Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/04/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies.

Fformiwla Barnett

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru i adolygu fformiwla Barnett? OQ62557

Lywydd, ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yn y tymor agos yw sicrhau bod y fformiwla gyllido bresennol yn gweithio cystal ag y gall weithio i Gymru. Bydd diwygio mwy sylfaenol yn ei gwneud yn ofynnol i bedair gwlad y Deyrnas Unedig gytuno i fframwaith cyllidol newydd a chorff goruchwylio annibynnol.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr ei fod yn cytuno â mi nad yw fformiwla Barnett yn addas i’r diben mwyach, ac mae hefyd yn sicrhau nad yw Cymru’n cael chwarae teg o ran dosbarthiad cyllid ar draws y Deyrnas Unedig. Ond y prynhawn yma, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu defnyddio cyllid canlyniadol Barnett fel modd o ddosbarthu arian i ddigolledu Llywodraeth Cymru am y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr? A wnaiff gadarnhau hefyd fod hyn yn torri’r cytundeb rhwng Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig, lle mae un Llywodraeth yn gwneud penderfyniad sy’n cael effaith ariannol negyddol ar Lywodraeth arall, y dylent ddarparu’r costau’n llawn? Ac a wnaiff gadarnhau ymhellach y gallai’r newid hwn i’r broses sefydledig gostio £65 miliwn i Gymru?

Lywydd, diolch i Alun Davies am ei gwestiynau pellach. Wrth gytuno ag ef nad yw fformiwla Barnett yn addas i’r diben, rydym ein dau'n cytuno â Joel Barnett, a ddywedodd sawl tro nad oedd y fformiwla a ddyfeisiodd mewn amgylchiadau penodol yn y 1970au bellach yn addas i gyflawni’r baich trwm y mae wedi’i ysgwyddo ers hynny.

Gan droi at y cwestiynau penodol y mae’r Aelod wedi’u codi, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dosbarthu’r cymorth a fydd yn mynd i’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru i gyflawni addewid y Canghellor y byddai gweithwyr y sector cyhoeddus yn gweld costau'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol yn cael eu talu, a bod y Canghellor wedi penderfynu defnyddio fformiwla Barnett at y diben hwnnw. Credaf ei bod yn anghywir i wneud hynny, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys pan oedd yma ar gyfer y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid ddiwedd mis Chwefror, fel y gwnaeth Gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gan ragweld y byddai'r mater hwn yn codi heddiw, Lywydd, rwyf wedi dod â’r datganiad o bolisi cyllido gyda mi—92 tudalen ohono. Ac mae paragraff 10 ar dudalen 13 yn dweud yn glir iawn pan fydd unrhyw un o’r gweinyddiaethau yn gwneud penderfyniadau sy'n arwain at gostau ychwanegol i unrhyw un o'r gweinyddiaethau eraill, y bydd y corff a wnaeth y penderfyniad a arweiniodd at y gost ychwanegol yn talu'r costau. Wel, mae hynny’n awgrymu i mi, pan wnaeth Llywodraeth y DU ei phenderfyniad, y dylai ad-dalu gwasanaethau cyhoeddus Cymru am gostau gwirioneddol y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, nid cyfran Barnett o’r costau yn Lloegr. Y canlyniad, fel y dywed yr Aelod, yw ein bod bellach—a gallai fod cymaint â—£65 miliwn yn brin o'r hyn yr amcangyfrifwn y bydd yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl diffiniad y Canghellor ei hun, ei dalu. Rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda'r Trysorlys ynglŷn â'r mater hwn, ac ni fydd y ffigurau hynny'n cael eu cadarnhau tan yn nes ymlaen yn y gwanwyn. Ond mae’r mater sylfaenol y mae Alun Davies wedi’i godi yn un rwy'n cytuno ag ef. Dylem fod wedi cael ein digolledu am y costau gwirioneddol, nid cyfran Barnett o’r costau yn Lloegr.

Cafwyd consensws trawsbleidiol ers tro yma yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru. Er i’r archwilydd cyffredinol annibynnol dynnu sylw at y ffaith bod £1.20 yn cael ei ddyrannu i Gymru drwy fformiwla Barnett am bob £1 a werir ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr, canfu Comisiwn Holtham, o dan y trefniadau presennol, y gallai Cymru fod yn cael ei thanariannu oddeutu £300 miliwn y flwyddyn. Felly, mae’r neges yn glir y dylai Cymru gael ei hariannu yn ôl angen ac nid ar sail poblogaeth. Pwynt diddorol am y cyfraniadau yswiriant gwladol yw'r ffaith, unwaith eto, er bod camau'n cael eu cymryd i amddiffyn y rheini yn y sector cyhoeddus, na fydd y sector preifat—y rheini sy’n rhedeg cartrefi gofal—bellach yn cael unrhyw gymorth o’r fath. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae'n bwriadu cydraddoli a dangos cydraddoldeb, lle mae gennych rai cartrefi gofal sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a fydd yn cael y cyllid yswiriant gwladol, er mai gan Lywodraeth y DU y daw? A pha drafodaethau a gafwyd gyda Thrysorlys EF ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru am gynigion Holtham, ac a ydynt yn cytuno bod angen diwygio nawr? Diolch.

13:35

Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiynau ychwanegol, a diolch iddi am fynegi cefnogaeth ei phlaid i ddiwygio fformiwla Barnett. Pan glywn leisiau’r Trysorlys yn dweud bod Cymru’n cael £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr, yr hyn nad ydynt yn tueddu i’w ddweud wrthych yw bod hynny’n cynnwys yr holl wariant, nid gwariant a ddaw drwy’r Senedd hon yn unig. Mae'n cynnwys yr holl wariant—ar faterion amddiffyn, ar bensiynau, ar y system nawdd cymdeithasol. Rwy'n credu ei fod yn cyfleu rhan o’r darlun i chi, ond nid y darlun cyfan. Oherwydd, wrth gwrs, pwynt fformiwla Barnett, er nad yw'n berffaith, yw sicrhau bod pŵer gwario yn weddol gyfartal dros y Deyrnas Unedig, ac y gellir cyflawni lefel ac ansawdd sy’n weddol gyson o ran nwyddau cyhoeddus ym mhob rhan o’r DU. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos y bûm yn ei ddadlau yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yma. Y mater go iawn yw’r un y cyfeiriais ato yn fy ateb i Alun Davies—na allwch ond diwygio fformiwla Barnett os bydd pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cytuno. Credaf ei bod yn anodd iawn cyflawni hynny, gan fod rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig yn gwneud yn dda iawn allan o fformiwla Barnett, ac nid yw’r pwysau arnynt i geisio diwygio yr un fath ag y gallai fod yn cael ei deimlo yn y Siambr hon.

O ran y pwynt a wnaeth yr Aelod am y rhannau hynny o economi Cymru sydd y tu allan i ddiffiniad y Canghellor—y diffiniad y dewisodd ei fabwysiadu—nid wyf mewn sefyllfa i ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru i wneud iawn am y costau y bydd y sefydliadau hynny’n eu hwynebu. Yr unig ffordd o wneud hynny fyddai dargyfeirio arian oddi wrth y pethau yr ydym yn gyfrifol amdanynt i bethau nad ydym yn gyfrifol amdanynt, ac er bod rhai o’r dewisiadau hynny'n anodd, mae arnaf ofn nad wyf yn credu bod honno’n egwyddor y gallwn ei diystyru'n hawdd.

Mae’r datguddiad gweddol syfrdanol yr ydym newydd ei glywed yn un enghraifft arall, onid yw, Ysgrifennydd y Cabinet, o’r ffaith bod fformiwla Barnett nid yn unig yn amlwg yn annheg, ond ei bod hefyd yn cael ei rhoi ar waith yn anghyson a’i bod yn ddiffygiol o ran tryloywder. I roi un enghraifft o hynny, rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud nad yw adroddiad tryloywder y grant bloc wedi’i gyhoeddi ers mis Gorffennaf 2023, ac eto, mae’r adroddiad hwnnw, fel y mae’r enw’n awgrymu, yn eithaf hanfodol i allu canfod, er enghraifft, pa mor agos ydym ni at y cyllid gwaelodol sy'n seiliedig ar anghenion yng Nghymru a mecanwaith tebyg sy’n bodoli yng Ngogledd Iwerddon. Felly, nid yw'n gweithio ar unrhyw lefel. Nawr, rwy’n deall yr hyn a ddywed ynglŷn â'r angen am ddull pedair gwlad yn gyffredinol. Ond yn y cyfnod byr y bu ar y meinciau cefn, clywais ei fod wedi awgrymu y gallem wneud rhywfaint o gynnydd o bosibl drwy ddefnyddio'r cymal yn y cytundeb cyllidol a fyddai’n caniatáu i ni yng Nghymru ofyn yn unochrog am adolygiad o’r cytundeb hwnnw. A yw'r adeg honno bellach wedi dod?

Diolch i Adam Price am nifer o bwyntiau pwysig yno. Byddai’r cynigion a gyflwynwyd gennym yn 'Diwygio ein Hundeb’ nid yn unig wedi creu system newydd sy'n seiliedig ar reolau, gyda’r tryloywder a ddaw yn sgil hynny, ond byddent hefyd wedi creu corff goruchwylio annibynnol newydd, gan na allwn, yn fy marn i, barhau i gael y Trysorlys yn farnwr, yn rheithgor, ac yn achlysurol, yn ddienyddiwr, mewn perthynas â fformiwla Barnett. Gwelsom hynny yn y cildwrn o £1 biliwn, fel y’i gelwid, a roddwyd i sicrhau cefnogaeth y DUP i weinyddiaeth leiafrifol Theresa May. Ni chafodd Cymru, Lloegr na’r Alban unrhyw beth cyfatebol, fel y byddai fformiwla Barnett ei hun wedi’i wneud yn ofynnol fel arall. Felly, mae arnom angen rhywbeth sy'n llawer mwy tryloyw, yn fwy seiliedig ar reolau ac sy'n fwy annibynnol na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.

Dywed ein cymheiriaid yn y Trysorlys wrthyf eu bod yn gobeithio cyhoeddi adroddiad tryloywder y grant bloc cyn bo hir. A dylwn ddweud, yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi cynnig codeiddio rhai o’r gwelliannau a welsom yn y ffordd y mae’r Trysorlys wedi ymddwyn mewn perthynas â’r Llywodraethau datganoledig ers mis Gorffennaf y llynedd. Rydym wedi cael gwybodaeth yn gynharach, rydym wedi cael gwell gwybodaeth, ac mae'r Prif Ysgrifennydd wedi cynnig gwneud hynny'n rhan barhaol o'r ffordd y mae'n rhedeg ei adran. Felly, rwy'n falch o hynny.

O ran defnyddio’r mecanwaith anghydfodau, mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi’i ddefnyddio, nid ar y mater hwn, ond ar fater arall. Ac ar hyn o bryd, rwy'n gwylio sut y mae'r anghydfod hwnnw'n cael ei drin gyda'r mecanwaith anghydfodau, a byddaf yn gwylio hynny'n ofalus i weld a yw'n darparu llwybr y gallem ei ddilyn yn y mannau lle credwn nad yw Cymru wedi'i gwasanaethu'n briodol gan y trefniadau presennol. Ond nid wyf wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.

13:40
Datganiad Gwanwyn y DU

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar asesiad Llywodraeth Cymru o effaith datganiad gwanwyn y DU ar Gymru? OQ62579

Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 2 ac 8 gael eu grwpio.

Roeddwn wedi rhoi’r caniatâd hwnnw, ond bydd angen imi adolygu’r safbwynt hwnnw, os yw hynny’n iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, yn anarferol, oherwydd amgylchiadau'n ymwneud â chwestiwn 8 a James Evans. [Torri ar draws.]

Rwyf ar fin adolygu'r adolygiad rwyf newydd ei wneud a chaniatáu i'r cwestiwn hwn gael ei grwpio, felly parhewch fel pe na bawn erioed wedi agor fy ngheg yn y lle cyntaf. [Chwerthin.]

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut y mae datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU wedi effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OQ62561

Llywydd, diolch yn fawr, a diolch i Joyce Watson am y cwestiwn, wrth gwrs. 

Mae datganiad y gwanwyn yn darparu £16 miliwn ychwanegol i Gymru yn 2025-26. Mae hyn yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol mewn adnoddau cyfalaf a refeniw a nodir yng nghyllideb yr hydref y DU. Gyda’i gilydd, bydd y codiadau hyn yn cefnogi ein hymdrechion i dorri amseroedd aros, cefnogi ysgolion, ac adfer ein gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel llawer yn y Siambr, rwyf wedi cael e-byst gan etholwyr sy’n pryderu ynglŷn â sut y mae’r newidiadau lles arfaethedig yn mynd i effeithio arnynt, ac rwy’n rhannu’r pryderon hynny. Dywedodd y Canghellor yn ei datganiad y bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi £1.4 biliwn mewn rhaglen a fydd yn helpu pobl yn ôl i waith. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch chi o'r cyllid ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth y DU i helpu pobl yn ôl i waith yng Nghymru?

Wel, Lywydd, diolch i Joyce Watson am hynny. Y peth cyntaf i’w ddweud yw nad oes gennym ffigur eto o ran y gyfran o’r buddsoddiad y mae’r Canghellor wedi’i gyhoeddi—y gyfran a gaiff ei gwario yng Nghymru. Wrth gwrs, rwy'n cefnogi unrhyw gamau y gellir eu cymryd i wneud y system nawdd cymdeithasol yn fwy defnyddiol i bobl sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith. Gwyddom mai un o broblemau enfawr y system fudd-daliadau yw ei bod yn caethiwo pobl yn y ddibyniaeth honno pan fyddai’n llawer gwell ganddynt hwy eu hunain fod mewn gwaith. Ond os oes gennych system gredyd cynhwysol, er enghraifft, lle mae’n rhaid ichi aros pum wythnos i gael unrhyw help o gwbl, yna cymryd y risg o adael budd-daliadau a dechrau mewn swydd, lle nad ydych yn gwybod a fydd y swydd honno’n addas i chi, nid ydych chi bob amser yn gwybod a fydd y swydd honno’n para, mae hynny'n rhoi'r holl risgiau ar ysgwyddau'r unigolyn yn hytrach nag ar y system. Ac rwy'n credu'n gryf iawn y dylid rhannu’r risgiau hynny, a bod angen inni greu, fel yr arferai Gordon Brown ei ddweud, system nawdd cymdeithasol sy’n sbardun i’r bobl sy’n dymuno goresgyn anhawster dros dro a dychwelyd i waith eto.

Pan ddaw’r Canghellor i edrych ar fanylion yr hyn y mae’n bwriadu ei wneud, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn edrych ar Gymru. Ddoe, cyfeiriodd y Prif Weinidog at lwyddiant y warant i bobl ifanc yma yng Nghymru. Os edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd hyd at y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi'r llynedd, roedd diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn 6.5 y cant, i lawr 3.6 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ar yr un pryd, roedd diweithdra ymhlith pobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig gyfan yn 11.4 y cant, a chynyddodd dros y flwyddyn flaenorol honno. Mae pethau rydym yn eu gwneud yng Nghymru eisoes yn dangos, pan fyddwch yn defnyddio’r system i sefyll ochr yn ochr â phobl a chynnig yr help sydd ei angen arnynt, y gall y bobl hynny wneud y daith honno o fod yn ddi-waith i fod mewn gwaith, a dyna’r math o system yr hoffem ei gweld yng Nghymru.

13:45

Diolch, Lywydd, ac ymddiheuriadau am fod yn hwyr i'r Siambr. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn ymwybodol iawn o’r problemau sy’n wynebu llawer o sefydliadau'r trydydd sector ledled Cymru a’n meddygon teulu a’n fferyllfeydd o ran y cynnydd i yswiriant gwladol. Roedd llawer o bobl yn disgwyl clywed rhywbeth am yswiriant gwladol yng nghyllideb y gwanwyn, ond ni ddigwyddodd hynny. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod sefydliadau'r trydydd sector, ein meddygon teulu, ein practisau fferyllol, a’r holl broffesiynau iechyd ledled Cymru nad ydynt wedi’u heithrio o hyn, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Oherwydd nid ydym am weld yr elusennau a’r sefydliadau hynny'n gorfod colli staff oherwydd y cynnydd anfwriadol hwn i yswiriant gwladol a osodwyd gan Lywodraeth y DU.

Wel, Lywydd, fe wneuthum rai o'r dadleuon hyn yn gynharach y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu cymorth ychwanegol i’r trydydd sector yng Nghymru drwy gynnydd sylweddol yn y gyllideb sydd ar gael i’r sector yn y flwyddyn ariannol i ddod. Nid yw hynny'n benodol er mwyn talu costau yswiriant gwladol, mae ar gyfer yr holl ofynion gwahanol y mae’r sector yn eu hwynebu. Ychydig wythnosau yn ôl yn unig, llwyddodd fy nghyd-Aelod Jeremy Miles i gyrraedd setliad gyda meddygon teulu yng Nghymru hefyd, gyda buddsoddiad ychwanegol sylweddol iawn o £27 miliwn i wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth mewn sefyllfa, oherwydd cyllideb y DU, i wneud y buddsoddiadau ychwanegol hynny. Yr hyn na allwn ei wneud yw dargyfeirio arian a fwriedir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i dalu costau a osodwyd y tu allan i’n cyfrifoldebau datganoledig yn llwyr.

Gwyddom fod datganiad y gwanwyn, oni wyddom, yn unrhyw beth ond datganiad y gwanwyn. Yn wir, roedd yn gyllideb frys gan Ganghellor sydd allan o'i dyfnder yn llwyr, Canghellor a gymerodd risg ar drethi uwch a mwy o fenthyca ac a fethodd yn llwyr. A gwyddom sut y daw hynny i ben, gwyddom o'r adeg y gadawodd Llafur y tro diwethaf fel Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda’r nodyn a adawyd ar ôl yn dweud nad oes arian ar ôl. Dyna’r union lwybr yr ydym arno heddiw.

Yr hyn a etifeddodd y Canghellor hwn gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf oedd yr economi a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7, chwyddiant i lawr i’r targed o 2 y cant, a lefelau diweithdra’n gostwng. Gwta naw mis yn ddiweddarach, mae gennym drethi ar gynnydd, economi farwaidd, a biliau’r cartref, ers ddoe, yn codi unwaith eto.

Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl gyda'r cynnydd ym miliau'r cartref o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed yn San Steffan gan Lywodraeth Lafur y DU, ac phwysau ychwanegol yn sgil cynnydd mewn trethi gan Lywodraeth Lafur Cymru mewn pethau fel ein sector twristiaeth, sydd wedi’i gosbi’n llym gan Lywodraeth Lafur Cymru? Pam fod pob problem y mae’r Blaid Lafur yn ei gweld ar ddau ben yr M4 yn arwain at drethi uwch?

Wel, Lywydd, pe bai unrhyw hygrededd i'r hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud, byddai’n gofyn i'w hun sut y methodd ei blaid argyhoeddi pobl Cymru o’r achos hwnnw pan aethant i’r blwch pleidleisio ym mis Gorffennaf eleni. Os oedd popeth mor wych yn yr ardd economaidd, os oedd popeth a ddywedodd yn wir, sut na chafodd un etholaeth yng Nghymru ei hargyhoeddi gan ei achos? Y rheswm pam na chafodd pobl eu hargyhoeddi, wrth gwrs, yw am nad oes unrhyw hygrededd i'w achos. Nid yw'n argyhoeddi yn y Siambr, ac nid yw'n argyhoeddi pobl yma yng Nghymru. Mae'n anghywir am yr hyn a ddywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei hadroddiad ar ddatganiad y gwanwyn. Fe wnaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddiwygio twf yn economi’r DU i lawr eleni, a diwygio ei rhagolygon twf i fyny ym mhob blwyddyn arall o’i rhagolwg. Bydd economi’r DU, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn fwy yn ei rhagolwg yng ngwanwyn eleni nag a ragwelai yn yr hydref y llynedd. Mae economi’r DU ar lwybr tuag at dwf. Mae’n gorfod gwella ar ôl—[Chwerthin.] Wel, dyna mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei ddweud. Rydych chi'n hapus iawn i chwerthin, wrth gwrs; y cyfan rwy'n ei ddweud wrthych yw'r hyn a ddywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae’n credu, ym mis Mawrth eleni, y bydd yr economi’n fwy ar ddiwedd y cyfnod hwn nag y credai ym mis Hydref. Dyna’r llwybr y mae angen i economi’r DU fod arno; mae'n adfer ar ôl 14 mlynedd o gael ei gwaedu'n sych gan ei blaid ef, ac edrychaf ymlaen at lwyddiant y polisïau yn hytrach na'r weledigaeth ddi-dystiolaeth a llwm y mae wedi'i chynnig i ni y prynhawn yma.

13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Ionawr, cyhoeddodd eich cydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad ar y cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg. Nid oedd unrhyw sôn am y Gymraeg a'i rôl wrth gynllunio'r gweithlu—hepgoriad sy'n arbennig o bryderus o ystyried cynnydd presennol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

Yn ystod Cyfnod 2 ystyriaeth y pwyllgor o'r Bil, codais y mater hwn a mynegais fy siom bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei hanwybyddu yn y datganiad. Ydych chi'n rhannu fy mhryder na chyfeiriwyd at y Gymraeg, a sut ydych chi'n gweithio gyda'ch cydweithwyr i sicrhau bod recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg wedi'i ymgorffori'n llawn yn y cynllun ar gyfer y gweithlu?

Wel, diolch yn fawr i Sam Kurtz am y cwestiwn, Llywydd. Dwi'n cytuno am bwysigrwydd y gweithlu, wrth gwrs. Mae uchelgais gennym ni i gyd yn y Siambr hon i godi nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg a dyblu'r defnydd o'r Gymraeg, a'r ffordd i'n helpu ni i wneud hynny yw trwy ysgolion a thrwy'r Bil sydd o flaen y Senedd ar hyn o bryd. Ac mae nifer fawr o bethau yn y Bil sy'n mynd i'n helpu ni i gynyddu'r gweithlu ac i baratoi pobl am y gwaith rŷn ni eisiau iddyn nhw ei wneud.

Ges i'r cyfle i gydweithio ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn iddi hi gyhoeddi'r datganiad. Roedd hi'n sôn nid jest am y gweithlu o bobl sy'n mynd i addysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ond y gweithlu ehangach, a dyna pam nad oedd hi'n tynnu sylw at jest un peth—roedd hi'n siarad am y darlun i gyd. Ac, wrth gwrs, dwi'n mynd i gydweithio â hi yn y dyfodol—cydweithio gyda'n gilydd i greu'r gweithlu sy'n bwysig i ni am beth rŷn ni eisiau ei wneud yn y maes Cymraeg.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ond dwi'n siomi nad oedd unrhyw sylw wedi cael ei dynnu yn y datganiad at yr iaith Cymraeg, gan fod polisi 'Cymraeg 2050' gennym ni yma yn y Senedd. Ond hoffwn ddiolch i chi hefyd am eich ymagwedd gydweithredol at Fil y Gymraeg ac addysg—cam pwysig i gadw'r iaith uwchlaw gwleidyddiaeth pleidiau. Diolch i ti am hynny.

Yn ystod Cyfnod 2, cynigiais welliant i sicrhau bod ansawdd addysgu pynciau drwy'r Gymraeg yn cyd-fynd ag ansawdd sgiliau iaith yr athro. Rhannais enghreifftiau o fy addysg fy hun, lle'r oedd athrawon yn cael pynciau y tu allan i'w harbenigedd dim ond oherwydd eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Ers hynny, rwyf wedi clywed enghreifftiau pellach gan etholwyr. Er bod fy ngwelliant yn aflwyddiannus, sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu atal yr arfer hon ar ôl cwblhau'r Bil, a sicrhau'r safonau addysgu uchaf ar draws pob pwnc?

Wel, diolch yn fawr i Sam Kurtz, Llywydd, am beth ddywedodd e am sut rydyn ni wedi mynd ati gyda'n gilydd yng Nghyfnod 2 o'r Bil i gydweithio. Roedd Cyfnod 2 yn gyfle inni glywed gan bobl eraill ac i ddysgu oddi wrth rai o'r pethau roedden nhw'n codi ac yn awgrymu yn ystod y ddadl. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda Cefin Campbell a gyda Sam Kurtz pan fydd y Bil yn dod nôl i lawr y Senedd ar gyfer Cyfnod 3.

Gyda'r enghreifftiau roedd yr Aelod yn cyfeirio atynt, dwi wedi cael cyfle i siarad unwaith eto gyda'n swyddogion ni. Rŷn ni'n cydnabod y ffaith bod rhai pynciau ble mae'n heriol i ffeindio pobl gyda'r sgiliau ymhob cwr o Gymru. Dydy hwnna ddim yn wir am bob lle yng Nghymru, ond mewn rhai ardaloedd mae'n heriol i ffeindio pobl gyda'r sgiliau yn barod, yn enwedig mewn rhai pynciau. Rŷn ni'n canolbwyntio, gyda'r arian sydd gyda ni—ac mae mwy o arian yn y cynllun yn y flwyddyn ariannol nesaf—i helpu pobl sydd â rhai sgiliau yn barod, ond ble maen nhw eisiau gwella'r sgiliau, y sgiliau ieithyddol, i'n helpu ni i lenwi'r bylchau lle mae bylchau'n codi.

13:55

Thank you for that response. Cabinet Secretary, sustaining the Welsh language in historically Welsh-speaking communities depends on enabling local Welsh speakers to remain in their areas, and this requires affordable housing and jobs that are secure and well paid. A recent example is a situation around Wylfa and Ynys Môn. Sam Dumitriu, head of policy at Britain Remade, has warned—

'Y gwir fygythiad i'r Gymraeg ar Ynys Môn… yw diffyg swyddi sy'n talu'n dda i bobl leol.'

yn enwedig yn y sector niwclear. Gyda Chymru'n wynebu heriau economaidd parhaus, cyflogau isel a diffyg swyddi yn ardaloedd gwledig Cymru sy'n Gymraeg eu hiaith, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet i fynd i'r afael â'r materion strwythurol hyn, a sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu alinio twf economaidd ag ymdrechion i gynnal cymunedau Cymraeg?

Wel, Llywydd, dwi'n edrych ymlaen at fynd at y Cabinet gydag ymateb y Llywodraeth, ac at yr adroddiad gyda Simon Brooks ar y pwyllgor oedd yn ei helpu e, sydd wedi dod ymlaen â nifer fawr o argymhellion ar sut i gryfhau'r iaith Gymraeg mewn ardaloedd ble mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio bob dydd.

Mae lot o bethau rŷn ni wedi'u gwneud yn barod—lot o bethau oedd wedi codi oddi wrth y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru'n gynharach yn y tymor hwn. Arfor, er enghraifft: beth rŷn ni wedi'i wneud trwy Arfor yw trio defnyddio'r iaith Gymraeg fel rhywbeth sy'n gallu ein helpu ni i dyfu'r economi mewn ardaloedd ble mae Cymraeg yn cael ei defnyddio bob dydd. Mae'n gallu bod yn gymhleth, onid yw e? Dwi'n cofio pan oeddem ni'n trafod pethau ar Ynys Môn gydag ynni niwclear—y pryderon oedd y byddai nifer fawr o bobl yn dod i mewn i'r ynys pan fyddai'r adeiladu'n mynd ymlaen, heb y Gymraeg, ac y byddai hwnna'n cael effaith ar yr iaith ar yr ynys.

So, dwi eisiau gweld y Gymraeg yn rhan o'r ymdrech rŷn ni'n gwneud i dyfu'r economi, i greu swyddi, ac i helpu pobl i aros yn lleol, a dwi'n gwneud hynny, wrth gwrs, gydag aelodau eraill y Cabinet.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gyfeirio at yr ymatebion a roesoch i Alun Davies ar yswiriant gwladol yn gynharach. Rwy’n falch nad oedd unrhyw amwysedd o ran safbwynt y Llywodraeth; rydych chi wedi bod yn glir iawn eich barn ei fod yn annhegwch sylfaenol, ac wedi dweud unwaith eto heddiw eu bod yn anghywir i wneud hynny. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw beth yw'r safbwynt ynghylch y diffyg hwnnw nawr, yr £65 miliwn—neu hyd at hynny—a nodwyd gennych? Mae'n hynny i'r sector cyhoeddus yn unig, fel clywsom; bydd goblygiadau i’r trydydd sector ac yn y blaen. Fe sonioch chi am y cyllid ychwanegol, ond nid yw hynny’n benodol tuag at y cyfraniadau yswiriant gwladol. Felly, beth y rhagwelwch y bydd yn digwydd, er enghraifft, i lywodraeth leol? A ydych chi'n disgwyl iddynt ddod o hyd i'r arian hwnnw? A fydd yn rhaid ichi addasu’r gyllideb? Ac os caf, pam yn eich barn chi y mae eich swyddogion cyfatebol ar lefel y DU wedi methu gwrando? A oes unrhyw lwybrau eraill y gallwn eu harchwilio i sicrhau eu bod yn newid eu meddyliau?

Wel, Lywydd, roedd gan Weinidogion y Trysorlys ddewis i’w wneud. Gallent ddewis mynd ag arian drwy fformiwla Barnett neu gallent fod wedi dewis ariannu effaith wirioneddol eu penderfyniad yn y Llywodraethau datganoledig. Rwy'n credu eu bod wedi gwneud y dewis anghywir. Eu barn hwy yw mai fformiwla Barnett fyddai’r ffordd arferol i hyn ddigwydd, ac maent wedi dilyn y llwybr arferol. Rwy'n credu bod hynny'n ddadleuol, a byddwn yn parhau i ddadlau ynghylch hynny gyda hwy, ac ni fyddwn ar ein pen ein hunain ychwaith. Efallai eich bod wedi gweld hyn wedi cael ei drafod yn helaeth yn yr Alban yn barod, ac mewn sawl ffordd, cânt eu niweidio'n fwy na ni.

Nid wyf mewn sefyllfa y prynhawn yma, Lywydd, i roi atebion i’r cwestiwn y mae’r Aelod yn ei godi, gan ein bod yn dal i orfod meddwl yn ofalus am y pethau hynny. Mae’r cadarnhad a gawsom gan y Trysorlys yn ddiweddar iawn. Byddaf yn awyddus i edrych ar sut y mae fformiwla Barnett wedi’i gymhwyso, pa elfennau o'r broses o wneud penderfyniadau yn Lloegr sydd wedi arwain at y cyfanswm y credwn y bydd yn dod i Gymru nawr, ac yna byddaf yn edrych i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud i gefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Nid wyf mewn sefyllfa y prynhawn yma i ddweud y bydd unrhyw beth y gallaf ei wneud, ond gyda fy swyddogion, byddaf yn archwilio pa ddewisiadau sydd gennym i'w gwneud nawr. Ac wrth gwrs, pan fyddwn yn eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod amdanynt i'r Senedd.

14:00

Diolch am yr ymateb. Rwy'n siŵr y gallwch weld o'r lefel o ddiddordeb sydd wedi bod ynghylch yswiriant gwladol fod pob Aelod yma wedi derbyn cymaint o ohebiaeth, fel y mae Llywodraeth Cymru, ac mae pryder gwirioneddol. Rydych chi hefyd wedi bod yn ddiamwys yn y gorffennol wrth gondemnio toriadau blaenorol y Llywodraeth Geidwadol i'r gyllideb les, gan eu disgrifio ym mis Tachwedd 2021 fel

'[p]enderfyniadau bwriadol gan Lywodraeth sy'n gwybod beth mae'n ei wneud, yn gwybod y bydd miloedd yn fwy o blant mewn tlodi yng Nghymru oherwydd eu toriadau... ond nid oes ots ganddyn nhw.'

A ydych chi'n cytuno â mi bod gweithredoedd Llywodraeth bresennol y DU yn haeddu'r un lefel o gondemniad?

Wel, mae'r Aelod yn ceisio cloddio pwll o'm blaen ac yn fy ngwahodd i neidio i mewn iddo, ac rwy'n ofni fy mod ychydig yn rhy hen i wneud hynny. Nid oes unrhyw blentyn yn dewis cael ei eni mewn tlodi, ac mae effaith tlodi ar fywyd y plentyn hwnnw'n ddwys. A Lywydd, gallaf gofio pob Llywodraeth Lafur ers 1964, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonynt heb uchelgais i ostwng cyfraddau tlodi plant yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n disgwyl y bydd yr un uchelgais gan y Llywodraeth Lafur hon yn San Steffan. Efallai na fydd yn bosibl gwneud y cynnydd yr hoffem ei weld yng nghyfnodau cynnar y tymor yn y DU, ond byddwn yn sicr yn disgwyl i Lywodraeth Lafur y DU rannu uchelgais yr holl Lywodraethau Llafur blaenorol, ac yn sicr uchelgais y Llywodraeth Lafur hon, i weld cyfraddau tlodi plant yn gostwng dros ei thymor cyfan o bum mlynedd.

Ond mae eu gweithredoedd yn dangos yn wahanol, gan wthio 250,000 yn fwy o bobl, gan gynnwys 50,000 o blant, i mewn i dlodi, ac fel erioed, mae Cymru'n anochel yn ysgwyddo pwysau anghymesur o drwm yn sgil hynny. Hoffwn ddeall, oherwydd, yn amlwg, yn ystod blynyddoedd cyni, roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i gyllid ychwanegol i sicrhau ein bod yn cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed. Felly, a gaf i ofyn, o ran y gyfran honno o'r £4.8 biliwn o doriadau a gyhoeddwyd gan y Canghellor, a ydych chi'n gwybod beth fydd yr effaith ar Gymru? Ac a ydych chi hefyd yn gorfod gwneud unrhyw addasiadau i gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i liniaru polisïau eich cymheiriaid yn y DU sy'n mynd i effeithio ar gymaint o bobl yma yng Nghymru, ac sy'n mynd i gostio mwy i ni o ran y GIG ac yn y blaen? Os oes mwy o bobl yn byw mewn tlodi, mae'n rhoi mwy o straen ar wasanaethau eraill hefyd. Felly, hoffwn glywed eich ymateb ynghylch yr effeithiau ar y gyllideb yn benodol.

Wel, Lywydd, mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i Weinidogion San Steffan ddarparu asesiad effaith i Gymru. Nid yw hwnnw gennym eto. Mae gennym waith rhagarweiniol, ond heb fod yn anodd ei ddeall, er enghraifft, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n nodi bod 7 y cant o boblogaeth Lloegr yn dderbynwyr taliadau annibyniaeth personol, a bod 11 y cant o boblogaeth Cymru yn y sefyllfa honno. Felly, mae'n rhaid inni ddisgwyl y bydd rhai o'r penderfyniadau hynny'n cael effaith niweidiol ychwanegol ar Gymru. Yr hyn a wnaethom, gan ddefnyddio'r cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli i ni, yw rhoi cyfres o raglenni ar waith, nad ydynt ar gael mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, er mwyn lliniaru effaith rhai o'r anawsterau hynny a gwella bywydau pobl Cymru. Felly, gallwn eu rhestru i gyd i chi y prynhawn yma. Ni wnaf, oherwydd fe wyddoch amdanynt, ond fe soniaf am ddwy neu dair, ac mae'r rhain yn bethau nad ydynt i'w cael dros y ffin: y gronfa cymorth dewisol, sy'n cael £38.5 miliwn, y swm mwyaf o arian a roesom i mewn erioed; cynllun budd-dal y dreth gyngor, nad yw'n bodoli mewn mannau eraill, £244 miliwn; £93 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb. Mae'r rhain i gyd yn gamau gweithredu, a chamau sylweddol mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi arian ym mhocedi pobl a fyddai fel arall yn cael trafferth talu eu treuliau cyffredin. A fydd angen inni ailedrych ar rywfaint o hynny? Wel, roeddwn yn falch iawn o sicrhau cytundeb gyda'r Prif Weinidog ar ddiwrnod datganiad y gwanwyn; cawsom £16 miliwn nad oeddem yn ei ddisgwyl, ac rydym eisoes wedi dyrannu £1.4 miliwn o hwnnw ar gyfer cynnydd o 10 y cant i wasanaethau ein cronfa gynghori sengl. Gwyddom, fan lleiaf, fod pob £1 a fuddsoddwn yn y cynllun hwnnw'n denu £3 allan o Drysorlys y DU i Gymru ac i bocedi pobl sydd ei angen. A byddaf yn parhau i adolygu gyda fy holl gyd-aelodau o'r Cabinet a oes cyfleoedd pellach lle gallwn ddefnyddio ein pwerau a'n cyllidebau i gael effaith gadarnhaol ar gyllidebau'r bobl sydd fwyaf o angen ein help.

14:05
Cynghorau Tref a Chymuned

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cynghorau tref a chymunedol gyda'r gost o gyfieithu Cymraeg i Saesneg? OQ62544

Diolch yn fawr i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn, a llongyfarchiadau am ddefnyddio'r iaith Gymraeg am y cwestiwn. Mae cynghorau tref a chymuned yn gyrff democrataidd sy'n codi praesept i gyflawni eu dyletswyddau statudol ac ymrwymiadau'r cynlluniau iaith, lle'n berthnasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i helpu'r sector i adeiladu capasiti i weithredu'n ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar offer cyfieithu digidol, a rhannu capasiti â'r prif gynghorau.

Diolch yn fawr. Dwi'n gwybod am gynghorau tref a chymuned sydd ddim yn gallu fforddio cyfieithu ar y pryd, felly yn gorfod cynnal eu cyfarfodydd yn Saesneg. Pa gymorth sydd ar gael i helpu cynghorau tref a chymuned gyda chostau cyfieithu ar y pryd?

Diolch yn fawr am y cwestiwn ychwanegol. Dwi'n meddwl mai hyn yw un o'r meysydd ble mae pethau wedi newid yn sylweddol dros y cyfnod o ddatganoli. Nawr, mae ffyrdd o gyfieithu yn defnyddio ffyrdd technolegol doedd ddim ar gael pan oedd y Cynulliad yn dechrau nôl yn 1999. So, rŷn ni wedi buddsoddi gyda One Voice Wales. Roedd cynllun gyda nhw. Roedden nhw wedi cyhoeddi'r cynllun nôl yn 2023, i helpu gyda'r pethau digidol yn y maes cynghorau lleol a thref. Rŷn ni wedi buddsoddi £300,000 gyda'r sector i'w helpu nhw gyda'r cynllun yna. Dwi'n meddwl, drwy ddefnyddio'r ffyrdd newydd o gyfieithu, bydd hwn yn gallu bod yn haws i'r cynghorau yn y dyfodol, a diolch yn fawr i Janet Finch-Saunders am dynnu sylw at y pwnc pwysig.

Cyfleoedd Ymchwil Nyrsio

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda chydweithwyr Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd i sicrhau parhad cyfleoedd ymchwil nyrsio yn Gymraeg? OQ62555

Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Llywydd, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ysgrifennu at holl brifysgolion Cymru yn gofyn iddynt amlinellu effaith toriadau arfaethedig ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ymchwil cyfrwng Cymraeg yn cael ei gynnal ar lefel ôl-raddedig ym maes nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd.

14:10

Diolch yn fawr am yr ateb. Fis diwethaf, gwnaeth fy swyddfa fynychu cyfarfod a gafodd ei drefnu—ei noddi—gan Jenny Rathbone a Julie Morgan â'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Roedd nifer o negeseuon pwysig yn y cyfarfod hwnnw, nifer ohonyn nhw tu hwnt i'ch portffolio chi, ond un oedd yn bwysig o fewn eich portffolio chi oedd y gallu i astudio ac ymchwilio trwy gyfrwng y Gymraeg i nyrsys. Yn ôl y cyfarfod, mae natur ymarferol llawer o waith ymchwil nyrsys yn golygu bod canlyniadau cleifion yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan yr ymchwil hwnnw, a gyda llai o gyfleoedd i ymchwilio, felly, trwy'r Gymraeg, bydd hynny'n debygol o effeithio ar gleifion a chymunedau Cymraeg yn andwyol. 

Dwi hefyd yn deall bod sicrhau goruchwylwyr PhD ac arholwyr yn y maes yma sy'n gallu siarad Cymraeg ac sydd â'r arbenigedd yn nyrsio yn anodd iawn yn barod. Gyda llai, felly, o gyfleoedd ymchwil, mae hynny'n mynd i olygu bod hynny'n mynd i ddod yn hyd yn oed yn fwy anodd. Mae Prifysgol Caerdydd mor bwysig—prifysgol sy'n arbenigo mewn ymchwil ac yn cynnig y pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael, neu'n bwriadu eu cael, i sicrhau parhad ymchwil nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr am y cwestiwn ychwanegol. Wrth gwrs, dwi wedi cael trafodaethau ac, fel un o Aelodau'r Senedd lleol, dwi wedi bod yn rhan o'r trafodaethau roedd Rhys yn sôn amdanynt, a dwi wedi bod yn siarad â'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch hefyd. Dydy hi ddim yn hollol glir i mi faint o gyfleon sydd yng Nghaerdydd yn barod i bobl sydd eisiau ymchwilio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y maes nyrsio. Yn y wybodaeth dwi wedi ei gweld oddi wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae yna gyfleon nid jest yng Nghaerdydd, ond yn Abertawe, yn Aberystwyth ac yn enwedig ym Mangor. Bangor yw'r lle ble rydym ni wedi cael pobl yn gwneud PhDs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y maes nyrsio yn barod. Dwi eisiau gweld mwy o gyfleon, wrth gwrs, a dwi eisiau gweld cyfleon yng Nghaerdydd hefyd. Ond mae cyfleon eraill tu fas i'r brifddinas, a dyna ble, ar hyn o bryd, rydym ni wedi gweld mwy o waith yn mynd ymlaen.  

Soniodd Rhys am y cyfarfod gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol a gafodd ef, Jenny Rathbone a minnau—ei staff, Jenny Rathbone a minnau—yr wythnos diwethaf, ac yn sicr pwysleisiwyd pwysigrwydd y Gymraeg mewn nyrsio yn gyffredinol yn y cyfarfod hwnnw, ond soniwyd hefyd am y cyfleoedd ar gyfer ymchwil Gymraeg. Ac yn amlwg, rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod am bwysigrwydd y Gymraeg mewn nyrsio o ran gallu cyfathrebu, ac yn enwedig gyda phobl hŷn a phobl â dementia mae'n hollol hanfodol eu bod yn gallu defnyddio eu hiaith gyntaf. Ond fel y'i deallais gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae gan rolau nyrsio uwch ymchwil yn rhan o'r gwaith craidd, ac mae'n un o bileri ymarfer uwch. Ac yn amlwg, os nad oes ysgol nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd mwyach, bydd llai o gyfleoedd i hynny gael ei ddatblygu, a'i ddatblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw addysg nyrsio a'r ymchwil a allai fod yno yn rhan o'r rolau nyrsio uwch ym Mhrifysgol Caerdydd?

Wel, Lywydd, rwy'n credu bod Vikki Howells eisoes wedi esbonio i'r Senedd na wnaeth y brifysgol ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r cynnig a gyhoeddodd ar gyfer ymgynghori a'n bod wedi synnu braidd na chawsom ein cynnwys yn y sgwrs honno, o ystyried faint o fuddsoddiad a wneir drwy Lywodraeth Cymru i hyfforddi nyrsys yng Nghaerdydd. Rwy'n gobeithio o'r holl drafodaethau a fu yn ystod y cyfnod ymgynghori—ac rwyf i fy hun wedi cyfarfod ag unigolion sy'n addysgu yn y brifysgol ym maes nyrsio sydd â chynigion amgen y maent yn dymuno eu cyflwyno i awdurdodau'r brifysgol—fod yna feddwl pellach yn digwydd a allai arwain at gynigion diwygiedig ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori. O fy nghyfrifoldebau portffolio, hoffwn weld cyfleoedd yn y maes nyrsio i bobl sy'n astudio'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs, oherwydd mae'r gallu i siarad Cymraeg pan fydd pobl yn sâl ac yn well ganddynt ddefnyddio eu dewis iaith, yn gwbl gyson â 'Mwy na geiriau', ein polisi ein hunain yn y maes hwn, a lle mae cyfleoedd ar gyfer ymchwil, a bod modd cyflawni ymchwil naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu i bolisïau a materion sy'n berthnasol i wasanaethau Cymraeg, byddaf yn siomedig iawn os na fydd y cyfleoedd hynny'n bodoli yng Nghaerdydd mwyach.

14:15
Grantiau i'r Trydydd Sector

5. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru o grantiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r trydydd sector? OQ62552

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Lywydd, mae'r trydydd sector yn gwneud cyfraniad sylweddol i les hirdymor cymunedau Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ac arweiniad pwrpasol i wella effeithiolrwydd a gwerth am arian rheoli grantiau ar draws y sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud â chynghorau tref a chymuned y tynnodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sylw atynt yn ddiweddar, ac rwy'n deall nad yw'n rhan uniongyrchol o'ch portffolio, ond nododd nad yw bron i 70 o gynghorau yn cyflwyno cyfrifon iddo ef i'w cymeradwyo, ac mae'r sefyllfa honno'n gwaethygu'n gyflym. Mae llawer o'r cynghorau tref a chymuned hynny'n bartneriaid i sefydliadau'r trydydd sector wneud cais am grantiau i wella ansawdd bywyd llawer o bobl yn yr ardaloedd penodol hynny ledled Cymru. Gan mai chi yw ffynhonnell y cyllid sy'n mynd allan o Lywodraeth Cymru, fe fyddech am sicrhau bod y cyfrifon hynny'n cael eu cyflwyno a'u harchwilio, ac yn y pen draw, yn profi'n werth yr arian ac yn cael ei wario'n ddoeth yn y cymunedau hynny. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd, gyda'r Gweinidog llywodraeth leol, i weithio gyda'r archwilydd cyffredinol, i sicrhau bod cynghorau tref a chymuned yn gwella eu gweithdrefnau cyfrifyddu, fel y gallant fod yn hyderus, pan fydd sefydliadau'r trydydd sector yn partneru â hwy, eu bod yn cael pob cyfle teg i gael eu cyfran o'r arian i wella bywydau ledled Cymru?

Lywydd, a gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn pwysig hwnnw ac am daflu goleuni ar adroddiad yr archwilydd cyffredinol? Mae hon yn broblem hirsefydlog yn y sector. Bûm yn Weinidog llywodraeth leol am gyfnod cymharol fyr yn Llywodraeth Cymru, ac roeddwn yn ymwybodol iawn ohono bryd hynny yn fy nhrafodaethau gydag Un Llais Cymru. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn un real iawn. Yng ngwaith cynghorau cymuned, fe wyddom fod y symiau cymharol fach o grantiau y maent weithiau'n gallu eu rhoi i sefydliadau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad ac i ansawdd y gwasanaethau yn yr ardaloedd lleol hynny.

Felly, rwy'n cefnogi cynghorau cymuned yn fawr pan fyddant yn effeithiol ac yn cael eu rhedeg yn dda ac yn cael eu rheoli'n dda. Er bod llawer o gynghorau cymuned yn gweithredu ar y pen hwnnw i'r sbectrwm, y dilema a wynebwn yng Nghymru yw bod cynffon o gynghorau cymuned sydd heb uchelgais, heb allu, ac fel y gwelsoch yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, mae hynny'n trosi'n fethiant i roi cyfrif priodol o'r arian a wariant a'r ffordd y cyflawnant eu busnes. Byddaf yn sicr yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod Jayne Bryant ar yr agweddau ar yr adroddiad sy'n disgyn yn uniongyrchol yn y maes cyllid hwnnw. Yr hyn y dymunwn ei weld yw perfformiad pob cyngor cymuned yn cymharu â pherfformiad y goreuon, oherwydd maent hwy'n gwneud gwaith da ac maent yn gweithio'n bwerus gyda sefydliadau'r trydydd sector ar y lefel leol honno.

Cyllid Canlyniadol

6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i wneud o’r cyllid canlyniadol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i ymrwymiadau gwariant addysg a wnaed gan Lywodraeth y DU ers mis Hydref 2024? OQ62563

Diolch am y cwestiwn, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllid canlyniadol ychwanegol o £4.6 miliwn, wedi ei rannu rhwng refeniw a chyfalaf yn 2025-26 yn natganiad y gwanwyn, o ganlyniad i newidiadau i gyllideb yr Adran Addysg yn San Steffan.

Diolch am yr ymateb hwnnw. Ym mis Hydref 2024, cyhoeddodd y Canghellor gynnydd o £2.3 biliwn mewn cyllid craidd ar gyfer ysgolion, gan gynnwys dyraniad o £1 biliwn ar gyfer addysg anghenion arbennig. Rwy'n deall nad yw cyllid canlyniadol yn cael ei neilltuo, yn amlwg, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r undebau lobïo Llywodraeth y DU am gyllid addysg ychwanegol, ac maent yn awyddus i ddeall sut y bydd yr arian hwn yn cael ei wario. A gaf i ofyn, felly, a allwch chi rannu gyda ni faint o'r cyllid canlyniadol a gyfeiriwyd tuag at addysg?

14:20

Wel, Lywydd, rwy'n credu fy mod eisoes wedi darparu'r wybodaeth honno i'r Pwyllgor Cyllid. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid am ragor o wybodaeth am symiau canlyniadol, o ble y doent, sut y byddent yn trosi'n arian i Gymru, ac rwyf wedi darparu'r wybodaeth honno i'r Pwyllgor Cyllid. Wrth gwrs, yma yng Nghymru, mae'r sector addysg yn elwa o £262.5 miliwn o gyllid ychwanegol yn y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben, a—. Mae'n ddrwg gennyf, mae'n £151 miliwn o'r £262.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben, a £111.5 miliwn arall o gyllid ychwanegol yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau.

Yng Nghymru, mae gennym system wahanol iawn o ariannu addysg, gydag arian yn mynd i awdurdodau lleol sydd wedyn yn ariannu ysgolion. Mae'r gymhariaeth â Lloegr yn anodd iawn i'w gwneud, ond mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU—rwy'n credu eu bod wedi'u cyhoeddi o dan y drefn flaenorol—yn parhau i ddangos bod gwariant y pen ar addysg yng Nghymru wedi cynyddu 24 y cant ers y pandemig, 2019-20, yn fwy na'r cynnydd yn Lloegr, a 10 pwynt canran yn uwch na'r cynnydd yn yr Alban.

Gwerth Cymdeithasol

7. Sut y mae polisi caffael Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth cymdeithasol? OQ62565

Diolch i'r Aelod. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod caffael cyhoeddus yn sbardun allweddol i ganlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Rydym wedi datblygu deddfwriaeth flaengar sy'n rhoi lle canolog i werth cymdeithasol, gwaith teg a lles cymunedol yn ein polisïau.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd Cabinet.

