Y Cyfarfod Llawn
Plenary
12/07/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn, os caf i roi gwybod i'r Aelodau, bydd y balot nesaf ar gyfer Biliau Aelodau yn cael ei gynnal ar 18 Hydref. Bydd gwybodaeth am y broses yna yn cael ei rhannu gyda chi fel Aelodau yn fuan—rhywbeth i chi feddwl amboutu dros yr haf.
Yr eitem nesaf, felly, fydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y cynnig i sefydlu pwyllgor. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NNDM8336 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8335 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 12 Goffennaf 2023.
Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.
Mae'r cynnig wedi ei wneud yn ffurfiol. Y cynnig, felly, yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn, sydd yn caniatáu i ni gymryd y cynnig i sefydlu pwyllgor.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol, eto.
Cynnig NNDM8335 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
2. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai:
a) pan fydd yr holl Filiau a gyfeiriwyd at y pwyllgor wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau pellach yn cael eu cyfeirio at y pwyllgor; neu
b) pan fydd y Senedd yn penderfynu felly;
pa un bynnag sydd gynharaf.
Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.
Mae Lesley Griffiths wedi gwneud y cynnig yn ffurfiol. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn, sy'n caniatáu i ni symud ymlaen i'r cynnig o dan eitem 2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyma'r cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yma'n ffurfiol.
Cynnig NNDM8337 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei ethol ohono fydd grŵp Llafur Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.
Does gyda fi ddim siaradwyr ar yr eitem yma. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid—
Lywydd—
Oes, mae gyda fi siaradwr. Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar y cynnig hwn. Mae fy ngrŵp, fel gwyddoch fel aelod o’r Pwyllgor Busnes, yn gwrthwynebu dyrannu’r Cadeirydd penodol hwn i’r grŵp Llafur, ar sail nifer y Cadeiryddion a ddyrannwyd eisoes gan y Senedd hon a’r Pwyllgor Busnes i’r grwpiau gwleidyddol yn y Senedd. Rydym o’r farn nad yw ein grŵp wedi’i gynrychioli'n ddigonol, ac ar y sail honno, byddwn yn gwrthwynebu’r eitem benodol hon heddiw.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe fyddwn ni'n cynnal pleidlais yn syth ar y cynnig yma. Fe fyddaf i'n symud yn syth i'r bleidlais—[Torri ar draws.] Oes yna unrhyw Aelod yn gwrthwynebu ac yn gofyn i fi ganu'r gloch? Mae yna ddigon o Aelodau eisiau i fi ganu'r gloch i roi rhybudd i Aelodau am y bleidlais. Felly, fe ganaf i'r gloch, ac fe fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ymhen pum munud.
Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:32.
Ailymgynullodd y Senedd am 13:40, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Rydym mewn sefyllfa nawr i gychwyn ar y bleidlais. Felly, i atgoffa Aelodau, bydd y bleidlais yma ar eitem 2. Yr eitem honno yw'r eitem i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol. Ac er gwybodaeth i Aelodau, bydd angen dwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio i fod o blaid i'r cynnig yma gael ei gymeradwyo. Felly, dwi'n agor y bleidlais. O blaid 32, yn ymatal neb, 14 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Eitem 2. Cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol: O blaid: 32, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf, felly, fydd yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor sydd newydd gael ei ffurfio. Nawr, o dan Reol Sefydlog 17.2F, dwi'n gwahodd enwebiadau ar gyfer y gadeiryddiaeth yna. Jack Sargeant.
Diolch, Lywydd. Rwy'n enwebu David Rees.
Mae David Rees wedi cael ei enwebu fel cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio—cadeiryddiaeth, wrth gwrs, sydd wedi'i ddyrannu nawr i Aelod o'r Blaid Lafur. A oes yna Aelod o'r Blaid Lafur yn eilio? Oes. Sarah Murphy.
Hoffwn eilio enwebiad Dai Rees AS.
Diolch yn fawr. Mae'r enwebiad felly ar gyfer David Rees wedi'i gynnig a'i eilio. A oes rhagor o enwebiadau gan Aelod o'r Blaid Lafur? Na. Does yna ddim enwebiad arall, ac felly mi wnaf i ofyn i David Rees a yw e'n derbyn yr enwebiad. Ydy. Felly, mae'r enwebiad wedi'i dderbyn. Ac a oes gwrthwynebiad i David Rees fel Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio? [Gwrthwynabiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad.
Felly, mi fydd yna bleidlais ar gyfer y gadeiryddiaeth yna, ac fe fydd y bleidlais honno yn cael ei chynnal drwy bleidlais gudd. Bydd y bleidlais yn un gyfrinachol, ac mi fydd hi'n cael ei chynnal yn ystafell friffio 13 yn y Senedd o tua 2 p.m ac yn cau am 4 p.m. y prynhawn yma. Bydd y bleidlais hefyd yn cael ei chynnal drwy gyfundrefn electronig ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n rhithiol heddiw. Mi fyddaf yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am greu cyd-bwyllgorau corfforaethol? OQ59820

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig wedi'u sefydlu ac mae ganddynt ddyletswyddau statudol i ymgymryd â chynllunio rhanbarthol ar gyfer trafnidiaeth a defnydd tir. Mae gan y cyd-bwyllgorau bŵer eang hefyd yng nghyswllt lles economaidd. Gall cynghorau ddewis sut y byddant yn defnyddio'u cyd-bwyllgor corfforedig i weithio gyda'i gilydd i yrru datblygiad economaidd yn seiliedig ar eu dyheadau a'u huchelgeisiau rhanbarthol eu hunain.
Diolch, Weinidog. Mae’n dra hysbys fod llywodraeth leol yng Nghymru wedi’i diogelu'n well nag mewn mannau eraill yn y DU dros nifer o flynyddoedd, a bod cynghorau wedi ymateb yn dda i heriau COVID, cyni, paratoi ar gyfer Brexit a’r argyfwng costau byw. Wrth gwrs, mae creu cyd-bwyllgorau corfforedig yn rhoi cyfle inni gryfhau a grymuso awdurdodau lleol hyd yn oed ymhellach drwy weithio rhanbarthol. Felly, pa gyfrifoldebau a chyllidebau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu datganoli i gyd-bwyllgorau corfforedig?
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a hefyd i Ken Skates am gydnabod bod cynghorau yng Nghymru wedi’u diogelu'n well dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru, o gymharu â chynghorau yn Lloegr. A gallwch weld hynny, rwy’n credu, yn yr ymateb, fel y dywedodd Ken Skates, i’r hyn y gwnaethant ei gyflawni yn ystod y pandemig, ond hefyd nawr yn yr argyfwng costau byw, ac maent yn mynd y tu hwnt i’r galw bob dydd i wasanaethu eu cymunedau.
Ond fel y saif pethau, mae'n wir fod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gymharol newydd, felly mae'n bwysig iawn eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau cychwynnol, yn enwedig o ran datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir, ac yn manteisio ar y rhyngddibyniaethau rhwng y swyddogaethau hyn.
Y tu hwnt i’r cyfrifoldebau hynny, rwy’n sicr yn credu bod lle i awdurdodau lleol ddadlau dros ddatganoli pwerau pellach iddynt gan Lywodraeth Cymru. Credaf, ar hyn o bryd, fod yn rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn gweithio—maent yn dal i fod yn newydd iawn—ond rydym yn amlwg yn agored i’r sgyrsiau hynny. Yn y lle cyntaf, byddwn yn awgrymu bod y sgyrsiau hynny’n agor rhwng yr awdurdodau lleol a’r Gweinidogion portffolio, ond credaf mai fy rôl i yw cefnogi’r sgyrsiau hynny a hwyluso a galluogi unrhyw bwerau pellach i gael eu datganoli. Ond fel y dywedaf, yn y lle cyntaf, mae a wnelo â gwneud i gyd-bwyllgorau corfforedig weithio, a sicrhau eu bod ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.
Wrth siarad yng Nghyfnodau 3 a 4 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), dywedais, o ystyried eu rôl o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, fod y gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru fandadu creu cyd-bwyllgorau corfforedig yn tanseilio’r datganoli mewnol a’r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—cynghrair sy’n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o chwe chyngor y gogledd, y byd busnes a’r byd academaidd.
Fodd bynnag, er iddi gydnabod bod gan y prif gynghorau gyfoeth o brofiad yn cyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol drwy, er enghraifft, y bargeinion dinesig a thwf, dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y bydd rhanbarthau’n trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i’r cyd-bwyllgorau corfforedig ar ôl iddynt gael eu sefydlu. Sut, felly, y byddech yn ymateb i’r pryder a fynegwyd yng ngogledd Cymru fod y cyd-bwyllgorau corfforedig, yn hytrach, yn atgynhyrchu ac yn dadrymuso gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a elwir bellach yn Uchelgais Gogledd Cymru, pan fo cyn-Weinidog yr economi a thrafnidiaeth yma bellach wedi ymuno â nhw a minnau i alw am ddatganoli mewnol i gorff trafnidiaeth yn y gogledd—[Torri ar draws.] Helo? [Chwerthin.]
Mae’n ddrwg gennyf, mae’n rhaid imi stopio chwerthin. Nid wyf yn chwerthin arnoch chi, Mark Isherwood, nac arnoch chithau, Rebecca, ond ar—. Ie. [Chwerthin.] Weinidog, i ymateb.
Felly, yn hytrach na thanseilio cydweithio a gweithio rhanbarthol, credaf fod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn ei hwyluso, ac maent yn arf i awdurdodau lleol ei ddefnyddio. Ond ar y pwynt penodol ynghylch alinio â bargeinion dinesig a thwf, ar hyn o bryd, mae cyd-bwyllgor corfforedig Dwyrain De Cymru yn dechrau ei ymarfer codi a symud i symud eu trefniadau bargenion dinesig a thwf yn ffurfiol i’r cyd-bwyllgor corfforedig erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Ac mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig eraill wedi nodi y byddant yn dod â threfniadau llywodraethu eu bargenion dinesig a thwf ochr yn ochr â chynlluniau strategol eraill ar gyfer y rhanbarth. Mae’r amserlenni ar gyfer hynny’n parhau i fod yn aneglur ar hyn o bryd, ond maent yn drafodaethau rydym yn parhau i’w cael. Ond rwy'n cydnabod y pwynt sylfaenol ynglŷn â phwysigrwydd cydlynu ar draws y strwythurau.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyllido grantiau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ59845
Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda’r Gweinidog, gan gynnwys trafodaethau ar drafnidiaeth. Mae cymorth bysiau eleni eisoes wedi cynnwys dros £4.2 miliwn i Gyngor Abertawe ar ran rhanbarth de-orllewin Cymru. Yn 2023-24, rydym hefyd wedi darparu £5.5 biliwn i awdurdodau lleol ei wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.
Diolch am yr ateb, Weinidog.
Bob dydd, mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i drigolion ym mhob un o'n cymunedau. Ar wahân i’r cymorth ariannol a gânt drwy’r grant cynnal refeniw, mae awdurdodau lleol yn dibynnu’n helaeth ar nifer eang o grantiau penodol sy’n helpu i ariannu ystod eang o brosiectau neu wasanaethau. Mae’r grant cynnal gwasanaethau bysiau, er enghraifft, yn un o’r pecynnau cymorth rheolaidd y mae awdurdodau lleol yn eu derbyn, sy’n eu helpu i sicrhau y darperir llwybrau bysiau nad ydynt yn ddeniadol o safbwynt masnachol. Ychydig wythnosau yn ôl, cefais gopi o lythyr gan arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot at eich cyd-Aelod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn nodi nad oeddent wedi cael dyraniad chwarter 1 a bod y cyngor yn gorfod talu er nad ydynt wedi cael y cyllid angenrheidiol. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi nad yw oedi cyn dyrannu cyllid i’w groesawu ar y gorau, heb sôn am mewn cyfnod anodd i’r diwydiant bysiau a chyda’r holl heriau presennol sy’n wynebu awdurdodau lleol. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa waith sy’n mynd rhagddo ar draws adrannau’r Llywodraeth i symleiddio’r system grantiau a sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen yn atal arian rhag cyrraedd lle mae ei angen fwyaf? Diolch.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, a byddaf yn sicrhau fy mod innau’n cael copi o’r llythyr a ddisgrifiwch ac yn cael cyfle i’w drafod â’m cyd-Aelod. Ond credaf fod y pwynt cyffredinol yn bwysig iawn, ac mae a wnelo â lleihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Dyna un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, ac rydym wedi bod yn gwneud gwaith hollbwysig mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yn archwilio sut y gallwn fynd ati i leihau'r baich gweinyddol hwnnw.
Pan siaradodd ein swyddogion â thrysoryddion ac eraill ym myd llywodraeth leol, roeddent yn glir iawn mai’r prif beth sy’n achosi beichiau gweinyddol yn eu barn nhw yw gweinyddu grantiau. Mae miloedd o grantiau’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, felly rydym wedi gwneud gwaith i weld faint y gallwn ei symud i mewn i'r grant cynnal refeniw. Nawr, ni fydd hynny’n addas ar gyfer pob grant penodol, ond mae pob Gweinidog wrthi’n gweithio drwy'r grantiau y maent yn eu darparu i lywodraeth leol ac yn archwilio i ba raddau y gellir eu symud i mewn i'r grant cynnal refeniw, gan sicrhau, wrth wneud y gwaith hwnnw, eu bod hefyd yn cynnal asesiadau effaith i sicrhau nad ydym, yn anfwriadol, yn creu problemau i'r bobl fwyaf agored i niwed sydd fwyaf o angen y cymorth hwnnw. Felly, rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau a wnaed, ond hoffwn roi sicrwydd i’m cyd-Aelodau fod lleihau'r baich gweinyddol yn waith pwysig, ac rydym yn gwneud cynnydd da iawn ar hynny.
Weinidog, mae’r cyhoeddiad am y gronfa bontio newydd ar gyfer bysiau i’w groesawu, ond fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei nodi, ni fydd yn achub pob llwybr bysiau. Mae llawer o’r llwybrau sydd mewn perygl o gael eu diddymu yn gwasanaethu'r rhannau mwy gwledig o Gymru, ac maent yn achubiaeth hanfodol i’r bobl fwyaf difreintiedig, yn enwedig yr henoed. Mae etholwyr nad oes ganddynt gar at eu defnydd bellach mewn perygl o gael eu hynysu a gorfod wynebu caledi ariannol pellach gan fod yn rhaid iddynt ddibynnu ar dacsis i wneud teithiau hanfodol. Weinidog, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau, lle bydd llwybrau bysiau yn anhyfyw, y bydd arian cyhoeddus ar gael i ariannu ac efallai i gymell dewisiadau amgen yn lle bysiau?
Mae’r gronfa bontio ar gyfer bysiau i fod i ddechrau ar y pumed ar hugain o’r mis hwn wrth inni symud oddi wrth y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, a ddatblygwyd yn ystod y pandemig ac a fydd yn dod i ben ar y pedwerydd ar hugain. Bydd y gronfa newydd, a ddatblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r diwydiant bysiau yn disodli’r cynllun blaenorol, a bydd yn darparu’r cymorth hwnnw ar unwaith i weithredwyr bysiau yng Nghymru. Ond credaf mai’r peth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn fwy hirdymor yw ein dull o fynd i’r afael â’r problemau yn y diwydiant bysiau a achoswyd yn sgil dadreoleiddio’r diwydiant yn ôl yn yr 1980au, a’i gwnaeth yn bwysicach yn y diwydiant bysiau i chwilio am y llwybrau proffidiol yn hytrach na’r llwybrau sydd fwyaf o'u hangen ac sy’n gwasanaethu’r bobl sy’n dibynnu fwyaf ar wasanaethau bysiau. Felly, credaf y bydd y gwaith hwnnw’n wirioneddol bwysig, ond mae gwir angen inni gefnogi’r diwydiant bysiau hefyd fel ein bod yn cyrraedd ble mae angen inni fod yn y dyfodol heb amharu ar y gwasanaethau sydd ar gael i bobl.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Weinidog, gŵyr pob un ohonom fod teuluoedd yn cael eu heffeithio gan gostau byw cynyddol, ond mae llawer o fentrau bach a chanolig hefyd yn gorfod wynebu cost gynyddol gwneud busnes. Fel y gŵyr pob un ohonom, bu’n rhaid i’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch wynebu dwy flynedd o gyfyngiadau o ganlyniad i bandemig COVID. Er bod llawer o’r cyfyngiadau hynny’n angenrheidiol i ddiogelu pobl Cymru, mae’n bwysig nawr ein bod yn helpu i adfer y difrod a wnaed i’r sector, ac mae’n amlwg nad yw Cymru’n gwneud digon i apelio at farchnad ryngwladol, gydag oddeutu 2.5 y cant yn unig o ymwelwyr rhyngwladol yn ymweld â Chymru yn 2019. Gyda hynny mewn golwg, a all y Gweinidog egluro pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith eu treth dwristiaeth ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, oherwydd dylem fod yn sicrhau bod diwydiant twristiaeth Cymru yn cystadlu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn ogystal â gweddill y byd?
Wel, rwyf am ddechrau drwy gydnabod y pwynt ynglŷn â’r effaith a gafodd y pandemig ar fentrau bach a chanolig, ac yn enwedig, mewn mannau, ar y diwydiant twristiaeth, a dyna pam, oherwydd y ffordd y gwnaethom reoli ein cyllideb yn ystod y pandemig, y bu modd inni gefnogi busnesau ledled Cymru gyda phecyn cymorth mwy hael na’r hyn a oedd ar gael mewn mannau eraill yn y DU. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i gydnabod hynny.
Rydym hefyd wedi rhoi pecyn hael o gymorth ardrethi annomestig ar waith ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac yn wir, fel rhan o’r gyllideb ddrafft, rwy’n cadarnhau y byddwn yn darparu pecyn cymorth ardrethi ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf, a fydd yn costio dros £460 miliwn, ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn ychwanegol at ein cynlluniau rhyddhad ardrethi parhaol, sy’n darparu oddeutu £240 miliwn o gymorth bob blwyddyn. Felly, mae’r cymorth a ddarparwn i’r sector busnes yn sylweddol iawn mewn perthynas ag ardrethi annomestig.
