Y Cyfarfod Llawn
Plenary
28/06/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Carolyn Thomas.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cysylltedd digidol yng Ngogledd Cymru? OQ59751
Diolch am eich cwestiwn. Yn ogystal â chyflawni amrywiaeth o brosiectau a chynlluniau ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys ein cynllun cyflwyno band eang gwerth £56 miliwn, Allwedd Band Eang Cymru a chynlluniau'r gronfa band eang lleol, rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phrosiectau Uchelgais Gogledd Cymru i wella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Lywydd, hoffwn ofyn a wnaiff y Gweinidog yn ymuno â mi i groesawu ymdrechion Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor ac eraill, i sefydlu gogledd Cymru fel rhanbarth arloesi 5G yn y DU. Bydd hyn, ar y cyd â mentrau eraill, megis bargen twf gogledd Cymru, yn helpu i ddarparu gwelliannau mawr eu hangen mewn cysylltedd band eang i gartrefi a busnesau yn y rhanbarth. A fyddech cystal â sicrhau, fel Gweinidog, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pob cymorth posibl yn yr ymdrechion hyn? Diolch.
Rwy'n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw. Mae gennyf ddiddordeb yn y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo. Rwy’n arbennig o awyddus i gefnogi partneriaid ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys y bwrdd uchelgais, i sicrhau bod Cymru’n cael cyfran briodol o’r gronfa £40 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Ebrill eleni, er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi darpariaeth ac arloesedd 5G ymarferol ar draws gogledd Cymru. Mae'n rhan o'r hyn y byddwn yn gallu ei wneud, ac wrth gwrs, rydym yn y sefyllfa ffodus o'i gael i adeiladu arno gyda'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ym Mhrifysgol Bangor yn y ganolfan brosesu ddigidol, ac rwy'n credu bod mwy i ddod yn y dyfodol.
Yr haf diwethaf, ymunais ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar ymweliad â phrosiect dalgylch uwch Conwy a chyfarfod â Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm i drafod y diffyg signal ffonau symudol yng Nghwm Penmachno. Mewn cyfarfod dilynol gyda Digital Mobile Spectrum Limited—DMSL—a Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, buom yn trafod rhaglen y rhwydwaith gwledig a rennir. Mae DMSL, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, yn fenter ar y cyd rhwng pedwar gweithredwr rhwydwaith ffonau symudol y DU i weithio i sicrhau bywyd digidol heb unrhyw amhariadau i bobl ledled y DU. Nod y rhwydwaith gwledig a rennir, gyda £532 miliwn gan y gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol a £500 miliwn gan Lywodraeth y DU, yw ymestyn darpariaeth 4G yng ngogledd Cymru i 83 y cant gan bob un o'r gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol, a 98 y cant gan o leiaf un o'r gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol, a ledled Cymru, i 80 y cant gan bob un o'r gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol, a 95 y cant gan o leiaf un o'r gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol. Fel y clywsom, ni allwch gael cysylltedd heb y seilwaith. Pa gysylltiad sydd rhyngoch chi a DMSL ynglŷn â hynny?
Rwyf wedi cyfarfod â Julia Lopez, cyn ei chyfnod mamolaeth, yn Llywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, yr her yma yw nad yw hwn yn faes datganoledig, ond rydym yn cydnabod y dylai rhaglen Llywodraeth y DU i wella cysylltedd gyrraedd 85 y cant o gartrefi. Golyga hynny fod yna eraill lle mai cysylltedd ffonau symudol fydd realiti sicrhau bod cysylltedd priodol ynddynt. Rwy'n fwy na pharod i ofyn eto i fy swyddogion pa gysylltiad penodol a fu gyda'r sefydliadau y cyfeiriwch atynt, i sicrhau bod hynny wedi'i gynllunio yn ein gweithgarwch, gan y bydd angen inni sicrhau ein bod yn llenwi rhai o'r bylchau sy’n bodoli yn rhaglen Llywodraeth y DU. Ond i ychwanegu at fy ateb cynharach i Carolyn Thomas, rwy'n credu ei fod yn ategu'r hyn rydym eisoes yn ei wneud i wella cysylltedd yn y gogledd.FootnoteLink
Rwy'n croesawu cwestiwn Carolyn Thomas yn fawr. Fel rhywun a fu'n aelod di-dâl o gonsortiwm y prosiect 5G gyda Phrifysgol Bangor, a’r partneriaid diwydiant, mae’n amlwg i mi, Weinidog, fod gennym gyfle gwirioneddol yn y maes hwn yng ngogledd Cymru. Rwy'n croesawu'r cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn sydd heb ei ddatganoli, ond yn hollbwysig, mae arnom angen cydweithrediad rhwng Cymru, ac yn bwysig, Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, tybed pa sgyrsiau pellach y gallech eu cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn deall y cyfleoedd sydd gennym yng ngogledd Cymru.
Yn rhyfedd ddigon, soniais am y cyfarfod a gefais gyda Julia Lopez cyn ei chyfnod mamolaeth, a chefais gyfarfod dilynol i drafod ystod o feysydd gyda John Whittingdale, sydd yn y swydd dros ei chyfnod mamolaeth. Ac un o'r meysydd y mae angen inni eu cael yn iawn yw darparu cysylltedd band eang, ac fel y dywedaf, llenwi'r bwlch sy'n bodoli, pan fydd y targed o 85 y cant wedi'i gyrraedd. Felly, unwaith eto, mae hyn yn adeiladu ar gwestiwn Carolyn Thomas a gwaith y ganolfan prosesu signalau digidol. Rydym mewn trafodaethau gyda nhw ynglŷn â'r cymorth y gallem ei ddarparu, yn ychwanegol at y cymorth y mae bwrdd uchelgais gogledd Cymru wedi’i ddarparu. Ond mae'n hanfodol cael sgwrs adeiladol a phragmatig gyda Llywodraeth y DU, neu fel arall, ni fyddwn yn darparu'r cysylltedd sydd ei angen ar gymunedau a busnesau er mwyn iddynt allu cyflawni'r hyn sydd bellach yn agweddau gweddol normal o'n bywydau. Ond rwy'n optimistaidd—yn ofalus optimistaidd—y down o hyd i ffordd ymlaen.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau diweithdra yng Nghymru? OQ59746
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni cyflogadwyedd y mae Llywodraeth Cymru naill ai’n eu rhedeg neu’n eu hariannu. Dwy enghraifft dda yw Cymunedau am Waith a Mwy, a gyflenwir gan awdurdodau lleol, a ReAct+. Ynghyd â Canolfan Byd Gwaith—un o swyddogaethau Llywodraeth y DU—mae gennym ystod eang o fesurau ar waith i helpu i gefnogi pobl ddi-waith i gael gwaith.
Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae’r data diweddaraf yn dangos, er bod y darlun yn gwella ledled y DU, fod Cymru’n parhau i fod ar ei hôl hi o ran cyflogaeth, ac yn parhau i weld cynnydd mewn diweithdra. Yn ôl adroddiad baromedr busnes diweddaraf y Brifysgol Agored, mae 69 y cant o fentrau bach a chanolig eu maint yn wynebu prinder sgiliau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn gynnydd dramatig ar adroddiad y llynedd, pan oedd ond 32 y cant yn unig yn credu mai dod o hyd i’r set sgiliau gywir yw'r her fwyaf sy’n wynebu busnesau. Mae’r galw am swyddi yno, Weinidog; y cyfan sydd ei angen yw i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y gweithlu. Gyda hynny mewn golwg, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i sicrhau bod y duedd hynod siomedig hon yn cael ei gwrthdroi?
Wel, mae un neu ddau o bwyntiau i’w gwneud mewn ymateb. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ffigurau cyflogaeth a diweithdra. Fel rwyf i a’r Prif Weinidog wedi'i ddweud, ar y ffigurau eu hunain, mae’n bwysig peidio â dibynnu’n ormodol ar werth mis arall o ffigurau, gan fod ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd mewn diweithdra, tra bo’r ffigurau talu wrth ennill dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos cynnydd o 1.5 y cant yn nifer y cyflogeion yng Nghymru. Mae'r ffigurau ar gyfer y mis diwethaf yn dangos cynnydd o 0.3 y cant. Nawr, mae'n anarferol wedyn i ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yn dweud rhywbeth hollol wahanol. Felly, mae angen inni ddeall beth sy'n digwydd yn y cyswllt hwnnw, ac a bod yn deg, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn edrych ar gynyddu maint yr arolwg y maent yn ei gynnal o'r llafurlu i geisio sicrhau bod y ffigurau hynny'n fwy dibynadwy ac nad oes angen aros am yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth.
O ran sgiliau, mae hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â’n cyllideb gyffredinol, sydd, fel y gwyddoch, yn lleihau yn ei gwerth. Fe fyddwch hefyd yn gwybod, ym maes sgiliau, fod gennym gystadleuaeth niweidiol gan Lywodraeth y DU yn torri ar ein traws. Byddai’n llawer gwell, o ran y ffordd rydym yn gweithio’n ymarferol gyda swyddfeydd a rheolwyr lleol Canolfan Byd Gwaith, pe bai gennym berthynas debyg gyda Llywodraeth y DU. Mae a wnelo â chyfeiriad a gwerth cronfeydd ffyniant cyffredin. Mae a wnelo hefyd â llunio polisi pragmatig. A chredaf y byddai hynny'n fargen dda i'r lle hwn, ac yn parchu datganoli. Byddai hefyd, yn hollbwysig, yn fargen dda i fusnesau, ac i bobl sy’n awyddus i wella eu sgiliau er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith.
Weinidog, roeddwn yn falch o weld y cyhoeddiad a wnaethoch gyda’r Gweinidog addysg yr wythnos diwethaf am gyflwyno cynllun lle mae pobl ifanc sydd mewn perygl o adael addysg a dod yn ddi-waith yn cael profiad gwaith ystyrlon i sicrhau y gallant ailgysylltu â’u dysgu a'u bod yn cael eu hannog i ddatblygu eu dyheadau. Pa rôl y credwch y gallai’r fenter hon, gan weithio ochr yn ochr, er enghraifft, â’r warant i bobl ifanc, ei chwarae yn lleihau diweithdra, a diweithdra ymhlith pobl ifanc yn benodol, yma yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyhoeddi buddsoddiad o £0.5 miliwn mewn profiad gwaith wedi'i deilwra. Mae hynny’n dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn y maes, a gyflawnwyd gan Gyrfa Cymru gyda dysgwyr blwyddyn 10. Ac mae a wnelo hyn â rhoi profiad gwaith i bobl ifanc gael cyfle i edrych ar eu rhagolygon eu hunain yn y byd gwaith, ac i ailgysylltu â rhywfaint o addysg hefyd, er mwyn sicrhau bod y dysgu ei hun yn ddiddorol ac yn berthnasol i'w gyrfaoedd posibl yn y dyfodol, ac i wella eu cyfleoedd i fynd i fyd gwaith. Ac mae hyn yn sail i'r gwaith rydym yn ceisio ei wneud ledled y wlad gyda'r warant i bobl ifanc, i sicrhau nad oes gennym genhedlaeth goll. Mae hyn eto’n dystiolaeth bellach ein bod yn defnyddio cyllidebau sydd o dan bwysau, ond yn dal i fuddsoddi yn y dyfodol, ac yn cefnogi pobl ifanc i sicrhau eu bod yn gallu cynllunio dyfodol llwyddiannus yma yng Nghymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, y bore yma, cefais y pleser o gynnal brecwast briffio gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Dirnad Economi Cymru i drafod rhai o’r heriau sy’n wynebu busnesau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae llawer o’r heriau hynny'n rhai macro-economaidd ac yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, fe’i gwnaed yn glir iawn fod sawl cam y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghymru ar hyn o bryd hefyd, ac un o'r camau hynny yw gwella'r dirwedd sgiliau. Clywais eich ateb yn gynharach, ond y gwir amdani yw mai chi sy'n gyfrifol am sgiliau. Felly, a allwch ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau i sicrhau eu bod yn gallu diwallu eu hanghenion sgiliau ac yn gallu recriwtio, cadw ac uwchsgilio staff?
Mae gennym ystod o raglenni—er enghraifft, rwyf wedi cyhoeddi rhagor o arian, ynghyd â'r Gweinidog addysg, ar gyfer cyfrifon dysgu personol. Mae gennym yr holl gyngor y gall busnesau ei gael drwy Busnes Cymru eu hunain. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen brentisiaethau hefyd. Yn anffodus, rwyf wedi gorfod nodi y bydd y nod o ddarparu 125,000 o brentisiaethau newydd yn cymryd blwyddyn ychwanegol. Mae hynny'n enghraifft uniongyrchol o'r gonestrwydd y mae'n bwysig ei gael gyda busnesau—rwy'n siŵr eich bod wedi dweud hyn wrthynt eich hun—ynglŷn â realiti'r pwysau ar ein cyllidebau, ynglŷn â realiti ailgyfeirio'r gronfa ffyniant gyffredin. Yn flaenorol, roedd arian o'r hen gronfeydd Ewropeaidd yn ariannu dros 5,000 o brentisiaid y flwyddyn. Mae hwnnw'n arian sydd wedi'i ailgyfeirio i rywle arall. Mae gennym hefyd gystadleuaeth niweidiol, a rhaglen Lluosi, sydd wedi'i chynllunio'n wael. Yn flaenorol, byddai'r arian hwnnw wedi dod yma, a gallem fod wedi gwneud gwell defnydd ohono. Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn sgiliau ac mewn cynhyrchiant. Byddent mewn lle llawer gwell i bob un ohonom pe ceid eglurder ynghylch cyfrifoldeb, nid cystadleuaeth, a phe bai gennym y gyllideb a addawyd i ni, gydag arian yn lle holl gronfeydd blaenorol yr UE, yn hytrach na thros £1 biliwn yn cael ei gymryd oddi wrthym dros dair blynedd.
Wel, fel y gwyddoch, Weinidog, mae fy mhwyllgor yn edrych ar gyllid ôl-UE, ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu ein hadroddiad pan fyddwn yn ei gyhoeddi maes o law.
Nawr, Weinidog, roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021 yn ymrwymo i hyrwyddo sgiliau o ansawdd da yn y meysydd lle gwyddom y bydd yr economi yn tyfu ac i gryfhau partneriaethau sgiliau rhanbarthol er mwyn sicrhau bod y cyflenwad yn diwallu anghenion economaidd newidiol Cymru. Nawr, cyn etholiadau'r Senedd, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y pryd ddau ymchwiliad arbennig o bwysig mewn perthynas â sgiliau, un ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol ac un ar radd-brentisiaethau. Nawr, gwnaeth yr adroddiadau hynny gyfres o argymhellion pwysig iawn i Lywodraeth Cymru ar ffyrdd y gallai'r Llywodraeth wella'r system, a dylem fod yn gweld manteision rhoi'r argymhellion hynny ar waith bellach. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym p'un a yw Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi argymhellion y ddau adroddiad pwyllgor ar waith yn llawn?
Na, ni chredaf y byddem yn dweud ein bod wedi eu rhoi ar waith yn llawn. Ni chredaf ei fod yn brawf teg ceisio dweud y dylai pob un ohonynt fod wedi'u rhoi ar waith yn llawn bellach, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn y cyfamser, ac o ystyried realiti'r heriau gwahanol rydym yn eu hwynebu bellach.
Edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiad y pwyllgor. Rwy'n siŵr y byddaf yn ei groesawu at ei gilydd. Efallai na fyddaf yn croesawu pob argymhelliad ar bob tudalen, ond rwy'n edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad. Ac wrth gwrs, mae un o'ch Aelodau, Hefin David, wedi cyflawni adroddiad ar ran y Gweinidog addysg, sy'n uniongyrchol berthnasol i mi, ar sut y ceisiwn wella nid yn unig y dirwedd sgiliau, ond y cysylltedd a'r dewisiadau ar gyfer pobl ifanc. Edrychaf ymlaen at drafodaeth adeiladol ar yr adroddiad hwnnw. Ond mewn ystod o feysydd lle mae twf a photensial twf—meddyliwch am awyrofod, meddyliwch am weithgynhyrchu uwch yn fwy cyffredinol, meddyliwch am led-ddargludyddion—mae'r rhain oll yn feysydd lle mae'n bosibl cael rhaglenni gradd sy'n gweithio gyda nhw. Rydym eisoes yn gweld gradd-brentisiaethau, rydym eisoes yn gweld pobl sy'n ennill cymwysterau lefel gradd trwy fyd gwaith. A'n her yw sut y gweithiwn ochr yn ochr â busnesau i sicrhau bod y cyfleoedd sy'n deillio o fuddsoddi yn ein gweithlu yn rhai real, a'r fargen rhwng y Llywodraeth a chyllid cyhoeddus, a'r eglurder y gallwn ei ddarparu a pha fusnesau sy'n barod i fuddsoddi nid yn unig mewn gweithwyr rheng flaen, ond yn hanfodol, i fuddsoddi yn ansawdd a sgiliau arweinwyr a rheolwyr hefyd. Dyna un o'r rhannau o'r economi yng Nghymru lle mae angen inni weld mwy o fuddsoddiad a mwy o werthfawrogiad o werth hynny i'r unigolion hynny, i'r cwmnïau a'r busnesau y maent yn eu rhedeg, ac wrth gwrs, i'r gweithwyr y maent yn gyfrifol amdanynt ac yn atebol iddynt.
Weinidog, credaf ein bod ar bwynt hanfodol gyda chyflwyno'r cwricwlwm newydd a chyda'r cyhoeddiad diweddar y bydd dau borthladd rhydd yn cael eu creu. Felly, rydym wedi cyrraedd cyfnod tyngedfennol, yn fy marn i, ac mae angen inni harneisio'r cyfle hwn a gwneud rhai newidiadau sylweddol yn y maes hwn. Nawr, fe gyfeirioch chi at adroddiad 'Pontio i Fyd Gwaith', a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Aelod dros Gaerffili, sy'n ystyried profiad gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo dysgwyr i bontio o addysg i gyflogaeth yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwnnw hefyd.
Nawr, Weinidog, rwyf wedi bod yn cyfarfod â busnesau a sefydliadau busnes, ac maent wedi dweud yn gwbl glir wrthyf fod sgiliau'n fater pwysig a bod angen mwy o lais arnynt ynglŷn â'r modd y caiff sgiliau eu cyflenwi yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, o ystyried ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru, mae'n bwysicach nag erioed eich bod chi fel Llywodraeth yn cael hyn yn iawn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar fusnesau a sicrhau bod digon o ddarpariaeth, capasiti, ac yn wir, adnoddau ar waith i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r rhai sy'n darparu gradd-brentisiaethau yng Nghymru, ac yn wir, sgiliau galwedigaethol yng Nghymru, ac yn bwysig, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda busnesau, ac yn wir, sefydliadau busnes hefyd i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn llywio datblygiad y ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru ar gyfer y dyfodol?
Wel, mae'r Llywodraeth yn gwneud yn union yr hyn y mae'r Aelod yn ei nodi. Mae fy swyddogion yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda darparwyr addysg bellach ac addysg uwch hefyd; rydym yn parhau i gyflwyno gradd-brentisiaethau; rydym yn gwneud yn union beth y dywedasom y byddem yn ei wneud yn ein maniffesto, ac wrth gwrs, ar bron bob ymddangosiad yn eich pwyllgor, gan wisgo eich het arall, mae Hefin David yn achub ar y cyfle i siarad am hyn, i'n hatgoffa o'n hymrwymiadau, ac rwyf bob amser wedi rhoi ymateb cadarnhaol i hynny. Rydym yn parhau i ymgysylltu'n uniongyrchol â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol hefyd ym mhob rhan o Gymru, ac nid yn unig fy swyddogion, mae gennyf innau ddiddordeb uniongyrchol yn hyn. Er enghraifft, cyfarfûm â busnesau yr wythnos diwethaf ar yr union bwnc hwn—y sgiliau sy'n cael eu darparu, yr hyn y mae hynny'n ei olygu i'r dysgwr hefyd, ond hefyd i sicrhau bod y sgiliau hynny'n uniongyrchol berthnasol i'r byd gwaith heddiw. Felly, mae'n sgwrs sydd angen dolen uniongyrchol sy'n cynnwys y Llywodraeth, sy'n cynnwys y busnesau eu hunain, gan gynnwys drwy ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'r bobl sy'n darparu'r hyfforddiant a'r sgiliau i ddysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn uniongyrchol berthnasol. Hoffwn sicrhau ein bod yn cael gwerth da am yr arian cyhoeddus rydym yn ei fuddsoddi yn hynny, a bod y dysgwyr eu hunain yn cael gwerth da i wella eu rhagolygon gyrfa.
Felly, rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'w wneud, a manteisio ar y cwricwlwm newydd sydd wedi'i groesawu yn gyffredinol gan bobl ym maes busnes.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddata ar gynhyrchiant is-ranbarthol ledled y DU yn ogystal â pherfformiad bargeinion dinesig neu fargeinion twf rhanbarthol yn y cyd-destun hwn. Ar sail yr allbwn prisiau presennol fesul awr a weithiwyd, nid oes yr un o awdurdodau lleol Cymru yn uwch na chyfartaledd y DU, ac yn achos ardaloedd fel Gwynedd, Ceredigion a Phowys, mae'r bwlch dros 30 y cant. Y realiti syml yw bod ein cynhyrchiant isel yng Nghymru yn golygu ein bod yn gweithio oriau hirach am lai o gyflog, a dyma fu'r sefyllfa, i raddau helaeth, am bron i chwarter canrif.
Nawr, er clod iddynt, lluniodd Llywodraethau cynnar Cymru dargedau mewn ymdrech i gau'r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y DU, ond mae'r rhain wedi cael eu hanghofio ers amser maith. Er bod cynllun gweithredu economaidd presennol Llywodraeth Cymru yn cydnabod y broblem, nid yw'n gwneud unrhyw beth i ymrwymo i unrhyw dargedau penodol neu ystyrlon i sicrhau gwelliant yn y maes hwn. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn: os nad yw'r Gweinidog yn credu bod targedau yn angenrheidiol i fesur a ydym yn cau'r bwlch cynhyrchiant hwnnw'n llwyddiannus ai peidio, pa ddulliau y mae'n credu sy'n effeithiol i wneud hynny?
Felly, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar yr hyn a wnawn ar gynhyrchiant, nid yn unig mewn perthynas â'r DU yn gyffredinol, ond mewn rhanbarthau penodol, ac mae hynny wedi'i gyhoeddi'n wrthrychol hefyd, ac rydym yn parhau i fuddsoddi adnoddau sydd gennym mewn meysydd y gwyddom y byddant yn helpu i wella cynhyrchiant, boed yn gymorth ar gyfer cyfalaf—fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths; mae rhaglen ar gael ar gyfer hyd at 40 y cant o fuddsoddiad cyfalaf a fydd yn helpu i wella cynhyrchiant busnes yn y sector bwyd. Rydym yn parhau, fel y mae'r sgwrs flaenorol newydd ei dangos gyda Paul Davies, i fuddsoddi yn sgiliau unigolion—dyna'r ysgogiad mwyaf sydd ar gael i ni, o bosibl. Ond mewn gwirionedd, ers datganoli, gwelwyd cynnydd mewn cynhyrchiant yma yng Nghymru, ac mae wedi bod yn gyflymach na'r rhan fwyaf o ranbarthau'r DU.
Y newidyn drysu, mewn gwirionedd, yw Llundain a de-ddwyrain Lloegr, sy'n perfformio'n sylweddol well na phob rhan arall o'r DU. Nid yw Boris Johnson bob amser wedi bod yn onest gyda phobl ym mhob datganiad a wnaeth, ond dywedodd unwaith, pan oedd yn sôn am ffyniant bro, ei fod yn cydnabod bod Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn sylweddol anghyfartal â gweddill y DU. Yr her mewn gwirionedd fu cael cyfres nid yn unig o gyhoeddiadau polisi ond o ddewisiadau cyllidebol, gan weithio gyda phobl sy'n gyfrifol am nifer o'r meysydd hyn, i sicrhau bod yr adnodd yn dilyn y ddadl. Rydym yn dal i fod heb weld hynny, ac mae arnaf ofn na fyddwn yn gweld hynny hyd nes y bydd gennym Lywodraeth Lafur gyda Phrif Weinidog a Changhellor Llafur yn Stryd Downing.
Mae'n werth cofio, yn amlwg, nad cysyniad haniaethol sydd o bwys i economegwyr yn unig yw cynhyrchiant; mae'n fesur sylfaenol o werth llafur gweithlu. Rwy'n meddwl am yr hyn a ddywedodd Paul Krugman:
'Nid cynhyrchiant yw popeth, ond yn y tymor hir, mae bron â bod yn bopeth. Mae gallu gwlad i wella ei safon byw dros amser yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar ei gallu i gynyddu ei hallbwn fesul gweithiwr.'
Wrth gwrs, mae set ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf bellach yn un o gyfres o ddatganiadau sy'n dangos gwendidau economi Cymru, ac mae'n rhaid imi ddweud, fel unigolyn ifanc—a Lywydd, nid wyf dros 30 eto—yr oll a glywaf yw sut y dylwn ystyried mynd allan o Gymru a gweddill y DU. Mae'r rhagolygon yn llwm. Hynny yw, beth sy'n wynebu fy nghenhedlaeth i a'r genhedlaeth ar ôl fy nghenhedlaeth i? Cyflogau disymud, costau cynyddol, methu fforddio rhentu neu brynu ein tai ein hunain. Beth fyddai'r Gweinidog yn ei ddweud wrth unigolyn ifanc heddiw—beth yw rhinweddau aros yng Nghymru? Oherwydd, hyd yn hyn yn y swydd hon—rwyf wedi bod yn y swydd ers ychydig dros ddwy flynedd bellach—yr oll a welais yw strategaethau diddiwedd a geiriau cynnes yn cydnabod bod problem, ond ychydig iawn o weithredu neu gynnydd.
Pan fyddaf yn siarad â busnesau a sectorau ac unigolion, mae yna rai sy'n wynebu heriau go iawn—mae hynny'n wir ac yn ddiamheuol; nid wyf erioed wedi ceisio gwadu hynny. Ond ceir ystod o sectorau hefyd sy'n obeithiol iawn am eu cyfleoedd yma yng Nghymru a pham eu bod yma yn y lle cyntaf. A'r hyn rydym wedi ceisio ei wneud yw creu ymdeimlad o nid yn unig optimistiaeth, ond sy'n seiliedig ar realiti pam fod busnesau'n dewis lleoli eu hunain yma yng Nghymru mewn sectorau twf. Soniais yn gynharach am awyrofod, am weithgynhyrchu uwch, am led-ddargludyddion—pob un yn faes twf gyda swyddi da iawn. Swyddi da yn y meysydd hynny ymhell uwchlaw'r cyflog byw gwirioneddol, ymhell uwchlaw'r cyflog cyfartalog. Os edrychwch ar y swyddi peirianneg sy'n helpu i fod yn sail i'r holl swyddi hynny, rydym yn buddsoddi mewn mwy o bynciau peirianneg, yn ennyn diddordeb mwy o bobl yn y rheini, ac mae gweithgynhyrchwyr a busnesau ym maes peirianneg yn awyddus i ddod i Gymru ac am wybod bod y sgiliau a'r dalent yno.
Felly, i bobl ifanc, dyna feysydd lle mae yna gyfleoedd, mae gennym Lywodraeth yma sydd nid yn unig yn gweld y cyfleoedd, ond sy'n awyddus i fuddsoddi yn hynny, cyn 16 ac ar ôl 16, pan fo pobl yn dod i mewn i'r byd gwaith. Dyna pam fod cymaint o'n rhaglen sgiliau yn cefnogi pobl sydd eisoes mewn gwaith hefyd, i wella ac i newid eu sgiliau. Dyna pam fod y sectorau technoleg a thechnoleg ariannol yn gweld twf o'r fath yma yng Nghymru, ac ystod eang o gyfleoedd gwahanol. Mae rhesymau dros fod yn optimistaidd am ddyfodol Cymru, os oes gennym y buddsoddiad cywir, os oes gennym bartneriaid i'n galluogi i wneud y buddsoddiad hwnnw mewn amgylchedd sy'n sefydlog, a dyna pam fod busnesau'n cydnabod y gallant ddod i Gymru a'u bod am dyfu yma hefyd.
3. Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cynnal gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid eraill ynglŷn â dyfodol Amgueddfa Caerdydd? OQ59732
A gaf fi ddiolch i Rhys ab Owen am ei gwestiwn? Mater i Gyngor Caerdydd, wrth gwrs, yw rheoli ac ariannu Amgueddfa Caerdydd, ond mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod a gohebu â Chyngor Caerdydd, staff yr amgueddfa ac Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd, gan gynghori ar feincnodi gwasanaethau amgueddfeydd, safonau achredu amgueddfeydd, cyllid, cynhyrchu incwm, llywodraethu a modelau gweithredu.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Diolch am y gefnogaeth i amgueddfa Caerdydd. Hefyd, rwy'n croesawu'r buddsoddiad diweddar yn yr amgueddfa. Credaf y gall pob un ohonom gytuno ei bod yn bwysig fod gan ein prifddinas le sy'n tynnu sylw at ein hanes cyfoethog ac amrywiol. Gwn hefyd eich bod yn cytuno â mi, Weinidog, mai dim ond un mesur o lwyddiant yw niferoedd ymwelwyr a bod amgueddfeydd yn gwneud cyfraniad enfawr mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Fodd bynnag, mae pryder am y niferoedd sy'n mynychu'r amgueddfa. Mae pryder nad yw'r amgueddfa yn cael ei hysbysebu'n dda, nad yw pobl Caerdydd hyd yn oed yn gwybod am ei bodolaeth, heb sôn am dwristiaid, ac mae problemau hygyrchedd o ran mynediad i'r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd. Sut y byddwch yn gweithio gyda phartneriaid eraill i hyrwyddo'r amgueddfa ac i sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb? Diolch.
Wel, diolch, Rhys ab Owen. Credaf fod y pwyntiau hynny'n bwyntiau dilys iawn, ac roeddwn yn falch iawn o weld bod Cyngor Caerdydd, yr wythnos diwethaf, bellach wedi llofnodi cytundeb les gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a bydd hynny'n galluogi'r amgueddfa i aros yn adeilad yr Hen Lyfrgell am bum mlynedd arall. Ac mae hwnnw'n ddatblygiad cadarnhaol, oherwydd yn amlwg, bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd i'r amgueddfa a'r cyngor allu archwilio opsiynau ac archwilio dichonoldeb unrhyw symudiadau yn y dyfodol. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt hyrwyddo'r amgueddfa yn fwy effeithiol a chyflwyno'r mesurau hygyrchedd rydych wedi'u hamlinellu, yn gywir ddigon, fel cam pwysig tuag at sicrhau bod yr amgueddfa yn dod yn lle mwy deniadol i ymweld ag ef. Oherwydd mae'n amlwg ei bod yn un o amgueddfeydd lleol allweddol Cymru, ac mae ganddi enw da iawn am waith allgymorth a chefnogi grwpiau cymunedol ac adrodd straeon amrywiol pobl yn ein prifddinas. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y bartneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn helpu i gyflawni'r amcanion rydych chi a minnau am eu gweld ar gyfer yr amgueddfa honno.
Credaf y gall pob un ohonom gytuno, Ddirprwy Weinidog, fod Amgueddfa Caerdydd yn atyniad twristaidd hanfodol i'n prifddinas, yn ogystal â man pwysig i gynnal ymweliadau addysgol a digwyddiadau diwylliannol. Rwy'n llwyr dderbyn bod Cyngor Caerdydd yn wynebu dewisiadau anodd oherwydd prinder cyllid, ond rwy'n credu mai annoeth iawn oedd hyd yn oed meddwl am wneud Amgueddfa Caerdydd yn atyniad symudol, gan fod hynny'n creu rheswm arall i bobl beidio ag ymweld â chanol y ddinas. Yn fy marn i, Ddirprwy Weinidog, byddai'n gwneud niwed i enw da dinas fel Caerdydd a'r hanes sydd ganddi pe na bai ganddi amgueddfa bwrpasol. Yn syml, bydd yn dangos nad ydym yn poeni am ein diwylliant ac nad oes gennym unrhyw falchder yn ein gorffennol. Gyda hyn mewn golwg, pa sgyrsiau a gawsoch gyda'r cyngor i sicrhau eu bod yn deall goblygiadau ehangach peidio â chael yr amgueddfa hon yng nghanol y ddinas, a pha ddadansoddiad a wnaethoch o alluoedd penodol y cyngor mewn perthynas â chodi arian treftadaeth a diwylliant? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Joel James am ei gwestiwn pellach? Credaf fy mod wedi nodi'n glir iawn yn fy ymateb i gwestiwn Rhys ab Owen ein bod wedi bod yn ymgynghori â Chyngor Caerdydd, ein bod wedi siarad ag Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd, a'n bod wedi siarad â nhw am feincnodi gwasanaethau amgueddfeydd a gwasanaethau achredu amgueddfeydd. Dywedasom yn glir iawn wrthynt y byddent yn mentro colli eu hachrediad yn sgil y posibilrwydd o symud amgueddfa Caerdydd o leoliad sefydlog ac i drefniant symudol, a thrwy fentro colli eu hachrediad, byddai gwahanol fathau o gyllid yn y fantol.
Nawr, yr hyn rydym wedi'i weld yw bod Cyngor Caerdydd, fel pob cyngor arall yn y wlad, wedi wynebu problemau ariannol difrifol a dewisiadau ariannol y bu'n rhaid iddynt eu gwneud, ac roedd hwn yn un maes y gwnaethant ymgynghori â'r cyhoedd yn ei gylch. O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw, maent wedi gwrando ar yr hyn oedd gan bobl i'w ddweud, ac maent yn aros yng nghanol y ddinas yn yr Hen Lyfrgell. Unwaith eto, fel y soniais wrth Rhys ab Owen, maent yn ymrwymo i bartneriaeth newydd gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a fydd, gobeithio, yn sicrhau dyfodol parhaus i'r amgueddfa.
Rwy'n ymwybodol fod Cyngor Caerdydd wedi gweithio'n agos gydag Amgueddfa Caerdydd fel rhan o'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' i sicrhau nad yw amgueddfeydd yn parhau i fod yn anfeirniadol mewn perthynas â'n hymagwedd tuag at ein gorffennol trefedigaethol, ac mae hwnnw'n gyfraniad pwysig iawn. Maent hefyd yn arwain ar Cyfuno Caerdydd, y cyfeiriodd Joel James ato'n gryno, i annog pawb, gan gynnwys y rheini sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, i ddeall a gwerthfawrogi diwylliant a threftadaeth. Felly, a allech chi ddweud mwy wrthym ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r amgueddfa i sicrhau bod y cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu hannog i ymweld a dysgu am eu hanes mewn ffordd sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein gorffennol hanesyddol?
A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn? Credaf ei bod yn codi pwynt pwysig iawn. Mae Amgueddfa Caerdydd yn sicr yn esiampl o'r berthynas gadarnhaol honno â chymunedau amrywiol, gan sicrhau eu cyfranogiad, eu cynrychiolaeth a'u cynhwysiant, sef y peth pwysicaf. Ond o ran y pwynt ehangach a wnewch, Jenny, rydym wedi dyfarnu £642,000 drwy gronfa diwylliant, treftadaeth a chwaraeon Cymru wrth-hiliol i sefydliadau'r sector amgueddfeydd, ac mae'r cyllid hwnnw'n benodol ar gyfer gweithio gydag amgueddfeydd lleol i'w cefnogi drwy hyfforddiant, mentora, grantiau i adlewyrchu a chynrychioli hanes a diwylliannau cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn eu casgliadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a rhaglenni dysgu. Rydym eisoes yn gweld bod y cyllid hwnnw'n arwain at newid yn y ffordd y mae amgueddfeydd lleol yn gweithredu. Er enghraifft, mae nifer o amgueddfeydd lleol wedi cynnal adolygiadau o'u casgliadau i nodi eitemau a all helpu i roi adlewyrchiad mwy gonest o hanes yr ardal, ac mae sesiynau hyfforddi wedi meithrin gwell dealltwriaeth ymhlith staff amgueddfeydd a gwirfoddolwyr ynghylch ymgysylltu â chynulleidfa newydd a chyd-greu gyda chymunedau amrywiol. Oherwydd un o'r pethau sy'n amlwg mor bwysig os yw amgueddfeydd fel amgueddfa Caerdydd i ffynnu, pan fydd pobl yn cerdded i mewn i'r amgueddfa honno, onid oes arnynt eisiau gweld eu hunain a'u hanesion yn cael eu hadlewyrchu? Felly, dyna'r amcan rydym wedi bod yn gweithio tuag ato drwy gronfa diwylliant Cymru wrth-hiliol a chynlluniau eraill i hyrwyddo mwy o gynhwysiant o blith cymunedau difreintiedig hefyd.
Ddirprwy Weinidog, rwy’n deall—yn groes, efallai, i’r hyn roeddech chi'n ei ddweud—mai’r bwriad o hyd yw symud yr amgueddfa o’r adeilad hwnnw, a’u bod yn dal i chwilio am safle arall. Felly tybed a allech chi egluro'r gefnogaeth y mae eich swyddogion yn ei darparu mewn perthynas â dod o hyd i leoliad addas. Fel rydych wedi’i ddweud yn gywir, mae’n amgueddfa bwysig iawn i ddenu ymwelwyr, nid yn unig i Gaerdydd, ond i Gymru. Mae'n amgueddfa o ansawdd uchel hefyd o ran hygyrchedd. Mae nifer o grwpiau anabledd wedi cysylltu â mi oherwydd hygyrchedd y dehongli. Roedd angen swm enfawr o fuddsoddiad i sicrhau hyn, a llwyddwyd i’w gael; rwy'n bryderus ynghylch gweld y buddsoddiad hwnnw'n cael ei golli heb unrhyw eglurder ynglŷn â lle mae'r amgueddfa hon yn mynd i gael ei lleoli. Felly tybed a allech chi gynnig eglurhad ynghylch y trafodaethau penodol hynny.
Rwy’n credu eich bod wedi codi pwynt teg iawn, Heledd Fychan. Dau neu dri diwrnod yn ôl yn llythrennol y cefais wybod bod Cyngor Caerdydd wedi arwyddo cytundeb les gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i alluogi’r amgueddfa i aros yn yr Hen Lyfrgell, felly yn llythrennol mae’r newyddion yn boeth o’r wasg, ac nid oes gennyf y manylion am hynny a'r hyn y bydd yn ei olygu ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais yn fy ateb i Rhys ab Owen, byddwn yn disgwyl i’r cytundeb les â Chyngor Caerdydd ystyried y ffaith, os bydd yr amgueddfa’n aros yn y lleoliad presennol, a bod y les wedi’i harwyddo am bum mlynedd, y byddai angen gwneud llawer o waith i sicrhau bod yr adeilad a'r casgliadau sydd ynddo mor hygyrch â phosibl. Mae hynny'n sicr yn un o amcanion Llywodraeth Cymru, a gwn y byddai'n un o amcanion Cyngor Caerdydd, ac roedd yn un o'u pryderon ynghylch aros yno, fel y dywedwch yn gwbl briodol. Felly, cyn gynted ag y caf ragor o fanylion am hynny, byddaf yn hapus i’w rhannu â chi.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu cynhyrchiant yng Ngorllewin De Cymru? OQ59740
Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi'r gwerthoedd a'r blaenoriaethau sy'n llywio'r penderfyniadau a wnawn i gefnogi ein heconomi. Ar gyfer Gorllewin De Cymru yn benodol, enghraifft dda yw bargen ddinesig bae Abertawe, sy'n ceisio sicrhau buddsoddiad o £1.2 biliwn gyda’r nod o greu 9,000 o swyddi.
Diolch, Weinidog. Er gwaethaf nifer o strategaethau, cynlluniau a chwistrelliadau enfawr o arian ar ffurf Amcan 1, mae cynhyrchiant fesul pen a gwerth ychwanegol gros yn parhau i fod ymhell islaw cyfartaledd y DU ar draws fy rhanbarth. Mewn gwirionedd, mae gwerth ychwanegol gros am bob awr a weithir ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot wedi gostwng o 87 y cant o gyfartaledd y DU i 85 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf.
Nawr, ym mhob mynegai economaidd, mae Cymru'n parhau i fod ar y gwaelod. Weinidog, ni allwch feio hyn yn syml ar gyni chwedlonol y Torïaid na’r pandemig; cynyddodd cynhyrchiant yn ystod Llywodraeth Cameron. Chi sy’n rheoli economi Cymru, felly pryd y gwnewch chi ysgwyddo cyfrifoldeb a chymryd yr awenau a mynd i’r afael â'r economi sy'n gwanychu yn fy rhanbarth?
Wel, wrth gwrs, mewn perthynas â chynhyrchiant yn cynyddu yma yng Nghymru, o 2012 i 2021 cynyddodd cynhyrchiant yn nhermau gwerth ychwanegol gros yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot 21 y cant a bron i 18 y cant yn y drefn honno. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Luke Fletcher, y newidyn drysu yn nhermau economi’r DU mewn gwirionedd yw gorberfformiad a gorboethi Llundain a de-ddwyrain Lloegr o gymharu â gweddill y wlad.
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn meysydd er mwyn gwella cynhyrchiant yr economi yn fwy cyffredinol, rydym yn parhau i fuddsoddi i gefnogi’r economi i dyfu. Enghraifft dda yw’r gwaith rydym wedi gorfod ei wneud yn bragmataidd gyda Llywodraeth y DU ochr yn ochr â phorthladdoedd rhydd, nid oherwydd ein bod yn gweld porthladdoedd rhydd fel yr ateb i bopeth, ond er mwyn cyflymu’r cyfleoedd yn ein sector ynni adnewyddadwy, beth fydd hynny’n ei olygu o bosibl ar gyfer gweithgynhyrchu uwch, y cyfle i weld dyfodol mwy hirdymor i Tata, a’r holl swyddi eraill y credwn y gellid eu creu pe gallem fanteisio'n briodol a gwneud y gorau o ynni adnewyddadwy ar hyd ein harfordir. Dim ond un enghraifft yw hon—rhoddais enghreifftiau mewn llawer o feysydd eraill mewn ymateb i gwestiynau cynharach gan Luke Fletcher—lle mae twf eisoes yn digwydd mewn rhai sectorau yma yng Nghymru.
Gallem bob amser wneud mwy gyda phartner sefydlog yn Llywodraeth y DU sydd am weithio gyda ni, nid o’n cwmpas ni, sy’n parchu’r setliad datganoli yn hytrach na cheisio dod o hyd i ffordd yn syth drwyddo bob amser. Rwy'n obeithiol y cawn hynny ymhen y flwyddyn, pan fydd yr etholiad nesaf yn cael ei alw a phan welwn Brif Weinidog a Changhellor Llafur yn Stryd Downing.
Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen am lywodraeth sy'n wirioneddol gydgysylltiedig â Llywodraeth y DU; mae angen iddynt fod yn bartner sy'n barod i weithio gyda ni i ysgogi cynnydd mewn cynhyrchiant. Ond rydych chi wedi ymweld â nifer o'r cwmnïau yn y rhanbarth, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun yn Ogwr—rhai o'r cwmnïau cynhyrchiant uchel sy'n arwain, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU, gan gynnwys Sony Pencoed, y gwnaethoch ymweld â nhw yn ddiweddar, i edrych ar rai o'r cwmnïau yno yn yr uned hybu hefyd.
Dywedodd Steve Dalton, cyn-brif weithredwr Sony Pencoed, wrth sôn am gefnogaeth flaenorol Llywodraeth Cymru, y byddai'r buddsoddiad, gan gynnwys o gronfa dyfodol yr economi, yn sbarduno twf mewn sawl busnes ym Mhencoed, yn sbarduno twf ym musnes Raspberry Pi ac yn llywio datblygiad busnes prototeipio Sony UK Technology, sy'n cyflwyno cynlluniau o gynnyrch newydd i'r farchnad ar gyfer trydydd partïon hefyd. Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, gwn fod ganddynt 27 o brosiectau, 17 o fusnesau, wedi'u cefnogi gan gyllid SMARTCymru ar gyfer arloesedd hefyd. A yw'n cytuno â mi fod gwelliannau cynhyrchiant yn cael eu cyflawni gan sefydliadau sector preifat rhagorol yn ein hardal, ond bod angen Llywodraeth Cymru weithredol gyda chymorth ariannol wedi'i dargedu i ddarparu'r sylfaen ar gyfer eu llwyddiant?
Diolch, ac rwy'n cydnabod mai penderfyniad a wnaed gan y Gweinidog blaenorol, Ken Skates, oedd y buddsoddiad y sonioch chi amdano gyda Sony, ac rwy'n falch iawn o gydnabod y penderfyniad a wnaeth, oherwydd mae'n gwneud yn union beth rydych chi'n ei ddweud: mae'n gwmni sector preifat sy'n buddsoddi yn nyfodol ei weithlu ochr yn ochr â Llywodraeth weithredol. Pan wnaethom ymweld â nhw, wrth gwrs, gwelsom y cynnydd sylweddol a oedd yn digwydd yng nghynhyrchiant Raspberry Pi. Fe wnaethom ymweld â'r uned hybu a gweld gwahanol fusnesau sy'n tyfu yno ar y safle hwnnw. Mewn gwirionedd, mae rhai o'r busnesau hynny bellach yn symud allan oherwydd eu bod wedi tyfu'n rhy fawr i'r uned hybu. Dyna'n union rydym eisiau ei wneud a dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon yn anelu i'w wneud, a dyna sut rydym yn targedu'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym nawr i wneud yn siŵr eu bod yn sicrhau'r enillion mwyaf. Rwy'n falch iawn o weld bod yna enghreifftiau real o hynny yn etholaeth Ogwr a thu hwnt.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ59738
Rydym wedi mabwysiadu amrywiaeth o fesurau, gan gynnwys rhaglen y Cymoedd Technoleg wrth gwrs, ymrwymiad gwerth £100 miliwn yn y rhaglen lywodraethu dros 10 mlynedd i greu 1,500 o swyddi cynaliadwy ac i gynyddu'r cyflog wythnosol cyfartalog a'r gwerth ychwanegol gros, gan ganolbwyntio ar Flaenau Gwent. Mae effaith y buddsoddiad hwnnw'n cael ei weld yng nghymunedau eraill y Cymoedd hefyd.
Mae'n wir, ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi a'r Llywodraeth am hynny, Weinidog, ac yn ddiolchgar hefyd am y gwaith y mae'r Llywodraeth yn parhau i'w wneud i liniaru effaith colli busnesau fel Tillery Valley Foods. Ond rydym hefyd yn ymwybodol ym Mlaenau Gwent ein bod yn ysgwyddo baich y camreolaeth economaidd a welsom gan Lywodraeth Dorïaidd y DU; rydym hefyd yn cario baich Brexit caled, ac mae'r ddau beth, gyda'i gilydd, yn gwneud yr economi'n llai hyfyw mewn lleoedd fel Blaenau Gwent.
Mae rôl Llywodraeth Cymru yn y cyd-destun hwn yn bwysicach nag erioed. Weinidog, yr hyn sydd ei angen arnom ym Mlaenau Gwent yw ffocws ar seilwaith diwydiannol a busnes i alluogi busnesau i ffynnu yn y fwrdeistref ac ar draws rhanbarth Blaenau'r Cymoedd. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i fuddsoddi mewn strategaeth ddiwydiannol, os mynnwch, ar gyfer Blaenau'r Cymoedd—i fuddsoddi, er enghraifft, yn ein seilwaith ynni yn ogystal â seilwaith hyfforddi a seilwaith trafnidiaeth, sydd eisoes wedi gweld y buddsoddiad hwnnw. Ond mae angen buddsoddiad hefyd mewn unedau busnes ac mewn unedau diwydiannol, sy'n galluogi busnesau, wedyn, i leoli ym Mlaenau Gwent, i greu gwaith a chreu swyddi ar gyfer y dyfodol.
Gallaf gytuno'n llwyr â'r Aelod. Cyfeiriodd yr Aelod at rywfaint o'r seilwaith trafnidiaeth—sicrhau, ar ôl buddsoddi yn yr A465, ein bod mewn gwirionedd yn darparu buddsoddiad i sicrhau bod swyddi'n cael eu creu o fewn Cymoedd y gogledd yn hytrach na thynnu pobl o Gymoedd y gogledd i ganolfannau poblogaeth eraill, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn Rhyd y Blew, er enghraifft, ac edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad sylweddol yno—yr £8.5 miliwn a fuddsoddwyd—ac rwy'n hyderus y byddwn yn gweld cyfleoedd sylweddol yno.
Yn y gorffennol, mae'r Aelod wedi trafod rhai o'r cyfleoedd eraill a allai fodoli ym Mlaenau Gwent. Mae'n werth nodi hefyd, wrth gwrs, ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn busnesau cyfredol yn ogystal â'r rhai nad ydynt yno. Rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion, ond mae yna 12 busnes yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi derbyn dros £230,000 ym Mlaenau Gwent i helpu i wella eu cynhyrchiant—enghreifftiau go iawn o gefnogi busnesau i dyfu, sydd wedyn ag ôl troed yn y Cymoedd—yn ogystal â sicrhau bod y seilwaith a'r uchelgais yno i wneud hyd yn oed mwy i sicrhau bod gwaith sy'n talu'n dda iawn i'w gael o fewn cymunedau'r Cymoedd eu hunain.FootnoteLink
Weinidog, fe sonioch chi'n gynharach, a hoffwn eich pwyso ymhellach arno, am un o'r prosiectau mawr y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddo, sef prosiect y Cymoedd Technoleg y sonioch chi amdano yn ardal yr Aelod. Nod hwn yw troi ardal Cymoedd Blaenau Gwent yn fagwrfa uwch-dechnoleg ar gyfer datblygu technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch, nod ardderchog rwy'n cytuno ag ef ac yn gobeithio'i weld yn dwyn ffrwyth. Fel rydych wedi'i ddweud heddiw, y nod yw creu 1,500 o swyddi mewn 10 mlynedd, gyda buddsoddiad o £100 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y prosiect dros ddegawd. Fodd bynnag, mae cwestiwn ysgrifenedig a gyflwynais wedi datgelu nad yw'r rhaglen, sydd eisoes wedi derbyn buddsoddiad o £40 miliwn, ond wedi creu 29 o swyddi. Weinidog, mae bron i hanner yr arian wedi cael ei wario, ac eto rydym yn dal i fod heb weld 50 o swyddi yn yr ardal ddwy flynedd yn ddiweddarach. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: pryd y bydd fy rhanbarth yn dechrau teimlo effeithiau'r buddsoddiad hwn a phryd y cawn ddechrau gweld y 1,500 o swyddi hynny? Diolch.
Wel, wrth gwrs, yn sgil rhaglen y Cymoedd Technoleg, rydym wedi gweld y cyfle i greu bron 300,000 troedfedd o ofod swyddfa a gweithgynhyrchiant newydd, addas i'r diben. Rydych chi'n iawn, mae tua £40 miliwn wedi'i wario ar ddyfodol economaidd i Flaenau Gwent. Rydych hefyd wedi gweld nifer o weithgynhyrchwyr pwysig, fel Apex Additive Technologies a gwasanaethau ymgynghori PNR Pharma, a Thales wrth gwrs, yn lleoli yno, oherwydd mae yna Lywodraeth weithredol yma i weithio ochr yn ochr â'r busnesau hynny. Mewn gwirionedd, mae buddsoddiad Thales yn enghraifft dda o ddiwydiant a phartner blaenllaw ar gyfer y dyfodol. Felly, yn bendant mae gan Blaenau Gwent le yn nyfodol y sector seiber, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y DU. Pan gyfarfûm â Thales ym Mharis yn ddiweddar, roeddent yn hynod gadarnhaol am y dyfodol ar gyfer y buddsoddiad. Maent yn ei ystyried yn berl yn eu buddsoddiadau ar gyfer y dyfodol ac yn gyfle i wella sgiliau a chreu swyddi oherwydd bod ganddynt bartner dibynadwy yn y Llywodraeth hon. Edrychaf ymlaen at weld mwy o dwf swyddi yn yr ardal, ac edrychaf ymlaen at glywed yr Aelod yn ei groesawu a'i gydnabod.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lywodraethiant porthladd rhydd Ynys Môn? OQ59750
Gwnaf. Mae bwrdd rhaglen ar y cyd rhwng Cymru a'r DU yn goruchwylio'r gwaith o weithredu darpar borthladdoedd rhydd yng Nghymru. Bydd angen i'r darpar borthladdoedd rhydd ddangos bod strwythurau llywodraethu priodol ar waith ar gyfer y cam sefydlu cyn y caiff unrhyw gyllid capasiti ei ryddhau.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mae'r Gweinidog a fi wedi cytuno efo'n gilydd i raddau helaeth ar y mater. Mae'r ddau ohonom ni wedi mynnu yng nghyd-destun y prosbectws gwreiddiol gafodd ei gynnig inni ein bod ni eisiau mwy o sicrwydd ar hawliau gweithwyr, ar reoliadau amgylcheddol, ac, wrth gwrs, ar gael cae chwarae gwastad o ran cyllido o'i gymharu efo Lloegr. Yn sicr, nid dyna'r achos pan wnaeth y Llywodraeth Geidwadol gynnig hyn yn gyntaf. Ond dim ond rhan o'r gwaith, dwi'n meddwl, ydy hynny. Mae yna bob mathau o fodelau o borthladdoedd rhydd a'r gwaith rŵan ydy gwneud yn fawr o'r cyfleon a sicrhau bod elfennau mwy negyddol sy'n gallu bod yn gysylltiedig efo porthladdoedd rhydd yn cael eu rheoli. Llywodraethiant ydy'r ateb i wneud yn siŵr bod porthladd rhydd yn Ynys Môn yn uchafu cyflogaeth leol, yn hybu sgiliau yn lleol a bod yna reolaeth ariannol gref yna, felly sut bydd y Gweinidog yn helpu, drwy weithio efo Cyngor Sir Ynys Môn, i wneud yn siŵr bod llywodraethiant yn dod â buddiannau go iawn i bobl Ynys Môn?