Lywydd, ar ddechrau fy nghwestiwn atodol, rwyf am wneud yn glir fy mod yn aelod o ddau undeb llafur.

Bydd Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 y bydd y ddau ohonom yn gyfarwydd â hi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn newid y ffordd y mae caffael wedi cael ei ystyried yn draddodiadol trwy lens biwrocratiaeth a'r llinell waelod ariannol i gaffael fel modd o ddod â manteision ehangach i'n pobl a'n lleoedd. Mae pŵer y pwrs cyhoeddus i gyflawni'r newid yr ydym am ei weld yn un o'r ysgogiadau allweddol sydd ar gael i ni yma yng Nghymru. Gyda hynny mewn golwg, fy marn i yw na ddylai arian cyhoeddus fynd i gwmnïau nad yw eu hegwyddorion yn cyd-fynd â safbwynt Llywodraeth Cymru ar waith teg. Rwy'n deall bod y cyngor partneriaeth gymdeithasol ar hyn o bryd yn gwneud gwaith yn edrych ar sut y gellid cryfhau'r contract economaidd yn hyn o beth. Fodd bynnag, credaf y dylem arwain y ffordd yng Nghymru unwaith eto, ac y dylai fod yn amod wrth dderbyn arian cyhoeddus y dylai busnes neu sefydliad ganiatáu mynediad at undebau llafur. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried?

Wel, Lywydd, a gaf i ddiolch i Hannah Blythyn, nid yn unig am y cwestiwn, ond am yr holl waith a wnaeth yn ei hamser fel Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, nid yn unig ar y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cymdeithasol, yr arweiniodd arno, ond hefyd am y gwaith ehangach ar waith teg? Mae aelodaeth o undeb llafur yng Nghymru yn rhywbeth yr ydym yn ei werthfawrogi'n fawr. Mae gennym nodau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae un o'r nodau hynny'n dweud wrthym fod cynnydd yn aelodaeth undebau llafur yng Nghymru i'w ystyried yn ddangosydd cadarnhaol o gymdeithas decach. Rwy'n credu'n gryf fod gwaith teg yn cynnwys cyflogwyr i ganiatáu mynediad at undebau llafur.

Rwy'n croesawu'r gwaith y cyfeiriodd yr Aelod ato yn sir y Fflint, ond fe fydd hi'n ymwybodol, rwy'n gwybod, fod y cyngor partneriaeth gymdeithasol wedi sefydlu is-grŵp ar waith teg a grantiau busnes. Bydd hynny'n rhoi cyfle i archwilio'r mater y mae hi wedi'i godi, a bydd mynediad at undebau llafur yn sicr yn rhan o ystyriaethau'r gweithgor hwnnw. Rwy'n siŵr y bydd ein cyd-Aelod Jack Sargeant yn gwylio'n ofalus y ffordd y mae'n llywio ateb i'r cwestiwn y mae'r Aelod wedi'i godi.

Dyraniadau Canlyniadol

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi datganiad ar y cynnydd a wnaed o ran rhoi dyraniadau canlyniadol ar sail gyfansoddiadol? OQ62551

Diolch i'r Aelod, Lywydd. Mae sail weithredol fformiwla Barnett wedi'i nodi yn natganiad polisi cyllido'r DU. Mae'r achos dros gryfhau sylfaen gyfansoddiadol hyn a threfniadau rhynglywodraethol ehangach wedi'i nodi'n argyhoeddiadol yn adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

14:25

Diolch am y sylwadau hynny, a hefyd y sylwadau a wnaed yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn 1, pan wnaethoch chi sylwadau ar faterion, yr hyn y byddwn i'n eu galw'n gamdriniaeth o'r system bresennol, er enghraifft y ffordd y dyrannwyd cyllid Gogledd Iwerddon, y 'bung' fel y'i gelwir, a'r materion sydd bellach ar y gweill mewn perthynas â chyllid trafnidiaeth, HS2 ac yn y blaen. A ydych chi'n cytuno â mi mai'r broblem fwyaf o ran y fformiwla ariannu yw diffyg strwythur rhwymol wedi'i seilio ar y cyfansoddiad? Efallai fod gennym drefniant, ond mae'n ymddangos i mi fod llawer o'r trefniant yn aml yn ddarostyngedig i chwiw'r Trysorlys. Tybed a allech chi ehangu ychydig ymhellach ar y ffordd y byddech chi'n gweld trefniant strwythuredig mwy cadarn ar gyfer sicrhau bod y cyllid y mae'r lle hwn yn ei gael yn seiliedig ar fformiwla briodol ac un sydd â strwythur cyfansoddiadol iddo.

Diolch i Mick Antoniw am hynny, gan adleisio rhai o'r pwyntiau a wnaeth Adam Price yn gynharach. Rwy'n credu bod gan adroddiad Gordon Brown ateb ag iddo dair elfen i gwestiwn yr Aelod. Mae'n cyfeirio at yr angen am fformiwla ariannu teg, ac rydym wedi trafod hynny'n helaeth y prynhawn yma, ond y tu hwnt i'r fformiwla ei hun, mae angen ichi gael y fformiwla honno wedi'i gwreiddio mewn dwy ffordd. Yn gyntaf oll, mae angen goruchwyliaeth seneddol, yn Senedd y DU ond yn Seneddau eraill y Deyrnas Unedig. Ac yna, mae angen ffordd iddo fod yn draddodadwy. Pan wnaethpwyd ymdrechion i fynd i'r Goruchaf Lys i edrych ar gonfensiwn Sewel, y broblem gyda fformiwla a chonfensiwn yw bod y llysoedd wedi dod i'r casgliad nad oedd unrhyw beth y gallai'r llysoedd ei wneud, am mai confensiwn yn unig oedd hwn er ei fod wedi'i anrhydeddu ers 20 mlynedd. Felly, yr hyn y mae Gordon Brown yn ei ddweud yn ei adroddiad yw: diwygio'r fformiwla, goruchwyliaeth seneddol briodol arni a rhan gyfreithiol rwymol iddi, sy'n golygu os ydych chi'n credu nad yw pethau wedi'u gwneud yn iawn, y bydd modd i chi geisio iawn yn annibynnol, yn hytrach na'i fod yn nwylo'r bobl a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf.

2. Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Y cwestiwn cyntaf, Mabon ap Gwynfor.

Diwylliant 'Incel'

1. Pa arweiniad mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu i ysgolion a cholegau er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau y diwylliant incel? OQ62575

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn yr ysgol. Mae'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol, a'n cynllun gweithredu aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion  mewn lleoliadau addysg yn ddwy enghraifft o fesurau gweithredol sy'n galluogi ysgolion a cholegau i fynd i'r afael â hyn.

Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb, ac mae'r camau yna i'w croesawu cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn. Wrth gwrs, mae yna lot o sôn wedi bod yn ddiweddar am incel yn dilyn y rhaglen Adolescence ar Netflix, a phryderon am y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn medru cyfathrebu â'i gilydd yn yr ysgol drwy ffonau symudol, a sut mae'r negeseuon yma'n cael eu cyfleu drwy ffonau symudol. Rŵan, fel rhan o'r drafodaeth gyhoeddus o amgylch hyn, mae yna bobl wedi sôn am atal ffonau symudol mewn ysgolion a cholegau. Dwi'n meddwl bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos nad ydy hynny'n effeithiol, ond mae yna gwestiwn, wedyn, o ran mynediad plant a phobl ifanc at ffonau yn yr ysgolion. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i gryfhau'r canllawiau, neu i roi canllawiau cenedlaethol cliriach o ran mynediad at ffonau symudol yn ein hysgolion ni?

A gaf i ddiolch i Mabon am y cwestiwn atodol? Fel llawer ohonom, gwyliais Adolescence ac roedd yn brofiad hynod bryderus, ac rwy'n croesawu'r ddadl y mae'n ei hysgogi. Fe wnaethoch chi godi mater ffonau symudol, ac mae pobl ifanc yn tyfu i fyny mewn byd gwahanol iawn i'r un y gwnaethom ni i gyd dyfu i fyny ynddo. Rwy'n credu bod gan ein cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl bwysig iawn i'w chwarae yn hynny, ond yr hyn rwy'n poeni amdano yw sut y gallwn ni fel oedolion gadw i fyny â byd sydd mor wahanol i'n byd ni ein hunain. Felly, rydym yn gwneud gwaith i gryfhau ein darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Mae mater ffonau symudol yn gymhleth iawn, oherwydd, fel rydych chi wedi'i nodi yma, mae llawer o ymchwil wedi bod ac mae peth o'r ymchwil yn awgrymu mai'r hyn sy'n digwydd y tu allan i'r ysgol yw'r broblem enfawr gyda ffonau symudol. Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd o'r ymchwiliad a arweiniodd Carolyn Thomas yn y Pwyllgor Deisebau. Rydym yn trafod ffonau symudol gyda'n hysgolion. Mae ysgolion eisoes wedi cael pŵer i wahardd defnyddio ffôn symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ni'n cynnal uwchgynhadledd ymddygiad ym mis Mai, ac un o'r darnau o waith yr ydym yn eu gwneud cyn hynny yw edrych yn benodol ar fater ffonau symudol. Mae'n fater cymhleth ac mae yna resymau pam y mae rhai plant angen defnyddio ffôn symudol, ond dyna pam y gwnawn y gwaith hwn mewn ffordd drylwyr gyda'r bwriad o roi ystyriaeth wirioneddol i'r hyn a wnawn. Fe fyddwch yn ymwybodol nad oedd y Pwyllgor Deisebau yn galw am waharddiad llwyr—fe wnaethant alw am ganllawiau cenedlaethol.

Y peth arall yw fy mod yn credu bod rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu defnyddio technoleg yn ddiogel, gan gofio nad wyf yn credu ein bod yn deall yr hyn y maent yn ymdrin ag ef. Un o'r pethau y gofynnais amdanynt, ers gwylio Adolescence a'r ffocws ar hyn, yw cyfarfod—. Mae gennym grŵp o ddysgwyr sy'n ein helpu gyda'n gwaith ar gadw'n ddiogel ar-lein, ac rwyf wedi gofyn am gael eu cyfarfod, yn ogystal â'r tîm sy'n arwain ar hynny, fel y gallwn wneud yn siŵr fod yr adnoddau a ddarparwn drwy Hwb i blant, rhieni ac athrawon yn gwbl gyfredol ac yn ystyried y math o bethau sy'n dod i'r amlwg nawr mewn cymdeithas.

14:30

Fel rhiant a thaid i ferched a bechgyn, mae diwylliant 'incel' yn peri cryn bryder i mi. Tan imi wylio’r gyfres Adolescence, nid oeddwn erioed wedi clywed am y term 'diwylliant incel’, ond bellach, gwn ei fod yn fyr am 'involuntary celibate', ac er i’r term gael ei ddatblygu’n wreiddiol gan fenyw hŷn fel peth cadarnhaol, mae bellach yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at fforymau ar-lein lle mae dynion yn trafod teimlo dicter a chwerwder tuag at fenywod am eu bod yn credu nad yw menywod yn eu gweld yn ddeniadol. Rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi wrth weld yr eironi yn hyn, lle mae dynion yn eu harddegau a dynion sy'n oedolion yn gwneud eu hunain yn anneniadol i fenywod drwy wneud hyn.

Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i weithio, er enghraifft, gyda Hafan Cymru i drafod diwylliant 'incel' yn sesiynau rhaglen perthnasoedd iach Sbectrwm a ddarperir mewn ysgolion, yr wyf wedi eu mynychu yn y gorffennol, ac i ehangu cyrhaeddiad y rhaglen honno? A pha gamau y gallwch ac y byddwch chi'n eu cymryd i ddarparu gwybodaeth a chymorth i deuluoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar yn y cartref?

Diolch am eich cwestiwn, Mark. Fel y dywedais mewn ymateb i Mabon, mae gennym ein darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mae Sbectrwm yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Ni sy'n ariannu prosiect Sbectrwm ac mae'n cefnogi ysgolion ledled Cymru gyda gwersi ar berthnasoedd iach, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond rwy’n edrych ar beth arall y gallwn ei wneud o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru. Rwy'n ystyried ein rhaglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru ar hyn o bryd, felly rwy'n edrych drwy hynny i weld beth arall y gallwn ei wneud i wella'r cymorth i ysgolion yn y maes hwn. Mae gennym hefyd ein corff dysgu proffesiynol newydd yn dod yn weithredol yn yr hydref, ac yn amlwg, mae rôl allweddol i hwnnw.

Ond soniais hefyd fod gennym adnoddau da ar-lein yr ydym yn eu darparu fel Llywodraeth ar gadw’n ddiogel ar-lein. Rwyf wedi edrych arnynt fel rhiant, ond gall pobl ifanc eu defnyddio hefyd. Ond credaf mai'r hyn y mae angen i ni ei sicrhau yw eu bod yn cadw i fyny â’r datblygiadau brawychus hyn a amlygwyd gan y rhaglen. Ond rwy'n bryderus iawn ynglŷn â hyn; rwy'n poeni amdano fel rhiant hefyd. Roedd yn rhaglen ysgytwol, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu.

Bechgyn Niwroamrywiol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi bechgyn niwroamrywiol mewn ysgolion gwladol? OQ62578

Drwy ddiwygio’r system addysg, rydym yn cefnogi bechgyn niwroamrywiol i ymgysylltu, dysgu a ffynnu. Mae ein cwricwlwm newydd, ein system anghenion dysgu ychwanegol a’n dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a llesiant yn creu newid i amgylchedd yr ysgol sy’n cefnogi pob dysgwr i gyflawni eu potensial llawn.

14:35

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siomedig ynghylch y driniaeth a gafodd Kian Mills, y mae ei rieni wedi’u gorfodi i’w symud o Ysgol Gatholig Sant Joseff ym Mhort Talbot. Gwyddom fod gan fechgyn gyfraddau uwch o ddiagnosis o ADHD—bedair gwaith yn uwch na merched, yn ôl ADHD UK. Gwyddom hefyd eu bod yn wynebu stigma sylweddol, gydag ymddygiadau'n aml yn cael eu disgrifio fel rhai aflonyddgar, a bod pobl o’r fath yn cael eu cosbi’n annheg, gyda chyfnodau o orfod aros ar ôl ysgol, ynysu, a hyd yn oed gwaharddiadau. Ar yr un pryd, mae gweithrediaeth GIG Cymru yn amcangyfrif y gallai ôl-groniadau o asesiadau awtistiaeth neu ADHD dreblu dros y tair blynedd nesaf. Nid ydym, felly, yn ymwybodol o wir faint y broblem. Sawl Kian arall sy'n dioddef yn ein hysgolion? Ysgrifennydd y Cabinet, beth a wnewch i sicrhau bod pob disgybl niwroamrywiol yn cael eu cefnogi'n ddigonol?

Diolch, Altaf. Rwy’n siŵr na fyddech yn disgwyl imi drafod manylion achos unigol yn y Siambr heddiw, ond rwyf am geisio ymdrin â’r materion cyffredinol a godwyd gennych. Yn amlwg, mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi ein holl ddysgwyr, ac rwy'n credu ein bod wedi ein harfogi'n dda iawn i wneud hynny, gyda'r cwricwlwm newydd a chyda'n diwygiadau ADY yng Nghymru. Credaf fod mwy o waith i'w wneud o ran arfogi ysgolion â'r wybodaeth i gefnogi dysgwyr niwroamrywiol. Rydych wedi tynnu sylw at rai o'r pethau a all ddigwydd pan na fydd hynny'n digwydd, am nad ydynt yn deall yr ymddygiad, a dyna pryd y gwelwch gosbau amhriodol, gwaharddiadau, ac ati.

Un o'r pethau yr ydym yn eu gwneud ar hyn o bryd yw gweithio gydag Education Support i ddatblygu rhaglen ddysgu broffesiynol newydd ar gyfer ysgolion sy'n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth addysgwyr o niwrowahaniaeth, datblygiad plant, a'n dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl. Mae partneriaethau addysg gychwynnol i athrawon yn gwneud gwaith da mewn perthynas ag ADY, ond hoffwn sicrhau bod gennym ddull cyson o uwchsgilio ein hathrawon newydd i ddysgu sut i gefnogi dysgwyr niwroamrywiol neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol eraill.

Ar y materion a godwyd gennych ynghylch amseroedd aros, rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio eto nad oes angen diagnosis ar blant i gael cymorth mewn ysgol. Mae hynny’n rhywbeth sydd wedi’i wneud yn glir iawn. Dylai ysgolion ymateb i anghenion plant unigol. Ond rwy’n deall yn llwyr pam y mae teuluoedd eisiau diagnosis. Fel rydych chi wedi'i nodi, mae ôl-groniad sylweddol iawn, ac mae hynny wedi’i waethygu, yn anffodus, gan y pandemig. Mae fy nghyd-Aelod Sarah Murphy wedi cyhoeddi—. Mae £12 miliwn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth. Cyn y Nadolig, ychwanegwyd £3 miliwn arall at hynny ar gyfer cynlluniau'n ymwneud ag amseroedd aros mewn perthynas â niwrowahaniaeth. Felly, mae cynllun ar waith i leihau'r amseroedd aros hynny.

Mae'r tîm gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth hefyd yn gweithio gydag ysgolion. Ceir cymuned o ymarfer, i geisio gwella dealltwriaeth. A hefyd, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn arwain digwyddiadau ymarfer cynhwysol, gan rannu arferion da ledled Cymru, i geisio sicrhau bod pob ysgol yn cyrraedd lefel y goreuon o ran cefnogi plant a phobl ifanc niwroamrywiol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ysgolion preifat ac annibynnol yn chwarae rhan hynod bwysig yn ein system addysg. Ymddengys bod camsyniad cyffredin, ac yn anffodus, mae’n gyffredin ymhlith y meinciau Llafur, mai dim ond ar gyfer y cyfoethog y mae’r ysgolion hyn. Mewn gwirionedd, ni allai hyn fod ymhellach o'r gwir. Ar ôl ymweld â llawer o ysgolion preifat ers dechrau yn fy rôl, gan gynnwys Ysgol Kings Monkton yng Nghaerdydd, yn ogystal ag ysgol Haberdashers' yn Nhrefynwy, mae llawer o deuluoedd yn crafu a chynilo i anfon eu plant i ysgol breifat, gan aberthu llawer iawn i wneud hynny.

Pan fuom yn trafod ysgolion annibynnol yn y Siambr ychydig wythnosau’n ôl, roedd y dirmyg yn amlwg gan y cyn-Brif Weinidog, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid—fe gamddehonglodd fy mhwyntiau yn fwriadol, a bu'n rhefru am fraint. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n rhannu dirmyg eich cyd-Aelod tuag at ysgolion preifat ac annibynnol, neu a ydych chi'n cydnabod bod ganddynt ran bwysig i'w chwarae? Ac rwy'n eich annog i feddwl yn ofalus iawn am eich ateb, o ystyried bod y Prif Weinidog, y Farwnes Eluned Morgan, a Phrif Weinidog Llafur y DU, Keir Starmer, wedi cael addysg o'r fath.

14:40

Diolch, Natasha. Gallaf roi sicrwydd i chi fy mod bob amser yn meddwl yn ofalus iawn am yr atebion a roddaf yma. Ni chlywais y ddadl gyda fy nghyd-Aelod Mark Drakeford, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod yn gwybod bod fy nghyd-Aelod Mark Drakeford mor benderfynol â minnau i ddarparu cymaint o adnoddau â phosibl ar gyfer ein hysgolion gwladol yng Nghymru. Mae’r mesurau a gefnogwyd gennym fel Llywodraeth wedi ymwneud â sicrhau bod yr ysgolion y mae’r rhan fwyaf o’n teuluoedd yn eu defnyddio yn cael eu hariannu’n dda.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg fod gwleidyddion Llafur yma ac ar ben arall yr M4 i'w gweld yn benderfynol o ymosod ar ein hysgolion preifat ac annibynnol. Maent wedi gorfod wynebu trethi uwch ar dri chyfrif, gyda’r cynnydd i yswiriant gwladol, diddymu rhyddhad ardrethi ar gyfer ysgolion sy’n cael eu rhedeg gan elusennau, ac ychwanegu TAW at ffioedd ysgolion wrth gwrs.

Mae’r penderfyniad i osod TAW wedi cael effaith fawr ar y sector, gyda rhieni’n tynnu myfyrwyr allan o’r ysgol, llai o geisiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, staff addysgu’n cael eu diswyddo, a phynciau’n cael eu torri. Mae Gweinidog Llafur y Trysorlys, Torsten Bell, wedi cyfaddef y bydd oddeutu 100 o ysgolion preifat yn cael eu gorfodi i gau oherwydd y gyfradd dreth hon, er bod Cymdeithas Bwrsariaid Ysgolion Annibynnol yn credu y bydd y gwir nifer oddeutu 300.

Dewch inni fynd gyda rhagfynegiad AS Abertawe y bydd 100 o ysgolion yn cau. Byddai hynny’n golygu oddeutu 40,000 o fyfyrwyr yn cael eu dadleoli, a 11,000 o swyddi’n cael eu colli yn ôl y dadansoddiad hwn. Bydd llawer o'r myfyrwyr hyn yn symud i'n hysgolion gwladol sydd eisoes dan bwysau, ac nid oes gennyf unrhyw broblem ynglŷn â hynny. Ond hoffwn wybod pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd codiad TAW Llafur yn ei chael ar ein hysgolion gwladol yng Nghymru sydd eisoes dan bwysau ac nad ydynt yn cael digon o arian.

Diolch, Natasha. Yn amlwg, rydym wedi trafod hyn gryn dipyn o weithiau yn y Siambr. Rwy’n siŵr eich bod yn cydnabod mai bwriad Llywodraeth Lafur y DU wrth ofyn i ysgolion preifat dalu TAW oedd sicrhau y ceir cyfraniad priodol i’n hysgolion gwladol, y gwyddom eu bod o dan bwysau ariannol aruthrol. Rwy'n croesawu hynny’n fawr, ac yn wir, yr ymrwymiad i ddefnyddio’r arian hwnnw i roi mwy o athrawon o flaen ein plant.

O ran y dadansoddiad, gallaf roi sicrwydd i chi fod fy swyddogion yn monitro’r galw ar y system ysgolion yn ofalus. Fel y nodais yn y Siambr o’r blaen, mae gennym leoedd gwag yn ein hysgolion yng Nghymru, felly mae digon o le i ddarparu ar gyfer unrhyw blant eraill sydd am symud i’n hysgolion gwladol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch ichi grybwyll dewis, ond hoffwn sôn ychydig am ffigurau. Mae un ysgol breifat benodol yng Nghymru yn cefnogi 86 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Gwn eich bod yn angerddol iawn am ADY, felly gadewch inni siarad am hyn. Ar gyfer y cofnod, mae eu lleoedd yn cael eu hariannu'n breifat gan eu teuluoedd. Gadewch inni ddweud bod yr 86 o fyfyrwyr hynny'n cael eu gorfodi i adael ysgolion preifat oherwydd costau cynyddol, a symud i ysgol wladol. Ar sail ar y gost gyfartalog fesul disgybl, byddai hynny'n costio bron i £628,360 y flwyddyn yn ychwanegol i'r wladwriaeth. Mae amcangyfrifon y gallai rhwng 90,000 a 135,000 o fyfyrwyr ledled y DU adael y sector annibynnol.

Felly, gadewch inni ystyried hyn. Byddai 90,000 o ddisgyblion yn gadael yn costio £648 miliwn i’r trethdalwr, a phe gwelem 135,000 yn gadael, byddai hynny’n costio swm syfrdanol o £972 miliwn. Er gwaethaf yr hyn y mae gwleidyddion Llafur yn ei ddweud, nid yw hyn yn ymwneud â hybu addysg. Yn fy marn i, mae'n ymosodiad dialgar ac ideolegol ar y sector ysgolion preifat. Nid yw'n ymwneud â thegwch; mae a wnelo â dicter, fel y gallaf ei glywed gan yr Aelod ar eich meinciau cefn, y mae can croeso iddo wneud cyfraniad yn ei amser ei hun yn hytrach na rhwystro fy un i. Mae'n ymosodiad ar ddyhead, ac yn ymosodiad ar ddewis rhieni.

Llwyddodd Prif Weinidog Cymru, a Phrif Weinidog y DU hefyd, i ffynnu yn yr addysg a roddwyd iddynt. Os oedd yn ddigon da i fab gwneuthurwr offer, ac i ferch ficer, pam fod Llafur yn benderfynol o fygu dyhead a dileu dewis, yn hytrach na chanolbwyntio ar wella safonau yn ein sector ysgolion gwladol?

Nid oes unrhyw gwestiwn o ddileu dewis. Gall pobl barhau i anfon eu plant i ysgol breifat os ydynt yn dewis gwneud hynny. Y dewis a wnaethom ni fel Llywodraeth yw ein bod am flaenoriaethu ein buddsoddiad yn ein hysgolion gwladol a ariennir yn gyhoeddus, a dyna’r union ddewis a wnaed gan Lywodraeth y DU.

Fel y gwyddoch, rwy'n credu, Natasha, rydym yn gosod rhai pobl ifanc ag anghenion cymhleth iawn mewn ysgolion annibynnol, a chaiff hynny ei ariannu o bwrs y wlad. Mae trefniadau o dan y ddeddfwriaeth newydd hon i sicrhau y gellir adennill y TAW ar gyfer hynny, fel nad oes unrhyw incwm yn cael ei golli.

Rwy'n sylweddoli ei bod yn heriol i deuluoedd sy’n ariannu plant ag ADY eu hunain mewn ysgolion preifat, ond yr hyn y byddwn yn eu cynghori i'w wneud yw cael y drafodaeth honno ynglŷn ag anghenion eu plentyn. Mae gennym system newydd yng Nghymru sydd wedi'i hanelu at ddiwallu anghenion pob plentyn. Os oes ganddynt hawl i gynllun datblygu unigol, dylent gael un, ac mae ganddynt hawl i wybodaeth, mae ganddynt hawl i eiriolaeth. Felly, mae'r opsiynau hynny yno ar eu cyfer.

14:45

Diolch, Lywydd. Mae’n gwestiwn i’r Gweinidog. Weinidog, mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd fis diwethaf, fe ddywedoch chi y byddech yn

'gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu cynlluniau nhw ar gyfer diwygio addysg uwch.'

Pam felly, mewn ymateb i gwestiynau ysgrifenedig Plaid Cymru yma yn y Senedd ac yn San Steffan, na allech chi na Llywodraeth y DU gadarnhau y byddai gan Gymru rôl swyddogol yn rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r sector? A hoffech chi ymateb i hynny?

Iawn. Diolch, Cefin Campbell, am eich cwestiwn agoriadol ac rwy’n fwy na pharod i ymateb i hynny. Yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i gyhoeddi yw ei bod yn datblygu cynllun ar gyfer diwygio addysg uwch, sydd i’w gyhoeddi yn yr haf. Felly, mae’n gynllun ar gyfer diwygio. Nid yw'n adolygiad ffurfiol o addysg uwch. Felly, os nad yw wedi'i gategoreiddio'n adolygiad ffurfiol, ni allwn ddweud bod gennym rôl ffurfiol ynddo. Ond o ystyried yr heriau rhyng-gysylltiedig sy’n wynebu’r sector addysg uwch ledled y DU, credaf ei bod yn bwysig iawn fy mod i a fy swyddogion yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwnnw, a dyna’n union rydym yn ei wneud.

Mae'n anghredadwy nad oes gennych unrhyw rôl ffurfiol, gan eich bod wedi rhoi llawer o bwyslais ar sut y byddech chi'n cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw. Er ei fod yn ymddangos yn fater o semanteg, mae’n cyffwrdd ag egwyddor hollbwysig mewn gwirionedd, gan yr addawyd partneriaeth mewn grym i Gymru—hynny yw, dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio ar bob pen i’r M4. Yn union fel y gwelsom yr wythnos hon gyda’r toriadau creulon i fudd-daliadau lles, efallai’n wir fod Llywodraeth Cymru yn siarad â Llywodraeth y DU, ond mae’n amlwg i mi nad ydynt yn gwrando.

Yn yr un datganiad ysgrifenedig hwnnw, fe ddywedoch chi hefyd y byddech yn ceisio eglurder gan Lywodraeth y DU

'ar bolisi ffioedd… manylion rheolau Trysorlys EF ar ein cyllideb ar gyfer benthyciadau myfyrwyr… dyfodol y cyllid ffyniant cyffredin ac ymchwil’,

a hefyd

'dyfodol y fisa i raddedigion.'

A gaf i ofyn, yn syml, a ydych chi wedi llwyddo i gael eglurder ar y materion hynny?

Diolch, Cefin. Roeddwn yn mynd i ddefnyddio'r gair 'semanteg' ond fe'i defnyddiwyd gennych chi. Os yw Llywodraeth y DU yn ei alw'n gynllun, nid yw cynllun yn rhywbeth y gallwch gael rôl ffurfiol ynddo. Felly, semanteg ydyw. Nid yw'n tanseilio'r rôl allweddol yr ydym yn ei chwarae am na allaf ateb yn ffurfiol i chi mewn llythyr a dweud, 'Gallwn ei gategoreiddio'n rôl ffurfiol.' Felly, yr hyn rwyf i a fy swyddogion yn gweithio’n agos arno gyda Llywodraeth y DU yw dyfodol strategaeth addysg ryngwladol y DU, dyfodol buddsoddiad strwythurol a chyllid ymchwil ledled y DU, trosolwg o gyllid a chyllid myfyrwyr yn y dyfodol, ac adolygiad DU gyfan o lywodraethiant ac arweinyddiaeth mewn prifysgolion.

Mae'r polisi ffioedd yn bwysig iawn. Yn y cyfarfod bord gron a gynhaliais gyda'r Prif Weinidog a holl is-gangellorion prifysgolion Cymru, dyna oedd y prif beth y gofynnwyd i'r is-gangellorion yn ei gylch. Maent yn awyddus iawn i gael sicrwydd ynghylch polisi ffioedd am weddill tymor y Senedd hon—tymor Senedd y DU—gan fod hynny'n eu galluogi i flaengynllunio ar gyfer eu cyllid. Felly, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod hynny'n digwydd. Dyna fy mhrif gais i Lywodraeth y DU.

Gyda benthyciadau myfyrwyr hefyd, mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar hynny gan fod ein hamlen fenthyciadau myfyrwyr yn gysylltiedig â'r gwariant a'r amlen yn Lloegr hefyd. O dan reolau Trysorlys EF, ni chaniateir inni wario mwy na system Lloegr. Felly, mae'n bwysig iawn fy mod yn trafod hynny, gan ei fod yn rhan allweddol o'r ffordd y cefnogwn ein myfyrwyr a'r ffordd y caiff ein prifysgolion eu hariannu.

Fe sonioch chi am gyllid y gronfa ffyniant gyffredin hefyd. Ydy, yn sicr, mae'n bwysig iawn ein bod yn bwydo i mewn i hynny. Dyna beth arall y gofynnodd is-gangellorion i mi a’r Prif Weinidog yn ei gylch, i geisio cael, unwaith eto, ffrwd gyllido fwy hirdymor a rhywfaint o sicrwydd yno. Ac mae mater y fisa i raddedigion yn un gwirioneddol bwysig, gan ein bod o'r farn fod angen i drothwy incwm y cartref ar gyfer hynny fod yn is yng Nghymru i adlewyrchu incwm cyfartalog ein graddedigion yma.

14:50

Felly, gadewch inni fod yn glir, oherwydd ei fod wedi'i alw'n 'gynllun', ni allwch chwarae rhan ffurfiol ynddo, er eich bod wedi awgrymu o'r blaen y byddech yn chwarae rhan mewn unrhyw adolygiad a arweinir gan Lywodraeth y DU. Felly, nid dyna'r math o eglurder y mae ein sefydliadau prifysgol yn chwilio amdano. Ac mae’n debyg fod hynny'n pwysleisio, yn fwy nag erioed, pa mor bwysig yw hi ein bod yn dod o hyd i ffordd Gymreig ymlaen pan ddaw’n fater o ddiogelu prifysgolion Cymru.

Roedd y datganiad ysgrifenedig hefyd yn amlinellu camau eraill rydych chi'n eu cymryd i geisio cefnogi’r sector, ond fel y dywedodd yr Athro Dylan Jones Evans yn ddiweddar,

'ymateb gwleidyddol tymor byr yw'r rhan fwyaf o'r camau hyn... yn hytrach na strategaeth gydlynol ar gyfer dyfodol cynaliadwy i'r sector addysg uwch.'

Pam, felly, na allwch ymateb yn adeiladol i fy ngalwad, a galwad Plaid Cymru, am adolygiad trawsbleidiol, annibynnol, eang o'n sector addysg uwch i ddatrys y materion hyn a gosod ein sefydliadau ar sylfaen ariannol fwy cynaliadwy, nid yn unig am y tro, ond am flynyddoedd i ddod? Neu a ydych chi wir yn credu mai Llafur sy'n gwybod orau?

Rydych wedi crybwyll y gair 'ffurfiol' eto am y trydydd tro, ac felly fe'ch atebaf eto, am y trydydd tro, fod gennym rôl hanfodol yn y gwaith hwn sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU. Efallai eich bod am ddod yma bob tro y byddwch yn fy holi a dweud mai’r peth pwysicaf i chi yw pa un a allwn ddefnyddio’r gair ‘ffurfiol’ ai peidio; y peth pwysicaf i mi pan fyddaf yn dod yma bob wythnos yw'r hyn y gallwn ei gael allan o'r gwaith hwnnw gyda Llywodraeth y DU i allu cyflawni ar ran ein prifysgolion, i allu cyflawni ar ran y myfyrwyr ac i allu cyflawni ar ran y staff yn y prifysgolion hynny hefyd.

Rydym yn gwneud llawer iawn o waith yma yng Nghymru ar y materion y gallwn eu rheoli. Ac rwy'n dweud wrthych chi mai'r mater pwysicaf o'r rheini yw'r gwerthusiad o becyn cymorth i fyfyrwyr Diamond. Mae hwnnw’n waith cynhwysfawr iawn, a disgwylir y canfyddiadau cychwynnol yn yr hydref. Fel y gwyddoch, rwyf hefyd wedi gofyn i Medr ddechrau trosolwg o’r galw am bynciau, a darpariaeth a dosbarthiad pynciau mewn addysg uwch yng Nghymru, a bydd hynny’n darparu sylfaen dystiolaeth wirioneddol bwysig i mi allu ystyried lle gallai fod angen ymyriadau i sicrhau parhad meysydd pwnc strategol bwysig yng Nghymru sy’n hanfodol i lwyddiant gwasanaethau cyhoeddus. O fewn hynny, hefyd, rydym yn edrych ar ledaeniad y ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg uwch. Credaf fod hwnnw’n ymrwymiad pwysig iawn i ni ei wneud. Ac wrth gwrs, rwyf hefyd wedi gallu sicrhau gwerth £28.5 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer y sector yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ei hadolygiad blynyddol o'r lwfans cynhaliaeth addysg? OQ62559

Byddwn yn adolygu effaith gynnar y cynnydd yn y trothwy a gyhoeddais ym mis Ionawr, wrth i geisiadau'r lwfans cynhaliaeth addysg ddechrau cael eu cyflwyno ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-26, ac yn ystyried unrhyw newidiadau pellach i reolau'r cynllun a pholisi ochr yn ochr â’n trafodaethau ynghylch y gyllideb a chyfranogiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-27.

Diolch am eich ateb. Wrth gwrs, pan wnaethoch y cyhoeddiad hwnnw yn ôl ym mis Ionawr, roeddwn yn hynod falch o’r ymgyrch a oedd, yn y pen draw, wedi’i harwain gan fyfyrwyr i gyrraedd y pwynt hwn, ac roedd y cyhoeddiad i’w groesawu’n fawr, ond bellach, yr hyn yr edrychwn amdano yw eglurhad. Felly, a allech chi egluro a fydd yn adolygiad desg, neu a fydd yn ymgynghori â cholegau, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i gasglu eu hadborth ar effeithiolrwydd y system bresennol? Yn ogystal, byddai eglurhad ynglŷn ag a fydd yr adolygiad yn cael ei ymestyn i gynnwys gweinyddu'r lwfans hefyd yn ddefnyddiol iawn. Fel y soniais yn ôl ym mis Ionawr, dros y blynyddoedd, mae’r broses ymgeisio wedi mynd yn fwyfwy cymhleth a bu oedi sylweddol cyn talu lwfansau. Mae'r oedi hwn, yn y pen draw, wedi golygu bod llawer o fyfyrwyr wedi'i chael hi'n anodd mynychu coleg neu ysgol, gan greu cylch o straen ariannol.

14:55

Diolch am y cwestiynau atodol, Luke. I mi, mae'n bwysig iawn fod yr adolygiad hwn mor hollgynhwysol â phosibl. I swyddogion sy'n ymdrin â'r ffigurau, mae'r dadansoddiadau desg hynny'n bwysig iawn, ond credaf ei bod yn bwysig cael yr ochr ddynol hefyd—yr adborth dynol—felly rwy'n llwyr fwriadu ystyried safbwyntiau dysgwyr, colegau a rhanddeiliaid eraill yn ogystal. Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn llais pwysig iawn yn hynny, ond mae llawer o rai eraill hefyd, ac rwy'n cytuno â chi ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych hefyd ar weinyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg er mwyn sicrhau ei fod bob amser yn cael ei dalu’n gywir ac yn amserol.

Costau Ynni Ysgolion

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith costau ynni ar gyllidebau ysgolion? OQ62543

Bydd costau ynni cynyddol yn cael effaith ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Gwneir penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion gan bob awdurdod lleol fel rhan o’u cyllideb gyffredinol. I liniaru’r effaith, rydym yn cynyddu’r setliad llywodraeth leol 4.5 y cant yn 2025-26.

Diolch. Mae Exchange Utility wedi nodi mai £27,000 yw’r gost ynni flynyddol gyfartalog i ysgolion yn y DU—gall rhai fod dros £80,000 mewn gwirionedd. Nawr, ar adeg pan fo llawer o ysgolion yn ei chael hi'n anodd mantoli eu cyllidebau, gyda rhai yn gorfod ffeilio cyllideb ddiffyg, mae angen gwneud mwy i leihau straen y costau ynni hyn. Yn 2024, gosodwyd paneli solar, batris, goleuadau LED a deunydd insiwleiddio mewn pum ysgol ym Mhowys er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy. Mae penaethiaid ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd wedi gofyn i mi—. Wyddoch chi, mae eu biliau ynni'n eithaf brawychus, ac eto, maent yn dweud, 'Edrychwch, byddem wrth ein boddau â phaneli solar ar doeau ein hysgolion, ond rydym wedi codi hynny gyda'r adran addysg ac nid ydynt byth yn dod yn ôl atom.' Pa ganllawiau y gallwch eu rhoi i awdurdodau addysg ac i ysgolion eu hunain, lle gallwn weld adeiladau y gellir eu defnyddio i leihau costau ynni, a thechnolegau newydd hefyd—technolegau ynni adnewyddadwy—fel eich bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth ar fynd i'r afael â materion newid hinsawdd? Diolch.

Diolch, Janet. Yn amlwg, rwy’n cydnabod y pwysau sydd ar gyllidebau ysgolion a chymaint o bryder y gall y costau ynni cynyddol ei achosi. Dyna pam y gwnaethom sicrhau cynnydd mor sylweddol i gyllid y setliad llywodraeth leol, a pham ein bod hefyd wedi darparu £402 miliwn ychwanegol drwy'r grant addysg i awdurdodau lleol eleni. Felly, rydym wedi gwneud ein gorau glas i geisio sicrhau ein bod yn cael cymaint o arian ag y gallwn i mewn i ysgolion.

Ar y pwynt a godwch, rydym wedi ymrwymo i ysgolion sero net. Fel rhan o'n rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, mae buddsoddiad ar gael ar gyfer ysgolion sero net. Ar y pwynt a wnaethoch yn benodol am baneli solar ac ati, byddwn yn cynghori ei bod yn debygol fod hwnnw’n fater y dylid ei drafod gyda’r awdurdod lleol, gan ein bod yn darparu’r cyllid i’r awdurdod lleol. Ond fe af ar drywydd y pwynt a godwyd gennych am yr awdurdod lleol penodol hwnnw gyda swyddogion.

Cynllun Cyn-fyfyrwyr Gyrfa Cymru

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyfranogiad gan ysgolion yn y cynllun cyn-fyfyrwyr Gyrfa Cymru? OQ62572

Mae Gyrfa Cymru yn cefnogi 72 o ysgolion ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol i greu rhwydweithiau cyn-fyfyrwyr. Mae gan Gyrfa Cymru gyfanswm o 1,859 o gyn-fyfyrwyr unigol wedi’u cofnodi yn erbyn 137 o ysgolion yng nghronfa ddata cyfnewidfa addysg busnes Gyrfa Cymru, y gall ysgolion gael mynediad ati.

Diolch. Mae yna reswm pam y mae gan y rhan fwyaf o ysgolion a phrifysgolion elitaidd gynllun cyn-fyfyrwyr: i fanteisio ar adnoddau, cysylltiadau a syniadau eu cyn-ddisgyblion, ac nid oes agos digon o'n hysgolion cyfun yn gwneud yr un peth. Dyna pam y gwnaeth tasglu’r Cymoedd dreialu prosiect mewn 10 ysgol a chynhyrchu pecyn cymorth o ganlyniad i hynny y mae Gyrfa Cymru bellach i fod i’w hyrwyddo, er ei bod yn eithaf anodd dod o hyd iddo ar eu gwefan. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffigurau y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet amdanynt, ac yn amlwg mae potensial i wneud llawer mwy na hynny. A fyddai hi cystal â gweithio gyda Gweinidogion eraill i annog pobl i gymryd rhan yn y cynllun hwn ac i atgoffa ysgolion o’r adnodd a’r potensial sydd ganddo i roi cymorth ymarferol iddynt hwy a’u disgyblion?

15:00

Diolch, Lee. Rwy'n hapus iawn i roi'r ymrwymiad hwnnw i chi. Mae Gyrfa Cymru yn rhan o gyfrifoldebau Jack Sargeant, ond mae'r mater yma hefyd yn ymwneud â pha mor effeithiol y mae ysgolion yn ymgysylltu â Gyrfa Cymru. Rwy'n credu ei fod yn syniad gwych, mae hefyd i'w weld yn syniad nad yw'n costio llawer o arian, sydd bob amser yn cael ei groesawu'n fawr, ac rwyf hefyd yn derbyn y pwynt a wnaethoch am gyn-fyfyrwyr a chysylltiadau, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod ein plant yn gallu cael mynediad at y rheini. Rwyf wedi edrych ar y ffigurau. Mae'n amlwg fod mwy y gallwn ei wneud. Nid wyf yn credu y dylai fod yn beth beichus i ysgolion, os oes gennym ni deuluoedd a rhieni sy'n hapus i ddod i roi'r gwasanaeth hwnnw, felly fe gaf y drafodaeth honno gyda Jack Sargeant. 

Adroddiad Blynyddol 2023-24 Estyn

6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adroddiad blynyddol 2023-24 Estyn ar addysg yn Nwyrain De Cymru? OQ62548

Mae adroddiad blynyddol Estyn yn rhoi cyfrif gwerthfawr, annibynnol o sut y mae'r system addysg yn perfformio ledled Cymru. Yn Nwyrain De Cymru, mae cryfderau sylweddol ond hefyd agweddau i'w gwella. Rwy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â'r heriau yr ydym yn dal i'w hwynebu.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.  Nid oedd adroddiad blynyddol Estyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono. Mae angen i'r Llywodraeth hon gymryd sylw ohono a gwneud yn llawer gwell.

Un o'r problemau a wynebwn, sy'n cael effaith ar ganlyniadau yn ein hysgolion, a chanlyniadau plant, yw absenoldeb. Yn ddiweddar mynychais Gyngor Ewrop yn Strasbwrg a daeth yn amlwg iawn i mi fod absenoldeb yn broblem gynyddol ledled Ewrop ers COVID. Pa sgyrsiau a gawsoch chi fel Llywodraeth ac fel Ysgrifennydd y Cabinet gyda gwledydd eraill am y broblem gynyddol hon? Ac a oes unrhyw syniadau newydd wedi deillio o'r sgyrsiau hynny? Diolch.

Diolch. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'n holl arweinwyr ac athrawon yn ne-ddwyrain Cymru a ledled Cymru? Hefyd, hoffwn longyfarch yr ysgolion o Ddwyrain De Cymru sydd wedi cael eu harddangos yn yr adroddiad blynyddol, felly Ysgol Gynradd Langstone yng Nghasnewydd, Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, ac Ysgol Gynradd Gwndy yn sir Fynwy. A gaf i ddweud wrth yr Aelod fy mod yn falch iawn o'r ysgolion hynny? Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â dathlu'r pethau a wnawn yn dda a pheidio â bod yn hunanfodlon am yr hyn y mae angen inni ei wella.

Roedd presenoldeb yn fater allweddol a godwyd yn adroddiad Estyn. Nid oedd hynny'n syndod i ni fel Llywodraeth, oherwydd yn amlwg rydym wedi nodi gwella cyfraddau presenoldeb fel prif flaenoriaeth. Os nad yw plant yn yr ysgol, nid ydym yn mynd i godi safonau. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi £8.8 miliwn fel Llywodraeth dros eleni a'r llynedd i gefnogi presenoldeb, a'r nod yw adfer ein sefyllfa i'r sefyllfa yr oeddem ynddi cyn y pandemig.

Nawr, fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn am gymariaethau rhyngwladol. Cyfarfûm ag Andreas Schleicher, sy'n arwain y tîm addysg yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ychydig fisoedd yn ôl, ac un o'r materion a drafodwyd gennym oedd absenoldeb, presenoldeb a'r hyn y gallwn ei wneud. Yr wythnos diwethaf mynychais yr uwchgynhadledd ryngwladol ar gyfer y proffesiwn addysgu yng Ngwlad yr Iâ, a gynhaliwyd ar y cyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac Education International, ac roedd presenoldeb yn thema allweddol yno. Yn ddiweddarach yn yr haf rydym wedi ymrwymo i ddysgu o arferion da mewn mannau eraill, ac rydym yn cynnal digwyddiad dysgu rhwng cymheiriaid y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yng Nghymru, a byddwn yn trafod presenoldeb yn y digwyddiad hwnnw.

Safon Bwyd mewn Ysgolion

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o safon bwyd mewn ysgolion ledled Cymru? OQ62569

Mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn asesu safon bwyd mewn ysgolion ac mae'n ofynnol iddynt gadw at reoliadau a chanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion. Mae'r rhain yn nodi'r safonau ar gyfer bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu hadolygu a'u diweddaru ar hyn o bryd.

Diolch am yr ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y bydd darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ledled Cymru yn cael ei ganmol fel cam cadarnhaol. Fodd bynnag, os nad ydym yn rhoi bwyd iach heb ei brosesu neu faethlon i'n plant, nid ydym yn eu helpu o gwbl i ddod yn iach. Dylai prydau ysgol am ddim ymwneud â mwy na dim ond bwydo ein pobl ifanc yn unig; dylid defnyddio'r polisi fel cyfrwng i wella eu hiechyd a'u lles, a fydd, yn ei dro, yn arwain at well cyfleoedd iddynt mewn bywyd. Fel y dywedodd yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd, nid oes unrhyw dda mewn cynnig prydau bwyd o ansawdd gwael i bawb. Yn anffodus, mae llawer gormod o anghysondeb ar draws awdurdodau lleol o ran safon y bwyd y mae ein plant yn ei gael, ac rwy'n gwybod hefyd yn rhy aml fod y prydau'n rhy fach i blant sy'n tyfu. Dywedodd eich Llywodraeth eich bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynnig y bwyd gorau posibl mewn ysgolion. Felly, gyda hynny mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gall plant ysgolion cynradd Cymru ddisgwyl gweld y gwelliannau y maent yn eu haeddu? 

15:05

Diolch, Peter, ac rwy'n ymwybodol o'ch diddordeb hirsefydlog yn y mater hwn, ac rwy'n credu bod ein cynnig o brydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd yn bwysig iawn. Nid ydym eisiau plant llwglyd—ni fyddant yn dysgu—ond mae'n hanfodol ein bod ni'n darparu pryd iach iddynt, ac rwy'n credu bod gwaith da iawn yn digwydd yng Nghymru i ddarparu cynnig iach i blant a phobl ifanc. Ond fel y dywedaf pan fyddaf yn dod i'r grŵp trawsbleidiol ar fwyd, mae gennym fwy o waith i'w wneud. Dyna pam rydym yn adolygu'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion a chanllawiau statudol, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol ar hynny. Byddwn yn dechrau ymgynghori ar y rheoliadau newydd heb fod yn hir. Byddwn hefyd yn edrych ar y canllawiau sy'n canolbwyntio ar rôl y corff llywodraethu, Estyn, a'r awdurdod lleol mewn perthynas â'u gofynion i hyrwyddo bwyta ac yfed iach. Ac rwyf eisoes wedi rhoi sicrwydd y bydd mater maint prydau yn cael ei ystyried yn rhan o'r gwaith hwnnw.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

8. Sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy? OQ62558

Mae'r rhaglen gyfalaf cymunedau dysgu cynaliadwy wedi gweld buddsoddiad o dros £3.7 biliwn ers 2014. Rwyf hefyd wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer 316 o brosiectau pellach, sy'n cyfateb i £5.4 biliwn, yn rhan o raglen dreigl naw mlynedd y rhaglen.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ein pobl ifanc yn haeddu'r cyfleoedd gorau i ddysgu. Mae cyfleusterau o ansawdd uchel yn chwarae rhan hanfodol. Dros y Nadolig, diolch i'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, symudodd disgyblion a staff Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn o'u hen safle i gyfleuster newydd sbon yn y Maerdy. Mae'r cyfleusterau dysgu a chwarae yn eithriadol ac mae cymuned yr ysgol eisoes yn teimlo'n gartrefol. Wrth edrych ymlaen, byddwn yn gweld adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac Ysgol Gynradd Penrhys, y ddwy ohonynt wedi aros yn llawer rhy hir am y cyfleusterau y maent yn eu haeddu. Rwy'n falch o fod wedi chwarae rhan fach yn y gwaith o sicrhau'r gwelliannau hyn i staff a disgyblion. Rwy'n gwybod nad fi yw'r unig un sy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar yr adeiladau newydd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac Ysgol Gynradd Penrhys, ac a yw'n cytuno â mi fod y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy yn hanfodol i wella safonau ar draws addysg yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i Buffy Williams am ei chwestiwn ac am dynnu sylw at yr ysgol newydd a'r profiad ardderchog y mae plant yn ei gael ynddi? Rwy'n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i addysg plant, ond hefyd rwy'n credu ei fod yn dweud rhywbeth wrth y plant hynny am eu gwerth i ni fel cymdeithas ein bod yn gweld gwerth yr adeiladau y maent yn gweithredu ynddynt. Fe fydd hi'n ymwybodol fod yna broses i'w chyflawni pan fyddwn yn buddsoddi arian yn ein hysgolion. Mae'n dilyn achos busnes amlinellol, achos busnes llawn ac ati, ac mae yna fwrdd buddsoddi. Felly, byddaf yn ysgrifennu ati gyda diweddariad ar y prosiect penodol y soniodd amdano, ond os caf ei sicrhau ein bod yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol—mae'n rhaglen ar y cyd. Rydym wedi cynyddu ein cyfraddau ymyrraeth fel Llywodraeth, ac rwy'n ystyried y rhaglen yn llwyddiant ysgubol.  

