Y Cyfarfod Llawn
Plenary
05/07/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at wasanaethau deintyddol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58287

Llywydd, bydd 99 y cant o werth contract deintyddol y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac 88 y cant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach yn cael ei cyflawni gan bractisau sydd wedi optio i mewn i'r rhaglen diwygio'r contract deintyddol. Mae gweithio o dan egwyddorion diwygio yn creu capasiti i gleifion newydd gael mynediad at ofal deintyddol y GIG.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond ni allaf ddweud yn union fy mod yn rhannu ei optimistiaeth ynghylch y diwydiant deintyddol yma yng Nghymru. Yr enghraifft amlycaf ein bod yn wynebu argyfwng ym maes deintyddiaeth yw'r nifer fawr o gwestiynau yr ydych chi a'r Gweinidog iechyd wedi'u hwynebu gan Aelodau yn ystod y misoedd diwethaf ar y pwnc. Gofynnodd fy nghyd-Aelod Sam Rowlands ichi am y sefyllfa yn y gogledd yr wythnos diwethaf, ac, yn anffodus, mae'n broblem sy'n gyffredin yn fy rhanbarth i hefyd. Mae deintyddfa Broadlands ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach wedi terfynu ei chontract gyda'r GIG drwy'r bwrdd iechyd, gan nodi problemau gyda'r ffordd y mae contractau deintyddol y GIG wedi'u strwythuro. Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y byddan nhw yn ceisio dod o hyd i ddeintydd GIG newydd ar gyfer cleifion, ond, mewn gwirionedd, o ystyried y sefyllfa bresennol, gwyddom ni ei bod yn golygu y byddan nhw'n cael eu hychwanegu at restr aros, sy'n aml yn golygu aros am flynyddoedd. Ac yn hytrach, mae cleifion yn cael eu hannog i gael gwasanaeth deintyddol preifat drud yn aml, dim ond er mwyn cadw lefel y gwasanaeth yr oedden nhw'n ei fwynhau o'r blaen. Felly, gyda rhestrau aros deintyddol yn mynd yn hirach, mae llai a llai o ddeintyddion yn cynnig lleoedd i gleifion y GIG, a thraean yn llai o driniaethau deintyddol yn digwydd o'u cymharu â degawd yn ôl, Prif Weinidog, mae un peth yn eithaf clir: rydych yn preifateiddio deintyddiaeth yng Nghymru drwy'r drws cefn. Prif Weinidog, pryd y bydd eich Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r argyfwng ym maes deintyddiaeth yng Nghymru, a pha gamau ydych chi'n eu cymryd i'w ddatrys nawr?

Llywydd, mae rhan o gynsail y cwestiwn yna'n hurt, ac roedd yr Aelod yn gwybod hynny pan ddywedodd ef hynny hefyd. Roedd diwygio'r contract, fel yr ydym wedi esbonio droeon ar lawr y Senedd, yn fater dewisol. Mater i bractisau oedd penderfynu a ddylid optio i mewn iddo ai peidio. Mae'r mwyafrif helaeth o bractisau wedi gwneud hynny; mae lleiafrif bach wedi penderfynu gwneud trefniadau eraill. Roedd hynny ar gael iddyn nhw trwy'r adeg, fel y bu'n rhaid imi egluro droeon nawr wrth Aelodau Ceidwadol y Senedd.
Y gwir amdani, Llywydd, yw bod nifer y deintyddion sy'n cyflawni gweithgaredd y GIG yng Nghymru wedi codi bob blwyddyn hyd at adeg y pandemig—wedi codi bob blwyddyn—o 2014-15 i 2018-19, a'n huchelgais yw sicrhau bod deintyddiaeth y GIG ar gael i bawb sy'n dymuno manteisio arni. Fodd bynnag, fel y gŵyr yr Aelod, mae deintyddion yn contractio gweithwyr proffesiynol. Maen nhw'n dewis a ydyn nhw am ymgymryd â gwaith ar ran y GIG ai peidio. Pan fyddan nhw'n dewis peidio â gwneud hynny, yn y lleiafrif bach hwnnw o achosion sydd wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, nid yw deintyddiaeth y GIG yn colli'r arian; mae'r arian yn aros yn y system. Mae'r arian yn parhau fel bod practisau eraill, neu newydd-ddyfodiaid i ddeintyddiaeth, yn gallu gwneud gwaith ar ran y GIG.
Ein hamcangyfrifon ar gyfer diwygio contractau yn yr ardal a gwmpesir gan yr Aelod yw y bydd yn creu 16,000 o leoedd ychwanegol yn y GIG, o leiaf, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a 17,000 o leoedd ychwanegol, o leiaf, i gleifion y GIG ym mae Abertawe. Dyna pam mae diwygio deintyddol a diwygio contractau wedi bod yn gymaint o flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.
Prif Weinidog, bu tipyn o ewyllys da ym maes deintyddiaeth y GIG ers amser maith. Ar ôl siarad â deintyddion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, yn anffodus, mae'n wir, gyda'r contractau newydd, fod practisau'r GIG yn gweld llawer o gleifion newydd a bod angen iddyn nhw gyrraedd targedau uchel o gleifion. Mae'n rhaid i bractisau dalu am gost y driniaeth oherwydd lefel y gofal sydd ei angen a'r amser a gymerir i wneud gwaith hwyluso. Mae hyn wedi golygu, yn y bôn, y gall deintyddion fod yn gweithio am ddim. Felly, mae staff yn gadael practisau, a'r effaith ganlyniadol yw na all practisau gyrraedd eu targedau ar gyfer gweld cleifion newydd, ac felly, weithiau, maen nhw'n cael eu cosbi'n ariannol. Mae gennych ddeintyddion sy'n gweithio'n eithriadol o galed drwy'r ôl-groniad o gleifion COVID, gyda chostau'n codi, ac mae diffyg hyblygrwydd ewyllys da ar gael gyda'r contractau, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf. Gwn fod pwyllgor iechyd y Senedd yn ymchwilio i hyn, ac rwy'n croesawu'n fawr eu gwaith ar hyn. Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau deintyddol gydag effaith coronafeirws a'r ôl-groniad o ofal sy'n effeithio ar eu llwyth gwaith? Hefyd, a oes ffordd o flaenoriaethu gofal deintyddol i blant?

Llywydd, gadewch imi sicrhau'r Aelod nad oes unrhyw ddeintydd yng Nghymru yn gweithio am ddim. Mae deintyddion, ar gyfartaledd, yn ennill rhywle rhwng £70,000 a £100,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar natur eu contract. Ac er fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Sarah Murphy am yr ymrwymiad y mae deintyddion yng Nghymru wedi'i ddangos yn ystod cyfnod y coronafeirws, cânt eu talu, a'u talu'n deg, am y gwaith a wnânt.
Mae'r pwynt a gododd yr Aelod am effaith y coronafeirws, Llywydd, yn un pwysig. Ar 1 Mehefin, llwyddodd y Prif Swyddog Deintyddol i ysgrifennu at bractisau deintyddol ledled Cymru, gan ddad-ddwysáu rhai o'r mesurau atal a rheoli heintiau y mae deintyddion wedi gorfod eu gweithredu oherwydd y coronafeirws. Yn anffodus, oherwydd y cynnydd cyflym presennol yn nifer y bobl sy'n mynd yn sâl oherwydd y feirws, a'r ffaith bod yr amrywiolion diweddaraf o omicron hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy, mae hynny'n sefyllfa y bydd yn rhaid inni ei hadolygu'n ofalus iawn. Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu, Llywydd. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn mynd yn sâl gyda'r feirws. Mae gennym 1,500 o bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd nad ydyn nhw yn y gwaith heddiw oherwydd eu bod yn sâl gyda COVID-19, ac mae gennym 600 o bobl eraill y tu hwnt i hynny sy'n hunanynysu oherwydd eu bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael y feirws. Mae hynny dros 2 y cant o holl weithlu'r GIG nad ydyn nhw'n gallu gwneud yr holl bethau eraill y gofynnwn iddyn nhw eu gwneud dim ond oherwydd effaith barhaus y coronafeirws yma yng Nghymru. Ac mae gweithdrefnau cynhyrchu aerosol, sef yr hyn y mae deintyddiaeth yn dibynnu arno gymaint, ymhlith y gweithdrefnau mwyaf heriol o ran trosglwyddo'r feirws. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr holl gamau y mae practisau deintyddol wedi'u cymryd, y cymorth ychwanegol y maen nhw wedi'i gael drwy Lywodraeth Cymru i wella awyru yn y practisau hynny, ond nid oes amheuaeth o gwbl, ac ni ddylai unrhyw Aelod yn y Siambr hon fod ag amheuaeth o gwbl, fod yr amgylchedd gweithredu ym maes deintyddiaeth, ac ar draws GIG Cymru, yn parhau i fod yn heriol iawn oherwydd yr effaith y mae coronafeirws yn ei chael.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn Nyffryn Clwyd? OQ58331

Llywydd, rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £4.9 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid iechyd meddwl rheolaidd, gan ddechrau eleni, i helpu i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Wrth gwrs, wrth inni nodi pen-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn saith deg a phedwar heddiw, hoffwn ddiolch i'r staff rheng flaen sy'n gweithio'n galed, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi cefnogi anghenion meddygol y genedl a helpu i achub bywydau. Ond, Prif Weinidog, heb fod unrhyw fai ar y staff rheng flaen gweithgar hyn, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl yn fy etholaeth i ac ar draws y gogledd yn addas i'r diben. Mae ffigurau gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn dangos mai gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mae'r amseroedd aros gwaethaf ond un yng Nghymru, gydag ychydig o dan ddwy ran o dair o oedolion yn aros llai na 28 diwrnod am asesiad ym mis Mawrth 2022, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol, ac, i blant a phobl ifanc, dim ond un o bob tri sy'n aros 28 diwrnod am asesiad. Nid yw'r oedi hwn yn dderbyniol, Prif Weinidog. Ochr yn ochr â'r amseroedd aros hyn, un o fy mhrif bryderon ynghylch gwasanaethau yn Nyffryn Clwyd yw cyfleusterau Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Yn gynharach y mis hwn, eisteddais i lawr gydag un o fy etholwyr, sydd â chyflwr iechyd meddwl hirdymor ac, oherwydd hyn, mae wedi gorfod aros mewn cyfleusterau ar draws yr ardal. A nododd mai'r Uned Ablett yn YGC yw'r gwaethaf o bell ffordd, gydag adeilad treuliedig ac adfeiliedig nad yw'n addas ar gyfer defnydd na thriniaethau modern. Ac yn fy nghyfarfod rheolaidd â chynrychiolwyr y bwrdd iechyd, ac, mewn gwirionedd, mor ddiweddar â ddoe, fe wnaethon nhw ddatgelu nad oes unrhyw gynlluniau ar y gorwel o hyd i fwrw ymlaen â chynnig y datblygiad iechyd meddwl newydd yn YGC, ac nid yw hynny'n ddigon da, Prif Weinidog. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, ynglŷn â'r oedi hwn gan y bwrdd iechyd, i sicrhau bod fy nhrigolion yn Nyffryn Clwyd yn cael gwasanaeth sy'n addas i'r diben yn yr ardal y maen nhw'n byw ynddi? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n ategu, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd yr Aelod am gydnabod y gwaith y mae ein staff ymroddedig iawn yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wneud bob dydd, ar ben-blwydd y GIG eleni. Cytunaf ag ef nad yw'r amser y mae asesiadau'n ei gymryd o dan y gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol lleol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dderbyniol. Bu rhai arwyddion o welliant yn ystod y misoedd diwethaf, ond mae angen i'r gwelliant hwnnw barhau ar frys. Ar ôl ichi gael asesiad yn y bwrdd iechyd, yna mae'r perfformiad o ran atgyfeirio i driniaeth yn well yn y gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol, yn enwedig o ran oedolion, lle mae perfformiad, am y rhan fwyaf o'r 12 mis diwethaf, wedi bod yn uwch na'r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, ar ôl i chi fynd i mewn i'r system, yna mae'r cymorth a gewch fel arfer yn amserol ac yn cael ei werthfawrogi gan y rhai sy'n ei gael. Ond mae'r cyfnod asesu yn rhy hir, yn enwedig i blant, ac yno rydym yn chwilio am welliant priodol yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn perfformio.
O ran y cyfleusterau yn YGC, rwy'n credu bod gan yr Aelod farn or-besimistaidd am ddatblygiadau yno. Rydym ni eisiau buddsoddi yn y gwasanaethau hynny, rydym ni eisiau sicrhau bod adeiladwaith ffisegol y gwasanaethau'n ddigonol i gleifion, ac edrychwn ymlaen at allu cymeradwyo'r cynigion y bydd y bwrdd iechyd yn eu cyflwyno er mwyn gwneud hynny.
Prif Weinidog, bu cynnydd sylweddol, sydd i'w groesawu'n fawr yn ddiweddar yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion, a fydd yn helpu llawer o bobl ifanc yn Nyffryn Clwyd a thu hwnt. Gwyddom mai gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion sy'n gyfrifol am atal salwch meddwl ac ymyrraeth gynnar yn y ffordd fwyaf effeithiol. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i hwyluso'r gwaith o hyfforddi a recriwtio cynifer o gwnselwyr ysgol newydd â phosibl?

Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am hynna, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai'r cymorth gorau y gallwch ei gynnig, yn enwedig i bobl ifanc, ym maes iechyd meddwl yw'r ymyrraeth gynnar ac ataliol hwnnw sy'n rhoi iddyn nhw y cyngor sydd ei angen arnyn nhw. Mae'n caniatáu iddyn nhw gyfarfod ag oedolyn y gallan nhw ymddiried ynddo sydd â'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ymateb i'w hanghenion, a dyna'n union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £10 miliwn arall yn ychwanegol at yr hyn sydd yno nawr i wella ac ehangu'r ddarpariaeth gwnsela mewn ysgolion, a gwnawn hynny oherwydd gwyddom ei fod yn effeithiol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y ceir ffigurau ar ei chyfer, cafodd 10,600 o blant neu bobl ifanc wasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Roedd menywod ifanc yn cyfrif am ddwy ran o dair o'r rhai a oedd yn cael cymorth. Yr oedd 20 y cant o'r holl blant a gafodd gymorth gan y gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion ym mlwyddyn 10, felly'n wynebu arholiadau, gyda'r holl bryder y gwyddom ei fod yn cyd-fynd â hynny. Ond, yn hollbwysig, nid oedd angen atgyfeirio 87 y cant o'r plant a'r bobl ifanc a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth. Mewn geiriau eraill, roedd y cymorth a gawsant yn ddigonol i ddiwallu eu hanghenion. Dyna pam, i blant ac i oedolion, yr ydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar fuddsoddi mewn gwasanaethau haen 0 a haen 1—gwasanaethau nad oes angen ichi ymuno â rhestr aros er mwyn eu cael, gwasanaethau y gallwch eu cael ar unwaith, naill ai drwy sefydliadau'r trydydd sector neu, yn achos y cwestiwn a godwyd gan Ken Skates, drwy rywun yn hunangyfeirio at wasanaeth cwnsela mewn ysgolion. Os gallwch wneud hynny, os gallwch ei wneud yn gynnar a'i wneud yn effeithiol, yna nid oes angen y gwasanaethau mwy dwys ac, yn anochel, sydd o dan fwy o bwysau ar y bobl ifanc hynny ymhellach i fyny'r gadwyn.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i estyn croeso cynnes i gydweithwyr yn yr oriel o Bacistan, sydd wedi dod yma o un o'r cynulliadau rhanbarthol ac yn gwylio ein trafodion heddiw?
Prif Weinidog, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei hymrwymiad, a wnaed tua saith mlynedd yn ôl, i ddileu'r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc yn y sector gofal yma yng Nghymru?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod nifer o resymau y tu ôl i'r ffaith anffodus honno. Yr un mwyaf yw ein bod yn tynnu gormod o blant oddi wrth eu teuluoedd yma yng Nghymru. Mae hwn yn bwynt yr wyf wedi ceisio'i wneud ers imi fod yn Weinidog iechyd ac yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol. Rydym yn mynd â phlant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru ar ddwywaith y gyfradd y mae plant yn cael eu cymryd i ofal yn Lloegr, a chanlyniad hynny yw bod ein hawdurdodau lleol yn canfod bod eu holl gyllidebau, yr holl staff sydd ganddyn nhw, yn gorfod ymdrin â nifer y plant sydd eisoes yng ngofal yr awdurdod lleol hwnnw, a phan fydd anghenion newydd yn codi a phan fydd yn rhaid rhoi sylw i blant, nid oes y capasiti yno i ymateb yn y ffordd yr hoffem ni.
Rydym wedi cael ymgyrch ar y cyd ag awdurdodau lleol dros y tair blynedd diwethaf i geisio mynd i'r afael â'r duedd hon a'i gwrthdroi. Mae hon yn duedd dros 20 mlynedd a mwy o bosibl, Llywydd. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r gyfradd y mae plant yn cael eu cymryd oddi wrth deuluoedd yng Nghymru yn cynyddu. Mae hynny'n rhoi gwasanaeth gwael i'r plant hynny ac mae'n rhoi gwasanaeth arbennig o wael i'r teuluoedd hynny sy'n chwilio am gymorth ataliol gan adran gwasanaethau cymdeithasol, sy'n canfod nad oes y capasiti i wneud hynny oherwydd bod y system ofal eisoes yn llawn o blant.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n mynd yn groes i'r duedd hon, sy'n llwyddo i leihau nifer y plant a gofalu amdanyn nhw yn ddiogel mewn ffyrdd eraill. Rwy'n cymeradwyo yn arbennig hanes Cyngor Sir Gâr, sydd ag hanes 20 mlynedd o allu cadw'r niferoedd yn mynd i gyfeiriad gwahanol, ac yn fwy diweddar, gweithredoedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sydd wedi lleihau'n sylweddol nifer y plant y maen nhw yn eu cymryd i mewn i'r system ofal, gan ryddhau adnoddau i helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd. Os na wnewch chi hynny, yna mae'r system o dan gymaint o bwysau fel ei bod, pan fydd plant yn dod i mewn i'r system, yn ei chael yn anodd darparu'r cymorth uniongyrchol sy'n angenrheidiol ar eu cyfer.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond y gwir amdani yw bod addewid wedi'i wneud saith mlynedd yn ôl, yn 2015, a thynnwyd sylw at rywfaint o'r ateb a roesoch imi heddiw ynghylch amlygu arferion da mewn awdurdodau lleol fel sir Gaerfyrddin, fel Castell-nedd Port Talbot, yn rhan o ddatganiad y Llywodraeth bryd hynny ynghylch sut yr ydych yn ysgogi arfer da drwy awdurdodau lleol i gael gwared ar y defnydd o lety gwely a brecwast a llety anaddas arall. Dyma ni, saith mlynedd yn ddiweddarach, ac nid yw'r ymrwymiad hwnnw wedi'i gyflawni.
Tynnir sylw at ganlyniadau'r diffyg cyflawni hwnnw yn yr adroddiad y mae BBC Cymru yn ymdrin ag ef heddiw, ac yn arbennig geiriau Gemma, pan ddywedodd bod dynion hŷn wedi camfanteisio arni pan oedd yn ifanc cyn iddi gael ei chymryd i ofal yn 14 oed, pan oedd wedi mynd yn gaeth i heroin. Roedd hi wedi newid aelwyd 12 gwaith erbyn iddi fod yn 15 oed. Dywedodd hi:
'Dydw i erioed wedi dadbacio'n llawn yn unman. Nid oes neb byth yn fy nghadw'n hir iawn beth bynnag.'
Sut y gall Gemma neu unrhyw un o'r 50 o bobl ifanc eraill yng Nghymru sydd wedi'u lleoli mewn llety gwely a brecwast, hosteli neu westai pris rhesymol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu yn wir unrhyw un o'r 285 o bobl ifanc mewn llety nad yw'n cael ei reoleiddio gan y corff gwarchod gofal, fod ag unrhyw ffydd bod y llety y maen nhw'n cael eu lleoli ynddo yn ddiogel pan glywch chi straeon fel un Gemma?

Mae honna'n stori ofidus, Llywydd, ond mae'n adlewyrchu'n union y pwynt a wnes i'n wreiddiol y byddai plant fel Gemma wedi cael gwell gwasanaeth pe bai'r system wedi buddsoddi mewn camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i atal y stori drist iawn yna am yr hyn sy'n digwydd i blant pan gânt eu tynnu i mewn i system nad oes ganddi'r gallu i ymateb yn iawn i'w hanghenion. Mae'n ddrwg gennyf ddweud, Llywydd, fod y sgyrsiau gyda gormod o awdurdodau lleol wedi bod yn rhy anodd ar y pwnc hwn dros y cyfnod estynedig hwnnw. Mae awdurdodau lleol, er gwaethaf popeth a ddywedwyd wrthyn nhw, er gwaethaf yr holl gyngor a gânt—ac nid ydyn nhw'n brin o gyngor. Mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn yn hynny o beth. Ceir adroddiadau y mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi'u llunio, fod cyngor annibynnol wedi'i gomisiynu i awdurdodau lleol i ddangos iddyn nhw sut y gallan nhw wneud hyn yn well, ac eto mae gennym awdurdodau lleol mewn rhannau o Gymru sydd, bob blwyddyn, yn llwyddo i ddod o hyd i bethau sy'n symud i'r cyfeiriad arall. Mae mwy y gallan nhw ei wneud, mae mwy y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud er mwyn gallu darparu gwell canlyniadau i'r bobl ifanc hynny.
Rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig, Llywydd, i roi'r niferoedd hynny yn eu cyd-destun. Maen nhw'n rhy uchel, yn sicr nid wyf i eisiau eu gweld, ond o'u cymharu â'r 50 o bobl y soniodd arweinydd yr wrthblaid amdanyn nhw, gadawodd 662 o bobl ifanc ofal yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, ac o'r 662 hwnnw, aseswyd bod 95 y cant o 628 ohonyn nhw yn rhai mewn llety addas ar y diwrnod pan ddaeth eu profiad gofal i ben. Felly, mae'r system yn dal i lwyddo i ymateb i anghenion y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n cael eu tynnu i mewn iddi, ond yr ateb ar gyfer gwneud yn well yw gwneud pethau'n wahanol, nid dim ond gwneud mwy a mwy o'r un pethau.
Prif Weinidog, gwnaeth y Llywodraeth yn 2015 yr ymrwymiad hwnnw, yn amlwg, i ddiddymu'r defnydd o lety gwely a brecwast, hosteli a gwestai pris rhesymol. A ydych chi yn dal i gadw at yr ymrwymiad hwnnw? Rwy'n sylweddoli bod saith mlynedd wedi mynd heibio, ond a yw'n dal yn flaenoriaeth gan y Llywodraeth i gadw at yr ymrwymiad hwnnw? Ac os yw'n flaenoriaeth gan y Llywodraeth i gadw'r ymrwymiad hwnnw, a wnewch chi ymrwymo heddiw, yn yr amser sydd gennych ar ôl yn Brif Weinidog, i sicrhau bod yr ymrwymiad hwnnw'n cael ei weithredu, fel y gall plant fel Gemma fod â ffydd yn y system i ofalu amdanyn nhw pan fyddan nhw'n cael eu rhoi yn ei gofal?

Rwy'n awyddus iawn i weld sefyllfa, Llywydd, pan nad yw pobl ifanc yn derbyn gofal o dan yr amgylchiadau anfoddhaol iawn hynny. Ers etholiadau mis Mai diwethaf, rwyf wedi bod yn cyfarfod, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Julie Morgan, ag arweinwyr yr awdurdodau sydd newydd eu cyfansoddi. Un o fy negeseuon i'r arweinwyr hynny yw bod hon yn agenda iddyn nhw ac i'w prif weithredwyr, nid yn unig i ddeiliaid portffolio cabinet a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol. Er mwyn inni wneud y gwahaniaeth y mae angen inni ei wneud ym mywydau'r bobl ifanc hynny—gan gofio mai'r awdurdod lleol yw rhiant corfforaethol y bobl ifanc hynny; mae gan bob un aelod o'r awdurdod lleol hwnnw gyfrifoldeb dros bob un o'r bobl ifanc hynny—yna rhaid i hynny fod yn gyfrifoldeb swyddfa'r arweinydd a'r prif weithredwr. Rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb ar draws yr ystod o wasanaethau.
Soniais yn gynharach, Llywydd, am y llwyddiant y mae sir Gaerfyrddin wedi'i gael yn y maes hwn. Un o'r rhesymau y dywedodd arweinydd sir Gaerfyrddin wrthyf ar y pryd, dros eu llwyddiant, yw eu bod bob amser wedi rhedeg addysg a gwasanaethau cymdeithasol o dan yr un portffolio at y dibenion hyn, does dim synnwyr yn yr hyn sy'n digwydd i blentyn pan fo'r adran addysg, pan fydd pethau'n dechrau mynd yn anodd, yn credu mai cyfrifoldeb yr adran gwasanaethau cymdeithasol ydyw, ac mae'r adran gwasanaethau cymdeithasol yn credu y dylai addysg ymdrin â'r mater. Dyna pam y credaf ei fod yn gyfrifoldeb corfforaethol clir swyddfeydd yr arweinydd a'r prif weithredwr, oherwydd dim ond drwy ysgogi'r cymorth sydd ar gael ar draws yr holl gyfrifoldebau hynny—ac mae hynny'n cynnwys tai, wrth gwrs, hefyd—y byddwn yn gallu gwneud y gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc yr ydym eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau ar draws y Siambr eisiau ei weld.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Ddoe, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, na fyddai'r Deyrnas Unedig yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, y farchnad sengl Ewropeaidd na'r undeb tollau pe bai Llafur yn dychwelyd i rym. A ydych chi'n cytuno â'r polisi hwnnw, Prif Weinidog, ac ai dyma'r polisi gorau i bobl Cymru?

