Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/10/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.

Parciau Cenedlaethol

1. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud parciau cenedlaethol yn fwy atebol i bobl leol? OQ58580

Mae atebolrwydd lleol yn hanfodol i lywodraethiant ein parciau cenedlaethol. Mae dwy ran o dair o’r aelodau’n cael eu dewis gan awdurdodau lleol, gan warantu atebolrwydd i bobl a chymunedau lleol. Rydym yn gwella atebolrwydd a llywodraethiant, gan gynnwys pecyn cymorth ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a swydd strategol newydd ar gyfer Cymru gyfan sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth a llywodraethiant.

Diolch, Weinidog. Yn ein parciau cenedlaethol, mae’n hanfodol fod pobl leol yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, a bod y parciau cenedlaethol yn sefyll o'u plaid a bod ganddynt gynrychiolaeth o’r ardal honno. Mae Llywodraeth Cymru yn penodi nifer o bobl i barciau cenedlaethol, ond yn anffodus, nid yw rhai o'r bobl hynny'n dod o Gymru hyd yn oed. Felly, yr hyn yr hoffwn ei weld yw system lle gall pobl leol gyfrannu at y broses benodi honno i sicrhau bod gennym bobl leol yn cynrychioli ein parciau cenedlaethol er mwyn gwneud yn siŵr fod ein busnesau a’n cymunedau'n teimlo bod ein parciau cenedlaethol yng Nghymru yn gwrando arnynt ac yn eu parchu. Diolch, Lywydd.

Iawn, felly, yn sicr, mae angen i barciau cenedlaethol ymateb i bobl leol a’u pryderon, ac wrth gwrs, mae’n rhaid iddynt fod yn gynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ond mae parciau cenedlaethol hefyd yn gwasanaethu holl bobl Cymru—hwy, yn amlwg, yw ein parciau 'cenedlaethol', ac mae'n bwysig iawn fod awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn ymateb i anghenion lleol a chenedlaethol. Ac felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod eu llywodraethiant a'u hatebolrwydd yn adlewyrchu'r angen i adlewyrchu'r gymuned ymgysylltiedig honno o fewn y parc cenedlaethol ac ar gyrion y parc cenedlaethol, ond hefyd eu bod yno ar gyfer dyfodol holl bobl Cymru.

Felly, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r parciau cenedlaethol i ymgysylltu’n eang pan fyddwn yn datblygu’r cynlluniau rheoli a’r blaenoriaethau eraill. Mae angen inni gael arbenigedd penodol ar y parciau cenedlaethol, yn ogystal â’r cynghorwyr lleol sy’n cyfrannu cymaint. Felly, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym amrywiaeth o leisiau arbenigol hefyd ymhlith penodiadau Llywodraeth Cymru. Felly, nid wyf yn gwbl sicr fy mod yn cytuno â chi y dylent fod yn bobl sy'n byw yng Nghymru, er, yn amlwg, lle mae gennym yr arbenigedd yng Nghymru, byddem yn sicr yn ceisio gwneud hynny. Rydym yn llawer mwy awyddus i sicrhau bod gan y parc cenedlaethol ystod o arbenigedd ar gael iddo, ar ei fwrdd, os mynnwch—gan mai dyna yw’r cyngor ei hun, mewn gwirionedd—ac yna drwy'r ystod o arbenigwyr y byddwn yn ymgysylltu â hwy er mwyn cael y canlyniad gorau posibl i’r bobl yn y gymuned ei hun, ond yn bwysig iawn, i holl bobl Cymru, ac mewn gwirionedd, holl bobl y DU a holl bobl y byd, gan fod y parciau cenedlaethol, wrth gwrs, yn rhan o'n tirwedd warchodedig.

Credaf hefyd fod barn pobl leol yn bwysig. Yn bwysicach fyth, credaf ei bod yn bwysig diogelu ein parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'r llain las—mae pob un ohonom yn elwa ohonynt. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig gwarchod yr ardaloedd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn wahanol i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, a ddywedodd fod datblygu yn iawn cyhyd â bod y seilwaith yn cael ei roi ar waith, megis meddygfeydd, ysgolion a seilwaith trafnidiaeth?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mike. Hoffwn bwysleisio nad oes gennym unrhyw fwriad i ddilyn Llywodraeth y DU o ran ystyried caniatáu mwy o ddatblygu ger ein parciau cenedlaethol yn ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu ein safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae 'Cymru’r Dyfodol' a 'Polisi Cynllunio Cymru' yn darparu fframwaith cynhwysfawr o amddiffyniadau i'n parciau cenedlaethol a’n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ar gyfer datblygiadau amhriodol ac rwyf fi, yn un, yn benderfynol iawn iddo aros felly.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru

2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ58587

Diolch. Mae 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn nodi ein cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon, nid yn unig yn Nwyrain De Cymru, ond ledled y wlad.

Diolch am yr ateb.

Cwyn gyffredin yn ystod cymorthfeydd stryd yw cyflwr y rhwydwaith bysiau. Mae’r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i gynifer o bobl ac mae hynny’n arbennig o wir ym Mlaenau Gwent, lle mae perchnogaeth ceir yn isel a lle ceir cyfran uwch o bobl hŷn nag mewn llawer o etholaethau eraill. Yn anffodus, pe baech am deithio ar fws rhwng Aber-bîg a Chwm—taith 10 munud mewn car—byddai’n cymryd awr a 44 munud, gan ei fod yn mynd y ffordd hir o gwmpas. A wnewch chi roi syniad o’r broses o gyflwyno amserlen fysiau newydd ynghyd â'r gyllideb ar gyfer hynny? A wnewch chi hefyd ymgynghori â defnyddwyr bysiau yn y cymunedau lle mae llwybrau’n gweithredu fel bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio gyda hwy mewn cof?

Wel, rwy’n angerddol am y rôl y mae’r bws yn ei chwarae yn y system drafnidiaeth gynaliadwy. Mae wedi bod yn rhan o’r ddadl sydd wedi’i hesgeuluso ers yn rhy hir o lawer. Rydym yn ymdrin â gwaddol preifateiddio, sy’n ei gwneud yn anodd iawn mabwysiadu ymagwedd strategol, oherwydd yn y bôn, gall cwmnïau preifat gynnal y gwasanaethau y maent yn dymuno eu cynnal, a gwyddom, ar ôl blynyddoedd o gyni, nad oes gan gynghorau arian i ddarparu gwasanaethau ar gyfer angen cymdeithasol. Felly, mae angen diwygio'r peth yn gyfan gwbl. Rydym yn ymgynghori ar ein Papur Gwyn ar fysiau. Rydym wedi cael llawer o ymatebion cadarnhaol, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb ohonynt cyn bo hir, ac yna rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf, i bennu system fasnachfreinio. A phwrpas hynny yw caniatáu inni nodi, gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol, sut olwg sydd ar rwydwaith o lwybrau, i alluogi bysiau i fod yn opsiwn ymarferol i’r rhan fwyaf o bobl. Gwyddom nad yw oddeutu hanner ein pobl byth yn mynd ar y bws, ac os ydym am gyflawni ein targedau newid hinsawdd, mae’n rhaid i hynny newid. Felly, mae angen iddynt fod yn ddibynadwy, mae angen iddynt fod yn fynych, mae angen iddynt fod yn fforddiadwy. Er mwyn gwneud hynny, mae angen llawer o waith plymio ar y system, ac rydym yn cychwyn ar y daith honno. Yn anffodus, nid yw’n daith gyflym, ond credaf ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

13:35

Ddirprwy Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd, gofynnais i’r Prif Weinidog am y posibilrwydd y byddai'n cyflwyno cerdyn teithio Cymru gyfan, i ganiatáu i bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol a phob grŵp oedran gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai cyflwyno cerdyn o’r fath yn sicrhau teithio mwy di-dor i drigolion, cymudwyr, a myfyrwyr, yn ogystal ag annog twristiaeth, a thrwy hynny, yn ysgogi gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, drwy gynyddu nifer y teithwyr a’r galw. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod llawer iawn yn werth ei archwilio yn y syniad, a rhoddodd ymrwymiad i archwilio’r posibilrwydd o gerdyn, i wella cysylltedd trafnidiaeth ledled Cymru. Fodd bynnag, Ddirprwy Weinidog, pan gyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynlluniau, fe wnaethoch ateb ar 11 Hydref 2022, gan gyfeirio at amrywiol gynlluniau tocynnau teithio consesiynol sy'n bodoli eisoes a dweud eich bod yn archwilio opsiynau ar gyfer tocynnau integredig gyda Trafnidiaeth Cymru. Mae’n swnio'n debyg i mi, Ddirprwy Weinidog, fel pe baech yn arllwys dŵr oer ar y syniad o gerdyn teithio Cymru gyfan. Felly, a fyddech cystal â chadarnhau beth yw eich safbwynt ar hyn, ac a ydych chi wir yn cytuno â'r Prif Weinidog fod hwn yn gynnig sy'n werth ei archwilio?

Wel, rydym yn sicr yn meddwl amdano, ond fel rwyf newydd ei egluro, gan fod gennym system dameidiog sydd wedi'i phreifateiddio, nid yw mor syml ag y mae'n swnio, gan fod gan weithredwyr gwahanol systemau gwahanol, nid oes gennym allu i'w gorfodi, gan mai cwmnïau masnachol ydynt. A holl bwynt newid i system fasnachfraint ledled Cymru, gyda safonau ar gyfer gweithwyr a theithwyr, yw caniatáu mwy o gyffredinedd rhwng gwasanaethau. Ac mae hynny’n cynnwys tocyn bws, trên a theithio llesol cyfnewidiadwy, y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio arno. Ond hyd nes y cawn y gwaith plymio hwnnw'n iawn, ni allwn wneud hynny. Ac mae arnaf ofn mai gwaddol preifateiddio yw'r sefyllfa yr ydym yn byw gyda hi heddiw, ac mae'n un yr ydym yn gweithio'n galed i'w goresgyn.

Gwn ein bod yn awyddus i edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl, ond mae’n werth nodi mai’r rheswm pam fod gennym wasanaeth bysiau o gwbl bellach yw oherwydd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, a’i gynllun olynol, a gychwynnwyd yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ac roedd honno'n enghraifft o Lywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i gynorthwyo gwasanaeth preifat. Nawr, credaf fod gan y gwasanaeth preifat le i dalu'n ôl i ni, ac ni chredaf fod hynny'n digwydd. Beth a welwn yng nghwm Aber, er enghraifft? Mae llawer o etholwyr wedi cwyno wrthyf am wasanaethau'n cael eu canslo. A'r hyn y mae gwir angen inni ei weld yw rhyw fath o reolaeth gyhoeddus dros hyn. Nawr, rwyf wedi sylwi bod y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraethiant bysiau a fu'n destun ymgynghoriad yn mynd ymhellach na chynigion y Bil bysiau, felly byddai'n ddiddorol clywed yr ymatebion i'r ymgynghoriad. A wnewch chi roi syniad i ni pryd y byddwch yn eu cyhoeddi? Gwn eich bod wedi dweud y byddwch yn gwneud hynny cyn bo hir, ond a wnewch chi roi syniad clir i ni pryd y byddwch yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad bysiau, a phryd y byddwn yn clywed mwy am gynnydd y Papur Gwyn?

Diolch. Y bwriad yw gwneud hynny y mis hwn. Mae llawer iawn yn digwydd mewn perthynas â'r agenda diwygio bysiau. Rydym yn edrych ar fater tocynnau teithio, rydym yn edrych ar fater rhaglennu—fel y dywedaf, nid yn unig rhoi’r fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer caniatáu masnachfreinio, ond gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ar ble y dylai’r llwybrau hynny fynd. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith manwl yng ngogledd Cymru fel cam cyntaf ar gyfer y gwaith o fapio ble y dylid cael llwybr bws delfrydol, sydd wedyn yn caniatáu inni gynnwys hynny yn y fasnachfraint, pan fyddwn yn ei chyflwyno a phan fyddwn yn ei gosod.

Rydych yn llygad eich lle ein bod wedi rhoi swm sylweddol o arian i'r diwydiant bysiau—oddeutu £150 miliwn o gyllid brys. Fel y dywedwch, heb hynny, ni fyddai diwydiant bysiau i'w gael yn y rhan fwyaf o Gymru. Fis Mehefin eleni, fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth pellach o £48 miliwn, ac mae amodau ynghlwm wrtho—mae’n fargen rhywbeth-am-rywbeth. Ac mewn gwirionedd, mae'r berthynas waith a gawsom gyda'r diwydiant wedi bod yn gynhyrchiol iawn, sydd yn fy marn i yn ein paratoi ar gyfer masnachfreinio. Oherwydd am y tro cyntaf, credaf fod y rhwystrau wedi'u dymchwel, lle roedd y sgwrs yn arfer bod, weithiau, yn gynhennus, wrth iddynt hwy fynnu eu hawliau fel gweithredwyr masnachol. Mae bellach yn llawer mwy o bartneriaeth, ac mae gennym fynediad at ddata amser real ar y llwybrau y maent yn eu darparu a'r arian y maent yn ei gynhyrchu, ac mae hynny wedyn yn caniatáu inni lunio system newydd yn llawer gwell.

A bod yn deg â’r diwydiant bysiau, maent yn wynebu pwysau sylweddol, gyda gweithlu sydd wedi bod yn crebachu, gyda gyrwyr bysiau hŷn ddim yn dychwelyd ar ôl y pandemig, anawsterau recriwtio, yn ogystal â chostau cynyddol oherwydd chwyddiant. Felly, mae llawer o bwysau ar y diwydiant. Dyna pam ein bod yn credu mai eu rhoi ar sylfaen fwy cadarn, o dan system fasnachfreinio drefnus a thryloyw, yw’r ffordd i newid dulliau teithio.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, ymunais â chyfarfod brys gyda grŵp o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i drafod dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru. Ymysg eu hofnau a’u gofidiau a’u pryderon oedd y teimlad fod Llywodraeth Cymru, yn eu barn hwy, wedi methu creu sylfaen gadarn i ysgogi adeiladu tai cymdeithasol newydd. Dim ond oddeutu 9,000 o gartrefi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol a adeiladwyd rhwng 2010 a 2019, cyfartaledd o 1,000 y flwyddyn. Mae hyn yn llawer llai na'ch amcangyfrif chi, hyd yn oed, fod angen rhwng 3,000 a 6,000 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Mewn gwirionedd, mae eich ymrwymiad maniffesto eich hun, sy'n dweud y byddech yn adeiladu

'20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu'

yn y fantol. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi fy rhybuddio, os na allant gynyddu rhenti'n unol â chwyddiant eleni, y bydd yn rhaid gwneud toriadau difrifol i’r gwasanaethau a ddarparant. Maent yn darparu cyngor ar ddyledion. Mae llawer o bethau y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu cynnig wrth ddarparu llety o safon. Yn sicr, hoffwn gofnodi fy niolch am y rhan y maent yn ei chwarae yn darparu cartrefi i bobl yng Nghymru. Ond hefyd, byddai toriadau difrifol yn cael effaith ar eu gallu i barhau gyda phrosiectau adeiladu. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau nad oes rhaid i’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu hunain ohirio'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol newydd mewn unrhyw fodd?

Unwaith eto, Janet, mae gofyn y cwestiynau hyn i mi yn absenoldeb llwyr unrhyw ddealltwriaeth o’r trefniadau ariannol cyffredinol yn y DU ar hyn o bryd yn rhyfeddol. Rydym yn wynebu argyfwng costau byw ar draws y DU, yn gyfan gwbl o ganlyniad i benderfyniadau hurt y Llywodraeth Geidwadol.

Mae gennym benderfyniad anodd iawn i’w wneud ar osod y capiau rhent yng Nghymru ar gyfer tai cymdeithasol—penderfyniad anodd iawn yn wir. Rydych yn llygad eich lle fod hwnnw’n benderfyniad lle mae angen cydbwysedd rhwng sicrhau bod gennym lif o incwm rhent i wneud yn siŵr bod gennym gyllidebau ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, a chyllidebau ar gyfer adeiladu tai newydd sy’n gallu bodloni’r galw cynyddol—y galw cynyddol a achosir gan y nifer o bobl sy'n methu â chadw to uwch eu pennau oherwydd yr argyfwng costau byw. Felly, mae gennym gylch dieflig hyfryd yma. Mae hwnnw’n benderfyniad anodd iawn yn wir.

Mae gennym oddeutu 20 y cant i 30 y cant o'n tenantiaid yn talu eu hunain—mae'n dibynnu pa landlord cymdeithasol cofrestredig a chyngor yr ydych yn siarad â hwy. Mae'n amlwg yn amrywio, ond mae oddeutu 20 y cant i 30 y cant o'r tenantiaid yn talu eu hunain, ac maent ymhlith y gweithwyr ar y cyflogau isaf yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein heconomi gìg, ac maent angen gallu cadw to uwch eu pennau mewn tai cymdeithasol. Yna, fel rydym wedi'i drafod droeon, mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi penderfynu rhewi’r lwfans tai lleol, gweithred eithriadol o wirion o ystyried ansefydlogrwydd y farchnad dai. Felly, mae nifer o benderfyniadau macro-economaidd yma sy’n gwneud y sefyllfa'n waeth o lawer.

Mae gennym hefyd broblemau gyda'r gadwyn gyflenwi fyd-eang fel y gwyddoch. Mae gennym broblemau enfawr gyda sicrhau bod cwmnïau adeiladu'n gallu cael y gweithwyr a'r deunyddiau adeiladu sydd eu hangen arnynt, gan na allwn bellach recriwtio'r gweithwyr o dramor fel yr arferem ei wneud. Mae gennym storm berffaith o drallod. Felly, wrth gwrs, rydym yn awyddus i gyflymu hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n darparwyr tai cymdeithasol. Rwy’n cyfarfod â hwy'n rheolaidd iawn, yn unigol a chyda'r grwpiau trosfwaol. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae'r syniad fod yna fwled arian i ddatrys y llanast y mae'r economi ynddo ar hyn o bryd yn gwbl hurt.

Felly, mae ein gallu i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel yn y fantol. Rydym bron yn sicr yn wynebu’r toriadau gwaethaf erioed i'r holl wasanaethau cyhoeddus. Er, pe bai eich Llywodraeth wedi cyhoeddi hynny ar yr un pryd ag y gwnaethant gyhoeddi’r llanast a oedd ganddynt, byddem yn gwybod hynny'n barod. Ni allaf ddychmygu sut y gallwch ofyn y cwestiwn hwnnw i mi, heb ystyried y sefyllfa facro-economaidd.

Weinidog, nid wyf yma i graffu ar eich perfformiad dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ond rwyf yma i herio a chraffu ar berfformiad Llywodraeth Lafur Cymru dros 23 mlynedd sy'n gyson wedi methu adeiladu'r nifer cywir o dai, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid i chi—. Rhowch y gorau i geisio beio Llywodraeth y DU. Eich llanast chi yw hwn. Mae datganoli o dan Lywodraeth Lafur Cymru dros y 23 mlynedd diwethaf wedi amddifadu llawer o bobl yn fy nghymuned o gartref a tho uwch eu pennau. Rhaid ichi ddefnyddio'r dulliau sydd gennych at eich defnydd yn awr i sicrhau bod digon o dai'n cael eu hadeiladu. Nid ydym eisiau gweld sefyllfa, am yr eildro, lle cymerodd flwyddyn a hanner i'r Prif Weinidog, o fis Ionawr 2021 i fis Gorffennaf 2022, gynnal uwchgynhadledd i drafod yr argyfwng adeiladu tai, sy'n rhywbeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw amdano— ac maent yn agos iawn atoch chi—. Ac mae eu canllawiau ar ffosfforws—. Yn wir, rwyf wedi cael rhybudd y gallai'r data ar faetholion morol sy'n debygol o gael ei ryddhau gan CNC ymestyn yr ardaloedd yr effeithir arnynt ledled Cymru ac arwain at awdurdodau arfordirol bellach yn methu rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer tai. Fe ddywedoch chi, yr wythnos diwethaf—

13:45

Rwy'n dod ato. Fe ddywedoch chi fod y lefel hon o drafodaeth ynghylch rhyddhau maetholion morol yn cael ei chadw ar lefel swyddogol. Mae angen ichi gael rôl arweiniol yn hyn o beth. Ac a wnewch chi egluro a ydych chi'n datblygu strategaeth, rhag ofn y bydd rhyddhau data ar faetholion morol yn arwain at fwy fyth o broblemau rheoli maetholion sy’n gwaethygu’r argyfwng adeiladu tai?

Unwaith eto, Janet, mae hyn fel ceisio trafod y 1930au heb gyfeirio at y dirwasgiad. Mae’r syniad y gallwch chi ddweud wrthyf fod fy nharged ar gyfer ffosffadau yn atal adeiladu tai, pan fyddwch yn honni drwy'r amser eich bod yn credu mewn argyfwng hinsawdd a natur, yn syfrdanol a dweud y gwir. Mae ein hafonydd mewn sefyllfa enbyd. Mae angen inni wneud rhywbeth am yr holl bobl sy’n cyfrannu at hynny, ar draws nifer fawr o sectorau. Felly, y cwmnïau dŵr, yn sicr; adeiladwyr tai, yn sicr; y sector amaethyddol, yn sicr. Pob un sector sy'n cyfrannu at hynny. Cawsom uwchgynhadledd dros yr haf, lle cytunodd pob sector â’r Prif Weinidog y byddent yn cadw at eu cyfrifoldeb eu hunain i wneud hynny. Mae CNC, wrth gwrs, yn monitro hynny, a hwy yw’r corff gorfodi wrth gwrs, ond mae’n llawer iawn mwy cymhleth na hynny. Ac a bod yn onest mae dweud wrthyf eich bod yn credu mai'r ateb i hynny yw cael gwared ar bob terfyn ar yr hyn y gellir ei adeiladu ger ein hafonydd a'n harfordiroedd a chaniatáu adeiladu tai yn ddigyfyngiad am fod fy lefelau ffosffad, rywsut, yn atal hynny, a dweud wrthyf yn gyson ar yr un pryd eich bod yn credu mewn argyfwng hinsawdd a natur yn rhagrith o fath nad wyf prin wedi'i weld o'r blaen.

Diolch, Weinidog. Gallaf roi sicrwydd gonest i chi nad oes unrhyw un erioed wedi gorfod rhoi geiriau yn fy ngheg. Nid oes angen inni fynd yn ôl i’r 1930au; mae 23 mlynedd yn hen ddigon hir i'ch diffyg adeiladu tai wneud cam â phobl Cymru. Mae swyddogion cynllunio a rheoleiddio yn ganolog i'r broses adeiladu tai yng Nghymru, ond maent wedi'u gorlethu â gwaith i'r fath raddau fel y gwn na all fy awdurdod lleol fy hun wirio cydymffurfiaeth ag amodau cynllunio, a dim ond yn awr y maent yn mynd ar drywydd gorfodi ar ôl cwynion. [Torri ar draws.] Hisht!

Weinidog, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir y Fflint a Chaerffili wedi mynegi pryderon ynghylch diffyg adnoddau a chapasiti ar gyfer gorfodi o fewn awdurdodau lleol. Felly, a wnewch chi gydweithio â ni, gyda'ch swyddogion ar draws ein hawdurdodau cynllunio, i sicrhau bod ganddynt adnoddau angenrheidiol i ymdrin â cheisiadau chynllunio yn gyflymach—i ganiatáu mwy o geisiadau cynllunio—fel bod hynny'n helpu tuag at eich targedau? A hefyd, mae angen inni gael proses orfodi effeithlon yng Nghymru. Diolch.

Unwaith eto, Janet, sut y credwch chi y caiff y bobl hynny eu talu?

Rwy'n ateb y cwestiwn. Y grant cynnal ardrethi sy'n talu am y bobl hynny. Ynte? Mae hwnnw wedi’i dorri gan Lywodraethau Ceidwadol olynol dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynllunwyr yw'r staff ystafell gefn hynny y mae Llywodraethau Ceidwadol mor hoff o'u gwawdio am fod yn wastraffus. Dyma ganlyniad uniongyrchol eich polisïau cyni, gyda mwy i ddod yn ôl pob tebyg. Os credwch fod yna goeden arian hud yma yn Llywodraeth Cymru, rydych yn gwneud camgymeriad mawr. Nid wyf wedi dod o hyd iddi eto; nid yw'n bodoli. Mae eich Llywodraeth yn San Steffan yn gwbl gyfrifol am y diffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, sy’n arwain yn uniongyrchol at y diffyg twf. Mae arnaf ofn fod y glymblaid gwrth-dwf, Janet, ar eich meinciau chi ac yn eich Llywodraeth chi.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy sôn am rywbeth sydd yn gyffredin drwy Gymru, ond gan ddefnyddio enghraifft o fy etholaeth i. Mae un o fy etholwyr i yn rhiant sengl, sydd wedi gorfod symud i mewn gyda'i chwaer, oherwydd bod ei chyn-bartner wedi ei throi hi allan o'i thŷ. Mae hi rŵan yn byw mewn tŷ tair ystafell wely, ond mae yna naw ohonyn nhw'n byw yn yr eiddo. Mae hi ar restr y cyngor, ond does yna ddim tai cymdeithasol ar gael, felly mae hi'n chwilio am dŷ rhent preifat. Yn anffodus, mae hi wedi cael ei phrisio allan o'r farchnad rhentu preifat. Y rhataf mae hi'n medru ei ffeindio yn yr ardal ydy £700 y mis. Ond mae'n rhaid iddi brofi bod ganddi incwm o dair gwaith y rhent er mwyn i'r asiant a'r landlord ei osod o iddi. Mae hynna'n £25,000 y flwyddyn, sy'n fwy na chyflog cyfartalog fy etholaeth i. Does ganddi ddim gobaith o ddangos bod ganddi incwm o £2,100 y mis, ac mae'n debyg fod yr arfer yma o ofyn am gyflog tair gwaith y rhent yn arfer cyffredin iawn yn y sector. Mae sôn ei bod hi'n medru cael guarantor, ond eto mae angen teulu efo pocedi dyfnion iawn i wneud hynny. Ydych chi'n cytuno y dylid dirwyn yr arfer yma o roi rhwystrau yn ffordd pobl ar incwm isel rhag cael mynediad i'r sector rhent i ben, a pha gamau sy'n cael eu cymryd gennych chi er mwyn cael gwared ar y rhwystrau yma i rentwyr incwm isel? Diolch.

13:50

Yn hollol, Mabon, mae gennym arferion yn datblygu yn y sector rhentu sy’n amlwg yn gosod rhwystrau i bobl sydd am rentu. Yn amlwg, yr hyn yr hoffem ei wneud yw adeiladu llawer o gartrefi cymdeithasol yn gyflym. Rwyf newydd gael sgwrs gyda’r meinciau gyferbyn am y ffactorau macro-economaidd sy’n ein hatal rhag adeiladu mor gyflym ag yr hoffem, ond hoffwn ddweud ein bod wedi rhoi’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad tuag at hynny, drwy’r grant tai cymdeithasol a chyda’n cynghorau. Felly rydym yn dal i’w hadeiladu, ond mae’r gyfradd ymyrraeth sy'n rhaid inni ei wneud bellach yn cynyddu’n sylweddol ar gyfer pob tŷ unigol. Mae’r arian yr ydym wedi’i neilltuo, er ei fod yn fwy nag erioed, wedi’i erydu gan chwyddiant wrth gwrs, sydd wedi cyrraedd ffigurau dwbl heddiw, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae’n gwbl amlwg, onid yw, fod y darlun macro-economaidd yn erydu’r pŵer prynu sydd gennym yma yng Nghymru gydag incwm sefydlog, i bob pwrpas.

Ond rydym yn gweithio gyda'r cynghorau lleol i sicrhau eu bod yn gallu rhoi gwarantau a bondiau ar gyfer tenantiaid sydd yn y sefyllfa honno yn y sector rhentu preifat. Rydym yn gweithio gyda landlordiaid ein sector preifat, y gallwn gysylltu â hwy drwy Rhentu Doeth Cymru, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o hynny a’u bod yn fodlon ac yn gallu derbyn gwarantau a bondiau gan yr awdurdod lleol. Nid yw hynny ar gael i bawb, ond mae'n swnio fel pe bai eich etholwr ar y rhestr tai cymdeithasol beth bynnag, ac y byddent yn gymwys.

Yn amlwg, rwy’n dweud yn gyson wrth y meinciau gyferbyn y byddai cynyddu’r lwfans tai lleol yn unol â chwyddiant, fel y dylent fod wedi’i wneud, yn helpu’r sefyllfa yr ydych ynddi yn sylweddol. Rydym yn gweithio gyda landlordiaid sector preifat hefyd i sicrhau bod cymaint ohonynt â phosibl yn cymryd rhan yng Nghynllun Lesio Cymru, ac mae hynny’n tyfu'n gyflym.

Gwn ein bod yn cael sgwrs am lefelau rhent a chapio rhenti, ac yn y blaen, ond o ddifrif, rydym yn gwylio'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac Iwerddon gyda chryn ddiddordeb. Fe wyddoch fod y ddwy Lywodraeth wedi cael eu bygwth â chamau cyfreithiol dros yr hyn sydd wedi digwydd. Byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn cael sgwrs â landlordiaid sector preifat mewn gwahanol ardaloedd o Gymru i ddeall beth yw eu hawydd i aros yn y farchnad, yn enwedig pe bai rhenti'n cael eu capio. Felly, os na all landlord gael y lefel honno o rent, beth fyddant yn ei wneud â’r tŷ? Y broblem yw, mewn marchnad dai anwadal a chyda chyfradd llog o'r fath, y tebygrwydd yw y bydd landlord yn gwerthu’r tŷ, gan y gallant gael lefelau tebyg o incwm drwy fuddsoddi’r arian yn y marchnadoedd, gan fod chwyddiant uchel yn amlwg yn helpu pobl sy'n cynilo, ac ond yn difreinio benthycwyr.

Felly, rydym o ddifrif yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng helpu pobl i symud i mewn i'r tai hyn fel y gallant gael to uwch eu pennau, gyda'r holl ffactorau sydd gennym o ran cynyddu nifer y tai cymdeithasol mor gyflym ag y gallwn, ond rwyf hefyd yn awyddus i gymell y sector preifat i aros yn y farchnad, felly gweithio gyda hwy i wybod beth fyddai’n helpu. Er enghraifft, bydd yr Aelodau’n clywed gennym cyn bo hir am bethau fel sut y gallwn gymell y sector rhentu preifat i sicrhau bod eu cartrefi yn bodloni safonau ansawdd tai Cymru fel bod tenantiaid yn talu biliau llawer is pan fyddant yn symud i mewn i'w cartref. Mae a wnelo â mwy na'r rhenti uchel yn unig, mae lefel y gwariant ar ynni ac ati'n bwysig iawn.

Rwy'n cydymdeimlo â phobl ledled Cymru sydd yn y sefyllfa honno. Mae'n rhaid inni fynd ati'n gyflym i adeiladu llawer o'r cartrefi newydd hynny, ond mae gwir angen inni weithio gyda'n sector rhentu preifat hefyd i sicrhau sefydlogrwydd yn y farchnad a lefel weddus o elw wrth ddarparu cartrefi i bobl. Byddwn yn fwy na pharod i edrych ar yr enghraifft benodol, serch hynny, os hoffech ysgrifennu ataf.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna.

Mae’r cwestiwn nesaf, os caf, yn ymwneud ag ymchwil ddiweddar a gomisiynwyd gan bartneriaid Cefnogi’r Mesur, sy'n cynnwys Tai Pawb, Shelter Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Daethant i'r casgliad y byddai cyflwyno hawl i gartref digonol yn arwain at arbedion sylweddol i bwrs y wlad. Mae'r manteision yn sylweddol. Nododd yr ymchwil fanteision gwerth £11.5 biliwn i bwrs y wlad dros gyfnod o 30 mlynedd, gyda chost gychwynnol 10 mlynedd o £5 biliwn. Afraid dweud y byddai buddsoddi mewn cartrefi addas o ansawdd gwell yn arwain at lai o dderbyniadau i'r ysbyty. Yn yr un modd, gyda chynnydd graddol yn nifer y cartrefi addas sydd ar gael, byddai llai o ddibyniaeth ar wasanaethau cymorth digartrefedd ac yn y blaen gan gynghorau ac eraill. Felly, rydym yn croesawu’r Papur Gwyn sydd ar y ffordd, a’r Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio â chi i sicrhau y gall y sector tai ddarparu ar gyfer anghenion pawb yng Nghymru. Fodd bynnag, ar ôl degawdau o danariannu parhaus ym maes tai cymdeithasol, a yw’r Gweinidog yn cytuno mai nawr yw’r amser i roi model buddsoddi i arbed ar waith, fel yr argymhellwyd gan Tai Pawb, Shelter Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru, ac i ymgorffori’r hawl i gartref digonol mewn deddfwriaeth, fel y'i hymgorfforir yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol?

13:55

Mae gennyf gryn ddiddordeb mewn treialu hawl i gartref digonol yn ystod tymor y Senedd hon, yn sicr. Ond un o'r pethau y mae'n rhaid inni eu sicrhau yw ein bod yn gosod y dominos mewn rhes yn gyntaf. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad—mae fy synnwyr o amser yn ofnadwy—yn ddiweddar iawn yn y Siambr am y ddeddfwriaeth ddigartrefedd yr ydym ar fin ei chyflwyno. Rydym yn ystyried honno'n gam cyntaf i sicrhau continwwm tuag at yr hawl i gartref digonol, oherwydd a dweud y gwir, os nad oes gennych hawl i beidio â bod yn ddigartref, rydych ymhell i ffwrdd oddi wrth gartref digonol. Felly, i ni, mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn llunio'r ddeddfwriaeth fel ei bod yn cyd-fynd yn ddi-dor â gallu'r gwasanaethau digartrefedd lleol i ddarparu'r cartref digonol y dylech allu ei gael.

Y gwir yw, ar ôl yr holl gyni a wynebwyd gennym—. A chofiwch fod y cynllun hawl i brynu wedi gwahardd awdurdodau lleol rhag darparu tai yn lle’r tai cymdeithasol a oedd yn cael eu gwerthu, wedi eu gwahardd yn llwyr, ac mai yn ystod fy oes i fel gwleidydd y tynnwyd y capiau oddi ar y cyfrifon refeniw tai o’r diwedd gan y Llywodraeth Geidwadol, fel y gallai’r cynghorau adeiladu eto. Mae'n gyfleus iawn fod y bobl ar y meinciau eraill bob amser yn anghofio hyn. Mae angen inni fynd i'r afael â hynny, mae angen inni gael sgiliau yn ôl i mewn i'r sefydliadau hynny, ac yna mae angen inni ymgorffori'r hawl i gartref digonol. Hoffwn pe bai’r hawl i gartref digonol yn fwy na syniad yn unig, ac yn hawl y gellir ei gorfodi i unigolyn, ac mae hwnnw’n gam llawer mwy na'i ymgorffori fel egwyddor gyffredinol yn y gyfraith. Felly, rydym yn falch iawn o weithio gyda Phlaid Cymru ar y cytundeb cydweithio tuag at sicrhau ein bod yn gwneud hynny, gan fy mod yn siŵr y gallwn wneud hynny.

Newid i Drafnidiaeth Gynaliadwy

3. Pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran cael pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ58553

Nid yw nifer y teithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi dychwelyd i'w lefelau cyn COVID, ond rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i chwilio am ffyrdd o ddod â phobl allan o’u ceir ac i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy.

Diolch. Weinidog, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros adfer gwasanaethau bysiau mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr a Phen-y-fai yn dilyn penderfyniad cwmni bysiau Easyway i roi’r gorau i fasnachu. Nid oes gan bobl heb geir sy’n byw ym Mhen-y-fai a’r ardaloedd eraill yr effeithir arnynt unrhyw ffordd o fynd i siopa, ymweld â’r ysbyty neu gael mynediad at lawer o wasanaethau eraill oni bai eu bod yn talu am dacsi, ac mae diffyg llwybrau teithio llesol hefyd. Rwyf hefyd yn pryderu am golli gwasanaeth sy'n mynd heibio i Ysbyty Glanrhyd. Roedd y llwybrau yr effeithiwyd arnynt yn fasnachol hyfyw, ac nid yw cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos llawer o ddiddordeb mewn mynd i'r afael â'r broblem. Sut y gall pobl fod yn hyderus fod trafnidiaeth gyhoeddus yn gynnig deniadol pan ydym yn colli llwybrau bysiau mawr eu hangen, ac a wnaiff y Gweinidog ymyrryd?

Fel y buom yn ei drafod yn gynharach, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth i roi system fysiau well, fwy cydlynol ar waith. Ceir nifer o heriau. Fel y nododd, mae llawer o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth bws. Gwyddom nad yw chwarter yr holl aelwydydd yn berchen ar gar. Mae ymchwil gan Trafnidiaeth Cymru o’u teithwyr eu hunain yn awgrymu nad oes car gan 80 y cant o bobl sy’n teithio ar y bws. Felly, mae gennym ymdeimlad go iawn o anghyfiawnder trafnidiaeth yma, anghyfiawnder cymdeithasol, fel y'i hadlewyrchir yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio dulliau trafnidiaeth. Ceir angen arbennig i sicrhau bod gwasanaethau bws o ansawdd da ar gael i bobl ifanc ac i bobl ar incwm is yn enwedig, ond rydym am i'r bws fod yn rhywbeth i bawb, nid i'r rhai nad oes ganddynt ddewis yn unig. Rydym am iddo fod yn ddigon da fel ei bod yn well mynd ar fws nag mewn car. Mae angen cyfres o ddiwygiadau systemig i wneud hynny, ac rydym wedi dechrau'r broses honno.

Dylwn ddweud wrth yr Aelod fod awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer darparu cymhorthdal i gefnogi llwybrau, ond mae 10 mlynedd o gyni wedi golygu nad yw’r cyllid dewisol a fu ganddynt ar gael mwyach. Nawr, gwn nad yw meinciau’r Ceidwadwyr yn hoffi cael eu hatgoffa o’r ffeithiau ariannol, ond pan fydd arbrofion asgell dde yn cael eu cyflawni yn San Steffan, mae iddynt ganlyniadau i fywydau pobl go iawn. A phan nad oes arian ar gael yn y gyllideb, mae gwasanaethau dewisol—gwasanaethau anstatudol fel llwybrau bysiau—yn cael eu torri. Felly, mae canlyniad i'r polisïau a gyflwynir gennych, ac yna rydych yn cwyno pan fydd y canlyniadau hynny'n cael eu gwireddu mewn bywyd go iawn. Mae arnaf ofn mai rhagrith yw hynny.

Rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau systemig, ond heb y cyllid, ni allwn wneud hynny. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, gwyddom mai’r toriad mwyaf a gawsom i gyllideb Llywodraeth Cymru mewn dros 20 mlynedd o ddatganoli oedd yr un gan y Canghellor George Osborne, pan dorrodd ein cyllideb 3 y cant, ar ôl degawd o gyllidebau cynyddol o dan Lafur. Ers hynny, rydym wedi cael degawd o dorri cyllidebau o ganlyniad i gyni. Ac yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan fod Prif Weinidog y DU a’r Canghellor—y pleidleisiodd llawer o’r Aelodau yma drostynt—wedi dinistrio ein heconomi, rydym bellach yn wynebu toriadau gwariant o nid 3 y cant, ond 15 y cant. O dan y mathau hynny o doriadau, yn syml iawn ni fydd gennym y gallu i ddarparu gwasanaethau bws i’r rhai sydd eu hangen. Felly, mae’n rhaid ichi edrych ar eich cydwybod eich hun, yn hytrach na sefyll yma'n dweud wrthyf y dylwn ymyrryd. Chi a ddylai ymyrryd i wrthdroi'r polisïau hurt hyn yn San Steffan.

14:00

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael pobl o'u ceir yw perswadio pobl i gerdded neu feicio teithiau byr, a gwn eich bod yn cytuno, Weinidog. Yn amlwg, y buddugoliaethau cyflymaf fydd dileu'r defnydd o geir ar gyfer teithio i'r gwaith a theithio i'r ysgol. Mae'n ymwneud â mwy na chreu gwell seilwaith beicio ar ein ffyrdd. Mae angen cynlluniau benthyg hefyd i deuluoedd sydd methu fforddio prynu beic i'w plentyn, ac sy'n cael trafferth talu £3 y dydd am gludiant i'r ysgol.

Mae un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth yn cynnig ymgorffori llwybrau beicio diogel yn eu trefniadau pontio ar gyfer plant 11 oed, ond yn anffodus, nid yw'r awdurdod lleol, ar hyn o bryd, yn gallu darparu map o'r llwybrau beicio diogel i ni ar gyfer yr ardaloedd y bydd eu darpar ddisgyblion yn dod ohonynt. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa waith a wnewch gydag awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn meddwl am y broblem hon fel problem ddiwylliannol yn hytrach na dim ond problem ffyrdd—a gweithio gyda'n hysgolion a'n cyflogwyr ar hyn.

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr. Rydym yn byw gyda gwaddol diwylliant lle roedd mwy o flaenoriaeth i geir nag i bobl, a lluniwyd rhwydwaith priffyrdd cyfan o gwmpas gwneud i geir fynd yn gyflymach, yn hytrach na meddwl sut i annog pobl i gerdded neu feicio. Fel y gŵyr Jenny Rathbone, mae tua 10 y cant o'r holl deithiau o dan un filltir. Nawr, mae'r rhain yn deithiau y gellid eu cerdded neu eu beicio mewn llawer o achosion ond oherwydd arfer, cânt eu gyrru yn y rhan fwyaf o achosion. Felly, mae gennym her ddiwylliannol, ac yna mae gennym her seilwaith, oherwydd mae pobl yn amharod pan nad ydynt yn teimlo'n ddiogel neu os yw dod allan o'u ceir yn brofiad newydd iddynt.

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol—un o'r cynghorau mwyaf blaengar yng Nghymru mae'n debyg—ar ddatblygu teithio llesol. Mae ganddo, fel y gwyddoch, rwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i gynhyrchu map bob tair blynedd, yn seiliedig ar ymgynghori â chymunedau, sy'n dangos lle dylai seilwaith y dyfodol fynd. Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno ei fap diweddaraf i ni, ac mae'n dangos bod dull trylwyr wedi ei fabwysiadu i sicrhau bod pob ysgol yn gysylltiedig â'r rhwydwaith teithio llesol arfaethedig. Nawr, bydd rhoi'r rhwydwaith hwnnw ar waith yn cymryd amser. Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd, yn rhannol drwy ei adnoddau ei hun, yn gweithio gydag ysgolion unigol, drwy ymyrraeth swyddogion, i geisio gwneud cynlluniau mwy meddal, y tu hwnt i'r seilwaith caled, i annog newid ymddygiad. Felly, rwy'n credu bod gwaith da iawn yn digwydd yng Nghaerdydd.

Maent wedi bod yn gwneud gwaith ar Strydoedd Saffach hefyd, ac rydym wedi bod yn treialu hyn gyda Sustrans yng Nghasnewydd. Mae arian ar gael yn awr, fel rhan o'r prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i gau strydoedd y tu allan i ysgolion yn ystod amseroedd codi a gollwng. Lle cafodd hynny ei dreialu, mae wedi bod yn hynod lwyddiannus. Mae hwnnw ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru gymryd rhan ynddo. Yn anffodus, ychydig iawn sydd wedi cynnig ceisiadau, ond mae'n agored iddynt wneud hynny'n flynyddol. Rwy'n cyfarfod ag aelodau trafnidiaeth cynghorau yn ystod yr wythnosau nesaf i wthio'r agenda hon yn gyson. Mae'n ymwneud yn rhannol ag adnoddau a gallu swyddogion, ac yn rhannol â diwylliant a pharodrwydd. Ond mae hyn yn hollbwysig fel rhan o'n hagenda i newid dulliau teithio. 

Hawliau Datblygu a Ganiateir

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ddigonolrwydd hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru? OQ58564

Mae hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu hadolygu'n gyson drwy ymgynghori ag awdurdodau cynllunio lleol, busnesau a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn datblygu a'r system gynllunio. Mae'r newidiadau diweddaraf yn helpu i sicrhau hyblygrwydd i awdurdodau lleol reoli ail gartrefi a llety gosod tymor byr.

Fel y gwyddoch, Weinidog, mae'r gwaith o gyflwyno band eang gwibgyswllt yn mynd yn eithaf da yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd o ganlyniad i waith Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yn nhref Abergele. Ond un o'r pryderon a fynegwyd wrthyf gan drigolion lleol yw nad yw llawer o'r seilwaith tanddaearol presennol sydd gan Openreach yn y dref yn cael ei ddefnyddio, a bydd ceblau uwchben ar bolion yn cael eu defnyddio yn lle llawer ohono. Mae hynny'n peri pryder i drigolion lleol, sy'n teimlo y dylai fod rhwymedigaeth ar Openreach i gynnal y seilwaith tanddaearol presennol ac ailosod seilwaith tebyg.

