Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/05/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

Cwestiwn Brys: Terfysgoedd yng Nghaerdydd
Emergency Question: Riots in Cardiff

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, a'r eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiwn brys dwi wedi'i dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.67. Bydd y cwestiwn i'w ateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies. 

Welcome to this Plenary session. The first item this afternoon will be the emergency question that I have accepted under Standing Order 12.67. The question will be answered by the Minister for Social Justice, and is to be asked by Andrew R.T. Davies. 

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Heddlu De Cymru ynghylch terfysgoedd yng Nghaerdydd dros y 24 awr ddiwethaf? (EQ0010)

What discussions is the Welsh Government having with South Wales Police regarding riots in Cardiff over the last 24 hours? (EQ0010)

Thank you for that question. This is a tragic incident. My thoughts are with all affected. While South Wales Police urgently investigate the circumstances, it would be inappropriate for me to comment further. I would call for calm and for people to support the police and other agencies involved in supporting the local community. 

Diolch am y cwestiwn yna. Mae hwn yn ddigwyddiad trasig. Mae fy meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt. Tra bod Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar frys i'r amgylchiadau, byddai'n amhriodol i mi wneud sylwadau pellach. Byddwn yn galw am bwyll ac i bobl gefnogi'r heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gysylltiedig â chynorthwyo'r gymuned leol. 

Thank you, Minister, for that response to the original question, and can I endorse the comments that you made about calm, and dealing with the facts that relate to this particularly tragic incident? And our thoughts and prayers are, obviously, with the family of the two individuals, as I understand it, who sadly have lost their lives in a road traffic accident. 

There can be no excuse for the violence we witnessed last night on our tv screens and social media output, but what I would ask of the Welsh Government is: what assessment has been made by the Welsh Government, along with its partner agencies, of the strength of community cohesion in the area of Ely in Cardiff, and in particular the ability of those agencies to respond and work positively and proactively with the community to build the opportunities, install hope in communities, and ultimately make sure that residents in this part of Cardiff do not have to tolerate this level of lawlessness? And will you support me in wishing that the agencies of the law bring forward anyone they can identify, so that the full force of the law can be brought against them to make sure that there is no repetition of these scenes that we saw on our screens last night?

Diolch, Gweinidog, am yr ymateb yna i'r cwestiwn gwreiddiol, ac a gaf i gymeradwyo'r sylwadau a wnaethoch chi am bwyll, ac ymdrin â'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r digwyddiad arbennig o drasig hwn? Ac mae ein meddyliau a'n gweddïau, yn amlwg, gyda theulu'r ddau unigolyn, fel yr wyf i'n ei ddeall, sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau mewn damwain traffig ar y ffordd. 

Ni all fod unrhyw esgus am y trais a welsom ni neithiwr ar ein sgriniau teledu a chynnyrch cyfryngau cymdeithasol, ond yr hyn y byddwn i'n ei ofyn gan Lywodraeth Cymru yw: pa asesiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â'i hasiantaethau partner, o gryfder cydlyniant cymunedol yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, ac yn benodol gallu'r asiantaethau hynny i ymateb a gweithio'n gadarnhaol ac yn rhagweithiol gyda'r gymuned i adeiladu'r cyfleoedd, creu gobaith mewn cymunedau, a gwneud yn siŵr yn y pen draw nad oes yn rhaid i drigolion yn y rhan hon o Gaerdydd oddef y lefel hon o anhrefn? Ac a wnewch chi fy nghefnogi i wrth ddymuno bod asiantaethau'r gyfraith yn cyflwyno unrhyw un y gallan nhw ei adnabod, fel y gellir dwyn grym llawn y gyfraith yn eu herbyn i wneud yn siŵr nad yw'r golygfeydd hyn a welsom ar ein sgriniau neithiwr yn cael eu hailadrodd?

Well, I thank Andrew R.T. Davies for that supplementary question. I was shocked and saddened, as I'm sure we all are today, to hear of the tragic death of two young people involved in a serious road traffic collision in the Ely area of Cardiff yesterday evening, and our thoughts are with the family and friends of the two young people involved. 

But I would like to take the opportunity, along with the points that you've made, to thank all those services, and, indeed, the community itself—all those services involved, of health, police, the local authority, fire and rescue services—for the exemplary way they pulled together to handle the situation. And I think it is a reflection of the excellent community safety partnership work that's been done in that part of Cardiff, focusing on it last night. It enabled those services to work together so well in this fast-moving and tragic situation. 

I do understand that South Wales Police have made arrests in connection with the disorder, and that more will follow, but, clearly, this is something where our thoughts are also with the community—such a warm and strong community. And I know, obviously, that the local authority, our colleagues and elected representatives, and the leader of the council, were all engaged in this. And I was listening to the phone-in with Jason Mohammed—of course, from the Ely area—who actually interviewed the Rev Jan Gould from the Church of the Resurrection. It's a strong community in Ely, and we must remember this as we look to follow up and hear, obviously, what has happened, what the circumstances were surrounding this tragic series of events. 

Wel, diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn atodol yna. Roedd yn sioc ac yn dristwch i mi, fel yr wyf i'n siŵr y mae i bob un ohonom ni heddiw, glywed am farwolaeth drasig dau berson ifanc a fu mewn gwrthdrawiad traffig ffordd difrifol yn ardal Trelái yng Nghaerdydd neithiwr, ac rydym ni'n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau'r ddau berson ifanc dan sylw. 

Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle, ynghyd â'r pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud, i ddiolch i'r holl wasanaethau hynny, ac, yn wir, y gymuned ei hun—yr holl wasanaethau hynny dan sylw, iechyd, yr heddlu, yr awdurdod lleol, gwasanaethau tân ac achub—am y ffordd ragorol y gwnaethon nhw dynnu at ei gilydd i ymdrin â'r sefyllfa. Ac rwy'n credu ei fod yn adlewyrchiad o'r gwaith partneriaeth diogelwch cymunedol rhagorol sydd wedi cael ei wneud yn y rhan honno o Gaerdydd, gan ganolbwyntio arno neithiwr. Galluogodd y gwasanaethau hynny i weithio gyda'i gilydd mor dda yn y sefyllfa drasig hon a oedd yn newid yn gyflym. 

Rwy'n deall bod Heddlu De Cymru wedi arestio pobl mewn cysylltiad â'r anhrefn, ac y bydd mwy yn dilyn, ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth lle mae ein meddyliau gyda'r gymuned hefyd—cymuned mor wresog a chryf. A gwn, yn amlwg, bod yr awdurdod lleol, ein cydweithwyr a chynrychiolwyr etholedig, ac arweinydd y cyngor, i gyd yn rhan o hyn. Ac roeddwn i'n gwrando ar y rhaglen ffonio i mewn gyda Jason Mohammed—sydd o ardal Trelái, wrth gwrs—a gyfwelodd y Parchedig Jan Gould o Eglwys yr Atgyfodiad. Mae'n gymuned gref yn Nhrelái, ac mae'n rhaid i ni gofio hyn wrth i ni ddisgwyl clywed, yn amlwg, am beth sydd wedi digwydd, beth oedd yr amgylchiadau o ran y gyfres drasig hon o ddigwyddiadau.

May I thank Andrew R.T. Davies for putting in this question, and thank you, Minister, for the response? As you mentioned, there is an ongoing investigation, but may I echo the comments made in terms of sharing our deepest, deepest sympathy with the families of the victims, and their friends, of course, and, as you say, the community? Because it is a community, a very strong community, and I know many people are devastated by what happened last night, and the subsequent violence as well. And people are terrified, saying that they are still worried that this could escalate further. And what I would want to ask is: what discussions have taken place to provide reassurance to those in the community that suffered last night—they were terrified in their homes—and, obviously, to deal with the tragic loss of two young people as well?

Can I ask also in terms of what seems to be that breakdown in community police relations as well, in terms of miscommunication? We've heard that there may have been miscommunication on social media that led to this. Well, there was absolutely no communication with me as one of the five Senedd Members for the area, to find out anything about what happened or to provide any reassuring messages, and I've still not received any messages. I think there is a role for us as Senedd Members to play in terms of community cohesion, and I would ask the Welsh Government to ensure that all elected Members receive that assurance from South Wales Police, so that we are able to support that message that you have rightly made in terms of peace for the community, but also support to rebuild.

A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r cwestiwn hwn, a diolch i chi, Gweinidog, am yr ymateb? Fel y gwnaethoch chi sôn, mae ymchwiliad parhaus, ond a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaed o ran rhannu ein cydymdeimlad dwysaf â theuluoedd y dioddefwyr, a'u ffrindiau, wrth gwrs, ac, fel y dywedwch, y gymuned? Oherwydd mae'n gymuned, yn gymuned gref iawn, a gwn fod llawer o bobl wedi'u llorio gan yr hyn a ddigwyddodd neithiwr, a'r trais dilynol hefyd. Ac mae pobl wedi dychryn, gan ddweud eu bod nhw'n dal i boeni y gallai hyn waethygu ymhellach. A'r hyn y byddwn i eisiau ei ofyn yw: pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal i roi sicrwydd i'r rhai yn y gymuned a ddioddefodd neithiwr—roedden nhw wedi dychryn yn eu cartrefi—ac, yn amlwg, i ymdrin â cholled drasig dau berson ifanc hefyd?

A gaf i ofyn hefyd o ran yr hyn sy'n ymddangos fel y chwalfa honno o ran cysylltiadau rhwng y gymuned a'r heddlu hefyd, o ran cam-gyfathrebu? Rydym ni wedi clywed efallai y bu cam-gyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol a arweiniodd at hyn. Wel, nid oedd unrhyw gyfathrebu o gwbl â mi fel un o'r pum Aelod o'r Senedd dros yr ardal, i ddarganfod unrhyw beth am yr hyn a ddigwyddodd neu i gyfleu unrhyw negeseuon cysurlon, ac nid wyf i wedi derbyn unrhyw negeseuon o hyd. Rwy'n credu bod swyddogaeth i ni fel Aelodau'r Senedd ei chyflawni o ran cydlyniant cymunedol, a byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl Aelodau etholedig yn derbyn y sicrwydd hwnnw gan Heddlu De Cymru, fel ein bod ni'n gallu cefnogi'r neges honno yr ydych chi wedi ei chyfleu yn briodol o ran heddwch i'r gymuned, ond hefyd cymorth i ailadeiladu.

13:35

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, and thank you for your words of support and sympathy to the families and to all of those who have been affected by this in the community of Ely. I just want to say that I've already met with the Police and Crime Commissioner for South Wales, Alun Michael, for an update on this incident, and the First Minister has also been briefed. South Wales Police are looking into exactly what happened, the circumstances surrounding this tragic series of events. And, I have to say, it was a fast-moving situation; I think we were only becoming aware, and I know that the local councillors and the police and all the agencies were working to address the situation, as it emerged. Again, I would want to thank those who responded so quickly and speedily to this. In fact, the violent disorder that took place did include attacks on the emergency services, damage to property, causing considerable fear, as you've said, within the community, which is completely unacceptable. So, can I again call for calm and for people to support the police and other services in the work that's being undertaken now? And, of course, in terms of communications, I'm pleased to be responding to this question this afternoon, and we will keep everyone briefed in terms of the ongoing investigation.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch am eich geiriau o gefnogaeth a chydymdeimlad i'r teuluoedd ac i bawb yr effeithiwyd arnyn nhw gan hyn yng nghymuned Trelái. Hoffwn ddweud fy mod i eisoes wedi cyfarfod â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad hwn, ac mae'r Prif Weinidog hefyd wedi cael ei friffio. Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i beth yn union ddigwyddodd, yr amgylchiadau ynghylch y gyfres drasig hon o ddigwyddiadau. Ac, mae'n rhaid i mi ddweud, roedd hi'n sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym; rwy'n credu ein bod ni ond yn dod yn ymwybodol, a gwn fod y cynghorwyr lleol a'r heddlu a'r holl asiantaethau yn gweithio i fynd i'r afael â'r sefyllfa, wrth iddi ddod i'r amlwg. Eto, hoffwn ddiolch i'r rhai a ymatebodd mor gyflym i hyn. Mewn gwirionedd, roedd yr anhrefn treisgar a ddigwyddodd yn cynnwys ymosodiadau ar y gwasanaethau brys, difrod i eiddo, gan achosi cryn ofn, fel rydych chi wedi ei ddweud, o fewn y gymuned, sy'n gwbl annerbyniol. Felly, a gaf i alw eto am bwyll ac i bobl gefnogi'r heddlu a gwasanaethau eraill yn y gwaith sy'n cael ei wneud nawr? Ac, wrth gwrs, o ran cyfathrebu, rwy'n falch o fod yn ymateb i'r cwestiwn hwn y prynhawn yma, a byddwn yn rhoi gwybod i bawb am yr ymchwiliad parhaus.

Diolch i'r Gweinidog am yr atebion yna, ac am gymryd y cwestiwn yna.

Thank you, Minister, for those responses and for taking the question.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Yr eitem nesaf, felly, fydd ein heitem gyntaf arferol ni, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.

The next item, therefore, will be our usual first item of questions to the First Minister. The first question is from Hefin David.

Cost Gwisg Ysgol
Cost of School Uniform

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru gyda chost gwisgoedd ysgol i ddysgwyr a'u teuluoedd? OQ59582

1. Will the First Minister provide an update on Welsh Government support with the cost of school uniform for learners and their families? OQ59582

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn glir na ddylai cost gwisg ysgol fod yn rhwystr i ddysgu. Mae ein canllawiau diweddaraf ar wisg ysgol yn nodi bod angen i ysgolion roi blaenoriaeth i’w gwneud yn fforddiadwy. Mae cyllid o £13.6 miliwn ar gael i’r grant hanfodion ysgol ar gyfer 2023-24 i helpu i leihau pryderon ynglŷn â gallu teuluoedd sydd ar incwm is i brynu gwisg ac offer ysgol.

Llywydd, the Welsh Government is clear that the cost of school uniform should not be a barrier to learning. Our updated uniform guidance requires schools to prioritise affordability. Funding of £13.6 million has been made available for the school essentials grant for 2023-24 to help reduce concerns around purchase of school uniform and equipment for lower income families.

Diolch, Prif Weinidog. All of those measures put in by the Welsh Government are very welcome. And in complement to that, in Lansbury Park in Caerphilly, Lisa Watkins runs the Caerphilly Uniform Exchange, whereby people can visit to exchange uniforms, to pick up uniforms, and, the most important thing to know, they're open to everyone—regardless of income, you are welcome to go along and use the Caerphilly Uniform Exchange. I'd like perhaps to invite the Minister for education, Jeremy Miles, to come and visit the Caerphilly Uniform Exchange and come and see what's happening. There are similar groups across Wales. Would the First Minister, therefore, as I welcome the Government's policy, also welcome the work that is being done by Lisa Watkins and the volunteers there in Lansbury Park?

Diolch, Prif Weinidog. Mae croeso mawr i'r holl fesurau hynny a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Ac yn ategu hynny, ym Mharc Lansbury yng Nghaerffili, mae Lisa Watkins yn rhedeg Caerphilly Uniform Exchange, lle gall pobl ymweld i gyfnewid gwisg ysgol, i gasglu gwisg ysgol, ac, y peth pwysicaf i'w wybod, maen nhw'n agored i bawb—ni waeth beth fo'u hincwm, mae croeso i chi fynd draw i ddefnyddio Caerphilly Uniform Exchange. Hoffwn wahodd y Gweinidog addysg, Jeremy Miles, efallai i ddod i ymweld â Caerphilly Uniform Exchange a dod i weld beth sy'n digwydd. Ceir grwpiau tebyg ledled Cymru. A fyddai'r Prif Weinidog, felly, wrth i mi groesawu polisi'r Llywodraeth, hefyd yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Lisa Watkins a'r gwirfoddolwyr yno ym Mharc Lansbury?

Can I thank Hefin David for that supplementary question, Llywydd, and begin, as I've done before, in thanking him for all the local efforts I know that he makes to promote the help that is available, both from the Welsh Government and also through the fantastic local community effort to which the Member referred? I read with great interest the personal history of Lisa Watkins—how, as a parent, and obliged for other reasons to move from place to place, she found having to replace school uniform every time her children were at a new school a real issue to deal with. And that personal experience motivated her to start up the community interest company that now trades as Caerphilly Uniform Exchange. And the fact that it focuses on recycling school uniforms, both for the cost involved and also because we know that, environmentally, it is far better to be able to reuse and recycle than to buy new each time, is a fantastic service that is being afforded to residents of Hefin David's constituency. As the Member said, Llywydd, these things are replicated elsewhere in other parts of Wales, but I'm sure there's a great deal that can be learned from these local initiatives to make sure that the cost of uniform is never an obstacle to children attending school.

A gaf i ddiolch i Hefin David am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, a dechrau, fel yr wyf i wedi ei wneud o'r blaen, trwy ddiolch iddo am yr holl ymdrechion lleol y gwn ei fod yn eu gwneud i hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael, gan Lywodraeth Cymru a hefyd drwy'r ymdrech gymunedol leol wych y cyfeiriodd yr Aelod ati? Darllenais gyda diddordeb mawr hanes personol Lisa Watkins—sut, fel rhiant, ac wedi'i gorfodi am resymau eraill i symud o le i le, yr oedd gorfod newid gwisg ysgol bob tro yr oedd ei phlant mewn ysgol newydd yn broblem wirioneddol i ymdrin â hi. Ac fe wnaeth y profiad personol hwnnw ei chymell i gychwyn y cwmni buddiant cymunedol sydd bellach yn masnachu fel Caerphilly Uniform Exchange. Ac mae'r ffaith ei fod yn canolbwyntio ar ailgylchu gwisg ysgol, oherwydd y gost dan sylw a hefyd gan ein bod ni'n gwybod, yn amgylcheddol, ei bod hi'n llawer gwell gallu ailddefnyddio ac ailgylchu na phrynu yn newydd bob tro, yn wasanaeth ardderchog sy'n cael ei gynnig i drigolion etholaeth Hefin David. Fel y dywedodd yr Aelod, Llywydd, mae'r pethau hyn yn cael eu gwneud mewn mannau eraill mewn rhannau eraill o Gymru, ond rwy'n siŵr bod llawer iawn y gellir ei ddysgu o'r mentrau lleol hyn i wneud yn siŵr nad yw cost gwisg ysgol byth yn rhwystr rhag i blant fynychu'r ysgol.

13:40

First Minister, I would like to thank, first of all, my colleague Hefin David for asking this question, but we all just know—. I'm sure we can all appreciate how expensive school uniforms can be, placing a huge financial strain on many families. Anything the Welsh Government can do to help parents with the cost of school uniforms and other essentials, especially in this current climate, is very, very welcome. Back in 2018, the then education Minister suggested scrapping logos in a bid to cut costs. Fast forward five years, and we're still here having the same conversation. Please don't get me wrong, First Minister, as I do believe and sincerely feel that the school essentials grant plays a pivotal role in helping families, but I do feel we could also do more. The current education Minister recently stressed the need for cheaper school uniforms, and then published guidance meaning schools must take that into account when setting school uniform policies. But I do fear slightly, First Minister, that the education Minister maybe, just maybe, is kicking the can down the road when it comes to guidance. So, I feel like we need something a little bit more meaningful right now. First Minister, do you agree that now is the time for the Welsh Government to be taking a much more robust approach on this issue, so we can truly help families all across Wales? 

Prif Weinidog, hoffwn ddiolch, yn gyntaf oll, i fy nghyd-Aelod Hefin David am ofyn y cwestiwn hwn, ond rydym ni i gyd yn gwybod—. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd werthfawrogi pa mor ddrud y gall gwisgoedd ysgol fod, gan roi straen ariannol enfawr ar lawer o deuluoedd. Mae croeso mawr iawn i unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu rhieni gyda chost gwisg ysgol a hanfodion eraill, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni ar hyn o bryd. Yn ôl yn 2018, awgrymodd y Gweinidog addysg ar y pryd y dylid cael gwared ar fathodynnau mewn ymgais i dorri costau. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ac rydym ni'n dal yma yn cael yr un sgwrs. Peidiwch â'm camddeall i, Prif Weinidog, gan fy mod i'n credu ac yn teimlo'n ddiffuant bod y grant hanfodion ysgol yn chwarae rhan ganolog o ran helpu teuluoedd, ond rwy'n teimlo y gallem ni wneud mwy hefyd. Yn ddiweddar, pwysleisiodd y Gweinidog addysg presennol yr angen am wisgoedd ysgol rhatach, ac yna cyhoeddodd ganllawiau sy'n golygu bod yn rhaid i ysgolion gymryd hynny i ystyriaeth wrth bennu polisïau gwisg ysgol. Ond rwy'n ofni braidd, Prif Weinidog, efallai, dim ond efallai, fod y Gweinidog addysg yn cicio'r can i lawr y ffordd o ran canllawiau. Felly, rwy'n teimlo ein bod ni angen rhywbeth ychydig yn fwy ystyrlon ar hyn o bryd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno mai nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru fod yn mabwysiadu dull llawer mwy cadarn o ymdrin â'r mater hwn, fel y gallwn ni wir helpu teuluoedd ym mhob cwr o Gymru? 

Well, Llywydd, I don't think it can, for a moment, be an accurate accusation to suggest that the can is being kicked down the road, because that guidance has already been issued. Nobody is waiting for the guidance; the Minister has published the guidance. It is statutory guidance, it is a great deal stronger than any guidance to be found across the border or, indeed, in London, to take a random example, I'm reminded of by the Trefnydd. And the purpose of the statutory guidance is to make it obligatory for local authorities to respond to the messages that were received in the consultation exercise. The consultation exercise was clear that parents and, indeed, teachers still feel that a school uniform is a useful adjunct to an education, but they don't want it to be a barrier to education either. That is the balance that the statutory guidance faces, and the can is well down the road already. 

Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu y gall, am eiliad, fod yn gyhuddiad cywir i awgrymu bod y can yn cael ei gicio i lawr y ffordd, oherwydd mae'r canllawiau hynny eisoes wedi cael eu cyhoeddi. Does neb yn aros am y canllawiau; mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi'r canllawiau. Maen nhw'n ganllawiau statudol, maen nhw'n llawer cryfach nag unrhyw ganllawiau sydd i'w cael dros y ffin neu, yn wir, yn Llundain, i gymryd enghraifft ar hap, rwy'n cael fy atgoffa ohono gan y Trefnydd. A diben y canllawiau statudol yw ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ymateb i'r negeseuon a dderbyniwyd yn yr ymarfer ymgynghori. Roedd yr ymarfer ymgynghori yn eglur bod rhieni ac, yn wir, athrawon yn dal i deimlo bod gwisg ysgol yn ychwanegiad defnyddiol at addysg, ond nid ydyn nhw eisiau iddo fod yn rhwystr rhag addysg chwaith. Dyna'r cydbwysedd y mae'r canllawiau statudol yn ei wynebu, ac mae'r can ymhell i lawr y ffordd yn barod. 

Cydraddoldeb i Bobl Anabl
Equality for Disabled People

2. Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl? OQ59581

2. What progress has the Government made in achieving equality for disabled people? OQ59581

I thank the Member for that question. Llywydd, the Welsh Government is committed to equality for disabled people and has set up the disability rights taskforce. It ensures that the voices of disabled people themselves are at the heart of policy and practice. Support for the work of the taskforce is highlighted in the co-operation agreement.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bobl anabl ac wedi sefydlu'r tasglu hawliau anabledd. Mae'n sicrhau bod lleisiau pobl anabl eu hunain yn ganolog i bolisi ac ymarfer. Mae cefnogaeth i waith y tasglu yn cael ei amlygu yn y cytundeb cydweithio.

Diolch am yr ateb. 

Thank you for the response. 

In your last Senedd manifesto, your party committed to enshrining the United Nations convention on the rights of disabled people, which utilises the social model of disability, into Welsh law. We are now in 2023 and, despite the establishment of the disability rights taskforce, we're still waiting for this to be enshrined into Welsh law. I gather there is no timetable for it being enshrined into Welsh law during this Senedd, making it look unlikely ahead of the next Senedd elections. First Minister, this matters because the damning 'Locked out' report of 2021 showed just how far we need to go to achieve equality for disabled people in Wales. It's not fair that the disabled employment rate in Wales is nearly half that of non-disabled people. Can you update the Senedd on work to address the inequality that exists for disabled people in this country, First Minister, and ensure that shortcomings identified in previous reports are not identified again in future reports? Diolch. 

Yn eich maniffesto Senedd diwethaf, ymrwymodd eich plaid i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, sy'n defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd, yng nghyfraith Cymru. Rydym ni bellach yn 2023 ac, er gwaethaf sefydlu'r tasglu hawliau anabledd, rydym ni'n dal i aros i hyn gael ei ymgorffori yng nghyfraith Cymru. Rwy'n deall nad oes amserlen ar gyfer ei ymgorffori yng nghyfraith Cymru yn ystod y Senedd hon, mae hi felly'n ymddangos y bydd yn annhebygol cyn etholiadau nesaf y Senedd. Prif Weinidog, mae hyn yn bwysig oherwydd dangosodd adroddiad damniol 'Drws ar glo' 2021 pa mor bell y mae angen i ni fynd i sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru. Nid yw'n deg bod y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yng Nghymru bron i hanner cyfradd gyflogaeth pobl nad ydynt yn anabl. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar waith i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb sy'n bodoli i bobl anabl yn y wlad hon, Prif Weinidog, a sicrhau nad yw diffygion a nodwyd mewn adroddiadau blaenorol yn cael eu nodi eto mewn adroddiadau yn y dyfodol? Diolch.

I thank the Member for those important questions, Llywydd. I agree strongly with what he has said about the need to go on addressing the barriers faced by disabled people. We know, from the work of the taskforce and hearing directly from disabled people themselves that they felt that the experience of the pandemic saw a reassertion of the medical model of disability over the social model, and that there is ground that now needs to be made up in making sure that the social model of disability, which was supported across the floor of the Senedd almost two decades ago, and has always been part of the way in which we think of the rights of disabled people, that we recapture that and put some new energy behind it in order to make up for the ground that they felt was lost. To give the Member just one example of that, and as a result of the work of the group, we are looking at the questions in which we explore the impact of disability in the different tests of public opinion that we conduct here in Wales—the different surveys that we commission. If you look at the questions that are asked about disability, members of the taskforce say to us that they are over-influenced by the medical model—they think of disability in that way. As a result, we are going to recast those questions in future, so that future survey questions align with the social model of disability in the way that we would want and the members of the taskforce advise us.

As to legislation, we are two years into a five-year term and, although the pressures on the legislative programme are very real, I will make a statement, as ever, Llywydd, before the end of the summer term, setting out proposals for legislation in the Senedd year to come. 

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna, Llywydd. Rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn y mae wedi ei ddweud am yr angen i barhau i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl. Rydym ni'n gwybod, o waith y tasglu ac o glywed yn uniongyrchol gan bobl anabl eu hunain eu bod nhw'n teimlo bod profiad y pandemig wedi arwain at ailddatgan y model meddygol o anabledd dros y model cymdeithasol, a bod tir y mae angen ei adennill nawr i wneud yn siŵr bod y model cymdeithasol o anabledd, a gefnogwyd ar draws llawr y Senedd bron i ddau ddegawd yn ôl, ac sydd wedi bod yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n meddwl am hawliau pobl anabl erioed, ein bod ni'n ail-afael ar hynny ac yn rhoi rhywfaint o egni newydd y tu ôl iddo er mwyn gwneud iawn am y tir yr oedden nhw'n teimlo a gollwyd. I roi un enghraifft yn unig o hynny i'r Aelod, ac o ganlyniad i waith y grŵp, rydym ni'n edrych ar y cwestiynau lle'r ydym ni'n archwilio effaith anabledd yn y gwahanol brofion o farn y cyhoedd yr ydym ni'n eu cynnal yma yng Nghymru—y gwahanol arolygon yr ydym ni'n eu comisiynu. Os edrychwch chi ar y cwestiynau sy'n cael eu gofyn am anabledd, mae aelodau'r tasglu yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n cael eu gorddylanwadu gan y model meddygol—maen nhw'n meddwl am anabledd yn y ffordd honno. O ganlyniad, rydym ni'n mynd i ail-lunio'r cwestiynau hynny yn y dyfodol, fel bod cwestiynau arolwg yn y dyfodol yn cyd-fynd â'r model cymdeithasol o anabledd yn y ffordd y byddem ni'n ei ddymuno ac y mae aelodau'r tasglu yn ein cynghori.

O ran deddfwriaeth, rydym ni ddwy flynedd i mewn i dymor o bum mlynedd ac, er bod y pwysau ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn real iawn, byddaf yn gwneud datganiad, fel erioed, Llywydd, cyn diwedd tymor yr haf, yn nodi cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y flwyddyn i ddod yn y Senedd. 

13:45

First Minister, sadly, Wales is still a long way from being equal. Disabled people still face barriers and challenges to do things that most of us take for granted. We still hear of incidents of wheelchair users being unable to travel by bus because there are people with prams and buggies using the service, or we hear the common complaint of wheelchair users unable to get on or off a train because they had not booked ahead, that is if they can even get to the platform. First Minister, it has been nearly 30 years since the introduction of the Disability Discrimination Act and almost 15 years since the introduction of the Equality Act, yet disabled people can't even get equal access to public transport. What urgent steps are you taking to guarantee disabled people having equality of access to public transport in Wales?

Prif Weinidog, yn anffodus, mae Cymru yn dal yn bell o fod yn gyfartal. Mae pobl anabl yn dal i wynebu rhwystrau a heriau rhag gwneud pethau y mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n eu cymryd yn ganiataol. Rydym ni'n dal i glywed am achosion o ddefnyddwyr cadair olwyn yn methu â theithio ar fws oherwydd bod pobl sydd â phramiau a bygis yn defnyddio'r gwasanaeth, neu rydym ni'n clywed cwyn gyffredin defnyddwyr cadair olwyn yn methu â mynd ar drên neu oddi arno gan nad oedden nhw wedi ei drefnu ymlaen llaw, ac mae hynny os gallan nhw gyrraedd y platfform hyd yn oed. Prif Weinidog, mae bron i 30 mlynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a bron i 15 mlynedd ers cyflwyno'r Ddeddf Cydraddoldeb, ac eto ni all pobl anabl hyd yn oed gael mynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus. Pa gamau brys ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?

Well, Llywydd, I thank the Member for that supplementary question, and it does indeed illustrate the strength of the social model, which focuses on the way in which society is organised and the social and institutional barriers that restrict disabled people's opportunities. Now, I think a great deal has been done and goes on being done in the field of public transport. The new electric buses that colleagues will see around Wales are designed to full disability standards. The new rolling stock that is being secured for railways here in Wales reflects the needs of contemporary Welsh society. Of course there is a legacy—there is a legacy of buses and of trains built in an earlier era when understanding of these issues was not what it is today. But our ambition is to make sure that as we are able to bring new facilities into operation, they will allow disabled people to have access to public transport and other services just as any other Welsh citizen would expect.

Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, ac yn wir mae'n dangos cryfder y model cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar y ffordd y mae cymdeithas wedi'i threfnu a'r rhwystrau cymdeithasol a sefydliadol sy'n cyfyngu ar gyfleoedd pobl anabl. Nawr, rwy'n credu bod llawer iawn wedi cael ei wneud ac yn parhau i gael ei wneud ym maes trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r bysiau trydan newydd y bydd cyd-Aelodau yn eu gweld ledled Cymru wedi'u dylunio i safonau anabledd llawn. Mae'r cerbydau newydd sy'n cael eu sicrhau ar gyfer rheilffyrdd yma yng Nghymru yn adlewyrchu anghenion cymdeithas gyfoes Cymru. Wrth gwrs, ceir etifeddiaeth—ceir etifeddiaeth o fysiau ac o drenau a adeiladwyd mewn oes gynharach pan nad oedd dealltwriaeth o'r materion hyn gystal ag y mae heddiw. Ond ein huchelgais yw gwneud yn siŵr, wrth i ni allu dechrau gweithredu cyfleusterau newydd, y byddan nhw'n caniatáu i bobl anabl gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau eraill yn yr un modd ag y byddai unrhyw ddinesydd arall Cymru yn ei ddisgwyl.

First Minister, I recently met with the Royal National Institute of Blind People Cymru, who have expressed some concern over what they see as a variation in the support available for children and young people with visual impairments across local authority areas. They also point to a geographic variation in the provision of habilitation services outside of education, which you will know focuses on essential everyday skills for living independently, such as mobility, communication and personal care. I know the Welsh Government is meeting with Guide Dogs Cymru on this, but will you commit the Welsh Government to doing all that it can to work with campaigners to find solutions so that children and young people with visual impairments can access the right support both inside and outside of school?

Prif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru, sydd wedi mynegi cryn bryder ynghylch yr hyn y maen nhw'n ei ystyried yn amrywiad o ran y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc â namau ar eu golwg ar draws ardaloedd awdurdodau lleol. Maen nhw hefyd yn cyfeirio at amrywiad daearyddol o ran y ddarpariaeth o wasanaethau cymhwyso y tu allan i faes addysg, y byddwch yn ymwybodol ei fod yn canolbwyntio ar sgiliau bob dydd hanfodol ar gyfer byw'n annibynnol, fel symudedd, cyfathrebu a gofal personol. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â Cŵn Tywys Cymru ar hyn, ond a wnewch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i weithio gydag ymgyrchwyr i ddod o hyd i atebion fel y gall plant a phobl ifanc sydd â namau ar eu golwg gael y cymorth iawn y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol?

Well, of course, I agree with what Vikki Howells has said, Llywydd, and the Welsh Government will make sure that, across the range of our responsibilities, we respond to the important points she’s made this afternoon.

The disability rights taskforce has a dedicated group looking at the experiences of children and young people who live with disabilities, and I will make sure that the points that the Member has raised, and the work of the RNIB in this area, are drawn to the attention of that group, so that we can hear directly from young people themselves as to how we can assist in finding solutions to whatever challenges they face in being able to make the very best of their abilities and their opportunities.

Wel, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Vikki Howells wedi ei ddweud, Llywydd, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr, ar draws ystod ein cyfrifoldebau, ein bod ni'n ymateb i'r pwyntiau pwysig y mae hi wedi eu gwneud y prynhawn yma.

Mae gan y tasglu hawliau anabledd grŵp pwrpasol sy'n edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc sy'n byw gydag anableddau, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod sylw'r grŵp hwnnw yn cael ei dynnu at y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi, a gwaith yr RNIB yn y maes hwn, fel y gallwn ni glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc eu hunain ynglŷn â sut y gallwn ni helpu i ddod o hyd i atebion i ba bynnag heriau y maen nhw'n eu hwynebu o ran gallu gwneud y gorau posibl o'u galluoedd a'u cyfleoedd.

13:50

First Minister, we know that some residents who apply for disabled parking bays are rejected due to not meeting the requirements, but too many residents in Rhondda are rejected disabled parking bays, not because they don't meet the criteria, but because there isn't enough money to provide more than 12 a year, RCT wide. These bays impact enormously on the quality of residents' lives. I totally understand just how tight budgets are at the moment, but would it be possible to explore the feasibility of providing local authorities ring-fenced funding for disabled parking bays and increasing the budget to ensure that more residents who qualify for them are granted them?

