Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/12/2022

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd—Y Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon 1
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Athrawon Cyflenwi
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau
6. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022
8. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Grŵp 1: Ystyr cynhyrchion plastig untro a chynhyrchion plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 11, 39, 12, 40, 13, 14, 1)
Grŵp 2: Sigaréts electronig (Gwelliannau 6, 9, 10, 7, 8)
Grŵp 3: Canllawiau (Gwelliannau 15, 17)
Grŵp 4: Gweithgynhyrchu cynhyrchion plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 57, 58, 59, 16, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 30, 56)
Grŵp 5: Esemptiadau mewn perthynas â meddyginiaeth fferyllol (Gwelliannau 2, 3, 4, 5)
Grŵp 6: Esemptiadau mewn perthynas â ffyn cotwm (Gwelliannau 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38)
Grŵp 7: Cynhyrchion a wneir o blastig ocso-ddiraddiadwy ac ocso-fioddiraddadwy (Gwelliannau 34, 20, 22)
Grŵp 8: Cynhyrchion plastig untro gwaharddedig: pŵer i ddiwygio (Gwelliannau 18, 19, 21, 23)
Grŵp 9: Bwrdd Trosolwg a Phanel Cynghori (Gwelliannau 41, 55)
Grŵp 10: Trosedd cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 24, 42)
Grŵp 11: Camau gorfodi gan awdurdodau lleol (Gwelliannau 25, 26, 27, 28, 29)
9. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso i'r cyfarfod. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhun ap Iorwerth. 

Cau Pont y Borth

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba gymorth sydd ar gael i fusnesau yn sgil cau pont y Borth? OQ58854

Prynhawn da, wrth gwrs. Ar ei ymweliad â Phorthaethwy ddydd Mercher diwethaf, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyhoeddi pecyn cymorth i leddfu'r pwysau trafnidiaeth i bobl sy'n teithio i Ynys Môn ac oddi yno. Roedd hyn yn cynnwys dulliau datrys ar gyfer llif traffig, a mynediad i lwybrau teithio llesol. 

Diolch am yr ymateb yna. Does dim amheuaeth bod cau y bont wedi cael effaith negyddol ar fusnes. Mae'r sefyllfa economaidd gyffredinol hefyd yn effeithio ar faint mae pobl yn ei wario, ond, o siarad efo busnes ar ôl busnes, pan fyddaf i'n clywed am gwymp o 35 i 40 y cant mewn masnach fel ryw ffigwr sydd i'w glywed yn gyffredin—rhai yn gweld cwymp mwy—mae'n amlwg bod angen ymateb i hyn. 

Dwi'n gwerthfawrogi'r hyn gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf—parcio am ddim, er enghraifft—ond mae yna amheuaeth go iawn pa impact gaiff hynny mewn gwirionedd, ac mae angen dod o hyd i ryw ffordd o gefnogi busnesau yn uniongyrchol. Mae yna sawl opsiwn, am wn i. Un awgrym ydy y gallai busnesau gael oedi talu bounce-back loans yn ôl i fanc Cymru er enghraifft—mae'n bosib bod hynny'n rywbeth all gael ei ystyried. Ond, yn sicr, mae angen ryw fodel o gymorth uniongyrchol. Rŵan, mae'r cyngor sir wrthi yn ystyried canlyniadau holiadur ar yr effaith ar fusnes, ond a wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i droi y data yn weithredu, ac i wneud hynny mor fuan â phosib, achos mae yna rai yn ofni na fydd rai busnesau yn gallu goroesi oni bai bod hynny yn dod?

Wel, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn ychwanegol. Wrth gwrs, rŷn ni yn meddwl am fusnesau lleol sydd wedi gweld yr effaith ar ôl i'r bont gau. A phan oedd Lee Waters lan yn y gogledd, roedd e'n gallu cyhoeddi nifer o bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud nawr, ond rŷn ni'n dal i gydweithio gyda'r cynghorau lleol, ac mae data yn cael ei gasglu. Bydd dadansoddiad o'r data yn mynd ymlaen gyda'n swyddogion ni, a gyda phobl sy'n gweithio i Ynys Môn ac i Wynedd hefyd, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu busnesau yn yr ardal sydd wedi gweld cwymp mewn pobl sy'n gallu dod trwy'r drws, a'r effaith mae hwnna'n ei chael ar bopeth maen nhw'n gallu ei wneud. 

A gaf i ymuno â'r Aelod dros Ynys Môn i dynnu sylw at rai o'r materion y mae busnesau ym Mhorthaethwy yn eu gweld ar hyn o bryd yn sgil cau Pont y Borth? Rwyf i hefyd yn cytuno ag ef ar rai o'r camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd ar hyn o bryd i gynorthwyo'r busnesau hynny yno. Llwyddais i ymuno â chyfarfod ar fusnesau ym Mhorthaethwy gyda'r Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn ogystal â fy nghyd-Aelod Mark Isherwood. Ac fe wnaethon nhw dynnu ein sylw at rai o'r atebion ymarferol yr hoffen nhw eu gweld ar ben y cyhoeddiadau sydd eisoes wedi eu gwneud. Ac mae un o'r rheini sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn sicr yn ymwneud â'r arwyddion ar hyd yr A55 i Borthaethwy sy'n tynnu sylw pobl at y ffaith, er efallai fod y bont ei hun ar gau, bod Porthaethwy ar agor i fusnes yn ôl yr arfer. Felly, Prif Weinidog, yr hyn yr hoffwn i ei glywed gennych chi yw ymrwymiad i weithio gydag asiantaeth cefnffyrdd y gogledd i sicrhau bod yr arwyddion yn eglur, ac efallai hefyd edrych ar weithio gyda Croeso Cymru i sicrhau, mewn gwirionedd, bod Ynys Môn yn cael ei amlygu o hyd fel lle gwych i ymweld ag ef dros y misoedd nesaf, fel bod busnesau yno, boed yn fusnesau ar y stryd fawr neu'n fusnesau twristiaeth, yn gallu croesawu ymwelwyr yn y misoedd nesaf.

Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am yr awgrymiadau ymarferol pellach hynny. Fel y dywedais i yn fy ateb i'r Aelod lleol dros Ynys Môn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn agored i drafodaethau ar lefel swyddogol, a gyda phobl ar lawr gwlad, i wneud yn siŵr bod gennym ni'r data gorau sydd ar gael ac y gallwn weld a ellid cymryd camau pellach. Rwy'n gwybod bod camau eisoes wedi cael eu cymryd i wneud yn siŵr bod arwyddion ychwanegol, yn ei gwneud yn eglur i bobl bod busnesau ym Mhorthaethwy yn dal i fod ar agor. A bydd rhai o'r camau y cytunwyd arnyn nhw yr wythnos diwethaf yn ei gwneud hi'n haws i bobl allu ymweld â'r dref, a gyda thaliadau parcio mewn meysydd parcio wedi eu diddymu o'r cyntaf o'r mis, i allu aros yno a gwneud eu siopa. Ond os oes mwy y gellir ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol bod y dref ar agor i fusnesau, ac yn wir, yn y tymor hwy, bod y rhan honno o Gymru yn parhau i fod yn rhywle sy'n sicr yn werth i bobl ymweld ag ef, yna wrth gwrs byddem ni'n awyddus i fod yn rhan o'r ymdrech honno.

13:35
Cymru yn Genedl Noddfa

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith polisïau mewnfudo'r DU ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn genedl noddfa? OQ58848

Llywydd, mae ein hymrwymiad i Gymru fel cenedl noddfa mor fawr ag erioed. Rydym ni'n gweithio gydag eraill i groesawu'r rhai sy'n cyrraedd Cymru, ond yn anffodus, mae llawer o bolisïau mewnfudo Llywodraeth y DU, fel Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, yn rhwystro ein hymdrechion i feithrin integreiddiad a chydlyniant cymunedol.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Dywedodd eich Llywodraeth, mewn ymateb i ymchwiliad pwyllgor y bumed Senedd i'r rhyddid i symud ar ôl Brexit

'os nad yw polisi mewnfudo Llywodraeth y DU yn y dyfodol yn mynd i’r afael ag anghenion economaidd, demograffig a chymdeithasol Cymru, yna byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer polisi mewnfudo gwahanol i ardaloedd penodol ar ôl Brexit'.

Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, nid yw hynny o reidrwydd yn gofyn am ddatganoli pwerau dros fewnfudo. Dim ond yn ddiweddar, clywsom am gynlluniau Rishi Sunak i gyfyngu ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae'r 21,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru yn cyfrannu cymaint, mewn cynifer o wahanol ffyrdd, at ein gwlad. Mae Prifysgol Cymru'n dweud wrthyf i y cynhyrchwyd un swydd ar gyfer pob dau fyfyriwr rhyngwladol ym mhrifysgolion Cymru. Pa gynnydd, felly, ydych chi wedi ei wneud, Prif Weinidog, ar bolisi mewnfudo gwahanol i Gymru, nawr bod polisïau mewnfudo ofnadwy Llywodraeth San Steffan ar ôl Brexit mor eglur i bob un ohonom ni? Diolch yn fawr.

Llywydd, mae wedi bod yn ddirgelwch i mi erioed pam mae fisas myfyrwyr bob amser yn cael eu hadrodd yn rhan o'r cyfanswm mewnfudo cyffredinol hwnnw. Os edrychwch chi ar yr holl arolygon o farn y cyhoedd, nid yw hyd yn oed rhannau y farn gyhoeddus sydd â phryderon am fewnfudo ddim yn bryderus am fyfyrwyr yn dod i astudio yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae eu cynnwys nhw yn y ffigur cyffredinol hwnnw bob amser yn ymddangos i mi'n gamarweiniol iawn. Byddai'n llawer gwell pe bai'n cael ei dynnu allan o'r cyfanswm a'i adrodd ar ei rinweddau ei hun fel pwnc ar ei ben ei hun. Rwy'n credu y byddai hynny o gymorth i'r cyhoedd, o ddeall yn well pam mae pobl yn dod i'r Deyrnas Unedig, neu pam mae pobl yn dod i Gymru, a pham, yn sicr, yn achos myfyrwyr, rydym ni eisiau croesawu mwy ohonyn nhw. Maen nhw'n dod ag incwm gyda nhw, maen nhw'n dod â ffynhonnell newydd o dalent i'n prifysgolion, ac maen nhw'n cyfrannu at fywyd yma yng Nghymru.

Ar bwynt cyffredinol mewnfudo wedi'i wahaniaethu yn ôl ardaloedd penodol, mewn gwirionedd, mae hynny'n dibynnu nid ar Lywodraeth Cymru ond ar Lywodraeth y DU hefyd. Roedd cyfnod pan oedd yn bosibl cael sgwrs gyda Llywodraeth y DU, ond Llywodraeth y DU cyn 2019 oedd hon, lle gallech chi gael sgwrs drwyadl ynghylch a ellid dyrannu fisas yn uniongyrchol i Gymru, i ni eu defnyddio, fel y gallem ni wneud yn siŵr y gellid cyfeirio pobl a oedd â hawl i ddod i Gymru at y diwydiannau hynny lle'r oedd eu hangen fwyaf, ac i'r rhannau hynny o Gymru lle byddai eu heffaith fwyaf. Yn fwy diweddar, nid yw'r mathau hynny o drafodaethau yn digwydd o gwbl. Byddai'n dda iawn pe bai Prif Weinidog newydd y DU yn hapus i adfywio'r sgyrsiau hynny, oherwydd bydden nhw'n caniatáu i ni, yn nes fel yr ydym ni at farchnad lafur Cymru, allu gwneud y defnydd gorau o'r bobl hynny yr ydym ni'n gallu denu eu sgiliau a'u doniau i Gymru.

Prif Weinidog, fe wnaeth cyhoeddiad y Llywodraeth hon o Gymru fel y genedl noddfa gyntaf ac fel uwch-noddwr greu penawdau wrth i chi ddangos bod Cymru yn fodlon ac yn barod i helpu i wneud mwy na'i chyfran deg o ran cynorthwyo pobl a oedd yn ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth. Fodd bynnag, yn anffodus, mae'n ymddangos bellach bod Cymru wedi ei pharatoi'n wael ar gyfer yr ymateb enfawr, ac mae'r system wedi cael ei thagu tra'i bod yn ymdrin ag ôl-groniad sylweddol, gan arwain at oedi'r cynllun uwch-noddwr dro ar ôl tro. O'r hyn yr wyf i'n ei ddeall, o'r 2,956 a noddwyd ac sydd eisoes wedi cyrraedd Cymru o Wcráin, dim ond 698 sydd wedi symud ymlaen o'u llety dros dro cychwynnol, sydd, fel y gwyddoch chi, yn achosi problem sylweddol o ran helpu'r 1,640 o ffoaduriaid eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'w noddi ac sy'n aros i gyrraedd. Wrth geisio unioni'r sefyllfa, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi rhybuddio os bydd ffoaduriaid yn parhau i wrthod opsiynau eraill y bydd yn didynnu hyd at £37 yr wythnos o'u taliadau credyd cynhwysol er mwyn talu costau eu cadw yn eu llety dros dro. Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi ei bod hi'n swnio'n rhyfedd iawn y byddai ffoaduriaid yn gwrthod opsiynau tai parhaol o blaid byw mewn llety dros dro, ac rwy'n awyddus i ganfod pam. A yw oherwydd nad yw ansawdd y tai yn ddigon da, neu a yw oherwydd nad oes gan awdurdodau lleol ddigon o lety addas ar gael i'w gynnig iddyn nhw? Gyda hyn mewn golwg, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r stoc dai a wnaed ar gael i ffoaduriaid? Diolch.

13:40

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n credu mai'r hyn sydd y tu hwnt i amheuaeth yn llwyr yw'r ffaith bod Cymru wedi cynnig croeso hael iawn i bobl o Wcráin. Pan wnaethon ni agor platfform Cymru, fe wnaethon ni ragweld y byddai 1,000 o bobl yn dod i Gymru o ganlyniad iddo. Bellach mae gennym ni 3,000 o bobl sydd wedi cael eu croesawu i Gymru drwy'r llwybr hwnnw. Mae'r Aelod yn iawn—mae hynny'n rhoi straen a phwysau ar y system. Rydym ni'n credu, yn y 12 mis diwethaf hyn, ein bod ni hefyd wedi gallu derbyn 1,000 o bobl o Hong Kong yma i Gymru hefyd. Mae gennym ni 700 o bobl o Afghanistan sydd wedi cael eu croesawu i Gymru. Heb os, mae'r holl bethau hyn yn rhoi pwysau ar y system.

Y cwestiwn penodol y gwnaeth yr Aelod ei ofyn i mi, Llywydd, oedd pam mae rhai pobl yn dewis peidio â manteisio ar gynigion o lety parhaol sy'n cael eu gwneud iddyn nhw, ac rwy'n credu mai'r ateb yw bod cymhlethdod yn hynny o beth. Bydd rhai pobl wedi ymgartrefu yn eu llety dros dro yn yr ystyr eu bod nhw eisoes wedi dod o hyd i swyddi a gwaith. Efallai fod y lle y maen nhw'n cael ei gynnig i fyw yn barhaol mewn gwahanol ran o Gymru ac efallai eu bod nhw'n amharod i symud eu hunain a dechrau eto yn rhywle lle nad oes ganddyn nhw'r pethau y maen nhw wedi eu hadeiladu tra maen nhw wedi bod mewn llety dros dro. Mewn llety dros dro, byddwch wedi eich amgylchynu gan bobl eraill sydd wedi bod drwy'r un profiad â chi. Ni ddylem ni synnu, oni ddylem, bod pobl yn cymryd rhywfaint o gysur o hynny, ac o wynebu symud i lety annibynnol lle rydych chi o reidrwydd yn fwy tebygol o fod ar eich pen eich hun, gall hwnnw fod yn gam anodd i rai pobl ei wneud.

Nid oes gen i unrhyw amheuaeth fod Joel James yn iawn, i rai pobl, mae'r gwrthgyferbyniad rhwng y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu iddyn nhw mewn canolfan groeso, lle maen nhw'n derbyn gofal da iawn, a gofyn iddyn nhw fynd i wneud eu dyfodol eu hunain mewn fflat rhywle mewn rhan o'r byd nad ydych chi'n ei adnabod, mae hynny'n beth anodd arall sy'n atal rhai pobl rhag symud ymlaen. Ond, mae symud ymlaen yn rhan hanfodol o'r trefniant. Gan fod nifer y bobl sy'n dod o Wcráin wedi gostwng ers mis Awst, mae'r system yn llawer agosach at fod mewn cydbwysedd nag yr oedd yn anterth y llif o bobl i mewn. Felly, erbyn hyn mae nifer y bobl sy'n gadael canolfannau croeso o'i chymharu â phobl sy'n cyrraedd yn llawer agosach at fod yn gytbwys. Ond, mae'n rhaid i ni gael yr all-lif hwnnw er mwyn gallu croesawu mwy o bobl i Gymru. Mor heriol ag y gall hynny ei fod i bobl, mae'r system wedi'i chynllunio i'w hannog nhw i wneud y penderfyniad hwnnw.

Prif Weinidog, rydych chi wedi rhannu rhai o'r tensiynau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac, yn wir, mae'n rhaid i mi ddweud, y genedl noddfa hon dros y driniaeth o ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ond, siawns y dylai fod yn amhosibl i'r Swyddfa Gartref leoli ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn unochrog mewn mannau heb unrhyw rybudd o flaen llaw â'r cymunedau neu gyda Llywodraeth Cymru neu'r gymuned leol dan sylw, â'r bwrdd iechyd yn yr ardal, gyda'r awdurdod addysg yn yr ardal, oherwydd mae hyn yn ymwneud â gofal yr unigolion hynny, y mae angen i'r gwasanaethau hynny fod ar waith yno ar eu cyfer. Felly, rydym ni angen i'r DU weithio'n llawer gwell na hyn ar draws yr holl ystod polisïau. A gaf i ofyn a fyddech chi'n cefnogi, Prif Weinidog, cynigion i gryfhau llais y Senedd Cymru hon, neu hyd yn oed i greu dyletswydd gyfreithiol o gydweithredu ymhlith llywodraethau a chenhedloedd a rhanbarthau'r DU, yn wir, fel y nodwyd yn adroddiad Brown ddoe?

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am hynna? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn. Yn wir, mae adroddiad Gordon Brown ddoe yn cynnig dyletswydd gyfreithiol o gydweithio rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Byddai'r ddyletswydd gyfreithiol honno yn rhywbeth a fyddai'n gallu cael ei phrofi mewn llys barn, a byddai, rwy'n credu, yn gweithredu fel brêc sylweddol iawn ar y mathau o weithredoedd, mae gen i ofn, yr ydym ni wedi gweld y Swyddfa Gartref yn eu cyflawni. Fe wnaeth y Swyddfa Gartref ar un adeg, ac am gyfnod eithaf hir a dweud y gwir, gadw at drefniant lle byddai ffoaduriaid ddim ond yn cyrraedd ardal awdurdod lleol gyda chaniatâd ymlaen llaw yr awdurdod lleol hwnnw. Wel, mae wedi cefnu ar yr egwyddor honno, ac nid yn unig y mae wedi cefnu ar yr egwyddor, ond mae'r arfer yn llawer rhy aml—wel, yn rhy aml—wedi bod fel yr awgrymodd yr Aelod dros Ogwr. Rydym ni wedi cael enghreifftiau yn ddiweddar iawn yng Nghymru o grwpiau mawr o ffoaduriaid yn cyrraedd gwesty, yn sicr dim rhybudd ymlaen llaw i Lywodraeth Cymru, ond dim rhybudd ymlaen llaw i wasanaethau lleol ar lawr gwlad chwaith, ac mae hynny'n gwbl annheg i'r bobl hynny y gofynnir iddyn nhw fyw yn y lle hwnnw. Maen nhw'n aml yn bobl y bydd ganddyn nhw anghenion iechyd, byddan nhw wedi cael profiadau trawmatig, maen nhw angen i wasanaethau gael eu darparu iddyn nhw, ac nid yw gweithredu unochrog, dim ond symud pobl i ardal heb unrhyw rybudd ymlaen llaw, heb unrhyw baratoad, yn deg, i'r gwasanaethau hynny nac i'r bobl dan sylw. A byddai dyletswydd—dyletswydd gyfreithiol—o'r math a nodwyd gan Huw Irranca-Davies, ac sydd, yn fy marn i, yn cael ei ddisgrifio'n effeithiol iawn yn adroddiad Gordon Brown, yn atal y math yna o weithredu unochrog rhag digwydd.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi colli'r oriel, Prif Weinidog—  

Gallai fod yn rhywbeth i'w wneud â hynny, rwy'n meddwl, Mike. Prif Weinidog, heddiw, mae cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dod allan a dweud, fel proffesiwn, y gallen nhw gael eu beirniadu'n aml iawn efallai am weiddi blaidd o ran niferoedd staffio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond, mewn gwirionedd, o fyfyrio ar y mater, a'r sefyllfa bresennol y maen nhw'n cael eu hunain ynddi, mae'r blaidd yn sicr yn y GIG, gan fod prinder staff enfawr yn ein hysbytai a'n lleoliadau gofal sylfaenol. A ydych chi'n cytuno gyda sylwadau cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain heddiw ynghylch y sefyllfa argyfyngus ac acíwt iawn y mae ysbytai a'r sector gofal sylfaenol yn ei chanfod o ran cadw a denu staff?

Wel, Llywydd, hoffwn wahaniaethu rhwng dau beth. Ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddatganiad dewr gan arweinydd newydd Cymdeithas Feddygol Prydain i gydnabod, ar sawl achlysur yn y gorffennol, bod y gair 'argyfwng' wedi cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Feddygol Prydain, a bod hynny wedi dibrisio'r term hwnnw. Y ddau beth yr hoffwn i wahaniaethu rhyngddyn nhw yw'r rhain: rwy'n sicr yn derbyn y frwydr a'r straen sydd yno yn GIG Cymru, bod recriwtio yn anodd mewn rhai mannau ac nad yw bob amser yn syniad deniadol dod i mewn i wasanaeth sydd, ddydd ar ôl dydd, yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau ac mewn papurau newydd fel un nad yw'n darparu'r gwasanaeth y byddai'r bobl sy'n gweithio ynddo yn dymuno ei ddarparu. Felly, rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n werth cyflwyno rhai ffeithiau hefyd, oherwydd, os edrychwch chi ar staff meddygol a deintyddol yn GIG Cymru, mae gennym ni 1,654 yn fwy o feddygon a deintyddion yn gweithio yn y GIG nag oedd gennym ni ddegawd yn ôl. Mae gennym ni 1,256 yn fwy o feddygon ymgynghorol a meddygon yn gweithio nag oedd gennym ni bum mlynedd yn ôl. O'r 966 yn fwy o staff meddygol nag yr oedd gennym ni dair blynedd yn ôl, mae 242 o'r rheini'n feddygon ymgynghorol, a, Llywydd, gallwn barhau. Mae gennym ni filoedd yn rhagor o nyrsys yn gweithio yn y GIG, miloedd yn fwy o staff gwyddonol, therapiwtig yn gweithio yn y GIG. Bu'r twf cyflymaf oll i staff ambiwlans sy'n gweithio yn GIG Cymru. Felly, er fy mod i'n hapus i—wel, dydw i ddim yn hapus, gan fod y sefyllfa mor anodd—ond er fy mod i'n cydnabod y pwyntiau sy'n cael eu gwneud, mae hynny yn erbyn cefndir o gynnydd o un flwyddyn, i'r flwyddyn nesaf ac i'r flwyddyn nesaf. Mae mwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru ym mhob un categori o bobl—[Torri ar draws.]—ac mae hynny'n cynnwys pob bwrdd iechyd hefyd.

Welwch chi, dyna'r math o sylw nad yw'n helpu o gwbl, oherwydd yn syml, nid yw'n ffeithiol wir. [Torri ar draws.] Ydw. Credwch chi fi, rwy'n paratoi pan fyddaf yn dod yma, a dyna pam rwy'n gallu dweud wrthych chi beth yr wyf i wedi ei ddweud wrthych chi heddiw. Ydw, mi wyf i'n paratoi, a'r gwir amdani yw, ym mhob rhan o Gymru, mae niferoedd y bobl sy'n gweithio yn y GIG wedi bod yn cynyddu. Ydy hynny'n golygu nad oes angen mwy arnom ni? Wrth gwrs nad yw. Ydy hynny'n golygu nad oes angen rhoi sylw i recriwtio? A yw'n golygu nad oes angen i ni barhau i wneud yn siŵr bod gennym ni fwy o bobl mewn hyfforddiant nag y bu gennym ni erioed o'r blaen? Mae hynny i gyd yn wir, ond mae'n rhoi'r cefndir i chi i'r hyn a ddywedodd arweinydd Cymdeithas Feddygol Prydain am fod yn eglur ynghylch yr hyn sy'n wir a'r hyn nad yw'n wir o ran y sefyllfa bresennol yn y GIG.

13:50

Prif Weinidog, y sylw arall a wnaed gan gadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yw nad yw llawer mwy o bobl, yn amlwg, yn llawn amser yn y GIG bellach ac, mewn gwirionedd, yn dewis am wahanol resymau, yn amlwg, i wneud ambell i shifft yma ac acw ac na ellir eu hystyried yn weithwyr cyfwerth ag amser llawn. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i eich herio chi ar fater penodol yn ymwneud â ffigyrau llinell sylfaen y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Mae'n ffaith ein bod ni, dros y blynyddoedd, wedi eich herio ar y maes staffio penodol hwn, ac nid oes yr un adran damweiniau ac achosion brys yma yng Nghymru yn llwyddo i fodloni'r ffigur llinell sylfaen hwnnw pan ddaw i feddygon ymgynghorol.

Efallai y bydd gan y Llywydd ddiddordeb yn hyn: yn ei hadran damweiniau ac achosion brys ei hun yn Aberystwyth, er enghraifft, o'r wyth o feddygon ymgynghorol y dylai fod ganddyn nhw ar gael fel y ffigur sylfaenol gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, mae ganddyn nhw un. Os ewch chi i'r gogledd, yn Ysbyty Glan Clwyd, er enghraifft, dim ond traean o'r rhif sydd yno. Mae angen pymtheg, a dim ond traean o'r nifer honno sydd yn yr adran damweiniau ac achosion brys benodol honno. Felly, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio cael gwelliant yn y maes penodol hwn a chael gwybod bod cynllun ar waith, pa hyder allwch chi ei roi i ni bod gan Lywodraeth Cymru gynllun gweithlu o ddifrif ar waith i fynd i'r afael nid yn unig â'r diffyg o ran ffigurau llinell sylfaen meddygaeth frys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ond y diffyg ar draws y GIG cyfan yma yng Nghymru, y mae hyd yn oed nawr y proffesiwn, fel y dywedoch chi, wedi dod ymlaen yn ddewr i dynnu sylw ato heddiw?

Llywydd, rwyf i yn deall bod y rhifau pennawd yn cuddio'r ffaith na fydd llawer o'r bobl hynny yn gweithio'n llawn amser a bod patrymau gwaith yn y gwasanaeth iechyd wedi newid. Ond hyd yn oed os edrychwch chi ar y ffigurau cyfwerth ag amser llawn hynny, mae bron i 10,000 yn fwy o staff yn gweithio yn y GIG heddiw nag oedd dim ond tair blynedd yn ôl. Felly, er ei bod hi'n wir bod patrymau gwaith yn newid a bod pobl yn dewis gweithio llai o oriau nag yr oedden nhw ar un adeg, hyd yn oed pan ydych chi'n cymryd hynny i ystyriaeth, mae cynnydd sylweddol iawn i nifer y bobl sy'n gweithio yn GIG Cymru.

O ran y dyfodol, yr unig ffordd y gallwch chi gynnig ateb cynaliadwy i staffio GIG Cymru yw trwy fuddsoddi yn hyfforddiant pobl ar gyfer y dyfodol. Ym mhobman yn y GIG yng Nghymru, rydym ni'n hyfforddi mwy o bobl heddiw nag erioed o'r blaen. Cawsom ni gynnydd o 55 y cant i nifer y nyrsys dan hyfforddiant rhwng 2016 a 2022; cynnydd o 95 y cant yn yr un cyfnod i nifer y bobl sy'n hyfforddi i fod yn nyrsys ardal; cynnydd o 97 y cant i nifer y bobl sy'n astudio i fod yn fydwragedd; cynnydd o dros 300 y cant i nifer y myfyrwyr a fydd yn dod o brifysgolion Cymru fel fferyllwyr i weithio yn GIG Cymru. Mae hynny'n wir am feddygon yn ogystal â nyrsys a'r proffesiynau hynny sy'n gysylltiedig â meddygaeth.

Rydym ni'n cynyddu'r nifer o leoedd yn ysgol feddygol Caerdydd ac yn ysgol feddygol Abertawe, ac, wrth gwrs, rydym ni'n creu ysgol glinigol newydd yn y gogledd, a bydd niferoedd pellach yno. Os edrychwch chi dros y cyfnod sydd o'n blaenau y mae gennym ni gynlluniau ar ei gyfer, ym mis Awst 2019 roedd gennym ni 339 o'r hyn a elwir yn swyddi F1 ac F2 yng Nghymru; bydd hynny'n 450 erbyn mis Awst 2024. Mae'r rheini i gyd yn feddygon ychwanegol sy'n dod i mewn i'r system, wedi'u hyfforddi yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n fwy tebygol o weithio yng Nghymru o ganlyniad, a dyna pam y gallwn ni gynnig rhywfaint o gysur i'r bobl hynny sydd, yn briodol, yn cael eu cadw'n brysur gan y straen a'r pwysau sy'n wynebu'r system ar hyn o bryd.

Gofynnais i chi'n benodol am ffigur llinell sylfaen y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ac rwyf i wedi gofyn hyn i chi ar sawl achlysur yn olynol. O'r rhifau yr wyf i wedi eu rhoi o'ch blaen chi heddiw, Prif Weinidog, gallwn weld yn eglur mai ychydig neu ddim gwelliant a gafwyd o ran bodloni'r ffigurau llinell sylfaen hynny. Felly, a ydym ni'n mynd i weld gwelliant, o ystyried y ffigyrau rydych chi newydd eu cyflwyno, fel y byddwn ni'n gweld, ymhen chwech neu 12 mis, pan fyddwn ni'n ailystyried hyn, y gwelliant hwnnw o ran meddygon ymgynghorol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yma yng Nghymru?

Ac yn bwysig iawn, mae'r datganiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth y bore yma ar gynlluniau byrdymor yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r pryderon y mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw atyn nhw heddiw, a allwch chi nodi beth yn union yw'r cynlluniau byrdymor hynny i'n cael ni drwy'r sefyllfa gyfyng benodol hon? Rwy'n sylweddoli eich bod chi wedi tynnu sylw at raglenni hyfforddi a chynlluniau hyfforddi, a gallwch chi a minnau drafod a dadlau am rifau, ond mae'n ffaith bod cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dod allan heddiw ac wedi tynnu sylw at y mannau cyfyng, felly os gallech chi fynd i'r afael â'r cynllun byrdymor penodol, fel y gallwn ni fod yn hyderus bod gan y Llywodraeth olwg ar hyn, yna gobeithio y gall meddygon, nyrsys a gweithwyr clinigol proffesiynol eraill fod yn hyderus y bydd y pwysau y maen nhw'n ei deimlo bob dydd pan fyddan nhw'n mynd i'r gwaith yn cael ei leddfu yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor.

13:55

Llywydd, gadewch i mi roi dwy enghraifft yn unig i'r Aelod o'r camau y gallwn ni eu cymryd yn ddi-oed. Un—a bydd datganiad ar hyn yr wythnos nesaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—fydd cynyddu capasiti gwelyau'r GIG dros y gaeaf hwn, ac mae hynny'n golygu lleoedd mewn gwelyau mewn ysbytai, ond hefyd gwasanaethau cymunedol, fel y gall pobl sydd yn yr ysbyty heddiw fod yn ôl gartref neu'n derbyn gofal yn y gymuned, a byddwn yn rhoi manylion yr wythnos nesaf am nifer y gwelyau a'r lleoedd sy'n cyfateb i welyau yr ydym ni eisoes wedi gallu eu creu ar gyfer y gaeaf hwn, a'r mwy yr ydym ni'n disgwyl i ddod. Bydd hynny'n lleddfu rhywfaint o'r pwysau, yn enwedig y pwysau hynny mewn adrannau brys y cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid atyn nhw.

O ran staffio, gadewch i mi ddweud fy mod i'n croesawu'r arwyddion gan Lywodraeth y DU eu bod nhw ar fin adolygu'r trefniadau pensiwn, sydd wedi atal cynifer o feddygon rhag parhau i weithio yn y GIG, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig. Bydd yn gwybod, os ydych chi'n feddyg teulu, er enghraifft, eich bod chi'n cyrraedd pwynt lle mae eich pot pensiwn yr ydych chi wedi ei adeiladu yn cael ei drethu mor drwm fel eich bod yn talu i fod mewn gwaith i bob pwrpas, ac yn ddealladwy iawn rydym ni wedi gweld llu o bobl yn ymddeol yn gynnar o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan fod yr amgylchiadau ariannol sy'n cael eu creu gan y rheolau pensiwn yn golygu nad yw'n ymarferol iddyn nhw barhau. Nawr, rwyf i wedi gweld adroddiadau yr wythnos hon fod Llywodraeth y DU yn ailystyried hyn yn weithredol, a'u bod nhw ar fin cynnig newidiadau i'r trefniadau pensiwn hynny a fyddai'n caniatáu i bobl ddod yn ôl i'r gweithle nad oeddwn nhw eisiau ei adael. Efallai nad ydyn nhw eisiau dod yn ôl yn llawn amser, rydym ni'n deall hynny i gyd, ond maen nhw eisiau gwneud eu cyfraniad. Ac os bydd y trefniadau pensiwn hynny yn newid, gallwn fod yn sicr y bydd pobl yng Nghymru nad ydyn nhw yn y gweithle ar hyn o bryd ac a allai, yn rhan o'r mesurau byrdymor hynny, ddod yn ôl i mewn i'r gweithlu i atgyfnerthu'r bobl sy'n gweithio mor galed, ac o dan amgylchiadau anodd iawn, a gyda thair blynedd o gyfnodau gwirioneddol heriol y tu ôl iddyn nhw, i helpu i'w cynnal yn y swyddi y maen nhw'n eu gwneud.

Diolch, Llywydd. Mi fyddwch chi wedi gweld ffigurau'r cyfrifiad sydd yn dangos cwymp pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a'r cwymp sylweddol sydd wedi bod yng ngharfanau'r bobl ifanc rhwng tair a 15 oed sy'n medru'r iaith. Mae hyn yn dangos, onid yw hi, fod elfen ganolog o bolisi Llywodraeth Cymru, sef datblygu addysg Gymraeg ar draws Cymru, yn methu. Deng mlynedd yn ôl, fe symbylwyd yr uchelgais o filiwn o siaradwyr fel rhan o'r ymateb i'r dirywiad yn ffigurau'r cyfrifiad bryd hynny. Onid oes angen cydnabod nawr nad yw'r gweithredu yn ddigonol i gyrraedd y nod erbyn 2050? Fel gyda newid hinsawdd, dyw ewyllysio'r nod ddim yn gyfystyr â ewyllysio'r modd o'i gyflawni. Felly, onid yr ateb mwyaf cadarnhaol i'r newyddion heddiw fyddai sicrhau y bydd y Bil addysg Gymraeg arfaethedig yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru o fewn amserlen glir a digonol?

Wel, dwi ddim yn cytuno â'r pwynt olaf y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei godi. Dwi ddim yn meddwl y bydd pobl yng Nghymru yn fodlon i gefnogi'r pwynt y mae e'n ei wneud, a'r peth pwysicaf am yr iaith Gymraeg yw i gadw cefnogaeth pobl yng Nghymru i bopeth rŷm ni'n trio ei wneud. Rŷm ni wedi llwyddo i wneud hynny. Mae'r teimlad am yr iaith Gymraeg yn gryf dros ben ym mhob cwr o Gymru, ac rŷm ni eisiau defnyddio'r ewyllys da sydd yna i gario ymlaen i gael mwy o bobl i ddysgu Cymraeg, i ddefnyddio Cymraeg, ac yn y blaen.

Mae pethau tu ôl i beth rŷm ni wedi gweld yn y cyfrifiad heddiw. Mae'n gymhleth, a dwi'n meddwl ei bod hi'n werth ffeindio amser i feddwl am beth sydd tu ôl i beth rŷm ni'n ei weld. Rŷm ni'n gweld twf yn yr iaith Gymraeg yma yng Nghaerdydd, yn Rhondda Cynon Taf, ym Mro Morgannwg ac ym Merthyr Tudful hefyd. Rŷm ni'n gweld twf mewn defnyddio'r iaith Gymraeg gydag oedolion ifanc hefyd. Ble mae'r cwymp wedi bod yw ymysg pobl tair i 15 oed. Pam mae hynny? Wel, mae llai o bobl ifanc yng Nghymru gyfan yn yr oedran yna. So, dyna un peth i feddwl amdano.

Yr ail beth yw rŷm ni'n gwybod bod y cyfrifiad wedi cael ei wneud yn ystod amser y pandemig. Dwi'n cofio dro ar ôl tro fan hyn pobl yn siarad am yr effaith roedd y pandemig wedi ei gael ar bobl ifanc mewn ysgolion trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg pan doedden nhw ddim yn yr ysgol, a phan doedden nhw ddim yn clywed gair o Gymraeg pan doedd yr ysgolion ddim yn rhedeg. So, mae nifer o bethau tu ôl i'r ffigurau, ac mae'n werth i ni gymryd amser i ystyried beth sydd tu ôl iddyn nhw.

