwy generig ar gefnogi plant sy'n niwroamrywiol gydag ystod o gyflyrau sy'n cyd-ddigwydd yn yr ysgol.

Fel Llywodraeth, rydym wedi gofyn i Education Support ddatblygu cynllun peilot o ddysgu proffesiynol i ni, sy'n dechrau yn yr hydref. Bydd hynny'n cynnwys niwroamrywiaeth, iechyd meddwl a datblygiad plant. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu i uwchsgilio staff ysgol i gefnogi pob dysgwr sy'n niwroamrywiol.

Os caf ddweud hefyd, diolch am rannu'r adnodd gyda mi ar Tourette's. Nid oedd gennyf amser i wneud yr hyfforddiant am fy mod i'n paratoi ar gyfer y cwestiynau hyn, ond rwy'n mynd i'w wneud dros y penwythnos, ac roedd yn ddefnyddiol iawn i'w weld. Felly, diolch yn fawr.

Dewis Ysgol

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan riant y rhyddid i ddewis pa ysgol y caiff ei blentyn fynd iddi? OQ62880

Mae cod derbyn i ysgolion Cymru yn esbonio bod yn rhaid i awdurdodau derbyn wneud trefniadau sy'n galluogi rhieni plant yn eu hardal i fynegi pa ysgol y maent yn ei dewis ac i roi rhesymau dros y dewis hwnnw. Rhaid i awdurdodau derbyn gydymffurfio â dewisiadau rhieni lle mae lleoedd ar gael.

15:05

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n derbyn mai'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yw'r sylfaen o hyd ar gyfer y fframwaith cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, a'i fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, os ydw i'n gywir.

Mae hwn yn fater a godais gyda chi o'r blaen, ond o dan y system bresennol, rhaid darparu cludiant ysgol am ddim i'r ysgol Gymraeg agosaf, hyd yn oed os oes ysgol cyfrwng Saesneg sy'n agosach at gartref y plentyn. Nawr, dyna yw'r peth iawn i'w wneud, oherwydd mae hynny'n seiliedig ar y ddyletswydd i hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Ond os yw'r gwrthwyneb yn wir, a bod ysgol cyfrwng Cymraeg yn agosach nag ysgol cyfrwng Saesneg, yr hyn sy'n digwydd yn aml, yn sicr yn ardal fy awdurdod lleol fy hun, yw na fydd yr awdurdod lleol yn darparu'r cludiant ysgol am ddim i'r ysgol cyfrwng Saesneg agosaf. Nawr, tybed a yw hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n ei archwilio yn rhan o'r ymgynghoriad hwn. Yn aml, mae'n dibynnu ar y diffiniad yn y canllawiau o'r ysgol addas agosaf. Yn aml, awdurdodau lleol sy'n penderfynu beth yw'r diffiniad hwnnw, yn hytrach na'i fod wedi'i nodi yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Tybed beth yw eich barn chi ar y mater, ac a yw'n rhywbeth y gallech ei archwilio.

Diolch am eich cwestiwn, Russell. Fel y nodwch, mae'r canllawiau ar y Mesur teithio gan ddysgwyr yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac rwy'n eich annog i fwydo unrhyw farn drwy'r ymgynghoriad hwnnw. Rhan o'r her gyda'r Mesur teithio gan ddysgwyr yw'r lefel o anghysondeb wrth ei gymhwyso, a rhan o'r rheswm dros y newid i'r canllawiau yw i geisio cael mwy o gysondeb gyda llywodraeth leol o ran ei weithredu. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Ken Skates a minnau wedi cael uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr lle gwnaethom ganolbwyntio ar rai o'r materion hyn, ac yn wir roedd mater cysondeb ar draws llywodraeth leol yn un o'r camau a gododd o hynny. O ran y manylion, yn amlwg byddai angen imi wybod ychydig mwy am yr ysgol dan sylw. Felly, hoffwn awgrymu eich bod naill ai'n ysgrifennu ataf i neu at Ken Skates a gallwn fynd ar ei drywydd.

Diolch i'r Gweinidog. Mae pob un o'r cwestiynau ar y rhestr wedi cael eu hateb neu heb eu gofyn heddiw.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau amserol. Dwi wedi dewis un cwestiwn amserol y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn hwnnw i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol ac i'w ofyn gan Luke Fletcher.

Cyllid rhanbarthol ar ôl Brexit

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU y bydd cyllid rhanbarthol ar ôl Brexit yn cael ei weinyddu gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn hytrach na Llywodraeth Cymru? TQ1349

Diolch, Luke. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe ddiwethaf, yn yr adolygiad o wariant fe welsom £5 biliwn ar gyfer gwariant cyhoeddus. Dyna arian y gallwn ei wario ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru, fel iechyd, addysg a swyddi o safon yn ein cymunedau. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i ofyn am fwy ac yn mynnu ein cyfran deg.

Diolch am yr ymateb yna, Cwnsler Cyffredinol, ond wnes i ddim gofyn am faint o arian sy'n dod i Gymru. Roeddwn i'n gofyn specifically am y post-Brexit funding.

Nodais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol mewn ymateb i gwestiwn gan Peredur Owen Griffiths mewn sesiwn flaenorol, a nodais hefyd y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog y bore yma i'r pwyllgor diwylliant: mae'r ddau i'w gweld wedi creu darlun dryslyd iawn.

Nawr, gadewch inni atgoffa ein hunain o'r llinell amser yma. Cyn etholiad cyffredinol y DU, addawodd Keir Starmer adfer pwerau gwneud penderfyniadau dros gyllid ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin i Lywodraeth Cymru. Yna, yn ystod yr etholiad, diwygiwyd yr addewid i roi rôl amhenodol i Lywodraeth Cymru benderfynu sut y gwerir y cyllid hwn, yn hytrach na'i ddatganoli'n llawn, a nawr dywedir wrthym, drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, y bydd pŵer dros gronfeydd ar ôl Brexit yn cael ei gadw'n llawn yn San Steffan, a'i weinyddu gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, gyda mewnbwn nid gan Lywodraeth Cymru—a gadewch i ni fod yn glir ar hyn—ond gan Swyddfa Cymru. Nawr, mae'r neges yn ddryslyd iawn.

Ar y naill law, mae'r adolygiad o wariant yn dweud un peth, ac ar y llaw arall, roedd y Prif Weinidog y bore yma yn awgrymu na fydd yr hyn a nodwyd gan yr adolygiad o wariant yn wir. Felly, yn syml iawn, Gwnsler Cyffredinol, beth sy'n digwydd? Beth yw safbwynt y Llywodraeth? A phwy y dylem ei gredu—adolygiad o wariant y Canghellor neu'r Prif Weinidog?

15:10

Diolch, Luke. Fel y dywedais, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Cymru'n cael £633 miliwn dros dair blynedd ar gyfer cyllid twf lleol, ac mae hynny'n golygu bod Cymru'n sicrhau 22.5 y cant o ddyraniad y DU. Mae'n gwbl hanfodol fod y cyllid hwn yn cael mwy o effaith na'r gronfa ffyniant gyffredin etifeddol, a gafodd ei thaflu at ei gilydd gan Lywodraeth flaenorol y DU, ac a oedd, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, yn osgoi Llywodraeth Cymru a'r Senedd. Rydym am fuddsoddi'r cronfeydd hyn yng Nghymru i fynd i'r afael â bylchau mewn cynhyrchiant rhanbarthol ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd, nid dim ond dyblygu polisi a rhaglenni datganoledig presennol neu lle nad oes fawr o dystiolaeth o effaith economaidd.

Felly, yn debyg iawn i fodel cronfeydd strwythurol yr UE, rydym yn awyddus i gytuno ar set o ganlyniadau cyffredin gyda Llywodraeth y DU ar gyfer datblygu dull Cymreig wedi'i deilwra gyda'n partneriaid, sy'n cyd-fynd â pholisi datganoledig a'r trefniadau llywodraethu a'r strwythurau sy'n bodoli yng Nghymru. Gallaf roi enghraifft o hynny i chi. Rydym am fabwysiadu dull mwy integredig i allu edrych ar flaenoriaethau fel arloesedd sgiliau a chysylltedd ochr yn ochr â gweithgarwch adfywio, ond dylai'r cydbwysedd fod yn fater i ni ei gytuno â'n partneriaid yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi dechrau gweithio gyda'r partneriaid hynny, gan gynnwys drwy ein grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Carolyn Thomas AS. Mae'r grŵp eisoes wedi ystyried gwersi ac arferion gorau rhyngwladol ar sut y gallwn gefnogi ein heconomïau rhanbarthol a lleol a'n marchnadoedd llafur, ac rydym wedi cwblhau ystod o waith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar sut y gellir cymhwyso arferion gorau rhyngwladol yng Nghymru i sicrhau'r effaith fwyaf sy'n bosibl o fuddsoddiad yn y maes polisi hwn.

Felly, byddwn i'n dweud fy mod yn credu ei bod hi'n wirioneddol amlwg fod gan Gymru lais mawr yn y cronfeydd hyn, fod croeso mawr i'r cronfeydd, ein bod yn falch iawn o fod wedi sicrhau swm mor fawr o'r cyllid. Rydym wedi cadw 22.5 y cant o gyfanswm cyfran y DU, sef yr un dyraniad canrannol ag a gawsom o gyllid yr UE, ac mae hynny'n adlewyrchu anghenion ychwanegol a gwendidau strwythurol yng Nghymru yr ydym am allu ceisio mynd i'r afael â hwy.

Er y bydd rhywfaint o drafodaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, onid y gwir yw mai Whitehall a 22 awdurdod lleol Cymru a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cyllid strwythurol ar ôl Brexit? Mae hynny'n mynd yn groes i'r hyn a ddywedodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, yr wyf i a Luke Fletcher yn aelodau ohono. Mae hynny'n mynd yn groes i faniffesto Llafur a'r hyn yr oeddent yn ei addo. Felly, beth y mae hyn yn ei olygu? Pam nad yw Llafur y DU yn ymgysylltu â Llafur Cymru ar gyflawni hyn? Ai am nad ydynt yn ymddiried ynoch chi ar yr economi, Gwnsler Cyffredinol?

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, mawredd, rwy'n aml yn synnu at hyfdra’r Ceidwadwyr, ond mae hynny'n mynd y tu hwnt. Hoffwn nodi bod y Llywodraeth yr oeddech chi'n ei chefnogi i'r carn wedi osgoi'r holl drefniadau rhanbarthol yn llwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth sefydlu'r gronfa ffyniant gyffredin ac wrth wneud hynny, nid oedd yn rhoi ei chyfran deg i Gymru ychwaith. Felly, nid wyf am dderbyn unrhyw bregethau gan y Ceidwadwyr ar sut i redeg cronfeydd yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, atebodd y Prif Weinidog gwestiwn yn y pwyllgor diwylliant y bore yma. Roedd hi'n glir iawn mai Cymru a fyddai'n rhedeg y rhaglenni hyn. Roedd hi'n glir iawn fod yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn yr adolygiad o wariant, a oedd yn mynd yn groes i faniffesto Llafur, ond nid yn unig eu bod yn mynd yn groes i faniffesto Llafur, roeddent yn torri addewid a wnaed gan Keir Starmer yng Nghymru mewn cynhadledd Llafur Cymru, ac mae'n rhaid inni fod yn hollol glir ar hynny, ac nid oes unrhyw esboniadau'n cael gwared ar hynny. Nawr mae'n ymddangos y bydd Cymru, yn dilyn ymyrraeth gan y Prif Weinidog, yn rhedeg y materion hyn, byddant yn cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod pob un ohonom, ble bynnag yr eisteddwn yn y Siambr y prynhawn yma, eisiau clywed Gweinidog yn dweud hynny, ac yn dweud hynny'n glir, oherwydd mae'r rhain wedi bod yn ddyddiau niweidiol i'r Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU.

Wel, rwy'n hapus i gadarnhau, Alun, mai fy nealltwriaeth i, yn ogystal â'r Prif Weinidog, yw y bydd yr arian yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru, yn dilyn ymrwymiad Syr Keir Starmer mai dyna fydd yn digwydd. Nid oeddwn yn rhan o'r drafodaeth fy hun, ond fy nealltwriaeth i yw bod y Prif Weinidog a Swyddfa Cymru yn cytuno mai dyna'r ffordd y byddant yn cael eu gweinyddu.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Cwnsler Cyffredinol am y sesiwn yna.

4. Datganiadau 90 eiliad

Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Y datganiad cyntaf gan Joyce Watson.

Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon rydym yn nodi Diwrnod Ail-lenwi'r Byd. Gallwn fod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer i fynd i'r afael â malltod llygredd plastig, yn fwyaf diweddar gyda'r gwaharddiad ar fêps untro, ond mae gennym ffordd bell i fynd o hyd. Mae'r wythnos hon yn atgoffa'n bwerus y gallwn ni i gyd wneud ein rhan i atal tunelli o wastraff plastig rhag mynd i safleoedd tirlenwi neu lygru ein cefn gwlad a'n traethau gwych.

Dangosodd adroddiad y Gymdeithas Cadwraeth Forol ar gyflwr ein traethau fod 120 eitem o sbwriel ar gyfartaledd ar bob 100 metr o draeth a arolygwyd yng Nghymru y llynedd. Wrth gwrs, efallai na fydd yr ystadegau yn golygu llawer i ni ynddynt eu hunain. Felly, gadewch inni ddychmygu am eiliad, pe baech chi'n cerdded ar draws Freshwater West yn sir Benfro, gallech ddisgwyl gweld tua 1,440 eitem o sbwriel ar y traeth hwnnw'n unig. 

Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch, mae'r sefydliad amgylcheddol City to Sea yn cynnal her pum niwrnod, ac rwy'n gofyn i bob un ohonoch gyflawni un o'r heriau hynny a rhoi cyhoeddusrwydd eang iddynt. Nid ydynt yn anodd. Gofynnir i chi ddewis un neu fwy o eitemau plastig untro a defnyddio rhywbeth arall y gellir ei ailddefnyddio yn ei le, bob dydd am bum diwrnod—cwpan coffi efallai, cario potel ddŵr neu focs bwyd yn lle cynhwysydd tecawê, a dim ond dewis opsiynau bwyd heb ddeunydd pecynnu. Ond mae hefyd yn fan cychwyn ar gyfer newid ehangach, un sy'n golygu bod defnyddwyr, busnesau a llunwyr polisi yn gweithio gyda'i gilydd i groesawu ailddefnyddio a seilwaith sy'n gwneud ail-lenwi'n norm ac yn hygyrch i bawb.

Felly, ar Ddiwrnod Ail-lenwi'r Byd, gadewch inni gyfaddef bod bin ein planed yn gorlifo ac ymrwymo i droi'r llanw ar lygredd plastig. Wps.

15:15

Roedd hwnnw'n 'wps' tawel iawn ar y diwedd, Joyce Watson. Diolch am hynny. Sioned Williams. 

Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Anabledd Dysgu a'r thema eleni yw 'Ydych chi'n fy ngweld i?', i dynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi mewn cymdeithas. Roeddwn i'n falch o gadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar anabledd dysgu yn gynharach heddiw, sy'n cyflawni diben mor bwysig drwy sicrhau bod lleisiau a safbwyntiau pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr ac eiriolwyr yn cael eu clywed gan y Senedd.

Clywsom gan yr ysbrydoledig Michael Beynon, un o chwalwyr mythau Mencap, a Richie Horrigan o Gig Buddies Cymru, ynglŷn â sut y mae bod yn weladwy yn ymwneud â mwy na chael eich gweld, mae hefyd yn ymwneud â gael eich cydnabod, eich parchu a'ch cynnwys. Wrth gwrs, mae yna gormod o bobl ag anabledd dysgu wedi'u cloi allan o'r golwg mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl pan na ddylent fod. Mae ymgyrch Stolen Lives, Cartrefi nid Ysbytai yn dal i ganfod tystiolaeth o gam-drin hawliau dynol, ac mae'n rhaid rhoi diwedd ar hynny.

Pwnc yr ydym yn aml yn ei drafod hefyd yn y grŵp trawsbleidiol yw pwysigrwydd cymorth seibiant i ofalwyr. Mae Mencap Cymru yn rhedeg tŷ seibiant ym Mhenparcau yn Aberystwyth, a bydd 10 o weithwyr cymorth dewr yn gwneud naid parasiwt ym mis Medi i godi arian i osod ystafell synhwyraidd newydd yn y tŷ seibiant. Felly, pob lwc iddynt. Hefyd yr wythnos hon, lansiodd Mencap eu harolwg Cyflwr y Genedl 2025 ar gyfer Cymru, ac rwy'n annog pob Aelod i rannu'r arolwg gyda'u hetholwyr, er mwyn sicrhau bod barn pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gweld gan wneuthurwyr polisi. Fel y dywedodd Michael Beynon mor bwerus wrth y grŵp trawsbleidiol heddiw, mae bod yn weladwy yn arwain at ddealltwriaeth; mae dealltwriaeth yn arwain at gynhwysiant; mae cynhwysiant yn arwain at newid go iawn.

Y dydd Sadwrn hwn, bydd y Port Talbot Panthers yn teithio i Pamplona yn Sbaen i gymryd rhan yn y Bencampwriaeth Rygbi Gallu Cymysg Ryngwladol, a elwir hefyd yn gwpan rygbi'r byd gallu cymysg—dathliad byd-eang o gynhwysiant, gwydnwch a gallu chwaraeon i uno. Mae'r Panthers yn un o bedwar tîm o Gymru a fydd yn cystadlu, a'r lleill yw'r Swansea Gladiators, y Llanelli Warriors, ac yn y bencampwriaeth i fenywod, Merched Cymru. Mae'r bencampwriaeth yn dod â thimau ynghyd sy'n cynnwys chwaraewyr o bob oedran, gydag anableddau a heb anableddau, gan chwarae o dan reolau pencampwriaeth rygbi'r byd. O'i ddechreuadau yn Bradford yn 2015 i Pamplona eleni, mae wedi tyfu i fod yn fudiad byd-eang, gan brofi bod rygbi'n ffynnu pan fydd pawb yn cymryd rhan ac yn cael eu croesawu.

Mae'r Port Talbot Panthers yn ymgorfforiad o'r ethos hwnnw. Fe'i ffurfiwyd lai na saith mlynedd yn ôl i sicrhau nad oedd neb ym Mhort Talbot yn cael ei adael heb le yn y gêm, ac mae'r Panthers yn fwy na dim ond tîm. Maent yn gymuned. Bob wythnos, daw chwaraewyr o bob gallu at ei gilydd, nid yn unig i hyfforddi, ond i brofi'r cyfeillgarwch a'r diwylliant teuluol a geir wrth i bawb gymryd rhan. Mae pob chwaraewr yn cael ei werthfawrogi, mae pob rôl yn cael ei pharchu ac mae pawb yn cymryd rhan. Mae'r stori am hyn ar y BBC yr wythnos hon, lle mae Jak Powles yn tynnu sylw at yr ethos yn y clwb ac yn dangos y gwahaniaeth y gall clybiau o'r fath ei wneud i fywydau pobl. 

Mae'r Panthers wedi adeiladu diwylliant o anogaeth, gwaith tîm a pharch cydradd. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchu'r gorau o werthoedd rygbi Cymru, lle mae balchder, gwydnwch ac ysbryd cymunedol yn bwysicach nag unrhyw sgorfwrdd—er y byddai buddugoliaeth yn wych ar yr achlysur hwn. Byddant yn mynd i Sbaen nid yn unig i gystadlu ond i ddangos beth y gall rygbi fod pan fydd cynhwysiant yn cael ei roi wrth ei wraidd. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma eisiau dymuno'n dda i'r Panthers a'u cefnogi wrth iddynt gynrychioli Port Talbot yn Pamplona. Mae ganddynt gymuned falch sy'n sefyll y tu ôl iddynt bob cam o'r ffordd.

Pob lwc, Panthers. Mwynhewch y profiad. 

15:20
5. Dadl ar ddeiseb P-06-1365, 'Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru'

Eitem 5 sydd nesaf, y ddadl ar y ddeiseb 'Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru' yw honno. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig yma, sef Carolyn Thomas. 

Cynnig NDM8931 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1365 'Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru', a gasglodd 12,936 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Ym mis Medi 2023, gwisgodd Elfed Wyn ap Elwyn ei esgidiau cerdded a cherdded i'r Senedd. I unrhyw un sy'n byw yng Nghaerdydd, neu hyd yn oed sir gyfagos, ni fyddai hynny'n rhyfeddol, ond dechreuodd Elfed ei daith gerdded ym Mangor. Dilynodd ei daith 10 diwrnod yr hen reilffordd mor agos ag sy'n rhesymol, a chyrhaeddodd yma mewn pryd i gyfarfod ag aelodau'r pwyllgor pan oeddem yn dechrau ystyried ei ddeiseb yn galw am ailgysylltu Cymru drwy reilffordd arfordir y gorllewin. Denodd y ddeiseb 12,936 o lofnodion. Mae testun y ddeiseb yn dweud:

'Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru.

'Mae’r daith rhwng gogledd a de Cymru bob amser yn un hir, yn enwedig wrth ddefnyddio’r rheilffyrdd. Mae teithio ar y trên rhwng Bangor a Chaerdydd yn golygu bod rhaid i rywun fynd y tu allan i Gymru i allu cyrraedd pen y daith.

'Mae angen i’r rheilffyrdd gysylltu Cymru yn fewnol. Y cynllun ar gyfer gwneud hyn fyddai ail-agor llinellau Bangor—Afon-wen ac Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac integreiddio’r rhain â lein y Cambrian, a’r lein o Gaerfyrddin i Gaerdydd'.

Un o ofynion penodol y ddeiseb oedd am astudiaeth gwmpasu a dichonoldeb ar gyfer y rheilffordd o Fangor i Afon Wen. Cafodd yr astudiaeth hon ei chynnwys yn y cytundeb cydweithio ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni. Un o'r rhesymau pam y mae'r pwyllgor wedi aros mor hir i drafod y ddeiseb oedd er mwyn i'r ddadl gael ei llywio gan yr adroddiad hwnnw. Mae'r adroddiad wedi'i ysgrifennu gan ac ar gyfer peirianwyr, ond mae'n glir ynglŷn â maint yr her. Er bod y rhan fwyaf o'r llwybr a nodwyd yn yr adroddiad yn parhau i fod ym mherchnogaeth awdurdodau lleol, mae yna 79 o leoedd lle mae ffyrdd yn croesi'r llwybr. Mae yna hefyd nifer o gartrefi a busnesau sydd wedi tyfu ar wely'r trac, neu'n agos ato, ac mae rhannau mawr wedi'u newid yn llwybrau teithio llesol poblogaidd. Er mai ymyrraeth fach iawn y byddai gofyn ei wneud ar draean o'r llwybr 43.7 km, byddai 15 y cant yn galw am ymyrraeth fawr neu fawr iawn. 

Fel y dywed y deisebydd, os ydym am geisio datblygu'r seilwaith yng Nghymru a defnyddio dull gwyrddach o deithio, byddai adfer ac ailagor y rheilffordd hon yn gam i'r cyfeiriad cywir a byddai'n fuddiol i'r holl gymunedau sydd wedi'u lleoli ar hyd y rheilffordd, yn ogystal ag i Gymru fel cenedl. Er bod yr adroddiad dichonoldeb yn canolbwyntio ar reilffyrdd ysgafn a thramiau, byddai'n well gan ymgyrchwyr reilffordd drom a fyddai'n caniatáu cyflymderau cyflymach. Maent yn credu'n angerddol y byddai manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ailagor y rheilffordd yn gwneud y gost yn werth ei thalu. Hoffent hefyd weld gwaith tebyg yn cael ei wneud ar ddichonoldeb y rhan o'r llinell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl heddiw. Rwy'n ymwybodol o'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng y gogledd a'r de. Rwy'n siŵr hefyd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhannu unrhyw ddiweddariad sydd ganddo yn dilyn ei ymgynghoriad ar fws cyflym i gysylltu gogledd a de Cymru, a ddaeth i ben yn gynharach eleni. Mae cynnig y gwasanaeth bws wedi'i gynllunio i ddangos y galw am well cysylltiadau ar arfordir y gorllewin, a fyddai yn ei dro yn cefnogi'r achos dros fuddsoddi mewn seilwaith parhaol gwell. Mae'r adroddiad dichonoldeb ar gyfer Bangor i Afon Wen wedi rhoi llawer i ni feddwl amdano. Mae wedi tynnu sylw at y mannau lle byddai rhedeg trenau'n gymharol hawdd a'r rhai lle gallai fod yn anhygoel o anodd, ond mae wedi rhoi dealltwriaeth gyffredin i ni o ble mae'r rhwystrau hynny a sut y gellid eu datrys.

15:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch unwaith eto, Carolyn, am eich gwaith fel Cadeirydd y pwyllgor hwn. Rwy'n cofio'r dyddiau pan nad oedd ond angen 50 llofnod iddo ddechrau mynd, ond i feddwl bod y ddeiseb hon, unwaith eto, wedi cael dros 12,000. Mae'n dweud wrthyf (a) fod gwaith y Pwyllgor Deisebau yn gwneud yn dda iawn, a hefyd (b) fod ein trigolion a'n hetholwyr yn gwerthfawrogi'r gallu i allu manteisio a gwneud eu teimladau'n hysbys. Felly, da iawn i'r deisebydd.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb o ogledd i dde-orllewin Cymru wedi nodi llwybr a ffafrir posibl ar gyfer y pellter cyfan rhwng Bangor ac Afon Wen, sef 43.75 km. Dim ond oddeutu traean o'r llwybr cyfan yr aseswyd ar y cychwyn nad oes fawr o broblemau ymyrraeth yn gysylltiedig ag ef. Aseswyd yn amodol fod problemau ymyrraeth mawr neu fawr iawn yn gysylltiedig â chwarter y llwybr cyfan, yn deillio'n bennaf o'r gofyniad am ymyriadau peirianneg sylweddol, neu lle byddai nifer fawr o fusnesau preswyl neu fasnachol yn cael eu heffeithio gan ailagor y llinell. Fodd bynnag, nid ar gyfer llinell trên-tram y mae, ond llinell reilffordd draddodiadol fel yr un a ddefnyddir yn nyffryn Conwy neu ar hyd arfordir gogledd Cymru. Hoffwn weld y costau ar gyfer opsiwn llinell trên-tram, a chostau ar wahân ar gyfer llinell a fyddai'n cynnal symud cargo.

O ran y cam cyntaf, yn amlwg, i mi, lle rwyf i yn Aberconwy, gallaf gefnogi llinell drên rhwng Bangor a Chaernarfon yn llwyr. Ym mis Mai 2000, cyhoeddwyd adroddiad a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Gwynedd ac Awdurdod Datblygu Cymru ar astudiaeth ddichonoldeb cam 1 a edrychai ar ailagor llinellau rheilffordd i deithwyr. Argymhellodd y dylid ailagor y rhan o Fangor i Gaernarfon fel rheilffordd mesur safonol. Gyda chymaint â 10,000 o bobl yn byw yng Nghaernarfon, byddai budd enfawr i drigolion gael gorsaf yn eu tref sy'n eu cysylltu â llinell gogledd Cymru. Byddai llawer o gwsmeriaid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru hefyd. Er enghraifft, mae castell Caernarfon ei hun yn denu mwy na 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae'r castell yn un o'r atyniadau twristaidd gorau yng Nghymru ac yn safle treftadaeth y byd UNESCO, felly oni fyddai'n wych pe bai twristiaid yn gallu teithio yno'n uniongyrchol ar y trên?

Am y tro hoffwn pe gallem am nawr, i mi, ond hefyd rwy'n deall y ffocws y tu ôl i rannau eraill o'r llinell hon. Wrth wneud hynny, byddai'n hynod ddefnyddiol cael amcangyfrif o'r gost ar gyfer yr opsiwn hwnnw, ac eraill fel mynd â'r llwybr ar hyd Lôn Las Menai ac ystyried a yw'n bosibl datblygu bws cyflym neu hyd yn oed llwybr bws yn unig ar hyd rhai o'r ffyrdd sy'n rhedeg yn uniongyrchol rhwng Bangor a Chaernarfon.

Gan symud ymlaen at y prosiect ehangach, mae teithio rhwng gogledd a de Cymru, fel y nodoch chi'n gywir ddigon, yn rhywbeth y mae'r ddwy ohonom yn ei wneud ddwywaith yr wythnos. A fyddwn i'n gwneud hynny gan ddefnyddio llinell arfordir gorllewinol Cymru i gymudo? Mae'n debyg na fyddwn, ac fe ddywedaf pam. Mae eisoes yn cymryd dwy awr a 45 munud i gyrraedd o Borthmadog i Aberystwyth, dwy awr o Gaerfyrddin i Gaerdydd, felly dyna bedair awr a 45 munud o deithio. Ar hyn o bryd, ar ddiwrnod da, gallwn ei wneud mewn pedair awr. Yn fyr, mae'r cynnig ar gyfer llinell gogledd-de, ond rwy'n credu mai'r gwir yw y gallai'r rhai sy'n byw ar hyd arfordir y gogledd neu'r de deithio gryn dipyn yn gyflymach ar y llwybr presennol.

Yr hyn a fyddai'n wirioneddol fuddiol i drigolion yng ngogledd Cymru yw gwell seilwaith ffyrdd. Fel y dywedais yn y Senedd hon ar sawl achlysur, mae angen cryfhau'r ffordd rhwng gogledd a de Cymru—a sythu, hyd yn oed—ar bwyntiau. Roeddwn i'n meddwl mewn gwirionedd, pan ddaeth datganoli i mewn am y tro cyntaf, mai un o'r prif flaenoriaethau oedd gwneud Caerdydd yn brifddinas, fel y mae'n iawn iddi fod, ond hefyd i gysylltu'r gogledd a'r de yn haws, ac nid yw hynny wedi'i gyflawni ar ôl 26 mlynedd o ddatganoli.

Diolch eto, pob lwc i'r deisebydd, a bydd yn ddiddorol iawn gweld sut y bydd hyn yn datblygu. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Dwi eisiau dechrau trwy ddiolch i bawb a lofnododd y ddeiseb yma, ac yn wir i Elfed am ei waith diflino wrth fynd â hyn yn ei flaen. Mae'n tynnu sylw at wirionedd dyfnach fod pobl Cymru eisiau cysylltiadau gwell, nid yn unig â Lloegr, ond gyda'i gilydd. Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson am well cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de, a chysylltiadau sy'n uno ein cenedl, nid yn ei rhannu.

Mae'r realiti presennol, lle mae'n haws teithio o'r gogledd i'r de drwy Loegr na thrwy Gymru ei hun, nid yn unig yn anghyfleus ond mae'n symptomatig o system drafnidiaeth sydd wedi ei hesgeuluso, wedi dyddio, ac wedi ei chynllunio i echdynnu ac nid cysylltu. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn adlewyrchu economi a luniwyd dros ddegawdau i echdynnu adnoddau, nid i adeiladu cydlyniad cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Nid oes hyd yn oed un cysylltiad rheilffordd uniongyrchol rhwng y gogledd a'r de, ac eto mae wyth croesfan i Loegr. Dylai trafnidiaeth wasanaethu pobl Cymru, nid eu hanwybyddu. 

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i wario biliynau ar HS2, prosiect y maent yn ei honni sydd o fudd i Gymru a Lloegr, er nad yw'n cyrraedd Cymru o gwbl. Eto i gyd, mae Cymru wedi'i hamddifadu o unrhyw gyllid Barnett sy'n deillio o'r prosiect, gan roi trethdalwyr Cymru dan anfantais amlwg. Heddiw rydym wedi clywed am oedi pellach yn adeiladu HS2 oherwydd costau cynyddol—oedi sy'n tanlinellu faint y byddem wedi ei dderbyn pe bai cyfiawnder cyllidol yn bodoli. 

Y gwir yw, mae'r sefyllfa annheg hon yn ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith nad oes gan Gymru reolaeth dros ei seilwaith reilffyrdd. Mae hyn nid yn unig yn annheg, mae'n anghynaladwy. Mae'r Ysgrifennydd trafnidiaeth wedi gwrthod datganoli pwerau rheilffyrdd, gan honni bod angen buddsoddi sylweddol i unioni degawdau o esgeulustod. Os mai dyna'r achos, yna onid yw'n gwneud y galw am gyllid i wella ein rheilffyrdd ac i adeiladau y cysylltiadau de â'r gogledd hyn hyd yn oed yn fwy pwysig? Yr unig ffordd i sicrhau ein bod yn cael cyfran deg o wariant trafnidiaeth yw drwy ddatganoli pwerau rheilffyrdd yn llawn.

Hyd yn oed gyda Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, Llywodraeth sydd wedi cydnabod tanariannu hanesyddol ein rheilffyrdd, mae'r adolygiad gwariant diweddar yn gwneud un peth yn glir: nad oes ganddynt fwriad gwirioneddol i unioni'r cam. Yn wir, Cymru fydd yr unig genedl ddatganoledig i wynebu toriadau i'w chyllideb gyfalaf, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hynny yn dorcalonnus, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Lafur ar ddwy ochr yr M4, ond dim awydd i weithio'n gydgysylltiedig er lles Cymru.

Dyna pam fod Plaid Cymru yn dal i alw yn glir ac yn ddiamwys am ddatganoli llawn pwerau rheilffyrdd i Gymru. Gyda'r pwerau hynny, gallem adeiladu rhwydwaith sy'n blaenoriaethu cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de a rhwng cymunedau ledled Cymru, rhwydwaith wedi'i chynllunio i ddiwallu ein hanghenion ni, nid anghenion rhywle arall. Ni ddylai system reilffyrdd fewnol integredig fod yn freuddwyd i'r genhedlaeth nesaf, dylai fod yn flaenoriaeth i wleidyddion heddiw. Diolch yn fawr.

15:30

Mae'r ddeiseb yn dangos yn glir fod cryn dipyn o gefnogaeth ledled Cymru i wella ein rheilffyrdd. Mae'n debyg fod y ddadl nad ydym yn ei chael yn ymwneud â'r dewisiadau y mae angen i ni eu gwneud. Oherwydd yn hytrach na meddwl am un dull teithio'n unig, gan ganolbwyntio ar reilffyrdd o hyd, mae angen inni feddwl am drafnidiaeth aml-ddull, integredig, a bydd hynny'n wahanol mewn gwahanol leoedd.