Ar yr ardoll ymwelwyr, wrth gwrs, rydym yn dal i weithio drwy’r manylion, gan nad yw rhai o’r pethau’n glir eto—er enghraifft, nid ydym wedi penderfynu eto ar ba bwynt y byddem yn codi’r ardoll ymwelwyr, felly tan y gwnawn hynny, mae rhai pethau na allwn eu cyfrifo o ganlyniad iddi. Ond mae’r ardoll ymwelwyr i fod yn offeryn i awdurdodau lleol benderfynu a yw’n rhywbeth y maent am ei ddefnyddio ai peidio, a’r nod yw y bydd yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy yn yr ardaloedd lleol. Felly, mae'n ymwneud â chefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol a darparu'r amodau sy'n rhoi profiad gwych i dwristiaid pan fyddant yn dod i Gymru, fel eu bod eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.
Diolch, Weinidog. Rydym yn croesawu’r cymorth a roddwyd i fusnes, ond mae’n amlwg fod pryder o hyd ynghylch y dreth dwristiaeth. Fel y gwyddoch, mae’r mwyafrif llethol o fusnesau yn y sector twristiaeth yng Nghymru yn gwrthwynebu cyflwyno treth dwristiaeth. Mae sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Twristiaeth Cymru wedi nodi eu gwrthwynebiad i’r dreth dwristiaeth arfaethedig yn gyhoeddus. Mae’n hanfodol, felly, fod Gweinidogion yn gwrando ar bryderon y sector twristiaeth, gan sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r rhan hanfodol hon o’n heconomi yng Nghymru ac nid yn ei herbyn.
Felly, Weinidog, fy nghwestiwn yw: pa ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud â’r sector ei hun ynghylch effaith treth dwristiaeth ar fusnes? Mae'n rhan sylfaenol o hyn—deall yr effeithiau a sut y bydd gweithredu'r dreth yn effeithio ar fusnesau, a sicrhau y gwrandewir ar eu pryderon.
Rydym yn ystyried pryderon a safbwyntiau’r diwydiant yn ofalus iawn yn wir. Felly, yn amlwg, fel y gwyddoch, mae hwn yn waith a wnawn mewn partneriaeth â Phlaid Cymru fel rhan o'n cytundeb cydweithio, a bu Cefin Campbell a minnau mewn digwyddiad ymgysylltu arbennig o ddefnyddiol. Roedd yn weithdy o fath, un o nifer a gynhaliwyd ledled Cymru, a gwn i’r Prif Weinidog ac Adam Price gael prynhawn defnyddiol yn un o’r digwyddiadau ymgysylltu eraill hefyd. Felly, cafwyd cyfleoedd enfawr a diddiwedd i'r sector roi ei farn ar hyn, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ymgysylltu wrth inni fwrw ymlaen â'n cynigion.
Dylwn ddweud bod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyfarfod ag UKHospitality ar 29 Mehefin, ac unwaith eto, roedd yn gyfle i drafod yr ardoll ymwelwyr, a gwn iddi roi sicrwydd yn y cyfarfod hwnnw y bydd yr ymgysylltu’n parhau, gyda’r nod o wella’r cynnig twristiaeth yn lleol, a lliniaru effaith twristiaeth ar gymunedau pan ddaw’n anghynaliadwy.
Felly, credaf ein bod wedi cael llawer o ymgysylltiad da iawn, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i'r sector am yr ymgysylltu y maent wedi'i wneud, hyd yn oed lle nad ydynt wedi rhoi eu cefnogaeth.
Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n falch fod ymgysylltiad yn digwydd. Y peth pwysig yw: a oes modd gwrando yn ogystal ag ymgysylltu, a sicrhau bod y materion allweddol hynny'n cael eu hystyried? Yr wythnos hon, daeth i'r amlwg fod diweithdra wedi codi eto i'w lefel uchaf mewn hanner degawd; cynnydd o 1.2 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yw'r cynnydd mwyaf sydyn yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau'r DU. Dyma'r trydydd mis yn olynol i gyfraddau diweithdra yng Nghymru gynyddu. Yn anffodus, er mai'r gyfradd ddiweithdra yw'r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig, mae cyflogau'n parhau ar y lefelau isaf, a £2,500 yn is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hyn ar adeg lle mae teuluoedd ledled y wlad yn parhau i frwydro gyda chostau byw cynyddol.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi addo peidio â chodi cyfradd y dreth incwm ar bobl Cymru am y tro, ond rwy'n credu bod pobl Cymru'n haeddu addewid mwy hirdymor. Felly, Weinidog, a allwch chi roi addewid cadarn i bobl Cymru heddiw na fydd eich Llywodraeth yn cynyddu cyfradd treth incwm Cymru dros weddill tymor y Senedd?
Wel, fe fyddwch yn gyfarwydd â'r ffaith ein bod, bob blwyddyn, yn edrych o'r newydd ar gyfraddau treth incwm Cymru. Yn bendant, fe wnaethom benderfynu nad codi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod flwyddyn ariannol hon oedd y peth iawn i'w wneud, gan gofio effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd, a'r ffaith y byddai'n rhaid i chi godi'r gyfradd sylfaenol er mwyn codi unrhyw swm sylweddol o arian drwy gyfraddau treth incwm Cymru, a byddai hynny'n effeithio ar rai o'r gweithwyr tlotaf yma yng Nghymru ar adeg pan fyddant yn lleiaf abl i'w fforddio—gan gydnabod, mewn gwirionedd, fod llawer o'r anawsterau sy'n wynebu'r bobl dlotaf yn deillio'n uniongyrchol o weithredoedd Llywodraethau diweddar y DU, fel y gyllideb fach, sy'n amlwg yn cael effaith enfawr ar bobl dlotaf Cymru yn ogystal â'r rheini y mae eu morgeisi'n cynyddu. Felly, nid wyf yn credu mai nawr oedd yr amser. Rydym yn edrych o'r newydd ar hyn bob blwyddyn. Byddwn yn cael dadleuon yn y Senedd, byddwn yn pleidleisio yn y Senedd, ac rwy'n siŵr y bydd y dadleuon ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yr un mor fywiog â'r rhai a gawsom ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Yn debyg i'r cwestiwn olaf:
'Gall trethiant datganoledig fod yn sbardun pwerus i ddylanwadu ar newid ymddygiad, yn ogystal â chynhyrchu refeniw i gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion Cymru, a'n galluogi i ddatblygu trethi mwy graddoledig.'
Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau datganiad cenhadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chynllun gwaith polisi trethi ei hun ar gyfer 2021 i 2026. Mae Plaid Cymru yn cytuno'n llwyr ag ysbryd y geiriau hyn. Yn anffodus, mae'r fframwaith presennol ar gyfer trethi datganoledig yng Nghymru yn llawer rhy gyfyngedig ac yn ei hanfod yn tanseilio'r datganiad cenhadaeth. Rydym yn credu bod achos credadwy, blaengar dros ddatganoli pwerau treth incwm ymhellach i Gymru; yn syml, nid yw'r bandiau treth y mae Llywodraeth y DU yn eu gosod ar hyn o bryd yn addas ar gyfer natur y sylfaen drethu yma yng Nghymru. Mae tua 85 y cant o drethdalwyr Cymru yn y band cyfradd sylfaenol, sy'n golygu, o dan strwythur presennol y band, y byddai unrhyw ymgais i godi refeniw ychwanegol sylweddol drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn anochel yn golygu codi trethi ar gyfer yr enillwyr incwm is. Mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn un o'r prif resymau pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi amrywio cyfraddau treth incwm Cymru eto, o gymharu â'r cyfraddau a osodwyd gan Lywodraeth y DU, er bod ganddi bŵer i wneud hynny ers 2019.
Yn yr Alban, mae pethau'n wahanol ac maent wedi gallu codi £456 miliwn mewn cyfraddau treth incwm ychwanegol yn ystod 2020-21. Mae natur raddoledig y bandiau yn yr Alban hefyd wedi golygu bod pobl sy'n ennill llai na £27,850, sef 52 y cant o drethdalwyr yr Alban, yn talu llai mewn treth incwm ar hyn o bryd. A allai'r Gweinidog amlinellu felly a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu comisiynu unrhyw ymchwil allanol ar oblygiadau datganoli pwerau treth incwm ymhellach i Gymru?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac mae'n rhywbeth rydym wedi gallu ei archwilio mewn rhai trafodaethau a gawsom gyda Llywodraeth yr Alban, ac roedd yn gwestiwn a gododd yn ein cynhadledd dreth hefyd. Mae'n rhywbeth y buom yn ei drafod wrth basio ein cyfraddau treth incwm Cymreig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Yn bendant, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem edrych arno, y dylem ei archwilio, ond nid yw hynny'n golygu nad oes risgiau mawr ynghlwm wrtho hefyd. Pan edrychwch ar y sefyllfa yn yr Alban, mae'r effaith wedi golygu eu bod wedi cael addasiad negyddol i'w cyllideb o ganlyniad i gyfraddau treth incwm yr Alban. A hefyd rwy'n credu eu bod wedi gweld newidiadau ymddygiadol eithaf sylweddol, ac rydym yn ceisio archwilio'r rheini yn ogystal â gweld i ba raddau y byddent yn berthnasol yma yng Nghymru. Felly, o ganlyniad, rwy'n credu bod gormod o elfennau anhysbys. Mae llawer iawn o risg ynghlwm wrth hyn hefyd, a dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud y math o waith sydd wedi'i ddisgrifio, a deall yn well beth yw'r risgiau hynny a sut y gallent fod yn berthnasol yma yng Nghymru, a dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban.
A hoffwn dynnu sylw cyd-Aelodau at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n dangos bod ffigurau alldro Cyllid a Thollau EF yn dangos bod y refeniw o gyfraddau treth incwm Cymru yn 2021-22 wedi cynyddu 11.4 y cant ers 2020-21. Felly, disgwyliwn y bydd effaith net cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 yn gadarnhaol, sy'n newyddion da i ni. Rwy'n tynnu sylw cyd-Aelodau at y datganiad ysgrifenedig hwnnw, o ystyried y lefel uchel o ddiddordeb sydd yna yng nghyfraddau treth incwm Cymru.
Diolch. Rwy'n credu mai'r pwynt yw bod angen inni archwilio'r pethau hyn i fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau y gwnaethoch chi eu codi yno. Ac yn dilyn eich ateb, un mater nad yw'n cael llawer o sylw yn y Siambr hon, ond fe wnaethoch chi ei grybwyll nawr, yw effaith llusgiad cyllidol. Roedd y datganiad diweddaraf o ystadegau alldro treth incwm Cymru, fel y sonioch chi, ar gyfer 2021-22, yn gwthio cyfran o drethdalwyr Cymru i fandiau uwch ac ychwanegol o dreth incwm. Gyda Llywodraeth y DU yn rhewi trothwyon treth incwm tan 2027-28, mae'n debygol y bydd hon yn duedd weladwy ar gyfer y dyfodol y gellir ei ragweld. Byddai gennyf ddiddordeb mewn dysgu, felly, faint o refeniw ychwanegol a godwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r llusgiad cyllidol ar gyfer 2021-22 a 2022-23, a sut mae hyn wedi'i gynnwys yng nghynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd ariannol nesaf. Ac o ystyried bod cyflogau'n parhau i gael trafferth cadw i fyny â chwyddiant a ysgogwyd gan y Torïaid, a yw'r Gweinidog hefyd yn cytuno bod hon yn enghraifft arall lle byddai'r gallu i osod bandiau treth incwm sy'n benodol i Gymru yn ffordd lawer tecach o reoli effaith llusgiad cyllidol?
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda'r cyfrifiad penodol y mae wedi gofyn amdano y prynhawn yma. Ond rwy'n credu bod hwn yn un o'r pwyntiau a fyddai'n rhan o'r ystyriaeth o fanteision neu risgiau cael strwythur band gwahanol yma yng Nghymru, a bydd yn rhan o'r naratif, mae'n debyg, wrth wneud unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ar hynny. Ond wrth edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, carwn bwysleisio eto fod hynny'n cynnig rhybudd, sy'n golygu, rwy'n credu, y byddai'n rhaid inni fynd i mewn i hyn â'n llygaid yn llydan ar agor, a bod angen inni archwilio'r sefyllfa o bob ongl. Ac nid wyf yn credu ein bod mewn sefyllfa, ar hyn o bryd, i wneud penderfyniad y naill ffordd neu'r llall am hynny, o ran a yw'n iawn i Gymru ar gyfer y dyfodol. Ond rydym yn cadw meddwl agored.
3. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i'r angen am gymorth ychwanegol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r argyfwng bysiau cyhoeddus wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd? OQ59824
Bydd y gronfa bontio gwerth £46 miliwn ar gyfer bysiau a gyhoeddwyd ym mis Mai yn olynu'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau sydd gennym ar hyn o bryd, gan symud o'r cyllid brys cyfredol tuag at rwydweithiau bysiau sy'n gweddu'n well i'r patrymau teithio newydd rydym wedi'u gweld ers diwedd y pandemig a diogelu'r rhan fwyaf o lwybrau.
Diolch. Mae llawer o sôn am fysiau heddiw; mae'n dangos pa mor bwysig yw hyn. Yn y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar fysiau, dywedodd gweithredwyr nad oes gan Trafnidiaeth Cymru arbenigedd i ddarparu gwasanaethau bysiau ar lefel ranbarthol. Mae gan awdurdodau lleol wybodaeth rheng flaen am eu bod yn gweithio gyda gweithredwyr yn ddyddiol ac maent wedi cronni blynyddoedd o brofiad. Maent yn mapio llwybrau sy'n addas ar gyfer cymunedau lleol yn rheolaidd hefyd. Felly, Weinidog, pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynglŷn â chynlluniau i symud y ddarpariaeth fysiau i gyd-bwyllgorau corfforedig? Ac a fyddech chi'n ystyried sicrhau bod adnoddau ar gael i awdurdodau lleol fel y gallant sicrhau bod arbenigedd trafnidiaeth yn cael ei gadw a'i basio ymlaen drwy brentisiaid?
Wel, byddwn yn cytuno'n llwyr fod deallusrwydd rhanbarthol a lleol yn gwbl hanfodol i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gweithio, a dyna pam rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n arwain ar hyn, wedi cael trafodaethau helaeth gydag awdurdodau lleol am hyn. Ac fel y dywedais, ef sy'n arwain ar y gwaith hwn, felly efallai y byddai mewn sefyllfa well i roi diweddariad llawn i chi. Serch hynny, rwy'n gwybod, ar ôl cyfarfod diweddar y grŵp trawsbleidiol, eich bod hefyd wedi ysgrifennu ato gyda chrynodeb o'r trafodaethau a gawsoch yn y cyfarfod trawsbleidiol hwnnw, a gwn y bydd yn gallu mynd i'r afael â'r pwynt penodol hwn ynghylch ymgysylltu yn ei ymateb hefyd.
Yn rhy aml, rydym yn clywed y Dirprwy Weinidog yn dweud nad oes digon o ddefnydd o fysiau. Nawr, diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU, £2 yn unig y mae teithwyr yn Lloegr yn ei dalu am docyn bws i unrhyw le. Mae ymchwil gan Transport Focus wedi datgelu bod 11 y cant o ymatebwyr yn defnyddio'r bws yn amlach, diolch i'r cap hwn, gydag 80 y cant yn cytuno bod y tocynnau £2 wedi eu helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw. Mewn gwirionedd, mae'r polisi bellach wedi arwain at dorri rhai prisiau gymaint ag 87 y cant. Am fodel gwych yw hwnnw. Felly, tra bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn ariannu'r cynllun ar 5,000 o lwybrau, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cefnogi unrhyw lwybrau. Felly, a wnewch chi adolygu cyllideb 2023-24 gyda'r nod o sicrhau bod arian ar gael i gefnogi'r un cap ar brisiau tocynnau yng Nghymru? Diolch.
Wel, byddwn yn dweud bod y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU wedi arwain, rwy'n credu, at oddeutu 8 y cant o lwybrau'n cael eu torri dros y flwyddyn ddiwethaf, ond yng Nghymru rwy'n credu bod y ffigur oddeutu 2 y cant. Felly, rwy'n credu y gallwch edrych ar wahanol ddulliau, ond yr hyn y ceisiwn ei wneud yng Nghymru yw diogelu cymaint o'r llwybrau hynny ag y gallwn. Wrth gwrs, hoffem fynd gam ymhellach i helpu pobl i gael mynediad at fysiau, ond mae'n rhaid inni wneud yr hyn a allwn gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Mae cwestiwn 4 [OQ59831] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 5—Mark Isherwood.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif am gyflawni eu dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Cymru? OQ59816
Mae Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn asesu perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion a nodir, lle bo hynny'n briodol.
Diolch. Wel, ar ôl i mi holi'r Prif Weinidog bythefnos yn ôl yma ynglŷn â'r dyletswyddau statudol a osodwyd ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, daeth y Prif Weinidog i'r casgliad bod
'awdurdodau lleol [yn p]arhau i gael eu dwyn i gyfrif am gyflawni cyfrifoldebau nad ydyn nhw'n rai i Lywodraeth Cymru ond iddyn nhw.'
Fodd bynnag, rwy'n parhau i glywed bron yn ddyddiol gan bobl niwroamrywiol neu bobl ag aelodau niwroamrywiol o'r teulu yn sir y Fflint y mae eu hawliau o dan y Ddeddf hon yn cael eu diystyru. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae etholwyr yn cael eu cyhuddo'n unochrog o dorri cytundeb taliad uniongyrchol, er bod yr etholwyr yn datgan na fu unrhyw adolygiad o'r cynllun gofal a chymorth, cytundeb taliad uniongyrchol na chynllun cymorth ar waith, ac mae'r ddeddfwriaeth yn datgan bod yn rhaid i awdurdod lleol fod yn barod i fod yn agored i syniadau newydd a bod mor hyblyg â phosibl. Wrth fynychu cyfarfod adolygu etholwr awtistig yn ddiweddar, gwelais hefyd chwalfa awtistig yn cael ei ysgogi gan fethiant swyddogion i addasu i anghenion fy etholwyr. Er nad yw chwalfa awtistig yn ymddygiad gwael, mae'r cyngor wedi beio'r etholwr ac wedi pennu sut y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y modd y bydd awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn cael ei fontitro a'i werthuso'n effeithiol o ystyried nad yw'r ddeddfwriaeth Gymreig yn golygu dim heb hynny?