Mae hwnna'n enwedig o bwysig, Llywydd, pan fo rhai ffynonellau data eraill yn dangos rhywbeth arall i ni. Pam mae ffigurau yn y cyfrifiad yn mynd i lawr pan fo ffigurau arolwg blynyddol o boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn mynd lan bob blwyddyn? Dwi ddim yn deall hwnna eto. Mae lot o waith i'w wneud. Fe ges i'r cyfle, Llywydd, i siarad gyda Syr Ian Diamond, sy'n cadeirio'r ONS, am hwn cyn bod ffigurau'r cyfrifiad yn dod mas. Mae pethau'n fwy cymhleth, dwi'n meddwl, nag oedd arweinydd Plaid Cymru wedi awgrymu y prynhawn yma. Gwell i ni ffeindio'r amser i wneud y gwaith a dod nôl i weld beth yw'r ymatebion gorau i gario ymlaen i wneud beth rŷm ni eisiau ei wneud—i ffeindio'r ffordd i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

14:00

Dwi yn siomedig, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r ymateb cychwynnol rydyn ni wedi'i gael gan y Prif Weinidog y prynhawn yma, oherwydd rwy'n credu mi oedd yna gydnabyddiaeth wrth i'r ffigurau gael eu cyhoeddi 10 mlynedd yn ôl ein bod ni mewn sefyllfa o argyfwng, a bod rhaid gweithredu. Hwnna oedd wedi arwain wedyn at y drafodaeth drawsbleidiol tu ôl i'r nod o filiwn o siaradwyr. Felly, mi oedd yna gydnabyddiaeth bod ffigurau'r cyfrifiad yn bwysig. Mae pob cynllunydd iaith dwi wedi siarad gyda nhw erioed yn dweud mai'r cyfrifiad ydy'r ffynhonnell bwysicaf i gyd. Sampl ydy'r arolwg rydych chi newydd gyfeirio ato fe, ond mae'r cyfrifiad yn cynnwys pawb. Mae dweud bod y nifer o blant yng Nghymru yn mynd lawr—. Wel ie, o ran nifer, ond y canran o siaradwyr Cymraeg rhwng tair a 15 mlwydd oed sy'n mynd lawr, beth bynnag yw'r nifer. Mae hynny, mae arnaf ofn, yn profi, onid yw e, fod eich polisi chi o ran tyfu addysg Gymraeg ar draws Cymru ddim yn llwyddo. 

Llywydd, rwy'n fwy o optimist nag arweinydd Plaid Cymru, ond rwyf i bob amser yn fwy o optimist am Gymru nag y mae Plaid Cymru ar bron bob pwynt. [Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. Maen nhw'n casáu pan fyddwch chi'n tynnu sylw at y ffaith, bob tro y maen nhw'n codi i'w traed, mae bob amser i roi'r safbwynt mwyaf pesimistaidd posibl i ni o'r hyn y gall Cymru ei gyflawni. Llywydd, rwy'n ddigon ymwybodol o'r gwahaniaeth rhwng rhif a chanran, felly diolch i'r Aelod am fy atgoffa i o hynny. Gadewch i mi ddweud hyn wrtho. Mae wedi cynnig un ateb y prynhawn yma. Mae'n ateb na fydd fy mhlaid yn ei fabwysiadu; gadewch i mi fod mor eglur ag y gallaf i gydag ef am hynny. Nid addysg orfodol i bawb trwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ateb i'r Gymraeg yng Nghymru. Bydd yn dieithrio pobl sy'n cydymdeimlo â'r Gymraeg; bydd yn gosod yr iaith yn ôl nid ymlaen. Mae gennych chi hawl perffaith i bennu hynny fel eich polisi, os mynnwch chi, ond rwy'n eglur gyda chi, mor eglur ag y gallaf i fod: nid dyna fydd polisi Llywodraeth Cymru.

14:05

A gaf i droi at—[Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. A gaf i droi at faterion cyfansoddiadol? Roedd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli plismona i Gymru. Fe wnaeth comisiwn Silk, a sefydlwyd gan weinyddiaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr, ei argymell yn 2014. Fe wnaeth comisiwn Thomas eich Llywodraeth eich hun argymell datganoli plismona a chyfiawnder yn eu cyfanrwydd, a dywedodd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 y byddai'r Llywodraeth Lafur yn gweithio gyda chi i ddefnyddio'r adroddiad hwnnw i drwsio system gyfiawnder sy'n methu yng Nghymru. Mae argymhelliad comisiwn Brown i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig yn mynd â ni'n ôl 10 mlynedd yn y ddadl ddatganoli yng Nghymru. Ond anghofiwch am y wleidyddiaeth, beth am y canlyniadau yn y byd go iawn? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru newydd ddweud bod canlyniadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru gyda'r gwaethaf yn Ewrop. Pa gyfiawnhad moesol posibl sydd dros adael y pwerau hynny yn San Steffan funud yn hwy nag sydd rhaid, a hwythau'n achosi'r fath ddioddefaint ym mywydau cynifer o bobl?

Rwy'n croesawu adroddiad Gordon Brown yn rymus, ac rwy'n croesawu'n rymus ei ymrwymiad penodol iawn y bydd datganoli cyfiawnder troseddol yn dechrau gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf. A gadewch i ni fod yn eglur, Llywydd: dim ond Llywodraeth Lafur fydd byth yn gallu cychwyn ar y daith honno a'i chwblhau. Ni wnaiff y Torïaid ei wneud, ni all Plaid Cymru ei wneud, dim ond Llafur. Dim ond Llafur sy'n gallu cyflawni hynny, ac mae adroddiad Brown yn ymrwymo'r blaid i ddechrau'r daith honno. Rwy'n credu y bydd yn beth gwych os bydd cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, yn y tymor nesaf hwnnw, yn cael eu trosglwyddo i'r Senedd hon. Dyna fydd dechrau'r broses honno. Wrth gwrs, rydym ni eisiau i'r broses honno fynd ymhellach. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai'r system gyfiawnder troseddol gyfan ddod yn gyfrifoldeb i'r Senedd hon. Ond mae pob taith yn dechrau gyda'r cam cyntaf, ac mae'r camau hynny wedi'u cymeradwyo'n eglur iawn yn adroddiad Gordon Brown.

Pe baech chi o ddifrif am ddatganoli, Llywydd, pe baech chi o ddifrif am bwerau'r lle hwn, byddech chi'n croesawu'r cam cyntaf hwnnw. Mae'n ddigon hawdd ysgwyd eich pen yn y ffordd, 'O, annwyl, on'd ŷn nhw'n ofnadwy?' yna. Mewn gwirionedd, bydd yr unig gynnydd fydd yna fyth gyda Llywodraeth Lafur sy'n benderfynol o wneud yr holl bethau y mae Gordon Brown yn eu nodi ar gyfer y Senedd hon. Ac nid ym maes cyfiawnder troseddol yn unig, Llywydd, ond y pethau eraill y mae'r adroddiad hwnnw'n eu nodi ar gyfer y Senedd hon hefyd—y statudau hynny a ddiogelir yn gyfansoddiadol, sy'n golygu y bydd confensiwn Sewel yn cael ei rwymo mewn cyfraith ac na fydd modd i Lywodraethau yn San Steffan ei osgoi. Y fath amddiffyniadau fyddai wedi bod i'r Senedd hon ers 2019 pe bai hwnnw wedi bod ar waith. Rwy'n credu y byddai croeso i'r adroddiad ar eich rhan chi i'w groesawu'n fawr, oherwydd mae'n rhoi datganoli yn y sefyllfa yr hoffem iddo fod, mae'n gwreiddio parhad datganoli, mae'n gwella statws y Senedd hon, ac mae'n ehangu grym datganoli yng Nghymru. Beth sydd yna i beidio â'i groesawu yn hynny?

Y Cytundeb Cydweithio

3. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o flwyddyn gyntaf y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru? OQ58849

Wel—[Chwerthin.]—diolch i Hefin David am godi safon y ddadl yma yn y Senedd y prynhawn yma. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar sawl ymrwymiad ar y cyd, sy'n cael effaith uniongyrchol ar allu pobl i ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae'r rhain yn cynnwys prydau ysgol am ddim, ehangu gofal plant am ddim, a mesurau sy'n helpu pobl i fyw yn eu cymunedau lleol.

Roedd hi'n flwyddyn ers sefydlu'r cytundeb cydweithredu yr wythnos diwethaf—rwy'n falch o weld ei fod yn dal mor iach. [Chwerthin.] Ond, un o ymrwymiadau'r cytundeb cydweithredu, fodd bynnag, oedd rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei rannu—o leiaf y ddwy ran o dair hyn o'r Siambr—sef gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru. Lansiodd Unsain Cymru adroddiad yr wythnos diwethaf yn yr eglwys Norwyaidd a oedd yn nodi'r angen i gefnogi'r argyfwng dybryd ym maes gofal cymdeithasol, ac, yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog yr hoffai ef ei hun ailystyried rhai o'r materion ariannu o ran gofal cymdeithasol. Rwyf i wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am fy nghefnogaeth bersonol i ardoll Holtham i ddatrys yr argyfwng. Gwn ei fod wedi dweud yn y gorffennol, pe baem ni'n dilyn y llwybr hwnnw, mae wastad siawns y gallai Llywodraeth y DU gymryd i ffwrdd â'r llaw arall. Rwy'n derbyn y ddadl honno'n llwyr. Ond, ar hyn o bryd, pa asesiad y mae'n ei wneud o'r angen i ni weithredu nawr, yma yng Nghymru, i ddatrys yr argyfwng hwn ym maes gofal cymdeithasol?

14:10

Diolch i Hefin David am hynny, Llywydd. Mae'r grŵp arbenigol a sefydlwyd fel rhan o'r cytundeb cydweithredu wedi cyflawni ei waith. Derbyniwyd ei adroddiad; fe'i cyhoeddwyd gennym ar 10 Tachwedd. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i aelodau'r grŵp hwnnw am yr ystyriaeth fanwl iawn a roddwyd ganddyn nhw i amgylchiadau heriol gofal cymdeithasol.

Ni ellir dadlau, yn fy marn i, Llywydd, fod y cyd-destun wedi newid ers llofnodi'r cytundeb cydweithredu ac y gwnaethom ni ofyn i'r grŵp hwnnw wneud ei waith. Mae'r Prif Weinidog Sunak wedi rhoi terfyn ar y cyllid gofal cymdeithasol a sefydlodd y Canghellor Sunak pan oedd yn y swydd honno. Mae'r Prif Weinidog Sunak wedi rhoi terfyn ar y trefniadau talu am ofal cymdeithasol yr oedd y Prif Weinidog Johnson wedi eu rhoi ar waith tra'r oedd Mr Sunak yn Ganghellor. Mae hynny oll yn golygu ein bod ni wedi gorfod meddwl eto am yr adroddiad a'r ffyrdd y gallwn ni feddwl am dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol. Ac mae hynny'n golygu, fel y dywedais i, ac fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf pan oeddem ni'n siarad gyda'n gilydd am hyn, y dylem ni adfywio'r gwaith a wnaed yn nhymor diwethaf y Senedd—gwaith manwl iawn a wnaed yn edrych ar adolygiad Holtham, y cynigion ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol—i weld a yw'n rhoi llwybr amgen i ni, o gofio bod llwybrau'r DU a oedd i fod ar agor bellach wedi eu cau, a pha un a yw hynny'n cynnig llwybr amgen i ni ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'r anawsterau y cyfeiriodd Hefin David atyn nhw yn parhau. Mae'r llinell sy'n rhannu cyfrifoldebau datganoledig a heb eu datganoli yn y maes hwn yn un aneglur iawn, a cheir camau sydd yn nwylo Llywodraeth y DU a all gael effaith sylfaenol ar y ffordd y byddai camau y gallem ni eu cymryd yn cael eu heffaith ym mywydau dinasyddion Cymru. Dyna pam mae hi mor siomedig gweld y pethau yr oeddem ni'n credu oedd ar waith bellach yn cael eu rhoi o'r neilltu unwaith eto, oherwydd mae'n taflu hynny i gyd yn ôl i mewn i ansicrwydd. Y newyddion da yw bod y gwaith a gadeiriwyd gan fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn nhymor diwethaf y Senedd i gyd yno i ni fynd yn ôl ato. Nawr, bydd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn bwrw ymlaen â hynny ac yn gwneud yn siŵr o dan yr amgylchiadau newydd, a gyda'r adroddiad sydd gennym ni ar gael i ni, ein bod ni'n edrych i weld a yw hynny'n cynnig unrhyw gyfleoedd newydd i ni ddylunio system a fyddai'n gweithio i Gymru.

Prif Weinidog, nid wyf i'n credu y byddwch chi'n cael eich syfrdanu gan yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud. Efallai nad wyf i'n rhannu'r un teimladau â Hefin David yn hyn o beth. Mae'r cytundeb cydweithredu hwn, y mae fy nghyd-Aelodau ar y meinciau hyn a'r rhai y tu allan i'r Siambr hon, i fod yn gwbl blaen, wedi bod yn cyfeirio ato fel clymblaid, oherwydd os yw'n edrych fel un mae yn un fel rheol, wedi cyflwyno un cynnig niweidiol ar ôl y llall. Rwy'n cyfeirio'n benodol at y terfynau cyflymder diofyn o 20 mya, atal adeiladu ffyrdd, treth twristiaeth, a chreu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd am swm o dros £100 miliwn, ac mae'r swm hwnnw'n tyfu o ddydd i ddydd. Mae'r cynigion hyn yn teimlo ymhell iawn o flaenoriaethau'r cyhoedd yng Nghymru. Ni all neb yma wadu—ac ni allai neb hyd yn oed feddwl am wadu—fod amseroedd aros y GIG wedi parhau i dyfu. Mae gan Gymru dri chwarter miliwn o bobl ar restrau aros am driniaethau, yr arosiadau damweiniau ac achosion brys gwaethaf ym Mhrydain, yr amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf a gofnodwyd erioed, ac mae ein hysgolion ar waelod cynghrair Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr y DU. Felly, Prif Weinidog, hoffwn wybod pryd mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl—[Torri ar draws.]

Gwn fod aelodau meinciau cefn Llafur yn meddwl eu bod nhw'n helpu'r Prif Weinidog pan fyddan nhw'n gwneud sylwadau ar y cwestiwn dan sylw, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n wir mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n credu bod y Prif Weinidog a minnau'n ei chael hi'n anodd clywed y cwestiynau sy'n cael eu gofyn bryd hynny. 

14:15

Dim problem. Felly, Prif Weinidog, hoffwn wybod pryd mae Llywodraeth Cymru'n mynd i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl, neu a ellir disgrifio'r cytundeb cydweithredu honedig gyda'ch cyfeillion ym Mhlaid Cymru orau fel dyfais syml i achub Llafur cyn yr etholiadau nesaf? Diolch.

Wel, Llywydd, lle mae dechrau? Yn lle'r Aelod, byddwn i wedi croesi'r llinell a roddwyd iddi am glymblaid allan, ar ôl clywed y drafodaeth ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Yr hyn rydych chi wedi ei weld yw'r cytundeb cydweithredu yn gweithio fel y bwriadwyd iddo ei wneud o'r cychwyn—sef, lle rydym ni'n gallu cytuno ar bethau, ac mae 47 o bethau pwysig iawn yr oeddem ni'n gallu cytuno arnyn nhw, rydym ni'n gweithio arnyn nhw gyda'n gilydd er mwyn eu rhoi ar waith. A lle nad ydym ni'n cytuno, rydym ni'n gallu cael dadleuon cryf ar wahanol safbwyntiau ein gwahanol bleidiau. Mae'n amlwg na fyddai hynny'n wir pe bai clymblaid.

O ran blaenoriaethau pobl yng Nghymru, cafodd pobl yng Nghymru gyfle i bleidleisio mewn etholiad pan oedd yr holl bethau hynny a ddarllenodd yr Aelod allan mewn maniffesto a roddwyd o'u blaenau. Felly, rwy'n credu y byddai cynnig prydau ysgol am ddim i 45,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn flaenoriaeth i bobl yng Nghymru. Rwy'n credu y bydd ehangu gofal plant o ansawdd uchel i blant 2 oed yn flaenoriaeth i bobl yng Nghymru. Rwy'n credu bod y camau yr ydym ni wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol, ac fe wnaethom ni ailosod y cydbwysedd rhwng anghenion y bobl hynny a phobl sy'n ddigon ffodus i allu fforddio ail gartrefi, heb sôn am gartref cyntaf—rwy'n credu y byddai hynny'n flaenoriaeth i bobl yng Nghymru. Ac os gallaf i geisio ei roi mor garedig ag y gallaf i'r Aelod: rwy'n credu, pan fyddwn ni'n siarad ar y meinciau hyn am y blaenoriaethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru, mae hynny gyda'r boddhad o weld pôl piniwn sy'n rhoi fy mhlaid ar 51 y cant o gefnogaeth yng Nghymru ac yn codi, a'i phlaid hi ar 18 y cant ac yn gostwng.  

Gofal Iechyd Preifat

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd cynyddol o ofal iechyd preifat gan gleifion sy'n aros am driniaeth ar y GIG? OQ58843

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn, Llywydd. Rwyf am weld gwasanaeth iechyd sy'n gallu ymateb i angen yn brydlon, o safbwynt clinigol, ac sydd ar gael i bawb sy'n dewis ei ddefnyddio. Y gwasanaeth iechyd sy'n darparu bron y cyfan o'r gofal sylfaenol a'r gofal brys yng Nghymru. Os yw cleifion yn dewis defnyddio'r sector annibynnol, maen nhw’n rhydd i wneud hynny, wrth gwrs.

Diolch ichi am eich ateb. Dwi eisiau rhannu gyda chi brofiad etholwraig i fi. Mae hi'n nyrs ac mae hi'n dioddef â phroblem twnnel carpal ar ei dwy law. Mae hynny, wrth gwrs, yn achosi'r dwylo i chwyddo, mae e'n dod â phoen llosgi a phoen yn saethu lan y fraich at y penelin, ac mae hynny, wrth gwrs, gan mai nyrs deintyddol yw hi, yn cael effaith ar ei gallu hi i weithio. Mae e hefyd, wrth gwrs, yn cael effaith ar ansawdd bywyd a'i llesiant hi fel unigolyn. Nawr, ar ôl cael gwybod bod y rhestr aros, yn ôl ym mis Gorffennaf, yn 12 mis ar gyfer achosion os ydyn nhw'n frys, mi gafodd hi gadarnhad ym mis Medi ei bod hi bellach yn cael ei hystyried yn achos brys, ond bod y rhestr aros bellach yn ddwy flynedd o hyd. Nawr, mewn anobaith, mae hi wedi penderfynu bod gyda hi ddim dewis ond mynd i gael triniaeth breifat, ac er mwyn ariannu hynny, mae hi yn gorfod gwerthu ei thŷ. Nawr, allwch chi ein cyhuddo ni o fod yn besimists os ŷch chi eisiau, ond ydych chi'n credu ei bod hi'n dderbyniol bod rhywun yn gorfod troi at sefyllfa lle maen nhw'n gwerthu eu tŷ i gael mynediad at wasanaeth preifat sydd i fod ar gael ar y gwasanaeth iechyd gwladol? Ac onid yw hyn yn amlygu bod yna symud cynyddol at ddefnyddio gwasanaethau preifat, boed hynny'n fwriadol neu beidio, o dan eich Llywodraeth chi?

Wel, Llywydd, fel mae'r Aelod yn gwybod, mae'n amhosib i fi ymateb i achos ble dwi'n clywed am y manylion am y tro cyntaf yn y Siambr. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, dwi eisiau gweld gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ble mae'n gallu rhoi gwasanaethau i bobl mewn ffordd brydlon, ymhob agwedd o'r gwasanaeth.

Ac er ei bod hi'n anodd iawn clywed y math o achos y mae'r Aelod wedi ei amlinellu'r prynhawn yma, mae'n dal yn bwysig dweud, hyd yn oed os cymerwch chi'r ffigyrau a gyhoeddir gan y sector preifat eu hunain—ac, wrth gwrs, maen nhw yno i gyflwyno'r achos dros eu sector—ond os cymerwch chi eu ffigurau eu hunain ar ddefnydd o'r sector preifat yng Nghymru, yna, mewn gofal wedi'i gynllunio, mae 5 y cant o ofal wedi'i gynllunio yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y sector preifat; mae 95 y cant ohono'n parhau i gael ei ddarparu gan y GIG. Os gymerwch chi i ystyriaeth y ffaith bod hanner y llawdriniaethau yng Nghymru yn cael eu cyflawni o ganlyniad i dderbyniad brys yn hytrach na derbyniad wedi'i gynllunio, mae hynny'n gostwng i 2 y cant o bobl yng Nghymru yn cael eu gofal drwy'r sector preifat. Ac os dechreuwch chi gymryd i ystyriaeth pethau fel apwyntiadau cleifion allanol, yna mewn gwirionedd, mae ffracsiwn y gofal sy'n cael ei ddarparu gan y sector preifat yng Nghymru yn gostwng i lai nag 1 y cant. Felly, er bod bob amser yn ddrwg gen i glywed am unrhyw un sydd wedi teimlo rheidrwydd i gael gafael ar driniaeth y tu allan i GIG Cymru, mae'r darlun cyffredinol yn parhau i ddangos bod pobl yng Nghymru, yn gwbl briodol, yn gallu dibynnu ar y GIG i ddiwallu eu hanghenion, a'i fod yn gwneud hynny i filoedd ar filoedd ar filoedd o bobl ledled Cymru bob un wythnos.

14:20

Prif Weinidog, yr hyn yr wyf i wedi ei nodi yw bod mwy o fy etholwyr, dros y 12 mis diwethaf yn benodol, yn dewis mynd i gael triniaeth breifat, gan eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad hwnnw nad ydyn nhw eisiau aros ar restr aros GIG mwyach, yn aml mewn poen. Ar un achlysur, fe aeth un etholwr, rwy'n gwybod, i ddyled er mwyn talu am driniaeth breifat.

Nawr, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi clywed cryn nifer o hanesion torcalonnus pobl yn aros am ofal iechyd preifat sydd wedi eu gadael mewn dyled ddifrifol. Dywedodd un person hyn, ac rwy'n dyfynnu: 'Fe wnaeth y GIG ganslo fy llawdriniaeth a drefnwyd dair gwaith, hyd yn oed ar ôl i'm gynaecolegydd bwysleisio pa mor bwysig oedd hi fy mod i'n cael llawdriniaeth ar frys er mwyn cadw fy ngholuddyn. Oherwydd hyn, talais dros £15,000 i gael dwy lawdriniaeth breifat a oedd yn hanfodol ar gyfer fy iechyd. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar fy sefyllfa ariannol a fy nghynlluniau bywyd'. Fy nghwestiwn i yw, Prif Weinidog: beth yw eich cyngor i bobl sydd ar restr aros, sydd â'r gallu i dalu am driniaeth breifat, ac sy'n gallu fforddio gwneud hynny? Beth yw eich cyngor iddyn nhw, a beth yw eich cyngor i bobl yn yr un sefyllfa nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu ond sy'n ystyried mynd yn breifat, rhoi eu hunain mewn dyled bosibl, gan eu bod nhw'n pryderu am y boen y maen nhw ynddo?

Wel, fy nghyngor i iddyn nhw yw gofyn am gyngor gan eu clinigwr ac yna gwneud asesiad mai dim ond nhw sy'n gallu ei wneud. Nid oes unrhyw gyngor posibl y gall yr Aelod na minnau ei roi i bobl yn sefyll yma. Dylen nhw gael cyngor clinigol, ac yna dylen nhw wneud eu penderfyniad.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Un maes lle nad oes gan bobl ddewis o ran a ydyn nhw'n mynd yn breifat ai peidio yw triniaeth ddeintyddol. Mae cael gafael ar ddeintydd yng Nghymru, yn enwedig mewn ardal wledig fel y mae nifer ohonom ni'n ei chynrychioli yma, bron yn amhosibl. Mae deintyddion bellach yn dewis troi'n breifat. Nawr, er ein bod ni erioed, fel oedolion, wedi talu rhywbeth tuag at ein triniaeth, ceir llawer o oedolion nad ydyn nhw'n gallu fforddio cael triniaeth ddeintyddol bellach. Ond yn fwy pryderus fyth, ni all plant gael gafael ar ddeintydd GIG. Rwy'n siŵr y byddem ni'n cytuno bod honno'n sefyllfa annioddefol. Felly fy nghwestiynau i yw: a ydym ni'n gwybod faint o blant yng Nghymru sy'n aros am ddeintydd GIG? Ac a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud am hynny? Diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch am y cwestiwn, wrth gwrs.

Mewn sawl ffordd, nodwyd craidd y broblem yn y cwestiwn, sef bod deintyddion yn fusnesau preifat; maen nhw'n gontractwyr. Ni ellir eu gorfodi i weithio i'r GIG. Ac rydym ni wedi gweld, i raddau bach iawn, mewn gwirionedd, rhai deintyddion yng Nghymru yn symud allan o'r GIG ac i bractis preifat. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am y peth? Wel, rwyf i wedi rhannu hyn ar y llawr nifer o weithiau, Llywydd. Yn greiddiol i'r hyn y byddwn ni'n ei wneud yw newid contract deintyddion yn GIG Cymru, ac rydym ni wedi gwneud hynny ers 1 Ebrill. Mae'r mwyafrif helaeth o ddeintyddion yng Nghymru wedi dewis y cytundeb newydd, a bydd y cytundeb newydd ar ei ben ei hun yn creu tua 126,000 o apwyntiadau GIG ychwanegol yma yng Nghymru ym mlwyddyn gyntaf y contract hwnnw. Yn ardal Hywel Dda, sy'n rhan o'r ardal a gynrychiolir gan yr Aelod, mae hynny eisoes wedi cynhyrchu dros 8,000 o apwyntiadau GIG ychwanegol, ac mae tua hanner y rheini ar gyfer plant. Felly, mae camau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd, yn ogystal â'r buddsoddiad pellach y mae'r Gweinidog wedi ei wneud ar gael i fyrddau iechyd at ddibenion deintyddol eleni.

Yn y tymor hwy, yr ateb yw diwygio natur y proffesiwn, er mwyn rhyddfrydoli'r proffesiwn. Mae gennym ni ddeintyddion sy'n cyflawni gweithgareddau nad oes angen rhywun â hyfforddiant a lefel uchel uwch-ddeintydd sydd wedi cymhwyso'n llawn arnoch i'w cyflawni, ond mae'r proffesiwn wedi bod yn arafach na rhannau eraill o faes gofal sylfaenol i arallgyfeirio fel bod pobl eraill wedi'u hyfforddi ac sy'n gallu cyflawni rhai o'r gweithgareddau sydd eu hangen ym maes deintyddiaeth, gan ryddhau amser y deintydd—yr adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni—i wneud y pethau y gall deintydd yn unig eu gwneud. A thrwy'r corff hyfforddi sydd gennym ni, rydym ni'n cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu hyfforddi i allu gweithio ochr yn ochr â deintyddion i gynnig y mathau hynny o driniaethau. Y cyflymaf y gallwn ni wneud i hynny ddigwydd, y mwyaf o driniaethau fydd ar gael a'r mwyaf o blant fydd yn gallu derbyn deintyddiaeth GIG yn y ffordd y byddem ni'n dymuno ei weld yng Nghymru. 

14:25
Tai Cymdeithasol

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o dai cymdeithasol yng Nghymru? OQ58811

Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol ac wedi clustnodi'r lefelau uchaf erioed o gyllid, gan gynnwys mwy na dyblu cyllid Abertawe ers 2020-21. Disgwylir y cyhoeddiad ystadegol cyntaf yn dangos cynnydd tuag at y targed hwn ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond ceir prinder tai i'w rhentu o hyd a cheir problem ddifrifol gyda digartrefedd, gan gynnwys pobl sydd mewn llety anaddas. Yr unig dro i ni gael, ers yr ail ryfel byd, tai a gyrhaeddodd y raddfa yr oedd ei hangen arnom ni oedd rhwng 1945 a 1979, pan gawsom ni ymgyrch adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr ledled Cymru. Roedd hyn yn seiliedig ar gynghorau yn benthyg dros 60 mlynedd i adeiladu tai. Ni chostiodd hyn unrhyw arian i'r Trysorlys, ond roedd yn seiliedig ar allu'r cynghorau i fenthyg a gallu talu'n ôl o'r rhenti yr oedden nhw'n eu derbyn. Sut allwn ni ddychwelyd i'r dull hwn o ariannu tai cyngor fel y gallwn ni ymdrin â'r broblem ddifrifol sydd gennym ni gyda thai anaddas a phrinder tai?

Wel, Llywydd, mae Mike Hedges yn ein hatgoffa o rai ffyrdd pwysig lle'r oedd adeiladu tai cyngor yn bosibl yn y gorffennol ar sail ddwybleidiol. Mae pobl yn anghofio mai Aneurin Bevan oedd y Gweinidog tai yn ogystal â'r Gweinidog iechyd, a rhoddodd fwy o ddeddfwriaeth tai ar y llyfr statud nag y gwnaeth basio deddfwriaeth iechyd. A'r Gweinidog tai a oruchwyliodd y nifer fwyaf o dai cyngor a adeiladwyd erioed oedd Harold Macmillan, mewn Llywodraeth Geidwadol. Ac mae hynny oherwydd bod consensws dwybleidiol ynglŷn â sut roedd tai cyngor yn bwysig a sut y gellid eu hariannu, a daeth hynny i gyd i ben gyda Llywodraethau Thatcher yn y 1980au.

Yma yng Nghymru, rydym ni wedi bod yn gwrthdroi nifer o'r rhwystrau hynny i adeiladu tai cyngor er mwyn gwneud fel y mae Mike Hedges wedi ei ddweud, Llywydd, sef cyflymu gallu'r cynghorau hynny sy'n cadw stoc tai cyngor i ychwanegu at nifer y tai sydd ar gael i'w rhentu. Felly, codwyd y cap benthyg a orfodwyd ar gyfrifon refeniw tai Cymru yn ystod cyfnod Thatcher, ac mae hynny wedi cael gwared ar y cyfyngiad ar fenthyg ar gyfer ailadeiladu gan y cyngor. Mae cynghorau bellach yn gallu benthyg yn ddarbodus yn erbyn yr incwm rhent disgwyliedig o'r tai y byddan nhw'n eu hadeiladu. A thra bod yn rhaid i hynny fod yn fenthyg darbodus o hyd, mae'n golygu bod gan gynghorau ledled Cymru ffynhonnell arian bellach o'r math y cyfeiriodd Mike Hedges ati a fydd yn caniatáu iddyn nhw gyflymu eu gallu eu hunain i adeiladu tai cyngor yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae gwyntoedd cryfion yn eu hwynebu, Llywydd. Flwyddyn yn ôl, ym mis Mehefin y llynedd, 1 y cant oedd cyfradd fenthyg y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Heddiw, o ganlyniad i gyfnod trychinebus Liz Truss fel Prif Weinidog y DU, 4.2 y cant yw'r gyfradd fenthyg honno, ac mae hynny'n golygu'n anochel, mewn system fenthyg ddarbodus, bod gallu cynghorau i wasanaethu'r ddyled y maen nhw'n mynd iddi i adeiladu tai cyngor yn dod yn fwy heriol.

14:30

Cwestiwn 6 [OQ58822] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 7, Luke Fletcher. 

Gwasanaethau Bancio Hygyrch

7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan gymunedau ledled Cymru wasanaethau bancio hygyrch? OQ58850

Llywydd, fel yr eglurais i ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, nid yw'r cyfrifoldeb dros wasanaethau ariannol, gan gynnwys bancio, wedi'i ddatganoli i'r Senedd. Er na all Llywodraeth Cymru, felly, sicrhau bod banciau ar gael, rydym ni'n gweithio gyda'r rhai sy'n gallu gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau arloesol, fel hybiau bancio ar y cyd a'n cynlluniau ein hunain ar gyfer banc cymunedol.

Diolch, Prif Weinidog. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r gyfres ddiweddaraf o fanciau'n cau i daro Cymru wedi i HSBC gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf y byddan nhw'n cau 12 o ganghennau o fis Ebrill nesaf. Mae un o'r canghennau sydd wedi'u clustnodi i gau ym Mhort Talbot. Mae'r cyhoeddiad yn ergyd arall i etholwyr yn fy rhanbarth i, sydd, o'r gorllewin i'r dwyrain, eisoes yn cael eu gadael ar ôl wrth i'r banciau gau. Erbyn hyn, dim ond tri o'r pedwar banc mawr yn y DU sydd gan Gŵyr, er enghraifft, wedi'u rhannu rhwng Gorseinon a'r Mwmbwls, ac i'r dwyrain, yn Ogwr, dim ond un banc sydd ar ôl. 

Rydym ni wedi bod yn ymwybodol o'r broblem hon ers amser maith. Rydym ni'n gwybod bod y cymunedau sydd wedi'u heffeithio galetaf mewn ardaloedd o amddifadedd mawr. Mae'r banciau mawr yn mwynhau elw enfawr, ond dydyn nhw ddim yn poeni am eu cyfrifoldebau cymdeithasol. Wrth iddyn nhw barhau i gefnu ar ein cymunedau, a wnaiff y Llywodraeth gyflymu sefydlu rhwydwaith Banc Cambria?

Wel, Llywydd, a gaf i gyntaf oll gytuno â'r hyn y dywedodd Luke Fletcher am y cyhoeddiad siomedig iawn yr wythnos diwethaf? Rwyf i wedi dadlau fy hun ers tro bod angen rhywbeth tebyg i Ddeddf Ail-fuddsoddi Cymunedol 1977 yr Unol Daleithiau, a fyddai'n gorfodi banciau, pan fyddan nhw'n gadael cymunedau sydd wedi'u cefnogi ers degawdau a degawdau, a fyddai'n eu gorfodi nhw i fuddsoddi yn y cymunedau hynny i wneud iawn am y diffyg gwasanaethau y mae eu hymadawiad yn anochel yn arwain ato. 

Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething at y Monmouthshire Building Society—sydd, fel y gwyddoch chi, nawr yn brif bartner yn ein cynlluniau ar gyfer banc cymunedol—ar 16 Tachwedd, a bydd cyfarfod yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn cynnwys Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gyda'r Monmouthshire Building Society a'r grŵp gwirfoddol a gynigiodd fanc cymunedol i Gymru yn wreiddiol, i osod llwybr i lansio'r banc cymunedol hwnnw. A hoffem ni iddo ddigwydd cyn gynted â phosibl. Nid yw'n digwydd mor gyflym ag yr hoffem ni oherwydd rhesymau technegol yn unig, y rhai heriol o drwyddedu yn y maes gwasanaethau ariannol, ac mae hynny'n rhan, fel y mae'r Aelod yn gwybod, o pam ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth â'r Monmouthshire Building Society, oherwydd bod eisoes ganddyn nhw nifer o'r caniatadau hynny mewn sector sy'n cael ei reoleiddio'n dynn. 

Yn ogystal â'r banc cymunedol, Llywydd, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio gydag undebau credyd i weld ble gallan nhw gamu i mewn i ddarparu gwasanaethau. Rydym ni'n cefnogi swyddfeydd post yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac rydym ni'n gweithio gyda Link. Felly, mae'n wasanaeth heb ei ddatganoli, ond mae'n gyfrifol am 243 o leoliadau ar gyfer peiriannau dosbarthu arian parod yn awtomatig ledled Cymru. A lle mae banciau'n gadael, bydd rhwymedigaeth y bydd Link yn cyflawni, o leiaf i wneud yn siŵr bod pobl yn dal i allu cael gafael ar arian parod yn yr ardaloedd hynny. 

Hyrwyddo Chwaraeon

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru? OQ58845

Llywydd, caiff gwerth iechyd, cymdeithasol ac economaidd chwaraeon ei gydnabod yn eang, a dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi mwy na £75 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf, drwy Chwaraeon Cymru, i gyflawni ein nodau a'n hamcanion cyffredin.

Prif Weinidog, ddoe, cafodd ochenaid o ryddhad ar y cyd ei theimlo ledled gêm broffesiynol rygbi dynion yma yng Nghymru, nid oherwydd dychweliad Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, ond oherwydd bod fframwaith chwe blynedd ar gyfer rygbi proffesiynol yng Nghymru wedi'i gytuno ar lafar. Ddydd Sul fe ryddhaodd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ddatganiad yn mynegi pryder gan fod lles chwaraewyr yn cael ei effeithio'n ddifrifol gan yr oedi o ran cytundeb hirdymor, a rhai o chwaraewyr Cymru eisoes yn llofnodi i glybiau y tu allan i Gymru er mwyn sicrhau rhywfaint o ddiogelwch swydd.

Mae cyflwr ariannol rygbi mewn sefyllfa beryglus. Y tu hwnt i Glawdd Offa, rydym ni wedi gweld Wasps a Chaerwrangon yn cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr ac yn rhoi'r gorau i fasnachu. Gan roi i'r naill ochr strwythur llywodraethu Undeb Rygbi Cymru, y dywedodd Sam Warburton ei fod yn 'sownd yn Oes y Cerrig', mae rygbi yng Nghymru, y gêm gymunedol a phroffesiynol, mewn sefyllfa anniddig. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi trafod benthyciad o £20 miliwn i bedwar rhanbarth Cymru, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fydd ad-dalu'r benthyciadau yma'n gadael rhai o ranbarthau Cymru yn mynd yr un ffordd â naill ai Wasps neu Gaerwrangon?

14:35

Llywydd, dim ond i fod yn glir, er mwyn cywirdeb, £18 miliwn oedd benthyciad Llywodraeth Cymru, ac roedd gyda Undeb Rygbi Cymru, nid gyda'r rhanbarthau. Mae'r ffordd y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio yn benderfyniad i Undeb Rygbi Cymru, a nhw sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod ad-daliadau'r benthyciad yn cael eu gwneud. Roedd yn destun trafod dwys o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch a oedd yn gyfreithlon ai peidio i ni gamu i mewn i ganiatáu i URC dalu'r benthyciad a oedd ganddyn nhw gynt gyda NatWest. Yn y diwedd, cafodd y penderfyniad i wneud hynny ei ysgogi gan lawer o'r hyn y mae Sam Kurtz wedi'i ddweud yma y prynhawn yma—pwysigrwydd y gêm yma yng Nghymru a'n hymrwymiad i'w chynnal.

