Y Cyfarfod Llawn
Plenary
13/06/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Senedd i drefn y prynhawn yma. Prynhawn da i chi i gyd. A chyn i ni gychwyn, hoffwn hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2023.
Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer ymchwil ac arloesi? OQ59673
Llywydd, mae'r cymorth sydd ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi yn cynnwys £10 miliwn i gryfhau ein sylfaen ymchwil wyddonol, £30 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i wella arloesedd, fel y gall sefydliadau yng Nghymru dyfu, gwella iechyd a llesiant, a helpu i fynd i'r afael â'n hargyfyngau hinsawdd a natur. Ac mae hyn i gyd yn ogystal â chyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd i brifysgolion.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.
Yn ôl ffigurau diweddaraf Ymchwil ac Arloesi yn y DU, gwariodd Research Councils UK ac Innovate UK dros £5.2 biliwn ledled y DU yn 2020-21. Dim ond £126 miliwn o hwnnw gafodd ei wario yng Nghymru. Roedd hyn i lawr o ffigur 2018-19, a oedd yn dangos, o'r £5.4 biliwn a wariwyd ledled y DU, y flwyddyn honno, bod Cymru wedi derbyn £131 miliwn. Felly, yn ogystal â cholli mynediad at gyllid yr UE, mae prifysgolion Cymru yn cael eu gorfodi i gystadlu am gronfa o gyllid Ymchwil ac Arloesi yn y DU sy'n crebachu yn erbyn sefydliadau yn y DU sy'n cael eu hariannu yn well. Yn 2018, cyhoeddodd yr Athro Graeme Reid ganfyddiadau ei adolygiad annibynnol o wariant ymchwil, datblygu ac arloesi Llywodraeth Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr adolygiad, ond nid yw wedi eu gweithredu'n llawn hyd heddiw. Felly, yng ngoleuni'r cefndir enbyd y mae sefydliadau Cymru yn ei wynebu ac yn ei oroesi, a wnaiff Llywodraeth Cymru weithredu'r argymhellion yn llawn, wedi'u diweddaru ar gyfer y dirwedd economaidd ac ymchwil bresennol?
Wel, Llywydd, y pwynt pwysicaf a wnaeth yr Aelod o ran adolygiad Reid yw'r pwynt olaf a wnaeth, oherwydd, mewn sawl ffordd, mae argymhellion allweddol adolygiad Reid wedi cael eu goddiweddyd gan newidiadau yn y dirwedd ymchwil sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r adroddiad. Ac mae'r rheini yn newidiadau sylweddol, a byddai angen diweddaru adroddiad Reid cyn y gellid cadarnhau unrhyw gynllun gweithredu.
Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae Luke Fletcher wedi eu gwneud. Mater i Ymchwil ac Arloesi yn y DU yw dangos bod y llythrennau 'DU' yn golygu rhywbeth yn ei deitl. Mae angen gwario'r cyllid sydd ar gael iddo—ac mae'n sylweddol—ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, gan fod yn gyfatebol i'r nifer mawr iawn o gryfderau sydd i'w canfod mewn sefydliadau ymchwil ym mhob rhan o'r DU. Nawr, mae gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU ei hun darged o gynyddu'r gyfran o gyllid sy'n cael ei gwario y tu allan i eurgylch de-ddwyrain Lloegr. Ac rydym ni'n gweithio gyda'n sefydliadau yma yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod nhw mewn sefyllfa cystal â phosibl i gystadlu am y cyllid ymchwil hwnnw ar lefel y DU. Rydym ni'n cynorthwyo prifysgolion ein hunain, wrth gwrs—£82 miliwn mewn cyllid QR i brifysgolion, £15 miliwn yn fwy na hynny yng nghronfa arloesi ymchwil Cymru. Ond, gyda Llywodraeth y DU sydd wedi ail-ganoli arian i'r canol, wedi newid rheolau cyllid ymchwil ar draws y Deyrnas Unedig, mater iddyn nhw yw dangos eu bod nhw o ddifrif ynglŷn â buddsoddi yng ngallu ymchwil sefydliadau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.
Diolchaf i Luke Fletcher am gyflwyno'r cwestiwn hwn, a dim ond i adeiladu ar y pwynt yr wyf i'n credu yr oedd yn ei wneud, os yw Cymru a phrifysgolion Cymru yn mynd i deimlo'r gwir fanteision yr ydym ni'n gwybod y gall ymchwil ac arloesi eu cynnig, mae ein sefydliadau angen cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad allanol ac ennill y ceisiadau cyllid cystadleuol hynny. Ac yn syml, nid yw Cymru yn gwireddu ei photensial o ran ymchwil feddygol yn arbennig. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru sydd â'r gwariant isaf ar ymchwil a datblygu ar gyfartaledd. Rydym ni'n gwario 2 y cant o gyfanswm y DU, er gwaethaf y ffaith bod gennym ni 5 y cant o'r boblogaeth. Hefyd, dim ond 3 y cant o gyllid cystadleuol y mae Cymru yn ei ennill. Oni ddylen ni fod yn ennill o leiaf 5 y cant ohono?
Nawr, canfu'r British Heart Foundation yn ddiweddar, am bob £1 filiwn sy'n cael ei gwario ar ymchwil feddygol gan elusennau, ei fod yn cefnogi £2.3 miliwn mewn allbwn a £1.47 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r sector addysg uwch, a'r trydydd sector, a sefydliadau fel y British Heart Foundation, i sicrhau bod Cymru yn ennill, ar y lleiaf, ei chyfran boblogaeth o gyllid ymchwil feddygol yn y DU?
Wel, Llywydd, bydd geiriau'r Aelod Ceidwadol yn swnio'n wag yng nghlyw sefydliadau addysg uwch ac, yn wir, sefydliadau trydydd sector yng Nghymru gan y byddan nhw'n gwybod, o ganlyniad i benderfyniadau y mae ei blaid ef wedi eu gwneud, bod £380 miliwn yr oeddem ni'n gallu ei fuddsoddi mewn ymchwil ac mewn addysg uwch yng Nghymru yn y rownd olaf o gyllid Ewropeaidd bellach yn diflannu yn gyfan gwbl o Gymru, gan roi 1,000 o swyddi yn y sector ymchwil mewn perygl. Mae'n un dda i Aelodau Ceidwadol sefyll ar eu traed yma, yn mynnu y dylai Llywodraeth Cymru wario mwy o'n hadnoddau, pan fo'i Lywodraeth ef yn gwadu'r adnoddau hynny i Gymru, gyda'r canlyniadau yr ydym ni'n eu gweld. Ac nid fy marn i yw honno—nid fy marn i yw honno; rhybuddion sefydliadau addysg uwch yma yng Nghymru yw'r rheini. Ac er y byddwn ni'n gweithio gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gystadlu yn fwy llwyddiannus am y cyllid hwnnw sydd ar gael ar lefel y DU, byddwch y sicr nad oes unrhyw amheuaeth o gwbl, Llywydd, bod Cymru ei hun yn cael ei hamddifadu o'r cyllid sydd wedi cefnogi'r sector hwnnw yn y gorffennol trwy benderfyniad bwriadol y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain.
Gyda chaniatâd, Llywydd, a gaf i estyn croeso cynnes i Ysgol Gynradd Brychdyn, sydd yma yn y Senedd gyda ni heddiw?
Prif Weinidog, rydym ni'n eithriadol o falch yn Alun a Glannau Dyfrdwy o arwain y ffordd ym maes ymchwil ac arloesi, a bod yn gartref i'r ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ym Mrychdyn. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai'r cam nesaf ar daith arloesi Cymru yw sefydlu canolfan ymchwil uwch-dechnoleg yn Sealand?
Llywydd, mae'n wych gweld y bobl ifanc hynny o Frychdyn yma, ar ôl gwneud y daith i lawr i'r de, a byddan nhw wedi bod yn falch o glywed eu Haelod lleol yn gofyn cwestiwn ar lawr y Senedd y prynhawn yma.
Rwyf i wedi bod yn falch iawn, Llywydd, o gael ymweld â'r ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch ac i fod yno gyda Jack Sargeant ar sawl achlysur. Ac mae'n iawn i dynnu sylw at y cynlluniau ar gyfer y ganolfan ymchwil uwch-dechnoleg yn Sealand. Rydym ni'n gwneud rhywfaint o gynnydd yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynllun hwnnw. Mae'r technolegau newydd critigol a fydd yn cael eu datblygu pan fydd y ganolfan honno yn cael ei sefydlu wedi'u cytuno erbyn hyn—tri maes blaenoriaeth: seiberddiogelwch, peirianneg meddalwedd, a thechnolegau amledd radio. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU, yn natganiad yr hydref, wedi ymrwymo £10 miliwn i fwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw. Ers hynny, Llywydd, mae wedi bod braidd yn anodd cael syniad gan Lywodraeth y DU o'r telerau y bydd y cyllid hwnnw yn cael ei dynnu i lawr ar eu sail, yr amserlenni y bydd y cyllid hwnnw yn cael ei wneud ar gael yn unol â nhw, a hyd yn oed pa adran sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hynny. Ai'r Weinyddiaeth Amddiffyn, sef yr adran sy'n arwain i fod, neu'r Trysorlys, mewn gwirionedd, sy'n dal llinynnau'r pwrs? Felly, er bod y posibilrwydd o ganolfan Sealand yn gyffrous, rydym ni wedi ymrwymo iddi, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yr un mor ymrwymedig ag yr oedden nhw yn yr hydref, ac, os ydyn nhw, yna mae angen iddyn nhw gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau fel y gallwn ni fwrw ymlaen a gwneud y ganolfan honno yn realiti.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59666
Llywydd, rydym ni'n parhau i ddarparu cefnogaeth sylweddol a pharhaus ar gyfer iechyd meddwl. Yn ogystal â'r dyraniad sydd wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, mae byrddau iechyd Powys a Hywel Dda wedi derbyn £4.5 miliwn o gyllid rheolaidd i wella gwasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae Hywel Dda yn gryf o ran iechyd meddwl. Dyma'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno gwasanaeth 111 pwyso 2, lle gall pobl siarad ag ymarferydd iechyd meddwl bob munud o bob dydd, ac ar hyn o bryd mae'n treialu nifer o ddewisiadau amgen blaengar yn hytrach na derbyniadau, fel noddfeydd i blant a phobl ifanc. Felly, mae llawer o waith gwych yn cael ei wneud. Ond, yr wythnos diwethaf, ymwelais â Grŵp Cymorth Iselder Shadows yng Ngarnant, sy'n wynebu toriadau i gyllid. Maen nhw'n gwneud gwaith hanfodol yn y gymuned, a byddai colli'r cymorth hwnnw yn ergyd sylweddol. Felly, ar ôl COVID, a allwch chi sicrhau trigolion cymoedd Aman a Gwendraeth y bydd darpariaeth iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth?
Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am hynna, a diolchaf iddi am yr hyn a ddywedodd am y gwaith sy'n cael ei wneud ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae yn llygad ei lle bod y gwasanaeth 111 pwyso 2 wedi cael ei arloesi yn Hywel Dda, a'r gwasanaeth noddfa i bobl ifanc sy'n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl—y model noddfa yr ydym ni wedi ei ddatblygu yn rhan o'r cytundeb cydweithio—agorwyd y gwasanaethau ymarferol cyntaf yn Hwlffordd, y bydd Joyce Watson yn ymwybodol iawn ohonyn nhw.
O ran gwasanaeth Garnant, fy nealltwriaeth i yw mai penderfyniad y clwstwr iechyd gofal sylfaenol lleol yw hwn. Felly, meddygon teulu yw'r rhain sy'n dod at ei gilydd i gomisiynu gwasanaethau. Maen nhw'n aml wedi'u cyfyngu o ran amser. Cyfrifoldeb y clwstwr yw adolygu'r gwasanaeth, i benderfynu a yw'r buddsoddiad hwnnw yn rhoi'r manteision mwyaf i'w poblogaethau lleol. Nawr, bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl yn Hywel Dda fis nesaf, ynghyd â'r Aelod dynodedig, ac rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd i drafod y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwasanaethau ledled ardal Hywel Dda, ond hefyd i roi sylw i rai o'r pwyntiau penodol y mae Joyce Watson wedi eu codi y prynhawn yma.
Prif Weinidog, mae'n rhaid i drigolion yn fy etholaeth i a ledled Cymru adael y wlad i gael mynediad at wasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol. Mae'r elusen Beat wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod triniaeth arbenigol ar y cyfle cyntaf. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eich bod chi'n gweithio gyda GIG Cymru i gwmpasu dichonoldeb uned anhwylderau bwyta arbenigol yma yng Nghymru. Hoffwn gysylltu fy hun â sylwadau yr Aelod o'ch meinciau cefn, Sarah Murphy, sydd wedi dweud ein bod ni angen amserlenni o ran pryd y bydd hyn yn cael ei gyflawni. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau heddiw pa gynnydd rydych chi wedi ei wneud ar hyn? A phryd ydym ni'n mynd i gael canolfan gwasanaeth anhwylderau bwyta arbenigol yma yng Nghymru i wasanaethu'r bobl hynny sydd ei hangen?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i ni fod yn glir ei bod hi wedi bod yn wir erioed, yng Nghymru, ein bod ni weithiau'n meddwl ei bod hi'n well yn glinigol i bobl ddefnyddio gwasanaethau arbenigol sy'n cael eu darparu dros y ffin. Nid wyf i'n genedlaetholwr yn y ffordd y mae'n ymddangos y mae'r Aelod. Rwy'n credu ei bod hi'n berffaith bosibl—. Mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben. Ei gwestiwn i mi oedd ei bod hi'n well rywsut i wasanaethau gael eu darparu yng Nghymru nag ar draws y ffin, ac rwy'n gwneud y pwynt iddo y bydd gwasanaeth arbenigol, weithiau, i boblogaeth o 3 miliwn o bobl, yn cael ei ddarparu yn well ar draws ein ffin. Mae hynny wedi bod yn wir ers dros 20 mlynedd, ac, ar gyfer rhai arbenigeddau, bydd yn parhau i fod yn wir yn y dyfodol. A byddai un gwasanaeth anhwylderau bwyta i Gymru—un ganolfan—yn llawer mwy anghyfleus yn ddaearyddol i rai rhannau o Gymru na gwasanaethau y gellir eu cyrraedd yn haws dros y ffin yn Lloegr. Nid oes gen i unrhyw wrthwynebiad i hynny gan fy mod i'n meddwl bod hwnnw'n well gwasanaeth i gleifion.
Serch hynny, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid gwella gwasanaethau ychwanegol wedi'i dargedu o £2.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i gydnabod blaenoriaeth gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac mae byrddau iechyd wedi bod yn nodi'r anghenion lleol hynny ac yn gweld a ydyn nhw'n cyfuno i wneud dadl dros wasanaeth cenedlaethol ar gyfer rhai agweddau ar wasanaethau anhwylderau bwyta. Felly, mae'r ddadl honno'n cael ei llunio, a mater i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru fydd penderfynu pa un a yw'r gwasanaeth hwnnw yn rhywbeth y bydden nhw'n ystyried y dylai gael ei ariannu ai peidio. Ond y pwynt cyffredinol yr wyf i'n dychwelyd ato yw lle mae gennych chi anghenion penodol iawn, ac mae anghenion rhai pobl ag anhwylderau bwyta yn benodol dros ben, ni fydd poblogaeth o 3 miliwn o bobl yn cefnogi gwasanaeth o'r math hwnnw, ac ni ddylem deimlo'n betrusgar ynghylch manteisio ar y gwasanaeth hwnnw mewn mannau eraill pan fo hynny er budd y cleifion hynny.
Rwy'n cwrdd â grŵp cymorth Shadows Depression yn Nyffryn Aman ddydd Gwener, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog fod y newyddion bod y gwasanaeth yma ar hyn o bryd yn mynd i gau ym mis Medi wedi achosi pryder anferth i'r 1,600 o bobl sydd yn defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni gofio hefyd y rhestrau aros yn ardal Hywel Dda ar gyfer pobl sydd eisiau therapi ar gyfer anhwylder meddwl—dros 50 y cant yn aros dros chwe mis. Felly, beth ydyn ni'n gallu cynnig o ran gobaith a sicrwydd iddyn nhw? Rwy'n deall y pwynt roedd y Prif Weinidog yn ei wneud, mai penderfyniad gan y clwstwr meddygon lleol oedd hyn, ond a oes yna fframwaith cenedlaethol o ran asesu cost a budd y penderfyniadau hyn, ac a oes cyllid uniongyrchol ar gael ar gyfer sefyllfaoedd lle, oherwydd y penderfyniadau hyn, mae yna fwlch yn mynd i fod ar gyfer y bobl hyn? Oni ddylid sicrhau bod yna barhad yn y gefnogaeth i’r bobl sydd wir ei hangen yn Nyffryn Aman a Chwm Gwendraeth?
Diolch i Adam Price am y cwestiwn ychwanegol. Mae'n adlewyrchu beth mae Joyce Watson wedi’i ddweud yn barod. Wrth gwrs, dwi’n cydnabod y ffaith, pan fo gwasanaethau yn newid, fydd hynny’n codi pryderon gyda rhai pobl, yn enwedig y bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth sydd yno yn barod.
Ond pwrpas creu clwstwr sy’n gryf, gyda chyllid uniongyrchol sy’n mynd syth atyn nhw, yw rhoi’r pŵer iddyn nhw wneud penderfyniadau. Dyna’r pwrpas rŷn ni wedi bod yn ei ddatblygu am nifer o flynyddoedd yn awr, ac i fi, mae’n bwysig rhoi’r hyblygrwydd i bobl leol sy’n agos at y cymunedau i ddefnyddio’r cyllidebau sydd ganddyn nhw yn y ffordd y maen nhw’n asesu fydd yn effeithiol yn y dyfodol.
Dwi’n siŵr y bydd y Gweinidog yn fodlon siarad, pan fydd hi i lawr yn Hywel Dda, gyda’r bwrdd iechyd am beth sy’n digwydd yng Ngarnant. Mae’n bwysig imi gadw at yr egwyddor lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud gyda'r bobl ar lawr gwlad, gyda phopeth y maen nhw’n ei wybod am anghenion pobl leol, a beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ymateb i’r anghenion.
Cwestiynau nawr gan arewinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—Andrew RT Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw yw diwrnod cyntaf ymchwiliad COVID y DU. Roeddwn i wedi gobeithio'n fawr y byddwn i'n gallu dweud mai heddiw yw'r diwrnod cyntaf i ymchwiliad COVID annibynnol Cymru, ond yn amlwg, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd yn ystod eich cyfnod chi fel Prif Weinidog.
Un o'r pwyntiau sydd wedi dod allan y bydd yr ymchwiliad yn treulio cryn amser yn ei ystyried yn rhan gynnar yr ymchwiliad COVID yw'r penderfyniad gan lywodraethau ledled y DU i ryddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal heb brofion. Cynhaliwyd ymarfer parodrwydd ar gyfer pandemig llawn yn 2016, fel y deallaf. Amlygodd yr ymarfer parodrwydd hwnnw fod hon yn risg fawr ac yn bryder mawr. A ydych chi'n cytuno bod honno'n ormod o risg, ac na ddylai rhyddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal heb brofion fod wedi digwydd?
Yn gyntaf oll, rwy'n croesawu'n fawr iawn y ffaith mai heddiw yw'r diwrnod cyntaf o wrandawiadau llawn yn ymchwiliad annibynnol y DU. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn gallu darparu atebion i'r teuluoedd hynny a gollodd anwyliaid ac yr effeithiwyd ar eu bywydau gan brofiad ofnadwy COVID. Rwy'n credu y byddan nhw'n flaenllaw yn ein meddyliau, yn ogystal â meddyliau'r ymchwiliad heddiw.
Mae'r materion y mae arweinydd yr wrthblaid yn eu codi bellach yn faterion i'r ymchwiliad. Dyna pam mae ymchwiliad, ac nid wyf i'n mynd i allu cynnig sylwebaeth barhaus iddo ar agweddau unigol ar waith yr ymchwiliad y mae'n dewis eu codi gyda mi. Mae'r mater o gartrefi gofal a rhyddhau i gartrefi gofal, rwy'n cytuno ag ef, yn fater pwysig iawn. Mae'r ymchwiliad yn nodi hynny. Mae yn y rhaglen o fodiwlau y bydd yr ymchwiliad yn rhoi sylw iddyn nhw yn yr hydref. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd angen tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ac, heb os, tystion o Lywodraeth Cymru ar y penderfyniadau a wnaed yma. Ond diben ymchwiliad yw i'r ymchwiliad fynd ar drywydd y materion hynny nawr, a dyna lle bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei hymdrechion.
Prif Weinidog, ni ofynnais i chi wneud sylwadau na chynnig sylwebaeth barhaus ar yr ymchwiliad. Fe wnes i eich holi am benderfyniad penodol gan Lywodraeth Cymru a wnaed gennych chi fel Prif Weinidog, a chan Weinidog sy'n eistedd yn y Cabinet, pan oedd yn Weinidog iechyd—mae'n Weinidog yr economi erbyn hyn. Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r rhain. Mae'n gwbl resymol, does bosib, ar lawr Senedd Cymru, i'r wrthblaid holi'r Llywodraeth am benderfyniadau polisi a wnaed. Y cwbl rwyf i'n ei wneud yw ceisio gweld, o ystyried treigl amser, pa un a ydych chi'n credu mai dyna'r penderfyniad cywir a wnaed ar y pryd. Mae honno'n llinell gwestiynu gwbl resymol, ac fe wnaf i gynnig ail dro i chi ateb y cwestiwn hwnnw, oherwydd os yw hyn i gyd, yn sydyn, yn mynd i gael ei dynnu oddi ar y bwrdd, beth yw pwynt Senedd Cymru?
Mae'n gwestiwn rhesymol, a dyma fy ateb, yr un ateb ag a roddais iddo y tro cyntaf: bod y rhain yn faterion sydd bellach gerbron yr ymchwiliad. Yn bersonol, rwy'n meddwl ei bod hi'n amharchus i'r ymchwiliad i geisio symud y cyfrifoldeb sydd ganddyn nhw i gwestiynau i mi yn y fan yma. Byddaf yn ateb y cwestiynau hynny gerbron yr ymchwiliad sydd wedi'i sefydlu at y diben hwn. Ni wnaf i ragweld yr hyn a fydd yn cael ei ddweud yno, ni wnaf i ragweld beth fydd yr ymchwiliad eisiau ei wybod gen i. Mae ymchwiliad wedi'i sefydlu, rwyf i eisiau iddo lwyddo, dyna lle bydd fy sylw'n cael ei gyfeirio. Dyna'r lle priodol bellach i gael atebion i gwestiynau am hyn a llawer iawn o agweddau eraill ar y profiad COVID.
Nid wyf i'n gallu credu, ar lawr Senedd Cymru, na allwn ni gael—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod dros Ogwr yn dweud, 'Gweithiwch ef allan, Andrew', a dyma'r Aelod sy'n sefyll ar ei draed dro ar ôl tro ac yn sôn am amarch gan San Steffan i Senedd Cymru yn ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth. Sut ar y ddaear all hi fod yn ddilys ym mhob deddfwrfa arall, boed yn San Steffan neu'n Holyrood, i Aelodau sefyll ar eu traed a holi'r Gweinidogion Llywodraeth priodol am y digwyddiad mwyaf sydd wedi digwydd i'r wlad hon mewn cenhedlaeth neu fwy? Mae'n gwbl resymol i mi ac Aelodau eraill gwestiynu, a bydd y teuluoedd hynny sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd COVID yn nodi haerllugrwydd yr ymateb gan y Prif Weinidog o'ch methiant i ddarparu'r atebion hynny.
Felly, gofynnaf i chi eto, am y trydydd tro—a gallwch fy ngwrthod i eto, ond deirgwaith—mae'n fy atgoffa o lawer o gyfweliadau sy'n cael eu cynnal ar y teledu lle mae pobl yn ceisio gwrthod ymateb—a ydych chi'n cuddio oddi wrth rywbeth, Prif Weinidog? Oherwydd rydym ni'n haeddu'r parch o roi'r ateb ar gof a chadw i wneud yn siŵr bod pobl yn clywed yr hyn y mae eu Prif Weinidog yn ei ddweud. Felly, ai'r penderfyniad cywir oedd rhyddhau cleifion o'r ysbyty i gartrefi gofal cymdeithasol heb brofion a wnaed gennych chi ac a wnaed gan eich Gweinidog Iechyd bryd hynny?
Rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn gadael ei hun i lawr, ac, yn bwysicach, mae'n gadael y teuluoedd sy'n edrych i'r ymchwiliad i roi atebion iddyn nhw i'r cwestiynau hynny i lawr. Pan ofynnir y cwestiwn hwnnw i Weinidogion yn Holyrood ac yn San Steffan, bydd ganddyn nhw'r un ateb, bod sefydlu ymchwiliadau cyhoeddus annibynnol i ymchwilio i'r materion hyn yn golygu mai dyna lle mae'n rhaid i'r cwestiynau hyn gael eu hateb nawr. Ni ddylid eu hateb mewn modd tameidiog trwy gysgod-focsio ar lawr y Senedd, pan fo ymchwiliad annibynnol gyda'r holl arbenigedd sydd wedi cael ei ymgynnull o'i gwmpas i archwilio'r cwestiynau hynny ac i roi'r atebion gorau y gallan nhw eu cael i bobl. Gall ofyn y cwestiwn i mi bob wythnos, bydd yn cael yr un ateb: y lle iawn, y lle rwyf i'n credu y dylid mynd ar drywydd y cwestiynau hynny, yw lle dylen nhw fod, yn yr ymchwiliad annibynnol a sefydlwyd at y diben hwnnw. Dyna fydd Gweinidogion yn ei Lywodraeth ef yn ei ddweud yn San Steffan hefyd.
Arweinydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cyhoeddodd Coleg Brenhinol y Radiolegwyr ei gyfrifiad gweithlu ar gyfer 2022, â rhai canlyniadau damniol, mewn gwirionedd, o safbwynt Cymru. Datgelodd anghysondebau syfrdanol yng nghyfran yr oncolegwyr ledled y DU, yn gyntaf oll: Llundain â dros 10 oncolegydd fesul 100,000 o'r boblogaeth o'i gymharu â gogledd a gorllewin Cymru ag ychydig dros ddau fesul 100,000 o bobl. Yn fwy pryderus, ceir gwahaniaethau rhanbarthol trawiadol o fewn Cymru ei hun hefyd. Tra mai 6.1 yw nifer yr oncolegwyr clinigol yn ne Cymru fesul 100,000 o bobl hŷn, dim ond 0.8 fesul 100,000 o bobl hŷn yw'r ffigur yng ngogledd a gorllewin Cymru.
Mae'r ystadegau ar gyfraddau swyddi gwag yr un mor frawychus. Mae gan Gymru gyfradd swyddi oncoleg gwag o 11% ar hyn o bryd, ac mae 80 y cant o'r swyddi gwag hyn heb eu llenwi am dros chwe mis. Rhagwelir y bydd y tueddiadau hyn yn gadael Cymru â diffyg o 41 y cant o ran staff oncoleg o fewn y pedair blynedd nesaf, yr uchaf o bell ffordd yn holl wledydd y DU. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer diagnosis a thriniaeth o ganser o fewn 62 diwrnod ar gyfer 80 y cant o'r boblogaeth erbyn 2026. Mae ychydig dros hanner ar hyn o bryd. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw sut ar y ddaear ydych chi'n disgwyl cyflawni'r targed hwn yng ngoleuni'r ffigurau brawychus hyn ynghylch lefelau staffio oncoleg yng Nghymru?
Byddwn yn gwneud hynny, Llywydd, drwy'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yng ngweithlu canser y dyfodol. Ers mis Awst 2021, mae gennym ni raglen pum mlynedd o ehangu hyfforddiant oncolegwyr meddygol ac oncolegwyr clinigol. Bob blwyddyn, bydd mwy o bobl yn dechrau hyfforddiant yng Nghymru, ac felly bydd mwy o bobl yn dod i'r amlwg i ddarparu'r triniaethau y bydd eu hangen yn y dyfodol. Byddwn wedi gweld cynnydd o 34 y cant mewn radiograffeg diagnostig rhwng 2017 a 2023, a byddwn yn parhau i ehangu'r gweithlu i wneud yn siŵr y byddwn ni mor barod ag y gallwn ni fod ar gyfer y galw ychwanegol am wasanaethau canser yng Nghymru, yr ydym ni'n gwybod fydd yno yn y dyfodol oherwydd demograffeg a ffactorau eraill.
A chyda mynediad teg gobeithio, ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru. Mae eich Llywodraeth yn aml wedi honni bod mwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru nag erioed o'r blaen. Nid wyf i'n anghytuno â'r darlun cyffredinol hwnnw, ond mae'n bwysig, rwy'n credu, craffu ar y manylion gronynnog i ddeall pam nad yw cynnydd i gyfanswm y staff a gyflogir yn y GIG wedi arwain at unrhyw welliant amlwg o ran pwysau ar y gweithlu. Cyflwynodd Plaid Cymru geisiadau rhyddid gwybodaeth i bob un o fyrddau iechyd Cymru yn ddiweddar, yn gofyn am ddadansoddiad o flwyddyn i flwyddyn o lefelau staffio cyfwerth ag amser llawn ar gyfer pob grŵp staff rhwng mis Mawrth 2015 a 2023. Un duedd amlwg yn yr ymatebion fu i ba raddau y mae lefelau staff gweinyddol a chlerigol wedi cynyddu, tra bod lefelau staff meddygol a deintyddol wedi gostwng. Er enghraifft, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, er bod lefelau cyfwerth ag amser llawn o staff gweinyddol a chlerigol wedi cynyddu 37 y cant, bu gostyngiad o bron i 20 y cant yn nifer y staff meddygol a deintyddol dros yr un cyfnod, ac mae hwnnw yn ddarlun sy'n cael ei ailadrodd yn Felindre a lleoedd eraill hefyd. Onid yw hynny'n dangos, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth angen dull mwy targedig a strategol o ddatrys yr argyfwng hwn yng ngweithlu ein GIG, yn hytrach na dibynnu'n syml ar daflu mwy o fiwrocratiaid at y broblem?
Ceir dau bwynt, Llywydd. Yn gyntaf oll, nid wyf i angen dibynnu ar ffigurau rhyddid gwybodaeth, oherwydd mae gennym ni'r ffigurau swyddogol sy'n cael eu cyhoeddi bob blwyddyn ar weithlu, ac yn yr 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli, gwelsom gynnydd o 31 y cant yn nifer y meddygon teulu sy'n gweithio yng Nghymru, cynnydd o 44 y cant yn nifer y nyrsys sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru, cynnydd o 92 y cant yn nifer y staff meddygol a deintyddol, cynnydd o 98 y cant yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, a chynnydd o 152 y cant yn nifer y bobl sy'n gweithio yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru. Dyna'r ffigurau yr wyf i'n dibynnu arnyn nhw, ac maen nhw'n dangos twf enfawr dros 20 mlynedd yn y gweithlu meddygol, clinigol sydd ar gael yma yng Nghymru.
A dweud y gwir, rwy'n credu ei bod hi'n ddirmygus braidd, Llywydd, cyfeirio'n syml at bobl sy'n cynorthwyo'r bobl hynny fel biwrocratiaid. Pan ddaw'r clinigwyr oncoleg ychwanegol hynny ar gael, sut mae'r Aelod yn credu eu bod nhw'n cael gweld y cleifion sy'n dod i'w gweld nhw bob dydd? Pan fydd meddyg yn dod i Ysbyty Athrofaol Cymru i gyflawni pum llawdriniaeth cataract mewn bore, sut mae'n credu bod y pum claf hynny a'u nodiadau a phopeth sydd ei angen i'r llawdriniaethau hynny gael eu cyflawni—? A yw'n credu y byddai'n syniad da gofyn i feddygon wneud hynny i gyd? Na. Dyna'r biwrocratiaid y mae'n cyfeirio atyn nhw.
Pan fydd gennych chi gynnydd yn nifer y clinigwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd i'r graddau sydd gennym ni, wrth gwrs eu bod nhw angen pobl i'w cynorthwyo yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Rwy'n siŵr bod ei fiwrocratiaid yn cynnwys y bobl y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi eu hariannu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ym mhob un o'n byrddau iechyd. A yw'n credu y byddai'n syniad da eu tynnu nhw allan o'r ffigurau? Biwrocrat un person yw rhywun sy'n darparu ac yn cefnogi gwasanaeth hanfodol person arall, a dyna'r ydym ni'n ei weld yn y ffigurau y mae wedi eu hamlinellu y prynhawn yma.
Ac nid yw nifer o staff ychwanegol un person o reidrwydd yn cyfateb i staff cyfwerth ag amser llawn chwaith, Prif Weinidog, yn y ffigurau a ddyfynnwyd gennych chi yn gynharach.
Wrth fynd i'r afael â'r pwysau ar weithlu'r NHS, mae'n rhaid hefyd, wrth gwrs, gael ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus cryf, onid oes e, sy'n atal yr angen am ofal iechyd yn y lle cyntaf. Mae ymyrraeth effeithiol gan y Llywodraeth i leihau nifer yr achosion o glefydau ataliol yn hollbwysig yn hynny o beth—clefydau fel diabetes math 2, wrth gwrs, sy'n effeithio ar tua 180,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd ac sy'n costio tua 10 y cant o holl gyllideb bresennol y gwasanaeth iechyd. Nawr, mae yna ddatganiad ansawdd ar gyfer diabetes yn destun datganiad llafar yn nes ymlaen y prynhawn yma. Dwi wedi cael golwg ar yr hyn sydd wedi ei ryddhau gan y Llywodraeth yn barod, ond does dim sôn yn hwnnw am yr agenda ataliol. Gaf i ofyn ichi felly am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen atal diabetes Cymru gyfan eich Llywodraeth chi? Ac a ydych chi wedi ymchwilio i opsiynau ar gyfer cynyddu'r dyraniad cyllid ar ei gyfer e, fel y gwnaethoch chi amlinellu y byddech chi'n ei wneud yn eich strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' 2022-24? Oherwydd, mi fyddai buddsoddi i atal diabetes math 2 nid yn unig yn well o safbwynt iechyd y boblogaeth, ond wrth gwrs yn arbed arian i'r gwasanaeth iechyd yn yr hirdymor.
Wel, i ddechrau, Llywydd, dwi'n cytuno'n llwyr gyda Llyr Gruffydd am bwysigrwydd iechyd cyhoeddus i'n helpu ni i atal problemau lle rŷn ni'n gallu atal problemau, ac i lot o bobl sy'n dioddef o ddiabetes, rŷn ni'n gwybod bod dewisiadau maen nhw'n gallu eu gwneud yn eu bywydau nhw sy'n helpu i atal y risg o ddiabetes yn y dyfodol. Bydd datganiad y prynhawn yma gyda'r Gweinidog iechyd ar wasanaethau diabetes a phopeth rŷn ni'n ei wneud yn y mae i dreial cefnogi pobl sydd eisiau gwneud y pethau maen nhw'n gallu eu gwneud yn y maes iechyd y cyhoedd, ac wrth gwrs, popeth eraill yn y gwasanaethau arbennig mae'n bwysig eu cael yn y maes yna hefyd. So, bydd cyfle i bobl clywed y diweddariad gyda'r Gweinidog ac i holi cwestiynau yn ystod y prynhawn.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro? OQ59632
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi yn etholaeth yr Aelod drwy fuddsoddi mewn seilwaith, ariannu datblygiad sgiliau ar gyfer diwydiannau presennol a newydd, a chymorth i arloesi wrth greu swyddi'r dyfodol.
Prif Weinidog, un ffordd o gefnogi'r economi yn sir Benfro yw cefnogi ein sector twristiaeth. Nawr, ychydig wythnosau yn ôl, daethoch i sir Benfro a dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn,
'parhau i weithio gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau i gyflawni twf cynaliadwy o fewn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.'
