Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/12/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Mae heddiw yn achlysur arbennig yn ein Senedd ni, achos, yn dilyn ymgyrch etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, a gynhaliwyd fis Tachwedd, fy mraint i heddiw yw cyhoeddi’r canlyniadau ar gyfer ein trydedd Senedd Ieuenctid. Mae gennym ni 19 sefydliad partner sydd hefyd wedi sicrhau bod 20 allan o’r 60 Aelod yn cynrychioli grwpiau amrywiol o bobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Yn yr etholiad hyn, gwelwyd y nifer uchaf yng nghyfranogiad unrhyw etholiad Senedd Ieuenctid yn ei hanes, sy’n dangos llwyddiant yr ymgyrch ac ymrwymiad pobl ifanc, rhieni, addysgwyr, a’r sector yn fwy eang, tuag at arwyddocâd ein Senedd Ieuenctid. Mae dylanwad y ddau dymor Senedd Ieuenctid blaenorol yn sylweddol ac wedi creu argraff fawr ar bob un ohonom. Dwi’n siŵr y bydd yr Aelodau newydd yn ysbrydoli ac yn gweithredu gyda’r un egni, gan sicrhau bod eu cyfoedion yn gweld perthnasedd y Senedd Ieuenctid, gan gyfrannu at waith y Senedd yma.

I'r bobl ifanc hynny a safodd yn yr etholiad ond nad oedden nhw'n llwyddiannus y tro hwn, rwy'n gwybod y byddwch chi'n siomedig, ond diolch am eich ymgyrchoedd a frwydrwyd yn galed ac am gynnig eich hunain. Rydyn ni'n gobeithio y gwnewch chi barhau i ddilyn gwaith Senedd Ieuenctid Cymru a chymryd rhan yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Nid yw'r stori drosodd i chi, rwy'n siŵr.

Rwy'n falch iawn, felly, o gyhoeddi'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer trydedd Senedd Ieuenctid Cymru, yn cynrychioli etholaethau a sefydliadau partner.

Felly, dyma'r enwau. Yn cynrychioli'r gogledd: Ynys Môn, Annest Tomos; Arfon, Elin Llwyd Brychan; Aberconwy, Oliver Jones-Barr, Gorllewin Clwyd, Clwyd West, Calum Morrisey; Dyffryn Clwyd, Vale of Clwyd, Ameesha Ramchandran; Delyn, Benjamin Thomas Harris; Alun a Glannau Dyfrdwy, Alyn and Deeside, Riley Lubinsky; Wrecsam, Zac Jones Prince; De Clwyd, Clwyd South, Alfie Rhys Rawlins; Dwyfor Meironnydd, Neli Rhys; Sir Drefaldwyn, Montgomeryshire, Jake Dillon; Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Carers Trust Wales, Ffion-Haf Scott; Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Conwy Youth Service, Alexander Isaac Moore; the Ethnic Minorities and Youth Support Team Wales, Morgan Peters; Gwynedd Initiative for Social Development and Empowerment, Lewis Williams; Anabledd Dysgu Cymru, Learning Disability Wales, Tammi Louise Tonge; Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan, Emily Williams.

Y canolbarth a’r gorllewin nesaf: Ceredigion, Kiani Francis; Brycheiniog Sir Faesyfed, Brecon and Radnorshire, Tilly Jones; Preseli Sir Benfro, Preseli Pembrokeshire, Riley Barn; Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Carmarthen West and South Pembrokeshire, Grace Elizabeth Tilbury; Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Carmarthen East and Dinefwr, Devlin Jack Stanney; Llanelli, Aryan Gupta; Urdd Gobaith Cymru, Awel Grug Lewis; Clybiau Ffermwyr Ifanc, the YFC, Celyn Leah Richards.

Y de-ddwyrain, South Wales East—

O, mae hwn i'w weld yn anghywir. Rwy'n credu mai Canol De Cymru yw hwn i fod. 

Gorllewin Caerdydd, Cardiff West, Ned Dong; Gogledd Caerdydd, Cardiff North, Megan Wyn Jones; Canol Caerdydd, Cardiff Central, Abdul Aziz Algahwashi; De Caerdydd a Phenarth, Cardiff South and Penarth, Grace Oluwafemi; Merthyr Tudful a Rhymni, Amber Elin Perrott; Blaenau Gwent, Chase Campbell; Torfaen, Taliesin Evans; Mynwy, Monmouth, Isabel Grace Ravenhill; Caerffili, Maisie Powell; Islwyn, Elizabeth Bartlett; Gorllewin Casnewydd, Newport West, Nate Hoccom; Dwyrain Casnewydd, Newport East, Bryn Geary; Action for Children (Headland School), Makenzie Evan Jack Thomas; DIGON Ysgol Plasmawr, Olive Alys Anwen Burns; Girlguiding Cymru, Eve Powell; NYAS, National Youth Advocacy Service Cymru, Kayla McKenzie; Race Council Cymru, Hasson Yusuf; Stephens and George Centenary Charitable Trust, Charlotte Williams; Tros Gynnal Plant Cymru, Mirac Solmaz.

De-orllewin Cymru nesaf: Gŵyr, Gower, Anna Martin; Gorllewin Abertawe, Swansea West, Ffion Grace Lewis; Dwyrain Abertawe, Swansea East, Olivia-Grace Keeley Morris; Castell-nedd, Neath, Zjackaria Meah; Aberafan, Ffion Chapple; Ogwr, Oliver Higgins; Pen-y-bont ar Ogwr, Bridgend, Grace Lee; Rhondda, Dylan Vaculin; Cwm Cynon, Cynon Valley, Lillie Louise Lloyd; Pontypridd, Ava Martin-Thomas; Bro Morgannwg, Vale of Glamorgan, Daniel Vlad; Cyngor Abertawe, Swansea Council, Nicholas Nzomosi; Talking Hands, Jack Rigdon; Voices from Care Cymru, Elliott Louis James; Youth Engagement Participation Service, RCT, Carys Simons a Megan Carlick.

Dyna'r enwau i gyd. Diolch i chi a llongyfarchiadau i bawb, a phob dymuniad da iddyn nhw wedi eu hethol. [Cymeradwyaeth.] Byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr i gwrdd â nhw maes o law.

13:35
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Sioned Williams.

Cenedl sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cadw at ei hymrwymiadau statudol i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ62020

Diolch. Mae ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol arloesol yn rhan ganolog o'n dull o fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang ar gyfer cymunedau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Rŷn ni’n mesur ein cynnydd drwy’r adroddiad blynyddol ar lesiant Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi eleni.

Mae Achub y Plant yn dweud bod tiriogaeth Palesteina, sydd wedi ei meddiannu, bellach yn cael ei hystyried y lle mwyaf angheuol yn y byd i blant, a bod ganddi'r cyfraddau uchaf o gamfaethiad plant yn fyd-eang. Adroddodd UNICEF yr wythnos diwethaf y lladdwyd tri bachgen a merch gan ymosodiad awyr gan Israel wrth iddyn nhw giwio am ddarn o fara, eu bywydau byr ymhlith y 14,000 o blant sydd wedi cael eu lladd yn Gaza. Amlygodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fod gan Gaza y nifer uchaf o drychedigion sy'n blant y pen yn y byd bellach a rhybuddiodd y gallai'r amodau yn Gaza fod yn gyfystyr â'r troseddau rhyngwladol mwyaf difrifol. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi ysgrifennu atoch chi, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gan amlinellu eich cyfrifoldebau o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, gan eich atgoffa

'Mae ein hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol yn ymestyn y tu hwnt i’n ffiniau',

a

'Dylai ein llais ar y llwyfan byd-eang...wynebu anghyfiawnder'.

Felly, beth yw eich ymateb i alwad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol? A ydych chi'n cytuno na ddylem ni ganiatáu i Gymru fod yn rhan o'r hyn y canfuwyd gan ymchwilwyr diweddar Amnest ei fod yn hil-laddiad yn erbyn Palestiniaid, ac, os felly, a wnewch chi eirioli dros ddiwedd ar werthiant arfau'r DU i Israel a sicrhau nad yw holl weithgareddau neu bartneriaethau Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw gefnogaeth i gwmnïau sy'n gysylltiedig â'r weithred a'r feddiannaeth filwrol anghyfreithlon ac annynol hyn?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n iawn—rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi bod yn gwylio datblygiadau yn y dwyrain canol gyda phryder a diddordeb gwirioneddol. Nid Palesteina yn unig, ond, yn amlwg, sefyllfa sy'n newid ac yn symud llawer yn Syria bellach, ac nid ydym ni'n gwybod beth fydd y bennod nesaf yn y stori benodol honno. Ond rydych chi'n cyfeirio'n benodol at Balesteina, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn bryderus iawn am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yno dros gyfnod estynedig o amser. Ac rydych chi'n gwbl gywir—mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ysgrifennu ataf ac wedi rhannu ei bryderon. Cymerais y cyfle yr wythnos diwethaf, yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, i rannu fy myfyrdodau yn arbennig ar y sefyllfa ym Mhalesteina, gyda Phrif Weinidog y DU ac arweinwyr eraill, yn enwedig o ran Palesteina, a hefyd arlywyddiaeth Trump. Rydym ni, wrth gwrs, wedi galw am gadoediad ar unwaith, rhyddhau gwystlon yn ddiamod, a chael gwared ar gyfyngiadau ar gymorth dyngarol. Ceir cyfyngiadau, wrth gwrs, i'r pwerau sydd gennym ni o ran bod yn Llywodraeth, ac rydym ni wedi ymateb, a mater i Lywodraeth y DU yw arwain o ran materion tramor.

Diolch, Sioned, am godi'r pwnc llosg hwn. Prif Weinidog, dylai bod yn gyfrifol yn fyd-eang fod yn berthnasol i bob penderfyniad sy'n cael ei wneud gan eich Llywodraeth, gan gynnwys penderfyniadau cynllunio. Dros yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo nifer o brosiectau solar graddfa fawr, gan gynnwys un yn y Glais yn fy rhanbarth i. Mae'r prosiectau hyn yn defnyddio nifer fawr o baneli solar. Mae deunydd daear prin—indiwm, galiwm a thelwriwm—yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o'u gweithgynhyrchu. Yn aml, mae cloddio mwynau o'r fath yn cael ei wneud gan ddefnyddio llafur plant a chaethweision. Ceir ystyriaeth foesegol hefyd o ran cynhyrchu paneli. Tsieina yw'r gweithgynhyrchydd mwyaf o gelloedd ffotofoltäig, y canfuwyd ei bod yn defnyddio llafur caethweision o boblogaethau lleiafrifoedd ethnig, fel y boblogaeth Uyghur. Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod ffermydd solar a gymeradwywyd gan eich Llywodraeth yn defnyddio deunyddiau o ffynonellau moesegol a chyfrifol yn unig wrth eu hadeiladu a'u gweithredu? Diolch.

13:40

Diolch yn fawr iawn, Altaf. Rydych chi'n gwbl gywir—rydym ni eisiau bod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, a dyna pam mai'r hyn yr ydych chi'n ei weld yw newid sylweddol oddi wrth tanwydd ffosil ac i ynni adnewyddadwy, ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhan o'r newid strategol hwnnw yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Dyna pam rydym ni'n falch iawn ein bod ni'n cyflymu penderfyniadau cynllunio o ran ynni adnewyddadwy. Ond rydych chi'n gwbl gywir—mae'n rhaid i ni fod yn ofalus o ran o ble mae'r adnoddau yn dod a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cyd-fynd â'r math o hawliau dynol sydd mor bwysig i ni, yn enwedig o ran llafur plant a llafur caethweision. Felly, fe wnaf i ymholiadau pellach dim ond i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwbl sicr ynghylch y materion hynny o ran adeiladu ein seilwaith yn y dyfodol.

Prif Weinidog, i ddychwelyd at y sefyllfa erchyll yn Gaza, lle'r ydym ni'n gwybod bod degau o filoedd o blant a menywod wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiadau Hamas dros flwyddyn yn ôl, ac, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan Sioned Williams, y bu gennym ni'r nifer fwyaf o drychedigion sy'n blant mewn hanes modern, gyda llawer o'r trychiadau hynny yn digwydd heb anaesthetig yn dilyn yr ymosodiadau ar gyfleusterau a gwasanaethau meddygol. Rydym ni'n gwybod bod newyn yn cael ei ddefnyddio fel arf rhyfel ac mae clefydau yn lledaenu. Mae'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol wedi ymdrin â rhai o'r materion hyn wrth ymdrin ag achosion hil-laddiad, ac eto clywsom ni fod Amnesty International wedi datgan, yn eu barn nhw, bod hil-laddiad yn digwydd. Rwy'n cytuno'n llwyr â llythyr comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol atoch chi, Prif Weinidog, ac rwy'n croesawu rhai o'r datganiadau yr ydych chi wedi eu gwneud a'r rhodd i'r apêl frys ar gyfer y dwyrain canol. Ond byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n ystyried yn ofalus beth arall y gallwch chi ei wneud, o ystyried maint y sefyllfa, o ran gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU, ac ystyried yn fwy uniongyrchol, er enghraifft, gweithio gyda chyrff sector cyhoeddus yng Nghymru i adolygu eu cynlluniau pensiwn ar frys i sicrhau eu bod nhw'n foesegol ac nad ydyn nhw'n cefnogi gweithredoedd Llywodraeth Israel?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld y golygfeydd erchyll ym Mhalesteina a phobl ddiniwed yn cael eu llofruddio. Onid yw'n eironig, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, i siarad am lofruddiaeth pobl ddiniwed ar yr adeg hon yn y rhan honno o'r byd? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau â'r pwysau. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr mai Llywodraeth y DU sy'n parhau â'r pwysau hwnnw. Dyna lle mae'r cyfrifoldeb am faterion tramor. Ond, fel yr esboniais, cymerais y cyfle i wneud yn union hynny ddydd Gwener diwethaf gyda Phrif Weinidog y DU, a gwn ei fod yn bryderus iawn am y sefyllfa hefyd. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn o fewn y pwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru. O ran pensiynau, mae gen i ofn bod terfyn ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o fewn y maes hwnnw oherwydd ein cyfyngiadau cyfansoddiadol.

Diolch i Sioned Williams am ei chwestiwn pwysig iawn. Nôl yn mis Medi, fe wnes i’ch holi chi ynglŷn â chynhyrchu arfau yma yng Nghymru sy’n cael eu defnyddio ar gyfer troseddau rhyfel. Roedd eich ateb chi braidd yn fyr bryd hynny. Roeddech chi’n dweud bod y mater yma tu hwnt i’r setliad datganoledig. Ond, fel mae Sioned Williams yn dweud, mae cyfraith Cymru yn gosod cyfrifoldeb arnom ni. Un o nodau Deddf cenedlaethau’r dyfodol yw Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd eang, ac mae’r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn rhoi dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus i ddefnyddio prosesau caffael cyhoeddus sydd yn gymdeithasol gyfrifol. Mae hynny hefyd yn cynnwys pensiynau. Mae’n bosib iawn bod pensiynau cyhoeddus yn cael eu defnyddio i ariannu cwmnïau sy’n rhoi arfau i Israel, sy’n gwneud y troseddau rhyfel yn erbyn Palestiniaid. Hefyd, rwy’n deall bod yna ddarnau o’r jet F-35, sy’n cael ei werthu i Israel, yn cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru. Mae’r ffigurau sydd gyda fi bach yn uwch na rhai Sioned Williams—17,492 o blant, sydd gen i, o Balesteina sydd wedi marw. Mae’r ffigurau gwahanol efallai’n dangos cymaint y chaos ac mor erchyll yw’r sefyllfa yno. Fedrwn ni ddim cuddio tu ôl i'r setliad datganoledig; mae’n rhaid i bawb wneud rhywbeth nawr. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru’n mynd i wneud i sicrhau bod Cymru yn wirioneddol yn haeddu teitl 'cenedl noddfa'? Diolch yn fawr. 

13:45

Diolch. Nid oes unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddarparu i gwmnïau yng Nghymru sy'n allforio arfau i Israel ers ymosodiadau 7 Hydref. Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau llywodraethu ac archwilio caffael cadarn i ddiogelu rhag diffyg cydymffurfiad posibl â rheoliadau caffael. A hefyd, dim ond o ran y pensiynau, nid yw'r rheoliadau sy'n rheoli awdurdodau pensiwn llywodraeth leol wedi'u datganoli. Felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros benderfyniadau ar fuddsoddiadau sy'n cael eu gwneud gan aelodau etholedig awdurdodau yng Nghymru a phartneriaeth pensiwn Cymru.

Buddsoddiad ar gyfer Gogledd Cymru

2. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i annog buddsoddiad ar gyfer gogledd Cymru? OQ62025

Rydym ni'n cydnabod bod gan y gogledd lawer o gryfderau sy'n ddeniadol i fuddsoddwyr. Rydym ni'n gweithio gyda llywodraeth y DU a llywodraeth leol, a'n rhanddeiliaid rhanbarthol, i sicrhau bod y cryfderau hynny yn hysbys ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac rwy'n bwriadu'n llwyr arddangos y rhain yn uwchgynhadledd fuddsoddi y flwyddyn nesaf.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu cyhoeddi'r uwchgynhadledd fuddsoddi ar gyfer 2025. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ato yn gywir, mae gan y gogledd lawer o gryfderau, yn enwedig ei leoliad o fewn y Deyrnas Unedig, â seilwaith sy'n gweithio ymhell i ogledd-orllewin Lloegr ac yna'n cysylltu ag Iwerddon, â marchnadoedd Ewropeaidd yno hefyd, yn ogystal â bod â phobl eithriadol o fedrus sy'n eneidiau entrepreneuraidd, sydd eisiau chwarae eu rhan yn ein cymunedau hefyd. 

Un o fanteision Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU, wrth gwrs, oedd ei pherthynas â Llywodraeth Cymru wrth sefydlu'r fargen twf a'r parth buddsoddi yng ngogledd-ddwyrain Lloegr a'r porthladd rhydd yn Ynys Môn hefyd. Felly, tybed sut rydych chi'n gweld defnyddio parth buddsoddi'r fargen twf a'r porthladd rhydd i ddenu mwy o'r buddsoddiad hwnnw. Ac a wnewch chi, unwaith eto, ymrwymo heddiw i sicrhau bod y gogledd yn destun trafod eglur a balch yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi y flwyddyn nesaf?

Wel, diolch yn fawr iawn. Roedd yn dda iawn eich bod chi wedi cyflawni rhywfaint o'r daith fel Llywodraeth y DU o ran y parth buddsoddi, ond wnaethoch chi ddim croesi'r llinell. Fe wnaethoch chi roi'r arian i Loegr o ran parthau buddsoddi, ond dim ond Llywodraeth Lafur sydd bellach yn eu cael ar draws y llinell—£160 miliwn ar gael yn y 10 mlynedd nesaf. Ac mae yn, rwy'n credu, ac rwy'n siŵr eich bod chi—. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod ni i gyd yn croesawu hynny. Rydym ni eisiau gweld y buddsoddiad hwnnw yn y gogledd. Mae gennym ni offeryn statudol sydd bellach wedi'i osod o ran porthladd rhydd Ynys Môn, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y cymhorthion yn cael eu clirio ar gyfer mis Ionawr. Bydd hynny'n datgloi potensial enfawr yn y rhan honno o'r byd, ac rydym ni'n gwybod bod buddsoddwyr wedi'u paratoi ac yn barod i weithredu yn y rhan honno o'r byd. Felly, rydych chi'n gwbl gywir; mae'n bwysig iawn ein bod ni'n croesawu hyn. Mae'n bwysig ein bod ni'n arddangos y gogledd. Mae gan y gogledd lawer iawn i'w gynnig, ond rwy'n credu bod y ddau gynnig ar wahân hyn yn bethau lle gallwn ni wir ysgogi buddsoddiad i'r rhannau penodol hynny o'r byd.

Os ydym ni am gryfhau economi'r gogledd, yna mae'n rhaid inni weld ein bod ni'n medru cario nwyddau yn ôl ac ymlaen ar hyd y gogledd mewn modd cynaliadwy, er mwyn medru cael pethau i'r farchnad. Dwi wedi codi nifer o weithiau yn y Siambr yma rŵan yr angen i alluogi ffreit ar hyd rheilffordd gogledd Cymru, ond, hyd yma, does yna ddim byd wedi digwydd. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y Senedd yma, nôl ar ddechrau'r ganrif yma, wedi dadlau'r achos a chomisiynu papur yn dadlau'r achos i gael ffreit. Rydym ni'n gwybod bod adroddiad Taith, cynllun trafnidiaeth rhanbarth gogledd Cymru, nôl yn 2009, wedi dweud bod angen cael ffreit. Rydym ni'n gwybod bod adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru flwyddyn ddiwethaf wedi dweud bod angen ffreit. Ond, hyd yma, does yna ddim symud wedi bod. Felly, pryd fedrwn ni weld ffreit yn cael ei gyflwyno ar reilffordd gogledd Cymru?

Diolch yn fawr. Wel, dwi'n gobeithio y bydd hwn yn rhywbeth fydd yn cael ei weld yng nghyd-destun y growth deal, a bod yna bosibiliadau yn y maes yna i weld beth sy'n bosibl yn y maes yna. Mae hwn, wrth gwrs, ynghlwm â'r angen am fuddsoddiad mewn rheilffyrdd. Dŷn ni ddim wedi gweld hynny ers blynyddoedd lawer. Mae'r trafodaethau hynny—. Wrth gwrs, mae hwn yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'r trafodaethau gyda'r Deyrnas Unedig o ran strwythur ar gyfer y rheilffyrdd yn datblygu. Ac unwaith mae gyda ni rywbeth newydd i'w ddweud ynglŷn â hynny, mi fyddwn ni'n dod atoch chi. Ond bydd hwnna'n helpu i gael mwy o ffreit ar y rheilffyrdd. 

Ymwelais â Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug yn ddiweddar, i weld sut mae gwaith yn mynd rhagddo. Bydd yn gymaint mwy na theatr gynhyrchu bwysig, gyda 100 o swyddi newydd yn cael eu creu, 240 o gyflogeion craidd, ac maen nhw'n datblygu prentisiaid twristiaeth hefyd. Mae'r trosiant wedi codi o £5 miliwn i £13 miliwn, ac mae'n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth rhwng buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, lle gwych ar gyfer tyfu llesiant a'r economi. Mae'r gogledd wedi dod yn boblogaidd iawn fel cyrchfan i'r diwydiant ffilm a cherddoriaeth. Mae arweinwyr busnes wedi cael eu hannog i gefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029.

Prif Weinidog, roedd parth buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint yn cynnwys meysydd creadigol a digidol yn wreiddiol, yn ogystal â gweithgynhyrchu uwch, ond cefnwyd ar hynny. Nawr, mae Cymru Greadigol a Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi dweud y bydden nhw'n cefnogi ei gynnwys eto os yw hynny'n bosibilrwydd. Felly, a ydych chi'n credu y gallai hyn fod yn bosibilrwydd i helpu i dyfu'r diwydiant pwysig hwn ymhellach yn y gogledd?

13:50

Diolch yn fawr, Carolyn, ac a gaf i ddweud fy mod i'n credu mai Theatr Clwyd yw'r em yng nghoron diwylliant y gogledd? Mae'n bwysig iawn ein bod ni fel Llywodraeth wedi buddsoddi ynddi. Mae'n fuddsoddiad enfawr yn yr hyn yr wyf i'n ei gredu sy'n ddatblygiad pwysig iawn yn y gogledd, ac, fel y dywedwch chi, mae'n dod â swyddi newydd, cyfleoedd newydd ar gyfer adeiladu, cyfleoedd newydd ar gyfer twristiaeth. Dylai'r holl bethau hyn gael eu dathlu yn fy marn i. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ei chael hi'n anodd iawn y llynedd gwneud y penderfyniadau anodd hynny o ran torri'r cyllidebau ar gyfer y celfyddydau. Fe wnaeth hynny frifo, fe wnaeth hynny frifo'n arw, ond roeddem ni'n falch iawn y parhawyd â'r arian ar gyfer Theatr Clwyd.

Nawr, o ran y parthau buddsoddi, roedd yn dweud yn y prosbectws a'r canllawiau bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar un sector potensial twf uchel, neu glwstwr penodol pe bai'n fwy nag un sector. Felly, dyma reolau'r gêm. Penderfynwyd, o ran y gogledd-ddwyrain, y dylem ni ganolbwyntio ar y maes gweithgynhyrchu uwch hwnnw. Gall cynigion gefnogi mwy nag un sector blaenoriaeth, ond dim ond lle ceir tystiolaeth bod y sectorau hynny yn croestorri. Ac felly dyna pam: nid oedd unrhyw dystiolaeth gymhellol, mae gen i ofn, i awgrymu bod y sectorau creadigol a digidol yn croestorri â maes gweithgynhyrchu uwch. Felly dyna oedd y rheswm am hynny. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi ein bod ni wedi ymrwymo'n llwyr i barhau â'r buddsoddiad hwnnw yn Theatr Clwyd. Mae'n rhywbeth y dylid ei ddathlu. Mae'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yno wir yn rhywbeth gwerth ei weld, a byddwn yn awgrymu bod yr Aelodau yn manteisio ar y cyfle i fynd i ymweld pan fyddan nhw yn yr ardal.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Gaf i longyfarch arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar?

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog.

Os gwnewch chi ganiatáu i mi, Llywydd, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw trwy dalu teyrnged i'm cyd-Aelod Andrew R.T. Davies. Fel y bydd llawer o bobl yn gwybod, ymunodd Andrew a minnau â'r Senedd hon yn 2007, ac mae wedi bod yn bleser llwyr gweithio ochr yn ochr ag ef mewn ffordd agos dros yr 17 mlynedd diwethaf. Mae wedi bod yn arweinydd yr wrthblaid rhagorol ers dros ddegawd, ac mae ei gyfraniad at y Blaid Geidwadol, y Senedd hon a phobl Cymru wedi bod heb ei ail. Arweiniodd hefyd, wrth gwrs, y Ceidwadwyr Cymreig gydag angerdd mawr, ac rydym ni'n wirioneddol ddiolchgar am hynny.

Nawr, mae pob un ohonom ni yn y Siambr hon yn gwybod na fyddai'n bosibl gwneud ein gwaith heb ofal a chefnogaeth ein hanwyliaid, felly hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i wraig Andrew, Julia a'i deulu ehangach am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei rhoi iddo trwy gydol ei gyfnod fel arweinydd yr wrthblaid. Andrew, rydych chi'n gadael eich swydd ar ôl cyflawni setiau gorau erioed o ganlyniadau etholiad y Senedd yn 2021, ac mae gen i esgidiau mawr iawn i'w llenwi nawr, felly rwyf i wedi gwisgo sanau trwchus iawn am weddill y dydd, ac rwy'n edrych ymlaen at roi o'm gorau.

Hoffwn ddweud hefyd, os caf i, o'r cychwyn cyntaf, fel arweinydd newydd yr wrthblaid yma yn y Senedd, fy mod i'n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif ac felly edrychaf ymlaen at fod â pherthynas adeiladol gyda chi, Prif Weinidog. Ni wnaf i gilio oddi wrth eich dwyn chi a'ch Llywodraeth i gyfrif, ond, lle bo'n bosibl, bydd fy mhlaid a minnau yn gweithio gyda chi er budd pobl Cymru, a chyda phleidiau gwleidyddol eraill yn y Siambr hon, gan ein bod ni yma wedi ein hethol i'w gwasanaethu nhw, a dyna pam y byddan nhw bob amser yn gyntaf yn ein meddyliau.

Prif Weinidog, dros y penwythnos, cafodd pobl Cymru eu taro gan storm Darragh. Roedd yn storm ddinistriol i lawer o gymunedau ledled Cymru, gan achosi difrod a tharfu sylweddol i'n rhwydweithiau trafnidiaeth ac ynni, ac rydym ni'n cydymdeimlo, wrth gwrs, â phawb a gafodd eu heffeithio'n andwyol. Cafodd llawer o bobl yng Nghymru rybuddion ar eu dyfeisiau symudol; yn anffodus, ymddengys na chafodd rhai y rhybuddion hynny. Nawr, rydym ni'n ddiolchgar i Lywodraethau Cymru a'r DU am anfon y rhybuddion hynny; mae'n rhywbeth y gwnaethom ni ofyn amdano yn sgil storm Bert. Ond, yn y pen draw, Prif Weinidog, â llawer o fywoliaethau wedi'u chwalu erbyn hyn, a allwch chi amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar gael i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y stormydd, a pha adnoddau ariannol rydych chi'n mynd i'w rhoi i awdurdodau lleol ac eraill yn y sector cyhoeddus i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu ymdrin â'r canlyniadau?

13:55

Diolch yn fawr iawn ac a gaf i, yn gyntaf oll, groesawu Darren i'w swydd newydd fel arweinydd yr wrthblaid, y Ceidwadwyr, yng Nghymru? Ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n cael trafodaethau cadarn ond adeiladol iawn yn y Senedd. Rwyf i bron yn edrych ymlaen ato, Darren. Hoffwn ddymuno Nadolig llawen iddo ef a holl Aelodau'r Siambr. Rydym ni wedi cael blwyddyn anodd, mae wedi bod yn heriol iawn, ond rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd fynd i ffwrdd, yn enwedig ar ôl i ni glywed y gyllideb yn ddiweddarach heddiw, yn sionc ein cerddediad, gan edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn y bennod nesaf.

Ond rydych chi'n gwbl gywir, Darren—roedd hi'n benwythnos anodd iawn i bobl Cymru. Roedd y storm honno yn storm rhybudd coch. Roedd yn golygu bod perygl i fywyd, ac roeddem ni'n falch iawn ein bod ni'n gallu cytuno i wneud y rhybudd hwnnw fel bod pobl yn cael cymaint o rybudd â phosibl bod sefyllfa ddifrifol iawn ar y gorwel. Hoffwn ddiolch i bobl Cymru am wrando ar y rhybuddion hynny. Fe wnaethon nhw ei gymryd o ddifrif ac mae'r ffaith na wnaethom ni golli unrhyw fywydau yng Nghymru yn wyneb storm mor enfawr yn rhywbeth yr wyf i'n credu y mae angen i ni gymryd sylw ohono.

Yn amlwg, mae gwersi i'w dysgu mewn sawl ardal, ac, yn yr un modd ag y gwnaethom ni ddysgu gwersi o bythefnos yn ôl yn unig o ran rhybudd ymlaen llaw, bydd gwersi i'w dysgu y tro hwn. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dal heb drydan. Mae llawer o bobl sy'n dal i deimlo yn agored iawn i niwed. Rydym ni, yn amlwg, mewn trafodaethau gyda'r cwmnïau trydan sydd wedi nodi'r bobl hynny, maen nhw'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ond mae'n sefyllfa bryderus iawn a dywedwyd wrth rhai pobl y bydd hynny yn parhau tan ddydd Gwener.

Nawr, nid yw honno'n sefyllfa dda i bobl sy'n agored i niwed ac yn hen, felly, os ydych chi'n gwybod am bobl yn eich cymunedau, cadwch olwg arnyn nhw. Rwy'n gwybod bod y cyngor yn mynd i wneud popeth o fewn eu gallu, rwy'n gwybod bod y trydydd sector yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ac rwy'n gwybod hefyd bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud gan y cwmnïau trydan hynny. Mae chwe chant naw deg pump mil o gwsmeriaid eisoes wedi cael eu hailgysylltu ond y pocedi hynny sydd ar ôl sy'n heriol iawn, ac rwy'n credu bod angen i ni i gyd gymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif o ran gofalu am ein cymdogion yn y cyfnodau anodd hyn.

Ni wnaethoch chi ateb y cwestiwn a ofynnais am yr adnoddau ychwanegol sydd ar gael i awdurdodau lleol a rhannau eraill o'r sector cyhoeddus sydd wedi cael eu taro, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu ymateb i'r cwestiwn hwnnw yn eich ymateb nesaf. Yn amlwg, mae'n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu ac rwy'n falch o'ch clywed chi'n dweud y byddwch chi'n gwneud yn union hynny.

Nawr, os caf i, hoffwn droi at storm arall y mae Cymru yn ymgiprys â hi, oherwydd, ym mis Hydref, clywsom fod Llywodraeth y DU yn torri addewid maniffesto allweddol Llafur trwy gynyddu trethi ar bobl sy'n gweithio trwy gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, penderfyniad ofnadwy a fydd yn cadw cyflogau i lawr, yn atal buddsoddiad ac yn tanseilio ymdrechion i greu swyddi newydd. A hyn oll ar adeg pan fo gan Gymru eisoes y gyfradd ddiweithdra uchaf yn y DU a'r gyfradd mewn cyflogaeth isaf ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd y cynnydd hwnnw i yswiriant gwladol, wrth gwrs, Prif Weinidog, yn effeithio ar bobl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, pa un a ydyn nhw'n gyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus neu'n cael eu contractio gan wasanaethau cyhoeddus hefyd.

Mae eich Llywodraeth yn datgelu ei chyllideb heddiw, felly a allwch chi ddweud wrthym ni faint o'r gyllideb honno sy'n mynd i gael ei llyncu i dalu am y cynnydd hwnnw i yswiriant gwladol cyflogwyr i bobl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled ein gwlad?

Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, dim ond o ran yr adnoddau, bydd angen golchiad arnom ni ar ôl y digwyddiad hwn o ran y storm, fel y gwnaethom ni yr wythnos diwethaf o ran y storm flaenorol. Bydd angen i awdurdodau lleol siarad â ni ynghylch beth yw'r sefyllfa. Ond rydym ni'n dal i wynebu ac ymdrin â'r sefyllfa ei hun, felly bydd angen i ni wneud hynny. Ond, yn amlwg, yr arian hwnnw o ran y llifogydd, mae hwnnw eisoes wedi'i ddyrannu: £1,000 i'r rhai sydd heb yswiriant, £500 i'r rhai a oedd wedi'u hyswirio.

Dim ond o ran cyfraniadau yswiriant gwladol, rydych chi wir yn ddigywilydd, onid ydych chi, Darren? Ar eich ymddangosiad cyntaf, rydych chi'n dod i mewn i'r fan yma, rydych chi'n sôn am benderfyniadau ofnadwy—[Torri ar draws.]—rydych chi'n sôn am benderfyniadau ofnadwy, gadewch i mi ddweud wrthych chi am benderfyniad ofnadwy: Liz Truss—dyna benderfyniad ofnadwy. Dyna benderfyniad ofnadwy. [Torri ar draws.] A'r pris y mae pobl yn ei dalu heddiw—[Torri ar draws.]

14:00

Allaf i ddim clywed yr ymateb. Rwy'n siŵr bod arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig eisiau clywed yr ymateb i'r cwestiwn y mae newydd ei ofyn. Prif Weinidog.

Mae'r pris y mae pobl yn ei dalu heddiw o ganlyniad uniongyrchol i rai o'r penderfyniadau a wnaeth hi. Mae gennym ni dwll gwerth £22 biliwn yn y gyllideb y mae angen i ni ei llenwi. Nawr, bydd angen i rywfaint o hwnnw gael ei lenwi gan y cyfraniad yswiriant gwladol hwnnw. Bydd y rhai sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y sector cyhoeddus yn cael eu cynorthwyo o ran yswiriant gwladol. Ond yr hyn y byddwch chi'n ei glywed yn ddiweddarach heddiw, gan yr Ysgrifennydd cyllid, yw'r codiad cyllideb uchaf ers dechrau datganoli. Dyna'r gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn ei wneud.

Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, ond nid oedd yr ateb yna yn ddigon da. Oherwydd y gwir yw, fel y gwyddoch chi'n iawn, y bydd cannoedd o filiynau o bunnoedd yr ydych chi'n ei ddweud sy'n arian ychwanegol yn dod i Gymru yn mynd yn syth yn ôl i lawr yr M4 i goffrau'r Trysorlys. Gallwch ei sbinio gymaint ag yr hoffwch chi, ond mae hon yn sefyllfa o dynnu sylw oddi wrth y gwir sy'n rhoi gydag un llaw ac yn cymryd gyda'r llall. Dyna realiti eich cyllideb. Ac rydym ni'n gwybod mai ein gwasanaethau cyhoeddus fydd yn dioddef o ganlyniad.

Storm arall—[Torri ar draws.]—storm arall yr ydym ni wedi ei hwynebu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw'r storm yn ein gwasanaeth iechyd gwladol—[Torri ar draws.]

Nawr, credwch neu beidio, rwyf i eisiau gallu clywed arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig. Felly, a gaf i ei glywed yn yr un modd, os gwelwch yn dda?

Storm arall sydd wedi bod yn effeithio ar Gymru yw eich camreolaeth Lafur o'n gwasanaeth iechyd gwladol. O dan y blaid Lafur, mae Cymru wedi troi'n ddyn sâl Prydain. Mae gennym ni restrau aros GIG Cymru sydd wedi cynyddu am yr wyth mis diwethaf yn olynol ac, yn syfrdanol, mae dros 24,000 o bobl yng Nghymru wedi bod yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth, ac mae hynny'n cymharu â dim ond 113 o bobl yn Lloegr, sydd â phoblogaeth 18 gwaith maint poblogaeth Cymru. Mae'n sgandal lwyr ac mae'n amlwg bod y GIG yng Nghymru, o dan eich goruchwyliaeth chi fel Gweinidog iechyd blaenorol, wedi torri. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i'w drwsio?

Fe ddywedaf i wrthych i beth rydym ni'n mynd i'w wneud: mae yna swm cynyddol o arian sy'n dod i mewn, am y tro cyntaf ers amser maith. Fe glywsoch chi fi'n siarad yn gynharach am ba mor anodd oedd hi i ni wneud y toriadau hynny i bethau fel y celfyddydau, gan fod yn rhaid i ni wella'r sefyllfa o ran iechyd. Bydd y cyfraniadau yswiriant gwladol hynny yn dod; os ydyn nhw'n yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol, bydd y cyllid ychwanegol yn dod gan Lywodraeth y DU. Codiad o £1 biliwn, dyna'r ydym ni'n chwilio amdano y flwyddyn nesaf.

Ac fe wnaethoch chi sôn am fod eisiau gweithio'n adeiladol. Rydych chi eisiau gweithio'n adeiladol: gwnewch yn siŵr bod yr £1 biliwn hwnnw yn dod i Gymru. Oherwydd mae angen pleidlais ychwanegol arnom ni yma, ac os na fyddwn ni'n ei chael, ni fyddwch chi'n cael yr £1 biliwn hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd—[Torri ar draws.] Rydych chi eisiau bod yn adeiladol.

A gadewch i ni siarad am y GIG. Dwy filiwn o gysylltiadau bob mis mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Mae hwnnw'n GIG sy'n gweithio i'r mwyafrif helaeth o bobl. Ceir codiad o £50 miliwn dim ond eleni, cyn i ni sôn am y flwyddyn nesaf, i leihau'r rhestrau aros. Mae'r arian yn mynd i mewn, mae cynnydd enfawr i'r cyllid sy'n mynd i mewn i'r GIG, a byddwch yn gweld y gwahaniaeth.

Diolch, Llywydd. Ac, yn ysbryd y Nadolig, gadewch i mi ddymuno'r dymuniadau gorau i arweinydd newydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd. Rwy'n credu ei fod yn bwnc trafod ai ef neu Andrew R.T. Davies sydd wedi cael yr anrheg Nadolig cynnar, ond rwy'n dymuno'n dda i'r ddau ohonyn nhw'n bersonol.

Y llynedd, dosbarthodd banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru bron i 200,000 o becynnau brys, 68,000 o'r rheini ar gyfer plant. I lawer o deuluoedd, mae 'Nadolig Plentyn yng Nghymru' yn wahanol iawn, iawn i ddelwedd enwog Dylan Thomas. Mae tlodi bwyd, tlodi plant, tlodi tanwydd yn dal cartrefi mewn cylch dieflig, sy'n cael ei waethygu gan dai gwael, iechyd gwael a chyrhaeddiad addysgol gwael. Ond fel y dywedodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fis diwethaf,

'nid yw effaith tlodi ac anghydraddoldebau ar iechyd plant yn anochel.'

Nawr, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban gynlluniau i liniaru effeithiau'r cap budd-dal dau blentyn creulon, a ddyfeisiwyd gan y Torïaid ac a amddiffynnwyd ac sydd bellach yn cael ei barhau gan Lafur. Mae cyllideb yr wythnos hon yn cynnig cyfle i Brif Weinidog Cymru ddangos ei bod hithau hefyd o ddifrif am fynd i'r afael â thlodi plant. A yw'n barod i fanteisio ar y cyfle hwnnw?

14:05

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ledled Cymru gyfan sy'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ymwybodol iawn ohono o fewn Llywodraeth Cymru, a dyna pam rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod ein cefnogaeth i aelodau tlotaf ein cymdeithas yn parhau. O ran sut rydym ni'n diogelu, yn benodol, plant sy'n byw mewn tlodi, un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud nawr yw darparu'r prydau ysgol am ddim hynny, ac am y tro cyntaf, y Nadolig hwn, bydd pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cinio Nadolig, ac rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth y dylid ei ddathlu.

O ran yr hyn y mae'r Alban yn ei wneud, edrychwch, rwy'n gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru. Nid wyf i'n mynd i ddechrau copïo a gludo, sef yr hyn y mae'n ymddangos y mae ef eisiau ei wneud, beth bynnag sy'n digwydd yn yr Alban. Mae agweddau ar les sydd wedi eu datganoli i'r Alban nad ydyn nhw wedi eu datganoli i Gymru. Dydyn nhw ddim yn darparu prydau ysgol am ddim yn yr Alban, ac mae'n bwysig, felly, i ni wneud y pethau sy'n briodol i ni yma yng Nghymru gyda'r pwerau sydd gennym ni.

Wnes i ddim gofyn iddi gopïo'r hyn a oedd yn digwydd yn yr Alban. Gofynnais beth oedd hi'n mynd i'w wneud. Rwyf i wedi cael golwg gyflym drwy'r gyllideb ac ni allaf weld y newid sylweddol sydd ei angen arnom ni o ran tlodi plant. Oeddwn, roeddwn i wrth fy modd, ar ôl pleidleisio yn ei erbyn lawer gwaith, bod Llafur wedi penderfynu yn y pen draw i weithredu polisi hirsefydlog Plaid Cymru ar brydau ysgol am ddim, ond cofiwch, Prif Weinidog, nifer y plant sy'n byw mewn teuluoedd o dan y llinell dlodi sy'n iau na phedair oed: mae angen i ni feddwl amdanyn nhw hefyd.

Pan oedd y Torïaid mewn grym yn San Steffan, ni allai Llafur ddod o hyd i ddigon o gyfleoedd i feirniadu'r cap dau blentyn. Symudwch ymlaen i fis Gorffennaf, ac un o weithredoedd cyntaf Keir Starmer fel Prif Weinidog y DU oedd gwahardd saith o'i ASau a bleidleisiodd i roi terfyn arno. Yn union fel eu gwrthodiad i roi fformiwla ariannu newydd i ni, yn union fel atal Cymru rhag cael ei chyfran deg o gyllid rheilffordd cyflymder uchel 2, mae'n ymddangos bod grym yn dod o flaen egwyddor yn ffordd newydd Llafur o wneud pethau. A chofiwch, dyma Brif Weinidog Llafur Cymru a addawodd newid sylweddol diolch i'w phartneriaeth mewn grym honedig.

Felly, gyda dim ond 14 diwrnod i fynd tan y Nadolig, a wnaiff y Prif Weinidog rannu gyda ni ei rhestr ddymuniadau ar gyfer newid sylweddol gan Keir Starmer a'i Lywodraeth Lafur y DU, neu a fydd amheuon Plaid Cymru yn cael eu profi yn iawn mai Siôn Corn yw'r unig ddyn mewn coch y gallwn ni ddisgwyl anrhegion ganddo y Nadolig hwn?

Fe wnaethoch chi feddwl yn hir ac yn galed am y darn bach olaf yna, felly da iawn. [Chwerthin.] Roedd honna'n llinell dda, diolch.

Ond y peth pwysig, rwy'n credu, yw i ni gymryd sylw o'r goeden arian hud sy'n tyfu unwaith eto yng ngardd Plaid Cymru, oherwydd bob wythnos—bob wythnos—gofynnir i ni am fwy o arian ar gyfer hyn a'r llall, a gofynnir i ni am fwy o arian ar gyfer tai, ar gyfer addysg, ar gyfer trafnidiaeth, a nawr mae gennym ni'r cap dau blentyn, a dydych chi byth yn dweud wrthym ni beth ddylem ni ei dorri, byth, oherwydd dyma'r math o wleidyddiaeth yr ydych chi'n ei hyrwyddo: un sy'n afrealistig, nad oes sail iddi.

Fe ddywedaf wrthych chi beth fydd pwrpas y wleidyddiaeth y byddwch chi'n ei chlywed yn ddiweddarach y prynhawn yma: dyma'r wleidyddiaeth sy'n bwysig i'r bobl ar strydoedd Cymru. Dyma'r materion bara menyn y maen nhw'n poeni amdanyn nhw, y gwnaethon nhw sôn wrthym ni amdanyn nhw yn yr haf, y pethau maen nhw'n canolbwyntio arnyn nhw: gwneud yn siŵr bod mwy o arian yn mynd i mewn i'n GIG, bod mwy o arian yn mynd i mewn i'n hysgolion, bod mwy o arian yn mynd i mewn i'n system drafnidiaeth, bod mwy o arian yn mynd i mewn i dai. Dyna'r pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Dyna'r blaenoriaethau.

Ac wrth gwrs byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ein cyfran deg o bethau fel HS2. Manteisiais ar y cyfle i siarad am hynny unwaith eto gyda Keir Starmer ddydd Gwener. Felly, byddwn, fe fyddwn yn parhau i bwyso, oherwydd dyna fy nghyfrifoldeb i fel Prif Weinidog Cymru, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cyfran deg, ond rydych chi'n blaid sydd eisiau annibyniaeth, ac eto rydych chi eisiau i Lywodraeth y DU dalu am eich holl restrau dymuniadau bach. Allwch chi ddim ei chael hi'r ddwy ffordd.

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru bellach yn dymuno ar goeden arian hud pan oedd hi eisiau £4.5 biliwn ar gyfer HS2. Roedd Carwyn Jones, pan oedd yn Brif Weinidog Llafur yn Llywodraeth Cymru, yn afrealistig wrth ddymuno ar goeden arian hud pan oedd eisiau cael fformiwla ariannu deg i Gymru, mewn cytundeb â Phlaid Cymru. Nawr bod Llafur mewn grym ar lefel y DU, does dim ots ganddyn nhw o gwbl am yr hyn sydd o fudd i bobl Cymru. Ac mae gwrthwynebu Keir Starmer—[Torri ar draws.] Mae gwrthwynebu Keir Starmer yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei weld gan Brif Weinidog Cymru.

Gweithiwch gydag ef—ydw, rwyf i eisiau cael perthynas gadarnhaol ag ef. Ond heb her, ni fydd unrhyw newid, ac mae teuluoedd angen y newid hwnnw. Mae asesiad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant o sut mae pethau'n sefyll, yn ddamniol. Mae teuluoedd â dau o blant a dau riant sy'n gweithio'n llawn amser am yr isafswm cyflog cenedlaethol yn cael eu gadael £138 yr wythnos yn brin o'r hyn sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer safon fyw blaen ond urddasol, ac ni wnaeth ail-lansiad Keir Starmer o'i brif weinidogaeth sy'n colli ei drywydd unrhyw beth i gynnig unrhyw gysur iddyn nhw. Felly, pan wnaeth y Prif Weinidog gyfarfod â Phrif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf, a wnaeth hi mewn unrhyw ffordd eirioli ar ran y rhai sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad uniongyrchol i ddiffyg gweithredu eu plaid? Neu a yw hithau hefyd yn hapus nawr i amddiffyn hen bolisïau'r Torïaid o dan fantell rhai Llafur?

14:10

Fe ddywedaf wrthych chi'r gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur wedi ei wneud yn San Steffan dim ond i ni, yn uniongyrchol yma yng Nghymru: £157 miliwn y flwyddyn ariannol hon o arian ychwanegol yn dod i mewn. Mae yna bosibilrwydd, pe na baen nhw wedi galw etholiad, y Torïaid, y bydden nhw'n dal i fod mewn grym. Byddem ni'n dal i weithio yn unol â chyllideb a oedd mewn perygl, a oedd ar y blociau, a oedd yn awgrymu na fyddai'r arian hwnnw wedi dod: £57 miliwn yn ychwanegol ar gyfer iechyd, dim ond eleni, ar ben y £50 miliwn a gyfrannwyd i dorri rhestrau aros hir ysbytai; £95 miliwn i gefnogi teuluoedd o ran hybu safonau mewn ysgolion; £4 miliwn ar gyfer swyddi a thwf gwyrdd; ac arian ychwanegol ar gyfer diwylliant—dyna'r gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur yn ei wneud. Ceir dyfarniadau cyflog o 5.5 y cant i staff GIG a 5.5 y cant i bobl sy'n gweithio ym myd addysg—dyna'r gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur yn ei wneud yng Nghymru.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Nelyn

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn Nelyn? OQ62011

Mae 'Llwybr Newydd', ein strategaeth drafnidiaeth, yn cyflwyno ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys Delyn. Bydd ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ynghyd â'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan gyd-bwyllgorau corfforedig, yn cyflwyno sut y bydd yn cael ei chyflawni.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog.

Fis diwethaf, trefnais fforwm trafnidiaeth gyhoeddus llwyddiannus yn neuadd tref y Fflint, gan ddod ag amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion ynghyd ar gyfer trafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o Trafnidiaeth Cymru, Avanti, Arriva, Sustrans, Network Rail, Cyngor Sir y Fflint, Unite ac ASLEF. Cododd y rhai a oedd yn bresennol broblemau uniongyrchol, fel bysiau nad ydyn nhw bob amser yn gwasanaethu buddiannau cymunedau, yn aml yn gadael pobl yn rhwystredig ac yn methu â byw eu bywydau bob dydd, ac o ran trenau, tra bod y buddsoddiad presennol yng ngorsaf y Fflint i'w groesawu ac yn haeddiannol dros ben, mae pethau fel amseroedd agor cyfyngedig cyfleusterau'r orsaf yn destun pryder parhaus, yn enwedig i deithwyr ar eu pen eu hunain ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

Ond gan edrych tua'r dyfodol, roedd digonedd o gefnogaeth i gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau bysiau, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnwys rhanddeiliaid, boed hynny'n bartneriaid awdurdodau lleol, y gweithlu drwy undebau llafur, ond hefyd y cymunedau, ac i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau bysiau hynny yn cysylltu'n well â'r orsaf bresennol yn y Fflint, ochr yn ochr â buddsoddiad ychwanegol mewn gorsafoedd neu arosfannau newydd i lawr yr arfordir mewn mannau fel Maes Glas. Oherwydd pan fyddwn ni'n siarad am fetro yn fy rhan i o'r wlad, bysiau gwell a phrisiau tecach, gan ymuno â gwasanaethau cyfagos dros y ffin fydd yn arwain at y newid trawsnewidiol sydd ei angen arnom ni. Ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n sicr yn bwriadu parhau i'w hyrwyddo, a dim ond rhan o hynny oedd y fforwm trafnidiaeth. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ymrwymo i'ch Llywodraeth ymuno â mi ar y daith hon i geisio cael gwelliannau mwy uniongyrchol i wasanaethau, ond hefyd i fuddsoddi yn ein dyfodol yn deg yn Delyn ac ar draws y gornel honno o'r wlad?

Diolch yn fawr, Hannah, a diolch yn fawr iawn am drefnu'r digwyddiad hwnnw yn y Fflint. Rwy'n credu, wrth i ni symud tuag at fasnachfreinio bysiau, rwy'n ymwybodol iawn bod angen gwneud hyn ar y cyd â rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn cyflwyno datganiad llafar ar gynnydd o ran diwygiadau i fysiau yn ddiweddarach heddiw, ac rwy'n credu y gallai masnachfreinio helpu i gyflawni'r gwelliannau i'r rhwydwaith bysiau yr ydym ni i gyd yn chwilio amdanyn nhw. Mae'n fodel newydd a fydd yn caniatáu i ni ddylunio rhwydwaith bysiau sydd wir yn rhoi pobl yn gyntaf, a dyna a glywsoch chi gan y bobl yn eich cyfarfod. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau sefydlogrwydd a chefnogaeth ein gwasanaethau bysiau lleol drwy barhau â'r grant rhwydwaith bysiau a'r grant cymorth i wasanaethau bysiau yn ystod y flwyddyn nesaf, felly byddwch chi'n clywed rhywfaint o hynny, yn amlwg, o ran y gyllideb yn ddiweddarach.

14:15

Mae hi'n galonogol bod Adran Drafnidiaeth y DU wedi ariannu gorsaf y Fflint yn rhan o raglen Mynediad i Bawb y Llywodraeth Geidwadol flaenorol i'w gwneud yn hygyrch i'r holl deithwyr, yn enwedig y rhai sydd â chyfyngiadau ar eu symudedd. O ran gwasanaethau bysiau, er hynny, cafodd pryderon eu mynegi mor ddiweddar â mis Hydref am doriadau i sawl gwasanaeth bws yn sir y Fflint oherwydd lleihad yn y cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru a chostau cynyddol. [Torri ar draws.] Beth, felly, yw'r sefyllfa ar hyn o bryd ynglŷn â'r cyhoeddiad yn—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, a oes rhywun yn ceisio gofyn cwestiwn i mi? [Torri ar draws.] Beth, felly, yw'r sefyllfa ar hyn o bryd—

Ewch yn eich blaen, Mark Isherwood. Diolch yn fawr iawn i chi.

—ynglŷn â'r hysbysiad ym mis Mawrth, yn dilyn cyhoeddiad map ffyrdd Llywodraeth Cymru o ran gwelliant bysiau, y byddai Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio â Chyngor Sir y Fflint drwy gydol 2024 i gyflawni gwelliannau o ran y gwasanaethau bysiau yn rhanbarth Delyn ac ar draws y sir cyn gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd? Sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r diwydiant bysiau yn ystod y cyfnod pontio i lunio pont tua masnachfreinio ar gyfer llwybrau contract yr ystyrir eu bod nhw'n angenrheidiol yn gymdeithasol i bobl yn sir y Fflint?

Diolch, Mark. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod nad yw'r sefyllfa yn foddhaol ar hyn o bryd o ran gwasanaethau bysiau yng Nghymru, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y patrwm sydd gennym ni. Dyna pam, yn nes ymlaen heddiw, y byddwch chi'n clywed ychydig mwy ynglŷn â'r wedd a fydd ar y patrwm yn y dyfodol. Rydych chi'n hollol iawn o ran yr angen i ni sicrhau y bydd un meddylfryd wrth geisio deall sut mae'r holl feysydd amrywiol hyn yn cysylltu â'i gilydd, a'n bod ni'n gwrando ar y cyhoedd o ran yr hyn maen nhw'n dymuno ei weld. Fe fydd y berthynas honno gyda'r cyngor yn allweddol wrth sicrhau ein bod ni'n adlewyrchu anghenion y cyhoedd, ac nad ydym ni'n gweld dim ond y llwybrau bysiau sy'n gwneud yr elw mwyaf yn cael eu dethol. Gwasanaeth cymdeithasol yw hwn. Mae'n wasanaeth pwysig, ac mae'n rhywbeth y gwn fod Ken Skates y Gweinidog trafnidiaeth wedi ymrwymo iddo. Fe fyddwn ni'n gweld y newidiadau hynny'n cael eu cyflwyno, gan ddechrau gyda chyflwyniad y Bil newydd hwnnw'n fuan iawn.

Safonau Addysgol

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu ac yn monitro safonau addysgol? OQ62037

Yn genedlaethol, mae ystod o ddata a gwybodaeth gennym ni, sy'n cynnwys data cymwysterau, data asesu, ein canlyniadau ni yn sgil y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, datganiadau ystadegol, yn ogystal â gwybodaeth oddi wrth Estyn, sef ein harolygiaeth annibynnol. Mae llawer o'r setiau hyn o ddata yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd at ddibenion tryloywder ac ar gyfer rhoi cefnogaeth i welliannau.

Diolch yn fawr. Yr wythnos diwethaf, fe welsom ni gyhoeddiad sgorau eleni'r Tueddiadau mewn Astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS), sy'n monitro ac yn asesu data rhyngwladol. Yn y rhain, dangoswyd mai Lloegr yw'r lle gorau yn y byd gorllewinol i ddysgu mathemateg erbyn hyn. Mae'r sgorau mathemateg gorau yn y byd gorllewinol i'w gweld yn y fan honno, ac mae hynny'n glod mawr, yn fy marn i, i athrawon yn Lloegr, i ddisgyblion yn Lloegr, ond i flynyddoedd o ddiwygiadau gan y Ceidwadwyr ym myd addysg y tro diwethaf yr oeddem ni yn y Llywodraeth—diwygiadau na chafodd eu dynwared yma yng Nghymru. Mae ein sgoriau PISA diwethaf yn dangos mai ni yw'r genedl sy'n perfformio waethaf o blith pob un o wledydd y Deyrnas Unedig.

Wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ystyried bod Llywodraeth Cymru'n ymuno â rhaglen TIMSS er mwyn gallu monitro ac asesu'r pethau y gallem ni eu gwneud yn well a gweld ein sefyllfa ni o'i chymharu â sefyllfa ein cymheiriaid. Felly, a gaf i ymrwymiad oddi wrthych chi, Prif Weinidog, mai hon fydd y set olaf o sgorau TIMSS nad yw hi'n cynnwys y canlyniad ar gyfer Cymru?

Diolch yn fawr iawn i chi, Tom. Rwy'n siŵr eich bod chi'n hapus iawn, fel yr wyf innau, o weld y £50 miliwn ychwanegol sydd ar gael yn y gyllideb eleni i gefnogi safonau a seilwaith, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn awyddus i weld gwelliant o ran safonau yng Nghymru.

Fe allaf i eich sicrhau chi bod yr Ysgrifennydd addysg yn archwilio meincnodi rhyngwladol pellach, ac mae hynny'n cynnwys TIMSS o ran mathemateg a gwyddoniaeth a'r Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol o ran gallu i ddarllen. Rwy'n credu bod pethau y gallwn ni eu dysgu oddi wrth wledydd eraill, gan gynnwys Lloegr, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n gweithio yn ôl mecanweithiau sydd ar sail tystiolaeth i gefnogi ein plant ni gyda'u datblygiad nhw.

Adfywio Canol Trefi

5. Pa gymorth ariannol mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i adfywio canol trefi? OQ62045

Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydyn rŷn ni'n darparu £125 miliwn o gyllid grant a benthyciadau i awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2025. Mae'r buddion eisoes yn amlwg mewn nifer o ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru.

14:20

Mae buddsoddiadau drwy Trawsnewid Trefi yn werthfawr. Er enghraifft, yn Rhydaman, mae £1 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i adfywio adeilad yr hen Co-op yng nghanol y dref. Ond er mwyn gwireddu'r cynlluniau hynny, mi fydd angen degau o filiynau, fyddai wedi dod yn draddodiadol, wrth gwrs, drwy arian Ewropeaidd, ac ers hynny, wedyn, y gronfa shared prosperity, y levelling-up fund, ac mae yna ddiffyg eglurder ar hyn o bryd beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl 2026. Mi oedd y Gweinidog levelling-up yn San Steffan wedi gwrthod dweud yn ddiweddar a fydd yr arian yna ar ôl 2026 wedi ei glustnodi ar sail angen neu ar sail fformiwla Barnett. Wrth gwrs, os taw'r fformiwla Barnett yw hi, yna mae Cymru yn mynd i golli mas yn anferth. Felly, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru? Ydych chi wedi gwneud yr achos i Lywodraeth San Steffan bod angen cael fformiwla ar sail angen, ac onid yw hyn yn enghraifft unwaith eto o’r angen am setliad ariannol teg newydd i Gymru?

Diolch yn fawr. Dwi'n falch eich bod chi'n croesawu’r arian ychwanegol yna sy’n mynd i mewn i ddatblygu ein dinasoedd, a dwi'n falch o weld bod Margaret Street yn Rhydaman wedi gofyn am grant cyllid i ddatblygu y cam cyntaf o'r strategaeth yna. Rŷch chi'n iawn; yn y gorffennol, rydyn ni wedi gallu cael arian oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd i'n helpu ni i ddatblygu rhai o'n trefi ni. Mae'r trafodaethau ynglŷn â beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol yn parhau. Ac rydych chi'n iawn; o'n safbwynt ni, beth sydd eisiau arnom ni yw fformiwla sydd yn gweithio i ni, fformiwla sydd yn derbyn bod angen yn rhywbeth sydd yn cael ei ystyried pan fyddan nhw'n rhoi'r arian yna. Felly, mae’r trafodaethau yna'n parhau, ond wrth gwrs, rŷn ni'n awyddus iawn i weld beth allwn ni ei gael yn ychwanegol. Cofiwch, mae yna addewid wedi cael ei wneud pan adawon ni yr Undeb Ewropeaidd na fyddem ni'n colli allan, ac rŷn ni'n sicr yn mynd i gadw ati i sicrhau mai dyna’r yw'r ffordd yn y dyfodol.

Diolch i Adam Price am y cwestiwn.

Yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, fe ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, ac fe ddefnyddiais i esiampl Caerfyrddin, lle mae eu hawdurdod lleol nhw yno'n ail-bwrpasu unedau masnachol blaenorol yn unedau preswyl, oherwydd un o'r ffyrdd gorau o adfywio ein strydoedd mawr a chanol ein trefi yw cynyddu nifer y bobl sy'n siopa yno. Mae sicrhau bod mwy o bobl yn byw yn lleol ac yn defnyddio'r gwasanaethau lleol hynny'n un ffordd o dynnu mwy o bobl i'r ardal honno, a fyddai'n rhoi hwb i fusnesau ar ein strydoedd mawr. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan ymhelaethu ar yr hyn a ofynnais i'r Ysgrifennydd Cabinet yn flaenorol, i helpu nid yn unig Gyngor Sir Caerfyrddin ond yr awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i helpu i ail-bwrpasu eiddo masnachol blaenorol yn anheddau, a fyddai'n cynyddu niferoedd y bobl sy'n mynd i ganol ein trefi ond i gynyddu maint y stoc dai sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn y mae'r fath angen amdani hefyd?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol bod hwn yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn. Ond rwy'n credu bod enghreifftiau eraill lle mae angen i chi, ar gyfer adfywio canol y dref, ddefnyddio rhai o'r adeiladau a gafodd eu gadael yn wag. Mae yna lawer o enghreifftiau—Debenhams, er enghraifft, a aeth i'r wal. Rwy'n falch iawn o weld hyn yng Nghaerfyrddin, ac ym Mangor hefyd rwy'n credu, sef bod yr awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r awdurdodau iechyd i geisio newid y rhain a'u gwneud yn ganolfannau iechyd, i bob pwrpas, lle rydych yn cynyddu'r nifer sy'n mynd yno, a bod achos i bobl ddod i ganol y dref. Felly, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yma i fod yn greadigol gyda rhai o'r cyllidebau y gwnaethom ni eu rhoi ar y bwrdd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datblygu strategaeth angor sy'n ceisio adfywio canol trefi fel Caerffili a Bargoed. Yng Nghaerffili, fe welsom ni agor Ffos Caerffili, y farchnad gynwysyddion newydd, tra bod yr awdurdod lleol yn gweithio hefyd gyda phrosiect Urban Foundry PopUp Wales ar gyfer annog busnesau i sefydlu safle dros dro mewn eiddo gwag fel banc Barclays yn y dref, sydd wedi cau. Mae safleoedd dros dro yn cael eu cefnogi gan y cyngor i'w darparu i fusnesau newydd lleol ar stryd fawr Bargoed, sy'n ychwanegu bywyd gwirioneddol at ganol y dref. Mae'r cyngor hefyd, drwy'r dirprwy arweinydd, y Cynghorydd Jamie Pritchard, wedi datblygu rhaglen ddigwyddiadau lwyddiannus, fel gŵyl fwyd Caerffili, ffair Fai Bargoed, a ffair wanwyn Ystrad Mynach. Mae'r rhain i gyd o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac o ganlyniad i strategaeth angor tref. A fyddai hi'n cytuno bod strategaeth angor tref yn ffordd dda iawn o symud ymlaen ac yn esiampl dda a roddodd Caerffili i weddill Cymru?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n hollol iawn; mae yna lawer o eiddo yng nghanol trefi a adawyd yn wag, a dyna pam y sefydlwyd y Gronfa Gorfodi yn 2021 yn un o'r cronfeydd newydd i alluogi awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi o ran eiddo amlwg iawn yng nghanol tref neu eiddo preswyl mewn unrhyw leoliad. Mae chwe awdurdod lleol wedi gwneud cais i'r gronfa, gan gynnwys Caerffili, ond bu ychydig o siomiant, os ydw i'n onest, o ran y nifer o awdurdodau lleol sydd wedi dangos diddordeb o ran y galw yn yr ardaloedd hynny. Pe gallai Aelodau'r Senedd sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r gronfa honno, fe fyddai hynny'n beth da a defnyddiol ac yn bwysig i ni wrth sicrhau nad oes gennym ni adeiladau adfeiliedig yng nghanol ein trefi.

