Y Cyfarfod Llawn
Plenary
20/11/2024Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price.
1. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet esbonio pam mae'r amserlen a luniwyd yn 2023 ar gyfer penodi asiant cyflogaeth ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo wedi ei gohirio am bum mis? OQ61873
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gysylltedd ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ61900
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
The Plaid Cymru spokesperson, Peredur Owen Griffiths.
3. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r gwelliannau i ddiogelwch cyffyrdd sydd eu hangen yng nghanolbarth Cymru? OQ61891
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru? OQ61874
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd metro de Cymru? OQ61889
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau? OQ61868
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu parth taliadau cosb Trafnidiaeth Cymru? OQ61867
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teithio llesol yng Ngogledd Caerdydd? OQ61894
Cwestiwn 9, yn olaf, Russell George.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd y Cambrian? OQ61884
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, fydd yr ail set o gwestiynau'r prynhawn yma, a'r rhain i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i drechu tlodi ymhlith pobl hŷn yn Nwyrain De Cymru? OQ61893
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
2. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio ag aelodau eraill o'r Cabinet a Llywodraeth y DU i gydlynu cefnogaeth i bobl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar? OQ61886
Diolch i Luke Fletcher am y cwestiwn pwysig yma. Mae hi mor rhwydd inni anghofio am garcharorion. Trefnydd, dwi ddim cweit yn cytuno â'ch dadansoddiad chi mai'r cynllun rhyddhau cynnar sydd wedi creu'r broblem yma. Efallai ei fod e wedi dod â'r broblem i'r amlwg, ond mae hon yn hen broblem. Mae'r diffyg cefnogaeth yn y carchar, ac ar ôl cael eich rhyddhau o'r carchar, yn broblem sy'n mynd nôl ddegawdau, ac, yn wir, yn broblem roedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn rhan ohoni. Cafwyd cynnydd enfawr o fewn y boblogaeth yn y carchardai dan Lywodraeth Tony Blair a Gordon Brown.
Un ffordd allweddol i sicrhau nad yw pobl yn aildroseddu yw eu bod nhw'n cael y gefnogaeth gywir yn y carchar, eu bod nhw'n cael y gefnogaeth iechyd meddwl a iechyd corfforol yn y carchar. Cost gwariant iechyd yng ngharchardai cyhoeddus Cymru yw £7.1 miliwn, ond £2.5 miliwn yw'r grant bloc, ac mae hwn wedi aros yr un peth ers 2004, heb gymryd i ystyriaeth chwyddiant na'r cynnydd ym mhoblogaeth ein carchardai ni. Mae'n hollbwysig o ran adferiad a lleihau risg bod pobl yn cael y mynediad cywir at y feddygaeth a'r driniaeth y maen nhw eu hangen. Roeddwn i'n gweld hwnna pan rôn i'n fargyfreithiwr troseddol—rôn i'n gweld nad oedd cleientiaid yn cael y cyffuriau a'r gefnogaeth roedden nhw eu hangen.
Mae'r mater yma, o ran y diffyg yn y grant bloc, wedi cael ei godi droeon gan Dr Rob Jones a hyd yn oed y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yma. A ydy'r Trefnydd wedi siarad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gynyddu'r grant bloc? Oherwydd nid yw'r gap sydd gyda ni ar hyn o bryd yn gynaliadwy o gwbl. Diolch yn fawr.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
3. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn hyrwyddo cynllun canolfannau clyd Llywodraeth Cymru, y dyrannwyd £1.5 miliwn ar ei gyfer? OQ61887
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i leddfu tlodi tanwydd? OQ61872
Diolch yn fawr. Ces i gyfarfod cynhyrchiol iawn gyda’r Gweinidog defnyddwyr ynni fis diwethaf. Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ysgogiadau pwysig i helpu i liniaru tlodi tanwydd, ac rwy’n croesawu’r cyfle i weithio'n agored ac ar y cyd a rhannu polisïau i ddiogelu aelwydydd Cymru yn well.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n gwirfoddoli mewn banc bwyd yng nghwm Tawe ac roedd un fenyw sy'n dod yn gyson i'r banc bwyd wedi gofyn am help gan ei bod hi wedi gweld ei biliau ynni yn saethu lan yn ddiweddar ac yn cael trafferth i ymdopi. Roedd hi'n gymwys am gymorth gan gynllun ECO4 sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a chafodd hi baneli solar, gwaith inswleiddio a system wresogi newydd. Ond nawr, er ei bod yn gallu profi bod ei biliau wedi codi ers i'r gwaith dan y cynllun gael ei gwblhau, ac angen trafod beth allai fod yn achosi hyn, dyw'r rhai a wnaeth y gwaith ddim ar gael i'w helpu. Rwy'n obeithiol y bydd National Energy Action Cymru yn medru ei chynorthwyo, ond mae sefyllfa fy etholwr yn codi'r cwestiwn o ran pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan er mwyn sicrhau bod pobl fregus sy'n gorfod meddwl am gynllunio pob ceiniog o wariant ddim yn cael eu gadael mewn argyfwng, yn hytrach na lle gwell o ran eu costau gan gynlluniau atal tlodi tanwydd. Ydych chi'n hyderus bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnig lefel ddigonol o ofal a chyngor wedi i'r mesurau effeithlonrwydd ynni gael eu gosod yng nghartrefi pobl?