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau amserol—dau gwestiwn heddiw. Llyr Gruffydd sy'n gofyn y cwestiwn cyntaf ac mae'r cwestiwn yma i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Llyr Gruffydd.

Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol

1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan y sector ffermio yn dilyn yr adolygiad statudol o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol? TQ1326

15:10

Amlinellwyd y camau a gymerir yn y datganiad ysgrifenedig ar 31 Mawrth. Rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r argymhellion yn llawn ac yn gyflym.

Wel, diolch am eich ymateb. Roedd hwn yn amlwg yn gyfle i'r Llywodraeth wrando ar bryderon dilys ffermwyr ac i gyflwyno newidiadau mawr eu hangen, ond mae ymateb y sector ffermio i'r adolygiad wedi bod yn un o rwystredigaeth a siom dwfn. Nawr, addawyd i ffermwyr y byddai'n darparu asesiad ystyrlon o effaith y rheoliadau hyn ac yn arwain at welliannau cymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth. Ond yn hytrach, yr hyn a welsom yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet oedd ymateb a fethodd gydnabod difrifoldeb eu sefyllfa. Mae'r rheoliadau'n parhau i fod yn ddigyfnewid er gwaethaf tystiolaeth gynyddol eu bod yn gosod baich anymarferol, costus a biwrocrataidd ar fusnesau fferm, busnesau sydd eisoes yn cael trafferth gyda phwysau ariannol, ansefydlogrwydd y farchnad a llu o heriau eraill.

Mae arolwg Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru o dros 400 o ffermwyr yn cynnig darlun llwm. Mae'n cadarnhau bod ofnau gwaethaf y sector wedi'u gwireddu mewn perthynas â chostau cydymffurfio enfawr, fframwaith rheoleiddio na ellir ei reoli, ac effaith ar iechyd meddwl a lles teuluoedd ffermio, y mae llawer ohonynt yn teimlo bod y rheoliadau hyn yn bygwth hyfywedd eu bywoliaeth. Nawr, mae ffermwyr yn clywed y gallai fod yn rhaid iddynt aros hyd at dair blynedd arall am addasiadau posibl, yn dilyn yr adolygiad hwn, ac nid yw hynny'n ddigon da. Ni ddylai'r Llywodraeth ychwanegu haenau pellach o reoliadau, pan fo'r fframwaith presennol eisoes yn cael ei ystyried yn anghymesur ac yn anymarferol; dylai fod yn gwrando ar y sector a chymryd camau ar unwaith i sicrhau bod rheoleiddio'n cael ei dargedu'n well, yn cael ei arwain gan dystiolaeth ac yn deg. Fe'ch clywais yn dweud y byddwch chi'n mynd i'r afael â hyn yn gyflym. Yn sicr, nid oedd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y datganiad ar 31 Mawrth.

Felly, a wnewch chi ymrwymo nawr i newidiadau brys i'r rheoliadau hyn, er mwyn lleihau eu cymhlethdod a'u hanymarferoldeb, yn enwedig o ystyried bod yr adolygiad yn dod i'r casgliad y dylai baich rheoleiddio fod yn is i ffermydd sy'n peri'r risg leiaf o lygredd? Yn ail, a ydych chi'n derbyn bod yn rhaid i'r dull ffermio yn ôl y calendr ddod i ben? Oherwydd, fel y dywed yr adolygiad, nid yw'n gydnaws â'r egwyddor o osod y lefelau iawn o faethynnau ar yr adeg iawn. Ac yn olaf, a ydych chi'n cydnabod y bydd methu gweithredu'n gyflym ar yr argymhellion hyn yn ychwanegu'n ddifrifol at bryder ac anobaith y bobl sy'n ymrafael â'r rheoliadau hyn? Fel y dywedaf, bydd aros hyd at dair blynedd cyn gweithredu rhai o'r argymhellion hyn yn cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl a lles llawer o'r rhai sydd eisoes yn cael trafferth ymdopi.

Wel, diolch, Llyr. Edrychwch, rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau o'r safbwynt fod iechyd y cyrff dŵr ledled Cymru yn hanfodol i bob person yng Nghymru. O fynediad at ddŵr i'w yfed, ar gyfer hamdden, ar gyfer cynhyrchu bwyd, ar gyfer ecosystemau iach, ffyniannus, mae lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn dibynnu'n fawr ar ddŵr glân, ac nid yw hynny'n wahanol i deuluoedd neu fusnesau ffermio nag i unrhyw un arall o gwbl. Mae ansawdd dŵr yng Nghymru yn dal i gael ei niweidio, ac mae'n rhaid inni wneud gwelliannau i hynny. Rydym yn siarad drwy'r amser yn y Siambr hon am yr angen i ddiogelu ein cyrsiau dŵr, ac yn enwedig afonydd ein hardaloedd cadwraeth arbennig, yr effeithir arnynt yn drwm iawn hefyd, ac rydym yn cydnabod yn llwyr, ac wedi gwneud ers cryn amser, nad yw achosion llygredd wedi'u cyfyngu i unrhyw un sector, ac mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn un o'r prif gyfranwyr.

Llyr, rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd â'r broses uwchgynhadledd a gynhaliwyd o dan y Prif Weinidog blaenorol, proses yr oeddwn yn rhan fawr ohoni. Mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi y byddwn yn parhau i wneud hynny, ac yn ganolog iawn i'r cynllun gweithredu a ddeilliodd o'r broses honno roedd cydnabyddiaeth gan bob sector sy'n cyfrannu at ansawdd dŵr, ac at wella ansawdd dŵr yn ogystal â niwed i ddŵr, y byddent yn edrych i weld beth y gallai eu diwydiant penodol eu hunain ei wneud i wella ymarfer. Mae hynny yr un peth ar gyfer y diwydiant ffermio ag y mae ar gyfer y cwmnïau dŵr, fel y mae ar gyfer adeiladwyr tai, fel y mae i bawb arall a gymerodd ran yn yr uwchgynhadledd honno, ac fe gytunwyd ar gynllun gweithredu.

Yn y cyfamser, un o'r pethau a wnaethom hefyd oedd penderfynu cael adolygiad wedi'i gadeirio'n annibynnol o'r rheoliadau hyn, ac fe wnaethom hynny oherwydd ein bod am fod yn siŵr eu bod—wel, roeddem eisiau gweld beth oedd eu heffaith, ac roeddem eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cymryd eu lle yn y broses uwchgynhadledd newydd a'r cynllun gweithredu ac yn y blaen. Mae'r adolygiad wedi dod yn ôl, ac mae'n tynnu sylw at y ffaith bod llawer o le i wella'r rheoliadau, ac i wella'r rheoliadau hynny er budd y diwydiant ffermio, ac yn ehangach ar gyfer yr amgylchedd, wrth gwrs, ac ar gyfer ansawdd dŵr yn arbennig.

Rydym yn mynd i argymell—. Rydym wedi derbyn yr holl argymhellion. Byddwn yn eu gweithredu'n llawn ac yn gyflym. Mae'r argymhellion, fel y gwyddoch, wedi'u rhannu, yn ddefnyddiol iawn, yn gamau gweithredu tymor byr, canolig a hir y gallwn eu gwneud. Maent yn nodi y dylai rhai o'r newidiadau fod yn gymharol gyflym ac yn hawdd i'w gwneud, ond hefyd fod rhai o'r argymhellion yn galw am ystyried materion cydgysylltiedig cymhleth iawn. Rwy'n credu eich bod wedi darllen drwyddo. Felly, un o'r pethau y mae'n ei argymell yn benodol iawn yw y dylem fynd i'r afael ar fyrder â'r mater ynghylch gwneud y rheoliadau'n fwy hygyrch i ffermwyr. Felly, maent yn anodd eu deall; mae angen inni wneud yn siŵr fod pobl yn deall beth sy'n ofynnol ganddynt mewn busnes ffermio a'u bod yn gallu cydymffurfio â'r hyn ydyw. Maent eisiau edrych ar y cyfnod gwaharddedig, a hefyd ar y problemau storio, ond maent yn eithaf cymhleth, fel y gwyddoch. A'r hyn rydym i gyd eisiau ei weld yw bod ffermwr sy'n gwasgaru maethynnau ar y tir yn gwneud hynny'n unol ag anghenion y cnwd y maent ar fin ei gynhyrchu ac nad yw'n gwneud hynny mewn ffordd sydd ond yn ei ollwng i mewn i'r afon leol.

Fe soniaf am un profiad personol, fel enghraifft. Roeddwn wedi mynd ar daith at afon Cleddau, ac roeddwn i'n gwylio contractwr yn gwasgaru ar gae rhwng dwy gawod drom iawn o law oherwydd eu bod wedi cael eu contractio i wasgaru ar y cae. A'r ffaith bod hynny—. Hynny yw, fe aeth yn syth i'r afon. Fe'i gwyliais; tynnais lun ohono mewn gwirionedd. Mae'n rhaid inni gyrraedd pwynt lle—. Wyddoch chi, mae llawer o'r gwasgaru'n cael ei wneud gan gontractwyr. Mae'n rhaid inni gyrraedd pwynt lle mae'r rheoliadau'n glir i ffermwyr. Fe wyddom beth y gellir ei wneud; fe wyddom na ddylem wneud rhywbeth mor hurt â'i wasgaru rhwng dwy gawod o law a gafodd eu rhagweld yn glir. Wyddoch chi—[Torri ar draws.] Yn hollol. Yn hollol, nid yw'r rhan fwyaf o ffermwyr eisiau gwneud hynny; rwyf ond yn nodi fy mod wedi ei wylio. Ond roeddwn hefyd yn rhan o uwchgynhadledd lle daeth nifer o ffermwyr ynghyd a dangos cyfres gyfan o welliannau bach yr oeddent wedi'u gwneud i'w ffermydd mewn perthynas â hyn. Roedd arfer gwasgaru ychydig bach yn wahanol ar gae penodol yn gallu atal y dŵr ffo, gan wneud yn siŵr fod y maethynnau'n aros yn y pridd a sicrhau bod y pridd yn aros ar y cae. Roedd yn beth hyfryd i'w wylio ac fe wnaeth y ffermwr a ddaeth i ddangos i ni a'r gymuned ymarfer argraff fawr arnaf.

Ac rwy'n sôn am y ddau hanesyn hynny am fy mod yn credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr fod y rheoliadau'n effeithiol, eu bod yn gyrru'r mathau cywir o ymarfer, ond nad ydynt yn ysgogi ansicrwydd nac unrhyw fath o ynysigrwydd, fod pobl yn teimlo eu bod yn deall beth y mae'r rheoliadau hynny'n gofyn iddynt ei wneud, eu bod yn cefnogi canlyniadau'r rheoliadau, sef gwell cyrsiau dŵr i bawb—. A phwy sydd angen hynny'n fwy na ffermwyr? Wrth gwrs eu bod ei angen.

Felly, byddwn yn gweithredu'r argymhellion, byddwn yn bwrw ymlaen â'r—. Mae'n werth mynd trwyddo—. Ni fydd y Llywydd eisiau i mi eu darllen, oherwydd maent yn hir iawn, ond mae'r rhai tymor byr yn mynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n ymwneud â dealltwriaeth a mynediad at y rheoliadau, ond nid oes dianc rhag y ffaith bod rhai ohonynt yn fwy cymhleth, ac mae'r adroddiad yn glir iawn ynglŷn â pham eu bod yn fwy cymhleth, ac mae'n glir am y ffaith eu bod yn effeithio ar fathau penodol o ffermio anifeiliaid dwys mewn ffordd sy'n creu mwy o effaith nag yn achos ffermwyr eraill. Mae'n dweud llawer o bethau diddorol am bori ar yr ucheldir ac iseldir âr, er enghraifft, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n ddiddorol iawn.

Felly, yr ateb yw: byddwn yn eu gweithredu, byddwn yn ystyried yr argymhellion tymor byr, canolig a hir hefyd, byddwn yn ceisio sicrhau bod gennym y bobl iawn yn yr ystafell. Felly, nid yw'n gwneud unrhyw ddarpariaethau ar gyfer newidiadau penodol i'r rheoliadau; mae'n dweud bod angen inni gael grŵp o bobl at ei gilydd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny'n iawn. Ac ar gyfer y rhai mwy hirdymor, fe fydd yn hollbwysig gwneud yn siŵr fod y bobl iawn yn yr ystafell i wneud yn siŵr fod y rheoliadau hynny'n parhau'n addas i'r diben. Ond rydym yn mynd i adael y rheoliadau yn eu lle tra bod y broses honno'n digwydd; byddwn yn bwrw ymlaen â'r rhai tymor byr ar unwaith.

Felly, wrth daro'r cydbwysedd anodd ond cywir rhwng sicrhau bod rhan allweddol iawn o'n heconomi—ffermio—yn gallu ffynnu a gwneud yn siŵr fod ein cyrsiau dŵr yn gwbl addas i'r diben, mae angen inni daro'r man prydferth hwnnw yn y canol.

15:15

Byddai'n well imi ddatgan buddiant fel ffermwr ar gyfer y cofnod. Diolch i Llyr am ofyn y cwestiwn amserol, ac Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch wedi ateb rhai o fy mhwyntiau, ond rwy'n credu eu bod mor bwysig fel bod angen inni ailadrodd rhai ohonynt. Mae adolygiad Dr Susannah Bolton yn rhoi rhywfaint o obaith o newid mewn rhai meysydd, ond pryderon ychwanegol i'r gymuned ffermio mewn meysydd eraill. Rwy'n croesawu cywair yr adolygiad, ac mae o leiaf wedi gwrando ar randdeiliaid i ddeall eu pryderon yn well a'r effeithiau y bydd y rheoliadau'n eu cael, neu wedi'u cael, ar les ffermwyr, ac mae rhai o'r argymhellion yn cydnabod hyn. Fodd bynnag, bydd ffermwyr yn rhwystredig fod llawer o bethau'n debygol o aros yr un fath am y dyfodol rhagweladwy.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud y bydd pob un o'r 23 argymhelliad yn cael eu gweithredu. Mae argymhellion yn galw am lawer o waith cyn y gellir eu gweithredu, ond mae angen i'n ffermwyr weld y cynnydd ar hynny cyn gynted â phosibl, ac rwy'n credu eich bod wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni fod pethau'n mynd i ddigwydd yn gyflym. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr adolygiad yn cydnabod natur fiwrocrataidd y rheoliadau a'r diffyg eglurder i ffermwyr—mater allweddol os ydym am iddynt ymgysylltu'n gadarnhaol. Mae angen gweithredu unrhyw beth y gallwn ei wneud ynghylch hynny yn gyflym iawn.

Croesewir dull mwy targededig y rheoliadau hefyd, ac edrychir ymlaen yn eiddgar i weld manylion yr hyn y gallai hynny ei olygu. Rwy'n croesawu'r ystyriaeth o'r cyfnodau gwaharddedig a'r terfynau nitrogen 170 kg, yn ogystal â'r hyn sydd i'w weld yn ddull mwy pragmatig a thargededig, gan fod ffermio yn ôl y calendr yn parhau i fod yn broblem go iawn am ei fod yn methu adlewyrchu realiti bywyd ac ymarfer ffermio, ac mae angen i unrhyw un nad yw'n deall hynny ddod i fferm i'w brofi.

Rwy'n croesawu'r argymhellion i edrych ar ffyrdd arloesol o reoli tail, a'r eithriadau ar gyfer ffermydd o dan gyfyngiadau TB. Bydd hynny'n cael ei groesawu'n fawr gan rai o'r ffermwyr hynny. Fodd bynnag, er bod rhai o'r argymhellion yn cynnig ychydig bach o obaith, mae yna bethau a fydd yn creu mwy o bryder. Er enghraifft, yn y tymor hir, bydd yn rhaid i bob storfa slyri gael ei gorchuddio. Wel, mae honno'n gost gyfalaf enfawr a allai ddisgyn ar ffermwyr. Hefyd y pryder yn sgil archwilio storfeydd silwair a slyri hŷn. Gallai hyn arwain at gostau enfawr i adeiladu cyfleusterau newydd, sydd—unwaith eto, sut y byddai hynny'n cael ei ariannu? Ac wrth gwrs, mae'r ffocws newydd ar ansawdd aer yn ychwanegu dimensiwn newydd o bryder i'r diwydiant os yw'r argymhellion hynny'n cael eu cyflwyno.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer i'w dreulio yn yr adolygiad hwn, a bydd eglurder ar gamau nesaf y Llywodraeth yn hollbwysig. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi rhoi rhywfaint o hynny i ni. Ond a allwch chi roi arwydd pellach o'r hyn y gall ffermwyr ei ddisgwyl nawr? A wnewch chi fabwysiadu ymagwedd bragmatig ar unwaith ynghylch rhai o'r argymhellion y gellir eu cyflawni yn y tymor byr—rwy'n credu eich bod wedi dweud y gallwch—oherwydd mae gan ffermwyr gymaint i ymdopi ag ef o hyd, ac mae'r rheoliadau dŵr wedi arwain at bryder a gofid enfawr, ac mae angen inni allu symud ymlaen? Diolch.

15:20

Diolch, Peter. Felly, mewn ymateb, hoffwn ddweud bod yr FUW, er enghraifft, wrth ymateb i'r adolygiad, wedi tynnu sylw at yr angen i fwrw ymlaen â'r argymhellion mewn cydweithrediad, ac rwy'n credu mai dyna rydych chi'n ei ddweud hefyd. Felly, yn amlwg fe fyddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei wneud mewn cydweithrediad. Fel y dywedais, holl bwynt y broses uwchgynhadledd oedd ein bod ni'n ei wneud mewn cydweithrediad â phob diwydiant a oedd ag ôl troed yn ein cyrsiau dŵr. Mae'n gwbl wirebol, ac rwy'n gwybod ei bod yn amhosibl dadlau fel arall, fod cyrsiau dŵr glân yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, i'r rhan fwyaf o fusnesau fferm, ag y maent i'r boblogaeth yn gyffredinol. Felly, mae o fudd i ffermwyr wneud yn siŵr fod gennym set o reoliadau ar waith sydd, yn amlwg, yn eu galluogi i ffermio, ond hefyd yn eu galluogi i wneud yn siŵr nad ydynt yn llygru ein cyrsiau dŵr, ac rwy'n gwybod bod y rhan fwyaf o ffermwyr eisiau gwneud hynny.

Felly, byddwn yn dilyn y broses briodol o ymgynghori a datblygu asesiad effaith rheoleiddiol a gwneud yn siŵr fod dadansoddiad cost a budd ar gyfer hynny a gwneud yn siŵr ei fod wedi'i dargedu yn y ffordd gywir. Felly, rwyf eisoes wedi sôn am un neu ddau o'r pwyntiau targedu y mae'r adolygiad yn tynnu sylw atynt, a byddwn yn gwneud yn siŵr—. Felly, rydym am wneud yn siŵr fod gennym set o reoliadau sy'n rheoleiddio'n briodol, yn y lle iawn, ac sydd, yn amlwg, yn caniatáu i bobl ddeall sut beth yw'r baich o gydymffurfio â'r rheoliadau ac i gynllunio hynny dros gyfnod o amser, ond yn bennaf rydym eisiau gwneud yn siŵr fod gennym sector addas i'r diben sy'n gallu cynhyrchu bwyd gwerthfawr ac allforion gwerthfawr—oherwydd mae llawer ohono'n cael ei allforio—ac i wneud hynny, ar y pwynt hwnnw'n unig, mae angen inni hefyd wneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau'r UE, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'n bwyd yn cael ei allforio i'r UE. Felly, mae'n hollbwysig gwneud yn siŵr fod gennym set gadarn o amgylchiadau ar waith y mae ffermwyr yn deall yn iawn sut i gael mynediad atynt, a'u bod yn deall y gofynion yn llwyr, ond hefyd mae hynny'n rhoi sicrwydd i'n marchnadoedd allforio ein bod yn ei wneud yn iawn.

Felly, ni allaf bwysleisio digon ein bod am wneud hyn mewn cydweithrediad. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhanddeiliaid a gymerodd ran yn yr adolygiad. Mae wedi bod yn broses hir ac anodd iddynt. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ond mae'r adolygiad yn syml iawn. Mae'n nodi'r hyn y mae angen inni ei wneud yn y tymor byr, canolig a hir. Rydym wedi derbyn yr holl argymhellion, a byddwn yn eu gweithredu.

15:25

Rwyf am groesawu'r adroddiad, a hefyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion, a'r ymrwymiad pellach i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i wireddu nodau'r adroddiad.

Felly, mae Dr Susannah Bolton wedi pwysleisio, yn gywir ddigon, fod yr adolygiad yn ymwneud yn y pen draw â lleihau ac atal llygredd dŵr o amaethyddiaeth. Nid wyf yn mynd i ailadrodd popeth. Mae rhai buddugoliaethau tymor byr, tymor canolig, a mwy hirdymor, ac rwy'n credu y bydd y camau gweithredu fel y'u nodwyd yn cynhyrchu'r rheini. Rydych chi'n gywir—rydych chi wedi ailadrodd hynny, ond mae hyn yn rhywbeth rwyf am ei ailadrodd—fod ein hamgylchedd a'n statws afonydd yn allweddol i bopeth a welwn o'n cwmpas. Ac er eich bod chi'n iawn nad yw'r rhan fwyaf o ffermwyr yn llygru, gwelwyd achosion lle nad yw hynny'n wir, ac mae llygredd sylweddol wedi bod ar hyd yr afonydd yn fy ardal i, ac roedd tystiolaeth ei fod yn cael ei adeiladu i mewn i'w cynllun busnes. Nawr, rwy'n pwysleisio nad wyf yn beio pob ffermwr, oherwydd nid yw hynny'n wir, ac mae hynny'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad hwn, y bydd y gofynion i'r rhai sy'n ffermio gydag enghreifftiau da iawn o edrych ar ôl eu hamgylchedd yn llawer llai wrth gwrs. Ac yn yr adroddiad hwn, mae awgrym y bydd cyllid yn mynd tuag at wireddu rhai o'r nodau hynny. Felly, rwy'n ei groesawu. Gyda newid hinsawdd yn digwydd, rydym yn cael glawiadau trwm iawn yn digwydd yn annisgwyl nawr, ac ar y llaw arall, sychder. Mae'n hanfodol fod gweithredu'n digwydd ar gyfer ein cyrsiau dŵr a'i fod yn digwydd nawr. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad, rwy'n croesawu'r ymgysylltiad, ac rwy'n siŵr y bydd Cadeirydd pwyllgor yr amgylchedd yr un mor ymrwymedig i ofalu am yr amgylchedd ag y mae i ddiogelu'r busnesau hynny.

Diolch, Joyce. Rwy'n meddwl eich bod chi'n hollol iawn, ac rwy'n falch iawn ein bod ni'n dal i wneud yr adolygiad o'r afon Teifi yn eich ardal chi o'i tharddiad i'r môr. Dewiswyd afon Teifi gan broses yr uwchgynhadledd . Rydym yn llythrennol yn edrych ar bob modfedd ohoni o'i tharddiad i'r môr, ac rydym yn gweithio gyda'r holl dirfeddianwyr, ar hyd afon Teifi, i ddatblygu gwasanaeth pwrpasol i wneud yn siŵr fod yr afon honno'n cyrraedd cyflwr amgylcheddol cwbl wych, gyda'r bwriad o ddeall y gwersi o hynny, i'w lledaenu ar draws afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig eraill yng Nghymru.

Mae'n werth ailadrodd, Lywydd, ein bod wedi dewis afon Teifi oherwydd mai dyma'r unig afon yng Nghymru lle nad yw amaethyddiaeth yn brif lygrydd, ac fe wnaethom hynny oherwydd ein bod am i'r ffermwyr gymryd rhan yn yr adolygiad heb deimlo ein bod yn tynnu sylw at eu diwydiant hwy. Roedd hynny'n fwriadol iawn, ac mae'n rhan o'r broses gydweithredol y buom yn ei defnyddio. Ond y canlyniad terfynol yw cwrs dŵr glân, oherwydd mae cwrs dŵr glân yn helpu pawb. Felly, mae hyn yn ymwneud â thargedu. Llyr, fe ddywedoch chi—rwy'n credu bod Peter wedi'i ddweud hefyd; ac mae'n siŵr fod Joyce wedi ei ddweud—fod pob fferm yn wahanol. Felly, yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw helpu ffermwyr i ddeall beth sy'n angenrheidiol ar eu fferm ar gyfer eu harferion gorau, ac mae angen inni eu helpu i wneud hynny trwy ddeall y drefn reoleiddio, gan wneud yn siŵr ei bod yn addas i'r diben, ond hefyd gwneud yn siŵr, oherwydd rwy'n gwybod nad ydynt eisiau gwneud hynny, nad ydynt yn cyfrannu at y llygredd dŵr y gwyddom—. Dyma'r llygrydd mwyaf ar draws y gweddill.

Felly, mae'r dull cyffredinol a roddwyd ar waith gennym wedi'i gymeradwyo gan yr adolygiad. Nid ydym yn dirymu'r rheoliadau wrth inni eu hadolygu. Mae llygredd amaethyddol yn parhau i fod yn un o brif achosion llygredd dŵr yng Nghymru. Felly, nid ydym am gynyddu lefelau llygredd, yn amlwg, rydym am eu gostwng, ond rydym yn bendant eisiau gwneud hynny mewn cydweithrediad â'n ffermwyr a chyda'n holl dirfeddianwyr eraill a'n holl ddefnyddwyr tir eraill, a soniais am un neu ddau o'r sectorau eraill hefyd, ac roedd consensws cyffredinol mai dyma'r ffordd ymlaen.

15:30

Er fy mod yn cytuno ei bod yn dda iawn eich bod yn barod i weithio gyda ffermwyr ac edrych ar yr argymhellion hyn, gwn am un ffermwr yn Aberconwy sydd wedi gorfod gwario £50,000 ar ymestyn ei lagŵn—mae hynny'n swnio'n llawer, onid yw? Ac er bod eithriad cyn-1991 ar ei bwll silwair, mae bellach wedi cael gwybod, yn dilyn archwiliad diweddar gan CNC, nad yw bellach wedi'i eithrio a bod yn rhaid iddo wario £70,000 arall ar bwll silwair newydd. Bydd yn rhaid iddynt hefyd newid o bwll silwair i fyrnau crwn, oherwydd pwy sy'n mynd i wario £120,000 o fuddsoddiad cyfalaf heb unrhyw enillion? Mae’n achosi problemau iechyd meddwl aruthrol i lawer o ffermwyr.

Ond heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, cefais gyflwyniad ar y ffaith bod 1,300 o fwyngloddiau, yn enwedig mwyngloddiau metel, ledled Cymru ac maent hwy eu hunain yn trwytholchi—yn trwytholchi—cymaint o lygredd gwenwynig i'n dyfroedd. Nawr, pan ydym oll wedi bod yn rhoi'r bai ar y cwmnïau dŵr, ac rydych chi wedi bod yn beio'r ffermwyr, nid oeddwn yn ymwybodol ein bod wedi—. A chredaf eich bod wedi cymryd y cyfrifoldeb heddiw, mewn gwirionedd, i—ni allaf feddwl am y gair—unioni—

Wel, a gaf i eich atgoffa mai cwestiwn amserol ar lygredd amaethyddol yw hwn? Felly, os gallwch sôn am lygredd amaethyddol yn eich cwestiwn, gan fod ein hamser ar ben.

Ie, felly ar ryw adeg yn eich cyfraniadau, o ran llygredd, efallai llai o feio'r ffermwyr a mwy o fai ar y mwyngloddiau yr ydych chi wedi cymryd peth cyfrifoldeb amdanynt. Diolch.

Wel, wyddoch chi, Janet, unwaith eto, rydych yn fy ngadael bron yn fud. [Torri ar draws.] Felly, rwyf wedi mynd allan o fy ffordd yn fy nghyfraniad, y mae'n amlwg na wrandawoch chi arno, ond rwyf wedi mynd allan o fy ffordd yn fy nghyfraniad i ddweud bod angen i bob sector edrych ar yr hyn y mae angen iddo ei wneud—[Torri ar draws.]—i fynd i'r afael â'i—

Gadewch i’r Gweinidog barhau a rhowch y gorau i ailadrodd eich cwestiwn. Gadewch i’r Gweinidog ateb, os gwelwch yn dda, Janet Finch-Saunders.

Ni restrais bob un sector—rydych chi'n llygad eich lle, Janet—ond fe’i gwneuthum yn glir iawn mai diben proses yr uwchgynhadledd oedd i bob sector sy’n cyfrannu at lygredd yng Nghymru edrych at ei ddiben penodol ei hun a chael trefn ar ei weithgarwch ei hun. Mae hynny'n wir am fwyngloddiau; mae'n wir am bob llygrwr arall. Ond y gwir amdani yw, ar gyfer holl afonydd Cymru ac eithrio’r Teifi—holl afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig Cymru, ac eithrio’r Teifi—llygredd amaethyddol yw’r prif lygrwr. Mae’n rhaid inni wneud rhywbeth am hynny, a gwn fod ffermwyr am wneud hynny. Byddwn yn gwneud hynny mewn cydweithrediad â’n ffermwyr; byddwn yn gwneud hynny fel bod eu busnesau fferm yn hyfyw, ond byddwn yn glanhau’r dyfroedd.

Fe fyddaf yn gryno, Lywydd. Cyfarfûm yn ddiweddar ag ymgyrchwyr o ymgyrch Save our Rivers, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roeddent yn siarad â mi yn bennaf am afon Wysg ac afon Gwy. Maent yn ymgymryd â gwyddoniaeth dinasyddion, maent yn gweithio gydag academyddion. Mae'r lefelau llygredd yn yr afonydd wedi eu brawychu. Mae rhai ohonynt yn nofwyr gwyllt, mae rhai ohonynt yn ymgyrchwyr sy'n cysylltu cymunedau lleol â natur drwy wersylla gwyllt. Mae pob un ohonynt yn bryderus ynghylch dihysbyddiad natur, bioamrywiaeth ac ansawdd ein hamgylchedd, ac maent am weld cynnydd cyflym ac effeithiol ar lanhau ein hafonydd ledled Cymru, ac i mi, yn lleol, yn bennaf, afon Wysg ac afon Gwy.

Ac maent yn glir, fel y dywedoch chi, mai amaethyddiaeth yn bennaf yw prif lygrwr yr afonydd hynny—afon Gwy ac afon Wysg. Maent am gymryd mwy o ran yn y broses hon ac maent wedi dangos cryn ddiddordeb yn yr adolygiad a bellach yn yr adroddiad ar yr adolygiad. Maent am gymryd rhan, maent am annog cymunedau lleol i gymryd rhan, ond yn bennaf, maent am weld y llygredd hwnnw—ac iddynt hwy, llygredd amaethyddol yn bennaf—yn cael ei drin yn effeithiol mewn ffordd mor amserol â phosibl.

Ie, diolch, John. Ar y pwynt hwn, mae’n debyg y dylwn ddatgan buddiant, gan fy mod bob amser yn nodi fy mod innau hefyd yn hoff iawn o nofio gwyllt ac yn hoff iawn o'r rheoliadau sy’n sicrhau bod dyfroedd ymdrochi yn lân ac yn hygyrch. Mae hefyd yn rhan fawr o'n harlwy twristiaeth, wrth gwrs, felly mae'n bwysig dros ben.

Ac rydych chi'n llygad eich lle: mae angen inni harneisio cryfder gwyddoniaeth dinasyddion. Rydym yn sicr yn gwneud hynny. Rydym wedi gweithio gyda CNC ers blynyddoedd, gan sicrhau bod CNC yn gallu harneisio gwyddoniaeth dinasyddion. Nid yw'n amaturaidd o gwbl; mae'n wyddoniaeth berffaith ddilys. Mae pobl yn treulio oriau ac oriau a miloedd o bunnoedd o’u harian eu hunain ar wneud hynny, ac wrth gwrs y dylem harneisio hynny. Ac rwy'n gyfarwydd iawn â'r grŵp y soniwch amdano, a gwn fod Huw hefyd. Felly, yn ein hymgynghoriad, ac yn ein grwpiau rhanddeiliaid, byddwn yn sicrhau bod y grŵp penodol y soniwch amdano yn cael ei gynnwys a bod eu safbwyntiau'n cael eu hadlewyrchu.

Ac i ailadrodd, Lywydd, yn y drafodaeth gyffredinol, yr hyn y mae'r rheoliadau hyn yno i'w wneud yw sicrhau eu bod yn ymateb cymesur i'r hyn y gwyddom ei bod yn broblem. Wrth gynnal yr adolygiad, byddwn yn sicrhau ein bod yn ei adolygu fel ei fod yn parhau i fod yn gymesur ac yn addas i'r diben. Ond roedd yr adolygiad hefyd yn mynd i'r afael â'r ffaith bod bylchau yn y rheoliadau. Felly, nid wyf am i’r Aelodau fod o dan yr argraff fod hyn rywsut yn ymwneud ag un math penodol o lygredd yn unig. Felly, er enghraifft, maent yn mynd i’r afael â’r bwlch rheoleiddiol mewn perthynas â ffosfforws. Felly, bydd angen inni archwilio mesurau eraill mewn perthynas â rhoi sylweddau sy'n llygru ar ein tir. Ac fel y dywedais eisoes, un o'r rhesymau pam ein bod yn cynnal adolygiad o'r tarddiad i'r môr o afon Teifi yw er mwyn sicrhau ein bod yn deall effaith hynny ar bob perchennog tir a'r holl ddefnydd tir yr holl ffordd ar hyd yr afon. Pan oedd yn Brif Weinidog, rhoddodd Mark Drakeford y broses honno ar waith; rwy’n falch iawn fod y Llywodraeth yn dal i fwrw ymlaen â hi. Rwy'n sôn amdani am ei bod yn mynd law yn llaw â'r adolygiad o'r rheoliadau hyn, a dylai Aelodau'r Senedd fod yn ymwybodol nad dyma'r unig beth a wnawn yn y maes hwn, yn amlwg.

15:35

Diolch, Lywydd. Diolch, Gwnsler Cyffredinol, am arwain ar y pwnc hwn yn absenoldeb y Dirprwy Brif Weinidog, nad yw yma. Ond yr hyn yr hoffwn, gyda'r Trefnydd yn ei lle, yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ar hyn pan fyddwn yn dychwelyd o'r toriad, o ystyried mai ef yw arweinydd y portffolio. Rwy'n credu y byddai'n deg inni gael cyfle i’w holi’n uniongyrchol.

Nodaf o’ch ymatebion yno fod y gair 'cydweithrediad’ wedi'i ailadrodd, ac rwy'n croesawu hynny’n fawr. Mae undebau'r ffermwyr bob amser wedi bod yn awyddus i fod yn rhan o’r drafodaeth ynghylch gwella ansawdd dŵr yng Nghymru. Ond mae lefel o rwystredigaeth yn dilyn y cyhoeddiad hwn ddoe, gan fod llawer o'r materion a godwyd ganddynt fel problemau posibl yn y dyfodol wedi eu hamlygu nawr yn yr adroddiad hwn. Felly, maent yn teimlo na wrandawyd arnynt i ddechrau pan wnaethant nodi rhai o'u pryderon, er enghraifft, ynghylch y cyfnod gwaharddedig. A gallwn edrych tuag at Iwerddon ac Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd Iwerddon, lle dangosodd cyfnod gwaharddedig o amgylch parthau perygl nitradau fod y lefelau uchaf o nitradau yn ymddangos pan ddaw'r cyfnod gwaharddedig yn gyfnod agored, gan ddangos tystiolaeth nad yw'r system hon yn gweithio. Felly, y rhwystredigaeth yw ein bod wedi dod mor bell â hyn i lawr y ffordd i gael clywed yr hyn a wyddem bedair, bum mlynedd yn ôl ynglŷn â'r polisi hwn.

Felly, rwy'n croesawu'n fawr eich negeseuon ynghylch cydweithrediad mewn perthynas â hyn, ond pa warantau y gallwch eu rhoi i undebau'r ffermwyr, a'r diwydiant ffermio, y byddant yn cael eu clywed mewn perthynas â'r polisi hwn, wrth symud ymlaen? Oherwydd maent yn teimlo nad ydynt wedi cael eu clywed cyn hyn.

Wel, ar bwynt y datganiad, mae hynny'n amlwg yn fater i'r Trefnydd, ond rwyf am eich cyfeirio at y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hyn ddoe ddiwethaf, felly mae digon o dystiolaeth ichi gael golwg arni. Ac yn amlwg, mae llawer o gyfleoedd i gwestiynu’r Dirprwy Brif Weinidog, ond mater i’r Trefnydd yw hynny, nid fi. Nid wyf yn siŵr beth oeddech chi'n ei awgrymu wrth hynny, mewn gwirionedd, ond mae croeso ichi ofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych ar y pwnc i mi.

O ran gwrando, nid wyf yn siŵr beth y ceisiwch ei ddweud. Oherwydd yn amlwg, holl bwynt yr adolygiad oedd ymateb i’r ffaith ein bod wedi gwrando ar bryderon pobl a bod adolygiad wedi’i gynnal gennym o ganlyniad i fod wedi gwrando ar eu pryderon. Felly, nid wyf yn siŵr iawn beth rydych chi'n ei ddweud. Felly, fe wnaethom wrando, fe wnaethom adolygiad, rwyf newydd ddweud ein bod yn mynd i roi'r adolygiad ar waith mewn cydweithrediad, felly nid wyf yn siŵr pa wrando pellach a oedd gennych mewn golwg.

Ond i ailadrodd, mae hon yn broses iteraidd, gydweithredol, ac mae'r rhanddeiliaid yn rhan fawr ohoni. Dylai unrhyw un sydd am gymryd rhan yn y broses godi eu llaw drwy’r undebau, neu’n wir, yn uniongyrchol i’r Dirprwy Brif Weinidog, neu’n wir, i mi neu’r Prif Weinidog, i ddweud eu bod am gymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw. Byddwn yn bwrw ymlaen ag ef. Mae'r panel wedi cyflwyno set o argymhellion sydd wedi'u nodi'n ddefnyddiol iawn mewn setiau tymor byr, canolig a hwy. Rydym yn derbyn yr argymhellion yn llwyr, rydym wedi dweud hynny'n glir iawn. Mae’r holl wybodaeth honno yn y datganiad ysgrifenedig.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Julie Morgan.

Taliadau Iawndal am Waed Halogedig

2. Pa bwysau y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar Lywodraeth y DU i gyflymu'r broses o sicrhau taliadau iawndal i bobl sydd wedi'u heintio gan waed halogedig, ac y mae'r sgandal gwaed halogedig wedi effeithio arnynt? TQ1325

Ceir patrwm o gyfarfodydd gweinidogol pedair gwlad i drafod gwaed heintiedig, ac mae fy swyddogion yn parhau i bwyso am gynnydd rhwng cyfarfodydd. Ar 3 Mawrth, cyfarfûm â Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Nick Thomas-Symonds, a Gweinidogion o’r Alban a Gogledd Iwerddon, i drafod y trefniadau i gefnogi pobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal, gan gynnwys yr angen i gyflwyno hawliadau iawndal yn brydlon gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.

15:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am yr ateb.

Mae dwy flynedd bellach ers i Syr Brian Langstaff gyhoeddi ei ail adroddiad interim ar iawndal, a chyhoeddodd yr adroddiad hwn yn gynnar, gan ei fod yn cydnabod y byddai oedi cyn rhoi iawndal yn peri niwed pellach i’r rheini a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef. Ar 20 Mai, bydd yn flwyddyn ers i Syr Brian Langstaff gyhoeddi ei adroddiad terfynol ar yr ymchwiliad, lle tynnodd sylw at ei ganfyddiadau damniol. A nawr rydym yn disgwyl iddo adrodd eto, gan amlinellu ei bryderon am yr oedi cwbl annerbyniol cyn sefydlu’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig, a rhoi iawndal i ddioddefwyr. Ni ddylai hyn ddigwydd.

Am fwy na 40 mlynedd, mae'r rhai a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef wedi bod yn ymgyrchu am gyfiawnder. Ac rwyf wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hon ers bron i 30 mlynedd. Ac mae hon yn ymgyrch drawsbleidiol, gan fod gennym Rhun ap Iorwerth yma, sef cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed heintiedig. Mae gennym ymgyrchwyr eraill yma—Mick a Hefin, ac eraill—sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd ar y mater hwn.

A’r llynedd, roeddem mor falch o groesawu’r newyddion fod £11.8 biliwn wedi’i neilltuo ar gyfer iawndal. Ond ni allaf gefnogi’r ffordd y mae'r gwaith o sefydlu’r fframwaith iawndal, a’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig, wedi achosi oedi sylweddol, a’r oedi wrth gofrestru ar gyfer y rheini sydd wedi dioddef. Ac rwy'n falch iawn fod gennym bobl yma yn yr oriel heddiw o Hemoffilia Cymru, a dyma'r bobl sy'n dioddef oherwydd yr oedi hwn.

Clywsom ar y penwythnos fod dau o bobl yn marw bob wythnos wrth iddynt aros am iawndal. Mae 25 o bobl a gafodd eu heintio neu yr effeithiwyd arnynt yr oedd Hemoffilia Cymru yn gwybod amdanynt wedi marw ers i'r ymchwiliad ddechrau. A dywedwyd wrthyf fod y tariffau iawndal mor gymhleth fel ei bod yn anodd iawn mesur pwy fydd yn gymwys. Fodd bynnag, mae Hemoffilia Cymru yn amcangyfrif y bydd gan oddeutu 300 o bobl a gafodd eu heintio ac yr effeithiwyd arnynt hawl i iawndal yng Nghymru. Ac yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae 213 o bobl a gafodd eu heintio a phartneriaid rhai a fu farw wedi'u cofrestru yng nghynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru ar gyfer taliadau ex gratia. Dylai’r garfan hon fod wedi cael iawndal, gan fod y Llywodraeth yn gwybod amdanynt, maent eisoes wedi cael taliad iawndal interim, ac maent eisoes wedi bodloni’r meini prawf angenrheidiol ar gyfer derbyn y taliad iawndal interim.

Rwy'n deall bod Hemoffilia Cymru yn ymwybodol o 30 o farwolaethau pellach yng Nghymru nas cydnabuwyd o’r blaen, lle nad oes taliad iawndal interim wedi’i wneud. Mae’r rhain yn cynnwys rhieni yr effeithiwyd arnynt, plant a gollodd rieni a brodyr a chwiorydd, a throsglwyddwyd manylion y bobl hyn i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru ym mis Mai y llynedd. Mae 13 bellach wedi derbyn iawndal interim, ond mae 17 yn dal i fod heb ei gael.

Rwyf hefyd wedi clywed bod ceisiadau i ystadau pobl a gafodd drallwysiad wedi'u gwrthod, gan fod cofnodion meddygol a gedwid yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi'u dinistrio. Ac mae grwpiau ymgyrchu, ac Aelodau’r Senedd, rwy'n credu, yn rhwystredig iawn ynglŷn â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod yn achosi—. Mae'r oedi yn cael effaith ymarferol. Os bydd unigolyn heintiedig yn marw yn ystod y cyfnod hwn, gellir hawlio’r iawndal drwy eu hystad, ond os bydd unigolyn yr effeithir arnynt fel arall yn marw, fel gwraig neu ŵr gweddw, bydd yr hawliad am iawndal yn marw gyda hwy.

Yng Nghymru, rydym bob amser wedi arddel safbwynt cadarn yma ein bod ar ochr y rhai a gafodd eu heintio ac yr effeithiwyd arnynt. Rydym yn cydsefyll gyda hwy. Rydym am sicrhau cyfiawnder, ac rydym am i ddioddefwyr gael eu hiawndal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, bwyso ar Lywodraeth y DU yn y modd cryfaf posibl i gyflymu’r broses hon? Oherwydd rwy'n derbyn yn llwyr fod yn rhaid i'r broses fod yn deg, ac mae'n rhaid iddi fod yn broses dda, ond mae popeth a glywais ac a welais yn gwneud imi deimlo bod oedi diangen a biwrocratiaeth ddiangen ynghlwm wrth hyn, a chredaf ei bod yn gyfrifoldeb arnom yn y Senedd hon i wneud popeth yn ein gallu i annog Llywodraeth y DU, a dweud, 'Edrychwch, gadewch inni fwrw ymlaen â hyn, mae wedi bod yn llawer rhy hir'. Mae hyn wedi bod yn llusgo ymlaen ers blynyddoedd lawer, ac fel y dywedais eisoes, mae pobl yn marw.

Rwy'n teimlo'n gryf fod y grŵp hynod agored i niwed hwn wedi cael cam ers mwy na 40 mlynedd, a chredaf fod pob un ohonom yn falch eu bod wedi dod yma i’r Senedd heddiw. Roedd nifer sylweddol ohonynt y tu allan ar risiau’r Senedd, ac mae rhai ohonynt wedi dod i mewn i wrando ar y ddadl. Maent yn dibynnu arnom i wneud yr hyn a allwn i annog Llywodraeth y DU i symud ymlaen. Diolch.

15:45

Diolch i Julie Morgan am ei chwestiwn. Mae'n gwestiwn pwysig iawn, ac mae'r ffordd y'i gofynnodd yn atgoffa pob un ohonom o effaith ddynol iawn y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith ac sy'n cael eu trafod.

Yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU, sy’n amlwg yn gyfrifol am y cynllun, fel y mae hi’n gwybod wrth gwrs, dywedwyd wrthyf fod yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig yn dal i adeiladu a phrofi eu gwasanaeth iawndal, a’u bod yn gweithio i ddechrau hawliadau am ystadau, pobl yr effeithiwyd arnynt a phobl a gafodd eu heintio nad ydynt wedi cofrestru gyda’r cynllun cymorth, gyda’r nod o ddechrau gwneud taliadau i rai pobl ym mhob un o’r grwpiau hyn erbyn diwedd y flwyddyn. Ni fyddant wedi gorffen talu pobl yn y grwpiau hyn o fewn yr amserlen honno, ond byddant wedi dechrau.

Ar draws yr holl grwpiau heintiedig, pan fyddant yn agor, byddant yn blaenoriaethu hawliadau i'r rheini sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae hyn ar gyfer y rhai y mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud wrthynt y gallai fod ganddynt 12 mis neu lai i fyw. Ym mis Ebrill, dywedir wrthyf y byddant yn ysgrifennu at bawb sydd wedi cofrestru gyda'r cynllun cymorth i gadarnhau bod ganddynt eu manylion cywir ac i egluro sut i gysylltu â hwy os yw blaenoriaethu hawliadau diwedd oes yn berthnasol iddynt hwy. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig yn recriwtio cannoedd o reolwyr hawliadau ar hyn o bryd i helpu gyda hawliadau iawndal cyn gynted â phosibl.

Hoffwn gytuno â’r sylwadau a wnaeth ar ddiwedd ei datganiad ynglŷn â chydsefyll yn gadarn i gefnogi pobl a gafodd eu heintio ac yr effeithiwyd arnynt a sicrhau eu bod yn cael cyfiawnder. Byddaf yn pwysleisio'r achos, fel y bûm yn ei wneud, gyda Llywodraeth y DU yn fy nghyfarfod nesaf, a byddaf yn sicrhau fy mod yn cysylltu â’r Gweinidog cyn hynny. Rwy’n ymwybodol fod Hemoffilia Cymru, y cyfeiriodd atynt yn ei chwestiwn, yn cyfarfod â Gweinidog Swyddfa’r Cabinet yn nes ymlaen yr wythnos hon i drafod yr union faterion hyn.

Hoffwn gytuno â’r holl sylwadau a wnaed gan Julie Morgan. Mae’n debyg mai’r sgandal gwaed heintiedig yw un o’r effeithiau dinistriol mwyaf a fu erioed yn ein gwasanaeth iechyd ledled ein gwlad, ac rwyf fi a fy ngrŵp yn cydymdeimlo â’r holl bobl a gafodd eu heintio ac yr effeithiwyd arnynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, un peth y credaf yr hoffwn glywed mwy amdano gennych yw’r cymorth eiriolaeth a’r cymorth iechyd meddwl rydych chi'n ei roi i’r unigolion hynny. Mae rhai o’r bobl hyn, fel y dywedodd Julie Morgan, wedi bod yn aros ers amser maith, ac mae oedi pellach erbyn hyn cyn cael mynediad at yr iawndal y gallant ei gael. Felly, hoffwn glywed ymhellach gennych chi pa waith rydych chi'n ei wneud ar hyn i sicrhau bod yr unigolion hynny a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi drwy'r broses hon fel nad oes rhaid i unrhyw un fynd drwy hyn ar eu pen ei hunain. Mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd drwy hyn ar eu pen ei hunain ers nifer o flynyddoedd yn barod.

Rwy'n cytuno â’r sylwadau a wnaeth James Evans ar y dechrau mewn perthynas â’r gwaith ymgyrchu y mae nifer o Aelodau wedi bod yn ei wneud, gan gynnwys, yn amlwg iawn, Julie Morgan ac eraill. Mae'n llygad ei le i ddweud bod y cymorth sydd ar gael i'r rhai yr effeithiwyd yng Nghymru yn gwbl hanfodol, ac mae amrywiaeth o gymorth ar gael, sydd, yn fy marn i, wedi'i groesawu ar y cyfan, ond yn amlwg, mae mwy y byddwn bob amser yn ceisio'i wneud i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bobl. Rwy'n gobeithio iddo gael rhywfaint o sicrwydd o'r ateb a roddais i Julie Morgan.