Rwy'n fwy na pharod i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod yn unigol, ond hefyd i'r Aelodau'n gyffredinol ar gynnydd gyda phorthladdoedd rhydd. Un o fy mhryderon allweddol mewn sgyrsiau â'r DU, a phan wnaethant droi'n sgyrsiau yn hytrach na'r gweiddi penawdau oedd yn digwydd, oedd ein bod yn sicrhau cyllid cyfartal, ond wedyn roeddwn yn awyddus i fod yn glir iawn mai twf nid dadleoli gweithgarwch fyddai'r ffon fesur y byddent yn cael eu mesur yn ei herbyn, ac i wneud hynny rydym yn ystyried darparu metrigau a fydd yn caniatáu inni ddeall a ydym yn gwneud hynny, yn ogystal â'r pwyntiau a wnaethom, ac rydym yn falch fod yr Aelod wedi'u cydnabod eto, ar waith teg ac ar safonau amgylcheddol hefyd.
Felly, wrth fynd drwy'r cam nesaf hwn, cyn i unrhyw gyfalaf gael ei ryddhau, mae angen inni gynnwys sut rydym am fesur ac asesu twf, yn hytrach na dadleoliad, a sicrhau y gallwn ddychwelyd a dweud wrth y Senedd hon a ydym yn credu bod hynny'n digwydd, ac mae'r cyngor ar Ynys Môn, ond yn ehangach hefyd, yn bartneriaid allweddol wrth sicrhau bod gennym weledigaeth ar gyfer porthladdoedd rhydd sy'n edrych yn gadarnhaol ar bapur ac sy'n cael ei darparu'n ymarferol. Felly, rwy'n ofalus obeithiol, ac rwy'n gwybod y byddaf yn wynebu cwestiynau craffu yma ac yn y pwyllgor ynglŷn ag a yw hynny'n cael ei gyflawni mewn gwirionedd, a fydd yr arian cyhoeddus sy'n mynd tuag at y mentrau hyn yn sicrhau'r enillion y mae pob un ohonom eisiau eu gweld, boed yn borthladd Caergybi, neu'r porthladd rhydd Celtaidd yn wir.
7. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu swyddi a chreu cyflogaeth yn Nwyrain De Cymru? OQ59739
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i geisio cynnig ystod gynhwysfawr o gymorth i fusnesau newydd a busnesau presennol i'w helpu i ddiogelu eu dyfodol a pharhau i dyfu lle bo'n bosibl. Mae'r cymorth hwn yn cael ei hyrwyddo'n weithredol drwy Busnes Cymru, gyda rheolwyr cysylltiadau busnes penodedig, a swyddfeydd rhanbarthol wrth gwrs.
Diolch am yr ateb yna.
Dros y mis diwethaf, rydym wedi gweld nifer dinistriol o swyddi'n cael eu colli yn fy rhanbarth, fel y nododd Alun Davies yn gynharach: cau Tillery Valley Foods yng Nghwmtyleri, Avara yn y Fenni; collwyd bron i 700 o swyddi o ardal na all fforddio colli swyddi ar y raddfa honno. Gyda'r cynnydd mewn deunyddiau crai a phrisiau ynni, na fydd yn dychwelyd i'r lefelau roeddent arnynt ddwy flynedd yn ôl yn fuan, mae yna bwysau amlwg ar y sector bwyd yn ogystal â'r sector lletygarwch yng Nghymru. Sut mae'r Llywodraeth hon wedi addasu i'r amgylchiadau sy'n newid yn gyflym ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru, a beth a wnânt i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu rhag colli rhagor o swyddi?
Mae yna her mewn perthynas â pha feysydd o'r sector bwyd rydym yn eu disgrifio a'u trafod, oherwydd, mewn gwirionedd, dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld y sector bwyd yn tyfu'n sylweddol—mae'n stori lwyddiant go iawn yn y cyfnod hwnnw—ac mae'n werth cydnabod nad dim ond yr Aelod presennol dros Flaenau Gwent yw'r Aelod: pan oedd yn Weinidog, gosododd uchelgais i dyfu'r sector, ac ar y pryd, roedd rhywfaint o amheuaeth ynglŷn ag a fyddai hynny'n digwydd. A dweud y gwir, rhagorwyd ar y targedau ar gyfer twf a osodwyd ganddo. Yr her nawr yw sicrhau ein bod yn cadw gwerth go iawn yno, felly nid yn unig yr heriau mewn perthynas â Tillery ac Avara, ac mae'r ddau awdurdod lleol wedi bod yn wirioneddol adeiladol, fel y mae'r ddau Aelod etholaeth—dylwn gydnabod y pegynnu gwleidyddol gyda Peter Fox ac Alun Davies yn ymwneud â'r mater—yn ogystal â deall yr her y mae'r busnesau hynny'n ei hwynebu, ac mae telerau masnachu ôl-Brexit yn rhan o'r her y maent yn ei hwynebu. Mae realiti prisiau ynni a chwyddiant ar draws y sector bwyd hefyd yn herio rhai rhannau o'r sector.
Felly, rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda'r sector bwyd i ddeall lle mae'r heriau o hyd a lle mae'r cyfleoedd, a sut y gall yr adnoddau gwahanol y gall fy adran i ac adran Lesley Griffiths eu cyflwyno i hyn weithio, ac yn wir, rydym yn bwriadu cynnal cyfarfod bord gron gyda gweithredwyr yn y sector i ddeall rhagolygon cyfredol a beth y gallwn ei wneud ochr yn ochr â nhw a gyda nhw i sicrhau bod cyfle iach o hyd i'r sector bwyd a diod yng Nghymru fod yn rhan go iawn o economi'r dyfodol, yn hytrach na gwneud cyfraniad yn unig at y gael y bwyd iach rydym eisiau ei weld ar blatiau ledled y wlad.
Yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gweithgarwch buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru? OQ59761
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithgarwch buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru drwy Busnes Cymru, a Banc Datblygu Cymru yn wir. Defnyddir fframweithiau economaidd rhanbarthol a'r bargeinion twf fel cymorth ac offer gweithgarwch buddsoddi ledled Cymru. Mae gennym hefyd fantais o gael Llywodraeth sefydlog a dibynadwy yng Nghymru i fusnesau weithio mewn partneriaeth â hi.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae Banc Datblygu Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn llwyr, rwy'n credu, yn ysgogiad pwerus ar gyfer hwyluso buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru ac ar draws economi Cymru. Yn ei flwyddyn ariannol olaf, hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023, buddsoddodd £22.9 miliwn o'i gymharu â £11.6 miliwn y flwyddyn cyn hynny—cynnydd o 66 y cant. Dywedodd y banc fod ei weithgarwch buddsoddi a benthyca wedi creu 2,552 o swyddi, ac wedi diogelu 2,117 o swyddi eraill. Felly, mae hyn yn amlwg yn hollbwysig i Gymru.
Weinidog, sut fyddech chi felly'n asesu penderfyniad Llywodraeth Cymru i greu banc rhanbarthol cyntaf y DU? A hefyd, Weinidog, sut fyddech chi'n rhagweld y bydd y banc yn estyn allan at randdeiliaid eraill yng Nghymru i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru?
Rwy'n credu ei fod wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac unwaith eto, mae angen imi gydnabod rôl Ken Skates yn creu Banc Datblygu Cymru yn y lle cyntaf, er yr oedd gan rai eu hamheuon, ond mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y canlyniadau pum mlynedd sydd wedi'u cyhoeddi, mae canlyniadau cryf ym mhob rhanbarth o Gymru, ac mae'r ffaith mai un o alwadau allweddol y Ffederasiwn Busnesau Bach yn Lloegr ar gyfer yr etholiad nesaf yw sefydlu rhywbeth tebyg i Fanc Datblygu Cymru mewn rhanbarthau yn Lloegr, yn dangos pa mor llwyddiannus y bu. A wyddoch chi, dyna'r ganmoliaeth fwyaf, onid e?
Mae hefyd yn fwy cyfarwydd yn y tirlun bellach, gyda nifer o fusnesau'n gallu tynnu sylw at y ffaith bod Banc Datblygu Cymru wedi bod yn hanfodol iddynt allu goroesi a buddsoddi yn y dyfodol. Edrychwch ar y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd, sy'n helpu cwmnïau gyda'u llinell isaf, yn ogystal â gwneud y peth cywir dros y blaned. Pe byddem yn cael gwared ar Fanc Datblygu Cymru, rwy'n credu y byddech bellach yn gweld amgylchedd lle byddem yn gweld twll go iawn i'w lenwi a phoen go iawn i amrywiaeth o fusnesau. Felly, mae'r llwyddiant yno; mae'n amlwg yn ffigurau Banc Datblygu Cymru, ac yn hollbwysig yn y ffordd y mae partneriaid busnes eraill yn troi ato ac yn siarad amdano fel cyfle allweddol i fuddsoddi yn nyfodol ein heconomi.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro rheolaeth anghydraddoldebau iechyd ar draws Cymru? OQ59758
Mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddfa ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, lansiodd Llywodraeth Cymru blatfform atebion tegwch iechyd Cymru ar 22 Mehefin, i fonitro rheolaeth anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru, ac mae'n arwain y ffordd gyda'i dechneg ryngddisgyblaethol gymhleth.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar ganser i anghydraddoldebau canser yng Nghymru yn arddangos realiti creulon cael diagnosis canser yng Nghymru a byw gyda'r canlyniadau. Mae cyfraddau marwolaeth canser 55 y cant yn uwch ymhlith poblogaethau mwyaf difreintiedig Cymru. Bwrdd iechyd bae Abertawe yn fy rhanbarth i sy'n cynnwys y gyfran gydradd uchaf o ardaloedd yn y cwintel mwyaf difreintiedig. Heddiw, Weinidog, hoffwn ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl sy'n dioddef yn uniongyrchol o'r anghydraddoldebau hyn wrth iddynt geisio ymdopi â diagnosis anodd o ganser cam 4.
Mae'r rhai sy'n rheoli canserau cam 4 wedi dweud wrthyf fod prinder staff wedi golygu bod yn rhaid i gleifion gael eu gosod ar restrau aros am driniaeth, a dim ond rhai byrddau iechyd sydd â gweithiwr allweddol neu bwynt cyswllt i gefnogi pobl â chanser cam 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur cynnydd triniaeth a chymorth i gleifion cam 4, wrth iddynt ymdrin â'r anghydraddoldebau a amlinellir yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol?
Diolch yn fawr. Rwyf wedi edrych ar yr adroddiad hwnnw ac rwy'n credu bod llawer o bethau i ni eu hystyried a gweithredu arnynt. Cyn inni gyrraedd cam 4, rwy'n credu bod yn rhaid inni sôn am yr elfen atal, a chlywsoch y cyhoeddiad ddoe gan fy nghyd-Aelod. Yr argyfwng gordewdra yng Nghymru—ac rwy'n mynd i'w alw'n argyfwng—pan fo gennych 60 y cant o'ch poblogaeth dros bwysau neu'n ordew, rydych chi'n anelu at sefyllfa anodd iawn, a'r hyn a wyddom yw bod y broblem honno'n fwy cyffredin mewn cymunedau tlotach, a dyna pam mae'n rhaid inni ymyrryd er mwyn osgoi'r math o sefyllfa rydych chi'n sôn amdani, lle mae'r gwahaniaethau yn glir i'w gweld rhwng ardaloedd cyfoethocach ac ardaloedd tlotach o ran y niferoedd sy'n dioddef o ganser.
Ar ddiagnosis, yr hyn sy'n amlwg yw bod yna rannau o Gymru sy'n perfformio'n llawer gwell nag eraill. Roedd yn eithaf diddorol—. Os edrychwch chi ar Betsi, mae bwrdd Betsi yn gyson dda o ran triniaeth ganser o'i gymharu ag eraill. Rwy'n bryderus iawn ar hyn o bryd, er enghraifft, ynghylch perfformiad yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae'n debyg mai dyna un o fy mhroblemau mwyaf ar hyn o bryd. Ac rydym yn rhoi llawer o gefnogaeth tuag at hynny. Rydym wedi eu rhoi mewn fframwaith ymyrraeth arbennig i sicrhau ein bod yn monitro'r hyn y dylent ei wneud, ac rydym yn gweithio gyda chymunedau i weld a allwn fynd ar ôl pobl nad ydynt efallai wedi bod yn mynychu apwyntiadau sgrinio, er enghraifft. Mewn perthynas â chanser y colon a phethau, er enghraifft, gwn ei fod yn ymwneud â cheisio cael pobl i fanteisio ar y cyfleuster sgrinio a gweithio gyda chymunedau, ymgysylltu â nhw, dysgu'r gwersi rydym yn eu gwybod, ac rydym wedi dysgu llawer o wersi yn ystod y pandemig: sut mae cyfathrebu â phobl? Sut mae mynd i leoedd sy'n anodd eu cyrraedd? Ac rwy'n credu bod angen inni fynd â rhai o'r gwersi rydym wedi'u dysgu i mewn i'r holl feysydd eraill hynny.
Ond mae canser yn sicr—. Mae gennyf chwe blaenoriaeth, ond nawr, gyda'r pwysau ariannol anodd iawn sydd arnom, rwyf wedi gofyn i'r byrddau iechyd ganolbwyntio ar y tri cyntaf, sef osgoi sefyllfa lle mae angen i bobl fynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf, symud adnoddau i'r gymuned, a gweithio gydag awdurdodau lleol i osgoi oedi wrth drosglwyddo gofal; yn ail, lleihau'r rhestrau aros; ac, yn drydydd, canolbwyntio ar ganser.
Weinidog, yn anffodus, y ffaith syml yw nad yw ein cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael yr un gofal iechyd â gweddill poblogaeth Cymru, boed hynny mewn gofal canser, fel y nodwyd yn ddiweddar gan adroddiad y grŵp trawsbleidiol; neu mewn gofal mamolaeth, fel y dangosir yn yr adroddiad ysgytwol ar ofal mamolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru; neu'r llu o ffyrdd eraill y mae cleifion du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael cam gan y system. Nid yw rhagdybiaethau lefel y boblogaeth yn gweithio. Mae'n rhaid teilwra triniaeth i'r unigolyn, gan ystyried eu rhyw a'u hethnigrwydd, yn ogystal â'r pethau arferol fel ffordd o fyw a geneteg.
Weinidog, pan godais y mater hwn gyda'r Prif Weinidog ddoe, dywedodd y byddai 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn gwella'r sefyllfa. A allwch chi ehangu ar ba gamau penodol yn y cynllun a fydd yn gwella canlyniadau iechyd i'n cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol?
Diolch yn fawr iawn, Altaf. Rhan o'r hyn a fydd yn digwydd nesaf yw bod gennym sefydliad a gyfansoddwyd o'r newydd, grŵp anghydraddoldebau iechyd y GIG, a byddant yn canolbwyntio ar nifer fach o feysydd, gan anelu at wneud y mwyaf o gyfraniad y GIG a sicrhau bod y GIG yn dangos esiampl nawr wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Yr hyn y mae'n rhaid ichi ddechrau ohono yw data, data, data. Felly, gadewch inni ddarganfod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd, gadewch inni sicrhau bod gennym y dadansoddiad hwnnw, ac yna gallwch dargedu a gallwch ymateb i'r bylchau. Felly, dyna rydym yn ei wneud mewn perthynas â hynny.
Wrth gwrs, mae gennym 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Mae yna—. Cefais gyfarfod gyda fy nghyd-Weinidog sy'n gyfrifol am hyn y diwrnod o'r blaen. Mae'n ein gwneud ni i gyd yn atebol, gan sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o fewn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu adrodd wrthi fod y camau sydd gennym fel GIG yn cael sylw difrifol iawn mewn perthynas â'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac yn amlwg, bydd hynny i gyd yn bwydo i mewn i'r heriau rydym yn eu hwynebu mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd.
Weinidog, gan adeiladu ar eich datganiad ddoe ynghylch y rhaglen imiwneiddio genedlaethol i Gymru, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddata y llynedd ar y nifer sy'n cael brechiadau imiwneiddio yn ystod plentyndod, ac roedd y data'n dangos bod bylchau anghydraddoldeb clir wedi cynyddu yn y mwyafrif o grwpiau oedran ac yn y mwyafrif o fyrddau iechyd, gyda phlant o'r cwintel mwyaf difreintiedig yn llai tebygol o fod wedi cael y brechiadau arferol i gyd na'r rhai o'r cwintel lleiaf difreintiedig. Felly, Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro'r anghydraddoldeb clir hwn, a sut mae'n gweithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill i unioni'r sefyllfa hon a dileu'r bwlch?
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rydych chi'n llygad eich lle i dynnu sylw at y ffaith, o ran brechiadau plentyndod, nad oes gennym lefel wael, ond bod y pandemig wedi gwthio pethau'n ôl braidd. Felly, mae gennym tua 20 y cant o'r boblogaeth plant nad ydynt yn manteisio ar y cyfle hwnnw o bosibl.
Felly, beth rydym ni'n mynd i'w wneud am hynny? Wel, rydym yn defnyddio'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig, gan sicrhau ein bod yn edrych ar y dystiolaeth. Beth oedd yn gweithio yr adeg honno? Beth oedd yr arferion gorau? A sut y gallwn osgoi'r amrywio diangen ledled Cymru? Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod hyn yn cael ei arwain gan dimau lleol, sy'n ymgysylltu ac yn grymuso eu cymunedau eu hunain i ddeall beth yw manteision derbyn y cynnig o frechiadau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn hawdd ei ddeall, ein bod yn cyfathrebu'n dda, fod pobl yn deall y risgiau o beidio â chael brechiadau. Felly, gofynnir i bob bwrdd iechyd ddatblygu rhaglen waith a strategaeth brechu teg gyda mewnbwn iechyd cyhoeddus pwrpasol. Felly, dyna sut rydym yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater rydych wedi'i gyflwyno.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r gefnogaeth i bobl â diabetes ym Mlaenau Gwent? OQ59762
Mi wnes i ddatganiad llafar i'r Senedd ar 13 Mehefin yn disgrifio ein ffordd o fynd ati i wella gwasanaethau diabetes, fel sydd wedi'i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer diabetes. Roedd y swyddogion yn trafod goblygiadau'r datganiad ansawdd o ran cyflawni'n lleol gyda phrif weithredwyr yr NHS ar 21 Mehefin.
Rwy'n croesawu hynny'n fawr. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaethoch ar driniaeth ddiabetes yng Nghymru. Mae 5,400 o bobl ym Mlaenau Gwent yn byw gyda diabetes, ac nid yw hynny'n llawer llai na 10 y cant o'r boblogaeth. Mae'n epidemig yn y fwrdeistref. Ac rwy'n credu bod hynny, Weinidog, yn galw am ymyrraeth sylweddol gan y Llywodraeth.
Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaed gan y Gweinidog ddoe ar ein perthynas â bwyd, os mynnwch, yn ei ystyr ehangach. Ond mae angen dull mwy cyfannol arnom i sicrhau ein bod yn atal diabetes yn hytrach na thrin diabetes yn unig. Rwy'n falch fod y Dirprwy Weinidog chwaraeon yn y Siambr y prynhawn yma, oherwydd mae hynny hefyd yn cynnwys buddsoddi mewn gweithgarwch corfforol, buddsoddi mewn cyfleoedd chwaraeon, yn ogystal â mathau eraill o weithgarwch corfforol, ac mae'n cynnwys buddsoddiad ar draws y Llywodraeth gyfan i fynd i'r afael â diabetes, yn hytrach na thrin effaith diabetes yn unig. Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch roi ffocws i hynny yn rhywle fel Blaenau Gwent, a hoffwn eich gwahodd i'r fwrdeistref fel y gallwn drafod sut y gallwn helpu pobl i osgoi diabetes ym Mlaenau Gwent.
Diolch yn fawr iawn, Alun. Yr hyn rydych chi'n ei wybod yw bod gennym y datganiad ansawdd hwn, fel bod pobl yn gwybod beth yw 'da', felly dylent fod yn gweithio yn unol â hwnnw. A nawr mae gennym weithrediaeth y GIG yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif am gyflawni'r hyn sy'n 'dda'. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yn fy marn i yw cydnabod bod y broblem yn fwy difrifol mewn rhai ardaloedd. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr agwedd iechyd y cyhoedd ar hyn yn gwbl glir fod angen i chi dargedu rhai ardaloedd yn fwy nag eraill. Nid ydym yn chwilio am yr un peth ym mhobman yma; mae'n rhaid i chi roi adnoddau ychwanegol mewn rhai mannau. Yr hyn sydd gennym, er enghraifft, yw rhaglen atal cyn-ddiabetes, i helpu pobl i osgoi cael diabetes math 2. Peidiwch ag anghofio bod modd osgoi cyfran enfawr o ddiabetes math 2, ac mewn gwirionedd, os gallwch ei ddal cyn iddo fynd yn ddiabetes llawn, rydych chi'n arbed llawer o broblemau iechyd i'r aelod hwnnw o'r cyhoedd, ond hefyd rydych chi'n arbed llawer o adnoddau i'r GIG.
Ar ymyrraeth gynnar, mae gennym gynlluniau peilot ledled Cymru, gan gynnwys un yn Aneurin Bevan. Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ganlyniadau'r cynllun peilot hwnnw. Fe wyddom eu bod yn gweithio; rydym wedi rhoi £1 filiwn i mewn i gyflwyno'r hyn y gwyddom ei fod wedi gweithio ym Mhort Talbot, er enghraifft. Nawr, mae angen inni sicrhau bod pobl yn deall eu cyfrifoldebau hefyd. Nid yw'n stryd un ffordd; mae'n rhaid inni fod yno, yn dal eu dwylo drwy siwrnai anodd iawn iddynt. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yr amgylchedd yn iawn, ac roedd hynny'n rhan o'r hyn roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad amdano ddoe. Ond ni allwn barhau â sefyllfa lle mae'r trywydd—. Os parhawn fel rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, ni fyddwn yn gwario 10 y cant o'n cyllideb ar ddiabetes, byddwn yn gwario 17 y cant o'n cyllideb arno. Nid oes gennym fwy o arian, felly mae'n rhaid iddo ddod o rywle. Felly, nid yw hyn yn gynaliadwy ar ei ffurf bresennol. Mae'n rhaid i rywbeth newid. Ond mae'n rhaid i bobl Cymru ddod gyda ni ar y daith. Ni allwn gwneud y cyfan drostynt, ond byddwn yno gyda nhw ar y daith.
Weinidog, nid yw'n gyfrinach mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o achosion o ddiabetes yn y DU, gyda mwy na 200,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr. Mae llu o sefydliadau a chynlluniau ar gael, ac rwy'n gwybod eich bod yn gweithio gyda nhw hefyd, yn helpu pobl â diabetes, ac yn gwthio i wella gofal a chymorth. Fodd bynnag, mae yna bryderon difrifol am y diffyg cyllid i sawl rhaglen—er fy mod yn gwerthfawrogi'r ateb rydych newydd ei roi—rhywbeth y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cael sylw yn y datganiad ansawdd yr wythnos diwethaf. O'r adborth a gefais, ni chafodd ei drafod mewn cymaint o fanylder ag y dylai, efallai. Mae gwasanaethau fel gwasanaeth lleddfu diabetes Cymru, yn ogystal â rhaglen SEREN, y gwn fod fy nghyd-Aelod Joel James wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr, mewn perygl difrifol wrth symud ymlaen. Nid yw'n glir a fydd y gwasanaethau hyn, sy'n darparu canlyniadau sy'n newid bywydau, yn parhau i dderbyn cyllid. Mae clinigwyr ymroddedig y GIG sydd y tu ôl i'r cynlluniau hyn wedi cael eu gadael mewn limbo gan nad oes ganddynt unrhyw syniad ynglŷn â chyllid yn y dyfodol. Yn gynharach heddiw, cynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain ddigwyddiad a fynychais, gyda llawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon. Cyfarfûm â rhai o'r meddygon teulu gwych yno, gan gynnwys Gareth a Natasha, sydd ill dau yn dod o dde-ddwyrain Cymru, ac roeddent eisiau atebion. Felly, Weinidog, fy nghwestiwn i yw: a allwch chi roi rhywfaint o eglurder mawr ei angen iddynt y prynhawn yma am yr hyn sy'n digwydd wrth symud ymlaen? Diolch.
Diolch yn fawr. Mae gennym swm wedi'i neilltuo o arian ar gyfer y rhaglen cyn-ddiabetes roeddwn yn sôn amdani. Mae gennym £1 filiwn ar gyfer y rhaglen honno, ac mae'n cael ei chyflwyno. Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn deall hyn. Y gyfrinach yw achub y blaen ar y broblem; dyna'r gwir yma—mae'n rhaid inni achub y blaen ar y broblem, nid aros i'r broblem ddatblygu. Pan fydd gennych 60 y cant o'ch poblogaeth dros bwysau, mae'n rhaid i chi dargedu'r rheini, oherwydd nhw yw'r genhedlaeth nesaf o bobl sy'n mynd i gael diabetes math 2. Dyna beth oedd rhan o ddoe yn ymwneud ag ef—mae'n ymwneud â chydnabod na allwn barhau fel hyn, fod angen i chi ymyrryd, mae angen inni greu'r amgylchedd iawn ar eu cyfer.
Ac ar gyllid, mae'r sefyllfa ariannol yn heriol iawn ar hyn o bryd. Mae'n anodd i bawb; mae'n heriol i bobl yn ein cymunedau—mae'r argyfwng costau byw yn anodd iawn—ond mae hefyd yn anodd i'r GIG. Mae'r GIG yn teimlo'r holl bwysau chwyddiant y mae pawb arall yn ei deimlo. Nid ydym wedi cael arian ychwanegol ar ei gyfer, ac mae gennym gostau COVID a phopeth arall sy'n digwydd. Felly, mae'r pwysau'n real, ond dyna pam mae'n gwneud synnwyr inni fynd cyn belled ag y gallwn ym maes atal, oherwydd os na wnawn ni hynny, mae'r costau wrth symud ymlaen yn mynd i fod yn anodd tu hwnt.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ddoe ar dri achlysur, fe geisiodd Andrew R.T. Davies gael ateb gan y Prif Weinidog, ac ar dri achlysur, fe fethodd y Prif Weinidog ateb. Chi yw'r Gweinidog iechyd, felly rwyf am ofyn i chi: pryd mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddileu amseroedd aros o ddwy flynedd yn GIG Cymru, a phryd y gallwn ddisgwyl i chi gyhoeddi eich targed diwygiedig?
Diolch yn fawr. Rwy'n fwy na pharod i anfon y targed diwygiedig a anfonais i'r GIG atoch chi. Rwyf wedi dweud yn glir wrthynt fod yn rhaid inni gadw at gynllun. Rydym wedi trafod gyda nhw beth yw'r targedau, ac a ydynt yn credu y gallant gyrraedd y targedau. Byddwn yn gwneud hyn yng nghyd-destun sefyllfa ariannol dynn iawn, felly rwy'n credu bod yn rhaid inni ddeall hynny. Ond fel Gweinidog iechyd, mae'n rhaid imi gydnabod nad yw cael pobl yn aros am fwy na dwy flynedd yn dderbyniol, ac felly rydym yn disgwyl iddynt gyflymu eu prosesau. Rydym yn rhoi mwy o arian i bethau fel diagnosteg, a mwy i ganolfannau llawfeddygol. Roeddwn yn falch iawn o gael agor y ganolfan lawfeddygol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn swyddogol yn ddiweddar. Felly, mae llawer o bethau cadarnhaol, da yn digwydd, ond yn amlwg rydym yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn cyflymu'r broses, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn wrthynt y tro hwn na fydd esgusodion dros fethu'r terfynau amser hynny.
Diolch yn fawr, Weinidog. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe baech yn ysgrifennu ataf, ond wrth gwrs, pe gallech roi'r ateb ar lafar yn y Siambr y prynhawn yma o ran dyddiad y targed diwygiedig ar gyfer amseroedd aros dwy flynedd, byddai hynny, wrth gwrs, yn cael ei werthfawrogi, oherwydd nid ydym yn gweld y cynnydd sydd ei angen—ac rydych chi wedi cyfeirio at hynny eich hun, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Gwelsom y set ddata ddiwethaf gyda dim ond 245 o bobl yn dod oddi ar y rhestr aros ddwy flynedd. Mae'n dal i fod gennym ddegau o filoedd o bobl yn aros am driniaeth yng Nghymru, a chithau'n gwybod, wrth gwrs, fod y targed wedi'i ddileu bron yn llwyr yn yr Alban ac yn Lloegr. Yn aml, rydym yn siarad am rifau, onid ydym—degau o filoedd o bobl; pobl unigol yw'r rhain, ac yn aml mae llawer ohonynt yn aros mewn poen sy'n effeithio ar eu bywydau, a bywydau eu teuluoedd ehangach hefyd.
Weinidog, fe wnaethoch chi ymrwymo i sicrhau y bydd 80 y cant o gleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn deufis erbyn 2026. Mae hynny'n nod canmoladwy, ac os caiff ei gyrraedd, fi fydd y cyntaf yn y Siambr hon i'ch llongyfarch ar ymdrechion Llywodraeth Cymru. Ond mae amseroedd aros canser wedi gwaethygu mewn gwirionedd—maent wedi gostwng o 59 y cant ym mis Ebrill y llynedd i 55 y cant ym mis Ebrill eleni. Felly, a allwch chi ymrwymo, Weinidog, i nodi cerrig milltir blynyddol ar gyfer cyflawni'r targed y bydd 80 y cant o bobl â chanser yn dechrau triniaeth o fewn deufis, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i wella amseroedd aros canser, yn benodol ar gyfer y canserau gyda'r amseroedd aros hiraf—gynaecolegol, pen a gwddf ac wroleg? Ond yn y pen draw, Weinidog, rhowch y targed hwnnw inni y prynhawn yma. Dywedwch wrthym erbyn pryd y gosodwyd y targed aros o ddwy flynedd; byddai hynny'n cael ei werthfawrogi. Diolch yn fawr, Weinidog.
Ar amseroedd aros o ddwy flynedd, rydym yn disgwyl i 99 y cant o bobl gael eu gweld erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn disgwyl, erbyn mis Medi, y bydd unrhyw un sy'n aros ers dros dair blynedd yn cael apwyntiad, fel eu bod yn gwybod pryd yn union y byddant yn cael eu triniaeth. Ac rydym wedi dweud yn glir ein bod am weld gwelliant sylweddol mewn perthynas â chanser.
Mae canser yn eithaf diddorol, oherwydd mae rhai meysydd canser yn gwneud yn llawer iawn gwell nag eraill, felly mae'n dibynnu ar y maes arbenigol, ac mae'r un peth yn wir hefyd am nifer y rhai sy'n aros hiraf. Ymhlith y 40 neu fwy o feysydd arbenigol, ceir tua 24 lle rydym lawr i sero mewn gwirionedd. Mae'r broblem go iawn gyda thua saith maes arbenigol, a dyna lle rwyf wedi gofyn iddynt ganolbwyntio nawr: 'Ewch am y meysydd hynny.' Mae gennym 'Gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf' i sicrhau eu bod yn cael y llwybrau'n iawn, i roi pwysau arnynt, ac i edrych ar yr hyn sy'n digwydd gyda defnydd o theatrau yng Nghymru, a gwneud y defnydd gorau o'r capasiti sydd ar gael, oherwydd nid oes diben cael canolfannau newydd os nad yw pobl yn gweithio'n effeithlon. Mae'n rhaid inni sicrhau, yn gyntaf oll, ein bod yn cael yr effeithlonrwydd yn iawn lle bynnag maent yn gweithio. Nid oes unrhyw bwynt buddsoddi mewn canolfannau newydd sbon os ydynt yn dal i fethu gweithio hyd eithaf eu capasiti.
Felly, rydym yn edrych ar hynny nawr; rydym yn ei yrru. Mae gweithrediaeth y GIG ar waith. Maent yn rhoi llawer o bwysau ar y bobl hyn i wneud yn siŵr ein bod yn gweld cynhyrchiant yn gwella yn ôl y disgwyl. Ac wrth gwrs, ar ganser, rydych chi hefyd wedi gweld bod diagnosteg yn enwedig yn gwbl allweddol. Y gwahaniaeth rhyngom ni a Lloegr yw ein bod yn cyfrif diagnosteg ac rydym yn ei gyfrif o'r dechrau, oherwydd, os oes gennych ganser, mae'n rhaid i chi ddechrau o'r amser pan fyddwch chi'n ei amau, nid o'r amser pan fyddwch chi'n cael eich rhoi ar lwybr triniaeth. Felly, mae'r ffordd rydym yn cyfrif yn wahanol, a dyna pam ein bod yn rhoi llawer o arian tuag at ddiagnosteg. Mae'n rhaid inni gyflymu'r canolfannau diagnostig ac fe fyddwch wedi gweld ein bod yn y broses o roi buddsoddiad sylweddol tuag at hynny.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n mynd i fynd ar drywydd y saith maes arbenigol y cyfeirioch chi atynt, oherwydd, fel rwy'n ei ddeall, a gallwch fy nghywiro os wyf i'n anghywir, yn eich targed blaenorol, nid oedd y saith maes arbenigol hynny wedi'u cynnwys. [Torri ar draws.] Rydych chi'n dweud nad yw'n wir. Rwy'n edrych ymlaen at eich ateb, oherwydd, fel rwyf i'n ei ddeall, Weinidog, oherwydd i chi ei ddweud eich hun, y targed adferiad oedd y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn 2023. Felly, os yw'n dweud 'y rhan fwyaf o arbenigeddau' mae'n golygu nad yw rhai wedi'u cynnwys. Mae'n debyg fy mod i'n gofyn i chi, felly, beth yw'r meysydd arbenigol na chawsant eu cynnwys, oherwydd, fel rwy'n ei ddeall, mae yna saith maes na chawsant eu cynnwys yn y targed, ac un ohonynt oedd llawdriniaeth gyffredinol. Felly, byddai'n dda deall y meysydd na chafodd eu cynnwys yn eich targed gwreiddiol roeddech i fod i'w cyrraedd erbyn mis Mawrth 2023. Fe ddywedoch chi mewn ateb i Altaf Hussain yn gynharach heddiw fod data'n bwysig. Fe ddywedoch chi hynny mewn digwyddiad y bore yma. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Felly, byddai'n iawn cael targed sy'n cynnwys pob un o'r 17 maes arbenigol a rhannu hynny fesul arbenigedd hefyd. Rwy'n gobeithio, Weinidog, y gallwch ymrwymo i wneud hynny, oherwydd data sy'n ben os ydym am fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.
Rydych chi a minnau'n gytûn ar hyn. Er mwyn rhoi sicrwydd i chi, mae'r 30,000 sydd ar y rhestr aros ddwy flynedd yn cynnwys yr holl arbenigeddau, gan gynnwys y saith y gwyddom eu bod yn heriol. Felly, nid ydynt wedi'u hepgor o'r rhifau. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Nid yw'n 30,000 a llawer mwy yn y saith gwasanaeth arbenigol.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y meysydd hynny. Fe fyddwch wedi gweld bod yna ddadansoddiad eisoes nawr ar sail byrddau iechyd. Rwyf wedi gofyn nawr am fwy o dryloywder, drwy'r amser—gadewch inni gael tryloywder mewn perthynas â hyn, gadewch inni weld. Rwy'n meddwl bod angen i'r cyhoedd wybod lle maent ar y rhestrau—lle maent, o gwmpas lle maent. Efallai na fyddwn yn gallu rhoi rhif pendant. Ac wrth gwrs, y peth arall sy'n rhaid i chi gofio yr holl amser gyda hyn yw bod llais gan glinigwyr yn hyn. Os oes yna achos brys, byddant yn cael blaenoriaeth. A dyna'r her.
A dweud y gwir, os edrychwch chi ar y niferoedd ar restrau aros, maent yn gostwng yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ac mae hynny oherwydd ein bod yn gweld achosion lle ceir mwy o frys i'w trin. Dyna'r sefyllfa. Rwyf wedi bod yn gofyn iddynt, 'Gwrandewch, gwn eu bod wedi canolbwyntio'n fawr yn Lloegr ar wneud yr amseroedd aros hiraf yn unig', ac mewn gwirionedd, mae'n golygu efallai nad yw rhai o'r achosion lle ceir mwy o frys i'w trin wedi'u gweld. Ac os siaradwch chi gyda'r BMA, mae'n sgwrs eithaf diddorol gyda chlinigwyr, sydd weithiau'n dweud, 'Arhoswch funud, mae'n rhaid ichi weld yr achosion lle ceir mwy o frys i'w trin.' Felly, mae yna ychydig o ddeialog yn digwydd. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod y cydbwysedd yn y lle anghywir ar hyn o bryd. Mae angen inni gael yr amseroedd aros hiraf wedi'u gweld, oherwydd digon yw digon.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, mae'r BMA yn lansio ei ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd. Roedd yna ddigwyddiad heddiw yma yn y Senedd, ac roedd yn dda gweld y Gweinidog yn mynychu'r digwyddiad yna. Mae'r adran hanfodol yma o'r gwasanaethau iechyd wedi dioddef degawd o ddirywiad ac maen nhw bellach yn cyrraedd pwynt tyngedfennol. Dydy hyn ddim yn argyfwng newydd. Mae'r sector wedi ein rhybuddio o hyn ers dros 10 mlynedd.
Mae cyfran cyllideb y GIG sydd wedi'i ymrwymo i wasanaethau meddygon teulu wedi gostwng i isafbwyntiau hanesyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o'i gymharu â'r lefel o 8.7 y cant yn 2005-06, ac mae hynny nid yn unig wedi arwain at doriadau enfawr yn y ddarpariaeth, ond hefyd at gynnydd yn nifer y practisau sy'n trosglwyddo eu contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol yn ôl. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog a wnaiff hi ymrwymo i adfer y gyfran o gyllideb GIG Cymru a werir mewn practis cyffredinol i'w lefel hanesyddol o 8.7 y cant erbyn diwedd y Senedd hon, fel yr argymhellwyd gan y BMA?
Diolch yn fawr. Wel, cefais yr un sgwrs â chi, a chyn imi fynd ymhellach, hoffwn eich croesawu i'ch swydd newydd.
Pob lwc i ti yn y swydd newydd. Bydd lot o waith gyda ti i'w wneud.
Felly, o ran y BMA, ac roeddwn i'n hapus iawn i fynychu'r digwyddiad hwnnw yn gynharach, rwy'n credu bod yna ychydig o bethau y mae angen inni eu cofio. Yn gyntaf oll, mae 'Cymru Iachach' yn glir iawn am y cyfeiriad teithio yma—mae'n ymwneud â'r angen i symud adnoddau o ofal eilaidd i'r gymuned. Ac yn hytrach na siarad am hynny, byddwch wedi gweld yn ddiweddar iawn fy mod i newydd ei wneud—rwyf newydd neilltuo £30 miliwn a dweud, 'Digon. Mae angen i hyn ddigwydd. Nid wyf yn aros i'r byrddau iechyd wneud hyn bellach, rwy'n symud yr arian hwnnw.' Felly, mae hynny wedi digwydd, ac rwy'n credu mai'r peth allweddol i'w gofio mewn perthynas â gofal sylfaenol yw nad yw'n ymwneud â meddygon teulu yn unig; mae'n rhaid iddo ymwneud â'r grŵp ehangach sy'n cefnogi'r meddygon teulu. Ac os edrychwch ar nifer y meddygon teulu yng Nghymru, mae mwy o feddygon teulu cymwysedig y pen o'r boblogaeth yng Nghymru nag a geir yn Lloegr. Mae nifer y meddygon teulu wedi cynyddu o 1,926 yn 2017 i 1,974 yn 2022. Felly, mae gennym fwy o feddygon teulu. Y broblem go iawn yw bod y galw, y galw, y galw yn parhau i ddod. Ac nid oes modd atal y galw o gwbl. Cawsom wythnos ym mis Rhagfyr pan gafwyd 400,000 o gysylltiadau gyda meddygon teulu mewn wythnos—mewn wythnos. A allwch chi feddwl am y pwysau ar y 1,900 o weithwyr hynny? Mae hynny'n llawer o bobl i fynd drwyddynt. Felly, mae pawb yn cydnabod hyn, a dyna pam ein bod yn ceisio gwneud pethau ychydig yn wahanol a pheidio â rhoi'r holl bwysau ar feddygon teulu.
Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, nid jyst y pres sydd yn bwysig, fel rydych chi wedi pwysleisio; y meddygon sydd yn bwysig—y gweithlu yna. Ond fel rydych wedi nodi eich hunan, tra bod y cleifion cofrestredig ar lyfrau meddygon teulu wedi cynyddu'n aruthrol—dros 100,000 o gynnydd mewn 10 mlynedd—mae niferoedd y practisys wedi disgyn o 470 i 386. Ac er gwaetha'r ffaith eich bod chi'n dweud bod y niferoedd o feddygon teulu wedi cynyddu, mae hyn wedi arwain at gwymp o bron i 22 y cant yn y gweithlu.
Mae Cymru bellach 664 o feddygon teulu yn brin o gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae'n feirniadaeth ddamniol o'r graddau y mae ein gwasanaeth iechyd wedi cael ei wanychu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n syndod fod meddygon teulu yn cwyno am lwyth gwaith trwm a bod llawer o'r meddygon teulu iau yn dod o hyd i waith yn Awstralia, Seland Newydd ac mewn mannau eraill lle maent yn cael mwy o werthfawrogiad. Mae 80 y cant o'r ymatebwyr yn arolwg y BMA wedi honni bod eu llwyth gwaith trwm yn peryglu eu gallu i ddarparu gofal diogel o ansawdd i gleifion. A chyda bron i 27 y cant o'r ymatebwyr yn dwys ystyried gadael y proffesiwn yn y dyfodol agos, mae'n anochel y bydd y pwysau hyn yn gwaethygu'n fuan. Felly, a wnaiff y Gweinidog gytuno i ddatblygu cynllun gweithlu i fynd i'r afael yn benodol â'r prinder amlwg yn y proffesiwn meddygon teulu, gyda'r nod o gyrraedd cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o fewn tair blynedd?
Diolch yn fawr. Wel, fe fyddwch yn ymwybodol fod prinder o weithwyr gofal iechyd yn fyd-eang, felly rydym mewn marchnad gystadleuol iawn yma. Ac roedd gennym darged ar gyfer nifer y meddygon teulu roeddem am eu hyfforddi ac fe aethom y tu hwnt i'r targed hwnnw y llynedd o 90, ac nid am y tro cyntaf. Felly, y cwestiwn wedyn yw: gyda'r galw diddiwedd, sut fydd angen i weithlu'r dyfodol edrych? Wel, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio ar hynny eisoes, gan edrych nid yn unig ar feddygon teulu, ond ar yr angen ehangach o fewn cymunedau. Ac rwy'n credu mai dyna lle mae angen inni fynd nawr, nid canolbwyntio ar feddygon teulu'n unig. Ac rwy'n credu hefyd ei bod yn werth peidio â meddwl am nifer y meddygfeydd, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o gyfuno wedi digwydd. Mae llawer o feddygfeydd wedi ymuno â'i gilydd ac mae'n gwneud y system yn fwy cadarn. Ar nifer practisau unigolion, er enghraifft, yn bendant gwelwyd archwaeth pobl i gynnal practis fel unigolion yn gwanhau; maent eisiau gweithio gyda'i gilydd. Felly, fe fydd gostyngiad yn y nifer, ond rwy'n credu y byddwch yn cael system fwy cadarn lle gall pobl o leiaf fynd ar wyliau, er enghraifft, os ydynt mewn grŵp mwy o faint o weithwyr a gallant gael mwy o bobl i gymryd eu lle.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar argaeledd gwasanaethau deintyddol drwy'r GIG yn ardal Rhydaman? OQ59748
Diolch yn fawr. Dwi’n ymwybodol bod contract gweddol fawr yn Rhydaman wedi cael ei drosglwyddo nôl i'r bwrdd iechyd fis Gorffennaf diwethaf. Mae'r bwrdd iechyd wedi aildendro'r cytundeb yn llwyddiannus a bydd y practis newydd yn agor yn nes ymlaen y flwyddyn yma.
Diolch am yr ateb hynny, Weinidog. Mae, wrth gwrs, i'w groesawu y bydd contract newydd yn dechrau rywbryd yn ystod y misoedd nesaf oherwydd y galw enfawr sydd yn y dref wedi i'r gwasanaeth ddod i ben. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal, mae contract deintyddion Heol Llandeilo yn Cross Hands hefyd wedi dod i ben ym mis Awst y llynedd, a'r un peth wedi digwydd yn Llandeilo. Felly, mae yna alw enfawr nawr mewn ardaloedd cyfagos hefyd. Felly, pa sicrwydd ŷn ni'n gallu ei roi i drigolion Rhydaman yn y lle cyntaf, a oedd yn gyn-gleifion yr hen wasanaeth, y byddan nhw'n cael eu blaenori, ac a oes yna gynlluniau ar y gweill i gwrdd â'r galw yn yr ardaloedd cyfagos ac i greu capasiti newydd fanna hefyd?
Diolch yn fawr. Wel, fel dwi'n dweud, beth sy'n digwydd yw, os yw pobl yn rhoi cytundebau yn ôl, fod yn rhaid i chi aildendro, a beth sy'n ddiddorol yw eu bod nhw wedi gallu cael rhywun arall i gymryd y cytundeb yn Rhydaman. Maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn ailwneud y syrjeri fel ei fod e'n barod i gymryd cleifion a phobl—ym mis Medi, dwi'n meddwl, rŷn ni'n gobeithio gweld hwnna'n ailagor yn Rhydaman. Yn y cyfamser, os oes yna broblemau urgent, wedyn mae yna gyfle i bobl i ddefnyddio'r capasiti sydd ar gael o ran y sefyllfa urgent.
Beth rŷn ni'n gwybod yw bod yna rai ardaloedd lle mae'r broblem yn fwy dwys nag eraill. Er mwyn ceisio cael mwy o bobl i fynd i'r ardaloedd yna, un o'r pethau rŷn ni wedi'i wneud yw i roi'r £5,000 ychwanegol yma i bobl hyfforddi yn yr ardaloedd yna, ac yn arbennig yn ardaloedd cefn gwlad, ardaloedd gwledig, lle rŷn ni yn gweld problem.
Felly, beth fyddwch chi'n gweld nawr yw'r cytundeb yna'n mynd allan yn Llandeilo, yn Cross Hands, yn ceisio cael mwy o bobl i gymryd y cytundeb. Dwi'n deall bod y cytundeb yn Llandeilo yn eithaf mawr, o ran y niferoedd sy'n cael eu heffeithio, felly fe fydd hwnna, efallai, yn cymryd tamaid bach yn fwy o amser.
A gaf fi ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Siaradodd Adam Price am y pwysau sydd ar wasanaethau deintyddol yn Rhydaman, o sir Gaerfyrddin, ond yn amlwg, fel y gwyddoch, mae dyffryn Aman yn croesi i Gastell-nedd Port Talbot hefyd, yn fy rhanbarth i. Ar eich ateb yno i Adam Price ynglŷn ag argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG i rannau eraill o sir Gaerfyrddin, tybed a allwch chi hefyd gadarnhau y byddwch yn blaenoriaethu pobl sy'n byw mewn bwrdd iechyd gwahanol neu sir wahanol yn wir, ond a fyddai'n edrych ar rywle fel Rhydaman ar gyfer eu hanghenion deintyddol yn y GIG, a'u bod nhw hefyd yn cael eu blaenoriaethu, ac nid eu cosbi am fod y ffin, os mynnwch, rhyngddynt a'r lleoliad mwyaf cyfleus?
Diolch yn fawr. Wel, mae deintyddiaeth yn eithaf gwahanol i'r ffordd y mae pobl yn ymdrin â meddygon teulu. Mae cryn dipyn o bobl eisiau mynd at ddeintydd yn agos at lle maent yn gweithio, er enghraifft. Felly, nid yw'r patrymau lle mae pobl yn mynd o reidrwydd yn agos at ble maent yn byw. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei gydnabod o fewn y system. Ond un o'r pethau rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd ei wneud nawr yw sicrhau eu bod yn cadw rhestrau o bobl sy'n chwilio am apwyntiadau deintyddol newydd. Mae rhai wedi mynd ymhellach nag eraill. Felly, mae gan Bowys, er enghraifft, system ganolog; mae pawb yn gwybod yn union lle maent ar y rhestr. Felly, mae honno'n system sy'n cael ei datblygu. Yn Hywel Dda, mae rhannau ohono wedi'u datblygu a rhannau heb eu datblygu. Ond erbyn diwedd y flwyddyn, rydym yn gobeithio cael un system genedlaethol fel y gallwn gael darlun llawer gwell o beth yw'r galw, oherwydd rhan o'r broblem ar hyn o bryd yw nad ydym yn glir beth yw'r galw, er bod y contract newydd wrth gwrs wedi golygu ein bod wedi gallu darparu 178,000 o apwyntiadau deintyddol newydd ychwanegol.
4. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd? OQ59754
Diolch yn fawr. Mae amseroedd aros ar gyfer gofal dewisol a gofal mewn argyfwng wedi dangos gwelliannau dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n amlwg fod gwaith i'w wneud o hyd, ac fel rhan o'r uwchgyfeirio i fesurau arbennig, rwyf wedi gosod targedau clir ar gyfer y 90 diwrnod nesaf i wella amseroedd aros. Edrychaf ymlaen at weld gwelliannau parhaus.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Y rheswm pam rwyf am godi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma yw bod preswylydd o Ddyffryn Clwyd wedi cysylltu â mi yn ddiweddar, yn bryderus iawn ynglŷn ag amser aros o 55 awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar. Ac os caf ailadrodd hynny: 55 awr. Dyna ddau ddiwrnod a mwy, Weinidog, ac yn onest, mae'n amser gwarthus i fy etholwyr orfod aros am driniaeth, o gyrraedd adran frys i gael eu gweld a'u trin gan y gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol. A dyma dystiolaeth bellach i fy etholwyr fod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud cam â phobl Dyffryn Clwyd ac yn gwneud cam â chleifion wrth fethu rheoli'r problemau diddiwedd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Felly, a ydych chi'n credu bod amser aros o 55 awr yn dderbyniol, Weinidog—ac rwy'n mawr obeithio eich bod chi'n meddwl nad ydyw—a pha gangen benodol o'r mesurau arbennig hyn ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n canolbwyntio'n fanwl ar fynd i'r afael ag amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd, gan fod fy etholwyr wedi cael digon ac angen arweiniad, atebion a gweithredu?
Edrychwch, mae 55 awr yn hollol annerbyniol. Mae'n gwbl annerbyniol. Cawsom rai problemau yn gynharach yr wythnos hon gydag amseroedd aros hir iawn yn Wrecsam, ac yn syth fe wnaethom ymateb a cheisio clirio'r system. Ond mewn gwirionedd, os edrychwch ar y darlun cyffredinol, rydych chi'n mynd i gael unigolion, sy'n dal i fod yn annerbyniol, ond mae'r darlun cyffredinol yn gwella. Nawr, efallai na fydd yn teimlo felly i lawer o bobl, ond i roi rhywfaint o wybodaeth i chi, dros y 12 mis diwethaf, mae perfformiad adrannau brys o fewn pedair awr wedi codi o 42 y cant i 56 y cant. Nid yw'n wych, ond mae'n bendant yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Ac ar amseroedd aros 12 awr, gostyngodd y rheini rhwng mis Mai 2022 a mis Mai 2023—rydym wedi gweld gwelliant o 14 y cant yn y rheini. Felly, rydym yn bendant yn anelu i'r cyfeiriad cywir.
Ond rwyf am gyfeirio at rai o'r gwelliannau mae Betsi yn eu gwneud—ac maent yn gwneud gwelliannau go iawn. Ac mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn dathlu gyda'n gilydd pan fydd hynny'n digwydd, oherwydd y peth olaf sydd ei angen ar y bwrdd hwn yw mwy o bobl yn ei ddifrïo. Felly, mae'r gwelliant mewn perthynas â chleifion allanol yn Betsi wedi bod yn gwbl syfrdanol. Felly, ers mis Ionawr, rydym wedi gweld gwelliant o 43 y cant yn nifer y cleifion allanol sy'n aros am flwyddyn. Mae hynny'n anhygoel—ymdrech anhygoel—gan y bobl yn y bwrdd iechyd hwnnw, a hoffwn ddiolch iddynt am yr ymdrech anhygoel honno.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r broses ymgysylltu a ddefnyddiwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys mewn perthynas â'r adolygiad gwasanaeth? OQ59726
Drwy gyfarfodydd rheolaidd gyda chynrychiolwyr y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, mae swyddogion wedi cael sicrwydd fod proses ymgysylltu adolygiad gwasanaeth y gwasanaeth meddygol a throsglwyddo brys wedi bod yn gynhwysfawr ac yn dryloyw. Mae cam 1 wedi'i gwblhau ac wedi galluogi'r cyhoedd i gyfrannu drwy gyfarfodydd ar draws canolbarth a gogledd Cymru drwy adborth ar-lein a llinell ffôn bwrpasol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Wrth gwrs, yr adeg hon y llynedd, nid oedd unrhyw gynigion ar y bwrdd, neu gynigion a oedd yn wybodaeth gyhoeddus o leiaf, ac roedd pobl ledled Cymru yn ddiolchgar iawn, fel y maent yn dal i fod nawr, am y gwasanaeth ambiwlans awyr anhygoel. Felly, roedd yn syndod mawr pan gyflwynwyd cynigion fis Awst diwethaf i gau canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon, ac rwy'n credu ei bod bellach yn deg dweud bod y cynigion yn seiliedig ar ddata amheus, sydd bellach wedi'i dynnu'n ôl. Ond mae'n ymddangos nad yw'r sail ar gyfer newid yn ymwneud ag arbed costau, ond yn hytrach mae a wnelo â gwella'r gwasanaeth, a dywedir wrthym y gellid newid y gwasanaeth, gan arwain at ganlyniadau gwell, heb newid yr amlen ariannol sydd ar gael. Ond Weinidog, rwy'n cytuno â chi, gyda llaw, fod yr ymgynghoriadau sydd wedi digwydd wedi bod yn dryloyw. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Stephen Harrhy ar sawl achlysur, ac rwy'n gwerthfawrogi'r amser y mae wedi'i gymryd i wrando ar farn ar draws canolbarth a gogledd Cymru. Mae bellach wedi rhoi amser i ystyried y sylwadau hynny a chyflwyno cynigion pellach. Ond a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pe bai cynnig yn cael ei gyflwyno i gadw'r canolfannau presennol gydag awgrymiadau o ganolfannau pellach priodol mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a fyddai'n galw am fwy o adnoddau ariannol, a fyddai hynny'n rhywbeth y byddech chi'n barod i'w ystyried? Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli nad yw'r elusen ambiwlans awyr eu hun yn cael unrhyw adnodd ariannol gan Lywodraeth Cymru; daw cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar ffurf parafeddygon ac offer ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans awyr. Ond yn y pen draw, er mwyn rhoi arweiniad i'r comisiynydd ambiwlans awyr ar ei gynnig ar gyfer y camau nesaf, ac o ystyried gwerth y gwasanaeth ambiwlans awyr, Weinidog, a fyddech chi'n barod i gyfrannu swm ariannol mwy drwy GIG Cymru i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans awyr gwerthfawr iawn hwn?