Ond mae'r angen i ddiwygio'r gêm ei hun yn wirioneddol, ac ni all y Llywodraeth fod yn fancwr dewis olaf sy'n cael ei ddefnyddio i atal y gêm rhag cyflawni'r camau angenrheidiol y mae'n rhaid iddi hi ei hun ymgymryd â nhw ac y mae'n gyfrifol amdanyn nhw. Nawr, rwy'n croesawu penodiad Ieuan Evans fel cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru bob amser yn hapus i weithio ochr yn ochr â'r undeb ac i fod o gymorth iddyn nhw lle gallwn ni. Ond ni all hynny fod yn rheswm iddyn nhw gamu i ffwrdd o'r meddwl dwys iawn y mae'n rhaid i'r gêm ei wneud. Ac nid dim ond yn strwythurol yw hynny, Llywydd, ac nid yw hyd yn oed yn ymwneud â'r berthynas rhwng y rhanbarthau a'r undeb ac yn y blaen, ond mae'n ymwneud â phethau fel anafiadau i'r pen, dyfodol y gêm, sicrhau ei bod yn ddeniadol i bobl ifanc fel eu bod eisiau ei chwarae. Mae gan y gêm broblemau difrifol iawn o'i blaen. Rydym ni yno i'w cefnogi lle gallwn ni, ac roedd y £18 miliwn yn arwydd difrifol iawn o'r gefnogaeth honno. Ni all hynny esgusodi'r gêm o'r gwaith difrifol y mae angen iddi ei hun ei gyflawni.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:37:46
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae dau ychwanegiad at yr agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ddiwygio bysiau. Ac yn ail, rwy'n gwybod eich bod nawr wedi rhoi caniatâd i Gyfnod 4 o'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) gael ei gynnig ar ôl cwblhau Cyfnod 3 yn ddiweddarach heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â'r cyfrifoldeb dros drafnidiaeth, ynglŷn â pham roedd llawer o fy etholwyr, a chyhoedd arfordir y gogledd, wedi mynd eu gadael yng ngorsaf reilffordd Caer nos Sadwrn, gan nad oedd modd iddyn nhw ddefnyddio'r gwasanaeth 21:40 o Gaer i Gaergybi, gan mai dim ond dau gerbyd oedd ar y trên? Erbyn hyn, yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae llawer o bobl o'r gogledd yn mwynhau taith i Gaer i fynd i siopa, mwynhau mynd allan am swper a diodydd gyda ffrindiau a chydweithwyr yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch pam ddigwyddodd hyn a pham mai dim ond dau gerbyd oedd ar y lein y noson honno, gan adael fy etholwyr ac angen talu dros £100 am dacsi yn ôl i rai o'u cymunedau yn y gogledd ? Felly, a all y Dirprwy Weinidog dawelu meddyliau fy etholwyr a phobl y gogledd fod gwasanaethau trên digonol ar waith i bobl allu cyflawni eu busnes bob dydd? Diolch.

Mae'r mater yr ydych chi'n cyfeirio ato mewn gwirionedd yn fater gweithredol i Trafnidiaeth Cymru, a byddwn yn eich annog chi i ysgrifennu at y prif weithredwr.

Rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa gymorth ychwanegol fydd ar gael i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda'r argyfwng costau byw. Rydym ni'n sôn am yr argyfwng costau byw mor aml rwy'n meddwl bod yr ymadrodd wedi cael ei normaleiddio, ond mewn gwirionedd bydd miloedd ar filoedd o bobl nad ydyn nhw wir yn gwybod sut maen nhw'n mynd i oroesi'r gaeaf, os ydyn nhw'n mynd i'w oroesi. Ac i rai aelwydydd, bydd costau ynni cynyddol yn cael eu teimlo hyd yn oed yn fwy dwys—mae angen mwy o wres a thrydan ar bobl anabl neu bobl ag anghenion cymhleth, nid yn unig i fod yn gyfforddus ond fel gweithrediad sylfaenol. Os yw rhywun yn anymataliol, bydd angen i'w aelwyd ddefnyddio'r peiriant golchi a'r peiriant sychu dillad weithiau sawl gwaith y dydd. Os oes gan rywun Alzheimer's, byddan nhw'n oeri'n gyflymach. Ni fydd dweud wrth bobl yn y sefyllfaoedd hynny bod ond angen iddyn nhw wisgo haen ychwanegol yn gweithio. Mae yna bobl sy'n byw yn ein cymunedau na fydd ond yn wynebu misoedd y gaeaf gyda phryder ond gyda dychryn llwyr ac enbyd. Rwy'n gwybod bod llawer o hyn wedi'i gadw yn ôl i San Steffan, felly oes modd i ddatganiad nodi os yw'r materion hyn yn cael eu codi ar frys gyda Llywodraeth y DU? Diolch.

14:40

Diolch. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr ymadrodd 'argyfwng costau byw' a sut mae wedi dod yn rhan o'n hiaith ni, mewn gwirionedd, yn ystod y misoedd diwethaf. Roeddwn i'n siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore 'ma. Rwy'n gwybod ei bod hi'n cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd y trafodaethau hynny—. Wel, dydyn nhw ddim yn mynd i ddod i ben, ydyn nhw; rwy'n credu y byddan nhw'n sicr yn parhau dros y gaeaf ac i mewn i'r flwyddyn newydd. Ond rwy'n gwybod un peth y mae hi'n awyddus iawn i'w wneud, ac mae hi'n cael cyfarfodydd ynghylch hyn, ynghylch y taliadau sefydlog am ynni. Yn benodol, un o'r meysydd y mae hi'n ei ystyried—ac mae'n rhywbeth y mae Mike Hedges, sydd yn y Siambr, yn sicr wedi bod yn ei lobïo hi arno, rwy'n gwybod, yn gryf iawn—yw ynghylch taliadau sefydlog os nad yw ynni wedi cael ei ddefnyddio ar y diwrnod penodol hwnnw, er enghraifft. Felly, rwy'n siŵr pan—. Mae yna lawer o sgyrsiau yn digwydd yn ddwy ochrog gyda Llywodraeth y DU a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus iawn i roi'r wybodaeth diweddaraf i ni maes o law.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r sefyllfa ynghylch streptococcus grŵp A, yn enwedig mewn ysgolion? Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn yn wir ac mae adroddiadau yn y cyfryngau nawr y byddai modd defnyddio gwrthfiotigau fel mesur ataliol i amddiffyn plant rhag cyflyrau mwy difrifol, gan gynnwys y dwymyn goch a streptococcus ymledol grŵp A. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod Strep A, yn y rhan fwyaf o achosion, yn achosi'r dwymyn goch. Mae'r dwymyn goch yn heintus iawn, ac felly mae rhieni'n cael eu cynghori i ofyn am arweiniad gan eu meddygon teulu. Mae perygl gwirioneddol y gallai meddygon teulu gael eu llethu ar adeg prysur iawn o'r flwyddyn fel y mae. Felly, byddai croeso mawr i ddatganiad, datganiad brys, gan y Gweinidog iechyd.

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad am statws y ganolfan ymchwil technoleg uwch? Mae hwn yn brosiect mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio arno ers rhyw bum mlynedd. Dyma fyddai'r chwaer gyfleuster ar gyfer y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch, sydd wedi bod yn llwyddiant anhygoel. Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wedi dyrannu £10 miliwn mewn cyfalaf tuag at y gost o sefydlu'r ganolfan ymchwil technoleg uwch. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallem gael datganiad am statws y prosiect hwnnw a chadarnhad, os yn bosibl, yn y gyllideb yr wythnos nesaf y bydd cyllid ar gael iddi gael ei chreu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Diolch.

Diolch. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad cyn gynted â phosibl o amgylch sefyllfa strep A. Yn sicr, rydym ni'n mynd i weld nifer uwch o achosion o heintiau strep A bacterol eleni o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf, ac yn anffodus rydym ni wedi gweld y canlyniadau trasig yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn mynd i'r holl deuluoedd a phawb a gafodd eu heffeithio gan y marwolaethau trasig hyn. Gwnaethoch chi sôn am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac maen nhw'n arwain yr ymateb yma yng Nghymru. Maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda'n byrddau iechyd, ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion a'n rhieni a'n meddygon teulu. Fel y dywedwch chi, mae gwybodaeth ar eu gwefan, ond bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad, gobeithio yn ddiweddarach y prynhawn yma. 

O ran y ganolfan ymchwil technoleg uwch, rydym ni'n symud ymlaen ar hyn o bryd gyda dylunio ac uwchgynllunio safle'r ganolfan ymchwil technoleg uwch. Rydym ni wedi nodi gweithredwr priodol ac ar hyn o bryd yn rhagweld cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud yn yr haf y flwyddyn nesaf, felly 2023, er mwyn i'r cyfleuster fod yn weithredol yng ngwanwyn 2025.FootnoteLink Rydym ni'n croesawu yn fawr iawn yr ymrwymiad o £10 miliwn a gyhoeddodd y Canghellor yn natganiad yr hydref i gefnogi ei datblygiad.

Gweinidog, os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am y gwasanaeth cyswllt toresgyrn yma yng Nghymru? Mae osteoporosis—rydym ni'n aml yn clywed amdano yma yn y Siambr—sy'n gallu achosi esgyrn i dorri drwy beswch neu hyd yn oed drwy gofleidio'r wyrion, yn effeithio ar fwy na 180,000 o bobl yng Nghymru ac yn costio £4.6 biliwn y flwyddyn i wasanaeth iechyd y DU. Yn drasig, mae cymaint o bobl yn marw o achosion sy'n gysylltiedig â thoresgyrn â chanser yr ysgyfaint neu, mewn gwirionedd, diabetes. Fodd bynnag, gall gwasanaeth cyswllt toresgyrn helpu i drawsnewid ansawdd bywyd pobl hŷn yng Nghymru a datgloi rhai arbedion sylweddol i'n GIG. Fel y mae, dim ond 66 y cant o bobl yng Nghymru dros 50 oed sy'n cael y cyfle i fanteisio ar wasanaeth cyswllt toresgyrn, o'i gymharu â 100 y cant o bobl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod miloedd o bobl mewn ardaloedd heb wasanaeth yn cael toriadau wedi'u cywiro ac yna'n anghofio amdanyn nhw heb i'w osteoporosis sylfaenol gael diagnosis a thriniaeth, a hoffwn i wybod, yn amlwg—. Lle mae gwasanaeth cyswllt toresgyrn eisoes ar waith, mae tanberfformio eang o ran nodi a monitro cleifion a gwaith dilynol. Gall ymestyn gwasanaethau a chodi'r ansawdd ryddhau 73,000 o welyau ysbyty acíwt a 16,500 o ddiwrnodau gwely adsefydlu, yr amcangyfrifir eu bod yn cael eu cymryd gan gleifion sydd wedi torri clun yn ystod y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â darparu arbedion enfawr, y soniais i amdanyn nhw. Felly, byddai buddsoddiad blynyddol cymedrol o £2 filiwn wrth godi nifer ac ansawdd y gwasanaethau cyswllt toresgyrn i gynnwys pawb dros 50 yn sicrhau budd o £36 miliwn dros bum mlynedd. Mae wir gennym ni gyfle yma, Gweinidog, i wella bywydau miloedd o bobl ledled Cymru, ac fe fydd arbedion o'r fath, rwy'n siŵr, yn cael eu croesawu gan Lywodraeth Cymru. Felly, byddai datganiad gan y Gweinidog iechyd am fuddsoddi yn y gwasanaeth penodol hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr. 

14:45

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Mae osteoporosis yn effeithio ar lawer ohonom ni a llawer o'n hetholwyr, ac yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig. 

Trefnydd, rwyf i eisiau tynnu sylw at yr angen am ddatganiad gan y Llywodraeth drwy godi mater y feithrinfa yng Nghanolfan Plant Caerffili, sydd wedi'i gadael ar y dibyn oherwydd diffyg ymrwymiad ariannol ac ymgysylltu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei weithredu gan Lafur. Mae'r ganolfan wedi bod yn darparu gwasanaeth anhygoel i blant ag anableddau, oedi mewn datblygiad ac anghenion ychwanegol ers tri degawd. Er mwyn parhau i weithredu, mae angen cytundeb lefel gwasanaeth ar y feithrinfa gan yr awdurdod lleol, gan na allan nhw wneud cais am gyllid grant tymor hir mwy heb fod ymrwymiad ariannol o'r fath yn ei le. Mae'r ganolfan wedi bod yn gofyn am gytundeb ers pum mlynedd. Rwyf i hefyd wedi clywed nad yw ceisiadau am gyfarfod ar y mater hwn wedi cael eu hateb na'u cydnabod gan y cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r sefyllfa nawr yn argyfyngus, ac maen nhw'n wynebu cyflwyno rhybuddion diswyddo i staff ddiwedd Rhagfyr oni bai bod rhywbeth yn newid. Ydych chi'n siomedig bod eich cydweithwyr yn eich plaid yng Nghaerffili yn peryglu iechyd a lles meddyliol y rhai mwyaf agored i niwed drwy ddiffyg ymgysylltiad a diffyg ymrwymiad ariannol? Ond, o ran y Llywodraeth hon, a gawn ni ddatganiad am y ddarpariaeth i blant ag anableddau, oedi mewn datblygiad ac anghenion ychwanegol yng Nghymru a'r angen i amddiffyn y gwasanaethau hyn?   

Wel, dydw i ddim yn ymwybodol o'r mater yr ydych chi'n ei godi ynghylch y feithrinfa. Rwy'n credu y byddai'n well gohebu'n uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y tro hwn. 

Gweinidog, mae ymgyrch gynyddol yng Nghymru nawr, dan arweiniad pum elusen lles anifeiliaid, yn galw am wahardd rasio milgwn. Mae'r Dogs Trust, Blue Cross, Greyhound Rescue Wales, Hope Rescue a'r RSPCA yn credu ar y cyd fod rasio milgwn yn achosi dioddefaint creulon ac echrydus i'r cŵn. A wnaiff y Gweinidog sicrhau datganiad ysgrifenedig yn cadarnhau sefyllfa Llywodraeth Cymru ar rasio milgwn, os ydyn nhw wedi cwrdd â'r pum sefydliad hyn, a pha gamau y gallen nhw eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater o les anifeiliaid hanfodol hwn? Diolch. 

Diolch. Wel, yn amlwg, mae hyn yn dod o fewn fy mhortffolio i, ac rwy'n awyddus iawn i ymdrin â'r pryderon lawer sydd wedi'u codi gyda mi ynghylch rasio milgwn. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael deiseb sylweddol, ac rwy'n aros am ganlyniad hynny, yn ogystal â bod â hyn yn amlwg yn rhan o'n cynllun lles anifeiliaid—mae hwnnw'n gynllun pum mlynedd yr wyf i'n ei gyhoeddi, a fydd yn cynnwys pum mlynedd gyfan y tymor hwn o lywodraeth—ond yn amlwg mae hyn yn rhywbeth o fewn ymrwymiad y rhaglen lywodraethu. Rwyf i wedi cyfarfod â rhai o'r sefydliadau yr ydych chi'n cyfeirio atynt, ac yn sicr rwyf i wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth ar y mater. Ond rwy'n credu mai'r peth nesaf fydd edrych ar y ddeiseb, os daw honno ymlaen, yn amlwg, ar gyfer dadl yma yn y Senedd, a hefyd mae fy swyddogion yn gweithio ar ystyried a oes angen ymgynghoriad, a fyddai, yn fy marn i, i ystyried dyfodol rasio milgwn. 

Er ei bod yn demtasiwn i mi ychwanegu at y cwestiwn hwnnw gan Altaf Hussain—diolch o galon—rwy'n canolbwyntio ar rywbeth arall heddiw, a phrynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y bleidlais ar streic gan weithwyr gwasanaeth ambiwlans Cymru? Rydym ni'n gwybod nad oes neb yn streicio'n ddi-hid, yn enwedig y rhai hynny yn ein gwasanaeth iechyd, ac mae'n dangos pa mor enbyd yw sefyllfa gweithwyr iechyd. Maen nhw wedi pleidleisio i streicio ym mis Rhagfyr, sydd hefyd yn cyd-fynd â streic y nyrsys, hefyd ym mis Rhagfyr. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau brys y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cefnogi, bod trafodaethau ar waith a bod digon o weithwyr wrth gefn brys ar gael yn ystod yr hyn y gwyddom ni y bydd yn un o gyfnodau prysuraf y GIG? Diolch yn fawr iawn.

14:50

Diolch. Wel, rydym ni'n cydnabod pam mae cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio'r ffordd y gwnaethon nhw, a'r dicter a'r siom ymhlith cymaint o'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd. Rydym ni'n credu y dylai ein gwasanaethau brys gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith pwysig, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi bod ein setliad ariannol presennol yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r heriau sylweddol y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu a gan weithwyr cyhoeddus ledled Cymru. Fel Llywodraeth, rydym ni'n gwerthfawrogi partneriaeth gymdeithasol yn fawr, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn parhau i gyfarfod ag undebau llafur i drafod amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar y gweithlu.

Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar os gallem ni gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw diffoddwyr tân wrth gefn yn y gweithlu yng Nghymru. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod 125 o lefydd gwag yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, sefyllfa y mae Roger Thomas, prif swyddog tân canolbarth a gorllewin Cymru, yn iawn i ddweud ei bod yn anghynaladwy, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gweld cefnogaeth yn cael ei chynnig, efallai hyd yn oed adolygiad cenedlaethol o gyflog ac amodau diffoddwyr tân wrth gefn fel ein bod ni'n gweld y sefyllfa'n gwella. O ystyried pwysigrwydd recriwtio a chadw diffoddwyr tân mewn etholaethau a rhanbarthau, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosib, yn amlinellu'r hyn y mae'n ei wneud i annog pobl i wneud cais am swyddi o fewn y gwasanaeth tân, a'r hyn y mae'n ei wneud i gefnogi'r gweithlu er mwyn diogelu'r gwasanaethau brys hanfodol hyn.

Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb wrth Jane Dodds ein bod ni wir yn gwerthfawrogi partneriaeth gymdeithasol, felly mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn sicr yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân ar hyn o bryd i weld beth arall y mae modd ei wneud i geisio denu pobl i'r swyddi. Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r nifer sylweddol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog.

A gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar gyflwr yr NHS? Ar drothwy'r gaeaf, mae staff yn gwneud eu gorau, ond mae'r sefyllfa'n amhosib. Dwi wedi clywed am gyfres o ddigwyddiadau yn effeithio ar etholwyr yn y dyddiau diwethaf: un ddynes yn ei 80au, yn ofni ei bod hi wedi torri ei chlun, yn aros 24 awr ar y llawr gartref am ambiwlans; dynes oedrannus arall yn aros yn yr adran frys am oriau tra bod ambiwlansys yn ciwio y tu allan; merch ifanc yn cael triniaeth ar goridor yn yr adran frys oherwydd bod yna ddiffyg gwelyau. Does dim byd newydd yn hyn; rydyn ni i gyd yn clywed y straeon yma. Ond dydy pethau ddim yn gwella, ac mae gen i ofn bod datganiadau a dadleuon ar iechyd yn amser y Llywodraeth wedi mynd yn bethau prin yn ddiweddar. Yng ngoleuni hynny, mi fyddwn i yn gwerthfawrogi cael y cyfle hwnnw ar frys i drafod yr argyfwng yn y gwasanaeth iechyd, a hynny cyn i'r gaeaf ddechrau brathu o ddifri.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl fyrddau iechyd ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, ond rydym ni'n amlwg yn cydnabod bod llawer o heriau, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cwrdd â'r gwasanaeth ambiwlans—rwy'n credu mai bythefnos yn ôl oedd hi, ond efallai mai'r wythnos diwethaf oedd hi—i drafod materion o ran nifer yr ambiwlansys nad ydyn nhw'n gallu rhoi cleifion i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys mor gyflym ag y byddem ni ei eisiau. Bydd dadl arall, yn amlwg, ar iechyd yn amser y Llywodraeth, ac yn sicr, fe wnaf edrych i weld a yw hwn yn bwnc y gallem ni ei gynnwys yn hynny.

Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog Iechyd, gan ailadrodd yr hyn y dywedodd ein cyd-Aelod Ken Skates, am ddatganiad brys ynghylch y nifer uchel o achosion o strep A a'r dwymyn goch yng Nghymru. Fe wnes i gyflwyno cwestiwn brys ynglŷn â hyn ond, yn anffodus, ni chafodd ei dderbyn. Felly, rydw i'n defnyddio'r datganiad busnes yma fel y ffordd gyflymaf o sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o faint o rieni, teuluoedd, neiniau a theidiau a gofalwyr sydd wir yn pryderu. Mae'r achosion parhaus o strep A a'r dwymyn goch a'r cymhlethdodau eraill y gall eu hachosi wedi hawlio hyd yma, yn drist, fywydau naw o blant yng Nghymru. Mae hon yn drasiedi echrydus, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â phob un rhiant sy'n galaru. Mae wedi gadael llawer o deuluoedd yn poeni'n fawr am yr hyn y dylen nhw ei wneud nesaf. Roedd etholwr i mi â dau o blant wedi'u heintio, a oedd a dweud y gwir, yn yr adran damweiniau ac achosion brys ddoe, ac wedi aros naw awr a hanner i gael eu gweld, ac eto rydym ni'n cael gwybod bod cyflymder yn hanfod wrth sicrhau ein bod ni'n cadw ein plant yn ddiogel. Mae canllawiau diweddara'r DU ar achosion o'r dwymyn goch yn dweud bod modd defnyddio gwrthfiotigau i helpu i atal achosion newydd o strep A mewn lleoliadau fel ysgolion, ond y dylai penderfyniad gael ei wneud gan dimau rheoli achosion lleol fesul achos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni ddull cydgysylltiedig ar draws pob rhan o'r DU fel y gall rhieni ac ysgolion fel ei gilydd dderbyn y cyngor cliriaf posibl ynghylch beth i'w wneud.

Nawr, gwnaethoch chi sôn cyn hynny efallai y bydd y Gweinidog yn cyflwyno un heddiw, ac yn sicr rhywbeth yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae angen rhywbeth arnom ni heddiw, Trefnydd, yn wir—mae'n drueni na chafodd ei godi gan y Gweinidog ei hun, oherwydd mae cymaint o gwestiynau. Mae un etholwr, a oedd yn gorfod mynd o gwmpas chwe lle yn chwilio am wrthfiotigau, wedi gofyn i mi, felly mae angen i ni sicrhau bod gennym ni bopeth yn ei le i frwydro yn erbyn hyn ac nad oes gennym ni'r rhieni a'r teuluoedd yma yn pryderu gymaint. Felly, rydym ni eisiau cael datganiad llafar, lle gallwn ni ofyn cwestiynau i'r Gweinidog. Nid yw hi'n ddigon da dim ond rhoi datganiad y tu allan i'r Siambr hon. Diolch. 

14:55

Bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei ddosbarthu'r prynhawn yma, ond a gaf i ddim ond—

Fe fydd yna ddatganiad ysgrifenedig y prynhawn yma, ond, os caf i egluro, oherwydd fe ddywedodd yr Aelod, rwy'n credu, mai naw o blant a fu farw, yn drist iawn, yng Nghymru—yn y DU yw hynny. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi, er hynny, mai achosion trist tu hwnt yw'r rhain i gyd.

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd—Y Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon 1

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar newid hinsawdd a'r datganiad terfynol ar gyllideb garbon 1. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Llywydd, fis diwethaf, daeth arweinwyr y byd at ei gilydd yn COP27 i ganolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd. Yn dilyn trafodaethau anodd, roedd yna obaith a siom fel ei gilydd. Roedd gobaith yn y cytundeb i'r gwledydd datblygedig greu cronfa mor gynnar â'r flwyddyn nesaf i dalu am unrhyw golledion a difrod. Bydd y gronfa yn cefnogi'r gwledydd a'r cymunedau mwyaf agored i niwed yn eu brwydrau gydag effeithiau newid hinsawdd. Ond fe ddaeth siom o beidio â gwneud rhagor o gynnydd ar ddileu tanwyddau ffosil yn raddol, yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru iddo yn COP26 drwy ymuno â'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy.

Yr wythnos hon yw dechrau COP15, nid COP hinsawdd, ond COP bioamrywiaeth, y byddaf i'n bresennol ynddi. Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur wedi eu plethu ynghyd ac nid argyfyngau byd-eang pell i ffwrdd yn y dyfodol mohonyn nhw. Mae'r argyfwng cyfunol hwn ar ein gwarthaf eisoes, ac mae'n rhaid i'n gweledigaeth, ein huchelgais a'n gweithredoedd lunio dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bawb ohonom ni.

Ym mis Mehefin, gwnaeth fy natganiad ysgrifenedig i'r Senedd dynnu sylw at gyhoeddi'r data diweddaraf ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn y datganiad, roeddwn i'n dweud bod y data crai yn dangos ein bod ni wedi cyrraedd ein targedau cyllideb garbon 1. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi ein datganiad deddfwriaethol terfynol hefyd ar gyfer ein cyfnod cyllidebol cyntaf ym mis Rhagfyr. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'r gyllideb garbon gyntaf a tharged dros dro 2020 i leihau allyriadau. Yn dilyn cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, fe wnaethom ni bennu targed dros dro ar gyfer 2020 sef gostyngiad o 27 y cant mewn allyriadau o'i gymharu â'n blwyddyn waelodlin sef 1990. Gwelodd ein cyfrif allyriadau Cymru net terfynol ar gyfer targed interim 2020 ostyngiad o 39 y cant. Felly, mae targed dros dro 2020 nid yn unig wedi'i gyrraedd ond rhagorwyd arno hefyd. Gosodwyd y gyllideb garbon gyntaf ar ostyngiad o 23 y cant o ran gostwng allyriadau cyfartalog o'i gymharu â'n blwyddyn waelodlin. Gwelwyd gostyngiad o 28 y cant yng nghyfrif allyriadau net terfynol Cymru. Felly, cyrhaeddwyd a rhagorwyd ar ein cyllideb garbon gyntaf hefyd.

Rwy'n cyhoeddi felly 'ddatganiad terfynol' Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol a'r flwyddyn dros dro fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Y datganiad terfynol hwn yw'r cyntaf o'i fath i Gymru ac mae'n adroddiad ffeithiol sy'n edrych yn ôl ar gyllideb garbon 1. Mae'n nodi ein methodoleg gyfrifyddu a'r rhesymau pam y gwnaethom ni gyrraedd ein targedau. Yn bwysig iawn, mae'r datganiad terfynol yn cynnwys atodiad sy'n amcangyfrif ôl troed allyriadau defnydd Cymru ar gyfer cyfnod y gyllideb carbon. Rydym ni'n amcangyfrif bod allyriadau defnydd wedi amrywio ychydig, gyda chynnydd bach o tua 2 y cant, dros gyfnod y gyllideb y mae'r data ar gael ar ei gyfer. Er hynny, yn gyffredinol ers 2001, mae'r flwyddyn gyntaf o ddata sydd ar gael, mae'r amcangyfrifon o allyriadau defnydd wedi dangos tuedd gyffredinol sy'n gostwng, gan ostwng tua 27 y cant. Oherwydd yr ystadegau a oedd ar gael, ni fu'n bosibl cyfrifo'r ôl troed ar gyfer cyfnod y gyllideb gyfan. Mae'r adroddiad yn ymdrin â chyfnod 2016-19 ac fe fydd diweddariad felly i'r atodiad yn 2023 ar ôl i'r data gael eu derbyn a'u dadansoddi. Er bod y datganiad hwn yn gadarnhaol, rwy'n cydnabod bod heriau o'n blaenau ni, ac mae angen i ni wneud llawer mwy i gyflawni ein hail gyllideb garbon ar gyfer 2021-26. Nid nawr yw'r amser i laesu dwylo, ac mae'n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gyflawni Cymru Sero Net.

Rwy'n falch felly o roi gwybod i'r Senedd hefyd y byddaf i'n lansio galwad am dystiolaeth ar drawsnewid cyfiawn tuag at sero net yng Nghymru. Roedd ein polisi cyntaf yn Cymru Sero Net yn ymrwymo i drosglwyddo i sero net gyda chyfiawnder cymdeithasol wrth hanfod hynny. Rydym ni bellach yn chwilio am dystiolaeth i nodi lle gallai effeithiau negyddol a chyfleoedd ymddangos a lle gallent grynhoi. Ein nod yw casglu'r dystiolaeth ar arfer gorau. Rydym ni'n chwilio hefyd am dystiolaeth o angen i'n cymunedau, ein heconomi a'n seilwaith, er mwyn i ni weld lle gellir targedu cymorth i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn. Heddiw, mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi 'Cynllun Strategol Sero Net Llywodraeth Cymru', a fydd yn amlinellu sut mae'r sefydliad hwn yn bwriadu cyrraedd sero net, ac fe fydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cynllun sgiliau sero net y flwyddyn nesaf. Mae'r rhain i gyd yn gamau gweithredu pwysig yn Cymru Sero Net.

Wrth gwrs, mae'r hinsawdd eisoes yn newid fel mae'r achosion cynyddol o dywydd dinistriol yn profi yn fyd-eang. Maen nhw'n ein hatgoffa mewn ffordd sobreiddiol, yn ogystal â lleihau allyriadau, fod angen i ni feithrin cydnerthedd i hinsawdd sy'n newid hefyd. Mae newid hinsawdd yn dod â risgiau i'n cymunedau, ein seilwaith, ein hadnoddau naturiol a'n hiechyd y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw. Felly, yn olaf, heddiw, rwy'n falch o roi gwybod i'r Senedd fy mod i'n cyhoeddi adroddiad cynnydd ar ein cynllun addasu newid hinsawdd cenedlaethol pum mlynedd presennol, 'Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd'. Mae'r adroddiad yn dangos y gwaith enfawr yr ydym ni'n ei wneud eisoes i fynd i'r afael â'r risgiau sy'n deillio o newid hinsawdd, ond, fel yn achos ein hymdrechion i liniaru'r hinsawdd, mae'n rhaid i ni wneud rhagor, ac fe wnawn ni hynny.

Mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion arweiniol a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol a'r argyfwng hinsawdd wrth wraidd ein camau ar gyfer y tymor hwn o'r Senedd, ac mae o'r pwys mwyaf i mi ein bod ni'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru a dyfodol ein plant. O ran cyhoeddiadau heddiw, mae'r gwaith gwirio a chysodi terfynol yn cael ei wneud a chaiff y dogfennau terfynol eu gosod gerbron Senedd Cymru a'u huwchlwytho i'r wefan erbyn diwedd y tymor hwn. Diolch.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Fe hoffwn i ddechrau drwy longyfarch pobl Cymru, a diolch i chi am y datganiad, Gweinidog. Mae hi wedi cymryd ymdrech ledled y wlad i gyflawni'r gyllideb garbon gyntaf a tharged dros dro lleihau allyriadau 2020, ac, o'r herwydd, fe ddylai pawb sy'n rhan o hyn fod yn falch. 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' oedd eich cynllun ar gyfer cyflawni cyllideb garbon y cynllun cyntaf 2016-20 a tharged dros dro 2020. Roedd yn cynnwys 100 o bolisïau a chynigion ar draws portffolios gweinidogol. Fodd bynnag, rydym ni'n gwybod mai'r sector ynni oedd yn dominyddu'r gostyngiadau, a oedd yn gyfrifol am 85 y cant o gyfanswm y gostyngiad mewn allyriadau rhwng 2016 a 2018. Yn wir, fe gyfrannodd arafu a chau gorsaf bŵer glo Aberddawan hyd at 55 y cant o gyfanswm y gostyngiad o ran allyriadau rhwng 2016 a 2020. Felly, gan gofio'r orddibyniaeth a fu hyd yn hyn ar ostyngiadau yn y sector ynni, a wnewch chi roi diweddariad inni ar a ydym ni'n gweld patrwm o'r fath yn ystod y gyllideb garbon bresennol, ac, os felly, pa gamau brys fydd yn cael eu cymryd i geisio cyflawni gostyngiadau eang?

Fel gwyddoch chi, roedd 'Cyllideb Garbon 2 Cymru Sero Net (2021 i 2025)' yn nodi 123 o bolisïau a chynigion gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud y byddwch chi'n cyhoeddi adroddiad cynnydd ar eich cynllun addasu newid hinsawdd cenedlaethol pum mlynedd cyfredol chi, ond a wnewch chi amlinellu heddiw faint o'r 123 o bolisïau a chynigion sydd ar eu ffordd i gael eu gweithredu hyd yn hyn? Dim ond drwy ystyried y darlun ehangach hwn ac ysgwyddo ein cyfrifoldeb byd-eang y gallwn ni wir ddiogelu ein byd gwerthfawr er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.

Roedd adroddiad 2020 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, 'Land use: Policies for a Net Zero UK', yn amlygu na ddylai allyriadau amaethyddol gael eu hanfon dramor. Rwy'n dyfynnu:

'Ni ddylai cyflawni lleihad allyriadau fod ar draul cynhyrchu llai o fwyd yn y DU a chynyddu mewnforion. Gan fod y DU yn gynhyrchydd nwy tŷ gwydr cymharol isel o gig cnoi cil'—

o gymharu â chyfartaleddau byd-eang—

'mae hyn yn peryglu allforio allyriadau dramor a chynyddu allyriadau defnydd.'

Nawr, ar 9 Tachwedd, pleidleisiodd y Senedd Cymru hon yn unfrydol o blaid cynnig a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru, er enghraifft, i ddatblygu system fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru, gan ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi a chamfanteisio cymdeithasol yn rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy a gynhyrchir yn lleol, a chefnogi ffermwyr Cymru hefyd i ddileu porthiant da byw sy'n cael ei fewnforio sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor, a chefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol hefyd gyda'r nod o warchod ac adfer coedwigoedd yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau.

Felly, fy nghwestiwn olaf i, Gweinidog: pa gynnydd ydych chi wedi'i wneud o ran y camau hynny y gwnaethom ni bleidleisio i chi ymgymryd â nhw? Ac o gofio'r hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr am yr allyriadau sy'n cael eu hachosi gan Gymru drwy'r nwyddau a'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu defnyddio, pa brosiectau fyddwch chi'n eu cefnogi yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau? Pa gynnydd ydych chi wedi'i wneud o ran sefydlu ffordd o ddehongli'r targed 30x30? Diolch i chi. Diolch.

15:05

Diolch i chi, Janet. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi fod llawer o'r hyn y gwnaethom ni ei gyflawni, wrth gwrs, yn bosibl drwy gydweithio â phobl a chymunedau Cymru, ac mae hynny'n golygu cymunedau mewn ystyr ddaearyddol ond hefyd cymunedau o fuddiant hefyd fel, er enghraifft, ein busnesau, ein diwydiannau, ein sector amaethyddol ac yn y blaen. Felly, rwy'n ymuno yn gyfan gwbl â chi yn hynny—fe fyddwn i'n gwneud hynny yn uwch, ond, fel y gallwch chi glywed, rwy'n cael ychydig o drafferth gyda fy llais heddiw.

O ran allyriadau'r sector, mae gennym ni bum sector—felly, ynni, trafnidiaeth, diwydiant, gwastraff a nwyon wedi'u fflworideiddio—sydd wedi gweld gostyngiadau mawr yn eu hallyriadau dros y cyfnod. Rydych chi'n hollol iawn fod hynny wedi digwydd i ryw raddau oherwydd ein bod ni wedi cau gorsaf bŵer Aberddawan, ac mae hynny, wrth reswm, yn gwneud hi'n bwysicach fyth ein bod ni'n llwyddo i gau gweddill y gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil, gan gynnwys y pwerdai nwy yng Nghymru, cyn gynted ag y bo hynny'n bosibl. Ac felly, sicrhau ein bod yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd ynni adnewyddadwy ledled Cymru yw'r sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi hi.

Felly, mae dau sector, mewn adeiladau ac amaethyddiaeth, wedi gweld newid mwy cyfyngedig o ran allyriadau dros y cyfnod. Mae'r—rwy'n gorfod chwiolio am hwn bob tro—LUCF, sef y sector newid tir a choedwigaeth, wedi gweld gostyngiad sylweddol ym maint y ddalfa y mae'n ei darparu dros y cyfnod, er ei bod yn parhau i fod yn ddalfa ac wedi cyflawni'r cyfraniad disgwyliedig.

Mae'r gostyngiadau mewn allyriadau yn cael eu hysgogi gan batrymau sy'n newid o ran gweithgareddau defnyddio a chynhyrchu yng Nghymru, sy'n cael eu holrhain gan 57 o'r dangosyddion haen 2. Fe wnaethoch chi ofyn i mi pa rai oedd ar darged a pha rai nad oedd. Mae dau ddeg wyth o'r dangosyddion gweithgaredd yn wyrdd, gan gynnwys cynnydd mawr yn y gyfran o gynhyrchu trydan o ynni adnewyddadwy, gostyngiadau mawr yng nghyfran y gwastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi a gostyngiad sylweddol yn nefnydd trafnidiaeth o ynni a defnydd ynni diwydiannol.

Y sectorau a welodd y cyfrannau uchaf o ddangosyddion haen 2 â sgôr gwyrdd oedd ynni ar 89 y cant, am y rhesymau yr ydym ni newydd eu trafod; gwastraff ar 75 y cant, o ganlyniad i berfformiad disglair Cymru o ran ailgylchu, unwaith eto diolch i bobl Cymru; ac yn y sector cyhoeddus, a ysgogwyd gan ein huchelgais i'r sector cyhoeddus ddatgarboneiddio erbyn 2030. O'r dangosyddion gweithgaredd sy'n weddill, roedd saith yn goch, 11 yn ambr ac nid oedd modd graddio 11.

Y sectorau a welodd y cyfrannau isaf o ddangosyddion haen 2 â sgôr gwyrdd oedd y sectorau newid defnydd tir a choedwigaeth, adeiladau ac amaethyddiaeth. Felly, mae adeiladau wedi gwneud yn arbennig o wael ac ar 17 y cant yn unig y mae amaethyddiaeth. Yr hyn a ddywed hynny wrthym ni, Janet, yw bod angen taro'r cydbwysedd unwaith eto, i ryw raddau, o ran ein dulliau ni o fynd i'r afael â rhai o'r pethau hyn.

Nid diben hyn mewn unrhyw ffordd yw dwrdio ein ffermwyr, er enghraifft, ond mewn amaethyddiaeth, os edrychwn ni ar hynny ar ei ben ei hun, rydym ni wedi gweld nifer o gynlluniau i gefnogi ffermwyr trwy'r rhaglen datblygu cig coch, rhaglen gwella cynhyrchion llaeth, grant cynhyrchu cynaliadwy a Chyswllt Ffermio. Cafwyd cynnydd o 6 y cant yng nghyfanswm arwynebedd tir amaethyddol rhwng 2016 a 2020, a gostyngiad bychan yn arwynebedd tir amaethyddol rhwng 2018 a 2020, ond fe gynyddodd yr allbwn fesul hectar gan dir 3 y cant. Felly, mae yna rai ystadegau cymhleth iawn yn gysylltiedig â hyn.

Bu cyflawniadau o ran rhai meysydd polisi allweddol, ac mae allyriadau wedi gostwng yn gyffredinol dros gyfnod y gyllideb garbon 1, ond nid yw allyriadau wedi gostwng ar y gyfradd a ragwelwyd ar lwybr y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac nid yw'r cyfraniad disgwyliedig, felly, yn ôl llwybr 2020 wedi cael ei fodloni eto. Ond wedi dweud hynny, y rheswm y gwnaethom ni gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy yw i helpu ein sector amaethyddol i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i gyrraedd sefyllfa foddhaol.

Y sector arall yw adeiladau, ac rwy'n rhagweld y bydd fy nghydweithiwr i fy ffrind Jenny Rathbone yn gofyn i mi yn y man, felly rwyf am roi'r ateb i hynny iddi hi, ond, yn y bôn, mae angen i ni wneud llawer mwy i ôl-osod ein hadeiladau hefyd. Diolch.