Nawr, mae'r busnesau yr wyf i'n siarad â nhw, ar draws Preseli Sir Benfro, bron i gyd yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer treth twristiaeth ac yn gwrthwynebu newidiadau i gyfraddau meddiannaeth llety hunanddarpar. Mewn gwirionedd, byddwch yn ymwybodol o sylwadau diweddar William McNamara o Bluestone National Park Resort, a ddywedodd,
'Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld yw troi cefn ar Gymru oherwydd bod treth twristiaeth yma'.
Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bryderon busnes gwirioneddol am ei pholisïau twristiaeth fel hyn, a beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfer hyder i fusnesau yn fy etholaeth?
Llywydd, gadewch i mi fod yn glir gyda'r Aelod a'r busnesau sy'n siarad ag ef. Bydd ardoll ymwelwyr yng Nghymru, wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru, ac os caiff ei chefnogi ar lawr y Senedd yna dyna fydd ewyllys ddemocrataidd y Senedd ei hun. Mae'r cynigion hyn yn cael eu cyflwyno. Fy nghyngor i fusnesau yn ei gymuned yw, yn hytrach na chwyno wrtho am yr hyn sy'n mynd i fod yn digwydd, gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddylunio'r ardoll mewn ffordd, fel y credwn y bydd yn ei wneud, i gefnogi'r sector yn ei etholaeth ac mewn mannau eraill.
Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, Llywydd, yw ymgysylltu â'r busnesau hynny. Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys yn ei ran ef o Gymru, i glywed safbwyntiau'r sector, ac roedd llawer iawn o leisiau adeiladol yn yr ymgynghoriad hwnnw, gan ein helpu i lunio'r polisi hwn mewn ffordd, fel y credaf y bydd, i greu buddsoddiad newydd yn yr amodau hynny sy'n caniatáu i'r diwydiant hwnnw ffynnu. Dyna ddiben yr ardoll ymwelwyr. Ei diben yw casglu cyfraniad bach iawn gan bobl sy'n ymweld â chyrchfannau twristiaeth yng Nghymru, i fuddsoddi yn yr amgylchiadau sydd wedi gwneud y lleoliadau hynny yn ddeniadol iddyn nhw yn y lle cyntaf. Mae'n ymddangos mai polisi plaid Mr Davies yw y dylai holl faich hynny ddisgyn ar y bobl sy'n byw yn lleol. Nid ydyn nhw'n credu hynny. Nid wyf i'n credu hynny chwaith. Dyna pam y bydd yr ardoll ymwelwyr yn dod gerbron y Senedd hon.
Diolch yn fawr iawn i Paul Davies am godi’r mater am ddatblygu economaidd ym Mhreseli Penfro. Fel rŷn ni'n gwybod, mae busnesau bach yn wynebu llawer iawn o heriau ar hyn o bryd, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus wael, cysylltedd digidol anwadal, a hefyd diffyg gwasanaethau bancio i enwi ond rhai. Ond pan fo busnesau'n cau mewn cymunedau gwledig, fel banciau a swyddfeydd post a siopau ac yn y blaen, mae'n gallu bod yn niweidiol iawn, iawn. Ond, mae'n galonogol bod nifer o enghreifftiau, yn etholaeth Paul Davies fel mae'n digwydd, o'r gymuned yn dod at ei gilydd i brynu yr asedau yna a chreu busnesau cymunedol, fel Tafarn Sinc yn Rosebush a siop ironmonger Havards yn Nhrefdraeth ac, yn fwy diwedd, mae'r gymuned o gwmpas Crymych wedi codi dros £200,000 i brynu'r Crymych Arms fel rhyw fath o ased cymunedol. Felly, y llynedd, galwodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Llywodraeth i ddatblygu ystod o fesurau i gefnogi cymunedau i gymryd rheolaeth o'r math yma o asedau, a dilyn patrwm yr Alban, sef yr hawl cymunedol i brynu. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog, felly, ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth o'r math hwn yn y Senedd?
Diolch yn fawr iawn i Cefin Campbell am y pwyntiau yna. Mae'r pwysau rŷn ei roi ar yr economi sylfaen yn rhan o'r pethau rŷn ni'n ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi pobl leol pan, fel roedd Cefin Campbell yn ei ddweud, maen nhw'n dod at ei gilydd i greu busnesau newydd pan fydd pethau traddodiadol yn tynnu mas o'r cymunedau yna. Rŷn ni'n cydnabod, fel Llywodraeth, pwysigrwydd cefnogi pobl leol pan fyddan nhw'n dod at ei gilydd i wneud yr ymdrech i brynu pethau, fel mae pobl yng Nghrymych yn ei wneud yn barod. Mae hwn yn rhan o'r gwaith mae'r Gweinidog yn ei wneud, a dwi'n siŵr, pan fydd diweddariad gyda fe i'w roi i'r Senedd, bydd datganiad ar gael i wneud hynny.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganran gweithlu Cymru sy'n gweithio mewn sectorau economaidd â chyflogau uwch? OQ59638
Llywydd, mae'r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2021 yn dangos bod 42.4 y cant o'r rhai mewn cyflogaeth yng Nghymru yn gweithio mewn diwydiannau cyflog uwch.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae'r gyfradd ddiweithdra dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru wedi bod yn is na chyfartaledd y DU. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi cael rhyw fymryn o anffawd yn ystod y misoedd diwethaf. Rydym ni'n gwybod bod cyflogau canolrifol yng Nghymru yn is na rhai gweddill y Deyrnas Unedig. Ym maes gwybodaeth a chyfathrebu, mae gennym ni 2.35 y cant; ym maes cyllid ac yswiriant, mae gennym ni 3.32 y cant; ac ym maes gwasanaethau proffesiynol, technegol a gwyddonol, mae gennym ni 2.61 y cant o gyflogaeth y DU. Beth sy'n bod ar economi Cymru mewn rhifau? Mae'r rhain yn sectorau cyflog uwch. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu mwy o gyflogaeth mewn sectorau cyflog uwch? A sut mae Llywodraeth Cymru yn gweld swyddogaeth prifysgolion o ran datblygu cyflogaeth yn y sectorau hyn?
Wel, wrth gwrs, rwy'n cytuno â Mike Hedges bod gan y prifysgolion ran bwysig iawn i'w chwarae yn hynny. Yn Veeqo, yn ei etholaeth ei hun, yr ymwelais ag ef gyda'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe, mae'r 80 o swyddi technegol hynod fedrus y mae'r busnes hwnnw yn eu cynnal yn dibynnu ar eu perthynas â'r brifysgol i ddenu graddedigion i'r busnesau hynny. Mae'r pwynt cyffredinol y mae Mike Hedges yn ei wneud yn un pwysig iawn, Llywydd: rydym ni angen mwy o swyddi mewn sectorau cyflog uchel yma yng Nghymru. A bwriad y strategaethau y mae Gweinidog yr Economi yn mynd ar eu trywydd, y strategaeth arloesi a lansiwyd gydag arweinydd Plaid Cymru ar y pryd yn ôl ym mis Chwefror a'r buddsoddiad a gyhoeddodd y Gweinidog dim ond yr wythnos diwethaf yn y maes hwn, yw cefnogi'r sectorau cyflog uchel hynny sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ac mae nhw gennym ni, Lywydd, hefyd. Mae'r sectorau technoleg a seiber y gwnaeth y Gweinidog ddatganiad arnyn nhw gerbron y Senedd yr wythnos diwethaf yn un o'r rheini. Gemau fideo—mae clwstwr o ddatblygwyr gemau fideo yn Abertawe ei hun. Technoleg ariannol—sector arall lle ceir twf cryf yma yng Nghymru. Sector y cyfryngau—Caerdydd sydd â'r trydydd sector sgrin mwyaf yn y Deyrnas Unedig ar ôl Llundain a Manceinion, ac mae'n talu cyflogau uwchben y ffigur canolrifol hwnnw yng Nghymru. Felly, mae gan strategaeth Llywodraeth Cymru bwyslais gwirioneddol ar nodi'r sectorau hynny, gan eu helpu nhw gyda'r pethau y gall Llywodraeth Cymru eu darparu—a buddsoddiad mewn sgiliau ac mewn seilwaith yw hynny yn y bôn—a, lle ceir diwydiannau eginol, fel sydd yn etholaeth Paul Davies, er enghraifft, rydym ni'n buddsoddi yno yn y sector ynni morol, buddsoddiad grymus. Y rheini fydd swyddi'r dyfodol, a'r rheini fydd y mathau o swyddi yr oedd Mike Hedges yn holi amdanyn nhw.
Prif Weinidog, mae'r byd gwaith ar groesffordd. Mae swyddi na allem ni fod wedi breuddwydio amdanyn nhw ychydig ddegawdau yn ôl bellach yn disodli swyddi gweithgynhyrchu hynod fedrus a chyflog uchel y gorffennol. Mae penseiri cwmwl yn fwy cyffredin na gwneuthurwyr boeleri a pheirianwyr. Gyda thwf cyflym deallusrwydd artiffisial a modelau iaith mawr, bydd gweithle'r dyfodol yn wahanol iawn. Bydd deallusrwydd artiffisial yn disodli llawer o weithwyr cyflog uwch ar draws sawl sector. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i addasu mewn gweithle sy'n newid yn gyflym i'w paratoi ar gyfer swyddi na allwn ni hyd yn oed eu dychmygu ar hyn o bryd?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Altaf Hussain yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn yn yr hyn y mae newydd ei ddweud. Nid oes amheuaeth o gwbl bod y byd gwaith yn newid, ac ni fydd swyddi'r dyfodol yn adlewyrchiad syml o'r cyfleoedd a oedd yno yn y gorffennol. Mewn sawl rhan o Gymru, mae gennym ni enghreifftiau gwirioneddol wych o ddiwydiannau newydd yn dod i'r amlwg a fydd yn cynnig y cyfleoedd i bobl ifanc yn yr ardaloedd hynny y byddem ni eisiau eu gweld ar eu cyfer. Pan oeddwn i yn Ffrainc ym mis Mawrth, es i ymweld â phencadlys Thales—Thales sydd â buddsoddiad mawr yng Nglynebwy ym maes seiberddiogelwch, swyddi newydd, swyddi'r dyfodol, a bellach partneriaeth newydd wirioneddol fawr sy'n dod i'r amlwg rhwng Thales yng Nghanada a Thales yng Nglynebwy. Darllenodd y cwmni restr i mi o'r gwledydd ledled y byd a oedd bellach wedi ymweld â Glynebwy gan ei bod yn ganolfan ragoriaeth o ran hyfforddi pobl ifanc ar gyfer y swyddi hynny.
Yn ddiddorol—bydd gan yr Aelod ddiddordeb yn hyn, rwy'n gwybod—dywedodd y bobl ar lawr gwlad wrthyf i mai un o'r heriau yr oedden nhw'n eu hwynebu oedd y gallech chi ennyn brwdfrydedd merch ifanc 13 neu 14 oed mewn dyfodol ym maes seiberddiogelwch. Mae'r person ifanc wedyn yn mynd adref ac yn dweud wrth ei rhieni, 'Hoffwn fod ym maes seiberddiogelwch yn y dyfodol', ac mae'r rhieni'n dweud, 'Seiberddiogelwch? Nid wyf i wedi clywed am hynny. Rwy'n gwybod beth mae nyrs yn ei wneud. Rwy'n gwybod beth mae athrawes yn ei wneud. Rwy'n gwybod beth mae rhywun sy'n gweithio i'r cyngor yn ei wneud. Oni fyddai'n well cadw at rywbeth lle rydym ni'n gwybod beth rydym ni'n ei wneud yma?' Felly, roedd eu pwynt yn sicr yn effro i'r pwynt y mae Altaf Hussain wedi ei wneud—sef, er mwyn creu'r cyfleoedd hynny ar gyfer y dyfodol, nid dim ond pobl ifanc y mae'n rhaid i ni eu perswadio, ond mae'n rhaid i ni berswadio teuluoedd hefyd fod byd gwaith yn newid ac y bydd y cyfleoedd a fydd yno i'w plant a'u hwyrion a'u hwyresau yn wahanol, ac mae angen iddyn nhw fod gyda ni ar y daith honno.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru? OQ59669
Llywydd, mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cynnydd da o ran trydaneiddio llinellau craidd y Cymoedd. Mae'n anochel bod y gwaith uwchraddio yn achosi rhywfaint o darfu i deithwyr, ond mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn cwblhau'r gwaith o drawsnewid y rhwydwaith ac i gyflawni'r newid cenedliadol i wasanaethau y bydd yn ei sicrhau.
Prif Weinidog, mae'n wych nodi'r cynnydd o ran trydaneiddio. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod y gwelliant hwn yn cynyddu'r risgiau i'r rhai sy'n tresmasu ar y rheilffordd yn sylweddol, gan gynnwys yng Nghwmbach yn fy etholaeth i, lle ceir croesfan i gerddwyr ac un o'r cyfraddau tresmasu uchaf a gofnodwyd yng Nghymru. Gyda bron i 1,000 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thresmasu ar linell graidd y Cymoedd yn unig yn 2022, a chydag offer llinell uwchben yn cyflenwi 100 gwaith y trydan a gyflenwir i gartref arferol, mae canlyniadau tresmasu bellach yn hynod ddifrifol. Mae ymgyrch 'dim ail gyfle' Trafnidiaeth Cymru yn ymyrraeth ddefnyddiol iawn, gan dynnu sylw at y perygl o farwolaethau. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog Aelodau yn y Siambr hon a'n cymunedau yn ehangach i helpu i ledaenu'r neges hanfodol bwysig hon?
Wel, yn sicr, Llywydd, byddwn i'n hapus iawn i wneud hynny. Mae'r ymgyrch 'dim ail gyfle' yn ymgyrch drawiadol i unrhyw un ohonoch chi sydd wedi gweld y deunydd y mae'n ei ddefnyddio, ond mae angen iddo fod hefyd, oherwydd mae'r llinellau uwchben sydd nawr yn fyw yn peri risg wirioneddol a difrifol i unrhyw un sy'n tresmasu ar y rhwydwaith. Nawr, mae Trafnidiaeth Cymru, fel rhan o'r datblygiad, yn mynd ati i wella diogelwch. Maen nhw'n cynyddu diogelwch o gwmpas y rhwydwaith, gyda ffensys ychwanegol, estyniadau i rwystrau diogelwch ar bontydd ac yn y blaen, ond nid y bobl sy'n dilyn y rheolau y mae angen i ni boeni amdanyn nhw fan hyn; y bobl hynny sydd, yn y gorffennol, wedi cymryd rhan mewn tresmasu neu weithiau mewn fandaliaeth hefyd, oherwydd mae'r risgiau iddyn nhw o'r datblygiadau hyn yn real iawn.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i fod yn gwneud gwaith yng Nghanolfan Dewi Sant yng Nghaerdydd i gyfleu'r newidiadau sydd wedi digwydd ac i drosglwyddo negeseuon yr ymgyrch. Ac yn ystod y 18 mis nesaf, byddan nhw'n ymweld â dros 200 o ysgolion yng Nghaerdydd ac yng nghymunedau'r Cymoedd. Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i ofyn i Trafnidiaeth Cymru roi manylion y rhaglen honno i bob Aelod, ac i nodi unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn unigol, yn yr ardaloedd yr ydym ni'n eu cynrychioli, i atgyfnerthu'r neges honno bod pethau wedi newid gyda thrydaneiddio llinellau'r Cymoedd. Mae pethau wedi newid yn fawr er gwell, ond mae risgiau'n gysylltiedig hefyd, ac mae gan bobl ifanc, ac unrhyw un arall nad yw'n ymwybodol o hynny, hawl i wybod am y newidiadau hynny i sicrhau nad ydyn nhw'n gwneud pethau sy'n rhoi eu hunain mewn perygl sylweddol iawn.
Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, gwnes i a fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ymweld â'n cymheiriaid yng Nghaeredin i weld yn uniongyrchol lwyddiant eu system trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n cynnwys cymysgedd o drenau, bysiau a thramiau rheolaidd. Yn wir, mae llinell tramiau yn rhedeg yn uniongyrchol i'w maes awyr rhyngwladol ac oddi yno, gan gludo twristiaid i galon eu prifddinas. Rwy'n ddiolchgar am gwestiwn fy nghyd-Aelod ynghylch trydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y de, ond ar hyn o bryd mae'n cymryd unrhyw beth o 50 munud i awr a hanner i gyrraedd Maes Awyr Caerdydd o ganol y ddinas. Mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd â Maes Awyr Caerdydd. Diolch.
Wel, Llywydd, ni fydd cysylltiadau â Maes Awyr Caerdydd yn dibynnu ar drydaneiddio llinellau Cymoedd y de, a oedd yn destun y cwestiwn hwn.
Roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yng Nghaeredin dros hanner tymor, ac rwy'n cytuno â'r Aelod bod y llinell tramiau sy'n cysylltu'r maes awyr â chanol y ddinas wir yn ddarn effeithiol iawn o drafnidiaeth gyhoeddus. Fel y bydd yr Aelodau yma yn cofio, yr oedd flynyddoedd lawer a miliynau lawer o bunnoedd yn hwyr a thros y gyllideb erbyn iddi ddigwydd. Mae trefniadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i Faes Awyr Caerdydd, Llywydd; nid ydyn nhw'n dibynnu ar drydaneiddio rheilffordd de Cymru.
Mae cwestiwn 6 [OQ59658] a 7 [OQ59670] wedi'u tynnu nôl. Cwestiwn 8, Gareth Davies.
8. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn Sir Ddinbych? OQ59668
Llywydd, mae ein strategaeth yn parhau i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn sir Ddinbych. Rydym ni'n cynorthwyo cynhyrchwyr i wella perfformiad a chystadleurwydd, i fynd ar drywydd arallgyfeirio ac i nodi a llwyddo mewn marchnadoedd newydd a phresennol.
Diolch am eich ymateb y prynhawn yma, Prif Weinidog, ac efallai fy mod i wedi sôn ychydig o weithiau wrth fynd heibio am eirin Dinbych, sef unig eirin brodorol Cymru, sy'n dyddio ymhell yn ôl i'r 1700au ac sydd â statws arbennig. A'r hyn sydd i'w ddathlu yw'r ffaith bod llawer o fusnesau a mentrau lleol wedi manteisio ar lwyddiant eirin Dinbych, gan gynnwys Shlizzy o Fodfari, sy'n gynhyrchydd jin a fodca lleol sy'n defnyddio eirin Dinbych ar gyfer eu sudd. Ac mae yna hefyd Wledd Eirin Dinbych yn y dref bob mis Medi, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr yn Nyffryn Clwyd. Ac yn fwy cyffredinol, ar ben hyn, mae gennym ni Snowdonia Cheese Company Limited yn y Rhyl, sy'n allforio cynnyrch llaeth o ansawdd uchel i bedwar ban byd o'i ffatri yn y Rhyl. Ac yn ddiweddar, rydym ni wedi gweld Gwinllan y Dyffryn yn Llandyrnog yn cael ei hymgorffori, sy'n tyfu grawnwin gwyn a choch, er mawr lawenydd i'r rhai ar draws sir Ddinbych ac yn ehangach sy'n dwlu ar win. Felly, gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddathlu llwyddiant cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn sir Ddinbych, cydnabod ein bod yn perfformio’n well o lawer na'r disgwyl i sir ddaearyddol fach o ran yr allbwn sydd gennym ni gyda chynhyrchwyr bwyd, ac a wnewch chi ailddatgan ymrwymiad eich Llywodraeth i fwynhau llwyddiannau datblygiadau coginio yng ngogledd Cymru?
Llywydd, diolchaf yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n awyddus i iawn i ymuno ag ef i ddathlu llwyddiant y cynhyrchwyr hynny yn sir Ddinbych. Roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o chwarae ein rhan wrth sicrhau statws enwau bwyd ar gyfer eirin Dinbych yn gynnar yn 2019, ac, yn wir, i ddarparu cyllid ar gyfer digwyddiad eirin Dinbych y llynedd. Pan wnaeth y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, ymddeol o fod yn Brif Weinidog, penderfynodd y rhai ohonon ni a oedd wedi gweithio gydag ef mai'r rhodd y bydden ni'n ei rhoi fyddai set o rywogaethau Cymreig brodorol i'w plannu yn ei berllan gartref, ac roedd eirin Dinbych yn sicr yn un o'r rheiny.
Llywydd, rwy'n edrych ymlaen at fod yn y Sioe Frenhinol eleni. Rydym yn gwybod y bydd o leiaf ddau gynhyrchydd o sir Ddinbych yn y neuadd fwyd ac yn y lolfa busnes masnach, a dyna lle mae llawer o fusnes hirdymor yn cael ei wneud. Bydd naw cynhyrchydd o sir Ddinbych yn unig yn sicrhau eu bod yn gallu arddangos y cynnyrch gwych sydd ganddyn nhw, a chael archebion newydd ar gyfer y dyfodol. Ac i gael naw cynhyrchydd o un sir yn y digwyddiad hwnnw, rwy'n credu ei bod yn deyrnged, fel y dywedodd yr Aelod, i fenter, blaengarwch a gwaith caled y rhai sy'n gweithio yn y sector hwn yn ei etholaeth ef.
Hoffwn i ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Mae sir Ddinbych yn enwog, wrth gwrs, am ei heirin, ond hefyd am ei chynnyrch arall, gan gynnwys cynnyrch bragwyr annibynnol gwych ar draws y sir. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod y bragwyr annibynnol hynny yn cyfrannu nid yn unig at yr economi, ond yn gadarnhaol at hunaniaeth y cymunedau y maen nhw wedi'u lleoli ynddyn nhw? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru bopeth o fewn ei gallu i barhau i'w hyrwyddo a'u cefnogi?
Llywydd, rwy'n credu fy mod i wedi cael cyfle i ymweld ag un o'r lleoedd hynny gyda'r Aelod pan yr oeddwn ni'n ymgyrchu, yn ôl y sôn, yn ei etholaeth ddim mor bell â hynny yn ôl. [Chwerthin.] Ac wrth gwrs, mae'n iawn bod y bragwyr bach, annibynnol hynny, nid yn unig yn darparu cynnyrch rhagorol ond yr ymdeimlad hwnnw o hunaniaeth leol sy'n cyd-fynd ag ef. Yn union fel yr ydyn ni'n dathlu eirin Dinbych, felly hefyd rydyn ni'n dathlu gwaith y bragwyr annibynnol hynny sy'n gweithredu yn y rhan honno o Gymru.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddynodi ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy fel parc cenedlaethol? OQ59644
Mae cyflawni'r ymrwymiad i ddynodi parc cenedlaethol newydd yn parhau ar y trywydd iawn i'w gwblhau yn ystod tymor y Senedd hon. Gyda thîm prosiect wedi'i sefydlu a'r dadansoddiad cychwynnol wedi'i gwblhau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi symud ymlaen erbyn hyn i gasglu'r dystiolaeth fanwl sydd ei hangen, ac ymgysylltu â phreswylwyr, defnyddwyr a rhanddeiliaid allweddol y parc cenedlaethol newydd hwnnw.
Rwy'n croesawu'r cynnydd, Prif Weinidog; mae hynny'n dda iawn i'w glywed. Un pryder cyffredin yw rheoli twristiaeth fel ei bod yn gynaliadwy, ac rwy'n credu bod yr ardal o harddwch naturiol eithriadol eisoes yn dda iawn am wneud hyn. Un fenter sydd ganddyn nhw yw'r bws camu 'mlaen a chamu ffwrdd sy'n teithio o gwmpas dyffryn Dyfrdwy. Mae'n llwybr cylchol sy'n rhedeg bob dydd Sadwrn rhwng 1 Ebrill a 4 Tachwedd, gan gysylltu Llangollen a'r pentrefi cyfagos â chyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yn yr ardal leol, gan gynnwys traphont ddŵr Pontcysyllte, gwarchodfa natur Wenffrwd, Rhaeadr yr Oernant, abaty Glyn y Groes, tŷ hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant. Prif Weinidog, a wnaiff Trafnidiaeth Cymru hyrwyddo'r fenter hon ynghyd ag ymgyrch gyffredinol i gael mwy o bobl ar drafnidiaeth bysiau cyhoeddus? Mae'n dda iawn defnyddio'r bws hwn i ymweld ag atyniadau lleol, yn hytrach na mynd â'r car. Ac a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch pryd yr ydych chi'n disgwyl i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r ailddynodi gael ei gynnal gyda'r bobl leol sy'n byw yn yr ardal? Diolch.
Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am y cwestiynau hynny. Ar ei phwynt olaf, mae'r broses o ennill dynodiad parc cenedlaethol yn un sylweddol, ac mae cyfres o rwymedigaethau cyfreithiol y mae'n rhaid eu cyflawni ar hyd y llwybr. Daw pwynt yn y broses lle bydd ymgynghoriad ffurfiol. Rydyn ni'n disgwyl i hynny ddigwydd yn 2024, a'r hyn a fydd yn digwydd cyn hynny fydd yr ymarfer ymgysylltu y cyfeiriais i ato yn fy ateb gwreiddiol.
O ran y bws camu 'mlaen a chamu ffwrdd sy'n ymweld ag atyniadau twristiaeth, un o bleserau cwestiynau'r Prif Weinidog yw dod yn fwy cyfarwydd â rhannau o ogledd Cymru wrth i ni ddilyn yr Aelod ar ei theithiau bws o'i chwmpas, felly rwy'n ddiolchgar iddi am hynny. Rwy'n siŵr bod y bws ym Mryniau Clwyd, ardal Dyffryn Dyfrdwy, yn chwarae rhan bwysig iawn wrth leihau tagfeydd a chynyddu mynediad a, Llywydd, mae tystiolaeth dda iawn i'w defnyddio i wella'r gwasanaethau hynny yn y parc cenedlaethol newydd, oherwydd bod Sherpa'r Wyddfa, sy'n wasanaeth newydd yr wyf wedi sôn amdano yma o'r blaen wrth ateb cwestiynau gan Siân Gwenllian, wedi bod â gwasanaeth tebyg ym mharc cenedlaethol Eryri ers 2021. Yn 2021, cafodd y gwasanaeth hwnnw ei ddefnyddio gan 267,000 o deithwyr, a thyfodd i 380,000 o deithwyr mewn un flwyddyn, yn y flwyddyn 2022. Felly, rydyn ni'n disgwyl twf arall yn y gwasanaeth hwnnw ac rwy'n credu ei fod yn dangos y llwyddiant y mae modd ei gael o ddarparu trafnidiaeth bws sy'n canolbwyntio ar y manteision penodol a ddaw yn sgil bod yn barc cenedlaethol, a sicrhau bod ymwelwyr yn gallu defnyddio'r rhannau hardd hynny o Gymru mewn ffordd sy'n gyfleus iddyn nhw, ond sy'n gynaliadwy i'r rhai sy'n byw yn yr ardal honno hefyd.
Cwestiwn 10 yn olaf. Jack Sargeant.
10. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rheoleiddio deallusrwydd artiffisial? OQ59636
Llywydd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch rheoleiddio deallusrwydd artiffisial. Rwy'n cefnogi'r angen am reoleiddio yn y maes hwn, ochr yn ochr â safonau, llywodraethu a dulliau sicrwydd perthnasol a fydd yn helpu i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd cyfrifol, moesegol, cynhwysol a diogel.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ac a gaf i gofnodi fy nghefnogaeth i'r sylwadau y mae wedi'u gwneud yno? Hynny yw, fel peiriannydd, Prif Weinidog, yr wyf wedi synnu ers peth amser, mewn gwirionedd, cyn lleied o sôn sydd wedi bod am ddeallusrwydd artiffisial mewn cylchoedd polisi. Rwy'n credu ei fod tua thair blynedd yn ôl nawr pan ysgrifennais am yr angen i reoli awtomeiddio yn ofalus iawn os nad oeddem am weld yr un math o effaith ag a wnaethon ni ei gweld gyda dad-ddiwydiannu yn y 1980au.
Nawr, rydyn ni eisoes wedi clywed gan Altaf Hussain yn y Siambr am y cyfleoedd sydd o'n blaenau ni o ran deallusrwydd artiffisial, a rhaid i ni gofleidio'r cyfleoedd hynny, oherwydd mae deallusrwydd artiffisial yn digwydd. Yr hyn sy'n bwysig, Prif Weinidog, yw ein bod ni'n cael ein hymateb yn gywir. Hynny yw, yn fyd-eang, rydyn wedi bod yn ceisio dal i fyny o safbwynt rheoleiddio byth ers i'r cyfryngau cymdeithasol ddod i'r amlwg, ac mae deallusrwydd artiffisial ar fin darparu newid mwy sylweddol o lawer. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i reoleiddio'n gywir ac i sicrhau bod trosglwyddiad cyfiawn yn diogelu pobl sy'n gweithio. Prif Weinidog, a wnewch chi fynd â'r neges honno'n uniongyrchol at Lywodraeth y DU, ac a wnewch chi hefyd amlinellu sut, yng Nghymru, yr ydyn ni'n gweithio drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn?
Llywydd, mae Jack Sargeant yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn. Os yw'r ddadl ar ddeallusrwydd artiffisial wedi bod yn araf yn dod i'r amlwg, mae'n sicr wedi cyflymu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae hwn yn faes lle rwy'n credu bod gan reoleiddio ledled y DU fanteision sylweddol, a bydd Llywodraeth Cymru'n chwarae ein rhan yn yr ymgynghoriad y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnal ar hyn o bryd ar reoleiddio deallusrwydd artiffisial. Ond fe wnawn ni hynny yn y ffordd y mae Jack Sargeant wedi'i hawgrymu, Llywydd—fe wnawn ni hynny mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol. Byddwn ni'n sicrhau bod ein hymateb yn defnyddio barn y sector preifat a chyhoeddus ehangach yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod bod ein cydweithwyr yn yr undebau llafur wedi gwneud gwaith pwysig iawn ar effaith deallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Byddwn ni hefyd, Llywydd, yn manteisio ar y berthynas agos sydd gennym ni â'r Ganolfan Data, Moeseg ac Arloesi, oherwydd mae hwn yn faes lle rwy'n credu bod bod yn sicr nad ydyn ni'n ei drin fel mater technolegol yn unig, ond ein bod ni'n effro i'r materion moesegol sy'n cyd-fynd ag ef, yn bwysig iawn er mwyn sicrhau bod modd elwa ar y manteision a bod hawliau unigolion hefyd yn cael eu diogelu'n gywir. Dyna fydd ffocws ein cyfraniad i'r ymgynghoriad, ac yna rwy'n gobeithio, yn lle chwarae dal i fyny, fel y dywedodd Jack Sargeant, y bydd gennym ni drefn reoleiddio ar waith sydd â budd y cyhoedd wrth ei gwraidd, er gwaethaf y ffaith ein bod ni'n ymdrin yn aml yma â chwmnïau trawswladol a phwerus iawn.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y rheolau ynghylch ceisiadau cynllunio ôl-weithredol, hysbysiadau gorfodi ac apeliadau, os gwelwch yn dda? Mae gennyf broblem yn fy etholaeth lle cafodd cais cynllunio ôl-weithredol ei wneud bedair blynedd yn ôl, ac er iddo gael ei wrthod ar dri achlysur gwahanol, mae apêl arall wedi'i chyflwyno, sy'n golygu na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan y flwyddyn nesaf. Nid oes modd goresgyn un o'r amodau y mae'r cais wedi'i wrthod arno. Felly, mae cymuned yn rhwystredig bod gwaith adeiladu wedi parhau, ac y caniatawyd i ail a thrydydd cais ôl-weithredol gael eu cyflwyno.
Yr hyn sydd hefyd wedi achosi rhwystredigaeth yw bod apêl wedi'i chyflwyno hefyd yn erbyn yr hysbysiad gorfodi. Siawns pan nad oes modd goresgyn amod cynllunio—nad oes modd ei oresgyn yn ffisegol—yna mae caniatáu i geisiadau ôl-weithredol gael eu cyflwyno am yr ail a'r trydydd tro, ac apeliadau, yn ymarfer costus, llafurus i awdurdodau cynllunio sydd eisoes dan bwysau. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad yn unol â hynny? Diolch, Llywydd.
Diolch. Mae'r Gweinidog yn adolygu'r rheoliadau ynghylch caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n ei ofyn yn benodol iawn, iawn ac mae'r Gweinidog yn ei lle ac wedi'ch clywed chi. Rwy'n credu y byddai'n well pe baech chi'n ysgrifennu ati'n uniongyrchol.
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Y cyntaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am recriwtio a hyfforddi deintyddion, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i wella recriwtio dramor i'r proffesiwn. Rwyf i wedi cwrdd â llawer o ymarferwyr yn ystod y misoedd diwethaf, ac rwy'n gwybod bod gennym ni adroddiad gwerthfawr iawn gan y pwyllgor iechyd ynghylch deintyddion. Un o'r materion yw mai recriwtio dramor yw'r unig ymateb gwirioneddol yn y tymor byr. Felly, hoffwn i ddeall ble rydym arni o ran hynny, os gwelwch yn dda.
Ac, yn ail, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch deddfwriaeth diwygio bysiau a'r amserlen ynghylch hynny, os gwelwch yn dda. Ddydd Gwener, cwrddais â thrigolion y Borth, Ceredigion, i glywed am eu pryderon am ddirywiad gwasanaethau bysiau yn eu cymuned. Rydyn ni wedi cael datganiad ar y sefyllfa tymor byr, ond mae'n hen bryd cael deddfwriaeth, a byddwn i'n ddiolchgar, fel rwy'n siŵr y byddai eraill hefyd, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am gynnydd y cynigion deddfwriaethol hyn, a'r amserlenni hefyd ar gyfer y ddeddfwriaeth. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i ddenu graddedigion tramor ac, yn wir, deintyddion rhyngwladol i weithio yma yng Nghymru. Mae'r deintyddion hynny sydd â gradd gyntaf o'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn gymwys i gofrestru'n llawn gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar unwaith. Mae hynny'n caniatáu iddyn nhw wedyn i ymuno â rhestr perfformwyr y GIG, i weithio mewn practis deintyddol gofal sylfaenol. Os nad oes gan unigolyn y graddau hynny, os ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda sefydliad nad yw'n aelod o'r UE neu sefydliad nad yw'n rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yna mae'n rhaid iddyn nhw gwblhau'r arholiad cofrestru tramor. Yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yw sicrhau eu bod ar gael i'r deintyddion rhyngwladol hynny, ac rwy'n gwybod bod nifer y lleoedd i sefyll yr arholiad yr haf hwn wedi treblu fel rhan o adferiad yr arholiad yn dilyn pandemig COVID. Mae'r Gweinidog hefyd yn awyddus iawn, fel y dywedais i, i ddenu graddedigion rhyngwladol ar y rhaglen fisa haen 5 mewn ysbytai.
