Y Cyfarfod Llawn

Plenary

05/10/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Prynhawn da. Dyma ni'n cychwyn ar ein cyfarfod ni heddiw. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies. 

Blaenoriaethau Cyfiawnder Cymdeithasol

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU sydd newydd eu penodi ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei blaenoriaethau cyfiawnder cymdeithasol? OQ58494

Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref a’r Ysgrifennydd Gwladol dros ffyniant bro, gyda Gweinidog yr Alban, Neil Gray MSP, ynghylch Wcráin, ac at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynglŷn â chynyddu budd-daliadau lles, ac roeddwn yn falch o gael llythyr gan Chloe Smith AS ddoe.

Wel, rwy'n falch o glywed hynny—eich bod wedi cael ymateb, yn enwedig yn ysgrifenedig, ar gynyddu'r taliad cymorth o £350 i deuluoedd yn y DU sy'n cynnig llety i ffoaduriaid o Wcráin. Gwn o’m gwaith â grwpiau lleol yn Ogwr ac ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr pa mor bwysig yw hyn wedi bod a'u bod yn edrych ymlaen at barhau i gynnig llety i deuluoedd, ond hefyd eu bod yn gwthio’n eithaf caled i sicrhau bod y cymorth hwnnw’n parhau ac y gellir ei ymestyn. Ond a wnewch chi gysylltu â’r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â chael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a’r taliad budd-dal dau blentyn, gan gofio’r argyfwng costau byw yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd, a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant ac yn unol â'r addewid a wnaed gan Brif Weinidog Ceidwadol diwethaf y DU?

Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies, am y ddau bwynt gwirioneddol bwysig hynny yn fy mhortffolio i wahanol Weinidogion yn Llywodraeth y DU. Cyfarfûm â Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Neil Gray, yn gynharach heddiw, ac rydym yn deall bellach fod Gweinidog newydd dros ffoaduriaid yn yr adran ffyniant bro, felly rydym yn ysgrifennu ato heddiw i alw eto am gynnydd yn y taliad o £350, sy'n rhywbeth y galwodd y Gweinidog Ceidwadol blaenorol dros ffoaduriaid, Richard Harrington, amdano hefyd. Dywedodd y dylid ei ddyblu; fe ddywedom ni o leiaf £500, gan fod cymaint o'r teuluoedd sy'n cynnig llety'n awyddus i barhau, ac mae gennym deuluoedd newydd hefyd yn dweud eu bod yn awyddus i gynnig llety. Ond rydym hefyd yn ysgrifennu atynt ynglŷn â llawer o faterion eraill sy’n ymwneud â’r ffaith nad oes sicrwydd o ran arian ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Rydym yn dal i fod heb gael arian gan y Llywodraeth ar gyfer darpariaeth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, nac ar gyfer gwasanaethau iechyd.

Nawr, mae’r pwynt a wnewch yn bwysig iawn, ac nid yn unig o ran cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Gadewch inni weld a yw’r Llywodraeth hon yn cadw at yr ymrwymiad hwnnw a wnaed gan Boris Johnson a Rishi Sunak y byddent yn cynyddu budd-daliadau lles yn unol â chwyddiant. Rwy'n gobeithio y byddwn yn anfon neges gref gan y Siambr hon heddiw, neges yr ydym yn disgwyl ac yn gobeithio y bydd ein cyd-Aelodau Ceidwadol yn ei chefnogi. Roedd clywed Iain Duncan Smith yn dweud ddoe, ‘Wel, yn amlwg, mae’n gwneud synnwyr, onid yw, oherwydd maent yn gwario arian yn eu cymunedau’, yn eithaf diddorol.

Ond mae'n rhaid imi ddweud, rydym hefyd wedi ysgrifennu—rwyf fi wedi ysgrifennu, gyda Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yr Alban a Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon—ynglŷn â'r mater pwysig o gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, sy'n amharu ar gymaint o bobl o ran eu costau byw, a hefyd y terfyn dau blentyn, gan ddweud y dylem godi lefel credyd cynhwysol y DU £25 yr wythnos, nid yr £20 a gollwyd o'r blaen. Felly, mae llawer i ni ei wneud ar fwrw ymlaen â hyn gyda Llywodraeth y DU.

Fel y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod sefydliadau sy’n gweithio yn ein cymunedau gyda’r heddlu fel rhan o’n partneriaethau diogelwch cymunedol yn gwbl hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r pryderon sydd bwysicaf i bobl. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu ynglŷn ag effeithiolrwydd y partneriaethau hynny a phwysigrwydd canolbwyntio ar y pryderon hynny lle gallant gael yr effaith fwyaf? Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Altaf Hussain. Rwy’n amlwg yn gweithio’n agos iawn gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid ar Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru. Wrth gwrs, mae plismona'n fater a gedwir yn ôl; nid yw wedi’i ddatganoli eto—dyna yr hoffem ei weld. Ac rydym yn gweithio’n agos iawn ar faterion sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i edrych ar y materion a fydd yn codi yfory, wrth inni glywed am ystadegau troseddau casineb, ac mae angen inni fwrw ymlaen â’n hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru. Mae hyn ym ymwneud ag ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwyf fi wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â llythyr agored yr Ysgrifennydd Cartref at arweinwyr heddlu Cymru a Lloegr, sy'n dweud,

'mae canfyddiad fod yr heddlu wedi gorfod treulio gormod o amser ar weithredoedd symbolaidd, yn hytrach nag ymladd troseddwyr. Mae'n rhaid i hyn newid. Ni ddylid blaenoriaethu cynlluniau amrywiaeth a chynhwysiant dros blismona synnwyr cyffredin.'

Rwy’n casáu’r ensyniad hwnnw, oherwydd mewn gwirionedd, mae ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol a’n gwaith gyda phobl anabl a mynd i’r afael â throseddau casineb yn ymwneud yn llwyr â chydlyniant cymunedol.

13:35
Tlodi

2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi? OQ58491

Byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi'i dargedu a rhaglenni cyffredinol i drechu tlodi ac i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Mae pwyllgor Cabinet newydd ar gostau byw, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, wedi’i sefydlu i ganolbwyntio ymdrechion Llywodraeth Cymru ar gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.

Diolch am yr ateb, Weinidog.

Mae pum mlynedd wedi bod ers y penderfyniad i ddod â Cymunedau yn Gyntaf, rhaglen wrthdlodi’r Llywodraeth, i ben. Yn dilyn y penderfyniad hwn, lluniodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau adroddiad, a oedd yn argymell, a dyfynnaf,

'bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth.'

Argymhellodd hefyd y dylai'r strategaeth gynnwys dangosyddion perfformiad. Ni yw’r unig wlad yn y DU lle canfuwyd bod tlodi plant ar gynnydd. Diolch i’r Torïaid yn San Steffan, mae tlodi ar fin mynd yn llawer gwaeth. Pam ein bod yn dal i aros am strategaeth wrthdlodi yng Nghymru, pan fo'i hangen yn fwy nag erioed?

Diolch yn fawr iawn, Peredur. Wrth gwrs, roedd yr adroddiad gan y cyn bwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn un pwysig, gydag argymhellion y gwnaethom gytuno i fwrw ymlaen â hwy. Ac rwy'n gobeithio eich bod wedi gallu gweld yr adroddiad a gynhyrchwyd, a gomisiynwyd gennym—adolygiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru—i ddeall yr ysgogiadau a’r dulliau gorau sydd gennym i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, yn amlwg, gan fod cymaint o’r polisïau treth a budd-daliadau, sy’n cael cymaint o effaith ar dlodi, mor allweddol. Cyhoeddwyd yr adroddiad yr wythnos diwethaf, ac rwy'n gobeithio y byddwch wedi'i weld. A chredaf mai’r hyn a oedd yn ddiddorol am yr adroddiad yw ei fod yn cynnwys pedwar maes allweddol yr ydym yn canolbwyntio arnynt ac ysgogi ymateb Cymru gyfan o ran trechu tlodi. A'r cyntaf yw lleihau costau a chynyddu incwm. Nawr, nid wyf am drafod holl ymatebion yr adroddiad hwnnw, gan ei fod yn ystyried tystiolaeth o bob rhan o'r byd—roedd yn cynnwys y Ganolfan Dadansoddi Allgáu Cymdeithasol, Ysgol Economeg Llundain, y Sefydliad Polisi Newydd—i sicrhau y gallwn, gyda’n pwerau a’n hysgogiadau, wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru. Ond credaf ein bod yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar y taliadau costau byw a’r hyn a wnawn, fel y dywedwch, ynglŷn â'r ymosodiad ar y bobl dlotaf yng Nghymru o ganlyniad i gyllideb fach ddiweddaraf Llywodraeth y DU, fel y'i gelwir.

A fyddai'r Gweinidog yn cytuno mai canlyniadau yw’r hyn sy’n bwysig, a Chymru, yn anffodus, sydd â’r cyfraddau tlodi plant gwaethaf o holl wledydd y DU? I ychwanegu at y darlun hwn, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o adroddiad diweddar gan Brifysgol Loughborough, a ddangosodd fod tlodi plant yng Nghymru wedi codi 5 y cant rhwng 2019-20 a 2020-21. Ar y llaw arall, mae’r lefel ar gyfer y DU gyfan wedi gostwng 4 y cant. Felly, pam fod y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i fethu mor druenus mewn perthynas â threchu tlodi plant?

Wel, fe wyddoch yn iawn mai’r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi yw pwerau dros y system dreth a lles, a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. [Torri ar draws.] A gaf fi atgoffa’r Aelod fod tlodi plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur—flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur—diolch i ymyrraeth Gordon Brown? Yn ddiddorol, fe soniodd am gredydau treth—. Fe gyflwynodd gredydau treth. Nawr, mae Joe Biden—[Torri ar draws.] A gaf fi siarad, os gwelwch yn dda?

Cewch. Mae angen inni glywed y Gweinidog, yn hytrach na thrafodaethau rhwng Aelodau ar y meinciau cefn. A gawn ni glywed y Gweinidog, os gwelwch yn dda?

A gaf fi ddweud bod credydau treth, o ran ymatebion Llywodraeth y DU, yn hollbwysig ar gyfer trechu tlodi? Mae Joe Biden yn gwneud hynny yn awr ac yn cael effaith gadarnhaol yn yr Unol Daleithiau. Gostyngodd lefelau tlodi plant o dan Lywodraeth Lafur; mae tlodi plant wedi codi o dan y Llywodraeth glymblaid ac o dan Lywodraethau Torïaidd, a thrwy bolisïau uniongyrchol a bwriadol, gan gynnwys y rhai yr wyf newydd sôn amdanynt gyda Huw Irranca-Davies. Mae'r sefyllfa gyda'r pecyn budd-daliadau'n gywilyddus, mae'r terfyn dau blentyn yn gywilyddus, mae'n gywilyddus nad ydynt yn ymrwymo heddiw i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Mae cyfrifoldebau Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cynnwys y cyflog byw yng Nghymru. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gysoni cyflogau staff gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG, buddsoddiad o £9 miliwn yn unig. Sut, felly, rydych yn ymateb i’r cyfarwyddwr cartrefi gofal yng ngogledd Cymru sydd wedi gofyn imi ofyn cwestiwn yn y Senedd ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl weithwyr gofal cymdeithasol Cymru yn cael y cyflog byw gwirioneddol, pan fo'r Living Wage Foundation yn disgwyl y dylid talu’r cynnydd a gyhoeddwyd ar 22 Medi i weithwyr cyn gynted â phosibl ar ôl y cyhoeddiad? Ychwanegodd,

'Nid yw Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael i ddarparwyr drwy eu hawdurdodau lleol i’w galluogi i dalu’r cynnydd hwn, ac yn syml iawn, mae llawer o’n gweithwyr ymroddedig heb ddigon o arian i dalu eu biliau ynni cynyddol. Rydym eisoes yn gweld llu o weithwyr gofal yn gadael y sector. Rwy'n ofni y bydd rhagor yn gadael oni bai bod darparwyr yn gallu cynyddu eu cyflogau yn unol â disgwyliadau'r Living Wage Foundation. Yn syml, ni allwn fforddio colli rhagor.'

Felly, byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb i'w gwestiwn, sy'n ymwneud yn benodol â staff gofal cymdeithasol.

Wrth gwrs, Llywodraeth Lafur Cymru, yn ei maniffesto, ac yna drwy’r rhaglen lywodraethu, ac o fewn ei blwyddyn gyntaf, a gyflwynodd y cyflog byw gwirioneddol i’n gweithlu gofal cymdeithasol. Cyflog byw gwirioneddol. Hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, yn ychwanegol at y cyflog byw, mae cyllid wedi'i ddarparu i'n gweithlu gofal cymdeithasol, fel y gwyddoch, ac yn wir, nid yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf, ond yn ystod cyfnod y pandemig, gan ein bod yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad y gweithlu gofal cymdeithasol ar y rheng flaen. Felly, rydym ni fel Llywodraeth wedi gwneud popeth a allwn i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol. Ond hefyd, yn amlwg, rydym yn cefnogi'r cyflog byw gwirioneddol, a fy Nirprwy Weinidog, Hannah Blythyn sy'n bwrw ymlaen â hyn yn benodol drwy ei chyfrifoldebau am y cyflog byw gwirioneddol.

Ond mae hefyd yn amlwg yn fater i’r Llywodraeth. Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda’r sefydliad gofal cymdeithasol, ac yn gweithio gyda’r holl gyflogwyr, ac yn wir, yr awdurdodau lleol mewn perthynas â chyflogaeth gweithwyr gofal cymdeithasol. Felly, rydym yn chwarae ein rhan. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Mark Isherwood, beth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud? Oherwydd, mewn gwirionedd, mae ein cyllideb eleni £600 miliwn yn llai, a bydd £1.4 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf. O ble y daw’r arian hwnnw, gan mai dyma y dymunwn ei wneud ar gyfiawnder cymdeithasol, ond mae arnom angen cymorth gan eich Llywodraeth chi?

Nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, sef pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael—

Mae’n ddrwg gennyf, rwy'n mynd i orfod ymyrryd, Mark Isherwood. Nid eich problem chi yw hyn; y broblem yw ei bod hi'n ymddangos ein bod yn cael rhyw fath o ddadl barhaus rhwng meinciau cefn Llafur a meinciau’r Torïaid ar hyn o bryd. Gallwn fod yn fwy penodol ac enwi unigolion, ond rwyf am gadw pethau'n gyffredinol am y tro. Ond os ydych chi'n dal ati, rwy'n mynd i ddechrau eich enwi; rydych yn gwybod pwy ydych chi. Mark Isherwood.

Diolch. Yn fy absenoldeb, ni allaf glywed hynny, ond diolch am yr ymyriad. Y cwestiwn yw: pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i’r awdurdodau lleol i’w galluogi i dalu’r cynnydd hwn? Roedd y cwestiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Ond i symud ymlaen, fe wnaethoch ddefnyddio'r gair 'cywilyddus' yn gynharach. Felly, yn gywilyddus, mae tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn codi ers 2004, pan godais hyn gyntaf gyda Llywodraeth Cymru. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd yn 2008, y flwyddyn y cododd i 32 y cant yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf bellach yn dangos bod 34 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi, tra bo ffigur y DU wedi gostwng i 27 y cant. Y prif reswm am hyn o hyd yw mai yng Nghymru y bu'r twf lleiaf yn lefelau ffyniant y pen gwledydd y DU ers 1999; gyda 5 y cant o boblogaeth y DU, 3 y cant yn unig o gyfoeth y DU y mae Cymru'n ei gynhyrchu; yng Nghymru y mae’r cyfraddau cyflogaeth isaf ym Mhrydain; a phecynnau cyflog Cymru yw'r rhai lleiaf yn y DU, a hyn oll er gwaethaf derbyn biliynau mewn cyllid, a oedd i fod yn gyllid dros dro, ac a gynlluniwyd i gefnogi datblygiad economaidd a lleihau anghydraddoldeb rhwng gwledydd a rhanbarthau.

Fel y dywedais yma yn 2009, mae’n drasiedi genedlaethol fod mwy o blant yn disgyn i dlodi yng Nghymru ac yr ymddengys bod polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hynny wedi methu. Ar ôl 13 mlynedd arall, pa gamau, os o gwbl, y byddwch yn eu cymryd gyda’ch cyd-Aelodau o'r Cabinet i ddysgu o’r profiad hwn, newid eich dull gweithredu, a chyflwyno cynllun twf gyda’r sector busnes a’r trydydd sector a’n cymunedau i adeiladu economi fwy llewyrchus yng Nghymru o’r diwedd?

13:45

Nid wyf yn gwybod a glywsoch chi fy ymatebion i gwestiynau cynharach, Mark Isherwood. Fe ddywedais, ac rwyf am ailadrodd, fod lefelau tlodi plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur, a'u bod wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y 12 mlynedd diwethaf o dan y Llywodraeth glymblaid a Llywodraethau Torïaidd, o ganlyniad i bolisïau uniongyrchol a bwriadol. A glywsoch chi Gordon Brown y bore yma pan ddywedodd ei fod wedi cael ei brofi’n economaidd na allwch gael cynllun twf—sef yr hyn yr ydych chi'n ceisio’i ddweud—sy'n seiliedig ar doriadau treth a gwneud i'r tlawd dalu er lles y cyfoethog? Oherwydd dyma sy’n digwydd o ganlyniad i’r gyllideb fach hon. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddylanwadu ar eich Llywodraeth i sicrhau bod yr ysgogiadau allweddol sydd ganddynt ar gyfer trechu tlodi plant yn cael eu defnyddio?

Ni chredaf eich bod yn gwrando ar fy ffigurau yn gynharach, a oedd yn gywir, ac a roddais i chi 18 mlynedd yn ôl mewn gwirionedd. Gostyngodd tlodi plant yng Nghymru am rai blynyddoedd o dan Lywodraeth Blair-Brown, ond wedyn dechreuodd godi eto, ac roedd wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU, nid y llynedd ond yn 2008. Ac mae wedi codi eto, gan fynd am yn ôl o gymharu â gweddill y DU. Dyna’r realiti, ac roedd y canlyniad y cyfeiriais ato yn ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Cymru. Felly, beth y bwriadwch chi wneud am y peth? Rydych wedi cael 23 mlynedd, mae'r llyfr cadw sgôr yn ofnadwy, ac mae'r effaith ar fywydau pobl yn erchyll.

Ond i symud ymlaen, mae adroddiad 'Left behind?' yr Ymddiriedolaeth Leol yn Lloegr yn dangos bod gan yr ardaloedd tlotach sydd â mwy o gapasiti cymunedol a seilwaith cymdeithasol ganlyniadau iechyd a llesiant gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd tlotach heb y capasiti hwnnw. Ym mis Ionawr, fe wnaeth papur trafod Canolfan Cydweithredol Cymru gan Cymunedau'n Creu Cartrefi ddatgan bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill yn y DU mewn perthynas â hawliau perchnogaeth gymunedol, gan ychwanegu nad yw polisïau yng Nghymru'n grymuso cymunedau i'r un graddau â chymunedau yn Lloegr, neu yn yr Alban yn enwedig.

Canfu adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, 'Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir' ym mis Chwefror mai cymunedau Cymru sydd wedi’u grymuso leiaf ym Mhrydain. Dywedodd grwpiau cymunedol yng Nghymru wrthynt am senario fympwyol, dorcalonnus, heb fawr ddim proses wirioneddol i gymunedau gael perchnogaeth dros asedau cyhoeddus neu breifat.

Mae ymchwil pellach gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru yn dangos eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u tanariannu gan lywodraeth leol a chenedlaethol. Sut, felly, yr ymatebwch i'w datganiadau eu bod yn credu bod cyfle da i Lywodraeth Cymru ddatblygu gwell cymorth ar gyfer dulliau gweithredu lleol, hirdymor, a arweinir gan y gymuned yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Cyn imi ateb y cwestiwn hwnnw, hoffwn ddweud, o ran y rhaglenni trechu tlodi plant, fod cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd—fel rhan o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, gan weithio gyda llywodraeth leol—yn golygu bod yr ymrwymiad i bob disgybl ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim erbyn 2024 eisoes wedi golygu, ers dechrau’r tymor hwn, fod 45,000 o ddisgyblion ychwanegol yn dod yn gymwys ar unwaith i gael pryd am ddim, a hefyd i gael brecwast ysgol am ddim, sy’n rhywbeth na wnaethoch chi gytuno iddo. Rydym yn bwydo ein disgyblion o ganlyniad i'n mentrau yma yng Nghymru.

Ond rwyf am ateb eich trydydd pwynt, oherwydd mewn gwirionedd, cefais gyfarfod defnyddiol iawn yr wythnos diwethaf gyda Mabon ap Gwynfor a'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau. Gofynnodd am gyfarfod yn dilyn dadl ddefnyddiol iawn, y gwnaeth pob un ohonoch gyfrannu ati ar draws y Siambr, i drafod polisi cymunedol, i drafod cyrhaeddiad ein hasedau cymunedol. Gallwch gymryd rhan yn hynny gan eich bod yn cefnogi cydgynhyrchu, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ddoe, pan ofynnwyd iddo gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ynglŷn â chyflwyno mesurau fel y rheini a roddwyd ar waith yr wythnos hon gan Lywodraeth yr SNP yn yr Alban i amddiffyn eu pobl rhag digartrefedd y gaeaf hwn, megis rhewi rhenti dros dro yn y sector preifat a gwaharddiad ar droi allan, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn credu y byddai rhoi'r mesurau hynny ar waith yma yng Nghymru yn gweithio. Felly, beth fydd yn gweithio, Weinidog? Mae Shelter yn yr Alban wedi croesawu’r mesurau, gan ddweud ei fod yn newyddion gwych i denantiaid, ac y bydd yn atal pobl rhag colli eu cartrefi. Ond yn gwbl briodol, maent am i'r amddiffyniadau fynd hyd yn oed ymhellach, fel bod y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddigartref yn cael eu hamddiffyn yn llawn rhag codiadau rhent a chael eu troi allan, ac fel y gellir dod â'r argyfwng tai i ben yn barhaol y tu hwnt i'r argyfwng costau byw hwn.

Mae meiri Llafur hefyd wedi galw am atebion brys i wrthsefyll yr argyfwng costau byw ac i drechu tlodi, megis rhewi rhenti preifat. Dywedodd Lisa Nandy, Ysgrifennydd yr wrthblaid dros ffyniant bro a thai, fod ganddi ddiddordeb ynddynt, gan ddweud nad yw gwneud dim yn opsiwn. Mae'n rhaid archwilio'r rhain, ac yn wir, eu rhoi ar waith ar unwaith. A wnewch chi ymrwymo heddiw felly i gomisiynu gwaith ymchwil brys a gwerthusiad o fewn yr wythnosau nesaf i ganfod y ffordd orau o atal bygythiad cynyddol digartrefedd, sy’n gysgod dros ormod lawer o deuluoedd yng Nghymru y gaeaf hwn oherwydd yr argyfwng costau byw? A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, nad yw gwneud dim yn opsiwn, a’i bod yn bosibl, ac mewn gwirionedd yn hanfodol gweithredu’n gyflym mewn argyfwng? Mae hon yn wers yr ydym wedi'i dysgu o'r pandemig. Dyna mae Llywodraeth yr Alban wedi’i wneud. Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

13:50

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Wrth gwrs, atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn gan eich arweinydd ddoe, a gwnaeth sylwadau ar Fil Costau Byw (Amddiffyn Tenantiaid) (Yr Alban) Llywodraeth yr Alban, sydd gerbron Senedd yr Alban. A hefyd, roedd yn cydnabod, yn ei ymateb i hynny, yn enwedig mewn perthynas ag amddiffyn tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru, er enghraifft, dros y gaeaf rhag codiadau rhent, fod rhenti cymdeithasol yn cael eu gosod yn flynyddol, gyda'r newid nesaf mewn rhenti cymdeithasol ddim tan fis Ebrill 2023. Credaf mai’r peth allweddol yw y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd wrth gwrs, yn gyfrifol am dai, yn ystyried tystiolaeth ac opsiynau ar gyfer rhenti cymdeithasol yn y dyfodol dros yr wythnosau nesaf i'n cyfeirio mewn perthynas â phenderfyniadau yn y dyfodol.

Bûm mewn digwyddiad costau byw y bore yma a drefnwyd gan Hafod yn fy etholaeth. Roeddent yn cynnig cymorth a chyngor ariannol i bob un o’u tenantiaid sy’n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yng Nghymru gyda’r argyfwng costau byw. Yr hyn a wnaent oedd sicrhau eu bod yn gwybod am gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, y £200 y gall pobl ei gael yn eu cyfrifon banc i'w cefnogi yn awr, sicrhau eu bod yn gwybod am gyhoeddiadau a wnaethom fel Llywodraeth Cymru nid yn unig ynghylch cynyddu incwm ond y canolfannau cynnes, a hefyd fy nghyhoeddiad ddoe. Credaf y byddwch wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig ar fwy o gyllid ar gyfer trechu tlodi bwyd a sicrhau bod plant a rhieni'n gwybod am y talebau Cychwyn Iach. Felly, mae yna lawer o gymorth, ac mae ar gael i bob cenhedlaeth i sicrhau hefyd fod pobl hŷn yn ymwybodol o gredyd pensiwn a’u hawliau.

A gaf fi ddweud ein bod wedi ymrwymo i gefnogi tenantiaid ar yr adeg anodd hon, a'u cynorthwyo i aros yn eu cartrefi? Rydym wedi buddsoddi £6 miliwn yn ychwanegol drwy ein grant atal digartrefedd, ond rydym yn adolygu dull gweithredu Llywodraeth yr Alban gyda diddordeb. Ond yn amlwg, hefyd, fel rydym yn ei drafod yn aml gyda’n swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, ceir gwahanol ffyrdd o gyflawni’r un amcan.

Diolch. Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwerthusiad hwnnw. Clywsom hefyd y Prif Weinidog, yn gwbl briodol, yn condemnio dymuniad Prif Weinidog y DU i beidio â chynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, budd-daliadau pobl nad oes ganddynt y nesaf peth i ddim i fyw arno yn barod. Maent yn wynebu gaeaf brawychus. Ac fel y gwyddoch, Weinidog, mae’r Alban yn gallu amddiffyn eu dinasyddion mwyaf agored i niwed yn well rhag agwedd ddideimlad a chywilyddus Llywodraeth San Steffan, gan fod ganddynt fwy o bwerau dros weinyddu budd-daliadau lles. Mae’r cyllid pellach yr ydych newydd gyfeirio ato ac a gyhoeddwyd gennych yr wythnos hon i helpu sefydliadau fel banciau bwyd i’w groesawu wrth gwrs, er ei bod yn warthus fod pobl yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyd.

Rydych wedi cyhoeddi cynlluniau eraill y cyfeirioch chi atynt yn awr, megis y cynllun cymorth tanwydd, i geisio lleihau effaith y lefelau digynsail hyn o angen ymhlith teuluoedd Cymru. Ond rydym wedi clywed droeon gan ymgyrchwyr gwrthdlodi a sefydliadau cymorth fod angen un system symlach ac awtomatig i sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni, os gwelwch yn dda, a oes gwaith yn mynd rhagddo ar hyn, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni hefyd am yr ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatganoli gweinyddu lles?

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Mae’r rhain yn faterion hollbwysig o ran rhoi'r arian ym mhocedi pobl ac yn eu cyfrifon. Fe wyddoch ein bod yn datblygu ac yn gweithio gyda sefydliadau fel Sefydliad Bevan ar siarter fudd-daliadau i Gymru, a hefyd yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod budd-daliadau'n cael eu pasbortio—fod budd-daliadau'n cael eu symleiddio.

Yfory, byddaf yn cyfarfod â holl arweinwyr llywodraeth leol. Mae gennym eitem ar gostau byw ar yr agenda. Maent yn rhannu, nid yn unig gyda mi, ond gyda'i gilydd, y ffyrdd y maent yn darparu'r arian. Wrth siarad ag arweinydd Rhondda Cynon Taf yr wythnos diwethaf, dywedodd wrthyf am y miloedd o bunnoedd sydd eisoes wedi'i ddarparu o ganlyniad i'r ffaith eu bod yn ymwybodol iawn o bwy sydd angen yr arian a sut y gallant eu cyrraedd. Felly, mae’r holl waith hwnnw’n hollbwysig ar gyfer y sefyllfa sydd ohoni.

Ond rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o edrych ar ddatganoli gweinyddu budd-daliadau. Cyfarfûm â Gweinidog Llywodraeth yr Alban i ddysgu gan Social Security Scotland ynglŷn â'r ffyrdd, gobeithio, y gallwn rannu. Hefyd, mae ganddynt gryn ddiddordeb yn yr hyn a wnawn gyda'n cronfa gynghori sengl. Felly, roedd yn drafodaeth ddwy ffordd. Ond hefyd, dysgu oddi wrthynt ynghylch cymryd y camau nesaf, oherwydd yn amlwg, rydym yn datblygu ystod gyfan o fudd-daliadau a chyflog cymdeithasol a gwasanaethau cymorth—gwasanaethau sylfaenol—i bobl, sy'n rhan o'n hymateb nawdd cymdeithasol a lles. Ond gadewch inni gydnabod, fel y dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos hon, os yw hyn yn digwydd—os nad ydym yn cael cynnydd sy'n unol â chwyddiant, os yw'n unol ag enillion—dyma fyddai'r toriad mwyaf erioed mewn termau real i fudd-daliadau.

13:55
Tlodi Plant

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau tlodi plant yn Sir Drefaldwyn? OQ58470

Diolch am eich cwestiwn. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi plant—sef pwerau dros y system dreth a lles—a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn gyda’r pwerau sydd gennym i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i holl blant Cymru fel y gallant gyflawni eu potensial.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â’r pwerau sydd o fewn eich cyfrifoldeb chi. Weinidog, fe fyddwch yn cydnabod, wrth gwrs, mai ardal wledig ar y cyfan yw fy etholaeth i yn sir Drefaldwyn. Mae eich rhaglen Dechrau’n Deg wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer i gefnogi aelwydydd mewn ardaloedd difreintiedig. Yn anffodus, ni ellir cael mynediad at y rhaglen mewn sawl ardal wledig, ac mae'r elfen loteri cod post yn parhau. A ydych yn cydnabod, Weinidog, fod ardaloedd i'w cael nad ydynt yn cael eu hystyried yn ardaloedd difreintiedig, ond bod pocedi o amddifadedd i'w cael o fewn yr ardaloedd hynny? Yn aml iawn, maent i'w gweld mewn rhannau gwledig o Gymru. A gaf fi ofyn i chi, ynghylch y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gennych yr wythnos diwethaf rwy'n credu, sut y bwriadwch iddo ganolbwyntio’n benodol ar y materion a amlinellais? Sut y gwnewch chi sicrhau bod awdurdodau lleol gwledig yng Nghymru, yn enwedig Powys, yn cael eu cyfran deg o gyllid i gefnogi’r cymunedau penodol hynny?

Diolch am eich cwestiynau pwysig iawn. Mae’r ffordd yr ydym yn ceisio trechu tlodi gyda’n pwerau'n ymwneud â dulliau gweithredu cyffredinol, megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl, a fydd yn helpu llawer o’r rheini sydd ar ffin amddifadedd neu sy’n ei chael hi’n anodd ar yr adeg hon yn ariannol. Dylwn ddweud, yng Nghyngor Sir Powys, fod hyn mewn gwirionedd bellach yn golygu bod 1,067 o ddysgwyr ychwanegol yn cael y cynnig cyffredinol hwnnw. Mae'n mynd i ehangu, wrth gwrs.

Ond ar eich pwynt ynglŷn â Dechrau'n Deg, dechreuodd cam 1 y gwaith o ehangu Dechrau'n Deg ym mis Medi. Ym Mhowys, mae hyn yn gyfystyr ag oddeutu 60 yn rhagor o blant dan bedair oed yn gymwys ar gyfer y rhaglen, a bydd 15 o blant dwy i dair oed yn gymwys ar gyfer yr elfen gofal plant. Credaf hefyd, yn bwysig, fod yna grantiau mynediad eraill, fel elfen mynediad y grant datblygu disgyblion. Mewn gwirionedd, roedd cyfanswm hynny, ochr yn ochr â grant datblygu disgyblion y blynyddoedd cynnar ar gyfer 2023, yn £3,148,700.

Prynhawn da, Weinidog. Fel y gwyddom, mae cynnydd sylweddol mewn banciau bwyd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, ac yn sir Drefaldwyn, a diolch i Russell George am godi’r mater hynod bwysig hwn yn sir Drefaldwyn. Mae’n gwbl warthus, a byddwn yn cytuno â Sioned Williams yn hyn o beth. Ar ôl siarad â banc bwyd yn sir Drefaldwyn yn ddiweddar, dywedasant yn glir fod dwy her yn eu hwynebu dros yr hydref a’r gaeaf, o ystyried yr argyfwng costau byw. Un yw eu bod yn cael llai o roddion, a'r llall, yn anffodus, yw galw cynyddol. Dros wyliau’r ysgol, dechreuodd siop bysgod a sglodion leol yn y Drenewydd ddarparu prydau am ddim i blant, oherwydd yn syml iawn, nid oedd gan deuluoedd ddigon o arian i fwydo eu hunain pan ddaeth cinio ysgol am ddim i ben dros yr haf. Gwn y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn warthus fod teuluoedd, ym mhumed economi fwyaf y byd, yn ei chael hi'n anodd goroesi. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod gan y Blaid Geidwadol lawer i ateb drosto yn hyn o beth, felly rwy'n mawr obeithio, Russell, y byddwch yn mynd â hyn ymhellach o fewn eich plaid, gan fod angen eich cefnogaeth arnom. Gan ganolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, a wnewch chi amlinellu sut y byddech yn parhau i gefnogi grwpiau cymunedol, banciau bwyd, a busnesau bach annibynnol, fel y rhai y siaradais â hwy yn sir Drefaldwyn, sy'n ceisio gwneud eu gorau i warchod teuluoedd ifanc rhag elfennau gwaethaf yr argyfwng costau byw? Diolch yn fawr iawn.

14:00

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried hwn yn fater i Gymru gyfan—cefn gwlad, trefol, ac nid y rhai mwyaf difreintiedig yn unig, ond pob teulu sy'n profi tlodi ac anfantais. Mae'n mynd yn ôl i'r cwestiwn enfawr hwn sef o ble y daw'r £45 biliwn ar gyfer toriadau treth, sy'n mynd i fod o fudd i'r mwyaf cyfoethog, oherwydd os daw o wasanaethau cyhoeddus neu fudd-daliadau lles, bydd y sefyllfa'n mynd o ddrwg i waeth.

Ond hoffwn ddweud, ar drechu tlodi bwyd, fe gyhoeddais £1 filiwn arall ddoe, ond mae'n adeiladu ar £3.9 miliwn sydd eisoes wedi'i ddyrannu eleni, ac mae'n ymwneud â gweithio gydag awdurdodau lleol, fel y gwyddoch, i ddatblygu a chryfhau partneriaethau bwyd. Mae'n dda iawn clywed am fusnesau'n cymryd rhan; maent eisiau cymryd rhan, rai ohonynt, yn ein menter canolfannau cynnes a gyhoeddodd y Prif Weinidog ychydig ddyddiau yn ôl. Efallai eich bod chi wedi clywed, ar y rhaglen fwyd ar Radio 4 dros y penwythnos, am Big Bocs Bwyd a'r ffaith bod hyn hefyd yn lledaenu drwy Gymru lle mae ysgolion yn cymryd rhan gyda sefydliadau bwyd cymunedol hefyd. Ond rydym yn dweud yn y datganiad ein bod eisiau helpu archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau cinio, dosbarthiadau coginio; rydym hefyd yn siarad am sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at bethau fel coginwyr araf. Nid yw pobl yn gallu bwydo eu mesuryddion yn barod, felly mae gennym ein partneriaeth Sefydliad Banc Tanwydd hefyd. Ond rwy'n credu—ac mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yma hefyd—y bydd yr holl waith a wnawn gyda'r blynyddoedd cynnar a chyflwyno'r £100 miliwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth mewn perthynas ag estyn allan at y bobl iau a'r babanod hynny. Ond wyddoch chi, llaeth babi, poteli dŵr poeth—hynny yw, dyma'r oes yr ydym yn byw ynddi gyda banciau bwyd yng Nghymru.