Yn amlwg, mae'r trefniadau datblygu a ganiateir ar hyn o bryd yng Nghymru yn caniatáu i Openreach wneud hyn heb unrhyw ganiatâd cynllunio o gwbl. Pa ystyriaeth fydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i newid y trefniadau ar gyfer cwmnïau cyfleustodau fel Openreach i'w gwneud yn ofynnol iddynt ailosod seilwaith tebyg pan fyddant yn uwchraddio'r seilwaith yn y dyfodol? 

14:05

Wel, i ddechrau, nid cyfleustod mohono. Dylai gael ei drin fel un, ond nid yw'n cael ei drin fel un, ac mewn gwirionedd mae hynny'n arwain at gyfres gyfan o ganlyniadau. Felly un o'r pethau cyntaf yr hoffwn ei awgrymu yw eich bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yn gyfleustod, gan y byddai hynny'n datrys cryn dipyn o ran pam fod lleoliadau ar ei hôl hi'n—[Torri ar draws.]  

Ie, ond rwy'n dweud wrthych eich bod chi wedi dweud mai cyfleustod ydyw ac nid yw hynny'n wir.

Mae'n gyfleustod pwysig. Roeddwn yn defnyddio'r diffiniad mewn ystyr ehangach. 

Mae'n gwneud gwahaniaeth eithaf mawr i sut mae'r system gynllunio yn gweithio, Darren. Rwy'n dweud wrthych chi, mae'n gwneud gwahaniaeth, ac nid yw'n gyfleustod.

Nid wyf yn gwybod beth yw manylion cytundeb Llywodraeth y DU gydag Openreach i wneud y gwaith, ond pam ar wyneb y ddaear nad yw'n golygu bod rhaid iddynt ddefnyddio'r seilwaith presennol? Roedd ein cytundeb ni'n cynnwys hynny. Dylai eu cytundeb hwy fod wedi cynnwys hynny. Felly, unwaith eto, nid wyf yn gyfrifol am hynny. Mae'n hen bryd iddynt ysgwyddo'u cyfrifoldebau. Ers amser hir, rydym wedi gorfod rhoi arian datblygu economaidd tuag at y gwaith o ehangu band eang yng Nghymru am fod Llywodraeth y DU wedi bod yn cysgu ar ei thraed.

Er hynny, nid oeddwn yn ymwybodol o'r broblem benodol honno. Os ydych eisiau ysgrifennu ataf, rwy'n fodlon edrych ar y mater, ond byddwn yn dychmygu ei fod yn ymwneud â darpariaeth y cytundeb, felly mae'n debyg y byddaf eisiau gofyn i chi ysgrifennu at Weinidog Llywodraeth y DU i ofyn a ydynt yn barod i gael trafodaeth gyda mi ynglŷn â beth yw trefniadau'r cytundeb penodol hwnnw gydag Openreach. Ond cofiwch, pe bai'n gyfleustod, byddai'r rheolau cynllunio'n wahanol iawn.

Diogelwch Adeiladau

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 7 Hydref? OQ58566

Yn sicr. Ar 7 Hydref, cyhoeddais fod 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i gytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru. Mae gwaith bellach ar y gweill i greu'r ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol a fydd yn sail i'r cytundeb, ac rwy'n rhagweld y bydd drafft o'r ddogfennaeth yn cael ei rannu gyda datblygwyr erbyn diwedd y mis hwn.

Diolch yn fawr am hynny, Weinidog. Rwy'n falch o glywed am y cytundeb cyfreithiol. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi nad yw'n foddhaol fod lesddeiliaid yn mynd â datblygwyr i'r llys ar hyn o bryd. Ni ddylai hynny fod yn digwydd, ac un enghraifft yw Celestia gerllaw. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am amserlenni gyda datblygwyr; a wnewch chi roi diweddariad i ni ar yr amserlenni hynny?

Mae'n anodd iawn rhoi diweddariad i chi ar amserlen pob datblygwr am resymau amlwg, Rhys, ond rydym yn gweithio gyda hwy i ddeall beth yw'r amserlen ar gyfer eu hadeiladau. Rwy'n falch iawn o ddweud bod rhai adeiladau yn cael eu hadfer yn awr ac rwy'n gobeithio ymweld â nifer ohonynt dros yr wythnosau nesaf. Rydym wrth ein bodd fod adeiladau wedi mynd i'r cyfnod adfer gan fod y gwaith arolygu wedi ei gwblhau. Yn ddiweddar ysgrifennais at yr holl gwmnïau rheoli a strwythurau gwahanol berchnogion adeiladau oherwydd mae ceisio darganfod pwy sy'n gyfrifol am beth yn y system yn gymhleth, fel y gwyddoch. Ond rydym newydd ysgrifennu at bob un ohonynt i sicrhau eu bod yn ymwybodol fod angen iddynt roi caniatâd inni fynd i mewn i wneud y gwaith arolygu ymwthiol. Rydym mewn cysylltiad â nifer o drigolion i geisio hwyluso a chyflymu'r gwaith hwnnw.

Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr fod gennym lif priodol o waith ar gyfer y cyfnod adfer fel nad ydym yn cystadlu â'n gilydd am sgiliau, cyflenwadau ac yn y blaen, ac fel nad ydym yn gwthio'r pris i fyny yn anfwriadol, yn amlwg. Ac un o'r rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn yr arolygon yn y ffordd a wnaeth yw er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd, oherwydd mae cost arolygon wedi codi yn Lloegr wrth i bobl gwblhau. Felly, rydym bob amser yn gweithio gyda'n cwmnïau adeiladu. Mae Lee Waters a minnau'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r fforwm adeiladu a'r fforwm adeiladwyr tai, felly rydym yn hoffi gweithio gyda hwy i sicrhau bod gennym waith ar y gweill, a bod ein busnesau bach a chanolig yn cael y gwaith lle bo hynny'n briodol, a bod gennym y cymysgedd cywir o sgiliau ac yn y blaen. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r datblygwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb mewn perthynas â thaliadau. Yma yng Nghymru, ni fydd yn rhaid i lesddeiliaid dalu costau cyfreithiol mawr, fel a wnânt o dan y gronfa diogelwch adeiladau, i allu gwneud hynny, oherwydd byddwn yn camu i'r adwy. Ond ni allwn esgus ei bod yn bosibl adfer nifer yr adeiladau sydd gennym mewn mis neu ddau; mae hwn yn brosiect tymor hir. Rydym hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud y gwaethaf yn gyntaf a sicrhau bod pobl yn gallu byw i mewn, a dyna pam fod gennym y cynllun achub, ac yn y blaen, i gyd-fynd ag ef. Wrth inni ddod yn ymwybodol o'r adeiladau sy'n cael eu hadfer, byddaf yn rhannu cymaint ag y gallaf gyda'r Aelodau, am resymau cyfrinachedd masnachol ym mhroses y cytundeb, ynglŷn â ble mae hynny'n digwydd. Lywydd, mae'n debyg y byddaf yn gwneud hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig wrth i'r wybodaeth honno ddod ar gael. 

14:10
Targedau Ailgylchu

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau lleol o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu? OQ58561

Gyda phleser. Roedd ein cyfradd ailgylchu trefol yn 65.4 y cant yn 2020-21, ein canran uchaf erioed, sy'n fwy na'r targed o 64 y cant. Mae'r llwyddiant hwn, er gwaethaf yr holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig, yn dyst i waith caled ein hawdurdodau lleol ac yn enwedig eu staff rheng flaen, a sicrhaodd y gallai pobl Cymru barhau i ailgylchu fel y maent wedi hen arfer ei wneud. 

Diolch, Weinidog. Fy mhleser i. Tra bod pob un ohonom yn cael ein hannog i wneud ein rhan i ailgylchu gartref, hoffwn dynnu eich sylw, Weinidog, at bolisi cyngor Abertawe o atal ailgylchu pren yng Nghlun yng nghanolfan ailgylchu Gorseinon. Mae'r polisi hwnnw'n golygu bod rhaid i filoedd o bobl ar draws Abertawe—o Benrhyn Gŵyr a llefydd fel y Mwmbwls, ac ardaloedd fel Gorseinon yng Nghasllwchwr—deithio hyd at 20 milltir i Lansamlet, sef yr unig safle sy'n caniatáu i bobl ailgylchu pren. O ystyried nad yw pobl yn gallu cario llwythi trwm o bren ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, mae hyn bellach yn achosi lefelau llawer uwch o dagfeydd ac allyriadau ar ein ffyrdd oherwydd, yn amlwg, car yw'r unig ffordd sydd gan bobl o gyrraedd y lleoliadau hyn.

Fodd bynnag, pan gafodd y cyngor eu holi am hyn, dywedasant fod y polisi hwnnw wedi deillio o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi newid y rheolau mewn perthynas ag ailgylchu pren. Felly, dywedwyd wrthyf fod nifer o bobl bellach yn llosgi pren, neu weithiau hefyd yn ei ddympio o gwmpas Abertawe. Felly, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda chyngor Abertawe i'w helpu i ddiwygio'r cynllun hwnnw i ganiatáu i drigolion ailgylchu pren mewn lleoliadau eraill ar draws y ddinas, a fydd, gobeithio, yn gwella cyfraddau ailgylchu ac yn lleihau'r pwysau ar ein ffyrdd, ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru a chyngor Abertawe wedi datgan argyfwng hinsawdd? 

Yn sicr, Tom. Un o'r problemau gyda hynny, mewn gwirionedd, yw'r ffordd y mae'r system gynllunio'n rhyngweithio â'r system ailgylchu, fel mae'n digwydd. Felly, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Rydym hefyd, fel y gwyddoch chi, ar fin symud i darged o 70 y cant ledled Cymru, ac yn ardal Abertawe yn unig, mae gennym dri chyngor sy'n perfformio'n dda iawn, ond rhaid imi gyfeirio'n benodol at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan eu bod ar 69 y cant. Felly, rwy'n falch iawn yn wir eu bod wedi gallu gwneud hynny. Rydym bob amser yn anelu i ailgylchu gwahanol ddeunyddiau ar wahân hefyd, oherwydd rydym yn gallu denu ailbroseswyr i Gymru mewn niferoedd cynyddol, ac maent yn dod â'r swyddi gwyrdd yr ydym eu hangen mor daer gyda hwy.  A hefyd, wrth gwrs, maent yn lleihau'r angen i ddefnyddio deunyddiau newydd wrth weithgynhyrchu gwahanol eitemau a ddefnyddir yn gyffredin. Felly, un o'r pethau yr ydym yn bwriadu ei wneud i gyrraedd y 70 y cant yw sicrhau bod gwahanol ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu casglu gan yr awdurdod lleol fel rhan o'r casgliad. Byddwn yn cyhoeddi rhywfaint o bethau mewn perthynas â hynny. 

Rwyf wedi bod yn ymwybodol o rai problemau penodol yn Abertawe wrth gwrs; rydych yn ymwybodol fod lefel fy etholaeth yn draean o'r hyn y gwnaethoch ei grybwyll yno. Byddwn yn gweithio gydag Abertawe i sicrhau y gallwn unioni'r sefyllfa honno. Mae yna broblem fach ynghylch yr hyn sy'n cael ei ystyried yn bren gwastraff, ac nid wyf am fynd ar drywydd hynny gyda'r Llywydd gan y bydd yn dweud bod amser yn brin. Ond rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth ar wahân gyda chi am hynny.  

Cyflenwad Cynaliadwy o Dai

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad cynaliadwy o dai? OQ58556

Rydym yn cefnogi'r sector tai i barhau i gyflenwi cartrefi newydd yng nghyd-destun yr heriau presennol. Mae ein dull newydd o asesu'r farchnad dai leol yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio cyflenwad tai cynaliadwy a fydd yn ateb yr angen lleol.

Diolch am eich ymateb. Yn ôl ffigurau diweddaraf Stats Cymru, cafodd 7,492 o gartrefi cymdeithasol newydd eu darparu yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd gyntaf y Llywodraeth Lafur ddatganoledig, gydag 11 ohonynt yn cyd-fynd â Llywodraeth Lafur y DU—cwymp o 73.45 y cant ar y 28,215 o gartrefi cymdeithasol newydd a gafodd eu darparu yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol y DU hyd at 1997. Nododd adolygiad tai y DU yn 2012 mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd flaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol, ac felly erbyn 2009-10, ganddi hi yr oedd y lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai ymhlith y pedair gwlad. Yn 2019, y flwyddyn uchaf ar gyfer cofrestru cartrefi newydd yn y DU ers 2007, gostyngodd y niferoedd yng Nghymru dros 12 y cant. Mae hyd yn oed y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer chwarter 2 eleni yn dangos mai Cymru oedd yr unig genedl neu'r unig ranbarth o 12 yn y DU i weld nifer y tai newydd a gwblhawyd wedi lleihau. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw un o'r ffigurau swyddogol hyn, gallaf eu hanfon atoch. 

Felly, os nad ydych yn anghytuno â'r rhain, pryd y gwnewch chi roi'r gorau i ddweud a dechrau gofyn i'r sector tai cyfan, gan gynnwys darparwyr tai traws-sector, sut i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog Llafur yng Nghymru, rhywbeth y dechreuais i a'r sector cyfan—a Phlaid Cymru ar y pryd—rybuddio Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gylch tua 18 mlynedd yn ôl?

14:15

Wel, wyddoch chi, Mark, byddwn yn dweud unwaith eto fod gallu'r Ceidwadwyr i ddyfynnu ystadegau y tu hwnt i'r sefyllfa facro-economaidd yn rhyfeddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi gosod y lefelau uchaf erioed o gyllid grant tai cymdeithasol drwy'r gyllideb, felly £300 miliwn, a dyraniadau cyllideb ddangosol ddrafft o £330 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf a £325 miliwn ar gyfer y flwyddyn ar ôl honno, yn amodol, wrth gwrs, ar yr anhrefn lwyr a welwn yn San Steffan. Yng ngogledd Cymru mae'r grant tai cymdeithasol wedi cynyddu o £48,533,745 a wariwyd yn 2021-22 i £65,750,153 o ddyraniad yn 2022-23. Felly, cynnydd sylweddol iawn—mae bron iawn wedi'i ddyblu, mewn gwirionedd.

Ni yw'r wlad gyntaf i fandadu bod yr holl gartrefi newydd a ariennir gan y grant tai cymdeithasol wedi'u cynllunio i sgôr EPC A, drwy ofynion ansawdd datblygu Cymru a gafodd eu lansio ym mis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn ymwneud â mwy na dim ond adeiladu unrhyw hen dŷ, ei godi rywsut-rywsut a gwneud yn siŵr eich bod yn gallu galw hwnnw'n adeilad newydd. Mae eich Llywodraeth eich hun wedi gorfod penodi ombwdsmon cartrefi newydd oherwydd cyflwr cwbl warthus nifer o'r cartrefi newydd yr oeddech mor hapus i ddarllen yr ystadegau arnynt, Mark. Maent yn hollol warthus. Maent wedi cael eu hadeiladu'n wael, maent yn ddrafftiog, maent yn anodd i fyw ynddynt, ac maent yn llythrennol wedi gorfod penodi ombwdsmon i reoli'r farchnad. Mae'n llawer gwell cael asesiad priodol o'r farchnad dai leol, y lefel gywir o ddeiliadaeth gymysg, a'r lefel gywir o insiwleiddio a niwtraliaeth carbon nag adeiladu unrhyw hen beth yn unrhyw hen le a rhoi tic i chi'ch hun.

Diogelwch Ynni

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ynni yn Islwyn? OQ58589

Diolch, Rhianon. Bydd ein polisïau o gefnogi cartrefi, busnesau a'r sector cyhoeddus i leihau'r galw am ynni ynghyd â chamau gweithredu cadarnhaol i gynyddu'r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu'n ddomestig yn gwella diogelwch ynni ym mhob ardal yng Nghymru.

Diolch. Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ac wrth i lefelau gorbryder godi i drigolion ar draws Islwyn oherwydd y biliau ynni cynyddol, mae'n hanfodol yn awr yn fwy nag erioed fod y DU yn mynd i'r afael â mater diogelwch ynni. Weinidog, fe wnaethoch gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn gynharach eleni ym mis Ebrill, yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu echdynnu tanwyddau ffosil yng Nghymru, ac yn parhau i wrthwynebu ffracio. Weinidog, pa asesiad, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y misoedd ers y datganiad ysgrifenedig o'r modd y mae Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweinyddiaethau datganoledig i ddiogelu a sicrhau cyflenwadau ynni ar gyfer holl wledydd y Deyrnas Unedig?

Diolch, Rhianon. Yr ateb i'r argyfwng ynni hwn yw peidio ag ehangu echdynnu tanwyddau ffosil newydd. Nid ydym yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i ehangu trwyddedau olew a nwy newydd ym môr y Gogledd ac agor safleoedd ffracio newydd yn Lloegr. Bydd ein polisïau yn parhau i wrthwynebu echdynnu newydd yng Nghymru. Mae blynyddoedd—blynyddoedd—o bolisi ynni anflaengar ar lefel y DU wedi ein gadael yn agored iawn i chwyddo prisiau byd-eang, fel a amlygwyd gan ddigwyddiadau diweddar, gyda disgwyl y bydd prisiau ynni, sydd eisoes yn uwch nag erioed, yn codi ymhellach o ganlyniad i rhyfel Rwsia yn Wcráin. Er bod prisiau ynni wedi'u rhewi, ac mae hynny i'w groesawu—er bod hynny eto'n amrywio'n fawr wrth i ni siarad, a Duw a ŵyr pwy fydd y Canghellor erbyn diwedd y sylwadau hyn, gyda'r holl ansefydlogrwydd. Rydym yn croesawu'r camau i rewi prisiau ynni, ond maent yn dal i fod yn sylweddol uwch na'r hyn oeddent y gaeaf diwethaf, hyd yn oed gyda rhewi prisiau ynni—maent yn dal i fod yn anfforddiadwy i lawer o aelwydydd er gwaethaf rhewi prisiau.

Mae gennym gyfraddau llog uwch hefyd a phunt wannach, sy'n codi chwyddiant i lefelau nas gwelwyd ers y 1980au pan, gadewch i mi feddwl nawr, o, Llywodraeth Geidwadol wrth y llyw, ac mae hynny'n gwanhau gallu pobl i dalu'r prisiau hurt hyn, ac wrth gwrs mae'n gwneud yr ynni'n ddrutach beth bynnag. Mae gennym farchnad ynni sydd wedi'i chlymu wrth bris nwy nad yw'n ystyried y farchnad wahanol mewn ynni adnewyddadwy, lle mae'r gwariant cyfalaf i adeiladu'r cyfleuster yn llawer pwysicach na'r cyflenwad ynni, oherwydd mae hwnnw am ddim, yn amlwg, am adnodd adnewyddadwy. Felly, mae diwygio'r farchnad ynni mewn ffordd sy'n rhoi sefydlogrwydd i'r diwydiant a sicrwydd i ddefnyddwyr yn angenrheidiol ac mae'n hen bryd ei wneud. Felly, rydym yn gweithio i fwrw ymlaen ag argymhellion ein harchwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, y bwriodd Lee Waters ati i'w gyflawni cyn gynted ag y daethom yn Llywodraeth mewn gwirionedd, er mwyn inni allu cyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy a sicrhau budd economaidd a chymdeithasol i Gymru, a bydd ein cynlluniau ynni lleol yn helpu i nodi'r atebion ynni cywir ar gyfer y cyfleuster cywir yn y lle cywir i bobl Islwyn ac ar draws Cymru.

14:20
Trafnidiaeth Am Ddim i'r Ysgol

9. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r anghysondeb ar draws awdurdodau lleol o ran y trothwyon milltiroedd a ddefnyddir wrth ddarparu trafnidiaeth am ddim i'r ysgol, yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr ym mis Mawrth 2022? OQ58584

Gwnaf. Bydd adolygiad manylach o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Diolch am yr ateb, Gweinidog. 

Rwy'n derbyn gohebiaeth yn aml gan etholwyr am y rhwystrau dyddiol sy'n eu hwynebu oherwydd y trothwyon milltiroedd. Nid yw'n iawn, yn 2022, fod y rhwystrau sylfaenol hyn yn wynebu rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru—rhwystrau y mae gan Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol bwerau i gael gwared arnynt. Yn ôl ym mis Mawrth, tynnais sylw penodol at Gaerau, cymuned sydd ychydig i'r gogledd o Faesteg yng nghwm Llynfi. Ar drothwy misoedd y gaeaf, bydd plant yng Nghaerau yn gorfod cerdded 45 munud i awr yn ôl ac ymlaen i'r ysgol ym mhob tywydd. Byddant yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd llwybrau nad ydynt yn ddiogel, a bydd llawer o blant ag asthma yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd ffyrdd sydd â thagfeydd mawr. Mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn yma ac mewn amgylchiadau fel y rhain gallent ostwng y trothwy milltiroedd i gynnwys ardaloedd difreintiedig fel Caerau, ond nid ydynt wedi gwneud hynny, felly a wnaiff y Llywodraeth gamu i'r adwy?

Wel, diolch am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae gofyniad cyfreithiol o dan y Mesur teithio gan ddysgwyr i ddarparu trafnidiaeth yn seiliedig ar drothwy o dair milltir, ac rwy'n deall y pwynt a wnaeth Luke Fletcher fod hynny weithiau'n rhy bell i lawer o blant. Bûm yn cerdded gyda phlant Ysgol y Gwendraeth o'r Tymbl i'w hysgol cyn y cyfyngiadau symud, taith o dair milltir. Fe wnaethant ofyn yn garedig i mi gario eu bagiau cerddoriaeth, ac erbyn imi gyrraedd yr ysgol, roedd fy nghefn yn eithaf blinedig, rhaid i mi ddweud. Felly, rwy'n cydymdeimlo â'r ddadl.

Rydych yn nodi'n gywir fod gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i newid hynny, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, yn darparu trafnidiaeth dros drothwy o ddwy filltir. Er ei bod yn bosibl ei wneud, mae'n amlwg fod angen cyllid i'w wneud. Mae'r bil blynyddol am drafnidiaeth i'r ysgol yn £100 miliwn; mae'n un o'r eitemau mwyaf o wariant gan awdurdodau lleol ar wahân i wasanaethau cymdeithasol, ac nid yw'r cyllid wedi bod yno. Ac o ystyried y toriadau a wynebwn, bydd yn anos byth cynnal y gwasanaethau y maent yn eu darparu eisoes. Rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried yn ofalus: mae realiti toriadau gwariant o tua 15 y cant yn golygu efallai na fydd y gwasanaethau sylfaenol yr ydym wedi dod i'w cymryd yn ganiataol yn gynaliadwy. 

Rydym wedi cynnal adolygiad, fel y soniodd Luke Fletcher, i'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Rydym wedi cwblhau'r rhan gyntaf ohono, ac rydym bellach yn yr ail ran, a byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid i edrych ar fanylion y trefniadau cymhleth iawn y gallai fod angen eu newid ac y bydd angen deddfwriaeth ar eu cyfer.

Rwyf hefyd yn eithaf awyddus i gysylltu hyn â'r system fysiau ehangach. Felly, yn hytrach na rhoi £100 miliwn tuag at drafnidiaeth ysgol a swm o arian ar wahân wedyn i wasanaethau bws nad ydynt yn bodoli o bosibl, mae angen inni ddod â'r ddau beth ynghyd. Yr wythnos diwethaf, cefais sgwrs gyffrous iawn gyda'r weinyddiaeth newydd yn sir Fynwy sy'n ceisio gweld a allant edrych ar draws y gwasanaethau a dod â'r rheini at ei gilydd. Nid yw'n syml; mae yna bethau y mae angen gweithio drwyddynt, ond rwy'n credu ei fod yn ddull llawer mwy strategol o weithredu. Felly, fel y soniais wrth Hefin David yn gynharach, wrth inni edrych ar ddwysedd y rhwydweithiau bysiau y byddwn eu hangen, mae angen inni gynnwys trafnidiaeth ysgol yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus ehangach gyda'i gilydd.

Y peth arall y byddwn yn ei ddweud yw ein bod ni hefyd eisiau sicrhau bod teithio llesol yn fwy o opsiwn i fwy o bobl ifanc. Mae tair milltir, er enghraifft, yn daith y gallai'r rhan fwyaf o bobl ei seiclo mewn tua 20 munud, os oes cyfleusterau addas a diogel, a'r hyn yr ydym ei eisiau drwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw i awdurdodau lleol roi'r cyfleusterau hynny ar waith, felly nid canolbwyntio ar lwybrau hamdden, ond canolbwyntio ar sut y mae cael pobl o lle maent yn byw i lle maent yn mynd i'r ysgol. Felly, i nifer o ddisgyblion, gallai hwnnw fod yn opsiwn ymarferol—nid i bawb, ond i fwy nag ar hyn o bryd. 

Yn ddiweddar, gyda Sarah Murphy, cyfarfûm â'r aelod cabinet o Ben-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, a'r Cynghorydd John Spanswick i ystyried yr eitem hon a'r pwysau sy'n wynebu Pen-y-bont ar Ogwr yn enwedig, a'r gwaith sy'n digwydd i geisio gweld beth y gellir ei wneud. Ond rwy'n ofni y gallai'r holl waith da a wnawn a'r holl ddyheadau sydd gennym gael eu golchi ymaith gan y cyni sydd ar fin ein taro.

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi. Y cwestiwn cyntaf heddiw gan Natasha Asghar.

Parthau Buddsoddi Trethi Isel

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r manteision posib o greu parthau buddsoddi trethi isel yng Nghymru? OQ58563

Rydym mewn trafodaethau cychwynnol gyda Gweinidog presennol Llywodraeth y DU i ddeall cynigion y parthau buddsoddi a'r goblygiadau posibl i Gymru mewn mwy o fanylder. Byddai angen i unrhyw fenter i Gymru gyd-fynd â'n polisïau ar waith teg a'r amgylchedd, er enghraifft, yn ogystal â chynhyrchu twf gwirioneddol ychwanegol, yn hytrach na dim ond symud gweithgarwch busnes.

14:25

Diolch. Fe gyfarfûm â Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn ddiweddar i drafod y problemau sy'n wynebu cwmnïau sy'n ceisio tyfu a ffynnu yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni. Yn erbyn cefndir o ansicrwydd, roedd yn amlwg fod rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu camau i leddfu pwysau costau ar fentrau bach a chanolig. Yn y cyd-destun hwnnw, mynegwyd siom ynghylch yr amheuaeth a fynegwyd gan Weinidogion Cymru ynghylch polisi parthau buddsoddi Llywodraeth y DU, a luniwyd i sbarduno twf economaidd drwy amrywiaeth o gamau i symleiddio cynllunio, treth, rheoleiddio a hyblygrwydd arloesol. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhad o 100 y cant rhag ardrethi busnes i safleoedd busnes newydd. Weinidog, o ystyried bwriad Llywodraeth y DU i sefydlu parthau buddsoddi, a wnewch chi ymrwymo i ymgysylltu'n adeiladol â San Steffan i sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl fel y gall busnesau Cymru fanteisio ar y potensial am fwy o weithgarwch economaidd a chreu'r swyddi sgiliau uchel yr ydym i gyd eisiau eu gweld? Diolch.

Wel, rydych yn iawn, mae'n gyfnod anodd i deuluoedd ac i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi, gyda'r ansicrwydd a'r darlun ansefydlog ar lefel y DU. Mae'n cael effaith wirioneddol ar bob un ohonom. Mae cost cyllid busnes wedi cynyddu, yn ogystal â chostau unigol i berchnogion cartrefi hefyd. Wrth gwrs, rwyf wedi sylwi bod chwyddiant ychydig dros 10 y cant yn y ffigurau diweddaraf heddiw. Nid wyf yn credu bod ceisio awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl adeiladol a llawn diddordeb yn y cynnig parth buddsoddi a wnaed yn arwain at ddiflastod ac mai dyma'r gwir achos dros ofn ac ansicrwydd ynglŷn â dyfodol busnesau yn adlewyrchu realiti ein sefyllfa. Yn fy ymgysylltiad uniongyrchol â'r Ffederasiwn Busnesau Bach, nid ydynt erioed wedi mynegi unrhyw beth sy'n debyg i siom ynghylch y dull o weithredu rwy'n ei fabwysiadu yn fy ymgysylltiad â Gweinidogion y DU. Mae angen i mi ddeall yn iawn beth yw'r cynigion, beth y mae'r cynigion yn ei olygu i Gymru, beth y maent yn ei olygu i drethu datganoledig, a beth y maent yn ei olygu i realiti refeniw y Llywodraeth hon, gan gofio ein bod yn disgwyl wynebu tynhau, gostyngiad toriad yn ein cyllideb pan fydd y gyllideb Calan Gaeaf yn cael ei chyhoeddi yn y pen draw. Ac unwaith eto mae angen inni ddeall hefyd beth fydd yn digwydd i barthau buddsoddi ger ein ffin. Cynigir parthau buddsoddi yn y de-orllewin ac yn wir mae cynnig i osod parth buddsoddi yng Ngorllewin Sir Gaer a Wirral, a bydd y pethau hyn o bwys i ni. Mae angen imi ddeall y polisïau, mae angen imi ddeall beth y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, ac yn ddelfrydol, hoffwn gael sgwrs sy'n edrych yn debycach o lawer i ddiwedd ein trafodaeth ar borthladdoedd rhydd, yn hytrach na'r gweiddi megaffon a gafwyd yn y flwyddyn a mwy cyn y cytundeb hwnnw.

Prosiectau Treftadaeth Ffydd

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo prosiectau treftadaeth ffydd yng Ngogledd Cymru? OQ58575

Mae gan ein treftadaeth grefyddol le pwysig ynghanol ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid a chefnogaeth i brosiectau treftadaeth ffydd mewn amryw o ffyrdd. Rydym yn mynd ati i gynorthwyo adeiladau a sefydliadau yn y sector hwn i warchod a hyrwyddo'r agwedd hon ar ein hanes cyffredin.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i nifer o brosiectau ar draws gogledd Cymru ac yn wir mewn rhannau eraill o'r wlad. Mae un prosiect sydd ar y gweill yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd yn cael ei drefnu gan Nathan Abrams a'i dîm o Brifysgol Bangor, sydd wedi bod yn ymchwilio i hanes cymunedau Iddewig yng ngogledd Cymru. Maent eisoes wedi gwneud gwaith ymchwil i hanes Iddewig ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd a Llandudno, ac maent bellach yn symud i ogledd-ddwyrain Cymru i barhau â'u gwaith ymchwil. Mae hyn yn bwysig iawn, yn amlwg, nid yn unig i'r gymuned Iddewig, ond i bobl eraill yng ngogledd Cymru sydd â diddordeb dwfn ac angerddol yn ein naratif ffydd fel gwlad. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i brosiectau ymchwil o'r fath? Ac os nad oes llawer o fuddsoddiad yn mynd tuag at ymchwilio i hanes o'r fath, a gaf fi annog Llywodraeth Cymru i edrych yn iawn ar sut y gallai hwyluso'r mathau hyn o bethau yn y dyfodol?  

Wel, yn sicr fe edrychaf ar y mater gyda'r Dirprwy Weinidog, sydd fel arfer yn arwain yn y maes hwn. Wrth gwrs, mae hi'n ymwybodol iawn o'r dreftadaeth Iddewig, o ystyried y gwaith a wnaed yn ei hetholaeth ei hun. Ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn nhreftadaeth Iddewig dinas Caerdydd, y cynrychiolaf ran dda ohoni, a hefyd yn y realiti ei bod yn dal i chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer o bobl, nid yn unig adeg gŵyl. Felly, rwy'n cydnabod bod hanes cymunedau ffydd yn rhan o hanes cymdeithasol a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i gael trafodaeth gyda'r Dirprwy Weinidog i ddeall mwy am y prosiect a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i'w gefnogi yn gyffredinol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau'r llefarwyr nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Dyma fy nghyfle olaf i'ch holi cyn i Gymru ddechrau ar eu hymgyrch hanesyddol gyntaf yng nghwpan y byd mewn 64 mlynedd. Roeddwn eisiau tynnu sylw at yr hyn a ddywedodd Nasser Al Khater, prif weithredwr Qatar 2022, mewn cyfweliad â'r cyfryngau yn ddiweddar. Awgrymodd y dylai Llywodraethau ganolbwyntio ar y pêl-droed a'i gadael ar hynny. Rydym i gyd yn ymwybodol fod gan Qatar, ar y gorau, hanes bratiog o ran hawliau dynol a'r ffordd y mae'n trin y gymuned LHDT. Ac mae gennym ddyletswydd, rwy'n credu, i dynnu sylw at y materion hyn i'r cefnogwyr sy'n teithio i Qatar a sicrhau nad ydynt yn dioddef rhagfarn am fod yn hwy eu hunain. Maent hyd yn oed wedi awgrymu na ddylai capten Cymru, Gareth Bale, wisgo band braich enfys OneLove. Gwn eich bod chi, y Prif Weinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyd yn bwriadu mynd i Qatar i wylio gemau grŵp Cymru, felly roeddwn am roi cyfle i chi ymateb i'r sylwadau hynny gan brif weithredwr cwpan y byd Qatar 2022 cyn ichi fynd. Ac a gaf fi ofyn i chi hefyd, a fyddwch yn codi'r materion ynglŷn â hawliau LHDT a hawliau dynol yn fwy cyffredinol tra byddwch chi yno?

14:30

Rwyf am ddechrau drwy gydnabod fy mod, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at weld tîm y dynion yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol cwpan pêl-droed y byd. Serch hynny, rwyf am ddechrau drwy gydnabod cyflawniad tîm y menywod. Er nad ydynt wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, mae'r cynnydd sylweddol y maent wedi'i wneud wedi gwneud pawb ar draws y Siambr hon a'r tu allan iddi yn hynod o falch a dylai fod gobaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i fuddsoddi yng ngêm y menywod ar bob lefel, fel bod mwy o Jess Fishlocks yn chwarae yn ein tîm cenedlaethol yn y dyfodol, ac rwy'n meddwl ei fod yn beth da i bob un ohonom weld ein tîm menywod yn bod yn gystadleuol.

Ar y cwpan y byd i ddynion, rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y materion yr ydych wedi'u codi yn fy ymweliad blaenorol â Qatar. Roedd yn rhan o'r ymgysylltiad â Llysgenhadaeth Prydain a'r trefnwyr. Rwy'n gwybod bod yna adegau pan fo pobl yn dweud, 'Dylech gadw gwleidyddiaeth a chwaraeon ar wahân', ac mae rheswm da pam nad yw gwleidyddion yn y Siambr hon yn cael penderfynu ar faterion ynglŷn â rheoli chwaraeon, sydd, yn eithaf priodol, yng nghylch gwaith y cyrff llywodraethu hynny, ond mae'n gwbl briodol inni gael sgyrsiau gyda chyrff llywodraethu a rhai rhyngwladol am ein disgwyliadau ar gyfer cefnogwyr a chwaraewyr. Mae'n gwbl briodol cydnabod y cyd-destun y mae gemau'n cael eu chwarae ynddo.

Felly, ydw, rwyf eisoes wedi codi'r materion hynny'n uniongyrchol. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau'r pêl-droed ymhell y tu hwnt i gymal y grwpiau—rwy'n sicr yn gobeithio hynny. Ond gallwch ddisgwyl inni gael sgyrsiau adeiladol, fel y nodais yn fy natganiad blaenorol yn y lle hwn, ynglŷn â bod yn falch o'r Gymru sydd gennym heddiw a'r gwerthoedd sydd gennym, ac ymgysylltu â gweddill y byd ar y sail honno. A gobeithio y bydd chwa o synnwyr cyffredin o safbwynt FIFA yn yr ystyr na fyddant yn ceisio atal capteiniaid timau rhag gwisgo rhwymynnau braich enfys neu rai eraill. Rwy'n meddwl ei fod yn arwydd o ble yr ydym fod ein capteiniaid pêl-droed o bob rhan o'r ynysoedd hyn yn meddwl bod hynny'n beth cadarnhaol iddynt ei wneud ar gyfer y gêm a thu hwnt.

Diolch, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar ichi am wneud hynny'n glir ac rwy'n credu bod y Senedd yn sefyll fel un wrth ymbellhau oddi wrth y sylwadau hynny hefyd. Fel y dywedwch, mae chwaraeon a gwleidyddiaeth yn cydblethu ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny'n glir iawn i'r cefnogwyr o Gymru a fydd yn teithio i Qatar hefyd.

Dyma fy nghyfle cyntaf hefyd i'ch holi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth ers ichi ymgymryd â'r rôl 18 mis yn ôl. Ers hynny, mae'r Gweinidog cyllid wedi gwneud pedwar datganiad yma yn y Senedd ar dwristiaeth; nid ydych chi wedi gwneud unrhyw ddatganiad. Pam?

Wel, mewn gwirionedd, rydych wedi cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau ar dwristiaeth, ac fe wnaethoch eu cyfeirio at y Dirprwy Weinidog. Rwy'n falch eich bod wedi ailddarganfod y ddalen cyfrifoldebau gweinidogol. [Chwerthin.] Edrychwch, ar ddatganiadau a gwaith, mae'r datganiadau a wnawn yn y Siambr yn ymwneud â gwaith wrth inni ei ddatblygu ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog cyllid ar rai o'r mesurau yr ydym yn edrych arnynt yn ymwneud â'n sector twristiaeth, yn arbennig ar gyflawni ein hymrwymiad maniffesto ynghylch ardoll ymwelwyr. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r sector ac mae'n sector pwysig i mi.

Yn wir, ddoe, roeddwn yng nghyfarfod bwrdd twristiaeth Prydain yng Nghymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, yn gwneud pwyntiau i VisitBritain ei bod yn bwysig eu bod, yn eu gwaith, yn hyrwyddo pob rhan o'r arlwy i dwristiaid sydd gennym o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'r uno rhwng VisitBritain a VisitEngland yn rhywbeth rwy'n dal i feddwl sy'n heriol ac nad yw o reidrwydd yn rhoi'r holl negeseuon cywir. Ond mae gennym arlwy unigryw o fewn Cymru—y diwylliant, y dreftadaeth ieithyddol, ein hanes ein hunain, lle rydym arni heddiw gyda dinasoedd llai i ymweld â hwy na rhai rhannau o Loegr, er enghraifft. Mae llawer iawn gennym i'w gynnig a llawer o bethau yr ydym yn eu trafod, a hynny gyda'r cyrff cenedlaethol strategol hynny ynghylch sut y maent yn cyflwyno Prydain i weddill y byd yn ogystal ag o fewn Prydain, ac yn wir, yn uniongyrchol gyda'r sector ei hun yma, ac rwy'n cydnabod ei fod yn un o'r cyflogwyr sector preifat mwyaf yn yr economi.

Mae arnaf ofn fod rhaid imi anghytuno â chi, Weinidog. Mae'r ffaith mai chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth, ond nad ydych wedi bod ag unrhyw beth rhagweithiol i'w ddweud am y pwnc mewn gwirionedd, tra bod y Gweinidog cyllid wedi bod yn cyflwyno trethi twristiaeth a newidiadau i eiddo gwyliau hunanddarpar, yn dweud wrthym mai Llywodraeth yw hon nad yw'n gweld twristiaeth fel rhywbeth i'w hyrwyddo neu ei gwella—yn hytrach, eich bod yn ei gweld fel rhywbeth i'w drethu. A bod yn onest, rwy'n credu bod hon yn Lywodraeth Lafur Cymru sy'n brin o syniadau ynglŷn â thwristiaeth yng Nghymru. Felly, Weinidog, beth am ymrwymo i syniad gan y Ceidwadwyr Cymreig yn lle hynny? Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—[Torri ar draws.]

14:35

Ni allaf glywed y sawl sy'n holi. A gawn ni glywed Tom Giffard mewn ychydig o dawelwch, os gwelwch yn dda? Mae angen inni glywed beth sydd ganddo i'w ddweud.

Diolch, Lywydd. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—ac rwy'n gobeithio'n fawr na wnewch chi—yr hyn y galwn amdano yw i Lywodraeth Cymru eithrio'r rhai sydd ag anableddau a phersonél y lluoedd arfog o leiaf rhag talu tâl twristiaeth. A yw hyn yn rhywbeth y gwnewch chi ymrwymo iddo heddiw?

Rwy'n meddwl bod un neu ddau o bethau y byddwn yn eu dweud mewn ymateb i'r Aelod. Mae ystod o'r datganiadau a wneuthum ar yr economi yn sicr wedi cael effaith uniongyrchol ar rai o'r dewisiadau y bwriadwn eu gwneud ar hyrwyddo'r economi ymwelwyr, sy'n sector cyflogaeth sylweddol ac yn sector sydd dan bwysau gwirioneddol. Mae lleihad pellach yng ngwariant dewisol pobl, fel sy'n debygol o ddigwydd oherwydd y materion a gafodd lawer o sylw yn dilyn y gyllideb fach lai na phedair wythnos yn ôl, yn cael effaith wirioneddol ar y sector hwn yn enwedig. A phan gynheliais yr uwchgynhadledd economaidd ddiweddar, yn sicr fe wnaethom siarad am yr economi ymwelwyr a rhai o'r heriau sy'n ei wynebu.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn werth nodi y gallai ymddangos fel rhywbeth newydd i wleidyddion Ceidwadol, ond mewn gwirionedd, fe wnaethom sefyll ar faniffesto yr ydym yn bwriadu ei weithredu. Rydym wedi cyhoeddi rhaglen lywodraethu ac rydym wedi trafod ychwanegiadau ati gyda'n partneriaid cytundeb cydweithio, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am fod yn Llywodraeth gref a sefydlog sy'n gweithredu er budd y genedl, yn hytrach na'r gynghrair anrhefn a welwn yn San Steffan. Rydym yn mynd i gyflawni'r addewidion a wnaethom. Yr her fawr wrth gyflawni ein haddewidion yw'r newid sylweddol yn y darlun economaidd a'r gwariant i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.

Ac ar eich pwynt olaf, am aelodau'r lluoedd arfog neu bobl anabl, rwy'n credu bod angen ichi ystyried nad oes angen cyfraddau arbennig a thriniaeth arbennig ar bob un o'r bobl hynny. Rwy'n credu bod—. Rhoddaf enghraifft i chi. Fe ymwelais â llety twristaidd y gwnaethom helpu'r perchnogion i'w wella, ac fe wnaethant ddweud mai'r ystafelloedd yr oeddent yn cael yr archebion mwyaf cyson a phrysur ar eu cyfer—ac mae hwn yn gynnig pum seren—oedd yr ystafelloedd â mynediad ar gyfer pobl anabl. A hynny oherwydd bod y farchnad wedi crebachu, o ran nifer yr ystafelloedd sy'n hygyrch—. A phan ymwelais â chynnig pedair seren yn Abertawe, roeddent hwythau hefyd yn dweud eu bod wedi cael llawer o ddiddordeb yn eu hystafelloedd hygyrch. Felly, mewn gwirionedd, mae her yno ynghylch cael digon o fynediad at y sector, nid ynghylch dweud bod y bobl hynny angen help gyda'r costau. Maent eisiau gallu mynd i fwynhau eu hunain fel ymwelwyr, a chael y gallu i fynd i gyfleusterau o ansawdd da i wneud hynny. Ac mewn gwirionedd, ein her yw cael cynnig sy'n ddigon amrywiol ac sy'n gynaliadwy i bawb allu cael cyfle i fwynhau'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig ledled y wlad.

Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar gyflawni ein haddewidion maniffesto, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydbwyso buddiannau'r economi ymwelwyr, ac yn wir, y cymunedau sy'n cynnal rhannau sylweddol o'n heconomi ymwelwyr, mewn lleoliadau gwledig, arfordirol, a dinasoedd a threfi.

Diolch, Lywydd. Ddoe, codais yr argyfwng sy'n wynebu'r diwydiannau ynni-ddwys gyda'r Prif Weinidog. Gofynnais a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cymorth pellach, yn benodol ynghylch helpu i leihau biliau ynni, drwy gynorthwyo busnesau fel bragdai i gynhyrchu eu hynni gwyrdd eu hunain, yn ogystal ag edrych ar optimeiddio foltedd. Rwy'n rhoi'r un cwestiwn i chi, Weinidog, gan nad oedd yn glir ddoe o ateb y Prif Weinidog. Y gwir amdani yw nad yw'r gefnogaeth bresennol yn ddigon, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau ynni-ddwys, yn enwedig bragdai, wedi gwario llawer, os nad y cyfan, o'u harian wrth gefn ar oroesi COVID, ac erbyn hyn maent mewn sefyllfa lle mae llawer ohonynt yn rhagweld na fyddant yn para y tu hwnt i'r gaeaf.