O ran eich ail gwestiwn ynghylch deddfwriaeth bysiau, byddwch chi'n ymwybodol bod y Prif Weinidog, bob blwyddyn, yn cyflwyno datganiad yn y Siambr, a'r llynedd, yn ei ddatganiad deddfwriaethol i'r Siambr, dywedodd y bydden ni'n cyflwyno Bil diwygio bysiau yn nhrydedd flwyddyn tymor y Senedd hon.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am fynediad at wasanaethau cyswllt toresgyrn yng Nghymru? Mae toriadau sy'n cael eu hachosi gan osteoporosis yn effeithio ar hanner y menywod dros 50 oed, ac un o bob pump o ddynion. O ran blynyddoedd sy'n cael eu colli i farwolaethau ac anabledd cynamserol, torri esgyrn yw'r pedwerydd cyflwr iechyd mwyaf dinistriol. Mae therapïau effeithiol yn bodoli, ond mae'r loteri cod post ar gyfer gwasanaethau cyswllt toresgyrn yn golygu bod miloedd o bobl sydd ei angen yn colli'r cyfle i gael triniaeth. Y canlyniad yw miloedd o doriadau asgwrn cefn a chrac trwch blewyn y byddai modd eu hatal sy'n newid bywydau i bobl ac sy'n gostus i'r GIG. Ym mis Chwefror, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig, yn nodi ei bod yn disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar gael i bawb erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf. Yr wythnos hon, bydd y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol yn lansio ymgyrch i ddod â'r loteri cod post i ben ar gyfer gwasanaethau cyswllt toresgyrn ledled y DU. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi amlinellu'n glir iawn y mathau niferus o niwed a all gael eu hachosi gan dorasgwrn—nid y toriad ei hun yn unig, ond y materion sy'n newid bywyd sy'n gallu dilyn yn aml, yn enwedig toriadau cymhleth iawn. Rwy'n credu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i barhau i weithio, yn enwedig gyda'n trydydd sector, i fod yn rhagweithiol iawn i geisio sicrhau bod pobl yn osgoi cwympo yn y lle cyntaf, er enghraifft, fel nad oes angen iddyn nhw wedyn gael triniaeth yn yr ysbyty ac, fel y dywedwch chi, y therapïau ar ôl hynny. Gwnaeth y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig yn ôl ym mis Chwefror. Mae cryn dipyn o amser o hyd—tua 16 mis yn ôl pob tebyg—cyn y dyddiad cau a bennodd hi ar gyfer y byrddau iechyd, felly nid wyf i'n meddwl bod angen datganiad ar hyn o bryd. Ond rwy'n siŵr, os yw'r Gweinidog yn teimlo bod rhywbeth y gall hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei gylch, y bydd yn hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig.FootnoteLink
Rwy'n galw am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffeibrosis systig yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod yr wythnos hon yn nodi Wythnos Ffeibrosis Systig. Mae ffeibrosis systig yn gyflwr genetig cynyddol sy'n bennaf yn achosi i'r ysgyfaint a'r system dreulio gael eu tagu â mwcws, ac mae'n effeithio ar oddeutu 500 o bobl ledled Cymru. Yn ogystal ag effeithio arnyn nhw'n gorfforol ac yn feddyliol, mae hefyd yn effeithio arnyn nhw'n ariannol. Ac yn ôl adroddiad diweddar gan Brifysgol Bryste, mae'r gost ychwanegol o fyw gyda ffeibrosis systig dros £6,500 bob blwyddyn. Er bod yr oedran marwolaeth canolrifol presennol i rywun â ffibrosis systig yn drasig o ifanc, yn 38 oed yn unig, mae hyn yn golygu, yn ystod ei oes, y bydd yn wynebu tua £0.25 miliwn o gostau ychwanegol. Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei strategaeth i gyflymu'r gwaith o ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer ffeibrosis systig, ac i ymdrin â'r angen am gymorth ariannol i bobl sy'n byw gyda ffeibrosis systig.
Rwyf i hefyd yn galw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar y gofal a'r driniaeth sydd ar gael i oroeswyr polio yng Nghymru. Fel noddwr Cymrodoriaeth Polio Prydain, fe wnes i noddi a siarad yn y digwyddiad nos Fercher diwethaf yn y Senedd, gan lansio eu llwybr gofal clinigol gorau posibl ar gyfer pobl y mae polio yn effeithio arnyn nhw, a gafodd ei fynychu gan lawer o oroeswyr polio sy'n byw yng Nghymru, a bwysleisiodd pa mor bwysig yw'r llwybr iddyn nhw. Gwnaeth miloedd ddal y feirws polio pan oedden nhw'n blant, ac maen nhw'n parhau i ddioddef o'i ganlyniadau tymor hir. Mae'r llwybr yn llwybr sydd wedi'i argymell i gleifion drwy'r system gofal iechyd, a fydd yn sicrhau bod goroeswyr polio yn cael y gofal cywir ar yr adeg gywir, ac mae angen iddo gael ei fabwysiadu gan y GIG, byrddau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru. Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd, yn manylu ar sut y bydd hi'n ymgysylltu â Chymrodoriaeth Polio Prydain ynghylch gweithredu'r llwybr, a'r angen i leihau'r amrywiaeth mewn gofal i oroeswyr polio sy'n byw yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'n dda gweld—. Gallaf i weld eich bod chi'n gwisgo'ch bathodyn yn cydnabod yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'i gwneud ei disgwyliadau ynghylch hynny'n glir iawn i fyrddau iechyd, ac, yn amlwg, mae cyffuriau newydd sy'n cael eu cyflwyno i helpu gyda'r clefyd dinistriol hwn yn cael eu hystyried fesul achos.
O ran goroeswyr polio, fel y dywedwch chi, mae llawer o oroeswyr polio yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid wyf yn ymwybodol o broses y llwybr, ond yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybod i'r Aelodau os oes unrhyw beth penodol yn cael ei wneud o ran hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar godi proffil rhynglwadol Cymru a diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Y Prif Weinidog, felly, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Cymru wedi bod yn wlad sy’n edrych tuag allan ers cryn amser, gyda chysylltiadau rhyngwladol cryf. Mae ein hanes yn llawn straeon am gydweithio agos â’n cymdogion agosaf. Yn wir, un o nodweddion mwyaf hynod Oes y Seintiau yw pa mor bell, a pha mor aml, yr oedd dynion a gwragedd Cymru yn teithio i lefydd eraill, a’r môr sydd o gwmpas ar dair ochr y wlad oedd eu priffordd gyffredin. Gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, gwnaeth y chwyldro diwydiannol cyntaf ddenu pobl o bob rhan o’r byd i Gymru ar gyfer ein glo, ein haearn a’n dur, ac mae pobl o dreftadaeth Gymreig wedi teithio y tu hwnt i’n ffiniau ac i’w canfod ledled y byd. Mae’r teimlad cryf hwnnw o ryngwladoldeb yr un mor bwysig inni heddiw ag yr oedd ganrifoedd yn ôl. Mae’n gymorth inni ffynnu fel gwlad.
Mae penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn cynnal ac yn cryfhau ein cysylltiadau hir-sefydlog gyda rhanbarthau a gwledydd yn Ewrop, ond hefyd gyda phartneriaid ar draws y byd. Datblygwyd ein strategaeth ryngwladol i wneud hynny’n union, ac i ddefnyddio pob cyfle i adeiladu ein proffil yn rhyngwladol, a thrwy hynny i gefnogi busnesau drwy agor marchnadoedd newydd, eu cefnogi i gynyddu eu hallforion a’u hannog i fewnfuddsoddi i Gymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Dirprwy Lywydd, yn 2022 cynyddodd allforion nwyddau o Gymru i lefel werth £20.5 biliwn, sef mwy na'r hyn yr oedd cyn y pandemig. Fe fyddwn ni'n buddsoddi £4 miliwn eleni mewn rhaglen gynhwysfawr o gymorth i fusnesau Cymru gydag allforio, gan gynnwys rhaglen weithredol o deithiau a digwyddiadau masnach. Yn dilyn ymweliadau â Boston ac Amsterdam yr wythnos diwethaf, fe fyddwn ni'n mynd â busnesau i Baris yn ddiweddarach y mis hwn.
Fodd bynnag, nid yw ein gwaith rhyngwladol ni ynghylch masnach yn unig. Mae hwn yn gyfle pwysig i dynnu sylw at y dalent enfawr sydd yng Nghymru, a'r gwerthoedd sy'n bwysig i'n cenedl ni. Roedd y sylw byd-eang digyffelyb a oedd wedi ei hoelio ar Gwpan y Byd yn Qatar yn cynnig llwyfan i hyrwyddo Cymru, i greu cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad a busnes, ond ar gyfer achub ar bob cyfle i nodi pwysigrwydd i Gymru ein hymrwymiad i'r hawliau hynny hefyd—hawliau dynol, hawliau llafur, hawliau'r boblogaeth LHDTC+—sef ein bod ni'n credu eu bod yn perthyn i bawb ohonom ni.
Dirprwy Lywydd, mae chwaraeon o ddiddordeb mawr i lawer o'n cyd-ddinasyddion ni. Dyna pam maen nhw'n cynnig llwyfan mor bwysig i ni adrodd hanes Cymru. Boed hynny o ran llwyddiant anhygoel ein hathletwyr ni ym myd chwaraeon, hyd at rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Qatar a thîm rygbi'r menywod yn cyrraedd y rowndiau terfynol yn Seland Newydd neu'r chwe athletwr y gwnaethom ni gyfarfod â nhw yn y Senedd yr wythnos diwethaf, cyn iddyn nhw gystadlu yn y Gemau Olympaidd Arbennig ym Merlin yn ddiweddarach y mis hwn. Mae Wrecsam erbyn hyn yn wirioneddol ar y map rhyngwladol, diolch i lwyddiant ar y cae pêl-droed a rhywbeth a ddywedodd y Trefnydd wrthyf i nawr am Hollywood. [Chwerthin.] A Dirprwy Lywydd, mae llawer i ddod eto.
Ym mis Mawrth eleni, lansiwyd Cymru yn Ffrainc 2023, canolbwynt allweddol ar gyfer eleni, yn seiliedig ar Gwpan Rygbi'r Byd y dynion, ond yn mynd y tu hwnt i hynny. Yn union fel gwnaethom ni yn 2019 yn Japan, rydym ni'n edrych ymlaen at y cyfleoedd i hyrwyddo Cymru trwy ddod â'r Llywodraeth a rhanddeiliaid allanol ynghyd i gydweithio er mwyn Cymru.
Mae'r model cydweithredol hwn ynghylch chwaraeon wedi cyflawni cymaint eisoes fel bod Cymru wedi cael gwahoddiad i Gyngres y Byd ar Ddiplomyddiaeth Chwaraeon i arddangos ein model ni yng Ngwlad y Basg yn ddiweddarach eleni, rhan arall o'r byd sydd â chysylltiadau arbennig o gryf â Chymru.
Dirprwy Lywydd, mae llwyddiant chwaraeon a phroffil rhyngwladol ein diwydiannau creadigol—hon wedi'r cyfan, yw wythnos cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd—o bwys arbennig i'n pobl ifanc ni. Y llynedd, fe gefais i'r fraint o ymuno ag Urdd Gobaith Cymru yn Oslo, wrth iddo gyflwyno ei ganfed neges flynyddol yn olynol o heddwch ac ewyllys da yng Nghanolfan Heddwch Nobel.
Mae ymdeimlad fel hyn o genedl hyderus, ein hwyneb wedi troi tuag allan i gwrdd â'r byd a chroesawu eraill i'n glannau, wrth hanfod ein huchelgais ni i fod yn genedl noddfa a'n rhaglen Taith i bobl ifanc. Mae'r rhaglen honno eisoes wedi gwneud llawer iawn o les wrth gynnig cyfleoedd i gyfranogwyr Cymru gael profiad, ar y naill law, o'r hyn sydd gan y byd i'w gynnig, a chroesawu pobl ifanc o bob cwr o'r byd i Gymru wedyn. Ac mae'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn honno'n cael ei ad-dalu dro ar ôl tro o ran atgyfnerthu enw da Cymru yn genedl sy'n benderfynol o barhau i ymgysylltu â'r gymuned ryngwladol ehangach honno.
Dirprwy Lywydd, dyna pam, dros y 12 mis diwethaf, rydym ni wedi cymryd camau pellach i gryfhau ein perthynas ag Iwerddon—ein partner Ewropeaidd agosaf a phwysicaf. Roeddwn i'n rhan o ddirprwyaeth weinidogol i Gorc a Dulyn ar gyfer ail fforwm gweinidogol Cymru-Iwerddon ym mis Hydref. Peth da iawn oedd i Gonswl Cyffredinol Iwerddon allu ymuno â ni yng ngogledd Cymru fis diwethaf ar gyfer pwyllgor Cabinet y gogledd, ac fe fyddwn ni'n cynnal trydydd cyfarfod fforwm gweinidogol Cymru-Iwerddon yn y gogledd yn yr hydref.
Cynhaliwyd mwy na 35 o weithgareddau yn ystod ein blwyddyn Cymru yng Nghanada yn 2022 a hynny ledled saith talaith yng Nghanada, yn ogystal â gweithgareddau rhithwir, gan ymgysylltu â miliynau o bobl yn llythrennol felly. Mae'r ymgyrch wedi cryfhau a dyfnhau'r berthynas sy'n bodoli ac wedi meithrin partneriaethau newydd ledled Canada a rhwng Canada a Chymru.
Bob blwyddyn, wrth gwrs, mae Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo Cymru dramor. Fe ymwelais i â Brwsel, bu'r Gweinidog addysg yn Iwerddon, a bu'r Gweinidog iechyd yn Copenhagen, wrth i ni geisio cefnogi gweithgarwch Cymru gyda'n gilydd ledled y byd—gweithgaredd yn Llundain, a gweithgaredd yn UDA, Canada, Tsieina, Japan, India, y dwyrain canol ac Ewrop dan arweiniad ein rhwydwaith tramor a thynnu sylw'r byd at Gymru.
Wrth gwrs, nid yw ymgysylltu rhyngwladol yn digwydd pan ydym ni'n teithio i wledydd eraill yn unig. Mae cenedl sydd â'i golygon tuag allan yn genedl groesawgar a chynnes hefyd. Ers mis Ebrill y llynedd, mae Gweinidogion wedi croesawu mwy na 40 o gynrychiolwyr rhyngwladol yma i Gymru. Dim ond wythnos diwethaf, roedd Llywydd Gweinidog Fflandrys yng Nghaerdydd. Ei brif reswm ef am fod yma oedd i arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Chymru, a'n nod ni yw arwyddo cytundebau dwyochrog tebyg gyda Baden Württemberg a gyda Silesia yng Ngwlad Pwyl dros y 12 mis nesaf.
Er ein bod ni wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, nid ydym ni'n sicr wedi gadael Ewrop, ac mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddefnyddio ein strategaeth ryngwladol ni i barhau i ymgysylltu â'n cymdogion agosaf a phwysicaf. Yn y cyd-destun hwnnw, y llynedd, fe wnaethom ni gynnal digwyddiad i dynnu sylw at y rhaglen Taith yn Senedd Ewrop, ac fe aeth Gweinidog yr economi i'r afael â'r pwyllgor datblygu rhanbarthol yn Senedd Ewrop, a dim ond y mis diwethaf fe wnaethom ni groesawu Cynhadledd y Rhanbarthau Morwrol Ymylol i Gaerdydd i gynnal ei chynulliad cyffredinol o ranbarthau'r Iwerydd.
Dirprwy Lywydd, dim ond cipolwg yw hwn ar y gweithgaredd rhyngwladol y mae'r Llywodraeth hon wedi bod â rhan ynddo dros y 12 mis diwethaf wrth i ni gyflawni ein strategaeth ryngwladol. Mae'r strategaeth honno'n dathlu cymeriad rhyngwladol y Gymru gyfoes, yn dangos balchder yn ein cyflawniadau, yn hyderus o ran ein hunaniaeth ein hunain, yn agored i gyfleoedd ar lwyfan y byd, yn barod i gefnogi busnesau wrth iddyn nhw chwilio am gyfleoedd newydd i fasnachu, ac yn benderfynol y bydd ein pobl ifanc ni'n tyfu i fod yn perthyn i Gymru a'r byd fel ei gilydd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Yn amlwg, mae bod â threm sy'n rhyngwladol ac yn edrych tuag allan yn rhan bwysig o fod yn genedl gyfoes, ddeinamig ac rydym ni'n canmol yr ymdrechion i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad gyda mentrau fel hynny. Un tîm chwaraeon y gwnaethoch chi ei hepgor wrth ganmol, Prif Weinidog—yn anfwriadol, rwy'n siŵr—oedd tîm rygbi saith-bob-ochr dynion a menywod byddar Cymru a aeth allan ac ennill cwpan y byd yn yr Ariannin, sy'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn ei gymeradwyo yn fawr, oherwydd fe ddaethon nhw adref yn fuddugol ac roedd llawer ohonyn nhw'n ariannu'r daith honno allan i'r Ariannin o'u pocedi eu hunain, nid camp fechan oedd honno i lawer ohonyn nhw.
Ac yn cefnogi eu clybiau nhw.
Ni allwn i fynegi hynny'n well na'r hyn a ddywedodd Mike Hedges nawr o'r meinciau cefn ar eich ochr chi.
O ran mewnfuddsoddi, Prif Weinidog, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau cyfran deg o fewnfuddsoddiad trwy fod yn gadarnhaol a hyrwyddo'r hyn sy'n dda am Gymru a pham mae angen i gwmnïau leoli yma yng Nghymru. Nododd arolwg PricewaterhouseCoopers International o uwch reolwyr a phrif weithredwyr cwmnïau ledled y byd mai'r DU oedd y trydydd lle mwyaf deniadol yn y byd ar ôl Tsieina ac America i'w ystyried ar gyfer mewnfuddsoddi o hyd. Yn anffodus, nododd y set ddiwethaf o ffigurau a gafodd eu cyflwyno i ni, ar gyfer 2021-22, mai Cymru o dderbyniodd y gyfran isaf o Fuddsoddiadau Uniongyrchol o Dramor i'r DU heblaw am Ogledd Iwerddon, ond Cymru hefyd a oedd â'r niferoedd isaf o ran creu swyddi gyda llai na 1,800 o swyddi yn cael eu creu gan brosiectau o'r fath. A wnewch chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn golygu edrych mewn ffordd gadarnhaol, ragweithiol i sicrhau ein bod ni'n cynyddu ein cyfran o Fuddsoddiadau Uniongyrchol o Dramor, ac yn enwedig y swyddi sy'n deillio o'r buddsoddiadau hynny, oherwydd, yn amlwg, mae'r niferoedd o ran swyddi yn dangos heddiw bod diweithdra yn cynyddu yma yng Nghymru, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig?
Yn ogystal â hynny, gyda chytundebau masnach yn amlwg iawn ar yr agenda o safbwynt Llywodraeth y DU, ond ar bob tu nawr, boed hynny'n Llywodraethau Gogledd America, yr UE eu hunain, yr ydych chi'n cyffwrdd â hynny yn eich datganiad chi—mae'r UE allan yn Ne America heddiw; mae llywydd y Comisiwn yno, yn negodi cytundebau masnach gyda Brasil, Paraguay, Uruguay a'r Ariannin nad ydyn nhw'n edrych yn annhebyg i lawer o'r cytundebau masnach a roddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar waith sydd wedi ennyn beirniadaeth o'ch meinciau chi—. Felly, fe fyddwn i'n falch iawn o ddeall sut mae Llywodraeth Cymru am ymgysylltu â Llywodraeth y DU pan fydd cytundebau masnach yn cael eu llunio a'u trafod, a pha gymorth sydd ar gael oddi wrth Gymru yn yr hafaliad. Rwy'n deall yr angen am weithio mwy ar y berthynas honno, ac rwy'n deall y rhwystredigaethau y mae Gweinidogion—ac fe allaf i weld Gweinidogion yn nodio eu pennau mewn rhwystredigaeth—ond mae hi'n ffaith y bydd cytundebau masnach yn bwysig iawn, wrth symud ymlaen, ac mae hi'n bwysig bod perthynas gadarn iawn ar y ddwy ochr gan y ddwy Lywodraeth sy'n gyfrifol yma yng Nghymru, boed hynny o ran Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru.
Fe hoffwn i geisio deall hefyd sut mae swyddfeydd Llywodraeth Cymru ledled y byd yn rhyngweithio â'r presenoldeb diplomyddol sydd gan Lywodraeth y DU gyda'i rhwydwaith o lysgenadaethau a'i rhwydwaith o swyddfeydd conswl, oherwydd mae hi'n hanfodol nad ydym ni'n dyblygu'r gwaith da y mae swyddfeydd eraill yn ei wneud, a'n bod ni'n defnyddio'r cryfder a'r arbenigedd sy'n bodoli mewn llawer o'r llysgenadaethau a'r swyddfeydd conswl a'r mynediad sydd ar gael i lywodraethau yn rhyngwladol i gefnogi hybu Cymru.
Ac yn olaf, os caf i ofyn am ddiweddariad ar raglen Cymru ac Affrica, rhywbeth, yn amlwg, y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi llawer ynddo. Ond mae yna ffaith drist yn hyn, sef bod Llywodraeth Uganda wedi pasio deddfwriaeth wrthun yn ddiweddar, fe fyddwn i'n awgrymu—nage, nid dim ond ei awgrymu yn unig; rwyf i am ddweud mai gwrthun ydyw, ac nid pobl Uganda a ddylai fod yn dioddef. Fe ddylai Llywodraeth Cymru, ar sail ryngwladol, dynnu sylw at ffieidd-dra'r ddeddfwriaeth hon a roddwyd ar y llyfr statud yn Uganda. Yn amlwg, mae rhaglen fuddsoddi ar gyfer rhaglen Cymru ac Affrica yn gyfredol yn Uganda. Rwy'n nodi nad yw datganiad y prynhawn yma'n sôn dim am hyn, felly pe byddai'r Prif Weinidog yn tynnu sylw at unrhyw sylwadau a gyflwynodd y Llywodraeth i Lywodraeth Uganda, rwy'n credu y byddai'r atebion hynny'n rhoi'r Siambr ar ben y ffordd. Diolch i chi.
Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna? Rwy'n diolch iddo am yr hyn a ddywedodd ar ddechrau ei gwestiynau am bwysigrwydd cysylltiadau rhyngwladol i Gymru a hyrwyddo Cymru ledled y byd. Rwy'n awyddus iawn i ddathlu cyflawniadau'r tîm rygbi byddar. Roeddwn i'n falch iawn o allu recordio rhai negeseuon iddyn nhw i hyrwyddo'r cyfleoedd yr oedden nhw'n ymwneud â nhw, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu eu croesawu nhw yma rywbryd yn y dyfodol agos, i ddathlu'r gamp ryfeddol honno.
O ran mewnfuddsoddiad, fe fydd y canlyniadau o ran Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor ar gyfer 2022-23 yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU naill ai ar ddiwedd y mis hwn neu'n gynnar ym mis Gorffennaf. Rwy'n siŵr y bydd y ffigurau o ddiddordeb i'r Aelod. Maen nhw o dan embargo caeth, felly mae'n rhaid i mi beidio â'u rhagamcanu nhw, ond rwy'n disgwyl y byddan nhw'n dechrau dangos cynnydd yn y cyfnod yn dilyn y pandemig, a oedd yn cael ei adlewyrchu mor amlwg yn y gyfres ddiwethaf o ffigurau, ac yn wir yn ffigurau'r flwyddyn flaenorol. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am bwysigrwydd buddsoddiad uniongyrchol o dramor. Rydym ni'n credu bod tua 1,340 o gwmnïau sydd â pherchnogion o dramor yma yng Nghymru ac maen nhw'n cyflogi dros 164,000 o bobl, felly maen nhw'n rhan fawr o economi Cymru. UDA sydd â'r presenoldeb mwyaf yn ein plith ni ar wahân i'r UE, yr Almaen sy'n buddsoddi fwyaf o'r UE, ac mae ein gweithgarwch ni wrth gefnogi busnesau yng Nghymru yn canolbwyntio i raddau helaeth ar sicrhau bod buddsoddwyr mewnol posibl yn ymwybodol o bopeth y bydden nhw'n ei gael pe bydden nhw'n dod i fuddsoddi yma yng Nghymru, ac rydyn ni wedi gweld rhai llwyddiannau mawr. Mae'r gwaith a arweiniwyd gan fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, i sicrhau buddsoddiad mawr o'r Unol Daleithiau yng Nghasnewydd yn y sector lled-ddargludyddion yn ddim ond un enghraifft yn unig o'r ffordd y mae'r gwaith y tu ôl i'r strategaeth ryngwladol yn golygu manteision sylweddol i Gymru.
Rwy'n llai optimistaidd nag arweinydd yr wrthblaid ynghylch cytundebau masnach. Rwy'n gweld cytundebau masnach a gafodd eu taro gan Lywodraeth y DU yn cael eu diarddel erbyn hyn gan bobl a oedd yn Weinidogion yn y Llywodraeth honno pan gafodd y cytundebau masnach hynny eu taro. Beth oedd gan George Eustice i'w ddweud am y ffordd y bradychwyd ffermwyr Cymru gan Lywodraeth y DU yn ei phryder i ddangos bod y byd wedi Brexit yn caniatáu cytundebau masnach mewn rhannau pellennig o'r byd? Nid y fi sy'n dweud hynny; dyna farn y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi yng nghefn gwlad Lloegr. Mae ef wedi diarddel y cytundeb masnach a drawodd ei Lywodraeth ef ei hun. Felly, fe fyddwn ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i ddylanwadu ar y DU o ran ystyried economi'r DU yn ei chyfanrwydd wrth daro cytundebau, a'i hatal rhag bod yn barod i aberthu rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig er mwyn yr hyn a fydd yn gwbl ymylol yn y pen draw ac yn ôl pob tebyg yn golygu dim ond buddion byrhoedlog mewn rhannau eraill o'r byd.
Roedd arweinydd yr wrthblaid yn fy holi am y berthynas rhwng swyddfeydd Llywodraeth Cymru—21 ohonyn nhw—y tu allan i Gymru a'r swyddfeydd a gefnogir gan Lywodraeth y DU. Rwy'n falch o ddweud bod y berthynas yn un gadarn iawn ar y cyfan. Mae llawer o'n swyddfeydd ni mewn rhannau eraill o'r byd wedi eu lleoli y tu mewn i lysgenadaethau'r DU, ac mae'r gefnogaeth a gawn ni gan ddiplomyddion ar lawr gwlad mewn rhannau eraill o'r byd yn rhagorol. Maen nhw'n gweithio yn glòs iawn gyda ni. Maen nhw'n ystyried gweithwyr Llywodraeth Cymru yno'n rhan o'r tîm lleol i gefnogi a hyrwyddo Cymru, ond yn rhan o'r ymdrech ehangach honno hefyd, ac rwy'n credu ein bod ni'n elwa yn fawr ar hynny. Rydym ni'n elwa yn arbennig felly pan fo gennym ni bobl sydd â chyswllt â Chymru. Pan oeddwn i ym Mharis yn y llysgenhadaeth yn y fan honno, ac mae ein cynrychiolydd ni yn Ffrainc yn gweithio yn y tîm yn y llysgenhadaeth, mae'r ffaith i Menna Richards fod yn Gymraes o Gwm Rhondda sy'n cynrychioli'r Deyrnas Unedig yn gweithio er mantais i Gymru hefyd, yn amlwg.
Yn olaf, o ran Cymru ac Affrica, mae gweithredoedd Arlywydd Uganda yn wrthun i ni. Ni fyddwn ni'n ymwneud dim â nhw. Rydym ni wedi mynegi'r barnau hynny yn y modd egluraf, fel gwnaeth Llywodraeth y DU hefyd. Mae hi'n rhaid i ni wahaniaethu weithiau rhwng arweinyddiaeth wleidyddol gwledydd a thrigolion y gwledydd hynny yr ydym ni'n ceisio eu cefnogi. Nid yw ein rhaglen Cymru ac Affrica ddiymhongar ni'n gweithio ar lefel lywodraethol, ond gyda menywod ifanc fynychaf mewn rhannau o Affrica sy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o feithrin gweithgarwch economaidd i'w cefnogi eu hunain a'u teuluoedd. Mae hynny'n hollol wir am ein gweithgaredd ni yn Uganda. Ym Mbale, lle rydym ni wedi noddi gwaith plannu miliynau o goed i greu diwydiant newydd yn y rhan honno o Affrica, i bobl ifanc, a menywod ifanc yn arbennig, yr ydym ni'n diogelu ac yn cefnogi eu bywoliaethau nhw. Nid wyf i'n credu y byddai unrhyw un yn y fan hon yn awyddus i ni beryglu'r pethau hynny oherwydd y camau—ac rwy'n adleisio'r gair a ddefnyddiodd arweinydd yr wrthblaid—gwrthun a gymerwyd gan Lywodraeth benodol ar foment benodol.
Un o brif amcanion strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yw i Gymru gyflawni ei dyhead o fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd mwyaf blaengar ni. Gan i Uganda gael ei chrybwyll eisoes ac rydym ni ym Mis Pride, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod maint yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma. Y Bil sydd yn ddeddf yn Uganda erbyn hyn yw'r enghraifft fwyaf echrydus, drwy'r Gymanwlad gyfan, o ddeddfwriaeth wahaniaethol o ran y gymuned LHDTC. Nid yn unig y mae hi'n troseddoli'r hyn a elwir yn hyrwyddo cymunedau LHDT—mae'n cynnwys y gosb eithaf mewn gwirionedd dan amodau penodol. Mae gweithredwyr LHDTC+ Uganda wedi galw ar lywodraethau ledled y byd nawr i atal pob cymorth i Uganda tra bod y statud hwn yn parhau i fod yn weithredol. Dyna'r strategaeth a oedd yn effeithiol 10 mlynedd yn ôl pan basiwyd Bil a oedd bron yn union yr un fath â hwn. Stopiodd Llywodraeth yr Unol Daleithiau o dan weinyddiaeth Obama rywfaint o gymorth ar unwaith, roedden nhw'n bygwth atal pob cymorth, ac, mewn mater o fisoedd, fe ddiddymwyd y Ddeddf. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymuno â'r ymgyrch ryngwladol hon i atal cymorth i Uganda mewn ymateb i alwadau gweithredwyr LHDTC Uganda?
Gan droi at Qatar, bu beirniadaeth, fel gŵyr y Prif Weinidog, yn amlwg, o'r ymweliadau gweinidogol â Qatar, yn rhannol oherwydd eu henw nhw o ran hawliau LHDTC+, a hefyd o ran â gweithwyr mudol ac agweddau eraill ar hawliau dynol. Fe wn i ei fod ef wedi dweud o'r blaen nad oedd hi'n edifar ganddo fod Gweinidogion wedi derbyn lletygarwch gan Lywodraeth Qatar, ond byddai'n derbyn y byddai hi'n well, yn y dyfodol, bod â rheol sy'n eglur a syml y dylai Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n teithio ar fusnes swyddogol sy'n cynrychioli Cymru wneud hynny ar sail gwariant Llywodraeth Cymru yn hytrach na derbyn lletygarwch teithio a llety gan lywodraethau eraill, i osgoi'r canfyddiad, hyd yn oed, y canfyddiad fod hynny, mewn rhyw ffordd, yn peryglu annibyniaeth ein cynrychiolwyr ni dramor?
Roeddech chi'n sôn am Ganolfan Heddwch Nobel a thraddodiad Cymru o heddwch a rhyngwladoliaeth, felly a gaf i godi gyda chi gyfranogiad Llywodraeth Cymru yn ffair fasnach arfau DSEI a fydd yn cael ei chynnal yn Llundain ym mis Medi unwaith eto? Mae Maer Llafur Llundain, Sadiq Khan, wedi dweud bod presenoldeb y ffair yn Llundain yn sarhad ar bobl sydd wedi dianc rhag trais, ac mae wedi gofyn iddi gael ei chanslo. Felly, a wnewch chi ymrwymo na fydd unrhyw swyddogion o Lywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad hwn ac na fydd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gefnogi unrhyw sefydliad yng Nghymru i'w fynychu chwaith? Mae llawer o wledydd sy'n peri pryder, i ddefnyddio'r ymadrodd swyddogol, yn cael eu gwahodd i'r ffair fasnach arfau hon. Yn warthus, yn eu plith mae Saudi Arabia, gwlad sy'n gyfrifol am farwolaethau miloedd o bobl yn Yemen. Yn sicr, mae ein haeriad ni ein bod ni'n genedl noddfa yn ddiystyr iawn os ydym ni, i bob pwrpas, yn cefnogi'r union ryfeloedd sy'n creu'r ffoaduriaid y dywedwn ni ein bod ni wedi ymrwymo i'w cefnogi.
A gaf i droi at adroddiad Brown ar ddatganoli, a oedd mewn gwirionedd yn galw am welliant i'r drefn materion tramor yn Neddf berthnasol yr Alban i ganiatáu i Lywodraeth yr Alban ymuno â chyrff rhyngwladol? Rwy'n credu, Prif Weinidog—cywirwch fi os wyf i'n anghywir—rydych chi wedi dweud yr hoffech chi weld hynny'n cael ei gymhwyso i Gymru hefyd. Wrth baratoi ar gyfer hynny, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r mathau o gyrff rhyngwladol y gallem ni ymuno â nhw i bob pwrpas, y rhai sy'n derbyn Llywodraethau is-genedlaethol—dyna'r term technegol; cenedl ydym ni, wrth gwrs—naill ai fel aelodau llawn neu aelodau cyswllt? Mae UNESCO, y Sefydliad Morwrol Rhyngwladol, y Sefydliad Bwyd ac Amaeth, a hyd yn oed, rwy'n credu, yr Undeb Darlledu Ewropeaidd yn caniatáu i wledydd heb statws aelod-wladwriaeth lawn ymuno erbyn hyn. Felly, a gawn ni astudiaeth o hynny?
Ac yn olaf, os caf i roi prawf ar eich amynedd—
Rydych chi wedi mynd dros eich amser yn barod.
Roeddwn i am ofyn am yr hyn a fynegwyd gan y diweddar Steffan Lewis yn un o'i syniadau gwych ef, sef creu banc datblygu Celtaidd, gan adeiladu ar y trafodaethau dwyochrog ag Iwerddon, gan dynnu'r Alban i mewn hefyd o bosibl, i ystyried y posibiliad o brosiectau seilwaith ar y cyd pryd y ceir cymaint o fuddiant cyffredin dros y môr Celtaidd, ac mewn ffyrdd eraill hefyd. A allem ni ystyried creu'r sefydliad hwnnw o bosibl? Diolch yn fawr.
O ran y pwynt cyntaf a wna'r Aelod, rwy'n credu bod honno'n ddadl gymhleth ac mae hi'n bosibl i bobl resymol benderfynu arni hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gweithredoedd Llywodraeth Uganda yn gyfan gwbl i'w beirniadu, ac, yn hollol, fe ddylen nhw fod yn atebol i'r gymuned ryngwladol am y camau hynny. Fe fyddai atal pob cymorth yn golygu y byddai'r prosiectau bychain yr ydym ni â rhan ynddyn nhw ar gyfer gwella iechyd mamau mewn rhan o Uganda yr ydym ni'n ymgysylltu â hi'n cael eu hatal, ac ni fyddai'r rhai sy'n rhoi genedigaeth yn ystod y cyfnod hwnnw'n gweld unrhyw fudd o'r prosiectau hynny. Fe fyddai'r busnesau bychain iawn yr ydym ni'n eu cefnogi, a ysgogwyd unwaith eto gan fenywod yn y rhan honno o Uganda, yn colli'r cyfle hwnnw i ddechrau rhoi eu busnesau nhw ar waith ar gyfer gwneud gwahaniaeth i fywydau rhai o'r bobl dlotaf yr ydym ni'n ymgysylltu â nhw.
Rwy'n deall y ddadl, oni bai eich bod chi'n barod i wneud rhywbeth, yna nid yw'r neges i Lywodraeth Uganda mor hyglyw ag y gallai hi fod fel arall. Ynglŷn â'r pwynt hwn, ein casgliad ni yw, fel dywedais i yn fy ateb i arweinydd yr wrthblaid, bod rhaid i ni wahaniaethu rhwng y bobl yr ydym ni'n ceisio eu cefnogi a'r Llywodraeth dros dro sydd wedi rhoi'r darn afresymol hwn o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud y byddai pawb yn y Siambr hon yn ei chondemnio. Fe gefais i gyfle i gwrdd â phobl ifanc o Uganda sydd wedi dod yma—Jenipher's Coffi, pobl eraill yr ydym ni wedi bod mor falch o'u cefnogi nhw. Nid wyf i'n credu ar hyn o bryd y byddai rhoi eu lles nhw mewn perygl yn cael unrhyw effaith o ran newid barn y Llywodraeth, ac fe fyddai hi'n waeth ar bawb ac na fyddai hi'n well ar neb o ganlyniad i hynny.
