Y Cyfarfod Llawn
Plenary
13/09/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Tom Giffard.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch effaith terfynau cyflymder cyffredinol o 20 mya ar waith yr heddlu a'r gwasanaethau tân? OQ59873
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu ynglŷn â goblygiadau'r terfyn cyflymder o 20 mya sydd ar y gweill yng Nghymru arnynt hwy? OQ59870
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Ddirprwy Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 ac 8 gael eu grwpio. Felly, mewn ymateb, nid yw'r terfyn cyflymder 20 mya newydd yn derfyn cyffredinol. Roedd y gwasanaethau brys yn rhan o’r tasglu 20 mya a wnaeth yr argymhelliad i 20 mya ddod yn derfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig, ac mae’r heddlu o'r farn na fydd yr amseroedd ymateb yn cael eu heffeithio, ac nid yw’r gwasanaeth tân yn rhagweld y bydd y newidiadau hyn yn cael effaith andwyol ar eu hamseroedd ymateb cyffredinol.
Diolch i’r Gweinidog am ei hateb. I'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, bydd defnyddio ein criwiau tân ac achub ledled y wlad i helpu i orfodi eich terfyn cyffredinol o 20 mya yn swnio fel syniad gwirion. Ond nodaf y bu'n rhaid i Undeb y Brigadau Tân egluro na fyddai diffoddwyr tân rheng flaen yn cael eu galw oddi wrth eu dyletswyddau i helpu gyda’r ymgyrch, ac mai staff sydd eisoes yn cynnal digwyddiadau diogelwch tân, megis ymweliadau ag ysgolion, a fyddai'n gwneud hynny. Ond un o’r rhesymau pam fod gennym lai o danau yn y DU heddiw nag yn y degawdau diwethaf yw oherwydd y gwaith ymgysylltu ac addysgu hynod bwysig a wneir gan y gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru. Felly, Weinidog, oni bai eich bod yn bwriadu cyhoeddi heddiw y bydd mwy o bersonél tân ac achub yn cael eu cyflogi ledled Cymru, ni allaf ond tybio felly y bydd y cynnydd hwn yn y gwaith o orfodi'r terfyn 20 mya yn arwain at gynnal llai o sesiynau addysgol ac ymgysylltu gan y gwasanaeth tân, gan roi pobl Cymru, o bosibl, mewn mwy o berygl. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i’r Senedd heddiw na fydd hynny’n digwydd?
Wel, diolch am eich cwestiwn atodol. Fel y dywedais, roedd y gwasanaethau brys, gan gynnwys ein gwasanaeth tân, yn rhan o’r tasglu 20 mya, ac wrth gwrs, y tasglu hwnnw a wnaeth yr argymhelliad i 20 mya ddod yn derfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Nid yw'r gwasanaeth tân yn rhagweld y bydd y newidiadau hyn yn cael effaith andwyol ar eu hamseroedd ymateb cyffredinol, ac maent yn mynd i gynnal adolygiad drwy gasglu gwerth chwe mis o ddata galwadau, i'w galluogi i gynnal gwerthusiad cadarn o ymateb pob gorsaf gwasanaeth tân wrth gefn, gan fod lleoliad pob gorsaf dân a phob cynllun ffordd lleol yn wahanol.
Hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod addysg a diogelwch tân yn hanfodol i hyn. Mae tîm diogelwch ar y ffyrdd y gwasanaeth tân wedi bod yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys i ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd ar y newidiadau a manteision gyrru ar gyflymder is. Ond credaf mai’r hyn sydd bwysicaf, ac maent hwythau'n cydnabod hyn, yw y gallai 20 mya arwain bob blwyddyn yng Nghymru at 40 y cant yn llai o wrthdrawiadau, achub chwech i 10 o fywydau, a 1,200 i 2,000 o bobl yn osgoi anafiadau. Ac mae hyn, wrth gwrs, fel y mae’r gwasanaeth tân yn awyddus iawn i fod yn rhan ohono, yn newid sylweddol mewn diogelwch cymunedol i’n cenhedlaeth ni, gan achub bywydau, annog mwy o bobl i gerdded a beicio a gwella ansawdd bywyd yn ein cymunedau.
Gan eich bod newydd grwpio cwestiynau 1 ac 8, a bod yr Aelod sy'n ateb cwestiwn 8 newydd ymuno â ni o bell, Mark, eich cwestiwn atodol i gwestiwn 8, os gwelwch yn dda.
A yw hyn ar dlodi tanwydd, os gwelwch yn dda?
Na, mae ar y cwestiwn 20 mya—cwestiwn 8.
Iawn. Wel, fy nghwestiwn agoriadol oedd pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r heddlu ynghylch y goblygiadau iddynt hwy yn sgil y terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya sydd ar fin cael ei gyflwyno yng Nghymru, gydag 88 y cant yn gwrthwynebu'r cynllun mewn arolwg gan North Wales Live fis diwethaf. Y tu ôl i dystiolaeth ddetholus Llywodraeth Cymru, gwyddom na chanfu astudiaethau ymchwil annibynnol ar 20 mya ar gyfer adran drafnidiaeth y DU unrhyw ganlyniadau diogelwch sylweddol o ran gwrthdrawiadau ac anafusion, ac na chanfu ymchwil gan Brifysgol y Frenhines, Belfast, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Caergrawnt fawr ddim effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Gwyddom fod damweiniau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu a data Trafnidiaeth Cymru yn dangos y bydd y newid cyffredinol yn golygu y byddai’r gyfradd ddamweiniau ar ffyrdd 20 mya yn fwy na 44 y cant, ac yn gostwng i 4.2 y cant ar ffyrdd 30 mya. Felly, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r heddlu o ystyried y llythyr gan brif gwnstabl cynorthwyol Heddlu De Cymru a ddatgelwyd yn answyddogol, ac a oedd yn nodi y byddai’r newid yn cael effaith ar ba mor gyflym y gall ymatebwyr gyrraedd argyfyngau, a’r datganiad gan brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru mai ei dull gweithredu hi fydd
'defnyddio fy adnoddau yn yr ardaloedd lle mae'r niwed mwyaf...os yw 30 yn dod yn 20 mewn ardal lle mae pobl wedi cael eu lladd neu lle mae anafiadau difrifol wedi bod ar ffordd, yna bydd gennyf ddiddordeb mewn edrych ar yr ardaloedd hynny.'
Diolch, Mark Isherwood. Wel, mae'r mater hwn wedi'i drafod ar ein bwrdd partneriaeth plismona a gyd-gadeiriaf â’r Prif Weinidog. Fe wnaethom drafod hyn ar 22 Mehefin eleni, a nodwyd yno fod yr heddlu wedi gweithio’n agos gyda’r tîm yn Llywodraeth Cymru i roi'r terfynau 20 mya ar waith, ac fel y dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf, roedd y gwasanaethau brys yn rhan o'r tasglu a wnaeth yr argymhelliad i 20 milltir ddod yn derfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Ac a gaf fi ailadrodd, unwaith eto—a bu'n rhaid i'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog ei ailadrodd sawl gwaith ddoe yn y Senedd—nad yw'r terfyn cyflymder 20 mya newydd yn derfyn cyffredinol? Yr hyn sy'n bwysig, o ran y terfyn cyflymder diofyn newydd, yw nad terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya mohono, ond terfyn cyflymder diofyn ar gyfer yr ardaloedd adeiledig lle mae cerddwyr a cherbydau'n cymysgu, ac mae'n debygol y bydd y terfyn cyflymder is hwn yn lleihau'r tebygolrwydd o wrthdrawiadau ar ein ffyrdd a'u difrifoldeb, gan arwain at ostyngiad yn nifer y cerddwyr neu feicwyr sy'n cael eu hanafu'n ddifrifol neu’n angheuol a lleihau’r effaith ar y GIG a’r gwasanaethau brys, a dyna ble mae’r gwasanaethau brys wedi chwarae eu rhan o ran cydnabod pwysigrwydd hyn. Ac a gaf fi ddweud, yn olaf, dros y degawd cyntaf, yr amcangyfrifir y bydd terfyn cyflymder is yn achub hyd at 100 o fywydau ac 20,000 o anafusion—meddyliwch am hynny ar gyfer ein gwasanaethau brys—a hefyd, fod y newid hwn yn dod ar ôl pedair blynedd o waith gydag awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth tân, arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd i gynllunio’r newid hwn yn y gyfraith?
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd terfynau cyflymder cyffredinol o 20 mya yn ei chael ar hyrwyddo ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59881
Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais, ac fe ailadroddaf eto, nid terfyn cyffredinol yw'r terfyn cyflymder 20 mya newydd. Byddai’n wych pe baem yn clywed cydnabyddiaeth o hynny y prynhawn yma gan y Ceidwadwyr Cymreig. Yn ogystal â chynyddu cydlyniant cymdeithasol, gwella iechyd corfforol a meddyliol a lleihau llwyth gwaith y GIG a'r gwasanaethau brys, fel rwyf eisoes wedi'i amlinellu, disgwylir iddo gryfhau economïau lleol drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr.
Diolch am eich ateb. Bûm ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru yr wythnos diwethaf gyda Mabon ap Gwynfor AS, lle buom yn trafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyflwyno’r terfynau cyflymder 20 mya ledled Cymru ar 17 Medi. Yn ystod y cyfweliad hwn, dyfynnais asesiad Llywodraeth Cymru ei hun y gallai cyflwyno’r polisi hwn gostio £4.5 biliwn i economi Cymru, rhywbeth a fydd yn siŵr o amharu ar ffyniant pobl Cymru. Fodd bynnag, gwadodd yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd hynny ar unwaith, yn fyw ar yr awyr, gan nodi bod y ffigur yn anghywir. Felly, o ystyried bod y ffigur hwnnw o £4.5 biliwn wedi’i gyhoeddi mewn du a gwyn ar dudalen 32 ym memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru, pwy sy’n gywir? Ai’r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd, ynteu Llywodraeth Cymru?
Wel, credaf i'r Prif Weinidog, ac yn wir, y Dirprwy Weinidog, ateb hyn yn glir iawn o ran costau gweithredu’r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn i achub bywydau. A gaf fi ddweud mai nod y terfyn cyflymder is yw helpu pobl hŷn, pobl anabl a phobl ag anghenion ychwanegol i deimlo'n fwy abl i deithio'n annibynnol, a bod sefydliadau fel RNIB Cymru a Cŵn Tywys Cymru—gwn eich bod yn cefnogi'r sefydliadau hynny—wedi lleisio eu cefnogaeth i'r newid polisi ar gyfer 20 mya? A gadewch inni edrych ar gostau a beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd, oherwydd fe fydd nid yn unig yn achub bywydau ac yn atal anafiadau, bydd hefyd yn arbed arian o ran costau i'n gwasanaethau brys. Amcangyfrifir y bydd yn arbed £92 miliwn. Felly, gwyddom fod hwn yn fuddsoddiad mewn diogelwch cymunedol ac y bydd yn arwain at fudd economaidd, a chredaf fod y ffaith bod y ffeithiau wedi’u nodi ddoe—. Hoffwn achub ar y cyfle i ailadrodd geiriau Dr David Hannah, fel yr amlinellodd Lee Waters, y Gweinidog, ddoe, o'r adran achosion brys pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ei waith ef yw ymdrin â chanlyniadau plant yn cael eu taro gan geir sy'n teithio ar gyflymder o 30 mya neu fwy, ac mae wedi disgrifio'r anafiadau dinistriol sy'n newid bywydau y mae'n rhaid i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ymdopi â nhw o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, gyda mwy na'u hanner yn digwydd ar ffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder yn 30 mya ar hyn o bryd—y pwynt a wnaeth Mark Isherwood—a chydnabod y bydd hyn yn achub bywydau, yn lleihau'r nifer o anafiadau, ac wrth gwrs, yn lleihau costau o ran yr effaith ar ein gwasanaeth iechyd yn ogystal ag achub bywydau.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymraeg, Joel James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fel rwy’n siŵr y byddwch chi a phawb yma yn cytuno, mae parhau i symud wrth inni heneiddio yn hynod o bwysig, nid yn unig er mwyn osgoi teimlo’n ynysig ac unigrwydd, ond er mwyn gallu cynnal ffitrwydd a gweithrediad gwybyddol. Mae tocynnau bws am ddim, wrth gwrs, yn gam cadarnhaol iawn i bobl hŷn allu gwneud hyn. Fodd bynnag, Weinidog, mae astudiaethau wedi dangos bod nifer sylweddol o heriau i bobl hŷn wrth ddefnyddio’r bws, yn anad dim eu bod yn fwy tebygol o gwympo wrth fynd ar neu ddod oddi ar y bws, neu pan fydd y bws yn symud cyn iddynt ddod o hyd i sedd. Ac mae astudiaethau wedi dangos y gall hyn nid yn unig arwain at anafiadau ond hefyd at orbryder, ofn a cholli hunanhyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Weinidog, o ystyried bod gennym boblogaeth sy’n heneiddio ac y bydd yn debygol y bydd hyd yn oed mwy o ddibyniaeth ar fysiau yn y dyfodol, pa gamau rydych chi wedi’u cymryd i weithio gyda’r comisiynydd pobl hŷn, elusennau anableddau a gweithredwyr gwasanaethau bysiau i leihau’r heriau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth ddefnyddio'r bws? Diolch.
Ddirprwy Lywydd, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb amlwg yn y maes pwysig hwn. Bysiau yw’r math allweddol o drafnidiaeth gyhoeddus i lawer o gymunedau yng Nghymru. Rwy’n cynrychioli etholaeth fy hun a chanddi un orsaf drenau yn unig. I'r rhan fwyaf o bobl, drwy fysiau y ceir mynediad at wasanaethau. Felly, rwyf fi a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn gweithio’n agos iawn gyda phob un o’r tri chomisiynydd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd ar y gwahanol fforymau pobl hŷn, yn gwrando ar eu barn a'u profiadau, a'r hyn y gallwn ei wneud i adeiladu ar hynny a’i wella. A chan ddefnyddio ein dull partneriaeth ar draws y Llywodraeth pan fyddwn yn edrych ar y Bil bysiau, byddwn yn gobeithio ein bod yn sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed fel rhan o hynny a phan fyddwn yn creu gwasanaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ein bod yn sicrhau bod profiadau pobl amrywiol yn y gymuned, o wahanol oedrannau a chefndiroedd gwahanol, oll yn rhan o hynny.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog. O ran yr henoed yn gallu teithio o gwmpas, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud datganiad cyhoeddus yn ddiweddar yn tynnu sylw at sut mae pobl hŷn yng Nghymru yn teimlo eu bod yn gaeth ac wedi'u hallgáu oherwydd prinder toiledau cyhoeddus. Rwy’n siŵr eich bod yn cydnabod, Ddirprwy Weinidog, fod y ddarpariaeth bresennol yn druenus ar y gorau, ac yng nghanol Caerdydd, ein prifddinas—dinas sy’n croesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr y flwyddyn—dim ond tri thoiled cyhoeddus sydd ar gael: un ar yr Ais, un ar Heol Eglwys Fair ac un ar Heol y Castell. Ac mae pob un o'r rhain yn cau erbyn 5 p.m., gyda thoiled Heol y Castell ar gau yn gyfan gwbl ar ddydd Sul. Er bod yn rhaid i bob cyngor ledled Cymru ddarparu strategaeth ar gyfer toiledau cyhoeddus, mae’n amlwg nad yw’r polisi hwn yn gweithio a’i fod yn ynysu rhan enfawr o'r gymdeithas. Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda’r comisiynydd pobl hŷn a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol er mwyn darparu strategaeth genedlaethol gyfredol i wella cyfleusterau toiledau cyhoeddus ledled Cymru? Diolch.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn ystyriol unwaith eto ar faes y gwyddom ei fod yn effeithio ar bobl mewn cymunedau ledled Cymru, a’r angen i sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar waith gennym. A gwn ei bod yn her mewn llawer o gymunedau. Yn amlwg, mewn prifddinas, mae gennych fynediad at gyfleusterau eraill—efallai nad cyfleusterau cyhoeddus yn unig chwaith, ond sicrhau hefyd fod pethau fel lleoedd newid a chyfleusterau o'r fath hefyd yn hygyrch i bawb. Ac mae’n sicr yn rhywbeth y gwn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ei godi yn ei sgwrs â’r comisiynydd pobl hŷn, ond mae’n rhywbeth y byddaf yn sicr yn mynd i'r afael ag ef ar ôl heddiw. Ac mewn gwirionedd, mae gennyf ddigwyddiad i ddod yr wythnos nesaf, yn siarad yng Nghonfensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru. Felly, efallai fod hyn yn rhywbeth a fydd ar yr agenda yn rhan o hynny, Joel James, ac fe wnaf yn siŵr ei fod yn cael sylw, yn dilyn y cwestiynau heddiw.
Diolch am eich ymateb cadarnhaol, Ddirprwy Weinidog. Yn olaf, fel y gwyddoch, mae nifer sylweddol o hyd o bobl hŷn yng Nghymru wedi'u hallgáu'n ddigidol, sy'n golygu nad oes ganddynt yr un lefel o fynediad at wybodaeth ag y gallai fod gan eraill. Dengys data nad yw oddeutu traean o bobl 75 oed a hŷn ar-lein, ac nad oes gan draean o bobl dros 60 oed ffôn clyfar. Mae hyn yn allgáu cymaint o bobl rhag y posibilrwydd o fyw bywyd llawn. Wrth i linellau ffôn analog gael eu disodli'n raddol gan linellau ffôn digidol, ymddengys bod cyfle unigryw i helpu i annog y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i ddefnyddio technolegau newydd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r llu o opsiynau sydd ar gael iddynt. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau rydych yn eu cymryd i weithio gyda’r diwydiant telathrebu ac elusennau a darparwyr addysg perthnasol i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith y genhedlaeth hŷn o fanteision defnyddio technoleg ddigidol? Diolch.
O ran cynhwysiant digidol, mae gennym strategaeth ar draws y Llywodraeth i weithio gyda’r cymunedau sydd fwyaf tebygol o gael eu hallgáu, felly sicrhau bod y cymorth ar gael iddynt ac efallai’r hyfforddiant i gael mynediad at wasanaethau digidol, boed hynny gartref neu mewn cyfleuster cyhoeddus, fel llyfrgell yn agos i'w cartrefi. Ond yn ogystal â chefnogi pobl i gael yr hyder a'r adnoddau i gael mynediad at gyfleusterau digidol a gwasanaethau digidol, rydym hefyd yn cydnabod bod yn rhaid inni sicrhau, pan fyddwn yn gwneud pethau fel Llywodraeth ac yn gweithio gyda phartneriaid eraill—sefydliadau'r sector cyhoeddus, y llu o sefydliadau trydydd sector y gwyddom eu bod yn cefnogi pobl ac yn darparu cymorth mewn cymunedau—nad yn ddigidol yn unig y gwneir pethau ychwaith. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen darparu pethau mewn fformat sy’n hygyrch i bawb, a dyna ble rydym yn gweithio drwy ein hamryw fforymau a thrwy ein ffrydiau cydraddoldeb a chynlluniau gweithredu i sicrhau bod y cymorth a’r mynediad hwnnw yno fel rhan o’n strategaeth cynhwysiant digidol, ond hefyd i sicrhau nad yn ddigidol yn unig rydym yn gwneud pethau a bod pobl eraill yno.
Ond mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig, sef, wrth i dechnoleg esblygu, fod angen inni esblygu ein hymagwedd o ran sut rydym yn sicrhau nad oes unrhyw un arall yn cael eu hallgáu, a bod pobl yn ymgymryd â'r heriau a’r cyfleoedd hynny hefyd. Felly, gallwn weithio gyda phartneriaid ar draws llywodraeth leol a'r darparwyr gwasanaethau hynny i sicrhau bod gan bobl fynediad at y cyfleusterau hynny, boed drwy sicrhau bod offer wedi'i adnewyddu ar gael yn rhwydd hefyd, a bod gan bobl—. Wyddoch chi, nid oes gan bawb rywun i'w helpu—efallai mai nhw yw'r genhedlaeth hŷn yn eu teulu—a'u haddysgu sut i ddefnyddio technoleg fodern. Ac efallai y gallwn i fod wedi gwneud â hynny—. Mae’n siŵr y bydd yn fy lladd am ei galw’n ‘hŷn’ nawr, ond gyda fy mam, weithiau, rydym wedi recordio ein fideos ein hunain i'w helpu i wybod sut i aildiwnio’r teledu a phethau felly. Ond mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod pethau yno i bawb a bod y gefnogaeth ar waith i bobl nad oes ganddynt aelod o'r teulu yno i'w helpu.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog.
Rydym wedi gweld rhagor o gynnydd sy'n peri cryn bryder mewn teimladau gwrth-ffoaduriaid dros yr haf, gyda grwpiau asgell dde eithafol yn peri aflonyddwch ac yn pregethu casineb hiliol yn Llanelli, wedi’u harfogi gan rethreg a gweithredoedd Llywodraeth y DU a’u cynlluniau annoeth i anfon cannoedd o geiswyr lloches i Westy Parc y Strade. Mae ffoaduriaid hefyd yn wynebu hiliaeth a gwaradwydd wrth geisio cael mynediad at y cludiant cyhoeddus am ddim y mae ganddynt hawl iddo. Rwyf wedi clywed adroddiadau am yrwyr bysiau yn gwrthod pobl, er eu bod wedi dangos eu cardiau preswylio biometrig i brofi eu bod yn gymwys, ac yna’n dioddef cam-drin geiriol hiliol o ganlyniad, ac mae gwrthod pobl fel hyn yn rhywbeth cyffredin yn ôl y rheini sy’n cefnogi ffoaduriaid, ac yn fater rwyf eisoes wedi’i godi gyda chi.
Mae pobl o'r farn fod yr esboniad o’r cynllun teithio am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru yn rhy aneglur a bod rhai gwasanaethau bysiau a threnau yn credu, yn ôl pob golwg, nad yw'r cynllun ond yn berthnasol i genhedloedd penodol. Mae ffoaduriaid yn cael eu trawmateiddio, ac mae llawer ohonynt yn rhy ofnus i ddefnyddio'r bysiau. Felly, Weinidog, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb hiliol sydd wedi'u hanelu at y rheini y dylem fod yn sicrhau bod croeso iddynt yn ein gwlad? Ac a wnewch chi ymrwymo i gysylltu â'r holl gwmnïau bysiau a threnau sy'n gweithredu yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chynllun teithio am ddim y Llywodraeth, eu bod yn deall y canllawiau, eu bod yn hyfforddi eu gyrwyr i sicrhau bod hawliau ffoaduriaid yn cael eu parchu, ac ymchwilio i unrhyw achosion o wrthod pobl sy'n achosi cymaint o drallod a gwahaniaethu?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Dros yr haf, fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwyf wedi bod yn mynd i’r afael â’r union faterion hyn. Rydym yn genedl noddfa—dyna rydym yn ceisio bod. Ac er nad oes gennym yr holl bwerau wrth gwrs, mae'n rhaid inni ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, mae'n rhaid inni fynegi ein pryderon, ond mae'n rhaid inni hefyd gymryd cyfrifoldeb lle mae gennym bwerau, adnoddau a pholisïau.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn cefnogi ac yn cytuno'n llwyr â'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud am gynnydd yr asgell dde eithafol yn dod yma i Gymru, gan ennyn casineb? Rydym yn credu mewn gobaith, nid casineb. Rydym yn sefyll yn erbyn hiliaeth. Rydym yn sefyll yn erbyn hiliaeth bob blwyddyn, pan fydd llawer ohonom yn ymuno ar orymdaith drwy Gaerdydd, ac rwyf bob amser yn falch iawn o ymuno â'r siantiau a'r gweiddi, gan ddweud, 'Mae croeso i ffoaduriaid yma. Mae croeso i ffoaduriaid yma'. Felly, rydym yn cyflwyno ein sylwadau i'r Swyddfa Gartref, yn enwedig ynglŷn â'r ffordd warthus y maent wedi bod yn ymdrin â'r sefyllfa, a dweud ein bod yn barod, gydag awdurdodau lleol, i gefnogi ceiswyr lloches.
Cyfarfûm ag arweinwyr yr holl awdurdodau lleol ym mis Gorffennaf, gan gynnwys sir Gaerfyrddin a siroedd ac ardaloedd lle bu heriau gwirioneddol, ac mae pob un ohonynt yn awyddus i chwarae eu rhan. Rydym wedi ymrwymo i strategaeth wasgaru ar draws Cymru gyfan. Dywedaf hyn wrth Weinidogion y Swyddfa Gartref: rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol, rydym yn gweithio gyda Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, felly rydym wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn a chymesur yn rhoi llety i geiswyr lloches yng Nghymru, mewn partneriaeth.
Y mater y gallwn, yn amlwg, ei gefnogi a’i alluogi—yn wir, mae gennym her ariannol wirioneddol wrth gwrs, o ran Llywodraeth y DU a’n setliad gwariant, sy'n gadael twll o £900 miliwn—rydym wedi bod yn gweithio ar y tocyn croeso o ran y cynllun trafnidiaeth gyhoeddus, a gafodd ei ymestyn, wrth gwrs, tan ddiwedd mis Gorffennaf, ac yna, gan weithio eto gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o ran sut y gallwn symud hynny yn ei flaen. Oherwydd mae'r tocyn croeso—a chyfarfûm â ffoaduriaid o Wcráin ddydd Sadwrn yng Nghaerffili—yn gwneud gwahaniaeth enfawr i integreiddio o ran mynediad at waith, addysg.
A gaf fi ddweud, yn olaf, imi gyfarfod ddoe—mae'n ddrwg gennyf, ddydd Llun, cyfarfûm â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a Trafnidiaeth Cymru i drafod cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol. Oherwydd mae'n rhaid iddynt roi hyn ar waith. Roeddent yn ymroddedig ac maent yn gweithio gyda Race Council Cymru ar hyfforddiant ar gyfer eu staff, ar gyfer eu gweithlu, gan na allwn oddef hiliaeth ar ein trafnidiaeth gyhoeddus, gan y gweithlu, nac yn wir, gan deithwyr.
Diolch, Weinidog. Mae adroddiad newydd Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd rhai wythnosau yn ôl yn dangos bod nifer y bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn dal i fod yn hynod o uchel: 15 y cant yn ei chael hi'n anodd i brynu hanfodion bywyd bob dydd, 26 y cant yn bwyta llai neu'n hepgor prydiau, a 29 y cant wedi gorfod benthyg mwy o arian. Mae'n amlwg o'r adroddiad bod yr argyfwng economaidd hefyd yn taro rhai grwpiau yn arbennig o galed: pobl ar fudd-daliadau, pobl sy'n rhentu cartrefi, pobl anabl a theuluoedd gyda phlant dan 18. Wrth gwrs, mae'r effaith groesdoriadol yna yn creu darlun hyd yn oed yn fwy tywyll.
Mae'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir bod angen cefnogaeth wedi ei thargedu ar y bobl yma, ac er bod y gronfa gymorth ddewisol ar gael, mae'r adroddiad yn dweud dyw hi ddim yn ddigonol i gefnogi aelwydydd y gaeaf hwn o gymharu â'r llynedd pan oedd mwy o gymorth ar gael. Gyda chasgliadau'r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg cynnydd o ran lleihau effaith yr argyfwng costau byw, beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer helpu pobl â'r argyfwng y gaeaf hwn, yn enwedig y grwpiau hynny y nodwyd y bydd yn cael eu heffeithio fwyaf, er mwyn sicrhau bydd pobl yn medru rhoi bwyd ar y ford a chadw'n dwym y gaeaf yma?
Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r adroddiad cipolwg ar dlodi ar gyfer haf 2023. Dylid nodi, wrth gwrs, ein bod wedi darparu gwerth mwy na £3.3 biliwn o gymorth wedi'i dargedu yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r ddiwethaf i helpu i liniaru'r argyfwng costau byw. Ond roedd hynny oherwydd bod gennym arian yng nghyllideb 2022-23, ac fel rwyf newydd ei ddweud, mae £900 miliwn yn is mewn termau real na'r hyn roeddem yn ei ddisgwyl adeg adolygiad o wariant 2021. Felly, mae penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud, ond a gaf fi ddweud bod y Cabinet cyfan yn cydnabod bod trechu tlodi ac anghydraddoldeb yn flaenoriaeth yn ein penderfyniadau?
I mi, un o’r pethau pwysicaf yw’r gronfa cymorth dewisol, a chredaf fod y gronfa cymorth dewisol ynddi’i hun yn estyn allan ac yn darparu mynediad i’r bobl sydd ei angen fwyaf, a byddwn yn dweud bod hynny’n cynnwys pobl sydd angen y taliadau brys hynny'n arbennig. Fe wyddoch inni ddiwygio’r gronfa cymorth dewisol—rydym wedi gallu ei chynyddu 11 y cant yn unol â chwyddiant ar gyfer y taliadau hynny—ond hefyd, yn bwysig, yn llawer mwy hirdymor, rydym yn gweithio drwy ein cytundeb cydweithio ar waith sydd ar y gweill ynghylch sut rydym yn gweinyddu lles yng Nghymru, a’r cyfarfod pwysig a gynhaliwyd gennym gyda Sefydliad Bevan a Policy in Practice i fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru tlodi tanwydd? OQ59888
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Mae pecyn cymorth Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhaglen Cartrefi Clyd, sy’n gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn y tymor hir, ond rydym hefyd yn darparu rhyddhad tymor byr drwy ein cronfa cymorth dewisol a’n cymorth drwy bartneriaid y Sefydliad Banc Tanwydd i ddarparu talebau i’r rheini sy’n profi argyfwng tanwydd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae biliau ynni wedi dyblu yn y tair blynedd diwethaf, ac mae ymchwil gan y Warm Winter Campaign yn dangos sut mae’r argyfwng costau ynni yn effeithio ar aelwydydd, gyda 13 miliwn o oedolion yn y DU bellach ar ei hôl hi gyda'u biliau neu’n ystyried eu had-daliadau yn faich trwm, gyda dyled cartrefi wedi cynyddu 66 y cant ers 2017 a mwy na 9 miliwn o oedolion yn byw mewn cartrefi oer, llaith y gaeaf diwethaf, a chydag achosion o hypothermia wedi cynyddu 36 y cant. Gŵyr pob un ohonom ei fod yn argyfwng a wnaed yn Stryd Downing, ond mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i leddfu’r baich, ac rydych newydd nodi rhai o’r camau hynny.
Felly, Weinidog, cyn cyflwyno’r cap prisiau newydd ym mis Hydref, a fydd yn golygu biliau ynni tebyg i’r biliau ynni y llynedd, ond gyda phobl yn llai abl i dalu gan fod y Torïaid wedi chwalu’r economi, a wnewch chi amlinellu sut y bydd cymorth gan Lywodraeth Cymru yn cael ei dargedu y gaeaf hwn?
Diolch yn fawr, Joyce Watson—cwestiwn pwysig iawn, yn dilyn y cwestiynau blaenorol gan Sioned Williams. Mae'n argyfwng a wnaed yn Stryd Downing. Rydym wedi dyrannu cyllid sylweddol; nid wyf am ailadrodd y ffigurau eto. Mae ein gwerthusiad o’r cymorth a roddwn yn dangos bod disgwyl i oddeutu 75 y cant o aelwydydd gael cymorth mewn rhyw ffordd, ond mae bron i ddwywaith cymaint yn mynd i’r aelwydydd yn hanner gwaelod y dosbarthiad incwm o gymharu â’r hanner uchaf. Ond wrth gwrs, nid yw’r cyllid sylweddol hwnnw gennym bellach.
Hoffwn nodi rhai ffigurau o ran mynediad at y gronfa cymorth dewisol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, a gwn y bydd gan bob Aelod ddiddordeb yn hyn. Ers mis Ebrill eleni, rydym wedi talu £179,000 mewn taliadau cymorth mewn argyfwng. Mae'r rhain yn daliadau am hanfodion bywyd: bwyd, tanwydd, hanfodion bywyd, drwy’r taliadau cymorth mewn argyfwng annibynnol hynny, ac mae’n bwysig cydnabod taliadau tanwydd oddi ar y grid hefyd—mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod cyfanswm y dyfarniadau tanwydd oddi ar y grid, gyda 672 wedi’u gwneud rhwng 1 Mai a 31 Gorffennaf, yn £135,000.FootnoteLink Mae gennym ddata daearyddol ac economaidd-gymdeithasol sy'n ymwneud â'r gronfa cymorth dewisol, a byddwn yn cael mwy o ffigurau ar hynny cyn bo hir y byddaf yn eu cyhoeddi. Ond yr hyn y gallwn ei wneud yw gwneud i'r gronfa cymorth dewisol weithio. Ond hoffwn ddweud hefyd fod rhaglen Cartrefi Clyd yn hollbwysig, ac rwy’n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i helpu’r rheini sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng, ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom rannu’r alwad hon ar draws y Siambr i Lywodraeth y DU symud ymlaen gyda'r tariff cymdeithasol. Fe wnaethant gytuno—dywedodd Grant Shapps y byddai'n edrych ar y tariff cymdeithasol. Mae hynny wedi'i anghofio, yn ôl pob golwg. Rwy'n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd. A gawn ni ymuno â’n gilydd yn y Senedd i ddweud yr hoffem pe baent yn ystyried ac yn cyflwyno tariff cymdeithasol, gan y byddai hynny’n cynnig cymorth parhaol i aelwydydd incwm isel.
Oni bai ein bod yn cydnabod bod yr argyfwng prisiau ynni wedi’i greu yn y Kremlin, ni fyddwn byth yn gallu mynd i’r afael â hyn yn gyfrifol. Ond yn ystod cyfarfod diweddaraf y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, gofynnais i’r Gweinidog newid hinsawdd pa mor debygol oedd hi y byddai rhaglen Cartrefi Clyd newydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cynllun olynol i gynllun tlodi tanwydd Nyth, yn weithredol cyn y gaeaf hwn. Atebodd y Gweinidog ei bod yn anodd iawn dweud ac y byddai’n dibynnu ar ganlyniad y caffael, pwy yw’r contractwyr, a faint o waith paratoi y byddai’n rhaid iddynt ei wneud. A ninnau’n agosáu at fisoedd y gaeaf, mae National Energy Action Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod eu cynllun seiliedig ar alw newydd i gymryd lle Nyth yn weithredol cyn gynted â phosibl ac wedi datgan y bydd yn hanfodol, yn y blynyddoedd i ddod, fod y cynllun yn derbyn cymaint o arian â phosibl. A wnaiff y Gweinidog hwn felly roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â phryd y mae Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu lansio ei rhaglen Cartrefi Clyd newydd, gan gynnwys y rhaglen olynol i Nyth?
Diolch i chi, Mark Isherwood, cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, wrth gwrs. Mae'r gwahoddiad i dendro ar gyfer ein cynllun Cartrefi Clyd newydd, sy'n seiliedig ar alw, wedi cael ei gyhoeddi'n ddiweddar. Rydym ar y trywydd cywir i ddyfarnu contract a dechrau ar y gwaith eleni. Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor am ddim ar fesurau arbed ynni i'r rhai sydd ei angen ac yn cyfeirio aelwydydd. Ond a gaf fi ddweud eto—ac rydych yn gwybod hyn ar draws y Siambr—bydd iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn canolbwyntio ar y gwaethaf yn gyntaf, sy'n golygu y bydd teuluoedd cymwys sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni yn cael cymorth i wella ffabrig eu cartrefi a gwelliannau i'w systemau gwresogi.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ynghylch lleihau unigrwydd ac unigedd ymhlith pobl hŷn? OQ59860
Diolch am eich cwestiwn, Natasha Asghar. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r comisiynydd pobl hŷn i drafod materion cydraddoldeb. Fodd bynnag, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gyfrifol am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Felly, fe ofynnaf iddi ysgrifennu atoch mewn ymateb i'ch cwestiwn hefyd.FootnoteLink
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Cymru yn wynebu toriadau llym i wasanaethau bysiau o ganlyniad i benderfyniad y Llywodraeth hon i ddiddymu cyllid hanfodol i'r sector. Rydym eisoes wedi gweld toriadau mawr mewn gweithrediadau yma yng Nghaerdydd ac amcangyfrifir bod bron i 10 y cant o lwybrau bysiau wedi'u torri dros yr haf. Mae Age Cymru wedi rhybuddio y gallai unigrwydd ac ynysigrwydd gynyddu ymhlith pobl hŷn o ganlyniad i'r gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno fod bysiau yn achubiaeth i lawer o bobl oedrannus sy'n eu defnyddio i gyrraedd apwyntiadau hanfodol, i fynd i weld ffrindiau a theulu, ac yn syml i deithio o gwmpas. Rwy'n siŵr, Weinidog, yn union fel fi, eich bod yn bryderus iawn o glywed y rhybudd llwm hwn. Y peth olaf rydym eisiau ei weld yw cynnydd mewn unigrwydd ac ynysigrwydd yma yng Nghymru. Mae angen inni weld y Llywodraeth hon yn diogelu ein gwasanaethau bysiau, yn union fel y gwnaeth eich maniffesto Senedd 2021 ei addo, yn hytrach na'u torri a gadael ein pobl oedrannus ar ôl. Weinidog, yng ngoleuni eich trafodaethau gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a ydych wedi codi pryderon gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am effaith ofnadwy y toriadau mewn gwasanaethau bysiau, sydd wedi digwydd o dan ei oruchwyliaeth ef, a'r effaith y bydd yn ei gael ar ein poblogaeth oedrannus? Ac os na, a wnewch chi ymrwymo i wneud hynny, oherwydd mae hon yn sefyllfa hynod ddifrifol? Diolch.
Nid oes amheuaeth fod mynediad pobl hŷn at drafnidiaeth yn hanfodol bwysig, ac i lawer o bobl, y gwasanaeth bysiau y maent yn ei ddefnyddio. Ac yn wir, mae gennym system a gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol effeithiol iawn ledled Cymru hefyd. Gyda'ch cefnogaeth i'r gwasanaeth bysiau, byddwn yn gobeithio gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi'r ddeddfwriaeth pan gaiff ei chyflwyno gan y Dirprwy Weinidog—yn llwyr gefnogi'r ffaith bod angen inni reoleiddio ein gwasanaethau bysiau, rhywbeth y gwnaethom ei golli. Rwy'n cofio, gan wybod pa mor bell yn ôl oedd hyn, yn yr 1980au, un o bolisïau Thatcher—. Dadreoleiddio bysiau, nid ydym erioed wedi dod dros hynny. Ond a gaf fi hefyd obeithio y byddwch, yn ogystal â chefnogi ein Bil gwasanaethau bysiau, yn ymuno â ni i wneud ein sylwadau i Lywodraeth y DU? Ni allwn ailadrodd a chefnogi'r cynlluniau a gefnogwyd gennym gyda'n cymorth gwasanaethau bysiau pan fo'n cyllideb £900 miliwn yn llai mewn termau real y flwyddyn ariannol hon o ganlyniad i setliad Llywodraeth y DU. Felly, ni allwch alw arnom i wneud y pethau hyn heb gefnogi ein deddfwriaeth a chefnogi ein galwadau ariannol.
Cyn i mi alw ar y siaradwr nesaf, a gaf fi ofyn i feinciau cefn y Llywodraeth sicrhau fy mod yn gallu clywed y Gweinidog, os gwelwch yn dda? Yn yr un modd, gofynnaf i'r gwrthbleidiau wneud yr un peth. Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, roeddwn yn falch iawn o ymweld â Strategaeth Bryncynon dros doriad yr haf, sef elusen leol hirsefydlog sy'n gwasanaethu cymunedau cwm Cynon isaf. Un o'r nifer o gynlluniau gwych y maent yn eu gweithredu yw prosiect cyfeillio i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith trigolion hŷn. Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan gynllun grant cymunedol meysydd glo Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Weinidog, mae cymaint o gynlluniau yn ein cymunedau sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd naill ai'n cael eu hariannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, felly hoffwn ddiolch i chi am eich ymrwymiad i fuddsoddi yn y maes hwn. A wnewch chi hefyd ymuno â mi i ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr yn Strategaeth Bryncynon am yr holl waith y maent yn ei wneud drwy eu prosiect cyfeillio yng nghwm Cynon isaf?
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Vikki Howells, oherwydd roeddwn yn falch iawn o ymweld â chwm Cynon a gweld gwaith da cynllun grant y meysydd glo, a chydnabod bod hwnnw hefyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn mynd yn ôl i'r hyn rydym yn ei wneud gyda'r pwerau a'r adnoddau, ni waeth pa mor gyfyngedig ydynt, ac rydym yn cefnogi'r rhai ar y rheng flaen. Mewn gwirionedd, y sefydliadau cymunedol hynny sy'n cefnogi pobl, pobl hŷn, ac maent yn cynnig gwasanaethau hanfodol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd. Ac rwy'n credu'n benodol yng nghwm Cynon, mae gennych yr ystod ehangach o brynhawniau adloniant i bobl hŷn, prydau poeth eto. Ar ôl COVID, rydym yn dal i wneud—. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud y gwaith hwnnw, ond mae'n rhaid cael rhywfaint o arian cyhoeddus yn sail iddo, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan.
5. Pa gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i fanciau bwyd yng Nghanol De Cymru i sicrhau eu bod yn parhau i fedru ateb y galw? OQ59864
Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Rydyn ni wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu partneriaethau bwyd traws sector ledled Cymru, gan ei gwneud yn bosibl cydlynu gweithgarwch yn ymwneud â bwyd ar lawr gwlad i helpu i fynd i'r afael ag achosion gwaelodol tlodi bwyd. Bydd hyn yn cefnogi mentrau lleol fel banciau bwyd, ac yn sicrhau bod adnoddau yn targedu'r anghenion mwyaf.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Yn anffodus, fel y gwyddom, mae effaith yr argyfwng costau byw yn dal i bwyso'n drwm ar deuluoedd ledled Cymru. Dengys arolwg diweddar gan Gyngor ar Bopeth bod 43 y cant o bobl yn bryderus iawn neu'n poeni rywfaint am eu gallu i siopa bwyd dros y chwe mis nesaf, ac yn ôl y Sefydliad Bevan mae chwarter o bobl yng Nghymru un ai yn peidio â bwyta rhai prydau neu'n bwyta prydau llawer llai.
Dros yr haf hwn, gwelodd banciau bwyd yn fy rhanbarth gynnydd yn y niferoedd roeddent yn eu cefnogi, yn arbennig felly cynnydd yn nifer y blant oedd angen bwyd. Sut ydych chi felly yn gweithio gyda banciau bwyd i gasglu'r data hwn ac i ddeall pam mae yna gynnydd—oes yna rai polisïau megis y diwedd o ran y cynllun bwyd dros y gwyliau haf ac ati—er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o fwyd i ateb y galw, ond hefyd ein bod ni'n sicrhau bod pobl yn gwybod sut mae cael gafael ar fwyd? Oherwydd un o'r pethau roedd banciau bwyd lleol yn rhannu efo fi oedd bod nifer yn dweud, 'Doedden ni ddim yn gwybod bod hyn ar gael' neu, 'Doedden ni ddim yn gwybod sut oedd cael mynediad atoch chi.' Felly, er bod y gwaith yma'n digwydd mae'n amlwg dyw'r neges ddim allan yn y fanna, ac mae yna bobl yn llwgu ledled Cymru.
Diolch yn fawr. Rydych yn hollol gywir. Treuliais yr haf yn ymweld â chymunedau ac yn cyfarfod â grwpiau. Euthum i fanc bwyd Cwm Rhymni ym mis Gorffennaf, a Baobab Bach ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda Luke Fletcher a Huw Irranca-Davies yn gynharach eleni. Cawsom gyfarfod bord gron ar dlodi bwyd y llynedd i sicrhau bod yr holl randdeiliaid, pob partner, yn gweithio gyda'i gilydd. Fe fyddwch yn ymwybodol o Synnwyr Bwyd Cymru. Rwyf wedi cyfarfod â nhw i edrych ar sut mae partneriaethau bwyd yn datblygu. Gwaith ar y cyd rhwng y partneriaethau bwyd yw hwn, awdurdodau lleol, partneriaid fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd lleol ac mae'n rhaid i ni—. Oherwydd mae cymaint o waith cymunedol da yn mynd rhagddo.
Ond rwy'n credu, yn hollbwysig hefyd, ei fod yn golygu gweithio gyda'r Gweinidog materion gwledig, y Trefnydd, ar y strategaeth bwyd cymunedol. Ond mae banciau bwyd, wrth gwrs, yn gwneud llawer mwy. Maent yn gwbl hanfodol i'r gymuned. Maent yn darparu cyngor ariannol a chyfeirio at les. Ond a gaf fi ddweud hefyd fod pwysau gwirioneddol wedi bod ar fynediad at fwyd? Fe fyddwch wedi clywed gan eich banciau bwyd, oherwydd mae FareShare—. Fe wnaethant ailddosbarthu bron i 1,500 tunnell o fwyd dros ben da y llynedd, ond maent wedi cael problem yn y tymor byr gyda'r cyflenwad dros y pedwar neu bum mis diwethaf. Felly, rwy'n parhau i weithio gyda phawb sy'n gweithio yn y maes hwn.
Ac a gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch iawn o fod wedi ymweld ag ysgolion a gweld pa mor dda roedd rhai o'r cynlluniau gwella gwyliau'r haf yn darparu bwyd yn ogystal â hwyl ledled Cymru?
6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddelio efo’r premiwm costau byw sy’n wynebu trigolion mewn cymunedau gwledig yn Arfon, fel sydd wedi ei amlygu mewn adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan? OQ59879
Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Rwy'n croesawu'r adroddiad ac yn cytuno ein bod am barhau i dargedu’r cymorth y gallwn ei ddarparu i'r rhai sydd ei angen fwyaf, gan wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw. Byddwn hefyd yn parhau i bwyso ar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu y cymorth i aelwydydd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae yr adroddiad gan y Sefydliad Bevan, a gomisiynwyd gan yr Aelod Seneddol Hywel Williams, Plaid Cymru Arfon, mae o'n cyfeirio at y ffaith bod yna bremiwm costau byw yn bodoli i bobl mewn cymunedau gwledig yn Arfon. Hynny ydy bod y sefyllfa sydd yn anodd iawn i lawer beth bynnag yn cael ei gwneud hyd yn oed yn waeth yn sgil nifer o ffactorau sy'n gysylltiedig â chymunedau gwledig eu natur. Mae'r ffactorau yma'n cynnwys isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus gwael, costau trafnidiaeth uchel, costau tai uchel, costau ynni uchel oherwydd ansawdd gwael y stoc dai, diffyg mynediad at siopau ac archfarchnadoedd, ac felly costau prynu bwyd yn mynd yn uwch, ac yn y blaen. Ydy polisïau lliniaru'r argyfwng costau byw sydd ar waith gan eich Llywodraeth yn wir gydnabod y premiwm gwledig yma yn ddigonol?
