Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/01/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da. Dyma ni yn cychwyn ar y cyfarfod y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf heddiw fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.

Tlodi Tanwydd

1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n blaenoriaethu ymyriadau i ddileu tlodi tanwydd o fewn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24? OQ58945

Mae trechu tlodi tanwydd yn flaenoriaeth benodol i Lywodraeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng tanwydd parhaus. I adlewyrchu hyn, yn ein cyllideb ddrafft, rydym wedi dyrannu mwy na £190 miliwn, dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, ar gyfer ymyriadau gyda'r nod o leihau tlodi tanwydd ledled Cymru.

Diolch, Weinidog. Hyd yn oed cyn y cynnydd diweddar yn y cap ar brisiau tanwydd, gwyddom fod bron i hanner yr holl aelwydydd yn wynebu risg o fynd i dlodi tanwydd, ac rwy’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau, fel fi, wedi gweld cynnydd yn nifer yr etholwyr sy'n cysylltu â hwy mewn dirfawr angen cyngor a chymorth. Mae ymyriadau Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gefnogi cymunedau fel Cwm Cynon, ond yn wyneb methiant Llywodraeth y DU i ddiwygio’r farchnad ynni ffaeledig, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd diogelu'r teuluoedd a'r plant sy'n wynebu'r risg fwyaf o fynd i dlodi tanwydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth er gwaethaf pwysau cyllidebol ehangach?

Mae gennym ystod eang o gynlluniau ar gael i gefnogi pobl sy’n wynebu tlodi tanwydd. Soniais, er enghraifft, am y £90 miliwn rydym wedi’i ddyrannu i gynnal ail gynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru yn 2022-23, ac mae'r cynllun hwnnw'n cynorthwyo pobl ar incwm isel gyda thaliadau nad ydynt yn ad-daladwy o £200 tuag at eu biliau ynni. Lansiwyd y cynllun hwnnw ar 26 Medi, ac mae wedi’i ymestyn bellach i sicrhau ein bod yn cynnwys mwy o aelwydydd cymwys. Rydym hefyd wedi darparu oddeutu £4 miliwn ar gyfer y Sefydliad Banc Tanwydd, fel y gall gyflwyno taleb tanwydd genedlaethol, a chynllun y gronfa wres yng Nghymru—unwaith eto, mae hyn wedi’i deilwra’n arbennig i ni yma yng Nghymru—i sicrhau y gall aelwydydd sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu tanwydd, gan gynnwys pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw, sydd mewn perygl o hunan-ddatgysylltu, a chartrefi nad ydynt ar y grid, sy'n gorfod swmpbrynu tanwydd ond na allant fforddio llenwi eu tanc, elwa o'r cynllun penodol hwn. Ers mis Awst, mae oddeutu 69 o bartneriaid wedi ymuno â'r Sefydliad Banc Tanwydd, a gallant gyfeirio pobl at dalebau. Mae hynny’n cynnwys wyth partner cenedlaethol ynghyd â phartneriaid ym mhob un awdurdod lleol ledled Cymru. A gwyddom fod talebau tanwydd eisoes wedi bod o fudd i fwy na 14,000 o bobl sy'n byw mewn aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Felly, mae'n bwysig fod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt. A byddwn hefyd yn argymell y gronfa cymorth dewisol, sydd, unwaith eto, yno i gefnogi pobl gyda'u biliau ynni os ydynt yn ei chael hi'n anodd iawn, a gwn y bydd pob un o'm cyd-Aelodau'n cyfeirio eu hetholwyr bregus yn ariannol at y gronfa honno.

Prynhawn da, Weinidog. Rwyf wedi edrych ar dystiolaeth Sefydliad Bevan i'r Pwyllgor Cyllid. Nodaf y pwynt, a dyfynnaf,

'nad yw mesurau tymor byr i leddfu pwysau costau byw yn gyfystyr â chamau gweithredu i leihau tlodi'.

A gwnaethant nodi y bu cyfyngiadau ar fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol ac effeithlonrwydd ynni. Nawr, ar wahân i'r angen i gyflwyno rhaglen Cartrefi Clyd newydd, dylid canolbwyntio ar sicrhau bod eiddo newydd ar gael sy'n effeithlon o ran ynni ac yn gynnes. Yn Abertawe, fodd bynnag, dim ond 91 o gartrefi a gwblhawyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a 18 gan Gyngor Abertawe, yn 2021-22. A gwyddom eisoes fod Cyngor Abertawe yn gyngor sy'n methu cyrraedd ei dargedau tai yn fwy cyffredinol. Felly, Weinidog, pa ymdrechion uniongyrchol rydych yn eu gwneud i gau'r bwlch tai yn Abertawe, i sicrhau bod mwy o fy etholwyr yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn?

Wel, hoffwn ddechrau, wrth gwrs, drwy ganmol y gwaith y mae Cyngor Abertawe yn ei wneud ar adeiladu tai cyngor. Maent wedi buddsoddi'n sylweddol mewn tai cymdeithasol ac mae ganddynt weledigaeth wirioneddol gref ar gyfer tai cyngor ar draws dinas a sir Abertawe. Felly, byddwn yn sicr yn dechrau drwy gydnabod hynny. Ac wrth gwrs, pe bai’r Gweinidog tai yma y prynhawn yma, yn ateb y cwestiwn hwn am y portffolio tai, rwy’n siŵr y byddai’n awyddus i’ch cyfeirio at y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sydd yno i sicrhau y gellir uwchraddio tai sydd wedi'u hadeiladu'n barod i fodloni’r safonau sy'n ofynnol i sicrhau nad yw’r trigolion ynddynt mewn tlodi tanwydd, a byddai hefyd yn tynnu sylw at y cyllid sylweddol parhaus rydym yn ei ddarparu i gefnogi'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol yma yng Nghymru. A byddai hefyd yn tynnu sylw, rwy'n siŵr, at yr ymrwymiad fod yn rhaid inni gael 20,000 yn rhagor o gartrefi cymdeithasol ynni isel yn ystod tymor y Senedd hon hefyd. Felly, yn amlwg, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar gyflawni'r addewidion hynny. Mae’r addewidion hynny wedi dod yn anoddach, wrth gwrs, oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus, sy’n effeithio ar gontractwyr, mae’n effeithio ar y gadwyn gyflenwi. Felly, yn amlwg, bydd rhai heriau yn hynny o beth hefyd.

13:35
Costau Byw

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid llywodraeth leol am sut y gallant gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58962

Rwy’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol ac yn trafod effeithiau’r argyfwng costau byw, gan gynnwys y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i alluogi awdurdodau i barhau â’u cymorth hollbwysig i drigolion.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb? Bydd yn ymwybodol fy mod, dros y deufis diwethaf, wedi bod yn codi mater gosod mesuryddion talu ymlaen llaw ac yn galw am waharddiad ar unwaith ar osod y mesuryddion hyn. Golyga'r mesuryddion hyn fod trigolion tlotaf ein cymdeithas yn talu mwy am eu hynni, a Lywydd, rwyf wedi siarad â nifer o elusennau sydd wedi rhoi tystiolaeth i mi fod gorchmynion llys yn cael eu pasio yn eu cannoedd. Nawr, golyga hyn nad oes diwydrwydd dyladwy'n cael ei ddangos, fel mai gosod mesuryddion talu ymlaen llaw yw'r opsiwn priodol i gwsmeriaid. Nid yw hyn yn digwydd. Yr hyn sy'n digwydd yw bod mesuryddion trigolion hynod agored i niwed ein cymdeithas yn cael eu newid yn amhriodol. Weinidog, roeddwn yn falch o weld bod Ed Miliband wedi ymuno â fy ngalwadau yr wythnos hon am waharddiad ar osod mesuryddion talu ymlaen llaw, ond hanfod y pwynt yw na ddylem fod yn newid mesuryddion pobl yng nghanol y gaeaf ac yn ystod argyfwng costau byw. A gaf fi ddiolch i chi am y cymorth rydych yn ei gynnig i'n partneriaid llywodraeth leol, ond a gaf fi ofyn i chi beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi partneriaid llywodraeth leol pan fyddant yn cynghori trigolion y mae eu mesuryddion eisoes wedi cael eu newid i fesuryddion talu ymlaen llaw?

Rwy’n ddiolchgar iawn i Jack Sargeant am godi hyn y prynhawn yma, a hoffwn gydnabod y gwaith anhygoel y mae Jack Sargeant yn ei wneud yn arwain yr ymgyrch ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Mae cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi'r ymgyrch honno ar eich rhan. Felly, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cael cyfarfod pellach gyda chyflenwyr ynni ar 23 Ionawr, ac unwaith eto, bydd yn codi’r pryderon hyn ynghylch adroddiadau fod mesuryddion pobl, gan gynnwys cwsmeriaid agored i niwed, yn cael eu newid i fesuryddion talu ymlaen llaw. A gwn ei bod wedi codi'r un pwyntiau mewn cyfarfodydd blaenorol a gafodd gyda chyflenwyr ynni. Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd at Grant Shapps ar 23 Rhagfyr, gan amlinellu ein pryderon ynghylch mesuryddion talu ymlaen llaw, ac rydym yn achub ar gyfleoedd, pan fyddant yn codi, gyda Llywodraeth y DU, unwaith eto, i ddadlau'r achosion hynny. Ac mae swyddogion yn parhau i gysylltu ag Ofgem i ddeall a yw cwsmeriaid y mae eu mesuryddion yn cael eu newid i fesuryddion talu ymlaen llaw yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad, oherwydd, hyd yn hyn, nid yw hynny'n eglur i ni.

Fel y dywed Jack Sargeant, mae hwn yn fater sy'n effeithio'n benodol ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed. Mae’n bryder gwirioneddol fod bron i hanner tenantiaid tai cymdeithasol ar fesuryddion talu ymlaen llaw ar hyn o bryd, ac yn amlwg, golyga hynny y bydd llawer o’r rheini’n talu mwy na’r hyn y bydd cwsmeriaid eraill yn ei dalu am eu hynni. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion yn y maes penodol hwn. Ac yn amlwg, byddaf yn achub ar gyfleoedd yn fy nhrafodaethau rheolaidd â llywodraeth leol i sicrhau eu bod hwy'n cymryd y camau cywir yn hyn o beth.

Weinidog, mae'n sicr mai’r ffordd orau i lywodraeth leol gefnogi eu trigolion yw osgoi codiadau yn y dreth gyngor. Mae costau ynni cynyddol oherwydd rhyfel anghyfreithlon Putin a chostau bwyd cynyddol o ganlyniad i'r pandemig a newid hinsawdd yn taro aelwydydd yn galed. Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw rhagor o godiadau treth. Weinidog, a wnewch chi annog cymedroldeb ymhlith eich cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol, ac a ydych yn barod i roi cap ar y dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod?

Wel, hoffwn ddechrau drwy ddweud nad ydym yn diystyru'r her y mae ein cymheiriaid mewn llywodraeth leol yn ei hwynebu oherwydd y pwysau chwyddiant sydd arnynt ar hyn o bryd. Oherwydd, wrth gwrs, yn union fel y mae gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei erydu, mae gwerth cyllideb llywodraeth leol hefyd wedi ei erydu. Ond serch hynny, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar wasanaethau cyhoeddus, a dyna pam, y flwyddyn nesaf, y byddwn yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.5 biliwn, a thros £1 biliwn o grantiau penodol i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Golyga hynny fod cyllid craidd i lywodraeth leol ar gyfer 2023-24 wedi cynyddu 7.9 y cant, neu £403 miliwn ar sail debyg am debyg o gymharu â’r flwyddyn ariannol hon. Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau bosibl, ond wrth gwrs, gwyddom nad yw'r cyllid ychwanegol y gallwn ei ddarparu yn llenwi'r bwlch a achosir yn bennaf gan chwyddiant, ac o ganlyniad, bydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd.

Nawr, mae'n wir, wrth gwrs, fod awdurdodau lleol yn gosod eu lefelau treth gyngor eu hunain. Gwn fod nifer yn ymgynghori ar hyn o bryd. Mae gan Lywodraeth Cymru rym i'w capio, fel y dywedwch, ond ni chredaf ein bod wedi cyrraedd y pwynt eto lle gallem wneud penderfyniad ar hynny, ac mae’n sicr yn rhywbeth na fyddem yn ei wneud ar chwarae bach; mae'n rhywbeth y byddem yn ei wneud mewn achosion lle mae'r codiadau hynny'n amlwg yn ormodol. Felly, er eglurder, rydym yn credu'n wirioneddol mai mater i awdurdodau lleol yw pennu lefelau eu treth gyngor; mae'n rhan bwysig o ddemocratiaeth leol.

13:40

Gwyddom fod y problemau economaidd sy’n ein hwynebu yn deillio o Stryd Downing—[Torri ar draws.]—a bod y rheoli economaidd di-glem yn Llundain, ynghyd â Brexit, wedi arwain at un o’r argyfyngau costau byw mwyaf a welwyd erioed i lawer ohonom. Nawr, mae hyn yn gwneud i'r Blaid Geidwadol chwerthin, wrth gwrs, oherwydd pan fydd pobl yn llwglyd, pan fydd pobl yn oer, nid ydynt yn malio dim am yr hyn sy'n digwydd i'r bobl hynny, ond ar yr ochr hon i'r Siambr, wrth gwrs, rydym yn malio. A’r hyn yr hoffwn i chi ei wneud, Weinidog, yw defnyddio eich grym fel catalydd i ddod â phobl ynghyd. Mae’r ddau argyfwng sy’n wynebu pobl yng Nghymru, yr argyfwng newyn a'r argyfwng gwresogi, fel y dywedais, yn argyfyngau nad ydynt yn cael eu datrys gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw camu i’r adwy i ddod â phobl ynghyd, fel y gallwn rannu arferion gorau a rhannu adnoddau i fynd i’r afael â’r argyfwng gwirioneddol sy’n wynebu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ym Mlaenau Gwent, yng Ngŵyr, ac ar draws y wlad.

Byddwn yn cytuno’n llwyr mai un o’r pethau pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud yw dod â'r rheini sydd â gyfrifoldebau am wasanaethu ein dinasyddion ynghyd i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu cyfuno a’n bod oll yn canolbwyntio ar y pethau mwyaf pwysig i bobl, a dyna un o'r rhesymau pam y cawsom gyfarfodydd bob pythefnos gyda'n cymheiriaid mewn llywodraeth leol dros yr hydref. Un o'r eitemau sefydlog yn y cyfarfodydd pythefnosol hynny oedd yr argyfwng costau byw, ochr yn ochr ag eitem sefydlog arall, sef Wcráin. Rydym wedi newid y cyfarfodydd hynny bellach i fod yn rhai misol, gan fod y sefyllfa, ar y dechrau, yn golygu bod angen inni lunio ymyriadau newydd, ond mae’r ymyriadau newydd hynny bellach ar waith. Ond wrth gwrs, mae hefyd yn eitem sefydlog bellach i gyngor partneriaeth Cymru, a fydd yn cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth, ac wrth gwrs, mae hwnnw'n fforwm gwasanaethau cyhoeddus llawer ehangach, i sicrhau bod holl gyrff y sector cyhoeddus a gwirfoddol yn gweithio i'r un cyfeiriad, fod pob un ohonynt yn cyfrannu at yr ymdrech i gefnogi ein dinasyddion drwy'r argyfwng costau byw. A hoffwn sôn hefyd am is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog. Nawr, rydym yn gwahodd partneriaid o'r tu allan i'r Cabinet i bob yn ail o gyfarfodydd y pwyllgor hwnnw. Felly, mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi ymuno â ni, ac rydym wedi cael cynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol, i sicrhau bod ein holl ymdrechion yno gyda’i gilydd i gefnogi ein trigolion drwy’r argyfwng costau byw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd. Cyn imi ofyn fy nghwestiwn, rwy’n siŵr, Lywydd, yr hoffech ymuno â mi i groesawu aelodau o Senedd Canada, sydd wedi ymuno â ni heddiw drwy Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, ac sy'n cael y pleser o arsylwi ar ein trafodion y prynhawn yma. Rwy’n siŵr y byddant yn mwynhau'r profiad cymaint â ni.

Prynhawn da, Weinidog. Fe wnaethoch grybwyll, mewn ymateb i un o’ch cwestiynau yn gynharach, y setliad dros dro i lywodraeth leol, ac yn wir, mae’r cynnydd o 7.9 y cant i awdurdodau lleol wedi’i groesawu’n gyffredinol gan yr awdurdodau hynny, ond mae nifer o arweinwyr wedi mynegi pryderon. Mae arweinydd Llafur Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan, yr ydych yn ei adnabod yn dda, rwy'n siŵr, wedi dweud bod gan gynghorau benderfyniadau anodd o’u blaenau. Dywed arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi o Blaid Cymru, y bydd angen gwneud toriadau anodd i wasanaethau lleol o ganlyniad i’r setliad hwn. Mae Cyngor Sir Powys, sy'n cael ei redeg gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych ar gau ysgolion gwledig, ac ymgynghorodd Cyngor Sir Fynwy, sy'n cael ei redeg gan Lafur, ar doriadau i oriau canolfannau hamdden hefyd. Hyn oll tra bo'n trethdalwyr yn debygol o wynebu cynnydd pellach yn eu trethi. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, fel y sylwadau gan arweinwyr y cynghorau hynny, ac o ganlyniad i’ch penderfyniadau cyllido, pa benderfyniadau anodd pellach y credwch y bydd yn rhaid i’n cynghorau lleol eu gwneud? A pha wasanaethau y credwch y bydd yn rhaid i'n trigolion wynebu eu gweld yn cael eu torri?

Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod ein setliad cyffredinol i lywodraeth leol, gyda'r cynnydd o 7.9 y cant ar y flwyddyn ariannol hon, wedi’i groesawu’n gyffredinol gan lywodraeth leol. Credaf ein bod wedi darparu’r setliad gorau posibl y gallem fod wedi'i ddarparu. Rhoesom fwy o gyllid i lywodraeth leol na’r cyllid a gawsom mewn cyllid canlyniadol o fesurau a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref ym meysydd gofal cymdeithasol ac addysg. Bu modd inni wneud hynny drwy gynnal ymarfer poenus iawn ein hunain ar draws y Llywodraeth yn nodi meysydd lle gallem ailflaenoriaethu cyllid tuag at lywodraeth leol a thuag at ein gwasanaeth iechyd. Fe welwch yr holl fanylion hynny, wrth gwrs, yn y gyllideb ddrafft a osodwyd. Felly, nid wyf yn diystyru'r ffaith y bydd yn rhaid i lywodraeth leol wneud cyfres o benderfyniadau anodd yn lleol. Dylai'r penderfyniadau hynny nawr gael eu harwain yn lleol; gwn y byddant yn ymgynghori â'u trigolion ynghylch beth yw blaenoriaethau eu trigolion. Ond o dan yr amgylchiadau, rydym wedi darparu’r setliad gorau posibl. Mater i’r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yw darparu eu cyllideb amgen, y gwn iddi gael ei haddo i ni y llynedd, ond nid ydym wedi'i gweld eto.

13:45

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mater allweddol mewn perthynas â'r cyllid i awdurdodau lleol yw’r ffordd y caiff y cyllid hwnnw ei ddosbarthu. Fel y gwyddoch, daw rhan sylweddol o gyllid y cynghorau hynny ar ffurf grantiau. Credaf fod oddeutu £1.4 biliwn o’r cyllid y bydd y cynghorau hynny’n ei gael yn dod mewn grantiau. Wrth gwrs, mae’r arian ei hun i’w groesawu, ond efallai y gall y cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch ble a phryd y dylid gwario’r grantiau hynny fod yn gyfyngol ac achosi baich gweinyddol sy’n llesteirio gwaith ein cynghorau. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, sut rydych yn gweithio gyda’r cynghorau hynny i sicrhau y gellir cael rhagor o hyblygrwydd ar ddyrannu grantiau? Sut rydych yn gweithio i sicrhau bod grantiau’n mynd i adran heb ei neilltuo o’u cyllid fel y gallant wario’r arian hwnnw ar yr hyn sydd orau iddynt hwy a’r hyn sydd orau i’w trigolion lleol?

Credaf fod hwn yn faes lle mae’n debyg fod gennym fwy o dir cyffredin, gan fod hwn yn waith y buom yn ei wneud gydag awdurdodau lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ar eu cais hwy, i archwilio pa feysydd cyllid grant y gellid eu symud, o bosibl, i mewn i'r grant cynnal refeniw ar sail tymor byr neu barhaol. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond rydym wedi llwyr ymrwymo i edrych ar hynny. Bydd amserlenni, wrth gwrs, yn bwysig ar gyfer y gwaith hwnnw. Ond hoffwn roi sicrwydd i chi a chyd-Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hyn fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion CLlLC ac yn siarad â thrysoryddion ledled Cymru i archwilio'r hyn a allai fod yn bosibl.