Prif Weinidog, rydyn ni'n gwybod bod rhai trigolion sy'n gwneud cais am fannau parcio i bobl anabl yn cael eu gwrthod gan nad ydyn nhw'n bodloni'r gofynion, ond mae gormod o drigolion Rhondda yn methu â chael mannau parcio i bobl anabl, nid oherwydd nad ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf, ond gan nad oes digon o arian i ddarparu mwy na 12 y flwyddyn, ar draws Rhondda Cynon Taf. Mae'r mannau parcio hyn yn cael effaith enfawr ar ansawdd bywydau trigolion. Rwy'n deall yn llwyr pa mor dynn yw cyllidebau ar hyn o bryd, ond a fyddai'n bosibl archwilio dichonoldeb darparu cyllid wedi'i glustnodi i awdurdodau lleol ar gyfer mannau parcio i bobl anabl a chynyddu'r gyllideb i sicrhau bod mwy o drigolion sy'n gymwys i'w derbyn yn eu cael nhw?

Well, Llywydd, I agree with Buffy Williams about the importance of disabled parking and it being accessible to people, and the position she reports from RCT is indeed a vivid illustration of the pressures that local authority budgets—and the budgets of all public services in Wales—face 13 years into successive reductions by the UK Conservative Government. Truthfully, though, I'd have to say that the pressure from local authorities is always against further small specific grants for particular purposes. And the work that the Welsh Government is doing, led by our colleague Rebecca Evans, is instead to see if we can find more ways of reducing small grants so that local authorities have more scope to make the most flexible use they can of the funding that they get through the Welsh Government. So, while I do entirely agree about the importance of the issue, I'm not sure that another specific grant, parcelling up relatively small amounts of money, for which local authorities are bound by very specific conditions, often costly to administer—I'm not certain that that is the best answer to the dilemma that Buffy Williams has outlined this afternoon.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â Buffy Williams am bwysigrwydd mannau parcio i bobl anabl a'u bod yn hygyrch i bobl, ac mae'r sefyllfa y mae'n hysbysu amdano o RhCT wir yn ddarlun byw o'r pwysau y mae cyllidebau awdurdodau lleol—a chyllidebau pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru—yn eu hwynebu ar ôl 13 mlynedd o ostyngiadau olynol gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, byddai'n rhaid i mi ddweud bod y pwysau gan awdurdodau lleol bob amser yn erbyn grantiau penodol bach pellach at ddibenion penodol. A'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, dan arweiniad ein cyd-Weinidog, Rebecca Evans, yw gweld, yn hytrach, a allwn ni ddod o hyd i fwy o ffyrdd o leihau grantiau bach fel bod gan awdurdodau lleol fwy o gyfle i wneud y defnydd mwyaf hyblyg y gallan nhw o'r cyllid y maen nhw'n ei gael trwy Lywodraeth Cymru. Felly, er fy mod i'n cytuno'n llwyr ynglŷn â phwysigrwydd y mater, nid wyf i'n siŵr bod grant penodol arall, sy'n cynnwys symiau cymharol fach o arian, y mae awdurdodau lleol yn rhwym iddyn nhw yn ôl amodau penodol iawn, sy'n aml yn gostus i'w gweinyddu—nid wyf i'n siŵr mai dyna'r ateb gorau i'r cyfyng-gyngor y mae Buffy Williams wedi ei amlinellu y prynhawn yma.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Questions now from the party leaders. The leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.

Thank you, Presiding Officer. First Minister, will the Welsh Government commit to eliminating two-year waits within the Welsh NHS by the end of the year?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gael gwared ar arosiadau o ddwy flynedd o fewn GIG Cymru erbyn diwedd y flwyddyn?

Well, Llywydd, I've seen the letter that the Minister has sent directly to health boards. It asks them to do exactly that—to provide 99 per cent, is what the Minister is reminding me, because there will always be a small number of people for whom it is clinically not the right thing to proceed with an operation at the point that it was originally intended. So the 1 per cent is just there to make sure that that eventuality is covered. Otherwise, the letter to health boards is clear: we expect those long waits to be eliminated within the time frame that the leader of the opposition has identified.

Wel, Llywydd, rwyf i wedi gweld y llythyr y mae'r Gweinidog wedi ei anfon yn uniongyrchol i fyrddau iechyd. Mae'n gofyn iddyn nhw wneud yn union hynny—i ddarparu 99 y cant, yw'r hyn y mae'r Gweinidog yn fy atgoffa, oherwydd bydd nifer fach o achosion o hyd pan nad y peth iawn i'w wneud ar gyfer y bobl hynny yn glinigol yw bwrw ymlaen â llawdriniaeth ar yr adeg y'i bwriadwyd yn wreiddiol. Felly mae'r 1 y cant yno dim ond i wneud yn siŵr bod y canlyniad terfynol hwnnw'n cael ei gymryd i ystyriaeth. Fel arall, mae'r llythyr i fyrddau iechyd yn eglur: rydym ni'n disgwyl i'r arosiadau hir hynny gael eu dileu o fewn yr amserlen y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei nodi.

I'm pleased, in one breath, to hear that, but mindful, obviously, that the original target for eliminating two-year waits within Wales was March of this year. It is important that we understand if this is a real target that the Welsh Government is aiming for, because I appreciate that numbers have come down via the hard work of the medical staff within hospitals the length and breadth of Wales, but they still represent three times the number of patients who are waiting 18 months in England, which has a population 18 times bigger than Wales. So, it is a big number. We need to offer hope to the nearly 32,000 people who are waiting two years. Will you be commissioning more capacity from the independent sector, or identifying more capacity within the NHS's own resources? And, if there is that additional capacity, can you give us some scale of what that capacity will bring to the situation over the coming months? Because where we don't want to be is, in December this year, looking at another number and another target that's been missed for those poor souls who've waited already for two years or more for that procedure within the Welsh NHS.

Rwy'n falch, ar un anadl, o glywed hynny, ond yn ymwybodol, yn amlwg, mai'r targed gwreiddiol ar gyfer cael gwared ar arosiadau dwy flynedd yng Nghymru oedd mis Mawrth eleni. Mae'n bwysig ein bod ni'n deall a yw hwn yn darged gwirioneddol y mae Llywodraeth Cymru yn anelu ato, oherwydd rwy'n sylweddoli bod niferoedd wedi gostwng trwy waith caled y staff meddygol mewn ysbytai ar hyd a lled Cymru, ond maen nhw'n dal i fod yn dair gwaith nifer y cleifion sy'n aros 18 mis yn Lloegr, sydd â phoblogaeth 18 gwaith yn fwy na Chymru. Felly, mae'n nifer fawr. Mae angen i ni gynnig gobaith i'r bron i 32,000 o bobl sy'n aros am ddwy flynedd. A fyddwch chi'n comisiynu mwy o gapasiti o'r sector annibynnol, neu'n nodi mwy o gapasiti o fewn adnoddau'r GIG ei hun? Ac, os ceir y capasiti ychwanegol hwnnw, a allwch chi roi rhyw arwydd i ni o'r hyn y bydd y capasiti hwnnw yn ei gynnig i'r sefyllfa dros y misoedd nesaf? Oherwydd y sefyllfa nad ydym ni eisiau bod ynddi yw bod yn edrych, ym mis Rhagfyr eleni, ar rif arall a tharged arall sydd wedi cael ei fethu ar gyfer y trueiniaid hynny sydd eisoes wedi aros am ddwy flynedd neu fwy am y driniaeth honno o fewn GIG Cymru.

First of all, can I thank the leader of the opposition for what he said about the hard work of staff right across Wales? He's right: two-year waits have reduced by more than half since the target was first announced. Of course we wish that it had been possible to go even further and even faster. This month, activity in the Welsh NHS in terms of in-patient activity is back to 95 per cent of what it was before the pandemic, and out-patient activity is over 110 per cent of what it was in the month before the pandemic began. So, the health service is working as hard as it possibly can, but it is, at the same time as dealing with people who have been waiting for that length of time, dealing with the rise in emergency care and in the referrals that come into the system every day. The Minister is determined and has made it one of her very top priorities for the health service to reduce those two-year waits, to eliminate them in the way that we have discussed.

We use capacity outside of the Welsh NHS already, and it is, Llywydd, I think, sometimes part of the mistaken nature of the debate that there is somehow a separate, private sector that has complete capacity of its own. In fact, most of the people who work in the private sector work in the NHS. If they’re working in the private sector, they’re not working in the health service. This is not just extra people with completely extra capacity. But we do use it. The Minister has set money aside to increase capacity in the Welsh NHS. More people work in the Welsh NHS today than at any time in its history. But the restraint is often the fact that attracting people to work in those relatively small number of specialities where the longest waits are concentrated is a competition with other parts of the United Kingdom, where similar restraints are faced.

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd am waith caled staff ledled Cymru? Mae'n iawn: mae arosiadau dwy flynedd wedi gostwng mwy na hanner ers i'r targed gael ei gyhoeddi gyntaf. Wrth gwrs, hoffem pe bai wedi bod yn bosibl mynd hyd yn oed ymhellach a hyd yn oed yn gyflymach. Y mis hwn, mae gweithgarwch yn y GIG yng Nghymru o ran gweithgarwch cleifion mewnol yn ôl i 95 y cant o'r hyn yr oedd cyn y pandemig, ac mae gweithgarwch cleifion allanol dros 110 y cant o'r hyn yr oedd yn y mis cyn i'r pandemig ddechrau. Felly, mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio mor galed ag y gall, ond ar yr un pryd ag ymdrin â phobl sydd wedi bod yn aros am y cyfnod hwnnw o amser, yn ymdrin â'r cynnydd i ofal brys ac i'r atgyfeiriadau sy'n dod i mewn i'r system bob dydd. Mae'r Gweinidog yn benderfynol ac mae wedi ei gwneud yn un o'i phrif flaenoriaethau i'r gwasanaeth iechyd leihau'r arosiadau dwy flynedd hynny, i gael gwared arnyn nhw yn y ffordd yr ydym ni wedi ei drafod.

Rydym ni'n defnyddio capasiti y tu allan i'r GIG yng Nghymru yn barod, ac rwy'n credu, Llywydd, ei fod weithiau'n rhan o natur anghywir y ddadl bod sector preifat ar wahân rywsut sydd â chapasiti cyflawn ei hun. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gweithio yn y sector preifat yn gweithio yn y GIG. Os ydyn nhw'n gweithio yn y sector preifat, dydyn nhw ddim yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Nid pobl ychwanegol â chapasiti cwbl ychwanegol yw hyn. Ond rydym ni'n ei ddefnyddio. Mae'r Gweinidog wedi neilltuo arian i gynyddu'r capasiti yn y GIG yng Nghymru. Mae mwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru heddiw nag ar unrhyw adeg yn ei hanes. Ond y cyfyngiad yn aml yw'r ffaith bod denu pobl i weithio yn y nifer gymharol fach honno o arbenigeddau lle mae'r arosiadau hiraf wedi'u crynhoi yn gystadleuaeth â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, lle wynebir cyfyngiadau tebyg.

13:55

I fully appreciate that you are competing for resources with other parts of the NHS in other parts of the United Kingdom. I genuinely don’t believe that the Minister or anyone in this Chamber wants to see people wait two years or more. But the 32,000 people who are waiting here in Wales regrettably are still waiting two years or more, despite the target of March this year. I asked in my second question could you identify the specific capacity increases that we’d be likely to see in the coming months to address those 32,000 people who are sitting on a two-year wait at the moment. I would be grateful, in my third question, if you could enlighten us as to what capacity is going to be commissioned, or actually laid on, so that these 32,000 can have—that term I used—hope that they will get off the waiting list. We know it’s been achieved in other parts of the United Kingdom, but, as I said, that’s not much comfort to people here in Wales who have waited two years. So, in response, if you could give me an idea, in the coming months, as to what capacity is going to be put in place, and, importantly, what sanction the Welsh health Minister will impose on health boards that do not meet the Minister’s aspirations, I would be grateful, and I know a lot of the patients who are on those waiting lists would be extremely grateful.

Rwy'n sylweddoli'n llwyr eich bod chi'n cystadlu am adnoddau gyda rhannau eraill o'r GIG mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Nid wyf i wir yn credu bod y Gweinidog nac unrhyw un yn y Siambr hon eisiau gweld pobl yn aros dwy flynedd neu fwy. Ond mae'r 32,000 o bobl sy'n aros yma yng Nghymru yn anffodus yn dal i aros dwy flynedd neu fwy, er gwaethaf y targed o fis Mawrth eleni. Gofynnais yn fy ail gwestiwn a allech chi nodi'r cynnydd capasiti penodol y byddem ni'n debygol o'i weld yn ystod y misoedd nesaf i fynd i'r afael â'r 32,000 o bobl hynny sydd wedi bod yn aros ers dwy flynedd ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar, yn fy nhrydydd cwestiwn, pe gallech chi ein goleuo ni ynglŷn â pha gapasiti sy'n mynd i gael ei gomisiynu, neu ei gyflwyno mewn gwirionedd, fel y gall y 32,000 hyn gael—y term hwnnw a ddefnyddiais—gobaith y byddan nhw'n dod oddi ar y rhestr aros. Rydym ni'n gwybod ei fod wedi cael ei gyflawni mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond, fel y dywedais, nid yw hynny'n llawer o gysur i bobl yma yng Nghymru sydd wedi aros dwy flynedd. Felly, mewn ymateb, pe gallech chi roi syniad i mi, yn ystod y misoedd nesaf, ynghylch pa gapasiti sy'n mynd i gael ei roi ar waith, ac, yn bwysig, pa gosb y bydd Gweinidog iechyd Cymru yn ei gorfodi ar fyrddau iechyd nad ydyn nhw'n bodloni dyheadau'r Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar, a gwn y byddai llawer o'r cleifion sydd ar y rhestrau aros hynny yn hynod ddiolchgar.

Llywydd, I hope that it is a comfort to people who are still waiting to know that two-year waits have been reduced by over half in recent months. So, the system is working as hard as it can, and is succeeding in getting those long waits down. The Minister has retained £50 million centrally to increase capacity where that capacity is most needed, whether that is in diagnostic facilities or whether, as we debated on the floor of the Senedd recently, to support the development of a new surgical hub at the Princess—I’m going to get my members of the royal family mixed up here—the Royal Glamorgan Hospital, where, as we discussed, a new building has been found, funded with help from the Welsh Government, and where planned surgery will be able to take place in future, without the competition for beds from emergency care. So, that £50 million is there; it will support the efforts to accelerate the treatment of people who have been waiting too long, but it will also increase the capacity of the NHS more generally to deal with the increased volumes of demand that it is seeing not just in emergency care but in planned care as well.

Llywydd, rwy'n gobeithio ei fod yn gysur i bobl sy'n dal i aros i gael gwybod bod arosiadau dwy flynedd wedi cael eu lleihau fwy na hanner yn ystod y misoedd diwethaf. Felly, mae'r system yn gweithio mor galed ag y gall, ac yn llwyddo i leihau'r arosiadau hir hynny. Mae'r Gweinidog wedi cadw £50 miliwn yn ganolog i gynyddu capasiti lle mae angen y capasiti hwnnw fwyaf, boed hynny mewn cyfleusterau diagnostig neu, fel y gwnaethom ni drafod ar lawr y Senedd yn ddiweddar, i gynorthwyo datblygiad canolfan lawfeddygol newydd yn Ysbyty Tywysoges—rwy'n mynd i gymysgu fy aelodau o'r teulu brenhinol yma—Ysbyty Brenhinol Morgannwg, lle canfuwyd, fel y trafodwyd gennym, adeilad newydd, wedi ei ariannu gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a lle bydd modd cyflawni llawdriniaeth wedi'i chynllunio yn y dyfodol, heb y gystadleuaeth am welyau o'r adran gofal brys. Felly, mae'r £50 miliwn hwnnw yno; bydd yn cynorthwyo'r ymdrechion i gyflymu triniaeth pobl sydd wedi bod yn aros yn rhy hir, ond bydd hefyd yn cynyddu capasiti'r GIG yn fwy cyffredinol i ymdrin â'r galw cynyddol y mae'n ei weld nid yn unig mewn gofal brys ond mewn gofal wedi'i gynllunio hefyd.

Arweinydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

The leader of Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac a gaf i ddiolch ar y cychwyn fel hyn i bawb am y negeuseon caredig rŷch chi wedi eu hanfon ataf i, yn dymuno’n dda i fi yn y rôl dros dro yma?

Thank you very much, Llywydd, and, at the outset, may I thank everyone for the kind messages that you've sent me, wishing me well in this interim role?

First Minister, we’re all aware of your intention to step down from your role before the next Senedd election. Now, ordinarily, as a party leader, I’d be hoping to outlast you in these sessions, but, given the temporary nature of my role, clearly, that is unlikely to happen. But if it did, it’s either gone horribly wrong for you, or it’s gone horribly wrong for me. [Laughter.] That remains to be seen, I suppose.

But on a more serious note, it is becoming increasingly clear, isn't it, that the humiliating end to Trussonomics and the catastrophic consequences of a botched Brexit, along with, I have to say, the failure of both UK and Welsh Governments to get to grips with many of the challenges facing people in Wales today, are leaving many Welsh households on the brink. Figures published last week suggest that Wales saw the largest year-on-year increase in unemployment in the whole of the United Kingdom. In the past days, Ministers have been telling us that they delegate responsibility within their portfolios to highly paid executives. So, could you tell us, First Minister, to whom have Ministers delegated responsibility for unemployment in Wales?

Prif Weinidog, rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'ch bwriad i gamu i lawr o'ch swydd cyn etholiad nesaf y Senedd. Nawr, fel rheol, fel arweinydd plaid, byddwn yn gobeithio para'n hwy na chi yn y sesiynau hyn, ond, o ystyried natur dros dro fy swydd, yn amlwg, mae hynny'n annhebygol o ddigwydd. Ond pe bai'n digwydd, mae naill ai wedi mynd yn ofnadwy o anghywir i chi, neu mae wedi mynd yn ofnadwy o anghywir i mi. [Chwerthin.] Bydd yn rhaid i ni aros i weld, mae'n debyg.

Ond ar nodyn mwy difrifol, mae'n dod yn fwyfwy amlwg, onid ydyw, bod y diwedd gwaradwyddus i Trussonomics a chanlyniadau trychinebus Brexit y gwnaed cawl ohono, ynghyd â, mae'n rhaid i mi ddweud, mae methiant Llywodraethau'r DU a Chymru i fynd i'r afael â llawer o'r heriau sy'n wynebu pobl yng Nghymru heddiw, yn gadael llawer o aelwydydd Cymru ar y dibyn. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn awgrymu mai yng Nghymru yr oedd y cynnydd mwyaf o un flwyddyn i'r llall mewn diweithdra yn y Deyrnas Unedig gyfan. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Gweinidogion wedi bod yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n dirprwyo cyfrifoldeb o fewn eu portffolios i swyddogion gweithredol ar gyflogau uchel. Felly, a allech chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, i bwy mae Gweinidogion wedi dirprwyo cyfrifoldeb am ddiweithdra yng Nghymru?

14:00

First of all, of course, I welcome Llyr Gruffydd to his new responsibilities. I'm perfectly willing to offer some mutual aid on the avoidance of disasters front.

In relation to his question, I'd suggest for him not to put too much reliance on one month's data in what is always a highly volatile sequence. The underlying figures for employment in the Welsh economy do not show the picture that he has described. Indeed, other sources of information in the same release—. If you look at the data on employees registered for pay-as-you-earn in that same series, it shows a more positive trend, with a larger percentage increase in Wales than the whole of the United Kingdom over the period since just before the pandemic started. So, actually, I think the more remarkable story about the Welsh economy is how resilient it has proved under the many stresses and strains that Llyr Gruffydd alluded to with employment levels. Despite the impact of interest rates and soaring energy prices, employment levels, I think, are showing resilience. Those same figures showed a reduction in economic inactivity in Wales, while it was going up across the rest of the United Kingdom. Of course there are things that we want to see done in the Welsh economy, particularly in improving skills and attracting highly paid jobs into Wales, but in terms of the underlying pattern, given the pressures that there have been on the Welsh economy—from Brexit, from the failed experiment of the Truss premiership, and not just the Truss premiership either—I think the striking thing about it has been its resilience. 

Yn gyntaf oll, wrth gwrs, rwy'n croesawu Llyr Gruffydd i'w gyfrifoldebau newydd. Rwy'n berffaith barod i gynnig rhywfaint o gymorth cydfuddiannol o safbwynt osgoi trychinebau.

O ran ei gwestiwn, byddwn yn awgrymu iddo beidio â rhoi gormod o ddibyniaeth ar ddata un mis yn yr hyn sydd bob amser yn ddilyniant hynod gyfnewidiol. Nid yw'r ffigurau sylfaenol ar gyfer cyflogaeth yn economi Cymru yn dangos y darlun y mae wedi ei ddisgrifio. Yn wir, mae ffynonellau eraill o wybodaeth yn yr un datganiad—. Os edrychwch chi ar y data ar gyflogeion sydd wedi'u cofrestru ar gyfer talu-wrth-ennill yn yr un gyfres, mae'n dangos tueddiad mwy cadarnhaol, gyda chynnydd canrannol mwy yng Nghymru na'r Deyrnas Unedig gyfan dros y cyfnod ers ychydig cyn i'r pandemig ddechrau. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r stori fwy rhyfeddol am economi Cymru yw pa mor gydnerth y mae wedi bod o dan y straeniau niferus y cyfeiriodd Llyr Gruffydd atyn nhw o ran lefelau cyflogaeth. Er gwaethaf effaith cyfraddau llog a phrisiau ynni esgynnol, rwy'n credu bod lefelau cyflogaeth yn dangos cydnerthedd. Dangosodd yr un ffigurau hynny ostyngiad i anweithgarwch economaidd yng Nghymru, tra ei fod yn cynyddu ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, mae pethau yr ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu gwneud yn economi Cymru, yn enwedig o ran gwella sgiliau a denu swyddi â chyflogau uchel i Gymru, ond o ran y patrwm sylfaenol, o ystyried y pwysau a fu ar economi Cymru—o Brexit, o arbrawf aflwyddiannus prifweinidogaeth Truss, ac nid prifweinidogaeth Truss yn unig—rwy'n credu mai'r peth trawiadol amdano fu ei gydnerthedd.

Does dim gwadu, dwi'n siŵr, Brif Weinidog, mai un ffigwr sy'n peri pryder mawr yw'r nifer o bobl yng Nghymru sy'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch hirdymor. Mae e bron 160,000 o bobl, y ffigwr uchaf mewn 15 mlynedd. Felly dwi'n siŵr bod hynny yn peri gofid. Mae yna draean o weithwyr yn y Deyrnas Unedig sydd ddim mewn gwaith sydd yn trio cymryd camau rhagweithiol i geisio ailymuno â'r gweithle, ond mae llawer yn cael trafferth. Un o'r rhesymau efallai yw ei bod hi'n anodd iddyn nhw gyfiawnhau eu habsenoldeb hirdymor i ddarpar gyflogwyr. Mae'r gwerthusiad diweddaraf o raglen Cymru'n Gweithio—rhaglen eich Llywodraeth chi, wrth gwrs, sy'n ceisio cael mwy o bobl nôl i waith—yn awgrymu bod ymwybyddiaeth isel ymhlith y cyhoedd o'r cynllun hwnnw. Byddwn i'n awgrymu, ac efallai y byddech chi'n cydnabod, bod hynny ynddo'i hunan efallai yn un rhwystr i bobl ddod o hyd i waith. Ond yng ngoleuni y gwerthusiad hwn, a fyddech chi yn ymrwymo i adolygiad annibynnol o raglenni'r Llywodraeth sy'n ceisio mynd i'r afael â diffyg gweithgarwch economaidd?

There is no denying, First Minister, that one figure that causes great concern is the number of people in Wales who are absent from work because of long-term sickness. It's almost 160,000 people, the highest figure in 15 years. So I'm sure that is a cause for concern. A third of workers in the UK who aren't in work are trying to take proactive steps to rejoin the workforce, but many are having difficulties. One of the reasons, perhaps, is that it's difficult for them to explain or justify their long-term absence to prospective employers. The recent evaluation of the Working Wales programme—your Government's programme, which is trying to get more people back to work—suggests that there is low awareness among the public of that scheme. I would suggest, and you might accept, that that in itself is one barrier to people finding work. But given that evaluation, would you commit to an independent review of Government programmes that seek to tackle lack of economic activity? 

Dwi'n cytuno, wrth gwrs, am y broblem salwch hirdymor. Mae hwnna'n wir nid jest yng Nghymru ond dros y Deyrnas Unedig i gyd. Mae'n broblem sydd wedi codi yn fwy yn y Deyrnas Unedig nag yng ngwledydd eraill dros Ewrop yng nghyd-destun dod mas o COVID. Pan ŷch chi'n edrych i mewn i'r ffigurau, mae'r twf mwyaf gyda phobl sy'n dweud dydyn nhw ddim yn barod i fynd nôl i'r gwaith ar ôl problemau iechyd meddwl. Mae'r twf mewn problemau iechyd meddwl yn fwy na'r twf mewn problemau corfforol. So, rŷn ni'n gweithio gyda'r rhaglenni sydd gyda ni—Cymru'n Gweithio ac yn y blaen—i drio meddwl os oes pethau newydd rŷn ni'n gallu eu gwneud i helpu pobl sydd eisiau bod nôl yn y gweithlu ond sydd ar hyn o bryd yn wynebu problemau i wneud hynny. Rŷn ni bob tro yn mynd ar ôl y rhaglenni rŷn ni'n eu hariannu yma yng Nghymru i weld os maen nhw'n gwneud popeth yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac rŷn ni'n gwneud hynny dros y rhaglenni sydd gennym ni. Wrth gwrs, dwi’n fodlon ystyried unrhyw syniadau sydd gan Llyr Gruffydd, ond mae lot o dystiolaeth gennym ni yn barod a dwi ddim eisiau arafu’r pethau rŷn ni’n eu gwneud ar hyn o bryd drwy aros am rywbeth annibynnol i edrych i mewn i hyn, pan fo syniadau gennym ni’n barod rŷn ni’n gallu eu rhoi ar waith i helpu pobl.

I agree, of course, in terms of long-term sickness absence. That's not just true of Wales but across the UK as well. It's a problem that has arisen more in the UK than in other European countries in the context of emerging from COVID. When you look into the figures, the biggest increase is among those who say that they are not ready to go back to work after mental health problems. The increase in mental health problems is more than the growth in people with physical problems. So we are working with the programmes that we have—for example Working Wales—to try and think about whether there are new measures that we can take to help people who want to return to the workforce but who at present face problems in terms of doing so. We always pursue the programmes that we fund here in Wales to see whether they are doing things in the most effective way, and we do that across the spectrum of programmes that we have. Of course, I'm willing to consider any ideas that Llyr Gruffydd has, but we already have a lot of evidence and I don't want to decelerate what we're doing at present by waiting for an independent review of what we're doing, when there are ideas that we already have that we can implement to help people.

14:05

The so-called UK insurance policy that you argue protects Wales, many of us would say isn’t paying out an economic dividend in this context at least, whether it’s employment, unemployment or regional pay disparities as well. Not all, of course, but many of the levers and the powers that can protect Wales in these regards lie in Westminster, and that’s why acquiring new powers for Wales isn’t some sort of constitutional indulgence; it’s about ensuring that policy makers here have the requisite tools needed to get to grips with and to challenge the historical economic weaknesses that we face here.

Devolving more economic powers to Wales; re-joining the EU single market; undertaking an independent review, as I suggested, of Working Wales; establishing Prosperity Wales, an economic development agency for the twenty-first century: these are some of Plaid Cymru’s constructive ideas—a 'For Wales' plan, we called it, for boosting job creation. Meanwhile, a first glimpse of Labour’s prospective manifesto for the UK general election makes only very vague references to devolution. So, First Minister, between now and that election, will you be pitching for Labour’s manifesto to include increased devolution of economic powers to Wales and re-joining the EU single market?

Mae polisi yswiriant y DU fel y'i gelwir, yr ydych chi'n dadlau sy'n diogelu Cymru, byddai llawer ohonom ni'n dweud nad yw'n talu difidend economaidd yn y cyd-destun hwn o leiaf, pa un a yw'n gyflogaeth, yn ddiweithdra neu'n gyflogau rhanbarthol anghyfartal hefyd. Mae llawer o'r ysgogiadau a'r pwerau, nid pob un, wrth gwrs, sy'n gallu diogelu Cymru yn y cyswllt hwn wedi'u lleoli yn San Steffan, a dyna pam nad yw caffael pwerau newydd i Gymru yn rhyw fath o ymfoddhad cyfansoddiadol; mae'n ymwneud â sicrhau bod gan lunwyr polisi yma yr arfau angenrheidiol sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r gwendidau economaidd hanesyddol yr ydym ni'n eu hwynebu yma, a'u herio.

Datganoli mwy o bwerau economaidd i Gymru; ail-ymuno â marchnad sengl yr UE; cynnal adolygiad annibynnol, fel yr awgrymais, o Cymru'n Gweithio; sefydlu Ffyniant Cymru, asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain: dyma rai o syniadau adeiladol Plaid Cymru—cynllun 'Dros Gymru', wnaethom ni ei alw, ar gyfer hybu'r broses o greu swyddi. Yn y cyfamser, mae cipolwg cyntaf ar faniffesto arfaethedig Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yn gwneud cyfeiriadau amwys iawn yn unig at ddatganoli. Felly, Prif Weinidog, rhwng nawr a'r etholiad hwnnw, a fyddwch chi'n gwneud y ddadl i faniffesto Llafur gynnwys mwy o ddatganoli pwerau economaidd i Gymru ac ailymuno â marchnad sengl yr UE?

Llywydd, I’ve seen a brief version of Plaid Cymru’s plan and there are some things in there that I’m sure we would wish to think about and to see whether those ideas could be made useful. I don’t agree about a return to the Welsh Development Agency. I think that is a very backward-looking idea. As to the two issues that we haven’t talked about this afternoon, re-joining the single market is not a course of action available to Wales alone. We simply would not get any agreement from the European Union to doing so. It would have to be part of a much, much larger initiative that would include the whole of the United Kingdom.

As to new powers, I’m encouraged by the fact that the Gordon Brown report does recommend the transfer of economic powers to Wales. Responsibility for job centres is very much part of the answer to the first question that Llyr Gruffydd asked me this afternoon. And, of course, Keir Starmer has made a specific commitment that funds that previously came from the European Union, and which were taken away from Wales, and the power to use them taken away from Wales, both of those aspects will be returned to Wales under the next Labour Government. The money will come to Wales and the decision making will return to this Senedd where it always ought to have belonged. So, I am optimistic, on those very practical grounds, that a new Labour Government would indeed transfer the powers that we need, here in this Senedd, to play our part in making sure that the economy of Wales can grow, can grow in the way that we want it to grow, and that it is characterised by fair work, by sustainability and by the spread of prosperity to every part of our nation.

Llywydd, rwyf i wedi gweld fersiwn gryno o gynllun Plaid Cymru ac mae rhai pethau yno yr wyf i'n siŵr y byddem ni'n dymuno meddwl amdanyn nhw a gweld a ellid gwneud y syniadau hynny yn ddefnyddiol. Nid wyf i'n cytuno â dychwelyd i Asiantaeth Datblygu Cymru. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad atchweliadol iawn. O ran y ddau fater nad ydym wedi siarad amdanyn nhw y prynhawn yma, nid yw ail-ymuno â'r farchnad sengl yn drywydd sydd ar gael i Gymru yn unig. Yn syml, ni fyddem yn cael unrhyw gytundeb gan yr Undeb Ewropeaidd i wneud hynny. Byddai'n rhaid iddo fod yn rhan o fenter lawer, lawer mwy a fyddai'n cynnwys y Deyrnas Unedig gyfan.

O ran pwerau newydd, rwy'n cael fy nghalonogi gan y ffaith bod adroddiad Gordon Brown yn argymell trosglwyddo pwerau economaidd i Gymru. Mae cyfrifoldeb am ganolfannau gwaith yn sicr yn rhan o'r ateb i'r cwestiwn cyntaf a ofynnodd Llyr Gruffydd i mi y prynhawn yma. Ac, wrth gwrs, mae Keir Starmer wedi gwneud ymrwymiad penodol y bydd cyllid a oedd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd yn flaenorol, ac a gymerwyd oddi ar Gymru, ac y cymerwyd y grym i'w ddefnyddio oddi ar Gymru, bydd y ddwy agwedd hynny yn cael eu dychwelyd i Gymru o dan y Llywodraeth Lafur nesaf. Bydd yr arian yn dod i Gymru a bydd y broses o wneud penderfyniadau yn dychwelyd i'r Senedd hon lle dylai fod wedi perthyn erioed. Felly, rwy'n obeithiol, ar y seiliau ymarferol iawn hynny, y byddai Llywodraeth Lafur newydd wir yn trosglwyddo'r pwerau sydd eu hangen arnom ni, yma yn y Senedd hon, i chwarae ein rhan i wneud yn siŵr y gall economi Cymru dyfu, y gall dyfu yn y ffordd yr ydym ni eisiau iddi dyfu, a'i bod yn cael ei nodweddu gan waith teg, gan gynaliadwyedd a chan ledaeniad ffyniant i bob rhan o'n cenedl.

Grant Amddifadedd Disgyblion
The Pupil Deprivation Grant

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y grant amddifadedd disgyblion? OQ59543

3. Will the First Minister provide an update on the pupil deprivation grant? OQ59543

I thank Mike Hedges for that question. The grant has a key part to play in tackling the impact of poverty on attainment. Year on year, we have extended the grant to reflect the increase in learners eligible for free school meals, with £130 million allocated this year.

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna. Mae gan y grant ran allweddol i'w chwarae o ran mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. O un flwyddyn i'r llall, rydym ni wedi ymestyn y grant i adlewyrchu'r cynnydd i ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a dyrannwyd £130 miliwn eleni.

Can I thank the First Minister for that response? I’m very pleased to see that free school meals are being expanded. I have, over several years, submitted written questions and spoken on the subject. But parents apply for free school meals, which also provides the uniform grant and pupil deprivation grant to the school. I’ve been contacted by headteachers in Swansea, concerned that parents are not applying for free school meals and the associated benefits—the meals are free anyway, so why should they apply? Free school meals were always an inexact proxy for need. Does the First Minister share my concern regarding free school meal applications? What plans does the Welsh Government have to solve this problem?

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Rwy'n falch iawn o weld bod prydau ysgol am ddim yn cael eu hehangu. Rwyf wedi cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ac wedi siarad am y pwnc dros nifer o flynyddoedd. Ond mae rhieni yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim, sydd hefyd yn darparu'r grant gwisg ysgol a'r grant amddifadedd disgyblion i'r ysgol. Mae penaethiaid yn Abertawe wedi cysylltu â mi, yn pryderu nad yw rhieni yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim a'r manteision cysylltiedig—mae'r prydau am ddim beth bynnag, felly pam ddylen nhw wneud cais? Roedd prydau ysgol am ddim bob amser yn ddirprwy anfanwl ar gyfer angen. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder ynglŷn â cheisiadau am brydau ysgol am ddim? Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y broblem hon?

14:10

Well, Llywydd, I thank Mike Hedges for what he said about the extension of free school meals; 80,000 extra pupils are already newly eligible for universal free school meals, and nearly 5 million additional meals have already been served since the policy began in September of last year.