Yr hyn a wyddom am reilffyrdd yw eu bod yn ddrud iawn. Mae pob un ohonom yn gresynu'n fawr at y penderfyniad i gael gwared ar y rheilffyrdd hyn yn y lle cyntaf. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd. Ond gan ei fod wedi digwydd, mae cost eu hadfer yn sylweddol iawn. Pan fydd yr arian wedi'i wario unwaith, ni allwch ei wario ar rywbeth arall, yn amlwg. Dangosodd yr astudiaeth ddichonoldeb y cyfeiria'r ddeiseb ati, i'r rheilffordd o Afon Wen i Gaernarfon, ynghyd â chostau amlinellol rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, fod y costau dangosol ar gyfer adfer y ddwy linell reilffordd hyn oddeutu £2 biliwn. Nawr, mae hwnnw'n £2 biliwn nad oes gennym i'w wario ar yr holl flaenoriaethau trafnidiaeth eraill sydd gennym yng Nghymru. Ac fel y mae'r ymchwil yn dangos yn glir, byddai nifer y teithwyr a fyddai'n cael eu cludo gan y gwasanaethau trên hyn yn gymharol fach, sy'n golygu bod y gost barhaus yn cynnwys nid yn unig y £2 biliwn i'w hadeiladu, ond y cymhorthdal parhaus, y gost refeniw, ar gyfer rhedeg y gwasanaethau hynny, a fyddai'n sylweddol. Nawr, efallai fod hynny'n ddewis y mae'r Senedd yn dymuno ei wneud, ond mae angen iddi fod yn ymwybodol, mae angen i'r Llywodraeth wybod wrth wneud y dewis, fod hwnnw'n ddewis y mae'n ei wneud ar draul rhywbeth arall.

Fel y nododd yr astudiaeth, gallech gyflawni gwelliant sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig rhwng Bangor a Chaernarfon, gydag opsiwn rheilffordd ysgafn a gwasanaeth trên cyflym, a fyddai'n torri oddeutu 90 munud oddi ar y daith bresennol o'r gogledd i'r de. Mae honno'n gost lawer mwy cymedrol o oddeutu £4.5 miliwn i'w sefydlu, a chost flynyddol o £2 filiwn i'w redeg. Nid yw mor rhamantus â rheilffordd, nid yw mor ddeniadol â rheilffordd. Mae pob un ohonom yn hoffi teithio ar y trên, ond mae cyfaddawdau go iawn y mae angen i ni eu hwynebu, a chredaf fod angen rhywfaint o realiti yn y ddadl hon. Roedd cyfraniad Janet Finch-Saunders yn glasur o'i fath: nid oedd yn dweud llawer ac roedd am gadw pob opsiwn ar agor, er ei bod yn swnio fel pe bai'n cefnogi pob un ohonynt. Pan fyddwch yn Llywodraeth, ni allwch gynnal y myth—rhaid ichi ddewis un.

Rydym yn deall bod y targedau a wynebwn fel Senedd, yr ymrwymiad sydd gennym yn strategaeth drafnidiaeth Cymru, i newid dulliau teithio'r cyhoedd o geir i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol o 32 y cant i 45 y cant, ar ben isaf yr hyn y bydd angen i ni ei gyflawni os ydym am gyrraedd ein cyfres nesaf o dargedau newid hinsawdd. Nawr, bydd y rhai ohonoch sy'n dod yn ôl i'r Senedd ar gyfer y tymor nesaf yn wynebu cyllideb garbon arall, ac mae'n gyllideb garbon lawer anos na'r gyllideb garbon a wynebwyd gennym hyd yma—y gyllideb garbon y mae'r targedau hyn yn seiliedig arni. Felly, bydd yn anos parhau i wneud yr hyn y buom yn ei wneud. Rhaid inni newid cyfeiriad os ydym am gyrraedd y targedau hynny, gan nad oes pwynt i bawb ohonom godi yma a dweud pa mor ofnadwy yw newid hinsawdd a chael cwestiynau brys pan fydd llifogydd yn ein hardaloedd os nad ydym am gysylltu'r dotiau a deall y cyfraniad y mae trafnidiaeth yn ei wneud i hynny. Felly, dull trafnidiaeth integredig yw'r hyn sydd ei angen arnom.

Un peth y credaf fod gennym gyfle i'w wneud nawr, yn sgil pasio'r Bil bysiau, a'r gwaith uwchraddio ar y rheilffyrdd a welsom o dan y Llywodraeth hon—llwyddiant enfawr o dan y Llywodraeth hon: y buddsoddiad enfawr ym metro'r de-ddwyrain, y cynlluniau nawr ar gyfer y gogledd, a'r cynlluniau cynnar ar gyfer y de-orllewin—. At ei gilydd, mae hynny'n creu system lawer mwy cadarn. Ac yn Trafnidiaeth Cymru, fel meddwl arweiniol, bydd gennym gorff nawr sy'n gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â ble fyddai'n well gwella gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffordd, sut y maent yn eu cysylltu â'i gilydd, a sut rydym yn dadlau achos cydlynol dros gludo pobl yn hawdd o A i B. Dyna sy'n cyfrif. Dylai sut y maent yn gwneud hynny, pa ddull trafnidiaeth, fod yn ystyriaeth eilaidd, a dyna fy mhryder i am y ddeiseb hon.

Mae'n dechrau gyda rhagdybiaeth sy'n seiliedig ar ffydd mai'r ateb cywir i broblemau trafnidiaeth Cymru yw ailagor yr holl linellau rheilffordd. Ac yn sicr, fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth, mae gan y llinellau rheilffordd rôl allweddol i'w chwarae, yn enwedig rheilffyrdd ysgafn, sy'n rhatach i'w rhedeg ac sy'n gallu rhedeg yn gyflymach. Ond mae angen i hynny fod yn rhan o becyn o fesurau, ac nid yw'r ddeiseb hon yn meddwl am becyn o fesurau, mae'n sôn am linellau rheilffordd yn unig. Ac mae angen i'r rhai a fydd yn adleisio hynny wynebu ac ateb y cwestiwn sut y byddant hefyd yn ariannu gwasanaeth bysiau gwell, sut y byddant hefyd yn ariannu rhwydweithiau teithio llesol, sut y byddant yn cyrraedd y targed o ran newid dulliau teithio. Ni fydd rhoi ein holl adnoddau, ein holl fuddsoddiad, tuag at ailagor llinellau rheilffyrdd, heb feddwl am rannau eraill y rhwydwaith, yn cyflawni'r gwaith y gofynnir i ni ei gyflawni.

15:35

Mewn cyflwyniad i adroddiad gan Trafnidiaeth Cymru, fe gyhoeddwyd hyn:

'Mae gan Trafnidiaeth Cymru ddyhead i wella cludiant Gogledd-De yn y Gorllewin drwy archwilio'r potensial ar gyfer ailagor y llwybrau rheilffordd sydd ddim yn cael eu defnyddio bellach rhwng Bangor i Afon Wen ac Aberystwyth i Gaerfyrddin.'

Yn anffodus, dyhead ydy hyn, gyda fawr ddim cynnydd wedi digwydd tuag at wireddu'r dyhead, a dim arwydd bod hyn am newid yn ystod oes y Llywodraeth yma. Efallai, mewn ymateb i ymgyrchu gan Blaid Cymru o gwmpas HS2, fe fydd £0.4 biliwn yn dod i Gymru—llawer llai na'r £4 biliwn sy'n ddyledus i ni—a byddai hanner yr arian yna yn gallu symud tuag at wireddu'r freuddwyd. Mae Lee Waters newydd sôn wrthym ni am £2 biliwn. Wel, mae yna £4 biliwn yn ddyledus i ni oherwydd HS2. Beth ydyn ni'n ei gael? Dim pwynt pedwar biliwn o bunnoedd. Ac o be welaf fi, does yna ddim ceiniog o hwnnw yn dod i'r gorllewin.

Dwi'n ddiolchgar i drefnwyr y ddeiseb, a'r 12,000 o bobl ddaru arwyddo'r ddeiseb, am gadw'r mater ar yr agenda gyhoeddus, a dwi'n cytuno'n llwyr fod angen uno ein cenedl, de-gogledd, drwy ein rheilffyrdd. Fe welwyd y mymryn lleiaf o symudiad tuag at hynny wrth gyhoeddi'r—

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Felly, rwy'n derbyn eich pwynt ein bod wedi ein tanariannu ac y dylem fod yn cael £4 biliwn pe baem yn cael ein cyfran briodol o fuddsoddiad rheilffyrdd. Fe ddywedoch chi, pe bai gennym y £4 biliwn hwnnw, y dylai ei hanner fynd tuag at ailagor yr hen linellau rheilffordd hyn. Beth, felly, am brosiect metro de Cymru, metro de-orllewin Cymru? Beth am y prosiect i ymestyn metro de Cymru i gymoedd eraill? Beth am brosiect metro gogledd-ddwyrain Cymru? Ar ba sail y dywedwch y dylem fod yn gwario hanner ein buddsoddiad rheilffyrdd ar ailagor hen linellau rheilffordd sy'n cludo nifer cymharol fach o deithwyr?

15:40

Mae yna ddiffyg buddsoddi dybryd wedi bod yn ein rheilffyrdd ni ers degawdau, yn ein cludiant cyhoeddus ni. Yng Nghymru mae yna ddiffyg buddsoddi yn ein seilwaith ni wedi bod ers degawdau. Lle mae eich uchelgais chi, Lee? Beth am unioni peth o'r camau yna rŵan? Beth am ddefnyddio'r arian sy'n ddyledus o ganlyniad i HS2? A beth am gwffio am lawer iawn mwy o arian tuag at wario ar ein seilwaith yma yng Nghymru?

Fel rôn i'n dweud, fe welwyd y mymryn lleiaf o symudiad tuag at y dyhead yn cael ei fynegi wrth gyhoeddi'r astudiaeth a oedd yn canolbwyntio ar Fangor i Afon Wen, sef y darn coll o reilffordd sydd ei angen ar gyfer cau'r bwlch rhwng lein y gogledd a lein y Cambrian yn y gogledd-orllewin. Fel dŷch chi'n gwybod, daeth yr astudiaeth yn bosib drwy'r cytundeb cydweithio, ac er ein bod ni'n croesawu rhoi ffocws i'r llwybr penodol yma, roedd meini prawf yr astudiaeth yn gyfyngedig iawn. Roedd yr astudiaeth yn edrych ar fanteision defnyddio'r rheilffordd ysgafn a thechnoleg tram ar gyfer adfer y llinell a ddaeth i ben yn y 1960au.

Casgliad yr adroddiad yw y byddai defnyddio tramiau yn golygu cyfyngu ar y cyflymder teithio. Mae'r astudiaeth, felly, yn argymell astudiaethau pellach er mwyn gweld a fyddai rheilffordd drom yn well opsiwn na rheilffordd ysgafn. Dwi yn gobeithio yn fawr y gellir cael cadarnhad y bydd astudiaeth o'r fath yn cael ei chomisiynu a bod modd defnyddio cyfran fechan iawn, iawn o'r £0.4 biliwn yma ar gyfer hynny. Mae tramiau yn fwy addas ar gyfer ardaloedd trefol, ond mewn ardal wledig, fe all fod—a dwi ddim yn dweud mai dyma'r ateb—mai rheilffordd drom sy'n cynnig y manteision mwyaf.

Dwi felly yn edrych ymlaen at gyflwyniad gan Trafnidiaeth Cymru yn y grŵp trawsbleidiol ar ogledd Cymru ddiwedd y mis, pan fydd cyfle i wyntyllu rhai o'r materion yma, ac efallai fod yna lygedyn o obaith fod modd cadw'r dyhead o leiaf yn fyw yn ystod tymor y Senedd yma.a

Diolch yn fawr iawn, a diolch i drefnwyr y ddeiseb am eu gwaith. Mae Plaid Cymru yn gwbl gywir wedi tynnu sylw yn y Siambr yma, dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, i'r anghyfiawnder sy'n gysylltiedig ag ariannu ein rheilffyrdd ni—neges, wrth gwrs, sydd yn anghyfforddus i Lafur ei chlywed, yn arbennig gan eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr dro ar ôl tro gan eu partneriaid yn Llundain.

Nawr, pe bai'n system rheilffyrdd ni'n seiliedig ar ddwysedd poblogaeth ac angen cymunedol, byddem ni eisoes wedi gweld cysylltiad mewn lle rhwng, er enghraifft, Aberystwyth a Chaerfyrddin yn ne-orllewin Cymru, gyda'r holl fanteision economaidd o ran twristiaeth, y cysylltiadau diwylliannol a mynediad at wasanaethau cyhoeddus hefyd, ac, wrth gwrs, y budd i'r amgylchedd. Ond dim dyma yw'r achos. Fel y mae pawb ohonon ni yn gwybod yn ne-orllewin Cymru, os ydych chi eisiau mynd ar reilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, mae'n rhaid i chi fynd trwy Loegr a thrwy'r Amwythig. 

Roedd y £0.4 biliwn pitw ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a gyhoeddwyd gan Rachel Reeves yr wythnos diwethaf, wedi'i wasgaru dros gyfnod o 10 mlynedd, yn staen arall—a ailadroddwyd eto gan Heidi Alexander heddiw—ar record Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Mae'n rhan bitw, fel y gwyddom ers tro, o'r hyn sy'n ddyledus i ni, a rhan bitw o'r hyn y mae rhanbarthau Lloegr sydd â phoblogaethau llai yn ei gael. A heddiw, clywsom fod cyfanswm cost HS2 bellach oddeutu £100 biliwn, felly mae'r arian sy'n ddyledus i Gymru yn agosach at fod rhwng £5 biliwn a £6 biliwn.

Nawr, yr hyn na chafodd gymaint o sylw yn y wasg yr wythnos diwethaf oedd ble yn union y byddai'r buddsoddiad hwn yn mynd. Bydd de-ddwyrain Cymru yn cael pum gorsaf newydd ger Caerdydd a Chasnewydd, tra bydd gogledd-ddwyrain Cymru yn cael cysylltiadau gwell ger Wrecsam. Nid yw gorllewin Cymru, fel y clywsom eisoes gan Siân, yn cael dim. Heb sôn am brosiect mor uchelgeisiol â chysylltu gogledd a de Cymru, roedd yr adolygiad o wariant yn gyfle arall a gollwyd i gefnogi'r cynigion i adeiladu gorsaf reilffordd parcffordd gorllewin Cymru ger Felindre, i'r gogledd o Abertawe, a fyddai wedi gwella cysylltedd yn yr ardal gyfagos yn sylweddol. Amcangyfrifwyd yn 2019 y byddai'r prosiect yn costio £20 miliwn, sy'n llawer llai na'r bil ar gyfer y llinell reilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Nid ydym wedi cael yr arian ar gyfer hyn hyd yn oed, ac mae'r prosiect yn parhau i fod yn sownd yn y cyfnod cynllunio am ei chweched flwyddyn. Felly, yr un hen stori yw hi: ychydig iawn y mae Cymru'n ei gael, mae gorllewin Cymru yn cael llai fyth, ac mae Llafur yn anwybyddu, yn siomi ac yn llyffetheirio'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn ne-orllewin Cymru yn sir Gaerfyrddin, sir Benfro a Cheredigion. Diolch yn fawr.

15:45

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.   

Diolch, Lywydd. Ni fyddaf yn gosod unrhyw un o ranbarthau Cymru yn erbyn ei gilydd heddiw. Rwy'n mynd i ymateb yn uniongyrchol i'r ddadl, a dechrau drwy ddiolch i Carolyn Thomas am agor y ddadl bwysig hon ar ddeiseb ddiddorol iawn. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wella cysylltiadau trafnidiaeth ym mhob rhan o Gymru, a dyna pam fy mod wedi blaenoriaethu cysylltiadau trafnidiaeth aml-ddull o ansawdd uchel ledled y wlad, ac rwy'n falch o'r cynnydd a wnaethom ar gyflawni'r newidiadau hyn ar y rheilffyrdd. Fel y nododd Lee Waters, rydym wedi buddsoddi dros £1 biliwn yn llinellau craidd y Cymoedd, calon metro de Cymru wrth gwrs, ac yn ddiweddar, lansiais ein cynlluniau a'n rhaglen fuddsoddi ar gyfer rhwydwaith gogledd Cymru, a nodai ein huchelgais ar gyfer gwell cysylltedd ar draws rhanbarth y gogledd, ac wrth gwrs, rydym yn cyflwyno gwerth £800 miliwn o drenau newydd ledled Cymru. Bydd hynny'n sicrhau cynnydd o 80 y cant yn nifer y trenau sy'n cael eu defnyddio ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau.

Ac mae cysylltiad annatod rhwng hynny a'r gwaith a wnawn ar wella gwasanaethau bysiau, sy'n hanfodol i wella cysylltedd ein cymunedau. Mae tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu gwneud ar fysiau, ac maent yn rhaff achub hanfodol i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed ac ynysig ledled Cymru. Nod cyflwyno'r Bil bysiau yw masnachfreinio bysiau fel y gall helpu'r rhai sydd angen y rhwydwaith bysiau fwyaf mewn cymunedau trefol a gwledig.

Nawr, rwy'n cydnabod y cyfleoedd a'r heriau a gyflwynir gan y cynnig yn y ddeiseb. Er ei bod yn ddeniadol dychmygu gallu ailagor llawer o'r hen linellau rheilffordd yng Nghymru, mae'r adnoddau sydd eu hangen i allu gwneud hynny'n enfawr. Mae atebion rheilffyrdd trwm yn galw am lawer—.

Yn gyntaf oll, fe sonioch chi am fetro gogledd Cymru, ond nid oes unrhyw beth i Ddwyfor Meirionnydd ym metro gogledd Cymru. Nid yw o unrhyw fudd i'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Ac fe sonioch chi am y trenau newydd sy'n dod yn weithredol, ond rydych chi wedi torri trenau ar lein y Cambrian, felly ni fydd unrhyw drenau newydd i ni yno. Ond pan ddywedwch ei fod yn adnodd enfawr ac y bydd yn costio, yr wythnos diwethaf, clywsom Mark Drakeford, y Gweinidog cyllid, yn dweud bod y Llywodraeth wedi gofyn am arian o'r adolygiad o wariant a'u bod wedi'i gael. Pam na ofynnoch chi am arian i adeiladu ar y cynlluniau a gyflwynwyd yma, er mwyn datblygu'r cynigion ar gyfer y llinell reilffordd o Afon Wen i Fangor ac ar gyfer y llinell reilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin?

Ddirprwy Lywydd, rwyf am roi rhywfaint o gefndir i'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae hwnnw'n darparu gwariant ar gyfer cyfnod o dair blynedd. Mae cyfnod o dair blynedd yn datblygu ac yn darparu peth seilwaith, ond os ydych chi'n edrych ar raglenni hirdymor, arian cyflawni sydd ei angen arnoch, a ddarparwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Gwn fod Plaid Cymru wedi galw'n ddiweddar am beidio â buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd trawsffiniol. Ymddengys bod Plaid Cymru am i wasanaethau trên stopio ar y ffin. Rydym wedi clywed eto, heddiw, na ddylai gwasanaethau trên orfod mynd i Loegr er mwyn cyrraedd de Cymru o ogledd Cymru. Mae'n nonsens llwyr.

A chredaf yn gryf ei bod yn bwysig cywiro Plaid Cymru o ran y gamwybodaeth y maent yn parhau i'w lledaenu am HS2, y cyllid canlyniadol a'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Hyd yma, byddai HS2 wedi darparu a dylai fod wedi darparu oddeutu £350 miliwn mewn cyllid canlyniadol. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, dylai fod wedi darparu cyllid canlyniadol—cyllid canlyniadol Barnett—o oddeutu £430 miliwn. Mae'r £4 biliwn y mae Plaid Cymru yn parhau i gyfeirio ato yn amcangyfrif o'r cyllid canlyniadol Barnett gwreiddiol a fyddai wedi deillio o gyflawni'r rhaglen gyfan. Gwyddom fod y rhaglen gyfan wedi'i chwtogi, a chredaf fod yr amcangyfrif o gostau heddiw oddeutu £57 biliwn. Nawr, ni wyddom beth fydd y gost derfynol, ond dyna holl bwynt cyllid canlyniadol Barnett, eich bod yn cael y cyllid canlyniadol ar sail yr arian sydd wedi'i wario. Rydym yn dadlau dros uned fusnes bwrpasol i Gymru a all sicrhau swm blynyddol o arian ar gyfer cynnal a chadw a gwneud gwelliannau i'r rhwydwaith. Bydd hynny'n cyflawni'r math o seilwaith rheilffyrdd trawsnewidiol y mae'r Aelodau ar y meinciau hyn yn dymuno'i weld.

Nawr, rwy'n credu bod Lee Waters wedi dadlau'n wych dros synnwyr cyffredin, a hefyd wedi rhoi dos o realiti o ran y gost a'r gallu i gyflawni'r holl brosiectau seilwaith mawr y mae Aelodau ar draws y Siambr hon wedi bod yn galw amdanynt. Felly, er fy mod yn cefnogi, mewn egwyddor, comisiynu astudiaethau dichonoldeb ar yr opsiynau ar gyfer ailagor hen linellau rheilffordd, mae'n rhaid iddynt fod yn seiliedig ar angen diffiniedig, ac felly dylai unrhyw waith dichonoldeb ystyried y datblygiadau rheilffyrdd diweddaraf, ystyried opsiynau rheilffyrdd trwm ac ysgafn, ac yn allweddol, rhaid iddynt ategu cyflwyno masnachfreinio bysiau i ddarparu system drafnidiaeth integredig.

Nawr, nid yw hynny'n golygu na fyddwn yn ystyried yr hyn a ofynnir. Yng ngogledd, de a gorllewin Cymru, mae ein blaenoriaethau'n seiliedig ar gynyddu'r defnydd o'r rhwydwaith craidd i gysylltiadau trafnidiaeth allweddol drwy'r rheilffyrdd, ac wrth gwrs, i wneud gwell defnydd o'r rhwydwaith bysiau rhwng y cysylltiadau hynny. Rydym wedi sicrhau a byddwn yn parhau i gyflawni gwelliannau i'r rhwydweithiau hynny er mwyn ysgogi cynnydd yn y defnydd, a thrwy'r newidiadau hyn, rydym eisoes yn cyflawni'r cynnydd hwnnw yn y defnydd, sydd, yn ei dro, yn sicrhau mwy o refeniw wrth gwrs.

Nawr, mae yna hen linellau rheilffordd a hen orsafoedd ledled Cymru, gyda phobl dda ym mhob rhan o Gymru yn ymgyrchu dros eu hailagor. Yn fy ardal i, mae gennym y llinell reilffordd o Riwabon i Langollen, mae gennym y llinell reilffordd o'r Wyddgrug i Ddinbych, mae gennym y llinell reilffordd o'r Wyddgrug i Padeswood. Mae gennym nifer o orsafoedd y mae pobl yn dymuno eu hailagor. Ond fe wnaeth y Gweinidog rheilffyrdd Peter Hendy sylw craff yn ddiweddar yn uwchgynhadledd rhwydwaith gogledd Cymru. Nododd pam fod pobl yn dyheu mwy am wasanaethau rheilffordd na gwasanaethau bysiau, a'r rheswm yw bod gwasanaethau rheilffordd yn cael eu hystyried yn rhywbeth parhaol; cânt eu hystyried yn fwy diogel. Drwy'r Bil bysiau a thrwy fuddsoddiad sylweddol yng ngwasanaeth Traws Cymru, byddwn yn gwneud, drwy wasanaethau bysiau, yr hyn y mae llawer o bobl wedi credu ei fod ond yn bosibl gyda rheilffyrdd. Byddwn yn eu gwneud yn barhaol, yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn saff. Diolch.

15:50

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Felly, cefnogodd Janet y llinell reilffordd o Fangor i Gaernarfon, gan feddwl y byddai hynny'n syniad da iawn, a gwella'r A55. Soniodd Peredur sut y mae'r llinell reilffordd bresennol yn croesi'r ffin, ond byddai hyn ar gyfer llinell reilffordd a fyddai'n gyfan gwbl yng Nghymru, a chefnogodd ddatganoli ein rheilffyrdd, ynghyd â chyllid.

Tynnodd Lee sylw at sut y mae angen inni edrych ar drafnidiaeth gysylltiol rhyngfoddol, nid rheilffyrdd yn unig, a bydd cost hyn oddeutu £2 biliwn, ac mae angen inni gydbwyso cost a defnydd ynghyd â phrosiectau mewn mannau eraill hefyd. Soniodd Siân mai dim ond dyhead yw hyn gan Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd; hoffai weld ychydig mwy o bositifrwydd yn ei gylch. Siaradodd hefyd am y cyllid HS2 sy'n ddyledus, a chefnogwyd hynny gan Cefin Campbell.

Ond ni ddaw cyllid canlyniadol hyd nes y bydd arian wedi'i wario, fel y pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, nododd Ysgrifennydd y Cabinet fuddsoddiad hefyd mewn llawer o brosiectau aml-ddull ledled Cymru, gan gynnwys buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £800 miliwn mewn cerbydau a threnau newydd, a llawer o brosiectau aml-ddull yn ogystal, gan gynnwys trafnidiaeth bysiau cyhoeddus. Felly, mae llawer o brosiectau gwych yn digwydd, ac mae'r dyhead yn hyn o beth hefyd yn rhywbeth y gallem ei gadw o dan ystyriaeth.

Hoffwn ddiolch i Elfed ap Elwyn, a'r ymgyrchwyr eraill o Traws Link Cymru am eu hymdrechion yma. Diolch yn fawr iawn. Maent yma heddiw.

Mae pob un ohonom yma'n ymwybodol y byddai ailgysylltu ac ailagor cysylltiad rheilffordd rhwng y gogledd a'r de yn dasg enfawr. Mae'r adroddiad dichonoldeb a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi nodi hyn yn glir, ond mae hefyd yn tynnu sylw at ffordd y gallai fod yn bosibl ryw ddydd. Yr hyn a ddysgwn drwy'r cynlluniau metro amrywiol ledled Cymru yw bod prosiectau rheilffordd yn cymryd amser a bod angen arian arnynt, ond mae angen breuddwydion a gweledigaeth hefyd i'w gwireddu—a dyfalbarhad, mae'n rhaid imi ddweud. Rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw wedi caniatáu i bob un ohonom fyfyrio ar y rhwystrau ymarferol i ddadwneud toriadau Dr Beeching, ond yn fwy na hynny, i freuddwydio'n fawr ac i rannu'r freuddwyd o reilffordd ar arfordir gorllewinol Cymru. Diolch yn fawr i bawb.

15:55

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Eitem 6 heddiw yw cynnig i atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu cyfraniadau lluosog gan Aelodau unigol yn ystod eitem 7. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM8929 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau gyfrannu fwy nag unwaith yn ystod y Ddadl Agored ar NDM8914 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 18 Mehefin 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Agored: Diwylliant a'r Celfyddydau—Braf i'w cael neu'n allweddol i ddyfodol Cymru?

Eitem 7, dadl agored: diwylliant a'r celfyddydau—braf i'w cael neu'n allweddol i ddyfodol Cymru? Galwaf ar Heledd Fychan i agor y ddadl.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Y pwnc dan sylw heddiw ydy diwylliant a’r celfyddydau, a’r cwestiwn mawr ydy: ydyn nhw’n braf i’w cael neu ydyn nhw’n allweddol i ddyfodol Cymru? Mi fyddaf i’n cyflwyno’r ddadl eu bod nhw’n gyfan gwbl allweddol, a’u bod nhw’n ganolog, nid yn unig i’n hunaniaeth ni fel cenedl, ond hefyd i ddatrys rhai o’r heriau mwyaf rydym ni’n eu hwynebu, o iechyd i fynd i’r afael â thlodi, o addysg i’n heconomi. Mae torri’r cyllid yn hytrach na buddsoddi yn y sectorau hyn, heb sôn am beidio â dangos unrhyw uchelgais tuag atyn nhw, wedi bod yn gam gwag gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan adael diwylliant Cymru mewn sefyllfa o argyfwng.

Heddiw, dwi’n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill i’r ddadl, a dwi yn gobeithio mai penllanw hyn bydd cydnabyddiaeth gan bob plaid sydd wedi ei chynrychioli yma o bwysigrwydd buddsoddi yn y sectorau hyn a’r angen i wneud mwy, nid yn unig i’w diogelu, ond i gefnogi eu cyfraniad ehangach. Mae pob darn o waith ymchwil yn y maes hwn yn cadarnhau effaith gadarnhaol diwylliant, a dyna pam dwi'n methu dirnad bod Llywodraeth Cymru wedi colli ei ffordd yn llwyr o ran y meysydd hyn. Oherwydd dydy’r celfyddydau ddim yn bodoli mewn seilo, maen nhw’n rhan annatod o gymaint o feysydd polisi gwahanol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gallu unigolyn i gyfrannu i gymdeithas. Mae o hefyd yn gwneud synnwyr economaidd, gydag amryw astudiaethau yn dangos am bob £1 sy’n cael ei gwario yn y meysydd hyn, mae o leiaf £4 yn cael ei chynhyrchu nôl i’r economi. Yn wir, yn 2023-24, trosiant y diwydiant celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru oedd £1.64 biliwn, ac mae hyn er gwaethaf y tanfuddsoddi a’r diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth. Mi allwn ni wneud gymaint mwy.

Roedd datganiad i'r wasg yn ddiweddar gan y Llywodraeth yn cynnwys dyfyniad gan ein Prif Weinidog yn honni bod y Llywodraeth o ddifrif yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y celfyddydau a diwylliant. Nododd y dyfyniad hefyd—ac mae hwn yn ddyfyniad uniongyrchol—am y cynnydd o 8.5 y cant,

'cynnydd enfawr sy'n adlewyrchu'r lle arbennig sydd gan y celfyddydau yng nghalonnau pobl ledled Cymru.'

Nododd yr un dyfyniad hefyd y bydd cyllid cyfalaf gwerth £8 miliwn

'yn drawsnewidiol i sefydliadau celfyddydol i'w galluogi i barhau i ddiddanu pobl ledled Cymru.'

Felly, mae popeth yn wych, onid yw? Dim byd i'w weld yma. Hoffwn roi munud neu ddau i amlinellu pam fod cymaint o wallau yn yr un datganiad i'r wasg hwn. Yn gyntaf, nid oes unrhyw sôn am bwysigrwydd y celfyddydau a diwylliant i'r Llywodraeth, na'i effaith ar draws portffolios. Mae'n wir fod y celfyddydau'n diddanu pobl ledled Cymru, ond maent yn gwneud cymaint mwy na hynny. Yn ail, wrth gwrs fod y cynnydd eleni i'w groesawu, ac mae gwir angen y cyllid cyfalaf, ond diferyn bach yn y môr ydyw o gymharu â'r hyn sydd ei angen ar draws y portffolio pan ystyriwch fod gan Amgueddfa Cymru yn unig ôl-groniad o oddeutu £100 miliwn yn ei rhaglen gyfalaf cynnal a chadw ar draws pob un o safleoedd yr amgueddfa genedlaethol. Hefyd, nid yw hyd yn oed yn dod â chyllidebau yn ôl i'r hyn yr arferid ei wario ar y celfyddydau a diwylliant ar ddechrau tymor y Senedd hon, nac yn adlewyrchu maint y dinistr i'r sectorau hyn yng nghyllidebau 2024-25, gan arwain at golli cannoedd o swyddi. Mewn gwirionedd, mae'r cynnydd enfawr yn cyfateb i gynnydd o oddeutu 1 y cant mewn termau real rhwng 2023-24 a 2025-26, gyda chyllid refeniw ar gyfer pob corff perthnasol, gan gynnwys Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn aros ar lefelau arian parod 2023-24. Mae hwn yn doriad mewn termau real o oddeutu 2 y cant ers 2023-24, a gostyngiad o 17 y cant dros y degawd diwethaf. Ar yr un pryd, dros y degawd diwethaf, gan nad yw diwylliant yn wasanaeth statudol, mae cyllid awdurdodau lleol ar gyfer diwylliant a gwasanaethau cysylltiedig wedi gostwng 40 y cant. Felly, gall y Llywodraeth roi cymaint o sbin ag y mynnant ar hyn, mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain, gyda Chymru'n olaf ond un yn Ewrop o ran gwariant y pen ar wasanaethau diwylliannol, ac yn olaf ond dau o ran chwaraeon.

Felly, pam y mae hyn yn bwysig? Wel, nid pethau braf i'w cael yw cyfranogiad mewn diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon, ond pethau sy'n hanfodol i bwy ydym ni ac i wead ein cymunedau. Dyma sut yr adroddwn ein straeon, sut y mynegwn ein gwerthoedd, sut y mynegwn ein hunain a sut y cysylltwn â'n gilydd. Maent yn bopeth sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw, ac eto, yn gynyddol, maent wedi dod i gael eu hystyried fel moethusrwydd na ellir ei fforddio mwyach gan y rhai sy'n dal llinynnau'r pwrs.

Sut y gwnaethom gyrraedd pwynt lle credwn ei bod yn dderbyniol gofyn i bobl mewn ymgynghoriad cyhoeddus a oeddent eisiau gwasanaeth cerddoriaeth neu amgueddfa, neu a oeddent eisiau i'w biniau gael eu gwagio; a oedd pobl eisiau llyfrgell, neu i'w perthnasau oedrannus gael gofal? Neu gael Gweinidog diwylliant blaenorol, fel y clywsom yn ystod dadl y llynedd, a oedd yn hapusach yn dadlau dros dorri cyllid i'r celfyddydau fel y gellid buddsoddi mwy yn ein GIG, yn hytrach na dadlau o blaid pŵer y celfyddydau mewn perthynas ag iechyd, a sut y gall rhaglenni celfyddydol a phresgripsiynu cymdeithasol arbed arian i'r GIG mewn gwirionedd, fel y dangoswyd gan raglenni celfyddydau ac iechyd gwirioneddol wych ledled Cymru. Ni ddylai buddsoddi yn un olygu peidio â buddsoddi yn y llall. Maent yn rhyng-gysylltiedig ac mae pob un yn hanfodol. A thrwy sefydlu'r cysylltiadau hynny, gellir gwario'r arian sydd ar gael yn fwy effeithiol.