Wel, rwy'n cytuno, Llywydd, fod y byd wedi symud ymlaen. Nid yw'r Deyrnas Unedig bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n destun gofid i lawer ohonom yn y Siambr hon, ond mae'n dal yn ffaith. Ni allaf gofio sawl gwaith y dywedais yma, ar ôl cynnal y refferendwm, nad oedd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar Brexit fel ffaith oherwydd yr oedd hynny wedi'i benderfynu mewn refferendwm, ond ar y ffordd y gwnaethom ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r araith a roddwyd gan arweinydd y Blaid Lafur yn canolbwyntio ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, perthynas lle nad ydym bellach yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. A bydd yn rhaid inni weithio'n galed iawn i atgyweirio'r niwed a wnaed i'r berthynas honno, sy'n parhau i gael ei wneud bob dydd, gan y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn San Steffan.
Rydych chi wedi ateb rhan gyntaf fy nghwestiwn, ond a wnewch chi ddweud yn benodol a ydych yn cefnogi safbwynt y Blaid Lafur yn awr sef i beidio ag ailymuno â'r farchnad sengl neu'r undeb tollau? Ddoe, dywedodd Sadiq Khan, maer Llundain, fod adegau pan fydd yn barod i anghytuno ag arweinydd y Blaid Lafur, pan fydd yn credu bod gwneud hynny er budd y bobl y mae'n eu cynrychioli yn rhinwedd ei swydd yn faer Llundain. Felly, yn yr un modd, beth yw eich safbwynt chi fel Prif Weinidog Cymru? Rydych chi wedi dweud o'r blaen:
'Ni allwn ganiatau i rannau o’r Deyrnas Unedig gael eu trin yn fwy ffafriol nag eraill. Os yw un rhan o’r DU yn cael aros yn rhan o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, yna rydym ninnau hefyd yn llawn ddisgwyl cael yr un cynnig'
yma yng Nghymru. A ydych chi wedi newid eich meddwl neu a yw araith Syr Keir ddoe wedi'i newid i chi?

Dyma fy safbwynt i, Llywydd, a dyma safbwynt Llywodraeth Cymru: rydym o blaid y fasnach ddiffrithiant agosaf bosibl gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r syniad y gallwch chi fynd yn ôl i'r farchnad sengl neu'r undeb tollau yn rhywbeth ffansïol. Efallai y byddem yn dymuno y gallem ni, ond ni allwn wneud hynny. Nid ydym bellach yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r amodau ar gyfer gneud hynny yn bodoli.
Mae'r ffynnon wedi'i gwenwyno yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n parhau i gael ei gwenwyno gan y ffaith bod gennym Lywodraeth sy'n barod i dorri cyfraith ryngwladol ac i ddiystyru'r cytundebau y mae wedi ymrwymo iddyn nhw ei hun a'u canmol fel bargen y dylai pobl bleidleisio drosti mewn etholiad cyffredinol. Nid yw'r syniad y gallech ailymuno â rhywbeth sydd wedi symud ymlaen, a phryd nad yw'r gwahoddiad i ailymuno yn bodoli, yn sail i bolisi synhwyrol.
Yr hyn a nododd Keir Starmer ddoe, Llywydd, oedd dull gwahanol pan fydd Llywodraeth Lafur yn ailnegodi perthynas wahanol iawn â'n partneriaid masnachu agosaf a phwysicaf; perthynas sy'n seiliedig ar barch—parch sydd ar goll mor ddirfawr yn y ffordd y mae'r Llywodraeth bresennol yn trin y partneriaid hynny—a pherthynas a fydd yn sicrhau'r fasnach ddiffrithiant agosaf bosibl i fusnesau ledled y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru. Mae hynny'n bosibilrwydd realistig.
Nid yw'r syniad, mewn ystyr cymdeithas ddadlau, y dylem ddweud y dylem ailymuno â rhywbeth nad yw ar gael mwyach i ni ymuno ag ef yn ymddangos i mi fel y math o bolisi a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth yr hoffem ni ei wneud mewn gwirionedd.
Gyda pharch, cawsom y ddadl hon, oni chawsom ni, pan wnaethom ni gyflwyno'r Papur Gwyn ar y cyd, lle, ie, yr ymadrodd y penderfynwyd arno yn y pen draw oedd 'mynediad dilyffethair i'r farchnad sengl'? Nid dyna'r sefyllfa y mae Keir Starmer bellach wedi'i nodi.
Un enghraifft o'r ffordd y mae Cymru ar ei cholled o fod y tu allan i'r farchnad sengl, sef polisi'r Blaid Lafur erbyn hyn, yw'r hyn sydd wedi digwydd ym mhorthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Phenfro. Fel y rhagwelodd eich Llywodraeth, mae porthladdoedd Cymru, yn amodol ar bwysau llawn y rhwystrau newydd o ran masnachu, wedi colli busnes oherwydd bod llongau'n hwylio'n uniongyrchol i Ewrop o'r Weriniaeth a hefyd, drwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon sydd ar hyn o bryd yn mwynhau cyfnod gras amhenodol i allforio drwy'r Alban. Mae hi'n fwy deniadol nawr i anfon nwyddau o'r Weriniaeth i Belfast ac ymlaen i'r Alban nag yw hi i'w hallforio drwy Gymru.
Nawr, bydd y 'parth glanio' fel y'i gelwir ar gyfer gweithredu protocol Gogledd Iwerddon, gan eu heithrio o'r rhan fwyaf o'r gwiriadau gofynnol, a nodwyd gan arweinydd eich Plaid Lafur ddoe yn gwneud yr anfantais honno i borthladdoedd Cymru yn barhaol, a bydd yn gwneud yr un peth i amaethyddiaeth Cymru ac i weithgynhyrchu yng Nghymru. A ymgynghorodd â chi cyn ei araith? Pe bai'n gwneud hynny, a wnaethoch chi rybuddio am y risgiau amlwg i ddyfodol porthladdoedd Cymru y mae hyn yn eu cynrychioli?

Gadewch imi wneud y ddau bwynt yma i ddechrau gydag arweinydd Plaid Cymru: yn gyntaf oll, mae'n gwbl gywir, wrth gwrs, ein bod, yn 'Sicrhau Dyfodol Cymru' wedi dadlau dros adael yr Undeb Ewropeaidd ar y sail y byddem yn aros yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl, ond yr oedd hynny cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bryd hynny, yr oedd hwnnw'n bolisi cwbl gredadwy, ac, mewn gwirionedd, daeth Theresa May yn eithaf agos at allu ei gyflwyno mewn gwirionedd yn ei chyfarfod yn Chequers cyn i'r Prif Weinidog presennol gerdded allan o'i Chabinet.
Yn anffodus, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ers hynny, ac i ddychmygu bod yr amodau y gwnaethom ni eu cyflwyno o dan yr amgylchiadau hynny ar gael inni heddiw—. Rwyf yn dweud wrth arweinydd yr wrthblaid nad yw yno i'w gyflawni. Felly, er fy mod yn cytuno â'r hyn y mae'n ei ddweud am y niwed sy'n cael ei wneud i borthladdoedd Cymru ac i fusnesau Cymru, y broblem sydd ganddo yw ei fod yn hybu ateb nad yw ar gael iddo.
Gan ddychwelyd i'r farchnad sengl, nid yw fel gadael Plaid Cymru a chytuno i ymuno â hi eto y flwyddyn nesaf. [Torri ar draws.] [Chwerthin.] Dyna ni; rŷn ni'n gwybod. Gwelwn pa mor hawdd y gellir gwneud hynny. Nid yr un math o fenter yw meddwl y gallwch chi gerdded yn ôl i gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, flynyddoedd ar ôl inni adael, gyda chytundeb masnach a chydweithredu eisoes ar waith—. Ac mae hynny'n gyfreithiol rwymol. Dyna sut y byddwn yn ei ystyried. Gwn nad yw'r Torïaid yn ei ystyried felly, ar ôl ymrwymo iddo, ond mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn gytundeb a lofnodwyd mewn cyfraith ryngwladol. I ddweud y gallwch chi gerdded yn ôl at ddeddfau'r farchnad sengl a'r undeb tollau fel pe na bai'r cytundeb rhyngwladol hwnnw erioed wedi'i gytuno.
Dyma yr hoffem ni ei weld fel Llywodraeth. Rydym ni eisiau gweld camau adeiladol, a dim ond os ydych chi yn yr ystafell gyda'ch gilydd yn siarad y gallwch gael camau adeiladol, i drwsio protocol Gogledd Iwerddon. Rydym eisiau gweld y rhwystrau masnach diangen hynny'n cael eu lleihau ac rydym eisiau sicrhau mynediad i'r rhaglenni hynny ar y cyd, yn enwedig Horizon 2020, y dywedodd Llywodraeth y DU hon ei bod wedi'i negodi fel rhan o'r fargen pan wnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd. Rhoddwyd yr holl bethau hynny gerbron Llywodraeth y DU ddoe, gan fy nghyd-Aelod Vaughan Gething, mewn cyfarfodydd gyda nhw. Mae'r holl bethau hynny'n ymddangos yn yr araith a wnaed ddoe gan Keir Starmer. Yr hyn y mae gan arweinydd y Blaid Lafur ddiddordeb ynddo yw adlinio'n wirioneddol ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, yn seiliedig ar y gwirioneddau sy'n ein hwynebu, yn hytrach na meddyliau hudol, mae arnaf ofn.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OQ58305

Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cafodd pecyn cymorth gwerth £48 miliwn arall ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Cymorth yw hwn i gefnogi'r broses o adfer gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru, ac ardaloedd eraill, yn dilyn y pandemig. Bydd mesurau i ddiwygio'r diwydiant a dad-wneud y niwed o ddadreoleiddio yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd.
Diolch, Prif Weinidog. Mae darparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy, gyfleus a dibynadwy yn hanfodol, wrth gwrs, os ydym ni am wella mynediad i addysg, cyflogaeth, gwasanaethau cyhoeddus a hamdden, a chreu'r gymdeithas fwy llewyrchus, wyrddach a mwy cyfartal yr ydym ni i gyd yn dymuno ei gweld, yn enwedig o gofio nad oes gan 20 y cant o aelwydydd yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, gar, sy'n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru o 13 y cant, ac mewn rhannau o fy rhanbarth i fel cymoedd Afan neu Abertawe, gall y ffigur hwn fod hyd yn oed yn uwch. Felly, byddai rhywun yn disgwyl y byddai cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer metro bae Abertawe yn datblygu'n gyflym i wella'r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus eithriadol o wael yn y cymunedau hyn yn y Cymoedd gorllewinol. Ond, nid yw hyn yn wir o gwbl, ac mae bylchau sylweddol yn y mapiau a amlinellwyd yn niweddariad diwethaf y Llywodraeth ar gynlluniau'r metro. Rwy'n croesawu'n gyffredinol y cynlluniau ar gyfer y metro yn ogystal â rhai o'r mesurau a amlinellir yn y Papur Gwyn ar fysiau, ond mae'r rhain flynyddoedd i ffwrdd o gael eu cyflwyno, ac yn achos y metro, mae'n debyg, ni fydd yn arwain at well cysylltedd ar gyfer holl gymunedau'r Cymoedd gorllewinol. A yw'r Prif Weinidog yn addo, felly, i gynnwys ardaloedd fel cymoedd Afan ac Abertawe yng nghynlluniau metro'r Llywodraeth yn briodol a hwyluso'r cynlluniau hynny i sicrhau nad yw fy etholwyr yn cael eu gadael ar ôl? Diolch.

Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn rhai o'r cymunedau yn ei rhanbarth, ond nid wyf yn credu ei bod yn cynnig disgrifiad teg inni o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan fetro bae Abertawe. Mae'r rhaglen eleni, er enghraifft, yn cynnwys astudiaethau achos busnes ac astudiaethau dichonoldeb i ddarparu pedwar trên ychwanegol yr awr rhwng Pontarddulais ac Abertawe, gan fynd drwy Gastell-nedd, a hyd at chwe gorsaf newydd ar draws maestrefi gogledd Abertawe. Bydd prosiect bws hydrogen bae Abertawe yn cael ei gaffael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Dyna gaffael rhwng 20 a 40 o fysiau celloedd tanwydd hydrogen i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth, a'r depo y bydd ei angen er mwyn eu gwasanaethu. Bydd trenau CAF newydd sbon yn rhedeg yn rhanbarth metro bae Abertawe erbyn diwedd eleni, ac mae'r gronfa drafnidiaeth leol, sy'n cyd-fynd â chynigion y metro, yn ariannu adfywiad canolfan drafnidiaeth Castell-nedd. Rydym ni i gyd yn dymuno y gallem wneud mwy; rydym ni i gyd yn dymuno y gallem fynd yn gyflymach. O fewn cyfyngiadau'r gyllideb sydd gennym ni, rwy'n credu bod yna gamau gweithredu gwirioneddol ac uniongyrchol y mae prosiect metro Bae Abertawe a gorllewin Cymru yn eu cymryd, a byddan nhw'n cyfrannu at y system drafnidiaeth integredig honno y gwyddom ei bod yn bwysig, yn ardal Abertawe ei hun ac yn ei chefnwlad hefyd.
Prif Weinidog, rwyf wedi credu ers tro byd y gall sefydliadau fel colegau addysg bellach weithredu fel sefydliadau angori sy'n helpu i sbarduno gwelliant economaidd yn eu rhanbarthau. Mae cynlluniau campws newydd Coleg Penybont yn enghraifft o hyn, lle gellir defnyddio cyfleusterau hyfforddi newydd i gefnogi'r agenda economaidd ehangach. Fodd bynnag, er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i anghenion trafnidiaeth gyhoeddus y rhai a fydd yn defnyddio'r campws. Beth ydych chi yn ei wneud i sicrhau bod penderfyniadau strategol allweddol fel hyn yn cyd-fynd â'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i wireddu'r manteision yr ydym i gyd eisiau eu gweld? Diolch.