Diolch yn fawr Siân Gwenllian, ac roeddwn yn falch iawn—. Rwy'n credu mai'r diwrnod ar ôl neu'r diwrnod y deuthum i'r Eisteddfod y cyhoeddwyd yr adroddiad hwn, ac roeddwn yn credu ei fod yn adroddiad ardderchog, ac roeddwn yn meddwl y gallai'r argymhellion fod yn berthnasol, nid yn unig i Wynedd, ond ledled Cymru. Roeddwn yn credu ei bod yn ddiddorol iawn eu bod wedi cynnig canfyddiadau ac atebion, ac mae'r rheini'n atebion lleol, er enghraifft sut i gryfhau'r economi, mynd i'r afael â chyflogau isel yn Arfon. Roeddwn yn teimlo bod y rhain yn hynod—. Ac rwy'n siŵr fod camau'n cael eu gwneud nawr o ganlyniad i'r ffaith bod yr AS wedi comisiynu'r gwaith hwn gyda Sefydliad Bevan. Mae'n amlwg yn cynnwys yr holl awdurdodau statudol, ond mae hefyd yn cynnwys mentrau cymdeithasol a chymunedau. Ond yn amlwg, mae angen inni ddysgu o'r adroddiad hwn fel nad ydym ond yn mynd i'r afael â hynny o ran y premiwm costau byw ar gyfer Arfon, ond i Gymru hefyd.
Ac edrychaf ymlaen at yr argymhellion yn yr adroddiad sydd i ddod gennym ni. Mae gennym grŵp cyngor technegol yn gweithio ar yr argyfwng costau byw fel y gall hwnnw ein cynorthwyo i edrych ar ble i flaenoriaethu. Ond yn hollol, rydych yn iawn, y costau trafnidiaeth uchel—rydym newydd fod yn trafod hynny. Ond hefyd cael mynediad at gartrefi cynnes yn ogystal â bwyd a gofal plant. A gaf fi ddweud, o ran bwyd, fod Gwynedd wedi derbyn £97,000 ym mis Rhagfyr y llynedd i gefnogi datblygiad partneriaeth fwyd y gobeithiaf ei fod yn gweithio gyda phartneriaid lleol? Ac o edrych ar y gronfa cymorth dewisol hefyd, yn ystod mis Gorffennaf, gwnaed 460 o ddyfarniadau o'r gronfa cymorth dewisol yng Ngwynedd, cyfanswm o dros £68,000 mewn grantiau i'r rhai mwyaf anghenus, a dyrannwyd £315,000 yng Ngwynedd i helpu gyda chost gwisg ysgol ac offer. Felly, mae'r rheini'n ffigurau pwysig, o ran tynnu sylw at sut mae'r cyllid hwnnw'n cyrraedd pobl sy'n wynebu'r prisiau premiwm costau byw hynny.
Diolch i Siân Gwenllian am godi'r materion y mae llawer yn ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru nifer o ysgogiadau y gallent fod yn eu defnyddio i gefnogi pobl yn ein cymunedau gwledig ar hyn o bryd, ac un enghraifft o'r fath, wrth gwrs, yw'r fformiwla gyllido llywodraeth leol y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani. Gwyddom fod darparu gwasanaethau yn ein cymunedau gwledig a gallu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau y mae cynghorau'n eu darparu mewn cymunedau gwledig yn llawer anos i gymunedau gwledig nag mewn ardaloedd trefol. Ac mae hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer, ac mae nifer o Aelodau o'r Senedd yn y Siambr hon a nifer o gynghorwyr wedi'i godi gyda Llywodraeth Cymru ar sawl achlysur. Felly, unwaith eto, tybed a fyddwch yn edrych ar y fformiwla gyllido er mwyn adlewyrchu'n briodol y pwysau y mae ein hawdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth wasanaethu ein cymunedau gwledig a sicrhau nad yw'r bobl hynny mewn trafferthion ar hyn o bryd.
A gaf fi egluro'r sefyllfa mewn perthynas â'n cyllid ar gyfer llywodraeth leol? Diolch yn fawr am y cwestiwn, Sam Rowlands. Mae cyllid craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol wedi cynyddu 7.9 y cant yn y flwyddyn ariannol hon, i dros £5.5 biliwn, a gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid hwnnw'n hyblyg i ddarparu gwasanaethau mewn ymateb i'r anghenion hyn a hefyd, yn bwysig, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Felly, rwyf am ddyfynnu'r ffigurau o Wynedd, oherwydd rydym wedi bod yn edrych ar Wynedd. Yn 2022-23, cafodd 8,449 o aelwydydd yng Ngwynedd gymorth drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gyda 6,723 o aelwydydd wedi'u heithrio rhag talu'r dreth gyngor. Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych ar ein sefyllfa a beth rydym yn ei wneud o ran y setliad llywodraeth leol a sut y gallwn helpu pobl i dalu costau'r dreth gyngor.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i bobl o Wcráin sy'n ceisio diogelwch yng Nghymru? OQ59893
Diolch yn fawr, Alun Davies. Fel cenedl noddfa, ein nod yw sicrhau bod pawb sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn cael eu croesawu o'r diwrnod cyntaf y maent yn cyrraedd. Rydym yn parhau i gynorthwyo gwesteion, gan eu helpu i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a chael eu cefnogi yn ein cymunedau.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy'n credu bod Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn parhau i groesawu'r gefnogaeth hon ac arweinyddiaeth y Cwnsler Cyffredinol ar y materion hyn. Mae Mick Antoniw wedi gwneud ymrwymiad mawr i gefnogi pobl Wcráin. Buom yn ymweld ag Wcráin ar ddechrau toriad yr haf, ynghyd â chynrychiolwyr o Undeb Cenedlaethol Glowyr De Cymru, ac fe wnaethom gyfarfod â chynrychiolwyr arweinwyr y glowyr yn Wcráin i barhau â'r gefnogaeth a'r cysylltiadau rhwng pobl Cymru a phobl Wcráin. Ers dechrau'r gwrthdaro hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos cefnogaeth ddofn i bobl yma yng Nghymru sy'n ffoi rhag rhyfel anghyfreithlon Putin a dangos bod y cysyniad o genedl noddfa yn realiti hefyd.
Wrth inni wynebu ail ben blwydd y rhyfel hwn yn ystod y chwe mis nesaf, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion i ddarparu cefnogaeth i bobl o Wcráin sydd yma yng Nghymru, a pharhau hefyd i adeiladu'r gefnogaeth gan bobl Cymru i bobl Wcráin er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth honno'n parhau i fod yn gadarn. Ddechrau'r mis nesaf, bydd plac yn cael ei ddadorchuddio yn y llyfrgell genedlaethol yn Kiev i goffáu gwaith Gareth Jones. Gwn fod gan Lywodraeth Cymru weithgareddau eraill wedi'u cynllunio dros y misoedd nesaf i ddangos realiti'r cysylltiadau hyn rhwng ein dwy wlad. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog wneud datganiad yn amlinellu'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w wneud i ddarparu cefnogaeth i bobl o Wcráin ac yn Wcráin.
Diolch yn fawr, Alun Davies. A gaf fi hefyd achub ar y cyfle i gydnabod arweinyddiaeth ein Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, a chi'ch hun, a'r ymweliadau rydych chi wedi'u gwneud ac yn parhau i'w gwneud, gan ymweld ag Wcráin yn ystod y toriad i ddarparu cymorth hanfodol? A hoffwn eich sicrhau y byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar y genedl noddfa. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cefnogaeth i bobl sydd wedi dod yma o Wcráin—cyfarfûm â nhw yng Nghaerffili ddydd Sadwrn diwethaf—ond hefyd yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi Wcráin, ac yn amlwg y bobl sy'n ei chael hi'n anodd yn Wcráin heddiw.
Hoffwn adleisio'r sylwadau am yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan y Cwnsler Cyffredinol ac yn wir fy nghyd-Aelod o Flaenau Gwent. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i gynnal cefnogaeth drawsbleidiol i'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn wir mewn perthynas â'r ymateb i'r ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Nid yw ond yn iawn ein bod yn cynnig noddfa i'r bobl sydd wedi bod yn ffoi rhag y trais, ac rwy'n credu ein bod wedi rhoi croeso cynnes iddynt yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y gallwn fod yn falch iawn ohono.
Un o'r sefydliadau sydd wedi bod yn weithgar iawn yn estyn y croeso cynnes hwnnw yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, yw Link International, a gwn eu bod wedi gwneud llawer iawn i sicrhau bod pobl sydd wedi cyrraedd gogledd Cymru o Wcráin wedi gallu cadw mewn cysylltiad â'i gilydd, wedi gallu ymgysylltu â'i gilydd ar lefel gymunedol leol, mewn ffordd na fyddent wedi cael cyfle i'w wneud o'r blaen. Mae yna lawer o sefydliadau ffydd hefyd, sydd, drwy eu cysylltiadau dinesig yn Wcráin a Chymru, wedi gallu hwyluso'r cyfleoedd hynny. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i Link International a'r sefydliadau ffydd sydd wedi bod yn gweithio i'r perwyl hwnnw, ac a allwch chi ddweud wrthym yn benodol pa gymorth pellach y byddwch chi'n ei ddarparu iddynt fel y gallant barhau â'r gwaith rhagorol hwnnw?
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Rwy'n cyfarfod â Link International yn rheolaidd. Rwy'n cyfarfod â phob sefydliad trydydd sector. Rydym hefyd yn ariannu partneriaid allweddol fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Housing Justice Cymru. Mae'r Groes Goch Brydeinig yn chwarae rhan hanfodol hefyd. Felly, hoffwn eich sicrhau bod honno'n gefnogaeth barhaus. Mae'n ymwneud â chydweithio; mae'n ymwneud ag ymdrech wirfoddol; mae'n ymwneud ag ymrwymiad i'r genedl noddfa.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Rhianon Passmore.
9. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad y Post Brenhinol wrth ddarparu ei wasanaethau statudol yng Nghymru? OQ59894
Er nad yw materion y Post Brenhinol wedi'u datganoli i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr y Post Brenhinol a'r gweithlu. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gwasanaethau a ddarperir gan y Post Brenhinol yn ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru a'r angen i'r gwasanaeth post barhau i fod yn hygyrch ac yn addas i'r diben.
Diolch. Weinidog, cafodd fy etholwyr yn Islwyn siom yr wythnos diwethaf pan gyhoeddodd y Post Brenhinol y bydd llyfr o stampiau dosbarth cyntaf bellach yn costio £10. Dyma'r ail dro mewn chwe mis i'r Post Brenhinol godi prisiau, er gwaethaf eu methiant i gyrraedd targedau danfon. Ac mae'r cynnydd hwnnw'n golygu bod pris stamp dosbarth cyntaf bellach 31 y cant yn uwch nag ym mis Mawrth—mae hwnnw'n gynnydd o fwy na phedair gwaith y gyfradd chwyddiant. Ac yn gynharach eleni, ymddiswyddodd cyn-brif weithredwr y Post Brenhinol, Simon Thompson, gyda thaliad o £650,000 am ei arweinyddiaeth aflwyddiannus. Y mis hwn, cawsom wybod bod y Post Brenhinol hefyd wedi methu cyrraedd ei dargedau danfon ym mhob cod post yn y DU yr haf hwn. Felly, er bod Ofcom yn ymchwilio i'r Post Brenhinol am fethu cyrraedd y targedau statudol hynny yn 2023, mae'r perfformiad ofnadwy hwn yn arwain at ganlyniadau difrifol, ac i sefydliadau pwysig fel ein GIG, lle mae methu apwyntiadau ysbyty yn dod yn fwyfwy cyffredin, a chyfathrebu gwael â chleifion. Felly, Weinidog, fe wyddom fod y Post Brenhinol ar un adeg yn wasanaeth cyhoeddus cenedlaethol balch a oedd yn darparu ar gyfer trigolion Cymru, ac mae bellach yn emblem o breifateiddio Torïaidd, ac yn y bôn, mae'n fethiant. Weinidog, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y Post Brenhinol yn cyflawni ei ddyletswydd statudol ledled Cymru?
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am dynnu sylw'r Senedd at y mater hwn ar ran ei hetholwyr? Rwy'n gwybod y bydd y pryderon hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r Aelod yn taro'r hoelen ar ei phen o ran sut rydym wedi gweld y Post Brenhinol yn mynd o fod yn wasanaeth cyhoeddus, a'r effaith y mae blynyddoedd o breifateiddio yn ei chael, nid yn unig ar y gwasanaethau a ddarperir, ond ar y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau, sy'n falch iawn o weithio i'r Post Brenhinol ac sy'n cydnabod y rôl allweddol sydd ganddynt fel gweision cyhoeddus mewn llawer o gymunedau, yn enwedig cymunedau mwy gwledig yng Nghymru. Ac rwy'n rhannu'r pryderon sydd gan yr Aelod ynghylch y cynnydd mewn costau postio—mor sydyn yn ystod y misoedd diwethaf—a byddaf yn sicrhau fy mod yn codi'r mater hwn a'r safonau gwasanaeth y tro nesaf y byddaf yn cyfarfod â chynrychiolwyr y Post Brenhinol.
Gwn fod perfformiad y Post Brenhinol wedi bod yn destun craffu rheolaidd gan lefarwyr Llafur yn San Steffan, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cytuno â mi, ym mhob gwasanaeth allweddol lle mae'r pwerau'n dal i fod wedi'u cadw'n ôl, y bydd pobl yn cael eu gwasanaethu'n well pan fydd Gweinidogion Llafur Cymru yma yn gallu cydweithio â Gweinidogion Llafur yn San Steffan er budd pobl ledled Cymru.
Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.
Eitem 2 heddiw yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac yn gyntaf, cwestiwn 1, Delyth Jewell.
1. Pa gyngor cyfreithiol a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru ynghylch mwynglawdd glo brig Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful pan barhaodd i weithredu ar ôl i'w drwydded mwyngloddio ddod i ben ym mis Medi 2022? OQ59886
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Yn wreiddiol, mater i'r awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, oedd gorfodaeth cynllunio. Oherwydd bod achosion cyfreithiol gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo yn parhau, bydd yr Aelod yn deall na allaf wneud sylwadau pellach.
Diolch am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg fod rhywbeth o'i le ar ein system gynllunio o ystyried ei bod wedi caniatáu i'r cwmni sy'n gweithredu Ffos-y-frân barhau i gloddio glo am flwyddyn, a mwy, ar ôl iddynt ddweud wrthynt am roi'r gorau iddi. Nawr, yn ystod y cyfnod hwnnw, methodd y cyngor lleol gyhoeddi hysbysiad stop, ac rwy'n ystyried, Gwnsler Cyffredinol, yr hyn rydych newydd ei ddweud, ond hoffwn ofyn a allai Llywodraeth Cymru fod wedi ymyrryd. Rwy'n deall y byddai angen i'r Llywodraeth ymgynghori â'r cyngor cyn cyhoeddi hysbysiad stop, ond nid wyf yn siŵr a fyddai hynny wedi golygu bod angen i Lywodraeth Cymru eistedd ac aros a gwylio'r gweithgarwch anghyfreithiol yn parhau am flwyddyn.
Oherwydd yr achos sydd ar y gweill, rwy'n deall efallai na fyddwch yn gallu gwneud sylwadau ar yr achos hwn yn benodol, ond a allech chi ddweud wrthym pa pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i ddweud wrth y Siambr a oedd y cyngor cyfreithiol a roddwyd i Lywodraeth Cymru yn ystyried yr angen brys i atal codi tua 1,000 tunnell o lo y dydd a pha mor angenrheidiol oedd stopio hynny, a pha mor angenrheidiol yw hynny o hyd, er mwyn yr hinsawdd i bawb ohonom? Pryd fyddwch chi mewn sefyllfa, os gwelwch yn dda, i gyhoeddi'r cyngor hwnnw, a sut ydych chi'n meddwl y gallai'r gyfraith gael ei chryfhau yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad oes unrhyw beth tebyg yn digwydd eto?
Wel, nid yw'n arfer i gyhoeddi cyngor cyfreithiol rhyngof fi fel Cwnsler Cyffredinol a'r Llywodraeth, ond rydych chi'n gywir nad yw'n briodol gwneud sylw pellach oherwydd yr achos cyfreithiol sy'n mynd rhagddo. Wrth gwrs, gellir gwneud sylwadau pellach pan ddaw'r achos cyfreithiol i ben, pan fydd canlyniad hynny'n hysbys. Efallai y gallaf eich cyfeirio at y sylwadau a wnaed mewn ymateb i'r cwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU ynghylch yr ymchwiliad statudol i achos Lucy Letby? OQ59885
Diolch am y cwestiwn. Mae swyddogion wedi cael trafodaethau cynnar iawn gyda swyddogion o'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithredu'n llawn ac yn dryloyw gyda'r ymchwiliad annibynnol i sicrhau ein bod yn dysgu pob gwers bosibl o'r achos trallodus hwn.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr heddiw, a hefyd am ei ymrwymiad ar ran Llywodraeth Cymru i gydweithredu'n llawn â'r ymchwiliad i achos trallodus Lucy Letby? Gwnsler Cyffredinol, mae angen atebion ar deuluoedd, maent yn haeddu atebion, ac maent hefyd angen i Ysbyty Iarlles Caer, a'r rheini a oedd yn arfer gweithio yno, fod yn gwbl agored, tryloyw a gonest wrth ateb cwestiynau mewn perthynas â'r achos hwn. Roeddwn yn falch fod Llywodraeth y DU wedi derbyn galwadau gennyf, wedi derbyn galwadau gan Samantha Dixon, Aelod Seneddol Dinas Caer, ac eraill mewn perthynas ag ymchwiliad statudol. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam arbennig o bwysig ymlaen i ddod o hyd i'r atebion hyn, ond Gwnsler Cyffredinol, mae angen inni sicrhau nawr fod gan y teuluoedd fynediad at dimau cyfreithiol wedi'u hariannu'n llawn wrth gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn. A gaf fi ofyn i chi pa sgyrsiau y gallwch eu cael gyda swyddogion cyfatebol y DU i sicrhau bod y costau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag ymchwiliad Letby yn cael eu talu gan Lywodraeth y DU, ac nid y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt?
Diolch. Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn sydd hefyd yn berthnasol i faterion eraill yn ymwneud â'r gwasanaeth post, yn ymwneud â Hillsborough, ac yn y blaen. Rwy'n credu ei bod yn briodol dweud, ar hyn o bryd, fod pawb yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn cydymdeimlo â'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. I'r rhai nad ydynt wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol, rwy'n credu bod hyd yn oed meddwl am amgylchiadau'r hyn a ddigwyddodd yn peri gofid. Felly, wrth gwrs, mae'n anodd iawn dychmygu sut mae'r teuluoedd yn ymdopi â hynny.
Mae swyddogion Cymreig wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda'u swyddogion cyfatebol ar yr ymchwiliad statudol, yn enwedig drwy ein prif swyddog nyrsio. Mae mwy o ymgysylltu wedi'i gynllunio. Byddaf yn symud ymlaen at y pwynt am gymorth cyfreithiol mewn munud, ond efallai er mwyn y cofnod hefyd, ysgrifennodd swyddogion at y prif weithredwr ar 25 Awst yn dilyn y dyfarniad a chyn cynnal adolygiad ac ymchwiliad mwy ffurfiol, i ofyn iddynt bwyso a mesur, a chael sicrwydd bod y mecanweithiau sydd gennym ar waith i gefnogi ansawdd a diogelwch pawb sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn yn gadarn ac yn cael eu gweithredu'n dda ar draws pob sefydliad.
Fe wnaethom gyflwyno'r ddyletswydd gonestrwydd ac ansawdd fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, ac mae'r ddyletswydd gonestrwydd yn sicr yn adeiladu ar ein gwaith parhaus i geisio ymgorffori diwylliant o fod yn agored a thryloyw ar draws GIG Cymru, ac i gryfhau'r broses 'Gweithio i Wella'. O ganlyniad i achos Letby, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer codi llais heb ofn yn GIG Cymru yn gynt nag a fwriadwyd yn wreiddiol. Bydd yn cael ei adolygu'n weithredol am y 12 mis nesaf i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Ac mae disgwyl i sefydliadau'r GIG ddatblygu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau wrth ystyried y fframwaith ar gyfer codi llais heb ofn. Bydd y fframwaith yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yn fuan, gyda datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ar yr ymchwiliad statudol, rwyf wedi cefnogi'r farn ers amser maith mai craidd y broblem mewn gwirionedd yw y dylai pobl gael mynediad priodol at gymorth cyfreithiol llawn mewn perthynas â'r rheini. Mae trafodaethau wedi bod, wrth gwrs, ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, mewn perthynas ag eiriolwyr cyhoeddus annibynnol ac yn y blaen. Mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i drafod gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'n fater parhaus oherwydd nid ydym yn fodlon ei bod yn ddigon clir o gwbl hyd yn hyn sut y byddai'n gweithio a sut y byddai'n berthnasol i wasanaethau datganoledig. Ddoe, gyda'r is-ysgrifennydd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fe wneuthum y pwynt mai craidd y peth mewn gwirionedd yw y dylai cymorth cyfreithiol fod ar gael yn llawn i bobl. Bydd y rhai sy'n gyfranogwyr craidd mewn ymchwiliad statudol, wrth gwrs—ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn berthnasol i'r holl deuluoedd sy'n gysylltiedig, neu sydd eisiau cymryd rhan—yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol drwy broses yr ymchwiliad. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd, ac yn sicr buaswn yn cefnogi hynny.
Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch. Yn anffodus, rwy'n gaeth gartref ar ôl cael prawf COVID positif unwaith eto, ac felly nid oeddwn yn gallu mynychu digwyddiad ail-lunio gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol a gynhaliwyd amser cinio, lle rwy'n deall eich bod wedi siarad. Mae eu strategaeth ail-lunio gwasanaethau cyfreithiol yn nodi eu huchelgais i sicrhau bod rheoleiddio'n cefnogi mynediad at wasanaethau cyfreithiol i bawb sydd eu hangen, yn enwedig unigolion a busnesau bach y mae eu hanghenion yn aml heb eu diwallu. Er bod hyn yn nodi bod strategaeth cymorth cyfreithiol Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU wedi gosod llwybr newydd ar gyfer ailwampio'r system cymorth cyfreithiol, a bod y pwyslais ar atebion ymyrraeth gynnar fel canolfannau cymorth cyfreithiol a ffocws ar arloesi i'w groesawu, mae'n rhestru nifer o heriau, gan gynnwys cyflawni canlyniadau tecach i bobl sy'n wynebu mwy o anfantais. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly i anghenion pobl awtistig ac anabl sy'n cysylltu â mi yn rheolaidd ar ôl methu cael cynrychiolaeth gan gyfreithwyr sy'n barod i ymgymryd â'u hachosion cymhleth, neu gyda'r arbenigedd perthnasol, neu'r ddau, pan fo uwch swyddogion awdurdodau lleol wedi methu yn eu dyletswyddau statudol tuag atynt, neu wedi gwneud datganiadau ffug amdanynt, neu'r ddau?
Diolch am eich cwestiwn a'r pwynt teg iawn rydych chi'n ei godi ynglŷn â'r rhai sydd angen mynediad penodol at wasanaethau cyfreithiol ond sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad atynt. Wrth gwrs, mae mater cyfraith gyhoeddus yr un mor bwysig.
Yn gyntaf, gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n well yn fuan. Rwy'n siŵr y byddwch ac y byddwch yn ôl yn eich sedd yn y Siambr hon yr wythnos nesaf, gobeithio.
O ran mynediad, wrth gwrs, craidd y broblem i ddechrau, ers 2013, ers y Ddeddf cymorth cyfreithiol a gyflwynwyd gan eich plaid chi, yw bod cymorth cyfreithiol wedi'i dynnu'n gareiau. Mewn amrantiad, yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i doriadau cymorth cyfreithiol gael eu gwneud, cafodd £350 miliwn ei dynnu'n ôl. Felly, yr hyn sydd gennych mewn gwirionedd yw llu o bobl nad oes ganddynt fynediad at gymorth cyfreithiol mwyach, pobl a fyddai wedi cael mynediad at gymorth cyfreithiol o'r blaen. Mae cymorth cyfreithiol yn rhywbeth nad yw wedi ei ddatganoli i ni. Rydym wedi ceisio unioni hynny rywfaint drwy'r gronfa gynghori sengl, ac wrth gwrs, mae honno ar gael i bob teulu ac unigolyn sy'n byw yng Nghymru. Rydym wedi rhoi £11 miliwn tuag at honno. Nid wyf yn credu ei bod yn cymryd lle cymorth cyfreithiol priodol, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cefnogi'r farn fod angen adolygu cymorth cyfreithiol, fod angen ei ymestyn, fod angen iddo fod ar gael i bobl.
Un o'r meysydd rwy'n awyddus iawn i'w cefnogi, a fydd hefyd yn berthnasol yng nghyd-destun y pwynt rydych chi wedi'i godi, yw canolfannau cyfraith a gwaith pro bono ac yn y blaen. Mae yna rai sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol am ddim; mae hynny'n werthfawr iawn. Siaradodd Canolfan y Gyfraith Speakeasy, un o'r cyfranogwyr yn nigwyddiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol heddiw, yn gryf iawn am y gefnogaeth a'r gynrychiolaeth y maent yn eu darparu. Mae'n un o'r materion a godais ddoe gyda'r is-ysgrifennydd o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch y ffaith bod yn rhaid inni edrych yn arloesol ar ffyrdd eraill o sicrhau bod gan bobl fynediad at gyfiawnder pwy bynnag ydynt—p'un a yw'n fater sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru, â'r awdurdod lleol, neu bwy bynnag. Y ffaith drist amdani, o ganlyniad i'r Ddeddf cymorth cyfreithiol a gyflwynwyd yn 2013, yw nad oes gan 80 y cant o'r boblogaeth fynediad at gymorth cyfreithiol yn y ffordd y gallai fod wedi bod yno iddynt o'r blaen. Mae yna lawer o bobl—y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas—nad oes ganddynt hynny bellach. Rydym yn gwneud ein gorau. Nid yw'n faes datganoledig, ond serch hynny rydym yn cydnabod ei effaith mewn cymaint o'r meysydd lle mae gennym gyfrifoldebau datganoledig.
Diolch. Wrth gwrs, fel y mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol yn nodi, ac fel y nodwyd yn gynharach, maent hwy eu hunain yn cyfeirio at y ffaith bod cymorth cyfreithiol yn cael ei adolygu. Rwy'n gwybod, o sgyrsiau blaenorol gyda chi, fod gennych rywfaint o fewnbwn yn hynny. Ond mae'r mater rwy'n tynnu sylw ato hefyd yn cyfeirio at bobl sydd wedi bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ond nad ydynt wedi gallu sicrhau cynrychiolaeth gyfreithiol er hynny oherwydd cymhlethdod ac arbenigedd y gyfraith sy'n berthnasol i'w sefyllfa.
Fodd bynnag, i symud ymlaen, yng nghyd-destun mynediad at gyfiawnder, ac fel y nodwyd gennych yn eich anerchiad yn nigwyddiad haf Sefydliad Bevan, mae cyfiawnder yn ymwneud â mwy na system llysoedd a barnwyr lle caiff cyfreithiau eu rhoi mewn grym; mae'n ymwneud lawn cymaint, neu fe ddylai ymwneud lawn cymaint, â'r modd y darperir cyfiawnder cymdeithasol. Roeddech chi hefyd yn dweud, er bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ar sefydlu canolfan breswyl amgen i fenywod yng Nghymru, nad yw hynny wedi digwydd eto. Sut y gallwch chi gysoni hyn gyda'r ffaith, er mai Llywodraeth y DU a gyhoeddodd strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd bregus rhag dedfrydau byr o garchar lle bynnag y bo modd, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a sefydlu pum canolfan breswyl beilot i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru, sut y gallwch chi gysoni hyn â'r ffaith mai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma a ysgrifennodd at yr Aelodau wedyn i gyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe yng Nghymru, ac na allai ateb sut y byddai hyn yn helpu troseddwyr benywaidd bregus yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt hwy yn nes at adref, ac ymhellach, fod pwyllgor cynllunio Abertawe wedi gwrthod hyn?
Diolch am y cwestiwn. Ar y pwynt olaf ynglŷn â phwyllgor cynllunio Abertawe, credaf y bu apêl yn erbyn hynny bellach ac mae'r arolygiaeth bellach wedi dyfarnu yn erbyn hynny, felly mae'n ymddangos bod y ganolfan honno'n mynd rhagddi. Dyna fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa bresennol.
Ond ar y pwynt a godwch ynghylch canolfannau mewn mannau eraill a mynediad ledled Cymru, diolch i chi am roi rhan o'r achos dros ddatganoli cyfiawnder, oherwydd byddai hynny'n ein galluogi i gynllunio pethau yng Nghymru mewn gwirionedd, lle nad oes gennym unrhyw reolaeth dros hynny ar hyn o bryd. Aeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a minnau o amgylch y gwahanol garchardai ac yn y blaen. Fe aethom o amgylch Eastwood Park ym Mryste, fe aethom o amgylch Berwyn. Rwy'n credu bod gennym ymweliadau eraill wedi'u cynllunio. Wrth gwrs, nid yw'r rheini'n fannau lle mae gennym unrhyw gyfrifoldeb neu awdurdod drostynt, ond rydym yn gweithio i ymgysylltu â nhw er hynny, oherwydd rydym yn darparu'r gwasanaethau addysg, er enghraifft, rydym yn darparu'r gwasanaethau iechyd yn y rheini. Ond rydym yn bendant yn cydnabod y sefyllfa gydag Eastwood Park, er enghraifft, sy'n garchar i fenywod, lle dywedodd llywodraethwr y carchar wrthym fod pob carcharor a oedd yn y carchar penodol hwnnw yn ddioddefydd. Mae hynny'n amlygu'r problemau cyfiawnder cymdeithasol mewn gwirionedd.
Rhaid imi ddweud bod gennyf bryderon gwirioneddol ynghylch cyflwr presennol nid yn unig ystad y carchardai, ond y ffaith bod poblogaeth y carchardai wedi dyblu ers 2010 o tua 45,000 i ychydig o dan 90,000. Felly, yn ystod 13 mlynedd y Llywodraeth hon a'r modd yr ymdriniodd â'r system gyfiawnder a'r system garchardai, rydym wedi cael y cynnydd mwyaf ofnadwy yn nifer y carcharorion. Mae'n debyg mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o garchariadau ymhlith ei dinasyddion drwy Ewrop gyfan. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn meddwl o ddifrif fod angen adolygu cyfiawnder a datganoli cyfiawnder fel y gallwn edrych ar rai o'r dewisiadau amgen ehangach a'r elfennau cyfiawnder cymdeithasol rydych chi'n cyfeirio atynt, sy'n ganolog i'r rheswm pam ein bod am weld cyfiawnder yn cael ei ddatganoli.
A gaf fi awgrymu, yn y cyd-destun hwnnw, ac fel y nodwyd gennym yn ymchwiliad y pwyllgor roeddwn yn rhan ohono flynyddoedd lawer yn ôl, fod lefelau dedfrydau o garchar yng Nghymru yn uwch yn llysoedd Cymru nag yn llysoedd Lloegr o dan yr un system gyfreithiol? Roedd cwestiynau yno a godwyd gennym 15 mlynedd yn ôl.
Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio'n gadarnhaol yn eich cyflwyniad i Sefydliad Bevan at dreialu llys cyffuriau ac alcohol wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU, ac at dreial tebyg sydd ar y gweill yng ngogledd Cymru i fynd i'r afael â materion gwrandawiadau llysoedd teulu preifat fel rhan o ddull datrys anghydfod, datrys problemau, sy'n rhan o gynllun peilot gan Weinyddiaeth Gyfiawnder y DU. Fodd bynnag, er gwaethaf eich cyfeiriadau mynych at ddarparu cyfiawnder cymdeithasol gan raglenni o'r fath gan Weinyddiaeth Gyfiawnder y DU, daethoch i ben trwy ddisgrifio datganoli cyfiawnder fel y ffordd ymlaen. Os ydych chi, fel y mae'n ymddangos o'ch datganiadau cyhoeddus mynych, gan gynnwys yn gynharach heddiw, yn seilio hyn ar eich canfyddiad o wahanol ddulliau polisi gan lywodraethau ar bwynt penodol mewn amser, yn hytrach na realiti daearyddol a gweithredol hirsefydlog, sut y gallwch chi gyfiawnhau hyn pan, er enghraifft, ac yng nghyd-destun eich ymateb blaenorol, pan fo gan Gymru'r gyfran uchaf o blant yn y DU mewn gofal, ac un o'r cyfrannau uchaf o blant sy'n derbyn gofal gan unrhyw wladwriaeth yn y byd—gwasanaethau datganoledig—a phan ddywedwyd wrth aelodau o Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn ystod eu hymweliad â charchar menywod Eastwood Park, fod naw o bob 10 carcharor yng Nghymru yn mynd rhagddynt i aildroseddu ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar i wasanaethau yng Nghymru, o'i gymharu ag un o bob deg o'r rheini yn Lloegr?
Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r cwestiwn o hynny. Os caf gyfeirio at yr hyn roeddech chi'n ei ddweud am y prosiect braenaru, sef yr un rydych chi'n cyfeirio ato yng ngogledd Cymru, mae hwnnw'n brosiect a ariennir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Wrth gwrs, mae'n ymwneud yn helaeth iawn â Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru. Mae elfen o'r prosiect hwnnw hefyd i'w gael yn y de-orllewin. Mae'r prosiect hwnnw wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Cyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â rhai o'r barnwyr allweddol o fewn hynny, a gallaf ddweud wrthych nid yn unig eu bod yn credu bod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond hefyd mae wedi bod yn llwyddiannus yn rhannol oherwydd gallu'r holl asiantaethau a chyrff datganoledig i allu ymgysylltu â'i gilydd i ddatrys problemau. Ac unwaith eto, un o'r datblygiadau diddorol i fyny yng ngogledd Cymru hefyd yw datblygu canolfan y gyfraith newydd i fyny yno sy'n mynd i ganolbwyntio'n bennaf ar faterion menywod a cham-drin domestig i ddechrau. Ond rwy'n credu bod hynny'n mynd law yn llaw.
O ran plant mewn gofal, wel, wrth gwrs, nid ni sy'n rheoli'r llysoedd teulu; nid ni sy'n rheoli'r penderfyniadau a wneir yn y llysoedd hynny. Wrth gwrs, rwy'n credu y bydd cwestiynau dilys iawn yn cael sylw gan Weinidogion eraill mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau hynny—pam y gallai fod gwahaniaethau rhwng un ardal a'r llall. Yr hyn rwy'n credu sydd i'w gael yw cytundeb cyffredinol, ar draws y pleidiau ac ar draws pawb yn y Siambr hon mae'n debyg, nad ydym am weld pobl yn mynd i mewn i'r system ofal. Rydym eisiau gweld plant yn aros gyda'u rhieni neu gyda'u mamau. Mae yna lawer o ffactorau sy'n effeithio ar hynny, ond nid mater o beth sy'n digwydd gyda'r system ofal yn unig ydyw; mae yna gwestiwn hefyd ynglŷn â sut mae hynny'n ymwneud â'r system llysoedd a'r cymorth sydd ar gael.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n datgan diddordeb oherwydd bod fy mam yn un o'r Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth rwyf ar fin gofyn cwestiwn yn ei gylch. A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y cyfarfod a gynhaliodd gyda mi dros yr haf gyda chynrychiolwyr Cymreig menywod y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? Er nad oes gennym gyfrifoldeb dros bensiynau yma am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl, mae gennym gyfrifoldeb fel Senedd i gynrychioli ac eirioli dros fenywod Cymru. Ar ôl y cyfarfod hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newyddion a gawsoch gan y grŵp seneddol hollbleidiol ar anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth yn San Steffan a chan Lywodraeth y DU am y sefyllfa warthus sy'n dal i wynebu'r menywod hyn?
Yn gyntaf, diolch am y cwestiwn a diolch am fynd ati'n gyson i godi'r mater hwn sydd wedi'i gadw ar y radar yma. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu nifer o weithiau at Lywodraeth y DU, yn enwedig nawr at yr ombwdsmon ynghylch ystyried y cytundeb fod yr adroddiadau gwreiddiol yn annerbyniol ac nad oeddent yn gwneud cyfiawnder â'r mater mewn gwirionedd. Rwy'n credu mai dyna rydym yn aros am ganlyniad iddo ar hyn o bryd. Bydd pob un ohonom yn adnabod menywod sy'n gwrthwynebu anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI); mae yna gymaint ohonynt. Craidd hyn, fel y dywedais, yw bod y ffordd yr ymdriniwyd â'r mater yn sicr yn anghyfiawnder yn fy marn i, yn dorri contract â phobl pan fyddant yn mynd i mewn i'r system bensiwn, pan fyddant yn mynd i mewn i'r system waith—i newid yn sydyn a symud y pyst gôl wrth i bobl ddechrau nesáu at eu hoed ymddeol.
Gallaf eich sicrhau fy mod yn credu bod pawb yn y Siambr hon yn gefnogol iawn i gyfiawnder i'r menywod hynny. Rydym yn edrych ymlaen at ganlyniad ffafriol mewn perthynas â gwaith yr ombwdsmon. Byddwn yn defnyddio unrhyw ddylanwad sydd gennym i geisio cyflymu hynny, i geisio annog hynny i gael ei ddatrys cyn gynted â phosibl. Mae cymaint o fenywod wedi marw cyn clywed canlyniad yr holl waith ymgyrchu anhygoel sydd wedi digwydd, ac rwy'n hapus iawn i barhau i weithredu ar unrhyw wybodaeth bellach a fyddai'n ddefnyddiol wrth i amser fynd yn ei flaen.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. A gaf fi ddiolch i chi am yr holl waith rydych chi wedi'i wneud yn y maes hwn? Ac rwy'n ymuno â chi i dalu teyrnged i'r ymgyrchwyr dewr, nad ydynt wedi rhoi'r gorau iddi er bod cymaint o fenywod wedi marw cyn i ganlyniad eu hiawndal gael ei gyrraedd. Rwy'n falch iawn eich bod wedi ysgrifennu at yr ombwdsmon ac rwyf fi, gyda chi, yn aros i glywed beth fydd ganddynt i'w ddweud mewn ymateb. Mae cymaint o ymgyrchwyr wedi cael eu calonogi gan y geiriau a ddywedoch chi yn y lle hwn. Felly, a wnewch chi ymrwymo eto nawr, os gwelwch yn dda, fel rydych chi newydd ei wneud, y byddwch chi, beth bynnag yw lliw gwleidyddol Llywodraeth San Steffan ar ôl yr etholiad nesaf, yn parhau i wthio am welliannau i fenywod a anwyd yn y 1950au, ac y byddech chi'n cefnogi'r addewid a lofnodwyd gan yr arweinydd Llafur, Keir Starmer, y llynedd am yr angen am iawndal teg a chyflym i fenywod y 1950au? Hoffwn ddiolch yn ddiffuant unwaith eto am bopeth rydych chi wedi'i wneud wrth arwain ar y mater hwn.
Wel, yn sicr nid yw fy safbwynt i, fy nadansoddiad i o'r hyn sydd wedi digwydd, yn newid. Wrth gwrs, mae yna Weinidog pensiynau newydd yr wrthblaid, rwy'n credu, yr Aelod Seneddol Gill Furniss. Rwy'n siŵr fod safbwynt Llywodraeth Cymru yn aros yr un fath—fod yna anghyfiawnder wedi bod ac rydym am weld yr anghyfiawnder hwnnw'n cael ei ddatrys. Credwn mai'r ffordd gywir i'w ddatrys mewn gwirionedd yw trwy benderfyniad cywir gan yr ombwdsmon, i gydnabod bod Senedd y DU wedi ei gael yn anghywir a bod y Llywodraeth wedi ei gael yn anghywir, a bod y ffordd y cafodd y mater ei drin yn anghywir, ac felly bod canlyniadau'n deillio o hynny, a dylai hynny olygu ceisio digolledu pawb yr effeithiwyd arnynt yn briodol.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi canolfannau cyngor cyfreithiol? OQ59877
Ers amser maith, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl hanfodol bwysig darparwyr cyngor cyfreithiol yn y trydydd sector a'r sector cyfreithiol yn cefnogi pobl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, fel y gwelir gan ein cronfa gynghori sengl a'n cefnogaeth i ddatblygu'r sector cyfreithiol yng Nghymru.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Dwi’n aml yn cyfeirio etholwyr at y canolfannau cyngor cyfreithiol anhygoel sydd gennym ni yng Nghaerdydd, ond, yn ddiweddar, dwi wedi gweld nifer cynyddol yn dychwelyd yn dweud nad oes capasiti gyda'r canolfannau cyfreithiol i’w cynorthwyo. Nawr, yn dilyn eich ateb chi i Mark Isherwood, dwi’n gwybod am eich diddordeb chi a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y mater yma, a bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £11 miliwn i ganolfannau cyngor cyfreithiol yng Nghymru, ond mae’n amlwg nad yw nifer o bobl yn derbyn y cyngor sydd ei angen arnyn nhw. I gymharu â hyn, mae’r £10 miliwn y mae Llywodraeth San Steffan wedi’i ychwanegu at gyngor cyfreithiol tai yn swnio'n hynod o bitw, yn enwedig o ystyried y toriadau dwfn sydd wedi bod. Nawr, gwn fod y gyllideb yn hynod o dynn, gwn fod cyfiawnder heb ei ddatganoli, ond a oes modd i Lywodraeth Cymru gydweithio efallai'n agosach gyda'r canolfannau, gyda’r proffesiynau a gydag ysgolion cyfreithiol i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael, oherwydd ar hyn o bryd, fel rŷch chi’n gwybod, Cwnsler Cyffredinol, nid yw nifer o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas yn derbyn y cyngor y maen nhw ei angen? Diolch yn fawr.
Diolch unwaith eto am godi'r pwynt penodol hwn. Wrth gwrs, un o'r datblygiadau anffodus iawn dros y degawd diwethaf o ganlyniad i doriadau cymorth cyfreithiol ers Deddf 2013, diflaniad canolfannau'r gyfraith—canolfannau'r gyfraith a oedd mor bwysig mewn cymaint o'n cymunedau. Gostyngodd nifer yr achosion cymorth cyfreithiol i helpu pobl i gael cyngor cynnar o bron i filiwn yn 2009-10 i ddim ond 130,000 yn 2020-21, ac mae nifer yr asiantaethau cynghori a chanolfannau'r gyfraith sy'n gwneud y gwaith hwn wedi gostwng 59 y cant.
Yr hyn a ddywedais yn nigwyddiad y bwrdd gwasanaethau cyfreithiol heddiw yn y Senedd yw mai un o fanteision cael cyngor cyfreithiol ar gael i bobl ar ystod eang o faterion cymdeithasol, o dai i ddyled, i rent a llety ac yn y blaen, yw mai'r hyn a gewch allan o hynny, wrth gwrs, yw cyfreithwyr sy'n ymroddedig i'r gwaith hwnnw ac sydd wedi datblygu arbenigedd yn y gwaith hwnnw, ac maent yn mynd yn eu blaenau i barhau i allu darparu'r gwaith hwnnw.
Mae'r pwynt rydych chi'n ei godi nawr yn un dilys iawn. Er enghraifft, gyda chyngor mewnfudo yng Nghymru, rydym bellach mewn cyfnod o argyfwng o ran nifer y cyfreithwyr sydd ar gael i wneud y math hwnnw o waith. Mae'n ddigon posibl na fydd gennym unrhyw gyfreithwyr sy'n gallu gwneud y gwaith hwnnw yn y dyfodol agos, ac nid oes gennym ddigon o gyfreithwyr i wneud y math hwn o gynrychiolaeth a rhoi'r math hwn o gyngor mewn nifer fawr o feysydd eraill. Nawr, rydym wedi rhoi cefnogaeth ariannol i hyfforddiant drwy system Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol. Wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa ariannol anodd iawn ond rwy'n sicr wedi codi gyda'r Is-Ysgrifennydd a chyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ar bob achlysur, a'r tro diwethaf oedd ddoe, fod yn rhaid inni ddechrau edrych ar ganolfannau'r gyfraith a sut y gellir eu hachredu a'u hariannu'n haws trwy'r system cymorth cyfreithiol. Ond hefyd, mae angen inni edrych ar sut rydym yn cydlynu'r holl wahanol gyrff sydd gyda'i gilydd yn rhoi cyngor arbenigol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. I bob pwrpas, yr hyn y mae angen inni edrych arno yw creu system cyngor a chymorth cyfreithiol embryonig sy'n adeiladu ar y gronfa gynghori sengl. Nid yw hyn yn hawdd yn yr amgylchedd hwn. Unwaith eto, dyma un o'r rhesymau pam ein bod wedi gofyn am ddatganoli rhai o'r meysydd hyn. Ond mae yna waith sy'n mynd rhagddo a byddaf yn hapus i drafod hynny gyda chi wrth i amser fynd yn ei flaen ac unwaith eto yn yr amgylchedd hwn.
4. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â chyflwr stad y llysoedd yng Nghymru? OQ59874
Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi trafod cyflwr ystad y llysoedd gyda'r Gweinidog cyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, yn ein cyfarfodydd rheolaidd ar sawl achlysur, ac rwyf wedi codi'r mater hwn yn ysgrifenedig gyda'r Arglwydd Ganghellor newydd. Rwy'n parhau i bwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch yr angen i fuddsoddi yn seilwaith llysoedd Cymru.
Rwy'n gobeithio ymweld â'r llysoedd sifil a'r llysoedd ynadon yng Nghaerdydd fy hun fel y gallaf ymgyfarwyddo â'r cyfleusterau sydd ar gael i'r rhai sy'n ceisio datrys eu pryderon er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin gyda'r urddas y maent yn ei haeddu. Ond rwy'n pryderu bod y mater parhaus hwn nad yw wedi'i ddatrys, yn amlwg, er gwaethaf eich sgyrsiau gwych gyda'r Arglwydd Bellamy, wedi cael ei waethygu gan bresenoldeb concrit awyredig awtoclafiedig cydnerth, RAAC, mewn cymaint o adeiladau cyhoeddus, yn Lloegr yn bennaf. Mae gan asbestos, y nododd Rhianon Passmore yn briodol ddoe ei fod yn bryder mawr i holl geidwaid adeiladau cyhoeddus, botensial i waethygu cyflwr eiddo cyhoeddus sydd eisoes yn dirywio. Felly, pa obaith sydd gennych chi y bydd y llysoedd, yn enwedig y rhai yng Nghaerdydd, sy'n destun pryder i mi, yn gallu cael unrhyw sylw i'r mater hwn, o ystyried y problemau a welwn mewn ysgolion yn Lloegr?