Wel, rwy'n credu y byddai'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu gwneud mwy o gyfiawnder â'r cwestiwn o ystyried bod hyn yn rhan o'i phortffolio hi, ond hoffwn geisio dangos y ffordd y mae Llywodraeth Cymru drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wedi rhoi trefn berfformio newydd ar waith i sbarduno gwelliant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Y nod yw sicrhau bod gennym ddiwylliant lle mae cynghorau yng Nghymru yn ymdrechu'n barhaus i wneud yn well a gwella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Yn amlwg, mae'n ofynnol bellach i awdurdodau lleol ddal ati i adolygu'u perfformiad o dan y Ddeddf, gan gynnwys cyhoeddi hunanasesiad blynyddol o ba mor effeithiol y maent yn arfer eu swyddogaethau, ac mae'r adroddiadau hunanasesu cyntaf hynny bellach ar gael, ac mae hefyd yn ofynnol i gynghorau gynnal asesiad panel neu asesiad gan gymheiriaid unwaith ym mhob cylch etholiadol.
Felly, rwy'n derbyn nad yw'n ateb y cwestiwn penodol ynghylch gwasanaethau cymdeithasol, ond rwy'n credu y byddai Gweinidog gwahanol mewn sefyllfa well i wneud hynny, ond hoffwn bwysleisio, wrth gwrs, y dylid ymgysylltu â phobl ag awtistiaeth a phobl niwroamrywiol yn fwy cyffredinol mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a deall yr anghenion ychwanegol a allai fod ganddynt neu'r addasiadau rhesymol y gallent fod eu hangen. Felly, byddaf yn archwilio'r mater hwn ymhellach, ond mae arnaf ofn na allaf wneud cyfiawnder â'r cwestiwn oherwydd ei fod yn ymwneud â phortffolio Gweinidog gwahanol.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynghylch yr heriau staffio a recriwtio y maent yn eu hwynebu? OQ59839
Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac yn trafod nifer o faterion, gan gynnwys staffio a recriwtio. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'r sgiliau a'r arbenigedd sydd ar gael ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Tra bo'r argyfwng costau byw yn gwaethygu a thra bo cyrff sector cyhoeddus fel llywodraeth leol yn ei chael hi'n anodd cynnal y gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru adroddiad yn ddiweddar yn pwysleisio mai heriau'r gweithlu oedd y prif risg ym maes gofal cymdeithasol, a gwn fod adrannau'r cyngor yn gyffredinol, fel addysg, cynllunio a thrafnidiaeth, yn cael trafferth recriwtio a chadw gweithwyr yn wyneb cystadleuaeth gan y sector preifat.
Mae Canghellor y DU, Jeremy Hunt, yn bendant mai'r sector cyhoeddus fydd yn ysgwyddo'r baich o glirio llanast economaidd y Llywodraeth Dorïaidd. Mae gwneud hyn ar ôl dros ddegawd o gyni yn golygu bod llawer o'r sector cyhoeddus dan bwysau mawr. Gwyddom fod cynghorau yng Nghymru wedi cael eu diogelu'n well oherwydd Llywodraeth Lafur Cymru yma, ac ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru, ond ar ôl 13 mlynedd o gamreoli Torïaidd trychinebus, beth arall y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Lafur Cymru i ddiogelu gallu'r sector cyhoeddus, fel ein hawdurdodau lleol, i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu mai'r peth cyntaf a phwysicaf a wnawn yw sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth orau bosibl i lywodraeth leol. Felly, yn y gyllideb gyfredol hon, derbyniodd awdurdodau lleol godiad o 7.9 y cant, a oedd, ar y pryd, yn cael ei gydnabod fel codiad eithriadol o dda, ond nawr, yn amlwg, rydym yn cydnabod bod effeithiau chwyddiant wedi erydu budd y codiad hwnnw. Felly, rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn cydweithio ar faterion fel recriwtio a chadw staff allweddol.
Fe wnaethom gynnal ymgyrch recriwtio ddwys dros fisoedd yr haf y llynedd, i ddenu pobl i faes gofal cymdeithasol, ac fe wnaethom ariannu hyfforddiant rhagarweiniol ar-lein am ddim i dros 500 o bobl a oedd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. A hefyd, rydym wedi hyrwyddo ein prentisiaethau gofal cymdeithasol ac mae gennym ein cyfrifon dysgu personol wrth gwrs, sy'n bwysig iawn i helpu pobl i newid gyrfa neu uwchsgilio o fewn y gweithlu y maent ynddo ar hyn o bryd.
Yn amlwg, fe wnaethom fuddsoddi yn y cyflog byw gwirioneddol, ond rydym bellach yn comisiynu gwerthusiad annibynnol i archwilio effaith a llwyddiant y modd y cafodd ei weithredu, a bydd hwnnw'n ein helpu i ddysgu a gwneud gwelliannau ar gyfer y dyfodol hefyd. Ond wrth gwrs, mae angen inni barhau i weithio mewn partneriaeth ac archwilio beth arall y gallwn ei wneud o fewn ethos gwasanaeth cyhoeddus Cymru'n un, o ran dod o hyd i ffyrdd posibl o gefnogi pobl i symud ar draws y sector cyhoeddus, er enghraifft rhwng llywodraeth leol ac iechyd, mewn ffordd fwy di-dor.
Weinidog, fel sydd newydd gael ei gydnabod gan Jayne Bryant, mae'r cynghorau yng Nghymru yn wynebu argyfwng enfawr yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae 100 y cant o arweinwyr y GIG yn cytuno bod yna argyfwng yn eu hardal leol; mae 94 y cant yn credu bod yr argyfwng yn waeth na'r hyn ydoedd 12 mis yn ôl; mae 88 y cant yn disgwyl iddo ddirywio hyd yn oed yn fwy.
Weinidog, gan nad oes digon o staff i lenwi'r rolau, mae asiantaethau yn codi premiwm ar gyfer staff gofal cymdeithasol. Mae enghraifft berffaith o hyn yng Nghyngor Sir Fynwy. Maent wedi cyhoeddi eu bod wedi gorfod defnyddio £3.5 miliwn o'u cronfeydd wrth gefn ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, i gefnogi gwariant ychwanegol ar wasanaethau fel staffio gofal cymdeithasol. Mae'r straen y mae hyn yn ei roi ar awdurdodau lleol yn aruthrol ac yn rhywbeth nad yw'n gynaliadwy yn hirdymor, fel rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno. Rydym yn croesawu'r camau recriwtio, fel rydych newydd amlinellu eich bod wedi'i wneud o'r blaen, ond pa gamau eraill rydych chi'n eu cymryd, gyda'r Gweinidog iechyd, i sicrhau nad yw argyfwng staffio gofal cymdeithasol yn gwaethygu i awdurdodau lleol, o ystyried y newid yn y sefyllfa economaidd, ac yn amlwg, yr angen brys? Diolch.
Wel, rwy'n credu bod cyfeiriad yr Aelod at ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn bwysig, oherwydd rwy'n aml yn cael fy meirniadu ar lawr y Senedd gan gyd-Aelodau i chi yn y Blaid Geidwadol am lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, ac am beidio ag ymyrryd ac atal rhai o'r lefelau hynny. Ond mae'n dangos un enghraifft o ble mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r cyllid sydd ganddynt mewn cronfeydd wrth gefn i leddfu rhywfaint ar y pwysau eithafol iawn y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod, ar ôl siarad gydag awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf am y pwysau penodol arnynt hwy, yn is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru, mai gofal cymdeithasol i oedolion a gofal cymdeithasol i blant yw dau o'r pethau sy'n creu'r pwysau mwyaf a wynebant ar hyn o bryd.
Rydym wedi darparu cyllid rheolaidd i'r sector ar ffurf grant gweithlu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, ac rydym wedi gwneud yn siŵr fod y meini prawf ar gyfer y grant hwnnw'n cael eu gosod yn fras iawn i geisio rhoi'r hyblygrwydd mwyaf posibl i awdurdodau lleol ar gyfer ei ddefnyddio. Ond gwn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn trafod gwasanaethau cymdeithasol yn barhaus gydag awdurdodau lleol, a beth arall y gallem fod yn ei wneud i gefnogi'r staff sydd eisoes yn y sector, ond hefyd i recriwtio a chadw mwy o staff.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynghorau yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu hariannu'n iawn? OQ59846
Rwy'n cefnogi cyllid priodol i awdurdodau lleol ledled Cymru drwy flaenoriaethu cyllid i lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ym mhenderfyniadau cyllidebol y Llywodraeth, ac yn parhau i ddadlau dros ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae arweinydd Llafur ein cyngor lleol yn Abertawe, Rob Stewart, pan nad yw'n rhy brysur yn enwi ystafelloedd mewn adeiladau cyhoeddus ar ôl ei ffrindiau, yn dweud wrthym i gyd yn rheolaidd am beryglon cyni. Mewn gwirionedd, ym mis Hydref, dywedodd fod Cyngor Abertawe yn wynebu storm ariannol. Ond er iddo ddweud hynny, fe'i dywedodd mewn cyd-destun lle mae £130 miliwn yn fwy wedi'i gronni dros y pedair blynedd diwethaf mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. Yn 2018, roedd £95 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio yng Nghyngor Abertawe. Ar ddiwedd 2022, roedd £228 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. A thrwy'r adeg, mae cyngor Llafur Abertawe wedi bod yn cynyddu biliau treth gyngor pobl gyffredin sy'n byw yn Abertawe. Onid yw hynny'n anfoesol, Weinidog?
Yn amlwg, mater i'r awdurdod lleol yw gosod y dreth gyngor ar draws Cymru, pa bynnag awdurdod lleol ydyw. Ond dywedaf eto, os ydym am edrych ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan awdurdod lleol, dylem ddeall sut y bydd y cronfeydd wrth gefn hynny'n cael eu defnyddio. Nawr, rydych wedi gweld, fel finnau, ar draws Abertawe, y trawsnewidiad llwyr sydd wedi digwydd yn y ddinas, diolch i weledigaeth arweinydd Cyngor Abertawe. Ac rwy'n credu y bydd llawer o'r arian hwnnw o fewn cronfeydd wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r ddinas a'r sir i ddatblygu'r ardal ymhellach, a hefyd i gefnogi'r bobl sy'n byw yn yr ardal drwy'r argyfwng costau byw. Felly, os edrychwch chi ledled Cymru, rwy'n credu y gwelwch fod yn rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio llawer o arian o'u cronfeydd wrth gefn i'w cefnogi, o ystyried effaith chwyddiant y credaf y bydd llawer ohonom yn deall ei fod yn deillio o benderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau olynol y DU.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent? OQ59849
Yn ogystal â grantiau penodol, bydd y cyngor yn cael £139.73 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2023-24—cynnydd o 6.5 y cant. Er y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud penderfyniadau anodd o hyd yn wyneb y cyfraddau chwyddiant presennol, mae hwn yn setliad gwell na'r hyn oedd yr awdurdodau wedi'i ddisgwyl.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A yw'n credu ei bod yn iawn fod gan ardal sydd â'r gyfran uchaf o blant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru, gyda thraean ohonynt mewn tlodi cymharol a thros un rhan o bump ohonynt mewn tlodi absoliwt, y gostyngiad cymharol mwyaf yn yr asesiad o wariant safonol dros y 15 mlynedd diwethaf, y gostyngiad mwyaf yn y boblogaeth, y bandio treth gyngor gwannaf ac sydd ar waelod mynegai cymharol y DU, a bod y lle'n cael cynnydd o 6.5 y cant, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o 7.9 y cant? Nawr, fe ddywedodd y Gweinidog yn ei hateb cynharach ei bod yn credu ei fod yn eithaf hael. Mae pobl Blaenau Gwent angen ac yn haeddu cefnogaeth gan y lle hwn sy'n cyfateb i'r angen. Mae angen i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghenion rhai o bobl dlotaf y wlad, fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu pobl Blaenau Gwent.
Yn hollol, a chefais ymweliad da iawn â Blaenau Gwent yn ddiweddar pan gyflwynodd arweinydd y cyngor a phrif weithredwr y cyngor ddadl debyg iawn i'r hyn a gyflwynwyd gennych chi y prynhawn yma, mewn perthynas â phwysigrwydd y mesurau amddifadedd o fewn y fformiwla yn arbennig. Rwy'n gwybod bod yna heriau penodol ym Mlaenau Gwent o ran fod ganddynt boblogaeth gymharol hŷn, llai o bobl o oedran gweithio, ac yn y blaen. Gwn fod yr is-grŵp cyllid a'r is-grŵp dosbarthu oddi tano yn parhau i edrych ar sut rydym yn datblygu a mireinio'r fformiwla, ond gyda ffocws penodol ar y mesurau sy'n ymwneud ag amddifadedd, sef y mesurau penodol y credaf y byddant o ddiddordeb ym Mlaenau Gwent, wrth gwrs.
Weinidog, gwyddom fod amseroedd yn anodd mewn llawer o awdurdodau lleol ledled y wlad ar hyn o bryd. Roedd cyngor Blaenau Gwent wedi bod yn llunio rhestr hir o fesurau torri costau yn gynharach eleni, gan gynnwys cau pob ardal chwarae i blant. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Weinidog, y byddai hyn yn gamgymeriad, a dylem fod yn hyrwyddo chwarae, chwaraeon a ffyrdd iachach o fyw. Diolch byth, mae Llywodraeth y DU wrth law i hybu cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad, gyda Blaenau Gwent yn elwa o ddau o'i chynlluniau mwyaf. Mae cyrtiau tenis yn yr ardal wedi cael eu huwchraddio diolch i fuddsoddiad o £30 miliwn gan Lywodraeth y DU a'r Gymdeithas Tenis Lawnt, a bydd £23,000 yn cael ei wario ar wella maes hamdden a chwaraeon Tredegar. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r buddsoddiad gwych hwn gan Lywodraeth y DU i wella chwaraeon ar lawr gwlad ym Mlaenau Gwent?
Yn y pen draw, mae'n rhaid i chi ddweud, 'Wel, nid yw nac yma nac acw', wyddoch chi? Nid yw hyn ond yn wasgariad bach iawn o arian ar draws Cymru o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth y DU. Gadewch inni gofio bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £900 miliwn yn llai ar hyn o bryd na'r hyn ydoedd pan wnaethom gyflwyno ein cynlluniau. Mae gennym ddadl gan y Pwyllgor Cyllid y prynhawn yma, a byddaf yn egluro i gyd-Aelodau pa mor anodd yw'r penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud yn y dyfodol, a sut y bydd yn rhaid inni ganolbwyntio ar wneud llai, yn y bôn, i gau'r bwlch yn ein cyllideb. Felly, pe bai Llywodraeth y DU o ddifrif eisiau gwneud gwahaniaeth ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill ledled Cymru, byddai'n sicr yn ceisio cynyddu ein cyllideb, o leiaf yn unol â chwyddiant, neu o leiaf yn rhoi'r hyblygrwydd inni ddefnyddio'r cyllid sydd gennym mewn modd mwy priodol.
Dyw Andrew R.T. Davies ddim yn y Siambr i ofyn ei gwestiwn 9 [OQ59842], ac felly, cwestiwn 10—Jack Sargeant.
10. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ59828
Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi cael blaenoriaeth gyson drwy ein proses gyllidebol. Mae hyn yn cynnwys ein cynllun peilot incwm sylfaenol blaengar gwerth £20 miliwn ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru, sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 filiwn, a'r cynlluniau gwerth £9.5 miliwn i blant sy'n derbyn gofal, sy'n cael eu hariannu drwy fuddsoddi i arbed.
Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddom i gyd, mae pobl sy'n gadael gofal yn grŵp sydd dan anfantais ddifrifol. Byddwn yn trafod yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau a phwyllgor Jayne Bryant yn ddiweddarach y prynhawn yma, a byddwn yn trafod y gwahaniaethu a'r rhagdybiaethau y maent yn eu hwynebu nad oes rhaid i'r gweddill ohonom ymdopi â nhw. Ond maent hefyd yn wynebu ansicrwydd ariannol wrth ddechrau ceisio adeiladu gyrfa, dod o hyd i'w cartref cyntaf neu ymgymryd â rhyw fath o hyfforddiant i ddatblygu eu bywydau.
Mae beirniaid y cynllun peilot incwm sylfaenol blaengar wedi canolbwyntio ar gost y treial, ond hoffwn symud y sgwrs a siarad mwy am y buddion, gan gynnwys sut y gallai'r ymyrraeth hon alluogi'r derbynwyr i gyflawni mwy yn eu bywydau. Gwyddom fod tlodi yn arwain at bob math o bethau gwael, a gwyddom ei fod yn gostus i'r unigolyn ac yn gostus i'r wladwriaeth hefyd. Pa asesiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnal wrth geisio gwerthuso'r cynllun peilot incwm sylfaenol blaengar?
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, ac rwy'n falch iawn fod y data a gyhoeddwyd gennym o ran monitro, sy'n cwmpasu chwe mis cyntaf y cynllun peilot, yn dangos bod 92 y cant o'r bobl ifanc a oedd yn gymwys i gael mynediad at y cynllun peilot wedi cofrestru. Felly, gobeithio y gallwn gynyddu'r ffigur hwnnw, ond rwy'n credu bod hwnnw'n ddechrau da iawn.