Mae'r rheini'n bwyntiau pwysig y mae Altaf Hussain yn eu gwneud am natur angori'r sefydliadau mawr hynny. Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles yn glir gyda'r awdurdodau lleol hynny ac agweddau eraill ar y system addysg bellach sy'n cymryd rhan yn ein rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain na fydd y cynigion hynny'n cael eu cymeradwyo yn y dyfodol oni bai bod cynllun teithio llesol i gyd-fynd â'r cynigion ar gyfer adeiladau ffisegol. Rwy'n credu fy hun, yn rhy aml yn y gorffennol, y bu rhai o'r datblygiadau hynny—cyfleusterau gwych ynddyn nhw eu hunain, cyfleusterau gwych ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ond heb yr agweddau ychwanegol hynny'n cael eu cynllunio yn y ffordd sylfaenol honno. Os ydyn nhw'n mynd i lwyddo yn y dyfodol o ran eu natur angori, yna mae'n rhaid i'r trefniadau trafnidiaeth hynny yn ôl ac ymlaen i'r datblygiadau fod yn rhan o'r cynigion o'r cychwyn cyntaf, nid pethau a gaiff eu hystyried ar ôl i'r safle gael ei nodi a'r adeilad wedi'i greu.
Mae'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y pandemig wedi galluogi ein system trafnidiaeth gyhoeddus i ddod drwodd, er ei bod wedi'i tharo gan ddigwyddiadau, ond mae'n barod i symud ymlaen i'r cam nesaf, a fydd yn cynnwys gwelliannau ac estyniadau i wasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys ar linell Maesteg, deddfu i ddychwelyd pŵer i'r bobl dros fysiau ac integreiddio'r dulliau hyn yn well gyda'i gilydd hefyd. Ond mae hyn i gyd, Prif Weinidog, yn cael ei wneud drwy weithio gyda phartneriaid allan yna, a chyn bwysiced ag unrhyw bartner, gweithio gyda'r gweithwyr eu hunain—y gweithwyr sy'n cadw'r olwynion yn troi ar y trenau a'r bysiau, yn cadw'r gorsafoedd ar waith a'r teithwyr yn symud ymlaen. Dyma yr ydym yn ei alw'n bartneriaeth gymdeithasol. Felly, Prif Weinidog, gan nodi bygythiadau diweddaraf bechgyn Bullingdon Llywodraeth y DU i danseilio ein dull partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, sut y bydd hyn yn effeithio ar ein hymdrechion i wella trafnidiaeth gyhoeddus pan fyddan nhw'n wynebu'r bygythiad hwn?

Atebais gwestiwn yn gynharach gan yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, a gyfeiriodd at y cynnydd presennol mewn achosion o'r coronafeirws yng Nghymru. Nid wyf yn credu ei bod yn cael ei chydnabod yn aml mai'r grŵp unigol o weithwyr yn y boblogaeth yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan coronafeirws oedd gweithwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Roeddech chi'n fwy tebygol o fynd yn sâl, ac yn wir yn fwy tebygol o gael canlyniadau mwy difrifol coronafeirws, fel gyrrwr bws nag unrhyw alwedigaeth arall. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ogwr—fod ein gallu i gadw'r gwasanaethau hynny i fynd yn ystod y pandemig yn dibynnu ar y berthynas waith agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyrff hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, a bod hynny, yn ei dro, yn dibynnu'n drwm ar y trefniadau partneriaeth gymdeithasol hynny. Gwnaeth cyngor partneriaeth gymdeithasol Cymru gyfarfod bob pythefnos yn ystod y pandemig mewn cyfarfodydd â phwyslais gwirioneddol lle yr oeddem yn gallu gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion i rai o'r heriau sy'n ein hwynebu i gyd. Roedd ein cydweithwyr yn yr undebau llafur yn hanfodol i'r ymdrech honno. Roedden nhw'n gallu adrodd i'r cyfarfodydd hynny am brofiadau rheng flaen eu haelodau, ac yna caniatáu i lywodraethau—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, cyflogwyr hefyd—gymryd y camau angenrheidiol i ymateb i'r profiadau hynny.
Cynlluniwyd ein Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017, a basiwyd yma yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, i atgyfnerthu'r perthnasoedd gwaith cadarnhaol hynny. Y bobl a ddaeth i roi tystiolaeth yn y pwyllgor o blaid ein cynigion oedd cyflogwyr—pobl a ddaeth i egluro pam y mae cael perthynas sy'n gweithio'n iawn gydag undeb llafur yn eu galluogi i wneud y swyddi y mae angen iddyn nhw eu gwneud. Ni allaf ddychmygu y gall y Blaid Geidwadol gyfeirio at un enghraifft lle mae'r ddeddfwriaeth honno wedi creu anawsterau yn hytrach nag atebion i ni yma yng Nghymru. Dyna pam y mae mor siomedig eu gweld nhw, yn y ffordd filain ideolegol honno, yn ceisio gwrthdroi'r penderfyniadau a wnaethpwyd yma ar lawr y Senedd hon o fewn y pwerau sydd gan y Senedd hon i weithredu. Byddwn yn parhau i amddiffyn ein safbwynt mewn cysylltiad â phartneriaeth gymdeithasol, ac edrychaf ymlaen at weld ein partneriaeth gymdeithasol a'n Bil caffael cyhoeddus ar eu hynt drwy'r Senedd, er mwyn atgyfnerthu ymhellach ein gallu i wneud y swyddi anodd hynny a chefnogi'r bobl hynny sy'n eu cyflawni nhw ar ein rhan ni yn union fel y mae Huw Irranca-Davies wedi awgrymu.
4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynyddu nifer y disgyblion sy'n teithio i'r ysgol ar feic, ar sgwter neu drwy gerdded? OQ58328

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r arolwg Dwylo i Fyny, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi darparu asesiad cenedlaethol o'r ffordd y mae plant ysgol gynradd yn teithio i'r ysgol. Bydd yr astudiaeth ddilynol yn dangos graddau'r gwelliant mewn teithio llesol yn y cyd-destun ar ôl y pandemig.
Yr wythnos diwethaf clywsom nad yw rhai disgyblion yn mynychu'r ysgol oherwydd na all teuluoedd fforddio'r tocyn bws. Yn amlwg, mae hynny'n enghraifft o ddifrifoldeb argyfwng costau byw'r Torïaid. Yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd a rhai o'r digwyddiadau trasig yr ydym wedi darllen amdanyn nhw yn ystod y dyddiau diwethaf, gobeithiaf y gallwn gytuno nad trefnu mwy o drafnidiaeth bws rhatach yw'r ateb i ardaloedd trefol fel y rhai yr ydych chi a minnau'n eu cynrychioli. Mae'r adroddiad grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dweud nad yw cyfraddau teithio llesol wedi cynyddu ers i Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gael ei phasio bron i ddegawd yn ôl. Ac felly, pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyflymu llwybrau diogel i'r ysgol, datblygu beicwyr cymwys mewn ffordd ddwysach mewn ysgolion cynradd, a chynllun benthyg beic, fel yr un y mae aelodau staff sy'n cael eu cyflogi gan y Senedd yn ei fwynhau, fel y gall teuluoedd fuddsoddi mewn dulliau cynaliadwy o deithio y gallan nhw eu defnyddio yn eu hamser hamdden yn ogystal â theithio i'r ysgol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Efallai y dylwn i ddatgan buddiant ar hyn o bryd, oherwydd rwyf i'n defnyddio beic trydan y dyddiau hyn, sydd gennyf am bythefnos fel rhan o gynllun gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i bobl roi cynnig ar wahanol fathau o drafnidiaeth i weld a ellir eu gwneud yn ddefnyddiol, ac mae wedi bod yn brofiad da iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Diolch i'r grŵp trawsbleidiol am eu hadroddiad, sy'n ddefnyddiol iawn. Gan feddwl yn benodol am ardaloedd trefol, fel y gofynnodd cwestiwn Jenny Rathbone imi, rwy'n cytuno â hi mai'r mesurau teithio llesol y mae'r Llywodraeth hon yn eu cefnogi yw'r ateb. Dros y ddwy flynedd nesaf, y tu hwnt i hon, felly tair blynedd i gyd, byddwn yn buddsoddi £220 miliwn mewn gwelliannau teithio llesol.
Rwyf wedi bod yn cymeradwyo rhai awdurdodau lleol y prynhawn yma, Llywydd, felly gadewch imi gymeradwyo Caerdydd fel awdurdod lleol yn hyn o beth. Mae gan dros 100 o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd gynlluniau teithio llesol. Mae gan 14 o ysgolion gynlluniau Strydoedd Ysgol eisoes, ac i Aelodau nad ydyn nhw, efallai, mor gyfarwydd â hynny oherwydd nad ydyn nhw eto ar waith yn eu hardaloedd eu hunain, sy'n caniatáu i awdurdod lleol gau ffyrdd o amgylch ysgol yn yr awr neu ddwy cyn i'r ysgol ddechrau ac yn yr awr neu ddwy ar ôl i'r ysgol ddod i ben. Felly, mae 14 o ysgolion yng Nghaerdydd eisoes yn gwneud hynny, ac mae mwy i ddod i mewn eleni.
Yn yr ysgolion hynny lle mae cynlluniau teithio llesol yn cael eu rhoi ar waith, mae'r ffigurau'n awgrymu bod teithio llesol yn cynyddu—felly, plant sy'n cerdded neu'n beicio i'r ysgol—o 59 y cant i 82 y cant. A phan oeddwn, ym mis Mai, yn gallu ymweld ag Ysgol Gynradd Trelai yn fy etholaeth i, un o'r pethau gwych, Llywydd, oedd gweld y cynllun beicio sy'n cyd-fynd â'u cynllun teithio llesol: gostyngiad o 30 y cant yn nifer y rhieni sy'n hebrwng eu plant i'r ysgol mewn ceir a 100—gadewch imi sicrhau bod y ffigur hwnnw gennyf yn gywir—o feiciau ar gael i blant yn yr hyn sy'n rhan ddifreintiedig o'r ddinas i'w defnyddio, ac a ddarperir gan yr ysgol ei hun, gyda hyfforddiant hyfedredd beicio i'r plant hynny hefyd. A phan roddwch becyn o fesurau at ei gilydd yn y ffordd honno a bod gennych ymrwymiad yr awdurdodau ysgol, fel y gwelwyd yn sicr yn achos Ysgol Gynradd Trelai, yna mae gennych rysáit sydd, yn fy marn i, yn dangos ei bod yn bosibl cynyddu nifer y teithiau ysgol a wneir ar droed, ar feic neu ar sgwter, yn hytrach na dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar y car.
5. Pa ganlyniadau y mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio eu cyflawni o'r cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Ngogledd Cymru? OQ58318

Diolch i Carolyn Thomas, Llywydd. Mae'r cynllun treialu yn brosiect radical ac arloesol sy'n cynnig sefydlogrwydd ariannol i dros 500 o bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru. Mae bron i 100 o bobl ifanc yn y gogledd yn gymwys ar gyfer y cynllun treialu, a bydd hyn yn eu galluogi i wneud dewisiadau cadarnhaol yn unol â'r gobeithion a'r uchelgeisiau sydd ganddyn nhw ar gyfer eu bywydau eu hunain.
Diolch. A gaf i ddechrau drwy groesawu'r treial hwn a diolch i fy nhgyd-Aelod Jack Sargeant am y gwaith sylfaenol y mae wedi'i wneud i'w wireddu? Gall gorbryder a thrafferthion ariannol fod yn llafurus ac atal pobl rhag ffynnu neu fyw bywydau iach a hapus. Gallai sefydlogrwydd ariannol olygu'r gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n gadael gofal yn dysgu sgiliau newydd, yn gallu fforddio rhwydweithio a chymdeithasu a magu hyder a bod yn hapus. Nid yw bob amser yn hawdd mesur y pethau hyn, ond maen nhw'n eithriadol o bwysig, serch hynny, yn enwedig i bobl ifanc, a allai gael budd gwirioneddol o gymorth emosiynol a rhywun y gallan nhw ymddiried ynddo i droi ato.
Pa gyngor a chymorth gofalu y bydd y rhai sy'n gadael gofal yn gallu cael gafael arnyn nhw? A sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur canlyniadau'r treial, gan gynnwys metrigau nad ydyn nhw'n rhai economaidd, fel hapusrwydd a llesiant? Diolch.