Credaf mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw nad wyf am achub y blaen ar unrhyw beth sy'n mynd i ddod o'r ymgynghoriad hwn, ac mai dim ond y cam cyntaf yw hwn. Bydd y comisiynydd yn ystyried canlyniad y broses ymgysylltu honno. Wedyn, byddwn yn cynnig opsiynau ar gyfer y cyfluniad yn y dyfodol, ac yna byddwn yn ymgynghori eto. Felly, mae yna ail gam i'r cyhoedd ymgynghori arno. Felly, nid wyf am achub y blaen ar hynny, ond mae gwir angen imi danlinellu pa mor ddifrifol yw ein sefyllfa ariannol. Nid ydym mewn sefyllfa i ddechrau ymrwymo i adnoddau y mae hi eisoes yn anodd dod o hyd iddynt yn y system. Felly, fe fydd yn anodd imi wneud hynny. Yn amlwg, byddaf yn aros hyd nes y gwelaf beth sy'n cael ei gyflwyno. Os oes achos clinigol da drosto, yn amlwg, bydd yn rhaid inni ystyried hynny.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion â chanser y fron metastatig? OQ59736
Fel y nodais yn fy ymateb i ddadl y Pwyllgor Deisebau ym mis Hydref, rydym yn canolbwyntio ar gynllunio gwasanaethau’r GIG, gwella’r broses o gasglu data yn y system gwybodaeth canser newydd ac archwiliad canser y fron newydd, a nodi'r hyn a ddylai ddigwydd i gleifion mewn llwybrau gofal a gytunwyd yn genedlaethol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r gwaith ymgyrchu gan y deisebydd a sicrhaodd y ddadl yma yn y Senedd, Tassia Haines, a’i galwadau am well gwasanaethau i gleifion canser metastatig y fron. Rydych yn llygad eich lle, Weinidog, fe gawsom y ddadl honno ychydig fisoedd yn ôl nawr, ond mae Tassia yn parhau â’i hymgyrch dros ddarpariaeth nyrsys arbenigol a gwell ansawdd gofal, er ei bod yn sâl iawn ei hun. Roedd wedi gobeithio bod yma heddiw; nid yw yma, ond dywedir wrthyf ei bod yn gwylio ar-lein. Weinidog, rwyf wedi cael yr anrhydedd o gyfarfod â Tassia ar sawl achlysur yn fy rôl fel Cadeirydd y pwyllgor, ac mae ei dealltwriaeth o'r hyn sydd angen ei wneud yn amlwg. Mae Tassia wedi rhannu’r profiad y mae hi a chleifion eraill y mae'n eu hadnabod wedi'i gael yng Nghymru mewn cynhadledd ddiweddar ym Manceinion hefyd. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo heddiw i gyfarfod â Tassia ar y cyfle cyntaf i drafod ei hymgyrch ymhellach gyda hi, a gobeithio y gall Tassia eich cynorthwyo i helpu i ddatblygu’r strategaeth honno wrth symud ymlaen.
Diolch yn fawr iawn. Gwrandewch, hoffwn dalu teyrnged i Tassia, gan y clywaf ei bod wedi gwneud gwaith anhygoel yn ymgyrchu ar y mater hwn. Nid wyf fel arfer, ac nid wyf yn mynd i ddechrau ymrwymo'n gyffredinol i gyfarfod â phobl, ond y tro hwn, rwy'n fodlon cyfarfod â Tassia, oherwydd y gwaith anhygoel y mae hi wedi'i wneud. Rwy'n cydnabod bod gwaith i’w wneud yma. Credaf fod pethau wedi gwella eisoes, felly mae gan bob bwrdd iechyd bellach ddarpariaeth nyrs arbenigol ar gyfer pobl â chanser metastatig y fron yng Nghymru. Mae hynny eisoes wedi newid er pan ddechreuodd Tassia yr ymgyrch, ond mae hynny'n rhannol oherwydd ei hymdrechion hi a'ch ymdrechion chithau, y Pwyllgor Deisebau, a phawb sy'n parhau i sicrhau ein bod yn ymateb i'r ceisiadau hyn pan fo angen. Yn sicr, os na allaf gyfarfod â hi wyneb yn wyneb, yn sicr, byddwn yn trefnu i gyfarfod o bell.
Mae’r C fawr yn rhywbeth a fydd, yn anffodus, yn effeithio ar bawb yng Nghymru rywsut, boed hynny drwy aelod o’r teulu, ffrind neu rywun rydym yn eu hadnabod, sy’n byw'n agos. Mae gan bob un ohonom stori ynglŷn â sut y mae canser wedi effeithio arnom ni neu rywun rydym yn eu caru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae canser y fron wedi effeithio ar fy nheulu i, ac mae ystadegau gan Cancer UK yn nodi bod 55 o bobl yn cael diagnosis o ganser a 24 o bobl yn marw o ganser bob dydd yng Nghymru. Erbyn 2040, rhagwelir y bydd nifer yr achosion yn codi fwy na 25 y cant. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae canser metastatig y fron yn ganser cam hwyr, ac mae angen inni wneud popeth a allwn i atal canser rhag cyrraedd y cam hwnnw. Mae diagnosis cynnar yn achub bywydau, ac yn gwneud canser metastatig y fron yn llawer llai tebygol.
Rwy'n croesawu'r uned canser y fron unedig newydd yn Ysbyty Ystrad Fawr a’r effaith y bydd yn ei chael ar fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru. Weinidog, pa gamau ymarferol rydych chi'n eu cymryd i gynyddu’r gobaith o gael diagnosis cynnar o ganser y fron yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru? Diolch.
Diolch. Wel, credaf fod yr ystadegau a ddyfynnwyd gennych yn bwysig. Rydym yn disgwyl i un o bob dau ohonom ddatblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau, felly mae sicrhau ein bod yn glir, yn gyntaf oll, ynghylch atal lle bo modd—a gadewch inni fod yn glir, nid yw'n bosibl ar bob achlysur. Mae pobl yn datblygu canser, a’r hyn y mae angen i ni ei wneud yw bod yno gyda nhw ar y daith honno. Fe wyddom am ganser hefyd fod yn rhaid i chi ei drin yn gynnar; os gallwch ei drin yn gynnar, rydych mewn sefyllfa well o lawer.
Mewn perthynas â chanser metastatig, collais fy chwaer-yng-nghyfraith i ganser metastatig y fron oddeutu tair blynedd yn ôl, felly mae hyn yn rhywbeth sy'n bwysig i mi, rhywbeth y gwn ei fod wedi cael effaith ar filoedd o fenywod yng Nghymru. Felly, gobeithio y bydd y ffaith bod gennym yr adnoddau newydd hyn lle gall pobl fynd ac sy'n ganolfannau arbenigol yn newid y ddeinameg honno, ac yn rhoi mwy o hyder i bobl yn y system. Yr hyn sydd gennym bellach yw gweithrediaeth y GIG, ac maent wedi dechrau datblygu'r llwybr cenedlaethol ar gyfer canser metastatig y fron, a disgwylir iddo gael ei gwblhau eleni. Felly, mae gennym hefyd system gwybodaeth canser newydd, sy'n cael ei chyflwyno eleni, ac mae hynny'n golygu y gallwn gasglu data a byddwn yn gwybod beth i'w wneud ac yn lle.
Cyn imi alw ar Buffy Williams, a gaf fi atgoffa’r Aelodau, os ydych yn disgwyl cael eich galw mewn sesiwn gwestiynau llafar i’r Gweinidog, fod angen ichi fod yn bresennol ar gyfer y sesiwn gwestiynau, boed yma yn y Siambr neu ar Zoom? Mae hynny er mwyn dangos parch at atebion y Gweinidog ac at y Senedd. Ond rwyf am wneud eithriad y tro hwn. Buffy Williams i ofyn cwestiwn 7.
7. Sut mae'r Gweinidog yn gwella canlyniadau i breswylwyr sy'n cael triniaeth am ganser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ59752
Diolch yn fawr, Buffy. Mae’r bwrdd iechyd yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer materion ansawdd sy’n ymwneud â pherfformiad, ac mae hyn yn cynnwys canser. Mae gweithrediaeth y GIG yn darparu cefnogaeth gan gymheiriaid ac yn cyflawni nifer o ymyriadau. Mae swyddogion yn cynnal cyfarfodydd misol gyda byrddau iechyd i oruchwylio eu hadferiad o ran perfformiad canser.
Diolch, Weinidog. Bydd un o bob dau ohonom yn cael diagnosis o ganser yn ystod ein hoes. Yn gynharach eleni, fel rhan o fy ymgyrch Rhondda yn Erbyn Canser, euthum ati i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau i gadw llygad amdanynt a phwysigrwydd diagnosis cynnar. Po gynharaf y cawn ein diagnosis, y cynharaf y gall y driniaeth ddechrau. Ond gwyddom y gall y driniaeth ar gyfer rhai canserau fod yn hynod ymyrrol ac anodd, ac er ei bod yn achub bywydau, gall olygu ansawdd bywyd gwaeth i'r rhai sy'n ei derbyn. Er enghraifft, gall dynion â chanser y prostad ddioddef o anymataliaeth, gan arwain at ynysigrwydd ac unigrwydd. Ar hyn o bryd, rwy'n cynnal arolwg lle gall trigolion y Rhondda rannu eu profiadau o fywyd ar ôl canser. A wnewch chi gyfarfod â mi, os gwelwch yn dda, i drafod yr ymatebion a darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion yng Nghymru yn dilyn eu triniaeth canser?
Diolch yn fawr iawn, Buffy. Mae mynd drwy ganser yn drawmatig, ac i bobl sy’n goroesi canser, nid yw’n rhywbeth sy’n dod i ben, yna mae’n rhaid ichi brosesu’r cyfan ac mae materion iechyd meddwl y mae angen ichi ymdopi â nhw. Felly, rwy'n eich canmol yn fawr am y gwaith a wnewch yn eich etholaeth.
Credaf fod y rhan diagnosis a grybwyllwyd gennych yn hollbwysig; mae'n rhaid inni ei ddal yn gynnar. Yr hyn sy'n ddiddorol iawn i mi yw trafod, 'Sut olwg sydd ar y dyfodol?' Felly, mae gennym bethau fel biopsïau hylifol, sy'n golygu nad oes gennych ddulliau diagnostig mor ymyrrol. Mae'n ddyddiau eithaf cynnar ar rywfaint o hyn, ond mewn gwirionedd, mae Cymru ar flaen y gad gyda rhywfaint o'r fformiwleiddiad genetig newydd hwn. Rwy’n falch iawn o allu siarad â sefydliadau sydd ar flaen y gad yn hyn o beth, a chredaf fod cyfleoedd gwirioneddol i'w cael. Un o'r pethau nad wyf am eu gwneud yw bod mewn sefyllfa lle mae'r datblygiadau digidol a genetig yn symud yn gyflymach nag y gallwn ni symud. Felly, mae'n her wirioneddol i ni, gan nad oes gennym gymaint o arian ag yr hoffwn, ond yn sicr, y peth arall rwy'n ceisio'i osgoi yw buddsoddi mewn offer a allai fod wedi dyddio erbyn inni ddechrau ei ddefnyddio. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd yn gywir rhwng trin pobl heddiw a meddwl am yfory hefyd.
Diolch.
Yn olaf, cwestiwn 8, Peter Fox.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fynediad at ofal iechyd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor? OQ59745
Mae mynediad at ofal iechyd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi bod islaw’r hyn rwy’n disgwyl iddo fod ers peth amser. Rwyf wedi dweud yn glir wrth y bwrdd iechyd nad yw hyn yn ddigon da, ac rwyf wedi nodi disgwyliadau clir ynghylch y gwelliant sydd ei angen.
Diolch, Weinidog. Ym mis Tachwedd, fel y gwyddoch, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am welliant brys yn yr adran achosion brys yn ysbyty'r Faenor. Nododd yr arolygiad nad oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan drefniadau digonol ar waith yn yr adran i gefnogi’r gwaith o ddarparu gofal iechyd diogel. Nid bai staff gweithgar y GIG yw hyn; yn hytrach, mae'r bai ar y pwysau a'r galw cynyddol ar yr adran. Yn wir, rwyf wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan bobl ar ôl iddynt ddod i mewn i'r system ofal. Gwyddom nad yw’r newidiadau hyn yn mynd i ddigwydd dros nos, ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu’r bwrdd iechyd i gyflymu’r newidiadau y mae eu hangen yn daer ar bobl fy etholaeth? A ydych yn hyderus ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud yno?
Diolch yn fawr iawn. Credaf fod cynnydd wedi'i wneud. Mae'r ffaith bod perfformiad wedi gwella 3.4 pwynt canran ers mis Rhagfyr 2022 a bod yr amseroedd aros 12 awr wedi gostwng 33 y cant yn golygu ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Mae rhai o'r pethau rydym wedi'u gwneud i gefnogi'r bwrdd iechyd yn cynnwys y cyllid cyfalaf o £3.5 miliwn rydym wedi'i roi i'w helpu i sefydlu'r ganolfan gofal argyfwng yr un diwrnod, a fydd, yn fy marn i, yn trawsnewid y llwybr brys llawfeddygol ac yn sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld a’u trin yn gynt o lawer. Rydym hefyd wedi gweld bod y bwrdd iechyd wedi ehangu’r uned asesu brys i blant ac wedi cyflwyno canolfan lif yn ogystal â chlinig diagnosis cyflym, sydd wedi’i sefydlu yn ysbyty’r Faenor ar gyfer cleifion â symptomau canser amhendant.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i'r Gweinidog.
Symudwn ymlaen at y cwestiynau amserol, a bydd y cyntaf gan Cefin Campbell.
1. Pa asesiadau y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud o'r diswyddiadau a ragwelir yng Ngwesty Parc y Stradey, Llanelli? TQ807
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Deallaf fod hyd at 100 o swyddi mewn perygl o ganlyniad i benderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade. Rwyf wedi cael gwybod bod darparwr llety’r Swyddfa Gartref, Clearsprings, yn archwilio cyfleoedd i gynnig cyflogaeth amgen i weithwyr presennol, ac rydym yn monitro’r sefyllfa bryderus hon yn fanwl.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwyf wedi fy mrawychu, fel chithau, gan adroddiadau diweddar y bydd oddeutu 100 o swyddi yn y gwesty yn cael eu colli o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad Llywodraeth Dorïaidd y DU i ddefnyddio'r gwesty at ddiben cartrefu ceiswyr lloches. Nawr, rwy’n hynod falch o’r ffaith bod Cymru yn genedl noddfa a’n bod wedi ymrwymo i gynnig cymorth a chartref i’r rheini sydd wedi wynebu caledi annirnadwy, boed hynny o ganlyniad i ryfel, artaith neu erledigaeth.
Mae Plaid Cymru wedi dweud yn gwbl glir nad yw polisi gwestai Llywodraeth y DU yn gwasanaethu anghenion ceiswyr lloches. Mae agwedd y Llywodraeth Dorïaidd at yr holl sefyllfa wedi bod yn warthus. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi codi pryderon nad oes unrhyw adnoddau ychwanegol wedi’u dyrannu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol ar wasanaethau llywodraeth leol, sydd eisoes wedi’u torri at yr asgwrn oherwydd degawd o fesurau cyni gan y Torïaid. Mae llawer o gwestiynau pwysig i’w gofyn ynglŷn â rhoi cannoedd o bobl yng Ngwesty Parc y Strade, yn hytrach na dilyn model mwy cynaliadwy o wasgaru, a fyddai’n caniatáu i geiswyr lloches integreiddio’n well yn ein cymunedau. Yn ogystal, byddai hyn yn galluogi Gwesty Parc y Strade i barhau i gynnal digwyddiadau allweddol, megis priodasau, a diogelu swyddi gweithwyr presennol.
Gwyddom bellach y gallai oddeutu 95 aelod o staff golli eu swyddi, a hyn mewn tref lle mae ffigurau diweithdra a thlodi yn parhau’n ystyfnig o uchel. Felly, a gaf fi annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith? Hoffwn ofyn hefyd pa gymorth a allai fod ar gael i gefnogi’r rhai a fydd yn colli eu swyddi o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.
Diolch yn fawr, Cefin Campbell. A gaf fi ddweud ein bod yn hynod o siomedig—yn hynod o siomedig—nid yn unig ynglŷn â'r sefyllfa y mae’r gweithwyr gwerthfawr hynny, sydd wedi gweithio i'r gwesty hwnnw ers amser maith, yn ei hwynebu, ond hefyd gyda'r defnydd newydd arfaethedig o Westy Parc y Strade, y ffordd y mae perchnogion y gwesty—y gwyddom eu bod wedi'u lleoli yn Essex, nid nhw yw'r bobl ar y safle, yn y gwesty—ac wrth gwrs, y Swyddfa Gartref, wedi ymdrin â'r sefyllfa? Fel y dywedwch, yn ddiweddar y cafodd y staff wybod eu bod yn cael eu diswyddo, heb fawr ddim eglurder ynghylch eu sefyllfa a chynigion cyflogaeth amgen. Rwyf wedi gwneud y pwynt am ddarparwr y Swyddfa Gartref, Clearsprings, ond nid oes gennym unrhyw eglurder ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran cynigion.
Dylwn ddweud y bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn ysgrifennu at yr Adran Busnes a Masnach, yr Ysgrifennydd Gwladol, i gyfleu ei anfodlonrwydd mawr ynghylch y mater hwn. Ond rwyf hefyd wedi bod yn codi hyn, y darlun cyfan o ran y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref yn trin pobl sydd angen noddfa, fel rydych yn cydnabod yn y gefnogaeth a roddwch i'r genedl noddfa. Rwyf wedi codi hyn gyda’r Gweinidog Mewnfudo, Robert Jenrick, a chlywais yr wythnos hon ei fod yn fodlon cyfarfod â mi. Rwyf wedi codi nifer o faterion gydag ef, gan gynnwys, wrth gwrs, y ffaith ein bod yn gwrthwynebu'r Bil Mudo Anghyfreithlon, ac wedi codi gydag ef y ffaith mai’r rheswm am hyn yw am nad ydynt yn prosesu ceisiadau lloches yn briodol ac yn gyflym fel na fyddai pobl yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Felly, hoffwn ddweud ein bod wedi egluro wrth y Swyddfa Gartref beth fydd effaith negyddol y ffaith bod perchennog y gwesty—sydd wedi'u lleoli yn Essex, deallwn—yn diswyddo gweithwyr, nid yn unig ar y gweithwyr eu hunain, ond hefyd ar y gymuned ehangach.
Gwyddom am y tensiynau sy’n bodoli, ac rydym wedi codi’r pryderon hyn ar sawl achlysur, ac mae’n rhaid imi ddweud, gyda’r Aelod lleol a hefyd yr ASau. Rwyf wedi cyfarfod ag arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar ddau achlysur. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd amlasiantaethol gyda'r heddlu a'r comisiynydd heddlu a throseddu, wrth gwrs, yn ogystal â'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan nifer o asiantaethau. Byddaf yn cyfarfod eto â’r arweinydd.
Wrth gwrs, nid ni sy'n gyfrifol—nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol—am gaffael a gweithredu llety lloches yng Nghymru, ond credwn mai’r model gwasgaru cynaliadwy yw’r dull cywir i'w ddefnyddio ledled Cymru, ac rydym yn gweithio gyda’n hawdurdodau lleol a’n harweinwyr i fynd i’r afael â hyn.
Yn olaf gennyf fi, wrth gwrs, byddwn yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gynnig cymorth i weithwyr os byddant yn colli eu swyddi. Mae gennym raglen ReAct, wrth gwrs, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Canolfan Byd Gwaith, Cymru'n Gweithio, a chymorth dwys ar gyfer cyflogaeth amgen hefyd. Mewn gwirionedd, mae Cymru'n Gweithio, Cymunedau am Waith a Mwy a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfarfod â gweithwyr ar y safle ddydd Mawrth a dydd Mercher nesaf.
Diolch i'r Gweinidog.
Bydd yr ail gwestiwn amserol yn cael ei ofyn gan Tom Giffard.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch sefydlu cronfa ar gyfer gohebydd i ymdrin â thrafodion y Senedd? TQ808
A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am ei gwestiwn? Bydd cyllid yn cefnogi newyddiadurwr amser llawn penodol i roi sylw i fusnes y Senedd, gan ddarparu cynnwys am ddim i bob darparwr newyddion, yn debyg i wasanaeth gohebu democratiaeth leol y BBC. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw sylw gan newyddiadurwr amser llawn yn y cyfryngau lleol i’r Senedd, mater sydd wedi’i godi gan y diwydiant a chynrychiolwyr y sector.
Diolch i’r Gweinidog am ei hateb. Nawr, nid rhywbeth o Undeb Sofietaidd y rhyfel oer yw’r syniad o Lywodraeth yn talu newyddiadurwyr i ohebu arni ei hun, ond Cymru yn 2023, ac mae ein Llywodraeth yma yn gwario £200,000 o arian trethdalwyr ar brosiectau newyddiaduraeth, gan gynnwys £36,500 ar gyflog a threuliau ar gyfer y newyddiadurwr penodol hwn. Mae hynny, wrth gwrs, fel y gwyddoch, Weinidog, yn sylweddol uwch na’r cyflog cyfartalog yma yng Nghymru. Yn amlwg, mae'n bwysig ein bod yn cael mwy o graffu democrataidd ar y penderfyniadau a wneir ym Mae Caerdydd, rhywbeth rydym wedi dadlau o'i blaid ers tro, ac o'm safbwynt i, po fwyaf o bobl sy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn methu ar iechyd, yn methu ar yr economi ac yn methu ar addysg, gorau oll. Ond o ystyried y methiannau hynny, ai’r ffordd fwyaf priodol o wneud hynny, mewn gwirionedd, yw gwario arian cyhoeddus yn uniongyrchol ar greu swydd newydd i newyddiadurwr? Nawr, dywedodd y Caerphilly Observer, a fyddai'n cynnal y cynllun peilot, na fyddai unrhyw ymyrraeth olygyddol yn y cynnwys y mae'r newyddiadurwr hwn yn ei gynhyrchu. Mae'r golygydd, Richard Gurner, wedi dweud hyd yn oed
'Pe byddai unrhyw fath o awgrym y ceid ymyrraeth olygyddol, ni fyddwn yn cymryd rhan yn y prosiect.'
Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod ei sylwadau'n ddilys ac yn llawn bwriadau da, ond bydd yn anodd cynnal hynny o ddydd i ddydd. Y syniad, er bod swydd y newyddiadurwr—
Mae angen i’r Aelod ofyn ei gwestiwn.
—yn dibynnu'n llwyr ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, na fyddai unrhyw ddylanwad anuniongyrchol ar y straeon newyddion a fyddai'n cael eu cynhyrchu, nid yw'n ymddangos yn gynaliadwy, felly gallai hynny roi unrhyw newyddiadurwr ifanc sy'n gobeithio gwneud y swydd mewn sefyllfa hynod o letchwith, yn enwedig wrth gyhoeddi straeon beirniadol.
Felly, Weinidog, a ydych yn derbyn bod gwasg a brynir ac y telir amdani gan y Llywodraeth yn newyddion drwg i ddemocratiaeth ac i atebolrwydd democrataidd, ac yn codi pryderon difrifol am eu hannibyniaeth a’u parodrwydd i graffu ar y Llywodraeth yn yr un modd ag y byddai newyddiadurwr mwy annibynnol yn ei wneud?
Wel, mae'n gwestiwn o lle i ddechrau gyda'r nonsens anwybodus hwn, mewn gwirionedd, Tom. Hynny yw, fe fyddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn dweud—ac roeddwn yn mynd i sôn am hyn fy hun—mai Llywodraeth y DU, eich Llywodraeth chi yn y DU, a sefydlodd wasanaeth gohebu democratiaeth leol y BBC i wneud yn union—yn union—yr hyn rydym yn cynnig ei wneud gyda’r gohebydd democratiaeth leol hwn yng Nghymru. A chredaf fod angen hefyd i chi ddeall y broses rydym wedi bod drwyddi i gyrraedd y sefyllfa hon. Rydych yn aelod o’r pwyllgor diwylliant, Tom, ac roedd hon yn broses a ddechreuodd pan oedd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a minnau’n aelodau o’r pwyllgor diwylliant y tymor diwethaf, pan gawsom ymchwiliad i’r diffyg democrataidd sydd gennym yng Nghymru a sut rydym yn gohebu ar newyddion yn y Senedd hon. Dros y blynyddoedd, gwelsom gyfyngiadau cyllidebol hanesyddol a diweddar o fewn y diwydiant newyddiaduraeth sydd wedi arwain at lai o sylw i fusnes y Senedd, mater sydd wedi’i godi, fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, gan gynrychiolwyr o'r sector ehangach a'r diwydiant ei hun. Felly, mae hyn yn rhywbeth rydym wedi'i wneud sydd wedi cael ei lywio gan y diwydiant.
Ac o ganlyniad i’r holl waith hwnnw, ar ddechrau tymor y Llywodraeth hon, cefais fy mhenodi’n Weinidog, ac o ganlyniad i drafodaethau gydag Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, fe wnaethom sefydlu rywbeth a elwir yn weithgor newyddiaduraeth er budd y cyhoedd, a'r grŵp hwnnw a luniodd y cynigion i fwrw ymlaen â'r prosiect peilot hwn. A chofiwch hynny: mae'n brosiect peilot; mae'n brosiect peilot i weld sut mae hyn yn gweithio. A’r dull a’r syniad y tu ôl i hyn yw y bydd yn cynyddu’r sylw i fusnes y Senedd ar lefel ymgysylltiol, ar lefel leol, ledled Cymru, gan gefnogi lluosogrwydd y cyfryngau a darparu gwasanaeth newyddion gwleidyddol gwell i drigolion Cymru. Cost hyn yw oddeutu £36,000. Bydd y swydd wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd.
Ond nodais y sylwadau a wnaethoch ar hyn ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr, Tom, ac fe wnaethoch yr un hen honiadau y mae'r Torïaid Cymreig yn eu gwneud o hyd am brosiectau porthi balchder ac ati. Mae newyddiadurwr o Gymru, newyddiadurwr gwleidyddol lleol ar WalesOnline, eisoes wedi gwrthbrofi eich rhestr gyfan o brosiectau porthi balchder Llywodraeth Cymru. Felly, ni chredaf fod angen inni gychwyn sôn am brosiectau porthi balchder; mae'n fwlch hollbwysig rydym yn gobeithio ei lenwi o ran gohebu ar waith Senedd Cymru. Mae'n rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth fod gennym ohebu annibynnol a chywir ar ein prosesau democrataidd. Ac yn groes i'r hyn a ddywedwch, Tom, gallaf ddeall pam fod y Torïaid am wrthwynebu hyn, gan y gallaf ddeall nad ydych am weld craffu ar y nonsens rydych yn aml yn ei siarad yn y Siambr hon, ond gadewch inni fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw graffu ychwanegol, ac nid oes gennym unrhyw beth i’w ofni—
Gofynnaf i’r holl Aelodau ar bob ochr fod yn dawel, os gwelwch yn dda, fel y gall pob un ohonom glywed yr ateb gan y Dirprwy Weinidog.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, nid oes gennym unrhyw beth i'w ofni o ran craffu ychwanegol, ac rydym yn croesawu'r math hwn o ohebu ar ddemocratiaeth, a fydd yn gwneud llawer mwy i'n democratiaeth nag a welsom hyd yn hyn.
Mae'n rhyfedd iawn clywed y Ceidwadwyr yn ymosod ar sefydliad poblogaidd y Caerphilly Observer, sy'n cael ei redeg o fy etholaeth. Mae Richard Gurner, y golygydd, yn fawr ei barch ymhlith poblogaeth Caerffili, a’r unig bobl sy’n ei gyhuddo o unrhyw fath o duedd yw’r bobl sy’n cael eu dwyn i gyfrif gan ei bapur newydd, gan gynnwys Plaid Cymru, y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a phob plaid wleidyddol arall, a'r hyn y mae'n ei gynnig, mewn gwirionedd, yw newyddiaduraeth ddiduedd, amhleidiol. Mae'n anffodus iawn fod y Ceidwadwyr yn ymosod ar y math hwnnw o newyddiaduraeth yn y modd hwn, ac nid wyf am ei oddef. Rwy'n gwbl hyderus y bydd y newyddiadurwr a fydd yn cael eu cyflogi gan y Caerphilly Observer drwy'r cynllun hwn yn gwbl ddiduedd ac yn gwneud eu gwaith yn broffesiynol ac yn ddiwyd. Rwyf am i’r Gweinidog gadarnhau mai dyna’r sefyllfa, a chydnabod hefyd fod y Ceidwadwyr wedi dileu trydariad o’u sylwadau camarweiniol a oedd yn awgrymu ambell anwiredd am y rhaglen hon.
Diolch am eich sylw, Hefin David. Ac ydy, wrth gwrs, mae newyddiaduraeth y Caerphilly Observer hefyd yn cwmpasu rhan o fy etholaeth innau hefyd, ac rwy'n adnabod y newyddiadurwr y soniwch amdano, Richard Gurner. Mae'n eich dwyn chi a minnau i gyfrif drwy'r amser, Hefin, fel y gwyddoch, ac mae gennyf barch enfawr tuag ato. Nid newyddiadurwr a fyddai’n cael ei hudo gan grant o £36,000 mohono, a chredaf ei bod yn gwbl warthus i unrhyw un awgrymu ac ymosod ar ddidwylledd y newyddiadurwr hwnnw yn y ffordd y gwnaethoch chi heddiw, Tom Giffard. Ni chredaf fod hynny'n dod ag unrhyw glod i chi na'ch plaid—[Torri ar draws.]—o gwbl.
Bydd y cynllun peilot—[Torri ar draws.]—y cynllun peilot, fel y dywedais, yn rhydd rhag unrhyw ymyrraeth olygyddol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynnwys ar gael i'r holl ddarparwyr newyddion ledled Cymru, gyda'r sawl sy'n derbyn y cyhoeddiad yn gyfrifol am gyfieithu. Bydd disgwyl iddo gyflawni erthyglau—25 i 40 darn o newyddion—bob mis. Mae hynny’n rhywbeth nad yw’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd, ac mae’r prosiect peilot hwn, fel rwyf wedi’i ddweud—fe'i hailadroddaf eto—yn ymwneud â cheisio lledaenu gohebu ar ddemocratiaeth leol ledled Cymru, fel bod mwy o bobl—nid llai, ond mwy o bobl—yn gallu cael mynediad at adroddiadau annibynnol ar weithgarwch a gwaith sy'n mynd rhagddo yn Senedd Cymru.
Mae Plaid Cymru'n croesawu'n fawr y buddsoddiad ychwanegol yma yn ein seilwaith democratiaeth. Wrth gwrs, fel rydych chi'n ymwybodol, mae rhoi cymorth ariannol i'r cyfryngau yn ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio, ac, yn benodol, fe ymrwymon ni i ddarparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau sydd eisoes yn bod a mentrau newydd. Mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael â'r bwlch gwybodaeth sydd yn bodoli, ac rydym ni'n gweld bod hwn yn gam positif, ond dydy o ddim yn ddatblygiad newydd chwaith. Fe wnaeth y tasglu annibynnol gan y Llywydd yn y Senedd ddiwethaf argymell sefydlu tîm bach o newyddiadurwyr, felly, mewn gwirionedd, gofyn, 'Pam un?' ddylai'r cwestiwn fod, yn hytrach na'r tîm hwnnw.
Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych hefyd bod y cyfraniad bychan ac ymarferol yma yn bwysig o ran sicrhau bod dinasyddion Cymru yn deall beth mae'r Senedd hon yn ei wneud a pha blaid sydd mewn grym, a'u bod nhw'n deall eu bod nhw hefyd efo rôl i ddal cynrychiolwyr i gyfrif. Wedi'r cyfan, mae arolwg gwnaeth ein grŵp ni yn ddiweddar wedi dangos bod 35 y cant o ymatebwyr i'r holiadur hwnnw yn credu bod gan y Ceidwadwyr Weinidogion yn Llywodraeth Cymru ers etholiad Mai 2021; 44 y cant yn meddwl bod gan Plaid Cymru Weinidogion; ond mi oedd 78 y cant o ymatebwyr yn methu ag enwi un polisi sydd wedi'i gyflwyno yng Nghymru dros y flwyddyn diwethaf pan fyddant yn meddwl am y Senedd ac am Lywodraeth Cymru. Os ydyn ni'n meddwl does yna ddim problem, yna dwi'n meddwl bod yn rhaid inni godi cwestiynau mawr iawn, a dyna pam rydym ni'n croesawu hyn.
Ond mae angen gwneud mwy, wrth gwrs. Dydy un newyddiadurwr ddim am unioni'r bwlch yma sydd yn ein democratiaeth ni. Mae'r holl fframwaith ddarlledu yn annigonol. Felly, dyna pam mae angen datganoli darlledu a chyfathrebu yn llawn, fel ein bod ni'n gallu buddsoddi'n strategol drwy awdurdod darlledu a chyfathrebu hyd braich a sicrhau bod darlledwyr fel y BBC yn gwasanaethu Cymru yn iawn efo'r arian mae pobl Cymru yn rhoi iddyn nhw drwy'r ffi drwydded. Felly, gaf i ofyn, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno mai'r ffordd fwyaf effeithiol o fuddsoddi a chau'r bwlch democratiaeth ydy drwy sefydlu awdurdod cyfathrebu a darlledu a sicrhau pwerau llawn dros y maes yma i'r Senedd hon?
Diolch am eich sylwadau a’ch cwestiynau, Heledd. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedoch chi. O dan gytundeb cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru, rydym wedi sicrhau bod £300,000 yn cael ei ddyrannu dros dair blynedd, a fydd yn helpu i ddarparu a datblygu mentrau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes i geisio gwella newyddiaduraeth a mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth y cyfeirioch chi ato. Ac a fyddwn yn hoffi gweld mwy o newyddiadurwyr yn gwneud hyn? Wrth gwrs y byddwn, ond mae hwn yn gynllun peilot, o fewn y pot ariannu penodol hwnnw, a fydd yn rhedeg am flwyddyn, i weld beth fydd canlyniad hynny, ac a yw'n gwneud gwahaniaeth—credaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Ac os bydd yn gwneud gwahaniaeth, fel gyda phob cynllun peilot, gallwch adeiladu ar hynny. Felly, i raddau helaeth, dyna lle rwy'n gobeithio ein bod yn mynd.
Fel y gwyddoch, unwaith eto, fel rhan o’n cytundeb cydweithio, rydym yn symud tuag at adeiladu’r achos dros ddatganoli darlledu, ac rwyf wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’ch cyd-Aelod, Cefin Campbell, ar yr achos hwnnw. Rydym wedi bod yn gwneud cynnydd da ar hynny; rydym wedi cael yr adroddiad cyntaf gan y panel arbenigol ar ddatganoli darlledu. Ac yn ddiddorol iawn, mae'r gwaith y mae'r gweithgor newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru newydd ei gynhyrchu, sy'n sôn sut y teimlant fod angen inni symud ymlaen i nodi neu siarad am newyddiaduraeth gwasanaeth cyhoeddus fel gwasanaeth cyhoeddus—fel rhywbeth y dylem ei weld fel gwasanaeth cyhoeddus—yn cysylltu'n agos â'r gwaith a wnawn ar ddatganoli darlledu. Ac un o'r argymhellion gan y panel arbenigol, os ydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar newyddiaduraeth er budd y cyhoedd, yw y gallai fod angen inni gyfuno gwaith y gweithgor newyddiaduraeth er budd y cyhoedd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar sefydlu awdurdod darlledu cysgodol.
Felly, mae gennym lawer o waith i'w wneud ar hynny o hyd. Rwyf wedi dweud yn glir iawn, fel y mae Cefin Campbell wedi'i wneud, a bod yn deg, am y gwaith ar ddatganoli darlledu: rydym am iddo fod yn seiliedig ar dystiolaeth, rydym am iddo fod yn ffeithiol, rydym am iddo ddal dŵr. Felly, nid wyf am sefyll yma heddiw a dweud mai dyma'n union sy'n cael ei gyflawni, ond mae'n rhywbeth rydym yn gweithio tuag ato, a gwyddom beth yw'r amcanion a’r canlyniadau y bwriadwn eu cyflawni. Ond rydym yn awyddus i sicrhau, pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw, fod gennym achos y gall pob un ohonom ei gefnogi.
Rwy'n croesawu cyllid ar gyfer gohebydd ar gyfer y Senedd yn fawr. Yn gyffredinol, mae'r cyfryngau ysgrifenedig, ar-lein ac ar bapur, yn darparu sylw gwael iawn i drafodion y Senedd. Y gwelliant mawr yn ddiweddar fu ehangu Nation.Cymru, sydd bellach yn cynnig y ddarpariaeth orau ar gyfer Cymru gyfan. Ar newyddion lleol, mae'r South Wales Evening Post ym mae Abertawe yn dda iawn, ond sylw cyfyngedig sy'n cael ei roi i'r Senedd oherwydd prinder newyddiadurwyr. A fydd y gohebydd penodedig yn darparu copi i bapurau newydd rhanbarthol a Chymraeg, ac i Nation.Cymru?
Unwaith eto, Mike Hedges, rwy'n cytuno â'r sylwadau rydych chi wedi'u gwneud, ac mae Nation.Cymru yn enghraifft dda. Ac mewn gwirionedd, rydym yn helpu i gefnogi ac ariannu Nation.Cymru. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn awgrymu bod Nation.Cymru yn ffrind mawr i Lywodraeth Cymru o reidrwydd—maent yn feirniadol iawn ohonom pan deimlant fod angen iddynt fod, ac yn gwbl briodol felly. Felly, rwy'n credu eu bod yn enghraifft glasurol o gorff newyddion annibynnol rydym wedi'u helpu i'w cynorthwyo i ddal ati, ac sy'n bendant yn ein dwyn ni fel Llywodraeth Cymru i gyfrif. Ac rwy'n credu, lle gallwn wneud hynny, lle gallwn helpu i gefnogi a meithrin newyddiaduraeth annibynnol, dyna'n union y dylem fod yn ei wneud.
Mae amser wedi dirwyn i ben ac mae gennyf ddau berson arall sy'n dymuno gofyn cwestiynau, felly, byddwch yn gryno yn eich cwestiynau. Alun Davies.
Bydd gan bobl ar hyd a lled Cymru farn wahanol ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, ond un peth sy'n uno pobl, o Ynys Môn i sir Fynwy, yw bod gennym yr wrthblaid waethaf yn y byd. Ac os ydych chi eisiau enghraifft o wrthblaid wael, edrychwch ar y cwestiwn hwn heddiw. Byddai'r rhan fwyaf o'r gwrthbleidiau eisiau mwy o graffu ar y Llywodraeth. Byddai'r rhan fwyaf o'r gwrthbleidiau eisiau i bobl Cymru wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud, oherwydd rydych chi i fod i gredu bod y Llywodraeth yn gwneud pethau'n anghywir. Ac eto, yr hyn sydd gennym yma yw pobl sy'n hapus iawn i ymddangos ar bethau fel GB News, sy'n cael ei ariannu gan bobl asgell dde yn Dubai, a ffynonellau eraill o newyddion gan bobl nad ydynt hyd yn oed yn talu trethi'r DU, ond sy'n gwrthwynebu i gyfryngau Cymreig roi sylw i wleidyddiaeth Cymru. A'r rheswm am hynny, wrth gwrs, yw nad oes ganddynt hyder yn eu dadleuon, ac nid oes ganddynt hyder yn yr hyn y maent yn ei ddweud. Dylent fod â chywilydd o gyflwyno'r cwestiwn hwn y prynhawn yma.
Weinidog, a wnewch chi sicrhau mai dechrau'r rhaglen yw hyn ac nid y diwedd, i sicrhau bod gwaith y lle hwn, y Senedd a'r Llywodraeth, yn cael yr amlygrwydd sydd ei angen, a bod y deunyddiau a gynhyrchir drwy'r cynllun hwn yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth, yn annibynnol ar y Senedd, ond yn hysbysu pobl Cymru am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y lle hwn, a'r wrthblaid hollol anhrefnus y mae'n rhaid i ni ei hwynebu?
Yn hollol, Alun Davies, ac nid wyf yn credu bod angen i mi ddweud pa mor ofnadwy yw'r wrthblaid sydd gennym yn y Senedd hon; mae wedi cael ei adrodd yn eang yn y cyfryngau Cymreig. Ac unwaith eto, mae'r un newyddiadurwr a chwalodd eich rhestr o brosiectau porthi balchder hefyd wedi cwestiynu dilysrwydd eich gwrthblaid, gan ddweud yn y bôn nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw wrthblaid yng Nghymru. Ac rwy'n credu mai dyna'r pwynt roeddech chi'n ei wneud. Ac mae'n rhyfedd mewn gwirionedd—yn rhyfedd tu hwnt—fod unrhyw wrthblaid eisiau cefnogi safbwynt lle mae yna lai o graffu ar Lywodraeth Cymru, yn hytrach na mwy.
Felly, yn sicr, Alun Davies, byddaf eisiau sicrhau mai dechrau rhaglen yw hyn i sicrhau'r amlygrwydd hwnnw, ac i sicrhau bod y gohebu yn parhau'n annibynnol ar y Llywodraeth, yn hysbysu pobl Cymru, ac yn parhau i graffu'n briodol ar Lywodraeth Cymru.
Ac i roi gwybod i'r Aelod dros Flaenau Gwent, nid oedd y cyfraniad hwnnw'n gryno. [Chwerthin.] Rhianon Passmore.
O, beth y gallaf ei ddweud? Mae cyllid Senedd Cymru, Ddirprwy Weinidog—costau ariannol gohebydd i ymdrin â thrafodion y Senedd hon—i'w groesawu'n fawr. Pa mor aml y mae'r Siambr hon, grwpiau trawsbleidiol a phwyllgorau yn gresynu at gyn lleied o sylw a roddir i'r lle hwn, a'r angen am fwy o gyfranogiad, ac i unioni diffyg democrataidd? Felly, bydd y peilot hwn—a pheilot ydyw—yn cael ei gynnal gan y Caerphilly Observer. Fel y nodwyd, maent eisoes yn dal y contract ar gyfer y gwasanaeth gohebu democratiaeth leol, a ariennir gan y BBC ar lefel leol.
Felly, Ddirprwy Weinidog, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cytuno, ac yn gwarantu, yng ngeiriau golygydd y Caerphilly Observer, Richard Gurner, y bydd y peilot yn golygu gohebu diduedd a fydd yn glynu wrth yr holl safonau uchel arferol? A Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i hyrwyddo sefydlu gwasg Gymreig wirioneddol rydd, ar batrwm y cynnydd yn ansawdd y Caerphilly Observer o darddiad diymhongar iawn fel gwefan ar liniadur i fod yn wasanaeth newyddion uchel ei barch, a gwrthrychol, sydd wedi ennill sawl gwobr? Diolch.
Wel, unwaith eto, a gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau a'i chwestiwn ar hynny? Ac ydw, unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr â hi, a phan edrychaf o gwmpas ar yr hyn y cyfeiriwn ato yn y Deyrnas Unedig fel ein gwasg rydd—y Daily Mail, y Daily Express, The Sun—y cyrff cyfryngau rhydd hyn sydd yn ôl pob golwg—. Wel, yn amlwg, nid ydynt yn ddiduedd. Ac nid ydynt yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth, ond fe gânt eu hariannu gan ddiddordebau o fewn y Blaid Dorïaidd—gadewch inni fod yn gwbl glir ynglŷn â hynny—a dyna maent yn adrodd yn ei gylch. Ond mae'n rhaid imi ddweud, mae hyd yn oed y Daily Express bellach yn ysgrifennu eich marwnad, felly byddwch yn ofalus o ran beth a ddymunwch wrth dalu eich meistri, oherwydd maent hwy hyd yn oed yn gwybod am y digwyddiad lefel difodiant—dyna roeddent yn ei alw. Felly, dyna beth rydych chi'n ei wynebu y flwyddyn nesaf yn yr etholiad cyffredinol.
Ond yn hollol, Rhianon Passmore, rydym eisiau hyrwyddo gwasg Gymreig rydd, ac nid yw'r ffaith ein bod yn cefnogi cynllun peilot i'w darparu yn arwydd na fyddai'n ddiduedd. Pe na bai'n cael ei hystyried yn ddiduedd, pe bai unrhyw arwydd o unrhyw ymyrraeth wleidyddol o gwbl, byddai Richard Gurner a'r Caerphilly Observer yn tynnu'n ôl yn syth, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, oherwydd dyna'r math o uniondeb sydd gan bobl felly. Ond fel y dywedais mewn ymateb i Heledd Fychan, rwy'n sicr yn ystyried hyn yn ddechrau proses, ac nid yn ddiwedd proses. Rwy'n gobeithio y bydd yn brosiect peilot llwyddiannus, ac y gallwn adeiladu arno wrth symud ymlaen.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Rwyf wedi derbyn pwynt o drefn gan Tom Giffard. Tom Giffard.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn amlwg, roedd llawer o bwyntiau roeddwn yn anghytuno â nhw yn y ddadl honno, ond roedd yna rai pethau a oedd yn hollol anwir, mae arnaf ofn. Ac roedd Hefin David a'r Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, ill dau yn honni fy mod i wedi cwestiynu didueddrwydd a niwtraliaeth y Caerphilly Observer a'i staff. A gaf fi eich annog i wirio'r Cofnod, a gweld a ddywedais i hynny mewn gwirionedd, oherwydd gallaf ddweud wrthych na wneuthum?
Fe wnaf wirio'r Cofnod. Ni chlywais unrhyw feirniadaeth o'r newyddiadurwr na'r papur, ond fe wiriaf y Cofnod eto a dof yn ôl i'r Siambr i roi barn ar hynny. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn edrych ar y Cofnod i sicrhau bod ei sylwadau'n gywir.
Diolch.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf, rydym yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn ein hecosystem, yn cynnal bioamrywiaeth. Mae hwn yn gyfle pwysig i gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, megis helpu gyda chyfrif yr arolwg blodau gwyllt neu ddysgu pam mae cynghorau'n caniatáu tyfu ein lleiniau glas a'n glaswellt amwynder ac yn annog pobl i'w cynnal i ganiatáu i flodau gwyllt ffynnu, sydd wedi bod yn digwydd o dan ymgyrch 'Iddyn Nhw' ein partneriaethau natur lleol.
Ddydd Sadwrn diwethaf, fel hyrwyddwr rhywogaeth y tegeirian llydanwyrdd, cymerais ran mewn cyfrif tegeirian llydanwyrdd mewn dôl flodau gwyllt, sy'n eiddo i Plantlife Cymru ac sy'n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Roedd y ddôl yn llawn o rywogaethau amrywiol, sydd wedi creu cynefin ar gyfer llawer o anifeiliaid a phryfed, fel glöynnod byw, buchod coch cwta, mursennod, crics, pryfed cop a brogaod bach. Roedd y lle'n llawn bywyd ac yn hardd iawn.
Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar blannu coed ar gyfer storio carbon, ond mae tair i bum gwaith yn fwy o garbon yn cael ei storio yn ein glaswelltiroedd nag yn ein coedwigoedd, ac yn anffodus, mae 90 y cant o'r dolydd wedi cael eu colli. Mae bywyd gwyllt yn dirywio ar raddfa ddigynsail yn hanes dyn, ac mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, a dyna pam mae angen inni ystyried rhoi amddiffyniadau ar waith ar frys a rheoli dolydd blodau gwyllt, lleiniau, glaswellt amwynder a hyd yn oed ein gerddi ein hunain mewn ffordd wahanol.
Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i dirfeddianwyr sy'n rheoli tir ar gyfer natur, ac rwy'n gobeithio y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy sydd ar y ffordd yn cynnig y cymhellion cywir i annog eraill i wneud yr un peth. Os ydym am feithrin dyfodol ffrwythlon, un lle caniateir i'n bioamrywiaeth flodeuo, mae angen gwneud llawer mwy i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid i wneud hynny. Diolch.
Ddydd Sadwrn diwethaf, daeth proclamasiwn Eisteddfod 2024 i Aberdâr, ac roedd yn anrhydedd gwirioneddol gallu ymuno â'r orymdaith, wrth inni groesawu'r Eisteddfod i Rondda Cynon Taf a chyflwyno Rhondda Cynon Taf i'r Eisteddfod, ac am groeso ydoedd. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r proclamasiwn yn garreg filltir bwysig yn y paratoadau ar gyfer gŵyl y flwyddyn nesaf. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn RhCT, gan ddychwelyd i'r ardal am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd. Yn wir, roedd y proclamasiwn yn ailymweld ag Aberdâr, y dref lle cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern gyntaf yn ôl ym 1861.
Braf oedd gweld cymaint o bobl leol a chymaint o blant yn dod at ei gilydd i groesawu'r Orsedd a dathlu'r diwylliant a'r dreftadaeth a rannwn. Yn wir, dywedodd aelodau o'r Orsedd wrthyf mai'r croeso a gawsant gan drigolion Aberdâr oedd y croeso gorau a gawsant ers blynyddoedd lawer.
Roedd y dathliad ddydd Sadwrn yn adeiladu ar y prosiect llawr gwlad y mae'r Eisteddfod eisoes wedi'i gynnal yn RhCT, wedi'i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'n cynnwys taith gerdded hanesyddol i ddysgwyr Cymraeg yn Aberdâr a'r farchnad haf ym Mharc Aberdâr, sy'n cynnwys ysgolion lleol a grwpiau Sgowtiaid. Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o drefnu'r diwrnod hudolus hwn, a hoffwn sôn yn arbennig am gyngor RhCT a phawb yn ardal gwella busnes Ein Aberdâr. Diolch.
Y penwythnos diwethaf, yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir, cynhaliwyd pencampwriaethau cneifio gwlân a thrin gwlân y Golden Shears. Mae'r pencampwriaethau cneifio gwlân a thrin gwlân yn gystadleuaeth ryngwladol, a gynhelir i weld pwy yw'r cneifwyr defaid a'r trinwyr gwlân gorau a chyflymaf yn y byd. Mae'n arddangos y gelfyddyd a'r sgiliau a'r technegau sydd eu hangen i fod yn bencampwr byd. Mae'r digwyddiad yn dod â chneifwyr a thrinwyr gwlân medrus o 30 o wledydd ynghyd i gystadlu mewn disgyblaethau cneifio amrywiol.
Mae'n wych dweud bod tîm Cymru wedi ennill y bencampwriaeth trin gwlân i dimau, y bencampwriaeth cneifio i dimau a'r bencampwriaeth cneifio â pheiriant i unigolion. Rwy'n siŵr fy mod i a'r Siambr gyfan eisiau llongyfarch Gwion Evans, Richard Jones, Elfed Jackson, Gareth Owen, Ffion Jones a Sarah-Jane Rees ar eu llwyddiannau yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir. Ac rwy'n dymuno'r gorau i'n holl gneifwyr ledled Cymru, yn hen ac ifanc, ar gyfer y cystadlaethau cneifio defaid yn sioe amaethyddol Frenhinol Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.
Ac, yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eid al-Adha neu 'Gŵyl yr Aberth' yw un o'r gwyliau pwysicaf yn y calendr Mwslimaidd. Mae heddiw'n nodi dechrau Eid al-Adha ac mae'r ŵyl yn gorffen nos Sul.
Dyma'r ail ŵyl a'r ŵyl fwyaf o'r ddwy brif ŵyl sy'n cael eu dathlu yn Islam. Mae'n anrhydeddu parodrwydd Ibrahim, neu fel y mae llawer ohonoch yn ei adnabod, Abraham, i aberthu un o'i feibion, Ismail neu Ishmael, fel gweithred o ufudd-dod i orchymyn Duw. Temtiodd y diafol Ibrahim drwy ddweud y dylai anufuddhau Allah ac arbed ei fab. Anwybyddodd Ibrahim demtasiwn a pharatôdd i aberthu ei blentyn. Pan oedd ar fin lladd ei fab, ataliodd Allah ef a rhoi oen iddo ei aberthu yn lle hynny. Wrth goffáu'r ymyrraeth, rydym yn dathlu aberth Ibrahim.