Mae'r cynllun peilot incwm sylfaenol yn cael ei werthuso'n ofalus gan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth gwrs, ein hysgogiad polisi yw cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i bontio'n gadarnhaol o ofal awdurdodau lleol, gan ddefnyddio incwm sylfaenol fel mesur i gyflawni hyn. Mae'n anodd cyfrif sawl gwaith y mae cyd-Aelodau o'r holl feinciau wedi sôn am bwysigrwydd atal yn y Siambr hon—wel, mae hwn yn fesur ataliol perffaith yn yr ystyr ei fod yn buddsoddi cyn i broblemau ddechrau codi o ran y canlyniadau anos y gwyddom eu bod yn bodoli ar hyn o bryd i rai sy'n gadael gofal. Felly, rwy'n credu bod gweithredu'n gynnar, cefnogi'r bobl ifanc hynny i ddilyn y trywydd gorau posibl a rhoi gwybod iddynt fod ganddynt Lywodraeth sy'n malio amdanynt yn bwysig iawn.
Cwestiwn 11 yn olaf, Gareth Davies.
11. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cyllid grant cynnal refeniw yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? OQ59818
Rwy'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau sy'n eu hwynebu ac yn parhau i sicrhau bod llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn flaenoriaeth yn ein hystyriaethau cyllidebol. Rwy'n parhau i ddadlau dros ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Y rheswm pam rwyf eisiau codi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma yw oherwydd bod cynghorau, ac yn enwedig fy nghyngor i, Cyngor Sir Ddinbych, yn dibynnu'n helaeth ar gyllid y grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru gan ei fod yn ffurfio cyfran fawr o'r arian sy'n cael ei godi a'i wario gan y cyngor. Tuag at ddiwedd y mis, yn aml iawn mae cynghorau, gan gynnwys fy un i, yn meddwl tybed pa gyfradd y byddant yn ei chael bob 12 mis. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd sir Ddinbych a chynghorau ar draws gogledd Cymru ac ar draws y wlad yn cael cyllid grant cynnal refeniw cynaliadwy, yn hytrach na gorfod dod yn ôl at Lywodraeth Cymru bob 12 mis, â'u cap yn eu dwylo?
Y gorau y gallaf ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny yw ymrwymo bob amser i roi sicrwydd pan fydd gennym sicrwydd. Ers nifer o flynyddoedd bellach, dim ond cyllidebau un flwyddyn a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU, ac o dan yr amgylchiadau hynny, dim ond blwyddyn o sicrwydd y llwyddais i'w roi i lywodraeth leol. Ond yn ffodus erbyn hyn, rydym yng nghanol cyfnod adolygu gwariant tair blynedd; rydym ym mlwyddyn 2 ar hyn o bryd. Ar ddechrau'r cyfnod adolygu gwariant tair blynedd hwn, rhoddais ffigurau pendant i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a ffigurau dangosol hefyd ar gyfer blynyddoedd 2 a 3. Felly, rydym ym mlwyddyn 2 nawr, mae awdurdodau lleol yn gwybod eu ffigurau, ac mae ganddynt ffigurau y gallant gynllunio arnynt ym mlwyddyn 3 hefyd. Pryd bynnag y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd inni ar ffurf cyfnod hirach ar gyfer adolygiad o wariant, byddwn bob amser yn ceisio trosglwyddo hynny i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am adolygiad o wariant sy'n cwmpasu sawl blwyddyn yn y dyfodol, oherwydd rwy'n cytuno ei fod yn caniatáu i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill gynllunio'n hyderus.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Ken Skates.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesedd bwyd? OQ59821

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr i gefnogi arloesedd mewn cwmnïau bwyd a diod ledled Cymru. Rydym yn ariannu Prosiect Helix, sydd wedi ennill gwobrau, a ddarperir gan rwydwaith o dair canolfan fwyd ledled Cymru, yn ogystal â chefnogi mynediad at y cynllun arloesedd SMART newydd hyblyg a lansiwyd yn ddiweddar.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gennym arloeswyr gwych yn y diwydiant bwyd yma yng Nghymru, gan gynnwys yn yr ardal hon, gyda rhai fel Village Bakery ac eraill yn sbarduno datblygiadau newydd mewn cynnyrch a phecynnu. Gyda'r angen i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, mae gofyn inni leihau cadwyni cyflenwi a defnydd trwy arloesi, gan gynnwys trwy dechnegau cynhyrchu bwyd newydd sy'n lleihau ein dibyniaeth ar y cynhyrchion mwyaf niweidiol i'r amgylchedd. O stêcs a dyfir mewn labordai i ledr a gynhyrchir o fadarch, ceir cyfleoedd enfawr i fod yn arweinwyr mewn arloesi bwyd, ac i ddisodli cynhyrchion o anifeiliaid gyda deunyddiau llai drud-ar-garbon. A yw Llywodraeth Cymru wedi asesu gwerth cyllid arloesi bwyd ac wedi nodi'r busnesau a'r sefydliadau sydd ar flaen y gad o ran arloesi er mwyn brwydro yn erbyn newid hinsawdd?
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithio'n agos gyda'n busnesau, gyda'r tair canolfan arloesi bwyd ledled Cymru y soniais amdanynt yn fy ateb agoriadol ichi, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, y credaf i chi ei hagor ychydig flynyddoedd yn ôl, a'r byd academaidd wrth gwrs, i nodi ffyrdd arloesol o frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Mae cyllid ar gael i gefnogi'r gweithgareddau hyn, ac mae cymorth wedi'i gynllunio i danategu ein hymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Amlinellais hyn hefyd yn fy ngweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn ôl yn 2021. Mae enghreifftiau'n cynnwys y canolfannau bwyd sy'n cefnogi optimeiddio prosesau, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, a hefyd rhaglen ffatri 4.0 i wella caffael data ac arbed ynni yn y broses gynhyrchu.
Nid wyf am holi am eirin Dinbych yr wythnos hon. Un elfen allweddol mewn arloesi bwyd o ansawdd da yw'r cynhyrchion bwyd sy'n cael eu cynnig i blant ledled Cymru. Gyda chyflwyno prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru a'r cytundeb cydweithio yn eu cymryd i sicrhau bod y prydau a gynigir yn y cynllun yn iach, yn faethlon ac yn gydnaws â darparu addysg gyflawn i blant ledled Cymru?
Diolch. Rwy'n credu ei fod yn rhoi cyfle inni, gyda rhaglen prydau ysgol am ddim mor fawr yn cael ei chyflwyno ledled Cymru, i sicrhau bod gennym gymaint o gynnyrch Cymreig â phosibl. Rwy'n credu mai Cyngor Sir Fynwy sy'n adolygu eu prydau ysgol, a chredaf eu bod yn defnyddio cynhyrchwyr bwyd lleol yn gyfan gwbl yn eu prydau ysgol am ddim. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf, ac efallai'n wir, y gallai eirin Dinbych fod yn rhan o hynny.

Mi fydd y Gweinidog wedi fy nghlywed i yn sôn am y syniad o ddatblygu parc cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn sawl gwaith erbyn hyn. Mi wnes i ymweld â Food Works yn Weston-super-Mare ychydig wythnosau yn ôl, lle mae yna ganolfan ddatblygu, canolfan technoleg bwyd, ochr yn ochr efo unedau busnes bwyd. Mae gennym ni'r ganolfan technoleg bwyd ar yr ynys yn barod yng Ngholeg Menai. Felly, beth rydyn ni ei eisiau ydy'r unedau yna efo'r gefnogaeth i fusnesau allu tyfu ynddyn nhw. Mi wnaeth y Prif Weinidog, yn ei sesiwn graffu yr wythnos diwethaf, gyfeirio at hanes enwog Môn Mam Cymru yn y sector fwyd a dweud bod rhaid i hynny barhau. Mi wnaeth o hefyd ddweud bod yna arian yna i'w wario yn y sector. Allaf i ddim meddwl am ddefnydd gwell o'r arian yna nag i ddatblygu parc cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn, ac mae yna gwmni dwi wedi bod yn siarad efo nhw sy'n eiddgar i fod yn bartner mewn datblygiad o'r fath. Dwi ddim yn siŵr os mai sôn am y cynllun sbarduno busnesau bwyd oedd y Prif Weinidog, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno efo'r Prif Weinidog fod yna arian sydd ar gael i'w wario? Ac ydy hi neu ei swyddogion yn barod i drafod efo fi, y cyngor a'r datblygwr yma dwi'n siarad efo fo ar sut gallwn ni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn Ynys Môn?
Byddwn yn falch iawn o gael y sgwrs honno gyda chi. Rydym wedi cael trafodaethau blaenorol ynghylch parc cynhyrchu bwyd. Rwy'n credu bod gogledd-orllewin Cymru yn lleoliad da iawn i gael y fath beth. Rydym yn gwybod, onid ydym, os oes gennym gwmnïau yn datblygu, fod angen rhywle arnynt, a rhaid i'r lle hwnnw wedyn fod o ansawdd uned busnes bwyd er mwyn gallu bwrw ymlaen â hynny. Yn amlwg, mae gan y ganolfan arloesi bwyd unedau deori er mwyn iddynt allu dechrau, ond mae angen iddynt fynd i rywle arall wedyn. Felly, byddwn yn hapus iawn i gael cyfarfod pellach gyda chi.
Rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at fy rôl anrhydeddus hirsefydlog fel is-lywydd y Cerddwyr.
2. Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn darparu gwell mynediad hamdden i gefn gwlad? OQ59814
Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy sy'n cael ei gydgynllunio ar hyn o bryd yn cefnogi ffermwyr i wella mynediad uwchlaw eu gofynion cyfreithiol i helpu pobl i ryngweithio â'n diwylliant, tirweddau a threftadaeth wledig a chreu buddion iechyd sylweddol.
Weinidog, gwn eich bod wedi cael llawer o sylwadau ac ymgysylltiad yn wir â Cyswllt Amgylchedd Cymru ac eraill ar fater penodol mynediad. Os yw'r cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn, gall helpu i wella mynediad; os yw'r manylion yn anghywir, gallai waethygu mynediad i gefn gwlad. Ddoe, cawsom adroddiad cydgynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, a ryddhawyd gan y Gweinidog. Roedd rhai penawdau allweddol ynghylch mynediad yn hwnnw: nid oes gan 50 y cant o ffermwyr a gymerodd ran ddiddordeb yn y camau gweithredu ar fynediad cyhoeddus dewisol a argymhellwyd, ac nid oes gan 45 y cant ddiddordeb yn y camau gweithredu cydweithredol. Mae hynny ychydig yn bryderus i ymgyrchwyr ar hyn, oherwydd maent yn teimlo y gellid gweld mynediad fel rhan eilradd o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, sut y gall hi sicrhau bod mynediad yn rhan allweddol o hyn? A fyddai hi, er enghraifft, yn ystyried gwneud mynediad yn rhan o'r camau gweithredu cyffredinol sy'n berthnasol i'r amgylchedd hanesyddol, treftadaeth a harddwch—felly, cael rhywbeth fel 'bydd angen i ffermydd â hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad agored ar eu tir eu rheoli yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol' fel llinell sylfaen, a'r darnau eraill yw'r pethau sy'n ychwanegol i hynny? Sut y gallwn sicrhau bod mynediad yn cael ei wella ar gyfer y cyhoedd o hyn, yn hytrach na'i waethygu?
Diolch. Cyflwynodd Cymdeithas y Cerddwyr eu hymateb i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn yr ymgynghoriad diwethaf a gawsom, ac yn amlwg fe wnaethant gyfrannu at y broses gydgynllunio, ynghyd â llawer o ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, ac rwy'n ddiolchgar i bawb. Fel y dywedais yn y datganiad llafar ddoe, rwyf am wneud y cynllun mor ddeniadol â phosibl i bawb sydd am fod yn rhan ohono allu gwneud hynny. Rydym yn dal i fod yn y broses o gydgynllunio. Mae ymgynghoriad terfynol arall i'w gyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn hon, felly, nid oes dim wedi ei sefydlu'n derfynol eto. Mae angen inni edrych ar awgrymiadau ynghylch y cynllun cyffredinol, fel y rhai rydych chi newydd eu cyflwyno. Fe ddywedais yn glir iawn ddoe fy mod am i bob ffermwr allu cael mynediad at y cynllun cyffredinol o'r diwrnod cyntaf, ac yna mae angen inni edrych, efallai, ar fynd i mewn i ddwy haen arall y cynllun—y dewisol a'r cydweithredol—yn nes ymlaen. Felly, byddwn yn sicr yn canolbwyntio ar ran gyffredinol y cynllun yn y lle cyntaf.
Weinidog, yn eich sylwadau agoriadol i Huw Irranca-Davies, fe ddywedoch chi y bydd cael mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden yn arwain at fanteision iechyd enfawr i'n poblogaeth, ond yr hyn y mae angen inni wneud pobl yn ymwybodol ohono yw'r cod cefn gwlad, a deall bod ein hamgylchedd gwledig hefyd yn amgylchedd gwaith. Os ydym am gael rhagor o bobl i gael mynediad i dir, mae angen addysgu pobl ar sut i barchu'r tir hwnnw'n iawn pan fyddant yn mynd heibio i fusnes rhywun. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi amlinellu pa raglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu ledled Cymru i addysgu pobl ynglŷn â sut i gael mynediad i gefn gwlad mewn ffordd gyfrifol?
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Pan fydd pobl ar dir cyhoeddus yn y ffordd rydych newydd ei nodi, mae'n bwysig tu hwnt eu bod yn deall yn iawn mai busnes rhywun ydyw. Mae'n aml yn gartref i rywun, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn deall hynny. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo'r cod cefn gwlad a materion eraill sy'n ymwneud â mynediad.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth ystyried y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fod galwadau am gynnwys adfer natur fel rhan o'r amcanion. Yn absenoldeb y geiriad hwnnw yn y Bil, fe wnaethoch gydnabod yn briodol iawn fod amaethyddiaeth gynaliadwy yn allweddol i gyflawni ein hymrwymiad i Gymru fod yn sero net erbyn 2050, gan gyfrannu felly at adferiad natur ac at ymrwymiadau bioamrywiaeth Cymru yn unol â fframwaith bioamrywiaeth Kunming-Montreal.
Felly, wrth inni ddechrau ar ail gam cydgynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, a wnewch chi amlinellu ar gyfer y Siambr sut y bydd y cynllun yn anelu at gyflawni'r dyletswyddau hyn, fel y'u nodir ym memorandwm esboniadol y Bil, i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd a fydd yn dechrau gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd?
Diolch. Wel, bydd y cynllun yn cefnogi'r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, ochr yn ochr â'n rhwymedigaethau rhyngwladol hefyd, drwy gamau gweithredu sy'n cynnwys hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer priddoedd byw iach, drwy'r adolygiad sylfaenol o gynefinoedd y buom yn siarad amdano ddoe yn y datganiad llafar, cefnogi ffermwyr i reoli o leiaf 10 y cant o'u tir fel cynefin lled-naturiol, adfer a rheoli pyllau dŵr, a diogelu bridiau brodorol.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr—Samuel Kurtz.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, nododd eich diweddariad i'r rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021 y byddech yn:
'Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes...ac arddangosfeydd anifeiliaid.'
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar hyn?
Wel, mae'n rhaglen bum mlynedd. Rwy'n credu y dylwn wneud hynny'n glir iawn o'r cychwyn cyntaf. Rydym ym mlwyddyn 3 erbyn hyn. Rydym wedi gwneud llawer iawn o gynnydd, yn enwedig gyda'n codau ymarfer a'n rheoliadau, yn enwedig mewn perthynas â chŵn. Rydym wedi canolbwyntio'n fawr ar berchenogaeth gyfrifol ar gŵn.
Rydym hefyd wedi bod yn gwneud pethau eraill ochr yn ochr â hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddeiseb milgwn. Rydym wedi dargyfeirio adnoddau i edrych ar hynny hefyd. Fe wnaethom lawer iawn o waith ar y Bil anifeiliaid a gedwir na wnaeth Llywodraeth y DU fwrw ymlaen ag ef wedyn, yn anffodus. Felly, unwaith eto, rwyf wedi bod yn gofyn i swyddogion edrych ar y rhaglen honno i weld pa bethau y gallai fod angen inni eu gwneud, ar ôl gweld y Bil hwnnw bellach yn cael ei wrthod.
Diolch, ac rwy'n hapus i ddatgan fy mod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain i'r gofrestr buddiannau. Mae lles anifeiliaid yn bwysig iawn. Fe wnaethoch sôn am y Bil lles anifeiliaid a gedwir, ac mae llawer o'r gwaith da hwnnw'n mynd i barhau drwy is-ddeddfwriaeth, felly nid yw'n waith a wastraffwyd.
Ond un peth y gellid ei wneud gyda hyn yw defnyddio'r RSPCA. Mae arolygwyr yr RSPCA yn gwneud gwaith anhygoel yn sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal ac yn cael eu trin yn dda. Fodd bynnag, mae'r pwerau statudol yn nwylo arolygwyr awdurdodau lleol. Gallai'r RSPCA wneud y gwaith hwnnw'n hawdd, gan leihau'r baich ar ein hawdurdodau lleol a defnyddio'r sgiliau a'r arbenigedd sydd ar gael yn yr RSPCA.
Y flwyddyn nesaf bydd yr RSPCA yn 200 oed. Felly, pa well anrheg i'w rhoi i'r elusen na chael y pwerau statudol hyn? Felly, a gaf fi ofyn, pa ddatblygiadau a wnaed gennych ar drosglwyddo pwerau gorfodi ac ymchwilio o ddwylo awdurdodau lleol i'r RSPCA i alluogi hyn i ddigwydd?
Mae hyn yn sicr yn rhywbeth roeddem yn edrych arno, yn ôl pob tebyg cyn tymor y Llywodraeth hon. Fe euthum gyda'r RSPCA a gweld gyda fy llygaid fy hun pa mor anodd oedd hi oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o bwerau i allu ymdrin â phethau fel roeddent hwy'n eu gweld, ac wrth iddynt ddod ar eu traws. Felly, roedd yn rhywbeth roeddwn yn ei gefnogi'n fawr, ac rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gyda'r RSPCA wrth symud ymlaen.
Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn fod yr RSPCA wedi gwneud y penderfyniad i gael gwared ar y swyddfa oedd ganddynt yma yng Nghymru a'r staff oedd ganddynt yma yng Nghymru. Roedd gennym berthynas agos iawn gyda nhw—yn enwedig fy swyddogion. Yn anffodus, mae'n ymddangos ein bod wedi colli peth o hynny.