Yn ddiddorol, mae hwn yn faes lle rwyf eisoes wedi bod yn ystyried yr hyn y gallem ei wneud ers rhai wythnosau, felly nid yw'n cael ei arwain gan y cwestiwn, ond mae'n rhywbeth yr ydym wrthi'n edrych arno—ynglŷn â sut y gallwn helpu pobl i ddatgarboneiddio o bosibl, yn ogystal â'r potensial i gynhyrchu ynni nad yw'n ddarostyngedig i'r amrywiadau a'r cynnydd mewn prisiau ynni a welsom.

Mewn gwirionedd, roedd yn rhan o'r sgwrs a gefais yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol diweddar ar gwrw a'r dafarn—ac rwy'n gweld bod y Cadeirydd gyda ni; da eich gweld chi, Mr Sargeant. Ac wrth drafod gyda bragwyr a oedd yno, mae'n un o'u pryderon gwirioneddol. Bragwyr, pobyddion, gwneuthurwyr gwydr—mae yna amrywiaeth eang o ddiwydiannau ynni-ddwys y tu allan i'r prif feysydd mawr, megis y sector dur er enghraifft, ac rydym yn wirioneddol awyddus i'w hanghenion gael eu cydnabod yng nghynllun Llywodraeth y DU, nid yn unig y chwe mis o rywfaint o gymorth sydd ar gael, ond wrth lunio cynllun i'r dyfodol sy'n cydnabod eu hanghenion. Oherwydd rydych yn iawn, i lawer o'r bobl hynny, maent yn pryderu am oroesi cyfnod y Nadolig a chyrraedd diwedd y chwe mis o gymorth heb orfod gwneud dewisiadau cyn hynny a allai ddod â'u busnes i ben. Felly, rwy'n cydnabod y gwir risg sy'n bodoli yn y sector bragu a thu hwnt.

Y trueni yw ei fod wedi bod yn sector gwirioneddol lwyddiannus i Gymru, gyda chynnydd mewn bragdai llai, ac yn wir, twf ehangach yn y diwydiant bwyd a diod. Efallai eich bod yn gwybod, ond nid drwy ei ymddygiad ei hun yn unig y mae Alun Davies yn cefnogi'r sector. Pan oedd yn Weinidog â chyfrifoldeb am fwyd a diod, gosododd dargedau heriol ar y pryd ar gyfer twf yn y sector. Ar y pryd, roedd rhai pobl yn ei wawdio am osod y targedau hynny, gan ddweud na fyddent byth yn cael eu cyflawni. Mewn gwirionedd, rydym wedi rhagori ar y targedau hynny.

14:40

Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, rydych yn iawn i ddweud bod llwyddiant mawr wedi bod yn y sector bragdai yng Nghymru, yn enwedig y rhai bach annibynnol. Rydym mewn perygl ar hyn o bryd o golli'r holl gynnydd mawr yna mewn cyfnod byr iawn. Felly, er ei bod yn dda clywed eich bod yn mynd ati i ystyried cymorth, byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl, oherwydd, fel y dywedais, mae'r gaeaf bob amser wedi bod yn anodd i letygarwch, ond yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dyma lle maent yn gwneud eu harian er mwyn gallu goroesi misoedd Ionawr a Chwefror, ond mae'n edrych yn debyg y bydd hynny'n amhosibl y Nadolig hwn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cymorth yn dod cyn gynted â phosibl.

Rydym wedi siarad am sectorau ynni-ddwys eraill hefyd. Roeddech yn sôn am ddur. Hoffwn gyfeirio at ddur yn arbennig fel diwydiant ynni-ddwys arall. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi darllen adroddiad UK Steel ar ddyfodol dur yn y DU. Ceir rhai ffigyrau syfrdanol ynddo. Mae gwneuthurwyr dur y DU yn talu 30 y cant yn fwy am drydan na'u cymheiriaid cyfatebol yn yr Almaen, a hyd at 70 y cant yn fwy na'u cymheiriaid yn Ffrainc. Y flaenoriaeth gyntaf sy'n cael ei hamlinellu yn yr adroddiad yw prisiau ynni cystadleuol. Bydd cyflawni hyn yn allweddol i hirhoedledd y sector, yn enwedig, fel y mae'r Financial Times yn adrodd, yn achos Tata Steel, sy'n ystyried symud i ffwrneisi arc trydan.

Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae angen i lefel a graddfa'r buddsoddiad ddod gan Lywodraeth y DU. Ond yn anffodus, mae'r sioe sydd wedi digwydd yn San Steffan wedi gadael llawer o ansicrwydd yn y sector dur yng Nghymru. Daeth y Gweinidog i'r cyfarfod grŵp trawsbleidiol ar ddur yn ddiweddar a nododd y trafferthion yr oedd yn eu cael ar y pryd gyda Llywodraeth y DU, ond a yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw ymgysylltiad diweddar â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol o dan y gyfundrefn newydd hon ar ddur o Gymru, a pha sicrwydd y gall ei roi i'r sector heddiw?

Rwyf am ddychwelyd at y pwynt olaf a wnaethoch am letygarwch. Rwy'n ymwybodol iawn fod yr haf wedi bod yn rhesymol ond heb fod yn doreithiog. Felly, mewn gwirionedd, ar draws lletygarwch, mae yna heriau gwirioneddol wrth gyrraedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'n gwneud y gyllideb Calan Gaeaf hyd yn oed yn bwysicach iddynt o ran beth fydd hynny'n ei wneud i'n gallu i gynorthwyo'r sector hwn, ond hefyd yr economi yn ehangach wrth symud ymlaen. Mae heriau o hyd ynghylch staffio, ond mae hyder defnyddwyr a gwariant dewisol yn fater real iawn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar hyfywedd busnesau. Mae nifer o fusnesau lletygarwch yn gwneud cryn dipyn o'u helw yn y cyfnod sy'n arwain at y flwyddyn newydd, ond rwy'n ymwybodol iawn fod nifer o'r busnesau hynny'n ei chael hi'n anodd iawn yn y cyfnod sy'n arwain at hynny, ac mae nifer yn weithredol am lai o oriau o ganlyniad uniongyrchol i gyfuniad o'r holl ffactorau hynny. 

Ar ddur, cyfarfûm â Kwasi Kwarteng pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, fel yr oedd bryd hynny, mewn cyngor dur a gynhaliwyd gennym yng Nghaerdydd. Bryd hynny, roeddem yn dadlau dros gael eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch buddsoddiad mewn perthynas â Tata, ac fe fyddwch wedi gweld eu bod wedi dangos eu safbwynt yn gyhoeddus, ond hefyd y mater tragwyddol ym mhob cyngor dur, sef costau ynni. Oherwydd ceir gwahaniaethu yng nghost ynni fel y caiff ei gyflenwi i sectorau yn yr Almaen a rhannau eraill o Ewrop hefyd. Mae hynny'n parhau i fod yn rhywbeth y gofynnwn amdano. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Simon Clarke a chyda Jacob Rees-Mogg, sef yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae hynny eto i ddigwydd.

Yn y cyfarfod cychwynnol a gefais gyda Simon Clarke ynglŷn â pharthau buddsoddi—gofynnodd am gyfarfod—fel y dywedais mewn atebion cynharach, roeddem yn adeiladol ond yn glir yn ein hymateb. Fe ddywedais yn glir, ac yn y cwestiwn dilynol yn wir, fod dur yn un o'r meysydd blaenoriaeth lle rwy'n credu y gallem wneud rhywbeth o ddefnydd a gwerth go iawn a byddem yn awyddus i gael sgwrs bwrpasol ynglŷn â sut y gellir cefnogi'r sector. Mae cyfleoedd sylweddol yn y sector dur yng Nghymru a thu hwnt ar gyfer gweithgarwch economaidd, yn enwedig wrth inni edrych ar gyfleoedd yn y môr Celtaidd. Rwyf am i'r dur hwnnw gael ei wneud yn y DU a pheidio â chael ei fewnforio o rannau eraill o'r byd, i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gorau o'r cyfleoedd sy'n bodoli. Byddwn yn parhau i ddadlau dros ymgysylltu adeiladol â Gweinidogion a dewisiadau cyllidebol gweithredol wedyn er mwyn ei gwneud yn bosibl gwireddu'r cyfleoedd hynny.

14:45
Treftadaeth Hanesyddol Casnewydd

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella treftadaeth hanesyddol Casnewydd? OQ58579

Diolch. Mae Casnewydd yn ymfalchïo fod ganddi safleoedd treftadaeth o bwysigrwydd rhyngwladol, o gyfnod y Rhufeiniaid hyd at ein gorffennol diwydiannol diweddar. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i hyrwyddo a gwella treftadaeth unigryw Casnewydd i'w thrigolion ac i ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y dywedoch chi, o'r Siartwyr i Dŷ Tredegar, o'r bont gludo i'n llong ganoloesol, mae Casnewydd yn drysorfa o arwyddocâd hanesyddol. Un o'r tlysau yn ein coron yw pentref Caerllion a'r bensaernïaeth Rufeinig sy'n parhau i fod yno heddiw. Bydd llawer yma wedi ymweld â'r lle, ac os na, Weinidog, mae croeso mawr i chi ymuno â mi a'r Dirprwy Weinidog ar ymweliad. Mae'r amffitheatr bron yn 2,000 o flynyddoedd oed, ond mae'r safle hefyd yn cynnwys yr olion barics Rhufeinig gorau yn Ewrop, ynghyd â baddondy ac amddiffynfeydd. Mae hwn yn gynnig hanesyddol sylweddol sy'n llawer mwy nag olion Rhufeinig eraill yn y DU, gan gynnwys Caerfaddon. Mae mwy i'w ddarganfod o hyd, a gwn fod yr amgueddfa genedlaethol a Cadw yn awyddus i gydweithio gydag eraill, fel yr awdurdod lleol, i hyrwyddo Caerllion yn lleol a chenedlaethol. Ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fanteisio'n llawn ar ein cynnig hanesyddol a sicrhau ei fod yn rhan o'n dyfodol yn ogystal â'n gorffennol?

Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwyf wedi bod yng Nghaerllion. Fe ymwelais â'r amffitheatr a'r barics gyda fy mab a fy mherthnasau-yng-nghyfraith a oedd yn ymweld o Iwerddon. Roeddent yn llawn edmygedd a byddent yn hapus i ddychwelyd ar ryw adeg yn y dyfodol. Rwy'n eithaf cyffrous am darganfyddiadau eraill ar y safle hwnnw yn ddiweddar, gan gynnwys yr hyn a edrychai fel olion porthladd yno hefyd. Felly, mae llawer mwy i'w wneud er mwyn datgelu hanes y safle hwnnw ac nid ei gadw i ddweud stori yn unig, ond beth a olyga ar gyfer ein dyfodol hefyd. Rwy'n bendant yn gweld treftadaeth a hanes fel rhan fawr o'r economi ymwelwyr, ac rydych yn iawn fod Cadw, cyngor Casnewydd, a'r amgueddfa genedlaethol eisoes yn trafod, ac rydym yn ceisio mynd o gwmpas hynny i wneud yn siŵr ein bod yn siarad nid yn unig am yr hyn yr ydym yn ei gadw, ond beth y mae'n ei olygu ar gyfer y dyfodol. Rwy'n meddwl ei fod yn rhan allweddol o gynnig Casnewydd a'r cyffiniau. Mae'r dreftadaeth adeiledig a threftadaeth barhaus yr ardal yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Casnewydd yn lle deniadol i fod, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r Aelod ar ymweliad yn y dyfodol.

Weinidog, mae'n wych clywed Jayne Bryant yn sôn am y llong ganoloesol, ac yn wych hefyd clywed eich gwerthfawrogiad o'r darganfyddiadau hanesyddol yng Nghasnewydd. Darganfuwyd llong ganoloesol Casnewydd ar lannau afon Wysg ym mis Mehefin 2002, a dyma'r llong ganoloesol fwyaf sylweddol o ddiwedd y canol oesoedd a gloddiwyd ac a adferwyd ym Mhrydain. Byddai'r llong o'r bymthegfed ganrif sydd o bwys rhyngwladol yn disgwyl denu tua 150,000 o ymwelwyr i'w gweld unwaith y bydd hi'n cael ei harddangos yn iawn, gan roi hwb o tua £7 miliwn y flwyddyn i economi de Cymru a Chasnewydd. Mae gwirfoddolwyr ymgyrch Cyfeillion Llong Casnewydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chyngor Casnewydd ymrwymo i gartref mwy canolog a pharhaol i'r llong, a'i ddarparu o'r diwedd—fel y cafodd ei gynnig gyntaf yng ngwaelod Theatr Casnewydd, fel y gwyddoch, Weinidog—ar ôl buddsoddi £9 miliwn o arian cyhoeddus hyd yma. Mae'n rhywbeth sydd wedi'i addo, ac yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur, ac eto, dim ond £10,000 o arian cyfalaf sydd wedi'i glustnodi ers hynny. Mae'r safle presennol, yr ymwelais ag ef—ac mae'r gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych o'r hyn sydd ganddynt lle maent—bellach wedi bod yn gartref dros dro iddynt ers 20 mlynedd. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithio gyda chyngor Casnewydd i sicrhau ein bod yn manteisio'n llawn ar y darganfyddiad unigryw yma drwy sicrhau bod lleoliad canolog yn cael ei ganfod cyn gynted â phosibl, ac y bydd digon o arian yn cael ei neilltuo i sicrhau y gall Casnewydd, fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, a Chymru, sicrhau cymaint o fanteision ariannol a hanesyddol â phosibl o gael arteffact hanesyddol o'r fath yng Nghasnewydd? Fel y dywedodd archaeolegydd—

Na, na, na—nid fel y dywedodd yr archaeolegydd, ar ôl munud a 40 eiliad.

Rwyf wedi gofyn fy nghwestiwn. Ailadrodd y cwestiwn oedd hynny.

O, os ydych wedi gofyn eich cwestiwn, fe ellir ei ateb. Fe gaiff ei ateb nawr. Iawn.

Ie. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfeillion Llong Casnewydd a'r cyngor hefyd, gan eu bod wedi ymrwymo i geisio dod o hyd i gartref parhaol i'r llong, ac mae'n fenter sylweddol i warchod pob un o'r 2,000 o brennau'r llong. Yr her fydd dynodi cyllideb ar gyfer cartref parhaol ar adeg pan fo heriau gwirioneddol iawn i'n cyllideb bresennol, a bydd yn rhaid i bawb ohonom ailasesu'r hyn y gallwn ei gyflawni ar ôl i'r gyllideb Calan Gaeaf gael ei chyflwyno. Ond mae'r ymrwymiad i ddod o hyd i gartref parhaol i long Casnewydd yn parhau ac rwy'n cydnabod y potensial sylweddol sydd ganddi ar gyfer ymwelwyr, yn ogystal â dysgu am ein gorffennol cyffredin.

14:50
Strategaeth Arloesi

4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch y strategaeth arloesi i Gymru? OQ58571

Ie. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Medi eleni, gyda dros 150 o gyflwyniadau ysgrifenedig yn dod i law. Mae dadansoddiad o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y gweill yn awr a byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau dynodedig Plaid Cymru, yn unol ag ymrwymiad y cytundeb cydweithio, i ddatblygu strategaeth arloesi newydd ar y cyd.

Diolch, Weinidog. Mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn hanfodol i'r economi, gan gynhyrchu dros £5 biliwn a bron i 50,000 o swyddi. Hoffwn dynnu sylw at rai pryderon a godwyd ynglŷn â'r strategaeth ddrafft. Yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol STEM fis diwethaf, awgrymwyd nad yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu clustnodi unrhyw arian newydd ar gyfer y strategaeth, gydag argymhellion adolygiad Reid wedi'u diystyru ac nad yw gwyddoniaeth yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth. Mae'r Sefydliad Ffiseg yn nodi bod y strategaeth ddrafft yn cydnabod yr angen yn awr i Gymru ennill mwy o gyllid Ymchwil ac Arloesi'r DU, UKRI, i wneud iawn am golli cronfeydd strwythurol, ond nid yw'n cynnwys mesurau ymarferol i helpu ymgeiswyr o Gymru i ennill mwy o arian, gyda'u glasbrint ymchwil a datblygu yn nodi nad yw cyllid sy'n gysylltiedig ag ansawdd wedi dal i fyny â chwyddiant ers degawd. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cyfeirio at y diffyg presennol o £18 miliwn ar gyfer cyllid ymchwil a datblygu yn ein prifysgolion, sy'n cyfyngu'n sylweddol ar eu gallu i wneud cais am ffrydiau ariannu ar gyfer y DU, gan lesteirio gallu Cymru i ganiatáu i ymchwil sbarduno economi ffyniannus. Ac yn ôl Prifysgol Caerdydd, ceir diffyg blaenoriaethau penodol ac ymrwymiadau ariannol hanfodol yn y drafft presennol. Weinidog, a ydych yn cytuno y dylai strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru sicrhau bod Cymru'n gallu cael adnoddau ychwanegol er budd arloesi yng Nghymru, megis cyllid UKRI a chyllid elusennol ar gyfer ymchwil feddygol? A sut y bydd hyn yn digwydd heb gynnydd i gyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd? Diolch.

Diolch. Felly, mae cynnydd wedi bod yn y cyllid i ymchwil cysylltiedig ag ansawdd, a ddarparodd y Gweinidog addysg i sefydliadau addysg uwch. Rydych yn iawn fod gennym her wirioneddol gyda chael gwared ar gronfeydd strwythurol a dynodi cyllid yn ei le. Mae'n gwbl hanfodol i Gymru fod yn llawer mwy llwyddiannus wrth ennill arian UKRI. Mae hwnnw'n achos sy'n cael ei wneud yn uniongyrchol ac wedi cael ei wneud fwy nag unwaith. Rhan o fy rhwystredigaeth yw fy mod yn teimlo bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud gyda'r Gweinidog gwyddoniaeth blaenorol nad yw bellach yn y swydd; rwyf eto i gyfarfod â'r Gweinidog gwyddoniaeth presennol, ond rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny. Nid pwynt am degwch daearyddol yn unig yw hwn. Mae tegwch daearyddol yn her fawr y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr mewn gwirionedd. Felly, pe baech yn cael y sgwrs hon yng ngogledd Lloegr, byddai gennych yr un broblem, sef nad yw ansawdd yr ymchwil yn cael ei gydnabod yn y ffordd y caiff cyllid ei ddarparu. Mae hefyd yn ymwneud â nid yn unig bod cyllidwyr yn cydnabod yr ansawdd sy'n bodoli, ond hefyd ein bod ni, nid yn unig yn cyflwyno ceisiadau, ond yn cyflwyno ceisiadau da. Mae her reolaidd o fod angen pasio'r prawf ac nad yw'r prawf o reidrwydd yn adlewyrchu ansawdd y gwaith. Mae angen inni fod yn well o ran ansawdd y gwaith, am hyrwyddo hynny, ac yna o ran gwneud yn siŵr ein bod yn llwyddo i sicrhau bod gennym geisiadau llwyddiannus. Mae peth gwaith y gall y Llywodraeth ei wneud ar hynny, ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r sector cyfan yn cefnogi hynny ac yn cydnabod bod rhaid iddynt roi peth adnoddau tuag at gael mwy allan o gronfeydd cyllid y DU, sydd wedi cael eu cynyddu mewn gwirionedd. Mae mwy o arian ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi, ac mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn ag ennill cyllid ychwanegol. Pan fydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi, rwy'n disgwyl y bydd wedi nodi safbwynt cliriach ynglŷn â sut yr ydym yn disgwyl ennill cyllid ychwanegol. Cynhaliwyd trafodaeth bwrdd crwn defnyddiol ac adeiladol gan Brifysgol Caerdydd gydag amrywiaeth o bobl ynglŷn â sut i osod y strategaeth arloesi newydd at ei gilydd. Roeddwn i ac arweinydd Plaid Cymru yn bresennol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac at allu rhoi datganiad ar ddyfodol y dull strategol yma yng Nghymru. 

Yn ôl eich dogfen ymgynghori, rhwng 2014 a 2020 roedd dros 450 o fuddsoddiadau corfforaethol yng Nghymru ar draws ystod eang o sectorau a busnesau, nifer ohonynt yn ymwneud â gweithgarwch ymchwil a datblygu. Fe wnaethant arwain at dros 21,200 o swyddi newydd, gyda 18,300 arall yn cael eu diogelu, gan gynrychioli buddsoddiad cyfalaf o £3.8 miliwn yng Nghymru. Beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym am y potensial i gael buddsoddiad pellach o'r math hwn ar gyfer y dyfodol, a sut y mae sicrhau y gall y cymunedau sydd heb elwa hyd yma wneud hynny yn y dyfodol? Diolch.

14:55

Rydym yn ffyddiog yn ein huchelgeisiau o ran ein gallu i ddenu busnesau newydd i Gymru, yn ogystal â thyfu ac ehangu busnesau sydd eisoes wedi eu sefydlu yma. Enghraifft dda o hynny yw'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yn ddiweddar, mynychais y seremoni arloesol gyda Jayne Bryant yn ei hetholaeth ar gyfer KLA Corporation—750 o swyddi newydd yn cael eu creu gyda chyflog cyfartalog disgwyliedig o £45,000. Mae hynny'n cynnwys gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu hefyd. Mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cael gweithrediadau ymchwil a datblygu wedi'u lleoli yng Nghymru, nid yn unig y gweithrediadau nad ydynt yn ymchwil a datblygu yn benodol. Mae'n bendant yn ychwanegu gwerth, ac rydym yn chwilio am hynny ym mhob un o'r prosiectau y ceisiwn eu cefnogi, o fusnesau bach, i fentrau canolig a mwy o faint hefyd.

Pyllau Nofio

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint o byllau nofio allai orfod cau'r gaeaf hwn o ganlyniad i brisiau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw? OQ58557

Mae pyllau nofio cyhoeddus yn adnodd iechyd a hamdden pwysig, ac yn yr un modd, yn rhan bwysig o lesiant ein cenedl. Gwyddom fod nifer ohonynt yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen. Nid oes gennym asesiad manwl o'r nifer a allai orfod cau. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, a lle bo angen, os oes angen, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud popeth posibl i sicrhau eu bod yn parhau ar agor yn wyneb cynnydd sylweddol mewn costau ynni a gweithredu.

Diolch, Weinidog. Mae hynny'n gysur mawr i'w glywed. Rwy'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â stori Canolfan Hamdden Plas Madoc yn fy etholaeth a'r gwaith anhygoel a wnaed gan wirfoddolwyr i'w gadw'n agored doed a ddelo. Ond maent yn wynebu rhwystrau enfawr y gaeaf hwn, yn rhannol o ganlyniad i Brexit, gyda chostau cemegol yn codi i'r entrychion a heriau cludiant, ond hefyd oherwydd cynnydd ym mhrisiau ynni ac maent yn amcangyfrif y gallai eu bil ynni fwy na dyblu. Weinidog, beth yn union y credwch y gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi'r pyllau nofio cyhoeddus hanfodol sy'n gwneud cymaint o les i iechyd y cyhoedd?

Rydych yn iawn, mae gennym heriau mawr iawn. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn ei amser preifat, fel tad, yn mwynhau nofio, ac rwyf innau hefyd wedi manteisio ar y cyfle i fynd i dreulio amser gyda fy mab fy hun, ond rwy'n cydnabod bod y gweithgaredd hwnnw dan bwysau mawr oherwydd cost ynni, ac un o'r pethau nad yw'n cael ei drafod yn aml yw costau mewnforion cemegol fel problem go iawn i'r sector hwn a sectorau eraill hefyd.

Fe wnaethom roi setliad hael i lywodraeth leol ddechrau y llynedd, gan gyhoeddi cynnydd o 9.4 y cant yn eu cyllidebau, ac eto rydym wedi gweld hynny'n cael ei oddiweddyd gan chwyddiant. Felly, nid oes gan awdurdodau lleol lawer iawn o arian i helpu'r mentrau hyn i barhau a llwyddo, ac rydym yn gwybod am y niwed a wneir os ydynt yn cau, ac rwy'n talu teyrnged arbennig i'r holl bobl o gwmpas Plas Madoc sydd wedi cadw'r lle hwnnw ar agor.

Rydym yn edrych ymlaen at ddeall beth sy'n digwydd yng nghynllun Llywodraeth y DU ar gyfer defnyddwyr ynni annomestig, a deall hefyd sut y bydd defnyddwyr ynni-ddwys yn cael eu trin hefyd, oherwydd, rwy'n credu bod gan byllau nofio achos da dros gael eu trin fel mentrau ynni-ddwys. Felly, byddwn yn parhau i ddadlau'r achos ar lefel y DU yn ogystal â cheisio gweithio'n adeiladol gyda'n partneriaid llywodraeth leol, oherwydd yn sicr rwyf am weld pyllau nofio'n parhau i gael eu defnyddio gan bobl o bob oed.

Mae Ken Skates yn gwneud pwynt pwysig, ac yn wir, mae pyllau nofio sy'n cael eu rhedeg yn breifat, a phyllau nofio a chyfleusterau hamdden sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn sicr, mewn sefyllfa anodd iawn. Maent mor hanfodol, onid ydynt, i lesiant ein cymunedau. Felly, er mwyn i'r cyfleusterau hyn ddod yn fwy cynaliadwy, mae angen inni geisio eu helpu i ddefnyddio ffynonellau ynni amgen a gwyrdd i helpu i leihau eu costau yn ogystal â'u helpu i gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed sut yr ewch ati gyda'ch cyd-Aelodau i ystyried y gefnogaeth ehangach y gall y Llywodraeth ei chynnig i gyfleusterau hamdden y sector preifat allu symud tuag at fathau rhatach a gwyrddach o ynni. Ac fel Gweinidog yr Economi, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i helpu busnesau i gael mynediad at fentrau fel y rhwydweithiau gwresogi ardal lleol?

Mae hynny'n mynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wneuthum mewn ymateb i gwestiynau cynharach am yr hyn yr ydym yn ei ystyried o ran cynyddu ein cefnogaeth i fusnesau i ddatgarboneiddio a hefyd i ddileu risg eu cyflenwad ynni eu hunain drwy gynhyrchu ynni—mae hynny'n cynnwys cynlluniau gwresogi ardal hefyd—ac edrych ar lle mae gennym fentrau economaidd gwahanol a sut y gellir defnyddio'r gwres a allai gael ei gynhyrchu i sicrhau effaith fuddiol. Felly, mae'n bwynt y credaf y bydd yr Aelod yn ei ddeall yn dda o'i gyfnod blaenorol fel arweinydd awdurdod lleol, wrth edrych ar y cyfleoedd ar gyfer cynlluniau gwresogi a phweru ardal, ac wrth edrych i weld faint o'r rheini y gallwn eu cyflwyno a lle maent. Ond mae yna her lawer ehangach ynghylch costau chwyddiant. Rhan o'n her hefyd, yn y ffordd y mae ein marchnad ynni wedi'i strwythuro ar hyn o bryd, yw ein bod wedi caniatáu i nwy wthio prisiau i fyny mewn ffordd sydd heb gysylltiad â realiti. Felly, mae gennym heriau mawr iawn i geisio eu goresgyn. Mae angen inni ddeall yn ystod y pythefnos nesaf beth yw'r dulliau ariannol sydd ar gael at ein defnydd, ac mae angen inni ddeall beth fydd y cynllun i ddefnyddwyr ynni annomestig. Maent i gyd yn gweithio law yn llaw, ond yn sicr, byddwn yn ceisio bod mor adeiladol â phosibl, a byddaf yn gwneud datganiad pellach yn yr wythnosau nesaf ynglŷn â rhywfaint o'r gefnogaeth honno.

15:00
Y Diffyg yn y Gweithlu a'r Bwlch Sgiliau yng Ngogledd Cymru

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gweithlu a'r bwlch sgiliau yng Ngogledd Cymru? OQ58583

Rwyf wedi nodi camau o fewn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i helpu pawb, yn enwedig y rhai pellaf o'r farchnad lafur, i lywio ac ymateb i unrhyw heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y gallent fod yn eu hwynebu, boed hynny drwy hyfforddiant, uwchsgilio neu newid gyrfaoedd.

Diolch, Weinidog. Mae busnesau ac asiantaethau yn cael trafferth recriwtio yn sgil gadael yr UE, cymhlethdodau fisa a'r pandemig. Roedd y slogan 'Stop immigration now' yn gyrru llawer o rethreg Brexit, heb unrhyw gydnabyddiaeth o'r cyfraniadau enfawr y mae'r rhai sy'n symud yma yn eu gwneud yma yn y DU. Fe achosodd y pandemig i bobl dros 50 ailfeddwl eu ffordd o fyw, ac i beidio â bod eisiau gweithio'r oriau hir sydd bellach wedi'u normaleiddio a'r shifftiau ofnadwy sy'n ddisgwyliedig. Mae cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn enbyd, ac ni all busnesau preifat lenwi'r bwlch a fyddai'n cael ei adael ar ôl gan y sector cyhoeddus mwyach. Weinidog, beth a wnewch i annog pobl yn eu 50au i ddychwelyd i fyd gwaith, i hyrwyddo recriwtio i'r sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, ac i ddweud wrth Weinidogion y DU bod croeso i bobl o wledydd eraill ddod yma i weithio? Diolch.

Diolch am y cwestiynau. Rydym yn sicr yn ceisio gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl sy'n anweithgar yn economaidd, yn enwedig pobl dros 50 oed. Yn arbennig o amlwg ar ddiwedd y pandemig a wedyn, gwelsom nifer o bobl yn gwneud dewisiadau, a rhai o'r rheini'n ddewisiadau bwriadol ynghylch eu hawydd i sicrhau cydbwysedd gwahanol rhwng gwaith a bywyd, ond hefyd amrywiaeth o bobl eraill gyda hanes o salwch hirdymor, a phobl eraill sydd wedi mabwysiadu cyfrifoldebau gofalu newydd a gwahanol. Mae yna amryw o wahanol resymau pam fod pobl wedi gadael y farchnad lafur. Mae rhai o'r bobl hynny, yn anecdotaidd, yn ceisio dychwelyd, ac mae hynny'n cael ei yrru i raddau helaeth gan yr argyfwng costau byw a'r ffaith bod pobl angen dychwelyd i'r gwaith. Rydym eisiau sicrhau bod pobl yn y lle gorau posibl i ddychwelyd i'r farchnad lafur a rhoi'r sgiliau a'r cyfle iddynt fynd i mewn i'r farchnad lafur a chael swydd y byddant yn ei mwynhau ac a fydd yn ddefnyddiol gyda'u heriau a'u cyfleoedd ariannol.

Ar fater ymfudo, un o'r ychydig bethau da yn fy marn i yng nghynllun twf Kwasi Kwarteng oedd sgwrs wahanol am ymfudo a fyddai wedi cynhyrfu llawer o'i dîm ei hun. Ond mewn gwirionedd, buom yn dadlau'n gyson wrth Lywodraeth y DU fod angen dull gwahanol o weithredu ar ymfudo. Ar gyfer sectorau allweddol o'n heconomi, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rhethreg a'r ddelwedd nad yw Llywodraeth y DU am i bobl o rannau eraill o'r byd ddod yma i weithio neu i fod yn rhan o'n cymuned—ac rydych chi'n gweld hyn eto yn yr Ysgrifennydd Cartref presennol a'r ffordd y mae hi wedi siarad am bobl—yn gwbl hunandrechol. Rydym am weld dull llawer mwy synhwyrol wedi ei yrru gan anghenion yr economi, ie, ond hefyd wedi ei yrru gan ymagwedd weddus sy'n cydnabod dynoldeb sylfaenol bodau dynol eraill. Nid wyf yn credu bod hynny bob amser yn wir am Lywodraeth bresennol y DU.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn heddiw? Fel sydd eisoes wedi cael ei nodi, mae'n amlwg fod yna her ynghylch recriwtio'r gweithlu a'r bwlch sgiliau yng ngogledd Cymru. Yn wir, ddechrau'r flwyddyn hon, dangosodd ymchwil yn The Leader fod bron i hanner yr holl fusnesau yn ei chael hi'n anodd recriwtio gweithwyr newydd, ac mae hyn yn parhau i gael ei ailadrodd wrth gyfarfod â chyflogwyr, fel rwy'n siŵr eich bod chi'n ei wneud hefyd, Weinidog. Ond un o'r meysydd allweddol y credaf y gallem geisio canolbwyntio mwy arno yw hyrwyddo manteision a sgiliau addysgol prentisiaethau. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno, Weinidog, y gall prentisiaethau fod yn llwybrau gyrfa hynod lwyddiannus sydd, yn bwysig, yn aml yn arwain at fwy o gynnydd o ran sgiliau a chadw swydd na mynd i'r brifysgol. Wrth gwrs, i ogledd Cymru, mae hwn yn gyfle gwych, oherwydd mae'n lle mor wych i fyw ynddo, a gweithio ynddo hefyd. Felly, o gofio hynny, Weinidog, pa waith a wnewch gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod ein gweithlu yn y dyfodol yn cael gwybod am fanteision gwych prentisiaethau a all arwain at yrfaoedd hir sy'n talu'n dda, a helpu yn y pen draw i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a wynebwn yn y dyfodol?

Wrth gwrs, rwy'n credu bod gan hyn a'n Llywodraethau blaenorol dan arweiniad Llafur Cymru hanes da o hyrwyddo prentisiaethau, nid yn unig o ran niferoedd, ond hefyd o ran eu hansawdd a'r ystadegau cwblhau. Rwy'n cofio Ken Skates, pan oedd yn ddyn iau byth, fel Gweinidog sgiliau, a'r gwaith a wnâi a'r ffaith bod ein ffigyrau cwblhau hyd yn oed y pryd hwnnw'n llawer gwell na'r hyn a gâi ei gyflawni gan Lywodraeth y DU yn Lloegr, ac mae hwnnw'n gyflawniad yr ydym wedi'i barhau.

Mae ein her ni yn ymwneud â chael digon o bobl i fod eisiau mynd ar hyd y llwybr prentisiaeth, a chyflogwyr a fydd yn elwa ohono hefyd. Mae yna her ariannol go iawn yn hynny hefyd. Rydym wedi siarad o'r blaen yn y Siambr am y ffaith bod traean o'n rhaglen brentisiaethau wedi'i hariannu gan gyn-gronfeydd yr UE bellach, ac mae honno'n her fawr iawn i ni ei goresgyn. Rydym hefyd wedi gweld chwyddiant cynyddol sy'n creu mwy a mwy o bwysau, nid yn unig ar brentisiaethau, ond ar hyfforddiant mewn gwaith hefyd. Mae gan nifer o gyflogwyr ddiddordeb erbyn hyn yn yr hyn y gallant ei wneud i gydnabod bod gweithiwr y dyfodol yma i raddau helaeth—mae'n debygol y bydd eich gweithwyr ymhen 10 mlynedd yn eich gweithlu eisoes—a'r hyn y gallwch ei wneud i uwchsgilio pobl yn y gweithle hefyd. 

Mynychais raglen Sgiliau Cymru y bore yma. Maent yn disgwyl i 5,000 o bobl tuag at ddiwedd eu gyrfa ysgol uwchradd edrych ar ddewisiadau yn y dyfodol, ac mae opsiynau prentisiaeth ac opsiynau sgiliau'r dyfodol yn rhan fawr o'r hyn y maent yn sôn amdano. Felly, rydym yn cael sgwrs fwriadol a phwrpasol am bob llwybr ar gyfer y dyfodol—addysg bellach, prentisiaethau, sgiliau eraill, ac nid llwybr y brifysgol yn unig—nid yn unig i yrfa werth chweil o ran y bobl y byddwch yn eu cyfarfod, ond i'r gwobrau ariannol sy'n cael eu cynnig hefyd.

15:05
Cysylltedd Didigol

7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o sut mae lefelau buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn cysylltedd digidol yn effeithio ar economi gogledd Cymru? OQ58562

Diolch am y cwestiwn. Nid yw polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, ond eto mae economi gogledd Cymru yn elwa'n uniongyrchol o gyflwyno'r cynllun band eang gwerth £56 miliwn a'n grant o £4.2 miliwn i'r ganolfan brosesu signalau digidol ym Mhrifysgol Bangor, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i gamu i'r adwy lle nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon. Lywydd, hoffwn gofnodi fy ymwneud fel aelod di-dâl o'r consortiwm ym Mhrifysgol Bangor, fel y crybwyllodd y Gweinidog. Maent yn benderfynol o wella cysylltedd gogledd Cymru. Er mai Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb am fand eang, mae methiant y Torïaid i fuddsoddi'n briodol wedi gwneud cam â gogledd Cymru. Rwyf am weld mwy na buddsoddi i sicrhau bod gogledd Cymru â chysylltiad digidol priodol; rwyf am ein gweld yn creu a datblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau sy'n arwain y byd ac sy'n gwella economi gogledd Cymru. Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy angerdd ynglŷn â gwella cysylltedd yn y rhanbarth a datblygu'r gyfres nesaf a'r cam nesaf o dechnolegau ar gyfer cysylltedd, ac a wnewch chi ymrwymo i wneud hyn yn un o'ch blaenoriaethau?

Rwy'n fwy na pharod i ddweud hynny. Daw yn sgil gwaith cyson a wnaed ar draws y Llywodraeth hon ar wahanol ffurfiau. Efallai na wnaethoch chi glywed y Dirprwy Weinidog yn siarad yn gynharach, ond rydym wedi buddsoddi £200 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i Superfast Cymru. Mae hwnnw'n arian mewn maes sydd heb ei ddatganoli. Rydym yn cydnabod manteision sylweddol gwella a llenwi bylchau yn yr hyn sy'n gyfrifoldebau i'r DU. Mae rhan allweddol o'n dyfodol digidol gyda gwasanaethau cyhoeddus, ac yn yr economi yn wir. Rwy'n falch iawn o fod â'r prif gyfrifoldeb gweinidogol dros wasanaethau digidol ar draws y Llywodraeth, nid yn unig yn yr economi, a byddaf yn fwy na pharod i gael sgwrs bellach gyda'r Aelod am yr hyn y credaf y gallwn ei gyflawni o fewn y Llywodraeth.

Cymorth i Fusnesau

8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yn sgil chwyddiant a chynnydd mewn costau ynni? OQ58577

Mae'r prif ysgogiadau i fynd i'r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, treth ar ffawdelw a rheoleiddio'r farchnad ynni oll ym meddiant Llywodraeth y DU. Ein blaenoriaeth ni yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac i arbed ynni, fel y soniais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol heddiw. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ailgyfeirio adnoddau er mwyn lleihau baich ar fusnesau. 

Diolch am yr ymateb yna. Mi ofynnais i ddoe am ddatganiad yn dilyn y newyddion bod 28 o swyddi yn y fantol yn AMG Alpoco yng Nghaergybi; dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â hynny eto heddiw. Cynnydd mewn costau, a chostau ynni yn arbennig, sydd yn gyrru'r ailstrwythuro yma, ond, wrth gwrs, dydy Alpoco ddim ar eu pennau eu hunain. Mae Plas Farm, cwmni hufen iâ ac iogwrt wedi'i rewi yn Ynys Môn, yn gweld chwyddiant yn codi hyd at 50 y cant ar eu costau nhw i gyd, a gallan nhw, fel Alpoco, ddim pasio'r costau cynyddol hynny ymlaen i'w cwsmeriaid. Rŵan, mae Plas Farm yn disgwyl cynnydd o bron £50,000 y mis yn eu bil ynni—£50,000 y mis. Mae hynny'n codi pryderon am ddyfodol y cwmni a'r 25 o staff, mewn difrif. Maen nhw yn buddsoddi mewn ynni solar, er enghraifft, ond tra, wrth gwrs, rydyn ni angen gweld gweithredu brys gan Lywodraeth Prydain, a gaf i ofyn eto pa gymorth y gall y Llywodraeth ei roi i gwmnïau energy intensive fel Plas Farm? Hefyd, a gaf i ofyn am sicrwydd bod pob cymorth yn cael ei roi i weithlu Alpoco ar hyn o bryd?

15:10

Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu gyda'r ysgogiadau sydd gennym ar gael i ni i geisio cefnogi busnesau sydd yn yr union sefyllfa hon. Rydym yn gwybod bod yna amrywiaeth o fusnesau sy'n defnyddio llawer o ynni, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i'ch cyd-Aelod Luke Fletcher, a'n her yw bod eisiau cael setliad ar gymorth Llywodraeth y DU, ond hefyd yr hyn y gallwn ni ei wneud i geisio cefnogi'r busnesau hynny. Nid oes gennym rym ariannol i wneud popeth y byddem eisiau ei wneud gyda busnesau sy'n wynebu dyfodol anodd iawn.

Mae gennym nifer o gynghorwyr effeithlonrwydd adnoddau ar gael trwy wasanaeth Busnes Cymru, i geisio helpu busnesau i ddeall beth yw eu hanghenion ynni ac i weld a oes cymorth ar gael. Fel y dywedais, rydym yn edrych hefyd ar beth y gallwn ei wneud yn y dyfodol agos, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf ynglŷn â sut y credwn y gallwn helpu mwy o fusnesau i fanteisio ar yr help sydd ar gael ac ehangu'r cymorth hwnnw, i geisio sicrhau ein bod yn datgarboneiddio ac yn lleihau risg y cyflenwad ynni yn y dyfodol.

Ond ni allwch osgoi difrifoldeb yr argyfwng ynni a'r hyn y mae'n ei wneud i fusnesau. Pe bai pob Aelod yn codi ar eu traed, rwy'n siŵr y gallent roi rhestr o fusnesau, fel y gwnaethoch chi—busnesau hyfyw sy'n cyflogi pobl ar delerau gweddus—sy'n wynebu'r posibilrwydd o beidio â gallu cadw'r holl bobl hynny yn y dyfodol agos iawn, neu'r perygl na fydd y busnesau hynny'n bodoli o gwbl. Mae'n nodi maint yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu.

Dyna pam y byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn, o ran bod eisiau gwneud yn siŵr fod gan fusnesau hyfyw ddyfodol da hefyd, ond mae hefyd yn ymwneud ag ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth y DU i wneud rhywbeth o'r diwedd a fydd yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd yn y farchnad ac a fydd yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd ar gyfer costau pobl yn y dyfodol. A phe bai hynny'n digwydd, fe fyddem yn gefnogol i hynny. Ond fel y dywedaf, mae hynny'n anorffenedig i raddau helaeth, ac rwy'n edrych ymlaen gyda rhywfaint o bryder at y gyllideb Calan Gaeaf a beth fydd honno'n ei gynnig i fusnesau ac aelwydydd.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Yr eitem nesaf, yn gyntaf, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8111 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8110 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 19 Hydref.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid atal y Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu gwneud hynny? Nac oes. Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni

Mae hynny'n caniatáu inni symud ymlaen at eitem 3, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.

Cynnig NNDM8110 Julie James

Cynnig bod y Senedd:

Yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni wedi'u cadw'n ôl. Mae'r darpariaethau o fewn y cymhwysedd datganoledig a drafodir gennym heddiw yn ymwneud â phwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cymorth tuag at dalu costau ynni. Mae'r sefyllfa gydag amserlen seneddol y DU ar y Bil hwn yn amlwg allan o'n dwylo. Mae hyn wedi golygu nad yw'r Senedd wedi cael cyfle i graffu'n ystyrlon ar y memorandwm a osodwyd ddoe, ac ar y Bil.

Er hynny, rwy'n falch ein bod wedi cael cyfle i drafod mesur hanfodol ar yr argyfwng costau byw mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ers tro am wneud mwy i gefnogi cwsmeriaid domestig ac annomestig gyda chostau ynni cynyddol. Roeddem yn croesawu'r cyhoeddiad am becyn dwy flynedd ar gyfer aelwydydd, ac yn galw am sicrhau bod yr un graddau o gefnogaeth ar gael i gwsmeriaid annomestig.

Yn hytrach nag ymestyn y gefnogaeth i gwsmeriaid annomestig, cyfyngodd y Canghellor y cymorth i aelwydydd i ddim ond chwe mis. Nid oes cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn o ystyried bod disgwyl i gost ynni aros yn uchel iawn am nifer o flynyddoedd i ddod. Y cam cyllidol credadwy oedd ei angen gan y Canghellor oedd ariannu'r cymorth drwy dreth ffawdelw ar draws y sector cynhyrchu ynni. Nid oes cyfiawnhad dros beidio â thargedu'r enillion ffawdelw hyn i ariannu'r mesurau cymorth angenrheidiol i'r rhai sydd eu hangen fwyaf ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i roi pecyn cymorth hirdymor ar waith, wedi'i ariannu mewn ffordd flaengar, i helpu i liniaru effaith prisiau uchel ynni.