Y Sector Wirfoddol

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector wirfoddol? OQ58469

Diolch am y cwestiwn, Paul. Rwyf wedi rhoi cytundeb ariannu tair blynedd o £6.98 miliwn y flwyddyn i Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ac mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, gallaf gyhoeddi £2.2 miliwn ychwanegol heddiw i barhau i gefnogi'r seilwaith dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Nawr, fel y gwyddoch, mae cyllid o'r rhaglen gyllido cydraddoldeb a chynhwysiant wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau yn sir Benfro a ledled Cymru, ac rwy'n siŵr y byddwch yn deall bod adnewyddu'r cyllid hwn yn hanfodol i lawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y trydydd sector. Nawr, fel y gwyddoch, mae sefydliadau gwirfoddol a grwpiau o dan bwysau digynsail, gyda rhai sefydliadau'n cael trafferth cadw staff. Felly, a wnewch chi roi diweddariad ar gyllido'r rhaglen gyllido cydraddoldeb a chynhwysiant? A pha sicrwydd y gallwch ei gynnig i sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru y bydd yr arian hwn ar gael cyn gynted â phosibl?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi canolbwyntio ar y grant cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym wedi ymgynghori'n eang ynglŷn â hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cyrraedd y rheini. Wrth gwrs, mae yna lawer o sefydliadau a hoffai elwa o'r rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, felly gallaf eich sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â hyn ac y bydd trefniadau ymgeisio ac amserlenni'n cael eu cyhoeddi.

Biliau Ynni

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn ei gael ar allu pobl i dalu am filiau ynni? OQ58477

Diolch am y cwestiwn. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad y Canghellor yn annheg. Maent yn methu darparu cefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed, gan ddarparu budd sylweddol i'r bobl gyfoethocaf ar yr un pryd. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gartrefi yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu costau ynni ac eitemau hanfodol eraill, gan arwain at lefelau uwch o dlodi.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n cytuno â'ch casgliad. Ni fydd y cynlluniau hyn yn gwneud fawr ddim i gefnogi teuluoedd drwy'r cyfnod anodd hwn ac yn hytrach, maent yn canolbwyntio ar roi mwy o arian yn nwylo'r cyfoethog. Mae hyn yn golygu bod y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed yn fwy hanfodol, ac rwy'n derbyn bod y Llywodraeth wedi rhoi llawer mwy mewn grantiau costau byw nag y mae wedi ei gael gan Lywodraeth y DU at y diben hwn. Mae pryderon, fodd bynnag, y gallai'r grantiau hyn fod yn anhygyrch i'r rhai sydd eu hangen fwyaf, oherwydd allgáu digidol neu ddiffyg mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Fe'i codwyd yn ddiweddar mewn uwchgynhadledd costau byw a fynychais ym Mhlas Madoc, gyda fy nghyd-Aelod, Ken Skates.

Yn ystod y pandemig, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob cartref i sicrhau bod gan bawb fynediad at yr wybodaeth yr oeddent ei hangen. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod angen ymgyrch debyg, wrth inni wynebu anterth yr argyfwng costau byw hwn, fel bod pawb yn ymwybodol o'r cymorth ariannol sydd ar gael yma yng Nghymru a sut y gallant gael mynediad ato?

14:05

Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, Carolyn Thomas, ac mae'n dilyn yr hyn yr oedd Russell George yn ei ddweud yn gynharach: sut y gallwn wneud yn siŵr fod y budd-daliadau sydd gennym yn cyrraedd y bobl sydd â hawl iddynt? Rydym yn gwybod bod llawer eisoes—rwyf wedi dweud, rwy'n credu, fod rhywfaint o'r grant cymorth tanwydd gwerth £200 yn mynd yn syth i gyfrifon, oherwydd bod pobl wedi ymgysylltu'n ddigidol ac oherwydd bod ganddynt gyfrifon ar gyfer cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Felly, rydym yn edrych i weld sut y gallwn, gyda'n partneriaid llywodraeth leol, ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y trydydd sector, Cyngor ar Bopeth, helpu wyneb yn wyneb os oes angen, a hyfforddi mwy o bobl ym maes cyngor ar fudd-daliadau. Yn sicr, rhannodd Jenny Rathbone gyfarfod tebyg yr wythnos diwethaf yn Llanedeyrn, lle dywedodd ymwelwyr iechyd, 'Gallant ddweud, "Efallai fod gennych hawl i hyn", ond mae angen help ar bobl i lenwi ffurflenni cais ac yn y blaen'. Felly, dyma rywbeth ymarferol hanfodol sydd angen inni ei wneud, ac fe fyddwn yn ei wneud, ond rwyf eisiau dweud y bydd ein hymgyrch gaeaf 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', y cam nesaf—mae angen i chi i gyd ein helpu gyda hyn—yn targedu cartrefi drwy hysbysebion radio, teledu, galwadau i rif ffôn ymgyrch Advicelink. Mae gan bawb yma etholwyr yr ydych eisiau iddynt hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae 9,000 o bobl wedi ymateb i'r alwad i gysylltu ag Advicelink Cymru, ac mae hynny wedi helpu pobl i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol.

Gofynnais i Chloe Smith, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau o'r Alban a Gogledd Iwerddon, a fyddai Llywodraeth y DU yn ymuno â ni mewn ymgyrch i gynyddu hawliadau ar draws y DU, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai dyma'r ffordd ymlaen. 

Wel, ar nodyn mwy cadarnhaol na fy nghyd-Aelod, rwy'n eithaf bodlon mewn gwirionedd gyda'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd. Popeth a wnawn yn awr, mae'n gyllideb fach ar gyfer twf, mae'n gyllideb fach i gael pobl yn ôl mewn gwaith. Ac mae'n rhaid i mi ofyn, yn dilyn pandemig COVID a'r ffaith bod gennym ryfel dychrynllyd yn Wcráin, sut yn union y byddech chi'n ei wneud a sut y byddai Llafur yn ei wneud. Nid oes gennych unrhyw atebion, dim ond beirniadaeth. Ac rwy'n dweud wrthych, mae'r bobl wedi gweld drwy hynny. Mae araith y Prif Weinidog heddiw wedi cael derbyniad gwych, ac mae sylwadau cadarnhaol ym mhobman. Felly, beth bynnag, rydym ni hefyd wedi cymryd—a phan ddywedaf 'ni', mae Llywodraeth y DU wedi cymryd nifer o gamau a fydd o fudd i bobl Cymru: capio biliau ynni ar £2,500 pan allent fod wedi bod yn £6,000—hyn, yn ychwanegol at y gostyngiad o £400 i bob aelwyd—[Torri ar draws.]

Iawn. Diolch, Lywydd. A thaliadau ychwanegol i'r rhai mwyaf agored i niwed. Yn y gyllideb fach, cyhoeddwyd y byddai 1.2 miliwn o bobl yn elwa o'r toriad i gyfradd sylfaenol y dreth incwm a bydd 2 filiwn yn cael toriad yswiriant cenedlaethol o £235—[Torri ar draws.]

Na, dim pwynt o drefn. Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymateb. 

Mae'r mesurau hyn yn dangos mai Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n ceisio lleddfu'r baich ar ein haelwydydd ni yma yng Nghymru. Oherwydd y toriad i'r dreth stamp yn Lloegr, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn £70 miliwn yn ychwanegol yn awr. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf sut yn union y bwriadwch wario'r arian hwnnw?

Rwy'n rhyfeddu bod gennych wyneb i siarad yn y ffordd honno, Janet Finch-Saunders, pan fo gennym ni bobl yng Nghymru nawr nad ydynt yn gallu rhoi eu trydan ymlaen, nad ydynt yn gwybod o ble y byddant yn cael eu pryd nesaf, o ganlyniad i'ch Llywodraeth [Torri ar draws.] Nid wyf am ailadrodd popeth—rwy'n siŵr y bydd y Llywydd yn fy atal beth bynnag—ond ble y maent hwy am ddod o hyd i'r £45 biliwn? Maent wedi cael dau dro pedol yn barod. Ble maent—? Felly, rwyf am ddweud wrthych ble—mae'r Resolution Foundation yn dweud ei fod naill ai'n golygu torri gwasanaethau cyhoeddus neu dorri budd-daliadau lles, a fydd yn achosi mwy o dlodi ac amddifadedd.

Mae'n rhaid inni gydnabod bod cynyddu budd-daliadau, gan gynnwys pensiwn y wladwriaeth, drwy enillion yn lle chwyddiant—. Byddai toriad o 4 y cant mewn termau real yn costio dros £1,000 y flwyddyn i deulu incwm isel nodweddiadol gyda dau o blant. Beth a wnewch gyda'r etholwyr hynny, Janet Finch-Saunders? A gaf fi ddweud bod Dadansoddi Cyllid Cymru wedi nodi y bydd bron i 90 y cant o'r enillion yng Nghymru yn mynd i aelwydydd yn y 50 y cant uchaf? A ydych chi'n cytuno gyda hynny? Bydd 90 y cant o'ch polisïau, yn gyllidol, yn mynd i'r 50 y cant uchaf yma yng Nghymru; bydd 40 y cant yn mynd i gartrefi yn y 10 y cant uchaf yn eich etholaeth chi. Pam na all Llywodraeth y DU gael ei blaenoriaethau'n iawn? Dylent dargedu'r dreth ffawdelw i dalu am hyn, er mwyn talu am eu cyllideb sy'n torri trethi. Nid fydd yn sicrhau twf; bydd yn creu tlodi ac amddifadedd, ac mae hynny'n drasiedi i'r bobl a gynrychiolwn yng Nghymru.

14:10
Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru? OQ58474

Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cael ei benodi gan Lywodraeth y DU ac felly nid yw'n atebol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r comisiynydd yn eiriolwr pwysig dros gyn-filwyr yng Nghymru. Rwyf wedi ei gyfarfod nifer o weithiau ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag ef er budd ein cyn-filwyr.

Diolch am hynny, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn falch, fel finnau, fod y gwaith y mae'n ei wneud wedi hen ddechrau, ac rwy'n siŵr y byddech yn croesawu Sarah Atherton i'w swydd fel y Gweinidog cyn-filwyr yn Llywodraeth y DU. Fe ddywedoch chi mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond mae yna faterion sydd wedi eu datganoli yma, a gobeithio y gallwn gael atebion ar y rheini—rwy'n gwybod nad yw'r Llywodraeth yma yn hoffi ateb ar faterion datganoledig. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl ynghylch darparu cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr i wneud yn siŵr fod cymorth ar gael iddynt pan fyddant yn gofyn amdano a'u bod yn cael eu cefnogi pan fyddant mewn angen? Diolch, Lywydd.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ar fater comisiynydd cyn-filwyr Cymru, fy mhwynt yw mai penodiad gan Lywodraeth y DU ydyw, ac felly nid yw'n atebol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Fel y dywedais, rwyf wedi ei gyfarfod nifer o weithiau, mae'n dal yn ddyddiau cynnar; daeth i'r swydd ym mis Mehefin ac mae'n swydd ran-amser. Yn wir, roeddwn gyda'r comisiynydd cyn-filwyr y bore yma yn ein grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, ac roedd Darren Millar yn bresennol hefyd, ar ran y grŵp trawsbleidiol, ac felly rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos iawn. Ac rwyf hefyd wedi trefnu i'r comisiynydd gyfarfod â nifer o fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth i gael gwell dealltwriaeth o'r meysydd sydd wedi'u datganoli lle rydym yn cefnogi cyn-filwyr, fel iechyd ac addysg, a'u teuluoedd hefyd, a sut y gallwn weithio ar y cyd a symud ymlaen, fel ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu adeiladu ar y gwaith a wnaethom eisoes. Ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein hadroddiad blynyddol ar y lluoedd arfog i'r lle hwn fis nesaf, a byddwn yn gallu trafod hynny.

Ond yng Nghymru, rydym yn falch iawn o gael GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n cefnogi cyn-filwyr ac sy'n unigryw i Gymru. Mewn gwirionedd, yng nghyfarfod grŵp arbenigol y lluoedd arfog y bore yma, fe wnaethom drafod sut y gallwn ni wneud yn siŵr fod yna gefnogaeth ar y cychwyn, ac rydym yn cyfrannu at brosiectau ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd i sicrhau sut y gall cyn-filwyr gael mynediad at y gwasanaethau hynny y tu allan i oriau. Mae llinell gymorth ar gael at eu defnydd eisoes, ond mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau bod y pwynt cyswllt cyntaf yn un cadarnhaol, pan fyddant yn mynd, efallai, i'w meddygfa neu wasanaeth, a hefyd yn ystyried gwasanaethau y tu allan i oriau. Felly, rydym yn falch o'r gwaith a wnaethom yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio i wneud y gorau dros ein cyn-filwyr a'u teuluoedd yng nghymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.

Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

7. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws Gogledd Cymru? OQ58499

Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngogledd Cymru. Er bod plismona'n fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos â chydweithwyr plismona ar faterion strategol ac yn ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i ddiogelu cymunedau ar draws Cymru.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd gorau o leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yw sicrhau bod ein swyddogion heddlu gweithgar a'r swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu y gwnaethoch chi sôn amdanynt yn gallu canolbwyntio eu hamser a'u hymdrechion ar eu meysydd cyfrifoldeb clir iawn. Weinidog, yn ôl ym mis Gorffennaf, fe gofiwch imi godi'r ffaith bod heddluoedd ledled Cymru yn methu canolbwyntio ar eu blaenoriaethau clir fel swyddogion heddlu am eu bod yn gorfod ymdrin â gwaith sydd fel arfer yn gyfrifoldeb i feysydd gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis ym maes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol. Yn ôl ym mis Gorffennaf, fe ddywedoch chi fod nifer o'r materion hyn yn cael eu codi drwy'r bwrdd partneriaeth plismona wrth weithio gyda chydweithwyr plismona. Felly, yn sgil hyn, Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed a oes gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha ymdrechion sy'n cael eu gwneud i leihau'r amser y mae'r heddlu'n gorfod ei dreulio'n canolbwyntio ar faterion nad ydynt yn faterion plismona er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

14:15

Diolch, Sam Rowlands. Fel y dywedwch, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn chwarae rhan mor hanfodol yn hyrwyddo diogelwch cymunedol a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithredu fel clustiau a llygaid ar lawr gwlad i heddluoedd. Ond mae hefyd yn ymwneud â chysylltiadau lleol ac mae cymaint o'r cysylltiadau lleol hynny gydag awdurdodau lleol, gyda'u gwasanaethau cymdeithasol, tai, gweithwyr ieuenctid ac yn y blaen, yn ogystal â chydweithwyr iechyd. Mae'n gydgysylltiedig iawn o ran mynd i'r afael â throseddu, atal troseddu ac ymgysylltu mewn ffordd gyfannol, ac rydym yn gwneud hynny gyda'n bwrdd partneriaeth plismona a chyda'r gwaith a wnawn gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu.

Felly, yn y cyfarfod diwethaf, er enghraifft, roedd gennym Lynne Neagle yn siarad am gamddefnyddio sylweddau, sy'n fater hanfodol y mae'r maes iechyd, wrth gwrs, yn ymwneud ag ef; roedd iechyd y cyhoedd yno. Hefyd, roedd gennym Ysgrifennydd Gwladol Cymru; ymunodd Syr Robert Buckland â ni yn y cyfarfod hwnnw ac fe ymgysylltodd â ni hefyd. Rydym wedi mabwysiadu agwedd iechyd y cyhoedd o ran ceisio sicrhau bod gennym ddiogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol, felly mae'n ymwneud â rhyngweithio a chynlluniau dargyfeiriol. Bydd gennych ddiddordeb mawr mewn clywed bod y comisiynydd heddlu a throseddu wedi ariannu clwb bocsio ym Mwcle, cynllun lleoliad diogel, dargyfeirio, rhyngweithio. Felly, nid yw'n ymwneud â dweud llai am gysylltu ag iechyd a'r gwasanaethau chymdeithasol; mae'n ymwneud ag ymgysylltu i bwrpas mewn gwirionedd. Ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn rheolaidd ar y bwrdd hwnnw.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

8. A wnaiff y Gweinidog datganiad ynglŷn â chynnydd gyda'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol? OQ58481

Diolch, Rhys ab Owen. Cafodd ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ei lansio ym mis Mehefin. Rwyf wedi gofyn i'r cyhoedd a'r trydydd sector yng Nghymru weithio gyda ni i gyflawni'r cynllun ac rydym wedi sefydlu uned gwahaniaethau ar sail hil fel un o'n camau gweithredu cyntaf.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ni allwn wahanu heddiw oddi wrth hanes. Mae'n rhaid inni gydnabod rhywfaint o'r camweinyddiadau cyfiawnder ofnadwy y mae cymunedau sydd mor agos i'r Senedd hon wedi eu hwynebu. Yr wythnos o'r blaen, wrth sôn am farwolaeth drist Tony Paris, nodais fod ei ferch eisiau enwi stryd ar ei ôl yn ei annwyl Butetown. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch i gofio am y camweinyddiadau cyfiawnder y mae'r cymunedau hynny wedi eu hwynebu dan law'r system gyfiawnder yma yng Nghymru—Tony Paris, Pump Caerdydd, y tri a gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio gwerthwr papurau newydd yng Nghaerdydd, Mahmood Mattan, ymhlith eraill? Mae angen inni ddysgu o'r gorffennol os ydym am ei osgoi eto yn y dyfodol. Diolch.

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae'n rhaid imi ddweud bod yna lawer sy'n cael ei wneud, nid yn unig yn fy mhortffolio i, ond yn sicr ym mhortffolio Dawn Bowden hefyd yng nghyd-destun treftadaeth, diwylliant, celf a chwaraeon. Nid wyf yn gwybod a lwyddoch chi i ymweld ag arddangosfa Ailfframio Picton yn yr amgueddfa genedlaethol, a ddydd Sadwrn, agorais ddigwyddiad lansio Hanes Pobl Dduon 365. Roedd yn bwysig ei fod yn cael ei gynnal mewn amgueddfa, yn ogystal â'r arddangosfa Windrush a oedd yn cael ei chynnal. Mae angen inni anrhydeddu'r rhai sydd â threftadaeth ddu, Asiaidd, lleiafrifol ethnig a'u cyfraniad, a chydnabod y materion hyn yng ngoleuni camweinyddu cyfiawnder hefyd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.

Datganoli Cyfiawnder

1. Pa sgyrsiau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â datganoli cyfiawnder? OQ58479

Diolch am eich cwestiwn. Mae gennyf gyfarfod rhagarweiniol gyda'r Twrnai Cyffredinol newydd yn fuan, ac rwyf hefyd yn gobeithio cyfarfod â thîm gweinidogol yr Arglwydd Ganghellor a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder maes o law. Wrth gwrs, byddaf yn gwneud yr achos dros ddatganoli cyfiawnder yn ystod y trafodaethau hyn.

14:20

Diolch am eich ateb. Yn ddiweddar cysylltodd etholwr â mi a oedd, yn anffodus, wedi colli ei mab ac sydd bellach yn rhan o grŵp sy'n ymgyrchu dros wneud crwneriaid yn atebol i gorff cyhoeddus. A ddylai cyfiawnder gael ei ddatganoli i Senedd Cymru? Rwy'n credu y dylai. Pa ystyriaethau a roddwyd gennych i'r mater hwn? Diolch.

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae mater llysoedd crwneriaid yn un pwysig, ac mae'n un a godwyd gennyf yn y Siambr hon sawl gwaith, ond hefyd fe gafodd ei ystyried yng nghomisiwn Thomas ac fe gyfeirir ato hefyd yng 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran eich etholwr—ac rwy'n gwybod fel rhywun sydd wedi cynrychioli llawer o bobl mewn llysoedd crwneriaid dros y blynyddoedd—fy mod yn cydymdeimlo'n fawr? Rwy'n gwybod beth yw effaith trychinebau o'r fath ar bobl, ar deuluoedd, trychinebau sy'n aros gyda hwy drwy gydol eu hoes. Rwy'n tybio mai'r man cychwyn, o ran atebolrwydd, fel gyda phob proses—ac wrth gwrs, llys cofnodi yw llys y crwner, felly mae iddo darddiad eithaf anarferol ond hanesyddol—pwysigrwydd annibyniaeth a gwahanu oddi wrth y Llywodraeth, felly, yn amlwg nid yw'n ymwneud ag atebolrwydd i ni fel Senedd nac i gyrff cyhoeddus, ond yn hytrach ei rôl o fewn y system farnwrol. 

Gan gofio hefyd fod llysoedd crwneriaid, y crwneriaid, i bob pwrpas, yn cael eu hariannu'n llawn yng Nghymru—cânt eu hariannu gan yr awdurdodau lleol; cânt eu hariannu'n gyhoeddus yn y ffordd benodol honno—ac rwy'n credu bod rôl naturiol i'r rheini fod o fewn system gyfiawnder ddatganoledig yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae honno'n ddadl yr wyf wedi ei gwneud ac mae'n ddadl y byddaf yn parhau i'w gwneud. Rwy'n credu bod ganddo achos diymwad dros hynny yn ei hawl ei hun, o gofio pwrpas penodol llysoedd crwneriaid hefyd. 

Ymddiswyddiad Comisiynydd Dioddefwyr Lloegr a Chymru

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dilyn ymddiswyddiad Comisiynydd Dioddefwyr Lloegr a Chymru? OQ58476

Diolch am y cwestiwn. Mae polisi dioddefwyr yn parhau'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau i ddioddefwyr yng Nghymru. Rydym yn credu y dylai pob dioddefwr gael ei drin ag urddas a pharch, a chael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.  

Fel y gwyddoch yn iawn, mae llawer o'r gwasanaethau y mae dioddefwyr eu hangen wedi eu datganoli i Gymru a phan ofynnais i'r Prif Weinidog ddiwedd mis Mehefin a oedd yn fodlon gyda'r system bresennol, dywedodd fod y system

'wedi ein gwasanaethu'n dda hyd yma.'

Wel, yn llythyr ymddiswyddiad y Fonesig Vera Baird yr wythnos diwethaf, roedd hi'n cwyno am ddiffyg ymgysylltiad o'r brig yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cwynodd am flaenoriaethau Llywodraeth San Steffan. Aeth ymlaen i ddweud:

'Nid wyf yn gor-ddweud pan ddywedaf fod y system cyfiawnder troseddol mewn anhrefn.'

A yw Llywodraeth Cymru yn dal i gredu bod dioddefwyr yma yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu'n dda drwy gael comisiynydd dioddefwyr sy'n atebol i Whitehall nad yw'n gwrando? 

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r llythyr a anfonodd y comisiynydd dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird, yn ddiweddar. A gaf fi nodi ambell bwynt? Rwy'n credu mai'r cyntaf, ynghylch fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yw fy mod yn gwybod ei bod wedi cyfarfod â'r Fonesig Vera Baird ar sawl achlysur i siarad am faterion yn ymwneud â dioddefwyr, a hefyd gyda chyrff eraill. Rwy'n credu bod llawer iawn o waith cadarnhaol ac adeiladol iawn yn digwydd o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig i ddioddefwyr ac i gefnogi dioddefwyr, ac rydym yn ceisio gwneud y gwaith a wnawn mewn partneriaeth go iawn.

Ond a gaf fi ddweud bod y llythyr gan y Fonesig Vera Baird yn codi nifer o faterion difrifol iawn? Ac rwy'n credu eu bod yn ymwneud â meysydd cyfiawnder a gedwir yn ôl sy'n ymwneud â dioddefwyr lle rwy'n credu ei bod yn glir fod methiant wedi bod, a methiant cynyddol hefyd. Cafwyd addewidion mewn perthynas â Bil dioddefwyr, a allai fod ag elfennau cadarnhaol iddo, ond mae'n ddyddiau cynnar iawn ar hynny; rwy'n credu ei fod ar ffurf drafft ar hyn o bryd, ond disgwylir y bydd yn cael ei gyflwyno heb fod yn rhy hir. Fe fyddwn yn amlwg yn edrych ar hynny'n agos iawn. Felly, byddwn yn parhau gyda'r meysydd lle mae gennym fewnbwn datganoledig, ac mae yna sawl maes. Cedwir llawer o'r swyddogaethau yn ôl, ond wrth gwrs, daw'r canlyniadau o fewn galluoedd datganoledig, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac eraill wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar y rheini. Ond mae'n werth gwrando ar yr hyn a ddywedodd. Fe ddywedodd fod y Bil dioddefwyr yn parhau i fod yn annigonol; cyfeiriodd hefyd at fil hawliau Prydain, sydd wedi ei oedi—mae wedi'i ohirio, nid yw wedi cael ei ddiddymu; ac fe gododd bryderon difrifol am y tagfeydd yn y system gyfiawnder.

Ond yn fwyaf arbennig, yr hyn y mae'n ei ddweud mewn gwirionedd yw ei bod hi o'r farn fod yna lai o ffocws wedi bod ar fater dioddefwyr ar lefel Llywodraeth y DU. Mae'n dweud bod y

'system gyfiawnder troseddol mewn anhrefn.'

Mae israddio buddiannau dioddefwyr mewn blaenoriaethau llywodraethol, ynghyd â diystyru'r comisiynydd dioddefwyr, yn bethau sy'n haeddu beirniadaeth benodol, ac mae'r rheini'n feysydd y byddem eisiau eu gweld yn cael sylw—meysydd y byddem eisiau eu gweld yn cael sylw mewn ffordd wahanol mewn system gyfiawnder ddatganoledig.

O ran y camau nesaf, byddwn yn gweithio ac yn cysylltu â Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Bil dioddefwyr wrth gwrs. Byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar y meysydd hynny nad ydynt wedi'u cadw'n ôl a beth y gallai'r effaith fod ar y rheini. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i wella canlyniadau i ddioddefwyr ac i arfer ein cyfrifoldebau datganoledig yn llawn, ond hefyd i geisio mwy o gyfrifoldeb mewn perthynas â chefnogaeth i ddioddefwyr. 

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar

Diolch. A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad ar y gwerthusiad a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol i gynlluniau treialu pleidleisio cynnar yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn. Rwyf eisoes wedi gwneud datganiad ar hynny—mae datganiad ysgrifenedig wedi cael ei gyhoeddi. Credaf ei fod yn ddatganiad a oedd yn cynnwys cryn dipyn o bethau cadarnhaol, oherwydd roedd yn dangos bod modd goresgyn llawer o'r materion technegol a'r problemau a fyddai'n deillio o system etholiadol wedi'i digideiddio a bod modd eu gweinyddu, a chredaf y byddwn yn dysgu'r gwersi hynny pan fyddwn yn ystyried y ddeddfwriaeth wrth inni ddatblygu'r polisi mewn perthynas â'n gwaith diwygio etholiadol ein hunain. Hoffwn ddweud fy mod wedi cyfarfod â'r Comisiwn Etholiadol ar sawl achlysur. Rydym wedi trafod yr adroddiad. Rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd newydd y Comisiwn Etholiadol yn ogystal i drafod hynny, ac mae canlyniad y trafodaethau hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn yn fy marn i. 

Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n sylwi na wnaethoch gyfeirio at yr effaith ar nifer y pleidleiswyr, wrth gwrs, sef y rheswm pennaf dros gynnal y cynlluniau treialu pleidleisio cynnar yn yr awdurdodau lleol dan sylw. Mae adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn ei gwneud yn gwbl glir bod nifer y pleidleiswyr ym mhob un o'r pedwar awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen—wedi gostwng mewn gwirionedd; nid oedd unrhyw gynnydd o gwbl. Nid yn unig y mae wedi gostwng yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol; mae wedi gostwng yn is mewn gwirionedd na'r cyfartaledd cenedlaethol yn yr etholiadau awdurdodau lleol hynny a gynhaliwyd ledled Cymru. A ydych yn derbyn, felly, mai'r ffordd orau o hyrwyddo pleidleisio cynnar yw drwy'r system bresennol sydd gennym eisoes, sef pleidleisiau post—ac nad oes arnom angen y datblygiadau eraill honedig arloesol hyn y credwch fod eu hangen?

Na, nid wyf yn derbyn hynny, ac rwy'n credu bod eich cynsail yn anghywir mewn gwirionedd, oherwydd nid dangos cynnydd sylweddol yn y nifer a bleidleisiodd oedd y prif reswm dros wneud hyn, oherwydd mae treialon eraill tebyg wedi bod o amgylch y wlad sydd hefyd wedi bod yn archwilio opsiynau technolegol ac yn y blaen. Nid ydych yn newid diwylliant etholiadau a chanfyddiadau pobl—nid heb ymgyrch gyhoeddusrwydd enfawr ac nid heb gyfres gyfan o brosesau addysgol mewn rhywbeth a fyddai'n sbarduno newid cyffredinol yn y system etholiadol.

Treialon oedd y rhain, ac roeddent yn dreialon technegol iawn ac roeddent yn dreialon a oedd â ffocws sylweddol iawn ar (1) rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith i'w galluogi i ddigwydd; yn ail, o ran y dechnoleg a'r heriau mewn perthynas â'r gofrestr etholiadol ac yn y blaen. Y gwir amdani, ac mae'n cael ei ddangos yn adroddiad y Comisiwn Etholiadol, yw eu bod yn gynhyrchiol iawn ac yn gadarnhaol iawn. I mi, dyna oedd y prif brofiad; ni chafwyd unrhyw arwydd, yn fy marn i, fod hyn am arwain at gynnydd enfawr yn y nifer sy'n pleidleisio. Mae gwersi pwysig i'w dysgu, a bydd y rheini'n bwydo i mewn i'r trafodaethau polisi a'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd ar ddiwygio ein system etholiadol.

Weinidog, roedd y treialon pleidleisio cynnar, ni waeth faint o sglein y ceisiwch ei roi ar hyn, yn drychineb llwyr. Roeddent yn costio dros £1.5 miliwn, ac roedd cost pob pleidleisiwr, i bob pwrpas, os rhannwch nifer y pleidleiswyr a fanteisiodd ar y cyfle i bleidleisio ymlaen llaw, drwy'r system newydd a dreialwyd gennych, yn £845 y bleidlais. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl Cymru'n meddwl bod hyn yn wastraff arian enfawr a dweud y gwir ac y dylech gefnu felly ar unrhyw ffyrdd o bleidleisio ymlaen llaw a dreialwyd gennych yn gynharach yn y flwyddyn. O ystyried y costau gormodol, y gwastraff i bwrs y trethdalwr a'r ffaith na wnaeth gyflawni'r cynnydd y gwnaethoch ei nodi ac yr oeddech yn edrych amdano yn nifer y pleidleiswyr pan wnaethoch ddatganiad am y treialon pleidleisio cynnar hyn, onid ydych yn derbyn eto mai'r ffordd orau o gynyddu nifer y pleidleiswyr cynnar yw drwy'r system pleidlais bost?

14:30

Rwy'n credu bod y system bleidleisio drwy'r post yn sicr yn un system mewn amrywiaeth o ffyrdd. Un o'r manteision i ddigideiddio'r gofrestr etholiadol a chael systemau pleidleisio gwahanol yw ei fod yn gwneud pleidleisio'n fwy hygyrch wrth gwrs. Mae'n ei wneud yn fwy hygyrch i'r rhai sydd ag anabledd penodol—mae llawer mwy o opsiynau yno—ac mae'n llawer mwy cynhwysol. A pheidiwch ag anghofio, ar yr un pryd ag y câi'r cynlluniau peilot eu cyflawni, wrth gwrs, roedd systemau pleidleisio arferol—systemau pleidleisio traddodiadol—yn digwydd hefyd.

Nid wyf yn derbyn eich cynsail. Dyma ymateb Torïaidd nodweddiadol i gynlluniau peilot sydd â'r nod o foderneiddio'r system etholiadol, gan greu system etholiadol gadarn, hygyrch a modern i'r unfed ganrif ar hugain. Mae'n ymddangos imi mai agwedd y Ceidwadwyr yw gwybod pris popeth, ond gwerth dim byd o gwbl.

Bydd ein diwygio'n parhau. Bydd dadleuon pellach yn y Siambr hon. Fe gewch gyfle bryd hynny i gwestiynu ac i holi. Ond rwyf am ddweud un peth na fyddwn yn ei wneud: ni fyddwn yn dilyn y llwybr y mae Llywodraeth y DU yn ei ddilyn gyda'i Bil etholiadau, sef cyflwyno mecanweithiau sydd â'r nod o gyfyngu ar bobl rhag pleidleisio, gan newid systemau pleidleisio i'w gwneud yn fwy manteisiol i'r Blaid Geidwadol, fel y gwnaethoch gyda'r maeryddiaethau. Mae hyn yn ymwneud â ni'n mabwysiadu rôl flaenllaw yn fy marn i—rôl enghreifftiol—drwy foderneiddio ein system etholiadol a defnyddio technoleg i wneud yn siŵr fod pob cyfle yno i'r rhai sydd am bleidleisio ac annog pobl i gymryd rhan yn y system bleidleisio.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ar 5 Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft ymarferol gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Am y rheswm hwnnw y cafodd proses Cyfnod 1 ei hosgoi. Ddydd Llun, o flaen y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei fod wedi ei gyflymu yn awr er mwyn inni ddal i fyny gyda Lloegr a'r Alban, ac nad oedd yn mynd i gael ei ddefnyddio fel enghraifft ymarferol gyda Deddf marchnad fewnol y DU. Pan ofynnais iddi pa bryd y newidiwyd y rhesymeg, awgrymodd fy mod yn gofyn i chi, ac yn awr, rwy'n cael cyfle i ofyn ichi, Gwnsler Cyffredinol. Felly, pwy sy'n gywir: y Prif Weinidog, yn ôl ym mis Gorffennaf, neu Weinidog yr amgylchedd ddydd Llun?

Wel, diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch eich bod wedi cael cyfle i'w ofyn, a'r ateb syml yw: mae'r ddau ohonynt yn gywir, oherwydd ceir dwy agwedd ar hyn. Un, wrth gwrs, yw ein bod am gyflymu oherwydd yr holl resymau sydd wedi'u hamlinellu ynghylch pwysigrwydd y Bil plastigion untro, cael hwnnw drwodd, ac wrth gwrs o ran yr amserlen sydd wedi'i gosod o fewn terfyn amser Sefydliad Masnach y Byd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n bodoli ac yn berffaith ddilys.

Ond ceir rôl  ddilys iawn yr wyf yn ei hystyried yn fanwl iawn o ran ein her i Ddeddf y farchnad fewnol. Un o'r anawsterau sydd gennyf ynghylch gosod safbwynt clir iawn a gwneud penderfyniad clir iawn ynglŷn â pha gamau'n union y byddwn yn eu cymryd yw nad yw fy opsiwn i gyfeirio'n codi hyd nes bod y ddeddfwriaeth wedi'i phasio. Mae'n bosibl y bydd mater i'w ystyried ynglŷn ag a fyddai Llywodraeth y DU yn dewis cyfeirio hyn mewn gwirionedd. Hefyd, efallai y bydd sefyllfa wahanol mewn gwirionedd, ac yn y dyfodol heb fod yn rhy bell o bosibl, y bydd newid Llywodraeth ac y gwelwn Ddeddf y farchnad fewnol yn cael ei diddymu, a fyddai'n arbed llawer iawn o drafferth ac anghyfleustra inni.

Felly, mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei ddweud yw bod yr holl opsiynau hynny yno ac mae'r rhesymau am y cyflymu yno, ond maent yn ddeublyg. O ran yr union gam ymlaen a gymerwn pan fydd y ddeddfwriaeth wedi'i phasio, mae'n fater i mi ei ystyried bryd hynny ac fe fyddaf yn gwneud datganiad ar y cam hwnnw wrth gwrs.

14:35

Rwy'n falch iawn o glywed yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd nid dyna'r argraff a roddwyd yn y pwyllgor ddydd Llun. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi y bydd rhywfaint o bwysigrwydd polisi bob amser i unrhyw ddeddfwriaeth—ni fyddem yn pasio unrhyw ddeddfwriaeth yn y lle hwn oni bai ei bod yn bwysig. Felly, gellid defnyddio rhesymau i osgoi Cyfnod 1, neu ba gyfnod bynnag, ar unrhyw adeg. Ond mae craffu'n bwysig iawn, a bydd cael gwared â'r broses Cyfnod 1 yn y Bil hwn yn arwain at lai o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae'r defnydd cynyddol o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y lle hwn yn arwain at lai o graffu. Mae ymddygiad Llywodraeth San Steffan, a'r diffyg cysylltiadau rhynglywodraethol, hefyd wedi arwain at ddiffyg craffu. Nawr, mae'n gywir y dylid craffu'n iawn ar Filiau Cymru, a Biliau sy'n effeithio ar bobl Cymru, yma. Rydym wedi gweld deddfwriaeth ddifeddwl dro ar ôl tro, deddfwriaeth sy'n cael ei rhuthro drwodd yn San Steffan, sy'n gyfraith wael. Mae llai o graffu yn arwain at gyfraith wael. A ydych yn cytuno â mi, a ydych yn rhannu'r un pryder â mi ynglŷn â diffyg craffu ar gyfraith Cymru, cyfraith sy'n effeithio ar bobl Cymru? Ac os ydych yn rhannu fy mhryder, beth a wnewch i fynd i'r afael â hyn?