O ystyried bod ymrwymiad pum mlynedd i'r rhaglen lywodraethu, a fyddai pwerau statudol i'r RSPCA yn rhywbeth y byddech yn awyddus i'w gwblhau o fewn y pum mlynedd? Nid wyf am achub y blaen ar fy nghwestiwn olaf, ond yr hyn rwy'n ei gyrraedd yw bod cyfyngiadau symud COVID wedi arwain at gynnydd ym mherchenogaeth anifeiliaid anwes, ac yn anffodus, arweiniodd hynny at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes a gafodd eu gadael hefyd. Mae'r ffigyrau diweddaraf gan yr RSPCA ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod nifer yr anifeiliaid anwes a adawyd wedi cynyddu 25 y cant.
Mae microsglodynnu anifeiliaid anwes yn ffordd brofedig o helpu i leihau'r achosion hyn o adael anifeiliaid anwes, ond mae'n ymddangos, yng Nghymru, nad yw pob anifail yn cael cyfle cyfartal. Mae microsglodynnu cŵn bellach yn orfodol, ac yn Lloegr, o fis Mehefin nesaf, bydd microsglodynnu cathod yn orfodol hefyd. Er fy mod yn fwy hoff o gŵn, rhaid imi gyfaddef, rwy'n credu y dylai Cymru arwain y ffordd a gwneud yr un peth gyda phob anifail. Felly, beth a wnawn i sicrhau bod cathod a chŵn anwes yn gyfartal a pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno microsglodynnu cathod yma?
Ar ddiwedd eich cwestiwn olaf, ynghylch yr RSPCA, mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i barhau i fynd ar ei drywydd. P'un a fyddai'n cael ei wneud yn ystod tymor y Llywodraeth hon, oherwydd nid mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn, yn amlwg, byddai'n rhaid inni weithio gyda sefydliadau a chyrff eraill—. Ond, o'm rhan i, gallaf weld pwysigrwydd ymarferol rhoi'r pwerau hynny i'r RSPCA i allu ymdrin â materion y maent—. Yn amlwg, nhw yw'r ymatebwyr cyntaf, os mynnwch. Felly, yn sicr, mae'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i barhau i edrych arno.
Ar ficrosglodynnu cathod, fel chi, rwy'n fwy hoff o gŵn, ond nid yw hynny'n bwysig pan fyddwn yn edrych ar rywbeth mor bwysig â microsglodynnu. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac yn anffodus, rwy'n credu ein bod i gyd yn gweld mwy o gathod na chŵn yn cael eu lladd ar ein ffyrdd. Rydych yn aml yn clywed am hyn ar y ffordd, a byddai'n bwysig iawn microsglodynnu'r gath fel y gellid dod o hyd i'r perchennog o leiaf, oherwydd ni allaf feddwl am ddim byd gwaeth na pheidio â chael eich anifail anwes yn dod adref. Mae'n rhywbeth y byddwn yn ei wneud o fewn pum mlynedd y cynllun lles anifeiliaid. Fodd bynnag, dylwn ddweud bod modd gwneud hyn. Mae ar gael i bobl ei wneud. Nid yw'r ffaith nad ydym wedi dweud wrthych am ei wneud yn golygu na ddylech ei wneud, felly, er nad yw'n orfodol, gallwch ei wneud yn wirfoddol.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, fe ddywedoch chi wrthym ddoe nad oeddech wedi cael unrhyw fath o sicrwydd pendant o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Sut, felly, rydych chi'n cynnwys ansicrwydd ariannol yn rhan o'r ymgynghoriad sydd i ddod ac wrth ddatblygu'r cynllun, ac ar ba bwynt y bydd yn rhaid ichi gael yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU er mwyn cyflawni'r cynllun yn llawn ac yn ôl y bwriad?
Rydych yn llygad eich lle, fe ddywedais hynny, ac mae'n hollol wir nad oes gennym sicrwydd ynglŷn â'n cyllideb y tu hwnt i 2025. Soniais ei bod yn hynod gymhleth ac yn anodd cynllunio cynllun pan nad ydych yn gwybod beth yw'r gyllideb. Felly, mae'n rhaid ichi ragdybio y bydd gennym y lefel o gyllid a oedd gennym dros y blynyddoedd diwethaf, ac, yn wir, y bydd gennym ar gyfer ein cynllun taliad sylfaenol, y byddwn yn ei barhau tan ddiwedd 2024.
Rwy'n gwybod bod ffermwyr eisiau sicrwydd. Yn anffodus, mae'n adeg ansicr iawn, ac os oeddech am gael y sicrwydd hwnnw, dylem fod wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, lle roedd gennym gylchoedd cyllid lle roeddem bob amser yn gwybod beth oeddem yn mynd i'w gael. Pan fo gennych gyllidebau un flwyddyn yn unig a bod gennych adolygiad cynhwysfawr o wariant wedyn, y mwyaf a gewch yw tair blynedd. Felly, rwy'n derbyn bod pobl am gael atebion ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy mewn perthynas â thaliadau a chyllid, ac ni allaf eu rhoi ar hyn o bryd. Fel y soniais ddoe, bydd gennym gynllunio cyllidebol yn yr ymgynghoriad terfynol fel y byddwn yn gallu cyflwyno rhywbeth mwy pendant y flwyddyn nesaf. Yn amlwg, byddwn yn gwybod mwy ar ôl datganiad yr hydref eleni mewn perthynas â'r cyllid.
Onid yw tybio y bydd yr arian yn dod gan Lywodraeth y DU yn eithaf peryglus, oherwydd mae gan Lywodraeth y DU hanes yn hyn o beth, lle maent wedi torri addewidion a wnaed yn y gorffennol i roi cyllid llawn yn lle cyllid yr UE i Gymru ar ôl Brexit? Oni fyddai'n fwy cyfrifol i fod o leiaf yn ymwybodol iawn o'r posibilrwydd nad yw'r cyllid yn mynd i ddod wrth i'r cynllun gael ei ddatblygu? Ac os oes diffyg, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i lenwi'r bwlch cyllidebol hwnnw, neu a fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru a'r amgylchedd ddioddef canlyniadau uchelgeisiau llai?
Gallaf eich sicrhau fy mod yn ymwybodol iawn—rwyf bob amser yn ymwybodol iawn o unrhyw beth lle mae'n rhaid ichi ystyried cyllideb. Bydd yn rhaid i mi a fy olynwyr eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet a dadlau dros gyllid yn y ffordd y mae'n rhaid i bob Gweinidog ei wneud. Rydym yn cael ein cyllideb gan Lywodraeth y DU, fel y gwyddoch. Fe wyddom faint y mae'r gyllideb honno wedi crebachu mewn termau real. Felly, mae'n rhaid i unrhyw Weinidog droi at y Gweinidog cyllid i gael y cyllid hwnnw, wrth symud ymlaen, ac ni fydd yn wahanol. Fe wneuthum hynny'n glir iawn, pan ymgymerais â'r portffolio hwn am y tro cyntaf ychydig cyn refferendwm yr UE, mai felly y byddai—ni fyddai gennych y moethusrwydd o gael y cyllid yn cyrraedd o Frwsel yn syth heb unrhyw graffu. Ni fydd hynny'n wir i Weinidogion materion gwledig y dyfodol.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i leihau nifer yr anifeiliaid anwes, fel pysgod aur, sy'n cael eu rhoi fel gwobrau? OQ59819
Diolch. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru ar y mater hwn. Ysgrifennwyd at awdurdodau lleol yn flaenorol er mwyn casglu gwybodaeth. Mae gan gynghorau bŵer i wahardd yr arfer o roi anifeiliaid fel gwobrau ar eu tir, ac mae 12 o'r 22 eisoes wedi rhoi gwaharddiadau ar waith.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n rhaid imi ddatgan buddiant: pysgodyn aur oedd fy anifail anwes cyntaf erioed ac fe'i enwais yn Dewin Dwl, ac fe'i enillais yn y ffair yn Sioe Môn. Enillais nifer o bysgod aur eraill yno dros y blynyddoedd ac yn Ffair Borth, ond yn anffodus, wynebodd pob un ohonynt yr un dynged o farw ychydig wythnosau wedi hynny. Yn ffodus, mae ein dealltwriaeth o bwysigrwydd lles anifeiliaid wedi cynyddu ers y 1980au, ac rydym yn deall yn well bellach pa mor greulon yw'r arfer o roi anifeiliaid anwes fel gwobrau. Fel y dywedoch chi yn eich ymateb, er bod awdurdodau lleol fel Bro Morgannwg wedi rhoi camau ar waith i wahardd arfer o'r fath ar dir y maent yn berchen arno, ni allant roi'r gwaharddiadau hyn ar waith ar dir nad ydynt yn berchen arno ac sydd mewn perchenogaeth breifat. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno deddfwriaeth ledled Cymru i wahardd rhoi anifeiliaid anwes fel gwobrau?
Rwy'n credu y dylwn innau ddatgan buddiant mae'n debyg; rwy'n cofio cael pysgodyn aur. Nid wyf yn meddwl bod fy un i wedi para ychydig wythnosau, mewn gwirionedd; rwy'n credu mai ychydig ddyddiau ydoedd. Ond fel y dywedwch, mae'n rhywbeth nad ydym, dros y blynyddoedd, yn ei dderbyn fel y ffordd ymlaen.
Fe ysgrifennais at Urdd Siewmyn Prydain Fawr yn ôl yn 2019, ac yn dilyn eich cwestiwn, gofynnais am gael edrych ar yr ymateb a gefais, oherwydd rwy'n cofio meddwl ar y pryd, 'O', ac mae'n draddodiad i roi'r pethau hyn yn wobrau. Ond braf iawn yw gweld RSPCA Cymru yn ymgyrchu ar hyn. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i'r cyhoedd ei ddeall, ac mae fy swyddogion wedi cyfarfod â'r RSPCA i weld beth arall y gellir ei wneud yn y dyfodol heb ddeddfwriaeth; fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth gynyddol sydd gennym yn y maes. Ond rwy'n credu bod mwy y gall cynghorau ei wneud. Soniais am y 12 o'r 22, ac fe sonioch chi am Fro Morgannwg. Rwy'n gwybod nad yw fy etholaeth fy hun yn Wrecsam, ynghyd â 10 cyngor arall, yn gwneud hyn, ac rwy'n credu ei fod yn hynod bwerus, ac fel y dywedais, rwy'n gobeithio y bydd y 10 arall yn gwrthod gadael i hyn ddigwydd lle maent yn gallu llogi'r tir, fel y dywedwch, a chael yr effaith honno.
Ond rwy'n sicr yn credu y dylem wneud popeth yn ein gallu i annog pobl i edrych ar wobrau amgen. Rwy'n gwybod bod yr RSPCA wedi bod yn dosbarthu taflenni i bobl ynglŷn â sut y gallant ofalu am bysgodyn aur os ydynt yn cael un. Ond roeddwn am eich sicrhau ein bod yn edrych o fewn y cynllun lles anifeiliaid i weld a oes mwy y gallwn ei wneud ar hyn.
Rwy'n dal i gael fy mhoenydio gan y ffaith bod fy mhysgodyn aur wedi para ychydig oriau'n unig, wrth imi ei drosglwyddo o'r bag plastig bach i'r bowlen yn y sinc, ac fe ddiflannodd i lawr twll y sinc. Roeddwn yn saith mlwydd oed pan ddigwyddodd hynny, gyda llaw, ac rwy'n gallu—
Rydych yn dal i'w gofio.
Rwy'n dal i'w gofio'n glir, ac fe ddaeth yn ôl i'r cof wrth ichi drafod hyn. Janet Finch-Saunders, unrhyw atgofion am bysgod aur?
Oes, llawer, mewn gwirionedd. Felly, cwestiwn da iawn gan Heledd Fychan, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am farwolaeth drist eich pysgodyn aur, sy'n digwydd yn rhy aml, mae arnaf ofn. Nawr, yn 2019, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau alwadau i wahardd pysgod aur a roddir mewn ffeiriau. Bedair blynedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi gwneud llawer o gynnydd, ac fel y dywed y Gweinidog, mae 10 cyngor neu awdurdod lleol yn dal i ganiatáu i hyn ddigwydd. Mae angen mwy o weithredu i ddiogelu anifeiliaid, pysgod aur yn bennaf, rhag yr arfer hwn. Nid yw derbyn pysgodyn aur ymdeimladol mewn bag plastig bach, sy'n aml yn cael ei gario o gwmpas am oriau, a thymheredd yn codi a disgyn, yn argoeli'n dda ar gyfer eu cludo adref i gynhwysydd addas a rhoi bywyd iddynt. Mae'n eithaf creulon mewn gwirionedd, os edrychwn ar sut rydym wedi symud ymlaen gyda materion lles anifeiliaid erbyn heddiw.
Felly, Weinidog, a fyddech yn ystyried—a hoffwn gefnogi'r hyn a ddywedodd Heledd Fychan—a fyddech chi'n ystyried edrych ar ddeddfwriaeth ledled Cymru nawr i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar hyn, boed ar dir preifat neu dir sy'n eiddo i'r cyngor? Ac a ydych chi'n meddwl efallai y gallech ysgrifennu llythyr at y 10 awdurdod, oherwydd mae'r holl sioeau ar y gorwel, a gwelais bysgod aur mewn bagiau yr wythnos o'r blaen ac roedd yn ddiwrnod cynnes iawn, ac roeddwn yn teimlo cymaint o drueni drostynt—a allech ysgrifennu at y 10 arall, a gofyn iddynt efallai am rywfaint o weithredu ar hyn?
Diolch. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd Janet Finch-Saunders o ran hynny. Nid wyf yn credu y gallaf roi ateb llawnach na'r ateb a roddais i Heledd Fychan, ond i dawelu eich meddwl, pan ofynnais i fy swyddogion ysgrifennu at bob un o'r 22 awdurdod lleol yn ôl yn 2019 i ganfod faint ohonynt oedd yn dal i ganiatáu iddo gael ei wneud, yn sicr fe wnaethom ddweud y byddem yn mynd ar drywydd hyn. Felly, rwy'n ymrwymo i ysgrifennu at y 10 arall i weld pa gamau sy'n cael eu cymryd, oherwydd, fel y dywedwch, mae tymor y sioeau ar y gorwel nawr hefyd, lle byddwn yn gweld llawer mwy o hyn.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i achosion o ffliw adar pathogenig iawn? OQ59844
Yng ngoleuni risg llai i ddofednod, codwyd y parth atal ffliw adar ar 4 Gorffennaf. Er nad oes parthau rheoli clefydau yng Nghymru ar hyn o bryd, rydym yn parhau i fonitro lefelau risg i ddofednod ac adar gwyllt, ac mae gwaharddiad ar grynoadau rhywogaethau adar risg uwch yn parhau i fod ar waith.
Wel, cafwyd achosion yn ddiweddar, ac mae'n destun pryder mawr. Mae'n rhywbeth a godais gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf, a chefais fy nghyfeirio atoch chi ynghylch hyn i bob pwrpas, felly hoffwn ofyn pa gymorth a chyngor ychwanegol sy'n cael eu rhoi i ffermwyr dofednod yn yr ardaloedd penodol hynny. Soniais am aber yr afon Dyfrdwy, ac rwy'n gwybod, oddi ar arfordir Ynys Môn hefyd, fod pryderon enfawr yno ar hyn o bryd. Hefyd, pa gyfarwyddyd a chymorth y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi i awdurdodau lleol a swyddogion iechyd y cyhoedd i sicrhau eu bod yn hollol barod o ran eu hymateb i ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, sydd, wrth gwrs, â rhan allweddol i'w chwarae yn hyn o beth?
Diolch. Maent yn sicr yn barod. Rydym wedi cael cyfanswm o wyth achos yng Nghymru. Mae'r cyfnod adrodd yn dechrau ar 1 Hydref, felly ers 1 Hydref 2022, rydym wedi cael wyth achos o ffliw adar wedi'u cadarnhau mewn adar a gedwir yng Nghymru. Roedd dau ar Ynys Môn, un achos yn sir y Fflint, a phum achos ym Mhowys. Fel y dywedais, oherwydd lle rydym arni ar hyn o bryd, fe wnaethom godi'r parth atal ar 4 Gorffennaf, ond yn anffodus mae gwaharddiadau ar grynoadau rhai rhywogaethau yn parhau i fod yn eu lle. Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa, nid yn unig yng Nghymru, nid yn unig yn y DU, nid yn unig yn Ewrop, ond rydym yn gwneud hynny ar lefel fyd-eang, yn ogystal ag effeithiolrwydd unrhyw fesurau rheoli clefyd. Felly, mae swyddfa'r prif swyddog milfeddygol yn gyfrifol am weithio'n agos gyda'n ceidwaid adar, gyda'n ffermwyr, a chyda'r awdurdod lleol ac iechyd y cyhoedd hefyd, a rhoddir arweiniad a chefnogaeth iddynt.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r risg i bobl o feirws y ffliw adar pathogenig iawn yn gymharol isel. Fodd bynnag, oherwydd natur garthysol rhai anifeiliaid, bu nifer cynyddol o heintiau mewn mamaliaid a oedd wedi bwyta adar heintiedig. Yn anffodus, ers mis Hydref 2022, nodwyd bod llwynogod coch ym Mhowys, dyfrgwn Ewrasiaidd yn swydd Amwythig, dolffiniaid cyffredin oddi ar arfordir sir Benfro, a morloi llwyd yng Nghernyw i gyd wedi'u heintio. Weinidog, er bod cyfraddau heintiau yn dal i fod yn gymharol isel, pa asesiad a wnaed o ba mor agored yw rhywogaethau mamalaidd i'r posibilrwydd o haint eang, a pha baratoadau a wnaed gennych i helpu i leihau heintiau? Diolch.