Mae cwestiwn 5 [OQ61890] wedi'i dynnu nôl, felly cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders.
6. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a rhieni i atal y cylch o ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol a achosir gan oedolion ifanc yn Aberconwy? OQ61870
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched? OQ61898
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pensiynwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ61904
Ac, yn olaf, cwestiwn 9. Mick Antoniw.
9. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf? OQ61871
Diolch i'r Trefnydd.
Cwestiynau nawr i Gomisiwn y Senedd. Bydd y cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies ac yn cael ei ateb gan Hefin David.
1. Faint y mae diwygio'r Senedd yn ei gostio i'r Comisiwn? OQ61879
Bydd yr ail gwestiwn yn cael ei ateb gan Joyce Watson. Julie Morgan.
2. Sut y mae'r Comisiwn yn gweithio i wella hygyrchedd trafodion y Senedd ar gyfer pobl fyddar a phobl ag amhariad ar y clyw? OQ61897
Bydd y trydydd cwestiwn yn cael ei ateb gan y Llywydd. Joel James.
3. Pa weithdrefnau sydd ar waith ar gyfer penderfynu pryd y caiff y Senedd ei goleuo i gefnogi gwahanol achosion? OQ61877
Mae protocol mewnol mewn lle i benderfynu ar oleuo. Mae dau gategori i'r protocol. Y cyntaf yw goleuo ar bum diwrnod blynyddol sydd fel arfer yn cael eu nodi drwy weithgarwch ehangach Comisiwn y Senedd. Y pum diwrnod yma yw: Diwrnod Cofio’r Holocost, Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, a Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Mae goleuadau'r Senedd hefyd yn cael eu diffodd bob blwyddyn i nodi Awr Ddaear.
Mae'r ail gategori yn y protocol ar gyfer digwyddiadau un tro ag iddynt arwyddocâd cenedlaethol. Achlysuron yw'r rhain sydd naill ai'n annisgwyl neu nad ydynt yn digwydd bob blwyddyn, ac yn nodi digwyddiad arwyddocaol.
Mae fy swyddfa yn derbyn nifer fawr o geisiadau i oleuo'r Senedd i gefnogi elusennau, ymgyrchoedd ac achosion da. Yn anffodus, mae'n anymarferol darparu ar gyfer yr holl geisiadau yma. Er enghraifft, rydyn ni wedi derbyn 12 cais ers mis Medi. Mae pob dydd, pob wythnos yn nodi rhyw achos da, ambell waith mwy nag un.
Mae'r protocol, fel Llywydd, dwi wedi sôn amdano ac yn ei weithredu ar oleuo ond yn wybyddus yn fewnol ar hyn o bryd o fewn fy swyddfa i. Dwi'n meddwl bod angen i fi wneud y protocol yn gyhoeddus ac mi fyddaf yn gwneud hynny o ganlyniad i'r cwestiwn yma, felly diolch am y cwestiwn.
Mae cwestiwn 4 [OQ61906] wedi ei dynnu nôl, a hefyd mae cwestiwn 5 [OQ61892] wedi ei dynnu nôl. Felly, diolch i'r Comisiynwyr.
Eitem 4 heddiw yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynglŷn â pham y mae Llywodraeth Cymru yn camu allan o'r dull pedair cenedl o ymdrin â'r cynllun dychwelyd ernes? TQ1248
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd yr ail gwestiwn amserol gan Rhun ap Iorweth.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar gyhoeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i oedi darpariaeth llawdriniaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, a fydd yn arwain at gleifion yn gorfod derbyn triniaethau yn Lloegr? TQ1253
Ar 15 Tachwedd, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddatganiad o'i benderfyniad i oedi llawdriniaeth wedi'i chynllunio ac ar frys ar gyfer open abdominal aortic aneurysm yng ngogledd Cymru. Mae wedi gweithio gydag Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke i ddodi trefniadau yn eu lle ar gyfer y rhifau bach o bobl fydd angen y lawdriniaeth hon.