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pwysig yma heddiw. Cyn yr etholiad yr haf diwethaf, fe glywsom ni bob mathau o addewidion i’r cleifion sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal gwaed heintiedig. Ond, bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r cleifion a’u hanwyliaid yn dal i aros am daliadau ac am gyfiawnder. Yn wir, fel y clywsom ni gan Julie Morgan, mae yna ddau o’r cleifion yna’n marw bob wythnos, a phan mae eu hanwyliaid nhw yn marw yna mae’r hawl am iawndal yn marw gyda nhw. Felly, fe allwch chi ddeall pam fod rhai o’r teuluoedd sydd wedi bod mewn cyswllt efo fi yn credu bod y mater o lusgo traed yma yn fater bwriadol gan y Llywodraeth er mwyn trio osgoi talu yr iawndal.

Heddiw, ces i gyfarfod efo rhai o’r teuluoedd y tu allan i’r Senedd. Roedd Brian Williams yno. Mae Brian bellach yn dioddef o ganser yr iau yn sgil cael ei heintio, ond mae e’n dal i aros am daliadau ac yntau yn gwbl ddifai yn hyn i gyd. Nid yn unig bod cleifion yn aros, ond mae rhai yn gweld fod eu cofnodion meddygol nhw wedi cael eu colli—a dwi’n dweud ‘colli’, mewn dyfynodau, fan hyn. Fe soniodd Suzanne Morgan wrthyf i am sut y collodd yr ysbyty gofnodion iechyd ei mam, a hithau’n cael ei gwadu’r hawl i wneud cais am daliadau oherwydd nad oedd gwaith papur perthnasol gan yr ysbyty, er bod yna hen ddigon o gofnodion yn bodoli o’r clefyd. Felly, mae yna amryw o anghyfiawnderau yma sydd angen eu datrys.

Beth, felly, ydy dealltwriaeth yr Ysgrifennydd Cabinet am beth sydd yn arafu'r broses i lawr? A pha gamau mae’r Llywodraeth yma wedi eu cymryd, gan ystyried fod yna bartneriaeth mewn grym yn bodoli, i fod, ar hyn o bryd, er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyflymu’r broses? Fe wnaeth adroddiad Langstaff argymhellion oedd yn berthnasol i’r Llywodraeth yma yng Nghymru a’r byrddau iechyd hefyd. A gawn ni, felly, adroddiad cynnydd ar ble mae’r Llywodraeth arni wrth eu gweithredu nhw, ac a ydy’r byrddau iechyd wedi llwyddo i adnabod yr holl gleifion sydd wedi'u heffeithio yng Nghymru?

Yn olaf, dwi'n cydnabod mai sgandal a wnaeth ddatblygu cyn datganoli yw’r scandal yma, ac felly mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ydy gweithredu, ond mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gynrychioli'r cleifion yma yng Nghymru. Roedd yn syndod i fi, felly, i ddeall nad ydych chi fel Ysgrifennydd Cabinet wedi cael cyfarfod gyda Hemoffilia Cymru i drafod y mater penodol yma. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i gael cyfarfod gyda Hemoffilia Cymru a'r cleifion maen nhw'n eu cynrychioli a'u teuluoedd er mwyn ffeindio ffordd ymlaen? 

15:50

Byddwn i, wrth gwrs, yn hapus i wneud hynny. Mae cryfder sylwadau Aelodau ar draws y Siambr yn glir, rwy'n credu, yn y drafodaeth heddiw, ac yn fater byddaf yn gallu dwyn i sylw yn y cyfarfod gyda'r Gweinidog yn San Steffan. Rwy'n gobeithio bod yr atebion gwnes i roi yn gynharach, o ran yr hyn sydd yn arafu'r broses, fel gwnaeth yr Aelod esbonio, yn rhoi y manylion addas iddo fe. Fel rwy'n dweud, mae gennym ni gyfres o gyfarfodydd gyda'r Gweinidog yn San Steffan i fynd drwy fanylion y pethau yma, ac mae swyddogion yn gwthio yn gyson am gynnydd rhwng y cyfarfodydd hyn.

Hoffwn godi achos etholwr i mi sydd wedi cael cymorth gwerthfawr gan Julie Morgan. I ddilyn ymlaen o'i phryderon am yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig, efallai y bydd y cynllun iawndal newydd yn gwahaniaethu'n annheg yn erbyn partneriaid a gwŷr a gwragedd sy'n dod yn wŷr a gwragedd gweddw o hyn ymlaen. Er enghraifft, pe bai fy etholwr wedi marw cyn diwedd mis Mawrth 2025—ei eiriau ef yw'r rhain, gyda llaw—byddai ei wraig wedi cael 100 y cant o'i daliadau cymorth am y flwyddyn gyntaf ar ôl ei farwolaeth, a 75 y cant bob blwyddyn ar ôl hynny am weddill ei hoes. Fodd bynnag, o hyn ymlaen, gan nad yw ei wraig wedi ymuno â'r cynllun newydd ar hyn o bryd, byddai’n cael ei gorfodi i gymryd cyfandaliad yn gyfnewid am golli enillion ei diweddar ŵr, sy’n cyfateb i lawer llai dros amser na thaliadau cymorth parhaus. Cafodd ef ac eraill yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal ryddhad y llynedd pan gawsant wybod y byddai'r taliadau cymorth yn parhau am oes. Ond maent o'r farn mai bwlch yn y rheolau yw hwn, sydd o bosibl yn gadael teuluoedd heb gymorth pe bai rhywbeth yn digwydd i'w hanwyliaid. Felly, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cael cyfarfodydd pellach gyda swyddogion cyfatebol ar lefel y DU, a allai godi'r mater hwnnw hefyd, os gwelwch yn dda?

Mae’n fater sydd wedi’i drafod ar lefel y pedair gwlad, gan gydnabod y pryderon y mae’r Aelod ac eraill wedi’u hamlinellu. Bydd yr holl daliadau ex gratia a wneir drwy’r cynllun cymorth ar ôl 1 Ebrill yn cyfrif tuag at yr iawndal a delir i unigolyn. Mae hyn yn berthnasol i fuddiolwyr byw neu fuddiolwyr sydd mewn profedigaeth, ac ni fyddant dan anfantais. Cyfrifir pob taliad iawndal gan ddefnyddio model tariff. Yn yr achos hwn, bydd hawliad iawndal y gŵr, gwraig neu bartner gweddw yn seiliedig, wrth gwrs, ar eu hamgylchiadau penodol, a gallant benderfynu sut y maent yn dymuno derbyn eu taliad. Gallant ddewis derbyn eu hiawndal naill ai fel un cyfandaliad unigol neu gyfres o daliadau rheolaidd dros bum, 10 neu 25 mlynedd, a bydd y taliadau hynny’n cynyddu bob blwyddyn gyda chwyddiant. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych ar yr amgylchiadau penodol y mae’r Aelod wedi’u codi yn y Siambr heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn innau gytuno â'r holl sylwadau a wnaed, a hoffwn ddiolch yn enwedig i Julie Morgan nid yn unig am y gwaith y mae wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd, ond hefyd am godi hyn eto heddiw. Oherwydd mae'n amlwg, er gwaethaf yr holl obeithion mawr ar ôl ymchwiliad Brian Langstaff, fod yr oedi hwn gennym o hyd, ac mae hynny'n amlwg yn peri pryder. Hoffwn godi dau bwynt penodol. Mae 213 o bobl wedi cofrestru gyda chynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru. Yr hyn y credaf y gallem fod yn gofyn i Lywodraeth y DU ei ddatrys yw hyn: pam na ellir trosglwyddo’r data ar y cynllun hwnnw i’r cynllun newydd, fel y gellir talu pobl ar unwaith? Mae'n anodd deall pam na fyddai hynny'n bosibl, pam na fyddai hynny'n digwydd.

Yr ail bwynt, o ran y gweddill, y bobl yr effeithiwyd arnynt, sef brodyr a chwiorydd yn bennaf, dywedwyd wrthynt y byddant yn cael eu gwahodd yn 2029, ymhen pedair blynedd, i ddechrau eu hawliad. Ond y cwestiwn yw sut y mae Llywodraeth y DU yn gwybod at bwy i ysgrifennu, pwy ydynt, pan nad oedd cofrestr o'r rheini yr effeithiwyd arnynt a allai gael eu gwahodd yn 2029. Ymddengys i mi fod angen llenwi rhai o'r bylchau hyn wrth brosesu'r rhain. Byddai'n dda pe gellid mynd i’r afael â’r materion hynny a’u hychwanegu at y rhestr o’r holl faterion eraill a godwyd, gan fod yn rhaid bod modd datrys y rhain yn brydlon. Yn amlwg, efallai y bydd yr ateb i’r holl hawliadau iawndal yn cymryd mwy o amser, ond mae rhywun yn pryderu nad yw’r mater hwn yn cael ei gyflymu gyda’r brys y credaf fod pob un ohonom yma wedi bod yn ei fynegi.

15:55

Rwy’n ddiolchgar i Mick Antoniw am godi’r ddau bwynt penodol hynny. Rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod fy swyddogion yn codi’r rheini’n uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU.

Dwi eisiau cysylltu fy hun â'r sylwadau ar draws y pleidiau gwleidyddol heddiw, a diolch i Julie Morgan am y cwestiwn a'i gwaith hi yn ymgyrchu dros flynyddoedd lawer. Roeddwn i wedi methu bod yna i gyfarfod ymgyrchwyr heddiw, ond dwi'n diolch ac yn talu teyrnged iddyn nhw—Lynne Kelly o Haemophilia Wales a'r holl unigolion a theuluoedd hynny sydd wedi brwydro drwy boen personol rhyfeddol er mwyn ceisio cael cyfiawnder.

Rwy'n mynd i ddarllen geiriau un o fy etholwyr. Nid wyf am eu henwi. Maent yn gwybod pwy ydynt. Ond maent wedi dylanwadu'n fawr arnaf mewn perthynas â'r mater hwn. Mae'n eithaf amlwg, meddent, mai 'bwriad y Llywodraeth yw cyflawni ei chyfrifoldebau cyfreithiol mor araf â phosibl, yn y gobaith y bydd pob un ohonom yn marw cyn bo hir ac yn rhoi'r gorau i'w plagio. Rydym yn teimlo ein bod unwaith eto yn cael ein bwlio gan y rhai sydd mewn grym, gan roi halen ar friwiau difrifol. Ni all y sefyllfa hon barhau. Mae'n rhaid digolledu'r oddeutu 4,000 o ddioddefwyr heintiedig ar unwaith fel y gallant roi'r gorffennol y tu ôl iddynt a mwynhau'r amser sydd ganddynt ar ôl mewn heddwch.' Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gytuno i bwysleisio’r achos eto dros symud yn gyflym ar iawndal, ond a wnaiff gytuno, wrth bwysleisio’r achos, i’w fynegi yn y termau hynny o rwystredigaeth a dicter, a dweud yn glir iawn ein bod ni yn y Senedd yn credu na ellir oedi ymhellach?

Rwy'n credu bod cryfder y teimladau yn y Siambr yn glir, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cael set o drefniadau a all ennyn hyder, felly rwy'n fwy na pharod i wneud y pwyntiau i Lywodraeth y DU yn y termau hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel gyda chymaint o Aelodau eraill o'r Senedd, mae gennyf etholwyr sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal gwaed heintiedig, ac y mae’r gair ‘sgandal’ yn sicr yn berthnasol i’r materion hyn, onid yw? Mae wir yn sgandal ysgytwol a chwbl dorcalonnus i'r teuluoedd yr effeithir arnynt. Roedd yn addysgiadol cyfarfod â’r ymgyrchwyr yma heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a chafodd llawer o Aelodau’r Senedd drafodaethau defnyddiol iawn gyda hwy ynghylch y sefyllfa gyfredol.

Mae llawer o’r materion y bwriadwn eu codi wedi’u codi eisoes gan Aelodau o’r Senedd, ond hoffwn ymuno â hwy i dalu teyrnged i Julie Morgan a’r holl ymgyrchwyr y tu allan i Senedd Cymru am gryfder eu hymrwymiad a’r gwaith a wnânt. Roeddwn yn mynd i ofyn i chi gyfarfod â Hemoffilia Cymru, ond rydych chi eisoes wedi ateb y pwynt hwnnw gan Mabon ap Gwynfor.

Yn ogystal â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi sicrhau bod y cyfathrebu parhaus â Hemoffilia Cymru a theuluoedd yr effeithir arnynt yma yn ein gwlad cystal ag y mae'n bosibl iddo fod? Oherwydd mae'n sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn weithiau. Ac yn ogystal â chyfarfod cychwynnol, rwy'n credu bod cael system ar waith i ganiatáu ar gyfer cyfathrebu ar sail barhaus yn gwbl hanfodol hefyd.

Diolch i John Griffiths am hynny, ac yn sicr, byddaf yn disgwyl i fy swyddogion sicrhau bod gennym drefniadau ar waith sy’n gwneud yn siŵr, pan fydd gennym wybodaeth, ei bod yn cael ei rhannu yn y ffordd yr awgryma.

A gaf i achub ar y cyfle hefyd i adleisio ei ddiolch i Julie Morgan unwaith eto am ddod â’r cwestiwn pwysig hwn i’r Senedd heddiw ac i ddiolch i deuluoedd ac ymgyrchwyr sydd yma i wylio'r ddadl a'i rhannu gyda ni heddiw?

4. Datganiadau 90 eiliad

Diolch. Yn 2008, dynododd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 2 Ebrill bob blwyddyn yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd. Mae heddiw felly'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2025, gyda’r thema o hyrwyddo niwroamrywiaeth a nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, sy’n cynnwys lleihau anghydraddoldebau, iechyd a llesiant da a sicrhau addysg gynhwysol a theg i bawb. Mae’r diwrnod yn amlygu’r angen am fwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflyrau’r sbectrwm awtistiaeth, gan hyrwyddo derbyniad, cynhwysiant a chymorth i unigolion awtistig. Fodd bynnag, mae gormod o uwch swyddogion cyhoeddus yng Nghymru yn dal i ddibynnu ar hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth sydd ond yn ticio blychau, ac yn gwrthod deall a diwallu anghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu unigolion awtistig. Mae hyn yn rhy aml yn arwain at fwlio, beio a chosbi, gan wthio pobl awtistig i sefyllfa o argyfwng, yn hytrach na darparu’r gofal, yr iechyd, yr addysg, y tai a'r cymorth cyflogaeth sydd ei angen.

Yn y grŵp trawsbleidiol diwethaf ar awtistiaeth, nodwyd bod llawer o blant niwroamrywiol yn cael eu haddysgu gartref, nid drwy ddewis rhieni, ond oherwydd nad oes digon o gymorth mewn ysgolion prif ffrwd. Ysgrifennodd mam o Wynedd yn ddiweddar i nodi bod ysgol ei mab awtistig yn wynebu toriadau, sy'n golygu nad yw'n cael y cymorth sydd ei angen arno. Ysgrifennodd etholwr awtistig o Ynys Môn yn ddiweddar i nodi bod unigolion awtistig yn wynebu amgylchedd cynyddol elyniaethus. Ac ysgrifennodd mam awtistig o sir y Fflint ddydd Gwener diwethaf yn disgrifio'r gwahaniaethu a'r erledigaeth y mae teuluoedd sy'n gwneud cwynion yn ei brofi. Mae angen gweithredu ar Gymru, felly, i droi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a derbyniad o awtistiaeth o fod yn rhith arwynebol ac anatebol i fod yn realiti byw ar draws ein sectorau cyhoeddus a phreifat.

16:00
5. Dadl Frys: Effaith diwygiadau lles diweddar y Canghellor

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl frys: effaith diwygiadau lles diweddar y Canghellor. Galwaf ar Sioned Williams i agor y ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. I unrhyw blaid sy'n honni ei bod yn cynrychioli egwyddorion cydraddoldeb, tegwch a chyfiawnder, dylai dileu malltod tlodi fod yn egwyddor ddiysgog, yn ddiben diamod. Ac roeddem bob amser yn cael ein harwain i gredu bod hyn yn wir gyda'r Blaid Lafur. I ddyfynnu Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn 2023, byddai gweinyddiaeth Starmer yn cael ei harwain gan ymdeimlad angerddol

'nad cenhadaeth y blaid hon yw tincran at yr ymylon, na chynnig rhyw welliant bach, ond yn hytrach, dileu tlodi'.

Dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi dod â'r ddadl hon i lawr ein Senedd heddiw. Mae'n hynod siomedig ei bod wedi cymryd cynnig i alw dadl frys i orfodi'r Llywodraeth i drafod y mater hwn, a fydd, yng ngeiriau Sefydliad Bevan, yn cael effaith enfawr a phryderus ar 275,000 o bobl yng Nghymru—i drafod effaith y toriadau mwyaf erioed i fudd-daliadau anabledd ar Gymru, toriadau a fydd yn gwthio miloedd o bobl i fyw mewn tlodi.

Gwyddom nad yw Llafur yn anrhydeddu addewidion hirdymor i Gymru, fel y gwelsom gyda'u gwrthodiad i ddiwygio hen fformiwla Barnett, datganoli Ystad y Goron a'u methiant i ddarparu un geiniog o gyllid canlyniadol HS2 i Gymru. Ond rydym bellach wedi cyrraedd cam lle mae Llafur nid yn unig yn anwybyddu buddiannau Cymru ond yn gweithio'n weithredol yn eu herbyn. Sut arall y gellir esbonio penderfyniad i ryddhau toriadau lles sy'n gwneud i George Osborne hyd oed wingo, gan wybod yn iawn y byddant yn gwthio cannoedd o filoedd o bobl i fyw mewn tlodi, a chan wybod yn iawn y byddant yn effeithio'n waeth ar Gymru. Yr hyn sy'n arbennig o gywilyddus, fel yr adlewyrchwyd yn llythyr yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau at y Prif Weinidog, yw nad ydynt wedi trafferthu esgus bod y goblygiadau i Gymru wedi eu hystyried am eiliad. Yn hytrach, cawn weniaith sarhaus am system fudd-daliadau sydd wedi torri, gan fethu cydnabod mai cyfeiriad moesol Llafur sydd wedi torri mewn gwirionedd. Cyfaddefiad nad oes dadansoddiad penodol i Gymru wedi'i gynnal. Mae ffalster yr hyn a elwir yn bartneriaeth mewn grym yn amlwg i bawb ei weld. Ac i fenthyg geiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid unwaith eto, o gyfnod pan oedd Llywodraeth Cymru yn llawer mwy parod i gondemnio gweithredoedd San Steffan, mae'r rhain 

'yn benderfyniadau bwriadol gan Lywodraeth sy'n gwybod beth mae'n ei wneud, yn gwybod y bydd miloedd yn fwy o blant mewn tlodi yng Nghymru oherwydd eu toriadau...ond nid oes ots ganddyn nhw.'

Ac er bod hwn yn benderfyniad a wnaed yn San Steffan, oherwydd bod gan Gymru gyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU a phump o'r 10 awdurdod lleol yn y DU gyda'r cyfraddau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor, bydd effaith y toriadau digynsail hyn i fudd-daliadau anabledd ar Gymru yn ddinistriol, ac mae angen inni wybod nawr beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Ar ôl gwrthod datgan beth oedd y safbwynt hwnnw mewn ymateb i gwestiynau i'r Prif Weinidog, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac i gwestiwn amserol a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, dywedodd y Prif Weinidog o'r diwedd ei bod yn ymatal rhag rhoi safbwynt pan awgrymodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gefnogi'r diwygiadau lles. Felly, mae angen inni glywed eglurder ar ambell fater y prynhawn yma.

Gan fod y Prif Weinidog bellach wedi gweld yr ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y dywedodd y byddai'n seilio ei hymateb arno, beth yw ei safbwynt hi a safbwynt ei Llywodraeth ar y diwygiadau hyn? A yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r corws uchel ac unedig o gondemniad gan arbenigwyr polisi anghydraddoldeb a thlodi, ymgyrchwyr cyfiawnder cymdeithasol, ymgyrchwyr hawliau pobl anabl, ymchwilwyr polisi cymdeithasol, sefydliadau pobl anabl, ac yn bwysicaf oll, pobl anabl eu hunain fod y rhain yn gibddall ac yn anfoesol, ac sy'n dweud y bydd y rhain yn cael effaith ofnadwy ar y nifer sy'n gofyn am gymorth, gan arwain nid at fwy o gyflogaeth, ond at fwy o dlodi? A pha gamau sy'n cael eu cymryd nawr, felly, gan Lywodraeth Lafur Cymru i fynd i'r afael ag effaith y toriadau hyn na wnaeth Llywodraeth Lafur y DU yn San Steffan drafferthu ymgynghori â chi yn eu cylch hyn yn oed?

Gan nad oes unrhyw asesiad wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru, sut y bydd Gweinidogion yn gweithredu i liniaru effaith y diwygiadau hyn ar y ffordd y mae'n cefnogi pobl anabl a phobl sy'n byw mewn tlodi, ac ar gapasiti a chostau'r gwasanaethau y mae'n eu darparu, y galw am gyngor lles, y grantiau a'r lwfansau datganoledig, megis y gronfa cymorth dewisol, am wasanaethau cymdeithasol ac iechyd, am gymorth iechyd meddwl—y bydd y galw amdanynt i gyd yn anghymesur o uchel yng Nghymru o gymharu â Lloegr? Bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau hyn, felly a fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am gyllid i gyd-fynd â'r cynnydd yn yr angen, sy'n uwch na'r codiad Barnett gan y Canghellor? A fyddwch chi'n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddiwygio lles, fel y gwnaethoch chi yn 2015 i ystyried y camau yr oedd eu hangen ar Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ganlyniadau toriadau San Steffan i les? Gallai hynny ystyried effaith barhaus cadw'r cap dau blentyn, dileu lwfans tanwydd y gaeaf i'r mwyafrif o bensiynwyr, ac effaith yr anghyfiawnder pensiwn a ddioddefir gan fenywod a aned yn y 1950au. Hoffwn gael atebion i'r pwyntiau hynny yn eich ymateb, gan fod y Senedd a'r bobl a gynrychiolir gan bawb ohonom yn haeddu atebion. Mae'r amser ar gyfer sbin ar ben ac mae'r amser ar gyfer diffyg tryloywder ar ben, oherwydd mae effaith yr hyn y mae'r toriadau i fudd-daliadau'r Llywodraeth yn ei olygu i bobl sâl ac anabl hyd yn oed yn waeth nag a feddyliwyd yn wreiddiol, yn ôl y Sefydliad Economeg Newydd. Er eu bod yn dweud bod y niferoedd a gofnodwyd yn eang yn ddigon pryderus, y byddai toriadau gwerth £4.8 biliwn yn arwain at 250,000 o bobl yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi, gan gynnwys 50,000 o blant, maent bellach yn dweud bod y ffordd y cyflwynwyd y ffigurau hyn wedi cuddio'r ffaith y bydd y toriadau'n taro pobl sâl ac anabl bron i £2 biliwn yn fwy na'r ffigurau a gofnodwyd, a gallai olygu bod tua 100,000 o bobl ychwanegol yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi.

Felly, rydym yn gwybod bellach nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw asesiad o effaith y diwygiadau lles ar Gymru, dim data wedi'i ddadgyfuno, felly pa waith sy'n cael ei wneud nawr i gynnal eich asesiad eich hun, a phryd y gallwn ddisgwyl iddo gael ei gyhoeddi? Sut y bydd y cynllun hawliau pobl anabl sydd ar y ffordd a'r strategaeth tlodi plant yn mynd i'r afael â'r heriau newydd difrifol hyn? Rwy'n annog y Llywodraeth i ddangos arweinyddiaeth ar y mater hwn, sydd hyd yma wedi bod yn amlwg drwy ei absenoldeb, fel y tystia'r ffaith bod yn rhaid inni eich gorfodi i drafod y mater hwn, eich gorfodi i ddatgelu sut y gwnaethoch chi ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar hyn, eich gorfodi yn y pen draw i fod yn atebol i'r miloedd o bobl anabl allan yno, a llawer ohonynt eisoes yn wynebu trallod ariannol a meddyliol—[Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau ymyrryd, Hefin, gwnewch hynny; fel arall, a wnewch chi fod yn dawel os gwelwch yn dda?

16:05

Pleidleisiodd y Llywodraeth dros gael y ddadl hon, ac rwy'n credu—

Mae hwn yn fater difrifol, ac rwy'n credu bod ceisio ennill mantais wleidyddol heb fod o ddifrif am y mater yn siomedig iawn.

O'r gorau—[Torri ar draws.]—fe atebaf, fe atebaf. Fe ofynnon ni am y ddadl hon. Fe wnaethom ofyn amdani drwy'r Pwyllgor Busnes. Fe wnaethom ofyn amdani mewn datganiad busnes. Roedd yn rhaid inni gyflwyno cwestiynau amserol. Dim ond datganiad ysgrifenedig a gawsom mewn ymateb i ddatganiad y gwanwyn. Roedd yn rhaid imi gyflwyno dadl frys i gael hyn i ddigwydd. [Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi bleidleisio drosto wedyn am ei fod yn embaras braidd, onid oedd? Dylai'r Llywodraeth fod wedi cyflwyno hyn. [Torri ar draws.] Rwyf wedi eich ateb. Dyna eich ateb. [Torri ar draws.]

Wel, efallai y gallech ddweud wrth eich Llywodraeth beth i'w gyflwyno, felly, Alun Davies. Efallai y dylech ddweud wrth eich rheolwr busnes a'ch Prif Chwip. Efallai y dylech ddweud wrth eich Ysgrifenyddion Cabinet—

16:10

Arhoswch eiliad. Gadewch inni beidio â chael y sgwrs ar draws y Siambr o'r naill ochr na'r llall. Cafwyd ymyriad, fe wnaethoch chi ymateb, ni ddylai fod unrhyw sgyrsiau eraill. Gadewch inni barhau gyda'r cyfraniad.

Fe wnaf. Rwy'n credu y gallwch weld bod llawer ohonom wedi cael negeseuon e-bost gan ein hetholwyr sydd wedi ein gwneud yn bryderus iawn ac yn hynod siomedig ynglŷn â hyn, a dyna beth rwy'n ceisio ei adlewyrchu yn fy nghyfraniad heddiw. Felly, rwy'n mynd i barhau.

Rwy'n annog y Llywodraeth i ddangos arweinyddiaeth ar y mater, sydd hyd yn hyn wedi bod yn amlwg drwy ei absenoldeb, fel y tystia'r ffaith ein bod wedi gorfod eich gorfodi i drafod y mater, eich gorfodi i ddatgelu sut y gwnaethoch chi ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar hyn, eich gorfodi yn y pen draw i fod yn atebol i'r miloedd o bobl anabl allan yno, a llawer ohonynt eisoes yn wynebu heriau ariannol a heriau iechyd meddwl difrifol, sy'n dweud wrthym ni a'r rhai sy'n eu cefnogi eu bod yn ofnus, nad ydynt yn gwybod sut y gallant ymdopi yn gorfforol, yn ariannol ac yn feddyliol, eu bod yn teimlo dan ymosodiad ac wedi'u stigmateiddio, gyda naratifau niweidiol a ffug ynghylch anabledd a hawl i nawdd cymdeithasol yn cael eu hatgyfnerthu gan y cynlluniau hyn. Felly, ymatebwch heddiw i'r ofnau gwirioneddol hyn, y pryderon gwirioneddol hyn, gyda chondemniad cryf a gweithredoedd go iawn.

Diolch i Sioned am wthio am y ddadl hon heddiw. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y caiff beth bynnag sy'n cael ei ddweud yma heddiw fawr ddim effaith ar bolisi Llywodraeth y DU. Nid yw hon yn Llywodraeth y DU sy'n enwog am wrando ar y cliciau Llafur yn Llywodraeth Cymru. Pam y dylent dalu unrhyw sylw i'r hyn a ddywedwn ni yma heddiw?

Mae'r Papur Gwyrdd llwybrau at waith yn achosi pryder gwirioneddol a dwfn ymhlith y rhai sy'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd ar hyd a lled Cymru. Yn ôl Prif Weinidog Cymru, bydd toriadau Llywodraeth y DU i les yn cael mwy o effaith yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol at y pryderon i'n hetholwyr anabl na chaiff sylw yn y ddadl hon heddiw. Mae angen mwy o eglurder arnom, nid mwy o sŵn. Yn sicr, byddai'n well inni alw ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddod i'r Siambr i fynd i'r afael â phryderon ac amlinellu cynlluniau Llywodraeth y DU yn drylwyr. Wedi'r cyfan, nid deddfwriaeth yw hon, ond Papur Gwyrdd, dechrau proses, nid ei diwedd. Dylai'r Senedd a chynrychiolwyr pobl Cymru allu bwydo eu barn i mewn i'r broses, ond mae hwn yn fater a gadwyd yn ôl. Nid oes gennym unrhyw rôl uniongyrchol yn y diwygiadau hyn yn y DU.

Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu y dylai aros felly. Yn wahanol i Blaid Cymru a llawer yn y grŵp Llafur, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi datganoli lles. Pe bai'n cael ei ddatganoli, a fyddech chi'n gwneud unrhyw beth yn wahanol? Hoffwn i Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru amlinellu pa gamau y byddent yn eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y system les ac i adfer tegwch. Nid yw gwneud dim yn opsiwn; mae'r bil ar gyfer budd-daliadau iechyd a budd-daliadau cysylltiedig i bobl o oedran gweithio yn mynd i godi i £71 biliwn y flwyddyn erbyn diwedd y degawd, sy'n llawer mwy nag a wariwn ar amddiffyn ein gwlad. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth, ac rwy'n llongyfarch Llywodraeth y DU am sylweddoli hyn o'r diwedd, ond maent yn anniffuant ac yn rhagrithiol. Mae Rachel Reeves wedi dweud bod llunio system fudd-daliadau i arbed arian yn anghywir. Mae Liz Kendall wedi dweud bod torri cymorth i bobl anabl yn mynd yn groes i werthoedd cymdeithas weddus. Yn ôl Syr Keir Starmer, mae torri budd-daliadau i bobl anabl yn annheg ac yn annerbyniol.

Yr hyn sydd ei angen arnom yw cyfeiriad clir ac yn anad dim, sicrwydd na fydd pobl anabl yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi o ganlyniad i gynigion Llywodraeth y DU. Ond mae'r rhain yn gwestiynau na all neb ond Llywodraeth y DU fynd i'r afael â hwy, felly naill ai mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy parod gyda'u gohebiaeth â Gweinidogion y DU, neu mae angen inni allu cwestiynu Llywodraeth y DU yn uniongyrchol. Diolch yn fawr.

16:15

Rwy'n datgan buddiant yn y ddadl hon am fod fy merch yn cael lwfans byw i'r anabl, ac ymhen saith mlynedd, pan fydd hi'n 16, bydd hi'n symud ymlaen i daliadau annibyniaeth personol. A'r gwir yw ei bod hi'n anabl—mae hynny'n rhywbeth y mae rhiant sydd â phlentyn sy'n anabl yn dod i delerau ag ef dros amser—ac mae'r system fudd-daliadau yno i'w chefnogi. Ond pan na fyddaf i yma mwyach i ofalu amdani bydd hi'n dal i fod yn ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a'r hyn nad wyf am ei wneud yw mynd i sefyllfa lle mae unrhyw beth rwy'n ei ddweud yn dychryn y bobl sydd mewn sefyllfa debyg i mi. Rwy'n gysylltiedig â'r gymuned awtistiaeth yng Nghaerffili a rhieni plant anabl, ac rwy'n eu sicrhau, pan fydd plentyn yn anabl neu ag anabledd sy'n gwaethygu, na fydd y toriadau i fudd-daliadau yn cael unrhyw effaith arnynt ac y bydd eu plant yn parhau i gael eu cefnogi.

Y peth arall yr hoffwn ei ddweud am fy merch a phlant tebyg iddi yw fy mod eisiau iddi allu gweithio rhyw ddydd. Ar hyn o bryd, nid wyf yn gwybod a fydd hi'n gallu. Mae hi'n cael trafferth darllen ac mae hi'n cael trafferth ysgrifennu, ond mae hi'n greadigol iawn ac rwy'n gobeithio y bydd y system yn dod o hyd i swydd iddi ryw ddydd. A dyna rôl y system fudd-daliadau. Ar hyn o bryd, nid yw'n cyflawni hynny; mae'n caethiwo pobl ag awtistiaeth, anableddau dysgu ac anableddau eraill allan o waith ac mewn tlodi. Mae diwygio'r system yn galw am gefnogaeth i unigolion, a dywedodd y Prif Weinidog ar Wales Online, a chafodd ei adrodd gan y BBC, ei bod hi'n pryderu am yr unigolion a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn, ac mae hynny'n hollol iawn. Ond rydym wedi gweld lle gall weithio.

Ychydig wythnosau yn ôl, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, cyfeiriais at Engage to Change, sefydliad a oedd yn cael ei redeg drwy Brifysgol Caerdydd, a gyflwynai hyfforddiant swyddi a theilwra swyddi ar gyfer 1,300 o bobl ifanc awtistig a/neu bobl ifanc ag anableddau dysgu. Ac o'r rheini, daeth 41 y cant ohonynt o hyd i waith. Ar draws y DU, nifer cyfartalog y bobl sy'n dod o hyd i waith yn yr un sefyllfaoedd yw 4 y cant, a'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym yw bod ein system fudd-daliadau yn gweithio i'r cyfeiriad anghywir ac nad oes digon ohono'n mynd tuag at gefnogi pobl i weithio trwy bethau fel hyfforddiant swyddi. Gall hynny ddigwydd a dyna wers a gwaddol Engage to Change. Ac rwy'n gwybod pan fydd fy merch a phobl fel hi yn cyrraedd yr oedran pan fyddant yn chwilio am waith, fod yna—

Dwy eiliad.

Mae cyfle i'r system fudd-daliadau eu cefnogi i mewn i hynny. Ie, Mark Isherwood, y gwn ei fod yn ymgyrchydd hirsefydlog ar awtistiaeth a chymorth dysgu.

Diolch. Gan eich bod yn gyd-aelod o'r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, sydd hefyd yn mynychu'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd o bryd i'w gilydd, a wnewch chi gadarnhau fy natganiad ein bod wedi cymryd tystiolaeth yn y ddau grŵp trawsbleidiol hynny ar anabledd a chyflogaeth, ac mae pobl anabl ac awtistig yn dweud wrthym eu bod eisiau gweithio, y broblem yw'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu i gyflogaeth a hygyrchedd budd-daliadau?

Mae hynny'n bendant yn wir a chlywais bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn dweud hynny, ac rydym wedi gweld hynny drwy Engage to Change. Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich datganiad 90 eiliad, a wnaeth hynny'n glir, ym mis Ymwybyddiaeth Awtistiaeth hefyd.

Mae gennyf bryderon hefyd yr wyf am eu codi am bobl sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl. Ni allwn stigmateiddio pobl â chyflyrau iechyd meddwl ac rwy'n pryderu am rywfaint o'r iaith yn y Papur Gwyrdd am unigolion â chyflyrau iechyd meddwl. Lle mae gan rywun gyflwr iechyd meddwl, gallai fod achos sylfaenol na wnaed diagnosis ohono. Felly, gallai pobl yn eu 30au, 40au, 50au a 60au fod heb gael diagnosis o awtistiaeth ac felly'n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl o ganlyniad i hynny. Nawr, os yw'r lefel y mae'n rhaid iddynt ei chyrraedd er mwyn bod yn gymwys ar gyfer taliadau annibyniaeth personol yn cael ei chodi, ond bod ganddynt gyflwr isorweddol, hoffwn i Lywodraeth y DU ystyried na ellir cael gwared ar y taliadau annibyniaeth personol hynny, ac na ddylid dileu unrhyw gymorth, hyd nes eu bod wedi mynd drwy'r broses ddiagnostig, ni waeth pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd. Bydd hynny'n rhan o'r hyn y byddaf yn ei fwydo'n ôl yn fy ymateb i'r Papur Gwyrdd.

Bydd Chris Evans, AS Caerffili, a minnau'n cyhoeddi ymateb ar y cyd i'r Papur Gwyrdd. Rwyf wedi darllen drwyddo. Rydym yn hapus i gymryd gair Liz Kendall pan ddywedodd yn y llythyr at y Prif Weinidog mai'r Papur Gwyrdd yw dechrau'r sgwrs ac nid ei phen draw. Rwy'n barod i gymryd hynny fel cyfle i argymell y newidiadau hyn i bapur y Llywodraeth, o fy mhrofiad bywyd, ond hefyd o wrando ar yr etholwyr sydd wedi cysylltu â mi a rhanddeiliaid eraill yn fy etholaeth a thu hwnt sydd â'r profiadau hyn ac yn gwybod beth ddylai newid, i'w helpu ac i liniaru canlyniadau'r hyn sydd wedi'i gyhoeddi.

16:20

Rwy'n cydnabod yr hyn rydych chi'n ei ddweud, ond y peth y mae angen inni ei wneud yn glir hefyd, fodd bynnag, yw bod yna 12 mesur, newidiadau, nad ymgynghorir arnynt—nid ydynt yn y Papur Gwyrdd—megis y gofyniad i sgorio o leiaf bedwar pwynt i gael elfen bywyd beunyddiol y taliadau annibyniaeth personol; nad yw 87 o gyflyrau, sy'n cynnwys pethau fel ffibromyalgia ac osteoarthritis, a all effeithio'n fawr arnoch, yn mynd i gael eu cynnwys mwyach. Felly, nid ydynt yn mynd i gael eu trafod.

Iawn. Felly, maent i'w trafod yn y Papur Gwyrdd, yn yr ystyr bod y pwynt pedwar pwynt yn cael ei grybwyll am mai dyna lle y'i darllenais, yn y Papur Gwyrdd. Ond hefyd mae un o gwestiynau'r ymgynghoriad yn gofyn i ni beth yr hoffem ei weld yn lle taliadau annibyniaeth personol, pa fath o gymorth a ddylai fod yno lle nad yw'r pedwar pwynt hynny wedi'u cyrraedd. Felly, mae cyfle i wneud sylwadau yno. 

Rwy'n mynd i orffen fy araith nawr am fod fy amser ar ben, ond hoffwn ddweud mai'r peth cyfrifol yw ein bod ni, gyda'n gilydd fel Senedd, yn gwneud ein sylwadau, fod Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau yn ôl, a'n bod yn gweithio gyda'n Haelodau Seneddol yn ein cymunedau i wneud yn siŵr fod lleisiau'r bobl sy'n pryderu yn cael eu clywed gan Lywodraeth San Steffan.

Mae'r pythefnos diwethaf wedi bod yn ddadlennol mewn sawl ystyr: Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cyhoeddi diwygiadau i'r system les fydd yn cosbi'r mwyaf bregus, Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn fud, mewn difrif, yn wyneb storm o feirniadaeth a'r partneriaid mewn grym honedig yma yn profi eu hunain i fod mor ofnadwy o aneffeithiol, a hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith does dim asesiad wedi cael ei wneud o effaith y toriadau lles ar Gymru. Mae'n rhyfeddol.

Gadewch imi fynd â'r Aelodau yn ôl drwy'r llinell amser o ddigwyddiadau i ddeall yn well safbwynt ac agwedd Llywodraeth Cymru at ddiwygiadau'r Canghellor. Ar 11 Mawrth, ysgrifennodd y Prif Weinidog at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, llythyr na leisiodd unrhyw bryder am effeithiau'r diwygiadau ar bobl Cymru—dim unrhyw bryder. Yn dilyn hynny, ar 18 Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf ei bod wedi codi pryderon gyda Rhif 10—fe siaradodd â swyddog nas enwyd hyd yma—ond nid oes cofnod o'r sgwrs. Pa bryderon penodol a godwyd ganddi ar ran Llywodraeth Cymru bryd hynny? Mae angen ateb i'r cwestiwn go bwysig hwnnw.

Dywedodd ei bod:

'yn falch iawn o weld bod llawer o'r pryderon hynny wedi'u hystyried ac y bydd y rhai mwyaf agored i niwed yn parhau i gael eu diogelu',

ond wyth diwrnod yn ddiweddarach aeth y Canghellor ymhellach ac yn ddyfnach gyda'i thoriadau lles nag yr oeddem wedi'i ddisgwyl cyn hynny. Felly, beth yn union y gwnaeth y Prif Weinidog ddylanwadu arno?

Ddoe, dywedodd ffynhonnell sy'n agos at y Prif Weinidog ei bod yn anfodlon ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, am ddweud ei bod wedi cefnogi'r toriadau. Pam na ddywedodd y Prif Weinidog hynny'n glir ei hun, yn hytrach na gwneud sylwadau amwys am eraill yn siarad ar ei rhan? Os nad oedd hi'n mynd i ddangos ei hanfodlonrwydd—er ein bod yn dal i aros am ei chondemniad, wrth gwrs, yn hytrach na'i hanfodlonrwydd—beth am ddweud yn ddiamwys pa elfennau o ddiwygiadau Llywodraeth y DU y mae hi'n anghytuno â hwy ac egluro sut y bydd pen Cymru o'r hyn a elwir yn bartneriaeth mewn grym yn ceisio dylanwadu ar ben San Steffan i newid trywydd?

Ddoe, ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i gyhoeddi llythyr a ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Am 3 o'r gloch y prynhawn yma, pan wneuthum edrych ddiwethaf, nid yw hynny wedi digwydd, hyd y gwn i—dim byd ar wefan Llywodraeth Cymru o gwbl. Sut y mae disgwyl i ni graffu? Yna mae gennym lythyr Liz Kendall—ymateb i nodyn brysiog y Prif Weinidog—sy'n cyfeirio wrth fynd heibio at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr effeithiau ar Gymru. Nid yw'n ddim llai na dirmygus.

Beth yw dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ba bryd y bydd asesiad effaith penodol i Gymru ar gael? Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynnal eu hasesiad eu hunain gyda'r wybodaeth sydd ar gael iddynt? Rwy'n ychwanegu yma, ochr yn ochr ag anwybodaeth lwyr o effaith y toriadau lles yng Nghymru, ein bod wedi gweld cadarnhad heddiw mai dim ond swm canlyniadol Barnett i Gymru a ddaw gyda'r newidiadau i yswiriant gwladol, sy'n cynnig ad-daliad llawn i'r sector cyhoeddus yn Lloegr, gan adael Cymru tua £66 miliwn yn fyr—arwydd arall nad yw Llywodraeth Lafur y DU yn poeni dim am Gymru. Ddirprwy Lywydd, o dan Lafur rydym wedi cael ein tywys yn ôl i gyfnod sy'n atgoffa o reolaeth y Ceidwadwyr yn San Steffan, yn rhyddhau cyni—oherwydd dyna beth yw hyn—methu ymgynghori â Llywodraeth Cymru, a dangos agwedd ddiofal at effaith penderfyniadau ar bobl Cymru. Y bore yma dywedodd Prif Weinidog Cymru, 'Penderfyniad gan Lywodraeth y DU yw hwn, nid fy mhenderfyniad i. Llywodraeth y DU a ddylai amddiffyn y safbwynt hwn.' Nid yw'n ddigon da.

Ar 3 Gorffennaf y llynedd, yng Nghaerfyrddin—roeddwn yno ar yr un diwrnod—dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn falch o sefyll ochr yn ochr â Keir Starmer. Ni all ymbellhau oddi wrtho nawr ar y mater hwn. Ac ni all anghofio ychwaith mai hi yw arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, gan gynnwys ei Haelodau Seneddol. Felly, yn ei habsenoldeb yma y prynhawn yma, rwy'n gofyn iddi: a fydd hi'n cyfarwyddo'r ASau hynny i bleidleisio yn erbyn y toriadau hyn? Os na, byddwn yn gwybod ar ba ochr y mae hi.

16:25

Cyn inni symud ymlaen, a gaf i atgoffa'r Aelodau mai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n ymateb i'r ddadl heddiw? Alun Davies.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar fod y ddadl hon yn digwydd heddiw. Rwy'n credu ei bod yn ddadl bwysig, ac rwy'n credu y dylem fod o ddifrif ynghylch yr effeithiau a allai gael eu teimlo gan rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Rwy'n gresynu weithiau y gall cywair rhai o'r areithiau anghofio'r bobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniadau hyn, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfraniad gan Hefin David, a ddaeth â ffocws y dadleuon hyn ar y bobl yr effeithir arnynt, yn hytrach na sgorio pwyntiau gwleidyddol.

A wnewch chi dderbyn ymyriad byr iawn? Rwy'n falch ei fod yn croesawu'r cyfle i gael y ddadl hon. Onid yw'n meddwl y dylai'r Llywodraeth fod wedi rhoi amser i drafod rhywbeth sydd mor bwysig i'r etholwyr a gynrychiolir gennym?

Mae'r Llywodraeth wedi sicrhau bod y ddadl hon yn digwydd, cyn belled ag y gallaf weld, ac yn sicr ni fu erioed unrhyw sgwrs y bûm yn rhan ohoni nad oedd y Llywodraeth yn mynd i fod yn gwneud hynny. Felly, rwy'n credu y gallwch golli'r ffocws ar y bobl yma.

Ond rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig oherwydd yr effaith ar bobl, a rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, yn yr etholaethau y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli, ond hefyd oherwydd bod hyn yn siarad am, ac yn mynd i galon pwy ydym ni fel gwleidyddion a beth yw pwrpas llywodraeth. Ac mae'n ymwneud â'n blaenoriaethau, ac mae'n ymwneud ag o ble y down ni a beth rydym eisiau ei gyflawni.

Byddai'n well gennyf pe bai Llywodraeth y DU wedi gwneud datganiad clir mai ei diben yw dileu tlodi, ei bod yn ceisio—yn mynd ati'n weithredol i geisio—lleihau anghydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. A fy ofn ar hyn o bryd yw bod Llywodraeth bresennol y DU mewn perygl o ailadrodd yr un camgymeriadau â'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010, drwy dderbyn dadansoddiad economaidd Ceidwadol a dod yn gefnogwyr gorfrwdfrydig cyni Torïaidd, gyda'r niwed sydd wedi'i wneud i bobl, a'r bobl fwyaf agored i niwed a'r cymunedau mwyaf agored i niwed yr ydym i gyd wedi'u gweld ers hynny.

Mae'n well gennyf i ffordd wahanol, ac mae hon yn ffordd Lafur, oherwydd rwy'n cofio Llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown, ac rwy'n cofio Rhodri Morgan yma yn y Siambr hon, ac rwy'n cofio Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl iddi gael ei sefydlu—ar ôl i hunanlywodraeth ddemocrataidd gael ei sefydlu yn y wlad hon, ei blaenoriaeth gyntaf oedd lleihau anghydraddoldeb. Ac fe weithiodd gyda Tony Blair a Gordon Brown i leihau tlodi plant, a gwelsom fod tlodi plant wedi lleihau yn fy etholaeth i o ganlyniad i hynny, oherwydd bod y Llywodraeth wedi gwneud penderfyniadau gwahanol a gwneud dileu tlodi ac anghydraddoldeb yn rhan o'r hyn ydyw, ei phwrpas, ei hamcanion, ac oherwydd eich bod wedi gwneud hynny, rydych chi wedyn yn gwneud penderfyniadau gwahanol. A hoffwn i ni weld y penderfyniadau gwahanol hynny.

Mae angen inni ddeall yr effeithiau y bydd hyn yn eu cael mewn gwahanol gymunedau ac ar wahanol bobl. Rwy'n gresynu'n fawr na wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi na chynnal asesiadau o'r effaith y byddai hyn yn ei chael yng Nghymru. Oherwydd bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar waith Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cael effaith ar rai o gymunedau tlotaf ein gwlad, a fy etholaeth ym Mlaenau Gwent a Rhymni fydd y prawf. Os nad yw'r etholaeth hon yn gallu cael y cymorth a'r gefnogaeth, ac os nad yw pobl yn yr etholaeth hon yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt o ganlyniad i'r penderfyniadau hyn, byddant yn benderfyniadau anghywir. Ac mae'n iawn ac yn briodol fod dwy Lywodraeth sy'n gweithio gyda'i gilydd yn parchu ei gilydd, ac mae parch yn golygu mwy na phenderfyniadau ac areithiau: mae'n golygu gweithredoedd. Mae'n sicr yn golygu gwrthdroi'r penderfyniad y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ato yn gynharach y prynhawn yma mewn cwestiynau, ond mae hefyd yn golygu bod sgyrsiau'n digwydd cyn i'r Papurau Gwyrdd gael eu cyhoeddi, fod Cymru'n cael ei diogelu a bod y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag canlyniadau niweidiol rhai o'r penderfyniadau hyn. 

Felly, wrth drafod y materion hyn heddiw y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y gall y Senedd hon siarad fel un i ddweud y byddwn yn blaenoriaethu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein gwlad ac yn ein cymunedau, ac y byddwn yn edrych am ffordd wahanol. Byddwn yn chwilio am ffordd sy'n parchu'r bobl fwyaf agored i niwed. Ni fyddwn yn derbyn dadleuon y Torïaid ar yr economi. Rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr wedi chwalu'r economi ac wedi dileu twf i bob pwrpas. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw dileu tlodi, a'r hyn rwyf i eisiau ei wneud yw gweithio gyda Llywodraeth y DU sy'n ymrwymedig i ddileu tlodi a dileu anghydraddoldeb, oherwydd mae Llywodraethau Llafur wedi gwneud hynny o'r blaen ac mae'n bryd i Lywodraeth Lafur wneud hynny eto.

16:30

I mi, mae'r ddadl hon yn ymwneud ag urddas—urddas i bobl sy'n anabl. Os ydych chi'n anabl, mae'n costio mwy o arian i fyw, mwy i wresogi eich cartref, mwy i deithio, mwy i ddod o hyd i arian ar gyfer bwyd. Ac eto rydym wedi clywed—ac efallai fod yna gytundeb trawsbleidiol—fod y Llywodraeth Lafur yn bwriadu torri'r arian y maent yn dibynnu arno mewn gwirionedd. Pa un a ydynt yn gweithio ai peidio, mae angen mwy o arian ar bobl anabl i allu goroesi. Mae torri eu budd-daliadau yn economi hollol ffug. Bydd eu hanghenion meddygol yn cynyddu, bydd mwy o bobl yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi yn hytrach na chael eu gwthio i mewn i swyddi, a bydd digartrefedd yn cynyddu hefyd. Mae Polly Neate, prif weithredwr Shelter, wedi dweud bod y newid i fudd-daliadau yn mynd i wthio mwy o aelwydydd i ddigartrefedd, a bydd toriadau i fudd-daliadau'n cynyddu digartrefedd ymhlith pobl anabl.