Diolch. Wel, rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau o famaliaid sydd wedi'u heintio â'r ffliw adar a grybwylloch chi, ac mae swyddfa'r prif swyddog milfeddygol yn gweithio'n agos iawn gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, a chydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, wrth symud ymlaen, yn ogystal â chydweithwyr rhyngwladol hefyd wrth gwrs. Yn amlwg, mae unrhyw achos yn y ffordd rydych newydd ei ddisgrifio yn peri pryder, ac mae adroddiadau fod dolffiniaid a morfilod wedi'u heintio mewn rhannau eraill o'r byd, felly mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni gadw llygad barcud arno, ond nid oes tystiolaeth fod y canfyddiadau newydd yn dangos addasiad mamalaidd sylweddol i'r straen presennol o feirws ffliw adar yma yn y DU.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y llywodraeth ynglŷn â chynllun gwella Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gwasanaethau ar lein Wrecsam i Bidston? OQ59829
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys y lein rhwng Wrecsam a Bidston. Rwy'n croesawu'r cynllun gwella y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i ddatblygu, a bydd Llywodraeth Cymru'n monitro'r gwaith o'i gyflawni'n fanwl.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y gwaith y mae'n ei wneud o dan ei chyfrifoldebau fel Gweinidog gogledd Cymru ac am gael y sgyrsiau hynny gyda'i chyd-Weinidogion Cabinet. Mae'n deg dweud, Weinidog, fod defnyddwyr lein Wrecsam i Bidston yn bobl amyneddgar—maent wedi gorfod bod, er tegwch iddynt. Ond yr hyn y maent yn chwilio amdano yn fwy na dim yw bod y cynllun gwella pum cam a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos ac yn cyflawni gwelliannau go iawn a hirdymor o ran dibynadwyedd y lein. Rwy'n meddwl bod y ddau ohonom wedi cael ein tagio mewn trydariad y prynhawn yma eto am y gwasanaeth. Felly, a gaf fi ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â sut mae'r cynllun yn gweithio, a gofyn i chi hefyd, boed hynny drwy swyddfa'r Dirprwy Weinidog, gyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddechrau trafodaethau rheolaidd gyda Chymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston fel y gallant weld y gwaith sy'n cael ei wneud ar sail reolaidd?
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch pobl yn bod yn amyneddgar. Rwy'n defnyddio'r lein honno fy hun, fel rwy'n siŵr eich bod chi, ac nid yw perfformiad y gwasanaethau ar y lein honno wedi bod yn ddigon da. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud hynny, a gwn fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ymweld â'r ardal yn ddiweddar. Roedd yn awyddus iawn i weld drosto'i hun y problemau roedd teithwyr yn eu hwynebu, a chyfarfu â grŵp defnyddwyr y rheilffordd y cyfeirioch chi atynt, a hefyd gyda chynrychiolwyr etholedig lleol.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Dirprwy Weinidog wedi herio Trafnidiaeth Cymru yn gadarn i sicrhau bod y perfformiad yn gwella, ac yn amlwg, mae ganddynt y cynllun pum pwynt y cyfeirioch chi ato. Cefais gyfle pan oeddwn yn teithio i Gaerdydd yr wythnos hon i—wel, roeddwn i'n meddwl ei fod yn gyfle, ond rwy'n siŵr nad oedd ef yn meddwl hynny—. Ond llwyddais i ofyn cryn dipyn o gwestiynau i un o uwch swyddogion Trafnidiaeth Cymru am y cynllun pum pwynt. Un o'r pethau yw lleihau nifer y gwasanaethau bysiau yn lle trenau. Nid oes dim yn waeth na mynd i orsaf i aros am drên a gweld llwyth o fysiau y tu allan, oherwydd fe fyddwch yn gwybod y bydd eich taith hyd yn oed yn hwy. Maent yn adolygu'r amserlen, maent wedi ymrwymo i sicrhau bod un o'u uwch swyddogion yn gweithio i roi gwell ffocws ar broblemau a chysylltu'n well â rhanddeiliaid.
Rydym yn buddsoddi £800 miliwn ar drenau newydd sbon ac wrth gwrs, bydd hynny o fudd i wasanaethau ledled gogledd Cymru wrth symud ymlaen, ac mae'r trenau hynny bellach yn dod yn weithredol. Ac rwy'n credu bod hynny mewn cyferbyniad llwyr â gweithredwr trenau Llywodraeth y DU, Avanti West Coast. Maent yn tynnu gwasanaethau yr haf hwn oddi ar yr amserlen ar fyr rybudd a heb ymgysylltu fawr ddim.
Growth Track 360, fel y gwyddoch, yw'r bartneriaeth gyhoeddus-breifat sy'n uno gogledd Cymru, Wirral, a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer gan weithio i wella cysylltedd trafnidiaeth trawsffiniol, gyda phwyslais penodol ar reilffyrdd. Wedi i bryderon lleol am ddarpariaeth wael ac oedi cyn cyflwyno'r gwasanaeth hanner awr a addawyd ers tro ar lein Wrecsam-Bidston ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru, fe wnaethant groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau ar y lein hon ar y gororau.
Fodd bynnag, sut y byddwch chi'n ymgysylltu â chymheiriaid yn Llywodraeth Cymru ynghylch y pryder a fynegwyd wrthyf gan Gymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston ynglŷn â'r datganiad a roddwyd i mi gan brif weithredwr Trafnidiaeth Cymru fod y trenau dosbarth 230 wedi bod yn gweithredu'n ddibynadwy ar y cyfan, a'i bod yn ymddangos bod y prif broblemau technegol wedi'u datrys, lle maent hwy'n dweud yn lle hynny fod annibynadwyedd parhaus y trenau dosbarth 230 a'u hanallu i gadw at yr amserlen drwy gydol eu diagramau diwrnod llawn, yn awgrymu na fydd yr unedau hyn yn gallu cynnal gwasanaeth bob awr yr haf hwn, heb sôn am weithredu gwasanaeth bob 30 munud yn yr hydref?
Dechreuodd y trên dosbarth 230 newydd ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston ar 3 Ebrill, ac rwy'n credu ei bod unwaith eto yn deg iawn dweud bod yr oedi cyn eu cyflwyno wedi bod yn siomedig. Ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi gorfod mynd ati'n drylwyr i sicrhau diogelwch a dibynadwyedd y trên yn sgil digwyddiadau yn ystod y profion cychwynnol. Rhaid i ddibynadwyedd y trenau hynny fod yn ffocws i Trafnidiaeth Cymru wrth symud ymlaen, ac rwy'n gwybod eu bod wedi buddsoddi yn y depo yn Birkenhead, ac nid oes rhaid i drenau deithio i Gaer mwyach i gael eu trin a'u hatgyweirio, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant diod yng Nghymru? OQ59837
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r sector diodydd ledled Cymru, ac mae ganddi raglen gynhwysfawr o fesurau cymorth busnes ar waith. Mae hyn yn cynnwys clwstwr diodydd hynod lwyddiannus, sy'n hyrwyddo cydweithrediad ar draws y sector diwydiant.
Diolch, Weinidog. Rydym yn dwli ar ein bwyd a'n diod yng Nghymru, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddiodydd heddiw. Ac wrth gwrs, rwy'n mynd i fachu ar y cyfle hwn i roi ychydig o sylw i'r cwmnïau yn fy etholaeth i. Gwn eich bod wedi cyfarfod â Ferrari's Coffee; maent hefyd yn rhostio'r ffa ar gyfer coffi masnach deg Jenipher. Mae gennym Double Trouble Coffee, mae gennym Dog's Window, Bang On Brewery a The Coach Brewing Co i gyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ac mae gennym hefyd Bont Gin a Porthcawl Gin. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl yn dwli—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, rwy'n dangos fy hun nawr. Fe wyddom hefyd fod pobl wrth eu bodd yn prynu cynnyrch Cymreig. Felly, a oes rhywle ar hyn o bryd lle mae'r holl wybodaeth honno'n cael ei dwyn ynghyd, ar fap er enghraifft—diodydd, yn cynnwys coffi, gwirodydd, cwrw, a phopeth arall?
A fy nghwestiwn arall oedd hwn: yn ddiweddar daeth etholwyr i gysylltiad â mi oherwydd pan fo Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo cwrw a diodydd alcoholig eraill, fe wnaethant ofyn a oedd hi'n bosibl cynnwys y rhybudd 'yfwch yn gyfrifol', nad yw bob amser wedi'i gynnwys, ac a allem gael cydbwysedd drwy awgrymu opsiynau di-alcohol hefyd, sy'n boblogaidd iawn y dyddiau hyn. Felly, mae gennym Drop Bear Beer Co. wedi'i leoli yng Nghymru, sy'n wych. Mae Tiny Rebel yn gwneud lager di-alcohol ac mae Gower Brewery hefyd yn gwneud un, felly, byddai hynny'n wych hefyd. Diolch.
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr, rydym yn mwynhau ein bwyd a'n diod Cymreig yn fawr, ac mae'n wych dechrau ar dymor y sioe amaethyddol nawr oherwydd pa le gwell i ddangos y bwyd a'r diod gwych sydd gennym yma yng Nghymru, ac arddangos ein cynhyrchwyr sy'n gwneud cymaint o waith i gyflwyno'r rheini? Fe ymwelais â Ferrari's yn eich etholaeth, yn ôl yn yr hydref rwy'n credu. Ac rydych chi'n sôn—mae yna bob amser lawer o ffotograffau ohonoch chi ar y cyfryngau cymdeithasol—am amrywiaeth o gaffis a bwytai, yn hyrwyddo a chefnogi eich busnesau lleol.
Mae'r holl wybodaeth hon ar gael mewn un lle. Byddwn yn dychmygu ei fod ar wefan Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i mi edrych, ond gwn fod yr wybodaeth yno, yn enwedig y cynhyrchwyr bwyd a diod rydym yn eu cefnogi. Fe fyddwch yn gwybod bod gennym Cywain, sef partner cyflawni busnes, a'r hyn y byddant yn ei wneud, yn enwedig yn Sioe Frenhinol Cymru—byddant yn ei wneud mewn cryn dipyn o sioeau—yw hyrwyddo busnesau newydd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae bob amser yn fy synnu bod yna gynhyrchwyr jin newydd bob blwyddyn, mae yna gynhyrchwyr caws newydd; mae gennym y gofod hwnnw ar eu cyfer, ac maent yn gwneud yn dda iawn, ac o fewn blwyddyn i'w gweld mae'n debyg, maent yn allforio—maent yn fusnesau gwirioneddol lwyddiannus. Felly, fe fydd yn wych ymweld â'r neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, a hoffwn annog unrhyw un sy'n mynychu'r sioe i wneud hynny.
7. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno microsglodynnu gorfodol i gathod yng Nghymru, naill ai drwy ei rheoliadau ei hun neu drwy gydsyniad deddfwriaethol? OQ59815
8. A yw'r Gweinidog wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i gyflwyno microsglodynu gorfodol ar gyfer cathod yng Nghymru, naill ai drwy ei reoliadau ei hun neu drwy gydsyniad deddfwriaethol? OQ59848
Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn ymrwymo i ystyried ymestyn microsglodynnu gorfodol i gynnwys cathod erbyn 2026. Er nad oes ymgynghoriad wedi'i gynllunio ar gyfer 2023, mae fy swyddogion yn ystyried adroddiad ar y cyd ar ficrosglodynnu i lywio'r gwaith hwn a monitro cynnydd y rheoliadau yn Lloegr, a wnaed ym mis Ebrill.
Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Anifeiliaid crwydrol yw cathod; dyna pam ei bod yn bwysig sicrhau bod cathod yn cael eu microsglodynnu rhag ofn y byddant yn cael eu colli neu eu lladd. Gall cathod gael eu microsglodynnu gan y rhan fwyaf o filfeddygon am rhwng £20 a £30, ac i bobl ar incwm is a budd-daliadau prawf modd, mae cymorth ychwanegol ar gael gan elusennau fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid a Cats Protection, ond nid yw pob cath yn cael ei microsglodynnu o hyd. A wnaiff y Llywodraeth weithredu ar frys i wneud microsglodynnu cathod yn orfodol? Siaradodd y Gweinidog am 2026; os cyflwynwch gynnig cydsyniad deddfwriaethol, gallech ei wneud yn gynt.
Wel, fe fyddwch wedi clywed fy ateb cynharach i Sam Kurtz, ac rydych chi'n hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith nad yw pawb yn microsglodynnu eu cathod er ei fod ar gael, fel y dywedais—fe sonioch chi am y gost o'i wneud. Felly, nid yw'r ffaith nad ydym yn dweud wrth bobl am ei wneud ac nad yw'n orfodol yn golygu nad oes rhaid iddynt ei wneud. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr hyn y gallem ei wneud ar sail Rheoliadau Microsglodynnu Cathod a Chŵn (Cymru) 2023, a wnaed ar 25 Ebrill 2023, sy'n golygu y bydd angen microsglodynnu pob cath dros 20 wythnos oed a berchnogir erbyn 10 Mehefin 2024.
Roeddwn wedi cytuno i gais i grwpio cwestiynau 7 ac 8—
Ni chefais wybod. Mae'n ddrwg gennyf.
Wel, roeddwn yn meddwl bod y cais wedi dod oddi wrthych chi, Weinidog. Ond dyna ni.
Do, ond ni chefais wybod. Mae'n ddrwg gennyf.
Dyna ni. Fe gymerwn ei fod wedi dod, a fy mod wedi cytuno iddo, a gall Luke Fletcher ofyn ei gwestiwn atodol i gwestiwn 8.
Diolch, Lywydd. Fel y nododd Mike yn iawn, wrth gwrs, mae cathod yn crwydro mwy nag unrhyw anifail anwes arall, felly mae microsglodynnu eich cath yn gwneud synnwyr, ond nid y weithred o ficrosglodynnu yw diwedd y stori. Problem barhaus gyda chathod a chŵn yw nad yw'r wybodaeth yn cael ei diweddaru ar ficrosglodion. Ar fy ymweliad diwethaf â Cats Protection yn Heol-y-Cyw, roedd yr wybodaeth ar gyfer nifer o'r cathod yno yn hen ar eu microsglodion. Felly, ochr yn ochr â gwaith ar ficrosglodynnu cathod, pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cadw eu gwybodaeth yn gyfredol fel y gellir dod â pherchnogion a'u hanifeiliaid anwes yn ôl at ei gilydd?
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw waith penodol a wnawn mewn perthynas â sicrhau bod pobl yn diweddaru'r wybodaeth ar eu microsglodion. Synnais braidd wrth ddysgu ei bod yn hawdd iawn newid y wybodaeth ar y microsglodyn mewn gwirionedd, felly mae'n rhywbeth y byddaf yn gofyn i swyddogion edrych arno.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch effaith datblygu seilwaith ynni ar gymunedau yng ngogledd Cymru? OQ59830
Yn ogystal â thrafodaethau yn y Cabinet, trafodwyd effaith seilwaith ynni yn is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys seilwaith gwynt ar y môr, niwclear a hydrogen a welir ar draws y rhanbarth. Rydym yn glir iawn fod angen i gymunedau yng Nghymru elwa o fuddsoddiad seilwaith ynni newydd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwyf am siarad yn benodol am gymuned Cefn Meiriadog yn sir Ddinbych, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cefn Meiriadog yn gymuned wledig i raddau helaeth, ond mae nifer o ddarnau sylweddol o waith seilwaith ynni yn digwydd yno, sy'n mynd i newid y gymuned wledig honno'n sylweddol. Yn gyntaf oll, mae yna is-orsaf yno eisoes. Hefyd, ceir is-orsaf sy'n gysylltiedig â fferm wynt alltraeth Gwynt y Môr ar yr un safle. Rwy'n deall y bydd prosiect fferm wynt alltraeth Awel y Môr yn sbarduno estyniad i safleoedd is-orsafoedd presennol, a bydd angen safle 31 erw ychwanegol hefyd i gynnal is-orsaf ar gyfer fferm wynt arfaethedig Mona. Rwyf hefyd yn deall bod prosiect MaresConnect yn debygol o fod â chysylltiad â'r is-orsaf yno hefyd, ac rwyf hefyd yn deall bod cynigion ar gyfer fferm solar 80 erw o fewn y gymuned wledig fach iawn honno. Felly, gallwch ddeall bod pump neu chwech o brosiectau mawr yno mewn un ardal fach iawn.
Rwy'n sylweddoli efallai fod llawer o'r rhain yn rhan o gyfrifoldebau'r Grid Cenedlaethol ccc ar lefel a gedwir yn ôl, ond o safbwynt cynllunio, a chan wisgo eich het gogledd Cymru, a gweithio gyda chyd-Weinidogion Cabinet, tybed sut y bydd y Cabinet yn ystyried effaith gronnol yr holl brosiectau ar rai o'r cymunedau gwledig hyn, a beth yw eich meddyliau ynglŷn â sut i leihau'r effaith ar y cymunedau gwledig hynny.
Diolch. Wel, mae'r materion rydych chi'n eu hamlinellu'n amlwg yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae hi wedi clywed eich cwestiwn. Fel y dywedais, rydym yn cynnal trafodaethau yn y Cabinet; cawsom drafodaeth dda iawn yn is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru ychydig fisoedd yn ôl mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, oherwydd gwyddom fod gan ogledd Cymru lawer o gyfleoedd yn yr ardal ar gyfer technolegau ynni arloesol iawn, a cheir llawer o gyfleoedd gyda hydrogen hefyd.
Rydych chi'n cyfeirio at brosiectau sy'n cael eu trafod—rwy'n meddwl eich bod chi'n sôn am sir Ddinbych yn bennaf—ac mae'n bwysig iawn pan—. Mae angen inni gael cymaint â phosibl o'n hynni o ynni adnewyddadwy, ond mae'n wirioneddol bwysig fod ein cymunedau'n elwa ohono hefyd. Felly, gwn fod sicrhau bod y cymunedau'n eu cefnogi yn flaenoriaeth i'r Gweinidog, ac mae'n bwysig iawn fod y datblygwyr yn cael y trafodaethau hynny cyn cyflwyno prosiectau.
Rwy'n cofio agor prosiect ynni dŵr yng Nghorwen pan oeddwn i'n Weinidog gyda chyfrifoldeb am ynni, ac roedd hi mor wych siarad â phobl leol, a oedd yn dweud eu bod yn gwybod, pan fyddent yn rhoi'r tegell ymlaen yn eu tŷ, eu bod yn cael manteision o'r ynni adnewyddadwy roeddent yn ei ddefnyddio.