O ran y lletygarwch yn Qatar, fe fyddai hi'n well gan Lywodraeth Cymru fod wedi gallu trefnu ein lletygarwch ein hunain yn y ffordd arferol. Fe'i gwnaethpwyd hi'n gwbl eglur i ni, pe byddem ni'n gwneud felly, ni fyddem ni'n gallu dod o hyd i unrhyw le i aros y tu mewn i'r parth lle roedd pob un o'r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal i ni allu gwneud y pwyntiau'r oedd Aelodau'r Senedd hon yn awyddus i ni eu gwneud. Felly, fe fyddem wedi mynd yr holl ffordd yno ond ni fyddem ni wedi gallu gwneud unrhyw un o'r pethau hynny yr oeddem ni'n eu hystyried yn bwysig, ac a oedd â chefnogaeth fawr ar draws y Siambr. Felly, er mai dyna'n bendant yr oeddem ni'n ei ddymuno, mae gan y trefnwyr lleol allu weithiau i lunio'r telerau yr ydych chi'n ymgymryd â nhw mewn ffordd na allwch chi ei hosgoi.
O ran ffair fasnach arfau yn Llundain, ni fydd unrhyw stondin yno gan Lywodraeth Cymru na phresenoldeb uniongyrchol yn y ffordd yna. Ni allaf i roi sicrwydd llwyr na fydd unrhyw arian cyhoeddus yn mynd i bocedi busnesau a fydd yn cael eu cynrychioli yn y ffair honno, ond ni fydd unrhyw gynrychiolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yno.
Mae adroddiad Brown yn sicr iawn yn cwmpasu Cymru yn ogystal â'r Alban. Fe all unrhyw beth a ddatganolir i'r Alban gael ei ddatganoli i Gymru, medd yr adroddiad—egwyddor bwysig iawn lle byddai Cymru yn awyddus i hynny ddigwydd. Dyma oedd sail fy ymweliad ag UNESCO, pan oeddwn ym Mharis ar ddiwedd mis Mawrth, i archwilio gyda nhw ar ba delerau y gall llywodraethau is-genedlaethol fod yn gyfrannog yn y sefydliad hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at ymweliad yn ôl gan uwch swyddogion y DU ag UNESCO, a fydd yn dod i Gymru i barhau â'r sgwrs honno yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae llawer o gyrff eraill; fe nododd Adam Price rai ohonyn nhw. Rwyf i wedi siarad cryn dipyn am bwysigrwydd Taith i ni yn y datganiad. Fe fyddai hi'n well gennyf i pe byddem ni'n defnyddio'r arian hwnnw yn ffi mynediad i Erasmus+. Er gwaethaf manteision Taith i gyd, a'i bwysigrwydd i ni, oni fyddai hi'n well i bobl ifanc yng Nghymru fwynhau'r holl fanteision sy'n deillio o gymryd rhan yn hwnnw? Fe gawsom ni ein rhwystro rhag gwneud hynny gan Lywodraeth y DU; fe fyddai adroddiad Gordon Brown yn agor y drws i ni wneud hynny unwaith eto.
Rwy'n hapus i roi sicrwydd i Adam Price, yn ein trafodaethau ni gyda Llywodraeth yr Alban, ond yn sicr gyda Llywodraeth y Weriniaeth yn y sgyrsiau rhyng-weinidogol hynny, y bu'r syniad o fuddsoddi ar y cyd dros y môr Celtaidd yn y diwydiannau eginol hynny yn rhan o'r drafodaeth honno, ac rwy'n sicr iawn y bydd yn parhau felly.
Mae'r eitem hon wedi cyrraedd terfyn ei hamser penodedig mewn gwirionedd ac mae yna chwe siaradwr ar ôl i gyfrannu. Rwy'n bwriadu galw arnyn nhw i gyd, rwy'n gobeithio, ond rwy'n gofyn iddyn nhw gadw at eu terfynau amser. Maen nhw'n gwybod beth yw eu terfynau amser, a'r un cyntaf sydd am gadw at y rhain yn union, rwy'n siŵr, yw John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, rwy'n falch eich bod chi wedi gallu ymweld â Gwlad y Basg ym mis Mawrth a'ch bod yn ceisio cryfhau ein memorandwm cyd-ddealltwriaeth ni a'r berthynas allweddol hon. Yng Nghasnewydd, wrth gwrs, mae CAF gennym ni, sef gwneuthurwr trenau o Wlad y Basg, gyda swyddi peirianneg o ansawdd da, ac rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn gweld y cydweithrediad economaidd hwnnw rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn arwain at ragor o gynhyrchiant ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o swyddi yn y ffatri honno sydd gan CAF yng Nghasnewydd. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig ynglŷn â hynny.
Un mater arall, Prif Weinidog, yn gyflym iawn. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael mynd i Uganda gyda PONT eleni, i weld rhaglen Cymru ac Affrica a gweithgareddau PONT ar waith. Mae honno'n berthynas hirsefydlog o 20 mlynedd rhwng PONT a Mbale yn Uganda, ac mae hynny rhwng cymuned a chymuned. Tra oeddwn i yno, fe welais i rai o'r agweddau hyn tuag at gyfunrywioldeb gan Lywodraeth Uganda yn cael eu herio gan bobl sy'n ymwneud ag elusen PONT. Mae hynny rhwng cymuned a chymuned, ac mae'n ymwneud â bod â'r ddealltwriaeth a'r ymagweddau cymwys yn ogystal â'r gwaith cyffredinol.
O ran CAF, roeddwn i'n falch iawn, pan oeddwn i yng Ngwlad y Basg, o gwrdd â phennaeth CAF. Maen nhw'n galonogol iawn ynglŷn â'r ffatri a sefydlwyd ganddyn nhw yng Nghymru, gydag ansawdd y gweithlu, y croeso a oedd iddyn nhw yma, y gefnogaeth a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae'r 77 trên newydd y mae CAF yn eu cyflenwi, trenau a luniwyd yng Nghymru i'w defnyddio yng Nghymru—mae'r contract hwnnw bron â'i gwblhau. Bu raid i CAF ddargyfeirio gwaith o gontractau eraill yn Ewrop i'r ffatri honno i'w chynnal hi wrth iddyn nhw aros am ganlyniad y contractau a ohiriwyd y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanyn nhw. Roedden nhw'n disgwyl cael y contractau hynny, cawsant eu gohirio gan Lywodraeth y DU nes bydd adolygiad, a'r perygl i CAF yw efallai na fyddan nhw'n gallu cynnal eu gweithlu—eu gweithlu medrus a hyfforddedig iawn yng Nghasnewydd—hyd nes y bydd y contractau hynny'n cyrraedd. Felly, rydym ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, yn eu hannog nhw i ddatrys y mater hwnnw, i sicrhau'r buddsoddiad llwyddiannus a wnaeth CAF i economi Cymru i'r dyfodol.
Rwy'n cytuno i raddau helaeth iawn â'r hyn a ddywedodd John Griffiths ynglŷn â dylanwad cymunedau ar ei gilydd sy'n deillio o'n rhaglen ni, Cymru ac Affrica. Ac nid dim ond i un cyfeiriad y mae hynny'n digwydd, Llywydd; fe gwrddais i ag is-ganghellor Prifysgol Namibia ddoe. Roedd ef yn y brifysgol yng Nghaerdydd yn atgyfnerthu cysylltiadau rhwng y ddwy brifysgol, ac yn rhyfeddol o ddiolchgar am bopeth a wnaeth Cymru i Namibia yn ystod y pandemig wrth gyflenwi offer, arbenigedd, dillad diogelwch, ac ati. Ond y pwynt wnes i iddo ef—a dyna'r pwynt yr oedd John Griffiths yn ei wneud—yw mai perthynas ddwyochrog yw hon. Rydym ninnau'n cael manteision cwbl gymesur â'r hyn a roddwn ni yn y berthynas sydd rhyngom ni a'r rhannau hynny o Affrica lle mae Cymru yn gwneud ei rhan fechan ei hun.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Dyma fi, fel record wedi torri, yr unig lais yn y Senedd sy'n feirniadol o benderfyniad eich Llywodraeth chi i anfon dirprwyaeth ddiplomyddol i Qatar, ac rwyf i'n dymuno codi'r mater penodol hwnnw. Y mis diwethaf, cafodd dau gyfreithiwr o Qatar, Hazza a Rashed bin Ali Abu Shurayda, eu dedfrydu i garchar am oes y tu ôl i ddrysau caeedig am ymarfer eu hawl i ryddid mynegiant ac ymgynulliad. Ac ym mis Mawrth 2023, cafwyd adroddiad pellach o ran gweithwyr mudol yn Qatar yn gweld dirywiad mewn gwirionedd yn amodau eu gwaith nhw, a bod unrhyw welliant cadarnhaol wedi dod i ben mewn gwirionedd. Fe fyddai polisi masnach foesegol i ni yng Nghymru yn golygu nid yn unig ein bod ni'n chwilio am fuddsoddiadau er elw i ni, ond ein bod ni'n chwilio hefyd am bartneriaid sy'n parchu rhyddid a democratiaeth. Felly, a gaf i ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yma yn y Senedd am yr hyn a wnaethoch chi a Llywodraeth Cymru i wella enw Qatar o ran hawliau dynol a sut rydych chi'n monitro hynny, oherwydd, yn anffodus, mae adroddiadau yn awgrymu eu bod nhw'n dirywio mewn gwirionedd? Diolch yn fawr iawn.
Llywydd, ni fyddai unrhyw un yma yn y Senedd yn barod i gefnogi'r mathau o gamau a amlinellodd yr Aelod, ac ni ddylid ystyried ymweliad â gwlad yn gymeradwyaeth o safonau'r wlad honno, ac ni chawsant hynny fyth yn ystod ein hymweliad ni â Qatar. Ym mhob cyfweliad unigol a roddais ac ym mhob cyfarfod a fynychais i, fe fanteisiais i ar y cyfle i egluro'r gwerthoedd a'r daliadau sy'n bwysig i bobl yma yng Nghymru. Ac a gaf i ddweud yn garedig iawn wrth yr Aelod nad yw hynny'n rhywbeth sy'n gyfan gwbl i un cyfeiriad chwaith, oherwydd mae yna agweddau ar fywyd Cymru na fyddai pobl yn Qatar yn eu hystyried yn dderbyniol chwaith? Nid oes monopoli gennym ni ar ragoriaeth foesol yn ein hymwneud ni ag unrhyw genedl arall yn y byd. Yr hyn a wnaethom ni yw mynd ar ôl y cysylltiadau hynny lle teimlwn ni ein bod ni'n gallu gwneud gwahaniaeth.
Felly, pan oeddwn i yn Qatar, un o'r pethau yr oeddwn i'n gallu ei wneud oedd ymweld â'r Amgueddfa o Gelf Islamaidd, amgueddfa wych dan arweiniad menyw, roedd yr uwch dîm rheoli bron yn gyfan gwbl yn cynnwys menywod mewn swyddi arweinyddiaeth yn y rhan honno o fywyd yn Qatar. A chytuno i ddirprwyaeth o guraduron ifanc amgueddfeydd yn Qatar ddod i Gymru, yn rhannol ar gyfer gweld sut mae pethau yn cael eu gwneud yma, ond i'n helpu ninnau hefyd i sicrhau bod ein hamgueddfeydd ni'n adlewyrchu profiad pobl Fwslimaidd yma yng Nghymru yn gywir. Ac rwy'n credu pe byddech chi'n mynd i mewn i lawer o'n hamgueddfeydd ni, ni fyddech chi'n gweld bod cyfraniad cymunedau Mwslimaidd yng Nghymru yn cael ei ddathlu yn gywir nac yn eang yn y mannau hynny.
Nawr, rwy'n falch o ddweud bod y ddirprwyaeth honno wedi bod yn ôl i Gymru; fe wnes i gyfarfod â nhw pan oedden nhw yma dim ond ychydig wythnosau yn ôl. Rwy'n credu y bydd eu hymweliad nhw â Chymru wedi cyfoethogi eu dealltwriaeth, ac yn sicr fe gyfoethogodd ein dealltwriaeth ni. A gyda gweithgareddau o'r fath yr ydym ni'n gallu gwneud gwahaniaethau bychain mewn meysydd lle na fyddai'r pethau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw'n dderbyniol o gwbl i ni. A fyddwn ni'n gwneud unrhyw wahaniaeth trwy siarad dim ond â phobl yr ydym ni'n cytuno â nhw ynglŷn â phopeth, neu a ydym ni am wneud y penderfyniad o bryd i'w gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu â lleoedd lle ceir gwahaniaethau mawr rhyngom ni, ond lle gall deialog a thrafodaethau wneud gwahaniaeth?
Prif Weinidog, a gaf fi ategu'r dyhead i weld Cymru yn agored i fusnes o bob cwr o'r byd? Ac rwy'n siŵr y gwnewch chi gydnabod mai rhan bwysig o'r berthynas ryngwladol honno yw'r croeso a roddwn ni i ymwelwyr rhyngwladol hefyd. Yn wir, roedd hi'n galonogol y llynedd i ni weld ein bod ni wedi croesawu 680,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru, a wariodd tua £391 miliwn yma.
Ond mae hi'n fy nharo i, yn yr Alban, bod 3.2 miliwn o ymwelwyr yno, a wariodd £3.1 biliwn—tua 10 gwaith yn fwy o wariant yn yr Alban gan ymwelwyr rhyngwladol na'r hyn a welwn ni yng Nghymru. Rwy'n siŵr, fel minnau, Prif Weinidog, eich bod chi'n cydnabod efallai nid yn unig y mae Cymru yn lleoliad mwy hygyrch i fynd iddo, ond mae gennym ni dreftadaeth, diwylliant a harddwch naturiol mor deilwng y dylid mynd i'w gweld a'u dathlu. Felly, tybed pam rydych chi o'r farn nad ydym ni'n gweld y niferoedd hynny o ymwelwyr rhyngwladol yn dod i Gymru o gymharu â'r niferoedd sy'n mynd i rai o'n cymheiriaid Celtaidd ni, a sut ydych chi wedi gallu defnyddio eich ymrwymiadau diweddar tybed i weld y farchnad ryngwladol bwysig a phroffidiol hon yn ffynnu yma yng Nghymru.
Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd denu ymwelwyr i Gymru a newid rhai o'r patrymau mwy traddodiadol a welsom ni yn y gorffennol. Mae Cymru yn gyrchfan i fordeithiau nawr mewn ffordd nad oedd hi yn y gorffennol, ac er mwyn rhoi dim ond un enghraifft i Sam Rowlands o sut mae'r gweithgaredd a adroddais i amdano yn fy natganiad yn arwain at newid, pan oeddwn i yn Japan, fe gwrddais i â sefydliadau twristiaeth blaenllaw yn Japan. Fe fuom ni'n sôn yn arbennig am ymwelwyr o Japan i'r gogledd. Ceir perthynas newydd rhwng rhannau o Japan a Chonwy, rhan o'r byd y mae ef yn gyfarwydd iawn â hi, a gynlluniwyd ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n teithio i Gymru. A hyrwyddo'r cestyll sy'n bodoli yn Japan hefyd, ac mae gweithgarwch yn digwydd y tymor hwn, tymor twristiaeth, i wneud yn siŵr y bydd llwybrau newydd uniongyrchol i awyrennau o Fanceinion i Japan, sy'n dod ag ymwelwyr i ran o'r Deyrnas Unedig sy'n gyfleus iawn i ymweld â gogledd Cymru yn benodol, er mwyn i ni ddenu mwy o'r ymwelwyr hyn i weld y pethau gwych sydd gan y gogledd i'w cynnig.
Diolch am y datganiad hwnnw, Brif Weinidog. Roeddwn i eisiau holi yn benodol o ran Dydd Gŵyl Dewi. Yn amlwg, roeddwn i'n falch o weld yr holl ymgysylltu sydd wedi bod gan Weinidogion eleni, wedi gweld hefyd pwysigrwydd hynny ar ymateb cadarnhaol yn y gwledydd hynny lle mae dathliadau wedi bod. Ond efallai edrych ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud yma yng Nghymru, sydd dal yn dueddol o fod yn cael ei arwain gan nifer o wirfoddolwyr ledled Cymru. Yn amlwg, mae'r Deyrnas Unedig yn dal yn parhau i wrthod ein bod ni'n cael gŵyl banc ar y dyddiad hwnnw, rhywbeth y byddwn i'n gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf yn San Steffan yn newid, oherwydd rydyn ni wedi gweld manteision a budd economaidd hynny pan fo gwledydd fel Iwerddon efo Dydd Sant Padrig, a rŵan maen nhw'n dod â gŵyl arall, fel bod yna ddathlu dynes, hefyd, yn Iwerddon. Felly, gaf i ofyn oes yna fwriad gennych chi i edrych ar beth ymhellach fedrwn ni ei wneud yma yng Nghymru o ran dathlu Dydd Gŵyl Dewi a hyrwyddo'r manteision rhyngwladol hynny, a hefyd gwneud yr iaith Gymraeg yn ganolog i hynny?
Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Canolbwyntiais i yn y datganiad ar bethau rŷn ni'n eu gwneud tramor, ond wrth gwrs, mae hi'n wir i ddweud mai rhan o'r pethau rhyngwladol rŷn ni'n treial eu gwneud yw hysbysebu beth rŷn ni'n ei wneud yn barod yng Nghymru i'r byd eang. Ac mae hwnna'n bwysig ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond i ddefnyddio un enghraifft arall, pan ŷn ni'n paratoi ar gyfer Cymru yn Ffrainc yn ystod cwpan y byd yn y hydref, un o'r pethau rŷn ni'n treial ei wneud yw nid jest i ganolbwyntio ar bethau rŷn ni'n mynd i'w gwneud draw yn Ffrainc, ond i greu pethau yn fan hyn, yng Nghymru, lle rŷn ni'n gallu tynnu sylw'r byd at y pethau rŷn ni'n eu gwneud yn fan hyn fel rhan o'r berthynas rŷn ni'n creu yn ystod y cyd-destun yna, ac i wneud hwnna yng nghyd-destun Dydd Gŵyl Dewi, ac i'w wneud e gyda gwledydd eraill, lle rŷn ni'n gallu rhannu pethau, ac mae lot o bethau gydag Iwerddon, yn enwedig, yr ydym yn eu gwneud ar seintiau a phethau eraill fel yna. Mae hwnna'n rhan o'r strategaeth a beth rŷn ni'n treial ei wneud yn fwy yn y dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith iddo wreiddio ei ddatganiad yn oes y seintiau. Fe wnaethom ni'r pwyllgor ymweld ag Iwerddon rai misoedd yn ôl, ac fe glywsom ni'n uniongyrchol yno am y gwaith sy'n digwydd drwy swyddfeydd Llywodraeth Cymru, ac fe ddylem ni ddiolch i Lywodraeth Cymru am y croeso a gawsom ni gan y swyddfa yn y llysgenhadaeth, a llongyfarch Llywodraeth Cymru hefyd am y gwaith sy'n cael ei wneud. Fe ddylwn i longyfarch Llywodraeth Cymru hefyd am y gwaith a wnaeth yn Qatar. Roeddwn i yn Qatar yn aelod o'r wal goch, yn cefnogi fy nhîm. Roedd llawer ohonom ni yno'n croesawu'r gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru o ran codi proffil Cymru.
Ond ynglŷn ag Wcráin y mae fy nghwestiwn i. Fe hoffwn i atgoffa cyn arweinydd Plaid Cymru bod angen bwledi ar bobl Wcráin, mae angen taflegrau arnyn nhw, mae angen gynnau arnyn nhw, i amddiffyn eu hunain rhag trais Putin. Nid oes angen geiriau na gweniaith arnyn nhw. Ac rwyf i am ddweud hyn hefyd: rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y gwaith a wnaethon nhw eisoes i gefnogi pobl Wcráin. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, sydd wedi arwain llawer o waith, nid yn unig yn y lle hwn ond ledled Cymru, mewn ymateb i ymosodiad Putin.
A wnaiff Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog, barhau i gefnogi'r gwaith i gefnogi pobl Wcráin, a hefyd, yn arbennig, y gwaith sy'n cael ei wneud nawr i hyrwyddo etifeddiaeth Gareth Jones, a ddaeth â dioddefaint pobl Wcráin yn y 1930au i sylw'r byd yn gyntaf oll? Mae cryn gyfle nawr i ni ddefnyddio etifeddiaeth Gareth Jones i feithrin y cysylltiadau hynny rhwng y genedl hon a phobl Wcráin.
Diolch i Alun Davies am y pwyntiau pwysig iawn yna. Soniais yn fyr iawn yn fy natganiad am ein huchelgais i fod yn genedl noddfa, ac nid oes unrhyw beth yn amlygu'n fwy byw ein bod wedi gwireddu'r uchelgais hwnnw yn ystod y 15 mis diwethaf nag ein hymdrechion i gynnig croeso cynnes i bobl o Wcráin sy'n ceisio ailadeiladu eu bywydau trwy ddod yma i Gymru. Mae cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn hynny drwy ein canolfannau croesawu wedi bod yn ymdrech enfawr mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol a'r trydydd sector. Mae miloedd o bobl o Wcráin bellach yn cael eu croesawu yma yng Nghymru. Fel mae Alun Davies wedi dweud, maen nhw'n dod â sensitifrwydd newydd i hanes hirach y wlad honno.
Roeddwn yn falch iawn o allu cymryd rhan gyda fy nghyd-Weinidog Jane Hutt yn nigwyddiad yr Holodomor, a ddigwyddodd y tu allan i Barc Cathays, y daeth Gareth Jones ag e i sylw'r byd, ac mor fyw yn hanes y bobl hynny o Wcráin a gymerodd ran yn y digwyddiad hwnnw. Fel yr wyf wedi ceisio dweud cwpl o weithiau, Dirprwy Lywydd, pan fyddwn ni'n gallu croesawu pobl o rannau eraill o'r byd i Gymru, maen nhw'n dod â chyfoeth newydd gyda nhw sy'n cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r byd ehangach hwnnw—ein hanes cysylltiedig trwy Gymro, Gareth Jones, ond yn sicr yr hanes y mae'r bobl hynny sydd wedi dod o Wcráin yn dod gyda nhw, ac sy'n ein hatgoffa ni o'i arwyddocâd iddyn nhw, ond hefyd wedyn i ni.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, mae'n braf iawn clywed am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn ag ysgogi mewnfuddsoddiad i Gymru. Rwy'n gwybod, mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd gan fy arweinydd, Andrew R.T. Davies, eich bod wedi dweud ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn cael gwasanaethau priodol sydd eu hangen arnynt pan ddônt i weithio yng Nghymru. Yr hyn yr ydym wedi'i weld yw nad oes gennym ddigon o wasanaethau consylaidd yma yng Nghymru pan ddaw pobl i weithio yn ein gwlad. Felly, hoffwn wybod: pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU i gynyddu nifer y gwasanaethau consylaidd diplomyddol yma yng Nghymru, yn debyg i'r hyn sydd ganddynt yng Nghaeredin?
Wel, Llywydd, hoffwn pe bai gennym fwy o wasanaethau consylaidd yma yng Nghymru. Mewn rhai ffyrdd, mae ein daearyddiaeth ychydig yn ein herbyn ni yma. Rwyf i, fy hun, wedi cyfarfod â dros 20 o lysgenhadon yng Nghymru yn ystod y chwe mis diwethaf. Maen nhw i gyd yn dweud wrthyf fod Cymru'n lle gwych i wneud ymweliad o'r fath oherwydd, dwy awr ar y trên ac yna gallwch wneud diwrnod llawn o waith yma, a gallwch fod yn ôl yn Llundain ddwy awr yn ddiweddarach. Felly, mewn rhai ffyrdd, mae'r ffaith ein bod mor agos at Lundain yn tueddu i ddadlau yn erbyn presenoldeb consylaidd amser llawn yma yng Nghymru.
Ond fe wnes i gyfarfod, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, â phennaeth gwasanaeth consylaidd y DU. Cyfarfûm ag ef â Chadeirydd presennol y grŵp conswl anrhydeddus sydd gennym yma yng Nghymru, ac maen nhw'n gwneud gwaith gwych. Bydden nhw'n dweud wrthych chi eu hunain eu bod yn dymuno gweld gwasanaeth consylaidd llawn. Ond os na allwch chi gael hynny, o leiaf gallwch gael conswl anrhydeddus gweithredol, ymgysylltiol, sy'n cyfranogi ac sy'n siarad er enghraifft ar ran pobl Gwlad Pwyl yma yng Nghymru. Mae ein hymdrechion wedi cael eu cyfeirio mwy at gefnogi gwaith y grŵp hwnnw o gonswliaid anrhydeddus, gan sicrhau eu bod yn chwarae rhan fwy amlwg yn ein gwaith rhyngwladol, eu bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, os daw llysgennad o'r wlad honno, eu bod bob amser yn dod gydag ef, ac rydym yn cydnabod y gwaith maen nhw'n ei wneud. Felly, tan y diwrnod pan fyddwn yn gallu denu niferoedd mwy o staff consylaidd llawn amser i Gymru, mae gweithio gyda'n conswliaid anrhydeddus ymroddgar iawn ac, mewn sawl achos, effeithiol iawn, yn ffordd y gallwn geisio llenwi'r bwlch hwnnw.
Diolch i'r Prif Weinidog. Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, y Bil Seilwaith (Cymru). A galwaf ar y Gweinidog, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n codi yn y Siambr heddiw i drafod Bil Seilwaith (Cymru) sydd gerbron y Senedd.
Mae'r Bil hwn yn cyflwyno cyfundrefn fodern a symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr tiriogaethol. Mae bod â chyfundrefn gydsynio effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yng Nghymru yn amserol sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero net.
Yn ogystal â helpu i wella cystadleurwydd Cymru a'n gosod ni fel lle deniadol ar gyfer buddsoddi a swyddi, bydd yn cynnig cyfle i'n cymunedau gymryd rhan mewn proses gydsynio agored a thryloyw i helpu i lunio datblygiadau sy'n effeithio arnynt. Mae'r cynigion yn y Bil yn cefnogi sawl ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu. Mae hyn yn cynnwys adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth i ni symud tuag at ddatgarboneiddio, yn ogystal ag ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Bydd hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi ein hymrwymiad i gyflawni targedau ynni adnewyddadwy wrth i ni symud tuag at allyriadau sero net erbyn 2050, trwy alluogi cydsynio prosiectau ynni adnewyddadwy mewn modd cadarn ond amserol.
Mae'r angen am y Bil hwn wedi codi o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017, a ddatganolodd bwerau ychwanegol i Gymru ar gyfer cydsynio prosiectau cynhyrchu ynni, llinellau trydan uwchben, porthladdoedd a harbyrau a gweithfeydd seilwaith eraill. O ganlyniad i'r ffordd y cafodd y pwerau hyn eu datganoli, rydym wedi cael ein rhoi mewn prosesau cydsynio hen a hen ffasiwn gan Lywodraeth y DU nad ydynt yn addas i'r diben. Mae hyn wedi ein rhoi dan anfantais o gymharu â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae'r amgylchiadau hyn wedi achosi nifer o broblemau i ddatblygwyr a chymunedau lleol wrth iddynt geisio cymryd rhan yn y broses gydsynio. Mae hefyd yn annog buddsoddiad a thwf yng Nghymru drwy gyfundrefnau cydsynio hen ffasiwn a chymhleth, nad ydynt yn ddewisiadau deniadol neu hyfyw i'r rhai sy'n ceisio buddsoddi yma.
I fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r Bil yn cyflwyno proses gydsynio unedig newydd, a fydd yn berthnasol ar y tir ac yn y môr tiriogaethol. Bydd yn cynnwys prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol lle mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb dros gydsynio ar hyn o bryd, megis gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir ac ar y môr, llinellau trydan uwchben sy'n gysylltiedig â gorsafoedd cynhyrchu datganoledig, yn ogystal â gwaith i briffyrdd a rheilffyrdd. Trwy ddisodli prosesau cydsynio lluosog gydag un broses, byddwn yn helpu i ddenu'r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen arnom, yn enwedig yn y sector ynni adnewyddadwy.
Er mwyn darparu'r trefniadau cydsynio gorau posibl, mae'r Bil hwn wedi'i ddatblygu gyda sawl nod allweddol mewn golwg. Yn gyntaf, bydd yn sicrhau proses syml ac unedig. Bydd hyn yn galluogi datblygwyr i gael mynediad i siop un stop, lle gellir cael caniatadau, cydsyniadau, trwyddedau a gofynion eraill, a roddir ar hyn o bryd o dan wahanol gyfundrefnau cydsynio, fel un pecyn. Yn ail, bydd yn cynnig proses dryloyw, drylwyr a chyson, a fydd yn caniatáu i gymunedau ddeall a chymryd rhan yn well mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Bydd hyn yn rhoi hyder a sicrwydd yn y broses o wneud penderfyniadau, a ategir gan bolisi clir sy'n sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr angen am brosiectau seilwaith i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd wrth barchu ein hamgylchedd naturiol. Ac yn olaf, bydd y broses gydsynio newydd yn gallu ymdrin â heriau'r dyfodol mewn modd amserol drwy fod yn ddigon hyblyg i gynnwys technolegau newydd a datblygol, yn ogystal ag unrhyw bwerau cydsynio pellach a allai gael eu datganoli i Gymru.
Fel y gwyddom i gyd, mae cyflawni nodau uchelgeisiol o'r fath yn gofyn am fewnbwn a chydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, partïon a chanddynt fuddiant a chymunedau lleol. Dyna pam mae'r egwyddorion y mae'r Bil yn ceisio deddfu ar eu cyfer wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ac wedi'u datblygu gydag ymgysylltiad parhaus a chyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol. Mae hyn wedi ein galluogi i fesur yr awydd am broses gydsynio newydd yng Nghymru, a rhoi cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd yn ehangach, helpu i lunio'r broses er budd pawb sy'n gysylltiedig.
Dirprwy Lywydd, gan droi at fanylion y Bil, fe wnaf amlinellu rhai o'r elfennau allweddol. Mae'r Bil yn nodi'n glir y mathau a maint y prosiectau datblygu a nodwyd fel prosiectau seilwaith arwyddocaol i'w cynnwys yn y broses gydsynio newydd er mwyn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng cydsynio ar y lefelau cenedlaethol a lleol. Cynigir gofynion ymgynghori sylweddol ac ystyrlon i sicrhau ymgysylltiad cynnar a pharhaus â rhanddeiliaid a chymunedau lleol, a fydd yn dechrau gyda gofynion ymgynghori cadarn cyn gwneud cais yn cael eu gosod ar ddatblygwyr. Bydd y broses archwilio a phenderfynu ar gyfer asesu ceisiadau yn gymesur ac yn hyblyg, wrth sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn unol â fframwaith polisi clir. Bydd amryw o offer gorfodi ar gael hefyd i sicrhau y gellir ymdrin ag unrhyw achosion o dorri gorchymyn cydsynio seilwaith, neu ddatblygiad a wneir heb y cydsyniad angenrheidiol ar waith. Fy mwriad hefyd yw y bydd y broses gydsynio yn gweithredu ar sail adennill costau llawn, ac mae'r Bil yn darparu'r fframwaith i gyflawni hyn.
Bydd yr Aelodau'n dymuno nodi bod y Bil yn cynnwys sawl pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, a fydd yn nodi llawer o'r manylion gweithdrefnol sydd eu hangen i wneud y broses gydsynio yn gwbl weithredol. Rwyf wedi ystyried a yw'r lefel hon o fanylion yn briodol i'w chynnwys yn y Bil. Rwyf wedi dod i'r casgliad, er mwyn caniatáu'r hyblygrwydd mwyaf posibl i gynnwys unrhyw newidiadau angenrheidiol yn y dyfodol, y byddai manylion o'r fath yn cael eu gosod yn fwy priodol mewn is-ddeddfwriaeth. Rwyf wedi cynnwys cyfiawnhad dros y pwerau hyn yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil.
Dirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn cyflawni proses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol y mae Cymru'n eu haeddu. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch a diolch i bawb sy'n ymwneud â datblygu'r Bil hwn a'r ymdrechion cydweithredol a wnaed i gyrraedd y pwynt hwn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd wrth i'r Bil fynd ar ei hynt drwy'r broses graffu. Diolch.
Diolch yn fawr, Gweinidog, am ddod â hyn atom ni heddiw. Gwyddom fod Deddf Cymru 2017 wedi datganoli pwerau cydsynio ychwanegol i Gymru: gorsafoedd cynhyrchu ynni sydd â chapasiti o hyd at 350 MW, ar y tir ac yn nyfroedd Cymru; llinellau trydan uwchben hyd at, ac yn cynnwys 132 kV sy'n gysylltiedig â phrosiect cynhyrchu ynni datganoledig; ac wrth gwrs, cydsynio ar gyfer gorchmynion diwygio a grymuso harbwr. Rwy'n credu ei bod yn hysbys bod angen nawr am ddull mwy integredig a symlach o gydsynio seilwaith. Byddai dull siop un stop ar gyfer prosiectau datganoledig mawr, tebyg i broses gorchymyn cydsyniad datblygu Llywodraeth y DU, yn darparu penderfyniadau mwy cyson a thryloyw, a mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr fel ei gilydd. Felly, mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ddefnyddiol iawn. Maent yn dangos llawer o gefnogaeth mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd iddynt. Mae'r ymgynghoriad yn nodi nifer o egwyddorion, a fydd yn sail i broses gydsynio unedig newydd. Mae'r rhain yn cynnwys seilio penderfyniadau ar bolisi clir, darparu fframiau amser statudol a symleiddio faint o gydsyniadau sydd eu hangen a chryfhau swyddogaeth ein cymunedau lleol. Ac nid wyf yn credu y gall unrhyw un anghytuno â hynny. Mae gennyf ychydig o gwestiynau.
A allech chi ddarparu, os gwelwch yn dda, fwy o wybodaeth am swyddogaeth yr ymgynghoreion statudol? Rwy'n credu ein bod ni'n gytûn ar y dymuniad i gryfhau llais cymunedau lleol, ond hyd yn hyn—. Nid yw'r Bil wedi dechrau ar ei hynt mewn gwirionedd, felly gallai fod ychydig yn annheg gofyn i chi wneud hyn nawr, ond pe gallech ddweud efallai sut rydych chi'n bwriadu cryfhau eu llais. Mae ceisiadau seilwaith mawr, fel y gwyddom i gyd, yn gymhleth iawn, ac rwy'n gwybod, yn sicr yn ein cymuned yn Aberconwy, gyda'r holl gynlluniau ynni adnewyddadwy ar y môr a fydd yn dod, nid yw'n anghywir dweud, weithiau, y gall preswylwyr deimlo eu bod wedi'u llethu rhywfaint. A phan soniwch wrthynt, 'O, mae yna broses ymgynghori lawn', ni fydd hi'n hawdd eu cael nhw i ymgysylltu. Felly, sut allwn ni sicrhau bod y Bil hwn yn cyflwyno proses ymgynghori sy'n hawdd ei defnyddio ac y gall pobl leyg gymryd rhan lawn ynddi?
Nawr, cynigir cyflwyno trothwyon dewisol ar gyfer prosiectau seilwaith Cymru ochr yn ochr â throthwyon gorfodol. Er y byddai'n ofynnol i brosiectau sy'n dod o fewn y trothwyon gorfodol gael cydsyniad seilwaith Cymru, byddai gan y prosiectau hynny o fewn y trothwyon dewisol ddewis o gael cydsyniad seilwaith Cymru neu ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol. Nawr, rwyf wedi bod yn siarad â rhanddeiliaid ar fater arall heddiw, ac mae'n amlwg bod ein hawdurdodau cynllunio lleol wedi'u gorlethu, yn sicr o ran ceisiadau trwyddedu a chynllunio. Mae dros 100 o swyddi gwag swyddogion cynllunio eisoes yng Nghymru, a hyd yn oed yn y sector preifat, o ran ymgynghorwyr cynllunio, maen nhw ymhell dros 100. Felly, ar ddiwedd y dydd, tybed sut ydych chi'n mynd i gryfhau'r fframwaith fel bod datblygwyr yn gwybod yn union i bwy maen nhw'n cyflwyno cais.