Diolch i Carolyn Thomas am hynna, Llywydd. Un o nodweddion nodedig cynllun treialu Llywodraeth Cymru yw nad yw dim ond yn cynnig incwm i bobl ifanc. Mae'r incwm yn bwysig iawn oherwydd ei fod wedi'i warantu ac mae'n ddibynadwy. Roeddwn yn siomedig o weld ymateb Ceidwadwyr Cymru i'r cynllun treialu. Wrth feddwl am y cwestiynau a ofynnodd arweinydd yr wrthblaid imi'n gynharach, gwyddom, i gynifer o bobl ifanc sy'n gadael gofal, mai sicrhau llety dibynadwy a gweddus yw un o'r prif heriau y maen nhw yn eu hwynebu.
Yn y digwyddiad lansio y bûm ynddo gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt, siaradais yno â menyw ifanc a eglurodd wrthyf ei bod wedi gadael gofal, bod ganddi fflat ei hun a bod y denantiaeth wedi dod i ben, roedd wedi sicrhau fflat arall, ond roedd bwlch o bythefnos rhwng y fflat yr oedd yn rhaid iddi ei adael a'r fflat yr oedd yn mynd i symud i mewn iddo. Dywedodd wrthyf na fyddai angen i bobl ifanc eraill sydd â theuluoedd yn gefn iddyn nhw feddwl am beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau hynny; rydych chi'n gwybod y gallwch fynd adref am gwpl o wythnosau a gallwch ddod i ben rywsut, ac yna pan fydd eich fflat newydd ar gael, byddwch yn symud i mewn. Iddi hi, roedd yn drychineb; roedd hi'n ddigartref pan ddaeth tenantiaeth y fflat cyntaf i ben, ac erbyn i'r denantiaeth nesaf ddod ar gael, effeithiwyd mor wael ar ei bywyd gan y pythefnos hwnnw heb unman i fynd fel nad oedd hi'n gallu ei gymryd o gwbl. Bydd rhoi incwm sylfaenol i bobl ifanc y maen nhw'n gwybod y gallan nhw ddibynnu arno yn eu galluogi nhw i wneud gwahanol fathau o benderfyniadau, penderfyniadau buddsoddi, yn eu dyfodol eu hunain. Ond gan fod hwn yn grŵp o bobl ifanc sy'n agored i niwed, yna, yn ein cynllun, byddan nhw hefyd yn gallu cael cyngor rheolaidd gan y bobl hynny y maen nhw'n eu hadnabod eisoes, sydd wedi bod yn rhan o'u bywydau eisoes ac a fydd yn parhau i fod yn rhan o'u bywydau yn ystod y cyfnod treialu. Felly, pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, ni fyddan nhw yn eu gwneud nhw ar eu pen eu hunain neu heb gymorth, byddan nhw'n yn eu gwneud ochr yn ochr â'r cyngor a'r arweiniad y maen nhw yn eu cydnabod eu hunain y bydd angen iddyn nhw fanteisio arnyn nhw er mwyn gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn awr.
Mae gwerthusiad, amserlen werthuso drylwyr y cytunwyd arni ar gyfer y cynllun treialu. Bydd yn cynnwys ymchwil ansoddol yn ogystal â meintiol. Byddwn yn casglu'r ffigurau, wrth gwrs, ond byddwn hefyd yn casglu profiad bywyd y bobl ifanc hynny yn y cyfweliadau hynny sy'n caniatáu iddyn nhw siarad drostynt eu hunain ac i sicrhau ein bod yn gallu manteisio i'r eithaf o ran dysgu o'r arbrawf y byddwn yn rhoi cynnig arno yma yng Nghymru.
6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i blant ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ58327
Ac rwy'n datgan buddiant yn y cwestiwn hwn a minnau'n dad i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol.

Llywydd, diolch i Hefin David am y cwestiwn. Pan fydd y Senedd yn dychwelyd yr hydref hwn, byddwn wedi cwblhau blwyddyn gyntaf y gwaith tair blynedd a gynlluniwyd ar gyfer gweithredu ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Cefnogir y gweithredu hwnnw gan £21 miliwn bob blwyddyn i sicrhau gwelliannau i wasanaethau.
Ac mae ariannu'r Ddeddf—fel aelod o'r pwyllgor a aeth â hi drwy'r Senedd y tymor diwethaf—yn bwysig iawn. Heb y cyllid hwnnw, yna ni all gyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud. Ond mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r bartneriaeth Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, sydd bellach yn dod i ben ac yn gobeithio gadael gwaddol. Ac un o'r pethau a ddywedais yn fy nadl fer yw, er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â materion ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol, fod angen inni fynd i'r afael ag anghenion plant yn fwy nag y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'u hymddygiad. Yn wir, dywedodd y bartneriaeth plant a phobl ifanc wrthyf eu bod yn argymell symud oddi wrth ddulliau sy'n benodol i gyflwr i un sy'n cymryd dulliau anghenion plant sy'n seiliedig ar gryfderau fel rhai pwysicach. A chredaf, er mwyn hynny, fod angen i'r holl ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol gael ei hanelu ato. Mae'r Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, wedi cytuno i gwrdd â mi i drafod y materion hyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ei bod yn gwrando arnaf. Ond gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r sicrwydd hwnnw inni y bydd iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei gymhwyso i fynd i'r afael ag angen yn hytrach nag ymddygiad yn y dyfodol?

Wel, rwy'n credu bod y rheini'n bwyntiau pwysig iawn, Llywydd. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Hefin David nawr am ddull yn seiliedig ar gryfderau yn y maes hwn. Am gyfnod rhy hir, mae gwasanaethau'n gofyn, fel eu cwestiwn cyntaf, 'Beth sydd o'i le arnoch chi?' ond rwyf i eisiau i'r cwestiwn cyntaf ofyn, 'Pa gryfderau sydd gennych? Pa asedau sydd gennych? Sut y gallwn ni weithio gyda chi, gyda'r cryfderau hynny, i helpu i fynd i'r afael â'r problemau yr ydych yn eu hwynebu ar hyn o bryd? Nid problemau i'w datrys yw pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, Llywydd, maen nhw'n bobl sydd â chryfderau ac asedau yn eu bywydau eu hunain, a gwaith gwasanaeth yw gweithio gyda nhw i ysgogi'r cryfderau hynny fel y gallwn, gyda'n gilydd, greu'r gwahaniaeth hwnnw.
Yfory bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywydd—Julie Morgan—yn cyhoeddi adroddiad cryno ar ganfyddiadau'r adolygiad annibynnol o alw a chapasiti gwasanaethau cyflyrau niwroddatblygiadol, a chredaf y bydd yr adolygiad hwnnw'n ceisio adeiladu ar y cryfderau sydd yn y system bresennol, ond bydd hefyd yn caniatáu inni nodi bylchau a chynnig cyfres o gamau gweithredu ar unwaith. Rwy'n credu y bydd y camau hynny'n tynnu ar lwyddiant y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithio ar draws ffiniau iechyd a gofal cymdeithasol yn y ffordd a awgrymodd Hefin David. A bydd angen i hynny gael cydnabyddiaeth o ehangder niwroamrywiaeth yn y boblogaeth, gan gydnabod bod pob unigolyn yn unigryw a bod angen pwyslais cymesur arnom ar ddiagnosis y mae angen ei gydweddu â phwyslais ar ymateb i angen. Dyna'r pwynt yr wyf yn credu yr oedd yr Aelod yn ei wneud, os nad ydych yn ofalus, mae clinigwyr yn cael eu tynnu i mewn i batrwm o ymateb lle mae'r cwbl yn ymwneud â'r diagnosis, mae'n ymwneud â dadansoddi'r hyn sy'n digwydd a dim digon ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud i helpu pobl sy'n wynebu'r amgylchiadau hynny. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod yn eithaf eang yn awr mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol, a bydd yr adolygiad o'r galw a'r capasiti yn ein helpu i symud y gwasanaethau hynny'n fwy tuag at ddarparu cymorth, yn hytrach na dadansoddi'r broblem.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen caffael seilwaith gwastraff Llywodraeth Cymru? OQ58330

Mae rhaglen gaffael seilwaith gwastraff Llywodraeth Cymru wedi'i chwblhau'n llwyddiannus, gyda'r contract diwethaf wedi'i ddyfarnu yn 2018.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Fel rydych chi wedi sôn, mae'r rhaglen hon wedi bod yn eithaf llwyddiannus o ran helpu i leihau allyriadau carbon drwy ddefnyddio cyfleusterau treulio anaerobig fel dewis amgen ar gyfer trin gwastraff bwyd. Rwy'n ymwybodol hefyd, er yn gymharol fach, fod y cyfleusterau treulio anaerobig yn creu swyddi, o ran adeiladu a chynnal cyfleusterau, a bod ganddyn nhw y gallu i gyflenwi gwrtaith rhatach a mwy cynaliadwy i ffermwyr ar adeg pan fo pris gwrteithiau nad ydyn nhw'n organig ac sy'n seiliedig ar danwydd ffosil yn cynyddu'n gyflym. Gyda hyn mewn golwg, tybed pa gapasiti sydd wedi'i nodi i ehangu'r defnydd o dreulio anaerobig gan awdurdodau lleol at ddibenion prosesu gwastraff bwyd yng Nghymru ac, o bosibl, ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn ail, gan fod cyfleusterau treulio anaerobig yn cyfrannu at greu economïau cylchol newydd yng nghefn gwlad a bod systemau ynni carbon uchel yn parhau i fodoli mewn ardaloedd gwledig anghysbell, y gallai treulio anaerobig helpu i'w diwygio, sut y gellir dyblygu neu ddiwygio'r rhaglen caffael seilwaith gwastraff i helpu i gyflawni, drwy dreulio anaerobig, lleihad mewn allyriadau carbon mewn ardaloedd gwledig? Diolch.

Llywydd, diolch i Joel James am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n iawn i ddweud bod y rhaglen wedi helpu i ddarparu rhwydwaith o bum safle treulio anaerobig yn ogystal â dau gyfleuster adfer ynni yn y gogledd a'r de, ac er bod y rhaglen ei hun wedi dod i ben, nid yw hynny'n golygu nad ydym bellach yn darparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol a'u partneriaid, yn enwedig, er enghraifft, gyda'r gronfa economi gylchol, fel y gall gwaith barhau i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailgylchu gwastraff mewn ffordd sy'n sicrhau'r manteision y mae Joel James wedi'u hawgrymu. I roi un enghraifft, Llywydd, rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda Bro Morgannwg i ddarparu £10 miliwn i gefnogi seilwaith yn yr awdurdod lleol hwnnw i wella perfformiad ailgylchu, er mwyn datgarboneiddio gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ymhellach. Ac mae treulio anaerobig yn parhau i chwarae ei ran yn y repertoire o gamau gweithredu y gallwn eu cymryd, ac mae'n dod, fel y dywed yr Aelod, gyda chyfres o fanteision pellach o ran cynhyrchu sgil-gynhyrchion gwrtaith y gellir eu defnyddio ymhellach wedyn i gynorthwyo ar adeg pan fo prisiau gwrtaith ledled y byd ar eu huchaf erioed.
Mae cwestiwn 8 [OQ58289] wedi'i dynnu nôl. Yn olaf, cwestiwn 9, Laura Anne Jones.
9. Gyda phwy yr ymgynghorodd Llywodraeth Cymru wrth wneud asesiadau diogelu o ran menywod yn y broses o ddrafftio'r cynllun gweithredu LHDTC+ arfaethedig? OQ58312

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd diogelwch menywod o ddifrif. Drwy asesiadau effaith, ymgysylltu â'r panel arbenigol LHDTC+, a thros 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn parhau i werthuso effeithiau posibl ein cynllun gweithredu LHDTC+ ar hawliau a diogelwch menywod.
Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, rhoddodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ eich Llywodraeth. Nawr, mae hwn yn amlwg yn bwnc sensitif, ac rwy'n credu ein bod i gyd eisiau gweld hawliau i bobl draws yn cael eu hymestyn, ond, yn y bôn, nid ar draul hawliau menywod a merched, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn. Fodd bynnag, o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cynhwysiant yn anad dim, uwchlaw diogelwch ac urddas menywod a merched ac uwchlaw tegwch a chyfle, nid dyma'r dull cywir, yn fy marn i, a bydd yn golygu ein bod yn gweld llawer o effeithiau niweidiol i hanner y boblogaeth yng Nghymru os ydym am fynd ar y llwybr unllygeidiog hwn y mae'r Llywodraeth hon mor benderfynol o'i ddilyn.
Mae'n destun pryder mawr y bydd rhai o'r hawliau newydd hyn ar draul menywod. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, Prif Weinidog, nid yw hyn yn ymwneud â bod yn wrth-draws; mae'n ymwneud ag amddiffyn menywod. [Torri ar draws.] Mae'n ymwneud ag amddiffyn menywod a merched. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y Dirprwy Weinidog a'r Llywodraeth hon yn amharod i siarad â Merched Cymru, ag LGB Alliance Cymru, â Women's Rights Network Wales neu â Labour Women's Declaration Cymru. Mae'r Llywodraeth hon hefyd wedi anwybyddu cynigion gan Fair Play for Women, Lesbian Labour, Transgender Trend, The Society for Evidence Based Gender Medicine, Thoughtful Therapists, LGB Alliance, Safe Schools Alliance UK a llawer mwy o unigolion. Ymddengys mai dim ond gwrando ar un safbwynt ideolegol penodol y mae eich Llywodraeth a'ch Gweinidogion am wrando arno ac anwybyddu'r gweddill, ac nid yw hyn yn iawn. Mae pryderon dilys—
Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr; rwyf i wedi bod yn hael.
Diolch. Mae pryderon dilys y mae angen gwrando arnyn nhw i ddod o hyd i atebion i bawb. Prif Weinidog, â pha grwpiau menywod y gwnaethoch chi a'ch Gweinidogion wir siarad â nhw, a sut yn union y mae'r cynllun hwn yn sicrhau bod hawliau menywod a hawliau a diogelwch merched yn cael eu diogelu?