Diolch, Weinidog. Os caf, hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiwn olaf ar gyfarfodydd cyngor rhithwir. Mae'n fater rwyf wedi'i godi sawl gwaith yma yn y Siambr, ac mae'n fater a godais gyda chi yr wythnos diwethaf yn ogystal. Hefyd, gwelsom stori arall yn y cyfryngau ddoe yn dangos llanast o sefyllfa lle mae'n edrych fel pe bai gweithred rywiol honedig wedi digwydd dros gyfarfod Zoom yn ystod un o gyfarfodydd cabinet cyngor sir y Fflint—cwbl amhriodol, ond mae'n tynnu sylw unwaith eto at rai o'r problemau a welwn mewn cyfarfodydd llywodraeth leol rhithwir. Er bod gan gyfarfodydd rhithwir eu rhinweddau, wrth gwrs, mynegais fy mhryderon wrthych yr wythnos diwethaf ynglŷn â sut y cânt eu rheoli. Mynegais bryderon ynglŷn â chynghorydd yr honnir ei fod yn gyrru wrth bleidleisio, rydym wedi gweld tystiolaeth o drafodion yn cael eu golygu cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar-lein, a nawr yr adroddiadau diweddaraf yn y newyddion am y weithred ofnadwy hon a ddigwyddodd yng nghyngor sir y Fflint. Mae'n dangos sut y gellir camddefnyddio cyfarfodydd rhithwir mewn ffordd na all ddigwydd mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Felly, yr wythnos diwethaf, pan wnaethom gyfarfod, Weinidog, fe ddywedoch chi y byddech yn ceisio cyhoeddi canllawiau pellach i gynghorau. Tybed a wnewch chi ystyried cyflymu’r broses o gyhoeddi’r canllawiau hynny a chael trafodaethau gyda chynghorau i sicrhau eu bod yn cynnig cyfarfodydd hybrid ac nid cyfarfodydd rhithwir yn unig, gan fod cyfarfodydd wyneb yn wyneb mor bwysig i’n trigolion ac i waith cynghorau.

Diolch am godi’r pwynt hwnnw y prynhawn yma. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod y gall gweithio hybrid a gweithio rhithwir fod yn ffordd wirioneddol bwysig o gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth, fel y buom yn ei drafod yr wythnos diwethaf, o ran gwneud y cyfarfodydd hynny’n fwy hygyrch i bobl mewn gwaith llawn amser, pobl a chanddynt ymrwymiadau teuluol, ymrwymiadau gofalu, pobl sy'n hunangyflogedig, ac eraill. Ond yn sicr, byddem yn disgwyl yr un ymddygiad gan bobl sy’n mynychu’r cyfarfodydd hynny ag y byddech yn ei ddisgwyl mewn siambr cyngor. Felly, byddaf yn archwilio gyda'r prif swyddog digidol ar gyfer llywodraeth leol beth arall y gallwn ei wneud yn hyn o beth i sicrhau bod pawb yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn y cyfarfodydd hynny, ac efallai y gallem gael sgwrs bellach ynglŷn â mwy o'ch syniadau yn y maes hwn y tu allan i’r Siambr.

Cyn imi alw ar lefarydd Plaid Cymru, a gaf fi ailadrodd y croeso i’r seneddwyr o Ganada i’n Senedd heddiw? Ac rwy'n gobeithio y cewch ymweliad cynhyrchiol â Chymru a'n Senedd, a diolch am ddod ag ychydig bach o'ch tywydd gaeafol i ni hefyd.

Felly, croeso i chi i gyd. Llefarydd Plaid Cymru nawr, Llyr Gruffydd.

13:50

Diolch yn fawr, Lywydd. Ac roedd yn dda iawn rhannu awr o’n hamser ni hefyd yn cymharu nodiadau mewn perthynas â’r gwaith a wnawn ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

So, diolch am hynny.

Weinidog, rydym wedi clywed am bryderon ynghylch contractio gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â llywodraeth leol, o ganlyniad i sefyllfa ariannol ein cynghorau. Nawr, un enghraifft amlwg o hynny, wrth gwrs, oedd y ffaith bod Casnewydd yn ystyried diffodd goleuadau stryd bob yn ail rhwng hanner nos a 6 a.m. i leihau costau ynni. Mae rhai o'm cyd-Aelodau ar y meinciau hyn eisoes wedi codi pryderon ynghylch yr effaith y gallai hynny ei chael a’r canlyniadau, yn enwedig o ran peryglu diogelwch cerddwyr gyda’r nos, yn enwedig menywod, a phobl nad ydynt yn hyderus ac yn gadarn ar eu traed, efallai—pobl hŷn ac yn y blaen—a chanlyniadau posibl felly o ran iechyd meddwl a chorfforol gwaeth. Mae cydberthynas gref, wrth gwrs, rhwng gwell goleuadau stryd a chyfraddau troseddu is hefyd. Felly, mae'n amlwg y gall un penderfyniad syml—dywedaf 'syml' mewn modd amodol, ond un penderfyniad—arwain at oblygiadau ac effeithiau ehangach o lawer.

Felly, fy nghwestiwn i chi yw: pa gyngor rydych yn ei roi i gynghorau lleol, neu pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag awdurdodau lleol? Oherwydd yn amlwg, yn y pen draw, mae'r penderfyniadau ynysig hyn—. A gallech gynyddu effaith y penderfyniadau hyn os ydynt yn benderfyniadau cyfunol—effeithiau cyfunol penderfyniadau tebyg a wneir mewn mannau eraill. Ond pa gyngor rydych yn ei roi i gynghorau lleol ynghylch y risg y gallai rhai o'r penderfyniadau hyn, a wneir heddiw i arbed arian, gostio mwy o arian i bwrs y wlad yn fwy hirdymor?

Credaf fod yr enghraifft a roddwch yn tynnu sylw at y penderfyniadau anodd y mae awdurdodau lleol yn eu hystyried ar hyn o bryd, ac maent yn cwmpasu ystod eang iawn o faterion sydd o bwys i'w trigolion. Felly, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau, wrth gwrs, drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, felly bydd angen iddynt ystyried beth y mae'r penderfyniadau a wnânt yn ei olygu o ran cymunedau cynaliadwy. Ac wrth gwrs, bydd yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn bwysig hefyd o ran deall yr effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol: ar fenywod, pobl hŷn, a roesoch fel enghreifftiau.

Felly, gwn y bydd cynghorau'n gwneud y gwaith hwnnw'n ddiwyd, ond gwn y bydd yn rhaid i gynghorau wneud rhai penderfyniadau anodd, oherwydd maent yn siarad â mi ynglŷn â'r bylchau sy'n dal i fodoli yn y cyllid sydd ganddynt ar gyfer y flwyddyn nesaf. A gwn eu bod yn nodi rhai o'r cynigion hynny yn eu hymgynghoriadau â thrigolion lleol. Felly, yn amlwg, bydd yn rhaid iddynt wrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae trigolion lleol yn ei ddweud wrthynt yw eu blaenoriaethau ar gyfer eu cymunedau wrth iddynt symud ymlaen. Ond fel y dywedaf, rydym wedi darparu'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol. Credaf y byddai’n rhaid ichi fynd yn bell, yn ôl pob tebyg, i ddod o hyd i arweinydd llywodraeth leol y byddai’n well ganddynt fod yn Lloegr nag yng Nghymru, ac mae’n debyg y byddech yn dod o hyd i sawl un yn Lloegr y byddai’n well ganddynt fod yma hefyd. Y rheswm am hynny yw ein bod, drwy gydol blynyddoedd hir cyni, yn dal i ddiogelu llywodraeth leol hyd eithaf ein gallu. Felly, mae hynny'n parhau i fod yn wir, ein bod yn eu diogelu yn y flwyddyn ariannol nesaf hyd eithaf ein gallu. A disgrifiais yn gynharach yn y sesiwn hon y gwaith anodd a wnaethom i ailgyfeirio arian tuag at lywodraeth leol ac iechyd o feysydd eraill y Llywodraeth.

Wel, fy mhryder i yw Cymru, wrth gwrs; nid oes gennyf unrhyw awdurdodaeth dros Loegr. Ond yn sicr, credaf fod angen inni fod yn ymwybodol y bydd y penderfyniadau unigol hyn yn arwain, efallai, at bwysau o gyfeiriadau eraill.

Nawr, yn gysylltiedig â hyn, mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth a rheoliadau, ac rydym yn cefnogi llawer ohonynt, ac maent yn deilwng iawn o ran yr hyn rydym am ei gyflawni ac mae ganddynt fwriadau da, ond mae llawer ohonynt yn cyflwyno dyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol i lywodraeth leol. Rydym wedi'i weld yn digwydd gyda sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, lle, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf cenedlaethau’r dyfodol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, oll wedi pentyrru dyletswyddau ychwanegol ar y sefydliad penodol hwnnw, ar yr un pryd, wrth gwrs, â chyllidebau llai, gan ei roi ar drywydd eithaf anghynaliadwy o ran darparu'r gwasanaethau hynny. Hoffwn ofyn i chi i ba raddau rydych chi'n ystyried y pwysau hwnnw ar lywodraeth leol. Rwyf wedi crybwyll hyn gyda chi o’r blaen: pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i ailbroffilio’r gwaith o gyflwyno rhai o’r dyletswyddau hyn? Mae'r parthau 20 mya yn amlwg yn golygu baich gwaith aruthrol y mae angen ei gwblhau. A yw hynny’n rhywbeth y byddai’r Llywodraeth yn agored i'w ohirio, efallai, neu edrych ar ailbroffilio ei disgwyliad i lywodraeth leol gyflwyno hynny? Hyd yn oed y gwaharddiad ar blastig untro—bydd cyfrifoldeb gorfodi ar lywodraeth leol. Nawr, hoffai pob un ohonom weld hynny ar waith cyn gynted â phosibl, ond credaf fod angen pragmatiaeth ac ymagwedd ymarferol tuag at rywfaint o hyn. Felly, fy nghwestiwn yw: i ba raddau rydych yn edrych yn weithredol ar yr agenda hon, ac i ba raddau rydych yn trafod hyn gyda llywodraeth leol? Ac os ydych, efallai y gallech roi rhai enghreifftiau i ni o rai pethau rydych chi'n eu hystyried yn hynny o beth.

13:55

Os caf ddychwelyd am ychydig at ran gyntaf eich cwestiwn, hoffwn ddweud mai dyma un o'r rhesymau pam fod yr asesiadau effaith strategol mor bwysig, gan eu bod yn edrych ar effaith gronnol penderfyniadau amrywiol ar bobl, ac wrth gwrs, ar bobl a chanddynt fwy nag un nodwedd warchodedig hefyd. Felly, mae’r mathau hynny o asesiadau effaith yn wirioneddol ddefnyddiol i'n helpu i ddeall effaith penderfyniadau.

Ond wedyn, o ran llywodraeth leol, roedd y pethau y gwnaethant ofyn i ni edrych arnynt, ac roeddem yn falch o wneud hynny, yn cynnwys y pwynt ynglŷn â symud grantiau i’r grant cynnal refeniw, naill ai am gyfnod penodol neu’n barhaol. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych yn weithredol arno ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ar ein holl grantiau gwahanol ac yn archwilio beth allai fod yn bosibl. Mae honno'n drafodaeth barhaus, fel y dywedais, gyda CLlLC a chyda thrysoryddion ledled Cymru.

Peth arall y gwnaethant ofyn inni edrych arno oedd effaith beichiau rheoleiddiol. Felly, yn amlwg, mae hwn yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, y byddem yn edrych ar y beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol, ac mae hwnnw'n waith sydd, unwaith eto, yn mynd rhagddo gydag awdurdodau lleol. Ond credaf fod gan rai ohonynt bryderon arbennig am rai o’r systemau rheoleiddio, felly rydym yn edrych ar rai o’r pryderon penodol hynny a oedd ganddynt hefyd, gan ein bod yn agored iawn i gael yr holl drafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol i geisio sicrhau y gallwn ymddiried ynddynt i fwrw ymlaen â’r gwaith y mae angen iddynt ei wneud.

Ac yna, ar y pwynt ynghylch ailbroffilio neu edrych eto ar rai o'n hymrwymiadau, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei archwilio gyda llywodraeth leol. Credaf fod safbwyntiau gwahanol i'w cael ynglŷn â rhai o’r pethau hyn. Er enghraifft, y parthau 20 mya, yn amlwg, mae hwnnw'n ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Gwn fod safbwyntiau cryf i'w cael ynglŷn â'r ymrwymiad penodol hwnnw. Ond rydym yn cymryd rhan agored yn y trafodaethau hyn gyda llywodraeth leol.

Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu awdurdodau lleol i hyrwyddo iechyd y cyhoedd? OQ58963

Y byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am yr adnodd ar gyfer hybu iechyd cyhoeddus sylfaenol. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am feysydd iechyd y cyhoedd eraill, megis diogelu iechyd ac iechyd cyhoeddus amgylcheddol. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd lleol, ar rai meysydd hybu iechyd, megis y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff.

Ie, diolch ichi am yr ateb. Wrth gwrs, mi wnaeth y Gweinidog iechyd bwyntio bys ychydig ar y cyhoedd ynglŷn â chyfrifoldeb y cyhoedd i fod yn fwy gofalus am eu hiechyd ac i wneud mwy o ran ymarfer corff ac i fwyta'n iachach ac yn y blaen. Roeddwn i'n teimlo bod hynny efallai—bod pwyntio bys at y cyhoedd ynglŷn â thrafferthion yr NHS braidd yn hallt, ond dwi'n deall y pwynt yr oedd hi'n ei wneud. Ond, wrth gwrs, dyw'r Llywodraeth ei hunan ddim yn helpu yn hynny o beth, oherwydd rŷn ni wedi sôn am y toriadau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, wrth gwrs—mae canolfannau hamdden yn cau, mae rhaglenni iechyd cyhoeddus yn cael eu torri. Felly, ydych chi'n cytuno â fi bod yna wrth-ddweud, bod yna contradiction mawr yn fan hyn, lle ar un llaw mae'r Llywodraeth yn dweud, 'Gwnewch fwy i fyw yn iach', ac, ar y llaw arall, mae diffyg ariannu o gyfeiriad y Llywodraeth yn golygu bod y canolfannau hamdden, bod y rhaglenni iechyd cyhoeddus, bod y gefnogaeth sydd yna i helpu pobl i wneud hynny yn cael eu torri?

Wel, yn gyntaf, hoffwn roi sicrwydd i chi ein bod yn ymwybodol iawn ac yr un mor bryderus ynghylch y pwysau y mae'r argyfwng ynni presennol a'r argyfwng costau byw yn ei roi ar y sector chwaraeon a hamdden. Wrth gwrs, golyga'r setliad llywodraeth leol dros dro fod rhai awdurdodau lleol bellach wedi gwrthdroi eu cynlluniau i gau rhai o’u cyfleusterau, sy’n bwysig iawn yn fy marn i, gan ei fod yn dangos eu bod yn blaenoriaethu’r cyfleusterau hynny gyda’r cyllid ychwanegol rydym wedi gallu ei ddarparu. Gwn, er enghraifft, fod rhai pethau fel pyllau nofio, lle mae awdurdodau a gweithredwyr eu pyllau nofio yn bryderus am nad ydynt wedi cael cynnig amddiffyniad o dan gynllun gostyngiadau biliau ynni newydd Llywodraeth y DU, felly rydym yn cefnogi’r ymdrechion i sicrhau bod y mathau hynny o gyfleusterau'n cael eu categoreiddio fel defnyddwyr ynni dwys. Mae'n werth cydnabod hefyd, fel rhan o'u buddsoddiadau cyllid cyfalaf, fod Chwaraeon Cymru yn ymchwilio i ffyrdd y gallant gefnogi'r sector mewn perthynas ag ynni gwyrdd, ac maent wedi cysylltu â gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i drafod y materion ymarferol yn y cyswllt hwnnw. Felly, yn amlwg, mae'r rhagolygon ariannol yn heriol iawn ar hyn o bryd, ond gwn fod awdurdodau'n ceisio blaenoriaethu’r gwasanaethau anstatudol hyn, ac mae gennym sawl cwestiwn ynglŷn â'r rheini y prynhawn yma hefyd, fel rhan o’u hymateb i'r argyfwng costau byw, ac i gefnogi pobl.

14:00

Gan fod y boblogaeth dros 65 oed yn debygol o gynyddu'n sylweddol dros y pum mlynedd nesaf, mae'n hanfodol fod ein hawdurdodau lleol yn cael cyllid digonol i gefnogi ein poblogaeth hŷn, ac rydym yn gwybod bod ein gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn llanast. Clywsom y pryderon am y cyllid neulltiedig a'r ffordd y mae arian yn cael ei roi i awdurdodau lleol. Clywsom ein cyd-Aelod, Llyr Gruffydd yn amlinellu'r cyfrifoldebau sydd ar awdurdodau lleol o ganlyniad i ddeddfwriaeth wael sy'n mynd o'r fan hon, ac sy'n cael ei chodi gan awdurdodau lleol wedyn.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio cymunedau sydd o blaid pobl hŷn fel llefydd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a chyrff yn cydweithio mewn partneriaeth i gefnogi ac i alluogi pawb ohonom i heneiddio'n dda. Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £1.1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi eu gwaith i fod o blaid pobl hŷn ac i sicrhau bod pobl hŷn yn rhan o'r gwaith o lunio a chynllunio gwasanaethau lleol. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi gweithio arno gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac mae hi wedi pwysleisio bod angen i fuddsoddiad o'r fath barhau. Weinidog, pa gynnydd a gyflawnwyd gan y buddsoddiad o £1.1 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac ai eich bwriad chi, a bwriad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn wir, yw parhau i fuddsoddi mewn creu cymunedau sydd o blaid pobl hŷn yn 2023-24? Diolch.

Diolch am y cwestiwn hwnnw ac rwyf innau hefyd wedi cael cyfarfod da iawn gyda'r comisiynydd pobl hŷn, a siaradodd yn angerddol iawn am botensial cymunedau sydd o blaid pobl hŷn. Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru, ar gyfer 2023-24, drwy'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol yn darparu grant o £50,000 i bob awdurdod lleol, fel eu bod yn gallu penodi swyddog arweiniol i gefnogi eu gwaith tuag at fod yn rhan o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o gymunedau a dinasoedd sydd o blaid pobl hŷn. Gwn y byddai'r Dirprwy Weinidog yn fwy na pharod i ddarparu gwybodaeth fanylach am y gweithgareddau sy'n digwydd yn lleol.

Newid Hinsawdd

4. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y cyllid sydd ei angen i gyflawni eu hymrwymiadau newid hinsawdd? OQ58967

Mae newid hinsawdd yn flaenoriaeth drawslywodraethol ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a chyda fy nghyd-Weinidogion eraill yn y Cabinet i gefnogi cyflawniad Cymru Net Sero, ac i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu hymrwymiadau.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rydym wedi cael llawer o drafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â sicrhau bod digon o gyfalaf i ddatgarboneiddio, i lywodraeth leol ddatgarboneiddio a buddsoddi yn eu prosiectau gwyrdd. Ond nid arian yw'r cyfan, ychwaith. Mae angen gwneud yn siŵr hefyd fod yna ddigon o gyfalaf dynol gyda'r sgiliau a'r wybodaeth gywir sydd eu hangen arnynt i gyflawni'r rolau hynny, ac rwy'n gwybod bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn eu tystiolaeth ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth, wedi rhannu eu pryderon ynghylch prinder staff â sgiliau gwyrdd, yn ogystal â'r anawsterau a brofwyd gan gyrff cyhoeddus gyda chadw staff sydd â'r sgiliau gofynnol oherwydd gwahaniaethau yng nghyflogau'r sector preifat.

Weinidog, tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda chymheiriaid mewn llywodraeth leol ynglŷn â datblygu ac ariannu strategaeth recriwtio, cadw ac uwchsgilio, fel bod gan staff wybodaeth a sgiliau gofynnol mewn materion gwyrdd. A pha ystyriaeth a roddwyd gennych i wella rôl cyd-bwyllgorau corfforedig, fel y gall cyllidebau cyfun ac ymdrechion cyfun gyflawni rhai o'r ymrwymiadau hyn?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw y prynhawn yma, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae panel datgarboneiddio Cymru yn ei wneud ar sicrhau bod gan bob awdurdod lleol gynlluniau yn eu lle er mwyn helpu i'w symud tuag at y nod o sero net yn y sector cyhoeddus erbyn 2030.

Rwy'n meddwl mai un o'r meysydd lle mae angen inni roi llawer iawn o ffocws yw caffael wrth gwrs, oherwydd mae dros 60 y cant o allyriadau cynghorau'n codi drwy gaffael nwyddau a gwasanaethau. Rwy'n crybwyll hynny oherwydd dyna un o'r meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y sector penodol hwnnw. Felly, rydym wedi bod yn buddsoddi yn y cymwysterau proffesiynol, ac yn cynorthwyo pobl i gyflawni cymwysterau proffesiynol yn y sector cyhoeddus, fel bod ganddynt y sylfaen sgiliau honno a'r wybodaeth sydd ei hangen, ond yn enwedig felly gyda ffocws nawr ar ddatgarboneiddio. Ddoe ddiwethaf, cefais gyfle i gyfarfod â'r unigolion drwy Curshaw a oedd yn datblygu cyfnod alffa ein canolfan ragoriaeth caffael. Roedd hwnnw'n gyfarfod diddorol iawn, a siarad â hwy am yr hyn roeddent wedi'i glywed o siarad â gweithwyr caffael proffesiynol o fewn y sector cyhoeddus, ac mewn llywodraeth leol yn arbennig. Rwy'n credu bod sgiliau a chydnabyddiaeth yn rhan o hynny, pryder fod rhaid cael cyfle parhaus i ddatblygu'r sgiliau hynny o fewn cyd-destun modern iawn ac yng nghyd-destun y daith tuag at sero net erbyn 2030. Felly, mae hwnnw'n faes gwaith lle mae llawer yn digwydd ar hyn o bryd, ond yn enwedig gyda golwg ar gaffael.

14:05

Wrth gwrs, y ffordd orau o gyflawni hyn, fel y gwyddom i gyd ar bob ochr i'r Siambr, fyddai mynd yn ôl i'r hen wyth sir lle mae gennych lywodraeth leol gyda digon o gapasiti a grym i allu cyflawni'r cynlluniau hynny. Rydych chi'n gwybod hynny, maent hwy i gyd yn gwybod hynny, ond dyna ni. Nid wyf am fynd ar drywydd hynny y prynhawn yma, bydd pawb yn falch o glywed. Ond yr hyn yr hoffwn—[Torri ar draws.]