Now, I understand the point that the Member makes, of course, that, if parents feel that they’re going to get a free meal anyway, why register for free school meals? Well, we all have to work harder; the Welsh Government is already providing resources to local education authorities that they can use in schools and with parents to explain why collecting that information is still important. It’s a legal requirement, actually, of the system that that information is secured. And, it is important for parents because eligibility for free school meals still acts as a passport into many other forms of help, and for the school, because the school funding formula has a proxy, as Mike Hedges said, for social need, the number of young people in a school who are eligible for free school meals.

Now, many local authorities in Wales are addressing this issue by issuing a universal free-school-meal registration form, so it goes to every student, the parents of every young person coming into the school, all parents return it, the school is able to identify those young people who would have been eligible for free school meals; that information can be used with parents to make sure that they get the rest of the help they need, and it helps the school to make sure that it gets its fair share of the pupil deprivation grant. So, there is every interest for the school itself in making sure that those returns are secured.

I was heartened, Llywydd, to see recent correspondence between the National Association of Head Teachers in Wales and the head of the Minister’s department committing headteachers to do everything they could alongside us to make sure that young people who are entitled to free school meals are identified, and that the benefits that flow from that continue to flow to them and to the school.

Wel, Llywydd, diolchaf i Mike Hedges am yr hyn a ddywedodd am ymestyn prydau ysgol am ddim; mae 80,000 o ddisgyblion ychwanegol eisoes yn gymwys o'r newydd i gael prydau ysgol am ddim cyffredinol, ac mae bron i 5 miliwn o brydau ychwanegol wedi cael eu gweini eisoes ers i'r polisi ddechrau ym mis Medi y llynedd.

Nawr, rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, wrth gwrs, os yw rhieni yn teimlo eu bod nhw'n mynd i gael pryd o fwyd am ddim beth bynnag, pam cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim? Wel, mae'n rhaid i ni i gyd weithio'n galetach; mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu adnoddau i awdurdodau addysg lleol y gallan nhw eu defnyddio mewn ysgolion a gyda rhieni i egluro pam mae casglu'r wybodaeth honno yn dal i fod yn bwysig. Mae'n ofyniad cyfreithiol, a dweud y gwir, o'r system bod yr wybodaeth honno yn cael ei sicrhau. Ac, mae'n bwysig i rieni oherwydd bod cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn dal i fod yn basbort i lawer o fathau eraill o gymorth, ac i'r ysgol, oherwydd mae gan fformiwla ariannu'r ysgol ddirprwy, fel y dywedodd Mike Hedges, ar gyfer angen cymdeithasol, nifer y bobl ifanc mewn ysgol sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Nawr, mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn mynd i'r afael â'r mater hwn trwy gyhoeddi ffurflen gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim cyffredinol, felly mae'n mynd i bob myfyriwr, rhieni pob person ifanc sy'n dod i'r ysgol, mae pob rhiant yn ei dychwelyd, mae'r ysgol yn gallu nodi'r bobl ifanc hynny a fyddai wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim; gellir defnyddio'r wybodaeth honno gyda rhieni i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael gweddill y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac mae'n helpu'r ysgol i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei chyfran deg o'r grant amddifadedd disgyblion. Felly, mae pob buddiant i'r ysgol ei hun o wneud yn siŵr bod y ffurflenni hynny yn cael eu sicrhau.

Cefais fy nghalonogi, Llywydd, o weld gohebiaeth ddiweddar rhwng Cymdeithas Genedlaethol y Penaethiaid yng Nghymru a phennaeth adran y Gweinidog yn ymrwymo penaethiaid i wneud popeth o fewn eu gallu ochr yn ochr â ni i wneud yn siŵr bod pobl ifanc sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn cael eu nodi, a bod y manteision sy'n llifo o hynny yn parhau i lifo iddyn nhw ac i'r ysgol.

I’m pleased this question has been raised by Mike Hedges this afternoon. A key conduit, of course, to achieving free school meals and maximising the pupil deprivation grant, of course, is access to modern learning facilities and ideally, twenty-first century schools. In my constituency in the Vale of Clwyd, we’ve seen fantastic new facilities in the building of Rhyl High School, Christ the Word Catholic School, and of course, the Welsh-medium school, Ysgol Glan Clwyd in St Asaph.

But, on Friday, I had the pleasure of visiting Denbigh High School and have an hour’s Q&A with some of the years 7 and 8, and together with Prestatyn High School, they’re begging out, and they have been for many years now, for twenty-first century schools funding because some of their facilities—classrooms, laboratories, and some of the communal areas—date back to the 1950s, and some of the areas just aren’t fit for modern use. So, could you perhaps provide an update this afternoon to what discussions you’ve had with the Minister for education, and, indeed, with Denbighshire County Council and the schools to ensure that all schools in Denbighshire are fit for the twenty-first century?

Rwy'n falch bod y cwestiwn hwn wedi cael ei godi gan Mike Hedges y prynhawn yma. Un cyfrwng allweddol, wrth gwrs, i sicrhau prydau ysgol am ddim a sicrhau'r manteision mwyaf posibl o'r grant amddifadedd disgyblion, wrth gwrs, yw mynediad at gyfleusterau dysgu modern ac yn ddelfrydol, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Yn fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd, rydym ni wedi gweld cyfleusterau newydd gwych o adeiladu Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Gatholig Crist y Gair, ac wrth gwrs, yr ysgol Gymraeg, Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy.

Ond, ddydd Gwener, cefais y pleser o ymweld ag Ysgol Uwchradd Dinbych a chael sesiwn cwestiwn ac ateb awr o hyd gyda rhai o flynyddoedd 7 ac 8, ac ynghyd ag Ysgol Uwchradd Prestatyn, maen nhw'n crefu, ac wedi bod ers blynyddoedd bellach, am gyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gan fod rhai o'u cyfleusterau—ystafelloedd dosbarth, labordai, a rhai o'r ardaloedd cymunedol—yn dyddio'n ôl i'r 1950au, ac nid yw rhai o'r mannau yn addas ar gyfer defnydd modern. Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf y prynhawn yma efallai, ynghylch pa drafodaethau rydych chi wedi eu cael gyda'r Gweinidog addysg, ac, yn wir, gyda Chyngor Sir Ddinbych a'r ysgolion i sicrhau bod pob ysgol yn sir Ddinbych yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

Well, Llywydd, I’ll do my best to help the Member. I’m struggling to see the connection between that question and the pupil deprivation grant, which was the subject of the question on the order paper. But, if you’re happy for me to take a wholly unrelated supplementary, then I’m happy to assure the Member that the Minister has changed the basis of the twenty-first century schools programme so that it no longer proceeds by separate bands, but is a continuous programme in which local authorities are able to identify their top priorities for further investment, and so more children in every part of Wales are able to benefit from the fantastic benefits of that programme, and that will be true of Denbighshire, with the excellent examples to which the Member referred, as it would be for any other part of Wales.

Wel, Llywydd, fe wnaf i fy ngorau i helpu'r Aelod. Rwy'n cael trafferth gweld y cysylltiad rhwng y cwestiwn yna a'r grant amddifadedd disgyblion, sef testun y cwestiwn ar y papur trefn. Ond, os ydych chi'n hapus i mi gymryd cwestiwn atodol cwbl ddi-gysylltiad, yna rwy'n hapus i sicrhau'r Aelod bod y Gweinidog wedi newid sail rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain fel nad yw bellach yn gweithio ar sail bandiau ar wahân, ond yn rhaglen barhaus lle gall awdurdodau lleol nodi eu prif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad pellach, ac felly mae mwy o blant ym mhob rhan o Gymru yn gallu elwa ar fanteision gwych y rhaglen honno, a bydd hynny'n wir am sir Ddinbych, gyda'r enghreifftiau gwych y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw, fel y byddai am unrhyw ran arall o Gymru.

Symudedd Cymdeithasol
Social Mobility

4. Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiolrwydd y system addysg o ran galluogi symudedd cymdeithasol yng Nghymru? OQ59563

4. What is the Welsh Government's latest assessment of the effectiveness of the education system in enabling social mobility in Wales? OQ59563

Llywydd, the life chances of children are affected by many factors beyond the school gate, and are often laid down before education even begins. Enormous efforts are made by teachers and the education system to compensate for those wider factors in the lives of those young people who need that help the most.

Llywydd, mae llawer o ffactorau y tu hwnt i giât yr ysgol yn effeithio ar gyfleoedd bywyd plant, ac yn aml yn bresennol cyn i addysg ddechrau hyd yn oed. Mae ymdrechion enfawr yn cael eu gwneud gan athrawon a'r system addysg i wneud iawn am y ffactorau ehangach hynny ym mywydau'r bobl ifanc hynny sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf.

14:15

Thank you for that answer, First Minister, which I very much agree with. Education is a powerful agent of social change, social mobility, life chances and quality of life, and, at a recent meeting I had with a secondary school headteacher, concerns were raised regarding white working-class boys in the school not fulfilling their potential. The head felt that more needs to be done to understand and address the underperformance of these particular pupils. First Minister, social class remains a key determinant of life chances and cuts across all sections of society, so what more might Welsh Government do to tackle these crucial social class issues, including improving the educational experience of white working-class boys in our schools?

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae addysg yn gyfrwng pwerus ar gyfer newid cymdeithasol, symudedd cymdeithasol, cyfleoedd bywyd ac ansawdd bywyd, ac, mewn cyfarfod diweddar a gefais gyda phennaeth ysgol uwchradd, codwyd pryderon ynghylch bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yn yr ysgol nad ydynt yn cyflawni eu potensial. Roedd y pennaeth yn teimlo bod angen gwneud mwy i ddeall a mynd i'r afael â thanberfformiad y disgyblion penodol hyn. Prif Weinidog, mae dosbarth cymdeithasol yn parhau i fod yn benderfynydd allweddol o ran cyfleoedd bywyd ac mae'n trawstorri pob rhan o gymdeithas, felly beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau dosbarth cymdeithasol hollbwysig hyn, gan gynnwys gwella profiad addysgol bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yn ein hysgolion?

Well, Llywydd, I understand the point that the Member is making. When he refers to white working-class boys and their performance within the education system, there are, it seems to me, three separate factors summed up in just those few words. My own view is that the most fundamental of those factors is the class factor, the fact that those are young people who come from homes where families have to deal with the consequence of poverty in their lives, where experiences that other families are able to take for granted may not be available to those young people. And helping, through the education system, to compensate for those factors, I think, is, as the Member said, Llywydd, a powerful agent that schools can play for change.

The second of the three factors that the Member mentioned is gender. These are boys, and we know that, right through the system, young women outperform young men in our education system, right up to A-levels, if not beyond. And a lot of work is going on to try to make sure that we purpose our education system in a way that makes it attractive to those young men, it appeals to the things that appeal to them. The foundation phase is surely the most powerful thing we have in early years education to make sure that young boys feel that learning is something that matters to them.

And then the third factor in white working-class boys is ethnicity, and I think that is the weakest explanatory variable. Those young men are not doing as well as we would like them to do not because they are white. So, yes, those things come together, and it's important to treat them as the inter-related characteristics that they represent, but I think class is the most important and the most powerful variable. The fact that young men don't do as well as we would like them to do is the second.

Wel, Llywydd, rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Pan fo'n cyfeirio at fechgyn gwyn dosbarth gweithiol a'u perfformiad o fewn y system addysg, mae'n ymddangos i mi fod tri ffactor ar wahân wedi'u crynhoi yn yr ychydig eiriau hynny. Fy marn i yw mai'r ffactor dosbarth yw'r ffactor mwyaf sylfaenol o'r ffactorau hynny, y ffaith bod y rheini'n bobl ifanc sy'n dod o gartrefi lle mae'n rhaid i deuluoedd ymdopi â chanlyniad tlodi yn eu bywydau, lle na fydd profiadau y mae teuluoedd eraill yn eu cymryd yn ganiataol ar gael i'r bobl ifanc hynny. Ac mae helpu, drwy'r system addysg, i wneud iawn am y ffactorau hynny, rwy'n credu, fel y dywedodd yr Aelod, Llywydd, yn gyfrwng pwerus y gall ysgolion ei ddefnyddio i ysgogi newid.

Yr ail o'r tri ffactor a grybwyllwyd gan yr Aelod yw rhywedd. Bechgyn yw'r rhain, ac rydym yn gwybod, trwy'r system, bod menywod ifanc yn perfformio'n well na dynion ifanc yn ein system addysg, hyd at Safon Uwch, os nad y tu hwnt. Ac mae llawer o waith yn mynd ymlaen i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynllunio ein system addysg mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n ddeniadol i'r dynion ifanc hynny, yn apelio at y pethau sy'n apelio atyn nhw. Mae'n siŵr mai'r cyfnod sylfaen yw'r peth mwyaf pwerus sydd gennym mewn addysg blynyddoedd cynnar i sicrhau bod bechgyn ifanc yn teimlo bod dysgu yn rhywbeth sy'n bwysig iddyn nhw.

Ac yna'r trydydd ffactor o ran bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yw ethnigrwydd, a chredaf mai dyna'r newidyn esboniadol gwannaf. Nid yw'r dynion ifanc hynny yn gwneud cystal ag yr hoffem iddyn nhw ei wneud nid oherwydd eu bod yn wyn. Felly, ie, mae'r pethau hynny'n dod at ei gilydd, ac mae'n bwysig eu trin fel y nodweddion rhyngberthynol y maent yn eu cynrychioli, ond rwy'n credu mai dosbarth yw'r newidyn pwysicaf a mwyaf pwerus. Y ffaith nad yw dynion ifanc yn gwneud cystal ag y byddem yn ei hoffi yw'r ail.

Firstly, I'd like to concur with everything that the Member for Newport East just said. It is absolutely crucial we get to grips with that. Social mobility is crucial in improving livelihoods across Wales, and, as the Government, you should be doing everything in your power to ensure that young people get the best opportunities and access to higher education. At the very least, young people in Wales should have an equal playing field to their UK counterparts. However, the Government appear to want to make this harder than ever for our learners by pushing forward with a highly controversial move to just combine those double sciences at GCSE level, something that has been widely denounced. At a time when we're crying out for young people to take up science, technology, engineering and mathematics subjects and jobs for the future, with the same breath you are putting them at immediate disadvantage to those in the rest of the UK when applying for jobs in universities across our porous borders. Do you not see that this is a damaging move and only going to hurt social mobility in Wales?

Yn gyntaf, hoffwn gytuno â phopeth y mae'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd newydd ei ddweud. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â hynny. Mae symudedd cymdeithasol yn hanfodol i wella bywoliaethau ledled Cymru, ac fel y Llywodraeth, dylech fod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau a mynediad at addysg uwch. O leiaf, dylai pobl ifanc yng Nghymru gael yr un chwarae teg â'u cymheiriaid yn y DU. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth eisiau gwneud hyn yn anoddach nag erioed i'n dysgwyr trwy wthio ymlaen gyda symudiad dadleuol iawn i gyfuno'r gwyddorau dwbl hynny ar lefel TGAU yn unig, rhywbeth sydd wedi'i gondemnio'n eang. Ar adeg pan ydym yn gweiddi ar bobl ifanc i ymgymryd â phynciau a swyddi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar gyfer y dyfodol, gyda'r un anadl rydych yn eu rhoi o dan anfantais ar unwaith o'u cymharu â'r rhai yng ngweddill y DU pan fyddant yn gwneud cais am swyddi mewn prifysgolion ar draws ein ffiniau mandyllog. Onid ydych chi'n gweld bod hwn yn gam niweidiol sydd dim ond yn mynd i niweidio symudedd cymdeithasol yng Nghymru?

Well, I don't, Llywydd; I don't agree with it. It is based on the advice that we get from Qualifications Wales, from the examining bodies. They are confident that the move does not damage the chances of young people, doesn't make a difference to the results that they will achieve at that level, or in their futures. The Member may know better than those who spend their lives working on these issues and providing advice. But the advice we have is the advice we have acted upon, and we've acted upon it because it is the result of the serious investigation and the careful policy advice that we get from those who are the experts in the field.

Wel, dydw i ddim, Llywydd; dydw i ddim yn cytuno â hynny. Mae'n seiliedig ar y cyngor a gawn gan Cymwysterau Cymru, gan y cyrff arholi. Maent yn ffyddiog nad yw'r symudiad yn niweidio cyfleoedd pobl ifanc, nid yw'n gwneud gwahaniaeth i'r canlyniadau y byddant yn eu cyflawni ar y lefel honno, nac yn eu dyfodol. Efallai y bydd yr Aelod yn gwybod yn well na'r rhai sy'n treulio eu bywydau yn gweithio ar y materion hyn ac yn darparu cyngor. Ond y cyngor sydd gennym yw'r cyngor yr ydym wedi gweithredu arno, ac rydym wedi gweithredu arno oherwydd ei fod yn ganlyniad yr ymchwiliad difrifol a'r cyngor polisi gofalus a gawn gan y rhai sy'n arbenigwyr yn y maes.

14:20
Ansawdd Dŵr Afonydd Cymru
Water Quality in Welsh Rivers

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ansawdd dŵr afonydd Cymru? OQ59583

5. What assessment has the Welsh Government made of water quality in Welsh rivers? OQ59583

I thank Peter Fox, Llywydd, for that. Natural Resources Wales assesses 44 per cent of our rivers at either good or higher ecological status. The latest river basin management plans set out how we intend to improve water quality across Wales, working with our partners, and the Welsh Government provides a £40 million funding package to support those endeavours.

Diolch i Peter Fox, Llywydd, am hynna. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu 44% o'n hafonydd ar statws ecolegol da neu uwch. Mae'r cynlluniau rheoli basn afon diweddaraf yn nodi sut rydym yn bwriadu gwella ansawdd dŵr ledled Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ariannu gwerth £40 miliwn i gefnogi'r ymdrechion hynny.

Thanks for that answer, First Minister. The public outrage about the condition of our rivers across Wales understandably continues to grow, not helped by the recent revelations that 25 per cent of all hours of sewage discharges across the UK happen in Wales. The people want to see purposeful action to improve the situation here. Those actions require coherence between all actors and agencies to achieve sustainable results. First Minister, how do you propose to eliminate the hidden subsidy that nature pays for the life we all enjoy today? And are you convinced that Natural Resources Wales is capable as a regulator and appropriately resourced to perform the role that citizens quite rightly expect?

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r dicter cyhoeddus ynghylch cyflwr ein hafonydd ledled Cymru, wrth reswm, yn parhau i dyfu, ac nid oedd y datgeliadau diweddar fod 25 y cant o'r holl oriau o ollyngiadau carthion ar draws y DU yn digwydd yng Nghymru yn helpu llawer. Mae'r bobl eisiau gweld camau pwrpasol i wella'r sefyllfa yma. Mae'r camau hynny yn gofyn am gydlyniad rhwng yr holl gyfranogwyr ac asiantaethau i sicrhau canlyniadau cynaliadwy. Prif Weinidog, sut ydych chi'n bwriadu dileu'r cymhorthdal cudd y mae natur yn ei dalu am y bywyd rydyn ni i gyd yn ei fwynhau heddiw? Ac a ydych chi'n argyhoeddedig bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn alluog fel rheoleiddiwr ac â'r adnoddau priodol i gyflawni'r swyddogaeth y mae dinasyddion yn ei disgwyl yn gwbl briodol?

Well, Llywydd, let me agree very much with Peter Fox said about the need to corral the contributions that all those who have a part to play can contribute to solving the problem of river pollution. We know that Welsh Water Dŵr Cymru have an important part to play in improving the services that they provide. We know that rural land use is often the single biggest contributor to river pollution, and we must capture a stronger contribution from the agriculture sector as well.

We have to deal with the history that we have here in Wales, Llywydd. There are 1,300 abandoned metal mines in Wales, many of which contribute to pollution in our rivers, and where the work that has been done by Welsh Government officials has attracted international interest in the success that we have achieved. The International Mine Water Association conference is coming to Wales this summer in order to see the work that is being done to address pollution from that historical legacy. Now, the summit that I co-chaired with my colleagues Lesley Griffiths and Julie James saw an effort to bring all those players around a single table, to commit them all to an action plan in which everybody asks themselves the question, ‘What more can I do to make a difference to this problem?’, not saying, ‘If only somebody else did something the position would be improved.’ I was encouraged at the second summit that many of the participants came with practical things to propose, and the job now is to make sure that those ideas are put to work as quickly as possible. We need to accelerate the action that all those players are able to take in order to address the problem that Peter Fox has highlighted this afternoon.

Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno i raddau helaeth â Peter Fox a ddywedodd am yr angen i ddod â chyfraniadau at ei gilydd fel y gall pawb sydd â rhan i'w chwarae gyfrannu at ddatrys problem llygredd afonydd. Gwyddom fod gan Dŵr Cymru ran bwysig i'w chwarae wrth wella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Gwyddom mai defnydd o dir gwledig yn aml yw'r cyfrannwr unigol mwyaf at lygredd afonydd, ac mae'n rhaid i ni gael cyfraniad cryfach gan y sector amaeth hefyd.

Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r hanes sydd gennym yma yng Nghymru, Llywydd. Mae 1,300 o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru, llawer ohonynt yn cyfrannu at lygredd yn ein hafonydd, a lle mae'r gwaith a wnaed gan swyddogion Llywodraeth Cymru wedi denu diddordeb rhyngwladol yn y llwyddiant rydym wedi'i gyflawni. Mae cynhadledd Cymdeithas Dŵr Mwyngloddiau Rhyngwladol yn dod i Gymru yr haf hwn er mwyn gweld y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â llygredd o'r etifeddiaeth hanesyddol honno. Nawr, gwelodd yr uwchgynhadledd yr oeddwn yn ei chydgadeirio gyda fy nghyd-Weinidogion Lesley Griffiths a Julie James ymdrech i ddod â'r holl chwaraewyr hynny o amgylch un bwrdd, i'w hymrwymo i gynllun gweithredu pryd y mae pawb yn gofyn y cwestiwn i'w hunain, 'Beth arall y gallaf ei wneud i wneud gwahaniaeth i'r broblem hon?', heb ddweud, 'Pe bai rhywun arall yn gwneud rhywbeth, byddai'r sefyllfa'n gwella.' Cefais fy nghalonogi yn yr ail uwchgynhadledd gan fod llawer o'r cyfranogwyr wedi dod â phethau ymarferol i'w cynnig, a'r gwaith nawr yw sicrhau bod y syniadau hynny'n cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Mae angen i ni gyflymu'r camau y gall yr holl chwaraewyr hynny eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem y mae Peter Fox wedi'i hamlygu y prynhawn yma.

I think that most people look at the situation of sewage in our rivers and they feel actual despair, and it’s a despair mixed with revulsion, because there can’t be a metaphor that’s more on the nose than the example of shareholders getting wads of cash while human waste is pumped into places where children play. It is the epitome of our broken capitalist system, where even the water is monetised and choked with sewage.

You’ve said, First Minister, that less than 45 per cent of Welsh rivers are classed as being in a good ecological state. NRW has estimated that £660 million is needed to bring the status of all water bodies in Wales up to 'good' by 2027, but, as you’ve said, you as a Government have set aside £40 million over three years to address water quality problems. How confident are you, please, that that level of spending, alongside that of water companies, will be sufficient? When will our waters be safe for swimmers and children to play in again?

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn edrych ar sefyllfa carthion yn ein hafonydd ac maen nhw'n teimlo anobaith gwirioneddol, ac mae'n anobaith sy'n gymysg â ffieidd-dod, oherwydd ni all fod trosiad sy'n fwy cywir na'r enghraifft o gyfranddalwyr yn cael dyrneidiau o arian parod tra bod gwastraff dynol yn cael ei bwmpio i fannau lle mae plant yn chwarae. Dyma ymgorfforiad o'n system gyfalafol sydd wedi torri, lle mae hyd yn oed y dŵr yn cael ei foneteiddio a'i dagu â charthion.

Rydych chi wedi dweud, Prif Weinidog, bod llai na 45 y cant o afonydd Cymru yn cael eu hystyried fel rhai sydd mewn cyflwr ecolegol da. Mae CNC wedi amcangyfrif bod angen £660 miliwn i godi statws holl gyrff dŵr Cymru i statws 'da' erbyn 2027, ond, fel rydych chi wedi dweud, rydych chi fel Llywodraeth wedi neilltuo £40 miliwn dros dair blynedd i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd dŵr. Pa mor ffyddiog ydych chi, os gwelwch yn dda, y bydd y lefel honno o wariant, ochr yn ochr â gwariant cwmnïau dŵr, yn ddigonol? Pryd fydd ein dyfroedd yn ddiogel i nofwyr a phlant chwarae ynddyn nhw eto?

Well, Llywydd, we need, as I said in my answer to Peter Fox, to accelerate the efforts that all of the organisations that have a part to play can make in making our waters fit for people who want to swim in them, people who want to fish in them, people who want to use them for recreation. Of course, I agree with what Delyth Jewell said about the way in which millions and millions of pounds have been siphoned out of citizens' pockets and into the pockets of shareholders of privatised companies. This is a thing that nobody can manage without. [Interruption.] No, Welsh Water—. I was just about to make the point that, luckily, here in Wales, we have a not-for-profit distribution water company, so that whereas, in England, Severn Trent will pay £355 million directly to shareholders, here in Wales we don't face that same issue. That doesn't mean that—[Interruption.] It'd be very helpful if the Member were to listen, rather than chunter at me. The problem that I said we don't face in Wales is the problem of money being taken out of the system to shareholders, when we have a company that is a not-for-profit distribution company, a mutual company, here in Wales. It is part of the reason why Dŵr Cymru Welsh Water have made a commitment that they will have reduced their phosphorus pollution loading on the special area of conservation rivers in Wales by 90 per cent by 2030, and, in their latest manifesto for water in Wales, that they will achieve 100 per cent by 2032. Now, that is one aspect of river pollution. As I said in my original answer to Peter Fox, we need all of those other sectors whose activity contributes to pollution in our rivers to play their part at a similar level of intensity.

Wel, Llywydd, mae angen i ni, fel y dywedais i yn fy ateb i Peter Fox, gyflymu'r ymdrechion y gall yr holl sefydliadau sydd â rhan i'w chwarae eu gwneud i wneud ein dyfroedd yn addas i bobl sydd eisiau nofio ynddyn nhw, pobl sydd eisiau pysgota ynddyn nhw, pobl sydd eisiau eu defnyddio ar gyfer hamdden. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Delyth Jewell am y ffordd y mae miliynau a miliynau o bunnau wedi eu trosglwyddo o bocedi dinasyddion i bocedi cyfranddalwyr cwmnïau preifat. Mae hwn yn rhywbeth na all neb ddod i ben hebddo. [Torri ar draws.] Na, Dŵr Cymru—. Roeddwn i ar fin gwneud y pwynt, yn ffodus, mae gennym ni gwmni dŵr dosbarthu nid-er-elw, yma yng Nghymru, ond yn Lloegr bydd Severn Trent yn talu £355 miliwn yn uniongyrchol i gyfranddalwyr, yma yng Nghymru, nid ydym yn wynebu'r un broblem. Dydy hynny ddim yn golygu—[Torri ar draws.] Byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai'r Aelod yn gwrando, yn hytrach na grwgnach ataf. Y broblem y dywedais nad ydym yn ei hwynebu yng Nghymru yw'r broblem o arian yn cael ei dynnu o'r system a'i roi i gyfranddalwyr, pan fo gennym gwmni sy'n gwmni dosbarthu nid-er-elw, cwmni cydfuddiannol, yma yng Nghymru. Mae'n rhan o'r rheswm pam y mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i leihau eu llwyth llygredd ffosfforws ar afonydd ardal cadwraeth arbennig yng Nghymru 90 y cant erbyn 2030, ac, yn eu maniffesto diweddaraf ar gyfer dŵr yng Nghymru, y byddant yn cyflawni 100 y cant erbyn 2032. Nawr, mae hynny'n un agwedd ar lygredd afon. Fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol i Peter Fox, mae angen yr holl sectorau eraill hynny y mae eu gweithgaredd yn cyfrannu at lygredd yn ein hafonydd i chwarae eu rhan ar lefel debyg o ddwyster.

14:25

Good afternoon, First Minister. I do want to follow up, really, and I can hear my colleagues over there talking about Dŵr Cymru. The Dŵr Cymru chief executive, in the last financial year, was paid £332,000 as a salary. I do understand that the chief executive and the senior executive team have forgone their bonuses for this year, but it is galling to many of us, as we pay our water bills, that, actually, we see our rivers more polluted and little action taking place, and we see people in what is called a not-for-profit industry here in Wales actually being paid incredibly high salaries and actually doing us a favour by not taking their bonuses this year. We need radical action. Our rivers remain polluted. People are really concerned about the level of our river pollution. So, is what we need fully devolved powers over water here in Wales to align legislative competence with our national borders and to take full control so that we can hold Dŵr Cymru to account? Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwyf eisiau codi'r mater hwn, mewn gwirionedd, a gallaf glywed fy nghyd-Aelodau draw acw yn siarad am Dŵr Cymru. Cafodd prif weithredwr Dŵr Cymru, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyflog o £332,000. Rwy'n deall bod y prif weithredwr a'r uwch dîm gweithredol wedi ymatal rhag derbyn eu taliadau bonws am eleni, ond mae'n dân ar groen llawer ohonom, wrth i ni dalu ein biliau dŵr, ein bod, mewn gwirionedd, yn gweld ein hafonydd yn fwy llygredig ac ychydig iawn o gamau gweithredu'n digwydd, ac rydym yn gweld pobl yn yr hyn a elwir yn ddiwydiant nid-er-elw yma yng Nghymru mewn gwirionedd yn cael cyflogau anhygoel o uchel ac mewn gwirionedd yn gwneud ffafr â ni drwy beidio â chymryd eu taliadau bonws y flwyddyn hon. Mae angen gweithredu'n radical. Mae ein hafonydd yn parhau i fod yn llygredig. Mae pobl wir yn poeni am lefel llygredd ein hafonydd. Felly, ai'r hyn sydd ei angen arnom yw pwerau wedi'u datganoli'n llawn dros ddŵr yma yng Nghymru i alinio cymhwysedd deddfwriaethol â'n ffiniau cenedlaethol ac i gymryd rheolaeth lawn fel y gallwn ddwyn Dŵr Cymru i gyfrif? Diolch yn fawr iawn.

Well, Llywydd, it's not for me to defend the salary levels of executives in Dŵr Cymru; it is for the remuneration committee of Dŵr Cymru itself to take that responsibility. The devolution of powers over water is enormously complicated and follows river basins, rather than national geographical boundaries. I agree with what Jane Dodds said, that the full set of powers that we need in Wales is not yet in our hands, but it isn't a simple matter to put that right.

If I can make a broader point though, Llywydd, in response to that question, I remember very well that, when Dŵr Cymru was established as a mutual, one of the arguments that we made to Ofwat at the time, which was reluctant to agree to a different model in Wales—it took a lot of effort by that very new National Assembly to assert the idea that something could be done differently here in Wales. But one of the reasons why Ofwat was convinced was that we were able to say that there was a National Assembly here that would keep a careful watching brief over the activities of that water company.

While it is certainly not for me to suggest directly to any committee of the Senedd what its work programme might be, I have wondered in recent times whether there is a useful piece of work to be done at a parliamentary level in reviewing whether, 20 years into the mutual model, it has delivered on the benefits that were promised for it, what its strengths have turned out to be, where that model might need to brought up to date to reflect the concerns of today's Wales, and, in doing so, I think, would discharge that promise that was made 20 years ago that having a different model here in Wales would sit alongside having a new democratic structure in Wales, so that the oversight of the water industry in Wales would be in the hands of people elected to do so. 

Wel, Llywydd, nid fy lle i yw amddiffyn lefelau cyflog swyddogion gweithredol yn Dŵr Cymru; mater i bwyllgor taliadau Dŵr Cymru ei hun yw ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw. Mae datganoli pwerau dros ddŵr yn gymhleth iawn ac yn dilyn basnau afonydd, yn hytrach na ffiniau daearyddol cenedlaethol. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Jane Dodds, nad yw'r set lawn o bwerau sydd eu hangen arnom yng Nghymru yn ein dwylo ni eto, ond nid mater syml yw unioni hynny.

Os caf wneud pwynt ehangach serch hynny, Llywydd, mewn ymateb i'r cwestiwn yna, rwy'n cofio'n dda iawn, pan sefydlwyd Dŵr Cymru fel cwmni cydfuddiannol, un o'r dadleuon a wnaethom i Ofwat ar y pryd, a oedd yn amharod i gytuno i fodel gwahanol yng Nghymru—cymerodd lawer o ymdrech gan y Cynulliad Cenedlaethol newydd iawn hwnnw i wthio'r syniad y gellid gwneud rhywbeth yn wahanol yma yng Nghymru. Ond un o'r rhesymau pam yr oedd Ofwat wedi ei argyhoeddi oedd oherwydd ein bod yn gallu dweud bod Cynulliad Cenedlaethol yma a fyddai'n cadw briff gwylio gofalus dros weithgareddau'r cwmni dŵr hwnnw.

Er nad fy lle i yw awgrymu'n uniongyrchol i unrhyw bwyllgor o'r Senedd beth yw ei raglen waith, rwyf wedi meddwl yn ddiweddar tybed a oes darn defnyddiol o waith i'w wneud ar lefel seneddol wrth adolygu p'un a yw, ar ôl 20 mlynedd, y model cydfuddiannol wedi cyflawni'r manteision a addawyd, beth yw ei gryfderau erbyn hyn, lle gallai fod angen diweddaru'r model hwnnw i adlewyrchu pryderon y Gymru heddiw, ac, wrth wneud hynny, rwy'n credu, byddai'n cyflawni'r addewid hwnnw a wnaed 20 mlynedd yn ôl sef y byddai cael model gwahanol yma yng Nghymru yn eistedd ochr yn ochr â chael strwythur democrataidd newydd yng Nghymru, fel y byddai goruchwylio'r diwydiant dŵr yng Nghymru yn nwylo'r bobl wedi'u hethol i wneud hynny. 

14:30
Marchnad Cig Hela
The Game-meat Market

6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r farchnad gig hela yng Nghymru? OQ59555

6. What support does the Welsh Government provide to the game-meat market in Wales? OQ59555

Llywydd, Welsh Government provides support for food and drink businesses that demonstrate growth potential in the food sector. Support includes offering targeted interventions, sector specific training, masterclasses and capital grant funding.

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth i fusnesau bwyd a diod sy'n dangos potensial i dyfu yn y sector bwyd. Mae'r cymorth yn cynnwys cynnig ymyriadau wedi'u targedu, hyfforddiant penodol i'r sector, dosbarthiadau meistr a chyllid grant cyfalaf.

Thank you, First Minister, and I think we can all agree here that game is a hugely sustainable meat source and has a wide variety of health and environmental benefits. For the record, Llywydd, I'm a member of the British Association for Shooting and Conservation.

As you will know, the game-meat market in 2021 was estimated to be worth £100 million to the Welsh economy, and millions of pounds have been invested by the Welsh Government through its rural development programme, to develop strategy, supply chains and an action plan for the Welsh game-meat industry. I have no doubt, given all this investment, that you were as surprised as I was to hear the Minister for Climate Change's recent comments, and I quote:

'just to be very clear, the Welsh Government does not support the shooting of live animals or birds as a leisure activity.'