14:25

Er bod llawer ohonom ni wedi symud at fancio ar y rhyngrwyd fel dewis wrth i ni fancio, mae cymunedau yn parhau i fod yn werthfawrogol o fanc go iawn yn y dref leol. Fe wnaeth Banc Lloyds ddatgan elw o £1.3 biliwn yn y chwarter hwn yn unig, ac eto maen nhw'n troi cefn ar drigolion Powys. O fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ni fydd unrhyw Fanc Lloyds ar ôl ym Mhowys. Maen nhw'n symud allan o Aberhonddu ac maen nhw wedi symud allan o Ystradgynlais, un o'r trefi mwyaf ym Mhowys. Maen nhw'n amddifadu'r trigolion yn llwyr, yn enwedig y bobl hŷn a phobl sy'n dibynnu ar arian parod fel y ffermwyr sydd gennym ni. Un o'r straeon o lwyddiant fu canolfan fancio'r Trallwng, a agorodd dros flwyddyn yn ôl. Felly, fe hoffwn i ofyn i Lywodraeth Cymru: beth ydych chi'n ei wneud i hyrwyddo canolfannau bancio a banciau cymunedol i sicrhau y bydd canol y trefi yn parhau i fod yn llawn bywyd, ac y bydd pobl sydd angen y cyfle i fancio yn y cnawd yn dod yno a hefyd hyrwyddo'r cyfleoedd hynny i'n trigolion ni? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir, Jane, mae yna restr faith o fanciau sydd wedi cau dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder, yn amlwg, yn arbennig felly yn yr ardaloedd hynny sy'n fwy gwledig. Mae pobl hŷn yn ei chael hi'n anodd, fel rydych chi'n dweud, ond mae busnesau bach hefyd. Mae llawer o fusnesau bach sy'n hoffi defnyddio'r cyfleusterau lleol hynny. Ond rydych chi'n iawn i dynnu sylw at rai o'r canolfannau bancio sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac fe fyddem ni'n awyddus i annog sefydlu rhagor o'r rhain. Mae gan Lywodraeth y DU rai syniadau ynglŷn â'r peth hefyd, ac yn amlwg, rydym ni'n cael sgyrsiau â nhw ynghylch a oes unrhyw beth sydd ganddyn nhw a allai fod o ddiddordeb i ni o bosibl wrth weld a ydy hwnnw'n rhywbeth y gallem ei ymestyn i Gymru.

Diogelwch Tomenni Glo

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddiogelwch tomenni glo yn dilyn stormydd diweddar? OQ62043

Mae awdurdodau cyhoeddus yn archwilio tomenni glo segur yn rheolaidd ar ôl stormydd neu gyfnodau o law cyson. Yn dilyn storm Bert, mae awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn archwilio'r safleoedd sydd â’r flaenoriaeth uchaf. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith archwilio a chynnal a chadw rheolaidd sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dwi'n ddiolchgar ichi am yr ateb hwnnw.

Mae diogelwch tomenni glo yn fater sydd wedi mynd yn gynyddol bryderus yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd y domen lo a lithrodd i lawr mynydd yng Nghwmtyleri yn ystod glaw trwm yn codi mwy na dim ond atgofion o archoll. Gyda'r mwd a'r slwtsh, fe ddaeth pryder a dicter hefyd am fod ein cymunedau yn cael eu gadael gyda'r bomiau amser hyn yn tician uwch eu pennau nhw. Rwy'n croesawu'r Bil a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r wythnos hon. Serch hynny, rwy'n pryderu, fel cafodd hwnnw ei ddrafftio, na fydd y drefn diogelwch tomenni glo newydd yn cael ei chyflwyno tan 2027. Mae'n siŵr bod yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf yn gofyn am ragor o weithredu ar unwaith. Felly, ochr yn ochr â'r Bil hwn, a allwch chi ddweud wrthyf i beth fyddwch chi'n ei wneud i dawelu meddyliau trigolion sy'n byw islaw'r tomenni hyn ynglŷn â'u diogelwch nhw, ac a wnewch chi gadarnhau, yn y cyfarfod a gawsoch chi gyda Keir Starmer ddydd Gwener, y gwnaethoch chi sicrhau ymrwymiad oddi wrth San Steffan i roi'r £600 miliwn y bydd ei angen i glirio'r tomenni hyn unwaith ac am byth? Nid yw ein cymunedau ni'n haeddu llai na hynny.

Diolch yn fawr. Yr hyn y byddwn i'n eich cywiro chi yn ei gylch yw nad mater y daethom ni ar ei draws yn ddiweddar yn y Llywodraeth mohono; fe fuom ni'n gweithio ar hwn dros sawl blwyddyn. Rydym ni wedi cymryd hyn o ddifrif. Mae yna 2,573 o domenni glo wedi eu gadael yng Nghymru. Rydym ni wedi sefydlu system fonitro a chynnal a chadw gynhwysfawr iawn yn barod ac mae honno ar waith eisoes. Rydym ni wedi dyrannu dros £65 miliwn i'r awdurdodau lleol eisoes. Fe fyddwch chi'n clywed mwy oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog yn nes ymlaen heddiw o ran yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol a sut wedd a fydd ar y seilwaith. Ond prosiect hirdymor fydd hwn; nid yw'n rhywbeth y gallwch chi ei newid dros nos. Ond fe allaf i eich sicrhau chi fod y tomenni glo i gyd wedi eu rhoi mewn categorïau amrywiol, fel bydd y rhai mwyaf mewn peryglus yn cael eu monitro yn fwy rheolaidd na rhai o'r gweddill.

14:30
Gwytnwch Ariannol Cynghorau

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wytnwch ariannol cynghorau ledled Cymru? OQ62044

Yr aelodau etholedig a'r tîm uwch sy'n gyfrifol am reoli cyllideb cyngor. Mae gwaith gan Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol yn cadarnhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru, yn gyffredinol, yn parhau i reoli a chynllunio eu cyllidebau nhw'n effeithiol mewn cyd-destun o wariant cyhoeddus sy'n gyfyngedig.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Fe welsom ni'n ddiweddar, gyda'r golygfeydd o ddinistr ledled Cymru a achoswyd gan storm Bert a storm Darragh, y rhan hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn sefyllfaoedd o argyfwng, o ran rhoi cefnogaeth, diweddariadau a chyngor i drigolion, i fod yn ymarferol wrth ymdrin ag effaith llifogydd yn uniongyrchol, ac rydym ni'n diolch iddyn nhw i gyd am yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Mae hi'n hanfodol, felly, fod yr awdurdodau lleol nid yn unig yn cael eu hariannu yn briodol, ond eu bod nhw hefyd yn sefydlog yn ariannol, i sicrhau y byddan nhw'n gallu ymdopi pan fydd sefyllfaoedd ofnadwy yn dod i'r amlwg, fel y llyncdwll a welsom ni ym Merthyr Tudful.

Rydym ni'n falch iawn i gyd, siŵr o fod, o weld cyhoeddiad grantiau oddi wrth Lywodraeth Cymru i ddioddefwyr y stormydd hyn. Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am gyflwyniad y grant newydd hwn, a rhoi gwybod i mi sut y gall fy etholwyr i gael gafael ar y cyllid hanfodol hwn, gan i mi gael gwybod eisoes am rai na fuon nhw'n llwyddiannus?

Wel, diolch yn fawr iawn. Ac fe hoffwn innau roi teyrnged i'r awdurdodau lleol a gweithwyr y cyngor sydd wedi gweithio mor ddiwyd dros y penwythnos. Er mai yn ein gwelyau yr oedd y rhan fwyaf ohonom ni'n gwrando ar y gwynt yn rhuo, roedd yna bobl y tu allan yn gwneud yn siŵr bod ein cartrefi ni'n ddiogel. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi teyrnged iddyn nhw, ac i'r gweithwyr hynny sy'n dal i weithio ar ran y cwmnïau ynni hynny, sy'n ailgysylltu gwifrau ynni peryglus iawn hyn dan amodau anodd dros ben.

Ond rydych chi'n hollol gywir: ar adegau fel hyn mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gweld sefyllfa lle maen nhw'n hyfyw yn ariannol. Fe wnewch chi glywed maes o law am y codiad a ddaw i'r awdurdodau lleol wedi sawl blwyddyn anodd iawn. Fe glywsoch chi Andrew Morgan yn siarad ar y radio am sut yr oedden nhw, rai blynyddoedd yn ôl, yn edrych ar doriad o 4 y cant; fe welwch chi gynnydd o fwy na 4 y cant yn y gyllideb o ran yr awdurdodau lleol yn nes ymlaen.

Felly, mae hon yn sefyllfa wahanol iawn i'r un a welsom ni yn y gorffennol. Rwy'n falch iawn nad ydym ni wedi bod ag unrhyw gyngor yng Nghymru lle bu rhybudd adran 114. Ond yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw dal ati i gefnogi'r awdurdodau lleol, ac, wrth gwrs, fe fyddwn yn parhau i wrando arnyn nhw. O ran y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, mae hwnnw'n dod trwy'r awdurdodau lleol yn gyffredinol, ond rwy'n hapus iawn i anfon nodyn o amgylch yn nes ymlaen, i sicrhau y bydd pobl yn gwybod sut y dylen nhw gael gafael ar gyfran o'r gronfa honno.

Ceisiadau Cynllunio

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y saith cais cynllunio y galwyd arnynt i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Tachwedd 2024? OQ62019

Nid wyf i mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar fanylion neu rinweddau unrhyw gais cynllunio a alwyd i mewn gan Weinidogion Cymru, oherwydd fe allai hynny fod er anfantais i'r penderfyniad terfynol.

Diolch i chi. Un o'r saith cais hynny na phenderfynwyd arno fyth yw cynnig parcffordd Caerdydd yn fy etholaeth i. Mae hwnnw'n seiliedig ar dir a ddyrannwyd i'w ddatblygu yng nghynllun datblygu lleol Caerdydd a gafodd ei gymeradwyo gan gynllunwyr Llywodraeth Cymru. Dros ddwy flynedd ar ôl cael eu galw i mewn, ac ar ôl dau ymchwiliad ac adroddiad oddi wrth yr arolygiaeth gynllunio, nid yw Llywodraeth Cymru fyth wedi gallu gwneud penderfyniad, gyda chyhoeddiad o oedi pellach yr wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae'r sylwadau pellach a geisir yn amserlen adeiladu'r orsaf reilffordd eisoes yn rhan o gytundeb 106, ac nid yw trefniadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i'r safle o fewn pŵer unigol y datblygwr. Fe allai'r cwestiynau hyn i gyd, wrth gwrs, fod wedi cael eu gofyn yn ystod y ddwy flynedd cynt.

Rwy'n cefnogi blaenoriaeth y Prif Weinidog o ran cyflymu penderfyniadau cynllunio ar gyfer helpu'r economi i dyfu, ac rwy'n croesawu'r uwchgynhadledd fuddsoddi a gyhoeddodd hi eisoes ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r cyfnod o amser a gymerwyd ar fethu â gwneud penderfyniad ynghylch y parcffordd yn hynod ddi-fudd, ac ni fydd yn denu unrhyw fuddsoddiad. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd hi'n gwneud penderfyniad, beth bynnag fyddo hwnnw, cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol, i roi sicrwydd i'r parcffordd o'r diwedd? Ac a fydd hi'n ymrwymo i ymarfer o ddysgu gwersi, fel nad yw Llywodraeth Cymru yn ailadrodd y saga faith yn unrhyw fan yng Nghymru y mae fy etholwyr i wedi gorfod mynd drwyddi oherwydd parcffordd Caerdydd?

14:35

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n hollol iawn, mae'r cais hwn wedi cymryd llawer gormod o amser, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n ceisio cael penderfyniad, y naill ffordd neu'r llall, yn ystod yr wythnosau nesaf. O ran datblygiad parcffordd Caerdydd, er nad wyf i'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach, oherwydd mae hwn yn gais byw, yr hyn yr wyf i'n barod i'w wneud yw anfon rhai manylion atoch chi ynglŷn â'r hyn sydd yn y cytundeb arfaethedig o ran parcffordd Caerdydd. Fe allaf i eich sicrhau chi y byddaf i'n gwneud penderfyniad ynglŷn â'r mater hwn cyn gynted â phosibl.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma, Paul Davies. Nage, ddim Paul Davies, Jane Hutt. [Chwerthin.]

Fe gawsoch chi eich dyrchafu, Paul, ond nid i'r fath entrychion. [Chwerthin.] Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd datganiad ar storm Darragh. Hefyd, yn amodol ar gynnig i atal Rheolau Sefydlog, byddwn yn cynnal dadl ar gynnig i ddiddymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Am funud, Llywydd, roeddwn i'n credu fy mod i yn y Llywodraeth. [Chwerthin.]

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y prosesau a fydd yn cael eu dilyn gan fwrdd iechyd pe byddai digwyddiad difrifol fel hunanladdiad? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cael adroddiadau ymchwiliad mewnol a chrynodebau cau oddi wrth fyrddau iechyd yn dilyn digwyddiadau difrifol ac felly fe ellid cymryd camau i wella'r broses pe byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno gwneud felly. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda theulu yn fy etholaeth i, ac yn anffodus fe gymerodd eu mab ei fywyd ei hun, ac maen nhw wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu newidiadau y mae eu hangen yn fawr ar y system fel bydd gwelliannau yn digwydd a gwersi yn cael eu dysgu. Mae hi'n hanfodol bod byrddau iechyd yn cael eu hadolygu yn annibynnol pan fydd digwyddiadau difrifol yn digwydd, yn union fel mewn awdurdodau eraill, fel heddluoedd, er enghraifft, oherwydd nid yw hi'n briodol i fyrddau iechyd farcio eu gwaith cartref eu hunain yn yr achosion penodol hyn. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad yn egluro ei safbwynt ynglŷn ag adolygu camau'r byrddau iechyd mewn unrhyw achosion difrifol a dweud wrthym ni sut mae'r prosesau hynny'n cael eu gwella i'r dyfodol.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Rydych chi wedi codi mater difrifol a sensitif iawn, ac fe wn i y bydd y teulu hwnnw'n ddiolchgar iawn i chi am eich ymgysylltiad â nhw ac am dynnu ein sylw ni at hyn yn y Senedd heddiw. Fe fyddaf i'n rhannu hyn, wrth gwrs, ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac, yn wir, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ac fe fyddwn ni'n ystyried hyn ac yn dod yn ein holau atoch chi, ac yn amlwg fe allwn ni rannu unrhyw ganlyniadau o ystyriaeth ynghylch y mater pwysig hwn.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth. Mi wnaeth o ddweud y byddai o'n dod â datganiad llafar a chyfle inni drafod yn y Senedd o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr. Plis gawn ni hynny, oherwydd dwi'n meddwl bod nifer ohonon ni'n awyddus i wneud hynny?

Hefyd, buaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog â chyfrifoldeb dros chwaraeon ynglŷn ag Ewros 2025 a thîm merched Cymru. Yn amlwg, mi wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi yng Ngŵyl Cymru pan oedd y dynion wedi bod yn rhan o Gwpan y Byd. Wel, beth am y merched? Mi fydd hwn yn gyfle anhygoel o ran hyrwyddo Cymru i'r byd, a hefyd o ran sicrhau gwaddol. Felly, buaswn i'n hoffi clywed sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i fod yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, a llu o sefydliadau ledled Cymru, i sicrhau ein bod ni'n cymryd mantais o'r cyfle aruthrol hwn, nid yn unig i bêl-droed a merched, ond i Gymru.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rydych chi'n codi pwyntiau pwysig iawn.

O ran y cwestiwn cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno dadl, yn gynnar yn y flwyddyn newydd yn ei farn ef. Rydym ni yn y broses o gadarnhau union ddyddiad y ddadl hon, ond rwy'n credu y gallai fod mwy o groeso i ddadl yn hytrach na datganiad. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n fodlon ar hynny.

Nid wyf i'n credu bod unrhyw gwestiwn y byddai'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn falch iawn o wneud datganiad—rwy'n ei annog ef nawr i ddweud 'byddwn' yn hynny o beth—ar y canlyniad gwych o ran Euro 25 a thîm pêl-droed merched Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan oedd y cyfrifoldeb gennyf i am ddiwylliant a chwaraeon am gyfnod byr, roedd hi'n gymaint o wefr cael cwrdd â thîm y merched. A hefyd i bawb ohonom ni a'n pobl ifanc—. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, yn fam-gu, fy mod i'n falch iawn o'm hwyres sy'n mynd i ymarfer pêl-droed bob bore Sadwrn yn Abertawe, ac yna ar fore Sul fe fydd hi'n chwarae gêm mewn gwirionedd, yn ifanc iawn. Ond rwy'n credu bod hwn yn gyfle i ni gwmpasu'r materion yr ydych chi'n eu codi i gyd.

14:40

Dros y penwythnos, fe gysylltodd teulu etholwyr sy'n gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru â mi, ac roedden nhw'n ofidus iawn am fod rheidrwydd ar eu perthnasau agos nhw i deithio i'w gwaith yn ystod rhybudd tywydd coch—o ardal lle roedd rhybudd melyn i ardal rhybudd tywydd coch. Roedd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal sioe am 11.00 a.m. ar fore Sadwrn, ac fe gefais i'r alwad ar y noson cynt. Mae'r perthnasau a'r bobl eraill sydd mewn sefyllfa i wybod yn dda iawn nad oedd y staff wedi cael gwybod bod y sioe am gael ei chanslo tan 9 a.m. fore trannoeth. Ac erbyn hynny, roedd llawer o staff o'm hetholaeth i wedi teithio i Gaerdydd i fod yn eu gwaith ar gyfer sioe a gafodd ei chanslo.

Fe ysgrifennais i at brif weithredwr Canolfan Mileniwm Cymru gyda'r pryderon hyn ac fe dderbyniais i ymatebiad diafael iawn gan yr hyn a oedd yn cael ei ddisgrifio fel 'tîm Canolfan Mileniwm Cymru'. Fe ofynnais i am gyfarfod gyda'r prif weithredwr; ni chafodd hwnnw ei gytuno. Un o'r pethau yr oedden nhw'n ei ddweud oedd eu bod nhw wedi gohirio'r sioe yn ystod y rhybudd coch, a oedd, yn fy marn i, yn rhy hwyr. Roedden nhw'n dweud, wrth baratoi ar gyfer y penderfyniad hwn, wrth iddyn nhw adolygu'r sefyllfa: 'Fe wnaethom nodi bod y staff i gyd a gafodd eu cofrestru yn ystod y cyfnod gwaith dan sylw yn lleol i'n safle ni, a oedd yn sicrhau eu gallu nhw i deithio i'r gwaith. Rydym ni'n cadw deialog yn agored gyda'n staff, ac yn eu hannog nhw i leisio unrhyw bryderon mewn modd diogel ac adeiladol." Fe ddangosais i hwn i—

Fe fydd hi'n rhaid i chi ddod at eich cais am ddatganiad nawr, os gwelwch yn dda.

Fe ddangosais i hwn i'r unigolyn a oedd wedi cysylltu â mi, ac fe ddywedodd mai anwiredd llwyr oedd hwnnw—y gair a ddefnyddiodd oedd 'celwydd'. A gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan y Gweinidog diwylliant ynghylch sut maen nhw'n ymdrin â rhybuddion a chyngor i safleoedd fel canolfan y mileniwm, a sut y gellir osgoi sefyllfa fel hon, a oedd yn anffodus iawn, yn y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn, Hefin David. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod y cyhoedd a busnesau yn gwrando ar rybuddion a chyngor y Llywodraeth, ac yn annog pawb i ymddwyn yn gyfrifol. Rydym ni'n rhoi ystyriaeth i'r hyn a ddigwyddodd dros y penwythnos. Roedd y rhybudd coch am wynt yn weithredol rhwng 3 a.m. ac 11 a.m. ar ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr. Dyma'r tro cyntaf i rybudd brys gael ei roi ar raddfa eang mewn argyfwng yn y DU, ac fe'i rhoddwyd yn uniongyrchol gyda rhybudd Llywodraeth Cymru i 3 miliwn o ffonau symudol. Roedd y cyngor yn y rhybudd yn eglur o ran bod perygl i fywyd ac roedd y rhybudd yn cynghori'r cyhoedd i aros dan do os oedd modd i wneud hynny ac nad oedd hi'n ddiogel i yrru cerbyd. Felly, unwaith eto, argymhelliad Llywodraeth Cymru yw bod y cyhoedd a'r busnesau yn gwrando ar rybuddion y Llywodraeth.

Fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ynglŷn â'r gysgodfan fysiau ar y groesffordd rhwng Ffordd Cwm a Ffordd Rhaeadr yn Nyserth, y mae'r cyngor wedi tynnu ei tho, sydd wedi cadarnhau na fydd yn rhoi to newydd yn ei le oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Cafwyd adroddiad nad oedd y to yn saff yn ôl yn 2022, ac ni wnaeth Cyngor Sir Ddinbych unrhyw beth yn ei gylch tan eleni, pan wnaethon nhw dynnu'r to i gyd i ffwrdd. Yna, fe wnaethon nhw gadarnhau, er siom fawr i'r trigolion lleol, nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i roi to newydd yn ei le. Mae hyn er gwaetha'r ffaith fod y cyngor wedi cael amcangyfrif o swm bychan iawn o £4,700 ar gyfer ailosod y to, sy'n ddim ond ceiniog a dimai wrth i chi feddwl bod y cyngor wedi gorwario gan £600,000 yn ddiweddar wrth gyflwyno biniau.

Mae yna lawer o drigolion oedrannus yn Nyserth sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac ni ddylen nhw orfod sefyll yn y glaw am fod Cyngor Sir Ddinbych wedi taflu ei gyllideb ar unioni ei gamgymeriadau ei hun ac nad oedd modd atgyweirio'r gysgodfan fysiau. Mae hefyd yn esgeulustod o ran dyletswydd gofal yr awdurdod lleol i'w drigolion. Felly, Trefnydd, a gaf i ddatganiad oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o gyllid Cyngor Sir Ddinbych a sicrhau bod gwaith atgyweirio mân ond hanfodol yn dal i gael ei wneud? Diolch i chi.

14:45

Wel, Gareth Davies, rydych chi yn tynnu sylw at nifer o faterion o ran y rhanbarth, yr etholaeth a'r etholwyr, y mae'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn lleol gan yr awdurdod lleol yn effeithio arnyn nhw, a mater i'r awdurdod lleol hwnnw ydy hwn, a fydd, rwy'n siŵr, yn falch iawn o glywed y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf yn fuan iawn, o ran ei amgylchiadau ac, yn wir, y cyllid a gyhoeddwyd ddim ond wythnos diwethaf ar gyfer yr awdurdodau lleol.

Rwy'n galw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ynghylch gwasanaethau meddygon teulu yn y Cymoedd a sicrhau eu dyfodol nhw. Fe gafodd nifer o feddygfeydd yn y Cymoedd eu trosglwyddo i gwmni rheoli o'r enw eHarley Street yn gynharach eleni. Fel clywsom ni, mae llawer o feddygon heb gael eu talu. Mae miloedd o bunnau yn ddyledus iddyn nhw ac maen nhw'n gwrthod gweithio. Nawr, mae etholwyr ym Mrynmawr ac ym Mryntirion ym Margoed y mae eu practisiau meddygon teulu yn cael eu rheoli gan y cwmni hwn wedi bod yn cysylltu â mi. Maen nhw wedi ei chael hi'n anodd iawn i sicrhau apwyntiadau, ond wrth iddyn nhw gyrraedd y meddygfeydd, maen nhw wedi canfod ystafelloedd aros sy'n wag pan fyddan nhw'n gwybod o'r gorau fod y galw mor fawr yn lleol am yr apwyntiadau hyn. Nawr, yr union gwmni hwn sy'n dal y contractau ar gyfer meddygfa Gelligaer, Tredegar a llawer un arall ar draws y de-ddwyrain. Rwyf i wedi gofyn i'r bwrdd iechyd a oedd diwydrwydd dyladwy wedi digwydd wrth ymchwilio i'r cwmni hwn pan ddyfarnwyd y contractau, ond mae gan Lywodraeth Cymru oruchwyliaeth dros y gwasanaethau iechyd. Felly, a ellir cael datganiad i nodi pa drafodaethau a gafodd y Llywodraeth gyda'r bwrdd iechyd ynglŷn â hyn a phryd y gall fy etholwyr i ddisgwyl i'w meddygfeydd ddychwelyd i'w gweithrediad arferol? A yw'r Llywodraeth o'r farn y dylai byrddau iechyd gael eu rhwystro rhag ymrwymo i drefniant amheus fel hwn yn y dyfodol, lle mae cwmni preifat, sy'n ymddangos fod ganddo fwy o ddiddordeb mewn gwneud elw na darparu gofal, yn gallu anffurfio i'r fath raddau'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw?

Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Yn wir, fe gododd Alun Davies hyn yr wythnos diwethaf. Mae'n debyg eich bod chi wedi clywed y cwestiwn a'r ateb. Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw pennu cytundebau am y gwasanaethau hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol o hyn hefyd ac, yn wir, mae'n mynd ar drywydd hyn o ran y sylwadau a gafodd eu gwneud a'r hyn yr ydych chi wedi tynnu ein sylw ni ato unwaith eto heddiw.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad ar gam-drin plant yn rhywiol ar Ynys Bŷr, a luniwyd gan Jan Pickles? Mae'r adroddiad yn hynod ddamniol. Am 32 mlynedd, fe gafodd plant, rhai ohonyn nhw'n dair neu bedair oed, eu paratoi'n amhriodol a'u cam-drin yn rhywiol gan rywun yr oedden nhw'n credu y gallen nhw ymddiried ynddo. Mae'r adroddiad yn datgelu, pan ddaeth cwynion oddi wrth ddioddefwyr eu bod nhw wedi cael eu cam-drin, fe gawson nhw eu hanwybyddu. Mae'r adroddiad yn manylu ar brofiadau 16 o oroeswyr camdriniaeth ar ynys Bŷr, ond fe wyddom ni fod eraill eto nad ydyn nhw wedi teimlo eu bod nhw'n dymuno rhoi tystiolaeth. Ac, wrth gwrs, mae cyhoeddiad yr adroddiad hwn a rhai eraill tebyg iddo'n dwyn i gof yr anawsterau difrifol a ddioddefwyd gan bob un sydd wedi dioddef camdriniaeth. Yn arbennig, fe gefais i fy atgoffa am yr ysgol yn Llandrindod ar gyfer plant byddar, y gwnes i ei chodi sawl gwaith yn y fan hon. Mae gen i etholwr a oedd yn mynychu'r ysgol honno, lle cafwyd honiadau o gamdriniaeth, ond yno, wrth gwrs, ni fu unrhyw ymchwiliad. Ond rwy'n credu, yn amlwg, y gallai ymchwiliadau helpu'r goroeswyr hynny i ddeall yr hyn sydd wedi digwydd a dod, efallai, i ryw fath o gasgliad yn eu cylch. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad.

Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan, am godi'r mater pwysig iawn hwn Ac, fel rydych chi'n dweud, Esgobaeth Menevia ac abad presennol ynys Bŷr a gomisiynodd yr adolygiad annibynnol hwn ar gam-drin rhywiol heb fod yn ddiweddar ac a ddigwyddodd o'r 1960au ymlaen. Cafodd yr adroddiad terfynol ei rannu gyda ni, ac rydym ni'n edrych ar ei ganfyddiadau a'i argymhellion. Ond, fel rydych chi'n dweud, mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar i'r goroeswyr hynny sydd wedi bod yn ddigon dewr i fwrw ymlaen â'r adolygiad annibynnol hwn, ac rydym ni'n diolch iddyn nhw'n ddiffuant am gyfranogi yn y broses, ac mae'n rhaid mai rhywbeth eithriadol o anodd ei wneud oedd hynny. Yn wir, yn 2025, yn bwysig iawn, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar ein strategaeth genedlaethol ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Nod sylfaenol y strategaeth yw sicrhau y bydd plant, eu teuluoedd a'u cymunedau yn deall ystyr cam-drin plant yn rhywiol a'r hyn yw ymddygiad cyflawnwyr, a rhoi gallu i bobl i adrodd am eu pryderon nhw i'r heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol.

14:50

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am safonau bwyd ynglŷn â defnyddio Bovaer yng nghynhyrchion bwyd Arla? Mae rhai etholwyr wedi codi pryderon gyda mi ynghylch ei ddiogelwch hirdymor a'i sgil-effeithiau posibl ar iechyd anifeiliaid, yr amgylchedd ac iechyd pobl hyd yn oed. Fe fydd hi'n dda iawn i ni gael datganiad gan y Llywodraeth ar y profion a gynhaliwyd i asesu'r risgiau hyn, yn enwedig o ran yr effeithiau ar les anifeiliaid a'r potensial i waddod fod mewn cig a chynhyrchion llaeth. Hefyd, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch a monitro cynhwysfawr o ran cynhyrchion bwyd sy'n cynnwys y sylwedd hwnnw?

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna y byddwn ni, yn amlwg, yn ei rannu gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae hyn yn bwysig o ran yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar reoleiddio lles anifeiliaid, ond mae'n fater o ran iechyd y cyhoedd hefyd, felly fe fyddaf o ganlyniad yn ei godi gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet.

Ni all pobl beidio â sylwi ein bod ni'n cael mwy o stormydd. Rydym ni wedi cael stormydd erioed, ond os ydych chi'n cymharu ail hanner yr ugeinfed ganrif â 24 o flynyddoedd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain, rydyn ni wedi gweld cynnydd o ran stormydd a chynnydd yn niferoedd y stormydd difrifol, ac mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n dilyn un ar ôl y llall yn gyflym iawn, iawn. A all Llywodraeth Cymru ddarparu datganiad ynglŷn â sut mae'r sector gwirfoddol wedi ymateb i storm Darragh a storm Bert? Rwy'n falch fod Chwaraeon Cymru wedi agor cronfa difrod storm. A all Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae hon yn gweithio?

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn hoffi cydnabod a diolch i bob un a fu'n cynorthwyo pobl eraill dros y penwythnos, oherwydd mae gan wirfoddolwyr ran mor hanfodol yn y gefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni, wrth gydweithio â'r gwasanaethau brys. Fe siaradais i â phrif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddoe. Roedd hi'n cyfarfod gyda'r cynghorau i gyd ar gyfer gweithredu gwirfoddol. Wrth gwrs, rydym ni'n ariannu'r seilwaith hwn yng Nghymru—y seilwaith trydydd sector—ac fe fyddaf i'n ysgrifennu at yr aelodau i gyd ar gyfer mynegi fy niolch. Mae'r gwasanaethau brys yn dibynnu ar wirfoddolwyr ac fe allwn ni weld enghreifftiau rhagorol o gymunedau yn dod at ei gilydd, i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed, fel gwelsom ni yn sgil storm Bert, fel gwelsom ni drwy'r pandemig, a storm Dennis—yr ymateb o'r cymunedau.

O ran y gronfa difrod storm, dyma lle mae Chwaraeon Cymru—. Rydym ni wedi darparu cyllid ychwanegol i ganiatáu i Chwaraeon Cymru helpu clybiau, oherwydd effeithiwyd ar lawer o glybiau, gyda chostau atgyweirio ac ailosod oherwydd y difrod a achoswyd gan y stormydd diweddar. Rwy'n gwybod y clywsom ni am doeau yn cael eu chwythu oddi ar glybiau chwaraeon, clybiau nid-er-elw. Felly, fe agorodd y gronfa difrod storm o ddoe tan 4 o'r gloch ddydd Mawrth 17 Rhagfyr, ac fe fydd yn darparu grantiau sy'n amrywio o £300 hyd at uchafswm o £5,000. Ond hefyd, dim ond gair i ddweud, mae Cyllid Cymru yn borth ac yn gronfa ddata sy'n cynnwys gwybodaeth am ystod o gyfleoedd o ran ariannu lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, rhyngwladol, ac mae Gwirfoddoli Cymru yn borth ar-lein i bobl sydd â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwyr i allu cofrestru a chael gafael ar wybodaeth am gyfleoedd i wirfoddoli.

Ond, unwaith eto, ar gyfer diolch i'n cymunedau ni—. Mae cydlyniant cymunedol yn dod i'r amlwg yn yr ymatebiad, fel y gwelwyd dros y penwythnos, ac yn parhau felly yr wythnos hon, fel roeddem ni'n dweud, gan nad yw pawb, ac mae rhai ohonyn nhw'n bobl agored i niwed, wedi gweld adfer eu cyflenwad ynni. Ac rydym ni'n cysylltu hefyd—fe fyddaf i'n cwrdd ag Ofgem yfory—gyda'n cyflenwyr ynni ynglŷn â'u dulliau nhw o estyn cymorth i'w cwsmeriaid agored i niwed.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Dirprwy Brif Weinidog ynglŷn ag amserlen ar gyfer y cynllun lles anifeiliaid. Ar 18 o fis Tachwedd, fe ddywedodd y Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn gennyf i, y byddem ni'n cael y cynllun lles anifeiliaid cyn y Nadolig, ac eto dyma ni heb gyhoeddiad cynllun lles anifeiliaid. A bore 'ma, fe glywsom fod Seland Newydd wedi gwahardd rasio milgwn. O fewn y cynllun hwnnw, fel gwyddoch chi, fe geir cynnig i wahardd rasio milgwn. Rydym ni yng Nghymru yn un o ddim ond naw gwlad yn y byd sy'n caniatáu rasio milgwn, po hwyaf y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gymryd i gyhoeddi gwaharddiad, gyda gobaith, po fwyaf y bydd milgwn yn trengi ac fe fydd rhagor o filgwn yn cael eu hanafu. Felly, fe hoffwn ofyn am amserlen eglur iawn i'w chyhoeddi ynghylch y cynllun lles anifeiliaid. Fe ddaeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mawrth eleni, felly rydym ni wedi bod yn aros yn amyneddgar, fel mae'r elusennau anifeiliaid hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y cawn ni'r cyhoeddiad hwnnw, cyn y Nadolig o bosibl—nid wyf i'n gwybod—ond, os nad felly, yn fuan iawn wedyn. Diolch yn fawr iawn.

14:55

Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Jane Dodds, a diolch i chi am dynnu sylw at hyn, ac nid dim ond heddiw, ond am i chi gydnabod drwy gydol yr ymgynghoriad hwn a thu draw i hynny fod hwn yn fater o bryder difrifol, yn enwedig o ran rasio milgwn. Mae diddordeb sylweddol gan y cyhoedd yn lles milgwn rasio. Mae'n fater cymhleth ac emosiynol. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol a swyddogion wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley, er enghraifft, a chynrychiolwyr o Fwrdd Milgwn Prydain Fawr, i drafod lles milgwn rasio yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyfarfod â Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru a Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru eleni i drafod rasio milgwn. Ond y sicrwydd sydd ei angen arnoch yw, pan ddaw canlyniad yr ymgynghoriad, y bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi cyn y Nadolig, a bwriad y Dirprwy Brif Weinidog yw rhyddhau datganiad ysgrifenedig yn gyfamserol, ac yna, pan fyddwn ni'n dychwelyd yn y flwyddyn newydd, fe fydd ef yn nodi'r camau nesaf, y gellid eu dwyn ger bron y Senedd mewn datganiad, rwy'n siŵr. Felly, fe fyddwn ni'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw ac yn symud yn gyflym o ran y cynllun.

Fe hoffwn i ddiolch i Julie Morgan am godi achos yr adroddiad gan Jan Pickles i'r cam-drin a ddigwyddodd ar ynys Bŷr, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y mae angen i ni ei chael ynglŷn â sut y gallwn ni atal camdriniaeth fel hyn, nid heb ei ganfod o reidrwydd, ond heb wrandawiad iddo.

Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen bod Llywodraeth y DU nawr wedi gwrthdroi penderfyniad gwrthnysig Robert Jenrick, y Gweinidog Mewnfudo gynt, i gyfyngu'r amser sydd gan geiswyr lloches i symud i'w llety eu hunain ar ôl iddyn nhw gael statws ffoaduriaid, i saith diwrnod sy'n gywilyddus. Roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi, yn rhinwedd swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn gallu rhoi rhyw arwydd i ni o'r llythyr a aeth at yr awdurdodau lleol, i ymestyn hynny'n ôl i 56 diwrnod mewn cynllun treialu, ac adolygu hwnnw wedyn ym mis Mehefin. Rwy'n gwybod, o ran Cyngor Caerdydd, i hwn fod yn fater arbennig o bwysig. Fe fu'n rhaid ailgartrefu dros 700 o bobl y llynedd, ac, yn amlwg, nifer debyg, yn ddiamau, eleni. A chan fod gan Gyngor Caerdydd bolisi o dai yn gyntaf a pheidio â chael neb yn cysgu ar y stryd, mae hon yn her enfawr i Gyngor Caerdydd. Felly, a oes unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud wrthym ni eto ynglŷn â sut y byddwn ni'n rhoi amser rhesymol i bobl geisio dod o hyd i annedd, pan na fydden nhw'n geiswyr lloches mwyach?

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwy'n credu bod yr hyn a wnaethom ei ddysgu, dim ond o ran adolygiad Ynys Bŷr, a gafodd ei nodi yn yr adolygiad hwn yn adleisio adolygiadau blaenorol, ac fe fydd yn rhoi'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer y strategaeth, y soniais i amdani, ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol.

Ydw, rwy'n croesawu safbwynt Llywodraeth y DU i dreialu cyfnod symud ymlaen o 56 diwrnod ar gyfer ffoaduriaid. Rydym ni wedi bod yn galw am hyn yn Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer. Fe fydd yn helpu i geisio atal digartrefedd ac amddifadedd ar yr union adeg pan fo angen amddiffyn ceiswyr lloches fwyaf, ac mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hyn. Fe godais i hyn gyda'r Fonesig Angela Eagle pan wnes i gyfarfod â hi'n gynharach y tymor hwn. Felly, rwyf i wedi ysgrifennu at Weinidog Diogelwch Ffiniau a Lloches y DU, Angela Eagle, i ddiolch iddi am y cynllun treialu. Fel dywedais i, rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid yng Nghymru, ac, fel rydych chi'n dweud, Cyngor Caerdydd—mae hi mor bwysig, yr egwyddor honno i roi tai yn gyntaf, ond mae hi'n heriol iawn cyflawni honno, hefyd. Fe fyddwn ni'n cael gwybodaeth am ei heffeithiolrwydd, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y cynllun treialu yn mynd yn gam parhaol ar ôl mis Mehefin eleni, a dyna'r hyn yr wyf i'n ei alw amdano.

15:00

Mae'n dda iawn, Ysgrifennydd Cabinet, i weld yr estyniad hwnnw i 56 diwrnod yn y genedl noddfa hon sydd gennym yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i wneud y cynllun treialu hwnnw'n llwyddiant.

Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn eisiau gofyn am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, a gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog chwaraeon o ran sut y gallem gael strategaeth gyffredinol i gynyddu chwaraeon llawr gwlad a gweithgarwch corfforol yn y cymunedau hynny i helpu gydag iechyd a llesiant, datblygiad cymunedol a hyder, gweithio gyda'r clybiau sy'n gweithredu yno a sefydliadau sy'n gweithio yno, ond hefyd rhai o'r chwaraewyr mawr fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, yr ymddiriedolaethau hamdden, awdurdodau lleol a'r clybiau chwaraeon proffesiynol, i weld sut y gallem ddod â rheini i gyd at ei gilydd i ddefnyddio grym chwaraeon a ffitrwydd er budd y cymunedau hynny yn benodol.

Diolch yn fawr iawn, John Griffiths, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun rai o'r gweithgareddau ar lawr gwlad hynny, y clybiau hynny, y gefnogaeth, y gwirfoddolwyr, unwaith eto, yn eich etholaeth, ond rwy'n gwynod y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol eisiau ymateb i hyn, ac rwy'n credu y byddai'n ddatganiad defnyddiol iawn i'w wneud yn y flwyddyn newydd. 

Trefnydd, fe glywsoch fi'n gofyn i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd data Cymreig sydd wedi'i ddadgyfuno a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dynodi Dr Robert Jones fel ymgeisydd blinderus. Mewn ymateb byr i mi, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Dr Robert Jones yn cwrdd â chi y diwrnod canlynol ac y dylai hynny dawelu fy meddwl. Felly, yn dilyn y cyfarfod, Trefnydd, a allech chi roi datganiad i'r Senedd ynghylch pryd y byddwn ni'n cael data Cymreig wedi'i ddadgyfuno oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel mater o drefn, gan gynnwys data pwysig iawn am boblogaeth carchardai Cymru, nifer y menywod o Gymru yn y carchar a lleiafrifoedd ethnig yn y carchar? Hefyd, a yw Dr Robert Jones yn dal i gael ei ystyried gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymgeisydd blinderus? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen, ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle i adrodd ar fy nghyfarfod i. Cefais gyfarfod y diwrnod canlynol—ar ddydd Mercher—gyda Dr Robert Jones, ond roeddwn eisoes wedi rhagweld yr angen am gyfarfod ag ef pan welais y ffeil ffeithiau eto—ei ffeil ffeithiau ddiweddaraf. Gwahoddais Ian Barrow, uwch swyddog yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, sy'n gyfrifol am wasanaethau carchardai a phrawf yng Nghymru. Yn wir, roeddwn i eisoes wedi siarad ag Ian Barrow am y mater hwn, ac roedd yn awyddus iawn i fynd i'r afael ag ef pan wnaethon ni gyfarfod â'n gilydd a chydnabod bod hyn—. Wel, buom yn trafod y ffaith bod hwn yn gwbl amhriodol, y 'blinderus' hwn. Mae angen i ni symud ymlaen, o ran cael y data cyfiawnder wedi'i ddadgyfuno hwnnw.

Roeddwn yn falch iawn, felly, o ofyn i Robert Jones rannu gyda mi sut y digwyddodd hyn, o ran yr ymateb hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel y gallaf ei godi'n ffurfiol gyda'r Arglwydd Ganghellor, os yw'n briodol, ond, rwy'n credu, hefyd, yn amlwg, gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol, James Timpson, y Gweinidog carchardai a phrawf, a hefyd ei godi gyda'r holl swyddogion yr wyf yn cwrdd â nhw o ran fy nghyfrifoldebau dros gyfiawnder cymdeithasol. Felly, rwy'n credu, nawr, y byddwn yn gweld ffordd ymlaen i gael y data wedi'i ddadgyfuno hwnnw. Dywedais i wrth Robert Jones fy mod yn bryderus iawn o glywed hyn, oherwydd y daeth oddi wrthych chi yma, a'n bod yn mynd i'r afael ag ef gyda Llywodraeth newydd y DU i sicrhau ei fod yn gallu gwneud y darn academaidd hwnnw o waith mewn ffordd briodol gyda'r data wedi'i ddadgyfuno hwnnw.

3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2025-26

Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar ddatganiad ar y gyllideb ddrafft 2025-26, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, Mark Drakeford.

15:05

Diolch yn fawr, Llywydd. Gosod y gyllideb ddrafft a'r broses graffu sy'n dilyn yw rhai o'r camau pwysicaf rydym ni'n eu cymryd fel Senedd. Heddiw, wrth inni gychwyn ar y daith tuag at y gyllideb derfynol ym mis Mawrth, byddaf i'n amlinellu dwy ochr y cyfnod incwm a gwariant sy'n sail i'r cynigion sydd gerbron yr Aelodau. Ar ôl bron i ddegawd o gyni parhaus, mae economi'r Deyrnas Unedig wedi gweld y cyfnod hiraf a mwyaf enbyd o atal twf mewn hanes diweddar. Drwy hyn oll, mae cyflogau wedi cael eu cadw i lawr, cynlluniau buddsoddi wedi eu hanghofio a gwasanaethau cyhoeddus wedi crebachu.

Llywydd, rydyn ni wedi gweld dwy gyllideb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn galendr yma, ac mae'r cyferbyniad rhwng y ddwy yn hollol glir. O safbwynt heddiw, mae un set o ffigurau'n esbonio'r gwahaniaeth yna'n glir. Ym mis Mawrth, yng nghyllideb olaf y Canghellor Jeremy Hunt, fe welon ni gynnydd yn y cyllidebau cyfalaf oedd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mewn cyfnod o chwyddiant costau di-baid yn y byd adeiladu, a'r holl fuddsoddi oedd ei angen yn ein hysgolion, ysbytai, tai a thrafnidiaeth, y cyfan oedd ganddo i'w gynnig oedd £1 miliwn yn ychwanegol. Ymlaen â ni i 30 Hydref: nawr, mae Canghellor Llafur, sy'n benderfynol o ddod â'r economi yn ôl ar lwybr o dwf, yn gweld mai dim ond drwy fuddsoddi mae hyn yn gallu digwydd—buddsoddi yn yr amodau sy'n galluogi'r economi i dyfu. 

Llywydd, nid dilyn damcaniaeth yn unig oedd hyn, ond bod yn hynod o ymarferol. Yn hytrach na chyflwyno cyllideb i chi heddiw gyda dim ond £1 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol, mae'r gyllideb ddrafft hon yn adlewyrchu'n llawn y £235 miliwn o gyfalaf cyffredinol ychwanegol a gafodd ei ddarparu gan Rachel Reeves ym mis Hydref, a mwy. Dyma pam mae'r gyllideb ddrafft hon yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair sy'n buddsoddi yn nyfodol gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion Cymru—dyfodol sydd heb fod yn bosib ers llawer rhy hir.

Llywydd, heddiw rydw i'n nodi camau cyntaf at ddyfodol mwy disglair. Wrth gwrs, byddai'n amhosib cyflawni'r broses hon i gyd mewn un gyllideb, ond, yn wahanol iawn i gyllidebau anodd iawn y blynyddoedd diweddar, mae'n fraint heddiw cael cyflwyno cyllideb gyda buddsoddiadau newydd, sy'n canolbwyntio ar ein blaenoriaethau ar draws ein holl gyfrifoldebau.

Llywydd, gadewch imi ddechrau gydag ochr incwm y gyllideb ddrafft heddiw. Yn gyson ag egwyddorion sylfaenol rheolaeth ddarbodus, fy nod oedd gwneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael i'm cyd-Aelodau, i ddinasyddion ac i'r pethau sydd bwysicaf iddynt.

Daw'r conglfaen mwyaf yn yr incwm sydd ar gael i'r Senedd ar gyfer y flwyddyn nesaf, wrth gwrs, trwy ein haelodaeth o'r Deyrnas Unedig, fel y'i cyfryngir drwy'r fframwaith cyllidol. Mae'r fframwaith hwnnw wedi sicrhau dros £3 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol i ddinasyddion Cymru ers iddo gael ei drafod yn 2016. Ac mae ein haelodaeth o'r Deyrnas Unedig dan arweiniad Llafur yn cyflawni llawer iawn mwy. Oherwydd y newid sylweddol i ffwrdd o gyni, mae'r grant bloc ar gyfer y flwyddyn nesaf yn £21 biliwn: mae £17.7 biliwn yn darparu ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd neu refeniw, ac mae £3.4 biliwn ar gyfer buddsoddiad, neu wariant cyfalaf. Ac o'r swm sylweddol iawn hwnnw, mae bron i £1 biliwn yn arian newydd ar gyfer 2025-26.

Nawr, daw'r ail gonglfaen yn y gyllideb ddrafft heddiw drwy'r arian a godwyd gan benderfyniadau a wnaed yn y Senedd hon. Disgwylir i gyfraddau treth incwm Cymru godi £3.462 biliwn yn 2025-26, ac, am y rhesymau yr ailadroddais gerbron y Pwyllgor Cyllid yn gynharach yn yr hydref, mae'r Cabinet wedi penderfynu gadael y cyfraddau hynny heb eu newid at ddibenion y gyllideb hon.

Llywydd, trosglwyddodd Deddf Cymru 2017 gyfrifoldeb dros ddwy dreth arall i'r Senedd hon. Rhagwelir y bydd treth trafodiadau tir yn codi £338 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yng nghyllideb Hydref y DU, cododd y Canghellor y gyfradd uwch ar brynu eiddo preswyl ychwanegol, yn y dreth gyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, 2 y cant. Heddiw, o ganlyniad i'r gyllideb ddrafft hon, bydd cyfraddau uwch yng Nghymru yn cael eu codi 1 y cant, gan ddod â'r gyfradd honno'n fras yn unol â newidiadau i dreth dir y dreth stamp dros ein ffin, ac mae disgwyl i'r penderfyniad hwn godi £7 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, byddaf yn gwneud newidiadau i'r trefniadau presennol ar gyfer hawlio rhyddhad anheddau lluosog i gael gwared ar yr annhegwch presennol sy'n caniatáu i rai prynwyr elwa ar y rhyddhad hwn ac eithriad is-anheddau yn yr un trafodiad. Bydd y gyllideb hon yn cau'r bwlch hwnnw.

Y trothwy pryd y daw treth trafodiadau tir yn daladwy yng Nghymru yw £225,000. Mae'r data diweddaraf yn dangos mai cost bresennol eiddo yng Nghymru ar gyfartaledd yw £217,000, ac i brynwyr tro cyntaf, £188,000. Mae tua 60 y cant o gartrefi yng Nghymru yn cael eu gwerthu am bris is na'r trothwy. Felly, rwy'n bwriadu ei adael ar ei lefel bresennol am flwyddyn arall.

Llywydd, mae treth gwarediadau tirlenwi yn dreth gymedrol iawn sydd wedi'i chynllunio i ddylanwadu ar ymddygiad cymaint, os nad mwy, na chodi arian. Heddiw, rwy'n cynnig gwneud newidiadau i gyfraddau treth gwarediadau tirlenwi gan nad yw'r dreth bellach yn gweithio'n ddigon caled i leihau gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi, fel y cadarnhawyd yn yr adolygiad annibynnol diweddar o'r dreth. Yn y gyllideb ddrafft hon, felly, rwy'n bwriadu codi cyfradd safonol treth gwarediadau tirlenwi i £126.15 y dunnell, a newid y gyfradd is o swm sefydlog i ganran sefydlog o'r gyfradd safonol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd y ganran honno'n sefydlog ar 5 y cant, gan godi'r gyfradd is i £6.30 y dunnell. Llywydd, rwy'n bwriadu cadw gweithrediad y dreth hon dan sylw manwl yn ystod 2025. Ni fyddaf yn oedi cyn codi canran y gyfradd is eto os nad yw'r dystiolaeth yn dangos ei heffeithiolrwydd wrth ddargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi. O ganlyniad i'r holl benderfyniadau hyn, rhagwelir y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn codi £32 miliwn y flwyddyn nesaf.

Yn olaf, yn y materion cyllidol hyn, rwy'n troi at ardrethi annomestig y disgwylir iddynt fod â gwerth gros o fwy na £1.4 biliwn yn 2025-26. Fodd bynnag, nid yw'r ffigur hwnnw'n ystyried y rhyddhad a roddir i'r trethdalwyr hynny. Y flwyddyn nesaf, mae'r gyllideb ddrafft gerbron yr Aelodau yn cynnwys £250 miliwn mewn rhyddhad ardrethi annomestig parhaol, sydd bellach yn cynnwys cefnogaeth 100 y cant i'r holl ddarparwyr gofal plant cofrestredig. Yn ogystal â hyn, rwyf wedi dyrannu £78 miliwn arall i ddarparu chweched flwyddyn, y flwyddyn olaf, o ryddhad ardrethi dros dro ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch, a fydd unwaith eto yn cael ei osod ar 40 y cant. Ers cyflwyno'r rhyddhad dros dro hwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn 2020-21, mae trethdalwyr Cymru wedi cefnogi'r sectorau hyn gyda £1 biliwn ychwanegol.

Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn adlewyrchu penderfyniad unwaith eto i ddal y lluosydd ardrethi annomestig o dan lefel chwyddiant. Rwyf wedi penderfynu defnyddio gwerth llawn y swm canlyniadol sy'n deillio o benderfyniadau lluosydd yn Lloegr er budd busnesau yng Nghymru. Yn 2025-26, bydd y lluosydd yng Nghymru yn codi 1 y cant ar gost barhaol o £7 miliwn arall. Gyda'i gilydd, mae'r penderfyniadau hyn yn golygu y bydd £335 miliwn yn cael ei neilltuo i gymorth ardrethi annomestig yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf. Oherwydd y penderfyniadau hyn bydd bron i hanner yr holl drethdalwyr o'r fath yn parhau i elwa ar ryddhad ardrethi annomestig llawn, gyda llai na thraean o holl fusnesau Cymru yn talu cyfraddau llawn. Bydd y penderfyniadau cyllidol cyfunol hyn, y rhai sydd wedi'u datganoli i Gymru, yn cyfrannu mwy na £4 biliwn i'r gyllideb ddrafft a osodwyd heddiw.

Ond, Llywydd, mae nifer o benderfyniadau eraill pwysig yn dylanwadu ar gyfanswm yr adnoddau sydd ar gael yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Rwy'n cadarnhau'r prynhawn yma, unwaith eto eleni, fy mod yn bwriadu gwneud y defnydd gorau o gapasiti benthyca Llywodraeth Cymru, gan ychwanegu £150 miliwn arall mewn gwariant cyfalaf yng nghyllideb ddrafft 2025-26. Llywydd, mae awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd yn gallu benthyg at ddibenion buddsoddi. Mewn cydweithrediad â chydweithwyr llywodraeth leol, rwyf wedi penderfynu darparu cymorth refeniw a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i hunangyllido £60 miliwn o gyllid cyfalaf pellach i'w wario mewn rhaglen newydd o gynnal a chadw priffyrdd lleol, ymestyn ymhellach ein rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r cyfraniad y gall Cymru ei wneud i adfywio twf yn ein heconomi. A phan fydd hyn oll yn cael ei dynnu at ei gilydd, bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn 2025-26 yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf yn oes ddatganoli.

Llywydd, yn olaf, yn yr ochr incwm hon o'r hafaliad, rwyf am nodi'r rhyngweithio rhwng arian a godir drwy'r Deyrnas Unedig ac arian a godir yn uniongyrchol yng Nghymru, neu'r mecanwaith ar gyfer addasu'r grant bloc, fel y'i gelwir. Y fargen wrth wraidd Deddf Cymru 2017 yn ei datganoli cyllidol oedd hyn: pe baem ni, yng Nghymru, yn rheoli ein cyfrifoldebau datganoledig newydd yn fwy llwyddiannus nag ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, byddem yn gweld y budd ariannol. I'r gwrthwyneb, pe bai materion yn cael eu rheoli'n llai llwyddiannus, byddai'n rhaid i ni dalu'r gosb mewn cyllid gostyngol gan Lywodraeth y DU. Erbyn hyn, Llywydd, mae gennym ddigon o ddata a digon o dystiolaeth i ddod i'r casgliadau cyntaf.

Yn y gyllideb ddrafft hon, mae'r adnodd ychwanegol hwnnw sydd ar gael i Gymru, o ganlyniad i gymhwyso'r addasiad grant bloc, yn £317 miliwn ychwanegol. Mae hynny'n cynnwys cyfraniad net o £253 miliwn o gyfraddau treth incwm Cymru, £44 miliwn mewn effaith gadarnhaol net o'r dreth trafodiadau tir a £19 miliwn o'r dreth gwarediadau tirlenwi. Llywydd, rwy'n talu teyrnged i'm rhagflaenydd Rebecca Evans a'n timau rhagorol yn Nhrysorlys Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru am eu rheolaeth o gyllideb Cymru a'n cyfrifoldebau cyllidol dros y cyfnod ers 2017, mewn ffyrdd sydd wedi cyfrannu at y canlyniad cadarnhaol hwn.

Llywydd, pan gaiff yr holl elfennau hyn eu cymryd gyda'i gilydd, y cyfanswm sydd ar gael i'w ddyrannu yng nghyllideb 2025-26 yw £26.218 biliwn. A hyd yn oed wedyn, nid yw'r stori yn gyflawn. Mae cyllideb y flwyddyn nesaf yn dilyn dyraniadau yn ystod y flwyddyn a chyllid ychwanegol ar gyfer codiadau cyflog uwch na chwyddiant yn y flwyddyn ariannol bresennol. Mae cyllideb y flwyddyn nesaf eisoes yn dechrau o linell sylfaen uwch nag a fyddai erioed wedi bod yn wir pe baem yn dibynnu ar gynlluniau'r Llywodraeth flaenorol.

Llywydd, rwyf wedi nodi'n fanwl elfennau'r swm sydd ar gael i ni y flwyddyn nesaf, oherwydd rwyf eisiau pwysleisio pwynt y mae Gweinidogion cyllid olynol wedi'i wneud ar lawr y Senedd hon. Mae'r cyfansymiau yr wyf wedi'u hamlinellu y prynhawn yma yn cynrychioli'r uchafswm sydd ar gael i'w wario y flwyddyn nesaf. Pan fydd pwyllgorau a phleidiau gwleidyddol eraill yn cynnig y dylid dyrannu mwy i amryw o flaenoriaethau neu ddibenion eraill, yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd yw gwario llai ar rywbeth arall. Wrth gwrs, byddaf yn gwrando'n astud iawn ar unrhyw gynigion o'r fath, ond byddaf yn edrych yr un mor ofalus ar gynigion ar gyfer lleihau gwariant pan gynigir cyllid ychwanegol, oherwydd dyna'r unig ffordd gyfrifol y gellir gwneud cyllidebau.

Llywydd, rwy'n troi nawr at y cynigion gwariant sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb ddrafft hon. Bydd Aelodau eisoes wedi gweld y prif ddyraniadau yn y ddogfennaeth a gyhoeddwyd yn gynharach y prynhawn yma, ac ni fyddaf yn eu hailadrodd yma, oherwydd mater i gyd-Aelodau unigol y Cabinet fydd nodi'r manylion ynghylch sut y bydd eu cyllidebau yn cael eu defnyddio. Byddaf yn syml yn nodi'r symiau cyffredinol.

Mae'r gyllideb ddrafft hon yn darparu £610 miliwn ychwanegol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, y mae £175 miliwn ohono yn wariant cyfalaf. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd trawiadol o 70 y cant mewn cyfalaf ar gyfer ein gwasanaeth iechyd, ffigur sy'n llawer mwy nag unrhyw beth sydd wedi bod yn bosibl yn ystod y 14 mlynedd diwethaf, a ffigur sy'n mynd â chyfanswm y gyllideb gyfalaf at ddibenion y gwasanaeth iechyd i fwy na £600 miliwn y flwyddyn nesaf.

Mae'r gyllideb tai a llywodraeth leol yn gweld cynnydd o £400 miliwn, gan gynnwys £120 miliwn mewn cyllid cyfalaf. Bydd fy nghyd-Ysgrifennydd, Jayne Bryant, yn nodi'r setliad llywodraeth leol pan gaiff ei gyhoeddi yfory. Mae gwariant addysg yn gweld cynnydd o £112 miliwn, gyda'r rhan fwyaf ohono'n dod fel refeniw. Mae trafnidiaeth yn gweld cynnydd o £120.7 miliwn ar gyfer gwelliannau i'n ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyllideb adran yr economi, ynni a chynllunio yn gweld cynnydd o £140.5 miliwn, gan gynnwys buddsoddiadau pellach sylweddol mewn bargeinion dinesig a thwf. Mae'r prif grŵp gwariant newid hinsawdd a materion gwledig yn gweld cynnydd o £108 miliwn. Mae cyfiawnder cymdeithasol, y gyllideb leiaf oll yn Llywodraeth Cymru, yn gweld cynnydd o £10 miliwn, gan gynnwys cynnydd o 23 y cant mewn cyfalaf.

Llywydd, rwy'n gorffen drwy nodi pedair egwyddor allweddol sydd wedi arwain y Cabinet wrth ddod i'r penderfyniadau sydd y tu ôl i'r ffigurau hyn. Yn gyntaf oll, rydym wedi sicrhau bod pedair blaenoriaeth y Prif Weinidog, sy'n adlewyrchu'r pethau sydd bwysicaf i bobl ledled Cymru, yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y dyraniadau hyn. Bydd fy nghyd-Aelodau yn rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn, ond mae'r cyllid sydd ar gael yno i sicrhau y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol a chyflym o ran gwella gwasanaethau iechyd menywod, cyflymu'r system gynllunio, gwella presenoldeb yn yr ysgol, sicrhau diogelwch tomenni glo, a phrosiect trawsnewidiol llinellau craidd y Cymoedd.

Yn ail, Llywydd, mewn cyfnod o newid hinsawdd, pryd y mae Cymru wedi gweld canlyniad digwyddiadau tywydd eithafol yn fyw dros yr wythnosau diwethaf, cyllideb yw hon sydd wedi'i llunio gan y cyfrifoldebau sy'n deillio'n uniongyrchol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan fuddsoddi yn y camau ataliol y gallwn eu cymryd heddiw i ddiogelu buddiannau'r rhai a ddaw ar ein holau ni.

Yn drydydd, Llywydd, mae hon yn bendant yn gyllideb sy'n ein rhoi yn ôl yn gadarn ar y llwybr tuag at dwf. Rydym yn gwybod bod buddsoddiad cyhoeddus, a ddefnyddir yn ddoeth, yn gweithredu i ddenu buddsoddiad sylweddol o ffynonellau preifat. Bydd y cyfalaf ychwanegol o £575 miliwn sy'n cael ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft hon yn gwneud hynny'n union, gan ysgogi cwmnïau preifat yn y diwydiant adeiladu, ein galluogi i fwrw ymlaen â'n huchelgeisiau ar gyfer economi ynni adnewyddadwy y dyfodol, a pharatoi'r ffordd ar gyfer yr uwchgynhadledd fuddsoddi, y bydd y Prif Weinidog yn ei harwain yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.

Yn olaf, Llywydd, y mae, fel y byddai unrhyw Lywodraeth Lafur yn falch o'i llunio, yn gyllideb sy'n amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith. Ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, rwyf wedi cyhoeddi dadansoddiad dosraniadol sy'n dangos lle bydd buddion dyraniadau heddiw yn cael eu teimlo fwyaf. Mewn sector ar ôl sector, ym maes iechyd, addysg, addysg uwch, teithio ar fysiau a gofal cymdeithasol, mae hon yn gyllideb sy'n cynyddu gwariant yn bennaf oll ar yr 20 y cant o'n poblogaeth sydd â'r lleiaf.

Mae'n gyllideb, Llywydd, ar gyfer blaenoriaethau. Mae'n gyllideb ar gyfer twf, ac mae'n gyllideb sy'n atgoffa pobl yng Nghymru pam, dro ar ôl tro, y maen nhw wedi rhoi eu ffydd mewn Llywodraeth Lafur, Llywodraeth sy'n rhannu eu gwerthoedd o ymddiriedaeth, uchelgais, gofalu am ei gilydd, ac yn enwedig y rhai sydd angen y gofal hwnnw fwyaf. A dyna pam, Llywydd, mai cyllideb ar gyfer gobaith yw hon, cyllideb sy'n dechrau ar y llwybr hwnnw i sicrhau dyfodol mwy disglair, ac rwy'n ei chymeradwyo i'r Senedd. [Cymeradwyaeth.]

15:25

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich ymgysylltiad â mi cyn y digwyddiadau cyllidol hyn a rhai eraill? Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae'n anodd iawn ceisio llafurio trwy 39 tudalen o ddatganiad cyllideb mewn chwarter awr. 

Llywydd, fel yr wyf wedi ei ddweud droeon o'r blaen yn y Siambr hon, mae arweinyddiaeth yn ymwneud â dewisiadau, cymryd cyfrifoldeb am y dewisiadau hynny, ac rydym yn clywed Llafur yn y Siambr hon yn beio'r Ceidwadwyr yn gyson am bopeth sy'n mynd o'i le yma yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi bod mewn grym yma ers dros 25 mlynedd. Mae'n bryd bellach i'r Llywodraeth Lafur gymryd cyfrifoldeb am eu hanes yma: rhestrau aros hiraf y GIG yn y Deyrnas Unedig; yr economi wannaf a'r cyflog isaf ym Mhrydain Fawr; a dirywiad ysgytwol mewn safonau addysgol, gan adael rhai disgyblion yn anllythrennog yn weithredol. A nawr bod gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan, mae'r darlun yn ei gyfanrwydd yn edrych yn fwyfwy llwm.

Dangosodd Llywodraeth y DU mewn mater o ddyddiau lle roedd eu blaenoriaethau'n gorwedd. Gwelsom Lafur yn tynnu lwfansau tanwydd y gaeaf oddi wrth y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ar yr un pryd â chytuno ar godiadau cyflog sy'n chwalu chwyddiant i dawelu eu meistri yn yr undebau. [Torri ar draws.] Bydden i wedi gobeithio—[Torri ar draws.] Byddwn wedi gobeithio y byddwn wedi gweld yn y gyllideb ddrafft hon gynlluniau ar gyfer pensiynwyr yng Nghymru sydd y tu hwnt i'r trothwy ar gyfer lwfans tanwydd y gaeaf, ond yn anffodus mae'n edrych fel eu bod yn mynd i wynebu gaeaf tywyll ac oer. Mae arbenigwyr wedi dweud, diolch i gyllideb gyntaf Llafur, bod disgwyl i dwf arafu unwaith y bydd eu gorffwylledd trethu a gwario ar ben, a does dim rhyfedd. [Torri ar draws.] 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae hon yn ddadl. Dyma ni eto: rydych yn dweud wrthym am y cwynion ynghylch y mesurau refeniw y cawsom ein gorfodi i'w codi oherwydd y twll du a adawodd eich Llywodraeth, ac nid ydych wedi dweud sut y byddech chi'n llenwi'r twll. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth lenwi'r twll a adawyd. Dim ond siarad yw hyn.

Wel, diolch Lee. Nid wyf am ateb hwnna nawr, oherwydd rwy'n mynd i ddod at hwnna mewn eiliad.

Felly, fel y dywedais i, rydym yn clywed bod twf economaidd yma yn flaenoriaeth yng Nghymru, ond sut all hynny ddigwydd pan nad yw'r ddwy Lywodraeth Lafur yn deall busnes, ac maen nhw'n rhwystro twf busnes? [Torri ar draws.] Rydyn ni'n gwybod—[Torri ar draws.] Os gwrandewch, rydyn ni'n gwybod bod Plaid Lafur y DU yn mynd i godi treth ar dwf—[Torri ar draws.]

Peter, un eiliad. Hoffwn glywed cyfraniadau gan yr holl Aelodau, felly rhowch gyfle iddynt siarad fel y gallaf eu clywed.

Ie, rhowch gyfle i mi. Gwyddom fod y Blaid Lafur yn mynd i godi treth ar dwf ar ffurf codiadau yswiriant gwladol, gan ei gwneud yn ddrutach i fentrau bach a chanolig gyflogi staff. Sut mae hynny'n mynd i ddatrys y ffaith mai Cymru sydd â'r cyfraddau diweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig ac economi sy'n tanberfformio? Nid oes llawer yn y gyllideb ddrafft hon i newid hynny. Gwyddom y bydd Llafur yn ceisio defnyddio, fel yr ydym newydd glywed, y twll du ffug i gyfiawnhau eu gweithredoedd a'u dewisiadau, er gwaethaf y ffaith mai'r DU oedd â'r twf cyflymaf yn y G7 cyn i Lafur gymryd yr awenau. Rydym yn gwybod y rhagwelir y bydd twf yn crebachu mewn cwpl o flynyddoedd, unwaith y bydd Llafur wedi gwario'r holl arian unwaith eto.