Mae'r Bil sydd o'n blaenau heddiw yn bwysig am ei fod yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol sy'n caniatáu ar gyfer cynllun i ostwng pris trydan a nwy ar draws Prydain. Mae hwn yn gam cadarnhaol, gan y bydd yn gwarchod cwsmeriaid rhag y ffactorau sy'n gwthio prisiau ynni i lefelau mor uchel. Rydym yn cytuno â'r egwyddor yn y Bil ynghylch cyflenwyr ynni'n darparu arbedion yn uniongyrchol drwy'r system bilio. Mae hwn yn gam effeithlon ar gyfer darparu cynllun, gan fod gan y cyflenwyr trwyddedig arbenigedd a systemau i weithredu'r polisi fel y'i nodwyd. Rydym yn croesawu'r gofyniad pellach i gyflenwyr trwyddedig ddod yn bartïon i'r cynllun cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Fel y crybwyllwyd yn gynharach, cedwir y rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Bil. Mae'r darpariaethau o fewn cymhwysedd datganoledig yr ydym yn eu trafod heddiw yn ymwneud yn bennaf â phwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cymorth ar gyfer talu costau ynni. Mewn perthynas â datganoli materion cyfansoddiadol, mae'r Bil yn tresmasu ar faterion datganoledig trwy roi swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn meysydd datganoledig. O'r herwydd, mae'r dull hwn yn anghyson â'n hegwyddorion ar gyfer cydsynio i Filiau Llywodraeth y DU. Rwyf wedi galw felly ar Lywodraeth y DU i ymgynghori ar unrhyw fesurau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig. Er fy mod yn cydnabod bod bwrw rhagddi i weithredu ar brisiau ynni yn fater brys, mae'n rhaid gweithredu trwy ymgynghori effeithiol er mwyn sicrhau bod cyfrifoldebau'r Senedd hon yn cael eu parchu.

Mae'n bwysig nodi nad ydym yn trosglwyddo pwerau drwy'r Bil hwn, ond mae'r Bil yn rhoi swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn meysydd datganoledig. O'r herwydd—

15:15

Rwy'n ddiolchgar i chi, ac rwy'n ddiolchgar i chi am gyflwyno hyn mor gyflym. Fe ddywedoch chi yn eich cyflwyniad nad oedd y Llywodraeth wedi cael golwg ar hyn. Er eglurder, oherwydd y materion yr ydych chi'n eu trafod ynghylch trosglwyddo swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol, a wnewch chi gadarnhau nad oedd Lywodraeth Cymru wedi gweld hyn, ac nad oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweld y ddeddfwriaeth hon cyn iddi gael ei derbyn a'i chyhoeddi?

Gallaf, mae hynny'n gywir. Mae'r ffaith bod y Bil wedi ymddangos ar yr amserlen seneddol mor gyflym wedi golygu na welsom ddim ohono ymlaen llaw.

Fel roeddwn am fynd ymlaen i ddweud, mae ein hegwyddorion Cabinet fodd bynnag yn nodi sefyllfaoedd lle gallai fod yn briodol gwneud darpariaeth mewn Bil DU er mwyn gallu cyrraedd atebion pragmatig mewn modd amserol, gan barchu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ar yr un pryd drwy broses y cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r egwyddorion hyn yn amlwg yn berthnasol yn yr achos hwn.

Rwy'n ystyried bod y cymorth y mae'r Bil hwn yn ei ddarparu yn bwysig ac ni allwn fforddio oedi cyn rhoi cymorth ynni i bobl sydd ei angen yn enbyd y gaeaf hwn. Mae cymalau 13 ac 14 yn canolbwyntio ar roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol i gynorthwyo pobl i dalu costau ynni. Mae'r cymalau hyn hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i gynorthwyo aelwydydd a chwsmeriaid annomestig. Tra bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflawni'r rhan fwyaf o'i chymorth drwy gyflenwyr trydan a nwy trwyddedig, mae wedi gwneud darpariaeth drwy gymal 15 yn galluogi gwneud rheoliadau ynghylch rôl cyrff eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn y broses o roi cymorth tuag at gostau ynni. Mae hon yn ddarpariaeth bwysig gan ei bod yn rhoi rôl i gyrff dynodedig eraill ddarparu cymorth ar gyfer costau ynni. Ni ddylid disgwyl i ni dalu costau awdurdodau lleol i ddarparu'r cymorth hwn. Rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd y gost o gyflawni'n cael ei darparu'n llawn gan Lywodraeth y DU i weithredu hyn yng Nghymru. Bydd is-ddeddfwriaeth yn nodi'r manylion ar gyfer y trefniadau hyn. Gelwais ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd unrhyw sefydliad sy'n gweinyddu'r cynllun, gan gynnwys y rhai sy'n cyflawni'r swyddogaeth hon ar ran awdurdodau lleol, yn derbyn yr holl gyllid sydd ei angen i gyflawni'r ddyletswydd.

Mae cymal 19 yn darparu y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol gael pwerau galluogi i osod gofynion ar bersonau y darperir cymorth gyda phrisiau ynni iddynt fel eu bod yn cael eu trosglwyddo i fod o fudd i'r defnyddiwr terfynol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn diogelu defnyddwyr ynni rhag cyfryngwyr a allai fethu trosglwyddo'r cymorth hwn fel arall. Efallai y bydd angen i rai awdurdodau lleol gontractio'r gwaith hwn, ac mae angen caniatáu hynny'n benodol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni'n effeithiol yng Nghymru. Yn olaf, mae cymal 22 yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau i ddeiliaid trwyddedau ynni mewn ymateb i'r argyfwng ynni neu'n gysylltiedig â'r Bil neu bethau a wneir oddi tano.

Felly, Lywydd, wrth orffen, rwy'n argymell bod yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil prisiau ynni fel y gall pobl Cymru gael cymorth ariannol yn effeithiol gyda chost uchel ynni y gaeaf hwn. Diolch.

Diolch yn fawr i chi am y cyfle i ddweud ambell i air ar yr LCM diweddaraf yma. Dyma’r seithfed ar hugain LCM o fewn y Senedd hon. I gymharu â’r pedwaredd Senedd, dim ond wyth LCM a aeth trwy’r pedwaredd Senedd i gyd.

Mae hwn yn LCM ar Fil pwysig iawn, ond cafodd ei osod dim ond ddoe o flaen y Senedd, ac rŷn ni’n gofyn i bleidleisio arno fe heddiw. Nid mater cyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae’r mater cyfansoddiadol yn bwysig, wrth gwrs—bod Senedd Cymru yn deddfu o fewn pwerau y setliad datganoledig—ond mae’n bwysicach na hynny. Dwi ddim yn ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i edrych ar ôl y bobl sydd mewn angen. Dwi ddim yn ymddiried yn y Torïaid i wneud yr hyn sy’n iawn yn y tymor hir. Dyw’r Bil yma ddim yn cynnwys treth windfall. Dyw e ddim yn golygu bod y cwmnïau egni yn cymryd y cyfrifoldeb. Yr hyn mae’n ei wneud yw gwthio yn ôl ar ddefnyddwyr y cyfrifoldeb yn y tymor hir. Ddoe y cafodd ei osod. Heddiw, rŷm ni'n cael ein gofyn i bleidleisio ar y mater heb unrhyw graffu o gwbl; dim cyfle i bwyllgorau i graffu, dim cyfle i gynnig gwelliannau, dim cyfle i godi problemau—ac mae yna broblemau gyda'r Bil yma—dim craffu o gwbl, mewn gwirionedd. Dadl tri chwarter awr—a dyw e ddim yn ymddangos fel bod lot yn mynd i gymryd rhan yn y ddadl hon—ar brynhawn dydd Mercher. A gwyddom, beth bynnag—mae'n siŵr mai dyna pam does dim lot yn mynd i gyfrannu—bod yr LCM yn mynd i basio, oherwydd mae Llafur a’r Torïaid yn pleidleisio law yn llaw ar y rhan fwyaf o'r LCMs yma.

Yr hyn sydd gen i, Weinidog, yw dim dyma’r ffordd i ddeddfu. Mae rhaid cael amser i graffu os am basio Deddf sy’n addas i’r gofyn—

15:20

Wrth gwrs, pe bai'r Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth, byddech chi a'r Ceidwadwyr yn pleidleisio yn ei herbyn, a byddai'n methu. Rwy'n credu bod hyn yn fodd o'i gyflawni, sy'n golygu y bydd yn digwydd. Pe gallech chi a'r Ceidwadwyr ddechrau pleidleisio dros ddeddfwriaeth y Llywodraeth, efallai y byddai'n haws ei wneud. 

Pwrpas Senedd ddeddfwriaethol yw pasio Deddfau, Mike. Does dim pwynt i ni fel arall, ac mae'n rhaid, wrth gwrs, fel mae set-up y Senedd—. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth drafod gyda'r gwrthbleidiau os ydyn nhw eisiau i'w Deddfau eu pasio. Dyna yw hanfod Senedd sy'n cydweithio gyda'i gilydd. 

Mae problemau gyda'r Bil hwn. Mae un o bwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi wedi nodi problemau gyda'r Bil hwn; mewn perthynas ag un o'r cymalau y gofynnir inni roi cydsyniad iddynt, cymal 22, maent yn gadarn o'r farn ei bod yn amhriodol rhoi'r pŵer hwnnw i'r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiystyru deddfwriaeth sylfaenol, a gwrthod barn y rheoleiddiwr, Ofgem. Rwy'n bryderus, Lywydd, fod gofyn heddiw i'r Senedd gydsynio â chynnig cydsyniad deddfwriaethol na wyddom fawr ddim amdano, nad ydym wedi craffu'n iawn arno, ac eto fe gaiff ei basio heb drafodaeth.  

Fel y dywedais i, nid mater cyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae e'n bwysig ein bod ni'n cael Deddfau fel hyn yn iawn er mwyn helpu pobl ein gwlad ni trwy sefyllfa sydd mor echrydus o anodd. Diolch yn fawr. 

Nawr, mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ymwneud â deddfwriaeth bwysig, ac mae'n ddeddfwriaeth sy'n rhaid ei rhoi mewn grym yn gyflym. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin, heb os, wedi arwain at chwyddo pris olew a nwy ledled y byd. Diolch i Lywodraeth y DU, bydd defnyddwyr yn cael help gyda'u biliau yn awr. Bydd y pwerau brys newydd hyn yn sicrhau bod defnyddwyr ledled y wlad, o Ynys Môn i Aberdeen, o Gonwy i Gernyw, yn cael help gyda'u biliau ynni y gaeaf hwn. Heb y ddeddfwriaeth hon, gadewir i fusnesau a defnyddwyr wynebu cythrwfl ariannol cynyddol. Amcangyfrifwyd y byddai biliau ynni'n cynyddu tua £6,500 cyn i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy, ac yn awr maent wedi'u capio ar ffigur is, sef £2,500. Yn amlwg, bydd hyn yn help.

I fusnesau, byddai hyn yn drychineb. Yn Aberconwy, rwy'n gweld perchnogion gwestai yn wynebu cynnydd o 532 y cant yn eu biliau ynni, a chigydd lleol—fe fyddwch i gyd wedi cael selsig Edwards o Gonwy; rwy'n gobeithio eich bod—wedi wynebu cynnydd dinistriol o £129,000 i'r £782,000 diweddaraf, ac rwy'n deall ei fod wedi codi'n sylweddol ers hynny, wrth edrych ar dariffau newydd. Diolch i Lywodraeth y DU, bydd prisiau i fusnesau'n cael eu capio ar £211 y megawat awr ar gyfer trydan, a £75 y megawat ar gyfer nwy. Mae hyn wedi gostwng y pris fesul megawat awr i gwsmeriaid annomestig bron i 65 y cant ar gyfer trydan, a 147 y cant ar gyfer nwy. 

Mae ein busnesau wedi wynebu dwy flynedd gythryblus o ganlyniad i'r pandemig, gyda nifer o fusnesau bellach yn gorfod talu am fenthyciadau o gyfnod y pandemig ac roedd rhai ohonynt ar ei hôl hi gydag ôl-ddyledion rhent. Bydd cymorth Llywodraeth y DU yn hanfodol i gynorthwyo ein busnesau i barhau i weithredu dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod, ac yn darparu cymorth ariannol mawr ei angen. Ac fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes ac Ynni, y Gwir Anrhydeddus Jacob Rees-Mogg:

'Dylai busnesau a defnyddwyr ledled y DU dalu pris teg am ynni.... Dyna pam ein bod wedi camu i'r adwy heddiw gyda phwerau eithriadol a fydd nid yn unig yn sicrhau bod cymorth hanfodol yn cyrraedd aelwydydd a busnesau y gaeaf hwn ond a fydd yn trawsnewid y Deyrnas Unedig yn genedl sy'n cynnig ynni diogel, fforddiadwy a gynhyrchir yn y wlad hon am bris teg i bawb.'  

Drwy gefnogi cymalau 13 a 14, byddwn yn rhoi grym i'r Ysgrifennydd Gwladol, sêl bendith, er enghraifft, i ddarparu cefnogaeth ar gyfer talu costau sy'n gysylltiedig â defnyddio ynni; darparu cymorth ar gyfer talu costau sy'n gysylltiedig â chyflenwi ynni; a galluogi neu annog defnydd effeithlon o ynni. Felly, ni welaf unrhyw reswm pam fod angen codi helynt am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn. Ddydd Llun, dywedodd Alan Brown AS, SNP, hyd yn oed, ac rwy'n dyfynnu:

'Rwy'n cytuno bod angen y mesurau a'r egwyddorion hynny er mwyn diogelwch ynni ac i fod yn rhan o'r pontio i sero net.'

Y Gwir Anrhydeddus Graham Stuart:

'Mae cymal 19 yn sicrhau bod y cynlluniau cymorth...yn cyrraedd y rhai y bwriedir iddynt gael budd ohonynt. Bydd y gofyniad i drosglwyddo cymorth prisiau ynni yn helpu i sicrhau bod tenantiaid a defnyddwyr terfynol eraill yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.'

Rydym yn wynebu argyfwng ynni byd-eang sydd wedi'i waethygu gan ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin. Drwy gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, byddwn yn helpu pobl, busnesau, elusennau a'r sector cyhoeddus ledled y DU gyda'u biliau ynni, gyda sylfaen ddeddfwriaethol ddiogel. Mae'r Gweinidog newid hinsawdd y Gwir Anrhydeddus Graham Stuart wedi diolch yn briodol i wrthblaid Ei Fawrhydi, a phleidiau eraill, am eu hymgysylltiad adeiladol hyd yma. Felly, fel chi eich hun, Weinidog—

15:25

Diolch. Rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn eich plaid a ninnau, wedi bod yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru ynglŷn â lleihau'r cyfnod craffu ar gyfer y Bil plastigion untro. Roeddech chi'n cwyno, yn gwbl briodol, nad oeddem wedi cael digon o amser; dim ond tair, pedair, pum, chwe wythnos a roddwyd i ni i graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Pam felly eich bod chi'n hapus na chraffwyd o gwbl ar y ddeddfwriaeth benodol hon ac na chafwyd ond ychydig oriau i'w darllen?

Gyda phob parch, deddfwriaeth frys yw hon. Mae gennym sefyllfa ryfel, ac mae hynny'n wirioneddol—. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd yn awr, lle gall pethau fod hyd yn oed yn waeth na'r hyn a wynebwn ar hyn o bryd. Wrth wynebu sefyllfa debyg i ryfel fel sydd gennym, wrth wynebu argyfwng o'r fath, mae'n hanfodol fod y sefydliad hwn yn chwarae rhan gyfrifol, ac felly nid wyf yn petruso o gwbl rhag cefnogi'r Gweinidog, a dweud, 'Rydym angen i hyn fynd rhagddo, ac mae angen iddo fynd rhagddo cyn gynted ag y bo modd'. Diolch.

Ni allaf ddeall dadl Janet Finch-Saunders mai deddfwriaeth frys yw hon; rydym yn gwybod am y cynnydd mawr ym mhrisiau ynni ers diwedd mis Chwefror, felly nid yw hon yn sefyllfa frys.

Nawr, ni fyddai neb yn dadlau yn erbyn y cynnig i roi cymorth ar unwaith gyda'r prisiau ynni sy'n codi i aelwydydd a busnesau, ond nid yw'r fframwaith deddfwriaethol a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn ateb cynaliadwy. Mae'r syniad fod hon yn ddeddfwriaeth bwysig yn chwerthinllyd. Rhaid inni weld hyn trwy lens y rhwymedigaethau sero net sydd gennym a'r argyfwng hinsawdd sy'n mynd i ddisgyn ar bob un ohonom. Nid wyf yn gweld unrhyw beth cadarn yn y cynnig hwn i annog cynhyrchwyr ynni i fuddsoddi mewn mwy o ynni adnewyddadwy, i gyflymu'r broses o bontio oddi wrth nwy. Mewn gwirionedd, rwy'n gweld ymosodiad ar gynhyrchwyr ynni adnewyddadwy, drwy sicrhau bod rhaid iddynt gyfrannu rhagor ac nad ydynt yn elwa cymaint o'r contractau y maent wedi'u cael. Ond fel y dywedodd y Gweinidog yn ei memorandwm esboniadol, mae'n wir fod angen diwygio'r farchnad ynni, gan gynnwys y ffordd y cyllidwn ynni adnewyddadwy. Felly, rwy'n deall eich bod wedi cydnabod hynny, ond y broblem yma yw nad oes dim i ddatgysylltu'r gost ynni i ddefnyddwyr o bris cyfredol diweddaraf a drutaf y farchnad am nwy, sef y ffordd y mae Ofgem yn gosod y prisiau hyn. Ac nid oes unrhyw beth i annog pobl i fuddsoddi eu helw, gan gynnwys elw'r cwmnïau olew a nwy, i bontio i ynni adnewyddadwy fel y mae angen i bawb ohonom ei wneud.

Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym yn ei hateb pa drafodaethau, os o gwbl, a gawsoch gyda Llywodraeth y DU—nid am y ddeddfwriaeth benodol hon sydd newydd lanio, yn amlwg—sy'n cyd-fynd â'n rhwymedigaethau sero net. A diolch i'r Aelod Rhys ab Owen am dynnu sylw at bryder Tŷ'r Arglwyddi ynglŷn ag adran 22, sef y grym i wrthod Ofgem. Mae'r holl beth yn destun pryder mawr iawn. Nid wyf yn bwriadu pleidleisio yn ei erbyn, oherwydd rwy'n gwybod bod cartrefi a busnesau'n dibynnu ar hyn, ond mae'n rhaid inni gael rhyw fath o gynllun ar gyfer y dyfodol, ac ni allwn barhau fel hyn. Mae'n rhywbeth a roddwyd at ei gilydd ar y funud olaf—efallai i dynnu sylw oddi ar bethau eraill sy'n digwydd.

15:30

Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rhannaf bryderon yr Aelod ynglŷn â’r broses sydd wedi ein harwain at y sefyllfa bresennol, a rhannaf y pryder—fel yr oeddwn yn ei rannu ynglŷn â'r Bil cynhyrchion plastig untro—ynglŷn â'r diffyg craffu. Ac nid yw hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu yma ychwaith nac ar lefel y DU. Ond roeddem yn gwybod am hyn y noson gynt. Fe'i cyflwynwyd ar 12 Hydref, felly nid yw hyn yn graffu o gwbl mewn gwirionedd. Yn sicr, ni chawsom Fil drafft nac unrhyw beth arall.

Rydym yn deall y brys. Nid wyf yn cytuno â disgrifiad Janet o lefel y brys, ond rydym yn deall bod rhywfaint o frys i gael cymorth i gwsmeriaid y gellir ei gyflwyno o fis Tachwedd ymlaen. Byddai’n llawer gwell gennym, serch hynny, pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y mae Jenny ac eraill wedi’i nodi, wedi sylweddoli bod hyn yn digwydd gryn dipyn yn gynharach yn y flwyddyn, pan wnaeth pawb arall sylweddoli hynny, ac wedi gwneud rhywbeth, yn hytrach na chynnal cystadleuaeth arweinyddiaeth chwerthinllyd drwy gydol yr haf, gyda Phrif Weinidog presennol y DU ar y pryd yn gwneud Duw a ŵyr beth, yn hytrach na chyflawni ei gyfrifoldebau.

Serch hynny, rydym yn y fan lle rydym, ac os na fyddwn yn rhoi cydsyniad i hyn, mae perygl gwirioneddol na fydd pobl Cymru yn gallu elwa ar y cynllun. Felly, rwy’n argymell ein bod yn rhoi cydsyniad i’r ddeddfwriaeth, er bod cryn dipyn o gyndynrwydd oherwydd y ffordd y mae’r Bil wedi’i drefnu. Ond serch hynny, nid ydym yn barod i roi ein hunain mewn sefyllfa lle na allai pobl Cymru gael y cymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei argymell; mae'n bwysig iawn eu bod yn ei gael.

Hoffwn gywiro rhywbeth a ddywedodd Janet. Nid oes cap o £2,500 ar ynni. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nad yw pobl yn meddwl, ni waeth faint y maent yn ei ddefnyddio, fod rhyw fath o gap. Cost gyfartalog ydyw, nid cap, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall hynny. Bydd llawer o bobl yn wynebu biliau o fwy na £2,500 dros y gaeaf.

Er y byddant yn cael y cyllid gan Lywodraeth y DU, bydd gan GIG Cymru fwlch ynni o bron i £100 miliwn i'w lenwi o hyd—£90 miliwn i £100 miliwn, yn ôl yr hyn a glywais yr wythnos diwethaf. A yw hynny'n wir?

Ydy, mae'n wir. Felly, dim ond plastr ar glwyf enfawr yw hwn, a bydd yn achosi problemau gwirioneddol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal ag i gwsmeriaid domestig. Serch hynny, mae'n bwysig fod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd pobl a busnesau Cymru, ac felly rydym yn argymell rhoi cydsyniad.

Fodd bynnag—hoffwn ailadrodd, gan y credaf ei fod yn bwysig iawn—rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i ymgynghori ar unrhyw fesurau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig. Mae yna fethiant sylfaenol yn y farchnad ynni bresennol nad yw’r Bil hwn yn ei ddatrys; rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldeb ar hynny. Ond serch hynny, Lywydd, a chyda rhywfaint o gyndynrwydd y gallwch ei glywed, rwy’n argymell i’r Senedd ein bod yn rhoi cydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd yr angen dybryd i roi cymorth i bobl Cymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, bydd y bleidlais yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 Eiliad

Ac felly y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Jack Sargeant.

Diolch, Lywydd. Mae fy nghymuned wedi’i hadeiladu ar weithgynhyrchu, ac rydym yn falch o’r cynhyrchion yr ydym yn eu cynhyrchu, a sgiliau ein gweithwyr sy’n eu creu. Fis diwethaf, dathlodd gweithgynhyrchiant yng Nglannau Dyfrdwy ben blwydd pwysig—buom yn dathlu 30 mlynedd hapus o weithgynhyrchu injans Toyota ar ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Mae safle Toyota Manufacturing UK yng Nglannau Dyfrdwy yn cyflogi mwy na 600 o bobl yn uniongyrchol ac yn cefnogi llawer mwy o swyddi drwy ei rwydwaith o gyflenwyr lleol a chenedlaethol. Lywydd, rwy'n hynod ddiolchgar fod y Prif Weinidog wedi gallu ymweld er mwyn nodi'r pen blwydd arbennig hwn, ac edrychwn ymlaen at flynyddoedd lawer o weithgynhyrchu injans uwch-dechnoleg ar y safle pwysig hwn.

I gloi, mae'n rhaid inni adeiladu ar lwyddiant ein rhagoriaeth ym maes gweithgynhyrchu yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae'n rhaid inni ymrwymo i fuddsoddi yn y sgiliau a’r dechnoleg sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol ochr yn ochr â’n partneriaid diwydiannol. Ac yn olaf, pen blwydd hapus iawn, Toyota. Diolch.

15:35

Mae’r wythnos hon yn nodi pumed flwyddyn Wythnos Caru Ein Colegau, ymgyrch sy’n tynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a thrawsnewidiol y mae colegau addysg bellach yn ei wneud bob dydd. Bydd dathliadau eleni'n canolbwyntio ar staff, myfyrwyr a sgiliau. Gan gadw hyn mewn cof, hoffwn dynnu eich sylw heddiw at y cyfleoedd trawsnewidiol sy'n cael eu cynnig yn ein colegau ar ffurf rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, i ddysgwyr ac i staff.

I ddysgwyr, bydd profiadau tramor yn ehangu eu gorwelion ac yn codi eu huchelgeisiau, gan wneud cyfraniad cadarnhaol at eu cynnydd drwy addysg ac ymlaen i gyflogaeth yn y dyfodol. Un o'r agweddau pwysicaf ar y teithiau cyfnewid rhyngwladol hyn yw eu bod yn cynnig mynediad cyfartal i bob unigolyn ifanc yn ein colegau, ni waeth beth fo'u cefndir. Mae staff addysg bellach yn cael cyfleoedd i rannu arferion gorau gyda chydweithwyr dramor, cymryd rhan mewn hyfforddiant neu gysgodi gwaith, yn ogystal â rhannu'r gwersi a ddysgir gyda’u sefydliadau yng Nghymru.

Mae’n bleser gennyf ddweud bod fy ngholeg lleol, Coleg Gwent, yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o’r rhaglenni. Mae ColegauCymru yn arwain y gwaith o ddatblygu’r cyfleoedd tramor cyffrous hyn, a byddai eu prosiectau consortiwm ar gyfer symudedd rhyngwladol wedi galluogi dros 3,000 o ddysgwyr a 490 o staff i weithio, hyfforddi a gwirfoddoli dramor gan feithrin dealltwriaeth ynghylch gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd na fyddent o bosibl wedi cael cyfle i'w harchwilio fel arall.

Gan fod ddoe yn Ddiwrnod Menopos y Byd, hoffwn achub ar y cyfle hwn—a diolch, Lywydd, am dderbyn y datganiad 90 eiliad—i sôn am y menopos; rhywbeth yr ydym ni, fel menywod, yn mynd drwyddo neu'n mynd i fynd drwyddo ar ryw adeg yn ein bywydau. O edrych ar y dynion yn y Siambr, rydych yn ffodus iawn nad yw'n rhywbeth y byddwch chi'n mynd drwyddo, ond mae'n hynod bwysig fod pawb yn deall y problemau a'r brwydrau y bydd menywod, rai yn fwy na'i gilydd, yn eu hwynebu wrth ymdopi â menopos.

Mae’n bwysig cael mwy o ymwybyddiaeth o’r hyn y mae menywod yn mynd drwyddo, a’r brwydrau y maent yn eu hwynebu a’r anawsterau a gânt i dderbyn triniaeth, a bod y Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU yn cymryd camau tuag at sicrhau bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r hyn y mae hanner y boblogaeth yn mynd drwyddo, ymwybyddiaeth o fenopos, yn dod yn norm ac yn gyffredin yn ein gweithleoedd ledled Cymru.

Mae dros 10 miliwn o bobl dros 50 oed yn gweithio yn y DU heddiw, traean o’r gweithlu, gan gynnwys 4.4 miliwn rhwng 50 a 64 oed. Yr oedran cyfartalog ar gyfer cyrraedd y menopos yw 51; er, yn fy nheulu i, mae'n digwydd yn y 40au cynnar, ac i eraill, rwy’n siŵr. Felly, bydd llawer ohonom, 4.4 miliwn a mwy, yn fenywod sy’n mynd drwy’r menopos, sy'n gwneud hwn yn fater allweddol i’r gweithle modern. Dyna pam ei bod mor hanfodol ein bod yn gweld y pecyn cymorth menopos yn y gweithle yn cael ei hyrwyddo. Gall y pecyn cymorth ddarparu gwybodaeth am y ffordd y mae menopos yn effeithio ar fenywod yn y gweithle, beth yw menopos, sut y mae menopos yn effeithio ar fenywod yn y gweithle, pam fod hyn yn bwysig i gyflogwyr, a beth y gallant ei wneud i helpu.

Felly, gobeithio, gyda ddoe yn Ddiwrnod Menopos y Byd, mai hwn fydd yr olaf lle bydd menywod yn dioddef yn dawel, ac yn lle hynny, y gallwn greu sgwrs agored ynglŷn â'r mater yng Nghymru. Ac fel Senedd, rwy'n gobeithio y gallwn arwain ar hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Ynni adnewyddadwy yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8102 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Ynni adnewyddadwy yng Nghymru', a osodwyd ar 26 Mai 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael cyflwyno y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, oherwydd ar ddechrau'r chweched Senedd fe gytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ynni adnewyddadwy, gan gydnabod, wrth gwrs, rôl hanfodol ynni adnewyddadwy wrth fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nawr, mi wnaethom ni edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a beth arall y mae angen iddi ei wneud hefyd er mwyn cynyddu datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a phan wnaethom ni ddechrau ar ein hymchwiliad ddechrau'r flwyddyn, gallem ni byth, wrth gwrs, fod wedi rhagweld difrifoldeb yr argyfwng ynni presennol na'r effaith, wrth gwrs, y byddai hynny'n ei gael, nid yn unig ar Gymru, ond tu hwnt.

Felly, wrth i'r ymateb domestig i'r argyfwng barhau i ddatblygu, fe wyddom wrth gwrs y gallai ein rhoi ar y trywydd naill ai i gyflawni neu dorri ein hymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae’n bosibl y gall y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis diwethaf ddarparu rhywfaint o hoe i fusnesau a chartrefi, er, yn dilyn cyhoeddiad dydd Llun, efallai mai byr iawn fydd yr hoe hon mewn gwirionedd. Ond mae’r penderfyniad i godi’r gwaharddiad ar ffracio a chynyddu cynhyrchiant olew a nwy ym môr y Gogledd yn llenwi’r rhai ohonom sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd ag ofn. Mae’r penderfyniadau hyn, a wnaed lai na blwyddyn—llai na blwyddyn—ar ôl yr addewidion a wnaed yn COP26 yn gywilyddus, a dweud y gwir.

Ni ddylai camau i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a diogelu ffynonellau ynni domestig ddod ar draul y blaned. Mae amser yn prysur ddiflannu i osgoi trychineb hinsawdd. Mae'r argyfyngau ynni a hinsawdd yn rhannu ffynhonnell gyffredin: tanwydd ffosil. Maent hefyd yn rhannu ateb cyffredin: ynni adnewyddadwy. Ac nid yw’r achos dros gyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy erioed wedi bod yn gryfach yn fy marn i.

Felly, cynhaliwyd ein hymchwiliad yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniad ei harchwiliad dwfn. Diben yr archwiliad dwfn, wrth gwrs, oedd nodi’r rhwystrau presennol i gyflymu datblygu a’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â hwy. Cafodd argymhellion yr archwiliad dwfn eu croesawu gan randdeiliaid. Ond roedd yna deimlad hefyd, mewn rhai meysydd, nad ydynt ond yn crafu'r wyneb.

Nid yw nifer o’r rhwystrau a nodwyd gan yr archwiliad dwfn yn newydd, ac nid yw addewidion Llywodraeth Cymru o gamau i fynd i’r afael â hwy yn newydd ychwaith. Nododd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru ystod o gamau gweithredu i wella'r broses gynllunio a chydsynio, a'r seilwaith grid yng Nghymru hefyd—rhwystrau allweddol i ddatblygu. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'n gwneud yr un addewidion. Wrth inni gychwyn ar gyfnod tyngedfennol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, mae'r angen i Lywodraeth Cymru fwrw iddi a chyflawni'r addewidion hyn yn fwy nag erioed.

Yn ein hadroddiad, gwnaethom 17 o argymhellion, a derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ohonynt, neu o leiaf eu derbyn mewn egwyddor. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys bod hynny'n ymateb cadarnhaol. Ond wrth ddadansoddi ymhellach, wrth gwrs, rydym yn cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi deall o ddifrif i ba raddau y mae angen iddi weithredu ar frys. Mae'r ymateb yn frith o dermau fel 'parhau i weithio ar', 'parhau i ystyried opsiynau', 'trafodaethau parhaus' ac 'archwilio potensial'. Nawr, wrth gwrs, rydym yn deall na fydd chwalu rhwystrau hirsefydlog yn digwydd dros nos. Ond gyda datblygu yng Nghymru'n arafu, mae angen inni weld canlyniadau yn sgil yr archwiliad dwfn, ac mae angen inni eu gweld ar fyrder.

Yn ein hadroddiad, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu manwl i nodi sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen ag argymhellion yr archwiliad dwfn, gan gynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni. Y meddylfryd y tu ôl i hyn oedd sicrhau tryloywder llawn, a hwyluso a chefnogi craffu. Mewn ymateb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adrodd i’r Senedd ddwywaith y flwyddyn ar y cynnydd tuag at weithredu, ac rydym yn croesawu hynny’n fawr. Cyhoeddwyd y cyntaf o’r adroddiadau hyn yn gynharach y mis hwn, ac fel pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud ar y cynnydd drwy weddill tymor y Senedd hon.

Fel y soniais eisoes, un o’r rhwystrau allweddol i ddatblygu yng Nghymru, wrth gwrs, yw’r grid. Ers dros ddegawd, cafwyd galwadau croch a pharhaus am gamau gweithredu gan Lywodraethau i fynd i’r afael â chyfyngiadau'r grid. Er gwaethaf hyn, ychydig o gynnydd a wnaed, ac mae Cymru ymhell o fod â grid sy’n barod i allu cefnogi trawsnewid cyflym i ynni adnewyddadwy. Gwyddom mai cyfyngedig yw'r dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru at ei defnydd i sicrhau gwelliannau i’r grid. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am y drefn reoleiddiol sy’n llywodraethu’r grid a mynediad at gyllid. Yn ei adroddiad diweddar ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru, mynegodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin bryderon nad yw Llywodraeth y DU wedi deall difrifoldeb cyfyngiadau'r grid ar yr ochr hon i’r ffin eto, ac mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ddim llai na brawychus. Mae'r heriau y mae cyfyngiadau'r grid yn eu hachosi i ddatblygu ac i uchelgeisiau datgarboneiddio ehangach Cymru yn golygu na ddylid caniatáu i hyn barhau.

Mae argymhellion 6 a 7 yn adlewyrchu ein barn fod rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a gwneud mwy i sicrhau bod San Steffan yn deall anghenion seilwaith grid Cymru yn awr ac yn y dyfodol yn llawn. Felly, Weinidog, mae eich ymateb i’n hadroddiad yn cyfeirio at eich cyfarfod â Gweinidogion y DU ym mis Mehefin, pan wnaethoch grybwyll materion yn ymwneud â’r grid. Efallai y gallwch ddweud wrthym yn eich ymateb a ydych yn credu bod y geiniog wedi syrthio ac a ydynt o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn mewn gwirionedd.

Rydym wedi ein calonogi gan brosiect grid ynni'r dyfodol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dylanwadu'n rhagweithiol ar fuddsoddiad yn y grid yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym y bydd y cynllun gweithredu a gynhyrchir gan y prosiect yn nodi camau gweithredu ar gyfer rhwydweithiau, ar gyfer Ofgem a Llywodraeth Cymru,

'i alluogi gwaith cynllunio a gweithredu rhwydwaith system gyfan optimaidd, hirdymor.'

Nawr, mae hyn oll yn swnio'n gadarnhaol iawn. Ond wrth gwrs, a dyma faen tramgwydd posibl, bydd camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd. Felly, Weinidog, pa mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn fodlon cyflawni'r camau hynny? A beth sy'n digwydd os ydynt yn gwrthod cydweithio?

Yn olaf ar y grid, Weinidog, rydych wedi sefydlu gweithgor grid i ystyried a yw eich cynnig gwreiddiol ar gyfer pensaer systemau ynni Cymru yn ymarferol. Efallai y gallech ddweud wrthym pryd y disgwyliwch gael ateb pendant ar hyn.

I symud ymlaen at rwystr allweddol arall i ddatblygu: y drefn gydsynio a thrwyddedu. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod trefn gydsynio effeithlon sydd â'r adnoddau priodol yn hanfodol er mwyn cefnogi twf y sector ynni adnewyddadwy. Mae'r drefn bresennol, wrth gwrs, yn ddiffygiol yn hyn o beth. Clywn am doriadau enfawr yng nghyllidebau awdurdodau cynllunio lleol, ac adnoddau annigonol i CNC, sy'n achosi oedi hir a chostus, weithiau, i brosiectau. Wrth gwrs, nid yw pryderon ynghylch cyllid i awdurdodau cynllunio a CNC yn newydd, ond os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei huchelgais ar gyfer ynni adnewyddadwy, ni all anwybyddu'r pryderon hyn mwyach, ac mae argymhelliad 9 yn ein hadroddiad yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Felly, yn eich adroddiad diweddar, Weinidog, ar weithredu argymhellion yr archwiliad dwfn, dywedwch fod angen gwneud rhagor o waith i adolygu anghenion Cyfoeth Naturiol Cymru o ran adnoddau yn y dyfodol. Pa mor hir y bydd yn rhaid inni aros am ganlyniad y gwaith hwnnw, ac a allwn ddisgwyl gweld unrhyw gynnydd yng nghyllideb CNC y flwyddyn nesaf o ganlyniad i hynny?

Ar awdurdodau cynllunio'n benodol—dau gwestiwn plaen yma. A oes ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i ymdopi â'r galw ar eu gwasanaethau? Ac os na, beth y bwriadwn ei wneud ynghylch hynny? Dywedodd rhanddeiliaid wrthym mai dim ond hyn a hyn y bydd cynyddu capasiti ac adnoddau yn ei wneud i wella’r broses gydsynio. Yn y pen draw, mae angen newidiadau deddfwriaethol. Ac rydym yn falch, felly, fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi Bil cydsyniad seilwaith i Gymru yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf. Wrth graffu ar y Bil, heb os, fe geisiwn wneud yn siŵr ei fod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng hybu uchelgais ynni adnewyddadwy Cymru yn ogystal â diogelu ein hamgylchedd mwyfwy bregus.

Yn olaf ar gydsynio, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei safbwynt y dylid datganoli cydsyniadau ynni'n llawn. Felly, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth yr ewch ati'n weithredol i'w drafod gyda Llywodraeth y DU? Ac os felly, a fu unrhyw lygedyn o obaith? Efallai y gallech ddweud wrthym.

Mae rhan olaf ein hadroddiad yn canolbwyntio ar gyfleoedd i gynyddu ynni cymunedol a lleol. Mae'n rhaid i’r twf yr ydym yn galw amdano mewn ynni adnewyddadwy fod o fudd i gymunedau ledled Cymru. Nid yn unig fod yn rhaid i gymunedau gael dweud eu dweud mewn prosiectau, mae'n rhaid iddynt fod yn rhanddeiliaid gweithredol, ac elwa ar y buddion cymdeithasol ac economaidd o'r newid i ynni adnewyddadwy. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym, er mwyn cyflawni hyn, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gymell ac annog rhanberchenogaeth, a nod argymhellion 12 a 13 yn ein hadroddiad yw mynd i’r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion hyn, ac ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae wedi cyhoeddi canllawiau ar ranberchenogaeth. Mae hefyd wedi ymrwymo i fonitro ac adrodd yn rheolaidd ar y nifer sy'n manteisio ar ranberchnogaeth o brosiectau ynni, sydd, wrth gwrs, unwaith eto, yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn ei groesawu.

Yn olaf, hoffwn sôn am argymhelliad 17. Roedd hwn yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am Ynni Cymru, gan gydnabod ei rôl yn cefnogi'r gwaith o ehangu ynni adnewyddadwy cymunedol yn arbennig. Roeddem wedi gobeithio y byddai’r argymhelliad hwnnw’n helpu i ateb rhai cwestiynau ynghylch Ynni Cymru, ond ni ddigwyddodd hynny. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn ein hargymhelliad, yr ymateb, yn syml, oedd, 'Gwyliwch y gofod hwn'. Felly, Weinidog, rydym yn deall eich bod wedi sefydlu bwrdd interim y datblygwr ynni adnewyddadwy i ystyried cynigion ar gyfer cwmni datblygu. A ydym yn iawn i feddwl mai'r un peth fyddai’r cwmni hwn ac Ynni Cymru? Byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro hynny i’r pwyllgor. Ac a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ddweud wrthym heddiw am gynnydd tuag at greu Ynni Cymru?

Lywydd, mae casgliadau’r pwyllgor yn glir. Mae’n rhaid inni achub ar y llu o gyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy. Mae’n rhaid inni gael gwared ar y rhwystrau hirsefydlog sy’n atal datblygu. Ac mae'n rhaid inni wneud hynny, wrth gwrs, gan ddod â'n cymunedau gyda ni gan wybod y byddant yn elwa. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen inni ganolbwyntio ar y dyfodol ac nid y gorffennol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol o ynni adnewyddadwy diogel a fforddiadwy, ac nid tanwydd ffosil dinistriol.

15:50

Diolch i Gadeirydd fy mhwyllgor—Cadeirydd ein pwyllgor—am arwain y ddadl hon. Mae’r dyfyniad a ganlyn o’n hadroddiad pwyllgor trawsbleidiol yn tynnu sylw, yn gwbl briodol, at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i fanteisio'n llawn ar botensial ynni adnewyddadwy Cymru:

'Roedd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru yn addo ystod o gamau gweithredu i wella’r broses gynllunio a chydsynio, a seilwaith grid yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r un addewidion yn cael eu gwneud. Dyma’r amser i Lywodraeth Cymru gadw at ei gair, a hynny ar unwaith.'

Yn 2012, Weinidog, addawodd eich Llywodraeth adolygu a gwella’r trefniadau cynllunio a chydsynio sy’n gysylltiedig â datblygu. Serch hynny, 10 mlynedd yn ddiweddarach, dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy—. O, mae'n ddrwg gennyf. Yn argymhellion eich archwiliad dwfn, rydych yn gwneud yr un addewid yn union, addewid y cyfeiriwch ato yn eich ymateb i argymhelliad 2. Felly, mae’n debyg mai’r cwestiwn yw: os na ddigwyddodd bryd hynny, pa hyder y gallwn ei gael y bydd yn digwydd o gwbl, ac nad ydych ond yn llusgo eich traed?

Yn yr un modd, er fy mod yn croesawu ystyriaeth Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 a gweithredu galwad adroddiad y pwyllgor am dargedau mwy uchelgeisiol, ni ddylai hyn dynnu sylw oddi ar y cyfeiriad y mae'n rhaid inni deithio iddo. Mae angen inni wrthdroi’r dirywiad difrifol y mae pob un ohonom wedi’i weld, ac y gwyddom ei fod yn digwydd, dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y dywedodd y Sefydliad Materion Cymreig wrthym, 'Dylai Llywodraeth Cymru ymboeni mwy am gyflawni ac osgoi addasu targedau'n ddibwrpas.'

Gwn fy mod yn sefyll yma yn rhy aml ac yn clywed y bai'n cael ei daflu ar Lywodraeth y DU. Yn eich ymateb i argymhelliad 1 yn arbennig, mae'n rhaid inni gofio mai eich Llywodraeth Cymru chi a benderfynodd gael gwared ar y grantiau ardrethi busnes hanfodol i gynlluniau ynni dŵr bach, gan beryglu diwydiant lleol hyfyw, ac mae hyn wedi effeithio ar nifer o fy ffermwyr yn Aberconwy a gyfranogodd yn y cynlluniau hyn gyda phob ewyllys da, cyn clywed wedyn y byddent yn cael eu cosbi am wneud hynny. Mae hyn wedi golygu cynnydd o fwy nag 8,000 y cant mewn ardrethi busnes i gwmni North Wales Hydro Power, a ddisgrifiwyd gan y diwydiant fel cam annoeth iawn gan y Llywodraeth hon. Unwaith eto, ailadroddaf fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r penderfyniad hynod niweidiol hwn, a byddwn yn croesawu pe baech yn ymateb i’r pwynt penodol hwnnw, Weinidog, p'un a ydych wedi'i ystyried, ac y byddwch, o bosibl, yn ceisio cefnogi’r rhai sy’n ceisio chwarae eu rhan i'n helpu gydag ynni adnewyddadwy.