Nawr, yng ngoleuni'r ffaith bod ein hawdurdodau cynllunio lleol yn cymryd hyd at 12 mis bellach i ymateb i geisiadau cynllunio sylfaenol ac i geisiadau cyn-gynllunio, ac mae'n cymryd blynyddoedd—mae ceisiadau cynllunio a gymerodd chwech i wyth wythnos ar un adeg bellach yn cymryd dwy i dair blynedd mewn rhai achosion—a wnewch chi weithio gyda ni i sicrhau bod y Bil—? Wel, ni allaf weld sut mae'n osgoi rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar ein hawdurdodau cynllunio lleol. Felly, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod gennym ni'r sgiliau cywir er mwyn i'n hadrannau cynllunio allu ymdrin â hyn?
Rwy'n falch o weld yr ymgynghoriad yn archwilio ffyrdd o ychwanegu elfennau tracio cyflym ar gyfer dosbarthiadau penodol neu fathau o waith sydd ar y gweill. Er y byddwn yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth am y broses dracio gyflym bosibl, yn hytrach na'i chymhwyso i gategorïau penodol, a allwn anelu at gael proses gydsynio sy'n gyflym iawn, yn gyflym ac yn effeithlon iawn? Mae angen i ni sicrhau bod y Bil yn datgloi potensial economaidd ac amgylcheddol Cymru, gan gael gwared ar rwystrau sy'n atal effeithlonrwydd ar hyn o bryd. Mae arafwch y cynllunio a'r ddarpariaeth a diffyg cynlluniau hirdymor yn creu aneffeithlonrwydd ac mae'r rhain bellach yn rhwystro buddsoddiad preifat.
A allwch chi fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn ddiweddar gan y Llywydd na fyddai'r darpariaethau canlynol o fewn cymhwysedd, oherwydd bod angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, ein Hysgrifennydd Gwladol: adran 30, ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais; adran 33, hysbysiad am geisiadau a dderbynnir a chyhoeddusrwydd; adran 45, mynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliad; adran 46, talu cynrychiolydd penodedig pan fo mynediad at dystiolaeth wedi ei gyfyngu; adran 60, yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith; adran 87, pŵer i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith; adran 121, ffioedd am gyflawni swyddogaethau a darparu gwasanaethau cydsyniad seilwaith; ac adran 126—
Janet, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Popeth yn iawn. Y pŵer i ymgynghori. A allwch chi egluro sut rydych chi eisoes yn gweithio gyda'r Ysgrifennydd Gwladol? Diolch.
Diolch yn fawr, Janet. Felly, nifer o gwestiynau penodol yna. Yn y cam cyn gwneud cais bydd yr ymgeiswyr yn ymgynghori â'r ymgyngoreion statudol, ac yn ystod y cam archwilio bydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â nhw. Pan ymgynghorir â nhw, mae angen ymateb o sylwedd ac amserol gan yr ymgynghorai statudol perthnasol. Mae'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ragnodi mewn is-ddeddfwriaeth ffurf a chynnwys ymateb o sylwedd a'r amserlen y mae'n rhaid darparu'r ymateb o fewn iddi. Felly, bydd hynny'n sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei darparu mewn modd amserol. Bydd gofyn i gyrff yr ymgynghorwyd â nhw ddarparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar eu cydymffurfiaeth â'r gofynion a nodir yn yr is-ddeddfwriaeth. Bydd y rhestr o awdurdodau a chyrff sydd i'w nodi fel ymgyngoreion statudol yn cael ei nodi yn yr is-ddeddfwriaeth, ond rhagwelir y bydd llawer o'r awdurdodau a'r cyrff yr ymgynghorir â nhw ar hyn o bryd ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol hefyd yn ymgyngoreion statudol at ddibenion y broses hon.
O ran ymgysylltu â'r gymuned, credwn fod gwelliant sylweddol mewn ymgysylltu â'r gymuned, oherwydd bydd yn gwella lefel y gwasanaeth i ddatblygwyr ac yn gwella sut y gall cymunedau ymgysylltu â chydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr. Rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â sefyllfa pan fo etholwyr yn dymuno cymryd rhan mewn proses ymgynghori, ond maent yn ddryslyd iawn ynghylch a ydynt yn ymwneud â'r broses gydsynio trwyddedu neu'r broses cydsynio cynllunio neu un o'r prosesau cydsynio eraill sy'n bodoli ar hyn o bryd. Yr hyn y bydd hon yn ei wneud yw cael gwared ar hynny. Bydd yn broses unigol a fydd yn arwain at gydsyniad seilwaith. Felly, er enghraifft, o ran amddiffyniad llifogydd, yn hytrach na gorfod ymgynghori ar orchymyn diwygio harbwr, y drwydded forol, y cais cynllunio, mater y priffyrdd ac ati, bydd un cais. Bydd yn ei gwneud yn llawer symlach i gymunedau ymgysylltu ac yn llawer mwy dealladwy o ran yr hyn y maent yn ymgysylltu arno. Mae'n rhwystredig iawn pan ddywedir wrthych chi nad yw rhywbeth yn ystyriaeth ar gyfer y drwydded a dim ond rhywbryd yn ddiweddarach y bydd yn ystyriaeth. Felly, rwy'n credu y bydd yn gwella hyn yn sylweddol.
O ran adrannau cynllunio lleol, mae'r holl bethau hyn yn cael eu prosesu ar hyn o bryd drwy adrannau cynllunio Cymru neu drwy'r datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Felly, nid ydym yn rhagweld mewnlifiad enfawr o geisiadau, dim ond gweld symleiddio'r broses. Felly, byddwn i'n awgrymu y byddai'n tynnu pethau oddi ar y broses gynllunio leol, yn hytrach nag ychwanegu. Fe ddywedaf, Janet, cynllunio yw un o'r prosesau ystafell gefn biwrocrataidd a gafodd eu dryllio cymaint drwy gydol y blynyddoedd o gyni. Yn amlwg, nid yw; mae'n amlwg yn wasanaeth sy'n gwbl hanfodol i unrhyw fath o gydsyniad seilwaith. Mae adrannau cynllunio ledled Cymru wedi cael eu dryllio'n llwyr gan y broses gyni, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ond mae angen i chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny.
Mae'r broses hon yn y Bil hwn yn nodi adennill cost lawn. Nid ydym yn gweld pam y dylai'r pwrs cyhoeddus roi cymhorthdal i ddatblygwyr sydd am wneud y ceisiadau hyn ac, felly, bydd y ffioedd, wrth gwrs, yn darparu rhywfaint o incwm, i Weinidogion Cymru ac i awdurdodau cynllunio lleol ac ymgyngoreion lleol.
Ac yna, ar gydsyniad Gweinidog y Goron a gweithio gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, mae gennyf i ofn nad yw hynny wedi bod yn broses hapus. Rydym wedi gofyn am gydsyniadau Gweinidog y Goron; nid ydynt wedi bod yn gymwynasgar iawn ynghylch hyn. I fod yn glir iawn, Dirprwy Lywydd, pam y maen nhw'n hanfodol: mae'r Bil wedi'i gynllunio i weithredu drwy roi rhai cyfrifoldebau ar awdurdodau a gadwyd yn ôl, felly, er enghraifft, os yw prosiect seilwaith yn croesi'r dŵr tiriogaethol y tu allan i'r parth 200 milltir neu os yw'n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft, efallai y bydd angen i ymgynghorai statudol o Loegr ymateb. Felly, mae'r Bil yn nodi y gallai fod angen hynny arnom. Mae angen cydsyniadau Gweinidog y Goron arnom ar gyfer hynny. Mae yna ffyrdd i'w gyflawni heb hynny, ond byddai'n ei atal rhag bod yn broses mor syml. Felly, mae er budd Llywodraeth y DU, gan weithredu fel Llywodraeth Lloegr, i gydsynio i hynny, ac rydym wedi gofyn am y rheini. Ond byddwch yn dawel eich meddwl bod y Bil yn weithredol hebddo, er nad yw mor syml. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma y prynhawn yma ac am y cyfle i ymateb iddo fo. Rŵan, fel egwyddor cyffredinol, mae'n dda gweld bod yna gamau ar droed i symleiddio'r broses ar gyfer rhoi caniatâd i ddatblygu isadeiledd o bwys cenedlaethol. Ond mae yna gwestiynau yn codi sydd angen eu gwyntyllu cyn ein bod ni'n mynd ymhellach.
Yn ei chyflwyniad, fe soniodd y Gweinidog am greu siop un stop ar gyfer rhoi caniatâd, trwyddedu ac ymateb i anghenion eraill. Rŵan, mae hyn i'w groesawu, ac, ar yr wyneb, mae o'n beth da, ond sut mae hyn am gael ei ddarparu? Bydd angen sicrhau nad oes yna glwydi biwrocrataidd yn cael eu rhoi mewn lle, felly hoffwn glywed beth ydy'r weledigaeth am sut fydd y siop un stop yma yn edrych. Sut, hefyd, fydd y system unedig newydd yma yn ymateb i'r gwahaniaethau ac anghenion gwahanol mewn ardaloedd ar draws Cymru?
Dwi'n falch darllen bod tryloywder, trylwyredd a chysondeb yn y broses o wneud penderfyniadau yn ganolog i hyn, er mwyn sicrhau llywodraethiant effeithiol. Felly, pa fecanwaith fydd yn cael ei roi er mwyn grymuso ein cymunedau yn y broses yma? Mae'r system gynllunio lleol bresennol wedi ei stacio yn erbyn ein cymunedau ac o blaid datblygwyr, felly mae angen sicrhau bod llais ein cymunedau yn cael lle blaenllaw yn y broses fwy canolog yma. Hoffwn glywed hefyd ymateb y Gweinidog i hyn: sut mae'r Gweinidog am sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei glywed?
Yn yr un modd, mae ystyriaethau amgylcheddol yn ganolog wrth inni ddatblygu cynllun ar gyfer ein seilwaith cenedlaethol, nid yn unig o ran cynlluniau amgylcheddol ond o ran y carbon a fydd yn cael ei ddefnyddio. Mae'n dda gweld hyn yn ganolog i'r Bil. Felly, a wnaiff y Gweinidog gymryd y cyfle yma i egluro ymhellach sut fydd yr ystyriaethau amgylcheddol yma yn chwarae rhan yn y broses hon?
Ymhellach i hyn, yn amlach na pheidio, y cyfiawnhad sydd yn cael ei roi am unrhyw ddatblygiad o sylwedd fel arfer ydy'r anghenion economaidd. Ond mae anghenion economaidd yn aml yn gwbl groes i anghenion amgylcheddol, ecolegol, ieithyddol a chymunedol. Sut mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd y drefn newydd yn taro'r balans yma? Pa ystyriaethau fydd yn cael eu rhoi, er enghraifft, i anghenion ieithyddol wrth ystyried cynlluniau mawr?
Yn olaf, dwi'n nodi bod yna gyfeiriad yn nrafft y Bil seilwaith at gyfleusterau gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol. Ynddo, mae'n sôn am dwll tirio o leiaf 150 m o ddyfnder o dan arwyneb y ddaear neu o dan wely'r môr. Rŵan, os mai ni sy'n creu'r gwastraff, yna ein cyfrifoldeb ni y dylai fod i fynd i'r afael â'r gwastraff, ond mae'n ddiddorol nodi nad oedd yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi cynnig ei hun i gymryd y gwastraff ymbelydrol Prydeinig. Hoffwn wybod a deall beth ydy'r rhesymeg a'r wyddoniaeth y tu ôl i'r rhan penodol yma o'r Bil. Dwi'n deall mai'r bwriad ydy casglu data a samplau, ond mae'n gwestiwn a ydy dyfnder o 150 m yn ddigonol, oherwydd yn y Ffindir, er enghraifft, maen nhw'n ei gladdu o tua milltir o dan y ddaear, ac mewn gwirionedd, mae'n debyg mai'r peth callaf ydy i beidio a chladdu gwastraff ymbelydrol o gwbl, oherwydd fod crwst y ddaear yn symud. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog roi esboniad, er mwyn i ni ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i hyn. Diolch.
Diolch, Mabon. Felly, mae nifer o bethau; dim ond i ddweud ei fod yn ateb cyffredinol, cyn i mi fynd at rai o'r manylion penodol. Bil proses yw'r Bil hwn. Mae'n ymwneud â newid y broses yr ydym ni'n ei defnyddio i gydsynio pethau. Nid Bil polisi mohono, felly nid yw'n newid unrhyw un o'r polisïau sylfaenol sy'n cyd-fynd â'r prosesau hynny. Felly, os oes gan Lywodraeth Cymru bolisi yn erbyn claddu gwastraff ymbelydrol, yna mae'r polisi hwnnw'n parhau mewn grym. Mae'n rhaid i ni gael proses o hyd ar gyfer ymdrin â chais, ond mae'r polisi yn aros yn ei le, ac felly byddai'r cais, byddwn i'n awgrymu, yn annhebygol o fod yn llwyddiannus. Ac mae hynny'n wir am yr holl bolisïau eraill. Mae'n rhaid i ni gael proses i'r ymgeisydd ei dilyn, ond yn amlwg, byddai'n rhaid i'r broses honno ystyried y polisi. Felly, mae rhai o'ch cwestiynau'n taro yn erbyn hynny. Felly, byddwn yn parhau i gael yr un polisïau ar waith; byddwn yn parhau, rwy'n siŵr, i drafod y polisïau yma ac ati. Yna bydd y broses hon yn cymhwyso'r polisïau yn yr achos hwnnw. Felly, rwy'n credu bod cryn dipyn o'r pethau y gwnaethoch ofyn i mi yn ymwneud â rhyngweithiad y polisi a'r broses.
Rwy'n credu o ran cwpl o'r pethau penodol eraill, holl bwynt y gyfundrefn hon yw ei gwneud hi'n haws i gymunedau ymgysylltu. Felly, bydd ag ymgysylltiad gorfodol yn y cam cyn gwneud cais ac yna yn ystod y broses, gan y datblygwr a'r holl awdurdodau sy'n penderfynu—yn yr achos hwn, Gweinidogion Cymru—a bydd modd gorfodi hynny fel rhan o'r broses. Rwy'n credu'n ddifrifol iawn, oherwydd rwyf wedi cael hyn fy hun gyda fy etholwyr fy hun ar nifer fawr o achlysuron, ac rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, sef bydd y broses sengl yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddeall yr hyn y gallant ei gyfrannu trwy wrthwynebiad, neu drwy ddymuno rhywfaint o welliant arno, neu beth bynnag ydyw. Oherwydd rwy'n siŵr—rwyf newydd ddweud hyn mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi dod ar ei draws hefyd—mae pobl yn dweud, 'Rwyf eisiau gwrthwynebu defnyddio'r briffordd ar gyfer bla bla', ac rydych chi'n dweud, 'Wel, nid yw hynny o dan sylw ar hyn o bryd; edrych ar y drwydded ydym ni ar hyn o bryd', ac ati. Mae pobl yn teimlo'n rhwystredig iawn, ac yn briodol felly. Felly, ni fydd hynny'n digwydd mwyach, oherwydd byddant yn gallu rhoi'r ystod gyfan o faterion y maent am eu cyflwyno ar gyfer yr un broses.
Mae'r un peth yn wir am yr asesiadau effaith amgylcheddol ac ati. Rwy'n awyddus iawn i gael y cydbwysedd cywir rhwng asesu effaith amgylcheddol, diogelu'r amgylchedd, adfer a gwella'r amgylchedd, a datblygu seilwaith—yn awyddus iawn yn wir. Felly, y datblygwyr yn eu cais—a Dirprwy Lywydd, gan fod y Bil hwn ar ei hynt drwy ein pwyllgorau, rwy'n siŵr y cawn ni rai sgyrsiau manwl yma—mae'r Bil ar hyn o bryd yn cynnig y dylid nodi cynnwys y ffurflen gais ac ati mewn rheoliadau, a hynny er mwyn i ni allu eu diweddaru'n rheolaidd iawn gyda'r hyn yr ydym eisiau i'r datblygwyr eu cyflwyno fel rhan o'r cais. Felly, byddai hynny'n cynnwys, er enghraifft, asesiadau effaith amgylcheddol neu asesiadau effaith ar iaith, neu bob math o bethau eraill a wnawn, a byddwn yn argymell yn gryf bod angen i ni allu cadw i fyny â datblygiadau yn y maes hwnnw a gallu parhau i'w hychwanegu at y broses, gan gynnwys, os ydym yn llwyddo i gael datganoli pwerau ymhellach, yr hoffwn yn fawr iawn ei weld, yn y môr tiriogaethol, er enghraifft, y gallwn eu hychwanegu'n ddi-dor i'r broses, yn hytrach na gorfod mynd trwy hyn eto.
Ac rwy'n credu mai'r peth arall a fydd yn gallu digwydd yw y bydd tryloywder y broses ymgeisio a'r ymgyngoreion statudol yn gallu gwneud sylwadau ar hynny yn llawer mwy tryloyw i'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Felly, unwaith eto, bydd yn broses alluogi a fydd yn caniatáu i bobl weld ble maen nhw yn y broses, a phryd y gallent ddisgwyl gweld, er enghraifft, asesiad o'r effaith amgylcheddol. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud yn gyfan gwbl â phroses—nid yw'n ymwneud â pholisi—ond rwy'n credu weithiau, fod y broses yn ennyn ymgysylltiad haws, yn syml oherwydd ei bod yn haws ei dilyn.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr. Seilwaith yw un o'r tri piler ar gyfer sbarduno twf economaidd llwyddiannus, ynghyd â mynediad at gyllid ac addysg o ansawdd uchel. Rwyf hefyd eisiau pwysleisio pwysigrwydd cynllunio i reoli datblygiad a rhoi'r gorau i rwystro datblygiadau. Rwy'n falch bod y Bil yn cyflwyno cyfundrefn fodern a symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru, ar y tir ac yn y moroedd tiriogaethol. Mae bod â chyfundrefn gydsynio effeithlon ac effeithiol, rwy'n cytuno â chi, Gweinidog, yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yng Nghymru yn amserol sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero net. Rwy'n croesawu eich bod yn cyflwyno proses gydsynio unedig newydd, a fydd yn berthnasol ar y tir ac yn y môr tiriogaethol, ond y cwestiwn sydd gen i yw: a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ynni gwynt ar y môr gael cydsyniad ar gyfer cynhyrchu, ei gwneud hi'n haws iddo ymuno â'r grid, ac i'r uwchraddiadau grid angenrheidiol ddigwydd?
Diolch yn fawr, Mike, ac rwy'n cytuno; bydd proses symlach yn dod â llawer o fanteision. Nid wyf yn siŵr a yw'n haws. Mae'n fwy clir beth fydd y broses. Bydd yn ei gwneud yn llawer mwy amlwg i'r datblygwr yr hyn y mae angen iddo ei gynnwys yn ei gais cychwynnol. Bydd yn ei gwneud yn haws iddo ddeall costau gwneud hynny, a beth fydd y mesurau lliniaru tebygol y bydd eu hangen. Ac felly, rwy'n credu y bydd yn ei gwneud yn lle mwy deniadol i fuddsoddi. Nid wyf yn siŵr y byddwn i'n defnyddio'r gair 'haws', fel y cyfryw, oherwydd rydym eisiau iddynt orfod neidio dros y rhwystrau amrywiol a roddwyd ar waith gennym, ond bydd y rhwystrau hynny'n amlwg ac yn dryloyw a byddant yn gallu eu rhoi yn eu proses gynllunio.
Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datblygiad hwn. Diolch yn fawr iawn am amlinellu hyn a fy mriffio hefyd. Mae'n rhywbeth lle gallwn weld bod cynlluniau mawr, os creffir arnynt yn effeithiol a'u bod yn cael eu rheoli'n effeithiol, yn dal ymgeiswyr a datblygwyr i'r safonau uchaf posibl. Felly, gallaf weld mantais proses symlach ac effeithlon ac effeithiol, felly diolch i chi am ddatblygu hon a dod â hi ger ein bron yma yn y Senedd.
Hoffwn grybwyll un peth os caf. Mae gennym dargedau uchelgeisiol o ran cynhyrchu ynni, ac rwyf eisiau gofyn cwestiwn penodol am ddemocratiaeth leol ac atebolrwydd. Fe wnaethoch chi ddweud, mewn ymateb i Mabon, ei bod yn ymwneud yn llwyr â phroses, ac rwy'n deall hynny, ond mae llawer iawn o bobl yn meddwl bod datblygwyr mawr yn dod i mewn, yn aml yn sathru cymunedau lleol dan draed, gan dynnu adnoddau, achosi blynyddoedd o aflonyddu, ac yna mynd i ffwrdd, ac mae gennym ni un o'r datblygiadau hynny mewn gwirionedd yn fy rhanbarth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru nawr, lle mae cymunedau'n teimlo eu bod heb lais a heb rym. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw: sut fyddech yn credu y byddai hyn mewn gwirionedd yn helpu cymunedau lleol i leisio eu barn a hefyd yn gwneud y broses yn dryloyw? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane. Rwyf wedi dweud rhywfaint o hyn o'r blaen, ond mae'n werth ei ailadrodd, onid ydyw? Mae gofynion ymgynghori gwell a chyson cyn gwneud cais wedi'u hymgorffori yn y broses, ar gyfer ymgeiswyr o bob math, ar gyfer pob math o seilwaith. Mae angen adroddiad effaith lleol, a ddaw gan yr awdurdod cynllunio lleol, a fydd yn eu galluogi i fynegi eu barn gadarn iawn. Ar hyn o bryd, os oes gennych chi—. Dydw i ddim yn mynd i wneud sylw ar unrhyw gynigion penodol, yn amlwg, ond os ydych chi'n ceisio datblygu system cynhyrchu ynni ar y tir, mae angen trwydded a chydsyniad cynllunio ar gyfer y peth ei hun; mae arnoch angen trwyddedau a chydsyniadau cynllunio ar gyfer trosglwyddo'r ynni; efallai y bydd angen cydsyniadau priffyrdd arnoch; efallai y bydd angen pob math o drefniadau trwyddedu bach eraill arnoch; efallai y bydd angen landlord arnoch—. Wyddoch chi, mae yna bob math o bethau. Yr hyn y mae hwn yn ei wneud yw rhoi un broses gydsynio ar waith. Felly, os oes gennych gymuned sy'n bryderus iawn am y trefniadau trosglwyddo ynni, er enghraifft, gallant wrthwynebu fel rhan o'r broses. Gallant fynegi eu barn fel rhan o'r broses. Ar hyn o bryd, rwy'n gwybod bod pobl yn ceisio gwneud hynny, ac maen nhw'n dweud, 'O, nid dyna beth yr ydym ni'n edrych arno ar hyn o bryd; ar hyn o bryd rydym yn edrych ar y mater hwn.' Yr hyn y mae cymunedau'n ei deimlo yw, 'Wel, ar ôl iddyn nhw gael y darn hwnnw, mae'n mynd i fod yn llawer anoddach gwrthwynebu'r darn yma', ac mae gennyf i rywfaint o gydymdeimlad â hynny. Mae hyn yn caniatáu un broses ar gyfer y cais, sy'n golygu nad oes rhaid i chi droi dinasyddion pryderus i ffwrdd. Gallant gymryd rhan a deall trwybwn y cais. Rwy'n credu bod hynny'n ei gwneud hi'n haws ymgysylltu â nhw, ac nid ydych yn clywed pethau ofnadwy fel, 'Nid dyma'r amser iawn i gyflwyno hwnna, Mrs Jones', neu rywbeth tebyg yr ydym wedi'i glywed yn y gorffennol.
Bydd Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am yr hyn sy'n gyfystyr ag ymgynghoriad digonol hefyd, ac rwy'n credu y byddwn yn datblygu rhywfaint o gyfraith achosion yn ei gylch, rwy'n siŵr, wrth i ni fynd yn ein blaenau, a bydd gennym farn gadarn iawn, ac rwy'n siŵr wrth i ni fynd drwy'r pwyllgorau, y bydd gan y pwyllgorau farn gadarn ar yr hyn sy'n gyfystyr ag ymgysylltu teilwng, a hoffwn weld hynny'n cael ei adlewyrchu yn hyn wrth i'r Bil fynd ar ei hynt. Rwy'n credu'n wirioneddol bod symleiddio'r broses yn gwneud uchelgais y polisi yn fwy tryloyw ac yn gwneud cymunedau'n llawer mwy abl i ymgysylltu. Ac yna, dim ond i ddweud, byddwn ni'n parhau i ariannu pethau fel Cymorth Cynllunio Cymru, ac ati, i helpu cymunedau i ymwneud â'r broses.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw. Rwy'n credu bod angen symud ymlaen at gyfundrefn fodern, symlach y mae mawr ei hangen. Mae llawer o bobl wedi gofyn cwestiynau, wrth gwrs, y gallwn i fod wedi'u gofyn, ond mae Cymru'n wynebu her economaidd ac amgylcheddol ar raddfa na fu erioed ei thebyg o'r blaen. Mewn gwirionedd, mae Ewrop gyfan a gweddill y byd yr un fath. Ac mae hynny ynddo'i hun, ochr yn ochr â'r rhyfel yn Ewrop, wedi gweld rhai heriau gwirioneddol yn y maes hwn na allem fod wedi'u rhagweld. Ond ar yr un pryd fe allem ni gael yr atebion yma os yw'r broses gynllunio honno'n caniatáu i'r pethau hynny ddigwydd. Rwy'n sylwi mai'r prosiectau seilwaith mawr yw'r rhai sy'n mynd i gael eu cynnwys yma. Felly, fy nghwestiwn i yw pwy sy'n penderfynu beth sy'n fawr. Lle mae'r meini prawf ar gyfer hynny? Rydych chi wedi ateb llawer o'r cwestiynau ar ymgysylltu â'r gymuned, felly ni fyddaf yn gofyn y rheini. Ond a ydych chi'n mynd i alinio hyn â pholisïau eraill fel bod gennym ymwybyddiaeth ofodol o'r effaith, nid proses gynllunio symlach yn unig?
Diolch yn fawr iawn, Joyce—cyfres dda iawn o gwestiynau yn wir. Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch dadansoddiad o'r broblem. Y ffordd rydym yn mynd ati yw y bydd y Bil ei hun yn nodi, yn Rhan 1, y mathau o brosiectau seilwaith a'r trothwyon isafswm cysylltiedig sy'n cael eu cynnwys yn awtomatig gan y gyfundrefn gydsynio a fydd yn cael eu nodi yn y Bil. Gall Gweinidogion Cymru ddatblygu'r rhestr a'r trothwyon, ac maent yn adlewyrchu, fel y byddech yn ei ddisgwyl, trothwyon sydd yn y datblygiadau presennol o broses o arwyddocâd cenedlaethol a chyfundrefnau cydsynio eraill. Maent wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w hysbysu am y rhestr honno hefyd, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, Joyce. Ond rwy'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud, ac mae'n un da iawn. Mae'n un o'r rhai yr ydym wedi cael rhywfaint o drafodaeth amdano, ac rwy'n siŵr y byddwn ni yn y pwyllgorau hefyd.
Rydym yn cydnabod yn llwyr nad yw trothwy meintiol mewn rhai achosion yn briodol o ran a yw prosiect o'r fath arwyddocâd a chymhlethdod angen cydsyniad drwy'r broses unedig hon. Felly, mae'r Bil, yn ei ffurf bresennol, yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cyfarwyddyd ynghylch a yw prosiect sydd y tu allan i'r trothwy cymwys yn cael ei ystyried yn brosiect seilwaith arwyddocaol neu SIP, fel y'i gelwir. Os nad yw'n cyrraedd y trothwy hwnnw, neu os byddwn ni'n penderfynu nad yw'n gwneud hynny, yna bydd yn mynd drwy'r broses gynllunio normal fel arfer. Bydd yn debyg—rwy'n gwybod, Joyce, rydych chi'n gwneud hyn eich hun—i sefyllfa pan fydd etholwyr yn gofyn i gais cynllunio gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru—dyna pryd mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod cais cynllunio o arwyddocâd mwy na lleol. Bydd proses debyg iawn yn digwydd er mwyn sicrhau, er bod prosiect yn is na'r trothwy, y gallai fod mor bwysig i economi Cymru neu i bobl Cymru ac ein bod yn credu y dylai ddod drwy'r broses hon. Felly, bydd y rhain yn cael eu hymgorffori.
Rwy'n croesawu'r datganiad. Amlygodd y cwestiynau yn gynharach sut mae angen cyllid sector cyhoeddus arnom i allu darparu sector preifat hefyd, ac rwy'n falch y byddant yn cyfrannu at y broses gynllunio. Rwy'n gobeithio y bydd gwerth cymdeithasol, efallai drwy ynni i gymunedau, ardollau seilwaith cymunedol neu gyllid adran 106, ynghlwm hefyd. Gweinidog, a allwch amlinellu sut y bydd y Bil yn symleiddio'r system gydsynio yng Nghymru? Efallai eich bod wedi ei gwmpasu ychydig o'r blaen, ond pe gallech ymhelaethu ychydig ymhellach. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Carolyn. Ie, y syniad yw bod â system adennill cost lawn. Rwyf bob amser wedi bod ychydig yn flin ynghylch pam y disgwylir i'r pwrs cyhoeddus sybsideiddio ceisiadau cynllunio neu drwyddedu unigolion amrywiol yn y sector preifat. Rydym yn sicr eisiau sicrhau bod darpariaethau'n bodoli i sicrhau nad yw hynny'n digwydd, wrth symud ymlaen, a bod y datblygiadau hyn yn talu amdanynt eu hunain yn yr ystyr hwnnw.
Yna Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am y broses, felly bydd unrhyw amodau—hanes blaenorol neu gynsail neu beth bynnag—sy'n angenrheidiol ar gyfer hyn yn rhan o'r broses honno. Felly, bydd trafodaethau ynghylch gorchmynion priffyrdd, gorchmynion diwygio harbwr, yr holl bethau hynny, yn rhan o'r broses. Bydd y costau sy'n gysylltiedig â'r rheini, a'r buddion cysylltiedig, hefyd yn rhan o'r broses.
O ran awdurdodau cynllunio lleol, mae'n debyg bod y rhain yn cael eu trin mewn awdurdod cynllunio lleol ar hyn o bryd fel cyfres o geisiadau amrywiol iawn. Byddai amddiffynfa rhag llifogydd, er enghraifft, yn y gogledd, yn eich rhanbarth chi, wedi mynd, efallai, trwy gydsyniad morol, cydsyniad cynllunio, cydsyniad gorchymyn diwygio harbwr, cydsyniad priffyrdd, cydsyniad gwyriad ynni—bla, bla—ond nawr, bydd yn dod trwy un broses unedig, a bydd yn dargyfeirio'r gwaith hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol lle mae'n fater cymhleth iawn.
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wir yn croesawu'r datganiad hwn heddiw oherwydd yr effaith y gallai hyn ei chael arnom o ran cyflawni ein targedau sero net, ond hefyd oherwydd yr effaith y gallai ei chael ar hyrwyddo'r swyddi gwyrdd hynny hefyd, diogelwch ynni, a datblygu isadeiledd rhai o'n porthladdoedd hefyd, fel y rhai ym Mhort Talbot, Aberdaugleddau ac yn y blaen.
Gweinidog, un o'r heriau sydd ynghlwm wrth hyn yw sicrhau'r cydbwysedd cywir, wrth gwrs, o ran strwythur symlach, unedig. Mae pobl yn aml yn dweud, 'Pam nad ydyn nhw'n bwrw ymlaen â'r pethau hyn?' ac yna, yn gwbl briodol, mae pobl sy'n meddwl am yr effeithiau amgylcheddol yn dweud, 'Ie, ond mae'n rhaid i ni gael y cydsyniad amgylcheddol yn gywir, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cyhoedd yn ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon hefyd'. Felly, beth mae'r dull symlach, unedig hwn yn ei olygu ar gyfer byrhau amserlenni cyflawni prosiectau fel bod y prosiectau hyn ar waith, ac fel y gallwn gyrraedd ein targedau sero net; ar gyfer yr agwedd amgylcheddol ar hyn wrth gydsynio yn y dull unedig hwn, ar gyfer y ffordd rydym yn diogelu'r dulliau hynny o ddiogelu'r amgylchedd; a hefyd ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn ystyrlon? Rwy'n sylweddoli bod y stôl tair coes hon yn anodd iawn, ond os bydd unrhyw un o'r tair coes hynny yn cwympo, bydd y stôl gyfan yn dymchwel o ran cydsynio.
A hoffwn sôn hefyd, Dirprwy Lywydd, os caf i, rwy'n siŵr y bydd yr holl bwyllgorau yn edrych ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar y wyneb a'r hyn y bydd y Gweinidog unwaith eto yn ei gymryd i'r hyblygrwydd hwnnw o reoliadau eilaidd a chanllawiau.
Diolch, Huw. Roeddwn i'n meddwl tybed a oeddwn i wedi llwyddo i grybwyll hynny heb i chi sylwi ai peidio. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n cael trafodaethau cadarn am yr hyn sydd ei angen ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ei angen ar gyfer camau gweithredu rheoleiddiol.
Rydych chi'n gywir; mae'r stôl tair coes, fel y'i galwyd gennych yn briodol, yn gydbwysedd anodd, ond nid yw hyn yn dileu unrhyw rai o'r cyfrifoldebau sydd ar y datblygwr i gyflwyno cais da. Yn wir, bydd yn ei gwneud yn glir iawn i'r datblygwr beth fydd y disgwyliadau o ran cais, a bydd y cais hwnnw'n cynnwys yr holl anghenion gwahanol ar gyfer asesiad o'r effaith amgylcheddol, asesiadau cyfarwyddeb cynefinoedd ac ati—bydd yn cael ei nodi'n glir iawn.
A fydd yn cyflymu'r broses? Bydd yn ei chyflymu unwaith y bydd trefn dda ar y cais, ond os bydd angen monitro cynefin am flwyddyn oherwydd bod angen gwybod beth yw'r amrywiad tymhorol, dydy hi ddim yn mynd i gwtogi hynny; bydd yn rhaid i chi wneud yr holl waith asesu, gwerthuso, monitro ac yn y blaen o hyd. Dim ond pan fydd yr wybodaeth gyda chi, a phan fydd yr wybodaeth honno'n cael ei rhannu yn y fformat a bennir yn y rheoliadau, fel nad ydym yn cael dadleuon hurt ynghylch, 'Wel, fe ddefnyddiais i system gwbl wahanol, ond mae llawn cystal', yr wyf wedi'i weld droeon—. Bydd yn amlwg iawn eich bod chi'n defnyddio’r system a nodir yn y rheoliadau, a dyna pam yr wyf yn meddwl y dylen nhw fod mewn rheoliadau, gyda llaw—i mi gael nodi fy nadleuon i yn gyntaf. Ac yna, unwaith y bydd y cais wedi'i gyflwyno a'r cam cyn gwneud cais wedi'i gwblhau a'r holl waith ymgynghori hwnnw wedi'i wneud, bydd y broses yn llawer cyflymach oherwydd fydd ddim angen i sawl cyfundrefn gydsynio fod ar waith. Rwy'n credu mai dyna'r broblem mewn gwirionedd.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: datganiad ansawdd ar gyfer diabetes. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, fel rhan o Wythnos Diabetes, rwyf wedi cyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes, sy'n nodi'r blaenoriaethau gwasanaeth allweddol ar gyfer datblygu gwell gofal diabetes ledled Cymru.