Ydy, mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cynyddu eleni, ond mae hynny i raddau helaeth oherwydd trethi cynyddol Llafur a symiau enfawr o fenthyca, y telir amdanynt, yn bennaf, gan fusnesau bach, ac, yn y pen draw, pobl sy'n gweithio, a bydd yn gadael ein hwyrion gyda dyledion enfawr o amgylch eu gyddfau. Tra bod Llafur yma'n dathlu'r arian newydd yma, rwy'n gofyn, fel y mae llawer, ble mae'r biliynau o arian canlyniadol HS2 y mae Llafur wedi bod yn galw amdano, a'n herio ni yn y Siambr hon bob tro y gallen nhw ei godi? Mae ein seilwaith yn cynyddu, ac mae angen yr arian hwnnw arnom. Dylai Llafur yma ymuno â ni i sefyll dros bobl Cymru a galw am y biliynau sy'n ddyledus i Gymru.

Wrth gwrs, rydym i gyd yn croesawu'r buddsoddiad cynyddol mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond y gwir amdani yw bod llawer o symiau canlyniadol Llywodraeth y DU yn ganlyniad i gerdyn credyd wedi'i ddefnyddio i'r eithaf gan y Canghellor Llafur. Er y gall arian ar gyfer codiadau cyflog fod yn sylfaenol, ni fydd gweddill yr arian i'w gael dro ar ôl tro, felly, unwaith y bydd wedi mynd, bydd wedi mynd, ac mae'n rhaid ei ddefnyddio'n ofalus, i'r perwyl gorau.

Bob blwyddyn, mae'r cyllid ar gyfer ein GIG yn cynyddu, ond, ar yr un pryd, mae ein rhestrau aros yn parhau i gyrraedd y lefelau uchaf erioed. Yn amlwg, mae rhywbeth yn mynd o'i le gyda'r strategaeth, ac nid yw'r cynnydd mewn cyllid gan y GIG yn datrys yr argyfwng gofal iechyd. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd y Llywodraeth Lafur yn gwrando ar ein galwadau ac yn comisiynu adolygiad annibynnol o systemau gweithredol o fewn ysbytai a darpariaeth gofal eilaidd, er mwyn sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei gwario'n effeithlon. Credaf yn bersonol y dylai hyn gael ei arwain gan glinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol, ynghyd â mentoriaid busnes. Nid yn unig y byddai'n arwain at fodelau arferion gorau; byddai'n nodi gwendidau systemau ac yn ysgogi effeithlonrwydd ariannol.

Yn anffodus, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn destun rhyw fath o fonitro uwch neu fesurau arbennig ar hyn o bryd. Ni all pethau fynd ymlaen fel hyn. I wneud pethau'n waeth, rydym yn dal i fod yn llawer rhy ddibynnol ar staff asiantaeth a locwm i lenwi ein bylchau staffio yng Nghymru. Cafodd £0.25 biliwn anhygoel ei wario ar staff asiantaeth i lenwi sifftiau gwag y GIG yma yng Nghymru y llynedd. Yn amlwg, mae angen gwneud llawer mwy i recriwtio a chadw staff ein GIG, er mwyn lleihau gwariant yn sylweddol a lleddfu straen ar y rhai sy'n gweithio yn y system iechyd ar hyn o bryd.

Rwy'n falch bod mwy o arian wedi'i ddyrannu i ofal cymdeithasol—cam yr ydym wedi galw amdano ers tro. Mae gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau plant ac oedolion, yn rhan enfawr o'r pwysau ariannol o £560 miliwn y mae ein hawdurdodau lleol yn ei hwynebu. Rwy'n ofni, serch hynny, nad yw cydbwysedd y buddsoddiad yn iawn o hyd, a ddim yn cydnabod mai'r pwysau mewn gofal cymdeithasol yw'r rhwystr sylfaenol i ddadflocio ein system iechyd. Rwyf hefyd yn pryderu y bydd y £252 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol, er bod croeso iddo, yn dal i adael gwerth tua £300 miliwn o bwysau ariannol ar ein cynghorau, a fydd yn anochel yn costio teuluoedd sy'n gweithio'n galed ar ffurf codiadau ychwanegol i'r dreth gyngor. Bydd y cynnydd o 4.3 y cant yn dal i adael sawl cyngor ar ymyl clogwyn, rwy'n ofni. Fodd bynnag, mae dyraniad refeniw o £5 miliwn i gynnal gwerth £60 miliwn o fenthyca llywodraeth leol ar gyfer atgyweirio ffyrdd a seilwaith i'w groesawu, ac yn rhywbeth y byddwn wedi ei argymell fy hun.

O ran yr economi, i aralleirio cyn-Weinidog sydd eisoes wedi siarad heddiw, mae'n amlwg iawn nad yw Llafur yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud o ran yr economi. Fel y dywedais o'r blaen, mae'r ddwy Lywodraeth Lafur yn dweud eu bod eisiau twf, ond y gwir amdani yw eu bod yn rhwystro twf. Dylent fod yn creu'r amodau lle gall busnesau dyfu a ffynnu, nid i'r gwrthwyneb. Mae busnesau yng Nghymru yn talu'r cyfraddau busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda busnesau bach yng Nghymru yn dal i dalu'r un gyfradd â rhai mawr, er bod gan Weinidogion y Cabinet y pŵer i newid hynny. Fodd bynnag, rwy'n croesawu y bydd y lluosydd yn cael ei gynnal ar 1 y cant.

Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi gweld synnwyr o'r diwedd, ac mae'n sicrhau bod busnesau ym maes manwerthu, lletygarwch a'r sector hamdden yng Nghymru yn cael yr un rhyddhad ardrethi busnes â'u cymheiriaid yn Lloegr—rhywbeth na ddigwyddodd y llynedd, gyda busnesau yng Nghymru yn talu dwbl cyfraddau busnes eu cystadleuwyr dros y ffin. Yn anffodus, mae busnesau'n dal i orfod dioddef cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, o ganlyniad i addewid maniffesto toredig Llafur y DU. Er mwyn gwneud pethau'n waeth, nid yw'n glir o hyd a fydd Llywodraeth y DU, er gwaethaf popeth a ddywedwyd, yn ariannu'r sector cyhoeddus yn llawn i dalu am godiad treth diweddaraf Llafur ar gyflogwyr.

Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol a'r system addysg, a chyhoeddwyd rhai ohonynt yr wythnos diwethaf ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Ond mae'n amlwg bod rhywbeth yn mynd o'i le. Bydd croeso i'r cyfalaf ychwanegol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu â mynd i'r afael ag absenoldeb, ac mae wedi methu â mynd i'r afael â'r safonau sy'n gostwng yn ein hysgolion ers tro. Sut gall cenedlaethau'r dyfodol obeithio adeiladu Cymru well os yw llawer yn dechrau yn yr ysgol uwchradd yn anllythrennog? Mae ein system addysg yn gwbl sylfaenol i ddyfodol ein plant a dyfodol Cymru, ac eto mae dyfodol ein pobl ifanc dan fygythiad aruthrol o ganlyniad i 25 mlynedd o reolaeth wael Llafur dros addysg.

Gan droi at faterion gwledig, rwy'n croesawu'r ffaith bod y gyllideb materion gwledig wedi cynyddu. Fodd bynnag, cafodd £62 miliwn ei dynnu i ffwrdd y llynedd, toriad cymharol o 13 y cant, y mwyaf o unrhyw gyllideb adrannol. Felly, dim ond gwneud iawn am tua hanner hynny y mae'r cynnydd a welwn yn awr, a bydd y gymuned wledig yn dal i bryderu. Rhaid gwneud hyn yn dda mewn termau real. Ni allwn weld dadfuddsoddi parhaus a dirywiad yn ein cefn gwlad a'i heconomi. Y gwir syml yw bod ein cymunedau gwledig yn wynebu pwysau ac adfyd eithafol gan lywodraethau ar ddau ben yr M4. Ni all hyn barhau os ydym yn poeni am Gymru.

Llywydd, rwyf i a fy nghyd-Aelodau yn credu y bydd y gyllideb ddrafft hon yn methu o ran blaenoriaethau pobl Cymru mewn sawl ffordd. Yn anffodus, bydd teuluoedd a busnesau ledled Cymru yn parhau i gael eu siomi gan Lafur. Mae angen iddyn nhw sylweddoli nad oes rhaid iddi fod fel hyn yng Nghymru.

15:35

Mae'n rhyfeddol, wrth feddwl am ddadleuon blaenorol ar y gyllideb, pan glywsom feinciau Ceidwadol yn dweud bod gan Gymru ddigon o gyllid. Ni allwn anghofio effaith 14 mlynedd o gyni, ond ni allwn anghofio'r addewidion a wnaed, am flynyddoedd, yn y cyfnod cyn etholiad y DU—addewidion y byddai newid Llywodraeth y DU a chael dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio ar ddau ben yr M4 yn chwyldroadol i Gymru. Ac wrth gwrs, er ei bod hi'n wir fod yna gyllid ychwanegol yn y gyllideb hon—ac wrth gwrs mae hynny i'w groesawu—mae'n rhaid i ni atgoffa ein hunain bod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn llai na'r cyllid sy'n ddyledus i Gymru. A hefyd, ar 1.3 y cant, rydym wedi derbyn y cynnydd isaf mewn termau real o'r holl wledydd datganoledig mewn cyllid adnoddau hyd at 2025-26. Felly, go brin mai dyma'r newid trawsnewidiol a addawyd i bobl Cymru.

Dychmygwch yr hyn y gallem ei wneud gyda'r biliynau o bunnau sy'n ddyledus i ni o HS2, pe gallem gadw cyfoeth helaeth ein hadnoddau naturiol, a hefyd pe bai gennym fodel ariannu yn seiliedig ar angen poblogaeth yn hytrach na fformiwla Barnett hen ffasiwn. Heb hyn, mae'n amlwg, er gwaethaf y cynnydd, y bydd llawer o sectorau yn dal i gael eu gadael yn doredig ac yn ansicr am y dyfodol. Bydd yn rhaid gwneud toriadau o hyd, bydd yn rhaid codi'r dreth gyngor, a bydd yr ôl-groniad ar draws ystad y GIG yn parhau'n anhygoel o uchel. Felly, ydi, mae'r buddsoddiad i'w groesawu, ond dim ond piso dryw bach yn y môr ydyw o'i gymharu â'r hyn sydd ei angen.

Mae hefyd yn bwysig nodi, o'r £1.7 biliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, y bydd yn rhaid defnyddio talp mawr i wrthbwyso penderfyniad cibddall Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr heb ad-dalu'r gost i sefydliadau a busnesau sydd y tu allan i'r sector cyhoeddus, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector a gwasanaethau meddygon teulu, ac ati. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod y cysylltwyd ag ef gan ei foddi â negeseuon gan sefydliadau yn fy rhanbarth, fel Cyngor ar Bopeth, gan amlinellu'r effaith ddinistriol y bydd hyn yn ei chael ar eu gallu i gefnogi rhai o'n hetholwyr mwyaf agored i niwed. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu yn ei ymateb i'r ddadl hon ganlyniad ei drafodaethau ar y mater hwn gyda Changhellor y DU, a pha un a yw wedi cael unrhyw eglurder eto ynghylch a yw Llywodraeth y DU yn mynd i gymryd camau i unioni canlyniadau niweidiol ac anfwriadol y penderfyniad hwn.

Mae'n amlwg, felly, y bydd y gyllideb hon yn cael ei defnyddio i lenwi'r bylchau a grëwyd gan San Steffan, a hefyd gan gamreoli Llafur, yn hytrach na mynd i'r afael â rhai o'r problemau gwirioneddol mae cynifer o'n cymunedau yn eu hwynebu. Mae'r ffaith bod Llywodraeth yr Alban wedi gallu cyflwyno atebion radical i wrthweithio effaith cyrydol y cap budd-daliadau dau blentyn a thynnu'n ôl lwfans tanwydd y gaeaf hefyd yn tanlinellu canlyniadau niweidiol y byd go iawn oherwydd amharodrwydd y Llywodraeth hon i geisio pwerau datganoledig pellach. Onid ydych chi'n difaru nawr nad oes gennym yr un ysgogiadau ar gael i ni ag sydd gan yr Alban, pan fyddwch chi'n gweld eu bod nhw'n gallu cymryd camau i amddiffyn eu trigolion mwyaf agored i niwed? Yn y cyfamser, er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn setlo a hyd yn oed yn croesawu setliad sy'n annheg yn sylfaenol, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i wynebu pwysau di-ildio gydag adnoddau wedi'u hymestyn nes eu bod ar fin torri—cyhuddiad damniol o fethiant Llywodraeth Lafur y DU i ddod â'r cyfnod trychinebus o gyni i ben.

O ran llywodraeth leol, mae cynnydd o 4.3 y cant ar gyfartaledd. Roeddwn yn bresennol mewn sesiwn friffio ddiweddar a drefnwyd gan CLlLC lle roeddent yn glir iawn y dylai'r lleiafswm fod yn 5 y cant i bawb. Beth fydd hyn yn ei olygu i gymaint o wasanaethau yn ein cymunedau? Bydd yn ddinistriol. Felly, efallai y bydd y penawdau yn edrych fel newyddion da, ond nid yw'n newyddion da i'n hawdurdodau lleol sy'n darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn. Mae'n werth pwysleisio hefyd nad yw cwantwm y cyllid ar ei ben ei hun yn gwarantu llwyddiant, sut mae'r arian yn cael ei wario sy'n bwysig, ac o ran hyn mae hanes y Llywodraeth ymhell o fod yn foddhaol. Er bod y gyllideb iechyd yn benodol wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ychydig iawn o welliant a welwyd i broblemau fel rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlans a thargedau ar gyfer triniaeth canser. Felly, pam y dylem ddisgwyl unrhyw beth gwahanol y tro hwn?

Mae'r adenillion llai o wariant y Llywodraeth hon ar atebion costus o blastr glynu hefyd yn golygu llai o arian i bron pob maes polisi arall, gan adael ein prifysgolion yn wynebu argyfwng dirfodol, seilwaith ein hysgolion wedi mynd â'i ben iddo, a sector celfyddydau a diwylliant yn edrych gyda chenfigen ar yr Alban ac Iwerddon, lle bu cynnydd sylweddol.

‘Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri’—ydy hynny’n golygu unrhyw beth i’r Llywodraeth hon?

Mae cymaint o’n sectorau ni mewn sefyllfa eithriadol o fregus, heb sôn am ein gwasanaethau cyhoeddus ni, ac mi fyddan nhw wedi’u siomi heddiw gan gyllideb sy’n cynnig sbarion yn hytrach na’r cyllid sydd ei angen arnyn nhw. Jest am fod hon yn gyllideb well na’r un gawsom ni gan y Torïaid, dydy o ddim yn golygu ei bod hi’n gyllideb ddigonol, na chwaith yn gyllideb sy’n creu’r newid hwnnw y gwnaeth Llafur ei addo am flynyddoedd i bobl Cymru.

Ysgrifennydd Cabinet, mi roeddech chi’n sôn am ddyfodol mwy disglair. Wel, efallai bod yna lygedyn o olau i rai, ond mae’n gadael eraill yn y tywyllwch. Mi edrychwn ymlaen, felly, i graffu'n fanwl ar y gyllideb hon, ond mawr obeithiwn y gwelwn y Llywodraeth yn ymuno hefyd gyda ni i fynnu cyllid teg i Gymru. Dyna ddaw â newid. Dyna ddaw â llewyrch. A dyna’r hyn mae Cymru’n ei haeddu.

15:40

Fel cynghorydd sir yn byw drwy'r degawd a mwy o gyni, ni fyddaf byth yn anghofio'r boen o geisio cadw gwasanaethau rheng flaen i fynd wrth orfod cyflawni toriadau ac effeithlonrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan effeithio ar fywydau pobl. Oherwydd yr ideoleg ofnadwy o eisiau gwladwriaeth gyhoeddus lai, aeth pethau'n rhy bell.

Rwy'n cofio, yn 2017, Philip Hammond yn dweud bod angen i ni dynhau'r gwregys ymhellach fyth, ond doedd dim tyllau ar ôl ar y gwregys diarhebol. Cawsom wedyn Brexit yn effeithio ar Gymru. Roeddem yn fuddiolwyr net. Yna cafwyd y pandemig a'r chwyddiant enfawr a achoswyd gan gyllideb Truss. Dim buddsoddiad mewn ynni a diwydiant yn y DU a dim cydnerthedd. Fe wnaeth yr economi chwalu, ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus a llawer o'r swyddi y maen nhw'n eu cefnogi, yn enwedig yma yng Nghymru.

Diolch byth, mae gennym Lywodraeth y DU sydd wedi dod â newid a gobaith, a fydd yn ariannu'r codiadau cyflog mawr eu hangen yn y sector cyhoeddus a'n gwasanaethau cyhoeddus, conglfeini ein heconomi. Ni allwn dyfu'r economi heb ein gwasanaethau cyhoeddus a heb addysgu pobl, heb drafnidiaeth gyhoeddus, heb dai, heb gadw ein gweithlu yn iach. Ni fyddaf yn anghofio'r boen o orfod gwneud penderfyniadau anodd. Ni all y Ceidwadwyr ailysgrifennu hanes, ni waeth sut y maen nhw'n ceisio ei ail-becynnu.

Sylweddolais pan ddeuthum yn AS fod y Senedd yn union fel cyngor mawr, gan orfod gweithio gyda chyllideb sy'n cael ei dosrannu gan Lywodraeth y DU, gyda'r pwerau benthyca a chodi trethi lleiaf. Nid oes gennym lawer o enillwyr cyflogau uchel yng Nghymru, ac mae 90 y cant o'r gyllideb yn mynd ar wasanaethau cyhoeddus. Mae dros hanner y gyllideb yn mynd ar iechyd. Yna mae llywodraeth leol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Trafnidiaeth Cymru, cymorthdaliadau ffermio, i enwi dim ond rhai. Mae cynghorau yn wynebu argyfwng, gyda chostau cynyddol a mwy o alw am wasanaethau. Ac fel y dywed arweinydd Cyngor Sir y Fflint, ar ôl gwneud £126 miliwn o arbedion effeithlonrwydd, mae'r stêm-roler wedi mynd dros yr oren; does dim byd ar ôl i'w wasgu.

Fe wnaeth yr arweinyddiaeth flaenorol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dorri gwasanaethau a defnyddio cronfeydd wrth gefn yn hytrach na chodi trethi cyngor, felly nid oes ganddynt gydnerthedd ac y maent wedi'u torri at yr asgwrn, ond maent yn ysu am gyflawni dros y trigolion a hynny o dan bwysau cynyddol. Diolch byth, mae'r arweinyddiaeth newydd wedi bod yn arloesol ac wedi dechrau buddsoddi mewn tai cyngor eto, gan ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru sydd ar gael iddi. Rwy'n deall na ellir dadwneud 14 mlynedd o gyni mewn un flwyddyn ariannol, ond rwy'n croesawu'r cam cyntaf. Yn wir, rhyddhad enfawr oedd clywed y gyllideb pan gafodd ei chyhoeddi. 

Rydym wedi gweld effaith llifogydd a thirlithriadau a gwerth bod â gwasanaethau cyhoeddus a chyllid i helpu pobl mewn cyfnodau o angen. Dyma ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym boblogaeth hŷn, fwy sâl a phlant sydd angen cymorth ychwanegol ar ôl cael eu geni yn ystod y pandemig. Rydym i gyd yn gofyn am arian ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Pan fydd cynghorau'n derbyn cyllid isel yn gyson, nid ydynt yn gallu adeiladu cydnerthedd na chadw cronfeydd wrth gefn. Rwy'n pryderu bod sawl cyngor yn y gogledd, gan gynnwys Wrecsam, wedi dweud eu bod wedi rhedeg allan o gyfalaf ar gyfer arian cyfatebol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio gyda nhw.

Rwyf wedi mynychu cyfarfodydd lle mae bwrdd iechyd y gogledd wedi gofyn am gyfalaf i fuddsoddi mewn TG, a fydd yn helpu i wella cynhyrchiant y gwasanaeth iechyd, ynghyd â pheiriannau ac offer newydd, a buddsoddi mewn adeiladau. Felly, gobeithio y gall gwaith adnewyddu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn sir Ddinbych fynd yn ei flaen, nawr bod y tapiau wedi'u troi ymlaen. Gwn y gall cael y buddsoddiad cyfalaf hwn, y cynnydd enfawr hwn mewn arian cyfalaf, helpu ein gwasanaeth iechyd fel y gall ddarparu'r gwasanaethau. Gall y cyfalaf helpu, mewn ffordd, gyda'r refeniw.

Rwy'n falch o weld bod buddsoddiad mewn ffyrdd a phalmentydd yn flaenoriaeth i'r Prif Weinidog; mae wedi bod yn un o fy mlaenoriaethau i ers tair blynedd. Roeddwn i yng Nghei Connah yn yr haf gyda'r Prif Weinidog, ac rwy'n credu bod bron pob un o'r trigolion wedi dweud, 'A allwn ni drwsio'r tyllau yn y ffyrdd?' A doeddwn i ddim wedi trefnu i hyn ddigwydd, o ddifrif calon. Rwy'n gwybod, oherwydd bod cynghorau wedi bod yn ei chael hi'n anodd gyda gweithluoedd yn gostwng dros y blynyddoedd a chyni, felly mae gallu cyflawni'r buddsoddiad cyfalaf hwn mewn blwyddyn—. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud sut y bydd yn defnyddio cronfeydd wrth gefn Cymru y flwyddyn nesaf i helpu gyda'r cydnerthedd hwnnw ac, efallai, y rhaglen ddwy flynedd. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Felly, rwyf eisiau dweud i orffen bod y newid hwn—. Gwyliais y gyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn dros 14 mlynedd, ac roedd yn anwadal ac yn dorcalonnus, ond mae'n teimlo fel bod gobaith o'r diwedd a gallwn ddarparu gwasanaethau da eto i bobl. Mae pobl eisiau bywyd boddhaol. Felly, rwy'n hapus i gefnogi'r gyllideb hon. Diolch. 

15:45

Yn ystod ei araith yn y Mansion House yn 2005, talodd Gordon Brown deyrnged i'r llu o fancwyr a oedd yno, gan nodi 'eich sgiliau arloesol unigryw, eich dewrder a'ch dyfalbarhad'. Diolchodd iddynt 'am y cyfraniad rhagorol, amhrisiadwy rydych chi'n ei wneud i ffyniant Prydain'. Pan ddychwelodd yn 2007 i draddodi ei araith olaf yn y Mansion House fel Canghellor cyn iddo symud i Rif 10, cyhoeddodd fod 'trefn byd newydd wedi'i greu', bod Prydain yn 'arweinydd byd newydd', diolch i'ch 'ymdrechion, eich dyfeisgarwch a'ch creadigrwydd'. Llongyfarchodd ei hun am wrthsefyll pwysau i gryfhau rheoleiddio eu gweithgareddau. Yna daeth cwymp ariannol 2008 ac, yn 2010, gadawodd Llafur waddol o ddiffyg cyllideb gwaethaf yn y G20 a chyni. Yn yr UE, roedd diffyg y DU y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig. Daeth achub croen a gorfodwyd toriadau i ddilyn ar ôl iddyn nhw geisio dilyn y polisïau economaidd a oedd yn cael eu hargymell gan Lafur a Phlaid Cymru.

Wrth feio'r twll du cyllidol y mae Llafur yn honni eu bod wedi'i ddarganfod ar ôl etholiad cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf y mae'r Trysorlys y DU wedi gwrthod rhoi manylion allweddol amdano, methodd â sôn naill ai pan adawodd Llafur yn 2010, bod diffyg y DU yn 10.3 y cant o Gynnyrch Domestig Gros, ond pan adawodd y Ceidwadwyr eleni, roedd diffyg y DU yn 4.4 y cant o Gynnyrch Domestig Gros, er iddynt orfod benthyca biliynau i gefnogi pobl a'r economi drwy'r pandemig a'r argyfwng costau byw byd-eang, neu fod cyfran o'r twll du honedig yn ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan Lywodraeth Lafur newydd y DU ers 4 Gorffennaf. Fel y dywedodd Paul Johnson, cyfarwyddwr melin drafod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, efallai bod y Canghellor Rachel Reeves

'yn gorbwyso'r twll du gwerth £22 biliwn'. 

Wrth siarad â chynulleidfa'r Mansion House fis diwethaf, disgrifiodd Rachel Reeves yr hyn maen nhw'n ei wneud fel prif drysor economi Prydain. Aeth ymlaen wedyn i egluro pam ei bod yn teimlo ei bod yn bryd llacio rheoliadau er mwyn rhoi cyfle i'r Ddinas dyfu'r economi fel y byddent yn dymuno. Dylai Reeves fod wedi dysgu gan Brown: mae sylwadau o'r fath bob amser yn dod cyn damwain. Mewn gwirionedd, mae dychwelyd i ffyniant a methiant yn cael ei fygwth gan y 'grim Reever'

Fel nododd pennaeth melin drafod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, roedd mesurau yn ei chyllideb fis Hydref diwethaf yn debygol o gadw chwyddiant a chyfraddau llog yn uwch, gan arwain at dwf arafach yn y blynyddoedd diweddarach. Datgelodd arolwg ar ôl y gyllideb gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain y byddai bron i ddwy ran o dair o gwmnïau yn dweud y byddai'r gyllideb yn niweidio buddsoddiad y DU, gyda hanner y cwmnïau yn ceisio lleihau nifer eu gweithwyr o ganlyniad. Yn gyffredinol, bydd hyn felly'n golygu refeniw treth is, gwariant is gan y Llywodraeth, toriadau i wasanaethau hanfodol ac o ganlyniad, pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus.

Un o ganlyniadau niweidiol cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU oedd y codiad mewn yswiriant cenedlaethol ar elusennau a chyrff trydydd sector. Mae ffigurau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y bydd y cynnydd mewn treth flynyddol gyfartalog i gyflogwyr yn fwy na £800 fesul gweithiwr. Gyda thua 134,500 o bobl yn gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, hyd yn oed gyda gwaith rhan-amser, byddai hyn yn awgrymu cynnydd o oddeutu £100 miliwn y flwyddyn ym mil yswiriant cenedlaethol y sector. Fel y dywed Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

'Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfyngiadau ariannol tynn ac yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus, ond dim ond cyflogwyr y sector cyhoeddus sy’n mynd i gael eu had-dalu am y costau cynyddol hyn.'

Mae hon yn gost newydd sylweddol, medden nhw,

'na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.'

Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn, a fydd dim ond yn cael eu diogelu os yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector elusennol ac yn lliniaru'r polisi cibddall hwn. Mae hyn yn berthnasol i gyrff sy'n amrywio o hosbisau yng Nghymru, sy'n wynebu heriau ariannol difrifol ac yn gorfod ystyried toriadau sylweddol, a fyddai'n gadael bylchau enfawr yn y ddarpariaeth ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu na fydd y byrddau iechyd yn gallu eu darparu yn eu lle nhw, i Cymorth i Fenywod Cymru, sy'n wynebu costau cynyddol, penderfyniadau amhosibl a chyllidebau tynn, i'r elusen dan arweiniad aelodau, Adferiad, sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ag anghenion iechyd meddwl, caethiwed ac anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd, a ddywedodd wrthyf ddydd Gwener diwethaf, o ran yswiriant gwladol yn unig, y bydd cyllideb y Canghellor yn costio £600,000 y flwyddyn iddynt, a heb unrhyw liniaru bydd yn rhaid iddynt adael i staff fynd a lleihau gwasanaethau. Oni bai fod cyllideb Llywodraeth Cymru yn galluogi'r gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan sefydliadau fel y rhain i barhau a thyfu, bydd y galw am adnoddau ar wasanaethau cyhoeddus statudol yn tyfu'n esbonyddol. Diolch yn fawr.

15:50

Blwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r Llywodraeth yma wedi bod yn lluchio biliynau o bunnoedd at wasanaethau iechyd rheng flaen er mwyn trio datrys y problemau y mae’r Llywodraeth ei hun wedi eu creu, gyda fawr ddim gwelliant yn y canlyniadau. Er gwaethaf yr ymffrostio am y biliynau sy'n cael eu gwario ar y gwasanaeth iechyd, mae’r rhestrau aros yn parhau i fod yn styfnig o uchel. Mae bron i hanner y cleifion canser ddim yn cael eu gweld ar amser ac mae’r targedau ambiwlansys wedi eu methu mor aml fel eu bod nhw bellach yn gwbl ddi-werth. Canlyniad y polisi methedig yma ydy bod llai o arian ar gael ar gyfer bron i bob maes polisi arall, megis llywodraeth leol, sydd yn gwneud cymaint o’r gwaith ataliol a gofal hanfodol. Yn wir, o beth welaf i, mae bron i 55 y cant o gyllideb y Llywodraeth bellach yn mynd ar iechyd erbyn hyn. Tybed ai'r Llywodraeth ydy wythfed bwrdd iechyd Cymru? 

Mae’r gwario anghynaladwy yma yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod colledion ariannol ar draws y gwasanaeth iechyd bellach yn £183 miliwn. Felly, tybed fedrith yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud os ydy’r Llywodraeth yn disgwyl gweld y colledion yma yn lleihau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae’n amlwg bod gan y gwasanaeth iechyd broblem gyllido, yn enwedig ar ôl y niwed sydd wedi dod yn sgil bron i ddegawd a hanner o lymder. Ond mae’n dioddef hefyd o’r ffaith fod y Llywodraeth yma wedi camreoli yr adnoddau sydd ar gael mor ddifrifol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod y Llywodraeth rŵan yn gorfod neilltuo’r rhan helaethaf o’r £400 miliwn ychwanegol ar leihau rhestrau aros. Nid yn unig y bydd canran sylweddol o’r arian yma yn mynd tuag at brynu capasiti yn y sector breifat, ond petai’r Llywodraeth wedi llwyddo i gyrraedd ei thargedau ei hun o dorri y rhestrau aros hiraf erbyn Mawrth 2023, yna ni fyddai angen yr arian yma, a gellir fod wedi ei dargedu at bethau eraill. Tybed, felly, all yr Ysgrifennydd Cabinet fanylu ar faint o’r cynnydd yng nghyllideb yr adran iechyd a gofal fydd yn mynd at gomisiynu gwaith gan ddarparwyr annibynnol a phreifat.

Mae yna hefyd y £262 miliwn ar staff asiantaeth, oherwydd anallu i fynd i'r afael â bylchau mawr yn y gweithlu; £10 miliwn yn cael ei wario ar system cofnodi cleifion electronig optometreg sydd eto i weld golau dydd; £14 miliwn i ailgynllunio ysbyty'r Faenor, lai na phedair blynedd ar ôl iddo gael ei agor gyntaf; a'r ôl-groniad cynnal a chadw risg uchel yn ystad y GIG sy'n cynyddu i bron i £0.25 biliwn. Felly, beth yw'r lefel orau o wariant blynyddol ar ffioedd asiantaeth y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at eu cyrraedd? Hyn i gyd tra bod cyllid ar gyfer mesurau ataliol yn cael ei dorri. Mae ASH Cymru, er enghraifft, elusen sydd wedi helpu cymaint o bobl i roi'r gorau i ysmygu, ac sy'n gwneud gwaith allweddol ar fêps a thybaco ar hyn o bryd, yn enghraifft o brosiect ataliol llwyddiannus. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet fanylu ar faint y mae llinellau cyllideb ataliol a gofal sylfaenol wedi cynyddu mewn termau real o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol? A gydag ASH Cymru, er enghraifft, a fydd yr arian yn parhau?

Rwy'n nodi gyda siom y diffyg pwyslais ar y sector gofal, gyda'r hyn sy'n edrych, ar yr olwg gyntaf, fel toriad termau real. Efallai y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet eisiau egluro. Mae degau o filoedd o ofalwyr di-dâl yn dibynnu ar y cynllun seibiant byr a'r gronfa cymorth i ofalwyr, er enghraifft. Felly, yn ei ymateb, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau lefel y cyllid ar gyfer y cronfeydd hyn. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfyngau parhaus yma sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd, yna mae'n rhaid ariannu'r sector gofal cymdeithasol yn iawn, a byddai'n dda clywed y rhesymeg pam mae'r sector gofal yn parhau i fod yn wasanaeth sinderela.

Yn y cyfamser, bydd parhau â mesurau cyni gan eu partneriaid mewn grym yn San Steffan, megis tynnu lwfans tanwydd y gaeaf yn ôl o filoedd o bensiynwyr Cymru, yn gwaethygu'r galw ar wasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau. Ar ben hynny, bydd y penderfyniad i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn arwain at gostau ychwanegol sylweddol y flwyddyn nesaf i sefydliadau trydydd sector a meddygfeydd sy'n gweithio'n agos gyda byrddau iechyd y GIG. Felly, pa gyfran o'r cynnydd i'r prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol fydd yn cael ei defnyddio i wrthbwyso'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ymhlith meddygon teulu a sefydliadau iechyd y trydydd sector? Ac yn fwyaf damniol oll yw gwrthodiad Llywodraeth Lafur y DU i ddisodli'r fformiwla Barnett hen ffasiwn. Mae'r cyllid a dderbyniwn yn ôl o San Steffan yn parhau i fod wedi'i gamgyfochri'n sylfaenol ag anghenion iechyd ein poblogaeth. Mae'n economi ffals ac mae'r GIG bellach yn gwegian ar ymyl y dibyn. Felly, er bod angen buddsoddiad pellach ar y GIG, mae angen i adnoddau gael eu gwario'n ddoeth hefyd, ac mae'r Llywodraeth hon wedi dangos ei bod yn gwbl analluog i wneud hynny. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Canghellor a'r Prif Weinidog ynghylch sicrhau cyllid teg i Gymru?

15:55

Rwyf am ddechrau drwy groesawu'r £1.5 biliwn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau a'n blaenoriaethau cyhoeddus, gan roi Cymru'n ôl ar y llwybr i dwf. Mae hwn yn arian sy'n mynd i fod o fudd i bob un ohonom ni a'n holl etholwyr. Rwyf hefyd yn falch bod y Llywodraeth yn dyrannu mwy na £3 biliwn o gyfalaf yn y gyllideb ddrafft. Bydd y rhan fwyaf o'r arian hwnnw, os nad y cyfan, yn mynd i'r sector preifat mewn gwirionedd, felly bydd yn helpu i ysgogi'r economi mewn gwirionedd. Rwy'n credu weithiau bod dryswch rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, bod arian y sector cyhoeddus sy'n cael ei wario ar ddatblygu yn mynd i mewn i'r sector preifat mewn gwirionedd.

Ond dim ond un sydd gennyf yr wyf eisiau ei gyfleu. A all yr Ysgrifennydd Cabinet cyllid sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar lefarwyr y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i lunio cyllideb amgen ar gael ar eu cyfer? Maen nhw'n dweud nad oes ganddyn nhw'r wybodaeth i wneud hynny, ac mae hynny'n eu hesgusodi gan nad ydyn nhw'n gallu ei darparu. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu unrhyw wybodaeth y maen nhw ei heisiau ar y gyllideb fel y gallan nhw gynhyrchu eu cyllideb eu hunain?

Rwy'n deall nad oes gennych y gallu i wneud hynny, ond mae hynny'n fater gwahanol. 

Mae polisi'r Ceidwadwyr yn syml. Maen nhw'n gwrthwynebu pob codiad treth. Maen nhw'n gwrthwynebu'r holl drethi newydd. Maen nhw'n gwrthwynebu benthyca. Maen nhw'n cefnogi arian ychwanegol yn cael ei wario ar draws portffolios, gyda'u hawgrymiadau bach o arbedion yn fach iawn. Cynigiodd Plaid Genedlaethol yr Alban gasglu pob treth yn yr Alban a darparu eu cyfran o'r costau a ysgwyddwyd gan Lywodraeth San Steffan ar feysydd fel pensiwn y wladwriaeth, amddiffyn, ac ati. A yw Plaid Cymru eisiau gwneud yr un peth, oherwydd, y tro diwethaf i mi ei gweld, fe wnaethon nhw ddatrys y broblem honno trwy beidio ag ariannu pensiwn y wladwriaeth?

Mae'r ddadl ar y gyllideb yn cynnwys trafodaeth am faint i'w wario mewn gwahanol feysydd. Onid yw'n dda nad ydym yn sôn am doriadau; rydyn ni'n sôn am wariant? Mae'r gallu i amrywio treth incwm yn bŵer na ellir ei ddefnyddio. Ni fydd cynnydd mewn cyfraddau treth a phobl sydd â dewis o ran ble maen nhw'n cofrestru yn cofrestru yng Nghymru, a bydd gwrthwynebiad i drethi uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Os byddwch yn eu lleihau nhw, byddwch chi'n lleihau'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Pa gamau sy'n cael eu cymryd ar gynyddu incwm treth trafodiadau tir heb newid y gyfradd trwy fod yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth gasglu'r arian hwnnw? Hefyd, roeddwn i'n falch iawn o'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet am y dreth gwarediadau tirlenwi, gan ei bod yn dreth amgylcheddol, nid yn fodd o godi arian, ac mae angen ei gosod ar y fath lefel fel bod taflu pethau i'r ddaear yn dod yn economaidd anymarferol.

Rwyf eisiau sôn am rai meysydd gwario â blaenoriaeth, ac, o fewn iechyd, gofal sylfaenol, diagnosteg a hybu iechyd. Mae ymarfer cyffredinol yn gweld tua 90 y cant o'r holl ymweliadau â chleifion. Mae angen ei ariannu'n ddigonol. O leiaf, mae angen diogelu cyfran y gyllideb iechyd sy'n cael ei gwario ar ofal sylfaenol, ond cynnydd yw'r hyn sydd ei angen. Yn barhaus, mae'r gyfran o gyllidebau iechyd sy'n cael eu gwario ar ofal sylfaenol wedi lleihau. Dyma ddigwyddodd pan roddwyd gofal sylfaenol a gofal eilaidd o dan y byrddau iechyd. Rydym yn parhau i gynnal dadleuon iechyd a, boed yn ddementia neu'n ganser, rydyn ni'n cytuno'n unfrydol ar bwysigrwydd diagnosis cynnar. Mae hyn yn golygu gwario ar offer diagnostig. Mae gwella iechyd yn hanfodol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn arwain at lai o ordewdra a mwy o ffitrwydd.

Gwendid economi Cymru yw nad oes gennym ddigon o swyddi cyflog uchel yn y sectorau economaidd cyflog uchel a'r sectorau twf fel TGCh a gwyddorau bywyd, yr wyf yn sôn amdanynt bob wythnos, mae'n ymddangos, ac ynni gwyrdd. Mae hyn yn gweithio'n dda ledled y byd gan Lywodraethau sy'n cefnogi'r sector prifysgolion. Addysg yw'r allwedd i economi lwyddiannus. Mae cefnogaeth gan lywodraethau ysgolion a cholegau yn gwella sgiliau a dylai llwyddiant economaidd ddilyn.

Mae llywodraeth leol yn darparu nid yn unig gofal cymdeithasol ac addysg, ond ystod eang o wasanaethau, o hamdden a pharciau i'r amgylchedd a ffyrdd. Mae'n bwysig bod llywodraeth leol yn cael ei hariannu'n ddigonol. Mae gofal cymdeithasol yn allweddol nid yn unig i wella trwybwn ysbytai ond hefyd lleihau derbyniadau i'r ysbyty. Os gall pobl gael mynediad at ofal cymdeithasol yn ddigon cynnar, yna dydyn nhw ddim yn dirywio i'r fath raddau nes eu bod yn mynd i'r ysbyty yn y pen draw. Yna, pan fyddan nhw yn yr ysbyty ac yn dod allan o'r ysbyty, maen nhw'n colli capasiti tra byddan nhw yn yr ysbyty am wythnos neu bythefnos neu hyd yn oed yn hirach, ac yna ni allan nhw fynd yn ôl i'w cartrefi eu hunain. Bydd cael gofal cymdeithasol i weithio yn lleihau nifer y bobl sy'n mynd i mewn i ysbytai, mewn gwirionedd.

Yn olaf, rhywbeth rwy'n sôn llawer amdano: mae angen i ni wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Faint o lawdriniaethau cataract y dylai'r meddyg llygad cyffredin eu cyflawni mewn blwyddyn? Dydw i ddim yn gwybod. Oes rhywun yn gwybod? Mae angen i ni gael lefelau penodol o'r hyn yr ydym ni'n disgwyl i bobl ei gyflawni, ac yna ni allwn eu cosbi am beidio â'i gyflawni, ond gallwn eu dwyn i gyfrif am beidio â'i gyflawni.

16:00

Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltiad â mi. Rwy'n croesawu rhai o'r ymrwymiadau a amlinellir yn y gyllideb ddrafft sydd gennym yma heddiw, yn enwedig y cynnydd yn y gwariant ar iechyd, ac nad oes toriadau i feysydd cyllidebol fel yr oedd y llynedd.

Rwyf eisiau tynnu sylw at ychydig o feysydd, os caf i. Yn dilyn ymlaen o'r hyn ddywedodd Mike Hedges, rwyf am dynnu sylw at y sector gofal cymdeithasol. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi rhybuddio bod yr argyfwng presennol mewn gofal mor fawr â COVID ei hun, gyda bylchau cyllid na ellir eu hanwybyddu mwyach. Nid yw cartrefi gofal yng Nghymru yn fusnesau enfawr. Maent yn fusnesau bach i ganolig. Ond bydd y cynnydd mewn yswiriant gwladol yn costio tua £40 miliwn i £50 miliwn iddyn nhw. Felly, hoffwn ymuno â'r pleidiau eraill yma i ofyn i chi bwyso ar Lywodraeth y DU i eithrio'r sector gofal rhag y cynnydd mewn yswiriant gwladol. Ym Mhowys, rydym yn gweld cynnydd o tua £4.4 miliwn yn ein cyllideb gofal, wedi'i ysgogi gan y cynnydd mewn gofal mewn taliadau yswiriant gwladol, ond hefyd cymhlethdod cynyddol yr anghenion gofal a geir. Yn amlwg, mae gofal cymdeithasol ac iechyd yn rhyng-gysylltiedig iawn; ni all un lwyddo heb y llall, ac mae angen cynnydd mewn gwariant ar y ddau faes. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru, a hoffwn glywed ymhellach gan yr Ysgrifennydd Cabinet am opsiynau, i edrych ar sut yr ydym yn cynyddu rhyddhau o ysbytai ond hefyd, fel y dywedodd Mike Hedges, gan gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain mewn gwirionedd.

Y tu hwnt i ofal cymdeithasol i oedolion, mae ein hawdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol enfawr. Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae bwlch ariannu cronnus yn y tair blynedd nesaf o bron i £1.2 biliwn. Nid rhifau haniaethol yn unig yw'r rhain; maen nhw'n golledion sy'n ail-lunio ein cymunedau. Mae ein llyfrgelloedd, ein meysydd chwarae, ein canolfannau hamdden, a fu unwaith yn hybiau cymunedol bywiog, yn diflannu, ac mae'n ymddangos nad ydynt byth yn dychwelyd. Mae pecynnau ariannu untro yn cynnig rhyddhad tymor byr, ond maen nhw'n llawer llai na'r hyn sydd ei angen er mwyn i ni gynnal y lleoedd hyn sy'n bwysig i ni. Felly, hoffwn glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet am ba gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i awdurdodau lleol i amddiffyn ein hasedau a'n seilwaith cymunedol.

Gan droi at yr amgylchedd, eleni rydym wedi clywed cyfres o ddatguddiadau trallodus ynghylch llygredd dŵr. Ac er bod cwmnïau dŵr yn dioddef cosbau lluosog am eu perfformiadau truenus, maen nhw'n parhau i gamddefnyddio ein cronfeydd ariannol ac yn talu bonws enfawr i'w prif weithredwyr a'u staff uwch. Ni allant barhau i wneud hyn. Ac ar y llaw arall, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei lwgu o arian. Rydym wedi eu gweld yn cau rhai o'n canolfannau cymunedol a'n canolfannau ymwelwyr ardderchog, ac maen nhw wrth wraidd ein cymunedau mewn perthynas â helpu i fynd i'r afael â llygredd dŵr, felly hoffwn glywed, os yn bosibl, sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynyddu cyllid i gyrff fel CNC er mwyn eu helpu i blismona torri rheolau carthion yn well.

Yn olaf, rwyf am droi at faes rwy'n teimlo'n angerddol iawn amdano, sef tlodi plant. Unwaith eto, rydym yn parhau i nodi wrth Lywodraeth Cymru y ffaith bod gennym 28 y cant o'n plant yma yng Nghymru yn dlawd; mae hynny'n parhau i godi, yn anffodus, bob blwyddyn, ac rydym yn parhau i weld, yn anffodus, nid yn unig effaith uniongyrchol ar ein plant yma yng Nghymru wrth iddyn nhw dyfu i fyny ac nad oes ganddyn nhw'r manteision y mae plant eraill yn eu cael, ond mae'n effeithio ar ein heconomi. Ac un o'r pethau mawr y gallwn ni ei wneud, ar wahân i—. Unwaith eto, rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddweud wrth Lywodraeth y DU bod yn rhaid iddyn nhw gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn; ar wahân i hynny, gallwn gynyddu gofal plant. Ac os gwnawn ni hynny, bydd hynny nid yn unig yn helpu ein heconomi ac yn cael rhieni yn ôl i'r gwaith, ond bydd hynny hefyd yn helpu ein plant i gael dechrau gwell mewn bywyd ac yn rhoi'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt. Ni allwn fod yn ddisymud yn ein hymateb i'r ffaith nad yw tlodi plant yn symud. Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod yr hyn y mae sawl adroddiad, y sector a miloedd o rieni eisoes yn ei wybod, bod gofal plant yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru, felly rwy'n eich annog i gymryd camau pendant ar y maes penodol hwn.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, rydym bob amser yn cael ein hannog, ac yn gwbl briodol, gan y Prif Weinidog i ystyried sut ydym yn cael arian i'r Llywodraeth hon. Wel, mae angen i ni godi trethi, wrth gwrs, a gallaf weld bod hwnnw'n fater y gallwn ni weld efallai na fyddai o fudd mawr i ni yma yng Nghymru, ond beth am annog Llywodraeth y DU i ddilyn yr hyn y mae'r mudiad o'r enw Patriotic Millionaires yn ei annog, sef trethu ein cyfoethocaf, cael arian i economi'r DU ac yna cael yr arian hwnnw i lawr i economi Cymru? Diolch yn fawr iawn.

16:05

Daw'r £1.7 biliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru yng nghyllideb hydref y Canghellor o'r £40 biliwn mewn codiadau treth y nododd fy nghyd-Aelod Peter Fox yn gywir ar gerdyn credyd sydd wedi cyrraedd ei uchafswm. Cyn mynd i fanylion y gyllideb ddrafft hon, mae'n bwysig ymdrin â'r darlun economaidd ehangach ledled y DU a chyllideb Llywodraeth y DU, sydd wedi darparu'r arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Mae cyllideb Rachel Reeves yn cynnwys £40 biliwn mewn codiadau treth a £32 biliwn arall mewn benthyciadau, ac mae baich y trethiant hwnnw eisoes yn dangos ei effaith ar yr economi, gyda'r holl ddangosyddion yn economi'r DU yn dangos arwyddion dirwasgiad ar y gorwel. Os byddwn yn mynd i ddirwasgiad, ni fydd y Canghellor yn cael y £40 biliwn ychwanegol mewn refeniw treth y mae hi'n ei ddisgwyl, ond bydd ei gwariant yn aros yr un fath, sy'n golygu y bydd ei benthyca yn mynd trwy'r to yn fwy nag ydyw ar hyn o bryd.

Mae hyn yn golygu ein bod ni ar hyn o bryd yn wynebu sefyllfa lle bydd yn rhaid i gyfraddau llog godi i ddenu arian i goffrau'r Llywodraeth, a bydd buddsoddwyr preifat yn osgoi'r DU, oherwydd bod gennym faich dyled na allwn ei gyflawni, economi mewn dirwasgiad a sterling, mae'n bur debyg, yn gostwng mewn gwerth, ac mae eisoes wedi gostwng 7 y cant yn erbyn y ddoler ers i'r Blaid Lafur ddod i rym. Felly, dyma'r methiant llwyr yr ydym o bosibl yn ei wynebu o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU. Mae gennym y ddyled a'r dreth uchaf fel canran o gynnyrch domestig gros ers yr Ail Ryfel Byd, felly ni ddylem fod yn dathlu'r ychydig bach o arian ychwanegol y mae Cymru wedi'i gael oddi ar gefn busnesau bach a'r henoed y mae eu taliadau tanwydd gaeaf wedi'u cymryd oddi arnynt.

Mae'r gyllideb ddrafft hon gan Lywodraeth Cymru yn flwyddyn arall eto o arllwys mwy a mwy o arian i gynlluniau sy'n methu a mentrau'r Llywodraeth. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn dysgu nad yw arllwys dŵr i fwced sy'n gollwng yn fwy o arian sydd ei angen, y cymhwysedd i drwsio system sydd wedi torri ydyw? Mae angen ailfeddwl radical, y math o feddwl nad ydym wedi gweld mewn chwarter canrif o'r blaid gyferbyn. Canfu Sefydliad Bevan, ers cyllideb 2024-25, nad yw Cymru wedi gweld unrhyw welliant mewn safonau byw, gyda chyfran y bobl sy'n adrodd eu bod yn mynd heb hanfodion bob dydd heb newid yn ystod y cyfnod hwn. Dywedon nhw hefyd, mewn rhai ffyrdd, fod y sefyllfa wedi gwaethygu, a mwy o bobl yn dweud eu bod mewn dyled fwy nag o'r blaen, yn union fel y Llywodraeth.

Mae hanes Llywodraeth Cymru ar dai cymdeithasol hefyd yn siomedig, gan fodloni dim ond chwarter y gyllideb dai. Mae'r setliad llywodraeth leol i fyny 4.3 y cant ar gyfartaledd, ond, fel llawer o feysydd eraill sydd wedi derbyn mwy o gyllid, bydd hyn yn cael ei lyncu gan y cynnydd i yswiriant gwladol a wnaed gan y Llywodraeth ar ben arall yr M4. Felly, os yw'r cyhoedd yn credu bod cyllid ychwanegol yn mynd i droi'n wasanaethau cyhoeddus gwell, amseroedd aros yn gostwng a thyllau yn y ffyrdd yn cael eu llenwi, mae gen i newyddion drwg iddyn nhw. Bydd yr arian ychwanegol yn mynd yn syth yn ôl i'r Trysorlys ac ni fydd o fudd i bobl yng Nghymru. Felly, ar y cyfan, mae yna—

16:10

Rydych chi'n portreadu diwedd y byd. A dweud y gwir, mae hon yn gyllideb newyddion da, a bydd yn gwella bywydau pobl. Mae 40 y cant o'r bobl yn y rhan fwyaf o gymunedau yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, mewn gwirionedd. Mae'r bobl hynny'n gwybod y bydd eu swyddi nhw yn dal i fod yno yfory. Pan oedd eich Llywodraeth chi wrth y llyw, doedd neb yn gwybod a oedd ganddyn nhw swydd na gwasanaeth y diwrnod canlynol, felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi o leiaf gydnabod bod rhywfaint o bositifrwydd yma, nid yw'n ddiwedd y byd.

Wel, fe arhosaf i weld tystiolaeth o hynny, pan fydd amseroedd aros yn dechrau gostwng. Dydy'r Llywodraeth ddim wedi cyrraedd ei thargedau amseroedd aros ers iddi eu rhyddhau yn 2008, felly sut mae pobl Cymru yn mynd i gael sicrwydd bod cyllid ychwanegol i'r GIG yn mynd i gyfateb i amseroedd aros is, mewn gwirionedd—. Byddaf yn ei gredu pan fyddaf yn ei weld, Joyce, diolch yn fawr iawn.

Felly, ar y cyfan, ychydig iawn sydd yn y gyllideb hon i sicrhau fy etholwyr a busnesau bach, sef asgwrn cefn economi Cymru ac sydd ar eu gliniau ar hyn o bryd ac sydd wedi cael eu hanwybyddu yn y gyllideb ddrafft hon. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried o ddifrif fwy o gefnogaeth i fusnesau, yn enwedig o ystyried y cynnydd o £40 biliwn mewn trethi a gyflwynwyd gan y Canghellor. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddechrau drwy gytuno â Mike Hedges a dweud y byddai manylion llinell-wrth-linell yn fuddiol iawn i allu ateb rhai o'r cwestiynau hynny ynghylch yr hyn y byddem yn ei wneud, ac efallai y byddai swyddfa gyllideb y Senedd yn helpu. [Torri ar draws.] Wel, nid yw'r manylion manwl byth yn cael eu rhoi i ni.

Rwyf hefyd yn croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol. Daw hyn ar adeg pan fo cynghorau wedi gorfod gwneud toriadau enfawr flwyddyn ar ôl blwyddyn o ganlyniad i agenda cyni dideimlad y Torïaid. Ond gadewch i ni beidio â cholli ar ein hunain. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y bydd diffyg o hyd yng nghyllidebau awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd y fwyell yn dal i gael ei chodi ar wasanaethau lleol a sefydliadau lleol. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd yn rhaid i'r dreth gyngor gynyddu ar adeg pan fo llawer o deuluoedd yn byw o un pecyn cyflog i'r nesaf. Dyma pam mae dweud bod cyni wedi dod i ben yn nonsens llwyr. Pe bai hynny'n wir, yna byddai llywodraeth leol yn cael ei hariannu'n ddigonol. Yn anffodus, ni ellir dweud bod hynny'n wir, er gwaethaf y cyhoeddiad heddiw. Pe bai cyni yn rhywbeth o'r gorffennol, yna ni fyddai fy nghydweithwyr mewn cynghorau yn wynebu penderfyniadau poenus o ganlyniad i'r cynnig cyllid a gawsant. Ni fyddai pethau fel cludiant ysgol, gwasanaethau llyfrgell a swyddi'r cyngor yn wynebu dyfodol llwm ac ansicr. Mae Plaid Cymru wedi'i gwneud yn glir ein bod am i'r diffyg ariannol cyfan mewn llywodraeth leol gael ei fodloni.

Mae yna hefyd ganlyniad anfwriadol i lywodraeth leol o'r cynnydd mewn yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan eich cydweithwyr yn y Blaid Lafur yn San Steffan yn ystod cyllideb yr hydref. Er bod gweithwyr y sector cyhoeddus i fod i gael eu heithrio o'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, mae yna nifer o weithwyr trydydd sector sy'n cyfrannu at wasanaethau cyngor rheng flaen yr effeithir arnynt gan y penderfyniadau hyn gan Lywodraeth y DU, ac nid ydym eto yn gwybod sut olwg fydd ar becyn cymorth y DU ac ni fydd hynny'n cael ei gyhoeddi tan ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Mae un sefydliad trydydd sector y mae fy swyddfa mewn cysylltiad ag ef wedi dweud y bydd y cam hwn yn ychwanegu swm enfawr at eu bil cyflog, gan effeithio ar y gwasanaethau y gallan nhw eu darparu.

Yn yr un modd, mae'r arian ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth, er ei fod yn cael ei groesawu ynddo'i hun, yn biso dryw bach yn y môr o'i gymharu â'r hyn y dylai Cymru fod yn ei gael. Hyd nes y gwelwn ni ddatganoli pŵer rheilffyrdd i Gymru yn llawn, hyd nes y byddwn yn cael ein dyraniad llawn a theg o'r holl brosiectau rheilffyrdd yn Lloegr, nid yn unig ar gyfer HS2, yna mae'r Trysorlys yn dal i roi rhy ychydig o gyllid i ni. Ac mae'n debyg y byddwn yn ymchwilio i ychydig yn fwy o hynny yn nadl y Pwyllgor Cyllid yfory. Mae Llafur, a gafodd ar un adeg eu hargyhoeddi ynghylch yr achos a hyrwyddwyd yn gyntaf gan Blaid Cymru, wedi newid eu tiwn yn gyflym ar y biliynau sy'n ddyledus i ni o gyllid HS2 cyn gynted ag yr oedd yn ymddangos y byddai ganddynt y gallu i wneud rhywbeth amdano. Yr unig air am hyn yw 'cywilyddus'.

Mae pryderon yn parhau hefyd am yr anghydbwysedd ariannol llwyr rhwng bysiau—trafnidiaeth gyhoeddus fwyaf poblogaidd Cymru—a'r rheilffyrdd, gan godi cwestiynau difrifol am flaenoriaethau Llafur. Mae gwasanaethau a buddsoddiadau bysiau fforddiadwy, wedi'u hariannu'n dda yn hanfodol i lwyddiant diwygio bysiau. Ond ar ben hyn, mae'r esgeulustod ariannol presennol yn tanseilio nifer o addewidion ac ymrwymiadau Llafur ar fuddsoddiad bysiau a fforddiadwyedd pris tocyn. Mae arbenigwyr wedi dweud wrthym efallai na fydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer bysiau yn ddigonol i gynnal llwybrau a gwasanaethau presennol, heb sôn am eu hehangu. Heb gyllid ychwanegol, yng nghanol y llu o gostau y mae gweithredwyr yn eu hwynebu, dywedwyd wrthym mai dyfodol gwasanaethau bysiau yw y prisiau uchaf neu lai o wasanaethau. Dyna realiti'r sefyllfa. Felly, p'un a ydym yn siarad am lywodraeth leol, gwasanaethau rheng flaen neu systemau trafnidiaeth, pryd y byddwn yn gweld y bartneriaeth honedig hon mewn grym yn cyflawni dros ein cymunedau mewn gwirionedd? Diolch.

16:15

Roeddwn i wedi darllen y gyllideb cyn i mi wneud araith arni, a dweud y gwir. Oherwydd roedd yr hyn a glywais yn wahanol iawn. Yr hyn a glywais oedd dechrau troi cornel, tro yn y ffordd, o dywyllwch i olau. Dyna'r hyn rydw i wedi'i glywed. Ni chlywais yr holl doriadau a glywsom dros y 14 mlynedd diwethaf. Ni chlywais am erydiad gwasanaethau cyhoeddus. Clywais Ysgrifennydd cyllid sy'n buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, sy'n buddsoddi mewn pobl, sy'n buddsoddi mewn lleoedd, sy'n buddsoddi yn y dyfodol. Nawr, mae'n berffaith bosib dweud y dylai mwy fynd yma ac y dylai mwy fynd acw ac y dylem ni fod â chyllideb sy'n edrych ac yn teimlo rhywfaint yn wahanol, ond mae honno'n ddadl wahanol. Mae honno'n ddadl wahanol, ac nid yw'n ddadl yr ydym ni'n ei chael y prynhawn yma, ar bob ochr i'r Siambr. Rwy'n credu mewn gwirionedd fod yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi'i gyhoeddi y prynhawn yma yn gyllideb dda i Gymru ac yn gyllideb dda ar gyfer y dyfodol.

Ac nid wyf yn ei phrofi ar unrhyw ddadl athronyddol a all wrthsefyll archwiliad neu beidio. Rwy'n ei phrofi yn erbyn yr hyn sy'n dda i bobl Blaenau Gwent. Oherwydd bod pobl Blaenau Gwent wedi bod ar ben gwaethaf cyni; maen nhw wedi gweld realiti toriadau Torïaidd, maen nhw wedi gweld beth mae'n ei olygu iddyn nhw a'u teuluoedd a'u gwasanaethau a'u cymunedau. Maen nhw'n gwybod beth mae cyni yn ei olygu, ond nid yw bwytai Mayfair yn ei ddeall o gwbl ac nid yw'r Torïaid yn poeni amdano. 

Gadewch imi ddweud wrthych chi beth mae cyni wedi'i wneud i bobl Blaenau Gwent. Mae'n golygu ein bod ni wedi gweld dirywiad, nid yn unig o ran ansawdd bywyd a safonau byw, ond yn ein gallu i fyw'r bywyd yr ydym ni eisiau ei fyw ac i gynllunio ar gyfer dyfodol yr ydym ei eisiau. Nawr, dydych chi ddim yn cyflawni hynny mewn pedwar mis neu bum mis, a dydych chi ddim yn cyflawni hynny mewn un gyllideb, ond yr hyn rydych chi'n ei wneud yw gwneud datganiad o fwriad: beth ydych chi eisiau ei weld ar gyfer y dyfodol? Beth yw'r dyfodol y byddwn ni'n ei greu? Dyna a glywais i'r Ysgrifennydd cyllid yn ei ddweud yn gynharach y prynhawn yma, a dyna pam y byddaf yn falch iawn o gefnogi'r gyllideb hon, oherwydd rwyf eisiau gweld y buddsoddiad hwnnw. Wrth gwrs fy mod i eisiau gweld mwy o fuddsoddiad. Rwyf eisiau gweld mwy o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, wrth gwrs fy mod i, ond rwyf hefyd eisiau gweld buddsoddiad realistig sy'n gynaliadwy dros y tymor hir.

Rwyf eisiau gweld Llywodraeth nad yw'n swil nac yn dawel yn wyneb yr heriau sy'n ein hwynebu ni fel gwlad. Rwyf eisiau gweld Llywodraeth sy'n Llywodraeth sy'n gweithredu, Llywodraeth sy'n buddsoddi yn nyfodol ein heconomi. Rydym eisoes wedi gweld bron i £2 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn deuoli'r ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd. Yr hyn rwyf eisiau ei weld nawr gan y Llywodraeth hon yw buddsoddi yn addysg pobl yn y cymunedau ar hyd y ffordd honno, fel y gallwn sicrhau bod ein pobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a grëir. Roeddwn i yng Nglynebwy ddoe, yn ymweld â'r coleg yno, a gwelais sut roedd pobl ifanc yn buddsoddi yn eu dyfodol eu hunain, yn edrych ar wahanol opsiynau a syniadau am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddelio â dementia—cysyniadau newydd, a chysyniadau nad oeddent yn bodoli pan oeddwn i yn yr ysgol a phan oedd llawer ohonom ni yma yn yr ysgol.

16:20

Gareth Davies a gododd—

Byddaf yn ildio mewn munud. Ond maen nhw dim ond yn gallu mynd ar ôl eu breuddwydion heddiw oherwydd ein bod ni'n buddsoddi yn eu haddysg gyfan, o'r blynyddoedd cynnar drwy'r ysgol i'r coleg, ac yna ymlaen i'r brifysgol, os ydyn nhw'n dymuno, ac i brentisiaethau, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny—buddsoddi yn y bobl hynny, a'r hyn yr wyf i'n ei weld yw Llywodraeth sy'n barod i wneud hynny.

Diolch am gymryd ymyriad, Alun. Roeddwn i'n mynd i ddweud eich bod chi wedi sôn am bethau da iawn yn y fan yna, fel ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465. A allech chi ddeall sut y gallai pobl mewn rhannau eraill o Gymru deimlo'n ddifreintiedig o'i gymharu â hynny, pan welwch y gymhariaeth â'r diffyg buddsoddiad yn yr A55 ac arloesedd gofal iechyd yn y gogledd? Byddai rhywun o fy etholaeth i yn gwylio eich araith yn dweud, 'Wel, mae'n iawn i chi lawr yma yng Nghaerdydd ac i lawr yng Nghymoedd y de, ond beth amdanom ni i fyny yn y gogledd?'

Gareth, cefais fy anfon yma i siarad dros fy etholwyr i. Efallai bod angen i'ch etholwyr chi anfon rhywun yma i siarad drostyn nhw.

Yr hyn yr wyf i'n ei weld hefyd yw Llywodraeth yn buddsoddi mewn datblygiad economaidd. Rwyf eisiau gweld y buddsoddiad yn y seilwaith i gefnogi a chynnal y buddsoddiad yr ydym eisoes wedi'i weld. Rwyf eisiau gweld, hefyd, fuddsoddiad yn y system iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y mae pobl ym Mlaenau Gwent yn dibynnu arni. Cafodd y gwasanaeth iechyd ei greu ym Mlaenau Gwent, a'r hyn sydd ei angen arnom yn awr yw'r meddygon teulu i ddarparu'r gwasanaeth iechyd y breuddwydiodd Aneurin Bevan amdano, ac mae hon yn gyllideb sy'n dechrau troi'r gornel honno hefyd.

Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod gennym gyllideb sy'n buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau. Yn fy etholaeth i, rydych chi'n gweld pa mor arw yw'r setliad, os mynnwch chi, oherwydd yng nghwm Rhymni, yr hyn sydd gennych chi yw rheilffordd y buddsoddir ynddi. Mae'n llinell ddatganoledig—llinell graidd y Cymoedd—ac mae'n cael y buddsoddiad y mae'r Llywodraeth hon yn barod i'w roi ynddi. Yn llinell Glynebwy, mae'n rhaid i'r Llywodraeth fenthyca arian er mwyn buddsoddi arian ynddi am nad yw'n llinell ddatganoledig. Mae angen inni gael y setliad sy'n rhoi'r offer yn nwylo Gweinidogion yma i sicrhau ein bod yn gallu parhau â'r buddsoddiad hwn—

—a'n bod ni'n gallu parhau i fuddsoddi yn y dyfodol. Llywodraeth sy'n gweithredu, buddsoddi yn ein cymunedau, ein pobl a'n lleoedd, dyna'r gyllideb a glywsom ni y prynhawn yma, a byddwn yn gwahodd pawb i'w chefnogi.

Waw. Diolch. I ddilyn Alun Davies gyda'r cyfraniad yna, yn cymeradwyo'r jôc hon o gyllideb, ond dyna ni, rydyn ni yn nhymor y pantomeim.

Rwy'n cydnabod, Gweinidog cyllid, faint o waith sydd wedi'i wneud wrth baratoi, ond mae'n rhaid i mi godi fy mhryderon unwaith eto am allu'r Senedd hon i graffu ar y cynlluniau ariannol yn fwy effeithiol, ac unwaith eto, maen nhw wedi'u tanseilio heddiw. Nid wyf o'r farn ei bod yn dderbyniol bod y dogfennau dim ond ar gael yn fuan iawn cyn dechrau ein trafodion Cyfarfod Llawn.