Mi ddaeth y newyddion am y toriadau i lawdriniaethau abdominal aortic aneurysm fel ergyd drom arall, mae gen i ofn, i ranbarth sydd wedi gweld diffygion gwirioneddol mewn gwasanaethau fasgiwlar dros y blynyddoedd diwethaf. Does dim angen i fi ddweud, nac oes, bod symud gwasanaethau ar draws y ffin i Stoke am fod yn anghyfleus. Mae'n mynd i fod yn anghyfleus i bobl sy'n byw yn y gogledd-ddwyrain, ond i rywun sy'n byw yn fy etholaeth i, yn Ynys Môn, neu ymhellach draw i'r gorllewin, pen draw Llŷn, o bosib, mae'r penderfyniad yma am gael effaith wirioneddol ar hygyrchedd y lawdriniaeth allweddol yma.
Ond beth sy'n creu y rhwystredigaeth fwyaf yn fan hyn, dwi'n meddwl, ydy hanes diweddar y ffordd mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi trin gwasanaethau fasgiwlar a'r ffaith bod ymgyrchwyr lleol, a ninnau ar y meinciau yma, wedi rhybuddio dro ar ôl tro am y peryg o'r hyn a wnaed, ac y byddai fo yn arwain at ddirywiad gwirioneddol hirdymor mewn gwasanaethau fasgiwlar a oedd yn rhagorol. Y cyfiawnhad gawsom ni dros gau'r uned fasgiwlar byd-enwog yn Ysbyty Gwynedd ac i ganoli gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd oedd y byddai fo'n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion gogledd Cymru. Doedd yna neb ohonom ni yn credu hynny. Chwe blynedd yn ddiweddarach, nid yn unig mae gwasanaethau fasgiwlar Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, maen nhw hefyd yn cael eu gyrru rŵan i Loegr, heb unrhyw sôn am ailgyflwyno'r gwasanaeth am y dyfodol rhagweladwy. Mae gwasanaethau a oedd yn rhagorol wedi cael eu dad-wneud, a phobl y gogledd sy'n talu'r pris am hynny.
Mi oedd canfyddiadau'r arolygiaeth gofal iechyd o gynnydd mewn gwasanaethau fasgiwlar yn y gogledd dros y flwyddyn diwethaf yn galonogol—hynny ydy, dwi yn chwilio am arwyddion positif. Ond beth rydym ni'n ei weld yn fan hyn, a'r hyn roeddem ni'n ei hofni, ydy cam mawr arall yn ôl. Felly, a gaf i, gan yr Ysgrifennydd Cabinet, wybod beth ydy'r amserlen? Beth ydy'r amserlen rŵan o ran dychwelyd y gwasanaethau yma yn ôl i ogledd Cymru? Ac yn bwysicach oll, pryd fydd yr addewidion a gafodd eu gwneud nôl yn 2018 am y buddiannau o ganoli gwasanaethau fasgiwlar arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd yn dwyn ffrwyth? Achos ychydig iawn ohonom ni wnaeth gredu ar y pryd mai gwella fyddai'r gwasanaeth o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Nid oes unrhyw ddatganiadau 90 eiliad heddiw.
Felly, symudwn ymlaen at gynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau, NNDM8741, NNDM8742 ac NNDM8743, eu grwpio ar gyfer eu trafod a phleidleisio. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol.
Cynnig NNDM8741 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Cynnig NNDM8742 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn lle Hefin David (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Cynnig NNDM8743 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn lle Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Cynigiwyd y cynigion.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion NNDM8741, NNDM8742 ac NNDM8743? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynigion wedi eu derbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nesaf yw'r cynnig i benodi comisiynydd safonau dros dro. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NNDM8744 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Comisiynydd Safonau'r Senedd wedi hysbysu'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad na all weithredu mewn perthynas â chwyn benodol.
2. Yn penodi Melissa McCullough yn Gomisiynydd dros dro mewn perthynas â’r gŵyn y cyfeirir ati ym mhwynt 1, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar sail y telerau a ganlyn:
a) daw’r penodiad i rym ar 21 Tachwedd 2024;
b) daw'r penodiad i ben pan fydd Clerc y Senedd yn hysbysu’r Comisiynydd dros dro;
c) tâl y Comisiynydd dros dro fydd cyfradd ddyddiol o £458.36 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) am weithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd, ynghyd â threuliau rhesymol; a
d) Comisiwn y Senedd fydd yn talu pob swm y cyfeirir atynt ym mhwynt 2(c) i'r Comisiynydd dros dro.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, dwi'n gwneud y cynnig yn ffurfiol i benodi comisiynydd safonau dros dro.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 6, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, wedi ei gohirio.