Because game meat is not farmed, it has to be shot, and this can only be done profitably if it is done by those who will pay to do it as a leisure activity, these nascent comments have no doubt caused concern amongst the game-meat market in Wales. I would like to know, First Minister, if you stand by them, and, if so, can you confirm when you intend to shut down the game-meat market in Wales through the banning of game-meat shooting? Thank you. 

Diolch i chi, Prif Weinidog, a chredaf y gallwn ni i gyd gytuno yma fod helgig yn ffynhonnell gig hynod gynaliadwy ac mae ganddo amrywiaeth eang o fuddion iechyd ac amgylcheddol. Ar gyfer y cofnod, Llywydd, rwy'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

Fel y gwyddoch chi, amcangyfrifwyd bod y farchnad helgig yn 2021 werth £100 miliwn i economi Cymru, ac mae miliynau o bunnau wedi'u buddsoddi gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen datblygu gwledig, i ddatblygu strategaeth, cadwyni cyflenwi a chynllun gweithredu ar gyfer diwydiant helgig Cymru. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, o ystyried yr holl fuddsoddiad hwn, eich bod wedi eich synnu cymaint â minnau o glywed sylwadau diweddar y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n dyfynnu:

'i fod yn glir iawn, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi saethu anifeiliaid byw nac adar fel gweithgaredd hamdden.'

Gan nad yw helgig yn cael ei ffermio, mae'n rhaid ei saethu, a'r unig ffordd i hyn fod yn broffidiol yw os caiff ei wneud gan y rhai hynny sy'n fodlon talu am wneud hynny fel gweithgaredd hamdden, mae'n siŵr bod y sylwadau cychwynnol hyn wedi achosi pryder ymhlith y farchnad helgig yng Nghymru. Hoffwn wybod, Prif Weinidog, a ydych chi'n eu cefnogi, ac, os felly, a allwch chi gadarnhau pryd rydych chi'n bwriadu cau'r farchnad helgig yng Nghymru drwy wahardd saethu helgig? Diolch. 

Well, let me be clear with this distinction, Llywydd. The Welsh Government, as the Member very fairly said, has invested considerable amounts of funding and policy support in the game industry in Wales. The Minister for Climate Change was referring to leisure shooting—the shooting of live animals for sport. I certainly do not support that. We don't support it on Welsh Government land. When it comes to the game-meat industry in Wales, that is a different matter, and that does have the support of the Welsh Government. 

Wel, gadewch i mi fod yn glir ynghylch y gwahaniaeth hwn, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd yr Aelod yn deg iawn, wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian a chymorth polisi yn y diwydiant helgig yng Nghymru. Roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyfeirio at saethu hamdden—saethu anifeiliaid byw ar gyfer chwaraeon. Dydw i'n sicr ddim yn cefnogi hynny. Dydyn ni ddim yn ei gefnogi ar dir Llywodraeth Cymru. O ran y diwydiant helgig yng Nghymru, mae hynny'n fater gwahanol, ac mae ganddo gefnogaeth Llywodraeth Cymru. 

Perchnogaeth Cartrefi
Home Ownership

7. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gynyddu perchnogaeth cartrefi ar draws Gorllewin De Cymru? OQ59576

7. What steps is the First Minister taking to increase home ownership across South Wales West? OQ59576

Llywydd, we provide financial assistance to potential home owners and offer a range of schemes to enable people to purchase their own homes. This includes an extension of the Help to Buy—Wales scheme and the £50 million national empty homes grant scheme.

Llywydd, rydym yn darparu cymorth ariannol i berchnogion tai posibl ac yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau i alluogi pobl i brynu eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn cynnwys estyniad i'r cynllun Cymorth i Brynu—Cymru a'r cynllun grant cartrefi gwag cenedlaethol gwerth £50 miliwn.

I'm grateful to you, First Minister, for your answer. And anybody that's tried to purchase a home recently, or moved home, will notice that the cost of buying a new home is ever increasing. And one of the reasons for that is a lack of supply in the market. And so, we've seen, in recent years, councils, pretty routinely, failing to hit house building targets in Wales. Swansea Council, in the last quarter of 2022, built 76 homes, and in the quarter before that, they built 50. That is nowhere near to meeting the demand that there clearly is for new homes, not only in Swansea, but across Wales. And that's what adds to the increase in cost in buying them in the first place. 

What we don't want to see, as Welsh Conservatives—and I hope you wouldn't want to see either, First Minister—is home ownership become the preserve of older generations and wealthier people. But, unfortunately, if we fail to meet the demand that there is for new homes, that is the model that we're going to pursue. So, what steps can you take, First Minister, to ensure that councils do build the homes that are required, so that people, particularly young people, can buy that first home and get that step on the housing ladder for the first time?

Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. A bydd unrhyw un sydd wedi ceisio prynu cartref yn ddiweddar, neu sydd wedi symud tŷ, yn sylwi bod y gost o brynu cartref newydd yn cynyddu o hyd. Ac un o'r rhesymau am hynny yw diffyg cyflenwad yn y farchnad. Ac felly, rydym wedi gweld, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cynghorau, yn eithaf rheolaidd, yn methu â chyrraedd targedau adeiladu tai yng Nghymru. Yn chwarter olaf 2022, adeiladodd Cyngor Abertawe 76 o gartrefi, ac yn y chwarter cyn hynny, fe wnaethon nhw adeiladu 50. Nid yw hynny'n agos at ateb y galw sy'n amlwg am gartrefi newydd, nid yn unig yn Abertawe, ond ar draws Cymru. A dyna sy'n ychwanegu at y cynnydd yn y gost wrth eu prynu yn y lle cyntaf. 

Yr hyn nad ydym eisiau ei weld, fel Ceidwadwyr Cymreig—a gobeithio na fyddech chi eisiau ei weld chwaith, Prif Weinidog—yw perchentyaeth yn dod yn rhywbeth ar gyfer y cenedlaethau hŷn a phobl gyfoethocach yn unig. Ond, yn anffodus, os na fyddwn yn bodloni'r galw sydd ar gyfer cartrefi newydd, dyna'r model y byddwn ni'n ei ddilyn. Felly, pa gamau y gallwch chi eu cymryd, Prif Weinidog, i sicrhau bod cynghorau'n adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen, fel y gall pobl, yn enwedig pobl ifanc, brynu'r cartref cyntaf hwnnw a chymryd y cam hwnnw ar yr ysgol dai am y tro cyntaf?

Well, I wish it was a good question. Unfortunately, it has such a basic error in it that the Member really ought to check what he's offered to say before he gets here. The homes that councils are building are not for home ownership at all; they are for social rent. So, when he says to me, 'What can I do to make sure that councils build houses to help people with home ownership?' that is to fundamentally misunderstand the purpose of council home building. Of course we want 20,000 homes built for social rent, and we want local authorities to play a much bigger part in doing that, but they are for social rent, not for home ownership. So, while the Welsh Government supports home ownership in Wales—we have retained Help to Buy, while it's been abolished by his party across our border—the question I was actually asked, about encouraging councils to build houses for that purpose, would simply not have the intended effect of any sort.

Wel, fe hoffwn pe bai hwn yn gwestiwn da. Yn anffodus, mae ganddo gamgymeriad mor sylfaenol ynddo a dylai'r Aelod wirio'r hyn y mae wedi'i gynnig i'w ddweud cyn iddo gyrraedd yma. Nid yw'r cartrefi y mae cynghorau'n eu hadeiladu ar gyfer perchentyaeth o gwbl; maen nhw ar gyfer rhentu cymdeithasol. Felly, pan fo'n dweud wrthyf, 'Beth alla i ei wneud i sicrhau bod cynghorau yn adeiladu tai i helpu pobl o ran perchentyaeth?' Camddeall pwrpas adeiladu tai cyngor yn sylfaenol yw hyn. Wrth gwrs, rydym eisiau i 20,000 o gartrefi gael eu hadeiladu ar gyfer rhentu cymdeithasol, ac rydym eisiau i awdurdodau lleol chwarae mwy o ran o lawer wrth wneud hynny, ond maent ar gyfer rhentu cymdeithasol, nid ar gyfer perchentyaeth. Felly, er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi perchentyaeth yng Nghymru—rydym wedi cadw Cymorth i Brynu, tra bod ei blaid ef wedi ei diddymu dros ein ffin—ni fyddai'r cwestiwn a ofynnwyd i mi, ynghylch annog cynghorau i adeiladu tai at y diben hwnnw, yn cael yr effaith a fwriadwyd o unrhyw fath.

14:35

Yn olaf, cwestiwn 8, Joyce Watson.

Finally, question 8, Joyce Watson.

Rhwydwaith Dŵr Cymru
Wales's Water Network

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gadernid gweithredol rhwydwaith dŵr Cymru? OQ59585

8. What assessment has the Welsh Government made of the operational resilience of Wales's water network? OQ59585

Llywydd, water companies must monitor the infrastructure for which they are responsible and put in place robust plans to improve resilience. Companies must demonstrate a clear understanding of their networks and long-term trends, such as the impacts of climate change, and how these impact on operational resilience.

Llywydd, rhaid i gwmnïau dŵr fonitro'r seilwaith y maen nhw'n gyfrifol amdano a rhoi cynlluniau cadarn ar waith i wella cydnerthedd. Rhaid i gwmnïau ddangos dealltwriaeth glir o'u rhwydweithiau a'u tueddiadau tymor hir, megis effeithiau newid hinsawdd, a sut mae'r rhain yn effeithio ar gydnerthedd gweithredol.

Last year's countrywide drought highlighted the pressures within our water supply network and our resilience upon it. With summer around the corner, residents in west Wales who were affected by last summer's hosepipe ban, are keen to know whether the taps can be turned on this year. I understand that Welsh Water invested £10 million to improve the network in Pembrokeshire, which is welcome, but are you satisfied, First Minister, that our water levels are strong, and with Welsh Water's chief executive Peter Perry's assurance that, 'We do not expect to have any hosepipe bans over the summer'?

Amlygodd y sychder ledled y wlad y llynedd y pwysau o fewn ein rhwydwaith cyflenwi dŵr a'n dibyniaeth arno. Gyda'r haf ar ddod, mae trigolion y gorllewin yr effeithiwyd arnynt gan y gwaharddiad ar bibenni dyfrhau yr haf diwethaf, yn awyddus i wybod a allant droi'r tapiau ymlaen eleni. Rwy'n deall bod Dŵr Cymru wedi buddsoddi £10 miliwn i wella'r rhwydwaith yn sir Benfro, sydd i'w groesawu, ond a ydych chi'n fodlon, Prif Weinidog, bod ein lefelau dŵr yn gryf, ac yn fodlon ar sicrwydd prif weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry sef, 'Nid ydym yn disgwyl cael unrhyw waharddiadau ar bibenni dyfrhau dros yr haf'?

I thank Joyce Watson for that question, Llywydd. I went myself in August of last year to see the Llys-y-Frân reservoir in Pembrokeshire, which supplies that area. I've been there many times over many decades, but I was shocked at what I saw in August, because I've never seen that reservoir at such low levels of water retention. So, I'm very glad that Welsh Water Dŵr Cymru have agreed to make permanent a temporary solution that they had put in place to help increase water resource resilience in the Pembrokeshire area. Joyce Watson is right: it's a £10 million scheme; Dŵr Cymru say that it will make Pembrokeshire resilient to a one-in-every-500-year drought. The current levels of water in Welsh reservoirs has recovered strongly, but, as Members here will have observed this year, the impact of climate change here in Wales is absolutely real. We move from a month where we had more rainfall than we have had for many decades to a month in which we have had almost no rainfall at all. This means that resilience, as Joyce Watson said, Llywydd, in the water system is an even greater challenge than it would have been in previous years. I hope that residents of Pembrokeshire, faced as they were last summer with the longest restrictions in water supply of any part in Wales, will see that the investment that has taken place since will put them in a better place for whatever weather we face in the rest of this calendar year.

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn yna, Llywydd. Es i fy hun ym mis Awst y llynedd i weld cronfa ddŵr Llys-y-Frân yn sir Benfro, sy'n cyflenwi'r ardal honno. Rwyf wedi bod yno sawl gwaith dros ddegawdau lawer, ond cefais fy synnu gan yr hyn a welais ym mis Awst, oherwydd nid wyf erioed wedi gweld y gronfa ddŵr honno â lefelau mor isel o ddŵr. Felly, rwy'n falch iawn fod Dŵr Cymru wedi cytuno i wneud ateb dros dro yr oeddent wedi'i roi ar waith i helpu i gynyddu cydnerthedd adnoddau dŵr yn ardal sir Benfro yn ateb parhaol. Mae Joyce Watson yn iawn: mae'n gynllun gwerth £10 miliwn; dywed Dŵr Cymru y bydd yn gwneud sir Benfro'n gydnerth yn wyneb sychder un ym mhob 500 mlynedd. Mae'r lefelau dŵr presennol yng nghronfeydd dŵr Cymru wedi gwella'n sylweddol ond, fel y bydd yr Aelodau yma wedi ei weld eleni, mae effaith newid hinsawdd yma yng Nghymru yn gwbl real. Rydym yn symud o fis lle cawsom fwy o law nag yr ydym wedi'i gael ers degawdau i fis lle nad ydym wedi gweld bron dim glaw o gwbl. Mae hyn yn golygu bod cydnerthedd, fel y dywedodd Joyce Watson, Llywydd, yn y system ddŵr yn her hyd yn oed yn fwy nag y byddai wedi bod mewn blynyddoedd blaenorol. Rwy'n gobeithio y bydd trigolion sir Benfro, a wynebodd y cyfyngiadau hiraf o ran cyflenwad dŵr o unrhyw ran o Gymru yr haf diwethaf, yn gweld y bydd y buddsoddiad sydd wedi digwydd ers hynny yn eu rhoi mewn lle gwell ar gyfer pa bynnag dywydd y byddwn yn ei wynebu dros weddill y flwyddyn galendr hon.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.

The next item, therefore, will be the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd to make that statement. Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:38:34
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. There are three changes to today's business. The debate on Stage 4 of the Agriculture (Wales) Bill has been postponed. Consequently, statements on strengthening our ties with Ireland and the north-west of England, and celebrating volunteering, have been added to the agenda. Draft business for the next three weeks is set out on the business statement and announcement, which can be found amongst the meeting papers available to Members electronically.

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes heddiw. Mae'r ddadl ar Gyfnod 4 Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi'i gohirio. O ganlyniad, ychwanegwyd datganiadau ar gryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a gogledd-orllewin Lloegr, a dathlu gwirfoddoli, at yr agenda. Nodir y busnes drafft am y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Business Minister, could we have a statement in relation to chalet ownership in Wales? I met some owners of chalets last Thursday, and they were giving the impression and the real effects of the council tax changes that have happened. It was my understanding that these types of properties should never be captured by the council tax scheme, and, indeed, should not be captured by the enhanced uplift of the council tax scheme in the regulations to try and prevent second home ownership. They gave hard-and-fast examples to me of how the planning system designates chalet owners as not being able to turn those properties into residential properties, and there's a clear distinction between them and someone who actually owns a residential property and can call it their home. But they gave me hard-and-fast examples of chalet owners having to pay council tax in some local authority areas, and there did seem some ambiguity in relation to the way some local authorities are interpreting the powers that they've got. They indicated that they believe that about 5,000 chalet owners exist in Wales and some are being discriminated against through the new regulations. To bring clarity to this, could the Government bring a statement forward to exactly emphasise the guidance that they give to local authorities, and the expectation that the Government has upon those local authorities of acting within the rules that, as I said, as I understand it, chalet ownership shouldn't be captured under the council tax regulations?

Gweinidog busnes, a gawn ni ddatganiad mewn cysylltiad â pherchnogaeth cabanau gwyliau yng Nghymru? Cwrddais â rhai perchnogion cabanau gwyliau ddydd Iau diwethaf, ac roeddent yn rhoi'r argraff ac effeithiau go iawn y newidiadau treth gyngor sydd wedi digwydd. Fy nealltwriaeth i oedd na ddylai'r mathau hyn o eiddo fyth gael eu cynnwys yng nghynllun y dreth gyngor, ac, yn wir, ni ddylid eu cynnwys yng nghynnydd uwch cynllun y dreth gyngor yn y rheoliadau i geisio atal perchnogaeth ail gartrefi. Fe wnaethant roi enghreifftiau pendant i mi o sut mae'r system gynllunio yn dynodi perchnogion cabanau gwyliau fel pe na baent yn gallu troi'r eiddo hynny yn eiddo preswyl, ac mae gwahaniaeth clir rhyngddyn nhw a rhywun sydd mewn gwirionedd yn berchen ar eiddo preswyl ac sy'n gallu ei alw'n gartref. Ond fe wnaethant roi enghreifftiau pendant i mi o berchnogion cabanau gwyliau yn gorfod talu'r dreth gyngor mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol, ac roedd yn ymddangos bod rhywfaint o amwysedd o ran y ffordd y mae rhai awdurdodau lleol yn dehongli'r pwerau sydd ganddyn nhw. Dywedon nhw eu bod yn credu bod tua 5,000 o berchnogion cabanau gwyliau yng Nghymru ac y gwahaniaethir yn eu herbyn drwy'r rheoliadau newydd. Er mwyn dod ag eglurder i hyn, a allai'r Llywodraeth gyflwyno datganiad i bwysleisio'n union y canllawiau y maent yn eu rhoi i awdurdodau lleol, a'r disgwyliad sydd gan y Llywodraeth i'r awdurdodau lleol hynny weithredu o fewn y rheolau, fel y dywedais i, fel yr wyf i'n ei ddeall, na ddylid cynnwys perchnogaeth cabanau gwyliau o dan y rheoliadau treth gyngor?

14:40

I was a bit unclear when you started whether you were referring to park homes, but I think you are indeed referring to chalets, which do have an exemption, as far as I'm aware. I will certainly ask the Minister for Finance and Local Government to issue a written statement to give that clarity to everyone.

Doeddwn i ddim yn glir pan ddechreuoch chi, sef a oeddech chi'n cyfeirio at gartrefi mewn parciau, ond rwy'n credu eich bod chi'n cyfeirio at gabanau gwyliau, sydd wedi'u heithrio, hyd y gwn i. Yn sicr fe ofynnaf i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi'r eglurder hwnnw i bawb.

Could we have a statement on the Government's policy in relation to the devolution of power over water? It's previously been implied that the biggest obstacle to the transfer of powers in this area to Wales was the attitude of the Westminster Government, but we now know through a freedom of information request that the Welsh Government asked the UK Government to postpone the planned devolution of power in this area, because of the associated complexity that the First Minister referred to in his earlier remarks. So, we have a simple solution to that problem in my party, which is independence. But can we have from the Government a statement of what the policy of the Welsh Government is? Is it to press for the immediate transfer of these powers to Wales or is it to request their continued postponement?

A gawn ni ddatganiad am bolisi'r Llywodraeth mewn cysylltiad â datganoli pŵer dros ddŵr? Awgrymwyd yn flaenorol mai'r rhwystr mwyaf i drosglwyddo pwerau yn y maes hwn i Gymru oedd agwedd Llywodraeth San Steffan, ond gwyddom bellach trwy gais rhyddid gwybodaeth fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU ohirio datganoli pŵer arfaethedig yn y maes hwn, oherwydd y cymhlethdod cysylltiedig y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yn ei sylwadau cynharach. Felly, mae gennym ateb syml i'r broblem honno yn fy mhlaid i, sef annibyniaeth. Ond a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch beth yw polisi Llywodraeth Cymru? Ai pwyso am drosglwyddo'r pwerau hyn i Gymru ar unwaith ydyw neu a yw'n gofyn am eu gohirio yn barhaus?

Well, I certainly don't think Welsh independence would be a simple solution to anything. I'm not quite sure of the points that you've raised, so I will personally seek some clarification and I will write to you.

Wel, yn sicr nid wyf yn credu y byddai annibyniaeth i Gymru yn ateb syml i ddim byd. Nid wyf yn hollol siŵr ynghylch y pwyntiau rydych chi wedi'u codi, felly byddaf yn bersonol yn ceisio rhywfaint o eglurhad a byddaf yn ysgrifennu atoch chi.

Can I call for two statements today, please? The first is from the Deputy Minister with responsibility for transport in relation to the concessionary travel card scheme. I've been contacted by constituents in the Colwyn Bay area, who have asked whether it might be possible to extend the use of the concessionary travel cards to the off-peak periods along the north Wales railway line when there is capacity on that line to take more passengers. It takes over three hours to get by bus to Chester, for example, from Colwyn Bay; it takes just 46 minutes by train. If we really want to help people make this modal shift, which I know we're all aiming for, then it sounds to me, given that that line does have capacity, that it's a positive thing that we could do in order to extend the opportunity to use those travel cards on that particular line. So, I do think that that is something that should be considered. 

Can I also ask for a statement from the Minister for Health and Social Services, following the media reports in recent days in relation to the contents of the Ernst and Young report into the forensic accounting issues in the Betsi Cadwaladr University Health Board? There are many questions that my constituents have been in touch with. There's a lot of anger out there at the way in which this report appears to have been suppressed, and people want to know what action the Welsh Government is now taking in response to that report, and we need some assurances that similar issues aren't occurring in other health boards or parts of the public sector in Wales as well. We've not been able to get those assurances, because the Minister isn't making a statement. There's no statement this week on the agenda. I do hope that one can be scheduled as soon as possible, potentially tomorrow, if the Minister has some time available.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn cysylltiad â'r cynllun cerdyn teithio rhatach. Mae etholwyr yn ardal Bae Colwyn wedi cysylltu â mi, yn gofyn a yw'n bosibl ymestyn y defnydd o'r cardiau teithio rhatach i'r cyfnodau tawel ar hyd rheilffordd gogledd Cymru pan fydd capasiti ar y llinell honno i gymryd mwy o deithwyr. Mae'n cymryd dros dair awr i fynd ar fws i Gaer, er enghraifft, o Fae Colwyn; mae'n cymryd 46 munud yn unig ar y trên. Os ydym wir eisiau helpu pobl i newid dulliau teithio, rhywbeth yr wyf yn gwybod yw nod pob un ohonom, yna mae'n swnio i mi, o ystyried bod gan y llinell honno gapasiti, fel rhywbeth cadarnhaol y gallem ei wneud er mwyn ymestyn y cyfle i ddefnyddio'r cardiau teithio hynny ar y llinell benodol honno. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ei ystyried.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn adroddiadau'r cyfryngau yn ystod y dyddiau diwethaf mewn cysylltiad â chynnwys adroddiad Ernst and Young ar y materion cyfrifyddu fforensig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Mae yna lawer o gwestiynau gan etholwyr sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi. Mae yna lawer o ddicter ynghylch y ffordd y mae'r adroddiad hwn wedi'i atal, fel mae'n ymddangos, ac mae pobl eisiau gwybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw, ac mae angen rhywfaint o sicrwydd arnom nad yw materion tebyg yn digwydd mewn byrddau iechyd eraill neu rannau o'r sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd. Nid ydym wedi gallu cael y sicrwydd hwnnw, oherwydd nid yw'r Gweinidog yn gwneud datganiad. Nid oes datganiad yr wythnos hon ar yr agenda. Rwy'n gobeithio y gellir trefnu un cyn gynted â phosibl, yfory o bosib, os oes gan y Gweinidog rhywfaint o amser ar gael.

Well, the Deputy Minister for Climate Change is in his place and I'm sure he'll consider your request around extending concessionary travel in the way that you suggest.

In relation to your second request, there won't be an oral statement tomorrow. There won't be time for that tomorrow. As you know, Welsh Government do not comment on leaked documents. I don't know how many times the First Minister has said that, particularly when, as in this case, internal procedures are still proceeding in the health board. And I know that the health board is progressing the management of the issues that were raised in the report that you referred to in line with their existing procedures and policies.

Wel, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei le ac rwy'n siŵr y bydd yn ystyried eich cais ynghylch ymestyn teithio rhatach yn y ffordd rydych chi'n ei awgrymu.

Mewn cysylltiad â'ch ail gais, ni fydd datganiad llafar yfory. Ni fydd amser ar gyfer hynny yfory. Fel y gwyddoch chi, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud sylw ar ddogfennau sydd wedi eu datgelu heb ganiatâd. Nid wyf yn gwybod faint o weithiau y mae'r Prif Weinidog wedi dweud, yn enwedig, fel yn yr achos hwn, pan fo gweithdrefnau mewnol yn dal i fynd rhagddynt yn y bwrdd iechyd. Ac rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith o reoli'r materion a godwyd yn yr adroddiad y cyfeirioch chi atyn nhw yn unol â'u gweithdrefnau a'u polisïau presennol.

Good afternoon, Minister. I'd like to request a written statement from the Minister for Climate Change confirming the results of an investigation into the cessation of mining activity at Ffos-y-fran. While the Welsh Government has committed to a manged end to the extraction and use of coal, this bold stance may literally be undermined through inaction. In April 2023, Ffos-y-fran coal mine’s licence extension was, thankfully, rejected, but, as Delyth Jewell raised last week, campaigners continue to be concerned that mining is still going on illicitly. I’m grateful for your assertion that the allegations are based upon coal being transported from the site rather than evidence of extraction, but I wonder if we could hear a little bit more about how that's been looked into, particularly in the year of us being disappointed that Aberpergwm’s expansion will now go ahead, with millions more tonnes of coal continuing to be extracted from Welsh soil. I hope we’re able to take urgent action in relation to Ffos-y-fran at this point. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cadarnhau canlyniadau ymchwiliad i roi'r gorau i weithgarwch mwyngloddio yn Ffos-y-frân. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i broses wedi'i rheoli i roi terfyn ar echdynnu a defnyddio glo, gall y safiad beiddgar hwn gael ei danseilio'n llythrennol trwy ddiffyg gweithredu. Ym mis Ebrill 2023, cafodd estyniad trwydded pwll glo Ffos-y-frân, diolch byth, ei wrthod, ond, fel y cododd Delyth Jewell yr wythnos diwethaf, mae ymgyrchwyr yn parhau i bryderu bod mwyngloddio yn dal i fynd rhagddo'n anghyfreithlon. Rwy'n ddiolchgar am eich haeriad bod yr honiadau yn seiliedig ar gludo glo o'r safle yn hytrach nag ar dystiolaeth o gloddio, ond tybed a allem glywed ychydig mwy am sut yr edrychwyd ar hynny, yn enwedig yn y flwyddyn pan ydym yn siomedig y bydd ehangu Aberpergwm nawr yn mynd yn ei flaen, gyda miliynau o dunelli o lo ychwanegol yn parhau i gael ei echdynnu o bridd Cymru. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gymryd camau brys mewn cysylltiad â Ffos-y-frân nawr. Diolch yn fawr iawn.

14:45

Thank you. Any developer risks having to undo and pay for work that hasn't been legally permitted, and responsibility for investigating breaches of planning control do rest with Merthyr Tydfil County Borough Council in the first instance. The Member will be aware that the role of Welsh Government is to determine any planning appeals against enforcement notices served by local planning authorities, so, to avoid prejudice to this role, we cannot comment on the merits of this case. But I do want to reassure the Member and everybody else that the Welsh Government does want to bring a managed end to the extraction and use of coal. We all know we're in the middle of climate and nature emergencies, and the response to these emergencies must be very swift and it must be serious so we can pass on a Wales to future generations that we can be proud of.

Diolch. Mae unrhyw ddatblygwr mewn perygl o orfod dadwneud a thalu am waith nad yw wedi'i ganiatáu yn gyfreithiol, a gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful mae'r cyfrifoldeb dros ymchwilio i achosion o dorri rheolaeth gynllunio yn y lle cyntaf. Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw penderfynu ar unrhyw apeliadau cynllunio yn erbyn hysbysiadau gorfodi a gyflwynir gan awdurdodau cynllunio lleol, felly, er mwyn osgoi niweidio'r swyddogaeth hon, ni allwn wneud sylw ar rinweddau'r achos hwn. Ond rwyf eisiau sicrhau'r Aelod a phawb arall fod Llywodraeth Cymru eisiau dod ag echdynnu a defnyddio glo i ben dan reolaeth. Rydym i gyd yn gwybod ein bod yng nghanol argyfyngau hinsawdd a natur, a rhaid i'r ymateb i'r argyfyngau hyn fod yn gyflym iawn a rhaid iddo fod yn ddifrifol fel y gallwn drosglwyddo Cymru y gallwn fod yn falch ohoni i genedlaethau'r dyfodol.

I'm seeking a statement this afternoon from the Minister for Health and Social Services on north Denbighshire community hospital, or the lack of north Denbighshire community hospital in Rhyl. I feel a bit like a broken record when I raise this, but recent developments suggest that there was a motion brought to Denbighshire County Council by Councillor Brian Jones, and the motion stated that the aim was to utilise some of the beds in the Royal Alexandra Hospital to relieve some of the pressures from Ysbyty Glan Clwyd, with a long-term view to delivering north Denbighshire community hospital. Now, the leader, the cabinet and councillors from your party voted this down, which, to local people, is seen as a bit of a threat to the long-term ambition to deliver on north Denbighshire hospital. So, I’m seeking a statement this afternoon on whether this is still a priority for the Welsh Government, or are we just wasting our time.

In a lot of responses from the Welsh Government on this matter, it's stated that you’re waiting for Betsi Cadwaladr to submit a business case. Over Easter recess, when I visited the Royal Alexandra Hospital, I was given a copy of the business case from Betsi Cadwaladr, who are adamant that they’ve submitted it to the Welsh Government. So, can I have a statement clarifying this position on whether we are going to see some tangible evidence of some progress in Rhyl so my constituents can be reassured that this is still on the horizon of the Welsh Government?

Rwy'n gofyn am ddatganiad y prynhawn yma gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych, neu ddiffyg ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn Y Rhyl. Rwy'n teimlo ychydig fel record wedi torri pan fyddaf yn codi hyn, ond mae datblygiadau diweddar yn awgrymu bod cynnig wedi ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych gan y Cynghorydd Brian Jones, ac mae'r cynnig yn datgan mai'r nod oedd defnyddio rhai o'r gwelyau yn Ysbyty Brenhinol Alexandra i leddfu rhywfaint o'r pwysau o Ysbyty Glan Clwyd, gyda golwg hirdymor ar gyflawni ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych. Nawr, pleidleisiodd yr arweinydd, y cabinet a chynghorwyr o'ch plaid chi yn erbyn hyn, sydd, i bobl leol, yn cael ei ystyried yn fygythiad i'r uchelgais hirdymor i gyflawni ysbyty gogledd sir Ddinbych. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad y prynhawn yma ynghylch a yw hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru o hyd, neu a ydym yn gwastraffu ein hamser.

Mewn llawer o ymatebion gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn, dywedir eich bod yn aros i Betsi Cadwaladr gyflwyno achos busnes. Dros doriad y Pasg, pan ymwelais ag Ysbyty Brenhinol Alexandra, cefais gopi o'r achos busnes gan Betsi Cadwaladr, sy'n bendant eu bod wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ddatganiad yn egluro'r safbwynt hwn ynghylch a ydym yn mynd i weld rhywfaint o dystiolaeth bendant o rywfaint o gynnydd yn y Rhyl fel y gall fy etholwyr fod yn dawel eu meddwl bod hyn yn dal i fod ar orwel Llywodraeth Cymru?

A decision has yet to be made on the Royal Alexandra Hospital scheme, so it's not appropriate to have an oral statement at this time.

Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ar gynllun Ysbyty Brenhinol Alexandra, felly nid yw'n briodol cael datganiad llafar ar hyn o bryd.

Thank you so much, Presiding Officer. Minister, can I ask for a statement from the health Minister about what she's doing to improve access to healthcare in south-east Wales? I'll elaborate why I'm asking this question. A constituent of mine selflessly and rather heroically ran into a house fire to help her neighbour's children get to safety. As a result, she inhaled smoke and was suffering from chest pains, and, as someone with asthma, she wanted to get checked out. Her first port of call was her GP, who said they couldn't test her because they didn't have the necessary tests. She was then sent to minor injuries, but was told there wasn't a doctor available, so they sent her to the Grange. My constituent waited more than two hours to get triaged and had to wait an extra six hours to get her bloods taken. She waited then 10 hours to be told that she'd have to wait at least another 10 hours to be seen. Understandably, she wasn't willing to wait that long and decided to go home and use her inhaler more than usual instead. When she asked why the wait was so long, my constituent was told that there was simply no room for the doctors to see patients within the hospital. My constituent then told me that the waiting room was so full that people were being told to wait outside, and because there is no tannoy system or screen showing patients' names, many were missing the calls to be seen by a doctor or a nurse. It's clear that a tannoy announcement system needs be put in place at the Grange so that patients can hear their names being called. This is a system adopted by so many other hospitals across the board, Minister. So, I hope that the health Minister does take my constituent's concerns on board, and I'd appreciate a statement from the health Minister about what she's doing to improve access to healthcare in south-east Wales, and especially within accident and emergency departments. Thank you.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am yr hyn y mae hi'n ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd yn y de-ddwyrain? Fe egluraf pam rwy'n gofyn y cwestiwn hwn. Rhedodd etholwr i mi yn anhunanol ac yn eithaf arwrol i mewn i dân mewn tŷ i helpu plant ei chymydog i ddod allan yn ddiogel. O ganlyniad, anadlodd fwg ac roedd yn dioddef o boenau yn y frest, ac, fel rhywun ag asthma, roedd hi eisiau cael archwiliad. Ei man galw cyntaf oedd ei meddyg teulu, a ddywedodd nad oedd yn gallu ei harchwilio oherwydd nad oedd ganddyn nhw'r profion angenrheidiol. Yna cafodd ei hanfon i adran fân anafiadau, ond dywedwyd wrthi nad oedd meddyg ar gael, felly fe anfonon nhw hi i'r Faenor. Arhosodd fy etholwr fwy na dwy awr i gael prawf a bu'n rhaid aros chwe awr ychwanegol i dynnu gwaed. Yna arhosodd 10 awr i gael gwybod y byddai'n rhaid iddi aros o leiaf 10 awr arall cyn cael ei gweld. Yn ddealladwy, nid oedd hi'n fodlon aros mor hir â hynny a phenderfynodd fynd adref a defnyddio ei hanadlydd yn fwy nag arfer. Pan ofynnodd pam oedd yr amser aros mor hir, dywedwyd wrth fy etholwr nad oedd lle i'r meddygon weld cleifion yn yr ysbyty. Dywedodd fy etholwr wrthyf wedyn fod yr ystafell aros mor llawn gofynnwyd i bobl aros y tu allan, ac oherwydd nad oes system uchelseinydd na sgrin yn dangos enwau cleifion, roedd llawer yn colli'r galwadau i weld meddyg neu nyrs. Mae'n amlwg bod angen rhoi system gyhoeddi uchelseinydd ar waith yn y Faenor fel y gall cleifion glywed eu henwau'n cael eu galw. Mae hon yn system a fabwysiadwyd gan nifer o ysbytai eraill yn gyffredinol, Gweinidog. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog iechyd yn ystyried pryderon fy etholwyr, a byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog iechyd am yr hyn y mae'n ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd yn y de-ddwyrain, ac yn enwedig mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Diolch.

Well, it does sound to me as if the issue that Natasha Asghar raises is an operational matter for Grange hospital, so I do think it would be more appropriate to write to the health board.