Rydw i'n mynd i ganolbwyntio ar fy mhortffolio fy hun, mewn gwirionedd, ac ychydig ar ffermio—newid hinsawdd a materion gwledig. Mae llinellau'r gyllideb yn cynnwys diwygio cyfansoddiadol, £2 filiwn; trawsnewid cyfiawnder, £0.5 miliwn; diwygio'r Senedd—rhywbeth y gallaf i ddweud wrthych chi yn awr y mae etholwyr Aberconwy yn gandryll yn ei gylch. Dydyn nhw ddim eisiau 36 yn fwy o wleidyddion, dydyn nhw ddim eisiau gweld y system bleidleisio'n newid. Ond, yn amlwg, mae'r ddwy blaid, Plaid Cymru a Llafur, wedi penderfynu y byddai'n well gennych chi wario'r math hwnnw o arian yn gwneud hynny nag ar ein gwasanaeth iechyd, ar ein haddysg. Ond, beth bynnag, a allech chi ddweud wrthyf beth sydd gan ddiwygio'r Senedd i'w wneud â'r gyllideb newid hinsawdd a materion gwledig? A allwch chi ddweud wrthyf beth sydd gan ddiwygio cyfansoddiadol i'w wneud â'r gyllideb newid hinsawdd a materion gwledig? Allwch chi esbonio beth sydd gan drawsnewid cyfiawnder i'w wneud â'r gyllideb newid hinsawdd a materion gwledig?

Rydych chi wedi datgan, rai blynyddoedd yn ôl yn awr, argyfwng newid hinsawdd a hefyd argyfwng natur, ond eto mae'r dyraniad cyllideb ar gyfer llawer o'r llinellau amgylcheddol wedi lleihau. Felly, lle mae'r argyfwng hwn, y sefyllfa enbyd hon y mae angen mynd i'r afael â hi? Bioamrywiaeth, tystiolaeth a mawndiroedd ar gyfer 2024-25 a 2025-26, y ddau yn £11 miliwn. Coedwigaeth ar gyfer 2024-25 a 2025-26, y ddau yn ddim ond £6.4 miliwn. Diogelu'r amgylchedd, dim ond £2,000 yn fwy. Mae'n rhyfeddol sut y gallwch chi ddweud un peth a gwneud un arall. Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael dwy storm fawr, gyda llifogydd difrifol a difrod i'n cymunedau ledled Cymru, ac eto dim ond £53,000 y mae'r gyllideb rheoli perygl llifogydd wedi cynyddu. Gallech chi wario hynny yn Aberconwy yn unig a pheidio hyd yn oed cyffwrdd â'r wyneb. Felly, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cynnal gyda CNC ynghylch a yw hyn unrhyw le'n agos at fod yn ddigon i'w helpu i symud ymlaen i liniaru ein perygl llifogydd yn y dyfodol?

Rwyf wedi sôn am amser maith am y potensial enfawr i wella natur a lleihau allyriadau carbon trwy fuddsoddi yn yr amgylchedd morol. Yn hynny o beth, roeddwn i'n siomedig o ddarllen bod y llinell gyllideb ar gyfer polisi morol wedi cael gostyngiad mewn termau real, gan aros ar £1.7 miliwn. Pam? Ysgrifennydd Cabinet, pam nad ydych chi'n siarad â'ch Cabinet eich hun ac yn dweud, 'Mae hynny'n anghywir'? Canfu astudiaeth gan WWF fod 66 y cant o gwmnïau a restrwyd yn gyhoeddus yn dibynnu ar iechyd y cefnfor, gyda $8.4 triliwn mewn asedau a refeniw mewn perygl dros y 15 mlynedd nesaf o dan ein hamodau presennol, felly buddsoddiad strategol mewn cyfalaf naturiol morol. Ond ni ddylwn i fod yn dweud hyn; chi ddylai fod yn dweud hyn, fel yr Aelod Cabinet dros newid hinsawdd. A bydd economi las gynaliadwy yn esgor ar fuddion ecolegol ac economaidd sylweddol i'n cymunedau, yn enwedig ar gyfer ein cymunedau arfordirol sy'n aml yn cael trafferth ac, ie, yn cael eu hesgeuluso. Mae angen ymyriadau polisi i ddenu cyllid preifat a chyfunol, gwella cynllunio gofodol morol a mynd i'r afael â bygythiadau ecolegol ar frys, ond maen nhw'n parhau i fod yn absennol yn amlwg.

Mae Cymru'n parhau i ddisgyn y tu ôl i Loegr, ond nid wyf yn credu y bydd y sefyllfa honno am gyfnod hir nawr bod gennym Lywodraeth Lafur yn y DU. Ond mae wedi disgyn ar ei hôl hi dros y 14 mlynedd yr ydym wedi bod yn ffodus i gael Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Fel yr wyf i wedi dadlau drosto o'r blaen, dylai Cymru gael caniatâd i ailfuddsoddi—[Torri ar draws.] Mae hyn yn ymwneud â gwrthwynebiad adeiladol. Os nad ydych chi eisiau gwrando, peidiwch. Fel yr wyf wedi dadlau o'r blaen, dylai Cymru gael caniatâd i ail-fuddsoddi dirwyon a gasglwyd o fewn ei ffiniau, ond rwy'n hollol siomedig nad yw'r mater hwn yn cael sylw o hyd, a hynny gyda Llafur yn Llundain a chi yma. Byddai mabwysiadu'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu' yn cynhyrchu arian sylweddol ar gyfer mentrau bioamrywiaeth a hinsawdd gan ddwyn y troseddwyr hynny yn atebol. Mae hepgoriad fel hwn yn cynrychioli—

16:25

—methiant i ysgogi adnoddau sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer adfer ecolegol. Mae hyn, unwaith eto, yn amlygu analluedd Llywodraeth Cymru wrth wynebu dylanwad eu brawd mawr yn San Steffan. Diolch.

Rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon o ystyried y cyfyngiadau amser, felly byddaf yn canolbwyntio ar un peth penodol. O edrych ar y cynnydd i'r gyllideb ar gyfer y fargen ddinesig a thwf, y cynnydd o £85 miliwn a welwn yn y fan yna, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod sut mae'r Llywodraeth yn gwneud dadansoddiad cost budd ynghylch y cynnydd hwnnw. Sut, yn y bôn, ydyn ni'n cyfiawnhau bod cynnydd o'r math hwn yn digwydd? Oherwydd dro ar ôl tro rwy'n gweld bod pobl yn ansicr ynghylch beth yn union mae bargeinion dinas a thwf yn ei gyflawni a pha mor llwyddiannus ydyn nhw.

Gofynnodd y Llywodraeth i ni gynnig pethau posibl y byddem ni yn eu cwtogi er mwyn cyfiawnhau cynnydd mewn meysydd eraill. Felly, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth o bosibl edrych ar y cynnydd hwnnw eto ac edrych ar sut y gallem symud rhywfaint o'r cynnydd hwnnw i awdurdodau lleol? Oherwydd, nid yw'r codiad o 4.3 y cant yn mynd yn ddigon pell o hyd. Nid yw'n diwallu eu hanghenion, ac ni allwn fforddio ymestyn ymhellach adrannau awdurdodau lleol, yn enwedig eu hadrannau datblygu economaidd a chynllunio, oherwydd gall awdurdodau lleol fod yn sbardun ar gyfer twf economaidd eu hunain. Mae diwydiannau'n weddol unedig wrth ddweud mai'r rhwystr mwyaf rhag twf yw'r capasiti hwnnw o fewn awdurdodau lleol. Felly, rwy'n credu bod achos i'w wneud y byddai'r £85 miliwn hwnnw'n mynd llawer pellach pe bai gyda llywodraeth leol ac yn helpu i ategu'r capasiti hwnnw fel y gellir gwneud penderfyniadau'n gyflymach.

Ar nodyn cysylltiedig, mae'r cynnydd o 10 y cant ar gyfer iechyd yn dda ac yn iawn, ond mae'n rhaid i bwyslais ar wella canlyniadau iechyd hefyd gynnwys pwyslais ar ariannu awdurdodau lleol yn gywir, oherwydd y realiti yw, os ydym ni eisiau cyrraedd yno, ni fyddwn yn mynd yn bell hebddyn nhw. Byddwn yn croesawu barn yr Ysgrifennydd Cabinet ar hynny.

16:30

Rwy'n credu bod hon yn gyllideb sydd wedi troi cornel. Mae ymdeimlad o optimistiaeth yma o'r diwedd. Mae'n dechrau cywiro pethau. Rwyf wedi eistedd gydag eraill mewn Cabinetau sydd wedi gorfod torri cyllidebau. Heddiw, mae gennym gyllideb Llywodraeth Cymru o £21 biliwn. Byddwn i'n dweud wrth y gwrthbleidiau yn Siambr y Senedd hon bod y cyllidebau'n mynd i fyny ar gyfer y Senedd hon pan fydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Rydym wedi gweld hynny ym mlynyddoedd cynnar twf datganoli ac rydym wedi ei weld eto yn y gyllideb hon.

Mae gennym gyllideb ddrafft am y tro cyntaf sydd â rhaglen buddsoddi cyfalaf o £3 biliwn, cynnydd o 40 y cant yn y buddsoddiad cyfalaf yn y GIG. Mae hynny'n gynnydd enfawr i'n staff rheng flaen. Mae hynny'n golygu mwy o sganwyr, mae'n golygu adeiladau modern, mae'n golygu trwsio'r adeiladau sydd gennym, a fydd yn rhoi cyfle teg i'r gweithlu sydd dan bwysau gyrraedd y gwelliannau cynhyrchiant yr ydym wedi'u gofyn iddynt eu cyflawni.

Rwyf hefyd yn falch iawn o weld buddsoddiad parhaus yn llinell graidd y Cymoedd a chreu metro. Dyma'r prosiect peirianneg sifil mwyaf yn y DU, ac mae'n ymddangos ein bod eisoes wedi'i bocedu. Ond mae angen talu'r costau o hyd. Mae'r buddsoddiad yn parhau, mae'r gwaith yn anghyflawn ac mae rhan sylweddol o'r gyllideb hon yn dilyn y buddsoddiad sylweddol iawn hwnnw, sydd eisoes yn dangos buddion ac a fydd o fudd i gymunedau am flynyddoedd i ddod. Rwy'n croesawu hynny yn y gyllideb hon, fel yr wyf yn croesawu yr arian ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd a phalmentydd, £60 miliwn.

Rhan o'r adolygiad ffyrdd a wnaeth y Llywodraeth oedd symud buddsoddiad i ffwrdd o adeiladu ffyrdd newydd i ofalu am y ffyrdd sydd gennym eisoes. Mae gennym ôl-groniad enfawr o un o'n hasedau cyfalaf mwyaf y mae Cymru'n berchen arno, ac rydym yn ei esgeuluso ac mae'n dadfeilio, fel y crybwyllwyd yma o'r blaen. Felly, mae croeso mawr i'r arian hwn, ac rwy'n gobeithio ei fod yn rhan o raglen barhaus o symud y gwariant hwnnw i waith cynnal a chadw.

Mae hyn i gyd yn gwrthgyferbynnu â'r hyn a welsom gan Lywodraeth Geidwadol. A chofiwch y gallem ni fod â llywodraeth Geidwadol o hyd nawr. Nid oedd angen i Lywodraeth Dorïaidd y DU alw'r etholiad hwnnw. Gallent fod wedi pasio cyllideb arall a gallem fod wedi bod yn sefyll yma heddiw yn ymdrin â chanlyniadau cyni gan Lywodraeth Dorïaidd arall. Rhoddodd Jeremy Hunt yn ei gyllideb ddiwethaf £1 miliwn inni—£1 miliwn—o gyfalaf ychwanegol, a heddiw rydyn ni'n sôn am y budd o £235 miliwn gan Ganghellor Llafur. Dyna'r gwahaniaeth y mae partneriaeth ar ddwy ochr yr M4 yn ei wneud. Dyna'r gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur yn ei wneud.

Rydyn ni wedi clywed ymateb y gwrthbleidiau a'r math o beth, rwy'n credu, sy'n magu sinigiaeth mewn gwleidyddiaeth, oherwydd rydyn ni wedi cael cwynion gan y Ceidwadwyr am fesurau codi refeniw a galwadau am fwy o arian. Allwch chi ddim cael mwy o arian heb wario mwy. Allwch chi ddim cael mwy o wariant heb godi trethi. Ac nid oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud hynny. Rydych chi'n dilorni'r dreth etifeddiant, rydych chi'n dilorni'r tollau marwolaeth a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol. Ond mae gennym ni dwll sydd wedi ei adael ar ôl i ni. Dywedodd y Resolution Foundation pe bai Jeremy Hunt wedi cyflawni cyllideb arall, byddai bwlch o £20 biliwn wedi bod rhwng yr hyn y dywedodd y byddai'n ei wario a'r hyn yr oedd ganddo arian i'w wario arno. Mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod o rywle. Dydyn nhw ddim wedi cynnig dim byd heblaw gwacter sinigaidd ynghylch hynny.

A Phlaid Cymru yn yr un modd. Mae gennym yn y system hon angen sylfaenol i gydweithredu. Dyna'r system gynrychiolaeth gyfrannol a gyflwynodd Llywodraeth Lafur—yn erbyn ei buddiannau ei hun, gyda llaw—ac mae wedi parhau i gryfhau. Canlyniad hynny yw cydweithredu, ac mae cydweithredu yn golygu cyfaddawdu. Mae Plaid Cymru eisoes wedi dweud cyn iddyn nhw glywed y gyllideb y bydden nhw'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb yma. Sut mae hynny'n ymwneud o ddifrif â'r realiti cyfansoddiadol yr ydym i gyd wedi'i groesawu? A byddwn i hefyd yn dweud wrthyn nhw, rydw i wedi clywed galwadau wythnos ar ôl wythnos am fwy o wariant gan y Llywodraeth. Maen nhw wedi bod yn rhan o'r gwaith o bennu'r gyllideb yn y lle hwn am nifer o flynyddoedd bellach, ac maen nhw wedi cytuno â ni ar flaenoriaeth ar y cyd sef prydau ysgol am ddim. Mae'n bolisi ardderchog ac maen nhw'n haeddu eu rhan o'r clod am hynny, ond mae hynny wedi costio o leiaf £260 miliwn. 

Mae yna ddewis i'w wneud. Mae yna gost cyfle am y £260 miliwn hwnnw. Allwch chi ddim eistedd yma wythnos ar ôl wythnos a dweud wrthym ni y dylem ni fod yn gwario mwy ar ofal cymdeithasol, mwy ar lifogydd, mwy ar y gwasanaeth iechyd, mwy ar addysg. Rydych chi wedi gwneud eich dewis. Rydych chi wedi bod â dylanwad yn y Llywodraeth. Fe ddewisoch chi brydau ysgol am ddim—£260 miliwn. Gwych, ond mae hynny'n golygu na ellir gwario'r arian ddwywaith. Rwy'n gwybod eich bod yn meddwl eich bod ar i fyny ac yn gwrthod cydweithredu i geisio manteisio ar hynny, ond y gwir amdani yw, os ydych mewn sefyllfa eto i bennu cyllideb, ni allwch wario'r arian ddwywaith ac mae angen i chi wynebu hynny. Ac mae parhau i esgus y gallwch chi wneud hynny, rwy'n ofni, yn ychwanegu at y sinigiaeth y mae cymaint o bobl yn ei deimlo am wleidyddiaeth.  

Rwy'n cymeradwyo'r gyllideb a'r gwaith y mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi mynd ati i'w wneud. Mae lle o hyd rhwng hyn a'r gyllideb derfynol i'w chryfhau ymhellach. Hoffwn glywed ganddo sut y gall wneud mwy i sicrhau bod y gwariant adrannol yn cyflawni ein cyllidebau carbon, ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Sut mae'r prawf hwnnw'n cael ei gymhwyso i'n holl wariant fel ein bod yn sicrhau ein bod yn cyflawni ar addewid Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?  

16:35

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn yr amser sydd gen i ar gael, rwy'n gobeithio ymateb i'r prif siaradwyr. Ni fydd gennyf amser i ymateb i'r holl gwestiynau hynny a oedd yn wir ar gyfer fy nghydweithwyr gweinidogol ac a ddilynir o flaen pwyllgorau, ac nid oes gennyf amser i ymateb i'r holl gwestiynau a godwyd ar gyfer Llywodraeth y DU ac nid ar gyfer y Llywodraeth hon o gwbl. Byddaf yn ymateb i'r cwestiynau penodol sydd i mi fel Gweinidog cyllid; fe wnes i gyfrif pedwar ohonyn nhw yn y 90 munud diwethaf, a byddaf yn ymateb i bob un o'r rheini.

O ran llefarwyr y pleidiau, dechreuodd Peter Fox drwy ddweud mai dewisiadau yw'r holl gyllidebau. Mae'n iawn am hynny, wrth gwrs. Aeth ymlaen wedyn i ddarllen o daflen a ysgrifennwyd yn ôl pob golwg yn y 1970au am ddominyddiaeth undebau llafur yn economi'r DU. Roedd hynny cyn iddo fynd ymlaen i ofyn am fwy o arian ar gyfer gofal cymdeithasol, ar gyfer cymunedau gwledig, ar gyfer llywodraeth leol, cyn i Janet Finch-Saunders ofyn am fwy o arian ar gyfer cymunedau arfordirol ac i fusnesau. Rwy'n deall y Blaid Geidwadol. Y broblem iddyn nhw yw bod pobl Cymru yn eu deall nhw hefyd, a dyna pam nad ydyn nhw wedi pleidleisio dros y Blaid Geidwadol mewn mwy na 150 mlynedd o etholiadau democrataidd, ac ar ôl heddiw gallan nhw edrych ymlaen at ddechrau ar y 150 mlynedd nesaf.

Gwrandawais yn ofalus, wrth gwrs, ar yr hyn ddywedodd Heledd Fychan. Disgrifiodd £1.5 biliwn yn ychwanegol ar gyllideb o £26 biliwn fel piso dryw yn y môr. Wel, Dirprwy Lywydd, tipyn o biso dryw a thipyn o fôr. Fe wnaeth hi hefyd, wrth gwrs, ofyn am fwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, mwy o arian ar gyfer y celfyddydau. Cyfeiriodd hi, wrth gwrs, at yr Albanwyr sanctaidd. Mae dydd o bwyso barn yn dod i Blaid Cymru, serch hynny, onid oes, ar y gyllideb? Mae hon yn gyllideb a fydd yn darparu triniaeth gyflymach i filoedd ar filoedd o bobl yma yng Nghymru. Mae hon yn gyllideb a fydd yn adeiladu miloedd o gartrefi i bobl sydd eu hangen mor ddybryd. Mae hon yn gyllideb a fydd yn gweld yr holl blant hynny nad yw eu hanghenion ychwanegol wedi'u diwallu yn cael yr anghenion hynny wedi'u diwallu yn y dyfodol, a byddant yn pleidleisio yn eu herbyn nhw i gyd.

Dyna'r dydd o bwyso barn i Blaid Cymru. Faint o lefarwyr Plaid Cymru a glywais i'n dweud wrthyf nad oedd digon o arian yn y gyllideb hon ar gyfer llywodraeth leol? Mae £253 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol, a phan fyddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb byddwch yn dweud wrth yr awdurdodau lleol hynny nad ydych chi eisiau iddyn nhw gael yr un geiniog ohoni. Dyna hanfod gwleidyddiaeth ddifrifol. Dyna y cyfeiriodd Lee Waters ato yn ei gyfraniad, ac mae'r dydd hwnnw o bwyso barn yn dod eich ffordd chi ym mis Mawrth. Mae cyfnod rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol pan fyddaf i, fel yr eglurais i lefarydd cyllid Plaid Cymru, yn agored i drafodaethau gyda chi ynglŷn â sut y gellir gwella'r gyllideb hon. Ond os nad dyna'r busnes rydych chi ynddo, yna, credwch chi fi, bydd pobl Cymru yn gweld trwoch chi a'r gemau gwleidyddol rydych chi'n meddwl y gallwch chi eu chwarae gyda'u dyfodol.

Gadewch imi bwyntio at y pwyntiau a wnaeth Jane Dodds. Diolch iddi am y croeso a roddodd i'r buddsoddiad ychwanegol mewn iechyd, i'r gydnabyddiaeth a roddodd i agweddau ar y gyllideb hon a fydd yn cefnogi twf yn y dyfodol. Roedd hi'n un o'r bobl a ofynnodd gwestiwn penodol i mi, ac roedd hwnnw ar CNC a llygredd dŵr. Gadewch imi ddweud wrth Jane, neu wrth unrhyw Aelod arall o'r Siambr, fy mod yn awyddus iawn i fuddsoddi ym mhwerau rheoleiddwyr lle mae buddsoddiad ychwanegol mewn rheoleiddwyr yn arwain at godi incwm ychwanegol gan y gweithgareddau y maen nhw'n eu cynnal, ac rwy'n hapus iawn i barhau â'r sgwrs honno gyda hi ar ôl heddiw.

Gofynnodd Mike Hedges gwestiwn penodol i mi ar gasglu treth trafodiadau tir, ac mae hwnnw yn yr un maes yn union. Ni chefais gyfle, Dirprwy Lywydd, yn fy sylwadau gwreiddiol, i dynnu sylw at y ffaith bod £600,000 yn ychwanegol yn y gyllideb hon ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae yno oherwydd bod y gwaith rhagorol y mae'r awdurdod wedi'i wneud wrth gasglu treth trafodiadau tir yng Nghymru wedi dwyn perswâd ar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i gydnabod y bydd y buddsoddiad ychwanegol yng nghyllideb eleni yn cael ei ad-dalu bum gwaith drosodd gan y gwaith y mae Awdurdod Cyllid Cymru bellach yn gallu ei wneud.

Holodd Carolyn Thomas fi am gronfa wrth gefn Cymru, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gadarnhau heddiw mai fy mwriad yw mynd â chronfa wrth gefn Cymru i'r flwyddyn nesaf gyda digon o arian ynddi i allu tynnu i lawr yr uchafswm y gallwn ni ei wneud mewn un flwyddyn ariannol. Bydd ganddi £125 miliwn mewn refeniw i'w dynnu i lawr y flwyddyn nesaf; bydd ganddi £50 miliwn o bunnau mewn cyfalaf i'w dynnu i lawr y flwyddyn nesaf, a dyna'r gronfa y mae'n rhaid i ni dynnu arni pan fydd achosion annisgwyl yn digwydd a phryd mae angen i ni gefnogi ein hawdurdodau lleol, er enghraifft, wrth ymdrin â digwyddiadau tywydd. Felly, rwy'n hapus i gadarnhau mai dyna'r strategaeth yr ydym wedi'i mabwysiadu yn y fan yna.

Roedd gan Luke Fletcher o leiaf y rhinwedd o gymryd rhan o ddifrif yn y ddadl. Fel yr ydym wedi clywed gan eraill, ychydig iawn o gyfraniadau a wnaeth hynny mewn gwirionedd. O ran bargeinion dinesig a thwf, mae'r arian eisoes wedi'i ymrwymo. Daw hanner ohono o'r Llywodraeth ganolog, hanner ohono gan Lywodraeth Cymru, ac mae eisoes wedi ymrwymo gyda'r bargeinion dinesig a thwf hynny, ac awdurdodau lleol sy'n eu harwain nhw i gyd. Mae cytundeb twf y gogledd yn cael ei arwain gan y chwe awdurdod lleol yn y gogledd; mae bargen ddinesig Caerdydd yn cael ei harwain gan yr awdurdodau lleol sy'n rhan o fargen ddinesig Caerdydd; mae cytundeb twf bae Abertawe yn cael ei arwain gan awdurdod Abertawe gyda'i dri phartner, fel y mae cytundeb twf canolbarth Cymru, partneriaeth rhwng dau awdurdod lleol ym Mhowys a Cheredigion. Ni ellir symud yr arian. Dyna natur y cytundeb sydd gennym. Ond hyd yn oed pe byddai modd gwneud hynny, hyd yn oed pe byddem yn gwneud yr hyn a awgrymodd Luke Fletcher, byddem yn cymryd arian gan awdurdodau lleol gydag un llaw i'w roi yn ôl iddynt gyda'r llall.

Y pwynt penodol olaf y gofynnwyd i mi, Dirprwy Lywydd, oedd gan Janet Finch-Saunders. Gofynnodd i mi pam y mae gan y prif grŵp gwariant newid hinsawdd arian ynddo ar gyfer materion cyfansoddiadol ac ar gyfer materion cyfiawnder, a'r ateb yn syml yw: mae'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn gyfrifol am y pethau hynny, a gan ei fod—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

16:40

Mae'r gyllideb newid hinsawdd a'r gyllideb materion gwledig bellach wedi eu rhoi at ei gilydd o dan un llinell gyllideb. A ydych chi'n credu y byddai'n fwy priodol pe byddai modd eu gwahanu, fel y gallech chi graffu ar yr hyn sy'n cael ei wario mewn materion gwledig a'r hyn sy'n cael ei wario ar newid hinsawdd, yn hytrach na'u rhoi at ei gilydd fel na allwch chi graffu arnyn nhw'n iawn?

Mae hynny'n gwbl bosibl, Dirprwy Lywydd, oherwydd ein bod yn cyhoeddi cyllidebau ar lefel prif grŵp gwariant, lle byddwch yn gweld yr union wybodaeth y gofynnodd James Evans i mi amdani, a byddwch yn gweld yr union wybodaeth yr oedd Janet Finch-Saunders yn poeni amdani, oherwydd bydd hi'n gweld bod yr arian yno i ganiatáu i'r Ysgrifennydd Cabinet gyflawni ei gyfrifoldebau.

Dirprwy Lywydd, dyma ddechrau'r broses o edrych ar gynigion cyllideb Cymru heddiw. Bydd y broses graffu yn parhau dros yr wythnosau nesaf; bydd cyfleoedd manwl yn y pwyllgor i gyd-Aelodau yn y fan yma ofyn i fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet esbonio pam y gwnaed y penderfyniadau a wnaed gennym. Ond gadewch i ni fod yn glir, bydd y penderfyniadau hynny eleni, yn gwbl wahanol i'r ddwy flynedd ddiwethaf, yn gwestiynau am y twf y gallwn ni ei ddarparu ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion Cymru, yn hytrach na pham ein bod wedi gorfod lleihau arian o'r gyllideb hon a'r gyllideb arall er mwyn goroesi yn oes cyni. Dyna pam mae'n gyllideb ar gyfer twf; dyna pam mae'n gyllideb sy'n ein galluogi i ddechrau mynd i lawr y llwybr hwnnw o sicrhau dyfodol mwy disglair i bobl yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at y broses, edrychaf ymlaen at y ddadl ar 4 Mawrth, ac edrychaf ymlaen at weld yr holl bleidiau yma sydd â diddordeb gwirioneddol mewn sicrhau'r manteision sydd gennym nawr gyda phartneriaeth rhwng Llafur yng Nghymru a Llafur yn San Steffan yn caniatáu i'r buddsoddiadau hynny fynd yn eu blaen.

16:45
4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

Symudwn ymlaen at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 16:46:39
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn mewn perthynas â'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a osodwyd gerbron y Senedd ddoe.

Ar draws Cymru, mae ein canrifoedd o hanes glofaol yn nodweddu ac yn ffurfio ein tirwedd—hanes a luniodd fywydau pobl drwy gydol yr ugeinfed ganrif, wrth i gymunedau glofaol Cymru sbarduno'r chwyldro diwydiannol. Heddiw, mae yr un cymunedau hynny'n wynebu gwaddol anodd o domenni na chaiff eu defnyddio mwyach, rhai glo a rhai nad ydynt yn rhai glo.

I filoedd o bobl, mae'r tomenni hyn yn fodd parhaus o'u hatgoffa o'r hyn a all fynd o chwith yn drasig. Fel cenedl, ni fyddwn byth, ac ni ddylem byth, anghofio trychineb Aberfan. Ac fel Llywodraeth, rydym yn ymwybodol iawn o'r gofid a'r pryder y mae cymaint o deuluoedd sy'n byw ger tomenni segur yn ei deimlo ledled Cymru.

Ac fel y gwyddom ni, mae'r risgiau'n cynyddu wrth i ni deimlo effeithiau'r argyfwng hinsawdd. Mae storm Bert yn ddiweddar yn rhybudd amlwg arall eto o'r difrod y gall glawiad ei achosi, a pha mor agored i niwed y gall tomenni segur fod i dywydd eithafol. Gwelais yr effaith frawychus yng Nghwmtyleri fy hun, ynghyd ag Alun Davies, ac wrth i'r hinsawdd newid, gallwn ddisgwyl mwy o stormydd a gaeafau gwlypach. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn barod i addasu ac ymateb. Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn cymunedau yn y meysydd glo ledled Cymru yn ddiogel yn eu cartrefi.

Dyna'n union pam yr ydym yn cyflwyno'r Bil hwn, y cyntaf o'i fath yn y DU, ac sy'n arwain y byd: i atal tomenni glo segur, a rhai nad ydynt yn rhai glo, rhag bod yn fygythiad i les pobl. Beth mae hyn yn ei olygu mewn termau ymarferol yw bod cymunedau'n teimlo'n ddiogel, ac yn ddiogel, yn eu cartrefi. Mae'n cyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflwyno deddfwriaeth i ymdrin ag etifeddiaeth canrifoedd o fwyngloddio ac i sicrhau bod tomenni glo yn ddiogel. Bydd yn helpu i sicrhau nad yw camgymeriadau trasig y gorffennol yn cael eu hailadrodd.

Nawr, rwy'n gwybod bod diogelwch a llesiant cymunedau sy'n byw'n agos at domenni segur yn rhywbeth y byddai pob Aelod yn cytuno sy'n bwysig a byddai pawb yn dymuno ei gefnogi. Wrth ddatblygu'r Bil, cawsom ein llywio gan adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar reoleiddio diogelwch tomenni glo yng Nghymru, ac rydym wedi ategu'r cynigion yn ein Papur Gwyn ar ddiogelwch tomenni glo.

Mae'r Bil yn sefydlu trefn newydd ar gyfer asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni segur. Mae hefyd yn sefydlu corff newydd—awdurdod tomenni segur Cymru—a fydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni'r drefn honno ac un o'i hamcanion craidd fydd sicrhau nad yw tomenni segur yn bygwth diogelwch pobl. Rhan ganolog o'r drefn yw dyletswydd ar y corff newydd i ddatblygu a chynnal cofrestr genedlaethol o domenni segur sy'n peri neu a allai beri bygythiad i les pobl. 

Nawr, fel y dywedais i, Bil yw hwn i gadw pobl yn ddiogel, ac mae cymaint o'i swyddogaethau yn ymwneud ag atal. Bydd darpariaethau'r Bil yn galluogi'r awdurdod i ddelio ag ansefydlogrwydd tomenni a bygythiadau i sefydlogrwydd tomenni ac mae hyn yn cynnwys pwerau i'w gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr gyflawni gweithrediadau ac i'r awdurdod gyflawni gweithrediadau ei hun. Yn bwysig, nid yw'r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i dir y mae tomen segur wedi'i lleoli arno yn unig, ond hefyd i dir a allai effeithio ar sefydlogrwydd tomen, a fydd fel arfer yn dir gerllaw. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd gan y corff newydd bwerau mynediad i gyflawni ei swyddogaethau a bydd hefyd yn gallu ei gwneud yn ofynnol i berchennog tir gyflawni camau gweithredu angenrheidiol. Bydd y corff newydd yn gallu defnyddio ei bwerau i gamu i'r adwy lle na all y rhai sydd â chyfrifoldeb gymryd camau i sicrhau diogelwch tomen.

Mae hefyd yn hanfodol bwysig nodi bod y Bil yn sicrhau bod gan y corff newydd bwerau ehangach na'r rhai sydd gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys pwerau ehangach i gasglu gwybodaeth gan awdurdodau cyhoeddus perthnasol, ac i ofyn am wybodaeth benodol gan feddianwyr tir a chan eraill. Bydd hefyd yn gallu rhoi cyngor i unrhyw berson ar unrhyw fater sy'n ymwneud â thomenni segur. Gallai hyn fod yn gyngor cyffredinol ar gynnal a chadw i berchennog tomen er mwyn sicrhau diogelwch tomen, neu gyngor sy'n benodol i'r safle i atal argyfwng. Mae'r Bil hefyd yn sefydlu trothwy is ar gyfer ymyrraeth gan y corff newydd, fel y gall gymryd camau rhagataliol neu weithredu os oes angen er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel. Daw'r pwerau hyn ochr yn ochr â dyletswydd ar y corff newydd i rannu gwybodaeth â chyrff cyhoeddus perthnasol mewn rhai amgylchiadau.

Nawr, rydym wedi bod yn ystyriol, wrth ddatblygu'r Bil, ein bod wedi cynnwys camau i gadw cydbwysedd i sicrhau tegwch a chyfiawnder, ac i alluogi unigolion i gwestiynu, herio ac apelio penderfyniadau a wnaed. Dyna pam mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer proses apelio ffurfiol. Mae'n nodi cyfres o seiliau y gellir gwneud apeliadau arnynt ac, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, bydd y rhain yn cael eu clywed un ai gan lysoedd neu berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Rydym wedi ymgynghori'n ddiwyd ac wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol y broses hyd yma, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau â'r un dull ystyriol a chydweithredol mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno o dan bwerau yn y Bil, yn ogystal â mewn perthynas ag unrhyw ganllawiau ategol. Rydym yn bwriadu arddel dull graddol a fydd yn ein galluogi i barhau i weithio gyda'r rhanddeiliaid hynny, fel CNC a'r Awdurdod Cyweirio Mwyngloddio. Yn ogystal â hyn, bydd dull gweithredu graddol yn sicrhau bod y rheoliadau hynny sy'n angenrheidiol i'r corff newydd ddechrau gweithrediadau ar waith pan sefydlir y corff. Bydd y corff newydd yn gallu cyfrannu at y darnau allweddol o is-ddeddfwriaeth a chanllawiau a fydd yn sylfaenol i'r ffordd y mae'n gweithredu.

Dros amser, bydd trefn reoli effeithiol y corff yn lleihau costau cyweirio yn sylweddol. Bydd archwiliadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn helpu i nodi problemau, a mynd i'r afael â'r materion hyn cyn gynted â phosibl, ac yn helpu i leihau'r tebygolrwydd o dirlithriadau yn y dyfodol.

Ond mae un peth rwyf eisiau ei wneud yn arbennig o glir ar y cychwyn heddiw—ni fydd y Bil yn newid pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw tir. Hefyd, ac fel y dywedais i yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl, nid yw'n ymarferol cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chyweirio hen fwyngloddiau brig ar hyn o bryd. Byddai gwneud hynny yn ehangu cyrhaeddiad deddfwriaethol a chwmpas Bil sydd eisoes yn gymhleth, a gallai fod â goblygiadau sylweddol a allai wneud y Bil yn amhosibl ei gyflawni.

Rydym wedi nodi dyddiad dod i rym uchelgeisiol ar gyfer sefydlu'r awdurdod tomenni segur sef 1 Ebrill 2027. Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, bydd yn cymryd cryn dipyn o waith i roi popeth ar waith rhwng y Cydsyniad Brenhinol a'r dyddiad dod i rym. Rwyf wedi sicrhau bod gennym dîm sefydledig ac adnoddau eisoes i ddatblygu'r gwaith hwn. 

Mae hefyd yn bwysig nodi sut mae'r Bil hwn yn ategu ein gwaith ehangach i wneud tomenni glo segur yn ddiogel. Er mai nod strategol hirdymor y Llywodraeth hon yw troi tomenni segur yn asedau buddiol i gymunedau, ein dull mwy uniongyrchol yw canolbwyntio ar sicrhau bod tomenni'n ddiogel i bobl a chymunedau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £65 miliwn rhwng 2021 a 2025 ar gyfer diogelwch tomenni glo, ac rwy'n falch heddiw ein bod wedi cyhoeddi o leiaf £12 miliwn arall. Nawr, mae hyn ar ben y £25 miliwn y gwnaethom ofyn amdano ac yn wir ei dderbyn gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2025-26, fel rhan o gyllideb yr hydref. Bydd hyn yn ein galluogi i ehangu'r grant diogelwch tomenni glo, er mwyn gallu hwyluso'r gwaith ar domenni yng Nghymru, a mynd â'n cyfanswm buddsoddiad mewn diogelwch tomenni glo yn nhymor y Senedd hon i £102 miliwn.

Ac o ganlyniad i'n gwaith hyd yma, Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i fapio a chategoreiddio'r holl domenni glo segur yn fanwl gywir. Rydym ar flaen y gad o ran defnyddio technolegau newydd, uwch, cefnogi prosiectau ymchwil a datblygu er mwyn arloesi o ran y modd yr ydym yn monitro, cynnal a rheoli'r tomenni segur hynny. Ac, wrth gwrs, rydym yn datblygu ac yn gwella ein modd o gydweithio â rhanddeiliaid a sefydliadau'r sector cyhoeddus, ac yn gweithio i sicrhau bod digon o gapasiti a gallu i gyflawni arolygiadau a rhaglenni cynnal a chadw parhaus.

Mae byw gyda realiti tomenni fel hyn ledled Cymru yn bryder enfawr i deuluoedd a busnesau ledled y wlad. Mae mwy i'w wneud a byddwn yn parhau i fynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol. Mae'r Bil hwn yn dangos unwaith eto fod Cymru yn arwain y ffordd. Hoffwn fynegi fy niolch a'm gwerthfawrogiad i'r nifer fawr o bobl a sefydliadau sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi wrth i'r Bil fynd rhagddo drwy'r broses graffu. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

16:55

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad hwn. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod angen y ddeddfwriaeth hon yn fawr, ac rwyf i a fy ngrŵp yn ei chroesawu. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda chi i ddod â hi drwy Senedd Cymru.

Fel y gwyddoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r rhan fwyaf o fy nheulu i yn dal i fyw o fewn cysgodion llawer o'r tomenni hyn, ac rwy'n awyddus i weld y ddeddfwriaeth hon yn datblygu cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, gyda hyn mewn golwg, hoffwn ofyn am eglurder ar nifer o bwyntiau rydych chi wedi'u codi yn eich datganiad heddiw a ddoe.

Yn gyntaf, mae eich datganiad yn sôn am 2,573 o domenni glo segur ac amcangyfrif o 20,000 o domenni segur eraill yng Nghymru. A oes digon o adnoddau ar waith i reoli nifer mor fawr o safleoedd yn effeithiol? Mae'r DU, fel bron pob economi orllewinol, o dan bwysau ariannol enfawr oherwydd effaith COVID a chwyddiant yn sgil y gwrthdaro parhaus yn Wcráin, yn ogystal â materion domestig fel y costau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, tai, a hyd yn oed mudo, i enwi ond ychydig. Ac mae'n debygol y bydd cyllidebau dan bwysau am beth amser. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi dyrannu £102 miliwn ar gyfer tymor y Senedd hon, ond sut y gallwch chi warantu y bydd yr arian ar gael i sicrhau bod y Bil yn cael ei weithredu'n llawn ac yn gyflawn yn y tymor hir, heb effeithio'n ddifrifol ar gyllidebau adrannol eraill. Ydych chi'n ei ystyried yn fuddsoddiad swmp gyda chostau hirdymor is wrth fwrw ymlaen, er enghraifft?

Yn ail, mae'r Bil yn sefydlu awdurdod tomenni segur Cymru, sef bod â phwerau amrywiol, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr ganiatáu mynediad i gynnal gweithrediadau. Nodir na fydd gan yr awdurdod bŵer i ddirwyo tirfeddianwyr ddim mwy na £1,000 os ydyn nhw'n rhwystro mynediad. Ond beth os na ellir cysylltu â'r tirfeddianwyr neu nad oes hyd yn oed modd o wybod pwy sy'n berchen ar y tir? Bydd y Bil yn rhoi'r hawl i'r awdurdod fynd ar y tir o fewn 48 awr o rybudd, ond os yw'r tirfeddiannwr neu'r meddiannydd yn honni nad ydyn nhw wedi derbyn y rhybudd, sut ydych chi'n mynd i sicrhau y gellir datrys materion sy'n codi mewn modd amserol? Hefyd, bydd yn rhaid gorfodi'r ddirwy a gynigir am ddiffyg cydymffurfio drwy lys ynadon, ac rwy'n pryderu, pe byddai'n cael ei herio, ei bod yn debygol y bydd cost erlyn yn llawer uwch nag uchafswm y ddirwy a ganiateir, a fyddai nid yn unig yn gwastraffu adnoddau ariannol yr awdurdod wrth ymladd yr achos, ond siawns y byddai'n oedi mynediad i'r safle hefyd.

Gan ehangu ar y pwynt hwnnw, bydd yr awdurdod hefyd yn cael yr hawl i gael mynediad at domen segur heb y 48 awr o rybudd sydd ei angen os yw'n credu ei bod yn ansefydlog. A allwch chi egluro pa feini prawf y byddan nhw'n eu defnyddio i werthuso sefydlogrwydd y domen a beth fyddai angen ei brofi i ddangos ei bod yn ansefydlog, ac nad yw'n cael ei ddefnyddio i gael mynediad at dir heb y cyfnod rhybudd o 48 awr sydd ei angen?

Mae'r Bil yn sôn bod yn rhaid rhoi tystiolaeth ar lw i ynad heddwch i'r awdurdod dderbyn gwarant i gael mynediad i'r tir. A all tirfeddiannwr herio hyn? Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, oherwydd os nad oes meini prawf sefydlog yna bydd y rhesymeg y tu ôl i gael mynediad i dir yn oddrychol ac mae'n debygol y bydd yn achosi gwrthdaro posibl â thirfeddianwyr. Yn yr un modd, os oes rhaid i'r awdurdod fynd trwy dir pobl eraill i gael mynediad i'r domen lo, a fyddan nhw hefyd yn destun dirwyon os ydyn nhw'n gwrthod caniatâd? Fel y byddwch yn siŵr o gytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, mae'n hanfodol ein bod yn cael cefnogaeth tirfeddianwyr i'r Bil hwn, a does dim amheuaeth y byddent yn ddiolchgar am unrhyw beth y gellir ei wneud i leddfu unrhyw ofnau a allai fod ganddyn nhw, yn enwedig unrhyw oblygiadau cost posibl iddynt.

Nod y Bil, yn gwbl briodol, yw diogelu cymunedau. Rwy'n awyddus i wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cymunedau lleol yn cael eu hysbysu a'u cynnwys yn ddigonol yn y broses. Pa fecanweithiau ydych chi'n bwriadu eu rhoi ar waith i'r gymuned roi adborth a chyfranogi? Rwy'n gofyn hyn oherwydd rwy'n ymwybodol y gall cymunedau deimlo'n ynysig iawn yn aml ar faterion o'r fath ac yn aml iawn gallant fod yn cael camwybodaeth, yn enwedig yn yr oes cyfryngau cymdeithasol hon. Pa adnoddau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu i fynd i'r afael â hyn? 

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, pa ystyriaeth a roddir i effaith amgylcheddol hirdymor y tomenni segur hyn? Hyd yn oed lle rwyf i'n byw, mae yna domenni glo segur, ac nid yw'r cynefin a'r fioamrywiaeth a geir yno i'w cael yn unman arall. Rydych chi wedi fy nghlywed yn sôn am fwystfil Beddau ac anghenfil Maerdy i enwi ond ychydig, yn y Siambr hon o'r blaen, ond ni cheir y rhywogaethau hyn yn unman arall, a bydd y gwaith cyweirio hwn yn effeithio arnynt. Sut y bydd yr awdurdod tomenni segur sydd newydd ei greu yn sicrhau y bydd y fioamrywiaeth sydd wedi ffynnu ar yr hen domenni hyn yn cael ei gwarchod? Os byddwn yn dychwelyd y tomenni i'w hen gyflwr naturiol eu hunain, h.y. cyn-ddiwydiannu, mae siawns y bydd yr holl fioamrywiaeth hon yn cael ei cholli. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw sôn yn y Bil am ddiogelu amgylchedd neu fioamrywiaeth y tomenni glo, ac eto rwy'n credu y gallai'r Bil hwn fod â'r potensial i gefnogi gwaith adfer ecolegol ac, mewn rhai achosion, hyd yn oed ail-bwrpasu'r safleoedd hyn er budd ecosystemau a chymunedau lleol. Tybed a ydych chi wedi ystyried hyn ac a oes rheswm nad yw wedi'i gynnwys yn y Bil, ac a fyddech yn ystyried gweithio'n agos gyda sefydliadau fel Buglife Cymru, sy'n mynd ati i geisio mapio bioamrywiaeth safleoedd y tomenni glo hyn. Diolch.

17:00

Joel, diolch yn fawr iawn i chi, a diolch am y croeso a'r gefnogaeth eang i gyflwyno'r Bil. Ac edrychwch, rwy'n awyddus i weithio gyda chi ac eraill wrth i ni fynd â hyn i'r pwyllgor ac wrth fynd i fanylder gwirioneddol. Rydych chi'n dweud yn briodol bod dros 2,500 o domenni glo a 20,000 o domenni nad ydynt yn rhai glo, a allai fod yn hen byllau metel, yn fwyngloddiau llechi ac ati—yn etifeddiaeth ledled Cymru yn y fan yna. Y ffordd y bydd yr awdurdod yn cael y dasg o fwrw ymlaen â'r gwaith yw ategu'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rwy'n credu ei bod hi wedi mynd nawr, ond roeddwn i'n mynd i fynegi fy niolch i'm rhagflaenydd, Julie James, oherwydd, ar ôl storm Dennis, rydym eisoes wedi gwneud llawer iawn o waith i flaenoriaethu'r tomenni hynny lle bernir bod yna ansefydlogrwydd. Maen nhw wedi'u categoreiddio i A, B, C a D, a C a D yw'r rhai blaenoriaeth uwch, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod blaenoriaethu mwy dwys i waith cynnal a chadw, monitro, defnyddio technoleg ac ati fel ein bod yn cadw llygad barcud ar y tomenni hynny, ac yna'n blaenoriaethu gwaith arnynt. Ac yn wir, rwy'n amau mai dyna'r ffordd ymlaen i'r awdurdod newydd, yr awdurdod annibynnol: ategu'r gwaith hwnnw a dweud, 'Iawn, ble mae'r rhai â blaenoriaeth?' Nid yw'n golygu, gyda llaw, os oes problem gyda thomen nad yw'n un lo, na allant ddweud yn yr un modd, 'Mae honno yn awr yn dod yn un y mae angen i ni ganolbwyntio arni hefyd.' Ond mater iddyn nhw yw ei blaenoriaethu, a mantais—. A nododd Comisiwn y Gyfraith a'r tasglu glo hwn: yr hyn sydd ei angen yw corff sydd ag annibyniaeth go iawn o oruchwyliaeth, adnoddau—fel y sonioch chi yn briodol—ond hefyd wedyn â'r arbenigedd a'r gallu i wneud hyn, yn hytrach na bod Gweinidog yn dyfalu ddwywaith amdano. Felly, mae cyfle go iawn yma, mewn gwirionedd, i ddatblygu'r arbenigedd hwnnw yng Nghymru.

Fe wnaethoch chi sôn—. Fe wnaf godi ychydig o'r pwyntiau a wnaethoch chi, ond ar gyfer llawer o'r rhain byddwn yn mynd i mewn i'r manylion pan fyddwn yn mynd i drafodaeth fanwl bellach. Diddorol bod i fyny ar y topiau yn yr oerfel yn Tylorstown fore Llun; roedd hi'n oer i fyny yno. Ond yr hyn a welsom ni yno, mewn gwirionedd, oedd yr awdurdod cyweirio yno a'r gwaith oedd wedi ei wneud gan y contractwyr, contractwyr lleol, Pritchard's—. Nid yw'n hysbyseb iddyn nhw, mae contractwyr eraill ar gael, ond swyddi lleol, gyda llaw, yn gwneud hyn. Ond yr hyn roedden nhw wedi'i wneud yw eu bod nhw wedi rhoi'r gorchudd o'r neilltu, y fioamrywiaeth eithaf cyfoethog oedd ar ardal y slip, ac maen nhw bellach yn ei disodli ar yr ardaloedd lle roedden nhw wedi symud y sbwriel hwnnw i fod ar lefel fwy diogel, llawer mwy diogel yno. Felly, maen nhw'n delio â hynny yn sicr, a byddwn i'n disgwyl y bydd yr awdurdod wir eisiau gwneud hynny hefyd, oherwydd, yn y pen draw, fel y dywedais i yn fy natganiad agoriadol, rydyn ni eisiau dychwelyd yr asedau hyn i'r gymuned wrth symud ymlaen, ac mae hynny'n cynnwys bioamrywiaeth ac, o bosibl, at ddibenion hamdden hefyd, os gellir ei wneud yn ddiogel.

Roeddech chi'n sôn am y mater ynglŷn ag agweddau'r tirfeddiannwr, sawl mater. Gadewch imi fod yn glir: yr hyn yr ydym ni wedi ceisio ei wneud yma yw cyflwyno dull cymesur iawn o weithredu pwerau megis pwerau mynediad, felly dull cymesur iawn. I grynhoi, mae'r pwerau yn caniatáu i berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod fynd ar dir i gyflawni'r swyddogaethau a restrir yn adran 62. Felly, mae hynny'n cynnwys pethau fel cynnal asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn, neu a oes angen cynnal gweithrediadau ac ati. Nawr, mae'r pwerau mynediad yn berthnasol nid yn unig i'r tir y mae'r domen wedi'i lleoli arno, ond gallai fod yn dir sy'n effeithio ar sefydlogrwydd y domen honno hefyd. Felly, gallai fod yn dir sy'n agos at domen. O ran tir preswyl, byddai person awdurdodedig—. Mae'n ddrwg gen i. I gael mynediad i'r domen segur, ar dir preswyl, mae angen gwarant ar berson awdurdodedig i fynd yno os nad yw'r perchennog neu'r meddiannydd yn cytuno ar y mynediad hwnnw. Felly, fel awdurdod cyhoeddus, sef yr hyn y bydd yr awdurdod newydd hwn, mae'n rhaid iddo arfer y pwerau hynny mewn ffordd y gellir ei gyfiawnhau ac sy'n rhesymol yng ngolwg y gyfraith hefyd. Ond yn y mwyafrif helaeth o achosion, mae'n rhaid i mi ddweud, Joel, rydym yn rhagweld y bydd y dull o gydweithio ac ymgysylltu â thirfeddianwyr yn un na fydd angen gwarantau arno, ac a fydd mewn gwirionedd yn cael cytundeb tirfeddianwyr, sydd eisiau gweld bod y tomenni glo hyn yn ddiogel.

Mae eithriad i fynd ar y tir pan fo argyfwng go iawn a bod eisiau mynediad ar unwaith, ond, fel arfer, yr hyn y byddech chi'n gofyn amdano mewn gwirionedd yw o leiaf 48 awr o rybudd yn cael ei roi i bob meddiannydd. Felly, rydyn ni wedi ceisio fframio'r pŵer mewn ffordd sy'n gymesur ac yn rhesymol, ond rwy'n edrych ymlaen at fynd i mewn i fwy o'r manylder hwn pan fyddwn yn cyrraedd y pwyllgor hefyd.

17:05

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am y datganiad. Mae’r Bil hwn yn cynrychioli cam pwysig ymlaen, ac rwy’n ddiolchgar nid yn unig i'r Dirprwy Prif Weinidog, ond i’r gweision sifil sydd wedi gweithio mor galed ar hyn.

Hoffwn bwysleisio i'r Dirprwy Brif Weinidog ac i'r gweision sifil hynny, er y byddaf yn mynegi pryder am rai agweddau ar y Bil hwn fel y mae wedi'i ddrafftio, nad yw hynny wedi'i fwriadu mewn unrhyw ffordd i danseilio'r gwaith helaeth y maen nhw wedi'i wneud ar hyn, ac nid wyf ychwaith yn amau am eiliad yr ymroddiad a ddangoswyd. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen; mae cymaint yma yr wyf i wir yn ei groesawu. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw am eu gwaith, ac rwy'n estyn hynny i'ch rhagflaenydd yn yr ystyr hwn, Julie James, hefyd. Felly, rwy'n wirioneddol ddiolchgar am hynny.

Mae'r Bil hwn yn un y mae wedi bod ei angen ers amser maith. Rwy'n gresynu, fel y'i drafftiwyd, ei fod yn methu â darparu'r camau gweithredu ar unwaith, cynhwysfawr, y bydd ein cymunedau yn ei fynnu. Nawr, wrth gwrs, mae'r camau gweithredu hynny yn gamau gweithredu y dylid bod wedi'u cymryd degawdau cyn i'r Senedd hon fodoli. Maen nhw'n gamau gweithredu y dylid bod wedi'u cymryd cyn i unrhyw Lywodraeth Cymru o'r oes fodern fodoli, gan fod y tomenni sy'n nodweddu ein gorwelion yn etifeddiaeth diwydiant a greithiodd ein pentrefi a'n trefi, ac nid yw'r creithiau hynny'n fwy amlwg yn unman nag yn y tomenni segur hynny sy'n parhau i daflu cysgod dros gynifer o gymunedau. Dylai trychineb Aberfan, y cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weinidog ato, sefyll fel atgof parhaol o'r gost ddinistriol a all ddod o'r esgeulustod a'r diffyg gweithredu a ddangoswyd dros ddegawdau lawer. Rwy'n cymeradwyo'r ffaith bod Llywodraeth Cymru—. Rwy'n gwybod mai dyma benllanw gwaith sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers cryn amser, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Ond dylai'r hyn sydd wedi digwydd i ni yn ein gorffennol ein gorfodi i sicrhau bod pob tomen lo yng Nghymru yn cael ei gwneud yn ddiogel, nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael i ddioddef erchyllterau'r hyn rydyn ni wedi'i weld yn y gorffennol eto.

Edrychaf ymlaen yn fawr at allu edrych ar hyn yn fanylach yn y pwyllgor ac mewn mannau eraill, ond mae gennyf ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu codi ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda. Sefydlu'r awdurdod goruchwylio newydd, nawr mae hynny'n ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Bydd llawer o bobl yn gofyn pam mae'n rhaid i ni aros tan 2027 iddo fod yn weithredol. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych wedi'i nodi, y bydd yn cymryd amser rhwng y Cydsyniad Brenhinol a'r dyddiad hwnnw iddo ddod yn weithredol, ond mae'r oedi, yn enwedig o ystyried y risgiau uwch a achosir gan y tywydd eithafol yr ydym yn ei weld yn gynyddol, yn peri pryder. Bydd yn peri pryder i lawer o drigolion o dan y tomenni hyn. Felly, byddwn yn gofyn pa fesurau dros dro y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod pobl sy'n byw yn y sefyllfaoedd hynny'n cael eu cadw'n ddiogel ar unwaith a'u bod yn teimlo'n ddiogel hefyd. Gallai absenoldeb unrhyw gamau uniongyrchol beryglu tanseilio hyder y cyhoedd yn hyn, felly byddwn i'n ddiolchgar o glywed beth y gellid ei wneud yn y cyfamser i'w ategu.

Nawr, rwy'n wir werthfawrogi ac yn cytuno bod lles dynol yn y Bil hwn yn gorfod bod o'r pwys mwyaf—mae'n rhaid i hynny fod yr ystyriaeth bwysicaf—ond mae lles amgylcheddol wedi'i hepgor. Mae llawer o'r tomenni hyn wedi'u lleoli, fel y clywsom ni, mewn ardaloedd ecolegol sensitif. Nid yw colli bioamrywiaeth yn bryder bach, mae'n ganlyniad sylfaenol i iechyd ein hamgylchedd naturiol a'n cydnerthedd yn y dyfodol. Byddwn i'n gofyn beth yw'r cyfiawnhad, os gwelwch yn dda, am hepgor amddiffyniadau amgylcheddol o'r Bil, ac a fyddai'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r diffyg hwnnw.

Nawr, bwlch allweddol arall yw'r diffyg darpariaeth ar gyfer rheoli clystyrau o domenni, a all olygu bod mwy o risg. Roeddynt wedi eu cynnwys yn y Papur Gwyn, felly mae eu hepgor o'r Bil yn ddryslyd, felly byddwn i'n gwerthfawrogi gwybod pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw a pha sicrwydd a roddir i gymunedau sy'n byw o dan glystyrau o domenni.

Ni fydd deddfwriaeth yn unig yn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel, wrth gwrs; mae cyllid digonol yn hanfodol. O ran y £600 miliwn fydd yn angenrheidiol—a bydd angen i lawer iawn o hynny ddod o San Steffan—

buaswn i'n gofyn pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y cawn ni'r cyllid llawn yma. Ac a all y Llywodraeth roi sicrwydd na fydd trethdalwyr Cymru yn gorfod ysgwyddo'r baich hanesyddol hwn, pan fo'n rhywbeth a oedd wedi digwydd, eto, cyn yr oedd y Senedd hon—wel, unrhyw Senedd—yn bodoli yng Nghymru? Mae'r diffyg manylion ynghylch y grant diogelwch tomenni glo arfaethedig hefyd yn peri gofid. Dwi ddim wedi dod o hyd i unrhyw wybodaeth gyhoeddus ar fanylion y grant—ei hyd na'i sicrwydd hirdymor.

Ac yn ogystal—dwi'n ymwybodol bod amser yn rhedeg mas—buaswn i'n gofyn am y ffaith—. Dwi ddim yn siŵr beth ydy 'guidance' yn Gymraeg. Mae llawer o'r hyn sydd wedi cael ei addo yn y Papur Gwyn, fel asesiadau peryglon, cyfrifoldebau monitro a chynlluniau rheoli, maen nhw nawr wedi cael eu dirprwyo i ganllawiau, yn hytrach na hyd yn oed deddfwriaeth eilaidd. Mae'r diffyg pwysau statudol hwn yn golygu gall cymunedau teimlo dan fygythiad, gydag ansicrwydd a diffyg atebolrwydd at y dyfodol. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ailystyried a chryfhau'r elfennau hynny er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd? Diolch. Sori, es i ychydig dros amser.

17:10

Diolch yn fawr iawn, Delyth. Fe wnaf geisio ymateb yn gyflym i gyfres o gwestiynau yn y fan yna. Ac yn gyntaf oll, diolch am y—. Mae'n dîm bach, ond mae'n dîm arbenigol iawn sydd wedi bod yn cyflwyno hwn dros beth amser, yn y fan yna. A byddwn i'n gwneud y pwynt bod y Bil hwn heddiw, cyrraedd y pwynt hwn, hyd yn oed os bydd rhai pobl yn dweud, 'Wel, gallem fod wedi cyrraedd yno yn gynharach', dyma lle mae datganoli wir yn gwneud gwahaniaeth, wrth gyflwyno'r math hwn o ddeddfwriaeth ac yna ceisio arwain yn y ffordd yr ydym yn ymateb i'r etifeddiaeth ddiwydiannol hon.

Pam 2027? Fel yr eglurais i yn fy sylwadau agoriadol, mae nifer o bethau i'w rhoi ar waith cyn y bydd y corff hwnnw ar waith yn llawn, ac mae'n cynnwys dod â'r arbenigedd i mewn, yn ogystal â gwneud y penodiadau allweddol ac yn y blaen, ond hefyd eu cael i sefyllfa lle gallwn wneud yr apwyntiadau hynny'n gynnar a gallant helpu i gyfarwyddo a llunio rhywfaint o'r canllawiau a datblygu'r is-reoliadau hefyd, fel eu bod nhw wir wedi'u llunio ganddyn nhw. Felly, ni fydd yn rhaid i ni aros am y pwynt olaf hwnnw. Ond rydych chi'n dweud yn briodol, 'Wel, yn y cyfamser, beth sy'n digwydd wedyn?' Wel, bydd y rhaglen diogelwch tomenni glo yr ydym wedi cychwyn arni ers peth amser bellach yn parhau. Bydd yr Awdurdod Cyweirio Glo, fel y mae erbyn hyn, yr hen Awdurdod Glo, yn parhau â'u gwaith arolygu a monitro ac yn y blaen hefyd. Felly, bydd hynny'n parhau. Dydyn ni ddim yn mynd i oedi nawr, wrth i ni aros i fwrw ymlaen â hyn; byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â hynny a chyda rhywfaint o'r cyllid yr ydym wedi'i roi iddo.

Fe wnaethoch chi sôn am fater sancsiynau sifil, ac roedd hynny o fewn y Papur Gwyn yn wreiddiol. Roedd yn cynnig ystod o sancsiynau sifil megis cosbau ariannol sefydlog, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau stop ac ati. Nid ydynt wedi cael eu cynnwys yn y Bil, oherwydd, yn ystod y gwaith o ddatblygu polisi, ac mewn ymateb i'r Papur Gwyn, penderfynwyd y gallai eu cynnwys wneud y drefn yn or-fiwrocrataidd ac anhydrin. Byddai'n anodd i'r awdurdod weinyddu, yn gymhleth i dirfeddianwyr ei ddeall hefyd, ac ni fyddai'n meithrin y dull cydweithredol hwnnw a soniais amdano yn yr ymateb i Joel yn gynharach. Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o dirfeddianwyr eisiau gwneud i'r gwaith hwn weithio, a byddan nhw am ymgysylltu â phobl sy'n dod i mewn gan ddweud, 'Gallwn ni eich helpu i reoli'r domen honno'n iawn a'ch cynghori ar hynny.' Felly, bydden nhw'n rhedeg yn erbyn y dull cydweithredol hwnnw. Ond mae'r system o hysbysiadau a gefnogir gan droseddau am beidio â chydymffurfio, yn ein tyb ni, yn ffordd eithaf effeithiol a chymesur o orfodi'r drefn a sefydlwyd yn y Bil, er, fel y dywedais i, rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid i ni ddefnyddio gormod o'r rheini—byddwn ni mewn gwirionedd yn cael pobl sydd eisiau gweithio gyda ni ar hyn.

17:15

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Brif Weinidog, am yr amser rydych chi wedi'i dreulio yn ymweld â phobl yng Nghwmtyleri; rwy'n gwybod ei fod wedi ei werthfawrogi gan bobl yno. Gwelais hefyd yr effaith a gafodd yr ymweliad hwnnw arnoch chi, i weld effaith y tirlithriad ar y gymuned. Y cwestiwn sydd gennyf i chi y prynhawn yma, Dirprwy Brif Weinidog, yw: beth ydych chi'n ei ddweud wrth bobl y gymuned honno? Sut mae'r Bil hwn a'r ddeddfwriaeth hon yn mynd i newid eu dyfodol? Sut fydd hyn yn eu helpu i gysgu yn eu gwelyau yn y nos, teimlo'n sicr a theimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain? Sut fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ymateb i'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghwmtyleri, ond hefyd potensial yr hyn allai ddigwydd mewn mannau eraill?

Mae yna 20, rwy'n credu, o domenni glo C a D ym Mlaenau Gwent, ac mae pobl nawr yn edrych ar y tomenni hynny, 'Ydyn nhw'n ddiogel? Ydyn ni'n ddiogel? Sut allwn ni deimlo'n ddiogel?' Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru dasg go iawn o'i blaen i sicrhau ei bod nid yn unig yn cymryd y camau sy'n ofynnol, ac yn gwneud hynny ar frys, ond mae hefyd yn dangos bod y gweithredu hyn yn cael yr effaith, bod y drefn arolygu a roddwn ar waith a'r gwaith cyweirio sy'n cael ei roi ar waith, y rhaglen gyfan, yn cael yr effaith o sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Alun, diolch yn fawr iawn, a diolch am yr amser y gwnaethoch chi ei dreulio gyda mi yng Nghwmtyleri. Rwy'n credu mai'r hyn welson ni yno oedd yr amlygiad ffisegol iawn o'r ofn y mae pobl yn ei deimlo pan fydd pethau'n mynd o chwith ac mae hyn yn agosau at gartrefi—yn ogystal â busnesau, ond cartrefi. Pan welsom ni y slyri a'r slip o'r rwbel yno ar y stryd ac yn dynesu at ddrysau cartrefi, mae hynny'n wir yn gwneud i bobl sylweddoli beth mae hyn i gyd yn ymwneud ag ef: gwneud i'r bobl hynny deimlo'n ddiogel.

Dyna fyddwn i'n ei ddweud wrthyn nhw: mae'r newid sylweddol rydyn ni'n edrych arno yma yn mynd ag ef o'r gwaith rydyn ni eisoes wedi'i wneud, a byddwn i'n dadlau ei fod eisoes yn arwain, ond mewn gwirionedd yn rhoi sylfaen statudol i sefydliad—yr awdurdod, fel y bydd yn cael ei adnabod yn gryno—sydd nid yn unig ag arbenigedd, capasiti, adnoddau a gwybodaeth flaengar o'r ffordd orau o archwilio, monitro a chynnal y rhan hon o'n hetifeddiaeth ddiwydiannol, ond gall gyflwyno cynlluniau rheoli ar gyfer tomenni lle maen nhw'n teimlo bod perygl o ansefydlogrwydd i ddweud, 'Rhaid gwneud hwn, mae'n rhaid gwneud hwnna', eto wedi'i ysgogi gydag annibyniaeth, gydag awdurdod a chyda gwybodaeth. Bydd ganddyn nhw bwerau archwilio y byddwn ni'n eu rhoi iddyn nhw fynd ar dir, fel arfer gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, ond, os na, bydd ganddyn nhw'r pwerau hynny o hyd fel y gallan nhw wneud cais am warant i fynd ar dir a dweud, 'Rydyn ni eisiau gweld beth sy'n digwydd; rydyn ni eisiau archwilio a chyflwyno rhaglen wella yno.' Bydd pwerau i gyfarwyddo gwaith cynnal a chadw a phwerau i wella yn uniongyrchol. Gallai hynny ymwneud â chwlfertau, gallai ymwneud â phethau eithaf syml, ond gallai fod yn fwy hefyd. Mae'n awdurdod sydd ar ochr amddiffyn lles pobl, amddiffyn bywydau a gwneud y cymunedau hynny'n ddiogel.