Wel, Llywydd, nid ydych chi'n cynnal ymarfer ymgynghori gan gael 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad heb glywed gan bob math o unigolion a grwpiau sydd ag amrywiaeth eang iawn o brofiadau ac amrywiaeth eang iawn o safbwyntiau ar y pwnc hwn. Nid wyf i'n credu y gallaf i wneud yn well nag ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog pan wnaeth hi ei datganiad. Mae'n amlwg mai dyma farn Llywodraeth Cymru: nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu, fel y mae'n awgrymu'n gyson ar lawr y Senedd, nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu erydu hawliau i eraill. [Cymeradwyo.]
Diolch i'r—. Ydych chi wedi gorffen?

Hapus i roi'r gorau iddi yn y fan yna. [Chwerthin.]
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon yw lleihau'r amser sydd wedi'i neilltuo ar gyfer dadl Cyfnod 3 heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Llywydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar gyflawni ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych. Yn ôl yn 2013, gwnaeth y Gweinidog iechyd ar y pryd, sydd, wrth gwrs, yn Brif Weinidog erbyn hyn, gyhoeddiad y byddai ysbyty newydd yn cael ei adeiladu yn y Rhyl i gymryd lle'r ddau ysbyty a gafodd eu cau'n flaenorol sef Ysbyty Brenhinol Alexandra ac Ysbyty Cymunedol Prestatyn. Dywedodd ei fod yn disgwyl i'r adeilad fod yn barod ac ar agor yn 2016. Mae hi nawr yn 2022, naw mlynedd ar ôl y cyhoeddiad yn 2013, ac rydym ni dal heb weld rhaw yn y ddaear. Nawr, o gofio bod yr ysbyty ychydig i lawr y ffordd o'r lleoliad hwn ym Modelwyddan o dan bwysau aruthrol—gwyddom ni ei fod mewn ymyriadau wedi'u targedu, a gwyddom ni fod angen i'r adran achosion brys yn arbennig wella—dylai blaenoriaeth lwyr gael ei rhoi i ddatblygu'r cyfleuster hwn nawr, oherwydd bydd yr uned mân anafiadau a'r gwelyau ychwanegol yn cymryd llawer iawn o bwysau oddi ar yr ysbyty i lawr y ffordd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys, cyn diwedd y tymor, gan y Gweinidog iechyd ar y prosiect pwysig hwn, a phryd y gallwn ni ddisgwyl ei weld yn cael ei gyflawni?
A gaf i ofyn hefyd am ail ddatganiad gan y Gweinidog iechyd? Mae hyn yn ymwneud â rheoleiddio cynhyrchion esthetig, megis defnyddio llenwadau croenol a botox. Mae'r diwydiant estheteg yn rhyw fath o orllewin gwyllt, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yng Nghymru ar hyn o bryd—mewn gwirionedd, ledled rhannau helaeth o'r byd. Ond gwyddom ni hefyd y gall y llenwadau hyn, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio, achosi niwed sylweddol, ac mae nifer y bobl sy'n dioddef niwed yn cynyddu. Rwy'n credu bod angen cyfundrefn drwyddedu arnom ni. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu defnyddio'n ddiogel, mewn practisau wedi'u rheoleiddio, gyda safonau hylendid priodol a phethau eraill ar waith hefyd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn gwella diogelwch yn y diwydiant hwn sydd heb ei reoleiddio? Diolch.
Diolch. Wel, yn sicr nid oes lle yn amser y Llywodraeth cyn diwedd y tymor i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad ar y pynciau yr ydych chi wedi'u codi. Byddwch chi'n ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystyried y ffordd y mae'n darparu ei wasanaethau yn gyffredinol. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol iawn—yn fwy na neb yn y Siambr mae'n debyg—o'r cyllid sylweddol sydd wedi'i roi i Ysbyty Glan Clwyd i helpu gyda'r pwysau yno hefyd.
Nid wyf i'n anghytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y diwydiant estheteg, yn niffyg gair gwell. Yn sicr, mae angen rheoleiddio a thrwyddedu, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi clywed eich cais.
Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ynghylch cynllun pensiwn y gweithwyr glo, yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar San Steffan i drin y glowyr hyn a'u gweddwon yn deg o'r diwedd ac ad-dalu'r arian sydd arnyn nhw. Ers 1994, mae Llywodraethau San Steffan wedi pocedi biliynau o bunnau o elw wedi'i wneud gan gynllun pensiwn y gweithwyr glo, oherwydd y ffordd y cafodd ei breifateiddio. Argymhellodd ymchwiliad gan y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn 2021 y dylai'r trefniadau hyn gael eu hadolygu, ond mae addewidion y mae Boris Johnson ac eraill wedi'u gwneud wedi cael eu torri. Nawr, mae'r adroddiad hwnnw'n casglu llwch, yn union fel y mae'r llwch arall hwnnw o'r blynyddoedd hynny o lafurio o dan y ddaear yn cymryd bywydau mwy a mwy o lowyr bob blwyddyn. Yn yr oriel heddiw, mae aelodau o'r National Mineworkers Pension Campaign yn ymuno â ni; maen nhw nawr yn codi arian i geisio adolygiad barnwrol. Felly, a fyddai modd gwneud datganiad os gwelwch yn dda i fynegi undod â'u hachos ac i ddweud wrth y glowyr hyn y bydd Cymru'n ymladd drostyn nhw? Diolch.
Diolch. A byddwn i'n sicr yn hapus iawn i fynegi undod â chydweithwyr sydd yn y Siambr heddiw. A byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r pwysau y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar Lywodraeth y DU, a bydd hynny'n parhau.
Gweinidog, mae trigolion y Rhondda yn cysylltu â mi bron yn wythnosol oherwydd bod eu ceisiadau am fannau parcio i bobl anabl wedi'u gwrthod, nid oherwydd nad ydyn nhw'n gymwys, ond oherwydd, yn Rhondda Cynon Taf, nid oes ond cyllid ar gael ar gyfer 12 man newydd y flwyddyn. Ers 2011, mae perchnogaeth ceir fesul cartref yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu bron 14 y cant, yn ôl Sefydliad yr RAC. Nid yw nifer y mannau parcio i bobl anabl sy'n cael eu rhoi bob blwyddyn yn adlewyrchu'r cynnydd hwn. Mae gormod o breswylwyr anabl wedi'u hynysu gartref gan nad yw'n werth y drafferth na'r risg o fethu â pharcio y tu allan i'w cartref eu hunain. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch sut y caiff mannau parcio i bobl anabl eu hariannu yn y dyfodol? Diolch.
Diolch. Wel, mae mannau parcio i bobl anabl yn cael eu creu gan yr awdurdod priffyrdd, sef yr awdurdod lleol, yn amlwg, drwy orchymyn rheoleiddio traffig. Ac mae angen i awdurdodau lleol ystyried eu cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn ogystal ag ar gyfer priffyrdd. Nid oes cyllid penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu mannau parcio i bobl anabl; mae angen i awdurdodau lleol ystyried hyn fel rhan o'u gwaith cynllunio cyllideb cyffredinol.
Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gael cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU er mwyn ymgymryd yn llawn â phrosiect Porth Wrecsam, sydd, fel y gwyddoch chi rwy'n siŵr, yn cynnwys adeiladu stondin newydd ym mhen Kop y Cae Ras. Ac rwy'n sicr yn cydnabod y £25 miliwn o gefnogaeth sydd eisoes wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect y Porth, ac rydym i gyd yn ddiolchgar am hynny, rwy'n siŵr. Ond, fel y gwyddoch chi, Gweinidog, cafodd deiseb gyda mwy na 16,000 o lofnodion ar gyfer ymgyrch Stadiwm i'r Gogledd ei throsglwyddo'n ffurfiol i Downing Street ddoe, a chefais i'r pleser o'i chefnogi a'i llofnodi. A'r ddeiseb hon a'r cais hwn sydd mor bwysig, oherwydd, fel y gwyddom ni, mae chwaraeon, yn hanesyddol, wedi'i ganoli yma yn y de, ac mae angen i ni ddenu digwyddiadau mawr a digwyddiadau chwaraeon mawr i'r gogledd, a fyddai'n rhoi budd parhaol ledled y rhanbarth. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch Stadiwm i'r Gogledd, ac a wnewch chi ganiatáu datganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r cais hwn? Diolch yn fawr iawn.
Na, ni fydd datganiad ynghylch y stadiwm, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu. Fel y dywedwch chi, rhoddodd Llywodraeth Cymru £25 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o'r Porth. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ddeiseb a gafodd ei chyflwyno i 10 Downing Street ddoe. Dyma ail ymgais i geisio cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu'n gryf y dylem ni gael stadiwm i fyny yn y gogledd sy'n gallu cynnal gemau rhyngwladol. Y Cae Ras yw'r stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, ac, yn sicr, fel plentyn a pherson ifanc, dyna lle gwelais i fy ngemau rhyngwladol; ni fyddai wedi bod yn bosibl i fy rhieni fynd â mi i lawr i Gaerdydd bryd hynny. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, i bobl ifanc yn enwedig, ac wrth gwrs i bobl y gogledd, weld pêl-droed rhyngwladol, a gwn ei fod yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i'w weld.
A gaf i ofyn am ddadl ar ein gweithdrefnau yma yn y lle hwn? Hyd y gwn i, nid ydym ni wedi cael unrhyw adolygiad o weithdrefnau yn y Senedd hon ers yr etholiad y llynedd, ac nid wyf i'n cofio unrhyw adolygiad o ddifrif o bethau o'r fath yn y Senedd flaenorol chwaith. Cawsom ni drafodaeth yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ar y farchnad sengl. Nawr, lle bynnag y byddwch chi'n sefyll ar y mater hwnnw, ac mae fy marn yn hysbys iawn ac yn glir iawn, ni all fod yn iawn, does bosib, i ni gael dadl am 30 munud yfory ar y papur Trefn ar gyfer y mater hwn. Nid yw hon yn wleidyddiaeth o ddifrif; dyma wleidyddiaeth iard yr ysgol i gredu y gallwn ni gael dadl ar fater mor ddifrifol mewn 30 munud. Nid yw'n ffordd o ddifrif o gynnal ein materion yma, nid yw'n ffordd o ddifrif o drafod materion pwysig sy'n wynebu'r wlad hon, ac nid yw'n ffordd o ddifrif o ddod i gasgliadau ar y materion hyn. Felly, hoffwn i ofyn am ddadl ar ein gweithdrefnau, hoffwn i ofyn am ddadl ar sut yr ydym ni'n strwythuro ein busnes ni yn y lle hwn, a hoffwn i weld y Pwyllgor Busnes yn dod yma ac yn gwrando ar y ddadl honno, fel y gall pob un ohonom ni, lle bynnag yr ydym ni'n sefyll ar y materion hyn, gael sgwrs glir iawn ynghylch sut yr ydym ni eisiau i'n busnes ni gael ei drin yn y lle hwn.
Diolch. Wel, yn amlwg, mae Plaid Cymru wedi dewis defnyddio'i hamser yfory ar gyfer y ddadl yr ydych chi wedi'i hamlinellu. Rwyf i a'r Llywydd wedi clywed eich cais. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei drafod yn y Pwyllgor Busnes yn y lle cyntaf.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys y prynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'i hadolygiad o wasanaethau plant yng Nghymru. Roeddwn i'n arswydo o weld manylion achos Logan Mwangi—daeth bywyd ifanc i ben mor fuan wth law y rhai a oedd i fod i garu a gofalu amdano. Er fy mod i'n falch o weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni yn erbyn y drygioni a gipiodd bywyd bachgen ifanc cyn iddo ddechrau, mae angen i ni sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto a bod y gwasanaethau cymdeithasol yma yng Nghymru yn addas i amddiffyn ein plant sy'n wynebu risg. A hoffwn i anfon fy nghydymdeimlad o'r galon at dad Logan a gweddill ei deulu a'i ffrindiau, ac athrawon yn Ysgol Gynradd Tondu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yr effeithiwyd arnyn nhw i gyd gan y drasiedi erchyll hon.
Cafodd Logan ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant fis cyn iddo farw. Ni chafodd ei ymweliad arferol, ychydig cyn y digwyddiad hwn, ei gynnal oherwydd diagnosis positif COVID, er bod cyfarpar diogelu personol ar gael i'r staff eu defnyddio. Ac fel y dywedais i pan gafodd lladdwyr Logan eu dyfarnu'n euog, yr oeddwn i'n synnu bod y Prif Weinidog wedi dweud nad oedd yn credu bod angen adolygiad annibynnol o wasanaethau plant yng Nghymru ar ôl i'r achos trasig hwn amlygu rhai diffygion difrifol yn y system. Gwnaethom ni alw am adolygiad yn ôl ym mis Mai, ac, o gofio bod tair gwlad arall y DU yn cynnal un ar hyn o bryd, a'r ffaith mai Cymru sydd â'r cyfraddau gwaethaf ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ni allaf i ddeall pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dilyn yr esiampl. Ni ddylid caniatáu i'r achosion hyn ddigwydd, ac mae plant sy'n agored i niwed yn haeddu cael eu hamddiffyn yn llawn gan y wladwriaeth, ac mae'r hunanfodlonrwydd diwylliannol ymddangosiadol yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael dylanwad negyddol ar dynged y plentyn hwn. Ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i orchymyn yr adolygiad annibynnol hwn yn ddi-oed. Diolch.
Diolch. Rwyf innau hefyd eisiau estyn fy nghydymdeimlad i'r rhai sy'n caru ac sy'n gweld eisiau Logan. Ni fydd amser ar gyfer datganiad brys yn y ffordd yr ydych chi'n gofyn amdano, ond gallaf i eich sicrhau bod mesurau ar waith i sicrhau bod dysgu o ddigwyddiadau fel hyn yn llywio'r gwaith o wella arferion diogelu yng Nghymru yn barhaus. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn aros am ganlyniadau'r arolygiad diweddar o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—sydd wedi'i gynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru—yn ogystal â chwblhau'r adolygiad ymarfer plant i edrych ar y digwyddiadau cyn marwolaeth Logan, a bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl ganfyddiadau ac argymhellion yn ofalus.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog newid hinsawdd ar yr uwchgynhadledd ffosffadau sy'n digwydd yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru? Gwn i fod ymrwymiad i ddarparu datganiad ysgrifenedig i'r Senedd hon am ganfyddiadau'r uwchgynhadledd honno, ond mae hwn yn fater pwysig nid yn unig i fy etholaeth i, ond i nifer o etholaethau ledled Cymru. Felly, rwy'n gofyn i ni gael datganiad llafar ar yr hyn sy'n cael ei drafod yn yr uwchgynhadledd, fel y gall Aelodau yn y Siambr hon wneud eu gwaith o graffu ar lywodraeth Cymru ar y pwnc pwysig iawn hwn. Diolch, Llywydd.
Wel, bydd datganiad ysgrifenedig. Byddwch chi'n ymwybodol bod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn digwydd yn ystod wythnos gyntaf y toriad. Felly, bydd datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ystod toriad yr haf. Yn amlwg, nid oes modd cael datganiad llafar.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol. A dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hwnnw. Mark Drakeford.