Yr hyn yr hoffwn herio'r Gweinidog arno yw hyn: gall llywodraeth leol weithredu fel catalydd yn eu hardaloedd i alluogi llawer mwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy yn y gymuned. Rydym yn gweld hynny mewn rhai llefydd, ond nid ydym yn gweld unrhyw beth tebyg i'r nifer sydd ei angen arnom er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau sero net, ond hefyd i fynd i'r afael â rhai o'r problemau cymdeithasol y gwnaethom eu trafod mewn cwestiwn cynharach. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, Weinidog, i ddod â llywodraeth leol ynghyd i sicrhau bod gan lywodraeth leol yr arfau—yr arfau ariannol yn ogystal â'r arbenigedd a ddisgrifiodd Peter Fox—i roi modd i gymunedau lleol gyflawni cynlluniau adnewyddadwy a fydd yn mynd i'r afael â'r holl bethau y buom yn eu trafod yn gynharach?

Rwy'n cytuno bod gan awdurdodau lleol rôl bwysig a photensial pwysig yn hynny o beth, a dyna pam rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymgysylltu â hwy mewn perthynas â datblygu gwaith Unnos, a gobeithio y bydd hi'n sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael i gyd-Aelodau ar ddatblygiad y gwaith hwnnw cyn bo hir iawn. Felly, efallai y byddai hwnnw'n gyfle i archwilio hynny'n fanylach.

Ni chaf fy nhemtio i ymateb ychwaith ar y pwynt a wnaethoch ynglŷn â ffurfiadau llywodraeth leol, ac rwy'n sylweddoli fy mod heb ymateb i bwynt y llefarydd cyllid ar y cyd-bwyllgorau corfforedig, ond fe ddaw cyfleoedd eraill.

Gwasanaethau Cyhoeddus Anstatudol

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch y disgwyliad eu bod yn cynnal gwasanaethau cyhoeddus anstatudol yn dilyn cyllideb 2022-23? OQ58968

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phob arweinydd awdurdod lleol i drafod materion allweddol sy'n effeithio arnom i gyd, gan gynnwys yr heriau ariannol presennol. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu sut y maent yn darparu eu gwasanaethau anstatudol, yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol.

Diolch yn fawr iawn am hwnna, a dŷch chi'n rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, ond chi sy'n gwneud y toriadau. Pa gyngor, felly, sydd gennych chi i awdurdodau sydd rŵan yn gorfod penderfynu rhwng cau canolfannau dydd i'r henoed, torri gwasanaethau datblygu'r economi, cau canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, lleihau trafnidiaeth gyhoeddus, gwneud llai i ddelio â'r argyfwng hinsawdd, peidio â gwario ar hybu'r iaith Gymraeg a llu o bethau eraill hanfodol mae llywodraeth leol yn eu gwneud ar ran pobl Cymru? Sut mae cynghorau i fod i ddewis rhwng y pethau annerbyniol yma, a pha gyngor sydd gan y Gweinidog i bobl Cymru fydd ddim yn derbyn y gwasanaethau hanfodol yma o hyn allan?

Fe wnaf y pwynt eto fod Llywodraeth Cymru wedi darparu'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol, ac rwy'n gwybod bod arweinwyr llywodraeth leol ac aelodau llywodraeth leol ledled Cymru wedi cydnabod hynny. Fel y crybwyllais, rydym yn darparu cyllid refeniw o dros £5.1 biliwn a dros £1 biliwn o grantiau penodol i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf, sy'n gynnydd o 7.9 y cant. Nawr, mae hwnnw'n gynnydd sylweddol yn y cyd-destun sy'n ein hwynebu, gyda'n cyllideb ein hunain yn lleihau yn ei gwerth dros dymor y Senedd, ac fel y crybwyllais yn gynharach y prynhawn yma, fe wnaethom ddyrannu mwy o gyllid i lywodraeth leol nag a gawsom o gyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn sgil datganiad yr hydref, ac mae hynny wedi digwydd ar draul cyd-Weinidogion sydd wedi gorfod dargyfeirio cyllid oddi wrth raglenni a drysorant yn eu portffolios eu hunain. Felly, hoffwn ddweud ein bod wedi gwneud ein gorau i lywodraeth leol. Rydym yn craffu ar y gyllideb ar hyn o bryd. Ni chlywaf gan gyd-Aelodau ar y meinciau eraill unrhyw enghreifftiau o feysydd lle byddent yn hoffi gweld cyllid yn cael ei ddargyfeirio oddi wrthynt er mwyn darparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol neu i flaenoriaethau eraill a allai fod ganddynt. Ond rwy'n edrych ymlaen at glywed y syniadau hynny.

14:10
Mesurau Iechyd Ataliol

6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion eraill ynghylch cyllido mesurau iechyd ataliol ar draws y Llywodraeth? OQ58961

Gan adeiladu ar ein cyllideb flaenorol, mae cyllideb ddrafft 2023-24 yn parhau i ganolbwyntio ar atal niwed i'r rhai mwyaf difreintiedig. Ochr yn ochr â'r £165 miliwn i ddiogelu ein GIG, mae'r camau gweithredu'n cynnwys diogelu'r £90 miliwn o gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, buddsoddi £10 miliwn pellach mewn atal digartrefedd a darparu £2.2 miliwn ar gyfer ein cynllun peilot incwm sylfaenol.

Diolch am yr ymateb yna, ond yr un bregeth eto gen i, mae gen i ofn. Mae angen gwneud llawer, llawer mwy ar yr ataliol os ydyn ni am wneud Cymru yn genedl fwy iach, a hynny reit ar draws y Llywodraeth. Yn Ynys Môn mae yna bryderon go iawn am ddyfodol y cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, neu NERS, oherwydd diffyg buddsoddiad. Rŵan, £145,530 mae'r cyngor sir wedi'u derbyn eleni i ariannu NERS; yr un swm ag y sydd wedi'i dderbyn ers 2015. Mae'r cyngor sir wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd am hyn. Mae ganddyn nhw rhestr aros o bobl ond diffyg adnoddau, ac mae'n rhaid i ni wneud mwy o'r math yma o beth os ydyn ni'n wirioneddol am ffocysu ar fesurau ataliol.

Dwi hefyd wedi bod yn siarad â'r Nifty Sixties yng Nghaergybi, corff sydd eisiau ymestyn ei waith ar draws yr ynys i roi gwell iechyd i bobl hŷn. Mae angen iddyn nhw allu cael pobl wedi'u cyfeirio atyn nhw. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i drafod â'r Gweinidog iechyd sut i gynyddu'r swm yma? Oherwydd oni bai bod y buddsoddiad byrdymor yma, cymharol fach, yn cael ei wneud, yna mi fydd y pwysau'n mynd yn fwy ac yn fwy yn y hirdymor ar y gyllideb gyfan.

Fe wnaf ymrwymo i gyfleu'r pryderon a fynegwyd gennych y prynhawn yma i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn amlwg, mater iddi hi ei benderfynu o fewn y prif grŵp gwariant sydd ganddi yw hwn, ond rwy'n fwy na pharod i roi gwybod iddi am y cyfraniad y prynhawn yma.

Arlwyo mewn Ysgolion

7. Pa asesiad ariannol y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddull awdurdodau lleol o fuddsoddi mewn arlwyo ysgolion? OQ58952

Cafodd £260 miliwn ei ymrwymo i weithredu'r rhaglen darparu prydau ysgol am ddim i bawb dros y tair blynedd nesaf. Rwy'n rhagweld y bydd y cyllid hwn yn ddigonol i'r mwyafrif o awdurdodau lleol, ond rwyf wedi addo y bydd unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu hasesu fesul achos.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, sy'n hynod ddefnyddiol. Tybed a gaf fi eich holi pa asesiad ariannol y gallech fod wedi'i wneud ar y gwahanol fodelau y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio, gan fod y cynnydd mewn prisiau bwyd yn llawer uwch na'r 1.65 o gynnydd i gyllidebau awdurdodau lleol yn gyffredinol, ac mae yna brinder cogyddion ym mhobman, nid mewn ysgolion yn unig, ond mewn bwytai a chaffis ar draws y DU.

Mae'n ymddangos bod yna dri phrif fodel cyflenwi. Mae Ynys Môn, ymhlith eraill efallai, wedi allanoli eu darpariaeth arlwyo i gontractwyr preifat. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn dibynnu ar arlwywyr mewnol a choginio ein gwasanaeth prydau ysgol i blant cynradd mewn ceginau ysgol, sy'n aml yn galw am gyfalaf i adnewyddu ceginau nad ydynt bellach yn addas i'r diben ar gyfer ein gwasanaeth prydau estynedig. Mae'r trydydd model, yn sir y Fflint, yn archwilio trafodaethau datblygedig gyda menter gymdeithasol ynghylch trydydd opsiwn, sef coginio'r prif bryd yn ganolog, a elwir weithiau'n ddull coginio ac oeri, gyda'r gwaith paratoi terfynol ar fwyd nad oes angen ei goginio, fel ffrwythau a salad, yn cael ei wneud yn yr ysgolion unigol, a'i baratoi gan y cynorthwywyr cegin sy'n dosbarthu'r prydau beth bynnag. Faint o hyn sy'n rhagdybio defnydd o'r model cegin unigol, a faint ohono sy'n edrych ar y gost o gael prydau bwyd wedi eu paratoi'n ganolog, o leiaf tra bod gennym argyfwng o'r fath gyda'r ddarpariaeth o gogyddion?

14:15

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Gallaf ddweud bod swyddogion Trysorlys Cymru yn rhan o'r gweithgor sydd wedi'i sefydlu i fwrw ymlaen â'r adolygiad o gyfradd yr uned. Yn amlwg, nid yw'n syml, a byddant yn edrych ar effeithiau'r modelau gwahanol ar gyfer cytuno ar y gyfradd. Ar hyn o bryd, mae cyfradd bresennol unedau prydau ysgol am ddim ar draws awdurdodau lleol yn cael ei hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth ynghylch costau cynyddol a'r hyn y disgwyliwn i awdurdodau lleol ei gyflawni o ran cyrchu cynhwysion lleol. Yn amlwg, maent yn archwilio cynaliadwyedd y cynnig. Rwy'n siŵr y bydd rhan o'r gwaith hwnnw'n cynnwys archwilio'r gwahanol fodelau cyflenwi, edrych i weld pa un sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian, ac edrych i weld pa un sy'n cyflawni'r nodau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach sydd gennym. Efallai y gofynnaf i'r Gweinidog addysg anfon at yr Aelod gyda mwy o fanylion am hynny. 

Gwasanaethau Anstatudol

8. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chynghorau yn rhanbarth Canol De Cymru ynglŷn â dyfodol gwasanaethau anstatudol yn sgil yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu? OQ58953

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda phob awdurdod lleol i drafod materion allweddol sy'n effeithio arnom i gyd, gan gynnwys yr heriau ariannol presennol. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu sut maent yn darparu eu gwasanaethau anstatudol yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol.

Diolch. Rwy'n deall mai mater iddynt hwy yw blaenoriaethu, ond fel y clywsom gan nifer o'r Aelodau, mae yna bryder ynghylch yr elfennau anstatudol. Rydym yn gweld ymgynghoriadau ar y gyllideb yn fy rhanbarth ar hyn o bryd lle mae gennych chi gwestiynau fel, 'A ydych chi eisiau amgueddfa neu lyfrgell, neu a ydych chi eisiau gofal cymdeithasol?' Wrth gwrs fod pobl yn mynd i ddewis y gwasanaethau hynny, ond mae hefyd yn bychanu rôl bwysig a gwerthfawr llyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Rydym yn gweld y bygythiad i Amgueddfa Caerdydd, a arferai gael ei galw'n Amgueddfa Stori Caerdydd. Rydym yn meddwl hefyd am fudd economaidd sefydliadau o'r fath. Felly, a gaf fi ofyn—? Rwy'n gwybod mai mater i awdurdodau lleol ydyw, ond mae'n fater o bryder cenedlaethol os ydym am gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, os ydym am sicrhau bod pobl yn cael budd o ddiwylliant a chwaraeon, y gwyddom eu bod mor hynod o werthfawr, o ran iechyd a lles, i ddiogelu ein GIG. Beth yw rôl y Llywodraeth ar wahân i ddweud ei fod yn fater i awdurdodau lleol? Rhaid bod rôl o ran yr elfennau anstatudol hefyd os ydym am gyflawni Deddf cenedlaethau'r dyfodol.

Mae is-adran ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau diwylliannol lleol, gan gynnwys amgueddfeydd, sy'n wasanaethau anstatudol, fel y dywedwch. Mae cyllid ar gael i alluogi amgueddfeydd i gyfarfod a chynnal achrediad yr amgueddfa, gan gynnwys darparu mynediad at y cynllun grant cyfalaf trawsnewid blynyddol. Mae'r adran ddiwylliant hefyd yn darparu rhaglen hyfforddiant a datblygu'r gweithlu ar gyfer staff amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd, ac mae hefyd yn cefnogi gwasanaethau â chyngor a chyllid i'w galluogi i rannu a chyflawni ein blaenoriaethau, megis cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol. Felly, mae ffynonellau eraill o arian ar gael drwy'r adran ddiwylliant. 

Wrth gwrs, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon sy'n agored i bawb, ac mae hynny wedi'i osod mewn deddfwriaeth o dan ddarpariaethau Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Yn amlwg, bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o hynny wrth osod eu cyllideb. Wrth gwrs, rydym yn monitro'r modd y mae llyfrgelloedd lleol yn darparu gwasanaethau drwy safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, ac rydym yn cefnogi datblygiad darpariaeth llyfrgelloedd drwy fentrau megis ein gwasanaeth llyfrgell digidol cenedlaethol.

Gallaf ddweud hefyd fod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi trafod yr enghreifftiau penodol gydag awdurdodau lleol lle bu argymhellion yn ymwneud â chynigion diwylliannol yn ymgynghoriadau’r gyllideb, ac mae swyddogion hefyd wedi cysylltu â staff yn y sefydliadau hynny i roi cyngor perthnasol. Gwn fod gan y Dirprwy Weinidog ddiddordeb gweithredol yn y cynigion sy'n rhan o'i phortffolio hi. 

14:20
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i’r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.

Pryfed Peillio

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru yn gyfeillgar i bryfed peillio? OQ58955

Member
Lesley Griffiths MS 14:20:15
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Mae ein rhaglen rhwydwaith natur yn ariannu prosiectau a fydd yn cefnogi pryfed peillio, gan gynnwys prosiect glaswelltiroedd iach a gwydn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sydd â'r nod o greu rhwydwaith o laswelltiroedd o ansawdd ar draws 11 o safleoedd a warchodir. Mae hyn yn adeiladu ar ein cynllun gweithredu ar gyfer pryfed peillio a chynllun Caru Gwenyn.

Diolch. Heb wenyn a phryfed peillio eraill, byddem yn llwgu. Ac os ydym am osgoi tynged ffermwyr yn yr Unol Daleithiau, sy'n gorfod dibynnu ar wenyn a gaiff eu cludo gan lorïau dros bellteroedd mawr, rhaid inni sicrhau coridorau i ddenu gwenyn ledled Cymru gyfan. Yr wythnos nesaf byddaf yn plannu coeden sy'n blodeuo fel rhan o brosiect coed sy'n blodeuo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Weinidog, a wnewch chi annog ffermwyr i blannu coed sy'n blodeuo, ac a wnewch chi annog garddwyr ar draws y wlad i blannu coed sy'n blodeuo a blodau gwyllt i ddarparu coridorau ar gyfer ein pryfed peillio hanfodol? Diolch.

Diolch. Rydych yn llygad eich lle; mae iechyd gwenyn yn gwbl hanfodol i'n bodolaeth. Mae'n dda iawn clywed am y gwaith a wnewch. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi coeden am ddim i bawb ledled Cymru, felly dyna un ffordd rydym yn annog pobl i blannu mwy o goed. Yn sicr, rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â phlannu blodau gwyllt ar ymylon ffyrdd a chylchfannau; gwelais enghreifftiau da iawn o hynny yng ngogledd Cymru. Ond os gall pawb ohonom wneud ychydig bach, rwy'n credu  y bydd hynny'n helpu yn y dyfodol.

Clefydau mewn Da Byw

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58965

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw—hynny yw, livestock—yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

Cyn i'r Gweinidog ateb, does dim angen cyfieithu 'da byw'. Rŷn ni i gyd yn ymwybodol o beth yw'r ystyr. Sticiwch at y cwestiwn fel mae e wedi cael ei gyflwyno. Y Gweinidog i ymateb.

Mae rheoli clefydau endemig ac egsotig mewn da byw yng Nghymru yn ganolog i'n fframwaith iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer 2014 i 2024. Mae gennym oruchwyliaeth gadarn, strategaethau rheoli a rhaglenni a phrosiectau parhaus ar waith ar gyfer dileu clefydau anifeiliaid i reoli ac atal eu lledaeniad, mewn cydweithrediad â cheidwaid anifeiliaid a milfeddygon. Mae bioddiogelwch yn hollbwysig wrth gwrs.

Diolch yn fawr iawn. Fel ŷn ni i gyd yn gwybod, mae'r clafr, sef sheep scab, yn bryder mawr i ffermwyr defaid yng Nghymru, ac mae'r clefyd yn cael effaith sylweddol iawn ar iechyd a lles anifeiliaid. Ar draws y Deyrnas Gyfunol, mae'n cyfrannu at golledion o ryw £8 miliwn yn y sector bob blwyddyn. Fel ŷch chi eisoes wedi esbonio, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gael gwared ar y clafr yng Nghymru, a dwi'n croesawu'n arbennig y cynllun sydd wedi cael ei wneud gyda Choleg Sir Gâr i fynd i'r afael â'r clefyd hwn.

Fodd bynnag, yn debyg iawn i nifer o ffermwyr ledled Cymru, ces i fy nychryn gan y ffioedd arfaethedig sydd wedi cael eu nodi fel rhan o'r ymgynghoriad diweddar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r swm ar gyfer gwaredu dip defaid yn codi rhyw 10 gwaith mwy na'r swm presennol, i gyfanswm o ryw £3,700. Mae'n debyg bod ychydig iawn o esboniad wedi cael ei roi am pam mae hyn wedi digwydd. Felly, ydy'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder i, a'r sector, y gallai cyflwyno'r math hwn o ffioedd afresymol o uchel yn ystod argyfwng costau byw gael goblygiadau difrifol ar ymdrechion y Llywodraeth i waredu'r clafr yng Nghymru?

Diolch. Fel y nodwyd gennych, mae'r clafr yn glefyd y bu gennym ffocws penodol arno. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym wedi darparu profion crafu croen i ganfod y clafr drwy gydol y flwyddyn drwy ein canolfan ymchwil filfeddygol yng Nghaerfyrddin ar gyfer ein diadelloedd Cymreig, ac rydym newydd gyflwyno contract tair blynedd gwerth £4.5 miliwn ar gyfer rhaglen ddileu'r clafr yng Nghymru.

Rydych yn sôn am ymgynghoriad parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu ffioedd rheoleiddio a thaliadau am y flwyddyn ariannol nesaf. Nod yr adolygiad hwnnw yw sicrhau bod CNC yn gallu adennill eu costau'n llawn, gyda rhai o'r taliadau presennol heb gael eu hadolygu ers nifer o flynyddoedd. Ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch, ac mae'n adeg arbennig o heriol i bawb, ac i'n ffermwyr hefyd wrth gwrs. Mae CNC yn disgwyl i gost uwch trwyddedau effeithio ar nifer fach iawn o ffermydd yng Nghymru, oherwydd yn amlwg mae angen cael gwared ar ddip defaid sydd wedi'i ddefnyddio mewn ffordd sy'n hynod o ystyriol o'r amgylchedd oherwydd y cemegau y mae'n eu cynnwys. Mae yna alw—fe wyddoch eich hun—am yr unedau symudol sy'n mynd o gwmpas ffermydd hefyd. Fodd bynnag, gyda rhai o'r ffigyrau a welsom, rwy'n credu y gallaf ddeall yn iawn pam fod hynny wedi creu ofn i rai o'n ffermwyr. Rwyf i fod i gyfarfod â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros CNC wrth gwrs, i drafod hyn. Rwy'n deall bod CNC wedi bod yn siarad â rhanddeiliaid—ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ein ffermwyr—ynglŷn â hyn. Gofynnwyd i mi ai er mwyn i CNC allu gwneud elw y gwneir hyn. Wel, nage wir; mae'n ymwneud ag adennill costau llawn. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn bwrw ymlaen â'n prosiect i ddileu'r clafr, ac ni fyddwn am i unrhyw beth dynnu sylw oddi ar hynny.

14:25

Weinidog, rwy'n rhannu pryderon fy nghyd-Aelod Cefin Campbell ynglŷn â hyn, a'r costau cynyddol am gael gwared ar ddip defaid yn amlwg. Rwy'n cydnabod eich sylwadau am gael gwared ar ddip defaid mewn ffordd ddiogel ac ecogyfeillgar. Mae eich polisi ar gyfer dileu'r clafr yn cynnwys dipio defaid fel ffordd o ddileu'r clafr. Mae wedi profi mai dyma'r ffordd orau o gael gwared ar y clefyd. A ydych chi wedi cael sgyrsiau gyda'r prif swyddog milfeddygol ynglŷn â'r taliadau cynyddol hyn mewn perthynas ag unrhyw effaith bosibl a gaiff hyn ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu'r clafr?