Wrth gwrs, un maes lle gellid gweithredu newid mawr yn gyflymach o lawer yw allan ar y môr. Yn ôl RWE Renewables UK, mae datblygiadau ynni'r môr yn nyfroedd Cymru

'yn wynebu risg gynyddol o ran cydsyniad ac anfantais gystadleuol'

o gymharu â’r rheini mewn mannau eraill yn y DU. Cyfeiriodd Ystad y Goron a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur at yr angen i gydbwyso cyflymu ac ehangu datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr i gyflawni sero net, gan ddiogelu’r amgylchedd morol ac atal dirywiad bioamrywiaeth hefyd, ochr yn ochr â galwadau’r Sefydliad Materion Cymreig am broses gydsynio gliriach a mwy diffiniedig i sicrhau’r defnydd amserol o ynni adnewyddadwy morol. Sylwaf eich bod wedi egluro y dylai'r gwaith o nodi ardaloedd adnoddau strategol morol gael ei gwblhau yn 2023. Felly, fel y mae’r RSPB, y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac eraill wedi’i nodi’n glir yma, bellach mae’n bryd creu llwyfan gwell eto ar gyfer datblygiadau ynni'r môr a byd natur, drwy greu cynllun datblygu morol cenedlaethol.

Mater allweddol arall—

Rwy'n falch o'ch clywed yn dadlau'r achos hwn—credaf ei fod yn achos pwysig i'w ddadlau—ond wrth gwrs, yr hyn sydd gan y sefydliadau hynny'n gyffredin hefyd yw eu bod yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru, a fyddai'n darparu hwb ariannol i’r datblygiadau hynny. Rwy'n cymryd y byddwch chi hefyd yn cefnogi hynny yn awr.

Wrth gwrs.

Mater allweddol arall sy’n atal y broses o ehangu ynni adnewyddadwy yw’r diffyg seilwaith grid digonol, ac mae'n rhaid imi ddweud, bob tro y cyfarfûm ag aelodau o’r diwydiant, maent yn nodi hyn fel mater pwysig iawn, rhwystr mawr. Dim ond mewn egwyddor y gwnaethoch chi dderbyn argymhelliad 7, ac ar adeg pan fo Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn awgrymu efallai nad yw Llywodraeth y DU yn ymwybodol o ddifrifoldeb y materion capasiti grid, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad ac ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth y DU ar y lefel uchaf un i sicrhau y caiff gofynion seilwaith grid Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol eu deall a’u bodloni’n llawn. Fel y cyfryw, ni fyddai'n gwneud unrhyw niwed codi’r argyfwng—ac a wnewch chi wneud hynny, Weinidog—yn y grŵp rhyngweinidogol nesaf ar sero net, ynni a newid hinsawdd.

Yn yr un modd, credaf y dylech wrando ar alwadau 'Strategaeth Ynni Gogledd Cymru' i edrych ar sefydlu treialon microgridiau, a byddai'r gogledd yn lle da i ddechrau gwneud hynny. Byddai hyn yn ddefnydd llawer gwell o arian trethdalwyr na sefydlu cwmnïau ynni sy’n eiddo i’r Llywodraeth, sy’n syniad annoeth yn fy marn i. Maent eisoes wedi ceisio gwneud hynny ym Mryste, lle arweiniodd at ganlyniadau enbyd i drethdalwyr lleol.

15:55

Gyda'r rhyfel Rwsiaidd yn Wcráin wedi gwneud i bob etholwr bron sylweddoli’r angen i Gymru a’r DU gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru gymryd camau gweithredu breision. Rwy’n hyderus fod mwy o feysydd yr ydym yn cytuno arnynt i alluogi’r Senedd gyfan i gydweithio er mwyn sicrhau bod Cymru’n cyflawni ei photensial o ran ynni. Diolch.

Yn gyntaf, hoffwn ddatgan bod fy mhartner yn gynghorydd i Bute Energy a fy mod innau'n gyfranddaliwr yng nghynllun ynni adnewyddadwy cymunedol Awel Aman Tawe.

Mae'n rhaid inni gamu i'r adwy yn y cyswllt hwn, gan fod yr argyfwng a oedd newydd ddechrau pan oeddem yn dechrau cymryd tystiolaeth—mae'n argyfwng, ond mae hefyd yn gyfle. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hyn a chyflymu'r newid. Siaradodd Ken Skates yn gynharach am ei bryderon ynghylch pyllau nofio yn ei etholaeth, a chawsom ymateb gan Weinidog yr economi, ond ni chlywais unrhyw frys yn ei ymateb, er fy mod yn llwyr gydnabod fod hyn yn rhan o gylch gorchwyl Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, nad oedd yn y Siambr yn gynharach heddiw. Credaf fod hyn yn un o'r pethau lle bydd digwyddiadau'n mynd yn drech na ni oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch yn awr.

Felly, mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig eisoes yn ei wneud i ddiogelu eu pyllau nofio. Er enghraifft, un o’r arweinwyr yn hyn o beth yw Narberth Energy, sydd ag un o’r pyllau cymunedol hynaf sy’n cael ei gynhesu gan ynni adnewyddadwy yn y DU. Mae Nofio Arberth yn bwll sy’n eiddo i’r gymuned, sy’n cael ei redeg er budd ei gymuned leol, a'i gefnogi gan Narberth Energy, cymdeithas budd cymunedol, a drefnodd gynnig cyfranddaliadau i godi arian i osod boeler biomas 200 kW ac aráe solar ffotofoltäig 50 kW yn ôl yn 2015. Maent i'w canmol am fod yn ddigon craff i wneud hynny, gan fod cymaint o byllau nofio eraill yn dal i fod yn ddibynnol ar nwy i wresogi eu pyllau, ac rwy'n pryderu'n fawr amdanynt. Ni allwn fod mewn sefyllfa lle na all y genhedlaeth nesaf nofio am nad oes ganddynt gyfleusterau diogel i ddysgu sut i wneud hynny.

Felly, ceir sawl enghraifft wych arall o sut i wneud hynny. Mae pyllau nofio yn tueddu i fod yn adeiladau ar eu pen eu hunain gyda thoeau mawr, sy'n sicr yn addas ar gyfer gosod araeau o baneli solar sy'n wynebu'r de. Maent hefyd yn tueddu i fod yn adeiladau sydd â digon o le ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer neu bympiau gwres o'r ddaear, ac eto, tybed faint o hyn sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru. Yn yr Alban, er enghraifft, mae to a waliau wedi'u hinswleiddio ac unedau adfer gwres mewn pwll nofio yn Forres yn yr Alban, ynghyd â'r aráe solar sydd ganddynt, yn creu system effeithlon i hidlo'r pwll. Dyma'r pethau mwyaf amlwg y mae'n rhaid iddynt ddigwydd os ydym am achub ein pyllau nofio. Yn Ayrshire, mae’r unig bwll dŵr croyw awyr agored yn yr Alban yn cael ei gynhesu gan ddefnyddio pympiau gwres o’r ddaear, a ariennir yn rhannol gan ymddiriedolaeth ynni gwyrdd ScottishPower. Fe'i hailagorwyd yn 2017, gan ddefnyddio’r pympiau gwres o’r ddaear hyn yn unig. Yn yr un modd, yn Skipton, ceir pwll nofio sy'n defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer ar gyfer eu dau bwll a'r cawodydd, yn ogystal â thechnoleg adfer gwres, a cheir paneli solar ffotofoltäig eisoes ar y safle. Yn Rhydychen, mae gennych y pwll nofio awyr agored mwyaf yn y DU sy'n defnyddio pympiau gwres ffynhonnell dŵr. Mae'r rhain o ddifrif yn bethau y mae angen inni edrych arnynt fel mater o frys, neu byddwn yn colli ein holl byllau nofio.

Mae'n amlwg fod angen inni addasu'r grid hefyd—rhywbeth yr ydym wedi sôn amdano, ac sydd wedi'i grybwyll eisoes gan siaradwyr blaenorol—ond mae angen inni fynnu hefyd fod pobl sy'n gosod teils ar eu toeau yn meddwl am baneli solar ar yr un pryd. Ni allaf gredu faint o bobl yn fy etholaeth sy’n atgyweirio eu toeau tra bo'r haul yn dal i ddisgleirio ond sydd heb hyd yn oed ystyried ychwanegu araeau solar ar eu to sy’n wynebu’r de ar yr un pryd, oherwydd yn amlwg, mae llawer o gost ynghlwm wrth osod y sgaffaldiau a chael y gweithwyr ar y safle yn unig. Felly, mae'n rhaid inni ddechrau meddwl am hyn mewn ffordd wahanol. Mae'n rhaid i'r argyfwng hwn fod yn gyfle i edrych ar bopeth a wnawn. Mae angen inni sicrhau bod gennym baneli solar ar ein holl doeau sy’n wynebu’r de, gyda batris i fynd gyda hwy, fel y gall pobl ddefnyddio’r ynni o’r pŵer solar pan fyddant ei angen, sef pan fyddant yn dod adref gyda’r nos wedi i'r haul fachlud. Mae'n rhaid inni newid yn llwyr.

16:00

Jenny, a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Diolch. Delyth Jewell.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ofnadwy o amserol. Mae'r crisis costau byw yn golygu poen anferthol ar gyfer pobl gyffredin, fel sy'n codi dydd i ddydd yn y Senedd, a hynny ar adeg o grisis newid hinsawdd, crisis natur, ac wrth gwrs, ymlediad gwrthdaro rhyngwladol. Mewn sawl ffordd, mae'r sialensiau hyn sy'n wynebu ein byd, sialensiau sy'n effeithio ar bawb, er mewn ffyrdd anghydradd, i gyd yn cael eu tanlinellu gan y thema gyffredin yma o ynni. Mae'r argyfwng hinsawdd wedi cael ei achosi mewn lot of ffyrdd gan ymddygiad dynolryw i ddefnyddio ynni mewn ffordd sydd ddim yn gynaliadwy—hynny ydy, trwy losgi tanwydd ffosiledig ers y chwyldro diwydiannol. Mae'r crisis costau byw yn cael ei ddwysáu fel canlyniad i filiau ynni, ac mae'r rhyfel yn Wcráin ac ymateb y gymuned ryngwladol i'r rhyfel hwnnw yn cael ei nodweddu gan wrthdaro ar gyflenwad ynni.

Mae miloedd ar filoedd o gartrefi yma yn wynebu amodau ofnadwy dros y gaeaf, ac mae'r Canghellor newydd yn San Steffan yn lleihau yr adeg pan fydd cymorth ar gael. Mae busnesau, iechyd a lles pobl i gyd yn y fantol, ac i wneud pethau'n waeth, mae rhybudd o flacowts ar y diwrnodau mwyaf oer. Mae hanes, Dirprwy Lywydd, yn ailadrodd ei hunan. Mae pwerau mawrion gwleidyddiaeth ryngwladol yn gwrthdaro; mae tensiynau rhwng archbwerau'r byd, a gartref, rŷn ni'n wynebu argyfwng domestig. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae Cymru mewn sefyllfa arbennig o fregus fel canlyniad i'n cyflenwad tai, sydd mor aneffeithlon o ran ynni, ac fel canlyniad hefyd i'r tlodi sydd wedi heintio ein cymunedau ers degawdau. Bydd ein pobl ni nawr yn profi'r crises hyn yn enbyd o llym.

Gwn fod y darlun hwnnw'n llwm, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n cael ei ddweud droeon yn y ddadl hon yw nad oes angen iddi fod felly. Mae Cymru yn allforiwr ynni net ac mae potensial datblygu ynni adnewyddadwy yn enfawr. Mae'r argyfyngau presennol yn gwneud yr achos dros y newid hwn yn fwy pwysig byth. Y tu hwnt i gymhwyso angenrheidiau ynni fel trydan, cynhesrwydd, cynhyrchu bwyd, trafnidiaeth, mae'r cwestiwn o reolaeth dros adnoddau ynni hefyd wedi cael mwy o sylw dros y blynyddoedd diwethaf. Nodaf fod Alun Davies wedi gwneud y pwynt hwn. O gwestiynau ynghylch diffyg rheidrwydd, am bwerau dros y grid, am brosiectau ynni mwy, am Ystad y Goron yng Nghymru, mae'r ffactorau hyn i gyd wedi llesteirio ein gallu i ddiwallu anghenion ynni Cymru yn ddifrifol, i ymateb i newid hinsawdd a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Pryd bynnag y cawn y dadleuon hyn, gwneir y pwynt fod hanes Cymru yn un a nodweddid, mewn cymaint o ffyrdd, gan gamfanteisio a thlodi. Roedd y pethau hynny'n diffinio oes y glo; rhaid inni sicrhau bod y dyfodol yn wahanol. Roedd y pwyllgor yn glir, fel finnau, y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i hybu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru, er mwyn gwneud yn siŵr fod rheolaeth dros ein system ynni ein hunain yn gryfach. Mae cynnydd cyfyngedig wedi'i wneud. Er hynny, mae Cymru'n dal i fod yn bell o fod â grid sy'n barod ac sy'n gallu cefnogi newid cyflym i ynni adnewyddadwy. Nid ydym yn agosach at bwerau datganoledig dros Ystad y Goron. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ddangos mwy o uchelgais, oherwydd yr holl argyfyngau hyn sy'n ein hwynebu, i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod gofynion seilwaith grid Cymru yn cael eu bodloni'n llawn yn awr ac yn y dyfodol. Pan gawn ymateb y Llywodraeth i'r ddadl, byddai'n ddefnyddiol iawn cael diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau sydd wedi digwydd mewn perthynas â datganoli pwerau dros Ystad y Goron i Gymru.

Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r angen i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur mewn ffyrdd cysylltiedig, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n sicr wedi codi yn ein tystiolaeth hefyd. Rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd. Mae angen i ni gydbwyso'r angen i gyflymu ac ehangu ynni adnewyddadwy ar y môr a chyflawni sero net cyn gynted ag y gallwn gyda diogelu amgylcheddau morol ac atal dirywiad bioamrywiaeth. Felly, byddai'n dda pe gallem gael rhywfaint o fanylion ar hyn, oherwydd mae'r holl argyfyngau hyn wedi'u cydgysylltu yn y ffordd y maent yn ein taro, ond mae angen cydgysylltu'r ffordd yr ymatebwn iddynt gymaint â phosibl hefyd. Diolch yn fawr.

16:05

Wrth ddarllen drwy adroddiad y pwyllgor—rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor am ei gyflwyniad y prynhawn yma—a darllen drwy ymateb y Llywodraeth, fy nheimlad llethol oedd nad oedd llawer iawn o wahaniaeth rhwng y ddau, fod llawer iawn o bethau'n gyffredin, yn enwedig o ran uchelgais a gweledigaeth, rhwng y Llywodraeth a'r pwyllgor. Mae hynny i'w groesawu wrth gwrs. Fodd bynnag, wrth ddarllen drwy'r ddau, teimlwn hefyd fod y ddau braidd yn anfoddhaol mewn ffyrdd gwahanol. Gadewch imi egluro pam rwy'n meddwl hynny.

Os wyf edrychaf yn ôl dros gyfnod Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, mae yna bethau yr ydym wedi eu gwneud yn dda iawn ac mae yna bethau eraill yr ydym wedi eu gwneud yn llai da, a dyna natur llywodraethu, wrth gwrs. Rwy'n credu bod ynni yn un o'r meysydd polisi lle nad ydym wedi llwyddo dros y ddau ddegawd diwethaf, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ddysgu gwersi ohono. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi dod i'w sedd ar gyfer y ddadl hon, oherwydd rwyf am ei longyfarch ar benderfyniad a wnaeth—mae'n edrych yn fwy pryderus byth yn awr. [Chwerthin.] Mae'n dechrau difaru nad aeth am baned o goffi.

Ond pan oeddwn yn Weinidog ynni rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn yn un o dri Gweinidog ynni yn y Cabinet. Ar wahân i fi fy hun, roedd gennym Weinidog yr economi a'r Prif Weinidog ar y pryd. Roedd pob un ohonom yn gyfrifol am ynni, ac ni fyddai'n synnu neb yn y Siambr na thu hwnt na chyflawnodd y tri ohonom unrhyw beth gyda'n gilydd, na wnaethom gyflawni, oherwydd roedd gennym ddull tameidiog o weithredu, ac roedd gennym Weinidogion yn cystadlu â'i gilydd, os mynnwch, yn hytrach na chydweithio. Felly, rwy'n credu bod rhoi'r cyfrifoldeb i un Gweinidog ynghyd â newid systemau'r Llywodraeth i adlewyrchu hynny yn benderfyniad pwysig, ac mae'n ffordd bwysig o hyrwyddo polisi. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i wneud mewn perthynas â hyn. Rwyf hefyd yn derbyn y pwyntiau a wnaeth mewn dadl gynharach, ac sydd wedi'u gwneud mewn mannau eraill, am natur anfoddhaol y setliad. Nid wyf am geisio ailadrodd y dadleuon hynny eto y prynhawn yma.

Ond mae'n ymddangos i mi, o ystyried ein sefyllfa a natur y setliad heddiw, fod yna ddwy rôl y gall Llywodraeth Cymru eu chwarae yn fras mewn polisi ynni. Mae'r gyntaf yn rôl fwy goddefol o ran creu trefn gydsynio a chynllunio a fydd yn galluogi eraill i wneud penderfyniadau a gaiff eu hysgogi'n fasnachol yn bennaf.

Ond a ydych yn credu, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth—? Beth all y Llywodraeth ei wneud i rymuso mwy o bobl i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yw oherwydd bod cymaint o bobl yn dweud wrthyf, 'O, byddwn wrth fy modd yn cael paneli solar, ond nid oes gennyf syniad sut i fynd ati', neu 'Byddwn wrth fy modd yn gosod pwmp gwres, ond nid oes gennyf syniad beth rwy'n ei wneud.' A oes yna ffordd y gallai'r Llywodraeth, wrth i ni symud ymlaen, geisio grymuso pobl i gymryd cyfrifoldeb eu hunain, ac annog y rhai sy'n dymuno mynd allan a phrynu'r pethau hyn i helpu, hyd yn oed os yw ond i gynhesu eu cartref eu hunain, neu fwydo i mewn i grid, y gellid annog hynny?

16:10

Mae'r Aelod dros Aberconwy yn gwneud fy ail bwynt ar fy rhan.

Y rôl gyntaf bosibl i'r Llywodraeth yw rôl fwy goddefol; mae'n darparu'r amgylchedd lle gall pobl eraill wneud penderfyniadau a gwneud buddsoddiadau. Mae'r ail rôl, rwy'n credu, yn un lawer mwy diddorol. Mae'r ffordd y fframiais y cwestiwn, wrth gwrs, yn dangos lle rwy'n sefyll, sef sbardun gweithredol i newid. Gall y sector cyhoeddus—cawsom y ddadl hon ddoe dros wariant cyhoeddus, i ryw raddau—newid telerau'r ffordd y gwnawn bethau yn ein cymdeithas. Rwy'n croesawu rhai o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a fydd yn ein galluogi i gyflawni polisi ynni sy'n canolbwyntio ar reolaeth leol ar ffurf wasgaredig.

Yn amlwg, mae angen y strwythurau grid mawr ac mae angen inni allu darparu cyflenwad llwyth sylfaenol—rwy'n deall hynny i gyd—ond mae'n rhaid inni ddeall hefyd fod Ofgem yn rheoleiddiwr arall sydd wedi methu. Un o'r problemau sydd gennym—. Dyma lle roeddwn yn anghytuno â Llywodraeth Blair nad yw perchnogaeth yn bwysig ac y gallwch gyflawni popeth drwy reoleiddio. Rwy'n credu bod perchnogaeth yn bwysig. Rwy'n credu bod ethos cwmni cyhoeddus yn bwysig, ac rwyf hefyd yn credu bod gallu cwmni cyhoeddus i ddarparu er budd cyhoeddus yn bwynt pwysig i bob un ohonom.

Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio—ac mae'r Llywodraeth yn dweud hyn mewn rhannau o'i hymateb—ar gynhyrchu ynni'n fwy lleol. Nawr, sut y gallwn ni wneud hynny? Sut y gallwn ni leihau'r risg sydd ynghlwm wrth hynny? Sut y gallwn ni ddarparu'r cyllid a fyddai'n galluogi llywodraeth leol ddiwygiedig, er enghraifft, i fuddsoddi mewn cwmnïau ynni lleol, neu gyfleoedd cyflenwi ynni cydweithredol? Credaf fod honno'n ddadl hynod ddiddorol y gallwn ei chael. Ac rwyf am erfyn ar y Gweinidog—gallaf weld bod fy amser yn dirwyn i ben—

Rwyf am fanteisio ar bob eiliad o'r cynnig hael hwnnw. Gadewch inni beidio â mynd i lawr y llwybr—. Rwyf wedi gweld cynigion yn fy etholaeth fy hun lle mae tyrbinau 180m, 650 troedfedd, yn cael eu hargymell o fewn 1km i rai aneddiadau. Dyna faint ochrau'r cymoedd yn fy etholaeth i. Mae'n ddatblygiad cwbl amhriodol, ac rwy'n credu y bydd hynny'n tanseilio cefnogaeth i faterion ehangach a phwysicach yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy.

Y pwynt rwyf am ei wneud i gloi yw: yn ymateb y Llywodraeth a'r adroddiad gan y pwyllgor, ni welsom unrhyw enghreifftiau rhyngwladol. Wyddoch chi, Ddirprwy Lywydd, gallai fod yn broblem i chi hefyd; yn fy amser i yn y lle hwn, rwyf wedi ein gweld yn meddwl llai am lefydd eraill. Rwyf wedi ein gweld yn meddwl llai ynglŷn â sut y gallwn ddysgu gwersi o lefydd eraill. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y Dirprwy Weinidog chwaraeon yn cefnogi'r tîm rygbi merched yn Seland Newydd, a chyfarfod â sefydliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol yno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny. Dylem bob amser gefnogi pobl sy'n ymgymryd â'r rôl honno. Ond sut y mae dysgu gwersi gan Ffrainc neu'r Almaen, dyweder, gan yr Alban, yr Unol Daleithiau, Canada, am ddarparu cynhyrchiant ynni sydd wedi'i leoli'n lleol a'i wreiddio'n lleol? Credaf fod cyfleoedd yno inni ddysgu a chymhwyso'r gwersi hynny yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio na fydd y Senedd a'r Llywodraeth yn swil ynglŷn ag edrych am yr enghreifftiau rhyngwladol hynny a cheisio eu cymhwyso yma yng Nghymru.

Rwy'n credu bod yna ymdeimlad o fenter ar y cyd yn y lle hwn, gyda'n gilydd, rhwng y Llywodraeth a'r Senedd, ac os gweithiwn gyda'n gilydd ar y materion hyn, rwy'n credu y gallwn gyflawni pethau gwych ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n falch o weld bod diffyg capasiti grid wedi cael ei gydnabod yn argymhelliad 6 a 7. Dyma'r rhwystr mwyaf i fynd ar drywydd ynni adnewyddadwy yng ngogledd Cymru. Nid oes prinder aelwydydd sy'n dymuno cael ynni adnewyddadwy, fel pympiau gwres ffynhonnell aer ac ynni solar ffotofoltäig, ond mae cyrraedd y grid—y gweithredwr rhwydwaith dosbarthu sy'n ei osod—yn achosi cymaint o broblemau. Rwyf wedi cael gwybod ei bod yn arbennig o anodd cael unrhyw beth o werth wedi'i dderbyn gan SP Energy Networks, ac mae'n ymddangos mai ychydig iawn o awydd sydd yna i gysylltu ynni adnewyddadwy â'u grid yng ngogledd Cymru. Maent wedi gadael ceisiadau heb eu hateb am gyhyd â chwe mis, gan ychwanegu oedi a chymhlethdodau i brosiectau.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth geisio defnyddio ynni adnewyddadwy ar dai cymdeithasol i gynorthwyo tenantiaid, gan gynnwys llety gwarchod. Roeddent eisiau gosod 300 o systemau solar ffotofoltäig y flwyddyn, ond gwrthodir caniatâd i'w gosod yn aml. Mewn achos arall yn Saltney, dair blynedd yn ôl, cyflwynwyd cais i'r gweithredwr rhwydwaith ardal ar gyfer gosod 100 o systemau solar ffotofoltäig a cafodd hwnnw ei wrthod. Y rheswm a roddwyd oedd bod angen uwchraddio'r rhwydwaith lleol. Dair blynedd yn ddiweddarach, nid oes unrhyw gynlluniau i uwchraddio ar y gweill. Gyda'r cynnydd mewn biliau tanwydd dros y cyfnod, mae gennym sefyllfa lle nad yw 103 o aelwydydd yn derbyn y buddion a fyddai'n dod yn sgil paneli solar.

Yn fuan ar ôl y cais gwreiddiol, cafodd Cyngor Sir y Fflint ddyfynbris o £33,000 am y gwaith uwchraddio, ac fe'i gwrthodwyd, yn ddealladwy, gan nad oeddent yn gallu ei fforddio. Nid yw'n ymddangos yn iawn fod angen talu gweithredwr rhwydwaith ardal i uwchraddio eu rhwydwaith eu hunain pan fyddant yn cael trydan am ddim a phan fo gweithredwyr rhwydwaith ardal eraill yn dweud nad ydynt angen taliad. Felly, mae angen cydbwyso hynny, mewn gwirionedd—pam fod Scottish Power yn dweud eu bod angen taliad, ac eraill yn dweud nad ydynt angen taliad. Digwyddiad arall gyda thai cymdeithasol gogledd Cymru oedd bod bloc o fflatiau eisiau gosod 54 o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi eu gwrthbwyso gan bŵer solar, ac unwaith eto, gwrthodwyd hyn gan SP Energy Networks. Fodd bynnag, dywedwyd wrthynt y byddent yn gallu gosod gwresogyddion storio trydan costus, a oedd yn ganlyniad llawer llai dymunol, oherwydd eu bod yn deall y dechnoleg honno yn y bôn. Felly rwy'n credu bod eu dealltwriaeth o dechnoleg yn ddiffygiol. Ambell enghraifft yw'r rhain o nifer y cefais wybod amdanynt. 

Rwy'n credu mai'r mater allweddol yw na fyddwn byth yn cyrraedd targedau arfaethedig Llywodraeth Cymru heb uwchraddio radical i seilwaith y grid a dealltwriaeth y darparwyr rhwydwaith hyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ehangu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hyn yn arbennig, gan eu bod mor hanfodol i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Rwy'n pryderu'n fawr hefyd nad yw'n ymddangos bod Prif Weinidog y DU yn credu mewn newid hinsawdd na'r argyfwng natur, a'i bod eisiau buddsoddi mewn tanwydd ffosil a ffracio—gan fynd yn groes i waharddiad ar ffracio na chaiff ei godi hyd nes y profir yn bendant nad yw'n achosi daeargrydiau. Mae arbenigwyr daeareg yn dal i fethu gwneud hyn, ond eto maent yn dal i fod eisiau bwrw ymlaen ag ef, sy'n bryderus iawn.

Roeddwn mor falch o weld yr uned beirianneg newydd yn cael ei hadeiladu yng Ngholeg Llandrillo yn Y Rhyl, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Maent yn adeiladu canolfan sgiliau ynni tyrbinau gwynt flaenllaw yno, sy'n wych. Felly fe fyddant yn arwain ar uwchsgilio prentisiaid peirianneg yng ngogledd Cymru, ond maent yn gobeithio sicrhau'r cytundeb ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr hefyd i wneud y ddarpariaeth honno yng ngogledd Cymru, sy'n wych. Diolch.

16:15

Mi fyddwn i’n licio gwneud pwynt neu ddau ynglŷn â datblygiadau ynni gwynt y môr yn y dyfodol, efo cyfeiriad yn benodol at argymhelliad 11, sydd yn gofyn am eglurhad o ba gamau y byddai’r Llywodraeth yn eu cymryd i symleiddio’r broses ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddol yn y môr Celtaidd mewn blynyddoedd i ddod. Dwi’n llongyfarch y pwyllgor am y gwaith sydd wedi mynd i mewn i’r adroddiad yma, ac sydd yn cyffwrdd â chymaint o feysydd pwysig fel hwn.  

Dwi’n darllen yn ymateb y Llywodraeth wrth iddyn nhw dderbyn yr argymhelliad hwn eu bod nhw'n edrych ar y broses o drwyddedu a chydsynio, ac ati, sydd yn bwysig iawn, a dwi’n croesawu hynny. Dwi’n falch o weld cyfeiriad at y ffaith bod trafodaethau yn digwydd efo Ystad y Goron, sydd yn gwbl, gwbl allweddol, a dwi’n ategu’r angen yn fan hyn i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros Ystad y Goron i Gymru.

Ond, mi hoffwn i holi’r Gweinidog ynglŷn â’r angen hefyd i sicrhau datblygiad y seilwaith ehangach yna a all ganiatáu i ni fanteisio yn economaidd i’r eithaf ar ynni adnewyddol. Dwi yn credu bod hynny’n flaenoriaeth, a dwi’n frwd iawn—fydd y Gweinidog ddim yn synnu o glywed hynny—dros ddatblygu porthladd Caergybi fel porthladd i wasanaethu’r genhedlaeth nesaf o brosiectau ynni gwynt y môr oddi ar arfordir Cymru. Dwi yn gweld bod yna gyfle go iawn yn fan hyn i greu swyddi, i ddod â buddsoddiad, i roi defnydd cynaliadwy hirdymor i hen safle Alwminiwm Môn, nid yn unig fel canolfan wasanaethu’r ffermydd gwynt nesaf, ond hefyd ar gyfer cynhyrchu. Felly, mi fyddwn i'n croesawu clywed gan y Gweinidog y math o gefnogaeth a'r math o ymrwymiad mae hi'n barod i'w roi i geisio gwireddu potensial porthladd Caergybi yn y ffordd yma. 

16:20

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a diolch yn fawr i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad gwerthfawr iawn. Mae'r argyfwng a nododd y Cadeirydd yn ei ragair yn amlwg wedi dyfnhau, fel y dywedodd, ac mae'r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn parhau o ganlyniad i gamreoli economaidd Llywodraeth y DU hollol ddi-drefn yn rhywbeth yr ydym eisoes wedi'i drafod nifer o weithiau heddiw yn barod. Rwy'n dal i orfod edrych ar fy ffôn i weld pwy yw'r Gweinidog cyfrifol. 

Ond mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rhywfaint o help gyda chostau ynni yn hwyr yn y dydd, ond mae'r sicrwydd ynghylch y mesurau hynny wedi diflannu fel un o'r nifer o droeon pedol a ddilynodd cyllideb ddi-drefn y Torïaid fis diwethaf, fel y buom yn ei drafod ychydig yn gynharach. Mae costau ynni'n dal i fod yn sylweddol uwch na'r gaeaf diwethaf, hyd yn oed gyda'r cymorth hwnnw. Ceir llawer o aelwydydd a busnesau na chânt gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae gennym gyfraddau llog uwch a phunt wannach erbyn hyn, sy'n codi chwyddiant i lefelau nas gwelwyd ers y 1980au a'r llywodraeth Geidwadol fwyafrifol ddiwethaf.  

Mae'r DU wedi gweld rhai o'r codiadau mwyaf yng nghostau ynni, er gwaethaf dibyniaeth uniongyrchol gymharol gyfyngedig ar gyflenwadau nwy o Rwsia, a hynny'n uniongyrchol oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddiwygio system ynni'r DU dros y degawd diwethaf. Ceir risg y bydd y methiant hwn yn ein gorfodi i fod yn ddibynnol ar danwydd ffosil, fel sy'n cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiadau enbyd gan Lywodraeth y DU ar ei bwriad i ehangu trwyddedau olew a nwy newydd ym môr y Gogledd, a hwyluso gwaith ffracio newydd yn Lloegr. Hoffwn ailadrodd unwaith yn rhagor, rydym yn gwrthwynebu'r ddau fesur hwn yn chwyrn, a bydd ein polisïau'n parhau i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i wrthwynebu unrhyw echdynnu newydd yng Nghymru.  

Mae'r system bresennol wedi caniatáu i fusnesau mawr yn y sector ynni gynhyrchu ffawdelw digynsail, a dylai Llywodraeth y DU fod yn targedu'r enillion ffawdelw ar draws y sector ynni cyfan i ariannu'r cymorth i aelwydydd a busnesau. Mae'n anodd dirnad beth ddaeth dros Lywodraeth y DU i ddiystyru trethu ffawdelw yn y sectorau olew a nwy. Ni allaf ddirnad ai ideoleg yw hi neu a ydynt wedi paentio eu hunain i gornel wleidyddol nad ydynt yn gwybod sut i ddod ohoni.

O ystyried y troeon pedol diweddar a chyflwr truenus cyllid cyhoeddus o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau a wnaethant, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt ar echdynnu tanwydd ffosil ar fyrder, Ddirprwy Lywydd, oherwydd nid esgus dros leihau uchelgais ar gyfer system ynni decach a gwyrddach yw'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng, mewn gwirionedd, yn mynnu ein bod yn rhoi camau pellach ar waith i fynd i'r afael â methiannau'r degawd diwethaf, tra byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed rhag y cythrwfl economaidd Torïaidd hwn. 

Sefydlwyd yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy i nodi cyfleoedd a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n peryglu ein huchelgais i Gymru o leiaf ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain o ffynonellau adnewyddadwy, er, yn amlwg, byddem yn hoffi bod yn allforiwr net hefyd. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i aelodau'r archwiliad dwfn am eu gwaith ystyrlon, ac am eu cefnogaeth barhaus wrth inni weithredu'r argymhellion. 

Gydag uchelgais clir ar waith, byddwn yn ymgynghori ar dargedau ynni adnewyddadwy diwygiedig yn ddiweddarach eleni, yn unol â'n hymrwymiadau, fel y'u nodir yn 'Cymru Sero Net'. Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn briodol y rôl y gall targedau ei chwarae yn helpu i ddod â mwy o eglurder i ddiwydiant, rhanddeiliaid ac i'r holl ddinasyddion ar y llwybr i system ynni sero net. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod gan Gymru doreth o adnoddau naturiol sy'n golygu ein bod yn gallu cynhyrchu ynni i ateb y galw mewn mannau eraill. Ond os ydym am ddefnyddio ein hadnoddau, rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n diogelu ein treftadaeth naturiol ac sy'n cadw cymaint â phosibl o fudd a gwerth yng Nghymru, gan rannu'r costau a'r gwobrau'n deg, fel y mae nifer fawr o'r Aelodau wedi dweud yn ystod y ddadl hon. 

Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o ymrwymiadau o'r archwiliad dwfn; rydym wedi cyhoeddi ein canllawiau ar berchenogaeth i gefnogi'r trafodaethau rhwng datblygwyr a chymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau perchnogaeth leol a chymunedol; rydym wedi cynyddu'r adnoddau i Ynni Cymunedol Cymru a'r cyllid sydd ar gael drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol; ac rydym yn parhau i fwrw ymlaen â gwaith ar gwmni datblygu ynni adnewyddadwy mewn dwylo cyhoeddus, fel y gwnaethom ymrwymo i'w wneud yn 'Cymru Sero Net'.

Hoffwn nodi, Janet, eich amheuaeth yn eich cyfraniad am gwmni sy'n eiddo i'r wladwriaeth ar gyfer y DU neu i Gymru, ond wrth gwrs, caiff y grid ei ddarparu gan Scottish Power yng ngogledd Cymru, ac eironi'r hyn a ystyriwch yn gwmni preifat sy'n eiddo i wlad wahanol—yr un peth ar gyfer ynni, yr un peth ar gyfer y rheilffyrdd, yr un peth ar gyfer yr hyn a elwir gennych yn sector preifat—byddwn yn hoffi pe baech yn callio ac yn deall bod y gwledydd hynny'n elwa o ddiffyg uchelgais ein Llywodraeth ar gyfer ei phobl ei hun. Nid ydym yn rhannu'r diffyg uchelgais hwnnw. Byddwn yn cyflwyno manylion am ein cynlluniau ar gyfer cwmni datblygu mawr mewn dwylo cyhoeddus yr wythnos nesaf, a sut y byddwn yn datblygu perthynas newydd gyda'r sector preifat i gyflawni'r nod hwnnw. 

Rydym eisiau cefnogi sector ynni adnewyddadwy preifat sy'n ffynnu ac sy'n darparu'r gwerth economaidd a chymdeithasol y gall buddsoddiad ei gynnig i Gymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, lle mae gennym weledigaeth gyffredin ar gyfer y modd y bydd buddsoddiad o fudd uniongyrchol i bobl Cymru. Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn, Rhun, fy mod wedi cael trip pleserus iawn i Wynt y Môr, ond fe gawsom drafodaeth adeiladol iawn gyda datblygwr yno ynglŷn â sut y gallwn ymgorffori trefniadau ynni cymunedol yn y system honno, a bydd hynny'n gwella'r holl system ar draws gogledd Cymru. Rhaid inni sicrhau'n bendant fod y ffrydiau cyflenwi, ar gyfer cam adeiladu a cham gweithredu'r datblygiadau sector preifat hynny—er, unwaith eto, mae 'sector preifat' mewn dyfynodau—yn dod i Gymru, felly rwy'n benderfynol iawn o wneud hynny. Ond rydym hefyd yn benderfynol o gynnwys rhaglen perchnogaeth gymunedol yn y datblygiadau preifat hynny drwy gwmni datblygu mawr.

Mae ein trefniadau cydsynio a chynllunio a thrwyddedu yno i gefnogi datblygiadau priodol ac i osgoi effeithiau annerbyniol ar bobl a'r amgylchedd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y prosesau sy'n penderfynu ar geisiadau yn addas i'r diben ac nad ydynt yn oedi penderfyniadau'n ddiangen, ond nad ydynt yn effeithio'n ddiangen ar ein hamgylchedd ychwaith. Mae ein rhaglen waith i symleiddio'r prosesau cydsynio a sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gefnogi datblygwyr yn mynd rhagddi. Byddwn yn nodi casgliadau'r adolygiad annibynnol o drefniadau cydsynio morol erbyn diwedd eleni, ac fel y mae llawer o'r Aelodau wedi dweud, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil cydsyniad seilwaith cyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Rhan allweddol o'r seilwaith sydd ei angen arnom yw digon o gapasiti grid, fel y mae pawb, fwy neu lai, wedi'i gydnabod. Mae'n amlwg nad yw'r system bresennol, gyda'r cyfrifoldeb wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU, yn addas i'r diben. Braidd yn drasig, ac ychydig cyn y traed moch go iawn a ddilynodd dros y ffin, roeddwn newydd siarad â'r Gweinidog ar y pryd, Greg Hands, ac o'r diwedd roeddent wedi derbyn yr angen am grid wedi'i gynllunio a gweithredwr system rhwydwaith uwch. Siaradais â phennaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU y bore yma, i bwysleisio'r ffaith ein bod eisiau i'r ymrwymiad hwnnw barhau. Mae'n ymddangos i mi fod cyswllt â Llywodraeth bresennol y DU yn amhosibl oherwydd nid ydynt yn aros yn y swydd yn ddigon hir ichi allu cael eu cyfeiriad. Ond os cawn unrhyw synnwyr o bwy sy'n gyfrifol amdano, byddwn yn gwthio hynny. Mae gennyf gyfarfod grŵp rhyng-weinidogol wedi'i drefnu ar gyfer dydd Llun. Roedd i fod i gael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaeredin; mae'n rhithiol erbyn hyn, oherwydd nid ydym yn gwybod pwy yw'r Gweinidog a fydd yn mynychu o Lywodraeth y DU. Ond byddwn yn gwthio i sicrhau parhad yr ymrwymiad i weithredwr system rhwydwaith uwch a grid wedi'i gynllunio, oherwydd dyna sydd ei angen arnom. Rydym wedi bod yn gwthio am hynny ers cyn cof; rwyf wedi bod yn siarad am hyn ers 40 mlynedd yn bersonol. Sut y gallwn gael grid wedi'i lywio gan y farchnad mewn amgylchiadau lle nad oes marchnad weithredol, hynny yw, mae'n anghredadwy. Felly, byddwn yn gwthio am hynny. Er hynny, nid dim ond gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hynny rydym ni; mae gennym brosiect grid Cymru ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, felly byddwn yn arwain ar hynny. Rydym wedi mabwysiadu dull strategol o weithredu ar seilwaith y grid, wrth inni ddarparu'r dystiolaeth empirig ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar y grid yng Nghymru, er mwyn llywio anghenion gweithredwr system.

Roedd yr archwiliad dwfn yn cydnabod yr angen parhaus am ddull gweithredu strategol i Gymru yn yr argymhelliad ar gyfer pensaer system; rydym yn ystyried honno fel un elfen mewn set ehangach o ddiwygiadau sydd eu hangen ar lefel y DU i reoleiddio'r system ynni i ddod yn faes mwy deinamig, effeithlon a chynaliadwy. Rydym yn gweithio ar wahân [Torri ar draws.]—ni fydd gennyf amser yn awr, mae fy amser wedi dirwyn i ben—gydag CNC ar y cyllidebau a'r Bil cynllunio seilwaith, ac rwyf am ddweud wrth Janet fy mod yn falch o weld ei bod wedi cefnogi datganoli Ystadau'r Goron, ac rwy'n edrych ymlaen at gael fy nghopïo i mewn i'w llythyr at y Gweinidog.

16:25

Nid yw'n bwynt o drefn, ond fe wnaf ganiatáu ichi wneud ymyriad os ydych chi eisiau gwneud hynny.

Diolch yn fawr, a diolch am dderbyn yr ymyriad. Ni chlywais beth a ddywedodd Alun. Ni wneuthum ddweud yn onest fy mod yn ei gefnogi; nid oeddwn yn golygu hynny beth bynnag.

Rydych chi'n ei dynnu'n ôl. Tro pedol arall gan y Ceidwadwyr, yma ar lawr y Senedd. [Chwerthin.]

Felly, Ddirprwy Lywydd, mae fy amser wedi dod i ben yn awr, er fy mod wedi derbyn nifer o ymyriadau. Yn y tymor byr sydd ar gael, rwyf wedi nodi rhai o'r camau allweddol a gymerwyd gennym yn unol ag argymhellion y pwyllgor. Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyfer holl argymhellion yr archwiliad dwfn, fel y cydnabu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae angen inni weithredu ar y cyd ar draws nifer o feysydd yng Nghymru—gweithredu gan fusnesau, mewn cymunedau, a'r camau sy'n galw ar Lywodraeth y DU i ysgwyddo ei siâr o'r cyfrifoldeb. Mae angen inni weithredu ar frys i gyweirio'r farchnad doredig, er mwyn diogelu defnyddwyr y gaeaf hwn a sicrhau ein bod yn symud yn gyflym oddi wrth danwydd ffosil ac yn adeiladu system ynni sero net wydn a chynaliadwy. Ac rwyf am gloi drwy ddiolch unwaith yn rhagor i'r pwyllgor am ei waith gwerthfawr. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Gwnaf i ddim ailadrodd popeth mae pawb wedi'i ddweud; mae yna beryg o wneud hynny weithiau wrth gau dadl fel hyn, ond dim ond i bigo rhai o'r prif themâu. Yn sicr, mae'r neges ynglŷn â thrwyddedu a chaniatadau yn dod trwyddo'n glir. Ar drwyddedu ar y môr, dwi'n ymwybodol bod, yn Lloegr, y Llywodraeth yn ymrwymo i leihau'r amserlen ar gyfer trwyddedu i 12 mis. Rŷn ni'n gwybod am enghreifftiau yn yr Alban lle mae’r Llywodraeth yn fanna wedi trwyddedu prosiectau mawr o fewn 11 mis. Felly, rŷn ni'n edrych nawr i Lywodraeth Cymru i wybod ble mae Cymru yn mynd, ac rôn i'n falch o glywed bod yna gyhoeddi efallai ar ganlyniadau gwaith sydd wedi digwydd ddiwedd y flwyddyn. Ond, wrth gwrs, eto, diwedd y flwyddyn—mae yna risg ein bod ni'n colli cyfle fan hyn a bod y cyfleoedd mawr y mae'r gwledydd eraill o'n cwmpas ni yn eu cofleidio yn mynd i fod wedi cael eu colli erbyn inni gyrraedd y pwynt lle rŷn ni'n barod. 

Mi oeddwn i'n mynd i groesawu datganiad llefarydd y Ceidwadwyr eu bod nhw bellach o blaid datganoli Ystad y Goron. Mae hi bellach wedi egluro nad ydyn nhw o blaid hynny. Mae’n amlwg bod u-turns yn nodwedd y mae’r Ceidwadwyr yn falch iawn ohonyn nhw ac mae'r u-turn yna yn gynt hyd yn oed na rhai o rai Liz Truss yn yr wythnosau diwethaf. Ond, dyna fe, dwi ddim yn gwybod, rhyw bolisi—. Wel, cewch chi esbonio pam neu le rŷch chi'n sefyll efallai rhywbryd eto.