Mae Eid al-Adha yn digwydd ar ddiwrnod olaf Hajj. Hajj yw pumed golofn Islam, sy'n nodi y dylai pob Mwslim, unwaith yn eu hoes, sefyll o flaen y Ka'bah—cysegrfan a adeiladwyd gan Ibrahim ym Mecca. Mae achlysur Eid yn adeg pan fo cymuned, aberth a rhannu ar flaen meddyliau pobl, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddangos trugaredd tuag at rai llai ffodus. Mae hefyd yn amser i ddangos diolchgarwch. Felly, yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n dymuno Eid al-Adha Mubarak i chi i gyd. Boed i'ch bywydau fod yn llawn golau, cariad, hapusrwydd ac iechyd da. Diolch yn fawr.
Diolch i'r pedwar Aelod.
Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.
Cynnig NNDM8313 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8293 Adam Price
Cefnogwyd gan Rhys ab Owen
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;
b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;
c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;
d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac
e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael gwneud y cynnig hwn ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio. Nid hwn yw'r cynnig cyntaf i'r Senedd ar yr argymhelliad hwn. Chwe blynedd yn ôl, cyflwynwyd cynnig yn dadlau dros bleidleisio cyffredinol gan Dawn Bowden, Jeremy Miles a'r diweddar Steffan Lewis, ond ni chafodd ei ddewis. Felly, dyma'r tro cyntaf inni gael cyfle fel Senedd i drafod y cynnig y dylai fod yn ofynnol i bob dinesydd, fel rhan o'u dyletswyddau dinesig sylfaenol, gyfranogi ym mywyd democrataidd y genedl.
Byddai Senedd o 96 Aelod, gydag o leiaf eu hanner yn fenywod, wedi'u hethol gan fwy na 90 y cant o'r etholwyr, yn fwy cynrychioliadol nag unrhyw Senedd arall yn y DU. Mae'n syniad trawsnewidiol tu hwnt, ond nid yw'n un newydd nac anarferol. Mae'n bodoli mewn 26 o wledydd ar draws y byd: gwledydd mor amrywiol â'r Ariannin, Awstralia, Gwlad Belg, Ecuador, Gwlad Groeg, Singapore, y Swistir ac Uruguay. Yn Awstralia, mae cymryd rhan mewn etholiadau wedi bod yn orfodol ers 1924. Ac mae'r syniad fod dinasyddiaeth yn ymwneud nid yn unig â hawliau ond â dyletswyddau yn un cyfarwydd yma yng Nghymru hefyd, gan ein bod yn derbyn ein dyletswydd i dalu trethi, i wasanaethu ar reithgor, i lenwi'r cyfrifiad, a hefyd, ie, i gofrestru i bleidleisio.
Felly, pam ymestyn yr egwyddor honno i'r weithred o bleidleisio ei hun? Wel, mae un cynsail canolog yn sail i'r cynnig hwn: fod iechyd unrhyw ddemocratiaeth yn ddibynnol ar i ba raddau y mae'r bobl yn cyfranogi ynddi. Er iddi gael ei chreu gan fwyafrif o etholwyr Cymru ym 1997, nid yw'r Senedd hon wedi cael ei hethol gan fwyafrif yn unrhyw un o'r etholiadau ers hynny, ac mae'r un peth yn wir am etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru dros y cyfnod hwnnw hefyd.
Y rheswm cyntaf dros gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio yw y byddai'n cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio yn ddramatig i'r 90 y cant a mwy rydym fel arfer yn ei weld mewn etholiadau mewn gwledydd fel Gwlad Belg, Awstralia ac Uruguay, lle mae'n arferol. Nid oes amheuaeth y byddai nifer uwch o bleidleiswyr yn rhoi llawer mwy o gyfreithlondeb i'r Senedd a Llywodraeth Cymru. Ond byddai nifer uwch o bleidleiswyr hefyd yn gwneud y Senedd hon yn llawer mwy cynrychioliadol. Mae'r ychydig o dan hanner yr etholwyr sy'n pleidleisio ar hyn o bryd yn gwyro'n drwm tuag at y pleidleisiwr hŷn a mwy cefnog, felly ni fydd barn llawer o'r rhai ifanc a'r dosbarth gweithiol, yn enwedig y rheini sy'n teimlo mai gwleidyddiaeth prif ffrwd sydd â'r lleiaf i'w gynnig iddynt, yn cael sylw. Yn lle hynny, byddai dyletswydd ddinesig gyffredinol i bleidleisio yn rhoi system lle byddai pawb yn cyfrif, nid y rhai sy'n debygol o bleidleisio'n unig. Ac os yw pawb yn pleidleisio, mae pob llais yn cael ei glywed.
Yn hytrach na'i gwneud hi'n anos i bobl bleidleisio fel sy'n digwydd yn Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, byddai cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio hefyd yn golygu y byddem yn ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i bleidleisio, drwy gynnal etholiadau ar ddydd Sadwrn er enghraifft, neu gyflwyno pleidleisio digidol, a chaniatáu i bobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio. A phe bai'n ofynnol i bob person ifanc bleidleisio, byddai gan ysgolion reswm hyd yn oed yn fwy pwerus dros ddarparu addysg wleidyddol fel rhan o'r cwricwlwm gorfodol.
Bydd dyletswydd ddinesig i bleidleisio yn trawsnewid cyfreithlondeb ein democratiaeth, ei chynrychioldeb a'i diwylliant. Ni fyddai unrhyw ddinesydd yn cael ei orfodi i bleidleisio dros unrhyw un yn erbyn eu hewyllys, a bydd gan bob un ohonom opsiwn i bleidleisio dros opsiwn 'dim un o'r uchod' neu ddychwelyd pleidlais wag neu ddifetha pleidlais os mai dyna yw ein dymuniad. Byddai sail resymol dros eithrio pobl. Dylai'r orfodaeth fod yn un ysgafn, fel y mae ym mhob awdurdodaeth sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio. Dylai dirwyon fod yn fach ac yn fwy symbolaidd eu natur, gyda gofynion gwasanaeth cymunedol yn ddewisiadau amgen yn lle dirwyon i bobl ar incwm isel a phobl ifanc, a dylem ystyried y defnydd posibl o gymhellion yn hytrach na chosbau, er mwyn lleihau unrhyw ganlyniadau niweidiol posibl.
Er mwyn inni asesu'r gwahanol fodelau ar gyfer gweithredu, rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i gael cynllun gweithredu graddol sy'n cynnwys defnyddio cynlluniau peilot. Gallaf feddwl am ddwy ffordd wahanol o ran sut y gallem wneud hynny—un mewn ardal benodol, y llall yn gysylltiedig ag oedran. Gallem dreialu dyletswydd ddinesig i bleidleisio mewn ardal awdurdod lleol benodol yn ystod cylch nesaf etholiadau 2027, ac efallai defnyddio hynny'n sail ar gyfer cynllunio i'w gyflwyno'n genedlaethol. Fel cam cyntaf, gallem benderfynu cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio ar gyfer y rhai sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd yn 2026. Ceir tystiolaeth gref fod meithrin arfer ymhlith pleidleiswyr ifanc i bleidleisio yn arwain at duedd gryfach i bleidleisio yn ddiweddarach mewn bywyd.
Os ceir cytundeb yn gyffredinol fod hon yn drafodaeth ddefnyddiol i ni fod yn ei chael, mae gennyf ddau awgrym ymarferol—un i'r Llywodraeth, ac un i ni fel Senedd. I'r Llywodraeth, fel y dywedais ddoe, byddai comisiynu rhywfaint o waith ymchwil annibynnol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar sut y gallai dyletswydd ddinesig i bleidleisio effeithio ar ddangosyddion democratiaeth iach yn rhoi sylfaen dystiolaeth dda i ni ar gyfer trafodaeth wybodus. I'r Senedd, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe byddem yn cynnal yr ymchwiliad pwyllgor cyntaf ar yr ynysoedd hyn i edrych yn benodol ar ddyletswydd ddinesig gyffredinol i bleidleisio. Rwy'n meddwl yn arbennig am y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog i'r ddadl gyntaf hanesyddol hon.
Hoffwn ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn. Hoffwn siarad o'i blaid ac rwy'n ei ystyried yn ddechrau trafodaeth bwysig iawn.
Yn ôl ymchwil Sefydliad Brookings, melin drafod yn yr Unol Daleithiau, mae'r dystiolaeth yn dangos yr hyn rydym eisoes yn ei wybod, y gall dyletswydd ddinesig i bleidleisio ddileu gwahaniaethau yn niferoedd pleidleiswyr ar hyd llinellau dosbarth, ethnigrwydd a hil. Rydym yn gwybod bod y rhain yn bodoli. Rydym yn eu gweld. Rydym yn gweld gwahaniaethau enfawr mewn wardiau yn ein hardaloedd. Er enghraifft, yn yr etholiadau lleol y llynedd, y ganran a bleidleisiodd yn ward gefnog Rhiwbeina oedd 57.5 y cant. Mewn cyferbyniad, y ganran a bleidleisiodd yn Nhrelái oedd 23 y cant. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld beth sy'n digwydd pan fo cymuned yn teimlo'u bod yn cael eu hanghofio a'u hanwybyddu. A chofiwch mai dyma ganran y pleidleiswyr cofrestredig, nid pawb sy'n gymwys i bleidleisio. Rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi canfasio mewn rhai wardiau, fel Trelái, pan fyddwn yn pasio tŷ ar ôl tŷ nad ydynt wedi cofrestru. Mae arnaf ofn meddwl faint sy'n pleidleisio yn Nhrelái mewn gwirionedd. Gallaf eich sicrhau ei fod yn llawer llai na 23 y cant.
Yn Awstralia, daeth cofrestru yn orfodol cyn y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio, yn ôl ym 1911, ac mae'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau Awstralia bob amser yn yr 80au uchaf o'r rhai sy'n gymwys i gofrestru. Roeddwn yn falch o glywed ddoe am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil a fydd yn cymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr cymwys yng Nghymru ar y gofrestr etholiadol. Yn nes at adref, mae holl ddinasyddion Gwlad Belg wedi'u cofrestru'n awtomatig i bleidleisio. Pam ein bod yn creu rhwystrau ychwanegol i bobl fynegi eu llais democrataidd? Dylai fod mor syml â phosibl, ac mae hynny i'w weld yng Ngwlad Belg, gyda'r nifer sy'n pleidleisio dros 90 y cant ar gyfartaledd dros y 10 etholiad diwethaf.
Gallaf ddychmygu efallai fod rhai o fy ffrindiau ar y meinciau Ceidwadol yn teimlo'n anesmwyth am y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio, ond cadwch hyn mewn cof: efallai eich bod yn ofni colli mewn etholiadau, efallai eich bod yn ofni colli pleidleisiau, ond cofiwch fod eich arweinydd Andrew R.T. Davies, ym mhob etholiad Senedd, yn siarad am yr angen i'r rhai sy'n pleidleisio drosoch yn etholiadau San Steffan bleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Nid yw hynny'n digwydd i chi ar hyn o bryd; nid ydych yn ysbrydoli'r rhai sy'n pleidleisio drosoch yn etholiadau San Steffan i bleidleisio yn eu heidiau yn etholiadau'r Senedd. Pwy a ŵyr, gall dyletswydd ddinesig i bleidleisio fod yn un ffordd o roi hwb i'ch cefnogaeth yn etholiadau'r Senedd. Fe wneuthum gyfrifiad cyflym cyn y ddadl hon, a phe bai eich cefnogaeth yn San Steffan yn cael ei adlewyrchu yn etholiadau'r Senedd, wel, dim ond mwyafrif bach o 17 pleidlais fyddai gan y Cwnsler Cyffredinol, sy'n ymateb i'r ddadl hon. Felly, cofiwch hynny pan fyddwch chi'n pleidleisio y prynhawn yma.
Wrth gynnig cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio—
Mae'n rhaid i chi ddod i ben nawr, Rhys.
—byddai'n barhad o'n gwaith arloesol yng Nghymru ar gynyddu nifer y pleidleiswyr, gyda'r gallu i bleidleisio'n 16 oed a phleidleisiau mwy cynrychioladol. Bydd llawer yn gofyn, 'Pam gwyro o'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan?', ond rydym wedi gweld gwahaniaeth mewn etholiadau yng Nghymru ers 1999. Fel y clywsom yn gynharach, mae gennym ddiffyg democrataidd yng Nghymru; bydd y Bil hwn yn un cam i fynd i'r afael â hynny. Diolch yn fawr.
Diolch, Adam Price, am gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwy'n poeni'n fawr am y ffaith mai dim ond 46.6 y cant a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd ddiwethaf, yn 2021. Ie, hwn oedd yr uchaf y bu erioed, ond gadewch inni gymharu hynny a phleidleiswyr yn Queensland, Awstralia, lle mae nifer y pleidleiswyr ychydig yn fwy ond nid yn annhebyg, a lle roedd y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau talaith Queensland 2020 yn 87.9 y cant. Mae pleidleisio gorfodol o ryw fath neu'i gilydd wedi bod yn Queensland ers 1915, a gellir gweld effaith y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio yn glir. Er bod dirwy i'r rhai nad ydynt yn pleidleisio, gellir cyflawni trosedd am y tro cyntaf am gyn lleied ag AU$20 a'r gosb uchaf yw AU$180. Mae arnaf ofn nad wyf yn gwybod sut i drosi'r symiau hyn yn bunnoedd, ond rydym yn siarad am symiau cymedrol iawn o arian. Ac mae'r dirwyon hyn yn cael eu gorfodi'n rheolaidd.
Ar ben hynny, mae sawl ffordd o optio allan wedi'u hymgorffori yn y system sy'n caniatáu trugaredd. Os yw rhywun yn teithio, os ydynt yn sâl, gallant optio allan. Yn ogystal, mae eithriadau ar gyfer gwrthwynebiad crefyddol, gweithwyr tymhorol, a'r rhai heb gyfeiriad sefydlog. Os nad yw rhywun wedi cofrestru i bleidleisio, gellir eu cynnwys nhw fel rhai sy'n optio allan hefyd. Fodd bynnag, rhaid nodi bod cyfradd cofrestru etholiadol Queensland yn 96 y cant, mae'n debyg. Nid wyf yn hollol siŵr sut maent yn cyfrifo'r gyfradd honno, ond nid oes ganddynt yr un broblem ag y mae Rhys ab Owen newydd ei disgrifio, lle maent yn mynd heibio nifer diddiwedd o dai lle nad oes neb wedi cofrestru i bleidleisio pan fyddant yn mynd o gwmpas yn canfasio. Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa sydd gennym heddiw gyda bwriad pendant Llywodraeth y DU i lethu'r bleidlais ymhlith pobl ifanc, cymunedau a ymyleiddiwyd yn ieithyddol a phobl dlawd.
Mae talaith Queensland yn annog pobl i bleidleisio, nid ei ymgorffori yn y gyfraith yn unig. Mae ganddynt hefyd ffenomen y selsigen ddemocratiaeth, lle mae sefydliadau cymunedol yn trefnu barbeciws y tu allan i orsafoedd pleidleisio fel y gall y rhai sy'n ciwio i bleidleisio dalu ffi fach i gael ci poeth neu fyrbryd arall wrth giwio. Mae'n debyg fod hynny'n creu rhyw fath o amgylchedd gŵyl lle mae pawb yn credu bod hyn yn rhywbeth a wnawn gyda'n gilydd ac yn rhywbeth y dylem ei ddathlu. Ac i lawer o grwpiau cymunedol, diwrnod yr etholiad yw diwrnod codi arian mwyaf y flwyddyn. Felly, mae pawb yn ennill.
Fel y dywedodd Adam Price eisoes, maent yn pleidleisio ar ddydd Sadwrn, sy'n golygu nad oes rhaid i'r rhan fwyaf o bobl gael amser i ffwrdd o'r gwaith ac effaith fach iawn a gaiff ar ysgolion, ac mae'n golygu bod ysgolion ar gael fel un o'r canolfannau pleidleisio oherwydd nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer addysg plant. Dylid nodi hefyd y gall Awstraliaid bleidleisio ger y traeth. Os yw'r etholiad yn yr haf, fe welwch bobl yn dod i bleidleisio yn eu dillad traeth gyda byrddau syrffio. Ac mae'n rhaid inni ddeall, pe bai pleidleisio'n orfodol—rwy'n cytuno'n llwyr ag Adam Price—byddai'n rhaid i ysgolion ddarparu addysg wleidyddol. Ac roeddwn yn siomedig iawn o glywed o'r trafodaethau gyda menywod ifanc o leiafrifoedd ethnig neithiwr yn y Neuadd, nad yw'r ysgolion y maent yn eu mynychu yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i werthfawrogi pwysigrwydd pleidleisio o hyd, ac mae'n rhaid inni newid hynny ar unwaith.
Mae'n sicr yn wir, onid yw, yn y DU ac yng Nghymru, nad oes gennym y ddemocratiaeth ffyniannus y byddem yn dymuno ei gweld, ac rwy'n croesawu syniadau i wella'r sefyllfa honno, ac rwy'n falch iawn fod Adam Price wedi cyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod heddiw. Yn ogystal â'r diffyg cyfreithlondeb democrataidd a diffyg democratiaeth iach fel rydym yn awyddus i'w chael yng Nghymru, oherwydd y nifer isel sy'n pleidleisio ac nad yw erioed wedi cyrraedd 50 y cant yn etholiadau'r Senedd, er enghraifft, fe wyddom fod yna gwestiwn ynghylch cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol hefyd o ran cyfranogiad, fel y dywedodd Adam Price, a cheisio sicrhau bod mwy o leisiau'n cael eu clywed ac yn wir, fod bron pob llais yn cael ei glywed.
Nodaf, yn 2014, fod Arolwg Cymdeithasol Ewrop wedi canfod bod pobl dros 55 oed ym Mhrydain ddwywaith yn fwy tebygol o bleidleisio na phobl ifanc dan 35 oed, a bod y rhai yn y cwintel incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o bleidleisio na'r rhai yn y cwintel gwaelod. Felly, mae yna gwestiynau go iawn yma y mae angen inni fynd i'r afael â nhw. Ac nid mater o orfodaeth yn unig ydyw; mae'n ymwneud ag anfon neges glir a chael ymdrech addysgol ynghylch dyletswydd ddinesig newydd i bleidleisio y byddwn i gyd yn frwdfrydig i helpu a chymryd rhan ynddi, rwy'n siŵr. Ac rwy'n meddwl bod treialon yn syniad da iawn ar gyfer y ffordd ymlaen, a gallem ei brofi yn y ffyrdd mae Adam Price wedi crybwyll.
Weithiau, pan fyddaf yn curo ar ddrysau, Ddirprwy Lywydd, a chael yr ymateb, 'Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth', rwyf weithiau'n dweud, 'Wel, efallai, ond mae gan wleidyddiaeth ddiddordeb ynoch chi'. A dyna'r pwynt, mewn gwirionedd, onid e—nad yw pleidiau gwleidyddol yn mynd i ganolbwyntio ar bobl iau a phobl mewn tlodi cymharol i'r un graddau ag y byddent fel arall, os ydynt yn credu bod y rhannau hynny o gymdeithas yn llai tebygol o bleidleisio, a bod eu polisïau'n cael eu teilwra'n unol â hynny, gan gynnwys os ydynt yn dod yn Llywodraeth. A nodaf fod ymchwil yn dangos mai grwpiau ar y cyrion nad ydynt yn pleidleisio mewn etholiadau sy'n tueddu i ddioddef y toriadau mwyaf i'w incwm aelwydydd gan Lywodraethau etholedig yn y DU. Wyddoch chi, mae'r rhain yn faterion sylfaenol bwysig y mae angen inni geisio mynd i'r afael â nhw i raddau llawer mwy nag a wnaethom hyd yma.
Ac rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, y gallem gyrraedd y cam o gael cylch rhinweddol, lle bydd pleidiau gwleidyddol, os bydd mwy o bobl yn mynd i bleidleisio, gan gynnwys y categorïau ymylol hynny, yn talu mwy o sylw iddynt, bydd polisïau'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'u problemau i raddau helaethach, ac yn eu tro, bydd ganddynt fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a byddant yn fwy tebygol o bleidleisio. Rwy'n credu bod hyn i gyd yn cyd-fynd yn dda iawn â'n cynigion Senedd newydd—eto, fel mae Adam Price wedi sôn—ac efallai, â system gofrestru awtomatig, sydd hefyd yn fawr ei hangen yn fy marn i. Felly, dadl amserol iawn. Rwy'n ei chroesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio bod hyn yn ddechrau ar rywbeth a fydd yn arwain at weithredu cynigion pendant yma yng Nghymru.
Rwyf innau hefyd yn siarad i gefnogi'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno gan Adam Price ac yn croesawu'r cyfle i drafod y mater hynod bwysig hwn. Rhaid diogelu'r hawl i bleidleisio, pŵer y blwch pleidleisio a'r contract rhwng pobl a gwleidyddion, a'i wella yn wir. Fy marn i erioed yw bod angen inni fod yn wirioneddol radical a chreadigol wrth ddiwygio sut, pryd a lle mae pobl yn pleidleisio, a phwy sy'n cael pleidleisio yn wir. Dengys tystiolaeth o bob cwr o'r byd mai'r democratiaethau cryfaf yw'r rhai lle ceir cyfranogiad torfol mewn etholiadau ac atebolrwydd cadarn ar ran gweision etholedig, ond eto, yma yng Nghymru, yn y rhan fwyaf o etholiadau, rydym yn ei chael hi'n anodd cyrraedd 50 y cant o'r nifer sy'n gymwys i bleidleisio. Fel y mae Adam Price a John Griffiths wedi nodi, mae'r ifanc yn llawer llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn, mae pobl yn ein cymunedau lleiaf cefnog yn llai tebygol o ddefnyddio'u pŵer yn y blwch pleidleisio na phobl sy'n byw mewn cysur cymharol. Felly, mae gennym raddau anghyfartal iawn o gyfranogiad democrataidd. Nid oes angen imi ailadrodd y risgiau ofnadwy i lunio polisïau a darparu gwasanaethau y mae cynrychiolaeth anghyfartal o'r fath yn eu creu. Mae'n rhywbeth y mae Cymdeithas y Cyfansoddiad wedi'i godi gydag eglurder mawr yn ei chefnogaeth i gyfranogiad gorfodol.
Ar farn y cyhoedd ar y mater hwn, fy nealltwriaeth i yw bod mwy na 70 y cant o ddinasyddion Prydain yn cytuno ei bod yn ddyletswydd ddinesig i bleidleisio, fod y contract rhwng pobl a gweision gwleidyddol yn gweithio'r ddwy ffordd, a bod mwy o bobl yn cefnogi cyflwyno cyfranogiad gorfodol na sy'n ei wrthwynebu. Felly, wrth gefnogi'r cynigion, byddwn yn sicr yn annog cyd-Aelodau i bleidleisio dros y cynnig deddfwriaethol. Dylem o leiaf dreialu cyfranogiad gorfodol i benderfynu a ellir gwella ein democratiaeth, ac i weld a oes modd gwella'r gwasanaeth a welwn ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol a'n hatebolrwydd i'r bobl a wasanaethwn trwy ddiwygiadau o'r fath. Ac rwy'n sicr yn cefnogi'r awgrym ynghylch treialu hyn gyda phleidleiswyr tro cyntaf yn y cam cychwynnol, yn anad dim oherwydd y gallai mesur o'r fath dynnu sylw at bwysigrwydd y ddyletswydd ddinesig y mae pobl hŷn ar hyn o bryd yn ei theimlo'n llawer cryfach na phobl ifanc.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol meddylgar a phwysig hwn? Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi cyfeirio'n aml at bwysigrwydd iechyd democrataidd ein cenedl yn nadleuon y Senedd, ac rwy'n credu, ochr yn ochr â'r holl lesiannau eraill rydym yn ymwneud â nhw, fod iechyd democrataidd ein cymdeithas yn elfen hanfodol. Ni all cymdeithas lle mae cymaint o bobl wedi ymddieithrio o'n proses ddemocrataidd fod yn hyderus o'i sefydlogrwydd a'i diogelwch yn y dyfodol. Er mwyn i'r Llywodraeth fod yn sefydlog, yn effeithiol ac yn hyderus, mae angen iddi gael cyfreithlondeb cyhoeddus na all y system etholiadol yn unig ei roi. Felly, nid drwy ennill etholiadau a bod mewn grym yn unig y caiff cyfreithlondeb Llywodraeth ei benderfynu, ond hefyd drwy ennyn cefnogaeth gyffredinol y bobl.
Er mwyn cyflawni cyfreithlondeb democrataidd mae'n ofynnol i gymdeithas ddinesig arfer cyfrifoldeb democrataidd drwy gymryd rhan yn yr etholiadau hynny. Yn fy marn i, mae eich cynnig yn canolbwyntio'n gywir ar, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr hyn y byddwn i'n ei ddisgrifio fel cyfamod democrataidd rhwng Seneddau, Llywodraethau a'r bobl. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth yn fy meddwl fod yna gyfrifoldeb dinesig i gymryd rhan mewn etholiadau a dyletswydd i bleidleisio, ac efallai y dylem atgoffa ein hunain mai prin 90 oed yw'r etholfraint ddemocrataidd gynhwysol lawn hyd yn oed yn Senedd y DU. Yn hynny o beth, gellid dweud bod y DU a ninnau yn ddemocratiaethau cymharol newydd.
Efallai fod y genhedlaeth rhwng y rhyfeloedd ac ar ôl y rhyfel a frwydrodd yn erbyn ffasgaeth ac y bu'n rhaid iddynt ailadeiladu'r wlad wedyn, creu'r wladwriaeth les, y GIG, ailadeiladu ein democratiaeth a sefydlu hawliau sifil a dynol sylfaenol yn deall pwysigrwydd etholiadau, yn cymryd rhan ynddynt yn rheolaidd, gan sefydlu llinell sylfaen o ymhell dros 70 y cant o gyfranogiad mewn etholiadau, gyda llawer ohonynt yn ystyried pleidleisio'n ddyletswydd ddinesig yn wir. Neu efallai mai etifeddiaeth ddinesig ydoedd gan y rhai a frwydrodd dros hawliau sifil, hawliau undebau llafur, y Swffragetiaid, y Siartwyr a'r arloeswyr gwleidyddol cynnar y bu'n rhaid iddynt frwydro i sefydlu ein hawliau sylfaenol, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio.
Fodd bynnag, yn ystod y degawdau diwethaf, mae'r ymrwymiad i gyfranogi wedi lleihau o flwyddyn i flwyddyn. Pa mor aml y clywsom bobl ar garreg y drws, fel y dywedodd John Griffiths, yn dweud nad ydynt yn trafferthu pleidleisio, nad ydynt yn gwybod dim amdano, neu nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth felly nid ydynt yn trafferthu. Rwy'n sicr fod llawer ohonom wedi edrych ar wledydd eraill sydd wedi trosi'r ddyletswydd ddinesig honno yn rhwymedigaeth gyfreithiol ffurfiol, ac wedi meddwl tybed pam nad ydym ni wedi gwneud rhywbeth tebyg. Fodd bynnag, ein man cychwyn fel Llywodraeth ar hyn o bryd yw moderneiddio'r system etholiadol, dileu rhwystrau i wella cynhwysiant, a sicrhau bod pawb sydd â hawl i fod ar y gofrestr etholiadol ar y gofrestr, ac felly o leiaf yn gallu pleidleisio. Ac rydym yn bwriadu cyflawni hyn drwy gofrestru awtomatig.
Ers datganoli polisi etholiadol, rydym hefyd wedi ymestyn yr etholfraint etholiadol i bobl ifanc 16 oed. Ochr yn ochr â hyn, fodd bynnag, mae angen sicrhau bod pobl yn ymgysylltu o oedran ifanc iawn i ddeall sut mae ein cymdeithas a'n system ddemocrataidd yn gweithio, a sut i gymryd rhan ynddi. Mae hyn yn golygu datblygu addysg ddinesig. Mae paratoi pobl ifanc i ddeall a gallu cymryd rhan mewn prosesau democrataidd yn gyfrifoldeb hanfodol i'n system addysg, ac yn wir yn un o amcanion y cwricwlwm cenedlaethol newydd. Rydym hefyd wedi cefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i annog pobl i fanteisio ar eu hawl i gofrestru. Cafodd hyn beth llwyddiant, ond byddwn yn mynd ymhellach gyda'n Bil diwygio etholiadol a byddwn yn sefydlu system gofrestru awtomatig. Fodd bynnag, un rhan yn unig o'r her yw cofrestru. Y rhan arall wedyn yw arfer yr hawl honno a phleidleisio.
Mae'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn fesur amlwg a syml o iechyd democrataidd. Rydym yn noddi ymchwil i ffyrdd mwy soffistigedig o fesur iechyd democrataidd, gan alluogi dulliau mwy gwybodus o'i feithrin. Mae'r awgrym o ddyletswydd ddinesig i bleidleisio yn ddiddorol ac mae iddo rinwedd cyhyd â'i fod hefyd yn cynnwys hawl i ymatal yn ffurfiol, i fwrw pleidlais 'dim un o'r uchod'. Byddai angen ystyried ein cymhwysedd i ddeddfu yn y fath fodd yn ofalus, a byddem eisiau ystyried y goblygiadau i hawliau dynol hefyd, byddem eisiau ystyried yn ofalus y canlyniadau am beidio â mynd i bleidleisio, beth fyddai'r gosb briodol, pwy fyddai'n ei orfodi a faint fyddai gorfodi'n ei gostio?
Felly, byddaf i—bydd Llywodraeth Cymru—yn ymatal ar y cynnig. Serch hynny, rydym yn gwybod y gall pleidleisio gorfodol weithio mewn llawer o wledydd lle caiff ei arfer a'i orfodi. Mae'r nifer sy'n pleidleisio yn wahanol iawn i'r hyn a welwn fel arfer yng Nghymru, ac ar draws y DU yn wir. Fodd bynnag, cyn cyflwyno newid mor sylfaenol, byddai angen inni ystyried ac ymgynghori'n sylweddol eto, ac yn wir, mae'n debyg y byddai angen mandad etholiad cyffredinol clir yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr awgrym o waith ymchwil pellach, y posibilrwydd o dreialu, yn rhywbeth sy'n werth ei archwilio. Lywydd, byddaf yn ymatal ond rwy'n gobeithio mai dim ond dechrau dadl bwysig yw hon ar ddiwygio posibl y gwn fod llawer ohonom ar draws pob plaid wleidyddol wedi meddwl amdano dros nifer o flynyddoedd.
Galwaf ar Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon. Canolbwyntiodd Rhys ab Owen yn gynnar iawn ar y cwestiwn sydd byth yn rhy bell, efallai, o feddwl gwleidyddion wrth ystyried y cwestiwn hwn, sef: pwy sy'n mynd i ennill yn etholiadol? Byddwn i'n dweud ei bod hi'n amhosibl proffwydo'n gywir. Mater i bleidleiswyr nad ydynt yn cyfranogi ar hyn o bryd fydd penderfynu ar hynny. Fe fyddwn yn dweud ymhellach y byddwn i gyd ar ein hennill. Pwy bynnag y byddant yn pleidleisio drostynt yn y pen draw, byddwn i gyd ar ein hennill o greu democratiaeth sy'n fwy cynrychioliadol.
Rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn gywir i dynnu sylw at y ffaith bod y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio yn bodoli nid yn unig mewn etholiadau ffederal yn Awstralia, ond ar lefel ranbarthol, daleithiol hefyd. Yn wir, mae'n gweithio mewn etholiadau lleol, felly gadewch inni beidio ag anghofio hynny hefyd, mewn llawer iawn o'r gwledydd sydd wedi'i gyflwyno. Ac fe nododd fod yna awyrgylch o ddathlu adeg etholiad yn Awstralia oherwydd bod y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio wedi creu norm yn y bôn lle mae pobl yn teimlo fod democratiaeth yn eiddo iddynt. Felly mae diwylliant gwleidyddol wedi newid drwy greu dyletswydd statudol i bleidleisio, ac rwy'n credu mai dyna'r cylch rhinweddol y cyfeiriodd John Griffiths ato yn ei sylwadau.
Ar hyn o bryd, mae blaenoriaethau ein trafod gwleidyddol a'n diwylliant ar sgiw, onid ydynt, oherwydd yr anghydraddoldeb yn y nifer sy'n pleidleisio? Ac felly mae'n tueddu i wyro yn erbyn cenedlaethau iau ac yn erbyn y rhai ar incwm is. Ni all hynny fod yn iawn. Ni all hynny fod yn dderbyniol. Mae gennym gyfle i unioni hynny.
Ac mae Ken Skates yn iawn i nodi bod cefnogaeth ysgubol i'r syniad o ddyletswydd ddinesig foesegol i bleidleisio, ac mae cefnogaeth gynyddol dros roi'r ddyletswydd ddinesig foesegol honno ar sail gyfreithiol, statudol.
Rwy'n croesawu ymateb y Cwnsler Cyffredinol yn fawr. Mae'n dangos newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn y Senedd ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn erbyn y syniad o bleidleisio gorfodol, fel y'i gelwir weithiau. Felly mae ymatal yn symudiad cadarnhaol i'n cyfeiriad ni, ac mae parodrwydd i ymgysylltu, Ddirprwy Lywydd, ar y cynigion cadarnhaol o ran ymchwil a threialu i'w croesawu'n fawr, ac edrychwn ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, '60%—Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.
Cynnig NDM8304 Jenny Rathbone
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, '60%—Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid', a osodwyd ar 19 Ebrill 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Mae gormod o bobl sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, boed wedi cael diagnosis ai peidio, yn mynd yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol, lle mae'r gefnogaeth a gânt yn anghyson ac yn annigonol. Nod yr adroddiad hwn yw rhoi llais i'r bobl ifanc hynny.
Mae'r '60%' yn y teitl, neu dri o bob pump, neu chwech o bob 10 unigolyn ifanc sy'n dod i gysylltiad â chyfiawnder ieuenctid yn amcangyfrif rhy isel mewn gwirionedd. Gan ddefnyddio'r ffigurau a ddarparwyd gan dîm troseddau ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, y cydnabyddir eu bod at ei gilydd yn gyson â'r niferoedd ar draws yr holl dimau troseddau ieuenctid, mae gan o leiaf 80 y cant o bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ar lefel ieuenctid heddiw anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu. Mae hynny'n cymharu ag amcangyfrif o 10 y cant o blant a phobl ifanc yn y boblogaeth gyfan, felly mae'n wahaniaeth dinistriol.
Mae'n rhaid i fynediad teg at gyfiawnder fod yn gonglfaen i degwch, ac mae hynny'n dibynnu ar allu person i wrando, i ddeall ac i gyfleu meddyliau a phrofiadau mewn geiriau. Mae pobl ifanc sydd â'r rhwystrau cyfathrebu hyn yn wynebu rhwystrau, heriau ac anawsterau ychwanegol ar bob cam o'r broses cyfiawnder troseddol. Mae'r broblem yn cael ei chydnabod, ond mae cynnydd yn llawer rhy araf ac mae nifer y sefydliadau yng Nghymru sy'n eiriol dros y grŵp penodol hwn o bobl ifanc a ymyleiddiwyd, ac sydd, am resymau amlwg, yn ei chael hi'n anodd iawn mynegi'r anghenion hynny eu hunain yn llawer rhy brin. Mae angen i hynny newid, a gwn fod pob aelod o'r pwyllgor yn unedig ynghylch yr angen i sicrhau bod y newid hwnnw'n digwydd.
Felly, mae angen gweithredu mewn dau faes allweddol. Un yw atal, rhwystro niferoedd mor uchel o bobl ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu rhag mynd yn rhan o'r system gyfiawnder o gwbl. Mae'n rhaid inni wella ymwybyddiaeth a nodi hyn yn gynnar gan bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen, yn enwedig ysgolion. Ac yna mae'r gefnogaeth y mae plant a phobl ifanc sydd â'r anghenion cyfathrebu hyn ac sy'n ei chael hi'n anodd wrth fynd yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid, ac ar bob cam ohoni—. Rhaid inni sicrhau bod gan staff a gwasanaethau sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau i ymateb yn briodol i'r rhai sydd â'r anawsterau hyn.
Mae'r maes cyntaf—atal—yn bendant o fewn y maes cyfrifoldeb datganoledig. Nid yw ar y rhwyg yn y system cyfiawnder troseddol. Gall unrhyw blentyn brofi oedi o ran sgiliau iaith, ond y ffaith erchyll yw bod 50 y cant o blant mewn ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol yn dechrau'r ysgol gydag oedi o ran eu sgiliau iaith. Os yw plentyn tair oed yn cyrraedd yr ysgol heb fwy na thri gair, ac nid yw hynny'n anarferol, dylai unrhyw a phob aelod o staff allu sylwi'n syth fod angen cymorth iaith dwys ar y plentyn hwnnw i'w helpu i ddal i fyny â'i gyfoedion, cyn i'r plentyn wybod ei fod yn wahanol hyd yn oed.
Mae'n ymddangos bod strategaeth 'Siarad Gyda Fi' Llywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol yn codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn mewn ysgolion, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, ond rydym am wybod sut y bydd ymyriadau'n cael eu teilwra i bob oedran a cham o ddatblygiad plentyn, gan roi sylw arbennig i'r newid o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.
Mae'r dystiolaeth gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn ddinistriol:
'Nid yw'r mwyafrif o blant ag anghenion lleferydd, iaith, cyfathrebu wedi eu nodi gan wasanaethau prif ffrwd. Deuir yn ymwybodol ohonynt o ganlyniad i ddod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid... Er ei bod yn ganmoladwy fod y sgiliau hynny gan weithwyr proffesiynol o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, i mi, mae'n teimlo fel pe bai hyn yn digwydd o chwith.'
Rwy'n siŵr y byddai holl Aelodau'r Senedd yn cytuno â hynny. Felly, nid yw'n syndod fod yr ystadegau ar nifer y disgyblion sydd wedi cael eu gwahardd yn barhaol gyda datganiadau ar gyfer anghenion lleferydd ac iaith mor isel, oherwydd, yn syml iawn, nid ydym yn mesur y pethau cywir.
Nodwyd y mater enbyd hwn, a'i gysylltiad â mynd ymlaen i droseddu ieuenctid, gan ein rhagflaenwyr yn ôl yn 2010, yn ystod y trydydd Senedd. Felly, 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n annerbyniol ein bod yn dal i gael y sgwrs hon.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
A wnewch chi hefyd gydnabod bod hyn wedi'i gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan eich pwyllgor rhagflaenol yn ystod tymor yr ail Senedd rhwng 2003 a 2007, adroddiad y cymerais innau ran ynddo?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch am eich cof hanesyddol.
Mae angen inni barhau i gael y sgwrs hon, ac rydym wedi awgrymu bod angen cynnull uwchgynhadledd cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae'n rhaid iddi fod yn uwchgynhadledd neu ryw weithredu arall i ddangos bod Llywodraeth Cymru wedi newid pethau mewn gwirionedd ac y bydd yn helpu i wneud hyn yn brif flaenoriaeth i bawb dan sylw. Bydd hynny hefyd yn gwella hygrededd ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 2, sy'n ymwneud â gweithio gydag iechyd ac addysg.
Ceir gair o rybudd hefyd y dylai Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 olygu y bydd gan bob disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol gynllun datblygu unigol statudol erbyn 2024. Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth fod y rhai sydd â'r lefel isaf o anghenion dysgu ychwanegol addysgol arbennig yn cael eu symud oddi ar y system ac i ddarpariaeth prif ffrwd yn yr ystafell ddosbarth, yr effaith 'codi'r bar' fel y'i gelwir. Felly, mae gwir angen inni ddeall sut y bydd y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol yn arwain y newid mawr sydd ei angen yn y mater hwn, o ystyried y flaenoriaeth a roddir i sgiliau iaith yn y cwricwlwm newydd, a pheidio ag esgeuluso'r rhai nad ystyrir eu bod yn deilwng o gynlluniau datblygu unigol.
Dyna ddigon ar atal. Rwyf am droi nawr at y gefnogaeth sydd ei hangen ar yr wyth o bob 10 person ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid. Mae'n amlwg fod yr olaf yn bendant ar y rhwyg ar ymyl datganoli lle mae gennym ddarlun cymhleth o gyfrifoldeb, llinellau atebolrwydd aneglur a'r diriogaeth foesol beryglus y soniodd y Prif Weinidog amdani ym mis Rhagfyr, lle gofynnir i Lywodraeth Cymru dalu am wasanaethau y byddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn talu amdanynt yn Lloegr.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhellion 3 a 6, sy'n ymwneud â sut rydym yn cryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer y bobl ifanc hyn. Felly, nid ydym yn glir sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei huchelgais i wella canlyniadau i bobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Yn amlwg, er mwyn symud yr agenda hon yn ei blaen ar y cyflymder angenrheidiol, mae angen gwell cydweithredu rhwng yr holl randdeiliaid allweddol. Os nad uwchgynhadledd, yna sut fydd fframwaith atal y glasbrint cyfiawnder ieuenctid yn prif ffrydio'r arferion da sy'n digwydd mewn dau dîm cyfiawnder ieuenctid?
Yn ein trydydd argymhelliad, rydym am asesu dichonoldeb cael therapyddion lleferydd ac iaith GIG penodedig mewn dalfeydd yng ngorsafoedd yr heddlu ledled Cymru. Cafodd hyn ei wrthod oherwydd
'Ar hyn o bryd nid oes digon o therapyddion lleferydd ac iaith yn cael eu cyflogi gan y GIG i wneud y llwyth gwaith ychwanegol hwn.'
Rhoddwyd yr un rheswm gan Lywodraeth Cymru dros wrthod ein chweched argymhelliad, i leoli therapyddion iaith a lleferydd ym mhob tîm troseddau ieuenctid yng Nghymru.
Mae deg awdurdod lleol yng Nghymru yn eithriadau yn yr ystyr nad oes ganddynt unrhyw fewnbwn gan therapyddion lleferydd ac iaith yn eu timau troseddau ieuenctid, a cheir bwlch anghredadwy yn y ddarpariaeth. Os nad yw pobl yn deall sut i siarad â pherson ifanc sydd mewn trwbl, byddwn yn ei chael hi'n anodd iawn eu helpu i ddod allan ohono. Yn amlwg, ceir heriau o ran recriwtio a chadw therapyddion lleferydd ac iaith, hyd yn oed yn y timau troseddau ieuenctid sy'n arwain y sector yng Nghastell-nedd Port Talbot a bae Abertawe, os yw'r gweithwyr proffesiynol hyn mor brin. Dim ond drwy gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi a nifer y bobl sydd â'r sgiliau i gefnogi'r bobl ifanc hyn ledled Cymru y gellir mynd i'r afael â'r loteri cod post hwn.
Felly, ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 7 yw bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn adolygu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd eu hangen i weithredu cynllun cenedlaethol y GIG ar gyfer cadw'r gweithlu, ac mae disgwyl iddo lunio cynllun o'r fath erbyn diwedd y mis nesaf. Yn amlwg, byddwn yn cadw llygad ar hynny. Ond mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn rhybuddio bod nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru wedi aros yr un fath rhwng 2020 a 2023, ar 49 o leoedd, er bod ail gwrs israddedig wedi'i greu, cynnydd parhaus mewn cyrsiau gofal iechyd eraill a thystiolaeth gan sefydliadau addysg uwch fod yna alw am gynyddu niferoedd a chapasiti ar gyfer gwneud hynny.
Felly, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae angen inni gael ymateb y Gweinidog iechyd yn ei gylch, ac rwy'n derbyn nad yw'n gallu ymuno â'r ddadl hon heddiw. Ond heb hynny, mae gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder dalu am yr hyn sy'n elfen hanfodol o ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn ddibwrpas os nad oes pobl â chymwysterau addas allan yno i'w cyflogi. Ac roeddem yn falch iawn o glywed gan yr Arglwydd Bellamy, sef y Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a sicrhaodd y pwyllgor fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ariannu'r holl wasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt. Felly, o ran pwy ddylai dalu am hyn, wel, yn gyntaf, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, oherwydd nid gwasanaeth datganoledig yw hwn, fel rwy'n ei ddeall, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth ar gyfer y glasbrint cyfiawnder ieuenctid.
Ond i gloi, mae ein hadroddiad yn nodi achos clir dros weithredu. Ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, credwn y bydd mynd i'r afael ag anghenion lleferydd ac iaith ein pobl ifanc nid yn unig yn arbed arian, ond yn dangos ymrwymiad clir i fuddsoddi yng nghyfleoedd bywyd pob person ifanc ledled y wlad. Mae atal yn well na gwella, ac mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â hyn os ydym am adeiladu Cymru sy'n fwy cyfartal a chyfiawn yn gymdeithasol. Mae arnom ddyled i bob un o'r 60 y cant, er y byddwn i'n dweud 80 y cant.
Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, y clercod a phawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Roedd yn wirioneddol frawychus clywed gan y timau troseddau ieuenctid yn fy rhanbarth fod gan bedair rhan o bump o'r bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ryw lefel o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Wrth ddechrau ar ein hymchwiliad un diwrnod, fe wyddem fod yna lefel uchel o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu gan bobl ifanc a ddeuai i gysylltiad â thimau troseddau ieuenctid, ond cefais fy synnu gan ba mor uchel oedd y lefel mewn gwirionedd. Isafswm llwyr oedd 60 y cant; mewn rhai ardaloedd roedd mor uchel â naw o bob 10 person ifanc â rhyw fath o angen iaith a lleferydd.
Mae tystiolaeth a ddarparwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn dangos bod gan bron i ddwy ran o dair o blant a ddedfrydwyd yng Nghymru a Lloegr anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, er mai deg y cant yn unig o blant a phobl ifanc yn y boblogaeth yn gyffredinol sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Dim ond 5 y cant o bobl ifanc ag anghenion cyfathrebu a oedd wedi cael eu hanghenion wedi'u nodi cyn iddynt ddod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid. Mae cymaint â phedwar o bob 10 person ifanc sydd mewn cysylltiad â'r system gyfiawnder yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at, ac elwa ar ymyriadau a rhaglenni llafar. Nid yn unig y mae bod ag angen lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl ifanc yn dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol, mae hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn wynebu dedfryd lymach.
Mae pedwar o bob pump ynad wedi dweud bod agwedd ac ymddygiad person ifanc yn dylanwadu ar eu penderfyniad dedfrydu i ryw raddau neu i raddau helaeth. Mae angen clir ac enbyd am well mynediad at therapi lleferydd ac iaith ledled Cymru, nid yn unig o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, ond yn fwy cyffredinol.
Faint o droseddau ieuenctid y gellid eu hatal pe bai anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael sylw ar oedran ifanc? Er gwaethaf yr angen clir am therapi lleferydd ac iaith, mae llai o therapyddion lleferydd ac iaith fesul y pen o'r boblogaeth yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. Rydym yn gwneud cam â chenedlaethau'r dyfodol. Mae AaGIC wedi cadw ffigurau comisiynu ar gyfer therapi lleferydd ac iaith ar 49 yn eu cynllun addysg a hyfforddiant, ac eto mae llawer gormod o bobl yn ymgeisio am nifer rhy fach o leoedd. Cafodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd 250 o geisiadau am 39 o leoedd. Cafodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 70 o geisiadau am 10 o leoedd. Pam fod Llywodraeth Cymru'n cyfyngu ar leoedd pan fo angen therapyddion a galw am leoedd?
Gwnaeth ein pwyllgor nifer o argymhellion i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag argyfwng anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ym maes troseddau ieuenctid, felly mae'n syndod mai dim ond tri a dderbyniwyd yn llawn a'u bod wedi gwrthod dau o'n hargymhellion yn llwyr. O'r rhai y gwnaethant eu derbyn, nid yw'n glir o'u hymateb sut y byddant yn cyflawni ein hargymhellion mewn gwirionedd. Er enghraifft, mewn ymateb i argymhelliad 2, sut fydd y rhaglen 'Siarad Gyda Fi' yn cefnogi plant wrth iddynt symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, o ystyried ei ffocws cyfredol ar y grŵp dim i bump oed, a chyda'r rhaglen i fod i ddod i ben y flwyddyn nesaf?
Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried a derbyn ein holl argymhellion yn llawn, fel y gallwn atal pobl ifanc rhag mynd yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â helpu'r rhai sy'n dod i gysylltiad â thimau troseddau ieuenctid i gael canlyniadau gwell. Diolch yn fawr.
Chwe deg y cant, ac fel rŷn ni wedi clywed, lleiafswm yw hynny. Mae lleiafswm o 60 y cant o'r plant a phobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a gall fod cymaint â 90 y cant. Mae'r ystadegyn yma yn ganolog i'n hadroddiad, ac a dweud y gwir, dyma a'n sbardunodd ni i ymchwilio i'r mater hwn. Mae e'n hynod o drawiadol, ystadegyn hynod o drawiadol a hynod o bryderus.
Fe wnaethon ni sy'n aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gael ein syfrdanu gan yr ystadegyn yma. Fe wnaethon ni addo, fel y mae teitl ein hadroddiad yn awgrymu, y byddem ni'n argymell i'r Llywodraeth fod mater sylfaenol o anghydraddoldeb ymhlyg yn yr ystadegyn yma, a bod yn rhaid sicrhau bod yna weithredu er mwyn rhoi llais i'r bobl ifanc yma, achos fe ddangosodd ein hymchwiliad yn glir nad oedd gan y bobl ifanc yma lais, a does dim digon o ffocws wedi bod o bell ffordd gan y Llywodraeth ar geisio sicrhau bod eu lleisiau nhw yn cael eu clywed.
Yn ein hadroddiad, rydym ni'n cynnwys data lleol o 2022 ar gyfer tîm troseddau ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, sy'n dangos bod gan 79 y cant o'r bobl ifanc a ddaeth i gysylltiad â'r gwasanaeth anghenion o ran lleferydd ac iaith, ac yn ôl cynrychiolwyr rheolwyr timau troseddau ieuenctid Cymru, mae'r ffigwr hwn yn gyson ar draws holl dimau troseddau ieuenctid Cymru.
Mae'n amlwg yn fater difrifol iawn, i Lywodraeth sy'n honni ei bod yn rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth galon pob polisi, fod nifer mor anghymesur o bobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd iaith a chyfathrebu—lleiafswm o 60 y cant o'i gymharu â'r 10 y cant sydd yn y boblogaeth gyffredinol—yn canfod eu hunain o fewn y system gyfiawnder. Ac wrth archwilio'r rhesymau y tu ôl i'r gwahaniaeth hwn, ein prif gasgliad oedd bod y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y bobl ifanc yma yn annigonol ac yn anghyson dros Gymru. Felly, dyna'r ffeithiau, yr ystadegau moel.
Nawr, dychmygwch eich hunan yn berson ifanc, yn ceisio ymdopi â phrosesau a digwyddiadau a fydd yn newid cwrs eich bywyd; prosesau cyfreithiol sydd yn ddyrys, yn ddieithr ac yn anodd inni i gyd, ni sydd â phrofiad addysg, bywyd a gwaith, heb sôn am bobl ifanc. Nawr, dychmygwch fod gennych nam ar eich clyw, neu ddyslecsia, neu awtistiaeth sy'n effeithio ar eich gallu i wrando neu ganolbwyntio, i ddilyn y prosesau anodd hyn, heb sôn am fynegi eich barn neu'ch pryderon, neu'ch tystiolaeth, neu'ch teimladau.
Fel y clywom ni gan Jenny Rathbone, mae'n hynod o siomedig ein bod ni yn y sefyllfa yma, bod y Llywodraeth heb wneud digon i atal y gyfran lawer rhy fawr yma o bobl ifanc rhag cael eu hunain yn y sefyllfa yma, a bod y rhai sy'n gweithio o fewn y system heb ddealltwriaeth gyflawn o'r sefyllfa yma. A siomedig dros ben oedd ymateb Llywodraeth Cymru i nifer o'n hargymhellion ni a oedd yn ymwneud â chreu newid gwirioneddol i'r sefyllfa gwbl annerbyniol yma, sy'n golygu nad oes mynediad teg i gyfiawnder.
Yn y lle cyntaf, edrychon ni ar sut i sicrhau tegwch i'r bobl ifanc yma o fewn y system gyfiawnder. Roedd y dystiolaeth o'r arfer gwych sy'n digwydd yn nhîm troseddau ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yn dangos yn glir fod y gefnogaeth honno yn bosib. Ond roedd hi'n amlwg bod y gefnogaeth yn loteri cod post llwyr ac yn annigonol dros Gymru.
Felly, fe ofynnon ni, ar sail tystiolaeth glir a diamwys, yn argymhelliad 3 a 6 yr adroddiad i Lywodraeth Cymru sicrhau bod hyn yn cael ei newid drwy weithio gydag awdurdodau lleol i gynllunio i leoli therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob tîm troseddau ieuenctid yng Nghymru, a thrwy weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu, drwy'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid, i sicrhau bod therapyddion lleferydd ac iaith y gwasanaeth iechyd yn cael eu lleoli mewn dalfeydd yng ngorsafoedd heddlu. Ond gwrthod yr argymhellion mae'r Llywodraeth.
Mewn llythyr at y pwyllgor, wedi inni gyhoeddi’r adroddiad ac wedi inni dderbyn ymateb y Llywodraeth, mae pennaeth Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Cymru, Pippa Cotterill, wedi mynegi ei siom benodol yn sgil yr ymateb i'r ddau argymhelliad yma yn enwedig. Does dim digon o therapyddion ar gael yw cyfiawnhad y Llywodraeth, ond medd y coleg brenhinol, er mwyn cynyddu'r gweithlu, mae angen ariannu mwy o leoedd hyfforddi, sy’n benderfyniad i Lywodraeth Cymru, ac yn rhywbeth sydd heb ddigwydd er bod yna dystiolaeth glir am alw ac angen i wneud hynny.