Tra bo gofyn i bobl anabl aberthu, mae'r cyfoethocaf yn ein gwlad yn parhau i weld eu cyfoeth yn tyfu. Y llynedd, gwelodd biliwnyddion y DU eu cyfoeth cyfunol yn cynyddu £35 miliwn y dydd. Cafodd pedwar biliwnydd newydd eu creu y llynedd yn y DU, gan godi'r cyfanswm presennol i 57. Mae mwy na digon o arian yma yn y DU i wneud yn siŵr nad oes rhaid inni dorri'r budd-daliadau hyn. Cafodd Llafur gyfle i drethu'r cyfoethocaf, ond fe wnaethant ddewis peidio â gwneud hynny. Rwyf wedi sôn yn y Siambr o'r blaen am sefydliad Patriotic Millionaires UK. Dyma eu hymateb i gyhoeddiad cyllideb y gwanwyn 2025: 

'Fel miliwnyddion gwladgarol rydym i gyd wedi elwa'n fawr o fyw yn y wlad hon ac yn deall bod economi gref yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus wedi'u hariannu'n dda... Yn hytrach na gofyn i'r rhai sydd wedi elwa fwyaf o'n heconomi... mae'r Llywodraeth yn dewis torri lles ymhellach—er gwaethaf dros ddegawd o gyni sydd eisoes wedi treulio'r rhwyd ddiogelwch gymdeithasol i bobl anabl. Mae hwn yn benderfyniad nad oes rhaid iddynt ei wneud.'

Felly, mae yna ddewis—mae yna ddewis clir. Nid oes rhaid inni wneud pobl anabl yn dlotach. Nid oes rhaid inni achosi straen iddynt. Nid oes rhaid inni greu'r sefyllfa lle mae'r Llywodraeth Lafur yn pigo unwaith eto ar y bobl fach. Mae arnaf ofn fod yna restr hir nawr o rai yr effeithir arnynt gan ddewisiadau'r Llywodraeth Lafur hon: menywod WASPI, fel y clywsoch, nad ydynt yn cael yr iawndal y maent yn ei haeddu; peidio â dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau; trethu ein ffermwyr; cynyddu yswiriant gwladol i'n busnesau bach; torri cymorth rhyngwladol i'r tlotaf yn y byd; rhoi fideos ar-lein sy'n dangos ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu hallgludo, gan eu diawleiddio hyd yn oed ymhellach. Mae'n sefyllfa gywilyddus, ac mae angen i ni yng Nghymru wneud yn well.

Rwy'n falch o glywed gan Alun a hefyd gan Altaf y gallai fod cefnogaeth drawsbleidiol i ddangos nad ydym am weld hyn yma yng Nghymru. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn sefyll dros bobl Cymru. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r sefyllfa lle rydym eisiau i fwy o bobl gael gwaith—wrth gwrs ein bod—ond lle nad yw hynny'n bosibl, neu lle mae'n rhaid rhoi cymhorthdal tuag at hynny, ac yn sicr mae'n rhaid i'n pobl anabl fod yn flaenoriaeth i ni.

Felly, rwy'n mynd i orffen, ac rwy'n mynd i ofyn dau gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet yma. Y cyntaf yw: a wnewch chi gytuno i gyfarfod â Patriotic Millionaires, y mae rhai ohonynt yma yng Nghymru, a chlywed eu barn ynglŷn â sut y gallwn greu cymdeithas lawer tecach? Ac rwy'n gobeithio clywed am hynny yn eich ymateb. Ac yna mae angen inni glywed, fel y clywsom gan rai o'r meinciau cefn Llafur yma, eich bod chi'n pryderu am y toriadau i fudd-daliadau, eich bod am gynrychioli Cymru, ac eisiau gwneud yn siŵr fod yna asesiad effaith. Oherwydd rydym ni yma fel llais i'r di-lais. Rydym yma i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynrychioli ein pobl fwyaf agored i niwed. Efallai na fyddant yn pleidleisio drosom, efallai na fyddant yn ein cefnogi mewn unrhyw ffordd mewn unrhyw etholiadau, ond nid dyna pam rydym ni yma; rydym yma i wneud yn siŵr ein bod yn cynrychioli'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch yn fawr iawn.

16:35

Tra bo'r ddadl hon yn mynd rhagddi, rydym wedi cael copi o'r llythyr a anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet at Lywodraeth y DU. Nid wyf yn siŵr a oedd yna lythyr arall, oherwydd yr hyn a ddywedwyd wrthym oedd bod yna lythyr cynhwysfawr, gyda phryderon Llywodraeth Cymru wedi'u hamlinellu. Hoffwn eglurhad ar hynny, efallai, yn yr ymateb heddiw.

Mae'r ddadl heddiw'n un bwysig. Mae'n un y mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn ei chylch, ac mae un o fy etholwyr yma heddiw, yn gwylio'r ddadl, a byddai wrth ei bodd yn gallu siarad drosti'i hun. Mae hi wedi rhannu rhai geiriau gyda mi yr hoffwn eu rhannu â phawb: 'Mae anabledd wedi costio £14,000 i mi, ddim ond i allu gadael y tŷ.' Dyna gost ei chadair olwyn. 'Nid yw hynny'n cynnwys y car sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, gyda chostau'n dechrau o £30,000. O dan y rheolau newydd arfaethedig, gan fy mod yn gallu cerdded ychydig gamau a golchi fy ngwallt fy hun weithiau, rwyf mewn perygl o golli taliadau annibyniaeth personol a'r lwfans cyflogaeth a chymorth gallu cyfyngedig i weithio. Sut y maent yn disgwyl inni gyfrannu at gymdeithas pan fo mynediad at y byd y tu allan mor ddrud, a'u bod hefyd yn bwriadu torri ein hincwm? Ac wrth gwrs, costau ychwanegol pethau i fy helpu i fwyta, coginio bwyd, y feddyginiaeth sy'n helpu fy symptomau na allaf ei chael ar y GIG, yn fy swydd £28,000 y flwyddyn, ni allwn fforddio'r pethau hynny. Mae disgwyl i bobl nad ydynt yn ennill hynny oroesi yn hurt. Gallwch ddiwygio'r system fudd-daliadau heb dorri arian. Ac mae rhoi cyfle i bobl weithio drwy dreialu a pheidio â cholli eu budd-daliadau yn wych, ond ni fydd torri'r arian a gawn yn helpu hynny; mae'n fater ar wahân.' Hefyd, mae AJ yn dweud yn eithaf clir, 'Nid wyf eisiau dim byd mwy na gweithio, ond mae fy anabledd yn golygu na allaf mwyach. Ni roddais y gorau i fy ngyrfa ar chwarae bach; rhoddais y gorau iddi oherwydd ei bod yn llythrennol yn fy lladd i ddal i fynd.'

Felly, rydym yn siarad am gael pobl yn ôl i waith, ond dyma realiti beth sy'n digwydd, ac ni ddylai fod straen ar etholwyr fel AJ. Ac mae'r sgwrs yn digwydd, siarad am bobl, yn hytrach na chyda phobl, a gwrando ar brofiadau bywyd. A dyna pam y cefais fy siomi cymaint gan ymateb Llywodraeth Cymru hyd yma. Ac mae'n drueni nad yw'r Prif Weinidog yma, oherwydd wrth wylio'r sesiwn graffu honno ddydd Gwener—'ymatal rhag rhoi barn'. Ymatal rhag rhoi barn. Onid hi yw'r Prif Weinidog a ddywedodd ei bod yn gwrando ar bobl Cymru? Wel, nid yw hi wedi bod yn gwrando nac yn darllen am yr effaith ar yr holl sefydliadau sydd wedi nodi pam ein bod ni yng Nghymru yn arbennig o agored i niwed.

Nawr, rwyf wedi bod yn edrych yn ôl ar y Cofnod, pan oedd gennym y blynyddoedd cyni, ac roedd yr ymatebion gan Lywodraeth Cymru bryd hynny yn eithaf clir nad oeddent am weld y rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu heffeithio. Roeddent yn ddatganiadau clir iawn; pam eu bod mor dawel nawr? Ac mae'n drueni ein bod wedi gorfod cael dadl frys. Hoffwn wybod i ble'r awn oddi yma. Sut y gallwn weld y safbwynt clir hwnnw gan Lywodraeth Cymru nawr?

Mae yna rai pethau ymarferol yr hoffem wybod hefyd. Felly, yn flaenorol, mewn ymateb i Ddeddf Diwygio Lles 2012, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol a chomisiynodd ymchwil i ddeall yr effaith ar incwm aelwydydd yng Nghymru, effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach diwygio lles, a'r effaith bosibl ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. A oes unrhyw gynlluniau i wneud hynny y tro hwn? Oherwydd, yn amlwg, fe wyddom am yr ystod enfawr o wahanol bethau y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod eu rhoi ar waith er mwyn gwrthsefyll cyni. A ydym ni mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid ichi ymestyn y gefnogaeth honno er mwyn lliniaru'r effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes yn fregus?

O ran awdurdodau lleol, fe wyddom eisoes eu bod wedi bod yn bryderus iawn am yr effaith ar rai o'r gwasanaethau y maent yn eu comisiynu neu eu gwaith gydag asiantaethau fel Cyngor ar Bopeth oherwydd y newidiadau i yswiriant gwladol. Gwyddom fod Cyngor ar Bopeth ledled Cymru wedi gorfod diswyddo gweithwyr oherwydd y newidiadau arfaethedig—oherwydd y newidiadau a'r pwysau ar gyllidebau. Wel, rydym yn mynd i fod angen y bobl hyn nawr yn fwy nag erioed, onid ydym? Rydym wedi siarad am fanteisio i'r eithaf ar y budd-daliadau y mae pobl yn eu hawlio a sicrhau bod pobl yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Sut y gwnawn hynny heb yr arbenigedd a'r gwasanaethau os cânt eu lleihau? Felly, a gaf i ofyn, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith ar awdurdodau lleol ac asiantaethau cymorth eraill, a pha sicrwydd y gallwch ei roi y byddwch chi'n cefnogi awdurdodau lleol ac asiantaethau cymorth eraill?

Dyma'r cwestiynau y mae angen eglurder yn eu cylch, a hoffwn gael hynny heddiw.

16:40

Rwyf am ddechrau trwy ateb Altaf Hussain: beth fyddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn wahanol pe bai gennym reolaeth dros weinyddu budd-daliadau? Wel, rwy'n credu mai un o'r pethau y byddem yn ei wneud yn wahanol yw'r hyn yr oedd Hefin yn siarad amdano. Mae Engage to Change yn fenter bwysig iawn i alluogi pobl ag anableddau—ac yn enwedig anableddau dysgu—i allu gweithio. Ac rydym eisiau i bawb sy'n gallu gweithio gael yr urddas honno.

Yn ail, mae gennym y warant i bobl ifanc. Rydym—

A wnewch chi dderbyn ymyriad byr iawn? Diolch.

Fe wnaethoch chi sôn am Engage to Change; yn ôl yr hyn a ddeallwn, mae'r cyllid wedi dod i ben i Engage to Change, ac nid yw'n mynd i barhau. [Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gennyf? [Anghlywadwy.]

Tybed a allech chi egluro: a fydd cyllid yn parhau, neu efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro hynny? Yn ôl yr hyn a ddeallwn, mae pryderon na fydd yn parhau. Mae wedi bod yn brosiect gwych, fel y clywsom. Diolch.

Y person anghywir i ofyn iddi, mae arnaf ofn. Nid wyf yn y Llywodraeth.

Mae'r warant i bobl ifanc yn cefnogi pobl rhwng 16 a 24 oed i osgoi peidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, mae Llywodraeth y DU yn rhoi llawer o bwyslais ar y ffaith bod un o bob wyth o bobl ifanc yr oedran hwnnw heb fod mewn gwaith, na hyfforddiant, nac addysg; mae hynny'n syfrdanol. Wel, rwyf am gael golwg fanwl iawn ar y fenter sydd gan Lywodraeth Cymru, i ddysgu ohoni, oherwydd mae'r Prif Weinidog, ar fwy nag un achlysur, wedi dweud mai hanner y gyfradd honno sydd gennym yng Nghymru, ac os yw hynny'n wir mewn gwirionedd, mae angen inni gael Llywodraeth y DU i ddysgu oddi wrthym.

Y bore yma, ymwelais ag elusen sy'n rheoli tai â chymorth i bobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd. Mae ganddynt hanes gwych o weithio gyda phobl sydd wedi dioddef profiadau andwyol yn ystod plentyndod, dibyniaethau, trais ar sail rhywedd, yn ogystal â'r trawma o fod yn ddigartref. Fel arfer, maent yn disgwyl i'w tenantiaid fyw yno am chwe mis cyn symud i'w tenantiaeth eu hunain yn y sector rhentu preifat, ond mae'r galw am dai fforddiadwy yn ei gwneud bron yn amhosibl dod yn denant tai cymdeithasol gyda thenantiaeth fforddiadwy a diogel. A hyd yn oed yn y sector rhentu preifat yng Nghaerdydd, mae cyn lleied o dai fforddiadwy, fel bod y bobl hynny fel arfer yn aros yn y tai â chymorth am ddwy i dair blynedd. Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid y sector rhentu preifat yn gwrthod cymryd tenantiaid sy'n cael budd-daliadau, ac yn mynnu bod perchennog cartref yn y DU yn warantwr ar gyfer unrhyw denantiaeth. Felly, fe allwch weld, o'r grŵp penodol hwn o bobl agored i niwed, a phob un ohonynt, rwy'n dychmygu, ar fudd-daliadau, pa mor anodd yw eu bywydau, a chymaint yn fwy anodd y maent yn debygol o fod o ganlyniad i'r toriadau hyn i fudd-daliadau.

Bydd yna gynnydd o £3 yr wythnos i gredyd cynhwysol, bydd, ac mae hynny i'w groesawu, ond caiff ei fwrw i'r cysgod gan y £5 biliwn y mae Llywodraeth y DU eisiau ei dorri oddi ar y budd-daliadau hyn. Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd yr angen i gael llawer mwy o dai y gall pobl eu fforddio fel bod pawb yn cael llety priodol. Nid wyf yn gweld hynny'n dod gan Lywodraeth y DU.

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd Rachel Reeves â safle adeiladu yn Radur i weld beth y mae Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai. Rwy'n falch o glywed bod 30 y cant o'r cartrefi ym Mhlasdŵr yn dai cymdeithasol, a dyna sut y dylai fod lle bynnag y mae tai'n cael eu hadeiladu. Ond o'r 1.5 miliwn o dai y mae Llywodraeth y DU yn eu haddo i Loegr, rwy'n clywed mai dim ond 1.2 y cant ohonynt sy'n dai cymdeithasol.

Mae Llywodraeth y DU eto i ddod i ben ag atal yr hawl i brynu ymhlith tenantiaid cyngor. Mae'n hollol hurt. Nid oes unrhyw bwrpas adeiladu tai ar un pen os nad ydych chi'n delio â hapfasnachu tai cyhoeddus ar y llall. Mewn ffordd, mae'n boenus i mi ein bod yn cael y ddadl hon yng nghanol yr hyn sy'n argyfwng dirfodol.

Mae Donald Trump yn galw'r diwrnod hwn yn 'ddiwrnod rhyddid'. Wel, rwy'n siŵr fod pawb yn yr Ariannin yn chwerthin ynghylch hynny oherwydd efallai na fydd llawer ohonoch yn sylweddoli mai heddiw yw pen-blwydd goresgyniad ynysoedd y Falkland. Nid yw'r Unol Daleithiau yn ffrindiau i ni mwyach. Ni wnaethant gefnogi'r DU yn y Falklands, ac ni fyddant yn cymryd unrhyw sylw ohonom o dan Trump os yw mewn unrhyw fodd yn mynd yn ffordd eu cyrch ar adnoddau gwerthfawr yn Wcráin, yr Ynys Las, Gaza, neu unrhyw le arall.

Nid wyf yn dadlau yn erbyn cynyddu gwariant amddiffyn oherwydd y ffordd y mae cymaint o'r byd yn cael ei ddominyddu gan bobl nad oes unrhyw barch ganddynt at reolaeth y gyfraith, ond mae'n rhaid inni ofyn ar beth y bydd y gwariant hwn—llongau tanfor niwclear na fydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau byth yn rhoi caniatâd i ni eu defnyddio, ac na fyddem eisiau eu defnyddio beth bynnag am nad oes neb yn ennill o wneud hynny. Ond mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r toriadau hyn i fudd-daliadau yng nghyd-destun y dirwasgiad—

16:45

—sy'n debygol iawn o ddigwydd gyda'r tariff o 20 y cant ar nwyddau sy'n mynd i mewn i'r Unol Daleithiau. Mae'r aflonyddwch yn enfawr, ac mae'n ofid gennyf ddweud nad wyf yn siŵr fod gan Lywodraeth y DU afael ar hyn. 

Mae'r Canghellor yn San Steffan, gyda'i chyd-aelodau Cabinet, gyda'i gilydd wedi dadlennu cynllun mor greulon o ran ei gysyniad fel ei fod yn bradychu popeth a gynrychiolai Llafur ar un adeg. Biliynau o bunnoedd heb eu cymryd o goffrau'r breintiedig, heb eu tynnu o gladdgelloedd gormodedd, ond wedi'u rhwygo o bocedi brau y rhai sydd eisoes yn brwydro i oroesi.

Rydym yn sefyll ar groesffordd go ddigalon, onid ydym? Fel y clywsom, ar hyd un llwybr mae parhad yr uniongrededd creulon sy'n mesur llwyddiant cenedl trwy rifyddeg oer taenlenni yn hytrach na chynhesrwydd ei thosturi. Ar hyd y llall, ailymrwymiad i'r egwyddorion a wnaeth Llafur unwaith yn blaid Bevan a Griffiths, penseiri Cymreig gwladwriaeth les a aned o'r argyhoeddiad nad moethusrwydd i'r ychydig ffodus yn unig yw urddas.

Lawn cymaint â ffolineb economaidd y toriadau hyn y mae eu diffyg moesoldeb. Mae pob £1 sy'n cael ei dynnu o les yn £1 wedi'i thynnu o'n heconomïau lleol; mae'n £1 a fyddai wedi cael ei gwario yn ein siopau cornel, ein caffis, ein busnesau bach. Mae'r Canghellor yn sôn am gyfrifoldeb cyllidol, gan weithredu polisïau, fel y clywsom, a fydd yn galw am fwy o wariant yn y blynyddoedd i ddod, gan fod angen cymorth mwy dwys ar blant sy'n cael eu magu mewn tlodi sy'n dyfnhau, wrth i gymunedau wedi'u dryllio gan anobaith syrthio i argyfwng, wrth i'r gwead cymdeithasol sy'n ein clymu gyda'n gilydd dreulio gormod i'w drwsio.

Rydym wedi tystio i'r drasiedi hon o'r blaen. Ar ôl 2008, dewisodd Llywodraethau San Steffan olynol gyni dros fuddsoddiad, cosb dros dosturi. Mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain—degawd coll ar ôl degawd coll, lle cynyddodd tlodi plant i'r entrychion, lle daeth banciau bwyd yn fwy cyffredin na swyddfeydd post, lle mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd wedi lledu nes dod yn hafn na ellir ei phontio. Mae Andy Burnham ym Manceinion yn deall hyn ac wedi condemnio'r cynigion hyn. Felly hefyd y Prif Weinidogion yng Nghaeredin a Belfast.

Mae gan y Prif Weinidog yma a'r Senedd hon bŵer na ddylid ei wastraffu. Ynghyd â'n cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gallwn greu cynghrair cydwybod na all San Steffan mo'i hanwybyddu. Lle nad oes gennym unrhyw bŵer, rhaid inni ddefnyddio ein llais. A lle mae gennym bŵer, rhaid inni ddefnyddio ein dychymyg.

Os yw Llafur yn San Steffan yn parhau i fradychu ei hegwyddorion sylfaenol, gadewch i ni yma gynllunio llwybr gwahanol. Os ydynt yn datgymalu'r wladwriaeth les, gadewch i ni ddechrau adeiladu gwladwriaeth les Gymreig sy'n gwrthod y dewis ffug rhwng twf economaidd a chyfiawnder cymdeithasol, un sy'n cydnabod mai buddsoddiad mewn potensial dynol yw'r llwybr mwyaf sicr i ffyniant cynaliadwy, un sy'n deall na chaiff mawredd cenedl mo'i fesur gan gyfoeth ei dinasyddion cyfoethocaf, ond gan y modd y mae'n trin y rhai mwyaf bregus.

Nid delfrydiaeth yw hyn yn unig—mae'n economeg gadarn. Dyma fewnwelediad Keynes ganrif yn ôl, a ddeallodd fod yn rhaid i'r wladwriaeth gamu i'r adwy ar adeg o galedi, nid camu'n ôl. Dyma fewnwelediad economegwyr modern, sydd wedi dangos dro ar ôl tro fod cymdeithasau sydd â rhwydweithiau diogelwch cryfach yn adfer yn gynt o siociau economaidd ac yn tyfu'n fwy cynaliadwy yn y tymor hir.

Mae'r cyfnod yr ydym yn byw ynddo'n galw am ddewrder, nid ildiad. Mae'n galw am weledigaeth, nid ailgylchu polisïau aflwyddiannus. Tra bod eraill yn cefnu ar yr egwyddorion a oedd unwaith yn eu tywys, gadewch i ni eu cynnal. Tra bod eraill yn aberthu'r bregus ar allor hwylustod gwleidyddol, gadewch i ni eu hamddiffyn. A phan ysgrifennir hanes y cyfnod cythryblus hwn, gadewch iddo ddweud, yma yng Nghymru, pan oedd tywyllwch yn bygwth amlyncu'r mwyaf anghenus yn ein plith, nid goleuo cannwyll yn unig a wnaethom, ond cynnau coelcerth o obaith.

16:50

Ers cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ddiwygio lles, Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gydag etholwyr, fel y bydd Aelodau eraill yma wedi'u cael hefyd, rwy'n siŵr. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n cytuno â'r mwyafrif o'r etholwyr y siaradais â hwy, i'r graddau mai'r hyn a gredant yw: y dylai diwygio budd-daliadau lles helpu pobl i symud o ddiweithdra i waith, oherwydd mae hynny'n dda iawn i'r unigolion hynny, eu teuluoedd, a'u cymunedau, ac wrth gwrs, bydd hynny ynddo'i hun yn lleihau'r bil budd-daliadau; fod rhaid bod rhwyd ddiogelwch i'r rhai nad ydynt yn gallu gweithio, ac ni ddylem dorri budd-daliadau i bobl yn y sefyllfa honno; mae angen inni gefnogi'r bregus; ac ni ddylent hwy dalu pris yr her i Lywodraeth y DU o fantoli'r llyfrau.

Mae yna lawer iawn o bryder a gofid yn ein cymunedau ar hyn o bryd, wedi'i greu gan y cyfathrebiad ynghylch y cyhoeddiad, sydd wedi poeni cymaint o bobl sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau. Ddirprwy Lywydd, fe wyddom fod llawer o waith da yng Nghymru gyda gwasanaethau datganoledig yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a chanolfannau gwaith i symud pobl yn agosach at y farchnad swyddi, fel y'i disgrifir, a'u cael i mewn i waith. Mae hynny, weithiau, yn broses hir, ond mae'n dwyn ffrwyth, ac rwy'n credu y dylem edrych yn fwy hirdymor ar y materion hyn, a dyna mae Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru yn ein cyfarwyddo i'w wneud. Mae llawer o waith da yng Nghymru y gallwn adeiladu arno, a byddai datganoli pellach o ran y gallu sydd gan Gymru i helpu pobl i symud yn agosach at y farchnad swyddi ac i mewn i waith yn ddefnyddiol iawn. Rwy'n credu bod trafodaethau ar y gweill ynglŷn â hynny.

Mae gennyf enghreifftiau yng Nghasnewydd—ac rwy'n siŵr fod enghreifftiau ledled Cymru—o waith da iawn. Mae Cyngor Dinas Casnewydd, er enghraifft, yn rhedeg clybiau gwaith mewn canolfannau cymunedol ar gyfer pobl dros 16 oed sy'n ddi-waith. Mae'n cynnwys cymorth i ysgrifennu CV ac ysgrifennu ceisiadau am swyddi, datblygu sgiliau cyfweliad, cael cymwysterau achrededig, ac mae ganddo gyrsiau am ddim yn gysylltiedig â chyflogaeth. Mae Mind Casnewydd, trwy eu rhaglen chwe mis Kickstart ar gyfer pobl ifanc, yn eu helpu i hawlio credyd cynhwysol lle mae angen iddynt wneud hynny, ond hefyd yn eu cefnogi i wella eu cyflogadwyedd ac yn wir, i'w cael i mewn i waith a phontio'r bwlch rhwng y ddau beth hynny—bod yn ddi-waith a chael gwaith â thâl yn y pen draw.

Ac wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, sawl blwyddyn yn ôl nawr, pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fe wnaethom waith ar y ffordd y mae system fudd-daliadau'r DU yn gweithio yng Nghymru. Fe wnaethom argymell, ymhlith pethau eraill, y dylid datganoli'r gwaith o weinyddu'r system fudd-daliadau honno i Gymru. Roeddem yn credu'n gryf iawn—rwy'n dal i gredu'n gryf iawn—y byddai hynny'n creu llawer o fanteision. Clywsom mor aml fod urddas a pharch mor bwysig a bod angen eu hymgorffori yn niwylliant y ffordd y mae'r system fudd-daliadau'n cael ei gweinyddu, fod angen dull gwahanol o weithredu asesiadau ar gyfer budd-daliadau anabledd a salwch er enghraifft, a dull gwahanol o weithredu'r gyfundrefn sancsiynau—dim ond rhai enghreifftiau o'r ffyrdd y credaf y gallem fod yn llawer mwy adeiladol ac effeithiol yn y ffordd y gweithredwn yma yng Nghymru.

Yn ganolog i'r ddadl hon, mae cydnabod yr effaith benodol y byddai toriadau i fudd-daliadau'n ei chael yma yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny, yr angen arbennig i Lywodraeth y DU weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru i gael ein pobl yma yng Nghymru i sefyllfa lle gallant symud o ddiweithdra i waith, a  thorri bil budd-daliadau'r DU trwy wneud hynny. Rwy'n credu mai dyna'r dull adeiladol, dyna'r dull gorau, a dyna'r dull y dylem ei weld.

16:55

Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 16:57:51
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon, dadl rwy'n ei chroesawu. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb iddi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn gwbl ymwybodol fod yn rhaid inni gofio pan fyddwn yn trafod diwygiadau lles, ei fod yn ymwneud yn sylfaenol â phobl ledled Cymru sy'n poeni am yr hyn a allai fod gan y dyfodol i'w gynnig iddynt.

Mae ein dadl heddiw yn bwysig, mae eich lleisiau chi ar draws y Siambr yn cael eu gwerthfawrogi, a byddant i gyd yn helpu i gyfrannu at y ffordd yr ymgysylltwn i gyflwyno ein hymateb i'r Papur Gwyrdd. Wrth gwrs, Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU ydyw, sy'n cynnwys cymysgedd o ddiwygiadau, a fydd yn galw am newidiadau deddfwriaethol i gael eu cymeradwyo gan Senedd y DU. Ond rwyf am roi sicrwydd i bobl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr fod ein lleisiau ni, ac yn bwysicaf oll, lleisiau pobl anabl a'u cynrychiolwyr, yn cael eu clywed gan Lywodraeth y DU ynghylch eu holl ddiwygiadau arfaethedig.

Do, fe rennais y llythyr. Dyma'r unig lythyr a gyhoeddais. I egluro, yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, sef fy ymateb cychwynnol pan glywsom am y diwygiadau, dywedais yn y llythyr hwnnw, a rennais nawr ar draws y Siambr, ac mae yno i'r cyhoedd ei weld, y byddai'n fuddiol pe bai'r Adran Gwaith a Phensiynau yn trefnu digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb yma yng Nghymru i sicrhau bod y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn cael cyfle i rannu eu barn. Ac wrth gwrs, mae gennym gyfle hefyd ar sail y pedair gwlad, gydag ymrwymiad i gyfarfod â'r Adran Gwaith a Phensiynau, a bydd hwn yn amlwg yn gyfle i rannu hyn ar sail ehangach.

Mae ein gwaith yn sefydlu a gweithio gyda'r tasglu hawliau pobl anabl, y mae'r cyd-Aelodau'n ymwybodol iawn ohono, i ddatblygu'r cynllun hawliau pobl anabl, sy'n mynd i fod yn destun ymgynghoriad yn fuan, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar—nid yn unig gwrando ar, ond i gydweithio a gweithio gyda phobl anabl. A'r wythnos nesaf rwy'n cyfarfod â'r tasglu hawliau pobl anabl i drafod y Papur Gwyrdd, a bydd hynny'n cael ei ddilyn gan gyfarfod gyda'r fforwm cydraddoldeb pobl anabl.

Bydd safbwyntiau pobl â phrofiad bywyd—a rhaid imi ddweud bod hynny'n cynnwys yr holl brofiadau y gwnaethoch chi eu bwydo'n ôl i mi heddiw gan etholwyr ac o'ch arsylwadau a'ch sylwadau eich hunain—yn ganolog i'n hymateb trawslywodraethol i'r diwygiadau lles. Mae pob llais yn cyfrif, mae pob cyfraniad yn bwysig. Dyma ddechrau ein cyfraniad i ddylanwadu ar ein hymateb i'r Papur Gwyrdd ar ddiwygiadau lles.

17:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Hoffwn glywed—. Rwy'n credu ein bod wedi dweud yn glir ein bod ni ar y meinciau hyn am glywed Llywodraeth Cymru yn codi pryderon. Mae gennym gopi o’ch llythyr at Liz Kendall nawr, nad yw’n codi pryderon ynghylch yr hyn y deallem y byddent yn doriadau dwfn i’r wladwriaeth les. Onid oeddech chi'n credu y byddai o fudd i Gymru, efallai, i chi fanteisio ar y cyfle cynharaf hwnnw i godi pryderon?

Rydych wedi cael fy llythyr, ac wrth gwrs, fel y dywedais, dyma ddechrau fy ymatebion a fy ymwneud â Llywodraeth y DU ynghylch effaith y Papur Gwyrdd ar ddiwygiadau lles. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y pwynt hwnnw a wneuthum, a oedd yn bwynt cychwynnol i raddau helaeth—fod yn rhaid iddynt gyfarfod â phobl anabl ac ymgysylltu â hwy. Dyna oedd y pwynt a wneuthum. Ac wrth gwrs, byddaf yn rhannu pob gohebiaeth yn y dyfodol, ond yr ymateb pwysicaf fydd ein hymateb i'r Papur Gwyrdd, ac rydych chi'n chwarae rhan yn y ddadl hon i ddylanwadu ar hynny.

Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod y dylai pobl Cymru gael eu gwasanaethu gan system les sy’n darparu cymorth ystyrlon i helpu’r rheini sy’n gallu gweithio i gyflogaeth gynaliadwy, ond sydd hefyd yn cynnig rhwyd ddiogelwch ariannol effeithiol i bobl nad ydynt yn gallu gweithio. Ac a gaf i ddiolch i Hefin David am eich cyfraniad y prynhawn yma, am rannu eich pryderon ac ar sail profiad? Ac fel y mae'r Prif Weinidog hefyd wedi'i gydnabod, mae a wnelo hefyd ag edrych ar gyfleoedd a ddylai godi o ddiwygiadau i fudd-daliadau lles. Cafwyd llawer o ymatebion gan sefydliadau pobl anabl yn dweud, 'Oes, mae angen newid.' Nawr mae angen inni geisio dylanwadu ar y newidiadau a gynigir. Ac rydym yn cydnabod, i lawer o bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor, nad yw'r system fudd-daliadau bresennol bob amser yn annog nac yn galluogi pobl i ystyried mynd i fyd gwaith. Mae rhai pobl yn teimlo'n betrus ynghylch camu allan ar eu llwybr at waith.

Diolch. Rwy'n credu ein bod yn cytuno â hynny, ond onid y broblem yw’r teimlad fod yr arbedion wedi’u hysgogi gan yr angen i gyflawni toriad tybiannol yn rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, nid ymarfer egwyddorion cyntaf ynglŷn â sut i ddarparu’r system wladwriaeth les orau? A dylai Llywodraeth Cymru ddweud yn uchel ac yn glir mai dyna'r man cychwyn anghywir.

Wel, rwy'n credu ein bod wedi ymatal rhag rhoi barn, onid ydym, ac mae’r Prif Weinidog wedi gwneud hynny’n glir iawn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw deall y dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno am effeithiau’r cynigion hyn yn y Papur Gwyrdd. Ac fel y dywedaf, o ran rhai'n unig o'r rhagolygon a'r cyfleoedd a ddylai ddeillio o ddiwygio lles, nid oes ond angen inni gydnabod yr hyn y mae'n ei olygu pan fyddwch yn gwneud newidiadau, lle gallai fod pobl ofn colli eu budd-daliadau anabledd ar unwaith pan fyddant yn ceisio symud ymlaen i lwybr at gyflogaeth. Ac wrth gwrs, ar hyn o bryd, mae yna broses asesu hirfaith a chymhleth iawn. Ac fe ŵyr pob un ohonom am yr effaith gadarnhaol a gaiff gweithio ar bobl o ran mwy o incwm, gwell iechyd meddwl ac iechyd corfforol, fel y mae John Griffiths wedi’i ddweud. Ond mae angen sicrwydd ar bobl, a dyna y mae'n rhaid i ni ei sicrhau yn ein hymateb, ein bod yn glir.

Ac o ddeall yr effaith ar bobl yng Nghymru—ni fydd paratoi ar gyfer dechrau gweithio yn golygu y byddant mewn sefyllfa ariannol waeth yn y pen draw. Ac mae'r geiriau hyn yn bwysig gennyf i fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol; maent yn eiriau pwysig sydd bellach yn y parth cyhoeddus o ran ymateb i’r diwygiadau hyn. Ond mae’n rhaid inni gydnabod bod y cynnig gan Lywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn 2026 a fydd yn gwarantu na fydd unigolyn yn wynebu ailasesiad awtomatig o’u hawl i fudd-daliadau os byddant yn dechrau gweithio i’w groesawu.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, rwyf am gael cyfle i ddweud bod rhaid inni ddangos lle mae ein pwerau a’n cyfrifoldebau yn cael effaith fuddiol, a'r awydd i sicrhau bod pobl yng Nghymru sy’n gallu gweithio yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth, felly mae ein rhaglenni cyflogadwyedd, sy'n cefnogi 15,000 o bobl ddi-waith, a llwyddiant ein gwarant i bobl ifanc yn amlwg, gyda’r gyfradd ddiweithdra ymhlith bobl ifanc yng Nghymru, yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2024, 6.5 y cant i lawr, 3.6 pwynt canran, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rwyf am fynd ymlaen at y pwynt nesaf: ein rhwydwaith o hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl sy'n gweithio gyda chyflogwyr i gael gwared ar y rhwystrau. Mae'r rhain yn bethau yr ydym yn eu gwneud, yr ydym yn gyfrifol amdanynt yng Nghymru, ac maent yn gweithio i helpu pobl anabl a chyflogwyr i ddeall y rhwystrau i ddod o hyd i waith, a byddwn yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio'r rhaglen arloesol yng Nghymru i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a byddwn yn cael £10 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer hynny hefyd. Felly, mae'n ymwneud â rhoi sicrwydd i bobl ein bod yn ymgysylltu i edrych ar y ffyrdd y buom yn helpu pobl anabl i ddychwelyd i'r gwaith, a gobeithio y gall Llywodraeth y DU ddysgu o hynny hefyd. Ond rwy’n bendant yn deall effeithiau penodol y diwygiadau lles hyn yng Nghymru.

17:05

Rwy'n dirwyn i ben. Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn bwysig, wrth gloi’r ddadl hon heddiw, fy mod yn dweud eto y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried goblygiadau’r diwygiadau lles arfaethedig yn ofalus. Byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd, byddwn yn sicrhau bod lleisiau pobl anabl yng Nghymru yn cael eu clywed. Rwy’n annog pobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed drwy ymateb i’r ymgynghoriad a fydd yn cau ar 30 Mehefin. Byddaf yn cyfarfod â Patriotic Millionaires, Jane, ac rwy'n cyfarfod â phobl anabl a sefydliadau, fel y dywedais. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn hael, ond mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd—rwyf wedi derbyn ychydig o ymyriadau—

Hoffwn ddweud yn olaf, mewn perthynas â’r ddadl heddiw, y byddwn yn ystyried cyfraniadau o’r ddadl hon yn ein hymateb i’r Papur Gwyrdd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae eich lleisiau wedi cael eu clywed a byddant yn parhau i gael eu clywed. Diolch.

Diolch yn fawr. Rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig iawn gyda'r canlyniad hwnnw. Rydym yn gwneud llawer o bethau da yng Nghymru, ac fe restroch chi rai o’r pethau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hoffem wybod beth yw eich barn chi, fel y clywsom farn Prif Weinidog yr Alban, fel y clywsom farn Prif Weinidog Gogledd Iwerddon. Mewn ymateb i gyllideb y DU yn 2023, pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym, dywedodd y Gweinidog cyllid ar y pryd, Rebecca Evans:

'Er bod y Canghellor wedi cyhoeddi y bydd yn gwneud rhagor i helpu pobl i gael gwaith, wnawn ni ddim cefnogi unrhyw gamau a fydd yn ei gwneud hi’n anodd i bobl gael gafael ar fudd-daliadau neu a fydd yn gosod amodau a chosbau ar bobl sy'n cael budd-daliadau ar hyn o bryd.'

Mae hynny'n eithaf diamwys, onid yw? Pam nad ydym yn dal i glywed y farn honno? Gallwch ffurfio barn gychwynnol, ac rydych chi'n dweud eich bod am wrando ar leisiau pobl anabl; maent wedi codi llais yn glir. Maent am gael mwy o gymorth i gael gwaith, ydynt, ond maent wedi bod yn dweud wrthym, ac fe wnaethant ddweud wrthym yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod angen inni ganolbwyntio mwy ar gyflogwyr, ac agweddau cyflogwyr a rhagfarn cyflogwyr, er mwyn gwneud hynny. Ni ddylai'r cyfrifoldeb fod ar y bobl anabl eu hunain. Felly, rwy'n hynod siomedig eich bod yn dal i ddweud eich bod yn ymatal rhag rhoi barn. Nid ydych yn barod i sefyll dros eich egwyddorion. Roeddech yno gyda ni yn ystod blynyddoedd cyni, pan gyflwynwyd y mesurau cyni. Fel y nododd Adam Price yn gywir ddigon, y gost ofnadwy, yr effaith ofnadwy a gafodd ar Gymru. Roeddech i gyd yn Llywodraeth. Rydych chi wedi bod yn y Llywodraeth drwy gydol yr adegau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi wedi gwybod am y tyllau a rwygwyd yng ngwead cymdeithas, fel y nododd Adam. Ac mae opsiynau eraill, onid oes? Rwy'n cytuno ag Alun Davies, mae Llywodraeth bresennol y DU yn derbyn dadansoddiad economaidd y Ceidwadwyr, ac mae hynny’n gywilyddus. Ac fel yr amlinellodd Jane Dodds hefyd—. Ac rwy’n gwrthod y syniad na ddylem gael gwleidyddiaeth yn y dadleuon hyn, Hefin David, gan mai penderfyniadau gwleidyddol yw’r rhain. Mae’r rhain yn ddewisiadau gwleidyddol, fel y nododd Jane Dodds, felly mae’n rhaid inni gael dadl wleidyddol amdanynt—[Torri ar draws.] Mae’r ffaith bod y Canghellor, fel y dywedodd Lee Waters—. Oportiwnistiaeth, o ddifrif? Mae'n rhaid bod gennych fewnflwch gwahanol i fy un i.

Nododd Lee Waters yn gywir ddigon y ffaith i’r Canghellor dorri’n ddyfnach pan brofodd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o’i rheolau cyllidol hunanosodedig fod hyn wedi'i yrru fwy gan dorri costau nag unrhyw reswm anhunanol. A chan ein bod bellach wedi gweld y llythyr—unwaith eto, wedi'i ollwng i'n mewnflwch yn ystod y ddadl. Dim condemniad, nid oedd yn sylweddol. Wrth gwrs ein bod am i Lywodraeth y DU ymgynghori'n briodol â phobl anabl, rydym am iddynt glywed barn Llywodraeth Cymru hefyd. Felly, rwy’n falch ein bod wedi cael y ddadl hon. Mae'n drueni, fel y dywedais ar y dechrau, ein bod wedi gorfod defnyddio holl ddulliau'r Senedd sydd ar gael i ni i alluogi'r Senedd i gael llais ar y mater hwn a chael dadl briodol ar hyn.

Hoffwn ddweud hefyd fod pobl anabl yn hollol ganolog i'r ddadl hon, a hoffwn gofnodi fy nghondemniad llwyr o'r ffaith nid yn unig na thalodd Llywodraeth y DU unrhyw sylw i anghenion pobl Cymru, ond na thalodd unrhyw sylw ychwaith i anghenion pobl anabl. Ni wnaethant gyhoeddi'r Papur Gwyrdd hwnnw mewn fformatau hygyrch, hawdd eu darllen, mewn Braille. Nid oeddent ar gael. Hynny yw, mae hynny'n gwbl anfaddeuol. Beth ddigwyddodd i 'Dim byd amdanom ni hebom ni'?

Rwy'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu; gwn beth oedd barn y bobl yn y grŵp hwnnw pan gyfarfûm â hwy yr wythnos hon. Byddwn yn ysgrifennu’n ddiamwys at Lywodraeth y DU gan fynegi ein barn a’n siom a’n condemniad o’r toriadau hyn. Unwaith eto, fel cynrychiolydd ardaloedd sydd â lefelau uwch na’r cyfartaledd o bobl anabl yng Nghymru, gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf i'n rhoi fy etholwyr yn gyntaf, ac ar y meinciau hyn, byddwn ni'n rhoi ein hetholwyr yn gyntaf.

Felly, mae angen inni glywed condemniad cryfach, mae angen inni glywed cefnogaeth i'r opsiynau gwahanol a amlinellodd Adam Price, nad oes angen mynd â'r biliynau oddi wrth y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn y modd hwn. Mae angen inni ddeall beth—. Rydym yn sefyll ar y groesffordd ddigalon honno, fel y nododd Adam Price. I ba gyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru am i Lywodraeth y DU fynd, gan mai Cymru sy'n mynd i ddioddef? Wrth i’r punnoedd ddiflannu o'n heconomïau lleol, bydd ein pobl yn cael eu gwthio ymhellach i mewn i dlodi, a Llywodraeth Cymru sy'n mynd i orfod codi’r darnau unwaith eto, a Chymru sy'n mynd i ddioddef o ganlyniad.

Felly, yn anffodus, mae'n rhaid inni atgoffa Llywodraeth Cymru unwaith eto beth y mae sefyll dros Gymru yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'n golygu mynnu asesiad sy'n benodol i Gymru ar gyfer y newidiadau hyn yn ddi-oed, a hoffwn gael amserlen ar gyfer hynny—os gallem ofyn i Lywodraeth y DU pryd y cawn hynny. A hoffwn weld condemniad diamwys o ddirmyg llwyr San Steffan yn methu gwneud hynny yn y lle cyntaf. Mae sefyll dros Gymru'n golygu rhoi’r gorau i’r rhethreg niweidiol—y rhethreg wirioneddol niweidiol honno—fel y clywsom gan Heledd Fychan, am system fudd-daliadau sydd wedi torri, a mynegi undod cadarn â miloedd o bobl ledled Cymru sy’n teimlo arswyd wrth weld rhwyd ddiogelwch sydd eisoes wedi treulio yn cael ei gwanhau ymhellach. Mae’n golygu gwneud pob ymdrech i liniaru effeithiau gwaethaf y parhad dinistriol hwn o agenda cyni, neu fel arall—

17:10

Dyma fy mrawddeg olaf, Ddirprwy Lywydd. Fel arall, bydd yr ymdeimlad tanbaid o ddyletswydd i achos trechu tlodi wedi'i leihau'n ddim byd mwy na lludw mudlosg, a bydd y dŵr coch clir hwnnw wedi rhedeg yn sych unwaith ac am byth.

6. Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru: Dadl ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 y dylid eu harchwilio ymhellach
7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Atebolrwydd Aelodau Unigol: Dichell fwriadol

Felly, eitem 7 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— 'Atebolrwydd Aelodau Unigol: Dichell fwriadol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.

Cynnig NDM8874 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ‘Atebolrwydd Aelodau Unigol: Dichell fwriadol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar ail adroddiad y pwyllgor ar ei ymchwiliad i 'Atebolrwydd Aelodau Unigol: Dichell fwriadol'.

Nid yw mater ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn un newydd. Mae gonestrwydd wedi'i ymgorffori yn egwyddorion Nolan, y sylfaen foesegol a ddisgwylir gan ddeiliaid swyddi cyhoeddus, ac mae yno am reswm. Mae'r cyhoedd yn disgwyl i'r rheini mewn swyddi cyhoeddus, a'r rheini sy'n ymgeisio amdanynt, weithredu a siarad yn onest. Dyna pam fod y datganiadau y dewiswn eu gwneud a'r cymhelliad i'w gwneud yn bwysig. Mae eu cael yn anghywir yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i’r ymddiriedaeth sy’n ein rhwymo fel gwleidyddion wrth y bobl a wasanaethwn, ac mae angen dwyn y rheini sy’n gwneud hynny’n fwriadol er budd gwleidyddol i gyfrif. Mae dadleuon a thrafodaethau angerddol ac iach yn hollbwysig i ddemocratiaeth, a dylid eu gwarchod. Fodd bynnag, dylid gwreiddio’r dadleuon hyn mewn ffaith. Mae’r pwyllgor yn cydnabod bod newidiadau mewn technoleg, y cyfryngau cymdeithasol, a’u defnydd i ledaenu twyllwybodaeth yn gyflym, yn fygythiadau gwirioneddol a difrifol, sy'n rhoi lle hyd yn oed yn fwy blaenllaw i ddichell fwriadol.

Pan ddechreusom ar yr ymchwiliad hwn, daeth yn amlwg fod cymhlethdodau ymarferol mynd i’r afael â dichell fwriadol, yn ogystal â pharchu egwyddorion trosfwaol yr hawl i ryddid mynegiant ac ymreolaeth Seneddau i hunanreoleiddio, yn mynd i fod yn her. Ond cytunodd y pwyllgor na ddylai anhawster y dasg ein hatal rhag ceisio atebion pragmatig. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddiolch i bawb sydd nid yn unig wedi darparu tystiolaeth ac wedi ymgysylltu â ni drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ond sy’n gwneud gwaith pwysig y tu ôl i’r llenni i wthio am newid a chadw’r mater hwn ar yr agenda. Rydym yn ymwybodol ein bod yn torri tir newydd gyda'r adroddiad hwn ac rydym yn ddiolchgar i bawb a rannodd eu harbenigedd ac a ddarparodd syniadau arloesol, pob un â'r nod cyffredin o wella'r status quo.

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn nodi y byddai’n casglu tystiolaeth ar rinweddau cyflwyno rhagor o fecanweithiau ar gyfer diarddel Aelodau ac ymgeiswyr y cafwyd eu bod wedi twyllo’r etholwyr yn fwriadol, gan gynnwys drwy broses farnwrol annibynnol. Mae’r dadleuon cymhellol o blaid ac yn erbyn cyflwyno trosedd neu drosedd sifil wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn ogystal â safbwyntiau manwl ein pwyllgor. Fodd bynnag, roedd gennym bryderon sylweddol ynghylch goblygiadau ymarferol trosedd o’r fath—er enghraifft, anawsterau profi datganiadau ffug a’r effaith negyddol ar adnoddau’r llysoedd a’r heddlu. Fe wnaethom hefyd ystyried y canlyniadau anfwriadol y gallai hyn eu cael ar egwyddorion democrataidd pwysig, megis yr hawl i ryddid mynegiant, ymreolaeth seneddol a gwleidyddoli’r llysoedd. Ar ôl pwyso a mesur, daeth y pwyllgor i’r casgliad felly na allai gefnogi trosedd o’r fath. Fodd bynnag, fe wnaethom nodi nifer o newidiadau y gellid eu gwneud ar draws y gyfundrefn safonau bresennol a mecanweithiau'n ymwneud ag ymgeiswyr a fyddai'n rhaglen ddiwygio arloesol.

Rydym wedi gwneud 11 o argymhellion gyda’r nod o fynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol gyda’r dulliau sydd gennym yn barod. Gyda’i gilydd, byddant yn gwneud ein rheolau’n gliriach drwy wreiddio dichell fwriadol yn y cod ymddygiad, cod sydd, yn wahanol i godau deddfwrfeydd eraill, yn berthnasol i Aelodau bob amser. Byddant yn cyflwyno mwy o annibyniaeth ar bob cam ym mhroses safonau’r Senedd a byddant yn gwella tryloywder pan fydd gwleidyddion yn torri’r rheolau ac yn ehangu’r sancsiynau sydd ar gael i ddwyn yr unigolion hynny i gyfrif. Er mwyn i’r Senedd weithredu rhai o’r argymhellion hyn, bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth bresennol, ac mae’r pwyllgor yn credu y byddant yn gyflawnadwy mewn pryd ar gyfer y seithfed Senedd. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i bob un o’r argymhellion a gyfeiriwyd ati, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diffiniad clir o ddichell fwriadol mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud ag etholiadau’r Senedd a ddefnyddir yn gyson gan y Senedd mewn unrhyw Reolau Sefydlog a chanllawiau cysylltiedig. Mae’r Gorchymyn cynnal etholiadau sy’n llywodraethu etholiadau’r Senedd eisoes yn ei gwneud yn drosedd i ymgeiswyr wneud neu gyhoeddi datganiadau ffug am ymddygiad personol neu gymeriad ymgeisydd arall er mwyn effeithio ar y ffordd y caiff pleidlais ei bwrw mewn etholiad. Fel y nodir yn argymhellion 3 a 4, credwn y byddai ehangu cwmpas y drosedd bresennol i gynnwys datganiadau ffug a wneir gan ymgeisydd yn gwella atebolrwydd y rheini sy'n ymgeisio am swydd gyhoeddus.

Mae ymateb y Cwnsler Cyffredinol yn awgrymu nad yw’n bosibl ehangu’r cwmpas presennol, ac yn hytrach y byddai angen cyflwyno trosedd newydd. Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod hyn wedi’i dderbyn mewn egwyddor ac y bydd gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu trosedd newydd yn unol â’r hyn y mae’r pwyllgor wedi’i argymell, yn ddealladwy, Gwnsler Cyffredinol, mae’r Aelodau’n siomedig na fydd yn cael ei gynnwys yn y Gorchymyn cynnal etholiadau terfynol ar gyfer etholiad 2026, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i neilltuo amser yn ei rhaglen i ddeddfu yn y maes hwn.