Diolch. Do, rwyf wedi cael sgyrsiau. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym brif swyddog milfeddygol dros dro ar hyn o bryd, ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gydag ef ynglŷn â hyn. Mae'n amlwg ei fod wedi cael sgyrsiau, a daeth y ffaith bod CNC, fel y soniais, yn disgwyl i'r costau cynyddol effeithio ar nifer gymharol fach o ffermydd allan o'r trafodaethau hynny. Mae'n iawn mai dyma un o'r ffyrdd yn unig, fel y dywedwch, o gael gwared ar ddip defaid sydd wedi'i ddefnyddio, ond os mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol, byddech yn gobeithio mai dyma fyddai'r un y byddai ffermwyr yn ei defnyddio, oherwydd ei fod yn wenwynig iawn i'n planhigion dyfrol, er enghraifft, ac i anifeiliaid, ac mae'n bwysig iawn eich bod yn cael gwared arno yn y ffordd gywir. Felly, fel y dywedais, byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd yn amlwg bydd CNC yn rhoi eu hargymhellion iddi ar ddiwedd yr ymgynghoriad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ym mis Medi 2021, fe gyhoeddoch chi y byddai'r cynllun taliad sylfaenol a chyllid Glastir ar gyfer Glastir uwch, tir comin a ffermio organig yn parhau tan fis Rhagfyr eleni, 2023. Yn gwbl briodol, rydych wedi pwysleisio o'r cychwyn na fydd ffermwyr Cymru'n wynebu dibyn ariannol cyn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn 2025. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru dros 5,500 o gontractau tir sy'n seiliedig ar Glastir, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn rhan o'r trefniant cymhorthdal hwn ers nifer o flynyddoedd, gyda'u modelau busnes yn adlewyrchu'r trefniant hwnnw. Felly, o ystyried eich bod eisoes wedi ymestyn rhaglen Glastir unwaith, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i'w ymestyn unwaith yn rhagor fel bod modd i ffermwyr gael sicrwydd cyn pontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025?

Mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno dros y mis neu ddau nesaf, oherwydd, fel y dywedwch, rwyf wedi cyhoeddi ei fod wedi'i ymestyn tan fis Rhagfyr 2023, ac yna yn amlwg bydd gennym 2024, ac rwy'n gobeithio wedyn y gallwn bontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025.

Diolch. Rwy'n gwybod y bydd yna ffermwyr yng Nghymru sydd wedi cofrestru ar gynllun Glastir yn croesawu'r alwad honno.

Yn ystod y cyfyngiadau symud, gwelsom gynnydd y ffermwr ddylanwadwr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gyda chyfres newydd ITV Wales, Born to Farm, a phresenoldeb seren TikTok Farmer Will—rwy'n siŵr eich bod i gyd yn ei adnabod—yn fila Love Island, mae ffermio a ffermwyr yn cael eu gweld mewn golau newydd a mwy cadarnhaol, gan ddenu cynulleidfa newydd a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant hyd yn oed. Os yw ffermio yng Nghymru'n mynd i oroesi, bydd angen y newydd-ddyfodiaid hyn, ac un o'r llwybrau gorau i fyd ffermio yw drwy'r clwb ffermwyr ifanc. Rwy'n gwybod hynny'n bersonol fel cyn-aelod. Mae yna sawl cyn-aelod yn y Siambr. Drwy'r grant i'r Gymraeg yn unig y mae CFfI Cymru yn derbyn arian gan y Llywodraeth erbyn hyn, ar ôl colli cyllid grant cenedlaethol mudiadau ieuenctid gwirfoddol Llywodraeth Cymru. O ystyried y rôl y mae'r mudiad ffermwyr ifanc yn ei chwarae yn addysgu pobl ifanc am y diwydiant amaethyddol a'r amgylchedd, heb sôn am lu o sgiliau eraill a ddysgir, a wnaiff y Gweinidog edrych ar ffyrdd eraill y gall ei hadran gefnogi CFfI Cymru yn ariannol, fel y gall yr elusen barhau â'i gwaith da yng Nghymru?

Byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Rwy'n credu bod y ffermwyr ifanc yn sefydliad gwych iawn. O edrych o amgylch y Siambr yn unig, mae'n amlwg iawn fod y sgiliau y maent yn eu dysgu i'w haelodau yn sgiliau bywyd trosglwyddadwy, os mynnwch. Felly, rwy'n sicr yn hapus iawn i edrych arno, ond daw hynny gyda rhybudd am mai ychydig iawn o arian dros ben sydd i'w gael. Ond yn sicr rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw geisiadau a ddaw ger bron.

14:30

Gwych. Byddaf yn anfon yr wybodaeth honno at brif weithredwr newydd CFfI Cymru, sy'n dechrau'n fuan iawn.

Ond os ydym am ddenu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, Weinidog, mae'n rhaid inni sicrhau bod diogelwch a lles wedi'i ymgorffori yng ngwaith y sector. Mae ystadegau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dangos mai amaeth, ynghyd â choedwigaeth a physgota, sydd â'r gyfradd uchaf o anafiadau hunangofnodedig nad ydynt yn angheuol yn y gweithle, gyda 92 y cant o ffermwyr dan 40 oed yn awgrymu mai iechyd meddwl gwael yw'r broblem gudd fwyaf sy'n wynebu ffermwyr heddiw. Yn anffodus, nid anafiadau'n unig sy'n digwydd; cafodd cymuned Carreg-lefn ar Ynys Môn ei hysgwyd gan farwolaeth Macauley Owen, 26 oed, yn dilyn digwyddiad ar fferm ym mis Ionawr eleni. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid, yn ogystal â ffermwyr ar lawr gwlad sy'n bwydo'r genedl, i wella iechyd a diogelwch yn y diwydiant hwn?

Diolch. Rwy'n credu, yn anffodus, ein bod ni wedi gweld gormod o farwolaethau ffermwyr dros y misoedd diwethaf. Ac nid yw'n ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant yn unig, mae'n ymwneud â diogelwch ar y fferm hefyd. Ac roeddwn yn falch iawn o lansio taflen benodol sydd wedi'i hanelu at ysgolion yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn ôl ym mis Tachwedd. Ond mewn perthynas â'ch cwestiwn ynghylch iechyd meddwl a llesiant yn benodol, mae gwella iechyd meddwl a llesiant, ar draws y Llywodraeth, yn flaenoriaeth i ni—i mi, i'n ffermwyr, yn sicr. Oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd, ac mae hynny'n gallu ychwanegu at y problemau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, lles, a llesiant hefyd yn amlwg. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn cefnogi nifer o weithgareddau pwysig i helpu iechyd meddwl yn ein cymunedau gwledig. Mae gennym y grŵp cymorth ffermio. Rwy'n cyfarfod â'r elusennau ffermio'n rheolaidd, a bob tro rwy'n eu cyfarfod, mae nifer y bobl sydd wedi cysylltu â hwy'n cynyddu.

Yn sicr, gwelsom hyn ar ei waethaf yn ystod COVID, ac yn anffodus, nid yw wedi gostwng dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Rwy'n credu bod gwaith yr elusennau ffermio'n bwysicach nag erioed yn y cyfnod ansicr hwn—mae'n wirioneddol hanfodol. Ac rwy'n credu ei fod yn beth da eich bod wedi codi hyn yn y Siambr, oherwydd mae'n hanfodol iawn fod pobl yn gwybod lle gallant fynd i gael cymorth. Fe fyddwch yn gwybod am FarmWell Cymru, sydd ar gael i ffermwyr ledled Cymru. Mae'r hyb gwybodaeth hwn yno ar gyfer cwestiynau busnes, ac ar gyfer eu cwestiynau personol eu hunain hefyd, i weld pa wytnwch y gellir ei feithrin, yn eu busnes a'u llesiant eu hunain hefyd. Ac rwy'n credu, hyd yma, ein bod wedi anfon copi caled o gyfeiriadur FarmWell Cymru i tua 16,500—felly, y rhan fwyaf mae'n debyg—o fusnesau fferm yng Nghymru. Ac mae'n sicr yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'n ffermwyr.

Diolch, Llywydd. Mae gan y Llywodraeth dargedau plannu coed uchelgeisiol, sy'n cael eu hadlewyrchu yn y Bil Amaeth newydd. Mae'r Dirprwy Weinidog dros yr amgylchedd wedi bod yn llafar yn sôn am fuddiannau posib economaidd plannu coed i ffermydd a chymunedau Cymru. Ond mae'r gwaith o blannu coed ar ffermydd eisoes yn mynd rhagddo ers blynyddoedd, drwy gynllun creu coetir Glastir. Felly, pa fudd cymdeithasol ac economaidd y mae'r Gweinidog yn ei deimlo y mae'r cynllun creu coetir Glastir wedi ei roi i ffermydd a chymunedau Cymru dros y blynyddoedd?

Diolch. Wel, rwy'n credu ei fod wedi cyflwyno llawer iawn o fanteision. Gofynnodd Sam Kurtz yn ei gwestiwn cyntaf ynglŷn â chontractau Glastir a'n cynlluniau ar gyfer hynny, felly roeddwn yn falch iawn o allu cyhoeddi'r estyniad hwnnw. A dweud y gwir rwyf newydd gyfarfod gydag Undeb Amaethwyr Cenedlaethol Cymru y bore yma i drafod hynny. Rwy'n gwybod bod ein ffermwyr yn chwarae rhan fawr yn Glastir—mae contractau cynllun Glastir wedi bod gan rai ohonynt ers iddynt ddechrau gyntaf, ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud hynny. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â phlannu coed, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r targedau plannu coed sydd gennym fel Llywodraeth.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Felly, yn ôl y Gweinidog, mae yna lawer o fudd wedi bod i gymunedau Cymru, ac mi rydych chi am barhau efo hyn. Sut felly y mae'r Gweinidog yn esbonio bod bron i hanner y ceisiadau llwyddiannus o dan gynllun creu coetir yn ffenestr ymgeisio rhif 10 wedi mynd i ymgeiswyr a chyfeiriadau y tu allan i Gymru? Yn ôl ateb gefais i i gwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar, o'r 385 hectar o dir a dderbyniwyd ar gyfer y cynllun yn ffenestr 10, aeth 45 y cant i gwmnïau wedi eu cofrestru y tu allan i Gymru. Ydy'r Gweinidog yn credu bod hyn yn iawn, bod cwmnïau mawr o'r tu allan i Gymru yn manteisio ar raglenni Llywodraeth a phres trethdalwyr Cymru er mwyn 'offset-o' eu carbon ar draul ein cymunedau ni yma? Ac a ydyw'n gydnaws ag amcanion y Llywodraeth, fel dŷn ni wedi'i glywed, i ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru?

14:35

Wel, yn amlwg, byddai'n well gennyf pe bai'r holl arian yn mynd i ffermwyr Cymru, ond yn amlwg, y meini prawf yw bod yn rhaid plannu coed yma yng Nghymru. Felly, mae arnaf ofn, ar hyn o bryd, gyda'r meini prawf hynny, os yw'r cyfeiriad y tu allan i Gymru, gallant ymgeisio am yr arian hwnnw. 

Rwy'n credu bod problem cwmnïau mawr yn prynu tir fferm—sef yr hyn rydych yn amlwg yn tynnu sylw ato—yn rhywbeth sy'n digwydd ar raddfa fawr yn ôl yr hyn a glywaf. Nid wyf wedi ei weld fy hun yn bersonol; gwn fod yna bocedi. Ac rwy'n gwybod hefyd fod yna gwmnïau wedi bod yn ffonio ein ffermwyr i weld a allant werthu eu fferm iddynt. Nid fy lle i yw dweud wrth ffermwyr i bwy y dylent werthu eu tir, ond yn sicr nid yw'n rhywbeth rwyf eisiau ei annog. 

Tir Comin

3. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i reoli tir comin yn Nwyrain De Cymru? OQ58943

Diolch. Rydym wedi darparu cyllid i wella'r gwaith o reoli tir comin drwy ein cynlluniau cymorth, ac rydym yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i sicrhau bod tiroedd comin yn rhan annatod o gymorth yn y dyfodol. Yn rhanbarth Dwyrain De Cymru, mae ein cynllun rheoli cynaliadwy wedi ariannu tri phrosiect ar dir comin â chyfanswm o dros £1 miliwn.

Diolch am yr ateb yna. 

Rwy'n codi'r mater hwn gan fod problemau wedi bod ar dir comin yn fy rhanbarth. Mae'r model llac presennol o berchnogaeth ac atebolrwydd yn golygu mai dim ond un tirfeddiannwr twyllodrus sydd ei angen i ddatgelu'r diffygion cynhenid yn y system. 

Heb fynd i ormod o fanylion am achos lleol sy'n dod i'r meddwl, mae yna enghraifft amlwg yn fy rhanbarth o sut y gall tirfeddiannwr lwyddo i gyflawni troseddau yn erbyn yr amgylchedd heb fawr o gosb gan yr awdurdodau. Fe gyfarfûm â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar, ac fe ddywedasant wrthyf eu bod yn teimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r trefniadau presennol. Mae angen llinellau atebolrwydd clir, a chamau gorfodi cyflym lle bo angen, os ydym am ddiogelu a chadw ein tir comin gwerthfawr er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. A wnaiff y Llywodraeth hon ddarparu cyfeiriad ac arweiniad clir, fel bod modd cael gwared ar arferion drwg a'u hatal rhag digwydd eto? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu cyfarwyddyd, arweiniad a chymorth hefyd ar gyfer unrhyw gamau unioni a ddylai ddigwydd?

Diolch. Mae'n debyg fy mod yn ymwybodol iawn o'r achos rydych yn cyfeirio ato; mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn amlwg iawn. Mae Hefin David a minnau wedi cyfarfod ychydig o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf i drafod materion mewn perthynas â thir comin.

Fel y nodwyd gennych, mae tir comin yn cael ei reoli gan amrywiaeth o sefydliadau drwy ddull cydweithredol. Fe sonioch chi am awdurdodau lleol. Yn amlwg, caiff cymorth gorfodi a chymorth strategol ei ddarparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r heddlu wrth gwrs. Ac yn anffodus, weithiau, nid wyf yn credu ei fod mor gydweithredol ag y dylai fod, ond yn sicr, fel Llywodraeth, rydym yn gweithio'n agos i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n ymwneud â rheoli tir comin. Fel y dywedaf, rydym yn darparu cymorth strategol i'r sefydliadau sy'n gyfrifol am reoli ein tir comin o ddydd i ddydd. 

Rydym wedi darparu cyllid sylweddol i wella'r gwaith o reoli tir comin. Mae llawer iawn o dir yng Nghymru yn dir comin mewn gwirionedd, a soniais yn fy sylwadau agoriadol i chi fod y cynllun rheoli cynaliadwy wedi rhoi dros £1 miliwn i dri phrosiect. Wrth inni gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, mae gennym weithgor penodol sy'n edrych ar dir comin, oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan mor bwysig o'n tir yma yng Nghymru.  Ac mae gennym nifer o randdeiliaid ar y gweithgor hwnnw. A'r rheswm am hynny yw er mwyn sicrhau y bydd ffermwyr tir comin yn gallu cael mynediad at y cymorth y maent ei angen yn y dyfodol. 

Weinidog, mae RWE Renewables wedi rhybuddio eu bod yn bwriadu gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. Maent eisiau adeiladu a gweithredu fferm wynt, system storio ynni batri a seilwaith cysylltiedig ar dir comin—esgusodwch fy ynganiad—ym Mhen March, Gelligaer. Mae fy etholwyr hefyd wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn pryderu am y datblygiad. Os caiff ei gymeradwyo, maent yn teimlo y bydd yn niweidio gwlyptiroedd bach sy'n gartref i blanhigion prin, yn ogystal ag adar ac ystlumod. Hefyd, rydym eisoes yn gwybod—ac rwyf wedi siarad am bwysigrwydd gwlyptiroedd droeon yma yn y Siambr, gan eu bod yn bwysig ar gyfer storio carbon. Gwlyptiroedd, mewn gwirionedd, yw rhai o'r dalfeydd carbon mwyaf effeithiol ar y blaned—yn fwy felly na choedwigoedd glaw neu forwellt arfordirol.

Felly, Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn cydbwyso'r manteision amgylcheddol o gynhyrchu ynni drwy ynni gwynt a'r difrod posibl i'r amgylchedd a achosir gan y datblygiad hwn ar dir comin? Diolch. 

Diolch. Wel, rwy'n ymwybodol o fferm wynt arfaethedig Pen March ar dir comin Merthyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn datgan, nawr, fod y cais yn dal i fod yn y camau cychwynnol, ac yn amlwg bydd angen ei asesu'n llawn cyn penderfynu ar ei effaith bosibl. 

14:40
Defnyddio Addasu Genetig Planhigion ar gyfer Atafaelu Carbon

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch defnyddio addasu genetig planhigion ar gyfer atafaelu carbon? OQ58948

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch addasu genetig. Mae technoleg yn ddull pwysig y byddwn yn ei ddefnyddio i gyrraedd sero net. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ariannu amrywiaeth o ymchwil. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld rôl bwysig i GMO ar gyfer atafaelu carbon. 

Diolch. Er fy mod yn cydnabod ymagwedd ragofalus y Llywodraeth hon mewn perthynas â pheirianneg enetig, credaf ei bod yn annoeth anwybyddu'r ffaith bod gan y dechnoleg hon botensial i ddatrys llawer o'r problemau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Credaf hefyd fod potensial sylweddol i addasu geneteg planhigion penodol, na fydd yn mynd i'r gadwyn fwyd, er mwyn helpu Cymru i gyrraedd ei tharged newid hinsawdd.

Mae llawer iawn o astudiaethau gwyddonol wedi'u gwneud i beirianneg enetig planhigion, sydd wedi dangos y gellir addasu genynnau mewn rhywogaethau coed brodorol i'w galluogi i dyfu'n gyflymach, i'w galluogi i wrthsefyll sychder yn well, i'w galluogi i wrthsefyll eithafion tymheredd ac i'w galluogi i wrthsefyll clefydau, ac rwy'n credu y byddai hyn yn helpu i ddal a storio carbon yng Nghymru, yn enwedig mewn dalfeydd carbon, ac yn helpu Llywodraeth Cymru i frwydro yn erbyn clefydau planhigion, a chyflymu twf coed y fasnach bren yng Nghymru ar gyfer adeiladu. Ar ben hynny, dangoswyd bod tyfu microalgae yn defnyddio CO2 o leoliadau diwydiannol, megis gorsafoedd pŵer a ffatrïoedd, a gall ddarparu dull ecogyfeillgar o leihau CO2, a gallai defnyddio straeniau sydd wedi'u haddasu'n enetig gan gynhyrchiant biomas gynnig manteision enfawr i'r rhain. Gyda hyn mewn cof, hoffwn wybod felly, Weinidog, pa dystiolaeth y byddai angen i'r Llywodraeth hon ei gweld er mwyn caniatáu'r defnydd o blanhigion wedi'u haddasu'n enetig na fydd yn mynd i'r gadwyn fwyd yng Nghymru ar gyfer atafaelu carbon? Diolch.  

Diolch. Wel, rydych yn hollol gywir: mae gennym egwyddor ragofalus, yn sicr, yn graidd i'n polisi ar addasu genetig a golygu genynnau, ac yn amlwg, nid wyf yn credu eich bod yn y Siambr ddoe, ond cawsom ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) Llywodraeth y DU.

Mae technegau genetig newydd yn arfau pwerus, ond mae'n rhaid defnyddio'r pŵer hwnnw'n gyfrifol iawn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel deddfwyr, ein bod yn ystyried y dystiolaeth dros newid yn ofalus, a'r goblygiadau posibl a allai ddeillio o unrhyw newid. Mae angen inni ddeall y sail wyddonol a'r risgiau a'r buddion i Gymru, ac fel rwy'n dweud, rydym yn rhoi cyllid sylweddol i'r math hwnnw o ymchwil. Rwy'n credu hefyd fod angen inni ystyried barn y cyhoedd, dewis defnyddwyr a'u barn ar hynny, a'r foeseg sy'n gysylltiedig â'r technolegau hyn. Yn fy marn i, dim ond wedyn y gallwn benderfynu mewn gwirionedd pa rôl y gallai planhigion y mae eu genynnau wedi'u golygu ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. 

Seilwaith Gwyrdd Trefol

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wella'r seilwaith gwyrdd trefol yng Ngwent? OQ58964

Diolch. Drwy ein rhaglen adfywio Trawsnewid Trefi, anogir awdurdodau lleol i gynnig atebion seilwaith gwyrdd integredig, fel rhan o gynlluniau creu lleoedd ar gyfer ein trefi. Mae prosiectau seilwaith gwyrdd ledled Gwent yn gwella bioamrywiaeth canol ein trefi a gwella llesiant trigolion ac ymwelwyr.

Diolch. Mae'r cyni Torïaidd bellach yn ei arddegau; mae bron yn 13 mlwydd oed, ac mae'n parhau i ddinistrio cyllidebau llywodraeth leol—a hynny er gwaethaf ymdrechion arwrol Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili newydd ddatgelu ei gynigion cyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24, ynghyd â manylion sut mae'n bwriadu llenwi'r bwlch o £48 miliwn a ragwelir mewn cyllid dros y ddwy flynedd ganlynol. Yn Islwyn, mae seilwaith gwyrdd trefol, megis parc prydferth Waunfawr, yn rhan ganolog o fywyd cymunedol y Cross Keys. Mae'r parc yn ymestyn dros 22 erw o dir ac yn cynnwys maes chwarae i blant, caeau rygbi, pêl-droed a chriced, ac mae hefyd yn cynnwys lawnt fowlio a chyrtiau tenis. Pan fo'n rhaid i lywodraeth leol ariannu gwasanaethau statudol, pa gefnogaeth a sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i gymunedau Islwyn y gellir gwarchod seilwaith trefol gwyrdd rhag ymosodiadau cyllidol Torïaidd? 

Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr yng nghwestiynau'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, clywsom lawer o gwestiynau ynghylch gwahanol swyddogaethau a gwasanaethau anstatudol rydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr, ac rwy'n credu eich bod newydd roi esiampl dda iawn yno.