Gweinidog, mae'n ddrwg gen i glywed eich bod chi'n anhwylus; gobeithio y byddwch chi'n teimlo yn well yn fuan. Mae hon, yn wir, yn foment bwysig ac mae angen ei dathlu; er bod hynny'n anghydnaws, wrth gwrs, wrth edrych ar y darlun llwm iawn a welwn ni'n fyd-eang, yn fy marn i, yn amlwg, byddai hi'n esgeulus i ni beidio â gwneud hynny. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dod i'r casgliad nad oes llwybrau credadwy ar waith ar hyn o bryd o leiaf i gyfyngu ar wresogi byd-eang hyd i lai na 1.5 gradd, ac mae'r angen i gyflymu cynlluniau datgarboneiddio mor enbydus oherwydd hynny. Rwy'n credu bod y trychineb aruthrol hwn ar y naill law a'r ffenestr gyfle sydd gennym ni mor fach, a'r gwahaniaeth rhwng y ddau beth yna sydd mor gignoeth.

Rwy'n falch, oherwydd y cytundeb cydweithredu, ein bod ni wedi helpu i sicrhau mwy o bosibilrwydd o gyrraedd sero net erbyn 2035. Rwy'n falch o'r ymrwymiad i sefydlu Ynni Cymru, ond eto, yn gefndir i hyn yn fyd-eang, ac yn ddomestig hefyd, mewn gwirionedd—mae tueddiadau pryderus yn nes at adref, fel yr arafiad ers 2015 o ran datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, yr argyfwng costau byw, sydd ag effaith ar bob elfen o bolisi, y cyfyngiadau ar gapasiti ein grid, a'r ffaith ein bod yn disgwyl o hyd am fwy o ddatganoli pwerau dros y rhwydwaith rheilffyrdd a rheolaeth ar Ystad y Goron. Gweinidog, a wnewch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, ar grid ynni Cymru yn y dyfodol ar gyfer prosiect sero net, a dweud wrthym ni a oes unrhyw gynnydd wedi bod o ran mynd i'r afael â'r arafiad yn natblygiad ynni adnewyddadwy ers 2015? Fe fyddwn i'n ddiolchgar i gael gwybod a yw Llywodraeth Cymru, yn enwedig ers mis Mehefin eleni, wedi codi mater diffyg capasiti y grid yng Nghymru yn y fforymau rhyng-weinidogol perthnasol, ac os felly, beth fu'r ymateb i hynny, os gwelwch chi'n dda?

Yn ogystal â hynny, rwy'n gwybod ynglŷn â chynllun sero net Cymru, mae modelu Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod Cymru ar y trywydd iawn—ac fe gododd hyn eisoes—i fodloni cyllideb garbon 2; mae gostyngiad o 37 y cant yn hynny, ac fe fydd yn sicrhau gostyngiad o 44 y cant yn erbyn y waelodlin. Rydych chi wedi ymrwymo i gynllun a ddiweddarwyd i wella'r gyllideb ac rydych chi'n ystyried asesiadau o effaith penderfyniadau gwario o ran carbon trwy hynny, a sut y gellid eu gwneud nhw'n fwy cadarn. A wnewch chi egluro, os gwelwch yn dda, Gweinidog, a yw'r ergydion disgwyliedig i allu eich Llywodraeth chi i wario ar wahanol bethau oherwydd yr argyfwng costau byw hwn yn cael unrhyw effaith ar y cynllun i wella'r gyllideb?

O ran targedau trafnidiaeth, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno bod diffyg datganoli'r maes hwn yn llwyr i Gymru yn amharu ar ein hymdrechion i gyrraedd y targedau o ran lleihau defnydd o geir ac ati, a bod y ffaith nad yw hyn wedi'i ddatganoli, wedi'r cyfan, wedi atal datblygiad rhwydwaith rheilffyrdd effeithiol ledled Cymru, ac rydym ni wedi colli allan ar arian mawr mewn cyllid canlyniadol Barnett o gynllun rheilffordd HS2?

Mae yna un pwnc yr hoffwn ei gwmpasu yn gryno i gloi—fe gododd hwnnw'n barod—sef defnydd tir. Rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth gynlluniau i gynyddu cyfraddau creu coetiroedd yn sylweddol erbyn 2050; rwy'n nodi'r pryder a godwyd eisoes ynglŷn â hyn, ynglŷn â'r gostyngiad o ran dal carbon o ddefnydd tir rhwng 2019 a 2020. Rwyf innau am ategu'r pryder a fynegwyd eisoes ynglŷn â hynny. Ni fyddwn i'n dymuno i'r Gweinidog orfod ailadrodd y mae hi wedi'i ddweud eisoes, ond a oes unrhyw beth pellach yr hoffai hi ei ddweud ynglŷn â hynny, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni a wnaethpwyd unrhyw asesiad o'r goblygiadau yng Nghymru yn sgil cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer eu proses arfarnu rheoliadau cynefinoedd, os gwelwch chi'n dda? Diolch.

15:10

Ie, diolch yn fawr iawn i chi, Delyth, am y gyfres yna o bethau. Felly, gan fynd drwyddyn nhw yn eu trefn, ydym, rydym ni'n bendant yn codi'r materion ynglŷn â'r grid bob un tro y byddaf i'n cwrdd ag unrhyw un sy'n berthnasol iddo mewn grŵp gweinidogol—rydym ni'n ei godi. Rwyf i yn y ciw i weld y Gweinidog ynni newydd. Rwy'n gobeithio y bydd yn aros yn y swydd yn ddigon hir i mi weld yr un hwn mewn gwirionedd—gadawodd yr un olaf ei swydd cyn i mi ei weld. Rydym ni'n chwilio am sicrwydd y bydd y dyluniad rhwydwaith cyfannol a gafodd ei drafod gyda'r Gweinidog, flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, mae'n ymddangos, ond dim ond ychydig fisoedd yn ôl yr oedd hi, yn digwydd i Gymru. Rydym ni wedi trafod yn y Siambr hon lawer gwaith pam mae angen i'r dyluniad rhwydwaith hwnnw i fynd yn ei flaen a pham mae angen uwchraddio'r grid. Mae hi'n berffaith wir, ac mae pob un datblygwr adnewyddadwy yr ydym ni'n siarad â nhw, ac Ystad y Goron eu hunain, yn cytuno â ni ynglŷn â hyn, os ydym ni'n bwriadu symud cynhyrchiant sylweddol iawn o allu gigawat o'r môr Celtaidd i dir y de, ac mae gwir angen i ni wneud hynny, yna mae angen y capasiti grid hwnnw er mwyn i ni allu gwneud hynny. Rydym ni'n gwthio yn frwdfrydig iawn i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, ac fe fydd yna nifer o gyfarfodydd bord gron ac ymyriadau y byddwn ni'n cymryd rhan ynddyn nhw, ac yn wir yn eu cynnal, ym mis Ionawr a mis Chwefror y flwyddyn nesaf, i geisio sicrhau mai ni yw'r rhai sy'n symud gyntaf mewn rhai o'r meysydd hynny, ac yn sicrhau bod ein porthladdoedd ni mewn sefyllfa ragorol i allu manteisio ar yr hyn a fydd yn gyfle o bwys.

O ran yr argyfwng costau byw, mae hwn yn peri penbleth yn fyd-eang, on'd yw e? Felly, rydym ni'n ceisio rhoi arian ym mhocedi pobl yn y byrdymor ar gyfer ymdopi â'r argyfwng costau byw, oherwydd yn syml, ni all rhai pobl gadw dau ben llinyn ynghyd, ac ar yr un pryd rydym, wrth gwrs, yn hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac addasiadau hefyd, felly os yw eich tŷ chi mewn cyflwr da, po fwyaf y mae wedi'i addasu ar gyfer cadernid hinsawdd, y lleiaf o ynni y byddwch chi'n ei ddefnyddio, a'r mwyaf o arian sydd gennych chi yn eich poced. Os oeddech chi'n ddigon ffodus i allu fforddio gosod paneli solar ar eich to, yna rydych chi'n cael budd o hynny.

Rydym ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU hefyd, a dweud y gwir, i symud oddi wrth eu marchnad hurt nhw sy'n seiliedig ar bris ymylol nwy, a gwahanu'r farchnad ynni adnewyddadwy oddi wrth hynny. Yn hytrach, yn anffodus, maen nhw wedi cynnig cynllun i godi treth ffawddelw ar y cwmnïau adnewyddadwy, sy'n ymddangos yn hollol—. Wel, nid dyna y byddem ni'n ei wneud, mae hynny'n sicr. Rydym ni'n parhau i bwyso am hynny drwy'r amser ac yn amlwg, mae'r cwmnïau ynni adnewyddadwy yn gwneud hynny hefyd. Ond mae hynny o gwmpas arfordir Prydain i gyd. Mae gan Gymru adnoddau gwych o ran ynni adnewyddadwy, ond, mewn gwirionedd, mae gan Brydain i gyd gyfleoedd ynni adnewyddadwy gwych, felly nid yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr i mi nad yw'r Llywodraeth, sy'n cael ei rhedeg fel Llywodraeth i Loegr yn hynny o beth, yn gweld y cyfle ar gyfer hynny. Rydym ni'n sicr yn pwyso am hynny, ac roeddwn i mewn grŵp rhyng-weinidogol ddydd Llun lle'r oedd hwnnw ymhlith y pethau a gafodd eu trafod.

Y peth arall a drafodwyd oedd y bygythiad i'r rheoliadau cynefinoedd—Bil yr UE. Fe gawsom ni sicrwydd gan y Gweinidog a oedd yn y cyfarfod hwnnw—. Yn anffodus, nid Thérèse Coffey oedd yno, ac fe hoffwn i ei rhoi hi ar y cofnod, Dirprwy Lywydd, y byddem ni'n dymuno i'r Ysgrifennydd Gwladol fod yn bresennol, mewn gwirionedd, yn y cyfarfodydd, ac nid anfon Gweinidogion iau. Ond roedd y Gweinidog a oedd yno'n pwysleisio yn fawr wrth ddweud wrthym ni mai'r rhagdybiaeth yw y bydd pethau yn aros yn eu lle oni bai bod unrhyw reswm dilys iddyn nhw beidio â bod felly. Mae hi'n anodd iawn deall pa reswm dilys a fyddai'n golygu peidio â chadw at y gyfarwyddeb cynefinoedd. Serch hynny, fe fyddwn ni'n cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd, oherwydd fel arall fe fydd yn rhaid i ni ymgymryd â rhaglen gyflym iawn i wneud yn siŵr y bydd y rheoliadau cynefinoedd hynny yn aros yn weithredol yng Nghymru. Ond fe allaf i eich sicrhau chi mai dyna yw ein bwriad ni.

O ran defnydd tir, un o'r rhesymau yr wyf i am fynd i COP15 yw am fod bioamrywiaeth yn dibynnu yn llwyr ar ein gallu ni i ddefnyddio tir yn y ffordd orau. Nid coedwigoedd yn unig yw'r dalfeydd carbon hyn, dim ond i fod yn eglur—y mawndiroedd ydyn nhw, y meysydd blodau gwylltion ydyn nhw, y tiroedd glaswellt hir ydyn nhw lle mae'r gylfinir yn nythu ledled Cymru y mae angen iddyn nhw fod yn rhyng-gysylltiedig ac y mae eu hangen nhw arnom ni i fod yn gynefinoedd. Wrth wneud hynny, rydym ni ar ein hennill ddwywaith, on'd ydyn ni? Fe fyddwn ni â mwy o amddiffyniad i'n bioamrywiaeth, ond fe fyddwn ni â'r ddalfa garbon hefyd sy'n gwbl angenrheidiol i ni ar gyfer gwrthsefyll yr hyn sydd ar ddod.

15:15

Diolch yn fawr iawn i chi. Rwyf innau'n eich llongyfarch chi a'ch holl randdeiliaid am gyflawni'r targedau dros dro a'r targedau allyriadau net, oherwydd rwy'n credu mai ardderchog o beth yw hynny. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r cynllun gweithredu strategol sero net yr ydych chi'n ymrwymo i'w gyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos hon, ac yn arbennig felly'r atodiad i'r datganiad terfynol, oherwydd rwy'n awyddus i ofyn i chi beth sydd ynddo ynghylch yr ôl troed carbon sydd gan Gymru o ran bwyd, oherwydd yn amlwg fe fydd hynny'n helpu i roi gwybod i ni sut ydym ni am leihau hwnnw, oherwydd hwnnw sy'n cyfrannu fwyaf yn unigol at gyfanswm carbon unigolion, yn hytrach na phenderfyniadau ar raddfa fawr a wneir gan y Llywodraeth. 

Rwy'n cytuno nad oes lle i laesu dwylo yn hyn i gyd, a bod y blaned yn wynebu sefyllfa enbyd iawn os nad ydym ni'n gweithredu nawr. Roedd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd', a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Mai, yn galw am strategaeth hirdymor eglur ar gyfer datgarboneiddio i roi'r hyder sydd ei angen ar ddiwydiant i fuddsoddi mewn sgiliau, technoleg a phobl. Fe wnaethom ni ofyn hefyd a allai'r cynllun gweithredu sgiliau sero net gael ei gyhoeddi erbyn mis Gorffennaf fan bellaf. Rydym ni'n cael gwybod nawr na fydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Rhagfyr, hyd yn oed. Mae hynny'n peri rhywfaint o siom i mi, ac fe hoffwn i wybod os nad y mis hwn, yna pryd yn union yn ystod y flwyddyn nesaf, oherwydd mae gwir angen hwnnw i sicrhau'r holl ddatgarboneiddio o'n tai gan weithio gyda'n gilydd.

Diolch yn fawr i chi, Jenny. Un o'r pethau a welwch chi pan gyhoeddwn ni'r cynllun hwn erbyn diwedd yr wythnos hon yw ffeithlun defnyddiol iawn, sydd, Dirprwy Lywydd, yn digwydd bod, yn y copi brys sydd gennyf i o fy mlaen i yma. Beth mae hynny'n ei ddangos yw rhai o'r ystadegau yr oeddwn i'n eu rhoi wrth ymateb i Janet Finch-Saunders. Mae'n nodi yn daclus iawn pa ddangosyddion sy'n goch ac yn ambr a pham felly, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yn eu cylch. Mae amaeth a bwyd yn un o'r rhain, yn amlwg. Fe fyddwch chi'n gallu gweld bod yna amrywiaeth o wyrdd, ambr a rhai sydd heb eu graddio eto. Fe wnes i sôn ychydig yn fy natganiad am rai o'r data yr ydyn ni'n parhau i ymchwilio iddyn nhw, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi atodiad ar ôl i'r data gael eu dadansoddi.

Un o'r problemau mawr i ni yw lleihau ein hôl troed carbon wrth gynhyrchu bwyd, a sicrhau bod ein dalfa garbon ni'n aros yn ei lle, oherwydd, yn bryderus iawn, mae'r ddalfa garbon, er ei bod wedi perfformio fel y byddem ni wedi dymuno ar gyfer cyllideb 1 carbon, yn amlwg yn lleihau. Ac felly, un o'r amcanion pwysicaf wrth i mi fynd i COP15 a cheisio sicrhau ein bod ni â rhan lawn yn hynny o beth, yma yng Nghymru, yw ein bod ni'n gallu cynnal a chynyddu'r ddalfa garbon a weithredwn ni, nid yn unig at ein dibenion ein hunain ond at ddibenion gweddill y byd. Dyna pam nad ydym ni'n petruso o ran pwyso am goedwig genedlaethol, a'r cynlluniau coedwigoedd, ond y rhaglen i adfer mawndiroedd hefyd, yr wyf i'n falch iawn fy mod i wedi gallu ei threblu hi'n ddiweddar iawn. Hefyd, rydym ni, ynghyd â Llywodraeth y DU, ar fin gwahardd gwerthu mawn yn gyfan gwbl, ac nid cyn pryd ychwaith. Felly, mae'r pethau hyn yn bwysig iawn ac mae gwir angen i bobl eu cefnogi nhw.

Ond mae angen i ni fod â chynhyrchiant bwyd o ansawdd da sy'n lleol. Hynny yw, yn amlwg iawn, mae lleihau pellteroedd cludiant yn fuddiol o ran lleihau allyriadau carbon, ond mewn gwirionedd, os yw ansawdd y bwyd o ran maeth yn dda, mae hynny'n fuddiol iawn i'n ffermwyr ni hefyd, ac felly mae popeth er budd pawb yn hyn i gyd. Beth allai fod yn annymunol yn hyn? A dim ond ar gyfer gwneud y pwynt a wnaeth Arglwydd Deben ar ddechrau Wythnos Newid Hinsawdd mewn gwirionedd, ac mae hwnnw'n bwynt dadleuol hefyd: nid yw hyn yn ymwneud â deiet o blanhigion; mae'n ymwneud â deiet sy'n gynaliadwy, ac mae deiet cynaliadwy yn un sy'n deall sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu ac yn gwneud dewisiadau yn unol â hynny. Felly, mae'n ddrwg gen i, os ydych chi'n bwyta potsh afocado ar eich tost ar foreau Sul, yna rydych chi'n mentro i diriogaeth ddyrys iawn sy'n defnyddio llawer iawn o ddŵr, sy'n araf iawn i addasu i newid hinsawdd. Fe fyddai hi'n llawer gwell i chi gael tafell o gig moch lleol—ac rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi bod yn llysieuwr ar hyd fy oes. Mae hi'n bwysig iawn deall o ble mae bwyd yn dod, sut mae'n cael ei gynhyrchu, a sut mae'n cyrraedd ein bwrdd ni, ac yn y ffordd honno, fe fyddwch chi'n rhoi budd i gynhyrchwyr bwyd lleol.

Y peth arall i'w ddweud yw nad drwg o beth yw bod bwyd yn dod o bell bob amser. Mewn gwirionedd, mae masnach fyd-eang sy'n cefnogi mentrau cydweithredol a masnach deg menywod, a bwyd a gynhyrchir mewn ffordd weddaidd dramor, yn ein helpu i ymladd yn erbyn effeithiau newid hinsawdd yn fyd-eang hefyd, am fod hynny'n helpu pobl leol i addasu i'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i allu cynhyrchu ac allforio, ar gyfer gwneud eu cymdogaeth nhw a'u bro eu hunain yn fwy cynaliadwy. Rwy'n falch iawn o'r gwaith a wnaeth Cymru gyda rhaglen Cymru ac Affrica a'r rhaglenni ailgoedwigo a gawsom ni yn Mbale. Mae honno'n enghraifft dda iawn—mae hynny'n bell i ffwrdd, ond, mewn gwirionedd, mae'r fasnach fyd-eang wedi cynyddu dalfa garbon y blaned gyfan, a'r bwyd a gynhyrchir yn lleol a choffi a gynhyrchir gydag uniondeb, o werth aruthrol mawr. Felly, pan fyddwch chi'n mwynhau eich coffi yn y boreau, a'r ffa wedi dod o Mbale, fe fyddwch chi'n gwybod, er gwaethaf y ffaith eu bod nhw wedi dod o bell i chi, eu bod wedi'u cynhyrchu yn gynaliadwy gan ffermwyr sy'n cael tâl iawn am wneud hynny. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth sydd ei angen arnom ni mewn cyfundrefn labelu ac o ran polisi prynu. Mae fy ffrind, Rebecca Evans, a minnau wedi bod yn trafod polisïau caffael sector gyhoeddus Cymru, yn seiliedig ar y math yna o gylch rhinweddol, ers cryn amser.

15:20
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Athrawon Cyflenwi

Eitem 4 yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y model athrawon cyflenwi. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles, i wneud y datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi am ddechrau drwy achub ar y cyfle yma i ddiolch i'n hathrawon cyflenwi unwaith eto am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac yn benodol am y cymorth hanfodol a roddon nhw i ysgolion yn ystod y pandemig—cyfnod a oedd, wrth gwrs, yn ansicr i bawb.

Rŷn ni'n gwybod bod athrawon cyflenwi a staff cymorth addysgu yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi ein pobl ifanc. Mae sawl adolygiad annibynnol wedi tynnu sylw at yr angen i wella telerau ac amodau a threfniadau gwaith athrawon cyflenwi a staff cymorth cyflenwi. Rŷn ni wedi gwneud cynnydd da dros y blynyddoedd diwethaf. Serch hynny, mae'n amlwg i mi fod yna fwy i'w wneud i sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael eu gwobrwyo'n briodol, bod mwy o ddewis i'n holl staff cyflenwi o ran sut y maen nhw'n cael eu cyflogi, a bod y gefnogaeth a'r cyfleodd dysgu proffesiynol sy'n ofynnol ar gael iddyn nhw er mwyn cyflawni eu rolau yn effeithiol.

Yn y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio, rŷn ni wedi ymrwymo i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, â gwaith teg wrth wraidd y model hwnnw. Heddiw, dwi am nodi sut y byddwn ni'n cyflawni'r ymrwymiadau ac yn cyflwyno diwygiadau i'r system addysg y mae eu hangen yn fawr. Er mwyn gofalu bod pob elfen o'r ymrwymiad yn cael sylw, rwyf wedi dynodi bod angen dull gweithredu holistaidd, gan ganolbwyntio ar ddiwygio mewn tri phrif faes, sef model cyflogaeth newydd i awdurdodau lleol, gwelliannau pellach i ddarpariaeth asiantaethau, a chyflog ac amodau athrawon cyflenwi sydd o fewn cwmpas y telerau statudol.

Mae penaethiaid a chyrff llywodraethu yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i staffio eu hysgolion a pha fath o gyflenwi sy'n bodloni eu gofynion orau. Gall ysgolion recriwtio staff cyflenwi yn uniongyrchol, drwy eu hawdurdod lleol, neu drwy asiantaeth gyflenwi. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan athrawon cyflenwi ynghylch cyflogaeth drwy asiantaethau preifat, sefydlwyd fframwaith asiantaethau cyflenwi y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2019, gan arwain at well cyflog ac amodau i staff asiantaethau, tryloywder ynghylch ffioedd, a mwy o reoleiddio ar asiantaethau.

Ar gyfer bwrw ymlaen â'r model newydd o gyflogaeth gan awdurdodau lleol, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y byddwn ni'n sefydlu platfform technolegol newydd ar gyfer archebu a fydd ar gael i awdurdodau lleol, ysgolion a staff cyflenwi o fis Medi 2023 ymlaen. Fe fydd y model yn cynnig llwybr ychwanegol i ysgolion ymgysylltu â staff cyflenwi a chynnig dewis i staff cymorth addysgu cyflenwi ac athrawon cyflenwi o ran sut y cânt eu cyflogi. Mae ymarfer caffael ar y gweill ar hyn o bryd, gyda'r contract i'w ddyfarnu yn nhymor y gwanwyn, a gweithrediad bob yn dipyn i ddilyn ar draws awdurdodau lleol o ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf. Fe fydd fy swyddogion i'n parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn y misoedd nesaf trwy ymgynghori ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid priodol. Ond ar y lleiaf, fe fydd y platfform yn galluogi staff cyflenwi i gofrestru eu hunain i weithio ac yn galluogi ysgolion i archebu athrawon cyflenwi yn uniongyrchol ar-lein.

Er y bydd llawer o fanylion o ran gweithrediad ymarferol y platfform yn dibynnu ar y darparwr llwyddiannus a'r system sydd ganddyn nhw ar waith, fe fydd athrawon cyflenwi yn gallu gweithio ar draws yr awdurdodau lleol ac yn gallu gweithio drwy asiantaethau pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny. Ni fydd y system hon yn cyflogi athrawon cyflenwi ei hun yn uniongyrchol; system fydd hon sy'n cael ei chynnal gan ei defnyddwyr a'i chefnogi gan bob sefydliad sy'n ei defnyddio hi. Felly, i sicrhau y bydd gan athrawon cyflenwi hawl i'r telerau statudol, gan gynnwys cynllun pensiwn athrawon, mae'n rhaid i'r platfform gysylltu â darparwr sector cyhoeddus. Mae trafodaethau yn parhau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â threfniadau i gefnogi elfen cyflog a phensiynau'r platfform, ac rwy'n rhagweld y bydd yr elfen bwysig hon o'r gwaith yn cael ei chytuno arni yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ynghyd â'r platfform, bydd y fframwaith GCC ar gael i ysgolion, staff cyflenwi ac awdurdodau lleol. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a gafodd ei wneud o ran y gwelliannau sydd wedi dod yn sgil y fframwaith. Rwyf i wedi rhoi ystyriaeth lawn i sut y gellir atgyfnerthu'r trefniadau cyfredol cyn y cytundeb nesaf, a fydd yn dechrau o fis Medi 2023, ochr yn ochr â'r platfform archebu. Fe fydd y fframwaith newydd yn cynnwys yr un gofynion â'r cytundeb presennol. Yn ogystal â hynny, fe ofynnir i asiantaethau ddangos sut y gallan nhw wella eu cynnig dysgu proffesiynol, ac ymgorffori'r hawl cenedlaethol i ddysgu proffesiynol yn nhelerau eu cyflogaeth nhw.

Caiff yr holl asiantaethau cyflogaeth eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Safonau'r Asiantaeth Gyflogaeth. Er nad yw'r fframwaith yn statudol, yn rhan o'r cytundeb newydd fe fydd yr arolygiaeth yn ystyried rhai agweddau ar dermau'r fframwaith wrth arolygu asiantaethau fframwaith, ac fe rennir y canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru. Fe fydd yn ofynnol i'r asiantaethau ffurfio partneriaeth â JobsAware hefyd ac arddangos eu logo ar slipiau cyflog i hyrwyddo arferion gweithio diogel a theg a chyfeirio eu gweithwyr at ganllawiau cyflogaeth. Amcan y mesurau hyn yw sicrhau cydymffurfiaeth yn y meysydd hynny nad ydyn nhw o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru a sicrhau bod gweithwyr asiantaeth yn gallu cael arweiniad a chefnogaeth o ran eu cyflogaeth.

Mae'r maes terfynol hwn o waith yn allweddol i'r diwygiadau hyn ac fe fydd yn sicrhau bod agwedd waith teg yr ymrwymiadau wedi'u hystyried yn llawn. Cafodd y cyfrifoldeb am gyflogau ac amodau athrawon ei ddatganoli yn 2018, ac roedd hynny'n gyfle i ystyried a allai cyflog, telerau ac amodau gwahanol fod yn berthnasol i swyddi a chyfrifoldebau amrywiol athrawon ac athrawon cyflenwi o fewn y system. Wrth i gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru gyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru o ran tâl ac amodau athrawon, fe ofynnwyd iddo gynnwys yr agwedd bwysig hon hefyd yn rhan o'i adolygiad strategol ehangach sy'n mynd rhagddo eleni. Fe fydd yr adroddiad a'r argymhellion gan gorff adolygu cyflogau annibynnol  Cymru yn cael eu hystyried yn llawn, ac unrhyw newidiadau a gyflwynir i'r telerau ac amodau statudol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.

Dirprwy Lywydd, mae hwn yn faes cymhleth y mae'n rhaid cydbwyso anghenion pawb o fewn y system ysgolion ynddo, gan gynnwys y dysgwyr a'r gweithlu ehangach mewn ysgolion. Yn fwy na dim, rwy'n ymwybodol bod yn rhaid i unrhyw fodel cyflogaeth cyflenwi newydd ddarparu ar gyfer athrawon cyflenwi, a bod yn gynaliadwy i ysgolion ei ddefnyddio a pheidio ag ychwanegu at lwyth gwaith staff ysgol. Rwy'n gobeithio bod y gwaith a amlinellais i'n rhoi sicrwydd i'r rhai sy'n ymgymryd â swyddi cyflenwi o ymrwymiad i newid yn y maes hwn. Mae'r adborth gan ein rhanddeiliaid allweddol ni wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer deall maint y diwygiadau sy'n angenrheidiol, ac o'r angen am welliannau ar draws ystod o feysydd ar gyfer sicrhau bod model cyflogaeth newydd yn addas i'w ddiben. Er bod gwaith eto i'w wneud, rwy'n hyderus y bydd y mesurau hyn yn arwain at welliant cynaliadwy ar draws y system addysg yn ei chyfanrwydd.

15:30

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae hi wedi bod yn eglur iawn ers tro erbyn hyn bod angen newid a diwygio patrymau gweithio athrawon cyflenwi ar fyrder. Talwyd mwy na £250 miliwn i asiantaethau am athrawon cyflenwi gan gynghorau Cymru ers 2016. Cynyddodd y galw am athrawon cyflenwi, wrth gwrs, yn fawr oherwydd y pandemig, ond hyd yn oed yn 2015, roedd costau athrawon cyflenwi awdurdodau lleol yng Nghymru dros £130 miliwn. Felly, er ein bod ni'n croesawu unrhyw welliannau i waith teg a chefnogaeth i athrawon cyflenwi fel gwnaethoch chi eu hamlinellu yn natganiad heddiw, nid yw'r datganiad hwn hyd yn oed yn dechrau ar y gwaith o dawelu'r pryderon a gododd adroddiad Cynulliad Cymru fel roedd hi ar y pryd yn ôl yn 2016 am y patrwm o weithio, pryd yr eglurwyd yn amlwg iawn bod angen diwygio mawr. Ac mae angen hynny; peth cymhleth ydyw ac mae hi'n amlwg nad yw'r un datrysiad yn addas ym mhob achos.

Felly, Gweinidog, beth sydd yn yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig heddiw sydd mor hanfodol wahanol i newidiadau blaenorol, ar wahân, wrth gwrs, i'r system archebu newydd ar gyfer cyfran yn unig o'r athrawon cyflenwi, a gofyn i asiantaethau wneud pethau nad ydyn nhw'n statudol? Hyd yn oed gyda'r system archebu newydd y gwnaethoch chi ei chynnig, mae'r un pryderon yn parhau o ran diogelu. Fe fydd y system archebu hon yn parhau i fod i awdurdodau lleol ac asiantaethau allanol. Felly, fe fydd y broblem a ddaeth i'r amlwg yn 2006 yn parhau i fod gyda ni. Pwy sy'n gyfrifol yn y pen draw—yr asiantaethau neu lywodraeth leol—oherwydd, yn sylfaenol, Gweinidog, nid oes unrhyw beth wedi newid? Fe fyddwch chi'n parhau i fod heb unrhyw allu i reoli asiantaethau allanol fel rhain.

A hefyd, Gweinidog, mae gan athrawon cyflenwi swyddogaeth hanfodol, wrth gwrs, ac rydym ninnau'n ymuno â chi heddiw i ddiolch iddyn nhw am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Yn aml, mae bod yn athro cyflenwi yn golygu dewis ffordd arbennig o fyw, ond oherwydd y gwahaniaethau enfawr o ran tâl, rydym ni'n gweld newid mawr ar hyn o bryd o athrawon llawn amser yn troi at fod yn athrawon cyflenwi oherwydd llai o waith a chael gwell tâl. Felly, sut fydd yr hyn y gwnaethoch chi ei gyhoeddi heddiw yn mynd i'r afael â hyn? Diolch i chi. 

Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Nid wyf i'n siŵr beth sydd gan yr Aelod i'w gynnig yn ddewis amgen ynglŷn â'r materion a amlinellais i. Os oes ganddi hi gynnig ymarferol, adeiladol i'w wneud, yn hyn o beth, neu yn wir mewn unrhyw faes arall o addysg, fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i glywed hynny. Ond rydym ni'n cael trafodaethau yn y sesiynau hyn o gwestiynau, ac mewn dadleuon, yn gyson iawn, a dydw i byth yn clywed unrhyw awgrym o ddewis amgen adeiladol i'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gyflwyno.

Rwy'n credu i mi amlinellu'r meysydd yr ydym ni'n gweithio ynddyn nhw yn fy natganiad, ac mae hwnnw'n bwnc cymhleth. Ac fe geir cyfyngiadau, fel rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ei ddeall, ar allu Llywodraeth ddatganoledig i dorri yn rhydd mewn maes sy'n aml yn cael ei gyfyngu i gyd-destun telerau ac amodau cyflogaeth. Mae hi'n gwybod hefyd na chafodd y gyfraith o ran asiantaethau ei datganoli. Ac, felly, mae yna gyfyngiadau yn dod gyda hynny, ac efallai nad yw hi'n llwyr werthfawrogi hynny yng nghyd-destun ei chwestiwn penodol hi. Fe hoffwn i ni fod mewn sefyllfa lle mae'r setliad datganoli yn caniatáu ystod ehangach o ddewisiadau i ni yn y Llywodraeth. Er hynny, rwy'n credu bod y dull triphlyg, yr ydym ni wedi bod yn cydweithio arno gyda Phlaid Cymru, yr amlinellais yn fy natganiad i, yn mynd at wraidd yr heriau y mae athrawon cyflenwi yn mynegi eu bod nhw'n eu hwynebu gyda'r cyfyngiadau sydd arnom ni oherwydd y setliad datganoli presennol.

Yn allweddol, mae'r platfform archebu yn caniatáu dewis o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus ar gyfer athrawon cyflenwi. Dyna yr ydym ni'n dymuno ei weld, yn sicr, ac fe wn i mai dyna mae Plaid Cymru yn dymuno ei weld hefyd. Nid wyf i'n siŵr ai dyna y mae'r Aelod o blith y Ceidwadwyr yn dymuno ei weld. Rydym ni mewn sefyllfa heddiw lle gallwn ni amlinellu'r egwyddorion sy'n rhoi sail i hynny. Felly, mae hyn yn caniatáu i athrawon gael eu cyflogi mewn ysgolion gan awdurdodau lleol, a gwneud hynny mewn ffordd hyblyg, y mae athrawon cyflenwi athrawon yn awyddus i'w wneud yn aml. Felly, mae hyn yn cydnabod bod elfennau penodol i batrymau cyflogaeth athrawon cyflenwi sy'n golygu bod angen ffordd hyblyg o wneud hyn.

Fy ngobaith i, fy uchelgais i—a Phlaid Cymru hefyd, rwy'n credu, ond efallai y bydd Heledd Fychan yn siarad ynghylch hyn—yw bod sefyllfa gennym ni o fod â llwyfan archebu sy'n ddewis arall deniadol o weithio drwy'r llwybr asiantaeth, a hwnnw fydd yn batrwm cyffredin ledled Cymru wedyn. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl bosibl yn yr hyn yr ydym ni'n ei gynllunio heddiw, yr hyn yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw. Rwy'n awyddus i weld sefyllfa lle mae'r cymysgedd o dri dull amgen, neu dri dull sy'n atgyfnerthu ei gilydd, mewn gwirionedd, a amlinellir yn y datganiad, yn ein harwain at y sefyllfa honno lle mae gan athrawon cyflenwi fargen well, a chyfle o fod â chyflogaeth uniongyrchol drwy gyflogwr sector cyhoeddus, a bod â'r gallu wedyn i hawlio gwell gwarantau a gwell telerau ac amodau sy'n dod yn sgil hynny. 

15:35

Diolch i'r Gweinidog, a diolch hefyd i'r Aelod dynodedig—diolch i'r ddau ohonoch chi am eich gwaith ar hyn. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ategu diolch y Gweinidog i'r athrawon llanw hyn, sy'n gwneud gwaith gwirioneddol bwysig. Dŷn ni wedi gweld, fel roeddech chi'n sôn, yn ystod COVID, wrth gwrs, yr heriau parhaus o ran hynny, pa mor allweddol maen nhw wedi bod i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg. Ac yn aml, maen nhw'n bobl brofiadol eithriadol—nifer o bobl sydd wedi ymddeol yn mynd nôl, ac ati, ac efo profiad mawr o allu rhoi nôl, ac ati, ac ategu profiad ein plant a'n pobl ifanc ni.

Dwi'n falch iawn ein bod ni, drwy'r cytundeb cydweithio, yn gytûn o ran na ddylid cynnal gwasanaeth er elw preifat, ac wrth gwrs, dydyn ni ddim yn mynd mor bell â hynny heddiw, ond yn sicr, mae hwn yn gam pwysig iawn tuag at hynny. Oherwydd yn sicr, dŷn ni wedi gweld bod asiantaethau preifat yn gallu gwneud elw mawr, ar draul, wedyn, telerau gwaith teg, ac yn sicr mae i'w groesawu ein bod ni'n mynd i'r afael â hynny.

Dŷn ni eisoes wedi bod yn trafod, jest o ran sut bydd pobl yn ymwybodol o'r system, a sut y byddwn ni'n annog. Ac mae'r cwestiwn oedd gen i, o ran yr ymgyrch hyrwyddo, i bobl fod yn ymwybodol bod y datblygiad yma'n dod, oherwydd, yn anffodus, dydy pawb ddim yn gwylio Senedd.tv, a ddim wastad yn edrych ar bob datganiad sy'n dod allan—dwi'n gwybod bod hynny'n siom aruthrol i ni i gyd. [Chwerthin.] Ond o ran sicrhau, wedyn, bod y rhai sydd angen gwybod yn mynd i'w galluogi gwybod am y system yma, pa gyfathrebiad sy'n mynd i fod, i sicrhau bod yr opsiwn yma a'r llwyfan newydd yma ar gael iddyn nhw, yn hytrach nag aros efo asiantaethau? A sut y byddwn ni wedyn yn eu hannog nhw, o ran athrawon llanw a chymorthyddion, i sicrhau eu bod nhw efo'r sicrwydd yn y system, o ran eu bod nhw ddim yn mynd i golli allan ar waith, ac ati—bod hon yn system sy'n mynd i fod yn golygu bod y cyfleoedd yna, a'u bod nhw ddim yn colli allan ar unrhyw waith?

Dwi'n sylwi o ran y datganiad hefyd, bod yna lawer o bethau sydd dal angen eu gweithio allan. Roeddech chi'n sôn am y gwaith efo'r WLGA, a ballu. Yn sicr, mae'n allweddol bod llwyfan newydd yn gysylltiedig efo darparwr sector cyhoeddus, efo'r telerau a phensiwn, ac ati. Felly, dwi'n meddwl mai un o'r pethau—. Yn amlwg rwy'n croesawu'r camau hyn, yn edrych ymlaen at pan fydd yna fwy o wybodaeth ar gael, ac yn gwerthfawrogi hefyd eich bod chi wedi amlinellu amserlen ar gyfer yr adolygiad, o ran edrych ar delerau a thâl athrawon llanw. Felly, ie, croesawu, ond o ran yr ochr hyrwyddo, os fedrwch chi roi ychydig o eglurder o ran hynny. Diolch.