Wel, gwrandewch, rwyf wedi dweud sawl gwaith, ac rydych wedi fy nghlywed yn ei ddweud hefyd, am bwysigrwydd craffu, pwysigrwydd rôl eich pwyllgor, sydd, yn fy marn i, yn gwneud gwaith anhygoel o bwysig yn craffu ar ddeddfwriaeth. Fe wnaethoch fy nghlywed hefyd yn gwneud sylwadau ar yr anghysonderau a'r camweithrediadau cyfansoddiadol sy'n bodoli yn ein perthynas gyfansoddiadol â Llywodraeth y DU, mewn perthynas â'u rhaglen ddeddfwriaethol a'r effaith y mae honno'n ei chael, a'r ffordd y gall deddfwriaeth drwy broses y cydsyniad deddfwriaethol osgoi yn aml, ac mae yn osgoi mewn gwirionedd, yr hyn a fyddai'n graffu priodol ar ddeddfwriaeth. Felly, rydym yn ymwybodol o'r camweithrediadau penodol hynny sy'n bodoli.

A gaf fi ddweud, os caf gyfeirio'n ôl yn gyntaf at y Bil plastigion untro, fy mod wedi darllen trawsgrifiad o'r dystiolaeth a roddwyd? Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth sy'n cael ei nodi yno. Rwy'n credu mai'r anhawster i eraill, wrth gwrs, yw y bydd y penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cyfeirio'r materion tactegol a strategol ynghylch hynny yn y pen draw yn gyfrifoldeb i mi, ond na fydd yn cael ei wireddu'n llawn hyd nes i mi weld fersiwn derfynol y Bil, a hefyd hyd nes iddo ddod ataf ar gyfer yr ystyriaeth honno i weld a fyddaf yn arfer fy mhwerau i'w gyfeirio ai peidio.

Ac wrth gwrs, ar wahân i hynny oll ar hyn o bryd, mae ein safbwynt yn parhau i fod yn gwbl glir nad ydym yn credu bod Deddf y farchnad fewnol yn drech na'n pwerau a'n cyfrifoldebau datganoledig ein hunain. Roeddem wedi gobeithio'n llawer iawn cynt y byddai hynny wedi cael ei egluro ac y byddai'r Goruchaf Lys wedi manteisio ar yr opsiwn, neu'r cyfle, i egluro hynny. Nid yw wedi gwrthod ein dadleuon; yn y bôn, mae wedi dweud bod angen iddo eu hystyried pan fydd ganddo enghraifft ymarferol iddynt. Pan ddaw'r enghraifft ymarferol honno, mae angen inni fod yn barod i wneud hynny ac i gyflawni hynny. Ond bydd honno'n ystyriaeth y byddaf yn ei gwneud maes o law, pan fydd y ddeddfwriaeth wedi'i phasio. Ac wrth gwrs, byddaf yn gwneud yn siŵr fod datganiad a dadl briodol yn y Siambr hon.

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a gyflwynwyd yn ddiweddar? OQ58486

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau i Gymru o'r Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)? OQ58493

Diolch am eich cwestiwn. Cafodd copi llawn o'r Bil, yn ogystal â chynnwys polisi newydd ar fachlud cyfraith yr UE a ddargedwir, ei rannu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru lai na 24 awr cyn ei gyflwyno ar 22 Medi. Rydym yn rhoi ystyriaeth briodol i'r Bil er mwyn deall yr effaith ar Gymru.

Rwy'n cymryd bod hynny wedi cael ei ddweud mewn modd cadarnhaol, a'ch bod yn mynd i fod yn gadarnhaol iawn ynghylch cyflwyno mwy o gyfraith yma y gallwn i gyd edrych arni. Oherwydd fel y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod, pleidleisiodd Cymru, ynghyd â mwyafrif pobl Prydain, yn ddiamod o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd a dros dynnu ein hunain o'r fiwrocratiaeth anetholedig a chamweithredol ym Mrwsel. [Torri ar draws.] Pwrpas Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) yw dechrau penderfynu, wrth gwrs, pa rannau o hen gyfraith yr UE y dylid eu cadw, a pha rannau a ddylai ddod i ben, ar y cyd â'r gweinyddiaethau datganoledig, fel yr amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Ni fwriadwyd erioed i'r ddeddfwriaeth hon aros ar y llyfr statud yn barhaol. Eto i gyd, rwy'n teimlo eich bod chi, Gwnsler Cyffredinol, yn rhyw feddwl bod cadw deddfau a gyflwynwyd gan fiwrocratiaeth anetholedig mewn gwlad dramor yn well yn wir na chael y deddfau hynny wedi eu hadolygu gan Lywodraeth y DU a etholwyd yn ddemocrataidd, y mae—[Torri ar draws.]

14:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae angen ichi ofyn—. Mae angen i'r Aelod ofyn y cwestiwn, ac mae angen i Aelodau ganiatáu iddi ofyn y cwestiwn.

—y mae Cymru'n parhau i fod yn rhan annatod iawn ohoni. A wnewch chi gadarnhau pam y ceir yr agwedd negyddol hon? Diolch.

Wel, os caf ddechrau drwy ddweud ei bod yn amlwg iawn nad yw'r Aelod wedi darllen y ddeddfwriaeth, neu fel arall, efallai y byddai ganddi fwy o bryderon ynghylch y ffordd y mae'n mynd rhagddi?

Yn gyntaf, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Mr Rees-Mogg cyn i'r Prif Weinidog newid, ac rwyf wedi cael cyfarfod diweddar hefyd, yn benodol i drafod y Bil. Y materion y credaf eu bod yn ymwneud â ni, yn gyntaf oll, yw bod yr hyn sydd bellach wedi ymddangos—ac mae'n ymddangos bod hynny'n ganlyniad i sylw anffodus ac annoeth iawn a wnaed yn ystod etholiad arweinyddiaeth y Prif Weinidog—sef, yn sydyn, y byddem yn cael gwared â'r holl bethau hyn erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023, heb unrhyw ystyriaeth wirioneddol o beth oedd goblygiadau hynny. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n bryder mawr, gan fod 2,400 o'r rhain. Gallem fod yn cyfarfod yn ddi-baid, bob awr, bob eiliad, bob munud o'r dydd am y pum mlynedd nesaf ac ni fyddem yn gallu ystyried 2,400 eitem o ddeddfwriaeth yn briodol.

Yn ail, nid yw'n ymwneud ychwaith â mater deddfwriaeth ddatganoledig. A'r hyn nad yw'n ei wneud hefyd yw amlinellu beth yw'r agweddau ar y 2,400 hynny. Y cyfan sydd gennym yw amserlen sy'n rhestru'r holl eitemau hynny. Felly, yn gyntaf, ac mae'r Alban hefyd wedi'i godi, rwy'n credu, ac rydym ni wedi'i godi, ceir llawer iawn o waith a allai amharu ar holl brosesau deddfwriaethol Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU yn wir. Felly, mae'n anffodus iawn ei fod yn cael ei gyflwyno yn y ffordd benodol honno. Serch hynny, byddwn yn edrych ar sut y gallem fynd i'r afael â hynny. Mae'n rhaid inni wneud hynny. 

Yr ail beth yw bod rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer ymestyn y machlud mewn rhai meysydd. Ar hyn o bryd, dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r gallu i wneud hynny. Felly, rydym wedi gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn. Yn gyntaf, ynghylch y pŵer i ymestyn, dylai fod yn un sydd gan Weinidogion Cymru hefyd. Rydym hefyd wedi dweud y bydd y pŵer i gymhathu, ailddatgan a dirymu yn amlwg yn rhywbeth ar gyfer Gweinidogion Cymru hefyd. Dylai Gweinidogion Cymru hefyd fod â'r gallu i ymyrryd mewn unrhyw achos cyfreithiol lle mae mater statws cyfraith yr UE yn codi, a hynny o ran deddfwriaeth ddatganoledig, ond hefyd deddfwriaeth y DU sy'n effeithio ar gyfrifoldebau datganoledig.

Felly, mae'n debyg mai'r pwynt arall hefyd wrth gwrs yw bod gennym agwedd lle rydym am wybod beth fyddai'r goblygiadau o ddirymu uniongyrchol o ran safonau mewn cymaint o feysydd. A'r anhawster, ar hyn o bryd, yw ei bod yn amhosibl gwerthuso beth yw pob un o'r rheini.

Felly, ar ôl cael y cyfarfod gyda'r Gweinidog ar 28 Medi, rwyf wedi gofyn am sicrwydd. Gallaf ddweud bod y cyfarfod yn gadarnhaol iawn. Rwy'n credu bod ymrwymiadau cadarnhaol iawn wedi'u mynegi na fydd hyn yn gwrthdroi unrhyw bwerau na chyfrifoldebau datganoledig; y byddem mewn sefyllfa i gadw'r ddeddfwriaeth y dymunem ei chadw; y byddai unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn aros gyda ni. Nawr, fel y gwyddom gyda Llywodraeth y DU, rwy'n derbyn hynny yn yr ysbryd y cafodd ei gynnig, ac fe arhoswn i weld beth y mae hynny'n ei olygu mewn manylder.

Ond beth bynnag sy'n digwydd, ni allwn osgoi'r ffaith bod cost enfawr i hyn mewn adnoddau cyfreithiol. Bydd iddo gost ariannol, cost ariannol enfawr, a chost enfawr mewn adnoddau cyfreithiol hefyd. Yn sicr, bydd angen inni edrych a oes meysydd lle bydd—[Torri ar draws.]  

14:45

Roeddwn yn meddwl mai larwm tân amserol ydoedd. 

Felly, mae goblygiadau sylweddol iawn. Hoffwn ddweud hyn wrth yr Aelod: ni ddylech danbrisio'r wir effaith, y wir her, y gwir alw sydd ynghlwm wrth hyn. Rwy'n credu bod pryderon difrifol ar draws holl Lywodraethau a gwledydd y DU, yn y gwahanol adrannau, hyd yn oed yn Llywodraeth y DU, ynglŷn â sut ar y ddaear y gellir cyflawni hyn o fewn yr amserlen sy'n cael ei hawgrymu. Gochelwch rhag addewidion a wnaed ar frys cyn eu difaru am amser maith.

Yr hyn a wnaf i fydd sicrhau, yn gyntaf, fod yr addewidion sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â chyfrifoldebau datganoledig yn cael eu cadw. Fe wnawn bopeth yn ein gallu i warchod y safonau yr ydym yn eu hystyried yn bwysig yng Nghymru, a bydd hwn yn fater y byddaf yn amlwg yn gwneud datganiadau pellach yn ei gylch maes o law. Wrth gwrs, bydd yn cysylltu'n fawr â phroses y cydsyniad deddfwriaethol a hefyd yn creu llawer iawn o waith i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Mae hynny'n ein hatgoffa i gyd fod angen inni wneud yn siŵr fod ein ffonau wedi'u diffodd neu wedi'u distewi cyn inni ddod i mewn i'r Siambr. [Chwerthin.] Huw Irranca-Davies.

Yn wir, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn gwybod ffôn pwy wnaeth ganu yn y fan honno, ond yn amlwg, bydd y Llywydd yn cael gair â hwy, rwy'n siŵr. 

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ofyn, a yw hwn wedi'i grwpio?

Ydy, diolch yn fawr. Gwnsler Cyffredinol, mae'r sicrwydd a roddwyd gennych yn dilyn y cyfarfod a gawsoch yn ddiweddar yn rhoi rhywfaint o sicrwydd tawel inni fod Llywodraeth y DU yn mynd i droedio'n ofalus iawn o gwmpas cymwyseddau datganoledig yn y maes hwn, ond rwy'n gwybod eich bod wedi dweud yn flaenorol y gallai'r Bil hwn, os ydym yn ei gael yn anghywir, roi awdurdod dilyffethair i Weinidogion y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig, felly mae'n dangos pa mor hanfodol bwysig yw cael hynny'n iawn a chael parch gwirioneddol i fyny ac i lawr coridor yr M4. 

Felly, fy nghwestiwn yw hwn, Gwnsler Cyffredinol: rydych newydd sôn am y llwyth gwaith—rydym yn hoffi llwythi gwaith trwm ar ein pwyllgor—gyda 2,400 darn o ddeddfwriaeth. Nid ydym yn gwybod eto pa rai o'r rheini sy'n tresbasu ar feysydd datganoledig a pha rai sydd o fewn cymhwysedd a gadwyd yn ôl. Rydym yn mynd i orfod mynd i'r afael â hwy erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y mae cynnwys hynny yn ein rhaglen waith ar ben popeth arall a wnawn?

A gaf fi ddechrau gydag agoriad eich cwestiwn efallai, sef eich datganiad fod eich pwyllgor yn mwynhau llwythi gwaith trwm, oherwydd mae hynny'n rhywbeth a fydd yn dod i'r amlwg? Mae'n fater difrifol ac rwy'n credu bod angen inni feddwl yn ofalus iawn amdano. Rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i weld a oes ffyrdd y gallwn ailddatgan deddfwriaeth en bloc, er enghraifft, a rhoi mwy o amser inni i'w wneud yn y ffordd honno.

Y pwynt cychwynnol a godais, yn gyntaf, yw bod angen inni gael y pwerau priodol, yn amlwg. Ni ddylai fod unrhyw ymyrraeth ar bwerau datganoledig. Rwyf wedi cael y sicrwydd hwnnw. Nawr, yn amlwg, yn y manylion y mae'r cymhlethdodau'n codi mewn deddfwriaeth, ond mae'n gorff o waith a allai fod yn debyg o ran maint i'r hyn a oedd gennym gyda chyfraith yr UE a ddargedwir wrth baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, a hyd yn oed yn fwy na hynny, mae'n debyg. Ar gyfer hynny, fe gofiwch fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud dros 75 o offerynnau statudol cywirol ac wedi cydsynio i dros 230 o offerynnau statudol Llywodraeth y DU. Rhan o'r anhawster yw nad ydym yn gwybod mewn gwirionedd, ac mae gwerthuso'r 2,400 eitem yn dasg enfawr ynddi'i hun. Y peth arall, wrth gwrs, yw'r pwynt a wneuthum am yr effaith niweidiol bosibl y gallai ei chael ar ddeddfwriaeth wirioneddol bwysig yr ydym yn ei hystyried yn y Siambr hon—Biliau'r Llywodraeth a hefyd Biliau Aelodau unigol hefyd. 

Yn ail, yr agwedd arall, wrth gwrs, yw mai un o beryglon dirymu deddfwriaeth yn llwyr yw nad ydych yn gwybod beth yw'r canlyniadau anfwriadol. Mae gan lawer o ddarnau o ddeddfwriaeth bob math o ryngddibyniaethau, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i geisio deall hynny, ond yn y bôn mae'r adnodd i wneud hynny'n adnodd a fyddai'n cael ei dynnu o feysydd eraill. Roedd materion yn codi ynghylch dadreoleiddio. Er bod hyn yn creu cyfyngiadau mewn perthynas â materion yn ymwneud â beichiau rheoleiddiol, sydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn cael eu diffinio mewn ffordd lac ac amwys iawn, cefais sicrwydd nad yw'n ein hatal rhag diogelu drwy orfodaeth a thrwy reoleiddio'r meysydd hynny y credwn eu bod yn bwysig ar gyfer cynnal safonau.

Felly, mae'n waith sy'n parhau. Bydd llawer o ystyriaethau i'ch pwyllgor. Y sicrwydd a roddaf i chi yw y byddaf, wrth gwrs, yn gwneud popeth yn fy ngallu i weithio mor agos â phosibl gyda'r pwyllgor ar y broses hon wrth inni fynd ymlaen, a byddwn yn gwybod mwy maes o law.  

14:50
Hawliau Undebau Llafur

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Weinidogion Cymru ynghylch eu gallu i warchod hawliau undebau llafur? OQ58497

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur. Byddwn ni'n parhau i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r gwaith pwysig y mae undebau llafur yn ei wneud ar ran eu haelodau.

Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb yna. Yn ei hymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, fe ddywedodd y Prif Weinidog presennol y byddai hi'n dwyn rheolau llym i fewn ar undebau llafur, gan ymestyn y cyfnod notice, er enghraifft, ar gyfer gweithredu diwydiannol i 28 diwrnod a chynyddu'r rhicyn sydd angen ei gyrraedd er mwyn cael gweithredu diwydiannol er mwyn iddo fo gael mandad—rhicyn, gyda llaw, sydd lawer yn uwch na'r mandad mae hi wedi'i gael o fewn ei phlaid ei hun. Mae'n amlwg nad oes ganddi unrhyw ddealltwriaeth o amgylchiadau ac amodau nifer o bobl yn y gweithlu heddiw—edrychwch ar Amazon, y Post Brenhinol, gweithlu'r trenau, bargyfreithwyr a rŵan y nyrsys yma yng Nghymru yn sôn am weithredu diwydiannol. Ydy'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi'n amser datganoli cyfraith cyflogaeth i Gymru neu, yn well byth, i gael annibyniaeth?  

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, ac fe wnaethoch chi ymdrin â nifer o feysydd yr ydym wedi eu trafod a dadlau yn eu cylch yn y Siambr hon droeon. A fyddwn i'n hoffi gweld cyfraith cyflogaeth yn cael ei datganoli? Rwy'n credu bod cyfraith cyflogaeth yn symud i sefyllfa lle mae angen datganoli mwy a mwy ohoni. Mae'r frwydr a gawsom ynglŷn â sut yr awn ati i ddeddfu yn y meysydd economaidd hynny, meysydd undebau llafur ac yn y blaen, bob amser wedi bod yn un lle'r ydym wedi gorfod troedio'n ofalus iawn. Mae'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), wrth gwrs, yn creu deddfwriaeth arloesol iawn yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn yr ystyr mai ni fyddai rhan gyntaf y DU i greu fframwaith statudol, fframwaith cyfreithiol ar gyfer partneriaeth rhwng undebau llafur, Llywodraeth a busnes. Ac rwy'n credu bod y trefniadau partneriaeth a fu gennym ac a ddatblygwyd gennym dros y blynyddoedd yn enghraifft o'r rheswm pam fod ein perthynas ag undebau llafur wedi bod gymaint yn fwy effeithiol, a pham ein bod ni, mewn gwirionedd, wedi osgoi streiciau yng Nghymru fel sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r DU. 

A gaf fi ddweud hefyd fod hyn yn amlwg yn ymateb i nifer o achosion o weithredu diwydiannol sy'n digwydd ar hyn o bryd, a phob un wedi'i gael drwy raddfeydd o bleidleisio sy'n mynd ymhell y tu hwnt i unrhyw un o'r rhwystrau hynny? Felly, y cwestiwn yw: ymwneud â beth y mae hyn mewn gwirionedd? Mae'n ymwneud â Llywodraeth y DU, sydd unwaith eto'n ceisio ffyrdd o ddinoethi ac analluogi undebau llafur, a'r hyn a ddaeth yn amlwg yn ystod cyfnod COVID ac yn gynharach wrth gwrs yw'r rôl bwysig y mae undebau llafur wedi'i chwarae yn cynnal safonau ac amodau gweithwyr. Rwy'n meddwl bod ganddynt rôl sylweddol iawn hefyd yn y ddemocratiaeth y siaradwn amdani, a rôl y gyfraith y siaradwn amdani yn ein cymdeithas a'n bod eisiau cael hynny'n safonol yng Nghymru. Edrychwch o gwmpas y byd ar unrhyw unbennaeth. Gallwch farnu ansawdd democratiaeth mewn unrhyw wlad yn ôl maint y rhyddid sydd gan ei hundebau llafur—gallu pobl i drefnu a herio llywodraeth. Weithiau, mae hynny'n golygu bod sefydliadau'n gweithredu mewn modd sy'n achosi anghyfleustra i eraill, ond mae'n braesept sylfaenol mewn democratiaeth. Ac rwy'n credu y byddai unrhyw newid i'r cyfeiriad hwn yn wrth-ddemocrataidd. Byddai'n gam cynyddol, fel y gwelsom gyda'r Llywodraeth Dorïaidd, tuag at awdurdodyddiaeth, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y byddem am ei wrthsefyll bob cyfle posibl. 

Gwahaniaethu ar sail Hil o fewn y System Gyfiawnder

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau gwahaniaethu ar sail hil o fewn y system gyfiawnder? OQ58495

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru i ddatblygu'r cynllun gwrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol i Gymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi. Mae'r ddogfen hon yn nodi saith ymrwymiad i wireddu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol, sy'n ategu ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.

14:55

Diolch am hwnna, Gweinidog. Mae data diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn paentio darlun pryderus o hiliaeth o fewn y system gyfiawnder. Gan nad oedd y wybodaeth yma ar gael yn gyhoeddus, fe wnaethon nhw gasglu hyn trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Fe wnaethon nhw ddarganfod bod pobl ddu a hil gymysg fwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na phobl wyn, ac mae hwnna’n ddwywaith fwy tebygol na’r ffigwr cyfatebol yn Lloegr. Rwy’n ymwybodol, fel rŷch chi wedi dweud, fod y Llywodraeth yn y broses o ddatblygu'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ac mae’r Llywodraeth, rwy’n gwybod, wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth systemig. Hoffwn ofyn i chi: ydych chi’n credu bod angen casglu a chyhoeddi data ar y pwnc hwn mewn ffordd systematig er mwyn sicrhau ein bod ni’n deall maint y broblem? Hefyd, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i leihau’r broblem? Ac, yn olaf, ydych chi’n credu y byddai’n haws delio gyda’r broblem pe bai'r heddlu a’r system gyfiawnder wedi’u datganoli?

Diolch am y cwestiwn. Rydych yn codi nifer o faterion y gwn eu bod yn cael ystyriaeth ddifrifol iawn ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn edrych arnynt ac yn rhoi sylw iddynt ac yn gweithio arnynt ers amser hir. Roedd y peth cyntaf a godwyd gennych yn ymwneud â data. Wel, wrth gwrs, mae data wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn bryder enfawr inni—dadgyfuno data, dod o hyd i ddata yng Nghymru mewn perthynas â'r system cyfiawnder troseddol, er mwyn ein galluogi i asesu'r math o bolisi sydd ei angen. Mae angen y gronfa ddata honno, ac yn y blaen. Nawr, mae hynny'n cael ei gydnabod gan lawer o fewn y system gyfiawnder, ac wrth gwrs, rwy'n derbyn nad yw o reidrwydd yn hawdd dechrau trosi systemau er mwyn ei wneud. Mae hynny wedi dechrau, ac wrth gwrs, ceir dangosfwrdd o wybodaeth y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn ymwneud yn fawr ag ef ac y bu'n gyfrifol am ei gyflawni, sy'n rhoi gwybodaeth lawer gwell inni.

Ond yr union enghreifftiau a gododd yr Aelod yw'r union resymau pam y datblygwyd y cynllun gwrth-hiliol ar gyfer cyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac a gyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar 8 Medi, oherwydd bod hyn yn cryfhau ein hymrwymiad—yr ymrwymiad gan bartneriaid datganoledig a phartneriaid nad ydynt wedi'u datganoli i fynd i'r afael â hiliaeth o bob math. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau â'r gwaith penodol hwnnw. Rwy'n dawel fy meddwl hefyd fod panel goruchwylio a chynghori annibynnol wedi'i sefydlu a fydd yn bwydo profiadau byw unigolion i mewn ac yn darparu cyngor. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n hanfodol yn awr gan fod gennym y cynllun yw gwerthuso'r cynllun hwnnw, sut y mae'n gweithio, yr hyn y mae'n ei gyflawni mewn gwirionedd, ac rwy'n gobeithio y bydd y cwestiwn a ofynnwyd heddiw yn un sy'n parhau i godi wrth inni ddechrau asesu'r heriau a wynebir, nid yn unig o fewn y system cyfiawnder troseddol, ond o fewn y system gyfiawnder yn gyffredinol o ran y gynrychiolaeth a'r cydbwysedd a chyflwyniad y system gyfiawnder, sydd oll yn bethau sy'n ymwneud ag amrywiaeth ein system gyfiawnder yn gyffredinol.

O ran datganoli cyfiawnder, wel, oherwydd rhesymau fel hynny, yr holl gyfrifoldebau datganoledig, y cafodd ein hachos ei roi at ei gilydd yn 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Mae datganoli cyfiawnder yn gam mor bwysig a naturiol, oherwydd mae'n integreiddio'r broses o ddarparu cyfiawnder â'r holl bolisïau a meysydd cymdeithasol datganoledig a all wneud darparu cyfiawnder yn well ac yn fwy effeithiol mewn gwirionedd. Yn y pen draw, dyna yw hanfod hyn.

Y Goruchaf Lys

7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar rôl y Goruchaf Lys wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru? OQ58498

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n falch o nodi bod Cymru’n cael ei chynrychioli eto yn y Goruchaf Lys, ar ôl i’r Arglwydd Lloyd-Jones gael ei ailbenodi fis diwethaf. Rwy’n parhau i ddweud wrth yr Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion cyfiawnder fod angen cynrychioli barnwriaeth Cymru yn ein llys uchaf mewn ffordd ffurfiol, nid damweiniol. 

Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb. Bydd y Cwnsler yn ymwybodol o'r achos yn y Goruchaf Lys ynghylch cynlluniau datblygu hanesyddol yn Aberdyfi yn Nwyfor Meirionnydd. Rŵan, dwi'n deall mai nifer fach o achosion o Gymru sydd yn cyrraedd y Goruchaf Lys, ac mae rhai o'r achosion yma yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli, megis cynllunio. Ond, wrth gwrs, gan fod y Goruchaf Lys yn eistedd yn Llundain, mae yna gwestiwn weithiau ynglylch y ddealltwriaeth o faterion wedi'u datganoli. Fel ddaru'r Cwnsler Cyffredinol ddweud, rwyf innau'n croesawu'r penodiad diweddar. Pan oedd Lady Hale yn llywydd y Goruchaf Lys, mi fyddai hi'n sicrhau bod achosion yn ymwneud â'r gwledydd datganoledig yn cael gwrandawiad yn y gwledydd hynny, ond dydy'r arfer yma ddim wedi parhau, ac mae achos Aberdyfi yn cael gwrandawiad yn Llundain. Ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno gyda fi y dylid sicrhau bod y Goruchaf Lys yn dod i'r gwledydd datganoledig? Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael i geisio sicrhau hynny?

15:00

Yn gyntaf, diolch am y cwestiwn. Unwaith eto, mae'n bwynt pwysig. Wrth gwrs, cyfarfûm â'r Farwnes Hale yn ddiweddar iawn—yn gynharach yr wythnos hon mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu'r camau sy'n cael eu cymryd yn y Goruchaf Lys i ddod â chyfiawnder yn agosach at y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu y tu allan i Lundain. Cynhaliwyd y llys yma, fel y dywedwch, ym mis Gorffennaf 2019, ac edrychaf ymlaen at gynnal rhagor o wrandawiadau'r Goruchaf Lys yng Nghymru. Ond mae'r pwynt a godwch yn un arbennig o ddilys, sef mai dyna lle mae materion sy'n ymwneud â Chymru neu gyfraith Gymreig yn digwydd, ac os ydynt yn mynd i'r Goruchaf Lys, dylent gael eu clywed yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n fawr ac fe fyddaf yn ei annog. Rwy'n barod i edrych ar hynny ymhellach gyda'r bwriad o gyflwyno sylwadau pellach o bosibl. Rwyf wedi darllen yr adroddiadau ar hynny. Rwy'n sicr yn cytuno ein bod ni'n awyddus i'r Goruchaf Lys ymdrin â materion Cymreig yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod drws caeedig ar hynny mewn perthynas â'r Goruchaf Lys. Rwy'n tybio y gallai fod yn rhywbeth i'w wneud â'r cyfreithwyr a ddefnyddiwyd lawn cymaint ag unrhyw beth arall. Ond fel mater o egwyddor, lle sy'n briodol, a byddai'n briodol ar gyfer gwrandawiadau sy'n cynnwys cyfraith Gymreig yn fy marn i, dylai'r Goruchaf Lys glywed yr achosion hynny yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n ofyniad ar gyfer y dyfodol.

Yr Hawl i Brotestio

8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr hawl i brotestio? OQ58478

Diolch am y cwestiwn. Mae'n hanfodol fod hawl gan bobl i leisio eu barn a mynegi eu pryderon yn rhydd mewn ffordd ddiogel a heddychlon. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod rhaid clywed safbwyntiau Cymru mewn perthynas â phwysigrwydd yr hawl i brotestio.

Diolch am yr ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn dilyn cyhoeddi esgyniad y Brenin Siarl III i'r orsedd, cafodd nifer o brotestwyr heddychlon eu harestio. Bygythiwyd bargyfreithiwr hyd yn oed y byddai'n cael ei arestio am gario dalen wag o bapur. Mae'r digwyddiadau hyn yn arwyddocaol oherwydd eu bod yn dangos y terfynau didostur y mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022 bellach yn eu rhoi ar ein rhyddid yn y DU. Gwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n cytuno â mi fod yr hawl i brotestio'n heddychlon yn rhan hanfodol o'n democratiaeth? Pa sylwadau a wnaethoch i Lywodraeth y DU ers yr arestiadau hyn? Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Gwelais rai o'r digwyddiadau hynny; gwelais rai o'r arestiadau a ddigwyddodd yn Llundain gan beri pryder difrifol iawn i mi—pryder oherwydd ar yr un pryd roedd y cyfryngau'n hollol briodol yn condemnio'r modd yr oedd pobl yn cael eu harestio am sefyll yn y Sgwâr Coch, am sefyll ym Moscow, yn nhrefi Rwsia, gyda dalennau gwag o bapur a chael eu harestio. Roedd gweld hynny'n digwydd ar ein strydoedd yn hynod anffodus yn fy marn i.

Rwy'n credu bod yna awgrym o ddiffyg dealltwriaeth o ddeddfwriaeth awdurdodol a gafodd ei chyflwyno, deddf yr oeddem wedi ei gwrthwynebu ac wedi gwrthod cydsyniad deddfwriaethol ar ei chyfer—y ddeddfwriaeth heddlu, troseddu a dedfrydu. Rwy'n credu ei fod hefyd yn adlewyrchu dryswch a diffyg dealltwriaeth ar ran y swyddogion heddlu eu hunain ynglŷn â beth oedd eu pwerau mewn gwirionedd. Felly, mae yna gwestiwn pwysig yno sydd angen ei godi, a byddaf yn defnyddio pob cyfle a allaf i'w godi, ar fater arfer grym, grym y wladwriaeth, a gaiff ei arfer drwy'r heddlu, ond ar sail diogelu'r hawliau a'r hawliau sifil sydd gan bawb ohonom.

Rwy'n gwerthfawrogi'r dull sensitif ac ystyriol a welwyd gan heddluoedd yng Nghymru, oherwydd yn ystod y cyfnod diweddar o alaru, rwy'n ymwybodol iawn eu bod wedi gweithredu'n ofalus ac yn ystyriol iawn er mwyn sicrhau bod yr hawl i brotestio a rhyddid mynegiant wedi'i gynnal dros y cyfnod hwnnw. Roedd hynny'n arbennig o wir yn ystod ymweliad y Brenin â Chymru ddydd Gwener 9 Medi, lle gallodd yr heddlu gynnal safle protest a chadw'r cyhoedd yn ddiogel fel rhan o'u dull o weithredu ar y diwrnod. Felly, hyd yn oed ar adeg o dristwch cenedlaethol mawr, mae'n dal i fod yn bwysig i bobl allu cadw'r hawl i brotestio a'r hawl i fynegi eu barn a'u credoau'n rhydd.

15:05
Her Gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

9. Beth oedd y costau i Lywodraeth Cymru a oedd yn deillio o'r her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? OQ58472

Diolch am eich cwestiwn. Cymerodd Llywodraeth Cymru y cam pwysig i herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 oherwydd ei bod yn bygwth tanseilio'r setliad datganoli. Y gost i Lywodraeth Cymru am wneud hynny yw £132,283.67.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol—£132,000. Nododd cais rhyddid gwybodaeth fod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £200,000 mewn achosion llys yn erbyn Llywodraeth y DU, arian a allai gael ei ddefnyddio'n llawer gwell yn cefnogi pobl Cymru. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol dawelu meddyliau a sicrhau na fydd Gweinidogion Llafur yn gwastraffu rhagor o arian ar heriau cyfreithiol, hunanfoddog, wedi'u cymell yn wleidyddol yn erbyn Llywodraeth y DU, a chanolbwyntio mwy o'ch amser a'ch egni ar y problemau go iawn y mae Cymru'n eu hwynebu, gydag un rhan o bump o boblogaeth Cymru ar un o restrau aros y GIG?

Mae o ddifri'n cadarnhau'r hen ddywediad gan Nye Bevan fod y blaid Dorïaidd yn gwybod pris popeth a gwerth dim byd, oherwydd un o swyddogaethau unrhyw ddemocratiaeth seneddol ac unrhyw Lywodraeth yw sicrhau ei bod yn arfer ei chyfrifoldebau mewn perthynas â'i rhwymedigaethau a'i phwerau. Pan ddaw'n angenrheidiol i gael eglurhad drwy system y llysoedd, sef yr unig fecanwaith ar gyfer gwneud hynny, mae'n bwysig fod hynny'n cael ei wneud. Roedd y penderfyniad i geisio'r eglurder hwnnw yn gwbl gywir.

Gallai rhywun ddweud y byddai'r miliynau o bunnoedd a gostiodd i gyflwyno'r Ddeddf marchnad fewnol wedi cael eu gwario'n well ar bethau eraill, ac os felly ni fyddem wedi bod angen ei herio. Rydym yn dal i aros am yr eglurder yr ydym ei eisiau ynghylch gweithrediad Deddf y farchnad fewnol neu hyd yn oed y rhesymeg briodol a'r rhesymau dros ei chyflwyno, heblaw fel rhyw fath o ymgais i danseilio datganoli drwy'r drws cefn.

Y gwir amdani yw bod y dadleuon a godwyd yn rhai cwbl ddilys. Roeddent yn rhai lle cafwyd barn gyfreithiol, cafodd y safbwynt cyfreithiol ei ystyried yn briodol, cafodd y materion cyfansoddiadol eu hystyried, a byddai'n anghyfrifol i ni ddiystyru ein cyfrifoldebau fel Llywodraeth. Credaf ei fod yn fater sydd wedi ennyn cefnogaeth y mwyafrif yn y Senedd yn ôl pob tebyg.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Dim ond un heddiw. Rhys ab Owen.

Cwpan Pêl-droed y Byd

1. Pa ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ar ystad y Senedd i gyd-fynd â chwpan pêl-droed y byd? OQ58482

Fel rhan o'n strategaeth i ddangos bod y Senedd yn ganolog i fywyd cyhoeddus Cymru, rydym yn trafod cynlluniau i ddathlu a chefnogi tîm dynion Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA. Rydym wedi bod yn trafod gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a phartneriaid eraill ers i'r tîm sicrhau lle yn y bencampwriaeth, ac rydym yn ystyried nifer o gyfleoedd. Byddwn yn rhannu'r cynlluniau â’r Senedd hon cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.

Diolch yn fawr, Llywydd. Edrychaf ymlaen at glywed hynny. Dwi'n synnu dim eich bod chi wedi bod yn trafod yn barod. Mae hi mor braf onid yw hi? Dwi wrth fy modd yn gweld plant o ganolfan yr Urdd, nifer ohonyn nhw'n ffoaduriaid, yn chwarae criced a gemau eraill yn erbyn wal y Senedd. Mae hi mor hyfryd, wrth gwrs, gweld yr holl ysgolion sy'n ymweld â'r Senedd. Mae hi mor braf bod gyda ni Senedd-dy yng Nghymru sydd mor agored i'r cyhoedd. Dwi yn gobeithio y bydd cwpan y byd yn rhoi cymaint o blatfform i Gymru a'i fod e'n rhoi cymaint o blatfform i'r Senedd hefyd i ddangos i bobl Cymru, unwaith eto, ein bod ni'n agored iddyn nhw. Diolch yn fawr.