Felly, mae'n ategu'r gwaith yr ydym eisoes wedi'i wneud, ond yn rhoi hynny ar sail statudol, gyfreithiol fel bod yna sefydliad sy'n addas ar gyfer y ganrif hon a'r ganrif nesaf, sefydliad sydd ar flaen y gad o ran gwybod sut i wneud y tomenni hyn yn ddiogel, nid yn unig i Gwmtyleri, ond ledled Cymru. Felly, rwy'n credu y bydd hwn yn gam mawr ymlaen. Mae fy meddyliau yn mynd at y bobl hynny yng Nghwmtyleri ac mewn mannau eraill sy'n byw yng nghysgod y rhain. Ein tasg ni yw rhoi'r hyder iddyn nhw y byddwn ni'n rhoi trefn statudol ar waith sydd ar eu hochr nhw ac yn eu gwneud nhw'n ddiogel yn eu cartrefi, a dyna hanfod y Bil hwn.

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog, am y datganiad pwysig yma. Dwi'n falch iawn o weld y cydweithio rhwng y Llywodraeth a Chomisiwn y Gyfraith; mae hynny'n hynod bwysig. Y consérn sydd gen i yw'r amser. Cafodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith ei gyhoeddi ddwy flynedd a hanner yn ôl. Bydd yna ddau aeaf arall, fel y mae Delyth Jewell wedi'i ddweud, cyn sefydlu'r awdurdod. Fel rydych chi wedi'i ddweud yn barod, Ddirprwy Brif Weinidog, mae pobl yn poeni; bob tro y mae storm, ac mae'r stormydd yn dod yn fwy aml, mae pobl yn poeni am pan fyddan nhw'n codi, beth maen nhw'n mynd i'w weld a beth sy'n mynd i ddigwydd yn ystod y storm. 

Un peth, ydych chi wedi ystyried defnyddio Tribiwnlysoedd Cymru yn hytrach na'r llys ynadon gyda'r hyfforddi i sicrhau mynediad ac apeliadau o'r awdurdod? Dwi'n falch gweld mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae wedi bod yn embaras y cyn lleied o gydweithio sydd wedi bod, a dwi'n falch gweld hynny'n digwydd. Dwi ddim yn credu y gwnaethoch chi ateb cwestiwn Delyth Jewell: ydyn ni'n mynd i weld mwy o arian o Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Dŷn ni'n ffaelu rhoi pris ar faint ŷn ni wedi'i dderbyn o'r Cymoedd. Mae'n ddadleuol na fyddai iaith Gymraeg, na fyddai Cymru, oni bai am y pyllau glo a'r diwydiannau; ein bod ni wedi gallu aros yn ein gwlad ni yn hytrach na'r diboblogi a welwyd mewn mannau eraill. Mae'r Cymoedd yn haeddu llawer iawn oddi wrthym ni. Mae'n hen bryd inni sicrhau bod y Cymoedd yn lle saff a diogel i fyw. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Diolch yn fawr iawn, Rhys. Gwnaethom ni wir ddefnyddio'r gwaith a wnaeth Comisiwn y Gyfraith, a gwaith arall hefyd. Rydych chi'n awgrymu Tribiwnlysoedd Cymru. Mae'n ddiddorol; gadewch i ni archwilio hynny pan fyddwn ni'n mynd i'r pwyllgor. Rydyn ni'n credu bod gennym ni ffordd dda ymlaen yn y fan yma, ond gadewch i ni edrych a oes awgrymiadau o ddewisiadau eraill o ffordd daclus a darbodus y gallwn ei wneud, ac sy'n gymesur ac sy'n gweithio o fewn y cyd-destun yng Nghymru. Gadewch i ni edrych arno.

Mae'n ddrwg gen i, doeddwn i ddim yn bwriadu hepgor ymateb. Roedd llawer o gwestiynau da a ofynnodd Delyth. Ni wnes i osgoi ymateb yn fwriadol i'r mater ynglŷn â chyllid gyda Llywodraeth y DU. Rydyn ni wedi ei gwneud yn glir yn gyson—. Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt nawr ble, yn ystod y Senedd hon, y byddwn yn gallu ymrwymo nid yn unig y £65 miliwn yr ydyn ni wedi'i wario eisoes, ond gyda chyfraniad Llywodraeth y DU o £25 miliwn y gwnaethon ni ofyn amdano ac maen nhw wedi'i roi, ynghyd â'r arian ychwanegol rydyn ni wedi'i gyhoeddi heddiw yn y gyllideb hefyd—diolch i fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg—bydd £102 miliwn y gallwn ei roi iddo. Felly, ni fydd y gwaith yn dod i ben. Ac, wrth gwrs, byddwn yn mynd yn ôl ac yn gofyn am fwy gan Lywodraeth y DU, nid mewn rhyw fath o ffordd ymbilgar, ond, mewn gwirionedd, 'Dyma mae pobl Cymru yn ei haeddu.'

Dyma etifeddiaeth ddiwydiannol o gyfoeth a lifodd drwy'r genedl, a thrwy'r hyn a oedd bryd hynny yn Brydain Fawr, ac a wnaeth bweru'r chwyldro diwydiannol. Mae'r etifeddiaeth sydd gennym yn etifeddiaeth ledled y DU. Mae angen i ni ddod o hyd i'r buddsoddiad yn ôl i'r cymunedau hyn er mwyn gwneud iawn am hyn. Ac wrth wneud hynny, gyda llaw, datblygu'r arbenigedd hwnnw a'r arloesedd hwnnw, fel y gallwn ni helpu cymunedau eraill ledled y byd sy'n wynebu problemau tebyg. Oherwydd os gallwn ni ddefnyddio'r math cywir o fframwaith cyfreithiol, y math cywir o awdurdod sydd â chapasiti ac arbenigedd go iawn, y math cywir o dechnoleg hefyd, a chreu swyddi lleol, fel Prichard's i fyny yn Tylorstown gyda phobl ar lawr gwlad sy'n dod o Aberdâr a lleoedd fel yna—swyddi medrus iawn, â chyflog uchel—yna mae hynny'n foment ddiddorol, ond mae angen y cwantwm o gyllid nid yn unig gan Drysorlys Cymru, ond hefyd gan Drysorlys y DU hefyd. Felly, byddwn yn parhau i wneud y ddadl honno, oherwydd gwyddom fod graddfa'r hyn y mae angen i ni ei wneud, nid yn unig eleni, ond yn y ddegawd, 15, 20 mlynedd i ddod, yn sylweddol.

Rydyn ni'n edrych, yn gyntaf oll, wrth gwrs, ar fater tomenni glo, oherwydd rydyn ni wedi nodi ac rydyn ni wedi asesu lle mae'r risgiau hynny ac yn y blaen, lle mae angen blaenoriaethu ansefydlogrwydd ac rydyn ni wedi'u categoreiddio, ac yn y blaen. Ond fel y dywedais i yn glir mewn ymateb i sylwadau eraill, bydd awgrymiadau eraill hefyd, tomenni nad ydynt yn lo, y bydd angen i ni symud ymlaen atynt hefyd. Bydd yr awdurdod yn gallu canolbwyntio arnyn nhw hefyd, os yw'n gweld bod problem ansefydlogrwydd mewn tomen nad yw'n lo, ond, mewn gwirionedd, mae yna rai i'w cyrraedd o hyd, y tu hwnt i'r blaenoriaethu cychwynnol. Felly, ie, bydd y galw ar gyllid ar gyfer hyn yn parhau, ar lefel Cymru a lefel y DU. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n dal i fod ychydig yn ddryslyd oherwydd clywsom y Prif Weinidog yn dweud mai dim ond am £25 miliwn y gofynnodd hi, ac rwyf wedi eich clywed chi yn dweud mai dyna'r cyfan y gallech chi ei wario ar hyn o bryd, ond yna rydym wedi clywed £12 miliwn arall yn cael ei gyhoeddi heddiw. Pam na wnaethon ni ofyn am y £12 miliwn hwnnw? Pam na wnaethom ni ofyn am £37 miliwn gan Lywodraeth y DU pe gallem ei wario?

Fe wnaethoch chi ddweud bod y Bil hwn yn ymwneud â chadw pobl yn ddiogel, ac rwyf wedi codi gyda chi a'ch rhagflaenydd lawer gwaith bryderon diogelwch trigolion yr effeithir arnyn nhw gan gloddio brig yn fy rhanbarth i, yn enwedig yn achos Pwll y Dwyrain. Maen nhw'n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yn erbyn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chyweirio hen fwyngloddiau brig. Fe ddywedoch chi fod hyn yn gymhleth. Ydy, mae e', ond nid yw'n amhosibl. Ac os mai eich nod yw cadw pobl yn ddiogel, yna mae'n wirioneddol hanfodol. Mae effaith llenwi gwagle Pwll y Dwyrain gyda 40 miliwn o fetrau ciwbig o ddŵr ar 175 metr uwchben lefel y môr ar ffawt daeargryn gweithredol, gydag ochrau rwbel ansefydlog, yn anhysbys ac nid yw wedi'i asesu, ond nid yw'n rhywbeth na fedrwn ni ei wybod. Felly, os na wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd y cyfrifoldeb dros drefnu ac ariannu'r asesiadau newydd sydd eu hangen o dan y ddeddfwriaeth hon, pwy felly sy'n gyfrifol? Oherwydd, mae fy etholwyr i o leiaf yn haeddu ateb ar hynny, oherwydd mae pawb yn pasio'r cyfrifoldeb ar hyn. A wnewch chi roi'r wybodaeth honno?

17:25

Diolch am hynny. Mae yna reswm da nad yw gwaith cyweirio safleoedd mwyngloddio brig yn y y Bil hwn, ac fel y gwyddoch chi, mae gennyf i a David Rees hefyd safle mwyngloddio brig o fewn ein tiriogaeth, hen Barc Slip, hanner ohono erbyn hyn yn warchodfa bywyd gwyllt, a hanner ohono'n wagle llawn dŵr. Ac mae gan rai o'r rheini hanesion cymhleth iawn, fel y gwyddoch chi. Mae ganddyn nhw hanesion cymhleth iawn o berchnogaeth, o'r berchnogaeth weithiau'n cael ei symud i wlad arall a chwmnïau'n cael eu sefydlu nad ydyn nhw y datblygwr, gweithredwr, perchennog gwreiddiol y safle hwnnw, ac yna, yn aml, mae awdurdodau lleol yn cael eu gadael i reoli'r hyn sy'n digwydd, yn enwedig pan fo dŵr o fewn gwagleoedd, ac yn y blaen.

Nid wyf i eisiau cyfeirio at unrhyw un yn benodol ar hyn o bryd, ond mae rhesymau da pam nad yw hyn yn y Bil hwn. Os ydyn ni eisiau cyflawni ymrwymiad rhaglen y llywodraeth, ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith, ar argymhellion y tasglu glo, yna dyma'r Bil sy'n cyflawni hynny ar ddiogelwch tomenni glo. Rwy'n credu y byddwn i'n dweud wrthych chi bod darn arall o waith sydd angen ei wneud ar gyweirio safleoedd mwyngloddio brig, heb amheuaeth—rwy'n cytuno â chi—ond mae angen cyflwyno'r Bil hwn ar amser. Rydyn ni'n dechrau ar flwyddyn ddeddfwriaethol derfynol Llywodraeth wrth i ni fwrw ymlaen â'r Bil hwn, ac rwyf i eisiau cyflawni hyn yn dda ac yn ddiogel i'r holl bobl yr ydyn ni wedi sôn amdanyn nhw heddiw yn y cymunedau y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw, a pheidio ag ehangu hyn o ran cwmpas a fydd yn ychwanegu cymhlethdod, fel bod angen i ni oedi o bosibl a chymryd mwy o amser drosto a pheryglu colli'r Bil. Gadewch i ni beidio â gwneud hynny, Sioned. Gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd gennym ni yma a'r hyn y gallwn ni ei ennill trwy hyn.

Ac mae yna fater arall y mae angen i ni ddychwelyd ato, sef mater cyweirio safleoedd mwyngloddio brig. Mae hynny, rwy'n credu, yn rhywbeth y mae angen i ni ymdrin ag ef, nid yn unig ar lefel Cymru, ond ar lefel y DU hefyd. Oherwydd, unwaith eto, rydyn ni'n edrych ar fater etifeddiaeth yno. Rwy'n edrych ar yr un yn fy ardal fy hun, ardal Parc Slip ac ardal Pwll y Dwyrain o hwnnw. Roedd hynny'n etifeddiaeth o gyfnod John Major, rwy'n credu, lle nad oedd bond na gwaith cyweirio yn ei le ar gyfer hynny o gwbl. Felly, rwy'n credu bod rhywbeth i ddychwelyd ato, ac rwy'n cytuno, rwy'n cydymdeimlo â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ond gadewch i ni gyflawni'r Bil hwn, oherwydd bydd hyn yn sicrhau diogelwch i'r holl bobl hynny yng Nghymru sy'n byw gyda thomenni glo wrth eu hymyl. Diolch yn fawr.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cyhoeddi cynllun iechyd menywod GIG Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ddatganiad ansawdd a oedd yn nodi, am y tro cyntaf yng Nghymru, yr hyn y gallai menywod a merched ei ddisgwyl, sef gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd da ledled Cymru. Roedd hyn yn nodi adeg dyngedfennol o ran newid yng Nghymru, ac roedd yn arwydd bod angen newid yn y ffordd y mae menywod a merched yn profi gwasanaethau iechyd a sut mae gwasanaethau'r GIG yn ymateb i'w profiadau a bod disgwyl i hynny ddigwydd.

Oherwydd, er bod menywod a merched yn cyfrif am fwy na 50 y cant o'r boblogaeth, nid yw gwasanaethau iechyd wedi'u cynllunio ar ein cyfer ni. Nid yw meddygaeth fodern bob amser wedi diwallu ein hanghenion ni, oherwydd ei bod wedi bod yn seiliedig ar brofiad nodweddiadol dynion o ofal, sydd wedi arwain at anghydraddoldebau sylweddol rhwng dynion a menywod. Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod symptomau menywod yn cael eu tanbrisio, eu hanwybyddu neu'u diystyru, bod menywod yn aros yn hirach na dynion am ddatrysiadau lleddfu poen. Mae'n bryd chwalu'r rhwystrau hyn a sicrhau bod pob menyw yn cael y gofal y mae'n ei haeddu.

Pa mor aml ydyn ni wedi trafod yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau sut mae profiadau menywod, sut mae symptomau menywod, sut mae lleisiau menywod wedi cael eu hanwybyddu? Gall hyn gael effaith sylweddol ar lesiant corfforol a meddyliol menywod, oherwydd oedi wrth roi diagnosis o glefydau, methiannau o ran cynnig triniaeth effeithiol ac yna canlyniadau gwaeth.

Ddoe, aeth y Prif Weinidog a minnau i ddosbarth ymarfer corff  'Gadewch i ni Heneiddio'n Dda' Women Connect First yng Nghaerdydd i nodi diwedd dwy flynedd brysur iawn o waith caled. Roedden ni yno i lansio y cynllun iechyd menywod cyntaf erioed ar gyfer Cymru. Rwy'n falch bod y cynllun yn cael ei gyhoeddi heddiw. Bydd hyn yn trawsnewid y ffordd y bydd y GIG yn trin menywod ar draws pob cyflwr iechyd, o asthma a chlefyd y galon i gyflyrau thyroid a thwnnel carpal.

Rydyn ni'n gwybod nad yw anghydraddoldebau yn seiliedig ar rywedd yn unig. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ategu gan egwyddorion croestoriadedd, gan gydnabod bod profiadau menywod yn cael eu llunio gan gydadwaith cymhleth ffactorau fel hil, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a statws economaidd-gymdeithasol. Rhaid i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ymateb i anghenion gwahanol unigolion, dangos cymhwysedd diwylliannol a gweithio tuag at ddatgymalu'r rhwystrau systemig sy'n atal menywod rhag cael manteisio ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Bydd yn grymuso menywod a merched i gael eu clywed wrth iddyn nhw fanteisio ar ofal iechyd. Mae'n nodi sut y byddwn ni'n darparu'r gwasanaethau gwell y mae eu heisiau ar fenywod a merched yng Nghymru, ac mae'n cynnwys bron i 60 o gamau gweithredu ar draws wyth blaenoriaeth.

Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i ar ddechrau'r datganiad hwn, mae'r cynllun hwn wedi bod ar y gweill am ddwy flynedd. Mae wedi'i ddatblygiad mewn tri gwahanol gam: darganfod, dylunio a chyflawni. Cafodd y cam darganfod ei gwblhau yn 2022, a oedd yn cipio lleisiau a phrofiad tua 4,000 o fenywod a merched o bob rhan o Gymru, ynghyd ag adolygiad cynhwysfawr o dystiolaeth o iechyd menywod, gan nodi'r themâu a'r argymhellion allweddol er mwyn darparu'r sylfeini y byddai'r cynllun yn cael ei ddatblygu arnyn nhw. Cafodd y rhwydwaith clinigol strategol cenedlaethol ar gyfer iechyd menywod ei sefydlu, ac fe wnaeth arweinydd clinigol cyntaf Cymru ar gyfer iechyd menywod, Dr Helen Munro, ein symud i'r cam dylunio.

Mae'r rhwydwaith yn cael ei arwain gan glinigwyr a bydd yn gwella ansawdd, diogelwch a chanlyniadau gofal ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r cynllun wedi'i ddylunio trwy weithio mewn partneriaeth drwy rwydwaith iechyd menywod ac mae wedi cynnwys 100 o gyfranwyr wedi'u henwi o'r holl fyrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithrediaeth y GIG, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru. Mae'n cael ei lywio gan y datganiad ansawdd, yr adroddiad darganfod, a datganiad ansawdd cynghrair iechyd menywod y trydydd sector ar gyfer iechyd menywod, merched a'r rhai a gafodd eu pennu'n fenywaidd ar adeg eu geni. Gwnaethom ni ofyn am adborth ar y cynllun drafft gan y GIG ac aelodau o gynghrair iechyd menywod y trydydd sector yng Nghymru, a gan grwpiau ffocws gyda menywod iau a menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi gyd.

Nid ydyn ni wedi llusgo'n traed wrth i'r cynllun fod yn ei gamau darganfod a dylunio. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i gryfhau gwasanaethau a recriwtio staff newydd ledled Cymru yn barod ar gyfer cyflawni'r cynllun. Erbyn hyn mae cydlynwyr iechyd y pelfis a nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd. Rydyn ni wedi lansio gwefan arbennig Endometriosis Cymru, wedi sefydlu clinigau un stop newydd ar gyfer canser y fron a gwell mynediad at seicoleg amenedigol. Nawr rydyn ni'n canolbwyntio ar wella mynediad at wasanaethau a lleihau'r amrywiad hwnnw ledled Cymru. Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf pwysig am y gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf ar ganser gynaecolegol.

Rydyn ni erbyn hyn yn symud yn gadarn i gyfnod cyflawni'r cynllun iechyd menywod. Mae'n nodi cyfres o gamau gweithredu tymor byr, canolig a thymor hirach. Mae'r gwaith, unwaith eto, eisoes wedi dechrau i sicrhau bod hybiau iechyd menywod, a fydd ar gael ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026, yn gwella mynediad amserol at wasanaethau, gan ei gwneud yn haws i fenywod gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw wrth hyrwyddo mesurau ataliol a'u grymuso nhw i fod yn gyfrifol am eu hiechyd a'u lles. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni wedi sicrhau £3 miliwn i gefnogi cynllun iechyd menywod y flwyddyn nesaf yn y gyllideb ddrafft. Mae cyllideb ymchwil iechyd menywod benodol o £750,000 hefyd wedi'i nodi a bydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2025. Byddwn ni hefyd yn gwella'r wybodaeth sydd ar gael drwy ddatblygu gwefan iechyd menywod.

Ar ben hynny, rwyf i eisiau gweld gwelliannau i wasanaethau endometriosis, gan sicrhau bod menywod yn cael gofal amlbroffesiynol, gan gynnwys cyfle i fanteisio ar gymorth iechyd meddwl. Ymgorffori lleisiau menywod fydd yr allwedd i gyflawni'r cynllun yn effeithiol. Mae hwn yn gynllun byw, sy'n gallu ymateb i faterion newydd a thystiolaeth newydd mewn amser gwirioneddol, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau o'r ymchwil newydd.

Rwyf i eisiau cloi drwy ddweud, er bod pwyslais ar y menopos, endometriosis ac agweddau eraill ar iechyd atgenhedlol yng nghynllun iechyd menywod, nid yw gwella iechyd menywod yn ymwneud â gwella gynaecoleg a gwasanaethau iechyd atgenhedlu yn unig. Mae gan y rhwydwaith iechyd menywod rôl bwysig wrth eirioli dros fenywod ar draws pob cyflwr iechyd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda rhwydweithiau clinigol eraill i sicrhau bod anghenion menywod yn cael eu hystyried, bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu profiadau'n cael eu cydnabod.

Mae'r cynllun hwn yn benllanw llawer iawn o waith, a hoffwn i ddiolch i'r rhwydwaith clinigol strategol cenedlaethol ar gyfer iechyd menywod am eu hymroddiad i'n cael ni i'r pwynt hwn. Mae hwn yn gynllun 10 mlynedd uchelgeisiol oherwydd ei bod yn bryd blaenoriaethu iechyd a lles pob menyw a merch yng Nghymru, beth bynnag yw eu cefndir, ethnigrwydd neu statws economaidd-gymdeithasol. Mae iechyd menywod yn iechyd pawb. Drwy wella iechyd menywod yng Nghymru, byddwn ni'n gwella iechyd y genedl. Diolch. 

17:30

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad heno, Gweinidog. Rwy'n falch o gael ymateb heddiw. Mae'r datganiad hwn yn newyddion i'w groesawu ac yn rhoi sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd iechyd menywod a'r brys sydd ei angen i gau'r bwlch iechyd rhywedd. Mae hefyd yn bwysig nodi meysydd yr ydym yn cytuno yn eu cylch a'r hyn, fel Aelod o'r wrthblaid, nad wyf i'n ei wrthwynebu er ei fwyn ei hun, ond am reswm bob tro. Yn y datganiad hwn heddiw, mae yna lawer o gyhoeddiadau calonogol yr wyf i'n falch o'u clywed. Ond yn gyntaf, hoffwn i atgoffa'r Gweinidog pa mor bell y tu ôl yr ydyn ni ar y mater hwn yng Nghymru, oherwydd oedi gan Lywodraeth Cymru, a'r mynydd y mae'n rhaid iddyn nhw ei ddringo oherwydd hynny. Ac yn ail, hoffwn i holi am fanylion y cynllun a sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau ei bod yn cyflawni ac yn gwneud cynnydd ar ei thargedau.

Cymru oedd yr unig wlad ym Mhrydain Fawr heb gynllun iechyd menywod. Cyhoeddodd Llywodraeth Geidwadol y DU eu un nhw ar gyfer Lloegr yn 2022, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi cyhoeddi eu cynllun nhw cyn diwedd 2024. Fel y gwyddon ni, er bod menywod a merched yn cyfrif am fwy na hanner poblogaeth Cymru, mae iechyd a lles menywod yn aml yn cael eu tanbrisio ac nid yw'n cael digon o adnoddau. Mae esgeulustod neu ddiofalwch wedi bod o ran poen difrifol y mislif, canser gynaecolegol, endometriosis, cyflyrau iechyd meddwl, a llawer o rai eraill, gydag anghydraddoldebau economaidd hefyd yn croestorri â'r anghydraddoldebau ehangach sy'n gysylltiedig ag iechyd menywod.

Mae ychydig llai na 30 y cant o fenywod a merched yng Nghymru yn wynebu poen difrifol adeg y mislif, sy'n dechrau yn ystod y glasoed ac nid yw'n cilio yn aml tan y menopos. Mae hyn yn golygu degawdau o ddioddefaint ac un i ddau ddiwrnod o ysgol neu waith yn cael eu colli bob mis, sy'n niweidiol i fywyd a gyrfa'r unigolyn ac yn ergyd i'r system gofal iechyd a'r economi. Rwy'n siŵr pe bai poen rheolaidd o'r fath yn effeithio ar ganran debyg o ddynion, byddai'r mater yn cael mwy o sylw gennym. Mae menywod hŷn hefyd yn arbennig o agored i broblemau iechyd meddwl, gydag iselder yn effeithio ar 28 y cant o boblogaeth fenywaidd y DU dros 65 oed, ac mae menywod yn wynebu mwy o risg o ddementia na dynion, gyda hyd at 65 y cant o'r bobl sy'n dioddef ohono yn fenywod.

Rydyn ni hefyd ar ei hôl hi o ddifrif yng Nghymru o ran trin endometriosis, gyda menywod yn aros 10 mlynedd am ddiagnosis. Mae'r amser y mae'n rhaid aros i gael diagnosis wedi cynyddu blwyddyn ers dechrau'r pandemig, ac mae'r cyflwr, sy'n boenus iawn, yn aml yn cael ei anwybyddu, gyda gweithwyr meddygol proffesiynol yn dweud wrth fenywod yng Nghymru eu bod yn gwneud ffwdan am ddim byd neu mai'r hyn yr oedden nhw'n ei brofi oedd poen mislif yn unig. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd benodi nyrsys endometriosis arbenigol i bob bwrdd iechyd yn 2022, ond eto fe waethygodd y problemau gyda chamddiagnosis, felly mae'n bwysig nad yw'r cynllun iechyd menywod ond yn dweud y peth iawn, ond ein bod ni'n gweld gwelliannau mesuradwy o ganlyniad i'r cynllun. Mae angen i ni weld clinigwyr yn cael eu haddysgu'n well ar iechyd menywod, fel nad yw eu poen yn cael ei hanwybyddu neu ei lleihau, ac rwy'n falch bod y datganiad yn cynnwys yr angen i weld agweddau yn newid.

O ran anghydraddoldebau economaidd sy'n seiliedig ar rywedd, y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y menywod mwyaf a lleiaf difreintiedig yw tua 17 mlynedd, sy'n ffigur anghredadwy. Felly, roeddwn i'n siomedig nad oedd y datganiad heddiw yn sôn am yr anghydraddoldebau iechyd sy'n wynebu menywod tlotach yng Nghymru. Rwy'n credu bod anghydraddoldeb yn ehangach yn un o faterion pwysicaf ein cyfnod ni yma yng Nghymru, a dylai fod yn rhan o'r cynllun iechyd menywod, gyda'r bwriad o ymdrin â'r anghydraddoldeb iechyd y mae llawer yn ei wynebu.

Gan symud ymlaen i hybiau iechyd menywod, rwy'n credu bod hwn yn gyhoeddiad cyffrous ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu cyflwyno a  dilyn eu cynnydd. Fe ddywedaf, fodd bynnag, y bydden i'n hoffi pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy mewn gofal iechyd cymunedol cyffredinol, sy'n brin mewn sawl ardal yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd, lle mae taer angen mwy o gapasiti ers degawdau ac nid yw wedi bod ar gael gan Lywodraeth Cymru.

I grynhoi, mae'r datganiad hwn yn newyddion i'w groesawu, ac rwy'n ymlaen at weld y mesurau sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun iechyd menywod yn cael eu cyflwyno'n gyflym. Ond hoffwn i bwysleisio hefyd y dylen ni fod wedi cael hyn flynyddoedd yn ôl, ac rydyn ni ar ei hôl hi yng Nghymru o ran cael cynllun iechyd menywod, ac mae angen diwygio iechyd menywod yn fwy cyffredinol mewn ffordd radical. Mae gan Lywodraeth Cymru fynydd i'w ddringo o ran pontio'r bwlch mewn iechyd menywod, ac er ein bod ni'n falch o'r cyhoeddiadau niferus, fel cyflwyno hybiau iechyd menywod, mae angen mwy o fanylion arnon ni ar beth yn union fydd yn cael ei weithredu, sut mae'r Llywodraeth yn disgwyl cyrraedd y targedau a'u cyflawni. Byddwn i hefyd yn annog y Gweinidog yn gryf i ystyried canolbwyntio ar rôl amddifadedd mewn anghydraddoldebau iechyd menywod a phennu targedau i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau economaidd i fywyd hir ac iach. Diolch yn fawr iawn.

17:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies, am y cyfraniad hwnnw. Diolch, yn ddidwyll, am roi i mi'r cwestiwn a'r feirniadaeth mwyaf amlwg rydyn ni wedi'u cael ar y cynllun iechyd menywod, fwy na thebyg, fel y gallaf fynd i'r afael ag ef yn glir iawn nawr. Y gwahaniaeth gyda chynlluniau iechyd menywod yr Alban a Lloegr oedd eu bod nhw wedi'u cynllunio gan y Llywodraeth ac yna cawson nhw eu rhoi i'r GIG i'w cyflawni, ac nid dyna'r hyn y gwnaethon ni ddewis ei wneud yma yng Nghymru. Mae yna fenywod yma yn yr oriel heddiw; nhw yw'r clinigwyr, nhw yw'r meddygon, nhw yw'r gynaecolegwyr, nhw yw'r arbenigwyr, a nhw sydd wedi'i ddylunio.

Mae'n fwy na 25,000 o eiriau; mae'n cael ei arwain yn glinigol, mae'n hollol eithriadol, ac mae'n rhoi i fenywod Cymru yr hyn y maen nhw'n ei haeddu. Mae wedi cymryd amser oherwydd ei fod mor dda, ac mae'n gynllun 10 mlynedd. Byddwn i'n dadlau, ar ôl darllen y ddau gynllun arall y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, fod hwn ymhellach ymlaen, ac rwy'n credu y bydd yn ein cael ni i'r un lle yn yr un amser. Ac ar ddiwedd y dydd, fel y sonioch, y canlyniadau sy'n bwysig. Ond rwy'n gwerthfawrogi'r cwestiwn, oherwydd mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei grybwyll nifer o weithiau. Rydyn ni wedi'i wneud yn wahanol yng Nghymru, ac rwy'n credu ein bod ni wedi'i wneud mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer maint ein cenedl ni ac ar gyfer y menywod ac ar gyfer yr hyn y gwnaethon nhw ofyn amdano.

Rwyf hefyd wir eisiau diolch i chi, yn ddiffuant, am ailadrodd llawer o'r teimladau sydd gan fenywod, ac am ddangos empathi â hynny. Rwy'n credu y bydd hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi eich bod chi bob amser yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles, ac mae hyn yn gwbl hanfodol. Mae adran o fewn y cynllun sy'n ystyried hyn yn benodol. A hefyd, mae cymaint o hyn yn mynd i fod yn ymwneud â gweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, er enghraifft, fi yw'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant; byddaf i'n cyflwyno dwy strategaeth y flwyddyn nesaf. Bydd hyn i gyd yn cael ei ymgorffori ynddo.

Yr un yw'r ateb, mewn gwirionedd, ar gyfer y cynllun iechyd dementia. Cawson ni drafodaeth dda iawn ar hynny yr wythnos diwethaf. Mae'r ystadegau yn y cynllun iechyd menywod hwn i ddweud ein bod ni'n gwybod bod menywod yn cael diagnosis yn ddiweddarach, bod llai ohonyn nhw'n cael diagnosis. Felly, mae hynny'n rhywbeth y gallaf sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys yn y strategaeth honno hefyd.

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi tynnu sylw at endometriosis. Mae hyn yn rhywbeth lle nad ydyn ni wedi aros i'r cynllun gael ei gyhoeddi. Dyma pam, pan oedd y Prif Weinidog yn ymgymryd â rôl iechyd menywod, fe sicrhaodd ar unwaith fod gan bob bwrdd iechyd nyrs endometriosis a rhywun yno a fyddai'n gallu cefnogi menywod. Rwy'n credu mai'r peth allweddol yma, er hynny, yw bod yn rhaid i ni sicrhau, yn y cynllun tair blynedd cychwynnol hwnnw, bod y rolau hynny'n dal i wneud yn siŵr mai dyna'r flaenoriaeth, eu bod nhw'n dal i ganolbwyntio ar endometriosis.

Fe wnaethoch chi ofyn llawer o gwestiynau wedyn am fod yn fesuradwy. Dydw i ddim yn credu y gallen ni fod wedi cael targedau cliriach yma. Mae gennym ni wyth maes blaenoriaeth, 60 o ymrwymiadau a blaenoriaethau y bydd pob un ohonyn nhw'n cael eu cyflawni ac y mae modd eu cyflawni oherwydd bod y GIG wedi dweud y byddan nhw'n eu cyflawni yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Ond nid dim ond hynny, mae yna arian i fynd gydag ef, oherwydd mae'r arian yn bwysig. Gofynnwch i unrhyw un: mae'r arian yn bwysig, ac mae gennym ni'r arian—mae'r arian yn cael ei roi yma.

Mae'n ddrwg gennyf na wnaethoch chi fy nghlywed i'n sôn ddwywaith yn fy sylwadau agoriadol am ffactorau economaidd-gymdeithasol a chroestoriadedd ac amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae'n ddrwg gennyf na wnaethoch chi ddarllen yr adrannau yn y cynllun iechyd menywod sy'n sôn yn benodol am yr anghydbwysedd economaidd-gymdeithasol, y trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n treiddio drwy bopeth, yn ogystal â llawer o gynlluniau y mae fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet Jane Hutt, yn eu harwain. Rydyn ni'n gwbl ymwybodol o hyn. Llywodraeth Lafur Cymru ydyn ni: rydyn ni'n deall yr hyn mae hynny'n ei olygu, ac rydyn ni'n deall yr effaith y mae'n ei chael.

Dim ond i orffen, hoffwn anghytuno â rhai o'r pethau y gwnaethoch chi eu dweud. Rwy'n credu bod hyn yn radical. Rwy'n credu ein bod ni'n rhoi arian yno. Rwy'n credu bod yna amserlenni, ac rwy'n credu bod hwn yn ddiwrnod da iawn i fenywod yng Nghymru. Diolch.

17:40

Hir yw pob ymaros. 

Rwy'n croesawu cyhoeddi'r cynllun hwn. Mewn gwirionedd, mae'n hen bryd. Hoffwn i ddechrau drwy dalu teyrnged i'r rhanddeiliaid a'r Aelodau niferus ar draws y Siambr hon sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ar y mater hwn. Menywod yw'r mwyafrif, sef 51 y cant o'r boblogaeth, ac eto am lawer gormod o amser, mae eu hanghenion iechyd nhw wedi cael eu gwthio i'r cyrion. Mae'r ffaith ein bod ni wedi gorfod aros sawl blwyddyn i'r cynllun hwn ddod i'r amlwg o'r diwedd yn arwydd o'r annhegwch sylfaenol hwn sydd wrth wraidd ein system iechyd.

Er fy mod i'n derbyn y mewnbwn gan wahanol aelodau o'r cyhoedd i'r cynllun hwn, mae Cymru'n dal i lusgo y tu ôl i'r Alban a Lloegr wrth weithredu cynllun iechyd menywod sy'n addas ar gyfer y degawd sydd i ddod. Byddwn i'n annog y Llywodraeth i wneud yn iawn am yr amser sydd wedi'i golli nawr bod y cynllun yma o'r diwedd, ac i sicrhau bod ei fwriadau'n cael eu rhoi ar waith mor gyflym ac effeithiol â phosibl, oherwydd mae'r dystiolaeth bod menywod yn dioddef oherwydd y system iechyd bresennol yn aruthrol.

Y rhestr aros ar gyfer cyflyrau gynaecolegol, er enghraifft, yw'r pumed uchaf o'r 82 o fathau o driniaethau sydd wedi'u rhestru ar wefan StatsCymru, sef bron i 51,000 o lwybrau. Fel yr wyf wedi'i grybwyll sawl gwaith, mae amseroedd aros canser yn gyffredinol yng Nghymru, sy'n dal i fod ymhell o'r targedau a argymhellir yn glinigol, yn frawychus, ond mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth ar gyfer canserau gynaecolegol, gyda'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai dim ond 38 y cant o gleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.

Mae'r un peth yn wir am ganser ceg y groth, y canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod ifanc o dan 35 oed yng Nghymru, ac eto mae'r Llywodraeth yn parhau i lusgo'i thraed ar gyflwyno pecynnau hunan-sgrinio HPV, dull profedig y mae dros hanner menywod yn ei ffafrio o gymharu â phrofion serfigol traddodiadol. A dim ond 70 y cant o fyfyrwyr blwyddyn 9 a blwyddyn 10 sy'n cael eu brechiadau HPV—ymhell islaw targed Sefydliad Iechyd y Byd o 90 y cant y mae angen ei gyrraedd i ddileu canser ceg y groth erbyn 2030. Mae modd atal canser ceg y groth, a dyna pam mae angen i ni weld gweithredu.

Mae darlun tebyg yn dod i'r amlwg o ran endometriosis. Er gwaethaf y ffaith ei fod yn effeithio ar tua un o bob 10 o fenywod, mae'n gyflwr sydd ond yn cael ei gydnabod yn ddiweddar gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu, ac unwaith eto, mae menywod Cymru yn arbennig, wedi cael eu siomi. Ar gyfartaledd, mae'n cymryd naw mlynedd ac 11 mis i fenywod yng Nghymru gael diagnosis o endometriosis, sef yr amser aros hiraf yn y DU. Pryd y byddwn ni'n gweld system atgyfeirio well, a fydd yn sicrhau gwell ymatebion i gleifion endometriosis yma yng Nghymru?

Rydym yn gwybod bod menywod ag anableddau dysgu yn dioddef o anghydraddoldebau enfawr, ond ni chyhoeddwyd unrhyw fersiwn 'hawdd ei darllen' o'r cynllun hwn, a dim ond unwaith y mae'n cyfeirio at fenywod ag anableddau dysgu. A all y Gweinidog esbonio'r hepgoriad hwn?

Rwy'n croesawu'r gronfa ar gyfer ymchwil, ond rwy'n pryderu nad yw £750,000 yn ddigon o bell ffordd. Byddai unrhyw adran ymchwil prifysgol yn disgwyl isafswm o £1 filiwn i allu gwneud darn ystyrlon o waith. Mae Llywodraeth yr Alban, unwaith eto, wedi darparu £4 miliwn ar gyfer ymchwil. Felly, a all y Gweinidog fanylu ar yr hyn y mae'n gobeithio ei gyflawni gyda'r gyllideb ymchwil hon?

Ac yna mae normaleiddio poen corfforol ac emosiynol menywod yng nghyd-destun geni plant, iechyd meddwl amenedigol ac ôl-enedigol, a'r menopos, pwnc y gwnaeth fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, ddwyn at sylw'r Senedd yn briodol yn ystod ei dadl Aelod ddiweddar. A all y Gweinidog gadarnhau a fydd amcanion y cynllun yn cael eu hategu gan dargedau a cherrig milltir wedi'u diffinio'n glir ai peidio, gydag adnoddau cyfatebol yn cael eu rhoi yn flynyddol yn hyn o beth?

Ac a all y Gweinidog fanylu ar yr effaith y bydd y datganiad hwn yn ei chael ar lefelau staffio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn iechyd menywod? A allwn ni ddisgwyl y byddan nhw'n ddigonol i ateb y galw? Er mwyn i'r cynllun hwn fod yn wirioneddol effeithiol, rhaid i ni weld newidiadau diwylliannol hefyd. Mae gan ein hysgolion, ein prifysgolion a'n sefydliadau cyhoeddus gyfrifoldeb i lywio ac addysgu ar faterion iechyd menywod, a thrwy hynny, ymdrin â'r stigma a'r tabŵs niweidiol sydd wedi bod yn gysylltiedig yn rhy aml â'r maes gofal iechyd hwn. Dylai gweithleoedd gael eu hannog i gael canllawiau a phrotocolau penodol ar waith ar gyfer materion fel poen mislif, fel nad oes rhaid i fenywod ddioddef yn dawel. Yn bennaf oll, mae angen cydnabyddiaeth gymdeithasol arnon ni fod ymdrechu tuag at gydraddoldeb rhywedd wir yn fater iechyd cyhoeddus, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y cynllun hwn yn mynd â ni gam ymlaen ar y llwybr hwn.

17:45

Diolch yn fawr iawn, iawn. Rydw i wedi gwneud nodyn o bob un o'r rheini, rwy'n gobeithio, Mabon. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi gofyn llawer o gwestiynau am hyn o'r blaen. Rydych chi'n angerddol iawn, yn enwedig ynghylch amseroedd aros canser gynaecolegol, yr wyf i'n deall hynny.

Gan ddod yn ôl, serch hynny, at nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud nawr i gyflawni, i'ch sicrhau: felly, hyd yn oed cyn gynted â dechrau'r flwyddyn nesaf, y pethau nesaf fydd yr hybiau iechyd menywod. Byddan nhw'n cael eu neilltuo ar gyfer gwaith, eu cwmpasu, ym mhob un bwrdd iechyd, a byddwn ni'n cael adborth ar hynny ym mis Mawrth 2026. Bydd gennym ni wefan iechyd menywod. Mae hynny'n gwbl hanfodol o ran cael yr addysg honno, y grymuso hwnnw, menywod yn gallu eirioli drostyn nhw eu hunain, mwy o dryloywder o ran llwybrau. Felly, mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn. Rydyn ni hefyd yn mynd i wreiddio 'gwneud i bob cyswllt gyfrif', oherwydd dyna'r peth—fel y gwnaethoch chi ei ddweud, menywod, mae gennym ni sgrinio, rydyn ni'n mynd i weld ein meddygon teulu, rydyn ni'n dod i gysylltiad â'r GIG, ac mae pob cyfle yn gyfle i godi'r cwestiynau hyn, codi'r materion hyn, a gobeithio eu cyfeirio nhw at y wefan fel y gallan nhw edrych arni yn eu hamser eu hunain. Felly, mae'n ymwneud â hyn oll yn dod at ei gilydd i rymuso menywod.

Mae gennym ni hefyd iechyd y pelfis ac anymataliaeth—felly mae gennym ni waith yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth, a hefyd i roi gwybodaeth o safon am iechyd y pelfis ac iechyd amenedigol, gan gynnwys fideos, sy'n mynd i fod yn cael ei chyhoeddi. Ac yna o ran endometriosis, bydd yn ymwneud â darparu addysg a hyfforddiant i bob ymarferydd gofal iechyd ynghylch endometriosis fel cyflwr cronig. Rydyn ni'n mynd i wreiddio lleisiau menywod, rydyn ni'n mynd i ganolbwyntio ar amseroedd aros gynaecoleg, ac rydyn ni'n mynd i gael gweithgarwch codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu parhaus. Felly, mae hynny'n mynd i fod ar unwaith, nawr ein bod ni yma ac yn barod i gyflawni.

O ran canser gynaecolegol a'r amseroedd aros, rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad heddiw, dim ond i'w gwahanu, a dweud y gwir, oherwydd mae gennym ni'r llwybr canser eisoes, felly doedden ni ddim yn mynd i gael canser gynaecolegol yma hefyd. Fodd bynnag, mae cymaint—. Roeddwn i ar bwyllgor y Senedd pan wnaethon ni'r ymchwiliad i ganserau gynaecolegol, a dyna'r tro cyntaf i mi glywed yr ymadrodd hwnnw gan Claire O'Shea, a soniodd am 'ddibwyllo meddygol'. Roedd Judith Rowlands, nad yw hi gyda ni bellach—yn sicr, roedd hi'n dweud wrth ei chlinigwyr, 'rwy'n gwybod bod y canser wedi dod nôl', ac fe wnaethon nhw wrthod ei chredu hi nes ei bod hi'n rhy hwyr. Mae hwn wedi bod yn fy nghalon ac yn fy mhen bob amser wrth i ni roi hyn at ei gilydd, fel y gwn sy'n wir am lawer o fenywod.

Roedd yna uwchgynhadledd gynaecolegol yn yr haf. Unwaith eto, daeth y bobl orau o bob rhan o Gymru at ei gilydd gan nodi'r llwybrau y byddan nhw'n edrych arnyn nhw nawr. Mae rhai o'n byrddau iechyd yn gwneud yn iawn a dydy eraill ddim, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn onest iawn am hynny. Gadewch i ni ei dweud hi fel y mae hi a dweud nad yw'n ddigon da, a sicrhau hefyd, pan fyddwn ni'n targedu arian ar gyfer rhestrau aros, fod menywod yn cael eu cynnwys a bod y materion gynaecolegol yn cael eu cynnwys.

HPV a gwaith atal—mae yna adran gyfan yn y cynllun ar y gwaith atal hwnnw. Unwaith eto, mae'n ymwneud ag addysg, mae'n ymwneud â grymuso, mae'n ymwneud â sicrhau bod menywod yn benodol yn cael y mynediad hwnnw at iechyd rhywiol ac yn teimlo'n gyfforddus i allu siarad am y pethau hyn. Fe sonioch chi hefyd, fel y bydd llawer yn sôn heddiw, rwy'n siŵr, am endometriosis, oherwydd chi oedd yr un a ddywedodd nad oeddech chi'n ymwybodol o endometriosis nes i chi ddechrau gweithio yn y Senedd, ac a dweud y gwir, rydw i wedi dysgu cymaint o wneud hyn hefyd. Rwy'n credu ei fod yn fath o destament i rym y menywod. Mae eich lleisiau chi wir wedi dod drwy'r Senedd ac wedi ein gwthio ni i gyflawni hyn. Gydag endometriosis, rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu, ac mae'n un o'r blaenoriaethau allweddol hefyd, felly mae'n sicr wedi cael ei nodi gan y menywod sy'n dod drwodd. Rwy'n gweithio gyda'r JCC nawr, y cydbwyllgor comisiynu, oherwydd dylai fod yn arbenigedd, yn fy marn i. Rwy'n credu mai dyna'r llwybr yr ydyn ni arno, oherwydd y broblem sydd gyda ni ar hyn o bryd yw, pan fo gennych chi gwpl o ganolfannau yng Nghymru, pan na allan nhw dderbyn unrhyw un arall oherwydd nad yw'n arbenigedd, mae'n anodd iawn wedyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal yna. Dyna'r hyn sy'n cael ei gyfleu i ni. Rydyn ni'n gweithio ar ddatrysiad.

O ran anableddau dysgu, byddwn i'n dadlau bod hynny'n dod o dan croestoriadedd, oherwydd mae llawer ohono o gwmpas—. A chroestoriadedd—wrth hynny rwy'n golygu'r gwahaniaethu o ran iechyd, y stigma a'r ystrydebau. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi bod yn ei drafod gyda'r rhwydwaith menywod, ac wrth symud ymlaen, oherwydd mai dogfen fyw yw hon, bydd hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ychwanegu ato gyda mwy o astudiaethau achos wrth i ni weithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd, i nodi'r hyn y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Unwaith eto, fi yw'r Gweinidog anableddau dysgu, felly mae hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon.

Rwy'n falch eich bod chi wedi gofyn hefyd am y gyllideb ymchwil o £750,000, oherwydd, unwaith eto, roeddwn i'n siarad â'r menywod y tu allan sy'n mynd i fod yn cyflawni hyn, ac fe ddywedais i, 'Ydy e'n ddigon?', oherwydd mae pobl wedi bod yn dweud nad yw'n ymddangos ei fod yn llawer, ac mae'n ddrwg gennyf, rydw i wedi anghofio'r gair y gwnaethoch chi ei ddweud wrthyf, ond, yn y bôn, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynd i roi'r arian hwnnw i mewn iddo yn golygu ei fod fel deorydd. Bydd yn dod â mwy o arian i mewn. Dyma'r hyn y dywedodd y menywod mewn ymchwil—athrawon prifysgolion—wrthyf. Bydd yn dod â mwy o arian i mewn. Mae'n ei gwneud yn glir bod yr hyn yr ydyn ni'n ei ariannu, yr ymchwil hon, yn bwysig. A dim ond i ddweud, nid dyma'r unig le y gallwch chi gael cyllid ar gyfer unrhyw rai o'r prosiectau hyn. Mae yna lwybrau eraill hefyd. Ond mae hyn yn mynd i fod yn benodol iawn, ac mae'n mynd i gael ei nodi gan y menywod, unwaith eto, sy'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud, ac sy'n mynd i sicrhau ein bod ni'n cael y gorau ohono ar gyfer menywod yng Nghymru, ac sy'n mynd i ymdrin â'r anghydraddoldeb hwnnw mewn ymchwil.

Dim ond i ddweud hefyd, bydd, fe fydd dangosyddion perfformiad allweddol a fydd yn cael eu gosod. Mae'r agwedd cymhwysedd diwylliannol yn bwysig iawn. Mae rhannau yma hefyd—. Mae yna flaenoriaethau a cherrig milltir allweddol hefyd ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach a'r gweithle. Ac, ie, diolch am ei groesawu. Unrhyw beth arall nad wyf wedi'i drafod, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch chi amdano, neu bydd y rhwydwaith iechyd menywod, rwy'n siŵr, yn ei nodi ac yn ysgrifennu atoch chi amdano, ond mae hyn yn hynod gynhwysfawr, a byddwn i'n eich sicrhau bod popeth yr ydych chi wedi'i grybwyll wedi cael ei ystyried, a byddwn ni'n parhau i'w wneud yn well ac yn well.

17:50

Diolch am y datganiad heddiw.

Yn amlwg, rwy'n croesawu cyhoeddi'r cynllun iechyd menywod heddiw, ac yn enwedig y gwaith a fydd yn deillio o hynny, oherwydd mae'r cynllun yn un peth ond yr hyn rydyn ni i gyd eisiau gweld yw'r newid ymarferol a'r gwelliannau a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rwyf wedi codi yma yn flaenorol fy nghysylltiadau fy hun a'r diddordeb sydd gennyf mewn gwella canlyniadau canser gynaecolegol, a byddwn i'n croesawu sgwrs arall gyda chi am hynny.

Ond heddiw roeddwn i eisiau canolbwyntio ar yr elfennau o groestoriadedd y mae'r cynllun yn cyffwrdd â nhw, ac i godi rhywbeth ynghylch sut y bydd y cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru efallai, fel y cynllun gweithredu LHDTC+, oherwydd un o'r pethau yn hwnnw mewn gwirionedd yw—. Mae hi bron fel hanfodion helpu ymarferwyr i gydymdeimlo a deall sefyllfaoedd ymarferol aelodau o'r gymuned LHDTC+ yn well. Rwy'n credu fy mod wedi dweud unwaith yn y fan yma mewn cyd-destun gwahanol iawn, bod dod allan, yn debyg i ddatganoli, yn broses yn hytrach na'n ddigwyddiad, ac yn sicr mae wedi teimlo felly i mi ar brydiau, pan wyf wedi bod at y meddyg teulu neu wasanaethau amrywiol ac yn gorfod esbonio neu amddiffyn fy sefyllfa. Diolch byth, mae gennyf i'r hyder i wneud hynny, ond dydy hi ddim wedi bod felly bob amser. Felly, a gaf i ofyn a oes modd rhoi ystyriaeth bellach i sut y bydd y cynlluniau hynny'n gweithio gyda'i gilydd, ac ar rai o'r pethau syml iawn hynny a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl?

17:55

Diolch yn fawr iawn, Hannah Blythyn, am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, fe wnaethoch chi arwain a chyflwyno 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru', y mae cynllun iechyd menywod Cymru yn cyfeirio ato hefyd. Ac fe fyddwn i'n ailadrodd, am wn i, yr hyn a ddywedais wrth Mabon ap Gwynfor, sef yr hyn rwyf wedi'i ddysgu fy hun drwy gydol y broses hon am yr hyn mae'r croestoriadedd hwnnw wir yn ei olygu. Mae'n golygu gwahaniaethu, y gwahaniaethu hwnnw o ran iechyd, mae'n golygu'r stigma hwnnw, ac mae'n golygu, yn ogystal â'r ystrydebau hynny, y rhagdybiaethau hynny sy'n cael eu gwneud am bobl. Ac roeddwn i'n edrych drwy'r cynllun gweithredu y gwnaethoch chi arwain arno, ac roeddwn i eisiau dweud, yn amlwg, mae yna adran yno o dan ofal iechyd, ac mae llawer ohono'n ymwneud â chodi'r ymwybyddiaeth honno, pontio'r bylchau hynny, atal pobl rhag gwneud y rhagdybiaethau hynny, ac rwy'n credu y bydd y rhwydwaith iechyd menywod yn fwy na pharod i weithio gyda chi ac yn gallu cydweithio i gyflawni'r pwynt gweithredu hwnnw sydd gennych chi yn eich cynllun. Ac rwy'n ei groesawu'n fawr hefyd ar gyfer pob menyw yng Nghymru, ledled Cymru. Felly, ie, yn hollol, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am gyhoeddi'r cynllun mawr ei angen a hirddisgwyliedig hwn. Mae rhai meysydd sy'n peri pryder yr wyf eisiau cyffwrdd â nhw, nad wyf i'n teimlo eu bod yn cael sylw hollol gywir yn y cynllun. Yn gyntaf, rwy'n teimlo ei bod yn hanfodol ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canserau sy'n benodol i fenywod. Mae bob amser yn wirioneddol drasig pan fydd symptomau'n cael eu hanwybyddu neu nad ydyn nhw'n cael eu cydnabod nes ei bod hi'n rhy hwyr ac, yn anffodus, mae bywydau'n cael eu colli. Yn wir, roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r cynllun yn cydnabod yr angen brys i leihau amseroedd diagnosis ar gyfer y grŵp hwn o ganserau, ond mae'n ymddangos bod hyn wedi'i anwybyddu. Yn wir, mae Breast Cancer Now wedi cyhoeddi datganiad heddiw o ran yr union gynllun hwn, gan nodi eu bod yn siomedig iawn nad oes unrhyw fanylion wedi'u rhoi ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella canfod canser yn gynnar a gofal ar gyfer y rhai sydd â chanser y fron pan fydd un o bob saith menyw yn y DU yn datblygu'r clefyd yn ystod ei hoes. Diwedd y dyfyniad. 

Gan fy mod i'n sôn am ganser y fron, roeddwn i eisiau sôn am y cleifion hynny sydd angen adlunio'r fron yn dilyn mastectomi. Effeithiodd COVID yn ddifrifol ar driniaethau o'r fath ac, yn 2023, roedd adroddiadau am etholwr i mi a oedd wedi aros chwe blynedd i gael ei llawdriniaeth adluniol oherwydd bod y llawdriniaeth wedi'i chanslo nifer o weithiau. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr agwedd bwysig a phenodol hon ar ofal iechyd menywod yn cael sylw digonol?

Nawr, gan aros gyda chanserau sy'n benodol i fenywod, ar ôl darllen y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd heddiw ar ganserau gynaecolegol, rwy'n deall y bydd dysgu digidol yn cael ei gyflwyno i feddygon teulu i, ac rwy'n dyfynnu,

'helpu timau clinigol i asesu pobl sy'n dangos symptomau, a gwneud penderfyniadau atgyfeirio da.'

Fodd bynnag, rydyn ni i gyd yn gwybod yma yn y Siambr hon faint o bwysau sydd ar feddygon teulu, ac rwy'n pryderu efallai na fydd hyn yn digwydd mor gyflym ag sydd ei angen.

Yn union fel fy nghyd-Aelod Gareth Davies, rwyf wir yn falch bod endometriosis yn rhan ganolog o'r cynllun, ond a oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i atal menywod rhag camgymryd symptomau fel rhan arferol o'u cylch mislif? Bydd llwyddiant y cynllun hwn yn cael ei farn ar p'un a fyddwn ni'n gweld gostyngiad mewn amseroedd aros ar gyfer trin a diagnosio materion iechyd menywod, ynghyd â chau'r bwlch iechyd rhywedd. Fel llawer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon, rydw i wir yn awyddus i weld y cynllun hwn yn llwyddo o ran nodi llwybr newydd ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru, ac rwy'n mawr obeithio, ar gyfer pob un fenyw yng Nghymru, nad ydyn ni yma ymhen 10 mlynedd yn siarad am unrhyw gyfleoedd a gafodd eu colli. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Felly, o ran y canser, fel yr wyf wedi'i ddweud—a byddai hyn hefyd yn berthnasol i ganser y fron—doedd y cynllun iechyd menywod byth yn mynd i'w cynnwys fel y blaenoriaethau allweddol, oherwydd mae'r rhaglen llwybr canser yno eisoes. Ac felly drwy eu gwahanu, roedd y clinigwyr sydd yma heddiw ac sydd wedi dylunio ac wedi datblygu hyn yn teimlo—drwy ei wahanu, byddai'n ei wneud yn gymhleth ac yn ei wneud yn ddryslyd. Felly, dydw i ddim eisiau i neb feddwl, oherwydd nad yw yn y cynllun iechyd menywod hwn, nad yw'n rhywbeth yr ydyn ni'n ei gymryd o ddifrif. A dyna'n union pam y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet roi datganiad heddiw yn esbonio'n benodol am ganser. Rwy'n ymddiheuro os yw Breast Cancer Now, rwy'n credu eu bod nhw'n—os nad ydyn nhw wedi teimlo bod hynny hefyd wedi eu cynnwys nhw. Ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n codi hynny, ac mae hynny'n hollol iawn. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, er hynny, yw mai diben y cynllun hwn hefyd yw sicrhau bod menywod yn cael gwrandawiad ac yn cael eu clywed pan fyddan nhw'n cyflwyno gyda'r symptomau hynny. 

Fe ofynnoch chi am gael yr ymgyrchoedd. Yr hyn yr ydyn ni'n dueddol o'i wneud fel Llywodraeth Cymru yw ein bod ni'n dueddol o gefnogi elusennau a sefydliadau gyda'u hymgyrchoedd. Mae hyn wedi profi i fod yn llawer mwy effeithiol. Ac yna, fel y soniais i, rydyn ni'n mynd i gael y wefan cynllun iechyd menywod, lle byddwn ni'n gallu cael cyfoeth o wybodaeth, gan gynnwys tryloywder ynghylch y llwybrau hynny. Mae'n ddrwg iawn gennyf i glywed am eich etholwr sydd wedi gorfod aros mor hir. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallwn ni ei godi.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am yr hyfforddiant ar gyfer meddygon teulu. Mae ganddyn nhw lawer i'w wneud, ond o fy mhrofiad i gyda meddygon teulu, wrth siarad â nhw am hyn, yw eu bod nhw eisiau dysgu mwy, maen nhw eisiau mwy—[Torri ar draws.] Maen nhw eisiau gallu ei wneud, ac rydyn ni'n trafod gyda nhw hefyd, oherwydd fi hefyd yw'r Gweinidog dros arloesi ym maes iechyd digidol, ynghylch ap y GIG, ynghylch yr ap mamolaeth. Mae'r rhain yn bethau y maen nhw'n eu cynnwys yn y cynllun oherwydd byddan nhw'n gwneud cymaint o wahaniaeth i bawb yng Nghymru, ac yn enwedig menywod. Unwaith eto, mae'n ymwneud â'r addysg honno, y grymuso hwnnw, yr eiriolaeth honno, ac rwy'n credu bod popeth yr ydych chi'n gofyn amdano, rydyn ni wedi dod o hyd i ffordd o yrru hynny ymlaen, ond, unwaith eto, unrhyw beth yr hoffech chi ei godi wedyn, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Mae hon yn ddogfen fyw. Dyna'r hyn sy'n dda amdani. Gallwn ni ychwanegu ati a gallwn ni gynnwys mwy wrth i ni fynd ymlaen.

18:00

Yn ddiweddar, atgoffais i'r Prif Weinidog o'r profiadau ofnadwy a niweidiol y mae menywod yng Nghymru a gafodd rhwyll y wain wedi'i ffitio yn parhau i'w cael, a nodais nad oedd yr adroddiad darganfod cychwynnol yn sôn amdanyn nhw o gwbl, felly gofynnais iddi hi sut y byddai triniaeth cleifion rhwyll yn cael ei chynnwys yn y cynllun, pa gyllid fyddai'n cael ei ddyrannu iddyn nhw, pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth newydd San Steffan ynghylch yr ymateb ledled y DU i adroddiad Hughes, oherwydd dydyn ni ddim wedi cael unrhyw ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, er i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi fis Chwefror diwethaf. Mewn ymateb, fe ddywedodd wrthyf y byddai'n rhaid i ni aros i'r cynllun gael ei gyhoeddi, ac mae hi wedi ysgrifennu ataf heddiw yn cadarnhau nad oes unrhyw sôn am y materion hyn yn y cynllun, er bod addewidion wedi'u gwneud i'r grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan Vaughan Gething ynghylch gwasanaethau arbenigol. Felly, pryd allwn ni ddisgwyl ymateb ar adroddiad Hughes? Dywedodd Dr Hughes fod hyn yn sgandal iechyd ac yn anghyfiawnder mor fawr â thalidomid, ac mae'n effeithio'n benodol ar fenywod, miloedd o fenywod yng Nghymru. Felly, dydy e ddim yn ddigon da i'r Prif Weinidog ddweud yn ei llythyr wrthyf nad yw'r cynllun yn gallu sôn am bob maes iechyd menywod a'i fod yn enghraifft o beidio ag ymdrin â'r mater hwn. Felly, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd, Gweinidog?

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams, am barhau i godi'r mater hwn. Yn fy nhrafodaethau â menywod sydd wedi cael rhwyll y pelfis, maen nhw wedi dweud wrthyf ei bod yn un o'r enghreifftiau cliriaf, fwy na thebyg, o anghydraddoldebau iechyd menywod yr ydyn ni erioed wedi'u gweld, y ffordd y mae hyn i gyd wedi digwydd. Fel y dywedoch, ysgrifennodd y Prif Weinidog atoch chi'r bore yma i egluro ar ôl i chi ofyn y cwestiwn yn y datganiad, ac roeddwn i hefyd eisiau dweud bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llwyr y menywod sy'n dioddef o ganlyniadau mewnblaniadau rhwyll. Y cynllun iechyd menywod yw ymateb y GIG i'r datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched a'r adroddiad darganfod, ac mae'r cynllun yn gynllun cenedlaethol sydd â'r nod o wella gwasanaethau iechyd ar gyfer menywod a phrofiadau menywod. Ac er nad yw'r cynllun yn sôn yn benodol am rwyll, mae'r cynllun yn cynnwys wyth maes blaenoriaeth a nodwyd gan fenywod yn y cam darganfod, ac mae'r penderfynyddion a arweiniodd at brofiadau niweidiol menywod yn cael cymhlethdodau rhwyll yn cael sylw yn y cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion adroddiad Dr Hughes. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod ymateb Llywodraeth y DU yn ystyried yr effaith ar gleifion sydd wedi'u niweidio mewn gwledydd datganoledig. Mae iechyd y pelfis ac anymataliaeth yn faes blaenoriaeth yn y cynllun iechyd menywod, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn hynod angerddol drosto. Os gofynnwch chi i unrhyw un, dyma'r rhan lle roedd hi'n mynnu'n llwyr ein bod ni'n ymdrin â hyn, ac mae hi'n angerddol iawn, iawn dros sicrhau bod hyn yn cael sylw. Felly, byddwn ni'n gallu ymateb cyn gynted â phosibl, rwy'n eich sicrhau chi.

Roeddwn i eisiau gofyn am ddau beth. Yn gyntaf, endometriosis, ac mae'n rhaid i ni ddiolch i sefydliadau fel Triniaeth Deg i Fenywod Cymru am roi sylw i hyn—y bobl sy'n trefnu'r gorymdeithiau endo ledled y DU sydd wedi helpu i addysgu'r boblogaeth gyfan. Dydy hwn ddim yn bwnc nawr nad oes prin neb yn gwybod amdano, a diolch i chi am gydnabod yn eich cynllun bod yr un o bob 10 o fenywod ag endometriosis yn dangynrychiolaeth, fwy na thebyg, oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd i gael diagnosis a'r 26 o ymweliadau â'r meddyg cyn i chi gael y diagnosis hwnnw. Felly, mae'n amlwg bod angen mwy o hyfforddiant ar feddygon teulu, na allan nhw wybod popeth, oherwydd meddygon cyffredinol ydyn nhw, ond mae angen gwell hyfforddiant o lawer arnon ni hefyd ar gyfer gynaecolegwyr, oherwydd y nifer o fenywod yr wyf wedi cwrdd â nhw sydd wedi bod sawl gwaith i weld gynaecolegydd nad yw wedi gwrando yn ddigon gofalus ac maen nhw wedi gorfod mynd yn breifat er mwyn cael diagnosis endometriosis. Felly, ni ddylai fod wedi cymryd yr ymchwiliad cyfrinachol cenedlaethol a gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf i gydnabod bod gwir angen i ni hyfforddi pobl y mae eu swydd ym maes iechyd gynaecolegol menywod i wybod mai dyma un o'r prif faterion y dylen nhw fod yn chwilio amdano. Felly, mae'r nyrsys endo a sefydlwyd gan y Prif Weinidog pan oedd hi'n Weinidog iechyd wedi bod yn bwysig iawn, ynghyd â'r adnoddau ar-lein amrywiol ar gyfer paratoi menywod i wybod pa gwestiynau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gofyn a pheidio â gadael heb yr atebion pan nad yw'r clinigydd o reidrwydd yn chwilio am endometriosis.

Felly, fy nghwestiwn ar hyn yw allwn ni ddim parhau gydag un ganolfan drydyddol yn unig, oherwydd gall Caerdydd ddim ariannu hyn ar sail un i mewn, un allan, o ystyried y gall y llawdriniaethau hyn gymryd hyd at wyth awr a chynnwys sawl clinigydd arbenigol. Felly, dau fater tymor canolig: y model ariannol, a thybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydyn ni'n mynd i ddatblygu'r model ariannol hwn ar gyfer canolfannau trydyddol eraill, oherwydd dydy e ddim yn deg o gwbl bod yn rhaid i bobl o'r gogledd neu'r gorllewin ddod yr holl ffordd i Gaerdydd, ac, a dweud y gwir, mae gan y bobl yng Nghaerdydd restr aros hir iawn yn barod. Felly, mae'n amlwg bod angen mwy o feddygon ymgynghorol endo arnom. Os gallech chi ddweud ychydig mwy am y peth tymor canolig hwnnw, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr ydyn ni wedi bod yn gofyn amdano ers amser maith.