Felly, eitem 7, cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8729 Hefin David
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Tachwedd 2024, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A cyn i mi ddechrau, mi fuaswn i'n licio diolch i Hefin David, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd, am ddod i'r cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref i drafod cynigion cyllidebol y Comisiwn. Dwi hefyd yn ddiolchgar i’r Comisiwn am ddarparu ei ymateb i’r adroddiad cyn y ddadl yma, ac rwy’n falch eu bod nhw wedi derbyn 16 o’r argymhellion, ac wedi nodi un ohonyn nhw. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r Comisiynydd am gadarnhau bod yr arian a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft sy’n ymwneud ag ôl-daliadau ar gyfer staff graddau is y Comisiwn wedi’i dynnu yn sgil y Senedd yn cytuno ar y gyllideb atodol gyntaf ar 22 Hydref.
I gloi, Dirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai byr yw’r amser sydd ar gael i’r pwyllgor graffu ar gyllideb y Comisiwn, gyda Rheolau Sefydlog yn caniatáu tair wythnos yn unig rhwng gosod y gyllideb ddrafft ym mis Hydref a chyhoeddi ein hadroddiad. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd dod i ddeall beth sy’n ysgogi newidiadau mewn costau ar draws y gyllideb ddrafft, a hoffem gael gwybodaeth yn rheolaidd am sut mae’r gyllideb ar gyfer 2026-27 yn cael ei datblygu er mwyn cael gwell syniad o sut olwg fydd ar gyflwr sefydlog cyson y gyllideb y tu hwnt i’r etholiad yn 2026.
Mae’r pwyllgor hefyd yn cydnabod y camau a gymerwyd gan y Comisiwn i ymgysylltu ag Aelodau cyn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft eleni, ac mae’n credu bod y dull gweithredu hwn yn ddefnyddiol ac y dylid ei ffurfioli yn y blynyddoedd sydd i ddod. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Hefin David i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM8730 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n gwneud y cynnig hwnnw. Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis Ebrill diwethaf, pasiodd y Senedd gynnig yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid, o dan Reol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau a gynhelir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd hyn yn dilyn honiadau bod arweinydd tîm yn nhîm cod ymddygiad yr ombwdsmon wedi mynegi barn wleidyddol bersonol a oedd yn cynnwys iaith sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol.
Fel sy'n hysbys, cafodd yr arweinydd tîm ei gwahardd i ddechrau, ac yna ymddiswyddodd. Mae'r pwyllgor bellach wedi cwblhau'r gwaith hwn, a gwnaethon ni osod ein hadroddiad gerbron y Senedd yn gynharach y mis hwn, ar 8 Tachwedd.
Dirprwy Lywydd, mae'r ombwdsmon yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd cyhoeddus Cymru, ac mae ein hadroddiad yn dod i'r casgliad bod gennym hyder o hyd yn y prosesau sydd ar waith ar gyfer ymdrin â chwynion ac ymchwilio iddyn nhw. O ran y camau nesaf, rwy'n falch o ddweud bod yr ombwdsmon eisoes wedi ysgrifennu at y pwyllgor gyda chynllun gweithredu ar gyfer sut mae'n bwriadu ymateb i argymhellion yr adolygiad annibynnol, ac rydyn ni'n disgwyl ymateb ffurfiol i'n hadroddiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymagwedd hon ac yn gobeithio y gall yr ombwdsmon symud ymlaen o'r digwyddiad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn eraill yn ystod y ddadl heddiw. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar iawn i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Diolch yn gyntaf i Peter Fox.
Dwi'n sylweddoli fy mod i wedi mynd dros yr amser, Dirprwy Lywydd, ond buaswn i jest yn licio cloi fel hyn. Fel rydym ni wedi sôn yn gynharach, dwi'n falch o ddweud bod yr ombwdsmon eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol i'r adolygiad annibynnol ac wedi ymrwymo i weithredu'r holl argymhellion a'r gwersi a ddysgwyd. Mae proses gwyno annibynnol a chadarn yn hanfodol er mwyn rhoi llais i bobl yng Nghymru a sicrhau bod y safonau ymddygiad uchaf yn rhan annatod o lywodraeth leol yng Nghymru. Dwi'n credu'n gryf bod canfyddiadau adolygiad annibynnol Dr McCullough a'n hymchwiliad, yn ogystal ag ymateb yr ombwdsmon i'r digwyddiad hwn, yn rhoi sicrwydd bod yr ymchwiliadau a gynhelir gan yr ombwdsmon yn addas i ddiben a bod y Senedd yn gallu bod yn hyderus y bydd yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn modd diduedd a theg. Buaswn i'n licio diolch i bawb. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 9 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8732 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref.
2. Yn credu y dylai'r gost ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael ei dalu'n llawn gan Drysorlys y DU.
3. Yn nodi asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr arwain at arafu twf cyflogau gwirioneddol ar adeg pan mai Cymru sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y DU.