Fel chi, rôn i wrth fy modd haf y llynedd yn gwylio'r plant bach—y ffoaduriaid o Affganistan—yn chwarae pêl-droed yn erbyn waliau y Senedd yma gyda’r nos. Rŷn ni i gyd, wrth gwrs, yn ymhyfrydu yn llwyddiant y tîm dynion ar gyfer cyrraedd cwpan y byd. Rŷn ni yn gobeithio, ar ôl nos yfory, y bydd tîm menywod Cymru hefyd yn cymryd cam pwysig tuag at wireddu eu breuddwyd nhw. Ac rŷn ni fel Senedd yn gefnogol i hynny i gyd. Rŷn ni eisiau gweld llwyddiant i'r tîm cenedlaethol. Rŷn ni eisiau eu bod nhw'n teimlo bod eu Senedd nhw fel chwaraewyr yn eu cefnogi nhw yn llawn, a byddwn ni'n cymryd pob cam y gallwn ni i wneud hynny. Dwi ddim eisiau eu 'distract-o' nhw yn ormodol drwy fynnu eu bod nhw’n dod yma i'r Senedd cyn y bencampwriaeth hynny. Dwi eisiau iddyn nhw ffocysio ar y cae pêl-droed yn benodol. Yn y pen draw, yn dilyn eu llwyddiant nhw, gobeithio y gallwn ni groesawu gymaint ohonyn nhw, fel chwaraewyr a thîm rheoli, yma, ac y bydd Cymru i gyd yn ymhyfrydu yn llwyddiant ein tîm ni a'r cefnogwyr yn Qatar, ar y cae ac oddi ar y cae.

15:10
4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynhaliwyd y Wledd Eirin Dinbych flynyddol, sy'n cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Hydref, y penwythnos diwethaf i gyd-fynd â'r adeg o'r flwyddyn y bydd yr eirin yn aeddfed. Eirin Dinbych yw'r unig eirin brodorol yng Nghymru, ac mae'n dyddio nôl i'r 1700au. Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yn neuadd y dref Dinbych bob blwyddyn, yn gyfle i gynhyrchwyr a busnesau lleol arddangos eu cynnyrch i'r cyhoedd. Roedd eleni'n llwyddiant, gyda channoedd o bobl yn cerdded drwy neuadd y dref drwy gydol y diwrnod. Mae bob amser yn bleser mynd i Ddinbych a chefnogi'n lleol, ac mae Gwledd Eirin Dinbych yn cynnig llwyfan gwell na'r un i wneud hyn.

Rydym yn lwcus fod gennym gymaint o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol a busnesau bach yn sir Ddinbych. Roeddwn mor falch o gael cyfarfod â rhai ohonynt a blasu ambell gynnyrch, a gweld cymaint o bobl yn mwynhau eu hunain a gweld beth sydd gan yr ardal i'w gynnig. Drwy gydol y diwrnod, mae pobl yn cael cyfle i fynd o gwmpas y stondinau, cyfarfod a siarad â chynhyrchwyr lleol, blasu a phrynu'r bwyd a diod gwych sydd ar gael, tynnu llun neu hunlun gyda Peter Plum ei hun, gwrando ar gerddoriaeth bandiau lleol, neu hyd yn oed fwynhau diferyn wrth y bar. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, ac rwy'n dymuno'r gorau i Nia, Peter Plum, a holl dîm eirin Dinbych a chynhyrchwyr lleol sy'n cymryd rhan yn eu hymdrechion yn y dyfodol. Ac os hoffech chi, Ddirprwy Lywydd, neu unrhyw Aelod o'r Senedd, ymuno â mi y flwyddyn nesaf, byddwn yn falch iawn o'ch croesawu i dref ganoloesol wych Dinbych. Diolch yn fawr iawn, a hir oes i eirin Dinbych.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc

Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21—effaith meigryn ar blant a phobl ifanc. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8074 Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth, Sam Rowlands, Tom Giffard, Mabon ap Gwynfor

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd;

b) bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol;

c) bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn:

a) cryfhau'r canllawiau;

b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a

c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae meigryn yn gyflwr cyffredin, poenus a gwanychol sy'n effeithio ar oddeutu un o bob 10 plentyn neu unigolyn ifanc. Yn ôl Brain Research UK, enw gweithredol Ymddiriedolaeth Ymchwil yr Ymennydd, mae meigryn yn un o'r cyflyrau niwrolegol mwyaf cyffredin. Er bod meigryn yn cael effaith sylweddol ar fywydau oedolion sy'n byw gydag ef, gall ei effaith gynnar ar blant a phobl ifanc fod hyd yn oed yn fwy difrifol. 

Mae'n gyflwr cymhleth, gydag amrywiaeth eang o symptomau. I lawer o bobl, y brif nodwedd yw cur pen poenus. Mae symptomau eraill yn cynnwys nam ar y golwg; sensitifrwydd i olau, synau, ac arogleuon; teimlo cyfog; a chyfogi. Bydd y symptomau'n amrywio o berson i berson, ac fe allai unigolion gael symptomau gwahanol yn ystod gwahanol byliau. Gall pyliau amrywio o ran hyd ac amlder hefyd. Mae pyliau meigryn fel arfer yn para rhwng pedair a 72 awr. Gall meigryn effeithio'n helaeth ar waith, teulu a bywyd cymdeithasol.

Ni wyddys beth sy'n achosi meigryn, ond credir ei fod yn gyfuniad o ffactorau genetig, amgylcheddol a ffordd o fyw. Yn ôl ymchwil yn yr Unol Daleithiau, os oes gan blentyn un rhiant sy'n cael pyliau meigryn, mae'r perygl y byddant hwy'n dioddef 50 y cant yn uwch. Mae hyn yn neidio i 75 y cant os yw'r ddau riant yn cael pyliau meigryn. Mae cysylltiad hefyd rhwng hanes teuluol o meigryn a chael pyliau meigryn yn gynharach.

Meigryn yw'r trydydd clefyd mwyaf cyffredin yn y byd, y tu ôl i bydredd deintyddol a chur pen tensiwn, gydag amcangyfrif o achosion byd-eang o 14.7 y cant—tua un o bob saith o bobl. Yn ôl GIG Lloegr, mae tua 10 miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda meigryn. Mae meigryn yn effeithio ar dair gwaith cymaint o fenywod â dynion, gyda'r gyfradd uwch yn fwyaf tebygol o fod yn deillio o achosion hormonaidd. Mae ymchwil yn awgrymu bod 3,000 o byliau meigryn yn digwydd bob dydd ym mhob miliwn o'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae hyn yn gyfystyr â dros 190,000 o byliau meigryn bob dydd yn y DU. 

Mae gwahanol driniaethau ar gael i blant sy'n cael meigryn, a bydd y driniaeth fwyaf addas yn dibynnu ar eu hanes meddygol, eu hoedran a'u symptomau. At hynny, caiff meigryn warchodaeth y gyfraith. O'r herwydd, os yw plentyn yn cael pyliau meigryn dros gyfnod o flwyddyn gan effeithio'n negyddol ar eu gallu i gyflawni eu gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, gellir eu hystyried yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan roi rhwymedigaeth ar ysgolion i wneud addasiadau rhesymol i blentyn anabl er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais fawr. Ac os nad oes gan blentyn neu berson ifanc sydd wedi eu heffeithio gynllun gofal iechyd unigol, gallai fod angen trafod datblygu cynllun sy'n nodi eu hanghenion a gwneud addasiadau priodol wedi'u teilwra ar eu cyfer. 

Oherwydd bod meigryn mewn plant yn gallu cynnwys symptomau ychydig yn wahanol i feigryn mewn oedolion, mae'r Ganolfan Meigryn Genedlaethol yn dweud nad yw hanner y rhai yr effeithir arnynt byth yn cael diagnosis. Gyda meigryn mewn plant a phobl ifanc, mae poenau stumog yn digwydd yn amlach. Mae astudiaethau'n awgrymu bod tua 60 y cant o blant rhwng saith a 15 oed yn cael cur pen, ond gall diagnosis o feigryn gael ei ohirio oherwydd bod poen bol, chwydu, salwch teithio, poen yn y breichiau a'r coesau a phyliau o bendro oll yn gallu drysu'r darlun. Gall plant ddioddef meigryn heb gur pen, rhywbeth sy'n llai cyffredin mewn oedolion. 

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn y mis diwethaf, lansiodd y Migraine Trust ymchwil newydd a ganfu fod plant yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan o'u gofal iechyd eu hunain ac yn meddwl bod eu gofal yn wael. Mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu y gall meigryn gyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan mewn addysg, gweithgareddau cymdeithasol ac agweddau pwysig eraill ar dyfu i fyny. Mae 90 y cant o bobl ifanc yr effeithiwyd arnynt yn dweud bod meigryn yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, tra bod 76 y cant o weithwyr addysg proffesiynol a holwyd yn teimlo nad oedd eu hysgol yn darparu gwybodaeth, adnoddau a phrosesau i helpu'r plant hyn. Gall hefyd fod yn anodd i blant ddeall ac egluro eu poen, a cheir llai o opsiynau triniaeth ar eu cyfer nag a geir i oedolion. Mae adroddiad y Migraine Trust, 'Dismissed for too long: the impact of migraine on children and young people', yn galw am arweiniad cliriach a hyfforddiant i weithwyr iechyd ac addysgwyr proffesiynol ar ddeall a chefnogi pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt, ac am fwy o adnoddau i rieni a gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn. Maent yn awgrymu bod angen mwy o wybodaeth am eu cyflwr ar bobl ifanc eu hunain a sut i reoli eu gofal eu hunain, ac y dylai llwybrau ac adolygiadau o ofal meigryn lleol yn y GIG ystyried yr effaith ar blant a phobl ifanc. 

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys nad oes gan ysgolion yr wybodaeth na'r polisïau ar waith i helpu plant sy'n cael meigryn. Canfu arolwg o rieni a gofalwyr sydd â phlentyn sy'n byw gyda meigryn fod 70 y cant yn poeni am effaith meigryn ar addysg eu plentyn. Pan ofynnwyd iddynt pa mor aml y bu'n rhaid i'w plentyn aros adref o'r ysgol oherwydd eu meigryn, dywedodd dros hanner—51 y cant—o leiaf unwaith y mis. Ac roedd 85 y cant o rieni a gofalwyr wedi siarad ag ysgol eu plentyn am eu meigryn, ond dim ond 17 y cant ohonynt oedd yn gwbl fodlon gyda'r gefnogaeth gan yr ysgol i ymdopi â'u meigryn. 

Canfu arolwg o blant gyda meigryn fod 90 y cant yn dweud bod eu meigryn yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol. Ond pan ofynnwyd a ydynt yn meddwl bod gan eu hysgol yr wybodaeth am feigryn i allu eu helpu i'w reoli yn yr ysgol, dywedodd 64 y cant nad oedd. Pan ofynnwyd iddynt a oeddent erioed wedi cael eu dysgu am feigryn yn yr ysgol, dywedodd 90 y cant nad oeddent. Yn ôl arolwg o 64 o weithwyr addysg proffesiynol, roedd tri chwarter, 76 y cant, o'r farn nad oedd gan eu hysgol yr wybodaeth, yr adnoddau a'r prosesau i helpu plant yn yr ysgol gyda meigryn. Er enghraifft, yn aml nid oedd polisïau ysgolion wedi'u hanelu at helpu plant i reoli'r pethau a allai sbarduno eu meigryn ac osgoi cael eu hanfon adref yn ddiangen. Mae hyn yn cymharu â chyflyrau hirdymor cyffredin eraill, fel asthma, y mae gan ysgolion yn aml gynlluniau ar waith ar eu cyfer. 

Nid yw plant yn teimlo eu bod yn cael y gofal iechyd y maent ei angen. Mae symptomau cyffredin meigryn mewn plant, fel poen yn yr abdomen, yn aml yn edrych yn wahanol i symptomau oedolion a gellir eu methu, sy'n gallu arafu diagnosis ac arwain at fethu adnabod symptomau plentyn. O'r plant a'r bobl ifanc a ymatebodd i'w harolwg, roedd 33 y cant yn teimlo bod y driniaeth ar gyfer eu meigryn yn wael, dywedodd 30 y cant ei fod yn weddol, dywedodd 23 y cant ei fod yn dda, a dim ond 8 y cant a ddywedodd ei fod yn dda iawn. Ni ddywedodd unrhyw un ei fod yn 'rhagorol'. Mae 72 y cant o'r plant sy'n cael meigryn wedi dweud ei fod yn gwneud iddynt deimlo'n bryderus. Mae plant, yn enwedig plant iau, yn aml angen help gydag esbonio eu meigryn ac mae angen eu cynnwys mewn trafodaethau ynglŷn â'u triniaeth. Mae angen gwell cyfathrebu, lle bo hynny'n bosibl, rhwng gwasanaethau iechyd ac ysgolion a cholegau. Fel y dywed astudiaeth achos yn yr adroddiad,

'Collais lawer o ysgol y llynedd oherwydd fy meigryn ac ni allwn wneud y pethau rwy'n eu mwynhau fel pêl-droed a dawnsio ac fe wnaeth hynny imi deimlo'n drist.'

Un o argymhellion yr adroddiad ynglŷn â sut y gellid mynd i'r afael â phroblemau yw y dylai byrddau iechyd lleol,

'gynnwys plant a phobl ifanc mewn adolygiadau o anghenion meigryn lleol a sicrhau bod ganddynt wasanaethau i ddiwallu'r anghenion hynny.'

a dylai byrddau iechyd lleol,

'sicrhau bod cysylltiadau cryf rhwng gofal meigryn a gwasanaethau iechyd meddwl. Rhaid i iechyd meddwl hefyd fod yn elfen o'r llwybr gofal iechyd i blant sy'n cael meigryn'.

Dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd y gallai gefnogi hyfforddiant fferyllwyr ar reoli meigryn mewn oedolion a phlant, a gweithio gyda phartneriaid addysg i sicrhau bod staff addysgu yn cael hyfforddiant a gwybodaeth am y cyflwr, fel y gallant gefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol. Fel y mae adolygiad academaidd 2021 i blant a meigryn yn datgan,

'Mae meigryn yn dylanwadu'n negyddol ar ansawdd bywyd y plant yr effeithir arnynt. Mae angen diagnosis cynnar a phenderfyniadau ynglŷn â rheoli'r cyflwr er mwyn lleihau'r baich a gwella canlyniad triniaeth cymaint ag y bo modd.'

Byddai'r Migraine Trust yn falch o gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd i wneud cynnydd yn y meysydd hyn, ac fel y dywed ein cynnig, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru,

'i weithio gyda'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn: (a) cryfhau'r canllawiau; (b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a (c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.'

Mae meigryn yn gyflwr cyffredin mewn plant a phobl ifanc, ac mae'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd, ond eto ni wneir diagnosis ym mhob achos ac mae ansawdd triniaeth yn wael. Bydd llai na 10 y cant o blant sy'n cael cur pen problemus yn cael cymorth meddygol ar gyfer eu problem. Gall meigryn effeithio'n ddifrifol ar fywyd plentyn, gan effeithio ar ei berthynas ag aelodau o'r teulu, bywyd ysgol a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae patrwm meigryn mewn pobl ifanc yn eu harddegau yn dechrau newid. Mae meigryn yn effeithio ar fechgyn a merched i'r un graddau nes y glasoed, ac ar ôl hynny mae meigryn yn fwy cyffredin mewn merched. Gall diagnosis hwyr neu fethu cael diagnosis ohono arwain at fethu rheoli eu symptomau'n dda, pryder ynghylch pyliau yn y dyfodol, lefelau presenoldeb gwael yn yr ysgol, defnydd amhriodol neu aneffeithiol o feddyginiaeth, colli hyder a lefelau isel o hunan-barch. Gall poen difrifol a chyfogi na chaiff ei drin yn effeithiol olygu bod plant yn aml yn gorfod aros gartref yn ystod eu pyliau a methu cymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol arferol. Rwy'n cynnig ac yn cymeradwyo'r cynnig hwn yn unol â hynny.

15:20

Diolch i Mark Isherwood am y cyflwyniad yna i'r cynnig. Wrth gwrs, chwarae teg iddo fe—yn ddyn gwybodus iawn; rydyn ni wedi clywed nifer fawr o ystadegau am bobl sydd yn dioddef o feigryn. Ond mae yna wyneb tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny. Mae yna fywydau yn cael eu heffeithio yn eistedd y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny, ac mae gen i anwyliaid sydd yn byw efo meigryn, ac yn perthyn felly i'r ystadegau hynny.

Rŵan, mae'n siŵr ein bod ni i gyd, o dro i'w gilydd, wedi clywed am feigryn mewn modd ysgafn iawn—hwyrach, fod mwydro rhywun neu'i gilydd yn ddigon i ddod â meigryn ymlaen, fel mae rhai yn ei ddweud, neu pan fod rhywun yn dioddef o feigryn, hwyrach, mai'r cyngor ydy i eistedd yn y gornel a chymryd ambell i barasetamol. Ond dydy o ddim yn gur pen yn unig; mae meigryn yn fwy na hynny. Mae hynny yn gwneud annhegwch llwyr, felly, â'r cyflwr ac efo'r dioddefwyr, oherwydd fod o yn fwy na chur pen yn unig, ac felly mae'r cynnig yma heddiw ger ein bron yn nodi ei fod o'n cael effaith andwyol ar fywydau dyddiol pobl a phlant.

Ges i'r fraint o gynnal digwyddiad galw i mewn efo'r Migraine Trust yn ddiweddar—a diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y diwrnod a'r digwyddiad hwnnw—ac roedd y cyfle yna i gael siarad gyda phobl a oedd yn deall y pwnc ac yn arbenigo yn y maes yn agoriad llygaid. O ddeall y gwahanol bethau yna sy'n medru arwain at feigryn, megis straen neu hyd yn oed anghysondeb patrwm bwyta, i’r ffaith, fel y soniodd Mark Isherwood, bod meigryn yn medru bod yn y bol, o bob man, efo'r cyswllt yna rhwng yr ymennydd a'r bol yn amlygu ei hun unwaith eto. Ond, yn anffodus, does yna ddim llawer o bobl yn gwybod pam eu bod nhw yn dioddef o'r meigryn neu beth sydd yn arwain at ymosodiad ohono fo. Mae'r dealltwriaeth o'r clefyd yn fas iawn yn y byd gwyddonol, heb sôn, felly, am ymhlith pobl leyg, ac os ydy’r dealltwriaeth yna mor fas yn y byd arbenigol, yna sut mae disgwyl i athrawon neu gydweithwyr i adnabod y symptomau a medru sicrhau bod camau mewn lle i gynorthwyo pobl sydd yn cael ymosodiad meigryn?

Mae'r cynnig yma, felly, yn un gwylaidd yn ei natur; dydy o ddim yn gofyn am lawer, ond mae'n gam cyntaf pwysig i'r cyfeiriad cywir a fyddai'n helpu i gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth. Yn olaf, felly, gaf i gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i'r Migraine Trust am eu gwaith yn y maes yma a'u parodrwydd i gydweithio efo'r Llywodraeth, y byrddau iechyd ac awdurdodau eraill er mwyn cyflawni'r hyn maen nhw'n gofyn amdano? Diolch yn fawr iawn.

15:25

Rwyf am ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae meigryn yn felltith i'r rhai sy'n dioddef ohono. Mewn oedolion, gall fod yn wanychol, ond i bobl ifanc, i'r glasoed yn arbennig, gall effeithio'n fawr ar eu haddysg, eu teuluoedd a'u bywydau cymdeithasol.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn hollol sicr beth yw canllawiau presennol Llywodraeth Cymru i ysgolion ynglŷn â rheoli meigryn. Ni allwn ddod o hyd i unrhyw beth ar wefan Llywodraeth Cymru; mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn brin o wybodaeth ar y pwnc. Ceir cyfeiriad byr at feigryn yn y gwaith, ond ni allwn weld unrhyw beth ar ysgolion a sut i ymateb. Fy nheimlad i yw bod y cynnig yn iawn i alw am gryfhau'r canllawiau, ac rwy'n credu y dylem ystyried sut i gynorthwyo ysgolion a'u hathrawon i fynd i'r afael ag ystod o faterion a fyddai'n effeithio'n gadarnhaol ar y rhai sy'n dioddef gyda meigryn.

Yn fwyaf arbennig, hoffwn i'r Gweinidog ystyried: beth y gellir ei gynghori ynghylch natur amgylchedd yr ysgol, yn enwedig diffyg awyru digonol; cefnogaeth i ddisgyblion unigol i fwyta ac yfed er mwyn goresgyn y risgiau sy'n gysylltiedig â diffyg maeth a diffyg hylif, a allai fod yn un o achosion meigryn; a datblygu polisïau ysgol i'r rhai sydd â chyflyrau parhaus fel meigryn a sut y gall yr ysgol reoli hyn, yn enwedig cefnogi unrhyw driniaeth y gallai person ifanc fod yn ei dilyn. Dylem hefyd geisio dysgu mwy am niferoedd y bobl ifanc sy'n cael meigryn—pa ddata sydd gennym, beth y mae'n ei ddweud wrthym, a beth arall sydd angen i ni ei wybod?

Hoffwn feddwl y gallai rhai camau cymharol syml atgoffa ein hysgolion am yr heriau y mae pobl ifanc sy'n cael meigryn yn eu hwynebu, a chefnogi ffyrdd o leddfu'r risg o bwl o feigryn. Mae hwn yn fater pwysig. Nid yw'n un sydd wedi cael llawer o sylw, ac rwy'n falch ein bod yn ystyried hyn heddiw. Diolch.

Mi roeddwn i'n falch iawn o'r cyfle i gyd-gyflwyno'r ddadl yma heddiw. Mae'n glir i fi ac Aelodau eraill, fel rydyn ni wedi clywed, fod yna lawer mwy sydd angen ei wneud er mwyn helpu'r nifer uchel o blant a phobl ifanc sy'n dioddef efo meigryn yn rheolaidd yng Nghymru. Mae'n broblem fawr sydd wedi cael ei hanwybyddu'n rhy hir, os ydyn ni'n bod yn onest, ac yn rhy aml, mae'n cael ei drin fel unrhyw salwch tymor byr arall, ond wrth gwrs mae o'n fwy na hynny.

Y gwir amdani ydy bod meigryn yn gyflwr ymennydd hirdymor all gael canlyniadau difrifol tu hwnt ar berfformiad addysgol plentyn, heb sôn am eu hunanhyder a'u bywyd cymdeithasol. Mae plant sy'n dioddef o feigryn yn gallu methu hyd at dri mis o ysgol bob blwyddyn—rydyn ni'n gweld hynny yn yr ystadegau. Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael efo hynny, yn amlwg. A dyna rydyn ni'n ei alw amdano fo heddiw yma.

Mae'r Migraine Trust a chyrff eraill yn cynnig ffordd ymlaen, gan gynnwys darparu'r gefnogaeth gywir, nid yn unig i'r rhai sy'n dioddef eu hunain, ond hefyd i'r athrawon, i'r rhieni, i'r gofalwyr sy'n gyfrifol amdanyn nhw.

Mae ymchwil yn dangos bod athrawon yn ansicr iawn pan fo'n dod at helpu unigolion efo meigryn, ond mae camau mewn gwirionedd sy'n ddigon syml y mae posibl eu cymryd er mwyn lleihau'r poenau—yfed digon o ddŵr, cael mynediad i ystafell dywyll, o bosib. Ond, ar hyn o bryd, dydy ysgolion ddim yn cael eu hyfforddi yn ddigonol i helpu disgyblion drwy'r poenau yma. Mae bron i 17,000 o dripiau diangen yn cael eu gwneud i ysbytai bob blwyddyn oherwydd meigryn. Drwy gynnig gwell hyfforddiant, dwi'n hyderus bod modd lleihau'r nifer yna, lleihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd, ac, wrth gwrs, lleihau absenoldeb plant o ysgolion hefyd—mae hynny'n allweddol.

Mae yna enghreifftiau o arfer da yng Nghymru. Yn y gogledd, er enghraifft, mae cleifion wedi gweld budd o agor Canolfan Walton yn Nhreffynnon. Mae o wedi lleihau amseroedd aros i gleifion sydd efo salwch niwrolegol difrifol. Ond, yn anffodus, dydy'r un gwasanaethau ddim ar gael ym mhob rhan o'r wlad—hynny'n stori gyffredin, wrth gwrs. Ac yn gyffredinol, mae yna broblemau enfawr o hyd yn nhermau amseroedd aros, yr adnoddau sydd ar gael i gleifion, a hynny'n cynnwys plant. Mi all pobl fod yn aros hyd at ddwy flynedd am driniaeth mewn rhai achosion. Ar hyn o bryd, dim ond tri o'r saith bwrdd iechyd, dwi'n credu, sydd â'r adnoddau i drin yr achosion niwrolegol mwyaf difrifol. Mae angen, yn syml iawn, gynllun cenedlaethol i ehangu gwasanaethau ar gyfer meigryn, a hynny i gyfateb i'r ffaith bod yna gymaint o bobl yn dioddef ohono fo.

Ond mae camau ymarferol eraill y mae'n bosibl eu cymryd i wella ansawdd bywyd plant a phobl sy'n dioddef: gwella adnoddau hyfforddiant i athrawon, fel dwi wedi ei ddweud; rhannu canllawiau cliriach i blant a phobl ifanc ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain; ac, ie, gwella'r ddarpariaeth gofal drwy'r gwasanaeth iechyd i'r rhai sy'n dioddef yn fwyaf difrifol. Mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r hyn sydd yn gur pen mwyaf cyffredin y wlad, ond, fel rydyn ni wedi ei glywed yn barod, sy'n llawer mwy na hynny, a hynny er mwyn trio sicrhau nad ydy o'n amharu'n fwy nag sydd ei angen iddo fo ar fywydau addysg a chymdeithasol ein plant a'n pobl ifanc. A dyna pam rydym ni'n gofyn i'r Senedd nid yn unig nodi'r cynnig yma fel sydd o'n blaenau ni, ond hefyd i gefnogi'r egwyddorion sydd y tu ôl i'r hyn rydym ni'n ei gyflwyno o'ch blaenau chi heddiw yma.

15:30

Diolch yn fawr. A hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am godi'r mater hynod bwysig hwn. Mark, gallaf bob amser ddibynnu arnoch i ddysgu rhywbeth newydd i mi yn y dadleuon hyn—mae gennych bob amser gymaint o ffeithiau a ffigurau ar flaenau eich bysedd, ac maent bob amser yn ddefnyddiol iawn inni eu nodi, ac yn sicr, byddaf sicrhau ein bod yn nodi’r rheini ac yn mynd i'r afael â rhai o’r materion hynny. Maddeuwch i mi am beidio â bod yn y Siambr heddiw.

Mae meigryn, fel y clywsom, yn un o’r cyflyrau niwrolegol mwyaf cyffredin, ond anaml iawn y byddwn yn siarad amdano a’i effaith yn y Siambr hon. Bydd llawer ohonom wedi cael profiad uniongyrchol o feigryn, neu ryw gipolwg ar yr effaith hynod nychus y gall ei chael ar ddioddefwyr ac ansawdd eu bywyd. Ac fel y clywsom y prynhawn yma, mae meigryn yn gyflwr iechyd hirdymor difrifol a phoenus—mwy o lawer na dim ond cur pen drwg iawn. Ac yn anffodus, i'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sy'n cael meigryn, bydd y cyflwr yn parhau i fod gyda hwy pan fyddant yn oedolion.

Ac efallai mai’r agwedd greulonaf ar y cyflwr yw ei allu i daro heb fawr o rybudd os o gwbl, heb sail na sylwedd, gan darfu ac amharu ar achlysuron arbennig a digwyddiadau bob dydd. A gellir deall yn glir ei allu i darfu ar blant, fel y mae llawer ohonoch wedi’i nodi, ac addysg pobl ifanc, eu gallu i ddysgu a’u gallu i gymryd rhan ym mhob agwedd arall ar fywyd ysgol. Ac rwy'n deall hyn, gan fod fy mrawd hynaf yn rhywun a oedd yn dioddef meigryn, ac yn llythrennol, bu'n rhaid iddo fethu misoedd o ysgol, a chafodd hynny effaith sylweddol ar ei addysg.

Nawr, yn yr amser sydd gennyf y prynhawn yma, hoffwn dynnu sylw at fesurau pwysig sydd eisoes ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc mewn amgylchedd dysgu. Nawr, o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau

'yn cael eu harfer gyda golwg ar ddiogelu a hyrwyddo lles plant.'

yn yr ysgol neu leoliadau dysgu eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant sydd ag anghenion gofal iechyd.

Nawr, i gefnogi hyn, mae ein canllawiau 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd' yn cynnwys canllawiau statudol a chyngor anstatudol i gefnogi dysgwyr i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar eu haddysg. Mae'n pwysleisio'r angen am ymagwedd gydweithredol gan weithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol, gan roi'r dysgwr ynghanol y broses o wneud penderfyniadau, ac wrth gwrs, mae'n bwysig cynnwys rhieni hefyd.

Fe'i cefnogir ymhellach gan ganllawiau cyflym i staff, rhieni a phobl ifanc. Byddai gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyfrannu at y gwaith o baratoi cynllun gofal iechyd unigol i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion iechyd sy’n effeithio ar amser y plentyn neu’r unigolyn ifanc yn yr ysgol. Mae gennym enghreifftiau da o ble mae gofynion ac ysbryd y Ddeddf a'i chanllawiau yn cael eu rhoi ar waith. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu gwasanaeth pediatrig ar gyfer gwella o salwch, sydd wedi’i gynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n ymdopi â salwch. Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i'w cynorthwyo i ymdopi â'r heriau gwirioneddol y mae bod â chyflwr iechyd yn eu hachosi a'i nod yw eu helpu i reoli symptomau a all eu rhwystro rhag gwneud pethau sy'n wirioneddol bwysig iddynt.

Mae bron pob un o'r plant a phobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at y tîm yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y cyfraddau presenoldeb disgwyliedig yn yr ysgol. Elfen hanfodol yw'r cydweithio â'r ysgol ac ymarferwyr gofal sylfaenol i helpu'r bobl ifanc i gael mynediad at addysg mewn ffordd sy'n addas ac sy'n briodol i'w hanghenion nhw. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, trafod gyda rhieni. 

Mae'r tîm wedi cynllunio pecyn cymorth sy'n cynnwys canllawiau i'w defnyddio mewn ysgolion i helpu i adnabod, deall a chefnogi'r plant a'r bobl ifanc a allai fod yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at addysg ac sydd angen cefnogaeth neu ymyrraeth ychwanegol. Ac er bod hwn wedi'i gynllunio'n wreiddiol ar gyfer plant â symptomau sy'n gysylltiedig â COVID hir ac afiechydon eraill sy'n achosi blinder cronig a phoen, gellir defnyddio'r pecyn gyda llawer o blant sy'n cael trafferth gyda symptomau a all amharu ar eu haddysg nhw.

Mae deddfwriaeth, cyngor ac arweiniad, wrth gwrs, yn bwysig, ond mae'r gwaith sydd wedi'i ddatblygu gan gydweithwyr ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan yn rhoi enghraifft o sut i drosi hyn i rywbeth ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ac i'w canlyniadau. Mae'r gwaith a gafodd ei ddatblygu yn Aneurin Bevan wedi cael ei adolygu gan gymheiriaid ar draws yr holl fyrddau iechyd ac mae cynlluniau i ddatblygu hwn yn becyn cymorth 'unwaith i Gymru'. 

Dirprwy Lywydd, gall unrhyw darfu ar addysg person ifanc gael effaith gydol oes, ond gyda'r gefnogaeth gywir gellir lleihau hyn. Gyda'n gilydd, mae gan bob un ohonom ni rôl bwysig i'w chwarae, ac mae'n rhaid inni wneud ein rhan ar y cyd i greu'r amgylchedd sy'n angenrheidiol i alluogi hyn i ddigwydd. Mae eisoes mesurau mewn lle i alluogi cydweithio proffesiynol ac asiantaethol gyda mudiadau fel y Wales Neurological Alliance. Rŷn ni fel Llywodraeth yn gefnogol o waith y Migraine Trust, ond mae'n bwysig bod ein partneriaid sy'n delifro y gwasanaeth ar lawr gwlad yn gallu bod yn hyblyg yn y ffordd y maen nhw yn creu eu partneriaethau eu hunain. 

Mae meigryn yn un o dros 250 o gyflyrau niwrolegol, ac mae nifer fawr yn cael eu cefnogi gan fudiadau trydydd sector, sy'n gwneud gwaith arbennig, wrth gwrs. Ond fe fyddai, wrth gwrs, yn amhosibl i ni fel Llywodraeth i weithio gyda phob un o'r rhain yn unigol. Fe all cynrychiolwyr o'r Migraine Trust ofyn i fod yn aelodau o'r Wales Neurological Alliance, ac fe fyddai hyn yn creu mecanwaith iddyn nhw i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru felly. 

Mae'n rhaid i blant a phobl ifanc sydd ag unrhyw angen gofal iechyd, gan gynnwys meigryn, gael eu cefnogi i gyflawni eu potensial yn llawn, a dyna beth fyddwn ni yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr. 

15:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac wrth gloi’r ddadl bwysig heddiw, dylwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Mark Isherwood, am gyflwyno'r ddadl Aelodau heddiw, a hefyd i'm cyd-gyflwynwyr, Tom Giffard, Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor. Diolch hefyd i’r Gweinidog am ei hymateb yn gwerthfawrogi’r pwyntiau heddiw. Fel yr amlinellwyd gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl heddiw, ymhlith nifer o ystadegau y mae Aelodau wedi gwneud sylwadau arnynt, un a'm syfrdanodd oedd y ffaith syml fod un o bob 10 o blant a phobl ifanc yn byw gyda meigryn. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau o ddydd i ddydd, ynghyd â'u hamser yn yr ysgol. Rwy'n siŵr fod llawer o Aelodau—ac mae hyn wedi cael ei grybwyll eisoes—yn y Siambr hon yn gwybod am aelodau o'r teulu neu ffrindiau y mae meigryn yn cael effaith mor sylweddol arnynt ac sy'n dioddef yn fawr o'i herwydd.

Fel yr amlinellwyd gan Rhun ap Iorwerth, os yw plentyn yn dioddef o feigryn, gall hyn yn aml arwain at blant yn cael trafferth i gwblhau eu gwaith ysgol, gan ddangos, heb gymorth priodol, y gall meigryn effeithio’n ddifrifol ar gyrhaeddiad addysgol. Ac un peth a’m trawodd yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma, fel y crybwyllodd Mabon ap Gwynfor, yw’r ffaith bod ymchwil gan y Migraine Trust wedi awgrymu bod gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol yn aml heb ddealltwriaeth o feigryn, ac fel y mae Altaf Hussain wedi’i nodi, efallai weithiau nad yw’r gweithwyr proffesiynol hynny wedi cael hyfforddiant ac adnoddau i allu rhoi cefnogaeth effeithiol i’r plant a'r bobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt.

Wrth gwrs, mae camau y gellir eu cymryd i helpu’r plant a’r bobl ifanc sy’n dioddef, ac mae’r rhain wedi’u disgrifio’n huawdl gan yr Aelodau yn ystod y ddadl heddiw. Weinidog, er ichi nodi rhywfaint o’r gwaith cyfredol a rhannu dealltwriaeth glir o’r pryder ynghylch meigryn, nid wyf yn siŵr y byddem yn cael y ddadl hon heddiw pe baem yn teimlo bod yr holl gamau hynny’n gweithio, ac yn gweithio’n dda ledled Cymru. Fel y mae’r cynnig heddiw'n ei nodi, nawr yw’r amser i weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel y Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ysgolion, gwasanaethau iechyd a rhieni a gofalwyr ym mha fforwm bynnag sy’n gweithio orau. Weinidog, fe wnaethoch amlinellu efallai fod cyfle i’r Migraine Trust ac eraill ddod ynghyd â fforymau eraill i ddeall y mater hwn yn well; rwy’n siŵr y byddai hynny’n cael ei groesawu.