Soniais fod gennym sawl cynllun. Mae gennym y cynllun creu lleoedd Trawsnewid Trefi, mae gennym ein prosiectau seilwaith gwyrdd o fewn hwnnw yn eich ardal chi, gyda chyllid sylweddol—tua £0.75 miliwn—yn cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru i bedwar prosiect seilwaith gwyrdd penodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda llywodraeth leol, oherwydd, os caf fentro ailadrodd fy hun, nid oes mwy o arian i'w gael. Nid oes unrhyw arian wedi'i guddio yn rhywle. Felly, rwy'n credu bod angen cael y sgyrsiau hynny gydag awdurdodau lleol.

14:45

Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn. Fe'i hatgoffaf fod llywodraeth leol wedi'i datganoli i Gymru ers 23 o flynyddoedd. Ond wrth gwrs, mae seilwaith gwyrdd yn arf pwysig i helpu cymunedau i liniaru effeithiau newid hinsawdd, yn ogystal â'n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Mae mynediad at fannau gwyrdd hefyd yn amlwg o fudd i lesiant pobl. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn ychwanegu at y seilwaith gwyrdd trefol presennol yn ogystal â gwella ei hygyrchedd a'i ansawdd. O'r herwydd, Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych chi a'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet i annog awdurdodau lleol i fapio mannau gwyrdd presennol yn well ac i asesu a oes gan gymunedau fynediad at ddigon o'r mathau cywir o seilwaith gwyrdd yn y mannau cywir? Gan ddefnyddio data o'r fath, sut rydych yn gweithio gyda chynghorau i nodi darnau addas o dir ar gyfer prosiectau seilwaith gwyrdd newydd ac yn darparu cymorth ac arweiniad ariannol ychwanegol wedyn i'w helpu i roi'r prosiectau hyn ar waith? Diolch.

Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'n bwysig sicrhau bod integreiddio'n digwydd yng nghanol y dref neu mewn ardal benodol gyda buddsoddiadau eraill yng nghanol y dref benodol honno neu'r ardal benodol honno. Rwy'n credu mai dyna'r unig ffordd o sicrhau canlyniadau gwell. Rydym yn darparu llawer iawn o gefnogaeth i ddatblygiadau sy'n rhan o gynlluniau creu lleoedd ehangach a phrosiectau seilwaith gwyrdd, felly bydd y sgyrsiau hynny'n mynd rhagddynt. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol—yn ddiweddar y daeth hyn yn ôl i fy mhortffolio—gydag awdurdodau lleol, ond rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio'n agos i sicrhau bod effaith gronnol, os mynnwch, amrywiaeth o gynlluniau yn dangos integreiddio da.

Cathbysgod

6. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru'n ymgymryd â hwy i leihau'r boblogaeth cathbysgod yn sir Ddinbych? OQ58949

Rwy'n ymwybodol o'r boblogaeth gathbysgod ym mhwll Brickfield yn y Rhyl. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda chlwb genweirio Brickfield, sydd wedi bod wrthi'n cael gwared ar gathbysgod. Maent yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi unrhyw gathbysgod sy'n cael eu dal yn ôl yn y dŵr neu eu symud i unrhyw grynofa ddŵr arall.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Peidiwch â phoeni, rwy'n falch o'ch hysbysu na fyddaf yn gofyn am apiau canlyn ar-lein heddiw. Mae etholwyr o ardal y Rhyl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn poeni am niferoedd cathbysgod mewn dyfroedd lleol, yn enwedig o gwmpas pwll Brickfield, fel y sonioch chi, Weinidog, oddi ar Heol Cefndy yn y Rhyl, ac afonydd Clwyd a Dyfrdwy. I roi'r cefndir yn fyr, cyflwynwyd llawer iawn o gathbysgod i ddyfroedd lleol yn y 1990au a'r 2000au at ddibenion dalcathbysgod mawr er mwyn i bobl allu tynnu lluniau gyda hwy cyn eu taflu'n ôl i'r dŵr. Ond mewn gwirionedd, ac wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae niferoedd cathbysgod wedi cynyddu ac maent yn ysglyfaethwyr dyfrol peryglus gyda dannedd sy'n lladd llawer o adar a rhywogaethau eraill yn y dŵr ac maent yn lleihau poblogaethau pysgod bychain yn nyfroedd sir Ddinbych yn ddirfawr. 

Mewn cyfarfod diweddar gyda CNC, roeddent yn dweud wrthyf y byddai difa'r holl bysgod ym mhwll Brickfield ac afonydd Dyfrdwy a Chlwyd, neu ddefnyddio rhwydi i'w dal yn anfoesegol ac y byddai fel defnyddio morthwyl i gracio cneuen, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Felly, Weinidog, sut mae datrys y broblem hon yn ymarferol, a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i unioni'r broblem a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor pysgod bach mewn dyfroedd lleol? Diolch.

Fel y dywedodd CNC wrthych, pe baem yn cael gwared ar yr holl gathbysgod yn y pwll hwnnw, ni fyddech yn gallu gwneud hynny heb gael gwared ar yr holl bysgod eraill. Felly, rwy'n deall yr wybodaeth a roddwyd i chi gan CNC yn iawn. Fy nealltwriaeth i yw bod pwll Brickfield yn rhan o hen chwarel ac yn grynofa ddŵr annibynnol. Nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw ffynonellau eraill o ddŵr croyw, felly mae hynny'n golygu nad yw'n bosibl i'r cathbysgod ledaenu i ardaloedd eraill, gan leihau risg ehangach.

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

7. Sut fydd y Llywodraeth yn mesur llwyddiant Bil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022? OQ58966

Diolch. Mae nifer o'r darpariaethau monitro ac adrodd sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi'u cynllunio i fesur llwyddiant. Ochr yn ochr ag adroddiad cyllid blynyddol, bydd gofyn i Weinidogion Cymru adrodd ar effaith y cymorth a ddarperir yn erbyn yr amcanion rheoli tir cynaliadwy.

14:50

Ie, un peth sydd ddim ymhlyg yn yr hyn rŷch chi wedi cyfeirio ato fe fanna wrth gwrs yw mai un mesur pwysig, yn ôl llawer o'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sydd wedi bod yn craffu ar y Bil yma, yw i ba raddau y mae'r Bil yn helpu i amddiffyn ffermydd teuluol. Pan fo gyda chi rwydwaith o ffermydd teuluol, ŷch chi'n llwyddo i wrthsefyll y symudiad tuag at ffermio ar sgêl fwy—mae'n dueddol o fod yn ffermio mwy dwys—felly, mae hynny'n well i'r amgylchedd. Rŷch chi'n fwy tebygol o gadw'r bunt yn lleol drwy ffermydd teuluol. Mae e hefyd, wrth gwrs, yn fesur pwysig o safbwynt hyfywedd y Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig hynny. Ydych chi, felly, yn cytuno bod nifer y ffermydd yng Nghymru yn faromedr pwysig ac y byddai gweld gostyngiad yn y nifer hynny yn arwydd o fethiant?

Mae diogelu ffermydd teuluol yn ganolog i bopeth rwy'n ei wneud. Rydych chi'n hollol gywir, mae gennym nifer sylweddol o ffermydd teuluol. Maent yn bwysig iawn i'n cymunedau gwledig ac wrth gwrs maent yn gwarchod y Gymraeg. Mae'r sector amaethyddol yn defnyddio'r Gymraeg yn fwy nag unrhyw sector arall yma yng Nghymru. Mae'r ffocws hwnnw, os mynnwch, yn ganolog i bopeth a wnawn wrth symud ymlaen. Ac felly, rydym yn edrych ar hyn wrth inni gyflwyno'r cynlluniau ar gyfer cynllun ffermio cynaliadwy, a byddwn yn cael adroddiad effaith. Bydd angen gwneud hynny o bryd i'w gilydd i asesu effaith yr holl gymorth a ddarperir a bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y fferm deuluol.

Diolch, Lywydd. Nid oeddwn yn meddwl bod gennyf gwestiwn heddiw. [Chwerthin.]

Wel, os nad oeddech chi'n meddwl bod gennych gwestiwn, yna nid oes gennych gwestiwn.

Na, mae hynny'n iawn. Rwyf wedi cael fy ngalw unwaith yn barod. Rwy'n meddwl am bobl eraill.

Mae cwestiwn 8 [OQ58959] wedi cael ei dynnu'n ôl. Cwestiwn 9 gan Vikki Howells. Mae'n ymddangos yn syth wrth imi alw ei henw. Felly, y cwestiwn nesaf fydd cwestiwn 9 gan Vikki Howells. Roedd eich meicroffon wedi'i ddiffodd am ychydig yn hwy na'r arfer. Vikki Howells.

Creu Diwydiant Amaethyddol Bywiog

9. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu sector diwydiant amaethyddol bywiog? OQ58946

Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol. Lluniwyd yr amcanion i fod yn gydategol, gan adlewyrchu ein dull o gefnogi cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y sector amaethyddol yng Nghymru.

Diolch. Fel Aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ymwelais â'r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yn Gelli Aur y llynedd i ddysgu rhagor am eu partneriaeth maethynnau fferm. Pa gasgliadau y daeth Llywodraeth Cymru iddynt o'r prosiect hwn o ran y ffyrdd y gellir defnyddio trin slyri i gefnogi'r sector amaethyddol, ond hefyd i ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru?

Diolch. Bûm yn ymweld â'r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yn Gelli Aur ddwywaith fy hun i glywed am y gwaith anhygoel sydd ar y gweill, ac roedd yn braf gweld cymaint o gynnydd wedi'i wneud rhwng fy nau ymweliad. Rwy'n croesawu'r ymchwil sydd wedi'i wneud yno yn fawr. Gallaf weld addewid mawr i alluogi ein ffermydd i ddefnyddio'r maethynnau a geir mewn tail yn llawer mwy effeithlon. Mae gwahanu slyri a rheoli'r maethynnau sydd wedi'u gwahanu yn rhoi cyfle, rwy'n credu, yn enwedig yng ngoleuni'r prisiau gwrtaith uchel a welsom dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ac mae hynny'n sicrhau y gellir ychwanegu maethynnau gwerthfawr at dir lle ceir prinder maethynnau fel y gallant gynyddu ei wytnwch a lleihau'r ddibyniaeth ar wrteithiau wedi'u gweithgynhyrchu. Rwy'n credu y bydd y gwaith a wneir ar y cynlluniau rheoli maethynnau, gyda gwasgariad manwl y deunyddiau sydd wedi'u gwahanu, hefyd yn helpu i sicrhau bod y maethynnau cywir yn cael eu gwasgaru ar yr adeg gywir, ac wrth gwrs, mae hynny'n hanfodol os ydym am leihau'r risg o lygredd.

Diogelu Rhywogaethau Bywyd Gwyllt sydd o dan Fygythiad

10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu rhywogaethau bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad? OQ58941

Defnyddir dull tîm Cymru i ddiogelu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad. Ar 10 Ionawr, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fesurau i gefnogi ystod eang o rywogaethau bywyd gwyllt, gan gynnwys nifer o rywogaethau dan fygythiad. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys stiwardiaeth uniongyrchol a gwelliannau i'r cynefinoedd a'r ecosystemau sy'n cynnal ein bywyd gwyllt.

Diolch. Mae coed yn darparu nifer o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, ac mae plannu coed yn cael ei ystyried yn eang fel un o'r ffyrdd pwysicaf o fynd i'r afael â newid hinsawdd ac ansawdd aer gwael. Fodd bynnag, mae cysylltiad rhwng dirywiad yn niferoedd gylfinirod a mwy o goetir ger safleoedd bridio. Er mai'r gylfinir eiconig yw ein blaenoriaeth fwyaf o ran cadwraeth adar, bydd yn ddiflannu fel poblogaeth nythu o fewn degawd os na wnawn ymyrryd. Fodd bynnag, mae coetir yn parhau i gael ei ystyried yn fudd cyhoeddus, hyd yn oed pan fo'n darparu cynefin delfrydol i'r prif ysglyfaethwyr sy'n rheibio nythod a chywion ac sy'n bennaf gyfrifol am fethiant gylfinirod i nythu. Fel y Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelu rheoli bywyd gwyllt, pa gamau penodol rydych yn eu cymryd i sicrhau bod targed Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coetiroedd yng Nghymru yn ystyried hyn, ac er nad yw maglau'r hen ddyddiau yn dderbyniol, mae atalyddion cebl modern trugarog yn cael eu cydnabod fel dyfeisiau dal, yn hytrach na dyfeisiau lladd, gyda rôl allweddol i'w chwarae ymhlith yr ystod o fesurau ymyrraeth frys sydd eu hangen i atal difodiant buan y gylfinir ac i wrthdroi colli bioamrywiaeth?

14:55

Diolch. Rydych yn llygad eich lle, mae'r gylfinir yn aderyn tir fferm a rhostir eiconig. Rwy'n falch eich bod yn parhau i'w hyrwyddo. Roeddwn i fod i gyfarfod â Gylfinir Cymru ac yn anffodus bu'n rhaid imi ohirio'r cyfarfod. Ni allaf gofio'n iawn pam, ond fe wnaf yn siŵr fy mod yn aildrefnu'r cyfarfod hwnnw, oherwydd yn sicr mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud.

Rydych yn hollol gywir am goed ac yn sicr os ydym am gyflawni ein hymrwymiadau sero net, rydym wedi cael gwybod mewn termau clir iawn gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU fod angen inni gynyddu ein targedau plannu coetiroedd yn sylweddol.

Rydych yn cyfeirio at atalyddion cebl trugarog ac fel y gwyddoch, rydym yn ceisio gwahardd maglau ac atalyddion cebl trugarog ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022, ac mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud ag atal y defnydd o ddulliau creulon, ac nid yw'n atal y defnydd o ddulliau eraill sy'n fwy trugarog.

Gwella Effeithlonrwydd Ynni yn Arfon

11. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd am sut y gall amaethwyr gyfrannu at y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni yn Arfon? OQ58969

Diolch. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar amrywiaeth o faterion portffolio. Ar fater ffermwyr yn gwella effeithlonrwydd ynni, bydd ein cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnig cefnogaeth yn y dyfodol i helpu ffermwyr i ddatgarboneiddio, ac ar hyn o bryd, rydym yn cynnig cymorth effeithlonrwydd ynni i ffermwyr drwy ein cynllun effeithlonrwydd grantiau bach, a agorodd ddeuddydd yn ôl.

Yn ddiweddar, mi ges i gyfle i ymweld â chanolfan newydd sbon ar safle hen ffatri yn nyffryn Nantlle yn fy etholaeth i. Canolfan neu hwb datgarboneiddio ydy Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sy'n dod â nifer o bartneriaid ynghyd efo'r nod ganolog o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl nid yn unig yn Arfon, ond ar draws y gogledd a thu hwnt. Un agwedd bwysig o'r gwaith yma fydd arloesi efo dulliau newydd o wella'r stoc tai, ac mae Prifysgol Bangor yn rhan o'r gwaith yma. Dwi'n credu bod gan y gymuned amaethyddol gyfraniad pwysig i'w wneud i'r agenda yma, ac un enghraifft ydy defnyddio gwlân i inswleiddio cartrefi. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i harneisio potensial arloesol y gymuned amaethol ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni yng Nghymru?

Diolch. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn am y rôl y gall ein sector amaethyddiaeth a'n ffermwyr ei chwarae mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni. Cyfarfûm â Chyngor Gwlân Prydain—18 mis yn ôl bellach, mae'n debyg—ac fe wnaethom drafod y defnydd o wlân Cymreig, yn amlwg, yn enwedig o'm safbwynt i, mewn perthynas ag insiwleiddio, er enghraifft. Maent yn credu bod yna ddefnydd mwy—mae'n debyg nad 'gwerth chweil' yw'r term cywir—mwy effeithlon i wlân Prydain nag insiwleiddio yn unig, ond rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni edrych arno yw'r holl dechnoleg sydd ar gael, yr holl arloesedd sydd ar gael i'n helpu gydag effeithlonrwydd ynni. Soniais ein bod newydd agor y cynllun effeithlonrwydd grantiau bach. Rwy'n awyddus iawn i'r cynllun hwnnw allu cynnig cymorth uniongyrchol i'n ffermwyr fel y gallant fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella perfformiad technegol ac ariannol ac amgylcheddol eu busnes.

Iechyd y Diwydiant Wyau

12. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o iechyd y diwydiant wyau yng Nghymru? OQ58957

Diolch. Mae'r diwydiant wyau wedi cael ei effeithio gan chwyddiant costau'n codi drwy 2021 ac yn ddiweddar gan ffliw adar. Mae'r rhain yn ffactorau cyffredin ledled y DU, gyda chynhyrchwyr wyau a phacwyr o Gymru wedi'u hintegreiddio mewn cadwyni cyflenwi ledled y DU. Rydym yn rhagweld trafodaeth rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant ar lefel y DU i ystyried ffordd o sicrhau sefydlogrwydd i gontractau cynhyrchwyr.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n falch iawn eich bod yn cydnabod y pwysau sydd ar y diwydiant wyau. Fel y gwyddoch, Cymru sy'n cynhyrchu fwyaf o wyau maes yn Ewrop, ac mae hynny'n golygu bod hwn yn fater arbennig o bwysig i Gymru, yn fwy felly efallai nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r pwysau ar gynhyrchwyr yn dod yn fwy difrifol. Rydym wedi gweld prinder wyau yn ein harchfarchnadoedd, gyda rhai archfarchnadoedd hyd yn oed yn eu dogni yn ystod y misoedd diwethaf. Ac rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn prisiau i ddefnyddwyr wrth gwrs. Mae'r pris manwerthu wedi codi tua £1 y dwsin, ac eto mae costau cynhyrchwyr wedi codi 40c y dwsin, ac yn anffodus, dim ond 25c yw'r cynnydd yn yr hyn y mae'r archfarchnadoedd yn ei dalu am ddwsin o wyau. Felly, mae llawer o gynhyrchwyr wyau bellach yn wynebu colledion o ganlyniad i'r newidiadau yn y prisiau. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi gynnull uwchgynhadledd rhwng yr archfarchnadoedd a chynhyrchwyr wyau er mwyn inni sicrhau prisiau teg i'n ffermwyr wyau yma yng Nghymru, er mwyn diogelu'r diwydiant ar gyfer y dyfodol?

15:00

Diolch. Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, a chredaf ei bod yn bwysig iawn tynnu sylw at y ffaith nad ffliw adar yn unig sy'n effeithio ar ein cynhyrchwyr wyau. Mae cyfres o broblemau wedi creu storm berffaith. Credaf y byddai angen i unrhyw uwchgynhadledd o’r fath fod ar lefel y DU, am y rhesymau a amlinellais yn fy ateb gwreiddiol. Rwyf wedi ysgrifennu at Mark Spencer, y Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd, ac mae gennym grŵp rhyngweinidogol ddydd Llun, ac yn sicr, bydd cynhyrchiant wyau ar yr agenda. Os nad yw, byddaf yn ei godi o dan 'unrhyw fusnes arall'. Trefnodd gyfarfod bwrdd crwn, ac yn anffodus, ni wahoddwyd Gweinidogion eraill iddo. Roedd fy swyddogion yno, felly nid wyf yn dweud na wnaethom gymryd rhan. Ond credaf y byddai’n dda pe gallai'r Gweinidogion gyfarfod â’r gadwyn gyflenwi wyau, â chynhyrchwyr, â manwerthwyr, â phacwyr, â’r holl gyrff masnach, sef yr hyn y gwnaeth yntau gyda'r swyddogion yno. Felly, rwyf wedi ysgrifennu ato i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf. Ar 15 Rhagfyr yr ysgrifennais ato, felly, yn amlwg, gyda’r Nadolig, nid wyf wedi cael ateb hyd yma. Ond credaf fod angen ymagwedd ar lefel y DU gyfan—. Yn sicr, gallwn gyfarfod â’r archfarchnadoedd, ac rwy’n cyfarfod â’r archfarchnadoedd yn rheolaidd, lle rydym yn cael trafodaethau, ond os ydym yn mynd i gael uwchgynhadledd o’r math y credaf eich bod yn cyfeirio ato, credaf y byddai’n well gwneud hynny ar lefel y DU gyfan.

Diolch i’r Gweinidog. Atebwyd pob cwestiwn a gyflwynwyd o fewn yr amser a neilltuwyd—mae'n gwneud imi feddwl y dylem fynd yn ôl i ganiatáu i 15 cwestiwn gael eu cyflwyno, gyda'r amser hwnnw. Diolch i’r Gweinidog.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 sydd nesaf, a'r cwestiwn amserol yw hwnnw. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan James Evans, and to be answered, i'w ateb, gan y Gweinidog addysg. James Evans.

Cau Ysgolion

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ddisgwyliadau ynghylch ei gyfarfodydd gydag undebau llafur yr athrawon yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran osgoi cau ysgolion? TQ711

Byddaf yn cyfarfod ag undebau athrawon a phenaethiaid yfory, ynghyd ag awdurdodau lleol, sef y cyflogwyr, i drafod canlyniad pleidleisiau a thrafod y camau nesaf. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau datrysiad i’r anghydfod, a bydd y cyfarfod teirochrog yn helpu i archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â phryderon athrawon.

Hoffwn ddiolch am eich ateb, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr holl ddulliau yma i atal y streiciau, ac mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn, er enghraifft drwy beidio â thorri’r gyllideb addysg mewn termau real, a’i chodi yn unol â chwyddiant. O dan Lafur Cymru, mae plant Cymru yn cael eu gadael ar ôl. Nid yn unig eu bod wedi colli mwy o ddiwrnodau ysgol na neb arall yn y DU oherwydd y cyfyngiadau symud, nid yn unig fod llai o arian yn cael ei wario arnynt na'u cymheiriaid yn Lloegr, ond nawr, mae'n rhaid iddynt ymdopi â'r streiciau hyn a cholli mwy o wersi o bosibl, er y dylech gytuno â mi. rwy’n siŵr, Weinidog, ei bod yn well fod ein hathrawon yn yr ystafell ddosbarth, yn addysgu ein pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.