Mae yna gyfraniadau eraill wrth gwrs oedd wedi cyfeirio at bwysigrwydd ein bod ni'n cael rheolaeth dros ddewis y dyfodol ynni rŷn ni eisiau ei weld yng Nghymru, yn hytrach na bod eraill yn gwneud hynny drostyn ni, oherwydd rŷn ni'n gweld y legacy sydd wedi cael ei adael yng nghyd-destun glo a chyd-destunau eraill. Ond, ar yr un pryd, wrth gwrs, mae cydbwyso'r ehangu ynni adnewyddadwy yna gyda atal dirywiad bioamrywiaeth yn rhywbeth rŷn ni i gyd yn ingol ymwybodol ohono fe.

Roedd Alun Davies yn dweud, mewn gwirionedd, does yna ddim lot o wahaniaeth, efallai, rhwng beth mae’r pwyllgor yn ei ddweud a beth mae’r Llywodraeth yn ei ddweud. Y rhwystredigaeth fawr yw, wrth gwrs, fod y pwyllgor a’r pwyllgorau o'n blaenau ni wedi bod yn dweud hyn ers 10 mlynedd a rŷn ni dal yn gorfod ei ddweud e. Ac rwy'n derbyn bod yna nifer o'r elfennau hynny y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, ac mae rhywun yn cydnabod hynny. Ond mae yna deimlad o fenter ar y cyd—y joint venture yma yr oedd Alun yn sôn amdano, a rwy'n credu sydd yn rhywbeth y dylem ni fod yn adeiladu arno fe. Ond hefyd y joint venture go iawn rŷn ni eisiau ei weld yw rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn datgloi’r potensial rŷn ni eisiau ei weld.

Diolch i Rhun am gyfeirio’n benodol at y seilwaith, wrth gwrs, sydd yn gwbl ganolog i’r hyn sy’n gyrru llawer o’r weledigaeth rŷn ni eisiau ei weld, ac y mae porthladd Caergybi—fel Aelod rhanbarthol, gallaf ddweud y byddwn i'n cytuno 100 y cant. Fel cadeirydd y pwyllgor, byddwn i'n dweud, wrth gwrs, fod yna borthladdoedd ar draws Cymru rŷn ni eisiau gweld yn manteisio ar hyn. Ond, wrth gwrs, mae'r holl werth ychwanegol a fydd yn dod yn sgil y cadwyni cyflenwi ac yn y blaen—hynny yw, dyna’r gôl, yntefe? Hynny yw, rŷn ni eisiau gwireddu yr holl fuddiannau—nid dim ond y datgarboneiddio, ond y buddiannau economaidd a'r buddiannau cymdeithasol fydd yn gallu dod yn ei sgil e. Felly, dyw cyflawni un o'r rheini—dyw hwnna ddim yn llwyddiant; mae'n rhaid inni gyflawni ar bob un o'r ffryntiau yna.

Ac mae’r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs: mae unrhyw fath o sicrwydd o fewn y sector yn yr hinsawdd rŷn ni'n ffeindio ein hunain yng nghyd-destun cyflwr Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn heriol eithriadol. Ac mae yna adroddiadau, onid does, fod y bleidlais ynglŷn â ffracio yn mynd i fod yn rhyw fath o bleidlais o hyder, neu fel arall, yn y Prif Weinidog. Wel, efallai fod hynny’n wir, ond, i mi, yn bwysicach na hynny, mi fyddai pleidlais felly yn bleidlais o hyder, neu ddiffyg hyder, yng nghenedlaethau’r dyfodol. Anghofiwn ni am unigolion, ond mi fyddai fe'n arwyddocaol iawn dwi'n credu ac yn ddatganiad clir o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod newid hinsawdd yn rhywbeth sydd bellach ddim yn flaenoriaeth, a hynny, fel rôn i'n dweud, lai na blwyddyn ers uwchgynhadledd COP.

Felly, diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau. Mae hwn yn ddarn o waith wrth gwrs fydd yn parhau o safbwynt y pwyllgor. Mi fyddwn ni'n parhau i graffu ar waith y Llywodraeth yn y cyd-destun yma ac mi fyddwn ni'n parhau i fod yn feirniadol pan fo angen, ond i fod yn gefnogol hefyd er mwyn trio cael y maen i'r wal. Diolch.

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Comisiynu Cartrefi Gofal

Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood.

Cynnig NDM8104 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad: Comisiynu Cartrefi Gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch am y cyfle i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol o adroddiad y pwyllgor ar y mater hwn, adroddiad a wnaeth sawl argymhelliad allweddol mewn maes cymhleth, gyda'r nod o wneud y system yn fwy teg i bawb. Bu'r ymchwiliad yn ystyried adroddiad cryno cenedlaethol Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Comisiynu Cartrefi Gofal'.

Clywodd y pwyllgor gan amrywiaeth o randdeiliaid ynghylch hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal, gan gynnwys tystiolaeth lafar gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a Llywodraeth Cymru ei hun. Cafodd y pwyllgor gyflwyniadau ysgrifenedig hefyd gan amrywiaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ac eraill, a diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad pwysig hwn.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion, mae'r pwyllgor yn nodi bod ei hymateb i'w weld yn codi cwestiynau ynglŷn â'u dealltwriaeth o rai o'r materion, er bod y rhain wedi'u nodi'n glir yng nghyfraith gyfredol Cymru a'r canllawiau. Pryder, felly, yw'r ffaith bod yr ymateb yn arwydd o arafwch y broses o ddiwygio polisi yn y meysydd hynny ac yn benodol, arafwch y broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleisiau defnyddwyr gwasanaethau wrth ystyried diwygio polisi yn y maes, lle mae profiadau byw trigolion yn dystiolaeth hanfodol fel rhan o unrhyw broses ddiwygio. Dylai eu lleisiau fod yn ganolog i waith grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru a'r grŵp annibynnol sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaeth gofal cenedlaethol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn gan nodi bod y grŵp arbenigol annibynnol yn cynnwys unigolion o ystod o gefndiroedd amrywiol. Clywodd y pwyllgor y dylai argymhellion y grŵp annibynnol fod wedi dod i law Gweinidogion ddiwedd Ebrill, ond bod oedi wedi bod. Nid yw'n eglur o ymateb Llywodraeth Cymru beth yw statws cyfredol gwaith y grŵp a phryd y bydd yn cyflwyno'i adroddiad. Felly, byddwn yn croesawu eglurder gan y Gweinidog ar hyn, o ystyried y rôl bwysig sydd gan y grŵp yn hyrwyddo diwygio polisi yn y maes hwn.

Yn anffodus, nid yw'r naratif sy'n cyd-fynd â derbyn yr argymhellion hyn yn ddigon i gyflawni argymhelliad y pwyllgor a darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei hun, sy'n mandadu dull cydgynhyrchiol, ac rwy'n dyfynnu:

'Rhaid i unigolion a’u teuluoedd allu cymryd rhan lawn yn y broses o ddewis a chyflawni eu canlyniadau llesiant drwy broses sy’n hygyrch iddyn nhw.'

Mae hyn yn wahanol i'r dull ymgynghorol a ddisgrifir yn ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, er enghraifft, yn disgrifio cydgynhyrchu fel hyn

'Nid gair yn unig, nid cysyniad yn unig mohono, ond meddyliau'n dod ynghyd i ganfod ateb ar y cyd.'

Fel y dywedant:

'Mae gwahaniaeth rhwng cydgynhyrchu a chymryd rhan: mae cymryd rhan yn golygu ymgynghori, tra bod cydgynhyrchu yn golygu bod yn bartneriaid cyfartal a chyd-grewyr.'

Mae cydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus go iawn gyda defnyddwyr a chymunedau yn ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill yn well—yn yr achos hwn, i boblogaeth sy'n heneiddio. Nid yw'n ymwneud ag ymgynghori â rhanddeiliaid ar ôl i bolisi gael ei ddatblygu, ni waeth pwy oedd yn rhan o ddatblygu'r polisi hwnnw. Rwy'n gofyn am sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod ei grŵp arbenigol yn cyrraedd y rhai y mae'n fwyaf perthnasol iddynt ac yn eu cynnwys yn y broses o greu a darparu gwasanaeth sy'n gweithio i bawb, nid dim ond ymgynghori â hwy wedyn.

Mae'n destun pryder nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn arwain ar y dull hwn, er gwaethaf bwriad darpariaethau cydgynhyrchu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y bûm yn gweithio gyda'r Dirprwy Weinidog ar y pryd, Gwenda Thomas, ar ei ddatblygu, ac yn fwyaf arbennig, nid yn unig y Ddeddf ei hun ond y codau ymarfer perthnasol, sy'n gwbl glir yn hyn o beth. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad y pwyllgor yn ei holl waith yn y maes hwn yn y dyfodol ac i weithredu darpariaethau cydgynhyrchu diamwys y Ddeddf a'i chodau ymarfer.

Daeth y pwyllgor i'r casgliad hefyd y dylid gwneud mwy i gefnogi ac annog cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y sector cartrefi gofal, i gynnig gwasanaethau ansawdd bywyd i ddefnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, rhaid i rôl gwirfoddolwyr beidio â bodoli yn lle gofal cyflogedig proffesiynol, amser llawn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn a darparodd fwy o wybodaeth am brosiect peilot diweddar i geisio recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi darpariaethau ymweld diogel rhwng preswylwyr a pherthnasau yn ystod y pandemig. Caiff y pwyllgor ei galonogi o glywed bod nodau'r prosiect peilot cychwynnol hwn i'w hehangu, a byddem yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu cytuno i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn.

Un o brif gasgliadau'r pwyllgor oedd y dylid gwneud mwy i sicrhau telerau ac amodau a chyflog cydradd â staff y GIG, gyda'r bwriad o gadw staff a bod yn gystadleuol gyda diwydiannau neu sectorau eraill, megis y diwydiant lletygarwch. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn a chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ddweud pryd fydd y cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol, a gyhoeddwyd gan y Living Wage Foundation ar 22 Medi, ar gael i ddarparwyr trwy awdurdodau lleol, lle deëllir bod derbynwyr yn dal i gael £9.90 yr awr yn unig ar hyn o bryd.

Mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod gwaith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n edrych ar amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach yn ei chynigion i sicrhau trefniadau cydradd â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â sectorau eraill. Rydym yn croesawu ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i werthuso gwaith ymgyrch recriwtio Gofalwn.Cymru. Mae'r pwyllgor hefyd yn croesawu gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru yn dysgu sut y mae darparwyr gofal cymdeithasol yn recriwtio gweithwyr gofal a'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth wneud hynny. Rydym yn edrych ymlaen at glywed mwy am eu gwaith, wedi iddo gael ei gwblhau fis Ebrill nesaf.

Ar archwiliadau cartrefi gofal, anogir y pwyllgor i glywed am yr ymdrechion i adlewyrchu barn defnyddwyr gwasanaethau yn ystod eu harolygiadau, ond mae'n credu y dylid gwneud mwy i ehangu'r rhan hon o'r broses arolygu. Er bod y pwyllgor yn cael ei annog i nodi bwriad Arolygiaeth Gofal Cymru neu AGC i archwilio pob cartref gofal cofrestredig i oedolion yn y cyfnod rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2023, mae'n bryderus nodi efallai na chyflawnir y nod hwn. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru felly i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar gynnydd AGC ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben, ac ar sut y mae'n cydymffurfio â'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn adroddiad pryderus iawn gan y comisiynydd pobl hŷn ar y pryd.

Mae'r pwyllgor yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi dewis gwrthod tri argymhelliad, yn enwedig yr argymhelliad ar ffioedd ychwanegol. Roeddem yn bryderus iawn am natur y ffioedd hyn a'r ffordd y cânt eu cyfleu i ddefnyddwyr gwasanaethau. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod defnyddwyr gwasanaethau'n gorfod talu ffioedd ychwanegol ar gam, gan olygu bod rhai o'n dinasyddion mwyaf bregus yn wynebu costau am wasanaethau sylfaenol. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth y pwyllgor fod defnyddwyr gwasanaethau'n aneglur ynghylch pa wasanaethau y byddai'n rhaid talu ffioedd ychwanegol amdanynt, ac aeth rhagddi i ddatgan bod teuluoedd wedi gofyn am gymorth gan ei swyddfa oherwydd,

'biliau annisgwyl, sydyn am ffioedd ychwanegol, yn eithaf aml ar gyfer pethau y byddech chi'n disgwyl iddynt fod yn y ffi safonol'.

Dywedodd y comisiynydd wrthym fod defnyddwyr gwasanaethau wedi gorfod talu am gael mynediad i'r ardd, er enghraifft. Felly, rydym yn anghytuno'n gryf â gosod ffioedd ychwanegol ar gyfer cael mynediad at wasanaethau a hawliau sylfaenol, a daethom i'r casgliad y dylid gwneud mwy i dynhau'r rheolau sy'n gysylltiedig â'r ffioedd ychwanegol hyn, ynghyd â system gwneud iawn annibynnol newydd er mwyn caniatáu i benderfyniadau gael eu herio. Yn anffodus, dewisodd Llywodraeth Cymru wrthod yr argymhellion hyn, gan ddweud bod canllawiau clir ar waith fel rhan o'r fframwaith gofal iechyd parhaus, gan wahardd ffioedd ychwanegol am wasanaethau sylfaenol. Fodd bynnag, mae arbenigwyr y sector wedi dweud wrth y pwyllgor fod yr arferion niweidiol hyn yn parhau i ddigwydd.

Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn gweithio ac nid ydynt yn glir ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr. Rydym yn cwestiynu'r hyn sy'n cael ei wneud i fonitro a gwerthuso effaith y fframwaith hwn, pan fo'n amlwg o ymateb Llywodraeth Cymru nad yw i'w gweld yn ymwybodol nad yw'r canllawiau hyn yn cael eu dilyn, er gwaethaf y dystiolaeth i'r gwrthwyneb yn ein hadroddiad. Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru yn gadarn iawn i adolygu'r mater ar frys, ac fel rhan o'r adolygiad hwnnw, i weithio gyda defnyddwyr a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli, fel Fforwm Gofal Cymru, Age Cymru a'r comisiynydd pobl hŷn, ymhlith eraill, i ddatblygu dull newydd o weithredu ffioedd ychwanegol sy'n gweithio i'r sector gofal cymdeithasol, ac yn bwysicach fyth, i'w ddefnyddwyr.

Hefyd, fe wrthododd Llywodraeth Cymru gynnig y pwyllgor ynghylch gorfodaeth i rannu gwybodaeth ar draws y sector cartrefi gofal, gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau. Roedd y pwyllgor wedi dod i'r casgliad y dylai'r wybodaeth hon gael ei rhannu ar lefel genedlaethol, er mwyn sicrhau bod gan bob parti fynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol, yn gysylltiedig â'r saith nod llesiant i Gymru. Yn eu hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor nad oeddent am fandadu rhannu gwybodaeth gan nad oeddent yn ystyried 'cost uchel' gweithredu'r darpariaethau hyn fel un a fyddai'n arwain at greu

'budd cymesur o ran datblygu data ar ben y mesurau yr ydym eisoes wedi'u cymryd ac sydd wrth law.'

Hoffai'r pwyllgor wybod, felly, sut y cyfrifodd Llywodraeth Cymru y 'gost uchel' hon, a beth oedd y cyfrifiad yn ei ddangos. Mae'n destun gofid fod Llywodraeth Cymru yn gweld gweithredu darpariaeth o'r fath fel cost yn hytrach na buddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol a ddylai arwain at fanteision o ran costau a gwell corff o wybodaeth, gan gynnwys llais profiad bywyd, i ddylanwadu ar lunio polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol.

Clywodd y pwyllgor gan brif weithredwr Fforwm Gofal Cymru am yr heriau sy'n gysylltiedig â chasglu gwybodaeth ar draws ffiniau awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gyda galw am wybodaeth wahanol mewn fformatau gwahanol. Byddai system genedlaethol yn symleiddio'r broses ac yn darparu corff cynhwysfawr o wybodaeth i seilio penderfyniadau ynghylch arbed costau yn y sector yn y dyfodol. Mae'n destun pryder felly fod Llywodraeth Cymru wedi diystyru casgliadau'r pwyllgor yn y maes. Bydd y pwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru, ac fel arall edrychwn ymlaen at drafodaeth bellach gyda hwy ar y pwnc hwn, a byddwn yn monitro gweithrediad ein hargymhellion yn ofalus. 

16:45

Mae'r ymchwiliad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn amserol yn fy marn i. Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan bwysig yn y ddarpariaeth gofal i bobl hŷn yn bennaf, ond nid pobl hŷn yn unig. Mae'n cynnwys nifer fawr o ddarparwyr. Mae rhai yn ddarparwyr gyda mwy nag un safle, eraill ond ag un cartref, a cheir rhai darparwyr mawr, ond mae pob un ohonynt yn darparu gofal i unigolion. Mae pob un o'r rhain yn bwysig.

Nid yw'n uchelgais gan neb i fynd i gartref gofal, ond bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon heddiw yn mynd i gartref gofal yn y pen draw, a bydd mwy fyth ohonom ag aelod o'r teulu mewn cartref gofal naill ai nawr neu yn y dyfodol. Felly, mae gan bob un ohonom ddiddordeb personol mewn cael hyn yn iawn. Bwriad adroddiad y pwyllgor oedd archwilio a thynnu sylw at yr heriau a wynebir ym maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r nod o wneud y system yn decach i bawb. Rwy'n credu bod 'teg' yn air y mae angen inni ei ddefnyddio'n amlach, oherwydd dylai popeth fod yn deg. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiaeth a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido gofal, lleoedd mewn cartrefi, yr anhawster a wynebir i ddenu a chadw staff i'r diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes hwn.

Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried llais defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'u gwaith diwygio polisi yn y maes. Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y maent wedi ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd fel rhan o waith y grŵp arbenigol ar ofal cymdeithasol. Rwy'n cefnogi'r alwad y dylai'r grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'i waith, ac fel rhan fawr o'i waith, byddwn i'n dweud. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar sut y caiff hyn ei gyflawni fel rhan o'i hymgynghoriad yng ngwanwyn 2023. Yn rhy aml, caiff pethau eu gwneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, caiff pethau eu gwneud ar eu cyfer, pethau y mae pobl yn meddwl a fydd yn dda iddynt. Yn rhy aml, mae hyn yn seiliedig ar y gred mai 'gweithwyr proffesiynol sy'n gwybod orau', yn hytrach na'r unigolion a'u teuluoedd. Ac nid ym maes gofal yn unig; mae'r un peth yn digwydd ym maes iechyd.

Yn rhan o'r gwaith o ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried beth arall y gellir ei wneud i adolygu cyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr gofal, i sicrhau eu bod yn gydradd â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â diwydiannau eraill fel y diwydiant lletygarwch. Heb gyflogau ac amodau cydradd, bydd y sector yn parhau i wynebu problemau recriwtio a chadw staff. Mae iechyd a gofal yn galw am lawer o'r un sgiliau. Mae iechyd yn talu'n well, ac mae'n cael ei ystyried yn bwysicach gan wleidyddion a'r cyhoedd. Gofal yw perthynas tlawd y gwasanaeth iechyd a gofal mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn poeni llawer amdano, felly nid ymgais ar fy rhan i ladd ar y Gweinidog yw hyn, oherwydd mae gennym Weinidog sy'n deall pwysigrwydd y system ofal mewn gwirionedd ac sydd wedi ymrwymo i'r system ofal. Ond mae staff cartrefi gofal yn gadael i weithio yn y gwasanaeth iechyd, gan greu problem prinder staff mewn cartrefi gofal. A pham na fyddent yn gwneud hynny? Nid yw'n ymwneud â thâl bob amser, ond pam na fyddai pobl yn gadael am swydd sy'n talu'n well? Ac yn enwedig yn y cyfnod yr ydym ynddo yn awr pan fo pobl o dan bwysau ariannol, mae llawer i'w ddweud dros symud i swydd sy'n talu'n well. Gallai olygu eich bod yn rhoi'r gwres ymlaen hanner awr ynghynt, gallai olygu eich bod yn cael tri phryd y dydd nid dau, neu ddau bryd bwyd y dydd nid un. Felly, mae'n bwysig iawn fod y cyflog yno. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi siarad am hyn ac rwy'n gwybod bod ymrwymiad y Dirprwy Weinidog iddo mor fawr â fy un i, ond mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei sicrhau, nad gofal yw'r perthynas tlawd. Mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi derbyn yr angen i godi cyflogau, yr hyn sydd ei angen yn awr yw gweithredu ar godi cyflogau i'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal.

Mae angen i Lywodraeth Cymru fandadu dull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth ar draws y sector cartrefi gofal, yn enwedig gwybodaeth am brofiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau, yn gysylltiedig â'r saith nod llesiant i Gymru. Dylai'r gofyniad gorfodol i rannu gwybodaeth gael ei weithredu ar lefel genedlaethol i sicrhau bod darparwyr, defnyddwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru yn cael mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol. Mae angen rhannu data hefyd, ac yn bwysicach efallai, rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chartrefi gofal. Yn rhy aml o lawer, mae gan bawb eu system eu hunain, mae pawb yn dweud nad ydynt yn cael rhannu, ac rydym yn cael dau ateb ar hynny: mae naill ai'n costio llawer neu nid yw GDPR yn ei ganiatáu. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr i ofyn yn rhagweithiol am ganiatâd defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd i rannu gwybodaeth; pan fydd pobl yn darparu gwybodaeth, eu cael i gymeradwyo rhannu gydag iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwasanaethu'r cartref gofal. Byddai hyn yn caniatáu rhannu data, yn union fel y ffordd y mae pawb ohonom yn caniatáu i ddata gael ei rannu gan sefydliadau yr ydym yn ymwneud â hwy. Rydym yn ticio'r bocs, 'A gawn ni rannu data?' Mae angen inni gael y bocs yno pan fo pobl mewn mannau iechyd a gofal.

Rwy'n rhannu pryder y pwyllgor ynghylch codi ffioedd ychwanegol ac yn cefnogi'r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfyngiadau rhwymol er mwyn cyfyngu ar y meysydd lle codir ffioedd o'r fath, a dylid eu cadw mor isel â phosibl a'u cyhoeddi. Soniodd Mark Isherwood yn gynharach am godi tâl am bethau fel defnyddio gardd y cartref gofal; mae hynny'n annheg ac yn anghywir. Ac yn olaf, rwy'n falch iawn fod yr archwilydd cyffredinol wedi archwilio'r sector cartrefi gofal a bod y pwyllgor wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gwrando arnom.

16:50

Daw'r adroddiad hwn ar gomisiynu cartrefi gofal yn sgil adolygiad yr archwilydd cyffredinol a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd, o'r enw 'Darlun o Ofal Cymdeithasol'. Mae'r adolygiad hwn wedi edrych ar y sector gofal cymdeithasol cyfan ledled Cymru ac mae wedi nodi tri mater allweddol a heriau hirsefydlog i'r sector. Yn flaenaf ymhlith y rhain y mae'r angen i gyflawni cynaliadwyedd ariannol a threfniadau cyllido. Honnai fod cynnydd ar fynd i'r afael â heriau wedi bod yn araf a bod y pandemig wedi gwneud yr angen am newid hyd yn oed yn fwy dybryd. Yn wir, dywedodd yr archwilydd cyffredinol yn glir, er bod y pandemig wedi amlygu breuder gwasanaethau gofal ar draws Cymru, roedd y rhan fwyaf o'r problemau yn bodoli'n barod i ryw raddau.

Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion yn debygol o gynyddu'n sylweddol, ac rwy'n gwybod bod fy nau gyd-Aelod wedi tynnu sylw at hynny. Mae platfform amcanestyniad poblogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos, o 2020 i 2040, y rhagamcanir y bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau byw bob dydd yn cynyddu i 34 y cant. Yn wyneb yr heriau hyn, archwiliodd y pwyllgor y gwaith o gomisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn gyda'r bwriad o gryfhau'r sector a'i wneud yn fwy teg. Edrychwyd ar hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth, yn ogystal ag amrywiadau cyllido a materion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelodau eisoes.

Ar hygyrchedd, cafodd y pwyllgor ei arwain gan yr egwyddor o symleiddio'r broses ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. Dywedodd adroddiad cryno cenedlaethol yr archwilydd cyffredinol fod mynediad pobl hŷn at gartrefi gofal yn gymhleth ac yn anodd ei lywio, ac nid yw'n deg fod pobl oedrannus a'u teuluoedd yn gorfod ymdopi â hynny. Nododd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod ansawdd cyffredinol cartrefi gofal yn amrywio ac adroddodd Age Cymru am broblemau lle nad oes gofal ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ar gyllido, fe wnaethom geisio darganfod y rhesymau dros yr amrywio yn y gwariant ar ofal preswyl a chostau gofal iechyd wythnosol parhaus. Unwaith eto, os caf ddyfynnu'r archwilydd cyffredinol, gall dulliau o ariannu'r sector cyhoeddus ar gyfer gwahanol agweddau ar ofal greu rhaniad ymhlith partneriaid. Mae'r tirlun cyllido ar gyfer gofal cymdeithasol yn gymhleth iawn ac yn ddryslyd oherwydd y ffrydiau ariannu amrywiol y gallai unigolyn fod yn gymwys ar eu cyfer. Gwn ein bod i gyd yn cefnogi cydraddoldeb yma ar draws y pleidiau yn y Senedd, ond mae'n rhaid inni gael cydraddoldeb i'r henoed yma ledled Cymru. Fy mhryder mwyaf yw bod y safonau'n amrywio, gyda chleifion sy'n cael eu hariannu'n breifat yn gallu cael mynediad at lety o ansawdd llawer gwell.

Ar recriwtio a chadw staff, nododd y pwyllgor fod gweithwyr yn cael eu colli i'r diwydiannau manwerthu a lletygarwch am fod lefel uwch o gyflog yn cael ei gynnig a llai o bwysau gwaith. Roedd staff hefyd yn cael eu colli i'r GIG am yr un rhesymau.

Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, rydym wedi gwneud 13 o argymhellion, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno—gyda fy nghyd-Aelodau, gan eu bod hwy wedi crybwyll hyn hefyd—fod 10 wedi cael eu derbyn. Hoffwn eich annog, felly, Weinidog, i ailystyried o ddifrif eich gwrthwynebiad i argymhelliad 8 yn benodol, ynglŷn â'r angen am ddull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth er tryloywder ac i sicrhau mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol.

Yn anffodus, mae ein hargymhellion 11 a 12 ar godi ffioedd ychwanegol wedi eu gwrthod. Yng Nghymru, er ein bod i gyd yn sôn am gydraddoldeb a thegwch i bawb, mae'n drist iawn nad yw'n amlwg mewn gofal i'r henoed yma yng Nghymru. Mewn tystiolaeth, dywed Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod defnyddwyr gwasanaethau'n aml yn ansicr ynglŷn â'r hyn a fydd yn galw am ffioedd ychwanegol ac nad yw gwir gost gofal wedi ei deall yn llawn o ganlyniad i hynny. Mae angen iddynt gael hynny yn ei le, Weinidog. Hoffwn ofyn ichi edrych unwaith eto ar y mater hwn i roi sicrwydd fod codi ffioedd ychwanegol yn digwydd yn enw cydraddoldeb, tegwch a thryloywder yn y dyfodol.

Felly, Weinidog, mae'r bwriad yno'n llawn yn nodau'r adroddiad hwn i sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fwy hygyrch, yn llai cymhleth ac yn decach i unigolion agored i niwed a'u teuluoedd. Rwy'n credu'n wirioneddol ei fod wedi llwyddo yn ei nodau ac rwy'n ei gefnogi'n llawn, ond rhaid edrych eto ar y meysydd a wrthodwyd gan na allwn anwybyddu'r boblogaeth gynyddol sy'n heneiddio yng Nghymru. Diolch.

16:55

Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i siarad ar y pwnc yn y Senedd.

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw clir at yr heriau sy'n wynebu maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r bwriad o wella'r system fel ei bod yn fwy teg i bawb. Mae'n deg dweud bod yr heriau sy'n wynebu'r sector yn eang ac yn bellgyrhaeddol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiadau a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido lleoedd mewn cartrefi gofal, yr anawsterau a wynebir wrth ddenu a chadw staff yn y diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes.

Nod argymhellion yr adroddiad yw mynd i'r afael â rhai o'r materion pwysig, ac o'u rhoi ar waith, bydd yn helpu i gryfhau a symleiddio'r broses o gomisiynu cartrefi gofal. Mae gwelliannau o'r fath yn bwysig i bob un ohonom, gan fod gofal cymdeithasol yn wasanaeth sy'n cyffwrdd â bywydau unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru. Yn anffodus, am wasanaeth sydd mor hanfodol, nid yw gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi hanner digon. Nid yw gweithwyr yn cael y parch y maent yn ei haeddu a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y telerau ac amodau gwael. Mae'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn sôn am gyflwyno'r cyflog byw, ond fel y casglodd TUC Cymru, nid yw'n ddigon. Mae'n werth nodi y daethpwyd i'r casgliad hwn y llynedd, ac ymhell cyn i gamreoli economaidd gan y Torïaid yn San Steffan waethygu'r argyfwng costau byw, sydd wedi gwneud gofal cymdeithasol yn llai deniadol.

Caiff gweithwyr gofal gam oherwydd pethau heblaw cyflogau hefyd: mae'r telerau ac amodau'n wan. Fel y nododd y TUC hefyd, nid oes gan filoedd o weithwyr gofal yn y sector allanol hawl cytundebol i dâl salwch priodol. Maent yn amcangyfrif nad yw oddeutu 5 y cant o staff hyd yn oed yn gymwys i dderbyn tâl salwch statudol. Ar wahân i anfoesoldeb hyn, mae'n anochel y bydd y sefyllfa'n arwain at weithwyr sâl yn dod i gysylltiad â phobl fregus am na allant fforddio cymryd diwrnod yn absennol oherwydd salwch. Sut y gall hyn ddigwydd yn yr unfed ganrif ar hugain?

Gellid datrys nifer o'r problemau a nodwyd yn yr adroddiad drwy uno rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn wedi bod yn bolisi hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rwy'n falch fod yna symud tuag at y nod hwn yn sgil y cytundeb cydweithio a gafwyd rhyngom ni a'r Llywodraeth. Ni all yr ymrwymiad i gael adroddiad gan grŵp arbenigol i archwilio'r gwaith o greu gwasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim lle mae ei angen, fel gwasanaeth cyhoeddus parhaus, ddod yn ddigon buan. Drwy integreiddio gweithwyr iechyd a gofal, gallwn wella'r gydnabyddiaeth yn ogystal â'r tâl y mae'n hen bryd i weithwyr gofal cymdeithasol ei gael.

Rhaid imi sôn hefyd am ddiffyg capasiti ysbytai cymunedol yn y GIG, sy'n cael effaith ganlyniadol ar ofal cymdeithasol yn ogystal â'n gwasanaeth iechyd. Yr wythnos diwethaf, soniodd fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru Rhun ap Iorwerth am y gostyngiad yn nifer y gwelyau ysbyty yng Nghymru, o oddeutu 20,000 ar ddiwedd y 1980au i ychydig dros hanner hynny ar hyn o bryd. Gall tranc yr ysbyty cymunedol egluro'r duedd ar i lawr yn rhannol, ac mae'n cael effaith enfawr ar y GIG, gan achosi tagfeydd mewn ysbytai a mannau eraill. Rwy'n deall yr ymdrech i drin mwy a mwy o bobl gartref, gan y byddai'n well gan lawer o bobl hynny, ond i rai nid yw'n briodol, os nad ydynt yn ddigon iach neu fod ganddynt broblemau symud sy'n cyfyngu ar eu gallu i fyw gartref. Mewn amgylchiadau o'r fath, heb becyn digonol ar waith, byddant yn aros yn yr ysbyty. Byddai gwely ysbyty cymunedol yn ateb llawer gwell. Nid yw'r gwelyau hyn yn costio cymaint â gwelyau ysbytai cyffredinol dosbarth, ac rwy'n adleisio galwad Rhun ar y Llywodraeth i edrych i mewn i'r mater ar frys. Diolch yn fawr.

17:00

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Mark Isherwood, aelodau'r pwyllgor a staff am gynnal ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad y comisiynydd yn ôl ym mis Rhagfyr 2021. Mae cartrefi gofal ar draws Cymru angen lefelau staffio uchel a staff ymroddedig er mwyn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion. Er bod nifer o ofalwyr yn darparu'r gofal ymroddedig sydd ei angen, mae hefyd yn bwysig tynnu sylw at rôl nyrsys mewn cartrefi gofal yn darparu gofal mewn amgylchiadau heriol a chymhleth. Yn yr un modd, mae'n bwysig tynnu sylw at y modd y mae nyrsys mewn cartrefi gofal yn chwarae rôl yn lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty, sy'n cefnogi gweithrediad y GIG ac yn rhyddhau mwy o welyau yn ein hysbytai.

Mae'n anffodus mai tua dau o bob pum cartref gofal sy'n darparu nyrsys, ac rwy'n credu'n gryf y dylai Llywodraeth Cymru annog cael mwy o nyrsys mewn cartrefi gofal. Rwy'n cydnabod bod argyfwng recriwtio nyrsio ehangach yn y GIG yng Nghymru, ac nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei ddatrys dros nos, ond mae'n dangos bod rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â methiant i recriwtio a methiant i gadw staff nyrsio. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylid poeni am allu cartrefi gofal i ddarparu gofal o safon uchel yn sgil prinder difrifol. Er y byddai gennym nyrsys ym mhob cartref gofal mewn byd delfrydol, ni ellir gwireddu hynny ar hyn o bryd.

Rhaid inni gydnabod y ffordd gywir yr aeth y pwyllgor ati i gydnabod rôl gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda gofal preswylwyr cartrefi gofal, ond ni ddylent fod yn cymryd lle staff proffesiynol ar gyfer darparu gofal sylfaenol. Er y gall gwirfoddoli roi sgiliau i bobl ifanc ddechrau ar yrfa gydol oes mewn gofal, rhaid peidio â'u defnyddio yn lle staff proffesiynol tra bo'r Llywodraeth yn ceisio hybu recriwtio a chadw staff.

Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan hanfodol yn sicrhau bod yr henoed a'r rhai sydd fwyaf o angen gofal yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn amgylchedd diogel a chartrefol. Ond un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cartrefi gofal ar hyn o bryd yw recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol. Mae angen inni wneud gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol. Fel y crybwyllwyd yn nadl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ryddhau cleifion o'r ysbyty yr wythnos diwethaf, mae staff gofal cymdeithasol yn gweithio mwy na 9 i 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, maent yn gweithio ar benwythnosau, nosweithiau, oriau anghymdeithasol, ac yn cysgu i mewn. Maent angen i Lywodraeth Cymru gefnogi eu galwadau hwy a fy ngalwadau innau am well tâl i weithwyr gofal cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru'n codi yn y Siambr hon ac yn canmol eu hunain am dalu'r cyflog byw go iawn, ond nid yw £9.90 yn ddigon, yn enwedig o ystyried y pwysau costau byw presennol a wynebwn. Gweithwyr gofal cymdeithasol yw rhai o'r gweithwyr sy'n cael y cyflogau isaf yn y farchnad lafur, er gwaethaf eu hymroddiad i helpu ein pobl fwyaf bregus. Pe bai Llywodraeth Cymru'n rhoi'r gorau i ariannu meysydd awyr a hoff brosiectau, efallai y gallai ymdrechion i gysoni cyflogau staff gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG fod yn fwy cyraeddadwy. Rwy'n credu ei fod yn gyraeddadwy, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu mynd i'r afael â hyn eto yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma.

Os gallwn dalu'n iawn i'n nyrsys, ein gweithwyr gofal cymdeithasol a'n staff rheng flaen, byddwn yn gwneud y sector yn fwy deniadol, a byddwn hefyd yn gwella llawer o'r pryder ehangach ynghylch gofal iechyd wrth inni ymrafael â phroblem oedi wrth drosglwyddo gofal a rhoi'r gofal sydd ei angen ar bobl pan fyddant fwyaf o'i angen. Mae'n rhedeg drwy'r system gyfan, Ddirprwy Lywydd. Os gallwn wella cyfraddau rhyddhau cleifion i gartrefi gofal, byddwn yn rhyddhau gwelyau ysbyty, yn gwella amseroedd aros mewn adrannau brys ac yn chwarae ein rhan yn gwella amseroedd aros ambiwlansys. Nid wyf yn ceisio dweud mai dyma'r un llwybr diffiniol i ddatrys holl broblemau'r byd, ond rwy'n sicr yn credu y bydd yn mynd yn bell i helpu rhai o'r problemau cronig sy'n ein hwynebu yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru ac ar draws Cymru gyfan. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol a gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Diolch

Diolch. Rydw i yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon.

Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y ddadl hon heddiw ac fel y gwyddoch, rydym yn hapus iawn i dderbyn y mwyafrif o argymhellion y pwyllgor.

Mae gan yr adroddiad ffocws clir a chywir ar werthuso a monitro effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a rhoi llais a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau ynghanol y system. Yn ogystal â'r astudiaethau gwerthuso a gyflawnwyd gennym, asesir cydymffurfiaeth â'r Ddeddf gan y rheoleiddwyr AGC ac AGIC, a ategir gan fframwaith gwella perfformiad cenedlaethol ac adroddiadau awdurdodau lleol. A thrwy ein diwygiadau ailgydbwyso, byddwn yn sicrhau bod hyn yn esblygu ymhellach.

Mae defnyddwyr a gofalwyr yn ein helpu i lunio'r rhaglen ailgydbwyso drwy'r gwahanol grwpiau gorchwyl a gorffen, gan gynnwys un yn edrych yn benodol ar gydgynhyrchu, ymgysylltu a llais ar draws y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Edrychir ar allbynnau'r grwpiau hyn yn y gwanwyn. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ailgydbwyso ar ymgysylltu a llais yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gydgynhyrchu offer a safonau i wella ymgysylltiad a chyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, a bydd y gwaith yn cael ei adlewyrchu yn y fframwaith comisiynu cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu.

Hefyd, cafodd profiadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau eu hystyried gan y grŵp arbenigol, a oedd yn cynnwys unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd a sefyllfaoedd. Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor imi adrodd ar ba mor bell yr oedd y grŵp hwn wedi cyrraedd, ac rwy'n falch o ddweud bod yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn hyn. Mae yn y broses o gael ei gyfieithu, a bydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, ym mis Tachwedd. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r unigolion a gymerodd ran yn y grŵp hwnnw. Pan fydd yr adroddiad wedi'i ystyried gan Weinidogion ac Aelod dynodedig Plaid Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae hwn yn rhan greiddiol o'n cytundeb cydweithio, bydd cyfnod o ymgynghori helaeth i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cael ei gydgynhyrchu. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod yr ymgyngoriadau hyn yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a'r trydydd sector, a grwpiau cymunedol sy'n cynrychioli eu barn a'u profiadau.

Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymgorffori llais defnyddwyr gwasanaethau mewn arolygiadau. Rhwng Hydref 2021 ac Awst 2022, cynhaliodd AGC 705 o arolygiadau o 614 o gartrefi gofal i oedolion, a threuliodd 9,181 o oriau ar safleoedd, yn darparu cyfle i siarad yn uniongyrchol â'r preswylwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae honno'n rhan allweddol o'r hyn y mae AGC yn ei wneud: ceisio ymgysylltu'n uniongyrchol â'r trigolion. Mae AGC hefyd yn chwilio am dystiolaeth fod gan bobl lais yn y modd y caiff eu cartref ei redeg, sydd, unwaith eto, yn bwynt pwysig iawn.

Mae AGC yn ymwybodol iawn o effaith barhaus y pandemig ar ofal cymdeithasol, ac mae'r pwysau ar staffio yn ei gwaethygu. Pan fo AGC yn canfod canlyniadau gwael, maent yn galw am weithredu a byddant yn dychwelyd i wirio gwelliannau a wnaed. Gallai archwiliadau ychwanegol o'r fath ohirio cwblhau'r rhaglen a gynlluniwyd, ond y nod o hyd yw bod wedi archwilio'r holl gartrefi gofal cofrestredig i oedolion rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2023. Gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddyliau'r pwyllgor.

Mae llawer o'r Aelodau wedi sôn am recriwtio, cyflogau a thelerau ac amodau, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw—ac mae llawer o bobl wedi sôn heddiw—at yr angen i fynd i'r afael â'r materion dybryd hyn. Mae'r rhain i gyd yn cael eu hystyried gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n dod â phartneriaid allweddol o bob rhan o'r sector ynghyd i ddod o hyd i atebion uchelgeisiol, pragmatig a chyraeddadwy, ac i sicrhau newid go iawn a pharhaol. Mae'r fforwm wedi canolbwyntio ar welliannau i gyflogau i gychwyn, gan gynnwys cyngor ar sut i symud ymlaen â'r ymrwymiad i dalu'r cyflog byw go iawn i holl staff gofal, ac rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn wedi'i gefnogi gan gyllid o £43 miliwn eleni. Gofynnodd y cadeirydd am y cynnydd i'r cyflog byw go iawn, ac mae hynny'n rhywbeth sydd dan ystyriaeth gennym ar hyn o bryd. Wrth gwrs ein bod am ei dalu, ond rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol nad yw'r amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd yn galonogol iawn. Ond mae hyn yn rhywbeth y byddem yn sicr eisiau ei wneud. 

Mewn perthynas â recriwtio, rydym yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau gwerthusiad cadarn o ymgyrch Gofalwn.Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisoes wedi comisiynu gwaith ymchwil ar ddulliau recriwtio cyflogwyr gofal, gan gynnwys eu hymwybyddiaeth o'r ymgyrch a'i heffaith, a bydd hwnnw'n cael ei gwblhau ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n meddwl ei bod yn anodd sefydlu pa mor llwyddiannus yw ymgyrchoedd recriwtio penodol pan fo gennym gymaint o ddarparwyr yn darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru oherwydd y nifer fawr o gartrefi gofal yn y sector annibynnol.

Mae'r adroddiad yn cydnabod y potensial ar gyfer defnyddio mwy o wirfoddolwyr mewn cartrefi gofal, rhywbeth y mae nifer o'r Aelodau wedi'i grybwyll, ac yn ein hymateb ysgrifenedig fe wnaethom fanylu ar y gwaith a wnawn gyda'n partneriaid i ehangu rôl, cyrhaeddiad a sgiliau gwirfoddolwyr yn y lleoliadau hyn ac i dyfu eu niferoedd. Rwy'n awyddus iawn i annog gwirfoddolwyr i ymwneud mwy â chartrefi gofal ac ystyriaeth allweddol fydd sicrhau bod rôl gwirfoddolwyr yn glir ac yn briodol, ac yn canolbwyntio ar werth ychwanegol.

Rydym yn cytuno'n llwyr fod rhaid i brofiadau dinasyddion fod yn sail ac yn ysgogiad i bob gwelliant yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol, ac rydym yn derbyn yr egwyddor sy'n sail i argymhelliad y pwyllgor y dylid cyflwyno gofyniad gorfodol ychwanegol i rannu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi ar hyn o bryd fod costau gweithredu hyn ar draws cannoedd o ddarparwyr yn gorbwyso'r manteision y tu hwnt i'r mesurau rhannu gwybodaeth sydd eisoes ar waith. Fodd bynnag, mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried yn y dyfodol. Ar ffioedd ychwanegol, byddwn yn pryderu'n fawr os oes unrhyw unigolyn yn talu am ofal lle mae'r gofal hwnnw eisoes yn cael ei ddarparu am ddim drwy'r pwrs cyhoeddus, ac rwy'n nodi'r sylwadau a wnaeth sawl Aelod ynghylch gorfod talu ffioedd ychwanegol i gael mynediad i'r ardd, sy'n gwbl hurt. Felly, rwy'n credu y byddai hynny'n gwbl anghywir.

Mae canllawiau clir eisoes ar wasanaethau ychwanegol yn y fframwaith gofal iechyd parhaus, a rhaid peidio byth â defnyddio trefniadau cyfraniadau personol o'r fath fel mecanwaith ar gyfer sybsideiddio'r gwasanaeth y mae'r GIG yn gyfrifol amdano. Felly hefyd, nid ydym yn credu ei bod yn briodol ymrwymo i ddiwygiadau i reoliadau ar ben y rhain, na chychwyn system gwneud iawn annibynnol newydd, cyn ystyried adroddiad gan y grŵp arbenigol ar y gwasanaeth gofal cenedlaethol. Byddai angen inni ystyried yn ofalus sut y mae unrhyw gywiriadau canlyniadol y gallem eu gwneud i'r rheoliadau a'r fframweithiau presennol yn gweddu i gyd-destun unrhyw system newydd, felly nid ydym yn teimlo y gallwn dderbyn yr argymhelliad hwnnw yn awr.