4. Yn gresynu at y diffyg eglurder o ran a fydd yr ad-daliad gan Drysorlys y DU yn cynnwys, ymhlith sectorau eraill, cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd sector.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i bwyso ar Drysorlys y DU i sicrhau bod yr ad-daliad ar gyfer costau ychwanegol cyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus yn seiliedig ar ddiffiniadau StatsCymru a’r Arolwg o’r Lafurlu o weithlu'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys ymhlith sectorau eraill cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd sector.
b) i ddarparu dadansoddiad cynhwysfawr o'r effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar y farchnad swyddi yng Nghymru; ac
c) i gynyddu lefel y rhyddhad ardrethi busnes yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod er mwyn lliniaru ar effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector busnesau bach a chanolig domestig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud ag effeithiau ymarferol a phellgyrhaeddol penderfyniadau gwael gan Lywodraeth, ac mae hi hefyd yn ymwneud â gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth. Mi fydd llawer yn cofio rhybuddion Plaid Cymru ac eraill yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol eleni fod yna ddiffyg gonestrwydd yn cael ei arddangos gan Lafur a'r Ceidwadwyr ynglŷn â chynlluniau gwario a threthu. Mi fyddan nhw'n cofio rhybudd yr IMF fod yna gynllwyn o gyfrinachedd, neu conspiracy of silence, rhwng y ddwy blaid am y gwirionedd bod yna dwll o ddegau o biliynau o bunnau yn y cynlluniau roedden nhw'n eu cyflwyno i etholwyr.
Dro ar ôl tro mi glywsom ni Lafur yn addo peidio â chodi trethi ar weithwyr, ond dyma ni, gwta pedwar mis i mewn i oes y Llywodraeth newydd, ac mae Keir Starmer wedi mynd yn ôl ar ei air a tharo pocedi gweithwyr. Achos dyna sydd yn digwydd yma—rhywbeth yr oedd o wedi addo ei warchod. Ac nid dehongliad pleidiol gwleidyddol ydy hynny. Mae yna ddadleuon ynglŷn â lefelau trethiant wastad, ond mae sylwebwyr uchel iawn eu parch fel Paul Johnson o'r IFS yn dweud bod codi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn torri addewid maniffesto'r Blaid Lafur mewn ffordd ddigamsyniol.
Yn ôl asesiad yr OBR, mi fydd dros tri chwarter o'r gost yn cael ei basio ymlaen i weithwyr, naill ai drwy wasgfa ar gyflogau neu grebachu ar y gweithlu ei hun, gan niweidio cyfleon am greu cyflogaeth a chadw cyflogaeth, ac mae hynny, yn ei dro, yn siŵr o erydu safonau byw. Ac i'n busnesau domestig ni, asgwrn cefn ein heconomi, mae'r codiad yn eu cyfraniadau yswiriant gwladol yn golygu bil ychwanegol ar gyfartaledd o £900 i bob gweithiwr yn flynyddol.
Fel y dywedais i, mi wnes i a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yma rybuddio'n gyson yng nghyfnod yr etholiad nad oedd cynlluniau gwario Llafur yn dal dŵr, ac y byddan nhw'n arwain at fwy o lymder. Mae hynny, onid ydy, wedi cael ei brofi'n wir yn yr hyn sy'n cael ei amlygu rŵan yn dilyn y gyllideb, ac yn anwybyddu ein galwadau ni i gyflwyno mesurau mwy blaengar i godi refeniw, trethi ar gyfoeth—mae yna gymaint sydd ddim wedi cael ei ymchwilio iddo fo yn y maes hwnnw—neu opsiynau mwy pellgyrhaeddol ar enillion cyfalaf, o bosib. Mae Llafur wedi creu twll iddyn nhw eu hunain, a phobl Cymru sydd yn mynd i dalu'r pris. Nid am y tro cyntaf, mae mesurau Sir Keir Starmer yn diystyru anghenion Cymru.
Mae'r newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn adlais o'r ffordd mae'r Prif Weinidog wedi cosbi pensiynwyr drwy dynnu'r lwfans tanwydd oddi arnyn nhw yn ddisymwth, a'r penderfyniad i amharchu Cymru drwy beidio â sicrhau fformiwla ariannu deg a'n hamddifadu o arian HS2. Ac efo lefelau cyflogaeth ar eu hisaf ers bron i ddegawd, yn is nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, mae'r baich ychwanegol ar gyflogwyr yn siŵr o gael effaith anghymesur ar gyflogwyr Cymru.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad;
b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor hwy;
c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus;
d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan lywodraethau blaenorol; ac
e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach fod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad yn ei maniffesto i beidio â chodi treth ar bobl sy'n gweithio.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Pan fo effeithiau tlodi ac afiechyd yn dod yn glir drwy brofiadau ein hetholwyr, mae Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 yn pwyntio bys at bolisïau llymder y Torïaid dros y 14 mlynedd diwethaf. Ac rwy'n cytuno'n llwyr fod yna fai aruthrol i'w ganfod yn y rhes o Brif Weinidogion Torïaidd a oedd yn gwbl agored am eu hideoleg o ddiberfeddi gwasanaethau cyhoeddus, o danseilio'r system les cymdeithasol wrth warchod buddiannau eu dosbarth, a chaniatáu i'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd dyfu i raddau gwbl droëdig.