Awgrymaf efallai y dylai'r Gweinidog fynd yn ôl at ei gyd-Aelodau o'r Cabinet a gofyn iddynt ryddhau rhagor o gannoedd o filiynau o bunnoedd a glustnodwyd ar gyfer prosiectau porthi balchder nad ydynt yn rhan o'i bortffolio, fel ehangu’r Senedd hon, perchnogaeth ar Fferm Gilestone, perchnogaeth ar faes awyr sy'n colli arian. A phe bai'r Llywodraeth yn cael trefn ar ei blaenoriaethau, rwy’n siŵr y byddai gennych fwy o arian i’w wario ar ein hathrawon. Felly, Weinidog, o ystyried fy awgrym, a wnewch chi roi’r gorau i drosglwyddo'r baich, fel y gwnaethoch ar y teledu, a rhoi’r gorau i ddefnyddio’r un hen ddull gan Lywodraeth Cymru o feio San Steffan? A pha opsiynau adeiladol y byddwch yn eu cynnig yr wythnos hon ar gyfer osgoi cau ysgolion, gan mai eich cyfrifoldeb chi yw hynny?

Wel, mae’r rhain yn faterion difrifol sy’n haeddu gwell na checru gwleidyddol yn y Siambr hon. Mae ei gamddisgrifiad o’r system addysg yng Nghymru yn gyson ag un ei gyd-Aelodau ar y meinciau hynny. Yn wahanol i’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, nid ydym yn ymateb i streiciau drwy gyflwyno deddfau llym sy’n tanseilio hawliau sylfaenol pobl. Yng Nghymru, rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, o'r farn mai’r ffordd orau o ddatrys anghydfodau o’r fath yw drwy drafodaethau, trafodaethau parchus, gyda’n partneriaid, gydag ewyllys da ac ymgais i ddod o hyd i ateb adeiladol, ac yn yr ysbryd hwnnw y byddwn yn cael y trafodaethau gydag undebau ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

15:05

Diolch, Weinidog. Dwi'n falch iawn o glywed eich ymrwymiad o ran trafod yr wythnos yma. Yn amlwg, dydy hwn ddim yn sefyllfa hawdd i unrhyw un, dewis streicio, a gresyn ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwn. Ond dydy hi ddim yn annisgwyl, chwaith, ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma; mi wnaeth yr undebau'n glir nad oedd y cynnig gan y Llywodraeth yn mynd i fod yn dderbyniol. Felly, a fyddwch chi yn gallu ymrwymo i wneud cynnig gwell iddyn nhw? Oherwydd yn amlwg dydy hyn ddim jest ynglŷn ag athrawon ond y rheini sydd hefyd yn gweithio yn ein hysgolion o ran cefnogi ein hathrawon ni a gwneud gwaith pwysig dros ben, felly. Ac o ran eich ymrwymiad personol chi er mwyn trio sicrhau dydy ein disgyblion ni ddim yn colli allan ar addysg hollbwysig yn sgil COVID ac ati, pam ydyn ni wedi cyrraedd y pwynt yma, a beth fydd yn wahanol yn y trafodaethau hyn er mwyn rhoi'r gobaith hwnnw na fyddwn ni'n cyrraedd y sefyllfa o orfod gweld athrawon yn gorfod bod ar streic?

Wel, rwy'n credu bod pawb yn cytuno y dylai ein plant ni fod yn yr ysgol yn cael eu haddysg, ond does neb yn cymryd y penderfyniad yma i streicio ar chwarae bach. Mae pedair undeb gyda ni, a dwy wedi pleidleisio o blaid gweithredu, ond beth bynnag yw'r trothwy sydd gan yr undebau, rŷn ni'n parchu ac yn clywed y negeseuon rŷn ni'n eu cael wrth athrawon yn y pleidleisiau hynny. Dwi ddim yn mynd i drafod yn y Senedd heddiw beth fydd natur y trafodaethau rŷn ni'n bwriadu eu cael. Bydd y cynnig ac unrhyw drafodaethau ar gyfer setlo hyn yn cael eu gwneud yng nghyd-destun cyfarfodydd gyda'n partneriaid cymdeithasol, yn y ffordd rŷn ni wastad yn gweithredu, ac rwy'n gwybod bod yr Aelod yn derbyn ac yn cefnogi'r safbwynt hwnnw. Ond, fel rwyf wedi dweud, gwnawn ni bopeth o fewn y cyfyngiadau real sydd arnon ni fel Llywodraeth i gael y setliad gorau posib.

Pwynt o Drefn

Dwi wedi cytuno i bwynt o drefn, ac, i gyflwyno'r pwynt o drefn yna, Heledd Fychan. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ofyn ichi, os gwelwch yn dda, adolygu eich canllawiau o ran gweithio'n hybrid yn sgil sefyllfa anffodus a gododd yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y bore yma? Fe fu'n rhaid gohirio dechrau ar y gwaith pwysig o graffu ar y gyllideb ddrafft gan nad oedd y Dirprwy Weinidog, yn annisgwyl, yn bresennol yn yr ystafell bwyllgor, ond yn yr adeilad. Yn sgil eich cyfathrebiad diweddar, ein dealltwriaeth ni oedd bod disgwyl i bawb, yn Weinidogion ac aelodau'r pwyllgor, fod yn bresennol o ran y sesiynau craffu hyn, ac, yn bwysig, os ydyn ni yn yr adeilad, fod disgwyl i ni fod yn y Siambr hon. Ac roeddwn ni'n disgwyl bod hynny hefyd yn wir o ran pwyllgorau. Fel y Cadeirydd dros dro heddiw, mi ofynnais i'r swyddogion ofyn i'r Dirprwy Weinidog fynychu, gan ei bod yn yr adeilad, ond daeth yn amlwg, i osgoi oedi pellach, fod yn rhaid inni wedyn fynd ymlaen yn hybrid, ond mi gollwyd tri chwarter awr. Felly, i osgoi oedi o'r fath byth eto, mi fyddai canllawiau pellach yn fuddiol, os gwelwch yn dda. 

Rwy’n ddiolchgar i’r Llywydd am ganiatáu imi gyfrannu at y pwynt o drefn hwn. Yn sicr, roedd yr hyn a ddigwyddodd y bore yma yn anffodus, ac rydym yn derbyn hynny. Fodd bynnag, rhoddwyd y Dirprwy Weinidog ei hun mewn sefyllfa anodd, ac nid wyf yn beio'r Dirprwy Weinidog o gwbl am amgylchiadau’r hyn a ddigwyddodd y bore yma. Credaf mai’r gwersi sydd angen i ni eu dysgu o ran y Rheolau Sefydlog, Lywydd, yw galluogi aelodau eraill y pwyllgor i gadeirio pan fo angen, ac nid pan fydd y Cadeirydd yn absennol yn unig. Credaf y byddai hynny’n beth defnyddiol i’w wneud, i'w ailystyried, ond hefyd wedyn i sicrhau bod y Llywodraeth mewn sefyllfa i roi tystiolaeth yn llawn pan fo’n ofynnol iddi wneud hynny. A'r pwynt yr hoffwn ei wneud i Weinidogion—mae un Gweinidog yn y Siambr y prynhawn yma—yw ein bod wedi derbyn tystiolaeth wedi hynny gan y Gweinidog addysg, Jeremy Miles, ac roedd y dystiolaeth a gawsom gan Jeremy o'r radd flaenaf, ac un o'r rhesymau dros hynny oedd am ei fod yn yr ystafell gyda ni a'i fod yn gallu rhoi esboniad llawer gwell o'i bolisïau a'i ddull gweithredu o ganlyniad i hynny. Felly, nid wyf yn beio'r Dirprwy Weinidog o gwbl am yr amgylchiadau y bore yma; roedd y tu hwnt i'w rheolaeth. Ond rwy'n gobeithio mai’r wers y bydd Gweinidogion yn ei dysgu o hyn, o’u safbwynt hwy, yw eu bod yn well iddynt fod yma nag acw.

15:10

Ac mae’r Dirprwy Weinidog ei hun yn bwriadu, neu’n dymuno, cyfrannu at y pwynt o drefn. Dawn Bowden.

Diolch, Lywydd. Credaf efallai y byddai esboniad llawnach o’r amgylchiadau o gymorth i'r Senedd, ac nid wyf o reidrwydd yn gwrthwynebu pwynt o drefn Heledd Fychan o ran cael rhywfaint o eglurder ynghylch hyn a’r ffordd y mae gwaith craffu'r pwyllgor yn digwydd, ond er mwyn cofnodi'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, roedd y tywydd, fel y gwyddoch, yn wael iawn y bore yma, a bu bron imi fethu cwblhau'r daith o Ferthyr Tudful. Felly, pe bai hynny wedi digwydd, byddwn wedi gorfod ymuno o bell beth bynnag, ond deuthum i Dŷ Hywel. Cymerodd dros awr a hanner imi ddod o Ferthyr Tudful i Gaerdydd, felly cyrhaeddais Dŷ Hywel pan oedd y cyfarfod yn llythrennol ar fin dechrau, ac ni chefais wybod gan fy swyddfa breifat tan imi gyrraedd, ychydig cyn 9:30, na fyddai unrhyw un o fy swyddogion yn mynychu’r pwyllgor yn y cnawd; byddai pob un ohonynt yn ymuno ar-lein. Nid oeddwn yn gwybod hynny tan y pwynt hwnnw, ac o dan yr amgylchiadau hynny, nid oeddwn yn teimlo ei bod yn rhesymol i mi fynychu’r pwyllgor yn y cnawd ar fy mhen fy hun, heb fynediad uniongyrchol at swyddogion, fel y gallwn ei wneud pe byddent yno yn y cnawd. Fodd bynnag, pe bawn yn ymuno o bell, byddwn yn gallu cyfathrebu â hwy'n electronig pe bai angen, ac ar y sail honno, dywedais wrth y pwyllgor y byddwn yn ymuno ar-lein i roi fy nhystiolaeth.

Cymerodd oddeutu 45 munud o drafod i’r pwyllgor benderfynu eu bod yn barod i ganiatáu imi wneud hynny, felly'r unig sylw a fyddai gennyf yw nad fi oedd yn gyfrifol am y 45 munud o oedi; roeddwn yn barod i roi tystiolaeth ar-lein am 9:30 fel y trefnwyd. Byddai wedi bod yn well gennyf roi fy nhystiolaeth yn y cnawd, a chredaf fod y pwynt y mae Alun Davies wedi’i wneud yn bwynt da; credaf fod sesiynau tystiolaeth yn well yn y cnawd. Y tro diwethaf imi roi tystiolaeth i’r pwyllgor, fe wneuthum hynny yn y cnawd, ac roedd swyddogion gyda mi yn y cnawd hefyd. Nid wyf yn ymwybodol o ba drafodaethau a gafwyd rhwng clercod y pwyllgor a fy swyddogion cyn y cyfarfod lle cytunwyd y gallent fynychu ar-lein, ond nid oeddwn yn ymwybodol o hynny, gan fy mod o dan yr argraff fod y cyfarfod cyfan yn cael ei gynnal yn y cnawd. Felly, roedd yn ymwneud â sicrhau fy mod yn cael cymorth priodol gan swyddogion yn y ffordd briodol i allu cyflwyno fy nhystiolaeth yn effeithiol.

Diolch i’r Dirprwy Weinidog. Yn anarferol, rwyf wedi caniatáu pwynt o drefn ar ddarn o fusnes pwyllgor ar gyfer y sesiwn hon. Rwyf wedi clywed holl safbwyntiau’r Aelodau dan sylw, ac fel y gŵyr yr Aelodau, rydym mewn ffordd newydd o weithio: mae hwn yn dir dieithr i raddau. Mae canllawiau, fel y dywedodd Heledd Fychan, wedi’u rhoi i’r Aelodau. Mae gennym brofiad newydd yn dilyn y bore yma. Yn anffodus, bu oedi o 45 munud i bwyllgor yn ei waith craffu gweinidogol. Os yw’n wir fod angen cryfhau’r canllawiau o ganlyniad i brofiad y bore yma a phrofiad pwyllgorau’n gyffredinol dros yr wythnosau diwethaf, yna fe ofynnaf i fforwm y Cadeiryddion ystyried hynny i gyd yn ei gyfarfod nesaf a'r hyn sydd wedi’i rannu â ni o brofiad heddiw, ac i weld a oes angen cryfhau’r canllawiau i bob Aelod, gan gynnwys Gweinidogion, ar fynychu pwyllgorau yn rhithwir neu yn y cnawd. Felly, iawn, symudwn ymlaen at fusnes y Cyfarfod Llawn. Diolch i bawb am rannu eich barn ar hynny.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Mae'r unig ddatganiad heddiw gan Sioned Williams.

Diolch, Lywydd. Mae’r mis hwn yn nodi 200 mlynedd ers geni Alfred Russel Wallace, naturiaethwr yr helpodd ei syniadau i newid y byd. Fe'i ganwyd ger Brynbuga, a threuliodd lawer o'i fywyd cynnar yn Lloegr cyn symud yn ôl i Gymru i weithio fel syrfëwr yng Nghastell-nedd. Yn ystod ei amser hamdden, canolbwyntiai ar ei ddiddordebau gwyddonol, ac yn ei hunangofiant, cyfeiriodd at yr effaith y cafodd ei amser yng Nghastell-nedd arno, gan ddatblygu ei ddiddordeb ym myd natur, gan ddweud,

'Ni allaf feddwl am unrhyw gwm o'r un maint sy'n cynnwys cymaint o olygfeydd hardd a phrydferth, a chymaint o nodweddion arbennig diddorol, â Chwm Nedd.'

Ar ôl ei gyfnod yng Nghastell-nedd, teithiodd y byd, ac ar ôl dychwelyd, cyhoeddodd rai o'i ganfyddiadau. Ysgrifennodd at un o'i arwyr, Charles Darwin, ac aethant ati i gyhoeddi erthyglau ar eu hastudiaethau ar y cyd. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac wedi'i annog gan Wallace yn ôl pob tebyg, cyhoeddodd Darwin On the Origin of Species. Er mai am ei waith ar esblygiad y mae llawer yn ei gofio, ysgrifennodd Wallace am lawer o bynciau eraill, gan gynnwys hawliau gweithwyr, y bleidlais i fenywod, perchnogaeth tir a thlodi.

Heddiw, mae'n parhau i gael ei gofio a'i ddathlu. Mae llwybr Alfred Russel Wallace yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnwys llawer o’r lleoedd lle bu’n byw, yn ymweld â hwy neu’n gweithio ynddynt yn ystod ei gyfnod yno, gan gynnwys lleoedd fel fferm Bryncoch, abaty Nedd, Rheilffordd Cwm Nedd, rhaeadr Melin-cwrt a sefydliad mecaneg Castell-nedd. Yn ddiweddar, cafodd Alfred Russel Wallace ei goffáu gan Theatr na nÓg, cwmni o Gastell-nedd, mewn perfformiadau arbennig o’u cynhyrchiad arobryn o ddrama Geinor Styles, You Should Ask Wallace. Dros ddwy ganrif ar ôl ei eni, ystyrir Wallace, yn gwbl haeddiannol, yn un o'r meddylwyr mwyaf dylanwadol a fu erioed. Mae Castell-nedd a Chymru gyfan yn briodol falch ohono.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru'

Eitem 5 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8180 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru', a osodwyd ar 6 Hydref 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl yma y prynhawn yma. Liciwn i ddechrau drwy ddiolch i’r holl randdeiliaid a’r holl aelodau o’r cyhoedd hefyd sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Dwi'n falch hefyd, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi derbyn ein holl argymhellion ac eithrio un, ond efallai y down ni at hynny nes ymlaen.

Mae dwy ran i'r adroddiad yma. Mae rhan 1 yn ymdrin â sesiwn graffu flynyddol y pwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru, ac mae rhan 2 yn ymdrin â materion ehangach yn ymwneud ag adfer gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru ar ôl pandemig COVID-19. Mae e, felly, yn adroddiad eang ei gwmpas, a bydd dim amser i wneud mwy na chyffwrdd â rhai o’r materion mwyaf pwysig wrth i fi agor y drafodaeth yma heddiw.

Yn gyntaf, felly, hoffwn i sôn am ein gwaith craffu ni yng nghyd-destun gwaith Trafnidiaeth Cymru. Roedd y pwyllgor yn pryderu am nifer o agweddau ar drefniadau llywodraethu Trafnidiaeth Cymru. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi cynlluniau busnes ac ariannol ac, o ganlyniad, yn ymwneud â thryloywder y sefydliad. I fod yn deg, roedd cyfnod y pandemig yn gyfnod anodd i Drafnidiaeth Cymru. Fe glywson ni fod cyllideb y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw yn amrywio’n arw a bron iawn yn newid o un wythnos i'r llall. Mae i’w gweld braidd yn annheg inni feirniadu’r sefydliad am beidio â chyhoeddi cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol yn y cyd-destun hwn efallai. Ond wedi dweud hynny, maen nhw’n arfau hanfodol ar gyfer asesu i ba raddau mae Trafnidiaeth Cymru yn llwyddo i fodloni gofynion ei gylch gwaith ac a yw’n sicrhau gwerth am arian. Un o’n hargymhellion ni, felly, oedd y dylai Trafnidiaeth Cymru gael trefn ar ei gynlluniau. O eleni ymlaen, dylai gyhoeddi cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.

Mae yna broblemau hanesyddol yn ymwneud â chyflwyno dyraniadau cyllideb Trafnidiaeth Cymru sy’n ei gwneud hi bron yn amhosibl craffu ar faint o arian sy’n cael ei ddyrannu ac at ba ddiben. Unwaith eto, roedd gennym ni rywfaint o gydymdeimlad â Thrafnidiaeth Cymru. Fe ddywedodd y prif weithredwr y gallai’r broses o bennu’r gyllideb olygu cynifer â 25 o sgyrsiau dwyochrog gyda gwahanol ddeiliaid cyllideb Llywodraeth Cymru. Nawr, mae hyn i’w weld yn ofnadwy o fiwrocrataidd i ni fel pwyllgor. Dylai bod yn agored ac yn dryloyw fod yn egwyddorion sylfaenol i sefydliad cyhoeddus fel Trafnidiaeth Cymru, a byddai symleiddio’r broses hon yn ein barn ni yn helpu yn hynny o beth.

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn rhan 1 yr adroddiad, a bod Trafnidiaeth Cymru felly am eu rhoi ar waith. Ers cyhoeddi’r adroddiad, fe welwyd cynnydd da eisoes ym maes llywodraethu a thryloywder. Mi fyddwn ni'n cynnal ein sesiwn graffu flynyddol gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ddiweddarach eleni, a byddwn ni, wrth gwrs, yn ailedrych ar y materion yma i weld a yw’r sefyllfa wedi gwella bryd hynny.

Mae ail ran ein hadroddiad ni yn ymdrin â’r mater ehangach, fel roeddwn ni’n dweud, o adfer gwasanaethau bysiau a threnau ar ôl pandemig COVID. Hoffwn ddiolch yn arbennig ar ran y pwyllgor i’r aelodau o’r cyhoedd a gyfrannodd at ein gwaith drwy gymryd rhan yn y grwpiau ffocws a’r cyfweliadau amrywiol a gynhaliwyd gennym ni ar hyd a lled Cymru ar y mater yma. Fe gafodd y pandemig effaith enfawr ar y nifer a oedd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd gan nifer o bobl ofn mynd ar y bws neu’r trên. Roedd llawer llai o wasanaethau, a phobl yn yr ardaloedd tlotaf, gyda llaw, a gafodd eu taro galetaf yn hynny o beth. Ond roedd llawer o’r newidiadau sylfaenol a welon ni yn digwydd yn ystod y pandemig, pethau fel siopa ar-lein ac efallai’r tueddiad fwyfwy i weithio o gartref, mi oedd y rheini yn dod yn fwyfwy cyffredin yn ein cymdeithas ni cyn y pandemig. Ond wrth gwrs mae wedi dod llawer mwy arferol nawr i bobl, fel dwi’n dweud, i weithio gartref, ac yn y blaen.

Mae bysiau a threnau’n hanfodol nid yn unig er mwyn ein helpu ni i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd yma yng Nghymru, ond hefyd i greu cymdeithas lle mae’n hawdd i bobl gael at y gwasanaethau, i gael at yr addysg a’r gwaith sydd eu hangen arnyn nhw i fyw bywyd llawn. Felly, y cwestiwn i ni fel pwyllgor, wrth gwrs, oedd: beth mae angen ei wneud i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Ac mae ein hadroddiad ni, fel y byddech chi’n disgwyl, yn ystyried nifer o’r materion hyn.

Mae’n rhaid i newid moddol, modal shift, fod yn ganolog i’r gwaith hwn. Yn gyntaf, mae angen i ni ddeall sut fath o drafnidiaeth gyhoeddus y mae pobl am ei chael a sut maen nhw am ei defnyddio. Pa mor barhaol yw’r newidiadau a welon ni yn ystod y pandemig, ac ers hynny, a beth fydd y patrwm yn y dyfodol? Dwi’n falch bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein holl argymhellion ni yn y maes hwn. Roeddwn yn falch hefyd o weld bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio at arolwg teithio cenedlaethol i Gymru yn ei ymateb. Mi fyddwn i’n ddiolchgar pe gallai fe ddweud mwy wrthyn ni, efallai, am yr arolwg a sut y bydd hwnnw yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch polisi a’r gyllideb yn y dyfodol, pan fydd e’n ymateb i’r ddadl.