Diolch, rydych yn codi pwynt dilys iawn ac wrth gwrs, rwy'n credu bod y llys dan sylw yn eich etholaeth chi, felly mae'n fater o bryder nid yn unig yn ehangach, ond hefyd o ran eich cyfrifoldebau etholaethol. Fel y dywedwch, mae'n fater a gadwyd yn ôl, ond wrth gwrs, mae cymaint o bobl yng Nghymru wedi'u cynnwys yn hynny mewn gwirionedd—pobl sy'n gweithio yno, ac mae'n rhaid i deuluoedd fynd i'r ganolfan cyfiawnder sifil. Nid yw'n addas i'r diben; cydnabyddir nad yw'n addas i'r diben. Yn y trafodaethau a gaf, gallaf ddweud mai'r ymateb a roddir i mi yw, 'Wel, mae yna rai lleoedd sydd hyd yn oed yn waeth'. Un pwynt y byddwn yn dod yn ôl arno yw, 'Wel, nid mater i ni yw hynny.' Ond y gwir amdani yw mai dyma brifddinas Cymru ac nid oes gennym ganolfan cyfiawnder sifil sy'n addas i'r diben. Rwyf wedi bod o gwmpas y llys, rwyf wedi cyfarfod â'r barnwyr ac rwyf wedi cyfarfod â'r rhai sy'n gweithio yno. Ceir cytundeb cyffredinol nad oes arian yn cael ei ryddhau i'w wneud yn addas i'r diben.
Nid dyma'r unig lys. Mynychais y llysoedd sifil yng Nghasnewydd, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy synnu at gyflwr y rheini hefyd. Er tegwch i'r Arglwydd Bellamy, mae wedi bod yn ymweld â'r llysoedd hynny ac mae'n ymwybodol iawn o hyn. Nid yn ei ddwylo ef y mae'r arian. Mae'r Arglwydd Ganghellor newydd wedi dweud bod yn rhaid inni fuddsoddi yn seilwaith ystad y llysoedd. Rwyf wedi ysgrifennu ato yn croesawu'r datganiad hwnnw ac yn gofyn iddo sicrhau ei fod yn ystyried sefyllfa'r ystad yng Nghymru.
Mewn perthynas â RAAC, rwyf wedi gwneud ymholiadau. Nid wyf yn ymwybodol fod RAAC yn broblem yn ystad y llysoedd yng Nghymru, yn sicr nid o ran y wybodaeth sydd gennyf hyd yma. Rwy'n credu bod saith llys wedi'u nodi ar draws ardal Cymru a Lloegr, ond nid wyf yn gwybod beth yw cyflwr na graddau hynny eto o'r holl ymchwiliadau i'r adeiladau hynny.
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y berthynas bosibl rhwng Cymru a'r UE? OQ59890
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i berthynas hirsefydlog â phartneriaid yr UE, a hefyd i sicrhau'r manteision mwyaf posibl o'r cytundeb masnach a chydweithredu, a gefnogir trwy ein strategaeth ryngwladol, cynrychiolwyr penodedig ar Ewrop a chymryd rhan mewn ystod o rwydweithiau rhanbarthol yr UE. Rydym yn croesawu cysylltiad y DU yn hwyr yn y dydd â rhaglenni Horizon a Copernicus.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Wrth gwrs, rydym yn gweld cwymp Brexit, nid yn unig gydag ildiad y DU ac ailymuno â Horizon ddwy flynedd yn rhy hwyr, ond rydym hefyd yn gweld y DU yn methu cyflawni archwiliadau tollau sylfaenol, y DU yn methu cyflawni ei safonau ei hun a gorfod mabwysiadu safonau'r UE ar gyfer gwerthu nwyddau. Felly, rydym yn gweld polisi'r DU yn methu ar bob addewid a wnaed yn ôl yn 2016. Mae gennym adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu yn dechrau ym mis Mai 2026. Mae'n bwysig fod gan Gymru lais cryf a'i bod yn cael ei chynrychioli yn strwythurau'r cytundeb hwnnw a'r strwythurau sy'n creu atebolrwydd am y berthynas, nid yn unig dros y cytundeb hwnnw ond perthynas ehangach y DU a'r UE. Ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa yn sicr ymhell o fod yn un a fyddai'n cael ei chroesawu gan y rhan fwyaf o'r Siambr hon. A yw'n bosibl i Lywodraeth Cymru ddechrau gweithio nawr ar ymateb polisi i'r adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu a sicrhau bod gan Gymru lais cryf yn y strwythurau hyn rhwng yr UE a'r DU, ond hefyd ein bod yn dechrau paratoi ar gyfer gweld y DU yn ailymuno â'r UE?
Diolch i chi am eich cwestiwn atodol a hefyd, unwaith eto, diolch i chi ac i eraill yn y Siambr sydd wedi parhau â'r gwaith ar y corff dirprwyol sydd wedi'i sefydlu i gynnal rhyw fath o berthynas ar ôl inni orfod gadael Pwyllgor y Rhanbarthau. Rwy'n credu bod y gwaith hwnnw a'r ymgysylltiad hwnnw—. Mae'n hanfodol bwysig nad ydym yn colli'r cysylltiadau hynny a'n bod yn eu cynnal cystal ag y gallwn mewn sefyllfa nad yw'n ddelfrydol. Unwaith eto, un o'r materion a oedd yn bwysig iawn ac a oedd yn rhan o'r rhaglen lywodraethu oedd ein bod yn cadw swyddfa Brwsel yn weithredol, ac rwy'n credu bod hynny'n arwydd pwysig iawn ac y daw'n fwyfwy pwysig eto nawr, yn enwedig mewn perthynas â rhaglen Horizon. Ac ar ryw adeg yn y dyfodol, gallwn obeithio gweld datblygiadau mewn perthynas ag Erasmus hefyd.
Rwy'n credu bod y cytundeb masnach a chydweithredu i fod i gael ei adolygu erbyn 2025, ac wrth gwrs, bydd i ba raddau y bydd yn arwain at newid pellach yn dibynnu'n sylweddol ar y Comisiwn Ewropeaidd a'r Senedd newydd a fydd ar waith rhwng canol a diwedd 2024, ac ar ganlyniad etholiad cyffredinol y DU, mae'n debyg, sydd i'w ddisgwyl erbyn mis Ionawr 2025 fan bellaf. Felly, yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y strwythurau presennol hynny'n gweithio'n effeithiol a'n bod yn manteisio i'r eithaf ar fuddion y cytundeb masnach a chydweithredu presennol. Mae'r grŵp rhyngweinidogol ar gysylltiadau rhwng y DU a'r UE, sy'n cael ei gadeirio gan Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU, yn gyfle defnyddiol i Lywodraeth Cymru godi materion. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU i ddatblygu safbwyntiau'r DU ar ystod o bwyllgorau'r DU-UE a ddarperir gan y cytundeb masnach a chydweithredu i archwilio a datrys materion sy'n ymwneud â gweithrediadau'r cytundeb masnach a chydweithredu. Hanfod hyn, rwy'n credu, yw ein bod mewn sefyllfa lle mae nifer o ganlyniadau Brexit yn cael eu cydnabod fel rhai y mae'n rhaid eu datrys. Mae'r broses honno wedi dechrau. Mae momentwm yno. Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau ac mae'n siŵr fod y prosesau hynny wedi newid. Rwy'n tybio y gallai arwain at lawer mwy o gydweithredu yn y dyfodol agos.
Fe wneuthum chwerthin a gwenu wrthyf fy hun pan welais y papur trefn a'r cwestiwn gan yr Aelod dros Flaenau Gwent, oherwydd roedd yn fy atgoffa o'r adeg y gwnaeth ef a minnau deithio i Frwsel fel rhan o Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a'r UE, lle roeddwn yn teimlo fy hun yn troi'n gefnogwr Brexit pybyr er mwyn gwrthbwyso natur 'Ewrogarol' yr Aelod dros Flaenau Gwent. Ond roedd yn ddiddorol eich bod chi a'r Aelod dros Flaenau Gwent wedi sôn am Horizon, ac rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn dathlu bod y DU bellach wedi ailymuno â Horizon o dan delerau gwell na phan oeddem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi nad yw'r sgwrs ddeuol a phegynol sy'n datgan mai Brexit naill ai yw'r peth gorau yn y byd neu ddiwedd y byd fel y gwyddom amdano yn ddefnyddiol. Mae'n begynol ac mae'n gwneud cam â'r llwyddiannau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraethau eraill yn eu cael wrth drafod gyda'r Undeb Ewropeaidd? Ac ar drafodaeth yr Aelod dros Flaenau Gwent am ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno ag asesiad yr UE fod yn rhaid i unrhyw wlad sy'n dymuno ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd fabwysiadu'r Ewro ac arian sengl hefyd?
Wel, beth—[Torri ar draws.]
Dyna yw'r rheolau.
Gofynnaf i'r Aelod ganiatáu i'r Gweinidog ymateb.
Dyna yw'r rheolau.
Cyn belled ag y gwn, nid oes unrhyw drafodaethau ar unrhyw fater clir yn ymwneud ag ailymuno. Pa bynnag farn bersonol sydd gennyf fi neu eraill, nid yw hynny ar yr agenda ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ar yr agenda, mewn gwirionedd, yw ceisio lleihau'r niwed yn sgil canlyniadau Brexit. Roedd Horizon, a oedd bob amser yn faes a oedd yn cael ei adolygu'n barhaus gan y gwahanol Lywodraethau, yn hynod lwyddiannus, a chwaraeodd y DU ran sylweddol ynddo, ac mae'r blynyddoedd nad ydym wedi bod yn rhan ohono—bydd yn cymryd amser hir i atgyweirio'r niwed hwnnw a dychwelyd i'r sefyllfa roeddem ynddi. Rwy'n credu, ymhen sawl blwyddyn, y gallai fod yn faes y byddwn am adolygu pa mor llwyddiannus y bu. Mae bob amser yn well bod yn rhan o sefydliad fel Horizon 2020 a gweithio o'i fewn yn hytrach na dod o'r tu allan ar sail ategol. Ond craidd y mater oedd mai camgymeriad hollol drychinebus oedd peidio ag aros yn Horizon 2020 pan gawsom gyfle i wneud hynny, hyd yn oed gyda Brexit.
6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch lleihau cyfradd y comisiwn o werthu cartrefi preswyl mewn parciau? OQ59861
Diolch am eich cwestiwn. Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 yn rhagnodi uchafswm y comisiwn sy'n daladwy i berchennog y safle gan y meddiannydd newydd ar ôl gwerthu cartref symudol. Ar hyn o bryd, yr uchafswm hwn yw 10 y cant.
Diolch. Wrth gwrs, mae nifer o fy etholwyr bellach wedi gwneud galwadau i weld a ellir lleihau'r gyfradd hon neu ei diddymu. Rwy'n cofio o fy amser yma pan gododd Peter Black hyn ac ar y pryd, roedd cyfradd uchel y comisiwn yn peri pryder i lawer o berchnogion a gwerthwyr cartrefi symudol. Nawr, deallais fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu dadansoddiad ariannol i lywio ei phenderfyniad ar 5 Mehefin 2018 i ostwng cyfradd y comisiwn un pwynt canran y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd nes iddi gael ei gostwng i uchafswm o 5 y cant o'r pris prynu, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno ei fod yn fwy—. Mae'n fwy teg a chytbwys. Fodd bynnag, ni wnaeth y newid hwn ddigwydd. Mewn gwirionedd, ym mis Ionawr 2019, ar gais Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain a pherchennog parc, rhoddodd llys gweinyddol Cymru ganiatâd i adolygiad barnwrol o benderfyniad Llywodraeth Cymru. Felly, yng ngoleuni'r adolygiad barnwrol blaenorol, a fyddech yn trefnu, Gwnsler Cyffredinol, i gyngor cyfreithiol gael ei roi i Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru ar gyfreithlondeb codi uchafswm cyfradd y comisiwn? Diolch.
Wel, a gaf fi ddweud fy mod yn deall eich bod yn cynrychioli eich etholwyr, perchnogion safleoedd cartrefi symudol preswyl, ond rwy'n credu bod angen cyfeirio unrhyw gwestiwn ynglŷn â chynigion ar gyfer dyfodol cyfradd y comisiwn sy'n daladwy wrth werthu cartrefi symudol preswyl at y Gweinidog Newid Hinsawdd. Os oes gan breswylwyr cartrefi symudol unrhyw ymholiadau am delerau preswyl eu safle, gan gynnwys cyfraddau comisiwn, ceir y gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau a all gynnig cyngor diduedd am ddim. Nid yw'n briodol imi siarad am gyngor cyfreithiol a allai fod rhyngof fi a Llywodraeth Cymru neu beidio. Mae'r mater polisi rydych yn ei godi'n benodol, serch hynny, yn rhywbeth y mae angen ei gyfeirio at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn gwirionedd.
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am argaeledd data sydd wedi'u datgrynhoi ar y system gyfiawnder yng Nghymru? OQ59875
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddarparu data sydd wedi'i ddatgrynhoi. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'n gwaith ein hunain—yn fwyaf arbennig, fe gyhoeddasom ddangosfwrdd ar gyfiawnder ieuenctid ar 31 Awst. Hwn fydd y cyntaf o gyfres o ddangosfyrddau cyfiawnder yng Nghymru.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae dda iawn clywed hynny, oherwydd fel y gwyddom, trwy'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a elwir hefyd yn gomisiwn Williams-McAllister, ac adroddiad Brown, rydym wedi clywed a darllen trafodaethau ac argymhellion hanfodol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Un o brif bwyntiau'r trafodaethau hyn wrth gwrs yw'r ffaith nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli yng Nghymru ar hyn o bryd, er bod y rhan fwyaf ohono wedi ei ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, un o'r camau cyntaf allweddol tuag at unioni'r anghydbwysedd hwn fyddai dechrau datganoli gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a gwasanaeth prawf, a fyddai hefyd yn helpu gyda pheth o'r hyn roeddem yn ei drafod yn gynharach am fenywod mewn carchardai hefyd.
Ond ar hyn o bryd, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd natur y diffyg datganoli yng Nghymru, mae llawer o'r data ar gyfiawnder ond ar gael mewn ffordd sy'n grwpio Cymru a Lloegr, ac oherwydd hynny, ni allwn bennu darlun clir o'r system gyfiawnder yng Nghymru ar ei phen ei hun. Roeddwn eisiau dychwelyd at Mark Isherwood: ynglŷn ag un o'r ystadegau a ddefnyddiwyd gennych yn gynharach o'r adroddiad ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol—mewn gwirionedd, dylai fod wedi dweud bod naw o bob 10 o fenywod o Gymru yn fwy tebygol o ailddechrau camddefnyddio sylweddau os nad ydynt yn cael cymorth yn syth o'r carchar, nid bod menywod o Gymru yn fwy tebygol o aildroseddu na menywod o Loegr. Hoffwn gywiro hynny; mae'n annheg ac yn anghywir i ddweud hynny. Y broblem sydd gennym ar hyn o bryd yw mai'r cyfan a wyddom yw bod 70.7 y cant o fenywod yn aildroseddu o fewn blwyddyn ar ôl iddynt gael dedfryd fer o garchar, ond menywod yng Nghymru a Lloegr yw hynny. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a fyddech yn gallu cadarnhau pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd hyd yma i ddatglymu'r data hwn o Loegr a sefydlu darlun clir o ddyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, a diolch am yr eglurhad ar y pwyntiau a wnaed yn gynharach. Un o'r meysydd sy'n peri pryder, wrth gwrs, yw mai dim ond nawr y gwelwn beth o'r gwaith gan Brifysgol Caerdydd, a chael dealltwriaeth o rai o'r materion sy'n gysylltiedig â chyfraddau carcharu, ac nid yn unig eu maint, ond hefyd, dros y flwyddyn ddiwethaf, y cynnydd sylweddol yng nghyfradd carcharu menywod o Gymru. Felly, mae'n fater difrifol iawn. Mae'n fater rwyf fi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn ei drafod gyda gwahanol gyrff a chyda gwahanol asiantaethau. Rydym wedi mynd ati, cystal ag y gallwn, i ddatblygu ein system ein hunain o ddangosfyrddau rhyngweithiol i grynhoi'r data cyfiawnder sydd ar gael a'i wneud yn fwy hygyrch, rwy'n credu, er mwyn ei dynnu o'r gwahanol ffynonellau lle mae'n bodoli. Roedd y cyntaf o'r dangosfyrddau hyn yn canolbwyntio ar gyfiawnder ieuenctid; cyhoeddwyd hwnnw ar 31 Awst ac mae hwn yn ei gwneud hi'n haws dod o hyd i'r data sydd ar gael am gyfiawnder ieuenctid mewn un lle. Ar hyn o bryd, mae dadansoddwyr yn datblygu'r dangosfyrddau sy'n weddill a fydd yn ymdrin â meysydd fel llysoedd, carchardai, troseddu rheolaidd, cymorth cyfreithiol, ystadegau'r gweithlu, gyda'r bwriad, unwaith eto, o sicrhau bod y rhain ar gael i'r cyhoedd.
Ond mae'n symud oddi wrth y pwynt a godais ddoe gyda'r Is-Ysgrifennydd o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, yng nghyfarfod y grŵp rhyngweinidogol, sef: mae angen data llawer gwell arnom er mwyn datblygu polisi cyfiawnder, a bydd hyn yn dod yn fater llawer pwysicach wrth i rannau o'r system gyfiawnder gael eu datganoli fwyfwy i ni, fel rydym yn ei ddisgwyl, a chael y data sy'n eich galluogi i ddatblygu'r polisi cymdeithasol. Os nad ydych yn gwybod beth sy'n digwydd, os nad ydych yn gwybod beth yw'r cyfraddau carcharu, beth yw'r rhesymau, cefndiroedd y bobl sydd yno, y bobl sy'n mynd i mewn i system y llysoedd a pha mor hir mae systemau'r llysoedd yn ei gymryd, ac ati, mae'n anodd iawn datrys sut rydych yn cysylltu'r holl asiantaethau â'i gilydd, sut rydych yn datblygu polisi sydd â'r nod o gadw pobl allan o'r system gyfiawnder yn bennaf, ond wedyn, os ydynt yn y system gyfiawnder, polisi sy'n sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithiol ac effeithlon ac mewn ffordd sy'n adsefydlu cymaint â phosibl.
Felly, mae'n frwydr barhaus. Rwy'n gobeithio y byddwch yn parhau i godi a monitro'r materion hyn, oherwydd credaf eu bod yn dod yn fwyfwy pwysig. Rydym yn eu codi ar bob achlysur y gallwn. Wrth gwrs, mae'n ddibynnol ar fynediad at systemau eraill ac at y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid oes anghytundeb arbennig ynghylch yr angen amdano, ond mae gwneud iddo ddigwydd ar hyn o bryd yn un o ganlyniadau cael system gyfiawnder ganolog iawn, yn anffodus.
Byddwn yn gorffen gyda chwestiwn 8. Alun Davies.
8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith bosibl newid Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli? OQ59891
Wel, rwy'n gobeithio y byddai unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU yn dilyn llwybr gwahanol ac y byddent yn cefnogi'r setliad datganoli a'r cydweithio rhynglywodraethol, yn hytrach na thanseilio'r cyfansoddiad ac undeb y Deyrnas Unedig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Mae wedi dod yn amlwg yn ystod y misoedd diwethaf, dros yr haf, fod yna ragdybiaeth glir ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig ein bod yn anelu at newid yn Llywodraeth y DU yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Rwy'n credu ei bod yn amlwg i bawb nad oes unrhyw ffordd y bydd y Llywodraeth Geidwadol yn cael ei hailethol. Nawr, er y bydd hyn yn cael ei groesawu yn y rhan fwyaf o'r Siambr hon yn sicr, mae hefyd yn gyfle inni baratoi ac adnewyddu ein polisi cyfansoddiadol ar gyfer Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ac i Lywodraeth Cymru wneud datganiad clir iawn o beth fydd ei blaenoriaethau i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu y bydd angen datganiad clir iawn o bolisi cyfansoddiadol ar unrhyw Lywodraeth Lafur newydd yn y Deyrnas Unedig fel y gallwn eu cefnogi ar y cyd a sicrhau bod y lle hwn, fel y dywedwch, yn cael y parch y mae'n ei haeddu ar sail ei fandad.
Diolch am y sylw hwnnw. Rydych chi'n gwneud pwyntiau da, ac fe wnaethoch chi gyfeirio'n benodol, rwy'n credu, at yr adroddiad a gomisiynwyd gan Syr Keir Starmer. Ei adroddiad ef ydoedd, adroddiad Gordon Brown; roedd yn adroddiad yr oedd am ei gael. Mae'n un sydd wedi'i dderbyn ac mae ganddo effaith sylweddol. Mae gennym hefyd ein comisiwn annibynnol ein hunain a fydd yn adrodd ar ddiwedd y flwyddyn hon, ac a fydd hefyd yn sicr o ymdrin â nifer o'r pwyntiau penodol hynny.
Yr hyn sy'n amlwg iawn yw bod yna wahanol ganfyddiadau ynglŷn â sut mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn gweithio. Yn fy marn i, nid oes amheuaeth mai un o ganlyniadau pasio'r Bil Ynni yn y ffordd y cafodd ei basio, heb gydsyniad deddfwriaethol gan Gymru, yw ei fod unwaith eto yn y bôn yn tramgwyddo yn erbyn Sewel, a hynny'n sylweddol. Ond mae'n tramgwyddo ymhellach am ei fod yn mynd y tu hwnt i ddadlau bod y newidiadau'n ganlyniad i adael yr UE neu faterion cyfansoddiadol, mae'n enghraifft lle mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn syml, 'Wel, nid ydym yn cytuno. Rydym yn mynd i'w wneud beth bynnag.'
Ac rydym yn sôn am Sewel, ond dylem hefyd fod yn siarad am y ffaith bod confensiwn Sewel yn statudol. Mae yno mewn deddfwriaeth, ac mae yna ganlyniadau sylweddol, rwy'n credu, i dramgwyddo'n barhaus yn erbyn y berthynas gyfansoddiadol. Nid oes sôn am hyn mewn gwirionedd yn adroddiad Llywodraeth y DU ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae eu hadroddiad blynyddol ychydig fel llyfryn yn eich gwahodd i ymuno â lolfa breifat British Airways. Mewn gwirionedd, mae'n dweud ar y diwedd, ar fecanweithiau cydsyniad deddfwriaethol,
'ceir cyfanswm o 18 o gynigion cydsyniad deddfwriaethol...ar gyfer 13 darn o ddeddfwriaeth, wedi eu pasio gan y deddfwrfeydd datganoledig ar gyngor y gweinyddiaethau datganoledig.'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad cysylltiadau rhyngsefydliadol ei hun ar y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru ac ar y cysylltiadau rhynglywodraethol. Fe ddarllenaf un rhan ohono, ac rwy'n credu, ei fod yn ei grynhoi:
'Mae meysydd lle mae cydweithio a deialog adeiladol wedi bod yn bosibl gyda Llywodraeth y DU, er enghraifft mewn perthynas ag agweddau ar ymateb i bandemig Covid-19, ac mewn perthynas ag Wcráin.'
'Fodd bynnag, mae ymdrechion Llywodraeth y DU i danseilio’r setliad datganoli a’i diffyg parch parhaus at Lywodraeth Cymru a’r Senedd yn ystod llawer o’r cyfnod hwn wedi amharu ar waith rhynglywodraethol ac wedi niweidio undeb y Deyrnas Unedig.'
Yr hyn y byddwn yn ei obeithio gyda Llywodraeth newydd yw y bydd cyfle i adnewyddu'r confensiwn cyfansoddiadol a rhoi sylfaen ddiogel iddo er mwyn rhoi rhywfaint o statws iddo yn gyfreithiol fel na ellir ei ddiystyru yn fympwyol, sef yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac y bydd datblygiadau pellach hefyd o ran y berthynas gyfansoddiadol ehangach rhyngom. Mae'n un y mae'n rhaid ei pharchu a'i hystyried yn bwysig i ddyfodol y DU. Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod y ffaith nad yw'n cael ei pharchu'n llawn yn rhywbeth sydd, yn hirdymor, yn erydu'r undod sy'n bodoli rhwng pedair cenedl y DU.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 sydd nesaf, y cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd pob cwestiwn yn cael ei ateb gan Joyce Watson. Cwestiwn 1, Mike Hedges.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddiogelwch system e-bost y Senedd? OQ59866
Diolch am eich cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn defnyddio ystod eang o fesurau technegol i warchod diogelwch system e-bost y Senedd. Mae'r mesurau hyn yn ychwanegu at yr amddiffyniadau diogelwch safonol a ddefnyddir gan gyflenwr y system. Camgymeriadau dynol yw'r bygythiad mwyaf i ddiogelwch ein system e-bost o hyd. Felly, mae amddiffyniadau technegol yn cael eu hategu gan hyfforddiant rheolaidd a phrofion gwe-rwydo mewnol i ddefnyddwyr y system er mwyn codi ymwybyddiaeth, adnabod gwendidau a chryfhau ein hamddiffynfeydd rhag bygythiadau gwirioneddol. Mae'r Comisiwn yn darparu sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth penodol i Aelodau, ond gallai presenoldeb fod yn well. Bydd y Comisiwn yn cyflwyno digwyddiad seiberddiogelwch deuddydd o hyd ym mis Tachwedd, gan gynnwys sesiynau gan nifer o arbenigwyr allanol uchel eu parch. Carwn annog yr holl Aelodau i fynychu'r sesiwn er mwyn deall mwy am y bygythiadau presennol a'r camau rydym yn eu cymryd i'w lliniaru.
A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr ymateb hwnnw? Rwyf hefyd yn credu bod y system mor ddiogel ag unrhyw un arall yn y sector cyhoeddus. Mae gweision sifil yn yr adran addysg wedi dweud nad yw'n ddigon diogel i rannu agendâu ac adroddiadau llywodraethwyr ysgol. A yw'r Comisiwn yn gwybod pam nad ydynt yn ei ystyried yn ddiogel, ac a fyddant yn trafod gyda staff addysg Llywodraeth Cymru lle maent yn ystyried bod yna wendidau?
Rwy'n credu mai'r cyfan y gallaf ei ddweud yw ei bod yn sefyllfa od, oherwydd yr hyn rwy'n ei wybod yw bod lefel uchel o amddiffyniad technegol. Rydym yn defnyddio'r atebion diogelwch diweddaraf i fynd i'r afael â gwendidau; mesurau rheoli mynediad cryf gan gynnwys dilysu aml-ffactor wrth i ddefnyddwyr fewngofnodi, er mwyn atal mynediad heb awdurdod i gyfrifon e-bost; hidlo e-byst ac atebion gwrthfaleiswedd i atal cynnwys maleisus, gan gynnwys ymdrechion gwe-rwydo sbam a maleiswedd. Rydym wedi gorfodi amgryptio cyfathrebiadau dros e-bost, sy'n diogelu data rhag clustfeinio a mynediad heb awdurdod, gyda phrosesau cadw data wrth gefn ac adfer data cynhwysfawr er mwyn sicrhau y gellir adfer data a gollir. Felly, nid wyf yn deall yn iawn sut mae hyn wedi digwydd, ac rwy'n credu y buaswn yn cynghori Mike, yr Aelod o'r Senedd, i ysgrifennu at y Comisiwn fel y gallwn edrych ar hynny ac ymchwilio iddo, a rhoi ateb mwy cyflawn i chi ynglŷn â sut y digwyddodd hyn.
2. Sut y bydd y Comisiwn yn hwyluso cysylltiadau agosach a dyfnach rhwng y Senedd a sefydliadau'r UE? OQ59892
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae ymgysylltu â'r UE yn elfen allweddol o fframwaith rhyngwladol y Comisiwn. Mae staff y Comisiwn yn cefnogi ymgysylltiad Aelodau a phwyllgorau ag ystod o strwythurau newydd y DU a'r UE, sy'n cynnwys grŵp cyswllt Pwyllgor Rhanbarthau'r DU a Chynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a'r UE. Ac mae'r Senedd hefyd wedi cynnal nifer o ymweliadau gan sefydliadau'r UE sy'n darparu cyfleoedd gwerthfawr i feithrin cysylltiadau pellach. Yn fwyaf diweddar, roedd y rhain yn cynnwys cynnal ymweliadau gan lysgennad yr UE i'r DU, cynhadledd Bwa'r Iwerydd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol, a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw. Mae'n ymddangos bod y bwrdd taliadau annibynnol yn gwneud ei orau i atal Aelodau rhag teithio i unrhyw le y tu hwnt i Fae Caerdydd, a dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y sefydliad hwn yn canoli ei sylw fwyfwy ar Fae Caerdydd, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n gresynu ato'n fawr, ac rwy'n siŵr fod Aelodau eraill yn gresynu at hynny hefyd. Bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr am weld mwy o graffu a mwy o atebolrwydd am yr holl strwythurau, cyrff a phrosesau gwahanol sy'n bodoli ar hyn o bryd i reoli'r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r UE. Bydd yr Aelodau hefyd am i Gymru gael ei chynrychioli yn ei rhinwedd ei hun yn llawer o'r sefydliadau a'r cyrff sy'n bodoli yn y berthynas honno ar hyn o bryd. Mae'n bwysig, felly, ac efallai'n bwysicach heddiw nag y bu yn y gorffennol, nad yw'r Comisiwn ond yn ymateb i geisiadau i gynnal ymweliadau yn unig, ond ei fod yn fwy rhagweithiol wrth alluogi pwyllgorau ac Aelodau i ymweld â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd, i gael y sgyrsiau hynny, ond hefyd i ddwyn yr holl bobl a Gweinidogion hynny i gyfrif yn strwythurol, p'un a ydynt yn eistedd yma neu yn rhywle arall, am reoli'r cysylltiadau hyn. Dyna rywbeth rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn ei ystyried yn flaenoriaeth yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
I ateb eich cwestiwn, ac roeddech chi'n nodi'r bwrdd taliadau yn benodol, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r bwrdd taliadau wedi gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas ag ymweliadau rhyngwladol. Efallai y bydd rhywfaint o ddryswch yn dilyn yr adolygiad o'r penderfyniad, a oedd yn dileu cyfeiriadau at Frwsel a Senedd Ewrop, ond cefais fy sicrhau mai newidiadau technegol i eiriad yn unig oeddent ac nad oes ganddynt unrhyw effaith ar adnoddau. Ar gyfer busnes pwyllgorau, mae'r adran berthnasol ym mhenderfyniad y bwrdd taliadau yn nodi mai mater i'r Comisiwn yw hwn, ac ni chafodd gwariant ei rewi trwy'r penderfyniad. Ond os yw'r Aelodau'n dymuno gwneud trefniadau ar gyfer ymweliadau tramor, gallant wneud cais ymlaen llaw i ariannu hynny drwy'r penderfyniad cyhyd â bod y daith o reidrwydd yn cael ei chynnal i alluogi cyflawni dyletswyddau'r Aelod ac yn bodloni gofynion hynny.
O ran cyllidebu, ac mae llawer o hyn yn ymwneud â chyllidebu, mae'r Comisiwn yn dal i fod wrthi'n asesu'n fanwl beth yw effaith gwneud taliad costau byw i staff, a rhan o hyn fydd archwilio beth sydd angen ei flaenoriaethu o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Bydd rhai penderfyniadau anodd i'w gwneud, ond caiff sylwadau'r Aelod eu nodi a'u bwydo'n ôl i mewn i'r broses honno.
3. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r effaith y mae'r Senedd wedi'i chael o ran ymgysylltu pobl Cymru â democratiaeth Cymru ers datganoli? OQ59883
Mae ein strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu yn rhoi rhagor o bwyslais ar grynhoi effaith ein gwaith. Rydym yn cynnal ymchwil cynulleidfa i gasglu mewnwelediad i wybodaeth y cyhoedd am y Senedd, a'u canfyddiad ohoni, gyda'r arolwg diweddaraf yn canfod bod 97 y cant yn ymwybodol o'r Senedd a 64 y cant yn cydnabod sut mae cyfreithiau Cymru yn effeithio ar faterion sy'n agos atynt. Ac rydym wedi cyflwyno ffyrdd newydd o gasglu adborth gan gynulleidfaoedd, fel arolygon cwsmeriaid ar gyfer ymwelwyr a mynychwyr ein digwyddiadau. Ac rydym hefyd wedi cyflwyno offer i fonitro cyrhaeddiad ein cyfryngau cymdeithasol a sylw yn y cyfryngau. Byddwn yn cynnal gwerthusiad o'n strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ar ddiwedd y Senedd hon.
Rwy'n credu bod ennyn diddordeb pobl Cymru yn ein democratiaeth yn rhan hanfodol o waith pob Aelod o'r Senedd, yn ogystal â'r sefydliad ei hun, ac rwy'n siŵr fod holl Aelodau'r Senedd yn awyddus i annog pobl o'u hetholaeth i ymweld â'r Senedd ac i gymryd rhan yng ngwaith Senedd Cymru mewn gwahanol ffyrdd. Ond mae llawer o waith i'w wneud, ac mae'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, er enghraifft, fel gydag etholiadau eraill, yn siomedig ac yn rhywbeth y mae angen inni ei wella. Credaf fod y rhaglen addysg ac ymweliadau ysgolion yn gadarnhaol iawn yn hyn o beth, ac mae'n wych gweld y plant sy'n dod draw mor rheolaidd i'r Senedd. Ond wrth ddadansoddi ymgysylltiad y sefydliad â phobl Cymru, tybed a yw'n bosibl nodi grwpiau penodol, rhannau penodol o'r gymdeithas, nad ydynt yn ymgysylltu cymaint ag eraill, a yw'n bosibl edrych ar y ddemograffeg a hyrwyddo ymgysylltiad â'r bobl sydd efallai'n llai tebygol o gymryd rhan nag eraill.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch yn llwyr, ac rwy'n credu bod angen gwerthuso ac y byddai'n ddefnyddiol. Ym mis Hydref, rydym yn cynnal digwyddiad mawr gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a bydd yn cael ei alw'n 'Lle i ni', a'i fwriad penodol yw ymgysylltu â phobl o bob cefndir, menywod yn yr achos hwn, i wneud yn siŵr eu bod yn deall yn iawn yr hyn a wnawn a'u hannog, gobeithio, i gymryd rhan yn hynny a dod yn fwy ymwybodol o hynny.
Mae gennym strwythur y Senedd Ieuenctid hefyd wrth gwrs, sy'n bwydo'n ôl i ysgolion, ac mae ystod eang o gefndiroedd gwahanol yn rhan o aelodaeth y Senedd Ieuenctid honno, ond rydym bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod mynediad a gwybodaeth am waith y Senedd cystal ag y gall fod, ac fe fyddwn yn ystyried eich cais. Diolch.
Diolch i Joyce Watson.
Yr eitem nesaf yw cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ddiogelwch yr ystâd iechyd yn dilyn y newyddion bod digwyddiad mawr wedi ei ddatgan yn Ysbyty Llwynhelyg ym mis Awst? TQ832
Diolch yn fawr. Mae sicrhau bod ystâd yr NHS yng Nghymru yn saff yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd a'r trusts yn ogystal â chynghorwyr arbenigol o gylch presenoldeb RAAC—reinforced autoclaved aerated concrete—ar draws y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod cleifion, staff, ac ymwelwyr yn aros yn saff.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Mae'n ddiddorol, onid ydy, fod pawb yn siarad am RAAC rŵan, a diogelwch adeiladau, yn dilyn cyhoeddiad Gillian Keegan am ysgolion yn Lloegr ar ddechrau mis Medi, ond bod neb wedi meddwl ddwywaith am ddiogelwch cleifion Cymru pan dorrodd y newyddion fod ward am gau yn Ysbyty llwynhelyg oherwydd peryglon RAAC. Yn wir, oherwydd cyhoeddiad RAAC Keegan, roedd y Gweinidog addysg yma yng Nghymru yn teimlo'r angen i wneud cyhoeddiad am ddiogelwch ysgolion Cymru ddoe, ond eto dydyn ni ddim wedi cael cyhoeddiad am yr ystâd iechyd yng Nghymru, heb sôn am adeiladau cyhoeddus eraill Cymru. Ond rydym ni'n gwybod o gyfarfod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nôl ar ddechrau eleni mai dim ond 62 y cant o adeiladau'r bwrdd yno sydd yn operationally safe, ac mae swyddogion byrddau iechyd yn dweud wrthyf i mai cost cyfalaf atgyweirio'r ystâd ydy un o'r heriau mwyaf sydd yn eu hwynebu. Felly, ydy'r Gweinidog yn medru rhoi sicrwydd inni fod yna raglen o waith ar y gweill i atgyweirio'r ystâd, nid yn unig drwy edrych ar RAAC, ond yr amryfal broblemau eraill sydd yna? Beth ydy'r amserlen er mwyn sicrhau bod yr adeiladau yn yr ystâd iechyd yn ddiogel? A pha gyfalaf ychwanegol sydd ar gael er mwyn cario allan y gwaith atgyweirio angenrheidiol? Yn olaf, a fyddwn ni'n gweld rhagor o wardiau neu adeiladau eraill yn yr ystâd yn cau yn fyr rybudd oherwydd pryderon am ddiogelwch?
Wel, diolch yn fawr. Nawr, dwi'n deall bod hwn wedi efallai fod yn rhywfaint o sypreis i rai aelodau o'r cyhoedd, ond yn sicr roedden ni'n ymwybodol iawn o hwn fel problem fel Llywodraeth, ac rŷn ni wedi bod yn cadw golwg barcud ar y sefyllfa.
Roeddem wedi comisiynu adroddiadau gan beiriannydd strwythurol arbenigol ym mis Tachwedd. Ar 20 Chwefror eleni, ysgrifennodd y cydwasanaethau—sef y grŵp sy’n comisiynu gwaith, fel bod gennym waith ar draws y GIG cyfan sy’n cael ei gomisiynu a’i gaffael, fel bod gennym ddull gweithredu 'unwaith i Gymru'—at holl sefydliadau’r GIG i ofyn iddynt am fwy o sicrwydd ynglŷn â ble roedd RAAC wedi'i ganfod, gan sicrhau bod mesurau lliniaru a diogelwch wedi’u nodi a’u rhoi ar waith, a sicrhau bod mesurau monitro cadarn ar waith ar gyfer y dyfodol. Felly, mae hyn oll wedi bod yn weithredol ers mis Chwefror mewn perthynas â’r GIG.
Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych mewn perthynas â'r hyn a welsom yw bod dau fan lle roedd pryderon sylweddol: ysbyty Llwynhelyg oedd un ohonynt; rydym yn gwybod am hynny ers tro. Ar 18 Awst, ymwelais ag ysbyty Llwynhelyg i gael golwg ar beth yn union oedd cyflwr y RAAC. Mae chwe ward wedi'u cau o ganlyniad i bresenoldeb RAAC yn ysbyty Llwynhelyg. Mae llawer o gleifion wedi’u symud i Ysbyty De Sir Benfro, ac eisoes, mae £12.8 miliwn wedi’i ddarparu i gefnogi mesurau lliniaru cychwynnol yn ysbyty Llwynhelyg ac i’w wneud yn ddiogel.
Y lleoliad arall rydym yn arbennig o bryderus yn ei gylch yw Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. Mesurau lliniaru a diogelwch, felly, mae gwaith i'w wneud ar hynny o hyd, ond nid yw mewn man clinigol, ac rydym ychydig yn fwy hyderus ynghylch y mannau hynny.
Mae RAAC wedi'i ganfod mewn rhan fach o Ysbyty Bronglais, mewn ystafell beiriannau anghysbell, ond dim ond personél awdurdodedig sy'n cael mynd i'r rhan honno. Ac yn Llanfairfechan, daethpwyd o hyd i RAAC mewn ffreutur yn Bryn y Neuadd, ond cafodd hwnnw ei ddadgomisiynu ym mis Ionawr. Felly, rydym yn gwbl hyderus hyd yn hyn o ran y pryderon mawr mai dyna'r mannau y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arnynt, ac rwy'n credu ein bod yn mynd i'r afael â'r mater mewn perthynas â'r GIG.
Weinidog, fel y byddwch yn deall, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ysbyty Llwynhelyg, ac yn gofyn cwestiynau am bresenoldeb RAAC ar y safle. Nawr, ddoe, gelwais am ddatganiad ar y mater, ac felly rwy'n falch fod gennym gyfle nawr i ddeall camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn well. Mae gennyf bryderon fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac o bosibl Llywodraeth Cymru, wedi gwybod am hyn ers 2019, ac mai ychydig iawn o gamau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r broblem tan i arolwg arbenigol ym mis Mai 2023 nodi bod angen rhoi mesurau diogelwch brys ar waith. Felly, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau pryd yn union y dywedodd y bwrdd iechyd wrth Lywodraeth Cymru am y broblem yn ysbyty Llwynhelyg. Os yw Llywodraeth Cymru wedi gwybod ers 2019, beth yn union mae’r Llywodraeth a’r bwrdd iechyd wedi’i wneud ers hynny i fynd i’r afael â’r broblem yn y pedair blynedd ddiwethaf?
Yn ail, fel rydych wedi’i ddweud, Weinidog, mae chwe ward wedi’u cau, ac mae llawer o gleifion a staff, yn gwbl briodol, wedi’u symud dros dro i Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro. Nawr, mae'n hanfodol mai cam dros dro yw hwn ac nid cyfle i ganoli gwasanaethau mewn man gwahanol i ysbyty Llwynhelyg yn barhaol unwaith eto. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi addewid cadarn heddiw y bydd unrhyw wasanaethau sydd wedi cael eu hadleoli dros dro yn dychwelyd i ysbyty Llwynhelyg pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny?
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gofnodi fy niolch i'r staff yr effeithiwyd arnynt yn ysbyty Llwynhelyg ac sy'n parhau i gael eu heffeithio gan y mater hwn. Mae'n hanfodol cael rhywfaint o ddealltwriaeth o'r amserlenni ar gyfer datrys y broblem hon, fel y gall y staff gynllunio a chydgysylltu'r broses o ddarparu gwasanaethau. Felly, Weinidog, a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau diweddaraf a gawsoch gyda’r bwrdd iechyd ynghylch yr amser y gallai gymryd i wasanaethau ddychwelyd i ysbyty Llwynhelyg? Mae rhai adroddiadau wedi amcangyfrif y gellid ailagor tair ward erbyn y Nadolig, a’r tair arall erbyn mis Ebrill. Ac felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau bod hynny'n dal yn wir, neu a oes unrhyw ddatblygiadau pellach wedi bod yn hyn o beth?
Diolch yn fawr iawn. A byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn y ddadl hon heddiw. Gwn fod y Gweinidog wedi awgrymu ddoe y dylwn fod wedi gwneud datganiad. Roedd hynny oherwydd fy mod yn credu fy mod eisoes wedi gwneud hynny mewn gwirionedd, gan fy mod wedi bod yn ymateb i lawer o adroddiadau ar y cyfryngau mewn perthynas â RAAC. Felly, ymddiheuriadau am beidio â bod wedi gwneud datganiad ffurfiol, ond rwyf wedi bod yn ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd, yn enwedig mewn perthynas â’r sefyllfa yn ysbyty Llwynhelyg, lle gwn fod gan lawer o bobl bryderon mawr, a hoffwn gofnodi fy niolch hefyd am yr ymdrechion enfawr a wnaed gan staff yn ysbyty Llwynhelyg i wneud y sefyllfa honno’n ddiogel.
Nawr, rwy'n awyddus iawn i sicrhau y ceir dealltwriaeth o amserlen yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Fel y dywedaf, nid yw hyn wedi bod yn syndod i ni. Nid yw hyn yn rhywbeth a oedd yn syndod i ni ym mis Awst. Rydym wedi bod yn ymwybodol o hyn ers cael rhybudd ym mis Mai 2019, a ddywedodd wrthym fod risgiau posibl yn gysylltiedig â RAAC. Yr hyn a ddigwyddodd wedyn oedd bod sefydliadau’r GIG wedi cael y dasg o gynnal ymchwiliadau i geisio canfod presenoldeb RAAC ar draws holl ystad GIG Cymru. Ym mis Mehefin 2022, penododd Llywodraeth Cymru beiriannydd strwythurol arbenigol i adolygu’r adroddiadau hynny, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl gywir. Cwblhawyd y rheini ym mis Tachwedd 2022. Gwnaed cais pellach ym mis Chwefror eleni i sicrhau ein bod yn gwneud gwaith dilynol ar adroddiad y peiriannydd hwnnw, ac mae’r adroddiadau hynny’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, maent yn cael eu cwblhau, maent wedi’u casglu, maent yn cael eu hadolygu, felly mae hynny oll yn dal i ddigwydd, ond gwyddom ein bod eisoes wedi nodi lle mae'r problemau mwyaf. Ers mis Chwefror, fel y dywedaf, rydym wedi nodi lle mae'r problemau mwyaf, ac mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r mater.
O ran yr hyn sy'n digwydd nesaf, fel y dywedaf, fe ymwelais ym mis Awst, ac roedd yn ddiddorol gweld pa mor gyflym roedd yr ysbyty wedi mynd ati i sicrhau bod llawer iawn o bolion wedi'u gosod i sicrhau nad oedd perygl y byddai'r nenfydau'n cwympo. Felly, y materion diogelwch cychwynnol—credaf y gallwn fod yn hyderus fod hynny yn y lle iawn. Wrth gwrs, roedd yn rhaid inni symud pobl o'r wardiau hynny. Mae ymdrech enfawr yn mynd rhagddi i sicrhau nawr ein bod yn mynd i'r afael â materion RAAC yn y wardiau hynny. Nid yw’n mynd i fod yn rhad ac nid yw’n mynd i fod yn gyflym, ond ydym, fel y dywedwch, rydym yn gobeithio y bydd tair o’r wardiau hynny’n cael eu hailagor, gobeithio, erbyn diwedd y flwyddyn. Ond yn amlwg, bydd yn rhaid inni weld beth y dônt o hyd iddo wrth chwilio, felly credaf ein bod yn hyderus yn hynny o beth. Felly, y bwriad yn bendant iawn yw ailagor y wardiau hynny, os yn bosibl, ond yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau nad ydym yn rhoi pobl yn ôl mewn lleoliad ysbyty os oes unrhyw berygl o gwbl ei fod yn anniogel.