Ond mae'n amlwg i mi—a chaiff hyn ei amlinellu yn y cynnig heddiw—fod angen inni weld y canllawiau meigryn yn cael eu cryfhau, mae angen inni weld hyfforddiant yn cael ei ddarparu i gefnogi a chynorthwyo pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt, yn ogystal â darparu adnoddau i rieni a gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn, a galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu sut i reoli eu gofal eu hunain ar yr un pryd hefyd.

Felly, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi’r ddadl heddiw, diolch i’r holl Aelodau, ynghyd â’r Gweinidog, am eu cyfraniadau. Hoffwn ddweud iddi fod yn ddadl hynod ddefnyddiol a chraff, ac yn ogystal â hyn, mae gan Aelodau’r Senedd heddiw gyfle gwych i gefnogi’r cynnig hwn a fydd yn gwneud cymaint i ddarparu cymorth ac arweiniad i bobl ifanc a phlant sy’n dioddef o feigryn. Felly, galwaf ar bob Aelod i gefnogi’r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Ail Gartrefi

Eitem 7 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail Gartrefi'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths. 

Cynnig NDM8084 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail gartrefi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad.

Fel y gŵyr pob un ohonom, mae’r materion hyn yn ddadleuol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Er nad yw pob ardal o’r wlad yn cael ei heffeithio, mae gan lawer o’n hardaloedd arfordirol a gwledig niferoedd uchel o ail gartrefi. Ynghyd â'r ffaith bod eiddo a arferai fod yn eiddo preswyl yn newid i fod yn llety gwyliau tymor byr a phrinder cartrefi fforddiadwy yn gyffredinol, mae llawer o gymunedau’n teimlo bod eu cynaliadwyedd dan fygythiad.

Nid yw ail gartrefi, wrth gwrs, yn ffenomen newydd yng Nghymru, ond wrth i brisiau tai a chostau byw gynyddu, ynghyd â bod mwy o bobl wedi dod ar wyliau i Gymru yn ystod y pandemig, mae pobl sydd wedi eu magu neu wedi byw mewn cymunedau yr effeithir arnynt yn aml yn methu prynu neu rentu cartrefi yn yr ardaloedd hynny. Mae rhai ardaloedd wedi gweld cymaint o ostyngiad yn nifer y trigolion parhaol fel nad yw gwasanaethau cyhoeddus bellach yn hyfyw, gan gynnwys cau ysgolion. Mae natur dymhorol yr economi ymwelwyr hefyd wedi troi rhai cymunedau'n drefi marw dros y gaeaf, gyda llawer o amwynderau'n cau yn ystod y misoedd tawelach hynny. Wrth gwrs, mae rhannau eraill o’r DU wedi cael problemau tebyg oherwydd niferoedd uchel o ail gartrefi, yn enwedig Cernyw ac ardal y Llynnoedd. Yng Nghymru, rhaid inni hefyd ystyried yr effaith ar y Gymraeg, yn enwedig gan fod llawer o’r cymunedau yr effeithir arnynt wedi’u lleoli yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.

Gan fod ail gartrefi'n effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru, gwnaethom benderfynu mai ar hyn y byddai ein hymchwiliad cyntaf fel pwyllgor yn canolbwyntio. Un o brif amcanion ein gwaith oedd archwilio’r argymhellion a wnaed gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, 'Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’, ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r cynigion hynny. Gwnaethom 15 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rydym yn falch fod 14 wedi’u derbyn yn llawn ac un wedi’i dderbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.

Gwyddom fod mynd i’r afael â mater ail gartrefi'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bod llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo. Yn ystod ein hymchwiliad, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai cynllun peilot graddol yn cael ei gynnal yn Nwyfor, Gwynedd, er mwyn profi nifer o ymyriadau. Rydym yn croesawu’r cynllun peilot hwnnw, ac yn credu y bydd gwerthusiad cywir o’r mesurau sy’n cael eu treialu yno yn allweddol er mwyn deall a ddylid cyflwyno’r mesurau hyn mewn rhannau eraill o’n gwlad. Rydym yn falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd bob chwe mis ar y cynllun peilot a’i effeithiolrwydd. Rydym hefyd yn croesawu cadarnhad y Gweinidog y bydd y cynllun peilot yn destun gwerthusiad annibynnol cadarn.

Credwn ei bod yn bwysig gallu gwahaniaethu rhwng llety gwyliau ac ail gartrefi at ddefnydd personol. Rydym felly’n croesawu diffiniadau dosbarthiadau defnydd newydd Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn credu bod y rhain yn rhoi cyfle am fwy o gysondeb. Ynghyd â chynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer llety gwyliau, gall hyn sicrhau bod gwahaniaeth clir rhwng mathau gwahanol o eiddo.

Clywsom lawer o dystiolaeth am fanteision economaidd twristiaeth i Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol lle mae llawer o bobl yn dibynnu ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch am eu bywoliaeth. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r buddion economaidd yn cael eu gorbwyso gan effeithiau negyddol ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Mae’r economi ymwelwyr yn hanfodol i Gymru. Mae'n bwysig felly fod ymyriadau sydd â'r nod o ddiogelu cymunedau'n cael eu targedu'n gywir i atal canlyniadau anfwriadol.

Argymhellwyd y dylai'r gwerthusiad o'r ymyriadau yn Nwyfor gynnwys asesu'r effaith ar dwristiaeth. Mewn ymateb, mae’r Gweinidog wedi dweud, lle bo’n ymarferol, y bydd y gwerthusiad annibynnol yn cynnwys yr effaith honno, ac y bydd rhagor o waith archwiliol yn cael ei wneud i bennu sut y gwneir hyn. Hoffwn ailbwysleisio pwysigrwydd asesu’r effaith ar yr economi ymwelwyr i sicrhau bod y nifer o swyddi sy’n ddibynnol arni yn cael eu diogelu.

Roedd llawer o’r dystiolaeth a gawsom yn ystyried ail gartrefi o fewn trafodaeth ehangach am argaeledd tai fforddiadwy. Mae honno’n broblem ledled Cymru, ond mae gan ardaloedd arfordirol a gwledig broblem ychwanegol ail gartrefi i ymgodymu â hi. Mae’n amlwg fod diffyg tai fforddiadwy yn broblem sy’n gwneud i rai pobl, yn enwedig pobl ifanc, symud o’r cymunedau lle cawsant eu magu, a byw ymhellach oddi wrth eu teuluoedd a’u rhwydweithiau cymorth. Gyda llai o bobl o oedran gweithio'n byw yn yr ardaloedd hyn, rydym yn pryderu bod gweithlu sy’n lleihau yn effeithio ar allu cyflogwyr ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i lenwi rolau hanfodol. Mae angen pobl ar gymunedau i oroesi. Os bydd niferoedd uchel o gartrefi mewn trefi a phentrefi yn wag am gyfnodau hir o'r flwyddyn, mae'n anochel y bydd diffyg cwsmeriaid yn gorfodi busnesau i gau yn ystod y cyfnodau tawelach gan adael gweddill y trigolion heb yr amwynderau hynny.

Credwn fod cynyddu argaeledd tai fforddiadwy yn allweddol i atal diflaniad cymunedau cynaliadwy, byw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu ledled Cymru, ond nid adeiladu cartrefi newydd yw’r unig ateb. Ceir dros 22,000 eiddo gwag ar draws ein gwlad. Bydd dod â’r rheini'n ôl i ddefnydd yn gwneud cyfraniad sylweddol, felly hoffem weld mwy o gynnydd. Cyflwynodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd adroddiad ar y mater penodol hwn ym mis Hydref 2019, ac mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion hynny erbyn mis Rhagfyr eleni.

Roedd effaith ail gartrefi ar y Gymraeg yn un o ystyriaethau allweddol eraill ein gwaith. Rydym yn bryderus ynghylch y dystiolaeth fod niferoedd uchel o ail gartrefi, yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg, yn cael effaith andwyol ar nifer y siaradwyr Cymraeg a hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd hynny. O'r herwydd, rydym yn croesawu sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru, a’i nod o wneud argymhellion i gryfhau polisi mewn perthynas â chynaliadwyedd ieithyddol cymunedau. Rydym yn falch y bydd y comisiwn yn dadansoddi canlyniadau cyfrifiad 2021 a data arall, ac y bydd y gwaith yn cynnwys dadansoddi'r gydberthynas rhwng nifer ail gartrefi mewn cymunedau a nifer y siaradwyr Cymraeg.

Lywydd, mae hwn yn fater pwysig iawn i ni, ac yn enwedig i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig ac arfordirol. Byddwn yn dychwelyd at y mater pwysig hwn yn ystod tymor y chweched Senedd hon i weld sut y mae ymyriadau wedi datblygu. Diolch yn fawr.

15:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

15:50

Cyfeiriaf yr Aelodau at fy natganiad o fuddiant mewn perthynas â pherchnogaeth eiddo.

Nawr, o'r cychwyn, gwn fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dechrau drwy fod yn awyddus i fynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy yn ein cymunedau, ac mae'n deg dweud bod y grŵp hwn yn cefnogi'r ymdrech honno. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn bryderus iawn, ac nid wyf ar fy mhen fy hun; mae pobl yn fy nghymuned i a chymunedau eraill ledled Cymru wedi bod yn gohebu â mi, ac maent bellach wedi dweud bod y tueddiad yn mynd i'r cyfeiriad anghywir, gan fod pethau'n teimlo bellach fel, 'Gadewch inni fynd ar ôl pobl sydd ag ail gartrefi; gadewch inni fynd ar ôl pobl sydd â llety gwyliau.'

Wrth ddarllen yr adroddiad hwn, dylai'r larymau fod yn canu i bob un ohonom sy’n dibynnu ar dwristiaeth, pan fo argymhelliad 4 yn dweud,

'Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu rhagor o waith ymchwil ar yr effaith y mae twristiaeth yn ei chael ar gynaliadwyedd cymunedau.'

Yn ddiddorol, awgrymodd Grŵp Perchnogion Cartrefi Cymru fod perchnogion ail gartrefi'n cyfrannu £235 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae Cyngor Tref y Bermo'n feirniadol o adroddiad Dr Brooks, gan ddweud,

'nad oes dim data yn yr adroddiad ar effaith economaidd llety gwyliau.'

Tynnodd Cymdeithas Llety Tymor Byr y DU sylw at gyfraniad economaidd llety gwyliau tymor byr, a chyfeiriodd at astudiaeth gan Oxford Economics ar ran Airbnb, a oedd yn amcangyfrif bod gwesteion sy’n defnyddio’r platfform wedi cyfrannu cyfanswm o £107 miliwn i economi Cymru yn 2019.

Ond gadewch imi ddweud yma fod gwahaniaeth mawr rhwng ail gartrefi, eiddo Airbnb a llety gwyliau dilys. Fel y dywed adroddiad y pwyllgor,

'Sylweddolwn nad oes digon o ddata ar y manteision a ddaw yn sgil twristiaeth o gymharu â’r data sydd am yr effaith andwyol ar y cymunedau yr effeithir arnynt'.

Mae twristiaeth yn un—. Ni ddylai fod rhaid imi ddweud hyn wrthych, ond mae twristiaeth yn un o esgyrn cefn economaidd pwysicaf Cymru. Mewn rhai etholaethau, dyma'r unig ddiwydiant. Ymddengys bod Plaid Cymru a chithau wedi lansio ymosodiad polisi a deddfwriaethol mawr ar y sector mewn ymdrech i geisio cyfiawnhau pam nad ydym wedi gweld y tai'n cael eu hadeiladu dros y 23 mlynedd diwethaf.

Rydych wedi derbyn argymhelliad 1, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y mae’n diffinio ail gartrefi, ac wedi cyfeirio at gyflwyno tri dosbarth cynllunio newydd: C3, prif breswylfa; C5, cartref eilaidd; a C6, llety gwyliau tymor byr. Fodd bynnag, ceir bwlch a allai danseilio hyn. Gallai unrhyw un sy'n byw ym Manceinion ar hyn o bryd ddatgan yn gyfreithlon mai ei dŷ yn Aberconwy yw ei brif gartref, ac mai ei dŷ ym Manceinion yw ei ail gartref. Felly, bingo—ni fydd hyn yn effeithio arno o gwbl. Felly golyga hynny bod ffyrdd o osgoi hyn.

Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi derbyn argymhellion 2 a 14 y byddwn bellach yn cael diweddariadau bob chwe mis, Weinidog. Credaf mai’r hyn y mae trigolion yn Nwyfor a chymunedau eraill mewn argyfwng am ei weld yw nifer dda o gartrefi fforddiadwy ar gael i’w prynu a’u rhentu. A yw'r cynllun peilot hwn yn cyflawni hynny? Nac ydy.

Mae’r pwyllgor yn llygad ei le gydag argymhelliad 9, ac rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith, y dylai Llywodraeth Cymru arwain drwy esiampl, gan sicrhau bod y tir yr ydych yn berchen arno, tir cyhoeddus—. Ac mae gennych lawer o dir o fewn y byrddau iechyd, yr awdurdodau lleol—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—beth bynnag, gallwch ymateb. Pam nad ydynt yn cael eu cynnig fel mannau addas i'w datblygu, nid oes gennyf unrhyw syniad.

Gwynedd—gadewch inni ystyried Gwynedd. Pam nad ydym yn sicrhau bod tir ar gyrion cymunedau sydd mewn argyfwng fel Nefyn yn cael ei ddyrannu yn y CDLl ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy? Pam nad ydym yn caniatáu i’n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cymdeithasau tai da, gweithredol, fel y bydd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, yn gwybod—? Cartrefi Conwy yn Aberconwy: darparwyr tai gwych, ac maent am allu adeiladu tai newydd i bobl. O ganlyniad, nid yn unig y byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl leol, ond byddai gennym fecanwaith cryf ar waith sy’n golygu y gallem ddal ein gafael ar ein cenedlaethau iau, gan fod diffyg tai yn un o'r rhesymau pam fod pobl yn symud o'r ardal.

Darllenais, gyda pheth anobaith, eich ymateb i argymhelliad 10. Wrth gwrs, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda, nid yn erbyn, landlordiaid sector preifat ac asiantaethau gosod tai, ond yn hytrach na chyfeirio at gynllun lesio Cymru fel arwydd o gydweithredu, mae arnom angen bellach, Weinidog—. Mae'r Llywodraeth hon wedi creu problem i ni o ran yr hyn sy’n digwydd gydag ail gartrefi, a’r bygythiad o ardoll treth gyngor o 300 y cant.

Yn y mis diwethaf yn unig, rwyf wedi cael gwybod bod 51 gorchymyn troi allan adran 1 wedi'u cyflwyno yn fy etholaeth i. Nawr, mae hon yn etholaeth lle mae gwariant eisoes ar lety dros dro, felly mae 51 o deuluoedd yn mynd i gael eu dadleoli yn awr. Felly, mae gwir angen inni benderfynu beth sy'n cyfrif fel ail gartref, cydnabod y gwerth a ddaw yn eu sgil, a chofio nad oes a wnelo hyn â phobl sy'n dod i mewn o Loegr yn unig—gwn am bobl sydd ag eiddo ym Mhenfro ac eiddo arall draw yma. Pan ddônt i fy etholaeth i, maent yn defnyddio ein siopau trin gwallt, maent yn defnyddio ein garddwyr—

15:55

Mae angen ichi gwblhau eich sylwadau yn awr. Rwyf wedi bod yn hael iawn.

Iawn, diolch. Mae’n fater mawr iawn. Mae pob un ohonom wedi dweud, Weinidog, fod angen dull amlweddog o weithredu. Fodd bynnag, mae targedu perchnogion ail gartrefi yn gam yn ôl. Bydd yr eiddo'n mynd yn ôl ar y farchnad gydag Airbnb, pobl sy'n gallu eu fforddio'n haws, a byddant yn Airbnb yn y pen draw. Diolch.

Dwi innau’n datgan buddiant, yr hyn sydd ar y record gyhoeddus, hefyd.

Gyfeillion, dwi’n falch iawn o gael cyfrannu at y drafodaeth yma. Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o’r ymgynghoriad, a diolch i’r Cadeirydd am ei arweinyddiaeth yn ystod yr ymgynghoriad yma.

Mae o’n un amserol iawn, ac mae o’n dangos consensws trawsbleidiol. Mae yna gydnabyddiaeth yma fod ein cymunedau gwledig ac arfordirol yn byw yng nghanol argyfwng tai, a bod ail dai yn cyfrannu yn sylweddol at hynny. Mae yna gydnabyddiaeth hefyd yma o’r angen i gymryd camau i fynd i’r afael â hyn, ac o ba gamau y dylid eu cymryd.

A dwi’n gweld yr argyfwng hynny yn ddyddiol yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, o Aberdyfi i Abersoch i Feddgelert ac yna i Landderfel. Mae pobl da wedi bod yn ymgyrchu a thynnu sylw at y mater yma ers hanner canrif, a rŵan, o’r diwedd, mae’r mater yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol ac mae’r Llywodraeth, drwy gydweithio efo ni ym Mhlaid Cymru, yn cyflwyno datrysiadau.

Y gwir trist, wrth gwrs, ydy bod nifer o’n cymunedau wedi colli rhan fawr o’u cymeriad, ac yn gymunedau dienaid a gwag, efo gwasanaethau cyhoeddus yn crebachu a phobl yn ymadael. Ond, mae yna obaith: edrychwch ar bentref bach Rhyd ger Llanfrothen, a oedd unwaith yn bentref a oedd yn llawn tai haf ond sydd bellach wedi adfywio. Rhaid i ni beidio, felly, â rhoi'r gorau i obaith.

Dwi’n meddwl bod profiad y pwyllgor yn hyn o beth yn eithaf unigryw i'r Senedd yma, oherwydd mi ddaru ni gychwyn ar y gwaith cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi'r gwahanol ymgynghoriadau ac yna'r newidiadau a oedd yn yr arfaeth. Mae’r gweithredu yma gan y Llywodraeth fel rhan o’r cytundeb cydweithredu efo ni ym Mhlaid Cymru i’w groesawu'n fawr. Roedd o'n ddiddorol dilyn trywydd y cynigion yna gan y Llywodraeth wrth i ni wneud yr ymgynghoriad.

Ystyriwch y camau sydd bellach ar waith: cynyddu treth trafodion tir; addasu cynllunio er mwyn cyflwyno newid defnydd ar gyfer y tai yma, a fydd yn golygu y gall awdurdodau lleol reoli faint o ail dai sydd yn ein cymunedau; system drwyddedu ar gyfer lletyau gwyliau tymor byr—hyn oll a mwy yn bethau yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn galw amdanynt ac yn eu hyrwyddo ers blynyddoedd. Bellach maen nhw'n cael eu gweithredu. Diolch byth am hynny.

Mae’r adroddiad yma gan y pwyllgor yn sôn am y gwaith sydd yn mynd ymlaen yn Nwyfor ac yn ardal Gwynedd. Ond, hoffwn wybod gan y Gweinidog pa gynlluniau sydd ar gael i sicrhau bod y cynlluniau yma yn parhau i’r hirdymor yn wyneb yr heriau economaidd sydd yn wynebu awdurdodau lleol, a pha gamau sydd yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod ardaloedd eraill, megis Ceredigion, Penfro, Môn ac Abertawe, yn medru gweithredu'r camau yma.

Mae’r drafodaeth hon heddiw yn amserol yng nghyd-destun adroddiad Sefydliad Bevan a gafodd ei ryddhau'r wythnos diwethaf yn edrych ar effaith Airbnb ar ein cymunedau. Fe wyddoch chi fy mod i wedi bod yn codi’r mater yma ers tro ac yn dadlau mai dyma sydd yn tanseilio'r sector tai hunanddarpar. Mae’r dystiolaeth gan Sefydliad Bevan yn dyst i hynny, ac yn frawychus. Ar ddiwedd y gwanwyn eleni, roedd 22,000 o dai yng Nghymru wedi eu cofrestru ar y platfform hwnnw, efo bron i 60 y cant o'r tai a oedd ar blatfform Airbnb yn addas i bobl fyw ynddyn nhw.

Fel canran o’r stoc dai preifat, maen nhw’n llawer iawn fwy, efo tai Airbnb yn gyfwerth i draean o stoc dai preifat Gwynedd, a phumed o stoc dai preifat Ynys Môn a Cheredigion. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar y sector rhentu yn yr ardaloedd yma, efo gwerth rhent yn cael ei wthio i fyny, a llai o dai i'w rhentu ar y farchnad. Yn wir, mae’r adroddiad yn nodi y byddai’n cymryd chwe wythnos yn unig i berchennog wneud yr un faint o bres ar dŷ pedair llofft trwy Airbnb ag y gallai wneud trwy osod y tŷ allan i’w rhentu yn lleol ar raddfa lwfans tai lleol. Mae’r system wedi ei osod i fyny, felly, i sicrhau bod y gwerth ariannol mwyaf yn cael ei echdynnu ar draul rhoi to parhaol uwch ben pobl.

Mae hyn hefyd yn ein hatgoffa ni o'r hyn mae fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth wedi'i godi yma sawl gwaith, sef achos stad Bodorgan, sydd yn mynd drwy'r broses o droi pobl allan o'u tai efo'r bwriad o droi'r tai hynny'n dai gwyliau, gan ychwanegu at yr argyfwng digartrefedd. Ac mae Rhun, wrth gwrs, fel rydyn ni'n gwybod, wedi gwneud pob dim o fewn ei allu i helpu'r bobl hynny, ond mae'n dangos fod yna angen am weithredu.

Mae argymhelliad 11 a 12, felly, o’r adroddiad, yn bwysig, sef effaith hyn ar gymunedau Cymraeg eu hiaith. Felly, er mai'r Gweinidog amgylchedd sydd yn ymateb, gan fod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn dod o dan gylch gorchwyl y Gweinidog addysg, tybed a fedrai'r Gweinidog amgylchedd gadarnhau os bydd y comisiwn ar gymunedau Cymraeg eu hiaith yn edrych ar yr heriau sydd yn wynebu rhentwyr tai yn ogystal â phrynwyr tai yn y cymunedau hynny. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Mae yna brinder enbyd o eiddo i'w brynu a'i rentu. Dylai fod gan bawb hawl i un. Dylai pawb gael hawl i gartref, ac eto mae 25,000 eiddo yng Nghymru yn wag. Roedd realiti effaith ail gartrefi'n glir i mi wrth ymweld â phentref yng ngogledd orllewin Cymru, a gweld nifer y tai gwag gyda dwy a thair ystafell wely a fyddai wedi gwneud cartrefi cyntaf da iawn. Dywedwyd wrthyf fod rhai yn gartrefi gwyliau, ond roedd rhai—wel, cryn dipyn ohonynt—wedi'u gadael mewn cyflwr gwael. Roedd un yn fyngalo hynod ddefnyddiol, sy'n brin yn y gymuned, ac roedd y gymuned wedi ceisio ei brynu gan breswylydd nad oedd yn byw yn y pentref, ond dywedodd ei fod yn ei gadw fel buddsoddiad ar gyfer ymddeol, er ei fod wedi cyrraedd oed ymddeol.

Cyn hynny, roeddwn yn ymwybodol o'r term 'bancio tir', ond yr hyn a welais oedd 'bancio eiddo' ar raddfa fawr. Mae'r ffaith bod cymaint o eiddo gwag yn cael ei wastraffu pan fo cymaint o bobl angen to uwch eu pen, lle i'w alw'n gartref, yn wirioneddol frawychus. Mae hawl i gartref, addysg a gofal iechyd gweddus yn sylfaenol i lesiant ac mae pob person ei angen ac yn ei haeddu. Mae'r atebion, fodd bynnag, yn gymhleth ac yn amrywio yn dibynnu ar ardaloedd, ond nid oes un ateb sy'n addas i bob sefyllfa. Ac mae'r diffiniad o ail gartref yn bwysig. Mae gwahaniaeth rhwng rhywun yn gosod eiddo fel llety gwyliau, a rhywun sydd ag ail gartref ac yn ymweld yn achlysurol yn unig. Mae'n rhaid cydbwyso hyn â'r manteision a ddaw yn sgil twristiaeth, fel y gwelsom.

Ond rhaid canolbwyntio hefyd ar yr argyfwng costau byw a'r argyfwng tai a fydd yn effeithio fwyaf ar y rhai agored i niwed. Dywedodd Sefydliad Bevan nad yw'r lwfans tai lleol ond yn gymwys ar gyfer 4 y cant o eiddo yng Nghymru. Cafodd ei rewi yn 2016 ac eto yn 2020. Mae'n gywilyddus fod Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny, a'i bod am dorri cyllid gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau ymhellach. Mae rhai landlordiaid yn newid i ddarparu llety Airbnb, oherwydd, yn ôl adroddiad Sefydliad Bevan, mewn rhai ardaloedd, gallant ennill mwy mewn 10 wythnos nag y byddent yn ei gael o rent amser llawn drwy'r lwfans tai lleol. Ac mae hwnnw'n fater pwysig sy'n ein hwynebu—y syniad fod cartrefi'n ased i'r cyfoethog wneud elw ohonynt yn hytrach na rhywbeth y dylai pawb fod â hawl iddynt. Mae yna lawer o gamau y mae angen eu cymryd i wrthdroi'r difrod a wnaed ers Thatcher.

Rhan o hyn yn unig yw mynd i'r afael â nifer yr ail gartrefi. Bydd angen rheoli rhenti, mwy o dai cymdeithasol, ac adeiladu tai cyngor hefyd—i ddychwelyd at hynny eto—er mwyn diogelu tenantiaid, a chynyddu'r cyflenwad tai ar yr un pryd. Mae cyllid sector cyhoeddus Llywodraeth y DU dros y 12 mlynedd diwethaf yn gwneud hyn yn llawer anos. Mae swyddogion yn cael eu gorweithio a'u llethu, sy'n golygu bod cynllunio'n cymryd mwy o amser. Mae hyn yn ymwneud eto â chyllido gwasanaethau cyhoeddus, i sicrhau bod y rhai sy'n gweithio mewn cynghorau sy'n gorfod ymdrin â cheisiadau cynllunio yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n ein hwynebu, ac rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud ei gorau glas i fynd i'r afael â hwy. Diolch.

16:05

Yn gyntaf, a gaf fi gofnodi fy niolch i John Griffiths am ei gadeiryddiaeth wrth gynhyrchu adroddiad y pwyllgor ar ail gartrefi heddiw, a hefyd i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, a'r Gweinidog, y clercod a thîm cefnogi'r pwyllgor sydd wedi dod draw a rhoi tystiolaeth a'n cefnogi fel pwyllgor drwy'r broses hon? Wrth gwrs, mae ail gartrefi wedi bod yn fater dadleuol ers amser maith yng Nghymru, ers nifer o flynyddoedd, a dyna pam y credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod wedi mynd i'r afael â hyn yn gynnar iawn ar ôl inni ffurfio fel pwyllgor. Fel y gwyddom, mae llawer o waith gorau'r Senedd yn dod o bwyllgorau ac o ganlyniad i hyn, roedd yn galonogol iawn gweld eich bod wedi derbyn 14 o'r 15 argymhelliad, Weinidog, ac wedi derbyn un mewn egwyddor hefyd. Felly, diolch am eich rhan chi yn y broses hon hefyd.

Yn fy nghyfraniad i heddiw, hoffwn gydnabod ei bod yn sicr yn her o ystyried cyfran yr ail gartrefi mewn rhai cymunedau yng Nghymru. Roedd hyn yn glir yn y gwaith a wnaethom fel pwyllgor. Ond roedd hefyd yn glir nad yw'r her wedi'i rhannu'n gyfartal ledled Cymru o bell ffordd. Yr enghraifft a'm trawodd yn ystod ein gwaith fel pwyllgor oedd bod oddeutu 50 y cant o'r eiddo yn Abersoch naill ai'n ail gartrefi neu'n dai gwyliau, ond ychydig filltiroedd i ffwrdd yng Nghaernarfon, dim ond tua 0.5 y cant o'r eiddo yno a oedd yn disgyn i'r categori hwnnw. Felly, mae'r gwahaniaethau ar draws cymunedau'n enfawr mewn mannau nad ydynt mor bell â hynny oddi wrth ei gilydd.

Yn ystod gwaith ein pwyllgor, gwelsom fod gan rai o'n hardaloedd arfordirol a gwledig rai o'r niferoedd uchaf o ail gartrefi, ac o'u cyfuno ag eiddo a arferai fod yn eiddo preswyl a oedd wedi newid yn llety gwyliau tymor byr a rhai o'r cwestiynau ynghylch fforddiadwyedd cartrefi mewn cymunedau, roedd y cymunedau hynny'n sicr yn teimlo bygythiad i'w cynaliadwyedd. Roedd data mis Awst y llynedd yn dangos mai Gwynedd oedd â'r nifer uchaf o ail gartrefi—tua 9.5 y cant o'r eiddo yno. Roedd Ynys Môn ar 8.1 y cant a Cheredigion ar 5.2 y cant, gan ddangos yn bendant fod y cymunedau gwledig ac arfordirol hynny'n gorfod wynebu'r her yn fwy nag unrhyw ardaloedd eraill ledled y wlad.

Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr ohebiaeth gan drigolion a phartïon sydd â diddordeb yn y mater yn eu cymunedau. Rwy'n siŵr mai dyma'n rhannol a'n harweiniodd i wneud argymhelliad 7 yn ein hadroddiad, sy'n dweud

'Dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y bydd strategaethau lleol a chenedlaethol yn sicrhau cyflenwad digonol o dai sydd o’r math priodol i fodloni gofynion lleol ac yn fforddiadwy yng nghyd-destun enillion lleol.'

Rwy'n credu ei fod yn argymhelliad pwysig iawn fod y ddealltwriaeth honno o wahaniaethau ledled Cymru yn cael ei hadlewyrchu yn y strategaeth ac mewn polisi. Yn ogystal â hyn, canfuom fod problem ail gartrefi wedi gwaethygu yn dilyn pandemig COVID-19 wrth gwrs. Rydym yn sicr eisiau croesawu pobl i Gymru a rhoi croeso cynnes iddynt. Fodd bynnag, mae argymhelliad 13 yn dweud

'Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil ar effaith... pandemig Covid-19 ar dueddiadau o ran tai, i asesu maint y symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig ac arfordirol.'

Roeddwn yn falch iawn o weld yr argymhelliad hwnnw yn ein hadroddiad. Un peth yr hoffwn ganolbwyntio arno efallai yw'r ddealltwriaeth o'r mater mewn perthynas â nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yn ein cymunedau gwledig hefyd, a chyd-destun ail gartrefi o fewn hynny. Gwyddom fod y data a ddefnyddiem pan gyhoeddwyd yr adroddiad yn dangos bod ychydig o dan 20,000 o'r bron i 1.4 miliwn o eiddo yng Nghymru yn cael eu dosbarthu fel ail gartrefi. Mae hynny'n 1.4 y cant o holl eiddo Cymru. Mae 1.4 y cant o holl eiddo Cymru yn ail gartrefi. Er i mi egluro hyn ar ddechrau fy nghyfraniad, y ffaith ei bod yn broblem fawr mewn rhai cymunedau, nid yw cyd-destun y ffigur hwnnw mor arwyddocaol, efallai, ag y byddai rhai eisiau i ni ei gredu.

Mae effaith neges mor negyddol i'n diwydiant twristiaeth eisoes wedi cael sylw yma heddiw, ac fe'n hatgoffwyd wrth gymryd tystiolaeth mai'r sector twristiaeth yng Nghymru sydd i gyfrif am 17.6 y cant o gynnyrch domestig gros, ac sy'n cyflogi dros 12 y cant o drigolion y wlad. Dyna pam y croesawais argymhelliad 4, mewn gwirionedd, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu rhagor o waith ymchwil ar yr effaith y mae twristiaeth yn ei chael ar gynaliadwyedd cymunedau, oherwydd mae'r sector hwn mor bwysig i'n cymunedau mewn perthynas â swyddi a chyfleoedd i'r dyfodol.

Lywydd, rwy'n gwybod bod amser yn brin, felly rwy'n mynd i garlamu drwy'r pwynt olaf hwn, ynglŷn ag argymhelliad 8 yn hyn i gyd, sy'n nodi bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i’r Senedd ar sut y mae’n bwriadu cyflawni ei tharged ar gyfer adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn nhymor y Senedd hon, ynghyd ag argymhelliad 10 yn ein hadroddiad, sy'n galw am ymdrechion pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y mae’n bwriadu gweithio gyda'r sector preifat i ddatblygu mwy o eiddo, yn enwedig yn y cymunedau lle maent yn ei chael hi'n anodd gyda nifer yr ail gartrefi a'r tai gwyliau.

Diolch am roi ychydig mwy o amser i mi, Lywydd. Hoffwn ddiolch eto i'r pwyllgor ac i bawb a gyfrannodd at yr hyn rwy'n ei ystyried yn adroddiad defnyddiol iawn i weld sut y gwnawn ymdrin â rhai o'r heriau mewn perthynas ag ail gartrefi. Diolch.

16:10

Diolch yn fawr am gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma heddiw.

Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, nid ffenomen newydd yw ail gartrefi. Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwyso am gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r mater hwn ers degawdau. Mae problem ail gartrefi wedi mynd o ddrwg i waeth i lawer o'n cymunedau ledled Cymru, boed hynny yn ein cadarnleoedd Cymraeg gwledig neu'n wir yn ein canolfannau trefol. Mae'r argyfwng tai presennol sy'n wynebu cymunedau ledled Cymru, wedi'i ysgogi'n rhannol gan ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, yn cael ei nodweddu gan anallu'r rhai sy'n byw yn y gymuned neu sydd wedi eu magu mewn cymuned i brynu neu rentu cartrefi yn yr ardaloedd dan sylw. Mae'r argyfwng yn golygu bod llawer o wasanaethau cyhoeddus heb fod yn hyfyw mwyach. Mae ysgolion yn cau, siopau'n cau, cyfleusterau cymunedol yn cau. Mae cymunedau'n erydu, ac yn diflannu yn y pen draw.

Gadewch inni fod yn glir: nid mater gwledig yn unig yw hwn. Mae effeithiau ail gartrefi ar ein cadarnleoedd gwledig yn drychinebus, i'r economi wledig, i'n diwylliant, i'n hiaith, i bobl. Afraid dweud hynny. Ond mae'r argyfwng tai yr un mor amlwg mewn ardaloedd trefol, fel yr un rwy'n ei chynrychioli. Mae boneddigeiddio yn dinistrio gwead y cymunedau hyn. Heddiw, yn rhinwedd fy swydd fel llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau, hoffwn neilltuo peth amser i ganolbwyntio hefyd ar yr wythfed argymhelliad, fel y clywsom gan Sam yn gynharach, yn adroddiad y pwyllgor, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo. Mae argymhelliad 8 yn dweud

'Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i’r Senedd ar sut y mae’n bwriadu cyflawni ei tharged o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd o fewn cyfnod y Senedd hon. Hoffem pe bai’r diweddariad yn cynnwys dadansoddiad o ble y mae’n bwriadu i’r cartrefi newydd hyn gael eu hadeiladu, yn unol â’r galw, ac yn unol ag anghenion cymunedau.'

Nawr, mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, mewn egwyddor o leiaf, ond mae cwestiynau'n parhau ynghylch y targed tai. O ystyried maint yr angen am dai yng Nghymru, mae nifer wedi cwestiynu a yw'r targed hwn yn ddigonol. Rwy'n croesawu uchelgais y Llywodraeth i sicrhau 20,000 o gartrefi, wrth gwrs fy mod, ond a yw'r targed yn ddigon uchelgeisiol? Weinidog, sut y gwyddoch eich bod mewn gwirionedd yn diwallu angen y wlad am dai yn llawn? Rydym ynghanol un o'r argyfyngau costau byw gwaethaf ers cyn cof. Ynghyd ag effeithiau Brexit, mae yna storm berffaith yn wynebu ein cadwyni cyflenwi a'n gweithlu adeiladu. Yn sgil costau cynyddol deunyddiau adeiladu, y costau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ac effeithiau Brexit ar y gweithlu, sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyrraedd eu targedau adeiladu?

Gan symud ymlaen, dros yr haf, roeddwn yn ffodus i ymweld â Fienna i astudio eu polisi ar dai cymdeithasol a fforddiadwy. Roedd yn agoriad llygad a dweud y lleiaf. Mae Fienna wedi bod yn arwain y byd gyda'i darpariaeth o dai cymdeithasol a fforddiadwy ers dros ganrif. Heddiw, mae 60 y cant o drigolion Fienna—

16:15

A gaf fi dorri ar draws? Gallaf weld bod Mark Isherwood eisiau gwneud ymyriad. Nid wyf yn gwybod a ydych yn barod i dderbyn un. 