Yn ail, rwyf eisiau siarad am baratoi pobl ar gyfer beichiogrwydd, oherwydd nid yn unig y mae angen mwy o'r doliau digidol Baby Think It Over arnon ni, sy'n helpu pobl ifanc i ddeall nad yw dod yn rhiant yn rhwydd—mae'n ymrwymiad gydol oes—rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf pryderus yw bod bydwragedd yn dweud nad ydyn nhw'n treulio digon o amser gyda phobl i fagu'u hyder, felly, pan fyddan nhw'n dweud nad yw'n syniad da gwneud x, mae'r menywod wedi magu'r hyder hwnnw a dydyn nhw ddim yn derbyn yr hyn maen nhw wedi'i glywed ar y stryd neu'r hyn maen nhw wedi'i ddarllen ar-lein yn unig. Felly, mae angen iddyn nhw dreulio mwy o amser gyda darpar rieni i sefydlu'r ymddiriedaeth angenrheidiol honno, yn enwedig pan edrychwch chi ar yr ystadegau eithaf digalon yr ydych chi wedi'u cyhoeddi yn yr adroddiad ynghylch y ffaith bod—. Yn amlwg, rydyn ni i gyd yn gwybod bod ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn arwain at ganlyniadau echrydus o ran yr effaith ar y babi, ond dim ond gostyngiad o 2 y cant rhwng pan fyddan nhw'n feichiog a phan nodir eu bod nhw'n ysmygu tra'n feichiog, dim ond gostyngiad o 2 y cant erbyn iddyn nhw esgor. Yn amlwg, does dim digon o amser yn cael ei dreulio, oherwydd mae pob menyw eisiau gwneud y peth iawn i'w babi, ac eto maen nhw'n dal i barhau â'r ymddygiad niweidiol iawn hwn.

Rwy'n credu mai'r ystadegyn gwaethaf a gyhoeddwyd gennych yw bod dros 60 y cant yn uwch na'r BMI sy'n cael ei argymell, oherwydd, o ran gordewdra, rydyn ni'n gwybod mai dyma un o brif achosion cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd. Rwy'n bryderus iawn o glywed nad yw'r tasglu 'Pwysau Iach: Cymru Iach' wedi cwrdd yn ystod y 12 mis diwethaf, neu dyna a glywais gan glinigydd. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni wneud llawer mwy yn ei gylch. Mae angen i ni sicrhau bod gan bawb dâp mesur—

18:05

Jenny Rathbone, mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws. Rwy'n mynd i ganiatáu i chi orffen. Dydyn ni ddim yn trafod y materion hyn digon yn y Senedd. Rwy'n cael y neges honno'n glir, ac mae'n drafodaeth bwysig, ond mae angen i mi alw llawer o Aelodau eraill sydd eisiau cyfrannu hefyd, felly os gallwch chi ddod â'ch cyfraniad i ben.

Rwy'n ymddiheuro, Llywydd. Yn y bôn, sut ydyn ni'n mynd i gael bydwragedd a'u tîm, eu tîm amlddisgyblaethol, i dreulio mwy o amser gyda phobl sydd eisiau bod yn feichiog ac sydd wedyn yn beichiogi?

Diolch yn fawr iawn. Cwestiynau ardderchog, fel bob amser. Dim ond i ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â chi o ran pobl yn deall beth yw bod yn rhiant ac yn paratoi ar ei gyfer, a llawer o hyn yn ymwneud â chael y cyswllt hwnnw â'ch bydwraig a gallu gwneud y dewisiadau hynny, ond mae hefyd yn ymwneud i raddau helaeth iawn â'r gwasanaeth cofleidiol a darparu arian ar gyfer prosiectau penodol ar hyn. Fe wnes i ymweld â phrosiect yn y Rhondda yr wythnos diwethaf, lle roedd menyw ifanc a oedd â phrofiad o fod mewn gofal, yr oedd ei mam hi wedi cael profiad o fod mewn gofal hefyd, felly roedden nhw wedi cael yr un profiad o un genhedlaeth i'r llall. Doedd hi ddim eisiau ymwneud o gwbl â'r gwasanaethau. Doedd hi ddim eisiau ymwneud o gwbl â'r gwasanaethau cymdeithasol a doedd hi ddim eisiau ymwneud o gwbl â bydwragedd, ac yna roedd hi'n feichiog, ac roedd ei phartner wedi cael profiad o fod mewn gofal hefyd, ac roedden nhw wedi dychryn yn fawr. Ac yna fe wnaethon nhw ddechrau gweithio gyda grŵp hollol wych o fydwragedd, o weithwyr cymdeithasol, a sicrhaodd fod y gwasanaeth yn addas iddyn nhw. Wnaethon nhw ddim ceisio gwneud iddyn nhw ffitio i mewn i'r gwasanaethau a oedd ar gael, ac fe ddywedodd hi mai dyna wnaeth y gwahaniaeth. Mae hi'n eiriolwr gwych. Ni chafodd ei merch ei rhoi mewn gofal. Mae hi'n feichiog gyda'i babi nesaf nawr. Does dim angen unrhyw wasanaethau cymorth arni mwyach. Dyna'r math o wasanaeth y dylen ni fod yn ei ddarparu, felly rwy'n cytuno â chi am fydwragedd yn cael mwy o amser ac yn gallu teilwra’r profiad a'r gwasanaeth i'r rhieni.

Byddwn i'n dweud ei fod yn dod yn ôl i'r addysg honno a'r grymuso hwnnw, wedyn, ynghylch iechyd menywod ac iechyd cyn beichiogi. Mae hynny'n rhan fawr o'r cynllun hwn, oherwydd cafodd ei amlygu yn y cam darganfod, hefyd. A hoffwn ddiolch i chi am dynnu sylw at yr ystadegau, oherwydd mae'n wir, dydyn ni ddim wedi osgoi rhoi'r ystadegau hyn yno. Dyma'r hyn a ddywedais ar y dechrau—mae hyn yn cael ei arwain yn glinigol i raddau helaeth, mae'n seiliedig ar ddata, mae'n seiliedig ar ymchwil. Rydyn ni'n tynnu sylw at y materion hyn ac yna rydyn ni wir yn mynd i fynd i'r afael â nhw, ac mae 'Cymru Iachach' wedi'i gweu drwyddo i raddau helaeth. Ac roeddwn i hefyd eisiau dweud, pob tro y byddaf i'n meddwl am endometriosis, rwy'n meddwl amdanoch chi'n derbyn y ddeiseb gan Beth Hales ar risiau'r Senedd, a ddechreuodd lawer o'r ymgyrchu hwn ac sydd wedi arwain, fwy na thebyg, at wneud hon yn rhan mor bwysig o'r cynllun iechyd menywod. Felly, diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone.

18:10

Mae cyhoeddi’r cynllun yma yn enghraifft dda o ferched yn y Senedd yn gweithio efo’i gilydd, ac efo arbenigwyr sy'n ferched, i greu gwasanaethau effeithiol i ferched ym mhob man. Un o’r prif ddadleuon dros gyflwyno cwotâu rhywedd wrth ethol Aelodau i’r Senedd ydy bod cynrychiolaeth rhywedd gyfartal yn sicrhau sylw dyladwy i faterion sydd o bwys i ferched. Un agwedd arbennig o iechyd menywod sydd angen sylw ydy gwella cefnogaeth i ferched sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth i fabi. Mae 20 y cant o ferched yn profi problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.

Dwi yn gorfod, heddiw, ailddatgan fy mhryder am y gwasanaeth amenedigol yn y gogledd. Dwi’n poeni nad oes yna wybodaeth am y modelu ddefnyddiwyd i gyrraedd y penderfyniad gwallus i gomisiynu dau wely yng Nghaer, a dwi yn pryderu am ddiffyg tryloywder a’r diffyg cynnydd efo’r gwasanaethau yma. Dwi'n mawr obeithio y bydd mamau yn y gogledd, ac mewn ardaloedd gwledig, a merched yn y gogledd ac mewn ardaloedd gwledig, yn cael eu trin yn deg. Mae'n rhaid inni osgoi daearyddiaeth yn creu anghyfartaledd. Dwi yn gobeithio y bydd osgoi loteri cod post yn rhan o'r ystyriaethau wrth weithredu'r cynllun iechyd merched.

I gloi, un cwestiwn: pryd fydd yr adolygiad am yr uned mam a'i phlentyn yng Nghaer a'r gwasanaethau amenedigol yn y gogledd yn cael ei gyhoeddi? Mae hon yn sgwrs gychwynnodd rhyngoch chi, Weinidog, a finnau ddiwedd yr haf, a buaswn i wedi gobeithio cael atebion erbyn hyn.

Diolch yn fawr iawn, Siân Gwenllian. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y gwnaethoch chi ei ddweud wrth agor—dyma rym y bobl, yn wir, ac nid menywod yn unig, oherwydd rwy'n credu, heddiw, gan ein bod ni wedi siarad cryn dipyn am fenywod mewn gofal iechyd, ac mae'n hollol wir, ond mae yna lawer o ddynion, hefyd. Mae yna lawer o ddynion sydd wedi bod yn cydweithio ac yn brwydro i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd hyn.

Hefyd, rwy'n ddiolchgar iawn oherwydd, ers i mi ymgymryd â'r rôl hon, fe ddaethoch chi ataf yn syth a chodi'r materion sydd gennych chi a'r pryderon sydd gennych chi —y pryderon difrifol iawn, gwirioneddol iawn sydd gennych chi am y gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol sy'n cael ei ddarparu yn y gogledd. Cytunais wedyn i'w ailystyried, ac rwyf wedi comisiynu'r cyd-bwyllgor comisiynu i edrych ar hyn a'i adolygu, ynghylch a oes unrhyw ffordd arall y gallen ni, o bosibl, ddarparu'r gwasanaeth hwn. Rwy'n hapus i drefnu i chi gwrdd yn uniongyrchol â'r cyd-bwyllgor comisiynu wrth i ni aros i'r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau. Mae'n ddrwg gennyf nad yw'n gyflym; mae'n cymryd peth amser. Fodd bynnag, mae'n cymryd amser oherwydd ei fod yn ddifrifol iawn ac mae angen iddyn nhw edrych drwy'r holl ddata.

Dim ond i ddweud, dim ond dau beth yr wyf wedi gofyn iddyn nhw gael eu hadolygu ers i mi ymgymryd â'r rôl hon, sef arbenigwyr endometriosis a'r ddarpariaeth iechyd meddwl amenedigol i fenywod yn y gogledd. Mae hyn wir yn flaenoriaeth i mi. Rwy'n cysylltu drwy'r amser ac yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf, hefyd, gan y bwrdd iechyd—oes unrhyw fenywod yn aros, oes unrhyw fenywod yn cael eu troi i ffwrdd am nad oes gwasanaeth yn y gogledd? Rwy'n cadw llygad agos iawn ar hyn. Hefyd, i ddweud eto, fe wnes i gyfarfod â'r menywod sy'n darparu'r gwasanaeth, a phan wnes i gyfarfod â nhw, fe ddywedon nhw, ar y pryd, nad oedd angen y gwelyau hynny, fodd bynnag, dyma lle rwy'n deall bod gennych chi gwestiynau a dyma lle rwy'n gofyn iddyn nhw edrych ar hynny yn drylwyr iawn. Felly, byddaf yn trefnu i chi gwrdd â'r cyd-bwyllgor comisiynu wrth iddyn nhw gynnal yr adolygiad hwn, ac fe wnaf i gael dyddiad i chi hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am ddod â'r datganiad hwn yma heddiw, yn dilyn cyhoeddi'r cynllun iechyd menywod. Rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod da i fenywod yng Nghymru, felly, diolch. Rwy'n credu bod hyn, o'r diwedd, yn rhoi'r sylw y mae'n ei haeddu i iechyd menywod, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yn osgoi rhywfaint o'r dioddefaint y mae menywod wedi'i gael yn ddiangen, a hefyd yn dod â'r anghydraddoldebau iechyd sy'n cael eu disgrifio'n fyw yn y cynllun i ben. Rwy'n credu bod hyn, fel y dywedais i, yn ddiwrnod da i fenywod yng Nghymru.

Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i godi mater y gefnogaeth y mae menywod yn ei chael ar ôl colli babi. Yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd â Dr Sarah Douglass, prif seicolegydd clinigol, sydd wedi sefydlu, yng Nghaerdydd, gwasanaeth profedigaeth cyntaf wedi'i arwain gan seicoleg GIG Cymru ar gyfer y rhai sy'n profi marwolaeth babi naill ai ar ôl 17 wythnos o feichiogrwydd neu hyd at 28 diwrnod ar ôl genedigaeth eu babi. Gwnaeth ansawdd y cymorth yr oedden nhw'n ei ddarparu argraff fawr arnaf, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi mynd i lansiad eu gwasanaeth, oherwydd gwnaethon nhw ddweud wrthyf eich bod chi yno.

Ar hyn o bryd, mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru fydwragedd profedigaeth, ond dydyn ni ddim wedi cael gwasanaethau seicoleg mamolaeth o'r blaen sy'n canolbwyntio ar gymorth profedigaeth ar gyfer colli babanod. Fe wnes i gwrdd â nifer o fenywod a oedd wedi cael help gan y gwasanaeth hefyd. Rwy'n gwybod bod colli plentyn yn straen enfawr ar fenyw, yn seicolegol ac yn gorfforol, ac rwy'n credu y byddai ehangu'r gwasanaeth hwn yng Nghaerdydd a'i efelychu o amgylch Cymru yn gymorth enfawr i fenywod, ac rwy'n credu y byddai'n rhan bwysig iawn o ddatblygu'r cynllun iechyd menywod. Felly, sut ydych chi'n gweld y datblygiad hwn?

18:15

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan. Mae'n rhoi cyfle i mi hefyd ailadrodd yr hyn yr wyf wedi'i ddweud wrth lawer o fenywod yma heddiw, sef fy mod i'n sefyll ar ysgwyddau cewri yma, ymadrodd y mae fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn yn ei ddefnyddio'n aml ac rwy'n teimlo ei fod yn briodol iawn. Rwy'n cael sefyll yma heddiw a bod y person sy'n cael cyflwyno hyn yn y Siambr, ond, bobol bach, mae cymaint sydd wedi mynd i mewn i hyn a chymaint o genedlaethau. Byddwn i'n dweud, Julie Morgan, mai chi yw un o'r bobl sydd wedi fy ysbrydoli ac un o'r rhesymau pam rydw i yma heddiw yn cael y cyfle i wneud hyn. Rwyf wedi dysgu cymaint oddi wrthych chi am anghydraddoldebau. 

Rwyf eisiau dweud, roedd hi'n hollol wych mynd i weld y gwasanaeth profedigaeth hwnnw wedi'i arwain gan seicoleg sy'n cael ei ddarparu gan GIG Cymru, yr un cyntaf a'r unig un yng Nghymru. Unwaith eto, mae'n dod yn ôl i'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud yn gynharach: mae cymaint o bethau da yn digwydd ar draws ein GIG i ymdrin â'r anghydraddoldebau hyn, ac fel arfer mae'n grŵp o bobl ddygn iawn. Rwyf wedi cwrdd â llawer ohonyn nhw, y clystyrau hyn sydd gennym ni ym mhob bwrdd iechyd, lle mae'n dechrau gydag ychydig o bobl ac yna mae'n tyfu, ac maen nhw'n dadlau dros ariannu ac maen nhw'n dadlau dros wasanaethau. Maen nhw'n hollol wych ac rydw i wir yn edmygu pob un ohonyn nhw, ac un o'r prosiectau hynny yn union yw hwn.

Mae ganddyn nhw grŵp yr enfys, mae ganddyn nhw grŵp yr onnen—mae wir yn cael ei arwain gan brofiad. Pan es i i'r lansiad, fe welais i fam yn siarad am ei phrofiad hi o golli ei bachgen bach. Roedd hi'n feichiog eto, ac roedden nhw wir yn ei chefnogi hi trwy'r pryder dealladwy hwnnw yr oedd hi'n ei deimlo. Es i hefyd i ymweld â thîm bydwragedd Caerdydd a'r Fro, sydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a chyfarfod â'r bydwragedd profedigaeth. Rwyf eisiau ychwanegu hefyd, pan fydd gennym ni'r arbenigeddau hyn ac efallai bod gennym ni un neu ddau o bobl fesul bwrdd iechyd, mae'n anodd, wedyn, i gael y cydnerthedd hwnnw wedi'i wreiddio yn y seilwaith, yn y tîm. Os nad yw un person yn rhan ohono, yna dyma pryd y gall pethau wir fynd o chwith. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ymwybodol iawn, iawn ohono wrth gynllunio gweithlu'r GIG.

Hefyd, dim ond i ddweud, rwy'n credu ei fod e'n wych—rwy'n credu ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Rwy'n credu bod Dr Douglass yn ysbrydoledig iawn, a byddwn i wrth fy modd yn gweld hyn yn cael ei gyflwyno, ac mae'n rhywbeth y gallwn ni yn sicr—y byddaf i'n sicr—yn gofyn i rwydwaith clinigol y GIG ei ystyried, os gwelwch yn dda.

Rwyf i yn croesawu'r cynllun hwn, ac rwy'n gobeithio'n wir y bydd yn cynrychioli newid syfrdanol.

Mae'n rhaid i'r cynllun iechyd menywod nodi newid yn y ffordd mae menywod yn cael eu trin, ie, ym maes gofal iechyd, oherwydd mae gormod o fenywod, yr ydyn ni wedi clywed, nad ydyn nhw'n cael eu credu am eu cyrff, mae eu symptomau'n cael eu colli, mae eu pryderon yn cael eu hwfftio. Nawr, rai wythnosau yn ôl, cyflwynais gynnig i'r Senedd a oedd yn gofyn i'r cynllun iechyd menywod ymdrin â normaleiddio poen menywod ym maes gofal iechyd a'i atal, y ffaith bod menywod yn clywed 'Gallai hyn frifo' mor aml, y ffaith bod eu hanghysur yn cael ei oddef a'i dderbyn fel rhywbeth normal pan na ddylai fod. Cafodd y cynnig hwnnw ei basio gan y Senedd. Allwch chi dawelu fy meddwl i, os gwelwch yn dda, i sicrhau, pan gaiff y cynllun hwn ei weithredu, y bydd yr arfer ystyfnig o dderbyn poen menywod yn cael ei herio? Oherwydd mae canllawiau'n mynd i fod yn hanfodol bwysig, wrth gwrs maen nhw, ond mae rhywbeth sydd erbyn hyn mor gynhenid mewn cynifer o fenywod o wahanol genedlaethau i ddisgwyl peidio â chael yr help sydd ei angen arnyn nhw fel nad ydyn nhw wedyn yn cyflwyno gyda symptomau, oherwydd maen nhw naill ai'n poeni am yr hyn y gallai fod, neu maen nhw'n poeni y byddan nhw'n cael eu hanwybyddu. Mae'n beth mor anodd i'w gael yn iawn. Allwn ni gael sicrwydd, wrth ddysgu gan y clinigwyr, y gynaecolegwyr, y nyrsys a'r bydwragedd gwych, a chan leisiau menywod eu hunain, ein bod ni'n sicrhau bod y newidiadau hynny ynghylch sut mae menywod yn credu eu cyrff eu hunain, a sut mae meddygon a chlinigwyr yn credu menywod am eu cyrff, bod hynny wir yn digwydd?

18:20

Yn bendant. Diolch yn fawr iawn am ailadrodd hynny mor huawdl hefyd, Delyth Jewell. Rydych chi bob amser yn crynhoi sut mae cynifer o fenywod wedi teimlo. Ac mae'n dod i'r pwynt yr oeddwn i eisiau ei wneud wrth gael llawer o drafodaethau ynghylch hyn: mae'n dod yn ôl i'r addysg a'r grymuso a'r eiriolaeth. Dydyn ni ddim wir yn cael ein haddysgu am sut i siarad am ein cyrff, dydyn ni ddim yn cael ein haddysgu am yr iaith, dydyn ni ddim yn cael ein haddysgu am y boen, felly wedyn panydych chi'n mynd i weld meddyg teulu, er enghraifft—ac mae'n achosi embaras hefyd—sut mae'r iaith gennych chi, hyd yn oed, i allu siarad am y peth? Dyna lle mae'r addysg yn dod i mewn yn y fan yma. Dyna lle mae'r grymuso yn dod i mewn yn y fan yma, a gallu eirioli drosoch chi eich hun. Felly, rwyf eisiau eich sicrhau chi bod hynny wir yn allweddol.

Un o'r pethau a ddechreuodd hyn, mewn gwirionedd, oedd y Prif Weinidog yn cyfarfod â Gemma, o'r British Heart Foundation, a siarad am glefyd cardiofasgwlaidd, siarad am glefyd y galon, siarad am y ffaith nad oedd menywod yn cael eu credu yn yr achosion hynny, nad oedden nhw'n cael meddyginiaeth lleddfu poen, pan oedd dynion yn cael meddyginiaeth lleddfu poen. Doedden nhw ddim yn sylweddoli eu bod yn cael trawiad ar y galon, oherwydd roedd yr un fath â'u poenau mislif, felly roedden nhw'n meddwl ei fod yn normal. Mae hynny, mewn gwirionedd, wedi bod yn gatalydd ar gyfer llawer o'r rhesymau pam y dechreuodd y Prif Weinidog hyn.

A dim ond i orffen hefyd drwy ddweud nad dim ond i ni ferched yw hyn, mae ar gyfer menywod yng ngweithlu'r GIG. Yn 2022, dangosodd fod 76 y cant o weithlu'r GIG yng Nghymru yn fenywod. Os edrychwch chi ar y demograffeg oedran, fe welwch chi fod y rhan fwyaf ohonyn nhw, fwy na thebyg, yn mynd trwy'r menopos, fel y mae Carolyn Harris yn fy atgoffa bob amser pryd bynnag y bydd hi'n siarad am y menopos. Ac mae'n 91 y cant o fenywod ym meysydd nyrsio a bydwreigiaeth. Felly, mae hefyd yn ymwneud â'r ffaith bod menywod yn y GIG, ac, os gaf wneud yr un pwynt olaf hwnnw heddiw, dyna pam mae gennym ni gynllun iechyd menywod sydd wedi'i ddylunio ac sy'n cael ei gyflawni'n bennaf gan fenywod yn y GIG, gan wrando ar gynifer o randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at hyn, oherwydd maen nhw'n gweithio ynddo, maen nhw'n deall beth yw'r problemau, ac maen nhw'n mynd i allu gwneud y newid hwnnw.

Felly, rwy'n credu mai dyma fy nghwestiwn olaf. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am roi cymaint o amser i ni, Llywydd.

Na? Roeddwn i'n meddwl eich bod chi wedi cadw Delyth tan y diwedd.

Mae rhywun y tu ôl i chi sydd eisiau gofyn y cwestiwn olaf.

Mae'n ddrwg gen i, Joyce. Mae'n ddrwg gen i. Ymddiheuriadau.

Rwy'n falch iawn o weld y cynllun hwn. Roeddwn i ar y pwyllgor iechyd yn gwthio ac yn gwthio i ni edrych ar iechyd menywod, ac fe wnaethoch chi ymuno â mi. Y pwynt rwyf eisiau ei wneud yma yw ei bod yn wych bod gennym ni arian, bod gennym ni ymroddiad a bod gennym ni gefnogaeth, oherwydd dydyn ni ddim yn mynd i gyflawni unrhyw ran ohono, mewn gwirionedd, ond rwy'n credu mai'r rhan honno o'r gefnogaeth sydd ei hangen yw'r syniadau amlddisgyblaethol  cydgysylltiedig ynghylch gofal iechyd menywod. Er enghraifft, gydag endometriosis, gall gael ei guddio gan lawer o symptomau eraill, oherwydd bydd yn gwau ei ffordd i mewn i'r coluddion, bydd yn mynd tuag at yr arennau a'r bledren, ac oni bai bod yr holl symptomau hynny'n cael eu rhoi at ei gilydd, oherwydd mae menywod yn cael gwybod bod y mislif yn boenus beth bynnag—neu maen nhw wedi cael gwybod hynny—mae'n gallu datblygu'n gyflwr sydd wir yn peryglu bywyd, ac mae eisoes yn gyflwr o'r fath erbyn iddo fynd mor bell â hynny. Felly, fy nghwestiwn yma yw, pan fyddwn ni'n adeiladu'r hybiau iechyd menywod hyn, ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, y tu hwnt i'r hyn sydd fel arfer yn cael ei phennu fel problem iechyd menywod—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n awyddus na fydd hynny'n digwydd—i addysgu'r ymarferwyr hynny y mae angen eu haddysgu, ond y cleifion hefyd, fel eu bod nhw'n ei gydnabod. Ac rwyf ond yn canolbwyntio ar yr un. Ac, wrth gwrs, mae llawer o fenywod, o ganlyniad, yn dioddef anymataliaeth, a, thrwy hynny, ynysigrwydd ac iechyd meddwl. Felly, mae'n ymwneud â dod â'r holl bethau hynny at ei gilydd, yr wyf i'n gwybod eich bod chi'n ei wneud, ond yn ehangach, fel bod pawb yn deall. Diolch.

18:25

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Unwaith eto, menyw arall sydd wedi chwarae rhan enfawr yn hyn, oherwydd Joyce ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a oedd wir yn dadlau'r achos ein bod ni'n cyflawni'r adroddiad a'r ymchwiliad i ganserau gynaecolegol, sydd unwaith eto wedi chwarae rhan enfawr yn y ffaith ein bod ni i gyd yma heddiw a bod y cynllun iechyd menywod yma heddiw.

Roeddwn i eisiau eich sicrhau chi mai'r camau tymor byr yn y cynllun ar gyfer endometriosis yw datblygu gwefan Endometriosis Cymru sydd gennym ni ar hyn o bryd i gefnogi cleifion a'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth ohoni; darparu'r addysg a'r hyfforddiant i bob ymarferydd gofal iechyd ar endometriosis fel cyflwr cronig, cyflwr cronig poenus; sicrhau bod cleifion yn cael gofal amlbroffesiynol, gan gynnwys y cyfle i fanteisio ar gymorth iechyd meddwl digonol; a chytuno hefyd ar fframwaith monitro cadarn, gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol a chanlyniadau o lwybrau cenedlaethol. Dyna sydd wedi dod i'r amlwg, dyna'r hyn yr ydyn ni wedi ymrwymo iddo, a dyna'r hyn yr ydyn ni'n mynd i'w weld. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog—[Cymeradwyaeth.]—ac i bawb sydd wedi cyfrannu, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith pwysig sydd wedi arwain at heddiw. Ac mae mwy i ddod.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Paratoi ar gyfer diwygio bysiau

Eitem 6, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, paratoi ar gyfer diwygio yn y maes bysiau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i gyflwyno hyn—Ken Skates.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Un o fy mlaenoriaethau allweddol ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon yw ein Bil bysiau sydd ar ddod, a fydd yn newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd sydd wedi'i wneud cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, a fydd yn parhau â'r broses o ddiwygio'r rhwydwaith bysiau yng Nghymru yn sylweddol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio pam ein bod ni'n gwneud y newidiadau hyn. Yn gyntaf oll, mae bysiau'n wasanaeth cyhoeddus hanfodol, sy'n cario tri chwarter o'r holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw'n achubiaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymdeithas. Nid oes gan bron i 20 y cant o aelwydydd gar. Mae angen bysiau ar bobl i fynd i'w gweithleoedd, i ymweld â ffrindiau a theulu ac i gael mynediad at wasanaethau. Fodd bynnag, nid yw'r system bresennol yn effeithiol nac yn effeithlon.

Mae'r rhwydwaith bysiau wedi bod yn lleihau ers blynyddoedd lawer, a ddechreuodd ymhell cyn y pandemig, ond, o ganlyniad, mae wedi gwaethygu'n fawr. Wrth gwrs, mae'n galonogol ein bod ni'n gweld niferoedd teithwyr yn gwella, ond maen nhw'n dal i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Y consensws yw bod angen newid. Nid yw'r system bresennol, sydd wedi'i dadreoleiddio, yn gweithio. Rydyn ni'n credu mai masnachfreinio bysiau yw'r dull gweithredu gorau i Gymru, oherwydd mae'n caniatáu i ni ddylunio rhwydwaith bysiau sy'n rhoi pobl yn gyntaf.

Yn 2022, gwnaethon ni amlinellu ein cynlluniau i ddeddfu ar gyfer diwygio bysiau mewn Papur Gwyn. Yna, yn gynharach eleni, gwnaethon ni gyhoeddi ein map ffordd i fasnachfreinio, a oedd yn egluro ein camau nesaf ar ddiwygio bysiau. Ers hynny, mae'r gwaith wedi datblygu'n sylweddol, ac rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi heddiw.

Bydd ein deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu darparu drwy fodel masnachfraint. Bydd hyn yn golygu y bydd penderfyniadau am wasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys ar lwybrau, amserlenni a phrisiau, yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan weithio ar batrymau rhanbarthol. Bydd masnachfreinio yn ein galluogi ni i greu rhwydwaith sy'n gwasanaethu'r cyhoedd yn well, gan gysylltu â'r rhwydwaith rheilffyrdd a chaniatáu tocynnau mwy integredig. Byddwn ni'n ceisio codi'r cyfyngiadau ar gwmnïau bysiau presennol sy'n eiddo cyhoeddus, fel eu bod ar sail gyfartal i weithredwyr bysiau eraill, a bydd y Bil yn caniatáu i gwmnïau bysiau newydd sy'n eiddo cyhoeddus gael eu sefydlu gan awdurdodau lleol, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.

Mae gwella llwybrau, hygyrchedd ac amserlenni yn allweddol, ond rwyf hefyd eisiau i bobl weld gwelliannau i ansawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol y bysiau y maen nhw'n teithio arnyn nhw. Mae gan Gymru'r fflyd fysiau hynaf yn y DU o dan rwydwaith sydd wedi'i ddadreoleiddio a'i breifateiddio i raddau helaeth, felly mae angen i ni unioni hyn cyn gynted ag y gallwn ni. Fodd bynnag, rydyn ni wedi dangos, trwy brynu £800 miliwn o drenau newydd, pa mor drawsnewidiol y gall Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru fod ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Fe wnaethon ni etifeddu un o'r fflydoedd hynaf o drenau ym Mhrydain, ac yn fuan bydd gennym ni un o'r rhai mwyaf newydd. Mae gennym ni'r un uchelgais ar gyfer ein fflyd fysiau.

Dyna pam yr ydyn ni eisoes wedi dechrau uwchraddio'r fflyd fysiau, gan symud i gerbydau gwyrddach. Bydd yn cymryd amser, ond mae cerbydau allyriadau is a di-allyriadau yn allweddol i'n hamcanion newid hinsawdd. Rydyn ni hefyd yn bwriadu prynu depos bysiau strategol mewn ardaloedd allweddol yng Nghymru. Bydd angen seilwaith gwefru ac ail-lenwi tanwydd ar depos i gefnogi gweithrediadau masnachfreinio a'r newid i fflyd wedi'i datgarboneiddio. Byddwn ni'n cymryd ymagwedd fesul achos i benderfynu lle byddai perchnogaeth gyhoeddus depos yn sicrhau'r gwerth gorau posibl, ac rydyn ni'n cydnabod y bydd y rhan fwyaf o depos yn debygol o aros mewn perchnogaeth breifat.

Bydd masnachfreinio bysiau yn cynrychioli newid enfawr sy'n gymhleth ac sydd â sawl elfen ryng-gysylltiedig. Nid oes modd ei wneud ar draws Cymru gyfan ar unwaith. Yn dilyn gwaith sylweddol mewn cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru, cyd-bwyllgorau corfforedig, awdurdodau lleol a chynrychiolwyr y diwydiant, rydyn ni wedi dod i'r casgliad y bydd y broses gyflwyno'n digwydd yn seiliedig ar ranbarthau'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd hyn yn gwneud y newid i fodel masnachfraint yn llawer symlach, gan elwa ar strwythurau presennol ac, wrth gwrs, bydd yn cyd-fynd â'n dull o weithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol.

Rydyn ni'n bwriadu dechrau cyflwyno'r cynllun yn y de-orllewin yn 2027, cyn y gogledd yn 2028, y de-ddwyrain yn 2029 a'r canolbarth yn 2030. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl ranbarthau ar sut olwg fydd ar rwydwaith da yn eu hardaloedd nhw. Mae gwybodaeth ac arbenigedd lleol yn allweddol i gynhyrchu rhwydweithiau bysiau sy'n gweithio i gymunedau, a dyna pam ein bod ni'n datblygu ein cynlluniau mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae gan Gymru gymysgedd o weithredwyr bysiau, ac rwyf eisiau gweld hynny'n parhau. Rwy'n gwybod bod rhai gweithredwyr yn nerfus o'r hyn y bydd masnachfreinio yn ei olygu iddyn nhw, ond rwy'n glir y byddwn ni'n datblygu rhwydwaith sy'n cael ei ddarparu gan amrywiaeth o weithredwyr, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, darparwyr cenedlaethol, cwmnïau bysiau sy'n eiddo cyhoeddus a sefydliadau trafnidiaeth gymunedol. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cynnig gwahanol fathau o gontractau masnachfreinio, rhai sy'n ddeniadol i weithredwyr llai ac eraill a fydd yn fwy deniadol i rai mwy. Rwyf eisiau i rwydwaith adlewyrchu ein sector bysiau amrywiol gan leihau'r baich gweinyddol a allai atal rhai rhag gwneud cais. Rwyf wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu dull sy'n denu amrywiaeth o weithredwyr a all ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac, wrth gwrs, gwerth cymdeithasol.

Mae synergedd cryf iawn rhwng diwygio bysiau Llywodraeth y DU yn Lloegr a'n rhaglen ddiwygio ni. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'n cydweithwyr yn yr Adran Drafnidiaeth. Ac er y bydd Bil y DU yn rhoi'r adnoddau i awdurdodau Lloegr gymryd rheolaeth dros wasanaethau, bydd ein Bil ni yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn defnyddio'r adnoddau ac yn darparu rhwydwaith masnachfraint lawn. Mae ein cynlluniau'n rhannu amcanion cyffredin gyda Llywodraeth y DU, ac mae'r ddwy Lywodraeth yn cytuno bod cyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd a chydweithio.

Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos, gan gynnwys dinas-ranbarth Lerpwl, dinas-ranbarth Manceinion a chynghorau ardal Dyfrdwy i sicrhau ein bod ni'n rhannu arfer gorau, arloesi a chynllunio llwybrau. Yn wir, gwnaeth y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol gyfarfod yn ddiweddar ag Andy Burnham, maer metro ar gyfer Manceinion Fwyaf, i drafod cydweithio ar faterion trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd masnachfreinio yn gwneud gwell defnydd o'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau lleol, gan ein galluogi ni i ddylunio rhwydwaith sy'n gweithio i bobl a chymunedau. Bydd diwygio bysiau yn cymryd amser, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n cael trafferth gyda chostau byw, sy'n ynysig, neu'n hŷn neu'n wynebu rhwystrau syn eu hanablu yn eu bywyd bob dydd. Mae lleihau tlodi trafnidiaeth yn allweddol i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Edrychaf ymlaen at gyflwyno ein deddfwriaeth a gweithio gyda'r Senedd i gyflawni'r trawsnewidiad y mae ei daer angen ar y diwydiant bysiau.

18:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddatganiad y prynhawn yma ar ddiwygio bysiau? I fod yn glir o'r cychwyn cyntaf, mae fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig a minnau, yn wir, yn erbyn masnachfreinio bysiau, oherwydd ei fod yn cael gwared ar gystadleuaeth fusnes heb wella perfformiad, fel yr ydym ni wedi'i weld gyda Trafnidiaeth Cymru sydd wedi ei wladoli. Yn fy marn i, prin y gall Trafnidiaeth Cymru fynd i'r afael â cynnal rhwydwaith rheilffyrdd effeithiol, felly mae gen i amheuon difrifol am ei allu i redeg ein bysiau hefyd.

Ysgrifennydd Cabinet, y prif faes sy'n peri pryder i mi ar y cynlluniau hyn yw'r gost dan sylw. A oes gan Lywodraeth Cymru amcangyfrif o gyfanswm bil o weithredu masnachfreinio eto? Ac Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n hyderus bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian wedi'i neilltuo i gyflawni'r uchelgais hwn yn llawn? Awgrymodd erthygl ddiweddar y gallai'r cyfanswm disgwyliedig ar gyfer masnachfreinio costau gros ym Manceinion fod dros £700 miliwn, mewn ardal sy'n llawer llai yn ddaearyddol na Chymru. Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n hyderus hefyd fod hyn wir yn cynnig gwerth am arian i drigolion Cymru, yn enwedig ar adeg pan allai ein system addysg a'n sector iechyd yn benodol wneud gyda chymorth arian ychwanegol mawr iawn? Felly, byddwn yn croesawu mwy o wybodaeth ac eglurder am y prisiau sy'n gysylltiedig â gweithredu hyn trwy Gymru gyfan.

Hefyd, hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod y contractau masnachfraint sydd ar gael i weithredwyr yn wirioneddol ddeniadol ac yn cynnig lefel ddeniadol o elw o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU a ariennir yn well, a fydd yn tendro ar yr un pryd. Rwy'n llwyr gefnogi'r awydd i weld rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl weithredol, integredig, o ansawdd uchel a dibynadwy, ond nid wyf eto wedi fy argyhoeddi y bydd masnachfreinio ar ei ben ei hun yn datrys heriau'r diwydiant.

O'i gymharu â dewisiadau eraill, mae gan fasnachfreinio gost gros, y mae Llywodraeth Cymru yn ei archwilio, rwy'n deall, rai risgiau sy'n arbennig o heriol, yn enwedig o ran risgiau i'r pwrs cyhoeddus, i weithredwyr a hefyd i deithwyr. Ofnir y gallai'r llwybr hwn fod â risgiau difrifol ynghlwm wrtho ac arwain at rwydweithio bysiau llai effeithiol, sy'n rhywbeth rwy'n siŵr nad yw Llywodraeth Cymru wir eisiau ei weld.

Mae Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr, sefydliad gwych rwy'n falch o weithio'n agos gydag ef, wedi llunio system fasnachfreinio amgen y maen nhw'n credu y byddai'n gweithio yng nghyd-destun Cymru, o'r enw 'y ffordd Gymreig'. Maen nhw wedi edrych ar system fasnachfreinio cymhorthdal lleiaf lwyddiannus yn Jersey ac wedi ei theilwra i weddu i Gymru. Ers cyflwyno'r masnachfreinio cymhorthdal lleiaf yn Jersey, maent wedi gweld cynnydd o 38 y cant yn nifer y teithwyr a mwy o foddhad cwsmeriaid. Yn wir, mae Jersey wedi defnyddio arbenigedd a gwybodaeth leol ei weithredwyr i wella'r system o dan y cymhorthdal lleiaf ac mae gwaith partneriaeth gwirioneddol. Credir y gallai'r dull hwn fynd i'r afael â chyfres o faterion nad yw modelau masnachfreinio eraill yn eu gwneud, yn enwedig o ran fforddiadwyedd a chyflawniad. Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi hefyd wedi edrych i mewn i Jersey, a edrychodd yn wreiddiol ar fasnachfreinio cost gros cyn newid i gymhorthdal lleiaf am ysbrydoliaeth? Ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r rhai y tu ôl i gynllun Jersey? Os felly, beth oedd eich pwyntiau i gymryd i ffwrdd, ac os na, a allwch egluro pam ddim? Os oes rhywle arall yn rhagori yn y maes penodol hwn, byddwn wedi meddwl y byddai dysgu ganddynt yn beth synhwyrol iawn i'w wneud.

Ysgrifennydd Cabinet, fel y dywedais i wrth y Prif Weinidog yn ddiweddar, mae angen cymorth ar ein diwydiant bysiau dros dro a chynnydd o 15 y cant mewn cyllid, sy'n cyfateb i tua £18 miliwn, a fyddai'n sicrhau 82 y cant arall o fuddion economaidd ledled Cymru bob blwyddyn, gan sicrhau hefyd bod y rhwydwaith presennol yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn darparu cyfleoedd i dyfu nawdd a gwella gwasanaethau. Yn y gyllideb ddrafft heddiw, cyhoeddwyd y byddai trafnidiaeth yn gweld cynnydd o £120.7 miliwn, ond dim ond £9 miliwn ar gyllid adnoddau sy'n cael ei ddyrannu i fysiau. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r cyfangiadau pellach sy'n debygol yn y rhwydwaith bysiau, cyn masnachfreinio, o ganlyniad i benderfyniad heddiw i beidio â chynyddu cyllid yn unol â'r 15 y cant y mae'r diwydiant bysiau'n dweud bod ei angen mewn gwirionedd?

Yn wir, mae teithiau bws wedi cynyddu 50 y cant dros y 50 mlynedd diwethaf ar lwybrau trefol prysur. Mae ymchwil wedi dangos, pe bai teithwyr bysiau wedi cael eu hamddiffyn rhag tagfeydd cynyddol, y byddai rhwng 48 y cant a 70 y cant yn fwy o deithwyr bws yn talu am deithiau bws heddiw. Felly, hoffwn wybod, a yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â thagfeydd a buddsoddi mewn seilwaith blaenoriaeth bysiau ochr yn ochr â'u cynlluniau i fasnachfreinio'r rhwydwaith? P'un a wyf yn cytuno ag ef ai peidio, bydd rhwydwaith masnachfraint yn ymddangos yn obaith pell ar gyfer ardaloedd o Gymru na fydd efallai yn gweld contractau masnachfraint yn cael eu cyflawni tan ddiwedd y 2020au. Felly, mae'n hanfodol iawn ein bod yn gweld llawer mwy o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i wella'r rhwydwaith bysiau, a byddwn yn ei werthfawrogi pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet daflu ychydig mwy o oleuni ar ba gamau y gellir eu cymryd i gyflawni hynny.

Rwy'n sylweddoli fy mod wedi codi llawer o bwyntiau yma heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, felly ni fyddaf yn eich bombardio â rhagor ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

18:35

A gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chyfraniad gwerthfawr? Gadewch imi ymateb i'r pwyntiau yn eu tro. Yn gyntaf oll, o ran Trafnidiaeth Cymru fel enghraifft o'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda pherchnogaeth gyhoeddus, mae pedwar gweithredwr i mewn ac allan o Gymru ar ein rheilffyrdd. Trafnidiaeth Cymru yw'r mwyaf dibynadwy a'r mwyaf prydlon o'r pedwar erbyn hyn. Mae'r tri arall mewn perchnogaeth breifat.

Yn ail, mae angen i ni ofyn y cwestiwn: pam mae'n rhaid i ni fasnachfreinio? Mae'n rhaid i ni fasnachfreinio oherwydd bod y system a gyflwynwyd yng nghanol yr 1980au wedi methu. Mae'n amlwg i bawb. Pan gyhoeddwyd y Papur Gwyn, cawsom ymgynghoriad. Dywedodd 96 y cant o'r ymatebwyr fod yn rhaid i newid ddigwydd, ac mae mwy na thri chwarter yr ymatebwyr yn cefnogi ein model masnachfreinio.

Rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod wedi edrych ar Jersey. Rydym wedi siarad â'r gweithredwr draw yn Jersey, ond mae Jersey yn wahanol iawn. Mae gan Jersey, rwy'n credu, 20 o fysiau. Mae gan Gymru 1,600. Mae'n fodel gwahanol iawn. Credwn mai masnachfreinio yw'r model cywir ar gyfer pobl a chymunedau Cymru, ond rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y defnydd gorau o weithredwyr presennol—bach, mawr a chanolig eu maint—oherwydd bod llawer ohonynt wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein cymunedau ac yn cyfrannu'n drwm iawn at ein sylfaen gyflogaeth. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw fel rhan o'r panel diwygio bysiau i sicrhau bod masnachfreinio yn gweithio i bawb.

O ran cost, rwy'n credu y dylwn ddweud ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £250 miliwn ers dechrau'r pandemig i gefnogi gwasanaethau bysiau—sef £0.25 biliwn. Wrth gwrs, un o fanteision mawr gwasanaethau masnachfreinio yw y byddwn yn gallu delio â dyblygu gwasanaethau, nid gwasanaethau bysiau yn dyblygu gwasanaethau gyda bysiau eraill yn unig, ond hefyd gyda'n rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, byddwn yn gallu cyflawni mwy o effeithlonrwydd yn hynny o beth.

O ran y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, nid darparu £9 miliwn yn fwy o adnoddau yn unig ydym ni, rydym hefyd yn mynd i fod yn darparu £31 miliwn mewn cyfalaf. Pam mae hyn? Y rheswm am hyn yw bod gan Gymru un o'r fflydoedd hynaf o fysiau yn unrhyw le yn Ewrop. Dyma'r hynaf ym Mhrydain. Ac yn union fel yr ydym yn trawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd drwy Trafnidiaeth Cymru gyda £800 miliwn o drenau newydd, rydym yn defnyddio'r un uchelgais i'n rhwydwaith bysiau: ei foderneiddio tra hefyd yn sicrhau ein bod yn cymryd rheolaeth o'r rhwydwaith yn ôl.

18:40

Fel yr wyf wedi sôn o'r blaen, Ysgrifennydd Cabinet, mae Plaid Cymru yn croesawu diwygio bysiau ac ymdrechion i ddod â bysiau'n agosach at berchnogaeth gyhoeddus. Mae hwn yn bendant yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae gen i lawer o gwestiynau, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, i sicrhau bod y model masnachfraint hwn yn gweithio i Gymru mewn gwirionedd. Felly, ar y nodyn hwnnw, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ddeddfwriaethol ar gyfer diwygio bysiau? 

Gobeithiwn y bydd y diwygiadau hyn yn arwain at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth o wasanaethau a rheoleidd-dra, nid yn unig i'r rhai sydd wedi gweld eu gwasanaethau'n cael eu cwtogi, ond hefyd y cymunedau hynny nad ydynt erioed wedi cael mynediad at wasanaethau bysiau dibynadwy yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod masnachfreinio bysiau yn llwyddiant gwirioneddol, mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod wedi'i ariannu'n ddigonol, a hoffwn ganolbwyntio'r rhan fwyaf o'm cyfraniad ar fater allweddol cyllid. 

A oes gan Ysgrifennydd Cabinet amcangyfrif o faint mae'r weledigaeth o fasnachfreinio bysiau yn debygol o gostio? Ac a yw'n rhagweld y bydd angen mwy neu lai o gyllid i gynnal gwasanaethau masnachfraint bob blwyddyn nag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar fysiau ar hyn o bryd? A yw'r amcanestyniad hwn yn tybio bod y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau a lefelau prisiau yn cael eu cynnal? Gofynnaf y cwestiynau hyn oherwydd rwyf am weld buddsoddiad sylweddol yn y rhwydwaith bysiau. A yw'r cynnydd a welsom yn y cyllid bysiau o ddatganiad cyllideb heddiw yn ddigon?  

Mae gan ddiwygio bysiau effeithiol y potensial i sicrhau manteision trawsnewidiol. Gallai helpu i leihau allyriadau a defnyddio ceir preifat, adfywio canol trefi a'r stryd fawr, a thrwy hynny greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Drwy gysylltu ein cymunedau, gallwn leihau unigedd cymdeithasol, ysgogi datblygiad economaidd a hyd yn oed wella darpariaeth cludiant ysgol. Mae'r rhain yn nodau y credaf y mae'r ddau ohonom yn eu rhannu, Ysgrifennydd Cabinet, ond rwy'n bryderus iawn bod y sefyllfa bresennol o gyllid bysiau ymhell o'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r nodau hyn. 

Y llynedd, gwaethygodd y penderfyniad i ddod â'r cynllun argyfwng bysiau i ben heriau sydd eisoes yn wynebu gweithredwyr, gan arwain yn y pen draw at y dirywiad sylweddol mewn gwasanaethau bysiau. Cafodd tua 10 y cant o lwybrau eu lleihau neu eu tynnu'n ôl dros yr haf diwethaf, ac amcangyfrifodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr fod 15 i 25 y cant o lwybrau ychwanegol mewn perygl eleni. A oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet y ffigur diweddaraf o faint o lwybrau bysiau a gafodd eu lleihau neu eu tynnu'n ôl yn 2024?

Rwy'n credu bod rhan o'r argyfwng yn deillio o'r anghysondeb o ran sut mae'r Llywodraeth hon wedi dyrannu cyllid rhwng bysiau a rheilffyrdd. Eleni, mae miliynau o bunnoedd wedi'u tywallt i wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru tra bod bysiau, y dull pennaf o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wedi eu gadael heb ddigon o gyllid. Rydym yn parhau i weld yr anghysondeb hwn yn natganiad cyllideb heddiw, felly sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn?

Yn olaf, rwyf am sôn yn gryno am y mater o brisiau. Yn ddiweddar, clywsom fod Keir Starmer yn bwriadu cynyddu'r cap ar brisiau bysiau yn Lloegr o £2 i £3 yn 2025. Yn y cyfamser, yma yng Nghymru, bu addewidion dro ar ôl tro a galwadau am gap prisiau bws a phrisiau symlach a thecach. Ymrwymodd eich rhagflaenydd i gyflwyno cap pris bws gwerth £1 yng Nghymru. Yn ystod ei ymgyrch arweinyddiaeth, addawodd y Prif Weinidog blaenorol archwilio cynlluniau lleihau prisiau. Yn yr un modd, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd presennol brisiau bws symlach a thecach yn ei faniffesto arweinyddiaeth. Gwnaeth hyd yn oed Cyngor Caerdydd ymrwymiad i ddarparu cap pris gwerth £1 ar fysiau os byddai'n cael ei ailethol. Ac eto, er gwaethaf yr addewidion hyn, nid ydym eto wedi gweld cap pris na gostyngiad pris yn cael ei wireddu.

Hyd yn oed os bydd diwygio bysiau yn cynyddu'r ddarpariaeth gwasanaeth yn llwyddiannus, rhaid iddo fod yn fforddiadwy. Ni all prisiau bws barhau i godi y tu hwnt i fodd pobl yng Nghymru. Cymru yw'r unig ran o Brydain Fawr o hyd sydd heb fuddsoddi mewn cynllun cenedlaethol i leihau prisiau tocynnau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A allwn ni fyth ddisgwyl gweld cap ar brisiau neu ostyngiad mewn prisiau o dan Lafur yng Nghymru, neu a fydd hyn yn addewid arall sydd wedi cael ei thorri? Diolch yn fawr.

18:45

A gaf i ddiolch i Peredur am ei gyfraniad a'i gwestiynau heddiw? Mae dadreoleiddio bysiau wedi arwain at system prisiau hynod gymhleth yng Nghymru. Felly, drwy fasnachfreinio, byddwn yn gallu cyflawni ein huchelgais o greu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn gyda gweithrediadau rheilffyrdd. Byddwn hefyd yn gallu gweithredu trefn lawer mwy tryloyw, symlach a thecach ar draws y rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd. Mae yna uchelgeisiau enfawr o ran yr hyn yr ydym am ei wneud; mae ein huchelgeisiau yn cael eu cwtogi gan argaeledd cyllid yn unig. Ond wrth gwrs, gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU, fel y gwelsom ni heddiw, yn agor cyfleoedd ar gyfer mwy o fuddsoddiad, mae'n ein galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau, a bydd yn gwneud yn y dyfodol.

O ran y cyllid bysiau brys a roddwyd ar gael yn ystod pandemig COVID, wrth gwrs, fe wnaethom greu'r grant rhwydwaith bysiau a dyrannu £39 miliwn iddo. Mae'r £39 miliwn hwnnw bob blwyddyn wedi cadw'r mwyafrif helaeth o'r rhwydwaith bysiau ledled Cymru, ac rydym yn falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud hynny yn ystod cyfnod o gythrwfl economaidd ar lefel Llywodraeth y DU.

O ran yr anghydbwysedd mewn cyllid ar gyfer gwasanaethau trenau a bysiau, mae hyn yn anodd iawn, oherwydd un wythnos byddwn yn clywed gan Aelodau'r Senedd yn dadlau dros gydbwysedd dros ariannu gwasanaethau, ond yna, yr wythnos ganlynol, byddwn yn clywed eu bod am weld gwasanaethau â chymhorthdal sylweddol iawn, yn cael eu cynnal fel y rhai ar linell Calon Cymru. Pe baem yn cael cydbwysedd o gyllid ar draws gwasanaethau trenau a bysiau, mae arnaf ofn y byddai'n arwain at doriadau difrifol i'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac nid yw hynny'n rhywbeth rwy'n credu y bydd unrhyw Aelod yn y Siambr yn dymuno ei weld.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud am gost masnachfreinio yw y bydd asesiad effaith rheoleiddiol manwl yn cael ei gyhoeddi pan fyddwn yn cyflwyno'r Bil. Ond trwy'r mesurau yr wyf wedi'u hamlinellu, gall cost masnachfreinio weld enillion sylweddol o ran gwerth am arian, oherwydd byddwn yn gallu integreiddio'n well, er enghraifft, ar deithio i ddysgwyr, teithio i'r ysgol gyda chludiant teithwyr rheolaidd. Ac mae hyn, unwaith eto, yn ymwneud â dileu dyblygu a gwneud y defnydd gorau o'r rhwydwaith bysiau a'r fflyd fysiau. Ar hyn o bryd, mae cost teithio dysgwyr i awdurdodau lleol yng Nghymru yn eithriadol—mae i fyny tuag at £200 miliwn y flwyddyn. Felly, mae arbedion cost yn hynny o beth y gellir eu cyflawni trwy gael rheolaeth dros y rhwydwaith a thros amserlenni.

Ac yna, yn olaf, o ran yr amserlen ei hun ar gyfer cyflwyno'r Bil, byddaf yn cyflwyno'r Bil ym mis Mawrth, ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, rwy'n gobeithio y byddwn yn ennill Cydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2026.

Diolch am y diweddariad ar ddiwygio bysiau heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, ni all y Bil ei hun ddod yn ddigon buan, fel y gall bysiau wasanaethu ein cymunedau yn well. Ond rwy'n credu'n fawr bod angen gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnwys rhanddeiliaid—fel rydych chi wedi'i nodi heddiw, Ysgrifennydd Cabinet—boed hynny'n awdurdodau lleol, y cymunedau rydyn ni'n ceisio eu gwasanaethu, ond, yn hollbwysig, y gweithlu hefyd, trwy eu hundebau llafur. Rwy'n credu yn gryf mai'r bobl sy'n darparu ein gwasanaethau sydd yn y sefyllfa orau i gyfrannu at sut y gallan nhw wella. Mae hyn hefyd yn rhywbeth a drafodais yn fy fforwm trafnidiaeth gyhoeddus diweddar yn y Fflint, ac ai dyna'r ffordd y gallant helpu o safbwynt gweithredol, ond hefyd yn ehangach yn y ffordd y caiff y Bil hwn, y ddeddfwriaeth hon, ei datblygu. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn i chi a allwch chi nodi sut y gall y gweithlu, trwy eu hundebau llafur, fel Unite, fod yn rhan nid yn unig o ddatblygu llunio'r ddeddfwriaeth, ond yn bwysig, y gweithredu, i sicrhau ei bod mor effeithiol ag y gall fod? Sut maen nhw wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu lle rydym ni ar hyn o bryd?

18:50

A gaf i ddiolch i Hannah am ei chwestiynau? Mae yna nifer o ffyrdd yr ydym yn sicrhau bod ymgysylltu trylwyr yn digwydd a bod rhanddeiliaid—nid wyf o reidrwydd yn hoffi'r term 'rhanddeiliaid'; mae'n well gen i 'bartneriaid'—yn cymryd rhan lawn mewn cynllunio dyfodol ein gwasanaethau bysiau ledled Cymru. O ran undebau llafur yn benodol, wrth gwrs, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, ac rwyf wrth fy modd bod undebau llafur yn rhan o'r panel diwygio bysiau sy'n edrych ar y system fasnachfreinio y byddwn yn ei chyflwyno i'r Senedd, ac yna bydd y panel hwnnw hefyd yn edrych ar sut rydym yn cyflwyno trawsnewidiad ar draws y rhwydwaith. Felly, bydd yr undebau llafur wrth wraidd yr holl ystyriaethau yr ydym yn eu cymryd.

Mae defnyddwyr bysiau wedi hen arfer ag aros, ac mae aros am ddiwygio bysiau yn sicr wedi profi eu hamynedd, ond rwy'n sicr yn gobeithio y bydd y daith yn gymharol syml a'r gyrchfan werth chweil. Oherwydd, rwyf wedi cael cymaint o etholwyr yn dod ataf gyda'u barn ar wasanaethau lleol, gan amlinellu pwysigrwydd bysiau ar gyfer eu bywydau o ddydd i ddydd a'r problemau sy'n codi weithiau. Rwy'n falch iawn y bydd rhannau o'm rhanbarth ymhlith y cyntaf i gyflwyno trefniadau masnachfreinio, gan nad oes gan lawer o gymunedau yn fy rhanbarth fynediad at wasanaethau trên ac, felly, mae gwasanaethau bws da yn gwbl hanfodol.

Yr hyn rwy'n awyddus i gael mwy o eglurder arno, fodd bynnag, yw'r ffordd y bydd defnyddwyr bysiau eu hunain yn gallu cael eu mewnbwn i'r trefniadau masnachfreinio. Maen nhw'n aml yn dweud wrtha i, 'Yn gyffredinol, nid yw gwleidyddion yn defnyddio bysiau. Petaen nhw'n gwneud hynny, bydden ni'n gweld mwy o gynnydd ar hyn', ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n cytuno â nhw. Ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, rydym yn aml yn siarad am ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan adeiladu'r gwasanaeth o amgylch anghenion y defnyddiwr. Rydych chi'n sôn am ymgysylltu â chynghorwyr lleol a'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig—wel, arweinwyr cynghorau lleol ydyn nhw, onid e? Yn gyffredinol, mae'n debyg nad ydyn nhw'n defnyddio bysiau chwaith. Felly, hoffwn wybod pa ddulliau fydd yn cael eu defnyddio i sicrhau bod defnyddwyr bysiau, y bobl hynny y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw ar ddechrau eich datganiad, y bobl hynny nad oes ganddyn nhw gar, sy'n aml yn agored iawn i niwed ac sy'n gwbl ddibynnol ar wasanaethau bws, yn cael llais ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a gweithredwyr ac eraill i lunio eu rhwydwaith lleol a chreu'r gwasanaeth hwn sy'n mynd i'r cyfeiriad cywir. 

A gaf i ddiolch i Sioned am ei chwestiynau? Mae hi'n llygad ei lle taw rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru yw'r rhai mwyaf dibynnol ar ein gwasanaethau bysiau, a byddan nhw wrth wraidd dylunio'r rhwydwaith a chwblhau'r amserlenni yn y blynyddoedd i ddod. Bydd yn cael ei gyfarwyddo drwy Trafnidiaeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau, gydag awdurdodau lleol a chyda sefydliadau teithwyr. Mae gennym hefyd yn Trafnidiaeth Cymru, sydd eisoes wedi'i ymgorffori ynddo, grŵp mynediad a chynhwysiant sy'n cynrychioli pobl sy'n wynebu heriau anabledd o ddydd i ddydd. Fe wnes i gyfarfod â'r panel yr wythnos diwethaf, ac rwy'n benderfynol bod eu olion bysedd ar draws y rhwydweithiau bysiau newydd a fydd yn dod i'r amlwg o ganlyniad i allu masnachfreinio.

Byddwn yn cwestiynu’r Aelod wrth ddweud nad yw gwleidyddion yn hoffi defnyddio bysiau; rwyf wrth fy modd yn defnyddio bysiau. Rwyf bob amser wedi gwneud ers i mi fod yn blentyn, pan oeddem yn dibynnu arnyn nhw bob dydd o'n bywydau. Yn wir, rwy'n eu hadeiladu allan o Lego. Rwy'n gwerthfawrogi gwasanaethau bysiau, y rhwydwaith bysiau ledled Cymru. Rydym yn benderfynol o'i gymryd o'r sefyllfa sy'n eithaf ansicr, rwy'n derbyn, i sefyllfa gryf, i sicrhau bod pobl Cymru yn falch o'n rhwydwaith bysiau, o'r hyn y gallwn ni ei gynnig, gweld gwelliannau o ran prydlondeb, o ran oedran y fflyd, o ran cyrraedd y rhwydwaith, o ran rheoleidd-dra gwasanaethau bws.

Byddwn i'n dweud fy mod i'n ymwybodol bod oedi wedi bod wrth symud y darn hwn o ddeddfwriaeth yn ei blaen. Un o uchafbwyntiau hynny yw ei fod wedi rhoi cyfle i mi orffen yr hyn a ddechreuais i. Ond mae hefyd wedi ein galluogi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn y sefyllfa gryfaf bosibl wrth i ni ei chyflwyno i'r Senedd, a'n bod yn gallu dysgu o rannau eraill, nid yn unig o'r DU, ond Ewrop gyfan.

Diolch yn fawr iawn am y datganiad hwn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn symud ymlaen i fasnachfreinio bysiau. I mi, bydd hynny'n arwain at fynediad llawer mwy cyfartal i bobl ledled Cymru. Dim ond dau beth yn gyflym iawn, gan ganolbwyntio'n gyntaf ar gymunedau gwledig, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Rwyf am gymryd enghraifft. Does gan Trecastell, cymuned rhwng Llanymddyfri ac Aberhonddu, ddim trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl. Cafodd y gwasanaeth bws rhif 80 ei gwtogi yn 2015, ac erbyn hyn mae'n rhaid i drigolion deithio 10 milltir i gael mynediad at wasanaethau sylfaenol, rhai ohonynt yn cerdded y tair milltir i Bontsenni. Canolbarth Cymru yw'r rhanbarth olaf yn eich amlinelliad i weithredu diwygiadau masnachfreinio, yn 2030, felly rwy'n pryderu am wasanaethau bysiau gwledig.

Mae'r ail yn ymwneud â phobl ifanc sy'n defnyddio bysiau. Rydyn ni bob amser wedi siarad am sut, os gallwch chi gael pobl ifanc pan fyddan nhw'n ifanc, yna byddan nhw'n parhau i ddefnyddio bysiau neu unrhyw beth arall y tu hwnt i fod yn oedolyn. Mae arolwg gan Senedd Ieuenctid Cymru, rydyn ni'n gwybod, wedi dweud y byddai 75 y cant o bobl ifanc yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pe bai am ddim neu am gost isel. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa ystyriaeth rydych chi'n ei rhoi i ganiatáu i bobl ifanc gael mynediad at fysiau, a gobeithiwn y bydd hynny'n rhoi'r arfer iddynt barhau am weddill eu bywydau? Diolch yn fawr iawn.

18:55

Yn bendant. A gaf i ddiolch i Jane Dodds am ei chyfraniad? Rwy'n cytuno'n llwyr bod rhannau gwledig o Gymru yn aml yn dioddef o gysylltedd rhwydwaith gwael. Mae cyfran enfawr o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd gwledig. Gyda masnachfreinio, bydd modd defnyddio cymhorthdal y gwasanaethau mwy proffidiol hynny sy'n gweithredu mewn ardaloedd mwy trefol a'r rhwydwaith gwledig, sy'n gofyn am fwy o gymhorthdal. Dyna un o gryfderau gallu masnachfreinio yn genedlaethol: y byddwn yn gallu cefnogi pob rhan o Gymru, boed yn wledig neu'n drefol.

O ran y rôl y bydd gan bobl ifanc o ran dyfodol gwasanaethau bysiau, rydym yn y broses o lunio panel pobl ifanc a fydd yn gallu ein cynghori, nid yn unig o ran trafnidiaeth reolaidd o ddydd i ddydd, ond hefyd o ran seilwaith bysiau, yr hyn y maen nhw'n teimlo sy'n fwy diogel, beth sydd ei angen o ran arosfannau bysiau, yr hyn sy'n ofynnol o ran dyfodol teithio dysgwyr hefyd. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni'n mynd i allu gwrando'n uniongyrchol ar bobl ifanc wrth i ni lunio polisi wrth symud ymlaen. A byddwn i hefyd yn dweud, os caf i, o ran gwasanaethau gwledig, fod gwasanaeth Fflecsi wedi bod yn arbennig o bwysig, a byddwn yn masnachfreinio hwn wrth i ni geisio tyfu'r gwasanaeth hwnnw a sicrhau bod mwy o gymunedau yng nghefn gwlad Cymru wedi'u cysylltu'n well.

Rwy'n eithaf cytuno gyda Sioned Williams fod pobl wedi gorfod aros yn ofnadwy o hir am hyn. Yn anffodus, mae wedi cael effeithiau difrifol iawn ar allu pobl i fynd o gwmpas, hyd yn oed mewn lleoedd trefol fel yr etholaeth rwyf i'n ei chynrychioli yng Nghaerdydd. Mae'n ymddangos i mi, am resymau economaidd da, bod angen i ni wneud hyn, oherwydd mae'n hanfodol cymryd rheolaeth yn ôl er mwyn gwella gwerth am arian y pwrs cyhoeddus. Nid oes rhesymeg o ran caniatáu i weithredwyr bysiau gael cyfran o arian yn unig ac yna dewis y llwybrau lle maen nhw'n meddwl y gallan nhw wneud y mwyaf o arian. Mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn gwneud y mwyaf o ddiben cymdeithasol bysiau, sef, fel y dywedodd pawb, y gwasanaeth mwyaf sylfaenol y mae pobl heb geir yn dibynnu arno.

Mae gennyf ddau neu dri o gwestiynau. Mae Casnewydd a Chaerdydd eisoes wedi llwyddo i ddenu cronfeydd datgarboneiddio gan Lywodraeth y DU i ddarparu llawer o fysiau glanach, sydd wedi cael ei groesawu'n fawr. Pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gydag awdurdodau lleol eraill i ddatgarboneiddio eu fflydoedd bysiau gan ddefnyddio'r arian y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig?