Diolch am eich datganiad, ac mae’n bwysig cofio’r £12.8 miliwn o arian lliniaru sydd wedi'i wario ar ysbyty Llwynhelyg. Ac mae hefyd yn briodol cydnabod y gwaith a wnaed ac ymdrech ac ymrwymiad yr holl staff i gamu i'r adwy a chadw gwasanaethau'n weithredol lle bynnag roedd hynny'n bosibl. Wrth gwrs, y cwestiwn yr hoffai pobl wybod yr ateb iddo yw: a yw’r gwasanaethau hynny na ellir eu darparu yn ysbyty Llwynhelyg ar hyn o bryd yn cael eu darparu mor agos i’w cartrefi â phosibl? A byddant yn ceisio cael atebion i hynny. Ond hoffwn ddiolch hefyd i’r prif weithredwr, a ddaeth â'r holl wleidyddion ynghyd i roi gwybod i ni beth oedd yn digwydd, ac sydd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, fel rydych chi wedi'i wneud, Weinidog, fel y gallwn ddeall a throsglwyddo'r ddealltwriaeth honno yn ôl i'r gymuned. A dyna fy nghais yma, ein bod ninnau hefyd yn chwarae ein rhan—pob un ohonom—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl yn y fath fodd fel nad ydym yn eu gadael yn bryderus am eu sefyllfa.
Diolch yn fawr, Joyce, ac rydych yn llygad eich lle: rydym yn ystyried hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ymateb iddo yn gyflym iawn. Mae sicrhau bod ein hysbytai yn ddiogel yn hanfodol. Felly, rydym wedi gorfod ysbeilio ein cyllidebau cyfalaf i ddod o hyd i’r £12.8 miliwn hwnnw. Ni fydd y £12.8 miliwn ar gael i'w wario nawr ar rai o'r prosiectau eraill roeddem wedi gobeithio ei wario arnynt, ond mae cadw pobl yn ddiogel yn flaenoriaeth hollbwysig. Felly, oes, mae angen rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd hefyd, a dyna pam fy mod wedi bod yn ceisio rhoi sylwebaeth, yn sicr yn y wasg, dros yr haf, er mwyn sicrhau tawelwch meddwl i bobl ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn—rydym o ddifrif yn ei gylch. Fel y dywedaf, nid yw wedi bod yn syndod i ni, ond ar ôl inni weld y manylion a'r perygl posibl, yna wrth gwrs fe wnaethom weithredu cyn gynted ag y daethom yn ymwybodol ohono.
Diolch, Weinidog. Bydd y cwestiwn amserol nesaf gan Peredur Owen Griffiths.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyllideb 2023-24 Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni sylwebaeth barhaus gan Weinidogion yn y cyfryngau dros yr haf? TQ836
Rydym wedi bod yn ystyried lle mae modd oedi, gohirio, ailflaenoriaethu a lleihau gwariant. Rydym yn gweithio i leihau effeithiau gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael y cyllid sydd ei angen fel nad ydym yn torri ein cyllideb, a fyddai’n creu sefyllfa fwy anodd y flwyddyn nesaf.
Diolch am yr ateb yna.
Dros yr haf, dywedwyd wrthym fod y Cabinet yn gweithio drwy’r haf ar fesurau i liniaru’r cyfyngiadau ariannol sy’n effeithio ar y gyllideb bresennol ac sy’n debygol o ddylanwadu ar gynllun y gyllideb nesaf. Ac rydym yn llwyr ddeall yr amgylchiadau hynod heriol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd o safbwynt ariannol: mae'r llanast a wnaeth gweinyddiaeth Truss o economi'r DU a'r ffaith bod gweinyddiaeth Sunak wedi rhoi ton newydd o fesurau cyni ar waith wedi hynny wedi golygu bod cyllid cyhoeddus, a oedd eisoes mewn cyflwr ansefydlog, bellach mewn sefyllfa enbyd. Am reswm da felly, disgrifiwyd y gyllideb bresennol gan y Llywodraeth fel yr un anoddaf ers datganoli.
Rydym wedi clywed droeon fod cyllideb bresennol Llywodraeth Cymru £900 miliwn yn is mewn termau real o gymharu â’r adeg y’i gosodwyd yn wreiddiol yn ystod adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yn 2021. Ac rwy'n ddiolchgar am eich esboniad y bore yma yn y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â sut y cyfrifwyd y ffigur hwnnw, ac y bydd datganiad pellach yn dod maes o law.
O ystyried y digwyddiadau ers cyllideb y gwanwyn Llywodraeth y DU, gan gynnwys gostyngiad chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr ers mis Mehefin, a allai’r Gweinidog egluro i’r Senedd sut mae’r diffyg hwn yn cael ei gynnwys ar hyn o bryd yng ngwaith y Cabinet a grybwyllwyd eisoes ar liniaru pwysau ariannol, ac i ba raddau rydych yn disgwyl iddo lywio cynllun y gyllideb ddilynol? Ac a allwch gadarnhau cyfanswm yr arbediad rydych yn gofyn i'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet ddod o hyd iddo o fewn eu llinellau gwariant, ac yn ôl pa ffigur rydych yn gweithio? A ydych yn chwilio am gyfanswm o £900 miliwn o arbedion; ac yna, a allech chi rannu hynny yn ôl refeniw a chyfalaf? Ar adegau o galedi ariannol fel y rhain, lle mae pob ceiniog yn cyfrif, mae galluogi craffu tryloyw ac effeithiol ar benderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru yn dod yn bwysicach fyth. Diolch yn fawr.
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, a hefyd am y cyfle yn y pwyllgor yn gynharach heddiw i allu nodi peth o’r gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio llenwi’r bwlch sydd gennym bellach yn ein cyllid o ganlyniad, fel rydych wedi’i ddisgrifio, i'r cyfnod o gyni, camreoli'r economi, ac yn enwedig yr effaith y mae chwyddiant yn ei chael ar ein cyllidebau.
Dros yr haf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd, ac rwyf wedi bod yn cyfarfod â fy nghyd-Aelodau'n unigol hefyd, i ddeall y pwysau o fewn yr adrannau hynny. A chredaf fod y ffaith ein bod wedi gwneud gwaith yn gymharol gynnar yn y flwyddyn ariannol yn bwysig iawn gan fod gennym broses fonitro fisol lle mae fy swyddogion yn cael gwybod gan ein grwpiau ar draws y Llywodraeth beth yw’r pwysau a beth yw’r gorwariant neu danwariant posibl ar bob un o'u cyllidebau, felly mewn gwirionedd, gallwn weld yn eithriadol o glir beth sy'n digwydd yn y cyllidebau ar draws y Llywodraeth, a daeth yn amlwg iawn yn gynnar iawn fod chwyddiant yn cael effaith fawr. Felly, roeddem o'r farn fod angen inni gymryd rhai camau unioni, a gwneud hynny cyn i benderfyniadau ddod mor derfynol fel bod gennym lai o le i symud.
Felly, mae wedi bod yn waith defnyddiol iawn. Carem pe gallwn ddweud mwy heddiw. Fy mwriad yw rhoi diweddariad llawn i’r Senedd ar y gwaith y buom yn ei wneud, ond nid ydym wedi cytuno eto ar y pecyn ar draws y Llywodraeth, ac rwy’n glir iawn fod yn rhaid iddo fod yn waith trawslywodraethol ac yn ateb trawslywodraethol i'r her.
O ran y £900 miliwn, hoffwn sicrhau fy nghyd-Aelodau nad wyf yn dymuno gweld £900 miliwn yn cael ei ailflaenoriaethu ar draws y Llywodraeth; rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud. Mae’n rhaid inni ystyried rhagdybiaethau ynghylch, er enghraifft, cyllid canlyniadol mewn perthynas â chyflogau'r GIG. Rydym yn awyddus iawn i gael rhywfaint o eglurder o'r diwedd gan Lywodraeth y DU ar y pwynt penodol hwnnw pan fyddwn yn cyfarfod fel Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos nesaf. Siaradais â Dirprwy Brif Weinidog yr Alban eto heddiw, ac roedd hi'n awyddus iawn inni fanteisio ar y cyfle i bwyso ar Lywodraeth y DU am yr eglurder hwnnw. Pan gawn hynny, gallwn ei gynnwys yn ein penderfyniadau, a gallai olygu bod gennym ddewisiadau gwahanol i’w gwneud. Felly, mae angen rhywfaint o eglurder arnom eto cyn y gallwn gyflwyno'r pecyn a'i ddisgrifio'n fanylach i'n cyd-Aelodau.
Tan y bore yma, roeddwn dan yr argraff fod Llywodraeth Cymru yn cael yr incwm o gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y flwyddyn, yn hytrach na dim ond amcangyfrif y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol; diolch i’r Gweinidog am gywiro’r gamddealltwriaeth honno yn gynharach. Ond am bob £10 miliwn ychwanegol a delir i weision sifil yn Lloegr sy’n talu treth sylfaenol, mae’r Trysorlys yn cael £2 filiwn mewn treth, gan greu cost net o £8 miliwn i’r Trysorlys. Yng Nghymru, mae’r £10 miliwn yn aros yr un fath, tra bo'r Trysorlys yn dal i gael y £2 filiwn mewn treth. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cael unrhyw beth tan y broses gysoni treth, a all gymryd hyd at dair blynedd. A yw’r Gweinidog yn fodlon gyda’r system hon? Os nad yw'n fodlon, a oes unrhyw sylwadau'n cael eu gwneud i unioni hyn?
Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y sylwadau hynny ac am y drafodaeth a gawsom yn y pwyllgor y bore yma, yn cydnabod pwysigrwydd ein trethi datganoledig yn ogystal â chyfraddau treth incwm Cymru i'n galluogi i osod ein cyllideb. Rwy'n credu bod y system sydd gennym—. Wyddoch chi, mae'n ddyddiau cynnar iawn; dim ond y taliadau cysoni cyntaf a oedd gennym ar gyfer y gyllideb hon, ac rydym yn edrych i weld nawr beth mae hynny'n ei olygu ar gyfer y gyllideb nesaf hefyd.
Credaf mai'r hyn y mae'r system fel y mae ar hyn o bryd yn ei wneud yw rhoi o leiaf lefel o sicrwydd inni gynllunio arni. Mae rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi bod yn weddol gadarn hyd yma. Maent wedi rhoi cryn dipyn o hyder inni gynllunio arno, a chredaf fod hynny wedi bod yn ddefnyddiol, yn hytrach efallai na chael adroddiadau misol, er enghraifft, gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi sy’n rhoi cyfraddau treth incwm Cymru i ni ac na fyddai’n rhoi’r math o hyder sydd ei angen arnom i gynllunio arno. Felly, credaf fod y system sydd gennym ar hyn o bryd yn dda; rydym yn bendant yn dal i’w phrofi ar hyn o bryd o ran cadernid y rhagolygon, ond fel y dywedaf, maent wedi bod yn dda hyd yn hyn.
Eleni, rydym yn gobeithio am gysoniad cadarnhaol y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs, os oes gennym sefyllfaoedd lle mae gennym gysoniadau negyddol, fel y maent wedi’u cael yn yr Alban, er enghraifft, ceir rhai mesurau a all ein helpu i reoli hynny ar draws blynyddoedd ariannol—er enghraifft, o ran benthyca. Fel arfer, ar gyfer cyfalaf yn unig y gallwn fenthyca fel ein bod yn gallu buddsoddi mewn seilwaith, ond mae gennym rywfaint o hyblygrwydd i fenthyca'n benodol ar gyfer rheoli anwadalrwydd treth. Felly, credaf fod y system sydd gennym yn addas i'r diben ar hyn o bryd. Mae’n ddyddiau cynnar o hyd, felly os oes angen unrhyw addasiad iddi, gallwn yn sicr nodi hynny, a gwn y bydd y Pwyllgor Cyllid yn cadw llygad barcud ar sut mae’r system yn gweithio hefyd.
Diolch i'r Gweinidog. Bydd y cwestiwn amserol olaf heddiw gan Russell George.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw fod pob un o saith bwrdd iechyd Cymru mewn statws uwchgyfeirio? TQ841
Rwyf wedi uwchgyfeirio tri bwrdd iechyd arall at drefn monitro uwch o ran cynllunio a chyllid. Golyga hyn fod pob un o’r saith bwrdd iechyd mewn trefn uwchgyfeirio o ran cynllunio a chyllid, oherwydd y sefyllfa ariannol hynod heriol yn dilyn cyfnod o chwyddiant a chyni sylweddol.
Weinidog, ni ddylai fod yn rhaid imi ddod i’r Siambr hon heddiw a chyflwyno cwestiwn amserol; dylech fod wedi cyflwyno datganiad ddoe ar fater mor bwysig i'r Aelodau yn y Siambr. Efallai y gallwch egluro pam na chyhoeddwyd datganiad ddoe.
Yr hyn y mae’r cyhoedd am ei wybod, Weinidog, yn enwedig y 28,000 o bobl sy’n aros dros ddwy flynedd am driniaeth, amser aros sydd, wrth gwrs, wedi’i ddileu mewn rhannau eraill o’r DU, yw beth mae hyn yn ei olygu iddynt mewn gwirionedd. A allwch chi egluro a nodi beth mae eich datganiad yn ei olygu heddiw i’r miloedd o bobl yng Nghymru sy’n aros am driniaeth GIG yng Nghymru? Oherwydd nid yw eich datganiad yn nodi hynny. Dywedwch wrthym heddiw, Weinidog. Mae eich datganiad yn dweud nad yw'r byrddau iechyd wedi darparu cynlluniau yn unol â’ch cyfarwyddyd. A yw’n wir nad oedd y cyfeiriad a osodwyd gennych ar gyfer y byrddau iechyd yn rhesymol nac yn gyraeddadwy, neu ai methiant ymhlith uwch dimau byrddau iechyd ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru sydd ar fai yn eich barn chi? Achos mae'n rhaid iddo fod y naill neu'r llall.
Fe ddywedoch chi yn eich datganiad fod yna ddiffygion ariannol cynyddol, pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, yn ogystal â sefyllfaoedd ariannol hynod heriol, ac nid yw hyn yn unigryw i Gymru. Rwy’n derbyn bod gwasanaethau iechyd yn cael eu heffeithio ledled y DU a ledled y byd—rwy’n derbyn hynny—ond y Llywodraeth Lafur hon yw’r unig Lywodraeth yn y DU sydd wedi torri’r gyllideb iechyd nid unwaith, ond ddwywaith. Dyna benderfyniad rydych chi wedi’i wneud yma yng Nghymru. Rydych yn gofyn i fyrddau iechyd wneud mwy am lai, Weinidog. Rydych yn ysgrifennu at fyrddau iechyd, rydych yn nodi eich blaenoriaethau, yn gywir ddigon, ond os yw popeth yn flaenoriaeth, yna nid oes unrhyw beth yn flaenoriaeth. Yr hyn yr hoffwn ei ofyn, Weinidog, yw a ydych chi hefyd wedi dweud wrth fyrddau iechyd beth na ddylai fod yn flaenoriaeth iddynt, gan na chredaf y gallwch ei chael hi'r ddwy ffordd ar hyn. Felly, os gwelwch yn dda, Weinidog, dywedwch wrthym beth na ddylai fod yn flaenoriaethau i fyrddau iechyd.
A allwch chi hefyd gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu’r gyllideb iechyd yn y flwyddyn ariannol hon? A allwch chi gadarnhau na fydd unrhyw doriadau pellach i’r gyllideb iechyd, ac a allwch chi hefyd nodi heddiw beth mae’r datganiad hwn yn ei olygu ar gyfer y gyllideb nesaf yn 2024-25? A fyddwch chi'n ceisio diogelu'r gyllideb iechyd mewn termau real y flwyddyn nesaf? Yn y pen draw, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i unioni’r sefyllfa hon? Oherwydd darllenais eich datganiad heddiw, pob tudalen ohono, ac nid yw'n nodi beth rydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth, beth rydych chi'n ei wneud fel Gweinidog i ddatrys y sefyllfa. Rwy'n credu bod pobl Cymru eisiau eglurder ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu iddynt hwy.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n deall y rhwystredigaeth. Rwy’n deall rhwystredigaeth y cyhoedd pan welant fod byrddau iechyd yn ei chael hi'n anodd mantoli’r cyfrifon. Mae rheswm pam eu bod yn ei chael hi'n anodd mantoli'r cyfrifon. Y rheswm yw bod y ffordd wael y mae Llywodraeth y DU wedi rheoli’r economi wedi arwain at chwyddiant sylweddol, sy’n cael effaith aruthrol nid yn unig ar bob un aelod o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r arian i dalu am eu hynni—mae byrddau iechyd hefyd yn ei chael hi'n anodd talu, er enghraifft, am eu hynni.
Ar gostau COVID, fe wnaethom ddechrau brechu pobl yr wythnos hon—pigiad atgyfnerthu COVID arall—ond yn sydyn iawn, nid ydym yn cael unrhyw arian ychwanegol o'r canol ar gyfer hynny. Ond mae'n rhaid inni ddod o hyd i'r arian. Mae’n rhaid iddynt hwy ddod o hyd i’r arian, y byrddau iechyd, o’r gyllideb sydd ganddynt. Hyn ar adeg pan fo'r galw ar y GIG yn dal i gynyddu, gan fod gennym boblogaeth sy'n heneiddio, mae gennym ofal cymhleth, mae gennym 60 y cant o'r boblogaeth dros bwysau neu'n ordew. Mae gennym yr holl bethau hyn y mae byrddau iechyd yn ceisio ymgodymu â nhw. Felly, rydych yn llygad eich lle—mae'n rhaid inni gael sgwrs ddifrifol iawn ynglŷn ag a allwn wneud y cyfan, a allwn barhau fel hyn. Rwyf wedi nodi'n glir iawn ar ben-blwydd y GIG nad yw hynny'n bosibl—nad yw'r sefyllfa hon yn gynaliadwy mewn gwirionedd, ac rydym yn mynd i orfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn.
Do, rwyf eisoes wedi dweud yn glir iawn wrth y byrddau iechyd fod yn rhaid iddynt ganolbwyntio ar chwe blaenoriaeth. Dyna’r tro cyntaf iddynt gael cymaint o eglurder ar, 'Rwy’n cydnabod na allwch wneud popeth yn y sefyllfa gyllidebol bresennol, felly dyma eich chwe blaenoriaeth i chi ganolbwyntio arnynt’. Felly, rwyf wedi bod yn glir iawn ar hynny. Y cwestiwn nesaf yw, 'Beth ydych chi'n mynd i'w ddad-flaenoriaethu?', gan fod hynny'n wir hefyd. Felly, rwyf eisoes wedi gofyn iddynt sicrhau nad ydynt yn gwneud ymyriadau lle gwyddom nad yw’r canlyniad iechyd ar y lefel y dylai fod, a lle mae esboniadau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a rhesymau clinigol dros ei wneud. Felly, rwyf eisoes, unwaith eto, wedi rhoi cyfarwyddyd fod yn rhaid iddynt roi'r gorau i wneud yr ymyriadau hynny.
Felly, rydym yn bod yn glir gyda nhw, ond gadewch imi nodi'n gwbl glir mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw penderfynu ble caiff yr arian hwn ei wario o fewn y byrddau iechyd, gan eu bod yn nes at y cyhoedd. Ni allaf ddweud wrthych beth sy'n ddiogel i'w dorri gan nad wyf yn gwybod a oes gennych broblem fwy gyda chanser mewn un ardal, neu broblem fwy gydag orthopedeg. Dyna'r math o wybodaeth leol y mae'n rhaid i'r byrddau iechyd benderfynu arni eu hunain. Felly, gallwch fod yn gyfarwyddol hyd at bwynt, ond mewn gwirionedd, mae yna reswm pam ein bod yn penodi byrddau iechyd.
Wrth gwrs ein bod yn pryderu ynglŷn â sefyllfa'r diffyg. Bu yna adeg pan gafwyd toriad i’r gyllideb iechyd, a’r hyn a wnaethom flynyddoedd yn ôl oedd cynyddu’r gyllideb ofal. Mae pawb sy'n ymwneud ag iechyd a gofal yn deall bod cysylltiad annatod rhwng iechyd a gofal. Mae pawb yn deall hynny. Nid wyf yn gwybod pam nad yw'r Torïaid yn deall hynny. Ond mae pawb yn y gwasanaeth iechyd yn deall y cysylltiad hwnnw, felly credaf ei bod yn bwysig iawn eich bod chi'n deall hynny. Nid oes toriad wedi bod i'r gyllideb iechyd—gadewch imi ddweud hynny'n glir. Mae cynnydd wedi bod yn y swm o arian sy’n mynd i’r gyllideb iechyd, ond y broblem yw, os ydych chi'n meddwl am bethau fel y ffaith bod meddyginiaethau wedi cynyddu oddeutu 11 y cant o ran chwyddiant, nid oes mwy o arian ar gyfer hynny—mae'n rhaid ichi ddod o hyd i arbedion o rywle arall.
Felly, mae’n her enfawr. Nid her yng Nghymru'n unig yw hi. Bûm yn siarad â fy Ngweinidog cyfatebol yn yr Alban y bore yma. Mae pob un ohonom yn yr un cwch. Mae pob un ohonom yn ei chael hi'n anodd a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall bod newid ar y ffordd, fod hyn yn mynd i fod yn anodd, ac y bydd angen inni gael sgwrs ddifrifol iawn ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud. Mae gan y cyhoedd gyfrifoldeb i ddod gyda ni ar y daith hon i'n helpu i gefnogi eu hiechyd eu hunain hefyd.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Mae'n ddechrau blwyddyn newydd yn y Senedd, ond rwy'n ofni mai'r un hen stori yw hi ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae’r ffaith bod y cyhoeddiad hwn wedi’i wneud yn hwyr y bore yma heb ddatganiad llafar wedi’i drefnu ymlaen llaw yn y Senedd yn awgrymu y byddai’n well gan y Llywodraeth osgoi craffu. Sylwais nad ymatebodd y Gweinidog i gwestiwn cyntaf Russell George, felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn egluro pam fod y Llywodraeth yn ystyried bod gwneud cyhoeddiad mor fawr yn y modd hwn, a heb fawr o gyfle i graffu, yn ddigonol.
Yn gwbl briodol, bydd pobl yn crafu eu pennau ar y pwynt hwn ynglŷn â gwir effeithiolrwydd y mesurau uwchgyfeirio hyn a gallu Llywodraeth Cymru i’w cyflawni. Rydym eisoes wedi gweld bwrdd Betsi Cadwaladr yn dod yn destun mesurau arbennig unwaith eto yn gynharach eleni, ychydig dros ddwy flynedd ar ôl i'r mesurau gael eu diddymu'n wreiddiol yn groes i gyngor yr archwilydd cyffredinol. Ond mae effeithiolrwydd cyfyngedig y protocolau uwchgyfeirio hefyd yn amlwg mewn byrddau iechyd eraill. Er enghraifft, mae bwrdd Caerdydd a’r Fro yn parhau i fod yn destun mesurau monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid er eu bod wedi bod mewn diffyg ariannol am bedwar o’r pum cyfnod tair blynedd diwethaf. Mae bwrdd Hywel Dda wedi methu mantoli’r gyllideb ar unrhyw adeg ers 2016-17, ac eto, bydd yn cadw ei statws uwchgyfeirio presennol o ymyrraeth wedi’i thargedu. Ar y sail hon, pa mor effeithiol yw fframwaith y mesurau arbennig, ac a yw’n bryd cynnal ymchwiliad annibynnol i weld a yw’n sicrhau gwelliannau i fyrddau iechyd, ac yn bwysicaf oll, i ansawdd gofal ledled Cymru? Mae rhywbeth yn rhywle yn methu. Nid yw naill ai’r fframweithiau, neu’r Llywodraeth sy’n eu rhoi ar waith, yn addas i'r diben. Pa un? Beth fydd y mesurau monitro uwch hyn yn ei olygu i wasanaethau ar lawr gwlad? A fydd y Llywodraeth yn gwrthod talu am unrhyw orwariant eleni neu’r flwyddyn nesaf? A oes disgwyl i fyrddau iechyd roi’r gorau i ragor o ofal wedi’i gynllunio er mwyn arbed costau? Yn syml, nid yw pobl yn deall beth mae’r mesurau monitro uwch hyn yn ei olygu a’r hyn y maent yn bwriadu ei gyflawni, felly rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ymhelaethu ar hynny.
Er bod effaith COVID a chwyddiant yn ddi-os wedi cyfrannu at y sefyllfa hon—a chlywsom y Gweinidog yn beio COVID yn gynharach—dim ond rhan o’r darlun yw hyn. Mae adroddiad Archwilio Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod gwariant ar staff asiantaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed o £325 miliwn yn 2022-23, ac mai swyddi gwag staff parhaol oedd y prif reswm am hyn o bell ffordd. Efallai y cofiwch i ni, yma ym Mhlaid Cymru, gyflwyno cynllun yn gynharach eleni i fynd i’r afael â rhai o’r heriau brys sy’n wynebu ein gwasanaeth iechyd, a oedd yn cynnwys blaenoriaethu cadw staff a mynd i’r afael â'r symiau syfrdanol sy’n cael eu talu i’r asiantaethau preifat. Ar y pryd, ymatebodd y Gweinidog drwy ddweud bod gwaith eisoes ar y gweill i leihau gwariant Llywodraeth Cymru ar staff asiantaeth. Felly, naw mis yn ddiweddarach, faint o hyder sydd ganddi fod y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth? A fyddwn yn gweld gostyngiad mewn gwariant ar asiantaethau dros y flwyddyn ariannol gyfredol? Yn olaf, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod methiant y Ceidwadwyr yn San Steffan i ddarparu’r cyllid sydd ei angen arnom yng Nghymru i redeg gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol ac yn effeithlon yma yn bygwth iechyd a lles pobl Cymru?
Diolch yn fawr iawn. Credaf fod esboniad o'r fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd yn bwysig. Yr hyn sydd gennym yw pedair lefel o uwchgyfeirio. Mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn aml. Nid yw’n rhywbeth lle rydym yn rhoi adroddiad i’r Senedd yn awtomatig. Os yw hynny'n rhywbeth yr hoffech ei weld yn y dyfodol, rwy'n fodlon cadw hynny mewn cof fel rhywbeth rydym yn ei ystyried, ond credaf mai dyna pam y cyhoeddwyd y datganiad yn gynharach heddiw.
Felly, gadewch imi sôn wrthych am y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd a pham ein bod wedi gwneud yr hyn a wnaethom heddiw. Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Os na allant wneud hynny, mae'n golygu bod lefel y monitro'n cynyddu i fonitro uwch, a dyna'r sefyllfa y mae pob un ohonynt ynddi bellach, felly dyna pam ein bod wedi gorfod rhoi pob un ohonynt yn y fframwaith uwchgyfeirio hwnnw. Nawr, beth mae hynny'n ei olygu? Wel, mae'n golygu y bydd pob un ohonynt yn cael llawer mwy o gyfarwyddyd gan Weithrediaeth y GIG, bydd llawer mwy o fonitro, ac wrth gwrs, rydym yn cael trafodaethau aml iawn gyda nhw ar hyn o bryd ynglŷn â sut maent am fynd i’r afael â mater y diffygion sylweddol y maent yn eu rhagweld yn y flwyddyn ariannol hon.
Nid yw'n deg dweud, 'Edrychwch, mewn gwirionedd, maent bob amser yn mynd i fyny un ffordd.' Y ffaith amdani yw, yn y datganiad hwn, fod bwrdd Cwm Taf Morgannwg—rydym wedi gweld rhai gwelliannau sylweddol ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg, yn enwedig mewn perthynas â’u gofal mamolaeth a newyddenedigol. Felly, oherwydd yr ymdrechion y maent wedi'u gwneud, rydym wedi gallu lleihau lefel yr ymyrraeth ar hynny, felly mae'n dibynnu ble rydym arni.
Gadewch imi fynd i’r afael â rhai o’r materion eraill y gwnaethoch ofyn amdanynt. Arian i dalu am orwariant—nid oes gennym arian i dalu am orwariant eleni. Rydych wedi clywed ein bod i bob pwrpas yn cael £900 miliwn yn llai na'r hyn y dylem ei gael, a dyna pam, yn aml iawn, eu bod yn dweud eu bod yn mynd i gael diffyg, ond mewn gwirionedd, gallwn ddod o hyd i rywbeth yn ganolog i'w helpu fel arfer. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd eleni, felly rydym mewn sefyllfa wirioneddol anodd, sy'n wahanol i'r sefyllfa arferol, ac mae hynny oherwydd y ffordd y mae'r economi wedi'i rhedeg gan y Ceidwadwyr—y chwyddiant afreolus rydym yn ei weld ar hyn o bryd.
Nawr, o ran staff asiantaeth, edrychwch, eich blaenoriaethau chi, ac roedd yn dda eich bod wedi comisiynu'r adroddiad hwnnw ar sut y dylem atgyweirio'r GIG—y ffaith amdani yw ein bod yn gwneud pob un ohonynt eisoes. Ond y sefyllfa o ran staff asiantaeth—wrth gwrs, yr hyn rydym am ei weld yw staff parhaol yn cael eu recriwtio a gostyngiad yn nifer y staff asiantaeth. Gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn gweld gostyngiad yn nifer y staff asiantaeth. Rydym wedi bod yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r partneriaid priodol i ddweud, 'Sut rydym yn gwneud hyn?', heb niweidio'r gwasanaethau y byddwn yn eu gweld yn cael eu darparu, cyn belled ag y bo modd, oherwydd y gwir amdani yw fy mod yn cofio treulio’r noson fel nyrs yn ysbyty Llwynhelyg, ac roedd 50 y cant o’r nyrsys a oedd yn gweithio y noson honno yn nyrsys asiantaeth. Nawr, gallwch gael gwared ar hynny, ond byddai'n rhaid ichi gael gwared ar y rhan fwyaf o'r ysbyty ar yr un pryd.
Felly, mae'n rhaid ichi wneud hyn yn ofalus iawn a deall bod canlyniad i gael gwared ar staff asiantaeth, o ran nifer y gwelyau y gallwch eu darparu a'r hyn sydd ar gael yn y gymuned. Yn amlwg, mewn byd delfrydol, dyna rydym am ei weld—staff parhaol, lle na fydd yn rhaid inni dalu staff asiantaeth. Mae'n ymwneud â sut rydych chi'n gwneud hynny heb weld y gwasanaethau'n methu. Rydym yn mynd i'r afael â'r mater—mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo—ond gallaf roi sicrwydd pendant i chi y byddwn yn gweld gostyngiad yn nifer y staff asiantaeth a ddefnyddiwn.
Diolch i'r Gweinidog.
Fe symundwn ni ymlaen nawr at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf heddiw, Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Mae’n hawdd anghofio bod cenhedlaeth arwrol Gareth Miles yn heneiddio—roedd o’n 85 yn marw yr wythnos diwethaf—ond fyddwn ni ddim, a ddylem ni ddim, anghofio ei fod o’n un o arloeswyr pennaf y chwyldro ddaru drawsnewid Cymru a statws y Gymraeg, fel un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, ac, wrth gwrs, wrth arwain at Senedd i Gymru.
Wedi ei fagu yn y Waunfawr ger Caernarfon, rhoddodd y gorau i’w swydd fel athro Saesneg a Ffrangeg, symud i Bontypridd a dod yn drefnydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, cyn cymryd y cam dewr o fynd yn sgwennwr llawn amser.
Gyda’i ymrwymiad i Farcsiaeth a’r mudiad gwrth-apartheid, tystiai ei fywyd i’w gred angerddol fod y frwydr dros Gymru a’r Gymraeg yn rhan o’r frwydr ryngwladol dros gyfiawnder.
Wrth anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg, fe ddylem ni i gyd fod wedi gwrando ar Gareth Miles dros 50 mlynedd yn ôl. Yn 1970 fe gyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Pelydr-Ll—nid 'pelydr x' ond 'pelydr ll', peiriant a fyddai'n troi pawb yn siaradwyr Cymraeg. Dim ond pwyntio'r peiriant atyn nhw oedd ei angen, ac mi fuasem ni wedi chwalu'r targed o filiwn o siaradwyr erbyn hyn.
Wrth gydymdeimlo'n ddwys â'i wraig, Gina, a'i ferched Elen, Branwen ac Eiry, cofiwn am y digrifwch yn ogystal â'r difrifoldeb a nodweddai'r Cymro mawr, Gareth Miles. Mae ein dyled yn fawr iddo.
Drwy gydol mis Medi, mae Bus Users UK yn cynnal eu hymgyrch Mis Dal y Bws. Bob dydd, mae pobl mewn cymunedau ledled Cymru yn dal bws. Mae bysiau'n wasanaethau hanfodol y mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt ac rydym i gyd yn elwa ohonynt. Mae bysiau'n dda i'n heconomi. Maent yn helpu pobl i gyrraedd sefydliadau addysg, cyflogaeth, siopau a gweithgareddau hamdden, gan gyfrannu biliynau i'r economi.
Canfu ymchwil gan Brifysgol Leeds fod gwelliannau i gysylltedd bysiau yn gysylltiedig â gostyngiadau mewn amddifadedd cymdeithasol. Mae bysiau'n dda i'n hiechyd. Ar wahân i sicrhau bod pawb yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol fel lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, mae bysiau'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gallant hefyd helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae bysiau'n dda i'n hamgylchedd. Gall bws deulawr llawn dynnu 75 o geir oddi ar y ffordd, gan leihau tagfeydd ac allyriadau. Mewn gwirionedd, pe bai pawb ar draws y DU yn newid un daith car y mis yn daith bws, byddai biliwn yn llai o deithiau car ac arbediad o 2 filiwn tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn—dim ond un daith y mis. Ar yr adeg anodd hon i fysiau a'r rhai yr effeithir arnynt gan y toriadau i wasanaethau rydym yn eu gweld yng Nghymru, credaf y dylem i gyd fanteisio ar y cyfle hwn i gefnogi'r ymgyrch bwysig hon, wrth inni barhau i drafod lefelau cyllido bysiau a'r ffordd orau y gellir eu darparu. Gadewch i bawb ohonom gefnogi hyn a dal y bws.
Diolch am y datganiadau yna.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 6, sef dadl ar ddeiseb P-06-1337, 'Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Cynnig NDM8345 Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r ddeiseb P-06-1337 'Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol', a gasglodd 10,539 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro.
Ar ran ein Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.
Yn yr wythnos pan fyddwn yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr, mae'r ddadl hon yn ymwneud â deiseb a lofnodwyd gan 10,539 o bobl yn galw am gamau gweithredu i ddiogelu ei fan geni, castell Sycharth. Mae'r ddeiseb hon yn ymwneud â diogelu, mae'n ymwneud â dathlu ac mae'n ymwneud â dysgu o'n hanes. Nid o lyfrau neu wefannau ar-lein yn unig y gwnawn hynny, ond drwy ddathlu lleoliadau allweddol yn hanes Cymru. Mae castell Sycharth yn un lleoliad o'r fath.
Fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, cefais y fraint o ymweld â'r safle yn gynharach eleni. Cefais gwmni fy nghyd-Aelod o'r pwyllgor, Joel James, y prif ddeisebydd Elfed Wyn ap Elwyn, sydd yma heddiw gyda'i blant hyfryd, aelodau o Gymdeithas Owain Glyndŵr a'r asiant dros berchnogion y tir. Rwyf hefyd yn ddiolchgar, Lywydd, i'r Dirprwy Weinidog am ganiatáu i uwch swyddogion o Cadw ymuno â ni yno hefyd. Yn ystod yr ymweliad, daeth yn amlwg fod yna heriau. Mae gan y tenant presennol les am oes, nid yw'r safle'n hawdd i'w gyrraedd, nac yn hawdd dod o hyd iddo—credwch fi, cefais drafferth fy hun—ac nid oes gennym gymaint o wybodaeth ag yr hoffem o ran sut olwg oedd ar y safle yn nyddiau Glyndŵr. Nawr, mae'r pwynt olaf, Lywydd, yn gwneud ailadeiladu'n anos. Fodd bynnag, nid yw'n golygu na ddylem weithredu. Rhaid i genedlaethau'r dyfodol, fel plant Elfed, allu nodi'r safle hanesyddol hwnnw. Fe wnaed hyn yn glir iawn i mi gan ddisgyblion ysgol leol, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, ar y diwrnod yr ymwelais i a Joel â hi. Maent yn falch o'u hynafiad enwog ac maent eisiau i'w cymuned fod yn lle y gall pobl o bob rhan o Gymru ac ar draws y byd ymweld ag ef a dysgu am Owain Glyndŵr.
Nawr, Lywydd, mae dwy ffordd y gallai Llywodraeth Cymru ymateb yn gadarnhaol i'r ddeiseb boblogaidd hon. Yn gyntaf, gallent wella arwyddion ar y safle. Arwydd bach, cynnil ar y ffordd i ddangos eich bod yn y lle iawn. Ar hyn o bryd, fel y dywedais yn gynharach, mae'n llawer rhy hawdd i rywun fod yn chwilio am y safle a gyrru'n syth heibio iddo. Digwyddodd hyn i mi rai misoedd yn ôl. Yn ail, Lywydd, fe allai ac fe ddylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddifrifol i gefnogi cynigion i greu canolfan ymwelwyr. Byddai hon nid yn unig yn ffordd i bobl leol gadw'r hanes yn fyw, byddai hefyd yn creu ffordd hygyrch i bawb allu dod i ymgysylltu â stori Owain Glyndŵr drwy'r cartref hynafol hwn.
Lywydd, mae Cymru yn genedl fwyfwy hyderus. Os ydym am adeiladu ar yr hyder hwnnw, mae angen inni ddeall a dathlu ein hanes—boed yn Siartwyr, Lywydd, neu'r hyn a ddigwyddodd yn yr 1980au pan ddistrywiodd y Torïaid gymunedau fel fy un i yn Alun a Glannau Dyfrdwy, neu Owain Glyndŵr yn wir. Rhaid i ni fel Cymry allu cael gwell dealltwriaeth o'r digwyddiadau a wnaeth ein ffurfio.
Fel y dywedais yn gynharach, Lywydd, mae lle yn rhan bwysig o hanes. Diolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb hon ac am ddod â hi at galon ein democratiaeth. Diolch i'r dros 10,000 o bobl a lofnododd y ddeiseb ac a fu'n ymwneud â hi ers hynny.
Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau a'r Dirprwy Weinidog yn cofio ein bod yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr ddydd Sadwrn, diwrnod pan ddown at ein gilydd yng Nghymru i ddathlu bywyd ac etifeddiaeth Tywysog Cymru a oedd hefyd yn wrthryfelwr, a'n bod yn defnyddio'r ddadl hon heddiw yn y Senedd i gefnogi ateb sy'n cofio arwr Cymreig. Lywydd, fel y dywedodd y disgyblion yn ysgol Llangedwyn, gadewch inni wneud mwy i hyrwyddo castell Sycharth. Gadewch inni wneud mwy i hyrwyddo stori Owain Glyndŵr, ac fel y byddaf fi a Joel James yn cofio am amser hir i ddod, fel roeddent yn ei ddweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Hir oes i gastell Sycharth'. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebydd am godi pwnc mor bwysig â hwn a hefyd diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, am agor y ddadl hon. Unwaith eto, mae'r ddeiseb hon yn tynnu sylw at y ffaith bod gennym broblem fawr yng Nghymru o ran diogelu a hyrwyddo ein treftadaeth hanesyddol a diwylliannol. Mae'r ffaith ein bod wedi cael y ddeiseb hon gyda dros 10,000 o lofnodion arni yn dangos yn glir fod pobl ar draws y wlad yn teimlo, unwaith eto, nad ydynt wedi eu grymuso ddigon i allu penderfynu drostynt eu hunain sut mae eu cymunedau'n cael ei siapio.
Dysgasom o'n hymweliad â Sycharth ac Ysgol Llangedwyn fod Cadw, mewn cydweithrediad â'r tirfeddiannwr, yn rhoi camau ar waith i wella a hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth a mynediad at y safle, ond bod angen gwneud llawer mwy i ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, megis yr awdurdod lleol. Yn wir, fel y soniwyd eisoes, nid oedd unrhyw arwyddion stryd o gwbl i fy nghyfeirio at yr heneb gofrestredig, a chredaf mai'r rheswm sylfaenol pam nad yw rhanddeiliaid eraill wedi ymgysylltu yw oherwydd nad ydynt yn ystyried y safle hwn yn ased. Daw hyn â mi at yr hyn rwy'n teimlo y mae'r ddeiseb hon yn tynnu sylw ato mewn gwirionedd. Fel y soniwyd, mae gan Cadw berthynas gadarnhaol gyda'r tirfeddiannwr ac mae ganddynt warcheidiaeth dros Sycharth, ond nid oedd hyn bob amser yn wir. Ceir llawer o enghreifftiau eraill ledled Cymru lle nad yw hyn yn wir. Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â hyn a sicrhau nad yw ein hasedau treftadaeth a chymunedol yn cael eu gadael i ddirywio. Er bod Cadw yn cydnabod, yn hyrwyddo ac yn diogelu llawer o adeiladau a safleoedd hanesyddol arwyddocaol, y rhai sy'n methu bodloni meini prawf llym Cadw ond sydd â gwerth cymunedol uchel er hynny yw'r rhai sy'n cael eu gadael gan amlaf heb statws gwarchodedig digonol, a chânt eu gadael i ddadfeilio neu cânt eu dinistrio'n ddireswm. Mae hen ysgol y merched yn y Bont-faen a felodrom Caerdydd yn ddwy enghraifft yn fy rhanbarth i y gallaf dynnu sylw atynt. Nid wyf yn credu y dylai cyhoedd Cymru orfod llofnodi deisebau o'r math hwn mewn ymgais daer i gael Llywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma yng Nghymru er mwyn sbarduno Cadw ac eraill i weithredu mwy. Dylai fod mecanwaith llawer gwell ar waith i sicrhau bod ymgynghori priodol yn digwydd gyda chymunedau a bod eu barn yn cael ystyriaeth ddilys wrth benderfynu beth sydd angen ei ddiogelu. Ar ben hynny, ceir angen clir am ystod ehangach o lefelau statws gwarchodedig sy'n cydnabod, hyd yn oed os nad yw safle neu adeilad yn deilwng o restriad gradd I neu II, y gall trigolion ddal i fod yn sicr na fydd rhywbeth y maent yn ei ystyried yn werthfawr yn cael ei ddinistrio'n ddireswm.
Yn olaf, Lywydd dros dro, credaf y dylem hefyd gael cosbau llawer llymach i berchnogion tir ac adeiladau sy'n amlwg yn diystyru'r rheolau ynghylch lleoedd o bwysigrwydd hanesyddol a chymunedol. Fel y soniwyd yn y Siambr ddoe, mae Cilgant Guildford yng Nghaerdydd, yr ymgyrchodd y gymuned yn galed i'w achub, bellach yn bentwr o rwbel. Yn amlwg, nid yw'r datblygwyr yn poeni am ganlyniadau dinistrio'r dreftadaeth hon.
Yn achos Sycharth, credaf fod y tirfeddiannwr presennol yn ymwybodol iawn o arwyddocâd hanesyddol y safle, ond y gwir amdani yw efallai na fydd perchnogion dilynol mor ofalgar, ac felly dylai safle sydd mor bwysig yn hanesyddol i Gymru allu dibynnu bob amser ar yr amddiffyniadau cryfaf posibl a gorfodaeth lawn.
Mae gennym adnodd gwerthfawr yng Nghymru yn ein treftadaeth y gallwn ei ddefnyddio i helpu i hyrwyddo twristiaeth ac i ddysgu mwy am ein hanes ein hunain, ac er bod rhai enghreifftiau rhagorol lle rydym wedi diogelu, adnewyddu a datblygu hanes byw—Sain Ffagan yw'r enghraifft amlwg—mae'n amlwg nad ydym yn gwneud digon. Rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran pawb sy'n teimlo'n rhwystredig wrth weld treftadaeth yn cael ei cholli oherwydd bod y Llywodraeth hon wedi methu gweithredu, ac wedi methu dod o hyd i ffordd o rymuso cymunedau i ddiogelu'r safleoedd a'r adeiladau sy'n bwysig iddynt, a hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried rhoi camau cadarnhaol ar waith i fynd i'r afael â hyn. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Elfed am gyflwyno’r ddeiseb bwysig hon, ac ategu ei bod hi'n hyfryd dy weld di yma, a hefyd diolch i bawb—y 10,539 o bobl—a lofnododd y ddeiseb. Ac er fy mod yn falch o gael y cyfle i siarad a chefnogi’r ddeiseb, mae gen i deimladau cymysg bod yn rhaid inni fel Cymry barhau i wneud yr achos o ran pwysigrwydd nid yn unig gwarchod ond dathlu a hyrwyddo safleoedd fel Sycharth, safleoedd sydd wedi chwarae rhan mor bwysig o ran datblygiad ein cenedl, gan gynnwys y Senedd hon, ond sydd i bob pwrpas yn anghofiedig, gyda ychydig iawn o bobl yma’n Nghymru yn gwybod am eu bodolaeth, heb sôn am eu harwyddocâd. Ac efallai fod hynny’n cael ei adlewyrchu o ran faint sydd yma’n gwrando ar y ddadl hon heddiw, ac yn cyfrannu. Mi soniodd rhywun y bore yma wrthyf i, oedd yn ymwybodol o’r ddadl hon, ‘Meddyliwch, os buasai Sycharth yn Iwerddon, beth fyddai’n cael ei wneud ohono fo.’ Mae’n rhywbeth efallai inni feddwl ac adlewyrchu arno fo.
Mi dderbyniais gryn dipyn o ohebiaeth ar y mater ers dod yn Aelod o’r Senedd hon, ac ysgrifennais at y Dirprwy Weinidog i fynegi fy mhryder personol o ran y diffyg sylw sydd wedi ei roi i safle Sycharth, gan dderbyn ateb amddiffynnol yn nodi:
‘Nid wyf yn cytuno gyda’r honiad bod Llywodraeth Cymru wedi esgeuluso Sycharth. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian sylweddol i warchod Sycharth, ynghyd â safleoedd hanesyddol eraill dan berchnogaeth breifat’,
ac ati,
‘gan gyflwyno cyfuniad o gadwraeth, mynediad i’r cyhoedd a dehongli ar bob safle.’
Ond mi hoffwn i herio hynny heddiw, a does dim ond angen ichi ymweld â Sycharth neu ymweld â gwefan Cadw i wybod bod Sycharth wedi ei esgeuluso ac nad ydy ei arwyddocâd yn cael ei ddathlu na’i hyrwyddo. Yn wir, os ewch chi ar wefan Cadw, nid oes hyd yn oed llun o Sycharth ar fap hanes Cymru sy’n olrhain hanes Owain Glyndŵr, er bod cyfeiriad ato. Does dim modd gwybod lle mae’r safle, na sut i’w gyrraedd chwaith. Yn wir, os cliciwch ar linc ar wefan Cadw ynglŷn â safle arall o bwys yn hanes Owain Glyndŵr, sef Glyndyfrdwy, cyfeirir chi at wefan uniaith Saesneg sydd gyda’r teitl ‘Welcome! to the Ancient Historic Sites of England’.