Yn olaf, cwestiwn 10, Cefin Campbell.
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i ddileu TB buchol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ59835
Ym mis Mawrth, cyhoeddais ein cynllun cyflawni TB newydd, sy'n nodi camau y byddwn yn eu cymryd i ddileu TB buchol ledled Cymru. Roedd hwn yn cynnwys prosiect yn sir Benfro i fynd i'r afael â buchesi sy'n cael eu heintio'n gyson, ailgyflwyno profion cyn symud, ac ymestyn profion ar ôl symud mewn ardaloedd TB canolraddol. Byddaf yn rhoi rhagor o'r wybodaeth ddiweddaraf yn fy natganiad blynyddol ym mis Tachwedd.
Diolch yn fawr ichi am yr ymateb yna. Mae pawb yn y Siambr yn ymwybodol iawn o'r effaith hynod o niweidiol mae TB mewn gwartheg yn ei chael ar y gymuned amaethyddol.
Ces i'r profiad yn ddiweddar iawn o ymweld â ffarm ym Mancyfelin yn sir Gaerfyrddin a gweld mewn ffordd drawiadol iawn sut oedd mynd lawr gyda TB wedi cael effaith niweidiol ar economi'r busnes ffarm yna, a hefyd yr effaith ar iechyd meddwl. Mae'r Gweinidog, siŵr o fod, yn ymwybodol o gynigion cafodd eu pasio yn ddiweddar gan gyngor sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion, yn nodi'r pryder, weithiau am y ffordd mae'r Llywodraeth yn delio â ffermwyr sydd wedi mynd lawr gyda TB, ac efallai fod angen bod yn fwy sensitif ynglŷn â sut mae'r newyddion yn cael ei gyfleu.
Ond yn benodol, byddwn i'n licio cael gwybod gennych chi ynglŷn â'r brechlyn—y datblygiad diweddar am y brechlyn—i wartheg yn erbyn TB, ac mae yna ryw sinigiaid yn dweud, 'Wel, rŷn ni wedi clywed dros nifer o flynyddoedd, "O, mae bron â bod yna, bron â bod yna".' Felly, yn benodol, a allwch chi roi diweddariad inni am ymdrechion y Llywodraeth, yn arbennig ar y brechlyn, ac a oes yna obaith am gynnydd yn y dyfodol agos?
Diolch. Nid wyf yn bychanu effaith enfawr achosion o TB, yn ariannol ac ar les ffermwyr—. Neu hyd yn oed pan fyddant yn cael profion TB. Mae'n anhygoel o anodd iddynt. Fe gofiwch ein bod wedi cynnal ymgynghoriad yn ôl yn 2021, ac un o'r argymhellion a gyflwynwyd o'r ymgynghoriad hwnnw oedd bod angen i'r ffordd rydym ni fel Llywodraeth yn cyfathrebu fod yn llawer mwy sensitif nag y bu, ac roedd angen i'r iaith sy'n cael ei defnyddio fod yn fwy sensitif, yn ogystal ag yn fwy syml. Ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae fy swyddogion wedi gweithredu arno.
Ar eich cwestiwn penodol ynghylch y brechlyn, rwy'n cytuno'n llwyr. Dywedwyd wrthyf pan gefais y portffolio gyntaf ein bod bron yno, a saith mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym yno. Felly, a ydym ni bron yno? Wel, yn sicr, mae'r byd academaidd a'r arbenigwyr yn dweud wrthyf y byddwn ni yno mewn blwyddyn neu ddwy arall efallai, felly byddai hynny'n rhywbeth i'w groesawu'n fawr yn 2025. Byddaf yn bendant yn sicrhau—. Nid oes gennyf unrhyw ddiweddariad ers fy natganiad yn gynharach eleni, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddaf yn gwneud fy natganiad TB blynyddol ym mis Tachwedd.
Diolch i'r Gweinidog am y sesiwn yna.
Eitem 6 yw'r cwestiynau amserol ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ac i'w ofyn gan Sioned Williams.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad y Llywodraeth na fydd yn darparu prydiau bwyd am ddim i blant ysgol cymwys yn ystod gwyliau'r haf? TQ820

Roedd y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim dros y gwyliau yn gymorth am gyfnod penodol a gyflwynwyd gennym yn ystod y pandemig. Oherwydd y sefyllfa ariannol hynod o anodd y mae Cymru'n ei hwynebu, ni fu modd ymestyn y ddarpariaeth hon y tu hwnt i fis Mai.
Diolch, Weinidog. Heb unrhyw ddatganiad i'r Senedd naill ai ar ffurf ysgrifenedig neu ar lafar, gydag ond ychydig wythnosau'n unig ar ôl o dymor y Senedd a chyn diwedd y tymor ysgol, clywodd elusennau plant, sefydliadau'r trydydd sector sy'n cefnogi teuluoedd, ynghyd â'r teuluoedd eu hunain, yn y cyfryngau na fydd prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol ar gael i'r plant mwyaf agored i niwed mwyach. Wrth i'r argyfwng costau byw wthio mwy fyth o deuluoedd Cymru i fyw mewn tlodi, mae elusennau plant yng Nghymru a Chomisiynydd Plant Cymru yn unfrydol eu barn y bydd y penderfyniad hwn yn arwain at blant yn mynd yn llwglyd dros yr wythnosau nesaf, ac mae Plaid Cymru'n cytuno.
Weinidog, pam eich bod chi wedi penderfynu peidio â dod o hyd i'r cyllid sydd ei angen i gefnogi'r ymyrraeth fawr ei hangen hon, sydd, yng ngeiriau cyfarwyddwr addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn ei lythyr yn hysbysu awdurdodau lleol, wedi bod yn boblogaidd? 'Poblogaidd'—dewis rhyfedd o air i'w ddefnyddio am ddarparu bwyd; efallai fod 'hanfodol' yn fwy cywir. Rydym wedi clywed meinciau cefn Llafur yn awgrymu bod gan Blaid Cymru bŵer dros gyllideb Llywodraeth Cymru rywsut. O, na bai hynny'n wir. Dim ond rhan fach o'r gyllideb gyffredinol yw'r polisïau yn y cytundeb cydweithio, megis prydau ysgol am ddim i bawb.
Yn anffodus, nid yw'r cyllid hwn yn rhan o'r cytundeb hwnnw, ond os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am fynd i'r afael â thlodi plant a diffyg diogeledd bwyd, gallai flaenoriaethu'r gwariant sydd ei angen i sicrhau bod ein plant mwyaf difreintiedig yn cael mynediad at fwyd. Ddoe, wrth ateb sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r rhai sydd ei hangen pan fydd tymor yr ysgol yn dod i ben, cyfeiriodd y Prif Weinidog at y rhaglen fwyd a hwyl a sut y bydd yn cyrraedd mwy o blant nag erioed—30,000 ohonynt. Er bod croeso i'r cynllun hwn wrth gwrs, rydym yn gwybod bod nifer y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o deuluoedd incwm isel yn fwy na theirgwaith hynny. Gwadodd y Prif Weinidog hefyd fod hyn yn digwydd ar fyr rybudd, ond ychydig o amser a gafodd rhieni i gynllunio, yn achos y rhai sy'n gallu cynllunio eu harian, ar gyfer y toriad hwn.
Daw hyn hefyd ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriad o £100 yn y grant hanfodion ysgol o'r tymor nesaf ymlaen, ac ar adeg pan fo'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion gan un o bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd, gwella mynediad at brydau ysgol am ddim i blant difreintiedig, a gwella mynediad plant at fwyd. Ac rydych yn ymgynghori ar eich strategaeth ddrafft ar dlodi plant. Felly, Weinidog, pa werthusiad a wnaed o effaith y penderfyniadau hyn ar dlodi plant? Pam na roddwyd mwy o rybudd i deuluoedd a sefydliadau'r trydydd sector? Onid yw'r penderfyniad hwn yn mynd yn groes i'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau a nodir yn y strategaeth ddrafft ar dlodi plant, a beth yw eich ymateb i Achub y Plant Cymru, sy'n dweud bod hyn i gyd yn gam enfawr yn ôl yn y gwaith o fynd i'r afael â thlodi plant a diffyg diogeledd bwyd?
Wel, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £900 miliwn yn llai oherwydd canlyniadau chwyddiant rheolaeth y Ceidwadwyr ar economi'r DU. Nid yw hwn yn benderfyniad y mae Llywodraeth Cymru am orfod ei wneud. Rydym yn Llywodraeth, wedi'r cyfan, sydd wedi cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, wedi cynyddu mynediad at y grant hanfodion ysgol, ac sy'n galw am ostwng cost y wisg ysgol. Y Llywodraeth hon a gyflwynodd brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, a hynny yn ystod y pandemig, a daethom o hyd i ffyrdd o barhau i'w ymestyn drwy ddod o hyd i danwariant o dro i dro. Rydym wedi ceisio gweithio gyda Phlaid Cymru. Fel y dywed yr Aelod, nid yw'n rhywbeth y gwnaeth Plaid Cymru bwyso i'w gael yn y cytundeb cydweithio, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, nid yw ymhlith y prif flaenoriaethau a nodwyd gan Blaid Cymru ar gyfer cyllideb y tu allan i'r cytundeb cydweithio. Ond yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio fe fydd hi'n gwybod ein bod wedi bod yn awyddus i allu cydweithio ar hyn, ac fe wnaethom gyhoeddi datganiad ar y cyd ddiwethaf ym mis Mawrth, yn cyhoeddi ein bod yn ei ymestyn tan fis Mai, a chafodd hynny ei ariannu mewn gwirionedd o gyllideb y cytundeb cydweithio. Y tro hwn fe wnaethon ni ofyn i Blaid Cymru unwaith eto a allem geisio dod o hyd i arian gyda'n gilydd yn y cytundeb cydweithio, ond nid oedd Plaid Cymru am wneud hynny.
Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi ariannu darpariaeth fwy o faint o gynlluniau bwyd a hwyl haf ar gyfer yr haf hwn, gan gyrraedd miloedd yn fwy o blant eleni, a nawr yn gweithredu ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol am y tro cyntaf, yn ogystal â'r cynllun Gwaith Chwarae sy'n cyrraedd bron i 40,000 o blant.
Mae'r newyddion diweddaraf yn arwydd o Lafur Cymru unwaith eto yn siarad llawer ond yn methu â gweithredu ar fater prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau gyda'r gweithgareddau gwyliau a'r rhaglen fwyd yn Lloegr, gan ddarparu cefnogaeth i blant bregus drwy roi prydau bwyd am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn syndod i bawb ohonom, fel y nododd Sioned Williams nawr, ond nid yw'n syndod i mi, Weinidog, gan eich bod wedi methu ariannu ysgolion yn iawn i ehangu eu ceginau er mwyn gallu cyflwyno'r cynllun prydau bwyd am ddim yn ystod y tymor ysgol, a nawr ein bod yn dod at ddiwedd y tymor, rydych chi eisiau torri'r cynllun yn gyfan gwbl. Yn syml, ni fydd eich cynllun bwyd a hwyl yn ddigon. Weinidog, pam rydych chi'n rhoi gydag un llaw ac yn bachu'n ôl â'r llaw arall drwy dorri prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol?
Wel, yn sicr nid yw'r cyhoedd yn gweiddi arnom i roi'r gorau i fwydo plant yn yr ysgol yn ystod argyfwng costau byw, nad yw'n farn y mae'r Aelod yn ei rhannu, yn sicr, ac yn Lloegr Geidwadol nid ydynt yn darparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau mewn gwirionedd, ac nid ydynt ychwaith yn darparu prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd. Os yw pobl yng Nghymru yn edrych i weld pwy sy'n gyfrifol am y pwysau sydd arnynt ar hyn o bryd, ni fyddant yn edrych ar Lywodraeth Lafur Cymru sy'n gwneud popeth yn ei gallu i roi biliynau o bunnoedd ym mhocedi pobl ar adeg anodd; byddant yn edrych ar Blaid Geidwadol sydd wedi llywodraethu dros ddegawd a mwy o gyni, ynghyd ag argyfwng costau byw llesteiriol, cyfraddau llog cynyddol a diweithdra cynyddol nawr i deuluoedd ledled y DU.
Rwy'n siomedig iawn nad yw'r Llywodraeth yn darparu prydau bwyd am ddim i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf. Yn anochel, bydd plant—a'u mamau i raddau hyd yn oed yn fwy, wrth iddynt flaenoriaethu eu plant—yn mynd yn llwglyd. Ymwneud â blaenoriaethau y mae Llywodraeth. Nid wyf yn deall pam y gellir dod o hyd i £4 miliwn ar gyfer weiren wib sy'n cael ei rhedeg gan gwmni preifat yn fy etholaeth yn hytrach na bwydo plant mewn teuluoedd anghenus. Mae'n hwyr iawn i'r Llywodraeth newid trywydd nawr. A gaf fi annog y Llywodraeth i ofyn i awdurdodau lleol ariannu prydau bwyd am ddim yr haf hwn o'u cronfeydd wrth gefn a thalu amdano yng nghyllideb y flwyddyn nesaf? Mae'n rhaid i fwydo plant sy'n dlawd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur.
Bydd Mike Hedges yn gwybod fy mod yn rhannu ei flaenoriaeth, a bydd hefyd yn gwybod ein bod wedi gwneud cyhoeddiad ym mis Mawrth a oedd yn nodi bod yr estyniad tan ddiwedd mis Mai. Bydd hefyd yn gwybod bod cyllideb y Llywodraeth yn werth bron i £1 biliwn yn llai ac o ganlyniad i hynny, mae'n amhosibl i unrhyw Lywodraeth fwrw ymlaen heb unrhyw effaith ar fywydau pobl. Nid ydym yn sôn am effeithiau ar restr o bethau y gallai pob un ohonom ddweud eu bod yn braf i'w cael. Rydym yn sôn am effaith hynny ar raglenni sy'n bwysig iawn i lawer o bobl. Dyna ganlyniad uniongyrchol methiant y Llywodraeth Geidwadol i reoli'r economi mewn ffordd sy'n gyfrifol, ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ddigonol yn Lloegr. Byddwn—[Torri ar draws.] Byddwn yn parhau i wneud—[Torri ar draws.] Byddwn yn parhau—[Torri ar draws.] Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r teuluoedd anghenus hynny.
A gawn ni gymryd cam yn ôl a rhoi'r gorau i feio pobl? Oherwydd fe hoffwn wybod hyn: beth am yr oddeutu 50,000 o blant a fydd yn mynd yn llwglyd yr haf hwn—50,000 y gallem fod yn eu helpu ac a gafodd eu helpu gennym o'r blaen? Mae banciau bwyd yn poeni. Maent wedi cysylltu â mi. Rwyf wedi ymweld â nhw. Maent yn poeni eu bod eisoes yn gweld cynnydd yn y galw, a hynny gyda myfyrwyr mewn ysgolion a'r cynnydd mewn prydau ysgol am ddim, diolch i'r cytundeb cydweithio. Maent yn poeni, ac nid oes unrhyw gynllun yn ei le. Rydych chi wedi siarad am rai o'r plant hynny, ond rydym yn sôn am 50,000 posibl o blant a phobl ifanc yn mynd yn llwglyd yr haf hwn. Nid wyf am wybod pwy sydd ar fai, rwyf am wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd a sut rydych chi'n gweithio'n ymarferol gyda phartneriaid ar lawr gwlad i sicrhau y bydd pawb yn gallu mynediad at fwyd yr haf hwn.
Hefyd, ar y grant hanfodion ysgol, hyd yn oed gyda'r cynnydd y llynedd, a groesawyd yn fawr gan nifer o deuluoedd, fe wyddom eisoes eu bod yn dal i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae athrawon yn sôn am orfod codi arian, am orfod gweithredu cynlluniau cyfnewid gwisg ysgol, ond hyd yn oed wedyn, maent yn methu ateb y galw. Felly, rydym yn sôn am blant yn methu bwyta, methu cael dillad i fynd i'r ysgol. Mae hon yn sefyllfa mor drist, ac rydym yn pwyntio bysedd at bobl yn hytrach na dod o hyd i atebion. Felly, dywedwch wrthyf sut rydych chi'n gweithio gyda phobl i helpu'r plant a'r bobl ifanc hyn.
Rwy'n cytuno â'r Aelod mai'r ffordd briodol o edrych ar hyn yw ceisio dod o hyd i atebion yn hytrach na phwyntio bysedd a beio. Mae'n bwysig rhoi cyd-destun i ddangos pam y gwnaed y penderfyniad, sef y cwestiwn y gofynnwyd i mi ei ateb wedi'r cyfan. O ran yr help a ddarparwn, fe gyfeiriodd hi at y grant hanfodion ysgol. Mae hwn ar gael ym mhob blwyddyn ysgol nawr. Dyma'r gronfa uchaf o'i bath mewn unrhyw ran o'r DU. Mae costau ysgol yn sylweddol iawn i lawer o deuluoedd. Felly, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i ostwng y gost honno, ac rydym yn gweithio gydag ysgolion, yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad iddynt er mwyn gallu gwireddu hynny ar lawr gwlad. Ond mae hi'n iawn i ddweud bod llawer iawn o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd er gwaethaf hynny. Rydym bellach wedi ymestyn y cynllun fel ei fod ar gael ar gyfer pob blwyddyn ysgol, sy'n wahanol iawn i hyd yn oed ychydig flynyddoedd yn ôl, i gydnabod maint y pwysau y mae teuluoedd yn ei wynebu.
Rwyf wedi rhoi cyd-destun cyllideb sy'n werth £900 miliwn yn llai. Pan fydd hynny'n digwydd, mae'n rhaid inni edrych ar bob agwedd o'r gyllideb. Fel y bydd hi'n gwybod, ac fel y soniais yn gynharach, rydym wedi gallu ymestyn y cynllun dros dro o bryd i'w gilydd, yn fwyaf diweddar gan ddefnyddio arian o'r cytundeb cydweithio. Ni fu'n bosibl gwneud hynny y tro hwn, naill ai o'r gyllideb gyffredinol neu, gyda chytundeb Plaid Cymru, o gyllideb y cytundeb cydweithio, ond fel y mae'n dweud, byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.