Mae diabetes yn cael effaith sylweddol ar ein poblogaeth. Mae tua 7 y cant o'r boblogaeth wedi cofrestru â diagnosis o ddiabetes. Felly, mae'n effeithio ar tua 207,000 o bobl a'u teuluoedd. Amcangyfrifir bod y GIG yn defnyddio tua 10 y cant o'i gyllideb i drin diabetes a'r cymhlethdodau difrifol y gall eu hachosi. Gwnaeth yr un astudiaeth a gynhaliwyd yn 2012, rwy'n credu, ragweld y byddai'r ffigur hwnnw'n codi i 17 y cant erbyn canol y 2030au, o ystyried y twf tebygol yn nifer y bobl â diabetes. Felly, mae'n amlwg yn broblem ddifrifol iawn i'n poblogaeth ac i gynaliadwyedd ein GIG yn y dyfodol. Gallwn ni weld eisoes sut mae'r GIG yn ei chael hi'n anodd ateb y galw cynyddol gan y boblogaeth am driniaeth a gofal. Bydd y pwysau hyn ond yn mynd yn anoddach i ymdopi â nhw ac yn cael canlyniadau mwy difrifol byth os na fyddwn ni'n gweithredu fel cymdeithas, os na fyddwn ni'n dod at ein gilydd i fynd i'r afael â'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chyflyrau fel diabetes, clefyd cardiofasgwlaidd a chanser.
Gadewch imi fod yn hollol glir, does dim modd atal diabetes math 1, sy'n effeithio ar oddeutu 16,000 o bobl yng Nghymru. Mae pobl â diabetes math 1 yn tueddu i gael diagnosis yn ystod plentyndod ac mae'n rhaid iddyn nhw ymdopi drwy lencyndod ac wrth dyfu'n oedolyn gyda chefnogaeth hanfodol gan ein GIG. Ond rydym yn gwybod yn bendant bod cysylltiad rhwng gordewdra a diabetes math 2. Heb ddeiet iach ac ymarfer corff priodol, gall gordewdra arwain at ddiabetes math 2 dros gyfnod cymharol fyr. Rydym yn gwybod y gall lleihau pwysau'r corff, hyd yn oed ychydig bach, helpu i wella sensitifrwydd inswlin a lleihau'r risg o ddatblygu cyflyrau fel diabetes math 2, clefyd y galon, a rhai canserau. Rydym yn gwybod bod gordewdra ac anweithgarwch corfforol yn fwy amlwg mewn ardaloedd â lefelau uwch o amddifadedd. Os ydym yn mynd i osgoi rhai penderfyniadau anodd iawn yn y dyfodol ynghylch yr hyn y gall y GIG ei ddarparu'n ehangach, yna mae angen i ni fynd i'r afael â'r ffactorau risg hyn a'u penderfynyddion. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y Llywodraeth; yr hyn mae llywodraeth leol yn ei wneud i alluogi pobl i fyw bywydau iachach; rôl diwydiant, yn enwedig y diwydiant bwyd; a'r ffordd y mae pob person yn byw ei fywyd. Mae'n rhaid i ni i gyd dynnu i gyfeiriad iachach os ydym am gael GIG cynaliadwy.
Mae ein dull o atal a lleihau cyfraddau gordewdra wedi'i nodi yn ein strategaeth 10 mlynedd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rydym wedi parhau i fuddsoddi mwy na £13 miliwn rhwng 2022 a 2024 i wella mynediad at driniaeth a chynyddu ffocws partneriaid ar weithgarwch atal. Rydym yn defnyddio cymysgedd o gyllid, polisi a deddfwriaeth i ysgogi newid.
Bydd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl yn gwneud datganiad llafar ar 27 Mehefin. Bydd hwn yn nodi ein camau nesaf o ran yr arfer o hyrwyddo bwydydd ar sail pris a ble maen nhw'n cael eu lleoli mewn siopau. Fel rhan o'r strategaeth, rŷn ni hefyd wedi buddsoddi £1 miliwn y flwyddyn i raglen atal diabetes Cymru-gyfan. Mae'r rhaglen yn cael ei threialu ledled Cymru i helpu'r rhai sydd ar fin datblygu diabetes i roi ychydig o bellter rhyngddyn nhw a'r cyflwr. Mae mwy nag 800 o ymgynghoriadau wedi cael eu gwneud trwy'r rhaglen, ac yn ddiweddar, gwnes i a Lynne Neagle ymweld â'r rhaglen yng Nghaerdydd a'r Fro, i weld sut maen nhw'n gweithio.
Yn ogystal â'r gwaith atal sylfaenol yma, mae'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes yn canolbwyntio ar gefnogaeth yr NHS i bobl sydd â'r cyflwr. Mae'n cynnwys datblygu gwasanaethau sy'n cael eu galw'n 'remission', lle mae pobl sydd wedi cael diagnosis diweddar yn gallu cael cefnogaeth i wneud newidiadau radical i'w diet a'u ffordd o fyw er mwyn gwyrdroi datblygiad diabetes math 2. Mae'r datganiad yn rhoi sylw helaeth i ofal cefnogol da i helpu pobl i reoli eu diabetes yn dda, gan gynnwys darparu adolygiadau rheolaidd, technoleg diabetes a rhaglenni addysg. Bydd y cymorth yma yn helpu pobl i osgoi cymhlethdodau difrifol fel niwed i'r galon, yr arennau, y llygaid a'r traed.
Ac yn olaf, rŷn ni hefyd wedi cynnwys atal trydyddol, sef monitro arwyddion cynnar o glefydau eraill fel retinopathi trwy wasanaeth sgrinio llygaid diabetes Cymru. Ein nod yn y pen draw yw atal pobl rhag datblygu diabetes math 2, ac i'r rhai sydd yn datblygu'r cyflwr, sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar bobl i reoli eu cyflwr cystal ag y gallan nhw. Bwriad y datganiad ansawdd yw arwain y gwaith o gynllunio gwasanaethau'r NHS yn gyson trwy nodi disgwyliadau cenedlaethol a llwybrau gofal clinigol. Fe fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r NHS i weithredu hyn drwy ein prosesau cynllunio lleol. Bydd y cynnydd yn cael ei fesur drwy'r archwiliadau clinigol cenedlaethol ar gyfer diabetes, a bydd y wybodaeth yma yn cael ei gwneud yn fwy cyhoeddus fel y gallwn ni i gyd weld pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud, a lle mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion i wella. Ac fe fyddwn ni yn sicrhau bod y disgwyliadau hyn yn cael eu gwireddu trwy drefniadau atebolrwydd yr NHS. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw? Rwy'n falch bod gennym ddatganiad ansawdd ar gyfer diabetes yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu bod angen rhywbeth y gall polisi'r Llywodraeth gyfeirio ato, cyfres o ganllawiau neu nodau a fydd yn helpu gwneuthurwyr polisi ym mhob sector i ganolbwyntio ar ddileu diabetes y gellir ei atal. Rwy'n credu ei fod yn arwyddocaol bod un o bob 13 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes. Dyna'n fras boblogaeth Wrecsam, y Barri, Llanelli a Merthyr Tudful gyda'i gilydd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhoi rhywfaint o bersbectif i ni o ran y broblem dan sylw. Ac mae Cymru ar y trywydd iawn i weld traean o'i phoblogaeth yn cyrraedd gordewdra a 10 y cant yn datblygu diabetes. Wrth gwrs, mae gennym eisoes y nifer uchaf o achosion o ddiabetes o holl wledydd y DU hefyd.
Felly, un o'r ffyrdd o adolygu lefel a statws y gofal y mae pobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru yn ei gael ar hyn o bryd yw'r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol. Mae data o'r archwiliad yn mesur effeithiolrwydd y gofal diabetes sy'n cael ei ddarparu yn erbyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Felly, mae'r data, rwy'n credu, yn eithaf hanfodol wrth fonitro, nodi a chydnabod gofal da a gofal sydd ddim cystal. Felly, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthym beth mae hi'n disgwyl o ran data'r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol eleni. A oes unrhyw arwydd bod Cymru yn perfformio'n well erbyn hyn ac y bydd yn dychwelyd, o bosibl, i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig o leiaf? Felly, ymdeimlad o ble mae hynny neu ble mae'n mynd i fod, yn ei barn hi.
Dylwn hefyd nodi nad yw data'r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol yn cynnwys plant, felly rydym yn dibynnu ar adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Yn ôl adroddiad diweddaraf y Coleg ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2022, gwnaeth nifer yr achosion o ddiabetes math 1 gynyddu'n sylweddol, 21 y cant mewn blwyddyn yn unig, ac aseswyd bod angen i hanner y plant â diabetes math 2 gael cymorth seicolegol ychwanegol. Nawr, yn ôl yr hyn rwyf wedi'i ddeall, Gweinidog—efallai fy mod i'n anghywir yma—dim ond bob 18 mis y mae Cymru yn rhyddhau ei data ar lefel bwrdd iechyd. Ac fel rwyf wedi'i ddeall, yn Lloegr mae hynny'n digwydd bob chwarter a gellir ei weld ar lefel clwstwr meddygon teulu. Felly, tybed a yw hynny'n gywir ac a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r safbwynt hwnnw? A oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i newid y ffordd y caiff data eu rhyddhau a pha mor aml y gallwn eu gweld, oherwydd byddai lefelau craffu o'r fath, rwy'n credu, yn cael eu croesawu yng Nghymru er mwyn helpu i benderfynu ar y ffordd orau o wella gwasanaethau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn cael yr un mynediad a'r un driniaeth, ni waeth ble maen nhw'n byw, wrth gwrs?
Fis diwethaf, rhyddhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y rhaglen mesur plant ddiweddaraf ar gyfer chwe bwrdd iechyd yng Nghymru ar gyfer blynyddoedd ysgol 2021-22, ac ar draws pump o'r rhain, roedd cyfrannau plant â gordewdra yn uwch o gymharu â'r cyfrannau a adroddwyd yn 2018-19. Nawr, fel y mae'r Gweinidog wedi nodi yn ei datganiad, o ystyried y cysylltiad rhwng gordewdra a diabetes, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthym sut mae hi'n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i gyfleu'r cysylltiadau rhwng diabetes a deiet i ddisgyblion, athrawon a rhieni. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi sôn ychydig am hynny yn ei datganiad.
Gan symud ymlaen at brofiad rhieni, tybed a yw'r Gweinidog yn hyderus y bydd y datganiad ansawdd newydd yn gwneud bywyd yn haws i'r rhai sydd eisoes â diabetes. Yn ôl arolwg gan Diabetes UK yn gynharach eleni, roedd dros hanner yr ymatebwyr yng Nghymru yn cael anawsterau wrth reoli eu diabetes, gyda'r rhai o'r ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o fod wedi profi caledi o'r fath.
Ac yn olaf, hoffwn sôn am dechnoleg. Yn ôl yr arolwg, mae technoleg yn gwneud rheoli diabetes, ac felly bywyd, yn llawer haws i bobl, ond mae mynediad, fforddiadwyedd a gwybodaeth am y rhain yn amrywio ar draws byrddau iechyd. Rydym hyd yn oed yn gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio nodiadau papur a'r gwahanol systemau atgyfeirio yn methu â chyfathrebu rhwng clystyrau o feddygon teulu a byrddau iechyd, felly mae hyn yn golygu nad yw rhai byrddau iechyd lleol yn gallu darllen y data o'r technolegau diweddaraf, sy'n golygu bod y dechnoleg, wrth gwrs, yn ddiwerth o ran gwella ymgynghoriadau rhithwir a gwella mynediad at ffyrdd da o reoli diabetes. Felly, tybed a all y Gweinidog achub ar y cyfle hwn i ymrwymo i gysoni systemau ledled Cymru ac ar draws gofal iechyd, awdurdodaethau a chyrff yng Nghymru, a sicrhau mynediad, cyllid a hyfforddiant teg iddynt er mwyn sicrhau nad ydym yn datblygu loteri cod post, nad ydym am ei gweld. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod y sefyllfa'n ddifrifol iawn, iawn, ac fel cenedl, mae angen i ni gymryd hyn o ddifrif, oherwydd os na wnawn ni hynny, bydd y sefyllfa'n anghynaliadwy i'r GIG, a bydd y costau'n rhy uchel i ni allu talu amdanyn nhw. Felly, mae angen i bawb gymryd hyn o ddifrif, a'r hyn rydym yn ceisio ei nodi yma yw rhai disgwyliadau o ran yr hyn y gall y bobl hynny â diabetes ei ddisgwyl ar draws pob bwrdd iechyd fel safon ansawdd, fel ein bod ni'n osgoi dull cod post.
Un o'r pethau y gwnaethoch chi sôn amdano yw'r tryloywder a'r mynediad at ddata, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth mae gen i ddiddordeb mewn gweld—sut gallwn ni sicrhau ein bod ni'n cael mwy o fynediad i'r data? Oherwydd rwy'n credu bod tryloywder, mewn gwirionedd, yn helpu i daflu goleuni ar yr ardaloedd hynny sydd efallai ar ei hôl hi. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr wyf wedi siarad â fy swyddogion yn ei gylch.
O ran lle rydym ni, o ran yr archwiliad diabetes cenedlaethol, dydyn ni ddim wedi dychwelyd i'r sefyllfa roeddem ynddi cyn y pandemig o hyd, felly dydy hynny ddim yn ddigon da ac mae angen i ni weld gwelliannau. Felly, rwy'n disgwyl i'r data fod yn well, ond rhan o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yma yw sicrhau bod gan bawb ddealltwriaeth glir iawn o'r disgwyliadau. Dydy pethau ddim wedi bod yn gyson o ran pa feddygon teulu sydd wedi mynd yn ôl i'r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol sydd i'w ddisgwyl ac roedd hynny'n digwydd cyn y pandemig. Felly, mae pocedi, maen nhw'n amrywiol, ac mae angen i ni weld gwell cysondeb.
O ran plant, mae diabetes math 1 wrth gwrs fel arfer yn cael ei ganfod pan fydd pobl yn blant, felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny i gyd—. Mae'n wahanol iawn, ac rwy'n credu y dylem fwy na thebyg ymdrin ag ef yn wahanol iawn i ddiabetes math 2. Un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif hefyd yw'r cymorth seicolegol. Mae'n ddiddorol iawn—fe es i a Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog, i ymweld â phrosiect ddoe yng Nghaerdydd lle y gwnaethom ni gwrdd â menyw a oedd yn bryderus iawn, iawn oherwydd ei sefyllfa diabetes, ac roedd y cwrs y cafodd ei chofrestru arno yng Nghaerdydd a'r Fro wedi ei helpu, nid yn unig o ran ei gallu i fynd at i golli pwysau'n well a sut i wneud hynny, ond roedd hefyd wedi cael cymorth seicolegol, a chafodd y problemau iechyd meddwl roedd hi wedi bod yn eu hwynebu eu lleddfu'n fawr gan y cymorth a roddwyd iddi.
O ran y rhaglen mesur plant, a bod yn onest, gwnaeth y pandemig ddim helpu; roedd pobl yn destun cyfyngiadau symud am amser hir. Dydy'r argyfwng costau byw ddim yn helpu, ac fel rydym yn gwybod, mae problem fwy mewn perthynas â gordewdra mewn ardaloedd mwy difreintiedig, felly dydy'r argyfwng costau byw ddim yn helpu gyda hyn, a dweud y gwir.
O ran ble rydym ni'n mynd, rwy'n credu bod yn rhaid i hunanreoli fod yn rhan o ble rydym ni'n cyrraedd, a bydd rhywfaint o hynny'n cynnwys apiau, bydd rhywfaint o hynny'n golygu sicrhau bod pobl yn defnyddio technoleg i fonitro eu hiechyd eu hunain. Felly, rwy'n credu bod pob un ohonom yn cychwyn ar daith yma. Rwy'n credu bod rhai pobl ymhell ar y blaen ar y daith honno o ran hunanreoli materion iechyd, ond mae angen i ni ysgogi'r gwelliannau hynny, ac mae hynny'n anodd iawn ar hyn o bryd, a dweud y gwir, oherwydd does ganddon ni ddim cymaint o arian ag yr hoffem ei fuddsoddi yn y gofod digidol trawsnewidiol.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi'n croesawu llawer o'r hyn rydyn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog heddiw yma. Mae yna gwestiynau ynglŷn â pha mor addas ydy datganiadau ansawdd ynddyn nhw eu hunain i wneud gwahaniaeth. Beth fyddwn ni'n chwilio amdano fo o hyn ymlaen ydy, beth sy'n digwydd rŵan ar ôl cael y datganiad ansawdd i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei gyrraedd. Fel arall, dim ond geiriau ydyn nhw. Felly, mi wnawn ni edrych ymlaen at ddal y Llywodraeth i gyfrif ar sut y bydd yr ansawdd yn cael ei gyrraedd.
Mae clywed yr ystadegau eto gan y Gweinidog yn drawiadol iawn. Mae'r ffigur, fel y clywsom ni, o 10 y cant o holl wariant yr NHS yn mynd ar ddiabetes yn ddegawd a mwy oed erbyn hyn, ac mae disgwyl y bydd, o bosibl, 17 y cant o’r gyllideb yn cael ei gwario ar ddiabetes erbyn 2030. Mae o’n fy nharo i, felly, fod yna gwestiwn ynglŷn â’r adnoddau sy’n cael eu haddo heddiw, tuag at y gwaith o geisio atal diabetes. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn fy mod i’n falch iawn o’i chlywed hi yn siarad am yr ataliol a phwysigrwydd hynny. Ond mi roeddwn i’n edrych ar ryw ffigurau, rŵan, yn awgrymu bod, o bosibl, ryw 2.8 y cant o wariant iechyd ar draws yr Undeb Ewropeaidd yn mynd ar yr ataliol. Mae adroddiad gan yr WHO yn awgrymu rhyw 3 y cant, o bosibl, o wariant yn mynd ar yr ataliol mewn gwasanaethau iechyd sy’n gweithio’n dda. Os ydyn ni’n meddwl bod £9 biliwn yn mynd ar iechyd, a 10 y cant o hynny'n mynd ar ddiabetes, wel, mi ddylem ni fod yn gwario mwy na £1 miliwn y flwyddyn ar geisio atal diabetes. Felly, mi fyddwn i’n licio clywed gan y Gweinidog, ai dechrau ydy hyn, ac oes yna fwriad i ramp-io’r ffigur yna dros amser, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n buddsoddi mewn rhywbeth a fydd yn dod a buddion ariannol inni mewn blynyddoedd i ddod, heb sôn am y buddion o ran iechyd pobl.
Cwpl o bethau eraill. Dwi’n falch iawn o’r ymrwymiad i sicrhau bod gofal yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn. Mae cynnig cefnogaeth reolaidd yn bwysig iawn, iawn. Mae ymchwil yn dangos yn glir pa mor allweddol ydy hynny. Mae’n fy mhoeni fi braidd fod ystadegau diweddaraf y National Diabetes Audit yn dangos bod llai na thraean—29 y cant—o’r bobl sy’n byw efo diabetes yng Nghymru wedi derbyn yr holl check-ups hanfodol yn 2021-22, a hynny sbel yn is nag oedd o cyn COVID. Felly, pa mor hyderus ydy’r Gweinidog y bydd hi’n bosibl dod â’r ffigur yna i fyny, a beth ydy’r cynllun ar gyfer sicrhau bod yr ystadegau yna yn codi?
Yn olaf, cwestiwn am dechnoleg. Mae’r datganiad ansawdd yn gwneud sawl cyfeiriad at dechnoleg. Dwi’n gwybod pa mor allweddol ydy technoleg. Roedd arolwg diweddar gan Diabetes UK Cymru o gleifion sydd yn byw efo diabetes math 1 yn dweud bod 85 y cant wedi adrodd yn ôl bod technoleg yn help mawr iddyn nhw o ran rheoli y clefyd. Beth, felly, fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod y dechnoleg ar gael i bawb er mwyn sicrhau bod gofal yn hafal, wrth gwrs, i bob un sydd yn dioddef, ond i sicrhau bod gofal cystal ag y gall o fod?
Gair olaf sydyn am yr ataliol eto. Rwy’n croesawu hynny, fel dwi’n dweud. Gair am y Nifty 60s yn fy etholaeth i, lle mae pobl yn dod at ei gilydd dros 60 oed, ac yn cael buddion iechyd sylweddol o wneud ymarfer corff a chadw’n iach. Mae rhai a oedd â diabetes math 2 yn flaenorol wedi ffeindio bellach nad ydy o arnyn nhw. Dyna ydy’r budd sy’n dod o’r ataliol, a dwi jest eisiau gweld y buddsoddiad yn cynyddu oherwydd hynny.
Diolch yn fawr. Cwpl o bethau. Yn gyntaf i gyd, y quality statement. Rhan o beth fyddwn ni yn ei wneud gyda’r NHS executive yw sicrhau ein bod ni yn monitro nawr bod y quality statements yn cael eu cyrraedd. Felly, maen nhw’n gwybod yn union nawr lle y dylen nhw fod yn cyrraedd, a rôl yr NHS exec fydd dangos hynny. Wrth gwrs, mae gyda ni gyfle drwy’r IMTPs i weld beth sydd gyda ni mewn golwg o ran sut maen nhw’n mynd i gyrraedd y quality statements yma.
O ran adnoddau, mae problem adnoddau. Mae yna broblem adnoddau yn yr NHS ar hyn o bryd. Mae’n ddifrifol, ac felly mae’n rhaid inni ystyried pob ceiniog. Rŷch chi’n ymwybodol iawn ein bod ni newydd roi lot o arian i'r bobl sy’n gweithio yn yr NHS, a hynny oedd y peth iawn i’w wneud. Ond mae’n golygu bod llai o arian ar gyfer gwasanaethau, felly mae hynny'n sialens inni.
Mae’n rhaid inni sicrhau, felly, ein bod ni’n deall mai partneriaeth yw hon. Felly, mae’n rhaid inni wneud hyn gyda’r cyhoedd. Dwi’n meddwl bod yn rhaid inni ddod at y pwynt lle nad yw pobl efallai’n or-ddibynnol ar wasanaethau, ond ein bod ni yna drwy hyn, ac yn dal eu dwylo nhw—ond dŷn ni ddim yn mynd i'w wneud e drostyn nhw. Byddwn ni'n methu â gwneud popeth dros bobl yn y dyfodol; mae'n rhaid i ni ei wneud e gyda nhw. Mae'n rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb, a beth rŷn ni'n ei ddeall yw ei fod e'n anodd. Mae'r rili, rili anodd i lot o bobl golli pwysau, ac felly dyna pam mae'n rhaid inni sefyll gyda nhw drwy'r cyfnod ataliol yma lle mae yna gyfle gyda ni i stopio diabetes rhag datblygu. Felly, ym mhob bwrdd iechyd—mae yna raglen pre-diabetes ym mhob bwrdd iechyd erbyn hyn. Rŷn ni jest yn dechrau, dwi'n meddwl, ar siwrne fydd yn gorfod cael ei gyflymu ar ryw bwynt, pan fydd arian gyda ni.
O ran y national diabetes audit, dwi wedi bod yn siarad gyda Diabetes UK ynglŷn â hyn. Dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni wella'r nifer o check-ups sydd wedi digwydd, ond mae chronic condition management yn rhan o elfen graidd y GMS contract. Felly, mae hwnna'n gyfle arall i ni.
O ran y dechnoleg, dwi'n awyddus iawn, achos dwi yn meddwl bod hwn yn gyfle i ni ryddhau lot o bobl sy'n gweithio yn yr NHS. Os ŷn ni'n cael pobl i helpu eu hunain trwy'r dechnoleg, mae hwnna'n mynd i ryddhau pobl i wneud pethau eraill. Ein problem, unwaith eto, yw ein bod ni'n financially challenged ar hyn o bryd, ac mae hwnna yn broblem.
Felly, dwi yn meddwl bod lot mae cymunedau'n gallu eu gwneud—so, pethau fel y Nifty 60s yma. Dyw e ddim jest yn dda ar gyfer eu hiechyd corfforol nhw, mae'n rili dda ar gyfer iechyd meddwl ac ar gyfer gweld cymunedau yn dod at ei gilydd. Felly, dwi'n awyddus i weld lot mwy o hynny'n digwydd yn ein cymunedau ni.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw sy'n cael ei groesawu'n fawr, ac, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, mae'n gadarnhaol iawn clywed y ffocws y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddiabetes, y mesurau sy'n cael eu cymryd a'r disgwyliadau i fynd i'r afael ag anghenion llawer o bobl sy'n byw gyda diabetes. Mae'r Gweinidog eisoes wedi amlinellu maint yr her sydd o'n blaenau a maint y broblem sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda diabetes.
Yn gynharach eleni, gofynnodd Diabetes UK i bobl sy'n byw gyda diabetes gwblhau arolwg fel rhan o'r ymgyrch Diabetes Is Serious, ac mae'n braf gweld bod y datganiad ansawdd hwn yn adlewyrchu llawer o'r pryderon a godwyd gan ymatebwyr yng Nghymru, gan gynnwys tegwch, cymorth seicolegol a'r angen i ddefnyddio technoleg. Rwy'n falch o weld y rhain yn cael eu cydnabod heddiw.
Mae'r datganiad hwn yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn rhaglen atal diabetes Cymru gyfan, y rhaglen lleddfu diabetes—mae pob un ohonyn nhw'n haeddu cydnabyddiaeth, ond yr hyn sydd bob amser yn glir, drwy bob ymgyrch neu gyfarfod a gawn fel grŵp trawsbleidiol, yw pwysigrwydd diagnosis cynnar ac ymgysylltu'n gynnar. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo'r wybodaeth am arwyddion diabetes, y gwahaniaeth rhwng y mathau o ddiabetes a'r risgiau sy'n arwain at ddiabetes math 2? Rhaid pwysleisio bod gofyn am gymorth yn bwysig, boed hynny ar gyfer diabetes math 1 neu fath 2, a dylai pobl ymgysylltu mor gynnar â phosibl os oes ganddyn nhw symptomau diabetes math 1 neu fath 2. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Jayne, a diolch yn fawr iawn, yn arbennig, am eich gwaith gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cael y grwpiau trawsbleidiol hyn, oherwydd mae'n rhoi pwysau arnom ni fel Gweinidogion y Llywodraeth, ac rwy'n croesawu hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cael ein dwyn i gyfrif.
Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaed gan bobl ledled Cymru, ac mae rhai o'r pethau a amlinellais yn fy nghyflwyniad, cymorth seicolegol—mae'n ddifrifol iawn. Mae pobl yn cynhyrfu'n fawr, ac mae angen i ni fod yno ac mae angen i ni roi'r gefnogaeth honno iddyn nhw. Technoleg a thegwch—rwy'n credu bod dealltwriaeth dda ynghylch pob un o'r rheini.
Felly, diagnosis cynnar—rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir, a rhan o'r hyn y mae'n rhaid i ni geisio ei amlygu yw, fel y dywedwch, beth yw'r arwyddion cynnar. Beth yw'r arwyddion cynnar? Beth ddylai pobl fod yn cadw llygad allan amdano? A hefyd a yw pobl wir yn deall y risgiau? Diagnosis o ddiabetes—iawn, o'r gorau, wel, mae'n rhaid i mi ddechrau gwneud hyn, hynny a'r llall. Mewn gwirionedd, gall y canlyniad fod yn eithaf difrifol os na chaiff ei reoli'n iawn.
Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwahaniaethu rhwng diabetes math 1 a diabetes math 2, ac mae math arall o ddiabetes, sy'n eithaf prin, ac ychydig iawn o bobl sy'n siarad amdano, ac yn amlwg, rydym yn cydnabod hynny hefyd. Felly, rwy'n credu nad yw hyrwyddo'r arwyddion cynnar hynny o ddiabetes a helpu pobl i'w deall yn syniad gwael, mae'n debyg, ac af yn ôl a gofyn beth arall y gallwn ni ei wneud yn hynny o beth. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad ansawdd hwn ar gyfer diabetes heddiw, ac fe soniodd yn ei hateb blaenorol am y math mwy prin o ddiabetes, sef math 3c. Rwy'n datgan diddordeb, Dirprwy Lywydd, gan fod fy nhad wedi cael diagnosis o ddiabetes math 3c yn dilyn pwl cas o lid madreddol y pancreas, sef un o achosion diabetes math 3c. Ac yn ôl ym mis Hydref y llynedd, defnyddiais ddatganiad busnes i alw am gyflwyno datganiad yn benodol ar godi ymwybyddiaeth glinigol am ddiabetes math 3c a sut y gellir cefnogi unigolion sy'n byw gyda'r cyflwr, ac rwy'n cofio'r Gweinidog yn nodio wrth i mi ofyn y cwestiwn hwnnw a phryd yr atebodd y Trefnydd hefyd, ac mae hi'n nodio heddiw, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ac yn aml mae'n cael ei gamgynrychioli fel math arall o ddiabetes, pan ei fod yn fath ar ei ben ei hun, a dweud y gwir. Ac er nad yw'r datganiad hwn yn sôn am ddiabetes math 3c yn benodol—ac nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog roi ateb llawn, o ystyried pa mor brin ydyw; mae gan tua 8 y cant o'r rhai sydd â diabetes ddiabetes math 3c—a gaf i gael, o bosibl, ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog, sydd ond yn canolbwyntio ar ddiabetes math 3c a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r cleifion hynny sy'n byw gyda'r math hwnnw o ddiabetes? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr. Fel y soniais yn y pwynt a wnes i Jayne, rydym yn llwyr gydnabod bod trydydd piler nad yw pobl yn siarad amdano gymaint, ac roeddwn i'n ddiolchgar iawn i chi am ddod â'r ddadl honno i lawr y Siambr, a rhoddodd hynny gyfle i ni siarad am y mater hwnnw ac, yn sicr, rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei gydnabod gan arbenigwyr yn y maes, a hynny eto—. Rwy'n credu ei fod ychydig yn wahanol i'r math o her enfawr sydd gennym mewn perthynas â'r diabetes math 2 mwy cyffredinol. Dyna lle mae'r her fawr, fawr i'n cenedl ac i'n GIG, a dyna pam rwyf wedi canolbwyntio heddiw ar y meysydd hynny. Ond mae'r datganiad ansawdd ei hun yn cwmpasu'r tri math o ddiabetes.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwyf wir yn croesawu'r pwyslais rydych chi'n ei roi ar ofal cefnogol da. Gall hyn wneud byd o wahaniaeth o ran sicrhau bod yr un o bob 14 o bobl yng Nghymru sydd â diabetes yn gallu rheoli eu cyflwr yn y ffordd orau. Ddoe, roeddwn i'n ffodus i gwrdd â grŵp Cwmbach Diabetes UK ar eu stondin wybodaeth yn Ysbyty Cwm Cynon. Maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol o ran codi ymwybyddiaeth o sut beth yw byw gyda diabetes, gan helpu i chwalu rhwystrau drwy gynnig wyneb cyfeillgar i unrhyw un sydd newydd gael diagnosis o'r cyflwr hwn a chefnogi strategaethau hunanreoli. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr hyn, a sut ydych chi'n dychmygu y bydd grwpiau lleol o'r fath yn ffitio i mewn i'ch gweledigaeth o well gofal a chymorth, yn enwedig o ran cynnig y gefnogaeth gan gymheiriaid y sonnir amdani yn y datganiad ansawdd?
Fe ges i gyfle hefyd i gael y diweddaraf am waith grŵp cyfeirio cleifion diabetes Cymru gyfan, dan gadeiryddiaeth fy etholwr Wendy Gane MBE, sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r datganiad hwn. Mae gwerth y grŵp cyfeirio cleifion yn hollbwysig wrth sicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau diabetes yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â phobl sydd â diabetes. Mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a nodir yn y datganiad ansawdd, felly sut y byddwch chi'n sicrhau bod y grŵp cyfeirio cleifion a phrofiad bywyd ei aelodau yn rhan annatod o'r broses hon wrth symud ymlaen?
Diolch yn fawr iawn, a hoffwn ddiolch i Vikki am ei gwaith, ac mae'n fy rhyfeddu, Vikki, sut rydych chi'n llwyddo i fynd o gwmpas cynifer o grwpiau cymunedol. Bron bob tro y byddwch chi'n siarad, rydych chi newydd fod i weld rhywun mewn perthynas â hynny, felly rydych chi wedi ei wneud eto. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny, a diolch hefyd i'r bobl yn y grŵp diabetes cymunedol hwnnw yng Nghwmbach, oherwydd rwy'n credu, a dweud y gwir, bod cael grwpiau yn dod at ei gilydd, yn rhannu eu profiad—. Rwy'n credu y gall pobl annog ei gilydd, ac mae llawer iawn o enghreifftiau lle mae rhai pobl wedi llwyddo i leddfu eu diabetes drwy ei ddal yn ddigon cynnar. A dyna'r lle ar gyfer y fuddugoliaeth fawr yma, rwy'n credu, yw ceisio ei ddal yn gynnar. Ond os oes gennych chi fath mwy datblygedig, yna bydd hunanreoli'n allweddol, oherwydd os nad ydych chi'n ei reoli'n dda, yna mae hynny'n fwy tebygol o arwain at broblemau iechyd anoddach a mwy cymhleth.
Felly, mae'r datganiad ansawdd hwn yn canolbwyntio'n fawr ar y GIG, beth yw cyfrifoldeb y GIG. Felly, mewn gwirionedd, nid yw'r darn hwn yn ymwneud â chymunedau; mae hynny'n cael rhagor o sylw yn y dull 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sy'n deall bod mater ehangach i bob un ohonom fel cymdeithas ddeall beth yw ein cyfrifoldebau, ac, fel y dywedais, bydd Lynne Neagle yn gwneud datganiad yn fuan iawn ar y math o amgylchedd sydd, a dweud y gwir, yn annog pobl i fwyta llawer o fwyd sothach, bwyd y gwyddom nad yw'n iach, bwyd nad yw'n dda i ni, a gwn y bydd yn gwneud datganiad yn ystod yr wythnosau nesaf am hynny.
Roeddem yn gwerthfawrogi'n fawr fewnbwn y grŵp cyfeirio diabetes a'r gwaith a wnaeth i ddatblygu'r rhaglen hon. Dyna'n rhannol pam mae gennym y dull hwn sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n mynd i fod yn bwysig wrth symud ymlaen yw ein bod ni'n sicrhau bod y llais hwnnw'n parhau i gael ei glywed. Nawr, mae gennym y sefydliad newydd hwn, Llais, sef llais y cyhoedd mewn perthynas â rhyngweithio a llais y claf mewn perthynas â'r GIG, felly rwy'n gobeithio y byddan nhw'n dod o hyd i ffordd drwy'r mecanwaith hwnnw, ac, os nad ydyn nhw'n fodlon ar y gwasanaethau sydd ganddyn nhw, y byddan nhw'n defnyddio hynny fel dull i fynd i mewn.
Ac yn olaf, Joel James.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad cynhwysfawr heddiw am ddyfodol gofal diabetes yng Nghymru. Fel y byddwch chi'n cofio efallai, codais rhaglen SEREN gyda'r Prif Weinidog yn y Siambr hon yn ddiweddar, sy'n rhaglen addysg achrededig a strwythuredig ar gyfer plant a phobl ifanc â diabetes math 1, a ddatblygwyd yng Nghymru i helpu gyda'r newid o addysg gynradd i addysg uwchradd. Ymatebodd y Prif Weinidog i fy nghwestiwn drwy ddweud, ac rwy'n dyfynnu, y
'Gofynnwyd i Weithrediaeth y GIG honno edrych ar y ffordd orau o gynnal y rhaglen'
ac y byddai'r Gweinidog iechyd
'yn gwneud datganiad llafar ar ddyfodol gwasanaethau diabetes a'r trefniadau newydd hyn o flaen y Senedd ym mis Mehefin.'
Rwy'n cydnabod, ym mhwynt 18 y datganiad ansawdd, ei fod yn sôn y bydd byrddau iechyd yn darparu
'rhaglen addysg diabetes strwythuredig hygyrch yn rheolaidd',
ond nid yw'r datganiad na chithau wedi sôn yn benodol am raglen SEREN. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried llwyddiant y rhaglen, yn enwedig o ran sicrhau gostyngiad i lefelau HbA1c a'r ymroddiad a ddangoswyd gan staff sydd wedi datblygu a gweithredu'r rhaglen, rwy'n awyddus i wybod a ydych chi'n bwriadu ariannu rhaglen SEREN yn y dyfodol, ac, os felly, a fyddai hynny'n gyllid mwy hirdymor. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Joel. Mae rheswm pam nad wyf i wedi sôn am raglen SEREN, ac mae hynny oherwydd mai datganiad ansawdd y GIG yw hwn. Nid oes amheuaeth mai rhaglen addysg i blant a phobl ifanc yw rhaglen SEREN, felly nid yw'n rhaglen GIG yn uniongyrchol yn yr ystyr hwnnw, a dyna pam nad wyf i wedi sôn amdani yn uniongyrchol.