Felly, hoffwn wybod os yw'r Llywodraeth yn derbyn eu rhan yn y prinder hwn sy'n cael ei ddefnyddio fel esgus am beidio â chwrdd ag angen dybryd sydd wedi ei brofi'n glir. Ac, o dderbyn hynny, mae modd gweithio tuag at ddatrysiad. Neu a yw'r Llywodraeth yn fodlon peidio â gweithredu i sicrhau tegwch cwbl sylfaenol ar gyfer rhai o'n dinasyddion ifanc ni sydd dan anfantais? Achos mae'r ystadegau’n dweud y cyfan. Mae llais y pwyllgor yn unfrydol, mae'r arbenigwyr wedi lleisio eu barn yn glir. Gall y Llywodraeth ddim aros yn dawel ar y mater hwn er eich bod chi wedi gwneud am lawer rhy hir. Weinidog, rhaid rhoi llais iddyn nhw.
Gaf i ddiolch i aelodau'r pwyllgor ac i'r Cadeirydd hefyd? A gaf i ddweud diolch hefyd i'r Gweinidog ar gyfer iechyd am fod yma heddiw ar gyfer y ddadl yma? Mae'n bwysig iawn eich bod chi yma. Diolch yn fawr iawn am ddod.
Bydd pob un ohonoch yn ymwybodol imi dreulio llawer o flynyddoedd yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant. Rhan o fy rôl oedd gweithio gyda phlant a oedd yn ymwneud â'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, ac rwy'n eu galw'n 'blant'. Nid wyf yn eu galw'n 'bobl ifanc', gan mai plant ydynt. Treuliais amser mewn uned ddiogel—yn gweithio mewn uned ddiogel, dylwn ddweud; roeddwn yn 'oedolyn priodol' gyda phlant mewn gorsafoedd heddlu; ac yn anffodus, roedd yn rhaid imi ymweld â phlant mewn sefydliadau troseddau ieuenctid—rhai o'r lleoedd mwyaf Fictorianaidd a mwyaf annatblygedig imi weithio ynddynt erioed.
Roedd gan lawer o'r bobl ifanc y cyfarfûm â nhw yn fy ngwaith anawsterau lleferydd ac iaith, a theimlwn nad oeddent erioed wedi cael unrhyw gyfle mewn bywyd. Nid oedd ganddynt unrhyw obaith o gwbl. Nid oeddent erioed wedi gallu mynegi eu hunain fel plant a phobl ifanc drwy gydol eu hoes. Ac yna, maent yn dod wyneb yn wyneb â'r system gymhleth hon a fyddai'n gwbl ddryslyd ac anodd i lawer ohonom ninnau, ac nid ydynt yn gallu mynegi eu hunain, i ddweud beth sydd wedi digwydd iddynt, i adrodd y stori y tu ôl i'w sefyllfa. Gallai hynny fod oherwydd trawma, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r rhain oll yn achosi anawsterau cyfathrebu. Ac yna, ar ben hynny, nid ydym wedi rhoi mynediad iddynt at therapyddion lleferydd ac iaith ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Mae angen ein cymorth ar y plant hyn, ac ers 20 mlynedd mae'n ymddangos nad ydym wedi datrys y mater hwn.
Ond nawr yw’r amser, gan ein bod wedi clywed am opsiwn a fydd yn helpu’r plant hynny, ac fe fyddwch yn sylwi bod holl aelodau’r pwyllgor wedi canolbwyntio ar argymhellion 3 a 6. Rydym wedi penderfynu gwneud hyn am ein bod wedi ein synnu, wedi ein cynhyrfu, wedi ein drysu ac wedi ein siomi fod y rhain wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Clywsom am arferion da. Clywsom beth all atal plant sydd mewn gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid sirol rhag mynd i’r carchar. Ond nid yw hynny ond yn digwydd mewn ychydig iawn o awdurdodau lleol. Mae'n loteri cod post. Mae'n rhaid inni wneud yn well.
Mae'r amrywio o ran mynediad at therapyddion lleferydd ac iaith ymhlith ein timau troseddau ieuenctid yn peri pryder, ac mae angen mynd i'r afael â hynny ar unwaith. Mae'n rhaid inni wneud mwy i sicrhau nad yw'r plant hynny'n mynd i mewn i'n system cyfiawnder troseddol, ac nad ydynt yn mynd i unedau diogel neu sefydliadau troseddau ieuenctid yn y pen draw. Er fy mod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad ar sail y ffaith bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith y pen o'r boblogaeth yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, nid yw hynny'n ddigon da; ni allwn lyffetheirio ein hunain drwy ystyried cynllunio’r gweithlu hirdymor yn unig.
Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i archwilio pa grantiau a glustnodwyd a allai fod ar gael i awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn sicrhau ein bod yn neilltuo arian ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith o fewn y systemau cyfiawnder ieuenctid. Fe allwn ei wneud. Er y byddai heriau gweinyddu a monitro heb amheuaeth, byddai hyn yn gam uniongyrchol, cadarnhaol tuag at ddiwallu anghenion y plant hynny. Mae arnom angen syniadau uchelgeisiol a dewr gan Lywodraeth Cymru, a gwn fod hynny wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd. Os gwelwch yn dda, gadewch inni wrando ar y plant hyn a'u lleisiau a sicrhau ein bod yn estyn allan atynt, yn rhoi cyfle iddynt, ac yn rhoi gobaith iddynt. Diolch yn fawr iawn.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Credaf ei bod yn deg dweud bod hwn yn ymchwiliad hynod o heriol ar adegau; cododd faterion yr ofnaf nad ydynt wedi cael eu hystyried yn drylwyr gan lunwyr polisi ers llawer gormod o amser. Hoffwn ddiolch i dîm clercio’r pwyllgor, Cadeirydd y pwyllgor, a fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu diddordeb dwfn a’u harchwiliad fforensig o’r pwnc dan sylw.
Weinidog, rwyf hefyd yn ddiolchgar eich bod yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru; gwn eich bod wedi ymrwymo’n fawr i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i’r plant sy’n amlwg yn cael cam gan y system, ond mae angen sylw trawslywodraethol ar hyn, ac fe fyddwn yn croesawu’n fawr y sicrwydd y bydd Gweinidogion ar draws portffolios yn bwrw ymlaen gydag argymhellion y pwyllgor. Fe fyddwn hefyd yn croesawu arwydd clir o safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r system cyfiawnder ieuenctid a sut y gellir atgyweirio system anghydlynol er budd rhai o'n plant a ymyleiddiwyd fwyaf.
Yn olaf, Weinidog, ni ellir gadael i’r hyn a ddatgelwyd gan y pwyllgor lithro o'n sylw yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. A allem gael sicrwydd felly y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd iawn ar gynnydd y gwaith o weithredu argymhellion y pwyllgor, a hefyd yn cynnal uwchgynhadledd, fel yr awgrymodd Jenny Rathbone? Diolch yn fawr iawn.
Un o'r e-byst cyntaf i fi ei dderbyn fel Aelod o'r Senedd oedd oddi wrth Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn codi'r mater pwysig yma gyda fi.
Fel un sydd wedi gweld aelod o'r teulu yn colli ei allu i siarad ac i fynegi ei deimladau, dwi wedi gweld y rhwystredigaeth mae hyn yn gallu ei chreu—rhwystredigaeth sydd mor hawdd ei chamddarllen gan bobl y tu hwnt i'r teulu agosaf. Dwi hefyd wedi gweld y gwahaniaeth aruthrol y mae'r gwaith arbennig y mae therapyddion iaith yn ei wneud i fywyd ac i hunan-barch unigolion.
Fel dywedodd Sioned Williams a Jane Dodds yn bwerus iawn, mae unrhyw ymwneud â'r system gyfiawnder yn broses heriol ac anodd. Dychmygwch faint yn waeth yw hi os ydych chi yn eich arddegau, wedi cael bywyd heriol tu hwnt, y tu hwnt i'n dychymyg ni, ac yn ychwanegol i hynny yn ei chael hi'n anodd i fynegi eich hunan.
Fe weles i yn rhy aml fel bargyfreithiwr anghenion pobl ifanc yn cael eu disgrifio fel ymddygiad gwael, ynadon a barnwyr yn colli eu tymer mewn ymateb i ymddygiad gwael honedig, a hynny yn arwain at y bobl ifanc yn cael eu trin yn amhriodol, fel dihirod, a dim cymorth yn cael ei roi iddynt i adael y system gyfiawnder.
Dim mynediad teg at gyfiawnder, fel yr amlygodd Jenny Rathbone, yn gywir ddigon, sef conglfaen system gyfiawnder deg. Rydym wedi bod yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd, ond mae mwy i'w wneud. Yn syml, ni ddylem fod yn troseddoli plant—a dyna ydynt. Fel y dywed Jane Dodds, plant ydynt. Mae angen inni roi’r gorau i ganolbwyntio ar weithredoedd y plant hyn, yr hyn y maent wedi’i wneud i fynd i drwbl, a dechrau mynd i’r afael â pham eu bod wedi gwneud y pethau hyn a beth yw eu hanghenion fel unigolion fel aelodau o gymdeithas.
Yn olaf—ac rwy'n dargyfeirio ychydig—rwy'n gobeithio y byddai system gyfiawnder ddatganoledig yng Nghymru yn codi oedran cyfrifoldeb troseddol. Dyna'r unig ateb go iawn. Mae'r ffaith ei fod yn 10 oed ar hyn o bryd yn warthus. Mae'n afresymegol. Mae'n mynd yn groes i arferion da rhyngwladol. Yn syml, nid yw’n cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a hynny er ei fod wedi’i ymgorffori’n rhannol yng nghyfraith Cymru o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Dylid codi'r oedran cyfrifoldeb troseddol i lefel sy’n gyson â’n syniadau cyffredin ynglŷn â pha bryd y daw rhywun yn oedolyn cyfrifol. Byddai hyn yn awgrymu ei godi i 16 o leiaf; byddwn i'n dadlau hyd yn oed yn uwch i 18 oed.
Diolch yn fawr i'r coleg brenhinol ac i'r pwyllgor am eu gwaith hollbwysig yn y maes yma, maes sydd yn aml yn cael ei anghofio oherwydd y jagged edge. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am yr adroddiad pwysig ac amserol yma.
Fe fyddwn yn dweud bod gwaith y pwyllgor wedi rhoi ffocws gwirioneddol a phwysig ar anghenion plant a fynegwyd mor huawdl heddiw gan y rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Ymateb Llywodraeth Cymru ydyw, sy'n croesi nifer o bortffolios—fy un i, ond hefyd, yn amlwg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran gwasanaethau cyfathrebu lleferydd ac iaith, ond hefyd, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Ond credaf fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac rwy'n fwy na pharod i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, ar draws y Llywodraeth, i roi sylw priodol i'ch argymhellion a'u rhoi ar waith.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol sicrhau mynediad at therapyddion lleferydd ac iaith i bobl ifanc, a hoffwn amlinellu’r ystod o waith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â chanfyddiadau cyffredinol ac argymhellion penodol yr adroddiad. Yn fwyaf arbennig, rydym yn gwneud buddsoddiad ehangach mewn atal ac ymyrryd yn fuan mewn perthynas â lleferydd, iaith a chyfathrebu ledled Cymru, a chredaf fod atal ac ymyrryd yn fuan mor bwysig—mae’n rhan amlwg o'ch ymchwiliad, eich adroddiad. Pan ysgrifennais at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â fy nghyfrifoldebau, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid, fe wneuthum gydnabod y cysylltiadau agos ag anghenion cyfathrebu lleferydd ac iaith. Soniais am wella gweithgarwch atal, yn enwedig o ystyried effaith bosibl pandemig parhaus COVID ar y pryd ar iechyd a lles plant, a phwysigrwydd datblygu dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma ar draws y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Roedd y rheini’n bwyntiau allweddol a wneuthum yn fy ymateb i’r pwyllgor.
Credaf ei bod yn bwysig o ran yr ymyrraeth ehangach a’r ymyrraeth gynnar honno ein bod eisoes yn ariannu therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob gwasanaeth Dechrau’n Deg yng Nghymru, ac mae hynny’n gyson ym mhob gwasanaeth Dechrau’n Deg. Wrth inni ehangu Dechrau’n Deg o ganlyniad i’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi dechrau cynyddu mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu ar gyfer y plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd hynny. Ein nod yw nodi a chefnogi plant a phobl ifanc yn gynt ac yn fwy effeithiol, gan y gall nodi’r anghenion cyfathrebu lleferydd ac iaith hynny’n gynnar leihau’r risg. Dyna mae pob un ohonom am ei weld a'r hyn rydych chi'n galw amdano yn yr adroddiad hwn. Rydym am leihau’r risg y bydd y plant hyn yn cael eu hallgáu o addysg, ac yn mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol. Drwy fuddsoddi mewn nodi ac ymyrryd ar y cam cynharaf posibl, gallwn gefnogi plant cyn y dônt i unrhyw gysylltiad posibl ag asiantaethau cyfiawnder troseddol a'u helpu i fyw'r bywydau gorau posibl.
Mae cynllun cyflawni iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 'Siarad Gyda Fi' yn blaenoriaethu cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu cyffredinol ac wedi'i dargedu ar draws y blynyddoedd cynnar yng Nghymru, a bydd nodi ac ymyrryd ar sail tystiolaeth yn sicrhau bod plant yn cael eu gweld a'u cefnogi gan yr unigolyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Rydym yn buddsoddi £1.5 miliwn ar gyfer datblygu dull gwyliadwriaeth ddwyieithog bwrpasol ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru.
Gan symud ymlaen at argymhellion yr adroddiad, mewn ymateb i argymhelliad 1, byddwn yn cynnull uwchgynhadledd o randdeiliaid allweddol i edrych ar effaith anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ar blant a phobl ifanc, ac mae hynny mor sylfaenol. Fel y galwodd Jenny Rathbone amdano, dyma’r argymhelliad cyntaf y gallwn fynd i’r afael ag ef gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid drwy ddull trawslywodraethol o weithredu. Bydd swyddogion o bob rhan o Lywodraeth Cymru yn cyfarfod yfory i drafod yr adroddiad gyda gwasanaethau troseddau ieuenctid, y bwrdd cyfiawnder ieuenctid a Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, gan ddod â’r rhanddeiliaid allweddol hynny ynghyd. Bydd y rheini sy’n mynychu yn defnyddio’r cyfarfod i gytuno ar y ffordd orau o roi canfyddiadau’r adroddiad ar waith, yn enwedig argymhellion 1 a 4.
Hefyd, i gefnogi argymhellion 1 a 4, mae gwaith yn mynd rhagddo ar y fframwaith atal cyfiawnder ieuenctid i gefnogi plant sydd mewn perygl o fynd yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol, a bydd y fframwaith yn cynorthwyo gwasanaethau datganoledig i ddeall eu rôl yn atal troseddu a chefnogi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid i gyflawni hyn, gan sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd mor effeithiol â phosibl i greu'r effaith ataliol fwyaf gyda'n hadnoddau cyfyngedig.
Yn unol ag argymhelliad 2, drwy’r Cwricwlwm i Gymru, bydd llafaredd yn cael ei addysgu ar draws pob maes pwnc fel rhan allweddol o sgìl trawsgwricwlaidd llythrennedd gorfodol, a bydd pob dysgwr hefyd yn cael cymorth wedi’i dargedu i wella’r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn wrth inni ddarparu ein pecyn cymorth llafaredd a darllen.
Mewn ymateb i argymhelliad 5, rydym yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gefnogi’r rheolwyr cymorth niwroamrywiaeth sydd newydd eu penodi yng ngharchardai Cymru. Mae’r arweinwyr hyn yn gyfrifol am sicrhau amgylcheddau ffisegol gwell, uwchsgilio staff carchardai, sicrhau bod prosesau i ddarparu cymorth yn seiliedig ar anghenion, gan gynnwys anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Yn ogystal, mae’r rhaglen gwella niwrowahaniaeth yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu timau amlddisgyblaethol ar gyfer plant a phobl ifanc, ac mae gan y rhaglen grŵp cynghori clinigol sy’n gallu darparu cyngor arbenigol ar ddiwallu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu pobl niwrowahanol. Byddwn yn ystyried anghenion iaith Gymraeg plant a phobl ifanc drwy gydol yr holl waith hwn.
O ran argymhellion 3 a 6, mae pwysau sylweddol ar weithlu'r GIG yng Nghymru, a dyna pam y cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynllun gweithredu cenedlaethol y gweithlu ym mis Ionawr. Mae ein gweithlu iechyd ar ei lefelau uchaf erioed diolch i fuddsoddiadau a wnaed mewn addysg a hyfforddiant, ac mae sefydliadau’n gweithio’n galed i arloesi a chefnogi staff i ymdopi â phwysau eithafol darparu gwasanaethau. Mae'r pwysau hwn hefyd yn effeithio ar waith therapyddion lleferydd ac iaith. Dim ond 800 o therapyddion lleferydd ac iaith cofrestredig sydd yng Nghymru, ac rydym yn addysgu oddeutu 50 y flwyddyn ar hyn o bryd. Ond maent yn ymdrin â mwy o atgyfeiriadau ac anghenion mwy cymhleth, yn enwedig ar ôl y pandemig. Ac mewn perthynas ag argymhellion 3 a 6, byddai galw ychwanegol am weithlu sydd eisoes o dan bwysau yn ei gwneud yn ofynnol i hyfforddi a chyflogi rhagor o staff.
Credaf fod argymhelliad 7 yn bwysig, am ei fod, a Jenny Rathbone—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Yn sicr, Jane.
Mae'n un cyflym. Fe sonioch chi am argymhellion 3 a 6—diolch yn fawr am gyfeirio at hynny. Ond clywsom gan awdurdod lleol lle roedd y tîm cyfiawnder ieuenctid wedi llwyddo i ddod o hyd i’r cyllid i gyflogi therapyddion lleferydd ac iaith yn eu timau cyfiawnder ieuenctid. Felly, maent wedi llwyddo i gyflawni'r hyn yr hoffem ei weld ledled Cymru. Mae'n loteri cod post. Felly, tybed a fyddech yn fodlon ystyried, gyda’r Gweinidog iechyd efallai, sut mae’r awdurdod lleol hwnnw wedi llwyddo i glustnodi'r cyllid er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny, ac edrych i weld a oes opsiwn i gyflwyno hynny ar draws awdurdodau lleol eraill yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny, Jane Dodds, a diolch am dynnu sylw eto at y diffyg cysondeb ar draws awdurdodau lleol. Cyfrifoldeb bwrdd cyfiawnder ieuenctid Cymru yw hyn, ac mae argymhelliad 7—roeddwn ar fin dod at hynny—yn bwysig am mai un o'r camau gweithredu yng nghynllun gweithredu cenedlaethol y gweithlu yw y bydd Arolygiaeth Iechyd Cymru yn adolygu proffesiynau perthynol i iechyd yn gyffredinol.
Os caf eiliad arall gan imi ymateb i'r ymyriad hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig inni edrych ar y tymor hwy mewn perthynas â chyfiawnder ieuenctid, fel y gallwn gael y math hwnnw o gysondeb. Dim ond drwy ddatganoli cyfiawnder ieuenctid y gallwn sicrhau'n bendant fod plant sy'n dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n briodol. Hyd nes y bydd hynny'n digwydd, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael i ni a thrwy ein gwaith tîm a'n hymgysylltiad â phartneriaethau i gefnogi plant Cymru i’w helpu i fyw bywydau cyflawn, di-drosedd. Byddwn yn defnyddio'r uwchgynhadledd i helpu i ddarparu cyfle i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r ffin arw rhwng cyfrifoldebau, ond ein bod yn symud ymlaen yn fwy hirdymor, fel y dywedais, ar y pwyntiau hynny a datganoli cyfiawnder ieuenctid fel y gallwn fod yn gwbl gyfrifol ac ymateb i'r ymchwiliad hynod bwysig hwn heddiw. Diolch.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Credaf fod yr holl siaradwyr wedi pwysleisio'r materion cyfiawnder cymdeithasol sy'n ymwneud â'r mater penodol hwn, gan ddechrau gydag Altaf Hussain, Sioned Williams, a Jane Dodds yn enwedig yn pwysleisio'r anawsterau sydd gan bobl ifanc. Os na allant gyfleu eu hemosiynau mewn unrhyw ffordd, sut ar y ddaear y gallant egluro pam y gallent fod wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n dod â nhw i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid? Fel y dywedodd Sioned Williams, nid oes llais gan y bobl ifanc hyn, ac efallai nad oes ganddynt unrhyw syniad beth sy'n cael ei ddweud amdanynt pan fyddant yn ymddangos ger bron ynadon, heb fawr ddim dealltwriaeth o unrhyw gosbau y gall y llys eu rhoi.
Ceir llu o ffyrdd y gallai hyn arwain at gamweinyddu cyfiawnder. Mae’n loteri cod post, ac fel yr eglurodd Sioned Williams, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith wedi bod yn dadlau dros roi sylw i’r mater hwn ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, nhw oedd y rheswm pam y gwnaethom benderfynu cynnal yr ymchwiliad hwn.
Credaf fod Jane Dodds yn amlwg yn bwerus iawn wrth egluro bod y rhain yn blant nad ydynt wedi cael unrhyw obaith mewn bywyd ac nad ydynt yn gallu mynegi eu hunain nac egluro beth sydd wedi digwydd iddynt, heb unrhyw fynediad at therapyddion lleferydd ac iaith, pan ddylent fod wedi'u nodi'n llawer iawn cynharach ar eu taith ysgol. Mae’n rhaid imi roi clod i Lywodraeth Cymru nad ydym yn anfon fawr neb i sefydliadau troseddwyr ifanc bellach, o ganlyniad i’r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid. Mae’r nifer yn fach iawn, ac mae wedi bod yn ostyngiad enfawr ar y niferoedd a arferai gael eu rhoi dan glo yn y gorffennol. Mae hynny’n amlwg yn rhywbeth y dylem ei gydnabod.
Ond mae’n rhaid inni sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt, a chymorth wedi’i deilwra i gael swydd sy’n cyd-fynd â pha bynnag anawsterau cyfathrebu a allai fod ganddynt. Carwn adleisio’r hyn y mae Ken Skates wedi’i ddweud am ymrwymiad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i’r mater hwn, ond mewn gwirionedd, mae hyn yn rhywbeth sy’n pontio tri chyfrifoldeb gweinidogol gwahanol. Mae’n wych gweld Eluned Morgan yma i glywed pa mor bwysig, yn ein barn ni, yw’r angen am fwy o therapyddion lleferydd ac iaith, nid yn unig ar gyfer cyflawni cynllun ‘Siarad Gyda Fi’, ond ar gyfer gwella’r daith i bob unigolyn ifanc ag anawsterau lleferydd ac iaith—ymyrryd ar y cychwyn cyntaf, ond hefyd, eu holrhain wedyn drwy eu gwasanaeth addysg. Ni allwn wneud hynny oni bai fod gennym y gweithwyr proffesiynol hyfforddedig i hyfforddi'r bobl sy'n gweithio yn ein hysgolion i ddeall beth sy'n rhaid iddynt ei wneud.
Rhys ab Owen, diolch yn fawr iawn am ddisgrifio'r hyn y mae'n ei olygu pan na all plentyn fynegi eu hunain. Mae pob un ohonom yn gweld hyn gyda phlant ifanc iawn—maent yn cael pyliau o chwalfa. Ond bydd hyn yn digwydd gyda phlant llawer hŷn hefyd os nad ydynt wedi caffael y sgiliau iaith i fynegi eu hunain. Ac fe wnaethoch ein hatgoffa bod ymddygiad gwael yn arwain at achos llys i bobl ifanc na allant ddweud, 'Nid oeddwn yn bwriadu gwneud hynny. Rwy'n gwbl rwystredig am fod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i mi, ac mae rhywun wedi gwneud pethau drwg i mi'. Ni ddylem fod yn troseddoli plant, wrth gwrs na ddylem, ac mae angen inni godi oedran cyfrifoldeb.
Credaf mai pwysigrwydd hanfodol mynediad at therapyddion lleferydd ac iaith yw'r hyn sydd angen inni fynd ar ei drywydd. Ni all fod yn ffocws ar Dechrau'n Deg yn unig; mae'n amlwg mai dyna'r lle iawn i ddechrau, ac yn amlwg, mae angen i hynny fod ar waith yn ein meithrinfeydd a'n hysgolion, ond mae gwir angen inni ei gael drwy gydol teithiau plant a phobl ifanc drwy'r system addysg ac i mewn i waith. Ydy, mae llafaredd yn orfodol ar draws y cwricwlwm wrth gwrs, ond mae gwir angen inni ddod â’r holl bobl hyn ynghyd i sicrhau nad ydym, mewn ffyrdd eraill, yn cuddio'r bobl sydd ag anghenion parhaus y mae angen eu diwallu.
Mae'n dal i fod yn wir nad yw 10 awdurdod lleol o'r farn fod angen unrhyw therapyddion lleferydd ac iaith lleol yn eu timau cyfiawnder ieuenctid, ac mae hynny'n cynnwys Caerdydd, fy awdurdod lleol i. Nid wyf yn gwybod ble mae'r bobl hyn wedi bod, ond mae'n rhyfeddol fod hyn yn dal i ddigwydd. Mae angen inni barhau i gynorthwyo'r bobl ifanc hyn ac mae’n amlwg na allwn ddibynnu ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder am fwy o arian oni bai fod gennym y therapyddion lleferydd ac iaith i wneud y gwaith dros y bobl ifanc hyn sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid. Diolch.
Hoffwn ddiolch, yn olaf, i'r clercod a'r gwasanaeth ymchwil am y gefnogaeth wych y maent wedi'i rhoi, a gobeithiwn barhau i fynd ar drywydd y mater hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Cynnig NDM8306 Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb 'P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi' a gasglodd 21,920 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Bwyllgor Busnes y Senedd am ganiatáu i ni drefnu'r ddadl hon? Heddiw, rydym yn trafod deiseb o'r enw 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20 mya ar 17eg Medi', a gyflwynwyd gan Benjamin James Watkins. Cafodd y ddeiseb ei llofnodi gan dros 20,000 o bobl, cyn i'r deisebydd gytuno, ar fy nghais i, i'w chau yn gynnar. Fe wneuthum hynny i ganiatáu i'r drafodaeth gael ei chynnal cyn y newid.
Mae'n werth nodi ar y cychwyn fod y newid i'r terfyn diofyn 20 mya yn un o'r prif faterion ar gyfer deisebau ers imi ddod yn Gadeirydd y pwyllgor. Mae 23 o ddeisebau wedi'u creu gydag '20 mya' yn y teitl yn ystod tymor y Senedd hon; mae 17 o'r rheini wedi cael y tri enw sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i gasglu llofnodion. Mae rhai wedi bod yn ddeisebau lleol, yn gwrthwynebu mewn lleoliad penodol. Roedd un deisebydd yn enwedig eisiau refferendwm cenedlaethol, ac roedd eraill eisiau i'r newid gael ei atal yn gyfan gwbl, yn union fel hwn. Fe wrthododd y tîm clercio 11 deiseb, sy'n anarferol, a'r rheswm oedd eu bod yn ailadrodd deiseb a oedd eisoes yn casglu llofnodion.
Nawr, er bod y Senedd wedi trafod y mater sawl gwaith o'r blaen, ac wedi ei ystyried mewn pwyllgorau gwahanol, mae'n amlwg fod rhan fawr a llafar o bobl Cymru yn parhau heb eu hargyhoeddi gan y dadleuon o blaid y newid polisi hwn. Mae testun y ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn dweud:
'Atal newid y terfynau cyflymder i 20 mya ar 17eg Medi. Nid yw'r penderfyniad hwn yn gynrychioliadol o'r farn gyhoeddus ehangach ac o'r herwydd, nid yw'n ddemocrataidd i weithredu'r newidiadau. Dylai newid i gyfreithiau ffyrdd ar y raddfa hon fod yn destun pleidlais lawer ehangach neu o bosibl fel rhan o refferendwm yng Nghymru ar y mater.'
Mae'r deisebydd yn rhybuddio, er bod parthau 20 mya wedi cael eu derbyn yn gyffredinol o amgylch ysgolion, mae'r newid ym mis Medi yn peryglu cynyddu 'cythraul gyrru'. Mae hefyd yn cwestiynu ai ffordd o godi arian yw hon drwy ddirwyo pobl sy'n mynd dros y terfyn newydd. Mae'r deisebydd hefyd yn dadlau y bydd y terfynau cyflymder newydd yn effeithio'n anghymesur ar amseroedd cymudo pobl sy'n teithio i'r gwaith ar y ffordd, yn enwedig pan nad oes llwybr arall.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Senedd hon eisoes wedi pleidleisio ar derfynau cyflymder 20 mya, a'r ddadl heddiw yw nodi'r ddeiseb. Ond yr hyn y mae'n ei wneud, a'r hyn y bydd yn ei wneud, yw rhoi cyfle pellach i'r Dirprwy Weinidog egluro pam fod y mesur hwn mor bwysig, dweud wrth bobl sut i ymgyrchu dros eithriadau yn eu cymunedau lleol, ac ymateb i rai o'r pryderon a leisiwyd gan filoedd o bobl yng Nghymru sy'n parhau i fod yn amheus o'r newid hwn.
Fel y gwyddoch i gyd, un o'r ardaloedd peilot yn y treial hwn oedd Bwcle yn fy etholaeth fy hun, ac yng ngeiriau'r Dirprwy Weinidog ei hun, gwnaed camgymeriadau yn y cynllun peilot hwnnw. Os siaradwch â thrigolion ym Mwcle, roedd hyn yn bennaf oherwydd yr angen i wrando ar bobl leol a thrigolion lleol ar yr angen am eithriadau. Nid oes rhaid i rai ffyrdd fod yn 20 mya. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y broses eithriadau'n iawn a bod pobl leol yn gallu nodi ffyrdd a fydd yn aros ar 30 mya. Ddirprwy Lywydd, mae trigolion ym Mwcle wedi cysylltu â mi yn ddiweddar gyda cheisiadau rhesymol iawn ynglŷn ac eithrio ffyrdd B5125 a'r A549 yn enwedig. Mae angen proses arnom sy'n caniatáu i awdurdodau lleol ymateb i geisiadau o'r fath gan gymunedau lleol. Byddwn yn annog y Dirprwy Weinidog, rhwng nawr a chyflwyno'r polisi ar 17 Medi, i wneud mwy o waith gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn hyderus ynghylch y broses eithriadau sydd ar waith. A'i fod yn barod i gryfhau canllawiau os yw cydweithwyr llywodraeth leol yn nodi'r angen am eglurder pellach i sicrhau bod ganddynt yr hyder sydd ei angen arnynt.
Ddirprwy Lywydd, awgrym arall, a ddaeth gan etholwr i mi, Martin Bailey, yw sicrhau bod y term 'preswyl', yn golygu hynny yn hytrach na phrif ffyrdd neu ffyrdd drwodd. Yng ngeiriau Martin ei hun, 'fel hyn, gall 95 y cant o ffyrdd newid i 20 mya yn unol â bron bob gwlad arall sydd wedi mabwysiadu cynllun o'r fath'.
Ddirprwy Lywydd, i gloi fy nghyfraniad agoriadol, yr hyn y dylai heddiw ei ddysgu i ni yw'r angen i weithio gyda'n gilydd a'r angen i sicrhau newid mewn ffordd gydsyniol a rhesymol. Rwy'n ddiolchgar i'r deisebydd am eu gwaith i alluogi'r ddadl hon. Fel y dywedais ar y dechrau, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes a'r Llywydd am ganiatáu i'r ddadl gael ei chynnal cyn i'r newid ddigwydd ym mis Medi. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog yn arbennig i'r pwyntiau ynglŷn â rhoi'r sicrwydd hwnnw i awdurdodau lleol a'r hyder sydd ei angen arnynt i wneud yr eithriadau y mae pobl leol a thrigolion lleol eu heisiau. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd fy mhwyllgor, Jack Sargeant, am agor y ddadl bwysig hon. I ddechrau, hoffwn bwysleisio bod 21,920 o lofnodion ar y ddeiseb hon yn dangos y gwrthwynebiad anferthol i'r gostyngiad cyffredinol mewn cyflymder i 20 mya ar bob ffordd drefol yng Nghymru. Yn fy meddwl i, mae'n tynnu sylw at sut mae Llywodraeth Cymru wedi colli golwg o ran deall anghenion cymunedau ledled Cymru.
Rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran y rhan fwyaf o'r wlad wrth gydnabod y manteision o gael terfynau cyflymder o 20 mya mewn rhai ardaloedd, megis o amgylch ysgolion ac mewn ardaloedd poblog iawn. Gallaf dderbyn yn llwyr y gall cyflymderau is gael effeithiau cadarnhaol o ran cyfyngu ar anafiadau a gwella ansawdd aer mewn ardaloedd lleol, ond ni allaf ddeall y pwynt cyffredinol o gyflwyno terfynau 20 mya ar gynifer o ffyrdd trefol eraill, yn bennaf felly oherwydd nad oes posibl gorfodi rheol o'r fath.
Yn wir, mae ystadegau swyddogol Llywodraeth y DU wedi dangos bod 87 y cant o yrwyr yn torri'r terfynau cyflymder o 20 mya pan gânt eu gosod. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos nad yw terfynau cyflymder 20 mya yn lleihau cyflymder yn sylweddol. Yn Islington, un o'r lleoedd cyntaf i gyflwyno terfyn cyflymder 20 mya ledled y fwrdeistref, dim ond o 1 mya y gostyngwyd cyflymderau ar gyfartaledd, yn hytrach na'r 10 mya a fwriadwyd. Canfu astudiaeth gan yr Adran Drafnidiaeth yn 2018, a ddisgrifiwyd ar y pryd fel yr astudiaeth fwyaf, a mwyaf cynhwysfawr a soffistigedig o effeithiau terfynau cyflymder 20 mya i gael ei chynnal yn y DU, mai 0.7 mya yn unig oedd y gostyngiad yng nghyflymder canolrifol gyrwyr mewn ardaloedd preswyl a 0.9 mya mewn ardaloedd canol y ddinas, lle roedd y terfynau wedi'u gostwng o 30 i 20. Canfu'r un astudiaeth hefyd fod cyflwyno terfynau o 20 mya wedi cynyddu amseroedd teithio 3 y cant mewn ardaloedd preswyl, a 5 y cant yng nghanol dinasoedd. Er bod cynnydd o 3 a 5 y cant yn ymddangos yn ddibwys, byddwn yn dadlau y bydd cynnydd o 5 y cant mewn amser teithio yn arwain at lawer o ganlyniadau anfwriadol a fydd yn fwy niweidiol yn y tymor hwy. Mae'n debygol y bydd gyrwyr yn gyrru'n gyflymach ar y ffyrdd i wneud iawn am yr amser coll canfyddedig a bydd hyn yn sicr yn cynyddu'r tebygolrwydd o wrthdrawiadau. Byddwn hefyd yn dadlau y byddai perygl o gynyddu achosion o 'gythraul gyrru' ymysg gyrwyr rhwystredig.
Ar ben hynny, bydd yn rhaid i gynghorau ledled Cymru wario symiau enfawr o arian yn ail-farcio ffyrdd, gosod arwyddion newydd, newid hysbysiadau cyfreithiol ac nid oes ganddynt unrhyw ffordd go iawn o sicrhau y cedwir at y terfyn cyflymder newydd hwn. Mae fy nghyngor i yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, wedi rhoi'r gorau i bob rhaglen rheoli traffig er mwyn dargyfeirio cyllid i'r broses o gyflwyno hyn, sy'n golygu na fydd gwelliannau diogelwch mwy newydd mawr eu hangen ac y mae galw mawr amdanynt, fel croesfannau cerddwyr, dyfeisiau dangos cyflymder, llwybrau cerdded mwy diogel, neu groesfannau botymog yn cael eu gosod mwyach, ac rwy'n siŵr nad ystyriodd y Dirprwy Weinidog hyn pan gafodd y cynigion eu cyflwyno'n gyntaf.
Rwy'n credu ei bod yn amlwg fod angen taro cydbwysedd rhwng cyflymder, cyfleustra, diogelwch ac effaith amgylcheddol, ond nid terfynau cyffredinol o 20 mya ar ffyrdd trefol yw'r ateb. Fel rwyf wedi'i grybwyll yn flaenorol yn y Siambr hon, mae angen inni edrych y tu hwnt i newid ymddygiad gorfodol a dod yn fwy arloesol yn ein dull o weithredu; yn hytrach na chyflwyno terfynau cyflymder cyffredinol, gallem edrych ar barthau lleihau cyflymder sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion y gymuned ac sydd wedi'u teilwra ar gyfer yr effeithlonrwydd mwyaf posibl. Gallem hyd yn oed edrych ar osod hidlwyr aer ar ein trafnidiaeth gyhoeddus, a chodi tyrau mwrllwch i helpu i wella ansawdd aer. Rwy'n credu y bydd mwy o gefnogaeth gyhoeddus i'r rhain, a byddant hefyd yn cyflawni'r gwelliannau diogelwch ac ansawdd aer y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'u cyflawni. Diolch.
Natasha Asghar. Na, mae'n ddrwg gennyf, Natasha.
Roeddwn ar fin dweud; mae gennyf—
Mae'n ddrwg gennyf. Mae angen imi alw ar eraill, ar wahân i'ch grŵp chi yn unig—mae'n ddrwg gennyf. Mae'n rhaid i mi gofio hynny. Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Ymddiheuriadau, Natasha, am achub y blaen arnoch, ond dyna ni.
A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r deisebwyr am lofnodi a chyflwyno'r ddeiseb hon? Credaf ei bod yn dangos gwerth y broses ddeisebau yma yn y Senedd, y gallwn gael y dadleuon hyn o ganlyniad i alwadau gan y cyhoedd, a hoffwn ailadrodd pwynt y Cadeirydd, i fod yn glir nad yw'r cynnig sydd ger ein bron yn galw am ddiddymu'r cynigion, na chymeradwyo'r cynigion yn wir; ei ddiben yw nodi'r ddeiseb, ond yn amlwg, mae'n gyfle i lawer ohonom drafod y mater ymhellach. Ond mewn gwirionedd, nid wyf yn disgwyl iddo arwain at newid penodol mewn perthynas â'r hyn sy'n cael ei gynnig, oherwydd mae'r ddeddfwriaeth honno wedi'i derbyn, ond yn sicr, rwy'n credu bod cyfle i'r Llywodraeth glywed rhai o'r negeseuon pwysig y mae angen eu clywed yn y ddadl hon. Ac rwyf wedi cefnogi'r terfyn diofyn o 20 mya, yn rheolaidd ac yn gyson, ar y sail y bydd yn achub bywydau, wrth gwrs, y bydd yn lleihau anafiadau, yn arwain at lai o ddioddefaint, ac arbedion i'r pwrs cyhoeddus o ganlyniad. Rwyf wedi ei gefnogi ar y sail y bydd yn gwella cymunedau, bydd yn creu amgylchedd mwy diogel i bobl oedrannus, plant, y rhai a allai fod eisiau cerdded neu feicio, lle mae ganddynt opsiwn i wneud hynny. Fe fydd yn gwella ansawdd aer, fe fydd yn lleihau llygredd sŵn, ac ati. Rydym wedi trafod llawer o'r dadleuon hynny.
Ond rwyf hefyd wedi cefnogi'r ddeddfwriaeth hon ar y ddealltwriaeth, wrth gwrs, y bydd y ffyrdd hynny nad oes gwir angen iddynt fod yn 20 mya yn dychwelyd i 30 mya, ac wrth inni weld y mapiau'n ymddangos gan awdurdodau lleol o'r ffyrdd a fydd yn dychwelyd i 30 mya, rwy'n poeni braidd y bydd gennym ffyrdd—er enghraifft ar gyrion trefi, o amgylch pentrefi—lle nad oes angen 20 mya, ac efallai nad dyma'r opsiwn mwyaf synhwyrol ychwaith. Nawr rwyf wedi gyrru ar rai o'r ffyrdd yn ardal Bwcle, sydd wedi bod yn ardal sydd wedi treialu llawer o hyn, ac mae cyfiawnhad llwyr dros gael 20 mya ar rai o'r ffyrdd, nid oes dwywaith amdani, ond mae yna ffyrdd eraill i ffwrdd o ardaloedd adeiledig, sydd â chaeau ar bob ochr i'r ffordd, gan gyffwrdd eto ar y pwynt a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor, lle rwy'n cwestiynu a fyddai terfyn o 30 mya yn llawer mwy priodol na pharth 20 mya.
Felly, yn amlwg, dyma fy her i'r Dirprwy Weinidog. Nid yw'n ymwneud â chael gwared ar y cynigion, nid yw'n ymwneud â 'Gadewch inni ailfeddwl a gadewch inni adael popeth fel y mae a derbyn y marwolaethau fel pris y mae'n rhaid inni ei dalu.' Na. Fy her i'r Dirprwy Weinidog yw beth mae ef a'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn dod i'r casgliad ei bod yn haws gosod terfyn o 20 mya ar bob ffordd, ni waeth beth yw'r realiti ar lawr gwlad. Rydym yn gwybod bod adnoddau a chapasiti'n heriol i gynghorau lleol ar hyn o bryd, ac nid gweld rhai awdurdodau lleol yn dychwelyd at, neu'n argymell dychwelyd at 30 mya mewn dim ond llond llaw o ffyrdd, yn llythrennol, drwy'r holl awdurdod lleol oedd yr hyn roeddwn yn ei ddisgwyl neu'n ei ragweld phan gefnogais y ddeddfwriaeth hon. Nawr, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog ar y radio y bore yma, mewn cyfweliad rhagorol yn fy marn i a oedd yn gwneud achos cryf iawn dros y newidiadau, fe ddywedodd na fydd cynghorau'n ei gael 100 y cant yn iawn ar y diwrnod cyntaf. Ac mae hynny'n wir, onid yw? Ond beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod cynghorau lleol yn ei gael 90 y cant yn iawn ar y diwrnod cyntaf, neu 95 y cant yn iawn ar y diwrnod cyntaf? Oherwydd, hyd y gwelaf, mae nifer y ffyrdd sy'n dychwelyd i 30 mya yn yr ardaloedd rwy'n eu cynrychioli yn llawer iawn is na'r hyn roeddwn i, a'r rhan fwyaf o bobl eraill yn ôl pob tebyg, wedi'i ddisgwyl.
Rwy'n siarad heddiw oherwydd fy mod i'n gyrru 20 mya neu lai ar ffyrdd preswyl. Rwy'n dweud hynny, oherwydd ddwywaith dros y mis diwethaf byddwn wedi bod mewn damwain ddifrifol pe bawn i wedi bod yn gyrru ar 30 mya. Roedd y cyntaf ar Stryd Pleasant, lle mae fy swyddfa wedi'i lleoli. Mae Stryd Pleasant, fel llawer o ffyrdd, yn cynnwys tai teras, gyda'r rhan fwyaf o eiddo heb lefydd parcio oddi ar y stryd. Yn ei hanfod, mae'n ffordd un lôn gyda lleoedd pasio rhwng y ceir sydd wedi'u parcio. Roedd car yn teithio ar gyflymder o 30 mya, a oedd o fewn y terfyn cyfreithiol presennol. Roeddwn i'n teithio ar gyflymder o 15 mya, ac fe wnaethom stopio gyda thua metr rhyngom. Pe byddai'r ddau ohonom wedi bod yn teithio ar gyflymder o 30 mya, byddai gwrthdrawiad wedi bod yn anochel.
Yr ail ddigwyddiad oedd pan dynnodd car allan o fan parcio ger Neuadd y Dref. Unwaith eto, a minnau'n teithio ar gyflymder o lai nag 20 mya, fe lwyddais i stopio heb wrthdrawiad. Ar 30 mya, byddwn wedi cael gwrthdrawiad ac un difrifol arall mae'n debyg. Rwy'n credu mai'r consensws cyffredinol yw bod 20 mya yn derfyn cyflymder addas ar ffyrdd ystadau. Rwy'n teithio i fy swyddfa yn Nhreforys, sydd bron yn filltir union, ond mae'r sat nav yn dweud wrthyf y bydd yn cymryd pum munud i mi, sy'n gyflymder cyfartalog o 12 mya. Mae yna draffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder naill ai'n 50 mya neu'n 70 mya, ac ni fydd y rhain yn cael eu newid. Y broblem gyda thraffyrdd yng Nghymru yw bod ganddynt ormod o gyffyrdd yn agos at ei gilydd. Mae gan yr M4 fwy o gyffyrdd yng Nghymru nag a geir yn Lloegr, er bod y rhan o'r draffordd sydd yn Lloegr yn llawer hwy.
Mae'r system ffyrdd yn cynnwys ffyrdd A, sef prif ffyrdd sy'n darparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn neu rhwng ardaloedd; ffyrdd B, sy'n cysylltu gwahanol ardaloedd ac yn bwydo traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai; a ffyrdd llai diddosbarth neu heb eu rhifo i gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B. A ffyrdd diddosbarth, sef y grŵp mwyaf, dros 60 y cant o ffyrdd, yw'r ffyrdd y teithiwn ar hyd-ddynt mewn ystadau. Dyma'r ffyrdd sydd angen terfyn 20 mya, ac mae hyd yn oed y rhai sy'n gymharol lydan angen terfyn 20 mya, oherwydd mae gennych chi geir yn parcio yno.
Rwy'n gyrru o amgylch Abertawe yn rheolaidd ac yn gweld nad oes angen i chi yrru ar derfyn uwch nag 20 mya ar ffyrdd ystad, lle mae'r rhan fwyaf, i bob pwrpas, yn ffyrdd un lôn, gyda mannau pasio rhwng ceir sydd wedi parcio oherwydd bod ceir wedi'u parcio ar y ddwy ochr i'r ffordd. Mae ardaloedd o dai teras hŷn ac ystadau cyngor lle nad oes gan dai dramwyfeydd yn golygu na all pobl yrru'n ddiogel ar 30 mya; mae ceir wedi parcio ar y ddwy ochr i'r ffordd, gan fod pobl yn ceisio parcio wrth ymyl eu cartref. Hyd yn oed ar ystadau mwy newydd lle ceir tramwyfeydd, mae ceir yn dal i barcio ar y ffordd, yn enwedig lle mae tramwyfeydd yn serth iawn a lle mae ganddynt lethr sylweddol yn mynd i fyny neu i lawr. Byddwn eisiau, ac yn disgwyl cadw'r terfyn cyflymder 30 mya presennol ar ffyrdd sy'n brif ffyrdd, oni bai eu bod yn pasio'n uniongyrchol o flaen mynedfa ysgol neu ardal siopa. Er mai cynghorau unigol fydd yn penderfynu ar derfyn cyflymder pob ffordd, byddwn yn disgwyl i'r newid effeithio'n bennaf ar ffyrdd diddosbarth.
Cysylltodd etholwr sy'n byw yn Nhrefansel ar ffordd 20 mya â mi. Roeddent yn derbyn bod angen 20 mya ar gyfer ardal breswyl fel Trefansel ac nid ydynt eisiau terfyn cyflymder o 30 mya ar eu stryd, lle maent yn byw, ond nid ydynt yn dymuno i'r terfyn cyflymder ostwng mewn mannau eraill. Dywedwyd wrthyf hefyd y dylech yrru yn ôl amodau'r ffordd, ond gan fod cyflwr y ffordd yr un peth i bawb, pam mae cerbydau'n teithio ar gyflymder gwahanol? Rwy'n awgrymu, os yw pobl yn meddwl nad yw 30 mya yn briodol ar gyfer y ffordd y maent yn byw arni—nid y ffordd y maent yn teithio arni, y ffordd y maent yn byw arni—dylent ddeisebu'r cyngor, ac os nad yw dros hanner y tai ar y stryd eisiau i'r terfyn cyflymder ostwng, ni ddylai wneud hynny. Oherwydd mae'n ymddangos bod pobl bob amser eisiau hyn ar y stryd nesaf neu'r stryd y maent yn gyrru ar hyd-ddi, nid lle maent yn byw: fy mhrofiad i o drafod hyn gyda phobl sy'n gwrthwynebu 20 mya yw nad y ffordd y maent yn byw arni sy'n bwysig—mae angen i'w ffordd nhw fod yn 20 mya i'w cadw'n ddiogel—ond ar gyfer y ffordd y maent yn teithio arni, wrth fynd heibio i dai pobl eraill, mae 30 mya yn iawn. Dylai symudiadau traffig ar gyffyrdd wella gyda therfynau cyflymder o 20 mya, ond yn sicr mewn ardaloedd trefol, y tu hwnt i ffyrdd A a B, mae ceisio teithio'n gynt nag 20 mya yn ddiogel yn amhosibl ar hyn o bryd, yn fy marn i.
Yn olaf, yr allwedd i sicrhau ei fod yn gweithio yw gorfodaeth. Cyn belled â bod yr heddlu a GanBwyll yn gorfodi 20 mya fel unrhyw derfyn cyflymder arall, fe fydd yn gweithio. Ond a gaf fi ddod yn ôl at y pwynt rwyf eisiau ei gyfleu mewn gwirionedd? Mae ffyrdd A a B yn wahanol. Mae ffyrdd A yn wahanol. Maent yn ffyrdd prifwythiennol mawr. Mae'n rhaid i ffyrdd A gadw at gyflymder o 30mya. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud hynny heddiw.
Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, ynghyd â'r holl aelodau eraill, am gyflwyno'r ddadl hon, yn ogystal â phawb sydd wedi ei gwneud yn bosibl? Oherwydd, mewn mater o fisoedd, bydd y cynllun cyffredinol 20 mya hynod niweidiol hwn yn dod i rym. Nawr, mae heddiw yn nodi Eid, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Altaf Hussain yn ei ddatganiad 90 eiliad yn gynharach. I lawer o bobl, mae'n ddiwrnod o ddathlu, llawenydd, lliw, ac wrth imi adael fy nghartref heddiw, gofynnodd fy mam i mi, 'Pam ar y ddaear wyt ti'n gwisgo du?' Roedd yn rhaid i mi ymateb drwy ddweud, 'Mam, heddiw yw'r diwrnod rwy'n fwy tebygol o weld marwolaeth y terfyn cyflymder diofyn o 30 mya yma yng Nghymru.'
Nawr, mae bron i 100,000 o bobl wedi llofnodi deisebau amrywiol yn galw am gael gwared ar gyflwyno terfynau cyflymder cyffredinol o 20 mya. Ystyriwch hynny: 100,000 o bobl, gan gynnwys 21,920 o bobl a gefnogodd y ddeiseb, dyna'r bobl hynny rydym yn sôn amdanynt heddiw. O ystyried y momentwm y mae'r deisebau hyn wedi'i fagu mewn cyfnod mor fyr, mae'n amlwg nad oes unrhyw awydd i osod terfynau 20 mya ledled y wlad. Nid yw busnesau eu heisiau. Nid yw trigolion eu heisiau. Nid ydym ni eu heisiau. Ond wrth gwrs, peidiwch â phoeni beth mae pobl yn ei feddwl, oherwydd y Dirprwy Weinidog yma sy'n gwybod orau. Fel rwyf wedi'i ddweud ar sawl achlysur, mae angen 100 y cant am gamau wedi'u targedu, megis y tu allan i ysgolion, megis ardaloedd chwarae awyr agored, megis ar hyd y stryd fawr, ond nid cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya i gynnwys pob stryd yw'r ffordd ymlaen.
Ymatebodd llai na 6,000 o unigolion i ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru, sy'n ddim mwy na diferyn bach yn y môr pan fyddwch yn ei gymharu â'r niferoedd enfawr o bobl sy'n lleisio eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau. Er hynny, roedd y rhan fwyaf o bobl—53 y cant a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad—yn erbyn y cynllun anflaengar, gyda 47 y cant ohonynt yn gryf yn erbyn. Fe gymerais innau ran, ac a dweud y gwir, roedd y cwestiynau wedi'u geirio yn y fath fodd fel y byddech chi'n teimlo fel seicopath os na fyddech chi'n cytuno ag agenda Llywodraeth Cymru, neu'n gwrthwynebu'r cynlluniau 20 mya.
Mae yna gyfres o resymau, ac rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwyd yn llwyr, pam fod pobl yn erbyn y cynlluniau hyn, ond y prif rai yw'r costau sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod llawer o bobl yn gweld hyn fel dim byd mwy na ffordd o wneud arian. Gadewch imi ddweud wrthych nawr, mae'r costau sy'n gysylltiedig â'r cynllun hurt hwn yn enfawr, gyda £32.5 miliwn yn cael ei wario ar ei weithredu'n unig. Ac yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, bydd iddo gost anfantais o £6.4 biliwn oherwydd effaith amseroedd teithio ar fusnesau ac aelwydydd. Yn gynharach heddiw, gofynnais i'r Gweinidog iechyd ynglŷn â chyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol. Roeddwn yn derbyn ei hateb yn llwyr, ond Lywydd, am Lywodraeth sy'n honni ei bod yn brin o arian, bydd gwastraffu'r swm hwn o arian ar brosiect porthi balchder arall eto fyth, tra bod pobl Cymru yn wynebu pwysau costau byw, yn bilsen chwerw iawn i'w llyncu.
A gadewch inni roi eiliad i edrych ar y ffeithiau. Hoffwn i bawb ohonoch gofio'r hyn rwyf ar fin ei ddweud heddiw. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys cyfnod COVID, mae gwrthdrawiadau ffyrdd wedi lleihau—ie, wedi lleihau—ar ffyrdd 30 mya, ac wedi cynyddu ar ffyrdd 20 mya. Rhwng 2017 a 2022, gostyngodd nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 30 mya 33 y cant, gyda 2,528 yn 2017 a 1,691 yn 2022. Ac eto, yn yr un cyfnod, cynyddodd nifer y digwyddiadau ar ffyrdd 20 mya 174 y cant, sy'n syfrdanol, ac nid dyna'r cyfan. Cafwyd cynnydd mawr yn nifer yr anafusion a gofnodwyd ar ffyrdd 20 mya a gostyngodd y nifer ar ffyrdd 30 mya yn yr un cyfnod. Cafwyd gostyngiad o 34 y cant mewn digwyddiadau ar ffyrdd 30 mya, a chynnydd enfawr o 178 y cant ar ffyrdd 20 mya.