Yna, yn olaf, mewn perthynas â chyllid cyfun ar gyfer comisiynu, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau integredig wedi bod yn adolygu'r trefniadau presennol fel rhan o'n rhaglen ailgydbwyso, ac yn fwyaf arbennig maent wedi ystyried adroddiad Archwilio Cymru ar gomisiynu lleoliadau cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn. Byddant hefyd yn adolygu effaith y pecyn cymorth a gydgynhyrchwyd gyda rhanddeiliaid. Bydd argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhan o'r pecyn ymgynghori y gwanwyn nesaf.

Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr i'r pwyllgor am ei adroddiad, sy'n adroddiad gwerthfawr iawn yn fy marn i. Mae'n amlwg fod llawer i'w wneud. Mae llawer o waith yn parhau, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'n partneriaid ar yr agenda hon drwy'r gwahanol grwpiau a sefydlwyd gennym. Fe fyddwn yn cadw'r argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud mewn cof, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl ar y rheini i'r pwyllgor wrth iddynt fwrw ymlaen. Diolch.

17:10

Diolch. Mae'n rhaid i mi fod yn fyr, gan fod amser yn brin, ond diolch yn fawr i'r holl gyfranwyr.

Mike Hedges, fel y dywedoch chi, roedd yr ymchwiliad hwn yn amserol. Er ei fod yn cynnwys pobl hŷn yn bennaf, nid yw'n ymwneud â phobl hŷn yn unig; dylai popeth fod yn deg, ac mae angen inni symud o wneud pethau i, neu ar gyfer pobl, i wneud pethau gyda hwy.

Pwysleisiodd Natasha yr angen am sefydlogrwydd ariannol lle mae'r dirwedd ariannu yn gymhleth ac yn ddryslyd ac mae staff yn cael eu colli i'r sectorau manwerthu a lletygarwch.

Soniodd Peredur Griffiths am yr angen i symleiddio'r broses ar gyfer comisiynu cartrefi gofal, ac am ddiffyg capasiti ysbytai cymunedol. Mae hynny'n mynd a fi'n ôl at yr ymgyrch a gafodd ei hennill i ddechrau ac yna'i cholli, yn nhrydydd tymor y Senedd, Ysbytai Cymunedol yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd, CHANT Cymru. Fe wnaethom ddal y lein am gyfnod byr ond yna fe wnaethant eu cau. Ond nid y Gadair sy'n siarad nawr—am eiliad, roeddwn i'n Aelod annibynnol. Iawn. [Chwerthin.]  

Cyfeiriodd Gareth Davies at bwysigrwydd rôl nyrsys, a phwysigrwydd recriwtio a chadw staff hefyd.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb. Cyfeiriodd at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a soniodd am astudiaethau gwerthuso'n cael eu cynnal, a defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn helpu Llywodraeth Cymru i lywio hyn drwy grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae angen inni wybod sut y mae'r grwpiau hynny'n cydymffurfio ag egwyddorion cydgynhyrchu, sy'n ymwneud â gwneud amser i arbed amser, a throi'r peth pŵer wyneb i waered. Sut y mae hynny'n adeiladu gwytnwch a chapasiti cymunedol, fel y gall pobl fod yn bartneriaid a chyd-grewyr gwirioneddol gyfartal? 

Fel y dywedodd yr ymateb ysgrifenedig sydd gennym gan Lywodraeth Cymru, pan fydd adroddiad y grŵp arbenigol yn cael ei ystyried gan Weinidogion a'r Aelod dynodedig, bydd cyfnod helaeth o ymgynghori, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, fel rhan o'r broses i ddatblygu cynllun gweithredu. Mae hwnnw'n gwbl wahanol i Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a'i godau ymarfer. Ble mae'r egwyddorion gofal darbodus go iawn—egwyddorion cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar ac atal? 

Ac ar yr argymhellion a dderbyniwyd ac a wrthodwyd fel ei gilydd, rwy'n falch o glywed peth o ymateb y Dirprwy Weinidog, ond rwy'n dal i deimlo efallai fod yna ddiffyg, sydd i'w weld mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn mannau eraill yng Nghymru, o ran deall yn iawn beth y mae llais profiad bywyd, yr arbedion costau y gellir eu cynhyrchu drwy hynny a rhannu gwybodaeth yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac os ydym yn gwneud hynny'n iawn, sut y gallwn wella bywydau go iawn, adeiladu cymunedau cryfach ac yn y pen draw, nid ychwanegu costau ond arbed costau hefyd. Diolch. 

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl'

Eitem 8 sydd nesaf. 

Y drafodaeth am ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion canser metastatig y fron yng Nghymru ar ôl'. Rwy'n ymwybodol fod y deisebydd yn y Senedd; hoffwn ei chroesawu, ac fe fydd hi'n gwrando'n astud ar y ddadl. 

Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jack Sargeant. 

Cynnig NDM8103 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl’, a gasglodd 14,106 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. 

Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y ddeiseb, 

P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion canser metastatig y fron yng Nghymru ar ôl' a gafodd 14,106 llofnod. 

Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei bod hi'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Canser Eilaidd y Fron ddydd Iau diwethaf. Mae'r diwrnod yn nodi bod y ffordd y gwnawn ddiagnosis, y ffordd yr ydym yn trin, y ffordd yr ydym yn cefnogi a'r ffordd yr ydym yn gofalu am ganser eilaidd y fron wedi bod yn rhy araf yn rhy hir. Rwy'n credu y gall y ddadl hon heddiw wneud cyfraniad pwysig tuag at dynnu sylw at rai o'r heriau a wynebwn yma yng Nghymru. Yn ôl gwerthusiad o gymorth a gofal i gleifion a gafodd ddiagnosis o ganser metastatig y fron yn 2019, gwneir diagnosis o 2,786 achos newydd o ganser y fron bob blwyddyn, gyda 612 o farwolaethau cysylltiedig yng Nghymru bob blwyddyn—612, Ddirprwy Lywydd. Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud mai canser y fron yw prif achos marwolaeth mewn menywod rhwng 35 a 64 yn y DU erbyn hyn. Mae'r ddeiseb hon yn galw am newid. Mae'r ddeiseb yn nodi fel a ganlyn:

'Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth. Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch ar gyfer canser y fron metastatig.'

Ddirprwy Lywydd, cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tassia Haines, sy'n un o nifer o gleifion, ymgyrchwyr a chefnogwyr yma y prynhawn yma, yn gwylio yn yr oriel gyhoeddus, a hoffwn eu croesawu i Siambr y Senedd. Cefais y fraint o gyfarfod Tassia ddydd Llun, ac rwyf am dalu teyrnged i'r ymroddiad a'r dewrder y mae hi wedi'i ddangos drwy godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr dinistriol hwn, a thrwy neilltuo cymaint o'i hamser i ymgyrchu dros welliannau a fydd ond o fudd i eraill.

Nawr, rwy'n gwybod bod y Dirprwy Lywydd, Dai Rees, yn rhannu fy sylwadau am Tassia, gan ei fod wedi gweithio'n agos gyda hi yn ei rôl ei hun fel Aelod o'r Senedd dros Aberafan. Fel y dywed Tassia, yn ei llythyr agored at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n dyfynnu, Ddirprwy Lywydd:

'Yn anffodus, bûm yn byw gyda chanser metastatig y fron ers dros ddwy flynedd er mai dim ond deg ar hugain oed ydw i. Rwy'n cael triniaeth gan ddau fwrdd iechyd ac wedi cyfarfod â phobl sy'n cael triniaeth o bob cwr o Gymru, ac yn anffodus mae'n rhaid imi eich hysbysu fod Cymru'n methu pan ddaw'n fater o ddiwallu anghenion cleifion canser metastatig y fron, yn ôl yr hyn a welwn ni—y bobl sy'n marw o'r clefyd a'r bobl agos sy'n cefnogi'r rhai sydd â chanser metastatig y fron.'

Mae deiseb Tassia, a'r ymgyrch ehangach, yn galw am dri pheth. Yn gyntaf, casglu data gwell am bobl sy'n byw yng Nghymru gyda chanser eilaidd y fron nad oes modd ei wella. Ar hyn o bryd, nid yw System Gwybodaeth Rhwydwaith Canser Cymru yn adrodd ar nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis o'r clefyd metastatig. Mae'r ymgyrch hon yn gofyn am system ganolog i Gymru a fydd yn casglu manylion holl gleifion canser eilaidd y fron yn y wlad. Yn ail, gwell ymwybyddiaeth o symptomau baner goch canser metastatig y fron. Ceir diffyg dealltwriaeth ymhlith cleifion canser cynradd y fron ynglŷn â sut i ddweud bod canser wedi lledaenu y tu hwnt i'r fron, ac mae'r ymgyrch hon am i gleifion cynradd a meddygon teulu gael mwy o fanylion ynglŷn â sut i adnabod y symptomau baner goch hyn er mwyn gwella diagnosis cynharach. Ac yn drydydd ac yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, gwell gofal i gleifion. Mae'r ymgyrch eisiau i bob claf yng Nghymru gael mynediad at nyrs canser metastatig y fron wedi'i hyfforddi'n arbennig, sydd â llwyth gwaith yn canolbwyntio ar gleifion canser metastatig y fron yn unig, ac mae'r ymgyrchwyr yn teimlo y gall hynny fod yn gosteffeithiol i'r GIG trwy atal derbyniadau i'r ysbyty, er enghraifft.

Ddydd Llun, nid Tassia'n unig a gyfarfûm, cefais y fraint o gyfarfod â chleifion a nyrsys eraill, a bwysleisiodd fod rhaid inni ddeall, Aelodau—rhaid inni ddeall bod canser cynradd y fron a chanser eilaidd y fron yn wahanol, ac felly, mae angen darpariaeth gofal iechyd wahanol arnynt. Fe wnaethant bwysleisio bod angen cefnogaeth ar unigolion ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau pan gânt ddiagnosis o salwch terfynol, ac mae angen cefnogaeth wedi'i deilwra i unigolion trwy gydol triniaeth barhaus hyd at ofal lliniarol.

Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i hybu gwelliannau mewn gofal canser yng Nghymru. Mae safon ansawdd newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, yn amlinellu sut olwg fydd ar ofal da yn y dyfodol. Yn ddiweddarach eleni, rydym yn disgwyl gweld cynllun gweithredu ar gyfer canser dan arweiniad y GIG yn cael ei gyhoeddi, i roi rhagor o fanylion i'r weledigaeth o ofal sy'n cael ei arwain gan gleifion i ddioddefwyr canser. Ond gyda hynny i gyd mewn cof, Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed gan gyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau, cyd-Aelodau, ac wrth gwrs, gan y Gweinidog iechyd, i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes gofal canser, ac i ymateb y benodol i dair prif alwad y ddeiseb, a sut y gallwn helpu'r bobl sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch i'r Pwyllgor Busnes am y brys, gan alluogi'r ddadl hon i ddigwydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf. Gwn fod Tassia yma heddiw, a hoffwn ddiolch iddi a'i llongyfarch ar ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ganser metastatig y fron.

Tassia, ni allaf ddechrau dychmygu pa mor anodd y mae'r ymgyrch hon wedi bod i chi. Rydych chi'n ysbrydoliaeth i ni i gyd, a bydd eich llais yn siarad dros y 35,000 o bobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron ar draws y DU. Ni all gofal canser diwedd oes fod yn seiliedig ar ragdybiaethau. Mae pobl yng Nghymru yn marw nawr. Nid yw'n bosibl cynllunio gofal na chreu llwybrau heb ddata cadarn, dibynadwy. Os ydym am gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yng Nghymru, mae angen inni wybod faint yn union o bobl sy'n cael eu trin. Mae llawer ohonom wedi sefyll yn y Siambr hon ar fwy nag un achlysur yn galw am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli ym maes iechyd menywod. Mae'n ffaith mai prif achos marwolaeth ymhlith menywod rhwng 35 a 64 oed yn y DU yw canser metastatig y fron. Mynediad at arbenigwr nyrsio clinigol yw'r prif bwynt cyswllt cyson rhwng gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol. I bobl sy'n dioddef gyda chanser metastatig y fron, mae'n rhaid ystyried hyn o ddifrif.

Mae Tassia wedi rhannu llythyr agored a gefnogir gan 277 o gleifion canser metastatig y fron sy'n dweud nad yw pobl yn cael y gofal sydd ei angen. Mae dyfyniad o'r llythyr yn dweud:

'A allwch chi amgyffred sut beth yw llywio'ch misoedd/blynyddoedd olaf drwy anabledd, poen a marwolaeth? Ac yn fy achos i i fod yn rhy sâl i ddilyn gyrfa a chael teulu, ond heb fod yn ddigon sâl i farw, ddim eto?'

Oni bai ein bod ni ein hunain yn y sefyllfa honno, y gwir amdani yw na allwn ddechrau deall sut beth ydyw, ond yr hyn y gallwn ei wneud yw helpu i godi ymwybyddiaeth. Yr wythnos diwethaf, mynychais angladd ffrind annwyl, Marion Abbott, a fu farw gyda chanser metastatig y fron. Heddiw ac yfory, mae tîm Canolfan Pentre yn cynnal arwerthiant gacennau 'gwisgwch binc' i godi arian ac ymwybyddiaeth o ganser metastatig y fron er cof am Marion, ac i gefnogi'r rhai sy'n ymgyrchu, fel Tassia. Ein cyfrifoldeb iddynt hwy yw parhau i godi ymwybyddiaeth, i weithio ar frys tuag at gasglu data gwell, ac i roi ystyriaeth ddifrifol i gynyddu nifer yr arbenigwyr gofal clinigol canser eilaidd y fron, sy'n amhrisiadwy i wella gofal ac ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef o ganser metastatig y fron yng Nghymru. Diolch.

17:25

Rwyf am ddechrau drwy ddweud bod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n cytuno'n llwyr â'r galwadau a geir yn y ddeiseb hon, ac mae'r ffaith bod cymaint o lofnodion wedi'u casglu yn dangos cryfder y teimlad a geir yng Nghymru ynghylch yr angen i wneud llawer mwy i helpu'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron. Rwyf am ddiolch i Tassia a phawb sydd wedi arwyddo'r ddeiseb.

Fel y clywsom eisoes, canser metastatig y fron yw prif achos marwolaeth ymhlith menywod rhwng 35 a 64 oed yn y DU, ac mae angen gwneud llawer mwy i atal y loteri cod post o ran mynediad at ofal priodol. Mae'r ffaith mai un arbenigwr nyrsio clinigol canser eilaidd y fron penodedig sydd gan Gymru yn mynd yn groes i ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar weithwyr allweddol ar gyfer canser metastatig y fron. Mae'n sefyllfa warthus a allai fod yn gadael cannoedd o bobl heb gefnogaeth ddigonol. Ar ben hynny, rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn cael yr effaith ganlyniadol o greu'r argraff nad yw'r rhai sydd mewn grym yng Nghymru yn poeni am y rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad yw hynny'n wir.

O siarad gyda'r deisebwyr, yr hyn a'm trawodd fwyaf oedd bod llawer ohonynt yn teimlo eu bod wedi gorfod brwydro am eu diagnosis, a bod amharodrwydd i drafod yn y cyfnod cyn y diagnosis, a bod diffyg cefnogaeth a gwybodaeth sylfaenol ar ôl ei chael. 

Rydym wedi trafod prinder nyrsys a dosbarthiad anghyson o nyrsys yn adrannau GIG Cymru ac ar draws byrddau iechyd sawl gwaith yn y Siambr, ac rwy'n ofni y bydd y ddeiseb hon yn disgyn ar glustiau byddar ac yn cael ei gweld yn syml fel cwyn arall i ychwanegu at y rhestr. Ond rwyf am annog y Gweinidog i gydnabod y dylai darparu'r nyrsys arbenigol hyn fod yn fwy nag ymarfer ticio bocsys yn unig. Mae llawer o bobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yn wirioneddol ofnus am eu bywydau bob dydd, a gall cael y gefnogaeth gywir wella canlyniadau byw gyda chanser metastatig y fron yn sylweddol.

Mae'r ddeiseb hon hefyd yn gofyn am gofrestr genedlaethol o'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes digon o ddealltwriaeth o'r darlun cenedlaethol, a fyddai'n caniatáu ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gofal, a dull gwell o fesur effaith ymyriadau, ac ni allaf weld sut nad yw hyn eisoes wedi'i wneud, gyda'r holl offer technolegol sydd gennym at ein defnydd. Nid wyf yn credu bod cost yn broblem hyd yn oed—rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud mwy â chyfyngiadau ein byrddau iechyd o ran dod o hyd i'r amser a'r arbenigedd angenrheidiol i ddod at ei gilydd a llunio a gweithredu modelau casglu data a fydd yn gallu darparu tystiolaeth addas i lywio cynlluniau diagnosis a thriniaeth hirdymor.

Weinidog, dyma lle gofynnir i chi ymyrryd. Mae 'r gymuned sy'n byw gyda chanser metastatig y fron angen eich cefnogaeth. Maent angen i chi ddarparu ysgogiad i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn colli cyfleoedd hawdd i wneud diagnosis o ganser metastatig y fron gan adael y rhai sy'n dioddef ar ôl. Weinidog, pe bai cronfa ddata genedlaethol yn cael ei chreu, byddai'n helpu i wella dealltwriaeth o ganser metastatig y fron ymysg y boblogaeth, ac yn sicr byddai hyn yn helpu i ddarparu cynlluniau triniaeth gwell, yn helpu i reoli ac oedi amrywiolion penodol o'r clefyd a lleddfu symptomau, gan ganiatáu i bobl fyw'n dda am gyn hired â phosibl. Rwy'n annog pawb yma i gefnogi'r ddeiseb, ac rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu ei hargymhellion. Diolch.

17:30

I gychwyn, fel fy nghyd-aelodau o’r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddweud y dylai Tassia fod yn falch o’i gwaith ac yn falch o’i deiseb. Yn y swydd hon, ac mewn bywyd a dweud y gwir, y bobl sy'n ysbrydoli fwyaf yw'r rhai yr ydym yn cymryd eu profiadau o adfyd ac yn eu defnyddio i gael dylanwad da. Anaml y cewch bencampwyr heb greithiau. Hwy yw'r cryfaf ohonom a'r gorau ohonom, ac yn fy marn i, os oes unrhyw un wedi dilyn Tassia dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yn y newyddion, neu wedi cael y pleser o'i chyfarfod, ni chredaf y gallai unrhyw un amau ei chryfder. Hyd yn oed heddiw, mae hi wedi bod yn y Senedd yn cyfarfod ag Aelodau, yn ymgyrchu hyd yr eiliad olaf cyn y ddadl hon.

Mae Tassia ei hun yn byw gyda chanser metastatig y fron, ac mae ei phrofiadau o fyw gyda'r cyflwr wedi ei hysgogi i ymgyrchu dros ymyriadau clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron. Mae pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso'n arw gan y system. Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn frawychus nad oes gennym ffigur cywir, cyfredol o hyd o faint o bobl sy'n byw gyda chanser eilaidd y fron yn y DU ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw: pan nad ydych yn gwybod pwy sy'n fyw ac am ba mor hir, sut y gallwch nodi tueddiadau'n gywir? Sut y sicrhewch nad yw cynlluniau'n seiliedig ar ragdybiaethau? Mae cael y data cywir yn hollbwysig.

Mae rhwystredigaeth amlwg iawn ymhlith y rheini sydd â chanser metastatig y fron eu bod yn cael clywed bod y llwybrau'n bodoli a bod y gofal yn cyrraedd y safon. Ymddengys bod datgysylltiad rhwng yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei feddwl a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Dyna roddodd sbardun i'r ddeiseb hon—i'r 14,000 o bobl a’i llofnododd, i'r 277 o gleifion â chanser metastatig y fron a’r rhai sy’n rhoi gofal iddynt a lofnododd lythyr agored yn tynnu sylw at eu pryderon ynghylch gofal, ac i’r cleifion sydd wedi cyfrannu at arolygon Macmillan.

Ar hyn o bryd, dim ond un arbenigwr nyrsio clinigol canser eilaidd y fron penodedig sydd gan Gymru. Canfu ymchwil Breast Cancer Now mai 68 y cant yn unig o ymatebwyr yng Nghymru a gafodd enw nyrs glinigol arbenigol pan gawsant eu diagnosis, sy’n golygu nad oes gan filoedd fynediad at nyrs glinigol arbenigol a’r cymorth hanfodol y maent yn ei ddarparu. Roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i asesu’r angen am nyrsys canser eilaidd y fron, ond hyd yn hyn, nid ymddengys bod hynny wedi arwain at unrhyw ganlyniadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r prinder nyrsys clinigol arbenigol, gan gynnwys darparu’r buddsoddiad sydd ei angen i recriwtio a hyfforddi digon o nyrsys clinigol arbenigol i gefnogi pobl â chanser eilaidd y fron yn awr ac yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd hefyd i greu swydd nyrs canser eilaidd y fron amser llawn ym mhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru. Dywedwyd wrthyf heddiw fod Macmillan yn ariannu un o’r rhai cyntaf ym mwrdd Cwm Taf. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth.

Nod y ddeiseb hon yw gwella ansawdd bywyd i bobl â chanser metastatig y fron. Bydd ei nodau'n helpu i unioni methiannau Cymru mewn perthynas â chefnogi anghenion cleifion â chanser metastatig y fron. Dyfynnodd Buffy lythyr agored Tassia, a dyma ddilyn ymlaen o’r dyfyniad hwnnw gan Tassia:

'Nawr ystyriwch y teimlad o ofn wrth ichi sylweddoli bod y system yr ydych wedi'i chefnogi drwy gydol eich oes wedi celu gwybodaeth rhagoch a allai fod wedi atal hyn rhag digwydd, a hefyd yn gwneud i chi wynebu diwedd eich oes ar eich pen eich hun?'

Fe all ac fe ddylai Cymru weithredu’r ddau bolisi hyn, gweithredu nodau’r ddeiseb hon, er mwyn helpu i wella ansawdd bywyd y rhai sy’n byw gyda chanser metastatig y fron. Efallai mai deiseb Tassia yw hon, ond mae hi'n siarad dros gynifer o bobl.

Pan fydd cleifion canser metastatig y fron yn dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu hesgeuluso, mae'n rhaid inni gydnabod eu bod yn cael eu hesgeuluso, a hoffwn dalu teyrnged i Tassia a phawb sy'n ymgyrchu ar ran cleifion ddoe a heddiw. Ond y peth allweddol i'w gofio yma yw y bydd cleifion yn y dyfodol hefyd, a drostynt hwy y mae'r ymgyrchwyr yn ymgyrchu. Dyna pam eu bod yn deisebu. Dyna pam eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso gan ymateb presennol Llywodraeth Cymru. Gwyddom beth yw’r gofynion, gwyddom fod angen y swyddi nyrsio allweddol hynny, a gwyddom fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i roi’r cyfle i gleifion y dyfodol gael y driniaeth orau bosibl a’r gobaith gorau o oroesi.

17:35

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl hon yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Hoffwn groesawu’r deisebwyr i’r Siambr, yn enwedig Tassia, ac eraill sydd wedi ymgyrchu mor frwd ar y mater hwn. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, a hefyd i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, David Rees, y gwn ei fod wedi codi’r mater hwn gyda mi ar sawl achlysur. A hoffwn roi gwybod y byddaf yn rhoi rhywfaint o fy araith yn Gymraeg.

Mae hwn yn fater pwysig iawn, a hoffwn roi sicrwydd i’r holl bobl yng Nghymru sy’n wynebu diagnosis o ganser metastatig y fron na fyddwn yn eich gadael ar ôl ar unrhyw gyfrif. Mae llawer o’r rheini sydd eisoes wedi siarad wedi egluro’r anawsterau y bydd pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser metastatig y fron yn eu hwynebu, felly nid wyf am ailadrodd hynny, heblaw dweud fy mod yn deall, i raddau, pa mor anodd yw hi i deuluoedd yn y sefyllfa honno, gan fod teulu fy mrawd yn un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun yr effaith y mae’n ei chael, nid yn unig ar yr unigolyn sy’n dioddef, ond hefyd ar y teulu ehangach.

Ysgrifennais at y Pwyllgor Deisebau yn eithaf diweddar i egluro fy ymrwymiad i wella gwasanaethau canser ac adfer ar ôl effaith y pandemig. Ynddo, esboniais fy mod yn disgwyl i'r gwasanaeth iechyd gefnogi pobl â chanser metastatig y fron nid yn unig gyda thîm amlbroffesiynol, ond hefyd gyda mewnbwn nyrsio arbenigol yn ôl yr angen. Rwyf hefyd yn disgwyl i bawb â chanser gael asesiad cyfannol o anghenion i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Er mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw defnyddio’r gweithlu sydd ar gael iddynt yn unol â safonau proffesiynol ac mewn ffordd sy’n deg ar gyfer mathau eraill o ganser, rwy’n falch o ddweud bod canolfan ganser de-orllewin Cymru wedi cyflwyno nyrsio arbenigol ar gyfer canser eilaidd y fron, ac mae canolfan driniaeth canser gogledd Cymru yn y broses o wneud hynny. Mae trafodaethau pellach ar y gweill rhwng y GIG a’r trydydd sector ynghylch y posibilrwydd o swyddi yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda’r trydydd sector, clinigwyr y fron a byrddau iechyd i adolygu gwasanaethau canser eilaidd y fron a phrofiad cleifion. Mae wedi datblygu cyfres o argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i fwrdd y rhwydwaith eu hystyried ym mis Tachwedd.

Mae clinigwyr arbenigol Rhwydwaith Canser Cymru hefyd wedi nodi sut y dylid trin cleifion ledled Cymru mewn llwybr sydd wedi ei gytuno yn genedlaethol. Flwyddyn nesaf, byddwn ni'n cyflwyno archwiliad clinigol cenedlaethol o wasanaethau canser metastatig y fron i helpu i wella'r gofal mae pobl yn ei gael.

Felly, er eglurder, mae'r ddeiseb yn galw am well prosesau casglu data ar ganser metastatig, ac rwy'n gobeithio y bydd y deisebwyr yn falch o glywed fy mod wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gyflwyno archwiliad clinigol cenedlaethol o ganser metastatig y fron yng Nghymru. Mae darparu gwell gwasanaeth o ran data cynllunio yn un o'r rhesymau pam ein bod yn buddsoddi £11 miliwn mewn system gwybodaeth canser newydd i Gymru.

Rŷn ni wedi nodi ein dull ehangach yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser. Mae'r datganiad yn cynnwys y disgwyl y caiff y gweithlu canser ei gynllunio i fodloni'r galw a ragwelir, yn benodol o ran oncoleg glinigol a meddygol, nyrsys canser arbenigol, ffiseg feddygol, radiograffwyr a therapiwtig. Rŷn ni bellach yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd drwy ei brosesau cynllunio ac atebolrwydd i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni hyn. Ac wrth inni ddod allan o effaith y pandemig, rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar adfer gwasanaethau canser a lleihau unrhyw effaith ar ganlyniadau. Yn fwy cyffredinol, dwi am achub ar y cyfle hwn i annog pobl i leihau eu risg o ganser y fron drwy wneud yr hyn a allan nhw, megis byw bywyd iach, ac annog menywod sydd yn gymwys i gymryd rhan mewn sgrinio'r fron. Ond pan fydd angen y cymorth hwnnw ar fenywod a thriniaeth ar gyfer canser y fron, fy mwriad yw y gall y gwasanaeth iechyd ei darparu. Diolch yn fawr. 

17:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am ymateb, ac wrth gwrs, i aelodau fy mhwyllgor, Rhun ap Iorwerth, ac i Buffy am ei chyfraniad a’i theyrnged i’w ffrind agos hefyd—cyfraniadau pwerus iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Busnes am gyflwyno’r ddadl frys hon a’r ffordd y’i trefnwyd.

Lywydd, mae’n bwynt arferol imi geisio crynhoi sylwadau’r Aelodau, ond heddiw, teimlaf fod gennyf ddyletswydd bwysicach. Rwyf bob amser wedi ceisio dweud mai pwyllgor y bobl yw’r Pwyllgor Deisebau, ac rwyf wedi addo ceisio sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed—

Diolch. A fyddech yn cytuno â mi nad yw gwir arwyr ein cymdeithas yn gwisgo clogynnau, pobl fel y deisebydd ydynt, a gyflwynodd y deisebau hyn i godi materion fel hyn ar lwyfan cenedlaethol? Ac a ydych yn cytuno â mi y dylai fod mwy o gyfle i faterion fel hyn gael eu trafod yn y Senedd fel y gall pawb ledled Cymru, fel y deisebydd, ddwyn y pwyntiau hanfodol bwysig hyn i'n sylw ni fel y swyddogion etholedig yn y lle hwn?

A gaf fi ddiolch i James Evans am ei ymyriad? Cytunaf yn llwyr â James, a’r pwynt rwyf am geisio'i wneud yn awr yw nad pobl fel ni, James, pobl mewn siwtiau sy’n eistedd yn y Siambr hon, sy’n creu newid gwirioneddol, ond pobl fel Tassia. Roedd Tassia'n ddigon caredig, Weinidog, i roi rhai sylwadau i mi ar y llythyr y sonioch chi amdano, a anfonwyd ataf ar 14 Hydref: o ran llwybrau, mae gan Lywodraeth Cymru gyfres o lwybrau delfrydol, ond mae pryderon nad oes llwybr penodol ar gyfer canser metastatig y fron, a dylem geisio mynd i’r afael â hynny. Ar nyrsio arbenigol, credaf y dylem fod yn ystyriol—ac rwy'n darllen geiriau Tassia yma—dylem fod yn ystyriol wrth ddatgan nad rôl Llywodraeth Cymru yw pennu pa gyflyrau a ddylai elwa o gymorth nyrsio arbenigol penodedig, gan mai dyma'n union a wnawn gyda chyflyrau eraill.

I sôn yn fyr am yr archwiliad, rwy'n croesawu'r ffaith bod yr archwiliad wedi'i gyhoeddi, a’r £11 miliwn a gyhoeddwyd gennych heddiw yn y Siambr, ond gwn o sgyrsiau a gefais gydag ymgyrchwyr, y bydd peth rhwystredigaeth ei fod wedi cymryd gormod o amser.

Gwn fy mod yn brin o amser, felly rwyf am orffen gyda hyn, Lywydd: mae 277 o gleifion a rhai sy’n rhoi gofal i gleifion canser metastatig y fron yng Nghymru wedi llofnodi llythyr agored Tassia, y mae pob un ohonom wedi’i glywed, ac yn cytuno â’r ddeiseb. Mae Tassia a’r 14,105 o bobl eraill wedi arwyddo deiseb i wneud yn well. Yn fy ngeiriau fy hun yn awr, Lywydd, dylai’r ystadegau hyn fod yn gloch yng nghlustiau pawb yn y Siambr, a phawb sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau, y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, ac wrth gwrs, ein byrddau iechyd, y dylem i gyd eu dwyn i gyfrif. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian.

Symudwn ymlaen at eitem 9, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ardrethi busnes. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8105 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i leihau trethi annomestig i gefnogi busnesau a diogelu swyddi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Orllewin Clwyd, a chroesawaf y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heno. Mae busnesau yng Nghymru yn hollbwysig i’n ffyniant economaidd. Maent yn sbardun pwysig i dwf, gan greu swyddi a chyfoeth, ac maent yn sail i’n cymunedau, gyda llawer yn darparu gwasanaethau pwysig i bobl leol. Yn syml: eu llwyddiant hwy yw llwyddiant Cymru. Ond—ac rydym wedi clywed hyn droeon yn y Siambr a thu hwnt—mae llawer o fusnesau wedi wynebu cyfnod anodd iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O’r pandemig i’r argyfwng ynni presennol a phwysau chwyddiant, mae busnesau wedi gorfod ymdopi ag ystod o heriau sydd wedi llesteirio eu potensial.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:45

Mae'r materion hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau, megis drwy gynyddu gorbenion, ond mae iddynt effeithiau anuniongyrchol hefyd, a gwyddom y bydd yr argyfwng costau byw a chwyddiant yn lleihau pwerau gwariant dewisol, sy’n golygu bod busnesau’n wynebu ergyd arall i'w ffrydiau incwm. Mae llawer wedi ceisio amsugno'r pwysau ar brisiau dros yr ychydig fisoedd diwethaf eisoes, ond yn amlwg, nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Gwyddom fod busnesau a pherchnogion busnesau'n wirioneddol bryderus.

Croesawaf y mesurau amrywiol sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chefnogi busnesau. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, a roddodd gymorth sylweddol i fusnesau yn ystod y pandemig, yn ogystal â’r cynllun rhyddhad ar filiau ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru, fel y'i nodwyd ar yr agenda, hefyd yn rhestru’r cymorth y mae hi’n ei roi i fusnesau ledled Cymru, sy'n rhywbeth yr ydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn ei groesawu’n fawr, wrth gwrs.

Ond mae angen mwy o gymorth. Rydym mewn argyfwng costau gwneud busnes yn ogystal ag argyfwng costau byw ar hyn o bryd, a dyna pam na fydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Oherwydd pe bai’r gost o wneud busnes yn gostwng, ni fyddai angen cymorth mor sylweddol arnynt i leddfu baich ardrethi busnes. Ac yn anffodus, nid yw gwelliant y Llywodraeth yn cyfleu’r angen i ailystyried trethiant busnes i sicrhau nad yw’n rhwystr atchweliadol i ddyheadau a thwf busnes.

Fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae busnesau’n poeni y bydd gwneud gwelliannau i’w hadeiladau—gan gynnwys ymdrechion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, er enghraifft—yn achosi i werth ardrethol eu heiddo godi, gan olygu y byddent yn cael eu gorfodi i dalu mwy am eu bod am ehangu eu busnes neu wella eu rhagolygon, neu yn achos gwelliannau ynni, lleihau eu gorbenion a helpu'r amgylchedd. Mewn gwirionedd, mae’r ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio yn golygu bod cwmnïau’n cael eu gorfodi i dalu treth cyn iddynt gael unrhyw incwm hyd yn oed, heb sôn am wneud unrhyw elw. Ychwanegwch y ffaith bod ardrethi yng Nghymru yn gymharol uchel o gymharu â gwledydd eraill—Cymru sydd â’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain ar hyn o bryd—a gallwch weld pam fod y sector yn galw am ailystyried y ffordd yr ydym yn trethu ffyniant.

Lywydd, nid wyf yn mynd i esgus fod gennyf yr holl atebion, nac yn wir y bydd y ddadl hon yn datrys y mater; mae’n sefyllfa gymhleth ac mae’n mynd i gymryd amser i weithio gyda busnesau i gael y cydbwysedd cywir rhwng cefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy drethiant a thwf economaidd.

Nodaf yr awgrym o dreth gwerth tir, fel y mae Plaid Cymru yn dadlau o'i phlaid yn eu gwelliant hwy. Fodd bynnag, yn anffodus, ni fyddwn ni ar yr ochr hon yn gallu cefnogi’r gwelliant hwnnw ychwaith fel y saif pethau. Er fy mod yn cydnabod bod gan ddiwygio o’r fath rai manteision o gymharu â’r system bresennol, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ynghylch yr effeithiau y gallai diwygiadau mor eang â’r hyn a gynigir eu cael, fel y bydd yr holl Aelodau'n cytuno, rwy'n siŵr. Er enghraifft, mae llawer o fusnesau bach ar hyn o bryd yng nghanol trefi a dinasoedd lle mae gwerth tir yn ddrud. A allai diwygiadau o’r fath eu gyrru oddi ar ein stryd fawr, lle mae taer angen eu presenoldeb? Mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain: beth y byddem yn dymuno'i weld: canol trefi bywiog, neu rywbeth arall? A fyddai treth gwerth tir yn annog pobl i sefydlu mwy o fusnesau ar-lein yn hytrach na chael presenoldeb ffisegol er mwyn osgoi talu’r dreth hon? Sut, felly, y byddem yn sicrhau bod busnesau ar-lein yn cael eu trethu’n deg, ac yn cael eu trin yn gyfartal â’r rheini sydd ag eiddo ffisegol? Ond edrychaf ymlaen at glywed gan feinciau Plaid Cymru sut y gallai treth o’r fath weithio’n ymarferol, a sicrhau y byddai’r pot o arian sy'n cael ei godi ar hyn o bryd drwy ardrethi annomestig yn aros yr un fath, gan fod yn decach i fusnesau ar yr un pryd.

Fodd bynnag, mae pethau y gellid eu cyflwyno dros y misoedd nesaf i helpu busnesau i oroesi wrth i ddiwygiadau ehangach gael eu hystyried. Er enghraifft, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw am ailgyflwyno seibiant ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch tra bo'r hinsawdd economaidd ansicr yn parhau. Fan lleiaf, gellid ystyried ymestyn y cynllun rhyddhad presennol o 50 y cant y tu hwnt i’w oes bresennol yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan fod busnesau ar hyn o bryd yn ofni’r dibyn sydd o'u blaenau. Neu gallai’r Llywodraeth barhau i rewi'r lluosydd, fel y gall busnesau o leiaf gynllunio gyda rhyw fath o sicrwydd. Byddwn hefyd yn dadlau y gallem edrych ar hollti’r lluosydd, yn debyg iawn i’r hyn a welwn mewn rhannau eraill o’r DU, fel nad yw busnesau bach yn cael eu trin yn yr un modd â busnesau mawr, a byddai hynny’n annog twf. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd wedi nodi pwyntiau dilys iawn, megis lleihau cost apeliadau i fusnesau a sicrhau bod pob busnes yn ymwybodol o’r cynlluniau cymorth amrywiol sydd eisoes yn bodoli.

Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod y pethau hyn yn costio arian, ac rwy’n ymwybodol nad oes cronfa ddiderfyn o arian i Lywodraeth Cymru ei defnyddio, ond serch hynny, mae ganddi’r dulliau sydd eu hangen i ddarparu cymorth i fusnesau drwy'r cyfnod hwn, fel y mae wedi'i wneud o'r blaen. Gallwn ddefnyddio adnoddau presennol yn well i ddarparu cymorth sydd nid yn unig yn lleihau baich ardrethi busnes, ond sy’n helpu busnesau i dyfu, gan leihau’r ddibyniaeth ar gymorth ariannol ychwanegol gan y Llywodraeth i dalu’r ardrethi.

Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau o bob rhan o’r Siambr y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddefnyddio’r ddadl hon i drafod yn adeiladol sut y gallwn gefnogi busnesau Cymru yn y ffordd orau, nid yn unig drwy’r cyfnod anodd hwn, ond y tu hwnt, felly gallwn helpu i adeiladu economi gryfach, fwy llewyrchus i bawb. I grynhoi, Lywydd, gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig gwreiddiol ac i wrthwynebu gwelliannau 1 a 2. Diolch.

17:50

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar y Gweinidog cyllid i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig.

2. Yn croesawu:

a) y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau.

b) y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig.

c) y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Mae wedi’i gynnig. Dwi’n galw nawr ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegwch pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau i gael ei eithrio).

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am agor y ddadl, er fy mod yn credu na ddylai dadl heddiw fod ynglŷn â pha ran o’r DU sydd â’r lefel ardrethi busnes uchaf neu isaf? Rwy'n credu, ac rydych chi'n cydnabod, fod angen iddi fod yn drafodaeth ehangach, fwy soffistigedig ynghylch, yn y lle cyntaf, ai’r system ardrethi busnes ei hun yw’r dull gorau, ac a oes ffordd decach a mwy effeithiol o'i wneud. Mae ein gwelliant yn awgrymu bod gennym farn benodol ar hynny.

Ond mae'n fater gwirioneddol bwysig, sydd wedi'i godi'n gwbl briodol, gan mai ardrethi busnes yw un o'r costau mwyaf i fusnesau yng Nghymru. Cânt eu crybwyll yn rheolaidd fel un o’r beichiau trymaf y mae llawer o’n busnesau'n eu hwynebu. Ond wrth gwrs, maent hefyd, ar yr un pryd, yn ffrwd incwm bwysig i awdurdodau lleol, fel sydd wedi'i gydnabod. Felly, mae angen taro cydbwysedd yn hyn o beth ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y system a ddefnyddiwn yn deg ac yn flaengar, ond hefyd yn casglu’r refeniw angenrheidiol sydd mor bwysig i gyllid cyhoeddus.

Rwy’n arbennig o ymwybodol yma, wrth gwrs, o fuddiannau busnesau bach a chanolig eu maint o fewn yr hafaliad cyfan. Gŵyr pob un ohonom fod amryw gynlluniau rhyddhad wedi eu crybwyll, a gwnaed llawer i ddarparu cymorth i’r busnesau sydd wedi'i chael hi'n anodd oherwydd effeithiau amrywiol Brexit, y pandemig, a bellach, yn ddiweddar, yr argyfwng chwyddiant. Ond gwyddom hefyd nad yw pawb wedi cael mynediad at y cymorth y teimlent fod ei angen arnynt, a bydd llawer ohonom wedi ymdrin â gwaith achos yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau lle roedd pobl yn cwympo drwy'r bylchau hynny. Ac ni waeth a gawsant gymorth ai peidio, mae llawer o fusnesau bellach, fel y gwyddom, yn gorfod dewis rhwng gorfod ymdopi â chostau ychwanegol, ac a ydych yn cynyddu eich prisiau neu'n ceisio parhau i fod yn gystadleuol, ac mae’n her aruthrol i lawer o'n busnesau. Felly, nid yn unig fod chwyddiant cynyddol, y costau ynni, prinder staff, ad-daliadau dyledion i lawer o fusnesau, nid yn unig fod cost economaidd ynghlwm wrth hynny i gyd, ond mae cost ddynol hefyd, onid oes, yn sgil y straen a'r pwysau ar yr unigolion sy'n ceisio cael deupen llinyn ynghyd. Ond rhwng popeth, nid yw'r darlun yn edrych yn gynaliadwy iawn fel y saif pethau.

Felly, dylem gael polisi treth sydd nid yn unig yn deg, ond sydd hefyd yn cymell entrepreneuriaid yma yng Nghymru yn y ffyrdd cywir. Gwyddom hefyd fod ardrethi busnes yn cael eu hystyried yn annheg ac yn atchweliadol i raddau helaeth, ac mae’r Gweinidog, a bod yn deg, wedi dweud o’r blaen ei bod am symud tuag at greu Cymru decach a’i bod wedi ymrwymo i archwilio treth gwerth tir, gyda gwaith amrywiol yn mynd rhagddo ar hynny. Felly, byddai’n dda, yn eich ymateb i’r ddadl hon heddiw, Weinidog, pe baech yn egluro ble rydych chi arni ar hyn o bryd gyda llawer o’r gwaith hwn, ac efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am amserlenni ac ailadrodd eich ymrwymiad, gobeithio, i archwilio a datblygu opsiynau ynghylch y dreth gwerth tir.

Rydym wedi gweld ymchwil, wrth gwrs, gan Brifysgol Bangor sy'n dangos y gall treth gwerth tir fod yn system decach, a chan fod y diwygiadau arfaethedig a nodwyd gennych yn flaenorol i fod i ddigwydd dros gyfnod o bedair blynedd, os cofiaf yn iawn, rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd rheolaidd inni graffu ar gynnydd yn y lle hwn, i sicrhau bod llais busnesau, awdurdodau lleol ac eraill, wrth gwrs, yn ganolog i’r holl broses honno. I mi, mae treth gwerth tir yn cynnig tegwch ac effeithlonrwydd. Mae'n eithaf syml i'w chasglu, byddwn yn dychmygu; mae'n anodd iawn osgoi talu treth gwerth tir—ni allwch ei chuddio mewn cyfrifon alltraeth fel y gallwch gyda phethau eraill yn aml iawn. Gall fod yn ddatgymhelliad cryf i hap-berchnogaeth, oherwydd yn amlwg, byddai tirfeddianwyr sy'n crynhoi tir o ansawdd uchel at y diben hwnnw'n wynebu bil mwy. Ac rwy'n gobeithio, wedyn, y byddai hynny'n helpu i wastatáu'r cylchoedd o ffyniant a methiant, gan wneud eiddo, o bosibl, yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc.

Yn ogystal, gallai treth gwerth tir annog datblygu, gan y byddai gan bobl gymhelliant i ddefnyddio tir segur a thir nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol at ddefnydd mwy cynhyrchiol. Er bod y rhan fwyaf o drethi'n dueddol o annog pobl i beidio â buddsoddi, neu'n ymyrryd mewn marchnadoedd, nid yw trethi gwerth tir yn ystumio gweithgarwch economaidd; yn hytrach, maent yn helpu i gynyddu sefydlogrwydd a thwf hirdymor—dyn a ŵyr, mae angen ychydig o hynny arnom y dyddiau hyn—drwy feithrin defnydd mwy cynhyrchiol o gyfalaf. Ac wrth gwrs, yn hollbwysig, mae'n helpu cyllid y Llywodraeth drwy ddod â refeniw i mewn yn effeithlon ac yn gyflym.