Diolch, Llywydd. Heddiw, mae hi'n bleser i mi wneud datganiad ynglŷn â'n rhaglen ddeddfwriaethol ni. Mae hon yn rhan hanfodol o'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a radical a fydd yn helpu i lunio Cymru'r dyfodol. Rydym ni bellach yn nhrydydd tymor y Senedd hon ers i bobl Cymru bleidleisio i roi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd lunio Deddfau Cynulliad. Ers 2011, rydym ni wedi bod yn cynyddu swm y ddeddfwriaeth sylfaenol y bydd y Llywodraeth hon yn ei chyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Rhaglen yw hon sy'n amlygu ein defnydd eang ni o'r pwerau hynny, a hynny ar raddfa eang.
Dyw'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaeth sylfaenol ddim yn digwydd mewn gwagle. Mae pwysau eraill yn bodoli sy'n effeithio ar y Llywodraeth a'r Senedd. Mae gennym raglen sylweddol o is-ddeddfwriaeth sy'n cyd-fynd â'n rhaglen ddeddfwriaeth. Yn aml, mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn â pha mor eang a phwysig yw is-ddeddfwriaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd amlwg wedi bod o ran maint y deddfwriaeth a phwysigrwydd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud fel hyn. Mae hynny wedi ychwanegu'n sylweddol at lwyth gwaith y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, yn y Cyfarfod Llawn ac yn y pwyllgorau.
Ers dechrau mis Chwefror 2020, Llywydd, cafodd dros 300 o eitemau o is-ddeddfwriaeth eu llunio o ran coronafeirws yn unig, yn aml gydag effaith sylfaenol ar fywydau bob dydd ein cyd-ddinasyddion ni. Mae'r cynnydd presennol yn y niferoedd sydd â COVID, fel cafodd ei drafod gennym ni'r prynhawn yma, yn ein hatgoffa ni na ddaeth y daith hon fyth i'w diwedd. A, Llywydd, er bod maint yr is-ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â gadael yr UE wedi lleihau yn ystod y 12 mis diwethaf, fe fyddwn ni'n parhau i ddod ag offerynnau statudol sy'n deillio o Brexit i'r Senedd tan ddiwedd y flwyddyn galendr hon.
Y tu hwnt i COVID a Brexit, yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym ni wedi llunio dros 50 o Offerynnau Statudol i weithredu Deddfau mawr a basiwyd yn y Senedd ddiwethaf, gan gynnwys deddfwriaeth i gefnogi ysgolion ac athrawon i gyflawni ein newidiadau radical ni i'r Cwricwlwm i Gymru, a darpariaethau o ran Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd yr Aelodau yn ystyried rheoliadau i bennu 20 mya yn derfyn cyflymder arferol mewn ardaloedd preswyl yr wythnos nesaf yn y fan hon yn y Senedd, sy'n elfen allweddol o'n rhaglen lywodraethu ni. Fe fydd is-ddeddfwriaeth bellach yn dilyn yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys rheoliadau i weithredu'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), ac agweddau ar Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, fel y ddyletswydd i ymarfer gonestrwydd.
Llywydd, allwn ni chwaith ddim anwybyddu bwriadau deddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn yr hinsawdd bresennol, mae'r rhain yn creu risg sylweddol i Gymru ac i ddatganoli. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud bod 27 o'r Biliau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines ym mis Mai yn debygol o ymestyn i Gymru a bod yn gymwys iddi. Mae eisoes yn amlwg y bydd llawer o'r rhain yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â meysydd datganoledig, a fydd yn effeithio ar y setliad datganoli. Mae hynny'n golygu bod angen i'r Llywodraeth hon a'r Senedd fod yn wyliadwrus, ystyried cynigion yn fanwl, ac ymateb yn unol â hynny.
Llywydd, er gwaethaf maint y pwysau deddfwriaethol hwn a'r cyd-destun heriol yn ystod blwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, rydym ni eisoes wedi cyflwyno pedwar Bil sylfaenol i lawr y Senedd. Pasiwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gan Aelodau'r wythnos diwethaf ac fe fydd hwnnw'n gosod system newydd ar waith ar gyfer addysg a hyfforddiant ar ôl-16 yng Nghymru. Bydd yr Aelodau yn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'n Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) y prynhawn yma. Bydd y Bil hwnnw'n rhoi pwerau a nodwyd yn ofalus ac mewn ffordd gyfyngedig o ran amser er mwyn i Weinidogion Cymru ymateb yn gyflym i amddiffyn dinasyddion Cymru rhag penderfyniadau sydyn ac annisgwyl gan Lywodraeth y DU a allai gael effaith sylweddol ar rwymedigaethau unigolion ac ar refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rydym ni eisoes wedi cyflwyno'r Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Fe fydd y ddeddfwriaeth unigryw hon, a gyflwynir ar y cyd â'n partneriaid cymdeithasol ni, yn sicrhau hawliau teg gweithwyr ac yn arwain at gaffael cyhoeddus sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol. A ddoe, cafodd y Bil cydgrynhoi cyntaf ei gyflwyno gerbron y Senedd, sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a fydd yn llunio'r gyfraith yng Nghymru sy'n ymwneud ag adeiladau rhestredig a'r amgylchedd hanesyddol yn fwy hygyrch i'r dyfodol.
Llywydd, rwy'n troi nawr at Filiau sydd i'w cyflwyno yn y flwyddyn i ddod. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i greu Cymru decach, wyrddach a chryfach. Cafodd y portffolio newid hinsawdd ei greu i'w gwneud yn haws i brif feysydd y Llywodraeth ddatganoledig gael yr effaith fwyaf yn y maes hwn. Mae dyletswydd foesol i ni wneud cynnydd ar yr agenda hwn, a byddwn yn cyflwyno nifer o Filiau i wneud cyfres o newidiadau pwysig dros y 12 mis nesaf.
Yn flaenoriaeth gynnar, Llywydd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i wahardd neu gyfyngu ar werthiant rhai o'r plastigau untro mwyaf cyffredin yng Nghymru. Fe fydd hynny'n bodloni ein hymrwymiad allweddol ni yn y rhaglen lywodraethu yn y maes hwn. Ond, yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil hefyd yn cefnogi ein her gyfreithiol barhaus ni i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Yn yr ymgyfreitha presennol, a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, mae'r llys wedi nodi y byddai hi'n ddefnyddiol ystyried enghraifft ymarferol, ar ffurf darn o ddeddfwriaeth yn y Senedd, y gellir ei defnyddio i roi prawf ar y materion dan sylw. Bydd y Bil hwn yn rhoi'r enghraifft ymarferol honno, ac yn y cyd-destun hwnnw fe fyddwn ni'n ceisio cytundeb y Pwyllgor Busnes i hwyluso'r gwaith o graffu ar y Senedd o ran y Bil hwn.
Llywydd, mae Bil aer glân yn flaenoriaeth sylweddol i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n dymuno adeiladu ar y camau sydd eisoes ar y gweill i leihau allyriadau a sicrhau gwelliannau hanfodol o ran ansawdd aer, gan gefnogi cymunedau sy'n fwy iach ac amgylcheddau sy'n well. Mae ein Papur Gwyn ni'n nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cyrraedd nodau uchelgeisiol o ran ansawdd aer a sefydlu fframwaith rheoleiddio sy'n fwy cadarn i'w cefnogi nhw. Bydd mesurau i gyd-fynd â hynny'n sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn chwarae rhan yn y gwaith o leihau llygredd aer, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i ddatblygu'r Bil hwnnw pan gaiff ei gyflwyno.
Llywydd, rydym ni wedi nodi ein huchelgais i ddiwygio'r dull o gefnogi amaethyddiaeth yn y dyfodol, gyda phwyslais ar gynhyrchu bwyd sy'n gynaliadwy ac o ansawdd uchel a gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â hynny. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun amlinellol o ffermio cynaliadwy cyn y Sioe Fawr a'r gyfres o ddigwyddiadau amaethyddol sy'n dilyn yn ystod yr haf. Llywydd, mae'r amseru yn fwriadol yn hyn o beth. Fe fydd hyn yn caniatáu ymgysylltiad ystyrlon o ran manylion y cynllun arfaethedig cyn cyflwyno'r Bil amaethyddiaeth ei hun, ac fe fydd hwnnw'n cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn yr hydref.
Mae'r Aelodau yn ymwybodol hefyd i ni wneud cynnydd sylweddol ers sefydlu ein tasglu diogelwch ni ar domennydd glo ddwy flynedd yn ôl. Cyhoeddwyd adroddiad nodedig Comisiwn y Gyfraith, 'Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru', yn gynharach eleni. Roedd hwnnw'n dod i'r casgliad eglur nad yw'r gyfraith fel mae hi ar hyn o bryd yn addas at ddibenion heddiw. Roedd yr adroddiad yn sail i'n hymgynghoriad ni ar y Papur Gwyn ac fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil ar ddiogelwch tomennydd glo i sefydlu dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomennydd glo segur ledled Cymru. Bydd hyn yn diogelu'r cymunedau hynny sydd wedi etifeddu ein gorffennol diwydiannol ni, yn ogystal â chefnogi seilwaith hanfodol a'r amgylchedd drwy leihau'r tebygolrwydd o dirlithriadau.
Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo hefyd i symleiddio'r broses o ran cydsynio ar fathau penodol o seilwaith mawr ar y tir ac ar y môr, ac fe fyddwn ni, felly, yn cyflwyno Bil cydsynio seilwaith i roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr fel ei gilydd. Fe fydd y Bil yn disodli'r cyfundrefnau statudol cyfredol ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith Cymru, ac fe fydd yn rhesymoli nifer yr awdurdodiadau sy'n angenrheidiol i lunio a gweithredu prosiect i un cydsyniad unigol.
Llywydd, mae datganiad blynyddol y rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei ddefnyddio fel arfer i gyhoeddi Biliau y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf. Fodd bynnag, mae'r Senedd yn craffu ar ddeddfwriaeth mewn continwwm, ac nid yw Biliau'n cwympo ar ddiwedd sesiwn. Felly, fe hoffwn i edrych ychydig ymhellach ymlaen at ddechrau trydedd flwyddyn y rhaglen a sôn am nifer o Filiau pwysig eraill.
Llywydd, fel soniais i'n gynharach, fe geir heriau sylweddol i'r Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa o ran rheoli'r pwysau deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a gychwynnir yma, yn ogystal â'r ddeddfwriaeth a gychwynnir yn San Steffan. I sicrhau bod y Senedd hon yn gallu cyflawni ei chyfrifoldebau hi a sicrhau bod gennym ni fwy o allu i graffu ar ddeddfwriaeth, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i ddiwygio'r Senedd. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a nodwyd gennym ni yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru i gwblhau'r Bil hwnnw o fewn 12 i 18 mis ar ôl cyflwyno adroddiad y pwyllgor diben arbennig. Bydd y ddeddfwriaeth hollbwysig hon, unwaith mewn cenhedlaeth, yn sail i Senedd fodern, sy'n adlewyrchu'r Gymru yr ydym ni'n byw ynddi heddiw a chyda'r gallu i gynrychioli a chyflawni er mwyn pobl Cymru.