Yn bersonol, rwy'n cefnogi ysgol o feddwl Raymond Williams fod diwylliant yn rhywbeth cyffredin, nid yn elitaidd neu'n eithriadol. Mewn gwirionedd, mae'r hawl i ddiwylliant, i fynediad, creu, cymryd rhan a mwynhau diwylliant, yn hawl ddynol—rhywbeth sydd wedi mynd ar goll yn rhywle ar hyd y ffordd. Ac o ystyried y rhaniadau dwfn a welwn nawr mewn cymdeithas, efallai y dylem roi eiliad i ystyried tybed a yw toriadau i ddiwylliant a'r celfyddydau yn ffactor sy'n cyfrannu at hynny. Wedi'r cyfan, mae diwylliant yn hanfodol i feithrin cydlyniant cymdeithasol sydd yn ei dro yn meithrin amrywiaeth a thegwch gan leihau anghydraddoldebau. Fel y dywed UNESCO,

'Dyma pam y mae gwarantu'r hawl i ddiwylliant yn hanfodol yn foesegol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.'

Yn ddiweddar, fe wnaeth Adam Johannes, ymgyrchydd adnabyddus ar nifer o faterion, gan gynnwys y celfyddydau, fy atgoffa mewn postiad ar Facebook am ymgyrch yr oedd y ddau ohonom yn rhan ohoni ychydig flynyddoedd yn ôl yn erbyn y toriadau i ddiwylliant yng Nghaerdydd, ac yn benodol, geiriau'r dramodydd lleol Greg Cullen ar y pryd, pan atgoffodd gynghorwyr Caerdydd fod cymorthdaliadau cyhoeddus i'r celfyddydau ym Mhrydain ar ôl y rhyfel yn rhan hanfodol o'r weledigaeth y tu ôl i'r wladwriaeth les. 

Cafodd hyn ei yrru gan Weinidog y Celfyddydau cyntaf erioed Llywodraeth y DU, Jennie Lee, gyda'i Phapur Gwyn arloesol, a gyhoeddwyd 60 mlynedd yn ôl i eleni, yn mynnu y dylai'r celfyddydau fod yn ganolog i fywyd bob dydd a chael eu cefnogi'n gyhoeddus er budd pawb. Chwaraeodd ran flaenllaw hefyd yn cadarnhau'r farn y dylid cefnogi'r celfyddydau yn gyhoeddus oherwydd eu bod yn fudd cyhoeddus, a deallai rôl y celfyddydau wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.

Ymrwymodd ei Phapur Gwyn y Llywodraeth i wneud cynnydd ar bedwar amcan. Yn gyntaf, cymorth ariannol i artistiaid, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar cyn iddynt ymsefydlu; yn ail, cynnydd mawr mewn gweithgarwch lleol a rhanbarthol gan gynnal datblygiad sefydliadau cenedlaethol ar yr un pryd; yn drydydd, y dylai'r Llywodraeth ddeall yr angen i gynnal a chryfhau'r pethau gorau yn y celfyddydau, ac y dylid sicrhau bod y gorau ar gael yn fwy eang; ac yn bedwerydd, fod angen cynllunio mwy systematig a chydlynu adnoddau'n well. Chwe deg mlynedd yn ddiweddarach, mae'r pedwar amcan yn parhau i fod yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent bryd hynny, ac maent yn llawer mwy uchelgeisiol na'r hyn a amlinellir yn 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Oherwydd yr hyn a welsom yma yng Nghymru yw Llywodraeth Lafur sydd i'w gweld yn hapus i oruchwylio gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio drama a cherddoriaeth yn yr ysgol, a'r celfyddydau'n dod i fod fel roeddent yn y gorffennol— ddim ond yn wirioneddol hygyrch i'r ychydig yn hytrach nag i bob un ohonom. Yn fodlon goruchwylio dros lyfrgelloedd, amgueddfeydd a hyd yn oed neuaddau cyngerdd gwag neu wedi'u cau'n barhaol; nad oes gennym theatr genedlaethol swyddogol yn yr iaith Saesneg; fod ein cwmni opera cenedlaethol o fri rhyngwladol yn wynebu dyfodol ansicr; neu nad yw'r unig conservatoire iau yng Nghymru yn bodoli mwyach. Oni ddylem fod yn gandryll ynglŷn â hyn i gyd?

Dwi'n flin, dwi’n drist, a dwi wedi syrffedu clywed gymaint o wleidyddion yn ceisio cyfiawnhau'r toriadau neu'n ceisio esgus nad ydy’r toriadau mor wael ag y mae’r ystadegau yn ei ddangos. Digon yw digon. Mae’n rhaid i ni heddiw gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, a chydnabod bod diwylliant mewn argyfwng. Os ydyn ni eisiau i Gymru ffynnu, os ydyn ni eisiau’r gorau i bobl Cymru, yna mae’n rhaid i ni ailfeddwl safle diwylliant a’r celfyddydau o fewn y Llywodraeth, ac o ran sut ydyn ni’n eu hariannu. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weddill y cyfraniadau, a diolch ymlaen llaw i bawb fydd yn cymryd rhan yn y ddadl hon.

16:05

Mae'n bleser siarad heddiw yn y ddadl hon sy'n holi a yw'r celfyddydau a diwylliant yn foethusrwydd neu'n anghenraid. Ac ni ddylai fod yn gwestiwn y mae'n rhaid inni ei ofyn, ac rwy'n ei ddweud yn glir: nid moethusrwydd yw diwylliant. Nid ychwanegiad i'w fwynhau ar adegau o ffyniant; mae'n sylfaenol i bwy ydym ni. Dyma sut rydym yn adrodd ein stori, yn meithrin ein dynoliaeth ac yn siapio ein dyfodol.

Ond ers gormod o amser mae'r stori honno wedi ei hystumio, nid yn unig drwy gyfundrefn ariannu sy'n trin y sector celfyddydau a diwylliant fel un nad oes raid ei chael, ond trwy ddiwylliant gwleidyddol sy'n hawlio perchnogaeth ar ddiwylliant Cymru ac yn gosod cylch gwaith i'r sector sy'n annog gwastraffu arian trethdalwyr. Yn y cyfamser, mae pileri craidd ein sectorau celfyddydau a diwylliant, fel ein theatrau cenedlaethol, amgueddfeydd ac opera, yn cael eu diberfeddu a'u chwalu.

Mae gennym hefyd sector celfyddydau a diwylliant sy'n gwbl ddibynnol ar arian cyhoeddus, heb unrhyw ymdrech gan Lywodraeth Cymru i feithrin diwylliant o ddyngarwch. Fel Ceidwadwr a Chymro a Phrydeiniwr balch, mae diogelu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol gyffredin a sicrhau ei bod yn cael ei throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf yn hollbwysig. Efallai y bydd y Gweinidog diwylliant yn parhau i wadu bod yna argyfwng cyllido, ond nid yw'r gwadu'n dod ag atebion i Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n cael trafferth talu'r biliau. Nid yw'n cadw'r casgliadau yn ein hamgueddfeydd. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dweud yn glir fod y sefyllfa'n ddifrifol, ac mae adroddiad y pwyllgor diwylliant, 'Degawd o doriadau', yn adrodd y stori'n ddi-flewyn-ar-dafod. Mae gwariant ar ddiwylliant yng Nghymru y pen ymhlith yr isaf yn Ewrop, lle maent yn buddsoddi yn y sector nid er bri, ond oherwydd eu bod yn deall bod diwylliant yn adeiladu hyder, hunaniaeth a ffyniant hirdymor.

Mae angen mwy na £25 miliwn ar yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd ar gyfer atgyweiriadau hanfodol, ond dim ond cyfraniad bach a gawsant ar gyfer atgyweiriadau brys fel ateb dros dro, y mae Amgueddfa Cymru eu hunain yn ei ddisgrifio fel cam nad yw'n mynd yn ddigon pell. Rwy'n ofni meddwl beth fydd cyflwr ein hamgueddfeydd mewn degawd arall heb gynnydd dramatig yn y cyllid.

Er bod dyraniad y gwariant ar ddiwylliant wedi cynyddu, mae'r cynnydd yn fach ac wedi ei ddileu gan y cynnydd i yswiriant gwladol gan Lywodraeth Lafur y DU. Ac eto, hyd yn oed gydag arian cyfyngedig, mae'r arian a ddyrennir yn aml yn cael ei gamgyfeirio. Mae llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru, y ddogfen ffurfiol a anfonir at gyrff hyd braich fel cyngor y celfyddydau ac Amgueddfa Cymru, yn eu cyfarwyddo i wastraffu arian ar gynlluniau ideolegol disylwedd yn hytrach na buddsoddi ym mhileri ein diwylliant. Dylai'r cylch gwaith hwnnw fod yn fframwaith ar gyfer cyflawni rhagoriaeth a rhoi rhyddid i'r sector sicrhau mynegiant creadigol. Yn lle hynny, mae wedi dod yn rhestr ddymuniadau—[Torri ar draws.] Rwy'n mynd i orffen fy mrawddeg. Yn rhestr ddymuniadau o jargon ideolegol, sy'n cyfarwyddo cyrff diwylliannol i gyrraedd targedau cymdeithasol ac amgylcheddol amwys, yn hytrach na chefnogi eu pwrpas craidd a meithrin cadwraeth diwylliant Cymru. Lee.

Diolch. Mae gennyf ddiddordeb yn yr enghreifftiau sydd gennych o'r hyn y credwch chi sy'n ddisylwedd. Rydych chi newydd roi un i ni yno o amcanion amgylcheddol fel rhywbeth disylwedd. O ystyried ein bod yn wynebu heriau lluosog fel cymuned, gan gynnwys yr amgylchedd, pam y dylem fynd i'r afael ag un broblem gydag un ymyriad yn unig? Pam na allwn fynd i'r afael â phroblemau lluosog?

16:10

Yn ffodus, mae'n rhywbeth a godais o'r blaen, ac o ystyried y problemau y mae'r sector diwylliant yn eu hwynebu, pam ein bod ni'n chwistrellu arian gwirion i'w wario ar y prosiectau hynny pan fo gennym argyfwng diwylliant? Nid oes gan gyrff fel Amgueddfa Cymru arian i wneud gwaith atgyweirio i'w hadeiladau, felly sut y gallent fynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol? Rwy'n defnyddio hynny fel un enghraifft, lle na allant gael y seilwaith yn iawn. Ymwelais i a Darren Millar â Llandygai yn ddiweddar, lle aethom i'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol. Felly, mae pethau da yn digwydd. Roedd yna fuddsoddiad yn yr adeiladau hynny, ond mae gan lawer o'r adeiladau hen seilwaith, ac os ydynt yno i gyflawni targedau amgylcheddol, fel y cânt gyfarwyddyd i'w wneud gan Lywodraeth Cymru, mae hynny'n mynd i fod yn anodd i'w gyflawni, ac yn costio llawer mwy o arian na'r hyn sy'n cael ei chwistrellu i mewn gan Lywodraeth Cymru, sy'n mynnu hynny gan y gwasanaethau.

Ond os caf barhau, byddwn yn dweud mai'r canlyniad yw bod arian yn cael ei gyfeirio i ffwrdd o gonglfeini ein bywyd diwylliannol, ein hamgueddfeydd, ein safleoedd treftadaeth, ein cerddorfeydd, ein hiaith, ac yn cael ei ailgyfeirio tuag at fentrau radical sy'n sgorio pwyntiau gwleidyddol ond sy'n gwneud fawr ddim i gyfoethogi'r genedl. Mae Opera Cenedlaethol Cymru, a oedd ar un adeg yn destun balchder ein hallforion creadigol, bellach yn wynebu bygythiadau i'w bodolaeth. Mae ein hamgueddfeydd yn llythrennol yn disgyn yn ddarnau, tra maent hefyd yn pwmpio arian i mewn i ddad-drefedigaethu. Dylem gofio hefyd fod Prydain wedi cyfrannu mewn modd digyffelyb i gadwraeth ddiwylliannol trwy ein hamgueddfeydd, a oedd yn warcheidwaid trysorau'r byd, yn atgyfodi naratifau a anghofiwyd dros amser, ac yn adlewyrchu ymdeimlad unigryw Prydain o gyfrifoldeb i groniclo nid yn unig ei stori ei hun, ond tapestri gwareiddiad dynol ei hun. Mae'r ymdeimlad hwnnw o gyfrifoldeb a chwilfrydedd deallusol y gwnaethom arwain arno yn marw yma yng Nghymru, oherwydd Llywodraeth a roddai flaenoriaeth i draethodau ar gacennau cri, yn hytrach na gwarchod ein treftadaeth er budd y genhedlaeth nesaf.

A ydych chi'n cytuno ac yn cefnogi'r egwyddor o hyd braich, sy'n llywodraethu sefydliadau fel yr amgueddfa genedlaethol, ac yn derbyn eu bod yn cael eu llywodraethu gan god moeseg, a'u wedi'u rhwymo gan y cod moeseg hwnnw er mwyn sicrhau achrediad? Does bosibl eich bod yn awgrymu y dylem gael llais yn y ffordd y mae'r sefydliadau diwylliannol hyn yn cyflawni eu cylch gwaith, sydd yn y llythyr cylch gwaith—canllawiau yn unig yw'r rheini. Does bosibl na ddylem gefnogi'r egwyddor hyd braich honno, a'u bod yn glynu wrth god moeseg, oherwydd yr hyn rydych chi'n ei awgrymu yw eu bod yn torri'r cod moeseg hwnnw'n llwyr ac yn colli achrediad. Dyna ben draw rhesymegol eich dadl.

Na, mae'n hollol i'r gwrthwyneb mewn gwirionedd. Rwy'n credu eich bod wedi ei ddehongli yn y ffordd anghywir.

Roeddwn yn gadeirydd y pwyllgor moeseg ar gyfer y DU.

Rwy'n dweud bod creu a chael rhyddid i wneud y pethau hynny yn magu creadigrwydd, os ydych chi'n cael yr ymreolaeth i wneud hynny. Maent yn bobl greadigol mewn diwydiannau creadigol ac os ydynt yn cael eu llywodraethu i'r pwynt—. Wyddoch chi, rydych chi'n dweud 'cyrff hyd braich', ond nid yw hynny ond yn mynd mor bell â chyrff hyd braich. Mae'r cyllid yn dod ond mae cafeatau ynghlwm wrtho hefyd, sy'n bethau fel yr achrediad, sef yr hyn rydych chi'n ei ddweud. Rydym ni'n dweud: rhowch y cyllid iddynt, ond hefyd rhowch y rhyddid a'r ymreolaeth i wneud y pethau hynny.

Rhaid ailffocysu'r cyrff hyd braich yn y sector celfyddydau a diwylliant, gyda llawer ohonynt yn gwyro ymhell o'u cenhadaeth wreiddiol. Rwyf wedi beirniadu ymagwedd y cyrff hyn yn hallt, yn enwedig y ffordd y maent yn diystyru'r sector cerddoriaeth glasurol ac opera, meysydd lle mae Cymru wedi rhagori'n draddodiadol.

Mae'n rhaid inni hefyd feithrin diwylliant o ddyngarwch yma gartref. Nid yw hynny'n golygu masnacheiddio yn y ffordd Americanaidd; mae'n golygu annog unigolion preifat a busnesau i weld celfyddydau Cymru fel achos sy'n werth buddsoddi ynddo, a dylem fod yn edrych am y buddsoddiad hwnnw. Mae ganddynt bocedi dyfnach yn Llundain, ond gyda symiau mawr o roddion preifat yn cael eu rhoi i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol. Yma, maent bron yn gyfan gwbl ddibynnol ar arian cyhoeddus, ac nid yw hynny'n gynaliadwy. Rwy'n awyddus i glywed gan y Gweinidog beth y mae'n ei wneud i feithrin diwylliant o ddyngarwch.

Mae'n rhaid inni hefyd agor ein drysau i gydweithredu rhyngwladol ar gyfer y celfyddydau, agor ein breichiau i lwyfannau fel Netflix ac Amazon, sy'n llwglyd am straeon unigryw. Mae gan Gymru ddigonedd o'r straeon hynny. Yr hyn nad oes gennym yw'r seilwaith i'w darparu'n gyson ar lwyfan y byd.

Nid rhywbeth i ni ei dreulio yw diwylliant, ond rhywbeth rydym yn ei fyw. Rhaid i'n sector celfyddydau a diwylliant fod yn hygyrch i bawb, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru 2024-34. Ni ddylid gwleidyddoli diwylliant Cymru a gwneud i'n sefydliadau diwylliannol gael eu hystyried yn elitaidd neu'n amherthnasol i'r genhedlaeth iau. Rhaid iddynt gael cyllid a rhyddid i esblygu i sicrhau eu goroesiad.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith gwych i sicrhau bod eu cynyrchiadau'n apelio ac yn berthnasol i bobl ifanc, ond fel y nodais eisoes, maent yn gorfod gwneud toriadau enfawr oherwydd eu diffyg cyllid. Roedd cau National Theatre Wales hefyd yn ergyd enfawr, ond mae cynlluniau Michael Sheen ar gyfer theatr Cymru newydd, syniad beiddgar, wedi ei bweru gan bobl sy'n siarad yn iaith y gymuned, yn gyffrous, a dyna'r math o uchelgais y dylem ei ddathlu ar draws pob plaid a rhywbeth i Lywodraeth Cymru adeiladu arno.

Yr hyn yr hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn adeiladu arno yw sector celfyddydau a diwylliant a ariennir yn briodol lle mae'r gwariant yn debyg i'r hyn a geir yng ngwledydd Ewrop, yn dilyn argymhellion pwyllgor diwylliant y Senedd; dyfodol lle nad yw ein hamgueddfeydd yn ymddiheuro am ein gorffennol ond yn ei ddehongli gyda balchder, cyd-destun a chymhlethdod; sector diwylliant sy'n uno, nid yn rhannu; cylch gwaith a osodir ar gyfer y sector gan Lywodraeth Cymru sy'n sicrhau gwariant ar gonglfeini bywyd diwylliannol ac nid ar genadaethau ymylol gwirion sy'n achosi i arian gael ei wastraffu ar fuddiannau ideolegol hurt y chwith fodern; sector diwylliant a'r celfyddydau sy'n hygyrch i bawb yng Nghymru, yn enwedig yr ifanc, gymryd rhan weithredol ynddo; a diwylliant o ddyngarwch i ddenu rhoddion preifat fel y gallwn gystadlu â'r arian sydd ar gael i'r sector yn Lloegr—

16:15

Rwy'n dod i ben nawr, Ddirprwy Lywydd. Dyna fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gynnig: nid ôl-ystyriaeth yw'r celfyddydau a diwylliant mwyach, ni chânt eu trin fel moethusrwydd, ond fel sylfaen i ddyfodol Cymru. Diolch yn fawr.

Rwy'n falch iawn o ddweud bod ein sector celfyddydol a diwylliannol yng Nghasnewydd yn weladwy iawn, ac yn rhan annatod o ddyfodol y ddinas. Mae'n rhan fawr o'r hyn sy'n gwneud y ddinas yn fywiog ac yn arbennig. Ac fe gaiff hyn ei adlewyrchu yn strategaeth ddiwylliannol ddiweddar Cyngor Dinas Casnewydd, sy'n nodi'r ffordd ymlaen i'r sector yng Nghasnewydd. Amcangyfrifir bod y sector diwylliant a diwydiannau creadigol yn dod ag oddeutu 5,500 o swyddi a £330 miliwn o werth ychwanegol gros i Gasnewydd, ac rwy'n falch o ddweud eu bod yn ffynnu.

Mae gennym dros 40 o leoliadau diwylliannol, ac mae cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yn cynorthwyo'n fawr i chwyddo nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas, megis Llwybr Cerddoriaeth Casnewydd, yr ŵyl fwyd a'r Big Splash a gynhelir cyn bo hir. Ac wrth gwrs, mae'r gweithgarwch diwylliannol a'r sector hwnnw yng Nghasnewydd yn hollbwysig i hunaniaeth y ddinas. Rydym yn amlddiwylliannol, ac mae'r amrywiaeth a'r cyfoeth yn cael ei adlewyrchu yn ein sîn gelfyddydol a diwylliannol. Rydym yn ymfalchïo yn yr amrywiaeth honno. Mae gennym ymdeimlad cyffredin o gysylltiad a balchder ynghylch y cyfoeth hwnnw a'r sîn amlddiwylliannol honno.

Mae Canolfan Ddiwylliannol Casnewydd yn ofod cydweithredol ar gyfer 21 o gymunedau ethnig lleiafrifol sy'n hyrwyddo ymwneud a chynhwysiant diwylliannol. Mae gennym theatr a chanolfan gelfyddydau Glan yr Afon, sy'n ganolbwynt i weithgarwch a balchder lleol. Ceir llawer o berfformiadau yno gan Ballet Cymru, sydd unwaith eto yn esiampl wych o weithgarwch lleol yng Nghasnewydd, ac mae ganddynt eu canolfan bwrpasol eu hunain hefyd sydd wedi caniatáu iddynt ffynnu a datblygu.

Ar addysg a sgiliau, mae mentrau a phrosiectau diwylliannol yn darparu cyfleoedd dysgu hanfodol i'n pobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd na chânt eu gwasanaethu'n ddigonol. Mae sefydliadau fel Urban Circle wedi mynd ati'n effeithiol iawn i ddarparu'r cyfleoedd hynny yn ardaloedd mwy difreintiedig Casnewydd, ac yn agor llwybrau newydd i gyflogaeth yn ogystal â darparu hyder a sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm.

Mae strategaeth ddiwylliannol Cyngor Dinas Casnewydd yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu llwybr gyrfa i bobl ifanc, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi a gyrfa yn y sector creadigol. Bydd hyn, ochr yn ochr â digwyddiadau rhwydweithio a chefnogaeth i fusnesau newydd a gynigir gan Hyb Clwstwr Diwydiannau Creadigol Casnewydd, yn helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol creadigol a thalent newydd.

Ac wrth gwrs, mae'r celfyddydau hefyd yn bwysig er budd iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl; felly fe geir rhaglenni diwylliannol hygyrch yng Nghasnewydd sydd wedi helpu i leihau unigrwydd a gwella ansawdd bywyd—fel y gwelwyd, er enghraifft, gan grwpiau lleol fel Age Alive.

Ddirprwy Lywydd, mae sîn greadigol Casnewydd yn rhoi amlygrwydd i straeon, hanes ac iaith Cymru mewn ffyrdd arloesol, gan dynnu ar amrywiaeth a bywiogrwydd ein cymunedau. Mae ein sîn ddiwylliannol mor uchel ei pharch fel bod y ddinas wedi cael ei dewis i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2027, a hefyd i gynnal Pride UK ym mis Medi 2026. Rwy'n credu bod y ffaith bod y digwyddiadau enfawr hyn yn dewis Casnewydd fel cartref ar gyfer y blynyddoedd hynny'n arwydd o gydnabyddiaeth ddofn i egni diwylliannol y ddinas a'i hymrwymiad i gynhwysiant a threftadaeth. A bydd y ddau ddigwyddiad yn allweddol ar gyfer cyfrannu at y naratif diwylliannol cenedlaethol a nodau 'Cymraeg 2050'.

Rwy'n falch iawn o roi amlinelliad yn unig o'r hyn sy'n digwydd ac yn mynd i ddigwydd yng Nghasnewydd yn rhan o'r ddadl hon, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei fod yn dangos y ddinas mewn golau cadarnhaol iawn.  

16:20

Mae'n wirionedd sefydledig, i bobl leiafrifol, heb angor cenedl-wladwriaeth, fod diwylliant yn dod yn gyfrwng ar gyfer cynnal hunaniaeth, urddas a chof. Fel y cawsom ein hatgoffa gan yr awdur a'r beirniad llenyddol o Gymru Raymond Williams, 'mae diwylliant yn gyffredin.' Ond fel y nododd hefyd, yng Nghymru, mae cyffredin hefyd yn anghyffredin, yn weithred dawel o herio llanw ymylu gwleidyddol a dilead ieithyddol.

Fel y nodwyd yn eang, y gorchfygwyr sy'n ysgrifennu'r hanes swyddogol. Gall profiadau bywyd cenhedloedd lleiafrifol fel Cymru, ar y llaw arall, fod heb eu cofnodi. Y tu allan i'r archif, fel y dywed Derrida. Y tu hwnt i olwg empirig yr hanesydd, nid yw diwylliant sy'n marw yn gadael unrhyw archif.

Anaml y cofnodir prosesau fel colli iaith neu seciwlareiddio. Rhaid inni droi at y cofnod diwylliannol i fesur eu heffeithiau. Yn y cyd-destun hwn, nid addurn yw diwylliant, ond goroesiad. Fel y dadleuodd y diweddar awdur Affricanaidd Ngũgĩ wa Thiong'o, nid mater o dreftadaeth yn unig mohono, ond y ffordd y mae pobl yn gweld eu hunain a'u lle yn y bydysawd.

Wrth ysgrifennu am ormes drefedigaethol ar ieithoedd Affricanaidd, dadleuodd Ngũgĩ nad pethau ymylol i fywyd cenedlaethol yw iaith a diwylliant, ond craidd. Mae sut y mae pobl yn gweld eu hunain yn effeithio ar sut y maent yn edrych ar eu diwylliant, ar eu gwleidyddiaeth ac ar gynhyrchiant cyfoeth cymdeithasol. Ar eu holl berthynas â natur a bodau eraill.

Mae'r un peth yn wir yng Nghymru. Heb ffyniant gweithgarwch diwylliannol—yn bennaf yn Gymraeg, ond yn gynyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen yn Saesneg hefyd—efallai na fyddai gennym Senedd. Dim Senedd Cymru heddiw.

Mae'r Athro Jane Aaron wedi mapio'r ffordd roedd awduron benywaidd o Gymru, ymhell cyn datganoli, yn defnyddio ffuglen a barddoniaeth i ysgrifennu Cymru i fodolaeth. Creu gofodau diwylliannol a ragflaenai rai gwleidyddol. Rhaid inni gydnabod, felly, nad ychwanegiad dewisol yw diwylliant i genedl ôl-drefedigaethol fach, ond sylfaen yr adeiladir popeth arall arni. Dyma pam, nawr yn fwy nag erioed, y mae'n rhaid i ni yng Nghymru feithrin y celfyddydau. Nid fel moethusrwydd, ond fel gweithred hanfodol i adeiladu cenedl; i gadw urddas, i hawlio ein llais cyfreithlon yn y byd.

Diwylliant hefyd yw'r crochan sy'n caniatáu i eraill ymuno â ni, gan ddod â'u lleisiau cenedlaethol, ethnig, mewnfudol a ffoadurol eu hunain, pan na chânt eu difrïo neu eu gwthio i'r cyrion, i'r Cymreictod hybrid y mae'n ddyletswydd wleidyddol arnom i'w feithrin. Mae un enghraifft bwerus o'r adeiladu cenedl diwylliannol parhaus hwn i'w gweld yng ngwaith Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, sy'n ymgorfforiad byw o'r egwyddorion a amlinellais. Ymhell o fod yn gyfleuster ymylol, mae'n galon y dref a'r ardal gyfagos, wedi'i gynnal nid yn unig gan gefnogaeth sefydliadol ond gan egni ymroddedig y gymuned leol.

Mae Cyfeillion Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, a sefydlwyd yn 2017 mewn ymateb i fygythiad i ddyfodol y ganolfan oherwydd toriadau awdurdodau lleol i wariant, wedi dod yn rym hanfodol o blaid eiriolaeth a phartneriaeth. Arweiniodd eu hymdrechion at greu sinema gymunedol newydd a rhaglen barhaus o fuddsoddiad diwylliannol. Ac mae'n rhaid imi ddatgan diddordeb, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn aelod o Gyfeillion Canolfan Gelfyddydau Pontardawe.

Ond mae a wnelo arwyddocâd y ganolfan â mwy na seilwaith, mae'n drawsnewidiol. Cynhelir Ysgol Theatr Class Act bob dydd Sadwrn ar gyfer dros 150 o fyfyrwyr chwech i 19 oed. Mae ei chyn-fyfyrwyr bellach yn perfformio yn y theatr genedlaethol, y Globe a'r West End, ac mae rhai, fel Fran Goodridge a Sioned a Sara Dafydd, wedi mynd ymlaen i siapio diwylliant Cymru ar y lefelau uchaf, o'r theatr genedlaethol i Theatr y Sherman, i BBC Cymru ac S4C.

Ac eto mae'r gwir werth, fel y dywedodd un ymddiriedolwr, yn y sgiliau trosglwyddadwy—hyder, cyfathrebu, dyhead—y mae drama a'r sgiliau y mae'n eu meithrin yn eu cynnig. Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i yrfaoedd yn y gyfraith, addysg a newyddiaduraeth. Felly, nid gweithgaredd hamdden yw diwylliant yma, mae'n basbort i gyfle ehangach.

Mae'r effaith yn weladwy hefyd. Roedd prosiect murlun diweddar yn y danffordd rhwng Pontardawe a'r archfarchnad, o'r enw 'Pontardawe: Gorffennol, Presennol a Dyfodol', yn ymwneud ag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan mewn gweithred fywiog o adrodd straeon ar y cyd. Gyda grantiau digon cymedrol, trawsnewidiodd y murlun ofod tywyll yn ddathliad o hunaniaeth leol. Dyna'r union fath o ymyrraeth artistig ar lawr gwlad—bach o ran cyllideb, ond enfawr o ran ei ystyr—sy'n ein hatgoffa nad haniaeth yw diwylliant, caiff ei fyw, ei weld a'i rannu.

Mae'r ystadegau yn siarad drostynt eu hunain: mynychodd dros 14,000 o bobl 500 o sesiynau grŵp defnyddwyr y llynedd yn unig yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe; denodd 92 o berfformiadau gynulleidfaoedd o fwy na 18,000 o bobl. O ddawns hip-hop i bale, o theatr Gymraeg i ddosbarthiadau iechyd cymunedol, mae Canolfan y Celfyddydau Pontardawe yn mynd y tu hwnt i ffiniau demograffig a daearyddol. Dyma ble mae diwylliant yn plethu â llesiant, addysg a gwydnwch cymunedol.

Ac eto mae'r bygythiadau'n parhau. Ar draws y gweinyddiaethau, mae strategaethau cyllidebol yn aml yn lleihau'r celfyddydau'n eitem gost, yn rhywbeth i'w ystyried ar gyfer toriadau, nid buddsoddiad. Ond mae'r meddylfryd hwn yn anwybyddu'r gwerth ehangach i gymdeithas a'n cenedl. Nid draen yw'r celfyddydau, ond sbardun.

A ddylai darpariaeth celfyddydau fod yn statudol? Dwi'n meddwl bod angen trafodaeth ar y cwestiwn hwnnw, a byddai'n dda clywed barn pobl eraill ar hynny y prynhawn yma. Byddwn i'n dweud, fan lleiaf, bod yn rhaid i ni gydnabod bod canolfannau celfyddydau fel yr un ym Mhontardawe yn gwneud y gwaith tawel, hanfodol sy'n cynnal ein cymunedau, yn codi dyheadau, ac yn meithrin hyder cenedl.

Ym Mhontardawe, rŷn ni wedi gweld sut mae'r celfyddydau a diwylliant yn rym trawsnewidiol, yn arf i rymuso, sy'n agor drysau i urddas a chyfranogiad mewn stori genedlaethol. Mewn llawer o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, mae'r rhwystrau i fynediad at ddiwylliant a'r celfyddydau yn real: cost tocyn, cost trafnidiaeth, diffyg hyder. Ond mae canolfannau celfyddydau lleol fel ym Mhontardawe, ac eraill, wrth gwrs, ledled Cymru, yn chwalu'r rhwystrau hynny. Maen nhw'n dod â diwylliant dwyieithog i stepen drws pawb, yn llythrennol.

Rŷn ni'n gwybod bod dod i gysylltiad cynnar â'r celfyddydau yn newid bywydau, yn meithrin hyder, yn gwella llythrennedd, ac yn codi dyheadau, yn enwedig i blant nad ydynt efallai'n gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn naratifau addysg neu gyflogaeth prif ffrwd. Mewn cymunedau sy'n wynebu tlodi, caledi a thensiynau cymdeithasol, gall cyfranogiad yn y celfyddydau leihau unigedd, cyfrannu at les corfforol a meddyliol, a meithrin ymdeimlad o berthyn. Mae gweithgaredd diwylliannol hefyd yn adfywio cymunedau yn economaidd, yn cefnogi busnesau bach ac yn creu cyflogaeth a llewyrch.

Felly, yn fwyaf pwerus efallai, mae'r celfyddydau'n rhoi llais i'n cenedl a'n pobl. Mewn cenedl lle mae lefelau tlodi a diffyg pŵer gwleidyddol yn rhy aml yn golygu tawelwch, lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud amdanom ni, nid gennym ni, mae'r celfyddydau'n cynnig llwyfan ar gyfer hunan-fynegiant, hunan-gynrychiolaeth ac adrodd y gwir. Felly, mae'n rhaid inni roi'r gorau i drin y celfyddydau a diwylliant fel eisin ar y gacen. Hwy yw'r burum.

Y burum yn y blawd.

16:30

Rwy'n gorffen. Maent yn codi cymunedau, maent yn meithrin hyder, maent yn creu cenedligrwydd. Ni ddylem byth anghofio hynny, a dylai ein polisïau adlewyrchu hynny. Diolch.

Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu yn ystod y ddadl mor belled ac i'r Aelodau fydd yn fy nilyn.

Lywydd, mae'r celfyddydau a diwylliant yn rhan annatod o'n cymdeithas ac o lesiant ein cenedl a'i dyfodol. Fis yn ôl cyhoeddais y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', ac maent wedi cael eu cefnogi gan becyn cyllido sylweddol gwerth £15 miliwn sydd wedi cael ei groesawu gan y sector. Ers i mi gael fy mhenodi'n Weinidog, rwyf wedi pwysleisio y dylai pob unigolyn yng Nghymru gael hawl i fwynhau, i greu, i gymryd rhan, ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgarwch diwylliannol a chwaraeon ein cenedl. Ac fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn cefnogi mynediad at ddiwylliant i'r difreintiedig ac i'r dosbarth gweithiol. Rwyf wedi ceisio tynnu sylw at enghreifftiau o ble mae'r sector a'n cyllid ychwanegol wedi gwneud gwahaniaeth, gan godi uwchlaw'r geiriau o wawd sy'n cwestiynu a yw cyn-brentis o Gei Connah yn ddigon diwylliedig i allu deall. A Lywydd, rwy'n gwybod bod pobl sy'n rhannu'r safbwyntiau hyn yn colli'r hawl i siarad am fynd â diwylliant i bob rhan o Gymru.