Iawn. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud mewn ffordd gwrtais iawn. Mark Isherwood. 

Diolch. Diolch yn fawr iawn yn wir. Rwy'n credu bod tua 18 neu 19 o flynyddoedd ers i mi dynnu sylw Llywodraeth Cymru ar y pryd at y ffaith y byddai yna argyfwng tai fforddiadwy mewn cymunedau yng Nghymru pe na bai'r toriadau i dai cymdeithasol ar y pryd yn cael eu gwrthdroi. Ond a ydych yn rhannu fy mhryder fod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer chwarter 2 yn 2022 yn dangos, unwaith eto, fod nifer y cartrefi newydd a gwblhawyd yng Nghymru wedi mynd i'r cyfeiriad anghywir, a dyma'r unig wlad neu ranbarth yn y DU unwaith eto lle maent wedi lleihau mewn gwirionedd?

Mae hwnnw'n sicr yn bwynt da iawn gan Mark, ac efallai y gall y Gweinidog roi sylw i'r pwynt hwnnw pan fydd yn ymateb. 

Fel y dywedais, roeddwn yn Fienna ac mae dros 60 y cant o'r dinasyddion hynny'n byw mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy. Ond yn Fienna, roedd hi'n amlwg fod yr ymdrechion adeiladu'n ymwneud â mwy na thai yn unig; roeddent yn ymwneud ag adeiladu cymunedau—cymunedau go iawn, lle'r oedd anghenion pobl yn cael eu diwallu, lle'r oedd cyfleusterau cymunedol, mannau gwyrdd, canolfannau meddygol, cysylltiadau trafnidiaeth, gofal plant a mwy wedi'u hintegreiddio'n ddi-dor mewn ardaloedd preswyl. Os gallai Fienna gyflawni hyn dros 100 mlynedd yn ôl, pam na allwn ni ei wneud heddiw? Rwy'n tybio mai fy nghwestiwn yma mewn perthynas â thargedau tai yw: sut rydych chi'n sicrhau nad ydym ond yn adeiladu tai a'n bod yn adeiladu cymunedau sy'n gweithio mewn gwirionedd, gyda'r holl gyfleusterau sydd eu hangen ar gymunedau? Diolch yn fawr.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu at y ddadl—Julie James. 

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yn enwedig y Cadeirydd, am eu hymchwiliad manwl ac ystyriol i fater cymhleth ail gartrefi. Ar ran fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, ymatebais i adroddiad ac argymhellion y pwyllgor, ac rydym wedi derbyn pob un ohonynt. Rydym ni, ac mewn llawer o achosion, roeddem ni'n gweithredu'r rheini'n ymarferol drwy ein gweithgaredd trawslywodraethol a'n cydweithio agos gyda Phlaid Cymru ar y mater hwn. 

Fel y gwyddoch, mae ymateb i'r heriau a gaiff eu creu gan nifer fawr o ail gartrefi a thai gwyliau tymor byr yn galw am ymateb holistig ac integredig. Nodwyd hyn yn fy natganiad ar ein dull gweithredu trawslywodraethol sydd â thair elfen iddi, ac mae hefyd yn nodwedd allweddol o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Rydym wedi ymrwymo i fesurau radical, effeithiol a chytbwys i'w gweithredu ar unwaith er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau'n uniongyrchol ac yn rhoi cefnogaeth bellach i bobl allu byw'n fforddiadwy yn eu cymunedau. Heb os, mae'r her hon wedi'i gwneud yn llawer mwy cymhleth oherwydd yr argyfwng costau byw a'r cythrwfl yn y farchnad, ac yn arbennig y cythrwfl yn y farchnad dai a achoswyd gan—nid wyf yn gwybod beth y maent yn ei alw erbyn hyn—rwy'n credu mai 'cyllideb fach' yw'r term y maent wedi'i dderbyn, cyllideb fach y Llywodraeth, a thynnu cymaint o gynhyrchion morgais yn ôl oddi wrth brynwyr tro cyntaf yn enwedig. Ni allaf ddeall sut y gall y Ceidwadwyr sefyll yno a'n beirniadu ni am yr hyn a wnawn, o ystyried y gofid a'r llanastr llwyr y maent wedi'i greu yn y farchnad dai.

Beth bynnag, rydym wedi gweithio'n gyflym ac yn frwdfrydig i roi nifer o gamau arwyddocaol ar waith dros y flwyddyn. Lywydd, fe wnaf nodi'n gyflym yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar y gweill heddiw, gan eu bod yn helaeth ac ychydig iawn o amser sydd gennyf, ac fe wnaf amlinellu wedyn sut rydym am barhau i symud ymlaen. Yr wythnos diwethaf, fel yr addawyd yn natganiad y Prif Weinidog ac Adam Price ar 4 Gorffennaf, fe wnaethom osod rheoliadau sy'n rhoi llawer mwy o reolaeth i awdurdodau cynllunio lleol dros niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn eu cymunedau yn y dyfodol lle mae tystiolaeth leol yn dangos bod yna broblem. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol roi llawer mwy o ystyriaeth i amgylchiadau lleol.

Rydym wedi bod yn gweithio a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau cynllunio lleol yng Ngwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri fel rhan o gynllun peilot Dwyfor. Rydym yn eu cynorthwyo i adeiladu sylfaen dystiolaeth gyffredin y gellir ei defnyddio i lywio pob ymyrraeth polisi lleol. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi costau gweithredu, wrth inni ddysgu gwersi a gwneud asesiad o gost ac effaith. Bydd y dysgu hwn o fudd cenedlaethol. Er hynny, rwyf am ddweud yma, mewn ymateb uniongyrchol i Mabon, fod y rheolau, wrth gwrs, yn berthnasol i bawb yn awr, ond rydym yn gweithio'n fwyaf arbennig gyda'r ardaloedd peilot i ddeall eu harwyddocâd o ran adnoddau. Felly, nid yw hynny'n golygu na all llefydd eraill barhau i'w wneud, ond rydym yn edrych yn arbennig ar gasglu data ar beth yw'r goblygiadau i awdurdodau lleol mewn perthynas ag adnoddau—os caf wneud y pwynt hwnnw'n gwbl glir.

Wrth gwrs, roeddem eisoes wedi cyflwyno ystod o fesurau, gan gynnwys newidiadau i'r terfyn uchaf ar gyfer premiymau treth gyngor dewisol, ac ail gartrefi a thai sy'n wag yn hirdymor. Bydd y newidiadau yn dod i rym o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen ac mae modd i awdurdodau lleol ymgynghori yn awr a gweithredu ar eu penderfyniadau—gwn fod Gwynedd eisoes yn gwneud hyn—er mwyn gwneud dewisiadau cytbwys am bremiwm priodol i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau i'r meini prawf gosod er mwyn i lety hunanddarpar gael ei ddosbarthu fel llety annomestig ac yn agored i ardrethi annomestig, yn hytrach na llety domestig ac yn agored i'r dreth gyngor. Mae'r mesurau hyn, sy'n cyd-fynd â'r newidiadau a wneir i'r fframwaith cynllunio, yn ein harfogi ni ac awdurdodau lleol i allu rheoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y cyfraniad y mae twristiaeth deg yn ei wneud, ond ni allwn barhau i weld cymunedau'n cael eu gwagio. Mae'r pecyn cytbwys a chadarn hwn o ymyriadau yn un sydd heb ei debyg yng nghyd-destun y DU ac mae'n dangos ein bod wedi bod, ac yn ystyried y sefyllfa'n ddifrifol iawn. Yn ehangach, rydym yn gweithio ar nifer o gamau ategol, gan weithio gydag awdurdodau lleol ar opsiynau a hyblygrwydd lleol posibl ar gyfer treth trafodiadau tir i ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Byddai hyn yn ein helpu i ymateb ymhellach i ddosbarthiad anwastad ail gartrefi ar draws Cymru ac ardaloedd o fewn awdurdodau hefyd yn wir.

Rydym yn parhau i archwilio opsiynau i ddod â rhagor o dai gwag yn ôl i ddefnydd amser llawn. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant i awdurdodau lleol mewn perthynas â'u defnydd o'u pwerau prynu gorfodol ac mae gennym nifer o gynlluniau i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, gan gynnwys system o grantiau a'r cynllun lesio, ac yn y blaen, a hoffwn gyfeirio llawer o'r Aelodau sydd wedi codi hynny heddiw at fy natganiadau blaenorol ar y pwnc, lle rydym wedi amlinellu nifer fawr o ymyriadau sydd gennym ar waith.

Hefyd, cadarnhaodd y Prif Weinidog ac Adam Price eu hymrwymiad fel rhan o'r cytundeb cydweithio i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, a byddwn yn cyflwyno ymgynghoriad ar ein cynigion yn y misoedd nesaf. Bydd y cynllun yn ei gwneud hi'n ofynnol i gael trwydded i weithredu llety i ymwelwyr, gan gynnwys llety gwyliau tymor byr, a bydd yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth a gwella data i gefnogi penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol. Ac os caf roi sylw uniongyrchol i gyfraniad Janet ac yn fwy helaeth gan Sam, yn amlwg, rydym eisiau i bobl ddod ar wyliau i Gymru. Yn amlwg, rydym eisiau iddynt gael ail gartrefi a manteisio ar lety gwyliau yma, ond yr hyn yr ydym ei eisiau yw cymuned gynaliadwy. Os siaradwch chi â phobl sy'n dod yma sydd ag ail gartref neu lety gwyliau, nid ydynt eisiau dod i fan lle nad oes neb yn byw a lle nad oes unrhyw siopau a thafarndai; maent eisiau dod i gymuned sy'n ffynnu a phrofi hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'u gyrru allan; mae'n ymwneud â'u gwasgaru a gwneud yn siŵr fod gennym gymunedau cynaliadwy ym mhob ardal. Felly, rwyf eisiau gwneud hynny'n hollol glir. Nid yw'n ymwneud â pheidio â bod yn groesawgar; mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod y profiad y mae pobl yn ei gael pan fyddant yn dod i Gymru yn un da a hynny oherwydd bod gennym gymuned gynaliadwy, ffyniannus sy'n defnyddio'r Gymraeg a'r holl fanteision diwylliannol sy'n dod yn sgil hynny. Felly, nid yw'r agenda hon yn erbyn neb; mae'n agenda sydd o blaid ein cymunedau effeithiol ac o blaid ein diwylliannau.

Felly, os caf roi sylw uniongyrchol i'r ymgynghoriad ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg drafft, fel y dywedodd Mabon, mae hwn yn llwyr ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, ond yn amlwg, rydym yn cydweithio'n agos iawn ar hyn gan eu bod yn gorgyffwrdd yn sylweddol. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, aeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ati i amlinellu ffocws ei gynllun tai cymunedau Cymraeg. Rydym ar fin rhyddhau manylion y cynllun hwnnw. Yn gyffredinol, er hynny, nod y cynllun yw cefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi, gan ddwyn ynghyd agweddau sy'n ymwneud â thai, datblygu cymunedol, yr economi a chynlluniau iaith. Yn yr Eisteddfod hefyd, lansiodd y Gweinidog gomisiwn ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith. Byddant yn gwneud astudiaeth fanwl o gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg, gan gynnwys effeithiau'r dwysedd uchel o ail gartrefi, ac yn darparu adroddiad ymhen dwy flynedd. A Mabon, bydd hynny wrth gwrs yn cynnwys y sector rhentu preifat ac unrhyw fath arall o ddeiliadaeth; y syniad yw cael cymuned gwbl gymysg a chwbl gynaliadwy sy'n gallu parhau i ddefnyddio'r Gymraeg fel y mynnant.

Byddwn yn darparu diweddariadau pellach, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor ar y datblygiadau yn ardal y cynllun peilot. Rydym eisoes wedi gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda Chyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin i ddiwygio'r meini prawf a'r canllawiau ar gyfer ein cynllun cymorth prynu, er enghraifft. Rwyf wedi cefnogi hyn drwy sicrhau bod £8.5 miliwn ar gael dros dair blynedd i helpu pobl i gael troed ar yr ysgol dai. Mae hyn eisoes yn dwyn ffrwyth, ac edrychaf ymlaen at weld nifer o dai ychwanegol yn cael eu cwblhau'n fuan. Rydym hefyd wedi sefydlu grwpiau gweithredol a strategol ar gyfer y cynllun peilot ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i weld sut y gall morgeisi awdurdodau lleol, er enghraifft, fod o fudd yn y cyfnod anodd hwn. Mae hwn, unwaith eto, yn ymrwymiad sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae'r cynllun peilot yn gyfle da i arbrofi ar gyfer hyn ac ymyriadau eraill a'r defnydd o bwerau newydd a phwerau sy'n bodoli eisoes.

Felly, Lywydd, rydym yn rhoi camau beiddgar a chyflym ar waith ar unwaith ar draws ystod o feysydd i fynd i'r afael â'r materion cymhleth hyn mewn ffordd bendant, fel y dywedasom y byddem yn ei wneud. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad. Mae'r gwaith yn adeiladu ar ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth ac mae i'w groesawu'n fawr iawn, felly, diolch yn fawr. Roeddwn i a chyd-Aelodau'n falch iawn o dderbyn argymhellion y pwyllgor, sy'n rhai ymestynnol, a hynny'n briodol, a byddant yn helpu i ychwanegu ymhellach at ein dealltwriaeth a'n hymrwymiad i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mewn ardaloedd lle mae gennym wasgariad anghytbwys o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Wrth gwrs, edrychwn ymlaen at roi diweddariad i'r Senedd, wrth inni barhau i wneud cynnydd ar yr agenda hon ac wrth inni gyflawni ein hymrwymiad i ymateb yn ymarferol i'r argymhellion.

Yn gryno iawn, Lywydd, ar y cyflenwad tai, nad oes gennyf amser i'w drafod yma, byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd ar dai a gwblhawyd yn nes ymlaen yn ystod tymor yr hydref, pan fydd gennym y data ar gyfer hynny. Wrth gwrs, mae gwaith i'w wneud o hyd, ond rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gennym ni ac awdurdodau lleol yng Nghymru arfau cywir i reoli'r defnydd cymysg o eiddo yn ein cymunedau yn well a bod gennym gymunedau cynaliadwy Cymraeg eu hiaith sy'n ffynnu ledled Cymru. Diolch yn fawr.

16:25

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw? Rwy'n credu bod pawb yn deall bod hwn yn faes pwysig iawn, ond cymhleth, a bod llawer yn digwydd, ond mae llawer i'w wneud.

Fe fyddwn yn dweud wrth Janet Finch-Saunders, sef y cyntaf i gyfrannu yn dilyn fy araith i agor y ddadl, Lywydd, ein bod yn cydnabod, yn amlwg, y tensiynau ynghylch twristiaeth, pwysigrwydd twristiaeth i'r ardaloedd hyn, a soniwyd am hynny gan eraill yn y ddadl hefyd. Yn amlwg, mae angen cydbwysedd, ond mae ein hargymhelliad y dylid cynnal gwerthusiad priodol o'r effaith ar dwristiaeth yn bwysig iawn yn fy marn i. Ond rhaid inni gydnabod—rwy'n credu eich bod wedi dweud, Janet, fod perchnogion ail gartrefi'n defnyddio gwasanaethau lleol, yn defnyddio busnesau lleol. Ond fe wyddom mai am benwythnos efallai, neu wythnos neu bythefnos y bydd rhai perchnogion ail gartrefi'n defnyddio'r eiddo mewn blwyddyn gyfan, ac fe glywsom gan y Gweinidog y gall hynny arwain at wagio cymunedau. Efallai eu bod yn drefi marw yn y gaeaf am nad yw'r busnesau a'r gwasanaethau'n gallu gweithredu yn ystod y misoedd hynny am nad oes digon o bobl o gwmpas i'w defnyddio, ac os yw'r gwagio hwnnw'n digwydd, ni fyddant yn gymunedau byw, cynaliadwy, sydd mor bwysig, fel y clywsom.

Rwy'n credu bod Mabon ap Gwynfor wedi dangos ei ymrwymiad yn glir i'r materion hyn, ac yn amlwg, maent yn bwysig iawn i Mabon yn ei ardal leol ei hun, ac rwy'n canmol Mabon ar yr ymrwymiad hwnnw a'i waith ar y pwyllgor mewn perthynas â'r mater hwn. Yn amlwg, mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur, Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn bwysig iawn i roi ffocws ychwanegol. Ac rwy'n credu ein bod bellach mewn sefyllfa, onid ydym, lle mae gennym, fel y disgrifiodd y Gweinidog, ystod gyfan o gamau gweithredu'n digwydd, camau pwysig iawn i fynd at graidd y materion hyn ac yn arwain at newid, a'r hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.

Mae'n hollol iawn fod gennym y cynllun peilot yn Nwyfor fel ein bod yn gwerthuso, monitro a gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn symud ymlaen ar gyfer Cymru gyfan, fod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn iawn sy'n dweud wrthym beth sy'n gweithio, beth nad yw'n gweithio a pha ganlyniadau anfwriadol a allai fod. Felly, rwy'n credu bod dull o'r fath sy'n seiliedig ar dystiolaeth, drwy'r cynllun peilot a'r gwaith arall yr ydym wedi'i argymell ac y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn, yn gwbl hanfodol.

Mae'r gwrthgyferbyniad llwyr y cyfeiriodd yr Aelodau ato rhwng eiddo Airbnb a'r rhai sydd efallai'n meddwl am y lwfans tai lleol a'r refeniw a fyddai'n deillio o hynny'n hynod o llwm, onid yw? Mae'n dangos, drwy waith Sefydliad Bevan ac eraill, yr hyn sydd angen mynd i'r afael ag ef o ran atyniad cymharol mathau penodol o ddefnydd o eiddo a'r hyn a fydd yn sicrhau cymunedau cartrefol, cynaliadwy. Ac fe wnaeth Carolyn Thomas y pwyntiau hynny hefyd. Ac fe soniodd Carolyn hefyd am yr hawl i dai, ac mae'n hawl sylfaenol, onid yw? A chawsom ddigwyddiad pwysig iawn yn y Pierhead yr wythnos o'r blaen lle'r oedd sefydliadau tai, cymdeithasau tai ac eraill, yn sôn am bwysigrwydd yr hawl i dai a'r hyn a allai ddigwydd yng Nghymru pe bai gennym ddeddfwriaeth ar waith a fyddai'n gwireddu'r hawl honno ledled ein gwlad. Ac mae honno'n ymgyrch a fydd yn parhau ac yn datblygu.

A gaf fi ganmol Sam Rowlands hefyd am ei waith ar y pwyllgor a'r dull cytbwys y mae wedi'i fabwysiadu drwyddi draw, ac rwy'n credu ei fod wedi dangos hynny eto heddiw, wrth iddo geisio sicrhau'r cydbwysedd rhwng pwysigrwydd twristiaeth, er enghraifft, a mynd i'r afael â'r materion dadleuol hyn mewn rhannau arbennig o Gymru, yn enwedig, fel yr amlygodd Sam unwaith eto, ardaloedd fel Gwynedd, Ynys Môn a Cheredigion, a phwysigrwydd edrych ar ardaloedd eraill o Gymru a'r gwersi y mae'n rhaid inni eu dysgu?

Peredur, diolch am siarad am Fienna. Mae'n enghraifft dda iawn o sut rydych yn mabwysiadu dull cymuned gyfan o fynd ati ar y materion hyn ac adeiladu cymunedau, gan edrych ar fannau gwyrdd, gwasanaethau ac anghenion cymunedol. Ac ar hynny, rwy'n credu y gallwn fod yn falch o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ar sawl achlysur gwahanol, sy'n cydnabod yr angen am ddull o'r fath a'r gwahanol fesurau a roddir ar waith i sefydlu'r dull hwnnw o weithredu.

Lywydd, hoffwn ddirwyn i ben drwy gydnabod y gwaith sydd wedi digwydd a'r gwaith sydd ar y gweill. Mae'n wirioneddol arwyddocaol. Nid camau symbolaidd yw'r rhain—mae'n waith sy'n mynd at wraidd yr heriau sy'n ein hwynebu yn yr ardaloedd penodol hynny yng Nghymru, ac ar draws ein gwlad hefyd. Ac roeddwn yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi nodi'r camau hyn ger ein bron yma heddiw—y ffaith bod yr holl argymhellion wedi cael eu derbyn a'r ymrwymiad cryf gan y Gweinidog i gymunedau cynaliadwy, pwysigrwydd y Gymraeg, pwysigrwydd gwaith y comisiwn sy'n cael ei sefydlu a'r cyfle da i arbrofi sydd gennym yn sgil y cynllun peilot, fel y disgrifiodd y Gweinidog. Rwy'n credu ein bod yn ymrafael â materion anodd iawn, ond rydym wedi rhoi camau ar waith i gyflawni, gwerthuso a monitro a fydd yn caniatáu inni fwrw ymlaen ar sail y dystiolaeth. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Y cwestiwn felly yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae hwnna wedi cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Digwyddiadau mawr

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. 

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig sydd nesaf—y ddadl honno ar ddigwyddiadau mawr. Dwi'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8086 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.

2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.

3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Wrth i dîm pêl-droed Cymru anelu am Qatar yn ddiweddarach eleni, ac yn dilyn cyhoeddi strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf, mae'n gwbl briodol ein bod yn ystyried arwyddocâd economaidd digwyddiadau mawr, gartref ac oddi cartref.

Wrth ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer digwyddiadau mawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cael amser a chyfle i ddysgu gwersi o'r strategaeth flaenorol a gosod cyfeiriad newydd ar gyfer sut yr ymdrinnir â digwyddiadau mawr er mwyn sicrhau ein bod yn cael y budd economaidd mwyaf posibl o'r digwyddiadau hyn. Ac er ein bod yn gwybod bod y sector digwyddiadau yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n heconomi, efallai ein bod weithiau'n anghofio arwyddocâd diwylliannol ac ieithyddol y digwyddiadau hyn yn ein cymunedau. Er enghraifft, mae digwyddiadau fel Gŵyl y Gelli, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a'r Sioe Frenhinol i gyd yn enghreifftiau o ddigwyddiadau sy'n rhan annatod o'n diwylliant a'n hiaith.

Felly, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfeddwl ei strategaeth digwyddiadau mawr a sicrhau bod llawer mwy ar arwyddocâd diwylliannol digwyddiadau mawr. Rydym hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi llawer mwy o ffocws ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru, fel y nodir yn ein cynnig.

Wrth gwrs, yn sail i strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru mae'r angen am gysoni ac integreiddio o fewn y sector digwyddiadau, yn enwedig mewn perthynas â gweithlu a chynllunio. Mae angen inni ddatblygu gweithlu cydweithredol, arloesol sy'n canolbwyntio ar amcanion a rennir, ac er mwyn gwneud hynny'n effeithiol, rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn tyfu sgiliau, gwybodaeth a gallu o fewn y diwydiant. Felly, wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gall y Gweinidog fachu ar y cyfle i ddweud ychydig mwy wrthym am lefel y buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn y sector a'r camau sy'n cael eu cymryd i'w ddatblygu hyd yn oed ymhellach.

Nawr, rwy'n falch o weld bod strategaeth Llywodraeth Cymru yn derbyn yr angen i wneud y gorau o wasgariad daearyddol a thymhorol digwyddiadau ledled Cymru. Mae'n hanfodol fod pob rhan o Gymru yn cael cyfle i elwa yn sgil digwyddiad mawr mewn un rhan o'r wlad, ac mae angen inni weld llawer mwy o fuddsoddi yn y seilwaith y tu allan i'r brifddinas er mwyn i hynny ddigwydd.

Mae cynnal digwyddiad mawr yn bwysig, nid yn unig oherwydd yr arian sy'n cael ei wario yn ystod y digwyddiad, ond hefyd am ei fod yn hoelio sylw'r byd ar Gymru ac yn rhoi cyfle inni farchnata Cymru gyfan i ymwelwyr. Ac felly mae angen defnyddio'r ffenest honno i hyrwyddo popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, ac nid  lleoliad y digwyddiad yn unig. Er enghraifft, roedd y digwyddiad WWE diweddar yng Nghaerdydd yn gyfle inni roi Cymru ar y map yn rhyngwladol, er mwyn annog ymwelwyr a ddaeth i Gaerdydd ar gyfer yr ymweliad i grwydro y tu allan i ganol y ddinas a gweld rhannau eraill o Gymru hefyd.

Wrth gwrs, rhaid i strategaeth gref ar gyfer digwyddiadau mawr ddod ag arbenigedd ynghyd, gan gynnwys partneriaid llywodraeth leol, y diwydiant trafnidiaeth a hyd yn oed y sector preifat. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gywir i ddweud:

'Mae deall y rhan y mae rhanddeiliaid yn ei chwarae, waeth beth fo'u maint na'u haen, yn creu ymrwymiad ac arbedion gweithredol.'

Ac felly rwy'n falch o glywed y Llywodraeth yn derbyn mai'r sector preifat sydd ar flaen y gad o ran darparu digwyddiadau ac sy'n gallu gwireddu nodau cyflawni'r strategaeth hon yn fwyaf uniongyrchol. Yn wir, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog roi'r diweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei pherthynas â'r sector preifat yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn gwbl lwyddiannus. 

Nawr, bydd olrhain yr adnoddau a ddyrennir iddi a sicrhau bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio'n effeithiol yn allweddol i weithredu strategaeth Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Nawr, rwy'n ymwybodol wrth gwrs nad oes gan y Gweinidog goeden arian hud i gefnogi'r sector. Serch hynny, lle dyrennir cyllid, rhaid i drethdalwyr fod yn argyhoeddedig fod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio i sicrhau buddion economaidd gwirioneddol i'n gwlad. Mae angen tryloywder ynglŷn â buddsoddiadau Llywodraeth Cymru, ac mae angen i Weinidogion fod yn ddigon dewr i dderbyn pan nad yw pethau'n gweithio a newid cyfeiriad.

Mae fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, wedi bod yn gofyn cwestiynau ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn yr WWE cyn eu digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Medi, ac er ei fod wedi cael ymateb fod y pecyn cyllido yn destun monitro llym ar ôl y digwyddiad, ni cheir gwybodaeth ynglŷn â sut ffurf yn union a fydd ar y monitro ar ôl y digwyddiad. Nid yw'n afresymol i fod eisiau deall faint yn union o arian a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y digwyddiad hwn a'r meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu faint i'w fuddsoddi. Dylai'r trethdalwr wybod a yw'r meini prawf a osodwyd wedi'u cyrraedd, ac efallai y gall y Gweinidog ddefnyddio'r cyfle hwn hefyd i gadarnhau a yw'r monitro ar ôl y digwyddiad bellach wedi digwydd a pha ganlyniadau a gafwyd. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu o'i strategaethau blaenorol a hefyd gan wledydd eraill ar draws y DU a thu hwnt. Mae'r Alban wedi defnyddio dull portffolio o gynnal digwyddiadau a gwyliau, sy'n caniatáu ar gyfer nodi a chefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliant mawr a bach sefydlog, cyson neu un-tro, ac mae angen inni weld mwy o'r dull arloesol hwnnw o weithredu yma yng Nghymru. Mae angen dull portffolio tebyg arnom i helpu i wasgaru'r manteision ar draws y flwyddyn a'r wlad, yn ogystal ag annog a meithrin arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Mae angen inni fynd ati'n rhagweithiol i ymchwilio a nodi digwyddiadau y gall Cymru eu datblygu, eu denu neu wneud cais amdanynt, a phan ddaw cyfleoedd i'n rhan, fel yn achos cynnal y gystadleuaeth Eurovision yn y DU, mae angen inni wneud popeth posibl i hyrwyddo cynnal digwyddiadau fel hyn yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n deall bod problemau gyda chael Caerdydd i gynnal y digwyddiad, ond y realiti yw nad oes llawer o dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru wedi edrych y tu allan i'r brifddinas i gynnal y digwyddiad hwnnw. Fe ellid ac fe ddylid bod wedi gwneud mwy, a dylid bod wedi archwilio pob lleoliad yng Nghymru i ddod â'r cyfle unwaith mewn oes hwn i Gymru, ac eto ychydig iawn o dystiolaeth a welwyd o ymdrech i ddod â'r digwyddiad mawr hwn i ran arall o Gymru. Yn wir, mae angen inni weld ymagwedd lawer mwy parod i gynnal digwyddiadau mawr. 

Lywydd, rwyf am sôn yn fyr am Qatar 2022 a'r llwyfan y mae'n ei gynnig inni arddangos Cymru i'r byd. Rwy'n deall y bydd Prif Weinidog y DU, Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon i gyd yn mynychu pob un o gemau grŵp Cymru yn erbyn UDA, Iran a Lloegr, ac mae'n gwbl hanfodol fod trethdalwyr Cymru yn gweld gwerth am arian o'r teithiau hyn. Yn wir, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sicrwydd pendant y bydd canlyniadau amlwg yn sgil y teithiau hyn. Nawr, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru

'yn datblygu ymgyrch farchnata... [a fydd] yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol craidd ar draws brand, busnes a thwristiaeth'.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard yn gywir, mae angen inni wybod sut olwg fydd ar lwyddiant yr ymgyrch hon. Gyda £2.5 miliwn yn mynd tuag at ymgyrch Lleisiau Cymru, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n dangos ei gwariant yn agored a beth y mae'r arian hwnnw'n ei gyflawni.

Yn olaf, efallai mai gwlad fach yw Cymru, Lywydd, ond mae'n un wych er hynny, a rhaid inni fanteisio ar bob cyfle a ddaw i gynnal digwyddiadau mawr a sicrhau canlyniadau yn sgil digwyddiadau gartref, neu oddi cartref yn achos cwpan pêl-droed y byd. Dyma faes lle credaf ein bod i gyd yn nhîm Cymru. Felly, wrth gloi, a gaf fi ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad yr Aelodau i'r ddadl hon ar sut y gallwn weithio i godi ein proffil yn rhyngwladol a gwneud y gorau o'r cyfleoedd y gall digwyddiadau mawr eu dwyn yma i Gymru? Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.

16:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar Luke Fletcher nawr i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel ddefnyddio 'Cymru' yn hytrach na 'Wales' yn rhyngwladol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan Siân Gwenllian. Mae gennym gyfle unigryw eleni i ddysgu o gyfranogiad Cymru yng nghwpan y byd ac i adeiladu ar bresenoldeb cynyddol Cymru ar y llwyfan byd-eang, yn ogystal â hogi ein gallu i elwa'n effeithiol ar fanteision economaidd digwyddiadau mawr fel hyn i Gymru.

Mae gennym hefyd ddigwyddiadau cynhenid Gymreig anhygoel, fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfod ryngwladol Llangollen, nad ydym wedi llwyr wireddu ei photensial yn fy marn i i hyrwyddo diwylliant, treftadaeth ac iaith Cymru ymhellach. Rhaid inni fynd ymhellach a rhaid inni ddarparu buddsoddiad er mwyn i ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod barhau i esblygu.

Mae gan Gymru ei diwylliant ei hun, ei hiaith ei hun—un o'r ieithoedd Celtaidd hynaf sydd wedi goroesi—a'i hanes ei hun. Mae'n bwynt gwerthu pwerus, ac yn un na allwn ei danbrisio. Dyna ein mantais, ein bachyn, sy'n unigryw i'r gornel hon o'r byd—stori gwlad ein tadau, y cafwyd blas ohoni drwy gyfrwng cwpan y byd, a dylai ddigwydd gyda phob digwyddiad byd-eang lle mae Cymru'n bresennol. Drwy osod ein hunaniaeth fel gwlad yn y canol y llwyddwn i hyrwyddo Cymru, ac fe all ac fe fydd rhoi mwy o ffocws ar hyn i hyrwyddo brand Cymru yn dod â math o dwristiaeth dreftadaeth gynaliadwy i Gymru, fel y mae wedi'i wneud mewn llefydd eraill fel yr Alban ac Iwerddon. Dyna yw craidd ein gwelliant heddiw: rhoi Cymru wrth galon y strategaeth hon.

Ond wrth gwrs, i ddilyn hyn rhaid mynd i'r afael â'r problemau systemig sy'n bodoli yma yng Nghymru heddiw—ein seilwaith, er enghraifft, sy'n cyfyngu ar ein gallu i gynnal digwyddiadau mawr ac yn cyfyngu ar y dyhead, y creadigrwydd a'r arloesedd yng Nghymru sy'n dod gyda chynnal a thyfu digwyddiadau mawr. Ym mis Gorffennaf eleni, nododd Traws Link Cymru, grŵp ymgyrchu rheilffyrdd gorllewin Cymru, sut nad oedd y seilwaith trafnidiaeth presennol o amgylch Tregaron yn ddigon i ymdopi â'r Eisteddfod. Nododd cadeirydd y grŵp, yr Athro Mike Walker, yr eironi fod yr Eisteddfod Genedlaethol mor agos at y llwybr rheilffordd segur. Bydd buddsoddi mewn seilwaith yn datgloi Cymru, bydd yn helpu i ddarparu mathau newydd o gyflogaeth yn y rhanbarthau hyn, ac yn helpu i gadw pobl ifanc yn yr ardal gan gryfhau'r iaith, y diwylliant a threftadaeth ar yr un pryd. Heb welliannau i'r seilwaith, byddai'n anodd inni gyflawni unrhyw strategaeth, ni waeth beth fo'i huchelgais.

I gloi, Lywydd, bydd ein diwylliant a'n treftadaeth yn allweddol i'r strategaeth hon—balchder yn ein diwylliant, buddsoddi i'w hyrwyddo, a mynediad atynt. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno.

A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw siarad, unwaith eto, yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ddigwyddiadau mawr, dadl a gyflwynwyd, unwaith eto, gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar? Mae'r ddadl heddiw mor bwysig oherwydd, fel y gwyddom, mae digwyddiadau mawr, yn gyffredinol, yn gwneud cymaint i gefnogi ein heconomi yma yng Nghymru, a'n cymunedau lleol wrth gwrs. Dyna pam yr hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy amlinellu'n glir y manteision a geir o fuddsoddi mewn digwyddiadau mawr.

Yn gyntaf oll, maent yn rhoi hwb i economïau lleol yn sgil cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a mwy o wariant; maent yn ymestyn y tymor twristiaid ac ymwelwyr drwy ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau ym misoedd y gaeaf; gallant fod yn llwyfan i ddarparu cyhoeddusrwydd cadarnhaol i ardal ar gyfryngau lleol a chenedlaethol; cynyddu proffil yr ardal yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy gael digwyddiadau mor arwyddocaol; gallant annog cyfleoedd twf economaidd drwy ddatblygu'r gadwyn gyflenwi leol; rhoi cyfleoedd i'r gymuned gymryd rhan drwy wirfoddoli i helpu i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd gwaith; ac wrth gwrs, darparu adloniant lleol i'r gymuned a chyfleoedd hamdden ychwanegol i drigolion ar draws yr ardal.

Ar ben y manteision mesuradwy hyn, ceir y ffactor teimlad braf wrth gwrs. Mae cael ardal fywiog a deinamig yn creu manteision anfesuradwy i gymunedau a busnesau, ac i'n hiechyd a'n lles wrth gwrs. Aelodau, fel finnau, rwy'n siŵr eich bod wrth eich bodd yn darllen adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, 'Welcoming Communities: Developing tourism in Wales' a gyhoeddwyd ym mis Awst. Amlygodd yr adroddiad eto pa mor bwysig yw twristiaeth ac ymwelwyr i ni yma yng Nghymru, gan ddangos bod 17.6 y cant o'n cynnyrch domestig gros yn gysylltiedig â thwristiaeth, a chaiff dros 12 y cant o'n trigolion eu cyflogi yn y sector twristiaeth. Mae'r cysylltiad rhwng twristiaeth, ymwelwyr a digwyddiadau yn arwyddocaol i'n heconomi sy'n ffynnu.

Wrth edrych ar rai o'r digwyddiadau mawr blaenorol a gynhaliwyd yn fy rhanbarth i, yng ngogledd Cymru, mae'n amlwg pam eu bod wedi llwyddo cystal i hybu economi Cymru. Un enghraifft o hynny, wrth gwrs, oedd Rali Cymru GB, a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yn y gorffennol. Cyfrifwyd bod hwnnw wedi cael effaith flynyddol o tua £10 miliwn ar yr economi yng ngogledd Cymru—dyna £10 miliwn o arian newydd a swyddi newydd.