Rydym ni'n cydnabod, mewn gwirionedd, bod llawer iawn o waith y mae angen i ni ei wneud mewn gwahanol feysydd i dynnu sylw pobl at hyn, ond mae'r datganiad ansawdd hwn yn sicr yn ddatganiad GIG, yn hytrach na'r dull ehangach, a bydd rhywfaint o hynny eisoes yn cael sylw yn y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach' ac efallai'n cael sylw yn y datganiad y bydd y Dirprwy Weinidog yn ei wneud yn fuan iawn.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Wythnos Ffoaduriaid, 19-25 Mehefin—trugaredd. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yn bum mlynedd ar hugain ers cychwyn yr Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos nesaf, a byddwn yn dathlu unwaith eto y cyfraniadau y mae ceiswyr lloches yn eu gwneud at Gymru. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i greu gwell dealltwriaeth yn ein cymunedau a hybu integreiddio a chydraddoldeb i bawb.
Mae Wythnos Ffoaduriaid yn ein hatgoffa o ddewrder a chadernid y rhai sy'n gorfod gadael eu teulu, eu ffrindiau a'u cartref i ddianc rhag erledigaeth neu ryfel. Rydym ni'n parhau i glywed straeon creulon am effaith gweithredoedd anghyfreithlon Putin yn Wcráin, fel enghraifft amlwg a phroffil uchel o hyn, ac rydym ni'n parhau i gydsefyll yn gryf gyda phobl Wcráin. Ond mae llawer o'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi i'r DU hefyd yn cael eu herlid dim ond am fod yn pwy ydyn nhw, ac yn aml mae gan geiswyr noddfa hanesion dirdynnol a chymhleth o gam-drin a achosodd iddyn nhw ddod yma.
'Tosturi' yw thema eleni. Mae tosturi wedi bod yn rhan o ddiwylliant Cymru ers tro. Yn 1914, croesodd 16,000 o bobl y sianel mewn un diwrnod i ddianc rhag erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf. Croesawodd Cymru 4,500 o Wlad Belg a oedd yn ffoi o'r gwrthdaro hwnnw. O'r 1930au, cyrhaeddodd ffoaduriaid Iddewig y DU yn ffoi rhag y casineb hiliol a chrefyddol a arweiniodd yn y pen draw at yr Holocost. Yn ddiweddar, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud gwaith ymchwil ardderchog yn cofnodi profiadau plant y Kindertransport yng Nghymru.
Yn fwy diweddar, yn 2016, fe wnaeth pob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig noddfa i Syriaid a oedd angen dod i Gymru. Yn 2021, fe wnaethom ni weithio'n galed i gynorthwyo ymadawiadau o Afghanistan, gan greu dull arloesol gydag Urdd Gobaith Cymru, rhanddeiliaid allweddol lleol a Llywodraeth y DU i sicrhau y gallem ni ddarparu ar gyfer ceiswyr lloches yng nghysgod yr union adeilad hwn. Rydym ni'n credu bod tua 1,000 i 2,000 o bobl o Hong Kong wedi dod i Gymru i ffoi o gyfraith diogelwch cenedlaethol gwladwriaeth China ers i'r llwybr fisa newydd gael ei agor yn 2021.
Ers mis Chwefror 2022, mae ein gweledigaeth cenedl noddfa wedi cyrraedd uchelfannau newydd sylweddol. Am y tro cyntaf erioed, mae Llywodraeth Cymru wedi noddi yn uniongyrchol fisâu 3,100 o bobl o Wcráin sydd wedi teithio i'r DU, â 1,500 o unigolion â fisâu yn aros y tu allan i'r DU ond â'r tawelwch meddwl o wybod y gallan nhw ddod i ddiogelwch os oes angen. Yn bwysicach fyth, mae aelwydydd Cymru wedi agor eu drysau a'u calonnau i'r rhai sydd angen dianc. Daeth dros 3,600 o bobl o Wcráin i'r DU, wedi'u noddi gan unigolion o Gymru, ac mae llawer mwy o aelwydydd yn darparu llety i bobl o Wcráin yn anffurfiol. Mae aelwydydd wedi rhoi ar waith y weledigaeth sydd gennym ni ar gyfer Cymru, ac mae hyn wir wedi bod yn achos o'r genedl noddfa ar waith.
Gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw bod £8 miliwn wedi cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU i Gymru gefnogi integreiddio pobl o Wcráin, a gall pobl o Wcráin barhau i ddefnyddio eu trwyddedau gyrru drwy gydol eu harhosiad yn y DU.
Dirprwy Lywydd, fel y mae'r crynodeb byr hwn yn ei ddangos, ar draws tonnau o ail-leoli, mae cymunedau Cymru, llywodraeth leol, y trydydd sector a phartneriaid allweddol eraill wedi gweithio'n ddiflino i gynorthwyo ceiswyr lloches sy'n dod i Gymru o bob cwr o'r byd. Mae Cymru wedi dangos, dro ar ôl tro dros y ganrif ddiwethaf a mwy, bod croeso yma. Wrth gwrs, er gwaethaf ein balchder yn yr ymdrechion aruthrol hyn, mae mwy i'w wneud i gynorthwyo'r rhai sy'n cyrraedd a'r cymunedau sy'n eu derbyn. Rydym ni'n effro iawn i ddyfodiad y dde eithafol, ac rydym ni'n gwybod nad yw Cymru yn ddiogel rhag y casineb a'r anoddefgarwch yr ydym ni wedi eu gweld mewn mannau eraill. Hyd yn oed yn y fan yma rydym ni wedi gweld protestiadau y tu allan i safleoedd llety, a hoffwn ailbwysleisio yn eglur nad yw Cymru yn gartref i gasineb.
Mae'n fraint gennym gynnig noddfa i'r rhai sy'n cyrraedd Cymru. Ym mis Ionawr 2019, lansiwyd ein cynllun cenedl noddfa ac, ers hynny, rwyf i wedi cael fy nghalonogi'n wirioneddol gan yr ymateb ledled Cymru. Mae siarter dinas noddfa wedi llywio sefydliadau mewn sawl sector, gan gefnogi'r weledigaeth cenedl noddfa gyffredinol. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyfarfod ag ysgolion sydd wedi ennill statws ysgol noddfa, gan gynnwys plant o ddwy ysgol yng Nghaerdydd. Byddaf yn eu croesawu ar risiau'r Senedd i'w croesawu yn rhan o'r daith heddwch. A hoffwn ddiolch o galon i'r ysgolion, y colegau, y prifysgolion, y trefi a'r dinasoedd noddfa yng Nghymru am yr ymroddiad a'r brwdfrydedd a ddangoswyd yn eu hamser fel conglfeini noddfa yn eu cymunedau. Rwy'n cymeradwyo gwaith elusen Dinas Noddfa sy'n cefnogi ac yn cymeradwyo'r sefydliadau hyn yng Nghymru.
Rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud i gynorthwyo pobl sy'n ceisio noddfa, a dyna pam yr wyf i wedi ymrwymo i adnewyddu ein cynllun cenedl noddfa eleni. Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys ceiswyr noddfa, awdurdodau cyhoeddus a'r trydydd sector, i sicrhau bod y cynllun diwygiedig yn cyflwyno fframwaith eglur ar gyfer gwelliant yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym ni wedi gweld llawer o straeon eleni am bobl yn croesi mewn cychod bach, ac er fy mod i'n cytuno bod yn rhaid osgoi teithiau peryglus fel hyn, mae'n anghywir honni mai cynlluniau presennol Llywodraeth y DU yw'r unig ffordd o fynd i'r afael â'r mater hwn. Er i nifer yr achosion o groesi gynyddu yn 2021 a 2022, rhan fawr o'r rheswm bod llety yn orlawn yw oedi ym mhrosesau'r Swyddfa Gartref. Mae dros 130,000 o achosion ledled y DU yn aros, gan ddisgwyl am benderfyniad cychwynnol. Mae hyn yn golygu bod pobl sy'n aml yn hynod fedrus ac yn llawn cymhelliant i gyfrannu at ein heconomi ac integreiddio â chymunedau yn cael eu gadael yn aros mewn limbo am flynyddoedd.
Y peth tosturiol i'w wneud fyddai prosesu hawliadau yn llawer cyflymach a chaniatáu yr hawl i weithio pan fo hawliadau yn cymryd mwy na chwe mis. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi galw sawl gwaith am sefydlu llwybrau diogel, fel y gall pobl hawlio lloches yn gyfreithlon yn y DU, gan roi terfyn ar wastraffu potensial dynol y rhai sydd eisoes yma. Ac rwyf i eisoes wedi cyflwyno ffordd fwy tosturiol mewn datganiad ysgrifenedig ar 31 Mawrth. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cytuno bod angen dull o'r fath ar gyfer cenedl noddfa.
Rydym ni'n gofyn am welliant ar frys gan Lywodraeth y DU o ran pob un o'r cynlluniau lloches a gwasgaru sy'n gweithredu yng Nghymru. Rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog Materion Cyn-filwyr i drafod cau gwestai ar gyfer pobl o Afghanistan, ac rwyf i wedi ysgrifennu at Weinidog Mewnfudo y DU i geisio gwell ymgysylltiad a pharch at ddatganoli o dan y system loches.
Yn olaf, hoffwn ddweud bod 22 Mehefin yn nodi 75 mlynedd ers i HMT Empire Windrush ddocio yn Tilbury, y foment sy'n symbol o genhedlaeth Windrush. Nid oedd y rhai a gyrhaeddodd ar y Windrush a'r llongau a ddilynodd yn ffoi rhag rhyfel nac erledigaeth, fe'u gwahoddwyd i ddod i'r DU. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gwrthdroi ei phenderfyniad i dorri ei haddewid i weithredu argymhellion yr adolygiad gwersi a ddysgwyd yn sgil Windrush, neu fel arall bydd sloganau brathog am 'weld yr wyneb y tu ôl i'r achos' yn gwbl ddiwerth. Fodd bynnag, fel ceiswyr lloches, daeth cenhedlaeth Windrush â sgiliau, talent, syniadau newydd a gwaith caled i gyfoethogi ein cymunedau. Mae eu straeon yn straeon Cymreig, ac maen nhw wedi ein helpu i'n gwneud ni yn bwy ydym ni fel cenedl heddiw. Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi dyrannu cyllid ar gyfer cynnal digwyddiadau Windrush ledled Cymru, a dathliad yma yn y Senedd ar 22 Mehefin. Diolch yn fawr.
Mae Wythnos Ffoaduriaid yn digwydd rhwng 19 Mehefin a 25 Mehefin. Fel yr ydym ni eisoes wedi ei glywed, 2023 hefyd yw pumed pen-blwydd ar hugain yr Wythnos Ffoaduriaid. Wythnos Ffoaduriaid yw gŵyl gelfyddydol a diwylliant fwyaf y byd, yn dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio noddfa, a sefydlwyd ym 1998 yn y DU ac a gynhelir bob blwyddyn o amgylch Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ar 20 Mehefin. Thema'r Wythnos Ffoaduriaid 2023, fel yr ydym ni wedi ei glywed, yw tosturi, a ddewiswyd yn y gred y gallwn ni, gyda'n gilydd, greu dealltwriaeth gyffredin o dosturi i sicrhau ein bod ni'n ei ymestyn yn eang i bawb.
Wrth ymateb i'ch datganiadau blaenorol ar yr Wcráin a'r genedl noddfa, codais fater tai dro ar ôl tro, a thai modiwlaidd arfaethedig yn rhan o'r ateb, fel ar draws y dŵr yn Iwerddon. Yn eich ymateb i mi ar 9 Mai, fe wnaethoch chi gyfeirio at yr angen i symud ein gwesteion o Wcráin i lety tymor hwy, y mae rhywfaint ohono yn llety modiwlaidd a ddatblygwyd ledled Cymru. Felly, pa ddyraniad penodol, os o gwbl, sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ffoaduriaid?
Hefyd, nawr bod y gronfa £150 miliwn i helpu Wcreiniaid i mewn i'w cartrefi eu hunain wedi cael ei chyhoeddi yn ffurfiol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys yr £8 miliwn i Gymru y gwnaethoch chi gyfeirio ato, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y bydd hwn yn cael ei ddyrannu ac a fydd yn cael ei ddosbarthu trwy Lywodraeth Cymru a/neu i gynghorau i helpu teuluoedd o Wcráin i gael llety rhent preifat a dod o hyd i waith, fel yn Lloegr?
Fel yr ailbwysleisais i chi yn fy ateb ar 9 Mai,
'ers amser maith, rydym ni wedi darparu hafan ddiogel i ddioddefwyr erledigaeth, trais, glanhau ethnig a hil-laddiad o bob cwr o'r byd, a hir y parhaed hynny, oherwydd pe byddai hynny'n mynd yn angof gennym ni, fe fyddem ni wedi colli ein dynoliaeth a'n gwir hunaniaeth.'
Yn y cyd-destun hwn, sut mae'r Gweinidog yn ymateb i adroddiad yr wythnos hon gan y Pwyllgor Materion Cartref yn Senedd y DU—trawsbleidiol, ond a gadeiriwyd gan AS Llafur—a ganfu fawr ddim tystiolaeth i ddynodi niferoedd sylweddol o wladolion Albania mewn perygl yn eu gwlad eu hunain ac angen lloches yn y DU, er, ac mae hyn yn hollbwysig,
'bydd rhai dinasyddion Albania sy'n gwneud hawliadau lloches wedi cael eu masnachu, ac mae menywod mewn perygl anghymesur o'r math hwn o drosedd. Mae gan y DU rwymedigaeth i gynorthwyo dioddefwyr masnachu a dylid eu dychwelyd i Albania dim ond os oes mesurau diogelu priodol ar waith.'
Sut ydych chi'n ymateb i'r cytundeb a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf i ailwampio prosesau lloches yr UE—yn amlwg, nid ydym ni'n rhan ohonyn nhw, ond maen nhw ar ein ffiniau—gan sicrhau bod rhai ceiswyr lloches yn cael eu prosesu ar unwaith ar y ffin, gan ei gwneud hi'n haws dychwelyd y rhai y gwrthodir eu ceisiadau, a chaniatáu i wledydd roi'r gorau i brosesu pobl ar y ffin os byddan nhw'n cyrraedd terfyn penodol?
Wrth ymateb i chi ar 9 Mai, cyfeiriais at bryderon a godwyd gan drigolion Neuadd Llaneurgain, sir y Fflint, ynghylch cynlluniau i gartrefu 400 o geiswyr lloches gwrywaidd sengl yn hen westy Northop Hall, lle'r oedd cadeirydd cyngor cymuned Neuadd Llaneurgain wedi dweud:
'Bydd 400 o ddynion sengl yn cynyddu cyfanswm poblogaeth y pentref gan 25 y cant. Ni allaf i gredu na fydd galw pellach ar gyfleusterau cymunedol sydd eisoes dan bwysau.'
Gyda dim ond tri gwasanaeth bws yn y pentref bob dydd, ni fyddai gan bobl unrhyw le i fynd.
Yn eich ymateb, fe wnaethoch chi ddweud, er nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol
'am gaffael a darparu llety i'r rhai sy'n cael eu gwasgaru i Gymru',
bydd yn rhaid i hyn fynd drwy'r broses gynllunio yng Nghymru, ac roeddech chi mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr urddas a'r parch y dylid eu dangos i geiswyr lloches sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Yn ddiweddarach y mis hwn, ar eu cais nhw, byddaf yn cyfarfod â Grŵp Gweithredu Pentref Neuadd Llaneurgain, er mwyn iddyn nhw roi gwybod i mi beth sy'n cael ei gynnig ar gyfer eu pentref a'u pryderon am seilwaith annigonol ac mai dyma'r lle anghywir i geiswyr lloches gael eu lleoli tra byddan nhw'n cael eu sgrinio. Felly, pa neges hoffech chi i mi ei rhoi iddyn nhw ynglŷn â'ch ymgysylltiad â hyn, fel y Gweinidog yma?
Pan ymwelais ddiwethaf â Chanolfan Byd Gwaith yr Wyddgrug, darganfyddais am y gwaith gwych yr oedden nhw'n ei wneud i gynorthwyo pobl o Wcráin sy'n awyddus i weithio a chyfrannu. Yn y cyd-destun hwn, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill—ESOL—ac a oes modd trosglwyddo eu cymwysterau i Gymru?
Yn olaf, rydych chi'n cloi trwy gyfeirio at genhedlaeth Windrush. Gyda 22 Mehefin yn nodi 75 mlynedd ers i HMT Empire Windrush ddocio yn Tilbury, gadewch i ni gofio felly bod eu dyfodiad yn foment arloesol yn hanes Prydain ac wedi dod yn arwydd o amrywiaeth gyfoethog teulu o genhedloedd y DU. Diolch.
Diolch yn fawr, Mark Isherwood, a diolch am gydnabod hanes Wythnos Ffoaduriaid. Mae'n bum mlynedd ar hugain ers yr Wythnos Ffoaduriaid gyntaf, ac mae'n cydnabod pwysigrwydd y thema tosturi.
I roi sylw i gymaint o bwyntiau ag y gallaf o'ch cwestiynau, o ran y symud ymlaen, sy'n digwydd yn gyflym—symud ein gwesteion o Wcráin sy'n dod i Gymru ymlaen—mae'n galonogol gweld y ffigurau diweddaraf. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 1,700 o'r rhai sy'n cyrraedd o dan y llwybr uwch-noddwr bellach wedi symud ymlaen i lety tymor hwy, â dros 1,000 o'r rheini yn ymgartrefu yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn—a chydnabuwyd hyn yn gynharach yn yr ymateb i'r datganiad ar gysylltiadau rhyngwladol—bod symud ymlaen a chefnogaeth i'n gwesteion—yn wir, i'n holl geiswyr lloches a ffoaduriaid—yn sicr yn rhan o ddull tîm Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol i chwarae eu rhan.
A gaf i ddweud heddiw, eto, diolch i'n hawdurdodau lleol yng Nghymru—ac rwy'n siŵr y byddech chi'n ymuno â mi, ac y byddai'r Aelodau yn ymuno â mi yn hynny—am ddarparu'r ymateb dyngarol hwnnw ni bobl o Wcráin, ac am y ffaith ein bod ni wedi gwneud cyllid ar gael, drwy'r rhaglen cyfalaf llety pontio, a wnaed ar gael o ganlyniad i fenter y Gweinidog Newid Hinsawdd, i sicrhau bod buddsoddiadau mewn llety pontio? Ariannwyd naw cant tri deg a chwech eiddo o dan y rhaglen cyfalaf llety pontio—cartrefi ychwanegol a ariannwyd ar gyfer eleni ac i mewn i'r flwyddyn nesaf. Ac mae'n amrywiaeth o atebion llety ledled Cymru, nid tai modiwlaidd yn unig, ond hefyd dod ag eiddo gwag neu segur yn ôl i ddefnydd, gan drosi adeiladau, dymchwel, ac adeiladu rhai newydd hefyd. Mae'n bwysig ein bod ni'n gweld hyn yng nghyd-destun canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ddarparu llety i ffoaduriaid o Wcráin, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, a'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r cam, yn enwedig y symud ymlaen i lety tymor hwy, gyda buddsoddiad ychwanegol o £40 miliwn dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Ceir pwyntiau pwysig yr ydych chi'n eu codi yn eich cwestiynau am y ffaith bod gennym ni bolisi lloches ac ail-leoli, nad wyf i'n credu y gall lwyddo oni bai bod gennym ni, fel yr wyf i wedi ei nodi, y llwybrau diogel a chyfreithlon hynny. Yn wir, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud ei hun bod y system loches wedi torri. Ond, os yw'n mynd i newid, Llywodraeth y DU sy'n gorfod gwrthdroi ei strategaeth amgylchedd gelyniaethus a datblygu'r llwybrau diogel a chyfreithlon hynny i geiswyr lloches. Ac mae hawlio lloches o'r tu allan i'r DU yn golygu nad oes angen teithiau peryglus ac mae'n amharu ar fodel busnes smyglwyr pobl, sy'n dal, yn amlwg, yn cael effaith o ran y cwestiynau yr ydych chi'n eu codi, ac mae'n cynnwys y rhai o Albania.
Fel yr oeddem ni'n ei ddweud, os oes gennym ni lwybrau diogel a chyfreithlon, byddai hynny'n cynnwys cytundebau dychwelyd effeithiol i'r rhai sydd â hawliadau annilys. Ond mae proses eithriadol yn hanfodol i ni fel cenedl noddfa, i sicrhau y gellir hawlio lloches o hyd o fewn y DU o dan amgylchiadau eithriadol, a phrosesau sy'n gweithredu'n effeithlon. Rwy'n credu mai dyna lle mae angen i ni dorri model busnes masnachwyr a smyglwyr pobl. Rwy'n croesawu argymhellion Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin, gan gynnwys cynnig ar gyfer treialu cyfleuster prosesu yng Nghymru. Pam nad yw Llywodraeth y DU yn gweithio ac yn gwario eu harian a'u hadnoddau, a pholisi, ar y llwybrau diogel a chyfreithlon hynny, a hefyd yn edrych ar y system loches o ran yr oedi annerbyniol? Mae 160,000 o achosion yn aros am benderfyniad. Dyma lle'r ydym ni hefyd yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd nawr o ran trin a rheoli'r hyn sy'n llety dros dro i geiswyr lloches.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn gwneud sylwadau ar safleoedd penodol a gynigir ar gyfer llety lloches, ond rydym ni'n gwybod bod y problemau sy'n codi o ganlyniad i gynigion sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i ddiffyg ymgysylltiad neu eglurder gan y Swyddfa Gartref, diffyg ymgysylltiad amlasiantaeth, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn ni groesawu ac integreiddio. Oherwydd, rydym ni'n cefnogi'r uchelgais o ehangu gwasgariad lloches yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru sy'n cydweithio i gyflawni hyn. Ond ni allwn wneud hyn oni bai fod y Swyddfa Gartref yn gweithio'n adeiladol gyda ni. Fel y dywedais, rwyf i wedi ysgrifennu at Robert Jenrick am hyn i chwilio am ffordd well o weithio yng Nghymru, a hefyd gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru yn hyn o beth.
Hefyd, mae yn fy natganiad y dylai Llywodraeth y DU gydnabod ei dibyniaeth ar Lywodraethau datganoledig a swyddogaeth y gwledydd datganoledig a'u hawdurdodau lleol i gyflawni ei chynlluniau amrywiol yn ddigonol a chydnabod eu cefnogaeth hirsefydlog. Eto, byddwn yn dweud—fel y dywedais yn flaenorol, Mark—ni fyddwn yn gwneud sylwadau ar faterion yn ymwneud â chynllunio, ond yr hyn yr ydym ni'n galw amdano gan Lywodraeth y DU yw ymgysylltu effeithiol gwell a chydnabyddiaeth bod ganddyn nhw'r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw. Maen nhw wedi esgeuluso eu cyfrifoldebau o ran y system loches ers cyhyd.
Hoffwn ddweud fy mod i, a Phlaid Cymru, yn cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog ynglŷn â'r ffaith nad ystadegau na phwnc ar gyfer y cyfryngau yw ceiswyr lloches a ffoaduriaid ond pobl, sydd i gyd wedi cael siwrneiau a phrofiadau anodd. Nhw yw ein brodyr a'n chwiorydd. Mae tosturi, thema Wythnos Ffoaduriaid eleni, yn cael ei ddiffinio fel teimlad o dosturi, cydymdeimlad a dealltwriaeth tuag at rywun sy'n dioddef.
Gweithredu ar y tosturi hwnnw yw sail pob gweithred ddyngarol. Yn dilyn ymosodiad barbaraidd ac anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin lle gorfodwyd miliynau i ffoi o'u cartrefi, cofleidiodd llawer o lywodraethau a phobl gyffredin ledled y byd yr her o ddarparu noddfa i'r grŵp newydd hwn o ffoaduriaid yn eu cenhedloedd, gan gynnwys, wrth gwrs, yma yng Nghymru. A Gweinidog, rwy'n diolch yn fawr iawn i'r awdurdodau lleol, sefydliadau fel Urdd Gobaith Cymru, a theuluoedd a chymunedau ledled Cymru am y croeso y maen nhw wedi'i ddarparu. Ond mae'r arddangosiad cyfunol a thrawiadol hwn o dosturi i ffoaduriaid Wcráin hefyd wedi datgelu llawer am natur a chyfyngiadau'r tosturi hwn. Rydym ni wedi gweld tensiynau a chwestiynau yn codi am y ffordd yr ydym ni'n trin rhai mathau o ffoaduriaid o'u cymharu ag eraill. Mae rhai yn cael eu gweld gan rai gwleidyddion a'r wasg yn fwy haeddiannol nag eraill.
Nod prosiect The Arithmetic of Compassion yw codi ymwybyddiaeth o sut mae hyn yn digwydd, a'i effaith ar ein penderfyniadau dyngarol. Mae ymchwilydd a chyd-grëwr y prosiect, seicolegydd o Brifysgol Oregon, Paul Slovic, wedi dangos po fwyaf y nifer o bobl sydd mewn angen, y llai tueddol rydym ni'n aml yn teimlo i'w helpu. Dywed Dr Slovic bod ein teimladau gryfaf pan fo un person mewn trallod. Nid yw dau berson mewn trallod yn ein poeni ddwywaith cymaint. Unwaith y byddwn yn cyrraedd y degau o filoedd, dim ond rhifau ydyn nhw. Mae ymchwilwyr fel Dr Slovic yn dweud bod angen i ni ddeall yr ymateb hwn sef bod ein tosturi tuag at nifer fawr o bobl mewn trafferth yn crebachu pan fyddwn yn dechrau teimlo wedi ein llethu, er mwyn sicrhau bod pawb sydd angen ein tosturi a'n cefnogaeth yn derbyn ein tosturi a'n cefnogaeth.
Mae rhethreg yr Aelodau Ceidwadol yma yng Nghymru ac yn San Steffan wedi tanio yn hytrach na cheisio mynd i'r afael â'r ymateb emosiynol hwn—yn gywilyddus, ac ar gyfer dibenion gwleidyddol sinigaidd. Nid yw polisïau creulon Llywodraeth y DU yn erbyn ffoaduriaid yn dangos unrhyw dosturi, o gartrefu ffoaduriaid mewn cychod camlas ar ffurf carchar a gwersylloedd milwrol segur, i orfodi ceiswyr lloches i rannu ystafelloedd gwestai cyfyng, neu eu halltudio yn y pen draw i Rwanda—does dim pen-draw i'r anhosturi hyn. Mae'r cynlluniau diweddar a gyhoeddwyd, heb ymgynghori, i gartrefu 200 o geiswyr lloches mewn 77 o ystafelloedd yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli yn enghraifft o bolisi nad yw'n cael ei arwain gan dosturi, ond gan ddull annynol o ymdrin â sefyllfaoedd pobl eraill. Dim empathi, dim dealltwriaeth, dim cefnogaeth.
Mae Plaid Cymru yn rhannu'r nod i Gymru ddod yn genedl noddfa, ac rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i leddfu profiad ymfudwyr a phobl sy'n ceisio lloches. Bu sir Gaerfyrddin yn awdurdod croesawgar erioed, ac mae hyn wedi'i ddangos yn eu cefnogaeth i lawer o raglenni adsefydlu, gan gynnwys, fel y sonioch chi, Syria, Afghanistan, Wcráin a nawr ceiswyr lloches cyffredinol. Fodd bynnag, fel y mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud, nid yw gosod ffoaduriaid mewn gwestai yn ddewis addas. Eu hanghenion nhw sy'n gorfod bod yn ganolog i'r cwestiwn yma, ac mae Plaid Cymru yn condemnio tanseilio eu gallu i deimlo bod croeso iddyn nhw a gallu chwarae rhan lawn yn y gymuned drwy ddefnyddio mesurau fel y rhain.
Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymgysylltu'n ddigonol ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ac anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda chynlluniau fel y rhain, a'i bod yn gwbl ddidostur? A pha sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU ynghylch llesiant ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y mathau hyn o gynlluniau? A fyddai nifer o safleoedd yn y gymuned sydd â ffyrdd o gael mynediad at wasanaethau allweddol yn ffordd fwy effeithiol o ddarparu ar gyfer y rhai yr ydym ni'n ceisio eu helpu a'r rhai sy'n ceisio eu helpu? Ac a oes lle i Lywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio dod o hyd i ateb sy'n berthnasol i Gymru gyfan lle gallwn ni ddatblygu model mwy gwasgaredig o gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid?
Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r angen i ddatganoli mewnfudo, fel y gall Cymru lynu at ei nod o fod yn genedl noddfa? Nid oes unrhyw faint o adnewyddu ein cynllun cenedl noddfa tra rydym ni ynghlwm wrth Lywodraethau San Steffan o bob lliw yn mynd i gyflawni hynny. Byddant wastad yn aberthu tosturi ar allor cynnydd etholiadol.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Fel y dywedwch chi, mae Cymru yn genedl noddfa. Diolch am ein goleuo gyda'r ymchwil honno gan Brifysgol Oregon. Rwy'n edrych ymlaen at edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni ddysgu o'r dystiolaeth o sut y gallwn ni fod yn genedl noddfa wirioneddol, hyd yn oed gyda therfynau ein pwerau, ond byddwn yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb y tu hwnt i'n pwerau. Rydym ni'n gwybod hynny. Mae arnom ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu'r croeso cynnes hwnnw yn y tymor byr, a sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu cyfoethogi gan sgiliau a phrofiad yn y dyfodol agos iawn. Bu'r croeso hwnnw yn rhyfeddol yng Nghymru yn ystod y ddegawd neu ddwy ddiwethaf. Rwyf hefyd wedi sôn am y croeso i'n ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin wrth iddyn nhw gyfoethogi cymunedau, cartrefi, ysgolion, yr holl sectorau. Onid yw'n bwysig? Mae hyn yn rhywbeth y mae arnaf mewn difrif eisiau ei gymeradwyo heddiw.
Mae gan elusen City of Sanctuary UK, y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymosod arni mewn gwirionedd, ysgolion, prifysgolion, colegau, trefi, cymunedau ledled Cymru yn ymuno â hi, a hefyd, yn Lloegr, cynghorau Ceidwadol hefyd, a'r rhwydwaith awdurdodau lleol. Rwy'n condemnio'r ymosodiad hwnnw, oherwydd mae hynny'n ysgogi camddealltwriaeth am y siarter. Unwaith eto, rwy'n tynnu sylw ato yn fy natganiad, oherwydd ein bod yn cymeradwyo hyn—mae hon yn elusen sy'n gweithio mor galed—oherwydd ei bod ni mewn gwirionedd yn galluogi pobl i ddeall cryfder mawr bod yn genedl noddfa ar bob lefel. Rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau yn ymuno â mi i groesawu'r ysgolion hyn. Mae ysgol Santes Fair y Wyryf i lawr y ffordd, ysgol yr Eglwys yng Nghymru, sy'n ysgol aml-ffydd, integredig iawn, wedi cael wythnos gyfan o ddigwyddiadau, ac mae ar garreg ein drws, a bydd rhai ohonyn nhw'n dod. Maen nhw'n dathlu'r ffaith mewn difri bod ganddyn nhw wobr ysgol noddfa, ac fe ddylem ni fod yn eu dathlu nhw yma heddiw, fel rwy'n siŵr y byddwn ni.
Ond dim ond eisiau dweud ydw i, o ran eich sylw, mae hyn yn ymwneud â'r ffaith ein bod yn cael ein dal yn ôl gan Lywodraeth y DU, gan y Swyddfa Gartref, yn enwedig o ran sut rydym ni'n cefnogi ceiswyr lloches sy'n aros mewn gwestai wrth gefn yng Nghymru. Maen nhw wedi cyrraedd naill ai'n uniongyrchol, neu byddant yn cyrraedd, o ganolfan brosesu Manston neu westy wrth gefn arall yn Llundain. Nid ydyn nhw'n derbyn unrhyw gymorth ffurfiol o dan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Rhoddir prydau iddyn nhw. Rhoddir wyth punt yr wythnos iddyn nhw i gefnogi cyflenwadau sylfaenol, ac mae'r taliad hwnnw wedi parhau, ond nid pawb sy'n cael y cyllid hwnnw. Mae'r Groes Goch Brydeinig, Cyngor Ffoaduriaid Cymru—rydym ni'n cefnogi'r ddau sefydliad hynny, rydym ni'n eu hariannu—wedi bod yn eu helpu.
Dyma lle mae eich ymateb a'ch cwestiynau i mi mor bwysig o ran y cyfrifoldeb sydd gennym ni. Rydym yn ysgwyddo'r cyfrifoldebau hynny gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau y gallwn ni wneud ein gorau o ran yr amgylchiadau hyn. Ond oni bai bod y Swyddfa Gartref yn gweithio'n adeiladol ac amlasiantaethol gyda'n hawdurdodau lleol, gyda'r byrddau iechyd, gyda'r heddlu hefyd, y trydydd sector—maen nhw i gyd yno yn aros, eisiau cymryd rhan er mwyn gwneud eu rhan—yna cawn y cynnydd hwn o densiwn a diffyg cydlyniant cymunedol.
Ond diolchaf ichi am y sylwadau hynny, am eich cefnogaeth i'r hyn rydym ni'n ei wneud, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr hon unwaith eto i gydnabod bod hyn yn fethiant ym mholisïau mewnfudo Llywodraeth y DU. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn ni o ran ein pwerau, ein cyfrifoldebau, ein cyllid, fel yr ydym ni wedi'i wneud, i bawb sy'n ceisio cymorth ac sy'n cael ei groesawu yma yng Nghymru.
Rwy'n cefnogi Cymru yn fawr fel cenedl noddfa, ac rwy'n falch o ddweud ei bod wedi cael ei chofleidio gan Gyngor Dinas Casnewydd, ysgolion lleol a chymunedau lleol. Mae Casnewydd yn amrywiol ac yn gartref i nifer sylweddol o geiswyr lloches a ffoaduriaid. Rwy'n siŵr, Gweinidog, y byddech yn cytuno â mi y dylem ni fod yn ddiolchgar i'r rhai sy'n rhoi cartref i bobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth, er enghraifft y teulu yn Langstone yn fy etholaeth sy'n rhoi lloches i fenyw ifanc Wcreinaidd ac sy'n gadarnhaol iawn am y profiad. Yn ogystal â choleddu eu cyfeillgarwch â hi yn fawr, mae'r teulu'n gadarnhaol iawn am y profiad i'w merched eu hunain—fel maen nhw'n dweud, gan roi mwy o werthfawrogiad iddyn nhw o'r hyn sydd ganddyn nhw, gan wella eu sgiliau cymdeithasol, ar ôl dysgu rhannu eu cartref gyda rhywun arall y tu allan i'w teulu agos, gan ddysgu empathi a thosturi iddyn nhw, a sut gall hyd yn oed gweithred fach o garedigrwydd gael effaith sylweddol. Maen nhw mor falch eu bod nhw wedi gallu helpu'r fenyw ifanc Wcreinaidd hon, a byddant wastad yn ei hystyried yn rhan o'u teulu.
Diolch yn fawr, John Griffiths. Nid oes raid i mi ymateb yn fwy na dweud y bu eich datganiad yn rymus iawn. Rwy'n llongyfarch Casnewydd am fod yn ddinas noddfa, ac edrychaf ymlaen at ddod i ymweld ag ysgol ym Maendy yr wythnos nesaf.