Mae hwnna'n bwynt digon teg. Beth dŷn ni'n ei ddatgan heddiw yw cerrig milltir ar y llwybr. Y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n gweld, o ran y cyngor a ddaw wrth y corff annibynnol, y diwygiadau i'r fframwaith a'r lansio ym mis Medi. Mae gennym ni gyfnod o flwyddyn, y flwyddyn nesaf, lle bydd cynnydd, gobeithio, yn digwydd yn gyflym iawn. Ac rwy'n credu, yn y cyd-destun—. Unwaith y bydd y corff sy'n gweithredu'r platfform wedi'i ddewis a'i sefydlu, bydd gennym ni gyfle wedyn i sicrhau bod ymgyrch gyfathrebu sylweddol yn cyd-fynd â hynny, i sicrhau bod buddiannau bod ar y platfform yn amlwg. A hefyd, elfen bwysig roedd yr Aelod yn sôn amdani—hynny yw, ein bod ni'n gallu rhoi sicrwydd nad yw hyn yn rhoi unrhyw athro cyflenwi o dan anfantais. Beth rwyf i eisiau ei weld, a beth dŷch chi eisiau ei weld hefyd, yw bod hwn yn dod yn opsiwn sy'n rhwydd i bawb ei ddefnyddio—felly, mae e'n effeithlon, mae e'n atyniadol, mae pawb yn deall beth mae e'n ei wneud. Ac felly, dyna'r ffordd, rwy'n credu, rŷn ni'n gallu rhoi sicrwydd i'r athrawon, ond hefyd system sy'n gweithio i'r ysgolion a'r awdurdodau lleol hefyd. Ond mae'r pwynt yna o hyrwyddo yn un pwysig, a phan ddeuwn ni at y cyfnod o apwyntio'r corff, bydd hwnna'n rhywbeth y byddwn ni eisiau cydweithio â chi arno fe.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ddiwygio bysiau. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.

Diolch, Dirprwy Llywydd. Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi Papur Gwyn, yn nodi ein cynlluniau i ddod â'r gwasanaethau bysiau dan reolaeth gyhoeddus unwaith eto yng Nghymru. Roedd y teitl yn crisialu ein huchelgais ni: 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn'. Ac ar gyfer ymateb i her enbyd newid hinsawdd, mae angen i ni fod â mwy o bobl yn defnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth. I wneud hynny, mae angen i ni wneud teithio ar fysiau, ar reilffyrdd a theithio llesol y ffyrdd mwyaf cyfleus a mwyaf deniadol o deithio bob dydd. Yn fyr, mae angen i ni wneud y peth iawn y peth hawsaf i'w wneud, oherwydd fe wnaiff pobl yr hyn sydd hawsaf, ac rydym ni wedi treulio tua 70 mlynedd yn gwneud i deithio mewn car fod y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o fynd o amgylch, tra bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael mynd i'r gwellt. Mae hyn wedi bod yn arbennig o wir yn achos defnydd bysiau ers y preifateiddio a fu ar ddechrau'r 1980au. Roedd y Torïaid yn dweud y byddai hynny'n gostwng y prisiau, yn gwella gwasanaethau ac yn cynyddu niferoedd y teithwyr, ond fe fethodd y farchnad. Rhwng 1987 a 2019, yn hytrach na gwneud cynnydd, fe ostyngodd niferoedd teithiau ar fysiau gan draean yng Nghymru, tra bod y defnydd o geir wedi cynyddu gan 45 y cant ers 1993. 

Felly, wrth i ni edrych ar wyddoniaeth noeth newid hinsawdd, ac wrth i ni ystyried cyngor Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, nid yw'r trosglwyddiad at geir trydan yn ddigon. Mae angen i ni fod â llai o deithio mewn ceir a newid dulliau teithio o ddibyniaeth ar geir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar gyfer cyrraedd sero net, mae'n rhaid i ni gydnabod canologrwydd y system fysiau. Mae bysiau yn cario tri chwarter o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru eisoes, felly mae angen i ni roi llawer mwy o sylw i'r system fysiau os ydym ni'n dymuno cyrraedd ein nodau cyfreithiol ymrwymol ni. Mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith bod y system fysiau masnachol, darniog sydd wedi'i phreifateiddio sydd gennym ni ar hyn o bryd yn ei gwneud hi'n amhosibl i ni gyflawni ein huchelgais ni o wneud teithio ar fysiau y ffordd rwyddaf a mwyaf deniadol o deithio bob dydd.

Dirprwy Lywydd, rwy'n falch bod y bobl a ymatebodd i'n hymgynghoriad ni ar y Papur Gwyn wedi cytuno â ni. Rydym ni wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw heddiw, sy'n dangos bod 96 y cant o'r ymatebwyr wedi cytuno bod angen i ni newid y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau bws ar gyfer diwallu anghenion pobl ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae gennym ni lawer o weithredwyr bysiau yng Nghymru sy'n gwneud eu gorau i gynnal eu gwasanaethau, yn enwedig y gweithredwyr bychain hynny sy'n gweithio i sicrhau bod eu cymunedau yn parhau i fod â chysylltiadau. Er hynny, maen nhw'n gweithio mewn system a gynlluniwyd i drin teithiau bws fel nwydd yn hytrach na gwasanaeth cyhoeddus. Er eu bod nhw'n dibynnu ar gannoedd o filiynau o bunnoedd o gyllid cyhoeddus yng Nghymru, fe all gweithredwyr preifat barhau i ddewis pa wasanaethau y maen nhw'n dymuno eu rhedeg, gan adael awdurdodau lleol i dalu'r bil am ddarparu gwasanaethau i leoliadau mwy gwledig a llai manteisiol yn ariannol. Hyd yn oed gyda'r gefnogaeth hon, ledled y DU, mae prisiau tocynnau bysiau wedi codi gan 403 y cant ers 1987, o'i gymharu â dim ond 163 y cant ar gyfer costau gyrru.

Yn hytrach na hynny, rydym ni'n cynnig rhoi pobl o flaen elw a dod â chynllunio a diogelu gwasanaethau bysiau dan reolaeth gyhoeddus unwaith eto. Mae hyn yn golygu y gallwn ni weithio gyda chymunedau i ddylunio'r rhwydwaith bysiau gorau posibl gyda'r cyllid sydd ar gael gennym ni a chynllunio'r gwasanaethau i wella eu cwmpas yn hytrach na chystadlu am neu ddewis a dethol yr ardaloedd sy'n gwneud yr elw mwyaf. Mae hynny'n golygu y gallwn ni gydlynu'r gwasanaethau, fel gall pobl gyrraedd eu cysylltiadau â threnau neu gyda bysiau eraill yn rhwydd ac yn ddi-dor a chyrraedd eu cyrchfannau, gyda'r holl wybodaeth ar gael i deithwyr sydd ei hangen arnyn nhw yn rhad ac am ddim ac yn yr un lle. Ac mae hynny'n golygu y gallwn ni symleiddio tocynnau, a chynnig prisiau syml ledled ardal, fel nad oes yn rhaid i bobl lywio rhwng tocynnau gan wahanol weithredwyr, ac na fydd yn rhaid iddyn nhw dalu crocbris am docynnau ar lwybrau y mae'r gweithredwr yn eu hystyried yn rhai ymylol. Fel gwnaethom ni fynegi yn ein Papur Gwyn, mae hyn yn golygu y gallwn ni ddarparu 'un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'.

I gyflawni hyn yn ymarferol, rydym ni'n cynnig model o fasnachfreinio. Bydd angen perthynas waith agos ag awdurdodau lleol a rhanbarthau ledled Cymru ar gyfer llunio ein rhwydwaith bysiau a phennu cytundebau i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Mae hyn yn caniatáu i ni greu meddwl sy'n tywys y system bysiau yng Nghymru, gan weithio er mwyn y cyhoedd i benderfynu pryd a ble mae gwasanaethau yn rhedeg, a faint y maen nhw'n ei gostio i'w ddefnyddio. Roedd pobl yn cytuno â'r model hwn yn ein hymgynghoriad ni. Roedd dwy ran o dair o bobl yn cytuno â'r angen i fasnachfreinio i wella gwasanaethau bws, a thros dri chwarter yn cytuno gyda'r model yr ydym ni'n bwriadu ei gyflwyno.

Mae llawer o waith i'w wneud eto ac rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ynglŷn â'u sylwadau nhw yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad i sicrhau ein bod ni'n creu system sy'n gadael i'r sector cyhoeddus cyfan ddod at ei gilydd ac yn darparu'r gwasanaethau bysiau sydd eu hangen arnom ni. Rydym ni'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'r diwydiant bysiau er mwyn inni allu dod â nhw gyda ni i greu cyfleoedd deniadol o ran cytundebau i'n gweithredwyr bysiau ni i gyd, gan gynnwys y llu o weithredwyr llai eu maint yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yng Nghymru. Rydym ni'n awyddus i ganiatáu i weithredwyr bysiau trefol mwy sydd dan berchnogaeth gyhoeddus fod yn y cymysgedd hefyd, cam a gafodd ei gefnogi gan dros 80 y cant o bobl a ymatebodd i'n hymgynghoriad. A dim ond ran o'r ffordd y bydd deddfwriaeth yn gallu mynd â ni, Dirprwy Lywydd. Fe fydd penderfyniadau anodd eto ynghylch buddsoddi cyllid yn y gwasanaethau, a gwella seilwaith a gwneud prisiau tocynnau yn fforddiadwy ar gyfer gwneud bysiau yn ddewis gwirioneddol yn hytrach na mynd mewn ceir. Ond fe fydd deddfwriaeth i newid ein dulliau ni o ddarparu gwasanaethau bws yn gam cyntaf hanfodol ar y daith honno. Mae'r ymateb i'n hymgynghoriad ni'n bendant wedi mynegi bod angen am y newid hwn, ac mae wedi rhoi cefnogaeth eglur i ystyried y rhwydwaith bysiau yn wasanaeth cyhoeddus unwaith eto yng Nghymru.

Mae cyfle gennym ni, yn y Senedd hon, i newid cyfeiriad i fynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth, a meithrin system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gallu cyrraedd ein nodau hinsawdd ni. Ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid ni i wireddu hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod deddfwriaeth a all ein rhoi ni ar y trywydd hwnnw yn y Senedd hon. Diolch.

15:45

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw, a hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig gwrthdroi'r dirywiad mewn gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'n ffaith bod nifer y teithiau ar fws yng Nghymru wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Gan nad oes gan bron i 25 y cant o'r bobl yng Nghymru gar neu fan, mae angen gwrthdroi'r dirywiad hwn i annog cymudwyr i gamu allan o'u ceir, brwydro yn erbyn ynysigrwydd ac unigrwydd pobl, llawer ohonyn nhw'n oedrannus ac yn agored i niwed, nad oes ganddyn nhw wasanaeth bws, a hefyd brwydro yn erbyn newid hinsawdd yn y pen draw. Rwy'n derbyn bod gan ymyrraeth y wladwriaeth yn y farchnad trwy fasnachfreinio rôl i'w chwarae os yw'n gwella ansawdd a nifer y gwasanaethau bysiau ledled Cymru.

Felly, Dirprwy Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi, wrth symud ymlaen, bod angen i unrhyw fodel newydd ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau fod yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn gyflawnadwy? Ac os felly, ydych chi hefyd yn cytuno bod angen sicrwydd am gefnogaeth ariannol hir dymor, ar ôl blynyddoedd o danariannu bysiau yng Nghymru? A sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd gwasanaethau amhroffidiol ond sydd eu heisiau yn gymdeithasol, yn wir, yn cael eu cadw? A fydd contractau masnachfraint bysiau, er enghraifft, yn cynnwys cymalau i sicrhau bod cyfleusterau hanfodol, fel ysbytai, yn cael eu gwasanaethu gan lwybrau bysiau fel blaenoriaeth, ac mae llawer o fy nghydweithwyr ar draws y Siambr hon wedi dweud hynny dro ar ôl tro? Sut bydd eich cynigion chi, wrth symud ymlaen, yn helpu'r bobl hynny mewn ardaloedd anghysbell a gwledig yng Nghymru sydd â gwasanaeth bws anaml neu ddim o gwbl?

Os yw'r model newydd i weithio, bydd angen mwy o gydlynu rhwng amserlenni gweithredwyr i sicrhau amseroedd teithio di-dor i wneud cysylltiadau o werth. Hoffwn wybod sut fyddwch chi'n sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Ac a allech chi ddiweddaru'r Senedd, wrth symud ymlaen, ar gynnydd cyflawni un peth yr wyf yn angerddol drosto, y cerdyn teithio Cymru gyfan, i gynorthwyo teithwyr i symud o un rhan o Gymru i'r llall yn rhwydd ac mewn modd di-dor? Yn flaenorol, rydych wedi sôn am greu bwrdd goruchwylio, i gynnwys cynrychiolydd gweithredwyr bysiau, i gydlynu'r rhwydweithiau bysiau rhanbarthol a ddyfeisiwyd gan gyd-bwyllgor corfforaethol. I bwy fydd y bwrdd hwn yn atebol? Pwy fydd yn craffu ar ei weithredoedd? A sut y bydd yn sicrhau bod safonau gwasanaeth da cyson, yn wir, yn cael eu cynnal wrth symud ymlaen?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, mae symud pobl allan o'u ceir ac ar fysiau yn amlwg o fudd i'r amgylchedd. Os yw'r model newydd hwn yn gweithio, bydd yn cynyddu nifer y bysiau ar ein ffyrdd. Felly, ydych chi'n bwriadu gwneud y mwyaf o'r budd i'r amgylchedd drwy gefnogi'r defnydd o fysiau trydan gan weithredwyr sy'n gwneud cais am y fasnachfraint? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau amhrisiadwy, Dirprwy Weinidog. Hoffem ni, ochr yn ochr â'r cyhoedd, gael yr atebion hynny yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Diolch.    

Diolch am y cwestiynau yna. Mae yna lawer ohonyn nhw, ac fe wnaf fy ngorau i'w hateb, ond rwy'n croesawu yn gynnes ddatganiad Natasha Asghar ei bod yn derbyn rôl masnachfreinio ac yn gofyn sut rydym yn ei gwneud yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn gyflawnadwy, ac mae hyn, rwy'n credu, wrth wraidd y peth, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod angen i ni ddatgysylltu sut rydych chi'n gwneud y system yn well ac yna'r cwestiwn o sut mae tyfu'r system a sut rydym ni'n rhedeg gwasanaethau, ac rwy'n credu bod y rheiny'n ddau gwestiwn cysylltiedig ond ar wahân. A bydd yr olaf yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael, a rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau, pan fyddant yn gweld y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ein bod yn ei chael hi'n anodd iawn cyflawni ein huchelgeisiau trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd, i bob pwrpas, y toriad sylweddol i'n cyllideb, ac mae hynny'n gyfyngiad gwirioneddol i ni. Felly, rwy'n credu y bydd y system yn gwella faint o arian rydym ni eisoes yn ei wario trwy ei wneud yn fwy strategol ac yn llai darniog, ond bydd y cwestiwn o sut rydym yn cyflwyno hynny ar raddfa fwy mewn pryd yn dibynnu ar y gyllideb a'r flaenoriaeth y mae'r Senedd hon yn barod i'w rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus. Roedd y cwestiwn yn ymwneud â sut yr ydym yn cadw llwybrau amhroffidiol ond sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, ac mae hynny'n rhan hanfodol o'r angen am y model hwn. Oherwydd beth mae'r model hwn yn ei ganiatáu yw inni gynllunio ar sail ranbarthol, neu ardal. Mae i'w benderfynu beth yw'r ôl troed. Gellid ei rannu'n unedau llai. Gellid ei wneud ar sail cyd-bwyllgor corfforedig. Mae hynny i'w benderfynu. Ond o fewn hynny byddwn yn gallu croes-gymorthdalu llwybrau o'r rhai sy'n broffidiol yn fasnachol, a rhoi'r elw mewn llwybrau llai proffidiol, ond rhai sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, fel y mae Natasha Asghar yn ei ofyn. Felly, rwy'n credu mai dyna graidd y dull yma. Dyna pam mae'r dull hwn mor bwysig, oherwydd mae'n caniatáu i ni wneud hynny, tra ei bod hi'n anghyfreithlon ar hyn o bryd i wneud hynny, ac mae hynny'n un o wyrdroadau'r system wedi'i phreifateiddio yr ydym ni'n byw gyda hi.

Yn yr un modd, sut mae cysylltu ag ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus allweddol? Yr ymarfer y mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd drwyddo nawr gydag awdurdodau lleol—wedi dechrau eisoes yn Ynys Môn a Gwynedd ac yn gweithio drwyddo—yw eistedd i lawr gyda'u harbenigwyr lleol a mapio lle dylai rhwydweithiau'r llwybrau fynd, beth yw'r elfennau allweddol hyn sy'n sbarduno taith y dylen nhw gysylltu â nhw, a sicrhau bod y llwybrau hynny wedyn yn rhan o'r trefniadau tendro masnachfreinio. Felly, mae'n ein galluogi i ymgymryd â dull strategol, ardal gyfan, unwaith eto, yn wahanol i'r system bresennol lle mae ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân yn cael ei wasanaethu'n wael iawn gan lwybrau bysiau. Felly, ni fyddai hynny'n digwydd o dan y system hon. Yn yr un modd, mewn ardaloedd gwledig, ac rwyf wedi bod yn cael cyfres o gyfarfodydd gydag awdurdodau lleol o ardaloedd gwledig ar yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd i newid dulliau teithio yn ymarferol ac yn realistig mewn ardaloedd gwledig, ac mae nifer o bethau rydym ni wedi'u nodi y gallwn ni eu gwneud. Ond mae bod â gwasanaethau bws rheolaidd—. Oherwydd, eto, mater o ddewis yw hyn. Mewn rhannau o gefn gwlad yr Almaen mae ganddyn nhw wasanaeth bws bob awr i bob pentref. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y gellid ei wneud, a gallem ni wneud hynny yng Nghymru, os dyna yw'r flaenoriaeth a osodwyd gennym ac os ydym yn neilltuo cyllid ar gyfer hynny. Yn yr Almaen maen nhw'n codi treth ranbarthol ar fusnesau i dalu am hynny, er enghraifft. Felly, mae dadl i'w chael ynghylch sut rydym ni'n ei wneud, ond yn sicr mae modd gwneud hynny.

O ran y cerdyn teithio Cymru gyfan, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hynny'n ddyhead rydym ni'n ei rannu, a bydd hyn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae rhyngweithrededd tocynnau rhwng gwahanol ddulliau o deithio mewn gwahanol rannau o Gymru yn rhywbeth mawr y byddwn ni'n gallu ei wneud o dan y ddeddfwriaeth.

I bwy fydd y bwrdd, y bwrdd goruchwylio, yn atebol? Wel, bydd yn cyfuno gwahanol elfennau. Felly, rydym ni yn sicr eisiau cadw atebolrwydd lleol. Felly, bydd cynghorau lleol yn dal i fod yn atebol i'w pleidleiswyr ac i aelodau eu ward am y pethau y mae'n orau i gynghorau lleol fod yn gyfrifol amdanyn nhw—felly, safleoedd bysiau lleol, llwybrau ac ati. Ar y lefel ranbarthol bydd gennym y strwythur cyd-bwyllgorau corfforedig, sydd â'i llwybrau atebolrwydd ei hun, ac yna, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn atebol i'r Senedd.

Ac yn olaf, mae bysiau trydan yn gwbl hanfodol ar gyfer yr agenda newid dulliau teithio, yn ogystal â chyrraedd ein targedau carbon, lle mae gennym dargedau i leihau'r 50 y cant o gerbydau sy'n llygru fwyaf erbyn diwedd y degawd. Ac rwy'n credu bod hynny'n mynd i fod yn allweddol i'r system fasnachfreinio a'r amodau a osodir gennym ar gyfer dyfarnu'r contractau.

15:50

Diolch, Gweinidog. Mae gwasanaethau bws yn fodd angenrheidiol o deithio ar gyfer pobl dros Gymru gyfan, ond y rheswm rŷn ni'n trafod hyn heddiw, yn amlwg, ydy'r angen am ddiwygio'r system. Mae llai a llai o bobl yn penderfynu defnyddio gwasanaethau bws, sy'n rhoi'r system dan straen. Dŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma, dwi'n meddwl, rhai o'r rhesymau pam mae pobl yn llai tebygol, efallai, o ddefnyddio gwasanaethau bws—newidiadau mewn ymddygiad, fel siopa ar-lein; gormod o geir ar yr hewlydd; COVID; a nifer o resymau eraill—ond, fel dŷch chi wedi bod yn gosod mas, Ddirprwy Weinidog, mae bysys yn gwneud gwaith hollol angenrheidiol. Maen nhw'n cynnig ffordd amgen o deithio i bobl sydd ddim gyda char, ac maen nhw, wrth gwrs, hefyd cymaint gwell ar gyfer yr amgylchfyd. Fel mae'n sefyll, mae tua 14 y cant o allyriadau carbon Cymru yn deillio o drafnidiaeth. Dwi'n siŵr byddwch chi'n fwy nag ymwybodol o'r ffigurau yma, felly mae gwir angen gweld newid syfrdanol yma. Dwi wir yn croesawu'r ffaith bod newid syfrdanol yn cael ei wthio fan hyn.

Beth buaswn i eisiau gwybod gan y Gweinidog—. Dŷch chi wedi dweud lot o ran beth yw eich gwelediad chi, eich vision chi, ar gyfer trydaneiddio bysys dros Gymru. Dŷch chi'n dweud eich bod chi gwneud y peth iawn i'w wneud, y peth mwyaf hawdd i'w wneud. Ife dyna'r ffordd fyddech chi'n crynhoi eich gwelediad chi ar gyfer y system yma i gyd, yn enwedig, efallai, mewn ffordd fyddai pobl yn ei ddeall ac yn ei gefnogi, i geisio cael pobl i gytuno gyda'r angen am newid?

Rhywbeth arall buaswn i eisiau mynd i'r afael ag e ydy tlodi trafnidiaeth. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi darganfod bod 13 y cant o dai Cymru yn dai sydd heb fynediad at gar, a bod 25 y cant o'r bobl sy'n defnyddio bysys yn byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd hir dymor. Mae mynediad at drafnidiaeth cyhoeddus ar gyfer pobl sy'n wynebu anawsterau fel yna yn hollbwysig.

A fyddech chi, Weinidog, yn gallu gosod mas fel bydd unrhyw ddiwygiadau—ym mha ffyrdd bydd unrhyw ddiwygiadau—yn gwella pa mor fforddiadwy ydy bysys, a hefyd pa mor hygyrch ydyn nhw? Rwy wedi codi o'r blaen fy mhryderon am wella pa mor saff mae menywod yn teimlo, nid yn unig ar drafnidiaeth cyhoeddus, ond hefyd wrth gyrraedd y bysys neu'r trenau hefyd, yn enwedig gyda'r nos. Buaswn i'n croesawu clywed gennych chi ar hwnna.

Ac yn olaf, dydy'r system drafnidiaeth yng Nghymru ddim wedi ei chyd-gysylltu yn ddigonol. Mae hwn wedi codi yn barod y prynhawn yma; rŷn ni i gyd yn gwybod hwnna. Yn rhy aml, dydy ffyrdd cerdded, seiclo a gwasanaethau hanfodol fel ysgolion ac ysbytai, fel roeddech chi newydd fod yn trafod gyda Natasha Asghar, ddim wedi'u cysylltu'n ddigonol gyda'r system drafnidiaeth. Mae angen i hyn oll weithio o gwmpas realiti bywydau pobl. Beth ydych chi, Weinidog, yn mynd i'w wneud i ddelio nid yn unig gyda hynny ond i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu ceisio cael y newid ymddygiad i gyd-fynd gyda'r newidiadau strwythurol hyn, achos maen nhw angen mynd law yn llaw? Rwy'n gwybod dyna un o'r sialensiau mwyaf fydd gennych chi. Diolch.

15:55

Wel, diolch am y gyfres yna o gwestiynau a oedd wedi'u targedu'n dda. Felly, fel rwy'n dweud, mae angen i ni wneud defnyddio bysiau yn beth normal eto. Roedd yn arfer bod yn normal. Mae wedi stopio bod yn normal. Nid yw dros hanner y bobl byth yn defnyddio bws. Trwy ddiffiniad mae'n rhywbeth nad oes gan lawer o bobl unrhyw brofiad ohono, ac mae hynny'n beth hanfodol ar gyfer newid os ydym ni eisiau cyrraedd ein targedau newid hinsawdd, oherwydd, heb fynd i'r afael â thrafnidiaeth, sef rhyw 17 y cant o'n hallyriadau, nid ydym yn mynd i allu cyrraedd sero net. Felly, sut mae cael pobl yn ôl? Mae angen system cyrraedd a mynd arnom ni. Mae angen i ni eu gwneud yn fforddiadwy ac yn ddeniadol. Mae angen i ni wneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel. Ac mae angen i ni gysylltu â llefydd lle mae pobl eisiau mynd iddyn nhw. Mae hyn i gyd yn bosibl. Yn wir, mae'n hollol normal mewn llawer o wledydd Ewropeaidd. Mae wedi dod yn abnormal yma, oherwydd rydym ni wedi gadael i'r system sydd wedi'i phreifateiddio roi buddiannau'r gweithredwr masnachol yn gyntaf. Nid yw hynny'n feirniadaeth arnyn nhw; dyna sut gafodd y system ei sefydlu. Maen nhw'n gweithio o fewn y system. Ond pan fyddwch chi'n gofyn am beidio â bod yn gysylltiedig a pheidio â chysylltu â gwasanaethau allweddol, wel, nid yw'r system wedi'i chynllunio i wneud hynny. Mewn gwirionedd, mae yna gymhelliad i beidio â gwneud hynny, oherwydd bydd llawer o weithredwyr bysiau yn dweud nad ydyn nhw eisiau cysylltu â'r orsaf drenau agosaf, oherwydd mae hynny wedyn yn creu cystadleuaeth i'r llwybr bws gan y trên a bydden nhw'n colli cwsmeriaid. Felly, weithiau byddan nhw'n osgoi safle bws ger gorsaf drenau, oherwydd bod hynny yn erbyn eu buddiant masnachol. Nawr, mae'n amlwg nad dyna beth rydym ni eisiau ei weld. Felly, mae bod â system strategol sydd wedi'i chysylltu yn rhan allweddol o apêl y model masnachfreinio, ac mae'n hanfodol ar gyfer cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer bysiau.

Ac roedd eich pwynt ar dlodi trafnidiaeth wedi'i wneud yn dda iawn. Mae bysiau'n achubiaeth hanfodol. Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru yn awgrymu nad oes gan tua 80 y cant o deithwyr bysiau ddewis arall i'r car, felly mae angen i ni weld hyn nid yn unig fel buddsoddiad hinsawdd ond fel buddsoddiad mewn cyfiawnder cymdeithasol, ac mae'n arbennig o acíwt i'r rhai ar incwm is sy'n dibynnu ar fysiau ar gyfer teithiau hanfodol i weithio ac ati. Ac mae'r mater y prisiau rydych chi'n eu codi yn hollbwysig i hynny. Mae gennym uchelgais i ostwng prisiau tocynnau, ac rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith y tu ôl i'r llenni dros y flwyddyn ddiwethaf i edrych ar fodelu gwahanol bwyntiau prisiau a pha newid dull teithio a ddaw yn ei sgil. Mae'n rhwystredigaeth fawr i ni fod y setliad ariannol sydd gennym yn ei gwneud hi'n anodd iawn datblygu'r agenda honno yn y tymor byr, ond rwy'n glir bod angen i ni wneud hynny os ydym ni'n mynd i gyflawni ein targedau newid dull teithio ac os ydym ni'n mynd i gyflawni potensial y ddeddfwriaeth hon. Fframwaith yn unig yw'r ddeddfwriaeth yn y pen draw. Mae'n fframwaith hanfodol, ond nid yw'n ddigonol; mae'n gwbl angenrheidiol. Ac mae'n rhaid i ni, bob un ohonom ni, ar y cyd, fynd i'r afael—[Anghlywadwy.]

Maddeuwch i mi. Ydych chi'n cael trafferth fy nghlywed i?

Allwch chi ddweud ychydig eiriau i weld a allwn ni eich clywed chi eto?

Na. Dydw i ddim yn ei glywed e o hyd. Allwn ni atal am funud neu ddwy—

16:00

Ydw, yn amlwg dydw i ddim yn gwybod ar ba bwynt y colloch chi fi, a dydw i ddim yn mynd i osod prawf i weld pwy oedd yn talu sylw, oherwydd byddwn i'n siomedig gyda'r canlyniad, rwy'n siŵr. [Chwerthin.]

Felly, soniais i am y pwynt ar dlodi trafnidiaeth—dydw i ddim yn siŵr a gafodd hynny ei gofnodi—sy'n hollbwysig. Mae'r mater o ddiogelwch menywod, y soniodd Delyth Jewell amdano, yn bwynt pwysig iawn hefyd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar brosiect cydweithredol gyda Bws Rhywedd+ Cymru, i fynd i'r afael ag aflonyddu a thrais yn erbyn menywod a merched ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ond, y peth arall y byddwn i'n ei ddweud am ddiogelwch a chanfyddiadau o ddiogelwch yw bod yna ddiogelwch mewn niferoedd. Po fwyaf o bobl a gawn ni'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, y mwyaf diogel fydd e a'r mwyaf diogel bydd yn teimlo. Felly, mae'r agenda gyfan hon wedi'i rhyng-gysylltu, a dyna lle mae'r pwynt olaf ar newid ymddygiad mor bwysig, oherwydd nid yw'n ddigon da dim ond i ddarparu'r gwasanaethau, mae'n rhaid i ni annog pobl sydd wedi colli'r arfer o ddefnyddio bysiau i fynd yn ôl ar fysiau eto.

Rwy'n croesawu bod pwyslais Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, er gwaethaf toriadau ariannol sylweddol mewn termau real gan Lywodraeth y DU. Teitl fy neiseb i i'r Senedd dair blynedd yn ôl oedd, 'Bysiau i bobl nid elw', ac fel y dywedoch chi, mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol go iawn, sef sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a dyna'r gwahaniaeth mae Llywodraeth Lafur Cymru'n ei wneud yma. Rwy'n cofio defnyddio arian Ewropeaidd ar gyfer caffael bysiau a gwasanaethau gwledig, a dyw hynny ddim yn bodoli mwyach, ac mae'n bosib y bydd cynghorau yn ystyried tynnu cymorthdaliadau bysiau yn ôl er mwyn llenwi'r bwlch ariannol. Dirprwy Weinidog, sut fydd y toriadau'n effeithio ar y cynllun hwn yr ydych chi wedi'i gyflwyno yma heddiw, ac a fyddech chi'n ystyried edrych ar gaffael fflyd swmp, gan weithio mewn partneriaeth â gweithredwyr fel un ateb? Un arall fyddai darparu rhywfaint o drafnidiaeth gyhoeddus fel gwerth cymdeithasol drwy gaffael efallai contract ail-wynebu priffyrdd drwy awdurdodau lleol a hefyd o bosibl gontractau teithio llesol, ac yna gellid defnyddio hynny ar gyfer apwyntiadau meddygol a mynd i nofio am ddim trwy ysgolion, lle rwy'n gwybod bod trafnidiaeth wedi'i godi fel problem—gallu mynd i nofio. Diolch. 

Wel, diolch i Carolyn Thomas am barhau i hyrwyddo bysiau. Mae wedi bod yn fater polisi sydd wedi'i esgeuluso yn rhy hir, a ddim yn cael ei ystyried yn ffasiynol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni newid hynny, ac mae hi'n gwneud gwaith gwych yn arwain y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r perwyl hwnnw. Mae'r cwestiwn o sut bydd y toriadau yn effeithio yn un perthnasol a chyfredol iawn. Byddwn i'n dweud bod yr hyn rydym ni'n sôn amdano yn y Papur Gwyn a'r Bil yn ymwneud â sut rydym ni'n trefnu'r system, a'r system honno wedyn yn gallu cael ei hystwytho a'i chyflwyno ar raddfa fwy. Felly, yn amlwg, po fwyaf o arian rydym ni'n ei roi ynddo, y gorau yw'r gwasanaethau rydym ni'n gallu eu cynnig. Ond hyd yn oed os ydych chi dim ond yn rhoi'r hyn rydym ni'n ei roi i mewn nawr, byddem ni'n dal â system well, fwy cynlluniedig, fwy cydgysylltiedig, fwy cydlynol a thecach. Felly, rwy'n credu bod y ddadl dros y system yn y Papur Gwyn yn sefyll ar ei theilyngdod ei hun, mae'r cwestiwn am arian cyhoeddus i fysiau yn un perthynol. Ac, fel y dywedais i, mae'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn heriol iawn i ni allu cynnal gwasanaethau, heb sôn am eu hehangu. Ac fe fyddwn ni'n mynd trwy hynny pan fyddwn ni'n cyhoeddi'r gyllideb ac yn mynd trwy'r craffu. Rydw i a llawer o bobl eraill yn pryderu am hynny, ond fe wnawn ein gorau glas i gadw rhwydwaith, fel yr ydym wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, trwy COVID, i ganiatáu iddo gael ei ehangu pan fydd gennym Lywodraeth fwy goleuedig yn San Steffan.

O ran y pwynt ar gaffael fflyd swmp, mae'n un diddorol iawn. Rwy'n eithaf pryderus am yr effaith ar fusnesau bach a chanolig. Gwyddom, mewn rhannau o gefn gwlad Cymru, fod y gweithredwr bysiau bach teuluol wedi bod yn allweddol i'r ecosystem trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r model busnes hwnnw'n dod o dan straen sylweddol. Mae llawer o weithredwyr yn methu, mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd caffael darparwyr ar gyfer gwasanaethau allweddol. Felly, rwy'n credu y bydd angen i ni edrych yn greadigol ar sut rydym ni'n llenwi'r bwlch hwnnw. Mae'r Papur Gwyn yn sôn am weithredwr dewis olaf, yn union fel sydd gennym ar y trenau ar hyn o bryd, a'r achos dros rywbeth cyfatebol ar y bysiau. A gallai caffael y bysiau eu hunain yn ganolog fod yn un ffordd y gallem ni ddileu risg i fusnesau bach teuluol rhag gallu cymryd rhan, a gallem wedyn brydlesu i weithredwr a allai redeg y gwasanaeth am ffi. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth sydd angen i ni weithio drwyddo gyda llywodraeth leol a gyda'r sector i ddeall ymarferoldeb hynny. Ond, mae Carolyn Thomas yn nodi pwynt pwysig iawn.

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr, ac eto'n nodi'r weledigaeth o ran i ble mae'r Llywodraeth Cymru hon eisiau mynd, ond a fyddai e'n cytuno â mi mai un o brofion llwyddiant hyn fydd pa un a ydym ni, yma yn y Senedd, yn cefnogi blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a hefyd teithio llesol yn hyn? A bydd dewisiadau anodd i'w gwneud ar hyn, oherwydd mae hynny'n golygu cyfyngu ar le ar y ffyrdd ar gyfer lonydd bysiau, ar gyfer bysiau cyflymach, ac mae'n golygu dadflaenoriaethu meysydd eraill. Ond a fyddai e' hefyd yn cytuno â mi, o ran yr un rhwydwaith hwn—un amserlen, un tocyn, un rhwydwaith—os yw'r rhwydwaith hwnnw'n mynd i fod y prif wythiennau, y rhydwelïau hyn o drafnidiaeth bysiau—yn mynd, er enghraifft, yn fy ardal i, i fyny ac i lawr y cymoedd yn cysylltu â Phen-y-bont ar Ogwr, yn cysylltu â'r Fro, yn cysylltu ymlaen â Chaerdydd—mae angen cyrraedd y capilarïau hynny hefyd, a bydd hynny angen naill ai trafnidiaeth gymunedol neu fws Fflecsi ac ati? Os oes un amserlen, mae angen i honno fod ar yr adegau y mae'r holl gymunedau yma eu hangen ar gyfer gwaith, ar gyfer chwarae, ar gyfer cymdeithasu ac ar gyfer ysbytai ac ati. Ac un tocyn: rwy'n falch o glywed eich bod yn parhau gyda'r gwaith sy'n ystyried sut rydym ni'n ei wneud yn fforddiadwy iawn, ac i mi, mae angen i fforddiadwy fod mor rhad â phosibl. Mae angen i'r pris hwnnw ei gwneud hi'n ddymunol mynd ar fws yn hytrach na pharhau i fuddsoddi mewn ail gar arall.

16:05

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr bod hyblygrwydd yn allweddol yn y fan yma, ac wrth i ni wneud y gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol sy'n nodi lle mae rhwydwaith bysiau gorau posibl yn mynd, bydd lle ar gyfer gwasanaethau safonol wedi'u hamserlenni a bydd lle i wasanaethau cyflenwol, hyblyg, sy'n ymateb i'r galw. Fel mae Huw Irranca yn gwybod, rydyn ni wedi bod yn treialu'r gwasanaeth Fflecsi ar draws gwahanol rannau o Gymru ac rydyn ni bellach wedi cwblhau'r treial yng Nghasnewydd. Mi gymerais ran mewn taith yn Llanberis yr wythnos ddiwethaf ar wasanaeth Sherpa, a oedd hefyd yn cysylltu â'r gwasanaeth Fflecsi lleol, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus yn Eryri, nid yn unig yn helpu i wasanaethu'r economi ymwelwyr yn yr haf, ond wedyn defnyddio'r llwyddiant hwnnw i allu ariannu gwasanaeth rheolaidd i bobl leol trwy fisoedd y gaeaf.

Nawr, bydd hwnnw yn dibynnu ar y lleoliad a lle mae'n fwyaf addas. Yr hyn y gwelsom ni yng Nghasnewydd yw bod darparu gwasanaeth Fflecsi wedi creu cwsmeriaid newydd, galw newydd, sydd yn ei dro wedi dangos bod hyfywedd mewn gwirionedd ar gyfer llwybr sefydlog wedi'i amserlennu, yn hytrach na llwybr Fflecsi. Felly, rwy'n credu bod angen inni fod yn hyblyg—meiddiaf ddweud—yn y ffordd yr ydym ni'n cymhwyso'r model hwn, ond yn bendant mae ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae. Ac fe fyddwn i'n cytuno ag ef yn llwyr ar ei weledigaeth olaf: mae hyn yn ymwneud â rhoi dewis arall gwirioneddol i bobl yn lle'r car.