Yn ail, mae angen seilio polisïau ar dargedau priodol. Mae strategaeth drafnidiaeth a chynllun sero net Llywodraeth Cymru yn gosod targedau ar gyfer newid moddol. Er enghraifft, dylai 7 y cant o deithiau gael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030, a dylai hynny godi i 13 y cant erbyn 2040. Mae’r rhain yn dargedau uchelgeisiol ac, yn sicr, dwi ddim yn mynd i feirniadu’r Dirprwy Weinidog am ddangos uchelgais yn hynny o beth, ond roedd gormod o’n rhanddeiliaid ni yn amau a yw’r math o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn ddigon da i’n rhoi ni ar y trywydd iawn i gyrraedd targed 2030.

Mae angen i ni ei gwneud hi'n hawdd ac yn haws i bobl adael y car gartref a theithio ar y bws neu'r trên. Rŷn ni’n gwybod o'n gwaith gyda rhanddeiliaid mai cost, hwylustod a mynediad at wasanaethau yw'r tri maes pwysicaf i ddefnyddwyr. Gallwn ni drafod cymhlethdodau newid ymddygiad gymaint ag y mynnwn ni, ond byddai ymdrin â’r tri phwynt yna yn sicr yn fan cychwyn da.

Mi ges i'r pleser yn gynharach heddiw o siarad mewn digwyddiad i lansio adroddiad newydd gan Gydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru ynghylch annog pobl i deithio ar fws neu ar goets, ar coach, yn lle defnyddio’u ceir. Mae’n werth nodi, gyda llaw, fod materion tebyg iawn yn cael eu codi yn ein hadroddiad ni a’r adroddiad a oedd yn cael ei gyhoeddi’r prynhawn yma.

O ran cost trafnidiaeth gyhoeddus, mi oedd tlodi trafnidiaeth yn peri pryder arbennig i ni fel pwyllgor. Mae tlodi trafnidiaeth yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau demograffig yn fwy na’i gilydd, yn cynnwys grwpiau megis pobl anabl, pobl hŷn a menywod. Un o’n hargymhellion ni oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynnig cymhorthdal i ostwng pris tocynnau a mathau eraill o gymorth ariannol. Hoffwn i glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog am y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r cynigion hyn.

Fydd hi ddim yn hawdd datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig y bydd yn hawdd i bobl ei ddefnyddio pan fydd ei angen ac sy’n fforddiadwy. I ddechrau, rŷn ni’n gwybod i wneud hynny y bydd angen buddsoddiad sylweddol. Mi fydd yr Aelodau i gyd yn gwybod nad yw’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi’i ariannu’n ddigonol yn hanesyddol. Sut allwn ni ddatblygu system drafnidiaeth integredig heb fuddsoddiad priodol yn y seilwaith rheilffyrdd? Dwi’n falch bod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod y ddadl dros ddatganoli’r cyfrifoldebau dros reilffyrdd yn llawn, a dros sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dyrannu cyllid teg. Yn wyneb penderfyniadau tebyg i’r rhai a wnaed yng nghyd-destun HS2 a’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i bob golwg, wedi gwrthod hyd yn oed ystyried dyrannu cyllid priodol i Gymru, mae’n anodd anghytuno â’r ddadl dros ddatganoli.

O ran cyllid ar gyfer bysiau, polisi presennol Llywodraeth Cymru yw i 50 y cant o’r bysiau gwasanaeth sy’n llygru fwyaf gael eu disodli gan fysiau heb allyriadau pibellau mwg erbyn 2028, ac i bob tacsi a cherbyd hurio preifat hefyd beidio bod yn cynhyrchu unrhyw allyriadau erbyn 2028—yr un flwyddyn. Nawr, mi fydd y gost o ddatgarboneiddio’r sector bysiau yn uchel, ac mi fydd angen cymorth ariannol ar y sector i gyflawni hynny. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi dweud bod cynlluniau cyflawni’n cael eu paratoi i gyrraedd y targedau a nodir yn Sero Net Cymru, ac mi fyddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai o’n dweud mwy wrthym ni am hynny yn ei ymateb.

Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i ar y dechrau, mae hwn yn adroddiad eang ei gwmpas, a dwi ddim wedi gallu mynd ar ôl pob sgwarnog ac ymdrin â phob dim yn fy nghyfraniad i. Mae'n bosibl y bydd Aelodau eraill, yn amlwg, yn cael cyfle i dynnu sylw at rai ohonyn nhw. Ond hoffwn i gloi drwy ddweud y bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai cyffrous iawn i fysiau a threnau. Mae’r Bil diwygio bysiau, wrth gwrs, yn gyfle da i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac, yn bwysicaf oll, i sicrhau eu bod nhw'n canolbwyntio mwy ar y cwsmer. Mae cynnydd i’w weld hefyd o ran cynlluniau’r metro, ac mae yna ddarn mawr o waith i ni fel pwyllgor yn cadw llygad ar y datblygiadau yn y maes yna. Ond er ein bod ni yn gweld cynnydd, mae angen gofyn yr un hen gwestiwn: a yw’r cynnydd yma yn digwydd yn ddigon cyflym? Ydy, mae'r sefyllfa ariannol ehangach wedi'i gwneud hi'n anoddach fyth i gyrraedd targedau trafnidiaeth sero net Llywodraeth Cymru, ond y cyfan ddywedaf i wrth gloi'r cyfraniad cyntaf i'r ddadl yma yw, fel pwyllgor, mi fyddwn ni'n sicr yn parhau i asesu cynnydd ac yn parhau, yn sgil hynny, i adrodd yn ôl i’r Senedd yma. Diolch.

15:25

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, yn ogystal â’r holl banelwyr a staff a’n cefnogodd yn ein gwaith ar yr adroddiad hwn. Nawr, rhwng y pandemig, y streic a’r argyfwng costau byw, mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU yn wynebu amrywiaeth eang o heriau. Golyga hyn ei bod yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun cynaliadwy cydgysylltiedig ar gyfer cwmnïau bysiau a threnau. Mae hefyd yn bwysig edrych ymlaen at y dyfodol. Mae argymhelliad 6 yn yr adroddiad yn nodi

'Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae’n ei wneud gyda phartneriaid eraill i ddeall patrymau teithio yn y dyfodol…a’u heffaith'.

Gwn y bydd gan fy nghyd-Aelod Natasha Asghar fwy i’w ddweud am y gwaith craffu ar Trafnidiaeth Cymru, ond fel Gweinidog newid hinsawdd yr wrthblaid, hoffwn ailadrodd pa mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus ar drenau a bysiau i gyflawni ein targedau amgylcheddol. Os yw Llywodraeth Cymru am fodloni rhwymedigaethau sero net Cymru, mae angen i bobl gael mynediad at drafnidiaeth sy'n ddibynadwy ac yn fforddiadwy. Y bore yma, roeddem yn sôn am y cynllun ffyrdd a ataliwyd gan y Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n iawn os oes gennych seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar waith, ond yn anffodus, nid oes gennym hynny yng Nghymru.

Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig teithio ar fysiau, yn hanfodol i fynd i’r afael â symudedd ac amddifadedd cymdeithasol. Canfu ymchwil Prifysgol De Cymru mai’r ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd wedi wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn mynediad at wasanaethau oherwydd y pandemig. Mae tystiolaeth gan Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 13 y cant o gartrefi Cymru fynediad at gar hyd yn oed, ac mae gan 25 y cant o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor. Felly, Weinidog a Ddirprwy Weinidog, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried beth y gellir ei wneud i helpu ein pobl fwyaf agored i niwed, sy’n aml yn byw mewn ardaloedd sy'n eithaf ynysig yn gymdeithasol. Ni all yr argyfwng costau byw presennol arwain at wneud i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd golli eu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae argymhelliad 15 yn nodi

'Dylai Llywodraeth Cymru nodi pa asesiad y mae wedi’i wneud o effaith costau ynni a’r argyfwng costau byw ar ei thargedau newid moddol.'

Fel y dywedasom yn yr adroddiad, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cymryd camau i gapio pris tocynnau bws y tu allan i Lundain ar £2. Cadarnhaodd Silviya Barrett fod gwasanaethau bysiau yng Nghymru wedi gostwng 45 y cant yn y 10 mlynedd rhwng 2011-12 a 2020-21, ond yn y flwyddyn ddiwethaf honno, rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021, sef blwyddyn gyntaf y pandemig, roedd y toriadau'n 36 y cant. Yn ôl Joe Rossiter, mae’r gostyngiad mewn gwasanaethau rheilffordd a bws wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau gwledig a—dyma graidd y mater—nid yw’r lleihad yn y gwasanaethau'n effeithio’n gyfartal ar bawb. Bydd pobl mewn cymunedau anghysbell a gwledig yn teimlo effeithiau lleihad yn y gwasanaethau yn anghymesur. Ac fel y nodwn yn yr adroddiad, mae risgiau y gallai’r system fasnachfreinio arfaethedig a amlinellir yn y Bil diwygio bysiau gau'r drws ar weithredwyr llai. Mae’r gweithredwyr hyn, yn enwedig yn y Gymru wledig, mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion eu cymunedau lleol ac i ymateb i newidiadau yn y galw. Yn sicr, yn fy etholaeth i, mae gennym Llew Jones, gweithredwr bysiau bach, ac mae'n gweithio'n agos gyda'r gymuned a'r teithwyr. Mae gwasanaeth bws Fflecsi wedi'i gyflwyno bellach hefyd, ac mae hwnnw'n gynllun gwerth chweil.

Rydym yn cytuno â’r awgrym y dylai’r Bil gynnwys darpariaeth i sicrhau y gall cwmnïau llai gymryd rhan yn y broses fasnachfreinio. Rydym yn falch fod y Papur Gwyn yn cydnabod hyn ac yn cynnwys cynigion ar gyfer mynd i'r afael â'r mater. Fodd bynnag, mae angen inni bwysleisio y dylid llunio'r broses mewn ffordd sy'n lleihau cost cyflwyno cynigion ar gyfer y gweithredwyr llai hynny. Er fy mod yn deall y cyfyngiadau ariannol, mae mwy y gellid ei wneud gyda’r sefydliadau sydd eisoes yn eu lle. Yn benodol, rydym wedi gweld tystiolaeth glir o ddiffyg cydgysylltu ar ddarparu trafnidiaeth rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Credai Josh Miles fod ‘Bws Cymru’ yn cynnwys llawer o’r meysydd cywir, ond ei brif bryder oedd nad oedd rhai o elfennau sylfaenol y strategaeth yn cael eu cyflawni. Dywedodd fod angen canolbwyntio ar gyflawni, ac

'nid oes gan awdurdodau lleol lawer o staff nac adnoddau i'w rhoi yn y broses ar hyn o bryd…. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd ac nid oes gennym gydlyniad na buddsoddiad i gyflawni pethau eto'.

Mae sylwadau fel y rhain a wnaed gan ein tystion yn amlygu y gall diffyg meddwl cydgysylltiedig effeithio ar bolisi trafnidiaeth. Mae’n rhywbeth y mae’r adroddiad eisoes wedi’i nodi ac mae angen inni geisio mynd i’r afael ag ef. Rwy'n derbyn bod rhai o’r safbwyntiau hyn dan ystyriaeth. Mae angen gwell enw da, cysondeb a dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus—

15:30

—os ydym am ddychwelyd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn unol ag argymhelliad 7. Diolch.

Dywedodd yr Athro Mark Barry, a oedd yn un o'n tystion, ac sy'n arbenigwr ar drafnidiaeth, fod Cymru heb gael tegwch gan ecosystem y diwydiant rheilffyrdd dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf o ran buddsoddiad a chyllid gwella. Mae hynny'n mynd â ni'n ôl i tua 1980, felly mae hon yn broblem a achoswyd gan weinyddiaethau Ceidwadol a Llafur. Ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth bresennol y DU yn anodd iawn i'w dilyn o safbwynt rhesymeg unrhyw un o'u dadleuon. Mae dadlau na ddylai'r buddsoddiad HS2 gwerth £52 biliwn greu unrhyw arian canlyniadol i Gymru yn nonsens llwyr. Mae'n ei gwneud yn anodd iawn gweld a ydym yn mynd i allu cael perthynas aeddfed gyda hwy ai peidio, oherwydd, er gwaethaf y ddadl wag honno, maent eto i uwchraddio'r seilwaith ar y brif linell reilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae hynny'n destun pryder arbennig i'r ardal rwy'n ei chynrychioli, gan fod cynllun Burns ar gyfer metro de-ddwyrain Cymru yn rhagdybio mai dwy o'r pedair llinell reilffordd sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin fydd asgwrn cefn y cynnig hwnnw. Nid oedd Gweinidog yr economi yn gallu ein goleuo mewn unrhyw fodd ddoe, felly byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Dirprwy Weinidog yn gallu nodi a fu unrhyw lygedyn o obaith y bydd Llywodraeth Rishi Sunak yn rhoi ystyriaeth fwy difrifol i'r mater. Oherwydd mae'n fater o gyfiawnder mewn gwirionedd, yn ogystal â rhywbeth a ddylai ennyn ei sylw os yw am gadw'r DU gyda'i gilydd. Felly, mae hynny'n gwbl allweddol i mi.

Rwy'n credu mai'r mater arall yw'r diwydiant bysiau. Rwy'n falch iawn o glywed gan Janet Finch-Saunders fod bysus Fflecsi yn gweithio i fyny yng ngogledd Cymru. Ac mae hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd gallai hwnnw fod yn fodel i rywle arall lle nad oes cymaint o grynodiad o bobl. Mae'n rhaid imi ddweud bod y buddsoddiad y llwyddasom i'w sicrhau yng Nghaerdydd a Chasnewydd ar gyfer bysus trydan wedi gwella ansawdd aer yr ardaloedd yn aruthrol, oherwydd nid ydynt yn chwydu diesel erchyll bellach. Felly, mae hynny wedi bod yn wych. Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru, sydd wedi grymuso awdurdodau lleol i fwrw ati i wneud cais am yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Mae hynny'n rhywbeth y mae gwir angen i awdurdodau lleol eraill wneud mwy yn ei gylch. 

Ar y ddadl wirioneddol ddifrifol ynglŷn â sut y cawn bobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n amlwg fod llawer iawn o waith i'w wneud. Yn y seminar a drefnwyd gan y sefydliad trafnidiaeth gyhoeddus y cymerodd Llyr ran ynddi—ni allwn fynd iddi—clywais fod rhywun wedi awgrymu nad oedd modd prisio pobl allan o ddefnyddio'u ceir oherwydd byddai'n rhaid iddynt godi'r gost o redeg car fwy na £250 cyn y byddai pobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'u ceir a newid i drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid imi gymryd yn ganiataol fod y ffigur hwnnw gryn dipyn yn uwch bellach, gan fod yswiriant wedi codi'n aruthrol ac mae prisiau petrol wedi codi'n aruthrol. I'r rhan fwyaf o bobl, rhaid ei fod wedi mynd y tu hwnt i £250. Felly, mae hynny'n gyfle i ni, yn ogystal â bygythiad—[Torri ar draws.] Ie. 

15:35

Rwy'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud, er na fyddwn i'n mynd yr holl ffordd i lawr creulondeb y llwybr hwnnw. Ond ni fydd prisio pobl allan o gar ond yn gweithio lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael. Mewn llefydd fel y rhai rwy'n eu cynrychioli, nid yw'r drafnidiaeth gyhoeddus honno ar gael, felly yr hyn a wnewch yw taro'r bobl dlotaf a mwyaf bregus. 

Rwy'n derbyn y ddadl honno, Alun, ac rwy'n meddwl ei fod yn bwynt da. Ond yn amlwg, mae'n rhaid inni ddatblygu mwy o wasanaethau, ac ni allwn daro pobl. Byddwn o blaid defnyddio'r ysgogiadau cyllidol hynny cyn gynted ag y ceir dewisiadau amgen. Yn amlwg, os edrychwch ar boblogaeth Caerdydd, nid oes angen i bobl ddod â'u ceir i ganol y ddinas, ac mae'n dda ei bod hi'n fwyfwy anodd iddynt wneud hynny. Rwy'n gobeithio y bydd Cyngor Caerdydd yn ddigon dewr i godi pris parcio yng nghanol y ddinas yn sylweddol. Mae pobl yn ciwio'n ddi-fudd i fynd i feysydd parcio penodol adeg y Nadolig, ac mae'n anhygoel—

—mae fy etholwyr yn defnyddio'r meysydd parcio hynny, ac mae eich etholwyr chi sy'n gweithio yng nghanol y ddinas yn dibynnu ar y ffaith bod fy etholwyr yn defnyddio Caerdydd fel dinas leol. Ni chawn gyfle i wneud unrhyw beth heblaw gyrru i mewn i Gaerdydd. Mae angen hynny arnom, a'r perygl felly yw eich bod yn creu rhaniad rhwng Caerdydd a'r Cymoedd. 

Diolch am eich ymyriad, ac rydych chi'n hollol anghywir. Rydych chi'n anghywir oherwydd—

Jenny, os hoffech ateb y cwestiwn a gorffen wedyn, oherwydd mae'r amser yn dod i ben. 

Mae'r system parcio a theithio yn hollol ardderchog. Mae'n costio £2 i'r teulu cyfan ac ni fydd angen ichi drafferthu ceisio dod o hyd i le parcio. Mae'r trefniadau hynny ar gael o gwmpas y ddinas, felly nid yw honno'n ddadl rwyf am ei derbyn. 

Rwy'n meddwl bod yna lawer mwy y mae angen inni ei wneud, ond rwyf hefyd yn meddwl bod angen inni wneud llawer mwy i sicrhau bod pobl heb geir yn gallu symud o gwmpas, nid ar gyfer eu teithiau bob dydd yn unig ond hefyd i allu manteisio ar gyfleoedd hamdden, i allu mynd i ymweld â Storey Arms. Rwy'n cofio'r gwasanaeth bws am ddim a ddechreuwyd gan y cyn-Weinidog yr economi, a alluogodd fy etholwyr i gyrraedd Storey Arms am ddim ar ddydd Sadwrn. Byddwn yn awyddus iawn i ganfod beth yn union oedd canlyniad hynny, ac a allem wneud mwy o bethau felly i bobl allu deall bod teithio ar fws yn gyfle gwych. 

Diolch i'r Cadeirydd ac i'r tîm clercio am eu gwaith pwysig yn y maes yma. Mae e'n gwbl amlwg—ac mae'n dod yn amlwg wrth i ni glywed y ddadl yma'n barod—bod trafnidiaeth bws a thrên yn chwarae rhan hanfodol wrth i ni geisio cyrraedd ein targedau newid hinsawdd, a chreu cymdeithas lle mae pawb yn gallu cyrraedd y gwasanaethau maen nhw eu hangen, boed hynny yn y maes gofal, hamdden, gwaith, addysg neu unrhyw beth sy'n bwysig i fywydau pobl. Ond, ar hyn o bryd, dydy hynna ddim yn bosibl i bawb. Yn rhy aml o lawer, dydy trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn fforddiadwy, dyw e ddim yn arferol, dyw trenau a bysys ddim yn mynd lle mae pobl angen iddyn nhw fynd.

Rwy'n croesawu nod Llywodraeth Cymru i weld 45 y cant o siwrneiau yn digwydd mewn ffordd gynaliadwy erbyn y flwyddyn 2040. Buaswn i yn gofyn hefyd a ydy hynna yn ddigon uchelgeisiol. Hynny yw, efallai dydy'r cynnydd o ryw 1 y cant y flwyddyn rŷn ni wedi sôn amdano yn ystod argyfwng hinsawdd ddim wir yn adlewyrchu'r uchelgais rŷn ni ei angen. Beth yn union mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac yn ei gynllunio, er mwyn ceisio hwyluso pobl i allu gwneud hyn? Dyna ydy gwraidd y broblem, rwy'n meddwl. Mae gennym system reilffordd sy'n aml yn parlysu yn ystod glaw trwm neu wres eithafol, neu os mae'n bwrw eira, neu unrhyw fath o dywydd sydd ddim jest yn arferol, ac mae hyn ond am ddigwydd yn amlach o nawr ymlaen. Mae beth sy'n arferol yn mynd i newid, yn anffodus. Mae trenau yn aml yn hwyr, neu'n cael eu canslo, mae ticedi llawer rhy ddrud ac mae amodau gweithio'r staff yn dirywio, wrth i'r hinsawdd economaidd daro. Mae'n rhyw fath o perfect storm

Mae'n bwysig bod yn onest mewn gwleidyddiaeth, felly rwy eisiau nodi nad bai Llywodraeth Cymru yw hyn i gyd o bell ffordd. Gwraidd y broblem, a dŷn ni wedi clywed hyn yn barod, yw'r Llywodraeth yn San Steffan, sydd ddim yn malio taten am bobl Cymru—Llywodraeth sydd yn tanariannu ein rheilffyrdd yn fwriadol, drwy ein hamddifadu o £5 biliwn o arian HS2, er enghraifft, arian byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei ddefnyddio i drawsnewid ein rheilffyrdd. Fel dywedodd Jenny, am benderfyniad gobbledegook, beth bynnag ydy hynny yn Gymraeg. Mae datgarboneiddio rheilffyrdd yn her arall i Lywodraeth Cymru. Bydd angen gwella isadeiledd y rheilffyrdd, gwella storfeydd grid, cysylltedd a chapasiti. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer cludiant hefyd. Hoffwn glywed mwy, pan dŷn ni yn clywed yr ymateb i'r ddadl gan y Dirprwy Weinidog, am gynnydd yn y maes hwn, yn ogystal â’r camau nesaf o ran datgarboneiddio gan y Llywodraeth. 