Gan nad ydym yn codi digon o drethi ar y mwyaf cyfoethog i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus rŷn ni eu hangen ac y mae pobl Cymru yn eu haeddu, mae ein trydydd sector yn gwbl allweddol i lenwi'r bylchau hynny. Maen nhw hefyd yn darparu arbenigedd hanfodol wrth weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cyhoeddus, gan gyfrannu gwerth dros £6.6 biliwn o lesiant cymdeithasol ac economaidd i Gymru bob blwyddyn. Ond mae'r sector eisoes ar y dibyn, gyda chwyddiant wedi peryglu a gwasgu ei gwasanaethau a'u gallu i gadw a recriwtio staff.
Roedd penderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan i godi'r cyllid roedd ei angen ar y Canghellor ar gyfer ei chynlluniau drwy roi pwysau ychwanegol ar y sector hon nid yn unig yn syndod, ond hefyd yn gwbl hurt. Roedd yn teimlo eu bod nhw wedi creu cynllun ar gefn paced sigarét yn hytrach na datblygu strategaeth gyllidol ofalus a thrylwyr dros y blynyddoedd diwethaf fel gwrthblaid. Ac wrth beidio ag ymrwymo o’r cychwyn i ariannu’r gost ychwanegol sy’n wynebu'r sector o’r codiad yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr—cost does dim modd i'r sector hon ei hamsugno yn yr un modd â rhai busnesau mwy yn y sector breifat—mae Llywodraeth Starmer wedi creu’r argraff anffodus ac annerbyniol, dwi'n credu, taw rhyw fath o 'neis i'w chael' yw’r sector yma, sydd ddim yn haeddu’r un lefel o gefnogaeth â gwasanaethau statudol.
Ond ble fyddai ymdrechion y Llywodraeth yma yng Nghymru i ddelio â phroblemau iechyd meddwl, er enghraifft, heb waith arwrol Mind, sydd nawr yn wynebu cost ychwanegol o £20,000 y flwyddyn yng Nghwm Taf Morgannwg yn unig? Faint yn waeth fyddai sefyllfa rhai o’n dinasyddion mwyaf difreintiedig heb wasanaethau Cyngor ar Bopeth Cymru, sydd nawr yn wynebu costau ychwanegol o rhwng £125,000 a £180,000 y flwyddyn mewn rhai mannau o Gymru? Faint yn fwy ansicr fyddai cleifion canser Cymru heb gefnogaeth Tenovus Cymru a Marie Curie, sydd nawr yn wynebu costau ychwanegol o £250,000 y flwyddyn? Sut fedrwn ni obeithio mynd i’r afael â'r lefelau cywilyddus o dlodi yn ein cymdeithas heb gyfraniad elusennau fel Wastesavers Charitable Trust, sydd nawr yn wynebu costau ychwanegol o £107,000 y flwyddyn? Ac mae sectorau hanfodol eraill hefyd yn wynebu'r un bygythiad ac annhegwch. A hoffwn i sôn yn benodol am y sector gofal plant.
Sut gallwn ni sicrhau bod mwy o'n plant ifanc yn cael y cyfle i gael mynediad at ofal plant cynnar cyfrwng Cymraeg pan fod y Mudiad Meithrin yn dweud bod rhai o’u cylchoedd nhw nawr yn gorfod canfod hyd at 10 y cant yn fwy o'u cyllideb flynyddol ar gyfer costau staff? Gall darparwyr gofal ddim hawlio lwfans cyflogwyr, felly mae’r sector yn teimlo ergyd y mesurau hyn heb allu cael mynediad at y mesur polisi lliniarol. Maen nhw hefyd wedi eu cyfyngu o ran eu gallu i drosglwyddo'r costau hyn. Mae'n anodd iawn iddynt dorri staff i wneud hynny, achos gofynion rheoliadol, ac er bod cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd darparwyr gofal plant yn cael eu heithrio’n barhaol rhag ardrethi busnes i'w groesawu, fydd e ddim yn ddigonol i liniaru ar effaith y cynnydd yn eu costau.
Mae cefnogi'r sector yma yn gwbl ganolog i gydraddoldeb rhywedd, i sicrhau y dechrau gorau i bob plentyn, ac yn gonglfaen i'r strategaeth tlodi plant. Dim ond esiamplau yw'r rhain, esiamplau a fydd yn tanseilio gwaith cwbl ganolog i gefnogi'r rhai sydd angen ein cefnogaeth fwyaf.