Nid yw’n glir i'r pwyllgor a fyddai’r drosedd newydd arfaethedig yn berthnasol i ymgeiswyr yn unig, neu a fyddai'n cynnwys Aelodau’r Senedd hefyd, a byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am hyn gan y Cwnsler Cyffredinol. Fodd bynnag, rydym yn falch fod y Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu cyflwyno diffiniad o ddichell fwriadol yn y Senedd hon a fydd yn cefnogi’r drosedd newydd ar gyfer y Gorchymyn cynnal etholiadau a sut y'i hymgorfforir yn y cod ymddygiad ac yng ngweithdrefnau’r Senedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y dystiolaeth a gasglwyd eisoes gan y pwyllgor ar ddiffiniadau cysylltiedig o fewn y ddeddfwriaeth bresennol, megis Deddf Twyll 2006 a Deddf Difenwi 2013.

Mae argymhelliad 5, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr sydd wedi gwneud neu ledaenu datganiadau sy’n camarwain drwy ddichell fwriadol gywiro'r cofnod yn glir a chyn gynted â phosibl, wedi'i dderbyn yn llawn. Dylai hyn atal dichell fwriadol a dylai wella atebolrwydd a thryloywder.

Mae argymhellion 2 a 6 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r ddeddfwriaeth bresennol i gyflwyno mwy o annibyniaeth i gyfundrefn safonau’r Senedd, gan gynnwys rhoi pwerau i’r comisiynydd safonau gychwyn ymchwiliadau ac i’r Senedd benodi aelodau lleyg i eistedd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Bydd hyn yn dod â mwy o annibyniaeth ac arbenigedd i gam gwneud penderfyniadau'r broses safonau a gwaith polisi ehangach y pwyllgor. Rydym yn falch fod yr argymhellion hyn wedi’u derbyn yn llawn.

Mae argymhellion 7 i 10 wedi’u cyfeirio at y Senedd, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda’r Pwyllgor Busnes i'w gwireddu. Rydym yn cynnig newid y cod ymddygiad fel ei fod yn datgan yn benodol na ddylai Aelodau wneud datganiadau sy’n camarwain yn fwriadol ac i orfodi Aelodau i gywiro datganiadau ffeithiol anghywir cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwys ar y gofyniad sylfaenol i Aelodau siarad yn onest a sicrhau bod gonestrwydd yn ganolog i'r diwylliant parchus y ceisiwn ei feithrin yma.

Mae argymhelliad 8 yn cynnig gweithdrefn ffurfiol dau gam ar gyfer cywiro’r cofnod drwy Reolau Sefydlog—y cyntaf i fynd i’r afael â mân anghywirdebau ac anghywirdebau anfwriadol, a’r ail i ganiatáu i hysbysiadau cywiro mwy ffurfiol gael eu cyhoeddi gan y comisiynydd safonau. Byddai peidio â chydymffurfio â hysbysiad cywiro yn cael ei ystyried yn achos o dorri’r cod ymddygiad ac yn cael ei gosbi fel ymddygiad sy'n camarwain drwy ddichell gan yr Aelod. Yn y ddau achos, byddai'n ofynnol i Aelodau gyhoeddi cywiriadau cyn gynted â phosibl gan roi’r un amlygrwydd iddynt â’r datganiad anghywir. Er tryloywder, rydym hefyd yn cynnig bod hysbysiadau o’r fath, yn ogystal ag adroddiadau ar achosion o dorri’r cod ymddygiad, yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Aelodau’r Senedd, a lle bo’n berthnasol, yng Nghofnod y Trafodion.

Mae argymhelliad 10 yn ymwneud â’r weithdrefn adalw newydd arfaethedig y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyflwyno, ac i unrhyw ganllawiau sy’n cynnwys dichell fwriadol fel sail nodi mai dim ond pan geir achos difrifol o dorri’r cod y dylid ei sbarduno. Rydym hefyd yn cynnig sefydlu strwythur apelio i ddarparu mesurau diogelu ychwanegol ar gyfer cyflwyno pwerau cosbi cryfach. Er mai’r Senedd sydd i benderfynu ar y broses apelio briodol, byddai angen newid deddfwriaethol er mwyn gwneud hynny, ac rydym yn falch fod y Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno i archwilio opsiynau o fewn y Bil adalw i ganiatáu mecanwaith o’r fath.

Drwy wneud newidiadau cynyddrannol i ddeddfwriaeth bresennol yn y modd hwn a chryfhau’r drefn safonau, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol a sicrhau bod y Senedd ar flaen y gad yn yr ymdrech fyd-eang i adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth. Mae'n rhaid i’n gweithdrefnau adlewyrchu ein huchelgais ar gyfer diwylliant parchus a thosturiol yma yn y Senedd. Mae o fudd i bob un ohonom barhau i wella uniondeb ein sefydliadau democrataidd. Gwyddom fod mwy i’w wneud, ond dyma le da i ddechrau. Diolch.

17:20

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, a chlerc y pwyllgor a’r tîm cyfreithiol, a phawb sydd wedi rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad hwn? Fel Aelod o’r pwyllgor safonau, rwy'n croesawu'r cyfle i siarad ynglŷn â hyn. Mae dichell yn fater cymhleth, ac mewn sawl ffordd, yn unigryw pan fyddwn yn ei ystyried yng nghyd-destun ein prosesau democrataidd. Mae’n codi pryderon dilys o bob ochr, ac yn gwbl briodol felly. Nid ymwneud â chamwybodaeth neu gamddweud yn unig y mae dichell fwriadol, ond yn hytrach â chamarwain pleidleiswyr yn fwriadol. Mae’n mynd at wraidd ymddiriedaeth yn ein democratiaeth, fel y nododd y Cadeirydd yn gywir ddigon, ond mae ei ddiffinio a mynd i’r afael ag ef yn creu heriau sylweddol. Mae pryderon, fel yr amlinellwyd, ynghylch y rhyddid i lefaru a braint, ynghylch rhethreg wleidyddol ac ymarferoldeb gorfodaeth. Fel Senedd, mae’n rhaid inni droedio’n ofalus i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd yn iawn.

Fe ddechreuaf drwy fynd i’r afael ag un o’r gwahaniaethau allweddol y dylid eu cydnabod, sef y gwahaniaeth sylfaenol rhwng ymgeiswyr ac Aelodau’r Senedd. Mae’r rhain yn ddau endid gwahanol, ac fel y cyfryw, dylai fod angen systemau atebolrwydd ar wahân arnynt. Mae ymgeisydd yn ceisio perswadio pleidleiswyr, yn aml drwy wneud addewidion a honiadau sy'n destun craffu gwleidyddol drwy ddadleuon, hustyngau, sgyrsiau gyda'r cyhoedd neu drwy'r cyfryngau. Mae Aelodau’r Senedd, fodd bynnag, wedi derbyn y cyfrifoldeb o gynrychioli eu hetholwyr, gan gadw at egwyddorion gwasanaeth cyhoeddus Nolan, fel y soniodd y Cadeirydd, a chynnal uniondeb y sefydliad hwn. Am y rheswm hwn, ni chredaf y gallwn ddefnyddio'r un rheolau ar gyfer y ddau endid.

Mae dwyn ymgeiswyr i gyfrif am ddichell fwriadol yn creu heriau cyfreithiol a gweithdrefnol sylweddol, yn enwedig wrth ystyried natur ddeinamig ymgyrchoedd gwleidyddol. Yn y cyfamser, mae Aelodau’r Senedd wedi’u rhwymo gan gyfres glir o ddisgwyliadau moesegol, ac mae'n rhaid i’r mecanweithiau ar gyfer sicrhau atebolrwydd adlewyrchu’r gwahaniaeth hwnnw. Fodd bynnag, ar gyfer ymgeiswyr ac Aelodau, defnyddir rhethreg wleidyddol bob dydd, a dylid craffu ar hynny, a hynny’n gywir ddigon.

Diolch. Wel, mae datganiad yn ddichellgar os yw'n ffug neu'n gamarweiniol, yn anwir neu'n anwir mewn manylyn perthnasol. Mae Fforwm Economaidd y Byd wedi datgan bod cost gynyddol bwyd ac ynni yn effeithio ar bobl ledled y byd. Wrth siarad yma fis Gorffennaf diwethaf, yr un mis ag etholiad cyffredinol y DU, nodais:

'Ar hyn o bryd, mae gan 33 o wledydd Ewropeaidd, ardal yr ewro ac 17 o wledydd y G20 gyfraddau chwyddiant uwch na'r DU ar hyn o bryd yn sgil yr argyfwng costau byw byd-eang.'

Fodd bynnag, mae Aelodau Llywodraeth Cymru yn dal i ddweud yma fod yr argyfwng costau byw wedi’i achosi’n llwyr gan Lywodraeth flaenorol y DU. A ydych chi'n cytuno felly y dylent ofalu beth y dymunant ei gael?

17:25

Diolch i Mark Isherwood am wneud y pwynt gwleidyddol yno. Fel cynrychiolydd y pwyllgor, fe geisiaf gadw fy marn fel aelod o'r pwyllgor ar sail drawsbleidiol, ond mae Mark Isherwood wedi gwneud ei safbwyntiau ar rethreg y Llywodraeth yn glir iawn yn ei gyfraniad.

Ond mae’r ddadl hon hefyd yn rhan o’r broses ehangach o gryfhau’r fframwaith safonau yn y Senedd. Mae’r ymdrechion parhaus i gyflwyno proses adalw a sicrhau proses safonau sy’n addas ar gyfer Senedd ehangach yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd yn ein sefydliad. Mae proses safonau gref yn ymwneud â mwy na chosb yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau tryloywder, tegwch ac atebolrwydd. Rhaid parhau i fireinio’r gwaith sy'n mynd rhagddo i sicrhau'r cydbwysedd cywir, gan wneud yn siŵr ei fod yn ddigon cadarn i atal camymddwyn, ond hefyd yn deg yn ei weithrediad. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod y broses sy’n arwain at y casgliadau hyn wedi bod yn gymhleth, a chredaf y dylid bod wedi neilltuo amser ychwanegol i ystyried goblygiadau’r diwygiadau hyn yn llawn. Mae rhuthro proses mor bwysig yn creu risg o ganlyniadau anfwriadol, ac mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol bob amser o’r angen am ystyriaeth drylwyr wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar atebolrwydd democrataidd.

Yn olaf, un agwedd benodol ar y broses y credaf yn bersonol fod angen ei harchwilio ymhellach yw rôl yr Aelodau a oedd yn arsylwi ym mhroses y pwyllgor. Nid yw hyn yn feirniadaeth ar yr Aelodau eu hunain, ond yng nghyd-destun pwyllgor, rwy'n credu bod cael Aelodau sy’n amlwg â safbwynt rhagddiffiniedig ar hyn yn ei gwneud ychydig yn anos sicrhau rhyw lefel o gonsensws trawsbleidiol ar hyn. Roedd yr Aelodau’n gyfranwyr rhagorol yn yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am hynny, ond ni chredaf mai’r system a gyflwynwyd ar gyfer y broses hon oedd y ffordd orau o'i wneud. Gyda phrofiad Adam Price a'i brofiad yn y gorffennol yn yr achos hwn, byddai wedi bod yn well gennyf pe bai wedi bod yn dyst i’r pwyllgor hwn, yn hytrach nag yn Aelod a oedd yn arsylwi.

Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedwch yn gwbl annilys, gan fod yr hyn a ddywedwch yn cwestiynu Cadeirydd y pwyllgor a'i safbwynt mewn perthynas â gallu gwahaniaethu rhwng statws arsylwi a'r rhai ohonoch sydd ar y pwyllgor. Ni chredaf ei fod yn safbwynt teg, ac o ddifrif, hoffwn ichi ystyried eich beirniadaeth o Gadeirydd y pwyllgor.

Rwyf wedi ystyried hyn yn fanwl iawn, Jane, ac nid oes unrhyw feirniadaeth o'r Cadeirydd a'i chadeiryddiaeth. Yn wir, nid wyf erioed wedi bod yn aelod o’r pwyllgor safonau o dan unrhyw gadeiryddiaeth arall, ac mae cadeiryddiaeth Hannah wedi bod yn rhagorol. Os ydym yn ceisio gwneud rhywbeth fel hyn yn y dyfodol, gydag Aelodau sy'n arsylwi, sy'n rhywbeth a wnawn yn y Senedd mewn cyd-destun lle mae aelodau o bwyllgorau eraill yn eistedd ar bwyllgorau eraill wrth edrych ar bwyntiau penodol, lle maent wedyn yn atebol i'r pwyllgor hwnnw i roi adborth, rwy'n credu bod hwnnw'n gynsail sydd eisoes wedi'i sefydlu ac sy'n gweithio'n dda. Ni chredaf mai cael Aelodau sy'n arsylwi yn y cyd-destun hwn yw'r ffordd a'r fformat gorau i fwrw ymlaen â hyn. Nid yw'n adborth ar yr unigolion eu hunain; y broses, yn hytrach, sy'n galw am ystyriaeth bellach yn y dyfodol yn fy marn i. Ond nid yw’n feirniadaeth o’r gadeiryddiaeth nac yn wir o'r Aelodau, fel y nodais.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gan fy mod yn ymwybodol fod y cloc wedi troi'n goch iawn, mae pryderon ynghylch dichell yn ddilys, ac mae'r angen am atebolrwydd yn glir. Mae'r ffordd ymlaen yn galw am lunio polisïau gofalus ac ystyriol. Mae’n rhaid inni barhau i fireinio’r mecanweithiau sy’n cynnal uniondeb y Senedd, gan sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau yn effeithiol ac yn deg. Mae hynny’n golygu gwahaniaethu’n glir rhwng gwahanol rolau yn ein system ddemocrataidd, gan sicrhau bod mecanweithiau craffu yn wirioneddol ddiduedd, a chaniatáu digon o amser ar gyfer ystyriaeth ystyrlon.

Mae'n fater o ymddiriedaeth: ymddiriedaeth yn ein cynrychiolwyr, ymddiriedaeth yn ein prosesau ac ymddiriedaeth yn y safonau yr ydym yn eu cynnal. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud pethau’n iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Wrth inni ymgynnull yn y Siambr hon am y tro olaf cyn iddi gael ei thrawsnewid, rwy'n meddwl am hanes ac am bosibiliadau. Bydd y waliau hyn yn ildio i gynllun newydd cyn bo hir, ond wrth inni ailadeiladu’r gofod ffisegol hwn, rwy'n credu ein bod yn wynebu cwestiwn mwy sylfaenol wrth wraidd ein dadl ar yr adroddiad hwn: pa werthoedd y byddwn yn eu harysgrifennu nid yn siâp ein Siambr, ond yng nghalon ein democratiaeth? Credaf mai ymrwymiad diwyro i'r gwirionedd yw'r pwysicaf ohonynt, y cyfamod, mewn gwirionedd, sy'n clymu democratiaeth ynghyd.

Rydym wedi gweld mewn man arall, onid ydym, yn ystod 70 diwrnod cyntaf ail arlywyddiaeth Trump, effaith gyrydol anonestrwydd systematig. Mae pob dichell yn erydu'r realiti gyffredin y mae llywodraethiant democrataidd yn dibynnu arni. Mae Maria Ressa, enillydd gwobr Nobel, yn ei ddweud yn blaen: 'Heb ffeithiau, ni allwch gael gwirionedd. Heb wirionedd, ni allwch gael ymddiriedaeth, a heb ymddiriedaeth, nid oes gennym unrhyw realiti gyffredin ac mae democratiaeth yn marw.' Gadewch i’r geiriau hynny atseinio yma heddiw ac atseinio yn ein Siambr ar ei newydd wedd yfory: heb wirionedd, mae democratiaeth yn marw. Nid gormodiaith yw hyn, nid braw pleidiol mohono; dyma wers galed hanes. Pan ddaw'r gwirionedd yn opsiynol, daw democratiaeth yn amhosibl.

Mae Cymru'n wynebu dewis. Gallwn arsylwi o bell wrth i ddemocratiaethau eraill frwydro yn erbyn tonnau o ddichell fwriadol, neu dynnu llinell a dweud, 'Nid yma, nid yn ein democratiaeth ni, nid o dan ein gwyliadwriaeth ni.' Rwy'n fwy na pharod i ildio.

17:30

Diolch, Adam. Rwy'n cael trafferth oherwydd mae democratiaeth yn golygu bod gennym reolaeth y gyfraith, mae gennym ryddid, mae gennym ryddid i lefaru, ond nid yw hynny'n ddigon. Pan siaradwn am ddemocratiaeth, mae peth rhwymedigaeth arnoch chi. Mae rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei roi yn gyfnewid oherwydd eich bod chi wedi llwyddo. Felly, y peth hwnnw yw'r ufudd-dod hwnnw, ac mae'r ufudd-dod yn dod yn rheolaeth y gyfraith, yr ydych chi wedi ei dderbyn, a chaiff dichell ei ddileu y pryd hwnnw oherwydd eich bod wedi ymuno â'r drefn ddemocrataidd ac mae gennych reolaeth y gyfraith y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hi. Ac mae'n rhaid ichi edrych i mewn iddo, pa un a yw rhywun wedi eich camarwain; sut y gall ymuno â hynny? Felly, rwy'n cael trafferth gyda hyn oherwydd rwy'n dweud mai'r enw arall ar ddemocratiaeth yw ufudd-dod ac nid oes gan ddichell unrhyw rôl yno oherwydd fel arall, rydych chi'n mynd yn groes i'r gyfraith. Diolch.

Rwy'n credu mai'r angen sylfaenol i ni fel cynrychiolwyr democrataidd yw dweud y gwir. Dyna'r egwyddor gyntaf, sylfaen ein democratiaeth gyfan. Y llynedd, rwy'n cofio, mewn ystafell ddi-ffenestr y tu ôl i ni, roedd Lee Waters a minnau'n dystion pan wnaeth y cyn-Gwnsler Cyffredinol dri ymrwymiad hanesyddol ar ran y Llywodraeth hon a ailadroddwyd wedyn yn ddiweddarach i'r Senedd gyfan: yn gyntaf, byddai dichell fwriadol gan unrhyw un sy'n ymgeisio am swydd etholedig neu sydd mewn swydd etholedig yn dod yn drosedd anghymhwyso; yn ail, y byddai'r safon yn cael ei gorfodi trwy broses farnwrol annibynnol; ac yn drydydd, y byddai'r amddiffyniadau hyn yn eu lle erbyn diwedd eleni, ymhell cyn etholiad nesaf y Senedd. Nid awgrym ydoedd; roedd yn addewid diamwys.

Mae adroddiad y pwyllgor ac ymateb y Llywodraeth yn cynnwys elfennau pwysig o gynnydd. Ar gyfer yr Aelodau presennol, ni allai'r pwyllgor ddod i gytundeb unfrydol ynglŷn â deddfwriaeth ac felly mae ymateb y Llywodraeth yn dawel ar hynny, felly byddwn yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol pe gallai nodi cynigion deddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer yr Aelodau, amserlen y Bil a sut y mae'r cynlluniau hyn yn cyd-fynd â'r addewid.

Ar gyfer ymgeiswyr, argymhellodd y pwyllgor y dylid ehangu'r drosedd bresennol o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 drwy'r Gorchymyn cynnal etholiadau ar gyfer etholiad y Senedd sydd i ddod, a thrwy ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer etholiadau yn y dyfodol. Yma, mae'n rhaid imi ddweud bod ymateb y Llywodraeth yn destun pryder. Dim ond mewn egwyddor y mae wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor, gan honni na ellir cyflawni newidiadau cyn yr etholiad nesaf. Yn seiliedig ar asesiadau cyfreithiol, rwy'n deall y bydd angen ymgynghoriad cyhoeddus newydd 12 wythnos, fod rhaid ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, a bod yr ymgynghoriadau hyn yn ymestyn y tu hwnt i'r terfyn amser o chwe mis cyn etholiadau—yr hyn a elwir yn egwyddor Gould.

A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a yw hi ei hun yn derbyn yr asesiadau cyfreithiol hynny? Ni allaf ddod ar draws unrhyw ddyletswydd benodol i ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol. Ni wnaethom hynny dros ddiwygio'r Senedd ar unrhyw adeg; yn wir, ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar hynny. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad eisoes wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i bob pwrpas ar gyfer ei ymchwiliad, ac nid yw egwyddor Gould yn statudol—fel y mae ei enw'n awgrymu, confensiwn ydyw. Ni wnaethom ganiatáu i heriau technegol atal ehangu'r Senedd. Ni wnaethom ganiatáu i gymhlethdod gweithdrefnol ein hatal rhag newid ein system bleidleisio, a rhaid inni beidio â derbyn esgusodion nawr dros danseilio'r addewid a roddwyd gan y Llywodraeth.

Mae'n ymddangos i mi fod y cwestiwn o'n blaenau yn syml: a fydd y Llywodraeth yn cyflawni ei haddewid? Rwy'n dewis bod â hyder y gwnânt, oherwydd fel arall, byddent yn cadarnhau'r farn sinigaidd allan yno, na all gwleidyddion—

17:35

Fe wnaethoch, a rhoddais amser i chi. Ac rwyf wedi rhoi amser i chi ar gyfer hynny.

Wel, iawn. Rydym yn trafod mater go bwysig, ac fe dderbyniais ymyriad hir, Gadeirydd, ond—

Wel, iawn. Fe af i graidd y mater: rwy'n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod ni'n cymryd y cam hwn. Rhaid i bob cenhedlaeth amddiffyn democratiaeth, ac mae'r amddiffyniad hwnnw'n dechrau gyda gwirionedd, Ddirprwy Lywydd. Gwirionedd yn ein geiriau, gwirionedd yn ein gweithredoedd, gwirionedd yn ein haddewid i bobl Cymru, a dylai'r egwyddor honno, wrth inni ehangu hyd a lled y ddemocratiaeth hon, ddod yn sylfaen i'r ddemocratiaeth yr ydym ar fin ei hadeiladu.

A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod yn credu mai'r her sy'n wynebu'r Llywodraeth nawr yw trosi'r argymhellion yn ddeddfwriaeth? Ond rwy'n credu ei fod yn gwbl gyflawnadwy, a bod ewyllys yn y Siambr hon i ddeddfu, a'n bod yn deddfu ar gyfer 2026. A gaf i ddweud hefyd y bydd yr argymhellion, os cânt eu gweithredu, yn creu'r safon ymddygiad fwyaf effeithiol a mwyaf llym yn unrhyw un o Seneddau'r Deyrnas Unedig? Felly, bydd yr argymhellion a'r ddeddfwriaeth bosibl ar gyfer hynny'n arloesol a byddant yn gosod, yn ôl pob tebyg, y safon uchaf o holl Seneddau'r Deyrnas Unedig.

A gaf i ddweud fy mod wedi croesawu'r adroddiad ar y cyfan, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y swm sylweddol o dystiolaeth a ddygwyd i mewn i hynny? Tystiolaeth nad oedd ar gael yn y camau cynharach yn ystod y Bil etholiadau, a thrafodaethau eraill. Ac wrth gwrs, roedd yn un o'r pryderon y cofiaf eu codi ar y pryd, fod angen inni weld y dystiolaeth honno a'i chlywed. A gaf i ddweud mai'r dystiolaeth a ddylanwadodd arnaf yn fwyaf arbennig oedd y dystiolaeth gan fargyfreithwyr troseddol, gan brif gwnstabliaid, o Gymdeithas y Gyfraith ac o Wasanaeth Erlyn y Goron? Roedd honno'n ymwneud yn benodol iawn â mater creu trosedd, ac rwy'n credu bod yr adroddiad yn ymdrin yn briodol â hynny o ran sut y gellid ymdrin â dichell mewn gwirionedd, ond nid yw'n cefnogi'r syniad o greu trosedd benodol iawn, am yr holl resymau a amlygwyd yn y dystiolaeth benodol honno: ni fyddai'n gweithio, byddai pob math o ganlyniadau annisgwyl, a pherygl o danseilio sylfaen democratiaeth seneddol, gyda braint seneddol yn rhan ohoni. Roedd y dystiolaeth yn drawiadol iawn.

O'r adroddiad, os caf sôn am yr heriau sy'n dod nawr wrth drosi hyn yn ddeddfwriaeth? Yn gyntaf, priodoldeb ac eglurder y diffiniad a ddefnyddir. Mae amryw o opsiynau wedi'u cyflwyno, ond mae'n rhywbeth sy'n galw am gryn dipyn o feddwl. A gaf i ddweud hefyd fod mater aelodau lleyg y pwyllgor yn syniad diddorol? Mae yna bŵer, os caiff yr argymhelliad ei weithredu, i gyflawni hynny. Mae angen meddwl amdano'n ofalus iawn.

Ac a gaf i ddweud hefyd, felly, mai un o'r heriau eraill a amlygir yn y ddeddfwriaeth yw'r gallu i ddeddfu mewn perthynas ag ymgeiswyr, yn hytrach nag Aelodau, pan gaiff pobl eu hethol? Nawr, mae'r ddau yn ddymunol, a byddai'r argymhelliad yn yr adroddiad mewn perthynas â chryfhau adran 106 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl, sydd wrth gwrs yn mynd y tu hwnt i gymhwysedd, yn galw am gefnogaeth ar lefel San Steffan hefyd ar gyfer hynny, ond hefyd y newidiadau posibl i'r Gorchymyn cynnal etholiadau, a yw hynny'n ymarferol. Yn amlwg, rwy'n credu bod angen rhywfaint o feddwl am hynny, oherwydd mae cryfhau'r ddeddfwriaeth a fyddai'n effeithio ar ymgeiswyr yn amlwg yn rhywbeth sy'n ddymunol. Mae ei weithredu ar gyfer ymgeiswyr, y cannoedd o ymgeiswyr, y baich a'r perygl o anawsterau a fyddai'n codi yn y cyfnod cyn etholiad yn amlwg yn heriol iawn, ac efallai fod angen ymdrin â'r pethau hyn fesul rhannau gwahanol.

Ond wrth ymdrin ag Aelodau'r Senedd, yn sicr, o ran cryfhau'r cod ymddygiad a'r rhyngweithio rhyngddo a'r adroddiad blaenorol a'r ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer adalw, maent yn mynd law yn llaw. Oherwydd rwy'n sicr o'r farn eich bod yn cyrraedd cam pan ddylai dichell lle nad yw wedi'i gywiro, lle mae wedi'i sefydlu'n glir ac o'r fath ddifrifoldeb neu o natur mor ailadroddus, fel y dylai sbarduno'r gallu i Aelodau gael eu hadalw am hynny. Ac rwy'n credu bod hynny'n mynd ymhellach nag unrhyw un o Seneddau eraill y DU, ac yn gam arwyddocaol iawn ymlaen.

Un o'r meysydd y bydd angen ei ystyried yn ofalus wrth gwrs yw'r angen am broses apelio? Os oes rhywun yn mynd i gael ei adalw am dorri cod ymddygiad mewn perthynas â dichell, mae'n sicr fod angen cael proses apêl. Fy nymuniad i fyddai i hynny fod o fewn ein system tribiwnlys ein hunain neu drwy rymuso'r pwyllgor o fewn hynny, ond mater i chi roi ystyriaeth bellach iddo yw hynny wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol. Diolch.

17:40

Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor ac i'r pwyllgor hefyd am y cyfle i allu cyfrannu at y pwyllgor. Roedd yn ddiddorol iawn, ac rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am fy nghynnwys i ac eraill hefyd.

Lle rydym arni yw bod arolwg mynegai ymddiriedaeth byd-eang wedi'i gynnal, a'r llynedd, canfu nad oedd pobl ledled y byd yn ymddiried mewn gwleidyddion. Dim ond 15 y cant o bobl yn fyd-eang a oedd yn ymddiried mewn gwleidyddion, gan olygu mai hwy—ni—yw'r proffesiwn y mae pobl yn ymddiried leiaf ynddo ledled y byd. Felly, yn amlwg, nid yw'r hyn sydd gennym, nid yn unig yma yng Nghymru, ond yn y DU a thu hwnt, yn gweithio. Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, fel y gwyddom, ar ei isaf erioed. Gwyddom fod arolygon wedi canfod bod 45 y cant o'r cyhoedd yn credu bod gwleidyddion yn fwy tebygol o ddweud celwydd nawr nag yn y gorffennol.

Felly, y rheswm pam rydym ni yma nawr, heddiw, yn dadlau hyn, ac yn symud ymlaen ar hyn mewn Bil, gobeithio, yw oherwydd ein bod am adfer yr ymddiriedaeth honno ynom ni. Mae'n rhaid i hwnnw fod yn safbwynt sylfaenol i ni. Ac ar hyn o bryd, yn fyd-eang, gallwn weld yn union beth sy'n digwydd pan fydd anwireddau'n cael eu dweud, ac mae gennym rai pleidiau gwleidyddol eisoes yn y wlad hon yn dechrau mynd heb eu herio am rai o'u datganiadau. Pan fydd celwyddau'n mynd heb eu herio, mae democratiaeth yn gwanhau, mae ffydd y cyhoedd yn erydu ac atebolrwydd yn diflannu.

Os edrychwn ar y genhedlaeth nesaf, canfu'r Comisiwn Etholiadol mai dim ond 62 y cant o bobl ifanc yma yng Nghymru sy'n teimlo bod ganddynt ddealltwriaeth dda o ddemocratiaeth. Mae angen inni gyfrannu at hynny a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynhyrchu cenhedlaeth nesaf o wleidyddion sydd nid yn unig yn deall bod angen iddynt fod yn eirwir, ond sydd eisiau cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd hon. 

Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor safonau am osod cam clir ac ymarferol ymlaen, ac mae—. Yn amlwg, roedd yna wahaniaethau clir a gafodd eu cydnabod a'u hadlewyrchu yn yr adroddiad. O'm safbwynt i, credaf y dylid trin Aelodau ac ymgeiswyr yn union yr un fath; ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth. Mae hynny'n ei wneud yn lanach ac yn llawer cliriach, ac mae gan ymgeiswyr gyfrifoldeb o'r adeg y cânt eu dewis. 

Diolch; rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Y pwynt yw nad yw ymgeiswyr ac Aelodau yn bodoli ar yr un pryd. Pan gyhoeddir diddymiad y lle hwn, rydym yn peidio â bod yn Aelodau'r Senedd a down yn ymgeiswyr. Felly, dyna'r rheswm dros yr angen am ddwy ffordd wahanol o weithredu pe bai unrhyw ddichell gan ymgeiswyr ac Aelodau'r Senedd—y ffaith nad ydynt yn cyd-fodoli.

Diolch, Sam, ac rwy'n gwybod bod rhywfaint o drafod wedi bod ynglŷn â hyn. Fy nealltwriaeth i yw eich bod chi'n dod yn ymgeisydd o'r adeg pan gewch eich dewis gan eich plaid wleidyddol eich hun. Ac mewn gwirionedd, mae yna adeg pan ydym i gyd yn y pwll hwnnw, fel y dywedwch, lle nad ydym yn Aelodau nac yn ymgeiswyr. Felly, mae'n creu gwahaniaeth anesmwyth os ydych chi'n dweud bod un set o reolau'n gymwys i un set o Aelodau—un set o bobl—a ddim i'r lleill. Ond mae yna anghytuno ynglŷn â hyn, ac yn amlwg, wrth inni symud ymlaen, gallwn drafod hynny ymhellach.

Fy ail fater—a byddwn yn croesawu ymateb penodol i hyn gan y Cwnsler Cyffredinol—yw pryder fod ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad yn ymddangos fel pe bai'n gwanhau mewn perthynas â'r amserlen. Rwy'n credu'n glir iawn fod angen cyflwyno hyn yn gynt; mae angen pasio'r Bil hwn a'r ddeddfwriaeth yn barod ar gyfer 2026. Mewn gwirionedd, roedd ymrwymiad, fel y clywsoch, iddo ddigwydd eleni, hynny yw, cyn diwedd 2025. Felly, byddwn yn croesawu ymateb y Cwnsler Cyffredinol i'r mater penodol hwnnw, a chael eglurder ar y gallu i gyflawni hyn, os yn bosibl erbyn diwedd 2025, ond yn sicr erbyn diwedd tymor y Senedd yn 2026. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Mae'r hyn y mae gwleidyddion yn ei ddweud, sut y maent yn ei ddweud a'r effaith y mae'n ei chael yn bwysig, dyna mae'r adroddiad safonau yn ei ddweud. Rwy'n credu bod y broses yr aethom drwyddi wedi bod yn un gadarn, mae wedi bod yn un ddefnyddiol, ond mae'n un sydd wedi arwain at gyfaddawd, ac mae wedi arwain at gyfaddawd am nad oes cytundeb, ac rwy'n credu bod hynny'n ddigon teg. Fel y dywedodd Hannah Blythyn, mae'r argymhellion yn cynrychioli newidiadau cynyddrannol, ac a bod yn onest, rwy'n credu mai dyna lle daeth trafodaeth y pwyllgor i ben.

Y cwestiwn mawr yma—ac rwy'n credu mai dyma'r gwahaniaeth—yw a ydym yn meddwl bod y weithred fwriadol o gamarwain drwy ddichell, mynd ati i gamarwain yn fwriadol, nid yn ddamweiniol, nid llithriad tafod, nid camddealltwriaeth o'r ffeithiau sy'n cael ei chywiro wedyn, neu fel y ceisiodd Mark Isherwood ei gyflwyno i'r ddadl yn gynharach, gwahaniaeth o ran dehongliad o'r wleidyddiaeth neu'r dystiolaeth, ond gweithred fwriadol i ddweud rhywbeth y maent yn gwybod nad yw'n wir er mwyn camarwain—. Dyna graidd y ddadl hon, ac yn wyneb hynny, a yw hynny'n rhywbeth y gellir ymdrin ag ef o fewn y Senedd, o fewn y broses safonau, neu a yw mor allanol fygythiol i wead democratiaeth fel bod angen ymdrin ag ef drwy'r broses gyfreithiol?

Dyna'r cwestiwn sylfaenol o hyd, ac mae'n un nad yw wedi'i ddatrys gan adroddiad y pwyllgor mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn ystyriaeth ddigon teg fod llawer o'r byd democrataidd mewn parlys yn wyneb y bygythiad sy'n dod i'n cyfeiriad. Nid ydym yn gwybod beth yw'r ffordd orau o ymdrin â Donald Trump ac Elon Musk a'r ffordd y maent yn creu arf o gamwybodaeth er mwyn ansefydlogi ein diwylliannau a'n cymdeithasau democrataidd yn fwriadol. Rydym yn edrych ar Senedd yr Unol Daleithiau yr wythnos hon, lle maent mor ddryslyd o'i herwydd nes eu bod wedi ildio i ffilibystrad fel ffordd o ymateb iddo, sy'n weithred o ddiymadferthedd. Ond mae'n ymgais arall i ddweud, 'Nid ydym yn gwybod sut i ymdrin â hyn. Pa ffordd sydd orau?'

Nid wyf yn credu y dylem geryddu ein hunain am ein bod wedi methu sicrhau consensws, ac fe geir dadleuon dirdynnol ar y ddwy ochr, ac mae Aelodau wedi gwneud sawl pwynt ymarferol yma ynglŷn â sut y gellir ei wneud. Ond materion eilradd yw'r rhain yn fy marn i, am nad ydynt yn mynd i'r afael â'r pwynt sylfaenol.

Mae pwynt Sam Kurtz am rôl Aelodau sy'n arsylwi yn sylw hollol ddilys yn fy marn i, ac roeddwn i'n meddwl bod ymyriad Mick Antoniw yn atgyfnerthu'r pwynt. I mi, nid oedd yn ymwneud â hynny mewn gwirionedd. Mae'n amlwg nad yw'r syniad fod pobl yn y pwyllgor safonau wedi dod at hyn yn niwtral heb unrhyw feddyliau ymlaen llaw yn wir, a pham y dylai fod? Mae gan bob un ohonom safbwyntiau. Rwy'n credu ei bod yn eithaf diddorol pa mor gonfensiynol oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion i'r ddadl hon: yr ymdeimlad y dylid ei adael i'r sefydliad; mai Aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd sy'n atebol i'w pleidleiswyr yw'r rhai mwyaf priodol i ymdrin â hyn yn y ffordd arferol.

Nid wyf yn beirniadu hynny; rwy'n deall hynny. Mae honno'n farn berffaith gonfensiynol, uniongred, safonol o'r ffordd yr awn i'r afael â'r pethau hyn, ac roedd hynny'n sicr yn cael ei adlewyrchu yn llawer o'r dystiolaeth a gawsom a'r cyngor a gawsom gan wasanaeth y pwyllgor. Ac rwy'n credu bod hynny'n ddisgwyliedig, ond ar ôl myfyrio ar hyn a dod i'r ddadl hon yn eithaf niwtral fy hun, nid wyf yn credu ei fod yn ddigon i oresgyn her y bygythiad sy'n wynebu democratiaeth. Nid wyf yn credu ei fod yn ddigon i wrthsefyll lefel y perygl y mae ein gwead democrataidd yn ei wynebu ar hyn o bryd ledled y byd, ac nid yw Cymru'n wahanol. Ac yn yr ystyr honno, rwy'n credu bod methiant wedi bod o ran dychymyg yn ymateb y pwyllgor i ymdrin â'r lefel honno o ymosodiad.

Fodd bynnag, rwy'n cydnabod ei fod yn adlewyrchu lefel wirioneddol o anghytundeb, a methiant ar ran Adam Price, Jane Dodds a minnau i wneud yr achos i bobl fod angen dychymyg yma, mae angen dull gwahanol o weithredu arnom. Nid wyf yn credu ein bod wedi llwyddo i gael mwyafrif y bobl i gytuno â ni ar hynny. Dyna pam y cawsom yr adroddiad cyfaddawd hwn, ac mae'n adroddiad cyfaddawd sy'n mynd â ni ymhellach na lle'r oeddem o'r blaen, ac rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol. Mae'n her i'r Llywodraeth nawr, sydd, beth bynnag y mae adroddiad y pwyllgor yn ei ddweud, wedi rhoi ymrwymiad i'r Senedd hon, fel y cawsom ein hatgoffa gan Adam Price. Darllenodd Adam yr hyn a lofnodwyd y llynedd—ac mae bellach yn her i'r Llywodraeth wybod sut i ymateb i anrhydeddu hynny—i ddweud y bydd deddfwriaeth cyn 2026

'ar gyfer datgymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o ddichell fwriadol, a hynny drwy broses farnwrol annibynnol.'

Edrychaf ymlaen at glywed sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â hynny. Diolch.

17:50

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad ac a gyflwynodd yr adroddiad hwn. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor, ac mae'r gwaith yn rhan o'r gwaith ar atebolrwydd Aelodau unigol y buom yn ei wneud fel pwyllgor, gydag adroddiad ar adalw eisoes yn cael ei gyflawni, a gwaith arall yn digwydd ar aflonyddu rhywiol a bwlio a materion eraill yn ymwneud â safonau.

Dysgais lawer iawn yn y dystiolaeth a glywsom, pethau nad oeddwn i'n eu deall o'r blaen, ond rwy'n eu deall ychydig yn well nawr, diolch i amynedd clercod y pwyllgor a'r tîm ymchwil a fu'n esbonio, yn amyneddgar, sut y mae modelau gweinyddol yn gweithio a sut y mae troseddau sifil a throseddol yn gweithio, a baich prawf, a'r holl agweddau hyn sy'n rhan o gysyniad cymhleth ond syml. 'Peidiwch â dweud celwydd' yw'r cysyniad syml yn y bôn, ond pan fyddwch chi'n dechrau ei ddadansoddi a cheisio dod o hyd i ddiffiniad o 'ddichell', ac rydym wedi clywed nifer o wahanol ddiffiniadau—.

Clywsom gan Sam am y gwahaniaeth rhwng Aelod ac ymgeisydd, ac roeddwn i'n un a ddaeth i lawr ar ochr wahanol i'r ddadl honno. Roeddwn i'n meddwl y gellid ei wneud drwy fodel gweinyddol lle gellid ei allanoli i banel annibynnol wneud hynny. Efallai y gallai rhywbeth tebyg i Banel Dyfarnu Cymru wahaniaethu a dod i gasgliad y gellid bod wedi ei ddefnyddio. Roeddwn i'n meddwl hynny, a dyna pam y mae barn leiafrifol yn yr adroddiad i geisio cyflwyno'r achos hwnnw ac i ddweud ein bod wedi clywed yr achos hwnnw'n cael ei wneud.

Rwy'n siomedig braidd fod y newidiadau i'r Gorchymyn cynnal etholiadau y gellid bod wedi'u cyflwyno erbyn 2026 i'w gweld fel pe baent wedi'u gwthio allan oherwydd rhai o'r agweddau a ddaeth yn ôl yn eich ymateb chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y gallech chi fanylu ychydig mwy pam y byddai'r oedi hwnnw'n digwydd a pham na fyddai'n dod i'w le erbyn 2026, oherwydd rwy'n credu y gallai fod wedi bod yn elfen arloesol y gallem fod wedi ei rhoi ar waith ar gyfer yr etholiad nesaf a fyddai wedi gwneud dichell wleidyddol yn drosedd mewn ffordd eithaf syml ac o fewn fframweithiau sydd eisoes ar gael.

Mae'n rhaid imi ddiolch i fy nghyd-aelodau a'r aelodau a oedd yn arsylwi am wneud hwn yn adroddiad diddorol iawn i fod yn rhan ohono. Fel aelod o'r pwyllgor, fel yr aelodau eraill rwy'n siŵr, byddwn yn parhau i wneud newid cynyddrannol a newidiadau i'r cod ymddygiad, i gryfhau'r ddemocratiaeth hon, a chryfhau'r lle hwn wrth inni symud i fyd newydd Senedd fwy yn y dyfodol. Hoffwn orffen gyda hynny a diolch i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd eisiau dechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a'i gadeirydd yn arbennig, am eich holl waith caled ar y pwnc pwysig hwn. Nid oes amheuaeth fod y rhain yn faterion cymhleth, ac mae i bob opsiwn ei risgiau a'i gyfleoedd. Rwyf innau hefyd am ddiolch i'r aelodau a oedd yn arsylwi am eu mewnbwn. Yn amlwg, rydych i gyd yn hynod o awyddus i gael hyn yn iawn, ac rwy'n credu bod hynny wedi'i amlygu'n glir iawn.

Roeddwn yn falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol yn ein dadl ddiweddar ar adalw hefyd, ac rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, fod angen inni adeiladu ar y consensws hwnnw wrth inni symud ymlaen. Fel y mae llawer o'r Aelodau wedi dweud heddiw, mae gan bob un ohonom yn y Senedd ddyletswydd i fod yn onest gyda'r bobl a gynrychiolwn. Mae eu hymddiriedaeth ynom, yn y sefydliad hwn, ac yn ein democratiaeth yn dibynnu'n llwyr ar hynny. Mae'r penderfyniadau a wnawn yma yn effeithio ar eu bywydau bob dydd, ac er y gallwn anghytuno ar lawer o bethau, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn sylfaenol—ac mae'r ymddiriedaeth honno dan fygythiad. Rydym i gyd wedi'i weld, ac mae angen i ni i gyd weithredu, ac mae hynny'n golygu mynd i'r afael â dichell fwriadol mewn gwleidyddiaeth yn uniongyrchol.

Mae'r pwyllgor wedi mabwysiadu ymagwedd synhwyrol, gan edrych ar wahân ar safonau i Aelodau ac ymgeiswyr. Rwy'n cytuno â'u hasesiad fod y rhain yn rolau gwahanol sy'n ddarostyngedig i wahanol reolau, er fy mod hefyd yn cytuno bod gennym y rolau hynny ar yr un pryd weithiau. Rwy'n credu ei bod hi'n anodd iawn dadlau yn gyhoeddus, pan gewch eich dewis gan blaid wleidyddol gymeradwy i fod yn ymgeisydd ar ei rhan, nad ydych chi'n ymgeisydd, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich ethol ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod y ddwy ochr yn iawn. Gallwch gael y ddwy rôl ar yr un pryd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod pobl yn atebol i'r un safonau ymddygiad.

Ar gyfer yr Aelodau, fodd bynnag, yr argymhelliad yw cryfhau'r drefn safonau bresennol gan gyflwyno system adalw ar yr un pryd. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno Bil cyn etholiad 2026 i wneud i hynny ddigwydd. Ddirprwy Lywydd, mae angen i ni i gyd gytuno ar draws y Siambr fod y Bil hwnnw'n bwysig, a bod angen i ni gytuno ar amserlen i'r Bil hwnnw gael ei gyflwyno, oherwydd mae amser yn brin iawn bellach. Rydym ym mlwyddyn olaf y tymor seneddol hwn, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cyflymu gwaith ar y Bil i wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd.

Mae'r Llywodraeth yn ymrwymo i wneud y system honno'n gryfach trwy dderbyn argymhelliad 2, a chaniatáu aelodau lleyg i fod yn rhan o'r pwyllgor safonau. Daw hyn ag annibyniaeth, persbectif allanol ac arbenigedd yn ei sgil. Rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 6, sy'n gadael i'r comisiynydd safonau gychwyn ymchwiliadau eu hunain. Bydd y ddau newid yn cael eu cynnwys yn y Bil adalw.

Ar gyfer ymgeiswyr, mae'r pwyllgor, yn argymhelliad 3, yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru greu trosedd newydd o ddichell fwriadol, gan ehangu'r drosedd bresennol yn erthygl 75 o'r Gorchymyn cynnal etholiadau drafft o wneud datganiadau ffug am gymeriad ymgeisydd, fel y mae ar hyn o bryd. Rydym yn derbyn hyn mewn egwyddor, ond fel y nodais wrth y pwyllgor, rhaid gwneud mwy na mân addasiadau i'r drosedd bresennol. Yr hyn sydd ei angen yw rhywbeth gwahanol, ac mae angen ystyried hynny'n ofalus.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud wrth y Senedd heddiw fy mod wedi gofyn i fy swyddogion ddatblygu trosedd newydd sy'n adlewyrchu bwriad y pwyllgor. Nid yw'n rhywbeth y gallwn ei ruthro. Mae angen asesiad llawn o'r effaith ar y system gyfiawnder a chyfraith etholiadol ehangach ac ymgynghoriad. Mae hynny'n golygu na fydd yn debygol o fod yn ei le ar gyfer etholiad y flwyddyn nesaf, ond nid wyf yn dweud yn bendant, ac rwy'n hapus iawn, Ddirprwy Lywydd, i gynnig cyfarfod ag Aelodau, gan gynnwys Cadeirydd y pwyllgor, ac unrhyw Aelodau eraill sydd â diddordeb, gyda fy swyddogion, i drafod yr hyn sy'n bosibl, o ystyried y cyfyngiadau amser sydd arnom.

Ar y Gorchymyn cynnal etholiadau, mae Aelodau bob amser yn ei chael hi'n anodd iawn credu pa mor hir y mae'r pethau hyn yn cymryd i ddatblygu. Ond mae bron wedi'i ddrafftio, a byddwn yn ei gyflwyno cyn bo hir, felly mae'r terfynau amser yn dynn iawn ar gyfer hyn. [Torri ar draws.] Yn sicr. 

17:55

Ar y ddeddfwriaeth y cyfeirioch chi ati'n gynharach, a fydd honno'n cynnwys yr elfen yn yr adroddiad sy'n ymwneud â Gorchmynion cynnal etholiadau yn y dyfodol, felly y newid yn Neddf Llywodraeth Cymru fel bod pob Gorchymyn cynnal etholiadau yn y dyfodol yn cynnwys y drosedd o ddichell fwriadol? Ac mewn perthynas ag Aelodau, rwy'n deall eich bod yn cyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas ag adalw, ond eich ymrwymiad yw deddfu i gyflwyno anghymhwyso drwy broses farnwrol annibynnol ar gyfer Aelodau. Mae cynigion y pwyllgor yn ymwneud â'r broses safonau, felly nid ydynt yn rhan o'r cwmpas hwnnw. Felly, a ydych chi'n ymrwymo yn eich deddfwriaeth i ddeddfu ar gyfer proses farnwrol annibynnol mewn perthynas ag Aelodau hefyd?

Ddirprwy Lywydd, rwy'n mynd i wneud ychydig o gynnydd, ac fe welwch i ble rwy'n mynd ar rywfaint o hynny. Roeddwn ar fin dweud, mewn gwirionedd, Adam, fod angen inni ystyried a oes angen newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud hyn yn bosibl, ac mae angen inni wneud hynny'n iawn. Mae angen inni wneud asesiad priodol o hynny, ond rwy'n hapus i wneud hynny gydag Aelodau sydd â diddordeb, yn ogystal â fy swyddogion, i weld beth sy'n bosibl.

Mae'n rhaid inni weithio'n agos iawn gyda Chomisiwn y Senedd i gadw popeth yn gyson yma hefyd, ac rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'r Comisiwn fel nad yw'r Llywodraeth yn mynd yn rhy bell. Felly, mater i'r Comisiwn yw sut y mae'r system safonau'n gweithio, ond mae'r Llywodraeth yn barod i ddeddfu i roi hynny ar waith ar sail statudol, a dyna pam rwyf eisiau cynnwys Aelodau yn y sgwrs, gan gynnwys aelodau'r Comisiwn.

Rydym eisiau cydlynu'r amserlenni ar gyfer y ddau beth yn ofalus, ond mae'r hyn rydych chi newydd ei awgrymu yn berffaith bosibl. Mae angen i'r Comisiwn gytuno, fodd bynnag, i'w weithdrefnau gael eu trin yn y modd hwnnw, felly mae angen cytundeb cyfunol. Ni all y Llywodraeth ddeddfu ar ran y Comisiwn seneddol, ac nid yw eisiau gwneud hynny, ond mae'n berffaith bosibl gwneud hynny. Felly, gofynnais i fy swyddogion weithio'n agos gyda Chomisiwn y Senedd i gadw popeth yn ei drefn, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar hynny. Mae'r Dirprwy Lywydd a'r Llywydd yn ymwybodol ein bod wedi gofyn am wneud hynny.

Rydym hefyd yn croesawu argymhelliad 5, sy'n cynnig ffordd newydd i ymgeiswyr gywiro'r cofnod yn gyflym ochr yn ochr â'r drosedd newydd, a byddwn yn ystyried hynny'n rhan o'r gwaith ar argymhelliad 3.