Wel, mae'n swnio i mi fel petai'r mater y mae Natasha Asghar yn ei godi yn fater gweithredol i ysbyty'r Faenor, felly rwy'n credu y byddai'n fwy priodol ysgrifennu at y bwrdd iechyd.

14:50
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Wasanaethau Bysiau
3. Statement by the Deputy Minister for Climate Change: Update on Bus Services

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn ddiweddariad ar wasanaethau bysus, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.

The next item is a statement by the Deputy Minister for Climate Change, which is an update on bus services, and I call on the Deputy Minister to make the statement—Lee Waters.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. I am keen to update Members of the Senedd on the future of bus services across Wales. The last few years have been the most challenging period for the bus industry since the ill-advised privatisation on the mid 1980s—[Interruption.] Put simply—

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am ddyfodol gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Y blynyddoedd diwethaf fu'r cyfnod mwyaf heriol i'r diwydiant bysiau ers y preifateiddio annoeth ar ganol y 1980au—[Torri ar draws.] Yn syml—

Before you carry on, some Members are keen to comment on every single sentence that's uttered in this Chamber. Just please allow the statement to carry on. You know I'm looking at you, even though you're not looking at me—[Laughter.]—very wisely. I'll take that little bit of cheek, but if we can please allow the Minister to carry on.

Cyn i chi barhau, mae rhai Aelodau yn awyddus i wneud sylwadau ar bob brawddeg a draethir yn y Siambr hon. A wnewch chi ganiatáu i'r datganiad barhau. Rydych chi'n gwybod fy mod i'n edrych arnoch chi, er nad ydych chi'n edrych arna i—[Chwerthin.]—yn ddoeth iawn. Fe dderbyniaf ychydig o'r hyfdra yna, ond gadewch i'r Gweinidog barhau os wnewch chi.

Thank you. Simply put, COVID blew up an already brittle business model. In the face of sustained reductions in passenger numbers, we’ve had to provide significant additional support to keep services running, and this has prevented mass cancellations of services and kept communities connected. Since the start of the pandemic, we’ve invested over £150 million to keep the bus services running over and above our pre-COVID levels of investment. And our actions have saved an industry, and went over and above action taken by the UK Government. Whilst England lost 9.5 per cent of its bus services last year, in Wales that figure was 2.4 per cent because of our actions.

But while COVID has eased, the impact of the pandemic is still being acutely felt. Around the world, in fact, the number of people using buses has still not returned to pre-COVID levels. This inevitably has left a large gap in the finances of bus companies in Wales. This external shock has shown the hollowness of the privatised model of deregulation. Although they provide a public good, bus firms are private companies, but who are now operating in a market without enough customers to make them profitable. During COVID, we had emergency funding we could access to get us through the crisis, but that has now all been spent. The climate emergency demands that we increase bus use, but the age of austerity that the UK Government has chosen to pursue means that our options for dealing with the fallout from COVID are highly constrained. This is not a situation unique to Wales, but we are the only Government in the UK working to reform the way we run buses to create a coherent planned system of franchising.  As we set out in our recent White Paper, our reforms will allow us for the first time to plan for one network, one timetable, all accessed by one ticket, and, in preparation for that, Transport for Wales is working closely with local authorities to plan baseline local bus networks that we can use as a basis for franchising. We’ll be able to specify which routes we want in return for public support, not the vagaries of the market. The model of franchising we are developing is the most ambitious in the UK, and I have asked Jonathan Bray, a highly experienced figure in the bus industry who has led the Urban Transport Group, the UK’s network of city region transport authorities, for a decade and a half, to bring together a small group of experts to help us shape the details of our new system.

The question that has been exercising all of us over recent months is how to get from where we are today to where we want to get to—to franchising—and it is not a small challenge. I am very grateful to representatives of local government, the bus industry and Transport for Wales for working really closely together with us to find a way through our short-term challenges. As a result of our joint working, we’ve agreed to extend the existing bus emergency scheme until the end of the school year in July to avoid any disruption to students in the run-up to exams. We’ve also agreed to set up regional planning teams supported by TfW to work with bus companies to establish which services would be viable without additional financial aid, and what routes are the priority for the funding that we are able to make available. These teams have been working hard in partnership with us and the industry to reach a solution for bus services, and they’ve made significant progress in reviewing the networks in their areas and finding ways to make them better reflect new post-COVID travel patterns.  

I also met last week with our trade union partners, along with industry and local authority representatives. They have been campaigning to recognise the importance of bus services, and they have an important role to play as representatives of those working in the bus industry, who see every day how services are running on the ground. We want to work more closely in social partnership, in line with the model we set out in our White Paper last year, to bring the right people around the table to set the direction for bus services in Wales—our so-called 'guiding mind'.

We have nearly reached a solution that will allow us to make further funding available to protect as much of the network as we can for the remainder of this financial year. This needs to be a more sustainable solution, with a network that reflects changing travel patterns and helps us make the transition to franchising. The Welsh Government will make £46 million available from bus budgets to support BES and successor arrangements for the whole financial year, as well as to keep our strategic TrawsCymru services running. This is in addition to the £45 million we are forecasting spending on concessionary fares for older people, and reduced fares for young people, and our other regular support for the bus industry, including the £25 million bus services support grant, and all the funding we indirectly invest in the industry through local authorities, particularly for school transport. Home-to-school transport makes up around a quarter of all local authority direct spending on education. That figure is now around £137 million a year, and we need to do more to consider school transport as part of the overall public transport system.

To help operators meet inflationary pressures, we have agreed to uplift the amount we reimburse operators for concessionary journeys by 10.1 per cent, to reflect their increased costs. We have taken these steps as the result of strong joint working. We have been meeting regularly and working intensively to try and find solutions. Further urgent work is needed with the regional teams and operators to consider how far we can make this funding go. The emergency funding has been a lifeline, but it's had the impact of preserving a pattern of services that existed before the lockdowns. Travel behaviour has now changed; there are fewer people using buses and trains, and the times of day they are using them has also changed. There are fewer commuting journeys and more leisure journeys. We therefore do not want to keep a pattern of services running that no longer reflects demand or need.

The challenge we then have is to design with local authorities and operators a network of services that can best serve passengers in the time we have available to plan, and within the funding that is available to us. This is a task that only can be done at a regional level and in partnership. The work we have done and the relationships we have built in responding to this crisis has put is in a stronger position to get ready for franchising, and the issues it has thrown up make the case for reform unanswerable.

We must have a bus system that is based on the needs of people, not on the needs of the market. For it to be sustainable, we need more people using our buses. We have been discussing with Transport for Wales and industry partners, and the trade unions, how we can best shape a campaign to get people back onto buses. Once we have finalised a way to put services onto a stable footing for the next 18 months, we can then turn in earnest to a joint effort to promote those services. Restoring patronage is critical to a healthy future for our bus network, so I'd ask Members across the Chamber to think about how they can encourage their constituents to use the buses in our local areas and support a recovery to the level of service we all want to see across Wales.

I hope Members have found the update useful. We're not there yet, but we are making progress. Diolch.

Diolch. Yn syml, ffrwydrodd COVID fodel busnes oedd eisoes yn frau. Yn wyneb gostyngiadau parhaus yn nifer y teithwyr, bu'n rhaid i ni ddarparu cymorth ychwanegol sylweddol i gadw gwasanaethau, ac mae hyn wedi atal canslo gwasanaethau yn dorfol ac wedi cadw cysylltiad rhwng cymunedau. Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi buddsoddi dros £150 miliwn i gadw'r gwasanaethau bysiau a hynny uwchlaw ein lefelau buddsoddi cyn COVID. Ac mae ein camau gweithredu wedi achub diwydiant, ac wedi mynd y tu hwnt i'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU. Er bod Lloegr wedi colli 9.5% o'i gwasanaethau bysiau y llynedd, yng Nghymru roedd y ffigur hwnnw yn 2.4 y cant oherwydd ein camau gweithredu.

Ond er bod COVID wedi lleihau, mae effaith y pandemig yn dal i gael ei deimlo'n ddifrifol. Ledled y byd, mewn gwirionedd, nid yw nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID o hyd. Mae'n anochel bod hyn wedi gadael bwlch mawr yng nghyllid cwmnïau bysiau yng Nghymru. Mae'r sioc allanol hon wedi dangos gwagedd model preifateiddiedig o ddadreoleiddio. Er eu bod yn darparu budd cyhoeddus, cwmnïau preifat yw cwmnïau bysiau, sydd bellach yn gweithredu mewn marchnad heb ddigon o gwsmeriaid i'w gwneud yn broffidiol. Yn ystod COVID, roedd gennym arian brys y gallem ei ddefnyddio i'n cynnal ni trwy'r argyfwng, ond mae hynny i gyd wedi'i wario bellach. Mae'r argyfwng hinsawdd yn mynnu ein bod yn cynyddu'r defnydd o fysiau, ond mae'r oes o gyni y mae Llywodraeth y DU wedi dewis yn golygu bod ein hopsiynau ar gyfer ymdrin â'r gostyngiad yn sgil COVID yn gyfyngedig iawn. Nid yw hon yn sefyllfa sy'n unigryw i Gymru, ond ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sy'n gweithio i ddiwygio'r ffordd yr ydym yn rhedeg bysiau i greu system fasnachfraint gydlynol gynlluniedig. Fel y nodwyd yn ein Papur Gwyn diweddar, bydd ein diwygiadau yn ein galluogi ni am y tro cyntaf i gynllunio ar gyfer un rhwydwaith, un amserlen, gyda mynediad i bob un drwy un tocyn, ac, wrth baratoi ar gyfer hynny, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynllunio rhwydweithiau bysiau lleol sylfaenol y gallwn ni eu defnyddio fel sail ar gyfer masnachfreinio. Byddwn yn gallu nodi pa lwybrau yr ydym eu heisiau yn gyfnewid am gefnogaeth y cyhoedd, nid mympwyon y farchnad. Y model masnachfreinio rydym yn ei ddatblygu yw'r mwyaf uchelgeisiol yn y DU, ac rwyf wedi gofyn i Jonathan Bray, ffigwr profiadol iawn yn y diwydiant bysiau sydd wedi arwain y Grŵp Trafnidiaeth Drefol, rhwydwaith y DU o awdurdodau trafnidiaeth dinas-ranbarth, ers degawd a hanner, i ddod â grŵp bach o arbenigwyr ynghyd i'n helpu i lunio manylion ein system newydd.

Y cwestiwn sydd wedi peri penbleth i bob un ohonom dros y misoedd diwethaf yw sut i fynd o le rydym ni heddiw i le rydym ni eisiau ei gyrraedd—i fasnachfreinio—ac nid yw'n her fach. Rwy'n ddiolchgar iawn i gynrychiolwyr llywodraeth leol, y diwydiant bysiau a Trafnidiaeth Cymru am weithio'n agos iawn gyda ni i ddod o hyd i ffordd drwy ein heriau tymor byr. O ganlyniad i'n cydweithio rydym wedi cytuno i ymestyn y cynllun argyfwng bysiau presennol tan ddiwedd y flwyddyn ysgol ym mis Gorffennaf er mwyn osgoi unrhyw darfu ar fyfyrwyr yn y cyfnod cyn arholiadau. Rydym hefyd wedi cytuno i sefydlu timau cynllunio rhanbarthol a gefnogir gan Trafnidiaeth Cymru i weithio gyda chwmnïau bysiau i sefydlu pa wasanaethau fyddai'n hyfyw heb gymorth ariannol ychwanegol, a pha lwybrau yw'r flaenoriaeth ar gyfer y cyllid y gallwn ei ddarparu. Mae'r timau hyn wedi bod yn gweithio'n galed mewn partneriaeth â ni a'r diwydiant i ddod o hyd i ateb ar gyfer gwasanaethau bysiau, ac maent wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran adolygu'r rhwydweithiau yn eu hardaloedd a dod o hyd i ffyrdd i'w gwneud nhw adlewyrchu'n well batrymau teithio ôl-COVID newydd.

Cwrddais â'n partneriaid undebau llafur yr wythnos diwethaf hefyd, ynghyd â chynrychiolwyr y diwydiant a'r awdurdodau lleol. Maent wedi bod yn ymgyrchu i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau, ac mae ganddynt ran bwysig i'w chwarae fel cynrychiolwyr o'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant bysiau, sy'n gweld bob dydd sut mae gwasanaethau'n rhedeg ar lawr gwlad. Rydym eisiau gweithio'n agosach mewn partneriaeth gymdeithasol, yn unol â'r model a nodwyd gennym yn ein Papur Gwyn y llynedd, i ddod â'r bobl gywir o gwmpas y bwrdd i osod y cyfeiriad ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru—ein 'meddwl arweiniol' fel y'i gelwir.

Rydym bron â dod o hyd i ateb a fydd yn ein galluogi i sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i ddiogelu cymaint o'r rhwydwaith ag y gallwn ni am weddill y flwyddyn ariannol hon. Mae angen i hwn fod yn ateb mwy cynaliadwy, gyda rhwydwaith sy'n adlewyrchu patrymau teithio newidiol ac yn ein helpu i drosglwyddo i fasnachfreinio. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46 miliwn ar gael o gyllidebau bysiau i gefnogi'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) a threfniadau olynol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan, yn ogystal â chadw ein gwasanaethau TrawsCymru strategol i fynd.

Mae hyn yn ychwanegol at y £45 miliwn yr ydym yn rhagweld y byddwn yn gwario ar docynnau teithio rhatach i bobl hŷn, a thocynnau rhatach i bobl ifanc, a'n cefnogaeth reolaidd arall i'r diwydiant bysiau, gan gynnwys y grant cynnal gwasanaethau bysiau gwerth £25 miliwn, a'r holl gyllid rydym yn buddsoddi'n anuniongyrchol yn y diwydiant trwy awdurdodau lleol, yn enwedig ar gyfer cludiant ysgol. Mae cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cyfrif am oddeutu chwarter holl wariant uniongyrchol awdurdodau lleol ar addysg. Mae'r ffigur hwnnw bellach oddeutu £137 miliwn y flwyddyn, ac mae angen i ni wneud mwy i ystyried trafnidiaeth ysgol fel rhan o'r system drafnidiaeth gyhoeddus gyffredinol.

Er mwyn helpu gweithredwyr i ymdopi â phwysau chwyddiant, rydym wedi cytuno i gynyddu'r swm yr ydym yn ei ad-dalu i weithredwyr ar gyfer tocynnau teithio rhatach 10.1 y cant, i adlewyrchu eu costau uwch. Rydym wedi cymryd y camau hyn o ganlyniad i gydweithio cryf. Rydym wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gweithio'n ddwys i geisio dod o hyd i atebion. Mae angen gwaith brys pellach gyda'r timau rhanbarthol a gweithredwyr i ystyried pa mor bell y gallwn wneud i'r cyllid hwn fynd. Mae'r cyllid brys wedi bod yn achubiaeth, ond mae wedi cael yr effaith o gadw patrwm o wasanaethau a oedd yn bodoli cyn y cyfnodau cyfyngiadau symud. Mae ymddygiad o ran teithio wedi newid erbyn hyn; mae llai o bobl yn defnyddio bysiau a threnau, ac mae'r adegau o'r dydd pan fyddant yn cael eu defnyddio wedi newid hefyd. Mae llai o deithiau cymudo a mwy o deithiau hamdden. Felly, nid ydym eisiau cadw patrwm o wasanaethau nad ydynt bellach yn adlewyrchu'r galw na'r angen.

Yr her sydd gennym wedyn yw dylunio rhwydwaith o wasanaethau gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr a all wasanaethu teithwyr orau yn yr amser sydd ar gael i ni i gynllunio, ac o fewn y cyllid sydd ar gael i ni. Mae hon yn dasg y gellir ei chyflawni ar lefel ranbarthol ac mewn partneriaeth yn unig. Mae'r gwaith rydym wedi'i wneud a'r berthynas yr ydym wedi'i meithrin wrth ymateb i'r argyfwng hwn wedi ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i baratoi ar gyfer masnachfreinio, ac mae'r materion y mae wedi'u codi yn gwneud yr achos dros ddiwygio yn anatebadwy.

Mae'n rhaid i ni fod â system fysiau sy'n seiliedig ar anghenion pobl, nid ar anghenion y farchnad. Er mwyn iddi fod yn gynaliadwy, mae angen i fwy o bobl ddefnyddio ein bysiau. Rydym wedi bod yn trafod gyda Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant, a'r undebau llafur, sut y gallwn lunio ymgyrch yn y ffordd orau i gael pobl yn ôl ar fysiau. Ar ôl i ni gyflawni ffordd o roi gwasanaethau ar sail sefydlog am y 18 mis nesaf, gallwn wedyn droi o ddifrif at ymdrech ar y cyd i hyrwyddo'r gwasanaethau hynny. Mae adfer cefnogaeth yn hanfodol i ddyfodol iach ein rhwydwaith bysiau, felly byddwn yn gofyn i Aelodau ar draws y Siambr feddwl am sut y gallant annog eu hetholwyr i ddefnyddio'r bysiau yn ein hardaloedd lleol a chefnogi adferiad i lefel y gwasanaeth yr ydym i gyd eisiau ei weld ledled Cymru.

Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gweld y diweddariad yn ddefnyddiol. Nid ydym yno eto, ond rydym yn gwneud cynnydd. Diolch.

14:55

Can I thank the Deputy Minister for this afternoon's update in relation to bus services in Wales? I just cannot stress enough how important bus services are to so many people all across the country, giving people access to getting their groceries, to attending appointments, and allowing them to socialise and stay connected. However, the sad reality is that this essential form of public transport has been facing drastic cuts as a result of the impending cut to the bus emergency scheme.

We were warned that, without extra funding, some 20 per cent of bus routes across Wales face being cut, with hundreds of jobs being placed at the risk of redundancy. Because of this uncertainty, many people who have run bus services for their local communities for many years are already leaving the industry in search of more stable employment opportunities. All of us, I'm sure, across the board, want to see thriving and effective public transport networks all across Wales. However, it is a mind-boggling fact that bus fares in Wales have increased by 174 per cent compared to 1995. And I'd like to remind everyone that buses are indeed devolved here in Wales, as opposed to elsewhere. Deputy Minister, I have no doubt that you share that view, given the Government's aim to get people out of cars and onto greener methods of transport.

I really do welcome today's announcement that the Welsh Government is making £46 million available to support the BES for the whole financial year. It's clear that people in all four corners of the country are concerned about the ongoing situation with buses. A recent poll did find that 54 per cent of people fear their travel to work or education will become more difficult if bus services are reduced, with 91 per cent of people worried their commutes will become more expensive if services are also reduced. It also found that 41 per cent of people said that they would be forced to use a car if buses aren't an option, a stat that I'm sure will ring alarm bells for you, Deputy Minister.

I've been working closely with bus operators and other transport groups for a while now, and they've made their views abundantly clear to me. The Confederation of Passenger Transport recently set out their three calls to the Welsh Government, and I wholeheartedly say that I support all three of them. They estimate that the major cuts to the current bus network could be avoided if the Welsh Government delivers an extra £30 million investment between July this year, when the BES ends, and the end of the financial year. So, as I said earlier, we really do welcome this extra funding, as it will also buy the Welsh Government time to work with the industry.

The UK Government has been working tirelessly with the sector in England to attract more people back onto buses. Since I raised the fantastic £2 fare cap with you, Deputy Minister, there have been further developments across the border. Recently, the Secretary of State for Transport, Mark Harper MP, announced the £2 will continue to the end of October this year, at which point a cap of £2.50 will be brought in. This Government investment will protect bus services into 2025 and keep travel affordable for residents. I've asked you on a number of occasions, Deputy Minister, to look at introducing a scheme to incentivise bus travel, and it is promising to hear plans are finally afoot for the campaign to encourage bus use in Wales. I know it's very early days, but perhaps you could shed a bit more light on how this potential campaign and the commitment to giving Members regular updates are going to be happening, going forward.

I know we don't necessarily always see eye to eye, but I am keen to know what you are doing in this matter, because we really do need to get it right for the people of Wales, and the sooner the better. Because I'm concerned, quite frankly, that services might in fact be rolled back after the financial year is over, as opposed to going forward. So, I'd really like those assurances, Deputy Minister. Thank you so much.

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf y prynhawn yma mewn cysylltiad â gwasanaethau bysiau yng Nghymru? Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw gwasanaethau bysiau i gymaint o bobl ledled y wlad, gan ei gwneud hi'n bosibl i bobl gael eu bwyd, mynd i apwyntiadau, a chaniatáu iddyn nhw gymdeithasu a chadw mewn cysylltiad. Fodd bynnag, y realiti trist yw bod y math hanfodol hwn o drafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn wynebu toriadau llym o ganlyniad i'r toriad arfaethedig i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, BES.

Cawsom ein rhybuddio, heb gyllid ychwanegol, bod tua 20 y cant o lwybrau bysiau ledled Cymru yn wynebu toriadau, gyda channoedd o swyddi'n cael eu rhoi mewn perygl. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, mae llawer o bobl sydd wedi rhedeg gwasanaethau bysiau ar gyfer eu cymunedau lleol ers blynyddoedd lawer eisoes yn gadael y diwydiant i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth mwy sefydlog. Mae pob un ohonom, rwy'n siŵr, drwyddi draw, eisiau gweld rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus ffyniannus ac effeithiol ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'n ffaith syfrdanol fod prisiau tocynnau bysiau yng Nghymru wedi cynyddu 174 y cant o'u cymharu â 1995. A hoffwn atgoffa pawb fod bysiau wedi'u datganoli yma yng Nghymru yn wir, yn wahanol i fannau eraill. Dirprwy Weinidog, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eich bod yn rhannu'r farn honno, o ystyried nod y Llywodraeth i gael pobl allan o geir ac i ddulliau teithio mwy gwyrdd.

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46 miliwn ar gael i gefnogi'r BES ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan. Mae'n amlwg bod pobl ym mhob cwr o'r wlad yn poeni am y sefyllfa barhaus o ran bysiau. Canfu arolwg barn diweddar fod 54% o bobl yn ofni y bydd teithio ar gyfer gwaith neu addysg yn mynd yn anoddach os bydd gwasanaethau bysiau yn cael eu lleihau, a 91 y cant o bobl yn poeni y bydd eu cymudo'n mynd yn ddrytach os bydd gwasanaethau hefyd yn cael eu lleihau. Canfu hefyd fod 41 y cant o bobl yn dweud y byddent yn cael eu gorfodi i ddefnyddio car os nad yw bysiau'n ddewis iddyn nhw, ystadegyn rwy'n siŵr y bydd yn canu clychau larwm i chi, Dirprwy Weinidog.

Rydw i wedi bod yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr bysiau a grwpiau trafnidiaeth eraill ers tro bellach, ac maen nhw wedi mynegi eu barn yn glir iawn i mi. Yn ddiweddar, nododd Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr eu tair galwad i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dweud a'm holl galon fy mod yn cefnogi'r tair ohonyn nhw. Maen nhw'n amcangyfrif y gellid osgoi'r toriadau mawr i'r rhwydwaith bysiau presennol pe bai Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn rhwng mis Gorffennaf eleni, pan ddaw'r BES i ben, a diwedd y flwyddyn ariannol. Felly, fel y dywedais yn gynharach, rydym wir yn croesawu'r cyllid ychwanegol hwn, gan y bydd hefyd yn prynu amser i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r diwydiant.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio'n ddiflino gyda'r sector yn Lloegr i ddenu mwy o bobl yn ôl ar fysiau. Ers i mi godi'r cap pris siwrnai gwych o £2 gyda chi, Dirprwy Weinidog, bu datblygiadau pellach dros y ffin. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Mark Harper AS, y bydd y £2 yn parhau tan ddiwedd mis Hydref eleni, a bryd hynny bydd cap o £2.50 yn cael ei gyflwyno. Bydd y buddsoddiad hwn gan y Llywodraeth yn diogelu gwasanaethau bysiau yn 2025 ac yn cadw teithio'n fforddiadwy i breswylwyr. Rwyf wedi gofyn i chi ar sawl achlysur, Dirprwy Weinidog, i ystyried cyflwyno cynllun i gymell teithio ar fysiau, ac mae'n galonogol clywed bod cynlluniau o'r diwedd ar droed ar gyfer yr ymgyrch i annog y defnydd o fysiau yng Nghymru. Rwy'n gwybod ei bod hi'n gynnar iawn, ond efallai y gallech daflu ychydig mwy o oleuni ar sut y bydd yr ymgyrch bosibl hon a'r ymrwymiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn reolaidd i'r Aelodau yn digwydd yn y dyfodol.

Rwy'n gwybod nad ydym bob amser yn cytuno, ond rwy'n awyddus i wybod beth rydych chi'n ei wneud ynghylch y mater hwn, oherwydd mae gwir angen i ni wneud pethau'n iawn ar gyfer pobl Cymru, a gorau po gyntaf. Oherwydd fy mod yn poeni, a dweud y gwir, y gallai gwasanaethau gael eu tynnu'n ôl ar ôl i'r flwyddyn ariannol ddod i ben, yn hytrach na'u symud ymlaen. Felly, hoffwn gael y sicrwydd hwnnw, Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr iawn.

15:00

Thank you. I'm not sure there were many questions for me there. I think the question I did manage to understand is the role of the fare cap that has happened in England. This is a source of enormous frustration to us, because we've been working on modelling a £1 fare cap for the last 18 months, and before the Liz Truss budget blew a hole in the economy we thought we had a sporting chance of being able to deliver it, but, as a result of runaway inflation and increased costs, we've not been able to do so. So, to hear the UK Government announce a fare cap with new funding, it says, to then be told there are no Barnett consequentials because it's coming from existing Department for Transport budgets, is galling. And even if we did get a Barnett share of the money they've announced, it would be only a fraction of the money that we need to do a scheme of our own. So, I'm afraid the Member has swallowed hook, line and sinker the spin of the UK Government, and I'm afraid there's very little substance to it once it is scrutinsed.

She says she supports spending an additional £30 million. I've just announced that we'll be putting an extra £20 million on the table. There remains a gap. We don't have the exact figures yet, and that's what we're working through. These are very complicated things to disentangle, because the money that's given to local authorities to fund concessionary fares is done in arrears when we know the actual spend that's taken place and we aren't able to reconcile those figures in real time. So, we have to wait until the full picture has emerged. We've done some excellent work with them to try and look at efficiencies, and we've managed to reduce the burn rate of concessionary fares and the BES significantly as a result of that system. So, the effort we've been making has shown there are efficiencies to be made in the system. But we don't have the funding available to us to keep every single bus service currently running. As I've just said in my statement, there's a strong case for looking again at our pattern of bus services to reflect current demand.

That's the process we're still going through. As I said, it's an update statement—it's not the final word. We're working closely with them. I wish we had the money we needed to expand bus services, to increase frequency, to reduce fares. We don't have the money. Natasha Asghar isn't able to tell me where I can get the money, but I can assure all Members that we're doing our very best to make the situation as useful as possible for passengers and communities.

Diolch i chi. Nid wyf i'n siŵr a oedd yna lawer o gwestiynau i mi o gwbl. Rwy'n credu mai'r cwestiwn y gwnes i lwyddo i'w ddeall oedd swyddogaeth y cap ar bris siwrnai sydd wedi digwydd yn Lloegr. Mae hwnnw'n achos rhwystredigaeth enfawr i ni, gan ein bod ni wedi gweithio ar fodelu cap pris siwrnai o £1 am y 18 mis diwethaf, a chyn i gyllideb Liz Truss saethu twll yn yr economi, roeddem ni'n credu y byddai gennym ni gyfle gweddol i gyflawni hynny, ond oherwydd bod chwyddiant ar garlam a chostau uwch, nid ydym ni wedi gallu gwneud hynny. Felly, mae clywed Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cap prisiau gyda chyllid newydd, meddai hi, i gael gwybod wedyn nad oes unrhyw gyllid canlyniadol Barnett oherwydd ei fod am ddod o gyllidebau presennol yr Adran Drafnidiaeth, yn resynus. A hyd yn oed pe byddem ni'n cael cyfran yn unol â Barnett o'r arian y gwnaethon nhw ei gyhoeddi, dim ond rhan fechan o'r arian sydd ei angen arnom ni i lunio ein cynllun ein hunain fyddai hynny. Felly, rwy'n ofni bod yr Aelod wedi llyncu stori Llywodraeth y DU yn ei chyfanrwydd ac yn hygoelus tu hwnt, ac rwy'n ofni na cheir llawer o sylwedd yn honno pan fydd y craffu wedi digwydd.

Mae hi'n dweud ei bod hi'n cefnogi gwario £30 miliwn yn ychwanegol. Rwyf i newydd gyhoeddi y byddwn ni'n rhoi £20 miliwn ychwanegol ar y bwrdd. Mae'r bwlch yno o hyd. Nid yw'r union ffigurau gennym ni eto, a dyna'r hyn yr ydym ni'n gweithio drwyddo. Mae'r rhain yn bethau cymhleth iawn i'w datgymalu, oherwydd mae'r arian sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol i ariannu tocynnau teithio rhatach yn cael ei drosglwyddo mewn ôl-ddyledion pan fyddwn ni'n gwybod swm y gwariant gwirioneddol sydd wedi bod ac nid ydym ni'n gallu cysoni'r ffigurau hynny mewn amser real. Felly, mae'n rhaid i ni aros nes bydd y darlun llawn wedi dod i'r amlwg. Rydym ni wedi gwneud gwaith rhagorol gyda nhw i geisio edrych ar effeithlonrwydd, ac rydym ni wedi llwyddo i leihau cyfradd llosgi drwy'r tocynnau teithio rhatach a'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn sylweddol o ganlyniad i'r system honno. Felly, mae'r ymdrech a wnaethom ni wedi dangos bod arbedion o ran effeithlonrwydd i'w cael yn y system. Ond nid yw'r arian ar gael i ni i gadw pob gwasanaeth bws unigol ar waith ar hyn o bryd. Fel rwyf i newydd ei ddweud yn fy natganiad, mae achos cryf dros edrych eto ar ein patrwm ni o wasanaethau bysiau i adlewyrchu'r galw presennol.

Honno yw'r broses yr ydym ni'n dal i fynd drwyddi. Fel dywedais i, datganiad i ddiweddaru yw hwn—nid dyma'r gair olaf. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda nhw. Fe hoffwn i'n fawr pe byddai'r arian gennym ni i ateb yr angen i ni allu ehangu gwasanaethau bysiau, cynyddu eu hamlder, a gostwng prisiau siwrnai. Nid yw'r arian gennym ni. Nid yw Natasha Asghar yn gallu dweud wrthyf o ble y gallaf i gael yr arian, ond fe allaf i sicrhau'r Aelodau i gyd ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i wneud y sefyllfa mor hwylus â phosibl i deithwyr a chymunedau.

Diolch, Weinidog am y datganiad yma. Dwi'n gwerthfawrogi'r gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud yma. Erys y pwynt ein bod yn wynebu sefyllfa o argyfwng, achos mae'r cynllun BES, o leiaf fel mae e ar hyn o bryd, yn dal yn mynd i ddod i ben. Mae'r sefyllfa'n well nag oedd e, yn sicr, ond mae pethau'n dal yn fregus.

Dŷn ni i gyd yn gwybod beth ydy'r heriau: mae'r niferoedd o deithwyr tua 15 y cant yn is o'u cymharu gyda'r niferoedd cyn COVID, fel dŷch chi wedi bod yn gosod mas; mae costau wedi cynyddu fel canlyniad i chwyddiant a nifer o sialensiau eraill. Ac mae grwpiau fel y CPT wedi cysylltu gyda nifer ohonom ni i rybuddio, fel dŷn ni wedi'i glywed yn barod, y gall 20 y cant o deithiau dros Gymru gael eu colli os nad oes mwy o arian ar gael. Mae grwpiau fel y Coach and Bus Association Cymru yn poeni y gall y ffigur yna fod hyd yn oed yn uwch.

Ac mae swyddi dan berygl. Bydd yr effaith, heb os nac oni bai, yn waeth ar gwmnïau bach—y cwmnïau sydd ddim yn talu cyfranddalwyr, ond sydd yn gwasanaethu'r gymuned; cwmnïau sydd heb yr adnoddau enfawr y tu cefn iddyn nhw, pencadlysoedd y tu fas i Gymru, arian mawr. Dwi'n meddwl am y cwmnïau yna sydd yn ŵr a gwraig. Gall y cwmnïau cymunedol hynny ddiflannu heb fwy o sicrwydd.

Felly, dwi'n cytuno gyda chi, mae angen sefydlogi'r sefyllfa; mae angen gwneud hynny er budd cymunedau, wrth gwrs, hefyd—cymunedau sydd dan berygl o gael eu hynysu a'u gadael ar ôl. Oherwydd, eto, ac mae hyn wedi cael ei ddweud yn barod yn y Siambr y prynhawn yma, y bobl fwyaf bregus ydy'r rhai fydd yn dioddef fwyaf gyda hyn. Mae'r arolygon barn diweddar wedi dangos fod oddeutu 54 y cant o bobl yn poeni y gall toriadau i fysus effeithio ar sut maen nhw'n gallu cyrraedd gwaith neu'r ysgol.

Thank you, Deputy Minister, for this statement. I appreciate the work that the Government is doing on this. But the fact remains that we are facing a critical situation because the BES scheme, in its current form, is due to come to an end. Things are better than they were, but things are still fragile.

We know what the challenges are: the number of passengers is about 15 per cent lower than pre-COVID levels, as you set out; costs have increased as a result of inflation and other challenges. Groups such as the CPT have contacted many of us to warn, as we've already heard, that 20 per cent of trips across Wales may be lost if more money is not invested. Groups such as the Coach and Bus Association Cymru are concerned that the figure could be even higher.

And jobs are at risk. The impact will undoubtedly be worse for small businesses—the businesses that don't make payouts to shareholders, but that serve the community; businesses that don't have huge resources behind them, headquarters outside Wales and big cash reserves. I'm thinking about those businesses that are husband-and-wife firms. Those community businesses could disappear without more certainty.

So, I agree with you that the situation needs to be stabilised. We need to do that for the benefit of our communities as well—communities that are in danger of being isolated and left behind. Because, again, and this has already been said in the Chamber this afternoon, it's the most vulnerable people who are the ones that will suffer most because of this. Recent polls have shown that approximately 54 per cent of people are concerned that bus services could affect how they could get to work or school.

Minister, I welcome the news—I genuinely do welcome the news—of the £46 million. That could help avert the immediate crisis and give the industry breathing space, and give the Government, as you set out, time to work with partners, I hope, on this marketing push, to encourage more people to use buses. If you have any more detail, please, about the timetable of how that will be spent and the detail of how it will be spent, I'd be grateful, because I know that you recognise the severity of this situation, and how important it is to get that extra funding.

In terms of how it will be spent, could you tell us, please, if there's an equivalent scheme elsewhere in the UK or in Europe that might not be directly about buses, actually, but another service that has been affected in some way by the pandemic in terms of numbers not returning that we could learn from in terms of the behavioural change and how that could be fed in? I quoted the figure of 54 per cent of people who are worried about how this could affect them. Will the Government be looking to target help towards the people who need it most in any of this recovery work, please? There is, I understand, an underspend in the concessionary fares budget. You may have just clarified this in response to Natasha Asghar's point, but I didn't quite pick it up, so if you could repeat that, please: how much that underspend is and if that will be used in any way to plug this gap.