Fel y dywedais o'r blaen, rwy'n credu bod angen inni ddarparu profiadau diwylliannol i bob plentyn a pherson ifanc, a chwalu rhwystrau i fynediad. A sgwrs sydd bob amser wedi aros gyda mi yw'r un a gefais gyda phennaeth ysgol uwchradd mewn cymuned ddosbarth gweithiol. Dywedodd wrthyf faint o'r plant nad oedd wedi ymweld ag amgueddfa leol a oedd ond ychydig filltiroedd o'r ysgol. Ac nid ydym eto, yn y ddadl agored hon, Lywydd, wedi clywed sôn gan Aelod o'r wrthblaid am y cyllid ychwanegol a gynlluniwyd i fynd â'r plant hyn at yr hanes ar garreg eu drws, cyllid i gefnogi teithiau ysgol i amgueddfeydd lleol, a chyllid i sefydlu rhaglen o weithgareddau mewn llyfrgelloedd, gan greu cyfleoedd i blant ymgysylltu ag awduron a siarad â'r bobl sy'n adrodd y straeon.

Lywydd, mae ein cyllideb eleni yn cynnwys £9.6 miliwn o refeniw ychwanegol a £18.4 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a chwaraeon. Ac mae hyn yn adeiladu ar gyllid ychwanegol sylweddol a ddarparwyd gennym y llynedd, a oedd yn cynnwys refeniw ychwanegol o £5 miliwn i'n cyrff diwylliannol cenedlaethol a Cadw, i gefnogi swyddi a chydnerthedd sefydliadol, a £3.2 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Diolch. Rwy'n croesawu'r newid cywair ers i chi fod yn Weinidog a'ch eglurder ynghylch pwysigrwydd y celfyddydau a mynediad i bawb. Ar y £5 miliwn, fodd bynnag, mae'n rhaid ichi gyfaddef bod y llynedd yn flwyddyn wirioneddol heriol i'r sefydliadau diwylliannol hyn, a bod llawer o'r £5 miliwn wedi mynd tuag at gefnogi diswyddiadau gwirfoddol fel y gellid gwneud arbedion o un flwyddyn i'r llall. Cafodd cannoedd o swyddi eu torri yn y sector diwylliannol yn y flwyddyn ariannol honno, wedi'i alluogi gan y £5 miliwn hwnnw.

Wel, Lywydd, ers i mi ddod i'r swydd hon, roeddwn yn awyddus iawn i weld buddsoddi yn y sector, ac roedd yn dda cael y £5 miliwn hwnnw dros y llinell ac yn ôl i mewn i'r sector. Ers 2022, Lywydd, rydym wedi dyfarnu mwy na £5 miliwn i wneud casgliadau a gofodau'n fwy hygyrch i bawb, ac i gefnogi cyfranogiad diwylliannol ar lawr gwlad, oherwydd trwy wneud hynny, rydym yn agor nid yn unig gofodau ac arddangosfeydd, ond y sgwrs am ddiwylliant ein cenedl i bawb. Ac er bod rhai i'w gweld yn datgan pwy sy'n gymwys i ddeall ac ymuno yn y sgwrs hon, rwy'n glir fod pawb yn gymwys i wneud hynny.

Lywydd, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai lleol drwy ein grant cyfalaf trawsnewid, i gefnogi'r gwaith o foderneiddio gwasanaethau lleol. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi bron i £7 miliwn yn y prosiectau lleol hyn.

Mae datblygu Celf, oriel gelf cyfoes genedlaethol wasgaredig ar gyfer Cymru, wedi bod yn flaenoriaeth allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, a derbyniodd bron i £7.5 miliwn o fuddsoddiad yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n enghraifft bwerus o ymrwymiad y Llywodraeth hon i sicrhau mynediad i bawb ac i ddosbarthu buddsoddiad ar draws Cymru. Lywydd, rwyf eisoes wedi gosod fy stondin yn ddigywilydd o ran sicrhau bod amgueddfeydd ledled Cymru yn gallu cynnal ein treftadaeth ddiwylliannol fwyaf arwyddocaol. A phan ddywedais wrth fy nghyd-Aelod Carolyn Thomas fy mod yn rhannu ei huchelgais i weld bowlen Caergwrle yn ôl yng ngogledd-ddwyrain Cymru, roeddwn yn siarad am fwy nag arteffact arwyddocaol yn unig. Mae cymunedau yng Nghaergwrle a Wrecsam yn gymunedau balch, a dylai plant ysgol lleol allu deall a gweld eu hanes.

Lywydd, mae ein buddsoddiad cyfalaf yn y sector dair gwaith yn uwch erbyn hyn na'r hyn ydoedd 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn cyflawni ymrwymiadau proffil uchel, megis y gwaith adnewyddu helaeth ar Theatr Clwyd a datblygu amgueddfa bêl-droed i Gymru yn Wrecsam. Ac yn ei gyfraniad, nododd John Griffiths y buddsoddiad, a sut y mae'r buddsoddiad yn taflu goleuni cadarnhaol ar ddinas Casnewydd.

Felly, Lywydd, am weddill y ddadl agored—dadl bwysig, ac rwy'n ei chroesawu—rwy'n gobeithio nad yw'n debyg i fewngofnodi i'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, lle rydym yn sownd mewn siambr adlais lle mae Aelodau'r wrthblaid ond yn nodi'r pethau negyddol, Lywydd, y pethau negyddol y maent yn chwilio amdanynt, gan anwybyddu geiriau'r sector sydd wedi croesawu cyllid ychwanegol, a bachu ar yr un llinellau y byddent wedi'u hysgrifennu hyd yn oed cyn i'r cyllid y gwnaethant bleidleisio yn ei erbyn gael ei ddyfarnu. Felly, os nad ydynt yn barod i ddathlu'r hyn y mae'r sector wedi'i ddweud, ac rwy'n gobeithio y byddant yn manteisio ar y cyfle i wneud hynny, fe wnaf i hynny, oherwydd mae ein cymorth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, nid yn unig i brosiectau mawr, ond ar lawr gwlad hefyd.

Felly, Lywydd, gadewch imi rannu gyda chi—

16:35

A gaf i wneud ymyriad cyflym, os gwelwch yn dda, Weinidog? Pam y credwch, felly, yn ei adroddiad diweddaraf, fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi dweud ei bod hi'n argyfwng ar ddiwylliant yng Nghymru?

Fel y dywedais, Lywydd, nid yw'n ymddangos bod Aelodau'r wrthblaid eisiau dathlu'r hyn y mae'r sector yn ei ddweud, a'r sector—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud beth y mae'r sector wedi'i ddweud. [Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud yr hyn y mae'r sector wedi'i ddweud: pan gawsant lythyr yn nodi eu dyfarniad cyllid yn ddiweddar, dywedodd amgueddfa annibynnol leol, 'Beth sydd wedi digwydd yn y 30 munud diwethaf? Fe agorais yr e-bost, dechrau crio, anfon neges destun at ein cadeirydd, a sgrechiodd i lawr y ffôn, cyn mynd i ddweud wrth yr ymddiriedolwyr eraill. Mae hyn yn ein helpu ni cymaint, ac rydym yn hurt o ddiolchgar.' Felly, Lywydd, gadewch inni fanteisio ar y cyfle hefyd i dynnu sylw at enghreifftiau lleol y gobeithiaf y bydd Aelodau'r wrthblaid hyd yn oed yn manteisio ar y cyfle i'w croesawu heddiw.

Mae dyfodol hen Sefydliad y Glowyr y Coed Duon bellach yn edrych yn fwy disglair, diolch i gyllid pellach. Mae'r adeilad yn enghraifft anhygoel o hanes dosbarth gweithiol, a dylid ei ddathlu. Fe'i hadeiladwyd gan gyfraniadau glowyr i gynnal diwylliant, a bydd yn parhau i wneud hynny o ganlyniad i'n cyllid. Ac fel y soniais yn gynharach, Lywydd, Theatr Clwyd, sefydliad diwylliannol yng ngogledd Cymru, ond nid oes neb o Aelodau'r wrthblaid wedi'i grybwyll eto heddiw, ac mae llefarwyr y gwrthbleidiau wedi ymweld â'r sefydliad yn ddiweddar. Cafodd cenedlaethau o blant ac oedolion eu profiadau cyntaf o theatr yma, gan gynnwys y Jack Sargeant ifanc. A bydd ein buddsoddiad cyfalaf o £23.5 miliwn yn golygu y bydd hyn yn parhau am genedlaethau i ddod. Ac enghraifft arall o'n cefnogaeth ariannol sylweddol i ddiwylliant yw datblygiad castell Caerffili: £8.2 miliwn ar gyfer buddsoddiad cam 1, sydd i fod i gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf. Hefyd, yng nghastell Caernarfon, cafwyd buddsoddiad mawr gwerth £5 miliwn. Felly, mae buddsoddi'n digwydd yn y sector a dylid ei groesawu.

Ond mae'r Llywodraeth hon wedi dangos ei hymrwymiad a'i chefnogaeth i ddiwylliant, wedi'i ddiffinio yn yr ystyr ehangaf, ar draws ystod o feysydd polisi, ac mae'n iawn ein bod ni'n gwneud hynny. Mae'n bwysig cofio, yn ogystal â chyllid o fy mhortffolio i, fod buddsoddiad arall mewn diwylliant yn digwydd ar draws Llywodraeth Cymru, mewn meysydd fel addysg, chwaraeon ac ynni. Er enghraifft, mae £1.5 miliwn i gefnogi trawsnewid i ynni cynaliadwy yn Amgueddfa Cymru drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru eleni. Rydym hefyd yn cefnogi arddangos a dathlu diwylliant Cymru trwy Cymru Greadigol—dros £14 miliwn eleni—a Digwyddiadau Cymru—dros £5 miliwn. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn rhaglenni fel y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a dysgu creadigol, ac wrth gwrs, Lywydd, y cyllid sy'n cael ei ddyrannu'n benodol ar gyfer cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg. 

Lywydd, rydym yn adeiladu adferiad ar ôl y blynyddoedd o gyni. Rydym yn canolbwyntio ar y dyfodol a'n hegwyddor sylfaenol yw bod yn rhaid i'r broses o gyflawni twf fod yn gynhwysol, gan sicrhau bod pawb yn gallu elwa o bŵer diwylliant. Ac i mi, Lywydd, mae diwylliant, fel y dywedodd William Hazlitt, 

'yn cynnig...safbwyntiau rhyddfrydig; mae'n gwneud i'r meddwl arfer ag ymddiddori mewn pethau sy'n wahanol iddo'i hun; i garu rhinwedd er ei fwyn ei hun...ac i ganolbwyntio ein meddyliau ar yr hyn sy'n wahanol ac yn barhaol, yn hytrach na gwrthrychau cul a byrhoedlog.'

Edrychaf ymlaen at weddill y ddadl ac at glywed yr Aelodau'n dathlu diwylliant Cymru. Diolch.

16:40

Teitl y ddadl yw 'Celfyddydau a Diwylliant—braf i'w cael neu'n allweddol i ddyfodol Cymru?', ac rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni'n gofyn y cwestiwn yn dweud llawer am y sefyllfa rydym ynddi. Nid wyf yn credu ei fod yn gwestiwn y byddem yn gweld y Gwyddelod yn ei ofyn, nid wyf yn meddwl ei fod yn gwestiwn y byddem yn gweld yr Albanwyr yn ei ofyn, nac unrhyw wlad arall yn y byd. Ac fe ddof at rai o'r pethau y mae'r Gweinidog wedi'u dweud, ond hoffwn ddweud, mewn ymateb i rai o'i sylwadau, fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, y cyfeiriodd Sioned Williams ato, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac mae wedi dweud bod y sector diwylliant yn wynebu argyfwng.

Nawr, rwy'n gwybod y bydd y Llywodraeth eisiau canu clodydd y sector, ac mae gennyf bob ffydd, mewn gwirionedd, fod y Gweinidog eisiau gweld y sector diwylliant yn ffynnu, ond rwy'n credu hefyd ei bod yn iawn weithiau inni ddweud nad yw pethau'n union lle rydym eisiau iddynt fod. Fe wyddom nad yw'r cyllid yno. Rydym yn clywed hynny dro ar ôl tro gan wahanol sefydliadau diwylliannol. Ac wrth gwrs eu bod yn mynd i groesawu cyllid sy'n dod gan y Llywodraeth, oherwydd y gwir amdani yw bod y cyllid hwnnw'n eu hachub, ond maent yn dal i fod yn byw ar y gwynt fel y mae pethau ar hyn o bryd. Mae'n dal i fod yn frwydr i lawer o'r sefydliadau diwylliannol hynny, a'r hyn y byddwn wedi hoffi ei glywed gan y Gweinidog yw ychydig o gydnabyddiaeth efallai nad yw pethau lle rydym eisiau iddynt fod ar hyn o bryd, ond y byddwn yn ymdrechu i wneud yn siŵr fod diwylliant yn rhan annatod o agenda'r Llywodraeth yn y dyfodol. O'm rhan i o leiaf, ni chlywais hynny'n hollol gan y Gweinidog. 

Os caf gyfeirio at rywbeth a ddywedodd Gareth Davies ynglŷn â diwylliant, i mi, mae diwylliant yn gynhenid wleidyddol. Pan edrychwch ar dde Cymru, er enghraifft, Cymoedd de Cymru a streic y glowyr, mae'n rhan annatod o'r cymunedau hynny yn ddiwylliannol. Ac rwy'n credu bod hyd yn oed ceisio esgus nad ydyw yn gwneud anghymwynas â diwylliant y cymunedau hynny. Mae diwylliant yn gynhenid wleidyddol, ni ddylem byth anghofio hynny. Mae brwydrau'r glowyr yn enwedig wedi siapio'r cymunedau hynny. Maent yn sicr wedi siapio’r gymuned y cefais i fy magu ynddi a fy egwyddorion fel gwleidydd yn y lle hwn. Felly, rwy'n credu bod ceisio gwadu bod diwylliant yn gynhenid wleidyddol yn gwneud anghymwynas— [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Diolch, Luke. Nid wyf yn gwadu'r ffaith honno, a phan ymwelais â'r amgueddfa yng Nghaerdydd yn ddiweddar, mwynheais yr arddangosfa ar streic y glowyr. Rwy'n meddwl ei bod wedi dod i ben nawr, ond yr hyn a fwynheais oedd ei bod yn rhoi hanes de Cymru, ond roeddent hefyd yn nodi mai glofa'r Parlwr Du yng ngogledd Cymru, ychydig bach y tu allan i fy etholaeth, oedd yr unig lofa yng Nghymru gyfan a bleidleisiodd yn erbyn streic ar yr adeg honno. Felly, roeddwn yn hapus fod hynny wedi cael ei nodi, ac fe ganmolais yr amgueddfa am dynnu sylw at hynny, oherwydd maent yn gymunedau gwahanol ac mae'r rhai yng ngogledd Cymru'n wahanol.

[Anghlywadwy.]—gwneud ymyriad ar ymyriad. Mae angen i'r Aelod ymyrryd yn ystod yr araith.

Diolch, Luke. Byddwn yn dweud eich bod yn camddeall yn sylfaenol beth yw diwylliant, oherwydd roeddech chi'n gwneud y cyhuddiad yn eich cyfraniad am brosiectau ideolegol, ond rydych chi newydd ddangos eich hun fod yr arddangosfa honno yn Amgueddfa Cymru wedi adlewyrchu holl brofiad streic y glowyr.

16:45

Roeddwn yn nodi rhywbeth cadarnhaol—nodais rywbeth cadarnhaol.

Felly, fe wnaethoch chi danseilio eich dadl eich hun, oni wnaethoch?

Mae diwylliant yn ymwneud â phopeth. Mae'n ymwneud â'r holl safbwyntiau, a dyna pam y mae'n bwysig.

Rwy'n poeni y gallwn ddod yn Llywydd de facto mewn munud, ond wrth gwrs, os yw Gareth, os ydych chi eisiau dod yn ôl—. Ond rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Sioned yn nodi'n berffaith mewn gwirionedd lle rwy'n anghytuno â chi ar eich dadansoddiad. [Torri ar draws.] Ewch amdani, felly. 

Mae'n ddadl agored, ac rwy'n disgwyl i hynny ddigwydd. Ond nid wyf yn credu ei fod yn tanseilio'r ddadl, oherwydd roedd y Gweinidog yn ei gyfraniad cyn eich cyfraniad chi'n dweud, wel, gadewch inni nodi rhywfaint o bositifrwydd. Ond nid yw hynny'n golygu na ddylem graffu na thynnu sylw at ble y gellir gwella pethau. Mae yntau hefyd yn edrych ar y pethau positif, a lle gellir nodi enghreifftiau da. Rwy'n credu mai arwydd o arfer da yw hynny fy hun.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ie, wel, a oes unrhyw un arall eisiau dod i mewn nawr? [Chwerthin.] Edrychwch, yr hyn rwyf eisiau dod ato mewn gwirionedd yw lle rwy'n cytuno â'r Llywodraeth yn llwyr, sef yr hyn a nododd y Gweinidog ynglŷn â bod diwylliant yn rhywbeth i bawb. Yr hyn sy'n broblem weithiau pan fyddwn yn siarad am ddiwylliant yw ein bod yn aml yn siarad amdano i fyny yma, ac fel rhywun o fy nghefndir i, rwy'n aml wedi teimlo fel pe bai diwylliant yn rhywbeth i bobl eraill, ac nid i mi. Ac mae hynny'n hollol wallgof, pan fyddwch chi'n meddwl amdano, oherwydd, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n meddwl am ddiwylliant, ac am ddiwylliant dosbarth gweithiol yn enwedig, mae o'n cwmpas ym mhobman: edrychwch ar y dyddiau rygbi a'r digwyddiadau mawr sy'n digwydd. Cefais sgwrs ddiddorol iawn gydag un o fy ffrindiau. Euthum i weld opera, a'r peth cyntaf a gefais yn ôl oedd, 'Pam ar wyneb y ddaear yr aethost ti i weld opera? Nid yw hynny'n rhywbeth i ni.' Yr un ffrind oedd hwnnw, gyda llaw, a wariodd gannoedd o bunnoedd ar docyn i fynd i weld artist mewn digwyddiad mawr, ac euthum yn ôl ato a dweud, 'Wel, edrych, fe gostiodd £10 i mi fynd i weld opera.'  

Nid yw'r mathau hyn o bethau—. Nid wyf yn credu bod y mathau hyn o bethau yn cael eu cyfathrebu'n glir mewn cymunedau penodol, ac rwy'n credu bod hynny'n elfen negyddol yma. Gallwch fynd i weld opera'n llawer rhatach nag y gallwch fynd i weld Taylor Swift, ac mae hynny'n rhywbeth rwyf i wedi ceisio ei gyfleu dros y blynyddoedd, felly rwy'n llwyddo i dorri drwodd gyda rhai o fy ffrindiau'n araf bach rwy'n meddwl, ond nid pob un ohonynt. Ond edrychwch, mae'n gadarnhaol iawn gan y Llywodraeth ar fynediad at ddiwylliant a thynnu sylw at ddiwylliant fel rhywbeth nad yw ar gyfer pobl o gefndir penodol a dosbarth penodol yn unig. 

Ond yr hyn rwy'n credu bod angen i ni ei ddeall hefyd, pan fyddwn ni'n siarad am rygbi a digwyddiadau mawr yw'r effaith lluosydd y mae'r digwyddiadau hynny'n ei chael ar sectorau eraill a'r effaith y mae'n ei chael ar yr economi. Felly, rwy'n siarad llawer am y diwydiant lletygarwch; mae'n ddiwydiant y mae gennyf brofiad ohono. Mae'n ddiwydiant sy'n sail i'r sector diwylliannol yn fy marn i, oherwydd pan fyddwn ni'n mynd allan i wylio'r rygbi, dywedwch—neidio ar drên, trên gorlawn, sy'n rhan o'r diwylliant mae'n debyg—rydych chi'n dod i mewn i'r dref ac rydych chi'n mynd am fwyd, rydych chi'n mynd am ddiod. Nawr, mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn ffynnu ar hyn o bryd. Edrychwch ar y sector lletygarwch; mae'n ychwanegu rhywbeth fel £4 biliwn i economi Cymru. Y rheswm pam rwy'n codi hyn yw nad wyf yn credu ei bod yn deg beio'r Gweinidog Diwylliant felly am bopeth sy'n ymwneud â diwylliant a'i gadwraeth. Mae'n fater trawslywodraethol. Byddwn eisiau gweld datganiadau gan Weinidog yr economi, er enghraifft, ar ddiwylliant, fel yr un a welsom ychydig wythnosau yn ôl ar ddigwyddiadau mawr, oherwydd mae'r effaith y mae diwylliant yn ei chael ar yr economi'n sylweddol, ac rwy'n credu bod hynny'n aml yn cael ei anghofio. Felly, pan fyddwn yn siarad am ariannu diwylliant, pan fyddwn yn ei ariannu'n gywir, bydd y lluosyddion ar wahanol ddiwydiannau wedyn yn arwain at fwy o arian yn ein cymunedau, mwy o arian yng nghoffrau Llywodraeth Cymru, oherwydd wedyn rydym yn gwneud busnesau'n hyfyw. Mae Caerdydd yn enghraifft dda iawn; dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r diwydiant lletygarwch wedi ehangu'n fawr. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft dda iawn arall, lle mae'r diwydiant lletygarwch wedi ehangu'n sylweddol. Rydym yn gweld ein strydoedd mawr yn adfywio. Os yw'r holl bethau hyn yn gweithio ar y cyd, gall fod yn dda iawn i'n cymunedau.

Felly, yr hyn yr hoffwn i bobl ei gael o fy nghyfraniad yw bod yr economi'n rhan sylfaenol o ddiwylliant. Mae diwylliant yn gwella'r economi. Mae'n gwella bywoliaeth ein cymunedau, nid yn ddiwylliannol yn unig, ond yn economaidd hefyd.

Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Heledd a dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon.

Ac rydym eisoes wedi clywed llawer heddiw am ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol yma yng Nghymru, ond fel Aelod balch o ogledd Cymru, ni ddylai fod yn syndod fy mod i'n mynd i ganolbwyntio yn y cyfraniad hwn ar gyfraniad diwylliannol fy rhan i o'r wlad, o eisteddfod ryngwladol Llangollen i Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, pethau fel Castell y Fflint, a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a gynhelir yn Llanelwy. Mae'n rhywbeth i'w ddathlu, a'i fawrygu mewn rhai achosion, ond mae'n llawer mwy na hynny hefyd, fel y clywsom heddiw. Mae ein cynnig diwylliannol yn amlochrog, ac mae ganddo botensial i ddod â buddion ehangach i'n cymunedau, i'n gwlad, i'n pobl, ein lleoedd ac i'n hamgylchedd a'n heconomi. Nid yw yno'n unig fel adloniant ac i ddiddanu; mae ganddo botensial i ysbrydoli a grymuso. Nid oes angen iddo fod yn elitaidd ac yn anghynhwysol ychwaith, fel y clywsom; mae ar ei orau fel rhywbeth cynhwysol sy'n dod â chymunedau at ei gilydd. 

Sefydliad a ffagl gymunedol sy'n esiampl ddisglair o hynny yw Theatr Clwyd. Mae'r theatr, a agorodd ym 1976, wedi'i lleoli ar fryn ar gyrion yr Wyddgrug yn fy etholaeth i. Rwy'n aml yn meddwl nawr nad wyf yn credu y byddem yn gweld hynny'n digwydd heddiw. Dangosai uchelgais o flaen ei oes. Mae wedi bod trwy drawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd, buddsoddiad cyfalaf enfawr, diolch i Lywodraeth Cymru i raddau helaeth, a ffynonellau cyllido eraill hefyd. Y theatr yw'r tŷ cynhyrchu mwyaf yng Nghymru. Mae'n un o brif sefydliadau diwylliannol y DU, ac mae'n creu sioeau clodwiw ac arobryn sy'n dod â chynulleidfaoedd enfawr i'r theatr ei hun, ond sydd hefyd yn teithio ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal.

Ond nid trysor diwylliannol yn unig yw'r theatr; mae'n drysor cymunedol hefyd. Y theatr yw prif ddarparwr addysg gerddorol yn sir y Fflint erbyn hyn, ac rwy'n credu bod 2,600 o blant yn cael gwersi cerddoriaeth drwyddynt bob wythnos. Maent yn gwneud pethau fel cefnogi grŵp penodol sy'n cefnogi pobl ifanc LHDTC+. Maent yn cynnal gweithgareddau iechyd a lles, pethau fel Arts from the Armchair, hybiau haf i blant bregus, a llawer iawn mwy. Bydd gan yr adeilad a ailddatblygir fannau pwrpasol newydd i allu cynnal yr holl weithgareddau hyn, ac fe fydd yn hyb cymunedol yn ogystal â chartref i ddiwylliant yn yr ardal.

Mae hefyd yn chwarae ei rhan dros yr amgylchedd a'n heconomi. Bydd adeilad Theatr Clwyd wedi'i ailddatblygu yn dod yn un o'r theatrau a ailddatblygwyd mwyaf ecogyfeillgar yn Ewrop gyfan. Ac rwy'n deall bod y cynllun, o ran yr ailddatblygiad, wedi dargyfeirio gwastraff dymchwel o safleoedd tirlenwi, gan gynnwys pethau fel ailddefnyddio dros 2,000 o'i frics gwreiddiol o'r 1970au ar gyfer gosod wyneb newydd ar yr adeilad, a rhoi hen seddi theatr i gwmnïau theatr a sinema cymunedol llai.

Yn ôl yn 2016, eu trosiant oedd £4.6 miliwn, ac roeddent yn cyflogi 60 o aelodau yn y cwmni, gyda'r effaith economaidd yng ngogledd Cymru ar y pryd yn £7.2 miliwn. Yn ystod yr ailddatblygiad, mae'r trosiant wedi bod oddeutu £7.6 miliwn, gyda 153 o aelodau o'r cwmni, ac ar ôl i'r lle gael ei orffen, maent wedi cynnig rhagolwg gofalus y bydd yn gweld trosiant o £12.8 miliwn; bydd ganddynt bron i 250 o weithwyr craidd a byddant yn cyflogi dros 500 o weithwyr llawrydd yn ystod y flwyddyn. Mae'r effaith economaidd honno'n debygol o dyfu i dros £20 miliwn y flwyddyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Lywydd, nid yw'r manteision y mae'n eu cynnig, nid yn unig o ran diwylliant, ond mewn perthynas â'r economi, llesiant, cefnogi grwpiau ifanc a bregus yn y gymuned hefyd, nid yw hynny'n ddisylwedd. Mae'n hanfodol, ac rwy'n credu ei fod yn hollol wych hefyd.

Mae'r ddadl hon heddiw yn amserol iawn o ran siarad am Theatr Clwyd, gan fy mod wedi cael y fraint, ychydig dros wythnos yn ôl, o fynd i weld cynhyrchiad o'r enw Tick, tick... Boom!, sef y cynhyrchiad cyntaf yn y theatr wedi iddi gael ei hailddatblygu. Mae'n gynhyrchiad gwych—fe fwynheais yn fawr, cast gwych—ac fe allech chi weld yr effaith y mae gwella'r goleuadau a'r sain eisoes wedi'i wneud i'r profiad. Wrth i ni godi ar ein traed i'w cymeradwyo ar y diwedd, roeddwn i'n teimlo'n emosiynol iawn wrth weld y theatr yn agos at gael ei chwblhau—ac rydym yn disgwyl cael ei agoriad swyddogol fis nesaf—oherwydd, fel llawer o bobl yn fy ardal, cefais fy magu gyda chysylltiad personol dwfn â'r theatr honno. Roeddwn i'n ceisio meddwl pa bryd oedd y tro cyntaf i mi fynd yno'n blentyn, fel y soniodd Jack hefyd. Nid wyf yn siŵr ai Alice Through the Looking Glass ydoedd, neu Wind in the Willows a Toad of Toad Hall, ond yr hyn rwy'n ei gofio, wrth eistedd yno yn y gynulleidfa, yw'r teimlad o ryfeddod fod y llyfrau yr oeddwn wedi'u darllen, neu a gâi eu darllen i mi—yn llythrennol yn dod yn fyw a'r gwahaniaeth a wnâi hynny.

Fel plentyn ychydig yn hŷn, fe wnaeth wahaniaeth i fy mywyd yn yr ystyr nad wyf yn credu y byddwn wedi mynd i'r brifysgol i astudio llenyddiaeth Saesneg pe na bai gennyf y theatr honno ar garreg fy nrws a'r gallu i weld pethau'n cael eu perfformio a sut y gallai'r gair ysgrifenedig ddod yn fyw yn y ffordd honno hefyd. Felly, rwy'n falch iawn fod y buddsoddiad trawsnewidiol hwnnw'n diogelu'r theatr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.

Cyn i mi orffen, fe geisiaf siarad am rywbeth arall heblaw Theatr Clwyd, oherwydd gallaf weld nad yw fy amser ar ben. Rydym wedi siarad am ddiwylliant fel rhywbeth i bawb, a'r canfyddiad nad yw rhai rhannau o ddiwylliant i bawb, ac fe wnaethoch chi gyffwrdd ag opera, ac fel y dywedoch chi, Luke, cefais neges gan fy ngwraig, a ddywedodd, 'Ti'n gweld, fe wnes i dy gyflwyno di i fwy o ddiwylliant', oherwydd, cyn i ni gyfarfod, nid oeddwn erioed wedi bod yn gweld opera, a gwelais opera'n cael ei pherfformio am y tro cyntaf ar wyliau, ac fe wnaeth hi ei ddisgrifio i mi fel 'Dyma binacl y byd opera'. Roeddwn i'n adnabod pethau oddi ar hysbysebion a phethau felly, ac aeth hynny â mi i'r cam nesaf ac fe aethom i Ganolfan Mileniwm Cymru, a phan aethom ar ein mis mêl, cefais y fraint o fynd i'r Met yn Efrog Newydd i weld opera yno, a oedd yn anhygoel.

Felly, mae gwahanol sbectra'n perthyn i'n diwylliant. Ond un o'r pethau rwy'n siarad llawer amdanynt, a rhywbeth yr hoffwn ei weld yn y dyfodol, trwy weithio gyda'n gilydd ar y cyd i ddathlu ein cymunedau, yw'r ffordd y dathlwn ein diwylliant dosbarth gweithiol a'n treftadaeth. Mae gennym dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yma yng Nghymru ac un o fy hoff amgueddfeydd—ar wahân i'r rhai yng Nghymru—yw Amgueddfa Hanes y Bobl ym Manceinion. Rwy'n credu bod gennym botensial enfawr i wneud rhywbeth tebyg yng Nghymru, ond nid fel safle sefydlog statig, rwy'n awgrymu, ond yn hytrach, dathlu'r holl safleoedd gwahanol ar hyd a lled y wlad a dod o hyd i ffordd o'u cysylltu a'u cynnwys yn ein cynnig twristiaeth hefyd. Felly—

16:55

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae'n ddrwg gennyf. Roeddwn i ond eisiau dweud pa mor falch wyf i o glywed awgrym o'r fath. Un o'r pethau sydd wedi fy nigio braidd dros y blynyddoedd yw ein bod yn gweld y cyllid—nid trwy Lywodraeth, wrth gwrs, ond yn breifat—i blastai, er enghraifft, ond wedyn fe welwn neuaddau glowyr, neuaddau gweithwyr, yn ein cymunedau'n mynd â'u pen iddynt. Fel y dywedoch chi, mae yna hanes diwydiannol cyfoethog yng Nghymru nad wyf yn credu ei fod yn cael ei ddathlu'n ddigonol, ac mae angen inni ddod o hyd i ffordd o allu diogelu rhai o'r sefydliadau a'r adeiladau hynny er mwyn gallu adrodd yr hanes hwnnw.

Yn hollol. Ac rwy'n credu ein bod wedi clywed sôn yn gynharach heddiw, mewn cyd-destun gwahanol iawn, am Ffynnongroyw a phwll glo'r Parlwr Du, a'r hyn sy'n drist i mi yw nad yw lle roedd sefydliad y glowyr yn arfer bod yn Ffynnongroyw yno mwyach; tai sydd yno. Ond yr hyn sydd wedi digwydd yn y degawd diwethaf yw bod grŵp o hen—'hen'; rwy'n siŵr na fyddent yn hoffi pe bawn i'n eu galw'n 'hen'—glowyr wedi ymddeol o'r Parlwr Du wedi dod at ei gilydd i greu cymdeithas dreftadaeth, ac rydym wedi eu gweld, wrth yr hen bwll, maent wedi bod yn gosod cofeb, ar gyrion Ffynnongroyw, ac o gwmpas—ar lwybr yr arfordir tuag at Dalacre, fe geir arwyddion ac fe geir cerfluniau ac un o hen olwynion pwll hefyd. Felly, mae'n disgrifio'r hanes ond yng nghyd-destun gweld ein tirwedd naturiol ar yr un pryd. Felly, rwy'n meddwl bod potensial enfawr i wneud hynny ledled Cymru, fel y dywedais, ac nid ei gael ar un safle o bosibl, oherwydd gallaf ein gweld yn cael rhyw fath o, nid wyf am ddweud 'dadl', ond trafodaeth, ynglŷn â ble yw'r lleoliad mwyaf addas yng Nghymru i'w gael. Dyna pam rwy'n meddwl os gallem ei wneud mewn ffordd newydd a chael safleoedd lluosog—

A wnewch chi dderbyn ymyriad, yn fyr? Os ydym yn siarad am—

Edrychodd y ddau ohonom ar y Llywydd pan ddywedoch chi 'yn fyr'.