Ar argymhelliad 11, ar apelio, rwy'n gwybod bod y Senedd wedi dileu ei phroses flaenorol yn 2022. Penderfyniad i'r Senedd yw hynny. Ond fel y dywedais nawr, mae'r Llywodraeth yn barod i gefnogi unrhyw drafodaethau ar opsiynau posibl, gan ystyried pam y cafodd y broses flaenorol ei dileu. Mae'r angen am ddeddfwriaeth ai peidio yn dibynnu ar gwmpas y broses apelio y mae'r Senedd yn dymuno ei mabwysiadu, ond mae gan y Llywodraeth ddiddordeb mewn archwilio proses apelio drwy banel dan arweiniad barnwr, i bob pwrpas, ar gyfer y broses apelio, y tu allan i'r Comisiwn, ac rydym yn awyddus iawn i drafod hynny. A gellid rhoi hynny yn y Bil. Dyna fyddai fy mwriad, yn amodol ar drafodaeth gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd. Ac o wneud hynny cawn gyfuniad bach o'r ddau yn yr un Bil.

Ddirprwy Lywydd, bydd rhai o'r Aelodau'n gwybod fy mod wedi trafod gyda hwy nad wyf yn credu ei bod hi'n bosibl—a gennyf i y mae goruchwyliaeth ar y rhaglen ddeddfwriaeth yn gyffredinol—cael dau Fil ar y gweill a phasio'r ddau ohonynt. Felly, rwyf am fod yn hollol agored yma: fe wnaethom roi ymrwymiad i gyflwyno Bil, ac rwyf eisiau cael Bil wedi'i basio, ac mae'r rhain yn bethau gwahanol iawn. Felly, rwy'n hapus iawn i weithio gyda phobl i weld beth sy'n bosibl ei wneud, o ystyried y cyfyngiadau amser arnom—ac maent yn dynn iawn. Felly, rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion eisoes i archwilio pa ddarpariaethau y gallai fod eu hangen a'u cynnwys yn y Bil y byddaf yn ei gyflwyno i sefydlu system adalw i gwmpasu'r drosedd o ddichell fwriadol. Ac ar gyfer y cofnod, Ddirprwy Lywydd, ac os caf fynegi barn bersonol, rwy'n credu bod troseddau eraill y gellid eu cynnwys hefyd yn hynny sydd yr un mor ddybryd—er enghraifft, troseddau o natur rywiol, y credaf fod angen rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt hefyd. 

Felly, hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am y ddadl heddiw ar y pwnc pwysig hwn, ac rwyf am ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Nid ydym yn cytuno ar bob manylyn, ond rydym i gyd yn cytuno bod dichell fwriadol gan wleidyddion yn anghywir. Mae'n tanseilio ein democratiaeth ac mae'n rhaid inni fynd benben ag ef. Mae'n hanfodol ein bod yn adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth. Mae angen i bobl gredu mai'r penderfyniadau a wnawn ar eu rhan yw'r penderfyniadau cywir, wedi'u gwneud yn onest. Edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith hwn a chyflwyno newidiadau pwysig i gryfhau ein democratiaeth, ac edrychaf ymlaen at weithio'n ddyfal gydag Aelodau ar draws y Siambr i wneud i hyn ddigwydd. Diolch.

18:00

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw?

Pan ddiolchais i bawb yn fy sylwadau agoriadol am eu cyfraniadau i'r sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gennym, ni wneuthum ddiolch i'r rhai a oedd ar y pwyllgor am eu holl gyfraniadau hwythau hefyd, ac rwy'n credu ei fod yn sicr yn waith diddorol iawn. Hoffwn fynegi fy niolch hefyd, fel Cadeirydd, i dîm cyfan y pwyllgor am eu holl waith, oherwydd rwy'n gwybod nad oedd hon yn dasg syml, ac rwy'n gwybod eu bod wedi rhoi llawer o ymdrech i geisio dod â ni i le lle gallem awgrymu atebion ymarferol i fynd â ni i'r cyfeiriad yr oeddem am fynd iddo. Ac rwy'n derbyn sylwadau gan y rhai a fyddai'n dymuno i'r adroddiad fynd ymhellach. Rwy'n credu y gallwn gytuno eu bod yn gam i'r cyfeiriad cywir a bod yna bethau y gallwn adeiladu arnynt yma yn ein Senedd. 

Diolch i Mick am drosglwyddo'r gwaith hwn i'r pwyllgor mewn rôl flaenorol, cyn imi ddod yn Gadeirydd— 

Ie, ac am gyfrannu fel aelod wedyn. 

Rwyf am ganolbwyntio ar un pwynt penodol cyn mynd i'r afael ag un neu ddau o bethau yn fwy cyffredinol, sef rhai o'r pwyntiau ynghylch y gwahaniaethu rhwng argymhellion ar gyfer ymgeiswyr ac Aelodau. Rwyf am gyfeirio cyd-Aelodau at bwynt yn adroddiad y pwyllgor, lle dywedwn fod mabwysiadu

'mecanweithiau gwahanol ar gyfer mynd i’r afael â dichell fwriadol yn cydnabod statws unigryw a threfn lywodraethu a nodweddion gwahanol y ddau grŵp hyn ond ar yr un pryd, mae’n golygu bod modd pennu’r un difrifoldeb i’r mater o ddichell fwriadol.'

Felly, dyna oedd un o'r rhesymau y tu ôl iddo, ond rwy'n derbyn y sylwadau, fel y dywedasom, fel y'u clywsom gan y Cwnsler Cyffredinol hefyd. A diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei chynnig i gyfarfod â mi fel Cadeirydd ac Aelodau eraill sydd â diddordeb i fynd â'r gwaith hwn ymlaen, oherwydd rydym wedi clywed mewn llawer o gyfraniadau—gan Jane, gan Adam, gan Lee, gan Sam—fod hyn yn rhan o ddarlun mwy, problem fwy, her fwy y mae angen inni ei hwynebu, ac mae angen inni adeiladu cynghreiriau blaengar nid yn unig yma yn y Senedd, ond ledled y byd hefyd. Pan oeddem yn trafod hyn fel pwyllgor, rwy'n gwybod ei fod yn mynd y tu hwnt i fater gwleidydd yn camarwain drwy ddichell fwriadol, ond i'r modd y gall hynny deithio'r byd a sut y mae camwybodaeth yn broblem gynyddol. O na fyddai gennym y pwerau yn y lle hwn i fynd i'r afael â Trump ac Elon Musk, ond mae hynny y tu hwnt i'r hyn y cawn ei wneud ar hyn o bryd. Ond i ni fel pwyllgor yn y trafodaethau, yn gwbl ddifrifol, fe gododd bethau eraill y gallai fod angen inni allu edrych arnynt fel pwyllgor, ac fel Senedd, yn ymwneud â sut y gallwn gael mwy o dryloywder ar bethau fel hysbysebu a rhoddion gwleidyddol, ac ystod o faterion fel hynny sydd hefyd yn tanseilio ein democratiaeth. Ac fel y dywedodd Jane Dodds, gobeithio y bydd yr holl waith hwn, holl waith y pwyllgor yr wyf yn falch o'i gadeirio, yn adfer ymddiriedaeth a thryloywder yn ein gwleidyddiaeth, ac nid yn unig yn ein gwleidyddiaeth, ond yn ein gwleidyddion a'r lle hwn. O ystyried y gefnogaeth a glywais yma heddiw, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiadau a'r sylwadau gan y Cwnsler Cyffredinol i wneud y gorau posibl i gyrraedd pwynt pan allwn ddeddfu cyn etholiadau'r Senedd, os nad yw hynny'n bosibl, rwy'n credu, fel pwyllgor, ein bod yn gobeithio'n fawr y byddai unrhyw waith sy'n weddill yn cael ei wneud yn gyflym gan weinyddiaeth yn y dyfodol ar ôl etholiad 2026.

I gloi, mae gennym gyfle yma, yng nghalon ein democratiaeth ddatganoledig, nid yn unig i osod safonau uwch, ond i osod safonau Senedd ein dyfodol fel sefydliad sydd nid yn unig yn disgwyl uniondeb a gonestrwydd, ond sy'n gweld eu gwerth ar gyfer adfer ymddiriedaeth a thryloywder fel pethau hanfodol i'n democratiaeth, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'r gwaith hwn a gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws y pleidiau ac yn y lle hwn a chyda Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Taliadau plant

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 8 yw dadl Plaid Cymru: taliadau plant. Dwi'n galw ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8875 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu taliad plant.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yng Nghymru heddiw, cawn ein creithio gan anghyfiawnder, staen cenedlaethol o anghydraddoldeb sy'n ymestyn ar draws ein cymunedau o'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin, o'r ardaloedd gwledig i'r ardaloedd trefol, a'r staen hwnnw yw tlodi plant. Mae'n destun cywilydd fod 32.3 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ffigur sy'n mynd i godi erbyn Ionawr 2029 i 34.4 y cant, gan ein gwneud ni'n waeth nag unrhyw le arall yn y DU. Meddyliwch am hynny am foment. Dyna bron i un o bob tri o'n holl blant, un o bob tri o'n plant yn mynd i'r gwely'n llwglyd. Mae rhieni'n gweithio bob awr y gallant eu gweithio ac yn dal i fethu cael dau ben llinyn ynghyd, ac nid yw'r nawdd cymdeithasol, y cymorth a gânt, yn ddigon. Mae Barnardo's Cymru yn dweud eu bod yn gweld nifer cynyddol o deuluoedd yn dod atynt am gymorth argyfwng, ac mae'r rheini'n rhieni sy'n gweithio, ond nid yw eu nawdd cymdeithasol yn ddigon. Mae'r rhain yn deuluoedd sy'n cael eu gorfodi i wneud dewisiadau amhosibl sy'n arwain at anghydraddoldebau gormodol o ran y canlyniadau i'n dinasyddion ieuengaf.

Wrth ymateb i'r toriadau lles diweddar a wnaed gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, dywedodd Oxfam Cymru,

'Rydym yn byw yn y chweched wlad gyfoethocaf yn y byd lle gwelodd biliwnyddion gynnydd o £11 biliwn i'w cyfoeth y llynedd. Mae'n foesol ffiaidd mai plant, pobl anabl a gofalwyr yw'r rhai sy'n cael eu taro',

ac mae Plaid Cymru yn cytuno. Ond nid yw tlodi plant yn broblem na ellir gwneud dim yn ei chylch. Mae'n rhaid inni gofio bob amser mai dewisiadau gwleidyddol sy'n arwain at dlodi plant, sy'n dyfnhau tlodi plant, ac felly mae angen ewyllys wleidyddol, penderfyniadau gwleidyddol bwriadol i'w ddileu. A diogelu dyfodol y genedl, lles ei phlant, yw cyfrifoldeb pob Llywodraeth.

Rwyf am eich atgoffa o eiriau gonest Chris Birt, cyfarwyddwr cyswllt Sefydliad Joseph Rowntree ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol pan oeddem yn craffu ar strategaeth tlodi plant y Llywodraeth. Meddai

'Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn dweud bod ei phwerau'n fwy cyfyngedig na phwerau Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, ond os credwn nad oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru na'r Senedd ei wneud i leihau tlodi yng Nghymru, fe roddwn y gorau iddi. Wrth gwrs bod yna bethau i'w gwneud.'

Ac eto, beth y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'i wneud? Fe wnaethant ddileu targedau tlodi plant a sefydlu fframwaith monitro ar gyfer eu strategaeth tlodi plant newydd ddiddannedd. Maent yn gwrthod beirniadu Llywodraeth y DU sy'n gwrthod cael gwared ar y cap dau blentyn, polisi sy'n gwthio teuluoedd yn ddyfnach i galedi a pholisi yr oeddent hwy eu hunain yn ei gondemnio cyn i'w plaid gael yr allweddi i Rif 10, ac rydym newydd eu clywed yn gwrthod condemnio'r toriadau lles a fydd yn gwthio mwy o blant i fyw mewn tlodi. Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn dweud, ers 2010, fod tua £50 biliwn wedi'i gymryd o'r gyllideb nawdd cymdeithasol flynyddol drwy bolisïau fel rhewi budd-daliadau, y terfyn dau blentyn, y dreth ystafell wely a'r cap ar fudd-daliadau. Mae toriadau i fudd-dal tai yn golygu bod llawer o deuluoedd yn gorfod talu'r gwahaniaeth yn eu rhent. Dywedant fod y rhwyd gymorth sydd ei hangen i ymdopi â chostau cynyddol a siociau economaidd byd-eang yn wannach pan fo angen iddi fod yn gryfach, a bydd y toriadau lles cyfeiliornus a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Ganghellor Llafur yn torri mwy fyth o dyllau yn y rhwyd honno. Mae Llywodraeth Cymru yn sôn am uchelgais, ond geiriau cynnes yn unig yw'r rhain tra bo plant yn cael eu hamddifadu. Pa mor hir y buom yn galw am y pwerau sydd eu hangen arnom i wneud gwahaniaeth, fel y rhai dros les, i sicrhau bod y Gymru decach yr ydym i gyd yn dweud ein bod am ei gweld yn cael ei gwireddu? Mae gwelliant y Llywodraeth yn nodi ymrwymiad

'i drafod gyda Llywodraeth yr Alban i gael gwell dealltwriaeth o Daliad Plant yr Alban a'r ffordd mae'n gweithredu.'

Gwych. Ond ble rydych chi wedi bod? Ni allwn gefnogi mwy o archwilio, trafod ac ystyried gan mai'r hyn sydd ei angen yw gweithredu. Prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd—dyna rywbeth y gallem ni yng Nghymru ei wneud, fel y dywedodd Chris Birt, ac fe'i gwnaethom, er iddo gael ei ddiystyru dro ar ôl tro fel rhywbeth na ellid ei gyflawni, rhywbeth anfforddiadwy, y pleidleisiodd y meinciau Llafur yn ei erbyn. Mater o ewyllys gwleidyddol ydoedd, ac fe lwyddasom i'ch perswadio i ddod o hyd i'r ewyllys honno drwy eich angen i weithio gyda ni, ac rydych chi bellach yn gweiddi am y polisi hwn o ben y toeau, fel y gwnawn ni, a hynny'n briodol. Dyna'r math o weithredu y mae angen gweld mwy ohono, gweithredu a sicrhaodd nad oes unrhyw fylchau o ran daearyddiaeth ac amgylchiadau a all leihau effeithiolrwydd mesurau wedi'u targedu. Dyna'r math o weithredu a nodwyd gennym yn ein cynnig, y math o weithredu na fydd yn cael ei yrru gan strategaeth tlodi plant heb dargedau.

Rydym wedi gweld sut y mae dull statudol a thargededig cyffredinol yr Alban o weithredu ar dlodi plant yn gweithio, ac mae'r data diweddaraf ar dlodi wedi cadarnhau'r dull hwn. Rhaid inni gofio bod y tlodi dyfnaf yn y teuluoedd sydd â phlant dan bedair oed. Felly, ni fydd cymorth a ddarperir drwy'r ysgol yn eu helpu, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddarparu taliad plant trawsnewidiol, gan ddysgu gan yr Alban, lle mae eu cynllun cyfatebol eisoes yn codi degau o filoedd o blant allan o dlodi. Yr Alban fydd yr unig genedl yn y DU lle mae tlodi plant yn gostwng. Yn y cyfamser, yma yng Nghymru, o dan Lafur ym Mae Caerdydd a San Steffan, mae'n codi.

Bydd ein cynllun, Cynnal, yn gwneud yn union hynny: cynnal teuluoedd, cefnogi cymunedau, rhoi'r dechrau mewn bywyd y maent yn ei haeddu i bob plentyn. Ac nid mater o fynd i'r afael â thlodi nawr yn unig yw hyn, mae'n ymwneud â'r dyfodol. Mae plentyn sy'n cael ei godi allan o dlodi heddiw yn tyfu i fyny i fod yn iachach, yn hapusach, yn fwy ffyniannus fel oedolyn. Mae arian sy'n cael ei wario mewn cartrefi sy'n cael trafferth yn arian sy'n cael ei ailfuddsoddi yn ein strydoedd mawr, yn ein busnesau lleol, yn ein heconomi. Bydd costau a phwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn lleihau.

18:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'r Athro Ruth Patrick, athro polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Efrog, wedi dweud:

'Mae'r cynnydd y mae'r Alban wedi'i wneud ar yrru cyfraddau tlodi i lawr yn dangos bod ffordd arall yn bosibl. Gallai llywodraeth y DU godi 700,000 o blant allan o dlodi dros nos drwy ymrwymiad cyllidol fel un yr Alban i yrru tlodi i lawr.'

Ac mae'n bryd gwneud hynny. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn ei hymateb, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at waith y tasglu tlodi plant a sefydlwyd gan Lywodraeth Lafur y DU. Rhaid i ddatganoli lles, fel y gall y gwledydd datganoledig sicrhau bod cefnogaeth yn fwy effeithiol ac yn fwy ymatebol i anghenion eu dinasyddion, fod yn ganolog i'r gwaith hwnnw. Fel arall, mae plant yng Nghymru yn dioddef yr hyn a alwyd gan aelodau o'r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, yn anfantais arbennig sy'n deillio o'n setliad datganoli. Felly, a allwch chi gadarnhau bod y tasglu'n gweithredu yn y ffordd hon? A ydych chi'n gofyn am y pwerau hyn?

Mae Llafur yn mynnu nad ydynt yn parhau gyda gwleidyddiaeth cyni, ond nid yw'n teimlo felly i'r plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae angen inni ddewis llwybr gwahanol. Rwy'n eich annog i bleidleisio dros y plant hynny heddiw. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud ac y gallwn ei fforddio. Mae ein pobl ifanc yn ei haeddu, ac mae Cymru'n ei fynnu.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi’r ystod o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi sylw i ddiben taliadau plant, megis y buddsoddiadau ychwanegol sy’n cael eu gwneud drwy gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru 2025-26, gan gynnwys £30 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal plant ac £1.4 miliwn ychwanegol ar gyfer gwaith i sicrhau bod pobl Cymru yn hawlio pob punt sy’n ddyledus iddynt.

2. Yn nodi’r ymrwymiad fel rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru 2024-25 i drafod gyda Llywodraeth yr Alban i gael gwell dealltwriaeth o Daliad Plant yr Alban a’r ffordd mae’n gweithredu.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Jane Hutt 18:14:49
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull sydd ar gael iddi er mwyn lleihau tlodi plant, er ein bod, wrth gwrs, yn cydnabod ein bod yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod ei pholisïau'n cael yr un effaith, ac roedd hynny'n sicr yn rhywbeth na welsom o dan Lywodraethau Torïaidd olynol.

Un polisi Llywodraeth y DU a fyddai'n cael effaith sylweddol ar leihau tlodi plant yw dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i barhau i roi cymaint o bwysau â phosibl ar Lywodraeth y DU i wneud hynny, oherwydd roedd yn bolisi creulon pan gafodd ei gyflwyno gan y Torïaid yn 2017 ac mae'n parhau i fod yn bolisi creulon yn 2025.

18:15

A wnewch chi derbyn ymyriad? Diolch. Am gyfnod byr, roeddech chi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol—a wnaethoch chi ofyn hynny i Lywodraeth y DU?

Fe wneuthum hynny yn sicr, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Dangosodd ymchwil a welais y byddai'n codi miloedd o blant allan o dlodi, ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i geisio pwyso yn y ffordd honno, a dyna pam rwy'n ei hannog i barhau i wneud hynny.

Felly, yr ymateb oedd 'na' gan Lywodraeth Lafur y DU.

Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn Weinidog gyda'r Llywodraeth Lafur.

Mae'n gwbl hanfodol fod pob punt y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwario ar leddfu tlodi plant yn rhoi'r canlyniadau a ddymunir. Mae'n anodd, weithiau, dod â rhaglenni i ben a chyflwyno rhai newydd, ond rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei weld yw gweithredu beiddgar iawn yma. A chan fod gennym ddwy Lywodraeth Lafur ar y naill ben a'r llall i'r M4 bellach, mae angen inni wneud y gorau o'r cyllid cynyddol a welsom yn dod i Lywodraeth Cymru a sicrhau bod unrhyw bolisïau neu gynlluniau i fynd i'r afael â thlodi plant yn llwyddiannus.

Mewn perthynas â pholisïau Llywodraeth Cymru, bydd cyllideb y flwyddyn nesaf, rwy'n gwybod, yn adeiladu ar fuddsoddiadau ychwanegol megis prydau ysgol am ddim i bawb, y rhaglen llwgu yn ystod y gwyliau a chefnogaeth i'n banciau bwyd. Felly, hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb i'r ddadl hon, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am drafodaethau ei swyddogion gyda Llywodraeth yr Alban ynglŷn â thaliad plant yr Alban. Mae'r cynllun hwn bellach wedi bod yn gweithredu ers blwyddyn, felly a oes asesiad ystyrlon wedi'i gynnal a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddod i safbwynt polisi ynglŷn â chyflwyno cynllun o'r fath yma yng Nghymru? Rwy'n deall yn iawn y byddai'n rhaid trafod y sefyllfa ariannol rywdro eto. Diolch.

Fel y clywsom, un plentyn o bob tri—dyna beth yw ystyr tlodi yng Nghymru heddiw, nid rhyw ystadegyn haniaethol, nid llinell ar graff; plant go iawn, gydag enwau ac wynebau a breuddwydion, wedi'u caethiwo mewn amgylchiadau sy'n chwalu gobeithion mor sicr â stumogau gwag. Ar draws ein gwlad, mae rhieni'n gwneud dewisiadau amhosibl bob dydd: gwresogi neu fwyta? Cotiau cynnes neu focsys bwyd llawn? Urddas neu anobaith? Nid mewn gwlad bell y mae hyn yn digwydd, mae'n digwydd yma ar garreg ein drws, yn ein plith. Rydym yn galw Cymru yn genedl dosturiol. Rydym yn dathlu ein hundod, ein synnwyr o gyfiawnder, ond pa gyfiawnder sy'n caniatáu i un plentyn o bob tri dyfu i fyny gan adnabod dim byd ond caledi? Pa dosturi sy'n caniatáu i dalent ddiflannu ac o bosibl i farw cyn iddo gael cyfle i dyfu hyd yn oed? Peidiwch â chamgymryd, fel y clywsom, nid yw tlodi plant yn anochel, mae'n ddewis gwleidyddol, a gallwn ni yn y Siambr hon wneud dewis gwahanol. Mae'r Alban wedi gwneud hynny. Mae eu taliad plant wedi troi'r llanw, nid drwy gynlluniau cymhleth neu dargedau amwys, ond drwy weithredu uniongyrchol sy'n rhoi arian ym mhocedi'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Wrth i dlodi plant gynyddu ar draws yr ynysoedd hyn, yn yr Alban, mae'n gostwng. Nid cyd-ddigwyddiad yw hynny, nid lwc, ewyllys wleidyddol wedi'i gwireddu yw hynny.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi'r pŵer hwnnw i ni. Mae ein cyllidebau presennol yn rhoi'r modd i ni, os ydym yn ddigon dewr i flaenoriaethu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig. Deg punt yr wythnos y plentyn, drwy Cynnal—byddai taliad plant Cymru yn trawsnewid bywydau. Efallai y bydd rhai pobl yn meddwl bod £10 yn bitw iddynt. Wel, fe ddywedaf hyn wrthych, gall £10 olygu bod plentyn yn cysgu'n gynnes yn y nos. Mae'n golygu cwpwrdd cegin nad yw'n wag cyn diwedd y mis. Mae'n golygu gobaith o urddas—y peth gwerthfawr hwnnw y mae tlodi'n cael ei wared yn gyntaf ac yn fwyaf creulon. Nid elusen yw'r hyn a gynigiwn, ond cyfiawnder, buddsoddiad yn ein dyfodol ni i gyd. Mae pob punt a werir yn codi plentyn o dlodi yn cynhyrchu enillion sawl gwaith drosodd, mewn gwell iechyd, gwell addysg, mwy o ffyniant. Mae'r achos economaidd yn llethol, ond mae'r achos moesol yn ddiymwad. Clywais rai o'r esgusodion: rhy anodd, rhy ddrud, rhy gymhleth. Ond pan fydd hanes y foment hon wedi'i ysgrifennu, bydd yr esgusodion hyn yn swnio'n wag iawn. Pa bris a roddwch ar ddyfodol plentyn? Pa flaenoriaeth gyllidebol sy'n uwch na dod â sgandal plant yn llwgu mewn gwlad gyfoethog i ben? Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon a chlywed y geiriau, geiriau cynnes, am werthoedd Cymru, am ein tosturi, am ein hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol. Ond dim ond teimlad yw gwerthoedd heb weithredoedd, ac nid yw teimlad byth yn llenwi stumog wag nac yn cynhesu cartref rhewllyd. Daeth yr Alban o hyd i'r ewyllys. Daeth yr Alban o hyd i'r ffordd. A ydym ni yng Nghymru'n cyfaddef ein bod yn malio llai am ein plant, nad ydym yn ddigon dewr i ddilyn lle mae eraill wedi arwain?

Mae'r dewis ger ein bron yn syml. Gallwn barhau i reoli tlodi neu gallwn ddechrau rhoi diwedd arno. Gallwn ddrafftio strategaeth arall neu gallwn gyflawni newid diriaethol. Gallwn gynnig mwy o gydymdeimlad neu gallwn ddarparu cefnogaeth go iawn. Felly, gadewch inni benderfynu heddiw, heno, ein bod yn creu taliad plant Cymru, nid fel ystum wleidyddol ond fel cyfamod â'n plant. Cyfamod sy'n dweud nad tlodi fydd yr hyn a etifeddwch. Cyfamod sy'n dweud nad lle cawsoch chi eich geni sy'n mynd i benderfynu eich dyfodol. Cyfamod sy'n dweud mai mesur o'n cenedl yw sut rydym yn trin ein pobl fwyaf agored i niwed. Bydd hanes yn ein barnu ni, nid yn ôl ein geiriau ond yn ôl ein gweithredoedd, a phan ddaw'r farn honno, gadewch iddi ddweud am ein Senedd, 'Fe welsant beth oedd angen ei wneud, ac fe'i gwnaethant.'

18:20

Fel y gwyddom, mae tlodi'n ymwneud â mwy na diffyg nwyddau sylfaenol, diffyg gwasanaethau neu ddiffyg cyfranogiad cymdeithasol. Mae hefyd yn ymwneud â'r cyfle cyfyngedig i wella sefyllfa economaidd bersonol, y cyfle cyfyngedig i wrthsefyll newidiadau economaidd, a'r cyfle cyfyngedig i atal cenedlaethau'r dyfodol rhag profi'r un cylch.

Ers degawdau mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio lleihau tlodi, yn enwedig tlodi plant, drwy geisio gwella safonau byw drwy gymorth ariannol. Fodd bynnag, mae'r dull hwn yn gyfyngedig am mai dim ond rhyddhad dros dro y gall ei gynnig. Bydd siociau economaidd fel cwymp ariannol 2008, COVID-19 a hyd yn oed y rhyfel presennol yn Wcráin bob amser i'w teimlo, mae arnaf ofn. Felly, mae'r rhai sy'n fregus yn economaidd a'r rhai sy'n byw mewn tlodi bron bob amser yn agored i niwed. Ac er fy mod yn credu bod darparu cymorth ariannol yn bwysig i leddfu tlodi, mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith y bydd angen mwy a mwy o arian bob amser i wneud hynny.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio cynyddu'r gwasanaethau sydd ar gael i'r rhai sy'n byw mewn tlodi a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â hynny, yn y gobaith y bydd pobl yn gallu cael mynediad at waith, teimlo'n fwy cadarnhaol a gwella eu sefyllfa. Ond er mor wych yw'r bwriad, nid yw hyn wedi gweithio. Mae'r cyfraddau tlodi yng Nghymru yn parhau'n ddigyfnewid, a byddwn yn dadlau mai'r rheswm am hyn yw eu bod wedi methu deall a mynd i'r afael yn briodol â rhai o'r achosion sylfaenol pam y mae cylch tlodi'n parhau. Mae peth o'r ymchwil fwyaf datblygedig yn y maes hwn—ac mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn a drafodais o'r blaen yn y siambr hon—yn dangos bod ffactorau fel datblygiad lleferydd ac iaith yn chwarae rhan lawn mor bwysig yn creu tlodi ag y mae ffactorau mwy cyfarwydd. Mae trafferthion gyda datblygiad iaith yn effeithio ar weithrediad yr ymennydd a'r cof ac mae'r straen niwrolegol a welir mewn oedolion â sgiliau iaith gwael yn golygu eu bod yn wynebu heriau nad yw eraill yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith, a chamu ymlaen i swyddi sy'n talu mwy a hyd yn oed wrth wneud penderfyniadau ariannol, pethau rydym yn debygol o fod yn eu cymryd yn ganiataol yn y Siambr hon a phethau nad ydym yn meddwl ddwywaith amdanynt.

Mae'r cylch yn parhau ar draws y cenedlaethau ac yn dangos pa mor bwysig yw hi i edrych yn ehangach ar dlodi, ac ar dlodi plant yn wir, ledled Cymru. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod rhieni â sgiliau iaith gwael yn cyfathrebu'n llai effeithiol, gan olygu bod eu plant hefyd yn cael trafferth gyda datblygiad iaith. Os ydym am dorri cylch tlodi, mae angen inni wella'n sylfaenol y ffordd yr edrychwn ar ei achosion cymdeithasol sylfaenol. Rwy'n credu'n onest fod datblygiad lleferydd ac iaith yn allweddol. Mae hyn yn rhywbeth y gelwais amdano dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac rydym i gyd wedi gweld y dystiolaeth sy'n dangos ei fod yn ganolog i lawer o'n problemau cymdeithasol. Nid oes ond angen inni edrych ar y niferoedd sydd yn y system cyfiawnder troseddol ieuenctid ac oedolion sy'n dioddef o anawsterau lleferydd ac iaith.

Yn y pen draw, ni fydd taliad plant arfaethedig Plaid Cymru yn datrys y materion hyn yn y tymor hir. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gallai roi rhywfaint o ryddhad ariannol, ond gyda biliau dŵr i fyny 27 y cant, y dreth gyngor i fyny ychydig dros 7 y cant ar gyfartaledd a biliau ynni i fyny £111 y flwyddyn, bydd yr arian hwn yn cael ei amsugno'n gyflym. Ni fydd yn ddigon i godi teuluoedd allan o dlodi'n barhaol ac fel y gwelsom yn yr Alban, bydd angen ei godi'n barhaus. Felly, er y gallai helpu i fodloni'r meini prawf ystadegol ar gyfer plant na fydd mewn tlodi mwyach, rwy'n bryderus na fydd yn newid eu rhagolygon hirdymor yn sylfaenol. Ni fydd yn helpu i'w hatal rhag tlodi yn y dyfodol.

Lywydd, er mwyn dileu tlodi plant rhaid inni dorri'r cylch rhwng cenedlaethau drwy fynd i'r afael â'i achosion sylfaenol. Mae cyfraddau tlodi plant uchel yn parhau am nad ydym wedi mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn. Mae Llywodraethau olynol wedi canolbwyntio ar daliadau lles mwy heb fuddsoddi'n ddigonol mewn atebion i ddileu achosion sylfaenol tlodi, gan gaethiwo gormod o bobl mewn cylch o dlodi a dibyniaeth.

Roeddwn yn siomedig na chafodd y gwelliannau a gynigiodd ein grŵp mo'u derbyn, gan y byddent wedi mynd rywfaint o'r ffordd i geisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Maent yn cydnabod y trap tlodi o ddiweithdra sy'n bodoli oherwydd cost uchel ac argaeledd gwael gofal plant. Bydd llawer o rieni sydd â'r hyn y byddem yn eu hystyried yn swyddi sy'n talu'n dda yn dal i edrych ar gost gofal plant fel rhywbeth sy'n eu gwahardd rhag gweithio, am ei fod yn fwy na'r hyn a enillant, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion da i fynd i'r afael â hyn, rwy'n credu bod angen llawer mwy.

Fel y clywsom, mae'r Alban wedi gweld gostyngiad o 4 y cant mewn tlodi plant, ond mae angen inni fod yn ofalus gyda'r ystadegyn hwn. Maent wedi methu cyflawni eu targedau cyfreithiol rwymol, mae tlodi plant yn dal i fod yn uchel, ac mae tlodi plant cymharol, ar ôl costau tai, wedi codi, ac felly hefyd lefelau tlodi parhaus. Mae llawer yn ei alw'n fethiant. Mae Oxfam Scotland wedi ei alw'n 'embaras cenedlaethol '. Mae ymchwil IPPR Scotland hefyd yn dangos y byddai lleihau tlodi plant 4 y cant arall yn galw am ddyblu'r taliad i £52 y plentyn yr wythnos, gan ychwanegu £500 miliwn at y gyllideb erbyn 2030. Mae hyn yn anfforddiadwy.

Yng Nghymru, gyda 550,000 o blant dan 15 oed, pe bai'r 30 y cant sy'n byw mewn tlodi plant yn gymwys ar gyfer y taliad wythnosol o £26.70, byddai'n costio £4.4 miliwn yr wythnos neu £230 miliwn y flwyddyn. Mae taliad symbolaidd Plaid Cymru o £10 yr wythnos, fel yr oedd yn yr Alban i ddechrau, yn gwbl ddibwynt a dim ond am ychydig dros flwyddyn a hanner y gall bara heb fwy o gyllid.

Lywydd, mae angen trafodaeth ddifrifol ar ddileu tlodi plant yn y Siambr hon, ond nid hon yw'r ddadl honno. Yn fy marn i, nid yw'n ddim mwy nag ymgyrchu cyn etholiad. Ni fydd taliadau plant byth yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Ni fyddant byth yn torri'r cylch sy'n pontio'r cenedlaethau ac ni fyddant byth yn cyflawni ffyniant hirdymor, ac mae'n rhaid inni geisio gwneud hynny i gyd os ydym am roi diwedd ar dlodi plant. Diolch.

18:25

Mae yna fyth yn bodoli rywsut fod tlodi yn bodoli mewn ardaloedd trefol ôl-ddiwydiannol, ond mae'r dystiolaeth yn dangos bod plant mewn ardaloedd gwledig yr un mor debygol o ddioddef o effeithiau tlodi â'u cymheiriaid sydd yn byw mewn dinasoedd a threfi mawrion. Ymhlith y pum awdurdod lleol sydd â'r cyfraddau tlodi plant uchaf yng Nghymru mae Ynys Môn a Cheredigion, y ddau yn awdurdodau gwledig yn bennaf.

Mae cyfraddau tlodi plant yng nghefn gwlad Cymru wedi gwaethygu, wrth gwrs, yn ddiweddar oherwydd yr argyfwng costau byw, y cap dau blentyn a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, sydd wedi'i deimlo yn fwy difrifol gan aelwydydd gwledig. Mae'r aelwydydd hyn wedi cael eu taro gan yr hyn y mae Sefydliad Bevan wedi ei alw yn wasgfa driphlyg o gostau uchel, incwm isel a chymorth cyfyngedig gan y wladwriaeth.

Y canlyniad net yw bod miloedd o blant yn tyfu i fyny mewn cartrefi gyda gwariant uchel ac incwm isel, a llawer ohonynt yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi a bwyta, fel y clywsom eisoes.

Rydym yn gwybod bod tlodi plant yn cael effaith sy'n gallu para am oes. Mae'n cael canlyniadau parhaol i iechyd corfforol a meddyliol, hyder a hunan-barch a chyrhaeddiad addysgol. Gall hefyd effeithio ar lwybrau gyrfa dilynol hefyd. Felly, fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg, ni fydd yn syndod fod effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn peri pryder arbennig i mi. Yn 2021-22, roedd disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim 28 pwynt canran yn llai tebygol o gael gradd A* i radd C yn eu harholiadau TGAU na disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Yng nghanlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, roedd disgyblion o aelwydydd difreintiedig ymhlith yr isaf yn y DU. Ac mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y ceisiadau prifysgol gan fyfyrwyr sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig.

Dyma waddol methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant, gan gondemnio cenhedlaeth gyfan i dangyflawniad cronig, a'u condemnio hefyd i gyfleoedd a gollwyd a dyheadau sy'n lleihau. Yng nghefn gwlad Cymru, mae'r effeithiau hyn yn waeth yn sgil diffyg cyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad at waith, hyfforddiant ac addysg bellach, a gaiff ei adlewyrchu ym mhatrymau allfudo pobl ifanc.

Bydd mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru ac yn y cymunedau gwledig rwy'n eu cynrychioli yn benodol yn gofyn am ddull gweithredu penodol wedi'i dargedu ac yn strategol, un sy'n ei gydnabod fel her polisi penodol ac sy'n mynd law yn llaw ag ymdrech o'r newydd i hybu bywiogrwydd economaidd a chyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc i aros yn eu cymunedau gwledig.

Y llynedd, fe gyhoeddais i strategaeth tlodi gwledig, ac ymhlith y mesurau roeddwn i'n hamlinellu yn y strategaeth honno oedd taliad plentyn tebyg i'r Alban, sef pwrpas ein cynnig ni y prynhawn yma. Mae'r rheswm yn syml: mae'r holl tystiolaeth—ac rwy'n golygu'r holl tystiolaeth—yn dangos taw taliadau arian parod i deuluoedd tlawd yw'r ffordd unigol orau o frwydro yn erbyn tlodi. Mae gan Lywodraeth bresennol Cymru gyfle hanesyddol yma i'n cefnogi ni a gweithio gyda ni i ddatblygu taliad plentyn sy'n cyflawni i Gymru mewn ardaloedd gwledig a rhai trefol.

Fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae'r dystiolaeth yn dangos ei fod e'n gweithio i yrru lefelau tlodi i lawr. Ond dyw dileu ein cynnig ni, fel ŷch chi wedi'i wneud, ddim yn awgrymu i fi eich bod am gymryd y mater hwn o ddifri. Felly, os dŷch chi, Llywodraeth, ddim yn fodlon gwneud hyn, gaf i awgrymu, felly, y dylech chi wneud lle i Lywodraeth Cymru newydd sydd yn fodlon mynd i'r afael â'r heriau penodol yma, a mynd i'r afael â'r mater mwyaf sydd yn ein hwynebu ni fel cenedl?

18:30

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno hyn heno. A chyda'r parch mwyaf i Joel a'r Blaid Geidwadol, os hoffech chi gyflwyno dadl i edrych ar ddatrys tlodi plant, hoffem i gyd ei chlywed a byddai pawb ohonom am gymryd rhan ynddi. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i wneud yn siŵr ein bod yn cael y ddadl honno a'n bod ni'n gwrando ar ein gilydd ac yn gwrando ar syniadau; felly os gwelwch yn dda, ar ôl y Pasg efallai, fe welwn y Ceidwadwyr yn amlinellu cynnig yr hoffech ei gyflwyno ar leihau tlodi plant.

Nid ymwneud â diffyg bwyd, diffyg gwres, diffyg dillad yn unig y mae tlodi; mae'n ymwneud â'r straen y mae'n ei hachosi i chi os na allwch fforddio dod o hyd i'r arian. Fel y clywsom, mae cynllun taliadau plant Llywodraeth yr Alban yn lleihau straen, yn ogystal â sicrhau bod gan blant ddigon o fwyd ar eu platiau.

Gwrandewch ar brofiad un fam yn yr Alban a gafodd ei chyfweld gan Nesta, elusen a wnaeth waith ymchwil ar gynllun taliadau plant yr Alban. Dywedodd fod y taliad

'wedi lleihau fy ngofidiau gryn dipyn a bod yn onest. Arian yw'r un peth sydd bob amser yn achosi straen i mi, yr hyn rwyf i bob amser yn meddwl amdano, bob amser yn poeni amdano. Roedd yn rhyddhad cael yr hwb ychwanegol hwnnw.'  

Mam ifanc â phrofiad o ofal a chanddi dri o blant oedd hi. Dywedodd un arall fod taliad plant yr Alban yn helpu gyda

'pheidio â gorfod teimlo straen am eich bod chi'n gwybod ei fod yn dod. Pan fyddaf i'n teimlo dan straen, nid wyf yn cysgu. Nid wyf yn ymdopi'n dda â straen. Nid wyf eisiau i'r plant fy ngweld dan straen.'

Unwaith eto, rhiant sengl sy'n ifanc iawn.

Dywedodd 45 y cant o blant rhwng saith ac 11 oed a 26 y cant o bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed wrth y comisiynydd plant yma yng Nghymru eu bod yn poeni ynglŷn â chael digon i'w fwyta. Mae 36 y cant o rieni yma yng Nghymru yn poeni a yw eu plant yn cael digon o fwyd. Rhaid imi ddweud, nid wyf yn credu bod y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr erioed wedi gorfod meddwl am hynny. Fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, cyfarfûm â llawer o deuluoedd a oedd dan straen oherwydd prinder arian. Yna, yn anffodus, byddent yn ymddwyn mewn ffyrdd nad oeddent am ei wneud, am fod honno'n ffordd o ymdopi â'r straen o beidio â gwybod o ble y dôi'r pryd nesaf. Fe wyddom fod dyled yn arwain at straen a phryder.

Cyfeiriodd Sefydliad Joseph Rowntree at y taliad plant yn yr Alban fel rhywbeth sy'n cyfrannu'n uniongyrchol, fel y clywsom, at lefelau is o dlodi plant. Mae llwyddiant y taliad yn yr Alban yn dangos bod cymorth ariannol wedi'i dargedu yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, mae'r dystiolaeth yno. Nid oes angen inni ddod o hyd i'r dystiolaeth yma yng Nghymru—mae hi yno eisoes. Nid oes angen pwyllgor arnom. Nid oes angen grŵp diben arbennig arnom. Rydym yn gwybod yn union beth sydd ei angen i helpu i leihau tlodi plant yma yng Nghymru. Mae'n bryd inni fabwysiadu taliadau plant Cymru yma yng Nghymru er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd a bod pob rhiant yn gallu darparu bwyd i'w plant. Felly, mae'n siomedig ein bod ni lle rydym, yn gweld mai'r hyn y mae Llafur yn ei wneud orau yw cynnig dileu popeth a mygu dadl yn y Siambr. Mae gennych chi hawl i wneud hynny wrth gwrs, ond mae'n rhethreg dreuliedig, ac mae pobl Cymru yn blino, a'r hyn sy'n bwysicach i mi, ac i lawer ohonom, rwy'n credu, yw bod ein plant yn parhau i fynd yn llwglyd: 31 y cant—31 y cant—o'n plant. Ac mae'n codi; nid yw'n gostwng. Rwy'n nodi yn eich gwelliant dileu popeth fod yna ymrwymiad yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25—y flwyddyn sydd newydd orffen, rwy'n meddwl—i drafod gyda Llywodraeth yr Alban i gael gwell dealltwriaeth o daliad plant yr Alban a'r ffordd y mae'n gweithredu. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar yr hyn a ddarganfuoch chi wrth drafod eu taliadau plant gyda Llywodraeth yr Alban?

Yn ail, fel y dywedodd Sioned nawr, a wnewch chi ddweud wrthym unwaith eto pam nad oes gennym dargedau yma yng Nghymru? Pam nad oes gennym unrhyw uchelgais? Rwy'n gwybod y gall ymddangos yn anniddorol ac unwaith eto, rydym yn parhau i ailadrodd hyn, ond heb dargedau, nid oes gennym unrhyw uchelgais. Mae'n rhaid inni ddechrau nawr. Mae'n rhaid inni ddechrau nawr, oherwydd, oni bai ein bod ni'n gwneud hynny, bydd y 31 y cant yn 35 y cant cyn inni sylweddoli. Rhaid i leihau tlodi plant fod yn flaenoriaeth bwysicaf i ni i gyd, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb. Diolch yn fawr iawn.

18:35

Mae'r heriau iechyd sy'n ein hwynebu fel cenedl yn amlochrog ac yn gymhleth, ond pan ystyriwn yr achosion sylfaenol, daw thema gyffredin i'r golwg dro ar ôl tro—tlodi. Oherwydd nid mygu symudedd cymdeithasol, cyrydu uchelgais a gwanhau'r economi yn unig a wna tlodi—dyna hefyd yw'r sbardun mwyaf i salwch yn ein cymdeithas, a thlodi plant yn arbennig yw'r straen mwyaf pwerus, gan ei fod bron yn anochel yn arwain at ganlyniadau iechyd gwael am oes.

Rydym yn aml yn siarad am y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn fel rhai sy'n allweddol i'w cyfleoedd bywyd, a dangoswyd bod dylanwad tlodi yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn yn cael effeithiau hynod niweidiol a di-droi'n-ôl yn aml ar eu system imiwnedd, gweithrediad y galon a datblygiad yr ymennydd. Mae plant ar aelwydydd tlawd hefyd dros bedair gwaith yn fwy tebygol o fod â phroblem iechyd meddwl difrifol o gymharu â'r rhai ar yr aelwydydd mwyaf cyfoethog. Mae dros dri chwarter ohonynt yn fwy tebygol o ddioddef o ordewdra, a wynebu cyfraddau marwolaeth sydd 70 y cant yn uwch.

Nid ydym yn esgus bod ein cynnig ar gyfer taliadau plant yng Nghymru yn ateb i bob dim ar unwaith ynddo'i hun, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos dros ddatganoli pwerau lles perthnasol i'n galluogi i gyflwyno cynllun ag iddo gwmpas ehangach model yr Alban yn y pen draw. Ond mae'r dystiolaeth ryngwladol, a gefnogir gan ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru ei hun, yn tanlinellu'n bendant y manteision iechyd cadarnhaol a all ddeillio o drosglwyddiadau arian parod uniongyrchol i deuluoedd incwm isel. Os ydym o ddifrif yn awyddus i wrthsefyll y berthynas wenwynig rhwng tlodi a salwch, dyma'r lle i ddechrau. Ac yn seiliedig ar adroddiad damniol diweddar Sefydliad Bevan, a ganfu nad yw gweithredoedd Llywodraeth Cymru hyd yma wedi gwneud fawr o wahaniaeth i leihau tlodi plant, mae'r achos dros ddull newydd yn ddiamheuol, yn enwedig gan fod ton newydd o fesurau sy'n cynhyrchu tlodi ar fin taro ein cymunedau, drwy garedigrwydd partneriaid mewn grym y Llywodraeth.

Mae'n deg dweud bod y Blaid Lafur yng Nghymru bellach ar adeg dyngedfennol yn ei hanes. Ers blynyddoedd, roeddent yn ein sicrhau y byddai ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn atal y cynnydd brawychus mewn tlodi a ddinistriodd Gymru dros ddegawd a hanner o gyni dan arweiniad y Torïaid. I ddyfynnu Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur yn 2023, byddai prif weinidogaeth Starmer

'wedi'i hysgogi gan ddyletswydd, gan wasanaeth cyhoeddus, a'r teimlad angerddol... nad cenhadaeth y blaid hon yw tincran ar yr ymylon a chynnig rhyw fân welliant bach, ond dileu tlodi'.

Ond mae'r gobeithion hyn yn amlwg wedi cael eu chwalu. Nid yn unig y mae Llywodraeth Starmer wedi anwybyddu'r ateb mwyaf amlwg i leddfu tlodi plant, drwy wrthod dileu'r cap dau blentyn a gafodd ei feirniadu'n briodol ddigon am flynyddoedd gan Aelodau Llafur yn y lle hwn, mae bellach yn gwaethygu'r broblem, gan fynd ar drywydd polisi a fydd yn gwthio 0.25 miliwn ychwanegol i mewn i dlodi, yn cynnwys 50,000 o blant. Ac unwaith eto, caf fy atgoffa o eiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ym mis Tachwedd 2021, yn condemnio toriadau'r Torïaid i les fel gweithredoedd

'gan Lywodraeth sy'n gwybod beth mae'n ei wneud, yn gwybod y bydd miloedd yn fwy o blant mewn tlodi yng Nghymru oherwydd eu toriadau...ond nid oes ots ganddyn nhw.'

O, am y math hwnnw o gynddaredd cyfiawn tuag at San Steffan oddi ar feinciau blaen Llafur nawr.

Felly, mae'r penderfyniad sydd gerbron y Blaid Lafur yng Nghymru yn syml: naill ai gallant barhau gyda'u hymagwedd wasaidd hyd yma tuag at eu pencadlys yn y DU, gan gydymffurfio'n llywaeth â'r ergyd ddinistriol y mae Llywodraeth Starmer ar fin ei rhoi i'r frwydr yn erbyn tlodi, neu o'r diwedd gallant wynebu'r gwirionedd nad yw'r fersiwn o Blaid Lafur y DU y credent y byddai'n dod i rym ym mis Gorffennaf yn bodoli, a defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt ar frys i liniaru effeithiau gwaethaf agenda gyni Starmer yn rhagweithiol. Byddai unrhyw beth llai yn bradychu'r genhadaeth sylfaenol y siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet mor angerddol amdani, ac yn dangos pa mor chwerthinllyd yw eu honiad mai hwy yw plaid Nye Bevan a'r GIG.

18:40

Yr Ysgrifennydd Cabinet, nawr, dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n ymateb i'r ddadl. Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 18:43:07
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Lywydd. Mae'r data tlodi a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn llwm, ac yn dangos graddau'r her yr ydym yn parhau i'w hwynebu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth absoliwt, gan ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym ar gael inni, ac rydym yn gwneud hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi sut rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth, a chyda phartneriaid, i wneud y mwyaf o effaith y dulliau sydd ar gael i ni i fynd i'r afael â thlodi plant. Ac i fynd i'r afael â thlodi plant, rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn rhwng 2022 a 2026, yn y flwyddyn gyllidebol yr ydym ynddi bellach, mewn ymyriadau sy'n lleihau costau i deuluoedd ac yn sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar incwm. Cadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru—dyna oedd prif amcan y strategaeth tlodi plant.

Ac rwyf am gyfeirio at rai o'r ymyriadau hynny: ein cynnig gofal plant, sy'n darparu hyd at 30 awr o addysg feithrin a gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru am 48 wythnos y flwyddyn i deuluoedd cymwys; mae £50 miliwn ar gael ar gyfer gofal plant yn y flwyddyn ariannol hon, ar ben ein buddsoddiad blynyddol o £100 miliwn, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys £25 miliwn ar y cynnydd i'r gyfradd fesul awr i £6.40 ar gyfer y cynnig gofal plant, a lefel debyg o gymorth ar gyfer elfen gofal plant y rhaglen Dechrau'n Deg. Ac wrth gwrs, ein cyllideb ar gyfer eleni—unwaith eto, £25 miliwn ychwanegol i barhau i ehangu ein gofal plant Dechrau'n Deg i blant dwy oed yng Nghymru, gan ddod â Chymru'n agosach at y cam yr ydym am ei gymryd tuag at ddarpariaeth gofal plant i bob plentyn dwy oed.

Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi ddydd Mawrth ein bod wedi rhyddhau £2.5 miliwn ar gyfer bwndeli babanod, y rhaglen a ariannir ar gyfer y flwyddyn ariannol hon sy'n darparu bwndel babanod i bob teulu sy'n disgwyl plentyn ac sy'n byw yn un o ardaloedd craidd Dechrau'n Deg, gyda rhai darpariaethau yn ôl disgresiwn i ymarferwyr iechyd y tu allan i'r ardaloedd hyn.

18:45

Ar y bwndeli babanod, roedd yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflwyno hynny i bawb. Pe bai gennych chi dargedau, a fyddech chi wedi gwneud penderfyniad gwahanol.

Mae £2.5 miliwn ar gael yn y gyllideb hon—cyllideb na wnaethoch chi ei chefnogi, rhaid imi ddweud. Mae £2.5 miliwn ar gyfer y rhaglen bwndeli babanod eleni. Mae'n bwysig fod yna ddarpariaeth yn ôl disgresiwn. Gallaf fynd ymlaen i ddweud y byddai hyn, er enghraifft—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n croesawu hyn—i famau mudol a grwpiau eraill sy'n anos eu cyrraedd.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd, ac o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio, rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd, ac mae hynny'n golygu bod 174,500 o blant ysgol gynradd yn dod yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim—30 miliwn o brydau ychwanegol. Rwy'n gwybod bod hynny'n cael ei groesawu'n eang ar draws y Siambr, ond hefyd gan yr holl blant a theuluoedd sy'n elwa o'r cynnig cyffredinol hwnnw, ochr yn ochr â'n cynllun llaeth ysgol a'r ymrwymiad i gynnal brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd. Mae hynny'n golygu mai gan Gymru y mae'r cynnig bwyd mwyaf hael yn y DU.

Ond hefyd, mae ein grant hanfodion ysgol yn galluogi plant o deuluoedd incwm isel i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion, a'n siarter budd-daliadau Cymru, sy'n gweithio gyda llywodraeth leol, i symleiddio mynediad at brydau ysgol am ddim, y grantiau hanfodion ysgolion, yn ogystal â'n cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor gwerth £290 miliwn. Ac fel y dywedais y prynhawn yma a ddoe, Lywydd, mae gwerth hyd at £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd absoliwt, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a llywodraeth leol, i wella'r nifer sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn, ac rydym yn cynyddu ymdrechion i wneud hynny, gyda chynnydd o 10 y cant i'n cronfa gynghori sengl fel rhan o ddatganiad y gwanwyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. A'n cynllun peilot gwerth £550,000, sy'n galluogi awdurdodau lleol gydag offeryn olrhain teuluoedd incwm isel Policy in Practice i nodi hawl i ystod o gymorth prawf modd i bobl nad ydynt yn ei gael, gan gynnwys talebau Cychwyn Iach, sy'n hanfodol ar gyfer manteisio i'r eithaf ar incwm mewn teuluoedd incwm isel. Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' a'r gronfa gynghori sengl, ac wrth gwrs cafodd honno gynnydd o 10 y cant eleni. Lywydd, gallwn barhau gyda llawer o—

Diolch. Yn fy nghyfraniad, fe ofynnais yn benodol pa sgyrsiau yr oeddech chi wedi'u cael gyda Llywodraeth yr Alban am eu taliad plant. A wnewch chi amlinellu ble rydych chi wedi cyrraedd gyda hynny. Efallai eich bod chi'n dod at hynny, ond hoffem glywed beth yn benodol rydych chi wedi'i glywed gan yr Alban. Diolch.

Diolch, Jane Dodds. Rwy'n dod yn syth at hynny. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid oes gennym y pwerau datganoledig i ddeddfu ar gyfer cynllun tebyg i daliad plant yr Alban. Ond gallaf gadarnhau, ac yn wir cododd Lesley Griffiths y pwynt hwn hefyd, ein bod yn ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban, i ddeall yn well pa adnoddau cyllidol a deddfwriaethol ac adnoddau eraill y byddai eu hangen i wneud taliad plant o'r math hwn. Rydym yn trafod gyda hwy. Gobeithio y gwnewch chi groesawu hyn. Ond hefyd, mae gennym gyfle nawr gyda thasglu tlodi plant y pedair gwlad, ac mae hynny'n cynnwys yr Ysgrifennydd Cabinet o Lywodraeth yr Alban, a Gogledd Iwerddon, a minnau yn ogystal â Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac yn y cyfarfodydd hynny rydym yn rhannu ffyrdd o geisio mynd i'r afael â thlodi plant.

Ac rwyf eisiau ymateb i bwyntiau a wnaed. Rydym yn cyflawni prosiect ymchwil hefyd i archwilio'r seilwaith sydd ei angen i ddatganoli gweinyddu lles a nodi'r elfennau o'r system nawdd cymdeithasol a gadwyd yn ôl y gallai Llywodraeth Cymru eu gweinyddu. A John Griffiths, mae'n mynd yn ôl at eich amser chi pan oeddech chi'n cadeirio'r pwyllgor hwnnw a phan fuom yn edrych ar hynny. Felly, rydym yn edrych ar adroddiad diweddar Llywodraeth yr Alban ar effeithiau, nid yn unig y taliad plant, mae'n rhaid i mi ddweud—maent hefyd yn cynnwys ystod eang o feysydd polisi eraill sy'n cyd-fynd yn agos â'n meysydd ni.

Felly, yn olaf, a gaf i ddiolch i Lesley Griffiths am ofyn ynghylch fy sylwadau i Lywodraeth y DU am yr angen i fynd i'r afael ag effaith niweidiol y terfyn dau blentyn i fudd-daliadau? Gadewch inni fynd yn ôl at y gynghrair Dileu Tlodi Plant, a adroddodd fod y terfyn dau blentyn yn effeithio ar deuluoedd sydd â hawl i fudd-daliadau sydd wedi cael trydydd plentyn neu blentyn dilynol ar ôl 6 Ebrill 2017, a nododd fod y rhieni hyn yn cael eu hamddifadu o £3,235 y flwyddyn y plentyn, ac roeddent yn cydnabod ac yn nodi beth a olygai i blant a theuluoedd yng Nghymru—gan gydnabod, er enghraifft, mai Caerdydd yw'r awdurdod lleol lle mae'r terfyn dau blentyn yn effeithio ar y nifer fwyaf o blant. Ac wrth gwrs fe wyddom fod polisïau nawdd cymdeithasol yn effeithio ar dlodi plant, ac mae'n bwysig archwilio effaith polisi nawdd cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, nid dim ond dull tameidiog sy'n edrych ar bolisïau unigol, er mwyn sicrhau bod pobl a theuluoedd yn gallu talu costau hanfodol.

Felly, gallaf eich sicrhau yn fy sylwadau terfynol fy mod wedi codi'r mater ym mhob cyfarfod o dasglu tlodi plant y pedair gwlad. Rwyf wedi ei godi gyda Gweinidogion y Llywodraeth—Llywodraeth y DU—a'i rannu, wrth gwrs, gyda chymheiriaid o bob cwr o'r DU. Rwyf wedi codi mater y terfyn dau blentyn, rwyf wedi codi mater y cap ar fudd-daliadau gyda Llywodraeth y DU, a hefyd wedi galw am fynd i'r afael â hyn yn rhan o strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU. Dyna fyddai'r dull pwysicaf o fynd i'r afael â thlodi plant, pe bai'r terfyn dau blentyn yn cael ei ddatrys. Ac rwy'n gwybod bod y neges honno'n dod yn gryf oddi wrthyf i ac oddi wrth Lywodraeth Cymru. 

Felly, wrth inni ddod i ben, rydym yn canolbwyntio ein cyllideb, ein hadnoddau, ein hymdrechion, ein pwerau ar wneud gwahaniaeth heddiw i'r plant a'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn y gallwn ei wneud, gan ddefnyddio ein pwerau a chodi ein lleisiau. Diolch yn fawr.

18:50

Gaf i ddiolch am yr holl gyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma? Dadl sydd eto, fel y drafodaeth frys ar fudd-daliadau yn gynharach heddiw, wedi ein hatgoffa ni fod yna ddyletswydd arnom ni uwchlaw popeth arall, siawns, i edrych ar ôl a rhoi help llaw, cynhaliaeth, hwb a chefnogaeth i'r rhai mwyaf bregus.

Bues i'n ddigon ffodus i gael cwmni, efo Peredur Owen Griffiths, Chris, yn gynharach, yng Nghasnewydd—cwmni dros baned. Mae Chris yn cysgu ar y stryd. Mae e angen cefnogaeth. Mae e'n cael cefnogaeth gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, ond mae o'n cysgu yn yr awyr agored ac mae o ofn. Ac mae methiant Llywodraethau i fynd i'r afael â thlodi ar y lefel yna yn arwydd o fethiant y Llywodraethau hynny, ac mae hynny'n gorfod bod yn wir fwy nag unrhyw beth arall pan fydd hi'n dod at fethiant i fynd i'r afael â thlodi plant. 

Dwi am droi at eiriau eraill. 'Dwi wedi gweithio yn fy ysgol i am 25 mlynedd. Dyma'r tlodi gwaethaf dwi erioed wedi ei weld. Dydy'r rhan fwyaf o blant ddim yn cael bwyd gartref.'

'Bydd plant yn aml yn cronni bwyd pan fydd ar gael rhag ofn na chânt fwyd pan fyddant yn cyrraedd adref. Rwy'n gweld plant yn gofyn am fwyd gan fyfyrwyr eraill. Mae rhai plant yn cysgu ar y llawr yn yr ystafell fwyta ac yn rhannu gwelyau mewn shifftiau.' Daw'r dystiolaeth honno, nid o nofel gan Charles Dickens, ond gan athrawon sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru heddiw ac sy'n dyst i raddfa tlodi plant o ddydd i ddydd.

Ac yma yng Nghymru heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain, mewn dosbarth cyfartalog o 30 o blant, bydd naw ohonynt yn byw mewn tlodi—naw yn mynd heb y pethau sylfaenol, naw o blant yn mynd heb gyfle cyfartal i gyflawni eu potensial, naw o blant sy'n ceisio dod o hyd i ddigon i ddod i ben, nid cyfoeth enfawr. Lywydd, nid oes yfory mwy disglair os gwnawn gam heddiw â'r rhai y dibynnwn ar eu dyfodol. 

Felly, gallaf sefyll yma, yn gywir ddigon, a chondemnio anghyfiawnder cyni, diffyg targedau tlodi plant ystyrlon, toriadau lles sydd ar ffordd a chefnogwyr gwladwriaeth yr honnant ei bod yn fwy clyfar ond sydd, mewn gwirionedd, yn credu mewn gwladwriaeth lai, sy'n culhau'r ffenestr o gyfle i helpu i greu cydraddoldeb, ac sy'n cyfyngu fwyfwy ar yr ymdeimlad o urddas. Mae modd dadlau bod penderfyniadau gan Lywodraethau ar ddau ben yr M4—ac mae hynny bellach yn golygu y Ceidwadwyr a Llafur—wedi dyfnhau tlodi plant. Ond er bod hynny i gyd yn wir a'i bod hi'n bwysig myfyrio ar hynny ac atgoffa ein hunain o hynny, ar yr un pryd, mae'n rhaid inni gynnig atebion. Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar y cyfraniadau o bob ochr. Ond hoffwn yn arbennig annog Aelodau oddi ar y meinciau Llafur a Cheidwadol sydd wedi cydnabod graddfa tlodi plant i ystyried a yw eu cyfraniadau'n ateb i raddfa'r her.

Mae Lesley Griffiths yn hollol iawn: rhaid i'r Llywodraeth ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddi i fynd i'r afael â thlodi plant, ac rwy'n cytuno bod rhaid i Lafur godi'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau—rhywbeth a adleisiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Ond ble mae'r dicter yn rhengoedd yr Aelodau etholedig—Aelodau Llafur etholedig yma ac yn San Steffan—a'r sylweddoliad fod y rhain yn anghyfiawnderau y maent yn caniatáu iddynt barhau?

Joel James, mae'n ymddangos bod y feirniadaeth o gynnig Plaid Cymru ynglŷn â thaliad plant uniongyrchol yn canolbwyntio ar y ffaith nad yw'n ddigon—rwy'n cytuno, ond mae'n ddechrau. Mae'n ddibwynt, meddai, gan y bydd yr arian hwn yn cael ei amsugno'n gyflym. Bydd, oherwydd ei fod mor angenrheidiol. Ac wrth gwrs bod rhaid inni dorri cylchoedd, ond mae mynd i'r afael â thlodi plant heddiw yn ymwneud â thorri'r cylchoedd i blant, miloedd a miloedd ohonynt, sy'n byw mewn tlodi.

Ac fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ein hatgoffa bod y data diweddaraf ar dlodi plant yn wirioneddol ddigalon. Cawsom ein hatgoffa ganddi am arian a fuddsoddwyd, ond mae'r diffyg targedau, fel rydym wedi sôn, a'r diffyg canlyniadau cadarnhaol yn anad dim, nid yn unig mewn termau ystadegol ond yn nhermau plant sy'n dal i fyw mewn tlodi na ddylent fod—ac wrth gwrs, mae tlodi plant yn groes i hynny'n gwaethygu wrth imi siarad—yn profi bod hon yn Llywodraeth Lafur nad oes ganddi unrhyw reolaeth ar y mater hynod ddifrifol hwn. Nid nawr yw'r amser i ddweud beth na allwn ei wneud, ond i ddweud yr hyn y gallwn ei wneud i unioni'r cydbwysedd rhwng y cyfoethog a'r tlawd, i ddechrau gweithredu yma yr hyn y profwyd ei fod yn gweithio mewn mannau eraill.

Mae polisïau'r Alban yn gweithio i ddechrau newid y sefyllfa mewn perthynas â thlodi plant. Dyna gasgliad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yr wythnos diwethaf. Mae Lisa'n unigolyn a gymerodd ran yn y prosiect Changing Realities, sy'n dogfennu bywyd ar incwm isel yn yr Alban. Disgrifiodd daliad plant yr Alban fel rhywbeth sy'n sicrhau newid sylfaenol, ac wedi rhoi mwy o gyfle iddi hi a'i mab allu mwynhau bywyd. A oes mwy i'w wneud yn yr Alban? Oes, wrth gwrs. Mae Llywodraeth yr Alban wedi methu cyrraedd ei tharged tlodi plant, ond fel y dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, mae'r ystadegau diweddaraf hyn yn dangos bod polisïau Holyrood, yn enwedig taliad plant yr Alban, yn gweithio i newid y sefyllfa i blant yn yr Alban yn wyneb tlodi sy'n codi i lefelau uwch nag erioed ar draws gweddill y DU.

Felly, fy her i bob Aelod yma yw hyn: os nad y taliad plant, beth? Dyma beth y mae Plaid Cymru yn ei gynnig, yn ei gyflwyno yn rhan o'n cyfres o bolisïau gwrth-dlodi pan fyddwn yn Llywodraeth ymhen blwyddyn. Mae arbenigwyr ym maes tlodi plant wedi galw ar Lywodraeth Lafur bresennol Cymru i roi targedau tlodi plant ar waith ac mae wedi gwrthod gwneud hynny. Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn cefnogi ystod o gamau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant, ac eto nid yw wedi gallu sicrhau newid.

Nid rheoli tlodi plant a'i reoli'n wael yw'r ateb. Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn cefnogi cyflwyno taliad plant. Mae ymateb Cymreig yn mynnu hynny ac mae teuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn ei haeddu. Ger ein bron heddiw gwelwn gynnig 'dileu popeth' arall gan Lafur ar dlodi plant. Yn ddiweddar, mae meinciau'r Llywodraeth wedi bod yn awyddus i fframio dadleuon fel dyddiau o brysur bwyso. Rwy'n awgrymu'n ostyngedig fod heddiw'n un arall iddynt.

18:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly, fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A chyn inni symud at y bleidlais, rwyf am roi gwybod i'r Aelodau y bydd ein cyfarfod nesaf yn Siambr Tŷ Hywel, ac fe fydd yn wahanol iawn. Dim ond chwe Aelod sy'n eistedd yma heddiw oedd yn eistedd yn y Siambr wreiddiol honno. Dyna gwestiwn cwis tafarn i chi: pwy yw'r chwech? Rwy'n gwybod mai'r chwech hynny fydd y rhai a fydd yn awyddus i osgoi'r seddi y tu ôl i'r pileri. Ac mae gennym staff hefyd a oedd yn gweithio yn y Siambr wreiddiol honno, ac mae un ohonynt yn eistedd wrth fy ymyl yma. Mae Sian Wilkins yn ymddeol yfory ar ôl 25 mlynedd yn gweithio i'r Senedd hon. [Cymeradwyaeth.] Bydd y gymeradwyaeth honno wedi peri embaras iddi.

Diolch yn fawr iawn, Sian, am y gwaith. 

Mae'n debyg ei bod hi'n hasta la vista i'r Siambr hon. Fe'ch gwelwn y flwyddyn nesaf.

Mi wnawn ni symud nawr at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch.

19:00
9. Cyfnod Pleidleisio

Byddwn ni'n pleidleisio nawr ar eitem 8, sef y ddadl Plaid Cymru ar daliadau plant. Dwi'n galw yn gyntaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Taliadau plant. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, pleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly bydda i yn bwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig a'r gwelliant wedi eu gwrthod, a bydd dim mwy o bleidleisiau o dan yr eitem yna. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Taliadau plant. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

10. Dadl Fer: Glofa Gresffordd: Y trychineb glofaol a ffurfiodd gymuned

Rŷn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Lesley Griffiths.

Gall Lesley Griffiths ddechrau ei dadl fer os yw'r Aelodau wedi gadael y Siambr yn dawel, os gwelwch yn dda. Os gall yr Aelodau adael y Siambr os nad ydynt yn aros ar gyfer y ddadl fer. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Hannah Blythyn, Mick Antoniw, Jane Dodds a Sam Rowlands am gyfrannu at fy nadl fer.

Ychydig dros 90 mlynedd yn ôl, profodd Wrecsam ei diwrnod tywyllaf. Ddydd Sadwrn 22 Medi 1934, digwyddodd un o'r trychinebau mwyngloddio gwaethaf yn hanes Prydain a'r gwaethaf yng ngogledd Cymru, a hynny ym mhwll glo Gresffordd. Collodd 266 o ddynion a bechgyn eu bywydau, ac roedd ei effaith ar y gymuned yn seismig. Rwyf wedi dewis y ddadl fer hon heddiw i barhau i godi ymwybyddiaeth o'r drasiedi.

Roedd pwll glo Gresffordd ymhlith y mwyaf yn y rhanbarth. Roedd yn gyflogwr mawr, gyda dros 2,200 o weithwyr, gyda 1,850 yn gweithio o dan y ddaear. Roedd dwy brif ran i'r pwll glo, siafft Dennis a siafft Martin, ac roedd y ddwy tua 680m o ddyfnder. Ar y dydd Sadwrn hwnnw, tua 02:00, hanner ffordd drwy'r shifft nos, rhwygodd ffrwydrad dinistriol drwy ran Dennis o'r pwll. Lledaenodd tanau ffyrnig yn gyflym drwy'r aer llawn llwch. Nid oedd y dynion yn siafft Martin yn gwybod dim am y ffrwydrad nes y daeth neges iddynt fynd allan. Dioddefodd criwiau achub gyda diffoddwyr tân a masgiau ocsigen y gwres, ond dywedir ei fod wedi llosgi'r dillad ar eu cefnau a llosgi'r gwadnau ar eu  hesgidiau.

Cydiodd y fflamau ym mhropiau pren y pyllau glo, gan achosi i'r tanau ledaenu, a digwyddodd ffrwydradau pellach, a achosodd i fwy o'r graig gwympo, a gweithiodd llawer o'r glowyr a oedd wedi dod allan o siafft Martin i ddiffodd y tanau. Ar ôl 40 awr, galwyd yr holl bartïon achub i mewn a seliwyd y siafft. Yr unig ffordd o ddiffodd y tanau fyddai eu llwgu o ocsigen.

Lladdwyd 261 o ddynion a bechgyn yn y ffrwydrad o dan y ddaear a'r tanau a losgodd o ganlyniad. Dim ond 16 oed oedd yr ieuengaf, Ernest Edwards, ac roedd yr hynaf yn 69 oed, Edward Wynn. Dim ond chwech o ddynion a oroesodd lle digwyddodd y trychineb: Cyril Challoner, Teddy Andrews, y brodyr John a Bert Samuel, Dai Jones a Tom Fisher. Derbyniodd John, a arweiniodd y pump arall allan o'r pwll, fedal Edward am ddewrder personol, yr anrhydedd fwyaf i lowyr a sifiliaid ar y pryd.

Golygodd ffyrnigrwydd y ffrwydrad a'r tanau a'i dilynodd mai dim ond 11 o gyrff a gafodd eu hadfer. Roedd y galar yn annirnadwy i'r perthnasau yr arhosodd eu hanwyliaid o dan y ddaear, teuluoedd na allent roi angladd i'w gŵr, eu tad, eu mab neu eu brawd. Mae 253 o gyrff yn dal i fod wedi'u claddu o dan y ddaear.

19:05

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn ogystal â'r 261 o lowyr a fu farw yn y ffrwydrad, collodd tri achubwr eu bywydau. Bu farw un glöwr y dydd Mawrth canlynol o ffrwydrad dilynol ar yr wyneb, a bu farw'r olaf o'r 266, Frederick Strange, ym mis Hydref, ar ôl cwympo mewn gwasanaeth coffa.

Roedd y rheolwyr dan bwysau i gynyddu cynhyrchiant, felly fe wnaethant ganiatáu shifftiau dwbl anghyfreithlon, ac yn drasig, roedd y pwll glo'n brysurach nag arfer ar y shifft y noson honno, gan fod llawer o ddynion yn gweithio shifftiau dwbl i fod yn rhydd ar gyfer penwythnos mawr iawn, pan oedd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn chwarae Tranmere Rovers ar y dydd Sadwrn, roedd yna ffair yn y dref, ac roedd goleuadau Blackpool, atyniad enfawr i dwristiaid ar y pryd, yn digwydd dros y penwythnos.

Esgus o beth oedd yr ymchwiliad a gynhaliwyd yn dilyn y trychineb. Roedd y pwysau am fwy o lo wedi gorbwyso'r rheoliadau diogelwch, a chafwyd cyfres o fethiannau ac enghreifftiau o gamreoli. Roedd yr amodau y tu hwnt i ofnadwy, ac ychydig iawn o ddynion a oedd yn aelodau o undeb, os oedd un ar gael, am na allent fforddio'r gost ychwanegol. Nid oedd cadw cofnodion erioed wedi bod yn gryfder yng Ngresffordd, gyda llawer o adroddiadau heb eu cadw'n gywir, a gwaith papur pwysig wedi'i ddinistrio. Mae honiadau cryf fod rhai dogfennau wedi'u ffugio er mwyn gwarchod y perchnogion.

Yn llys yr ymchwiliad a gynhaliwyd ar ôl y trychineb, tynnwyd sylw at y modd y torrwyd y gyfraith niferoedd o weithiau ynghyd â'r rheoliadau a osodwyd i ddiogelu'r rhai a oedd yn gweithio yn y pwll glo, ac at y ffaith bod ymddygiad yr arolygiaeth wedi bod yn druenus. Fodd bynnag, ar ôl dod i'r casgliad fod gwreichionen o ffôn wedi achosi'r ffrwydrad, cafodd y rheolwyr a'r dirprwyon ddirwy bitw, a oedd yn cyfateb i lai na 25c am bob dyn. Ni chafodd neb erioed eu dwyn yn gyfrifol, gyda'r ddirwy o tua £150 yn ymwneud â gwallau cadw cyfrifon, yn hytrach nag amgylchiadau'n gysylltiedig â'r ffrwydrad.

Lledaenodd y newyddion am y trychineb ledled y DU a'r byd, a derbyniwyd dros 10,000 o lythyrau o gydymdeimlad. Sefydlwyd cronfa yn sgil y trychineb gan faer Wrecsam, a gododd dros £0.5 miliwn. Dywedid bod pob achos haeddiannol yn cael ei ymchwilio'n ofalus gan y pwyllgor, a thalwyd grantiau a lwfansau wythnosol fel y gellid lleddfu trallod ar unwaith.

Mae effaith y trychineb hwn ar y gymuned yn amhosibl ei ddirnad, gyda phob pentref yn Wrecsam a'r cyffiniau wedi cael eu heffeithio. Tra bo'r rhai mewn awdurdod heb ddangos fawr ddim tosturi, anfonwyd rhoddion di-ri o ddillad a bwyd i Wrecsam gan aelodau o'r cyhoedd. Anfonwyd pysgod hallt o Grimsby, ac anfonodd masnachwyr pysgod Aberdeen 200 bocs o benwaig cochion, a derbyniwyd cig oen o Seland Newydd. Anfonodd tyfwr ffrwythau yng Nghaint 3 tunnell o afalau, a chododd trigolion Deal, hefyd yng Nghaint, arian i'r gweddwon a'r plant allu mynd yno ar wyliau. Teithiodd tua thri llond bws o bobl i lawr i Gaint ar daith y talwyd amdani, a cheir sawl cofnod o bobl na allai gredu pa mor bell yw Deal o Wrecsam. [Chwerthin.]

Roedd dydd Gwener yn y pwll glo yn ddiwrnod cyflog, felly roedd gan lawer o'r glowyr eu pecyn cyflog yn eu meddiant. Rhoddodd siopwyr lleol gredyd i deuluoedd dioddefwyr, am eu bod yn gwybod bod y cyflogau wedi'u claddu gyda'r glowyr. Yn syfrdanol, tynnwyd tâl pedair awr o gyflog y dynion a weithiodd ar y noson dyngedfennol honno, neu hanner eu cyflog, am fethu cwblhau eu shifft.

Rydym yn ffodus i gael prosiect glowyr Wrecsam, dan arweiniad George Powell, sydd, drwy adfer gorsaf achub pyllau glo Wrecsam, yn achub ein hanes glofaol. Yn yr orsaf achub, mae wal yn dangos enwau'r 266 o ddynion a bechgyn, a dyma lle bûm yn ymchwilio i hanes y trychineb i baratoi ar gyfer y ddadl hon. Roedd Alan Jones, y siaradais ag ef wrth wneud ymchwil ar gyfer yr araith hon, yn swyddog awyru ym mhwll glo Gresffordd. Newidiodd ei daid shifftiau â'i gefnder y noson honno, ac er iddo osgoi'r drasiedi, cafodd ei lorio gan y fath euogrwydd fel na weithiodd byth wedyn. Teulu Nicholls wedyn, pedwar brawd, John, William, Harry ac un gŵr di-enw, a oedd yn ŵr gweddw a chanddo bedair merch fach. Felly, fe ofynnodd i'w frawd Harry newid shifftiau ag ef, fel y gallai fynd â'i blant i'r ffair.

Roedd Trevor Lloyd Jones yn 10 oed pan ddaeth y newyddion fod ei dad David wedi ei ddal gan y trychineb. Dywedwyd wrtho na ddylai fynd i'r lleoliad ar unrhyw gyfrif, ond fe aeth beth bynnag, ac aeth i mewn i sied feiciau, a'r unig feic yno oedd un ei dad. Adroddodd Trevor y stori hon mewn digwyddiad i nodi 85 mlynedd wedi'r trychineb, pan oedd yn 95 oed. Dyma'r tro cyntaf i'w deulu glywed y stori, ac roedd yn ei ddagrau wrth gofio'r atgof a gadwodd iddo'i hun am ddegawdau.

Y gohebydd a'r ffotograffydd lleol Geoff Charles oedd yr aelod cyntaf o'r wasg ar y safle, ac ar ôl cyrraedd y lleoliad, cafodd syniad i archwilio'r lanternau, gan sylweddoli, pe baent yn cyfrif faint o lanternau nad oedd wedi cael eu storio, y gallent gael syniad o faint o lanternau, ac felly pobl, a oedd i lawr yn y pwll glo. Roedd amcangyfrifon cychwynnol wedi adrodd bod tua 100 o lowyr o dan y ddaear, ond Geoff oedd y person cyntaf i sylweddoli bod dros 200 ar goll.

Mae yna lawer o unigolion y mae eu gwaith a'u hymgyrchu diflino wedi sicrhau nad yw trychineb Gresffordd wedi cael ei anghofio. Dechreuwyd deiseb gan Emily Capper, a ysgrifennodd at bawb mewn awdurdod i erfyn arnynt ddod â'r cyrff allan, ac fe ymwelai â'r pwll bob dydd Gwener ar ôl iddo ailagor i gasglu llofnodion, ac mae'r cofnodion hynny'n dal i'w gweld yn yr archifau cenedlaethol. Llofnododd miloedd o bobl eu henwau ar beth bynnag a oedd ganddynt ar gael—amlenni, taflenni a darnau o bapur sgrap. Ymgyrchodd Emily dros gofeb hefyd, am nad oedd gan gymaint o deuluoedd gorff i'w gladdu na bedd i alaru wrtho. Ar ôl i Emily farw, fe wnaeth ei merch, Margaret, hi'n ymgyrch oes i sicrhau'r gofeb.

Unigolyn allweddol arall oedd Ted McKay, asiant glowyr yng ngogledd Cymru ac ysgrifennwr llythyrau toreithiog. Gwelodd Margaret ei lythyrau yn y papur lleol a threfnodd hi a Ted gyfarfod yn gwahodd perthnasau a ffrindiau'r glowyr a fu farw. Daeth y cyfarfod hwn yn gatalydd i greu cofeb, ac fe'i dadorchuddiwyd o'r diwedd ym mis Tachwedd 1982 gan Dywysog Cymru ar y pryd. Mae'r gofeb yn cynnwys olwyn wreiddiol y pwll ac mae'n parhau i fod yn ganolbwynt allweddol ar gyfer y trychineb, a mynychodd dros 200 o bobl wasanaeth yno fis Medi diwethaf.

Aethpwyd yn ôl i mewn i'r pwll ym 1935, ac ailddechreuwyd cynhyrchu glo yn raddol o fis Ionawr 1936 nes cau'r pwll ym 1974. Mae llawer o bobl yn Wrecsam yn parhau i deimlo bod y trychineb wedi cael ei anwybyddu, gyda gwleidyddiaeth y dydd yn galluogi'r rhai mewn awdurdod i beidio â chael eu dwyn i gyfrif. Mae perthnasau y cyfarfûm â hwy yn dymuno gweld ymchwiliad pellach. Ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llywodraeth y DU, Jo Stevens AS, yr hydref diwethaf yn gofyn am hyn. Yn anffodus, gwrthodwyd yr ymateb, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddywedai, ni fyddai ymchwiliad pellach yn gallu datgelu'r atebion y mae'r gymuned yn eu dymuno.

Er i'r trychineb ddigwydd 90 mlynedd yn ôl, rhaid diolch i'r bobl niferus sy'n parhau i sicrhau bod atgofion yn cael eu cadw'n fyw. Roedd eraill, gan gynnwys Ruby McBurney, merch William Crump, a laddwyd yn y trychineb, ynghyd â'i chwaer, Evelyn, a'i ffrind Margery Morrison, yn allweddol yn yr ymdrechion i godi arian i dalu am blac wrth y gofeb yn dangos enwau'r 266 o ddynion a bechgyn a gollodd eu bywydau, a hefyd cyfeillion y gofeb i drychineb pwll glo Gresffordd yn y gorffennol a'r presennol, sy'n dal i gyfarfod yn rheolaidd. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r Parchedig Ganon David Griffiths, a arweiniodd y gwasanaethau coffa am 33 mlynedd. Diolch yn fawr iawn i George Powell ac i Alan a Margaret Jones, sydd, 90 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i ganfod mwy o wybodaeth am y trychineb a'r effaith ar y gymuned. Mae'r llyfr The Gresford Letters: Aftermath of a Disaster gan Beverley Tinson hefyd yn ddiddorol iawn.

Mae edrych yn ôl ar ein hanes yn caniatáu inni ddysgu gwersi allweddol a all lywio gweithredoedd a phenderfyniadau heddiw. Un ffordd y gallwn anrhydeddu'r rhai a fu farw yng Ngresffordd yw cynnal deddfwriaeth gadarn ar gyfer hawliau gweithwyr. Rydym wedi dod i arfer ag arferion gwaith modern heddiw, ond rhaid inni beidio ag anghofio'r amodau dybryd a pheryglus a wynebai glowyr Gresffordd o ddydd i ddydd. Mae cael cyrff cynrychiadol cryf yn rhoi llais cyfunol i weithwyr herio cwynion, negodi cyflogau gwell a sicrhau amodau gwell a thriniaeth decach. Rwy'n credu bod cynnal y rhain yn ffordd briodol o anrhydeddu a chofio am y rhai a gollodd eu bywydau yn nhrychineb pwll glo Gresffordd. Diolch.

19:10

Rwy'n atgoffa'r pedwar siaradwr sy'n weddill mai munud yr un sydd gennych. 

Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod a fy nghyfaill Lesley Griffiths am gyflwyno'r ddadl fer deimladwy a chofiadwy hon heddiw. Mae'n iawn ein bod ni'n cofio yn y modd hwn ac ar yr adeg hon, ac yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae gennym orffennol diwydiannol balch ac mae ein cydnabyddiaeth i'r bywydau y cyffyrddodd â hwy a'r gwaddol a adawodd ar ei ôl yn fawr.

Fel llawer, rwy'n dod o deulu sydd wedi'i wreiddio yn y dreftadaeth ddiwydiannol hon; roedd fy nhaid, a fy ewythr a llawer mwy o aelodau fy nheulu yn gweithio ym mhwll glo'r Parlwr Du yn fy etholaeth. Y pwll glo hwnnw oedd y pwll dwfn olaf yng ngogledd Cymru, ac fe'i caewyd ym 1996. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae grŵp o lowyr wedi ymddeol wedi ceisio dod â hanes y safle yn ôl yn fyw. Mae Ffynnongroyw, y pentref lle roedd y rhan fwyaf o'r dynion yn gweithio i lawr y pwll ar un adeg, bellach yn gartref i gofeb y Parlwr Du a wnaed o siafft Rhif 2 y pwll glo. Ar lwybr yr arfordir gerllaw, mae llwybr cylchol gyda phaneli dehongli, yn ogystal ag un o olwynion y pwll glo wedi'i hadfer. Gellir dod o hyd i femorabilia, yn ogystal â chyn-lowyr cyfeillgar, yn Amgueddfa Gymunedol Ardal Treffynnon.

Gyda'n gilydd, fe wnawn barhau i gydnabod y cyfraniad a wnaed i'n cymunedau a'n gwlad, a chofio'r rhai y newidiwyd eu bywydau am byth.

19:15

Mae arnom ddyled i'r rhai a weithiai yn y diwydiant mwyngloddio ac i'r diwydiant mwyngloddio dros gymaint o ddegawdau. Mae'r gwaddol i'n gwleidyddiaeth, i'n diwylliant ac i'n heconomi yno, ac ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn i a Mark Drakeford yn coffáu diwedd streic y glowyr, a barhaodd am flwyddyn, 40 mlynedd yn ôl, ac yn cofio gwaddol y bobl hynny a'r hyn yr ymladdent drosto. Y gorau y gallaf ei wneud yw cofio peth o effaith y diwydiant mwyngloddio ar ein cymunedau: collodd Senghennydd 439, Gresffordd 266, collodd Ocean 190, collodd Tynewydd 144, Aber-carn 268, Llai 51, pwll glo Maerdy 77, yr Albion 26, Hafod 96, Ynys-hir 38, Rhisga 146, Rhisga 120, Abersychan 176, ac mae'r rhestr yn parhau i bron bob cymuned yng Nghymru. Mae'r rhestr lawn ymhell dros 6,000, ac ar ben hynny mae'r degau o filoedd a roddodd eu bywydau drwy salwch galwedigaethol, a'r degau o filoedd a ddioddefodd anafiadau difrifol yn y diwydiant mwyngloddio dros y blynyddoedd hynny. Rydym yn cofio'r gwaddol hwnnw. Rydym yn cofio'r rhai a ymladdodd dros eu diwydiant a'u cymunedau yn ystod streic y glowyr 40 mlynedd yn ôl, a'r rhesymau, y wleidyddiaeth a'u hymrwymiad i ymladd dros eu cymunedau. Mae wedi'i ymgorffori yn ein hanes ac mae'n bwysig fod y cenedlaethau nesaf yn ein system addysg yn gwybod yr hanes hwnnw hefyd.

Diolch i Lesley Griffiths am godi hyn heno. Os ydych chi wedi cael eich geni a'ch magu yn Wrecsam, mae'n amlwg iawn fod trychineb pwll glo Gresffordd wedi diffinio'r gymuned. Cefais fy ngeni a fy magu bum munud i ffwrdd o bwll glo Gresffordd a thrwy gydol fy amser yn yr ysgol, cafwyd sôn a thrafod yn ein cartref ac yn fy ysgol am bwysigrwydd cofio trychineb pwll glo Gresffordd. Roedd fy nain yn arfer siarad am glywed y seirenau’n canu pan ddigwyddodd y ffrwydrad a chlywed pobl yn rhuthro yno. Ni allodd fynd yno na'i theulu ychwaith, ond siaradai am yr effaith a gafodd arni.

Fy mhwynt olaf yw hyn: ni ddylem byth anghofio'r ddyled sydd arnom i'r bobl a roddodd eu bywydau, oherwydd fe wnaethant wella'r amodau—amodau gwaith—a dechrau ffurfio'r undebau sy'n cynrychioli pobl, ac sy'n sicrhau, gobeithio, na fydd pethau fel hyn byth yn digwydd eto. Ni ddylem byth erydu'r hawliau yr ymladdwyd yn galed amdanynt, ac ni ddylem byth erydu ein hundebau yn y dyfodol ychwaith. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n ddiolchgar am gyfle i siarad heno. Fel sydd eisoes wedi'i amlinellu, trychineb pwll glo Gresffordd oedd un o'r trychinebau mwyngloddio mwyaf trasig a gwaethaf a welsom, gyda 266 o ddynion yn colli eu bywydau. Mae'r Aelod dros Wrecsam, Lesley Griffiths, wedi rhoi clod priodol i'r bobl hynny sydd wedi cadw'r cof am y dynion hynny'n fyw dros y degawdau. Ond hoffwn innau hefyd roi clod i'r Aelod ei hun am wneud ei rhan yn cadw'r cof am y rhai a fu farw ar y diwrnod trasig hwnnw'n fyw, ac am godi hyn yma yn y Siambr heno, oherwydd roedd yn fwy na thrasiedi a gymerodd fywydau'r dynion y diwrnod hwnnw ac yn yr amser wedyn, fe effeithiodd ar deuluoedd yn Wrecsam a thu hwnt am flynyddoedd lawer i ddod. Fel y nodwyd nawr gan Jane, mae'n parhau i effeithio ar bobl hyd heddiw, ac mae'n iawn ein bod ni, 90 mlynedd yn ddiweddarach hyd yn oed, neu 90 mlynedd a mwy bellach, yn dal i goffáu'r digwyddiadau hyn. Hoffwn ategu sylwadau Mick Antoniw hefyd ynglŷn â pha mor bwysig yw hi fod cenedlaethau i ddod a chenedlaethau iau yn deall ac yn dysgu o ddigwyddiadau fel hyn, ac rwy'n credu bod rhan i bawb ohonom ei chwarae yn atgoffa cenedlaethau iau a chenedlaethau i ddod am y trasiedïau hyn fel na phrofwn bethau o'r fath eto yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Lesley am gofnod mor deimladwy o'r digwyddiadau dinistriol hynny yng Ngresffordd 90 mlynedd yn ôl. Ddirprwy Lywydd, mae'n ymddangos yn briodol iawn i mi fod y peth olaf y byddwn yn siarad yn ei gylch yn y Siambr hon cyn iddi gael ei hailfodelu yn rhywbeth sy'n adleisio cymaint yn hanes Cymru, sydd â chymaint o gysylltiadau â chymaint o gymunedau eraill, fel y dywedodd Mick Antoniw, oherwydd fel y clywsom, mae'r hyn a ddigwyddodd yng Ngresffordd yn parhau i atseinio drwy'r cenedlaethau.

Nawr, yn gynnar yn y 1920au, cododd y nifer a recriwtiwyd i Ffederasiwn Glowyr Gogledd Cymru i dros 16,000 o bobl am y tro cyntaf, ond roedd y degawd a ddilynodd yn anodd yng nghymunedau glofaol gogledd-ddwyrain Cymru, fel mewn unrhyw faes glo arall. Yn ystod streic gyffredinol 1926 gwelwyd gwrthdystiadau ac arestiadau o amgylch Wrecsam a sefydlwyd pwyllgor trallod i helpu pobl a oedd yn llwgu yn ôl i'r gwaith, ond trodd y penderfyniad a'r dewrder a ddangoswyd i'r fath raddau gan bobl yn chwerwder wrth gael eu gorfodi i ddychwelyd. Ac erbyn y drasiedi eithriadol ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym mhwll glo Gresffordd, fel y clywsoch gan Lesley, roedd gallu gweithwyr y pwll glo i drefnu a gwneud yn siŵr fod eu buddiannau'n cael eu diogelu wedi erydu dros y 15 mlynedd hynny.

Rydych chi wedi clywed eisoes sut y digwyddodd ffrwydrad enfawr yn oriau mân y bore Sadwrn hwnnw, a'r tristwch ychwanegol fod llawer o ddynion yn y gwaith y bore hwnnw na fyddent wedi bod yno oni bai eu bod wedi gwneud trefniadau arbennig i fod yno oherwydd y digwyddiadau eraill yr oeddent am eu mynychu, ac i 266 ohonynt, fel y gwyddom, ni fyddai hynny byth yn digwydd. Mae'n anodd deall graddfa'r drasiedi—y cannoedd o wŷr, tadau, meibion a brodyr a gollwyd mewn un digwyddiad trychinebus, trychineb a ddinistriodd ac a effeithiodd ar gymuned gyfan mewn amrantiad.

Yn lleol, agorodd yr ymchwiliad dilynol ar 25 Hydref. Fe'i cynhaliwyd yn Nhŷ'r Eglwys yn Wrecsam. Fe'i harweiniwyd gan Syr Henry Walker, prif arolygydd y mwyngloddiau. Canfu'r ymchwiliad, fel y clywsoch, fethiannau diogelwch difrifol, awyru annigonol, trefniadau monitro nwy gwael, ond fel y byddai'n digwydd mor aml mewn trychinebau mwyngloddio yng Nghymru, ni chafwyd unrhyw berchennog yn gyfrifol ac ni chafwyd unrhyw erlyniadau. Mae'r Archifau Cenedlaethol yn Kew, fel y dywedodd Lesley, yn cynnwys casgliad dirdynnol o lythyrau gan fenywod yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad, menywod a oedd yn dal i aros flynyddoedd yn ddiweddarach i unrhyw arwydd o weddillion eu hanwyliaid gael eu dychwelyd.

Roedd y canlyniadau, Ddirprwy Lywydd, yn uniongyrchol ac yn hirhoedlog ar yr un pryd. Ychydig ymhellach draw ar arfordir gogledd Cymru y diwrnod hwnnw, yn Llandudno, roedd un o artistiaid mwyaf yr ugeinfed ganrif, Paul Robeson, yn perfformio mewn cyngerdd. Roedd wedi bod yng Nghaernarfon y diwrnod cynt ac roedd yn Wrecsam ar 22 Medi. Rhoddodd holl elw ei gyngherddau ar unwaith i apêl y trychineb. Yn fuan iawn roedd yn dechrau creu'r ffilm ryfeddol honno, The Proud Valley, sy'n gorffen, wrth gwrs, gyda ffrwydrad tanddaearol. Câi effaith Gresffordd ei deimlo ymhell y tu hwnt i Wrecsam ei hun, hyd yn oed wrth i Paul Robeson ddychwelyd i'r dref eto yn ystod y 1930au ar gyfer cyngherddau codi arian pellach ar gyfer yr apêl.

Nawr, cynrychiolwyd Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru yn yr ymchwiliad. Fe'i cynrychiolwyd gan Syr Stafford Cripps. Defnyddiodd y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymchwiliad i gryfhau'r achos dros wladoli'r pyllau glo, ac wrth gwrs, ym 1947, pan ddigwyddodd y gwladoli, roedd yn Ganghellor y Trysorlys yn y Llywodraeth Lafur wych honno a ddaeth i rym ym 1945. Er bod canfyddiadau'r ymchwiliad ac nid yn unig y gwladoli ond y mesurau diogelwch a âi ochr yn ochr â hynny'n rhy hwyr i'r dynion a laddwyd yng Ngresffordd, yn sicr fe arweiniodd y diwygiadau pwysig a ddeilliodd yn anuniongyrchol o'r ymchwiliad at reoliadau diogelwch a fyddai'n diogelu cenedlaethau'r dyfodol o lowyr. Ac fel y mae eraill wedi dweud, gellir olrhain ein hymrwymiad modern i hawliau gweithwyr ac i wytnwch cymunedol yn uniongyrchol i'r digwyddiadau hynny a'r digwyddiadau eraill y soniodd Mick Antoniw amdanynt. Mae stori Gresffordd yn codi cwestiynau parhaus ynghylch cyfiawnder cymdeithasol, am ddiogelwch yn y gweithle, atebolrwydd corfforaethol a chefnogaeth i gymunedau sy'n wynebu colledion dinistriol.

Nawr, bob blwyddyn wrth gofeb y glowyr yng Ngresffordd, mae emyn dirdynnol y glowyr yn cael ei chwarae bob blwyddyn yn y gwasanaeth coffa, ac eleni, roedd un o fy meibion yn y band pres a gymerodd ran yn y digwyddiad a nodai 90 mlynedd ers y trychineb. Fe wnaeth fy ffonio y noson honno i ddweud wrthyf ei fod wedi gweld Lesley Griffiths mewn tri digwyddiad gwahanol—bore, prynhawn a nos— wrth iddynt symud o gwmpas ar y diwrnod coffa pwysig hwnnw. Ac mae'n drawiadol iawn, onid yw, fel y dywedodd Jane Dodds, sut y ceir ymdeimlad o undod cymunedol, 90 mlynedd yn ddiweddarach hyd yn oed, o fod yn gysylltiedig ag un o'r digwyddiadau hynod arwyddocaol hynny.

Yma yng Nghymru mae gennym gymaint o drasiedïau i'w cofio, ac roedd yn anrhydedd i mi, y llynedd, gael chwarae rhan fach yn y gydnabyddiaeth ffurfiol i'r ardd goffa yn Senghennydd, gardd goffa genedlaethol trychinebau mwyngloddio Cymru. Mae'n lle rhyfeddol. Rydych chi'n teimlo cysylltiad uniongyrchol iawn â'r trychineb a ddigwyddodd yno yn 1913—wedi eich cysylltu gan yr agosrwydd ffisegol at ble y digwyddodd y trychineb, ond hefyd gan y ffaith bod gwirfoddolwyr, bob dydd, o'r gymuned honno yn dod i'r ardd i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei chadw'n daclus. Mae pob trychineb mwyngloddio a grybwyllodd Mick Antoniw yn cael ei goffáu yno. Mae gan bob carreg balmant y cerddwch arni enw trychineb arall o dan eich traed, ac mae rhywbeth emosiynol iawn am yr enwau hynny. Lesley, roeddwn yn meddwl ei bod yn emosiynol iawn eich clywed yn darllen enwau'r unigolion a oedd yno ar y diwrnod hwnnw, eu teuluoedd a'r hyn a ddigwyddodd iddynt. Rydym yn eu hanrhydeddu drwy eu crybwyll ar lawr y Senedd genedlaethol yma yng Nghymru.

A heddiw, yn y Gymru gyfoes, mae gwaddol ein gorffennol diwydiannol yn parhau i siapio ein cymunedau. Daeth y tirlithriad yn Tylorstown yn 2020 â sylw mawr i fater diogelwch tomenni nas defnyddir, ac fe wnaeth y tirlithriad yng Nghwmtyleri y flwyddyn diwethaf ein hatgoffa unwaith eto o'r hyn y mae'n ei olygu yng Nghymru i wynebu bygythiad newydd newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol pan fo'n cyd-daro â hanes gweladwy iawn ein cymunedau. Mewn ymateb, rydym yn mynd â deddf drwy'r Senedd, y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru), a fydd yn sicrhau rheolaeth effeithiol hirdymor ar domenni nas defnyddir ac yn lleihau'r bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd.

Y mis diwethaf, bûm yn ddigon ffodus i ymweld â safle Duffryn Rhondda yng Nghastell-nedd Port Talbot, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, lle gwelsom beth o'r gwaith diogelwch hwnnw'n digwydd, ac yn syth ar ôl yr ymweliad hwnnw, gadawodd Huw dde Cymru i fynd i Wrecsam i fynychu digwyddiad yno hefyd, gan ein hatgoffa—oherwydd rydym weithiau'n anghofio—fod y diwydiant glo yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr un mor arwyddocaol i'w phoblogaeth leol ag y mae'r diwydiant glo yn ne Cymru i'n poblogaeth ni. Bydd y Bil gerbron y Senedd yn sicrhau y gall cymunedau ein maes glo heddiw gydfodoli'n heddychlon â gweddillion ein gorffennol diwydiannol, ac mae'n gwbl briodol mai'r Aelod Senedd dros Wrecsam a gychwynnodd y daith honno, oherwydd Lesley a gomisiynodd adroddiad cyntaf Comisiwn y Gyfraith a ddadansoddai gyflwr presennol y llyfr statud a chreu'r sylfeini ar gyfer y diwygiadau yr ydym yn eu datblygu nawr.

Wrth gofio digwyddiadau Gresffordd 90 mlynedd yn ôl, atgoffwn ein hunain am egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, undod cymunedol, gweithredu cyfunol yn y gweithle, a'r ymdeimlad o wytnwch cymunedol yr ydym mor ffodus o'i gael yma yng Nghymru hyd heddiw. Fel y dywedais, rwy'n gobeithio bod y cyfle i wneud hynny am y tro olaf yn y Siambr hon cyn inni ei gweld wedi'i thrawsnewid ar gyfer ei dyfodol newydd, yn gwneud rhywbeth i gydnabod cryfder y teimlad a'r atgofion sy'n dal i fodoli yn y gymuned honno. Diolch yn fawr.

19:30

Diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

I atgoffa pawb, y tro nesaf y byddwn yn cyfarfod, byddwn yn gwneud hynny yn Siambr Tŷ Hywel. Wedi dweud hynny, gobeithio y caiff pob un ohonoch chi doriad da, a seibiant, ac y byddwch yn dychwelyd wedi eich adfywio ar gyfer ein Siambr newydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:31.