Nos Wener, byddaf yn cyflwyno gwobrau i'r grŵp ffoaduriaid lleol a'r enillwyr yno o gystadleuaeth farddoniaeth a llenyddiaeth. Hoffwn ganmol a chanu clodydd Cyngor Sir Powys, yn ogystal â'r holl gynghorau eraill ledled Cymru, sydd wedi croesawu cymaint o ffoaduriaid ac sydd mewn gwirionedd wedi gwneud cymaint o ymdrech i'w cynnwys. Mae'r thema ynghylch trugaredd mor bwysig eleni, onid ydyw?
Hoffwn ddim ond crybwyll pobl ifanc y mae dadl am eu hoedran. Mae hwn yn grŵp y mae pobl yn bryderus iawn amdano ac nad ydyn nhw wedi eu cwmpasu mewn gwirionedd. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw am dros chwe blynedd. Ac fe hoffwn i yn fawr dynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i ni gofio bod y Bil Mudo Anghyfreithlon presennol yn dweud mewn gwirionedd y gallai'r bobl ifanc hynny y mae anghydfod ynghylch eu oedran gael eu carcharu, sy'n cynnwys llawer o ddioddefwyr masnachu pobl. Dywedodd Robert Jenrick, ym mis Tachwedd 2022, fod ar 20 y cant o oedolion a gyrhaeddodd y DU eisiau honni eu bod yn blant, ac eto dangosodd data'r Swyddfa Gartref fis diwethaf mewn gwirionedd mai dim ond 1 y cant oedd y nifer— ffigurau cwbl anghywir, sydd mewn gwirionedd yn fflamio'r holl ddadl ac ymosodiadau ar ein ffoaduriaid a'n ceiswyr lloches. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi, Gweinidog, i ddweud pa mor bwysig yw hi fod gan bob un ohonom ni'r ffeithiau'n gywir ac ar flaenau ein bysedd a'n bod yn cefnogi'r bobl ifanc hynny, yn enwedig pobl ifanc y mae anghydfod ynghylch eu hoedran. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Credaf fod pob rhan o Bowys, ond cyngor Powys—. Rwy'n ymwybodol iawn o noddfa'r Gelli, Aberhonddu a Thalgarth i ffoaduriaid, o ran cydnabod y cynhesrwydd, y gefnogaeth a'r ymateb gwych a welwn ni ym mhob rhan o Gymru o ran y gwobrau hynny y byddwch chi'n eu rhoi yr wythnos nesaf.
Yr wythnos nesaf, byddwn yn cael dadl cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon. Rydych chi wedi gweld fy natganiad yn barod. Ni allwn ni gefnogi Bil y mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi'i ddisgrifio fel un sy'n gyfystyr â gwaharddiad lloches, a fyddai'n torri'r confensiwn ffoaduriaid. Yn wir, rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at Gyd-bwyllgor Hawliau Dynol y Senedd-dai, a gyhoeddodd eu hadroddiad yr wythnos diwethaf. Daethant i'r casgliad
'nad yw amryw ddarpariaethau'r Bil yn gydnaws â'r Confensiwn neu â nifer o rwymedigaethau cyfreithiol rhwymol eraill ar y DU.'
Nawr, mae hwn yn grŵp trawsbleidiol, ar draws Senedd San Steffan a Thŷ'r Arglwyddi, gydag aelodau Ceidwadol, gyda chadeirydd SNP, a gyda Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn cymryd rhan. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig am fy memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac mae ein swyddogion eisoes yn paratoi ar gyfer hynny, yw nad ydym ni'n cefnogi unrhyw leihad ar y swyddogaeth rôl arweiniol, swyddogaeth broffesiynol, ein gweithwyr cymdeithasol wrth asesu'r hyn sydd er budd gorau plant. Rydym ni wedi gofyn am wybodaeth am hyfforddi swyddogion mewnfudo o ran asesu oedran yn unol â gwasanaethau cymdeithasol Cymru ac, yn bwysicaf oll, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ni fu ymateb erioed, ac rydym yn bryderus iawn am y ffaith y gallai hyn leihau ein dyletswyddau cenedlaethol presennol yng Nghymru, gan ein bod yn gofalu am yr holl blant sy'n chwilio am loches ar eu pen eu hunain ac yn eu trin fel plant sy'n derbyn gofal. Mae'n unol â'n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, hefyd.
Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n amlwg yn ei drafod yr wythnos nesaf, a gwn fod hyn yn rhywbeth lle rydyn ni'n teimlo bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei difetha gan hyn yn ogystal â, yn amlwg, o ran diystyru Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r iaith yn bwysig iawn yma. Mae angen i ni siarad am bobl, nid ystadegau, felly pan fyddwn yn siarad am bobl sy'n ceisio lloches, cyfeirir atyn nhw yn aml fel 'ymfudwyr anghyfreithlon' a dyna lle mae angen i ni wahaniaethu. Felly, pan fo'r Torïaid yn cyflwyno Bil mewnfudo anghyfreithlon, maen nhw'n gwneud hynny'n union, maen nhw'n fwriadol yn creu rhaniadau yn y fan yna. Maen nhw'n cynyddu tensiynau ac yn creu amgylchedd gelyniaethus, yn troi pobl sydd wedi dioddef trallod yn fwch dihangol. Mae hynny wedyn yn tynnu sylw oddi ar eu methiannau eu hunain yn y maes hwn, sydd, mewn gwirionedd, i gynhyrchu modd o deithio'n ddiogel, i ymdrin â'r pentwr enfawr o hawliadau lloches.
Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod yn ymwybodol o'r sefyllfa yn Llanelli, a'ch bod chi wedi cwrdd ag arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin ddoe ynglŷn â chynlluniau'r Swyddfa Gartref i osod 207 o bobl fregus mewn 77 o ystafelloedd yng Ngwesty Parc y Strade, ac nid oes ganddyn nhw'r gefnogaeth briodol. Felly, yr hyn sydd wedi digwydd yw bod staff yn poeni am eu swyddi, mae busnesau lleol yn poeni am sgil-effeithiau economaidd, a thrigolion am y diffyg cyllid. Maen nhw'n bryderon dilys y gellir mynd i'r afael â nhw gyda chyfathrebu priodol. Yr hyn nad yw'n gyfreithlon yw—
Joyce, mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Fe wnaf i—dychryn gan labystiaid adain dde eithafol yn lledaenu camwybodaeth a chasineb. Mae angen trugaredd. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog—rwy'n gwybod y buoch chi mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn—a ydych chi wedi cael rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU, neu a ydym ni i gyd i fod i aros nes eu bod yn ymateb inni?
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Diolch yn fawr iawn am y pwyntiau allweddol hynny, a byddwn yn trafod y Bil Mudo Anghyfreithlon. Rwyf wedi datgan yn hollol glir ein gwrthwynebiad i'r Bil Mudo Anghyfreithlon. Nid yn unig y mae'n mynd yn groes i Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig o ran y confensiwn hawliau dynol, nid yw'n cydymffurfio ag ef—roedd hyd yn oed yr Ysgrifennydd Cartref yn cydnabod na all hi ddweud bod y Bil yn cydymffurfio â'r confensiwn hawliau dynol—ond hefyd, mae'n anymarferol. Bydd yn parhau i adael llawer o bobl rhwng dwy stôl, bydd yn tanseilio blaenoriaethau eraill y Swyddfa Gartref i atal gweithio anghyfreithlon neu gaethwasiaeth fodern yn y DU.
Nawr, rwyf wedi nodi yn fy natganiad, unwaith eto, ar 31 Mawrth y ffordd ddiogel a chyfreithiol y gallwn ni fynd i'r afael â—a'r ffordd y dylai Llywodraeth y DU fod yn mynd i'r afael â—a chredaf ei bod hi hefyd yn bwysig i ni gofio fod hyn wedi'i wneud o'r blaen. Dylai'r Swyddfa Gartref ailystyried ei bod yn tynnu'n ôl o'r cynllun Dubs, er enghraifft. Rydych chi i gyd yn cofio'r cynllun Dubs. Roedd hwnnw'n llwybr diogel cyn i'r DU adael yr UE, a gallai Llywodraeth y DU ailgyflwyno cynllun fel cynllun Dubs, sy'n bwysig iawn o ran y cwestiynau sy'n cael eu gofyn am blant bregus ar eu pen eu hunain. Gallent ddod i'r Deyrnas Unedig yn ddiogel. Mae gennym ni gynllun cymwys i blant dan oed o Wcráin sy'n darparu model. Cafodd hynny ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, felly mae ganddyn nhw fodel nawr y gallen nhw ei ddefnyddio ar gyfer fersiwn fwy effeithiol o'r cynllun Dubs. Ond nifer y penderfyniadau gan y Swyddfa Gartref—yn 2021, o'r 50,000 cais a mwy, dim ond 1,400 a mwy o benderfyniadau cychwynnol a wnaed. Felly, nid yw'n syndod bod diffyg gwasgariad, llety a gwelyau ar gael. Ac eto, maen nhw'n llunio cynlluniau fel y cynllun o ran cynllun honedig Rwanda, sy'n anfoesol, rwy'n credu, fel mae Archesgob Caergaint wedi ei ddisgrifio, sydd mewn gwirionedd yn arwain y gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi yn erbyn y Bil Mudo Anghyfreithlon. Dyna'r math o arswyd moesol sydd wedi cael ei ddisgrifio am y Mesur Mudo Anghyfreithlon.
Ond byddaf yn dweud fy mod yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i weithio gyda'r awdurdodau sy'n ymwneud â'r amgylchiadau penodol hynny rydych chi ac Aelodau eraill wedi'u datgelu heddiw, oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ymdrin â hyn yn briodol ac yn gyfrifol.
Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw, ac rwy'n adleisio sylwadau fy nghyd-Aelod Sioned Williams. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i rywun rydych chi'n ei adnabod yn dda iawn ac yr wyf innau'n ei adnabod yn dda iawn, ac rwy'n siarad, wrth gwrs, am ein cyfaill, y Parchedig Aled Edwards. Yn ddiweddar mae wedi ymddeol o'i swydd yn Cytûn ac fel aelod bwrdd a chyn gadeirydd Displaced People in Action, ac roeddwn i'n ddigon breintiedig i allu gweithio ochr yn ochr ag ef yn y ddwy swyddogaeth hynny.
Mae ei ymrwymiad, ei dosturi a'i ymroddiad i drafferthion ffoaduriaid a cheiswyr lloches dros y degawdau wedi bod yn anfesuradwy. Un o lwyddiannau allweddol ei gyfnod yn DPIA oedd datblygu'r cynllun ffoaduriaid sy'n feddygon, ac fe wnaethoch chi helpu datblygu'r cynllun hwnnw. Llwyddiant y prosiect fu cynorthwyo dros 200 o ffoaduriaid o Syria, Irac ac Affganistan oedd yn feddygon i weithio yn ein GIG.
Rwy'n siŵr yr hoffech chi ddweud 'diolch' twymgalon wrth Aled am ei waith caled, a tybed ai teyrnged addas i'r gwaith caled hwnnw a gwaith caled y DPIA fyddai datblygu'r cynllun gwobrwyo i gwmpasu ffoaduriaid a cheiswyr lloches proffesiynol eraill. Ers y tro diwethaf i mi siarad â chi am y pwnc hwn, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd a fu i ddatblygu'r cynllun ym meysydd deintyddiaeth, bydwreigiaeth ac ym maes nyrsio? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Peredur. A gaf i ymuno â chi i ganmol Aled Edwards? Y rhyfeddol Aled Edwards, a ddaeth, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd cyntaf, ataf a dweud, 'Allwn ni wneud rhywbeth—?' Roedd hyn bron i 25 mlynedd yn ôl: 'Allwn ni wneud rhywbeth o ran meddygon sy'n ffoaduriaid?' a llwyddodd i ddatblygu cynllun yn ymwneud ag addysg uwch, iaith, Cymdeithas Feddygol Prydain, y Cyngor Meddygol Cyffredinol—i gyd yn gysylltiedig. Felly, ledled Cymru yn y gwasanaeth iechyd, mae yna ffoaduriaid oedd yn feddygon sydd wedi dod drwy'r cynllun dyfarnu hwnnw.
Roedd yn gefnogwr mor gryf i ddatganoli. Roedd arno eisiau iddo weithio a defnyddio pa bwerau oedd gennym ni, ond trwy Displaced People in Action, mae wedi galluogi gweithwyr proffesiynol. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn berthnasol iawn i'n gwesteion o Syria, Affganistan ac Wcráin, a'r proffesiynau eraill. Felly, cysylltaf â chi gyda diweddariad ar y cynllun hwnnw.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 7 heddiw yw’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, a galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Cynnig NDM8290 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am waith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y mater hwn ac am yr adroddiadau y maen nhw wedi'u cyhoeddi. Rwy'n falch bod mwyafrifoedd ar y ddau bwyllgor yn cytuno'n fras â'r safbwynt a nodwyd gan y Llywodraeth yn ei memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Ac rwyf hefyd yn nodi, ac rwyf eisoes wedi ymateb, i argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Dirprwy Lywydd, rydym yn gwybod bod gwneud ensyniadau, rhwystro llwybr rhywun yn ymosodol, eu dychryn ac aflonyddu rhywiol arall yn gyhoeddus yn broblem sylweddol sy'n effeithio'n wael iawn ar iechyd corfforol a meddyliol llawer o bobl yng Nghymru. Gall effeithio'n negyddol ar les unigolyn a gall ofn aflonyddu o'r fath arwain at effeithiau niweidiol ar les grŵp ehangach o bobl. Gan fod menywod a merched yn dioddef y math hwn o aflonyddu yn anghymesur, gall hyn ymwreiddio materion anghydraddoldeb ymhellach.
Ym mis Mai 2022, canfu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 82 y cant o fenywod yn teimlo'n anniogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain ar ôl iddi dywyllu mewn parc neu fan agored arall. Profodd un o bob dwy fenyw rhwng 16 a 34 oed o leiaf un math o aflonyddu yn ystod y 12 mis blaenorol, gyda 38 y cant o fenywod rhwng 16 a 34 oed wedi profi ensyniadau, chwibanau, sylwadau rhywiol digroeso, jôcs, a 25% wedi teimlo eu bod yn cael eu dilyn. Roedd pobl a nododd eu bod yn teimlo'n anniogel yn ystod y dydd ac ar ôl iddi dywyllu wedi newid eu hymddygiad o ganlyniad. Er mwyn newid ymddygiad, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni wynebu'r rhai sy'n cyflawni'r gamdriniaeth; rhaid i ni gefnogi goroeswyr; rhaid i ni newid diwylliant casineb at fenywod ac aflonyddu sy'n cymell y cam-drin. Felly, gwnaeth fy swyddogion archwilio'n ofalus iawn y dewis y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Bil ei hun, ond daeth yn amlwg na fyddai hyn wedi bod yn ddewis amserol yn yr achos hwn. Ac mae ein hegwyddorion yn darparu bod amgylchiadau lle gallai fod yn synhwyrol ac yn fanteisiol ceisio darpariaeth i Gymru, a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru o fewn Biliau Senedd y DU gyda chaniatâd Senedd Cymru wrth gwrs.
Bil untro yw hwn, yn unol â'n rhaglen lywodraethu a'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ac felly, mae ein hargymhelliad i gydsynio i'r Bil hwn yn gwbl gyson â'r egwyddorion hynny er mwyn sicrhau bod mater difrifol yn cael sylw mor amserol â phosibl. Felly, mae'n iawn i Gymru gael ei chynnwys yn y ddeddfwriaeth hon fel nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu gadael mewn sefyllfa lle gellid eu hystyried yn llai diogel rhag peryglon aflonyddu ar y stryd ac aflonyddu cyhoeddus ar sail rhyw. Fodd bynnag, rwy'n cytuno hefyd â'r pryderon a godwyd ynghylch nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r modd i i Weinidogion Cymru gychwyn y Bil. Roedd amseru'r ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU ar y Bil hwn yn annerbyniol, a wnaeth ymdrechion i sicrhau pwerau cychwyn yng Nghymru yn anodd iawn, a waethygwyd gan y cyfle cyfyngedig i ddiwygio'r ddeddfwriaeth oherwydd prosesau seneddol ynghylch Biliau Aelodau preifat.
Oherwydd pwysigrwydd y mater a ddim eisiau i fenywod a merched yng Nghymru fod yn llai diogel nag yn Lloegr, fe wnaethom ni gytuno yn y pen draw i femorandwm cyd-ddealltwriaeth ynghylch dechrau'r darpariaethau perthnasol. Mae hyn bellach wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi. Fodd bynnag, gall Aelodau fod yn dawel eu meddwl fy mod hefyd wedi gwneud ein safbwynt yn glir ac wedi cadarnhau na ddylid ystyried hyn fel cynsail ar gyfer Biliau yn y dyfodol. Ar wahân i'r mater hwn, mae adroddiadau'r pwyllgor ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn nodi'n glir pam y dylai'r Senedd hon gefnogi'r Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus. Yn greiddiol iddo, bydd y Bil yn helpu i sicrhau diogelwch menywod a merched yng Nghymru, sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n galw ar i Aelodau o'r Senedd gydsynio i'r cynnig hwn. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Fe wnaeth fy mhwyllgor gyflwyno adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus yr wythnos diwethaf. Gofynnom ni i'r Gweinidog egluro nifer o faterion cyn y ddadl y prynhawn yma. Rwy’n diolch i'r Gweinidog am ei hymateb brynhawn ddoe.
Llywydd, mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar dri mater: dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu; mae'r darpariaethau yn y Bil yr ystyriwn yn ei gwneud hi'n ofynnol cael cydsyniad y Senedd; a'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i lofnodi gyda Llywodraeth y DU ar arfer y pŵer cychwyn.
Yn gyntaf, mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ei hun yn ymrwymo i,
'Cryfhau'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod yn y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref.'
Mae hynny yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ei hun. Felly, ar y sail honno, rydym yn parhau i fod yn aneglur fel pwyllgor pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun ar y mater hwn, o ystyried yr ymrwymiad clir hwn. Gadewch i mi ehangu ychydig.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'n barn ni, lle nodir cyfleoedd deddfwriaethol newydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, fod ffordd wahanol ymlaen: gallai ein Seneddau priod ddeddfu, ond yn gyfochrog ac ar y cyd. Felly, gofynnodd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad i'r Gweinidog egluro pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei Bil ei hun i greu'r drosedd newydd hon. Nid oes a wnelo hyn â pholisi'r Bil, ond a'r broses o greu'r Bil. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni fod y swyddogion wedi archwilio'r dewis y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Bil ei hun, ond, fel y mae hi newydd egluro, na fyddai wedi bod yn ddewis amserol ac y byddai wedi cael effeithiau niweidiol ar ddarparu Biliau eraill. Felly, diolchwn i'r Gweinidog am yr ymateb pellach hwnnw.
O ran pa ddarpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, rydym yn cytuno bod y cymalau a nodwyd yn y memorandwm yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, credwn y dylid gofyn am gydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 4 y Bil yn ei gyfanrwydd, ac nid dim ond ar gyfer dau is-adran ynddo.
Nawr, yn olaf, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU ar arfer y pŵer cychwyn yn y Bil. Fe'i llofnodwyd ar 1 Mehefin a'i anfon atom ar 2 Mehefin. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gytundeb â Llywodraeth y DU ar Fil sy'n destun y broses cydsyniad deddfwriaethol, rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddarparu copi o'r cytundeb hwnnw i'r Senedd cyn y gofynnir i Aelodau'r Senedd wneud penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol.
Yn argymhelliad Rhif 2, gofynnon ni i'r Gweinidog gadarnhau a wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn am bŵer ar wyneb y Bil i Weinidogion Cymru ddechrau cymalau 1 a 3 o'r Bil fel y maen nhw'n berthnasol yng Nghymru cyn cytuno i lunio Memorandwm gyda Llywodraeth y DU, ac mae'r Gweinidog—rydym yn ddiolchgar—wedi cadarnhau i ni y bu iddi yn wir ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar dri achlysur i ddadlau yn gryf dros bŵer ar wyneb y Bil i Weinidogion Cymru—ein Gweinidogion Cymru ni—i gychwyn y darpariaethau perthnasol yma yng Nghymru, ond gwrthodwyd y cais, sy'n siomedig.
Yn argymhelliad 3, gofynnon ni i'r Gweinidog gadarnhau a oes unrhyw drafodaethau wedi digwydd a/neu beth yw dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o'r hyn a olygir gan 'amser rhesymol', sy'n ymddangos yn nhelerau y memorandwm dealltwriaeth. Mae'r Gweinidog wedi ateb, gan ddweud y byddai hyn yn amrywio o achos i achos, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, ac nid yw'n ystyried y bydd yn arwain at unrhyw broblemau.
Felly, pe bai Gweinidogion Cymru yn cynnig dyddiad cychwyn amgen i'r un a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, yn argymhelliad 4, fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog gadarnhau sut y bydd proses ffurfiol o ddatrys anghydfod yn cael ei chynnwys pe na bai Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU yn gallu cytuno ar ddyddiad cychwyn addas. Nododd y Gweinidog yn ei hymateb yr hyn a nodir yn y memorandwm dealltwriaeth, y bydd swyddogion yn ceisio cytuno ar ddyddiad, ac rydym yn deall hynny. Roedd ein hargymhelliad yn ceisio darganfod beth sy'n digwydd os na all swyddogion gyfaddawdu—felly, Gweinidog, nid wyf yn gwybod a allwch chi adlewyrchu ychydig ymhellach ar hynny yn eich sylwadau clo.
Yn olaf, yn argymhelliad 5, Llywydd, few wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog egluro beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud pe bai'r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu peidio â chynnig dyddiad cychwyn ar gyfer cymalau 1 a 3 o'r Bil. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni, os na chaiff y Bil ei gychwyn, y byddwch yn ystyried dewisiadau pellach i ddeddfu am drosedd debyg yng Nghymru, oherwydd bod aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus yn wir yn un o flaenoriaethau'r Llywodraeth hon yn y rhaglen lywodraethu. Felly, Gweinidog, unwaith eto, o gofio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros ddechrau rhywbeth sy'n flaenoriaeth allweddol, efallai y gallech chi adlewyrchu ychydig ar y dull yr ydych chi wedi'i fabwysiadu yn y ddeddfwriaeth hon o ran hynny. Diolch yn fawr iawn.
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone.
Diolch. Fe wnaethom ni ystyried y cynnig hwn ar 15 Mai, a chredwn fod y ddeddfwriaeth yn gyfle ymarferol ac effeithlon i sicrhau gwarchodaeth gyfartal rhag aflonyddu ar sail rhyw yn gyhoeddus yng Nghymru, o gofio nad oes Bil Senedd cymharol wedi'i gynllunio yn y tymor byr neu ganolig, ac felly roeddem yn teimlo ei bod hi'n bwysig cefnogi hyn, gan fod hwn yn fater sylweddol. Mae'n rhywbeth sydd wedi codi pan fyddwn wedi ymchwilio i anghenion penodol menywod mudol, a allai fod yn destun camfanteisio ac aflonyddu, ac yn wir mewn perthynas lle cânt eu rheoli. Mae gennym ni ddiddordeb parhaus yn y ffordd yr ydym ni'n atal trais ar sail rhywedd, a byddem yn awyddus i wybod sut y bydd y drosedd newydd yn cefnogi ein hymdrechion anneddfwriaethol i ymdrin ag aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus, sy'n ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Felly, mynegodd un o'n Haelodau bryder ynghylch egwyddor Bil Llywodraeth y DU yn gweithredu deddfwriaeth o'r fath, yn hytrach na bod y Bil yn cael ei llunio yng Nghymru, ond credaf fod y rhan fwyaf ohonom ni'n gryf o'r farn bod angen i ni fanteisio ar hyn o bryd ar yr hyn sy'n Fil defnyddiol i amddiffyn pobl a allai wynebu aflonyddwch cyhoeddus fel arall.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn oherwydd mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn ni i sicrhau ein bod yn gwarchod pobl rhag aflonyddu ar sail rhyw yn gyhoeddus. Rwyf i a'm grŵp yn cefnogi unrhyw fesurau i gryfhau'r gyfraith yn y maes hwn i sicrhau bod y tramgwyddwyr hynny'n cael eu dwyn gerbron llys. Nid oes lle mewn cymdeithas i unrhyw drais yn erbyn menywod nac unrhyw un yn ein man gwaith, nac yn gyhoeddus, nac yn unrhyw le yn y wlad hon.
Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes gwaith allweddol i Lywodraeth Cymru, gan ein bod yn gwybod ei fod yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu i chi. Fodd bynnag, rydym yn siomedig na chyflwynwyd hyn fel deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd credwn ei bod hi'n bwysig iawn yma bod deddfau'n cael eu gwneud yn y Senedd ar gyfer pobl Cymru, ac mae hwn yn faes datganoledig. Rydym yn credu ar y meinciau hyn, pe byddem ni wedi cyflwyno hyn fel Bil Llywodraeth Cymru, y byddai wedi rhoi llawer mwy o gyfle i'r sefydliadau hynny gyfrannu at hyn, ac i Aelodau'r Senedd yma graffu ar hyn yn iawn. Rwy'n deall eich sylw, Gweinidog, lle gwnaethoch chi ddweud am amser a risg i Filiau eraill, ond nid wyf yn derbyn hynny mewn gwirionedd, oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Biliau eraill drwy'r Senedd hon mewn byr o dro, a allai fod wedi cyflymu hyn i sicrhau ein bod yn gwneud hyn ochr yn ochr â Llywodraeth y DU.
Felly, rydym yn cefnogi hyn mewn egwyddor, ond hoffwn wybod mewn gwirionedd beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn y dyfodol i gyflwyno deddfwriaeth Gymreig yn y maes hwn, oherwydd credaf fod cefnogaeth eang i Fil fel hyn, a ddatblygwyd yn y Senedd, i ddileu aflonyddu ar sail rhyw yma yng Nghymru, ac rwy'n credu y dylem ni gael Bil ar y llyfr statud hwn, a wnaed yma yn y Senedd.
Mae trais yn erbyn menywod yn endemig yng Nghymru a Lloegr ac ar draws y byd. Mae'n werth ailadrodd y ffigurau cywilyddus, brawychus ar bob cyfle, sef bod un o bob tair menyw yn profi trais ar sail rhywedd, a bod 71 y cant o fenywod yn y Deyrnas Gyfunol wedi profi aflonyddu mewn man cyhoeddus, sy'n codi i 86 y cant yn y menywod sydd rhwng 18 a 24 oed—86 y cant. Mae 29 o fenywod yn eistedd yn y Siambr hon. Mae hynny'n golygu, yn ystadegol, fod 20 ohonom wedi profi, neu y byddwn ni'n profi, aflonyddu mewn man cyhoeddus yn sgil ein rhywedd.
Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil yma, mae Cymorth i Ferched Cymru yn tynnu sylw at y cynnydd aruthrol sydd wedi bod yn y galwadau am aflonyddu a stelcian i linell gymorth Byw Heb Ofn—229 y cant o gynnydd rhwng Ionawr 2021 a Mehefin 2022. Mae graddfa'r broblem yn glir hefyd yng nghanfyddiadau ei adroddiad 'No Grey Area', sef bod pedair o bob pump o fenywod yng Nghymru wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith, a'r mwyafrif ohonynt wedi profi achosion lluosog o aflonyddu rhywiol gan gyflawnwyr lluosog.
Yn y cyfarfod y cadeiriais i heddiw o'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, fe glywon ni eto am raddfa y broblem o aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac ar y ffordd i ac o'r gwaith. Defnyddiwyd y term 'epidemig' i ddisgrifio'r sefyllfa. Felly, mae'n broblem enfawr, ddifrifol, y maen rhaid i ni wneud mwy i'w thaclo yng Nghymru. Ond nid yw'r ddeddfwriaeth yma yn debyg o wneud hynny yn effeithiol. Mae'r arbenigwyr pennaf yn y sector atal trais ar sail rhywedd yn gytûn ar hyn. Mae'r system gyfiawnder wedi torri i'r fath raddau, meddai'r Glymblaid Diweddu Trais yn Erbyn Menywod, na fydd yn medru gweithredu unrhyw gyfraith newydd. Mae Plan International ac Our Streets Now yn tanlinellu nad yw'r Bil yma yn mynd i'r afael â chau'r bylchau yn y gyfraith o ran aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus, ac wrth eithrio ymddygiad rhywiol digroeso o'r darn yma o ddeddfwriaeth, mae'n peryglu eithrio nifer o fathau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus o gwmpas y drosedd.
Mae Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn tanlinellu mai taclo trais ar sail rhywedd, nid rhyw yn unig, dylai fod y ffocws yma, gan bwysleisio nad yw aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn digwydd oherwydd rhyw rhywun yn unig. Ac mae hwn yn bwynt pwysig. Er bod menywod yn dioddef lefel anghymesur o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, mae aflonyddu rhywiol yn digwydd i bobl fel modd o greu ofn a datgan grym a rheolaeth, a gall hynny fod am resymau neu ffactorau sy'n ychwanegol neu ar wahân i'w rhyw. Er enghraifft, cynhaliodd y TUC yr arolwg mawr cyntaf i aflonyddu rhywiol ar bobl LHDT+ yn y gweithle, a chanfod bod 68 y cant o bobl LHDT+ wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gwaith. Mae Cymorth i Ferched Cymru felly'n credu na fyddai'r achosion hyn yn debyg o gael eu cwmpasu gan y fframwaith gyfreithiol yma, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi eu barn bod yn rhaid mynd i’r afael yn deg ac yn gydradd â phob math o drais rhywiol, ac y dylai deddfwriaeth fod yn gyson ar draws pob math o drais rhywiol. Rydym yn rhannu'r pryder hefyd nad oes unrhyw gydnabyddiaeth yn y Bil o aflonyddu mae goroeswyr camfanteisio rhywiol a niwed drwy'r diwydiant rhyw yn ei wynebu—trais sy'n aml yn digwydd mewn lleoliadau cyhoeddus fel ceir, parciau a strydoedd cefn.
Wrth gwrs, mae hanfod y Bil, sef ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad sy'n achosi siẁd niwed a loes, siẁd drawma a pherygl i filoedd ar filoedd o fenywod, i'w groesawu. Ond cred plaid Cymru bod angen i ni gymryd y cyfrifoldeb a'r grym sydd ei angen arnom i greu deddfwriaeth ffit i bwrpas, system gyfiawnder troseddol a fydd yn galluogi newid, a system decach a mwy cyfartal sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu yn gynnar, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, a gwneud misogyny yn drosedd o gasineb.
Ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig fel mater o egwyddor. Yn wahanol i'r pleidiau eraill yn y Siambr hon, rŷn ni'n credu mai Senedd Cymru ddylai greu cyfreithiau i bobl Cymru. Ond, i'r rheini ohonoch sy'n anghytuno â'r safbwynt hwnnw, rwy'n eich annog i ddilyn ein hesiampl o wrthod ein caniatâd i'r Mesur am y rhesymau rwyf wedi eu nodi, sydd wedi dod gan arbenigwyr yn y maes.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb nawr. Jane Hutt.
Diolch yn fawr i chi i gyd—diolch i chi i gyd am wneud sylwadau mor bwysig yn y ddadl hon. A dweud y gwir, onid yw'n bwysig bod gennym ni gyfle i drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn? Unwaith eto, mae wedi tynnu sylw at faint y broblem, ac mae'n hanfodol deall faint o aflonyddu a cham-drin cyhoeddus y mae menywod a merched yn ei wynebu, a bod y niwed a achosir yn cael ei gydnabod yn iawn. Rhoddais yr holl ystadegau i chi; rydym ni wedi clywed eto effaith hyn ar fywydau merched a menywod. A hefyd, dim ond i dawelu meddyliau'r Aelodau, mae ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol bellach yn cael ei hymestyn i edrych ar drais ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae gennym ni ffrwd waith sy'n cael ei harwain gan Shavanah Taj, ochr yn ochr â rhywun o awdurdod yr heddlu. Mae gennym ni ffrwd waith hefyd ar fynd i'r afael â thrais mewn mannau cyhoeddus, yn ogystal â ffrwd waith sy'n gweithio gyda goroeswyr.
Felly, codwyd llawer o'r pwyntiau o ran yr hyn yr ydym ni'n parhau i'w wneud i weithio gyda'n gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o'r materion anghydraddoldeb a diogelwch sy'n wynebu menywod a merched, i roi terfyn ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i holl bobl Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid. Ond rydym yn gweld y gallai'r cyfle deddfwriaethol hwn ddarparu un offeryn arall pellach yn y frwydr i newid ymddygiad a grymuso goroeswyr, unwaith eto, i sicrhau ein bod yn gwella arferion ac yn ennyn hyder mewn goroeswyr i adrodd am achosion o gamdriniaeth a thrais pan fyddant yn digwydd, i ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif.
Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Byddant yn cyfrannu at ein strategaeth ddiwygiedig a'r ffrydiau gwaith. A hefyd, rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod wedi derbyn yr holl argymhellion hynny, ac rwy'n gwybod bod yna lawer o gwestiynau y mae angen i ni wedyn eu cyflwyno o ran y pwyntiau a godwyd. A byddaf yn rhannu copi o'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, ac yn cydnabod, fel y dywedais, nad yw hyn mewn unrhyw ffordd yn rhoi unrhyw fath o gynsail i ymdrin â hyn o ran y ffordd ymlaen.
Fe wnaethom ni archwilio'r dewis o gyflwyno ein Bil ein hunain, ond nid oedd yn bosibl am y rhesymau rwyf wedi sôn amdanyn nhw. Ac mae'n mynd yn ôl i'r ffaith bod angen i ni ddarparu'r un amddiffyniad yng Nghymru ag a fyddai'n cael ei gynnig i fenywod yn Lloegr. Dyna'r pwynt. Dyna pam rydym ni wedi gwneud y penderfyniad hwn, oherwydd does arnom ni ddim eisiau i fenywod a merched fod ar eu colled oherwydd y dewis hwn, o ran amddiffyniad. Ond rwy'n ystyried y sylwadau a wneir am ddysgu gan ein darparwyr arbenigol a'n grŵp trawsbleidiol heddiw, wrth gwrs, o ran deall y materion hyn. Ond hoffwn sicrhau bod yr un amddiffyniad yn cael ei gynnig, a dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn a pheidio ag anwybyddu'r cyfle deddfwriaethol hwn.
Felly, rydym yn gobeithio y bydd y Bil yn cyflawni'r effaith bendant a chadarnhaol hon ar fenywod a merched yn ogystal â phobl amrywiol o ran rhywedd, i helpu i newid agweddau hen ffasiwn a dangos na fydd aflonyddu ar sail rhyw yn gyhoeddus yn cael ei oddef. Ac os gallaf sicrhau'r Aelodau ar draws y Siambr hon, os na chychwynnir Bil am unrhyw reswm—ac rydym wedi cael problemau ynghylch y cychwyn, fel yr amlinellais yn fy sylwadau agoriadol—byddaf yn archwilio dewisiadau pellach i ddeddfu yng Nghymru. Ond gofynnaf i'r Aelodau gydsynio i'r Bil hwn i wella'r amddiffyniad i fenywod a merched a phobl amrywiol yng Nghymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 fydd nesaf, felly, y cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Yn galw ar y Gweinidog materion gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM8288 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd yn y drefn canlynol:
a) Adrannau 1-34;
b) Atodlen 1;
c) Adran 35;
d) Adrannau 37-44;
e) Adran 36;
f) Adrannau 46-48;
g) Adran 45;
h) Adrannau 49-55;
i) Atodlen 2;
j) Atodlen 3;
k) Adrannau 56-57;
l) Teitl hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cynnig wedi'i wneud yn ffurfiol. Does neb i siarad. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n mynd â ni at y cyfnod pleidleisio. Un pleidlais fydd y prynhawn yma, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais hynny. Felly, mae'r bleidlais gyntaf hynny ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Eitem 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 41, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni a diwedd ar ein gwaith ni am y dydd. Diolch yn fawr i chi i gyd.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:49.