Mae'r cynllun terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya yn rhywbeth y mae fy etholwyr yn cysylltu â mi yn rheolaidd yn ei gylch. Ac fel Gweinidog yr wrthblaid dros drafnidiaeth, rwyf wedi cael e-byst, galwadau ffôn, ni waeth beth, gan etholwyr o bob cwr o Gymru, o'ch holl etholaethau amrywiol yma. Ac rwyf am rannu rhywbeth a ddywedodd un etholwr o dde-ddwyrain Cymru wrthyf yn ddiweddar, oherwydd rwy'n teimlo ei fod yn crynhoi'r teimlad cyffredinol ar draws Cymru, fe ddywedodd, 'Dyma ffordd arall o godi costau i bobl Cymru sy'n ceisio cael dau ben llinyn ynghyd. Byddai'n well gennyf pe bai Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddatrys y problemau dybryd, difrifol a phwysig y maent yn ymgiprys â nhw, fel iechyd ac addysg yn hytrach na chyflwyno cynlluniau fel hyn sydd heb gael eu hystyried yn iawn. Neu a ydynt yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol i bawb arall fel pe bai hynny'n beth da? Nid oes gennyf ddim i'w ddweud wrth hyn.'
Cyfaddefodd Lee Waters yn ddiweddar,
'cafodd y terfyn cyflymder o 20 mya ei osod yn yr ardal gyfan, yn hytrach na dim ond rhai rhannau ohoni. Nawr, rwy'n credu mai camgymeriad oedd hynny.'
Er fy mod yn falch o weld bod y Dirprwy Weinidog wedi dod i gytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, os yw ef hyd yn oed wedi cyfaddef bod hwn eisoes yn bolisi aflwyddiannus, pam ar y ddaear ein bod yn bwrw ymlaen ag ef? Felly, os gwelwch yn dda, ystyriwch fy apêl munud olaf ar Lywodraeth Cymru i weithredu er budd pobl Cymru. Rwy'n gwybod y gallai hynny fod yn gysyniad dieithr, ond os gwelwch yn dda, rhowch y gorau i gyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol hurt hwn o 20 mya, a chadwch at ysgolion, mannau chwarae, mannau addoli a'r stryd fawr wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn i Natasha Asghar fynd i Rydri, Machen, Heol Sant Martin a Gilfach yn fy etholaeth ac yn ei rhanbarth hi a gwneud fersiwn o'r araith honno ar garreg y drws, oherwydd rwy'n gwarantu na fydd y bobl sy'n ei chlywed yn hapus. Mae damweiniau trasig wedi bod yn yr ardaloedd hynny, ac nid yw'r ardaloedd hynny y tu allan i ysgolion, yn ardaloedd preswyl pobl, neu'n ffyrdd stryd fawr, ac maent yn croesawu'r terfynau 20 mya yno'n fawr. Felly, ar y cyfan, dyma'r polisi cywir ar gyfer yr ardaloedd hynny, a byddwn yn gwneud anghymwynas â'r bobl sy'n byw yn y gymuned hon pe bawn i'n gwrthwynebu egwyddorion y rheolau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cyflwyno heddiw.
Mae'r pryder sydd gennyf yn deillio o'r eithriadau, fel y mae Jack Sargeant a Llyr wedi'i grybwyll. Mae'n ymwneud â phŵer y rhaglen eithriadau bresennol a'r gallu i lywio o gwmpas rheolau Llywodraeth Cymru i'w caniatáu. Nawr, rwyf wedi siarad â chynghorwyr yng Nghaerffili, sydd wedi rhoi gwybod i mi am farn swyddogion yng nghyngor Caerffili, sydd wedi dweud wrthyf, o'u rhan nhw, yr eithriadau cyfredol, dyna ddiwedd y mater; ni fyddant yn edrych ar y mater eto ar ôl cyflwyno'r terfynau. Nawr, byddai hynny'n anffodus, oherwydd rwy'n gallu gweld bod nifer o ffyrdd yn fy etholaeth y teithiaf arnynt bob dydd na fyddent yn briodol ar gyfer parth 20 mya. Nawr, gallaf ddweud nad yw'n briodol i mi adeiladu'r ymgyrch honno nawr; rwy'n credu ei bod yn iawn i aros hyd nes y caiff ei gyflwyno. Ond y broblem fydd, pan fydd pobl yn mynegi pryderon wrthyf i, a phan fyddaf i'n eu codi gyda'r cyngor, ni fydd modd gwneud unrhyw beth, am na fydd modd cymhwyso eithriadau oherwydd rheolau Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu mai dyna lle mae'r polisi hwn mewn perygl o fod yn anodd ei gyflwyno ac yn anodd ei orfodi, oherwydd mae'n rhaid i chi wneud hyn drwy gydsyniad a mynd â phobl gyda chi.
Rwy'n cytuno â Llyr Gruffydd fod y Gweinidog wedi rhoi cyfweliad da heddiw, er fy mod yn anghytuno â'r llinell olaf—neu mae gennyf bryderon am y llinell olaf—pan ddywedodd.
'Rwy'n credu, ymhen blwyddyn',
meddai
'byddwn yn edrych yn ôl ar hyn ac yn meddwl ei fod yn llawer o ffỳs am ddim byd.'
Rwy'n credu bod hynny'n gwneud anghymwynas â'r ddeiseb hon, ac rwy'n credu ei fod yn gwneud anghymwynas â'r rhai ohonom sydd â phryderon, ac rwy'n teimlo bod yn rhaid i'r Gweinidog ateb y cwestiwn a godwyd gan Jack, ac a godwyd gan Llyr, nad yw'r broses eithriadau ar hyn o bryd yn mynd i ganiatáu cymhwyso'r eithriadau ar ôl cyflwyno'r terfyn, fel y dymunwn iddynt ei wneud. Nid wyf eisiau dod yn ôl at Lywodraeth Cymru, codi yn y Siambr hon a dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn yn anghywir; rwyf eisiau iddynt wneud hyn yn iawn nawr. Dyma gyfle'r Dirprwy Weinidog i wneud hynny.
Mae nifer o bobl sydd wedi ysgrifennu ataf, sy'n gwrthwynebu'r polisi, yn aml yn dechrau eu he-byst—naw gwaith allan o 10—gyda, 'Rwyf o blaid cymhwyso'r newid i ardaloedd preswyl ac ysgolion, ond rwy'n teimlo nad oes neb yn gwrando arnaf.' Yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrth y bobl hynny yw, 'Os ydych chi'n teimlo bod angen cyfiawn dros ddychwelyd at 30 mya mewn rhai ardaloedd, fe wnaf ymweld â nhw gyda chi, ar ôl cyflwyno'r terfyn, ac fe farnaf drosof fy hun a ydynt yn cyd-fynd â'r polisi, ac os nad ydynt, fe wnaf yr ymgyrch honno ar eich rhan i'r cyngor.' Rwy'n ofni y byddaf yn cael fy rhwystro gan reoliadau Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach. Rwyf angen sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog na fydd hynny'n digwydd.
Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch i'r dros 20,000 o bobl a lofnododd y ddeiseb, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod y Senedd hon yn trafod eu pryderon heddiw, ac rwy'n rhannu rhwystredigaeth Hefin David ynghylch sylwadau'r Gweinidog, a ddywedodd ei fod yn llawer o ffỳs am ddim byd. Mae'n ffỳs am rywbeth, ac mae'n rhywbeth sy'n amlwg yn poeni degau o filoedd o bobl yng Nghymru. Oherwydd, fel y gwyddom, bydd y newid diofyn hwn i 20 mya yn un o'r newidiadau gweledol mwyaf arwyddocaol sydd wedi digwydd yng nghyfnod datganoli. Bydd yn effeithio ar bobl ar draws Cymru gyfan yn ddyddiol, ac fel y nododd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, mae gan fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru ddiddordeb arbennig yn y mater, gan fod Bwcle yn un o'r mannau profi ar gyfer treialon Llywodraeth Cymru. Er mwyn cael syniad o'r teimlad cyhoeddus ar y mater, cynhaliais arolwg ymhlith trigolion Bwcle, lle dywedodd 97 y cant o'r ymatebwyr—felly, 97 y cant o bobl a oedd wedi cael profiad o'r terfyn cyflymder 20 mya ar draws yr ardal gyfan—fod y treial wedi bod yn fethiant a'u bod eisiau cael gwared arno. Cyfeiriodd trigolion at bob math o resymau pam fod hynny'n wir, ac nid oes gennyf amser i drafod hynny i gyd y prynhawn yma.
Ond nid trigolion yn unig oedd yn credu bod y treial yn fethiant llwyr. Fel y clywsom eisoes heddiw, mae'n ymddangos bod y Gweinidog sy'n gorfodi'r newidiadau'n cytuno â nhw. A Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud, rydych chi'n magu enw am fod yn un o'r dynion mwyaf gonest yn y Blaid Lafur yng Nghymru, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud ichi wneud pethau'n anghywir—yn hollol anghywir—mewn perthynas â threial Bwcle, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Hoffwn ychwanegu hefyd nad natur fwngleraidd y treial a gynhaliwyd ym Mwcle yn unig oedd yn anghywir, ond y polisi ei hun.
Yn ogystal, Lywydd, credaf ei bod hefyd yn bwysig ystyried canlyniadau anfwriadol y mesur hwn, yn ogystal â'r effeithiau canlyniadol, a byddwn yn falch o glywed gan y Dirprwy Weinidog pa bethau, unwaith eto, sydd wedi cael eu hystyried. Er enghraifft, gweithwyr gofal cartref sydd angen defnyddio cerbydau er mwyn teithio i weld cleifion sy'n agored i niwed, o un cartref i'r llall, gan deithio o fewn pentrefi'n aml, neu rhwng trefi bach, naill ai bydd yn rhaid iddynt gefnogi llai o'r bobl agored i niwed hyn, neu bydd yn rhaid iddynt weithio oriau hwy i fodloni'r gofyniad. Grŵp arall o bobl, rwy'n credu, a fydd yn cael eu heffeithio wrth gwrs yw gyrwyr danfon nwyddau, sy'n aml ar yr isafswm cyflog, sy'n danfon pecynnau ar draws trefi a phentrefi, ac sy'n gorfod bodloni terfynau amser llym er mwyn gwneud bywoliaeth. Byddant yn cael eu heffeithio'n sylweddol gan y newid hwn. Mae diffoddwyr tân wrth gefn yn grŵp arall o bobl yr effeithir arnynt sylweddol. Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ddiffoddwyr tân wrth gefn deithio i orsaf dân o fewn ychydig funudau. Bydd faint o le fydd ganddynt ar gyfer recriwtio diffoddwyr tân wrth gefn yn amlwg yn llai. [Torri ar draws.] Ai ymyriad oedd hwnnw, Lywydd?
Ie. A ydych chi'n derbyn ymyriad? Iawn.
Mae dewis y diffoddwyr tân fel enghraifft yn tanseilio'ch dadl, oherwydd os oes rhywun yn gorfod diffodd tân, mae'n alwad 999; yn amlwg, maent yn mynd i fod yn teithio’n llawer cyflymach na 30 mya. Ac o ran yr ymweliadau wedi'u hamseru rhwng gyrwyr danfon nwyddau, y cwmni sydd angen newid, gan na allwn gael pobl yn dweud, 'Wel, mae'n rhaid imi ddanfon y parsel hwn yn gyflymach neu byddaf yn colli fy swydd', pan allent daro plentyn. Rhoi’r drol o flaen y ceffyl yw hyn.
Sôn am godi bwganod; credaf fod cyhuddo gyrwyr danfon nwyddau o daro plant â’u cerbydau yn enghraifft berffaith o godi bwganod. Ac rydym yn sôn am ddiffoddwyr tân wrth gefn—roeddwn yn ofalus iawn i sôn am ddiffoddwyr tân wrth gefn; maent yn grŵp o bobl sy'n gorfod teithio i orsaf dân, nid pan fyddant yn mynychu’r alwad 999 ei hun. Dim ond pobl o bellter penodol y caniateir iddynt ddewis, a bydd y pellter hwnnw'n cael ei leihau. Bydd yn anoddach i ddiffoddwyr tân wrth gefn fodloni anghenion y gwasanaeth tân.
Felly, os oes gennych bobl yn gweithio'n galed bob dydd, bydd y polisi—sy'n mynd i gael ei roi ar waith, gadewch inni wynebu’r peth—yn gwneud eu bywydau'n anoddach, ac yn y pen draw, yn arafu Cymru. Yn blwmp ac yn blaen, mae’r terfyn 20 mya cyffredinol hwn yn wrth-dwf, yn wrth-swyddi, ac yn gwneud bywydau pobl Cymru hyd yn oed yn anoddach. Dylid cael gwared arno. Diolch yn fawr iawn.
Nid oes rhaid i ddamweiniau ddigwydd. Rwy’n cefnogi mabwysiadu’r terfyn 20 mya, wrth gwrs, ond hoffwn ddiolch i’r deisebwyr. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cael y broses hon, ac mae'n bwysig fod hyn yn dryloyw a'n bod yn mynd i'r afael â rhai o'r materion y maent wedi'u codi, os gallwn. Felly, hoffwn edrych ar ddau neu dri o’r materion sydd wedi’u codi gan y deisebwyr.
Yn gyntaf, mae rhywfaint o bryder ynghylch yr ymchwil a'r gwerthusiad o barthau a therfynau 20 mya a'r hyn y maent yn ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Wel, fe wneuthum chwiliad cyflym iawn fy hun. Cynhaliwyd y gwerthusiad eang cyntaf o barthau 20 mya ym 1996, a chanfu fod nifer yr anafiadau a damweiniau 60 y cant yn is i oedolion, ac i blant, 67 y cant yn is. Felly, dyna 1996. Ac yna, yn 2007, canfu adolygiad o barthau 20 mya a roddwyd ar waith yn Llundain eu bod wedi lleihau anafiadau 42 y cant, a damweiniau angheuol neu ddifrifol 53 y cant. Felly, mae’r ymchwil wedi’i wneud; mae'n ddiamwys. Mae'n achub bywydau, ac mewn gwirionedd—i ateb pwynt Natasha—mae'n helpu ein gwasanaethau iechyd, gan oes rhaid i'n gwasanaethau iechyd ymateb i'r sefyllfaoedd trasig hyn wedyn.
Roeddwn am fynd i’r afael ag ail fater, sef pam ein bod yn edrych ar hyn heb refferendwm. Wel, y rheswm am hynny yw am fod yn rhaid inni ganolbwyntio ar ddiogelwch. Gadewch inni edrych ar y newid yn y deddfau gwregysau diogelwch. Ni chyflwynwyd hynny drwy refferendwm. Cyflwynwyd hynny ym 1983—a allwch gredu hynny—ym 1989, a 1991; yn raddol, cynyddodd y defnydd o wregysau diogelwch mewn ceir, ar gyfer gyrwyr, teithwyr yn y sedd flaen, ac yna teithwyr yn y sedd ôl, ac mae hynny'n achub bywydau. Gwyddom fod yr Arsyllfa Diogelwch ar y Ffyrdd wedi dweud bod gwregysau diogelwch yn 50 y cant effeithiol am atal anafiadau angheuol i yrwyr. Felly, mae hynny'n sicr—[Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad, wrth gwrs.
Diolch am dderbyn ymyriad, Jane Dodds. Ac wrth gwrs, mae pob un ohonom am weld bywydau'n cael eu hachub. Os mai dyna unig nod yr hyn rydych am ei gyflawni, onid ydych yn meddwl y dylai ceir yrru ar gyflymder o 1 mya felly? O wneud hynny byddai pob bywyd yn cael ei achub.
Rwy'n mynd i barhau ac anwybyddu hynny, gan y teimlaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn edrych ar y dystiolaeth a gynhyrchir gan bobl sy'n arbenigo ar hyn. A dyna rwyf wedi bod yn ei ddarllen, ac mae'n dangos bod bywydau'n cael eu hachub. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod bod cyflymderau arafach yn achub bywydau. Mae gan ddefnyddwyr ffyrdd agored i niwed 97 y cant o obaith o oroesi gwrthdrawiad ar gyflymder o 20 mya. Ar 30 mya, mae hynny'n gostwng i 5 y cant. Mae'r rheini'n fywydau go iawn. Mae mor bwysig ein bod yn edrych ar hyn. Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd gostwng y terfyn cyflymder i 20 mya yn achub oddeutu chwech i 10 o fywydau a rhwng 1,200 a 2,000 o anafusion y flwyddyn, ar gost o rhwng £58 miliwn a £94 miliwn i’r gwasanaeth iechyd. Nawr, mae hynny'n mynd i olygu mwy o nyrsys, mwy o feddygon.
Hoffwn dalu teyrnged i’r Dirprwy Weinidog. Oddeutu chwe mis yn ôl, gwrandewais ar raglen alwadau ffôn 90 munud ar Radio Wales. Nid wyf yn gwybod a ydych yn cofio, ond roeddech ar y rhaglen, roeddwn i'n mynd i rywle, ac roedd 90 munud cyfan ar eich portffolio. Roedd oddeutu 70 y cant o’r galwadau hynny, os cofiaf, yn bobl a oedd eisiau cwyno am y cynnig 20 mya, ac mae’n rhaid imi ddweud, fe wnaethoch ateb pob un yn glir iawn. Roedd gennych y dystiolaeth wrth law, ac roedd bron i bob un ohonynt yn deall y sefyllfa'n well erbyn diwedd yr alwad. Efallai nad oeddent yn cytuno, ond roeddent yn deall y rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno hyn.
Felly, efallai fod angen i rywbeth ddigwydd mewn perthynas â chyfathrebu; fod angen inni fod yn gliriach, efallai, gyda’r cyhoedd ynghylch pam fod hyn yn cael ei gyflwyno a sicrhau bod pobl yn gwybod am yr eithriadau, a sicrhau bod pobl yn gwybod bod hyn yn ymwneud â chael Cymru fwy diogel, iachach a brafiach i fyw ynddi, sy'n golygu ein bod yn achub bywydau ac yn lleihau anafiadau. Diolch yn fawr iawn.
Pan oeddwn yn aelod o gabinet Cyngor Sir y Fflint hyd at fis Mai 2021, bu ardaloedd yn lobïo am barthau 20 mya ar ôl eu gweld yn cael eu cyflwyno dros y ffin yng Nghaer, gan gynnwys yn Saltney yn dilyn damwain ofnadwy, a Mynydd Isa, lle ceir ystadau preswyl mawr. Awgrymwyd y dylai Bwcle fod yn ardal beilot, a gofynnais am ymestyn yr ardal i gynnwys Mynydd Isa, ac awgrymais Saltney hefyd fel ardal beilot yn dilyn y lobïo. Dywedwyd wrthyf fod Saltney wedi'i wrthod, ond cytunodd Llywodraeth Cymru ar Fwcle, gan gynnwys ardal gyfagos Mynydd Isa. Pan gytunodd Bwcle i fod yn ardal beilot, y gred oedd y gellid eithrio rhai ffyrdd prifwythiennol. Byddai'r terfyn yn cael ei gyflwyno y tu allan i ysgolion, ardaloedd preswyl poblog fel ystadau tai, ond nid ar hyd y ffyrdd prifwythiennol. Fodd bynnag, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn llym ynghylch y meini prawf ar gyfer eithriadau, a golygai hynny fod yn rhaid cynnwys yr holl ffyrdd prifwythiennol, a dyna sut y’i dehonglir. Cafwyd gostyngiad cyffredinol, fwy neu lai, i 20 mya.
Dywedwyd wrth swyddogion yr awdurdodau lleol fod hyn yn digwydd er cysondeb, ac roeddent yn deall hynny, gan fod swyddogion awdurdodau lleol yn hoffi i bopeth fod yn ddu a gwyn, fel eu bod yn deall sut y gellir cymhwyso'r meini prawf. Mae newid wedi bod bellach yn dilyn y cynlluniau peilot, felly ni fydd terfyn cyffredinol o 20 mya ar gyfer yr holl ffyrdd sy'n 30 mya ar hyn o bryd, ac mae mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol godi ffyrdd yn ôl i 30 mya o dan un Gorchymyn cyfyngu traffig os gallant brofi nad ydynt yn cael eu defnyddio gan gerddwyr a beicwyr. Fodd bynnag, dywedir wrthyf fod y meini prawf yn dal yn rhy gaeth i ganiatáu hyblygrwydd, ac mae gan lawer o'r ffyrdd prifwythiennol balmentydd a goleuadau stryd, felly efallai fod angen newid y meini prawf. Credaf mai'r broblem hefyd yw bod awdurdodau lleol yn poeni am yr atebolrwydd pe byddent yn codi ffordd yn ôl i 30 mya yn erbyn y meini prawf, a bod damwain yn digwydd. Felly, mae angen mynd i'r afael â hynny.
Credaf y dylai Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol fod wedi gweithio'n well mewn partneriaeth yn well, fel y cafwyd yn ddiweddar yn ystod yr argyfwng trafnidiaeth bysiau cyhoeddus presennol, ac rwy'n canmol hynny. Mae ymgynghoriadau statudol â’r cyhoedd yn draul ar adnoddau ac amser, a phan gynhaliodd sir y Fflint adolygiad o derfynau cyflymder ar draws y sir gyfan pan oeddwn yn aelod cabinet, flynyddoedd yn ôl, cymerodd oddeutu dwy flynedd i ymgynghori, hysbysebu a mynd i’r afael â’r holl wrthwynebiadau, gan fod rhai pobl yn dymuno cael terfynau 40 mya, lle nad oeddent am eu cael, ac ati. Ac yna, bu'n rhaid iddynt wneud rhai mân addasiadau yn ddiweddarach, felly mae'n cymryd llawer o amser i'w wneud.
Dywedir wrthyf fod gosod yr arwyddion ar gyfer Bwcle yn unig, sef yr ardal beilot, wedi cymryd chwe wythnos a llawer o oramser. Efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o waith ffordd a marciau ffordd hefyd. Mae adnoddau mor brin mewn cynghorau fel bod prinder swyddogion technegol priffyrdd, arbenigwyr sy'n gallu llunio gorchmynion rheoli traffig, cynnal ymgynghoriadau cymunedol ac ymateb i wrthwynebiadau. Mae diffyg gweithwyr, gan fod llawer yn gweithredu ar ychydig iawn o staff bellach, yn dilyn degawd o gyni a phwysau chwyddiant, felly mae'n rhaid dibynnu ar staff asiantaeth. Credaf fod rhywfaint o arian ar gael i helpu gyda hynny, ond nid wyf yn sicr ar hyn o bryd. Ond gallai fod yn anodd iawn gwneud yr holl newidiadau ar draws y siroedd cyn y terfyn amser ym mis Medi. Mae’r un timau technegol sy’n cyflawni hyn yn ceisio gwneud cais am gyllid teithio llesol, sy’n llafurus, yn ogystal â chyflawni’r cynlluniau, felly mae'r adnoddau o dan bwysau. Rwyf wedi sylwi mai'r unig eithriadau sydd eisoes ar y map yn sir y Fflint yw'r rhai ym Mwcle, ac mae gan sir y Fflint lawer mwy o ffyrdd i edrych arnynt cyn mis Medi.
Wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio bod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod yr angen i wrando ar lywodraeth leol ac i weithio mewn partneriaeth wrth symud ymlaen ar y mater hwn ac eraill, fel y gwnaeth gyda’r mater trafnidiaeth bysiau cyhoeddus presennol. Diolch.
Bydd sawl un ohonom—pob un ohonom, rwy’n siŵr—wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan etholwyr, a phobl nad ydynt yn etholwyr i ni yng Nghymru, ynghylch y posibilrwydd o derfyn cyflymder diofyn o 20 mya, ac yn yr e-byst hynny, bydd miloedd o resymau pam na ddylai hyn ddigwydd, ond rwyf am eu crynhoi, yn yr amser byr sydd gennyf, Lywydd, i lawr i 20—20 mya, 20 rheswm.
Yn gyntaf oll, nid yw'r cyhoedd eisiau'r terfyn hwn. Fel y clywsom gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, llofnododd mwy na 20,000 o bobl y ddeiseb cyn y cytunwyd i'w chau, a gwyddom fod eraill—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Jenny, gadewch imi wneud cynnydd. A'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw y gwyddom fod mwy na 58,000 o bobl wedi llofnodi deiseb ar change.org, a gwyddom gan Natasha Asghar fod deisebau eraill hefyd. Yn drydydd, dangosodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun ar hyn fod 53 y cant o bobl yn gwrthwynebu’r newidiadau hyn. Ac yn bedwerydd: pam? Pam? Oherwydd gwyddom mai un o'r rhesymau yw bod pobl yn poeni am amseroedd teithio cynyddol, rhwystredigaeth i ddefnyddwyr ffyrdd, gallai fod yn beryglus, ac mae'n niweidiol i'n heconomi.
Ond down yn ôl at y gost. Yn bumed: bydd £32 miliwn yn cael ei wario ar gynllun pan fo'r Llywodraeth yn methu ariannu trafnidiaeth gyhoeddus a meysydd eraill. Chwech: rydym wedi gweld y gallai’r gostyngiad mewn cyflymder cyfartalog arwain at enillion ariannol cadarnhaol o oddeutu £25 miliwn dros 30 mlynedd, ond mae hynny £7 miliwn yn llai na’r £32 miliwn sy’n cael ei wario ar y cynllun yn y lle cyntaf. Jenny, roeddech am wneud ymyriad.
Hoffwn ddweud, ar y syniad nad yw'r cyhoedd yn cefnogi hyn, yn sicr, ni allaf ond cynrychioli fy etholwyr fy hun, ond gallaf ddweud bod cefnogaeth aruthrol mewn lle trefol fel Caerdydd i gynyddu diogelwch ar y ffyrdd drwy gael terfyn diofyn o 20 mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl. A dweud y gwir, nid oes llawer o bobl yn teithio'n gyflymach nag 20 mya, oherwydd y tagfeydd ar ein ffyrdd. Felly, mae’n rhaid ichi gydnabod, mewn ardaloedd preswyl, fod llawer iawn o gefnogaeth i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.
Rwy’n deall eich pwynt, Jenny, a diolch am eich ymyriad, ond rwy'n eich atgoffa, a chithau'n cynrychioli Canol Caerdydd, efallai nad yw eich etholwyr yn cynrychioli’r wlad yn ei chyfanrwydd. Dyma Lywodraeth Cymru ag un dull addas i bawb, gyda chynllun ar gyfer terfyn diofyn o 20 mya ar gyfer y wlad gyfan, a dyna pam ei fod yn amhriodol.
Rydym wedi clywed gan nifer o Aelodau am Fwcle, a chefais ohebiaeth o Fwcle, er nad wyf yn cynrychioli’r ardal honno wrth gwrs. Gwn fod 46,000 o lofnodion wedi’u casglu yn y ddeiseb ar wahân ym Mwcle. Ac wyth: mae'r Dirprwy Weinidog wedi cydnabod ei fod wedi gwneud camgymeriad ym Mwcle. A naw: mae stori ym Mwcle sy'n dweud y gallai terfyn o 20 mya arwain at fwy o ddigwyddiadau cythraul gyrru.
Pwynt 10: man arall lle treialwyd hyn oedd Belfast, ac awgrymodd adroddiad Prifysgol y Frenhines, Belfast nad oedd unrhyw wahaniaeth ystadegol arwyddocaol flwyddyn ar ôl rhoi'r cynlluniau 20 mya hynny ar waith. Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth—pwynt 11—yn 2011, fod cynnydd mewn damweiniau traffig ar ffyrdd 20 mya dros amser. Pwynt 12: dywedodd crynodeb o dystiolaeth iechyd y cyhoedd Llywodraeth y DU
'gall terfynau cyffredinol o 20 mya gyfrannu at yrru'n beryglus ar rai ffyrdd'.
Rhif 13, fe wyddom i adroddiad gan Gyngor Sir Swydd Gaergrawnt nodi bod terfynau cyflymder is
'yn gallu arwain at gynnydd mewn goddiweddyd byrbwyll',
sy'n peryglu defnyddwyr ffyrdd fel beicwyr. Rhif 14: dywedodd 84 y cant o’r bobl yng nghrynodeb Llywodraeth Cymru o ymatebion i’r mater eu bod yn teimlo’n ddiogel mewn ardaloedd preswyl yn teithio o dan y status quo, felly nid oes angen y newid. Rhif 15: yng nghyngor Islington, fel y clywsom eisoes, mewn mannau lle mae hyn wedi’i dreialu, mae’r cyflymder cyfartalog yn gostwng 1 mya yn unig. Rhif 16: mae gosod arwyddion terfynau cyflymder heb fesurau gostegu traffig yn debygol o gael effaith fach iawn, oni bai eu bod yn cael eu gorfodi; daw hynny, unwaith eto, o’r crynodeb o dystiolaeth iechyd y cyhoedd gan Lywodraeth y DU. Rhif 17: ceir tystiolaeth dda fod parthau 20 mya gyda mesurau gostegu traffig yn lleihau cyflymder i gyfartaledd o dros 20 mya.
Ac os ydym yn poeni am yr amgylchedd, gan mai dyna'r rheswm a roddir dros hyn, rwyf am eich cyfeirio at bwynt 18: nid oes unrhyw sicrwydd y bydd lleihau cyflymderau'n lleihau llygredd aer; mae'r Adran Drafnidiaeth wedi dweud hynny. Ym mhwynt 19, mae Llywodraeth y DU hefyd yn dweud bod lefel allyriadau gronynnol yn debygol o leihau, ond ei bod yn annhebygol y bydd lefelau ocsid nitrus neu garbon deuocsid yn cael eu heffeithio y naill ffordd na’r llall drwy leihau cyflymderau. Ac yn olaf, pwynt 20: pe bai Llywodraeth Cymru o ddifrif am fanteision amgylcheddol trafnidiaeth, byddent wedi buddsoddi mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan, ond maent wedi methu’n llwyr â gwneud hynny. Felly, gwyddom fod polisi un dull addas i bawb Llafur yn wrth-geir, yn wrth-gymudwyr ac yn wrth-economi.
Fel y mae eraill wedi’i wneud, rwy'n croesawu ein system ddeisebau, Lywydd, a’r ddadl hon heddiw, sy’n bwysig, ac y dylid ei chael, oherwydd yn amlwg, mae hwn yn newid sylweddol iawn. Mae’n newid rwy'n ei groesawu’n fawr ac rwyf wedi’i gefnogi ers tro. Credaf fod yr achos dros y newid wedi’i ddadlau'n dda iawn dros gyfnod o amser, ac nid yw hyn yn rhywbeth sydd wedi'i gynllunio'n frysiog; mae'n rhywbeth sydd wedi'i ddatblygu dros gyfnod eithaf hir o amser, ac yn gwbl briodol felly.
Mae sawl un wedi sôn am fanteision diogelwch ar y ffyrdd, a chredaf eu bod y tu hwnt i amheuaeth, er gwaethaf yr hyn y mae eraill wedi’i ddweud. Mae'r profiad yn Sbaen, er enghraifft, yn dangos gostyngiad o 20 y cant mewn marwolaethau ar ffyrdd trefol ers iddynt gael gostyngiad tebyg, er i gyflymder is na'r hyn a gynigiwn yma yng Nghymru. Yn Llundain, bu gostyngiad o 25 y cant mewn marwolaethau ac anafiadau difrifol, fel y mae Transport for London yn manylu. Ceir llawer o enghreifftiau eraill y mae Aelodau eraill wedi eu crybwyll.
Fel y mae Aelodau eraill wedi sôn, rwyf wedi cael profiad o etholwyr sydd wedi colli plant ar ffyrdd trefol yn cefnogi’r polisi hwn gydag angerdd a theimlad, fel y byddech yn ei ddisgwyl o ystyried y trasiedïau teuluol hynny. Nid ydym am weld rhagor o’r marwolaethau hynny—marwolaethau y gellir eu hatal—ar ein ffyrdd trefol mewnol. Felly, mae’r agwedd diogelwch ar y ffyrdd yn hynod bwysig o ran llywio’r polisi hwn, ond mae llawer iawn o fanteision eraill, Lywydd. Bydd yn caniatáu i’n cymunedau adennill ein strydoedd ar gyfer teithio llesol, er enghraifft, i ganiatáu i’r henoed, plant ysgol gynradd a phobl ag anableddau fynd allan yn amlach a gwneud y cymunedau hynny’n gymunedau llawer mwy byw, gyda’r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.
Lywydd, credaf fod Natasha Asghar yn anonest yn defnyddio'r term ‘gwaharddiad cyffredinol’, a ninnau i gyd yn gwybod nad dyna sy’n digwydd ac nad dyna yw’r hyn a gynigir. [Torri ar draws.] Na, nid dyna ydyw. Polisi diofyn sy'n cael ei gynnig, Lywydd, lle, yn y gorffennol, byddai terfyn cyflymder diofyn o 30 mya, a gellid defnyddio gorchmynion traffig i'w newid i 20 mya, a bydd hynny bellach yn cael ei wrthdroi. Mae'n ddrwg gennyf os na all Natasha Asghar dderbyn hynny, gan fod hynny'n ffaith—mae'n ffaith.
Yn ardal Cyngor Sir Fynwy, yn yr ardal y mae Natasha Asghar yn ei chynrychioli, rydym wedi gweld enghraifft o’r ffaith nad yw’n waharddiad cyffredinol, gan y bu cynllun peilot yno, ac addaswyd y cynllun peilot hwnnw. Roedd pryder lleol ar ran o’r B4245 yng Nghil-y-coed, ac mewn ymateb i hynny, newidiwyd y cynllun peilot fel bod rhan o’r ffordd honno’n cael ei thynnu allan o’r cynllun peilot. Nawr, mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig newid pellach, y byddant yn ei wneud ar y rhan honno o'r ffordd. Felly, mae'n ddrwg gennyf os nad yw Natasha Asghar yn deall yr hyn sy'n digwydd yn ei hardal ei hun, ond mae'n bod yn anonest, a dweud y lleiaf, Lywydd.
Fy mhrofiad i yw ei bod yn gwbl bosibl i awdurdod lleol addasu’r polisi hwn ac ymateb i bryderon y cyhoedd. Rwy’n derbyn yr hyn y mae pobl wedi’i ddweud—efallai nad yw’r cyfathrebu, weithiau, mewn rhai ardaloedd o Gymru, rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymunedau lleol wedi bod cystal ag y gallai fod. Pryd mae newid polisi sylweddol fyth yn cael ei weithredu heb yr angen i addasu a dysgu gwersi? Dyna pam y cawsom y cynlluniau peilot, a heb os, er ein bod wedi cael y cynlluniau peilot hynny, bydd angen newidiadau pellach wrth inni roi’r polisi hwn ar waith. Rydym wedi clywed y Dirprwy Weinidog yn derbyn hynny ar sawl achlysur wrth nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n bwysig gwneud pethau'n iawn, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymunedau cystal ag y gall fod, ond dyma'r polisi cywir am y rhesymau cywir—diogelwch ar y ffyrdd yw'r pwysicaf ohonynt—ac mae'n mynd i fod yn newid hynod fuddiol i'n cymunedau yma yng Nghymru.
Caewyd y ddeiseb hon yn gynnar, fel y clywsom. Byddai wedi cael llawer mwy na 21,920 o lofnodion fel arall. Ceir syniad gwell yn y ddeiseb 'Stop the Welsh Govt imposing blanket 20mph speed limits', a lansiwyd ym Mwcle, sir y Fflint, un o'r wyth ardal beilot a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i dreialu terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, a oedd wedi cyrraedd 58,546 o lofnodion erbyn amser cinio heddiw, gan gynnwys 84 a ychwanegwyd y bore yma. Mae hyn yn adlewyrchu profiadau bobl sy'n byw yn yr ardal beilot yng ngogledd Cymru, sy'n teimlo eu bod wedi cael eu diystyru gan y Dirprwy Weinidog a'i dewisodd.
Deallwn fod y gefnogaeth o 60 y cant y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei chrybwyll yn dyddio o adeg cyn i’r cynlluniau peilot ddechrau, ac nid yw ei ffasâd o bolisi eithriadau yn rhoi fawr ddim disgresiwn i gynghorau. Mae cynghorwyr Llafur wedi dweud hynny wrthyf. Anwybyddodd yr holl waith ymchwil a oedd yn herio ei honiad y byddai'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn lleihau'r nifer o anafusion. Wrth fynd ar drywydd polisïau diogelwch ar y ffyrdd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel y clywsom, ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU astudiaeth ymchwil awdurdodol ac annibynnol o derfynau 20 mya na chanfu unrhyw ganlyniad diogelwch arwyddocaol mwn perthynas â gwrthdrawiadau ac anafiadau mewn ardaloedd preswyl. Yn dilyn hyn, fel y clywsom, canfu astudiaeth yn 2022 gan Brifysgol y Frenhines, Belfast, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Caergrawnt, mai 'ychydig o effaith' y mae gostwng terfynau cyflymder o 30 mya i 20 mya wedi'i chael ar ddiogelwch ffyrdd.
Mae’r Gweinidog wedi dyfynnu ffigurau'r heddlu ar gyfer damweiniau ar y ffyrdd yn 2021 a ddangosai fod 53 y cant o’r holl ddamweiniau ar y ffyrdd wedi digwydd ar ffyrdd 30 mya. Mae’r un ffigurau’n dangos bod 3 y cant o’r holl ddamweiniau ar y ffyrdd yn digwydd ar ffyrdd 20 mya. Mae data Trafnidiaeth Cymru yn amcangyfrif y bydd y newid yn cynyddu nifer y terfynau cyflymder 20 mya o 2.5 y cant i 36.9 y cant o ffyrdd Cymru, ac yn lleihau nifer y terfynau cyflymder 30 mya o 37.4 y cant i 3 y cant. Byddai hyn yn golygu y byddai’r gyfradd ddamweiniau ar ffyrdd 20 mya yn agosáu at 50 y cant, ac yn gostwng i 4.2 y cant ar ffyrdd 30 mya.
Mae'r llu o e-byst rwyf wedi'u derbyn gan drigolion tref beilot Bwcle hyd at y bore yma wedi cynnwys, 'Mae llawer o'r ffyrdd hyn yn ffyrdd mynediad prysur ar fryniau serth. Mae'r lorïau'n ei chael hi'n anodd mynd i fyny'r bryniau mewn gêr mor isel, ac mae cadw at gyflymder mor isel wrth fynd i lawr rhiwiau'n straen ar y breciau.' Ysgrifennodd beiciwr—un o lawer, a dweud y gwir—'Yn hytrach na goddiweddyd a mynd allan o'r ffordd, bydd y ceir, y faniau a'r lorïau hyn yn gyrru'n agos y tu ôl i mi, o fy mlaen neu ochr yn ochr â mi. Nid yw hyn wedi cael ei ystyried yn ddigon manwl.' Dywedodd un arall o'r trigolion, 'Mae'n gwneud y gwrthwyneb i'r hyn y bwriedir iddo'i wneud. Mae mwy o lygredd gyda cheir yn pwffian mynd mewn gerau is, mae pobl yn talu llai o sylw i'r ffordd, a mwy o sylw i'r cloc cyflymder, gan arwain at ddigwyddiadau ar ffyrdd lle nad oeddent yn arfer digwydd.' Ac fel y dywedodd un arall y penwythnos hwn, 'Camgymeriad yw'r cynllun diofyn, fel y'i gelwir, sy'n arwain at yrru gwael, damweiniau fu bron â digwydd a mwy o lygredd.'
Rwy'n siarad fel tad a thaid i drigolion Bwcle sy’n derbyn budd hyn ar rai ystadau preswyl, ond sy'n llwyr wrthwynebu’r dull lled-gyffredinol, yn eu barn nhw, a fabwysiadwyd hyd yma. Mae’r bobl hynny a’u cymdogion eisiau cael eu clywed. Diolch yn fawr.
Y Dirprwy Weinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl. Lee Waters.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl, ac i’r deisebwyr. Cytunaf â’r sylwadau ei bod yn iach iawn, pan fo mater yn codi y ceir teimladau cryf yn ei gylch, fod yna fecanwaith yn bodoli ar gyfer dod â'r mater hwnnw gerbron y Senedd inni gael dadl arno.
Gadewch imi ddechrau drwy sôn yn uniongyrchol am y ddeiseb. Dywedai nad yw hyn wedi dilyn proses ddemocrataidd. Mae’n amlwg nad yw hynny’n wir. Cafwyd dwy bleidlais yn Senedd Cymru ar y mater hwn, a phasiwyd y ddwy gyda mwyafrif o ddwy ran o dair ar sail drawsbleidiol, ac roedd hyn hefyd yn rhan o faniffesto’r blaid a enillodd etholiadau’r Senedd ac a ffurfiodd y Llywodraeth. Drwy brofion ein democratiaeth a’n system seneddol, dyna’r ffordd rydym yn ceisio cydsyniad i bolisïau, ac mae’r polisi hwn wedi cael y cydsyniad hwnnw.
Carwn atgoffa’r Ceidwadwyr, pan bleidleisiwyd ar hyn gyntaf yn y Senedd, fod y rhan fwyaf o’u grŵp ar y pryd wedi pleidleisio o’i blaid. Yn wir, fe wnaeth Janet Finch-Saunders araith gref iawn, lle dywedodd:
'mae cefnogaeth ar y meinciau hyn i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya... Mae'n synnwyr cyffredin ac mae'n gam diogel.'
Dywed Janet o'i sedd, 'Mewn rhai ardaloedd'. Nid yw hynny'n wir. Pe baech yn darllen eich araith eich hun, Janet, fel y gwneuthum neithiwr, fe ddywedoch chi'n glir eich bod yn cefnogi adroddiad ein panel arbenigol ar ddull diofyn. Felly, dyna oedd eich safbwynt bryd hynny, a dyna oedd—[Torri ar draws.] Wel, Janet, rwy’n eich annog i ddarllen yr hyn a ddywedoch chi dair blynedd yn ôl. [Torri ar draws.]
Os hoffech egluro’r hyn a ddywedoch chi, mae gennych berffaith hawl i ofyn i'r Dirprwy Weinidog ildio.
Wrth gwrs.
Diolch. Os darllenwch yn glir, fe ddangosais enghreifftiau o ble yn fy etholaeth roedd hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn, y terfyn 20 mya, ond nid fel dull cyffredinol o gwbl.
Iawn, wel, hoffwn eich annog—
Y sefyllfa ddiofyn honno sydd angen ei hegluro.
Diolch. Gall y Gweinidog ymateb.
Hoffwn eich annog i ddarllen yr hyn a ddywedoch chi dair blynedd yn ôl, Janet, gan ichi gymeradwyo, yn benodol, yr argymhelliad diofyn yn adroddiad Phil Jones.
A dweud y gwir, rwyf wedi clywed honiadau rhai o'r meinciau fod hwn yn bolisi gwrth-geir, gwrth-dwf, pan fo Cyngor Cernyw, a reolir gan y Ceidwadwyr, yn cyflwyno terfyn safonol o 20 mya ar gyfer ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol adeiledig, mewn ardaloedd preswyl. Dyna gyngor Ceidwadol yn Lloegr yn mynd ar drywydd y polisi hwn. Felly, unwaith eto, nid yw’r honiad fod hon yn agenda sy’n wahanol i’w hagenda nhw yn wir.
Felly, ni allaf ond dod i'r casgliad fod y Ceidwadwyr yn bod yn hynod fanteisgar unwaith eto, ac yn hynod anonest. Mae pob un ohonom wedi gweld y llun o Andrew R.T. Davies gyda Rod King, prif ymgyrchydd ymgyrch 20’s Plenty. [Torri ar draws.] Na, nid wyf am ildio. [Torri ar draws.] Felly, rydym yn eu gweld yn codi eu pennau yn eu hetholaethau—
Gadewch i’r Dirprwy Weinidog barhau â’i gyfraniad.
—pan fydd cefnogi ymgyrchoedd lleol o fudd iddynt, rydym yn eu gweld yn y Siambr hon yn cefnogi egwyddor y mesur, rydym yn gweld cynghorau Ceidwadol yn cefnogi hyn, a nawr, maent yn nodi safbwynt eu plaid heddiw, gyda phawb yn dweud bod hwn yn waharddiad cyffredinol. Nid yw'n waharddiad cyffredinol. Mae hynny'n amlwg yn anwiredd. Mae'n ddatganiad ffug, mae'n ddatganiad camarweiniol, ac yn fwriadol felly.
Mae nifer o bryderon wedi’u mynegi ynglŷn â'r broses eithriadau, ac rwy’n eu deall yn llwyr. Mynegodd Jack Sargeant, Hefin David a Llyr Gruffydd eu pryderon am y ffordd roedd y broses eithriadau’n cael ei rhoi ar waith yn ymarferol, ac rwy’n deall y pryderon hynny’n llwyr. Aeth Carolyn Thomas â ni drwy hanes cynllun peilot Bwcle. Diben cynllun peilot Bwcle, fel gyda'r cynlluniau peilot eraill, oedd treialu gwahanol elfennau o'r dull hwn o weithredu. Felly, roedd rhai cynlluniau peilot yn treialu monitro, roedd rhai'n treialu ymgynghori cymunedol, roedd rhai'n treialu gorfodaeth. Fe wnaethom ddewis Bwcle i dreialu'r broses eithriadau.
Mae Bwcle—Ffordd Lerpwl i’r rhai ohonoch sy’n ei hadnabod, ac rwyf fi, fel llawer ohonoch, wedi gyrru ar hyd-ddi—yn enghraifft anodd iawn i edrych arni, gan ei bod yn amlwg y dylai rhai darnau fod yn 20 mya, ac mae’n amlwg y dylai rhai darnau fod yn 30 mya. At ddibenion profi’r dull mewn cynllun peilot, fel y dywedodd Carolyn, fe wnaethom fabwysiadu dull ardal gyfan a pheidio â chaniatáu eithriadau, a dangosodd hynny’n glir mai eithriadau oedd y peth cywir i'w wneud. Fe wnaethom ddysgu gwersi enfawr o hynny; dyna holl bwynt cynllun peilot. Mewn gwirionedd, diwygiwyd y meini prawf ar gyfer eithriadau yn sgil y cynllun peilot hwnnw. Felly, gadewch imi ddarllen o'r meini prawf ar gyfer eithriadau:
'mae gan awdurdodau priffyrdd yr hyblygrwydd o hyd i bennu terfynau cyflymder lleol sy’n gywir ar gyfer ffyrdd unigol, gan adlewyrchu anghenion ac ystyriaethau lleol.
'Pan fo’u penderfyniad yn gwyro o’r canllawiau hyn, dylai awdurdodau priffyrdd sicrhau bod ganddynt achos clir a chadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’w gyfiawnhau.'
Felly, gall awdurdodau priffyrdd wneud eithriadau os oes ganddynt achos clir a rhesymegol dros wneud hynny. Mae'r canllawiau'n nodi set o feini prawf lle credwn y dylai terfyn 20 mya fod ar waith. Gan fod hwn yn gynllun cenedlaethol, mae angen cysondeb arnom. Ac mae hynny'n seiliedig ar y cyngor arbenigol—[Torri ar draws.] A gaf fi orffen fy mhwynt, os gwelwch yn dda, Joyce? Mae hynny’n seiliedig ar y cyngor arbenigol a gawsom, ac fel y gŵyr llawer ohonoch, fe wnaethom sefydlu tasglu arbenigol bedair blynedd yn ôl—nid ydym wedi rhuthro hyn—dan arweiniad y cadeirydd uchel ei barch Phil Jones a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Ffederasiwn Busnesau Bach, y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, yr heddlu a CLlLC. Ac rydym wedi gweithio ar eu 21 o argymhellion. Mae hwn yn ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn wahanol i’r cyfraniadau gan feinciau’r Ceidwadwyr y prynhawn yma.
Ac rydym wedi penderfynu rhoi'r disgresiwn hwnnw i awdurdodau lleol. Fe wnaethant benderfynu ar ganllawiau o agosrwydd o 100m i ysgol, canolfan gymunedol, ysbyty, tai a siopau. Ac ni fyddai’r enghraifft a roddwyd, gan Llyr Gruffydd rwy’n credu, o ddarn o ffordd gyda chaeau ar y naill ochr a’r llall, wel, yn amlwg—nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau y mae'n siarad amdanynt—o dan y canllawiau, ni fyddai hwnnw'n ddarn 20 mya o ffordd. Felly, mae angen defnyddio synnwyr cyffredin, ac rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol ar fwy nag un achlysur i’w hannog i ddefnyddio synnwyr cyffredin.
Nawr, rwy’n deall y pwynt a wnaed gan gyd-Aelodau, a Hefin David yn enwedig, fod awdurdodau lleol yn aml yn amharod i gymryd risg, maent yn hoffi pethau mewn du a gwyn, ac maent yn awyddus i gael sicrwydd canllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae rhai ohonynt wedi bod yn geidwadol iawn ynglŷn â chyflwyno eithriadau. Mae Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, wedi cyflwyno llawer o eithriadau, fel yn wir, y gallant ei wneud. Tynnodd John Griffiths sylw at y ffaith fod eithriad wedi'i roi ar waith yn sir Fynwy, ac fel y dangoswyd gennym, mae eithriadau wedi'u rhoi ar waith ym Mwcle. [Torri ar draws.]
Dywedais y byddwn yn ildio i Joyce Watson yn gyntaf, felly fe wnaf hynny, os nad oes ots gennych.
Rwyf eisiau rhoi enghraifft. Rwyf wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros 20's Plenty, ac mae'n wir. A'r rheswm y dechreuais ymgyrchu, os ydych chi eisiau tystiolaeth, oedd oherwydd fy mod wedi siarad â theulu mewn profedigaeth ar ôl i blentyn gael ei ladd mewn damwain ffordd yn fy ardal ychydig ar ôl i mi gael fy ethol. Os ydych chi eisiau unrhyw dystiolaeth o gwbl, rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i chi ei hwynebu yn y ffordd y bu'n rhaid i mi ei hwynebu ac yn y ffordd y bu'n rhaid i'r teulu hwnnw ei hwynebu. Roedd yn rhaid iddynt symud hefyd oherwydd eu bod yn byw wrth ymyl y ffordd. Roedd yn drychinebus, yn wirioneddol drychinebus. Felly, am hynny rydym yn sôn mewn gwirionedd. Gadewch inni ddod â'r cyfan yn ôl at y rhesymau pam ein bod ni yma heddiw a'r ddadl sy'n digwydd, oherwydd mae'n achub bywydau, ac fe fydd yn achub bywydau.
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n cydnabod yr arweinyddiaeth rydych wedi'i dangos ac y mae John Griffiths wedi'i dangos dros nifer o flynyddoedd ar y mater hwn.
Ond gadewch imi ddyfynnu un ystadegyn i'r Senedd: yn y pellter y mae'n ei gymryd i gar sy'n teithio 20 mya stopio, bydd car sy'n teithio 30 mya yn dal i symud ar 24 mya yn yr un pellter. Ac rydym yn gwybod bod rhywun bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd os cânt eu taro ar 30 mya nag y maent ar 20 mya. Ni ellir dadlau â'r dystiolaeth ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae cymysgedd o adroddiadau wedi'u dewis a'u dethol ar gyfer eu dyfynnu gan wahanol Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma, ac rwyf am ddyfynnu Alexander Pope, drwy ddweud,
'Mae ychydig o ddysg yn beth peryglus.'
Mae'r mater hwn wedi cael ei ystyried yn fanwl gan nifer fawr o grwpiau arbenigol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych arno. Mae astudiaethau tystiolaeth wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r dystiolaeth mewn perthynas â phrofiadau yng Nghaeredin, lle maent wedi cael astudiaethau wedi'u gwerthuso'n briodol dros bedair blynedd, yn dangos gostyngiad o 25 y cant yn nifer yr anafusion. Yn Sbaen, lle ceir terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol, gwelwyd gostyngiad o 20 y cant yn nifer y marwolaethau. Yng nghanol Llundain, rydym bellach yn gweld—ac ar draws Lloegr lle maent yn treialu hyn—gostyngiad cyson yn nifer yr anafusion. Ac fel y nododd Jane Dodds, byddai hynny'n arbed £1 biliwn i'r GIG dros 10 mlynedd. Bydd yn costio £30 miliwn i'w gyflwyno. Bydd yr arian hwnnw'n cael ei ennill yn ôl dair gwaith drosodd yn y flwyddyn gyntaf yn unig. Felly, gadewch inni beidio â chael dagrau crocodeil gan y blaid sy'n amddifadu'r GIG o arian ar gyfer y GIG. Mae'r GIG yn croesawu hyn—[Torri ar draws.]
Mae amser y Gweinidog wedi dirwyn i ben. Nid wyf yn credu bod ganddo amser i ildio, ond os oes gennych unrhyw sylwadau terfynol, Weinidog, os gwelwch yn dda.
Bydd hwn yn bolisi anodd, nid oes dwywaith amdani. Dyma'r newid mwyaf ym maes diogelwch ar y ffyrdd ac iechyd y cyhoedd ers i'r Senedd ddod i fodolaeth. Mae'n newid mawr mewn ymddygiad i bobl sydd wedi'u hyfforddi ac sydd wedi treulio'u bywydau'n gyrru ar gyflymder o 30 mya. Yn union fel y cymerodd amser i ddod i arfer â gwregysau diogelwch ac ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a thalu am fagiau siopa, ac anadlenyddion, fe fydd hyn yn cymryd amser. Ac rwy'n siŵr nad ydym ni na'r cynghorau wedi'i gael 100 y cant yn iawn y tro cyntaf, a dyna'r peth da am y terfyn diofyn—mae modd ei newid. A byddwn yn sicrhau bod cyllid ar gael y flwyddyn ariannol nesaf i gynorthwyo gyda'r newidiadau hynny. Rwy'n disgwyl mai eithriadau fyddant, nid y rheol. Rwy'n credu y byddwn yn edrych yn ôl ar hyn mewn blynyddoedd i ddod, Lywydd, a byddwn yn falch o'r penderfyniad a wnaethom, gan y bydd yr ystadegau yng Nghymru yn gwneud yr hyn y maent wedi'i wneud ym mhobman arall: achub bywydau, lleihau sŵn, gwella lefelau teithio llesol a chryfhau ein cymunedau. Diolch.
Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl nawr.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd heddiw a'r Gweinidog am ei ymateb? Lywydd, fe fyddwch yn falch o glywed na fyddaf yn gallu trafod holl gyfraniadau'r Aelodau heddiw. Fe siaradodd nifer sylweddol o bobl yn y ddadl, a nifer sylweddol o bobl hefyd y gwn amdanynt na allodd gael eu galw yn ystod y ddadl heddiw. Ond rwyf am grybwyll rhai pethau.
Cyfeiriodd nifer o Aelodau at bwysigrwydd y ddadl heddiw a phwysigrwydd y broses ddeisebau ar gyfer gwrando ar bryderon pobl Cymru, ac rwy'n gobeithio ein bod wedi gallu gwneud hynny heddiw a chwyddo rhai o'r lleisiau. Yn ei sylwadau, awgrymodd Mark Isherwood, ac roedd yn iawn i wneud hynny, fod y ddeiseb benodol hon wedi cau yn gynnar ar gyfer casglu llofnodion. Yr hyn na wnaeth ei awgrymu yn ei gyfraniad oedd mai'r rheswm pam y cafodd ei chau'n gynnar oedd er mwyn cael y ddadl hon, ac fe lwyddoch chi i leisio pryderon eich trigolion oherwydd bod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud.
Lywydd, os caf fynd drwy nifer o bryderon gan yr Aelodau, fe soniodd Joel James, fy nghyd-aelod ar y pwyllgor, am daro'r cydbwysedd cywir, a chredaf ei bod yn thema gyffredin. Soniodd hefyd am rai o'r canlyniadau anfwriadol, efallai, y mae trigolion wedi'u mynegi fel pryderon, a gwn fod nifer o bobl eraill, Aelodau o'r Senedd, wedi gwneud y pwynt hwnnw heddiw.
Mike Hedges—consensws cyffredinol, ond yn amlwg mae angen eithriadau o fewn hynny. Hefin a Llyr—. Siaradodd Hefin David yn huawdl iawn am y damweiniau trasig a'i bryderon ef a thrigolion yn gyffredinol ynglŷn â therfynau cyflymder 30 mya. Rwy'n credu ei fod yn glod i Hefin ei fod wedi siarad yn y fath fodd gan barhau i godi'r pryderon am y broses eithriadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei dilyn.
Carolyn Thomas—ei phrofiad yn y cabinet fel dirprwy arweinydd awdurdod lleol ar y pryd, a bod y meini prawf yn dal yn rhy llym o bosibl, ond gweithio mewn partneriaeth oedd y pwynt allweddol yno rwy'n credu. Rwy'n gwybod bod John Griffiths a Jane Dodds wedi bod yn gefnogol i'r model hwn.
Lywydd, rwy'n gobeithio bod lleisiau pobl Cymru wedi cael eu clywed yn eu Senedd heddiw. Rwyf eisiau bod yn glir, serch hynny, y bydd rhywfaint o wrthwynebiad yn parhau i'r polisi hwn, ac rwy'n siŵr y bydd y deisebydd yn amheus o ganlyniad heddiw. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ceisio ateb rhai o'r pwyntiau allweddol yn y ddeiseb, fel y gwnaeth Jane Dodds. Felly, yr her—a siaradodd Llyr am yr her i'r Dirprwy Weinidog—yw gwrando ar leisiau pobl Cymru, i weithio gyda phobl a'u pryderon, yn y dull partneriaeth hwnnw, fel y dywedodd Carolyn Thomas.
Bydd cyfathrebu'n allweddol, rwy'n credu, fel mae Jane Dodds wedi'i ddweud. Gobeithio hefyd ein bod wedi gwthio'r neges honno ymhellach ymlaen o ran y broses eithriadau. Felly, os byddai 30 mya yn fwy addas ar gyfer ffyrdd penodol, mae yna ffordd o wneud i hynny ddigwydd. Dywedodd y Gweinidog ei fod yn deall y pryderon am y broses eithriadau, gan Llyr, Hefin a minnau yn arbennig, a Carolyn hefyd. Aeth ymlaen i ddarllen y canllawiau eithrio diweddaraf sydd gan awdurdodau lleol o'u blaenau, ac anogodd awdurdodau lleol i fabwysiadu ymagwedd synnwyr cyffredin, efallai, yn hytrach na bod yn wrth-risg, fel eu harfer.
Ond rwyf am ddychwelyd at lle yr agorais y ddadl heddiw ac annog y Gweinidog, unwaith eto, os yw awdurdodau lleol yn cydnabod bod angen mwy o ganllawiau, canllawiau cryfach, i sicrhau bod ganddynt hyder i wneud yr eithriadau hynny, lle mae pobl leol a chymunedau lleol wedi lleisio pryderon, i weithio ymhellach gyda nhw eto cyn 17 Medi i sicrhau a darparu eglurder a sicrwydd llwyr iddynt y gallant wneud eithriadau lle mae cymunedau lleol wedi galw am hynny.
Lywydd, gyda hynny, rwyf am ddweud 'diolch' unwaith eto wrthych chi a'r Pwyllgor Busnes am ganiatáu i ni drafod y mater hwn yn gynnar, cyn y newid, fel bod pobl yn gallu clywed eu lleisiau yn eu Senedd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, mae'r ddeiseb wedi ei nodi a'r cynnig wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8, a dadl y Ceidwadwyr yw'r eitem yma ar gymunedau gwledig. Dwi'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8307 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd yr economi wledig a'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.
2. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ffermio Cymru i'r economi wledig.
3. Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill o ran cefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) creu strategaeth seilwaith i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig; a
b) ailddyblu ymdrechion i fynd i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus wael ar draws cefn gwlad Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd, ac mae'n bleser mawr cael arwain y ddadl hon ar bwysigrwydd yr economi wledig yng Nghymru, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Mae traean o boblogaeth Cymru'n byw mewn ardal wledig, ac yn ôl Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, mae'r economi wledig yn cynnal tua 459,000 o bobl, ac rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu bod angen gwneud mwy i gydnabod gwerth a phwysigrwydd yr economi wledig.
Nawr, yn gynharach heddiw, ymgasglodd yr Aelodau yn y Neuadd ar gyfer lansiad swyddogol Sioe Frenhinol Cymru eleni, ac ymhen ychydig wythnosau, bydd llawer o Aelodau'n ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt—pinacl calendr amaethyddol Cymru—lle byddwn yn clywed gan y rhai sy'n cynrychioli ac yn gweithio yn yr economi wledig. Ac er bod llawer iawn i'w ddathlu mewn perthynas â'n busnesau gwledig, maent yn wynebu heriau enfawr hefyd. Mewn etholaethau fel fy un i, mae busnesau'n cael trafferth gyda'r gost gynyddol o wneud busnes, heriau cysylltedd a chysylltiadau trafnidiaeth gwael. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gydnabod ac ymateb i'r heriau y mae busnesau gwledig yn eu hwynebu.
Nawr, mae rhywfaint o gynnydd wedi bod, ac yn y Senedd hon, mae Llywodraeth Cymru wedi symud i bolisi economaidd gyda llawer mwy o ffocws rhanbarthol drwy gyflwyno fframweithiau economaidd rhanbarthol ar gyfer pob rhanbarth o'r wlad. Croesewir y cam hwnnw, gan y dylai roi cyfle i randdeiliaid lleol allu cymryd mwy o ran mewn datblygu economaidd ym mhob rhanbarth. Fodd bynnag, rwy'n dal i bryderu nad oes digon o adborth gan y rhai sydd ar reng flaen yr economi wledig.
Mae'r cynnig heddiw yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ffermwyr Cymru i'r economi wledig, ac rwy'n credu bod yn rhaid i'r diwydiant ffermio gael llais yn y fframweithiau economaidd rhanbarthol hyn, er mwyn sicrhau y gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddeall anghenion economaidd y diwydiant, a chreu polisi sy'n mynd i'r afael â'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu yn well. Credir bod 90 y cant o gyfanswm arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth. Mae ei gyfraniad i werth ychwanegol gros Cymru yn fwy na chyfartaledd y DU, ac eto incwm fferm cyfartalog Cymru ar gyfer 2020-21 oedd £34,300—yr isaf o bedair gwlad y DU. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth y sector ac yn gweithio gydag ef i sicrhau ei hyfywedd ar gyfer y dyfodol.
Roedd hi'n Wythnos Ffermio Cymru yr wythnos diwethaf, a lansiodd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru eu hadroddiad 'Fframio’r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf', a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio ar gyfer pob math o fferm, ac wedi'i gynllunio fel y gall pob math o fferm gael mynediad ato, gan gynnwys newydd-ddyfodiaid. Roedd yr adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar y cyd â sefydliadau ffermio, er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o ffermwyr. Felly, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, efallai y gall y Gweinidog ymrwymo i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad hwnnw, a dweud mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd yn sicrhau y gall y sector ffermio gael llais yn y broses o ddatblygu polisi economaidd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Mae ein cynnig hefyd yn tynnu sylw at y rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae mewn cymunedau gwledig ledled Cymru. Dywed Ffederasiwn y Busnesau Bach wrthym fod 80 y cant o fusnesau bach wedi cyfrannu at y gymuned leol neu elusen yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda 38 y cant yn cyfrannu amser a 32 y cant yn cyfrannu sgiliau. Ac wrth gwrs, am bob £1 a werir mewn mentrau bach a chanolig yn y gymuned leol, fe wyddom fod 63c yn cael ei hail-wario yn yr ardal leol honno, ac felly mae busnesau lleol yn aml yn darparu gwell gwerth am arian. Nawr, mae busnesau wedi ei gwneud hi'n glir iawn eu bod dan bwysau, ac mae'n hanfodol fod llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i greu amodau ar gyfer twf a helpu busnesau bach i barhau i oroesi. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cymorth busnes yn hygyrch i bob busnes bach sydd ei angen, nid cwmnïau twf uchel, potensial uchel yn unig, a rhaid iddi nodi ei chynlluniau hirdymor ar gyfer ardrethi busnes yn dilyn ymgynghoriad y llynedd. Yn y trafodaethau a gaf gyda busnesau, mae ardrethi busnes yn parhau i fod yn un o'r materion mwyaf anodd sy'n eu hwynebu, ac felly mae'n bwysig ein bod yn deall cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r system cyn y Bil cyllid llywodraeth leol arfaethedig.
Mae busnesau mewn ardaloedd gwledig yn parhau i ddweud wrthym fod seilwaith gwael yn dal twf yn ôl hefyd. Mae'n bwynt y mae'r fframweithiau economaidd rhanbarthol i gyd yn ei gydnabod, ac o ystyried bod yr heriau hyn i'w gweld mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth seilwaith benodol ar gyfer cymunedau a busnesau gwledig. Mae fframwaith economaidd rhanbarthol canolbarth Cymru yn derbyn bod TGCh gwael, cysylltedd trafnidiaeth gwael a diffyg seilwaith busnes modern yn wendidau penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw. Yn yr un modd, mae fframwaith economaidd rhanbarthol de-orllewin Cymru yn tynnu sylw at gysylltedd digidol a thrafnidiaeth gwael mewn rhannau o'r rhanbarth. Mae cysylltu busnesau a chymunedau gwledig yn hanfodol er mwyn datgloi eu potensial economaidd. Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach, nododd 32 y cant o fusnesau bach gwledig broblemau gyda dibynadwyedd eu band eang, o'i gymharu â 17 y cant o fusnesau trefol, a dim ond 58 y cant o fusnesau bach gwledig sy'n nodi bod cyflymder eu band eang yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion busnes presennol ac yn y dyfodol. Ac o ystyried yr heriau seilwaith sy'n wynebu busnesau gwledig ym mhob rhan o'r wlad, credwn y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu'r mater hwn drwy ddatblygu strategaeth benodol i gefnogi busnesau gwledig.
Wrth gwrs, mae pryderon seilwaith yn ymwneud â mwy na chysylltedd dyfeisiau symudol a band eang yn unig, fel yr amlygwyd yn ein cynnig; mae cysylltedd trafnidiaeth yn parhau i fod yn broblem enfawr i fusnesau mewn ardaloedd gwledig. Mae yna ddiffygion enfawr yn system drafnidiaeth gyhoeddus Cymru ac mae angen sylw arni ar frys. Mae llawer o gymunedau yn llawer llai cysylltiedig â threfi a dinasoedd nag yr oeddent 10 neu 20 mlynedd yn ôl, ac nid yw hynny'n ddigon da. Yn wir, mae fframwaith economaidd rhanbarthol gogledd Cymru yn dweud wrthym fod sawl rhan o ogledd Cymru yn dioddef o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael, sy'n effeithio ar fynediad trigolion at swyddi, addysg a hyfforddiant. Ac rwy'n gwybod bod busnesau yng ngorllewin Cymru yn parhau i fod yn rhwystredig oherwydd y diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus i bobl yn eu cymunedau cyfagos. Felly, mae angen ymdrech ar y cyd i weithio gydag awdurdodau lleol, i ddatblygu atebion trafnidiaeth cynaliadwy yn y cymunedau hyn, fel y gall pobl gael mynediad at waith, addysg a hyfforddiant.
Nawr, bydd y Gweinidog yn gwybod nad ydym yn cefnogi'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi rhewi adeiladu ffyrdd newydd. Mae busnesau mewn ardaloedd gwledig yn aml yn dibynnu ar y rhwydwaith ffyrdd, ac mae ffyrdd nad ydynt yn cael eu cynnal yn briodol yn rhwystr i dwf economaidd mewn ardaloedd gwledig. Ac rydym hefyd yn ailadrodd galwadau Ffederasiwn y Busnesau Bach ar Lywodraethau ledled y DU i gyhoeddi cyfres gydlynol o strategaethau seilwaith sy'n seiliedig ar dargedau i ddarparu'r seilwaith gwefru a gwefru chwim angenrheidiol ar gyfer cerbydau trydan mewn ardaloedd gwledig erbyn 2030.
Yn olaf, hoffwn roi eiliad i fyfyrio ar fanteision economaidd sioeau a digwyddiadau yng Nghymru yr haf hwn. Soniais am bwysigrwydd Sioe Frenhinol Cymru yn fy sylwadau agoriadol, ond nid yw Sioe Frenhinol Cymru ond yn un o dros 100 o sioeau sy'n arddangos y gorau o'r Gymru wledig ac arloesedd a mentergarwch Cymru. Yn anffodus, mae llawer o'r sioeau hynny dan fygythiad, wrth i drefnwyr ymgiprys â chostau cynyddol a llai o gystadleuwyr, ac eto, mae gan y sioeau hyn gymaint o botensial economaidd. Maent yn cynnig cyfle i fusnesau gwledig rwydweithio ac edrych ar ddatblygu partneriaethau, yn ogystal â rhoi'r cyfle i'r busnesau hynny ymgysylltu â llunwyr polisi lleol a chenedlaethol, er mwyn dylanwadu ar ddatblygu polisi. Byddaf innau, wrth gwrs, yn Sioe Sir Benfro, lle byddaf yn cyfarfod â busnesau a sefydliadau busnes o bob rhan o'r sir i glywed mwy am rai o'r heriau difrifol y maent yn eu hwynebu. Ac yn ogystal â darparu buddion economaidd, maent yn strategol bwysig ar gyfer arddangos a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru yn ogystal â hyrwyddo diwylliant Cymru. Maent yn ddigwyddiadau sy'n cysylltu ein cymunedau gwledig. Mae Mared Rand Jones o Gymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol yn gwbl gywir i'w galw'n 'galon ein cymunedau', ac felly mae'n hanfodol, lle gall, fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sioeau pwysig hyn ac yn eu helpu i oroesi i'w galluogi i barhau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer busnes a chydlyniant cymunedol.
Felly, Lywydd, nod ein cynnig heddiw yw cydnabod pwysigrwydd cymunedau gwledig, ein busnesau gwledig a'n hentrepreneuriaid, a galw ar Lywodraeth Cymru i feddwl yn fwy arloesol ynglŷn â sut y gall gefnogi a meithrin yr economi wledig yn y dyfodol. Ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Gadewch inni drafod yr heriau sy'n wynebu busnesau a diwydiannau gwledig, a datblygu polisïau sy'n gweithio drostynt, yn hytrach nag yn eu herbyn. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i gynnig y gwelliant yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi tynnu gwerth cannoedd o filoedd o bunnau o gyllid oddi wrth economi wledig Cymru.
Yn gresynu at y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid hirdymor i gynorthwyo ffermydd ers i’r DU ymadael â’r UE.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Felly, mae'r gwelliant wedi'i gynnig. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r rheini sydd wedi gosod y cynnig yma y prynhawn yma? Yn amlwg, dŷn ni'n cydsynio â chynnwys y cynnig; mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Ac roedd hi'n dda cael ein hatgoffa bod yna dreian o boblogaeth Cymru o gwmpas hynny, yn byw mewn ardaloedd gwledig, achos er bod yna ddim dwysedd poblogaeth, pan ŷch chi'n dyfynnu ystadegyn fel yna, mae e yn ein hatgoffa ni o ba mor arwyddocaol yw'r cyfraniad y mae cefn gwlad yn ei wneud, a na ddylai fe fyth gael ei ymylu mewn unrhyw drafodaethau.
Ac, wrth gwrs, fel pawb arall, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cymunedau gwledig heddiw yw'r argyfwng costau byw. Ond mae'r argyfwng yna, wrth gwrs, yn dod ar ben y premiwm, os liciwch chi, sydd yn aml ynghlwm â byw yng nghefn gwlad, oherwydd os dŷch chi'n byw yng nghefn gwlad, dŷch chi'n gorfod derbyn bod gwasanaethau yn aml iawn ymhellach i ffwrdd, bod gyda chi ymhellach i fynd i gael mynediad at rai gwasanaethau y mae pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol. Mae yna gost yn dod gyda hynny hefyd.
Ac o safbwynt amaethyddol, wrth gwrs, mae'r heriau yma wedi cael eu dwysau gan Brexit caled, sydd wedi gweld economi'r Deyrnas Unedig yn crebachu, ac sydd wedi arwain at gytundebau masnach sy'n tanseilio buddiannau amaethwyr Cymru. Mae asesiad effaith Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu hunain ar y cytundeb masnach ag Awstralia a Seland Newydd yn amcangyfrif colled ar allbwn gros yn y sectorau bîff a defaid yng Nghymru o tua £29 miliwn. Does ryfedd bod hyd yn oed cyn Ysgrifennydd yr amgylchedd Llywodraeth San Steffan wedi cyfaddef bod y cytundeb ddim yn fargen dda iawn mewn gwirionedd. A phan mae’n dod i werth y cytundeb yna, yna cynnydd pitw o 0.08 y cant yn GDP y Deyrnas Unedig yw asesiad truenus y Llywodraeth eu hunain, a hynny wrth gwrs mewn cymhariaeth ag ergyd o 5.5 y cant i GDP y Deyrnas Unedig, a gostyngiad o 15 y cant yn lefelau dwyster masnach y Deyrnas Unedig o ganlyniad i Brexit.
Ond y flaenoriaeth gyntaf i fi, a'r flaenoriaeth gyntaf i Blaid Cymru, pan fo’n dod i’r economi wledig yw amddiffyn y fferm deuluol—dyna'r flaenoriaeth bob tro. Y fferm deuluol yw asgwrn cefn economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol cefn gwlad. Nawr, rŷn ni newydd, yn y dyddiau diwethaf, wrth gwrs, fod yn trafod y Bil Amaeth, a dwi'n falch iawn o'r rôl y mae Plaid Cymru wedi ei chwarae i gryfhau’r Bil yna, ac i sicrhau bod yna well gwerthfawrogiad o rôl amaethwyr, nid yn unig fel cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru, ond fel cyflogwyr pwysig yn rhai o’n heconomïau mwyaf ymylol ni yng nghefn gwlad—yr ardaloedd anoddaf yna i'w cyrraedd pan fo'n dod i greu a chynnal swyddi. Ond hefyd, mae rôl amaethwyr fel darparwyr un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, hefyd fel stiwardiaid ein hamgylcheddau a thirweddau naturiol yma yng Nghymru, a llawer mwy. Ac roedd medru sicrhau cynllun cymorth aml-flwyddyn o bum mlynedd yn y Bil Amaeth o leiaf yn mynd peth o'r ffordd i adfer yr hyn a gollwyd o ganlyniad i Brexit a’r sicrwydd ariannu saith mlynedd a oedd yn dod o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, mae’r sector bwyd a diod hefyd wrth gwrs yn sector nodweddiadol iawn a phwysig iawn—dros 200,000 o bobl yn gweithio yn y sector yna. Ond mae yna bron i 60,000 yn cael eu cyflogi’n llawn amser neu’n rhan amser ar ddaliadau fferm yng Nghymru. A rŷn ni'n aml yn clywed yn cael ei ddyfynnu yn fan hyn, onid ydym ni, yr ystadegyn bod pob punt sy’n cael ei buddsoddi mewn amaeth yn rhoi o leiaf £7 nôl i fewn i’r economi. Wel, pe baech chi’n cynnig y return on investment yna i unrhyw un, mi fydden nhw’n bachu ar hynny bob tro. Ac mae angen i hynny gael ei adlewyrchu ym mhob dim y mae’r Llywodraeth yma’n ei wneud, ac efallai fod e ddim yn digwydd i'r graddau y dylai fe ar hyn o bryd.
Mae angen i ni ein hatgoffa’n hunain yn gyson o hynny, dathlu hynny, adeiladu ar hynny, a chryfhau hynny trwy fuddsoddi yn y sector amaeth, a bod hynny wrth gwrs yn cael pob cymorth i dyfu ac i ddatblygu. Dyna pam mae digwyddiadau fel y Sioe Frenhinol yn bwysig, nid yn unig oherwydd y budd uniongyrchol sy’n dod yn sgil y digwyddiad, ond mae hwnnw, a’r Eisteddfod, a sioeau eraill yn llwyfan i amlygu a thanlinellu'r cyfraniad sylweddol y mae amaeth a chefn gwlad yn ei wneud i economi ehangach Cymru. Ac roeddwn innau hefyd yn falch gallu galw mewn i'r digwyddiad yn y Senedd heddiw. Mae dros 200,000 o ymwelwyr yn dod i'r sioe bob blwyddyn, a bron 40 y cant o’r rheini heb unrhyw gysylltiad â’r diwydiant amaeth, ac mae hynny yn ei hunan yn dweud llawer.
Oes, mae yna heriau unigryw yn wynebu cymunedau gwledig, o ran gwasanaethau a mynediad at wasanaethau, colli gwasanaethau allweddol—meddygfeydd, banciau, pethau mae pobl, fel roeddwn i'n ei ddweud, yn eu cymryd yn ganiataol. Ond dwi ddim yn teimlo bod y Llywodraeth yn cynnig gweledigaeth gyflawn sy’n cwmpasu cefn gwlad yn ddigonol. Lle mae’r weledigaeth genedlaethol o safbwynt amddiffyn gwasanaethau gwledig? Lle mae’r strategaeth economaidd wledig benodol sy'n cael ei gyrru gan y Llywodraeth hon? A phwy sy’n gyrru’r ffocws yna? Flynyddoedd nôl, roedd gyda ni Fwrdd Datblygu Cymru Wledig fel rhyw fath o focal point a oedd yn hyrwyddo llawer o'r gwaith yma. Nawr, mi fydden i’n dadlau efallai ei bod hi'n amser edrych ar greu corff tebyg unwaith eto. Ond beth bynnag am hynny, mi fyddwn ni, fel roeddwn i'n ei ddweud, yn cefnogi’r cynnig yma wedi ei wella. Ond un peth yw cynnig sy’n canmol yr hyn sydd gennym ni yng nghefn gwlad, mater arall, llawer pwysicach yw sicrhau bod Llywodraethau San Steffan a Chymru yn gweithredu i amddiffyn ac i wireddu'r potensial yna yn llawn.
Hoffwn ddechrau drwy ddatgan fy mod i fy hun yn ffermwr. Ac fel rydym wedi'i glywed gan Paul, a agorodd y ddadl mor dda, roedd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru yn dathlu Wythnos Bwyd a Ffermio Cymru yr wythnos diwethaf, adeg pan ddaethom at ein gilydd i godi ymwybyddiaeth a dangos ein gwerthfawrogiad o'r holl waith caled y mae ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr yn ei wneud dros y gymdeithas yng Nghymru. Nid yn unig y mae'r gymuned amaethyddol yn darparu buddion economaidd, diwylliannol ac iechyd i Gymru, mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy leihau ein hallyriadau carbon, gan sicrhau bod gennym ni fel defnyddwyr ddewis i brynu bwyd lleol sy'n ystyriol o'r hinsawdd. Efallai fod dathliadau Wythnos Bwyd a Ffermio Cymru wedi gorffen, ond nid yw'r gwaith caled y mae'r gymuned amaethyddol yn ei wneud wedi dod i ben, ac ni ddylai ein cefnogaeth ni ychwaith.
Fel y clywsom, mae digwyddiadau mawr yn ein cymunedau gwledig yn hanfodol gan eu bod yn dod â budd economaidd sylweddol yn eu sgil, yn cynnwys manteision uniongyrchol ac eilaidd i'r economi wledig a busnesau gwledig. Fel y clywsom, gwyddom fod Sioe Frenhinol Cymru yn denu bron i chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae'r ymwelwyr hyn yn gwario bron i £10 miliwn yn ystod y pedwar diwrnod hwnnw, ac amcangyfrifir bod gwerthiant eilaidd dros £6 miliwn. Ar ben hyn, mae budd pellach o £3 miliwn i'r economi leol wrth i werthiannau symud i lawr y gadwyn gyflenwi. Amcangyfrifir bod gan 3,000 o fusnesau a sefydliadau stondinau masnach yn Sioe Frenhinol Cymru, a byddai 96 y cant ohonynt yn argymell Sioe Frenhinol Cymru i fusnesau eraill.
Er mai Sioe Frenhinol Cymru yw'r digwyddiad mwyaf yng nghalendr amaethyddol Cymru, mae gan lawer ohonom mewn cymunedau gwledig ein sioeau ein hunain sy'n darparu buddion yr un mor bwysig i'r cymunedau gwledig ac amaethyddol lleol, ac o ganlyniad, i'r economi. Yn etholaeth Mynwy, gallwn frolio rhai o'r sioeau amaethyddol gorau yng Nghymru. Rwy'n falch fod sioe sir Fynwy yn ôl eleni ddydd Sul 20 Awst, ar ôl toriad o ychydig o flynyddoedd. Hon oedd y sioe undydd fwyaf yng Nghymru. Roedd yn denu miloedd a bydd yn denu miloedd o ymwelwyr, hen ac ifanc, i ryfeddod Dyffryn Gwy, fel y bydd sioe Cas-gwent yn ei wneud ddydd Sadwrn 12 Awst, ac fe orffennwn ar 9 Medi gyda sioe wych Brynbuga—cyfle gwych arall i brofi llawer o'r hyn sydd gan sir ryfeddol Mynwy a'r rhanbarth ehangach i'w gynnig.
Mae'r holl ddigwyddiadau pwysig hyn yn darparu ffenestr siop hanfodol ar gyfer ein cymunedau, elusennau, clybiau, cymdeithasau a'n busnesau bach a chanolig eu maint. Fel y gwyddom ni i gyd, busnesau bach a chanolig eu maint yw calon economi Cymru, a dyna yw 99.4 y cant o fusnesau Cymru, sy'n darparu 62.6 y cant o gyflogaeth Cymru a 39.4 y cant o'r trosiant. Rhaid nodi bod y mwyafrif llethol o fusnesau mewn cymunedau gwledig yn ficrofusnesau. Mae busnesau bach a chanolig eu maint mewn cymunedau gwledig wedi bod dan bwysau aruthrol ac yn parhau i wynebu rhwystrau fel diffyg cysylltedd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, fel y clywsom.
Fel y gwyddom i gyd, pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru sy'n ennill rhai o'r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig. Gwynedd, er enghraifft, sydd â'r cyflog isaf ond am ddau le arall yn y DU, sef £421 yr wythnos—gryn dipyn yn llai na'r cyflogau mewn ardaloedd trefol cyfagos. Dyma un o'r prif resymau pam fod pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â threchu tlodi mewn cymunedau gwledig, mae angen inni ddyblu ymdrechion i fynd i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gwael ledled y Gymru wledig, ac mae angen inni hefyd weld seilwaith modern sy'n caniatáu i gymunedau gwledig ddatgarboneiddio ymhellach. Rhaid inni weld cynnydd yn y buddsoddiad yng nghefn gwlad Cymru, gan ddarparu cyfleoedd i fusnesau dyfu a chyfleoedd i weithwyr ennill cyflogau gwell.
Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau yma heddiw i gefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd gennym yn y cynnig. Diolch.
Yn y ddadl hon ar gymunedau gwledig, hoffwn ddweud bod gogledd Cymru yn wledig i raddau helaeth a bod yr economi yn cael ei dominyddu gan sectorau fel amaethyddiaeth, coedwigaeth a thwristiaeth. Nid oes cytrefi mawr, sy'n ei gwneud yn ardal o fentrau bach a chanolig eu maint o fewn yr economi sylfaenol. Fodd bynnag, mae un sector pwysig sydd wedi cael i adael allan o'r ddadl hon, sef gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi cael eu tanariannu'n llwyr nawr ers dros ddegawd. Rydych chi'n mynd i gymuned wledig ac rydych chi'n gweld, ie, ffermydd teuluol, ond hefyd athrawon, gofalwyr, gweithwyr cynghorau, nyrsys a phensiynwyr yn byw yno. Ni allwch gael cymunedau lleol ffyniannus heb wasanaethau cyhoeddus sy'n cyflogi pobl leol sy'n siarad Cymraeg, sy'n gwario arian mewn cymunedau lleol ac sy'n sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn iach, ac yn sicrhau bod gan bawb do uwch eu pennau.
Mae un grŵp addysg bellach yng ngogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, yn cyflogi tua 2,000 o staff sy'n cefnogi 20,000 o fyfyrwyr. Y cyngor yw'r cyflogwr mwyaf yn Ynys Môn, a'r ail gyflogwr mwyaf yn sir y Fflint ar ôl Airbus, sy'n cyflogi 5,500 o bobl. Yna mae'r rhai sy'n cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o lesiant cymunedau gwledig. Pe byddem yn buddsoddi mewn gofal, gallem aildyfu'r economi wledig drwy bobl.
Mae'r cynnig wedi galw am ddyblu ymdrechion i fynd i'r afael â thrafnidiaeth gyhoeddus wael mewn ardaloedd gwledig, ac rwy'n cytuno bod y sefyllfa'n enbyd. Rydym mewn argyfwng trafnidiaeth bysiau, ac mae cadw'r llwybrau presennol ar agor wedi golygu trafodaethau dwys rhwng cynghorau, gweithredwyr, yr undebau, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Mae angen agor llygaid pobl ac ymgyrch cyn gynted â phosibl i ddod â'n llwybrau bysiau yn ôl cyn iddynt ddiflannu. Mae hyn oherwydd bod nifer y teithwyr wedi gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf. Nifer y bobl sydd â chardiau teithio rhatach sydd wedi gostwng fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac nid ydynt wedi dychwelyd ers COVID, ac mae toriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth Geidwadol y DU wedi golygu toriadau i gymorthdaliadau bysiau. Ychwanegwch bwysau chwyddiant at hynny ac fe welwch fod y gost o brynu trafnidiaeth bysiau a chynnal gwasanaethau wedi cynyddu 40 y cant, ac mae hynny ar ben prinder gyrwyr.
Ers bron i 20 mlynedd rwyf wedi cynrychioli ardaloedd gwledig fel cynghorydd cymuned a sir ac fel gwirfoddolwr gyda sefydliadau partneriaeth. Gwelais faint o arian Ewropeaidd a oedd yn dod i'n cymunedau gwledig, drwy'r cynllun datblygu gwledig, i ariannu prosiectau a oedd yn helpu ffermwyr i arallgyfeirio, bwrsariaethau i bobl a oedd yn awyddus i arloesi a dechrau busnesau gwledig, a chyllid ar gyfer digwyddiadau cymunedol a oedd yn arddangos cynnyrch lleol, fel gwyliau bwyd yr Wyddgrug a Llangollen a grwpiau twristiaeth a bwyd bryniau Clwyd. Roedd yna gyllid ar gyfer trafnidiaeth wledig hefyd, gan gynnwys ar gyfer caffael gwasanaethau bysiau a threialu twristiaeth, cyllid ar gyfer neuaddau pentref, canolfannau cymunedol a mannau addoli yng nghanol cymunedau gwledig.
Roeddent eisiau bod yn fwy cynaliadwy hefyd, ac roedd technoleg ynni adnewyddadwy, fel cynllun ynni dŵr cymunedol Corwen, yn cael ei ariannu gydag arian Ewropeaidd. Amcangyfrifwyd bod budd net Cymru o gyllideb yr UE oddeutu £79 y pen, ac yn dilyn Brexit cymerodd y Llywodraeth Geidwadol gyllid newydd oddi wrth Lywodraeth Cymru i'w roi'n uniongyrchol i gynghorau, er bod y symiau'n llawer llai a'n digwydd drwy broses ymgeisio fiwrocrataidd a chystadleuol iawn. Os ydych chi eisiau i'r economi wledig dyfu a ffynnu i bawb, mae angen inni ddychwelyd at fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus eto, a dylai'r meinciau Ceidwadol fod yn gofyn i'w cymheiriaid yn San Steffan gyflawni eu haddewid i sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd. Diolch.
Busnesau gwledig ac amaethyddol Cymru yw asgwrn cefn ein heconomi. Fel y mae pwynt 1 yn ein cynnig yn ei wneud yn glir, ni ddylid byth ddiystyru rôl busnesau bach gwledig. Amcangyfrifir bod gan bob fferm yng Nghymru gysylltiad economaidd â thua 40 i 80 o fusnesau eraill. Mae ffermio yn sylfaen go iawn i gadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru, sy’n werth £6 biliwn. Mae'n cyflogi 17 y cant o weithlu Cymru ac yn rheoli 90 y cant o dir Cymru. Mae’r data diweddaraf ar gyfer fy rhanbarth i yn dangos bod tua 15,600 o bobl o Ddwyrain De Cymru yn cael eu cyflogi o fewn y diwydiant amaethyddol, coedwigaeth a physgota. Mae gan dde-ddwyrain Cymru hanes cyfoethog o fentergarwch gwledig llwyddiannus, o ddyfeisio caws Caerffili, diolch i lond llaw o ffermwyr lleol yn dyddio’n ôl i 1830, i lawer o wahanol fusnesau bach gwledig sy’n cefnogi marchnadoedd ffermwyr lleol a digwyddiadau bwyd. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ffermio Cymru i’r economi wledig, fel y mae pwynt 2 o’n cynnig yn ei nodi.
Tynnodd Gwobrau Cynghrair Cefn Gwlad Cymru eleni sylw at lawer o fusnesau bach anhygoel yn fy rhanbarth, gyda thri busnes yn cyrraedd y rownd derfynol: y Queen Bee Honey Company yn Nhorfaen, siop gigydd Nash and Sons yn y Coed Duon, a James Morris o fferm Tŷ Poeth ym Mhont-y-pŵl, sydd wedi arallgyfeirio ei fusnes teuluol 200 mlwydd oed trwy blannu blodau haul a phwmpenni ochr yn ochr â ffermio cig a chynnyrch llaeth traddodiadol.
Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod gennym Lywodraeth sy’n methu deall y gymuned wledig a’r gwerth y mae’n ei ychwanegu yng Nghymru. Maent yn benderfynol o niweidio’r cymunedau gwledig, boed drwy orfodi ffermydd i blannu coed ar dir amaethyddol o’r radd flaenaf, neu drwy ddal i fethu defnyddio cynnyrch lleol mewn ysgolion, a fyddai’n gwella ac o fudd gwirioneddol i’r gymuned wledig ac ardaloedd cyfagos yr ysgolion hynny. neu fel y gwelwn nawr gyda’r agenda wrth-saethu newydd, drwy fod eisiau newid y rheoliadau ar ryddhau adar hela. Mae'r agenda ymrannol hon yn enghraifft arall o ymyrraeth ar raddfa fawr gan y wladwriaeth gyda biwrocratiaeth gynyddol yn gysylltiedig â thrwyddedu. Mae Llywodraeth Cymru'n benderfynol o ddefnyddio arian trethdalwyr i gyfyngu ar ryddid yn hytrach na defnyddio’r fframwaith cyfreithiol sydd eisoes ar waith yn llwyddiannus ledled y DU. Oherwydd hyn, mae trwyddedau—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch, Laura Anne Jones. Rydych chi wedi rhestru nifer o feysydd lle mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cymunedau gwledig. A fyddech chi'n cytuno mai mesur arall o'r fath yw'r hyn a drafodwyd gennym eiliad yn ôl, sef gorfodi ein cymunedau gwledig i yrru ar 20 mya trwy bentrefi a threfi bach a threfi marchnad, i ddilyn esiampl canol dinas Caerdydd?
Yn sicr, rwy'n cytuno â chi. Mae'n drueni. Roedd y Gweinidog yn gwrando, beth bynnag, felly efallai y caiff eich pwynt ei glywed. [Torri ar draws.] Beth ddywedoch chi, mae'n ddrwg gennyf, Weinidog? Beth oeddech chi'n ei ddweud? Rwy'n credu ei bod eisiau ymyrryd. Na, iawn, o'r gorau.
Mae Gweinidogion Cymru'n benderfynol o ddefnyddio arian trethdalwyr i gyfyngu ar ryddid, fel y dywedais, yn hytrach na defnyddio'r fframwaith cyfreithiol sy'n cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus ar draws y DU. Oherwydd hyn, ceir risg y bydd trwyddedau'n agored i her gan y rhai sy'n gwrthwynebu saethu. Y cyfan y bydd hyn yn ei wneud yw taro'r economi wledig yng Nghymru, gan ddangos unwaith eto, os nad ydych yn byw mewn dinas, fod y Llywodraeth hon yn dangos amharodrwydd i ddeall eich ffordd o fyw.
Mae angen i'r Llywodraeth wneud yr hyn y mae ein cynnig yn galw amdano a chreu strategaeth seilwaith briodol i fynd i'r afael â'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu cymunedau gwledig, a dyblu ymdrechion ar gysylltedd a mynd i'r afael â thrafnidiaeth gyhoeddus wael ledled Cymru. Nid yw Cymru'n gallu goroesi heb ein cymunedau gwledig, ond os parhawn fel hyn, ni fydd ein cymunedau gwledig yn gallu goroesi yng Nghymru.
Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron y prynhawn yma. Diolch i Paul Davies hefyd am amlinellu'r ffaith bod busnesau bach yn asgwrn cefn yr economi yng nghefn gwlad, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ffermydd teuluol, a hefyd y ffaith bod y cyfraniad y mae sioeau yn ei wneud—sioe Llanelwedd a sioeau bach—yn gyfraniad economaidd pwysig iawn, iawn.
O ran bywyd cymdeithasol cefn gwlad, dwi eisiau jyst nodi hefyd cyfraniad clybiau ffermwyr ifanc, o ran y gweithgareddau y maen nhw'n eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Un o freintiau mwyaf fy rôl i fel Aelod o'r Senedd yw teithio ar hyd a lled y rhanbarth a gweld y cyfoeth o dalent a dyfeisgarwch sy'n diffinio ein hardaloedd gwledig a'n cymunedau amaeth ni. Mae'r cymunedau hyn yn rhyfeddol o hunan-ddibynnol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu, er enghraifft, yn y nifer fawr o fusnesau sy'n cael eu perchenogi gan gymunedau neu yn fentrau cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Ond, yn aml, gall y diwylliant hwn o hunanddibyniaeth guddio'r heriau niferus y mae'r cymunedau hyn yn eu hwynebu, heriau sydd wedi eu creu neu eu dwysáu gan fwy na degawd o lymder—hynny yw, toriadau mewn gwariant cyhoeddus—yn ogystal â Brexit a chytundebau masnach ofnadwy o niweidiol, fel y cyfeiriodd Llyr ato yn gynharach, i'r sector amaeth, a'r argyfwng costau byw presennol, wrth gwrs.
Mae yna eironi penodol yn y ffaith bod y Ceidwadwyr yn cyflwyno eu cynnig heno, o gofio bod cymaint o'r rhwystrau presennol hyn i ddatblygiad economaidd yn ein cymunedau gwledig yn gynnyrch uniongyrchol polisïau'r Torïaid. I roi un enghraifft i chi, mae her trafnidiaeth gyhoeddus wael, a grybwyllwyd gan lawer ohonoch eisoes, a chysylltedd mewn ardaloedd gwledig, y mae'r Torïaid yn eironig iawn yn galw yn y cynnig hwn am ei wella, yn cael ei waethygu gan y modd y mae eu Llywodraeth yn amddifadu Cymru o'r £5 biliwn mewn symiau canlyniadol Barnett sy'n ddyledus i ni o ganlyniad i HS2.
Er y cafeat pwysig hwn, hoffwn ychwanegu fy llais at alwadau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau gwledig. Yn wir, rwyf wedi galw am strategaeth o'r fath yn y lle hwn cyn hyn. Mae angen iddi fynd y tu hwnt i seilwaith, er mor bwysig yw hwnnw, ac ymdrin yn benodol ac yn gyfannol â mater tlodi gwledig, sy'n achos ac yn gynnyrch tanddatblygu economaidd yn ein cymunedau gwledig.
Ynghudd dan wedd allanol o ffyniant, mae tlodi'n aml yn llechu o dan yr wyneb mewn ardaloedd gwledig. Gadewch imi roi enghraifft i chi. Mae Ceredigion ymhlith y llefydd gyda'r prisiau tai cyfartalog uchaf yng Nghymru, bron i £40,000 yn uwch na chyfartaledd Cymru. Ond ar 30 y cant, yn ôl data diweddaraf Sefydliad Bevan, mae ganddi hefyd y gyfradd ail uchaf o dlodi plant mewn unrhyw ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Ac fel y dengys ymchwil, mae tlodi gwledig yn ffenomen benodol, gydag achosion a chanlyniadau gwahanol i'r rhai sy'n gysylltiedig ag ardaloedd trefol a thlodi trefol.
Yn aml ceir premiwm gwledig ar nwyddau allweddol mewn ardaloedd gwledig, cost pellter a all ychwanegu tua 15 y cant i 30 y cant at gost nwyddau a gwasanaethau sylfaenol. Er bod costau'n uwch mewn ardaloedd gwledig, mae cyflogau'n is. Mae enillion canolrifol yng Nghymru ar eu hisaf yn sir Benfro, Ceredigion, Conwy, Gwynedd a Phowys. Mae gweithiwr nodweddiadol yn sir Benfro, er enghraifft, £346 y mis yn waeth ei fyd na'r gweithiwr nodweddiadol yn y DU. Mae cael mynediad at wasanaethau iechyd, lles, ariannol a gofal plant yn aml yn anos mewn cymunedau gwledig. Yn ôl ymchwil gan Sefydliad Bevan, mae aelwydydd gwledig tlawd yng Nghymru wedi wynebu gwasgfa driphlyg yn ystod yr argyfwng costau byw presennol yn sgil costau uchel, incwm isel a chymorth cyfyngedig gan y wladwriaeth.
Dwi'n gorffen gyda hyn: fel dwi wedi ei awgrymu lawer gwaith, mae gwreiddiau tlodi gwledig yng Nghymru yn deillio o bolisïau San Steffan, ond mae llawer o rai eraill hefyd yn nes adref. Felly, dwi wedi galw mwy nag unwaith am strategaeth gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thargedu’r materion sydd yn poeni ardaloedd gwledig. Felly, heno, rwyf i am ailadrodd yr alwad honno eto, gan obeithio gallwn ni symud ymlaen i fynd i'r afael ag adfywio gwledig mewn ffordd holistig, a hynny ar frys, oherwydd mae'r ardaloedd hynny yn haeddu hynny yn fawr. Diolch yn fawr.
O'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin, mae clytwaith o ffermydd yn nodweddu etholaeth Aberconwy y mae'n anrhydedd gennyf ei chynrychioli. Dros fy mlynyddoedd lawer, rwyf wedi bod yn gefnogwr cadarn i'n sector amaethyddol, a thra bûm yn y lle hwn, rwyf wedi arwain y gwrthwynebiad i barthau perygl nitradau ledled Cymru, rwyf wedi tynnu sylw at y gwahaniaeth na ellir ei gyfiawnhau rhwng y siartiau profi TB a ddefnyddir yng Nghymru a'r rhai yn Lloegr a'r Alban, ac rwy'n dal i aros am lythyr gan y Gweinidog ar hynny. Rwyf wedi eich dwyn i gyfrif am gael gwared ar gymorth ardrethi busnes i ffermwyr ar gyfer gorsafoedd ynni dŵr, wedi herio eich penderfyniad i ganiatáu i ffermwyr wynebu cost treth gyngor ail gartref ar lety gwyliau ar eu ffermydd, a hyd yn oed wedi lansio addewid gwlân Cymru.
Mewn gwirionedd, mae hwn yn gyfle amserol i mi eich atgoffa chi i gyd o sgandal y pris a delir am wlân, ac rwy'n falch iawn fod Sam Kurtz fy nghyd-Aelod yn parhau â'r ymgyrch hon. Mae hi mor bwysig. Mae Gwlân Prydain wedi cadarnhau na fydd ond yn talu 30c y kilo i ffermwyr am ei radd graidd o wlân 2022. Mewn gwirionedd, dim ond 10c y kilo a delir am wlân defaid mynydd Cymreig. Yn seiliedig ar gnu sy'n pwyso 2.5 kg, ni fyddai ffermwyr ond yn derbyn 75c am gnu cyfan gradd graidd. Nid yw'n syndod nad yw'r prisiau gwlân presennol hyd yn oed yn ddigon i dalu am gost cneifio. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol wedi nodi bod prisiau cneifio yn £1.65 y famog. Mae'n hurt fod deunydd y gellir ei ddefnyddio mewn dillad, carpedi ac adeiladau yn cael cyn lleied o gefnogaeth gan ein defnyddwyr. Felly, byddwn yn falch pe byddai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw ar ba gamau rydych yn eu cymryd i hyrwyddo'r defnydd o wlân Cymru.
Yn ddiweddar, ymwelais â melin wlân Trefriw. Mae'n cael ei rhedeg gan frawd a chwaer, Morgan ac Elaine. Prynodd eu hen daid y felin ym 1859, ac mae'r teulu wedi bod yn cynhyrchu cynhyrchion gwlân o ansawdd uchel ers dros 150 mlynedd bellach. Gallem ddysgu o'u hesiampl a gwneud i'r cyhoedd sylweddoli bod cefnogi busnesau o'r fath yn rhywbeth amgylcheddol gyfrifol i'w wneud, a chefnogi busnesau amaethyddol Cymru.
Rwy'n gwybod bod Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi colli cyfle—carwn eich llongyfarch, serch hynny, Weinidog, ar y ffaith bod gennym y Bil hwnnw bellach—roedd gwelliannau a gyflwynwyd i gynnwys cefnogaeth benodol i newydd-ddyfodiaid ifanc yn aflwyddiannus, ac mae hyfywedd economaidd busnesau amaethyddol wedi'i hepgor fel amcan rheoli tir cynaliadwy. Mae fy record i a record fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn profi y tu hwnt i amheuaeth ein bod am weld cymunedau gwledig llewyrchus gyda ffermio gweithredol yn parhau'n rhan ganolog ohonynt. Nid ydym wedi gwneud cam â nhw. Nid yw honiad Llywodraeth Cymru fod Llywodraeth y DU yn methu cadw ei haddewid yn wir. Mae cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cyfateb, fan lleiaf, i faint cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a chyllid cymdeithasol Ewrop yng Nghymru a bydd yn cynyddu i hyd at £340 miliwn yng Nghymru erbyn 2024-25. Mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at gyllid arall Llywodraeth y DU, fel y gronfa ffyniant bro a'r bargeinion dinesig a thwf. Bydd Cymru hefyd yn parhau i elwa o weddill cyllid yr UE dros y blynyddoedd nesaf.
Yn y bôn, rydym yn ôl unwaith eto gyda'r ddadl a gawsom ychydig flynyddoedd yn ôl. Fel y'i gwelaf, dylai Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi gwario ei dyraniad o gyllid yr UE ar gyfer 2014 i 2020 erbyn diwedd 2020, yn hytrach na'i lusgo allan i'r troslap awdurdodedig. Y gwir amdani yw bod Cymru'n cael y lefel uchaf erioed o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU hefyd yn buddsoddi mewn prosiect a fydd yn helpu ffermwyr. [Torri ar draws.] Os oes rhaid. [Torri ar draws.] Na, parhewch.
Roeddwn eisiau gofyn i chi beth oedd lefel y buddsoddiad cyfalaf i Gymru.
Rhowch ef fel hyn: gyda'r holl fuddsoddiad sydd bellach yn dod i mewn, nid yw'r holl grio, 'Nid oes digon o arian yn dod gan Lywodraeth y DU', yn ddim mwy na dagrau crocodeil.
Mae DEFRA'n rhannol ariannu prosiect gwerth £1 filiwn sy'n cael ei redeg gan arbenigwyr a bridwyr hadau glaswellt a phorthiant, Germinal, mewn cydweithrediad â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd rhan o'r ymchwil yn cynnwys datblygu mathau o bys di-flas er mwyn defnyddio protein pys yn lle soia—wyddoch chi, y peth ofnadwy hwnnw sy'n cael ei fewnforio'n llawer rhy aml.
Rwy'n mynd i orffen trwy dynnu sylw at fater arall rwyf wedi ymgyrchu ers tro i'w weld yn cael sylw: cig oen o Seland Newydd, ar ôl gosod y safon yn ymffrostio am 60 diwrnod neu fwy o fywyd silff ar gyfer cig oen wedi'i oeri ac wedi'i becynnu dan wactod, a hyd at 110 diwrnod ar gyfer cig oen wedi'i lanhau â nwy carbon deuocsid. Mae gan gig oen Cymru oes silff o hyd at 21 diwrnod yn unig. Drwy hybu cystadleurwydd cynnyrch Cymreig, cynhyrchiant amaethyddol, galw lleol am gynnyrch lleol, a chefnogaeth i arallgyfeirio, gallem i gyd gefnogi sector sy'n cefnogi gweithlu amaethyddol o 49,876 yn uniongyrchol. Mae'n rhaid perffeithio'r gefnogaeth i'r grŵp hwnnw os yw ein cymunedau gwledig am gael unrhyw gyfle gwirioneddol i ffynnu.
Felly, rhowch y gorau i gwyno am Lywodraeth y DU; defnyddiwch y dulliau sydd ar gael i chi i ddechrau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ac fe ychwanegaf yn gyflym—
Na wnewch. O, roeddech chi'n gwneud mor dda, Janet. Roeddech chi'n gwneud mor dda. Gorffennwch ar nodyn uchel i chi'ch hun. [Chwerthin.] Jane Dodds.
Rwyf eisiau canolbwyntio ar un rhan o'r cynnig hwn. Rwy'n credu ein bod wedi clywed llawer am ba mor bwysig yw ein heconomi wledig, ac nid wyf yn credu bod yna ddadl ynglŷn â hynny. Rwyf am edrych ar ran 4 y cynnig, a chlywed gan y cynigydd hefyd, oherwydd mae'n sôn am gysylltedd a seilwaith, ac wrth gwrs, rydym yn gwybod bod cysylltedd digidol, cyfleoedd gwaith, costau tai, iechyd, trafnidiaeth, yn arbennig o heriol i ni mewn ardaloedd gwledig, ac i bobl ifanc, sydd eisiau gwybod beth yw eu dyfodol, wrth symud ymlaen.
Felly, rwyf am edrych i weld a allwn gyplysu seilwaith, ffyrdd, cartrefi, a'r materion digidol hynny gyda'r hyn y cymeraf fod y cynnig yn ei olygu, gyda seilwaith cymdeithasol yn ein hardaloedd gwledig—gofal plant, rhwydweithiau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus da, y clywsom amdanynt, gan gynnwys ein hysgolion a'n hiechyd a'n gofal cymdeithasol—a sut y gall y cynnig hwn fynd i'r afael â hynny hefyd. Fel rydym i gyd wedi clywed, rydym angen cymunedau gwledig bywiog sy'n creu lleoedd lle gall pobl fyw a gweithio, o'r crud i'r bedd.
Mae llawer o bobl wedi siarad am strategaeth wledig, Bil datblygu economaidd gwledig, ac mae angen rhywbeth arnom i ddod â'r holl faterion hyn ynghyd, gan ganolbwyntio ar anghenion ein hardaloedd gwledig. Er enghraifft, cyfran y microfentrau yng nghanolbarth Cymru oedd yr uchaf yn y pedwar rhanbarth. Hefyd, mae gan yr ardal nifer uwch o fusnesau gweithredol fel cyfran o'r boblogaeth nag unrhyw le arall yng Nghymru, ac mae hynny'n newyddion da. Ond nid oes cysylltedd digidol. Nid cysylltedd trafnidiaeth yn unig sy'n cefnogi twf, yn cefnogi arloesedd ac yn cefnogi gweithio gwledig hyblyg yng nghanolbarth Cymru; rydym angen cysylltedd digidol hefyd.