Yn eich ymateb chi, Gweinidog, i fy nghydweithiwr Natasha Asghar, fe amlinelloch chi fod Llywodraeth Cymru wedi nodi ffyrdd y gallem ni fynd i'r afael â thrafnidiaeth gyhoeddus wledig. Fel y gwyddoch chi'n iawn, mae trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn fy ardal i yn broblem enfawr, ac os allech chi roi ychydig mwy o fanylion am yr ardaloedd y dywedoch chi eich bod wedi'u nodi, byddwn yn ddiolchgar iawn. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Yn sicr, a byddwn i'n hapus iawn i friffio Aelodau ac annog Aelodau i gymryd rhan mewn cyfarfod bord gron eu hunain gyda mi ar unrhyw syniadau sydd ganddyn nhw i helpu i lywio ein ffordd o feddwl. Yn y bôn, mae hyn yn rhan o strategaeth trafnidiaeth Cymru. Rydym ni'n amlinellu rhai meddyliau cychwynnol, gan edrych ar enghreifftiau eraill yn rhannau eraill o'r DU ac ar y cyfandir sut y mae ardaloedd gwledig wedi mynd i'r afael â'r angen am drafnidiaeth gynaliadwy, ac, mewn gwirionedd, rydym wedi gofyn i gomisiwn Burns, yn ei waith ar y gogledd, i edrych yn benodol ar atebion ar gyfer ardaloedd gwledig. Fe fyddan nhw'n edrych ar y peth yng nghyd-destun y gogledd, wrth gwrs, ond fe fydd ganddyn nhw berthnasedd i rannau eraill gwledig o Gymru. Ac, heblaw am rannau o Gaerdydd, mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ardaloedd gwledig, felly nid agenda y canolbarth yw hon; mae hyn ar gyfer Cymru gyfan, ac mae'n un bwysig iawn. Mae trafnidiaeth gynaliadwy yn gwbl gyraeddadwy mewn ardaloedd gwledig, ond mae'n cymryd dull ychydig yn wahanol mewn ardaloedd trefol. Felly, er enghraifft, gallech chi fod â bysiau Fflecsi, ond gallech chi hefyd fod â chynlluniau rhannu ceir, gallech chi fod â chlybiau ceir, gallech chi fod â beiciau trydan ochr yn ochr â seilwaith diogel i ffwrdd o draffig. Mae yna ystod gyfan o gynlluniau gwahanol sydd wedi eu trio ac sydd wedi dangos eu bod yn llwyddiannus, felly'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd yw ceisio ymdrin â manylion hynny, a byddwn i'n awyddus iawn i ymgysylltu ag Aelodau er mwyn iddyn nhw gyfrannu i'n helpu ni i lywio hynny gyda'n gilydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fel yr ydym wedi clywed, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol i wneud teithio ar fws yn fwy fforddiadwy a bod mwy ar gael yma yng Nghymru, ac mae fforddiadwyedd cymharol teithio ar fws o'i gymharu a char wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae gennym ni fentrau amrywiol o ran teithio ar fysiau am ddim, Gweinidog—rhai cynlluniau Llywodraeth Cymru, rhai cynlluniau awdurdodau lleol—a tybed a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i ategu hynny gyda mwy o deithio ar fysiau am ddim yn gyffredinol, efallai, mewn ardaloedd daearyddol diffiniedig. Mae'n rhywbeth y mae gennym ddiddordeb mawr ynddo yng Nghasnewydd, gan wneud rhagor o waith ar hynny yn sgil argymhelliad pwyllgor Burns.

16:10

Rwyf wedi cael fy nghalonogi yn fawr gan y gwaith yng Nghasnewydd, yn Abertawe ac yng Nghaerdydd ar gynnig teithio am ddim ar fysiau ar gyfnodau penodol, ac mae wedi gweithio. Mae gennym ddata bellach i ddangos ei fod yn llwyddiannus ac mae digon o dystiolaeth ryngwladol hefyd, o Dunkirk i nifer o ddinasoedd ledled y byd lle mae teithio ar fysiau am ddim yn effeithiol. Y gwir amdani, er hynny, ar hyn o bryd, o ystyried ein setliad ariannol, yw nad yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn gallu ei ddefnyddio. Fel y soniais i, rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith, mae gennym faniffesto ac ymrwymiad rhaglen lywodraethu i ystyried prisiau tecach, ac rydym wedi bod yn gwneud cryn waith, opsiynau modelu manwl i fwrw ymlaen â hynny, ac mae'r Cabinet yn awyddus iawn i wneud hynny. Ond pan fydd ein cyllideb £3 biliwn yn llai i bob pwrpas y flwyddyn nesaf, yn rhwystredig iawn, nid yw hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n mynd i fod yn debygol o allu ei fforddio yn y tymor byr.

6. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022

Eitem 6: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8156 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Personau y mae'n ofynnol iddynt Ddarparu Gwybodaeth a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022. Mae'r rheoliadau yn diffinio trydydd partïon y gallai fod yn ofynnol gan awdurdodau lleol iddynt ddarparu gwybodaeth am eiddo annomestig a'r ffordd y ceir cyflwyno hysbysiad cysylltiedig. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau biliau ardrethi annomestig. Mae'r rheoliadau'n sicrhau y gellir cael gwybodaeth berthnasol ar gyfer cyfrifo atebolrwydd trethi annomestig mewn sefyllfaoedd pan nad yw'r trethdalwr yn ymgysylltu ag awdurdod lleol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau. Does dim materion wedi'u codi. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

Gweinidog, does gen i ddim siaradwyr eraill. Ydych chi'n dymuno dweud unrhyw beth arall, neu a ydym ni'n mynd ymlaen i'r bleidlais?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyn inni symud i ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), byddaf yn gohirio trafodion am 10 munud, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18. Bydd y gloch yn cael ei chanu pum munud cyn ailymgynnull.

A wnaiff yr Aelodau atgoffa eu hunain i fod yma ar amser ar gyfer dechrau'r drafodaeth os gwelwch yn dda?

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:13.

16:20

Ailymgynullodd y Senedd am 16:23, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Dyma ni'n barod i ailddechrau. Mi fyddwn ni nawr yn treulio gweddill ein cyfarfod yn trafod Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).

Grŵp 1: Ystyr cynhyrchion plastig untro a chynhyrchion plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 11, 39, 12, 40, 13, 14, 1)

Y grŵp cyntaf o welliannau heddiw yw'r grŵp sy'n ymwneud ag ystyr cynhyrchion plastig untro a chynhyrchion plastig untro gwaharddedig. Mae gwelliannau 39 a 40, a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, yn union yr un fath â gwelliannau 11 a 12 a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders. Cafodd y gwelliannau gan y ddau Aelod eu cyflwyno ar yr un prynhawn ac er eu bod yr union yr un fath, roeddent yn dderbyniadwy ar yr adeg y'u cyflwynwyd. Fodd bynnag, ni fyddai'n dderbyniol i ystyried a phleidleisio ar welliannau sydd yn union yr un fath ddwywaith; felly, rwyf wedi penderfynu peidio â dethol gwelliannau 39 a 40 a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, oherwydd y cyflwynwyd y rhain ar ôl y gwelliannau a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders. 

Ni ddetholwyd gwelliannau 39 a 40.

Gan symud ymlaen ar hynny, gwelliant 11 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant hynny a'r gwelliannau eraill. 

16:25

Cynigiwyd gwelliant 11 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Am ddiwrnod gwych, mewn gwirionedd, i fod yn gweithio ar ddeddfwriaeth sy'n dod drwy'r lle hwn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dymuno i hon gael ei dwyn ymlaen, ac mewn gwirionedd mae wedi bod yn eithaf da i weithio gyda'r Gweinidog o ran rhai o'r gwelliannau yr wyf yn eu cyflwyno. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Beth Taylor, ymchwilydd sy'n gweithio yma, sydd wedi fy helpu'n fawr gyda hyn, a diolch i holl glercod y pwyllgor a phawb arall sydd wedi gweithio i sicrhau y gellir dwyn y Bil hwn ymlaen. Felly, diolch yn fawr, Llywydd. Fel y dywedoch chi, byddaf yn siarad am welliannau 11, 39, 12, 40, 13, 14 ac 1.

Rwyf wedi cyflwyno gwelliant 11 i sicrhau bod diffiniad y Bil o 'untro' yn cyd-fynd â deddfwriaeth briodol Llywodraethau'r DU a'r Alban. Bydd y gwelliant hwn yn rhoi'r geiriau 'ei ddyfeisio' yn y diffiniad ochr yn ochr â 'ei ddylunio' ac 'ei weithgynhyrchu', sydd eisoes wedi'u gosod yn y diffiniad. Fe wnes i gyflwyno hyn yn wreiddiol yn ystod Cyfnod 2. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno ag ymateb y Gweinidog, ac felly byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn ystod Cyfnod 2. Mae rhanddeiliaid wedi ei gwneud hi'n glir o'r cychwyn bod angen i ddiffiniadau fod yn gyson â deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ym Mhrydain Fawr. Fel arall, yn syml, mae perygl o ddryswch a chamddehongli. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog y byddai'r effaith ymarferol yn cael ei darparu'n fwy effeithiol drwy ddefnyddio'r diffiniad y mae wedi'i ddewis yn hytrach na defnyddio diffiniadau sy'n gyson â deddfwriaeth bresennol. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu esbonio hyn ymhellach ac egluro sut y byddai diffiniad cyson yn niweidiol i effaith ymarferol y Bil. Beth yng nghyd-destun Cymru sy'n gwneud diffiniad gwahanol yn angenrheidiol?

Mae gwelliant 12, a gyflwynais, yn ceisio gwneud yr un peth â gwelliant 11. Hoffwn ddiolch i Delyth am gyflwyno'r un gwelliannau. Fel maen nhw'n dweud, tebyg meddwl pob doeth. Ni wnaf siarad ar ei rhan hi.

Byddai gwelliant 13 yn newid y diffiniad o 'blastig' i'r hyn a ddefnyddir gan gyfarwyddeb plastig untro yr Undeb Ewropeaidd. Eto, mae diffiniadau cyson yn bwysig iawn. Mae'r diffiniad hwn o 'blastig' yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU yn ei deddfwriaeth sy'n gwahardd gwellt plastig, ffyn cotwm a throellwyr diodydd. Fe'i defnyddir hefyd gan Lywodraeth yr Alban yn ei deddfwriaeth sy'n gwahardd cynhyrchion plastig untro, felly fe wnaf i ofyn yr un cwestiwn i'r Gweinidog: a wnaiff hi egluro pam y mae defnyddio diffiniadau gwahanol yn well i Gymru? Onid yw hyn yn creu risg o gamddehongli diangen?

Fe wnes i hefyd gyflwyno gwelliant 14, a gyflwynais o ganlyniad i welliant 13. Byddai'r gwelliant hwn yn diwygio is-adran (5) i ddileu cyfeiriad at bwyntiau (a) a (b) oherwydd y newid i'r diffiniad o 'blastig'. Ni wnaf siarad am welliannau 39 a 40 gan fy mod i wedi cael gwybod eisoes na fydd y Llywydd yn cyflwyno'r rhain. Fodd bynnag, i fod yn glir, mae'r gwelliannau hyn yr un fath â gwelliannau 11 a 12.

Mae gwelliant 1, a gyflwynwyd gan y Gweinidog, yn symleiddio adran 2(1)(b) i fynd i'r afael ag amwysedd posibl wrth ddehongli a fyddai'n anghyson â'r polisi. Mae'n ceisio hepgor darpariaethau nad ydynt bellach yn cyfateb yn llawn â'r darpariaethau yn yr Atodlen a dileu unrhyw amheuaeth ynghylch cwmpas pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 3. Diolch. 

Mae'n benbleth ddirfodol—rwyf eisiau siarad am welliannau nad ydyn nhw wedi eu dewis, felly fe siaradaf am welliannau 11 a 12, a oedd, fel sydd wedi ei ailadrodd, yn union yr un fath o ran cwmpas. Janet, roeddem ni mewn ras ac nid oeddem yn sylweddoli ein bod ni yn y ras honno, ond da iawn chi am eu cyflwyno ychydig cyn i mi wneud. Ni wnaf i ailadrodd yn hirwyntog eto y dadleuon ar y rhain. Yr un oedd fy mwriad gyda'r gwelliannau hyn—sef sicrhau bod 'untro' yn cwmpasu pob senario bosibl, ac y byddai'r geiriau 'ei ddyfeisio' yn ymddangos ochr yn ochr â 'ei ddylunio' a 'ei weithgynhyrchu'. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch. 

16:30

Diolch, Llywydd. Gan droi'n gyntaf at welliannau 11 a 12, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, nod y ddau welliant yw cyflawni'r un nod, sef cysoni'r diffiniad o 'untro' â'r hyn a ddefnyddir mewn mannau eraill, megis yn yr Alban. Mae'r gwelliannau yn cynnig ychwanegu 'ei ddyfeisio' at y termau 'ei dylunio' ac 'ei weithgynhyrchu' sydd yn y Bil ar hyn o bryd. Buom yn trafod y gwelliannau hyn yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2. Cyn hyn, trafodwyd y diffiniadau allweddol o fewn y Bil yn sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, lle'r oedd Aelodau'n teimlo y dylai'r rhain adlewyrchu, gair am air, y rhai a ddefnyddir yng nghyfarwyddeb plastig untro'r UE.

Rwyf wedi ystyried y gwelliannau yn ofalus a'u profi o'u cymharu â'r Bil fel y'i drafftiwyd. Gallaf sicrhau'r Senedd ein bod yn ffyddiog bod yr effaith ymarferol a fwriedir yn cael ei ddarparu'n fwy effeithiol, gan ddefnyddio'r diffiniadau yr ydym wedi'u datblygu yng nghyd-destun Cymru. Nid yw'r drafftio yn union yr un fath, gan ein bod wedi ceisio egluro testun neu ddileu geiriad yr ydym yn ei ystyried yn ddiangen. Mae hyn yn unol â'n harfer drafftio. Am y rhesymau a amlinellwyd ac a amlinellwyd yn y pwyllgor, nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau hyn.

Gan droi at welliant 13, a gynigiwyd hefyd gan Janet Finch-Saunders, mae hwn yn ceisio diwygio'r diffiniad o blastig drwy gyfeirio at reoliadau'r UE ar gofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu ar gemegau, yn hytrach na chynnwys disgrifiad ar wyneb y Bil. Unwaith eto, mae hwn yn welliant a ystyriwyd yng Nghyfnod 2. Fel y dywedais i bryd hynny, ni fyddai'r newid arfaethedig yn unol â'r arfer drafftio gorau, nac yn cyd-fynd â'r nod o wneud deddfwriaeth yn fwy hygyrch. Rwy'n dadlau bod y diffiniad yn y Bil yn ddigonol ac wedi'i eirio i roi sicrwydd ac eglurder. Mae gwelliant 14, sy'n un arall a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, yn ganlyniadol i'r gwelliant, fel y dywedodd hi. Rwyf i felly yn gwrthwynebu gwelliannau 13 ac 14.

Cafodd gwelliant 1 ei gyflwyno gan y Llywodraeth. Diben y gwelliant yw symleiddio adran 2(1)(b) o'r Bil. Ei fwriad yw mynd i'r afael ag amwysedd posibl wrth ddehongli a fyddai'n anghyson â'r polisi. Bydd y gwelliant yn hepgor darpariaethau nad ydynt bellach yn cyfateb yn llawn â'r darpariaethau yn yr Atodlen. At hynny, mae'r newid arfaethedig yn dileu unrhyw amheuaeth bosibl ynghylch natur a chwmpas pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 3 i ddiwygio neu ychwanegu at yr esemptiadau yn yr Atodlen. Mae angen y gwelliant er mwyn sicrhau bod y gwaharddiad a nodir yn adran 2 yn adlewyrchu bwriad y polisi yn gywir. Mae'n gwneud y Bil yn fwy syml a hygyrch, sy'n cyfateb i'n nodau ehangach wrth ddeddfu yng Nghymru. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi a phleidleisio dros y gwelliant hwn. Diolch. 

Diolch. Fel yr wyf wedi dweud yn blaen yn gynharach, mae'r rhanddeiliaid yr ydym ni wedi ymgysylltu â nhw wedi dweud eu hunain bod angen i ddiffiniadau fod yn gyson â deddfwriaethau eraill y DU, ac felly rwy'n hollol argyhoeddedig wrth gynnig y gwelliannau hynny. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly mi fyddwn ni'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 11 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 11: O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Dyw gwelliant 39 heb ei ddethol. Janet Finch-Saunders, gwelliant 12. 

A yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 12 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 12, felly, symudwn i bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 12 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 12: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 40 heb ei ddethol. Gwelliant 13.

Janet Finch-Saunders, a yw'n cael ei gynnig? 

Cynigiwyd gwelliant 13 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly symudwn i bleidlais ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Gwelliant 13 wedi'i wrthod.

16:35

Gwelliant 13: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 14 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly symudwn ni i'r bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Gwelliant 14, felly, wedi ei wrthod.

Gwelliant 14: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Sigaréts electronig (Gwelliannau 6, 9, 10, 7, 8)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp ar sigaréts electronig. Gwelliant 6 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Rhys ab Owen.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Rhys ab Owen).

Diolch yn fawr, Llywydd, a hoffwn i gynnig gwelliannau 6 a 10 ar e-sigaréts. A hoffwn ddiolch hefyd i etholwyr am godi'r mater penodol hwn gyda mi.

Mae'n ymddangos bod hwn yn duedd o daflu sbwriel sy'n dod i'r amlwg wrth ddefnyddio fêps untro, sydd nid yn unig wedi'u gwneud o blastig, ond sydd hefyd yn cynnwys batris gyda chemegau niweidiol gwerthgyfrifiol ac sydd hyd yn oed yn creu risg o dân. Mae gan bob fêp tafladwy ei ddeunydd pacio ei hun. Ceir bocs, ffoil y gellir ei selio, blwch pecyn gwactod na ellir ei ailgylchu, ac fel arfer, cwpl o dopynnau bach plastig ynghlwm wrth y fêp ei hun yr ydych chi'n eu datgysylltu cyn defnyddio'r fêp. Mae'r rhain i gyd, ar ôl eu defnyddio unwaith, yn cael eu taflu.

Mae fy ngwelliannau yn mynd i'r afael â phryder penodol ynghylch dyfeisiau fepio ac e-sigaréts, oherwydd bod y dyfeisiau sy'n cael eu taflu i gyd yn cynnwys batri lithiwm, y gellid ei ailgylchu. Mae lithiwm yn hanfodol ar gyfer unrhyw symudiad tuag at sero net, felly mae'n hollol anghywir bod y batris hyn yn mynd i safleoedd tirlenwi. Rwy'n ddiolchgar am wybodaeth yr wyf wedi ei gael gan Cadwch Gymru'n Daclus, sydd wedi dechrau casglu data ar sbwriel fepio ar ein strydoedd. Maen nhw wedi clywed gan nifer o awdurdodau lleol Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd i gyd wedi amlygu hwn fel mater sy'n datblygu ac yn tyfu. Yn fwy penodol, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn poeni am y cynnydd mewn fêps untro, sydd wedi'u dylunio'n bwrpasol ar gyfer un defnydd yn unig cyn eu taflu wedyn. Mae'n ymddangos bod cynnydd yn yr eitemau hyn yn creu tuedd taflu sbwriel newydd sydd â chydberthynas ag ymddygiadau defnyddwyr.

Hefyd, ac nid yw'n berthnasol yma mae'n debyg, ond mae yna fater iechyd cyhoeddus yma. Mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos bod fêps untro yn cael eu defnyddio'n gynyddol gan blant rhwng 11 a 17 oed, ac maen nhw'n cael eu gwerthu, nid mewn unedau wedi'u cuddio, fel tybaco, ond yn aml mewn cabinetau lliw llachar. Fel arfer mae sbwriel fepio i'w weld yn yr un ardaloedd lle fyddech chi'n disgwyl dod o hyd i sbwriel ysmygu, sy'n awgrymu bod rhywfaint o debygrwydd yn ymddygiadau ysmygwyr a'r rhai sy'n fepio, oherwydd y rheidrwydd o orfod mynd y tu allan neu i ardaloedd dynodedig. Fel sigaréts, maen nhw'n cynnwys cemegau sy'n niweidiol i'n priddoedd, ein dyfrffyrdd, ein bywyd gwyllt, ond maen nhw hefyd yn cynnwys batris, sydd â chymysgedd gwenwynig ychwanegol o gemegau a all gael eu rhyddhau pe bai'r casyn yn cael ei ddifrodi neu'n cael ei adael i ddirywio. Gallent o bosibl greu risg o dân mewn tymheredd poeth.

Yn ôl arolygon a gynhaliwyd yn gynharach eleni roedden nhw'n bresennol ar 6.8 y cant o strydoedd yn Abertawe. Nawr, er bod hyn yn debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel o lawer, gan nad yw'r arolygon yn ystyried parciau, mannau gwyrdd neu draethau, yn ôl Keep Scotland Beautiful a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, mae mwy na 1 miliwn o fêps tafladwy yn cael eu gwerthu bob wythnos yn y DU, ac mae dau yn cael eu taflu bob eiliad. Mae'n bwysig nodi hefyd nad oes cyfleusterau ailgylchu na chyfleusterau dychwelyd digonol ar gyfer yr eitemau hyn ar hyn o bryd. Mae rhai pobl, rwy'n clywed, yn eu rhoi mewn mannau casglu batris mewn archfarchnadoedd, er ei bod yn annhebygol y bydd y rhain yn cael eu trin yn iawn, oherwydd y prosesu ychwanegol sydd ei angen i gael gafael ar y batri. Nid yw fêps untro felly yn gydnaws â nod Cymru i fod yn gymdeithas werddach ac maen nhw'n ein hatal ni rhag bod ag amgylchedd mwy apelgar i bob un ohonom. Nid oes ganddyn nhw ofynion cyfrifoldeb cynhyrchwyr, ac maen nhw'n gymharol newydd ar y farchnad. Felly, credaf fod achos sylweddol dros gynnwys e-sigaréts untro yn benodol yn y Bil hwn. Byddai hyn yn symudiad gwirioneddol arwyddocaol tuag at ddull atal yn gyntaf, yn hytrach na bod ar y droed ôl bob tro. Gweinidog, gallem ni yng Nghymru fod yn esiampl o weithredu cynnar i fynd i'r afael â phroblem hysbys cyn i fwy o niwed gael ei achosi. Dangosodd yr arolwg diweddaraf gan Cadwch Gymru'n Daclus yn fy ardal i, sir Rhondda Cynon Taf, bod 5.2 y cant o fêps untro yn bresennol. Nawr, er y gallai hyn swnio'n isel, mae hyn yn eithaf uchel ar gyfer eitem o sbwriel gymharol newydd. Felly, mae hyn 5 y cant ar ben y lefelau sbwriel presennol—nid rhan ohonyn nhw. Roedd syrfëwr Cadwch Gymru'n Daclus hefyd yn awyddus i nodi bod y pennau fepio yn aml i'w gweld mewn niferoedd, nid fel digwyddiadau unigol.

Mae'n gyfnod anodd, gyda phobl yn poeni ynghylch cael safon byw ddigonol, ond nid arian yn unig sy'n bwysig. Gwyddom, yng Nghymru, yn ein calonnau, fod mathau eraill o gyfoeth, yn ein perthynas â'n ffrindiau, teulu, ac yn ein cymunedau, ac yng Nghymru mae gennym ni amgylchedd naturiol hardd, ein tirwedd, ein mynyddoedd, ein hafonydd a'n moroedd, sy'n fy ngwneud i deimlo'n angerddol dros ein cenedl. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu yn y Senedd hon i'w diogelu, felly cefnogwch fy ngwelliannau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

16:40

Byddai gwelliant 9, a gynigiwyd gan Rhys ab Owen, yn ychwanegu e-sigaréts tafladwy at yr Atodlen, sy'n golygu y byddent yn cael eu gwahardd. Mae gwelliannau 6, 8 a 10 yn ganlyniadol i'r gwelliant hwn. Wrth gwrs rydym yn cydnabod bod tystiolaeth anecdotaidd o broblem sbwriel gynyddol gydag e-sigaréts untro, ond mae hwn yn faes cymhleth, fel nododd Rhys ei hun, ac yn gofyn am gasglu llawer mwy o dystiolaeth cyn i ni ystyried ai gwaharddiad yw'r cam mwyaf priodol.

O safbwynt iechyd, yn wir, rydym yn hanesyddol wedi bod ag agwedd bwyllog tuag at gynhyrchion e-sigarét yng Nghymru, o ystyried bod y dystiolaeth am eu heffeithiau hir dymor yn datblygu ac o ystyried eu hapêl bosibl i blant a phobl ifanc. Dim ond i fod yn hollol glir, Llywydd, ni ddylai e-sigaréts fyth gael eu defnyddio gan blant, pobl ifanc, nac unrhyw un nad yw'n ysmygu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, i rai pobl, fod e-sigaréts a chynhyrchion nicotin eraill yn offer defnyddiol i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu, gyda'r dystiolaeth bresennol yn awgrymu eu bod yn sylweddol llai niweidiol nag ysmygu tybaco. Yn arolwg cenedlaethol Cymru 2018-19, sef yr arolwg diweddaraf pan ofynnwyd i bobl pam yr oedden nhw'n defnyddio e-sigaréts, nododd 76 y cant o ddefnyddwyr e-sigaréts presennol mai eu rheswm dros ddefnyddio e-sigaréts oedd i'w helpu nhw i roi'r gorau i ysmygu cynhyrchion tybaco. Mae angen dybryd i ni ymchwilio a chydbwyso'r ffactorau hyn cyn dod i benderfyniad ar ba gamau i'w cymryd ynghylch taflu sbwriel e-sigaréts. Felly, am y rheswm hwn, nid wyf yn gallu cefnogi gwelliannau 6, 8, 9 na 10.

Gan droi at welliant 7, sy'n ceisio ychwanegu e-sigaréts tafladwy at y rhestr o gynhyrchion sy'n ymddangos yn adran 4, sy'n ymwneud â'r gofyniad i ystyried ac yna adrodd ar y posibilrwydd o wahardd e-sigaréts tafladwy, tra fy mod i'n cytuno mewn egwyddor ar edrych ar e-sigaréts ymhellach, ni allaf dderbyn y gwelliant hwn ar hyn o bryd, gan nad yw'r Aelod wedi diffinio 'tafladwy'. Byddai angen ystyriaeth bellach o ddefnydd presennol y cynhyrchion hyn a'r math o gynhyrchion sy'n cael eu marchnata fel 'tafladwy'. Mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â pha gynhyrchion yr ydym ni'n edrych arnyn nhw mewn gwirionedd. Felly, ni allaf gefnogi gwelliant 7, er, wrth gwrs, ni fydd absenoldeb cyfeiriad penodol at e-sigaréts yn adran 4 yn ein hatal rhag ystyried a ddylid gwahardd rhai mathau o e-sigaréts plastig untro, na chwaith rhag adrodd i'r Senedd ar yr ystyriaeth honno, fel y byddwn yn ei wneud gyda chynhyrchion eraill y byddwn yn ystyried gweithredu yn eu cylch yn y dyfodol. Byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion polisi weithio gyda'u cydweithwyr ym maes iechyd i ddechrau'r gwaith sydd ei angen, gan ein bod yn ystyried y mater hwn o safbwynt iechyd ac o safbwynt amgylcheddol. Diolch. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes gennyf i ddim byd llawer i'w ychwanegu at yr hyn yr wyf i eisoes wedi'i ddweud yn dilyn sylwadau'r Gweinidog. Rwy'n ddiolchgar y bydd hi'n gwneud ystyriaethau pellach yn dilyn fy ngwelliannau. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 6: O blaid: 13, Yn erbyn: 40, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Rŷn ni nawr yn symud i bleidlais ar welliant 1, a gafodd ei drafod fel rhan o grŵp 1. Ydy'r Gweinidog yn cynnig y gwelliant? 

Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James).

Ydy, mae'n cael ei gynnig. Felly, a oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 1? Gwrthwynebiad?

Oes gwrthwynebiad?

Dim gwrthwynebiad i welliant 1. Felly, mae gwelliant 1 yn cael ei dderbyn.

16:45

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Canllawiau (Gwelliannau 15, 17)

Grŵp 3 o welliannau sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chanllawiau. Gwelliant 15 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant a'r gwelliannau yn y grŵp—Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 15 yn mewnosod is-adran newydd i bwynt 3 o adran 2 o'r Bil. Nawr, o dan yr adran 'Cynhyrchion plastig untro gwaharddedig', bydd y gwelliant hwn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru'n cyhoeddi canllawiau sy'n egluro sut y bydd yr esemptiadau presennol yn berthnasol i wellt a sut y gall cyflenwyr fod yn rhesymol fodlon bod angen y gwellt ar ddefnyddwyr am resymau iechyd neu anabledd. Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hwn yn iawn. Mae angen i Weinidogion Cymru wneud yn siŵr bod y canllawiau yn cael eu cyhoeddi fel bod dealltwriaeth gyffredinol ymysg busnesau ledled Cymru. Ni allwn dderbyn sefyllfa pryd y gofynnir i ddefnyddiwr brofi bod ganddo anabledd neu fod ei anabledd yn werth yr esemptiad. Hefyd ni allwn ni dderbyn sefyllfa pryd fydd un busnes yn dweud 'iawn' ac yn darparu gwelltyn, yna'r busnes nesaf y mae'r defnyddiwr yn mynd ato yn dweud 'na'.

Bydd gwelliant 17 yn mewnosod gofyniad i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau y maen nhw'n eu hystyried yn gynrychiolwyr y rhai hynny sydd â nodweddion gwarchodedig cyn gwneud rheoliadau o dan adran 3. Unwaith eto, rwyf hefyd yn credu bod y gwelliant hwn yn bwysig iawn. Nawr, byddwn i'n gobeithio y byddai Gweinidogion yn cyfathrebu â grwpiau neu bobl sy'n cynrychioli'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael cadarnhad o hyn ar y Bil. Rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog a'i thîm wedi gweithio gyda mi ar y gwelliant hwn. Mae hyn yn dangos bod nod cyffredin yma rhyngom i wneud yn siŵr bod y Bil hwn yn gynhwysol. Diolch.

Gan droi at welliant 15, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, mae'r gwelliant hwn yn mewnosod darpariaeth yn adran 2 o'r Bil i nodi sut y dylai'r esemptiadau a gynhwysir yn nhabl 1 o'r Atodlen sy'n ymwneud â gwellt plastig untro gael eu cymhwyso: yn benodol, sut y gall cyflenwr fod yn fodlon ei fod yn credu'n rhesymol bod angen gwelltyn ar berson am resymau iechyd neu anabledd. Mae'n bwysig iawn bod yr esemptiad hwn yn cael ei drin yn sensitif. Mae pobl anabl a'r grwpiau sy'n eu cynrychioli wedi pwysleisio'n barhaus eu bod yn poeni am yr amgylchedd ac eisiau gwneud eu rhan i'w ddiogelu. Fodd bynnag, ar yr un pryd, nid ydyn nhw eisiau ddioddef gwahaniaethu na bod yn destun safbwyntiau negyddol am ddefnyddio cynhyrchion y gallan nhw fod yn dibynnu arnyn nhw i ofalu amdanyn nhw eu hunain neu i gadw'n ddiogel. Rydym wedi egluro o'r dechrau, pan fydd unigolion yn gofyn am welltyn, nad oes angen iddyn nhw ddarparu unrhyw dystiolaeth o'r angen hwnnw. Yn seiliedig ar lefel aruthrol y gefnogaeth i'r gwaharddiadau a'r esemptiadau, nid ydym yn credu y bydd unigolion yn gofyn am welltyn oni bai eu bod wir ei angen. O ganlyniad, credwn na fydd unrhyw faich ar y cyflenwr i ofyn am dystiolaeth o'r angen hwnnw, ac ni fydd unrhyw ofyniad i'r cyflenwr ragdybio'r angen hwnnw. Er mwyn sicrhau bod busnesau a phobl anabl yn ymwybodol o'r drefn hon, rydym yn datblygu canllawiau cynhwysfawr ac yn cynhyrchu deunydd codi ymwybyddiaeth. Llywydd, pe bai'r Bil yn pasio yma heddiw, bydd yr ohebiaeth gychwynnol yn cael ei rhyddhau yr wythnos hon i ddechrau'r broses hon. Yn seiliedig ar y rhesymau yr ydw i wedi'u darparu, rwy'n ystyried bod gwelliant 15 yn ddiangen ac ni fyddaf yn ei gefnogi.

Y nesaf yw gwelliant 17, a gyflwynwyd hefyd gan Janet Finch-Saunders. Mae'r gwelliant hwn mewn cysylltiad ag adran 3 o'r Bil ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â chynrychiolwyr grwpiau nodweddion gwarchodedig mewn cysylltiad â chyflwyno rheoliadau o dan y Bil a all effeithio arnyn nhw. Cyflwynwyd y gwelliant hwn yn wreiddiol gan yr Aelod yng Nghyfnod 2, a cheisiodd hwn ddiwygio adran 3 o'r Bil i osod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â chynrychiolwyr pobl anabl mewn cysylltiad â chyflwyno gwaharddiadau yn y dyfodol a allai effeithio arnyn nhw. Er fy mod wedi cefnogi egwyddor y gwelliant yng Nghyfnod 2, roeddwn i'n ffafrio gwelliant sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori nid yn unig â chynrychiolwyr pobl anabl, ond cynrychiolwyr unrhyw grŵp nodweddion gwarchodedig. Credaf y bydd y dull hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i gyfrif am anghenion y grwpiau hyn wrth i ni fwrw ymlaen â gwaith yng nghyfnodau'r Bil yn y dyfodol. Diolch yn fawr i'r Aelod am weithio ar y cyd â ni i wneud y newidiadau pwysig hyn, ac rwy'n falch iawn o gefnogi gwelliant 17 a gofyn i Aelodau wneud yr un peth. Diolch.

Eto, yn amlwg, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am hynna o ran gwelliant 17, ond, er mwyn sicrhau diogelwch y rhai sydd â nodwedd warchodedig, ac rwyf i eisiau sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cysylltu â grwpiau i warantu'r amddiffyniad, byddaf yn dal i gyflwyno gwelliant 15.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe symudwn ni at bleidlais ar welliant 15. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 15 wedi ei wrthod.

16:50

Gwelliant 15: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Gweithgynhyrchu cynhyrchion plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 57, 58, 59, 16, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 30, 56)

Grŵp 4 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â gweithgynhyrchu cynhyrchion plastig untro gwaharddedig. Gwelliant 57 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Delyth Jewell.

Cynigiwyd gwelliant 57 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Pwrpas fy ngwelliant arweiniol 57 a gwahanol welliannau canlyniadol iddo fyddai, fel y nodir, i wahardd gweithgynhyrchu'r eitemau a restrir yn y ddeddfwriaeth hon, yn ogystal â'u cyflenwi. Byddai'r ddeddfwriaeth hon wedyn yn cyd-fynd â deddfwriaeth yr Alban, ond gellid dadlau bod yr egwyddor yn y fan yma yn ein poeni ni yng Nghymru yn fwy fyth oherwydd y cyfrifoldeb byd-eang sydd wedi'i gynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Y syniad y tu ôl i'r gwelliannau hyn fyddai sicrhau nad oes modd gweithgynhyrchu cynhyrchion yng Nghymru ac yna eu hallforio i rannau eraill o'r byd. Mae'n ymddangos i mi y byddai methu â gwahardd gweithgynhyrchu eitemau yn anfwriadol yn dileu'r camau ymlaen yr ydym yn eu cymryd yn feiddgar yn y Bil hwn. Rydym yn siarad yn aml yn y Siambr hon am yr angen i sicrhau nad ydym yn adleoli ein cydwybod. Gyda gwastraff plastig, mae'r egwyddor hon yn ymddangos yn arbennig o berthnasol. Gallai rhannau eraill o'r byd barhau i foddi mewn plastig a wnaed yma yng Nghymru oni bai ein bod ni'n fwy rhagnodol. Dylem fod yn falch, wrth gwrs, o'r brand 'Gwnaed yng Nghymru'. Ni ddylai fod yn rhywbeth sy'n dod â chywilydd arnom ni.

Oherwydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol, mewn sawl ffordd byddwn i'n dadlau y byddai'r gwelliannau hyn mewn egwyddor yn clymu'r Bil hwn gydag egwyddorion cyfreithiau eraill. Byddent yn helpu i nodi beth ddylai datganiadau mor bwysig olygu yn ymarferol. Rwyf yn gobeithio y cânt gefnogaeth. Diolch.

Nawr, cyflwynais welliant 16, gan y byddai hwn yn mewnosod adran newydd ar wyneb y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru weithredu a chynnal rhestr o weithgynhyrchwyr cynhyrchion plastig untro yng Nghymru. Fe wnes i gyflwyno hwn yng Nghyfnod 2, ac, yn amlwg, rwyf wedi ei gyflwyno eto.

Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog y gallai'r gwelliant hwn helpu i wella ymgysylltiad â'r diwydiant. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi dweud bod mwy i hyn na chynnal rhestr yn unig. Fodd bynnag, mae deall y diwydiant yn mynd i fod yn bwysig, oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, rydym yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau ar gyfer plastig. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn amwys yma am reswm, ond, pa bynnag gynlluniau sydd gennych, bydd yn effeithio ar y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae gan yr Alban a Lloegr restrau mwy cynhwysfawr na Chymru. Mae angen i ni ddal i fyny. Mae'n hen bryd cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Yn sicr nid ydym ni eisiau syrthio ymhellach ar ei hôl hi.

Mae gwelliant 30 yn ganlyniadol i welliant 16. Byddai'r gwelliant hwn yn mewnosod gwelliant 16 yn adran 'Dod i rym' y Bil. Diolch.

Mae pob gwelliant yn y grŵp hwn yn ymdrin â'i gwneud yn drosedd i weithgynhyrchu, yn ogystal â chyflenwi neu gynnig cyflenwi, cynnyrch plastig untro gwaharddedig yn rhan Atodlen y Bil.

Yn ystod Cyfnod 2, cafodd gwelliannau tebyg ynglŷn â gweithgynhyrchu cynhyrchion untro eu cyflwyno a'u gwrthod gan aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith. Roedd hyn ar y sail bod y Bil yn ymdrin â gwahardd cyflenwi cynhyrchion plastig untro. Felly, mae'r gwelliannau y tu allan i'r cwmpas. Sefydlwyd cwmpas y Bil adeg ei gyflwyno ac nid yw wedi newid.

Nawr at y cynigion yn y grŵp hwn. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cyflwyno newidiadau i sawl adran o'r Bil. Gan ddechrau gyda gwelliant 43, a gynigiwyd gan Delyth Jewell, diben y gwelliant hwn yw mewnosod adran newydd sy'n creu trosedd newydd i gwmpasu gweithgynhyrchu unrhyw un o'r cynhyrchion plastig untro sy'n ymddangos yn yr Atodlen. Mae gwelliant 44, a gynigiwyd hefyd gan Delyth Jewell, yn ganlyniadol i welliant 43, ac, yn adlewyrchu'r troseddau arfaethedig o gyflenwi a chynnig cyflenwi, ac y byddai'n gosod cosb o ddirwy am weithgynhyrchu cynnyrch plastig untro gwaharddedig.