Ond wrth gwrs, mae angen llu o'r mathau hyn o ddigwyddiadau, ac mae angen pobl fedrus i drefnu a chydweithio. Digwyddiad a ddenwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd pencampwriaethau rali'r byd, a dros y blynyddoedd, mae'r cyngor hwnnw wedi meithrin arbenigedd ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi denu—ac fe restraf rai o'r pethau hyn—pencampwriaeth rhedeg mynydd a phellteroedd eithafol y Gymanwlad; pencampwriaeth y byd rhedeg llwybr; pencampwriaeth y byd pysgota'r glannau; pencampwriaeth y byd rhedeg mynydd, ras y meistri; cyflwyniad tîm Tour of Britain y byd beicio; a chyngherddau blynyddol gan fawrion fel Syr Tom Jones, Syr Elton John, Lionel Richie, Bryan Adams a band merched mwyaf y byd, yn ôl yr hyn rwy'n ei glywed, Little Mix. Cynhaliwyd Proms in the Park y BBC yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf hefyd. Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy helpu i ddenu her Red Bull Unleashed a her syrffio proffesiynol y DU yn Surf Snowdonia; cawsant y pentref ar gyfer pencampwriaethau rali'r byd a rownd gyn-derfynol pencampwriaethau rali'r byd. Hyn i gyd, yn ogystal â phethau fel Strafagansa Llandudno, y mae'r Aelod dros Aberconwy bob amser yn awyddus iawn i'w gefnogi, a gŵyl fwyd Conwy, y mae pob un o'r Aelodau bob amser yn awyddus i'w chefnogi.

Ond mae llawer o'r digwyddiadau hyn, digwyddiadau mawr sy'n digwydd yn ystod yr hyn sy'n draddodiadol yn dymor tawel i ymwelwyr â'r rhanbarth, wedi cynnal gwestai, wedi cynnal bwytai, wedi cynnal tafarndai a siopau lleol, gan gynyddu eu masnach ar adegau o'r flwyddyn sydd fel arfer yn dawelach, a chynhyrchu degau o filiynau o bunnoedd i'r economi. Yn fy mhrofiad i, ni fyddai'r digwyddiadau hyn wedi digwydd heb weledigaeth uchelgeisiol a bwriadol gan awdurdod lleol; ond hefyd, i fod yn deg, heb waith partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, a'r ddau bartner, boed yn sector preifat neu sector cyhoeddus, yn barod i fuddsoddi i ddenu'r digwyddiadau yma i'r rhanbarth. Unwaith eto, Weinidog, i fod yn deg, dangoswyd bod yr uchelgais hwn gan Lywodraeth Cymru yn llwyddiant ar brydiau mewn blynyddoedd a fu, ac ni ddylid ei ddiystyru na chefnu arno.

Dyna pam rwy'n awyddus i gefnogi'r cynnig heddiw, i weld ein bod yn dysgu o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda yn y gorffennol, yn arbennig y gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a'r sector preifat, i wneud yn siŵr nad ydym yn colli golwg ar weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr hyn sy'n gweithio'n dda yma yng Nghymru, ac fel nad ydym hefyd yn colli'r sgiliau pwysig, y profiad a'r angerdd sy'n bodoli eisoes, ac y gellir adeiladu arnynt yn ein cymunedau, i wneud y gorau o ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, a diolch i'r Ceidwadwyr am gynnig y ddadl hon heddiw. Bydd fy ffocws, gobeithio, o ddiddordeb i'r Siambr. Rwy'n mynd i ddechrau gyda dyfyniad gan grŵp theatr sy'n trefnu theatr yn seiliedig ar ein hanes a'n diwylliant—yr elfen dreftadaeth yr oedd fy nghyd-Aelod Luke yn sôn amdani. Maent yn galw eu hunain yn Contemporancient Theatre, 'Heb Hanes, Heb Hunaniaeth'—heb hanes, heb ein hunaniaeth, ni wyddom o ble y daethom.

Nawr, mae yna berthnasedd i hynny, Weinidog, a deuaf ato yn y man, oherwydd cyfarfûm yr wythnos diwethaf â'r dramodydd, yr actor a'r cyfarwyddwr, Vic Mills, a'r bardd, y nofelydd a'r academydd, yr Athro Kevin Mills, sy'n arwain y cwmni theatr hwn. Oherwydd y flwyddyn nesaf maent yn creu theatr yng nghwm Garw, yn fy etholaeth i, a fydd yn dathlu trichanmlwyddiant geni Dr Richard Price, y deuaf ato'n fwy manwl yn y man. Oherwydd pe baem eisiau eicon clasurol o Gymru, eicon sy'n fwy adnabyddus, mewn gwirionedd, y tu hwnt i'n gwlad ni, gan gynnwys mewn llefydd fel America, lle rydym eisiau adeiladu cysylltiadau'n fyd-eang ac yn rhyngwladol, mae Richard Price yn ticio'r bocsys i gyd, ac fe egluraf pam yn y munud. Ond maent hwy, ynghyd â Huw Williams, sy'n uwch ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn llwyfanu nid yn unig y ddrama a fydd yn teithio y flwyddyn nesaf drwy ysgolion, drwy ganolfannau cymunedol ac yn y blaen, ond hefyd gobeithio yn dod i'r Senedd i siarad am yr hyn y maent yn ei wneud ac i Senedd y DU hefyd.

Mae Richard Price yn ddyn arwyddocaol. Nawr, y rheswm rwy'n sôn amdano yw bod y strategaeth digwyddiadau cenedlaethol sydd gennym yma yn cyfeirio at ffocysau gwirioneddol ddiddorol. Felly, yr elw economaidd ar fuddsoddiad a phroffil rhyngwladol digwyddiadau—rwy'n cytuno'n llwyr; mae'n sôn am gyrhaeddiad rhyngwladol a thargedau digwyddiadau, felly dylem eu mesur yn ôl faint o broffil rhyngwladol y maent yn ei gynhyrchu, gan gefnogi a lleoli Cymru yn ei thro fel cyrchfan i ysbrydoli ymweliadau yn y dyfodol; mae'n sôn am sylw rhyngwladol ar y cyfryngau, a gynhyrchir yn benodol gan ddigwyddiadau mewn marchnadoedd o ddiddordeb; ymwybyddiaeth brand o Gymru; a digwyddiadau a gynhelir yn y tymor llai prysur ar dwristiaeth ac yn y blaen. Mae Dr Richard Price, athronydd ac ati yn ticio'r holl flychau hynny, Weinidog.

Felly, y pwynt rwy'n mynd i ddod ato ar ddiwedd fy ngeiriau byr yma heddiw yw i geisio gofyn am gyfarfod gyda chi, oherwydd rydym yn ceisio gwneud digwyddiadau lleol yma y flwyddyn nesaf, yng nghwm Garw, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd gyda llaw, sydd wedi rhoi arian tuag at hyn—ond mae angen inni edrych ar beth y gallwn ei wneud gydag eiconau fel hyn o Gymru i ddatblygu'r cyrhaeddiad rhyngwladol hwnnw hefyd. Felly, ceir pennod yn eich strategaeth sy'n ymdrin â dilysrwydd, digwyddiadau sy'n dda i Gymru, sy'n adlewyrchu a dathlu'r pethau sy'n ddilys Gymreig ym mhob agwedd, ac mae'n sôn am sicrhau y bydd diwylliant ac iaith Cymru yn cael eu cynrychioli mewn digwyddiadau yng Nghymru, gan helpu i adrodd straeon Cymru i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mae'n sôn am gyflwyno mwy o ymdeimlad o Gymreictod ar gyfer digwyddiadau, drwy, er enghraifft, y dirwedd, arfordir, hanes, diwylliant ac yn y blaen—dathlu eiconau Cymreig i ddatblygu cynigion cryf ar gyfer digwyddiadau.

Felly, gadewch i mi droi at y Dr Richard Price. Soniais amdano yn y Siambr o'r blaen, ond nid yw'n adnabyddus iawn yma yng Nghymru. Mae'n debyg ei fod yn fwy adnabyddus yn ystod ei oes, ac fe gâi sylw'n fynych mewn gwirionedd mewn cartwnau ac erthyglau yn ei erbyn yn The Times a phapurau newydd eraill y dydd am ei fod yn ddraenen yn ystlys y sefydliad. Rwy'n ddyledus i'r Athro Kevin Mills am ddarn rhagorol a ysgrifennodd ar Dr Richard Price o Langeinwr, a aned ar fferm Tynton i deulu mawr, cyn gwneud ei ffordd i Lundain—fe gerddodd i Lundain, yn ôl y sôn. Roedd yn feddyliwr rhydd radicalaidd ac yn bregethwr; roedd yn feddyliwr gwleidyddol; yn fathemategydd. Mae wedi cael ei alw'n feddyliwr mwyaf dylanwadol Cymru. Yn ei eiriau ef, o'r erthygl hon gan yr Athro Mills, meddai Dr Price,

'Nid oes gair yn yr holl ieithoedd sy'n mynegi cymaint o'r hyn sy'n bwysig ac yn rhagorol... Ni all dim fod mor bwysig i ni â rhyddid. Dyna yw sylfaen pob anrhydedd, a phrif fraint a gogoniant ein natur.'

Dyna pam ei fod yn ddraenen yn ystlys y sefydliad; dyna pam ei fod yn cefnogi'r chwyldro Ffrengig; dyna pam ei fod yn cael ei ystyried yn un o sylfaenwyr y chwyldro Americanaidd a chyfansoddiad America; dyna pam ei fod nid yn unig yn feddyliwr gwleidyddol blaenllaw, ond hefyd yn feddyliwr mathemategol, ac yn gyfrannwr pwysig i ddamcaniaeth tebygolrwydd, theorem Bayes, sy'n sail i'r modd y caiff premiymau yswiriant eu hysgrifennu hyd heddiw, ac mae ei gyrhaeddiad yn America yn enfawr.

Lywydd, wrth gloi fy sylwadau, rwyf am ddweud yn syml fod Dr Richard Price yn un o eiconau Cymru a'i diwylliant a'i threftadaeth y byddai'n dda inni eu dathlu, nid yn unig yma yng Nghymru, ond i estyn allan at ein cefndryd yn America hefyd, oherwydd eu bod yn ei adnabod yn dda iawn, ac mae angen inni ddod â hwy yma i weld lleoliad ei eni ac i weld y digwyddiadau y gallwn eu cynnal yn ei enw.

16:50

Rydym i gyd yn gwybod am y manteision y gall cynnal digwyddiadau mawr yma yng Nghymru eu cynnig. Mae digwyddiadau mawr yn creu cyfleoedd i unigolion, cymunedau, busnesau a sefydliadau, ledled Cymru, i rannu yn y manteision economaidd a gynhyrchir a rhoi cyfle i arddangos Cymru ar lwyfan rhyngwladol.

Mae gan Gymru leoliadau o safon fyd-eang eisoes, gan gynnwys Stadiwm y Principality, Gwesty'r Celtic Manor, Venue Cymru a'r Arena Abertawe newydd, ond yn anffodus mae hanes Llywodraeth Cymru o ddod â digwyddiadau mawr i Gymru yn dameidiog a dweud y lleiaf. Y rheswm am hyn yw bod dull Llywodraeth Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru wedi ei nodweddu, ysywaeth, gan ddiffyg uchelgais. Trwy fethu bachu potensial economaidd llawn cynnal digwyddiadau mawr, mae pobl Cymru wedi cael cam dro ar ôl tro. Fe wnaeth un o'r digwyddiadau mawr mwyaf llwyddiannus, Cwpan Ryder, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Celtic Manor yn 2010, chwistrellu dros £80 miliwn i economi de Cymru. Denwyd nifer fawr o wylwyr i'r lleoliad, ac fe wyliwyd y digwyddiad gan filiynau o bobl ar y teledu yma a thramor, gan godi proffil Cymru yn y pen draw. Yn 2014, gwnaeth yr un lleoliad gynnal uwchgynhadledd NATO, digwyddiad y dywedodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Carwyn Jones, fod gwerth y cyhoeddusrwydd a ddaeth yn ei sgil i Gymru yn llythrennol anfesuradwy.

Yn anffodus, eithriadau yw digwyddiadau mawr o'r fath a gynhelir yng Nghymru. Yn ei gyfraniad, cyfeiriodd fy nghyd-Aelod Paul Davies at fethiant i gynnig am, a chynnal y gystadleuaeth Eurovision yma yng Nghaerdydd. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi galw dro ar ôl tro ar i Gymru wneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026 neu hyd yn oed 2030. Y tro diwethaf i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal yng Nghymru oedd ym 1958. Bydd dod â Gemau'r Gymanwlad i Gymru unwaith eto yn gwella ein henw da am lwyfannu digwyddiadau rhyngwladol. Ym mis Gorffennaf 2016, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb i gynnal y gemau. Daeth i'r casgliad fod cais yn dechnegol bosibl pe bai modd goresgyn yr heriau logistaidd. Mae'r heriau hyn yn cynnwys y gemau a'r digwyddiadau'n cael eu cynnal dros ardal ddaearyddol ehangach. Ond byddai hyn yn fantais, oni fyddai, gan sicrhau budd economaidd ar draws Cymru ac nid i un rhanbarth bach yn unig.

Efallai y bydd strategaeth uchelgeisiol ar gyfer digwyddiadau mawr hyd yn oed yn rhoi cymhelliant i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddatrys problem trafnidiaeth gronig Cymru o'r diwedd. Mae cyngherddau diweddar yng Nghaerdydd gan Tom Jones, y Stereophonics ac Ed Sheeran yn amlwg wedi dangos diffygion ein systemau trafnidiaeth. Roeddem i gyd yn dystion i'r anhrefn lwyr pan lwyfannodd Ed Sheeran dri chyngerdd yn Stadiwm Principality. Roedd ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4, roedd modurwyr yn methu symud o'u meysydd parcio oherwydd y tagfeydd ynghanol y ddinas, a gadawyd llawer o bobl yn gaeth ar blatfformau trenau am oriau bwy'i gilydd am nad oedd ein rhwydwaith rheilffyrdd fregus yn gallu ymdopi â'r galw. Daeth Caerdydd a'r cyffiniau i stop. Mae'n sefyllfa drist iawn pan fo pobl yn cael eu hannog i beidio â mynd ar y trên am nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Nod y strategaeth flaenorol ar gyfer digwyddiadau mawr, a ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl, oedd

'datblygu portffolio cytbwys a chynaliadwy o ddigwyddiadau mawr a fydd yn gwella enw da rhyngwladol Cymru a lles ei phobl a'i chymunedau.'

Mae'r strategaeth honno wedi methu'n llwyr. Ond Weinidog, un digwyddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gefnogi yw gŵyl y Dyn Gwyrdd. Rhwng 2010 a 2019, cafodd Green Man a'i gwmnïau cysylltiedig gymorth ariannol gwerth £921,000 gan eich Llywodraeth. Daw hyn ar ben y £4.25 miliwn a wariwyd gennych ar brynu fferm Gilestone. Mewn cyferbyniad, er cymhariaeth i'r holl Aelodau yma heddiw a thu hwnt, dim ond £14,950 a dderbyniodd Glastonbury, gŵyl y mae pawb ohonom wedi clywed amdani, yn 2019 i 2020, a £14,500 yn y flwyddyn flaenorol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

I mi a phobl sy'n hoff o ddigwyddiadau, mae'n drist iawn fod rhai digwyddiadau'n cael ffafriaeth dros eraill gan Lywodraeth Cymru, a'r unig ffordd y gallwn ragori yw os ydym yn rhoi cyfle cyfartal i Gymru pan ddaw'n fater o gynnal digwyddiadau mawr. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch weld yn awr mai ychydig iawn o hyder sydd gennym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, y bydd eich strategaeth newydd yn cyflawni ei nodau mewn gwirionedd. Y cyfan sy'n ddiffygiol yw uchelgais a'r ewyllys i lwyddo. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn cyngor William Shakespeare: dylai uchelgais gael ei wneud o ddeunydd cadarnach. Diolch.

16:55

Mae fy nghyd-Aelodau wedi tynnu sylw at rai o'r diffygion. Rwy'n mynd i siarad am rai o'r pethau cadarnhaol, rwy'n meddwl, ar draws Cymru. Wyddoch chi, rwy'n falch iawn mewn gwirionedd o'r digwyddiadau mawr sydd wedi dod i fy etholaeth? Rwy'n edrych ar ŵyl lenyddol y Gelli sy'n dod â £70 miliwn i mewn i'r economi leol. Rwy'n adnabod llawer o bobl ar y meinciau hyn ac eraill sy'n mwynhau Sioe Frenhinol Cymru, y sioe amaethyddol, sy'n amlygu manteision economaidd amaethyddiaeth i Gymru. Iawn, fe dderbyniaf ymyriad, Huw, os ydych chi'n codi eich llaw i wneud hynny.

Ie, diolch am ildio, James. Sori, mae'n bwnc yr arferwn ddarlithio arno flynyddoedd yn ôl. Yn amlwg, nid y digwyddiadau enfawr sy'n ennill yr arian mawr i Gymru ccc neu'r DU ccc, ond y digwyddiadau rheolaidd, blynyddol, y rhai yr oeddech chi'n sôn amdanynt. Y rheini yw'r sylfaen, nid yn unig i'n cymunedau lleol, ond i ysgogi enillion economaidd dro ar ôl tro mewn gwirionedd. Nid y digwyddiadau un-tro, ond y digwyddiadau rheolaidd, blynyddol.

Mae hynny'n wir iawn, Huw. Rwy'n gwybod bod 13.2 y cant o bobl yn fy etholaeth i'n cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth. Mae llawer o'r dwristiaeth honno yn y Gelli Gandryll, Crughywel, Llanfair-ym-Muallt a rhannau eraill o fy etholaeth yn dibynnu ar dwristiaeth reolaidd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i hyrwyddo twf economaidd, felly rwy'n derbyn y pwynt hwnnw.

Ond mae gennym wyliau cerddorol ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae gennym hefyd gymalau o'r Tour of Britain yn dod drwodd gyda'r beicio. Gwn yn ddiweddar i fudiad y ffermwyr ifanc wneud eu taith clybiau ffermwyr ifanc sir Frycheiniog, y cymerais ran ynddi. Rwy'n ei gyfrif yn ddigwyddiad mawr oherwydd roeddwn i yno. [Chwerthin.]

Ond un o'r pethau rwy'n dwli fwyaf arno yw golff—nid chi, Tom Giffard—a dartiau. Ac roeddwn yn falch iawn ein bod wedi cael Dartiau'r Uwch Gynghrair yng Nghaerdydd y llynedd, gan dynnu sylw pobl Cymru a'r byd at y ffaith bod Cymru'n lle sy'n dwli ar ei dartiau. Rwy'n gwybod bod y Llywydd yn hoff iawn o'i dartiau, ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn y Siambr hon yn mwynhau dartiau hefyd.

17:00

Mae cael y digwyddiad rheolaidd hwnnw'n dod yn ôl ac ymlaen i Gymru yn wych. Hoffwn weld mwy o ddigwyddiadau dartiau mawr yng Nghymru, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn tynnu sylw at hynny. Ond mae'n debyg mai golff yw fy nghariad mwyaf mewn bywyd, byddwn yn meddwl—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am ddweud hynny wrth fy nghariad. [Chwerthin.] Rwy’n treulio llawer o fy amser ar y cwrs golff, ac nid yw’n hapus iawn am hynny ychwaith. Ond fel y dywedodd Natasha Asghar, fe wnaeth Cwpan Ryder 2010 roi Cymru ar fap y byd o ran golff, a bellach, mae Cymru’n cael ei hystyried yn un o’r cyrchfannau golff gorau yn y byd. Mae pethau wedi deillio o Gwpan Ryder 2010. Rydym wedi gweld y gystadleuaeth agored i ddynion hŷn yn dod i Gymru, gyda'r golffwyr gorau o bob cwr o'r byd yn dod yma, a gwelsom Bernhard Langer yn ennill yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, gyda'r golffwyr gorau i gyd yn dod i Gymru.

Ond rhywbeth yr hoffwn ei weld, ac efallai y gallai’r Gweinidog roi sylw i hyn yn ei araith i gloi, yw Cwpan Solheim, sef y gystadleuaeth i fenywod sy'n cyfateb i Gwpan Ryder. Mae wedi bod yma unwaith o'r blaen, a gwn eu bod yn chwilio am leoliad, felly hoffwn wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio denu Cwpan Solheim yn ôl i Gymru, i hyrwyddo golff menywod, a'r gwerth y mae hynny'n ei gyfrannu at wella chwaraeon menywod ledled y byd. Hoffwn wybod hefyd pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Royal and Ancient i ddod â'r Bencampwriaeth Agored i Gymru. Mae wedi bod yn yr Alban, mae wedi bod yn Lloegr, mae wedi bod yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rwy'n credu ei bod yn hen bryd i Gymru gynnal y twrnament golff agored i ddynion.

Ni allaf anghofio'r Prif Weinidog yn sôn am ei gariad at griced yn ddiweddar. Cawsom gystadleuaeth The Hundred yn dod i Gaerdydd, ac fe euthum i’w gwylio, ac rwy’n siŵr yr hoffem weld mwy o ddigwyddiadau criced mawr yn dod i Gymru a mwy o gemau prawf, felly efallai y gall y Gweinidog wneud sylwadau ar hynny. Mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn bwysig tu hwnt i Gymru. Maent yn amlygu cymaint o genedl chwaraeon ydym ni. Nid rygbi yw popeth, nid pêl-droed yw popeth, ond fel y dywedodd Huw, mae'n ymwneud â’r digwyddiadau llai sy'n golygu cymaint i bobl Cymru ac economi Cymru.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan ei bod yn rhoi cyfle imi dynnu sylw at bwysigrwydd digwyddiadau i Gymru, a'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein gweledigaeth fel y’i hamlinellir yn y strategaeth digwyddiadau cenedlaethol newydd. Ein huchelgais yw bod Cymru’n cynnal digwyddiadau ardderchog sy’n cefnogi llesiant ein pobl, ein lle a’r blaned. Ni ddylai synnu unrhyw un na fyddaf yn cefnogi’r cynnig, na'r gwelliant yn wir.

Cyn manylu rhagor, credaf iddi fod yn gyfres ryfedd o areithiau gan y Ceidwadwyr, gan iddynt ddweud ar y naill law fod gennym yr holl ddigwyddiadau gwych hyn yn dod i Gymru, ac mae pob un o’r digwyddiadau a grybwyllwyd, bron â bod, wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, ac yna maent yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Ac ar yr un pryd, mae gennym her fawr realiti ein hadnoddau ariannol, sy'n golygu bod rhaid ichi ddewis. Rhaid ichi flaenoriaethu. Ni allwch wneud popeth. A'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau'r elw mwyaf posibl ar bob un o'r digwyddiadau a gefnogwn.

Ar Eurovision, dylwn egluro na fyddai unrhyw gyfleuster arall yng Nghymru, ar wahân i’r stadiwm yng Nghaerdydd, wedi bod yn ddigon mawr, ac wrth gwrs, mae ganddi hanes cryf iawn o gynnal digwyddiadau mawr. Ond oherwydd cymhlethdod llwyfannu’r digwyddiad, y gofynion yn sgil gwneud hynny, yn ogystal â'r ffaith bod nifer sylweddol o ddigwyddiadau wedi’u trefnu yn Stadiwm Principality, yr her oedd y byddai’n rhaid canslo’r digwyddiadau hynny, gan gynnwys pencampwriaethau rygbi cadair olwyn Ewrop, er enghraifft; artist rhyngwladol mawr a oedd wedi'u cytundebu i ymddangos; a digwyddiadau eraill. Ochr yn ochr â'r cyngor a'r stadiwm, fe wnaethom archwilio amrywiaeth o opsiynau, i weld a allem gynnwys y digwyddiad ochr yn ochr â'r amserlen bresennol, ond nid oedd yn bosibl. Felly, fe wnaethom bopeth y gallem ei wneud, yn ymarferol, i geisio denu cystadleuaeth Eurovision, a byddwn wedi bod yn falch iawn o fod wedi mynychu fy hun, fel cefnogwr Eurovision brwd, er bod hynny'n dân ar groen fy ngwraig.

Ond wrth gwrs mae gennym ddiwydiant digwyddiadau ffyniannus, fel y dangosodd nifer o areithiau'r Ceidwadwyr. Rydym bob amser yn agored i drafodaethau ynghylch dod â digwyddiadau mawr i Gymru, ac yn wir, cynnal portffolio cytbwys o ddigwyddiadau lleol. Gŵyr pob un ohonom fod ystod lawn o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon a busnes yn rhan hanfodol o’n heconomi ehangach. Mae Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yn cefnogi digwyddiadau ledled Cymru drwy Digwyddiadau Cymru sy’n helpu i ysgogi effaith economaidd gadarnhaol. Rydym hefyd yn arddangos lleoliadau o safon fyd-eang, yn rhoi sylw i’n dinasoedd, ein trefi, ein cymunedau, ac fel y dywedwyd, yn tynnu sylw at ein tirweddau bendigedig mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Y ffaith ein bod yn cydnabod rôl hanfodol digwyddiadau yng Nghymru, i’r bobl ac i’r economi yw'r rheswm pam y gwyddom fod y sector wedi’i daro’n galed gan y pandemig. Dyna pam fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector gyda £24 miliwn i gefnogi mwy na 200 o ddigwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes a chyflenwyr technegol drwy'r gronfa adferiad diwylliannol. A byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r diwydiant gan ein bod yn dal i wynebu nifer o heriau yn ogystal â chyfleoedd. Mae’r heriau hynny’n cynnwys yr argyfwng costau byw, realiti newydd Brexit sy'n dal heb ei gwblhau, prinder staff a gwirfoddolwyr, ac mae’r rheini’n real ac yn parhau. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru i oroesi gan edrych hefyd tua'r dyfodol. Dyna pam ein bod yn datblygu digwyddiadau a chyflenwyr Cymreig. Dyna pam ein bod yn dal i ddenu digwyddiadau rhyngwladol, er mwyn gwella ein henw da fel cyrchfan digwyddiadau blaenllaw. Dyna pam y mae ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â'r sector yn parhau, drwy'r strategaeth newydd, a hyd yn oed yn fwy felly, drwy'r ffaith bod y strategaeth newydd wedi'i chreu mewn partneriaeth â'r sector. Bydd cadeirydd profiadol o'r diwydiant yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r strategaeth hefyd.

Mae’r strategaeth yn ailbwysleisio ein henw da yng Nghymru fel cenedl ddigwyddiadau ar lwyfan y byd. Mae gennym uchelgeisiau clir i sicrhau ein bod yn cyflawni dull Cymru gyfan, i wneud y gorau o’n hasedau amrywiol i gefnogi gwasgariad daearyddol a thymhorol—rwy’n falch fod hynny wedi cael sylw mewn nifer o areithiau—digwyddiadau cynhenid a rhyngwladol, o'r byd chwaraeon, busnes, diwylliant a ledled Cymru gyfan, sy’n helpu i ddathlu ein diwylliant Cymreig unigryw. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn yr ymyriad.

17:05

Mae'n ddrwg gennyf am dorri ar eich traws. Hoffwn ddweud, Weinidog, onid ydych yn credu bod angen inni fanteisio cymaint ag y gallwn, yn enwedig ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr, drwy fuddsoddi hefyd mewn cyfleusterau chwaraeon llawr gwlad? Oherwydd os ydym yn ysgogi'r holl ddiddordeb hwn mewn chwaraeon—er enghraifft, pêl-droed, neu beth bynnag—mae'n drueni mawr nad yw rhai pobl ledled Cymru yn gallu cymryd rhan yn y gamp honno yn eu hardaloedd lleol gan fod y cyfleusterau mor wael.

Dyna pam ein bod yn buddsoddi £24 miliwn o gyfalaf mewn cyfleusterau llawr gwlad. Dyna pam ei bod yn gymaint o drueni fod yr adolygiad o wariant wedi torri ein cyllideb gyfalaf. Hoffem wneud mwy, wrth gwrs, ond golyga hynny fod angen yr adnoddau arnom i wneud mwy, yn hytrach na bod Llywodraeth y DU yn mynd â'n hadnoddau oddi wrthym. Roedd diddordeb gennyf yn y modd y tynnodd Huw Irranca-Davies sylw at Dr Richard Price. Rwyf i fod i gael cyfarfod gyda Huw Irranca-Davies ar nifer o bynciau, felly fe ychwanegaf un arall at y rhestr. [Chwerthin.]

Mae gennym lawer o brofiad o gynnal digwyddiadau mawr yn llwyddiannus wrth gwrs, o WOMEX i NATO, prawf y Lludw, Cwpan Ryder a rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, i enwi ond ychydig, a chwaraeodd Llywodraeth Cymru rôl allweddol yn denu a chynnal pob un ohonynt. Ni fyddech wedi meddwl hynny o hanner areithiau’r Ceidwadwyr. Ond yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, fe wnaethom helpu i ddenu'r digwyddiad WWE Clash at the Castle. Roedd hwnnw’n ddigwyddiad mawr—strafagansa adloniant chwaraeon rhyngwladol o'r Unol Daleithiau yn y DU am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Ac mewn gwirionedd, rhan o'r rheswm y daethant i Gymru oedd oherwydd, er gwaethaf yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud ynglŷn â'n gallu i ddenu digwyddiadau mawr, roedd ganddynt hyder yn ein gallu i wneud hynny, ac roeddent wedi sylwi ar Gymru ar lwyfan y byd oherwydd yr hyn yr oeddem eisoes wedi'i wneud yn y gorffennol.

Ac wrth gwrs, rhoddodd y digwyddiad hwnnw gyfle inni ddefnyddio llwyfannau hyrwyddo WWE i ddod â mwy o amlygrwydd i Gymru. Felly, cafodd lleoliadau twristiaeth, personoliaethau, bwyd a diod a’r iaith oll sylw cyn y digwyddiad ac yn ystod y digwyddiad hefyd, a chawsant eu darlledu’n fyw ledled y byd yn ystod y digwyddiad ei hun. Ac nid y stadiwm a Chaerdydd yn unig a gafodd sylw, gan fod gorllewin Cymru, gogledd Cymru, canolbarth Cymru a de Cymru y tu hwnt i'r brifddinas hefyd wedi cael sylw. A chredaf fod hynny'n rhan o'r hyn y gallasom ei wneud drwy weithio gyda hwy. Mae'n rhan o'r rheswm pam y gwnaethom gefnogi'r digwyddiad, oherwydd y sylw enfawr a gafodd Cymru o ganlyniad iddo, ac nid yn unig i'r 62,000 o bobl a ddaeth i Gymru o 42 o wledydd ar gyfer y digwyddiad ei hun. Mae'n werth nodi, ar noson y digwyddiad, mai dyma'r eitem fwyaf poblogaidd yn y byd ar Twitter. A byddaf yn hapus i gyhoeddi mwy o wybodaeth am y gwaith monitro ar ôl y digwyddiad, gan gynnwys yr asesiad o’r effaith economaidd, nad yw wedi’i gwblhau eto. Ac yn wir, ar ôl Qatar, wrth gwrs y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd am effaith ein gweithgarwch i hyrwyddo Cymru o amgylch cwpan pêl-droed y byd i ddynion. Byddaf hefyd yn hapus i roi diweddariad pellach i'r Aelodau cyn dechrau'r bencampwriaeth.

Digwyddiad arall a gefnogir gennym, nad yw’n ddigwyddiad mor fawr â chwpan y byd neu WWE, yw Pencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol y Byd a'r Rowndiau Terfynol Sbrintiau Traeth, y gwn fod pawb yn edrych ymlaen atynt. Mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Gwyddwn y byddai diddordeb o'r ochr hon, gan fod hon yn enghraifft arall o'n huchelgais a'n harloesedd ledled y wlad. Mae'r digwyddiad wedi dod yn un o'r digwyddiadau rhwyfo cyntaf o'i fath yn y byd i gyflawni safon Sefydliad Rhyngwladol er Safoni 20121. Efallai nad yw hynny'n golygu llawer i bobl yma, ond yn y sector digwyddiadau, mae'n ardystiad cynaliadwyedd gwerthfawr. Mae'n cydnabod ymrwymiad y digwyddiad i leihau ei effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ym mhob agwedd ar gynllunio a chyflawni digwyddiadau. Mae'r trefnwyr wedi ceisio hybu a hyrwyddo'r economi leol bob amser, gan fod yn sensitif i warchodfeydd natur a daeareg bwysig yr ardal. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen wrth siarad am yr hyn y gallwn ei wneud ac yr ydym wedi’i wneud o fewn y sector digwyddiadau yma yng Nghymru, ond credaf y gallwn fod yn falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym yma yng Nghymru, gydag uchelgais gwirioneddol yn y strategaeth newydd, ac edrychaf ymlaen at adrodd ar lwyddiant rhagor o ddigwyddiadau mawr, digwyddiadau lleol, ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi’r rheini, nid yn unig yn y Siambr, ond yn eu cymunedau lleol a ledled y wlad yn y dyfodol.

17:10

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau ac i’r Gweinidog am eu cyfraniad i’r ddadl heddiw? Dywedodd Llyr Gruffydd wrthyf yn yr ystafell de yn gynharach y byddai’r ddadl hon yn ddigwyddiad mawr ynddo’i hun, ac rwy'n credu ei fod wedi’i brofi’n hollol gywir. [Chwerthin.]

I grynhoi rhai o’r cyfraniadau, cyfeiriodd Paul Davies yn ei sylwadau agoriadol at gyflawniad godidog tîm Cymru, ac rwyf am ailadrodd fy nymuniadau da iddynt cyn eu hymgyrch yng nghwpan y byd yn Qatar. Ac ar gwpan y byd, rhaid imi ddweud fy mod yn dal yn siomedig nad yw ymgyrchoedd llawr gwlad wedi gallu bod yn rhan o'r gronfa cefnogi partneriaid cwpan y byd pan gafodd ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf. Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi gallu cynnwys pobl ledled Cymru. Mae hefyd yn siomedig clywed na fydd parthau cefnogwyr swyddogol yn cael eu cynnal i nodi'r digwyddiad, a byddwn yn annog y Llywodraeth i weithio gyda chynghorau ledled Cymru i sicrhau bod hynny yn digwydd.

Aeth Paul ymlaen hefyd i sôn am y strategaeth digwyddiadau mawr a sut y gallwn sicrhau’r budd economaidd mwyaf yn sgil y digwyddiadau hyn. Fel y crybwyllwyd, mae llawer o ddigwyddiadau diwylliannol mawr yn cael eu cynnal bob blwyddyn, a gallwn fanteisio ar y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal—nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn Abertawe, yng ngogledd Cymru, yn y canolbarth, yn y gorllewin hefyd. Hoffwn adleisio'i alwad y dylid ailystyried y strategaeth gyda ffocws ychwanegol ar sut y gallwn sicrhau ei bod yn cynnwys mwy o ddyhead ac arloesedd. A thrwy’r arloesedd a’r dyhead hwnnw, soniodd fy nghyd-Aelod Natasha Asghar am y digwyddiadau diweddar a ddaeth â Chaerdydd i stop, yn anffodus, yn ystod cyngherddau Ed Sheeran a’r Stereophonics, a achosodd hafoc llwyr gyda’n rhwydweithiau trafnidiaeth, gyda rhai pobl, fel y dywedodd, yn methu symud am oriau, ac wedi colli'r cyngerdd yn y pen draw, neu wedi cyrraedd adref yn hwyr iawn.

Mae angen dull gweithredu cydgysylltiedig ym mhob un o’r strategaethau digwyddiadau mawr i sicrhau’r refeniw mwyaf posibl er mwyn i’r ddinas gyfan, y dref gyfan, neu’r ardal gyfan allu elwa o'r digwyddiad mawr hwnnw pan ddaw i Gymru. Mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio ar ddiddordebau pobl pan fyddant yn teithio i'n dinasoedd a'n trefi ac yn gwerthu rhannau eraill o'n gwlad pan fyddant yma. Roedd hynny'n berthnasol iawn pan gynhaliwyd digwyddiad diweddar WWE Clash at the Castle yng Nghaerdydd fis diwethaf. Yma, cawsom gyfle i ennyn diddordeb pobl yn ein rhyfeddodau diwylliannol ac nid eu canoli yng Nghaerdydd yn unig.