Diolch i'r Gweinidog.
Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ac i'w ofyn gan James Evans.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng sgôr Dŵr Cymru? TQ825

Gwnaf. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda Dŵr Cymru ein bod yn disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru ddarparu'r safonau gwasanaeth uchaf i gwsmeriaid ac i ddiogelu'r amgylchedd. Mae'r gostyngiad yn sgôr Dŵr Cymru yn peri pryder mawr. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda nhw a Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau'r gwelliant angenrheidiol yn eu perfformiad amgylcheddol.
Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Weinidog. Profiad sobreiddiol iawn oedd darllen am y cyhoeddiad diweddar fod Dŵr Cymru wedi cael ei israddio eto, am yr ail flwyddyn yn olynol, am fethu gwneud y gwelliannau angenrheidiol i lanhau ein dyfrffyrdd ledled Cymru. Mae'r cwmni'n cofnodi mwy a mwy o ddigwyddiadau llygredd difrifol, ac mae'n ymddangos nad oes dim yn cael ei wneud i'w hatal. Mae eu trefn adrodd eu hunain am y digwyddiadau llygredd difrifol hyn yn cael ei lleihau hefyd. Weinidog, cwsmeriaid Dŵr Cymru sydd â'r biliau ail uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae eu prif swyddog gweithredol ymhlith y prif swyddogion gweithredol sy'n cael eu talu fwyaf yng Nghymru, ac roedd eu bonws eleni yn £232,000. Mae'n gywilyddus na all Dŵr Cymru gael pethau'n iawn, ac rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd i'r Llywodraeth gamu i mewn yma. Felly, a wnaiff y Llywodraeth gamu i'r adwy a rhoi trefn ar Dŵr Cymru unwaith ac am byth fel y gallwn lanhau ein hafonydd a chyflwyno deddfwriaeth frys i lanhau ein dyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru, sy'n gymhwysedd a ddatganolwyd i'ch Llywodraeth chi?
Nid wyf yn hollol siŵr beth y gofynnir i mi ei wneud. A ydych chi'n gofyn i mi wladoli Dŵr Cymru? Cwmni preifat nid-er-elw yw Dŵr Cymru. Nid yw'n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, felly nid wyf yn siŵr iawn a ydych chi'n gofyn i mi ei wladoli. Mae gennyf nifer cyfyngedig o ysgogiadau ar gael i mi. Mae llawer o'r ysgogiadau, wrth gwrs, yn nwylo Llywodraeth y DU. Cyfleustod a breifateiddiwyd yw hwn, felly mae—
Fe gewch chi ei reoleiddio.
Ni chaf ei reoleddio fel mae'n digwydd.
Cewch.
Na, ni chaf. Nid Llywodraeth Cymru sydd â'r pwerau rheoleiddio.
Eich cyfrifoldeb chi yw llygredd.
Llygredd, ie, ond nid yw rheoleiddio cwmnïau dŵr wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, felly, gallech chi awgrymu'n ddefnyddiol iawn i Lywodraeth y DU nad yw'r fframwaith rheoleiddio yn addas i'r diben, fel rydym ni'n ei wneud, a—[Torri ar draws.]
Darren Millar, nid eich cwestiwn chi yw hwn. Rydych yn ceisio ymyrryd ar eich Aelod eich hun yma. Cwestiwn James Evans ydyw, ac mae'r Gweinidog yn ceisio ymateb iddo.
Felly, mae nifer o'r pethau a nododd James Evans—. Credaf fod pob Aelod wedi cael yr un wybodaeth ag a gefais innau fel Aelod o’r Senedd, gan Dŵr Cymru; os nad ydych, yna yn sicr, gallaf ei hanfon ymlaen atoch. Fel y dywedaf, nid fi sy'n rheoli Dŵr Cymru; nid yw’n ddiwydiant sydd wedi’i wladoli, mae’n gwmni preifat nid-er-elw. Ond rydym yn craffu ar Dŵr Cymru drwy'r amser, ochr yn ochr ag Ofgem, a Llywodraeth y DU yn wir. Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â’r dirywiad yn eu perfformiad. Cytunaf yn llwyr â hynny. Ac mae rhan fawr o hynny oherwydd y ffordd y mae'r mecanwaith pris yn gweithio. Mae’r mecanwaith pris wedi’i osod ar lefel y DU, ar lwybr llithro pum mlynedd, fel y’i gelwir, ac yn anffodus, mae’r ffordd y caiff ei reoleiddio ar hyn o bryd yn golygu bod yn rhaid i filiau dalu am unrhyw welliant. Felly, nid wyf yn gwbl sicr beth mae’r Aelod yn ei ofyn i mi, a dweud y gwir, gan nad fi sy'n rheoli Dŵr Cymru. Felly, fe wnaf ymateb, fel y dywedais—[Torri ar draws.] Rwy’n dwyn Dŵr Cymru i gyfrif; mae’r Aelod yn fwy na pharod, rwy’n siŵr, i wneud yr un peth mewn unrhyw bwyllgor y mae’n rhan ohono, neu yn breifat, i ofyn am gyfarfod â nhw. Rydym yn gwneud hynny’n rheolaidd iawn. Rwy’n cyfarfod ag Ofgem, Ofwat yn rheolaidd iawn, a chyda Llywodraeth y DU. Byddaf yn dwyn Dŵr Cymru i gyfrif mewn perthynas â hyn. Ond y gwir amdani yw mai cyfyngedig yw eu gallu i fuddsoddi oherwydd y mecanwaith pris. Maent wedi egluro hynny i chi, a phob Aelod arall o'r Senedd, yn yr wybodaeth y maent wedi'i darparu.
Fe ddywedoch chi hefyd, os gwneuthum eich clywed yn iawn, James—maddeuwch i mi os wyf yn anghywir—ond credaf ichi ddweud bod nifer fawr o ddigwyddiadau llygru difrifol wedi bod. [Torri ar draws.] Wel, mewn gwirionedd, mae’r cynnydd mewn digwyddiadau llygru difrifol, er eglurder—ac nid yw'n dderbyniol—ond er eglurder, mae’n gynnydd o dri i bump. Felly, i fod yn eglur iawn. Mae’n gwbl siomedig gweld hynny, ac nid wyf yn credu ei fod yn ddigon da, ond dyna’r ffigurau. Mae gostyngiad pellach yn nifer y digwyddiadau hunangofnodedig, a chynnydd bach yn nifer y digwyddiadau categori isel—o 81 i 84. Nid yw’r un o’r pethau hyn yn dderbyniol, ond mae’n bwysig cael y ffigurau’n gywir. Felly, mae hefyd—. Nid oes unrhyw bwynt ysgwyd eich pen arnaf, dyna'r ffigurau—[Torri ar draws.] Dyna'r ffigurau. Felly, rwy’n cytuno nad yw’n ddigon da, a byddwn yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo. Nid wyf yn hapus o gwbl yn ei gylch. Ond nid wyf yn gwbl sicr i ble roedd eich cwestiwn yn arwain—maddeuwch i mi os nad wyf wedi’i ddeall yn iawn, ond ymddengys eich bod yn gofyn imi wladoli'r cwmni, ac mae’n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol mewn gwirionedd.
Weinidog, mae’n siŵr fod rhan o’r hyn rydym yn ei weld yma, ac yn wir, gyda chynnydd mewn gollyngiadau carthion ledled y DU, yn ganlyniad i lywodraethu amgylcheddol gwannach yn sgil Brexit. Mae Cymru wedi aros yn rhy hir am drefniadau newydd i fynd i’r afael â’r broblem. Roedd rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd yn diogelu ac yn grymuso dinasyddion Cymru i adrodd ar achosion o dorri cyfraith amgylcheddol, gan ddwyn corfforaethau i gyfrif. Ers gadael yr UE, gyda’r Brexit caled trychinebus y mynnodd y Torïaid yn San Steffan fynd ar ei drywydd, mae pob gwlad ar wahân i Gymru wedi datblygu eu mecanweithiau llywodraethu amgylcheddol eu hunain. Ni, yn anffodus, yw’r unig wlad yn y DU o hyd nad oes gennym y trefniadau llywodraethu amgylcheddol cadarn hynny. Gwn eich bod yn rhannu fy rhwystredigaeth ynglŷn â’r sefyllfa.
A allwch ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, yn y cyfnod interim hwn, pa bwerau sydd ar gael at eich defnydd i gymryd camau cyflym i fynd i’r afael â’r cynnydd hwn mewn digwyddiadau llygredd? Oherwydd pan fydd aelodau'r cyhoedd yn edrych ar hyn yn digwydd, credaf ei fod yn un o'r materion lle mae pobl yn anobeithio yn ei gylch, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw un yn gallu, neu o leiaf, nid yw'n ymddangos bod yna eglurder ynghylch yr hyn y gellir ei wneud. Felly, a ydych chi'n cytuno bod rhan o hyn yn ganlyniad i’r bwlch llywodraethu amgylcheddol yn sgil y Brexit caled sydd gennym? A beth y gellir ei wneud i rymuso dinasyddion Cymru ymhellach ac i wella llesiant, ie, ein dyfrffyrdd, ond hefyd y bobl sy’n dymuno byw yn agos atynt, sydd am i’w plant allu chwarae mewn dyfrffyrdd, er mwyn inni allu ymgysylltu'n gywir a gallu cael hynny yn ôl yn ein bywydau? Diolch.
Diolch, Delyth. Credaf ei bod yn bwysig iawn cael y ffeithiau’n gywir. Felly, rwy’n cytuno’n llwyr â chi ynglŷn â’r Brexit caled ac anawsterau hynny, ond rwyf am fod yn glir iawn, a nodi i Aelodau’r Senedd sut yn union y mae hyn yn gweithio. Felly, caiff perfformiad ei fesur gan CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd, sy'n nodi targedau ar gyfer pob cylch cynllunio busnes, gyda'r hyn a elwir yn 'llwybr llithro', lle caiff safonau eu tynhau dros gyfnod o bum mlynedd. Felly, rydym yng nghyfnod 2020-25 ar hyn o bryd. Mae trothwyon y llwybr llithro pum mlynedd a osodwyd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn ystyried perfformiad blaenorol cwmnïau dŵr dros gyfnod o dair blynedd, sef cyfnod 2016-18 ar gyfer yr asesiad hwn, a disgwyliadau gofynion amgylcheddol strategol y diwydiant dŵr. Felly, er enghraifft, ar gyfer digwyddiadau llygru difrifol, y targedau ar gyfer Dŵr Cymru yw un digwyddiad ar gyfer gwyrdd, dau neu dri digwyddiad ar gyfer oren a phedwar neu fwy ar gyfer coch. Ar gyfer cyfnod 2023-24, bydd un, dau a thri, ac ar gyfer cyfnod 2025, dim, un a dau. Felly, gallwch weld eu bod yn mynd i lawr. Felly, cânt eu dwyn i gyfrif ar safon uwch ar bob pwynt yn y llwybr llithro. Nid esgus yw hynny, gyda llaw; mae'n amlwg nad yw'n ddigon da, ond fel eich bod yn deall sut y cânt eu dwyn i gyfrif.
Fe wnaethom gynnwys canllaw ar gyfer y mecanwaith adolygu pris, felly fe wnaethom gynnwys ein blaenoriaethau. Mae mynd i'r afael â gorlifiadau’n ffocws allweddol yn ein gwaith ar wella ansawdd dŵr, ond unwaith eto, mae'n bwysig cael y ffeithiau'n gywir, ac nid wyf yn awgrymu bod hyn yn ddigon da, ond er eglurder: mae 44 y cant o'n hafonydd mewn statws amgylcheddol da, o gymharu â nifer llawer is yn Lloegr, ac mae gennym—er gwaethaf y ffaith bod gennym arfordir mwy—mae gennym gyfran uchel iawn o'n traethau mewn cyflwr amgylcheddol da o hyd. Felly, nid wyf am i’r cyhoedd boeni heb fod angen, a pheidio â manteisio ar arfordir Cymru dros yr haf sydd i ddod, er enghraifft. Ond nid yw'n ddigon da. Hoffwn iddo ddod yn llawer gwell na hynny. Felly, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflawni, rheoleiddwyr a'r sectorau perthnasol i roi atebion cynaliadwy ar waith. Mae’r holl gwmnïau dŵr wrthi’n datblygu eu cynlluniau busnes ar hyn o bryd, felly 2025-30, sef y mecanwaith adolygu pris roeddwn yn sôn amdano, a fydd yn cynnwys y rhaglen waith i fynd i’r afael ag unrhyw niwed amgylcheddol a achosir gan orlifoedd stormydd.
Nawr, mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n tybio eich bod yn cytuno â mi, Delyth, nad wyf yn deall sut nad yw gosod y seilwaith i gael yr ansawdd dŵr gorau yn y byd yn rhaglen fuddsoddi y mae’r Llywodraeth yn dyrannu cyfalaf ar ei chyfer. Nid wyf yn deall pam fod yn rhaid i dalwyr biliau ysgwyddo’r gost honno. Dewis gan Lywodraeth y DU yw hynny, ac nid yw’n ddewis rwy’n ei gymeradwyo, ac mae’n cyfyngu’n llwyr ar faint o fuddsoddiad y gellir ei wneud, oherwydd yn amlwg, ni allwn gael biliau dŵr anfforddiadwy ledled Cymru. Felly, mae'n benbleth anodd iawn, os ydych wedi'ch cyfyngu i'r swm o arian y gallwch ei godi ar eich talwyr biliau er mwyn gwneud y buddsoddiad. Yn fy marn i, dyma’r ffordd gwbl anghywir o wneud hyn. Ond fel y dywedaf, cwmni preifat yw Dŵr Cymru; mae’n gwmni nid-er-elw, ac rwy’n falch iawn o hynny, ond mae’n gwmni preifat nad yw dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Diolch am yr holl wybodaeth honno, Weinidog, ac fel y dywedwch, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael y ffeithiau’n gywir. Ond mae hefyd yn wirioneddol bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, gan fod prinder dŵr cynyddol ledled Ewrop, ledled y byd, ac felly, dylem fod yn defnyddio ein dŵr yn ddarbodus ac yn sicrhau ei fod o’r ansawdd gorau posibl. Felly, cytunaf â chi y dylai’r cyfan gael ei ariannu drwy drethiant, ond nid dyna sydd gennym ar hyn o bryd; mae'r gost yn cael ei throsglwyddo i dalwyr biliau. Ond credaf mai un o’r ffyrdd yr hoffwn weld cynnydd yw drwy sicrhau ein bod yn gallu troi baw yn arian, os gwnawn ei drin yn gywir. Gellir ei wneud yn—. Yn enwedig os yw'r dŵr yn cael ei wasgu allan ohono, gellir ei ddefnyddio i gyfoethogi ein priddoedd a gwella'r amgylchedd tyfu. Felly, yn eich sgyrsiau gyda Dŵr Cymru, tybed a allech siarad â nhw ynglŷn â sut y gallwn wella’r ffordd rydym yn trin gwastraff yn ein gweithfeydd carthion, fel y gallwn werthu mwy o’r hyn y maent yn ei gynhyrchu er budd y wlad, a bod llai ohono—llawer llai ohono—yn mynd i mewn i'n hafonydd a'n moroedd.
Jenny, mae hwnnw'n bwynt da iawn. Fel rhan o broses yr uwchgynadleddau, fel rydym yn ei galw, a’r gwaith ar y broblem ffosffadau—er mai dim ond un o’r problemau sy’n cael eu hystyried yw’r broblem ffosffadau—rydym yn edrych ar amrywiaeth o atebion, ac un ohonynt yw hynny: ceisio troi’r hyn sy’n wastraff anodd ar hyn o bryd yn gynnyrch sy’n gwneud arian a’i werthu, ac mae hynny’n bendant yn un o’r pethau rydym yn eu hystyried. Rydym hefyd wedi gwneud rhywfaint o ddosrannu ffynonellau ar gyfer hynny. Felly, rydym wedi comisiynu cwmni annibynnol i ddosrannu ffynonellau ar draws pob un o’r afonydd ACA—afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig—ar gyfer y naw ardal yng Nghymru. Gellir defnyddio’r modelau i bennu cyfraniad ffynonellau i grynodiadau ffosfforws yn yr afon a chynorthwyo i ddatblygu rhaglen i leihau’r mewnbynnau, a gwnawn hynny drwy’r byrddau rheoli gwella ansawdd afonydd a’r byrddau rheoli maethynnau. Mae gennym nifer o fyrddau wedi’u sefydlu i weithio ar y rhain, sy’n edrych ar eich pwynt chi hefyd. Ac yna, mewn gwirionedd, mae hyn yn ychwanegol at yr hyn roeddwn yn ei ddweud wrthych chi, Delyth, y gwn ein bod wedi'i drafod o'r blaen.
A dylwn ddweud, ac, unwaith eto, credaf fod y ffeithiau'n bwysig iawn yma—ac nid yw hyn yn tynnu oddi ar y ffaith bod angen i Dŵr Cymru berfformio’n llawer gwell, ond—defnydd tir gwledig yw'r prif gyfrannwr ffosffadau mewn chwech o'r naw afon ACA, gan gynnwys pedair o'r afonydd ACA sy'n methu. Mae hynny’n ffaith. Dyna yw’r gyfran fwyaf o ffosfforws sy’n mynd i mewn i afon Tywi, er enghraifft, ar 86 y cant, o gymharu ag 11 y cant o weithfeydd trin dŵr gwastraff, a 2 y cant o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol. Gwnaf y pwynt hwnnw nid oherwydd bod 2 y cant o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol yn iawn—nid yw’n iawn—ond mae'n rhaid inni gael rhyw synnwyr o gymesuredd i'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yma, a hyd nes y gwnawn ni dderbyn bod yn rhaid i bob un sector yng Nghymru wella eu perfformiad, gan gynnwys y cwmnïau dŵr—rhaid i bob un sector wella'u perfformiad—ni fydd gennym yr ansawdd dŵr rydym yn dymuno ei gael.