Ie. Os ydym yn sôn am amgueddfeydd gwych, a wnewch chi ymuno â mi i ddweud mai un o'r amgueddfeydd gorau yw Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy? Os ewch yno, gallwch weld cytundeb Versailles, gallwch weld dogfennau yr oedd Lloyd George wedi'u hysgrifennu yn ystod gwrthryfel Iwerddon 1916 ac yn y cyfnod hwnnw, gallwch wneud synnwyr o lawer o'r hyn sy'n digwydd yn y byd heddiw, a bydd unrhyw un sy'n mynd yno yn deall ac yn cael gwybodaeth ddyfnach am y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw.

Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac yn ffodus, fe ymwelais â'r amgueddfa ac roedd hynny rai blynyddoedd yn ôl nawr, ond rwy'n credu mai dyna'r mathau o bethau nad wyf yn credu bod digon o bobl yn gwybod amdanynt, a ble a sut y gallwch chi gyrraedd yno. Felly, rwy'n credu bod yna ffordd y gallwn gysylltu hynny â'n cynnig twristiaeth hefyd, i ddod â mwy o bobl i mewn i rannu hyn, a'i rannu nid yn unig gyda phobl sy'n dod o'r tu allan i Gymru, ond gyda phobl sy'n byw yng Nghymru.

Rwy'n mynd i orffen nawr, Lywydd. I gloi, oes, mae angen inni adeiladu ar y buddsoddiad hwnnw a pharhau i fuddsoddi yn ein cyfraniadau diwylliannol. Ond rwy'n credu, fel y dywedais, fod angen i ni hefyd fod yn arloesol a mabwysiadu agwedd gynhwysol, oherwydd, fel y clywsom heddiw, nid moethusrwydd yw ein diwylliant na rhywbeth ymylol; mae'n ganolog i bwy ydym ni. Mae'n siapio ein hunaniaeth, ein cymunedau ac yn gyrru ein heconomi, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i roi diwylliant wrth galon ein gweledigaeth Gymreig a sicrhau ei fod yn gryf ar gyfer y dyfodol. Diolch.

Diolch, Llywydd. Oes yna rywbeth sy’n diffinio pobl yn fwy na’u diwylliant? Mae diwylliant, wrth gwrs, yn rhan annatod o berson; gall berthyn i deulu, i fro, i genedl, i genhedlaeth, i gwmni, hyd yn oed. Mae diwylliant yn rhywbeth hyblyg sydd yn esblygu ac yn addasu ei hun. Ond er gwaethaf yr hyblygrwydd a’r symudedd sydd yn perthyn yn annatod i ddiwylliant, mae e hefyd yn rhywbeth sydd yn perthyn i'r person ac yn ei ddiffinio. Felly, mae’n sefyll i reswm fod diwylliant yn bwysig i’r syniad o’r hunan. Ond mae gan ddiwylliant rôl y tu hwnt i’r mynegiannau personol yma; oherwydd y pwysigrwydd i’r adnabyddiaeth o’r hunan mae o hefyd yn erfyn pwerus iawn wrth edrych ar iechyd a gofal. Ar adegau pan fo costau iechyd a gofal yn cynyddu yn sylweddol, yr adnabyddiaeth o’r angen i wella gofal iechyd meddwl, a phoblogaeth sydd yn heneiddio, mae angen i ni edrych y tu hwnt i gyfyngiadau meddyginiaeth draddodiadol ac edrych ar fodel mwy ataliol, person ganolog, a holistig o ofal iechyd. Ac mae’r diwylliant yn ganolog i hyn—y celfyddydau, ein treftadaeth, creadigrwydd a chymuned.

Felly, dwi am gymryd cyfle heddiw i ddadlau pam fod diwylliant a chelfyddydau yn fwy na rhywbeth sydd yn cyfoethogi ac yn diddanu, ac yn llawer mwy na gyrrwr economaidd, ond eu bod nhw’n ganolog i’n gwasanaeth iechyd a gofal. Fe wnaf i edrych ar elfennau ataliol, eu heffaith ar gyflyrau megis dementia, a’r arbedion ariannol all ddod trwy gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant i’r gwasanaethau iechyd a gofal.

Mae yna ddigon o ymchwil bellach yn dangos buddiannau'r celfyddydau a diwylliant i les pobl. Yn ôl yn 2017, fe gyhoeddodd grŵp trawsbleidiol San Steffan ar y celfyddydau, iechyd a lles ei adroddiad ar 'Iechyd Creadigol: Y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles', oedd yn dod i’r casgliad di-amwys,

'Gall y celfyddydau ein cadw’n iach, ein cynorthwyo mewn gwella a chefnogi byw’n hirach ac yn well.' 

Nid datganiad o farn oedd hyn, ond un oedd wedi ei seilio ar dystiolaeth yn edrych ar dros 300 o astudiaethau a channoedd o dystiolaeth oddi wrth gleifion, arbenigwyr ac arweinwyr cymunedol. Fe ganfuwyd bod ymwneud â’r celfyddydau, o baentio i farddoniaeth i gerddoriaeth a dawns, yn gwella iechyd meddwl a chorfforol, yn lleihau unigrwydd cymdeithasol, ac yn cryfhau gwytnwch cymunedau. Wrth glymu hyn i mewn i ofal iechyd, mae’r celfyddydau yn arwain at arosiadau llai yn yr ysbyty, llai o ymweliadau at feddyg teulu a llai o ddefnydd o feddyginiaeth.

Ond mae yma rôl ataliol allweddol hefyd, ynghyd â’r buddion i ddioddefwyr o gyflyrau hirdymor fel dementia. Mae yna hen ddywediad poblogaidd yn y Saesneg, onid oes, 'Prevention is better than cure', ond wrth feddwl am yr elfennau ataliol, yn llawer rhy aml, mi ydyn ni’n disgyn i’r fagl o feddwl am ddeiet neu ymarfer corff. Ond mae cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol yr un mor effeithiol ag ymuno â’r gampfa. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, fel canu yn y côr, ymuno â dosbarth dawns gymunedol, neu ymweld ag amgueddfeydd, yn gysylltiedig â lleihau'r risg o iselder, gorbryder ac unigrwydd. Ac nid cyflyrau iechyd meddwl yn unig ydy’r rhain, ond yn aml maen nhw’n arwain at gyflyrau corfforol a meddyliol eraill.

Fe ddangosodd ymchwil yr UCL yn ôl yn 2019 fod pobl oedd yn ymhél â digwyddiadau diwylliannol yn achlysurol 14 y cant yn llai tebygol o farw o fewn misoedd i’r gweithgareddau hynny, â’r rhai oedd yn ymhél â digwyddiadau o’r fath yn aml gyda'r risg o farw bron i draean yn is o fewn cyfnod byr i'r ymweliadau. Ymhellach i hyn, mi ydyn ni’n gwybod bod digwyddiadau celfyddydol i blant yn cryfhau eu llythrennedd emosiynol, eu gwytnwch nhw a chydlyniad cymdeithasol. Mae cynlluniau addysgiadol yn yr ysgolion sydd yn cynnwys integreiddio drama, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol hefyd yn cryfhau iechyd meddwl, canlyniadau addysgiadol a phresenoldeb yn yr ysgol, sydd oll yn helpu gyda iechyd hirdymor y plentyn a'r person ifanc. 

Felly, nid moethusrwydd neis i’w gael ydy’r celfyddydau, ond teclyn hanfodol i wella ansawdd bywyd pobl, ac mae’r buddiannau yma i’w gweld yn amlwg ym mywydau pobl sydd yn byw gyda dementia.

Wrth i ddementia gael gwared ar gof a gwybyddiaeth, mae celf sy'n ailgysylltu unigolion â'u synnwyr o hunaniaeth, dynoliaeth a llawenydd yn hanfodol. Dangoswyd bod cerddoriaeth yn enwedig yn sbarduno atgofion, yn lleihau cynnwrf ac yn gwella hwyliau mewn pobl â dementia datblygedig.

Mae gennym nifer o enghreifftiau rhagorol o arferion gorau yng Nghymru. Nid oes angen i chi edrych ymhellach na rhaglen ardderchog Cartrefi Cymru gan Age Cymru, lle maent yn comisiynu artistiaid proffesiynol i fynd i gartrefi preswyl am gyfnodau preswyl creadigol o 12 wythnos, neu raglen Silver Screen Sisters, rhaglen arloesol rhwng Prifysgol Abertawe, Gŵyl Gomedi'r Mynyddoedd Du a'r grŵp perfformio comedi Kitsh n Sync, a ariennir gan gyngor y celfyddydau. Fe'i cyflwynwyd mewn chwe chartref gofal a llwyddodd i gryfhau cyfathrebu, lleihau unigrwydd, codi hwyliau, a meithrin profiad emosiynol a rennir yn y preswylwyr. Dywedodd Dr Gary Christopher:

'Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall y celfyddydau effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl â dementia. Drwy ddefnyddio elfennau o hiraeth, hiwmor a symudiad, mae'r perfformiad yn creu profiad a rennir sy'n meithrin cysylltiad, yn ysgogi cof personol iawn, ac yn gwella hwyliau.'

Mae Co Fi, cydweithrediad rhwng cartref gofal Bryn Seiont Newydd a Galeri Caernarfon, yn enghraifft ardderchog arall, a cheir eraill yn sir Ddinbych, sir Benfro a ledled Cymru. Mae'r rhaglenni hyn nid yn unig yn dosturiol, maent yn gosteffeithiol, ond maent hefyd yn arbed arian yn y tymor hir. Mae rhaglenni sy'n seiliedig ar y celfyddydau yng Nghymru a mannau eraill yn arbed miliynau o bunnoedd i'r system iechyd a gofal cymdeithasol bob blwyddyn.

Canfu dadansoddiad enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad a adolygwyd gan gymheiriaid ym Mhrifysgol Bangor fod rhaglen gelf weledol 12 wythnos ar gyfer pobl â dementia yn cynhyrchu enillion o £5.18 o werth cymdeithasol am bob £1 a fuddsoddir. Dangosodd adroddiad diweddar Archwilio Cymru werth y cytundeb rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a chydffederasiwn y GIG, gydag eraill, fel The Lancet, yn nodi ei effeithiolrwydd. Ac roedd adolygiad gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd, yn nodi gwerth clir i iechyd yr unigolion gan arwain at arbedion i'r GIG. Er enghraifft, cynhyrchodd oedolion hŷn a fynychodd sesiynau celf amgueddfa trwy gynllun Thursday at the Museum arbediad blynyddol o £1,310 y pen drwy lai o ymweliadau â meddygon teulu.

Rydym ar drobwynt. Wrth i'r GIG a systemau iechyd cyhoeddus ddod o dan bwysau, rhaid inni droi at fodelau gofal cynaliadwy, arloesol. Nid rhywbeth arbrofol yw integreiddio'r celfyddydau a diwylliant mewn gofal iechyd mwyach, mae'n hanfodol. Clywsom am bresgripsiynu cymdeithasol, wel, dyma bresgripsiynu diwylliannol. Ni allwn ddibynnu mwyach ar y sectorau celfyddydol a diwylliannol i sybsideiddio ein gofal iechyd, ac yn lle hynny rhaid inni eu gweld fel rhan ddi-dor ac integredig o'r cyfan. Diolch yn fawr.

17:05

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn mwynhau'r ddadl yn fawr, a dylwn ddechrau gyda'r cyfaddefiad fy mod yn aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru a benderfynodd dorri cyllideb y celfyddydau a diwylliant. Rhoddodd y rhestrau aros erchyll a wynebwyd ar ôl COVID a'r toriadau Torïaidd yn sgil cyni ddewisiadau anodd iawn i ni. Ac ni allwn ddianc rhag y ffaith bod y celfyddydau a diwylliant yn cael eu hystyried fel targedau meddalach. Mae'n haws torri grantiau nag yw hi i gau ysbytai. Efallai nad ydym yn hoffi hynny, ond mae'n ffaith. Mae'n llawer anos rhoi ffigurau ar fanteision celfyddydau a diwylliant, ond fe allwn roi rhai.

Amcangyfrifodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yn 2022 fod diwydiannau creadigol Cymru yn cynhyrchu 5.8 y cant o gyfanswm cynnyrch domestig gros Cymru—5.8 y cant—gan gyflogi tua 90,000 o bobl. A byddai unrhyw un sydd wedi ymweld â'r Bad Wolf Studios yn agos atom yma yn y bae ac wedi gweld cynhyrchiad teledu mawr ar waith yn cael ei syfrdanu, nid yn unig gan y creadigrwydd, ond gan y grym economaidd y mae'r sector yn ei gynrychioli. Ac nid yng Nghaerdydd yn unig: yn Llanelli, mae Tinopolis Cymru yn cyflogi mwy na 120 o staff amser llawn. Mae'n gyflogwr mawr a chanddo swyddi da.

Ac mae'n ymwneud â mwy nag effaith economaidd yn unig. Ychydig gannoedd o lathenni i ffwrdd o Tinopolis, yng nghanol tref Llanelli, yn hen gapel Seion, fe welwch People Speak Up, sefydliad bach sy'n defnyddio'r celfyddydau i wneud gwahaniaeth mawr. Mae eu rhaglen lesiant yn cysylltu cymunedau trwy adrodd straeon, y gair llafar, ysgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol, a daeth bron i 3,000 o bobl trwy eu drysau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gall diwylliant wella pobl, ac rydym yn ffodus yn Llanelli i gael ystod gyfoethog o gorau, bandiau a chymdeithasau lleol, a theatr o'r radd flaenaf, y Ffwrnes, yng nghanol y dref. Yno fis Hydref diwethaf gwelais berfformiad meddylgar a theimladwy o'r ddrama Carwyn, a ysgrifennwyd gan Owen Thomas a Gareth Bale. Adroddai hanes Carwyn James, yr hyfforddwr rygbi aruthrol, ac roedd yn gynnyrch ecosystem theatr Cymru: syniad a aned mewn slam sgriptiau gan Theatr y Sherman, ei ddeor yn Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, a'i deithio ledled Cymru mewn theatrau bach. Fel pob drama dda, roedd yn diddanu, roedd yn ddoniol, ac roedd yn ysgogi. Fe wnaeth i chi feddwl, yn yr achos hwn am gymuned, rhywioldeb, meritocratiaeth, myth a chof, ac unigrwydd. Roedd yn deimladwy iawn. Dyna beth y mae celfyddydau a diwylliant yn ei wneud ar ei orau. Mae'n rhoi lens wahanol ar sut yr edrychwn ar y byd, sut rydym yn meddwl am ein lle yn y byd.

Nid wyf wedi gweld llawer o ddramâu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wedi ymweld ar sawl achlysur â Chanolfan Mileniwm Cymru i weld sioeau cerdd, ac rydym yn ffodus fod gennym leoliad ag iddo gymaint o enwogrwydd rhyngwladol yn ein prifddinas, a thîm artistig sy'n curadu ystod mor eang o gynyrchiadau i apelio at gymaint o gynulleidfaoedd amrywiol. Yn weddol ddiweddar, mwynheais The Book of Mormon, Hamilton Waitress—cynyrchiadau o safon y west-end—ond hefyd y cynhyrchiad realiti estynedig Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin. Ac ar gyfer y cynhyrchiad technoleg ymgolli hwn, gwisgodd fy nheulu benset realiti rhithwir a chawsom ein cludo i Alabama ym 1955 i weld y rhagflaenydd dewr i Rosa Parks nad oes llawer yn wybyddus amdani, a wrthododd ildio ei sedd ar y bws. Roedd yn rhyfeddol. Fe wnaeth sbarduno sgyrsiau gyda fy mhlant. Fe wnaeth i mi feddwl yn ddwfn am fy mraint wen fy hun, ac fe gyneuodd fy nychymyg ynglŷn â sut y gall adrodd straeon digidol fynd â'r celfyddydau i gyfeiriadau newydd. Ond Carwyn yn Llanelli a wnaeth adfywio fy mrwdfrydedd dros y theatr. Mae cynlluniau Michael Sheen ar gyfer theatr genedlaethol Gymreig yn Abertawe yn fy nghyffroi, ac rwyf wedi archebu fy nhocynnau i fynd i Theatr y Grand Abertawe i weld dehongliad Russell T. Davies o Our Town ym mis Ionawr.

Cefais fy syfrdanu gan gyfres o ddramâu yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd dehongliad gwych Tim Price o streic y glowyr, Odyssey '84, gyda chast o'r radd flaenaf, yn deimladwy iawn ac yn ysgogi'r meddwl. Gall drama dorri eich calon, ac fe wnaeth hon. Roedd y ffordd ryfeddol yr adroddodd Hijinx Theatre sut y dechreuwyd symud pobl anabl a oedd yn byw mewn tai a rennir yng Nghaerdydd yn anhygoel. Actorion niwroamrywiol a niwronodweddiadol yn rhannu'r llwyfan i adrodd stori nad oeddwn yn ymwybodol ohoni o gwbl, mewn ffordd a wnaeth i mi chwerthin a chrio. Mae celfyddydau a diwylliant yn ein helpu i ddeall ein gorffennol a'n presennol mewn ffyrdd unigryw, a ffyrdd na allwch eu mesur mewn cynnyrch domestig gros.

Rhoddodd Azuka Oforka, dramodydd newydd, ddarn o theatr i mi na fyddaf byth yn ei anghofio. Roedd The Women of Llanrhymni yn stori ysgytwol a pherthnasol am gaethwasiaeth, ei chysylltiadau â Chymru, ei heffaith anffurfiol ar eneidiau pobl, ac yn y pen draw, gwrthryfel yn ei herbyn. Siaradodd â mi mewn ffordd na allai llyfr neu gân ei wneud. Roedd Port Talbot Gotta Banksy gan Paul Jenkins, yn seiliedig ar gyfweliadau gair am air gyda phobl gyffredin yn y dref, yn ddarn gwych o theatr a roddodd lais i bobl yn llythrennol. Ac fe wnaeth sioe un dyn Martin Decker ychydig wythnosau yn ôl rywbeth difrifol gydag ysgafnder, ar bwnc iechyd meddwl dynion a rôl tadau.

Roedd pob un o'r darnau hyn o gelfyddyd a diwylliant yn darparu gwerth na ellir ei gyfleu mewn dadansoddiad cost a budd. Ond rwy'n cydnabod mai dim ond oherwydd buddsoddiad cyhoeddus y mae'n bosibl llwyfannu theatr o'r fath, ac mae yna lawer o alw am fuddsoddiad o'r fath. Nid yw pwyso a mesur pa flaenoriaeth i'w ariannu yn hawdd. Ond wrth inni wneud y dewisiadau hynny, rhaid inni beidio ag anghofio gwerth celfyddyd a diwylliant, hyd yn oed os na allwn bob amser ei feintioli. Diolch.

17:10

Fel llefarydd tai fy mhlaid, dwi'n dweud yn aml fod tai yn ymwneud yn sylfaenol â phobl. Gellir cyfleu hyn mewn ffordd bwerus gan ddefnyddio'r celfyddydau creadigol, gan ganiatáu gwahanol sgyrsiau am y dewisiadau sydd ar gael i ni, a pham fod tai mor bwysig. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld tîm cymunedau'n creu cartrefi Cwmpas yn arbrofi â drama i alluogi sgyrsiau am botensial tai cydweithredol. A dwi'n argymell bod pawb yn edrych ar y gwaith maen nhw wedi'i gomisiynu o'r enw Brewing Eggshells for Faulty Tower Changelings. A dyna chi deitl gwerth chweil, yn wir.

Fe all y celfyddydau creadigol gefnogi ymgysylltiad cymunedol, a grymuso cymunedau i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer eu tai yn y dyfodol. Mae'r celfyddydau yn gallu caniatáu pobl i feddwl yn wahanol a chael sgyrsiau gwahanol a all ddod â phobl ynghyd â gweledigaeth gyffredin. Dwi wedi gweld sut mae hynna wedi cael ei ddefnyddio i drafod tai mewn ardal wledig yn ne Kerry, Iwerddon. Fe all y celfyddydau creadigol ein helpu ni efo syniadau arloesol, ond, wrth gwrs, mae angen y gronfa honno o artistiaid cymunedol arnom ni i alluogi hynny.

Dwi am droi at fy rôl fel Aelod Arfon, a dwi yn falch iawn o gynrychioli etholaeth sydd yn fwrlwm o ddiwylliant sydd wedi ei wreiddio yn ein cymunedau, yn ein canolfannau celfyddydol ac, yn wir, ym mhob agwedd o'n bywydau ni. Fe glywais i'n ddiweddar am y gwaith sy'n digwydd yn Bradford fel Dinas Diwylliant, a dwi wedi cael fy argyhoeddi y gallai dinas y Fenai arddel teitl Dinas Diwylliant yn y dyfodol.

Gwnaf ddewis un enghraifft yn unig o ddinas diwylliant y Fenai, enghraifft sydd yng nghanol y bwrlwm yma yn Arfon, sef Cwmni'r Frân Wen. Dyma enghraifft ardderchog o werth allweddol y celfyddydau yng Nghymru. Wedi’i leoli ym Mangor, mae Frân Wen yn arbenigo mewn prosesau cyd-greu arloesol efo plant, pobl ifanc a chymunedau. Yn 2024, fe agorodd Frân Wen y ganolfan Nyth, trawsnewidiad ysbrydoledig o hen eglwys i ganolfan gelfyddydol gynhwysol, gynaliadwy a chroesawgar, sy’n gosod cydweithio, adfywio cymunedol ac arloesedd artistig wrth galon y gwaith.

Mae gwaith Frân Wen yn adlewyrchu cymdeithas amrywiol Cymru heddiw, gan roi lle canolog i leisiau sydd wedi eu tangynrychioli. Maen nhw'n hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw ac yn grymuso pobl i leisio’u stori. Mae Frân Wen hefyd yn enghraifft gref o sut y gall buddsoddi mewn celfyddydau gyfrannu at iechyd, lles, addysg, sgiliau, economi leol ac uchelgais genedlaethol. Yn wir, nid rhywbeth braf i’w gael, ond rhan hanfodol o ddyfodol ffyniannus Cymru.

Gwnaf i sôn am ddau o’u prosiectau nhw. Mae'r Stiwdio Lles yn brosiect rhwng Celfyddydau Cymunedol Gwynedd, gwasanaethau cefnogi llesiant myfyrwyr Prifysgol Bangor, a meddygfa Bodnant, wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed sy’n profi gorbryder, unigedd neu iselder. Mae’r Stiwdio Lles yn darparu gofod diogel i’r cyfranogwyr archwilio’u hemosiynau a’u profiadau drwy gyfrwng celf, gyda chefnogaeth artistiaid proffesiynol. Yn hytrach na bod yn ymatebol i broblemau iechyd meddwl, mae’r prosiect yn weithred ataliol sy’n cynnig dull arall i ymdopi a datblygu hunanhyder. Mae’r llwyddiant cynnar yn profi potensial y dull yma i greu newid cadarnhaol a chynaliadwy mewn bywydau pobl ifanc, ac yn tynnu sylw at rôl y celfyddydau wrth gefnogi gwasanaethau iechyd a llesiant ehangach.

Cynhyrchiad ydy Dynolwaith gan y dramodydd ifanc Leo Drayton, sy’n archwilio’r daith bersonol a chymdeithasol o drawsnewid hunaniaeth rhywedd. Mae’r ddrama’n gydgynhyrchiad efo Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, ac yn teithio ledled Cymru yn ystod yr hydref y flwyddyn yma. Ochr yn ochr â'r cynhyrchiad, mae Frân Wen yn lansio rhaglen ddatblygu ar gyfer artistiaid sy’n dod o’r gymuned LGBTQ+ Cymraeg, gan fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r diffyg cynrychiolaeth hanesyddol yn y diwydiant. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y ddrama ac i weld y gwaith sydd yn digwydd o gwmpas y rhaglen ddatblygu hefyd.

Er gwaethaf y llwyddiant artistig a’r effaith gymdeithasol sy’n amlwg yn achos Frân Wen, mae’r cwmni, fel llawer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru, yn gweithredu o dan bwysau ariannol sylweddol. Does dim osgoi y ffaith yna. Mi oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn inni fod yn bositif. Dwi yn bod yn bositif. Dwi yn adnabod nifer fawr o brosiectau positif. Dwi yn adnabod y llesiant cenedlaethol sydd yn gallu deillio o'r celfyddydau. Ond mae'n rhaid cydnabod y realiti hefyd o weithredu dan bwysau ariannol sylweddol. Mae’r sefyllfa bresennol yn tanseilio gallu’r sector i gynllunio’n gynaliadwy, gallu'r sector i gadw talent greadigol, a gallu’r sector i gwrdd ag anghenion cymunedau sy'n dibynnu ar y celfyddydau fel ffordd o fynegiant, datblygiad a chysylltiad cymdeithasol.

I gloi, nid moethusrwydd ydy buddsoddi yn y celfyddydau. Mae’r sector diwylliannol a’r celfyddydau yn ecosystem arbennig iawn y dylem ni fod yn ymfalchïo yn fawr iawn ynddi. Mae hi'n gonglfaen i economi, iechyd, addysg a hunaniaeth Cymru.

17:15

Rwy'n cytuno â Siân Gwenllian nad yw buddsoddi yn y celfyddydau yn foethusrwydd. Ar hyn o bryd, mae gennym heriau difrifol iawn yn ymwneud â chydlyniant cymunedol, ac felly mae'r celfyddydau yn un o'r ffyrdd y gallwn ddod â phobl at ei gilydd i drafod materion anodd y mae angen i bawb ohonom gael ein pennau o'u cwmpas.

Cyn dychwelyd at faterion mwy lleol, rwyf am gofio mai Theatr Clwyd oedd lle gwelais Porth y Byddar, yn Gymraeg yn unig, yn 2007; ond oherwydd fy mod i'n gwybod y stori, gallwn ei ddilyn. Ond nid oeddwn i'n sylweddoli tan nawr, oherwydd rwyf newydd edrych, fod 'Porth y Byddar' yn golygu 'Deaf Gate', sy'n ymddangos i mi yn llawer mwy addas na'r adfywiad, a elwid yn Drowned Out. Yn syml oherwydd bod holl stori Tryweryn yn ymwneud â byddardod corfforaeth Lerpwl a chynghorwyr dinas Lerpwl, na allent ddeall—. Neu'n hytrach, rwy'n credu eu bod ar un lefel, oherwydd dyna pam y gwnaethant fynd am Ddeddf Seneddol yn hytrach na chais cynllunio. Ond pwynt yr holl stori yw mai haerllugrwydd pobl nad oeddent yn byw yno ac nad oedd ganddynt unrhyw fuddsoddiad yn y gymuned a wnaeth iddynt feddwl y gallent sathru dros feddwl a theimlad a diwylliant lleol. Ac wrth gwrs, mae'r gweddill yn hanes.

I fynd yn ôl at faterion mwy cyffredinol, mae Lee Waters eisoes wedi siarad am lawer o'r gweithiau gwych sydd wedi'u datblygu yn Theatr y Sherman, sydd yn fy etholaeth i, ac mae'n gymaint o fraint eu cael yno. Un o'r gweithiau o gelfyddyd na wnaeth Lee sôn amdanynt yw rhywbeth o'r enw Hot Chicks, a oedd yn ymwneud â dwy yn eu harddegau yn chwarae triwant o'r ysgol, yn treulio'u hamser mewn siop decawê, ac sy'n cael eu rhwydo mewn byd o werthu cyffuriau a phuteindra. Stori gyfoes iawn, o ystyried yr hyn a wyddom nawr am bethau ofnadwy eraill sydd wedi digwydd mewn cymunedau ledled y DU. Wedi'u recriwtio gan fenywod hŷn, yn gweithredu ar ran gangster, cafodd y menywod ifanc bregus hyn eu denu gan yr arian a'r hudoliaeth nes eu bod i mewn yn rhy ddwfn i allu dod allan. Roedd yn bwerus iawn—gyda dim ond tri actor. Cafodd ei wneud yn anhygoel o dda.

Ond mae gennym bethau eraill hefyd. Er enghraifft, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ôl ym mis Rhagfyr 2018, gallaf gofio gweld drama wych ac mor bwerus o'r enw Behind the Label, yn ymwneud â digartrefedd, a gyflwynwyd gan Theatre Versus Oppression, a oedd yn grymuso oedolion bregus i rannu eu straeon a'u tynnodd i mewn ac allan o ddigartrefedd. Roedd dyfnder ymrwymiad y Wallich, lle roedd y bobl hyn wedi cael eu cefnogi ar y daith honno yn ôl i allu cynnal eu tenantiaethau eu hunain, a galluogi'r bobl hyn, a oedd â hanesion mor ofnadwy, i allu eu rhannu gyda'r cyhoedd yn gyffredinol, yn ogystal â'r broses wella o ail-fyw eu trawma a oedd wedi achosi iddynt ddod yn ddigartref yn y lle cyntaf, sy'n elfen mor hanfodol ar y llwybr i adferiad.

Wrth gwrs, mae gennym hefyd ddehongliad Michael Sheen o Nye Bevan, sydd nid yn unig yn rhywbeth sy'n gwneud i bawb godi ar eu traed i gymeradwyo pan gaiff ei ddangos yng Nghymru, ond mae hefyd yn helpu i addysgu gweddill y DU am bwysigrwydd Nye Bevan, yn ogystal â phwysigrwydd cadw ein GIG yn gyhoeddus.

Rwyf eisiau siarad ychydig nawr am fater arall, sy'n ymwneud â bwydo ar y fron. Datganiad cenhadaeth Cyngor Celfyddydau Cymru yw creu celfyddydau sy'n rhan annatod o iechyd a llesiant y genedl. Sut y mae cyflawni hynny pan nad oes ond un o bob 10 o awduron ffilmiau nodwedd yn fenywod, er bod 60 y cant o awduron, ysgrifenwyr a chyfieithwyr yn fenywod? Ac er bod chwarter yr holl ddramâu teledu wedi'u hysgrifennu gan fenywod, caiff hynny ei haneru pan fyddwch chi'n dadansoddi pwy sy'n ysgrifennu yn y slotiau oriau brig. Felly, rwy'n credu nad yw golwg menywod ar y byd yn cael ei gynrychioli'n ddigonol o hyd, ac rwy'n siŵr nad oes llawer ohonom yn synnu at hynny.

Dair blynedd yn ôl, dynion oedd tri chwarter yr holl awduron perfformiadau theatr yn y DU, ac nid oes portreadu cadarnhaol o fwydo ar y fron mewn ffilm, teledu neu theatr prif ffrwd. Felly, sut y gallwn ni ddefnyddio ein celfyddydau a'n diwylliant i herio'r modd y caiff cynrychiolaeth o fwydo ar y fron ei stigmateiddio fel rhywbeth sy'n rhyfedd? Mae pawb i'w gweld yn meddwl bod bwydo ar y fron yn syniad da, ond pwrpas bronnau yw bwydo babanod, nid gwerthu papurau newydd, a dyna, rwy'n ofni, yw'r farn gyffredin o hyd.

Fe wyddom mai bwydo ar y fron yw'r peth gorau i'w wneud. Yn wir, ni allai pôl piniwn diweddaraf YouGov y llynedd ddod o hyd i unrhyw unigolyn a oedd yn barod i ddweud bod fformiwla babanod cystal â'r fron, heb sôn am fod yn well na'r fron, ond mae'r cyfraddau bwydo ar y fron isel yn y DU yn broblem iechyd cyhoeddus mawr, ac maent hyd yn oed yn fwy digalon yng Nghymru nag yn y gwledydd eraill. Rwy'n credu ei fod hefyd yn fater cyfiawnder cymdeithasol enfawr, oherwydd dyma'r ymyrraeth iechyd cyhoeddus mwyaf hygyrch a chosteffeithiol—ac rydym yn ceisio dod yn genedl Marmot—sy'n effeithio'n gadarnhaol ar iechyd y fam a'r plentyn, mater rydym yn ei adael i raddau helaeth i'r sector gwirfoddol ar ôl 6 o'r gloch y nos, sef, dyfalwch beth, pan fydd mam a phlentyn yn brwydro yn erbyn blinder. 

Faint o fyrddau iechyd sy'n blaenoriaethu cefnogi menywod i'w helpu i ddechrau a chynnal bwydo ar y fron yn ystod y dyddiau a'r wythnosau cyntaf o daith y fam a'r babi? Dyna gwestiwn y gwnaf ei adael gyda chi. Nid yw'n llawer. Oherwydd fe wyddom fod 60 y cant o bobl yn dechrau bwydo ar y fron ar adeg yr enedigaeth, ond erbyn chwe wythnos, mae i lawr i 25 y cant—felly, maent yn bendant wedi gadael yr ysbyty erbyn hynny—ac yn chwe mis oed, dim ond 16 y cant sy'n rhoi unrhyw laeth y fron o gwbl. 

17:25

Bydd angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr. Os gallwch ddirwyn i ben.

O'r gorau. Mae hynny'n iawn. Julie Morgan. Na. Cefin Campbell, wedyn Julie Morgan. 

Diolch yn fawr iawn, a diolch am y ddadl hon. Mae wedi bod yn gwbl ysbrydoledig, a dweud y gwir, clywed am brofiadau pobl wahanol a'u perthynas a'r celfyddydau, a chydnabyddiaeth hefyd bod y celfyddydau'n llenwi'r gofod o ran ein hanwybodaeth o'r byd o'n cwmpas ni. Mae'n caniatáu i ni ymateb yn emosiynol i gelf ac i gerddoriaeth, i chwaraeon, i ddawns, a phob math o gyfryngau celfyddydol gwahanol.

Ond fel sydd eisoes wedi cael ei ddweud yn y ddadl hon, mae'r celfyddydau a'n diwylliant ni'n fwy na rhywbeth neis i'w gael, ac mae hynny'n arbennig o wir pan ddaw hi at y cysylltiad rhwng y celfyddydau a diwylliant ac addysg yn arbennig. Addysg, fel rŷn ni'n gwybod, sy'n gosod y seiliau ar gyfer ein dyfodol ni fel cenedl. Yng Nghymru, rŷn ni'n wlad sydd â hanes cyfoethog o hunaniaeth ddiwylliannol hynod o falch, ac mae addysg wastad wedi bodoli y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth fel mynegiant o hwnna.