Hefyd, soniodd fy nghyd-Aelod Paul Davies am y ffaith ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn cuddio y tu ôl i’r ffigurau a ddaeth â’r digwyddiad yma yn y lle cyntaf. Clywais y Gweinidog yn ei ymateb yn sôn am sicrhau’r enillion mwyaf o'r digwyddiadau a gefnogwn, sy’n swnio fel uchelgais gwerth chweil, ond nid ydych wedi dweud wrthym faint y gwnaethoch ei wario arno yn y lle cyntaf, Weinidog. Sut y byddem yn gwybod eich bod wedi sicrhau'r elw mwyaf posibl ar ddigwyddiad o'r fath? Mae gwario arian trethdalwyr ar ddod â brand byd-eang o’r fath i Gymru yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae’n wirioneddol bryderus gweld Llywodraeth Cymru yn bod yn aneglur mewn perthynas â rhyddhau’r ffigurau hynny, fe y gallwn ni fel Aelodau’r Senedd graffu ar y buddsoddiad hwnnw a sicrhau bod y trethdalwyr yn cael gwerth am arian.

Mae hynny hefyd wedi bod yn wir yn etholaeth James Evans gyda sgandal fferm Gilestone, lle mae Gweinidogion unwaith eto wedi gwrthod bod yn onest â phobl Cymru am yr hyn sydd wedi digwydd. [Torri ar draws.] Rwy’n hapus i ildio i’r Dirprwy Weinidog, os hoffai ymyrryd. Na? Na, nid oeddwn yn credu hynny. Caiff y cyhoedd yng Nghymru a'r gwaith o graffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth eu diystyru'n llwyr gan wneud inni feddwl tybed beth sy'n digwydd mewn gwirionedd wrth ddenu’r digwyddiadau mawr hyn i Gymru pan ddylem fod yn gweithio gyda’n gilydd i’w gwneud yn llwyddiant yn y lle cyntaf. Rhoddodd Sam Rowlands restr wych o'r holl ddigwyddiadau a ddaeth i'w ardal pan oedd yn arwain cyngor Conwy—

Ond nodaf fod peth o'r feirniadaeth ynghylch y cymorth a roddir i ddigwyddiadau—. Pan ddaeth y gemau Olympaidd i Lundain—roeddwn yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Tessa Jowell ar y pryd—cafodd hynny ei watwar yn gyffredinol gan yr Aelodau Ceidwadol fel gwastraff arian, gwastraff buddsoddiad, gwastraff amser; ni fyddem byth yn ei gael. Yna pan gawsom ni ef, roedd pawb yn dathlu ac yn dweud pa mor wych oedd hyn i Brydain. Felly, hoffwn ofyn am rywfaint o chwarae teg, pan fydd Gweinidog yn penderfynu cefnogi digwyddiad a dod ag ef yma i Gymru, fel arfer, maent yn gwneud hynny gyda phob bwriad da, nid oherwydd bod rhyw gynllwyn mawr ar waith.

17:15

Ni ddywedais fod cynllwyn mawr ar waith, ond yr hyn a oedd yn bwysig iawn yn fy marn i oedd bod Llywodraeth Cymru yn agored pan fydd yn gwario arian trethdalwyr er mwyn inni allu penderfynu a gafodd yr arian ei wario’n dda. Ni chredaf fod hwnnw'n gysyniad newydd.

Siaradodd Luke Fletcher yn rhagorol, yn fy marn i, gan ddweud mai'r diwylliant, y dreftadaeth a’r iaith yw'r atyniadau cryfaf, ac mae sicrhau sylw priodol i'n hunaniaeth yn gwbl hanfodol. Rwy’n fwy na pharod i ildio i’r Prif Weinidog os hoffai wneud ymyriad, hefyd. [Chwerthin.] Soniodd Huw Irranca-Davies am bwysigrwydd digwyddiadau rheolaidd, blynyddol, ac roedd gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn clywed yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud am Dr Richard Price yn ogystal. Credaf y bydd James Evans mewn trwbl pan fydd yn cyrraedd adref ar ôl sôn am y cariad mwyaf yn ei fywyd, ond dywedodd lawer iawn am y digwyddiadau lleol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Yn olaf, gwnaeth Laura Anne Jones bwynt rhagorol am waddol ehangach digwyddiadau mawr; sut yr ydym yn gadael ôl troed sydd o fudd gwirioneddol i bobl Cymru.

Ac yn olaf, soniodd Paul Davies am yr angen am agwedd gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru tuag at ddigwyddiadau mawr, ac mae’r diffyg uchelgais hwnnw wedi bod yn amlwg hefyd wrth i Lywodraeth Cymru fethu cydgysylltu cynllun hyd yn oed i ddod â chystadleuaeth Eurovision i Gymru. Mae gennym arenâu sy’n gallu cynnal digwyddiadau rhyngwladol ledled Cymru, ac mae’r diffyg uchelgais hwnnw wedi bod yn amlwg i bawb. Rhaid gofyn a wnaeth yr anhrefn yn ein system drafnidiaeth a thagfa ar draws dinas gyfan chwarae rhan yn y penderfyniad i beidio â dod â’r digwyddiad yma i Gymru, a gefnogwyd yn ein dadl. Rydym am ddod â’r digwyddiadau hyn i Gymru a dod â chyfleoedd pellach gyda hwy i ddatblygu ein gwlad fel un sy’n gallu denu’r digwyddiadau, y dalent a’r diwylliant gorau oll o bob cwr o’r byd.

I gloi, Lywydd, rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau uno y tu ôl i’n cynnig sydd ger ein bron heddiw, a chredaf yn gryf y gall y cynnig hwn ddangos i Gymru a gweddill y byd ein bod yn hynod optimistaidd am yr hyn y gall ein gwlad ei gyflawni. Diolch.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dŷn ni'n gorhirio'r cynnig yma tan y bleidlais.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dwi nawr yn mynd i atal y cyfarfod dros dro er mwyn inni baratoi ar gyfer y pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:17.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:20, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17:20
9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, a'r bleidlais y prynhawn ma ar eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddigwyddiadau mawr. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal a 38 yn erbyn. Mae'r cynnig felly'n cael ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf—gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, felly. Canlyniad y bleidlais yw: 26 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly, dwi'n arddel fy mhleidlais fwrw, ac fe fydd y bleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, 27 yn erbyn ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod, mae'r cynnig wedi'i wrthod, ac felly does dim byd wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

10. Dadl Fer: Chwaraeon yng Ngogledd Cymru: Sicrhau cyfleoedd i bawb

Nid dyna ddiwedd y cyfarfod. Fe fydd y ddadl fer yn cael ei chynnal nawr. Fe ofynnaf i Aelodau adael y Siambr yn dawel.

Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel, y rhai sy’n gadael, fe ofynnaf i Sam Rowlands gynnig y ddadl fer. Sam Rowlands.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heno, rwy’n falch iawn o gael cyfle i gyflwyno fy nadl fer. Hon yw fy nadl fer gyntaf, mewn gwirionedd, ar fater hynod bwysig, sef chwaraeon yng ngogledd Cymru, sicrhau cyfleoedd i bawb. Ac rwyf wedi cytuno—yn hael, wrth gwrs—i roi o leiaf un munud o fy amser i Tom Giffard, Carolyn Thomas, Gareth Davies a Ken Skates, ac rwy'n ddiolchgar iddynt. Rwyf am sôn am hyn mewn tair rhan heno. Yn gyntaf, rwy’n mynd i sôn yn gyffredinol am bwysigrwydd chwaraeon; yn ail, rwyf am sôn am yr her yng ngogledd Cymru'n benodol; ac yna, yn drydydd, rhai o'r cyfleoedd y gallem edrych arnynt i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu datrys.

17:25

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Un o’r prif resymau pam fy mod am gael dadl fer ar chwaraeon yw bod chwaraeon mor bwysig, fel y gwyddom, rwy’n siŵr, i’n hiechyd, ein llesiant, ein hymdeimlad o le a’n hymdeimlad o gymuned. Mae ganddynt bŵer, fel y gwelwn o bryd i’w gilydd—yn amlach na pheidio, mewn gwirionedd—i uno ein cymunedau lleol a phŵer i’n huno fel gwlad hefyd. Fel gwlad gymharol fach o ychydig dros 3 miliwn o bobl, rydym yn sicr yn ymladd y tu hwnt i'n pwysau ar lwyfan chwaraeon y byd—ac nid oeddwn yn bwriadu mwyseirio, ond fe wnes, ac rwy'n addo mai dyna fydd y tro olaf.

Ond er gwaethaf ein poblogaeth lai, gwelwn ganlyniadau gwych. Mae tîm pêl-droed y dynion ar hyn o bryd yn y pedwerydd safle ar bymtheg yn y byd ac yn mynd i gwpan y byd, fel y gwyddom, fis nesaf; mae ein tîm rygbi yn Rhif 7 yn y byd; mae gennym chwaraewr dartiau gorau'r byd, sy'n Gymro—gwn y bydd James Evans yn falch iawn o hynny; ac yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022 yn ddiweddar, enillodd Cymru 28 o fedalau aur, sy’n gyfanswm gwych i ni, a dylem fod yn falch iawn. Os edrychwn ar chwaraeon menywod, rydym yn parhau i weld chwaraeon menywod yn tyfu ac yn ffynnu, ynghyd â chynulleidfaoedd, gyda 12,000 o bobl wedi mynychu gêm bêl-droed menywod Cymru yn erbyn Slofenia fis diwethaf. Wrth gwrs, mae pob un ohonom yn llawn cyffro wrth weld bod tîm pêl-droed menywod Cymru ar fin cyrraedd cwpan y byd.

Rwy’n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn mwynhau amrywiaeth eang o chwaraeon, boed yn chwaraeon prif ffrwd fel pêl-droed a rygbi, neu rai o’r chwaraeon llai prif ffrwd efallai, sef cors-snorclo neu golff-troed. Ond yn ogystal, mae’r chwaraeon hyn yn rhan bwysig iawn o’n cymuned, gyda chlybiau cymdeithasol, bariau a man gwych i bobl ddod at ei gilydd. Mae ganddynt fanteision gwych o ran iechyd meddwl a lles. Mae’r rhain yn aml yn llawer gwell, wrth gwrs, pan fyddwn yn ennill, nad yw bob amser yn digwydd i mi, ond mae’n helpu o bryd i’w gilydd. Yn ogystal â hyn, gwyddom fod chwaraeon hefyd yn darparu buddion corfforol clir, a dyma un o’r ffyrdd gorau o gadw’n heini ac iach, neu o leiaf geisio gwneud hynny. Gall pob oedran neu ddemograffeg a phob cymuned gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ail ran, a’r rhan rwyf am ganolbwyntio’r rhan fwyaf o fy amser arni heno, a’r prif reswm dros fy nadl fer, yw tynnu sylw at y ffaith nad oes gan lawer o bobl ledled y gogledd ddigon o’r cyfleoedd hyn. Nid ydym yn gweld yr un mynediad at gyfleoedd chwaraeon â rhannau eraill o’r wlad, ac mae angen inni dynnu sylw at yr annigonolrwydd hwn a chymryd camau brys i’w unioni. Rhai enghreifftiau o hyn: gyda phoblogaeth o oddeutu 700,000 o bobl yn y gogledd, un tîm chwaraeon proffesiynol yn unig sydd gennym, sef Clwb Pêl-droed Wrecsam. Yng Nghymru, fel y gwyddom wrth gwrs, mae gennym bedwar tîm rygbi proffesiynol, ond mae pob un o’r rheini yn y de. Ac yn y gogledd, nid oes gennym unrhyw bwll nofio maint Olympaidd.

Y diffyg cyfleusterau a’r diffyg cyfleoedd hyn i bobl sy’n amharu ar allu pobl, yn gyntaf oll, i gymryd y cam nesaf tuag at lefel elitaidd neu broffesiynol, ac mae’n sicr yn lleihau dylanwad arwyr lleol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddynion a menywod ym myd chwaraeon. Mae'n rhwystredig iawn fod y rhan fwyaf o chwaraeon yng Nghymru yn aml oddeutu pedair awr oddi wrth y trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru. Er bod gennym faes chwarae gwych a hanesyddol y Cae Ras yn Wrecsam a stadiwm sy'n tyfu ym Mae Colwyn, mae digwyddiadau chwaraeon yn rhy aml wedi eu lleoli yn y de.

Yn ogystal â hyn, nid oes gan bobl y gogledd gysylltiadau trafnidiaeth digonol, hyd yn oed, i fynd yn ôl adref ar ôl digwyddiadau os ydynt yn y de. Yr wythnos diwethaf yn unig, chwaraeodd Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ond yn sicr, cafodd y gogleddwyr a oedd wedi teithio i lawr gryn drafferth i deithio adref oherwydd prinder trenau.

Fel y byddwch yn ei nodi yn eich ymateb, rwy’n siŵr, Ddirprwy Weinidog, cyrff llywodraethu a sefydliadau chwaraeon, megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, sy’n gyfrifol am eu chwaraeon perthnasol. Serch hynny, Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn rwy'n siŵr, mae eich rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol yn cynnwys chwaraeon elitaidd, ynghyd â chwaraeon cymunedol, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru. Felly, mae rôl glir yma i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r cyrff llywodraethu perthnasol i sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bawb mewn perthynas â chwaraeon yng ngogledd Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i alluogi ein cyrff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau chwaraeon llwyddiannus ar draws y gogledd gan osod y cywair a’r disgwyliad cywir ynghylch tegwch a mynediad i bawb.

Yn ogystal, Ddirprwy Weinidog, mae adrannau gwariant mawr a allai wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn y gogledd. Mae’r rhain, wrth gwrs, yn cynnwys ein gwasanaeth iechyd, addysg, llywodraeth leol a hyd yn oed adrannau ymarferol, megis tir ac ystadau—gallem alluogi'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau yng ngogledd Cymru.

Yn gysylltiedig â hyn, mae cyfleusterau yn y gogledd yn un o dri maes allweddol y credaf ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio arnynt, a’r lleill yw cyllid a chysylltiad pobl â chwaraeon. Mae'n anffodus fod llawer o'n clybiau a'n sefydliadau chwaraeon ledled y gogledd yn parhau i ddioddef o ddiffyg adnoddau, ac mae'r seilwaith yn parhau i fod o ansawdd gwael. Mae llawer o’n clybiau chwaraeon yn parhau i gael trafferthion ariannol ac yn dioddef o ddiffyg adnoddau, yn ogystal â seilwaith gwael. Heb fuddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon elitaidd yn y gogledd, bydd llawer o fabolgampwyr y dyfodol yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cystadlu, gyda llawer yn gorfod teithio oriau lawer i wneud rhywbeth y maent yn ei garu. Mae tuedd amlwg i bobl roi'r gorau iddi pan fyddant yn cyrraedd y lefel elitaidd honno. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i'w chwarae yn gweithio gyda'r sefydliadau cyfrifol, ynghyd ag awdurdodau lleol a'n cymunedau, i wneud yn siŵr ein bod yn cydweithredu i sicrhau nad yw chwaraeon wedi eu lleoli'n ormodol mewn un rhan o Gymru. Gellir gwneud hyn drwy ddarparu cymorth a buddsoddiad mewn chwaraeon elitaidd a chwaraeon llawr gwlad, lle gallwn sicrhau mwy o gyfle i bawb.

O ran cysylltiad â chwaraeon a chwaraeon elitaidd a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny, mae'n dal yn rhwystredig i mi, hyd yn oed gyda phoblogaeth o 700,000 o bobl, a chyda rygbi'n gamp mor bwysig yng Nghymru, nad oes gennym dîm rygbi rhanbarthol proffesiynol yn y gogledd. Felly, o’r ddadl heddiw, byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Dirprwy Weinidog amlinellu hefyd pa drafodaethau y mae’n eu cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch gwaith ar ddod â thîm rygbi rhanbarthol proffesiynol i'r gogledd. Ni all fod yn iawn fod pedwar tîm rhanbarthol proffesiynol yng Nghymru, a bod pob un o’r rhain bedair awr oddi wrth y trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru. Yn y cyfamser, efallai y gallai dull interim o ddod â’r lefel elitaidd hon o chwaraeon yn nes at drigolion y gogledd gynnwys rhywbeth tebyg i’r hyn y mae clwb criced Morgannwg yn ei wneud. Gallem weld pedwar tîm rygbi proffesiynol Cymru yn dod i chwarae un o’u gemau bob tymor yn y gogledd, a fyddai’n ffordd wych o wella mynediad at chwaraeon a mynediad at chwaraeon ar lefel elitaidd yn y gogledd, gan wneud gwahaniaeth enfawr i'r economi leol hefyd. Gallwch ddychmygu un o’r timau proffesiynol i lawr yma yn y de yn chwarae gêm i fyny yn y gogledd, yn erbyn tîm o Iwerddon efallai, a’r budd economaidd y byddai hynny'n ei gynnig i ogledd Cymru a'r dylanwad a gâi hynny ar ein pobl iau yn enwedig o allu gweld chwaraeon yn cael eu chwarae ar y lefel honno.

Weinidog, deallaf na allwch fynnu hyn, ond yn sicr, byddai eich cefnogaeth i’r mathau hyn o syniadau'n dod â’r cyfleoedd hyn yn llawer agosach. Wrth gwrs, yn y gogledd, mae gennym sylfaen wych ar gyfer tîm rygbi proffesiynol, gyda'r Gogs yn chwarae ym Mae Colwyn yn rheolaidd iawn, ac mae'r academi sy'n gweithredu yno'n dda iawn. Gellid adeiladu ar hynny, ac felly, Weinidog, hoffwn eich annog i edrych ar hynny a sut y gallwch weithio gydag URC i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Efallai fod y mathau hyn o gamau'n ymwneud â sicrhau bod mwy o glybiau’n chwarae yn y gogledd yn edrych yn symbolaidd, ond byddent yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran helpu i ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl, ac fel y dywedais, i hybu’r economi drwy sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar chwaraeon. Ni ellir diystyru pa mor bwysig yw chwaraeon i bob agwedd ar ein bywydau. Mae pob ymdrech a wneir i wneud chwaraeon hyd yn oed yn fwy o lwyddiant hefyd yn sicrhau nad yw gogledd Cymru'n cael eu gadael ar ôl.

Felly, i gloi fy nghyfraniad heddiw, Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed straeon gwerthfawr yr Aelodau eraill am eu profiadau gyda chwaraeon, ynghyd â’u barn ar sicrhau bod gennym gyfle i bawb yng Nghymru, ac yn enwedig yn y gogledd. Edrychaf ymlaen hefyd at ymateb Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod sêr chwaraeon y dyfodol yng ngogledd Cymru'n cael y mynediad a’r cyfle y maent yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn.

17:30

A gaf fi ddiolch i Sam am roi ychydig o amser i mi gyfrannu at y ddadl hon, ac am ei chyflwyno yn y lle cyntaf? Rwy'n credu y gallwn gytuno ei bod hi'n amlwg iawn fod Sam Rowlands yn teimlo'n angerddol am ogledd Cymru a'r ardal y mae'n ei chynrychioli. Rydych chi'n ei hyrwyddo'n gadarn iawn, ac rwy'n credu'n gryf fod hynny wedi'i gyfleu yn eich sylwadau ar ran ail ranbarth gorau Cymru [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth yn wir—mae gan weddill Cymru y tu allan i Gaerdydd gymaint i'w gynnig.

Ond roeddwn am ddefnyddio'r cyfle yma i sôn am yr adroddiad diweddar, 'Sicrhau chwarae teg', a gafodd ei ryddhau gan y pwyllgor rwy'n aelod ohono gyda chyfrifoldeb am chwaraeon. Edrychai ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig. Gwyddom fod Sefydliad Iechyd y Byd yn 2020 wedi dweud, yn fyd-eang, nad oedd un o bob pedwar oedolyn yn cyflawni'r lefelau byd-eang a argymhellir o weithgarwch corfforol, a chyn y pandemig, dim ond 32 y cant o oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith yr wythnos, tra bod dros 40 y cant yn gwneud dim o gwbl.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywsom gan ystod o randdeiliaid fod nifer o rwystrau'n wynebu'r rheini mewn ardaloedd difreintiedig rhag cymryd rhan mewn chwaraeon ac mewn gweithgarwch corfforol. Maent yn amrywio o addasrwydd cyfleusterau, prinder mannau diogel ar gyfer gwneud ymarfer corff, dyrannu llai o amser ar gyfer chwaraeon, ac ystrydebau sy'n perthyn i'r gorffennol a bod yn onest. Felly, rwy'n awyddus i glywed gan y Dirprwy Weinidog yn ei hymateb sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny ledled Cymru drwy weithio gyda Chwaraeon Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod chwaraeon yn rhywbeth sy'n hygyrch i bawb, ni waeth beth fo'u hiechyd, eu cefndir neu ble rydych chi'n byw.

17:35

Diolch i Sam Rowlands am roi munud o'i amser i mi a chyflwyno'r ddadl hon heddiw. Gogledd Cymru hardd yw cartref chwaraeon awyr agored a hamdden. Boed yn feicio ar fryniau Clwyd, sgrialu i fyny'r Wyddfa neu gaiacio oddi ar Ynys Môn, ceir cymaint o gyfleoedd i gysylltu chwaraeon â byd natur. Mae chwaraeon yn aml yn dechrau ar lawr gwlad, drwy'r ysgol, rhannu diddordeb gyda ffrind, neu rywun yn y gymuned sy'n teimlo'n angerddol am gamp benodol. Mae gennym leoliadau gwych, megis clwb rygbi'r Rhyl a chlwb rygbi Shotton, sydd wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cynnwys y gymuned hefyd ac yn gwneud gwaith gwych. Mae clwb pêl-fasged yr Wyddgrug hefyd yn haeddu sylw arbennig. Mae'r clwb bellach yn llawn, diolch i arweinyddiaeth wych ac angerdd James, sydd wedi helpu i ddod â rowndiau terfynol pêl-fasged cenedlaethol i ogledd Cymru, i Wrecsam, a hefyd y bencampwriaeth 3x3 i'r Fflint yng ngogledd Cymru yn ogystal ag i Abertawe a Chaerdydd.

Mae trafnidiaeth yn hanfodol yng ngogledd Cymru wrth i'r diddordeb mewn chwaraeon dyfu. Mae chwarae mewn pencampwriaethau ar draws y rhanbarth, o Wrecsam i Gaergybi, yn galw am deithio cryn bellter, a phan fydd y diddordeb yn tyfu ymhellach a'ch bod yn cael chwarae i Gymru, mae'n golygu teithio i Gaerdydd bob penwythnos ac aros yno gyda rhiant sy'n gefnogol, gobeithio—rheswm arall pam fod sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, ddibynadwy ac effeithlon yn hanfodol ar gyfer ein rhanbarth. Diolch.

Hoffwn ddechrau drwy ddatgan diddordeb fel aelod llawn o Glwb Rygbi'r Rhyl a'r Cylch. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Sam Rowlands am gyflwyno a thrafod y pwnc pwysig hwn heddiw. Mae'n hollol gywir yn dweud y dylem fod yn gwneud popeth a allwn i gael pobl i ymarfer corff a gwneud chwaraeon, am ei fod yn cynyddu eu cryfder corfforol a meddyliol, ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd anelu at ei gyflawni.

Hoffwn roi un enghraifft gyflym, fel y nododd Carolyn, yn y Rhyl, sydd â chlwb rygbi llewyrchus ar Ffordd Tynewydd. Wedi'i leoli ynghanol y gymuned, mae'n cynnig cyfle i ferched, bechgyn, dynion a menywod o bob oed gymryd rhan yn y gamp, a phrofwyd bod gwneud hynny'n gwella disgyblaeth a gwaith tîm. Ac nid clwb rygbi yn unig mohono; mae hefyd yn dafarn, yn ystafell ddigwyddiadau, yn faes chwarae a chanolfan gymunedol, sydd, gyda'i gilydd, yn creu manteision diddiwedd i bobl o bob oedran yn y Rhyl gymdeithasu a chymryd rhan mewn chwaraeon, sy'n allweddol ar gyfer cynyddu hunan-barch ac iechyd meddwl pobl. Ond yn anffodus, nid oes digon o enghreifftiau o hyn yng ngogledd Cymru, a gall unrhyw un sy'n chwilio am ysbrydoliaeth edrych ar glwb rygbi'r Rhyl i weld enghraifft o sut y dylid ei wneud.

Hoffwn ddiolch yn gyflym i glwb rygbi'r Rhyl a'r cylch am yr holl waith y maent yn ei wneud yn y gymuned yn ddyddiol, a dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol, ac annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon i gysylltu â'u clwb, grŵp neu gymdeithas leol. Diolch.

Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy'n mynd i wneud pedwar pwynt cyflym y byddaf yn ymhelaethu arnynt mewn gohebiaeth, Weinidog: yn gyntaf oll, mae'n hanfodol fod cyllid perfformiad elît yn dilyn yr athletwr ac nad yw'n mynd yn syth i gyrff llywodraethu neu ganolfannau cenedlaethol. Mae hynny oherwydd bod rhaid i fabolgampwyr gogledd Cymru allu manteisio ar hyfforddiant yng ngogledd-orllewin Lloegr, a chystadlaethau yn wir, o gofio fod cymaint o hyfforddiant a chymaint o gystadlaethau yng Nghymru wedi'u lleoli'n rhy bell i ffwrdd, i'r de o'r M4. Yn ail, ac yn gysylltiedig â hyn, fel y mae Sam Rowlands wedi nodi, mae angen datganoli cyrff llywodraethu chwaraeon a chanolfannau hyfforddi cenedlaethol o ardal Caerdydd. Yn drydydd, nid wyf yn credu bod dringwyr elît Prydeinig yng Nghymru yn gallu cael arian Chwaraeon Cymru ar hyn o bryd am nad oes gennym gorff llywodraethu yng Nghymru ar gyfer dringo. Mae hyn yn hollol annheg, yn enwedig os ydym eisiau i ddringwyr yng ngogledd Cymru gymryd rhan yn y gemau Olympaidd. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai Chwaraeon Cymru'n gallu ymgysylltu â GB Climbing a Chyngor Mynydda Prydain er mwyn datrys y broblem.

Ac yn olaf, mae cwrlo Cymru, sef un corff llywodraethol, un gamp, sydd â'i phencadlys yng ngogledd Cymru, yn wynebu'r her fwyaf erioed i'w dyfodol gyda'r cynnydd yng nghost ynni. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe bai Llywodraeth Cymru neu Chwaraeon Cymru yn gallu ymgysylltu â chwrlo Cymru ynglŷn â'u presenoldeb yng nghanolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy yn y dyfodol.

17:40

Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl. Dawn Bowden. 

Member
Dawn Bowden 17:40:15
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am gyflwyno'r ddadl fer y prynhawn yma? Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau a'u cyfraniadau meddylgar. Fel y mae Sam eisoes wedi dweud, mae gennym draddodiadau chwaraeon gwych yng Nghymru. Rydym yn rhagori mewn llawer o chwaraeon, ac edrychwn ymlaen at Gwpan Rygbi'r Byd y menywod yn Seland Newydd sy'n dechrau yr wythnos nesaf, a gobeithio y bydd pêl-droed y menywod yn mynd â ni gam yn nes at gyrraedd cwpan y byd yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf. 

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod gogledd Cymru—. Rydym wedi siarad am Gymru gyfan, ond mae gan ogledd Cymru yn enwedig draddodiad a threftadaeth chwaraeon i ymfalchïo ynddynt. Mae wedi cynhyrchu llawer o fabolgampwyr gorau a mwyaf llwyddiannus ein gwlad, megis Gary Speed, Tom Price, Sabrina Fortune, Ian Rush, a Jade Jones. Rwy'n siŵr fod llawer mwy; gallai'r rhestr barhau. Ond mae hefyd yn gartref i gyfleusterau o'r radd flaenaf a lleoliadau eiconig, sy'n bwysig iawn i'n gwlad. Rydych chi eisoes wedi sôn am y Cae Ras yn Wrecsam, lleoliad ein gêm bêl-droed ryngwladol gartref gyntaf, ac wrth i'r cyffro adeiladu ynglŷn â chwpan y byd y dynion fis nesaf—mae wedi cyrraedd yn eithaf cyflym, onid yw; mae'n llai na 50 diwrnod bellach—rwy'n siŵr y bydd Wrecsam a gogledd Cymru i gyd yn chwarae rhan fawr yn darparu ffocws i gefnogwyr a helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno—cwpan y byd a'i waddol a sut y bydd yn ysbrydoli'r hyn y byddwn yn ei wneud i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn pêl-droed. 

Ond bydd yr Aelodau'n gwybod bod buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, chwaraeon elît a llawr gwlad, yn elfen sylweddol eisoes yn ein rhaglen lywodraethu, gan amlygu'r cysylltiad pwysig rhwng cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan ac iechyd a lles ein cenedl. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyfleusterau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb os ydym yn mynd i ryddhau manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru, boed hynny ar lawr gwlad, neu'r holl ffordd drwodd i chwaraewyr elît. Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddychwelyd at chwaraeon, neu i ddod at chwaraeon yn y lle cyntaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn gohebiaeth gan Ken Skates ynghylch y mater penodol yr oedd am gael trafodaeth bellach gyda mi yn ei gylch. Ond dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi £24 miliwn o gyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf i Chwaraeon Cymru ddatblygu cyfleusterau newydd a chyfleusterau sy'n bodoli eisoes ledled Cymru. 

Drwy Chwaraeon Cymru, rydym wedi darparu symiau sylweddol o gyllid, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r nifer o bobl yng Nghymru sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon, beth bynnag fo'u hoedran, eu gallu a'u cefndir. Ac er enghraifft, ar draws y gogledd, mae llawer o brosiectau sy'n gysylltiedig â gwahanol chwaraeon eisoes wedi elwa o'n buddsoddiad. Rydym bob amser yn gwybod y gallem wario mwy. Pe bai gennym bwll diwaelod o arian, gallem wario mwy o arian. Ond mae'n werth cydnabod bod nifer o sefydliadau wedi elwa. Er enghraifft, mae clwb pêl-droed Llanelwy wedi llwyddo i ffurfio timau newydd o ferched dan 16 oed a bechgyn dan 16, diolch i gyllid ar gyfer offer a hyfforddiant. Mae Clwb Hwylio'r Bala wedi gallu prynu offer i wella'r dull o symud cychod i ac o'r dŵr, a fydd yn helpu pobl hŷn neu anabl yn enwedig sy'n cymryd rhan. Mae Clwb Bowlio Porthaethwy wedi cael cyllid i brynu gwahanol eitemau o offer, gan gynnwys ffurelau ffyn cerdded a chymhorthion codi bowliau i helpu pobl hŷn ac anabl sy'n cymryd rhan. Mae cyngor sir Ynys Môn wedi cael cyllid i ddatblygu cyfleuster 3G newydd yn Amlwch. Bydd y ddau gae llifoleuadau i dimau bach yn ddelfrydol at ddibenion hyfforddi adrannau mini ac iau eu tîm pêl-droed lleol. Ac rwy'n gwybod bod datblygiadau cyffrous ar y gweill hefyd ar gyfer felodrom awyr agored yn ardal Rhuthun, sef yr unig un yn y gogledd. A'r gobaith yw y bydd y prosiect cyffrous hwn, dan arweiniad Beicio Cymru a Denbighshire Leisure Ltd, yn arwain at ddatblygu clwb cynaliadwy newydd yn y cyfleuster, a sefydlu canolfan feicio gyffredinol, gyda phwyslais ar feicio i fenywod ac ieuenctid. Ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwnnw'n datblygu dros y misoedd nesaf. Ac roeddwn hefyd yn falch o glywed y bydd canolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy, a grybwyllwyd gan Ken Skates hefyd, ac a gâi ei defnyddio fel canolfan frechu dorfol yn ystod y pandemig, yn ailagor yn fuan fel arena iâ Glannau Dyfrdwy. 

Nawr, Sam, fe wnaethoch chi ein herio i fabwysiadu ymagwedd draws-adrannol, ac mae'n rhaid imi ddweud bod hynny eisoes yn digwydd mewn sawl maes. Rydym yn darparu symiau sylweddol o arian i gynyddu defnydd cymunedol o ysgolion a'u cyfleusterau, i gynorthwyo ysgolion i weithredu a datblygu fel ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Bydd ein cefnogaeth yn galluogi ysgolion i estyn allan ac ymgysylltu â theuluoedd, a gweithio gyda'r gymuned ehangach, i gefnogi pob disgybl, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi. Mae fy nghyd-Aelod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cyllid o £24.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r gwaith, sy'n cynnwys £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn caniatáu i ysgolion ddatblygu ymhellach fel asedau cymunedol.

Mae angen inni sicrhau hefyd fod cyfleoedd i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn ar gael i bawb, ac rwy'n falch iawn fod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi edrych ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Mae gennym ymrwymiad clir iawn eisoes yn ein rhaglen lywodraethu ar gymryd rhan mewn chwaraeon, ymrwymiad sydd wedi ei nodi yn y llythyr cylch gwaith at Chwaraeon Cymru, ac mae wedi'i ymgorffori yn strategaeth Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, mae adroddiad y pwyllgor, 'Sicrhau chwarae teg', wedi gwneud argymhellion sy'n procio'r meddwl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor, ac Aelodau eraill wrth gwrs, ar eu cyflawni lle gallwn wneud hynny.

Er hynny, rhan o'r darlun yn unig yw'r arian. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn darparu cyfleusterau newydd a chynyddu cyfleoedd yn llwyddiannus. Er mwyn ymdrin yn benodol â ble'r ydym arni gyda'n strategaeth a sut y gweithiwn gyda phartneriaid i wella cyfleusterau a'r niferoedd sy'n cymryd rhan, fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, Sam, fod Chwaraeon Cymru yn arwain newid i'r system drwy ddatblygu'r partneriaethau chwaraeon, ac mae partneriaeth chwaraeon yn dod â chydweithrediad rhanddeiliaid allweddol ynghyd mewn rhanbarth diffiniedig, rhanddeiliaid sy'n deall y pwysigrwydd ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Wedi'u harwain gan eu dealltwriaeth, nod y partneriaethau hyn yw bod yn gatalydd i fynd i'r afael â dau fater hirsefydlog.

Yn gyntaf, sicrhau bod y gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir ar gael i'r rhai nad ydynt yn gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd, a chan ganolbwyntio'n glir ar ddileu rhwystrau i'r rhai sydd angen y cymorth mwyaf. Yn ail, bydd dull partneriaeth yn gweithredu i ateb galw talent uchel gan y rhai sy'n cymryd rhan ond sydd eisiau gwneud llawer mwy. A bydd sefydlu Chwaraeon Gogledd Cymru yn ddiweddar, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn ei gwneud hi'n bosibl darparu chwaraeon a gweithgarwch cymunedol fel y nodwyd gan Chwaraeon Cymru, a fydd yn cydweithio'n lleol i greu dull cyfannol, gan gynhyrchu trawsdoriad ehangach o effeithiau cymdeithasol.

Ym mis Mehefin 2022, fe gynhaliodd Chwaraeon Gogledd Cymru eu cynhadledd gyntaf i randdeiliaid. Cyfle oedd hwn i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, i ddechrau archwilio gweledigaeth a diben sy'n datblygu ar gyfer eu partneriaeth. Mae gwaith yn parhau ar ymgysylltu ac ymgynghori ar draws y rhanbarth drwy gydol yr hydref, ac mae disgwyl i'r bartneriaeth gael ei lansio'n swyddogol ddechrau'r gwanwyn 2023.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n meddwl ei bod yn adeg gyffrous ar chwaraeon yng ngogledd Cymru, ac rwy'n credu y gall y rhanbarth edrych ymlaen gyda chryn dipyn o optimistiaeth. Mae ymgysylltu cadarnhaol eisoes yn digwydd, gyda phartneriaid cenedlaethol a lleol, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, y cyfeirioch chi atynt, ynglŷn â chyflawni'r amcanion a rannwn, ac rwy'n gwybod y bydd yr ysbryd cydweithredol hwn yn parhau wrth inni wneud cynnydd ar ryddhau talent chwaraeon a chyflawni ar gyfer holl bobl Cymru. Diolch yn fawr.

17:45

Diolch i'r Dirprwy Weinidog.

Diolch i bawb ohonoch am eich cyfraniadau y prynhawn yma.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:48.