Os chwiliwch chi am ‘Sycharth’ o fewn safle gwefan Cadw, gallwch hefyd, o dyrio, ddod ar draws dogfen uniaith Saesneg sy’n dyddio o 2010, ‘Owain Glyndŵr and his Uprising: Interpretation Plan.’
Dywed y rhagair i’r ddogfen hon:
'Nod y cynllun dehongli hwn yw helpu i arwain a llywio prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw a gwariant',
ac
'yr amcanion yw cynyddu gwerth economaidd treftadaeth drwy gynyddu nifer, hyd a gwerth ymweliadau treftadaeth. Mae'r cynllun hwn yn argymell camau gweithredu a mentrau a fydd yn gwneud safleoedd sy'n gysylltiedig ag Owain Glyndŵr a'i wrthryfel yn fwy hygyrch yn ddeallusol ac yn fwy pleserus i dwristiaid a thrigolion.'
Gwna nifer o argymhellion, a hoffwn wybod beth ddaeth o’r astudiaeth hon. Oherwydd, o ymweld â’r safleoedd a nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys Sycharth, ac o edrych ar wefan Cadw ei hun, a hefyd gwefan Croeso Cymru, dydy o ddim yn ymddangos imi fod Cadw na Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r cynllun hwn ar waith.
Pam mae'n bwysig ein bod ni'n unioni hyn? Os ydych wedi ymweld â Sycharth, neu wedi gweld llun, byddwch yn ymwybodol iawn mai ychydig iawn sydd i’w weld yn Sycharth heddiw o'i gymharu â chestyll mawreddog Edward I, sydd yn cael eu dathlu a’u hyrwyddo gan Cadw a Croeso Cymru. Mae rheswm da am hynny, gan iddo gael ei losgi gan fyddin Tywysog Harri ym 1403, ddaeth yn ddiweddarach yn Harri V. Serch hynny, diolch i gerdd Iolo Goch, sy’n disgrifio nid yn unig yr adeiladau yn Sycharth ond hefyd yr hwyl a’r asbri oedd yno, mae gennym syniad da iawn o ran sut oedd Sycharth ar ei anterth. Ategir hyn gan waith cloddio fu ar y safle yn 1962 a 1963, ac yn fwy diweddar, mae’r archeolegydd annibynnol Spencer Smith wedi gwneud peth gwaith pellach. Ond mae angen mwy.
A ninnau bellach wedi sicrhau drwy’r cytundeb cydweithio y bydd hanes Cymru, o'r diwedd, yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion, mae angen hefyd ar fyrder sicrhau safleoedd fel Sycharth a gwella’r ffordd rydym yn eu dehongli, eu hyrwyddo, a’u marchnata. Ac, fel soniwyd eisoes, a hithau yn Ddiwrnod Owain Glyndŵr ar yr 16 Medi, pa ffordd well o ddathlu na ymrwymo i gefnogi’r ddeiseb hon, ond hefyd sichrau bod Cadw a Llywodraeth Cymru yn rhoi'r sylw dyledus i safle sy’n sail i’r Senedd hon?
Ac i’r rhai ohonoch sydd heb ymweld â Sycharth eto, beth am ddilyn ôl troed Iolo Goch:
'I’w lys ar ddyfrys ydd af, / o’r deucant odidocaf. / Llys barwn, lle syberwyd, / lle daw beirdd aml, lle da byd'?
Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r deisebwyr. Neithiwr, euthum i ymweld ag Amelia, a oedd yn llunio prosiect ysgol ar yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymry. Roedd ei mam wedi gofyn a oedd gennyf unrhyw wybodaeth am y Senedd y gallai hi ei defnyddio. Cyrhaeddais gyda thaflenni a llyfrau, a buom yn sôn am Gymru fel cenedl Geltaidd a sut oedd y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, yn ôl llythyr, wedi aros yn ei phentref dros nos, a straeon am Owain Glyndŵr, ei gerfluniau, y cestyll—Cymreig a Seisnig—yn ein sir ni ar y ffin, a'r ffaith ein bod ni heddiw yn cael y ddadl hon ar ddiogelu Sycharth, ei gartref.
Rwyf newydd ddarllen nofel hanesyddol am gyfnod Owain Glyndŵr, sut y casglodd gefnogaeth yn teithio i fyny ac i lawr ardaloedd y ffin, y gwrthdaro a'r brwydrau, a sut roedd y beirdd yn arfer adrodd newyddion a chyfnewid straeon drwy farddoniaeth a cherddoriaeth, gan deithio ar hyd ardaloedd y ffin hefyd, a cheisio osgoi perygl a gwrthdaro, o dde Cymru i'r gogledd. Cafodd cartref Owain Glyndŵr, Sycharth, ei ddisgrifio'n wenieithus ond yn ganmoliaethus mewn cerdd a gyfansoddwyd tua 1390 ac fe'i llosgwyd ym 1409. Fe'i disgrifiwyd fel castell tomen a beili, gyda ffos fawr o bridd, neu domen castell, ac mae cerdd 1390 yn disgrifio 'tŷ pren glân mewn top bryn glas'. Byddai adeiladau pellach, gan gynnwys neuadd fawr urddasol, wedi sefyll o fewn y beili. Mae'r gerdd yn sôn am felin, pyllau pysgod, cwningar a pharc ceirw yn cynnwys porthdy.
Heb Owain Glyndŵr a'r gwrthryfel 15 mlynedd, a fyddai Cymru'n dal i fod yn wlad ar wahân? Mae'n gymeriad mor nodedig sydd wedi llywio hanes ac wedi cyfrannu cymaint at hunaniaeth Gymreig. Mae angen i ni sicrhau bod cartref Owain Glyndŵr yn cael mwy o amlygrwydd, gofal a gwaith cynnal a chadw. Er ei fod yn cael ei reoli gan Cadw, siomedig oedd darllen nad oes arwyddion clir i ddangos y ffordd ato, nad yw'n hygyrch iawn ac nac yw'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda, ac y gellid diweddaru'r dehongliad, sef y ffordd y cawn lawer o'n gwybodaeth hanesyddol bellach. Rwy'n cefnogi'r ddeiseb hon. Mae angen diogelu'r safle. Mae angen ei gynnal a'i ddathlu'n briodol gyda'r un amlygrwydd â'r cestyll niferus a thrysorau hanesyddol eraill yng Nghymru sydd dan ofal Cadw. Diolch.
Fel plentyn, roedd fy nhad yn ein cymryd yn aml i hen gestyll y Cymry. Ac, fel dywedodd Heledd Fychan, yn wahanol i’r cestyll Normanaidd mawreddog, roedd y rhain yn aml yn ddim ond twmpath gydag ychydig o gerrig, ac yn aml iawn roedd yn rhaid inni dresmasu ar dir preifat i’w cyrraedd. Mae'n ddigon posib y bydd efeilliaid y deisebydd yn cael magwraeth debyg. Wrth ymweld â chastell Morgraig, sydd ar yr heol o Gaerdydd i Gaerffili, roedd yn rhaid inni i gyd fel teulu ddechrau rhedeg wrth inni glywed ffermwr yn tanio gwn i'n cyfeiriad.
Nid yw Sycharth wedi newid fawr ddim ers i mi ymweld â'r safle yn gyntaf bron i 30 o flynyddoedd yn ôl. Nid yw hwn chwaith yn ddadl newydd; mae cyflwr truenus Sycharth wedi bod yn bwnc trafod ers degawdau. Dyw Sycharth ddim yn cael ei drin fel cofeb leol, heb sôn am un o bwysigrwydd cenedlaethol. Fel dywedodd y deisebydd, a nifer o'r siaradwyr, prin yw'r unrhyw arwyddion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Sycharth fel man geni un o Gymry enwocaf erioed.
Mae hygyrchedd y safle yn bryder mawr. Mae'r ffyrdd i gyrraedd y castell yn wael, a hyd yn oed ar ddiwrnodau braf o haf, mae'r llwybr yn debyg i gors. Os ymwelwch chi â Sycharth, Llywydd dros dro, ewch â sgidiau cerdded da iawn gyda chi.
Ond fe drodd y gwrthryfelwr yn wladweinydd. Roedd gyda fe weledigaeth anhygoel am arweinydd ei oes. Gwireddwyd nifer o'i freuddwydion, gan gynnwys y lle hwn, Senedd i Gymru. Honnai'r beirdd na fu Glyndŵr farw ac y byddai yn dychwelyd ryw ddydd i arwain ein cenedl i ryddid. Boed hynny yn wir ai peidio, y peth lleiaf fedrwn ni ei wneud fel Aelodau o Senedd Cymru yw sicrhau bod ei gartref yn cael ei barchu a bod cyfle i holl bobl Cymru ymweld â chartref y gŵr rhyfeddol hwn. Gaf i felly ddymuno Dydd Owain Glyndŵr hapus iawn i'r deisebydd, ei deulu ac ichi i gyd ar gyfer dydd Sadwrn? Diolch yn fawr.
Rwy'n teimlo'n eithaf angerddol dros ddiogelu ein treftadaeth yng Nghymru. Rwy'n falch o siarad yn fyr yn y ddadl hon heddiw. Roedd Owain Glyndŵr yn amlwg yn ffigur arwyddocaol yng Nghymru, wedi'i eni yng nghanolbarth Cymru, ac mae ei gysylltiadau â fy etholaeth i, wrth gwrs, wedi'u cofnodi'n dda. Fel y soniais, mae cydnabod a chadw ein treftadaeth Gymreig yn agos at fy nghalon. Rwy'n ymddiriedolwr Sefydliad Evan Roberts, a sefydlwyd yn 2013, ac mae hwnnw'n bodoli i ddiogelu safleoedd o arwyddocâd crefyddol ac ysbrydol yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â siapio diwylliant Cymru a hunaniaeth ein cenedl. Felly, prosiect mawr cyntaf yr elusen oedd prynu a sicrhau dyfodol capel Pisgah ger Abertawe, a oedd wedi'i glustnodi i gael ei ddymchwel, felly roedd yn briodol mai prosiect cyntaf y sefydliad oedd diogelu adeilad sydd â chysylltiad mor agos â'r diwygiwr Evan Roberts.
Wrth gwrs, ceir llawer o gysylltiadau adnabyddus ag Owain Glyndŵr yn sir Drefaldwyn. Rwyf wedi siarad amdanynt o'r blaen yn y Siambr. Dros yr haf, cefais y pleser o ymweld â Thŷ Cwrdd y Cyfeillion, neu Gwrt Plas-yn-dre, ar Ffordd Milford yn y Drenewydd. Yn flaenorol, ac yn ôl y sôn, roedd y neuadd hon o'r bymthegfed ganrif, a gafodd ei symud o Ddolgellau a'i hailadeiladu ar y safle presennol ym 1885, yn un o seneddau Owain Glyndŵr, ond bydd gan eraill yn y Siambr hon—uwch fy mhen hefyd efallai—farn ar hynny, wrth gwrs. Ond cafodd yr eiddo ei brynu gan Tim Chilton, a wnaeth adfer yr eiddo ac mae'n cynnal teithiau a sgyrsiau, a diolch iddo am roi taith breifat i mi yr haf hwn.
Ond ddydd Gwener yma, gyda fy nghyd-Aelod Tom Giffard, caf y pleser o ymweld â Sycharth, cyn-gartref Owain Glyndŵr yn fy etholaeth fy hun, felly rwy'n edrych ymlaen at drafod y ganolfan diwylliant a threftadaeth. Rwy'n gefnogol iawn i weithredoedd pawb sy'n cefnogi'r gwaith o sicrhau bod ein safleoedd treftadaeth pwysig yn cael eu hadfer, ac yn bwysicaf oll, yn hygyrch i'r cyhoedd. Diolch yn fawr, Lywydd dros dro.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon, a hoffwn i, fel rŷn ni wedi'i glywed yn barod, annog pobl i gofio am Ddydd Owain Glyndŵr dydd Sadwrn, ac i ddathlu hefyd—16 Medi.
'Na gwall na newyn na gwarth, / Na syched fyth yn Sycharth':
cwpled anfarwol y bardd Iolo Goch o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, sy'n disgrifio y croeso mawr oedd wastad ar gael ar aelwyd Owain Glyndŵr a'i deulu yn Sycharth. Mae'r llys hynafol hwn, yn eithafion pellaf fy rhanbarth i ac yn rhan o etholaeth Russell George, nepell o Groesoswallt ac o fewn tafliad carreg i’r ffin â Lloegr. Ac er i'r safle gael ei losgi i’r llawr yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, mae pwysigrwydd a chwedloniaeth Sycharth wedi parhau i swyno ac ysbrydoli’r Cymry ar hyd y canrifoedd. Yn wir, mae gan yr adfeilion, yn y gornel dawel hon o fwynder Maldwyn, rôl yr un mor flaengar, os nad pwysicach efallai, yn hanes ein cenedl na muriau mawreddog cestyll Caernarfon, Conwy, Harlech a'u tebyg.
Ac fel mae Heledd Fychan eisoes wedi nodi, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, dwi hefyd mor falch bod hanes ein cenedl a’i holl amrywiaeth yn mynd i ddod yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf erioed. Meddyliwch. Fel dywed yr hen ddihareb, 'Cenedl heb gof, cenedl heb galon'.
Fodd bynnag, os ydym o ddifrif am ddiogelu a hyrwyddo ein hanes ni ein hunain ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae hi'r un mor allweddol bod henebion megis Sycharth—sydd, fel rŷn ni wedi ei glywed yn barod, wedi eu hesgeuluso am lawer rhy hir—yn cael eu parchu a’u hyrwyddo’n briodol gan ein Llywodraeth. A drwy brynu cwrt canol oesol Llys Rhosyr ym Môn, mae’r Llywodraeth a Cadw eisoes wedi gosod cynsail o ran diogelu ein treftadaeth hanesyddol.
Ac mae’r ymchwydd sylweddol o gefnogaeth mae’r ddeiseb hon wedi ei chreu ar lawr gwlad yn destament i bwysigrwydd annatod y safle hwn o fewn cof cyhoeddus ein cenedl. Rwyf i felly, fel pawb arall sydd wedi siarad, yn ymbil ar y Llywodraeth a Cadw nid yn unig i ystyried gofynion y ddeiseb hon, ond i weithio yn y cyfamser i sicrhau bod Sycharth yn datblygu i fod yn safle hygyrch, lle mae gwybodaeth am Owain Glyndŵr—a meddyliwch hefyd, fel dywedodd Rhys ab Owen—sydd wedi gosod sylfeini i'r Gymru fodern, gyda’i weledigaeth am senedd, trefn gyfreithiol, eglwysi a phrifysgolion Cymreig, yn dod yn wybodus i ymwelwyr heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.
Ac rydw innau i gloi, Llywydd dros dro, am ddiolch i hyrwyddwr y ddeiseb hon am ddod â mater mor bwysig â hyn gerbron Senedd Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Elfed Wyn ap Elwyn am ddechrau’r ddeiseb yma, a diolch i'r dros 10,000 o bobl ddaru lofnodi’r ddeiseb. Ac mae Elfed yn y ddeiseb yn gywir i ddweud bod hanes yn bwysig i bobl, i gymdeithas ac i genedl. Ein gorffennol sydd wedi creu ein presennol, ac sydd yn aml yn fap i'n cyfeirio ar hyd llwybrau i'r dyfodol. Ond mae i bob cenedl ei naratif ei hun. Mae gennym ni stori o sut y daethom ni i fod; mae beth sydd wedi ein creu ni a beth sydd wedi ein diffinio ni yn rhan o'r naratif hwnnw. Yn aml, mae'r rhain yn bethau goddrychol, ac yn gwahaniaethu o berson i berson, neu o ranbarth i ranbarth, ond yna mae edefyn cyffredin sydd yn rhedeg drwy bob un, a'r edafedd hynny sydd yn ein clymu at ein gilydd ac yn creu cenedl. A beth bynnag fo barn pobl yma, mae'n amhosib dadlau nad yw Owain Glyndŵr yn ganolog i un o'r edafedd cyfoethog hynny. Yn arwr i nifer, yn ddihiryn i eraill, ond yn gwbl ganolog i hanes a bodolaeth ein cenedl ni yma.
A rhag ofn nad ydy pawb yma'n bresennol yn gwerthfawrogi llawn bwysigrwydd Owain Glyndŵr, mae'n werth ein hatgoffa, yn ôl yn 1999, ar droad y ganrif hon, fod The Sunday Times wedi rhyddhau power list o bobl fwyaf nodedig y mileniwm blaenorol, gan holi gwladweinwyr, gwyddonwyr, arweinyddion celfyddydol ac eraill, ac o holl fawrion o bobl y byd dros y 1,000 o flynyddoedd blaenorol, barnwyd mai Owain Glyndŵr oedd un o'r mwyaf pwysig un, efo Glyndŵr yn seithfed ar y rhestr ryngwladol, o flaen Galileo, Isaac Newton, Abraham Lincoln, a llu o eraill. Bryd hynny, fe ddywedodd y diweddar Dr John Davies:
'Mae chwyldroadwyr ledled y byd bob amser wedi edrych ar Owain Glyndŵr fel arweinydd herwfilwrol enwog. Mae ei safle yn yr arolwg barn hwn yn dangos bod gweddill y byd yn ei werthfawrogi lawer mwy nag y sylweddolwn.'
Yn wir, mae gweddill y byd yn gwerthfawrogi Owain Glyndŵr llawer iawn yn fwy nag ydym ni ein hunain yn gwerthfawrogi Owain Glyndŵr. Ond, er gwaethaf yr elfen filwrol yma a ysbrydolodd yr Iwerddon yn 1916 a Chiwba yn 1953, ei waddol pwysicaf ydy'r un a ysbrydolodd Cymru yn 1997, ac sydd yn dal i fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i bobl yma heddiw. Mae llythyr Pennal, gyda chopi ohono yn y Pierhead, os oes unrhyw un â diddordeb i fynd i'w weld, yn dangos ei fod o, Owain Glyndŵr, am rymuso pobl Cymru, a hynny drwy addysg. Fe alwodd am ddwy brifysgol yng Nghymru. Roedd hefyd am weld Cymru, a chymunedau Cymru, yn rheoli ei hadnoddau ei hun. Yn y llythyr, fe alwodd am ddatgysylltu'r eglwys er mwyn i arian yr eglwys aros yng nghymunedau Cymru, a llawer iawn mwy.
Felly, mae hanes Glyndŵr, ac edefyn euraidd Glyndŵr sydd yn rhedeg trwy ein hanes ni fel cenedl, yn greiddiol i'n hunaniaeth a'n bod, ac oherwydd hynny dylai'r Llywodraeth gynorthwyo Cadw i fabwysiadu Sycharth yn llawn a'i ddatblygu fel canolfan treftadaeth genedlaethol.
Fel pwynt olaf, ddydd Sadwrn yma, fel rydym ni wedi clywed, 16 Medi, ydy Diwrnod Owain Glyndŵr, ac mi fyddaf i yn bersonol yn Harlech, efo cannoedd o bobl eraill, lle, yn 1405, y galwodd Owain Glyndŵr senedd genedlaethol. A gaf i felly gymryd y cyfle yma i ddymuno Diwrnod Glyndŵr hapus i bawb, ac i'ch annog i gefnogi galwadau'r ddeiseb? Diolch.
Wel, fel un sy'n hoff o hanes go iawn y Prydeinwyr, rwy'n falch o gefnogi'r ddeiseb hon, ond hefyd yn galw am i'r safle nid yn unig dynnu sylw at y pethau sy'n dra chyfarwydd yng Nghymru am Owain Glyndŵr, ond ei holl fywyd, ei flynyddoedd yn gwasanaethu'r Norman olaf, brenin olaf y Plantagenetiaid, Rhisiart II, yn gwasanaethu o dan y marchog o sir y Fflint, Syr Gregory Sais, yng Nghastell Caerferwig ac yn ymladd yn erbyn yr Albanwyr, gan wasanaethu Rhisiart II wrth ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Ffrainc; y cytundeb a wnaeth wedi hynny â theuluoedd Mortimer a Percy i rannu teyrnas Harri IV yn dair rhan; ac ar ôl ei wrthryfel, y gred iddo dreulio ei flynyddoedd olaf, fel y nodwyd mewn rhaglen ddogfen ar S4C, yn byw gyda theulu yn Abaty Deur ger Ewyas Harold yn swydd Henffordd.
Diolch.
Dwi'n galw nawr ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am rhoi cyfle i mi gyfrannu a gwneud sylwadau ar y ddeiseb hon.
Roedd yn braf iawn clywed yr Aelodau’n siarad mor angerddol am ein hanes a’n treftadaeth, ac un o’r rhesymau pam fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd arnom i ddiogelu ein diwylliant, amddiffyn olion ffisegol ein hanes, a hysbysu ac addysgu pobl yn ei gylch—ac nid wyf yn meddwl fod yma neb, fel rydym wedi'i glywed heddiw, a fyddai'n dadlau na ddylid rhoi mwy o sylw i hanes Owain Glyndŵr a'i hen gartref yn Sycharth. Y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o wneud hyn.
Mae'r ddeiseb yn galw ar Weinidogion Cymru i brynu Sycharth fel bod y safle o dan ofal y wladwriaeth. Mae'r safle mewn perchnogaeth breifat, mae ganddo denantiaid gydol oes, ac nid yw ar werth. Ymhellach, nid yw mewn perygl ar hyn o bryd, felly nid yw prynu gorfodol yn opsiwn, a hynny, Cefin, yw'r gwahaniaeth mawr rhwng Sycharth a Llys Rhosyr.
Fodd bynnag, ceir ffyrdd eraill o ddarparu ar gyfer ei warchod, gofalu amdano a’i hyrwyddo fel y gall y safle hanesyddol unigryw hwn gael ei werthfawrogi a’i fwynhau, heddiw a chan genedlaethau’r dyfodol. Fel heneb gofrestredig, mae’r safle’n wedi'i warchod drwy ddeddfwriaeth, ac mae gwaith partneriaeth agos yn mynd rhagddo rhwng perchnogion y safle, ystad Llangedwyn, y ffermwyr tenant, a Cadw, i ddarparu ar gyfer cadwraeth a chynnal a chadw gweddillion ffisegol Sycharth. Drwy'r cydweithio hwn, mae llawer wedi'i gyflawni eisoes, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi cefnogi gwelliannau o ran mynediad, cadwraeth, adnoddau dehongli ac arolygon archaeolegol helaeth. Mae hyn wedi cynnwys gosod system ddraenio, atgyweirio gwrthgloddiau a man parcio i ymwelwyr.
Ynghyd â galw am i'r wladwriaeth brynu Sycharth, gofynnodd y deisebydd am i’r safle fod yn fwy hygyrch, er mwyn galluogi pobl i ymweld â’r safle gwych hwn a’i werthfawrogi. Ac mae hygyrchedd, yn wir, yn allwedd i'n cysylltu â'n hanes a'n treftadaeth, ac mae Cadw yn gweithio'n galed i sicrhau bod y safleoedd yn eu gofal yn hygyrch, ac yn annog y perchnogion i wneud yr un peth. Y tu hwnt i Sycharth, mae Cadw wedi gwneud gwaith ar geyrydd eraill Owain Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy, gan gynnwys cadwraeth, gwella hygyrchedd a dehongli, a dim ond un enghraifft arall yw hon o safle lle mae Cadw wedi cydweithio â’r tirfeddiannwr i reoli a diogelu henebion arwyddocaol sy’n gysylltiedig â thywysogion Cymru.
Credaf yn gryf fod angen inni annog mynediad at ein safleoedd hanesyddol, ond mewn ffordd sy’n gynaliadwy. Ac mae'n rhaid inni gydnabod y gall pwysau ymwelwyr ynddo'i hun effeithio ar gymunedau lleol a henebion hanesyddol sensitif. Mae mynediad cyhoeddus i'w gael i Sycharth, ond mae’n wirionedd trist fod cyfyngiadau i’r hyn y gellir ei wneud i annog mwy o bobl i ymweld â’r safle, ac y gallai niferoedd enfawr o ymwelwyr fod yn niweidiol mewn gwirionedd. I ddechrau, mae’r ffyrdd mynediad cul yn her, fel y dywedodd Jack Sargeant ac eraill, a cheir heriau'n ymwneud â’r arwyddion. Nid oes gan Lywodraeth Cymru a Cadw unrhyw ran yn y gwaith o osod arwyddion cyfeirio ar ffyrdd cyfagos; cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw hynny. Ond mae adran briffyrdd yr awdurdod lleol wedi bod yn gyndyn o wella arwyddion ffyrdd o’r blaen, oherwydd mynediad cul y ffyrdd ac amharodrwydd i annog gormod o draffig i ddefnyddio’r ffyrdd hynny.
Mae angen i ni hefyd osgoi achosi erydiad ar y safle. Gwrthglawdd yn unig sydd wedi goroesi o Sycharth, ac felly gallai mwy o seilwaith, megis llwybrau a chyfleusterau ymwelwyr, niweidio’r olion archaeolegol. Nid yw hyn yn golygu na ellir cael datblygiadau, ond yn hytrach, fod yna gyfyngiadau y mae'n rhaid inni weithio o'u mewn, a bod nodweddion sensitif y mae'n rhaid inni eu hystyried. Nododd Jack Sargeant a Joel James fater canolfan ymwelwyr, ond mae cyfyngiadau ffisegol, fel y dywedais, i’r hyn y gellir ei adeiladu ar y safle am nifer o resymau, yn cynnwys ei leoliad ar hyd y lonydd cul, y denantiaeth, a'r effaith ar archeoleg y safle ei hun.
Os caf fi, os ydych chi'n cymryd pwynt Cefin Campbell, os ydych chi erioed wedi bod yn Llys Rhosyr yn Ynys Môn, mae'r un peth yn wir yn y fan yna. Mae'r lonydd yn gul ofnadwy, does yna ddim lot o le, ond mae o wedi cael ei hyrwyddo'n dda. Mae yna lot o bethau medrwch chi eu gweld ar y safle a chael ymdeimlad, a dydy o ddim yn wir bod yna filoedd a filoedd o bobl yn mynd yna—efallai fod hynna'n rhywbeth arall inni drafod o ran hyrwyddo. Ond ydy o felly yn gwbl fwriadol gan Lywodraeth Cymru a Cadw i beidio â rhoi manylion am Sycharth ar wefan Cadw oherwydd y pryder sydd gennych chi ynglŷn ag ymwelwyr, neu oes yna reswm arall am hynny?
Ie, ac fe ddof at hynny wrth imi barhau, ond fel y dywedaf, mae gwahaniaeth sylweddol rhwng Sycharth a Llys Rhosyr, yn anad dim yr holl risg a oedd yn wynebu Llys Rhosyr, ac nid dyna’r sefyllfa yn Sycharth. Felly, am y rheswm hwnnw, rwy'n cefnogi dull mwy creadigol o weithredu sy'n cysylltu Sycharth â safleoedd perthnasol eraill a chanddynt fwy o gapasiti.
Ond efallai fod gennym gyfle yma i edrych am ddull ychydig yn fwy arloesol. Ochr yn ochr â galluogi mynediad ffisegol i ymwelwyr, hoffwn weld pobl yn cydweithio ac yn ymchwilio i ddulliau eraill o ymgysylltu â hanes a straeon y safle ac Owain Glyndŵr yn fwy cyffredinol. Yn fwyaf arbennig, awgrymwyd y gallai creu adnoddau digidol fod yn un ffordd o alluogi mwy o bobl i werthfawrogi a dysgu am y safle a'i arwyddocâd. Ac fel y mae Jack Sargeant wedi’i ddweud, mae’r ysgol leol yn awyddus iawn i fod yn rhan o rywbeth tebyg i hynny. Mae cyfle i edrych ar ddarparu adnoddau dehongli a gwybodaeth am Sycharth mewn lleoliadau cyfagos sy’n fwy hygyrch, megis eglwys Llansilin. Ac roedd gan deulu Glyndŵr, wrth gwrs, gysylltiad agos â’r eglwys, sy'n ei gwneud yn fan cychwyn da posibl ar gyfer adrodd y stori. Mae clywed bod yr ysgol leol a’r eglwys leol yn awyddus i fod yn rhan o'r gwaith o hyrwyddo Sycharth yn galonogol iawn, ac yn gyfle i ymgysylltu â’r gymuned ac agor llwybrau iddynt fod yn rhan o'r hyn sy’n digwydd nesaf.
Ond mae'n werth nodi nad dyma'r unig safle lle rydym yn adrodd hanes Owain Glyndŵr. Mae Cadw wedi cynhyrchu cynlluniau dehongli Cymru gyfan ar gyfer Owain Glyndŵr a thywysogion Cymreig Gwynedd a Deheubarth, sy’n sail i'r gwaith o adrodd y stori ar safleoedd Cadw ei hun a safleoedd eraill, ac mae Cadw bob amser yn chwilio am ffyrdd o weithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i warchod, rheoli a dehongli henebion yn eu gofal, megis castell Dinas Brân, caer tywysogion Powys.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am ei waith ar y ddeiseb hon, ac i’r deisebwyr am godi ymwybyddiaeth o’r safle hanesyddol bwysig hwn. Er y bydd y rheini sy’n llofnodi’r ddeiseb, yn ddi-os, yn siomedig nad ydym yn gallu dod â’r safle o dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, rwy'n gobeithio y byddant yn gwerthfawrogi’r gwahanol ffyrdd y gallwn wneud y safle hwn a safleoedd hanesyddol eraill yn fwy hygyrch i bobl. Rwyf bob amser yn falch o gael cyfle i drafod sut y gallwn eu hamddiffyn a'u hyrwyddo i gynulleidfa fwy. Diolch yn fawr iawn am y ddadl adeiladol.
Un pwynt nad atebais Heledd Fychan yn ei gylch oedd y cynllun y cyfeiriodd ato. Nid wyf yn gwybod yr ateb i hynny, Heledd, ond fe wnaf edrych ac fe ysgrifennaf atoch. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau? Nid wyf yn mynd i allu mynd drwy’r holl gyfraniadau y prynhawn yma, Lywydd, ond a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau ac i’r Gweinidog am ei hymateb heddiw?
I ddewis rhai, Russell George, credaf i bob un ohonom sôn am bwysigrwydd gwarchod a dathlu safleoedd hanesyddol a dathlu hanes Cymru. Tynnodd Russell George sylw at safle penodol yn ei etholaeth ef a’i bwysigrwydd i’w etholaeth leol. Gwelais hynny pan ymwelais ag ysgol Llangedwyn yno.
Dangosodd Carolyn Thomas i ni unwaith eto fod cenedlaethau’r dyfodol yn awyddus i ddysgu am eu hanes, a'u bod yn falch o’u hanes. Credaf mai Amelia oedd y disgybl ifanc y bu Carolyn yn trafod ei phrosiect lleol ar hanes Cymru gyda hi.
Ond fel y cawsom ein hatgoffa'n gwbl briodol gan Mabon, mae'n ymwneud â mwy na chenedlaethau’r dyfodol yma yng Nghymru yn unig; mae gan arweinwyr nodedig ledled y byd lawer iawn o barch ac amser i stori Owain Glyndŵr. Credaf i chi ei grybwyll yn yr un gwynt â phobl fel Abraham Lincoln ac Isaac Newton. Mae'n stori anhygoel yn ei hawl ei hun.
Soniodd Rhys ab Owen am 30 mlynedd yn ôl pan ymwelodd â’r safle—euthum yno am y tro cyntaf rai misoedd yn ôl—ac roedd pwysigrwydd hygyrchedd a gwelliannau i’r stori ar y safle yn amlwg yn holl gyfraniadau’r holl Aelodau heddiw.
Ar bwyntiau’r Gweinidog, credaf ei bod yn arbennig o braf clywed am y dulliau arloesol y maent yn ceisio eu defnyddio mewn perthynas ag ysgol Llangedwyn a’r eglwys yn y gymuned leol. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd a wneir a chynorthwyo a hwyluso’r sgyrsiau hynny wrth symud ymlaen. Credaf fod y nifer enfawr o gyfraniadau, y nifer enfawr o lofnodion ar y ddeiseb hon heddiw, yn dangos pa mor anhygoel o bwysig fyddai’r diweddariad hwnnw, a chael sgwrs hefyd efallai gyda’r awdurdod lleol ynglŷn ag ai dyma'r ffordd gywir o gael arwyddion gwell. Fel rwy'n dweud, fe euthum ar goll. Nid oes arnaf ofn dweud hynny. Cymerodd dipyn o amser imi ymuno â Joel James. Felly, yn bendant, dylai fod rhywfaint o ystyriaeth yno. Nid ydym am beri niwed, wrth gwrs, ond yn sicr, rydym am ddathlu a hyrwyddo ein hanes.
Rwyf am gloi—gallaf weld llygaid y Llywydd dros dro—drwy ddweud wrth bawb, ar gyfer dydd Sadwrn, 'Diwrnod Owain Glyndŵr Hapus'.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 7, sef Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—'Anghynaliadwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol', a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone.
Cynnig NDM8346 Jenny Rathbone
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Anghynaliadwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol' a osodwyd ar 23 Mai 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. Dyma ni unwaith eto gyda’r DU yn gweld y cwymp mwyaf mewn safonau byw ers yr ail ryfel byd. Mae ein hadroddiad diweddaraf ar gostau byw cynyddol a’r ddyled anghynaliadwy y mae hynny’n ei hachosi, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn nodi’r realiti llwm i Gymru. Mae'n cael effaith hynod niweidiol ar iechyd a chyfoeth ein cenedl. Hoffwn ddiolch i glercod ein pwyllgor, gwasanaeth Ymchwil y Senedd, yn ogystal â’r tystion arbenigol a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad dilynol hwn, yn ogystal â’r dinasyddion a rannodd eu profiadau uniongyrchol, ac rwy’n falch o ddweud bod rhai ohonynt yn yr oriel i glywed y ddadl y gwnaethant helpu i'w llunio.
Mae llywodraethau ledled y byd wedi bod yn ceisio dal i fyny yn eu hymateb i’r cynnydd mawr mewn prisiau ynni a achoswyd gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ond nid oes unrhyw wlad arall yn Ewrop wedi gorfod wynebu'r codiadau ym mhrisiau ynni a osodwyd ar gartrefi’r DU. Mae ysgogiadau pwysicaf polisi economaidd a’r dulliau o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn parhau i fod dan reolaeth Llywodraeth y DU, a phenderfyniad Llywodraeth y DU oedd rhoi taliad o £400 i bob cartref yn hytrach na diogelu'r rhai sydd fwyaf angen cymorth.
Rydym wedi gweld cynnydd o 70 y cant mewn dyledion ynni mewn tair blynedd, ac mae penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio ag ymyrryd tra bo cwmnïau ynni yn gorfodi teuluoedd i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, heb wneud unrhyw beth heblaw cytundeb anffurfiol na ellir ei orfodi, yn debygol o atal cyflenwyr nwy a thrydan rhag gorfodi miloedd yn rhagor o bobl i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu drytach y gaeaf hwn. A hynny ar ben y taliadau sefydlog y mae Cymru a Glannau Mersi yn gorfod eu talu—£380 y flwyddyn i bobl ar fesuryddion rhagdalu cyn iddynt gynnau unrhyw olau hyd yn oed.
Felly, ceir y cynnydd mewn prisiau ynni, ac mae cost bwyd hefyd wedi dilyn, wedi'i achosi'n rhannol gan brisiau ynni, ond mae'r argyfwng hinsawdd hefyd wedi amharu ar gyflenwadau bwyd. Mae chwyddiant o 19 y cant mewn bwyd yn amlwg yn effeithio llawer mwy ar y cartrefi tlotaf nag ar y rheini a chanddynt incwm gwario dros ben.
Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi gwanhau rhwymedigaeth cymdeithas i gyfrannu at les ein holl blant drwy ganiatáu i fudd-dal plant grebachu'n fwriadol, a chyfyngu budd-daliadau treth plant i’r ddau blentyn cyntaf yn unig. Nid yw'r lleill yn bodoli ym meddwl y system fudd-daliadau. Nid oes gan gannoedd o filoedd o bobl ddigon o arian i fyw arno, ac mae hynny'n effeithio ar rhwng tri a phedwar o bob 10 aelwyd. Dywedodd StepChange wrthym fod cymaint â 40 y cant o’u cleientiaid sy’n troi atynt am gyngor mewn swyddi amser llawn, a chawsom dystiolaeth debyg gan arbenigwyr eraill sy’n dweud bod llawer o'r bobl y maent yn eu helpu heb orfod gofyn am gymorth gan elusennau neu'r wladwriaeth erioed o'r blaen, ac maent yn ei chael hi'n wirioneddol anodd deall pam fod eu byd ar chwâl.
Mae’r cymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn achubiaeth i lawer, ond ymyriadau dros dro yw'r rhain, a byddant yn lleihau yn y misoedd i ddod, gan adael aelwydydd i wynebu prisiau uwch yn barhaol yn y dyfodol. Mae'r gaeaf hwn yn creu her arbennig.
O ran ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei hymateb trylwyr ac am ei hymrwymiad parhaus i edrych yn adeiladol ar y materion a godwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac am ei hymdrechion i annog Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â'r argyfwng drwy’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, yn ogystal â mecanweithiau eraill hefyd, rwy'n siŵr.
Thema ganolog yr ail adroddiad hwn yw ein bod o'r farn fod angen ymbellhau oddi wrth ymatebion dros dro i fesurau ataliol sy'n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb incwm a chyfoeth. Dim ond rhai o’r ysgogiadau hyn sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru. Yn fwyaf arbennig, rydym wedi canolbwyntio ar y potensial ar gyfer inswleiddio cartrefi, ynni gwyrdd a diogeledd bwyd i alluogi mwy o bobl i ymdopi.
Mae'r cynnydd mewn prisiau bwyd wedi'i adlewyrchu mewn cynnydd sylweddol yn y defnydd o fanciau bwyd. Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn nodi cynnydd o 41 y cant yn nifer y parseli bwyd a ddosbarthwyd y llynedd o gymharu â'r un sydd newydd ddod i ben, ac mae hynny'n uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Nid yw cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y cartrefi sy’n dibynnu ar fanciau bwyd yn gynaliadwy yn hirdymor, ac fe wyddom—mae elusennau banc bwyd yn dweud wrthym eu bod yn gorfod gwrthod pobl yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.
Rhoddwyd tystiolaeth i'n hymchwiliad gan fenter gymdeithasol, Well-fed, yn sir y Fflint sy’n mynd i’r afael â diffeithdiroedd bwyd ac yn grymuso pobl i goginio drostynt eu hunain, yn hytrach na dibynnu ar brydau parod wedi’u prosesu’n helaeth sy’n llawn cemegion. Gwn fod y Gweinidog hefyd yn un o gefnogwyr brwd Ysgol Gynradd Tregatwg y mae eu cynllun Big Bocs Bwyd, a gaiff ei redeg ar sail talu fel y mynnwch, newydd gyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o ysgolion gorau'r byd.
Rydym yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn partneriaethau bwyd traws-sector, ac wrth gwrs, mae prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd hefyd yn help gwych i deuluoedd â phlant, ond mae llawer iawn mwy y mae'n rhaid inni ei wneud i gyflawni dull system gyfan o weithredu ar fwyd da.
O ran mynd i’r afael â thlodi tanwydd, rydych yn nodi bod 'economi decach, wyrddach i ymateb i’r argyfwng hinsawdd' yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Ond o ystyried y cynnydd ym mhrisiau ynni, mae’r pwyllgor yn dal yn rhwystredig ynghylch arafwch y newid o ran mesurau effeithlonrwydd ynni i ôl-osod ac insiwleiddio cartrefi pobl. Mae hyn yn golygu llunio cynlluniau manwl i ddod â phobl allan o'r canolfannau clyd ac yn ôl i gartrefi cynnes, a gwneud hynny ar raddfa fawr.
Rydym yn sylweddoli bod y toriad o £900 miliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru eleni yn cyfyngu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, ond mae gwneud dim yn costio hefyd, o ran y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty'n ddiangen neu sy’n rhy sâl i fynd i’r ysgol neu i’r gwaith. Mae rhaglen Cartrefi Clyd yn gwegian ar ei ffurf bresennol, a gwyddom fod ganddi ddiffygion sylweddol. Dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthym y bydd dyfarniad y contract ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd nesaf wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd, ond yn realistig, mae’n anodd gweld sut y bydd hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i nifer y bobl na allant gadw eu cartrefi'n gynnes y gaeaf hwn.
Rydym hefyd yn nodi’n glir pa mor bwysig yw gwneud i bob ceiniog o arian cyhoeddus gyfrif, ac rydym yn croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda Sefydliad Bevan ac eraill i symleiddio system fudd-daliadau Cymru, a sicrhau ei bod yn llai cymhleth ac yn haws i bobl ddeall yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Dylid canmol Llywodraeth Cymru am y cynnydd y mae wedi’i wneud gyda phartneriaid ar lunio gweledigaeth gydlynol ar gyfer y gwaith hwn, ac edrychwn ymlaen at yr ymateb y mae’r Gweinidog yn mynd i’w roi i’r ddadl y prynhawn yma, gan y gwn fod llawer o’r pethau a roddodd yn ei hymateb i'r adroddiad i fod i ddod ar-lein cyn bo hir.
Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, y clercod a phawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Byddai llawer sy’n cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma am i chi gredu mai Llywodraeth Geidwadol y DU a achosodd yr argyfwng costau byw. Ni allai hyn fod ymhellach o'r gwir. Mae'r holl fyd yn wynebu argyfwng costau byw. Rhyfel anghyfreithlon Putin a thrachwant Sefydliad y Gwledydd sy'n Allforio Petroliwm (OPEC) sydd wedi achosi'r cynnydd enfawr ym mhrisiau eitemau bob dydd, bwyd a thanwydd, a phobl weithgar Cymru sy'n talu'r pris.
Diolch byth, mae chwyddiant wedi gostwng ers inni gynnal ein hymchwiliad, ond mae prisiau bwyd a thanwydd yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi biliynau o bunnoedd ym mhocedi pobl mewn ymdrech i liniaru effeithiau gwaethaf yr argyfwng. Er hyn, ac fel y nododd llawer o’n tystion, mae teuluoedd Cymru’n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd ac yn cael eu gorfodi i ddyled anghynaliadwy er mwyn darparu hanfodion fel bwyd, tanwydd a lloches. Mae ymchwil gan Cyngor ar Bopeth Cymru yn dangos mai aelwydydd un rhiant sy’n ei chael hi anoddaf. Mae dwy ran o dair o aelwydydd o'r fath yn cael trafferthion gydag ôl-ddyledion y dreth gyngor ac mae pedwar o bob pump mewn dyled oherwydd biliau ynni.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Runnymede wrthym fod pobl o gymunedau ethnig leiafrifol ar hyn o bryd yn wynebu lefelau llawer uwch o ddiffyg diogeledd bwyd, amddifadedd materol a thlodi tanwydd. Mae costau tanwydd ac ynni cynyddol wedi taro pobl yn galed, a dyna pam y cymerodd Llywodraeth y DU y cam digynsail o gyflwyno cap ar brisiau ynni. Darparodd Llywodraeth Cymru £90 miliwn hefyd ar gyfer taliadau i aelwydydd incwm isel cymwys o dan gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Fodd bynnag, dim ond ar gyfer y gaeaf diwethaf y darparwyd y cynllun hwnnw, ac ni fydd cymorth o’r fath ar gael y gaeaf hwn. Mae hefyd yn destun pryder fod llai na £65 miliwn wedi’i wario pan gaeodd y cyfnod cyflwyno ceisiadau, sy’n golygu mai dim ond dwy ran o dair o’r arian a neilltuwyd a wariwyd ar y cynllun hollbwysig hwn.
Dywedodd Cyngor ar Bopeth Cymru wrthym yn eu tystiolaeth y gallwch roi'r gorau i'r cynllun, ond ni fyddwch yn dileu’r angen. Un o'r effeithiau mwyaf ar leihau biliau ynni yw defnyddio llai o ynni. Sy'n dod â ni at raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Er bod pawb a roddodd dystiolaeth i’n pwyllgor yn cydnabod bod y cynllun blaenorol yn ddiffygiol, roeddent yn tynnu sylw at yr angen dybryd am iteriad nesaf y rhaglen. Roedd ein pwyllgor yn teimlo yr un fath, a dyna pam y gwnaethom argymhelliad 8. Efallai fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ond ni wnaethant gydnabod y problemau yn eu hymateb.
Ni all teuluoedd mewn tlodi tanwydd fforddio aros tan y gwanwyn. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i helpu gyda biliau tanwydd, mae angen iddynt helpu gyda mesurau effeithlonrwydd ynni. Os na allwch leihau'r gost, mae angen ichi leihau'r galw. Yn ôl National Energy Action, mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn gyffredin ac yn ddifrifol yng Nghymru. Maent yn datgan y bydd y gaeaf nesaf yn eithriadol o anodd i aelwydydd incwm isel a bregus. O 1 Hydref, bydd biliau ynni cyfartalog yn costio £1,923 y flwyddyn—sy'n dal yn llawer rhy uchel, yn dal yn anfforddiadwy i aelwydydd incwm isel ac yn dal yn agos at ddwywaith y lefelau cyn yr argyfwng.
Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl ynglŷn â dod â chynllun cymorth tanwydd y gaeaf i ben, yn enwedig yn sgil tanwariant y llynedd, ac i gyflwyno rhaglen Cartrefi Clyd ar fyrder. Yn llythrennol, ni all teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd fforddio aros. Diolch yn fawr.
Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at sut mae'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn wynebu caledi difrifol, caledi gwirioneddol annerbyniol, yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen am ymyriadau wedi'u targedu nawr, yn ogystal â mesurau mwy hirdymor a fydd yn helpu i atal sefyllfa lle mae ein dinasyddion yn dweud wrthym, 'Beth arall rydych chi ei eisiau gennym ni? Ar ba bwynt rydych chi'n rhoi'r gorau iddi? Nid ydym yn byw, dim ond bodoli.' Dyna'r hyn a ddywedwyd wrthym fel pwyllgor. A all fod arwydd mwy damniol na hynny o fethiant llywodraethau ar ddau ben yr M4, o'r ddau liw?