Drwy addysg, rŷn ni'n trosglwyddo ein hanes, ein diwylliant, ein hiaith a'n gwerthoedd o un genhedlaeth i'r nesaf, ac rŷn ni'n gwneud hynny ar gyfer ein pobl ifanc, a rhoi profiadau arbennig iddyn nhw y byddan nhw'n eu gwerthfawrogi am weddill eu bywyd. Mae'r celfyddydau'n rhan bwysig o sut mae addysg yn defnyddio'r mynegiant hwnnw i roi'r profiadau yna i'n plant a'n pobl ifanc. A does dim ond rhaid inni feddwl nôl i ychydig wythnosau nôl i fel oedd Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, ym Margam, eisteddfod Dur a Môr, wedi rhoi cymaint o brofiadau celfyddydol, diwylliannol—celf a dawns a cherddoriaeth o bob math—i blant o bob math o gefndiroedd, o bob math o gartrefi, ac ieithoedd gwahanol hefyd.

Yn 2013 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar y celfyddydau ac addysg, a dywedodd yr adroddiad hwn:

'Yn yr unfed ganrif ar hugain...bydd addysg yn dod yn sail...i gymdeithas greadigol, economi greadigol a diwylliant creadigol.'

Ac aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud y bydd creadigrwydd, neu fod yn

'agored i gaffael gwybodaeth newydd a sgiliau arloesol, yn llunio ein byd'

mewn ffordd gwbl chwyldroadol. Nawr, dyna weledigaeth bwerus, ond ydyn ni wedi colli golwg ar y weledigaeth honno? Oherwydd os ydyn ni yn wirioneddol gredu yn y weledigaeth, pam taw'r celfyddydau—cerddoriaeth, drama a'r celfyddydau gweledol—sydd wastad ar frig y rhestr o bethau i gael eu torri pan fydd cyllidebau ysgolion a chyllidebau’r celfyddydau yn gyffredinol yn dynn? Pam fod profiadau diwylliannol, a all fod yn sbardun ar gyfer taith pobl ifanc, taith yrfaol gwbl sylfaenol i blentyn, yn cael eu trin fel opsiynau dymunol yn hytrach nag fel agweddau hanfodol o addysg gyflawn? Ystyriwch y plentyn sy'n ymweld ag amgueddfa am y tro cyntaf ac yn cael cipolwg ar ei hanes ei hun, ar ei filltir sgwâr ei hun, neu'r person ifanc sy'n dod o hyd i'w lais ef neu hi ei hun drwy ddrama, y person ifanc yna sy'n canu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, neu'r person ifanc sy'n darganfod angerdd dros gerddoriaeth sy'n eu helpu nhw drwy eiliadau tywyll yn eu bywyd.

Nid rhyw fuddion ymylol yw'r rhain, maen nhw'n brofiadau sy'n newid bywydau. Ac mae sefydliadau fel Amgueddfa Cymru, er enghraifft, wrth wraidd nifer o'r profiadau hyn. Y llynedd yn unig, fe gyrhaeddodd eu rhaglenni addysg nhw bron i 288,000 o ddysgwyr ledled Cymru, ac nid niferoedd yn unig yw'r rhain, ond maen nhw’n 288,000 o gyfleoedd unigryw i newid bywydau.

Nawr, os ydyn ni'n archwilio lleisiau'r genhedlaeth Windrush, er enghraifft, i gefnogi dysgwyr niwroamrywiol, drwy bartneriaethau fel Coleg Pinc—maen nhw'n gwneud addysg yn real, yn berthnasol ac yn gynhwysol, a hynny yn ein dwy iaith genedlaethol ni. Maen nhw hefyd yn darparu prentisiaethau, yn datblygu sgiliau a chyfleoedd i wirfoddoli, gan helpu pobl ifanc i feithrin hyder a rhoi cychwyn iddyn nhw ar yrfaoedd posibl. Dyma addysg yn ei hystyr lawn—nid dysgu am y byd yn unig, ond dysgu sut i'w lunio, sut i'w newid.

Mae'r ffaith nad yw cyllid Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn sicr dros y blynyddoedd diwethaf, a'r ffaith ei bod wedi gweld dwsinau o ddiswyddiadau oherwydd hynny, yn warth, a dweud gwir, achos mae'r amgueddfa wedi chwarae rhan mor ganolog yn newid bywydau cymaint o blant a phobl ifanc, ac oedolion hefyd. Ac mewn byd lle mae'r Llywodraeth yn gweld y celfyddydau a'n diwylliant fel rhywbeth dymunol, nid hanfodol, y rheini o gefndiroedd mwyaf difreintiedig sy'n dioddef, achos, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae rhieni dosbarth canol yn gallu fforddio llenwi'r gwagle hwnnw.

Fel y dywedodd yr Athro Mark O'Neill, cyn-bennaeth Amgueddfeydd Glasgow, a oedd wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Senedd yn ddiweddar, a dwi'n dyfynnu yn Saesneg:

'Y rhagfynegydd mwyaf o ran ymweld ag amgueddfeydd yw'r lefel o addysg flaenorol. Fel arfer, mae pobl sydd â chymwysterau addysgol gwael neu ddim cymwysterau addysgol o gwbl wedi cael profiad gwael yn yr ysgol ac o ddysgu, ac maent yn ystyried amgueddfeydd yn lleoedd ysgolaidd nad ydynt ar eu cyfer hwy.'

Mewn geiriau eraill, os ŷch chi wedi cael profiadau gwael yn yr ysgol, rŷch chi'n llai tebygol o deimlo bod amgueddfeydd neu'r celfyddydau ar eich cyfer chi ac yn perthyn i chi. Mae hynny yn drasiedi, oherwydd ei fod yn golygu ein bod ni'n atgyfnerthu anghydraddoldeb, nid yn torri lawr, ond yn cau pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig allan o brofiadau pwysig bywyd.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru newydd yn cynnig gobaith. Mae ei faes dysgu a phrofiad celfyddydau mynegiannol yn feiddgar ac yn gynhwysol, ac mae'n cydnabod bod y celfyddydau yn helpu dysgwyr i fod yn hyderus, yn wydn ac yn llythrennog yn emosiynol. Ond eto, rwy'n gofyn i ni ein hunain: ydyn ni'n rhoi'r adnoddau digonol i'n hysgolion i gyflawni y weledigaeth hon?

Ac rwy'n gorffen yn fan hyn, Llywydd. Mae dyfodol plant Cymru yn llythrennol yn y fantol, ac mae'r cyfrifoldeb arnom ni i weithredu. Ac os nad ydym ni'n ariannu'r celfyddydau yn ei hysgolion yn ddigonol, rŷn ni'n bradychu ein nodau polisi, ac yn bradychu plant Cymru hefyd, ac yn eu hamddifadu o gyfoeth diwylliannol cwbl hanfodol. Ac os ŷn ni am sicrhau dyfodol lle mae pob plentyn yng Nghymru yn ffynnu, mae'n rhaid inni fuddsoddi yn y celfyddydau a'r diwylliant sydd yn gysylltiedig ag ef drwy addysg, nid fel ystyriaeth ymylol, ond fel darpariaeth cwbl sylfaenol. Diolch yn fawr iawn.

17:35

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, a diolch i Heledd a Sioned am ei chyflwyno. Mae wedi bod mor ysbrydoledig gwrando ar yr holl weithgareddau celfyddydol bywiog sy'n digwydd ledled Cymru. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl wych.

Mae'r celfyddydau'n gwbl hanfodol i ni. Maent yn llywio pob agwedd ar ein bywydau ac yn hollbwysig i ddyfodol Cymru. Mae'r ystod eang o gelfyddydau a diwylliant rydym wedi'u clywed yn cael eu trafod yma heddiw yn dangos pa mor bell y maent yn cyrraedd, os ydych chi'n meddwl am ddawns a chelf a cherfluniaeth, y dramâu y clywsom amdanynt, sioeau cerdd, ffilmiau, cerddoriaeth glasurol, pob math o gerddoriaeth. Rwy'n credu bod pob agwedd ar y celfyddydau'n gwbl hanfodol ac yn wirioneddol bwysig i'n bywydau yng Nghymru.

Ac fel cenedl yng Nghymru, mae gennym ymdeimlad dwfn o falchder yn ein celfyddydau a'n diwylliant. Mae hynny'n wir boed yn ddiwylliant Cymreig, fel y'i gwelwn, neu unrhyw un o'r diwylliannau gwych eraill sydd wedi ffynnu yma o ganlyniad i bobl o bob cwr o'r byd yn dymuno ymgartrefu yng Nghymru. Ac mae mor gyffrous ac ysbrydoledig gweld y diwylliannau hynny. Ac mae gennym dapestri cyfoethog o gelfyddydau a diwylliannau o bob math, ac rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol ar gyfer ein dyfodol ac yn ganolog i bopeth a wnawn. Rwy'n cefnogi'r Gweinidog yn llwyr yn yr hyn a ddywed ynglŷn â sut y dylai celf fod yn hygyrch i bawb, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol, wrth i blant dyfu i fyny, fod gan bawb fynediad at y celfyddydau. Mae'r pwynt hwnnw wedi'i wneud gan lawer o bobl—na ddylai fod yn rhywbeth elitaidd, rhaid iddo fod i bawb, ym mhobman.

Gwyddom fod manteision y celfyddydau wedi trawsnewid bywydau rhai pobl, ac roeddwn yn mynd i sôn am rai o'r meysydd lle mae hynny wedi digwydd heddiw. Er enghraifft, yn y system cyfiawnder troseddol, mae'r celfyddydau wedi golygu bod gan garcharorion ffordd o fynegi eu hunain mewn ffordd lawer mwy anffurfiol a phersonol. Mae'n eu galluogi i ddysgu sgiliau newydd, gwella cyfleoedd cyflogaeth, a helpu i adeiladu hunaniaethau cadarnhaol newydd y gallant fynd â hwy gyda hwy i'r byd y tu allan. Ac un o'r sefydliadau blaenllaw sy'n cyflwyno celfyddydau mewn carchardai yw Koestler Arts. Fe wnaethant ganfod drwy eu gwaith fod iechyd meddwl, lles, hyder, addysg, sgiliau a pherthnasoedd carcharorion i gyd wedi gwella oherwydd mynediad at y celfyddydau. Ac maent yn cynnal rhaglen wobrwyo sy'n annog carcharorion i gymryd rhan. Dywedodd un o'r cyfranogwyr:

'Rhoddodd cymryd rhan yng Ngwobrau Koestler gymhelliant, hunanhyder, ac ymdeimlad o bwrpas i mi. Fe ganiataodd imi brofi i mi fy hun beth rwy'n gallu ei wneud. Roedd cael fy ngwaith wedi'i gloriannu yn ôl ei rinweddau ei hun, heb ei gysylltu â fy statws fel carcharor, yn brofiad calonogol.'

Credaf fod prosiectau fel hyn yn cynnig cyfleoedd sy'n galluogi pobl i ddychwelyd i fywyd normal ar ôl cyfnod yn y carchar.

Mae'r celfyddydau hefyd yn rhoi cyfle i ni ddysgu mwy am y gwahanol ddiwylliannau sydd yma yn ein cymunedau a'u deall. Er enghraifft, mae arddangosfa yn y Pierhead ar hyn o bryd, sy'n cael ei noddi gan Lynne Neagle, ac sydd wedi'i pharatoi gan Sipsiwn a Theithwyr yn ardal Torfaen. Mae yno ffotograffau gwych o ddiwylliant traddodiadol y Sipsiwn a'r Teithwyr a cherddi a gyfansoddwyd gan bobl ifanc yn Ysgol Gorllewin Mynwy. Ac roeddwn yn credu bod y bobl ifanc a oedd wedi cyfansoddi'r cerddi hyn yn gwbl ysbrydoledig, ac roedd siarad â hwy a siarad am yr hyn a olygai i ysgrifennu'r farddoniaeth hon mor gyffrous, ac yn enwedig un gerdd a wnaeth argraff fawr arnaf, a gyfansoddwyd am eu mam a'r hyn a olygai cael eu mam iddynt.

Nid yw diwylliant Sipsiwn a Theithwyr yn gyfarwydd iawn i lawer o bobl yng Nghymru. Yn aml, caiff ei ddiystyru, ac yn aml, fe wahaniaethir yn ei erbyn. Felly, rwy'n falch iawn fod gennym yr arddangosfa hon yma yn y Senedd a'i bod yn mynd i fod yno am rai wythnosau. Ac wrth gwrs, dylem ddefnyddio'r cyfle hwn i dalu teyrnged i Isaac Blake, sydd wedi bod yn arloeswr ar ran Sipsiwn a Romani, drwy Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani, ac sydd wedi ymgyrchu dros bob math o gelf a diwylliant Sipsiwn. Ac yn ddiddorol, yn 2023, lansiodd Isaac fenter i hyrwyddo lleisiau Sipsiwn sy'n awduron newydd, a chafodd gefnogaeth dda iawn gan Gyngor Llyfrau Cymru. Ac mae'r mathau hynny o fentrau sy'n caniatáu i leisiau nad ydynt wedi cael eu clywed gael eu clywed yn gwbl hanfodol i'r sîn gelfyddydol yng Nghymru.

Rydym wedi clywed llawer o sôn am bwysigrwydd y celfyddydau ar gyfer iechyd, a chyn y ddadl hon, cysylltodd etholwr â mi sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel hwylusydd cerddoriaeth mewn iechyd. Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnig rhaglen gerddoriaeth mewn ysbytai ers mis Mawrth 2024-25. Darparwyd cerddoriaeth gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Live Music Now, Music in Hospitals and Care ac Opera Cenedlaethol Cymru. A dangosodd y gwerthusiad annibynnol fod hynny wedi gwella adferiad, wedi lleihau'r defnydd o feddyginiaeth, wedi lleddfu straen staff, ac yn y wardiau adsefydlu niwrolegol yn unig, fod cerddoriaeth wedi helpu i leihau cynnwrf cleifion, wedi lleihau salwch staff ac wedi arbed oddeutu £110,000 y flwyddyn i'r GIG. Nid rhywbeth braf i'w gael ydoedd, roedd yn hanfodol, yn fesuradwy ac yn newid bywydau. Ac yn fy etholaeth i, rydym yn adeiladu ysbyty newydd Felindre ar hyn o bryd. Bydd y celfyddydau'n cael eu hymgorffori yn yr adeilad hwnnw, ac rwy'n awyddus iawn inni gael piano yn y cyntedd, gan y credaf fod y cyfleoedd i ddod â phethau at ei gilydd yn y ffordd honno mor bwysig.

A hoffwn sôn hefyd am y Forget-me-not Chorus, sefydliad gwych arall sy'n defnyddio canu i gefnogi pobl â dementia. Ac os ewch i'r perfformiadau hynny a gweld pobl â dementia yn dod yn fyw pan fyddant yn canu, pan fyddant yn adnabod y caneuon, er y gallai eu hatgofion fod wedi diflannu, mae'r ffordd y dônt yn ôl yn hollol wych.

Ond roedd y ddadl hon yn ymwneud â, 'A yw'n rhywbeth braf i'w gael neu a yw'n hanfodol?', ac rwy'n credu bod bron bob un ohonom yn dweud ei fod yn gwbl hanfodol, yn hollbwysig. Fel y dywedodd Lee, mae'n haws torri'r celfyddydau na chau ysbyty, ond yr hyn a wnawn drwy gael y ddadl hon yw dangos yr effaith hirdymor sydd gan y celfyddydau yn ein cymdeithas. Cafwyd ergydion yn ddiweddar. Roeddwn yn siomedig iawn, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, fod y conservatoire iau wedi cau. Rwy'n credu bod hynny'n siomedig tu hwnt. Ac mae gweld unrhyw gyfle'n cael ei golli yn y fath fodd yn ergyd fawr. Ond mae gennym sector bywiog yng Nghymru. Mae'n wych gweld, fel y nodwyd eisoes, Michael Sheen yn dweud ei fod yn dechrau'r theatr genedlaethol yn Abertawe, yr wythnos hon rwy'n credu, ac yng Nghaerdydd, mae gennym noddwr sy'n mynd i ariannu amgueddfa gelf fodern newydd, sy'n gyffrous iawn hefyd, ac ymwelais â'r arddangosfa dros dro yn y Deml Heddwch yr wythnos diwethaf, a oedd yn gwbl ryfeddol. Felly, mae cymaint o bethau'n digwydd—cyffrous iawn—ond mater i ni nawr yw gwneud yn berffaith siŵr fod y rhain yn rhan ganolog o'n ffordd o fyw.

17:45

Rwyf wedi cael ceisiadau am ddau ymyriad pellach. Yn gyntaf, Sioned Williams, wedyn Jenny Rathbone, ac yna byddaf yn galw ar Heledd Fychan i ymateb. Sioned Williams.

Ie, diolch, Llywydd. Roeddwn i jest eisiau pigo lan ar ddau beth, mewn gwirionedd, yn dilyn cyfraniad Cefin Campbell o ran perthynas y celfyddydau gydag addysg, achos mae'r celfyddydau o fewn y cwricwlwm ac o fewn addysg, ac mewn cyswllt ag ysgolion a'n pobl ifanc, nid yn unig yn datblygu dysgwyr, ond hefyd yn gallu sicrhau eu bod nhw'n cael eu haddysgu'n well. Hynny yw, mae'r hyn ŷn ni'n ceisio ei ddysgu iddyn nhw yn fwy effeithiol nag yw e jest mewn ystafell ddosbarth yn unig.

A meddwl am ddrama, er enghraifft, roeddwn i wedi sôn yn ddiweddar, pan oeddwn i'n ymateb i strategaeth celfyddydau a diwylliant y Llywodraeth, am Theatr na nÓg, sy'n gwmni drama yng Nghastell Nedd sy'n creu cynyrchiadau theatr mewn addysg o'r safon uchaf, a wnaethon nhw'n ddiweddar ddod â chynhyrchiad i ardal Caerdydd, Y Naid, oedd yn ymwneud â cheisio rhybuddio pobl ifanc, pwno'r neges yna adref iddyn nhw, fel ei bod hi gyda nhw ar hyd eu hieuenctid nhw, ynglŷn â bod yn ofalus o gwmpas dŵr, a pheryglon dŵr agored. Wel, chafodd disgyblion dros Gymru ddim y cyfle i weld hynny oherwydd diffyg cyllid. Felly, mae e bron â bod yn rhywbeth mae yna elfen iechyd cyhoeddus iddo, ond hefyd i wneud â'r ffordd ŷn ni'n addysgu'n disgyblion ni yn fwy effeithiol.

A jest yr ail bwynt, yn gyflym, hefyd.

Mae llawer o bobl wedi siarad mor huawdl am bŵer drama. Mae pob un ohonom yn deall hyn, onid ydym? Mae'n ffordd o greu empathi, i wybod eich bod yn perthyn; dyna hanfod diwylliant, yn amlwg. Ac ar adeg o raniadau, o fygythiadau i ddemocratiaeth, rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio bod esblygiad drama a democratiaeth wedi'u cydblethu'n llwyr yn hanesyddol, onid ydynt? Digwyddodd yn yr hen Roeg, ac nid yw hynny'n gyd-ddigwyddiad. Mae drama'n arf mor bwerus i sicrhau ein bod yn deall newid cymdeithasol, ein bod yn deall pethau sy'n digwydd yn ein cymdeithas, fel y rhaniadau a achosir gan ddosbarth neu hil neu drefedigaethedd—felly, unwaith eto, pŵer hanfodol drama. Clywsom yn ddiweddar yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ein hymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol, sut y gwnaeth drama helpu, oni wnaeth, mewn un gymuned: cawsom dystiolaeth o Loegr yn dweud wrthym fod cael gweithdy drama wedi helpu'n fawr gyda rhai o'r tensiynau hiliol yn y gymuned honno. Felly, roeddwn am wneud y ddau bwynt pellach hynny.

Roeddwn eisiau mynd yn ôl at fater bwydo ar y fron a phwysigrwydd mynd i'r afael â'r agweddau negyddol sydd gan bobl tuag at fenywod, lle maent yn credu ei bod yn fwy priodol i bobl fwydo yn y toiled nag yn y bwyty, sydd mor ofnadwy. Nid oes unrhyw amheuaeth fod bronnau wedi'u cipio gan fuddiannau masnachol, eu rhywioli, yn hytrach na bod yn gyfrwng i faethu ein plant. Rwyf wedi gweld tair enghraifft o gelf weledol i hyrwyddo bwydo ar y fron. Mae un yn Wakefield, lle comisiynodd Cyngor Wakefield fenywod i wneud printiau o'u bronnau ac yna eu peintio i'w troi'n furlun, a gafodd ei arddangos mewn canolfan siopa am—. Roedd yn ymgais fwriadol i hyrwyddo bwydo ar y fron a dathlu cyflawniadau menywod. Ac aethant yn eu blaenau i ddarparu gwasanaeth bwydo ar y fron a chefnogaeth gan gymheiriaid yn y gymuned i helpu mwy o deuluoedd i fwydo ar y fron. Yng Ngogledd Iwerddon, roedd gan Derry a Strabane lefelau hyd yn oed yn is o fwydo ar y fron na gweddill Gogledd Iwerddon, ac mae murlun o fam yn bwydo baban i'w weld yn barhaol ar dalcen adeilad o'r enw Pram Centre, yn briodol iawn. Mae rhan o'r llun wedi'i bicselu'n fwriadol i orchuddio'r bronnau:

'Roeddem am iddo fod wedi'i sensro am ein bod am iddo adlewyrchu sut beth yw bwydo yma yn Derry, oherwydd fel mamau, rydym yn teimlo ein bod yn cael ein sensro mewn perthynas â bwydo,'

eglurodd cydlynydd y prosiect, Sinead O'Kane. Mae'r fam a'r baban du a gwyn wedi'u hamgylchynu gan dorch, sy'n cynrychioli'r cylch o gefnogaeth sydd ei angen mewn unrhyw daith bwydo ar y fron. Mae'r fam a'r baban du a gwyn yn cynrychioli sut y mae'n teimlo i fwydo ar y fron mewn gwirionedd, eu cariad a'u cysylltiadau. Ysbrydolwyd murlun Derry gan un tebyg yn Greenock, ardal rwy'n ei hadnabod yn dda er pan oeddem yn adrodd ar feddiannu Scott Lithgow. Roedd gan Greenock furlun tebyg, a arweiniodd at gynnydd o 5 y cant mewn bwydo ar y fron yn Greenock. Felly, dewch, Gymru: mae angen murlun arnom i hyrwyddo bwydo ar y fron yn rhai o'r lleoedd tlotaf sydd â'r lefelau isaf o fwydo ar y fron a lle mae ei angen fwyaf.

17:50

Diolch, Llywydd, a gaf i ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Mae wedi bod yn hyfryd cael dwy awr o drafodaeth ar ddiwylliant, ac, o'r holl e-byst dwi wedi eu cael yn yr wythnos diwethaf yma, buasai 20 awr wedi gallu cael eu llenwi yn llawn, oherwydd un o'r pethau sydd yn eithriadol o bwysig ydy dathlu. Mae yna bethau anhygoel yn digwydd yn y maes hwn yng Nghymru. Mae peth ohono fo, ydy, yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, dwi'n dathlu hynny. Maen nhw'n drawsnewidiol, maen nhw mor bwysig, a rydym ni'n ennill gwobrau yn rhyngwladol am hyn. Mae gwledydd eraill yn edrych i rai o'r prosiectau hyn, a dwi'n falch fy mod i wedi cynnig teitl pryfoclyd a'n bod ni'n cael cyfle i gael y drafodaeth yma.

Mae yna gwestiynau mae rhai o'r Aelodau wedi eu gofyn heddiw, a dwi eisiau dychwelyd at y rheini wrth gloi'r ddadl yma. O ran cwestiwn Sioned Williams, o ran statudol a diwylliant, mae hwn yn gwestiwn dwi wir eisiau i ni gael trafodaeth fel Senedd arno fo, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod am yr heriau sy'n wynebu llywodraeth leol ar y funud. Dydyn nhw ddim yn gallu fforddio'r pethau statudol ar y funud. Dyna pam rydym ni wedi gweld sefyllfaoedd gwallgof fel awdurdod lleol yn gorfod gofyn, 'Ydych chi eisiau eich bins wedi eu casglu neu ydych chi eisiau amgueddfa?' Sut fath o ddewis ydy hwnnw? Fel roeddwn i'n dweud ar ddechrau'r ddadl: ydych chi eisiau i'r hen berson yn eich teulu chi sy'n fethedig gael gofal neu ydych chi eisiau llyfrgell? Dydyn nhw ddim yn ddewisiadau hawdd o gwbl i unrhyw un, ond dydyn nhw ddim yn ddewisiadau teg. Wrth gwrs, wedyn rydych chi'n mynd i gael 99 y cant o bobl yn dweud eu bod nhw eisiau gofal, os mai dyna'r dewis.

Ond beth dwi'n gobeithio rydym ni wedi'i ddangos heddiw ydy eu bod nhw i gyd yn bwysig a hefyd fod yna ffyrdd gwell y gallwn ni ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael gennym ni i greu'r cysylltiadau hyn. Wedi'r cyfan, ddoe, mi gawsom ni drafodaeth, onid oeddem, ei bod hi'n 10 mlynedd ers cael Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ond mae'n ymddangos i fi bod cyllidebau Llywodraeth yn dal i weithio mewn seilos a'n bod ni'n colli cyfleon wedyn o ran edrych, 'Reit, os ydyn ni'n buddsoddi mewn rhaglenni iechyd a lles, faint mae hynny'n arbed i'r NHS?' Pam ar y funud mae'r mwyafrif o'r gwariant o ran y rhaglenni celfyddydol yn ein gwasanaeth iechyd ni yn dod gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn hytrach nag o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun? Nid rhaglenni opsiynol ydy'r rhai o'r rhaglenni hyn; maen nhw yr un mor effeithiol â meddyginiaeth. Felly, pam nad ydy o'n rhan greiddiol o'r gyllideb fwyaf? Rydym ni'n gwario'r mwyaf ar y gwasanaeth iechyd, felly, pam ddylai fo ddod o'r gyllideb leiaf, sef yr un ar ddiwylliant?

Dwi'n gobeithio gwnaiff y Gweinidog gymryd yr her, oherwydd, a bod yn deg, nid chi ddylai fod yn gorfod ymateb i hyn, ond y Llywodraeth i gyd, i ofyn, 'Sut ydyn ni am ateb yr her a sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn cael eu hintegreiddio i mewn i bob portffolio, fel ein bod ni'n gallu manteisio i'r eithaf?' Pan fo'r buddsoddiad yna'n cael ei wneud, a hynny gan y Llywodraeth, mae o'n talu ar ei ganfed. Wrth gwrs, mae pobl yn mynd i fod yn ysgrifennu a dweud diolch, ond mae yna gymaint o brosiectau sy'n gorfod cau, amgueddfeydd yn cau, y math o gymunedau sydd heb ddim mynediad i ddiwylliant bellach oedd yna yn y gorffennol. Felly, mae yna waith mawr i ni ei wneud i edrych ar sut ydyn ni'n mynd i adfer cyllidebau.

Gofynnwyd y cwestiwn arall gan Lee Waters. Ac ni allaf ddychmygu sut beth oedd bod yn rhan o'r Llywodraeth pan oedd y setliadau cyllideb erchyll hynny'n dod i Gymru, a'r penderfyniadau anodd hynny. Yr hyn y gobeithiaf y gallwn fyfyrio arno nawr yw sut y gallwn ailadeiladu ac ailadeiladu'n wahanol fel y gallwn fanteisio ar bopeth y gall y celfyddydau a diwylliant ei gynnig ar draws pob portffolio.

Soniodd llawer o bobl am opera heddiw, er enghraifft. Wel, mae eu rhaglen, ar ôl COVID, o ran helpu pobl i ddatblygu cynhwysedd yr ysgyfaint—mae'r mathau hynny o raglenni'n help mawr i bobl sy'n dioddef effeithiau COVID hir, a dyna'r mathau o raglenni, gan eu bod wedi colli cyllid, na allant eu cynnal mwyach. Felly, rydym yn meddwl am opera fel rhywbeth sy'n digwydd mewn theatrau fel Canolfan Mileniwm Cymru, ond y mathau hynny o brosiectau sy'n dod i ben, yn anffodus, a dyna rwy'n ei olygu o ran cyllid cynaliadwy.

Ar Theatr Clwyd, rwy'n falch iawn, Hannah, eich bod wedi sôn am hynny, gan fod hynny'n dangos hefyd y ffaith nad oeddem yn buddsoddi yn y seilwaith yn barhaus—cyrhaeddodd y pwynt lle roedd yr adeilad hwnnw naill ai'n mynd i gau neu roedd angen buddsoddiad sylweddol arno. Ac roeddwn yn fy nagrau pan euthum o gwmpas Theatr Clwyd yn ddiweddar; mae'r gwaith a wnânt yn anhygoel. Mae'n lasbrint ar gyfer pob theatr, nid yn unig yng Nghymru, ond yn rhyngwladol. Dylem fod mor falch o bob ceiniog o gyllid cyhoeddus sydd wedi mynd tuag at hynny. Ond maent hefyd wedi llwyddo i godi buddsoddiad gwerth £11.5 miliwn, llawer ohono o'r tu allan i Gymru, oherwydd y weledigaeth honno. Felly, gallwn ddenu cyllid pan fyddwn yn rhoi cyllid cyhoeddus i mewn hefyd. Ond mae gwir angen buddsoddiad ar theatrau dirifedi ledled Cymru.

Os ydym ni'n edrych ar ganolfan y celfyddydau yn Aberystwyth, adeiladwyd ar yr un amser â Theatr Clwyd—gwaith gwych, ond mae angen fuddsoddiad sylweddol erbyn hyn. Os ydym ni'n edrych hefyd ar ailddatblygiad Sain Ffagan, mi oedd hwnnw'n fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd wnaeth ddenu cyllid o'r tu allan, a daeth yn Art Fund museum of the year. Ond, wedyn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cyllid yna i sicrhau bod ansawdd Sain Ffagan yn aros yna, yn lle ein bod ni wedyn angen prosiect gwerth degau o filiynau yn y dyfodol. Ac mae honno’n her i'r Llywodraeth.

Mae llawer o bobl wedi rhannu eu straeon personol gyda mi hefyd. Rydym wedi siarad llawer am y prosiectau mawr heddiw, ond roeddwn eisiau rhannu rhai o'r pethau yr ysgrifennodd etholwyr ataf amdanynt pan ddywedais fy mod yn cynnal y ddadl hon. Rhannodd un etholwr sut y mae cymryd rhan mewn rhaglenni sydd wedi caniatáu iddi fynegi ei hun yn greadigol—rwy'n siŵr fy mod wedi dweud hynny'n anghywir, mae’n ddrwg gennyf—drwy chwaraeon wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ei hiechyd meddwl, gan ei helpu i oresgyn trawma a ddioddefodd fel dioddefwr cam-drin domestig. Dywedodd wrthyf, 'Mae fy hyder filiwn o filltiroedd ymhellach ymlaen o ble'r arferai fod. Mae fy hunan-barch yn well, ac nid wyf mwyach yn osgoi unrhyw beth a phopeth sy'n fy nychryn.'

Rhannodd etholwr arall ei stori am golli ei golwg am 18 mis pan oedd ond yn 26 oed, oherwydd cymhlethdodau'n gysylltiedig â diabetes. Yn y cyfnod hwnnw, wynebodd wahaniaethu, a chafodd y diffyg cefnogaeth seicolegol, ynghyd â'r heriau sylweddol, effaith fawr ar ei hiechyd meddwl. Bu'r celfyddydau yn rhaff achub iddi yn y cyfnod hwnnw o ynysigrwydd a chaledi, gyda phaentio, dysgu chwarae'r iwcalili ac ysgrifennu barddoniaeth yn rhoi pwrpas iddi ac yn ei helpu i gadw mewn cysylltiad â hi ei hun. Roedd yn hanfodol i'w lles a'i hadferiad, ac yn ffordd o brosesu'r boen. Yn yr un modd, rhannodd mam yr effaith drawsnewidiol y mae cerddoriaeth wedi'i chael ar ei mab awtistig, gan ddatgan, 'Oni bai am gerddoriaeth, nid wyf yn gwybod beth fyddai'n ei wneud. Mae'n ei chael hi'n anodd yn yr ysgol ac yn y gymdeithas, ond gallwch roi offeryn yn ei ddwylo, ac mae'n bwrw iddi. Ni all reoleiddio ei emosiynau, ni all fynegi ei deimladau, ond gall ddweud wrthych drwy ei gerddoriaeth.'

Mae eraill wedi dweud wrthyf sut y gwnaeth y celfyddydau eu helpu i oresgyn galar, salwch, a darparu llwybr at gyflogaeth. Mae cymaint o fanteision, ac mae'n drueni ein bod wedi cyrraedd pwynt lle mae cymaint yn y sector yn dweud wrthym eu bod mewn argyfwng ac na all pethau barhau. Mae gwledydd eraill yn sylweddoli pa mor ffôl yw'r toriadau a wnaed ganddynt, gydag Iwerddon a'r Alban bellach yn gwneud ymrwymiadau enfawr yn y blynyddoedd diwethaf i fuddsoddi mwy yn y celfyddydau a diwylliant. Mae'n bryd i Gymru wneud yr un peth.

Felly, yr her inni rŵan fel Senedd ydy sut ydyn ni am unioni hynny. Mae yna gytundeb wedi bod bod hyn yn werth chweil a'n bod ni'n gweld y cysylltiad rhwng portffolios gwahanol, ond beth ydyn ni am wneud am hyn? Dwi'n gobeithio y gallwn ni gydweithio, oherwydd dyma'r sialens i'r Senedd nesaf. Rydyn ni wedi clywed gan nifer o Weinidogion i'r pwyllgor diwylliant a chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf fod y Llywodraeth eisiau buddsoddi mwy yn yr ataliol, ond dydy o byth i'w weld yn digwydd. Felly, sut ydyn ni'n gallu rhoi Deddf cenedlaethau'r dyfodol ar waith yma a sicrhau ein bod ni'n gallu buddsoddi a gwneud y cysylltiadau yma?

Felly, wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y meysydd hyn, a diolch eto i bawb sydd wedi cysylltu a chyfrannu yn y ddadl. Dwi'n gobeithio ein bod ni heddiw wedi gallu cyflwyno'r achos yn glir o ran pam mae diwylliant a'r celfyddydau yn hanfodol i ddyfodol Cymru. Maen nhw'n greiddiol i bob ohonom ni, yn unigolion ac yn gymunedau, a thra eu bod nhw wedi bod yn achubiaeth i nifer, er na fyddan nhw efallai'n achub bywyd pob un ohonom ni, maen nhw'n sicr yn gwneud ein holl fywydau'n werth eu byw. Diolch.