Rwyf eisiau deall pam y bydd oedi cyn cyflwyno'r cynllun yn ne-ddwyrain Cymru tan 2029. Mae hynny ychydig bellter i ffwrdd. Oherwydd mae pobl yn dioddef ar hyn o bryd, yn enwedig myfyrwyr ysgol uwchradd, sy'n gorfod talu symiau enfawr o arian, hyd yn oed pan fyddan nhw ar brydau ysgol am ddim, er mwyn cyrraedd yr ysgol. Nid yw'n realistig meddwl bod y plentyn yn mynd i gerdded bron i 3 milltir i gyrraedd yno a bron i 3 milltir i ddod yn ôl.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau? Yn gyntaf, hoffwn ddweud, hyd yma, nad ydym wedi cael unrhyw reolaeth dros y cymhorthdal cyhoeddus sylweddol iawn sy'n mynd i wasanaethau bysiau. Gyda masnachfreinio, bydd gennym reolaeth lawn. Ond dydw i ddim yn mynd i feirniadu'r gweithredwyr bysiau hynny ar hyd a lled Cymru—y gweithredwyr bysiau sydd â 1,600 o fysiau yn gwasanaethu ein cymunedau—oherwydd, ydy, mae'n bosib y bydd elw yn cael ei ennill ar rai llwybrau, ond mewn cymaint o achosion nhw yw anadl einioes llawer o gymunedau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Ac, wrth gwrs, mae'r ddau gwmni trefol, Bws Caerdydd a Bws Casnewydd, wedi bod yn hanfodol bwysig, gan ddarparu gwasanaethau rhagorol i ddwy ddinas yn ne-ddwyrain Cymru. Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud drwy fasnachfreinio yw cael mwy o reolaeth dros y rhwydwaith, dros amserlennu, dros brisiau tocynnau, fel y gallwn sicrhau bod buddiannau teithwyr yn flaenoriaeth mewn unrhyw ystyriaeth o bolisi bysiau wrth symud ymlaen.

O ran datgarboneiddio, wrth gwrs, dim ond dau gwmni bysiau trefol sydd yna. Yn y ddau achos, mae bysiau trydan bellach ar waith, yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd. Ond, wrth gwrs, mae bysiau trydan hefyd ar waith ar rwydwaith TrawsCymru sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. A dywedais yn gynharach, mewn ymateb i gwestiynau eraill, ein bod wedi dyrannu £31 miliwn y flwyddyn nesaf—£31 miliwn—tuag at ddatgarboneiddio'r fflyd fysiau, yn ein huchelgais i'w chymryd o fod y fflyd hynaf o fysiau ym Mhrydain i un o'r rhai mwyaf newydd yn Ewrop. Ac rwy'n credu bod risg o gyfuno teithio i ddysgwyr gyda gwasanaethau masnachfraint. Ond bydd teithio i ddysgwyr yn elwa o wasanaethau masnachfreinio, oherwydd byddwn yn gallu integreiddio gwasanaethau rheolaidd wedi'u trefnu yn well gyda llwybrau sy'n mynd â dysgwyr i'r ysgol ac oddi yno.

Mae diben cymdeithasol enfawr—rwy'n cytuno'n llwyr â Jenny Rathbone—wrth gefnogi model masnachfraint. Ond mae yna lawer o fentrau bach a chanolig yn y sector preifat sydd hefyd yn cynnig pwrpas cymdeithasol gwych, sy'n mynd y tu hwnt i hynny i gysylltu cymunedau. Ac rydym am sicrhau, drwy'r safonau a osodwyd gennym fel rhan o'r broses fasnachfreinio, y gallwn sicrhau'r hawliau cyflogaeth o'r ansawdd uchaf a'r lefel fwyaf o bwrpas cymdeithasol yn yr hyn y mae gweithredwyr bysiau yn ei gynnig.

19:00

Mae gwaith ymchwil wedi’i wneud ymhlith pobl ifanc ym Methesda yn fy etholaeth i, dan faner prosiect o’r enw Dychmygu’r Dyfodol. Un dyhead clir sydd wedi dod allan o’r gwaith yna, oedd yn cael ei fynegi’n glir iawn, ydy’r dyhead am wasanaeth bws rheolaidd, yn cysylltu rhannau o Ddyffryn Ogwen â’i gilydd, ac â gweddill Arfon a thu hwnt. A dwi’n siŵr y bydden nhw wrth eu boddau yn clywed eich bod chi’n mynd i sefydlu panel pobl ifanc, a dwi’n siŵr y bydden nhw’n fodlon iawn i fod ar y panel yna hefyd, i rannu eu profiadau nhw. Mae’n hollbwysig bod anghenion pobl ifanc mewn dyffrynnoedd ôl-ddiwydiannol, fel Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle, yn cael sylw dyladwy wrth ddyfeisio’r model ar gyfer y gwasanaethau bysiau.

Dwi yn nodi mai cyd-bwyllgor corfforedig y gogledd, y CJC, fydd yn gyrru’r newid ar gyfer 2028 yn y gogledd, a bydd angen gweithio efo rhanbarthau dinesig Lerpwl a Manceinion i ddyfeisio’r rhwydwaith yn y gogledd. Rŵan, mae hwn yn codi pryder i mi, ac felly fy nghwestiwn i ydy: sut ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr bod ardaloedd y gogledd-orllewin—ardaloedd tlawd, ardaloedd sydd yn bell o hybiau poblogaeth—yn mynd i gael eu hystyried yn deg wrth ichi ddyfeisio’r cynllun newydd yma? A gyda llaw, mi ydw i’n gwbl gefnogol i’r egwyddor, ond yn poeni y bydd yna rai cymunedau yn cael eu gadael ar ôl.

Wel, a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian, a'i sicrhau bod llawer o'r rheswm dros fasnachfreinio gwasanaethau oherwydd diffyg darpariaeth yng nghefn gwlad Cymru, oherwydd yn syml, nid yw gwasanaethau gwledig yn broffidiol, ac felly, o dan y system yr ydym yn ei gweithredu ar hyn o bryd, nid yw gweithredwyr masnachol yn gweld unrhyw werth mewn rhedeg gwasanaethau? Ac o ganlyniad i hynny, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gael cymhorthdal. Ond mewn cyfnod o boen ariannol, mae cydsynio, i'r graddau y byddem yn dymuno ei wneud o dan y model cyfredol, yn amhosibl. Ac felly masnachfreinio yw'r opsiwn mwyaf dymunol o bell ffordd, yn fy marn i, i gymunedau gwledig.

Mae traean o bobl Cymru yn byw yng nghefn gwlad Cymru. Ac mae gennym enghreifftiau gwych, rwy'n credu, o ymyriadau yng nghefn gwlad Cymru sydd wedi profi i fod yn hynod lwyddiannus, gyda system Fflecsi, gyda rhwydwaith TrawsCymru. Ac felly, mewn gwirionedd, mae masnachfreinio yn mynd i fod yn hynod fuddiol i gefn gwlad Cymru, a gellid dadlau ei fod yn fwy buddiol i rannau gwledig o Gymru nag ydyw i rannau trefol o Gymru lle mae buddiannau masnachol mewn rhedeg gwasanaethau bysiau. 

Dylwn grybwyll, serch hynny, yn ogystal, gwasanaethau trawsffiniol a'r rheswm ein bod wedi bod yn canolbwyntio rhywfaint o'n sylw ar wasanaethau trawsffiniol yw oherwydd yr hyn nad ydym am ei wneud yw torri pobl i ffwrdd o'u swyddi a gwasanaethau lle mae ffin i ddelio â hi, a dyna pam ein bod yn edrych ar drwyddedau, fel y gall gweithredwyr ddod i mewn i Gymru, ar yr amod eu bod yn integreiddio â'n rhwydwaith ni. Felly, bydd yn sicrhau bod yna rwydwaith di-dor o fewn Cymru ac ar sail drawsffiniol. Ond gallaf sicrhau'r Aelod heddiw fod ein pwyslais wedi cael ei gynnal yn eithriadol, eithriadol o dda, rwy'n credu, ar anghenion cefn gwlad Cymru. 

19:05

Dwi'n mynd i ganolbwyntio ar Gaerdydd. Er fy mod i'n sylweddoli bod y sefyllfa lot yn well yng Nghaerdydd nac mewn ardaloedd gwledig, mae'r sefyllfa yng Nghaerdydd lot yn waeth o gymharu â phrif ddinasoedd eraill yn Lloegr. Dwi'n ategu beth ddywedodd Jenny Rathbone ynglŷn â dysgwyr. Mae'n benodol yn targedu, yn creu impact, ar ddysgwyr Cymraeg, disgyblion sy'n mynd i ysgolion Cymraeg. Maen nhw'n aml yn gorfod teithio ar draws y ddinas ac yn ddibynnol ar fysys i gyrraedd yr ysgol.

Nawr, un consérn sy'n codi'n gyson, a dwi wedi ei brofi e fy hunan, yw yn aml mae'r bysys dim ond ag un lle i gadair olwyn ac un lle ar gyfer pram. Mae hynny'n meddwl wedyn fod yn rhaid gwrthod rhiant â phram rhag mynd ar y bws, oni bai eu bod nhw'n gallu cau'r pram. Wel, os ydych chi'n rhiant gyda dau o blant bach, mae'r syniad eich bod chi'n gallu cau'r pram, cymryd popeth mas o'r pram, cael dau o blant a bag—dyw e jest ddim yn gweithio. Nawr, byddai hyn yn iawn os byddai bws arall yn dod o fewn pum munud, os oeddem ni'n byw yn Llundain neu Lerpwl, ond dŷn ni ddim. Mae'n rhaid aros yn hir ar gyfer bysys. Felly, plis, fel rhan o'r diwygiadau, Ysgrifennydd y Cabinet—dwi'n cytuno'n llwyr fod y system ddim yn gweithio; mae'n rhaid gwneud rhywbeth—a ydyn ni'n gallu gwneud yn siŵr bod hygyrchedd yn rhan ganolog o'r diwygiadau? Diolch yn fawr.

Wel, a gaf i ddiolch i Rhys ab Owen am ei gwestiynau? Maen nhw'n amserol iawn, o ystyried fy mod wedi mynychu'r panel mynediad a chynhwysiant yn TrC yr wythnos diwethaf, sy'n cynnwys y bobl wych sy'n cynrychioli'r rhai mewn cymdeithas sy'n wynebu'r rhwystrau anablu mwyaf difrifol. Rydyn ni'n ymwybodol iawn, iawn, iawn o'r angen nid yn unig i foderneiddio'r fflyd ond sicrhau, pan fyddwn ni'n moderneiddio'r fflyd a'i datgarboneiddio, ein bod ni'n gwneud mwy o ddarpariaeth i bobl yn enwedig sy'n ddibynnol ar ddefnyddio olwyn—sydd â chadeiriau olwyn, sydd â phramiau. Nid yw rhai bysiau, fel y mae'r Aelod newydd eu hamlinellu, yn addas i'r diben yn yr oes fodern, ac felly byddwn yn edrych ar y cerbydau mwyaf cynhwysol a hygyrch y gallwn o bosibl. 

Nawr, o ran teithio dysgwyr, rwyf wedi ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth—rwy'n credu ei bod wedi cael ei threfnu ar gyfer dechrau mis Chwefror—ac rydym hefyd yn trefnu uwchgynhadledd ynghylch dysgu arfer gorau, rhannu arfer gorau ac archwilio atebion ar gyfer yr hyn sy'n fater cymhleth iawn, iawn. 

Diolch. Ddoe, yn y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, clywsom mai cost a chyfleustra yw'r materion pwysicaf i deithwyr. Clywsom wybodaeth ddefnyddiol gan weithredwyr a gyrwyr, sydd wedi gofyn am fod yn rhan o ymgynghoriadau pan fydd awdurdodau lleol yn datblygu cynlluniau blaenoriaeth bysiau, yn edrych ar ddatblygiadau tai newydd ac yn creu llwybrau teithio llesol. Rhoi lonydd beicio i mewn sy'n ymyrryd â lonydd bysiau—dim ond hyn a hyn o le sydd ar ffordd. Mae parcio hefyd yn broblem, sy'n effeithio ar gydymffurfio ag amserlenni yng nghanol trefi, sy'n aml iawn yn dod i ben gyda bysiau'n stopio mynd drwyddi. Felly, rwy'n gofyn: a oes rhywbeth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn? Ac fe ofynnon nhw a fyddai ASau yn cysylltu â gweithredwyr i fynd ar fws ac i weld beth yw'r problemau. Felly, hoffwn i roi hynny allan yna hefyd. Dywedon nhw yr hoffen nhw gael peilot i gael pobl ifanc ar fysiau; byddai hynny'n wirioneddol dda. Byddai cynllun peilot, pe gallech wneud hynny, neu dreial, a chynllun prisiau yn dda iawn. 

Fy nghwestiwn i chi yw: os yw amserlenni neu lwybrau bysiau yn cael eu hystyried ar lefel cyd-bwyllgorau corfforedig, maen nhw'n gymhleth iawn, gwasanaethau bysiau—. Rwy'n gwybod, yn sir y Fflint, fod 450 o wasanaethau gwahanol, a 350 yn wasanaethau ysgolion. Mae'n wirioneddol gymhleth, yn anodd iawn cydbwyso, ac os yw plentyn yn cael ei adael mewn arhosfan, mae'n ofnadwy—effaith hynny. Felly, os yw'r llwybrau hyn yn cael eu darparu ar lefel cyd-bwyllgorau corfforedig gyda Trafnidiaeth Cymru, sut allwn ni sicrhau nad yw'r cymhlethdod hwnnw'n cael ei adael ar ôl fel ein bod ni'n cynnwys pawb? Rwy'n gobeithio fy mod i wedi egluro hyn yn iawn.

19:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A hoffwn ddiolch i chi am y pwyntiau a godoch, oherwydd, yn wir, mae cael yr wybodaeth leol a hyperleol honno yn mynd i fod yn hanfodol bwysig wrth lunio'r rhwydwaith unwaith y gallwn ni roi masnachfraint. Ac rwy'n gwybod am rai swyddogion awdurdod lleol rhagorol sy'n adnabod y system fysiau tu chwith allan, sy'n adnabod eu cymunedau tu chwith allan. Ac os gallaf, fe wna' i ddisgrifio'r system yr ydym yn mynd i'w mabwysiadu: fel y bydd awdurdodau lleol yn ei gyrru, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei darparu. Felly, byddwn ni'n cyfrannu, o'r gwaelod i fyny, yr holl gudd-wybodaeth, gwybodaeth, safbwyntiau teithwyr, llais teithwyr, ac yna Trafnidiaeth Cymru a Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am gyflawni ar hynny. Felly, mae'n sicr yn ddull dinesydd yn gyntaf, teithiwr yn gyntaf y byddwn ni'n mynd ag ef i'w fasnachfreinio.

A byddwn i'n annog pob Aelod i fynd ar fws. Mae yna rai gwasanaethau gwych ar draws Cymru. Mae fy ngwasanaeth lleol i yn cael ei ddisgrifio fel gwasanaeth Sapphire —mae gan y bws do panoramig, mae ganddo bwyntiau USB, mae ganddo fyrddau, mae ganddo seddi lledr. Mae'n fws gwych, ac mae'n gweithredu'n rheolaidd iawn. Ond mae'r hyn rydych chi'n ei ddweud, Carolyn, am gost a chyfleustra yn hollol gywir: mae sicrhau bod gennym ni system prisiau symlach, dryloyw iawn yn mynd i fod yn hanfodol bwysig, ac, ochr yn ochr â hynny, gwasanaeth dibynadwy a rheolaidd fel rhan o rwydwaith masnachfraint.

7. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Storm Darragh

Eitem 7 sydd nesaf: datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar storm Darragh yw hwn, a'r Gweinidog, felly, yr Ysgrifennydd Cabinet, i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 19:12:15
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, effeithiwyd ar gymunedau ar draws Cymru gan storm arall, storm Darragh, a ddilynodd bythefnos yn unig wedi effeithiau storm Bert. Mae storm Darragh wedi effeithio ar lawer o bobl a chymunedau yng Nghymru—ar gartrefi, busnesau, trafnidiaeth a seilwaith ynni.

Ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd lefel goch prin am wynt a rhybudd lefel melyn am law ar gyfer storm Darragh. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bobl ledled Cymru a wrandawodd ar y rhybudd difrifol iawn, yn ogystal â'r rhybudd brys a gyhoeddwyd nos Wener. Yn sicr, fe wnaeth y camau hyn helpu'r ymateb brys. Hoffwn ddiolch hefyd i'r gwasanaethau brys a'r ymatebwyr cyntaf a weithiodd yn ddiflino drwy gydol y penwythnos mewn amodau ofnadwy i gadw pobl yn ddiogel. 

Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i gefnogi ein cymunedau ac i adfer o'r effeithiau. Hoffwn ddiolch i'n hawdurdodau lleol, y gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill am yr holl waith y maent eisoes wedi'i wneud, a'r gwaith parhaus, a fydd yn digwydd i helpu cymunedau i adfer. A hoffwn hefyd gydnabod a diolch i bawb yn ein cymunedau sydd wedi helpu ei gilydd dros y penwythnos. Ar adegau fel y rhain rydyn ni'n aml yn gweld y gorau o bobl, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yng Nghymru, gan weithio mewn partneriaeth â'n gwasanaethau brys. Mae sefydliadau'r trydydd sector yn cryfhau ein gwytnwch cymunedol ac maen nhw'n cefnogi adferiad pobl ymhell ar ôl i'r sylw droi at rywbeth arall.

Lle y bo'n bosibl, byddwn i'n annog pobl mewn ardaloedd yr effeithir arnyn nhw o hyd i barhau i alw gyda chymdogion sy'n agored i niwed heddiw ac i gysylltu â'r heddlu am ymholiadau nad ydyn nhw'n rhai brys hefyd drwy ddeialu 101. Ac er bod y tywydd wedi pasio, mae pobl yn dal i fyw gyda'r canlyniadau. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, y mater parhaus mwyaf arwyddocaol yw toriadau pŵer. Mae gweithredwyr rhwydweithiau ynni yn gweithio'n galed iawn i adfer pŵer i'r bobl a'r cymunedau hynny sydd heb drydan o hyd ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod eu bod nhw'n defnyddio adnoddau ychwanegol cyn belled â phosibl er mwyn gwneud cynnydd cyn gynted â phosibl a'u bod nhw wedi adfer pŵer nawr i dros 0.5 miliwn o gwsmeriaid eisoes. Mae hyn wedi cymryd mwy o amser nag y byddem i gyd yn gobeithio, ac rydyn ni'n deall bod hyn oherwydd maint y difrod a'r amodau anodd dros y dyddiau diwethaf. Disgwylir i'r rhan fwyaf o'r cwsmeriaid sy'n weddill heb bŵer gael eu hailgysylltu heddiw a'r cymunedau anodd eu cyrraedd sy'n weddill erbyn yfory.

Mae'r cwmnïau rhwydwaith wedi bod yn gweithio gydag ymatebwyr lleol i sefydlu cymorth arlwyo, mannau cynnes, ac maen nhw'n parhau i flaenoriaethu cymorth i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Ar gyfer unrhyw un a allai fod angen y math hwn o gymorth, rwy'n eu hannog i gysylltu â gweithredwyr y rhwydwaith, y gellir cysylltu â nhw drwy ddeialu 105.

Rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a fydd yn teimlo'r effeithiau hynny yn fwyaf dwys. Bydd y Prif Weinidog a minnau yn parhau i bwyso ar y cwmnïau rhwydwaith ynni i adfer cyflenwadau pŵer i bawb cyn gynted â phosibl ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac ymatebwyr lleol i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cynnydd cyflym. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cyfarfod â'r Grid Cenedlaethol heddiw i drafod y sefyllfa ddiweddaraf ar draws y de a'r canolbarth, a deallaf y bydd yn cyfarfod â Scottish Power yr wythnos nesaf i gael ôl-drafodaeth lawn ar yr ymateb ar draws y gogledd.

Mae'r effaith ar ein rhwydweithiau pŵer hefyd wedi cael effaith ar ein seilwaith cyflenwi dŵr. Torrwyd cyflenwadau pŵer i bympiau ledled Cymru, gan arwain at doriadau i gyflenwadau llawer o bobl. Er bod nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnyn nhw yn gymharol isel, mae'r toriadau pŵer sydd wedi achosi'r problemau i'r cyflenwad dŵr wedi bod yn eang. Maen nhw wedi effeithio ar gymunedau ar draws y wlad. Mae gan ein cwmnïau dŵr gynlluniau wedi'u hymarfer yn dda ar gyfer ymyriadau fel y rhain, a rhoddwyd gweithdrefnau ymateb brys ar waith ar draws y diwydiant cyn y storm. Mae hyn wedi golygu, mewn llawer o achosion, eu bod, yn ffodus, wedi gallu cynnal neu adfer cyflenwadau dŵr yn gyflym i gwsmeriaid yr effeithiwyd arnyn nhw er gwaethaf heriau enfawr, gan ddefnyddio generaduron brys lle na allai'r cyflenwad grid cenedlaethol gael ei adfer yn gyflym.

Wrth gwrs, rydyn ni'n cydnabod yr effaith y mae'r stormydd hyn yn ei chael ar gymunedau. Felly, mae ein cynllun cymorth ariannol brys, EFAS, sy'n fecanwaith sefydledig, yn darparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol i helpu i dalu eu costau wrth ymateb i argyfyngau ar raddfa fwy. Mae arian wedi'i neilltuo eleni, 2024-25, tua £10 miliwn, y gellir ei ddefnyddio i dalu costau storm Bert. Rydyn ni wedi parhau i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan storm Bert a storm Darragh, gan gynnwys grantiau o £500 i'r rhai y gadawyd eu cartrefi dan ddŵr neu nad oedd modd eu defnyddio o ganlyniad, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at arweinwyr, a gofynnwyd i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am eu costau. 

Rwyf am fod yn glir am hyn heddiw: yr hyn rydyn ni'n ei weld yw effeithiau newid hinsawdd. Gallwn ni ddisgwyl i dywydd mwy difrifol a'r effeithiau barhau. Felly, mae dysgu'r gwersi, dro ar ôl tro, o heriau aflonyddgar yn elfen sylfaenol o'n hymdrech ehangach i gryfhau gwytnwch Cymru. Yn yr achos hwn, tarodd storm Darragh ein glannau lai na phythefnos ar ôl storm Bert, felly, yn ddealladwy, nid yw'r broses adrodd lawn a dysgu gwersi yn sgil storm Bert wedi dod i ben eto. Fodd bynnag, ar 4 Rhagfyr, fe wnes i gadeirio cyfarfod o arweinwyr y gwasanaeth brys ac awdurdodau lleol i gael asesiad cychwynnol o effeithiolrwydd yr ymateb i storm Bert. Un amcan allweddol oedd nodi gwersi a gofynion uniongyrchol i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau wrth i ni drosglwyddo o ymateb i adferiad. Ac mae yna arwyddion, Llywydd, bod ein cymuned o ymatebwyr eisoes yn defnyddio eu profiadau o storm Bert mewn amodau heriol a pheryglus, weithiau, y penwythnos diwethaf.

Diogelwch pobl a chymunedau Cymru yw ein prif flaenoriaeth. Rwyf am sicrhau ein bod yn cynnal parodrwydd ac ymatebion effeithiol i ddigwyddiadau mawr fel storm Darragh. Felly, rwyf yn bwriadu cwrdd â rhanddeiliaid i drafod yr ymateb ac i ystyried pa wersi sydd i'w dysgu, a sut y gallwn adeiladu cydnerthedd gwell i'n strwythurau a’n prosesau cydnerthedd presennol. Diolch, Llywydd.

19:15

Mae storm Darragh wedi cael effaith ddinistriol digynsail ar draws y gogledd ac, yn wir, ar draws Cymru gyfan, gyda chymunedau'n ei chael hi'n anodd adfer o'i heffaith ddinistriol. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r gwasanaethau brys, staff awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr holl asiantaethau a ddaeth yn gyflym iawn, gan beryglu eu bywydau eu hunain yn ystod stormydd mor ofnadwy. Ac rwy'n ymddiheuro, Ysgrifennydd Cabinet, am beidio â diolch i chi am eich datganiad. Fe wnes i gyflwyno cwestiwn brys peth cyntaf bore dydd Llun, ond mae'r ffaith eich bod chi'n gwneud datganiad yn ddefnyddiol iawn. Diolch.

Roedd y ffordd y daeth gwirfoddolwyr o'n cymunedau lleol i helpu yn anghredadwy. Mae gwyntoedd ffyrnig y storm a'r glaw di-baid wedi achosi difrod eang i dirnodau hanesyddol, mannau gwyrdd poblogaidd a seilwaith hanfodol. Dim ond heddiw y darganfyddais, ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fod o leiaf 300 o goed wedi syrthio ar y llinellau ledled Cymru, gan atal gwasanaethau rheilffyrdd. Mewn rhai ardaloedd, mae trigolion yn dal i aros i bŵer gael ei adfer, gan dynnu sylw at yr heriau parhaus yn sgil y storm.

Un o anafusion mwyaf torcalonnus storm Darragh yw pier eiconig, hanesyddol Llandudno, yr hiraf yng Nghymru a'r pumed hiraf yn y DU. Roedd yn dorcalonnus. Lle rwyf i'n byw, roeddwn i'n gallu gweld rhywfaint o'r difrod, ond yna, pan aeth pobl i wneud fideo, roedd yn anghredadwy. Roedd y ciosg hufen iâ a rwygwyd o'i sylfeini yn gant a hanner mlwydd oed, a chafwyd hyd i'r malurion o hynny—un o'r oergelloedd hufen iâ enfawr—2 km i ffwrdd ar y traeth. Dyna pa mor ffyrnig oedd y gwyntoedd.

Rwy'n mynd i sôn am fae Penrhyn. Roedd y dinistr yno yn ingol iawn. Mae yna lawnt goffa, safle o arwyddocâd personol a hanesyddol dwfn, a gafodd ei dinistrio. Mae'r gofod hwn, a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl o dan arweiniad y diweddar Gynghorydd Jack Finch, fy niweddar dad, yn gartref i goed a blannwyd er cof am yr Arglwydd Mountbatten, ac, i lawer, gan gynnwys y rhai a'u plannodd, mae'r difrod yn teimlo'n hynod bersonol. Rwy'n cofio'r amser yr aeth y coed hynny i mewn, ac fe wnes i helpu fy nhad i wneud tyllau i'r coed hynny. Maen nhw i gyd wedi mynd nawr. Mae'n ein hatgoffa o sut mae storm Darragh nid yn unig wedi dinistrio tirnodau corfforol, ond mae hefyd wedi taro calon emosiynol a diwylliannol ein trefi.

Y tu hwnt i'r safleoedd eiconig hyn, mae'r storm wedi dod â heriau eang i gymunedau. Cafodd effaith fawr ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach, wrth i lawer o fusnesau orfodi cau, rhai am sawl diwrnod neu fwy, gan ychwanegu at effaith economaidd y storm. Mae'r diffyg pŵer nid yn unig yn tarfu ar fywyd bob dydd, ond mae hefyd yn tanlinellu bregusrwydd seilwaith, ond hefyd fregusrwydd y rhai mewn lleoedd gwledig ac ynysig. Roeddwn i'n ofidus am bier, ond maen nhw'n teimlo mor unig, mor ynysig ac yn ofnus iawn.

O ran ymateb Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, mae'n dda eich bod chi'n cyflwyno hyn, ond mae gennyf dri pheth i ofyn i chi. Mae'n amlwg bod pwyslais sylweddol wedi bod ar blannu coed, ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld y stormydd hyn—rydyn ni'n sôn am storm unwaith mewn 100 mlynedd, ond rydyn ni'n eu cael nhw gymaint o weithiau'r flwyddyn nawr. Felly, rwy'n gwybod, o ran y storm benodol hon, bod fy awdurdod lleol wedi adrodd bod dros 100 o goed wedi cwympo. Mae'n debyg mai'r hyn rwyf am ei ofyn—un neu ddau gwestiwn—yw a wnewch chi gynnal arolwg i weld faint o goed rydyn ni wedi'u colli o ganlyniad i'r stormydd hyn a sut rydych chi'n bwriadu gwneud yn siŵr bod coed newydd yn cael eu plannu yn lle'r coed hynny. Ond mi af ymlaen ychydig o hynny.

Gobeithio y bydd rhywfaint o gronfa argyfwng—adnoddau yw'r hyn rwy'n mynd i sôn amdanyn nhw nawr. A fydd cyllid brys i awdurdodau lleol sydd, eu hunain, dan bwysau mawr ond y bu'n rhaid iddyn nhw ddefnyddio llawer o'u hadnoddau eu hunain i fynd allan a helpu mewn stormydd mor ofnadwy gyda'r gwaith glanhau? Mae'n debyg rwy'n mynd i ofyn: oes yna gronfa hanesyddol ar gyfer adeiladau fel y pier, a chyllid ar gyfer ein busnesau lleol, sydd wir wedi dioddef? A hefyd, o ran mater y coed sydd wedi cwympo—y 300 o goed sydd wedi cwympo ar draws y rhwydwaith—allwch chi efallai, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gynnal arolwg o—? A oes rhywbeth rheolaidd, o ran ochr goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru—? Efallai bod rhai o'r coed hynny a ddaeth i lawr yn rhai yr oedd angen eu torri i lawr o flaen llaw a'u bod yn beryglus. Yn eithaf aml, mae'n rhaid i mi ysgrifennu at Network Rail a dweud, 'Edrychwch, mae gen i drigolion sy'n ofni y bydd y coed hyn, os byddan nhw'n cwympo, yn cwympo ar y llinellau.' Felly, mae tri chwestiwn, Ysgrifennydd Cabinet—

19:20

Does dim angen i chi atgoffa'r Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n gweld ei fod yn eu hysgrifennu i lawr. Mae gen i lawer o siaradwyr sydd eisiau cyfrannu, oherwydd mae'n ddifrifol iawn yn eu cymunedau.

Oce. Felly, cymorth ariannol i'r busnesau, tirnodau hanesyddol, a hefyd y coed oherwydd gallwn ni ddim fforddio colli'r coed hynny. Diolch.

19:25

Ie. Diolch, Janet. Yn gyntaf oll, dim ond i ddweud, diolch am eich sylwadau ar waith y gwirfoddolwyr allan yna. A dim ond i ddweud, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder, y Trefnydd a'r Prif Chwip hefyd yn ymgysylltu â sefydliadau'r sector gwirfoddol ac yn ymgysylltu â nhw ei hun i weld yr ymateb yno, ac fel y gwelwch chi, mae hyn yn dipyn o ymdrech drawslywodraethol yma, wrth gysylltu, hefyd, a cheisio tynnu ynghyd. A bydd gennym ni wersi i'w dysgu, gyda llaw, fel sydd gennym bob amser gyda'r digwyddiadau hyn, er mwyn gwella bob tro. Ond mae'r pwynt y sonioch chi amdano o ran cydnerthedd cymunedol yn arwyddocaol o ran hyn. Fe welais i'r cyfweliad gyda'r dyn hwnnw, rwyf wedi bod i'r stondin honno yno—y dyn oedd yn dweud ei fod wedi ei lorio, roeddech chi'n gallu gweld pa mor ddagreuol oedd e, ond fe ddywedodd, 'Fe ddown ni'n ôl. Rydyn ni wedi bod yma'n ddigon hir; fe wnawn ni adeiladu'n ôl eto'. Ac rwy'n credu mai dyna'r agwedd rydyn ni wedi'i weld gan lawer yn ein cymunedau, ni waeth pa mor drawmatig yw'r digwyddiadau.

Felly, o ran eich cwestiynau, rwy'n credu mai coed roeddech chi'n sôn amdanyn nhw yn gyntaf oll, ac mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r ateb wrth symud ymlaen. Nid yw'n ymwneud â'r rhai a ddaeth i lawr yn unig; mae'n ymwneud â lle rydyn ni'n plannu yn y dyfodol ar sail dalgylch, fel y gallwn ni arafu rhywfaint o'r—. Yn yr holl stormydd rydyn ni wedi'u gweld a'r rhai y byddwn ni'n eu gweld yn ystod gweddill y gaeaf, mae angen i ni feddwl nawr ar sail dalgylch ynghylch plannu coed yn y lleoedd iawn er mwyn helpu gyda hyn. O ran y rhai a ddaw i lawr, dydyn ni ddim yn bwriadu cynnal arolwg enfawr, arolwg manwl, ar hyn. Rwy'n credu y byddwn ni'n cael adborth gan awdurdodau lleol a chan bobl fel Coed Cadw ac eraill, gyda'u hasesiad nhw o'r difrod.

O ran Network Rail, maen nhw'n cynnal arolygon rheolaidd—rheolaidd—systematig. Fel y gwelwn ni i gyd weithiau, mae oedi ar y rheilffordd oherwydd eu bod nhw ar y lein, yn torri coed i lawr, ac maen nhw'n dweud, 'Iawn, bydd ychydig o darfu ar eich gwasanaethau wrth i ni ei wneud'. Felly, maen nhw'n gwneud hyn yn rheolaidd.

Ac, o ran cymorth ar gyfer awdurdodau lleol, fe wnes i sôn yn fy sylwadau agoriadol bod gennym ni'r cynllun cymorth ariannol brys. Fe wnaethon ni ei roi ar waith eisoes o ran storm Bert. Mae'r gwariant cymwys, mae dros drothwy penodol, ac mae fy nghyd-Aelod sy'n eistedd wrth fy ymyl wedi bod yn wych yn y ffordd y mae wedi estyn allan i awdurdodau lleol a dweud, 'Rhowch y wybodaeth i ni o ran yr effaith y mae hyn wedi'i chael'. Mae'r un peth yn wir am fod hyn yn ymateb, er enghraifft, i waith i ddiogelu strwythurau peryglus, symud pobl o ardaloedd, eu hailgartrefu, cynnal cyfathrebu clir, clirio ffyrdd, llogi cerbydau, offer a pheiriannau ychwanegol, tynnu coed a phren sy'n beryglus i'r cyhoedd. Felly, mae'r egwyddorion hynny'n berthnasol i'r stormydd hyn wrth iddyn nhw ddod drwodd. Felly, rwy'n credu y bydd rhai awdurdodau wedi cael eu taro ddwywaith, ac y bydd awdurdodau eraill wedi cael eu taro llawer mwy gan storm Darragh nag y cawson nhw gan storm Bert. Ac yn fyr, rydyn ni'n sôn llawer am effaith trydan a thoriadau i'r cyflenwad dŵr, ond ddylen ni ddim anghofio, yng Ngheredigion, fod llifogydd wedi effeithio ar dros 150 o gartrefi, hefyd. Felly, mae rhywun i fyny yno yn rhoi neges gref i ni yma ar hyn o bryd.

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei ddatganiad. Do, fe darodd storom Darragh yn galed yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn, gan adael llwybr o ddinistr yn ei sgil. Rŷn ni'n gwybod bod y gwyntoedd o ryw 90 mya wedi dinistrio tai ac adeiladau, coed yn cwympo, hewlydd yn cau, a thai a phentrefi cyfan heb drydan, heb olau, heb ddŵr mewn rhai achosion, a heb wres. Ac wrth i fatris ffonau symudol ddifa a chysylltiad ffonau landline fynd yn dawel, roedd pobl, wedyn, yn ffeindio'u hunain wedi torri cysylltiad â'r byd mawr y tu fas, ac roedd hynny'n golygu bod anwyliaid, teuluoedd a ffrindiau yn poeni am y bobl yna achos roedden nhw'n methu cysylltu â nhw.

Mae hyn wedi taro, wrth gwrs, yn bennaf, ardaloedd yr arfordir yng ngorllewin Cymru, gyda rhyw 1.7 miliwn o bobl wedi cael eu heffeithio. Diolch byth, yng Nghymru, does neb wedi cael eu lladd na'u niweidio'n ddifrifol, mor bell ag yr ydw i'n gwybod, ond mae llawer gyda ni i ddiolch am hynny. Ac un o'r pethau pwysig yw'r rhybudd yna ddaeth ar y nos Wener, y seiren ar ein ffonau symudol ni, a roddodd lond twll o ofn i'r rhan fwyaf ohonom ni oedd ddim yn ei ddisgwyl e [Chwerthin.] Ond, fe weithiodd e; roedd e wedi rhoi rhybudd i ni ymlaen llaw i baratoi ar gyfer y rhybudd coch arbennig yna. Ond, fel pobl eraill, dwi am ddiolch hefyd i'r gwasanaethau brys, i'r fyddin o weithwyr a'r awdurdodau lleol sydd wedi gweithio'n ddiflino ers oriau mân fore dydd Sadwrn, a hefyd, wrth gwrs, y peirianwyr yna sydd yn gweithio i'r cwmnïau trydan sydd wedi bod wrthi'n ddiwyd yn ceisio adfer y gwasanaeth i ni.

Mae diolch hefyd, wrth gwrs, i'r llu o wirfoddolwyr tawel, y cymdogion yna sydd wedi mynd ati i sicrhau bod pobl yn saff, yn arbennig y bobl fregus yna. Mae yna ysgolion a neuaddau pentref wedi agor yn arbennig i ganiatáu pobl i ddod mewn i gael eistedd, i gael paned o de mewn gwres a hefyd i wefru eu ffonau symudol. Mae hynny i gyd yn arwydd o'r caredigrwydd yna sydd i'w weld mewn cymdogaethau gwledig. Diolch yn arbennig i'n ffermwyr ni. Byddwch chi'n falch iawn o hyn, wrth gwrs. Rwy'n gwybod, yn bersonol, am gymaint o ffermwyr aeth ati o ddydd Sadwrn ymlaen gyda'u chainsaws a'u frontloaders i dorri coed i lawr, i wneud yn siŵr bod ffyrdd ar agor i'r gwasanaethau brys gael mynd drwyddo. Felly, diolch o galon iddyn nhw am wneud y gwaith diddiolch yma—neb yn gofyn iddyn nhw ei wneud ond mi wnaethon nhw fe oherwydd dyna oedd eu dyletswydd gyfrifol nhw fel cymdogion da. 

Ond dyw'r sefyllfa ddim wedi newid i gymaint o lefydd o hyd. Roeddwn i'n trafod hyn gyda'r Llywydd yn gynharach y prynhawn yma. Roedd hi'n dweud wrthyf i, yng Ngheredigion, fod yna ryw 49 o bentrefi—ie? 

19:30

Pum deg dau, erbyn hyn, o bentrefi yng Ngheredigion yn dal heb drydan. Gwnes i ffonio adref rhyw hanner awr yn ôl; rŷn ni hefyd, yn Gelli Aur, ger Llandeilo, yn dal heb drydan. Felly, roedd hi'n rhyfedd nos Sadwrn yn ein tŷ ni, os caf i ddweud stori fach yn sydyn iawn, iawn. Roedd un o'r merched nôl adref—wedi dod nôl—ac roedd hi'n disgwyl gweld Strictly Come Dancing a'r celebrity cyclone challenge. Wel, wrth gwrs, y siom iddi hi oedd gorfod iddi siarad â'i mam a'i thad drwy'r nos gyfan—[Chwerthin.]—a doedd ei ffôn hi ddim yn gweithio, jest i wneud pethau'n waeth. Ac fe gollon ni, erbyn hyn, ein bwyd o'r rhewgell, sydd wedi dadlaith i gyd. Y newyddion da—mae'r twrci wedi'i safio. Ond stori arall yw'r pigs in blankets; rwy'n credu bod y rheini wedi hen fynd.

Ond i ddifrifoli am eiliad, i ddod â'r cyfraniad bach yma i ben, dau beth: roedd y tawelwch wrth deithio drwy bentrefi heb olau yn taro rhywun yn od, ond y tawelwch i fi hefyd ar y dydd Sadwrn, Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Roeddwn yn mynd drwy Llandeilo—diwrnod mawr i'r dref—a'r siopau i gyd ar gau, y lle yn dawel ac yn dywyll. Ac felly gobeithio bydd yna gyfrifoldeb arnom ni dros yr wythnosau nesaf i fynd ati i gefnogi'r busnesau bach yma hyd yn oed yn fwy i helpu iddyn nhw ddod dros y golled yna ddydd Sadwrn diwethaf.

Ond dau beth jest yn sydyn. Un cwestiwn i chi: pa mor effeithiol yw'r cwmnïau trydan, y Grid Cenedlaethol a'r awdurdodau lleol yn rhannu data am y bobl fwyaf bregus? Achos dyna pwy ddylai gael y flaenoriaeth, wrth gwrs, mewn argyfwng fel hyn. A'r ail beth, ple gan nifer o bobl sydd wedi mynd yn hynod o grac. Mae'r cwmnïau trydan yn dweud, 'O, mae'r trydan yn dod nôl yfory', wedyn, o fewn oriau, dŷn ni'n cael, 'Wel, na, dyw e ddim yn dod nôl yfory.' Felly, a oes modd gwneud asesiad mwy cywir reit ar y dechrau, hyd yn oed os ydyn ni'n cael gwybod y gall e fod yn dri, pedwar diwrnod, fel ein bod ni'n gallu paratoi ymlaen ar gyfer hynny, yn hytrach na chodi gobeithion a wedyn siomi pobl? Ond diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

Diolch yn fawr iawn, Cefin. A'r hyn sy'n eich clymu chi a fi gyda'n gilydd, a rhai eraill fan hyn, rwy'n amau, yw bod gennym ni rai cymunedau o hyd sydd heb eu cysylltu, rhai cymunedau sydd heb drydan a dŵr, ac mae hyn yn y de, yn ogystal ag yn y gorllewin ac mewn rhannau o'r gogledd hefyd. Dim ond i fyfyrio ar raddfa hyn, dim ond i wybod beth a'n tarodd, ac mae rhywfaint o hyn wedi dod o'r briffio yn gynharach gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca, mae dwywaith a hanner yn fwy o gapasiti yn cael ei roi i mewn gan y cwmnïau trydan a'r Grid Cenedlaethol nawr i ymateb i hyn nag sydd ganddyn nhw ar lawr gwlad fel arfer. Mae llawer o hynny drwy gyd-gymorth. Y rheswm yw, pan oedd hyn ar ei anterth, roedd 700,000 a mwy o gwsmeriaid wedi'u heffeithio; mae cyflenwad 681,000 o gwsmeriaid wedi'i adfer erbyn hyn, ond mae yna dal i fod, yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf, tua 11,800 sydd wedi'u datgysylltu. Mae rhai o'r rheiny—. I ddod i'r pwynt roeddech chi'n ei ofyn ynghylch pam y dywedwyd wrth rai ei fod yn mynd i fod erbyn y diwrnod hwn, ac yna mae'n 24 awr arall neu beth bynnag, yr hyn rydyn ni'n ei ddeall, yr hyn rydyn ni'n cael gwybod, yw mai dyna'r hyn roedden nhw'n credu'n ddibynadwy y gallen nhw ei wneud, ond, pan aethon nhw i'w wneud, mae yna linellau foltedd uchel sydd i lawr, ac, wrth iddyn nhw eu trwsio, mae malurion eraill wedi dod i lawr ac wedi cymryd llinellau i lawr eto. Ond mae yna hefyd gysylltiadau foltedd isel allan i ardaloedd anghysbell hefyd, y maen nhw'n gorfod gweithio drwyddyn nhw hefyd. Ond fe fyddwn ni'n myfyrio ar hynny hefyd. Sut ydych chi'n cyfathrebu oedi, oedi ychwanegol? Oherwydd mae yna ddisgwyliad. Roedd fy nghymunedau fy hyn yn dweud, 'Dywedwyd wrthym y byddai'n mynd i fod deuddydd yn ôl, ac rydyn ni dal heb.' Ac rydw i'n dweud, 'Wel, allaf i ddim cael ateb clir chwaith', ond maen nhw'n trio eu gorau, ond rwy'n credu eu bod nhw'n wynebu mwy o rwystredigaeth yno hefyd.

Ond dim ond i ddweud, mae maint yr hyn sydd wedi ein taro, rydyn ni'n cael gwybod—. Bydd yn rhaid i ni wneud gwaith clirio priodol ar hyn er mwyn ei ddeall, ond mae rhai o weithredwyr y grid allan yna yn dweud wrthym ei bod, fwy na thebyg, yn waeth nag effeithiau stormydd yr ydym wedi'u cael o'r blaen a oedd yn sylweddol, fel Arwen ac Eunice hefyd. Roedd ymhell y tu hwnt i hynny, a'r ffordd y gwnaeth daro'r ardal darged honno o amgylch yr arfordir.

Fe wnaethoch chi sôn am y rhybudd argyfwng. Mae'n benderfyniad mawr mewn gwirionedd i roi'r rhybudd hwnnw allan, ond, o'r hyn yr oeddem yn ei wybod o ragolygon y Swyddfa Dywydd, fe benderfynodd y Prif Weinidog yn gywir i ddweud, 'Mae angen i ni roi'r rhybudd hwnnw allan', ac fe aeth allan am 6.45 p.m. gyda'r nos, er bod rhai pobl wedi ei gael am 7 p.m., ac yna am 7.30 p.m. ac 8 p.m. ac 8.30 p.m. a 9 p.m.—roedd yn mynd ymlaen. Wnaeth y rhybudd ddim cyrraedd rhai; bydd yn rhaid i ni edrych ar hynny hefyd. Ond, mewn gwirionedd, fe wnaeth y rhan fwyaf o bobl—llawer o bobl—ei gael, ac fe wnaethon nhw ei gymryd o ddifri ac rydyn ni'n diolch iddyn nhw am hynny. Ni chafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn ddifeddwl, ond fe gafodd effaith. Ac fe wnaeth e olygu, y diwrnod canlynol, erbyn y bore canlynol hwnnw, fod pobl wedi canslo digwyddiadau, bod siopau wedi cau, Dydd Sadwrn Busnesau Bach—dyna drueni oedd hynny—ac yn y blaen. Ac rydych chi'n iawn, mae angen i ni gefnogi'r busnesau hynny nawr wrth symud ymlaen, oherwydd dydy e ddim am un diwrnod, fel mae pobl wedi'i ddweud o'r blaen; mae'n rhaid i ni fod yn gyson o ran hynny.

Pa mor effeithiol o ran rhannu data am bobl fregus? Mae dwy agwedd ar hynny. Rwy'n credu bod honno'n wers y mae angen edrych arni. Mae angen i ni glirio hyn—. Maen nhw'n dal i fod allan yna yn ceisio ailgysylltu. Rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio ar hynny nawr, ond, pan allwn ni, dylem edrych ar ba mor effeithiol oedd rhannu data ac a oes unrhyw rwystrau i rannu data, oherwydd mae yna faterion yn ymwneud â rhannu gwybodaeth am gwsmeriaid bregus. Ond hefyd un o'r pethau sydd wedi cael ei godi gyda ni yw'r cwmnïau trydan yn dweud nad oedd pawb sy'n credu eu bod yn fregus wedi cofrestru fel cwsmer bregus, fel cwsmer â blaenoriaeth. Felly, efallai mai un o'r gwersi y byddwn ni'n eu dysgu yw bod gennym ni i gyd waith i'w wneud wrth ledaenu'r gair, wrth ddweud, 'Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n fregus, yna cofrestrwch, oherwydd yna rydyn ni'n gwybod lle rydych chi', ac ati.

Rwy'n credu fy mod, fwy na thebyg, wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r agweddau yn y fan yna, heblaw am adleisio'r hyn a ddywedoch am yr holl bobl a gyfrannodd at yr ymdrech, gan gynnwys, gyda llaw, ffermwyr. Fe glywais i straeon anhygoel am yr hyn roedd ffermwyr yn ei wneud yn clirio ffosydd, yn clirio malurion ac ati, a chwarae teg. Mae'n rhan o wead ein cymunedau gwledig.

19:35

Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd Cabinet.

A gaf i ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r gweithwyr brys, y gwasanaethau brys, gweithwyr awdurdodau lleol a'r llu o bobl eraill sydd wedi mynd y tu hwnt i bob galw? Yn gyffredin â chymunedau ar draws Cymru, mae cymunedau yn fy etholaeth i wedi cael eu heffeithio. Mae yna dai sydd wedi bod heb bŵer ers llawer rhy hir mewn ardaloedd fel Northop Hall, a chartrefi yn yr Wyddgrug sydd wedi dioddef llifogydd unwaith eto. Yn wir, mae'r Wyddgrug wedi gweld llifogydd yn y gorffennol ac mae yna eiddo sydd wedi dioddef llifogydd dros y penwythnos a gafodd eu heffeithio gan lifogydd ddiwethaf mor ddiweddar â'r llynedd, gan ychwanegu at ofid a chynnwrf dealladwy a rhwystredigaeth gynyddol.

Bydda i, yn amlwg, yn ceisio gweithio gyda'r awdurdod lleol a phartneriaid eraill, nid yn unig i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd ond i ystyried ar y cyd beth arall y mae angen i ni ei wneud gyda'n gilydd i liniaru hyn yn y dyfodol. Ond a gaf i ofyn pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynorthwyo'r rhai yr effeithiwyd arnynt, a hefyd pa gamau y gall eu cymryd i atal hyn rhag bod yn ddigwyddiad parhaus i lawer gormod o bobl neu, o leiaf, ei liniaru, ac a wnewch chi hefyd gyfarfod â mi rywbryd i drafod hyn ymhellach? Diolch.

Ie, byddwn i'n hapus iawn i gwrdd â chi, Hannah, fel y byddwn gyda'r holl Aelodau yma, i fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd, oherwydd mae wedi bod yn wahanol ym mhob cymuned. Gwelwyd rhai llinynnau cyffredin, ond mae wedi bod yn wahanol ym mhob cymuned. Rwyf wedi sôn o'r blaen am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu. Mae awdurdodau lleol, gyda llaw, hefyd wedi camu i'r adwy ac wedi dweud, 'Rydyn ni'n mynd i roi cymorth hefyd i fusnesau a chartrefi y mae llifogydd a phethau y tu hwnt i hynny wedi effeithio arnyn nhw.'

Ond a gaf i dynnu sylw at gymorth penodol sy'n cael ei ddatblygu gan fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, yn dilyn trafodaethau â'r cyrff llywodraethu chwaraeon, rhwng Llywodraeth Cymru, CGGC, Chwaraeon Cymru ac eraill, gan ganiatáu agor cronfa difrod storm nawr? Rydyn ni wedi gweld rhai o'r lluniau erchyll o glybiau sydd wedi bod dan ddŵr oherwydd hyn, a dydy hyn ddim yn mynd i fod yn ddigwyddiad untro chwaith. Rwy'n deall nawr bod clybiau a sefydliadau cymunedol nid-er-elw, rhai o'r clybiau llawr gwlad hynny yr ydym yn eu hadnabod ac yn eu caru ac yn eu mynychu—nid y chwaraewyr ymhongar mawr ar gyflogau o filiynau o bunnoedd, ond y bobl sy'n cadw caeau i fynd wythnos ar ôl wythnos ar lefel leol—fe allan nhw wneud cais nawr am grantiau o hyd at £5,000 i'w helpu i adfer. I rai, fydd e ddim yn mynd yr holl ffordd, ond bydd yn mynd yn bell. Mae'n gyfraniad go iawn. Felly, cadwch lygad allan am hynny. Rwy'n deall bod fy nghyd-Aelod wedi rhoi rhywbeth allan yna yn gyhoeddus, a gorau po fwyaf y gallwn ni rannu hynny â chydweithwyr.

19:40

Ysgrifennydd Cabinet, rwyf am gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed am ein gwasanaethau brys a'r gwaith arbennig a wnaethant dros y penwythnos i gadw pobl yn ddiogel, a hefyd i'r bobl hynny sy'n gweithio yn Dŵr Cymru a'r Grid Cenedlaethol sydd wedi gwneud eu rhan hefyd i geisio adfer gwasanaethau i bobl. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o fy ffrindiau yn gweithio yn y Grid Cenedlaethol, felly byddai bai arnaf i pe na bawn i'n sôn amdanyn nhw. Rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw allan ar y nos Wener a'r nos Sadwrn, ond dywedwyd wrthyn nhw i roi'r gorau iddi am ei bod hi'n rhy beryglus iddyn nhw fod allan yn y tywydd.

Ysgrifennydd Cabinet, yr hyn yr wyf am sôn amdano, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, yw bod y digwyddiadau tywydd hyn yn digwydd yn fwyfwy aml, ac mae hynny'n golygu bod angen i ni sicrhau bod ein rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn weithredol effeithiol o ran delio â'r materion hyn. Heddiw, dyrannodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid fwy o arian i'ch portffolio. Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru doriad yng nghyllideb flaenorol Llywodraeth Cymru, felly mae gen i ddiddordeb clywed gennych chi heddiw faint o arian ychwanegol y byddwch chi'n ei ddyrannu i Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd, os ydym yn mynd i gael mwy o'r digwyddiadau llifogydd a'r stormydd hyn, mae angen i ni sicrhau bod ganddyn nhw'r holl offer y tu cefn iddyn nhw, a bod y cyllid ar gael, fel y gallan nhw ymateb i'r her pan fyddwn ni eu hangen i wneud hynny.

James, diolch yn fawr iawn am hynny, ac, unwaith eto, am adleisio eich cefnogaeth i waith pawb a ymatebodd i'r rhain yn y cyfleustodau trydan, ond hefyd yn y cyfleustodau dŵr hefyd, oherwydd un o'r sgil-effeithiau yw bod llawer o weithfeydd trin dŵr, ac eraill, wedi bod yn anweithredol; mae generaduron brys wedi cael eu darparu yn y cyd-gymorth hwnnw. Roedd cynllunio eisoes ar gyfer y math hwn o bosibilrwydd, doedd e ddim yn annisgwyl, ond rydyn ni'n dal i gael ein heffeithio ganddo. A chlod iddyn nhw, oherwydd roedden nhw allan yna'n gwneud hynny pan oedd pethau ar eu hanterth. Yn fy nhŷ i, cafodd ffenestr ei thorri gan gryfder y storm. Tra roeddwn i'n ceisio rhoi'r ffenestr yn sownd, roedden nhw i fyny peilonau ac allan mewn caeau yn ceisio llwytho generaduron i gadw gweithfeydd trin dŵr i fynd. Mae'n eithaf anhygoel ac yn eithaf arwrol.

Chwaraeodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu rhan hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod trwy gyfres o ddigwyddiadau storm nawr, ac maen nhw wedi cyrraedd y marc. Maen nhw wedi bod allan yno gyda'r holl asiantaethau eraill yn gwneud yn dda. Rydyn ni wedi rhoi arian i Cyfoeth Naturiol Cymru i'w helpu i wneud hyn hefyd. Allaf i ddim rhoi'r manylion ynghylch sut y byddwn ni'n defnyddio'r arian ychwanegol yr ydym wedi'i gyflwyno heddiw, ond byddaf yn ymddangos, yn ôl yr arfer, o flaen pwyllgorau i fynd drwy'r math hwnnw o fanylder. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw, o ran gwydnwch llifogydd, rydym eisoes ar y lefel uchaf erioed, ac rydyn ni wedi bod yn gwneud hynny ers cwpl o flynyddoedd. Rydyn ni wedi rhoi arian i Cyfoeth Naturiol Cymru, yn benodol, i'w helpu gyda'u gallu i ymateb i lifogydd eu hunain hefyd, yn ogystal â'r arian rydyn ni wedi'i roi i awdurdodau lleol ac eraill. Felly, rydyn ni'n canolbwyntio'n fawr ar hyn, oherwydd rydyn ni'n gwybod o ddifrif nad dyma fydd yr olaf o bell ffordd. Mae'n rhaid i ni ddelio â'r rhain yn weddol reolaidd nawr, ac felly mae yna lefelau cydnerthedd cymunedol, ac yna mae'r asiantaethau mawr a'r awdurdodau cyhoeddus hefyd, sicrhau bod ganddyn nhw gapasiti llawn hefyd.

Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y datganiad, ac mae'n cael ei werthfawrogi. Mae stormydd sy'n cael eu henwi—hynny ydy, y stormydd cryf yma sydd efo'r gallu i greu difrod—yn dod yn amlach ac yn ffyrnicach. Megis dechrau mae'r tymor stormydd, ac mae disgwyl rhagor cyn diwedd y gaeaf, felly mae'n rhaid dysgu'r gwersi a rhoi camau mewn lle rŵan er mwyn osgoi difrod mawr yn y dyfodol.

Fe gollodd miloedd o bobl yn Nwyfor Meirionnydd eu trydan, ac, yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd yna tua 800 o bobl neu aelwydydd yn parhau heb drydan y bore yma, yn yr ardaloedd gwledig yn bennaf. Dwi yn obeithiol y bydd y rhan fwyaf o'r rheini wedi cael eu cysylltu erbyn heno, ond cawn weld. Mae rhai o'r bobl yma oedd wedi cael eu heffeithio yn ddibynnol ar drydan ar gyfer, er enghraifft, dialysis, neu amgylchiadau iechyd eraill. Felly, pa ystyriaeth sydd yn cael ei roi i sicrhau bod generators cymunedol ar gael ar gyfer adegau o argyfwng fel hyn? 

Yn Nwyfor Meirionydd, Scottish Power sydd yn gyfrifol am yr isadeiledd trydan. Maen nhw, fel eraill, yn rhanddeiliaid yn y rhestr PSR, y priority services register. Mae’r rhestr yma yn hanfodol er mwyn gwybod pwy ydy’r bobl fregus sydd angen eu blaenoriaethu, ond mae profiad storm Darragh yn dangos nad ydy’r rhestr PSR wedi cael ei diweddaru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, unwaith eto, roedd pobl yn cael eu ffonio a oedd wedi marw ers misoedd. Mae’r rhestr yma yn hollbwysig er mwyn medru sianeli’r adnoddau cywir a medru blaenoriaethu gwaith. Felly, gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet gysylltu efo’r PSR a gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod y rhestr yn cael ei diweddaru yn fwy rheolaidd?

Hefyd, dwi’n derbyn bod gweithlu Scottish Power wedi gweithio yn ddiflino mewn amodau anodd iawn, ond doedd Scottish Power ei hun ddim yn diweddaru rhanddeiliaid allweddol fel cynghorau sir yn amlach na phob rhyw 12 awr. Mae angen cael gwybodaeth fwy cyfoes na hynny. Felly, fe fyddwn i’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet drafod hyn efo’r cwmni yn ei gyfarfod wythnos nesaf er mwyn sicrhau bod cyswllt a chyfathrebu mewn adeg o argyfwng yn gwella.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod nifer fawr o goed wedi disgyn dros y deuddydd, ac roedd llawer o'r coed yn rhai mawr, rhai gyda gwifrau trydan wedi’u plethu o’u hamgylch nhw, ac eraill wedi disgyn yn lletchwith ar adeiladau. Mae felly angen offer arbenigol er mwyn torri’r coed yma a’u symud nhw. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadw hyn mewn cof ac ystyried pa gymorth y gellir ei roi er mwyn sicrhau bod yr offer a’r gweithlu angenrheidiol ar gael mor fuan â phosibl er mwyn cael y coed yna allan o’r ffordd ar achlysuron tebyg?

Bydd yr Ysgrifennydd—

19:45

Mae'n ddrwg gyda fi. Rwyf wedi rhoi tair gwaith cymaint o amser i chi ag y dylwn i ei roi—

Byr iawn. O ran y seiren a gafodd ei nodi, mae hwnna'n cael ei werthfawrogi, ond mae nifer o bobl, yn enwedig merched, yn byw mewn amgylchiadau o drais domestig ac efo ffôn cuddiedig, a dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae troi'r seiren yna i ffwrdd. A wnewch chi weithio efo Women's Aid i sicrhau bod pawb yn gwybod sut mae troi'r seiren i ffwrdd? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Yn gyntaf oll, byddwn ni'n mynd ati'n briodol i ddysgu gwersi o hyn, fel y soniais i o'r blaen, fel y byddwn ni'n ei wneud gyda phob digwyddiad mawr. Ac roedd hwn yn ddigwyddiad mawr, fel yr un blaenorol, fel y byddwn ni'n ei weld mewn rhai yn y dyfodol. Ac yn hytrach na gorffwys ar ein rhwyfau, mae angen i ni edrych ar bob un, sy'n mynd i fod yn wahanol iawn. Roedd y digwyddiad hwn yn wahanol iawn i storm Bert, yn wahanol iawn o ran lle y tarodd, sut y tarodd a'i ôl-effeithiau, pan oedd gennych chi doriadau trydan yn effeithio ar gyflenwadau dŵr, gweithfeydd trin ac yn y blaen.

Dim ond rhai pethau penodol. O ran yr ymateb i gwsmeriaid agored i niwed yr ydym yn gwybod sy'n agored i niwed, sydd wedi'u cofrestru neu y mae'r cwmnïau cyfleustodau yn gallu eu hadnabod, pan oedden nhw'n gwybod ein bod ni'n mynd i weithredu, maen nhw wedyn yn ymgysylltu'n rhagweithiol â'r unigolion hynny sy'n ddibynnol yn feddygol ar drydan cyn y tywydd, i'w hysbysu o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. A gall hynny gynnwys, fel y dywedwch, generaduron mewn achosion defnydd penodol lle mae angen hynny, gan gynnwys mewn pethau fel sefyllfaoedd gofal lliniarol hefyd. Ond gallai hefyd gynnwys bwyd poeth a llety ac yn y blaen, neu ddarparu cymorth ychwanegol gyda'r generadur, pethau fel cyfleusterau defnyddio microdon a'r gallu i wefru eich dyfeisiau. Dyna'r pwynt cyfathrebu y mae sawl person wedi'i wneud, oherwydd bydd angen i bobl allu cael negeseuon allan. Yn yr un modd, bydd pobl sydd angen cysylltu â nhw oherwydd eu bod nhw'n agored i niwed eisiau gwybod, 'Ydych chi'n iawn?' ac yn y blaen. A chymorth ychwanegol wedyn o ran generaduron batri ac yn y blaen.

Mae'r galw ar generaduron, serch hynny, yn sylweddol, oherwydd roedd generaduron hefyd yn cael eu rhoi i weithfeydd trin dŵr, i ganolfannau cymunedol, yn ogystal ag i gwsmeriaid agored i niwed. Ond fe fyddwn ni'n dysgu'r gwersi, byddwn ni'n edrych i fyfyrio ar y gwersi. Rwy'n credu bod llawer wedi gweithio dda iawn, iawn, a gallai fod wedi bod ychydig yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd hefyd. Ond rwy'n credu mai'r hyn a ddysgon ni o'r gwaith clirio cyflym blaenorol oedd bod yna bethau eisoes lle gallen ni ddweud, 'Wel, dyma arfer gorau, dyma lle mae angen i ni dynhau pethau ychydig.' A bydd angen i ni wneud hynny. Mae cydgysylltu a chyfathrebu yn rhan o hynny. Y mater hwnnw o sut mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd ar lawr gwlad pan fo pawb yn gweithredu, ond ydyn nhw'n rhannu'r hyn mae pawb yn ei wneud mewn sefyllfa ymateb cyflym fel hon? Oherwydd fe wnaeth e ein taro ni'n gyflym ac yn galed iawn.

Yn allweddol i hynny, wrth gwrs, yw cymorth i awdurdodau lleol hefyd, fel y sonioch. Ac oes, fel y soniais mewn ymateb i atebion blaenorol, mae gennym ni system sydd wedi'i defnyddio'n fynych, sef y cynllun cymorth ariannol brys, lle mae angen i awdurdodau lleol roi gwybod i ni beth fu'r effeithiau yn eu hardal nhw—storm Bert o'r blaen, storm Darragh nawr—ac yna gallwn ni fynd at y system EFAS a dweud, 'Allwn ni eich cynorthwyo chi nawr yn y sefyllfa hon?' Mae yna lefel trothwy, ond mae ar gyfer y digwyddiadau mawr hyn yno.

A'r un ynghylch trais domestig, mae hyn yn rhywbeth a drafodwyd pan daethpwyd â'r system rhybudd coch wreiddiol i mewn, ond fe fyddwn ni, wrth gwrs—eto, fel rhan o'r gwersi y byddwn ni'n eu dysgu trwy hyn—yn edrych ar yr effaith gafodd hynny, a oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol, nid yn unig mewn sefyllfaoedd trais domestig, ond rhai eraill hefyd gydag unigolion bregus. Ond yr hyn fyddwn i'n ei ddweud am y system rhybudd oedd ei fod yn benderfyniad mawr i'w defnyddio. Rwy'n credu mai dyna oedd y penderfyniad cywir, a oedd yn gysylltiedig â chyngor y Swyddfa Dywydd a oedd yn dod i mewn, ac ar y cyfan roedd yn effeithiol iawn, iawn ac rwy'n ailadrodd fy niolch. Mae angen i bobl gymryd y negeseuon hyn o ddifrif pan fyddwn ni'n eu gwneud. Er fy mod i allan yng Nghaerdydd ar y pryd pan glywais i'r rhain yn dod drwodd, a doedd e ddim yn stopio, roedd pobl yn dweud 'Beth yn y byd yw hyn?', yna fe wnaethon nhw ei darllen ac yna fe aethon nhw, 'O, well i ni fynd adref', ac fe wnaethon nhw. Ac rwy'n credu mai dyna'r effaith yr oedd angen i ni ei chael oherwydd fe wnaeth, heb os, byddwn i'n awgrymu, atal marwolaethau.

19:50

Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau eisoes wedi codi mater toriadau pŵer y prynhawn yma, ond rwyf hefyd am gofnodi bod yna gymunedau yn sir Benfro o hyd nad oes ganddyn nhw unrhyw bŵer o gwbl, ac, fel Cefin Campbell, mae fy eiddo i hefyd yn un ohonyn nhw. Nawr, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae fy swyddfa a minnau wedi bod yn cysylltu â'r Grid Cenedlaethol a'r awdurdodau perthnasol yn sir Benfro, ond fel rwy'n siŵr y gallwch chi ddychmygu, mae'r diffyg pŵer ers sawl diwrnod bellach wedi cael effaith enfawr ar rai o fy etholwyr, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed ac sy'n byw mewn ardaloedd mwy gwledig. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod angen i'r aelwydydd hyn sydd wedi bod heb bŵer am dri diwrnod gael eu hailgysylltu cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwerthfawrogi bod gwaith yn mynd rhagddo i adfer pŵer ac rwy'n gwybod bod y gwasanaethau brys, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a sefydliadau'r trydydd sector, yn gweithio'n galed iawn, iawn mewn amgylchiadau anodd iawn. Ond allwch chi ddweud wrthym pa gymorth ychwanegol fydd y cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn sir Benfro yn ei gael neu y gallan nhw ddisgwyl ei gael, o ystyried bod y sefyllfa hon yn dal i fynd rhagddi?