Ac fe glywsom unwaith eto fod trafnidiaeth gyhoeddus yn peri rhwystredigaeth. Cyfarfûm â thrigolion Borth yng Ngheredigion yn ddiweddar ynglŷn â gwasanaethau bws. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cofio, gyda'r adolygiad ffyrdd, gan nad ydym wedi ymrwymo nawr i adeiladu ffyrdd newydd, rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n llwyr, mae'n sicr fod angen inni feddwl nawr sut y gall yr arian o hynny fynd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig.
Yn olaf, mae'n rhaid i mi gytuno â llawer o'n siaradwyr, oherwydd mae angen i'r Ceidwadwyr yn ein Senedd gymryd cyfrifoldeb am yr hyn y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi'i wneud yn Llundain. Dywedodd Llywodraeth y DU fod y gronfa ffyniant bro wedi'i gogwyddo'n benodol tuag at y gogledd, canolbarth Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac eto, yn 2022, ni chafodd Powys un geiniog o arian ffyniant bro. Yn hytrach—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriad. Yn hytrach, gwelsom rai rhannau cyfoethog iawn o'r DU yn derbyn symiau mawr o arian, gan gynnwys etholaeth y Prif Weinidog ei hun, a dderbyniodd £19 miliwn.
A Brexit, y gwnaeth pawb rybuddio y byddai'n effeithio ar ein heconomi, yn enwedig ein heconomïau gwledig, ond peidiwch â chymryd fy ngair amdano, cymerwch air Ian Rickman, ffermwr yn Llandeilo, sy'n siarad am y cytundeb masnach.
'Nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi esgus bod y cytundebau masnach yn beth da. Clywais ffermwyr yn dweud bod y diwydiant wedi cael ei daflu dan fws i bob pwrpas.'
Felly, rwy'n cefnogi galwadau am strategaeth seilwaith hirdymor ar gyfer ein cymunedau gwledig ac rwy'n ddiolchgar fod hyn wedi'i gyflwyno i wella cysylltedd digidol a chysylltiadau thrafnidiaeth i greu economi ffyniannus. Ond rwyf hefyd yn credu bod angen inni atgoffa ein hunain mai penderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau Ceidwadol olynol ynghylch Brexit, ynghylch cytundebau masnach, ynghylch codi'r gwastad sydd wedi tanseilio ac wedi creu anfanteision parhaus i'n cymunedau gwledig. Felly, rwy'n gobeithio, wrth gloi, y bydd y Ceidwadwyr yn cymryd cyfrifoldeb am y rhan y maent wedi'i chwarae yn pentyrru heriau ychwanegol i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig. Byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Ac rwyf am ddweud, ni adawodd Jane Dodds imi ymyrryd, ond hoffwn ddweud bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud cam mawr â ffermwyr gyda'r bleidlais parthau perygl nitradau yn y Senedd ddiwethaf, felly nid wyf am dderbyn unrhyw bregeth gan Jane Dodds ynglŷn â chymryd cyfrifoldeb.
Ar ôl byw mewn cymuned wledig drwy gydol fy mywyd, rwy'n teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi tyfu i fyny yn yr amgylchedd hwnnw, cael y byd ar garreg eich drws, ac mae'n rhan wych o'r byd. A nawr, rwy'n ffodus iawn fy mod yn cynrychioli fy nghartref yn y Senedd. Mae'r cymunedau ar draws etholaeth wych Brycheiniog a Sir Faesyfed yn unigryw. Nid ydynt i gyd yr un fath, ac mewn rhai corneli, mae gennym ddiwylliant Cymraeg bywiog i lawr ym Mhontsenni a gwahanol rannau o'r etholaeth; mewn eraill, mae gennym drefi marchnad ffyniannus y Gelli Gandryll, Llanfair-ym-Muallt ac eraill. Ac mae ein cymunedau mewn ardaloedd gwledig yn cael eu dwyn ynghyd gan yr ymdeimlad o gymuned a bod pawb yno i gefnogi eu cymydog, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch iawn ohono yn ein cymunedau gwledig—y gall pawb ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd.
Asgwrn cefn fy etholaeth i a nifer o etholaethau gwledig yw amaethyddiaeth a'n busnesau bach. Mae amaethyddiaeth yn darparu swyddi a chyfleoedd, ac yn bwysicach fyth, y bwyd sydd ei angen arnom i gyd i oroesi. A dyna pam ei bod yn hanfodol bwysig, pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun ffermio cynaliadwy newydd, fod cynhyrchu bwyd yn ganolog yn hwnnw i sicrhau bod ein ffermwyr i gyd yn cynhyrchu bwyd i'n cenedl ac i sicrhau bod ganddynt ddyfodol proffidiol iawn.
Un peth sydd hefyd yn agos iawn at fy nghalon, ac fe'i crybwyllwyd gan Cefin Campbell, yw ein mudiad ffermwyr ifanc. Fel aelod balch o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosgoch a CFfI Maesyfed, rwy'n dweud mai dyma'r mudiad ieuenctid gorau sydd gennym yn y byd i gyd. Mae'n tynnu cymaint o bobl ifanc at ei gilydd, yn tynnu pawb at ei gilydd o wahanol gymunedau, ac yn dysgu'r sgiliau y mae llawer o bobl mewn ardaloedd gwledig eu hangen. Ac mae hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r ynysigrwydd gwledig y mae llawer o bobl yn ei wynebu ac yn ffordd wych o fynd i'r afael â phryderon iechyd meddwl pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig.
Mae eraill wedi sôn am hyn yn y Siambr, ond rwy'n teimlo'n falch iawn mai fy etholaeth i yw cartref llawer o sioeau amaethyddol: Aberhonddu, Pontsenni, ond yn bwysicach fyth, yn goron ar y cyfan, Sioe Frenhinol Cymru. Ac rwyf i'n bersonol wedi cael sawl diwrnod da yno, a hefyd wedi cael ambell noson dda iawn, yn bennaf ym mar y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol, neu ym mhafiliwn yr aelodau ifanc. Mae'n lle da iawn i fod, ac rwy'n annog pawb i fynd i far y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol os cewch chi gyfle. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu cymaint o ymwelwyr i’n cymunedau gwledig, ac mae’r bobl sy’n dod yno’n gwario dros £10 miliwn yn ein heconomi leol, ac mae hwnnw’n swm enfawr i fy etholaeth ac mae’n swm enfawr i Gymru. Fel y mae eraill wedi’i ddweud, gyda dros 200,000 o bobl yn dod i Lanelwedd, mae’n rhywbeth y credaf y dylai’r Llywodraeth fuddsoddi ymhellach ynddo mewn gwirionedd, ac rwy’n falch iawn fod y Gweinidog, yn lansiad Sioe Frenhinol Cymru heddiw, wedi rhoi ei hymrwymiad i gefnogi'r Sioe wrth symud ymlaen.
Un mater sy’n bwysig iawn i mi, ac i fy nhrigolion, yw’r diffyg—. Gwelaf y Gweinidog yn ysgwyd ei phen. Mae Sioe Frenhinol Cymru’n bwysig iawn i fy nghymunedau. Efallai nad ydych chi’n ei hoffi, ond rwy'n sicr yn ei hoffi. Un o’r problemau y mae llawer o fy nhrigolion yn pryderu yn eu cylch yw’r diffyg band eang a seilwaith yng nghefn gwlad Cymru, ac nid cyfrifoldeb—[Torri ar draws.] Ie, gallaf eich clywed yn mwmian, Rhianon; rwy'n cytuno. Gwrandewch ar yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud. Rwy’n deall nad yw’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ac rwyf am i Lywodraeth y DU wneud mwy. Rwyf am iddynt fynd ymhellach mewn cymunedau gwledig, i wneud yn siŵr ein bod yn cael gwared ar y mannau gwan, oherwydd mae’n faes sy’n dal busnesau yn ôl, ond ceir meysydd seilwaith eraill, fel ein ffyrdd, sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ac mae angen eu huwchraddio ac mae angen i’r Llywodraeth fod o ddifrif ynglŷn â hynny. Rwy'n cadw llygad ar yr amser, Lywydd, peidiwch â phoeni.
Mae saethu hefyd yn rhywbeth sy’n wirioneddol bwysig i fy nghymunedau, a’r ymgynghoriad sydd bellach wedi dod i ben ar reoli rhyddhau adar hela ledled Cymru, os daw hwnnw i rym, rydym yn mynd i weld swyddi a busnesau’n cael eu colli ledled Cymru. Rwy’n meddwl bod angen i’r Llywodraeth fod o ddifrif ynghylch pob ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw, oherwydd nid wyf am weld pobl yn fy etholaeth yn colli eu swyddi oherwydd agwedd y Llywodraeth hon tuag at saethu yng Nghymru.
Fel y dywedais, rwyf wrth fy modd gyda'r awyr agored, ac rwyf am orffen gyda hyn: un o uchafbwyntiau personol fy wythnos yw pan fyddaf yn cael gadael y lle hwn a theithio’n ôl i fy etholaeth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a’r lle rwy’n ei alw’n gartref. Diolch.
Rwy’n mynd i’n hatgoffa am y cymunedau gwledig a’r buddsoddiad y mae cronfeydd yr UE wedi’i gyfrannu at yr economi wledig honno. Yng nghanolbarth Cymru, mae'r rownd bresennol wedi creu mwy na 2,750 o swyddi a 655 o fusnesau newydd. Derbyniodd mwy na 1,900 o fusnesau gyllid neu gymorth busnes. Mae bron i 1,300 o bobl wedi cael cymorth i gael gwaith ac mae bron i 7,000 o gymwysterau wedi'u hennill. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi elwa o fwy na £45 miliwn i ddatblygu cyfleusterau newydd fel Canolfan a Labordai Milfeddygol 1 ac ArloesiAber.
Mae Brexit yn golygu, wrth gwrs, ein bod wedi colli mynediad at gronfeydd newydd yr UE, ac oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, eich Llywodraeth chi, mae Cymru'n colli £1.1 biliwn o gymharu â chronfeydd strwythurol a gwledig yr UE, er gwaethaf addewidion—Janet Finch-Saunders, efallai nad oeddech yn gwrando—na fyddem yn colli’r un geiniog. Nawr, gadewch inni edrych ar y golled o £1.1 biliwn a'r rhestr ddymuniadau a'r rhestr siopa rydych chi'n dod â hi yma bob wythnos. a gallwch ddechrau costio a rhoi llinell drwy rai o'r pethau a allai fod wedi digwydd, ond na fydd yn digwydd, oherwydd bod eich Llywodraeth wedi gwneud addewid y gwyddent nad oedd yn addewid o gwbl. Nid oeddent erioed wedi bwriadu ei gadw.
Felly, rwy’n rhoi cyfle i chi heddiw, ac yn gobeithio y gwnewch chi fanteisio arno. Mae’n gyfle i ymddiheuro i’r cymunedau gwledig am yr addewidion toredig am Brexit, i ymddiheuro i’r ffermwyr hefyd, am y diffyg sicrwydd cyllidol hirdymor ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eich bod am godi a dweud 'mae’n ddrwg gennym'. Dyna beth rydych chi'n mynd i'w ddweud.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Joyce? A dweud y gwir, pan ddaw'n fater o Brexit fe wneuthum bleidleisio dros aros, wrth gwrs, ond rwy'n credu mewn democratiaeth, felly rwyf am barchu canlyniad pobl ym Mhowys, a phobl ledled Cymru. Ond o ran Brexit, clywais Jane Dodds yn gynharach yn sôn sut roedd Powys wedi gwneud mor wael. Fe wnaeth Powys yn wael o dan gronfeydd strwythurol yr UE; fe wnaethant yn llawer gwell drwy gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU: £15 miliwn y mae Jane Dodds wedi anghofio amdano ar gyfer camlas Maldwyn, a llu o brosiectau eraill y gallwn eu henwi hefyd, Joyce Watson.
Wel, nid wyf yn gwybod sut y dysgwyd mathemateg i chi yn yr ysgol, ond gwn sut y dysgwyd mathemateg i mi yn yr ysgol, a'r hyn rwy’n ei wybod am fathemateg yw na all £1 biliwn yn llai byth fod yn fwy. Minws yw minws; nid yw minws yn troi'n plws oherwydd eich bod chi’n codi a'i ddweud. Dyna sut y dysgwyd mathemateg i mi beth bynnag. Felly gan ichi fethu ymddiheuro am y diffyg hwnnw, fe symudaf ymlaen.
I roi gwybod i chi beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fuddsoddi yng nghefn gwlad Cymru, rydym wedi sicrhau 100 o swyddi gweithgynhyrchu da yn Llanfyllin, pencadlys a seilwaith TG newydd ar gyfer LEB Construction yn Aberystwyth, twf a marchnadoedd newydd ar gyfer Atherton Bikes ym Machynlleth, a chynhyrchion pysgota Airflo yn Aberhonddu—ni chlywais y rheini’n cael eu crybwyll. Mae Parc Bwyd Sir Benfro yn Llwynhelyg wedi bod yn llwyddiant mawr, gan ddenu buddsoddiad o £17 miliwn Pembrokeshire Creamery a chreu 80 o swyddi newydd—ni chlywsom am y rheini. Mae mwy na £7.8 miliwn wedi’i fuddsoddi yn sector bwyd canolbarth Cymru, gan helpu cwmnïau fel Hilltop Honey a Radnor Hills i weithio mewn partneriaeth gyda manwerthwyr blaenllaw yn y DU, ac mae cynllun Pont ar Ddyfi, gorsaf reilffordd Bow Street, a ffordd osgoi y Drenewydd, oll wedi helpu i gysylltu cymunedau—ni chlywais unrhyw beth am y rheini. Ac mae bargen twf canolbarth Cymru yn gwneud cynnydd mawr, a bydd y £110 miliwn a ymrwymwyd gan Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU, yn ysgogi buddsoddiad o hyd at £400 miliwn. Ond ni fydd yn gwneud iawn am y golled o £1.1 biliwn.
Mae ein cymunedau gwledig yn cynnig ansawdd bywyd eithriadol. Ceir cyfleoedd newydd gyda mwy o bobl yn gweithio gartref. Ond fel rhywun a gafodd ei fagu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a aeth i’r ysgol, a weithiodd mewn swyddi lletygarwch a manwerthu, a magu fy nheulu, nid oes gennyf farn sentimental am gymunedau gwledig; mae'n rhaid iddynt ffynnu, rhaid iddynt fod yn lleoedd lle mae pobl ifanc yn teimlo'n hyderus ac yn gyffrous am gynllunio eu dyfodol. Mae ffermio a thwristiaeth yn bwysig, ond roeddwn am dynnu sylw at y gweithgynhyrchu a’r dechnoleg werdd, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar sicrhau gwell swyddi, gwell sgiliau, a chymunedau sydd wedi’u cysylltu’n well, fel y dangosais.
Y Gweinidog materion gwledig nawr i gyfrannu—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon. Rwy’n ategu’r pwyntiau a wnaed yn y cynnig am y busnesau gwych sy’n bodoli ledled y Gymru wledig a phwysigrwydd sioeau’r haf i hyrwyddo’r busnesau hynny a lles ehangach cymunedau gwledig. Cytunaf hefyd fod angen inni barhau i wella’r seilwaith trafnidiaeth a seilwaith hollbwysig arall y mae pobl a busnesau mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu arnynt. Mae llawer o fusnesau yng nghefn gwlad Cymru eisoes yn dangos sut y gallai’r economi wledig edrych yn y dyfodol—busnesau’n rhoi mwy yn ôl i’r amgylchedd nag y maent yn ei gymryd mewn adnoddau naturiol; cyflogwyr sy'n gweld partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg fel pethau creiddiol i'w gwerthoedd corfforaethol; busnesau arloesol sy'n cymhwyso gwyddoniaeth flaengar i oresgyn heriau byd-eang; busnesau diwylliannol sy’n dod â’r iaith Gymraeg a’n treftadaeth i fywydau mwy o bobl. Yn wir, mae rhai busnesau'n ymgorffori llawer o'r nodweddion hyn i gyd ar unwaith.
Ein rôl ni fel Llywodraeth Cymru yw gweithio gyda’r busnesau hyn ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus eraill, i fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo economi sy’n canolbwyntio ar les. Nid ydym yn credu mai dim ond drwy adael i’r farchnad rydd benderfynu y cyflawnir y canlyniadau economaidd gorau. Credwn fod ymyrraeth y Llywodraeth, lle daw cefnogaeth y cyhoedd i weithgarwch economaidd yn gyfnewid am sicrhau buddion cyhoeddus ehangach, yn cynnig dyfodol gwell, nid yn unig i’n heconomi wledig, ond i Gymru gyfan. Rydym am i fwy o fusnesau Cymru ddarparu’r manteision ehangach y mae cymaint yn eu darparu eisoes.
Mae ein polisïau seilwaith wedi’u nodi yn ein cynlluniau strategol, gan gynnwys 'Llwybr Newydd' a strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae ein hymagwedd at gysylltedd gwledig wedi’i ffurfio gan gyfres o fyrddau crwn a gynhaliwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac arbenigwyr trafnidiaeth o bob rhan o Gymru. Mae ein llwybr gwledig yn defnyddio dull prif ganolfan a lloerennau, gan helpu’r rheini yn y cymunedau mwyaf ynysig i gael mynediad gwell at eu pentref neu dref leol, ac oddi yno, at ystod ehangach o ddewisiadau trafnidiaeth pellach.
Nododd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yr angen i flaenoriaethu cynlluniau sy'n galluogi gwell cysylltiadau rhwng ardaloedd gwledig, a chlybiau ceir arfaethedig, rhannu ceir ac e-feiciau, yn ogystal â thynnu sylw at rôl cynllunio teithio yn y gweithle i gynorthwyo pobl i gael mynediad at yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Dwy enghraifft yn unig yw prosiectau fel peilot E-Symud Sustrans a gwasanaeth Sherpa yn Eryri o bolisïau trafnidiaeth sydd wedi dangos llwyddiant yn gwella cysylltedd gwledig ac sy'n darparu modelau y gellir eu mabwysiadu'n ehangach.
Ond ni allaf bwysleisio digon fod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n cymunedau gwledig yn digwydd yng nghyd-destun amgylchiadau economaidd difrifol, wedi'u chwyddo gan gyfres gyfan o benderfyniadau polisi niweidiol gan Lywodraeth y DU, o gyfuniad unigryw Ceidwadol o ideoleg ac anallu y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dewis ei anwybyddu yn gyfleus iawn. Yn yr amser sydd gennyf ar gael, mae'n her crynhoi'r rhestr hir iawn o benderfyniadau echrydus, ond mae penderfyniadau sydd wedi cael effeithiau arbennig o niweidiol ar economi wledig Cymru yn cynnwys diffyg unrhyw baratoi ar eu rhan ar gyfer sicrhau cytundeb â'r UE, gyda'r dull anniben, a heb ei ddatrys hyd yma—cefais gyfarfod y prynhawn yma am hyn—o hwyluso symud nwyddau ar draws ein ffiniau yn brawf mwyaf amlwg o hyn. Maent wedi creu prinder difrifol—[Torri ar draws.] Na—prinder llafur difrifol a tharfu ar y gadwyn gyflenwi gyda'u polisïau anhrefnus ar fewnfudo a'r farchnad lafur yn sgil gadael yr UE.
Maent wedi ein gosod dan anfantais o gymharu â'n cymdogion Ewropeaidd drwy fethu buddsoddi am fwy na degawd yn y seilwaith allweddol y maent yn gyfrifol amdano, gan gynnwys ein system ynni, ein cysylltedd digidol a'n rheilffyrdd. Ac wrth gwrs, cafwyd trychineb difrifol prif weinidogaeth Liz Truss, a fwynhaodd gefnogaeth lawn y Ceidwadwyr Cymreig wrth iddi sathru ar enw da rhyngwladol y DU am gymhwysedd economaidd a chreu baich anferthol o ddyled ar gyllid cyhoeddus a chyllidebau pob cartref yn y wlad. Yn y gobaith y bydd yn atal arweinydd yr wrthblaid rhag mwmian, rwyf am dderbyn ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. I fynd yn ôl at eich pwynt am y cwymp honedig mewn cynnyrch o ffermydd Cymru, a allwch chi enwi amser gwell i fod yn gwerthu cig oen a chig eidion dros y chwe blynedd diwethaf, lle mae cig eidion wedi bod yn £5 y kilo, mae cig oen yn £7 y kilo ar y bach? Rwy'n gweithredu bob dydd yn y byd amaethyddol; rwy'n gwybod beth sy'n digwydd. Nid ydym wedi gweld cwymp y diwydiant amaethyddol, fel roeddech chi'n proffwydo, yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd—
Hoffwn i chi roi'r gorau i bwyntio, os gwelwch yn dda.
Rydym wedi gweld lle gwell i ni—
Lywydd—
—fasnachu ein nwyddau.
Iawn. O'r gorau. Nid yw pwyntio'n ffordd weddus i unrhyw Aelod ymddwyn. Y Gweinidog i ymateb.
Rwyf am atgoffa'r Torïaid hefyd nad oes unrhyw ran o economi Cymru wedi teimlo baich rheolaeth y Ceidwadwyr yn fwy na'n ffermwyr a'n pysgotwyr, felly mae hynny'n ateb eich pwynt. Clywsom gan Jane Dodds yn dyfynnu Ian Rickman, is-lywydd yr undeb ffermio—rydych chi'n gofyn i'r undebau ffermio beth maent yn ei feddwl o bolisïau Llywodraeth y DU.
Rydym hefyd wedi gweld Llywodraeth y DU yn ffeirio buddiannau ffermwyr i fynd ar drywydd cytundebau masnach sy'n ychwanegu at fiwrocratiaeth gwneud busnes, yn cynyddu gwrthdaro wrth fasnachu ac yn bygwth tanseilio safonau, ac nid i ffermwyr yn unig. Yr wythnos diwethaf, cafodd un o'r bobl fwyaf blaenllaw ym maes pysgodfeydd Cymru ei ddyfynnu yn y wasg yn disgrifio'r modd y gwnaeth y Torïaid ymdrin â Brexit fel un cwbl sylfaenol ddinistriol. Gellid dweud yr un peth am y modd y bradychwyd y Gymru wledig gan y methiant i anrhydeddu'r ymrwymiad a wnaed gan Weinidogion y DU, y cyfeiriodd siaradwyr eraill ato, i sicrhau na fyddai yr un geiniog yn llai—yr un geiniog yn llai—yn cael ei darparu yn lle cyllid yr UE.
Hoffwn roi clod i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am dynnu sylw yn briodol at annhegwch dybryd y penderfyniad i gategoreiddio HS2 fel prosiect Cymru a Lloegr. Rwy'n credu ei bod yn neges bwerus iawn—ac rwy'n bod yn gadarnhaol nawr—fod y Senedd hon yn gallu siarad ag un llais, ar draws llinellau plaid, i dynnu sylw at y ffaith bod hyn yn amddifadu Cymru o'r gallu i wella cysylltedd gwledig ar y raddfa a'r cyflymder rydym i gyd yn cytuno bod ei angen. Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai ei blaid sefyll yn gryf a thal yng nghae gwenith Cymru a pheidio â phlygu yn y gwynt yn ôl mympwy San Steffan. Felly, er mwyn y Gymru wledig, carwn alw ar y Ceidwadwyr Cymreig i wrando ar eu cyngor ac ychwanegu eu llais at y galwadau am arian yn lle arian yr UE yn llawn ar gyfer datblygu gwledig, ynghyd ag ymrwymiad i orwel cynllunio hirdymor y gwyddom fod ei angen ar gyfer datblygu economaidd yn gyffredinol a chynlluniau tir fel ffermio yn enwedig.
Rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn penderfynu rhoi gwlad o flaen plaid heddiw ac yn annog eu cymheiriaid yn y DU i wrthdroi eu penderfyniad i ddal cannoedd o filiynau o bunnoedd o gyllid yn ôl rhag ei fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru ac yn yr economi wledig, drwy gefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig. Diolch.
Samuel Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser gwirioneddol cael cloi'r ddadl heddiw. Rwyf wedi gwrando arni'n astud, oherwydd mae'r economi wledig yn rhywbeth sy'n hynod bwysig i mi, fel Gweinidog yr wrthblaid ar faterion gwledig. Mae'n hynod bwysig ein bod yn nodi pwysigrwydd yr economi wledig, ein bod yn nodi'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae yn ein cymunedau gwledig, ac yn cydnabod cyfraniadau gwerthfawr ein cymuned amaethyddol, sioeau amaethyddol a digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.
Agorodd Paul Davies y ddadl drwy siarad am y bron i 0.5 miliwn o bobl a gefnogir yn yr economi wledig a phwysigrwydd Sioe Frenhinol Cymru a'r digwyddiad a oedd yno i lansio hynny heddiw, a'r pwysigrwydd y bydd angen inni ei weld yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n awyddus i wrando ar ddatganiad y Gweinidog ar y cynllun ffermio cynaliadwy ymhen pythefnos; rwy'n credu y bydd hwnnw'n gyfnod hynod ddiddorol i'r gymuned amaethyddol. Soniodd Paul hefyd am ddiwygio ardrethi busnes. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei ystyried, ac mae gwir angen i Lywodraeth Cymru edrych ar hynny ar frys. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud bod fy ngrŵp trawsbleidiol ar dwf gwledig yn cynnal ymchwiliad i'r economi wledig a chynhyrchiant gwledig ar hyn o bryd, gan gymryd tystiolaeth gan y rhai yn y sectorau, ar draws yr economi wledig, i geisio rhoi polisïau diriaethol—nid polisïau gwleidyddol, polisïau diriaethol—i'r Llywodraeth, i geisio ysgogi rhywfaint o fuddsoddiad i mewn i'n heconomïau gwledig. Oherwydd mae'r cliw yn yr enw—mae'n grŵp trawsbleidiol.
Soniodd Llyr Gruffydd am bwysigrwydd cyfraniadau gwledig, ond mewn gwirionedd soniodd am y premiymau gwledig hefyd—mae hynny'n rhywbeth y mae gwir angen ei ddeall, gorfod teithio ymhellach am wasanaethau—a'r ffermydd teuluol yw asgwrn cefn yr economi wledig. A'r gwelliannau i'r Bil amaeth, a gyflwynwyd gyntaf gan Mr S. Kurtz o'r Ceidwadwyr Cymreig, yr aethpwyd ar eu trywydd wedyn gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth—rwy'n falch fod y rheini wedi'u cyflwyno. Ond soniodd hefyd am y ffenest siop y mae'r Sioe Frenhinol yn ei chynnig, ac y mae pob sioe ac eisteddfod yn ei chynnig, i'n cymunedau gwledig, yn enwedig i bobl nad ydynt yn dod o gefndir gwledig—sy'n mynd i'r digwyddiadau hynny, am y tro cyntaf o bosibl, a gallu cael blas a golwg ar yr hyn yw'r Gymru wledig mewn gwirionedd.
Peter Fox, mae'n rhaid imi eich canmol am roi bwyd ar yr agenda gyda'ch Bil bwyd, ac mae hynny'n rhywbeth rydych chi wedi chwarae rhan ganolog ynddo. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn frwd iawn ynglŷn â sector bwyd a diod Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig, lle mae gennym dwf esbonyddol posibl ynddo. Oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio, am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd, rydym wedi cael cig oen Cymreig, cig defaid o Gymru, yn mynd drosodd i America—pumed mewnforiwr mwyaf cig defaid, marchnad newydd wych y gallwn ei chyrchu. Dyna'r ymagwedd gadarnhaol rydym am ei gweld.
Ond mae'n rhaid imi ddod yn ôl at rai o'r agweddau negyddol a grybwyllwyd yma heddiw o ran rhai o'r elfennau ynglŷn â chyllid Llywodraeth y DU. Yn amlwg, bydd pawb yma wedi darllen y trawsgrifiad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a gadeirir yn fedrus gan Paul Davies. Cawsom dystiolaeth gan yr Athro Steve Fothergill. Felly, pan fo meinciau Llafur a Phlaid Cymru eisiau dadlau, ac yn dweud ein bod wedi cael ein hamddifadu o £1 biliwn, nid yw hynny'n wir. Dyma sydd gan yr Athro Steve Fothergill i'w ddweud:
'Mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn cynyddu, ac mae'n cyrraedd y lefel yn fras, mewn termau real, lle'r oedd y cronfeydd Ewropeaidd yn wreiddiol. Felly, yn yr ystyr honno, mae Llywodraeth y DU yn gywir.'
Yr Athro Steve Fothergill sy'n dweud hynny. Ac nid yr Athro Steve Fothergill yn unig. Dywedodd David Phillips, cyfarwyddwr cyswllt y Sefydliad Astudiaethau Cyllid:
'Felly rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i gynyddu'r swm sy'n cael ei wario gan gronfa ffyniant gyffredin y DU',
oherwydd bod cronfeydd yr UE yn lleihau ac mae cyllid y gronfa ffyniant gyffredin yn cynyddu. Ond nid yw honno'n ffenomen newydd; dyna'n union a ddigwyddodd o dan gyllid yr UE o'r blaen—ei fod wedi lleihau a chynyddu dros gyfnodau penodol. Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddeall mewn gwirionedd.
Carolyn Thomas—[Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad cyflym.
Diolch, Sam. Rwy'n meddwl bod un peth y byddwn i'n hoffi ei glirio, a hoffwn hefyd roi cyfle i Jane Dodds gywiro'r cofnod. Dywedodd Jane yn ei chyfraniad nad oedd Powys wedi cael yr un geiniog o arian ffyniant bro yn 2022. Y gwir amdani yw bod Powys wedi derbyn £27 miliwn o gyllid ffyniant bro y DU yn 2022. Felly, tybed a fyddai Jane Dodds yn fodlon cywiro'r cofnod ar hynny a gwneud ymyriad yn eich cyfraniad clo, Sam.
Diolch, Russell. Fe ildiaf i Jane, os yw hi'n dymuno, ond—
Rwy'n hapus i gywiro'r cofnod, Lywydd.
Rwy'n falch hefyd fod gan bobl Powys—
A gaf fi ddiolch i Jane Dodds am gywiro'r Cofnod?
Ie, diolch i Jane Dodds am y cyfraniad hwnnw. Rwy'n falch fod gan drigolion Powys eiriolwyr fel Russell George a James Evans hefyd.
I fynd yn ôl at bwynt Carolyn Thomas am y sector cyhoeddus yn gyflogwr mwyaf, pwy sy'n talu'r trethi hynny? Mae angen sector preifat cryf iawn arnom i dalu'r trethi i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus hynny. Mae hynny'n bwysig iawn. Y pwynt a wnaeth Carolyn ynghylch y broses o ymgeisio am arian yr UE hefyd, fe af â Carolyn yn ôl at y dystiolaeth a gawsom ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gan lu o ymgeiswyr am gyllid yr UE a chyllid y gronfa ffyniant gyffredin newydd, sydd wedi canmol symlrwydd y broses ymgeisio am gyllid y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r dystiolaeth yno mewn du a gwyn. Rydych chi'n ysgwyd eich pen, Carolyn—dyna'r dystiolaeth rydym wedi'i chasglu gan sefydliadau annibynnol, sectorau trydydd parti, sydd wedi croesawu symlrwydd y gronfa ffyniant gyffredin yn llwyr.
Un peth—rwy'n ymwybodol o'r amser, ac rwy'n gobeithio bod y Llywydd yn garedig o gofio fy mod wedi derbyn ymyriad—rwyf am ganmol Cefin Campbell am grybwyll y CFfI, fel y mae James Evans wedi'i wneud hefyd, ac eraill. Mae'n achos sy'n agos iawn at fy nghalon fel cyn-gadeirydd CFfI sir Benfro. Pe gallech botelu beth yw'r CFfI a gwerthu hwnnw, rwy'n credu y byddech yn berson cyfoethog iawn oherwydd y sgiliau y mae'n eu rhoi i unigolion. Ond yn y pum munud a 42 eiliad y parhaodd cyfraniad Cefin, rwy'n credu bod pedair munud wedi'u treulio ar feirniadu Llywodraeth San Steffan, felly efallai—[Torri ar draws.] Efallai mai cais am sedd newydd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol ydoedd. Felly, efallai fod Cefin Campbell am sefyll yno yn yr etholiad cyffredinol, ac efallai fy mod wedi torri embargo newyddion yno. Ymddiheuriadau os wyf i wedi gwneud hynny.
Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser ac rwyf wedi rhoi sylw i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y dadleuon hyn ac yn rhoi cnawd ar yr esgyrn, ond gadewch inni gofio ble rydym a pham ein bod ni yma. Rydym ni yma i sicrhau ein bod yn cael y gorau i bobl Cymru, ac mae hynny'n golygu craffu ar Lywodraeth Cymru hefyd. Rydym yn fodlon edrych arnom ein hunain a dweud, ie, symiau canlyniadol Barnett, y cyfeiriodd y Gweinidog atynt—rydym yn barod i ddweud, 'Ydy, mae Cymru'n haeddu'r symiau canlyniadol Barnett hynny.' Mae'n hen bryd i aelodau meinciau cefn Llafur a phartneriaid y cytundeb cydweithio ym Mhlaid Cymru roi'r un faint o bwysau ar y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru ag y maent i'w gweld yn treulio cymaint o amser yn canolbwyntio ar Lywodraeth San Steffan. Rwy'n annog pawb i bleidleisio dros y cynnig heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr ac, oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5, a hon yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil dyletswydd ddinesig i bleidleisio. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Adam Price. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 20, 20 yn ymatal ac 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 5: Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio: O blaid: 20, Yn erbyn: 12, Ymatal: 20
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr ar y cymunedau gwledig, ac yn gyntaf dwi'n cymryd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 8: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Cymunedau gwledig. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna wedi'i dderbyn.
Eitem 8: Welsh Conservatives Debate—Rural communities. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM8307 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd yr economi wledig a'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.
2. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ffermio Cymru i'r economi wledig.
3. Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill o ran cefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) creu strategaeth seilwaith i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig; a
b) ailddyblu ymdrechion i fynd i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus wael ar draws cefn gwlad Cymru.
5. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi tynnu gwerth cannoedd o filoedd o bunnau o gyllid oddi wrth economi wledig Cymru.
6. Yn gresynu at y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid hirdymor i gynorthwyo ffermydd ers i’r DU ymadael â’r UE.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio hefyd wedi'i dderbyn.
Eitem 8: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Cymunedau gwledig. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau am heddiw.
Byddwn ni nawr yn symud ymlaen at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma yn cael ei chyflwyno gan Mabon ap Gwynfor.
Ac os gall Aelodau adael y Siambr yn dawel—yn dawel—mae gennym un ddadl fer i'w chynnal o hyd.
Felly, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am yr amser i gael cyflwyno'r ddadl fer yma heno. Dwi am roi munud o fy amser i Peredur Owen Griffiths, Huw Irranca-Davies, Mike Hedges, Jane Dodds a Mark Isherwood.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am y cyfle i siarad â chi y prynhawn yma am brofiadau pobl hŷn Cymru sy'n berchen ar dai ac yn byw mewn cartrefi sy'n anaddas i bobl fyw ynddynt. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dai, fe wnaethom wahodd Gofal a Thrwsio i roi cyflwyniad ar eu hadroddiad, 'Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru', ym mis Mawrth. Mae'r adroddiad yn taflu goleuni ar y miloedd o bobl hŷn, agored i niwed, ar incwm isel yng Nghymru sy'n berchen ar dai ac yn byw mewn cartrefi sy'n beryglus i'w hiechyd, heb unrhyw ffordd o wella eu sefyllfa. Edrychaf ymlaen at glywed barn y Gweinidog a'r Aelodau ym mhob rhan o'r Senedd ar y pwnc pwysig hwn, ac mae'n dda gweld bod cymaint o bobl wedi cyflwyno eu henwau i gyfrannu, gan ddangos cefnogaeth drawsbleidiol.
Trodd dros 62,000 o bobl at Gofal a Thrwsio am help y llynedd, cynnydd o 6,000 ar y flwyddyn flaenorol, a chydag anghenion tai a chymorth cynyddol gymhleth. Mae cynorthwyo pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain, i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol, er budd gorau pob un ohonom—i'r unigolyn, i'r gwasanaeth iechyd, i'r gwasanaeth gofal cymdeithasol, i'r sector tai. Ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid inni fod yn rhagweithiol a rhaid inni gynorthwyo pobl hŷn i fyw mewn cartrefi o ansawdd da. Roedd unigedd cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf diolch i gyfyngiadau symud COVID-19 yn golygu bod cefnogaeth anffurfiol gan ffrindiau neu deulu neu gymdogion wedi dod i ben bron dros nos. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd cyflwr tai i ddirywio heb i neb allu nodi, archwilio na gwneud gwaith i'w cyweirio. Un enghraifft oedd cais am wasanaeth yng ngogledd Cymru, ymholiad am ddrws blaen gan gleient â chanser angheuol. Pan gyrhaeddodd Gofal a Thrwsio yr eiddo, fe ddaethant o hyd i nifer o broblemau difrifol eraill, gan gynnwys toiled yn gollwng yn union uwchben y gegin, a oedd, yn ei dro, wedi peri i'r llawr pren crog yn y gegin bydru a'i wneud yn anniogel yn strwythurol. Gyda'r llawr mewn perygl o gwympo i'r seler islaw, symudodd yr asiantaeth eitemau hanfodol allan o'r gegin. Nid oedd unrhyw help ar gael gan y cwmni yswiriant na'r cyngor lleol. Am na allent adael cleient mewn cartref anniogel, trefnodd Gofal a Thrwsio bropiau dros dro i gynnal y trawstiau pren a gwneud yr eiddo'n ddiogel rhag cwympo. Amcangyfrifwyd bod y gost o atgyweirio'r llawr oddeutu £1,000, a godwyd yn sgil oriau o wneud ceisiadau gan Gofal a Thrwsio i botiau cyllido bach i sicrhau'r arian, gan adael dim ar ôl ar gyfer y cais gwreiddiol am wasanaeth.
Mae llawer o bobl hŷn heb ddigon o arian i atgyweirio eu cartrefi. Rhaid inni chwalu'r myth fod pobl hŷn sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain i gyd yn gefnog, yn gallu fforddio estyniadau neu ailwampio eu gerddi neu unrhyw beth arall. Dim ond £156.20 yr wythnos o bensiwn sylfaenol y wladwriaeth y bydd person hŷn yn ei gael. Er mwyn cyrraedd y safon isafswm incwm a ymchwiliwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2022, byddai angen i un pensiynwr gael incwm o £17,900 y flwyddyn. Mae pensiwn llawn y wladwriaeth yn darparu £9,627 y flwyddyn, gan adael diffyg o dros £8,000; mae pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn gadael diffyg hyd yn oed yn fwy.
A Chymru sydd â'r stoc dai hynaf yng ngorllewin Ewrop. Mae perygl categori 1 yn bresennol mewn oddeutu un o bob pump cartref. Ni all pobl hŷn fforddio cadw eu cartrefi'n rhydd rhag peryglon, ac mae'r pwysau ychwanegol hyn yn disgyn ar sefydliadau fel Gofal a Thrwsio. Roedd nifer y gweithredoedd Gofal a Thrwsio a gwblhawyd yn breifat y llynedd wedi gostwng 11 y cant i ychydig dros 1,300, tra bod nifer y gweithredoedd elusennol a gwblhawyd wedi cynyddu 130 y cant. Mae hyn yn awgrymu bod llai o bobl hŷn yn gallu fforddio gwaith yn annibynnol, a bod mwy ohonynt angen cymorth ariannol. Yn amlwg, mae budd-daliadau'n fater a gadwyd yn ôl, felly mae'n bwysicach fyth fod Llywodraeth Cymru'n camu i mewn ac yn gwneud yr hyn a all i gefnogi pobl hŷn.
Mae Gofal a Thrwsio yn aml yn gweld cleientiaid heb unrhyw ddewis ond diffodd eu gwres. Ceir enghraifft ym mis Mehefin eleni ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae achos dyn 85 oed sydd â dementia ac yn byw gyda'i fab, sydd â chyflwr ar y galon, yn dangos pa mor ddinistriol y gall effaith hyn fod. Mae'r teulu mewn perygl o esgeuluso eu hanghenion dyddiol am nad oes ganddynt ddŵr poeth at eu defnydd, na gwres canolog na nwy i ddefnyddio'r ffwrn. I hanner y tŷ yn unig y ceir cyflenwad trydan ac oherwydd nad oes gwres canolog, ac am fod y boeler wedi torri, mae'r dŵr yn oer, sy'n golygu bod yr unigolyn a'i fab yn gorfod berwi'r tegell bob tro y bydd angen iddo ef neu ei dad gael dŵr poeth. Oherwydd bod angen atgyweirio'r to, mae glaw'n mynd i mewn i wahanol ystafelloedd yn y tŷ. Mae hyn wedi achosi llawer iawn o ddifrod i waliau, trydan a dodrefn, ac mae llwydni a lleithder yn yr eiddo drwyddo draw. Mae'r toiled i fyny'r grisiau. Fodd bynnag, oherwydd diffyg arian i wneud atgyweiriadau i strwythur yr eiddo, nid yw'n ddiogel defnyddio'r grisiau. Gan fod Mr Williams heb wres digonol, y gaeaf diwethaf sicrhaodd ei fab fod gan ei dad flancedi ychwanegol a'r tri gwresogydd trydan bach oedd eu hangen yn ystod misoedd oer y gaeaf. Aeth ei fab heb gynhesrwydd er mwyn gwneud yn siŵr fod ei dad yn gynnes.
Yn y stoc dai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr y mae rhai o'r tai gwaethaf eu cyflwr i'w canfod. Nid oes gan berchnogion tai yr un polisi cymorth ag y mae safon ansawdd tai Cymru yn ei ddarparu ar gyfer cartrefi cymdeithasol, neu y mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei ddarparu ar gyfer tenantiaid preifat, er enghraifft, i sicrhau nad ydynt yn byw mewn tai y mae eu cyflwr yn beryglus neu lle ceir risgiau i'w hiechyd. Cânt eu gadael i ofalu amdanynt eu hunain ac i edrych ar ôl eu hunain, sydd, i lawer o bobl hŷn, yn dod yn fwyfwy heriol gydag oedran.
Yr hyn sydd angen inni ei wneud, rwy'n credu, yw edrych yn iawn ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi perchnogion cartrefi incwm isel gydag atgyweiriadau brys, a byddai Gofal a Thrwsio, fel partner dibynadwy, mewn sefyllfa dda i ddarparu hyn yn effeithlon wrth iddynt fynd i'r afael â materion eraill, megis addasiadau a defnydd effeithlon o ynni. Felly, hoffwn glywed barn y Gweinidog ar sefydlu grant rhwyd ddiogelwch y gall perchnogion tai incwm isel ei gael i'w galluogi i wneud atgyweiriadau hanfodol i'w cartrefi fel y gallant fyw'n ddiogel, yn gysurus a chydag urddas. Nid ydym am weld sefyllfa lle caiff cartrefi eu gadael i ddadfeilio o'u cwmpas, gan beryglu eu hiechyd, a hirhoedledd a hyd oes eu cartref hefyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Diolch i Mabon am gael y cyfle i siarad yn y ddadl yma.
Rwy'n ddiolchgar am gael siarad am hyn ac i ddod â mater cudd i'r amlwg. Fel y dywedodd Mabon yn briodol, mae hwn yn fater lle mae'n ymddangos bod pobl mewn angen yn cwympo drwy'r craciau, gan effeithio ar eu hiechyd ac ychwanegu at alw cynyddol a phwysau ar ein GIG. Mae effaith tai gwael ar iechyd ac iechyd corfforol yn un peth, ond mae eu heffaith ar lesiant, hyder, iechyd meddwl person hŷn yn ei wneud yn fwy trasig byth. Dychmygwch fyw gyda chanser a gorfod ymolchi yn y sinc oherwydd bod eich grisiau mewn cyflwr mor wael fel eich bod yn ofni eu dringo, neu ddefnyddio goleuadau tylwyth teg wedi'u pweru gan fatri i oleuo'r ystafell am fod eich trydan yn ddiffygiol ac yn beryglus, neu fod eich llawr yn bygwth disgyn ond nad yw'r cwmni yswiriant yn mynd i'ch helpu. Dyma enghreifftiau o bobl hŷn yng Nghymru, ac ni all fod yn iawn fod unrhyw un yn cael eu gorfodi i fyw yn y ffordd honno yn 2023. Weinidog, pa atebion y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i gefnogi'r rhai nad oes ganddynt unrhyw le arall i droi? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Mabon, am roi munud o'ch amser i mi yma heddiw. Rwyf wedi siarad am waith Gofal a Thrwsio yn y Siambr hon lawer gwaith o'r blaen, ac rwy'n falch o wneud hynny eto heddiw mewn perthynas â gofal a thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Fe gawsant dros 9,000 o geisiadau am wasanaeth y llynedd, Weinidog. Cwblhawyd dros 8,000 o weithredoedd yng nghartrefi pobl i wella eu cyflwr a'u hygyrchedd, ac fe gostiodd y gwaith hwnnw ychydig dros £2.3 miliwn. Yn fy etholaeth i, fel rwyf wedi dweud yma o'r blaen, mae gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr mor effeithiol yn cefnogi Ysbyty Tywysoges Cymru gyda llif cleifion. Fe arbedodd dros 7,300 o ddiwrnodau gwely y llynedd, drwy fynd i'r afael â phroblemau tai a'r amgylchedd a oedd yn atal cleifion rhag cael eu rhyddhau o ysbytai. Ond nid yw'n ymddangos bod problem ddifrifol cyflwr cartrefi pobl hŷn ar incwm isel yn un sy'n mynd i ddiflannu, ac os rhywbeth, gallwn weld ei bod yn gwaethygu. Felly, Weinidog, pa gymorth y gallwn ei roi i unigolion, ond hefyd i sefydliadau fel Gofal a Thrwsio, i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth sydd mor amlwg ar hyn o bryd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch unwaith eto, Mabon, am roi munud i mi yn y ddadl hon. Mae 1.2 miliwn o bensiynwyr yn byw mewn tlodi. Pan fydd y dewis rhwng bwyta, gwresogi neu atgyweirio tŷ, a oes unrhyw ryfedd nad yw atgyweirio tŷ ar ben y rhestr? Mae llawer o bobl hŷn sy'n berchen ar dai yn byw mewn eiddo hŷn, sydd, fel y gwyddom, yn costio mwy i'w atgyweirio a'i gynnal. Wrth i werth pensiynau personol fethu cadw i fyny â chwyddiant, mae'r atgyweiriadau'n cael eu gohirio. Gwyddom hefyd fod tai oer a llaith yn gwaethygu cyflyrau iechyd. Gwyddom hefyd fod pobl mewn tai sydd mewn cyflwr gwael yn fwy tebygol o gael damweiniau, ac mae pobl hŷn yn fwy agored i hypothermia. Fel Mabon ap Gwynfor, hoffwn ganmol Gofal a Thrwsio am y gwaith y maent yn ei wneud i helpu deiliaid tai hŷn bregus i gadw eu heiddo mewn cyflwr da. Ni ddylai unrhyw un orfod byw mewn eiddo sy'n anaddas i bobl fyw ynddo. Mater i ni yw atal hyn rhag digwydd.
Diolch i Mabon.
Mae nifer o bobl yn fy rhanbarth i, yn enwedig, yn byw mewn eiddo hŷn, ac mae gan ardaloedd gwledig lawer mwy o eiddo hŷn heb ei inswleiddio'n dda, ac sydd mewn cyflwr gwael. Cymru sydd â'r stoc dai hynaf yng ngorllewin Ewrop, sy'n fwy agored i effeithiau'r argyfwng hinsawdd a thlodi, ac rwy'n gweld effeithiau'r ddau yn fy rhanbarth i.
Nid yn unig hynny, ond i bobl hŷn sy'n berchen ar dai, mae cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn lleol yn her enfawr, o ran y lleoliad, oherwydd natur wledig yr ardal, ac o ran effeithiau bwlch sgiliau hefyd. Fel arfer, mae gan bobl hŷn incwm sefydlog, sy'n annhebygol o gynyddu, felly mae ganddynt lai a llai o adnoddau ariannol i wneud gwaith atgyweirio o'r fath. I orffen, mae pobl hŷn mewn cymunedau gwledig yn teimlo'u bod wedi cael eu gadael ar ôl. Mae angen inni sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn gallu parhau i fyw yn y man lle maent yn ei alw'n gartref, lle bynnag yng Nghymru y maent ac am gyn hired ag y maent yn dewis. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cyfle i siarad ar hyn eto, Mabon. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Gofal a Thrwsio yn dweud wrthym fod pedwar o bob pump o'u cleientiaid yn nodi eu bod yn anabl. Mae gofal a thrwsio Gogledd-ddwyrain Cymru wedi rhannu astudiaeth achos cleient yn Wrecsam sy'n byw gyda dementia Korsakoff a chyflyrau iechyd cymhleth eraill a gysylltodd â nhw ynglŷn â tho'n gollwng. Fodd bynnag, roedd angen ailosod y to'n llawn. Mae gwraig Mr Jones yn ofalwr llawn amser; nid yw'r naill na'r llall yn gallu gweithio. Nid oes grantiau atgyweirio cartrefi ar gael ar hyn o bryd nac ar y gorwel yn Wrecsam nac yn genedlaethol. Er bod y gweithiwr achos gofal a thrwsio yn gwneud cais am botiau cyllido bach, ni fyddai hyn yn ddigon. Mae'r llwydni'n cynyddu, gan effeithio ar anadlu Mrs Jones a Mr Jones, sy'n cael ffitiau sy'n cyfyngu ar ei anadlu.
Mae effeithiau cyflwr gwael eu cartrefi'n cael effaith anghymesur ar bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd sy'n llai abl i dalu am eu hatgyweiriadau angenrheidiol, neu i nodi eu bod yn beryglus. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl anabl yn byw mewn cartrefi sy'n addas i bobl fyw ynddynt ac ar gyfer anghenion unigol.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, a Mabon ap Gwynfor am gyflwyno hyn i'r Senedd allu trafod y pwnc pwysig hwn, oherwydd mae diogelwch, urddas, ac annibyniaeth hen bobl yn eu cartrefi eu hunain yn fater o bwys enfawr i bob un ohonom yma, fel rydym newydd ei glywed. A hoffwn fanteisio ar y cyfle i ymuno ag eraill i ddiolch a thynnu sylw at waith Gofal a Thrwsio ac am eu hadroddiad ar gyflwr tai pobl hŷn yng Nghymru, a'u gwaith eithriadol ledled y wlad. Fe wnaethant gwblhau dros 30,000 o addasiadau yn y flwyddyn 2021-22, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ac fel asiantaethau gwella cartrefi, maent hefyd yn gwneud archwiliadau cartrefi iach sy'n rhoi cyngor ac yn sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, sy'n hollbwysig.
Rydym wedi cynyddu'r grant refeniw craidd ar gyfer Gofal a Thrwsio 18 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf, i gydnabod eu gwaith hanfodol, ac mae bellach ychydig dros £5 miliwn, ac mae eu grant cyfalaf wedi cynyddu 83 y cant i £3 miliwn. Rydym hefyd yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer addasiadau i awdurdodau lleol drwy'r setliad llywodraeth leol, a'n cynllun grant Hwyluso gwerth £6 miliwn, ac wrth gwrs, rydym yn ariannu cymdeithasau tai i ddarparu grantiau addasiadau ffisegol o £12 miliwn y flwyddyn.
Nawr, yr wythnos diwethaf, nododd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ein cynlluniau ar gyfer cam nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. A bydd honno'n cydbwyso'r ddau amcan sef mynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau effeithiau hinsawdd ein stoc dai. Bydd gan bob cartref yng Nghymru fynediad at y rhaglen Cartrefi Clyd i gael cyngor a chymorth. Ac o ran mesurau ymarferol, rydym yn canolbwyntio ar aelwydydd sydd leiaf abl i dalu am welliannau yn y sector tai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, y sector rhent preifat a'r sector tai cydweithredol. Ac i ateb pwynt a wnaeth Mabon ap Gwynfor, byddwn yn gosod trothwy incwm isel, yn hytrach na seilio cymhwysedd ar fudd-daliadau prawf modd yn unig. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn targedu'r bobl dlotaf mewn cymdeithas.
O ran cartrefi cymwys, byddwn yn trin anheddau sydd â sgôr tystysgrif perfformiad ynni o E ac is. Bydd hyn yn cael ei ymestyn i gynnwys EPC D ar gyfer aelwydydd lle mae pobl â chyflwr iechyd cydnabyddedig yn byw, fel clefydau anadlol cronig, cyflyrau cylchrediad gwaed neu iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu y bydd ein help yn targedu pobl hŷn ar incwm isel sy'n byw mewn tai sydd mewn cyflwr gwael—yr union bobl a nodwyd yn yr adroddiad Gofal a Thrwsio.
Rydym yn gweithredu mesurau eraill hefyd, er enghraifft y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a safon ansawdd tai Cymru, y cyfeiriwyd atynt eisoes, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol. Ac mewn perthynas â'r sector rhentu preifat, mae Rhan 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr, yn nodi'r rhwymedigaethau ar landlord i sicrhau bod eiddo rhent mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddo.
Felly, gyda'i gilydd, Ddirprwy Lywydd, mae'r mesurau hyn yn dangos yr ystod eang o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd, effeithlonrwydd ynni a diogelwch cartrefi yng Nghymru fel y gall pobl hŷn yng Nghymru fyw'n annibynnol gydag urddas yn eu cartrefi eu hunain. Diolch.
Diolch, bawb. Cyn inni gau busnes am heddiw—
Derbyniais bwynt o drefn yn gynharach heddiw. Rwyf wedi adolygu'r trawsgrifiad. Rwyf wedi cael trafodaeth gyda'r Aelod a gododd y pwynt o drefn. Nid wyf eto wedi cael trafodaeth gyda'r ddau Aelod arall a nodwyd yn y pwynt o drefn, felly nid wyf yn bwriadu gwneud unrhyw sylwadau pellach heddiw, ond fe ysgrifennaf at y ddau fel ei fod wedi'i gofnodi'n glir.
A daw hynny â busnes heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:37.