18:00
8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ffordd liniaru'r M4

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Yr eitem nesaf yw eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr yw hon ar ffordd liniau'r M4. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8930 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu bod y mis hwn yn nodi chwe blynedd ers i brosiect ffordd liniaru'r M4 gael ei ddileu.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ffordd liniaru'r M4.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser agor y ddadl hon heno a chyflwyno ein cynnig yn enw Paul Davies. 

Mae wedi bod yn chwe blynedd hir ers i Lywodraeth Lafur Cymru ddileu ffordd liniaru'r M4, cynllun yr oedd pobl Cymru wedi ei fynnu ac yr oedd Llafur Cymru wedi ymrwymo iddo yn eu maniffesto. Roedd yn gyfle euraidd nid yn unig i leddfu tagfeydd i fodurwyr, ond i roi hwb i economi Cymru a dangos i'r byd fod Cymru yn agored i fusnes. Efallai mai dyma waddol mwyaf y Prif Weinidog ar y pryd: torri ymrwymiad maniffesto ac arafu economi Cymru. Ac ni ddaeth y penderfyniad hwnnw'n gyflym, gadewch i ni gofio; daeth ar ôl oedi a gohirio, a chostiodd y cyfan symiau enfawr o arian i drethdalwyr a gwastraffu amser gwerthfawr. 

Gwariodd Llywodraeth Cymru £135.7 miliwn o arian cyhoeddus ar gynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 cyn cefnu arni. Canfu ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y cynllun fod 29 o gartrefi wedi'u prynu am dros £15 miliwn drwy orchmynion prynu gorfodol. Prynwyd dau o'r adeiladau hyn am £575,000 a £400,000 ym mis Ebrill 2019, ddau fis yn unig cyn i'r Prif Weinidog benderfynu rhoi'r gorau i'r cynllun. Gwariwyd o leiaf £44 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gostau datblygu ac ymchwiliad cyhoeddus, ymchwiliad a oedd mewn gwirionedd yn cefnogi adeiladu'r ffordd liniaru, gan ddweud y byddai budd economaidd y prosiect yn gorbwyso'r gost ar gymhareb o 2:1. Ar bob cam o'r daith hon, gwelwyd diffyg penderfyniad a gwastraff arian. Ar ddiwedd y cyfan, pobl Cymru sydd wedi gorfod dioddef o ganlyniad.

Ac ni wnaed unrhyw beth i leddfu tagfeydd o amgylch Casnewydd byth ers hynny. Yn wir, cydnabu'r Prif Weinidog fod yna broblem o hyd. Bydd unrhyw un sy'n gyrru yn yr ardal honno, yn enwedig o gwmpas oriau brig ac ar benwythnosau, yn dweud bod hynny'n eithriadol o amlwg. Yn yr holl amser ers rhoi'r gorau i'r ffordd liniaru, mae Llafur wedi gwrthod rhoi camau sylweddol ar waith i fynd i'r afael â phroblemau difrifol tagfeydd yn yr ardal, ac nid oes unrhyw arwydd o weithredu mawr ei angen.

Ond nid y tagfeydd traffig poenus o araf hynny'n unig yw'r broblem go iawn yma, fodd bynnag, gan mai anghyfleustra bach yn unig yw hynny; y niwed i economi Cymru a'r cysylltiadau â de-orllewin Lloegr a thu hwnt yw'r broblem wirioneddol y mae angen inni siarad amdani. Rydym i gyd yn gwybod bod gennym rai o'r cymunedau tlotaf a mwyaf anghenus yma yng Nghymru. Ac mae angen pŵer trawsnewidiol busnes a diwydiant arnom i fuddsoddi yng Nghymru i'n helpu i ddatrys y broblem honno. Fe wyddom fod hyder yn y rhwydwaith trafnidiaeth yn rhan hanfodol o hynny, yn enwedig wrth ystyried y lefel eithriadol o drafnidiaeth sy'n dod i Gymru ar hyd yr M4. Ond yr hyn sy'n amlwg yw nad yw'n ymddangos bod Llafur yn poeni am yr economi yng Nghymru, ac yn sicr nid ydynt yn ei blaenoriaethu. Nid yw'n ymddangos eu bod yn deall mai'r sail sylfaenol i gymuned iach a ffyniannus yw economi ffyniannus sy'n galw am seilwaith a chysylltiadau trafnidiaeth cryf. Mae hyd yn oed plant sy'n chwarae gemau fel SimCity a Cities: Skylines ar PlayStation yn gwybod bod yn rhaid ichi gael eich ffyrdd yn iawn er mwyn i unrhyw beth weithio, ac yn sicr nid yw Llafur yn deall y pethau sylfaenol.

A Llafur sy'n rhoi eu hideoleg gyfeiliornus uwchlaw popeth arall. Nid yw'n syndod fod economi Cymru wedi cael ei gwanhau dros y chwarter canrif diwethaf o reolaeth Llafur a Phlaid Cymru, gan adael gweithwyr yng Nghymru gyda'r pecynnau cyflog ysgafnaf a'n hanweithgarwch economaidd ar gyfradd uwch nag unman arall ym Mhrydain. Dyma ffordd o feddwl Llafur a Phlaid Cymru sy'n poeni mwy am roi 36 o wleidyddion ychwanegol i ni yn y Senedd a therfyn cyflymder diofyn o 20 mya nag am ein heconomi a chefnogi ein cymunedau, blaenoriaethau sy'n dangos cymaint y mae Llafur a'u ffrindiau ym Mhlaid Cymru wedi colli gafael ar bethau mewn gwirionedd.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i ddarparu ffordd liniaru'r M4. Mae'n benderfyniad synnwyr cyffredin. Rydym am roi hwb i economi Cymru a lleddfu tagfeydd i fodurwyr. Rydym wedi ymrwymo i'r ffordd liniaru ers blynyddoedd, fel Ceidwadwyr Cymreig ac fel llywodraeth yn San Steffan. Dewisodd Llafur Cymru yr agwedd groes i hynny, gan osgoi cymorth o Lundain i'r ffordd liniaru, a rhoi gwleidyddiaeth uwchlaw bywoliaeth pobl go iawn. Mae angen i ryfel Llafur yn erbyn modurwyr ddod i ben, er mwyn economi Cymru ac er mwyn yr holl bobl a gynrychiolwn. Galwaf ar yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heno.

18:05

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 1. 

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y mis hwn yn nodi chwe blynedd ers y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â phrosiect ffordd liniaru'r M4.

2. Yn gresynu at:

a) y gostyngiad mewn termau real yng nghyllideb cyfalaf Cymru a achoswyd gan adolygiad o wariant diweddaraf Llywodraeth y DU, a fydd yn rhwystro gallu Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith ar raddfa fawr, gan gynnwys prosiect ffordd liniaru'r M4; a

b) methiant Llywodraeth Cymru i ailffocysu cyllid a neilltuwyd yn wreiddiol ar gyfer prosiect ffordd liniaru'r M4 tuag at weledigaeth amgen ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig a chynaliadwy i Gymru, gan gynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r problemau tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, a dwi'n symud y gwelliant.

Bwriad gwelliant Plaid Cymru heddiw ydy ceisio sbarduno trafodaeth ehangach i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar yr M4, ond hefyd y tu hwnt i'r ardal leol, oherwydd nid un rhan o’r draffordd yw'r broblem, ond y dasg fwy o adeiladu rhwydwaith drafnidiaeth multimodal sydd yn addas i bobl Cymru heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Ar ôl dros 25 mlynedd mewn grym, mae'n amlwg nad ydy'r Blaid Lafur wedi llwyddo i gyflawni hynny. Mae'n wir bod chwe blynedd bellach wedi pasio ers y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â chynllun y ffordd osgoi, ac er mai dim ond wythnos yn ôl y galwodd y Torïaid yn y Siambr hon am foratoriwm ar gynlluniau solar ar sail pryderon am fwyd a’r amgylchedd, heddiw nhw sydd ar flaen y gad am ffordd newydd drwy dir SSSI. Maen nhw'n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ac mae hynny'n wir iawn heddiw.

Ond mae trigolion lleol, ac unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan dagfeydd, yn gwbl resymol yn gofyn pa gynnydd ar y datrysiad sydd wedi'i ddatblygu iddyn nhw. Fel un sydd wedi cael fy nal mewn traffig yn yr ardal yma droeon, rwy'n rhannu'r un rhwystredigaeth. Ond yn hytrach na mynd yn ôl dro ar ôl tro ar yr un penderfyniad, mae'n rhaid i ni ofyn sut y gallwn ni gysylltu ein cymunedau yn well, sut y gallwn ni ei gwneud hi'n haws i bobl gyrraedd eu gwaith, eu hysgolion, eu gwasanaethau lleol, heb ddibynnu ar ffyrdd prysur â thagfeydd, a sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd sydd yn fforddiadwy, yn deg, ac yn amgylcheddol gynaliadwy?

Rydym newydd weld pa mor hir a chostus yw hi wedi bod i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd. Ar ôl 23 mlynedd o waith ffordd a thua £2 biliwn yn ddiweddarach, bydd Llywodraeth Cymru bellach yn talu mwy na £40 miliwn y flwyddyn am 30 mlynedd i gwmni preifat cyn i'r ffordd ddod yn eiddo cyhoeddus yn 2055. Felly, mae'r cwestiynau hyn hyd yn oed yn fwy pwysig, o ystyried y cefndir ariannol rydym yn gweithredu ynddo. Mae adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi rhoi ergyd ddifrifol i allu Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith, gyda'n cyllideb gyfalaf wedi'i gwasgu mewn termau real dros y blynyddoedd nesaf a Chymru'n cael llawer llai na hyd yn oed dinasoedd unigol yn Lloegr. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir iawn fod hyn yn annerbyniol. Mae Cymru'n haeddu'r offer a'r cyllid i fuddsoddi yn y dyfodol, nid atebion tameidiog yn unig, ond cynllun hirdymor go iawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy araf i symud ymlaen o ddadl yr M4 i gyflwyno ateb gwirioneddol, ateb sy'n cynnwys rhwydwaith wedi'i integreiddio—bysiau, trenau, teithio llesol a'r ffyrdd, wrth gwrs—ond wedi'i gynllunio fel rhan o ddarlun ehangach, oherwydd os mai dim ond mwy o ffyrdd yr adeiladwn, bydd mwy o geir, mwy o dagfeydd. Mae'n rhaid i'n darparu datrysiad sydd yn gweithio ar gyfer pobl a'r amgylchedd, datrysiad sydd nid yn unig yn cysylltu Cymru a Lloegr, ond yn cysylltu ein cymunedau yma yng Nghymru. Testun siom ydy’r diffyg gwaith strategol sydd i’w weld wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth dros y chwe blynedd diwethaf i ddatblygu a delifro ar gyfer pobl y de-ddwyrain a phawb arall sydd yn defnyddio'r rhan yma o'r M4.

Llywydd, mae Plaid Cymru'n credu mewn Cymru sydd wedi'i chysylltu'n well, sydd yn fwy gwydn ac yn fwy parod i wynebu’r heriau sydd i ddod. Mae hynny'n dechrau gyda sgyrsiau gonest am flaenoriaethau ac yn parhau gyda chyllido teg, buddsoddiad strategol ac uchelgais sy'n cynnwys pob cwr o Gymru. Diolch yn fawr.

Ydy gwelliant 2 yn cael ei gynnig yn ffurfiol gan Ysgrifennydd y Cabinet?

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr angen am rwydwaith trafnidiaeth integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi pobl ac economi’r rhanbarth, a hynny’n unol ag argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Comisiwn Burns) fel dewis amgen cynaliadwy a fforddiadwy yn lle creu traffordd M4 newydd.

2. Yn gresynu at addewidion gwag a diffyg cyllid gan lywodraethau Ceidwadol blaenorol ar gyfer argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ynghylch materion heb eu datganoli, a hynny fel dewis ymarferol yn lle ffordd liniaru’r M4.

3. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth ac awdurdodau lleol er mwyn cyflawni argymhellion yr Arglwydd Burns i ddarparu dewisiadau cynaliadwy heb eu hail yn lle’r M4.

4. Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn yr adolygiad o wariant ar gyfer 2026-27 i 2029-30 o ran cyllid ar gyfer cyflawni argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru fel dewis arall yn lle ffordd liniaru’r M4.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch. Nodyn i'r Ceidwadwyr, sydd, ar ôl chwe blynedd, wedi gallu gwneud dim byd gwell na beirniadu hen gynllun a gafodd ei wrthbrofi: os ydych chi mewn twll, rhowch y gorau i gloddio. [Torri ar draws.] Os ydych chi mewn twll, rhowch y gorau  i gloddio, a'r rheswm yw ei bod yn gwbl ddibwynt gwario £1.5 biliwn a mwy—£2 biliwn mewn gwirionedd—ar gynllun a fyddai ond yn achosi mwy o dagfeydd ddwy neu dair blynedd yn ddiweddarach. Nid yw honno'n ffordd dda o wario arian.

18:10

Diolch am y sylwadau agoriadol yno, Jenny Rathbone, ond dywedodd eich ymchwiliad cyhoeddus Llywodraeth Cymru eich hun y byddai budd o 2:1 pe bai hyn yn digwydd. Felly, a ydych chi'n ystyried hynny'n gwbl ddibwynt?

Nac ydw, ond nid dyna'r casgliad. Casgliad arbenigwyr fel Mark Barry yw y byddwch chi bob amser yn cael mwy o dagfeydd. Os adeiladwch chi fwy o ffyrdd, fe gewch chi fwy o geir, yn union fel y nododd Peredur— 

Na, nid cael gwared ar bob ffordd, ond mae'n rhaid ichi gael ffordd lawer mwy effeithiol a chynaliadwy o symud nifer fawr o bobl ar adegau brig, ac mae'n rhaid gwneud hynny gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Y dewis arall yw creu hunllef aer yn sgil tagfeydd i fy etholwyr sy'n byw ar Heol Casnewydd, ac sy'n mynd i fod yn marw o ganlyniad i'r llygredd aer a gaiff ei greu gan fwy a mwy o dagfeydd. Nid dyna'r ffordd ymlaen.

Felly, mae angen i ni fwrw ymlaen i greu'r dewisiadau amgen, sydd wedi bod yn araf iawn, ond mae hynny oherwydd bod adroddiad Burns, fel y gwyddoch, wedi'i seilio ar y llinellau dwyrain-gorllewin sy'n rhedeg allan o Gaerdydd fel asgwrn cefn y metro. Tan yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cynt, nid oedd gennym arian i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy a gwneud y llinellau hynny'n addas i'r diben ar gyfer rhedeg y metro, yn ogystal â'r prif linellau sy'n mynd i Lundain, Bryste a mannau eraill. Mae gennym yr arian hwn nawr, ac felly mae angen i ni weld cynnydd nawr gan Lywodraeth y DU.

Un o'r pethau yr wyf am ofyn i Ken Skates yw pa drafodaethau y gallai fod wedi'u cael gyda Heidi Alexander, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ynglŷn â pha mor gyflym y gall ei hadran fynd ati i gaffael contractwr i uwchraddio'r pedair llinell dwyrain-gorllewin sy'n rhedeg rhwng Caerdydd a ffin Lloegr, fel y gallwn ddechrau'r gwaith adeiladu ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, oherwydd rwy'n deall mai yng nghyllideb y flwyddyn nesaf y mae'r arian a ddyrannwyd gan Rachel Reeves. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn gallu gweld y gwahaniaeth y bydd hynny'n ei wneud, gan mai dyna sydd wedi bod yn ein dal yn ôl hyd yma. Nid yw'r gyllideb wedi bod gan Gymru i wario arian ar gyfrifoldeb rhywun arall, ac fe wnaeth Llywodraeth y DU o dan y Torïaid wrthod yn lân â dod o hyd i'r arian hwn. Felly, mae llawer mwy y mae angen i ni ei wneud am drafnidiaeth gynaliadwy.

A fyddech chi'n derbyn mai Llywodraeth Geidwadol y DU a roddodd y cyfle i gynyddu teithio i mewn i Gymru, a manteision hynny o ran twristiaeth, trwy bethau fel cael gwared ar y tollau ar fôr Hafren, er enghraifft? Mae'r mathau hynny o bethau yn paratoi'r ffordd ar gyfer arloesedd, yn paratoi'r ffordd ar gyfer mwy o ddefnydd o'n ffyrdd, ac yn wir, effeithiau economaidd, mewn ystyr gadarnhaol, y penderfyniadau a wneir.

Mae'n ymyriad ac rwyf wedi'i gael. Mae'r tollau, yn amlwg, wedi arwain at gynnydd enfawr ym mhris tai ar ochr ddwyreiniol Cymru, oherwydd mae llawer o bobl wedi symud i mewn o Fryste ac mae hynny wedi cynyddu'r prisiau mewn llefydd fel yr etholaeth a gynrychiolir gan Laura Anne Jones.

Gadewch i mi ddweud wrthych chi am y dyfodol. [Torri ar draws.] Yn anochel, bydd codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn y dyfodol, oherwydd mae'r arian sy'n cael ei dalu ar hyn o bryd gan bobl sy'n prynu petrol neu diesel yn yr ardoll tanwydd yn mynd i lawr ac i lawr bob blwyddyn. Felly, beth fydd y dewis arall ar gyfer atgyweirio ffyrdd? Bydd yn rhaid iddo ddigwydd drwy—. Mae'n rhaid i'r ateb teg i hynny ymwneud â chodi tâl ar bobl am ddefnyddio ffyrdd, yn enwedig ar oriau brig. Felly, bydd yn rhaid i chi ddod i arfer â'r syniad hwnnw, oherwydd nid yw'r arian hwnnw'n mynd i fod ar gael—[Torri ar draws.] Wel, pan fyddwch chi'n mynd ar drên, nid ydych chi'n disgwyl teithio am ddim, ydych chi? Rydych chi'n disgwyl talu pris. Nid oes gwahaniaeth arbennig pam—[Torri ar draws.] Os ydych chi'n ddigon dwp—[Torri ar draws.] Os ydych chi—

18:15

Rwy'n mynd i ddweud bod yna bobl eraill yn y Siambr sydd â diddordeb yn y ddadl. Felly, os gallwn gael llai o drafodaeth rhwng Jenny Rathbone a rhai o'r Aelodau Torïaidd—

—ac annerch y Siambr ac ymwneud â'r Siambr gyfan. Ac nid yw'n feirniadaeth ohonoch chi'n arbennig, Jenny Rathbone; mae'n llawn cymaint o gyfraniad—

—mewn dinasoedd eraill, gan gynnwys Llundain, lle mae gennych dagfeydd, y bydd angen i chi gyfyngu ar y tagfeydd hynny a pherswadio pobl fod yna ffyrdd amgen o deithio ar adegau prysur, yn enwedig teithiau i'r gwaith ac i ysgolion. Dyma'r teithiau hawsaf i'w rhagweld ac i alluogi pobl i'w gwneud mewn ffordd arall. Ond yn amlwg, ni allwch wneud hynny hyd nes y bydd gennym y drafnidiaeth gyhoeddus sydd ei hangen arnom i alluogi pobl i wneud y pethau hynny. Felly, mae'n rhaid inni fwrw ymlaen â'r metro gan fod gennym bellach y buddsoddiad cyfalaf i uwchraddio'r rheilffyrdd hynny, ac mae angen inni weld cynnydd cyflym yn hyn o beth, oherwydd rydym wedi aros pum mlynedd gyda'r cynllun yn ei le, ond heb arian i fwrw ymlaen.

Nid yw'n syndod fod yr M4 yn bwnc llosg mewn sawl rhan o dde-ddwyrain Cymru, yn enwedig Casnewydd a'r ardaloedd cyfagos. Mae fy etholwyr yn wynebu traffig disymud ac oedi hir ar y llwybr allweddol hwn am nad yw'n addas i'r diben. Mae'r tagfeydd diddiwedd hyn nid yn unig yn hunllef i'r rhai sydd wedi'u dal ynddynt, maent hefyd yn dagfa economaidd fawr. Heb os, mae'r tagfeydd cyson a natur annibynadwy yr M4 yn gwneud Cymru yn lle llai deniadol i wneud busnes. Roedd yr M4 yng Nghasnewydd ymhlith y 50 man problemus gwaethaf i draffig yn Ewrop ac yn bedwerydd darn o draffordd drefol lle ceid y mwyaf o dagfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw hynny'n destun balchder.

Amser maith yn ôl cawsom addewid o ateb ystyrlon ar ffurf ffordd liniaru'r M4, ac rwy'n credu bod ochenaid o ryddhad pan gafodd y prosiect ei gyflwyno. Byddai golau ar ddiwedd y twnnel. Ond roedd unrhyw obaith o roi diwedd ar ddiflastod modurwyr ar yr M4 yn fyrhoedlog pan roddodd y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford stop ar y prosiect. A gadewch inni beidio ag anghofio, aeth mwy na £100 miliwn o arian trethdalwyr ac arian Llywodraeth Cymru i lawr y draen pan roesant y gorau i'r prosiect mawr ei angen hwn. Roedd y penderfyniad cibddall i gefnu ar y ffordd liniaru yn ergyd galed i lawer ac yn mynd yn groes i argymhellion arolygydd cynllunio a gefnogai'r cynllun fel un a oedd yn dangos gwerth am arian.

Rhaid ei fod yn ergyd enfawr hefyd i'n cyn-Brif Weinidog, Vaughan Gething, a ddywedodd yn 2018, a dyfynnaf:

'Nid yw gwneud dim yn opsiwn bellach mewn perthynas â ffordd liniaru’r M4. Mae angen sicrwydd ar fusnesau ar draws De a Gorllewin Cymru na fydd yr M4 yn cael ei gadael fel y mae ar hyn o bryd. Rwy'n benderfynol y byddwn yn gweithredu ac yn bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4.'

Ac fe wnaeth hyd yn oed orffen ei neges gyda hashnod powld yn dweud, 'ChangeTakesCourage'. Roedd hyd yn oed yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth presennol yn cefnogi cynlluniau'r ffordd liniaru ar y dechrau cyn gwneud tro pedol enfawr. Ydw, rwy'n edrych arnoch chi, Mr Skates.

Lywydd, rwyf am ddweud rhywbeth nad wyf yn ei ddweud yn aml iawn: rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno ag Aelod Llafur o'r Senedd, oherwydd roedd fy nghyd-Aelod o Orllewin Casnewydd yn llygad ei lle pan ddywedodd fod y penderfyniad i gael gwared ar y ffordd liniaru,

'yn condemnio Casnewydd i ddegawdau eto o dagfeydd trwm, traffig yn sefyllian a nwyon gwenwynig.'

Yn y chwe blynedd hir ers i gynlluniau’r ffordd liniaru gael eu dileu, mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth ar yr M4. Nid yn unig fod tagfeydd dyddiol yn dal i blagio'r darn hwn o ffordd, nawr mae gennym gamerâu terfyn cyflymder 50 mya sy'n gwaethygu'r problemau ymhellach. Yn dilyn penderfyniad gwallgof y Llywodraeth i roi diwedd ar gynlluniau ffordd liniaru'r M4, dywedwyd wrthym y byddai comisiwn Burns yn gallu datrys y mater. A beth oedd eu hateb? Buddsoddi mewn rheilffyrdd, creu llwybrau bysiau cyflym, adeiladu coridorau llwybrau beicio, annog gweithio o bell, ac wrth gwrs, cyflwyno'r camerâu cyflymder 50 mya ofnadwy hynny y soniais amdanynt yn gynharach. Rwy'n casáu gorfod torri'r newyddion i Lywodraeth Cymru, ond nid oes dim yn gweithio, a'r ffaith amdani yw bod angen ffordd liniaru'r M4 yma o hyd yn 2025.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod yr angen brys am y prosiect seilwaith hwn, a bydd Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn sicrhau bod y gwaith yn dechrau ar gyflawni'r prosiect hanfodol hwn. Mae rhai'n dweud na ddylem ei wneud, ond mae gwneud dim yn costio mwy mewn cynhyrchiant a gollir, buddsoddiad a gollir a chyfleoedd a gollir. Mae angen gweithredu. Mae angen uchelgais arnom, ac mae angen ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd a de-ddwyrain Cymru gyfan i gael pethau i symud eto. Mae busnesau, modurwyr, ymwelwyr, ac yn bwysicach fyth, fy etholwyr, yn haeddu gwell na hyn. Mae'n amlwg nad oes gan y Llywodraeth Lafur ddiddordeb mewn rhoi anghenion economaidd Cymru yn gyntaf. Mae'n amlwg mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig rai sy'n barod i weithredu i ryddhau gwir botensial ein gwlad. Diolch.

18:20

Lywydd, mae de-ddwyrain Cymru angen system drafnidiaeth integredig o ffyrdd, bysiau, rheilffyrdd, cerdded a beicio, fel y mae llawer o wledydd eraill wedi llwyddo i'w chreu. System drafnidiaeth integredig ar gyfer ein cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd. Ac yn ffodus, mae gennym lasbrint ar gyfer hynny, adroddiad ac argymhellion comisiwn Burns, sydd i'w ddatblygu nawr gan ei uned gyflawni, dan arweiniad yr Athro Simon Gibson.

Nawr hefyd mae gennym gyhoeddiad adolygiad cynhwysfawr o wariant gan Lywodraeth y DU o gannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer rheilffyrdd Cymru, gan alluogi gwaith ar y pum gorsaf newydd rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerdydd, gwaith a argymhellwyd gan Burns, ac mae tair ohonynt yn Nwyrain Casnewydd: Magwyr a Gwndy, Llan-wern a Somerton.

Mae gorsaf rodfa ym Magwyr a Gwndy wedi bod yn destun ymgyrch degawd o hyd gan grŵp ymgyrchu effeithiol ac ymroddedig iawn, a chan y gymuned leol—ac mae'r grŵp ymgyrchu ei hun yn deillio o'r gymuned leol honno. Mae'r gwaith paratoi ar yr orsaf rodfa'n eithaf datblygedig ac mae'n barod ar gyfer dechrau adeiladu.

Byddai gorsaf Llan-wern mewn ardal lle mae llawer o bobl ar hyn o bryd yn gyrru i Gaerdydd a Bryste i'r gwaith—maent yn gyrru ar hyd traffordd yr M4. Byddai gorsaf yno'n rhoi dewis arall cyfleus a chynaliadwy iawn iddynt yn lle'r car, ac rwy'n credu y byddai'n bwysig iawn ar gyfer newid dulliau teithio fel y mae cymaint o angen i ni ei wneud os ydym am fynd i'r afael â'r tagfeydd ar yr M4 a'r tagfeydd cyffredinol ar ein ffyrdd o amgylch Casnewydd. Byddai gorsaf Somerton mewn rhan ddwys ei phoblogaeth o Gasnewydd a fyddai'n elwa yn fawr o wasanaethau rheilffyrdd i'w chysylltu'n well drwy drafnidiaeth gyhoeddus.

Gallai lonydd bysiau pwrpasol wneud gwahaniaeth mawr i wella'r sefyllfa o ran tagfeydd ar y ffyrdd yng nghanol Casnewydd. Ac mae llawer yn digwydd ar deithio llesol y gellid ei adeiladu a'i ddatblygu ymhellach.

Lywydd, system drafnidiaeth integredig yw'r ffordd iawn ymlaen i ymdrin â thagfeydd o amgylch Casnewydd: y ffordd iawn i'n cymunedau, y ffordd iawn i'n heconomi a'r ffordd iawn i'n hamgylchedd. Ffyrdd, bysiau, rheilffyrdd, cerdded a beicio, mae Burns wedi darparu'r cynllun, mae adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth y DU wedi darparu'r cyllid i ddechrau'r gwaith, a'r cyfan sy'n rhaid i ni ei wneud nawr yw bwrw ymlaen ar frys ar ôl llawer gormod o oedi.

Rwy'n falch ein bod ni'n rhoi amser i drafod ffordd liniaru'r M4 yma yn y Senedd heddiw, oherwydd, gadewch inni beidio â chamgymryd, mae hwn yn fater y mae ein hetholwyr yn siarad amdano, ac maent yn siarad llawer amdano oherwydd mae hyn yn bwysig iawn iddynt ac nid yw'n anodd deall pam. Mae'r M4 yn un o'r 50 man problemus gwaethaf o ran traffig yn Ewrop, ac ar hyn o bryd dyma'r pedwerydd darn o draffordd drefol lle ceir y mwyaf o dagfeydd yn y DU. Yn ôl yn 2017, adroddwyd bod unig draffordd Cymru yn dod i stop bron 30 gwaith y dydd, gan gostio £165 miliwn ychwanegol i'n heconomi bob blwyddyn.

A beth a welwn gan Lywodraeth Cymru yn lle hynny? Ie, gwrthodiad cyffredinol i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu cyfanswm o £157 miliwn ar y prosiect heb adeiladu'r un fodfedd o ffordd. Felly, tra bo cymudwyr a busnesau ledled de Cymru yn eistedd mewn uffern traffig bob dydd, mae'r Llywodraeth hon yn rhoi ei bysedd yn ei chlustiau ac yn esgus nad oes unrhyw broblem. Ac mae'n ddoniol, oherwydd, ers talwm, roedd y Blaid Lafur yn gwybod bod hon yn broblem, neu o leiaf roeddent yn esgus eu bod yn gwybod, cymaint felly nes iddynt gynnwys yr addewid hwnnw yn eu maniffesto yn 2016, gan addo adeiladu ffordd liniaru'r M4 i leddfu problemau traffig yn ne Cymru. Ond erbyn 2019, dair blynedd yn unig yn ddiweddarach, fe wnaethant gefnu ar y prosiect. Lywydd, os yw'r Blaid Lafur hon yn fodlon dweud celwydd wrth y cyhoedd ar fater mor sylfaenol yn eu maniffesto, sut ar y ddaear y gall pobl Cymru fod ag unrhyw ffydd ynghylch yr hyn sydd yn eu maniffesto nesaf?

18:25

Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym sut, mewn unrhyw ffordd, y byddai bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 wedi cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ymwneud â sicrhau nad ydym yn gorfodi gwastraff arian o'r fath ar genedlaethau'r dyfodol.

Diolch, Jenny. Efallai y gallech chi ateb y cwestiwn hwnnw, o ystyried eich bod chi wedi sefyll ar y maniffesto hwnnw.

Mae yna eironi arbennig, onid oes, ynghylch Llywodraeth sy'n rhy aml yn dweud nad oes ganddi ddigon o arian trethdalwyr i'w wario ar yr holl bethau y mae hi eisiau gwario arnynt, ond ar yr un pryd yn gallu gwastraffu cannoedd o filiynau o bunnoedd ar ffordd nad yw erioed wedi'i hadeiladu. 

Gadewch imi droi at welliant Plaid Cymru yn gyflym, oherwydd mae'r gwelliant hwn gan Blaid Cymru yn ymarfer mewn dweud dim byd. Nid yw Plaid Cymru, o'r gwelliant heddiw a'r cyfraniad a glywsom, yn mynd i ddweud yn glir wrth y cyhoedd a ydynt am weld ffordd liniaru yr M4 yn cael ei hadeiladu, ac rwy'n credu bod angen i unrhyw ddarpar Lywodraeth fod o ddifrif gyda'r cyhoedd pa un a yw am weld y ffordd liniaru honno'n digwydd. Lywydd, rwy'n meddwl eu bod yn gwneud fel y dywedodd Ronan Keating: maent yn ei ddweud orau pan nad ydynt yn dweud unrhyw beth o gwbl. [Chwerthin.]

Nawr, y ffaith na chaiff ei hadrodd ddigon am y penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4, a'r un roeddwn am ganolbwyntio arni heddiw, yw bod Llywodraeth Cymru wedi dewis canslo nid yn unig y prosiect ffordd ei hun, ond hefyd y gwaith uwchraddio hanfodol ar y cyffyrdd ar hyd yr M4 hefyd, ac mae'r penderfyniad hwnnw wedi cael ei deimlo'n fwyaf poenus yn y ddinas rwy'n ei chynrychioli, Abertawe. Mae penderfyniadau cibddall gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi golygu bod gwaith uwchraddio hanfodol ar gyffyrdd ar draws y ddinas hefyd wedi'i ganslo, yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyffordd 45 yn Ynysforgan a chyffordd 47 ym Mhenlle'r-gaer.

Yn Abertawe, mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio'r M4 bob dydd, neu o leiaf yr ardaloedd o amgylch yr M4, ar gyfer cymudo ac ar gyfer teithio fel arall o amgylch y ddinas. Mae diffyg seilwaith trafnidiaeth digonol yn y ddinas yn gwneud unrhyw beth arall yn anymarferol. Mae cymudwyr yn yr ardaloedd hynny'n dweud wrthyf am y boen o orfod llywio trwy bentref Penlle'r-gaer ar oriau brig. Mae'r rhai sy'n byw ym Mhontarddulais yn dweud wrthyf yn rheolaidd am y gyffordd beryglus y teimlant eu bod yn ei hwynebu yn Hendy, ac mae cymudwyr yn Nhreforys yn sôn yn rheolaidd am y boen o orfod ymdopi â chylchfan Ynysforgan. Gallai'r pethau hynny i gyd fod wedi cael eu lleddfu gan Lywodraeth Lafur Cymru a fyddai wedi ymrwymo i gyflawni ar gyfer pob rhan o Gymru, ond yn lle hynny cefnwyd ar y gwaith, gan adael y cynlluniau i hel llwch ar silff y Gweinidog.