Gan droi yn olaf at hygyrchedd, fe wnes i holi’r Gweinidog am ddiogelwch menywod ar ein rheilffyrdd yr wythnos diwethaf. Ers hynny rwyf wedi dysgu bod rhai cynghorau, er enghraifft yng Nghasnewydd, yn bwriadu troi goleuadau stryd i ffwrdd yn y nos er mwyn arbed arian. Beth ydy goblygiadau hynny o ran diogelwch menywod sydd eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r nos? Beth mae'r Llywodraeth yn meddwl am hynny? 

Wrth symud ymlaen, yn olaf, mae gwella gallu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael ag annhegwch cymdeithasol a gallu pobl i deithio. Eto mae hyn wedi cael ei godi yn barod. Wrth ystyried nad oes gan 13 y cant o gartrefi yng Nghymru gar, a bod gan 25 y cant o’r bobl sy’n defnyddio bysys anabledd neu salwch hirdymor, a’r ffaith mai’r lleiaf breintiedig a welodd y dirywiad mwyaf o ran gallu pobl i gyrraedd a defnyddio gwasanaethau, mae’n bwysig bod gweithredu yn digwydd nawr. Yr hyn sy’n glir yw bod angen llwybr tuag at ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn y dyfodol, gan ddechrau gyda’r bobl sydd angen hynny fwyaf: pobl ifanc, pobl mewn cymunedau gwledig a phobl ar incwm isel. Yn y cyfamser—ac mi wnaf orffen gyda hyn, Dirprwy Lywydd—a wnaiff Llywodraeth Cymru ddod â chynlluniau ymlaen i fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth?

15:40

Diolch i'r Cadeirydd, aelodau'r pwyllgor a thîm clercio'r pwyllgor newid hinsawdd am lunio adroddiad mor gynhwysfawr. Rwy'n falch o weld y dull ar y cyd a ddefnyddir o ystyried gwasanaethau bysiau a threnau gyda'i gilydd. Yn y Senedd ddiwethaf, roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac fe fwynheais gymryd rhan yn ein hymchwiliadau i fysiau a'r rheilffyrdd ar wahân ar y pryd, ond pwynt a wneuthum sawl tro yr adeg honno, i ardaloedd fel fy rhai i yng Nghwm Cynon, oedd mai bysiau yw'r elfen hanfodol ar gyfer cysylltu cymunedau sy'n gallu bod yn anghysbell â'r rhwydwaith trenau. Ni allwn eu gweld ar wahân, felly rwy'n croesawu dull y pwyllgor o fynd ati. Rwy'n falch hefyd fod y meddylfryd cydgysylltiedig hwn wedi'i wreiddio yng nghynlluniau metro de Cymru, ac mae'n gadarnhaol nodi'r cynnydd tuag at gyflawni hyn, rhywbeth y gallaf ei weld â'm llygaid fy hun yn fy etholaeth. Hoffwn gofnodi fy niolch i dîm Trafnidiaeth Cymru am roi gwybod i mi am ddatblygiadau lleol yn hyn o beth, yn bennaf er mwyn imi allu rhoi gwybod i fy etholwyr yn eu tro.

I droi at yr argymhellion yn yr adroddiad, rwyf am gyffwrdd ar ambell bwynt allweddol. Rwy'n credu bod argymhelliad 6 ynghylch deall patrymau teithio yn y dyfodol yn allweddol i'r hyn y mae pawb ohonom am ei gyflawni o ran rhoi rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus drawsnewidiol ar waith sy'n addas i'r diben. Rhaid i'r rhwydwaith hwnnw alluogi dinasyddion Cymru i deithio ar gyfer gwaith ac addysg, hamdden a phleser. Edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru'n rhyddhau gwybodaeth am ei harolwg trafnidiaeth cenedlaethol arfaethedig maes o law. Edrychaf ymlaen hefyd at glywed pa fecanweithiau a gaiff eu rhoi ar waith fel ei fod yn cyfleu barn a phrofiadau pob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru.

Mae argymhelliad 7 hefyd yn hanfodol bwysig. Rydym eisiau sicrhau bod pobl yn mynd yn ôl ar y bysiau. Rwy'n cymeradwyo'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i gefnogi gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, ond rwy'n bryderus hefyd na fydd cynlluniau sydd ar y gweill i ddeddfu ar fysiau'n cyflawni popeth y gallent ei wneud oni bai, er enghraifft, fod cynghorau'n cael digon o gyllid i redeg gwasanaethau. Er enghraifft, rwy'n ymdrin ag achosion yn fy etholaeth lle nad oes gwasanaeth bws i Gwmdâr neu Gwm-bach ar ôl 5.30 p.m., ac nid llefydd gwledig anghysbell yw'r rhain ond pentrefi ychydig y tu allan i'r dref ei hun, gan adael etholwyr—gyda llawer ohonynt yn hŷn a heb drafnidiaeth breifat—wedi'u hynysu i bob pwrpas. Ni all hynny fod yn rhywbeth y gallwn ganiatáu iddo barhau. Os yw'r gwasanaethau hyn, fel y dywedir wrthyf, yn anghynaladwy i ddarparwyr preifat, sut y bydd hyn yn wahanol i'r awdurdod lleol? Sut mae modd hwyluso hyn yn ystod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni? Heb gael hyn yn iawn, y cyfan y gallwn ei gyflawni yw symud y bai am wasanaethau bws gwael i awdurdodau lleol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at unrhyw sicrwydd y gall y Dirprwy Weinidog ei roi ar y pwynt hwn. 

Mae argymhelliad 8 hefyd yn hanfodol bwysig. Ni fydd y rhwydwaith bysiau arfaethedig gorau yn y byd yn llwyddo os nad oes gennym yrwyr i sicrhau ei fod yn gallu gweithredu. Rwyf wedi cynorthwyo fy nghanghennau undebau llafur yn lleol i ddatrys problemau lleol wrth iddynt godi, ac rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ein hundebau llafur ran i'w chwarae yn y trafodaethau hyn hefyd. Mae'n rhaid inni gydnabod bod cyflogau teilwng ym mhob ardal, nid dyfarniadau cyflog lleol, ac mae sicrhau amodau gwaith da yn allweddol er mwyn cadw'r gweithlu.

Yn olaf, argymhelliad 9. Mae angen inni ei gwneud yn fforddiadwy i bobl allu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ond rwy'n pryderu'n fawr y gallai realiti prisiau tocynnau arwain at atal pobl rhag ei defnyddio, yn enwedig wrth ystyried amgylchiadau eraill, fel gwasanaethau'n cael eu canslo ar fyr rybudd. Er enghraifft, ystyriwch os yw rhiant o Ben-y-Waun, un o rannau lleiaf cefnog fy etholaeth, yn mynd â'u dau blentyn sydd yn eu harddegau, er enghraifft, i'w meddygfa agosaf yn Nhrecynon. Byddai'r daith honno ychydig dros 1.5 milltir, ond mae pris tri thocyn yr un faint â chost taith tacsi a fyddai'n mynd â chi o ddrws i ddrws. Mae'n destun pryder fod un darparwr bysiau lleol wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau yn codi bron i 10 y cant o ddiwedd y mis hwn, a bydd tocynnau dwyffordd i oedolion hefyd yn cael eu dileu. Rwy'n sylwi ar y gwahanol ffrydiau gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i geisio cael datrysiad, ac unwaith eto, rwyf hefyd yn cydnabod y pwysau ariannol real iawn sydd ar Weinidogion, ond mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis synhwyrol, cynaliadwy, realistig a fforddiadwy. Diolch.

15:45

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor, rwy'n nodi mai dim ond un o'i 26 o argymhellion a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn gyfeirio yn fy sylwadau y prynhawn yma hefyd at rai o'r argymhellion y mae'n eu cynnwys. Mae argymhelliad 7 yn cyfeirio at annog teithwyr i ddychwelyd i ddefnyddio gwasanaethau bysiau cyhoeddus. Rwy'n cytuno'n fawr â hyn, fel y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr a thu hwnt hefyd rwy'n siŵr. Nod Llywodraeth Cymru, o'r diwrnod cyntaf, o'r hyn a glywais, yw cael pobl allan o'u ceir, oddi ar y ffyrdd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Da iawn. Mae'n nod rhagorol heb unrhyw amheuaeth, a byddai'n lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon. Fodd bynnag, ni all weithio heb fod gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cryf ac effeithlon yn y lle cyntaf.

Nid oes amheuaeth fod pobl sy'n byw yma yng Nghymru ac ar draws de-ddwyrain Cymru yn fy rhanbarth i, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Alun Davies, yn ddibynnol iawn ar geir. Ni allwch wadu'r realiti. Rydym wedi cael dadleuon, areithiau a chwestiynau dirifedi yn y Siambr hon, ac ni all neb wadu yma fod gwasanaethau bws yn annigonol, yn anaml a heb fod yn bodoli ledled Cymru. Mae diffyg gwasanaeth bws teilwng yn tanseilio'r economi ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl yn gyffredinol gael mynediad at swyddi a gwasanaethau hanfodol. Roedd nifer y teithiau bws lleol yn gostwng cyn y pandemig, diolch i flynyddoedd o gymorth ariannol annigonol gan Lywodraeth Cymru, yn anffodus, ac nid ydynt wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID o hyd. Mae llawer o wasanaethau bws heb ailddechrau ers y pandemig, gan adael preswylwyr wedi'u hynysu yn eu cymunedau. Ar ôl nifer o ddadleuon, cwestiynau ac areithiau yma yn y Senedd, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bws ar ôl blynyddoedd o danariannu cronig. 

Rwy'n edrych ymlaen at weld cynigion manwl yn datblygu i gefnogi gwasanaethau bws yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill, ac rwy'n awyddus i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu ardaloedd gwledig i fforddio bysiau ecogyfeillgar yn y dyfodol. Mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r prinder gyrwyr bysiau sydd wedi gadael y sector am gyflog uwch mewn mannau eraill, ac yn hytrach na mynd i sefyllfa, fel y gwelwn gyda meddygon teulu, mae angen inni weithio ar hyn nawr yn hytrach nag yn hwyrach. Mae gwella cyflogau ac amodau gyrwyr lorïau wedi arwain at lawer o yrwyr bysiau yn gadael eu swyddi, gan achosi'r hyn a gafodd ei disgrifio fel y sefyllfa adnoddau fwyaf heriol a welodd y diwydiant bysiau erioed. Mae'n hyfryd ein bod i gyd yn dweud pethau cadarnhaol, ond mae angen inni wneud mwy na siarad nawr mewn perthynas â bysiau.

Mae argymhelliad 23 yn galw ar Trafnidiaeth Cymru i roi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf gyda chostau'r metro. Mae'r prosiect metro yn elfen allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru i annog pobl oddi ar y ffordd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y pen draw. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y byddai oedi o fisoedd—ac nid blynyddoedd—i gwblhau prosiect metro de Cymru o ganlyniad i'r pandemig, gyda'r dyddiad cwblhau yn 2023 o hyd.

Ym mis Mai y llynedd, dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod cost y prosiect metro yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'i gyllideb o £734 miliwn, gyda'r gorwariant yn debygol o fod yn ddegau o filiynau o bunnoedd—degau o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Cafodd cwblhau'r prosiect ei oedi tan 2024, ac ym mis Tachwedd y llynedd, cadarnhawyd y byddai oedi pellach i'r uwchraddio, gyda'r rhagolygon y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn gorffen yn 2024, ond heb ddyddiad ar gyfer cwblhau'r prosiect yn llawn, sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl, rwy'n siŵr. Un o'r rhesymau a roddwyd am yr oedi pellach oedd COVID, er bod Trafnidiaeth Cymru wedi dweud yn flaenorol na fyddai'n achosi oedi y tu hwnt i 2023. Felly, unwaith eto, rwy'n ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i'n hysbysu pryd y bydd gwaith ar fetro de Cymru yn cael ei gwblhau o'r diwedd. A beth yw'r amcangyfrif diweddaraf o gyfanswm cost prosiect blaenllaw Llywodraeth Cymru i gael pobl oddi ar y ffordd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Mae argymhelliad 25 yn galw ar Trafnidiaeth Cymru i roi diweddariad ynghylch y peilot tocynnau integredig ac egluro beth yw'r camau nesaf. Un o'm gweithredoedd cyntaf ar ôl cael fy ethol i'r Senedd oedd galw am gerdyn teithio i Gymru gyfan er mwyn caniatáu teithiau di-dor ar draws Cymru, un cerdyn yn unig—yn debyg i'r hyn rydych i gyd wedi'i weld mae'n debyg—fel y cerdyn Oyster yn Llundain. Er clod iddo, a rhaid imi roi clod iddo am hyn, ymatebodd y Prif Weinidog gydag optimistiaeth a dweud ei fod yn syniad gwerth ei archwilio a'i fod yn wirioneddol ymroddedig i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cerdyn o'r fath i bobl Cymru.

Ym mis Hydref y llynedd, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am ddiweddariad ar y cynlluniau hyn, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd,

'Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer tocynnau integredig'.

Felly, wrth symud ymlaen, gadewch imi gofnodi fy nheimladau yma heddiw pan ddywedaf fy mod yn siomedig iawn ynghylch y diffyg cynnydd ar y mater hwn, ac er i Trafnidiaeth Cymru roi tudalen ar eu gwefan yn dweud y byddai'r cerdyn teithio yn dod yn fuan, fe wnaethant ei thynnu i lawr yr un mor sydyn. Hoffwn ofyn am ddiweddariadau rheolaidd yn y Senedd hon ar ddarparu cerdyn teithio i Gymru gyfan gan y bydd yn sylfaen i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gref a chynaliadwy yma yng Nghymru i bobl Cymru, oherwydd os na weithiwn arno nawr, nid wyf yn teimlo y gwnawn ni byth lwyddo i gyflawni rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd cryf yma i bobl Cymru.

15:50

Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor ac i dîm clercio'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn. Wrth gwrs, y prawf y byddaf yn ei sefydlu ar gyfer polisi'r Llywodraeth yw sut mae'n effeithio ar bobl Blaenau Gwent, oherwydd yr hyn a fwynheais leiaf—nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n wir am unrhyw un arall—yn y ddadl gyda Jenny Rathbone yn gynharach oedd y gwahaniaeth ym mhrofiad pobl yng nghanol Caerdydd a'r bobl sy'n byw ym mlaenau'r Cymoedd. Ac rwy'n credu ei fod yn wahaniaeth pwysig, oherwydd yr hyn a safai allan i mi yn yr adroddiad oedd y pwyslais ar newid ymddygiad, ac fe bwysleisiodd y Cadeirydd hynny yn ei gyflwyniad. A bydd newid ymddygiad ond yn digwydd os oes dewisiadau amgen hyfyw i ddefnyddio'r car. Ac yn rhy aml o lawer yn achos fy etholaeth i—y bobl rwy'n eu cynrychioli—nid yw'r dewisiadau amgen hynny'n bodoli. 

Ddirprwy Weinidog, dyma lle mae'r prawf i'r Llywodraeth, oherwydd efallai fy mod wedi treulio gormod o amser yn y Siambr hon yn gwrando ar areithiau gweinidogol, ac a bod yn onest mae rhai o'r areithiau hynny wedi fy siomi. Oherwydd clywais y cyfraniadau—y bydd y Dirprwy Weinidog yn eu gwneud y prynhawn yma, mae'n siŵr—ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru eisiau inni symud o'r car i'r bws neu'r rheilffordd neu beth bynnag. Ac yna, wrth gwrs, rwy'n eu gweld yn adeiladu ysbyty mawr—ac rwy'n gefnogol iawn i adeiladu Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân—roedd gennym fws bob awr i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni; dim bws o gwbl i ysbyty'r Faenor. Ac am bum mlynedd fe addawodd Gweinidogion yn y lle hwn y byddai'r gwasanaethau hynny'n bodoli. Mae'r Gweinidog presennol wedi addo y bydd yn ymchwilio iddo, ond heddiw, nid yw'r gwasanaethau hynny'n bodoli. Felly, nid yw'n ddigon da i'r Llywodraeth ddweud ei bod am i'r bobl wneud hyn i gyd ac yna ei gwneud hi'n anos i bobl ddefnyddio'r gwasanaethau mewn gwirionedd. Ac yn rhy aml, nid yw'r gwasanaethau hynny'n bodoli, ac nid yw hynny'n deg ac nid yw'n iawn.

Wyddoch chi, un o fy ngofidiau mawr yn y lle hwn—. Efallai na fydd yr Aelodau'n credu hyn, ond roeddwn i'n ddistaw pan ddigwyddodd, a dylwn fod wedi agor fy ngheg. Pan ddiddymwyd gweithrediaeth trafnidiaeth y de-ddwyrain—ni allaf gofio'r enw cywir—gan Weinidog blaenorol, diddymodd holl allu llywodraeth leol ac eraill i gydlynu ac i gynllunio trafnidiaeth. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, fod hyn yn cael ei ailgyflwyno drwy gyd-bwyllgorau corfforedig—ac rydym yn deall nawr fod y Ceidwadwyr yn sydyn iawn yn cefnogi'r pethau hyn, ac rwy'n croesawu eu tröedigaeth—ond mae angen y lefel hon o gydlynu oherwydd—. Cyfarfûm ag etholwr mewn cymhorthfa yng Nghwm y llynedd, ac roedd yn egluro i mi y byddai'n rhaid iddo fynd drwy Fryn-mawr i gyrraedd ysbyty'r Faenor. Nawr, mae unrhyw un sy'n gwybod am ddaearyddiaeth Cymoedd de Cymru yn gwybod nad ydych chi'n tueddu i deithio i'r de drwy deithio i'r gogledd. Ac mae'n annheg rhoi pobl fregus yn y sefyllfa hon. Fe wyddom—ac rydym wedi archwilio hyn ar sawl achlysur yn y lle hwn—mai diwygiadau Thatcher a ddinistriodd y diwydiant bysiau. Rydym yn deall hynny. Ond hefyd, rydym wedi bod â chyfrifoldeb yn y lle hwn ers dros 20 mlynedd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn dangos bod hynny'n golygu rhywbeth mewn gwirionedd. Ac rwyf am i'r Dirprwy Weinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, egluro sut mae newid ymddygiad yn digwydd ochr yn ochr â chydraddoldeb, fel bod fy etholwyr yn cael yr un cyfle â'r etholwyr y mae Jenny Rathbone yn eu cynrychioli. Ac fe ildiaf.

15:55

Ar fater cydraddoldeb, tybed a wnaethoch chi nodi, yn yr adroddiad, yr awgrym gan yr Athro Barry, y dylem efallai gael pobl hŷn, nad ydynt yn talu o gwbl ar hyn o bryd, i dalu £1, a byddai hynny wedyn yn rhoi mwy o arian i ostwng prisiau i bobl eraill efallai, yn enwedig pobl iau o dan 25 oed. Nawr, rwy'n gwybod mai dyma'r greal sanctaidd, ond ychydig iawn o arian ychwanegol sydd yna yn y system, ac efallai y gallwn annog rhai pobl i dalu—

Jenny, efallai y byddwch yn synnu, ond rwy'n dathlu fy mhen-blwydd yn bum deg naw y mis nesaf, felly mae fy meddyliau'n datblygu, gawn ni ddweud, ynglŷn â'r tocyn bws, ac efallai y dylwn ddatgan diddordeb ynddo. Ond edrychwch—

Byddwn, fe fyddwn i'n barod i dalu £1. Ond rwyf hefyd yn credu efallai y dylem fod yn cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, neu gyfradd gyffredinol o £1 i bawb, i ble bynnag y byddant yn teithio, ar unrhyw adeg. Rwy'n credu bod angen inni feddwl am fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac gosod rhwystrau i drafnidiaeth gyhoeddus.

Felly, nid oes gennyf safbwyntiau di-ildio fel sydd gennym yn rhy aml yn y Siambr hon, a byddwn yn barod i edrych ar unrhyw un o'r gwahanol enghreifftiau o ffyrdd o annog buddsoddiad yn y system. Ond i mi, y pwrpas yw gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn haws i'w defnyddio. Ac os yw hynny'n golygu cyfradd gyffredinol o £1 i bawb, boed hynny fel y bo. Ond hoffwn sicrhau na chawn system docynnau anhrefnus fel sydd gennym ar hyn o bryd. Ac rwy'n gresynu'n barhaus—. Ac rwy'n clywed beth mae'r Aelodau gyferbyn yn ei ddweud, ac mae'n dda gweld arweinydd yr wrthblaid yn y Siambr ar gyfer y ddadl hon. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthynt, yn gyfan gwbl o ddifrif, yw nad oes gennych obaith o gwbl o gyflawni unrhyw un o'r uchelgeisiau y mae Natasha Asghar wedi'u disgrifio y prynhawn yma hyd nes y caiff y cyfrifoldeb am seilwaith rheilffyrdd ei ddatganoli i'r lle hwn, oherwydd yn syml iawn, nid oes arian yn y system. Caiff arian ei ddwyn oddi wrth drethdalwyr Cymru ddydd ar ôl dydd ar ôl dydd. Mae'r penderfyniadau a wnaed dros HS2 yn warthus—yn gwbl warthus—a dylai'r Ceidwadwyr godi llais a'u gwrthwynebu—

—yn yr un ffordd ag y gwnawn ni mewn mannau eraill. Felly, rwy'n ddiolchgar am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd.

Weinidog, wrth ateb y ddadl hon, rwyf am weld cydraddoldeb yn y ffordd y caiff pobl ar hyd a lled y wlad eu trin, ac rwyf am ichi basio prawf Blaenau Gwent. Rwyf am i chi ei basio'n rhagorol, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cael buddsoddiad yn y bysiau, y rheilffordd, ac integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth sy'n golygu bod fy etholwyr yn cael yr un cyfleoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ag etholwyr Jenny, ac fe wnawn ni addo, wedyn, na fyddwn yn achosi ciwiau yn eich mannau parcio yng nghanol Caerdydd, Jenny. Diolch yn fawr iawn.