A thra bod Rachel Reeves yn mynnu bod llymder wedi dod i ben, y gwir yw bod eu mesurau hi am danseilio’r union haen o’r sector gyhoeddus sydd wedi cyflawni gymaint i warchod pobl Cymru o effeithiau mwyaf niweidiol llymder dros y degawd a hanner diwethaf. Mae’n tanlinellu yn glir fod strategaeth y Llywodraeth i adfer ein sector gyhoeddus yn seiliedig ar resymeg hollol ddiffygiol, achos fydd yna ddim adferiad os dim ond tynnu adnoddau i ffwrdd o un rhan o’r sector i’r llall rŷch chi’n ei wneud. Llymder yw hwnna; dyna’r diffiniad.
Wedi clymu un llaw tu ôl eu cefnau, drwy addo peidio â gweithredu agwedd wirioneddol sosialaidd tuag at drethiant, maen nhw nawr yn rhoi gydag un llaw ac yn tynnu i ffwrdd â’r llall, ac mae pobl Cymru yn mynd i orfod ymdopi gyda hyn. Ac mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn mynd i orfod camu mewn i wneud yn iawn am hynny, i wneud yn iawn am effeithiau niweidiol Llywodraeth San Steffan ar Gymru. Ond y tro hwn, fydd na ddim pwyntio bys, na—gwneud esgusodion bydd hi, esgusodi, celu bai, nid ei dadlennu, nid ei alw mas.
Rŷn ni’n glir taw diweddglo pendant ar lymder sydd ei angen, nid cyfrifyddu creadigol, ac mae ein cynnig ni yn dangos y camau cyntaf pwysig i alluogi hyn i ddigwydd.
Fel mae Rhun wedi nodi eisoes, does dim amheuaeth fod prifysgolion Cymru ar hyn o bryd yn wynebu’r argyfwng mwyaf difrifol yn eu hanes. Ac mae’n werth i ni adlewyrchu ar y sefyllfa bresennol yn gyntaf cyn i ni drafod goblygiadau y newidiadau sydd ar ddod drwy’r codiad mewn yswiriant gwladol. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi gweld Prifysgol Caerdydd yn gorfod cyflwyno rhaglen o ddiswyddiadau er mwyn ymateb i dwll o ryw £30 miliwn yn eu cyllideb. Mae Aberystwyth wedi cyflwyno rhaglen yn yr un modd i lenwi twll o ryw £15 miliwn yn eu cyllideb, tra bod Abertawe eisoes wedi gorfod cael gwared o ryw 240 o aelodau staff oherwydd pwysau ariannol tebyg. A dim ond wythnos diwethaf y clywsom ni’r newyddion fod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn bwriadu symud eu cyrsiau israddedig o gampws Llanbed i Gaerfyrddin, a fydd o bosibl yn dod â hanes dros ddwy ganrif o addysg uwch yn Llanbed i ben.
Ac yn y cyfamser, mae prifysgolion Cymru yn ei gweld hi’n anodd denu digon o fyfyrwyr i wrthbwyso’r cynnydd o ran costau gweithredu dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, mae Bangor yn wynebu diffyg o £9 miliwn o ganlyniad i gwymp o ryw 7 y cant yn y nifer o ymgeiswyr israddedig o’i gymharu â llynedd, a chwymp o 50 y cant o ran ymgeiswyr uwchraddedig.
Mae'n glir felly, yn awr, yn fwy nag erioed, rŷn ni angen Llywodraeth sydd yn barod i sefyll cornel ein prifysgolion ni, a hynny’n gadarn er mwyn cynnig y datrysiadau blaengar fyddai’n sicrhau eu dyfodol hirdymor nhw. Ond trwy’r mesurau a gyhoeddwyd yn ystod y gyllideb, mae’r blaid Lafur yn San Steffan, partner Llywodraeth Cymru fan hyn, wedi anwybyddu’n llwyr y rhybuddion clir y mae prifysgolion wedi bod yn eu hamlygu ers sbel am y sefyllfa ariannol ddifrifol a hollol anghynaliadwy yn y sector.
Yn ôl amcangyfrifon cychwynnol, bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn golygu cost ychwanegol blynyddol o ryw £20 miliwn i'n prifysgolion ni yma yng Nghymru—dros £1.5 miliwn i Aberystwyth, bron i £2 filiwn ym Mangor, £4 miliwn yn ychwanegol i Abertawe a £7 miliwn ychwanegol i Gaerdydd, i nodi dim ond rhai enghreifftiau. Heb os, fe all y costau ychwanegol hyn wthio ein sefydliadau addysg uwch dros y dibyn, lle mae'n bosibl na fydd ffordd nôl iddyn nhw, a hyn er eu bod nhw'n chwarae rôl allweddol o ran paratoi ein pobl ifanc ni ar gyfer y byd gwaith a chyfrannu i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol.