But beyond the money, and beyond the next 12 months, beyond the next 18 months, there's evidently a need for investment and for research into how we can change people's perceptions of buses. We've spoken about this a number of times before. I know that can't be rushed, and I'm glad to see that the Government is keeping an eye on this in the longer term as well as the immediate crisis, because you've spoken about how we need to catch up, almost, about where people are, how people's habits have changed as a result of COVID. I suppose, as well as that, I'd ask how we can help encourage people's—. Well, not encourage, but try to ensure that people's habits and what people want to do in terms of using buses won't even just return to how they were before the pandemic, but are changed utterly and that people see using buses as something that they would want to do, because certainty is needed for the industry and for communities beyond these 18 months.

And this is the point that I'd end with, Llywydd: communities need these bus routes, and bus routes that suit them, not ones that suit the timetables of big companies, because we can't keep getting to this situation of stepping back from a cliff edge every 12 months, every 18 months; it's not something I know that you would want either. So, I do welcome the points that you've made already in terms of campaign work, and I know that many of us would very much support what you've said there, but any more detail that you could give us, either now or in the coming weeks, I'd be grateful for. I realise I'm out of time, Llywydd, so I will just say, finally, that any help that could be given that is couched in terms of not what's commercially viable but what's vital for communities would be particularly helpful. Diolch yn fawr. Sorry I've gone a little over.

Gweinidog, rwy'n croesawu'r newyddion—rwyf i wir yn croesawu'r newyddion—am y £46 miliwn. Fe allai hynny helpu i osgoi'r argyfwng uniongyrchol a rhoi cyfle i'r diwydiant gael ei wynt ato, a rhoi amser i'r Llywodraeth, fel nodwyd gennych chi, ar gyfer gweithio gyda phartneriaid, rwy'n gobeithio, ynglŷn â'r ymgyrch farchnata hon, ac annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau. Os oes gennych chi fwy o fanylion, os gwelwch chi'n dda, am amserlen sut y bydd hwnnw'n cael ei wario a'r manylion o ran sut y caiff ei wario, fe fyddwn i'n ddiolchgar, oherwydd fe wn i eich bod chi'n cydnabod difrifoldeb y sefyllfa hon, a pha mor bwysig yw hi i fod â'r cyllid ychwanegol hwnnw.

O ran sut y bydd yn cael ei wario, a allech chi ddweud wrthym ni, os gwelwch chi'n dda, a oes cynllun cyfatebol mewn mannau eraill yn y DU neu yn Ewrop nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â bysiau, mewn gwirionedd, ond o ran gwasanaeth arall a effeithiwyd mewn rhyw ffordd gan y pandemig o ran niferoedd nad ydyn nhw wedi dychwelyd wedyn y gallem ni ddysgu oddi wrth hynny ynghylch unrhyw newid ymddygiadol a sut y gellid bwydo hynny i mewn? Fe ddyfynnais i'r ffigur o 54% o bobl sy'n gofidio ynglŷn â sut y gallai hyn effeithio arnyn nhw. A wnaiff y Llywodraeth geisio anelu cymorth tuag at y bobl sydd â'r angen mwyaf amdano o ran unrhyw faes yn y gwaith adferol hwn, os gwelwch chi'n dda? Rwy'n deall bod tanwariant yn y gyllideb ar gyfer tocynnau teithio rhatach. Efallai eich bod chi newydd egluro hyn mewn ymateb i bwynt Natasha Asghar, ond ni wnes i ddeall hynny'n llwyr, felly pe byddech chi'n ailadrodd hynny, os gwelwch chi'n dda: beth yw maint y tanwariant hwnnw ac a fydd hynny'n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd i lenwi'r bwlch hwn.

Ond y tu hwnt i'r arian, a thu hwnt i'r 12 mis nesaf, y tu hwnt i'r 18 mis nesaf, mae'n amlwg bod angen buddsoddiad ac ymchwil o ran sut y gallwn ni newid y syniad sydd gan bobl am fysiau. Rydym ni wedi trafod hyn sawl gwaith o'r blaen. Rwy'n gwybod na ellir rhuthro hynny, ac rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth yn cadw llygad ar hyn yn y tymor hwy yn ogystal â'r argyfwng presennol, oherwydd rydych chi wedi siarad am sut mae angen i ni ddal i fyny, bron â bod, o ran sefyllfa pobl, sut mae arferion pobl wedi newid o ganlyniad i COVID. Rwy'n tybio y byddwn i, yn ogystal â hynny, yn gofyn sut y gallwn ni helpu i annog pobl—. Wel, nid annog, ond ceisio sicrhau na fydd arferion pobl a'r defnydd y mae pobl yn dymuno ei wneud o fysiau yn gwneud dim ond dychwelyd hyd at eu cyfraddau nhw cyn y pandemig, ond yn cael eu newid yn llwyr a bod pobl yn gweld defnyddio bysiau yn rhywbeth y bydden nhw'n awyddus i'w wneud, oherwydd mae angen sicrwydd ar y diwydiant a'r cymunedau y tu hwnt i'r 18 mis hyn.

A dyma'r pwynt y carwn i orffen gydag ef, Llywydd: mae angen y llwybrau bysiau hyn ar gymunedau, a llwybrau bysiau sy'n addas iddyn nhw, nid rhai sy'n gweddu i amserlenni cwmnïau mawr, oherwydd ni allwn ni barhau i gyrraedd y sefyllfa hon o fod yn camu yn ôl o ymyl y dibyn bob 12 mis, bob 18 mis; fe wn i nad yw hynny'n rhywbeth y byddech chi'n ei ddymuno chwaith. Felly, rwy'n croesawu'r pwyntiau a wnaethoch chi'n barod o ran y gwaith ymgyrchu, ac fe wn i y byddai llawer ohonom ni'n cefnogi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn hynny o beth, ond fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw fanylion pellach y gallech chi eu rhoi i ni, naill ai nawr neu yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n sylweddoli bod fy amser i ar ben, Llywydd, felly rwyf i am ddweud, yn olaf, y byddai unrhyw gymorth yn arbennig o ddefnyddiol pe gellid rhoi hwnnw nid ar sail yr hyn sy'n fasnachol hyfyw ond ar sail yr hyn sy'n hanfodol i gymunedau. Diolch yn fawr. Mae'n ddrwg gen i fy mod i wedi mynd ychydig dros amser.

15:10

Thank you for the support. In terms of the final point, very little is commercially viable; I think that's the point. So, all of it requires, more or less, ongoing support, otherwise it will cease, and that's the grim situation that we are in. What we've been doing with the local authorities, through these regional scrums, as we've been calling them, is to identify what are the priority routes. We particularly want to make sure that, when schools return in September, there are school buses there for them, so that they are able to continue without interruptions—that has beeen a key focus of our planning work—but also, the socially necessary routes. Local authorities have a duty of their own to support socially necessary routes, but a number of them don't put any funding in themselves. Some do; RCT, for example, does, and others have chosen not to. So, there's a patchwork of arrangements. That's why I think going to franchising creates a far more uniform pattern that we can have the same degree of consistency across Wales on.

On the timetable for the work that we're doing, we need to make decisions imminently. As I said, the current scheme is coming to an end in July. The bus companies will have to give notice to the traffic commissioner of services they want to deregister by the middle of June, and the employers will have to begin a consultation process with their workforce if they are going to cancel the bus services and issue redundancy notices. These are all unmoveable deadlines that we very much have in our mind and we are working towards.

We are close, I think, to coming to a point where we're able to make some decisions, but we're not there yet. I didn't want to wait until that point to bring a statement to the Senedd, as I'd promised to update you as we went along. But, clearly, we are going to be losing some services—far fewer than we were when I last spoke to the Senedd, thankfully, because we have been able to release the underspend from concessionary fares. Demand for concessionary fares is about 60 per cent of where it was, so we were able to move that money across. That's the rough £20 million I mentioned, to go on top of the £18 million that was already in the budget, as well as, then, support for TrawsCymru and the inflationary uplift for concessionary fares. Taken together, that's where the £46 million comes from. As was mentioned earlier, it falls short of the figure that local authorities and the industry think is required to preserve every single service, as is now. That would require somewhere between £7 million and £9 million; we're not certain. We simply don't have that money, and that's very frustrating. Clearly it's not a position any of us would want to be in, but we've all made decisions about budget priorities, and we've decided to prioritise a number of other pressures that we think are important.

We also have significant extra pressures on the NHS. We all understand the good of this and we will want to support it, but I'm afraid the difficulty of being in Government is you have to meet multiple priorities and there isn't the money to go around to deal with all of them. That's what we're trying to make sure—that we prioritise those that will help those in need the most and carry the most passengers, to get us so we don't have a cliff edge, as she says. If we can get certainty at this decision point, we should then have stability for 18 months, which will take us to the end of this financial year; we have similar money, then, rolling forward to the next financial year. Obviously there are some variables, depending on what happens to future demand for concessionary fares. If that goes up, then obviously the amount of money available becomes squeezed. So, there are lots of uncertainties in this, but we need to get to a planned, orderly, strategic system in franchising, and that's the jiggle that we're having to do the moment.

Diolch i chi am y gefnogaeth. O ran y pwynt olaf, ychydig iawn sy'n hyfyw yn fasnachol; rwy'n credu mai dyna'r pwynt. Felly, mae angen cefnogaeth barhaus ar bopeth, fwy neu lai, neu fe fydd yn darfod, a honno yw'r sefyllfa ddifrifol yr ydym ni ynddi. Yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gyda'r awdurdodau lleol, drwy'r sgrymiau rhanbarthol hyn, fel rydym ni wedi bod yn eu galw nhw, yw nodi pa rai yw llwybrau blaenoriaeth. Rydym ni'n arbennig o awyddus i sicrhau, pan fydd ysgolion yn dychwelyd ym mis Medi, bod bysiau ysgol yno ar eu cyfer nhw, fel eu bod nhw'n gallu parhau yn ddi-dor—mae hwnnw wedi bod yn ganolbwynt allweddol o'n gwaith cynllunio—ond hefyd, y llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol. Mae gan awdurdodau lleol eu dyletswydd eu hunain i gefnogi llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, ond nid yw nifer ohonyn nhw'n rhoi unrhyw gyfran o'u cyllid i mewn. Mae rhai yn gwneud felly; mae RhCT, er enghraifft, yn gwneud felly, ac mae eraill wedi dewis peidio. Felly, clytwaith yw'r trefniadau. Dyna pam rwy'n credu bod troi at fasnachfreinio yn creu patrwm llawer mwy unffurf fel y gallwn ni sicrhau'r un cysondeb ar draws Cymru.

O ran yr amserlen ar gyfer y gwaith yr ydym ni'n ei wneud, mae angen i ni wneud penderfyniadau ar unwaith. Fel dywedais i, mae'r cynllun presennol yn dod i ben ym mis Gorffennaf. Bydd yn rhaid i'r cwmnïau bysiau roi rhybudd i'r comisiynydd traffig ynghylch y gwasanaethau y maen nhw am eu dadgofrestru erbyn canol mis Mehefin, ac fe fydd hi'n rhaid i'r cyflogwyr ddechrau proses ymgynghori gyda'u gweithlu os ydyn nhw am ddiddymu gwasanaethau bysiau a chyhoeddi hysbysiadau diswyddo. Mae'r rhain i gyd yn derfynau amser na ellir eu symud sy'n gadarn iawn yn ein meddylfryd ni ac rydyn ni'n gweithio tuag atyn nhw.

Rydym ni'n agos, rwy'n credu, at ddod i'r fan lle gallwn ni wneud rhai penderfyniadau, ond nid ydym ni wedi cyrraedd eto. Nid oeddwn i'n dymuno aros tan hynny i roi datganiad gerbron y Senedd, gan fy mod i wedi addo rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni symud ymlaen. Ond, yn amlwg, fe fyddwn ni'n colli rhai gwasanaethau—llawer llai nag y buasem ni wedi gwneud pan oeddwn i'n siarad â'r Senedd ddiwethaf, diolch byth, oherwydd rydym ni wedi gallu rhyddhau'r tanwariant o'r tocynnau teithio rhatach. Mae'r galw am docynnau teithio rhatach tua 60 y cant yn llai nag o'r blaen, felly roeddem ni'n gallu trosglwyddo'r arian hwnnw. Dyna'r £20 miliwn yn fras y soniais i amdano, ar ben y £18 miliwn a oedd yn y gyllideb eisoes, yn ogystal â chefnogaeth i TrawsCymru a'r codiad yn ôl chwyddiant ar gyfer tocynnau teithio rhatach. O gymryd y rhain gyda'i gilydd, fel yna y byddwn yn cyrraedd y £46 miliwn. Fel soniwyd yn gynharach, mae hynny'n llai na'r hyn y mae awdurdodau lleol a'r diwydiant yn credu sydd ei angen i gadw pob gwasanaeth unigol, fel maen nhw ar hyn o bryd. Fe fyddai hynny'n gofyn am rywle rhwng £7 miliwn a £9 miliwn; nid ydym ni'n sicr. Yn syml, nid yw'r arian hwnnw gennym ni, ac mae hynny'n peri rhwystredigaeth fawr. Yn amlwg, nid yw hon yn sefyllfa y byddai unrhyw un ohonom ni'n dymuno bod ynddi hi, ond rydym ni i gyd wedi gwneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau'r gyllideb, ac rydym ni wedi penderfynu blaenoriaethu nifer o faterion dyrys eraill yr ydym ni'n credu eu bod nhw'n bwysig.

Mae gennym ni bwysau ychwanegol sylweddol hefyd ar y GIG. Rydyn ni i gyd yn deall pa mor fuddiol yw hyn ac yn awyddus i'w gefnogi, ond mae arnaf i ofn mai'r anhawster o fod yn y Llywodraeth yw ei bod hi'n rhaid i chi ystyried blaenoriaethau lluosog ac nid oes digon o arian i fynd o gwmpas i ymdrin â phob un ohonyn nhw. Dyna rydym ni'n ceisio ei wneud yn sicr—sef blaenoriaethu'r rhai sydd am fod o gymorth i'r rhai â'r angen mwyaf ac yn cario'r nifer fwyaf o deithwyr, i'n rhoi ni mewn sefyllfa fel na fydd ymyl dibyn, chwedl hi. Os gallwn ni fod â sicrwydd ynglŷn â'r pwynt hwn o benderfyniad, yna fe ddylem ni weld sefydlogrwydd am 18 mis, a fydd yn mynd â ni at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon; mae gennym ni arian tebyg, wedyn, sy'n cario drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf. Yn amlwg bydd rhai amrywiadau, yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd o ran y galw am docynnau teithio rhatach yn y dyfodol. Os bydd hynny'n cynyddu, yna mae'n amlwg y bydd swm yr arian sydd ar gael yn cael ei wasgu. Felly, fe geir llawer o ansicrwydd yn hyn o beth, ond mae angen i ni sefydlu system strategol, drefnus, gywir, gynlluniedig o ran masnachfreinio, a dyna'r gamp yr ydym ni'n gorfod ei chyflawni ar hyn o bryd.

I welcome the statement and continued dialogue and partnership working. I've got two questions. What impact assessment has been done across portfolios—in education, to deliver local transport measures, as public transport operators already currently provide school transport, which is fragile, and I've heard that costs are increasing by 40 per cent; the impact on mental health due to social impacts of isolation, and our cross-party group heard how important the interaction is with drivers, as well as other passengers; in health, around accessing medical appointments going forward; and economy, in terms of getting to jobs, as well as jobs in the sector at risk? Arriva have said that 200 jobs could be at risk in north Wales.

The second question is on the campaign on the new network, which, I hope, is not just based on urban and commercial viability, but also the rural areas. May I suggest that we also include all levels of government, drivers, the older person’s commissioner, Age Concern, citizens advice bureaux and the voluntary council for that campaign? I’ve heard that concessionary pass holders are the ones who have not returned back the same, and also, it’s been suggested about incentives. So, local authority leaders and other partners have suggested a capped universal fee of £2, which Natasha’s already asked about, and extending the concessionary passes to under 23-year-olds, but perhaps charging a £1 fee. So, that’s come from the authority leaders and operators themselves. Thank you.

Rwy'n croesawu'r datganiad a pharhad y trafodaethau a'r gweithio mewn partneriaeth. Mae gennyf i ddau gwestiwn. Pa asesiad effaith a wnaethpwyd ar draws portffolios—mewn addysg, i ddarparu mesurau trafnidiaeth lleol, gan fod gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus eisoes yn darparu cludiant ysgol ar hyn o bryd, sy'n ansicr, ac rwyf i wedi clywed bod costau yn cynyddu 40 y cant; yr effaith ar iechyd meddwl pobl oherwydd effeithiau cymdeithasol ynysu, ac fe glywodd ein grŵp trawsbleidiol ni pa mor bwysig yw'r rhyngweithio gyda'r gyrwyr, yn ogystal â theithwyr eraill; ym maes iechyd, o ran cyrraedd apwyntiadau meddygol yn y dyfodol; a'r economi, o ran cyrraedd y gwaith, yn ogystal â swyddi yn y sector sydd mewn perygl? Mae Arriva wedi dweud y gallai 200 o swyddi fod mewn perygl yn y gogledd.

Mae'r ail gwestiwn yn ymwneud â'r ymgyrch ynglŷn â'r rhwydwaith newydd, sydd, gyda gobaith, nid yn unig yn seiliedig ar hyfywedd trefol a masnachol, ond ar ardaloedd cefn gwlad hefyd. A gaf i awgrymu ein bod ni'n cynnwys pob haen o lywodraeth, y gyrwyr, y comisiynydd pobl hŷn, Age Concern, Cyngor ar Bopeth a'r Cyngor Gwirfoddol yn yr ymgyrch honno hefyd? Rwyf i wedi clywed mai deiliaid tocynnau teithio rhatach yw'r rhai nad ydyn nhw wedi dychwelyd yn yr un niferoedd, a hefyd, roedd awgrym ynglŷn â'r cymhellion. Felly, mae arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi awgrymu tâl cyffredinol gyda chap o £2, y gofynnodd Natasha amdano eisoes, ac ymestyn y tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc dan 23 oed, ond gan godi tâl o £1, efallai. Felly, mae hynny wedi dod oddi wrth arweinwyr yr awdurdodau a'r gweithredwyr eu hunain. Diolch i chi.

15:15

Well, to deal with those in reverse, as I explained, we’ve already been working on exactly such a policy since I was given the post two years ago now, and we’ve done a huge amount of work in modelling what that would be. So I absolutely share the ambition for a £1 flat fee. It’s the right thing to do for social justice, it’s the right thing to do for climate change. We simply don’t have the money, and it’s all very well for different groups to say, ‘We need more', I understand the need for more, I would love to deliver more. But austerity means that we have less money as well as, as Carolyn Thomas rightly points out, the bus industry themselves facing increased costs at a time of decreased demand. So there is a gap in their fare box revenue, and we are struggling to keep going the level of support that we had during the pandemic. So I’m afraid there are no quick fixes to this. This is just tough stuff, and we are doing our very best by co-working to come out of this with the most robust network we can find to get us onto a sustainable pathway to franchising. We hope that, through the campaign, by getting more people on buses, increasing the revenue into the bus network, we’ll then be in a position to expand the network. We don’t want to lose the network. We’re going to have to flex it in the short term, but we want to then rebuild it as part of meeting our carbon targets and our modal shift targets.

She rightly says that school transport needs to be a critical part of our thinking, and from the very beginning, I’ve been working closely with the education Minister Jeremy Miles and his officials, who’ve been attending all of the weekly meetings that I’ve been holding over the last few months with all the different stakeholders to make sure that that is very much front and centre of everyone’s thinking, and the signs are that the efforts have been worth while, and we will have stability, but we won’t be able to keep all the services we have. I’m confident that, because of the extra £20 million we’ve announced today—a total of £46 million beyond what we were able to discuss last time—we will be able to bring stability, and that figure that you mentioned, that the Confederation of Passenger Transport had mentioned, their fears of cuts will be significantly less than that. But we don’t know yet exactly what that figure is until we finish our work.

Wel, i ymdrin â'r rhain o chwith, fel esboniais i, rydym ni wedi bod yn gweithio eisoes ar bolisi o'r union fath ers i mi ddod i'r swydd hon ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, ac rydyn ni wedi gwneud llawer iawn o waith o ran modelu beth fyddai hynny. Felly, rwy'n rhannu'r uchelgais yn llwyr am ffi unffurf o £1. Dyma'r peth iawn i'w wneud o ran cyfiawnder cymdeithasol, dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer newid hinsawdd. Yn syml, nid yw'r arian gennym ni, ac mae hi'n ddigon hawdd i wahanol grwpiau ddweud, 'Mae angen mwy arnom ni', rwy'n deall yr angen am fwy, fe fyddwn i wrth fy modd yn cyflawni mwy. Ond mae cyni yn golygu bod llai o arian gennym ni, ac fel mae Carolyn Thomas yn gywir i'w nodi, mae'r diwydiant bysiau hefyd yn wynebu costau cynyddol ar adeg pan fo'r galw amdano wedi lleihau. Felly mae bwlch yn eu refeniw nhw o docynnau teithio, ac rydym ni'n ei chael hi'n anodd parhau â'r gyfradd o gefnogaeth a oedd gennym ni yn ystod y pandemig. Felly, rwy'n ofni nad oes atebion cyflym i'w cael yn hyn o beth. Mae hi'n anodd iawn, ac rydym ni'n gwneud ein gorau glas drwy gydweithio i ddod allan o hyn gyda'r rhwydwaith mwyaf cadarn y gallwn ni ei gael i'n tywys ni ar lwybr cynaliadwy hyd at fasnachfreinio. Rydym ni'n gobeithio, drwy'r ymgyrch hon, drwy gael mwy o bobl ar fysiau, y bydd cynnydd yn y refeniw i'r rhwydwaith bysiau, ac y byddwn ni mewn sefyllfa wedyn i ehangu'r rhwydwaith. Nid ydym ni'n dymuno colli'r rhwydwaith. Fe fydd hi'n rhaid i ni ei addasu yn y byrdymor, ond rydym ni'n awyddus i'w ailadeiladu wedyn yn rhan o gyflawniad ein nodau o ran carbon a newid dulliau teithio.

Mae hi'n gywir i ddweud bod angen i drafnidiaeth ysgol fod yn rhan hanfodol o'n meddylfryd ni, ac o'r cychwyn cyntaf, rwyf i wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r Gweinidog addysg, Jeremy Miles a'i swyddogion ef, sydd wedi bod yn mynychu'r holl gyfarfodydd wythnosol yr wyf i wedi bod yn eu cynnal dros y misoedd diwethaf gyda'r gwahanol randdeiliaid i gyd er mwyn sicrhau bod hynny'n flaenllaw iawn ac yn ganolog yn ystyriaeth pawb, a'r arwyddion yw bod yr ymdrechion wedi bod o werth mawr, ac fe fydd gennym ni sefydlogrwydd, ond ni fyddwn ni'n gallu cadw pob un o'r gwasanaethau sydd gennym ni. Rwy'n ffyddiog, oherwydd y £20 miliwn ychwanegol y gwnaethom ni ei gyhoeddi heddiw—cyfanswm o £46 miliwn dros ben yr hyn yr oeddem ni'n gallu ei drafod y tro diwethaf—y byddwn ni'n gallu dod â sefydlogrwydd, a'r ffigur hwnnw yr oeddech chi'n sôn amdano, yr oedd Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr wedi'i grybwyll, bydd eu hofnau o ran toriadau yn sylweddol lai na hynny. Ond nid ydym ni'n gwybod eto beth yn union fydd y ffigur hwnnw hyd nes y byddwn ni'n gorffen ein gwaith.

Thank you, Deputy Minister, for your statement today, but it would be remiss of me not to highlight the shambolic rail replacement services that we currently have in my region by Transport for Wales. It's a classic example of how a lack of foresight and a lack of understanding of commuter need is seriously hampering the ability of the Welsh Government to provide adequate transport services for the people of Wales. The fact that people are relying on these buses as a replacement for rail while the rail infrastructure is upgraded, and are met with buses failing to turn up, buses too big to go under bridges, or buses that are too small to meet the demand just shows the scale of contempt for commuters. I would like to know, Deputy Minister, what conversations you've had with Transport for Wales to put this right, and what compensation you're going to provide to those commuters for this appalling service?

Finally, I also want to highlight a recent meeting with bus operators in my region, where it was brought to my attention that people moving into new-build housing estates are not using the bus services provided and are instead relying totally on their cars. If I quote the service director himself, he said that people in new-build houses don't use the bus, quite frankly. With this in mind, Deputy Minister, I would like to know what strategy you have in place to specifically encourage those who have moved into new-build housing estates to utilise the public transport. Thank you.

Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw, ond fe fyddai hi'n esgeulus ohonof i beidio â thynnu sylw at y gwasanaethau bws yn lle trên anniben sydd gennym ni yn fy rhanbarth i ar hyn o bryd gan Drafnidiaeth Cymru. Dyma enghraifft berffaith o sut mae diffyg rhagwelediad a diffyg dealltwriaeth o ran angen cymudwyr yn rhwystro gallu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddigonol i bobl Cymru. Mae'r ffaith bod pobl yn dibynnu ar y bysiau hyn yn lle'r rheilffyrdd tra bod seilwaith y rheilffyrdd yn cael ei uwchraddio, ac nad yw'r bysiau yn troi i fyny i'w cludo nhw, bysiau rhy fawr i fynd o dan bontydd, neu fysiau sy'n rhy fach i ateb y galw yn amlygu i'r fath raddau y caiff cymudwyr eu dirmygu. Fe hoffwn i wybod, Dirprwy Weinidog, pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda Thrafnidiaeth Cymru i unioni hyn, a pha iawndal a rowch chi i'r cymudwyr hyn oherwydd y gwasanaeth ofnadwy hwn?

Yn olaf, fe hoffwn i dynnu sylw hefyd at gyfarfod diweddar gyda gweithredwyr bysiau yn fy rhanbarth i, pan ddaeth i'm sylw nad yw pobl sy'n symud i ystadau tai a adeiladwyd o'r newydd yn defnyddio'r gwasanaethau bysiau a ddarperir ac yn hytrach yn dibynnu'n llwyr ar eu ceir. Pe byddwn i'n dyfynnu cyfarwyddwr y gwasanaeth ei hun, fe ddywedodd ef nad yw pobl mewn tai newydd yn defnyddio'r bws, a dweud y gwir. Gyda hyn mewn golwg, Dirprwy Weinidog, fe hoffwn i wybod pa strategaeth sydd gennych ar waith i annog y rhai sydd wedi symud i ystadau tai newydd yn benodol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Diolch i chi.

I'll try to deal with both points. First of all, it's silly of him to suggest that we have contempt for commuters—quite the reverse. The whole point of the upgrade to the Cardiff and Valleys lines is to dramatically improve the service for commuters. That, unfortunately, does involve disruption in the short term. This is one of the largest pieces of rail infrastructure investment since the days of Brunel, and that can't be done, I'm afraid, without stopping services, because to try to put overhead lines in whilst other passenger services are running on all parts of the line is impossible. We've done that on very many parts of the line, which is an engineering miracle, frankly, but we simply couldn't do it on the Treherbert line. So, I think he should be less inflammatory and understand what we're trying to achieve.

He's right about rail replacement buses—they are not doing what we expect them to do. That's partly a reflection of the very fragmented, privatised nature of the bus industry. Now, this is not part of the statement today; this is a separate arrangement with TfW for—. This is not part of the scheduled bus services, but it is, in a way, a reflection of a dysfunctional private sector system, because the companies just aren't there with the fleet available when we need them, and we are looking at creating an operator-of-last-resort model for buses, just as we have with the railway currently, so when there is a failure, there can be a TfW-owned-and-run fleet of buses that we may be able to deploy more flexibly. It's not straightforward to do, but that is something we are investigating, because there have been significant failures in rail replacement services not turning up at the right place, the communication not being given, the boards not showing the live times, and so on. So, I fully acknowledge that there have been problems there, and I am speaking regularly with TfW about addressing those.

On the second point about how we attract people onto buses, well, that's partly a focus of the campaign that I mentioned. He touches on a broader issue, though, which is new housing developments not encouraging people onto buses. That's partly a failure of the planning system, which we're putting right through 'Future Wales' and making sure that new housing developments are not placed in out-of-town developments where there aren't bus networks, and that, certainly, has been a failure. It also shows the reason why we're bringing franchising in, because, at the moment, whether a bus service runs or not is a commercial decision by a bus company. So, if there were a new housing estate, the bus company would be under no obligation to run a bus unless they thought they could make money out of it. Often, as he said, they wouldn't, so there's no service for them in the first place, which then compounds the car dependency we are seeing. 

So, the behaviour change we need to see as part of the broader modal shift is very well illustrated by the example that he gives. There isn't a simple solution. We need to look at planning policy, we need to look at roads policy—that's one of the issues, if he's read the roads review, that's covered there. We'll also look at planning policy, which, again, if he's read, 'Future Wales', is covered there. But, we are talking about reversing a pattern of development, a pattern of thinking and a pattern of service provision that's been ingrained for decades and will take some time to address.

Rwyf i am geisio ymdrin â'r ddau bwynt. Yn gyntaf i gyd, peth twp iddo ef ei wneud oedd awgrymu ein bod ni'n dirmygu cymudwyr—yn hollol i'r gwrthwyneb. Holl bwrpas yr uwchraddiad i reilffyrdd Caerdydd a'r Cymoedd yw gwella'r gwasanaeth i gymudwyr yn sylweddol. Mae hynny, yn anffodus, yn golygu amhariad yn y byrdymor. Dyma un o'r darnau mwyaf o fuddsoddiad yn seilwaith y rheilffyrdd ers dyddiau Brunel, ac ni ellir gwneud hynny, mae arnaf i ofn, heb atal y gwasanaethau, oherwydd mae ceisio gosod gwifrau uwchben wrth i wasanaethau eraill i deithwyr redeg ar bob rhan o'r lein yn amhosibl. Rydym ni wedi gwneud hynny ar lawer iawn o rannau o'r lein, sy'n wyrth beirianyddol, a dweud y gwir, ond ni allem ni wneud hynny ar lein Treherbert. Felly, rwy'n credu y dylai ef fod yn llai ymfflamychol ei ymadrodd a cheisio amgyffred yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni.

Mae'n gywir o ran y gwasanaethau bws yn lle trên—nid ydyn nhw'n gweithio yn y ffordd yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw. Mae hynny'n rhannol yn adlewyrchiad o natur ddarniog iawn y diwydiant bysiau sydd wedi'i breifateiddio. Nawr, nid yw hyn yn rhan o'r datganiad heddiw; trefniant ar wahân gyda Trafnidiaeth Cymru yw hwn am—. Nid yw hyn yn rhan o'r gwasanaethau bysiau a drefnwyd, ond mewn ffordd, mae'n adlewyrchiad o system gamweithredol yn y sector preifat, oherwydd nid yw'r cwmnïau yno gyda'u fflyd ar gael pan fo eu  hangen arnom ni, ac rydym ni'n ystyried creu model ar gyfer bysiau ar sail gweithredwr os daw hi i'r pen, yn union fel sydd gennym ni gyda'r rheilffordd ar hyn o bryd, felly pan fyddai methiant, fe fydd fflyd o fysiau sy'n eiddo i, ac yn cael ei rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru ar gael i ni i'w defnyddio ar sail fwy hyblyg. Nid yw hi'n hawdd gwneud hynny, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ymchwilio iddo, oherwydd fe fu methiannau sylweddol o ran gwasanaethau bws yn lle trên pan nad oedden nhw'n troi i fyny yn y lleoliad cywir, diffyg cyfathrebu â phobl, yr amseriadau byw heb ymddangos ar y byrddau, ac ati. Felly, rwy'n cydnabod yn llwyr fod problemau fel hyn wedi bod, ac rwy'n siarad yn rheolaidd gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â mynd i'r afael â'r rhain.

Ar yr ail bwynt ynglŷn â sut yr ydym ni am ddenu pobl ar fysiau, wel, mae'r ymgyrch y soniais i amdani yn canolbwyntio yn rhannol ar hynny. Fe grybwyllodd ef fater mwy eang, serch hynny, sef datblygiadau tai newydd nad ydyn nhw'n rhoi unrhyw symbyliad i bobl deithio ar fysiau. Methiant yn y system gynllunio yw hynny'n rhannol, rydym ni'n unioni hynny drwy 'Cymru'r Dyfodol' gan sicrhau nad yw datblygiadau tai newydd yn cael eu codi mewn datblygiadau ar gyrion y dref lle nad oes rhwydweithiau bysiau, ac mae hynny, yn sicr, wedi bod yn fethiant. Mae'n dangos hefyd y rheswm pam rydyn ni'n cyflwyno masnachfreinio, oherwydd, ar hyn o bryd, penderfyniad masnachol gan gwmni bysiau yw a yw unrhyw wasanaeth bws yn rhedeg ai peidio. Felly, pe byddai ystad newydd o dai, ni fyddai cwmni bysiau dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu bysiau yno oni bai iddyn nhw fod o'r farn y gallen nhw wneud arian o hynny. Yn aml iawn, fel dywedodd ef, ni fydden nhw'n gwneud hynny, ac felly nid oes gwasanaeth yno iddyn nhw yn y lle cyntaf, sy'n gwaethygu'r orddibyniaeth a welwn ni ar geir wedyn.

Felly, fe gaiff y newid o ran ymddygiad y mae angen i ni ei weld yn rhan o'r newid dulliau teithio ehangach ei ddarlunio yn eglur iawn yn yr enghraifft a roddodd ef. Nid oes datrysiad syml i'w gael. Mae angen i ni edrych ar bolisi cynllunio, mae angen i ni edrych ar bolisi ffyrdd—dyna un o'r materion, os yw ef wedi darllen yr adolygiad ffyrdd, sy'n cael eu trafod yno. Fe fyddwn ni'n edrych ar bolisi cynllunio hefyd, sydd, unwaith eto, os yw ef wedi darllen, 'Cymru'r Dyfodol', yn cael ei gwmpasu yn y fan honno. Ond, sôn yr ydym ni am wyrdroi patrwm o ddatblygu, patrwm o feddwl a phatrwm o ddarpariaeth o wasanaeth sydd wedi ymwreiddio ers degawdau ac fe fydd hi'n cymryd cryn dipyn o amser i fynd i'r afael â hynny.

15:20

Diolch, Ddirprwy Weinidog—nifer o bethau i'w croesawu yn y datganiad heddiw. Yn sicr, mae yna banig wedi bod ymhlith etholwyr o weld bod gwasanaethau efallai yn dod i ben—y rhif 90 ym Mhontypridd, er enghraifft. Mae nifer o bobl wedi cysylltu oherwydd does ganddyn nhw ddim trafnidiaeth amgen. Dwi'n meddwl ein bod ni'n sôn, weithiau, ynglŷn â chael pobl o ddefnyddio ceir i symud i ddefnyddio bysus, ond i'r bobl lle dim ond y bws maen nhw'n gallu ei ddefnyddio, mae cyhoeddiadau fel hyn yn eithriadol o bwysig. 