Daeth asesiad Prifysgol Bangor i’r casgliad fod gwerth tir yng Nghymru yn darparu sylfaen drethu ddigon mawr i sicrhau y gallai treth gwerth tir godi refeniw sy’n cyfateb i’r hynny a godir gan y drefn dreth leol bresennol yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae llawer o waith i’w wneud. Mae nifer o gwestiynau a nifer o heriau y mae angen mynd i'r afael â hwy, a chyfeiriwyd at lawer ohonynt yn gynharach. Ond wrth gwrs, nid ydym yn argymell rhuthro i mewn i hyn, ond o'i wneud yn iawn, rwy'n credu y byddai'n system decach a mwy cyfartal.

Mae'n un sydd wedi dod i amlygrwydd gwleidyddol yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf, gydag ymrwymiadau gan Lafur, gan y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion, Plaid Cymru yma yn cynnig hyn yn ein gwelliant. Mae mwy na 30 o wledydd wedi mabwysiadu gwahanol fathau o dreth gwerth tir, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Kenya, Taiwan, Singapore, Denmarc, a rhai o daleithiau'r UDA hefyd. Felly, wrth gynnig gwelliant Plaid Cymru heddiw, gofynnaf i Aelodau’r Senedd gefnogi datganiad clir fod Cymru'n dymuno bod nesaf.

17:55

Mae 126,700 eiddo annomestig yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi busnes, a chodaf fy het iddynt. Mae ardrethi busnes wedi cynyddu 10 y cant dros y chwe blynedd diwethaf; cymharwch hynny â 3 y cant yn Lloegr, 2.9 y cant yn yr Alban. Golyga hynny mai Cymru yw'r gornel fwyaf anghyfeillgar i fusnes yn y Deyrnas Unedig. Dywedodd cadeirydd cenedlaethol y Ffederasiwn Busnesau Bach fod y system ardrethi busnes bresennol yn cyfrannu at nifer y siopau gwag. A phan welwn stryd fawr wag, mae'n fwy na'r ffaith nad oes busnesau yno; nid yw siopau gwag yn edrych yn dda ar stryd fawr. Mae'n gostwng gwerth siopau eraill mewn gwirionedd.

Mae 88 y cant o fusnesau'n credu y dylech fod yn defnyddio rhyddhad trethi i hybu twf, ac rwy'n croesawu'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, ond nid yw ond yn ymestyn i ryddhad o 50 y cant gyda chap o £110,000. A chredaf fod yr hyn y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei ddweud yn wir. Dylem ailgyflwyno’r seibiant ardrethi busnes 100 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mewn gair, gallai rhai busnesau gau eu siopau a masnachu ar-lein yn unig, ac nid ydym am i hynny ddigwydd. Dylem fod yn gwobrwyo eu presenoldeb ar ein stryd fawr, a'u cadw fel mannau bywiog hanfodol y gall pobl eu mynychu.

Efallai mai un ffordd ymlaen fyddai codi tâl ar fanwerthwyr ar-lein fel pe baent ar y stryd fawr.

Wel, wyddoch chi beth, ni allaf anghytuno â hynny, Mike? A gwrandewais y tro hwnnw. [Chwerthin.] Credaf eich bod yn gwneud pwynt dilys iawn, oherwydd—

Fe fyddwch yn Ganghellor cyn bo hir yn ôl pob tebyg. [Chwerthin.]

Neu'n Ysgrifennydd Cartref. O, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi mynd. [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf.

Mae angen synnwyr cyffredin wrth ymdrin gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Gwn pa mor rhwystredig y teimlwch, rwy'n siŵr, oherwydd pan fyddaf yn ceisio gweithio ar ran etholwr ar brisiadau, gall gymryd hyd at ddwy flynedd. Rwyf wedi codi'r mater gyda’r swyddfa brisio, ac os wyf fi'n ei chael hi'n anodd, mae’n rhaid ei fod yn anodd, ond rywsut, mae'n rhaid ichi gael y sgyrsiau hynny. Bydd yn rhaid i bob busnes ar Stryd Mostyn apelio, wrth gwrs, pan gaiff y gwerthoedd ardrethol newydd eu cyhoeddi. A chredaf fod proses apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, fel rwyf wedi sôn—. Mae gennyf rai busnesau yn Aberconwy ar hyn o bryd yn aros pum mlynedd i'w hapeliadau gael eu clywed. Felly, rywsut, mae'n rhaid cael rhywfaint o gyswllt. Nawr, rwyf wedi dadlau ynglŷn â hyn dros y blynyddoedd gyda'r Prif Weinidog, a Gweinidogion eraill, a'u dadl hwy yw, 'O, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae'n adran o Lywodraeth y DU'. Ond, mae'n ddrwg gennyf, Llywodraeth Cymru sy'n caffael gwasanaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Felly, yn fy marn i, os wyf yn tendro am wasanaeth neu'n caffael gwasanaeth fy hun, mae gennyf lais o ran pa mor dda neu ddrwg yw'r gwasanaeth hwnnw. Felly, ni chredaf fod yr esgus yn ddigon da, i chi fel Llywodraeth Cymru ddweud, 'Wel, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhan o Lywodraeth y DU, nid yw'n ddim i'w wneud â ni'. Rydych yn caffael, gan ddefnyddio arian trethdalwyr, felly credaf yn gryf y dylai fod gennych lefel o ddisgwyliad ynghylch safon eu gwaith.

Gwyddom fod gennym argyfwng hinsawdd ac ynni. Rwyf eisoes wedi sôn heddiw am rai o’r costau anghredadwy y mae rhai o fy musnesau'n eu hwynebu. Mae pobl wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, ac rwyf wedi gorfod dweud, 'Wel, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ynni’. Ond maent yn fy ateb yn syth, gan ddweud, 'Ond rwy'n gofyn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'n helpu ni fel busnesau'. Ac i mi, mae ardrethi busnes yn gwbl amlwg. Dyna un o’r ffyrdd y gallwch chi helpu’r busnesau hynny sy'n dioddef yn enbyd.

Erys y ffaith mai busnesau yng Nghymru, busnesau ledled y DU, yw asgwrn cefn economi ein gwlad. Nid yn unig eu bod yn dymuno talu eu ffordd eu hunain, darparu gwasanaeth da, maent hefyd am gyflogi pobl. Mae wedi dod yn llawer anoddach bellach i gynnig prentisiaethau ym maes manwerthu, yn y sector lletygarwch—nawr, ar hyn o bryd. Mae llawer o ffocws wedi bod ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. O ran ardrethi busnes, rwy'n credu o ddifrif y gallech arloesi a chreu ffordd ymlaen i fusnesau—hynny yw, pe bai gennych awydd ac ewyllys i wneud hynny. Diolch.

18:00

Gadewch i ni fod yn glir, busnes yw asgwrn cefn ein heconomi—o berchennog y busnes bach ar y stryd fawr i'r cwmnïau mwy sy'n cyflogi cannoedd a miloedd o bobl ar draws y wlad. Y gwledydd mwyaf llewyrchus yn y byd yw'r rhai lle gall busnesau ffynnu, a rhan allweddol o'r llwyddiant hwnnw yw llai o fiwrocratiaeth a llai o drethi i'r busnesau hynny. Yng Nghymru, mae gennym yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan, fel y dywedodd Peter Fox. Mae gennym yr allbynnau cynnyrch domestig gros y pen gwaethaf o gymharu ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. A hyn ar ôl 23 mlynedd o ddatganoli, a 23 mlynedd o reolaeth Lafur, felly rwy'n credu ei bod yn hen bryd i fusnesau gael ffrind ym Mae Caerdydd.

Mae yna fusnesau yn fy nghymunedau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed sydd wedi nodi bod ardrethi busnes yn un o'r rhesymau pam na allant fforddio dal ati, nad yw ardrethi busnes fel y maent wedi'u gosod ar hyn o bryd yn fforddiadwy i lawer, yn enwedig mewn cyfnod o broblemau economaidd, wedi'u hachosi gan ryfel gwarthus Putin yn Wcráin ac ansicrwydd y farchnad fyd-eang. Maent hefyd wedi gorfod ymdrin â chanlyniadau dinistriol cyfyngiadau COVID-19, a bydd effeithiau hynny'n cael eu teimlo am ddegawdau i ddod, gyda rhai busnesau'n gadael y stryd fawr, a byth yn dychwelyd eto. Heb os, mae'n gyfnod anodd i fusnesau. Felly, byddai diwygio ardrethi busnes, fel rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn ei gredu, yn gwneud Cymru'n wlad gystadleuol ac yn cynnig rhaff achub fawr ei hangen i fusnesau ar yr adeg y maent fwyaf o'i hangen. A hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyn yn ymateb y Gweinidog.

Mae mwy o werth i fusnesau na busnes yn unig. Maent yn darparu swyddi, maent yn cynyddu ffyniant, maent yn gwneud ein trefi a'n pentrefi a'n dinasoedd yn fwy deniadol, ac maent yn annog arloesi, ac yn gwella gwerth a dewis i gwsmeriaid. Byddai diwygio ardrethi busnes yng Nghymru yn ein gwneud yn lleoliad llawer mwy deniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad, a fydd yn rhoi hwb i swyddi, twf a ffyniant. Ond rwy'n cytuno, fel y mae eraill wedi'i ddweud, fod angen inni edrych ar fesurau ehangach a allai gefnogi ein sector busnes ym maes manwerthu a lletygarwch, oherwydd rydym yn gweld tafarndai'n cau ar raddfa enfawr, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n rhaid rhoi diwedd arno. Felly, gadewch inni roi diwedd ar yr holl ddiflastod a orfodwyd ar fusnesau Cymru a rhoi'r offer a'r rhyddid iddynt ffynnu mewn ffordd a fydd o fudd i'n heconomi ac i bobl Cymru am genedlaethau i ddod. Diolch, Lywydd.

18:05

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Fel cyn-gynghorydd sir, ond heb gyrraedd uchelfannau statws arweinydd cyngor fel fy nau gyd-Aelod parchus sy'n eistedd bob ochr i mi, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y refeniw y mae ardrethi busnes yn ei godi i awdurdodau lleol, ond rwy'n ymwybodol hefyd o annigonolrwydd y fformiwla gyllido bresennol a'r tro gwael a wneir â llawer o gynghorau drwy setliadau cyllidebol a dosbarthiad cyllid. Oherwydd hyn, rwy'n falch o'r cyfle i gyfrannu.

Nid oedd yn syndod mawr mewn gwirionedd mai busnesau yng Nghymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan, gyda busnesau Cymru'n talu hyd at 4.5 y cant yn fwy na busnesau eraill ar draws Prydain. Mae'r ffaith mai Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain i godi un ardreth safonol ar bawb, beth bynnag fo maint y busnes neu'r trosiant, yn ymddangos yn rhyfedd ac yn anystyriol o'r busnesau yma yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Fynwy, mewn modd mor huawdl wrth agor y ddadl, mae busnesau yng Nghymru yn hanfodol i'n ffyniant economaidd. Mae hyn yr un mor wir am fasnachwyr bach annibynnol ag ydyw am gwmnïau rhyngwladol mwy o faint, sydd fel ei gilydd yn chwarae rhan bwysig ar ein strydoedd mawr. Felly, er bod y sector wedi wynebu ansicrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wneud popeth yn ei gallu, gyda'r dulliau sydd ar gael iddi, i liniaru peth o'r pwysau a helpu busnesau i ganfod llwybr yn ôl at dwf a ffyniant.

Mae'n debyg y byddai llawer ohonom yn y Siambr heddiw yn ymffrostio'n falch am stryd fawr yn eu hetholaeth sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol ac sy'n gweithredu fel esiampl o sut yr hoffem i strydoedd mawr ledled Cymru edrych. I mi, Arberth sy'n gwneud hynny, ac nid yn unig am fod fy swyddfa i ar y stryd fawr, ond rwy'n siŵr ei fod yn ffactor sy'n cyfrannu—stryd fawr sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol, bwytai o safon uchel a busnesau teuluol yn denu cwsmeriaid i mewn i'r dref. Mae'r Aelodau wedi cyfeirio at drefi eraill ar draws Cymru a'r enghreifftiau cadarnhaol sydd ganddynt hwy yn eu hetholaethau, ond am bob stori lwyddiant, mae gennym hefyd ardaloedd lle mae busnesau wedi cael eu prisio allan o ganol y dref. Yn anffodus, mae trefi hanesyddol Doc Penfro yn sir Benfro neu Hendy-gwyn ar Daf yn sir Gaerfyrddin yn enghreifftiau lle mae busnesau, dros y genhedlaeth ddiwethaf, wedi cau a lle mae siopau'n wag. Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at hyn yw'r drefn ardrethi busnes anhyblyg y mae'n rhaid iddynt weithredu oddi tani. Elwodd trefi fel Arberth yn fawr o gynlluniau rhyddhad ardrethi gwledig blaenorol, a wnaeth lawer i sefydlu'r dref fel cyrchfan siopa i ymwelwyr a phobl leol. Rwy'n deall bod cynlluniau o'r fath yn parhau yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol unigol, ond hoffwn wybod, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru'n annog eu cydweithwyr mewn llywodraeth leol i wneud defnydd o'r dulliau sy'n parhau i fod ar gael iddynt.

Ymhell cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn, galwodd fy nghyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr am i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio o ardrethi busnes yn gyfan gwbl, ac i fusnesau sy'n werth o dan £18,000 i dalu ardreth sy'n cynyddu'n raddol i'r swm llawn hwnnw. Byddai hyn yn golygu bod modd ailfuddsoddi mwy o arian mewn busnesau bach, yn enwedig yn eu blynyddoedd cyntaf o weithgarwch. Os nad yw ein polisi yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru, a gaf fi annog y Gweinidog i roi ystyriaeth i awgrym a wnaed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch pryd y dylai busnesau newydd ddechrau talu ardrethi busnes? Yn hytrach na rhoi bil ardrethi i fusnes newydd o'r diwrnod cyntaf, a fyddai'n werth archwilio'r opsiwn o wyliau ardrethi ar gyfer, dyweder, y 12, 18 neu 24 mis cyntaf o weithgarwch? Byddai hyn yn galluogi mwy o fusnesau newydd, yn cynyddu'r gobaith o oroesi'n hirdymor ac yn cynyddu nifer y safleoedd a feddiennir a'r cyfleoedd gwaith a gaiff eu creu.

Weinidog, mae'n amlwg nad oes gan neb yr atebion i gyd i'r broblem hon. Fodd bynnag, ceir amryw o atebion a all fynd rhywfaint o'r ffordd i oresgyn rhai o'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy'n annog y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw a dangos i fusnesau yng Nghymru fod Llywodraeth Cymru ar eu hochr hwy mewn gwirionedd. Diolch, Lywydd.

Y Gweinidog cyllid nawr i gyfrannu at y ddadl. Rebecca Evans.

Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn sicr ar ochr busnesau Cymru, ac rydym yn llawn gydnabod yr heriau y mae busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn eu hwynebu o dan yr amodau economaidd presennol, ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn agored i'r un pwysau cyllidebol.

Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r system cyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd, gan godi mwy na £1.1 biliwn yn flynyddol, ac nid yw hwn yn gyfraniad bach at y cyllid sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt, ac nid yw'n gyfraniad bach i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn wir. Ond mae'n rhaid cofio bod pob ceiniog yn mynd yn ôl i gefnogi awdurdodau lleol a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu. Rwy'n cydnabod bod sicrhau bod refeniw hanfodol yn cael ei gasglu i ariannu'r gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn eu defnyddio, a sicrhau cyfraniad teg a chynaliadwy gan dalwyr ardrethi, yn gydbwysedd heriol i'w gyflawni. Ond rwy'n herio'r rhai a hoffai ein gweld yn mynd gam ymhellach nag a wnawn eisoes—ac rydym eisoes yn darparu llawer iawn o gefnogaeth—i ddweud pa rai o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny y byddech chi eisiau eu gweld yn cael eu torri neu eu lleihau er mwyn darparu'r gefnogaeth ychwanegol honno, oherwydd dyna yw'r dewis gonest yr ydym yn ei wynebu pan fyddwn yn cael y sgyrsiau hyn. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon i ddweud y dylem ddefnyddio adnoddau presennol yn well, oherwydd nid yw hynny'n cyfleu anferthedd yr hyn sy'n cael ei ofyn. Mae'r rhain yn sgyrsiau agored y dylem eu cael ynglŷn â blaenoriaethau, ac rwy'n agored i gael y sgyrsiau hynny.

Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi capio'r cynnydd yn y lluosydd. Rhwng 2018-19 a 2020-21, rydym wedi defnyddio'r mesur chwyddiant is, y mynegai prisiau defnyddwyr, i gymedroli codiadau blynyddol yn y lluosydd. Gwn fod hynny wedi cael croeso cynnes gan gynrychiolwyr diwydiant. Ers hynny, rydym hefyd wedi rhewi'r lluosydd yn 2021-22 a 2022-23, ac mae hynny'n cydnabod effaith estynedig y pandemig coronafeirws ar fusnesau a thalwyr ardrethi eraill, a gadewch inni gofio bod hynny wedi arbed bron i £200 miliwn i dalwyr ardrethi ar eu biliau ardrethi yng Nghymru ers 2018-19, o'i gymharu â'r refeniw y byddem yn ei godi pe baem wedi cynyddu'r lluosydd yn flynyddol gyda'r mesur chwyddiant uwch, y mynegai prisiau manwerthu. 

Mae'r lluosydd yn un ffactor sy'n pennu biliau talwyr ardrethi, ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ffactor arall, wrth gwrs, yw gwerth ardrethol yr eiddo. Mae gan ein sylfaen drethu yng Nghymru werth ardrethol o tua £19,000 ar gyfartaledd, ac mae hynny, yn amlwg, yn wahanol iawn i'r hyn a geir yn Lloegr, sydd â chyfartaledd llawer uwch o tua £32,000. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i gyfartaledd yr hyn a delir gan dalwyr ardrethi. Cymhwysir rhyddhad wedyn i'r biliau sy'n lleihau neu'n dileu'r taliad i fwyafrif y talwyr ardrethi yng Nghymru, felly mae'n rhaid imi ddweud, o ganlyniad i'r gwahaniaethau rhwng ein sylfeini trethu a'n cynlluniau rhyddhad a ariennir yn llawn, fod biliau cyfartalog yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydynt yn Lloegr.

Rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ers dechrau'r pandemig coronafeirws. Mae ein cynlluniau rhyddhad parhaol yn golygu nad yw 44 y cant o'r sylfaen drethu yn talu unrhyw ardrethi domestig o gwbl, ni waeth beth fo lefel y lluosydd. Eleni, rydym yn darparu £116 miliwn o ryddhad ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Er mwyn sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cael digon o gefnogaeth, ac er mwyn adlewyrchu natur ein sylfaen drethu, rydym wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol at y cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU at y diben hwn, gan arddangos, unwaith eto, y sylfaen drethu wahanol sydd gennym yma yng Nghymru. Ond o ganlyniad i'n cynlluniau rhyddhad parhaol a'r cymorth ychwanegol hwn, rydym yn gwario dros £350 miliwn eleni i ddarparu cymorth llawn neu rannol gyda'u biliau ardrethi i 70 y cant o safleoedd yng Nghymru.

Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021. Mae hyn yn golygu y bydd y gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws, yn ogystal â newidiadau yn y sylfaen drethu ers yr ailbrisiad diwethaf. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi fersiwn ddrafft o restr ardrethi newydd cyn diwedd eleni, a byddwn yn asesu effaith ailbrisio ar ein sylfaen drethu. 

Ond mae'n iawn fod ein system ardrethi annomestig yn adlewyrchu natur unigryw'r sylfaen drethu yma yng Nghymru. Ar 29 Mawrth, nodais raglen ar gyfer diwygio ardrethi annomestig a fydd yn cael ei chyflwyno dros y pedair blynedd nesaf. Ers hynny rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar amrywiaeth o ddiwygiadau, gan gynnwys ailbrisiadau mwy mynych ac ystod o fesurau i helpu Llywodraeth Cymru i addasu'r system i ddiwallu anghenion Cymru yn y dyfodol, ac wrth gwrs, mae apeliadau hefyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw.

Mae ein cynlluniau'n cynnwys archwilio ymhellach y posibilrwydd o gyflwyno treth gwerth tir leol yn lle ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Byddai disodli'r trethi lleol presennol yn orchwyl fawr a fyddai'n galw am fuddsoddiad sylweddol, ac mae'n hanfodol fod gennym ddealltwriaeth drylwyr o'r costau a'r effeithiau. Rwyf wedi nodi fy mwriad i gynhyrchu map ffordd posibl ar gyfer y gwaith hwn tuag at ddiwedd tymor y Senedd hon. Roeddwn yn falch o glywed y cyfeiriad at yr asesiad technegol o’r potensial ar gyfer treth gwerth tir leol yng Nghymru gan Brifysgol Bangor. Roedd hwnnw'n waith a gomisiynwyd gennym yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n nodi, fel y clywsom, fod yna amryw o gwestiynau sydd eto i'w hateb, a bod llawer o waith i'w wneud o hyd yn y maes penodol hwn. Ond mae'n rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo i barhau i fynd ar ei drywydd a'i archwilio.

Ar fater gwerthiannau digidol, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwn, ond hoffwn roi sicrwydd i gyd-Aelodau fod fy swyddogion yn ymgysylltu â'u swyddogion cyfatebol ar y mater penodol hwn.

Felly, er bod ein hymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf—[Torri ar draws.] Wrth gwrs. 

18:15

Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders yn gynharach, pam na allwn godi tâl ar y gwerthwyr ar-lein yn eu warysau mawr fel pe baent ar y stryd fawr?

Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn archwilio amryw o ffyrdd y gellid cyflwyno treth ddigidol, ac rwy'n gwybod y byddent yn awyddus i glywed syniadau gan gyd-Aelodau yn y Senedd hefyd ynglŷn â sut y gellid cyflwyno'r fath beth. Oherwydd, fel rwy'n dweud, mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallai'r cynlluniau a'r cyfleoedd fod a'r modelau gwahanol ar gyfer cyflwyno treth gwerthiannau digidol. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwneud hynny, ond mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwneud ag ef.

Er bod ein hymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod y system ardrethi annomestig yn un ffordd sydd gennym o roi cymorth i fusnesau, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith mai pwrpas trethi lleol yw codi refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae ein pecyn helaeth o ryddhad ac ymyriadau i gymedroli'r lluosydd yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw effaith wedi bod ar yr arian sydd ar gael i'r awdurdodau lleol, ac nid yw hynny'n hawdd ei gyflawni. Mae wedi codi o benderfyniadau anodd a ystyriwyd yn ofalus ynglŷn â sut i wario cyllideb gyfyngedig er budd gorau posibl holl bobl Cymru.

Ers dros 30 mlynedd, mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r ffordd yr ariannwn ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud gwelliannau i'r system yn unol â'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru decach, wyrddach a chryfach, gan gynnal cryfderau'r dreth leol bresennol ar yr un pryd. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros welliant y Llywodraeth heddiw.

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud ei bod yn bleser cau dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ardrethi busnes? Rwyf am fod yn gryno iawn wrth gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, a dynnodd sylw at bwyntiau pwysig ynghylch y ffaith mai ardrethi busnes Cymru yw'r rhai uchaf ym Mhrydain. Wrth gwrs, cododd Plaid Cymru eu cynnig ar gyfer un dreth dir ac eiddo. Rwy'n credu bod Peter Fox wedi amlinellu'n glir iawn pam fod pryderon ynghylch hynny. Lywydd, hoffwn alw ar bob Aelod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gwrthwynebu gwelliannau Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly mae'r bleidlais yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf i'n symud yn syth i'r bleidlais. Oes yna dri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch? Un, dau, tri. Oes. Felly, canu'r gloch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

18:25
10. Cyfnod Pleidleisio

Cyn i mi alw am bleidlais, a gaf fi atgoffa pob Aelod o'r canllawiau newydd ar bleidleisio a bod disgwyl i bob Aelod sydd ar yr ystad fod yn y Siambr i bleidleisio? Byddaf yn disgwyl i unrhyw Aelod sydd ar yr ystad ond sy'n pleidleisio o'u swyddfa heno roi rheswm i mi, a byddaf yn disgwyl i Aelodau sy'n gwneud hynny yn y dyfodol anfon eu rhesymau ataf ymlaen llaw. Rwy'n credu bod yr Aelodau'n gwybod pwy ydynt, neu bwy yw ef neu hi, sy'n pleidleisio o'u swyddfeydd ar hyn o bryd. Byddaf yn derbyn eu pleidleisiau am heno, ond ni fydd hyn yn dderbyniol yn y dyfodol. Felly, dyna rybudd 'un tramgwydd arall ac fe fyddwch chi allan'.

Awn ni at y bleidlais nawr. Gwnaf i alw yn gyntaf am bleidlais ar eitem 3, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni: O blaid: 40, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ardrethi busnes. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn gyntaf, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf, felly, am bleidlais. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8105 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig.

2. Yn croesawu:

a) y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau.

b) y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig.

c) y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethu busnes. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

11. Dadl Fer: Byw gyda chanser yng Nghymru: Gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu

Byddwn ni'n symud ymlaen yn awr i'r ddadl fer, ac felly os gall Aelodau adael y Siambr yn dawel cyn i fi alw ar Altaf Hussain i gynnig y ddadl fer. Altaf Hussain. 

Diolch yn fawr. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joel James. Bydd fy nadl fer y prynhawn yma'n canolbwyntio ar fyw gyda chanser. 

Rydym i gyd yn gwybod beth yw'r ystadegau: bydd un o bob dau ohonom yn cael canser rywbryd yn ystod ein hoes. Roedd canser yn arfer bod yn ddedfryd sicr o farwolaeth, ond diolch byth mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Ledled y DU, mae dros 3 miliwn o bobl yn dal yn fyw o leiaf bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser. Yng Nghymru, mae 70,000 o ddynion a 90,000 o fenywod yn byw gyda chanser, ac mae disgwyl i gyfanswm y niferoedd godi i 0.25 miliwn erbyn diwedd y degawd hwn.

Cydnabyddir yn eang fod llawer o'n llwyddiant yn erbyn canser i'w briodoli i ddiagnosis cynharach. Fodd bynnag, ni waeth beth yw'r datblygiadau mewn sgrinio a thriniaethau, gall diagnosis o ganser arwain at ganlyniadau sy'n newid bywydau—canlyniadau fel problemau iechyd sy'n datblygu yn ystod triniaeth ac sy'n gallu cael effaith barhaol hyd yn oed bum mlynedd ar ôl gorffen y driniaeth.

18:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae effeithiau hirdymor yn effeithio ar iechyd corfforol a seicolegol. Rhai o'r effeithiau yw blinder, problemau symudedd, poen, bod yn brin o anadl, diffyg maeth, iselder a gorbryder. Ceir hefyd yr effeithiau hwyr i ymgodymu â hwy. Diffinnir effeithiau hwyr fel problemau iechyd corfforol neu seicolegol sydd i'w gweld chwe mis neu fwy ar ôl triniaeth a gallant effeithio ar systemau organau cyfan o ganlyniad i driniaethau canser. Mae enghreifftiau'n cynnwys gwenwyndra cardiofasgwlaidd, llai o ddwysedd esgyrn neu isthyroidedd. Prin yw'r dystiolaeth ynghylch faint o bobl yr effeithir arnynt gan ganlyniadau canser parhaol o'r fath, er i Cymorth Canser Macmillan amcangyfrif yn 2013 fod tua hanner miliwn o bobl ledled y DU wedi cael problemau iechyd ar ôl triniaeth. Disgwylir bod y nifer wedi codi'n helaeth dros y degawd diwethaf.

Yn 2015, bu Cymorth Canser Macmillan yn cyfweld pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser mewn astudiaeth ledled y DU i'w hanghenion gofal cymdeithasol ac emosiynol, a gwelodd fod gan 64 y cant o'r ymatebwyr anghenion cymorth ymarferol a bod 78 y cant arall o'r ymatebwyr angen cefnogaeth emosiynol yn dilyn diagnosis. Mae astudiaethau wedi profi'r effaith y gall rhagsefydlu ac adsefydlu ei chael ar y rhai sy'n byw gyda chanser.

Datblygwyd y cysyniad o adsefydlu canser yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1960au, ond mae'r byd wedi bod yn araf i'w fabwysiadu. Canfu astudiaeth o Ddenmarc a gynhaliwyd yn y 2000au cynnar—prosiect ymchwil FOCARE—fod goroeswyr canser Danaidd wedi profi iechyd corfforol sylweddol waeth, o bosibl fel effeithiau corfforol hwyr yn sgil triniaeth. Mae'r problemau a nodwyd gan bobl a oedd wedi goroesi canser yn awgrymu y dylai adsefydlu canser gynnwys yr agweddau hyn ar fyw ar ôl canser ac ystyried gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol ymhlith goroeswyr canser. Awgrymai'r astudiaeth mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r heriau hyn oedd mewn rhaglenni adsefydlu amlddimensiwn.

Mae gwasanaethau adsefydlu canser yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n cyflawni rolau penodol ar hyd y llwybr, megis deietegwyr, ymarferwyr lymffoedema, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a therapyddion lleferydd ac iaith. Maent yn darparu ymyriadau arbenigol sy'n ategu sgiliau aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol. Bydd gan wahanol gleifion anghenion adsefydlu gwahanol yn dibynnu ar fath a lleoliad eu canser, ac ar ba gam y mae. Cydnabyddir y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd, yn cynnwys gweithwyr cymorth, gyfrannu at adsefydlu pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser. Mae rhagsefydlu'n ymestyn y gofal hwnnw hyd at ddechrau'r llwybr triniaeth.

Mae gweithgarwch corfforol wedi'i ddisgrifio fel 'cyffur rhyfeddol' nad yw wedi cael ei werthfawrogi ddigon a dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chanser yn ymwybodol o'i fanteision. Cafodd gwasanaeth Symud Mwy Macmillan ei ddatblygu i helpu pobl â chanser i fod yn fwy egnïol. Mae gwerthuso wedi dangos bod ganddo'r potensial i gefnogi pobl sydd ag ystod o gyflyrau hirdymor ac i arwain at newid ymddygiad. Gellir defnyddio'r dystiolaeth a'r mewnwelediad hwn yn awr i sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn cael ei ystyried yn rhan annatod o ofal canser. Mae bod yn egnïol cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth yn ddiogel. Gall leihau blinder, lleihau gorbryder ac iselder, eich helpu i gadw at bwysau iach, cryfhau eich cyhyrau, gwella iechyd esgyrn, gwella eich ystwythder a'ch gallu i ymestyn eich cyhyrau, gwella cydbwysedd, a chynyddu eich hyder. Cafodd y dystiolaeth hon ei rhoi ar waith yn helaeth yn fy etholaeth gan Dr Rhidian Jones, a aeth ati, gyda'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, i lunio rhaglen ragsefydlu ar gyfer cleifion canser yng Nghwm Taf. I ddyfynnu Rhidian,

'Rydym yn gwybod, pan fo claf yn cael diagnosis o ganser y coluddyn neu ganser yr oesoffagws, ei fod yn gyfnod hynod frawychus cyn cael llawdriniaeth fawr. Mae llawer o'r cleifion hyn heb lawer o ffitrwydd corfforol ac yn bryderus iawn wrth aros am eu llawdriniaeth; gall y ddau beth arwain at ganlyniadau gwael ar ôl llawdriniaeth. Nod y rhaglen yw gwella ffitrwydd, iechyd meddwl a phrofiad cleifion cyn eu llawdriniaeth. O ganlyniad i'r nodau cychwynnol hyn, gwelwn lai o gymhlethdodau ar ôl llawdriniaethau a thuedd tuag at arosiadau byrrach i'n cleifion yn yr ysbyty.'

Mae rhaglen Rhidian yn cael effaith ddramatig ar gyfleoedd hirdymor cleifion. Ynghyd â rhaglen adsefydlu helaeth ar gyfer canser, gallwn sicrhau nad goroesi canser yn unig y mae cleifion yng Nghymru, nid byw gyda chanser yn unig, ond byw'n dda gyda chanser. Rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i ni. Dyna pam fy mod am weld rhaglenni fel un Rhidian ar gael i bob claf canser yng Nghymru, a pham y mae'n rhaid inni gael rhaglenni adsefydlu canser helaeth wedi'u teilwra ar gyfer anghenion cleifion unigol.

Rhaid imi longyfarch Llywodraeth Cymru. Maent wedi mabwysiadu safbwynt cadarnhaol ar wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu. Yng Nghymru, crybwyllir optimeiddio iechyd cyn triniaethau a rhagsefydlu yn glir yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer canser 2016-20. Mae'n rhoi Cymru ar y blaen i wledydd eraill y DU. Deallaf gan Macmillan fod trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch darparu a chyllido rhagsefydlu cynaliadwy hirdymor. Mae Macmillan wedi cynhyrchu eu fframwaith gofal sylfaenol ar gyfer canser. Mae'r fframwaith hwn yn pontio o'r ymgynghoriad cychwynnol, atgyfeirio ac ymlaen i ddiagnosis a thriniaeth a thu hwnt. Mae optimeiddio iechyd cyn triniaeth mewn gofal sylfaenol ar y pwynt atgyfeirio at archwiliad canser yn elfen allweddol yn y fframwaith hwn.

Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r fframwaith pan fydd yn lansio eu cynllun gweithredu gwasanaethau canser, sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, er bod y datganiad ansawdd ar gyfer canser yn dweud bod rhagsefydlu ac adsefydlu yn rhannau allweddol o'r llwybr canser, nid yw hyn yn fy llenwi â gobaith y bydd gwasanaethau'n cael eu darparu ar lawr gwlad. Er gwaethaf ymrwymiadau yn y cynllun cyflawni blaenorol ar gyfer canser i wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu, nid oedd profiad y claf ar lawr gwlad yn adlewyrchu'r cynlluniau. Mae mynediad at ragsefydlu wedi parhau'n loteri cod post gyda dros draean y cleifion yn dweud na chawsant gymorth ôl-driniaeth o gwbl.

Canfu astudiaeth yn 2020, 'Qualitative exploration of cancer rehabilitation in South Wales', nad yw adsefydlu yn elfen reolaidd o fewn y llwybr canser. Dywedodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod nifer o rwystrau i ddarparu gofal. Un o'r prif rwystrau yw nad yw adsefydlu canser yn cael ei ddarparu'n rheolaidd o fewn y llwybr canser. O ystyried pwysigrwydd gwasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu i gleifion canser, rwy'n annog y Gweinidog i ymrwymo y prynhawn yma i sicrhau bod gwasanaethau o'r fath ar gael ac wedi'u teilwra ar gyfer pob claf canser yng Nghymru. Diolch.

18:35

A gaf fi ddiolch i Altaf am roi munud o'i amser i mi? Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr afu a chanser yr afu, rwyf am dynnu sylw at rai o'r heriau sy'n wynebu cleifion canser yr afu wrth iddynt lywio llwybrau triniaeth yng Nghymru. Mae canser yr afu yn un o'r mathau mwyaf anodd i'w goroesi, ond mae ymhlith y mathau o ganser sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae'r canlyniadau'n frawychus o wael. Dim ond 13 y cant o bobl a gaiff ddiagnosis o ganser yr afu a fydd yn goroesi am fwy na phum mlynedd ar ôl cael diagnosis. Canfuwyd bod cleifion y mae eu lefelau ffitrwydd yn isel, fel y'u haseswyd drwy brofion ymarfer cardio-pwlmonaidd, CPET, â chyfraddau marwolaethau ac afiachedd uwch ar ôl llawdriniaeth. Felly, mae potensial i ragsefydlu fel dull o wella gwerthoedd CPET ac felly, i wella canlyniadau ar ôl echdorri'r afu ar gyfer canser metastatig y colon a'r rhefr neu'r afu. Canfuwyd hefyd ei fod yn paratoi cleifion yn well ar gyfer effeithiau triniaeth ganser sy'n aml yn wenwynig ac yn anablu.

Mae canfyddiadau diweddar gan linell gymorth, grwpiau cymorth ac arolygon Ymddiriedolaeth Brydeinig yr Afu yn dangos bod llai na 10 y cant o gleifion canser yr afu yn teimlo eu bod wedi'u cyfeirio'n ddigonol at wybodaeth am eu cyflwr, ac mae llawer yn cael eu gadael yn ddryslyd ac yn ansicr ynglŷn â lle i ofyn am gyngor credadwy ar opsiynau triniaeth. Ceir gwahaniaethau hefyd o ran gofal a chanlyniadau canser yr afu ar draws y byrddau iechyd. Felly, bydd gwella mynediad at adsefydlu, gwybodaeth wedi'i phersonoli a sicrhau mynediad teg at gefnogaeth gorfforol, seicolegol a maethol i gleifion canser yr afu ar bob cam o'r llwybr triniaeth nid yn unig yn gwella profiad cleifion, ond yn y pen draw, gallai wella canlyniadau a chyfraddau goroesi i gleifion canser yr afu. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n awyddus i wybod a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i dargedau penodol ar gyfer rhagsefydlu ac adsefydlu i helpu i wella canlyniadau ar gyfer canserau anos eu goroesi, fel canser yr afu, yng nghynllun gweithredu gwasanaethau canser y GIG sydd ar y ffordd. Diolch.

18:40

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Diolch i Altaf Hussain, sef fy nghynghorydd arbennig cyfrinachol yn y GIG, am gyflwyno'r ddadl fer hon ac am ei wahoddiad diweddar i Gwm Taf Morgannwg i gyfarfod â chlinigwyr sy'n darparu'r gwasanaethau rhagsefydlu hynny. Edrychaf ymlaen yn fawr at ein hymweliad ar y cyd fis nesaf.

Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw helpu pobl i baratoi ar gyfer eu triniaeth ganser ac iddynt fod yn y lle gorau posibl o ran eu cyflwr i allu gwella'n dda. Felly, mae cael eich atgyfeirio dan amheuaeth o ganser ac yna aros, yn aml mewn ofn, fel y dywedoch chi, gyda llawer iawn o ansicrwydd nes bod y profion a'r driniaeth yn dod yn ôl yn brofiad anodd iawn i lawer o bobl.

Felly, yn hytrach na gwastraffu'r amser hwn a gadael i bobl ymdopi, dyma gyfle yma i'w cael yn barod ac i'w grymuso i gymryd rhywfaint o reolaeth. Mae hyn bob amser yn rhywbeth y gallant ei wneud, hyd yn oed os yw dros ychydig wythnosau, i gael eu hunain yn barod. Gall camau gweithredu gynnwys mynd i'r afael ag effaith seicolegol diagnosis a datblygu technegau a strategaethau ymdopi. Ac fel yr awgrymoch chi, gall pobl weithio ar eu maeth a'u ffitrwydd a'u cryfder fel eu bod yn barod i wynebu eu triniaeth a gwella'r gobaith o adferiad wedyn, fel yr awgrymodd y ddau ohonoch. Felly, os gallwn ni fod wrth ochr pobl, yn rhoi cefnogaeth emosiynol iddynt, yn annog a chefnogi pobl gyda newidiadau priodol i'w ffordd o fyw, fe gânt brofiad gwell a gwell gobaith o ganlyniad da.

Mae rhagsefydlu yn galluogi pobl â chanser i baratoi ar gyfer triniaeth ganser, gan wneud y gorau o'u gallu i wrthsefyll y sgil-effeithiau. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod rhagsefydlu'n sicrhau canlyniadau gwell gyda llai o gymhlethdodau. Pe bai modd i gyffur gyflawni effaith rhagsefydlu, mae'n siŵr y byddem yn ei roi ar bresgripsiwn, felly mae angen inni weithio gyda'n gilydd i roi'r gefnogaeth hon ar waith, a dyna pam ein bod wedi gosod disgwyliad clir iawn yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser: mae rhagsefydlu ac adsefydlu yn rhannau allweddol o'r llwybr canser. Wedi'i gynnwys yn y datganiad ansawdd, rydym wedi cyflwyno 21 llwybr canser a gytunwyd yn genedlaethol, ac mae'r rhain yn nodi sut y dylai'r gwahanol lwybrau canser weithredu a'r hyn y dylent ei gynnwys. Maent i gyd yn cynnwys rhagsefydlu ar adegau allweddol ar y llwybr.

Rwy'n disgwyl iddo ddod yn rhan fwy cyffredin a safonol o'r llwybr canser dros y blynyddoedd nesaf, wrth i fyrddau iechyd ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ac wrth i'r sylfaen dystiolaeth dyfu. Ond nid yw'n hawdd, nid yw mor syml â dweud, 'Gwnewch hyn.' Mae'r timau clinigol canser a'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn enwedig o dan bwysau aruthrol eisoes, o ystyried y cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio ar gyfer canser. Nid oes arian ychwanegol i'w daflu at hyn, gan ein bod eisoes wedi bod yn darparu pob diferyn olaf o adnodd i gefnogi adferiad gwasanaethau.

Dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn edrych i weld a allwn gynyddu mynediad at ragsefydlu drwy wasanaethau digidol. Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi ariannu cynlluniau peilot, ac mae gennym y cynlluniau hynny ar y gweill yn ein byrddau iechyd, mewn cydweithrediad â Chomisiwn Bevan, i weld a all atebion digidol helpu. Mae Rhwydwaith Canser Cymru hefyd wedi penodi clinigydd meddygol arweiniol ac arweinydd proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer canser i helpu i weithio ar hyn dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y swydd yn helpu i gydlynu ac arwain ymdrechion y byrddau iechyd, fel y gallwn roi'r gwasanaethau hyn ar waith ar gyfer mwy o lwybrau canser mewn rhagor o fyrddau iechyd mewn ffordd sy'n gynaliadwy. Bydd y gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan grŵp rhagsefydlu canser Cymru, sy'n adrodd wrth fwrdd Rhwydwaith Canser Cymru, fel rhan o weithrediaeth y GIG.

Yn y gynhadledd canser yr wythnos diwethaf, roedd byrddau iechyd yn awyddus i dderbyn cynnig Cynghrair Canser Cymru ar gyfer adnoddau a chymorth i gleifion sy'n aros ar lwybrau canser.

Yn fwy cyffredinol, cafodd ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd ei chyhoeddi fis Ebrill eleni, ac mae'n nodi y byddwn yn datblygu ac yn ymwreiddio dull rhagsefydlu safonol er mwyn gwella canlyniadau. Felly, dylai rhagsefydlu, adsefydlu, ailalluogi ac adfer gael eu gweld fel elfennau craidd o bob gofal ym mhob llwybr gofal. A pan fo rhywun angen unrhyw driniaeth, mae'n rhaid mynd ati mor gynnar â phosibl i'w paratoi ar gyfer y driniaeth ac ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd wedyn. Dŷn ni ddim yn gwireddu gwerth llawn ymyriadau iechyd oni bai ein bod ni'n cefnogi pobl i adfer cystal â phosibl, ac mae hyn yn golygu ymyrryd cyn ac ar ôl triniaeth, i sicrhau'r canlyniadau gorau.

Mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar hyn yn barod. Rŷn ni hefyd wedi lansio fframwaith adsefydlu cenedlaethol sydd wedi ei ddiwygio. Mae'n amlinellu egwyddorion cryf a chlir ar gyfer rhagsefydlu ac adsefydlu o ansawdd uchel. Yn benodol, mae'n ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwreiddio dull rhagsefydlu sy'n canolbwyntio ar allu'r unigolyn i fyw mor annibynnol â phosibl am mor hir â phosibl. Fe fydd y gweithwyr perthynol i iechyd arweiniol cenedlaethol ar gyfer adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn arwain y gwaith o weithredu'r fframwaith newydd.

Fe fydd disgwyl i bob staff iechyd a gofal ganolbwyntio'n bositif ar adfer a chefnogi amcanion adsefydlu eu claf. Mae ein fframwaith proffesiynau perthynol i iechyd yn ceisio sicrhau bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu AHPs, ar gael yn fwy cyffredinol mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae hefyd am sicrhau bod digon o ymyriadau adsefydlu, ailalluogi ac adfer yn cael eu darparu, yn enwedig adsefydlu yn y gymuned. I wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau ac i ddarparu profiad hwylus i gleifion, dwi'n disgwyl i wasanaethau fod yn integredig ac wedi eu lleoli yn y gymuned, a chanolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r clefyd. 

Felly, dwi'n cytuno â'r angen i ddatblygu'r gwasanaethau hyn ac yn gobeithio fy mod i wedi cyfleu ehangder y gwaith sydd eisoes ar y gweill. Diolch.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:48.