Ie. Paul, rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd yma, mewn gwirionedd, mewn ymateb i'r cwestiwn hwnnw: os gall yr awdurdodau lleol nodi'n glir, pan fyddan nhw wedi gwneud eu hasesiad priodol, faint o effaith sydd wedi bod yn eu hardal, yna mae gennym ni'r mecanweithiau ariannol ar waith i ymateb i sefyllfaoedd brys fel hyn, lle gallwn ni asesu a oes cymorth ychwanegol y mae angen ei roi iddyn nhw. Ac mae hynny'n berthnasol i sir Benfro fel y mae i—. Yn ddiddorol, er er mai llifogydd a thoriadau trydan yng nghefn gwlad Cymru oedd rhai o'r effeithiau proffil uchel iawn, yn rhyfedd, effeithiwyd ar gymunedau gwledig yn y de hefyd. Mae'r effaith fwyaf, rwy'n credu, a'r nifer mwyaf o bobl sy'n dal i fod wedi'u datgysylltu nawr yn ardal de Cymru, yn hytrach na'r canolbarth, ond mae angen i ni gael y bobl hyn yn ôl. 

Y diweddaraf sydd gennym ni, Paul, yw y bydd pobl yn cael eu cysylltu, llawer ohonyn nhw nawr erbyn diwedd heddiw, ac yna'r gobaith yw y bydd pawb, gobeithio, erbyn diwedd yfory. Ond allwn ni roi sicrwydd llwyr y bydd hynny'n digwydd? Soniais yn gynharach mai'r hyn maen nhw'n ei ddarganfod yw, pan fyddan nhw'n cyrraedd yr nfed radd gyda rhai o'r cymunedau hyn, bod ganddyn nhw falurion ychwanegol i'w clirio hefyd neu mae llinell arall yn cael ei thynnu i lawr wrth iddyn nhw ei wneud. Ond dyna fwriad y darparwyr trydan, sicrhau bod pawb wedi'u cysylltu eto erbyn nos yfory o'r diwedd, ac mae hi wedi bod yn amser hir, mae wedi, ond maen nhw'n gweithio'n galed.

Dwi eisiau ategu'r diolch i bawb sydd wedi bod yn helpu yn dilyn y storm ddiweddaraf. 

Rwy'n credu bod digwyddiadau'r wythnosau diwethaf wedi dangos i ni nad ydym mor barod nac mewn sefyllfa gystal i ddelio â'r stormydd hyn ag yr oeddem ni'n meddwl y gallem ni fod ychydig fisoedd yn ôl. Mae'r difrod, y dinistr a'r aflonyddu a achoswyd gan storm Darragh, a storm Bert o'i blaen, wedi bod yn dorcalonnus i'w gweld. Mae'n amlwg nad yw ein rhwydwaith trafnidiaeth, ein cwlferi a'n systemau draenio yn ddigon cadarn i ddelio â'r glaw trwm a pharhaus sy'n dod yn nodwedd fwyfwy amlwg o'n hinsawdd, ac rwy'n credu bod angen dysgu'r gwersi yn gyflym iawn, fel rydych chi wedi'i awgrymu. 

Agorodd tri llyncdwll yr wyf yn gwybod amdanyn nhw yn fy rhanbarth i yn unig. Mae'r un ym Merthyr yn dra hysbys, ond mae un hefyd yng Nghwmtyleri a agorodd ar y noson dyngedfennol honno pan lithrodd y slip glo i gartrefi cyfagos trigolion diarwybod. Mae yna un yn rhan Islwyn o fy rhanbarth hefyd sydd wedi agor yng ngardd gefn pensiynwr, ac fe gafodd hwnnw ei waethygu hefyd gan y storm dros y penwythnos. Rwy'n cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl, er mwyn dod â rhyddhad mawr ei angen i berchennog y tŷ.

Cwestiwn sydd wedi cael ei godi gyda fi wrth ddelio â hynny yw: os yw'r cwlfer yn eiddo i'r cyngor bwrdeistref sirol ond yn effeithio ar breswylfa breifat, pwy sy'n gyfrifol am ei drwsio? Nawr, rwy'n credu y bydd rhan o'r ateb yn gyfreithiol, fwy na thebyg, ond y rhan arall yw, 'Pwy fydd yn gwneud y peth iawn?' Felly, os gallwch chi ddweud wrthyf pwy fyddai'n gallu ateb y cwestiwn hwnnw, neu os gallwch chi roi rhywfaint o wybodaeth i mi am hynny, yna byddai hynny'n ddefnyddiol. Diolch.

19:55

Peredur, diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n fy nhynnu i mewn i enghraifft benodol nad wyf yn gwybod y manylion penodol yn ei chylch, felly rwy'n gyndyn i gael fy nhynnu i mewn yno. Yn gyffredinol, fe welwch chi'n aml bod cyfrifoldeb ar  dirfeddiannwr, perchennog perchnogol yn hyn o beth os yw pibellau yn mynd o dan ei eiddo, ond allaf i ddim dweud hynny'n bendant yn yr un y sonioch chi amdano oherwydd dydw i ddim yn gwybod unrhyw beth amdano. Byddwn i'n ymgysylltu â'r awdurdod lleol oherwydd dylen nhw allu rhoi arweiniad da ar yr achos penodol hwnnw. Ond fe allai amrywio o eiddo i eiddo, cwlfer i gwlfer, pibell i bibell. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau bod pob un o'r rhain mewn cyflwr da.

Soniais yn y ddadl yr wythnos diwethaf fod gennym ni gofrestr genedlaethol erbyn hyn, cronfa ddata o'r cwlferi hyn yng Nghymru—rydyn ni ar y blaen yn hyn o beth. Nawr, mae angen i ni wneud yn siŵr—. Fel rydyn ni wedi'i weld gydag effaith y stormydd diweddar, mae rhai ohonyn nhw'n cael eu llethu a'u difrodi, a byddwn ni'n gweld mwy a mwy o'r pethau hyn am, 'Iawn, pwy sy'n gyfrifol?'. Weithiau, perchennog yr eiddo fydd e; ar adegau eraill, yr awdurdod lleol fydd e, neu yr hen Awdurdod Glo, yr Awdurdod Cyweirio Mwyngloddio erbyn hyn, ac yn y blaen. Felly, allaf i ddim rhoi ateb hawdd i chi ar yr un hwnnw, mae arnaf i ofn.

Llywydd, tybed a allwch chi wneud cymwynas â mi, roeddwn i eisiau dweud un peth pwysig. Anghofiais i sôn, mewn ymateb i gwestiwn cynharach a godwyd ar drais a cham-drin domestig—. Soniais fod hyn wedi cael ei ystyried yn flaenorol—. Pan gyflwynwyd hyn, roedd wedi cael ei ystyried yn ofalus iawn, ac mae cyngor ar gael ar sut y gallwch chi optio allan a stopio eich ffôn rhag canu, ac mae angen i ni—. Rwy'n dweud hynny'n fwriadol oherwydd yr hyn a wnaf, ar gefn hyn, yw gweithio gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt i roi rhywbeth allan i'r Aelodau fel y gallan nhw ledaenu'r gair. Oherwydd dyma'r tro cyntaf iddi gael ei defnyddio ar raddfa genedlaethol mewn sefyllfa go iawn. Nawr mae angen i ni ledaenu'r gair, i ddweud, os nad ydych chi am dderbyn hyn, mae yna ffyrdd o optio allan. Byddwn ni'n cyfleu'r neges honno i Aelodau'r Senedd.

Diolch, Llywydd. Gaf innau ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i bawb a wnaeth ymateb mor gyflym i'r storm—yn weithwyr llywodraeth leol, cwmnïau trydan, Openreach, ffermwyr, ac yn y blaen? Dau fater penodol dwi eisiau eu codi. Yn gyntaf, mae yna ddifrod sylweddol wedi bod i un o'r terminals ym mhorthladd Caergybi. Roeddwn i'n siarad efo Stena, perchnogion y porthladd, heddiw. Mi fydd yna dipyn o waith i'w wneud, er bod y cwmnïau fferi, dwi'n deall, yn mynd i fod yn gallu ailgychwyn gwasanaethau, yn newid amserlenni. Gaf i sicrwydd gan y Llywodraeth eu bod nhw'n barod i gefnogi'r porthladd mewn unrhyw ffordd y gallan nhw fod ei angen, i sicrhau bod y gwytnwch yna'n cael ei adfer yn fuan?

Yn ail, mae'n bosib bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gweld y difrod, y difrod difrifol, a achoswyd i fferm solar Porth Wen yn Ynys Môn gan y gwyntoedd. Mae gen i nifer o bryderon: un, effaith weledol erwau o baneli solar wedi'u chwalu, y buddsoddiad y bydd yn rhaid iddo fynd i mewn i hynny i'w trwsio y gellid ei wario ar brosiectau ynni adnewyddadwy eraill, ynghyd â'r risgiau amgylcheddol yno— metelau trwm, cemegau yn y paneli solar hynny. A gaf i ofyn pa asesiad fydd yn cael ei wneud o hynny, ac a fydd y Llywodraeth yn edrych eto ar y mater cyffredinol o ddefnyddio solar yn y ffordd hon? Mae ffyrdd gwirioneddol arloesol o wneud solar; nid dyma'r ffordd o'i wneud, trwy roi solar ar filoedd o erwau hardd, cynhyrchiol a gwyntog mewn mannau fel Ynys Môn.

Rhun, diolch yn fawr iawn. Rwy'n ategu eich sylwadau agoriadol yn diolch i bobl a helpodd gyda'r ymateb i hyn. Rwy'n mynd i geisio osgoi cael fy nhynnu ar gefn storm Darragh i drafodaeth ar fanteision ac anfanteision gosodiadau solar. Soniais wrthych chi am faint a difrifoldeb y storm hon, ac er na ches i doriadau neu beth bynnag, cafodd ffenestr ei sugno allan o'r adeilad gan nerth hyn. Rwyf ar ben y bryniau ym Maesteg yn y fan yna, ac mae'r gwynt yn dod yn syth ar draws o'r môr, ar draws copa mynydd Margam. Roedd yn foment ddiddorol, mewn gwirionedd, wrth i ni feddwl yn sydyn, 'Mae gennym ni dŷ wedi'i awyru'n dda.' Ond dyna oedd difrifoldeb y peth, felly efallai nad yw'n syndod y byddai rhywfaint o amharu ar rywfaint o'r seilwaith, gan gynnwys pethau fel ffermydd solar.

O ran porthladd Caergybi, gwrandewch, byddaf yn cysylltu â Ken Skates hefyd, a gweld a allwn ni ddod yn ôl atoch chi ar hynny. Bydden ni am i borthladd Caergybi, a'n seilwaith trafnidiaeth mawr arall, fod yn weithredol, ond fe welson ni'r effaith ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, nid yn unig o ran coed yn cwympo, ond o ran llifogydd hefyd, ac effeithiwyd ar y rhwydwaith ffyrdd a phorthladd Caergybi hefyd. Felly, fe wnaf i drafod y peth gyda Ken Skates yn ei rôl drafnidiaeth a dod yn ôl atoch chi.

20:00
8. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024

Eitem 8 sydd nesaf. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 yw'r rhain. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sy'n gwneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8758 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau hyn i'r Senedd i'w cymeradwyo. Mae cysylltiad cynhenid rhwng y rheoliadau hyn â Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2024, sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol ac a osodwyd ar 2 Rhagfyr. Effaith gyfunol y ddwy set hyn o reoliadau yw dirprwyo'r penderfyniad ar geisiadau datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer prosiectau cynhyrchu trydan o dan 50 MW i arolygydd, a sicrhau bod ffi Gweinidogion Cymru am benderfynu ar geisiadau o'r fath ond yn daladwy pan wneir penderfyniad ganddynt o ganlyniad i gyfarwyddyd.

Sefydlwyd y system datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn 2016, ac roedd y system hon yn nodi y dylai Gweinidogion Cymru benderfynu ar brosiectau cynhyrchu trydan dros 10 MW. Ers hynny, mae newidiadau wedi bod o ran polisi, technoleg a deddfwriaeth. O ganlyniad, mae'n anghymesur mai'r sefyllfa ddiofyn yw bod prosiectau cynhyrchu trydan o dan 50 MW yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru. Mae cynnydd mewn effeithlonrwydd technoleg yn golygu bod y cynlluniau hyn yn llai ar gyfer yr un allbwn. At hynny, mae gwell dealltwriaeth o'r materion wedi gwneud penderfynu arnynt yn llai cymhleth.

Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn drwy gynyddu'r trothwy ar gyfer penderfynu bod prosiectau cynhyrchu trydan yn brosiect seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol o dan y Ddeddf i 50 MW. Nid yw'r broses ymgeisio a phenderfynu yn newid wrth ddirprwyo penderfyniad i arolygydd. Mae ein hymgysylltiad cymunedol, ymgynghori ag ymgyngoreion statudol a'n fframwaith polisi ar gyfer penderfynu i gyd yn aros yr un fath. Mae'n amlwg nad yw'r ceisiadau hyn yn cael eu hisraddio. Gan fod disgwyl i Ddeddf Seilwaith (Cymru) ddod i rym ym mis Medi 2025, mae hwn yn drefniant dros dro tan hynny.

Byddaf yn gwneud hyn yn glir: does dim diffyg democrataidd yn sgil y newid hwn. Mae arolygwyr a benodir gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gwneud penderfyniadau eraill ar ein rhan ar hyn o bryd, gan gynnwys penderfyniadau ar ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol mewn perthynas â llinellau trydan uwchben, a lle mae penderfyniadau cynllunio a wneir gan awdurdod cynllunio yn destun apêl. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ofyn iddyn nhw benderfynu ar gais os bydd yr achos penodol yn gwarantu hynny.

Gan droi at effaith benodol y rheoliadau hyn, maen nhw'n darparu bod y ffi ar gyfer Gweinidogion Cymru sy'n penderfynu ar geisiadau ar gyfer prosiectau cynhyrchu trydan o dan 50 MW ond yn daladwy pan mai nhw fydd yn penderfynu ar gais yn hytrach nag arolygydd, o ganlyniad i gyfarwyddyd. Mae hyn yn golygu y bydd y ffi gyffredinol yn gostwng £14,700 pan gaiff y penderfyniad ei wneud gan arolygydd. Yn bwysig, bydd yn golygu ein bod ni'n gyson â'r egwyddorion yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru' drwy beidio â gwneud elw ar geisiadau.

I gloi, rwy'n ystyried y bydd y gwelliannau hyn o fudd i bob parti dan sylw, gan nad oes unrhyw newid i'r broses a gall penderfyniadau gael eu gwneud mor effeithlon â phosibl.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwraieth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf. Cyrhaeddodd ymateb Llywodraeth Cymru i'n pwyntiau adrodd ychydig cyn i'n cyfarfod ddechrau, felly roeddem yn gallu ystyried hynny cyn i ni osod ein hadroddiad gerbron y Senedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a thri ar rinweddau.

Fe ddechreuaf drwy ganolbwyntio ar yr ail a'r trydydd pwynt yn adroddiad y pwyllgor, sy'n rhoi sylwadau ar y cyswllt rhwng y rheoliadau drafft hyn a set o reoliadau ar wahân, yr oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud yn y dyfodol ar yr adeg y gosodwyd y rheoliadau hyn gerbron y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi addasu ei dull gweithredu nawr. Yn wreiddiol, roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ail set o reoliadau, Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2024, ar ôl y ddadl heddiw. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith y byddai'r gwelliant a wnaed gan y rheoliadau drafft yr ydym yn eu hystyried y prynhawn yma yn deillio o'r ail set o reoliadau. Roedd y dull hwn o ddeddfu yn peri pryder i'r pwyllgor.

Mae gwaith craffu'r pwyllgor ar y rheoliadau drafft hyn wedi cael ei wneud yn anos gan nad yw'r ail set o reoliadau wedi cael eu gosod ar yr un pryd. Mae'r memorandwm esboniadol gwreiddiol i'r rheoliadau drafft hyn yn eu disgrifio fel rhai sy'n ganlyniad i welliannau i'w gwneud yn y rheoliadau hynny yn y dyfodol, gan awgrymu nad oedd y manylion polisi allweddol wedi'u gwneud yn glir eto. Gofynnom pam na chafodd yr ail set o reoliadau eu gwneud a'u gosod ar yr un pryd ag y gosodwyd fersiwn ddrafft o'r rheoliadau hyn gerbron y Senedd, gyda darpariaethau sy'n dod i rym wedi'u halinio. Gofynnom hefyd a oes rheswm pam na ellid bod wedi cyfuno'r ddwy set o reoliadau yn unol â'r pŵer sydd ar gael i Weinidogion Cymru yn adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Yn ogystal, os nad oedd yn bosibl defnyddio'r pŵer hwnnw yn Neddf 2019, gofynnom pam na ellid bod wedi gwneud a gosod yr ail set o reoliadau a gynlluniwyd yn gyntaf, er mwyn i'r Senedd ddewis a ddylid dirymu'r rheoliadau hynny cyn ystyried a ddylid cymeradwyo'r newidiadau canlyniadol i'r drefn ffioedd y darperir ar eu cyfer gan y rheoliadau drafft hyn. Mae'r Llywodraeth yn cytuno ei bod yn bosibl i'r ddwy set o reoliadau ddod i rym ar yr un diwrnod heb iddyn nhw gael eu gwneud ar yr un pryd. Cydnabu'r Llywodraeth hefyd bryder y pwyllgor bod craffu ar y rheoliadau drafft hyn wedi cael ei wneud yn anoddach oherwydd nad oedd yr ail set o reoliadau wedi'u gosod. O ganlyniad, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud yr ail set honno o reoliadau, ac maen nhw bellach wedi'u gosod gerbron y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diwygio'r memorandwm esboniadol gwreiddiol ar gyfer y rheoliadau drafft, ac mae fersiwn newydd wedi'i gosod, sy'n adlewyrchu newid dull gweithredu'r Llywodraeth.

Yn olaf, mae'r unig bwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at benderfyniad drafftio ynghylch termau diffiniedig a allai achosi dryswch o bosibl. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn bod yna bosibilrwydd o ddryswch. Serch hynny, mae'n ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y rheoliadau drafft hyn yn cael yr effaith gyfreithiol a ddymunir.

20:05

Bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r rheoliadau hyn, oherwydd eu bod yn tanseilio atebolrwydd ac ymgysylltiad cymunedol o ran penderfyniadau cynllunio ar gyfer prosiectau ynni o raddfa sylweddol. Mae'r penderfyniad i godi'r trothwy ar gyfer dosbarthu o dan y drefn newydd yn nodi newid sylfaenol yn nosbarthiad datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Bydd llai o graffu nawr ar brosiectau a allai gael cryn effaith ar gymunedau, tirweddau ac ecosystemau lleol, gyda phrosesau gwneud penderfyniadau yn cael eu hwyluso o bosibl—a dyma lle rydym yn anghytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet—ar draul goruchwyliaeth ddemocrataidd drwyadl.

Er ein bod ni'n cydnabod yr angen am effeithlonrwydd yn y system gynllunio, ni all hyn ddod ar draul tryloywder a chyfranogiad cymunedol. Gall prosiectau ynni, hyd yn oed y rhai o dan 50 MW, gael effaith ddwys ar amgylcheddau lleol a'r bobl sy'n byw yno. Felly, mae'n hanfodol bod gan gymunedau lais ystyrlon yn y penderfyniadau hyn, ac eto mae'r rheoliadau hyn yn peryglu gwthio'r llais hwnnw i'r cyrion er budd cyflymder a chyfleustra. Rydym yn arbennig o bryderus ynghylch trosglwyddo pwerau gwneud penderfyniadau o Weinidogion Cymru i arolygwyr penodedig.

Mae hyder y cyhoedd yn y broses gynllunio yn dibynnu ar system sydd nid yn unig yn effeithlon, ond sydd hefyd yn deg, yn dryloyw ac yn agored i gael ei herio. Rydym yn cefnogi camau gweithredu uchelgeisiol i gyrraedd targed sero net Cymru, ac yn croesawu buddsoddiad sy'n cyd-fynd â'r nodau hynny, ond mae'n rhaid i hyn gael ei wneud mewn ffordd sy'n parchu hawliau cymunedau ac yn diogelu'r amgylchedd naturiol. Trwy flaenoriaethu cyflymder dros graffu, mae'r rheoliadau hyn yn methu â sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y newidiadau hyn, a sicrhau bod diwygiadau cynllunio yn cynnal egwyddorion atebolrwydd, tegwch ac ymddiriedaeth y cyhoedd, tra'n darparu atebion ynni cynaliadwy i Gymru.

Diolch, Llywydd. Mae arnaf i ofn ei bod hi'n ymddangos bod Plaid Cymru wedi camddeall y rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw yn llwyr, oherwydd dydy'r broses ymgeisio a phenderfynu ddim yn newid o gwbl wrth ddirprwyo penderfyniadau i arolygwyr. Mae'r ymgysylltiad cymunedol, ymgynghori ag ymgyngoreion statudol, a'r fframwaith polisi i gyd yn aros yr un fath yn union. Mae hyn yn rhywbeth y mae cryn dipyn o graffu wedi'i wneud arno eisoes drwy'r Senedd, oherwydd, wrth gwrs, yr hyn y mae'n ei wneud, yn ei hanfod, yw cyflwyno newidiadau a fydd yn digwydd o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru), y gwnaeth y Senedd hon graffu arnyn nhw'n fanwl iawn. Mae'n cyflwyno'r newidiadau hynny i wneud y penderfyniadau hynny gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru—. Yn y dyfodol, mae'r Senedd wedi cytuno mai awdurdodau cynllunio lleol fydd yn gwneud y penderfyniadau hynny. Felly, mae cryn dipyn o graffu wedi'i wneud eisoes ar y mater hwn. Ac i bwysleisio eto, does dim newid o gwbl i'r gofynion ynghylch ymgysylltu â'r gymuned, ynghylch ymgynghori statudol ac ynghylch ein fframwaith polisi hefyd. Felly, does dim newid yn y fan yna. Does dim sail o gwbl i'r gwrthwynebiad sylfaenol sydd gan Blaid Cymru i'r rheoliadau hyn.

Diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith a wnaeth. Rwy'n cydnabod yn llwyr y pwyntiau y mae Mike Hedges, fel y Cadeirydd, wedi'u nodi y prynhawn yma. Ar ôl ystyried yr adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y rheoliadau ffioedd a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2024, rydyn ni wedi paratoi un memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol i adlewyrchu sut y bydd y ddwy set o reoliadau yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae angen i chi ystyried y ddwy set o reoliadau er mwyn deall y polisi a'r effeithiau. Ond, unwaith eto, diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cydnabod y pryderon sydd wedi'u nodi am y ffaith bod y gwaith o graffu ar y rheoliadau wedi bod yn anoddach oherwydd nad oedd y rheoliadau datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol wedi'u gosod ar yr un pryd â'r rheoliadau hyn. Roeddwn i, fel y dywed Cadeirydd y pwyllgor, wedi bwriadu'n wreiddiol i wneud y rheoliadau hynny yn dilyn y ddadl. Fodd bynnag, er mwyn mynd i'r afael â phryderon y pwyllgor, fe wnaethon ni osod y rheoliadau ar 2 Tachwedd, fel bod cynnwys y rheini ar gael i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Senedd cyn y ddadl yma heddiw. Felly, rwy'n credu bod y gwaith a wnaeth y pwyllgor wedi ein helpu yn fawr iawn wrth graffu ar y rheoliadau heddiw.

20:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024

Eitem 9 sydd nesaf, Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024. Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y cynnig yma—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8757 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 20:11:36
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw i gyflwyno Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024. 

Yn 2023, amcangyfrifwyd bod dros 5 miliwn o fêps untro yn cael eu gollwng fel sbwriel neu eu taflu i ffwrdd bob wythnos yn y DU. Mae hynny bron bedair gwaith cymaint â'r flwyddyn flaenorol. Gall y fêps untro hyn a gaiff eu gollwng fel sbwriel gyflwyno plastigau niweidiol, halwynau nicotin, metelau trwm a chemegau eraill i'r amgylchedd, gan niweidio bywyd gwyllt. Pan fyddan nhw'n cael eu gollwng fel sbwriel, gall y casin plastig gael ei falu'n ficroblastigau niweidiol. Gall y batris ïon lithiwm fod yn risg tân ac mae'r fêps untro eu hunain, os nad ydyn nhw'n cael eu taflu ar y stryd, yn aml yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ac, ar ben hyn oll, rydyn ni'n gwybod eu bod yn ysgogi'r cynnydd pryderus iawn mewn fepio ymhlith pobl ifanc. Rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd, felly, yn cytuno bod yn rhaid i ni gymryd camau i symud i ffwrdd oddi wrth y diwylliant tafladwy hwn.

Os trof at y rheoliadau eu hunain, o 1 Mehefin 2025, bydd yn drosedd cyflenwi fêps untro yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys fêps sy'n cael eu rhoi i ffwrdd am ddim a fêps sy'n cynnwys nicotin a rhai nad ydynt yn cynnwys nicotin. Bydd fêps y gellir eu hailddefnyddio yn parhau i gael eu gwerthu. Gallai unrhyw un a geir yn cyflenwi fêps untro ar ôl 1 Mehefin a/neu'n anwybyddu hysbysiad stop wynebu dirwy sylweddol, neu hyd yn oed carchar. Rydym yn credu, drwy godi ymwybyddiaeth yn barhaus, cyfnod o chwe mis i gael gwared ar stoc a chanllawiau ledled y DU, y bydd busnesau'n barod i gydymffurfio â'r gyfraith yng Nghymru. Byddwn ni hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda Safonau Masnach Cymru a chyda'n hawdurdodau lleol, y bydd yr olaf ohonynt yn gorfodi'r rheoliadau hyn, i benderfynu ar y ffordd orau o'u cefnogi. 

Hoffwn i orffen drwy ddweud bod fêps untro yn tanseilio ein hymdrech i greu economi gylchol a'r angen i gynhyrchion fod yn fwy gwydn, i bara'n hirach ac i ddefnyddio llai o adnoddau naturiol y ddaear. Mae gweithredu fel hyn heddiw yn gam pwysig arall ymlaen tuag at gyrraedd y nod hwnnw. Rwy'n falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr. 

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.    

Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf. Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am yr ymateb a gafodd y pwyllgor i'w adroddiad. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum pwynt adrodd technegol ac un pwynt adrodd ar rinweddau. Mae pedwar o'r pwyntiau adrodd technegol yn nodi materion lle mae'r pwyllgor yn ystyried bod angen esboniad pellach.

Er enghraifft, mae'r pumed pwynt adrodd technegol yn adroddiad y pwyllgor yn nodi bod paragraff 29(4) o'r Atodlen i'r rheoliadau yn caniatáu i berson y cyflwynwyd hysbysiad adennill costau gorfodi arno ei gwneud yn ofynnol i'r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r swm. Fodd bynnag, nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei darparu ynghylch sut y mae'n rhaid i'r person hwnnw fynd ati i arfer yr hawl hon. Hefyd, nid oes gofyniad ar y rheoleiddiwr i ddarparu'r wybodaeth ar unrhyw ffurf benodol neu yn ôl unrhyw amserlen benodol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwynt adrodd hwn yn nodi y bydd y Llywodraeth yn dod â'r pwynt hwn at sylw'r rheoleiddwyr er mwyn iddyn nhw ystyried a ddylid mynd i'r afael ag ef mewn canllawiau. Nawr, er bod y pwyllgor yn cydnabod yr ymateb hwn, rydym yn awgrymu nad yw'n gwbl foddhaol bod hyn yn cael ei adael i'r rheoleiddwyr ddelio ag ef, yn enwedig gan y bydd yn ymwneud â phobl yn arfer eu hawliau yn erbyn y rheoleiddwyr hynny. Efallai y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn dymuno myfyrio ar hyn yn ei sylwadau i gloi.

Mae'r pwynt adrodd technegol sy'n weddill yn nodi anghysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Diolchwn i'r Dirprwy Brif Weinidog am gadarnhau y bydd y gwall hwn yn cael ei gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd y prynhawn yma.

Yn olaf, mae'r unig bwynt ar rinweddau yn adroddiad y pwyllgor yn ymwneud â'r rhagymadrodd ar gyfer y rheoliadau, lle nad oes unrhyw gyfeiriad at iechyd planhigion. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'r hepgoriad hwn, gan fod atal niwed i anifeiliaid neu blanhigion ynghyd ag iechyd pobl a'r amgylchedd, yn cael ei nodi yn adran 140(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 fel diben ar gyfer arfer y pwerau a geir yn yr adran honno. Mae'r pwyllgor yn cydnabod ymateb Llywodraeth Cymru, bod effaith taflu fêps untro ar blanhigion wedi cynhyrchu llai o ymchwil ac felly'n llai sicr, ac nad yw ymarfer y pŵer yn adran 140(1) o Ddeddf 1990 yn gofyn am niwed posibl i iechyd anifeiliaid a phlanhigion.

20:15

Dwi’n croesawu y rheoliadau yma yn fawr. Mae’n rhaid inni ond cerdded ein heolydd ni i weld y difrod amgylcheddol y mae fêps untro yn ei wneud, heb sôn am y difrod iechyd, fel rŷch chi wedi dweud yn barod, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond dwi yn siomedig iawn gymaint o amser mae hwn wedi cymryd i ddigwydd. Dros ddwy flynedd yn ôl, fe gynigies i welliant i’r Bil plastigion untro a fyddai wedi gwahardd fêps untro bryd hynny. Yn anffodus, er i’r gwrthbleidiau fy nghefnogi, fe bleidleisiodd y Llywodraeth a’r Blaid Lafur yn erbyn. Nawr, yr unig ddadl a roddwyd gerbron ar y pryd oedd diffyg tystiolaeth. Wel, roeddwn i'n gwenu wrth ddarllen y memorandwm esboniadol yn gweld yr union dystiolaeth y gwnes i ei ddyfynnu, ac y gwnes i ddibynnu arno fe, yn cael ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol.

Felly, llongyfarchiadau am heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond yn y cyfamser, mae yna filoedd ar filoedd o fêps untro sydd wedi methu cael eu hailgylchu ac sydd wedi eu taflu yma yng Nghymru. Ond hyd yn oed yn fwy brawychus na hynny, Ysgrifennydd y Cabinet—mae hyn wedi bod yn gyfle i nifer o’n plant a’n pobl ifanc ni i ddefnyddio'r fêps untro. Felly, pa dystiolaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd gan y Llywodraeth nawr nad oedd yn hollol amlwg nôl yn 2022? Diolch yn fawr. 

Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd i ymateb i'r ddadl yma. 

Member
Huw Irranca-Davies 20:17:54
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Ac yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Cadeirydd, am eu sylwadau ar y cynnig hwn, yr oeddem yn falch o ymateb iddo? Ac, wrth gwrs, byddwn bob amser yn myfyrio, Mike, ar bwyntiau ychwanegol a godir gan y pwyllgor, ond credwn fod gennym ffordd foddhaol ymlaen, o'r pwyntiau technegol a'r rhinweddau a godwyd, a amlinellwyd gennym yn ein hymateb i chi.

Rhys, edrychwch, rwy'n canmol eich gwaith hyrwyddo ar hyn, ac mae wedi cymryd ychydig yn hirach i gyflwyno hyn. Ond ein bwriad ni, yma, yw gwahardd cyflenwi fêps untro i ddefnyddwyr, waeth beth yw'r deunyddiau maen nhw wedi cael eu gwneud ohono—. Felly, mae sbwriel plastig, fel y soniais i, yn bryder amgylcheddol enfawr, ond hefyd batris lithiwm, natur untro y cynhyrchion eu hunain, sy'n brif achos hefyd o niwed amgylcheddol. Ac ni fyddai unrhyw gyfyngiadau ar ddeunyddiau ymylol yn cydnabod, yn nodi yn briodol, y risg amgylcheddol ehangach a achosir gan y fêps untro hyn a'r holl bethau sydd ynddyn nhw.

Felly, mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 yn gwahardd gwerthu neu gyflenwi cynhyrchion plastig untro i ddefnyddwyr. Nid yw'r Ddeddf yn darparu'r pwerau angenrheidiol i wahardd gwerthu neu gyflenwi fêps untro, waeth beth fo'r deunyddiau a ddefnyddir, neu wahardd gwerthu neu gyflenwi anweddau rhwng busnesau. Felly, ceisiwyd pwerau amgen o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Ond rydym wedi cyrraedd yno. Mae'n rhaid i ni gyrraedd y pwynt hwn. A'r tomenni hynny o sbwriel, a'r dirywiad amgylcheddol ehangach a achosir ganddyn nhw, gallwn ni eu cadw yn y gorffennol. Ac rwy'n credu, unwaith eto, efallai na fydd yn union yr amserlen y byddech chi wedi'i dymuno, ond rydyn ni wedi cyrraedd yno, ac unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn fan yma lle mae Cymru, unwaith eto, yn arwain o ran rhai o'r camau y gallwn ni eu cymryd ar faterion amgylcheddol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

20:20

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dros Dro

Y cynnig nesaf fydd i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu caniatáu cynnal yr eitem nesaf o fusnes. Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Jane Hutt. 

Cynnig NNDM8766 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8765 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jane Hutt 20:20:15
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Rwy'n cynnig.

Mae e wedi'i gynnig yn ffurfiol. Y cynnig, felly, yw—a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog? Nac oes. Felly, mae hwnna wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cynnig i ddiddymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Mae hynny'n ein caniatáu ni i gymryd y cynnig i ddiddymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Dwi'n galw ar Adam Price i wneud y cynnig yma.

Cynnig NNDM8765 Adam Price

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024, a osodwyd gerbron y Senedd ar 25 Hydref 2024, yn cael ei ddirymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Ar y dechrau, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y bydd safbwyntiau gwahanol ar draws y Senedd, fel y tu allan, ynghylch y dystiolaeth glinigol mewn perthynas â hormonau atal y glasoed, neu feddyginiaeth atal y glasoed, y triniaethau sydd wrth wraidd y rheoliadau hyn, a'r ymateb priodol o ran polisi. Nid dyna yw ein ffocws heno. P'un a yw Llywodraeth Cymru wedi dilyn y gyfraith yw ein ffocws.

Mae'r rheoliadau sydd ger ein bron ni a'r rheoliadau gwreiddiol y maen nhw'n ceisio eu diwygio i bob pwrpas yn golygu mai cymryd rhan mewn treial clinigol yw'r unig lwybr at gael mynediad at driniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc trawsryweddol. Gan nad oes treial o'r fath ar gael eto, mae'r rheoliadau hyn, ar hyn o bryd, yn atal mynediad at feddyginiaeth atal y glasoed yn gyfan gwbl ar gyfer y grŵp hwn o gleifion. Gellir dadlau hefyd fod mynediad at driniaeth yn y dyfodol yn amodol ar gymryd rhan mewn treial clinigol yn annheg, gan ei fod yn rhoi gormod o bwysau ar blentyn i gytuno i'r protocol ymchwil. Rydyn ni'n credu y dylai'r newidiadau sylweddol hyn i'r hawl i gael triniaeth fod yn destun ymgynghoriad â'r plant a'r bobl ifanc y maen nhw'n effeithio arnynt, oherwydd dyna mae'r gyfraith yn ei ddweud. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhwymo gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae erthygl 12 yn gwarantu hawl i blant gael eu clywed mewn materion sy'n effeithio arnynt, ac eto mae'r memorandwm esboniadol ar gyfer y rheoliadau hyn yn cyfaddef yn agored

'Ni chynhelir ymgynghoriad â phersonau i gynrychioli buddiannau’r rhai a allai fod angen meddyginiaethau atal y glasoed ar gyfer dysfforia rhywedd.'

Yn ogystal â hyn, mae erthygl 3 o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn mynnu mai lles pennaf y plentyn yw'r brif ystyriaeth ym mhob gweithred sy'n effeithio ar blant. Mae cynllun hawliau plant y Llywodraeth yn nodi mai'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant yw'r offeryn allweddol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd hon, ac eto hyd y gwn i o leiaf, ac mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi cofrestr o'r asesiadau effaith ar hawliau plant y mae'n eu cynnal, ni chynhaliwyd asesiad ar gyfer y rheoliadau hyn na'r set wreiddiol.

Mae'r methiannau hyn yn cael eu cymhlethu gan ofynion Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae adran 149 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddileu gwahaniaethu a hybu cyfle cyfartal i grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Mae'r rheoliadau'n trin ieuenctid trawsryweddol, sef grŵp â nodweddion gwarchodedig at ddibenion y Ddeddf Cydraddoldeb, yn wahanol trwy gyfyngu ar eu mynediad at feddyginiaeth atal y glasoed, gan ganiatáu i blant a phobl ifanc eraill gael mynediad at yr un triniaethau ar gyfer cyflyrau meddygol eraill. Mae Llywodraeth Cymru, yn ein tyb ni, wedi methu â chyfiawnhau'r driniaeth wahaniaethol hon, ac nid yw wedi cyhoeddi asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n nodi unrhyw resymeg. Mae hyn yn broblem benodol yn achos yr unigolion trawsryweddol hynny a gofrestrwyd yn wrywaidd ar adeg eu geni ar ddechrau eu trawsnewidiad i atal newid yn y glasoed na ellir ei wrthdroi, ac roedd adolygiad Cass yn derbyn y dystiolaeth bod manteision yn gorbwyso'r risgiau ac y gallai meddygon teulu, cyn y rheoliadau hyn, wneud cais annibynnol am gyllid cleifion ar sail eithriadol.

Mae tebygrwydd amlwg rhwng y sefyllfa yr wyf i wedi'i disgrifio yma a'r achos yn gynharach yn y flwyddyn yn ymwneud ag atal prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Datganodd yr Uchel Lys ym mis Chwefror fod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn anghyfreithlon, oherwydd ei bod wedi methu â chydymffurfio ag adran 149 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, a ddisgrifiais, a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Mae'r rheoliadau hyn heno yn dangos yr un methiannau: diffyg ymgynghori, methiant i gynnal asesiadau effaith ac ystyriaeth annigonol i hawliau plant a dyletswyddau cydraddoldeb sy'n ofynnol gan statud.

Mae gan y Senedd gyfle heno i anfon neges glir at y Llywodraeth mai'r rheidrwydd cyntaf wrth wneud unrhyw gyfraith, ac yn enwedig cyfraith sy'n effeithio ar yr ifanc, yw gwrando, y mae yn amlwg wedi methu â'i wneud yn yr achos hwn.

20:25

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gyflwyno hyn i'w drafod heddiw. Mae'n amlwg bod nifer o bwyntiau technegol, y mae'r Aelod eisoes wedi'u hamlinellu yn ei gyfraniad yma heno. I fod yn glir, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y bwriad i ddiddymu'r rheoliadau heno. Ac nid wyf yn mynd i fynd i mewn i'r elfennau technegol y mae'r Aelodau wedi'u cyflwyno, ond yr hyn y byddaf yn ei rannu yw sut rwyf i'n gweld y mater sydd wedi'i ddisgrifio i ni.

I mi, mae dwy ran i'r mater. Y rhan gyntaf yw ffocws dadl yr Aelod, sef y ffordd y lluniwyd y rheoliadau. I mi, yr ail ran yw effaith neu fel arall dirymu'r rheoliadau hynny. Felly, i ddelio â'r rhan gyntaf yn gyntaf, fy nealltwriaeth i yw bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn y Senedd wedi gofyn am eglurhad o'r prif reoliadau yn flaenorol, a arweiniodd wedyn at y rheoliadau diwygiedig, sef y pwynt y mae'r Aelod wedi'i godi yma heno. Ac rwy'n deall bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi nodi diffyg eglurder o'r bobl hynny a ddisgrifir fel 'rhagnodwyr', tra bod y rheoliadau cychwynnol yn cynnwys 'meddygon teulu'. Roedd y diwygiad bellach yn cynnwys pawb a oedd yn rhagnodi o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol, a hynny'n gywir, ac felly'n darparu eglurder mawr ei angen. Ac i mi, mae hyn yn gwneud synnwyr llwyr ac ni fyddai'n symud i ffwrdd o fwriad cychwynnol y rheoliadau. Yn wir, mae'n rhoi eglurder mawr ei angen, sef y pwynt yr oedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ceisio eglurder arno gan y Llywodraeth. Ac, yn wir, mewn llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 24 Medi, gwnaeth y pwyllgor, wrth geisio'r eglurder hwnnw, fynegi siom y byddai'r diffyg eglurder hwn yn aros ar y llyfr statud am hyd at 12 mis arall, a dyna pam y cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet y rheoliadau diwygiedig yn gynt—i fodloni cais y pwyllgor.

O ran yr ail ran, sef, fel y gwelaf i, effaith neu fel arall ceisio dirymu'r rheoliadau, fel y mae'r Aelod wedi'i amlinellu, mae'r bwriad i ddirymu yn gysylltiedig â rhagnodi meddyginiaeth atal y glasoed. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir ynghylch yr hyn y gallai hynny ei olygu i blant a phobl ifanc os yw'r bobl eraill hynny o fewn contract y gwasanaethau meddygol cyffredinol yn gallu rhagnodi'r feddyginiaeth atal y glasoed honno. Cyfeiriodd yr Aelod at adolygiad Cass, a ryddhawyd yn gynharach eleni gan Dr Hilary Cass—ac sydd wedi cael ei drafod yn y Siambr hon ar ryw adeg eleni hefyd—yn dilyn ymchwil ac ymholi helaeth. A dywedodd Dr Cass mai'r realiti yw nad oes gennym dystiolaeth dda ar ganlyniadau hirdymor ymyriadau i reoli trallod sy'n gysylltiedig â rhywedd. Ac mae crynodeb swyddogol yr adroddiad terfynol yn mynd ymlaen i ddweud

'nid oes digon yn hysbys am effeithiau tymor hwy meddyginiaeth atal y glasoed i blant a phobl ifanc sydd ag anghyfathiant rhywedd wybod a ydynt yn ddiogel ai peidio'.

A dyma pam y rhoddwyd y rheoliadau ar waith a dyma pam roedd angen yr eglurder, ac felly pam roedd angen y rheoliadau diwygiedig o'n blaenau ni heno hefyd, oherwydd diogelwch plant a phobl ifanc, sydd wrth wraidd y rheoliadau hyn. Ac, yn wir, mae Llywodraeth bresennol Prydain o dan yr Ysgrifennydd iechyd, Wes Streeting, wedi ymestyn gwaharddiad ar feddyginiaeth atal y glasoed, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.

Felly, i grynhoi, Llywydd, rwyf wedi gwrando ar ddadl yr Aelod yma heno. Er nad ydw i efallai unrhyw le'n agos at ei feddwl cyfreithiol ef, mae fy narlleniad i o'r cais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eglurder, a greodd y diwygiad, i mi yn gwneud synnwyr, ac rwyf hefyd wedi amlinellu'r risgiau posibl os caiff y gwelliant ei ddirymu yma heno hefyd. Diolch yn fawr iawn.

20:30

Diolch, Llywydd. Bydd fy nghyfraniad i fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn canolbwyntio ar ystyriaeth y pwyllgor o'r rheoliadau hyn a'r rheoliadau cysylltiedig a wnaed yn gynharach eleni. Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004, at y dibenion hyn, yn cael eu galw y prif reoliadau, ac maent yn gwneud darpariaeth ynghylch cyffuriau, meddyginiaethau neu sylweddau eraill y gellir eu harchebu o dan amgylchiadau penodol i gleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol.

Ym mis Gorffennaf, craffodd y pwyllgor ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2024. Roeddent yn diwygio'r prif reoliadau trwy osod cyfyngiadau ar ragnodi analogau hormonau sy'n rhyddhau gonadotroffin gan ymarferwyr meddygol cyffredinol yng Nghymru pan gânt eu defnyddio i atal y glasoed fel rhan o drin anghyfathiant rhywedd neu ddysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc o dan 18 oed. Gosodwyd adroddiad y pwyllgor ar y rheoliadau diwygio hynny gerbron y Senedd ar 16 Gorffennaf. Yn yr adroddiad hwnnw, tynnodd y pwyllgor sylw at y ffaith nad oedd y diffiniad o 'ymarferydd meddygol cyffredinol' yn y rheoliadau hynny'n glir, yn rhannol oherwydd bod Deddf Feddygol 1983 yn darparu ar gyfer dwy gofrestr a allai fod yn gymwys i'r diffiniad. Mewn ymateb, cytunodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ceisio darparu eglurder mewn offeryn diwygio o fewn 12 mis. Ysgrifennodd y pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet ar 24 Medi yn mynegi siom y byddai'r diffyg eglurder hwn yn aros ar y llyfr statud am hyd at 12 mis arall. Atebodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar 7 Hydref, gan gadarnhau bod y rheoliadau diwygio'n cael eu paratoi.

Gosodwyd y rheoliadau diwygio Rhif 2 sy'n destun y ddadl y prynhawn yma ar 25 Hydref ac maent yn ymateb i'r mater diffyg eglurder a amlygodd y pwyllgor ym mis Gorffennaf. Maent hefyd yn ymestyn y cyfyngiadau a nodir yn rheoliadau mis Gorffennaf y tu hwnt i driniaeth a ddarperir gan ymarferydd meddygol cyffredinol i driniaeth a ddarperir o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol. Trafododd y pwyllgor reoliadau diwygio Rhif 2 ar 11 Tachwedd, ac ystyriodd ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ar 3 Rhagfyr. Ni chafodd unrhyw gamau pellach eu trafod na'u cytuno gan y pwyllgor.

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau dweud bod hwn yn fater yr ydym ni i gyd yn ei gymryd o ddifrif, ac rwy'n ddiolchgar, mewn gwirionedd, i Adam am ei godi. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae'r Senedd yn cymryd diddordeb ynddo, ac felly hefyd pobl Cymru. Er hyn, rwy'n anghytuno'n sylfaenol, mae arnaf ofn, â phrif grynodeb Adam o'r sefyllfa yr ydym ni'n cael ein hunain ynddi, a, Llywydd, rwy'n mynd i fynd trwy ychydig o'r hanes o sut y cyrhaeddon ni yma, er mwyn i bobl ddeall yn union ble rydyn ni a beth fydd effaith hyn.

Felly, mae'r cynnig i ddirymu yn cynnig bod y Senedd, fel y gwyddom ni, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2, yn cytuno bod Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024, a osodwyd gerbron y Senedd ar 25 Hydref 2024, yn cael eu dirymu. Maddeuwch imi, Aelodau, os ydych chi i gyd yn gwybod hyn, ond rwy'n credu ei bod yn werth nodi'r holl bethau hyn eto. Mae'r term 'meddyginiaeth atal y glasoed' yn cyfeirio at grŵp o feddyginiaethau y gellir eu defnyddio i oedi newidiadau y glasoed ymhlith pobl ifanc trawsryweddol ac amrywiol o ran rhywedd sydd wedi dechrau'r glasoed. Ar 29 Mai eleni, cyflwynodd Llywodraeth y DU Orchymyn Meddyginiaethau (Analogau Hormonau sy'n Rhyddhau Gonadotroffin) (Gwaharddiad Brys) (Cymru, Lloegr a'r Alban) 2024, a elwir y Gorchymyn brys cyntaf, a oedd yn gosod cyfyngiadau brys ar werthu a chyflenwi meddyginiaeth atal y glasoed fel y'i gelwir fel rhan o drin anghyfathiant rhywedd neu ddysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc o dan 18 oed. Gwnaed y Gorchymyn brys mewn ymateb uniongyrchol i argymhellion a wnaed gan yr adolygiad annibynnol o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc yn Lloegr, a elwir ar lafar yn adolygiad Cass, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill. Roedd y Gorchymyn brys cyntaf yn cyfyngu—ac rwy'n credu mai dyma'r rhan bwysig iawn, Aelodau—yn cyfyngu ar ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed preifat, h.y. heblaw am y GIG, gan ragnodwyr cofrestredig yn y DU, oni bai bod triniaeth wedi cychwyn cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym, a gwahardd unrhyw ragnodi gan ragnodwyr nad ydynt wedi'u cofrestru yn y DU. Daeth y Gorchymyn brys cyntaf i rym ar 3 Mehefin 2024 am yr uchafswm cyfnod o dri mis a ganiateir mewn deddfwriaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ail a thrydydd Gorchymyn brys wrth i'r Gorchymyn cyntaf a'r ail Orchymyn yn y drefn honno, ddod i ben, ac mae'r Gorchymyn diweddaraf i ddod i ben ar 31 Rhagfyr. Nid yw'r Gorchmynion brys yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar ragnodi gan ragnodwyr sy'n gweithio o fewn y GIG, ar yr amod bod rhagnodi o'r fath yn rhan o ymarfer GIG y rhagnodwr.

Felly, Llywydd, mae'r rhain yn ymateb uniongyrchol i adolygiad Cass, o ran rhagnodi gan ymarferwyr preifat, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi'u cofrestru yn y DU ac nad ydynt yn atebol i reoleiddwyr proffesiynol yn y DU. Cafodd adolygiad Cass ei gomisiynu gan GIG Lloegr i wneud argymhellion ar y gwasanaethau hunaniaeth rhywedd hynny, ac mae GIG Cymru yn cael ei gynrychioli ar raglen drawsnewid GIG Lloegr gan y cyd-bwyllgor comisiynu, sy'n cynrychioli pob un o'r saith bwrdd iechyd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael ei hysgogi gan y dystiolaeth i gefnogi anghenion pobl ifanc sy'n cwestiynu eu rhywedd orau. Mae'r cyd-bwyllgor comisiynu hefyd yn ystyried y canfyddiadau yn adolygiad Cass i lywio adolygiad arfaethedig o wasanaeth rhywedd Cymru i oedolion yng Nghymru.

Yn ymarferol, ychydig o ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru, os o gwbl, sy'n rhagnodi meddyginiaeth atal y glasoed i atal y glasoed mewn plant a phobl ifanc. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn cynghori na ddylai meddygon teulu ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed ar gyfer cleifion o dan 18 oed, o ystyried y pryderon am y sylfaen dystiolaeth yn y maes hwn, yn ogystal â'r arbenigedd arbenigol sydd ei angen i fonitro'r dos a sgil-effeithiau. Clywodd adolygiad Cass fod rhai meddygon teulu wedi dod o dan bwysau cynyddol i ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed, ac ystyriwyd yn debygol y byddai'r cyfyngiadau brys ar y rhagnodi preifat yn cynyddu'r pwysau.

Ar ôl i'r Gorchymyn brys cyntaf ddod i rym, gwnaed Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2024 ar 27 Mehefin a daethant i rym ar 19 Gorffennaf. Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024 yn gwneud mân ddiwygiadau i'r diffiniad o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a all ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed mewn ymarfer cyffredinol y GIG, a chawsant eu gwneud ar 25 Hydref a daethant i rym ar 15 Tachwedd. Effaith net y ddwy set o reoliadau yng Nghymru yw na chaniateir i feddygon teulu na rhagnodwyr eraill sy'n gweithio mewn ymarfer cyffredinol ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed i blant a phobl ifanc oni bai bod gan y person hwnnw bresgripsiwn presennol ar gyfer meddyginiaeth atal y glasoed a gafwyd cyn 19 Gorffennaf 2024, neu ei fod yn cael ei drin â meddyginiaeth atal y glasoed fel rhan o dreial clinigol a diben y ddau yw atal y glasoed mewn perthynas â dysfforia rhywedd, anghyfathiant rhywedd neu gyfuniad o'r ddau. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth nodi fy mod i'n meddwl, fel y dywedodd Sam, mai effaith net y ddwy set o reoliadau yw y gall pobl ifanc dan 18 oed sydd â phresgripsiwn presennol barhau i gael meddyginiaeth atal y glasoed, ac y gall meddygon teulu ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed a ddechreuodd gael triniaeth cyn i'r rheoliadau ddod i rym ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, cyngor Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yw na ddylai meddygon teulu ragnodi'r meddyginiaethau hyn oni bai bod ganddynt arbenigedd priodol wrth reoli dysfforia rhywedd a/neu anghyfathiant rhywedd.

Effaith y rheoliadau yw cyfochri rhagnodi gan feddygon teulu ag argymhellion adolygiad Cass sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a gall pobl dan 18 sy'n ceisio meddyginiaeth atal y glasoed gael presgripsiwn trwy'r treial clinigol sy'n cael ei gynnal gan y clinigau hunaniaeth rhywedd newydd sy'n cael eu sefydlu gan GIG Lloegr ac sy'n cael eu comisiynu gan gyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru. Nid yw'r rheoliadau'n atal meddyg teulu rhag eu hatgyfeirio ymlaen at wasanaeth rhywedd arbenigol ar gyfer rhagnodi meddyginiaeth atal y glasoed fel rhan o'r treial clinigol hwnnw. Rydym yn disgwyl gweld mwy o fanylion am gymhwysedd y treial ymchwil ym mis Ionawr, ond ein dealltwriaeth ni yw y bydd y feddyginiaeth atal y glasoed ar gael i bob person ifanc fel rhan o'r treial, lle ceir cytundeb clinigol. Mae'r gwasanaeth ym Mryste eisoes wedi dechrau gweld cleifion, ac rydym yn disgwyl i'r gwasanaeth yn Alder Hey agor yn fuan.

Gan droi at y rhaglen ymgysylltu, Llywydd, a gododd Adam Price, roedd adolygiad Cass yn cynnwys rhaglen ymgysylltu sylweddol, gan gynnwys gyda phobl ifanc, rhieni a gofalwyr sydd â phrofiad bywyd. Anogwyd rhanddeiliaid ledled Cymru i gymryd rhan yn ymgynghoriad yr adolygiad trwy gofrestru i dderbyn ac ymateb i'r holl ymgyngoriadau cysylltiedig. Cynhaliodd GIG Lloegr ymgynghoriad cyhoeddus 90 diwrnod ar gynnig y polisi, ac fe ddiweddarodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y cyd-bwyllgor comisiynu erbyn hyn, Llais Cymru a swyddfa Comisiynydd Plant Cymru drwy gydol cyfnod yr adolygiad. Fel y dywedodd Mike Hedges, y Cadeirydd, ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad reoliadau diwygio Rhif 2 ar 11 Tachwedd ac eto ar 3 Rhagfyr.

Felly, ni fydd pasio'r cynnig i ddirymu yn ehangu mewn unrhyw ffordd yr amgylchiadau lle bydd meddygon teulu'r GIG yn gallu rhagnodi meddyginiaeth atal y glasoed. Fodd bynnag, bydd yn rhoi rhywfaint o ansicrwydd ynghylch gallu gweithwyr meddygol proffesiynol eraill i wneud hynny ai peidio. Nid ydym yn credu bod honno'n sefyllfa arbennig o dda i fod ynddi. Mae'n well cael eglurder ynghylch pwy sy'n cael rhagnodi a phwy na chaiff wneud hynny.

Gan droi at y materion cyfreithiol penodol a godwyd gan Adam Price yn ei gyflwyniad, mae erthygl 14 o hawliau confensiwn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar wahaniaethu yn cael ei chynnwys dim ond pan fo'r mater yn dod o fewn cwmpas hawl confensiwn arall, fel erthygl 8: bywyd preifat a theuluol. Gellir torri erthygl 14 hyd yn oed os nad yw'r erthygl berthnasol, h.y. erthygl 8, yn cael ei thorri. Ond yr hyn sydd dan sylw yma yw mater gallu plentyn i gael gafael ar driniaeth atal y glasoed trwy ei feddyg teulu ar y GIG. Mae yna lawer o gyfraith achos sy'n dangos nad yw'r wladwriaeth yn torri erthygl 8 trwy wrthod awdurdodi math penodol o driniaeth feddygol, hyd yn oed ar lefel unigol, llai eto fel mater o bolisi cyffredinol. Dywedwyd dro ar ôl tro bod materion polisi gofal iechyd yn dod o fewn disgresiwn y wladwriaeth ac nid yw'r math o faterion adnoddau moesegol cymhleth sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau polisi o'r fath yn rhai y dylai'r llys ddyfalu amdanynt.

Llywydd, nid yw'n bosibl, felly, ddiystyru'n llwyr y posibilrwydd bod argaeledd triniaeth o'r fath o fewn cwmpas erthygl 8, er mwyn cynnwys erthygl 14, ond rydym yn credu, o ystyried y gyfraith achos, bod hynny'n annhebygol. O ran erthygl 14, mae'n anodd gweld sut mae un rhyw yn cael ei drin yn wahanol, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan y polisi a nodir yn y rheoliadau, gan fod y polisi yn berthnasol i wrywod a benywod a'r rhai sy'n uniaethu fel gwrywod a benywod yn union yr un ffordd. Nid ydym yn ymwybodol y byddai unrhyw is-garfan benodol o fewn y garfan o bobl ifanc dan 18 oed a allai fod wedi cael presgripsiwn meddyginiaeth atal y glasoed gan eu meddyg teulu yn flaenorol yn cael eu heffeithio'n anghymesur o'i gymharu ag unrhyw is-garfan arall er mwyn hawlio gwahaniaethu anuniongyrchol.

Mae erthygl 14 hefyd yn ymdrin â gwahaniaethu ar sail statws arall. Yn gyffredinol, mae'r llysoedd wedi mynd i'r afael â hyn yn eang. Efallai y bydd modd cyflwyno hawliad ar y sail hon, fel rhwng y rhai sy'n gallu fforddio talu am feddyginiaeth atal y glasoed yn breifat a'r rhai sydd angen dibynnu ar y GIG. Hyd yn oed os gellir dangos triniaeth wahaniaethol ar sail o fewn erthygl 14, ni thorrir erthygl 14 os yw'r gwahaniaeth mewn triniaeth yn cyrraedd nod cyfreithlon a bod cydbwysedd teg wedi'i daro rhwng yr hawliau a ddiogelir gan erthygl 14 a'r budd cyffredinol.

Mae diogelu iechyd corfforol a meddyliol eraill, fel y dangosir gan adolygiad Cass, yn nod dilys yn yr achos hwn, ac mae cydbwysedd teg wedi'i daro oherwydd nad yw'r polisi yn waharddiad llwyr ar feddyginiaeth atal y glasoed. Yn hytrach, mae'n ymateb wedi'i raddnodi fel mai effaith net y rheoliadau yng Nghymru yw na chaniateir i ragnodwyr o dan gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed i bobl ifanc dan 18 oed oni bai bod gan yr unigolyn bresgripsiwn presennol ar gyfer meddyginiaeth atal y glasoed a gafwyd cyn 19 Gorffennaf 2024, neu ei fod yn cael ei drin â meddyginiaeth atal y glasoed fel rhan o dreial clinigol. Ar ben hyn, nid yw'r cyfyngiadau a'r rheoliadau yn atal meddyg teulu rhag atgyfeirio ymlaen i wasanaethau rhywedd arbenigol i ddarparu meddyginiaeth atal y glasoed. Felly, mae'r polisi a'r rheoliadau, am y rhesymau a nodir yn adolygiad Cass, yn mynd ar ôl y nod cyfreithlon o ddiogelu iechyd corfforol a meddyliol pobl ifanc dan 18 oed yng nghyd-destun triniaeth â meddyginiaeth atal y glasoed. Mae'r rheoliadau'n cadw gallu pobl ifanc dan 18 oed a oedd yn cael triniaeth cyn i'r rheoliadau ddod i rym, neu'r rhai sy'n cymryd rhan mewn treial clinigol, i gael meddyginiaeth atal y glasoed, ac nid ydynt yn atal rhagnodi meddyginiaeth atal y glasoed gan wasanaethau rhywedd arbenigol, ac mae hynny'n taro cydbwysedd teg rhwng yr hawliau a ddiogelir gan erthygl 14 a'r buddiannau cyffredinol. Mae'r rheoliadau, felly, yn fy marn i a barn Llywodraeth Cymru, yn gymesur ac nid ydynt yn torri erthygl 14.

Gan droi, felly, at Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae'r ddyletswydd yn adran 1 y Mesur yn ddyletswydd i roi sylw i'r hawliau yn rhan 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Nid yw'n ddyletswydd i gymhwyso hawliau'r plentyn yn rhan 1 o'r CCUHP. Ac o ystyried argymhellion adolygiad Cass a'r modd y mae'r rheoliadau wedi'u graddnodi, nad ydynt yn waharddiad llwyr ar ragnodi meddyginiaeth atal y glasoed, sy'n gwarchod y gallu, o dan rai amgylchiadau, i ragnodi'r cyffuriau hynny i bobl ifanc dan 18 oed yn ddiogel, mae'n amlwg bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw dyladwy i'r hawliau a nodir yn y CCUHP ac, yn fy marn i, mae hynny'n bodloni'r ddyletswydd.

Gan droi, felly, at ymgynghori, mae'n gwbl gywir na wnaethom ni, fel Llywodraeth Cymru, gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y polisïau a'r rheoliadau cyn gwneud y rheoliadau. Fodd bynnag, nid oes dyletswydd statudol i ymgynghori yn y modd hwn. Mae absenoldeb cyfraith gyhoeddus dyletswydd statudol yn gofyn am ymgynghori lle bu addewid i ymgynghori, arfer ymgynghori, neu y byddai'n amlwg yn annheg peidio ag ymgynghori. Nid oedd addewid i ymgynghori ar y polisi ac nid oes unrhyw arfer blaenorol o ymgynghori wedi'i sefydlu. Ni ystyrir yn debygol y gallai her gyfreithiol ar sail annhegwch amlwg lwyddo. Nid oes tystiolaeth bod unrhyw is-garfan o bobl ifanc dan 18 oed sy'n cael eu heffeithio gan bolisi yn y rheoliadau yn cael eu heffeithio'n wahaniaethol ac yn niweidiol gan y polisi. Felly, er enghraifft, nid oes is-garfan a fyddai'n cael ei hatal rhag cael triniaeth atal y glasoed o dan y polisi drwy wasanaethau rhywedd arbenigol.

Er bod y CCUHP yn darparu bod modd mynegi barn y plentyn a'i bod yn cael pwysau dyladwy, barn Llywodraeth Cymru yw bod y gofyniad o dan y Mesur i roi sylw dyladwy i'r hawl honno yn cael ei fodloni mewn amgylchiadau lle, o dan gyfraith ddomestig, y mae dyletswydd i ymgynghori ar fater neu ddewis i ymgynghori ar fater a bod barn plant yn cael ei cheisio a'i hystyried yn briodol. Ond nid oes dyletswydd mewn cyfraith ddomestig i ymgynghori ar fater lle mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw'r ddyletswydd i roi sylw dyladwy i'r hawliau o dan y CCUHP ei hun yn creu rhwymedigaeth annibynnol i ymgynghori â phlant. Felly, fy nadl i, Llywydd, yw nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddyletswydd o'r fath i ymgynghori. Mae wedi rhoi sylw priodol i'r hawliau o dan y Mesur ac wedi gweithredu'r rheoliadau yn iawn, ac rwy'n gofyn i'r Senedd eu cadarnhau.

20:45

Rwy'n siomedig iawn o glywed y Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad oes dyletswydd i ymgynghori ynglŷn â'r rheoliadau hyn, pan fyddan nhw'n amlwg yn effeithio ar blant a phobl ifanc trawsryweddol mewn modd uniongyrchol iawn, iawn. Yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol i'w weld yn ei ddweud yw, 'Rydym wedi rhoi sylw dyladwy os ydym yn dweud ein bod wedi rhoi sylw dyladwy.' Nid yw hynny, rwy'n credu, yn wir yn yr achos a grybwyllais, lle datganodd yr Uchel Lys drwy gydsyniad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw dyladwy. Gwnaeth Llywodraeth Cymru—

Adam Price, mae gen i ymyriad yn cael ei geisio gan Hefin David ar-lein.

Diolch, Llywydd. Gwrandawais ar araith y Cwnsler Cyffredinol. Mae'n rhaid i mi ddweud, er ei bod yn dechnegol gywir, cafodd ei darllen heb unrhyw angerdd, dim brwdfrydedd o gwbl. Mae gen i etholwr trawsryweddol sydd wedi bod i'r clinig ym Mryste ac sydd wedi ei ganfod yn brin iawn o'r hyn yr oedd ei eisiau. Rwy'n credu bod angen mwy gan y Llywodraeth ar hyn. Ac er y byddaf yn pleidleisio dros y Llywodraeth am resymau technegol, rwy'n credu bod angen mwy o angerdd gan y Llywodraeth ar y materion hyn, ac rwy'n siomedig iawn gyda chyfraniad y Cwnsler Cyffredinol.

Ac a gaf i gytuno gyda Hefin David hefyd? Oherwydd gadewch i ni ehangu hyn. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad yn y cynllun gweithredu LHDTC+ i archwilio sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd ieuenctid i Gymru, nad yw yno ar hyn o bryd. Ac oherwydd y diffygion y mae Hefin David newydd eu disgrifio, mae angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith archwilio hwnnw. Mae'r GIG yng Nghymru wedi dweud nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc, er gwaethaf yr ymrwymiad hwnnw a roddwyd gan y Llywodraeth, felly rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn gatalydd ar gyfer hynny.

Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn derbyn y dadansoddiad cyfreithiol y mae'r Llywodraeth wedi'i nodi. Does bosib, os yw'r sylw dyladwy i olygu unrhyw beth, yna, pan fyddwch chi'n cyflwyno polisi fel hyn a statud sy'n amlwg yn rhwystro ac yn cyfyngu ar y mynediad i driniaeth ar gyfer pobl ifanc a phlant trawsryweddol, yna—. Os nad yw'n berthnasol yma, lle mae'n berthnasol, a dweud y gwir? Rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen i'r Llywodraeth edrych ar hyn gyda rhywfaint o frys.

Hyd yn oed os ydyn nhw'n ennill y bleidlais heno, mae angen iddyn nhw edrych ar y polisi ehangach, oherwydd grŵp o bobl ifanc a phlant sy'n haeddu amddiffyniad cyfartal o dan y gyfraith yw hwn. Maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth ni. Ni wrandawyd arnyn nhw yn yr achos hwn. O ran y treial, er enghraifft, y treial clinigol, y protocol ymchwil, a yw lleisiau pobl ifanc a phlant trawsryweddol yn dylanwadu ar y ffordd y mae hynny'n cael ei sefydlu? Oherwydd, yn amlwg, mae'n mynd i gael effaith fawr ar eu gallu i gael mynediad at y driniaeth y mae cynifer ohonyn nhw ei heisiau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cyfnod Pleidleisio

Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch. A symudwn ni at y bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf fydd ar eitem 8, y Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024. Galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r bleidlais wedi'i chario.

20:50

Eitem 8. Rheoliadau Datblygiadau o ArwyddocÔd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 11 sef nesaf, y cynnig i ddirymu'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma yn enw Adam Price. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.

Item 11. Cynnig i ddirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch i bawb, a siwrnai dda i bawb adref.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:51.