Dwi’n ymbil arnoch chi, fel Llywodraeth, i ddefnyddio pob dylanwad sydd gyda chi yn San Steffan i adleisio pryderon difrifol ein prifysgolion ni a sicrhau bod ganddyn nhw ddyfodol ariannol diogel sy’n adlewyrchu eu cyfraniad cwbl allweddol nhw i ddyfodol ein cenedl.
Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid nawr i gyfrannu i'r ddadl. Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl.
Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac dwi'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. Fel dywedais i ar y dechrau, mae yna bryderon difrifol ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat am effaith y newidiadau y mae Llafur wedi’u cyhoeddi i yswiriant gwladol. Mi addawyd bod newid Llywodraeth yn mynd i warchod pobl gyffredin, gwarchod ein cymunedau ni, ar ôl yr holl flynyddoedd o lymder Ceidwadol. Ond mae’r newid yma yn mynd i barhau’r llymder i gymaint o bobl mewn ffordd ymarferol.
Mae llymder wedi tanseilio gwasanaethau cyhoeddus dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn mynd i danseilio gwasanaethau cyhoeddus. Mae llymder wedi tynnu arian allan o bocedi pobl dros ddegawd a mwy. Mi fydd hynny’n digwydd eto rŵan. Mi oedd llymder y Ceidwadwyr yn boenus. Mi gafodd effaith drom ar rai o’r bobl fwyaf bregus rŷn ni yn eu cynrychioli. Ond llymder Llafur ydy hyn, yn dod yn ei le. A dim rhyfedd bod pobl sydd wedi bod yn driw i Lafur cyhyd yn teimlo mor siomedig yn gweld yr hyn sydd yn digwydd.
Mi wnaeth Hefin David awgrymu ein bod ni, drwy siarad am hyn, yn creu poen meddwl. Ond nid siarad am lymder sydd yn creu poen meddwl, y llymder ei hun sydd yn creu poen meddwl, a dyna pam fy mod i'n apelio ar Hefin David, a'i gyd-Aelodau o ar y meinciau Llafur, i'n cefnogi ni i alw am newid cyfeiriad gan ei benaethiaid o o fewn y Blaid Lafur. Ac mae o hefyd yn disgyn i'r trap o ddweud bod yna ddim dewis, ond wrth gwrs bod yna ddewis. Mi soniais i am rai o'r dewisiadau amgen y bues i'n cyfeirio atyn nhw yn ystod yr etholiad eleni, a dwi'n parhau i wneud rŵan, ynglŷn ag, ie, dod â rhagor o arian i'r coffrau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyllido yn iawn, ond disgyn i'r trap o ddilyn yn ôl traed y Ceidwadwyr mae Llafur wedi'i wneud.
Wedi sôn ydw i, a'm cyd-Aelodau i ar y meinciau yma, am y problemau ymarferol sylweddol sydd yn cael eu creu oherwydd y newidiadau yma, a hynny i gyrff cyhoeddus, sefydliadau sy'n cynnig gwasanaethau hanfodol, a busnesau preifat, a oedd mewn sefyllfa fregus yn barod ar ôl yr holl flynyddoedd hynny o lymder. Mi wnaf i droi at sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf yn symud i'r bleidlais. Y pleidleisio, felly. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7, y cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26 yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Hefin David. Agor y bleidlais.
Nid oes recordiad ar gael o’r cyfarfod rhwng 17:34 a 17:35.
Eitem 7. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26: O blaid: 31, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Gaf i jest tsiecio bod y cyfieithu yn gweithio nawr? Dyw e ddim yn gweithio i bawb, felly. Ydy e'n gweithio? Mae'n gweithio i bawb nawr. Felly, iawn. Diolch yn fawr am eich amynedd chi ar hynny.
Fe awn ni i'r pleidleisiau ar eitem 9, dadl Plaid Cymru, cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais.
Nid oes recordiad ar gael o’r cyfarfod rhwng 17:35 a 17:36.
—25 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 19, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf, ac fe fydd y bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i basio.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Mae gwelliant 2 wedi'i ddad-ddethol. Y bleidlais, felly, olaf, y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM8732 fel y'i ddiwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad;
b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor hwy;
c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus;
d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan lywodraethau blaenorol; ac
e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Jest i gadarnhau canlyniad y bleidlais ar eitem 7, gan iddo fe beidio gael ei ddarlledu: canlyniad y bleidlais ar eitem 7, sef cyllideb y Comisiwn, roedd 31 o blaid, neb yn ymatal, ac 13 yn erbyn. Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio.
Byddwn ni'n symud nawr i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Gareth Davies, ac felly croeso i Gareth Davies i gyflwyno ei ddadl fer.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch yn fawr i Gareth Davies am godi'r pwnc pwysig hwn.
Diolch yn fawr. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:00.