Mae gwelliannau 45, 46, 47, hefyd gan Delyth Jewell, hefyd yn ganlyniadol i 43, ac yn ymwneud â phwerau newydd i awdurdodau lleol. Yn eu tro, byddent yn caniatáu i awdurdodau lleol ymchwilio i'r drosedd newydd arfaethedig o weithgynhyrchu, caniatáu iddyn nhw erlyn y drosedd hon a chymryd camau i leihau nifer yr achosion.

Mae gwelliannau 48, 49, 50, 51, 52 a 53 hefyd yn ymwneud â phwerau i awdurdodau lleol, hefyd gan Delyth, ac yn ganlyniadol i welliant 43. Maen nhw'n adlewyrchu'r pwerau sydd eisoes wedi'u cynnig yn y Bil ynglŷn â'r troseddau cyflenwi a chynnig cyflenwi mewn cysylltiad â'r drosedd arfaethedig o weithgynhyrchu hefyd. Byddent yn rhoi'r pwerau i awdurdodau lleol gael mynediad at, archwilio ac ymafael yn y deunydd o'r safle yn ystod eu hymchwiliad.

Byddai gwelliant 54 gan Delyth Jewell, ac yn ganlyniadol i welliant 43, yn ymestyn pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer sancsiynau sifil mewn cysylltiad â'r drosedd newydd arfaethedig o weithgynhyrchu. Byddai gwelliant 56, hefyd gan Delyth Jewell ac yn ganlyniadol i welliant 43, yn darparu ar gyfer y drosedd newydd arfaethedig o weithgynhyrchu i ddod i rym ddiwrnod ar ôl i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae gwelliant 58 yn darparu ar gyfer esemptiad mewn cysylltiad â gweithgynhyrchu bagiau siopa y bwriedir eu defnyddio i gyflenwi o dan esemptiadau penodol, tra byddai gwelliant 59 yn gwahardd cynhyrchu cynhyrchion ocso-ddiraddadwy, yn ogystal â'u cyflenwi, drwy ddiwygio tabl 1.

Gan symud ymlaen, felly, i'r gwelliannau yn y grŵp hwn a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders, mae gwelliant 16 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal rhestr o weithgynhyrchwyr cynhyrchion untro yng Nghymru, ac mae gwelliant 30, sy'n ganlyniadol i hwn, yn cynnig y byddai'r ddyletswydd hon yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol.

Llywydd, fel y dywedais eisoes, cynigiwyd gwelliannau tebyg yn ystod Cyfnod 2 a'u gwrthod gan y pwyllgor. Roedd hyn oherwydd eu bod yn mynd at galon yr egwyddorion sy'n sail i'r ddeddfwriaeth hon, sydd eisoes wedi'u sefydlu. Mae'r Bil hwn yn canolbwyntio ar leihau niwed amgylcheddol drwy gyfyngu ar gyflenwi cynhyrchion plastig untro diangen i ddefnyddwyr. I raddau helaeth mae gweithgynhyrchu cynhyrchion plastig untro a gwmpesir gan y Bil yn digwydd y tu allan i Gymru. Nid wyf o'r farn y byddai budd sylweddol o wahardd gweithgynhyrchu. Rwyf o'r farn y byddai hyn yn dyblu'n ddiangen gofynion adnoddau i reoleiddwyr archwilio ochr weithgynhyrchu'r gadwyn gyflenwi hefyd ar gyfer yr un cynhyrchion, ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus ar gyfer rheoleiddwyr yn dod o dan bwysau difrifol.

Am y rhesymau hyn, ni allaf argymell unrhyw un o'r cynigion hyn. Ond, Llywydd, gallaf eich sicrhau chi ac Aelodau yma fod gennym gynlluniau ar waith i adeiladu ar ein perthynas gadarnhaol bresennol â gweithgynhyrchwyr wedi'u lleoli yma yng Nghymru i edrych ar atebion nad ydyn nhw'n ddeddfwriaethol i gyflawni nodau ein polisi. Bydd hyn yn cynnwys cymorth grant posibl, cynlluniau arloesol a chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Nid y Bil hwn yw'r unig ddarn o ddeddfwriaeth na'r unig bŵer y gofynnir i'r Senedd edrych arno yn hyn o beth a byddwn yn hapus i ymgysylltu ymhellach â'r Senedd ar y materion dan sylw mewn cysylltiad â gweithgynhyrchwyr a leolir yma yng Nghymru. Diolch.

16:55

Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog. Rwyf yn derbyn y pwynt yr oeddech chi'n ei wneud yn y fan yna am y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd o ran cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, o ran y sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda gweithgynhyrchwyr. Wrth gwrs mae croeso i'r rheini. Rwyf yn derbyn y pwynt am gwmpas y Bil hwn, ond byddaf yn gwthio'r gwelliannau hyn i bleidlais, oherwydd rwy'n credu y byddai peidio â chymryd y cyfle hwn i gwmpasu gweithgynhyrchu'r eitemau hyn yn gyfle a gollwyd gyda chymaint o ganlyniadau byd-eang. Felly, rwy'n ddiolchgar am esboniad y Gweinidog, ond byddaf yn dal i roi'r rhain i bleidlais, os gwelwch yn dda.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 57? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 57. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 57 wedi ei wrthod.

Gwelliant 57: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Esemptiadau mewn perthynas â meddyginiaeth fferyllol (Gwelliannau 2, 3, 4, 5)

Grŵp 5 sydd nesaf; mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag esemptiadau mewn perthynas â meddyginiaeth fferyllol. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Gweinidog. 

Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).

Diolch, Llywydd. Yng Nghyfnod 2, derbyniais welliant a gyflwynwyd gan Delyth Jewell i leihau nifer yr esemptiadau ar gyfer bagiau siopa plastig untro o'r gwaharddiad a gyflwynwyd gan y Bil, yn benodol i gael gwared ar yr esemptiad sy'n berthnasol pan gaiff claf fag siopa plastig untro pan weinyddir meddyginiaeth neu ddyfais feddygol ar bresgripsiwn, a ddiffinnir fel 'cyfarpar rhestredig' yn y Bil. Fodd bynnag, ar y pryd cydnabuwyd y byddai derbyn y gwelliant hwn yn arwain at anghysondeb gan ei fod yn dal yn caniatáu bagiau plastig untro ar gyfer meddyginiaeth fferyllol, pan nad yw'n cael ei gyflenwi yn unol â phresgripsiwn a roir gan weithiwr iechyd proffesiynol. Felly, rwyf wedi cyflwyno gwelliant 2 i gael gwared ar yr esemptiad ar gyfer meddyginiaeth fferyllol nad yw ar bresgripsiwn i sicrhau bod y gwelliant a gytunwyd yng Nghyfnod 2 yn dechnegol gywir.

Mae gwelliannau 3 a 5 yn welliannau canlyniadol i welliant 2 ac yn dileu'r diffiniadau o 'broffesiynolyn iechyd' a 'meddyginiaeth fferyllol' o Atodlen 1 i'r Bil. Mae gwelliant 4 yn ganlyniadol i welliant Delyth Jewell yng Nghyfnod 2 ac yn dileu'r diffiniad o 'gynnyrch meddyginiaethol' o'r Bil, gan nad oes ei angen mwyach. Ac rwy'n ddiolchgar i Delyth am gyflwyno'r gwelliant. Diolch. 

Does gyda fi ddim siaradwyr ar y grŵp yma, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly, mae gwelliant 2 yn cael ei dderbyn.

17:00

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rydym nawr yn symud i welliant 58 a gafodd ei drafod fel rhan o grŵp 4. Delyth Jewell, ydy gwelliant 58 yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 58 (Delyth Jewell).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 58? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni symud i bleidlais ar welliant 58. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 58 wedi ei wrthod.

Gwelliant 58: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Esemptiadau mewn perthynas â ffyn cotwm (Gwelliannau 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38)

Grŵp 6 sydd nesaf, a'r grŵp yma yn ymwneud ag esemptiadau mewn perthynas â ffyn cotwm. Gwelliant 31 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Felly, byddaf yn siarad am welliannau 31, 32, 33, 35, 36, 37 a 38. Byddai gwelliannau 31, 32 a 33 yn ychwanegu esemptiadau ar gyfer ffyn cotwm at y Bil. Byddai gwelliant 31 yn ychwanegu esemptiad ar gyfer ffyn cotwm a gyflenwir i ddarparwr gwasanaeth fforensig. Byddai gwelliant 32 yn ychwanegu esemptiad ar gyfer ffyn cotwm a ddefnyddir fel dyfais berthnasol at ddibenion meddygol neu gan weithiwr iechyd proffesiynol at ddibenion meddygol. Byddai gwelliant 33 yn ychwanegu esemptiad ar gyfer ffyn cotwm a gyflenwir at ddibenion diagnostig, addysgol neu ymchwil.

Byddai gwelliant 35 yn diwygio'r diffiniad presennol o 'broffesiynolyn iechyd' yn y Bil hwn. Yn sgil y gwelliant byddai'r diffiniad o 'broffesiynolyn iechyd' yn cyd-fynd â deddfwriaeth briodol Llywodraeth y DU. Nid wyf eisiau ailadrodd fy hun o hyd, ond rwy'n credu, lle gallwn ni, fod gwir angen i ni ddefnyddio deddfwriaeth sy'n gyson â gweddill Prydain. Mae'r diffiniadau presennol yn glir: mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn amlwg yn credu bod y diffiniadau'n glir. Felly, nid wyf yn credu y dylem ni fod yma yn treulio amser yn aralleirio diffiniadau dim ond i wneud pwynt.

Byddai gwelliant 36 yn mewnosod diffiniad o 'ddibenion meddygol' ar wyneb y Bil at ddiben y tabl o gynhyrchion gwaharddedig a'u hesemptiadau. Byddai gwelliant 38 yn rhoi'r diffiniad o 'ddyfais berthnasol' yn Atodlen 1 o'r Bil at ddiben tabl 1 neu'r tabl o gynhyrchion gwaharddedig a'u hesemptiadau. Diolch.

Does gyda fi ddim siaradwyr eraill ar hyn, oni bai am y Gweinidog i gyfrannu.

Diolch, Llywydd. Bwriad y Bil yw gwahardd cyflenwi a chynnig cyflenwi ar gyfer gwerthu neu am ddim y cynhyrchion sydd wedi'u rhestru yn y Bil i ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae gwelliannau 31, 32 a 33 a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders yn cynnig diwygio Atodlen 1 i'r Bil i esemptio'n benodol y defnydd o ffyn cotwm plastig untro at ddibenion fforensig, fel dyfeisiau perthnasol a ddefnyddir at ddibenion meddygol neu i'w defnyddio gan weithiwr iechyd proffesiynol at ddibenion meddygol, neu i gyflenwi ffyn cotwm at ddibenion diagnostig, addysgol neu ymchwil.

Fel y nodwyd eisoes yng Nghyfnod 2, bwriad ein polisi yw cipio ffyn cotwm a ddefnyddir mewn lleoliad domestig ac sydd o bosibl yn cael eu gwaredu'n anghywir trwy gael eu fflysio i lawr y toiled. Credwn y byddai ffyn â phennau cotwm a ddefnyddir mewn lleoliadau meddygol, labordy neu fforensig, sy'n cael eu gwaredu'n gywir, yn cael eu hystyried yn swabiau. Darparwyd cyd-destun ychwanegol i'r diffiniad. Mae hyn yn sicrhau bod ffyn cotwm sy'n cael eu defnyddio mewn lleoliad meddygol wedi'u hesemptio o'r darpariaethau, yn unol â bwriad ein polisi. Byddai cyflenwi'r cynhyrchion hyn at ddibenion ymchwil neu fforensig yn dod o gyflenwad busnes i fusnes ac felly ni fyddent yn cael eu cipio gan y gwaharddiadau. Ar y sail hon, nid oes angen yr esemptiadau hyn.

Mae gwelliannau 36 a 38 yn ganlyniadol i welliant 32, felly nid oes angen y gwelliannau hyn chwaith. Mae gwelliant 35 yn diwygio'r diffiniad o 'broffesiynolyn iechyd' yn y Bil. Mae'r gwelliant hwn yn ddiffygiol yn dechnegol oherwydd ei fod yn dibynnu ar dermau diffiniedig a nodir yn Neddf Ddehongli 1978, nad ydynt yn berthnasol i'r Bil. Am y rhesymau yr wyf wedi'u nodi, nid wyf felly yn cefnogi gwelliannau 31, 32, 33, 35, 36 a 38.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 31. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 31 wedi ei wrthod.

Gwelliant 31: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 32, ydy e'n cael ei gynnig?

A yw yn cael ei gynnig, Janet Finch-Saunders?

Cynigiwyd gwelliant 32 (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? [Gwrthwynebiad.] Na, felly mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 32 wedi ei wrthod.

Gwelliant 32: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 33—

—a yw'n cael ei gynnig? Gwelliant 33, Janet.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i welliant 33. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 33 wedi ei wrthod.

Gwelliant 33: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais ar welliant 9 sydd nesaf a gafodd ei drafod o dan grŵp 2. Rhys ab Owen, ydy gwelliant 9 yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 9 (Rhys ab Owen).

Mae gwelliant 9 wedi ei gynnig, felly. A oes gwrthwynebiad i welliant 9? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 9 wedi ei wrthod.

Gwelliant 9: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 7: Cynhyrchion a wneir o blastig ocso-ddiraddiadwy ac ocso-fioddiraddadwy (Gwelliannau 34, 20, 22)

Grŵp 7 o welliannau sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chynhyrchion a wneir o blastig ocso-ddiraddiadwy a phlastig ocso-fioddiraddadwy. Gwelliant 34 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant a siarad i'r grŵp. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Janet Finch-Saunders).

Diolch. Rwy'n cynnig gwelliant 34 yn enw'r Gweinidog—o na, chi oedd hwnna. [Chwerthin.] Dim ond yn dwyn eich clodydd yn y fan yna. Iawn, byddai gwelliant 34 yn cael gwared ar 'blastig ocso-ddiraddadwy' o dabl 1 y Bil. Byddai hyn yn dileu'r gwaharddiad ar gyflenwi plastig ocso-ddiraddadwy i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Fel y dywedais i yn gynharach, y Gweinidog a minnau, roeddem yn anghytuno ynghylch plastig ocso-ddiraddadwy yng Nghyfnod 2. Er hynny, rwyf eisiau pwysleisio eto fy mod yn credu ei bod yn anghywir gwahardd plastigau ocso-ddiraddadwy pan (1)—Rhif 1—fo'r Gweinidog wedi cyfaddef ei bod yn credu ei hun bod plastig ocso-ddiraddadwy yn cael ei ddiffinio'n wael ac nad oedd (2), y deunydd wedi'i gostio. Felly, mae'n debyg mai'r cwestiwn sy'n rhaid i mi ei ofyn yw hyn: a yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn iawn i gyflwyno deddfwriaeth pan nad yw wedi'i gostio?

Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi honni y byddai'n cymryd amser i wahardd plastigau ocso-ddiraddadwy, ond mae hynny'n gwneud i mi feddwl tybed pam yr ydych chi wedi ymrwymo i'w wahardd os ydych chi eich hun yn cydnabod bod angen mwy o ymchwil. Rwyf hefyd yn siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol y bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu her gyfreithiol os yw'n parhau i gael ei gynnwys. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog bod angen mwy o ymchwil, a bydd hynny'n cymryd amser, ac felly, i mi, y dewis call a chywir yw peidio â gwahardd y deunydd ar wyneb y Bil.

Byddai gwelliant 37 yn dileu'r diffiniad o 'blastig ocso-ddiraddadwy' o wyneb y Bil. Rwyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant hwn. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi anghytuno â mi ynghylch hyn y tro diwethaf, ac nid wyf yn credu ei fod yn ddefnydd da o amser i ailadrodd ein hunain eto dim ond i ddod i'r un casgliad, fodd bynnag, mae fy rhesymu dros y gwelliant hwn yn adleisio'r hyn yr wyf newydd ei ddweud ynghylch gwelliant 34.

Byddai gwelliant 20 yn mewnosod 'plastig ocso-ddiraddadwy' yn adran 4 o'r Bil, lle mae'n rhaid i Weinidogion Cymru nodi gwybodaeth ynghylch eu hystyriaeth o ran a ddylid arfer y pŵer yn adran 3. Felly byddai angen i Weinidogion Cymru ddeddfu'r ddarpariaeth hon wrth geisio gwahardd cyflenwi plastig ocso-ddiraddadwy yn y dyfodol. Nawr, fe wnes i gyflwyno'r gwelliant hwn gan fy mod yn gobeithio y gallai'r Gweinidog erbyn hyn fod wedi derbyn yr hyn a ddywedom ni o'r blaen am blastig ocso-ddiraddadwy ac yn cytuno â mi nad yw'n iawn i wahardd y deunydd pan nad oes unrhyw gostio wedi digwydd, ac yn ystod Cyfnod pwyllgor 2, fe wnes i egluro ar bwy fyddai hynny'n effeithio yma yng Nghymru, gan gynnwys o bosibl ein ffermwyr.

Dywedodd y Gweinidog bod angen mwy o ymchwil. Unwaith eto, rwy'n gofyn pam, pan fo'r Gweinidog yn credu hyn, y mae ar wyneb y Bil i gael ei wahardd. Rwy'n credu bod y gwelliant hwn yr ydym ni wedi'i gyflwyno yn gyfaddawd da. Mae symud plastig ocso-ddiraddadwy i adran 4 yn rhoi amser—amser digonol—i ymchwilio iddo. Os ydych chi'n mynd i gyflwyno deddfwriaeth, os ydym ni'n mynd i graffu ar ddeddfwriaeth yma yn y lle hwn, mae'n rhaid i ni wneud pethau'n iawn.

Byddai gwelliant 22 yn mewnosod diffiniad o 'blastig ocso-ddiraddadwy' yn adran 4 o'r Bil. Y diffiniad yw diffiniad y Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Safoni, fel y'i defnyddir gan gyfarwyddeb yr UE ar blastig untro. Diolch.

17:10

Rwy'n credu ei bod yn werth cael trafodaeth fer ar hyn, oherwydd rwyf wedi clywed nad oes diffiniad priodol gwirioneddol, sydd wedi'i gytuno'n llwyr, o ba fagiau ocso-bioddiraddadwy sydd yn fioddiraddadwy mewn gwirionedd a pha rai nad ydyn nhw'n fioddiraddadwy. Yn fy marn i, yn amlwg mae'n rhaid iddyn nhw ymchwalu'n llwyr wrth ddod i gysylltiad â dŵr neu olau, a pheidio â gadael plastig yn yr amgylchedd pan fyddant yn diflannu.

Felly, es i lawr i'r Co-op i gael un o'r bagiau bioddiraddadwy hyn, y maen nhw'n honni eu bod wedi'u hardystio i safonau BS EN 13432 ac OK compost Home, ac mae bagiau â labeli yn honni y gellir eu compostio yn yr un modd wedi'u gwneud o'r un math o ddeunydd. Mae'r Co-op yn dadlau bod defnyddio'r bagiau hyn fel leinin cadi bwyd yn lanach ac yn fwy cyfleus na pheidio â defnyddio bag. Nawr, y dewis arall, yn amlwg, os ydych chi'n mynd i siopa, ydy defnyddio bag papur, neu gael bag papur, ond pan ddaw i waredu gwastraff cegin, ydy bag papur yn mynd i gyflawni'r gwaith, neu yn wrthnysig a yw'n mynd i arwain at fwy o bobl yn gwrthod ailgylchu gwastraff bwyd? Roeddwn i eisiau holi am hyn, o ran a oes canlyniadau gwrthnysig wrth wahardd pob deunydd bioddiraddadwy, os ydyn nhw'r hyn y maen nhw'n honni. Neu beth fydd y dewisiadau eraill? A pha wybodaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chael gan awdurdodau lleol ynghylch sut y bydden nhw yn ymdrin â gwastraff bwyd os gwnawn ni wahardd y mathau hyn o bethau, sy'n cael eu defnyddio'n helaeth gan awdurdodau lleol i annog pobl i ailgylchu bwyd?

O, cyn i mi ofyn i'r Gweinidog ymateb, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dim ond siarad i gefnogi pwyntiau Jenny, i holi'r Gweinidog ychydig ymhellach, un o'r pethau y mae'r Co-op yn dweud yn arbennig yw eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar hyn, sef y gellir ei gompostio. Maen nhw wedi osgoi'n daer y mater o fod yn ddiraddadwy, oherwydd maen nhw'n dweud, 'Wel, mae hyn mewn gwirionedd ar flaen y gad, bydd yn mynd i mewn i'r domen gompost, bydd yn diraddio', ac ati. Felly, rwyf eisiau holi mwy ar y Gweinidog i weld beth yw ei meddyliau ynghylch hyn a lle mae'r wyddoniaeth ar hyn o bryd, ynghylch a yw hyn yn ateb neu a yw, i bob pwrpas, yn ateb i gwestiwn a oedd yn cael ei ofyn o'r blaen—ateb ddoe, os mynnwch chi.

Ond hefyd, yn ychwanegol at hynny, os nad dyma'r ateb, os oes bwriad i wahardd plastigau yn gyfan gwbl, a chymryd plastigau allan o'r system, yna sut mae hi'n gweithio gyda manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr cynnyrch o safonau Prydeinig er mwyn sicrhau eu bod yn gallu pontio tuag at gynhyrchion eraill a fydd yn dod o fewn y dull hwn o fynd i'r afael â phlastigau untro mewn gwirionedd?

Diolch, Llywydd. Fe wnaf ymdrin â gwelliant 34 yn gyntaf. Byddai gwelliant 34 yn tynnu cynhyrchion plastig ocso-ddiraddadwy o'r rhestr o gynhyrchion gwaharddedig yn Atodlen 1, yn ogystal â'r diffiniad o 'blastig ocso-ddiraddadwy'. Ac mae Janet yn hollol gywir, fe wnes i nodi mewn ymddangosiadau cynharach mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn bod plastig ocso-ddiraddadwy yn faes cymhleth sy'n dal yn destun ymchwilio. Ond, ar hyn o bryd, rydym yn gwbl fodlon bod tystiolaeth gredadwy o'r niwed y mae plastigau ocso-ddiraddadwy yn ei achosi i'r amgylchedd. Yn ein barn ni, mae hyn yn cyfiawnhau cynnwys y gwaharddiad ar wyneb y Bil yn llwyr. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yr angen i ystyried tystiolaeth ymhellach; er enghraifft, p'un a oes is-gategorïau o blastig ocso-ddiraddadwy y dylid eu hesemptio cyn i'r gwaharddiad ddod i rym. Mae cychwyn y gwaharddiad ar blastig ocso-ddiraddadwy, felly, yn cael ei gyflwyno'n raddol er mwyn rhoi amser i ddatblygu ymchwil a pholisi pellach. Byddai'r pŵer gwneud rheoliadau yn caniatáu ychwanegu esemptiadau ar gyfer cynhyrchion sy'n ocso-ddiraddadwy, neu i'r categori hwn o blastig gael ei dynnu'n gyfan gwbl o'r Bil pe bai tystiolaeth newydd, gadarn yn dangos bod gweithred o'r fath yn ddoeth.

I droi at y pwyntiau a wnaed gan Jenny a Huw mewn cysylltiad â'r bag o'r Co-op, yn amlwg mae rhai manwerthwyr wedi mynd i drafferth er mwyn achub y blaen ar wahanol adegau, ond mae'r dystiolaeth yn parhau drwy'r amser. Os ydych chi'n casglu gwastraff bwyd er mwyn iddo gael ei gasglu gan awdurdod trefol yng Nghymru mewn cadi bwyd, nid yw'r bwyd yn mynd i gael ei gompostio, mae'n mynd i system dreulio anaerobig. Mae hynny'n llawer poethach, ac mae llawer o'r bygiau sy'n bwyta'r compost bwyd yr ydych chi'n ei roi yno yn gweithredu ar dymheredd sy'n llawer uwch nag unrhyw domen gompost ddomestig. Yn amlwg, mae'r hyn sy'n mynd i mewn i'r treulwyr anaerobig hynny yn cael ei reoleiddio'n ofalus. Nid ydym ychwaith eisiau lladd y bygiau; mae'r bobl sy'n eu cynnal yn dod yn hoff iawn o'r bygiau ac yn siarad amdanyn nhw fel pe baen nhw'n anifeiliaid anwes. Felly, mae'r bagiau cadi bwyd sy'n cael eu dosbarthu i chi gan yr awdurdodau lleol wedi'u dylunio i weithio gyda'r bygiau i gadw'ch bwyd ar ffurf gywasgedig i chi ei gyflwyno, ond yna i fynd yn gyfan gwbl i mewn i'r system dreulio anaerobig heb orfod cael ei dynnu allan o flaen llaw. Os ydych chi'n defnyddio plastigau ocso-ddiraddadwy, yna gallaf eich sicrhau chi eu bod yn cael eu tynnu o'r system honno, ac, mewn gwirionedd, maen nhw'n achosi problemau.

Mae'n ffaith hefyd y gellir eu compostio mewn rhai amgylchiadau, ond mae'r rhan fwyaf o domenni compost domestig yn bell iawn o gyrraedd y tymheredd sy'n ofynnol gan reoliadau BS EN. Rydw i fy hun yn frwd dros gompostio cartref, a gallaf ddweud wrthych nad ydyn nhw'n diraddio yn fy nhomen gompost i, sy'n eithaf poeth—mae ganddi wyau gwiber ynddi, sy'n hyfryd o beth. Dyna'r broblem; y broblem yma yw ei fod yn iawn os ydych chi'n mynd i'w wneud drwy system drefol sy'n gallu eu trin, ond rydym yn sôn am fagiau sy'n cael eu dosbarthu i aelodau'r cyhoedd, ac ni ellir disgwyl iddyn nhw allu eu compostio. Rwy'n canmol y Co-op am weithio'n galed iawn i fod ar flaen y gad, ond mae'r wyddoniaeth hon yn datblygu drwy'r amser. Mewn gwirionedd, os gallwch chi dynnu plastig allan o'r gadwyn yn gyfan gwbl, wel mae hynny'n amlwg yn well. Mae yna lu o gynhyrchion y gwnaethom ni ymgynghori arnyn nhw—dros 60 yr oedd pobl eisiau i ni edrych arnyn nhw. Mae'r Bil hwn yn ein galluogi ni i barhau ar y daith honno dan reolaeth a gwneud yn siŵr ein bod yn gyfarwydd â'r ymchwil diweddaraf bob amser fel y gallwn ychwanegu a thynnu oddi ar y rhestr o gynhyrchion.

Wrth gwrs, os gall y ffermwyr gynnig ffordd o ddefnyddio plastig ocso-ddiraddadwy nad yw'n niweidio'r amgylchedd ac y gellir dangos nad yw'n chwalu i adael nanoronynnau yn y pridd, sydd, mewn gwirionedd, y math gwaethaf o ronynnau, yna, wrth gwrs, byddwn yn eu hesemptio, ond nid yw'r wybodaeth honno ar gael ar hyn o bryd. Felly, Llywydd, nid wyf yn gwneud unrhyw ymgais i dynnu'n ôl rhag eu rhoi ar wyneb y Bil. Os daw'r dystiolaeth yn glir y gellir eu hesemptio, yna, wrth gwrs, byddwn yn gweithredu.

Gan droi'n ôl at y diwygiadau, Llywydd, mae gwelliant 37 yn ganlyniadol i welliant 34, a byddai'n dileu'r diffiniad o blastig ocso-ddiraddadwy o'r Atodlen i'r Bil. Mae gwelliant 20 yn diwygio adran 4 o'r Bil. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnwys yn yr adroddiad y mae'n ofynnol iddyn nhw ei gyhoeddi o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 unrhyw ystyriaeth a wnaethon nhw ynghylch ychwanegu plastigau ocso-ddiraddadwy i golofn 1 y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen y Bil. Mae'r gwelliant yn cael ei ragddweud ar welliant 34 ar ôl tynnu cynhyrchion plastig ocso-ddiraddadwy o'r Atodlen. Fodd bynnag, mae plastig ocso-diraddadwy eisoes yng ngholofn 1 y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen y Bil, felly does dim angen i Weinidogion Cymru ystyried eu hychwanegu at yr Atodlen.

Byddai gwelliant 22 yn ychwanegu diffiniad y Bil o blastig ocso-ddiraddadwy yn adran 4, wedi'i ragddweud ar welliant 34 ar ôl ei dynnu o'r Atodlen. Nid oes diffiniadau ar gyfer y cynhyrchion eraill yn yr adran hon, er enghraifft weips a bagiau bach o saws. Mae'r Bil wedi'i strwythuro fel bod yr holl ddiffiniadau yn yr Atodlen; er enghraifft, lle mae'r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau yn cael eu gweithredu. Gallai diffiniad a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru ar gyfer ystyriaethau ac adrodd fod yn wahanol i unrhyw ddiffiniad terfynol a ddefnyddir mewn unrhyw reoliadau y penderfynir o bosibl eu gosod gan Weinidogion Cymru, ac o'r herwydd byddant yn yr Atodlen. Felly, rwy'n annog Aelodau i wrthod gwelliannau 20, 22, 34 a 37. Diolch.

17:15

Diolch, Llywydd. Nid yw ocso-ddiraddadwy wedi ei gostio, felly yn syml dyma'r sefyllfa, a yw Gweinidogion Cymru'n credu ei bod yn dderbyniol cynnwys deunydd sydd heb ei gostio, un y maen nhw'n cyfaddef sydd angen mwy o ymchwil. Rydym wedi cynnig cyfaddawd trwy fewnosod 'ocso-ddiraddadwy' yn adran 4, ac mae hyn o bosibl yn atal her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru, felly fe fyddaf yn cynnig y gwelliannau hynny. 

17:20

Gan fod angen i mi roi trefn ar fy ngwastraff bwyd yn hwyrach heno, roedd gen i ddiddordeb annisgwyl yn y ddadl yna ynghylch y grŵp yna o welliannau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, awn ni i bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 34 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 34: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 59 sydd nesaf, a gafodd ei drafod fel rhan o grŵp 4. Delyth Jewell, ydy e'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 59 (Delyth Jewell).

Ydy. Gwelliant 59, felly. A oes gwrthwynebiad i welliant 59? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 59. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 59. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 59 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 59: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 10 sydd nesaf, a gafodd ei drafod fel rhan o grŵp 2. Rhys ab Owen, ydy gwelliant 10 yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 10 (Rhys ab Owen).

Mae'n cael ei gynnig. A oes gwrthwynebiad i welliant 10?  [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 10. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Mae gwelliant 10 wedi'i wrthod.

Gwelliant 10: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf, a gafodd ei drafod fel rhan o grŵp 5. Gweinidog, ydy gwelliant 3 yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).

Ydy. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 35 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly cymerwn ni bleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 3 wedi'i dderbyn. 

Gwelliant 3: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 35.

Gwelliant 36 sydd nesaf, a gafodd ei drafod fel rhan o grŵp 6. 

Janet Finch-Saunders, ydy e'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 36 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly symudwn i bleidlais ar welliant 36. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae gwelliant 36, felly, yn cael ei wrthod. 

Gwelliant 36: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 4 sydd nesaf. Gwelliant 4, Gweinidog; ydy gwelliant 4 yn cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).

Ydy, mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 4? Nac oes, does dim gwrthwynebiad i welliant 4, felly mae gwelliant 4 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 37 sydd nesaf. Gwelliant 37—ydy e'n cael ei symud, Janet Finch-Saunders?

Cynigiwyd gwelliant 37 (Janet Finch-Saunders).

Ydy, mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 37? [Objection.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 37. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 37 wedi'i wrthod.

Gwelliant 37: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 38 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]  Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Gwelliant 38 wedi ei wrthod.

17:25

Gwelliant 38: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5 sydd nesaf. Gweinidog, ydy gwelliant 5 yn cael ei symud? 

Ydy e'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).

Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 5? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae gwelliant 5 wedi ei gymeradwyo. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 16. 

Ydy e'n cael ei gynnig, Janet Finch-Saunders? 

Cynigiwyd gwelliant 16 (Janet Finch-Saunders).

Os na dderbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 30 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly agor y bleidlais ar welliant 16. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Gwelliant 16 wedi ei wrthod, a gwelliant 30 wedi methu. 

Gwelliant 16: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 30.

Gwelliant 17 sydd nesaf. 

Janet Finch-Saunders, ydy e'n cael ei gynnig? 

Cynigiwyd gwelliant 17 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? Mae yna wrthwynebiad i welliant 17.

Popeth yn iawn. O'r gorau. Roedd hwnna'n negydd dwbl yn fy meddwl i yn y fan yna. Dim gwrthwynebiad. Dydw i ddim yn credu bod gwrthwynebiad i welliant 17 .

Felly, mae gwelliant 17 wedi ei gymeradwyo. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Cynhyrchion plastig untro gwaharddedig: pŵer i ddiwygio (Gwelliannau 18, 19, 21, 23)

Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chynhyrchion plastig untro gwaharddedig a'r pŵer i ddiwygio. Gwelliant 18 yw'r prif welliant. Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r gwelliant a'r grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 18 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd, a diolch i'r grŵp am gefnogi ein gwelliant.

Gwelliant technegol yw gwelliant 18 i roi eglurhad pellach yn adran 4(1). Bydd y gwelliant hwn yn sicrhau y dehonglir adran 4 fel y bwriadwyd. Mae gwelliant 19 yn diwygio adran 4(2)(a) fel y gellir deall ei diben yn well. Mae'r gwelliant hwn yn symleiddio'r geiriad. Mae gwelliant 21, eto, yn welliant technegol sy'n symleiddio geiriad adran 4(2)(b). Bydd y gwelliant yn ei gwneud hi'n haws deall y ddarpariaeth.

Mae gwelliant 23 yn mewnosod is-adran newydd o dan adran 4 o'r Bil. Mae'r gwelliant yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi nifer yr erlyniadau a fu, a faint o bobl a gafwyd yn euog o'r drosedd o dan adran 5 fel rhan o'r adroddiad y mae'n ofynnol iddyn nhw ei gyhoeddi. Yn ystod Cyfnod 2, esboniodd y Gweinidog na fydd y ffigyrau hyn ar wyneb yr adolygiad blynyddol, ond y cânt eu darparu i'r Gweinidog er mwyn cwblhau'r adroddiad. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yr adolygiad yma'n cynnwys y ffigyrau yma.

Os ydym yn cyflwyno deddfwriaeth yma, mae'n bwysig ein bod ni, Aelodau'r Senedd hon, a hefyd y cyhoedd, yn gallu gweld gwir faint llwyddiant y Bil. Drwy wneud hynny, gallwn graffu ar y ddeddfwriaeth. Gallwn gynnig dewisiadau amgen. Gallwn gynnig ffyrdd o sicrhau cydymffurfiaeth yn well os canfyddir fod hynny'n isel, ac yn syml iawn, mae'n golygu y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd. Diolch.  

Diolch, Llywydd. Fe af i'r afael â gwelliannau 18, 19 a 21 gyda'i gilydd. Yn gyntaf, dim ond i ddiolch i Janet Finch-Saunders am gytuno i gydweithio ar y tri gwelliant yma. Gyda'i gilydd, bydden nhw'n adolygu'r gofynion adrodd yn adran 4 o'r Bil, felly byddai angen i Weinidogion Cymru adrodd nid yn unig ar unrhyw ystyriaethau y maen nhw yn eu gwneud ynghylch gwahardd weips plastig untro neu fagiau bach o saws, ond hefyd am unrhyw ddefnydd arfaethedig o'u pwerau adran 3. Mae hyn yn berthnasol p'un a ydyn nhw'n bwriadu gwahardd cynhyrchion pellach, i gael gwared ar waharddiad, neu i ychwanegu, dileu neu ddiwygio esemptiadau i waharddiadau. Roedd weips a bagiau bach o saws ymhlith y cynhyrchion yr oedd y rhai a ymatebodd i'n hymgynghoriad yn awgrymu y dylid eu gwahardd neu eu cyfyngu. Felly, rwy'n falch o'u gweld yn cael sylw yn y Bil. Mae'n rhaid i mi atgoffa Aelodau, fodd bynnag, nad yw labelu cynnyrch wedi'i ddatganoli i Gymru, felly byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r angen i labelu weips gyda'u cynnwys plastig. Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr edrych ar ddeunydd pacio a gweld a yw'r weips yn cynnwys rhyw elfen o blastig ynddyn nhw ai peidio.

Byddai gwelliant 23 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar nifer yr erlyniadau a fu o dan adran 5 y Bil, a faint o bobl a gafwyd yn euog o'r drosedd. Rwy'n cydnabod mai bwriad y gwelliant hwn yw monitro elfen orfodi'r Bil. Fodd bynnag, rwy'n credu y bydd y dull hwn yn creu baich gweinyddol ac adrodd diangen ar y Llywodraeth ac awdurdodau lleol. Nid gwneud pobl yn droseddwyr yw prif fwriad y Bil hwn, Llywydd, ond ysgogi newid ymddygiad. Erlyn yw'r sancsiwn olaf un. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo i gynnal adolygiad gweithredu o'r Bil, ac rwy'n rhagweld yr ystyrir gorfodaeth yn rhan o'r gwaith hwn. O'r herwydd, nid wyf yn credu bod angen gofyniad ar wahân. Rwyf felly'n cefnogi gwelliannau 18, 19 a 21 ac yn argymell bod Aelodau'n gwneud yr un peth, ond, am y rhesymau rwyf newydd ddweud, yn gwrthod gwelliant 23. Diolch.

17:30

Diolch, Gweinidog, eto. Fodd bynnag, gall gwybod beth yw nifer yr erlyniadau, rwy'n credu, helpu i weld a yw gorfodaeth wedi bod yn llwyddiannus. Rydych chi'n gwybod fy mod i wedi codi pryderon am awdurdodau lleol a'u gallu i addysgu ac eiriol. Fodd bynnag, bydd adegau pan fydd angen erlyniadau, a dim ond drwy wybod y rhifau—. Gall pob un ohonom ni gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth a darganfod faint o droseddau tipio anghyfreithlon sydd wedi digwydd a faint gafodd eu herlyn am hynny, ac rydym ni'n gwybod bod hynny'n rhy isel, ond gyda rhywbeth fel hyn, gyda chyflwyno cyfraith newydd, ni allaf weld yn onest pam na allwn ni gefnogi rhywbeth a fyddai mewn gwirionedd yn cofnodi nifer yr erlyniadau a fu, a bydden nhw, ynddyn nhw eu hunain, yn ein helpu ni i graffu ar hyn yn y dyfodol. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad i welliant 18, ac felly mae gwelliant 18 wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 19.