Roedd y dystiolaeth a glywsom yn frawychus ac yn rhwystredig. Rwyf am ganolbwyntio ar sut mae'r adroddiad hwn a'r ymateb iddo yn tystio i fethiant llywodraethau, a pha newidiadau y mae'n rhaid eu gweld—newidiadau o ran blaenoriaeth a darpariaeth. Mae'r Llywodraeth yn datgan yn briodol yn y frawddeg gyntaf un o'i hymateb i'n hadroddiad fod pobl ledled Cymru yn profi'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cadw cofnodion. Yr hyn nad yw'n cael ei gydnabod yw bod pobl Cymru wedi bod yn arbennig o agored i ergydion economaidd diweddar oherwydd methiant i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Ac er fy mod yn cytuno â'r Llywodraeth wrth gwrs fod llawer o'r dulliau i ymateb i'r argyfwng costau byw, Altaf Hussain, yn nwylo Llywodraeth y DU, mae ein 14 argymhelliad yn rhai sy'n gofyn yn benodol i Lywodraeth Cymru wella, i gyflymu, ac mewn rhai achosion, i newid natur ei hymateb i drechu tlodi. O ystyried bod Llafur wedi bod mewn grym drwy gydol oes gyfan llywodraethu datganoledig yng Nghymru—sefyllfa mor unigryw yn hanes modern gwleidyddiaeth ddemocrataidd—mae mor rhwystredig fod cyn lleied o gynnydd wedi'i wneud i sicrhau gwell cyfeiriad strategol a pholisi gwybodus ac effeithiol.
Yn ei hymateb i argymhelliad 2, er enghraifft, y dylai'r Llywodraeth ddatblygu cynllun gweithredu hirdymor ar
'sut y bydd yn blaenoriaethu newid tuag at fesurau ataliol sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r ffactorau sylfaenol sy’n achosi tlodi',
dywedir wrthym eu bod wedi gofyn i swyddogion ystyried opsiynau ar gyfer sut y gellid datblygu hyn a bod gan y Llywodraeth strategaeth tlodi plant ddrafft. Ble rydych chi wedi bod?
Ym mis Mehefin eleni y cyhoeddwyd y strategaeth tlodi plant ddrafft. Mae'n wyth mlynedd ers cyhoeddi'r strategaeth ddiwethaf, ac wrth gwrs, rydym wedi cael y sefyllfa gywilyddus dros yr haf pan gafodd prydau ysgol am ddim dros y gwyliau eu dirwyn i ben gyda dim ond ychydig wythnosau o rybudd cyn diwedd y tymor, a hynny hyd yn oed wrth i chi ymgynghori ar yr union strategaeth ddrafft honno. Os nad yw hynny'n dystiolaeth o ddiffyg dull strategol, nid wyf yn gwybod beth sydd.
Mae hefyd yn tanseilio'n llwyr hygrededd yr honiadau yn ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad drwyddo draw eich bod yn gwrando ar bobl sy'n profi tlodi a'r rhai sy'n arbenigwyr ym maes trechu tlodi. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â fy ymgyrchu dros system fudd-daliadau Gymreig, ac yn wir, fe gefnogodd y Senedd fy ngalwad am Fil i sicrhau bod pob punt o gymorth Cymreig amhrisiadwy yn cael ei darparu mor hawdd a chyflym â phosibl ac mewn ffordd gyson ledled Cymru. Roeddwn i'n falch felly o weld y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad 5 y dylai'r Llywodraeth
'[f]andadu dull cyson, Cymru gyfan o basbortio aelwydydd sy’n cael un o fudd-daliadau Cymru i fudd-daliadau eraill y maent yn gymwys i’w cael.'
Yn eu hymateb, fodd bynnag, mae cyfeiriad o hyd at gyhoeddi siarter ar gyfer darparu budd-daliadau Cymreig. A all y Gweinidog egluro sut y cyflawnir yr agwedd orfodol ar gyflawni'r cam hanfodol hwn i liniaru caledi ac atal pobl rhag syrthio i dlodi?
Mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn eang ac yn ddwfn yng Nghymru. Mae ein hadroddiad yn cytuno â'r farn a fynegwyd gan National Energy Action a Climate Cymru y bydd y gaeaf o'n blaenau yn eithriadol o anodd unwaith eto, ac mae'n debyg y bydd hyd yn oed yn waeth i bobl ar incwm isel a'r rhai mewn aelwydydd agored i niwed o ganlyniad i'r lefelau cynyddol o ddyled ac absenoldeb cymorth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, megis cynllun cymorth tanwydd Cymru. Ac eto, dywedir wrthym yn yr ymateb y bydd yr adolygiad hirddisgwyliedig o gynllun gweithredu trechu tlodi tanwydd 2021 yn cael ei gynnal
'maes o law'.
Yn y cyfamser, mae'r ymateb yn nodi y bydd ymdrechion Llywodraeth Cymru
'yn canolbwyntio ar gamau y gallwn eu cymryd nawr.'
Felly, beth yw'r camau hyn? A fydd cymorth wedi'i dargedu ar gael i'r aelwydydd hynny?
Galwodd ein hadroddiad ar Lywodraeth Cymru hefyd i egluro nifer o faterion ar frys yn ymwneud â'r rhaglen sy'n cymryd lle Cartrefi Clyd: pam y cafodd ei gohirio, a fyddai'n sicrhau bod y cynllun newydd sy'n cael ei arwain gan y galw yn weithredol cyn gynted â phosibl. Mewn llythyr at ein pwyllgor yn gofyn am fwy o fanylion, o ystyried yr ymateb braidd yn aneglur a gawsom i'r adroddiad, dywedwyd wrthym fod y gwahoddiad i dendro wedi'i gyhoeddi fis diwethaf, ni fydd y contract yn cael ei ddyfarnu tan ddiwedd mis Tachwedd, ond yn ôl y llythyr gan y Gweinidog newid hinsawdd, dyna pryd y bydd yn dod yn weithredol hefyd, sy'n ddryslyd. Felly, bydd y cwmni y dyfernir y contract iddo'n gwbl barod i ddechrau heb sicrwydd contract i ganiatáu iddynt recriwtio staff a phrynu offer. Mae hefyd yn destun pryder y bydd hyn, wrth gwrs, yn digwydd ynghanol y gaeaf.
Mae hwn yn argyfwng cost anghydraddoldeb. Nid yw'r anghydraddoldebau croestoriadol sy'n ffactor yn y sefyllfa economaidd enbyd a ddatgelwyd gan ein hadroddiad yn cael sylw. Rhaid i'r Llywodraeth gydnabod bod anghydraddoldeb Cymru o fewn undeb o genhedloedd y DU yn un o'r anghydraddoldebau croestoriadol hynny sy'n cadw ein pobl yn dlawd, yn fregus ac yn ddi-rym yn erbyn gwleidyddiaeth neoryddfrydol San Steffan na fydd byth yn rhoi blaenoriaeth i ddileu tlodi—
Rhaid i'r Aelod ddirwyn i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Mae ein hadroddiad yn dwyn y teitl 'Anghynaladwy'. Mae'r sefyllfa y mae miloedd o ddinasyddion ynddi yn anghynaladwy, Weinidog, am fod yr undeb yn anghynaladwy.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sy'n dwyn y teitl 'Anghynaladwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol', heddiw. Hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth, ac i glercod a chydweithwyr am eu cyfraniadau i'r argymhellion hanfodol. Mae'n amlwg o'r gofynion hyn, 12 mis ers cyllideb fach drychinebus Llywodraeth y DU yn 2022, fod llawer o bobl yn dal i'w chael hi'n anodd, ac rwy'n mynd i daro'n ôl ar yr hyn rwy'n ei ystyried yn fwy o wybodaeth oddi ar feinciau'r gwrthbleidiau heddiw. Dyma'r ail dro i mi, dim ond fi, orfod gwneud hyn heddiw gan nad oes dianc rhag y ffaith bod y gyllideb fach honno wedi gwneud popeth yn llawer gwaeth. Ac rwy'n mynd i ychwanegu at hynny: dywedwyd mai prin y gellid dweud bod cyllideb wedi achosi'r fath niwed gwleidyddol ac economaidd; nid yw cyllideb garlibwns George Osborne, pan gafodd ei orfodi yn 2012 i gefnu ar y dreth basteiod, yn dod yn agos. A dywedodd rhywun arall:
'Mae Prydain yn gwneud y camgymeriad polisi economaidd digymell gwaethaf a welais yn fy mywyd.'
Rwy'n deall ac yn derbyn bod Llywodraeth y DU yn ceisio unioni hyn, ond ni allwch wadu'r ffaith bod y gyllideb honno wedi gwneud popeth yn waeth, ac mae'n berthnasol i'r adroddiad hwn gennym heddiw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, iawn.
Roeddwn i am grybwyll, yr hyn y credaf fod Altaf wedi nodi yno oedd bod agweddau ar ryfel Rwsia-Wcráin a rhai o weithgareddau Vladimir Putin yn ffactor sy'n cyfrannu at rai o'r problemau economaidd hyn. A fyddech chi'n derbyn hynny, yn hytrach na rhoi'r bai i gyd ar Lywodraeth y DU a'r gyllideb fach y gwnaethoch chi ei chrybwyll?
Yn sicr, a dyna a ddywedais. Fe wneuthum gydnabod bod y rhain yn bethau a oedd yn digwydd ledled y byd, ym mhob man, ond hefyd ni allwch ddiystyru'r ffaith bod cyllideb fach 2022 wedi gwaethygu popeth. Hynny yw, fel y gwelwch yma, ni chafodd unrhyw wlad arall eu Banc Lloegr yn ymyrryd gydag addewid i brynu hyd at £65 biliwn o fondiau'r Llywodraeth i arbed cronfeydd sy'n gyfrifol am reoli arian ar ran pensiynwyr y DU rhag cael eu colli. Ni wnaeth hynny ddigwydd mewn unrhyw wlad arall, fe ddigwyddodd hynny o ganlyniad i Brif Weinidog Llywodraeth y DU ar y pryd—penderfyniadau a wnaethant hwy a wnaeth bopeth yn waeth. Ac mae'r adroddiad hwn heddiw yn ymwneud â dyled, a llawer o'r ddyled honno ar hyn o bryd, ac i fynd yn ôl at yr hyn rwyf am ei ddweud heddiw—. Yn ôl adroddiad 'Cipolwg ar dlodi' Sefydliad Bevan yn yr haf, nawr, adroddiad haf 2023 yng Nghymru, mae bron i hanner rhieni plant o dan 18 oed wedi gorfod benthyg arian rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn rhannu fy marn na all hyn barhau.
Dyna pam rwy'n falch, Weinidog, o weld bod holl argymhellion yr adroddiad wedi'u derbyn, gan ddechrau gydag argymhelliad 1, sy'n nodi y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU i fonitro effaith prisiau cynyddol yn agos, fel y dywedoch chi, sy'n digwydd am lawer o resymau, ac a fydd, heb os, yn effeithio'n anghymesur ar bobl fregus. Dewiswyd hwn fel argymhelliad cyntaf ein hadroddiad oherwydd ei bwysigrwydd, ac oherwydd y ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl bwerau perthnasol sy'n ymwneud â'r maes hwn ar hyn o bryd. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain; mae'n rhaid i bob un ohonom gytuno bod yn rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd, oherwydd yn ôl Which?, mae 2.4 miliwn o aelwydydd y DU naill ai wedi methu gwneud taliad neu wedi diffygdalu ar daliadau hanfodol, gan gynnwys ar gyfer benthyciadau tai neu gardiau credyd, rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni, gan ddychwelyd i'r lefelau uchaf a welwyd ers y gaeaf diwethaf. Ac rydym hefyd wedi gweld taliadau morgais yn parhau i waethygu a gwaethygu, ac mae disgwyl iddynt fod £15.8 biliwn yn uwch yn 2026. Nid yw hyn yn mynd i wella yn y dyfodol agos. Ac mae hynny—rwy'n dweud hyn eto—oherwydd penderfyniadau Liz Truss a'i chyllideb fach drychinebus. Ac rydym yn gwybod bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar bawb, ond bydd yn effeithio'n waeth ar y bobl dlotaf. Unwaith eto, yn ôl Sefydliad Bevan, mae bron i hanner y bobl sydd ar gredyd cynhwysol neu fudd-daliadau etifeddol wedi mynd heb neu wedi torri maint prydau bwyd, neu wedi gorfod mynd heb wres. Beth yw'r thema gyffredin yma? Unwaith eto, yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Whitehall a anwybyddodd yr hyn a ddywedwyd gennym ni yn y Senedd yma ynglŷn â pheidio â lleihau nifer y bobl sydd ar gredyd cynhwysol.
Wedyn, beth rydym ni'n ei wneud yng Nghymru? Rydym wedi sefydlu'r gronfa cymorth dewisol. Gwn fod hon wedi bod o gymorth aruthrol i lawer o fy etholwyr, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 4 ac mae wedi dod yn rhaff achub i bobl yng Nghymru, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Trussell a Chyngor ar Bopeth Cymru, a gyfrannodd at yr adroddiad hwn a'r argymhelliad.
Rwy'n gwybod fy mod i'n brin o amser, felly roeddwn i eisiau gorffen trwy ddweud fy mod yn falch fod argymhelliad 5, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, Sioned, wedi'i dderbyn. Ei nod yw gwneud ein gweledigaeth bresennol ar gyfer system fudd-daliadau Cymru yn realiti, ac mae'n mandadu dull cyson o weithredu drwy Gymru gyfan i ganiatáu i deuluoedd Cymru dderbyn sawl budd-dal, ac mae wedi'i dderbyn yn ei gyfanrwydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn nawr yn rhoi ysgogiad ychwanegol, a byddai'n dda iawn clywed heddiw, Ddirprwy Weinidog, yn benodol, sut y byddwch chi'n bwrw ymlaen gydag argymhelliad 5.
Roeddwn eisiau gorffen drwy ddweud: mae'n rhaid i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd ar hyn. Nid wyf yn ceisio chwarae gwleidyddiaeth gyda hyn. Fodd bynnag, rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod lle rydym wedi cyrraedd ac felly mae'n rhaid i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd nawr. Felly, gadewch inni edrych ar y darlun llawn, gweithio gyda'n gilydd, a cheisio gwneud pethau'n llawer gwell, oherwydd mae'r ddyled y mae pobl yn mynd iddi yn wirioneddol frawychus. Diolch.
Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Anghynaladwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol', ac rwy'n croesawu'r adroddiad a'i argymhellion. Diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eu cyfraniad sylweddol, eu gwaith caled a'u cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n croesawu'n arbennig y ffordd y mae'r pwyllgor wedi cynnwys pobl â phrofiad uniongyrchol i helpu i lunio'r ymateb a darparu'r dystiolaeth honno o reng flaen, os mynnwch, bywydau a phrofiadau pobl yma yng Nghymru. I mi, mae hynny'n bwerus iawn wrth ymateb fel eich Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi cael ei grybwyll. Mae eu hadroddiad yn dangos bod y niferoedd sy'n troi atynt am gyngor ar ddyledion bellach yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig, gyda 3,000 o bobl yn gofyn am gyngor ar ddyledion yn ystod mis Mai eleni yn unig. Ac wrth gwrs, fel y dywedwyd, bydd mynd i ddyled yn ymestyn effaith yr argyfwng costau byw i'r aelwydydd yr effeithir arnynt. Rydym yn gweithio'n agos gyda Cyngor ar Bopeth Cymru ac wrth gwrs, gan gofio ymatebion i gwestiynau cynharach y prynhawn yma, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cael ei ariannu gyda'i bartneriaid drwy gronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru sy'n werth £11 miliwn. Ac maent yn monitro lefelau galw ac yn ein cynghori ar fesurau sy'n helpu i gyrraedd pobl mewn angen i ymdopi trwy'r argyfwng.
Rydym bob amser yn edrych ar sut y gallwn helpu gwasanaethau cynghori i ymdopi'n well â'r cynnydd yn y galw, ond yn amlwg, mae cael yr hyn y mae gennych hawl iddo yn hanfodol i hyn. Cynyddu incwm yw'r arf mwyaf pwerus i fynd i'r afael â thlodi. Ac felly dyma'r cymorth hanfodol rydym yn ei ddarparu i helpu pobl i gael gwybod am y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl i'w gael. Ac mae'n bwysig cofnodi, erbyn mis Mawrth 2023, fod gwasanaethau ein cronfa gynghori sengl, a gyflwynwyd gennym yn ôl ym mis Ionawr 2020, wedi helpu mwy na 200,000 o bobl i ymdrin â dros 920,000 o broblemau lles cymdeithasol. A chefnogwyd y rhai a gynorthwywyd i hawlio incwm ychwanegol o £116.6 miliwn a chafodd dyledion gwerth cyfanswm o £30.7 miliwn eu dileu. Mae'r dystiolaeth y gallwn gynyddu hawl yn bwysig, ac rwy'n gwybod ei bod wedi dod i'r pwyllgor, cynyddu incwm yn y ffordd honno, dileu dyledion drwy gael mynediad at y budd-daliadau y mae gan bobl hawl iddynt.
Mae'n bwysig ein bod yn targedu ein cymorth, a nodwyd hyn yng nghyflwyniad y Cadeirydd wrth gwrs. Rydym yn darparu cymorth wedi'i dargedu sy'n werth mwy na £3.3 biliwn i helpu i liniaru effaith yr argyfwng, ac rydym yn targedu aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm, ac mae tystiolaeth yn dangos ein bod yn eu cyrraedd. Ond fel y nodwyd, yr unig reswm y gwnaethom gefnogi llawer o'r pethau y gwnaethom eu cefnogi y llynedd gyda phwysau costau byw oedd oherwydd y cyllid sylweddol y bu modd ei ddyrannu drwy gyllideb y llynedd. Ond mae ergyd chwyddiant ers mis Hydref y llynedd, canlyniadau cyllideb wanwyn Llywodraeth y DU, y pwyntiau sydd wedi'u gwneud y prynhawn yma, ar ben 13 mlynedd o gyni yn golygu bod setliad Llywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon hyd at £900 miliwn yn is mewn termau real na'r disgwyl adeg adolygiad o wariant 2021. Felly, mae llai o arian ar gael i wneud yr holl bethau rydym eisiau eu gwneud, yn enwedig gan fod chwyddiant yn parhau i fod mor uchel. Ac yn wir, mewn ymateb i'r argymhellion, ydym, rydym am weithio gyda Llywodraeth y DU. Rydym yn gweithio yn y grŵp rhyngweinidogol. Roedd yn bwysig ein bod wedi cael yr argymhelliad hwnnw, oherwydd dyna rydym ni wedi bod yn galw amdano hefyd, ac yn amlwg galwn ar Lywodraeth y DU i adfer yr arian hwnnw a'n galluogi i ddiwallu'r anghenion y mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd amdanynt.
Hoffwn ddweud bod yn rhaid blaenoriaethu ein cymorth ar gyfer y rhai mwyaf difreintiedig. Felly, dyna pam y gwneuthum bopeth y gallwn ei wneud yn y gyllideb eleni i ddiogelu'r gronfa cymorth dewisol, ac mae honno'n parhau i ddarparu rhaff achub i bobl i'w helpu i dalu biliau hanfodol, gan gynnwys costau bwyd a thanwydd. Gwnaed dros 350,000 o daliadau i helpu pobl mewn argyfwng ariannol. Bydd mwy o dystiolaeth i'w gweld ym mis Hydref ynglŷn â phwy sy'n hawlio'r gronfa cymorth ddewisol honno, ac mae—. Yn ddaearyddol, yn economaidd-gymdeithasol, gallwch weld lle mae'r angen mwyaf yng Nghymru, ond hefyd mae'r gronfa cymorth dewisol yn estyn allan i ardaloedd gwledig, yn enwedig aelwydydd oddi ar y grid, a hefyd mae ein cyswllt Sefydliad Banc Tanwydd yn darparu cymorth mewn argyfwng i aelwydydd ar fesuryddion rhagdalu yn ogystal ag aelwydydd oddi ar y grid. Ac mae'n dda gwybod bod ein buddsoddiad gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi golygu bod 83,000 o bobl yn cael cefnogaeth gyda'r talebau hynny.
Nawr, er nad oes gennym bwerau, mae'n bwysig ein bod yn cyfarfod ag Ofgem a chyflenwyr ynni. Rwy'n cyfarfod â nhw eto'n fuan—rwyf wedi cyfarfod â nhw ar sawl achlysur—ac fel y dywedais yn gynharach heddiw, byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Claire Coutinho, i alw am gynnydd ar frys ar y tariff cymdeithasol, a gobeithio y bydd y pwyllgor yn fy nghefnogi ar hynny.
Ond rydym yn parhau â'n cefnogaeth i'r cyflog cymdeithasol, y polisïau a'r rhaglenni sy'n helpu i gadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru: cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, y cynnig gofal plant, a'n hymrwymiad i brydau ysgol am ddim. Ac rydym yn canolbwyntio ar ddull ataliol o fynd i'r afael â thlodi, felly hoffwn sôn am y strategaeth tlodi plant ddrafft. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddoe. Daeth 150 o ymatebion i law. Cyfarfûm â'r grŵp allanol o sefydliadau tlodi plant sy'n gweithio ar y rheng flaen yr wythnos diwethaf, a diolchais iddynt am y gwaith y maent wedi'i wneud. Dros yr haf, cyfarfûm â llawer o'r sefydliadau sydd wedi cyfrannu at y strategaeth.
Mae angen inni wneud y trefniadau a'r polisïau strwythurol mwy hirdymor a all wneud gwahaniaeth—felly, mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd drwy'r partneriaethau traws-sector ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae cymaint o bethau da yn digwydd, cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi, nid yn unig drwy fanciau bwyd ond drwy ystod eang o bantrïau, Big Bocs Bwyd, menter a ddaeth o ysgol Tregatwg yn fy etholaeth i, sy'n gwneud gwaith mor arloesol bellach ledled Cymru. Mae angen inni symud ymlaen o'r mentrau tymor byr, untro, ac rydym yn disgwyl i'n rhaglen Cartrefi Clyd newydd ddod yn weithredol y gaeaf hwn. Unwaith eto, rydym wedi bod yn siarad am gyfiawnder cymdeithasol y prynhawn yma. Mae'n bwysig fod y rhaglen honno'n mynd i gefnogi aelwydydd drwy leihau allyriadau yn ogystal â biliau tanwydd. Rhaid i'r cysylltiad newid hinsawdd gael ei wneud ar bob achlysur. Mae'n rhaid iddo fod yn ysgogiad i farchnadoedd a sgiliau carbon isel, ond dull 'gwaethaf yn gyntaf' fydd hwn, fel rydym wedi'i ddweud.
Rwy'n awyddus iawn hefyd i roi gwybod i'n Haelodau y bydd y siarter ar ddarparu budd-daliadau Cymreig, a dyna beth ydyw, yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym eisiau sicrhau ymrwymiad ar y cyd i'r dull tosturiol, cyson a chydgysylltiedig o ddarparu budd-daliadau Cymreig. Felly, wrth edrych tuag at gyllideb yr hydref Llywodraeth y DU, rydym yn eu hannog i gynyddu'r gefnogaeth i aelwydydd a'r rhai sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb i argymhellion y pwyllgor.
A diolch yn fawr iawn i chi am roi'r offer, y dystiolaeth, sydd ei hangen arnaf i gymryd y camau sydd eu hangen ar bobl Cymru. Diolch.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn am eich holl gyfraniadau. Fel y gallwch weld, rydym yn cael dadleuon bywiog yn ein pwyllgor ynglŷn ag achosion y sefyllfa rydym ynddi, ac mae hynny'n gryfder. Ond yn y pen draw, rhaid i wleidyddiaeth fod yn gelfyddyd yr hyn sy'n bosibl o ran sut y gallwn sicrhau'r effaith fwyaf sy'n bosibl ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed gyda'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni ddileu gwastraff, mae'n rhaid inni roi'r gorau i wneud pethau nad ydynt yn gweithio, ac rwy'n siŵr y byddai pob aelod o'r pwyllgor yn cytuno.
Rwy'n falch iawn fod Altaf Hussain wedi sôn am yr anawsterau y mae pobl sy'n byw mewn tai sector preifat yn eu cael, oherwydd mae'r system fudd-daliadau—. Os ydynt yn dibynnu ar unrhyw fath o fudd-daliadau o gwbl, mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r arian y dylent fod yn ei wario ar fwyd, dillad ac anghenion hanfodol eraill ar sybsideiddio'r lwfans tai annigonol y maent yn ei gael gan Lywodraeth y DU, ac mae hwnnw'n bryder sylweddol. Mae'r bobl hyn mewn sefyllfa amhosibl. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod yr effaith wedi bod yn fwy ymhlith cymunedau lleiafrifol ethnig, ac rydych yn llygad eich lle yn tynnu sylw at y dystiolaeth honno. Gallwn gytuno y bydd y gaeaf nesaf yn eithriadol o anodd. Cawsom ddihangfa ffodus y gaeaf diwethaf; fe gawsom aeaf mwyn iawn. Mae'n rhaid inni weddïo am aeaf mwyn arall, ond ni fydd hynny'n digwydd o reidrwydd.
Fel y dywedodd Sioned Williams, ceir lefelau annerbyniol o galedi yn ein cymunedau. Rydym i gyd yn cael gwybodaeth am hyn pan fyddwn yn siarad â phobl a gynrychiolir gennym, ond hoffem i chi ganolbwyntio ar y nodiadau o'r sesiynau grŵp ffocws a gynhaliwyd fel rhan o'r gwaith hwn. Mae'r ymdeimlad o anobaith a deimlir gan lawer gormod o bobl yn gwbl glir ac yn sobreiddiol iawn. Maent hefyd yn dangos yn rymus y rhesymau pam mae'n rhaid inni barhau i frwydro dros gyfiawnder economaidd a chymdeithasol nawr ac yn y blynyddoedd i ddod.
Fe wnaeth Sarah Murphy roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni unwaith eto gydag adroddiad diweddaraf Bevan. Mae hanner y cartrefi sydd â phlant dan 18 oed yn gorfod benthyg arian i gael dau ben llinyn ynghyd, ac mae taliadau morgais yn effeithio ar y mathau o bobl y soniodd Purple Shoots, Well-Fed a sefydliadau eraill amdanynt. Dyma bobl nad ydynt erioed wedi gorfod ymdopi â chyni, ac maent ar goll yn llwyr—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Iawn. Mae'r Gweinidog o ddifrif ynglŷn â'n hargymhelliad ac yn cydnabod bod y galw am gyngor ar ddyledion yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig, ac rydym yn ffodus fod gennym wirfoddolwyr ymroddedig sy'n barod i roi'r cyngor hwnnw, ac mae ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' Llywodraeth Cymru yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod y nifer uchaf o bobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Nid cardod mohono; dyma'r hyn y mae ganddynt hawl iddo drwy eu cyfraniadau i drethi mewn amseroedd gwell. Mae'n rhaid eu helpu yn y dyfodol.
Rwy'n cydnabod yr hyn rydych chi'n ei ddweud ynglŷn â'r ffaith na allwn ni ond gwneud yr hyn y gallwn ei wneud gyda'r adnoddau sydd gennym, ac mae'n rhaid i wleidyddiaeth fod yn gelfyddyd yr hyn sy'n bosibl, yn hytrach na'r hyn yr hoffem ei weld. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau a ddywedodd y Gweinidog yn ei hymateb ysgrifenedig oedd mai'r lleiaf cefnog yn y cartrefi lleiaf effeithlon yn thermol fydd prif darged y rhaglen Cartrefi Clyd. Ac rwy'n siŵr y byddai holl aelodau'r pwyllgor yn cefnogi'r tariff cymdeithasol, oherwydd mae'n ffordd effeithiol iawn o sicrhau y bydd y rhai na allant fforddio gwresogi eu cartrefi yn gallu cael lefel sylfaenol o safon byw y byddech chi'n ei ddisgwyl yn y chweched economi fwyaf yn y byd.
Felly, mae llawer i'w wneud. Edrychwn ymlaen at y strategaeth tlodi plant sy'n cael ei hadnewyddu wrth inni siarad, a hefyd y siarter bwysig iawn ar gyfer budd-daliadau Cymreig, a fydd yn datrys llawer o'r aneffeithlonrwydd yn y system ac yn sicrhau bod y rhai sydd â hawl i un budd-dal yn awtomatig yn cael beth bynnag arall y mae ganddynt hawl iddo eisoes.
Rydym yn wynebu cyfnod anodd iawn o'n blaenau, ac mae'n rhaid inni ddal ati. Rydym yn ceisio sicrhau bod y rhai sydd fwyaf o angen ein cymorth yn ei gael i'r graddau y bydd gennym adnoddau i'w wneud.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, a galwaf ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8347 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, sydd i ddod i rym ar 17 Medi 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf wneud y cynnig pwysig hwn, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mewn ychydig ddyddiau'n unig, bydd cynllun cyffredinol hurt y Llywodraeth Lafur hon i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya yn dod i rym yma yng Nghymru. Heddiw yw'r cyfle olaf mewn gwirionedd. Ystyriwch ddadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn gyfle i bob gwleidydd sefyll dros eu hetholwyr ac anfon neges at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd nad ydym am gael terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya yma yng Nghymru. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd nifer y bobl sy'n gwrthwynebu yn chwyddo ymhellach pan fydd cynllun gwneud arian y blaid Lafur yn gweithredu'n llawn. Mae'n amlwg fod y mwyafrif llethol o bobl yn erbyn y cynllun cyffredinol costus hwn, ac eto mae'r Dirprwy Weinidog yn parhau i gladdu ei ben yn y tywod, anwybyddu pryderon dilys a bwrw ymlaen gyda'r cynlluniau hyn. Beth mae'n mynd i'w gymryd i'r Llywodraeth hon gyfaddef ei bod wedi gwneud camgymeriad enfawr gyda'r cynllun cyffredinol hwn a'i ddiddymu am byth? Mae amser o hyd i'r Llywodraeth gefnu ar y cynlluniau hyn a chanolbwyntio yn hytrach ar fesurau wedi'u targedu, yn union fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn ei ddweud o'r diwrnod cyntaf. Wrth gwrs, nid nifer y bobl sy'n gwrthwynebu'r cynllun yn unig sydd wedi cynyddu dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae ei gost wedi cynyddu hefyd. Yn wreiddiol, dywedwyd wrthym fod tua £33 miliwn yn cael ei wario ar weithredu'r cynllun, ac eto mae'r ffigur wedi codi i'r entrychion, ac rydym yn darganfod wedyn fod mwy na—[Torri ar draws.] Mae'r ffigur wedi codi i'r entrychion, ac rydym yn darganfod wedyn fod mwy na £800,000 wedi'i glustnodi ar gyfer marchnata'r broses o gyflwyno'r cynllun cyffredinol hwn.
Ddirprwy Lywydd, fel rhywun sydd wedi gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus o’r blaen, hon o bosibl yw’r daflen fwyaf truenus a nawddoglyd y mae Llywodraeth Cymru erioed wedi’i hanfon allan i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru. A pheidiwch ag anghofio y bydd y newid yn arwain at ergyd o £9 biliwn i economi Cymru. Nid fy ffigurau i yw’r rhain; dyma'ch ffigurau chi. I Lywodraeth a oedd yn cwyno ei bod yn dlawd ychydig wythnosau’n ôl, mae'r arian rydych chi'n ei wario ar y cynllun hurt hwn yn syfrdanol.
Yn gynharach yn yr haf, gorchmynnodd y Prif Weinidog ei dîm gweinidogol i ddod o hyd i doriadau yn eu hadrannau mewn ymgais i arbed arian, ac yn fuan wedi hynny, clywsom Weinidog iechyd Llafur yn bygwth toriadau dyfnach i GIG Cymru. Dyma ambell air o gyngor gennyf, gyda chariad, i'r Prif Weinidog a’i Aelodau ar y fainc flaen, gan eich cynnwys chi, Ddirprwy Weinidog, credwch neu beidio: os yw’r Llywodraeth hon, sy'n honni ei bod yn brin o arian, am ryddhau rhywfaint o arian, byddai cael gwared ar y cynllun 20 mya a phrosiectau porthi balchder eraill yn lle da iawn i ddechrau.
Nid trigolion, modurwyr a'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig rai sydd â phryderon dilys a gwrthwynebiad i'r cynllun hwn. Dros yr haf, siaradais â diffoddwr tân wrth gefn sy'n wirioneddol bryderus am yr effaith y bydd y terfyn cyflymder 20 mya yn ei chael ar ei allu i gyrraedd yr orsaf dân mewn pryd pan fydd yn cael galwad 999. Heb os, bydd hyn yn arwain at amseroedd ymateb hwy i’r gwasanaethau brys—ac nid fy ngeiriau i yw’r rhain, ei eiriau ef ydynt—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn unrhyw fath o ymyriad. Mae'r cyfaddefiadau hyn yn profi nad yw'r cynllun gwirion hwn yn ymwneud â diogelwch, pan fo bywydau'n cael eu peryglu o ganlyniad i'r polisi.
Credwch neu beidio, mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Wrecsam wedi dod i gytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig yn ôl pob golwg, ac wedi galw am ailfeddwl ynglŷn â'r cynllun 20 mya. Dywedodd y Cynghorydd Carrie Harper, ac rwy'n dyfynnu,
'Dyma enghraifft arall o ddull gweithredu o'r brig i lawr gan Lywodraeth Cymru nad yw'n ystyried gwybodaeth neu safbwyntiau lleol.'
Dyfynnaf eto gan Carrie Harper. Mae'n dweud:
'Bydd y terfyn cyffredinol yn achosi problemau, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd angen ei adolygu a'i ddadwneud.'
Mae arweinydd cyngor sir Benfro hefyd wedi galw am atal y cynllun costus hwn, ochr yn ochr ag ehangu’r Senedd. Mae'n amlwg fod thema yma. Mae mwy a mwy o bobl yn deffro i’r ffaith bod y cynllun 20 mya cyffredinol hwn yn syniad gwael, a dweud y lleiaf.
Dros yr haf, rydym wedi gweld modurwyr yn clymu rhubanau coch ar eu ceir mewn protest, a phobl yn difwyno arwyddion ffordd 20 mya—yn debyg i’r golygfeydd a welsom yn Llundain pan ehangwyd parthau allyriadau isel iawn Sadiq Khan. Er nad wyf yn esgusodi'r difwyno mewn unrhyw ffordd, mae hyn yn dangos yn glir y lefel uchel o anfodlonrwydd a dicter tuag at y polisi hwn.
Y peth mwyaf—neu’r pièce de résistance, fel rwy'n hoff o'i alw—yw ei bod hi'n ymddangos bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y dyn sy’n gyfrifol am y syniad 20 mya gwych hwn, wedi'i ddrysu gan ei bolisi ei hun. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn cofio’r newyddion yn gynharach yn yr haf gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd wrthym:
'Ar ochr ffyrdd ledled Cymru, bydd staff y gwasanaeth tân yn gweithio gyda phartneriaid, i rwystro gyrwyr rhag goryrru mewn ardaloedd 20 mya ac yn cynnig cyfle iddynt wylio fideo addysgol yn hytrach na wynebu dirwy.'
Ac eto, mewn ymateb—ymateb ysgrifenedig, a dweud y gwir—i gwestiwn a ofynnwyd i’r Dirprwy Weinidog, dywedodd:
'Mater i'r Heddlu a GanBwyll yn unig yw gorfodi terfynau cyflymder.'
Yn anffodus, nid yw'n syndod fod y Dirprwy Weinidog wedi drysu ynghylch pwy sy'n cael a phwy nad yw'n cael gorfodi polisi sy'n seiliedig ar ei record enbyd o gamgymeriadau. [Torri ar draws.] Ddirprwy Weinidog, nid wyf yn siarad nonsens; mae hyn yn gwneud synnwyr.
Rwy’n mynd i roi un cyfle olaf i chi ateb y cwestiwn, gan i chi ei osgoi'n gyfan gwbl ddoe pan ofynnais i chi yma yn y Siambr hon: ai dim ond y brig y mynydd iâ yw'r terfynau 20 mya, ac a ddylai trigolion ddisgwyl gweld y Llywodraeth hon yn cynyddu ei hagenda gwrth-yrwyr wrth symud ymlaen? Rwy'n gofyn, oherwydd i unrhyw un a fethodd hyn ddoe, anfonodd cynghorydd yng ngogledd Cymru e-bost at breswylydd, yn dweud, 'Dros y 12 i 18 mis nesaf, bydd canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu i'w gwneud hi'n bosibl adolygu newidiadau pellach i derfynau cyflymder, er enghraifft, ar gyfer 40 mya, 50 mya, a ffyrdd y terfyn cyflymder cenedlaethol.' Rwy'n gobeithio y cawn ateb gan y Dirprwy Weinidog ynglŷn â hyn heddiw.
Mae'r Llywodraeth hon yn hoffi cyfeirio at Sbaen yn aml, a gwneud cymariaethau â'r canlyniadau y maent wedi'u gweld yn sgil terfynau cyflymder is. Wel, hoffwn glywed barn y Dirprwy Weinidog ar y newyddion fod Sbaen wedi cael llawer mwy o farwolaethau ar y ffyrdd yn 2022 nag yn 2021. A hoffwn egluro rhywbeth i'r Aelodau dryslyd hynny—yn enwedig rhai fel Huw Irranca-Davies a Lee Waters, sydd ill dau'n hoff iawn o gyfeirio at Aelodau o'r Senedd sydd wedi gadael Senedd Cymru—hoffwn wybod: pam nad ydych chi erioed wedi cyfeirio ataf fi mewn cyfraniad? Fi yw Gweinidog yr wrthblaid—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, gyda phob parch, fi yw Gweinidog yr wrthblaid dros drafnidiaeth—[Torri ar draws.]
Un funud. [Anghlywadwy.]—gwirio dilysrwydd y pwynt o drefn, iawn?
Nid yw'n bwynt o drefn perthnasol.
Fe gymeraf y pwynt o drefn, gan eich bod wedi enwi Aelod.
Yn wir. Ddirprwy Lywydd, rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut mae hon yn ddadl pan fo'r Aelod yn gwrthod derbyn ymyriadau. Mae hi bellach wedi fy enwi yn y ddadl, ond mae'n dal i wrthod derbyn ymyriad. A gaf fi wirio—? [Torri ar draws.] A gaf fi ofyn i chi—[Torri ar draws.] A gaf fi—gan anwybyddu'r gweiddi parhaus—a gaf fi ofyn i chi ystyried y prynhawn yma ble mae hyn yn ein gadael ni fel Aelodau ar y meinciau cefn, pan fyddwn yn cael ein henwi ar lawr Siambr y Senedd, ond bod yr unigolyn sy’n ein henwi yn gwrthod ystyried y cysyniad o ddadl?
Dywedaf hyn: dewis yr Aelod unigol yw derbyn ymyriadau ai peidio. Eu penderfyniad nhw ydyw, a dyna eu hawl. Felly, os ydynt yn penderfynu peidio â derbyn ymyriadau, eu penderfyniad nhw yw hynny.
Diolch yn fawr iawn.
Fel y dywedwch, serch hynny, pan gaiff Aelodau eu henwi, buaswn yn gobeithio y byddai'r Aelodau hynny'n dymuno siarad yn y ddadl eu hunain ac yn cyflwyno eu henwau.
Iawn. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Hoffwn wybod pam ar y ddaear na chyfeiriwyd ataf erioed. Wedi’r cyfan, fi yw Gweinidog yr wrthblaid dros drafnidiaeth, ac fe wyddoch yn iawn nad oes unrhyw Aelod ar y meinciau Ceidwadol hyn erioed wedi pleidleisio dros derfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya ers chweched tymor y Senedd. Er gwybodaeth, pan fu’r Senedd yn trafod y polisi niweidiol hwn yn gynharach yn y flwyddyn, pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig, gan gynnwys fi fy hun, fy arweinydd, Andrew R.T. Davies, a Janet Finch-Saunders hefyd, yn ddigamsyniol yn ei erbyn hefyd, gyda mi a’r meinciau hyn. Fel gwleidyddion, ein swydd ni yw cynrychioli ein hetholaethau a bod yn llais i’n trigolion. Mae trigolion wedi dweud eu barn ar y cynnig hwn, ac mae’r farn yn glir: nid ydynt eisiau'r prosiect terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol costus, difeddwl a thrychinebus hwn; maent am weld dull wedi’i dargedu yn lle hynny, gyda’r terfyn cyflymder yn cael ei leihau y tu allan i ysgolion, meysydd chwarae, lleoedd prysur. Ac rwy'n mawr obeithio bod Aelodau ar draws y llawr wedi cael cyfle i fyfyrio ar y cynllun 20 mya hwn dros yr haf, pan oedd pob un ohonoch, yn ôl pob tebyg, allan yn eich etholaethau, yn siarad ag etholwyr ar draws eich rhanbarthau a'ch ardaloedd. Ac rwy'n mawr obeithio gweld pob un ohonoch yn cynrychioli eich etholwyr a'u safbwyntiau dilys drwy bleidleisio gyda chynnig y Ceidwadwyr wrth symud ymlaen heddiw. Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru gael gwared ar y meddylfryd gwrth-yrwyr hwn, ac yn lle hynny, sicrhau bod gan Gymru rwydwaith ffyrdd digonol ar gyfer y dyfodol, nid cyflwyno eich fersiwn eich hun o'r parthau allyriadau isel iawn, wrth symud ymlaen.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1) Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.
2) Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.
3) Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.
4) Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.
5) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu y gallai pob un ohonom wneud ag arafu. Rwy’n ofni bod unrhyw gynildeb wedi’i golli yn y ddadl hon. Rwy'n credu bod hynny'n drueni mawr. Rwy'n cynnig gwelliant Plaid Cymru.
Mae llygredd aer yn lladd. Dyna bwynt a wnaed gan Aelodau o bob plaid ar wahanol adegau wrth alw am Fil aer glân. Ymddengys bod anghysondeb rhwng yr hyn rydym wedi'i glywed ar yr achlysuron hynny a'r pwyntiau anghynnil, a bwriadol bryfoclyd, rwy'n ofni, sy'n cael eu gwneud nid yn unig heno, ond dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf. Mae yna broblemau gyda'r ffordd y mae'r terfynau 20 mya newydd yn cael eu cyflwyno. Rwy'n cytuno â hynny. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn ddig, a mwy o bobl nad ydynt yn deall y rhesymau dros gyflwyno'r terfynau hynny. Mae ein gwelliant yn galw am adolygiadau parhaus o weithrediad y polisi a grymuso awdurdodau lleol i allu gwneud eithriadau pellach. Rwy’n mawr obeithio y bydd yn cael ei dderbyn. Ond mae gostwng terfynau cyflymder yn yr ardaloedd lle mae cerbydau a phobl yn rhyngweithio fwyaf yn achub bywydau, nid yn unig drwy leihau allyriadau, ond hefyd am y bydd llai o bobl yn cael eu lladd gan geir. Mae gostwng terfynau cyflymder ger y stryd fawr yn golygu bod mwy o bobl yn teimlo y gallant gerdded neu feicio i siopau. Ac mae gostwng y terfynau hynny yn agos i ble mae pobl yn byw yn lleihau sŵn, llygredd, straen ac iselder.
Mae’r cynnig y mae’r Torïaid wedi’i gyflwyno i daflu'r llo a chadw'r brych, fel y dywed y ddihareb, yn anwybyddu’r manylion hynny, y manylion hanfodol hynny, y pethau sy’n gwneud bywyd yn werth ei fyw, y pethau sy'n ein cadw’n fyw. Ond mae angen inni edrych ar weithrediad y polisi ar fyrder. Ni fuaswn yn anghytuno â hynny. Mewn meysydd lle na chafwyd unrhyw ymgynghori cyhoeddus, neu ddim digon, mae hyn bob amser yn mynd i fod yn bwysicach, ac mae bod yn onest gyda'r cyhoedd yn bwysig. Nid gwaharddiad cyffredinol mo hwn. Mae eithriadau i'r newidiadau 20 mya, a gellir dadlau nad oes digon ohonynt. Credaf y dylid cefnogi cymunedau i geisio newidiadau pellach lle nad yw'r terfynau hyn i'w gweld yn briodol. Bydd pob un ohonom yn gwybod am enghreifftiau yn ein cymunedau lle mae hynny'n wir. Efallai na fu digon o gyfathrebu rhwng cynghorau a'r Llywodraeth ynghylch cyflwyno'r polisi—efallai y gellid cryfhau hynny—a byddem yn croesawu gweld gweithrediad y polisi'n cael ei adolygu i sicrhau ymgysylltiad y cyhoedd. Unwaith eto, rwy’n mawr obeithio y caiff ein gwelliant ei gefnogi.
Ond rwy'n ffyddiog y byddai nifer helaeth o bobl o blaid y syniad o wneud ein ffyrdd yn fwy saff. Bydd pobl o blaid achub bywydau, nid yn unig trwy leihau damweiniau, ond hefyd, fel dwi wedi'i ddweud, trwy wella ansawdd yr aer rŷm ni'n ei anadlu. Gwrando ar bryderon pobl sy'n bwysig. Mae pryderon dilys, dealladwy am stâd trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn gwneud pethau yn anodd i bobl sy'n cymudo, a fydd efallai yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau. Rwy'n deall y pryderon hynny. Mae angen gwrando a gwella'r sefyllfa. A dydy hi ddim yn rhy hwyr i newid rhai pethau, i addasu. Cefnogwyd y polisi hwn gan y blaid ar y dealltwriaeth na fyddai'r ffyrdd rheini a ddylai fod yn 30 mya yn newid i 20 mya, ond beth rŷm ni'n ei weld yn anffodus yw nifer o gynghorau lleol yn cyflwyno'r terfynau newydd hyn mewn llefydd anaddas. Mae'n rhaid cael y nuance yma sy'n ateb amgylchiadau lleol, a nuance sy'n caniatáu i awdurdodau lleol wrando ar bryderon lleol ac ymateb.
Fel roeddwn i'n dweud, rwy'n 'difaru i glywed tôn y ddadl—dwi ddim yn golygu dim ond y ddadl heno, ond fel mae'r ddadl yma yn mynd yn gyhoeddus—ond mae cyfle wrth law i'r Llywodraeth ddangos eu bod nhw yn clywed, eu bod nhw'n deall pryderon pobl, eu bod nhw eisiau cymryd pobl ar y ffordd, fel byddem ni'n ddweud yn Saesneg. Rhaid gwneud yn siŵr fod awdurdodau lleol ddim jest yn penderfynu gwneud y dewis hawdd, cyflym, amhoblogaidd efallai, anaddas o wneud cymaint o lefydd yn 20 mya, dim ots am amgylchiadau lleol. Mi fuaswn i'n hoffi clywed mwy am beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i'r perwyl hwn.