Roeddwn i eisiau codi'r pwynt hefyd yr oedd Delyth Jewell wedi'i wneud, jest o ran y syniad o ymgyrch. Yn yr Alban, mae'r ymgyrch rŵan, 'Choose the bus'—mae'r hashtag yna yn boblogaidd iawn, gyda nifer o bobl yn ei hybu a £300,000 wedi'i fuddsoddi gan Lywodraeth yr Alban a hefyd CPT yr Alban o ran hynny. Mae ganddyn nhw ail wythnos fysus yr Alban—wythnos o ymgyrch benodol o ran hynny. Ai'r math yna o ystyriaethau rydych chi'n edrych arnyn nhw? Ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau â Llywodraeth yr Alban i weld sut fath o effaith mae'r ymgyrchoedd yma yn eu cael, fel ein bod ni yn gallu dysgu hefyd gan Lywodraethau eraill sydd, efallai, yn trio taclo'r un problemau a heriau â ninnau?

Thank you, Deputy Minister, there are a number of things to welcome in this afternoon's statement. Certainly, there has been panic among constituents believing that some services would be scrapped—the No. 90 in Pontypridd, for example. A number of people have been in touch because they don't have alternative transport. I think we're talking about getting people to move from their cars to the buses, but for people where it's only the bus that's available to them, announcements such as this are extremely important.

I wanted to raise a point, too, that Delyth Jewell mentioned, in terms of the idea of having a campaign. In Scotland, the campaign, 'Choose the bus'—there's a very popular hashtag and many people are promoting it, and £300,000 has been invested by the Scottish Government and Scottish Confederation of Passenger Transport. They have the second Scottish bus week—a week of campaigning around buses. Are those the kinds of things that you're considering? Have you had any discussions with the Scottish Government to see what kind of impact these campaigns are having so that we can also learn lessons from other Governments that are trying to tackle the same problems and challenges as us?

Thank you. We are working with CPT on this, which, of course, has the experience across the UK, and they've agreed to put a small amount of funding into the pot for the campaign. We'll need to carefully design it, based on data and nudge points, with TfW to make sure that it is effective. There is no magic pot of gold I can dip into to pay for it, so this would need to come out of the overall sum. So, we'd need to top-slice other funding to pay for that, but I think that is a very good use of the money to make sure that we are promoting. 

As I mentioned in the statement, we've begun thinking about that, but the main effort at the moment is to sort out the main problem, before turning our minds to promoting the services we then are able to preserve, because there's no point promoting a set of services that may not be there in the future. So, that is definitely very high on our priority list, and I agree with what she says about the case for preserving it, and the importance of it. The difficulty I face is getting the money to do that. I think we’ve done a lot; it’s very frustrating that we’re not getting a Barnett consequential from the additional money that has been announced in England. It’s yet another example of announcements that are made—when it comes to it, we’re told that it’s being funded within existing budgets. Now, this is half a billion pounds they claim to be funding within existing budgets. The NHS for the English pay settlement, I think, claim to have £7 billion within their existing budgets to pay for that, and we are beginning to think that, maybe the UK Government Treasury is not being as straightforward with us as they say they are, because they can’t keep funding such large sums of money for this from down the back of the sofa, and then telling us there isn’t a population share for us. There seems to be something broken about the way the Barnett formula is being implemented and we are considering how we might raise this with UK Government.

Diolch. Rydym ni'n gweithio gyda'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn hyn o beth, sydd, wrth gwrs, â phrofiad ledled y DU, ac maen nhw wedi cytuno i roi ychydig bach o arian yn y blwch ar gyfer yr ymgyrch. Fe fydd angen i ni ddylunio hyn yn ofalus, ar sail data a phwyntiau pwnio, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru i sicrhau y bydd yn effeithiol. Nid oes pot hudol o aur i mi afael mewn dyrnaid i dalu am hyn, felly fe fyddai angen i hyn ddod allan o'r swm cyffredinol. Felly, fe fyddai angen i ni frig-dorri cyllid rhywbeth arall i dalu am hyn, ond rwyf i o'r farn y byddai hwnnw'n ddefnydd da iawn o'r arian sef ein bod ni'n sicrhau ein bod yn hyrwyddo.

Fel soniais i yn y datganiad, rydyn ni wedi dechrau ystyried hynny, ond y brif ymdrech ar hyn o bryd yw datrys y brif broblem, cyn i ni droi ein meddyliau at hyrwyddo'r gwasanaethau y gallwn ni eu cadw wedyn, oherwydd nid oes diben hyrwyddo cyfres o wasanaethau na fydden nhw yno yn y dyfodol, efallai. Felly, mae hynny'n bendant yn uchel iawn ar ein rhestr ni o flaenoriaethau, ac rwy'n cytuno â'r hyn y mae hi'n ei ddweud am yr achos dros gadw hynny, a phwysigrwydd hynny. Yr anhawster yr wyf i'n ei wynebu yw bod â'r arian i wneud hynny. Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud llawer iawn; achos rhwystredigaeth fawr i ni yw nad ydym ni'n cael swm canlyniadol yn ôl Barnett o'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn Lloegr. Dyma esiampl arall eto o gyhoeddiadau sy'n cael eu gwneud—o ran hynny, fe ddywedir wrthym ni ei fod yn cael ei ariannu o gyllidebau presennol. Nawr, dyna hanner biliwn o bunnau y maen nhw'n honni eu bod nhw'n ariannu o fewn cyllidebau presennol. Mae'r GIG yn honni, ar gyfer setliad cyflog Lloegr, rwy'n credu, bod ganddyn nhw £7 biliwn o fewn eu cyllidebau presennol i dalu am hynny, ac rydym ni'n dechrau meddwl, efallai nad yw Trysorlys Llywodraeth y DU mor onest gyda ni ag y maen nhw'n ei ddweud, oherwydd ni allan nhw barhau i ariannu symiau mor fawr o arian ar gyfer hyn o gefn y soffa, a dweud wrthym ni wedyn nad oes cyfran yn ôl ein poblogaeth ar gael i ni. Mae hi'n ymddangos bod rhywbeth yn doredig ynglŷn â'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn cael ei gweithredu ac rydym ni'n ystyried sut y gallem ni godi hynny gyda Llywodraeth y DU.

15:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Minister, over the last few weeks, I’ve had over 100 handwritten letters from residents in Alyn and Deeside concerned about potential cuts to bus services. I share their concerns, particularly about people and communities being left isolated, and that jobs could be lost across this sector. I’m very grateful for your updates today to Members, but what further assurances can you give to my constituents that the Welsh Government is doing absolutely everything possible to keep buses running across north Wales?

Gweinidog, dros yr wythnosau diwethaf, fe gefais i dros 100 o lythyrau mewn llawysgrifen oddi wrth drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn mynegi pryder ynglŷn â thoriadau posibl i wasanaethau bysiau. Rwy'n rhannu eu pryderon nhw, yn enwedig ynglŷn â phobl a chymunedau yn cael eu gadael yn ynysig, ac y gellid colli swyddi ar draws y sector hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich diweddariadau chi heddiw i'r Aelodau, ond pa sicrwydd pellach y gallwch chi ei roi i'm hetholwyr i fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posibl i gadw bysiau yn rhedeg ar draws y gogledd?

Well, thank you for that, and 100 handwritten letters is a significant number, and it reflects the strength of feeling there is about buses. You hear the old cliché, 'use it or lose it'; people start to value something when they think it’s not going to be there anymore, and clearly, not everybody has been using the bus, because demand is significantly lower than it was. So, I hope, if anything good comes out of this stressful period, that people realise the value of the bus network and start to use it again.

There are no simple and easy choices here, because we have multiple things that people care about that also need funding, and as I mentioned, the pressure on the NHS is considerable, the housing shortage is considerable, and the cost of building these projects has gone up, whilst our funding has reduced. So, these are all very difficult trade-offs that we have to make. We know that bus services are vital for people, particularly on lower incomes and older people who may not have an alternative. We also know it’s critical to give people alternatives to the car; we’re urging them to shift transport modes, and of course, there has to be an alternative there for them.

So, all of those things are very much in our mind, and we’re trying to make best use of the money we’ve got. What’s been quite significant about this process we’ve gone through with the local authorities regionally and the operators is that we’ve been able to make the money stretch further than it was being stretched before. So, there were real inefficiencies in the system, and that’s why the bus emergency scheme needs to come to an end. It was done in a crisis to deal with a very short-term problem. The problem is now changed and we need to change the funding mechanism and how it works to do that. So, I do hope that, by the end of this, we’ll be able to reassure Jack Sargeant’s constituents that many, if not most of the services, will still be there. I’m not in a position to say yet how many that will be, but certainly, far more as a result of the extra money we’ve been able to commit, but we’re not, sadly, able to fund all of them, in part because they’re not all being used to the extent that they were.

Wel, diolch i chi am hynna, ac mae 100 o lythyrau mewn llawysgrifen yn nifer sylweddol, ac mae hynny'n adlewyrchu maint y teimlad sydd ynglŷn â bysiau. Fe glywch chi'r hen ystrydeb, 'defnyddiwch nhw neu fe’u collwch nhw’; mae pobl yn dechrau gwerthfawrogi rhywbeth pan fyddan nhw'n credu na fydd ar gael eto, ac yn amlwg, nid yw pawb wedi bod yn defnyddio'r bws, oherwydd mae'r galw yn sylweddol is nag yr oedd. Felly, rwy'n gobeithio, os daw unrhyw beth da allan o'r cyfnod pryderus iawn hwn, y bydd pobl yn sylweddoli gwerth y rhwydwaith bysiau ac yn dechrau ei ddefnyddio unwaith eto.

Nid oes unrhyw ddewisiadau syml a hawdd yn hyn o beth, oherwydd mae gennym ni nifer o bethau y mae pobl yn poeni amdanyn nhw sydd ag angen cyllid hefyd, ac fel soniais i, mae'r pwysau ar y GIG yn sylweddol, mae prinder tai yn sylweddol, ac mae cost adeiladu'r prosiectau hyn wedi cynyddu, tra bod ein cyllid ni wedi prinhau. Felly, mae'r rhain i gyd yn faterion anodd iawn i gyfaddawdu arnyn nhw ond mae'n rhaid i ni wneud hynny.  Fe wyddom ni fod gwasanaethau bysiau yn hanfodol i bobl, yn enwedig y rhai sydd ar incwm is a phobl hŷn nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis arall. Rydym ni'n gwybod hefyd ei bod hi'n hanfodol rhoi dewisiadau amgenach na'u ceir i bobl; rydym ni'n ceisio eu hannog nhw i newid eu dulliau o drafnidiaeth, ac wrth gwrs, mae'n rhaid cael dewis arall ar eu cyfer.

Felly, rydym ni'n ystyried y pethau hynny i gyd, ac rydym ni'n ceisio gwneud y defnydd gorau o'r arian sydd gennym ni. Yr hyn sydd wedi bod yn arwyddocaol iawn ynglŷn â'r broses hon yr aethom ni drwyddi gyda'r awdurdodau lleol yn rhanbarthol a'r gweithredwyr yw ein bod ni wedi gallu gwneud i'r arian ymestyn ymhellach nag yr oedd yn cael ei ymestyn o'r blaen. Felly, roedd yna aneffeithlonrwydd gwirioneddol yn y system, a dyna pam mae angen i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau ddod i derfyn. Cafodd ei lunio mewn argyfwng i ymdrin â phroblem fyrdymor iawn. Mae'r broblem wedi newid erbyn hyn ac mae angen i ni newid y mecanwaith cyllido a'i weithrediad i wneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio, erbyn diwedd hyn i gyd, y byddwn ni'n gallu sicrhau etholwyr Jack Sargeant y bydd llawer, os nad y rhan fwyaf o'r gwasanaethau, yno o hyd. Nid wyf i mewn sefyllfa eto i ddweud faint ohonyn nhw fydd hynny, ond yn sicr, fe fydd yna lawer mwy o ganlyniad i'r arian ychwanegol yr ydym ni wedi gallu ei ymrwymo, ond nid ydym ni, yn anffodus, yn gallu ariannu pob un ohonyn nhw, yn rhannol oherwydd nad ydyn nhw i gyd yn cael eu defnyddio i'r graddau yr oedden nhw.

Thank you very much for your statement, and thank you, also, for being very upfront in terms of what we can afford and what we can’t, and I agree with much of what you’ve said. We do need a culture change, and that’s down to all of us, isn’t it? Maybe we should have a ‘use the bus day’ for all Senedd Members every month, or something like that. We do absolutely need to exemplify the behaviour change we want to see in our residents.

One of the things we’ve always talked about in the Welsh Liberal Democrats is free public transport for under 25s, and we’ll keep pushing that, understanding the changes that that would require in terms of budget commitments. But I just wanted to talk about rural bus services, because the business model is slightly flawed when it comes to demand and need. The need is great in our rural areas because of social isolation, and I’ve talked about the ladies of Llangynog before, going on their buses just once a week to go and have their hair done, their coffee, their shopping, and that’s in north Montgomeryshire, but there are many other rural areas that I know we could talk about, whereas the demand isn’t there, so whilst the need is high, the demand isn’t really there for regular bus services. So, I just wondered how we could build in a model of how a business strategy could look for bus services within our rural communities. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad, a diolch i chi hefyd am fod yn ddidwyll iawn o ran yr hyn y gallwn ni ei fforddio a'r hyn na allwn ei fforddio, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud. Mae angen newid diwylliant, ac mae hynny'n dibynnu ar bob un ohonom ni, onid ydyw e? Efallai y dylem ni gael 'diwrnod defnyddio'r bysiau' ar gyfer holl Aelodau'r Senedd bob mis, neu rywbeth o'r fath. Mae angen i ni ddangos yn eglur y newid ymddygiad yr ydym ni'n awyddus i'w weld yn ein trigolion ni.

Un o'r pethau yr ydym ni wedi siarad amdanyn nhw trwy'r amser ym mhlaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yw trafnidiaeth gyhoeddus rhad ac am ddim i bobl dan 25 oed, ac fe fyddwn ni'n parhau i wthio hynny, gan ddeall y newidiadau y byddai eu hangen o ran ymrwymiadau cyllidebol. Ond roeddwn i'n awyddus i siarad am wasanaethau bysiau yng nghefn gwlad, oherwydd mae'r model busnes ychydig yn ddiffygiol o ran y galw a'r angen. Mae'r angen yn fawr yn ein hardaloedd gwledig ni oherwydd arwahanrwydd cymdeithasol, ac rwyf i wedi siarad am wragedd Llangynog o'r blaen, sy'n mynd ar y bysiau unwaith yr wythnos i fynd i wneud eu gwalltiau, am eu coffi, i siopa, a hynny yng ngogledd sir Drefaldwyn, ond mae yna lawer o ardaloedd eraill yng nghefn gwlad y gallem ni siarad amdanyn nhw, er nad oes galw mawr yno, mae'r angen yn fawr, ond nid oes galw yno mewn gwirionedd ar gyfer gwasanaethau bysiau rheolaidd. Felly, tybed sut allem ni sefydlu model o strategaeth fusnes sy'n ymchwilio i wasanaethau bysiau yn ein cymunedau gwledig ni. Diolch yn fawr iawn.

Thank you. Well, clearly, the bus ecosystem is different in Ceredigion and Powys than it is in many other parts of Wales and we have representatives from both those authorities on the groups that I chair weekly and the points are clearly made, and we are working with them to make sure that we maintain as consistent a pattern as we can with the current services. Clearly, the TrawsCymru network is a real additional benefit from that, and, where that is running, is being welcomed, particularly since we've had the investment in the electric buses and the lower fares. And that just goes to show, in rural areas, you can have a functioning public transport system if you have the money to invest in it. And that's certainly our ambition for all rural areas.

The Burns commission in north Wales, which is reporting in September, has an interim report due out soon, and has been asked specifically to look at the needs of rural areas and what public transport systems could be viable. It's likely, I think, that the demand-responsive Fflecsi-type model is something that is going to be looked upon favourably. Again, we've got to fund that. That is our biggest challenge, I think, at the moment—there's no end of things we'd like to do and could do and would be valuable, but how do we release the funding to do that is an ongoing headache, frankly.

So, I completely share her analysis of what is needed, and we are working hard with partners to do what we can to get there. And franchising, when it happens, will certainly help us. But you can have as perfectly designed a system as you want—unless you've got the public funding to put into it, it's only as good as the investment that you have available. And I think that's a case for all of us to think about—the relative importance of public transport versus other priorities. 

Diolch i chi. Wel, yn amlwg, mae byd y bysiau yn wahanol yng Ngheredigion ac ym Mhowys nag ydyw mewn sawl rhan arall o Gymru ac mae gennym ni gynrychiolwyr o'r ddau awdurdod hynny ar y grwpiau yr wyf i'n eu cadeirio yn wythnosol ac mae'r pwyntiau hyn yn cael eu gwneud yn eglur, ac rydym ni'n gweithio gyda nhw i sicrhau ein bod ni'n cynnal patrwm mor gyson ag y gallwn ni gyda'r gwasanaethau presennol. Yn amlwg, mae rhwydwaith TrawsCymru o fudd ychwanegol gwirioneddol, a lle bydd hwnnw'n rhedeg fe gaiff ei groesawu, yn enwedig gan ein bod ni wedi cael y buddsoddiad yn y bysiau trydan a'r prisiau siwrnai llai. Ac fe fydd hynny'n dangos, mewn ardaloedd gwledig, y gallwch chi fod â system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio os yw'r arian gennych chi i fuddsoddi yn honno. A dyna, yn sicr, yw ein huchelgais ni i bob ardal yng nghefn gwlad.

Bydd adroddiad interim yn dod yn fuan oddi wrth gomisiwn Burns yn y gogledd, sy'n adrodd ym mis Medi, ac fe ofynnwyd yn benodol i'r comisiwn ystyried anghenion ardaloedd cefn gwlad a pha systemau trafnidiaeth gyhoeddus allai fod yn hyfyw ynddyn nhw. Mae hi'n debygol, yn fy marn i, y bydd dulliau yn ôl model Fflecsi sy'n ymatebol i'r galw yn rhywbeth y bydd y comisiwn yn edrych yn ffafriol arno. Unwaith eto, mae'n rhaid i ni ariannu hynny. A honno yw ein her fwyaf ni, rwy'n credu, ar hyn o bryd—nid oes diwedd ar y pethau yr hoffem ni eu gwneud ac y gallem ni eu gwneud nhw ac y bydden nhw o werth mawr, ond mae gallu rhyddhau cyllid ar gyfer gwneud hynny yn benbleth barhaus, a dweud y gwir.

Felly, rwy'n cytuno â'i dadansoddiad hi o'r hyn y mae taer angen amdano, ac rydym ni'n gweithio yn galed gyda phartneriaid i wneud yr hyn a allwn ni i gyrraedd y fan. Ac fe fydd masnachfreinio, pan fydd hynny'n digwydd, yn ein helpu ni'n sicr. Ond fe allech chi fod wedi cynllunio system mor berffaith ag y dymunir—oni bai bod yr arian cyhoeddus gennych chi i'w roi ynddi hi, ni fydd hi ond cystal â'r buddsoddiad sydd gennych chi ar gael. Ac rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni ystyried hynny—pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus o gymharu â blaenoriaethau eraill. 

15:30

Can I really applaud, at the beginning of my comments, the work that's been done, the joint working that's been done by the Minister and partners across Wales, and in the regional scrums, to bring forward something that may see us through the short-term difficulties, give us some breathing space and get us to that franchise model and a more sustainable future? But, on that point of a more sustainable future, I know you're not able to read every single word of the climate change committee's evidence, but we heard this the other day:

'I really do think...that something the Welsh Government may need to consider is the universal free travel on the concessionary scheme...I would strongly favour'

said this witness, for example,

'a £2 flat rate for the vast majority of the public and £1 for concessionary.... Should we consider, like say, a nominal £1 charge—to travel anywhere you want in Wales if you’re a pensioner for £1; if you’re an adult, you're charged £2. Those kinds of figures get you into the realm where actually, for, maybe—it’s still tens of millions—£20 million or £30 million addition on top of the current money...we could have a more sustainable service'

and it'll drive up passenger usage, 'and I know, perhaps,' the witness says,

'politically, it is a hot topic...but I do think we’ve got to look at this for the long term'.

That was Andrew Morgan, leader of the Welsh Local Government Association. It was picked up and echoed by other people from different parties represented from the WLGA on that call. Today, isn't this the moment now we need to seize everything, put everything on the table, and look at how we fill that fare box for the future?

A gaf i wir gymeradwyo, ar ddechrau fy sylwadau i, y gwaith sydd wedi cael ei wneud, y cydweithio sydd bod rhwng y Gweinidog a phartneriaid ledled Cymru, ac yn y sgrymiau rhanbarthol, i gyflwyno rhywbeth a allai ein tywys ni drwy anawsterau'r byrdymor, a rhoi rhywfaint o gyfle i gael ein gwynt atom a'n cyfeirio ni at y model hwn o fasnachfreinio a dyfodol mwy cynaliadwy? Ond, ar y pwynt hwnnw o ddyfodol mwy cynaliadwy, fe wn i nad ydych chi'n gallu darllen pob gair unigol yn nhystiolaeth y pwyllgor newid hinsawdd, ond fe glywsom ni hyn y diwrnod o'r blaen:

'Rwyf i wir yn credu...mai rhywbeth y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried yw teithio rhad ac am ddim i bawb ar y cynllun teithio rhatach...fyddwn i'n ffafrio hynny'n fawr'

dywedodd y tyst hwn, er enghraifft,

'cyfradd unffurf o £2 i'r mwyafrif helaeth o'r cyhoedd a £1 ar gyfer y cynllun teithio rhatach.... A ddylem ni ystyried, dyweder, daliad mewn enw o £1—i deithio i unrhyw le fynnoch chi yng Nghymru os ydych chi'n bensiynwr am £1; os ydych chi'n oedolyn, fe godir £2 arnoch chi. Mae'r ffigurau o'r fath yn eich rhoi chi i mewn sefyllfa mewn gwirionedd, ar gyfer, efallai—degau o filiynau o hyd—£20 miliwn neu £30 miliwn o ychwanegiad ar ben yr arian cyfredol...fe allem ni fod â gwasanaeth mwy cynaliadwy'

ac fe fydd yn cynyddu defnydd gan deithwyr, 'ac rwy'n gwybod, efallai,' meddai'r tyst,

'yn wleidyddol, mae'n bwnc llosg...ond rwy'n credu bod rhaid i ni edrych ar hyn ar gyfer yr hirdymor'.

Andrew Morgan oedd hwnnw, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fe godwyd a'i adleisio gan bobl eraill o wahanol bleidiau a gynrychiolwyd oddi wrth CLlLC ar yr alwad honno. Heddiw, onid dyma'r foment nawr y mae ei hangen er mwyn i ni afael ym mhopeth, rhoi popeth ar y bwrdd, ac ystyried sut yr ydym ni am lenwi'r blwch arian tocynnau hwnnw i'r dyfodol?

Well, as I mentioned, not only have we considered it, we've planned it, we've done the modelling work on it. We've taken it extremely seriously as a viable option, and the Cabinet has endorsed it. What we don't have is the money to pay for it, because I'm afraid it's not £30 million, as you mentioned, but more like £90 million, on top of the £200 million we currently spend on buses, is what you would require. And I think there's a shared ambition that we still aim to get that point, but we're not at that point now. We simply don't have the money—

Wel, fel soniais i, nid yn unig yr ydym wedi ystyried hyn, rydym wedi cynllunio hyn, rydym wedi gwneud y gwaith modelu ynglŷn â hyn. Rydym ni wedi cymryd hwn o ddifrif yn ddewis ymarferol, ac mae'r Cabinet wedi ei gymeradwyo. Yr hyn nad oes gennym ni yw'r arian i dalu amdano, oherwydd rwy'n ofni nad £30 miliwn mohono, fel gwnaethoch chi ei ddweud, ond mae'n fwy tebyg i £90 miliwn, ar ben y £200 miliwn yr ydym ni'n ei wario ar fysiau ar hyn o bryd, a dyna'r hyn a fyddai ei angen arnoch chi. Ac rwy'n credu bod uchelgais cyffredin ein bod ni'n parhau i anelu i gyrraedd y pwynt hwnnw, ond nid ydym ni yn y sefyllfa honno nawr. Yn syml, nid yw'r arian gennym ni—

I'm sorry, it's hard to keep up with additional comments. The Member says 'concessionary fares'. You can slice and dice it whichever way you like. We've looked at a range of models—of a £1 flat fare for everybody; we've looked at free travel for young people; we've looked at a flat £2 for everybody; £1.50 for everybody. We've done the work, because it's my ambition too. But, as I say, we simply just don't have the money to pay for it, and I wish we did, and I hope we'll get to the point where we will. 

I very much welcome Councillor Andrew Morgan's comments, and I've had constructive conversations with him myself. And the point he makes is that working with local authorities—because, as I said, they have a legal duty to support socially necessary bus routes—some local authorities, like your own, don't do that, others, like Andrew Morgan's, do. So, there's an inconsistent picture across Wales. And then the conversation we need to have with local government is: would they be able to put a sum in, which we then would be able to match, which would get us closer to where we want to get to? And I think those are the conversations that we now need to be having. 

Mae'n ddrwg gen i, mae hi'n anodd dal i fyny â'r sylwadau ychwanegol. Mae'r Aelod yn dweud 'tocynnau teithio rhatach'. Fe allech chi drefnu hyn ym mha ffordd bynnag yr hoffech chi. Rydym ni wedi edrych ar ystod o fodelau—o bris unffurf o £1 i bawb; rydym ni wedi edrych ar deithio rhad ac am ddim i bobl ifanc; rydym ni wedi edrych ar £2 unffurf i bawb; £1.50 i bawb. Rydym ni wedi gwneud y gwaith, oherwydd dyna fy uchelgais innau hefyd. Ond, fel rwy'n dweud, nid yw'r arian gennym yr arian i dalu am hynny, ac fe fyddai'n dda gennyf i pe byddai, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle bydd hwnnw gennym ni. 

Rwy'n croesawu sylwadau'r Cynghorydd Andrew Morgan yn fawr, ac rwyf wedi cael sgyrsiau adeiladol gydag ef fy hunan. A'r pwynt mae ef yn ei wneud yw bod gweithio gydag awdurdodau lleol—oherwydd, fel dywedais i, mae ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol i gynnal llwybrau bysiau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol—nid yw rhai awdurdodau lleol, fel eich un chi, yn gwneud hynny, mae rhai eraill, fel un Andrew Morgan, yn gwneud hynny. Felly, mae'r darlun yn anghyson ledled Cymru. Ac yna'r sgwrs y mae angen i ni ei chael gyda llywodraeth leol sef: a fydden nhw'n gallu rhoi swm i mewn, a byddem ninnau wedyn yn gallu rhoi swm cyfatebol, ac fe fyddai hynny'n ein dwyn ni'n nes at ein sefyllfa ddymunol? Ac rwy'n credu mai dyna'r sgyrsiau y mae angen i ni eu cael ar hyn o bryd. 

Minister, I thank you very much for your statement today, and, in comments that are related to Jane Dodds's, rural communities find it extremely difficult to access public transport, but, as you said about the TrawsCymru area, not everywhere is going to be able to benefit from that. Most of my rural communities have got third sector organisations running community transport, and they play a vital role in actually filling the gap where, actually, the services can't get to, even if they are nationalised, as you want to do. 

So, can you actually explain what work you're going to do with third sector organisations to actually help put community transport in areas, because I think they'll be vital, actually, in reducing emissions and helping with our climate change targets?

Gweinidog, diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad heddiw, ac, mewn sylwadau sy'n gysylltiedig â rhai Jane Dodds, mae cymunedau gwledig yn ei chael hi'n anodd iawn cael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond, fel roeddech chi'n dweud am ardal TrawsCymru, ni fydd pobman yn gallu elwa ar hynny. Mae gan y rhan fwyaf o'm cymunedau gwledig i sefydliadau trydydd sector sy'n rhedeg trafnidiaeth gymunedol, ac maen nhw â rhan hanfodol wrth lenwi'r bwlch gwirioneddol lle na all y gwasanaethau ei gyrraedd, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu gwladoli, fel byddech chi'n hoffi ei wneud. 

Felly, a wnewch chi egluro mewn gwirionedd pa waith a ydych chi am ei wneud gyda sefydliadau'r trydydd sector i helpu i redeg trafnidiaeth gymunedol mewn rhai ardaloedd, oherwydd rwy'n credu y byddan nhw'n hanfodol, mewn gwirionedd, o ran lleihau allyriadau a helpu gyda'n nodau newid hinsawdd ni?

15:35

The Community Transport Association is part of that group that I am chairing, and they're very much involved in the conversations. They have an important part to play in that patchwork of provision. But, whichever way you approach this issue, it's the quantum of money that's the issue. I don't wish to make a petty point here—I'm making a real point that, when our budgets are squeezed, when 12 years of austerity bites, this is where we end up. It used to be that local authorities used to subsidise socially necessary bus routes as a matter of course. That stopped when the cuts were made by the Conservative Government. The money just hasn't been there because of political choices around reducing budgets. [Interruption.] Now, Mark Isherwood grabs his head, and I feel his pain—I often feel like that when I hear him speak, so I've got sympathy. But it is an ineluctable fact: if you have less money, you can provide fewer services. I find some of their points deeply disingenuous, while, on the one hand, they support austerity, and then they get up and say, 'Well, why are you cutting things? Why aren't you spending more?' Some basic arithmetic would do a world of wonders on the Conservative benches.

Mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn rhan o'r grŵp hwnnw yr wyf i'n ei gadeirio, ac mae ganddyn nhw ran fawr iawn yn y sgyrsiau. Mae ganddyn nhw ran bwysig yn y clytwaith hwnnw o ddarpariaeth. Ond, ym mha ffordd bynnag y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r mater hwn, maint yr arian yw'r broblem. Nid wyf i'n dymuno gwneud pwynt pitw—rwy'n gwneud pwynt gwirioneddol, pan fo ein cyllidebau ni'n cael eu gwasgu, pan fo 12 mlynedd o gyni yn brathu, dyma yw'r sefyllfa nawr. Yr awdurdodau lleol oedd yn arfer sybsideiddio llwybrau bysiau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol fel mater o drefn. Daeth hynny i ben pan gafodd y toriadau eu gwneud gan y Llywodraeth Geidwadol. Nid yw'r arian wedi bod ar gael oherwydd dewisiadau gwleidyddol ynghylch lleihau cyllidebau. [Torri ar draws.] Nawr, mae Mark Isherwood yn rhoi ei ben yn ei ddwylo, ac rwy'n cydymdeimlo â'i boen ef—rwyf innau'n teimlo felly yn aml pan glywaf i ef yn siarad, felly mae gen i bob cydymdeimlad. Ond mae hi'n ffaith anochel: os oes llai o arian gennych chi, rydych chi'n darparu llai o wasanaethau. Rwy'n ystyried rhai o'u pwyntiau nhw'n rhai hynod anonest, tra eu bod nhw, ar y naill law, yn cefnogi cyni, a dyna nhw wedyn yn codi ac yn dweud, 'Wel, pam ydych chi'n torri pethau? Pam nad ydych chi'n gwario mwy?' Fe fyddai unrhyw rifyddeg sylfaenol yn gwneud byd o les ar feinciau'r Ceidwadwyr.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad heddiw yma ac am yr asesiad, sy'n sobri rhywun, o'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Ond wrth gwrs, rywsut, yn y pen draw, rydym ni'n mynd i orfod adeiladu gwasanaeth bysus sy'n gwasanaethu'n cymunedau ni a rhai o'r cymunedau sydd anoddaf i'w cyrraedd. Fel Jack Sargeant, dwi innau wedi derbyn degau o lythyrau gan etholwyr sy'n rhestru pryderon gwirioneddol ynglŷn â beth fyddai'n digwydd pe bai cefnogaeth yn cael ei dynnu oddi ar ein gwasanaethau bysus ni. A thra bod y Dirprwy Weinidog yn dweud bod yna lai o wasanaethau wedi cael eu colli yng Nghymru—rhyw un o bob 40, yn hytrach nag un o bob 10, fel yn Lloegr—os ydy eich cymuned chi, eich pentref chi, yn un o'r rhai sydd wedi colli gwasanaeth, mae gennych chi broblem. Felly, gaf i ofyn am sicrwydd gan y Dirprwy y bydd y gwaith sy'n mynd ymlaen rŵan yn edrych o ddifrif ar sicrhau neu sut i sicrhau dyw ardaloedd gwledig a lled wledig fel Ynys Môn ddim yn cael eu hynysu pan fydd y model newydd yn cael ei roi yn ei le? A chwestiwn penodol ynglŷn â bysus ysgol: mae ysgolion yn cael eu gwasanaethu gan gwmnïau bysus sy'n darparu gwasanaethau o gwmpas eu hardaloedd weddill yr amser; pa ystyriaeth mae'r Gweinidog yn ei roi i'r perig, os ydym ni'n colli cwmnïau bysus, y byddwn ni'n colli'r cwmnïau hynny sy'n mynd â'n disgyblion ni i ac o'r ysgol hefyd?

I thank the Deputy Minister for the statement today and for the assessment, which is a sobering assessment, of the challenges facing us. But of course, somehow, in the future, we're going to have to build a bus service that serves our communities and some of the communities that are hardest to reach. Like Jack Sargeant, I've had dozens of letters from constituents that list their genuine concerns about what would happen if support was withdrawn from our bus services. And while the Deputy Minister does say that there are fewer services that have been lost in Wales—one in every 40 rather than one in 10, as it is in England—if your community, your village, is one of the ones that's lost its service, you have a problem. So, could I ask for certainty from the Deputy Minister that the work that is going on now does look seriously at ensuring or how to ensure that rural and semi-rural areas such as Anglesey aren't isolated when the new model is put in place? And a specific question about school buses: schools are served by bus companies that provide services around their areas during the rest of the time; what consideration is the Minister giving to the risk that, if we lose bus companies, we lose those companies that take our pupils to and from school too?