Dyna pam y lansiais fy ymgyrch yn lleol yn y ddinas i gael Abertawe i symud, ac mae etholwyr wedi llofnodi deiseb ar fy ngwefan i atgyfodi'r cynlluniau hyn ar gyfer y gwaith uwchraddio hanfodol ar y cyffyrdd ar hyd yr M4. Ac rwyf wedi gofyn i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros drafnidiaeth edrych eto ar y cynlluniau. Ac a bod yn deg â hwy, maent wedi nodi y byddant yn gwneud hynny, ac rwyf wedi nodi dro ar ôl tro fy mod i'n hapus i wneud beth bynnag a allaf i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd. Ond bydd pobl yn Abertawe yn disgwyl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau cyn gynted â phosibl, yn enwedig wrth inni agosáu at yr etholiad nesaf. Mae pobl eisiau gwybod a fydd hon yn Llywodraeth sy'n mynd i wneud y peth iawn i bobl Abertawe, buddsoddi mewn trafnidiaeth, uwchraddio'r cyffyrdd hynny, adeiladu ffordd liniaru'r M4, cael Abertawe i symud, cael Cymru i symud, ac os na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud hynny, dylent wybod y bydd Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn ei wneud.

'Rydym wedi ymrwymo i'r ffordd liniaru ers blynyddoedd', 

meddai Sam Rowlands wrth agor y ddadl, ac mewn gwirionedd, ym mis Mehefin 2020, comisiynodd Boris Johnson yr adolygiad o gysylltedd yr undeb i edrych ar gysylltiadau ledled y DU, ac yn wir, fis ar ôl ei lansio, dywedodd yn Nhŷ'r Cyffredin y byddent yn adeiladu M4 newydd, ac y byddai, fel y dywedodd,

'yn darparu'r Vicks Inhaler i ffroenau'r ddraig Gymreig'.

Felly, dyna'r disgwyliadau a oedd ganddo ar gyfer yr adolygiad a sefydlodd i wneud yn union hynny. Ond mewn gwirionedd, edrychodd yr adolygiad ar gynigion yr M4, ac edrychodd ar adroddiad Burns, a dweud yn glir iawn mai'r ffordd orau o gefnogi camau i leddfu tagfeydd ar goridor yr M4 oedd,

'drwy fynd ati'n gyflym i weithredu argymhellion Comisiwn Burns'.

Prin y gellid dweud bod y Ceidwadwyr wedi bod yn gyson eu cefnogaeth i ffordd liniaru'r M4—sefydlodd eu Llywodraeth eu hunain yn Llundain gomisiwn a'u gwrthododd a dweud bod adroddiad Burns yn fwy effeithiol. Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr ar y pwynt hwn yn benodol oherwydd mae'n gwrth-ddweud popeth a ddywedwyd ganddynt, ac maent yn siarad nonsens llwyr.

Yn lle hynny, nododd comisiwn Burns gynnig i leihau tagfeydd trwy raglen o orsafoedd newydd, llwybrau, datblygu rheilffyrdd ysgafn a thrafnidiaeth fysiau cyflym. A gyflwynwyd unrhyw arian gan Lywodraeth y DU i ariannu'r adroddiad a gefnogwyd gan ei adroddiad ei hun ar gysylltedd yr undeb? Naddo. Dim. Mewn gwirionedd, fe gawsom y cynnig ffantasi i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, heb unrhyw achos busnes yn sail iddo, dim cynlluniau'n sail iddo, dim ymgynghori â Network Rail—dim ond datganiad i'r wasg yn y cyfnod cyn ymgyrch etholiadol.

Rydym newydd glywed gan y Ceidwadwyr nad yw pobl Abertawe yn disgwyl dim byd mwy nag uwchraddio cyffyrdd. Dywedodd y Llywodraeth Geidwadol wrth bobl Abertawe y byddent yn trydaneiddio prif linell de Cymru. Fe wnaethant addo hynny dro ar ôl tro. A wnaethant hynny? Naddo. Fe wnaethant ei ganslo. A wnaeth y Ceidwadwyr yma eu condemnio? Naddo. Pe bai hynny wedi bod ar waith, gallem fod wedi cyflymu cynigion comisiwn Burns i ddechrau cyflawni camau i liniaru'r tagfeydd, ond ni fu modd i hynny ddigwydd.

Ni chafwyd unrhyw arian gan y Llywodraeth Geidwadol i weithredu argymhellion adolygiad cysylltedd yr undeb i weithredu adroddiad Burns, dim ceiniog. Felly, nawr rydym ni wedi gorfod camu i mewn, gyda thwll du enfawr, a dechrau'r broses honno. Rwy'n falch iawn o weld dechrau'r buddsoddiad hwnnw'n dod fel y gallwn fwrw ymlaen i weithredu'r argymhellion hynny.

Y broblem gyda'r ddadl hon yw nad yw'n seiliedig ar dystiolaeth, mae'n seiliedig ar ffydd. Mae arbenigwyr trafnidiaeth yn derbyn, er bod gwleidyddion rywsut yn cael trafferth i wneud hynny, y ffenomen fod ffyrdd newydd yn arwain at fwy o draffig. Mae hyn wedi'i brofi'n rhyngwladol y tu hwnt i amheuaeth. I roi enghraifft i chi, dywedodd llwybr coch sir y Fflint yn ei achos busnes y byddai lefelau tagfeydd ar y ffordd ddeuol newydd 13 km o hyd, a wrthwynebai Mark Isherwood, yn ôl i'r lefelau presennol o fewn 15 mlynedd. Felly byddent wedi gwario dros £200 miliwn ar ffordd newydd a fyddai, yn ôl ei achos busnes ei hun, wedi cael ei hail-lenwi â thraffig o fewn 15 mlynedd. Dyna'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddangos. Dyna'r hyn y mae'r astudiaethau rhyngwladol yn ei ddangos, ac eto, dro ar ôl tro, clywn yr honiadau oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn â sut y bydd hyn yn lliniaru traffig. Ni fydd yn lliniaru traffig, bydd yn creu mwy o draffig. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio i Sam Kurtz.

18:30

Diolch i'r Aelod am ildio. Onid ydych chi'n gweld yr eironi a'r rhagrith felly, pan fydd yr Aelod dros Flaenau Gwent yn codi i sôn yn llafar iawn am ffordd Blaenau'r Cymoedd, gan gefnogi'r cynnydd i fusnes yn ei ardal, y busnes economaidd y mae'n ei sbarduno, ac eto rydych chi'n sefyll yno ac yn dweud nad oes unrhyw bosibilrwydd o wneud hyn o gwbl? A ydych chi'n deall yr eironi a'r rhagrith yn hynny?

Rwy'n tynnu sylw at yr hyn y mae'r dystiolaeth, yn rhyngwladol, yn ei ddweud am yr effaith y mae ffyrdd yn ei chael ar draffig.

Rwy'n tynnu sylw at yr effaith y mae'n ei chael ar draffig. Rydych chi'n ei gwneud hi'n fwy deniadol i yrru, bydd yn annog mwy o bobl i yrru. Rydych chi'n ei gwneud hi'n fwy deniadol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bydd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwelsom hynny gyda chael gwared ar dollau pont Hafren yn 2018. Cyn hynny, rhagwelwyd y byddai'r traffig yn cynyddu 17 y cant pe bai'r tollau'n cael eu dileu. Dangosodd astudiaeth y flwyddyn honno gan Gyngor Sir Fynwy y byddai lefelau traffig yn codi 20 i 25 y cant ar ôl i'r tollau gael eu dileu. Beth a ddigwyddodd? Mae gennym y ffigurau gan National Highways nawr sy'n dangos bod traffig wedi cynyddu 34 y cant ers i'r tollau gael eu dileu. Dyna sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cynyddu capasiti ffyrdd, pan fyddwch chi'n annog ac yn cymell gyrru—mae 32,000 o gerbydau y dydd yn croesi pont Hafren erbyn hyn.

Dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Llundain y llynedd, o ganlyniad, fod mwy o bobl bellach yn cymudo o Gasnewydd i Fryste. Oherwydd yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cynyddu capasiti ffyrdd yw bod pobl yn symud ymhellach i ffwrdd o'u man gwaith. Felly maent yn gyrru ymhellach. O ganlyniad, mae prisiau tai o fewn 5 km i'r bont bellach wedi cynyddu 13 y cant, dwbl y cynnydd yng Nghasnewydd. Felly dyna beth sy'n digwydd. Mae pobl yn teithio mwy. Maent yn teithio ymhellach o'u man byw i'w gwaith, ac mae mwy o deithiau'n cael eu creu. Felly, cyn gynted ag y byddwch chi wedi adeiladu'r ffordd, mae lefelau tagfeydd traffig yn codi ac wele, beth yw'r alwad nesaf? Adeiladu ffordd arall i liniaru'r tagfeydd. A rownd a rownd yr awn. Ac mae'r dystiolaeth yn glir, nid yw'n gweithio.

Mae twnelau Bryn-glas wedi dod yn symbol cenedlaethol—tagfa lle mae pobl yn eistedd yn llonydd mewn traffig am filltiroedd. Mae'n enghraifft berffaith o 26 mlynedd o gamreoli o dan weinyddiaethau Llafur Cymru. Polisïau dryslyd sy'n gwrth-ddweud ei gilydd, Llywodraeth sy'n dweud, 'Nid ydym yn adeiladu mwy o ffyrdd er mwyn achub y blaned, felly fe wnawn i bobl eistedd mewn traffig yn pwmpio llygredd allan yn lle hynny'. Mae'n dangos yr hyn y mae pobl eisoes yn ei gredu ydym ni: lle wedi'i or-reoleiddio lle'r aiff twf i farw. Yn sicr nid ydym am i bobl feddwl mai Clawdd Offa yw'r ffin rhwng marweiddio a thwf. Rydym eisiau adeiladu seilwaith a gwrthdroi'r dirywiad. A phwy sydd ar fai am hyn? Llywodraeth Lafur Cymru. 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu ffordd liniaru'r M4 yn 2019 ar ôl gwario £157 miliwn ar gynlluniau, ymchwiliadau a phrynu eiddo. Gadewch inni fod yn glir: dyna £157 miliwn o arian trethdalwyr wedi mynd heb yr un darn o ffordd newydd i ddangos amdano. A beth a gynigiwyd ganddynt yn lle hynny, Lywydd? Esgusodion ac nid dewisiadau amgen. Roeddent yn dweud ei fod yn rhy ddrud, ond fe wnaethant ddod o hyd i'r arian ar gyfer Aelodau ychwanegol o'r Senedd, ar gyfer eu hoff brosiectau, ar gyfer polisi 20 mya a achosodd rwystredigaeth i yrwyr ac a gostiodd filiynau. Ac yn y cyfamser, mae'r un prosiect a allai fod wedi gwella bywydau miloedd o bobl sy'n cymudo i'r gwaith, sy'n cludo nwyddau neu sy'n mynd â'u plant i'r ysgol wedi'i gladdu.

Peidiwn â thwyllo ein hunain, nid penderfyniad ariannol oedd hwn, roedd yn benderfyniad ideolegol, a'r bobl sy'n talu'r pris yw'r rhai y mae Llafur yn honni eu bod yn sefyll drostynt. Gofynnwch i unrhyw un sydd wedi treulio awr yn syllu ar oleuadau brêc y tu allan i Gasnewydd; gofynnwch i fusnes sydd wedi gorfod cyfrif oedi'n rhan o'u trefn ddyddiol, neu barafeddyg sy'n ceisio gwneud ei ffordd drwy dagfa mewn argyfwng. Pan fyddwch chi'n siarad ag unrhyw un sy'n byw yn Lloegr ac sydd wedi teithio i dde Cymru, maent yn anochel o nodi'r siwrnai ofnadwy wrth deithio ar yr M4. Mae iddi enw drwg ac mae'n ofnadwy i fusnes. Nid ydym yn gofyn am brosiect porthi balchder, rydym yn gofyn am asgwrn cefn gweithredol i'n heconomi, porth priodol i dde Cymru.

Dywedodd yr arolygydd cynllunio fod yr achos dros adeiladu'r ffordd liniaru'n gymhellol a dywedodd cyn-Weinidogion hynny hefyd—Prif Weinidogion, dylwn ddweud. Ond penderfynodd Llywodraeth Cymru anwybyddu barn yr arolygydd a thorri eu hymrwymiad maniffesto eu hunain. Roedd hyd yn oed Boris Johnson yn ddi-flewyn-ar-dafod. Galwodd ef yn 'Vicks Inhaler i ffroenau'r ddraig Gymreig', ac roedd ganddo bwynt. Mae angen inni glirio'r tagfeydd a phwmpio rhywfaint o ocsigen i'n heconomi ar gyfer ein logisteg, ar gyfer bywydau beunyddiol ein pobl gyffredin na allant fforddio eistedd mewn tagfeydd diddiwedd tra bod gwleidyddion yn canmol eu hunain am achub y gwlyptiroedd. 

Dywedodd y Gweinidog cyllid unwaith nad oes unrhyw atebion hawdd, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu bod yr ateb yn amlwg. Maent yn rhwystredig ac ar ben eu tennyn, oherwydd maent eisiau cael pethau wedi'u gwneud, maent eisiau gweld pethau'n cael eu hadeiladu. Mae'r Ceidwadwyr wedi cefnogi'r ffordd hon ar bob cam, ym mhob maniffesto a phob sesiwn. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r cyllid, fel y dywedodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU y byddent yn ei wneud, neu'n ailflaenoriaethu gwariant trafnidiaeth dros gyfnod o sawl blwyddyn. Yn wahanol i Lafur Cymru a'u cymheiriaid hirdymor, y cenedlaetholwyr Cymreig, nid ydym yn ffafrio ystumio mawreddog ar draul synnwyr cyffredin. 

I gloi, Lywydd, gadewch inni fod yn uchelgeisiol, gadewch inni roi'r gorau i wastraffu amser a dechrau gosod y sylfeini. Dylem adeiladu ffordd liniaru'r M4 a dangos i bobl Cymru ein bod o ddifrif ynglŷn â'u hamser, eu heconomïau a'u dyfodol. Ac i roi troednodyn i hynny, pam y cafodd y ffyrdd hyn eu hadeiladu yn y lle cyntaf? Ni chawsant eu hadeiladu a'u datblygu drwy ryw wyrth, fe'u hadeiladwyd oherwydd y cynnydd yn y diwydiant ceir a phopeth a oedd yn mynd gyda hynny. Efallai fod llwybr y ffordd trwy Gasnewydd a'r darn hwnnw o'r M4 yn iawn ar gyfer ei gyfnod, ond mae amseroedd wedi datblygu, mae amser wedi symud yn ei flaen, mae datblygiadau wedi digwydd, mae'r diwydiant ceir mor fywiog ag erioed ac ar gynnydd yn sgil datblygu cerbydau trydan. Felly, mae'r galw'n dal yno ac nid ydym yn dal i fyny â'r galw. Rydym yn gweld prosiectau yn Lloegr yn datblygu drwy'r amser, maent wedi buddsoddi mewn traffyrdd clyfar, mae'r M6 yn y gogledd wedi mynd trwy newidiadau cyflym dros y blynyddoedd. Rydym wedi gweld datblygiad o'r fath mewn mannau eraill. Fy nghyngor i gloi fyddai inni beidio â gwneud Cymru yn eithriad yma. Gadewch inni fuddsoddi yn ein seilwaith, datblygu'r seilwaith sydd gennym a'i wneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, oherwydd o'r hyn rwy'n ei weld wrth deithio yma mewn car, rydym yn dal i fod yn sownd yn y 1970au.

18:35

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru nawr i gyfrannu. Ken Skates. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwybod am yr anawsterau a'r rhwystredigaethau y gall tagfeydd ar yr M4 eu hachosi. Ers i'r penderfyniad y cyfeirir ato yn y cynnig gael ei wneud, nid ydym wedi sefyll yn llonydd—rydym wedi gweithredu, rydym wedi buddsoddi. Yn wir, cyflwynodd yr Arglwydd Burns a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru argymhellion ar yr atebion tymor byr a hirdymor i leddfu tagfeydd, ac mae'r mesurau tymor byr wedi'u gweithredu'n llawn ar yr M4.

Sefydlodd y Llywodraeth hon hefyd uned gyflawni Burns bwrpasol yn Trafnidiaeth Cymru, gyda'r dasg o gyflawni'r gwaith achos cynllunio a busnes angenrheidiol i droi'r argymhellion hyn yn brosiectau. Goruchwyliwyd y gwaith hwnnw gan gadeirydd annibynnol, yr Athro Simon Gibson—dyn busnes uchel ei barch a ffigwr cymunedol. Daeth ei arweinyddiaeth ddeinamig i ben gyda chyhoeddi ei brosbectws y llynedd, ac rwy'n hynod ddiolchgar am y gwaith y mae Simon a'i dîm wedi'i wneud.

Asgwrn cefn cynigion Burns yw uwchraddio'r llinellau lliniaru rhwng Caerdydd a Chasnewydd, ynghyd â phum gorsaf reilffordd newydd yn nwyrain Caerdydd, gorllewin Casnewydd, Somerton, Llan-wern, a Magwyr a Gwndy. Bydd y gwaith hwn yn arwain at filoedd o deithiau trên newydd bob blwyddyn, gan leihau tagfeydd ar yr M4 trwy gynnig dewis arall cynaliadwy ac o ansawdd yn lle gorfod gyrru. Mae uned Burns wedi gwneud y gwaith technegol i nodi'r achos busnes cadarnhaol ar gyfer y gorsafoedd arfaethedig. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Lafur y DU wedi ymrwymo cyllid ar gyfer y llinellau lliniaru a'r pum gorsaf newydd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos diwethaf. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i'r rhanbarth ac i Gymru, oherwydd bydd yn darparu'r gorsafoedd hyn, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda Network Rail a Llywodraeth y DU i'w cynllunio, eu datblygu a'u hadeiladu'n gyflym.

I droi at faterion datganoledig, rydym wedi ariannu Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella teithio llesol a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol Casnewydd. Rydym yn cyflawni argymhellion yr Arglwydd Burns i wella cysylltiad yr A48 rhwng canol Casnewydd a Chaerdydd i gynnal llwybr cludiant cyflym parhaus i fysiau a chysylltiad teithio llesol ar wahân. Rwy'n falch o ddweud bod Cyngor Caerdydd yn gwneud gwelliannau i'r cysylltiad hwn ar eu pen hwy, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yr wythnos diwethaf hefyd, fe agorais gam olaf ffordd Blaenau'r Cymoedd yn swyddogol—penllanw buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd i wella cysylltedd ac i gefnogi twf economaidd. Bydd yr A465 yn lleddfu'r pwysau ar yr M4 drwy ddarparu mynediad amgen i dde-orllewin Cymru o'r gogledd a chanolbarth Lloegr.

Yn rhan o fy ymrwymiad i well trafnidiaeth, rydym wedi blaenoriaethu cynnal a chadw ac atgyweirio ein ffyrdd ar ôl 14 mlynedd o gyni, gan fuddsoddi £25 miliwn ychwanegol i drwsio tyllau a diffygion ar ein cefnffyrdd a datgloi £120 miliwn i awdurdodau lleol wneud yr un peth. Rydym yn buddsoddi dros £1 biliwn i uwchraddio llinellau craidd y Cymoedd ac yn darparu gwasanaeth metro cyrraedd-a-mynd. Bydd hyn yn trawsnewid teithio ar y trên i deithwyr, gyda gwasanaethau cyflymach ac amlach ar drenau newydd sbon, diolch i'n buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflydoedd newydd.

Rydym i gyd yn gwybod nad yw prosiectau seilwaith mawr yn digwydd dros nos. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig—

18:40

Fe wnaf mewn eiliad. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb, oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na seilwaith yn unig—mae'n ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â chymunedau, mae'n ymwneud â thwf economaidd, a gyrru ffyniant i bawb.

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ymwybodol hefyd o sylwadau Lee Waters, pan soniodd am drigolion yn gyrru o Gasnewydd i Fryste i'w gwaith. Os byddaf yn mynd i Fryste, rwy'n mynd i lawr yr M49 ac rwy'n gweld yr holl fusnesau sy'n cael eu hadeiladu yno, yr holl ganolfannau dosbarthu—Lidl, Amazon, Tesco—yr holl gyflogwyr mawr. Sut rydych chi'n awgrymu y daw'r cwmnïau hynny i Gymru, gyda'r cyfan rydych chi newydd ei grybwyll yno?

Profwyd bod buddsoddiad mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn cynhyrchu twf economaidd ac yn wir yn fagnet i fuddsoddiad busnes. Nid oes ond angen i chi edrych ar lefydd fel East Bay yn Califfornia, lle aeth buddsoddiad enfawr tuag at ymyriadau trafnidiaeth gyhoeddus, yn hytrach nag at ehangu ffyrdd ymhellach. Mae system trafnidiaeth gyflym Bay Area wedi arwain at adfywio cymunedau dirifedi yn East Bay—cymunedau a oedd wedi'u cloi allan o gyfleoedd economaidd.

I gloi, er inni glywed y Torïaid yn galw eto yr wythnos diwethaf am fwy o fuddsoddiad yng ngogledd Cymru, mwy o fuddsoddiad yng ngorllewin Cymru, a mwy o fuddsoddiad yng nghanolbarth Cymru, heddiw maent wedi cadarnhau mai'r rhanbarthau hynny a fydd yn talu'r bil am ffordd liniaru'r M4 gwerth £2 biliwn.

18:45

Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi gorffen ei gyfraniad.

Laura Anne Jones nawr i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl wirioneddol bwysig hon, a diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedodd ein llefarydd Sam Rowlands, y mis hwn mae'n chwe blynedd ers i Mark Drakeford gefnu ar ffordd liniaru'r M4, gan wastraffu miliynau o bunnoedd yn y broses. Fel y dywedodd Natasha Asghar, i bobl ein rhanbarth ni yn Nwyrain De Cymru, mae'r penderfyniad hwn yn parhau i gael effaith ddofn ar ein bywydau bob dydd a'r economi leol. Mae'r M4 drwy Gasnewydd yn ffordd brifwythiennol hollbwysig, nid yn unig i fy rhanbarth i, ond i Gymru, fel y dywedodd Tom Giffard yn gywir ddigon. Mae'n cysylltu busnesau â marchnadoedd, gweithwyr â swyddi, cymunedau â chyfleoedd, ac mae'n hanfodol i'n twristiaeth. Ond ers blynyddoedd mae wedi bod yn dagfa, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod, gan achosi rhwystredigaeth, oedi a cholledion economaidd, ac nid yw'n rhoi argraff gyntaf dda pan fyddwch chi'n dod i mewn i Gymru.

Mae enw drwg i dwneli Bryn-glas am dagfeydd, gyda thraffig yn aml ar stop yn ystod oriau brig. Fel y dywed Natasha Asghar, mae iddo enw drwg fel man problemus i draffig. Nid anghyfleustra'n unig mohono, mae'n rhwystr i dwf, i ffyniant. Fe allem ac fe ddylem fod wedi gweld ffordd liniaru ar gyfer yr M4 erbyn hyn, a llu o brosiectau seilwaith eraill. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs, roeddwn i ar fin eich dyfynnu. [Chwerthin.]

A ydych chi'n derbyn bod adolygiad o gysylltedd yr undeb Boris Johnson wedi cymeradwyo adroddiad Burns ynghylch ffordd liniaru'r M4?

Mae yna lawer o bethau a ddywedodd adroddiad Burns y byddem yn eu cefnogi, ond mae gwir angen rhywbeth i agor y porth i Gymru. Rwy'n siŵr y gallwch weld y diffyg mewnfuddsoddiad sydd wedi dod o beidio â datrys y broblem draffig enfawr hon wrth i chi ddod i mewn i'r brif ran o dde Cymru. Fel y dywedoch chi'n gynharach, a Gareth Davies, yng ngeiriau'r cyn-Brif Weinidog, Boris Johnson, byddai ffordd liniaru'r M4 wedi bod yn Vicks Inhaler yn ffroenau'r ddraig Gymreig, a byddai wedi gwneud iddi ruo eto.

Yn anffodus, yr hyn a glywsom heddiw yw bod gennym Lywodraeth sy'n mynd ati'n fwriadol i gosbi pobl sy'n gyrru ceir, gan droi mewnfuddsoddiad ymaith a dod â Chymru i stop. Clywsom gan lawer am gost uchel ffordd liniaru'r M4, ond gwyddom fod yr arolygydd annibynnol ei hun wedi dweud y byddai'n gwneud dros £1.50 yn ôl i ni am bob £1 a werid arni. Dywedodd Sam Rowlands y byddai'n darparu 2:1 o fudd i'r economi. Clywsom Peredur Griffiths a John Griffiths, y ddau â phryderon amgylcheddol, ond unwaith eto, dywedodd yr arolygydd cynllunio annibynnol fod gan y cynllun fanteision amgylcheddol sylweddol. Nid fi sy'n dweud hynny, ond yr arolygydd annibynnol.

Clywsom araith yn sôn am wastadeddau Gwent. Dywedodd yr arolygydd cynllunio mai dim ond 2 y cant o wastadeddau Gwent a fyddai'n cael eu heffeithio gan y prosiect hwn, a dywedodd y byddai'r cynlluniau a oedd ar waith i gyfyngu ar yr effaith wedi gwneud y gwastadeddau'n fwy o faint ac wedi gwella eu cyflwr yn y tymor canolig na'r hyn ydynt heddiw. Felly, os ydym yn poeni am wastadeddau Gwent, efallai mai adeiladu'r ffordd honno fyddai wedi bod y peth iawn i'w wneud. 

Ac fe glywsom y pwynt rhyfedd gan Lafur a'r pwynt gan Blaid Cymru gan Jenny Rathbone a Peredur Griffiths, a ddywedai—ac eto, gan Lee Waters, mae'n ddrwg gennyf—os ydych chi'n adeiladu mwy o ffyrdd, y bydd pobl yn eu defnyddio. Wel, ie, dyna'r syniad, onid e? Rydym eisiau denu pobl i Gymru.

Dywedodd Jenny Rathbone fod yna ddewis arall, a bod dewisiadau amgen yma wedi bod yn araf iawn. Mae hynny'n berffaith wir. Hyd yn oed pe baem yn gorffen metro de Cymru dros nos, byddai ond yn lleihau traffig 5.9 y cant yn unig, ac mae'r M4 o amgylch Casnewydd yn cael ei phlagio gan lefel anarferol o uchel o oedi.

A dim ond un o'r dewisiadau amgen y mae'r Aelodau Llafur yma'n llafar iawn amdanynt yw teithio llesol, ac fe welwch adroddiad archwilio Cymru yn dangos bod £200 miliwn wedi'i wario ar lwybrau beicio yng Nghymru, heb unrhyw gynnydd o gwbl yn nifer y beicwyr. A ydych chi'n meddwl efallai y gallai'r £200 miliwn hwnnw gael ei weld yn wastraff arian?

Nid oes angen i mi ddweud unrhyw beth am hynny, mae'n siarad drosto'i hun: ydw, yn sicr. Yr hyn sydd ei angen yw capasiti i fodloni'r galw y gellir profi ei fod yno ymhlith pobl sydd eisiau dod i Gymru, a dylem fod yn ddiolchgar a chefnogi hynny. Fel y dywedodd Sam Rowlands, mae'n werth cofio bod Llafur yn arfer bod o blaid y prosiect hwn, ac nid yw'r dadleuon o blaid wedi newid. Fel y dywedodd Tom Giffard, roedd yn eich maniffesto. Awdur y maniffesto hwnnw, wrth gwrs, oedd neb llai nag Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates. Nid wyf yn siŵr fod llawer iawn wedi newid ers hynny, heblaw eich meddwl—[Torri ar draws.] Byddwn wrth fy modd yn clywed y rhesymeg pam eich bod wedi newid eich meddwl i'r fath raddau. Nid yw pethau wedi newid cymaint â hynny. Fel y dywedodd Tom Giffard, dyma beth y mae'r cyhoedd ei eisiau.

Mae Lee Waters yn dweud bod ffordd liniaru'n seiliedig ar ffydd, nid tystiolaeth. A allwch chi ddweud wrthyf, ai dyna pam ei fod yn y maniffesto, felly? Dyna pam eich bod chi'n rhoi pethau yn eich maniffesto, yn seiliedig ar ffydd, nid ar dystiolaeth, y ffigurau.

Mae'r adolygiad ffyrdd wedi cael ei feirniadu am ei ddiffyg uchelgais a'i fethiant i fynd i'r afael ag anghenion brys Cymru ddeinamig sy'n tyfu. Mae'n ymddangos gan Jenny Rathbone fod gennym dreth ffordd i edrych ymlaen ati nawr hefyd.

Mewn cyferbyniad, nid ffordd yn unig oedd ffordd liniaru'r M4, roedd yn borth i gyfle. Mae'r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi cael gwared ar dollau ar y bont, fel y nodwyd heddiw, yn annog mwy o bobl i ddod i Gymru, ac mae'r ystadegau'n wych, Lee, i dwristiaeth, i fusnes. Dylid dathlu agor Cymru i gyfle, ond ni ddylem roi stop ar y traffig yng Nghasnewydd wedyn. Mae angen cael gwared ar y tagfeydd.

Mae gan ffordd liniaru'r M4 botensial i ddatgloi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn buddsoddiad sector preifat, i hybu cynhyrchiant a chreu swyddi. Cefnogwyd y prosiect gan arweinwyr busnes ledled Cymru, gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Sefydliad y Cyfarwyddwyr, gan gydnabod y pwysigrwydd i'n heconomi. Yn 2019, galwodd dros 90 o arweinwyr busnes, yn cynnwys Syr Terry Matthews, uwch-swyddogion gweithredol Aston Martin, Tata, Admiral, ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ffordd liniaru M4 gwerth £1.4 biliwn yng Nghasnewydd. Nid casgliad o enwau yn unig oedd y rhain ond pobl sydd â'u bys ar bwls economi Cymru.

Mae dadansoddiadau economaidd hefyd wedi tynnu sylw at fanteision posibl y ffordd liniaru. Canfu dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun ym mis Mawrth 2006 y byddai ffordd liniaru'r M4 wedi arbed oddeutu £34 miliwn y flwyddyn i fusnesau de Cymru mewn costau cludiant, wedi arwain at gynnydd o £39 miliwn y flwyddyn yng ngwerth ychwanegol gros de Cymru, wedi creu mynediad at safleoedd cyflogaeth newydd ac wedi agor Cymru i fusnesau a buddsoddiad. Ond collwyd y cyfle, ac mae croeso i'r gorsafoedd trên a ddisgrifiodd John Griffiths, wrth gwrs hynny—croeso mawr—ond nid ydynt yn ddigon ac nid ydynt yn mynd i ddatrys y broblem draffig.

Fel y nododd Sam Rowlands, gwariwyd dros £24 miliwn ar bryniannau gorfodol ar gyfer y prosiect. Beth sydd wedi digwydd i'r rheini? Beth sydd wedi digwydd i'r arian hwnnw? Ble mae wedi mynd?

Nid yw gwelliant Plaid Cymru yn gresynu at y penderfyniad ynghylch ffordd liniaru'r M4, ac mae Peredur Griffiths yn sôn am weledigaeth amgen ar gyfer rwydwaith trafnidiaeth integredig cynaliadwy, sy'n llond ceg braidd, ac iaith gwleidyddiaeth yw hynny mewn gwirionedd. Mae angen mwy o ffyrdd arnom, ac mae'n haws weithiau i chi ddweud hynny. Yn y Siambr hon, mae yna rai pobl, fel ar ein meinciau ni, sy'n credu os ydych chi'n adeiladu ffyrdd, eich bod chi'n tyfu'r economi, ac mae yna rai sy'n credu bod adeiladu ffyrdd yn ddrwg i'r amgylchedd. Dylai Plaid Cymru ddweud yn glir ble maent yn sefyll ar y rhaniad hwnnw, fel bod pobl Cymru yn gwybod yn union beth rydych chi'n sefyll drosto, ac mae Llafur wedi gwneud yr un peth. Mae'n eithaf rhyfeddol i'r mwyafrif o bobl fod y cysyniad o adeiladu ffyrdd yn ddadleuol i Lafur a Phlaid Cymru. Dywedodd yr arolygydd cynllunio fod yr achos dros y ffordd hon yn gymhellol; mae unrhyw un sydd wedi gyrru trwy dwneli Bryn-glas yn gwybod bod yr achos dros y ffordd hon yn gymhellol. Oes, mae angen rhwydwaith trafnidiaeth integredig arnom, ac mae Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cydnabod hynny, er mai hi sy'n bennaf gyfrifol am ein hamddifadu o un dros y ddau ddegawd diwethaf, ond mae angen ffordd liniaru'r M4 arnom hefyd. Nid yw'n fater o'r naill neu'r llall, gallwn gael y ddau, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig, pan fyddwn ni'n Llywodraeth, gyda Darren Millar yn Brif Weinidog, yn adeiladu'r ffordd honno.

Fel y dywed Natasha Asghar, mae peidio â gwneud dim yn condemnio Casnewydd i draffig diddiwedd a mygdarth gwenwynig. Felly, rwy'n galw ar y Senedd hon i wneud y peth iawn, i wneud y peth iawn ar gyfer dyfodol Cymru, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gadewch inni adeiladu ffordd liniaru'r M4 a sicrhau bod Cymru ar agor i fusnes.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymrwn ni bleidlais ar yr eitem yma, os nad oes yna dri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Heb hynny, felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar yr eitem rŷn newydd ei chlywed. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ffordd liniaru'r M4. Felly, pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae pawb wedi pleidleisio. O blaid 12, neb yn ymatal a 32 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

18:55

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd liniaru'r M4. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, felly, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal a 35 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd liniaru'r M4. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2, felly. Agor y bleidlais ar welliant 2 yn enw Jane Hutt. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal a 21 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd liniaru'r M4. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Agor y bleidlais.

Cynnig NDM8930 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr angen am rwydwaith trafnidiaeth integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi pobl ac economi’r rhanbarth, a hynny’n unol ag argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Comisiwn Burns) fel dewis amgen cynaliadwy a fforddiadwy yn lle creu traffordd M4 newydd.

2. Yn gresynu at addewidion gwag a diffyg cyllid gan lywodraethau Ceidwadol blaenorol ar gyfer argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ynghylch materion heb eu datganoli, a hynny fel dewis ymarferol yn lle ffordd liniaru’r M4.

3. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth ac awdurdodau lleol er mwyn cyflawni argymhellion yr Arglwydd Burns i ddarparu dewisiadau cynaliadwy heb eu hail yn lle’r M4.

4. Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn yr adolygiad o wariant ar gyfer 2026-27 i 2029-30 o ran cyllid ar gyfer cyflawni argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru fel dewis arall yn lle ffordd liniaru’r M4.

Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal a 21 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd liniaru'r M4. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:58.