Cyfaddawd sydd wrth wraidd cymaint o lwyddiannau gwleidyddol—gwrando a chlywed ac addasu. Mae cyfle i wneud yn siŵr fod pobl yn cael eu clywed, ond nid trwy floeddio na soundbites mae gwneud hynny, nid trwy ymgyrchu sinigaidd, ond weithiau trwy fod yn dawel a gwrando a gweithredu.
Rwy'n croesawu’r ffaith bod y terfyn cyflymder 20 mya diofyn yng Nghymru ar fin cael ei gyflwyno, lle mae’r rhyngweithio rhwng cerbydau a phobl yn gwneud hynny'n ofynnol, a gallu awdurdodau lleol i gadw rhai ffyrdd 30 mya ar y terfyn hwnnw, lle mae'r amgylchiadau lleol yn cefnogi hynny. Roedd un o'r cynlluniau peilot yn fy etholaeth yn Nwyrain Casnewydd, a dangosodd Cyngor Sir Fynwy y gellir gweithredu ar y profiad o'i weithredu ac adborth y gymuned. Felly, yn unol â’r profiad yn ystod y cynllun peilot, lle cafwyd llawer o wrthwynebiad i gynnwys darn penodol o ffordd yng Nghil-y-coed, cafodd Cyngor Sir Fynwy wared ar y rhan honno o’r ffordd o'r cynllun peilot, a dychwelodd i fod yn 30 mya, gan ddangos sut y gall y cynllun weithredu.
Ddirprwy Lywydd, o'm profiad i, mae pobl yn deall yn iawn fod car sy'n taro plentyn neu unigolyn oedrannus, neu unigolyn o unrhyw oedran, ar 30 mya yn llawer mwy tebygol o achosi marwolaeth neu anaf difrifol na char sy'n teithio ar 20 mya. Ac mae pobl yn deall yn iawn ei bod yn cymryd mwy o amser i stopio ar 30 mya. Yn wir, yn y pellter y byddai'n cymryd i gar sy'n teithio ar 20 mya ddod i stop, byddai car sy'n teithio ar 30 mya yn dal i deithio ar 24 mya, a chredaf fod hynny'n enghraifft glir o effeithiau gwahanol gyflymderau ar bobl, ac yn wir, ar gerbydau eraill.
Mae pobl yn awyddus i gael terfynau 20 mya mewn gwirionedd, ond wrth gwrs, maent am eu cael ar ffyrdd priodol, a dyna sy'n rhaid i ganllawiau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ei sicrhau. Disgrifiais y ffordd y gweithredai'r cynllun peilot yn ardal Cyngor Sir Fynwy yn fy etholaeth, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n siŵr y bydd gweithrediad y cynllun llawn ledled Cymru yn cael ei fonitro ac y bydd yn ddigon hyblyg i allu gwneud addasiadau yng ngoleuni profiad.
Ond mae'n rhaid imi ddweud, Ddirprwy Lywydd, yn anffodus, yn enwedig yn ddiweddar, cafodd y ddadl ei hystumio'n ofnadwy a gwelwyd llawer iawn o gamarwain gan y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n gresynu'n fawr at hynny, gan fod hwn yn bolisi a fydd yn achub bywydau ac yn atal anafiadau. Mae'n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd. Hefyd, wrth gwrs, mae iddo fanteision o ran yr amgylchedd ac ansawdd bywyd yn gyffredinol, a bydd yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel ac yn lleoedd gwell i fyw, cerdded a beicio ynddynt. Gwyddom nad yw’n gynllun cyffredinol, a gall y Ceidwadwyr ddweud hynny gymaint o weithiau ag y dymunant, ond ni fydd hynny’n ei wneud yn wir. Mae’n gynllun diofyn, a bydd eithriadau lle mae ffyrdd sy'n 30 mya ar hyn o bryd yn parhau i fod yn ffyrdd 30 mya. Nid yw ychwaith wedi cael ei orfodi ar bobl yn annisgwyl, fel y mae’r Torïaid Cymreig, neu o leiaf rai ohonynt, yn ei awgrymu.
Mae'n rhaid imi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn gresynu'n fawr at ymdrechion y Torïaid i wneud y ddadl hon yn bersonol, ac i geisio portreadu'r polisi, yn ôl pob golwg, fel menter unigol gan y Gweinidog trafnidiaeth. Hynny yw, mae hynny'n nonsens llwyr, onid yw? Mae polisi 20 mya diofyn wedi’i lunio dros nifer o flynyddoedd, ac wrth gwrs, mae wedi’i gyflwyno eisoes mewn gwledydd ac awdurdodau lleol eraill, ac yn y broses o gael ei lunio gan lawer mwy. Roedd yn rhan o faniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiadau diwethaf y Senedd, ac rydym yn cadw ein haddewid i’r bobl. Mae yn y rhaglen lywodraethu, a Ddirprwy Lywydd, fe fydd yn helpu i wneud Cymru yn lle mwy diogel, mwy gwyrdd a gwell.
Yr wythnos hon, gwelsom arolwg barn gan ITV Wales a ddangosodd fod 66 y cant o bobl Cymru—dwy ran o dair—yn gwrthwynebu cynllun 20 mya cyffredinol gwirion Llafur. Ond gyda'i agwedd ddi-hid arferol, wfftiodd y Dirprwy Weinidog yr arolwg fel eithriad, yn union fel y mae bob amser yn ei wneud. Mae'n anwybyddu'r rhai nad ydynt yn cytuno ag ef. Ond credaf ei fod ef hyd yn oed yn gwybod mewn gwirionedd fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi colli brwydr barn y cyhoedd ar y mater hwn. A gallwch weld hynny ym mhanig llwyr y strategaeth gyfathrebu. Pan soniodd y Dirprwy Weinidog am lansiad y cynllun, nid oedd fawr o sôn am bostio unrhyw beth i bob cartref yng Nghymru, gan ddefnyddio arian trethdalwyr i egluro’r newidiadau. Ni ddywedodd y byddech chi, bob tro y byddech yn mewngofnodi ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gweld hysbyseb y talwyd amdani gan Lywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r cynllun. Ac ni soniodd am yr £800,000 a glustnodwyd i egluro'r newidiadau ychwaith. Oherwydd mae pob un o'r camau hynny'n deillio o banig gwallgof, gan wybod pa mor amhoblogaidd yw'r newid hwn, ond heb fod yn ddigon dewr i gyfaddef eu bod wedi gwneud camgymeriad.
Clywodd pob un ohonom Ken Skates yn dweud yr wythnos hon na fu digon o ran gan ddinasyddion yn y newid. Rwy'n canmol Ken am ddweud hynny, ac mae’n llygad ei le. Oherwydd mae'n gynnyrch Llywodraeth a Dirprwy Weinidog sydd ond am wrando ar bobl sy'n cytuno ag ef, yn ôl pob golwg. Dyna sut rydym wedi cyrraedd y sefyllfa hon heddiw: polisi eithafol gan Weinidog sydd ond am wrando ar farn eithafol y rheini sy’n cytuno ag ef. A chan ein bod yn sôn am bobl sy'n hoffi cytuno â'r Blaid Lafur, beth sydd gan Blaid Cymru i'w ddweud ar y mater hwn? Wel, dim llawer, fel arfer. Mae cyfeiriad gwleidyddol newydd Plaid Cymru yn glir: nid ydynt wedi dod o hyd i ffens nad ydynt am eistedd arni eto. Gan gymryd dalen o lyfr y Democratiaid Rhyddfrydol, maent yn gostwng eu pennau, gan obeithio na fydd unrhyw un yn eu holi am y peth. Maent yn gwbl ymwybodol o ba mor amhoblogaidd yw'r mater, ond fel arfer, bydd cysgodion bach dibynadwy Llafur yn ymuno â nhw heddiw i gefnogi polisi y mae pobl Cymru yn ei wrthwynebu'n llwyr. Mae Plaid Cymru yn ystyried bod cael un droed o dan fwrdd bechgyn mawr y llywodraeth yn bwysicach na sefyll dros bobl Cymru.
Gallwn ni ar y meinciau hyn fod yn falch mai Llywodraeth Geidwadol y DU a drawsnewidiodd economi Cymru a’n rhyddid personol drwy gael gwared ar dollau pont Hafren. Yn y cyfamser, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru sy'n ystyried codi tâl ar bobl i ddefnyddio ffyrdd yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, boed yn gael gwared ar brosiect ffordd liniaru’r M4, gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd newydd, taliadau i ddefnyddio ffyrdd presennol, estyniadau i’r cyfyngiadau ar gyflymder, fel y clywsom gan Natasha, neu'r cynllun 20 mya cyffredinol heddiw, nid oes amheuaeth fod Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i ryfel yn erbyn modurwyr. A bydd y bobl sy'n dioddef yn sgil rhyfel Llafur yn erbyn modurwyr—[Torri ar draws.] Dim diolch.
A wnaiff yr Aelodau eistedd, a dim sgyrsiau traws-Siambr, os gwelwch yn dda? Mae wedi digwydd fwy nag unwaith yn barod y prynhawn yma.
Bydd y bobl sy'n dioddef yn sgil rhyfel Llafur yn erbyn modurwyr yn pendroni bob dydd beth yn union yw problem Llafur gyda gyrwyr. Wel, mae'r broblem yn glir: sosialaeth. Oherwydd nid yw sosialaeth yn deall y teimlad o ryddid personol a gewch o fod yn berchen ar eich car eich hun. Nid yw sosialaeth yn deall yr ymdeimlad personol o gyflawniad a gewch ar ôl gweithio'n galed am fisoedd a misoedd i basio'ch prawf gyrru a chael yr allweddi yn eich llaw am y tro cyntaf. Nid oes gan sosialaeth le i'r rheini sydd am weithio'n galed, camu ymlaen mewn bywyd—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
O, yn sicr.
Mae'r polisi rydych yn ei ddirmygu fel un sosialaidd yn bolisi sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Cernyw dan arweiniad y Ceidwadwyr. Rydych chi'n siarad dwli.
Wel, edrychaf ymlaen at ymateb y Dirprwy Weinidog, os yw’n credu fy mod yn siarad dwli. Nid oes gan sosialaeth le i'r rheini sydd am weithio'n galed a chamu ymlaen mewn bywyd, a gwario'r ychydig arian sydd ganddynt i brynu car newydd i wobrwyo'u hunain am eu holl waith caled. Ac nid yw sosialaeth yn deall y syniad o'r dyn yn y fan wen, sy'n gweithio am flynyddoedd i ddysgu crefft, yn cychwyn ei fusnes ei hun i roi bwyd ar y bwrdd i'w deulu neu i ennill ychydig mwy yn y cyfnodau da i'w cynnal drwy'r cyfnodau gwael.
Gan nad yw'r rhain yn brofiadau i bawb, maent am iddynt fod yn brofiadau i neb. Byddai'n well ganddynt pe bai pob un ohonom yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n druenus yng Nghymru o dan y Llywodraeth hon, ac mae'r cynllun 20 mya hwn ar fin torri'n ôl ymhellach. Ond nid ydynt yn hidio am hynny, gan y byddai'n well ganddynt gael profiad gwael i bawb, gan mai dyna yw sosialaeth, neu efallai y byddai'n well ganddynt inni beidio â theithio o gwbl, gan fod hynny o leiaf yr un peth i bawb.
Dyna sydd o'i le ar y cynllun hwn heddiw, a dyna sydd o'i le ar sosialaeth: mae'n lladd dyhead—y syniad y gallwch weithio'n galed i wneud bywyd gwell i chi a'ch teulu. Mae'n dweud wrthych eich bod yn farus am fod eisiau rhoi bwyd ar y bwrdd neu betrol yn eich car. Mae sosialaeth yn gosod rhwystrau i chi rhag camu ymlaen mewn bywyd. Dyna pam fy mod yn gwrthwynebu rhyfel Llafur ar fodurwyr, am ei fod yn ymwneud â rhywbeth llawer mwy dwys. Rwy'n gwrthwynebu'r syniad mai'r Llywodraeth sy'n gwybod orau bob amser ac na ellir ymddiried mewn pobl i fwrw ymlaen â'u bywydau—y syniad o ddyhead. Rhyfel yw hon ar y rheini sy'n gweithio'n galed bob dydd i ddarparu ar gyfer eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau, a dyna pam fy mod yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac os ydych chi'n teimlo'r un fath, rwy'n gobeithio y byddwch chithau'n gwneud hynny hefyd.
Rwyf innau'n eiddgar iawn i gyfrannu at y drafodaeth yma. Fel man cychwyn, mi wnaf i ddweud fy mod i'n gredwr mawr mewn pragmatiaeth. Rydw i'n gredwr mawr mewn trio gwneud yr hyn sydd yn iawn, ond i drio gwneud hynny mewn ffordd sydd yn ymarferol ac sydd yn rhesymol. Mae anaeddfedrwydd y Ceidwadwyr wrth ymwneud â'r ddadl yma yn rhyfeddol—ddim yn fy synnu i, ond yn rhyfeddol. Wrth gwrs, bod yn gwbl afresymol y mae'r Ceidwadwyr wedi dewis ei wneud. Nid oes ganddyn nhw ddim amcan ond chwarae gwleidyddiaeth efo hyn.
Fel fi, mae nifer o'u Haelodau nhw yma yn y Senedd wedi lleisio cefnogaeth i ostwng cyflymder. Rydyn ni'n gwybod am y llun o arweinydd y Blaid Geidwadol yn cefnogi ymgyrch 20's Plenty for Us achos ei fod yn meddwl bod hynny'n siwtio ar y pryd; roedd yn falch iawn o gael tynnu'r llun hwnnw. Rŵan, galw am ddileu'r newid yma yn llwyr y mae o, oherwydd ei fod o wedi penderfynu bod hynny yn siwtio gwleidyddiaeth heddiw, er ei fod yn gwybod bod Llywodraeth Cymru ddim am ddileu'r newid yma. Llawer mwy o effeithiol, siawns—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs—roeddwn yn ei ddisgwyl.
Deallaf eich bod wedi fy nghyhuddo o ragrith—maddeuwch i mi am beidio â chael y system gyfieithu ymlaen.
Rwy'n gwneud hynny'n rheolaidd, ydw.
Ni fuaswn wedi meiddio eich cyhuddo chi o ragrith, ond os edrychaf ar y cofnod, credaf ei bod yn gwbl amlwg fod rhagrith yno. Nid oes unrhyw beth o'i le ar sefyll dros eich cymunedau eich hun sydd wedi'u gorddatblygu a dweud bod 20 mya yn ddigon yn y cymunedau penodol hynny, fel y bûm yn brwydro drosto yn 2018. Ond nid cael y gwaharddiad cyffredinol yn y cynigion sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd yw’r ateb a fydd yn symud Cymru yn ei blaen ac yn lleihau anafiadau fel y mae’r Llywodraeth yn dymuno, fel y nododd fy llefarydd arweiniol ar drafnidiaeth gyda'r ffigurau o Sbaen.
Diolch am yr ymyriad—roeddwn ond yn rhy falch o'i dderbyn. Byddaf yn egluro pam y credaf fod ffordd lawer mwy rhesymol ymlaen. Mae eich defnydd yno eto o'r term 'cyffredinol'—mae'n amlwg nad yw'n newid cyffredinol—yn dangos bod eich ymagwedd at hyn yn seiliedig ar safbwynt ideolegol a gwleidyddol. Byddai'n llawer mwy effeithiol i chi gefnogi ein safbwynt ni fel plaid ac a amlinellwyd yn y gwelliant i gynnig y Ceidwadwyr heddiw. Mae llawer o bryderon gwirioneddol, fel y dywedodd Delyth Jewell, nid ynghylch yr egwyddor y gall gostwng cyflymderau yn y mannau cywir achub bywydau ac atal anafiadau—credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno â hynny—ond ynghylch graddau'r newidiadau, ac a yw'r newidiadau'n cael eu cyflwyno yn y mannau cywir ym mhob achos—yn wir, mewn mannau rhesymol. Mae cyfeiriad y Ceidwadwyr, dro ar ôl tro, at y newid 'cyffredinol' i'r terfyn 30 mya—dyna'r ymadrodd y credant ei fod yn cael yr effaith wleidyddol fwyaf: 'cyffredinol hyn a'r llall'. Mae fel eu 'cychod bach', onid yw, dim ond ailadrodd, ailadrodd, ad nauseam. Ond nid gwaharddiad cyffredinol mo hwn—[Torri ar draws.] Ie, yn sicr, Gareth Davies.
O ran yr agwedd 'gyffredinol' rydych yn sôn amdani, a fyddech yn derbyn mai dyna fyddai'r sefyllfa mewn rhai ardaloedd, mewn rhai awdurdodau lleol? Er enghraifft, yn Nyffryn Clwyd, mae’r rhestr o eithriadau'n druenus o fach, gan fod yn rhaid i’r cynghorau lleol ofyn am gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru er mwyn ehangu’r rhestr honno o eithriadau. Felly, mewn rhai achosion, ydy, mae'n newid cyffredinol.
Rwy'n cymryd o hynny y byddwch yn cefnogi ein gwelliant sy’n galw am gefnogi cymunedau i geisio rhagor o eithriadau. Edrychaf ymlaen at hynny ac rwy’n ddiolchgar i chi am fynegi’r gefnogaeth honno.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn glir iawn y gall fod eithriadau lle bernir bod y terfyn is yn afresymol. Credaf mai wrth roi hynny ar waith, fel y dywedodd Delyth Jewell, y bydd y problemau'n codi. Bûm yn gyrru yn Ffrainc yn ddiweddar, mewn trefi a dinasoedd yno, ac mae'r terfyn mewn gwirionedd yn is nag 20 mya, credaf ei fod yn 18.5 mya, neu 30 cya. Y gwahaniaeth yw bod hynny mewn ardaloedd mwy cyfyngedig ac wedi'u targedu. Mae'n amlwg i mi fod y broses o nodi eithriadau wedi nodi llai o eithriadau nag y byddwn i wedi'i ddisgwyl, ond yn bwysicach na hynny, yn llai efallai nag y byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol wedi'i ddisgwyl ledled Cymru. A dyna pam fod ein gwelliant yn galw ar i gymunedau ac awdurdodau lleol gael eu cefnogi a'u grymuso i geisio eithriadau pellach os mai dyna maent yn ei deimlo sy'n angenrheidiol ar ôl profiad ymarferol.
Fe fyddaf yn glir: yn union fel y gwelais o'm profiad yn Ffrainc, nid oes gennyf amheuaeth, mewn ardaloedd trefol, yng nghanol pentrefi a’r holl fannau lle mae’r rhyngweithio mwyaf rhwng cerbydau modur, cerddwyr, plant a beicwyr teithio llesol, ac ati—canol trefi a dinasoedd, canol pentrefi, strydoedd preswyl—mai lleihau'r terfyn yw’r peth iawn i’w wneud, ond mae angen inni ennyn cefnogaeth i hynny, ac mae’n ddyletswydd ar y Llywodraeth i ddeall ac ystyried pryderon pobl ynghylch priodoldeb 20 mya mewn mannau lle mae llai o bobl, llai o dai—ar ymylon pentrefi, ffyrdd cyswllt ac ati.
Dwi'n credu y byddai wedi bod yn well gwneud hyn mewn ffordd wahanol—creu ardaloedd 20 mya yn hytrach na newid 30 mya i 20 mya ac wedyn gwahodd exemptions. Ond nid dyna wnaeth y Llywodraeth Lafur benderfynu ei wneud, felly gadewch inni rŵan sicrhau bod proses yn digwydd i gyrraedd lle lle mae diogelwch wirioneddol yn cael ei osod fel blaenoriaeth, ond lle mae synnwyr cyffredin yn cael sylw priodol iawn hefyd.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw. Mae’r cyhoedd am inni drafod hyn. Ni ellir gorbwysleisio faint o bryder y mae'r terfyn cyflymder 20 mya—ac rwyf am ddefnyddio'r gair, mae'n ddrwg gennyf—cyffredinol hwn wedi'i greu ledled Cymru. Bydd hyn yn codi i lefelau newydd, credwch fi, yr wythnos nesaf, pan fydd pobl yn dechrau sylweddoli nad breuddwyd ddrwg yn unig oedd hyn.
Mae pobl yn sir Fynwy—ac rwy’n byw yn sir Fynwy—wedi bod yn byw gyda hyn ers tro, ac mae cydymffurfiaeth, mae'n rhaid imi ddweud, wedi bod yn wael. Rwyf hefyd am bwysleisio bod yr effaith y mae'r polisi hwn yn ei chael ar fywyd bob dydd—ac rwy'n ei fyw—yn llawer mwy nag y byddai'r Llywodraeth am i ni ei gredu. Do, fel y dywedodd John, cymerodd Cyngor Sir Fynwy ddarn byr o oddeutu 1 cilometr allan a’i newid yn ôl i 30 mya, ond cymerodd hynny fisoedd lawer, ac mae wedi costio—[Torri ar draws.]
A gaf fi ddweud, am y tro olaf y prynhawn yma, gobeithio, fod gan yr Aelodau hawl i siarad ac na ddylem gael unrhyw sgyrsiau ar draws y Siambr tra bo'r Aelodau hynny'n siarad? Rwy’n siŵr fod arweinydd yr wrthblaid a’r Dirprwy Weinidog yn awyddus i barchu hynny.
Diolch. Cymerodd fisoedd i dynnu'r darn hwnnw o ffordd allan, fe gostiodd filoedd ar filoedd o bunnoedd ac fe achosodd lawer iawn o broblemau. Y gwir amdani yw y bydd y gost yn atal cynghorau rhag cyflawni unrhyw newidiadau pellach y byddent am eu gwneud i ddod â synnwyr cyffredin yn ôl i'w cymunedau. Weinidog, fe fyddwch yn dadlau bod gwaith wedi'i wneud ar hyn ers blynyddoedd. Wel, os felly, yn amlwg, roedd y polisi hwn yn mynd i ddigwydd beth bynnag fyddai barn busnesau a'r mwyafrif o bobl yng Nghymru. Unwaith eto, mae'n ymddangos nad yw eu barn yn golygu dim. Y Llywodraeth sy'n gwybod orau. Mae eu hagwedd 'gwnewch yr hyn rydym ni'n ei ddweud' yn crynhoi'r ffordd mae'r Llywodraeth Lafur yn trin y bobl y mae'n honni ei bod yn eu cynrychioli.
Nid yw'r polisi hwn wedi cael ei ystyried yn drwyadl. Mae'n ansoffistigedig ac mae'n swrth. Nid oes unrhyw un yn anghytuno ag 20 mya o amgylch yr holl fannau amlwg hynny lle ceir llawer o bobl, ardaloedd preswyl, canolfannau siopa. Ond y gwir amdani yw nad yw'r Llywodraeth wedi edrych yn iawn ar bob agwedd ar fywyd o ddydd i ddydd. Mae eu hadroddiadau eu hunain yn nodi y byddai eu cynigion yn cael effaith negyddol o hyd at £4.5 biliwn ar economi Cymru, a chymaint â £9 biliwn dros y blynyddoedd nesaf o bosibl. Beth fydd hyn yn ei wneud i'n cystadleurwydd economaidd sydd eisoes yn llusgo ar ei hôl hi yng Nghymru? Rwy'n gwybod am fusnesau sydd eisoes yn gorfod rhoi mwy o gerbydau ar y ffordd i wneud iawn am hyn. Maent yn rhoi mwy o yrwyr i mewn, a'r defnyddiwr fydd yn talu'r gost am hynny yn y pen draw.
Nid ydym yn credu bod y Llywodraeth wedi asesu'r effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddigon da. Fel yr eglurodd yr Athro Stuart Cole, yr arbenigwr ar faterion polisi trafnidiaeth hirdymor Llywodraeth Cymru, edrychodd ei adroddiad Nation Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus yn fanwl a dangosodd y problemau y bydd bysiau a gweithredwyr bysiau yn eu hwynebu. Nid oes amheuaeth y bydd y cyhoedd yn wynebu teithiau hwy i'r gwaith, i'r ysgol, i apwyntiadau ysbyty. Mae'n amlwg y bydd llawer o bobl dan anfantais yn sgil hyn.
Nid yw'r effaith ar ein gwasanaethau brys wedi cael ei asesu'n iawn mewn gwirionedd, neu os ydyw, ble mae'r dadansoddiad? Nid yn unig hynny, ond mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef nad oes cynlluniau i asesu effaith ehangach y polisi. Bydd y gwaith o'i orfodi'n anodd a bydd lefelau cydymffurfiaeth yn wael. Rwyf eisoes wedi gweld hynny ac wedi cael profiad ohono. Yn anffodus, byddwn yn gweld mwy o berygl wrth i yrwyr fynd yn rhwystredig a chymryd risg. Gall cynghorau edrych am eithriadau pellach, ond fe wyddom y bydd yn rhaid iddynt ostwng bron bob ffordd i 20 mya yn gyntaf ac yna, yn y pen draw, pan geir hyd i arian a bydd gorchmynion traffig—[Torri ar draws.] Pan geir hyd i arian ac ar ôl ymgynghori ar orchmynion traffig, byddant yn gallu newid rhai darnau o ffyrdd yn ôl i 30 mya. Bydd hyn yn cymryd misoedd, gan greu cost a dryswch ychwanegol enfawr.
Rydym yn gwybod y bydd hyn yn costio tua £33 miliwn neu fwy i'w weithredu ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau. Mae cynghorau wedi bod yn gweithredu parthau 20 mya ers blynyddoedd yn yr ardaloedd lle mae eu hangen arnom mewn gwirionedd. Pam na allai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithio'n agos gyda chynghorau, gan eu hannog i gyflwyno mwy o barthau 20 mya lle teimlai fod hynny'n briodol, rhoi rhywfaint o adnoddau iddynt i'w helpu i gefnogi hynny, ond caniatáu i lywodraeth leol a phobl leol wneud penderfyniadau lleol? Mae'n rhaid i ymagwedd gorchymyn a rheoli Llafur ddod i ben. Mae bron bob etholwr y siaradais â nhw dros y misoedd diwethaf yn credu bod hwn yn bolisi twp. Maent eisiau i'w treth gael ei gwario ar faterion sy'n flaenoriaeth iddynt, fel darparu gwasanaethau lleol o safon neu ymdrin â'n GIG Cymru sydd mewn trafferthion dybryd.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'r polisi hwn, un sy'n fater cymunedol yn y bôn, wedi ei lunio gydag ymagwedd ddiystyriol o'r brig i lawr sy'n anghyson â gwahaniaethau daearyddol a demograffig Cymru. Rwy'n eich annog chi, Lywodraeth Cymru, i ailystyried y penderfyniad llawdrwm hwn ac i ddechrau gwrando ar bobl Cymru.
Carolyn Thomas.
Mae'n ddrwg gennyf, a wnaethoch chi fy ngalw? Ni allwn eich clywed.
Diolch. Unwaith eto, dyma ragrith poblyddol gan y Torïaid i fachu sylw'r penawdau a thwyllo'r cyhoedd â gwybodaeth anwir, tacteg sy'n cael ei defnyddio dro ar ôl tro. Goryrru a diogelwch priffyrdd yw un o'r materion mwyaf a godir gyda gwleidyddion ar bob lefel, yn enwedig cynghorwyr sir a chymuned, fel y cofiaf. Nid yw'r polisi yn waharddiad cyffredinol. Gall cynghorau godi ffyrdd yn ôl i 30 mya yn unol â meini prawf ar gyfer eithrio. Bedair blynedd yn ôl, yn y Senedd flaenorol, pleidleisiodd mwyafrif yr Aelodau o bob plaid, yn cynnwys y Ceidwadwyr, ar gyflwyno 20 mya fel terfyn cyflymder diofyn. Roedd yn y rhaglen lywodraethu, a byddai ei ddiddymu nawr, fel sy'n cael ei gynnig heddiw, ar gam mor hwyr o'i weithrediad, yn anodd iawn i gynghorau, y corff cyflawni, ac yn wrth-gynhyrchiol.
Bydd 20 mya yn gwneud strydoedd yn fwy diogel ar gyfer chwarae, cerdded a beicio, gan annog mwy o bobl i gerdded, olwyno neu feicio. Mae gogledd Cymru, y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, yn wahanol i ardaloedd dinesig fel Caerdydd ac Abertawe. Rwy'n deall bod y cynghorau yn yr ardaloedd hynny wedi cynnwys llawer o eithriadau—ychydig dros 70 eithriad yn achos un ohonynt—a gofynnaf i Lywodraeth Cymru barhau i weithio gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru i'w helpu i oresgyn pryderon yn ymwneud ag atebolrwydd, gweithio gyda meini prawf eithrio—
Carolyn, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Janet Finch-Saunders?
O'r gorau.
Diolch yn fawr, Carolyn. Yn amlwg, rydych chi'n Aelod dros Ogledd Cymru, felly rydych chi'n cynrychioli fy etholwyr i yn Aberconwy hefyd. Felly, beth yw eich ymateb i'r rheini, y mwyafrif o drigolion Aberconwy, nad ydynt yn cytuno â hyn? Beth rydych chi'n ei ddweud wrthynt hwy?
Wel, rwy'n credu bod yr ymgyrch y mae'r Ceidwadwyr wedi'i chynnal gydag aelodau o'r cyhoedd wedi bod yn anonest ac yn gamarweiniol, a phan fyddwch yn gweithio drwy hyn mewn gwirionedd, bydd pobl yn ei gefnogi ac fe fydd yn iawn; byddant yn dod i arfer ag ef. Nid yw'n waharddiad cyffredinol yn ôl y canfyddiad ohono. Pe bai'r ymgyrch neu pe bai'r wybodaeth sy'n cael ei chyfleu i bobl yn gywir, byddai mwy o bobl yn iawn yn ei gylch, ac ni fyddai mor ddadleuol.
I fynd yn ôl, rwy'n gwybod o brofiad blaenorol fel aelod cabinet cyngor dros briffyrdd fod yn rhaid cwblhau adolygiad terfyn cyflymder o bryd i'w gilydd. Mae cynghorau'n cael eu lobïo'n barhaus gan y cyhoedd a chynghorwyr ynglŷn â gosod terfynau cyflymder newydd. Mae'n digwydd drwy'r amser, a gall lyncu llawer o adnoddau, amser ymgynghori, ac yn aml ceir rhai mân newidiadau ar ôl ei roi ar waith, ac rwy'n disgwyl y bydd hyn yn digwydd ar ôl 17 Medi. Felly, rwy'n cefnogi gwelliant Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru adolygu effaith y terfynau newydd hyn yn barhaus, gan weithio gydag awdurdodau lleol a'u grymuso i wneud unrhyw eithriadau pellach, a rhoi cyllid digonol i awdurdodau lleol. Awdurdodau lleol yw'r awdurdod priffyrdd mewn gwirionedd, felly ganddynt hwy y mae'r pŵer; gweithio'r cyfan drwodd y mae'r polisi hwn. Diolch.
Wel, mae'r diwrnod bron â chyrraedd, onid yw, 17 Medi 2023, ac fel y soniais ddoe, mae'n ben-blwydd arnaf ddydd Sul hefyd. Felly, fel y soniais ddoe, mae diwrnod gorau'r flwyddyn bellach wedi troi'n ddiwrnod dod â pharthau 30 mya i ben yng Nghymru, y diwrnod pan fydd Llywodraeth y dydd yn gweithredu yn erbyn buddiannau'r bobl, y diwrnod pan fydd rhyfel y Blaid Lafur yn erbyn y modurwr yn ymestyn i Gymru, lle mae eisoes wedi gwneud hynny yn Llundain, a dywedir wrth bobl dda y wlad hon i fyw gyda'r peth. Ac mae gan y Dirprwy Weinidog wyneb i ddod i Siambr y Senedd hon bob wythnos a bwrw ymlaen doed a ddelo, mewn ymgais drahaus i achub wyneb a pharhau i blygu i'w benaethiaid a grwpiau lobïo sy'n ei reoli.
Wel, mae arnaf ofn mai'r gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o bobl normal y tu allan i swigen Bae Caerdydd yn gwrthod y polisi awdurdodaidd hwn gan Lywodraeth Lafur Caerdydd ac fe hoffent weld 30 mya yn cael ei adfer, ynghyd ag ymagwedd synnwyr cyffredin y gall y rhan fwyaf o bobl ei derbyn a'i deall. Ac ni fyddai neb y byddech chi'n siarad â nhw byth yn dadlau yn erbyn cael cyflymder is y tu allan i ysgolion, meithrinfeydd, cartrefi gofal, ysbytai ac ati, a dyna'r cysyniad o ddull synnwyr cyffredin ar waith, lle gall pobl gydymdeimlo a meddwl, 'Ie, efallai fod ganddynt bwynt yno.' Ond weithiau, ni ellir deddfu ar gyfer yr ymagwedd synnwyr cyffredin hwnnw bob tro—[Torri ar draws.]—na wnaf, mae'n ddrwg gennyf—a'i drafod o gwmpas bwrdd o arbenigwyr fel y'u gelwir, sy'n ceisio deddfu am bob posibilrwydd dynol a all ddigwydd ym mywyd rhywun. Dyna pam fod y Ceidwadwyr Cymreig, mewn trafodaethau blaenorol ar y mater, wedi cyflwyno gwelliannau sy'n awgrymu y dylai awdurdodau lleol gael disgresiwn i benderfynu ble y dylai'r ardaloedd hyn fod ac i wneud penderfyniadau lleol gan bobl leol sy'n gwybod sut mae eu hardaloedd yn gweithio. Ond o na, fel bob amser, Llywodraeth Cymru sy'n gwybod orau ynghylch gosod dull cyffredinol ar gyfer pawb, ac sy'n credu ei bod yn gwybod orau a beth yw anghenion a dymuniadau pob unigolyn ar draws y wlad.
Wel, mae arnaf ofn nad felly mae bywyd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Rydym wedi cael—
Nid yw'r Aelod yn derbyn ymyriad.
—digon o gyfle i drafod hyn yn ei gyfanrwydd.
Wel, rwy'n ofni nad felly mae bywyd a'r hyn y mae angen i bobl ei weld yw diwydrwydd dyladwy ar waith gan y Llywodraeth mewn ffordd sy'n cynnwys amrywiadau a gwahaniaethau lleol o ran demograffeg a diwylliannau. Gwn fod y Gweinidog yn awyddus i ymbellhau oddi wrth y dull cyffredinol a'i wneud yn haws ei lyncu drwy sôn am gyfnodau adolygu, trafodaethau gydag awdurdodau lleol a ddoe, roedd yn siarad hyd yn oed am ddulliau synnwyr cyffredin a phwysleisiodd mai mecanwaith diofyn yw hwn a allai newid yn y dyfodol. Nawr, mae hynny'n swnio i mi fel dechrau camu nôl, sylweddoliad nad yw eich polisi yn plesio'r cyhoedd, felly rydym yn gwneud i'r polisi swnio'n well er mwyn tawelu'r rhai sy'n ei wrthwynebu. Nid oes gan y cyhoedd hyder ynddo ac yn gynyddol, nid wyf yn credu bod gan y Dirprwy Weinidog a'r Llywodraeth hyder ynddo ac maent yn ceisio gwthio car di-injan mewn ymdrech i'w gael i symud.
Nawr, yn lleol, yn fy etholaeth i, mae yna lawer o briffyrdd A sy'n cysylltu trefi mawr, gan nad oes gennym foethusrwydd traffyrdd modern, a llawer o fyrdd deuol a chysylltiadau ffordd cyflym. Felly, bydd y dull 20 mya cyffredinol yn cael ei weithredu ar lawer o ffyrdd syth a chlir heb ysgolion, ysbytai na chartrefi gofal, gan arafu traffig i lawer o bobl sy'n defnyddio'r ffordd at ddibenion gwaith a thwristiaeth. A chan ein bod yn gyrchfan i dwristiaid, gyda'r Rhyl a Phrestatyn yn apelio'n eang at bobl o ogledd-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr, rydym yn disgwyl gweld dryswch ac agwedd ddi-hid gan yrwyr tuag at y polisi, gan fod gofyn iddynt arfer ffordd o yrru nad yw'n ofynnol gartref, gan arwain yn ei dro at fygythiad o effeithiau andwyol i fusnesau lleol, nifer yr ymwelwyr a thwristiaeth leol yn fy etholaeth. Mae trefi fel y Rhyl wedi cael blynyddoedd anodd ac yn gorfod brwydro yn erbyn y sylw negyddol cyson ar y cyfryngau cenedlaethol, ac mae llawer o bobl yn fy etholaeth yn teimlo y bydd y polisi 20 mya yn gwaethygu hyn ac yn gwneud bywyd yn anos i'r rhai sy'n dymuno mynd o A i B mewn modd rhesymol.
Fe orffennaf fy sylwadau y prynhawn yma drwy annog y Llywodraeth i ailfeddwl am y mater hwn, i wrando ar y 66 y cant o Gymry sy'n gwrthwynebu'r polisi a phleidleisio gyda ni y prynhawn yma i ddileu'r cynnig.
Ddirprwy Lywydd, nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon, ond ar ôl cael fy enwi ynddi, ac ar ôl i fy ymyriad gael ei wrthod, fe roddaf gynnig arni; fe wnaf fy ngorau. Gadewch inni wynebu ffeithiau: mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud tro pedol digywilydd ers eu cefnogaeth flaenorol i derfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol a phreswyl. Rydym i gyd yn cofio'r ffotograffau gwenog, wrth i un ar ôl y llall—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf mewn eiliad, ond gadewch imi ddechrau arni yn gyntaf oll, oherwydd rwy'n mynd i sôn amdanoch chi mewn eiliad.
Rydym i gyd yn cofio'r lluniau gwenog, wrth i Aelodau Ceidwadol y Senedd aros eu tro i gael tynnu eu lluniau un ar ôl y llall i fyny'r grisiau a'r posteri '20's Plenty for Us'. Yr arweinydd presennol yn gwenu ar gyfer y camerâu, gan addo ei gefnogaeth. Ond pan aeth pethau'n anos, fe wnaethant droi i'r cyfeiriad arall. Fe wnaethant droi eu cefnau a rhedeg. [Torri ar draws.] Ewch amdani.
Rwy'n ddiolchgar eich bod wedi rhoi cyfle i mi egluro. Tynnwyd y llun hwnnw yn fy swyddfa mewn perthynas ag ymgyrch leol benodol yn Sili—
Wrth gwrs.
—ac rwy'n ei chefnogi'n llwyr. [Torri ar draws.] Rwy'n sefyll yn gadarn o'i phlaid, mewn ardal—
Gadewch i'r Aelod wneud ei ymyriad.
—sy'n cael 1,500 o dai newydd, mae 20 mya, heb unrhyw welliant i'r seilwaith trafnidiaeth, yn gynnig synhwyrol. Nid yw'r polisi cyffredinol hwn yn gynnig synhwyrol a bydd yn achosi hafoc i economi Cymru.
Ddirprwy Lywydd, roedd hwnnw'n ymyriad munud o hyd. Pan aeth pethau'n anodd, fe wnaethant droi eu cefnau a rhedeg i'r cyfeiriad arall.
Ar adeg wahanol, o dan arweinyddiaeth wahanol, efallai y byddent wedi dilyn y dystiolaeth ac wedi gwneud y penderfyniadau cywir er mwyn achub bywydau ac atal anafiadau ac arbed arian i'r GIG, creu ardaloedd preswyl haws byw ynddynt i bobl, nid ar gyfer traffig yn unig. A gadewch inni dynnu sylw at ymddygiad amheus am yr hyn ydyw. Drwy gydol yr haf, a'r wythnos hon mewn cwestiynau i'r Gweinidogion ac yn y ddadl hon ac ar gyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig ad nauseam—ac rwy'n defnyddio 'ad nauseam' yn fwriadol—mae'r Ceidwadwyr Cymreig ffyddlon wedi pedlera'r llinell 'terfynau cyflymder 20 mya cyffredinol'. Rwtsh yw hynny, sothach llwyr. Nododd newyddiadurwr blaenllaw yn y Western Mail, nad yw'n ffrind anfeirniadol i'r Llywodraeth hon yn bendant, fod y Ceidwadwyr wedi mynd dros ben llestri ar y mater hwn a gofynnodd y cwestiwn,
'a yw'n wir mewn gwirionedd fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno "terfyn 20 mya cyffredinol"'?
Mae'n erthygl ddiddorol iawn. Mae'n edrych ar y diffiniad safonol o'r hyn y byddai terfyn cyffredinol yn ei olygu. Mae'n canfod, os defnyddiwn unrhyw un o ddiffiniadau'r geiriadur,
'ei bod hi'n deg dweud, os yw rhywun yn dweud bod yna "derfyn 20 mya cyffredinol" eu bod yn awgrymu y bydd terfyn o 20 mya ar bob ffordd yng Nghymru—ac mae'n amlwg nad yw hynny'n wir.'
Ddim yn wir. Beth yw'r gair am 'ddim yn wir', tybed? Er gwaethaf hyn, mae'r newyddiadurwr yn mynd rhagddo i ddweud y bydd rhai gwleidyddion yn ceisio gosod eu dehongliad eu hunain o'r diffiniadau hyn er mwyn cael ychydig o le i symud. Mae ei gasgliad yn dweud cyfrolau. [Torri ar draws.] Gadewch imi ddarllen ei gasgliad yn llawn, Russell. Bydd rhai gwleidyddion yn dadlau
'fod y newid i 20 yn dechnegol yn berthnasol i bob ffordd 30 mya ond bydd llawer yn cael eu heithrio gan yr awdurdod lleol.'
Rydym wedi clywed hynny y prynhawn yma. 'Mae hyn yn hynod anonest', meddai, ond
'mae'n bwynt technegol y gallant guddio tu ôl iddo.'
Mae'n mynd rhagddo i ddweud bod tacteg debyg wedi cael ei defnyddio'n ddiweddar gyda'r honiadau Ceidwadol
'fod Llywodraeth Cymru yn cynnig £1,600 y mis i unrhyw fewnfudwr anghyfreithlon pan nad oedd ond yn berthnasol mewn gwirionedd yn achos...llond llaw o blant.'
Russell.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad, Huw. Felly, mae yna faen prawf lle gall awdurdodau lleol optio allan, mae yna eithriad yn ei le—
Nid yw'n gyffredinol.
—rwy'n derbyn hynny. Ond yr hyn yr hoffwn ei wybod gennych chi, Huw, yw hyn: a all awdurdod lleol gael eithriad ar gyfer yr holl derfynau cyflymder 30 mya mewn ardal awdurdod lleol? Gan mai 'na' yw'r ateb, mae'n bolisi cyffredinol ar draws Cymru.
Felly, mae Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr wedi cynhyrchu eu mapiau gyda nifer o eithriadau ar y ffyrdd 30 mya hynny. [Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi ildio ddwywaith nawr.
Gadewch imi fynd at wraidd hyn i gyd. Mae yna bolisi wedi'i gynllunio i achub bywydau, i atal anafiadau ac i arbed miliynau o bunnoedd i'r trethdalwr drwy leihau'r beichiau ar y GIG a'r economi trwy ddiwrnodau coll yn y gwaith. Bydd y terfyn diofyn o 20 mya gydag eithriadau, y mae'r Ceidwadwyr bellach yn ei wrthwynebu'n oportiwnistaidd, yn achub hyd at 100 o fywydau yn y degawd cyntaf ac yn helpu i osgoi 20,000 o anafusion. Gofynnaf iddynt feddwl am bob un o'r bywydau hynny a achubir a phob anaf newid bywyd a gaiff ei atal. Bydd y polisi y maent bellach yn ei wrthwynebu'n oportiwnistaidd yn arbed £92 miliwn amcangyfrifedig yn y flwyddyn gyntaf yn unig, ac mae'n rhoi'r costau gweithredu is a ledaenir yn anwireddus mewn persbectif, y costau y maent wedi bod yn ceisio dweud eu bod yn gostau rheolaidd blynyddol ar gyfer hyn. Gallai'r polisi y maent yn ei wrthwynebu'n oportiwnistaidd arwain at un o bob tri oedolyn yng Nghymru yn cerdded yn amlach, yn seiclo'n amlach oherwydd yr holl strydoedd preswyl a threfol mwy diogel a thawel a'r polisïau iechyd ehangach. Ac mae'r polisi y maent yn ei wrthwynebu, Ddirprwy Lywydd, yn cael ei gefnogi gan y mwyafrif o sefydliadau rhagorol y trydydd sector, gan gynnwys RNIB Cymru a Guide Dogs hefyd.
A gaf fi orffen hyn, oherwydd cymerais funud a hanner o ymyriadau, Ddirprwy Lywydd—
Rwy'n cadw llygad ar yr amser, peidiwch â phoeni. Nid oes angen fy atgoffa. [Chwerthin.]
Diolch yn fawr iawn. Drwy gymeradwyo'r Ceidwadwyr a benderfynodd arwain ar hyn yn y gorffennol ac ymuno â'r gynghrair drawsbleidiol a thrawsgymdeithas o gefnogaeth i'r polisi hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella bywydau pobl, achub bywydau a gwella ein cymunedau lleol, Ceidwadwyr fel y rhai a lofnododd ddatganiad barn yn ôl yn 2018 a arweiniodd at eu gweld yn ychwanegu eu henwau at ddadl yn annog terfyn 20 mya diofyn mewn ardaloedd preswyl ac a aeth ymlaen i ddweud, 'Hoffem efelychu hyd at 50 o gynghorau yn Lloegr', Ceidwadwyr y cefnogodd pob un ond un y cynnig hwn ar derfyn 20 mya diofyn mewn dadl yn 2020—un eithriad. Y rhai eraill a'i cefnogodd, gyda llaw, oedd UKIP, y Blaid Ddiwygio a'r byd a'i wraig. Ac rwyf am ddweud wrth Janet Finch-Saunders fy mod yn ei chanmol am siarad mor huawdl am y dystiolaeth, gan ddangos manteision enfawr terfyn diofyn o 20 mya, gan ddod i'r casgliad yn y ddadl honno, Janet:
'rwyf i wedi gwneud cryn dipyn o waith cartref ar hyn, oherwydd ei fod yn broblem enfawr a hoffwn i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno hyn.'
Ac arweinydd y Blaid Geidwadol ar y pryd, un Mr Andrew R.T. Davies, a gafodd dynnu ei lun gyda sylfaenydd a chyfarwyddwr yr ymgyrch '20's Plenty for Us'—o, na byddai ffigyrau o'r fath yn arwain y Blaid Geidwadol nawr, yn siarad o'r fainc flaen. Ble maent? Am golled a gawsom. Yn eu lle, mae gennym ymhonwyr fel Janet Finch-Saunders ac Andrew R.T. Davies—
Mae eich amser wedi dod i ben, Huw.