I'm acutely conscious of that threat, and that is one of the reasons why we'll be making sure the school routes are very much part of our initial planning, because they do provide a revenue stream for companies then who are able to provide other services. In the medium term, I really want to bring those sorts of services into the franchising model, so we're not seeing school transport as separate to scheduled services. We need to get young people using service buses, and we need to get them part of a regular pattern of buses. As I've said, I absolutely recognise the rural challenge, and I've been doing some broader work on how we fit sustainable transport into a rural setting, and there are lots of things that can be done that other countries do, that put the investment in. So, in parts of rural Switzerland, in Germany, for example, every village has a bus service every hour, and they fund that by a tax on local businesses. So, this is all doable; the question is the choices that we want to make politically about how we raise the money for that and then how we distribute the money. And again, I say to the Plaid benches, again in all sincerity: we have together agreed budget priorities, we have decided to prioritise free school meals, rightly—we are all supportive of that—and a range of other things. Once that money is spent, it's then not available for other things, and I'm afraid buses have had a significant amount of investment, but not enough investment to meet the full gap that we've seen through a collapse in demand and an increase in costs. So, we're all going to have to face up to the reality and consequences of our choices and make the best of it. But there's no moral superiority of anybody in this Chamber of what do we want to see; we all want to see a better functioning public transport system. And again, I say to all of us: we need to reflect in future about the relative priority we put on public transport.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r bygythiad hwnnw, a dyna un o'r rhesymau pam y byddwn ni'n sicrhau y bydd llwybrau i ysgolion yn rhan fawr iawn o'n cynllunio cychwynnol, gan eu bod nhw'n cynnig llif refeniw i gwmnïau sy'n gallu darparu gwasanaethau eraill wedyn. Yn y tymor canolig, rwy'n wir awyddus i ddod â'r mathau hynny o wasanaethau i'r model masnachfreinio, ac felly nid ydym ni'n ystyried cludiant i ysgolion ar wahân i wasanaethau arferol eraill. Mae angen i ni weld pobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau bysiau, ac mae angen iddyn nhw fod yn rhan o batrwm rheolaidd o fysiau. Fel dywedais i, rwy'n llwyr gydnabod yr her yng nghefn gwlad, ac rwyf i wedi bod yn gweithio rhywfaint yn fwy eang ynghylch sut y byddwn ni'n rhoi trafnidiaeth gynaliadwy mewn lleoliadau gwledig, ac mae llawer o bethau y gellir eu gwneud y mae gwledydd eraill yn eu gwneud, sy'n rhoi'r buddsoddiad hwnnw i mewn. Felly, mewn rhannau gwledig o'r Swistir, o'r Almaen, er enghraifft, mae gan bob pentref wasanaeth bws bob awr, ac maen nhw'n ariannu hynny drwy dreth ar fusnesau lleol. Felly, mae hyn i gyd yn ymarferol; y cwestiwn yw a yw'r dewisiadau yr ydym ni'n dymuno eu gwneud yn wleidyddol ynglŷn â sut rydym ni'n codi'r arian ar gyfer hynny a sut rydym ni'n dosbarthu'r arian wedyn. Ac eto, rwy'n dweud wrth feinciau Plaid Cymru, â phob didwylledd unwaith eto: rydyn ni wedi cytuno ar flaenoriaethau cyllidebol gyda'n gilydd, rydyn ni wedi penderfynu blaenoriaethu prydau ysgol am ddim, yn iawn felly—rydyn ni i gyd yn gefnogol o hynny—ac ystod o bethau eraill. Pan fydd yr arian hwnnw'n cael ei wario, yna nid yw ar gael ar gyfer pethau eraill, ac rwy'n ofni bod bysiau wedi cael cryn dipyn o fuddsoddiad, ond nid yn ddigon i ymdrin â'r bwlch cyfan a welsom ni trwy gwymp yn y galw a'r cynnydd yn y costau. Felly, fe fydd rhaid i ni i gyd wynebu gwirionedd a chanlyniadau ein dewisiadau ni a gwneud y gorau ohoni. Ond nid oes rhagoriaeth foesol gan unrhyw un yn y Siambr hon o ran yr hyn y byddem ni'n dymuno ei weld; fe garem ni i gyd weld system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio yn well. Ac unwaith eto, rwy'n dweud wrth bob un ohonom ni: mae angen i ni fyfyrio yn y dyfodol ar y flaenoriaeth y byddwn ni'n ei rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus o gymharu â phopeth arall.

Deputy Presiding Officer, the Minister said, perhaps inadvertently, something very interesting earlier, where he sort of accused the UK Government of cooking the books, essentially. I think that's something, Deputy Llywydd, that the Minister may wish to return to this Chamber to report on, when he's able to do so, because that's fundamentally important in terms of the governance of the United Kingdom. 

I met with Blaenau Gwent County Borough Council yesterday to discuss the impact of the end of the current budgets on bus services in the borough, and what we found was that the bus services most at threat are the bus services that take people to access other public services and to access rail heads and rail services. So, all the ambitions that the Welsh Government have are undermined by the current policy position of the Welsh Government, and, of course, we still do not have access to bus services to the Grange hospital, despite that having been promised for the best part of a decade. So, the Welsh Government is saying one thing, but its policies are delivering another.

The final point I wish to make is on Fflecsi. Now, the Minister and I have discussed the Fflecsi pilot that's been run in Blaenau Gwent, and he's aware that, as a consequence of that pilot, Blaenau Gwent County Borough Council are looking now at a hybrid model of Fflecsi, which learns the lessons of the pilot, which learns the lessons of the experience of running a Fflecsi service, and wants to deliver a Fflecsi service to industrial estates, for argument's sake, enabling people to go to work, whilst a timetable service in the middle of the day. The Minister's said before that he's broadly supportive of that. Will he, this afternoon, give an assurance that he is supportive of that, and that Welsh Government officials and Transport for Wales officials will be asked to work with Blaenau Gwent County Borough Council to deliver this hybrid model in the future? 

Dirprwy Lywydd, fe ddywedodd y Gweinidog, yn anfwriadol efallai, rywbeth diddorol iawn yn gynharach, pryd y cyhuddodd ef Lywodraeth y DU mewn ffordd o ffugio'r cyfrifon fwy neu lai. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, Dirprwy Lywydd, efallai y bydd y Gweinidog yn dymuno dychwelyd i'r Siambr hon i adrodd arno, pan fydd yn gallu gwneud hynny, oherwydd mae hynny'n sylfaenol bwysig o ran llywodraethu'r Deyrnas Unedig.

Fe gwrddais i â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddoe i drafod effaith diwedd y cyllidebau presennol ar wasanaethau bysiau yn y fwrdeistref, a'r hyn a wnaethom ni ei ganfod oedd mai'r gwasanaethau bysiau sydd mewn perygl fwyaf yw'r gwasanaethau bysiau sy'n cludo pobl ar gyfer defnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill a mynd at fannau llwytho'r rheilffyrdd a gwasanaethau rheilffyrdd. Felly, mae'r uchelgeisiau sydd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio i gyd gan sefyllfa bresennol Llywodraeth Cymru o ran polisi, ac, wrth gwrs, nid yw gwasanaethau bysiau ar gael i ysbyty'r Faenor o hyd, er gwaethaf yr addewid y byddai hynny'n digwydd a roddwyd y rhan orau o ddegawd yn ôl. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dweud un peth, ond mae ei pholisïau hi'n cyflawni rhywbeth arall.

Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw ynglŷn â Fflecsi. Nawr, mae'r Gweinidog a minnau wedi trafod cynllun treialu Fflecsi sydd wedi bod yn rhedeg ym Mlaenau Gwent, ac mae ef yn ymwybodol, o ganlyniad i'r cynllun treialu hwnnw, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn edrych nawr ar fodel hybrid o Fflecsi, sy'n dysgu gwersi'r cynllun treialu, sy'n dysgu gwersi o'r profiad o redeg gwasanaeth Fflecsi, ac mae'n awyddus i ddarparu gwasanaeth Fflecsi i ystadau diwydiannol, er dadlau, i alluogi pobl i fynd i'r gwaith, a bod gwasanaeth amserlen yng nghanol y dydd. Mae'r Gweinidog wedi dweud o'r blaen ei fod ef yn gefnogol i hynny'n fras. A wnaiff ef, y prynhawn yma, roi sicrwydd ei fod yn gefnogol i hynny, ac y gofynnir i swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Trafnidiaeth Cymru weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gyflawni'r model hybrid hwn yn y dyfodol?

15:40

Thank you for those comments, even the backhanded compliment. Let me just address them in reverse order. He will know from the work he did leading the Valleys taskforce that the issue of bus provision was one of the main priorities of people right across the Valleys, as it is in other communities across Wales. And in fact, the Fflecsi project came out of that work that he started and I picked up. And we did try and get Blaenau Gwent as the first of the Fflecsis, but the local authority simply didn't have the capacity. It's great to hear that they are evolving the model and they are piloting and trialling iterations of it, and that's exactly what we want to do. We are trying it in different settings. So, I'd be very keen to hear more about the tweak that they've come up with, and I'll ask TfW to engage with them and to report back to see if we can learn lessons from that. I think that the rural Fflecsis are different again, but that is the point of the Fflecsi. The clue's in the name, isn't it? It's meant to be flexible. 

In terms of Welsh Government ambitions being undermined by Welsh Government policy, I would say the ambitions are being undermined by austerity, by post COVID and by a broken business model. So, I don't think it's as—. It's a little glib to say that we are undermining our own policy. We are working very hard, in spite of the headwinds, to achieve our policy, but we have forces pushing in the opposite direction. And that's what we're trying to do in the short term, is work our way through those short-term challenges to get us to the point where our policy is directing us, which is easy to access, low-cost, frequent public transport for all. That's what we all want, but, for a range of reasons I've rehearsed this afternoon, that is difficult. 

And as for inadvertently saying something interesting, I do try my best to deliberately say something interesting, which is not always welcomed. [Laughter.]

Diolch i chi am y sylwadau yna, hyd yn oed y ganmoliaeth goeglyd. Gadewch i mi fynd i'r afael â nhw gan fynd o chwith. Mae'n siŵr ei fod ef yn gwybod o'r gwaith a wnaeth wrth arwain tasglu'r Cymoedd mai mater darparu bysiau oedd un o brif flaenoriaethau pobl ar draws y Cymoedd, fel mewn cymunedau eraill ledled Cymru. Ac mewn gwirionedd, fe ddatblygodd prosiect Fflecsi o'r gwaith hwnnw a ddechreuodd ef ac y gwnes innau ei gymryd drosodd. Ac fe wnaethom ni geisio rhoi'r Fflecsi cyntaf ar waith ym Mlaenau Gwent, ond nid oedd yr adnoddau ar gael gan yr awdurdod lleol. Peth ardderchog yw clywed eu bod nhw'n esblygu'r model hwnnw ac yn treialu ac yn dechrau cynlluniau treialu ailadroddiadau ohono, a dyna yn union yr ydym ni'n dymuno ei wneud. Rydyn ni'n rhoi cynnig ar hyn mewn gwahanol leoliadau. Felly, fe fyddwn i'n awyddus iawn i glywed mwy am y mireinio y maen nhw wedi ei ddyfeisio, ac fe fyddaf yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru ymgysylltu â nhw ac adrodd yn ôl i weld a allwn ni ddysgu gwersi o hynny. Rwy'n credu bod y Ffflecsi yn wahanol wedyn yng nghefn gwlad, ond dyna ddiben y Fflecsi. Mae'r cliw yn yr enw, onid ydyw e? Ei fwriad yw bod yn hyblyg.

O ran uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio gan bolisi Llywodraeth Cymru, fe fyddwn i'n dweud mai cyni, ôl-effeithiau COVID, a model busnes toredig sy'n tanseilio'r uchelgeisiau. Felly, nid wyf i o'r farn mai fel—. Siarad ychydig yn llib yw dweud ein bod ni'n tanseilio ein polisi ein hunain. Rydyn ni'n gweithio yn galed iawn, er gwaethaf y blaenwynt, i gyflawni ein polisi, ond mae gennym ni rymoedd yn gwthio i'r cyfeiriad arall. A dyna beth rydym ni'n ceisio ei wneud yn y byrdymor, sef gweithio ein ffordd drwy'r heriau byrdymor hynny er mwyn ein harwain ni i'r fan y mae ein polisi ni'n ein cyfeirio ati, hynny yw trafnidiaeth gyhoeddus i bawb sy'n hygyrch, heb fod yn costio llawer, ac yn gyson. Dyna'r hyn yr hoffem ni i gyd ei weld, ond, am amryw o resymau yr wyf i wedi mynd drostyn nhw'r prynhawn yma, mae hynny'n anodd.

Ac o ran dweud rhywbeth diddorol yn anfwriadol, rwy'n gwneud fy ngorau i ddweud unrhyw beth sy'n ddiddorol yn fwriadol, ond ni chaiff hynny groeso bob amser. [Chwerthin.]

Diolch, Dirprwy Lywydd. I just want to ask a little bit more about the criteria for the priority routes for that baseline network you were talking about. I want to speak up for the valley communities where there are no rail links and buses are the only form of transport. We've heard about rural communities, isolated communities. These aren't isolated communities; it's just that the rail links were taken away. And they also have a lower than average level of car ownership. I think I heard you say that social deprivation and need will be taken into account, but I'd like to have some assurances that lack of rail provision will also be taken into account. And also I'd like to ask what evaluation of the free bus schemes that some local authorities have instituted, like Swansea city and county, for instance—what learning has the Welsh Government made of those experiences, as regards who, for instance, could be targeted or patterns of use that could be targeted by the type of campaign that Heledd Fychan spoke about?  

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ofyn ychydig yn fwy am y meini prawf ar gyfer y llwybrau blaenoriaeth ar gyfer y rhwydwaith llinell sylfaen yr oeddech chi'n sôn amdano. Fe hoffwn i godi fy llais er mwyn cymunedau'r cymoedd lle nad oes cysylltiadau rheilffyrdd a bysiau yw'r unig fath o drafnidiaeth. Fe glywsom ni am gymunedau cefn gwlad, cymunedau ynysig. Nid cymunedau ynysig mo'r rhain; dim ond bod y cysylltiadau rheilffyrdd wedi cael eu diddymu. Ac mae ganddyn nhw gyfradd lai o berchnogaeth ceir na'r cyfartaledd hefyd. Rwy'n credu i mi eich clywed chi'n dweud y bydd tlodi cymdeithasol ac angen yn cael eu hystyried, ond fe hoffwn i fod â rhywfaint o sicrwydd y bydd diffyg yn y ddarpariaeth rheilffyrdd yn cael ei ystyried hefyd. Ac fe hoffwn i ofyn hefyd pa werthusiad a gafwyd o ran y cynlluniau bysiau rhad ac am ddim a gafwyd mewn rhai awdurdodau lleol, fel dinas a sir Abertawe, er enghraifft—beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddysgu o'r profiadau hynny, o ran pwy, er enghraifft, y gellid anelu atyn nhw neu pa batrymau o ddefnydd y gellid anelu atyn nhw gan y fath ymgyrch ag y soniodd Heledd Fychan amdani?  

Okay. Thank you for an interesting set of questions. On the criteria for the base network, before this crisis erupted we'd been systematically working our way around Wales trying to develop with local authorities a base network based on analysis. So, I think a number of the authorities in north Wales, for example, have done the work with TfW, where they use mobile phone data to show start points and end destinations of journeys, and then try and map that against their bus network, to prioritise where the base network we would want to have put out for franchising would then serve demand.1

So, there has been quite sophisticated work going on, which I think looks very promising and interesting. What we've had to do during this crisis is speed up that rapidly to work with local authorities for an imperfect solution in the short term to get us through this crisis. The base networks that we are developing with the funding available will not be identical to the ones we'll be franchising, but they will be the start of that work and that thinking of where the key core network should go, and deprivation absolutely is one of the criteria we're looking at as part of that.

In terms of meeting the shortfalls in rail provision, this is exactly one of the points of franchising, because once we have franchising and we give TfW a critical role, working with other partners as part of this 'guiding mind', as the White Paper sets out, they will then be a multimodal operator, so they'll be able to look at bus and train side by side. At the moment, we have real inefficiencies, because we are operating bus services that compete with rail services on the same footprint, which makes very little sense. And then we have other communities that don't have rail networks and that are less well served. So, rationalising the system based on these base networks, which are based on analytics of showing where the journeys people want to make are, will allow us to have a more efficient and more planned system, so that communities are not left out.

The final question on the free bus schemes: I noticed Swansea has just announced another scheme for the summer holidays and for Christmas, which is excellent; Newport have done similar things, and Cardiff too. The data is all encouraging. They show an increased uptake in use—surprise, surprise—as we've seen across the world. Dunkirk, for example, has a free bus service, which is heavily used. So, back to my point earlier, there's nothing stopping us doing these things other than the political choices and the budgetary choices we all make, but I think what we've not done as a country, and I mean the whole UK here, is value enough and spend enough on public transport, compared to our continental neighbours, to provide that service. Instead, we've had this privatised model where the passenger has to pay, and so you have rising bus fares, and we've certainly seen that since privatisation, which then has driven lower usage, and because of the commercial model we have, we then have services withdrawn, and austerity has stopped local authorities from filling the gaps. That's why we're in the mess we're in today. To reverse that is going to take time and is going to take money, but the franchising move and the role of TfW is critical to putting us on that pathway, and the regional work is also very encouraging. But we're not where we need to be or want to be, and this crisis, as a result of COVID and austerity, has not helped, but I hope some good will come of it.

Iawn. Diolch i chi am gyfres ddiddorol o gwestiynau. O ran meini prawf y rhwydwaith sylfaenol, cyn i'r argyfwng hwn ffrwydro, roeddem ni wedi bod yn gweithio ein ffordd yn drefnus o amgylch Cymru gan geisio datblygu rhwydwaith sylfaen gydag awdurdodau lleol ar sail dadansoddiadau. Felly, rwy'n credu bod nifer o'r awdurdodau yn y gogledd er enghraifft, wedi gwneud y gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru, lle maen nhw'n defnyddio data o ffonau symudol i ddangos mannau cychwyn a chyrchfannau pennau teithiau, a cheisio mapio hynny wedyn yn ôl eu rhwydwaith nhw o fysiau, ar gyfer blaenoriaethu'r mannau byddai'r rhwydwaith sylfaenol y byddem ni wedi dymuno ei roi allan i'w masnachfreinio yn ateb y galw wedyn.

Felly, mae gwaith soffistigedig iawn wedi bod yn digwydd, ac rwy'n credu ei fod yn edrych yn addawol a diddorol iawn. Yr hyn y bu'n rhaid i ni ei wneud yn ystod yr argyfwng hwn yw cyflymu hynny ar gyfer gweithio gydag awdurdodau lleol ar unwaith ar gyfer datrysiad amherffaith yn y byrdymor i'n harwain ni drwy'r argyfwng hwn. Ni fydd y rhwydweithiau sylfaenol yr ydym ni'n eu datblygu gyda'r cyllid sydd ar gael yn union yr un fath â'r rhai y byddwn ni'n eu masnachfreinio, ond y nhw fydd yn dechrau'r gwaith hwnnw a'r meddylfryd hwnnw o ble y dylai'r rhwydwaith craidd allweddol fynd, ac mae amddifadedd yn gyfan gwbl yn un o'r meini prawf yr ydym ni'n eu hystyried yn rhan o hynny.

O ran ymdrin â'r diffygion yn y ddarpariaeth o reilffyrdd, dyma yn union yw un o ddibenion masnachfreinio, oherwydd pan fydd masnachfreinio gennym ni a'n bod ni'n rhoi swyddogaeth hanfodol i Trafnidiaeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid eraill yn rhan o'r 'meddwl arweiniol' hwn, fel mae'r Papur Gwyn yn nodi, fe fyddan nhw'n weithredwr aml-ddull wedyn, ac yn gallu edrych ar fysiau a threnau ochr yn ochr. Ar hyn o bryd, mae gennym ni aneffeithlonrwydd gwirioneddol, oherwydd rydym ni'n rhedeg gwasanaethau bysiau sy'n cystadlu â gwasanaethau rheilffordd ar yr un llwybrau, sy'n gwneud ychydig iawn o synnwyr. Ac yna mae gennym ni gymunedau eraill nad oes ganddyn nhw rwydweithiau rheilffyrdd ac sy'n profi gwasanaeth gwaeth. Felly, fe fydd rhesymoli'r system ar sail y rhwydweithiau sylfaen hyn, sy'n seiliedig ar ddadansoddiadau sy'n dangos lle mae'r teithiau y mae pobl yn awyddus i'w gwneud, yn caniatáu i ni fod â system fwy effeithlon a gwell ei dyluniad, fel na fydd cymunedau yn cael eu hepgor.

Y cwestiwn olaf am y cynlluniau bws am ddim: fe sylwais i fod Abertawe newydd gyhoeddi cynllun arall ar gyfer gwyliau'r haf ac ar gyfer y Nadolig, sy'n ardderchog; mae Casnewydd wedi gwneud pethau tebyg, a Chaerdydd hefyd. Mae'r data i gyd yn galonogol. Maen nhw'n dangos cynnydd yn y nifer sy'n eu defnyddio—er mawr ryfeddod—fel gwelsom ni'n fyd-eang. Mae gan Dunkirk, er enghraifft, wasanaeth bws am ddim, sy'n cael ei ddefnyddio yn helaeth iawn. Felly, gan fynd yn ôl at fy mhwynt i'n gynharach, nid oes unrhyw beth yn ein hatal ni rhag gwneud y pethau hyn heblaw am y dewisiadau gwleidyddol a'r dewisiadau cyllidebol yr ydym ni i gyd yn eu gwneud, ond rwy'n credu mai'r hyn nad ydym ni wedi ei wneud yn ein cenedl ni, ac rwy'n golygu'r DU gyfan yn hyn o beth, yw gwerthfawrogi a gwario digon ar drafnidiaeth gyhoeddus, o'i gymharu â'n cymdogion cyfandirol, ar gyfer darparu'r gwasanaethau hyn. Yn hytrach, rydym ni wedi bod â'r model preifat hwn lle mae'n rhaid i'r teithiwr dalu, ac felly rydych chi â phrisiau tocynnau teithio ar fws sy'n cynyddu, ac rydym ni'n sicr wedi gweld hynny ers preifateiddio, sy'n golygu llai o ddefnydd wedyn, ac oherwydd y model masnachol sydd gennym ni, rydym ni'n gweld gwasanaethau yn cael eu tynnu'n ôl wedyn, ac mae cyni wedi rhwystro'r awdurdodau lleol rhag llenwi'r bylchau. Dyna pam rydym ni yn y llanast yr ydym ni ynddo heddiw. Bydd gwrthdroi hynny'n cymryd amser ac arian, ond mae'r symudiad at fasnachfreinio a swyddogaeth Trafnidiaeth Cymru yn hanfodol i'n rhoi ni ar y llwybr hwnnw, ac mae'r gwaith rhanbarthol yn galonogol iawn hefyd. Ond nid ydym ni yn y sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi, neu yr ydym eisiau bod ynddi, ac nid yw'r argyfwng hwn, o ganlyniad i COVID a chyni, wedi bod o gymorth, ond rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o les yn dod yn ei sgil.

15:45
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Costau Byw
4. Statement by the Minister for Social Justice and Chief Whip: Cost of Living

Eitem 4 yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gostau byw. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Item 4 is the statement by the Minister for Social Justice on the cost of living. I call on the Minister, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. The cost-of-living crisis continues to overshadow the lives of thousands of Welsh citizens. It is impacting those things that are essential for maintaining good health and well-being: keeping warm, having sufficient food to eat and having a roof over our heads. The Resolution Foundation recently predicted the rising cost of food will overtake energy as the driving force behind inflation this summer.

Welsh Ministers continue to call on the UK Government to help those hit hardest by the crisis: to increase local housing allowance rates; to provide additional funding for discretionary housing payments; to abolish the benefit cap and two-child limit; to change the universal credit deductions policy; and to implement a one-off payment for people receiving means-tested benefits, to provide relief against continued rising prices.

Our Cabinet sub-committee on the cost of living is attended by the whole Cabinet and has been vital in ensuring co-ordinated action across Government. It includes partners from the third sector, local government, Wales Trades Union Congress and faith groups, and has discussed many aspects of the crisis.

Last week, for example, the Trussell Trust reported on a 37 per cent increase in the number of families using foodbanks in its network for the first time compared to the same period in 2021-22. This is hugely valuable to our understanding of how the crisis is being experienced on the ground, and how our interventions are impacting.

The independent expert group, chaired by Professor Rachel Ashworth, also brings together a range of experts, including the IFS, Citizens Advice Cymru, National Energy Action, the Bevan Foundation and Shelter Cymru. They will make recommendations in June about how we can best support people dealing with the crisis.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i fwrw cysgod dros fywydau miloedd o ddinasyddion Cymru. Mae'n effeithio ar y pethau hynny sy'n hanfodol ar gyfer cynnal iechyd a lles da: cadw'n gynnes, cael digon o fwyd i'w fwyta a chael to uwch ein pennau. Yn ddiweddar, gwnaeth Sefydliad Resolution ragweld y bydd cost gynyddol bwyd yn goddiweddyd ynni fel y grym a fydd yn ysgogi chwyddiant yr haf hwn.

Mae Gweinidogion Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i helpu'r rhai sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng: i gynyddu cyfraddau lwfans tai lleol; i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer taliadau tai dewisol; i ddileu'r cap budd-daliadau a'r terfyn dau blentyn; i newid y polisi didyniadau credyd cynhwysol; ac i gyflwyno taliad untro i bobl sy'n derbyn budd-daliadau prawf modd, er mwyn darparu rhyddhad rhag prisiau sy'n cynyddu'n barhaus.

Mae'r Cabinet cyfan yn mynychu is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw ac mae'r is-bwyllgor hwnnw wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau camau gweithredu cydlynol ar draws y Llywodraeth. Mae'n cynnwys partneriaid o'r trydydd sector, llywodraeth leol, Cyngres Undebau Llafur Cymru a grwpiau ffydd, ac mae wedi trafod sawl agwedd ar yr argyfwng.

Yr wythnos diwethaf, er enghraifft, adroddodd Ymddiriedolaeth Trussell fod cynnydd o 37 y cant wedi bod yn nifer y teuluoedd sy'n defnyddio banciau bwyd yn ei rhwydwaith am y tro cyntaf o gymharu â'r un cyfnod yn 2021-22. Mae hyn yn hynod werthfawr o ran ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r argyfwng yn cael ei brofi ar lawr gwlad, a'r effaith y mae ein hymyriadau yn cael ei chael.

Mae'r grŵp arbenigol annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Rachel Ashworth, hefyd yn dod ag ystod o arbenigwyr ynghyd, gan gynnwys yr IFS, Cyngor ar Bopeth Cymru, National Energy Action, Sefydliad Bevan a Shelter Cymru. Byddan nhw'n gwneud argymhellion ym mis Mehefin ar y ffordd orau y gallwn gefnogi pobl sy'n delio â'r argyfwng.

Since the crisis began, we have refocused programmes to target support and keep money in people's pockets, allocating more than £3.3 billion in support, which, our analysis shows, is reaching those who are most disadvantaged. Despite budget-planning challenges, tackling poverty remains a cross-cutting theme, prioritising support for the most disadvantaged households. This includes: our £38.5 million discretionary assistance fund, which provides direct financial support to people experiencing extreme financial difficulties; our £11 million single advice fund services, supporting people to access the financial help they're entitled to and manage their debts; and, since 2019, £16.838 million has supported community food organisations to tackle food poverty and supported food partnerships to tackle the root causes of food poverty.

We continue our support for the social wage, the programmes that help keep money in people's pockets, such as, our £244 million council tax reduction scheme; our childcare offer that, in line with the co-operation agreement with Plaid Cymru, has been expanded so that more families can benefit; our commitment to free school breakfasts and to free school meals as part of our co-operation agreement with Plaid Cymru, which has seen nearly 5 million additional free meals served since September 2022 to primary pupils. More families than ever now benefit from our schools essentials grant—the most generous of its kind in the UK; and the education maintenance allowance will rise to £40 a week for the next two academic years. Wales is the only part of the UK to do this.

Aside from this direct financial support, we continue to build on our £1.2 million support for credit unions last year to support people to access responsible and ethical credit and savings products. Credit unions are also going into communities through the £500,000 per annum credit union programme, such as the new hub that opened last month in Penywaun, Aberdare, which I'm visiting later this week.

I convened two meetings of responsible lenders recently, with a view to strengthening partnerships and sharing information and best practice between agencies working with financially vulnerable people. Arising from this collaboration, a benefits calculator is now available on the Welsh Government website, and has been shared through a joint Welsh Government and responsible lenders campaign that has successfully reached over 50,000 people. 

I've also met with energy suppliers and called on them to work with households to find workable solutions to the rising cost of energy without resorting to installing prepayment meters. I've been appalled to see households being transferred to prepayment meters against their will at a time when energy companies were announcing record profits. Ofgem announced an updated code of practice on 18 April, which I welcome, but I've urged suppliers to go further by moving quickly to a legally binding solution and for Ofgem to act on incidents of bad practice. I've raised the issue of standing charges for prepayment meters with Ofgem and UK Government, emphasising energy companies should absorb these costs. I am pleased that suppliers will now be required to conduct an independent audit to identify wrongly installed prepayment meters, and offer compensation and removal of the meter where required.

I met with Community Housing Cymru yesterday to discuss these issues and their impact on social housing tenants, including our call for the introduction of a social tariff to help consumers with energy costs. We are working with the UK Government to encourage prepayment meter customers to redeem any outstanding UK Government support vouchers by 30 June. I look forward to Ofgem's price cap announcement on Thursday—analysis suggests there will be a reduction.

I welcome Scope’s disability price tag research that highlights how disabled people have been disproportionately impacted by the crisis. Our disability rights taskforce is working with those affected on developing a new disability rights action plan. Targeted Welsh Government action has also supported disadvantaged households, through initiatives such as our fuel support scheme and our support for prepayment customers, including those using off-grid fuel.

I would like to take this opportunity to highlight the Building Communities Trust event in the Senedd tomorrow that Buffy Williams MS is hosting. It will provide an opportunity to learn first-hand from the community groups about how the cost-of-living crisis continues to overshadow lives.

Finally, Deputy Llywydd, we maintain our commitment to work with partners to develop and deliver bespoke solutions to the problems we face here in Wales as a result of the crisis. Partnership working is essential in helping people to access the support they're entitled to and promoting the take-up of other sources of support, such as social tariffs. It is also an essential part of our continued longer term investment in preventative measures that support people to improve their life chances, help build resilient communities, and deliver for the well-being of Wales as a nation.

Ers i'r argyfwng ddechrau, rydym wedi ailffocysu rhaglenni i dargedu cymorth a chadw arian ym mhocedi pobl, gan ddyrannu mwy na £3.3 biliwn mewn cymorth, sydd, yn ôl ein dadansoddiad ni, yn cyrraedd y bobl fwyaf difreintiedig. Er gwaethaf heriau wrth gynllunio'r gyllideb, mae mynd i'r afael â thlodi yn parhau i fod yn thema drawsbynciol, gan flaenoriaethu cymorth i'r aelwydydd mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn cynnwys: ein cronfa cymorth dewisol o £38.5 miliwn, sy'n rhoi cymorth ariannol uniongyrchol i bobl sy'n profi anawsterau ariannol eithafol; gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl gwerth £11 miliwn, sy'n helpu pobl i gael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddyn nhw yr hawl i'w gael ac i reoli eu dyledion; ac, ers 2019, mae £16.838 miliwn wedi helpu sefydliadau bwyd cymunedol i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac wedi helpu partneriaethau bwyd i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.

Rydym yn parhau i gefnogi'r cyflog cymdeithasol, y rhaglenni sy'n helpu i gadw arian ym mhocedi pobl, fel ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor gwerth £244 miliwn; ein cynnig gofal plant sydd, yn unol â'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, wedi cael ei ehangu fel bod mwy o deuluoedd yn gallu cael budd ohono; ein hymrwymiad i frecwast ysgol am ddim ac i brydau ysgol am ddim fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, sydd wedi gweld bron i 5 miliwn o brydau bwyd am ddim ychwanegol yn cael eu gweini ers mis Medi 2022 i ddisgyblion cynradd. Erbyn hyn, mae mwy o deuluoedd nag erioed yn cael budd o'n grant hanfodion ysgol—y mwyaf hael o'i fath yn y DU; a bydd y lwfans cynhaliaeth addysg yn codi i £40 yr wythnos am y ddwy flynedd academaidd nesaf. Cymru yw'r unig ran o'r DU i wneud hyn.

Ar wahân i'r cymorth ariannol uniongyrchol hwn, rydym yn parhau i adeiladu ar y cymorth o £1.2 miliwn a roesom i undebau credyd y llynedd i helpu pobl i gael gafael ar gredyd a chynhyrchion cynilo cyfrifol a moesegol. Mae undebau credyd hefyd yn mynd i mewn i gymunedau drwy'r rhaglen undebau credyd o £500,000 y flwyddyn, fel yr hwb newydd a agorodd fis diwethaf ym Mhenywaun, Aberdâr, y byddaf yn ymweld ag ef yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Gelwais ddau gyfarfod o fenthycwyr cyfrifol yn ddiweddar, gyda'r bwriad o gryfhau partneriaethau a rhannu gwybodaeth ac arfer gorau rhwng asiantaethau sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed yn ariannol. Yn sgil y cydweithio hwn, mae cyfrifiannell budd-daliadau bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae wedi cael ei rhannu trwy ymgyrch ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a benthycwyr cyfrifol sydd wedi llwyddo i gyrraedd dros 50,000 o bobl. 

Rwyf hefyd wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni ac wedi galw arnyn nhw i weithio gydag aelwydydd i ddod o hyd i atebion ymarferol i gostau cynyddol ynni heb droi at osod mesuryddion rhagdalu. Rwyf wedi cael fy arswydo o weld aelwydydd yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys ar adeg pan oedd cwmnïau ynni yn cyhoeddi eu helw mwyaf erioed. Cyhoeddodd Ofgem god ymarfer wedi'i ddiweddaru ar 18 Ebrill, ac rwy'n ei groesawu, ond rwyf wedi annog cyflenwyr i fynd ymhellach trwy symud yn gyflym i ateb sy'n rhwymo'n gyfreithiol ac i Ofgem weithredu ar achosion o arfer gwael. Rwyf wedi codi'r mater o daliadau sefydlog am fesuryddion rhagdalu gydag Ofgem a Llywodraeth y DU, gan bwysleisio y dylai cwmnïau ynni amsugno'r costau hyn. Rwy'n falch y bydd yn rhaid i gyflenwyr gynnal archwiliad annibynnol nawr i nodi mesuryddion rhagdalu sydd wedi'u gosod ar gam, a chynnig iawndal a chael gwared ar y mesurydd lle bo angen.

Cefais gyfarfod â Cartrefi Cymunedol Cymru ddoe i drafod y materion hyn a'u heffaith ar denantiaid tai cymdeithasol, gan gynnwys ein galwad i gyflwyno tariff cymdeithasol i helpu defnyddwyr gyda chostau ynni. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i annog cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu i gyfnewid unrhyw dalebau cymorth rhagorol sy'n weddill gan Lywodraeth y DU erbyn 30 Mehefin. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddiad Ofgem ar y cap prisiau ddydd Iau—mae gwaith dadansoddi yn awgrymu y bydd gostyngiad.

Rwy'n croesawu ymchwil Scope ar y costau i bobl anabl sy'n amlygu sut mae'r argyfwng wedi cael effaith anghymesur arnynt. Mae ein tasglu hawliau anabledd yn gweithio gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt i ddatblygu cynllun gweithredu hawliau anabledd newydd. Mae camau gweithredu wedi'u targedu gan Lywodraeth Cymru wedi helpu aelwydydd difreintiedig hefyd, drwy fentrau fel ein Cynllun Cymorth Tanwydd a'n cymorth i gwsmeriaid mesuryddion rhagdalu, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at ddigwyddiad yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn y Senedd yfory y bydd Buffy Williams AS yn ei gynnal. Bydd yn rhoi cyfle i ddysgu'n uniongyrchol gan y grwpiau cymunedol am sut mae'r argyfwng costau byw yn parhau i fwrw cysgod dros fywydau pobl.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a darparu atebion pwrpasol i'r problemau rydym yn eu hwynebu yma yng Nghymru o ganlyniad i'r argyfwng. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn helpu pobl i gael gafael ar y cymorth y mae ganddyn nhw yr hawl i'w gael a hyrwyddo'r defnydd o ffynonellau cymorth eraill, fel tariffau cymdeithasol. Mae hefyd yn rhan hanfodol o'n buddsoddiad tymor hwy parhaus mewn mesurau ataliol sy'n helpu pobl i wella eu cyfleoedd mewn bywyd, helpu i adeiladu cymunedau cryf, a chyflawni er lles Cymru fel cenedl.