Janet Finch-Saunders, ydy e'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 19 (Janet Finch-Saunders).

Mae'r gwelliant wedi'i gynnig. Os derbynnir gwelliant 19, bydd gwelliannau 7 a 20 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Ac felly, mae gwelliant 19 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Methodd gwelliannau 7 ac 20.

Sydd yn mynd â ni i welliant 21. A ydy e'n cael ei symud, gwelliant 21?

Cynigiwyd gwelliant 21 (Janet Finch-Saunders).

Ydy, gan Janet Finch-Saunders. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes gwrthwynebiad? Dim gwrthwynebiad i welliant 21, felly mae gwelliant 21 wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Janet Finch-Saunders).

A ddylid derbyn gwelliant 22? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i welliant 22, felly, cawn ni bleidlais ar welliant 22. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 22 wedi ei wrthod.

Gwelliant 22: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 23 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, ac felly, cawn ni bleidlais ar welliant 23. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Gwelliant 23 wedi ei wrthod.

Gwelliant 23: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Bwrdd Trosolwg a Phanel Cynghori (Gwelliannau 41, 55)

Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Y grŵp yma o welliannau yn ymwneud â bwrdd trosolwg a phanel cynghori. Gwelliant 41 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r prif welliant ac i siarad i'r grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 41 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i siarad am welliannau 41 a 55. Mae gwelliant 41 yn gyfuniad o ddau welliant ar wahân yr oeddwn i wedi'u cyflwyno yng Nghyfnod 2. Mae hefyd wedi'i ddrafftio i geisio ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywodraeth wneud rhai o'r pethau y mae wedi'u nodi y byddai'n eu gwneud mewn memorandwm esboniadol. Mae'r gwelliant yn ceisio cryfhau, hynny yw, yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi dweud yr hoffai ei wneud; byddai, yn fy marn i, yn cryfhau'r ddarpariaeth.

Mae'r gwelliant yn ceisio mynd i'r afael â dau o'r prif feini tramgwydd i weithredu'r Bil hwn yn effeithiol, fel y gwelaf i bethau, sef, anfforddiadwyedd cymharol cynhyrchion mwy cynaliadwy a'r diffyg ymwybyddiaeth am effeithiau drwg sbwriel plastig. Fy nod yw cyflwyno gofyniad yn y Bil i Lywodraeth Cymru sefydlu'r bwrdd prosiect goruchwylio a'r panel cynghori, y cyfeirir ato yn y memorandwm esboniadol. Byddai'r gwelliant yn gofyn am fforddiadwyedd cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio—y cynhyrchion hynny a allai ddisodli'r rhai sy'n cael eu gwahardd—a hefyd i gynghori ar addysg a hyrwyddo'r gwaharddiad. Byddai, unwaith eto, yn sicrhau bod y pethau hyn ar wyneb y Bil.

I ymdrin â'r mater fforddiadwyedd yn gyntaf, rydym ni wedi siarad yn helaeth yn y pwyllgor wrth gasglu tystiolaeth ar y Bil hwn am ba mor heriol fydd gorfodi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol i wario mwy o arian ar gynnyrch oherwydd eu bod yn fwy ecogyfeillgar. Rydym ni i gyd eisiau gwneud y peth iawn, ond mewn argyfwng costau byw, bydd y cynnyrch drytach yn gwneud hynny hyd yn oed yn anoddach. Felly, fe hoffwn i weld y grwpiau hyn, y bwrdd goruchwylio a'r panel cynghori, yn mynd i'r afael â'r mater anodd iawn hwn a cheisio gwneud cynnydd.

Yn ail, ynghylch y ddarpariaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyrwyddo, dyma ymgais i oresgyn mater dyrys arall eto—sef y diffyg ymwybyddiaeth am effeithiau sbwriel plastig a'r ffaith bod arferion cynhenid yn anodd eu newid. Mae annog pobl i wneud pethau yn un offeryn, ond mae eu perswadio y bydden nhw eisiau bod yn rhan o'r ateb hefyd, rwy'n credu bod hynny'n llawer mwy grymus—mae addysgu pobl, yn hytrach na galw eu gweithredoedd yn droseddau, hefyd yn ffordd fwy cymdeithasol gyfiawn o fynd i'r afael â'r broblem. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi gwneud llawer i ddarparu ar gyfer y materion hyn, ac rwy'n derbyn ac yn cydnabod hynny, ond byddai'r gwelliannau hyn yn gofyn am sefydlu'r byrddau hyn, ac i'r gofyniad hwnnw fod, eto, ar wyneb y Bil, rwy'n credu bod hynny'n symlach, rwy'n credu bod hynny'n ffordd syml o wneud hynny, ac rwy'n gobeithio y byddai hynny'n helpu i sicrhau bod y bwriad clodwiw iawn yn sicr yn dwyn ffrwyth, ac rwy'n gobeithio y bydd yna gefnogaeth iddyn nhw. Diolch.

17:35

Gan droi at welliant 41 yn gyntaf, gan fod gwelliant 55 yn ganlyniadol iddo, mae hynny, fel yr eglurodd Delyth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu bwrdd prosiect goruchwylio a phanel cynghori o fewn 12 mis i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Mae'n darparu amlinelliad byr o ddiben pob corff ac yn cynnig swyddogaethau posibl i bob un. Mae'r memorandwm esboniadol, fel y mae Delyth wedi cydnabod, sy'n cyd-fynd â'r Bil, eisoes yn nodi fy mod yn bwriadu sefydlu bwrdd prosiect goruchwylio a phanel cynghori ar gyfer cynhyrchion untro. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â phwyllgorau a rhanddeiliaid y Senedd o ran sefydlu'r cyrff hyn.

Nid yw gwelliant 41 yn cynnwys digon o fanylion i alluogi Gweinidogion Cymru i wybod a fydden nhw'n cyflawni'r ddyletswydd ai peidio. Er enghraifft, nid yw'n nodi faint o aelodau y dylid eu penodi i'r cyrff hyn, na chwaith faint y dylen nhw eu cael. Heb nodi darpariaethau o'r fath ar wyneb y Ddeddf, byddai'n anodd i Weinidogion Cymru wybod a ydyn nhw wedi cyflawni eu dyletswydd i sefydlu'r cyrff hyn, ac yn gadael Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd gyfreithiol benagored. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bwriad y gwelliant yn llwyr, a byddaf yn sicr yn ystyried hyn wrth benderfynu ar y cylch gorchwyl ar gyfer y ddau grŵp.

Mae gwelliant 55 yn ganlyniadol i ddiwygiad 41, a byddai'n ofynnol bod y ddyletswydd i sefydlu'r bwrdd a'r panel yn dod i rym y diwrnod ar ôl i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Llywydd, rwyf felly yn gwrthod gwelliannau 41 a 55 ac yn annog Aelodau i wneud yr un peth. Diolch.

Diolch, Llywydd. Diolch, Gweinidog. Rwyf yn croesawu'n fawr beth mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran yr hyn sydd eisoes yn y memorandwm esboniadol yn hyn o beth. Byddaf yn pwyso i bleidleisio dros y rhain, ond nid wyf yn rhagweld o'r hyn sydd newydd gael ei ddweud y bydd y rhain yn llwyddo, ond rwy'n ddiolchgar iawn am yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud—eich bod yn mynd i ystyried y pwyntiau hyn wrth benderfynu beth fydd maes, bron, y bwrdd a'r panel cynghori hwn. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am hynny, ac rwy'n ddiolchgar. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. I'ch atgoffa chi, os na dderbynnir gwelliant 41, bydd gwelliant 55 yn methu. Gwelliant 41, felly—pleidlais ar y gwelliant hynny. Agor y bleidlais. Mae canlyniad y bleidlais yn gyfartal. O blaid 27, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly fe fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 41. Cadarnhau canlyniad y bleidlais, felly, fel o blaid 27, neb yn ymatal a 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 41 wedi'i wrthod, ac felly mae gwelliant 55 yn methu. 

Gwelliant 41: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 55.

Grŵp 10: Trosedd cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 24, 42)

Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â throsedd cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig. Gwelliant 24 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno gwelliant 24 a'r grŵp—Janet Finch-Saunders.

17:40

Cynigiwyd gwelliant 24 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 24 yn rhoi darpariaeth i egluro amddiffyniad rhywun sy'n wynebu achos am drosedd o gyflenwi plastig untro i ddefnyddwyr yng Nghymru. Nawr, fe wnes i gyflwyno hwn gan fy mod yn credu ei bod hi'n bwysig y caiff busnesau eu diogelu rhag cael eu cyhuddo ar gam o gyflenwi plastig untro. Mae busnesau wedi cael amser caled yn ystod COVID ac yn wir, nawr, maen nhw'n dal i deimlo effeithiau COVID a llawer o bwysau eraill, a'r peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yma yw rhoi llyffetheiriau gormodol—. Ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod amddiffyniadau ar eu cyfer.

Nawr, rwy'n sylweddoli, yng Nghyfnod 2, y trafodwyd y bydd busnesau'n cael gwybod am y darn hwn o ddeddfwriaeth ac, o'r herwydd, bydd ganddyn nhw amser i ddefnyddio eu cyflenwad presennol. Rwy'n teimlo bod y mater yn fwy cymhleth na hynny. Mae gennym ni fusnesau sydd â siop ddiriaethol yng Nghymru a fydd yn cyflenwi cynnyrch yn rhyngwladol trwy archebion ar-lein yn ogystal ag yn bersonol i'w cwsmeriaid yng Nghymru. Bydd ganddyn nhw stoc ar eu safle nad ydyn nhw'n gwerthu yn eu siop ddiriaethol. Os bydd swyddog awdurdodedig yn ymweld â'u safle, byddant yn gweld y stoc hon; fe fyddan nhw'n gweld ar wefan y busnes eu bod yn gwerthu eitemau sydd wedi eu gwahardd. Mae'r gwelliant hwn yn ceisio amddiffyn y busnesau hyn rhag cael eu canfod yn euog ar gam o drosedd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod hyn ar wyneb y Bil.

Mae gwelliant 42, a gyflwynwyd gan Delyth, yn mewnosod darpariaeth sy'n egluro, pan gyflenwir mwy nag un cynnyrch plastig untro gyda'i gilydd, caiff ei drin fel un drosedd yn unig. Rwyf wedi cymryd hyn i olygu, pan gaiff cynhyrchion plastig untro sydd wedi'u gwahardd eu gwerthu mewn pecynnau aml-gynnwys, mae'n cyfrif fel un drosedd yn unig yn hytrach na bod rhywun yn cael ei gyhuddo o 100 o droseddau am werthu 100 o wellt plastig mewn pecyn. Hoffwn feddwl bod hyn yn gywir, ond, os ydw i'n anghywir, rhowch wybod i mi, Delyth. Diolch.

Mae'n ddrwg gen i, bu bron i mi feddwl eich bod yn cyfeirio ataf i, cyn clywed gan y Llywydd. Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am welliant 42 yn y grŵp hwn, a hoffwn ddiolch i dîm y Llywodraeth am eu cymorth i ddrafftio hwn. Byddai'r diwygiad hwn yn rhoi is-adran newydd yn adran 5. Mae adran 5 yn nodi'r drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig.

Byddai'r is-adran sy'n newydd, os caiff ei derbyn, yn golygu, pan gyflenwir dau neu fwy o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig gyda'i gilydd, y caiff hynny ei drin fel un weithred o gyflenwi. Roedd rhanddeiliaid a oedd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor cyn Cyfnod 2 wedi mynegi pryder ynghylch a gafodd y diffiniad o 'untro' yn y Bil yr effaith gywir o ran cynhyrchion a werthir mewn pecynnau aml-gynnwys, a byddai'r gwelliant hwn yn mynd i'r afael â'r pryder hwnnw, byddai'n helpu i'w egluro. Ei ddiben yw mynd i'r afael â'r mater o becynnau aml-gynnwys a darparu, pan gaiff nifer o gynhyrchion eu cyflenwi gyda'i gilydd, fel cwpan gyda chaead a gyda throellwr diod, neu fwyd gyda chytleri, mae'r cynhyrchion hynny'n dod o dan gwmpas y Bil. Dyna'r gwelliant—bydd yn egluro bod cynhyrchion sydd mewn pecynnau aml-gynnwys yn dod o dan y drosedd yn y Bil. A byddai'r gwelliant, gobeithio, yn rhoi mwy o eglurder i fusnesau fel y gallant gael dealltwriaeth lawnach o'r hyn sy'n gyfystyr ag un weithred droseddol pan fyddant yn cyflenwi un cynnyrch gwaharddedig neu fwy i ddefnyddiwr ar yr un pryd. Diolch.

Diolch, Llywydd. Cafodd gwelliant 24 ei gyflwyno gan Janet Finch-Saunders, ac mae'n ceisio darparu amddiffyniad o ran diffyg bwriad i gyflenwi pan fo gan rywun gynnyrch untro gwaharddedig. Rwy'n cadarnhau bod gwelliant tebyg wedi'i gyflwyno a'i ystyried yng Nghyfnod 2.

Hoffwn ailadrodd yn y fan yma nad yw meddu ar gynnyrch plastig untro sy'n dod o dan gwmpas y Bil ynddo'i hun yn drosedd ac felly, nid oes angen amddiffyniad iddo. Dim ond pan gaiff y cynhyrchion eu cyflenwi i ddefnyddiwr yng Nghymru neu eu cynnig i'w cyflenwi mewn adeiladau yng Nghymru y cyflawnir y drosedd. Pan fydd busnes yn cyflenwi neu'n cynnig cyflenwi'r cynhyrchion hynny i ddefnyddiwr yng Nghymru, credwn y gellir casglu bod yna radd anhepgor o fwriad. Mae'n amlwg yn ddyletswydd ar fusnesau i wybod a chydymffurfio â'r gyfraith yng Nghymru. O ganlyniad, mae'r gwelliant arfaethedig yn ddiangen ac, ar sail hyn, ni fyddaf yn ei gefnogi.

Gan droi'n awr at welliant 42, a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, yng Nghyfnod 2, ceisiodd yr Aelod roi eglurder y byddai'r diffiniad o 'untro' yn berthnasol i'r cynhyrchion plastig untro gwaharddedig pan gânt eu cyflenwi mewn pecynnau aml-gynnwys yn ogystal â phan gyflenwir y cynhyrchion hynny'n unigol. Yng Nghyfnod 2, roeddwn yn gefnogol i'r gwelliant mewn egwyddor a chynigiais weithio gyda Delyth Jewell ar gynhyrchu gwelliant a gyflawnodd ei bwriad hi ac a oedd hefyd yn gadarn yn dechnegol. Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi gallu gwneud hynny.

O ganlyniad, datblygwyd gwelliant 42 ar y cyd â'r Aelod. Mae'r gwelliant bellach yn mewnosod is-adran newydd yn adran 5 ac yn darparu, pan gaiff dau neu fwy o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig eu cyflenwi gyda'i gilydd, bydd hyn i'w drin fel un weithred o gyflenwi.

Mae hyn yn egluro gweithrediad adran 5(1) mewn achosion pan fo rhywun yn cyflenwi nifer o gynhyrchion i ddefnyddiwr gyda'i gilydd—er enghraifft, pan fo cynhyrchion wedi'u cynnwys mewn pecynnau aml-gynnwys, neu fel arall yn rhan o uned werthu, megis cwpan gyda chaead a throellwr diod, neu gynhwysydd bwyd gyda chytleri.

Mae gwelliant 42 wedi'i gyflwyno i egluro pwynt cyfreithiol, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi ei basio. Diolch, Delyth. Diolch, Llywydd.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni symud i bleidlais ar welliant 24. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 24 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 24: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 42 (Delyth Jewell).

Yn cael ei symud, ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes unrhyw wrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 42 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rŷn ni nawr yn symud i welliant 43, a gafodd ei drafod fel rhan o grŵp 4. Delyth Jewell, ydy gwelliant 43 yn cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 43 (Delyth Jewell).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac os na dderbynnir gwelliant 43, bydd gwelliannau 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54 a 56 yn methu. Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 43. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 43 wedi'i wrthod ac mae'r holl welliannau y restrais i funud yn ôl yn methu hefyd.

Gwelliant 43: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliannau 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54 a 56.

Grŵp 11: Camau gorfodi gan awdurdodau lleol (Gwelliannau 25, 26, 27, 28, 29)

Felly, byddwn ni'n symud i grŵp 11 nesaf. Grŵp 11 yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â chamau gorfodi gan awdurdodau lleol. Gwelliant 25 yw'r prif welliant, ac mae Janet Finch-Saunders yn mynd i gynnig y prif welliant a'r grŵp. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 25 yn mewnosod adran newydd ar wyneb y Bil. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael digon o gyllid i weithredu fel sy'n ofynnol o ganlyniad i'r Bil hwn. Mae llawer ohonom ni yma yn y Senedd yn gwybod, yn eithaf aml, pan gaiff deddfau eu pasio yma, y goblygiadau sy'n cael eu trosglwyddo i awdurdodau lleol i orfodi, addysgu—. Yn aml, ni ddarperir unrhyw adnoddau ychwanegol. Pan fyddaf yn siarad ag arweinwyr cyngor neu eu penaethiaid cyllid, mae'n ffaith eu bod weithiau'n poeni am ddeddfau a wneir yma, oherwydd y goblygiadau ariannol a'r pwysau y mae'n eu rhoi ar ein hawdurdodau lleol sydd eisoes wedi'u gorlethu.

Nawr, yng Nghyfnod 2, honnodd y Gweinidog nad oedd hi'n gallu derbyn y gwelliant hwn gan y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio lleihau costau cymaint â phosib. Dywedodd y Gweinidog y byddai gorfodaeth, i ddechrau, yn canolbwyntio ar addysg. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw, er nad ydw i'n credu ei fod yn lliniaru unrhyw bryderon sydd gan awdurdodau lleol ynghylch cyllid. I mi, ystyr hynny yn y bôn oedd, 'Byddwn yn ariannu ein canllawiau ac rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn ddigon i newid arferion busnesau.' Mae awdurdodau lleol angen ymrwymiad gennych chi, Gweinidog, a byddwn i hyd yn oed yn gofyn i chi—. Rwy'n rhyw fath o estyn fy het i gardota nawr ar ran yr holl awdurdodau lleol hynny a welant hyn yn cael ei gyflwyno. Maen nhw'n mynd i fod eisiau sicrhau bod eu hawdurdod lleol yn gallu addysgu, yn gallu gorfodi, ond does ond angen edrych ar ein hadrannau cynllunio, llesiant anifeiliaid, safonau bwyd, cynllunio. Mae'r mathau hynny o adrannau mewn difrif yn rheoleiddwyr—wedi eu gorlethu. Ac felly, mewn gwirionedd, mae angen rhywfaint o ymrwymiad gennych chi arnom ni. Mae angen ymrwymiad ar yr awdurdodau lleol gennych chi nad eu cyfrifoldeb nhw fydd talu am y gost o orfodi'r Bil hwn. Maen nhw o dan ddigon o straen fel mae hi. Os oes arnoch chi eisiau i orfodaeth fod yn ddigonol, mae angen i chi sicrhau bod y cyllid ar gael, fel arall rwy'n poeni y bydd hyn yn cyfrif dim.

Mae gwelliant 26 yn welliant technegol sy'n egluro diben y ddarpariaeth. Cai

'mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd'

ei ddiwygio i 'mangre breswyl'. Mae gwelliant 27 yn mewnosod diffiniad ar gyfer 'mangre breswyl' i sicrhau y caiff ei ddeall fel y bwriadwyd, gyda 'mangre breswyl' yn cael ei ddiffinio fel

'mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.'

Hynny yw, gallai'r busnes fod yn gweithredu'n braf ar y llawr gwaelod a gallai fod preswylwyr yn byw uwchben yr effeithir arnyn nhw o bosib gan swyddogion gorfodi yn mynd i'r rhan honno o'r safle.

Mae gwelliannau 28 a 29 yn ddiwygiadau technegol sy'n egluro diben eu darpariaethau. Diolch i'r Gweinidog am weithio gyda mi ar hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn egluro ble mae swyddogion awdurdodedig yn cael mynediad a ble nad ydyn nhw'n cael mynediad, ac rwy'n sylweddoli, Gweinidog, eich bod wedi cydnabod hyn hefyd. Diolch. 

17:50

Gan droi'n gyntaf i ystyried gwelliant 25, a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders, byddai hyn, fel y dywedodd, yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu digon o gyllid i awdurdodau lleol i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau gorfodi o dan y Bil. Credaf fod hyn yn debyg i newid a gynigiwyd yn ystod Cyfnod 2. Rwyf wedi gwrando eto ar y pwyntiau a wnaed ac, er fy mod yn deall pryderon yr Aelod, nid wyf yn cytuno â hi. Fel y dywedais yn ystod Cyfnod 2, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio lleihau'r baich ariannol ar awdurdodau lleol o ran y ddeddfwriaeth hon gymaint â phosib. Ein bwriad yw codi ymwybyddiaeth a datblygu canllawiau i helpu sicrhau bod pobl yn deall sut mae'r gwaharddiadau yn effeithio arnyn nhw. Eto, diben y ddeddfwriaeth hon yw newid ymddygiad; nid yw ynglŷn â chynyddu nifer yr erlyniadau.

Mae profiad blaenorol o orfodi deddfwriaeth amgylcheddol, er enghraifft y tâl am fagiau siopa, wedi dangos y gall cyfathrebu effeithiol ynghylch cyflwyno hynny helpu i leihau'r angen i orfodi. Rydym yn rhagweld y bydd gorfodi yn seiliedig ar wybodaeth ac yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar gael busnesau twyllodrus i gydymffurfio. Mae llawer o fusnesau, wrth gwrs, eisoes wedi mynd ati i dynnu cynnyrch plastig untro o'u stoc. Wedi dweud hynny, rwy'n deall pryderon yr Aelod yn ystod y cyfnod hwn o chwyddiant uchel iawn. Rwy'n ymwybodol y cafodd y gyllideb bresennol ar gyfer awdurdodau lleol ei gosod pan oedd lefelau chwyddiant yn llawer is a bod yr awdurdodau yn parhau i wynebu pwysau sylweddol. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i weithio'n agos gydag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru drwy'r is-grŵp cyllid a chyfarfodydd rheolaidd wrth i ni baratoi ar gyfer y gyllideb nesaf. Bydd hyn yn helpu i ddeall y pwysau ac i benderfynu a oes unrhyw ffordd o gefnogi awdurdodau lleol ymhellach drwy fod yn hyblyg gyda'r ffynonellau cyllid presennol. Credaf mai dyma'r fforwm cywir i gynnal trafodaethau o'r fath. Ar y sail hon, ni allaf gefnogi gwelliant 25.

Gan droi at welliant 26, rwy'n ddiolchgar iawn i Janet Finch-Saunders am godi'r mater pwysig hwn yn ystod Cyfnod 2 ac am gytuno i gydweithio â mi i fireinio testun cyfreithiol y gwelliant hwn. Ynghyd â diwygiadau canlyniadol 27, 28 a 29, mae'r rhain yn gweithio gyda'i gilydd i egluro beth mae'r Bil yn ei olygu pan fydd yn cyfeirio at mangre breswyl a beth yw pwerau mynediad i'r mannau lle mae pobl yn byw. Mae'r gwelliannau yn cyflwyno'r label 'mangre breswyl' i ddisgrifio unrhyw fangre, neu ran o fangre, sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd. Maen nhw'n cyfyngu ar bŵer mynediad yn adran 9 fel na chaniateir mynd i mewn i fangre breswyl heb warant gan ynad heddwch o dan adran 10. Er enghraifft, yn achos fflat uwchben siop, ni chaniateir mynediad i'r fflat heb warant, er y gellid mynd i'r siop. Mae hyn yn ei gwneud hi'n glir i swyddogion gorfodi bod angen gwarant i fynd i mewn i lefydd y mae pobl yn byw ynddyn nhw. Mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag gwneud chwiliadau anghyfreithlon yn anfwriadol o'r rhannau hynny o fangreoedd nad ydyn nhw yn anheddau ac sy'n cael eu defnyddio at ddibenion busnes.

Mae'r gwelliannau i adrannau 10 ac 11 yn gyfatebol ac yn ganlyniadol i'r gwelliannau i adran 9. Rwyf felly yn cefnogi, Llywydd, gwelliannau 26, 27, 28 a 29 ac yn argymell bod Aelodau yn gwneud yr un peth. Diolch.

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog unwaith eto. Mae hwn yn dod yn dipyn o arferiad. A dim ond—awn at bleidlais. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 25. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 25 wedi ei wrthod.

17:55

Gwelliant 25: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 26 sydd nesaf.

Janet Finch-Saunders, ydy e'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 26 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad. Ac felly mae gwelliant 26 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rŷn ni nawr yn symud i welliant 27.

Ydy e'n cael ei gynnig, Janet Finch-Saunders?

Cynigiwyd gwelliant 27 (Janet Finch-Saunders).

Iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does dim gwrthwynebiad. Gwelliant 27 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Janet Finch-Saunders).

A oes gwrthwynebiad i welliant 28? Nac oes. Felly, mae gwelliant 28 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Janet Finch-Saunders).

A oes gwrthwynebiad i welliant 29? Nac oes. Felly, mae gwelliant 29 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 8 sydd nesaf, wedi cael ei drafod fel rhan o grŵp 2. Rhys ab Owen, ydy gwelliant 8 yn cael ei symud? 

Rhys ab Owen? Mi wnaiff codi bawd y tro. Neu ei droi i lawr.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae gwelliant 8 yn cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, mae gwelliant 8 yn cael ei roi i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 8. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 8 wedi ei wrthod.

Gwelliant 8: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Dyna'r bleidlais olaf ar y Cyfnod 3. Rydym wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth, felly, o Gyfnod 3 o Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). A dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil wedi ei derbyn. Cyfnod 3, felly, wedi dod i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

9. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Eitem 9 nesaf fydd Cyfnod 4 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn bwriadau gwneud cynnig heb hysbysiad fod y Bil yn cael ei basio. Cyn i'r Senedd wneud penderfyniad ynghylch a ddylid pasio'r Bil ai peidio, rhaid i mi nodi ar gofnod, yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nad yw darpariaethau'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig yn fy marn i.

Felly, mi fedraf i symud ymlaen nawr i alw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James. 

Cynnig

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwyf wrth fy modd yn cynnig y cynnig gerbron y Senedd heddiw ar gyfer Cyfnod 4 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), a gyflwynais i'r Senedd ar 20 Medi 2022. Ers cyflwyno'r Bil, mae wedi symud ymlaen yn llwyddiannus trwy Gyfnodau ym mhroses ddeddfwriaeth y Senedd ar amserlen gyflym. Rwyf fwyaf diolchgar i'r Pwyllgor Busnes am gytuno ar hyn. Rwyf hefyd yn cymeradwyo pawb yma heddiw am gydnabod pwysigrwydd amgylcheddol a brys y Bil hwn a chefnogi ei hynt gyflym drwy'r Senedd. I ychwanegu at hyn, hoffwn ddiolch o galon i chi, Llywydd, am gytuno i Gyfnod 4 fynd rhagddo yn syth ar ôl Cyfnod 3. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeiryddion, aelodau a staff y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried a chraffu'n ofalus, a'u hadroddiadau manwl ynghylch y Bil a'r memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl randdeiliaid, partneriaid cyflenwi, cymunedau a phobl ifanc sydd wedi gallu cyfrannu at ein polisi a'r broses ddeddfwriaethol hon drwy ddarparu tystiolaeth yn bersonol ac yn ysgrifenedig, yn arbennig i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith yn ystod eu hymgynghoriad. Mae'r trafodaethau cadarnhaol gydag Aelodau, ynghyd â sesiynau tystiolaeth gyhoeddus gan randdeiliaid, wedi sicrhau y craffwyd yn wirioneddol ar y Bil, er iddo gael ei frysio. Bu eich gwybodaeth a'ch profiad yn amhrisiadwy.

Hoffwn, wrth gwrs, ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth i welliannau technegol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i wella cysondeb ac eglurder y Bil. Bu hefyd yn wirioneddol braf gallu gweithio gydag Aelodau ar feysydd o dir cyffredin i gyflwyno gwelliannau sy'n wirioneddol wella'r Bil. Bu hyn yn enghraifft wirioneddol o gydweithio a chyd-dynnu.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r swyddogion sydd wedi gweithio'n galed iawn ac yn ddygn iawn ar y Bil hwn i'w gyflwyno'n llwyddiannus. Bydd yr ysbryd hwn o gydweithio yn parhau wrth i ni weithio gyda rhanddeiliaid i gynhyrchu arweiniad cynhwysfawr ynghylch y Bil. Rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn hynod falch o'r Bil nodedig hwn, sy'n mynd y tu hwnt i wahardd cyfres gychwynnol o gynhyrchion plastig untro. Rydym ni wedi cyflawni sylfaen gadarn i wahardd cynhyrchion plastig untro problemus pellach yn y dyfodol, gan sicrhau gwaddol parhaol y Bil. Dyma Fil sy'n gwarchod ein tirwedd Gymreig unigryw o hardd rhag gwastraff plastig untro hyll a gwenwynig. Mae'r Bil hwn yn diogelu ein mannau gwyrdd, ein dyfroedd pefriog a'n hecoleg amrywiol a chyfoethog. Mae'r gweithredu'n dechrau nawr, nid yn unig i ni, ond i genedlaethau Cymru'r dyfodol.

Yn hyn o beth, hoffwn dalu teyrnged i bobl ifanc Cymru sydd wedi siarad mor angerddol â mi am warchod yr amgylchedd a phroblem plastig untro. Trwy ein cysylltiad ag Eco-Sgolion ac Ysgolion Di-blastig, byddwn yn tynnu sylw holl ysgolion Cymru at effaith llygredd plastig a sut mae hynny'n berthnasol i'r cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru sy'n cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd. Ac yn olaf, hoffwn gydnabod ein busnesau gwych o Gymru a arweiniodd y ffordd wrth arloesi gyda dewisiadau amgen i blastig untro sy'n gadarn yn amgylcheddol, gan fanteisio ar botensial technolegau newydd, cyfrannu at economi gylchol a chreu Cymru wirioneddol gynaliadwy. Mae gweithio ar y cyd â'r holl randdeiliaid, gan geisio barn a dealltwriaeth, wedi chwalu rhwystrau rhwng sectorau, a fydd yn arwain at newid cydlynol mewn ymddygiad a pharodrwydd i gydweithio i fodloni'r agenda gynhwysfawr i frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosibl.

Yn ystod dadl egwyddorion cyffredinol y Bil ar 11 Hydref, roedd yr holl Aelodau a oedd yn bresennol ar y pryd yn cefnogi ac yn cytuno ar yr angen am y Bil hwn. Rwy'n gobeithio, ar draws y Siambr, y byddwn yn parhau i ddarparu'r un gefnogaeth unfrydol ac angerddol honno i weithredu'r Bil yn llawn. Diolch, Llywydd.

18:00

A dweud y gwir, rwy'n ategu ac yn cymeradwyo popeth y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud o ran diolch i bawb. Bu timau cyfreithiol—. Rwy'n credu, ddim yn aml—. Dydy pobl ddim yn sylweddoli maint y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y cefndir gan bobl sydd ddim yma yn y Siambr heddiw, ac i sôn yn gyflym hefyd am Beth Taylor, ymchwilydd yr wyf wedi gweithio gyda hi, a dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth y mae hi erioed wedi gweithio arno ac mae hi wedi gwneud gwaith da iawn.  A hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am dderbyn y gwelliannau. Yn amlwg, pan ddown ni yma gyda'r niferoedd fel y gwnawn ni, rydym ni eisiau ennill, ond fe fu yna gydweithio, fe fu yna gytundeb trawsbleidiol ynghylch hyn, a dyna sut ddylid llunio deddfau yma yng Nghymru.

I mi, mae hon yn adeg nodedig yn hanes deddfu yng Nghymru. A dweud y gwir, rwyf newydd fod yn ailadrodd popeth rydych chi wedi'i ddweud am sut rydym ni am roi diwedd ar wastraff plastig untro. Rwy'n gwneud llawer o lanhau traethau, a byddaf i'n monitro'r Bil hwn yn y dyfodol. Byddai'n wych pan fyddwn yn glanhau traeth yn sicr i beidio â gorfod codi'r tunelli o blastig gwastraff a wnawn, a thrwy hynny ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, ein cefn gwlad a'n bywyd adar a'n bywyd môr gwych. Felly, diolch, bawb. Rwy'n hapus iawn â sut aeth hi heddiw. Diolch.

Mae hwn yn gam pwysig tuag at ein hamcan fel Senedd i warchod natur, bioamrywiaeth a lleihau ein dibyniaeth ar adnoddau anadnewyddadwy. Tair blynedd yn ôl, fe wnes i alw mewn araith am ddeddfwriaeth i wahardd plastig defnydd untro, a dyma ni heddiw yn troi’r dyhead—nid dim ond gennyf i, ond dyhead cymaint ohonom—yn realiti. Mae’n dangos beth sy’n bosibl pan fydd y Senedd hon yn cydweithio er mwyn ceisio creu dyfodol gwell.

Mae’n dangos hefyd fod gan y Senedd y gallu i ddeddfu’n gymharol gyflym pan fo'n rhaid. Nawr, rwy'n gwybod bod yna gymhlethdodau wedi bod, ond rwyf i'n meddwl hefyd fod yna wersi i'w cael fanna yn dangos mai ewyllys gwleidyddol sy'n cael y maen i'r wal yn y pen draw.

Wrth gwrs, mae yna rai pethau buaswn i wedi hoffi eu gweld yn cryfhau'r Bil ymhellach, ond mae hwn yn gam mor bwysig ymlaen. Hoffwn i ddiolch i'r sefydliadau wnaeth roi tystiolaeth i ni fel pwyllgor, i Gadeirydd y pwyllgor, i'r tîm clercio ac i'r Gweinidog am fod mor barod i gydweithio pan oedd cyfle i wneud. Mae Senedd Cymru yn cydnabod ei dyletswydd i genedlaethau’r dyfodol a’r byd o’n cwmpas trwy'r ddeddfwriaeth yma. Sylweddoliad dyletswydd yw gweithredu. Bydd pasio'r mesur hwn fel Deddf yn clirio cydwybod ein cenedl rywfaint, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud eto. Boed inni beidio gorffwys ar ein rhwyfau wedi hyn. Boed inni ddefnyddio'r Ddeddf hon fel astell ddeifio, fel springboard, er mwyn gwneud popeth rŷn ni'n gallu i warchod ein dyfodol ni a chenedlaethau i ddod. Diolch.

18:05

Mae'r Bil yma, fel rŷn ni newydd glywed, wrth gwrs, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod ei daith drwy'r Senedd, ond mae e hefyd wedi bod ychydig yn ddadleuol oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi mynnu defnyddio proses graffu gyflym ar ei gyfer. Nawr, dwi ddim yn awgrymu bod gweithdrefnau'r Senedd wedi cael eu camddefnyddio, ond mae'r hyn rŷn ni wedi'i weld ymhell o fod yn arfer da.

Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn pryderu bod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil wedi cael ei osgoi. Er bod y pwyllgor wedi gallu cynnal rhywfaint o waith craffu ar Fil drafft, doedd hyn ddim yn ddigonol o ran disodli gwaith craffu yng Nghyfnod 1, a phe na baem wedi gwneud y gwaith hwnnw, yna fydden ni ddim wedi cael ymgynghoriad cyhoeddus ar ddarpariaethau manwl y Bil, na chyfle, wrth gwrs, i'r rhai sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw gan y cynigion yn y Bil i ddweud eu dweud. 

Ond nid y pwyllgor newid hinsawdd oedd yr unig bwyllgor, wrth gwrs, i fynegi pryderon. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi mynegi siom am y ffaith nad yw'r Gweinidog wedi gallu darparu'r wybodaeth ariannol y gofynnodd amdani. Awgrymodd y Gweinidog y gallai gymryd o leiaf chwe mis i swyddogion gwblhau'r gwaith hwn. Fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi nodi yn ei lythyr at y Prif Weinidog, bydd y Bil wedi cwblhau ei daith ddeddfwriaethol drwy'r Senedd cyn bod y wybodaeth ariannol bwysig hon ar gael, a dwi'n cytuno â'r Cadeirydd am y ffaith nad yw hyn yn ddigon da.

Fe wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad godi nifer o bryderon hefyd am y broses gyflym y mae'r Bil hwn wedi'i dilyn. Mae'r Gweinidog wedi dweud mai'r bwriad yw y bydd yr holl ddarpariaethau yn y Bil yn cael eu cychwyn erbyn Ebrill 2026. Mae Cadeirydd y pwyllgor wedi cwestiynu, a hynny'n briodol, a oes angen proses gyflym ar y sail honno. Mae'r broses gyflym hon yn rhan bwysig o'n gweithdrefnau ni, wrth gwrs, a bydd adegau pan fydd angen ei defnyddio. Serch hynny, dim ond pan fydd hi'n angenrheidiol y dylai'r broses hon gael ei defnyddio, nid oherwydd ei bod hi'n gyfleus. Dylai gwaith craffu ar ddeddfwriaeth gael ei weld gan y Llywodraeth fel rhan sylfaenol o'r broses ddeddfu, nid fel rhywbeth y mae angen ei oddef neu, yn achos y Bil yma, ei osgoi.

Wedi dweud hynny, dwi, fel bron iawn bawb arall, dwi'n siŵr, yn gobeithio bydd y Bil hwn yn cael ei basio, ond dwi yn credu y dylai'r Gweinidog a'r Prif Weinidog fyfyrio ar ddigonolrwydd y broses a arweiniodd at ddod â ni i'r man yna. Diolch.

Diolch, Llywydd. Dim ond i ddiolch eto i bawb sydd wedi gweithio'n galed iawn ar y Bil, pob un o'r pwyllgorau, yr holl Aelodau, ond, yn fwyaf arbennig, i bobl, busnesau a phobl ifanc Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino ac yn galed, ac wedi pwyso'n galed iawn i mi gael y Bil hwn ar y llyfr statud, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu gwneud hynny drostyn nhw ac ar gyfer ein cenedlaethau i'r dyfodol. Diolch.

Ddim yn hollol eto.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, fe wnawn ni symud i'r bleidlais yna nawr, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Dwi'n agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Cyfnod 4—Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): O blaid: 53, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Diolch yn fawr i bawb. Fe ddaw hynny â'n gwaith am y dydd heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:09.