Yn amlwg, nid yr un bobl, ond yr un enwau drwy ryw gyd-ddigwyddiad.
Huw, mae'r amser ychwanegol a roddwyd i chi wedi dod i ben—
Maent bellach yn marw mewn ffos boblyddol i atal polisi a luniwyd i atal pobl rhag marw neu gael eu hanafu ar ein ffyrdd.
Ac fe gymeraf y pwynt o drefn gan Janet Finch-Saunders os yw'n dymuno ei wneud. A ydych chi eisiau gwneud pwynt o drefn?
Ydw, rwy'n credu y dylem gael y derminoleg gywir yma, a hoffwn ofyn i chi—[Torri ar draws.] Mae gennyf barch enfawr tuag atoch, er nad ydym yn cytuno ar bethau, ond rwyf am i chi ymatal a thynnu'r sylw fy mod yn 'impostor' yn ôl.
Fe adawaf i chi ateb, Huw.
Yn wir, a gaf fi awgrymu, Ddirprwy Lywydd, fod yr Aelod yn darllen fy nefnydd gofalus iawn o'r term 'impostor'?
Yr hyn rwy'n mynd i awgrymu yw ein bod ni'n dau'n darllen y datganiad sydd wedi'i eirio'n ofalus iawn. Mike Hedges
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel yr addawyd, fe fyddaf o dan un funud. Mae 157 eithriad yn Abertawe. Mae ar wefan y cyngor. Mae'n cynnwys pob ffordd A yn Abertawe. Felly, nid wyf yn siŵr pam y daeth y gair 'cyffredinol' i mewn. A gaf fi ofyn i bobl wirio'r amser y bydd eich teclyn llywio â lloeren yn dweud wrthych eich bod wedi gwneud taith gyda therfyn cyflymder o 30 mya? Fe synnech pa mor aml mae'r cyflymder cyfartalog o dan 15 mya. 'Mae bysus yn mynd i gael eu dal yn ôl'—fel y mae pawb yn yr ystafell hon yn gwybod, mae bysiau'n stopio bob 400m neu lai. Byddai codi o 0 mya i 30 mya a lawr i 0 mya eto mewn 400m yn yrru anhygoel. A gaf fi ofyn i'r Ceidwadwyr—mae gennyf 10 eiliad ar ôl—enwch unrhyw ffordd yn Abertawe sydd heb newid i derfyn diofyn o 30 mya y byddech chi eisiau ei newid nôl?
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu pob diwygiad blaengar yn y wlad hon. Roeddent yn gwrthwynebu creu'r GIG, roeddent yn gwrthwynebu creu'r isafswm cyflog, roeddent yn erbyn y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Roeddent yn erbyn rhoi'r bleidlais i fenywod hyd yn oed. Maent bob amser ar yr ochr anghywir i hanes, ac nid ydynt byth yn dysgu. Byddwn yn edrych yn ôl mewn blynyddoedd i ddod ar yr honiadau sydd wedi'u gwneud, yn union fel y gwelsom gyda'r honiadau a wnaeth y Ceidwadwyr am effaith codi tâl am fagiau siopa, cyflwyno pasys bws am ddim i bobl hŷn, y newidiadau i'r deddfau ar daro plant—a ydych chi'n cofio'r honiadau hynny? Ac fe welwn fod eu hofnau'n ormodol ac nad yw eu honiadau o drychineb yn dal dŵr. Bydd cyflymder yn dod i lawr. Bydd llai o bobl yn cael eu lladd. Bydd llai o bobl yn cael anafiadau sy'n newid eu bywydau. Bydd y baich ar yr heddlu a'r gwasanaeth tân o fynychu damweiniau angheuol yn llacio. Bydd mwy o bobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau ac yn teimlo'n hyderus i gerdded a beicio o'u cwmpas. Bydd yr ail niwed iechyd cyhoeddus mwyaf, llygredd sŵn, yn lleihau, a bydd rhieni'n dechrau teimlo'n fwy hyderus i adael i'w plant chwarae y tu allan. Mae tystiolaeth i gefnogi pob un o'r disgwyliadau hynny. A'r peth tristaf yw bod y rhan fwyaf o'r Ceidwadwyr yn gwybod hyn.
Pan wnaethom drafod argymhellion y grŵp arbenigol a sefydlais yn y Senedd dair blynedd yn ôl, roedd dwy ran o dair o'r holl Aelodau etholedig o blaid newid i derfyn cyflymder diofyn ardal gyfan. Dyna beth oedd y cynnig yn ei ddweud. Cafodd y newid sylfaenol hwnnw a gymeradwywyd gennym, newid y maent bellach yn ei alw'n waharddiad cyffredinol, ei gefnogi gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y pryd, Paul Davies. Fe'i cefnogwyd gan Janet Finch-Saunders. Fe'i cefnogwyd gan Russell George. Fe'i cefnogwyd gan Laura Anne Jones. Mae wedi'i gofnodi: roeddent yn cefnogi terfyn cyflymder diofyn. Os ydynt yn meddwl ei fod yn derfyn cyffredinol nawr, pam y gwnaethant ei gefnogi bryd hynny? Fe wnaethant gefnogi'r polisi y maent bellach yn honni'n anonest ei fod yn niweidiol. Ac roeddent yn ei gefnogi oherwydd eu bod yn gwybod y byddai'n gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru. Ac er cywilydd iddynt, maent i gyd bellach yn cefnogi poblyddiaeth wichlyd yr arweinydd presennol, Andrew R.T. Davies, a'i brif ymladdwr yn y rhyfel diwylliant, Darren Millar—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Roedd arweinydd yr wrthblaid yn cydnabod—[Torri ar draws.] Na wnaf. Fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid—
Darren, fe ddywedodd 'na'.
—gydnabod ar BBC Radio Wales y bore yma y gall awdurdodau lleol wneud eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn. Maent yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Ei amddiffyniad gwan o'i ymgyrch amlwg gamarweiniol yn erbyn y polisi hwn yw bod Llywodraeth Cymru yn gwbl benderfynol o osod terfyn cyflymder cyffredinol. Nid yw'r ffeithiau'n cefnogi hynny. Nid yw profiadau pobl yn ei gefnogi, ac yn eu calonnau, mae eu pobl eu hunain yn gwybod mai celwydd sinigaidd ydyw. Cywilydd arno, cywilydd arnynt. Cywilydd arnoch i gyd.
Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
[Anghlywadwy.] Yn ymateb y Dirprwy Weinidog i'r ddadl, fe sonioch chi am y gair 'shrill', sy'n hen derm dirmygus iawn tuag at fenywod. Felly, a allech chi newid y sylw hwnnw ar gyfer cofnod y Senedd, os gwelwch yn dda?
Fe edrychaf ar y trawsgrifiad yn nes ymlaen. Os yw'n cyfeirio at grŵp, fe wnawn ei adael. Os yw'n cyfeirio at unigolyn, fe gysylltaf â'r Gweinidog. [Torri ar draws.] Wel, fe edrychwn arno. Sam.
Wel, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad yn y ddadl hon heno. Wrth gwrs, fy rôl i yma yw gwneud fy ngorau i geisio cloi a dod i gasgliad rywsut—casgliad cryno—ar gynnig sydd wedi cael ei drafod yn angerddol yma heno, mater a ddisgrifiwyd gan y Dirprwy Weinidog yn briodol ddoe fel y newid mwyaf mewn cenhedlaeth.
Gadewch inni atgoffa ein hunain—agorwyd y ddadl heddiw gan Natasha Asghar, a siaradodd yn angerddol eto am yr hyn y mae'n eu gweld fel effeithiau negyddol y polisi hwn, effeithiau a fydd i'w teimlo ym mhob cwr o Gymru. Gwnaeth nifer o bwyntiau pwysig iawn, gan ofyn ai brig y mynydd iâ yn unig yw'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Rwy'n nodi na wnaeth y Dirprwy Weinidog ateb y pwynt pan gafodd ei godi ddoe, ac mae'r cwestiwn yn dal i sefyll—'A yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar ostwng terfynau cyflymder pellach, fel ffyrdd 40 mya a 50 mya yng Nghymru?' A byddai'n ddefnyddiol cael ateb pendant i hyn ar ryw adeg.
Daeth y cyfraniad nesaf gan Delyth Jewell, a dynnodd sylw at welliant Plaid Cymru ac yn sicr roedd yn cydnabod nifer o'r problemau a'r pryderon mewn perthynas â'r cynllun, ond roedd yn awyddus i dynnu sylw'r Aelodau at fanylion y cynllun, fel y cawsant eu disgrifio gan Delyth Jewell, yn enwedig y cyfle efallai i wella peth o'r ansawdd aer, fel y mae hi'n ei weld. Hefyd, yr angen i gynghorau wrando a chynnwys yr eithriadau lle mae'n amlwg fod eu hangen.
Croesawodd John Griffiths gynnig Llywodraeth Cymru, fel y byddech yn disgwyl, ond fel Delyth Jewell, gofynnodd am hyblygrwydd gyda'r eithriadau i'r cynghorau, ac i'r eithriadau hynny gael eu gweithredu mor rhwydd â phosibl.
Roedd yn dda clywed gan Tom Giffard ar feinciau'r Ceidwadwyr, a nododd y disgwyliad yn erbyn realiti gweithredoedd Llywodraeth Cymru, ac amharodrwydd llwyr Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i wrando ar bobl ledled Cymru, gan yrru yn eu blaenau'n ddall yn groes i'r hyn y mae ein hetholwyr yn dweud eu bod eisiau mewn gwirionedd.
Rhun ap Iorwerth, a oedd, fel gwleidydd, yn mynegi pryder am natur wleidyddol y ddadl, ac a aeth yn ei flaen, efallai, i wneud y cyfraniad mwyaf gwleidyddol yn y Siambr yma heno, gan dynnu sylw at y gwelliant gan Blaid Cymru.
Roedd Peter Fox yn awyddus i amlinellu profiad y cynllun peilot yn sir Fynwy, lle cafwyd lefelau isel o gydymffurfiaeth, fel y disgrifiodd, ac roedd yn awyddus i dynnu sylw at yr effaith ar fywyd bob dydd, sydd wedi bod yn sylweddol i'w etholwyr yno, rhywbeth sydd, yn fy marn i yn sicr, yn codi amheuaeth ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r canlyniadau y maent yn disgwyl eu gweld o ganlyniad i'r polisi hwn. Amlinellodd Peter Fox ei bryder hefyd ynghylch y costau a'r amser sy'n gysylltiedig â newid ffyrdd yn ôl i 30 mya o'r 20 mya diofyn. Gwyddom nad yw'n fecanwaith syml, ac wrth gwrs, mae'n faes y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i beidio â siarad gormod amdano o gwbl.
Gwnaeth Caroline Thomas gyfraniad a oedd yn tynnu sylw at y galw am adnoddau awdurdodau lleol. Rwy'n credu bod thema yma y mae Aelodau ar draws y Siambr yn bryderus iawn yn ei chylch, lle gwneir ceisiadau am eithriadau.
Clywsom gan Gareth Davies a gyfeiriodd at bryderon, yn ei etholaeth ef yn Nyffryn Clwyd yn sicr, a siaradodd am ddiffyg ymddiriedaeth rhwng y bobl y mae'n eu cynrychioli a Llywodraeth Cymru o ran cyflawni'r polisi hwn.
Tynnodd Aelodau sylw hefyd at y gost i'n heconomi. Yn adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun, rydym yn gwybod y bydd yn costio i'r economi ar bwynt canolog, tua £4.5 biliwn dros y cyfnod adrodd. Clywsom hefyd gan Huw Irranca-Davies a Mike Hedges, yr ymddangosai fel pe bai eu cyfraniadau, er yn sicr yn uchel, yn ymwneud â'r gair 'cyffredinol' yn fwy nag unrhyw beth arall. Felly, cafodd y pryder hwnnw ei glywed.
Roedd y Dirprwy Weinidog wrth ymateb yn sicr yn awyddus i bwysleisio agwedd diogelwch ffyrdd y newid hwn. Wrth gwrs, mae'n awydd canmoladwy iawn. Mae'n werth edrych ar fater diogelwch dros yr 20 mlynedd diwethaf ar ein ffyrdd, oherwydd fe fyddwn yn gwybod bod ystadegau gan yr Adran Drafnidiaeth yn dangos bod damweiniau sy'n arwain at anafiadau difrifol a marwolaethau wedi haneru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Nid yw ffyrdd Prydain erioed wedi bod yn fwy diogel, a llwyddwyd i sicrhau bod hynny'n digwydd heb derfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Yn bendant.
A ydych chi'n sylweddoli mai'r Ceidwadwyr sy'n rhedeg Cyngor Sir Cernyw a sawl cyngor sir arall? Roedd cyflwyno cynllun 20 mya yng Nghernyw yn addewid maniffesto allweddol gan y Ceidwadwyr, ac fe wnaethant roi'r cynllun 20 mya ar waith yng Nghernyw ym mis Mawrth, ac mae'n cael ei gyflwyno fesul cam nawr. Felly, a ydych chi'n dadlau yn erbyn eich cyd-bleidwyr eich hunain yng Nghernyw ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig pan fyddant yn cyflwyno'r cynlluniau 20 mya yn yr awdurdodau lleol hynny?
Rwyf fi yma i gynrychioli Cymru, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno'n angerddol â hynny, Mabon, ac wrth gwrs, yn anffodus, nid oeddech yma i'r ddadl gyfan i glywed cyd-destun llawn yr hyn a drafodwyd heno, sy'n drueni.
Mae popeth a wnawn, wrth gwrs, yn ymwneud â chydbwyso risgiau, ac mae'n ymddangos mai disgrifio opsiynau ynghylch terfynau cyflymder heb ystyried yn iawn y canlyniadau niferus yw'r rhwystredigaeth sydd gan lawer o fy etholwyr. Efallai mai thema'r ddadl yma heno hefyd yw'r rhwystredigaeth nad yw canlyniadau dilynol hyn wedi cael eu hystyried yn iawn.
Ar ein meinciau Ceidwadol, ac ar y rhan fach hon o fainc Llafur draw yma hefyd, rydym yn parhau i gredu y dylai unrhyw ostyngiad i derfynau cyflymder fod yn benodol, dylent fod yn fesurau a dargedir y tu allan i'r lleoedd hynny y mae'r Aelodau eisoes wedi tynnu sylw atynt yma heno. Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r dull synhwyrol o ymdrin â therfynau cyflymder. Clywsom hefyd heno nad gostwng y terfyn cyflymder diofyn yw'r hyn y mae pobl Cymru ei eisiau. Nifer o weithiau fe glywsom bobl yn cyfeirio at arolwg barn ITV Wales sy'n dangos bod dwy ran o dair o bobl Cymru yn erbyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn i lawr i 20 mya, a chlywsom hyd yn oed yn fwy eglur cymaint yw gwrthwynebiad y bobl lle mae hyn wedi'i dreialu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r polisi hwn. Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog ei hun fod camgymeriadau wedi bod gyda'r treialon hynny.
Yn y bôn, yr hyn rwy'n credu y gallaf ei gasglu yma, Ddirprwy Lywydd, yw nad yw'n ymddangos bod yr hyn y mae pobl yn ei feddwl yn bwysig i'r Blaid Lafur yma yng Nghymru. Mae ganddynt eu barn, mae ganddynt eu safbwyntiau ar y mater hwn, ac maent yn cael eu hanwybyddu'n llwyr. Dyna pam ein bod wedi galw am y cynnig yma heno, ac rwy'n galw ar bawb yn y Siambr i ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, i ddangos rhywfaint o synnwyr cyffredin, a phleidleisio yn erbyn yr 20 mya diofyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?[Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohirir y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Felly, mae'r bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf ar bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynir yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 38, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8347 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1) Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.
2) Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.
3) Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.
4) Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.
5) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd y pleidleisio.
Symudwn yn awr i'r ddadl fer.
A wnaiff yr Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Janet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, y ddadl heno yw: dod â'r byd i Gymru—sut rydym yn rhyddhau potensial Cymru fel cyrchfan dwristaidd fyd-eang o bwys? Rwy'n falch o roi munud o fy amser i Tom Giffard AS.
Nawr, yma yng Nghymru, mae gennym y bobl fwyaf anhygoel yn rhedeg sector twristiaeth o ansawdd uchel. Mae 12 y cant o weithlu Cymru yn gweithio ym maes twristiaeth. Yr haf hwn, bûm yn ddigon ffodus i weld eu gwaith caled drosof fy hun unwaith eto. Gyda'n dyffryn Conwy godidog a'n trefi arfordirol hardd, mae'n anrhydedd cael fy amgylchynu gan lawer o westai ac atyniadau gwych a'r twristiaid sy'n ymweld â Chymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, er gwaethaf yr hyn y ceisiodd y Prif Weinidog ei honni ddoe, mae ein diwydiant twristiaeth yn wynebu pwysau anferth, yn enwedig y pwysau a osodwyd arno gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ac a gefnogir, yn anffodus, gan Blaid Cymru.
Rydym yn gwybod bod ein busnesau yn mynd drwy adferiad COVID ac maent eisoes yn wynebu prisiau bwyd cynyddol, costau ynni uwch a phrinder staff hyfforddedig. Ac eto, er gwaethaf honiadau Prif Weinidog Cymru ddoe, lle roedd yn rhyw fath o ymffrostio bod twristiaeth ar gynnydd a phethau, mae twristiaeth ryngwladol i lawr 33 y cant yng Nghymru. Nid yw'r dreth dwristiaeth arfaethedig, trothwy rheoleiddio llety hunanddarpar o 182 diwrnod, y stigma tuag at berchnogion ail gartrefi, yn gwneud dim heblaw atal twristiaid a rhoi gyrfaoedd a bywoliaeth perchnogion busnes Cymru mewn perygl ariannol: targedu'r busnesau hyn gan Lywodraeth Cymru sydd bellach yn eu hatal rhag adfer yn llawn o effeithiau parhaus y pandemig a'r pwysau sylweddol presennol.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig adroddiad 'Cymru fel cyrchfan fyd-eang i dwristiaid'. Nid wyf yn credu y bydd canfyddiadau allweddol yr adroddiad hwn yn rhy annisgwyl. Fe wnaethant ganfod nad oes brand Cymreig cydlynol yn bodoli, a bod proffil Cymru dramor yn wael. Nid yw Cymru fel arfer yn cael ei chynnwys ym mhecynnau gwyliau gweithredwyr teithiau. Mae'r seilwaith trafnidiaeth sy'n methu yng Nghymru, ynghyd â blynyddoedd o danariannu gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i gael effaith negyddol ar dwristiaeth Cymru heddiw. Mae'r canfyddiadau hyn yn ffaith, maent yn wir, ac maent yn anfaddeuol. Onid yw'n arwydd gwirioneddol o fethiant datganoli a'r Llywodraeth hon yng Nghymru nad oes gan ein gwlad frand Cymreig clir er bod y Senedd hon yn ei chweched tymor, a'i thrydedd degawd?
Wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sydd ar fai i raddau helaeth, gan ein bod wedi cael blynyddoedd o gostau marchnata gwastraffus drwy'r blynyddoedd thema aneffeithiol, fel Blwyddyn y Môr yn 2018. Er ein bod i gyd yn dwli ar y môr—rwy'n arbennig o hoff ohono—mae gan Gymru gymaint mwy i'w gynnig. Yng ngogledd Cymru, rydym yn lwcus iawn i gael Go North Wales. Nawr, dyna sefydliad rhagweithiol, brwdfrydig a gweithgar sy'n gweithio'n galed bob dydd yn eu hymdrechion i geisio gwerthu Cymru i'r byd—a gogledd Cymru yn enwedig. Byddai'n hyfryd pe gallem gael hynny ar draws Cymru gyfan. Hoffwn glywed pa gamau y byddwch yn eu cymryd i weithio gyda'r sector preifat i gytuno ar y ffordd orau o werthu Cymru i'r byd. Mae'r bobl yma yn entrepreneuriaid—maent yn bobl fusnes da, a gallai'r Llywodraeth ddysgu llawer ganddynt. Yn Aberconwy, gwelwn ddiffyg gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol o faes awyr Manceinion a phorthladd Caergybi, i Fetws y Coed a Blaenau Ffestiniog; canslo'r gwasanaeth uniongyrchol o Lerpwl i Landudno cyn iddo ddod yn weithredol hyd yn oed; diffyg trafnidiaeth gyda'r nos, naill ai ar fws neu ar y trên. Rwy'n siŵr y gallai llawer o Aelodau eraill y Senedd adrodd straeon tebyg am eu hetholaethau eu hunain. Yn syml, nid yw'n ddigon da. Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig.
Nawr, dylai cysylltiadau trafnidiaeth fod yn flaenoriaeth allweddol wrth sefydlu Cymru fel cyrchfan fyd-eang i dwristiaid. Mae yna ddymuniad mawr ymhlith y sector preifat eu hunain i ryddhau'r potensial sydd gan Gymru. Er enghraifft, yn Aberconwy, rydym yn ffodus iawn i gael twristiaeth bwyd a diod a theithiau profi bywyd fferm. Ar flaen y gad gyda'r rhain, wrth gwrs, y mae'r ffermwr enwocaf yng Nghymru, sef Gareth Wyn Jones; rwy'n siŵr eich bod i gyd yn ei adnabod, neu wedi clywed amdano yn sicr. Mae hoff ffermwr y genedl yn cynnig safle unigryw mewn amaeth-dwristiaeth, rhywbeth y gallai Cymru a Llywodraeth Cymru fod yn arwain arno. Mae ef a'i deulu yn cynnig teithiau profi bywyd fferm, arddangosiadau cŵn defaid, profiadau coginio gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig, ac maent yn rhoi sgyrsiau am ffermio, treftadaeth, diwylliant a'r Gymraeg. Mae eu teithiau profi trawiadol a'u teithiau pwrpasol i atyniadau lleol yn gynyddol boblogaidd gyda thwristiaid o bob cwr o'r byd, yn enwedig UDA. Maent yn gysylltiedig â llawer o gwmnïau teithio, ac maent yn gobeithio ehangu i gynnwys archebion llongau mordeithio o Gaergybi yn 2024. Mae Gareth—a'i wraig, Rhian—wedi profi bod diddordeb mewn amaeth-dwristiaeth. Felly, unwaith eto, pam nad ydych chi'n edrych ar y modelau da hyn ac yna'n mynd â nhw allan a'u rhannu ledled Cymru?
Yn rhy aml, rydym yn gweld cwmnïau mwy yn cael grantiau, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r entrepreneuriaid llai hyn yn y diwydiant twristiaeth? Mae ychydig bach yn mynd yn bell mewn busnes bach. Wrth geisio dod o hyd i gyllid i ddechreuwyr newydd yn y sector twristiaeth, mae cael grantiau bach bron yn amhosibl. Felly, byddai'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn manteisio ar rywfaint o'r brwdfrydedd, yr angerdd a'r ymrwymiad sy'n bodoli yn y sector preifat i ysgogi budd economaidd lleol yng Nghymru. Pam na all Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sector preifat i gynhyrchu taith fwyd ar gyfer pob rhan o Gymru—gan gynnwys y gogledd wrth gwrs? Rydym wedi galw am hyn o'r blaen, am ddatblygu llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ar gyfer pob etholaeth, ond fe ddisgynnodd ar glustiau byddar. Rydym yn gwybod mai cig oen Cymru yw'r cig oen gorau yn y byd, ac yn bwysicach, fod ymwelwyr yn ei fwynhau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, maent yn mynd i drefi gyda bwytai yng Nghymru ond maent yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i gig oen Cymru ar y fwydlen. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cig oen Cymru, a chynnyrch Cymreig arall, ar gael?
Maes arall heb ei gyffwrdd yw teithiau gwinllan. Mae yna ddigon o winllannoedd ar draws Cymru, ond rwy'n mynd i sôn am Winllan Pant Du a'r Castell Gwyn, i enwi ond dwy. Mae Ffrainc yn gweld hyd at 10 miliwn o dwristiaid yn ymweld â'u gwinllannoedd bob blwyddyn, felly pam nad ydym ni'n manteisio ar farchnad ein gwinllannoedd Cymreig? Sut rydych chi'n helpu'r busnesau hyn? Yr haf hwn, ymwelodd Tom Giffard AS, Gweinidog Twristiaeth yr wrthblaid, â fy etholaeth i yn Aberconwy, ac fe wnaethom lansio strategaeth dwristiaeth uchelgeisiol. Byddai'n cynnwys cael gwared ar y dreth dwristiaeth, gostwng y trothwy rheoleiddio llety hunanddarpar i 105 diwrnod, hyrwyddo cynigion treftadaeth a thwristiaeth arbenigol, a gwneud Croeso Cymru'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Mae angen rhoi mwy o sylw i waith Croeso Cymru. Tra bûm yn teithio o gwmpas dros yr haf, clywais gwynion diddiwedd nad yw Croeso Cymru yn ymgysylltu â negeseuon cyfryngau cymdeithasol cadarnhaol y maent wedi'u tagio ynddynt, i hyrwyddo twristiaeth. Mae'n rhaid imi fod yn onest: nid wyf yn meddwl ddwywaith am rannu unrhyw fusnes yn fy etholaeth sy'n ymddangos ar fy ffrwd cyfryngau cymdeithasol. Dylai pawb ohonom wneud hyn. Nawr, rwyf wedi cyfarfod â chi o'r blaen, Ddirprwy Weinidog, i fynegi fy awydd i weld Croeso Cymru yn cael ei addasu fel ei fod yn cynnig gwasanaeth tebyg i wefannau fel Hotels.com, Booking.com, LateRooms.com. Felly, pam nad yw Croeso Cymru yn gwneud eu gwaith a rhedeg gwefan debyg?
Mae'n ddiddorol dysgu bod y sefydliad, Croeso Cymru, i fod i werthu Cymru i'r byd, ond eto nid yw ond ar gael mewn un iaith dramor—Almaeneg. Beth am Japaneeg? Mae castell Conwy wedi gefeillio â chastell Himeji yn Japan. Pam ddim Japaneeg? Mae Cyngor Tref Llandudno wedi gefeillio â Wormhout yn Ffrainc ers blynyddoedd lawer, ac mae bellach wedi gefeillio â Champéry, y Swistir. Bydd etholaethau eraill ar draws Cymru wedi gefeillio â rhannau eraill o'r byd, felly pam nad oes mwy o ieithoedd ar gael ar wefan Croeso Cymru? Syml. Cantoneeg neu Fandarin. Yn 2019, ymwelodd dros 880,000 o dwristiaid o Tsieina â'r DU. Pe bai gwybodaeth ar gael yn rhwydd yn eu hiaith frodorol, gellid denu mwy o dwristiaid i ymweld â ni yma yng Nghymru.
Mae'n warthus, hefyd, nad oes ieithoedd Ewropeaidd a ddefnyddir yn eang ar gael ar y wefan, fel Eidaleg, Ffrangeg a Sbaeneg. Daeth 424,000 o drigolion Ewrop drosodd yn 2022, felly dychmygwch yr hwb y gallech ei gyflawni trwy farchnata mewn ieithoedd heblaw Almaeneg. Os ydym am ddod â'r byd i Gymru, mae'n rhaid inni sicrhau bod gwybodaeth am ein gwlad yn hygyrch ym mhob iaith. Ni ddylem ofni cydweithredu â gwledydd cyfagos, yn enwedig Iwerddon. Er bod tua 7 miliwn wedi ymweld ag Iwerddon yn 2022, dim ond 686,000 a ymwelodd â Chymru. Beth am weithio gyda'r sector preifat a Llywodraeth Iwerddon i gynnig teithiau Celtaidd i alluogi twristiaid i ymweld â'r ddwy wlad trwy ddefnyddio ein cysylltiadau fferi ardderchog?
Yn ystod fy nghyfraniad, rwyf wedi tynnu sylw at sawl syniad i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw, gan gynnwys datblygu brand ar gyfer Cymru dramor, gwella cysylltiadau ac argaeledd trafnidiaeth, datblygu amaeth-dwristiaeth, ymestyn yr hyn y mae Croeso Cymru yn ei gynnig a'i rwystrau ieithyddol, a chydweithio â gwledydd cyfagos. Mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i ddod ag ymwelwyr i Gymru.
Ac yn olaf, cefais y pleser o ymweld â dathliadau seneddol y Tynwald yn Ynys Manaw. Arferai fod gennym ymweliadau rheolaidd, ymweliadau wythnosol, ag Ynys Manaw o'r pier yn Llandudno, ac wrth gwrs mae'r rheini wedi dod i ben bellach. Hoffwn gynnwys Ynys Manaw yn fy nadl. Rydym mor agos fel y dylem fod yn cysylltu mwy ag Ynys Manaw mewn gwirionedd. Siaradais â seneddwyr yno. Maent hwy eisiau hynny, felly pam nad ydym yn gwneud i hynny ddigwydd? Diolch yn fawr.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, Janet, eich bod chi wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac fel Ceidwadwyr Cymreig nid wyf yn credu y gallwn siarad digon am dwristiaeth yma yng Nghymru am ei bod mor bwysig, nid yn unig i'n heconomi, ond i'r cymunedau a gynrychiolir gennym. Ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus yn fy rôl fel Gweinidog Twristiaeth yr wrthblaid i ymweld â rhai o'r cymunedau hynny yr haf hwn—sir Benfro gyda Samuel Kurtz; Llandudno, wrth gwrs, gyda Janet Finch-Saunders; Prestatyn gyda Gareth Davies; yn ogystal â llefydd fel y Mwmbwls, Gŵyr a Phorthcawl yn fy rhanbarth fy hun. A'r hyn y mae'r busnesau hynny'n ei ddweud wrthyf bron yn ddieithriad yw bod ganddynt gynnig twristiaeth gwych yma yng Nghymru, ond nad yw'n teimlo fel pe bai'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Clywsom gan Janet Finch-Saunders fod nifer yr ymwelwyr sy'n dod i Gymru wedi gostwng draean yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—mae hwnnw'n ystadegyn hynod ofidus i unrhyw un sydd â diddordeb mewn twristiaeth yng Nghymru. Mae gan Gymru yr holl botensial yn y byd i fod yn bwerdy twristiaeth; y cyfan sydd ei angen yw i Lywodraeth Cymru sylweddoli hynny hefyd.
Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl, Dawn Bowden.
Diolch yn fawr. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn disgwyl i hynny fod mor gyflym. Rwy'n ymddiheuro. Efallai na fydd fy ymateb mor gyflym â hynny.
Ond Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy am drefnu'r ddadl hon gan ei bod yn rhoi cyfle imi dynnu sylw unwaith eto at y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod sector twristiaeth Cymru yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus. Fodd bynnag, Lywydd, yr hyn a glywsom, fel rydym wedi'i glywed dro ar ôl tro—mae ychydig fel cylch diddiwedd yn y Siambr hon, onid yw—clywsom eto heddiw, clywsom ddoe oddi ar feinciau'r wrthblaid, y proffwydi gwae, yn difrïo ein diwydiant twristiaeth. Ac er fy mod yn annog craffu ar benderfyniadau polisi, a bod digon o hynny wedi bod yn y ddadl heddiw, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y straeon cadarnhaol sydd gan y diwydiant i'w hadrodd, na'r dyfodol disglair sydd ganddo yn fy marn bendant i.
Mae angen inni sicrhau y gall y diwydiant twristiaeth gyd-fynd â'n huchelgais i sicrhau cymunedau cynaliadwy, cytbwys a ffyniannus, ac mae'n rhaid inni gydnabod nad yw twristiaeth yn bodoli, ac na all fodoli, ar ei ben ei hun. Mae'r cyfan wedi'i gydblethu a'i gysylltu â meysydd polisi ehangach fel trafnidiaeth, yr amgylchedd, treftadaeth a thai, ac rydym am ddatblygu twristiaeth sy'n gwneud daioni—hynny yw, twristiaeth sy'n cefnogi ein cymunedau ac yn gwarchod a gofalu am ein tir, ac sy'n fuddiol i ymwelwyr a dinasyddion fel ei gilydd, gan ddarparu swyddi cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn ym mhob rhan o'n gwlad. Dyna yw hanfod ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae gwerth yr economi ymwelwyr yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi gwneud y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth honno'n glir yn ein strategaeth dwristiaeth Croeso Cymru.
Yn ein strategaeth rydym yn canolbwyntio ar bedair colofn: twf economaidd, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a sicrhau cymaint â phosibl o fanteision lles ac iechyd. Mae'r ffocws yn ein strategaeth ar dair elfen—sef ei natur dymhorol, gwariant a gwasgariad—ac mae hynny'n ymwneud ag annog twf twristiaeth ar adegau tawel, annog ymwelwyr i aros yn hirach a gwario mwy, a hyrwyddo mannau twristaidd tawelach. Ac felly, o hynny, cawn y bedwaredd elfen, sef cynaliadwyedd.
Mae Cymru, fel y gwyddom i gyd, yn lle llawn antur, tirweddau naturiol eithriadol, a bywyd diwylliannol ffyniannus. Mae ganddi dreftadaeth Gymreig a threftadaeth byd. Mae ganddi ddarpariaethau llety amrywiol ac anarferol sydd hefyd yn brofiad ynddo'i hun, bwyd a diod blasus a chalendr sy'n llawn o ddigwyddiadau lleol a byd-eang cyfoethog. Dyma'r rhesymau pam mae trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn caru'r wlad hon, ac maent yn bwyntiau gwerthu gwych ar gyfer sut rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo twristiaeth.
Mae sut mae Croeso Cymru yn cefnogi twristiaeth yn bwysig iawn, ac mae cydweithio ac ymgysylltu â'r diwydiant a chydag awdurdodau lleol a'n cymunedau yn allweddol. Mae'n ymagwedd wirioneddol gydweithredol. Mae'r ffordd rydym yn ymgysylltu â'r sector yn bwysig iawn. Rydym eisoes yn gwneud hyn mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys trwy'r fforwm economi ymwelwyr rwy'n ei gadeirio a thrwy'r pedair partneriaeth ranbarthol, ac mae'n bleser gennyf ddweud y byddwn yn dod â sioeau teithiol rhanbarthol y diwydiant twristiaeth yn eu holau y mis nesaf yn y de-ddwyrain, yn y de-orllewin, yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at wahodd ein partneriaid a'n rhanddeiliaid i'r sesiynau hynny. Rydym hefyd wedi cyhoeddi y bydd ein huwchgynhadledd genedlaethol a'n gwobrau yn dychwelyd y flwyddyn nesaf.
Rydym yn cefnogi'r diwydiant trwy ein gweithgareddau marchnata a hyrwyddo, trwy ein gweithgareddau graddio, trwy ddatblygu sgiliau ar draws y diwydiant, a thrwy ein rhaglen buddsoddiadau cyfalaf. Rydym yn buddsoddi yn y cynhyrchion a'r gwasanaethau twristiaeth sy'n asgwrn cefn i'r diwydiant. Mae gennym gronfa fuddsoddi mewn twristiaeth Cymru gwerth £55 miliwn sy'n ein galluogi i ariannu buddsoddiadau cyfalaf mewn prosiectau sy'n tyfu'r sector. Rydym wedi helpu prosiectau fel gwaith ehangu ac uwchraddio'r clwb golff hynaf yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod, y rhoddwyd £1.7 miliwn tuag ato, ac Innoflate, yr atyniad ymwelwyr newydd i deuluoedd yng Nghasnewydd. Mae gennym gronfa gyfalaf y Pethau Pwysig, a'r mis diwethaf cyhoeddais gyllid o £5 miliwn i 29 o brosiectau bach, Janet, a fydd yn helpu i gyflawni gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth ar hyd a lled Cymru, ac mae'r rhain yn cynnwys prosiectau megis gosod cysgodfannau newydd ar bromenâd glan môr y gogledd yn Llandudno; gosod arwyddion newydd i gyrchfannau ar draws Conwy; ac ariannu gwelliannau ledled Cymru mewn cyfleusterau fel meysydd parcio, toiledau a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Os caf droi at y persbectif rhyngwladol, Lywydd, a sut rydym yn hyrwyddo twristiaeth, mae hefyd yn rhan greiddiol o'n strategaeth ryngwladol, sy'n tynnu sylw at sut rydym am i Gymru gael ei hadnabod fel arweinydd byd mewn twristiaeth antur gynaliadwy. Mae buddsoddi mewn canolfannau beicio mynydd, llwybrau cerdded a gwifrau sip wedi adfywio ein henw da rhyngwladol i ymwelwyr newydd, iau. Mae ymwelwyr yn chwilio fwyfwy am brofiadau dilys, cynaliadwy ac unigryw, ac mae agwedd Cymru tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol a diwylliannol yn rhoi mantais gystadleuol i ni.
Mae twristiaid rhyngwladol yn rhan bwysig o'r sector twristiaeth ac nid wyf am gilio rhag mynd i'r afael â'r ystadegau cyfredol. Mae nifer y twristiaid rhyngwladol sy'n dod i'r DU yn dal i wella ar ôl y pandemig, ond yn 2022, cafwyd 686,000 o ymwelwyr rhyngwladol â Chymru, gyda gwariant o tua £391 miliwn. Fodd bynnag, mae'n hanfodol deall mai ymwelwyr domestig yw'r ffynhonnell bwysicaf o ymwelwyr â Chymru erioed, a dyna yw dros 90 y cant o'r holl ymwelwyr â Chymru, a ddoe ddiwethaf, gwelsom yr ystadegau domestig diweddaraf ar gyfer teithiau dros nos i Gymru yn cael eu cyhoeddi, gan ddangos cynnydd o 13 y cant yn nifer y teithiau a wnaed yng Nghymru rhwng 2021 a 2022. Nawr, mae ffigurau wedi'u diweddaru yn dangos, yn 2022, fod £4.6 biliwn o wariant cysylltiedig ar deithiau twristiaeth yng Nghymru. Mae'n amlwg fod nifer y teithiau a wneir yng Nghymru yn cynyddu ac mae hynny'n newyddion gwych. Nawr, gwn fod potensial i gynyddu'r niferoedd ymhellach. Mae ein gweithgaredd ôl-bandemig wedi canolbwyntio ar gefnogi'r sector i adfer a thyfu marchnadoedd rhyngwladol, ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar weithgaredd y fasnach deithio sy'n eu galluogi i arddangos eu cynnyrch mewn marchnadoedd tramor allweddol.
Mae gan Gymru gynnig o'r radd flaenaf y tu hwnt i'r ardaloedd mwyaf poblogaidd a thu hwnt i dymor yr haf, ac rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y gwaith o farchnata Cymru i'r byd. Dros y 12 mis diwethaf, mae hynny wedi cynnwys ymgyrchoedd sy'n manteisio ar fwy o ymwybyddiaeth o Gymru, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, o amgylch stori Wrecsam a'n gweithgaredd Cwpan y Byd FIFA llwyddiannus y llynedd. Yr wythnos diwethaf, enwyd y brand Cymru Wales hwn, y gwnaeth Janet Finch-Saunders honni nad oedd yn bodoli, gan World Media Group fel enillydd yr ymgyrch deithio fyd-eang ac enillydd grand prix yng ngwobrau World Media Group am y gorau o'r goreuon ym mhob sector, gan guro pobl fel Volkswagen ac Adidas. Cynghrair strategol o sefydliadau cyfryngol rhyngwladol blaenllaw yw World Media Group sy'n cysylltu brandiau â chynulleidfaoedd dylanwadol iawn yng nghyd-destun newyddiaduraeth ddibynadwy a blaenllaw. Mae'n cynnwys The Atlantic, BBC News, The Economist, Forbes, Fortune, Insider—a oes angen imi barhau—National Geographic, Politico Europe. Mae'r bobl yma i gyd wedi dweud mai brand Cymru yw'r gorau o'r goreuon. Felly, peidiwch â lladd ar Lywodraeth Cymru; edrychwch ar yr hyn y mae gweddill y byd yn ei ddweud.
Rydym hefyd yn falch iawn fod Cymru wedi cael ei dewis i groesawu dychweliad WWE, World Wrestling Entertainment, yn Stadiwm Principality. Dyna'r tro cyntaf i ddigwyddiad o'r maint hwnnw ddychwelyd i'r DU ac rydym wedi gwneud hynny yng Nghymru. Sicrhaodd y digwyddiad effaith economaidd uniongyrchol i Gaerdydd ac i Gymru, ac fe wnaeth ein galluogi i dynnu sylw unwaith eto at yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Rydym hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i'n cais am bêl-droed y dynion, yr Ewros, yn 2028. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio wrth inni obeithio ennill y cais hwnnw a symud ymlaen i gam nesaf y cynllunio ar gyfer y bencampwriaeth.
Ac os caf aros gyda thema chwaraeon, rwyf newydd ddychwelyd o Gwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc lle rydym wed bod yn meithrin cysylltiadau, drwy ein rhaglen Cymru yn Ffrainc, ym maes chwaraeon, diwylliant, twristiaeth, bwyd a diod, a chysylltiadau economaidd ehangach ag un o'n cymdogion agosaf. A do, tra oeddwn yno, fe ymwelais â gwinllan yn Bordeaux a chyflwynais win Cymreig iddynt o winllan y Castell Gwyn ym Mynwy. Felly, rydym yn sicr yn hyrwyddo'r hyn a wnawn dramor.
A phan oeddwn yn Ynys Manaw, Janet, daeth cynrychiolydd twristiaeth Ynys Manaw ataf i ganmol Cymru ar ei phresenoldeb gwych yn ffeiriau masnach y byd wrth inni hyrwyddo ein cynnig bwyd a diod. Rydym hefyd wedi sicrhau bod Cymru'n amlwg yn ymgyrchoedd VisitBritain, ac rydym wedi ffurfio partneriaethau â chyrff fel Marketing Manchester, gan ddefnyddio'r porth hwnnw i ddod ag ymwelwyr i ogledd Cymru. Dyma enghreifftiau byw o sut rydym yn dod â'r byd i Gymru a sut rydym yn mynd ati'n barhaol i archwilio ffyrdd o ryddhau potensial Cymru fel cyrchfan dwristiaeth fyd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau dewr i gefnogi'r diwydiant yn y dyfodol. Fe wyddom nad yw pawb yn cytuno â ni ynglŷn â rhai o'r polisïau hyn, ond bydd yna bob amser wrthwynebiad i newid arloesol, fel y clywsom yn y ddadl ddiwethaf. Ond mae angen y newid hwnnw arnom i gyflawni ein huchelgais fel yr amlinellais yn gynharach. Mae angen cymuned gytbwys, gynaliadwy a ffyniannus arnom.
Mae gennym gytundeb cydweithio uchelgeisiol, gan weithio gyda Phlaid Cymru ar yr ardoll ymwelwyr a mynd i'r afael â'r problemau a achosir mewn cymunedau lleol gan berchnogaeth ail gartrefi. Mae'r ardoll arfaethedig i ymwelwyr yn fecanwaith a fydd yn darparu buddsoddiad i gyfleusterau twristiaeth lleol ac yn gwella cymunedau lleol ar yr un pryd. Oes, mae yna densiynau, ac oes, mae angen inni drafod ac archwilio'r materion hyn ymhellach. Rydym yn gwneud hynny, gyda'r sector a darpar ymwelwyr â Chymru, yn ogystal â chymunedau y mae twristiaeth yn effeithio arnynt.
Yn y bôn, yr hyn rydym ei eisiau yw datblygu ffyrdd o gefnogi ac ehangu'r cynnyrch twristiaeth, ond nid drwy feirniadu parhaus a dileu'r pethau cadarnhaol yn wrthgynhyrchiol, gan bortreadu Cymru fel cyrchfan lai dymunol, y mae gwneud hynny mewn gwirionedd. Mae'r modd y mae'r wrthblaid yn lladd ar Gymru'n gyson, fel y clywsom eto yn y Siambr hon heddiw, a'r sylw negyddol yn y cyfryngau a gynhyrchir gan y sŵn hwnnw, yn cyfrannu at atal twristiaid rhag dod i Gymru o gwbl. Nid dyna rwy'n awyddus i'w weld. Yr hyn rwyf fi ei eisiau yw deialog fwy cadarnhaol. Rydym yn ymdrechu i amddiffyn cymunedau lleol a'n diwydiant twristiaeth fel ei gilydd.
I ateb rhai o'r pwyntiau a godwyd gennych yn uniongyrchol, Janet, mewn perthynas â chefnogi busnes, mae'r lefel bresennol o ardrethi busnes wedi parhau. Mae wedi parhau y tu hwnt i COVID, ac yn werth o leiaf £140 miliwn y flwyddyn i fusnesau lleol yn y diwydiant twristiaeth. Fe wnaethoch chi siarad am y seilwaith trafnidiaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi—[Torri ar draws.] Mae Llywodraeth y DU wedi amddifadu Cymru o £5 biliwn o gyllid canlyniadol yn sgil HS2. Meddyliwch—[Torri ar draws.] Meddyliwch am eiliad beth y gallai Cymru fod wedi'i wneud gyda'r seilwaith trafnidiaeth gyda £5 biliwn. Felly, yn lle lladd ar Lywodraeth Cymru, siaradwch â'ch ffrindiau yn Llywodraeth San Steffan y DU a gofynnwch iddynt wneud y peth anrhydeddus a gadael inni gael y symiau canlyniadol o HS2.
Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, roedd llawer iawn ynddo'n sôn am y pethau cadarnhaol sy'n digwydd yng Nghymru. Roedd yr adroddiad hwnnw hefyd yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi ei £5 biliwn o arian canlyniadol HS2 i Gymru, ond rwy'n sylwi na wnaethoch chi sôn am hynny. Roedd hefyd yn feirniadol iawn o VisitBritain, ac yn derbyn nad yw'n ymgysylltu'n effeithiol â Croeso Cymru. Ond roedd yn cydnabod bod gennym frand sy'n ennill gwobrau.
Rwyf wedi ymateb o'r blaen ar gwestiwn Croeso Cymru fel sefydliad annibynnol, Janet. Fe wnaethoch chi godi hynny gyda mi fel cwestiwn ac fe wnaethom siarad amdano pan gawsoch gyfarfod â mi. Rydym yn hyrwyddo darpariaeth llety i ymwelwyr ar safle Croeso Cymru, a nodais yn glir iawn pam ein bod yn teimlo y dylai Croeso Cymru barhau fel adran o'r Llywodraeth.
Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i ymwelwyr o bob cwr o'r byd, ac rwy'n parhau i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio i wireddu'r potensial hwnnw mewn ffordd sy'n sicrhau'r cydbwysedd cynaliadwy anodd rhwng ein cymunedau, ein tirweddau a'n hymwelwyr. Rwy'n hyderus y bydd y pecyn o gamau gweithredu rydym yn eu cymryd yn gwneud hynny, a diolch i chi am y cyfle i dynnu sylw unwaith eto at y camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:04.