Fe glywsom ni am bwysigrwydd trafnidiaeth yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, ac mae trafnidiaeth yn gyfrifol am bron i un rhan o bump o'n hallyriadau carbon ni, ac eto nid ydym ni'n gallu cynllunio rhwydweithiau bysiau ar hyn o bryd i helpu i leihau ein dibyniaeth ar geir preifat drwy sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau sy'n ddibynadwy a chynaliadwy. Wythnos diwethaf, fe gwblhawyd ein hymgynghoriad ni ar newid sylfaenol i'r ffordd y bwriedir cynllunio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Yn hydref y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau, gan ganiatáu i bob lefel o lywodraeth yng Nghymru gydweithio i gynllunio'r rhwydweithiau bysiau sydd eu hangen ar ein cymunedau ni.
Ac yn gynnar yn y drydedd flwyddyn honno fe fyddwn ni hefyd yn cyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol. Fe fydd hwnnw gerbron y Senedd cyn diwedd 2023, ac fe fydd y Bil yn cyflawni ein hymrwymiad ni yn y rhaglen lywodraethu i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru. Drwy weithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu yn eang â threthdalwyr, rydym ni'n parhau i archwilio dewisiadau ar gyfer diwygio ardrethi annomestig, ac fe fydd hynny'n gofyn am gyfuniad o gamau gweithredu sylfaenol ac is-ddeddfwriaethol.
Llywydd, mae agenda llawn o ddeddfwriaeth o'n blaen, ond mae'r rhain yn gerrig sylfaen pwysig tuag at y Gymru rydym am ei gweld. Er mwyn cyflawni'r agenda, byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr hon i sicrhau ein bod yn gwneud y ddeddfwriaeth orau bosibl sy'n gwella bywydau holl bobl Cymru. Mae'r datganiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddyfodol tecach, gwyrddach a chryfach, ac rwy'n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Senedd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma, ac rwy'n mynegi fy niolch ar goedd i gyfreithwyr y Llywodraeth a chyfreithwyr y Senedd sy'n ein cynorthwyo ni i graffu ar ddeddfwriaeth a chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Rydym ni'n gallu anghytuno ar safbwyntiau polisi, ond, yn y pen draw, mae llawer iawn o bŵer ymenyddol cyfreithiol yn gynwysedig yn y darnau hyn o ddeddfwriaeth. Y rheswm pam mae deddfwriaeth mor bwysig yw ei bod hi'n rhoi grym i bobl o ran eu hawliau nhw, a dyna yw naratif sylfaenol unrhyw ddemocratiaeth—y gallwn ni, yn ôl y gyfraith, yn ddeddfwyr etholedig, roi hynny ar y llyfr statud a rhoi'r hawliau i bobl.
Tristwch i mi yw nad oes dim yn y datganiad heddiw o ran Deddf awtistiaeth, y mae'r ochr hon i'r Siambr, yn amlwg, wedi bod yn ei hyrwyddo droeon mewn dadleuon yma yn y Senedd. Ac mae hi'n ofid i mi hefyd nad oes Bil Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gyflwyno gan y Prif Weinidog na'r Llywodraeth heddiw. Dyna ddull arall o rymuso pobl y byddwn ni'n hoffi cefnogaeth gan y Prif Weinidog iddo, pryd bynnag fydd amser y Llywodraeth yn caniatáu hynny, neu, yn wir, i gefnogi cynnig deddfwriaethol fy nghyd-Aelod Peter Fox ar y Bil bwyd, o gofio bod y datganiad deddfwriaethol, yn amlwg, yn cynnwys cyfeiriad at y Bil amaethyddol y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflwyno ym mis Medi.
Felly, rwyf i am drafod yn fyr y pum Bil y mae'r Prif Weinidog wedi tynnu sylw atyn nhw, ac yn hytrach nag edrych yn ôl, edrych ymlaen at yr hyn y bydd Llywodraeth y Prif Weinidog yn ei gyflwyno yn y sesiwn ddeddfwriaethol nesaf. Ac mae hi'n ymddangos bod y Bil aer glân, y gwnaeth ef a minnau ei grybwyll droeon yn y Siambr hon, bellach yn gweld golau dydd, sydd i'w groesawu. Rwyf i eisoes wedi cynnig gweithio gyda'r Prif Weinidog a gwleidyddion eraill ar draws y Siambr hon er mwyn i ni allu dod â'r darn hwn o ddeddfwriaeth i'w gyflawniad yn gyflym, o ystyried bod 1,600 o bobl yn marw cyn eu hamser yng Nghymru oherwydd aer llygredig. Fe fyddwn i'n ddiolchgar o gael deall meddwl y Prif Weinidog, gan fod y Llywodraeth wedi cael amser erbyn hyn i lunio'r darn hwn o ddeddfwriaeth, o ran pa fathau o nodau y gallem ni eu gweld yn y darn hwn o ddeddfwriaeth, ac ai nodau gorfodol yn gyfreithiol y byddwn ni'n eu gweld yn y ddeddfwriaeth, fel bydd pob cwr o Gymru yn elwa ar y ddeddfwriaeth a gyflwynir gan y Llywodraeth. A phryd y mae ef yn rhagweld y bydd y Bil hwnnw'n cael ei gyflwyno i'r Senedd dros y 12 mis nesaf? Oherwydd, unwaith eto, rwyf i o'r farn y byddai croeso i hynny, sef cael gwybod pryd y bydd y darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn dod gerbron y Senedd.
Mae'r Bil amaethyddol, y Bil amaethyddol y bu hir ddisgwyl amdano, unwaith eto, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac mewn cwestiynau gweinidogol yr wyf i wedi codi amryw o faterion yn eu cylch. Rwy'n gwybod y bu ymgynghori manwl â'r sector ar y darn arbennig o bwysig hwn o ddeddfwriaeth, y darn cyntaf o ddeddfwriaeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru ers Deddf Amaethyddiaeth 1947, a fydd yn amlwg yn trawsnewid y dirwedd y mae amaethyddiaeth yn gweithredu ynddi. Fe fyddwn i'n ddiolchgar o ddeall sut yn union y mae argyfwng Wcráin wedi effeithio ar lun a gwedd y Bil hwn, sydd, yn fy marn i, yn un o'r rhesymau a roddwyd i egluro pam mae'r Llywodraeth wedi cymryd ychydig mwy o amser i gyflwyno'r Bil hwn, ac yn benodol a yw meddylfryd y Llywodraeth wedi newid rhywfaint i gefnogi, drwy'r Bil hwn, mesurau i gynyddu cynhyrchiant bwyd yma yng Nghymru drwy'r cymorth y gellid ei estyn drwy'r darn hwn o ddeddfwriaeth, fel cyflawnodd Deddf amaethyddol 1947 pan gafodd ei chyflwyno'r holl flynyddoedd hynny yn ôl.
Mae'r ddeddfwriaeth plastigau untro yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd lawer bellach. Yn wir, yn Lloegr, yn amlwg, pasiwyd darn o ddeddfwriaeth yn 2020 yn gwahardd rhai eitemau plastig untro. Yn yr Alban, mae newydd gael ei ddeddfu, ar 1 Mehefin, gyda gwaharddiad cynhwysfawr yn yr Alban. Sylwais o ddatganiad y Prif Weinidog ei bod yn ymddangos ei fod yn ffafrio mwy o fodel Lloegr gan ei fod yn cyfeirio at rai rhannau o'r defnydd o blastigau untro nad ydyn nhw yn dod o dan y Bil yn ei ddatganiad heddiw. A allai gadarnhau a yw hynny'n wir? Yn ôl a ddeallaf, byddai’r plastigau untro hynny na fyddai’r Bil yn eu cynnwys yn bennaf yn ddyfeisiau meddygol a chymwysiadau meddygol na fyddai’r ddeddfwriaeth yn ymdrin â hwy, oherwydd credaf y bydd yn bwysig deall sut y bydd y Bil yn gwahaniaethu rhwng defnydd meddygol a defnydd o ddydd i ddydd sydd gennym yn ein bywydau bob dydd.
Rwyf i'n llwyr gefnogi'r Bil tomennydd glo, ac yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar fyrder. Rwy'n ymwybodol oherwydd fy mod i'n cynrychioli Canol De Cymru, sy'n cwmpasu tair o ardaloedd y cymoedd sy'n pryderu yn fawr am y mater penodol hwn, y bydd hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth i'w groesawu. Ond fe fyddwn yn ddiolchgar o gael gwybod sut y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn darparu seilwaith hanfodol ac yn cefnogi'r gwaith o wella'r amgylchedd y bydd y tomennydd a'r cymunedau sy'n byw yng nghysgod y tomennydd glo yn ei weld drwy gyflwyno y darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r datganiad yn cyffwrdd â'r gwelliannau hanfodol i seilwaith, felly fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i gael gwybod pam mae angen y ddeddfwriaeth arnoch chi'n hytrach na'r arfau sydd gennych chi eisoes i wneud y gwelliannau hynny yn y seilwaith.
Y Bil cyllid llywodraeth leol y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato, fe fyddai hi'n werthfawr i gael deall a yw'r Llywodraeth yn ystyried diwygio trethi llywodraeth leol yn gyfan gwbl a dileu gwedd bresennol y dreth gyngor, sydd, yn amlwg, yn seiliedig ar werth eiddo, neu a yw'r Llywodraeth yn ystyried rhywbeth sy'n fwy tebyg i symudiad at dreth incwm leol. Oherwydd rwyf i o'r farn y byddai'r Prif Weinidog yn cofio'r creithiau o'r ailbrisiad diwethaf, fel mae'r rhan fwyaf o wleidyddion yn tueddu i'w dioddef yn y maes polisi arbennig hwn. Bryd hynny, roedd ef yn uwch gynghorydd i'r Prif Weinidog, pan ddigwyddodd yr ailbrisiad diwethaf yn ôl ym mlynyddoedd cynnar y ganrif. Felly, pe byddech chi'n egluro gyda rhagor o fanylder beth yw barn bresennol y Llywodraeth ynglŷn â'r Bil cyllid llywodraeth leol hwnnw, ac a ydym ni am weld newid ar raddfa eang yn y ffordd y mae cynghorau lleol yn codi eu refeniw, er mwyn i ni ddeall y newidiadau y gellid eu cyflwyno nhw, efallai.
O ran diwygio'r Senedd, wel, mae ef a minnau'n anghytuno yn hynny o beth, ond yn y pen draw, fe gafodd ef gymeradwyaeth ei gynhadledd ei hun ddydd Sadwrn, ac rwy'n deall, yn amlwg, oherwydd y cytundeb â Phlaid Cymru fod y mwyafrif o ddwy ran o dair ganddo yn Siambr y Senedd hon. Rydym ni, ar yr ochr hon i'r tŷ, er ein bod ni'n anghytuno â'r angen am fwy o wleidyddion, wedi ceisio cyfranogi yn y broses drwy'r pwyllgor pwrpas arbennig a sefydlwyd, dros y mecanwaith pleidleisio ac, yn wir, o ran pa olwg allai fod ar etholaethau. Felly, fe all pobl fod â ffydd y bydd yna gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol; os ydych chi ychydig i'r dde o'r canol, yn y canol neu i'r chwith o'r canol, fe allwch chi fod â ffydd wirioneddol fod hyn wedi cael ei ystyried gan rai o bob tuedd wleidyddol. Gwaetha'r modd, bu'n rhaid i ni dynnu allan o'r pwyllgor hwnnw oherwydd y datganiad a wnaeth arweinydd Plaid Cymru a'r Prif Weinidog, ond fe fyddwn i'n falch o gael gwybod gan y Prif Weinidog, wrth ddrafftio'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, pa mor gynhwysfawr fydd hwnnw o ran ymdrin â'r ffordd y caiff y ffiniau eu creu ac, yn benodol, y ffydd sydd ganddo ef—. Yn un sydd â chydbwysedd llwyr rhwng y rhywiau ar ei aelwyd ei hun, gyda dwy ferch a dau fab, rwy'n llwyr werthfawrogi pa mor bwysig yw'r cydbwysedd hwnnw rhwng y rhywiau. [Chwerthin.] Mae'n rhaid i mi ddweud mai'r duedd yw bod fy merched i yn ennill y ddadl yn fwy aml na fy meibion i, ac fe fyddai unrhyw un sy'n adnabod fy nwy ferch i'n deall yn iawn pam mae hynny'n digwydd. Fe fyddwn i'n falch o geisio deall gan y Prif Weinidog, oherwydd bu cwestiwn gwirioneddol ynghylch a oes cymhwysedd yma yn y Senedd i basio deddfwriaeth o'r fath, a fyddai'n gweld yr hyn y soniwyd amdano yn y cytundebau a gyflwynwyd ac a fydd hynny'n ei wneud yn rhan o'r ddeddfwriaeth y bydd Llywodraeth y Prif Weinidog yn ei chyflwyno i'r Senedd.
A dim ond un pwynt olaf arall, rwy'n credu bod fy nealltwriaeth i o'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn gywir, ond rwy'n credu mai erbyn diwedd 2023 fydd hynny. A fyddai'r Prif Weinidog yn cadarnhau hynny? Rwy'n credu fy mod i wedi deall o'r datganiad y prynhawn yma eich bod chi'n bwriadu ei gyflwyno a'i basio drwy'r Senedd erbyn mis Rhagfyr 2023 i ganiatáu cyfnod iddo ymsefydlu cyn etholiad 2026, y gwyddom i gyd ei bod yn unol â deddfwriaeth i ddigwydd ym mis Mai 2026. Diolch i chi, Prif Weinidog.

Llywydd, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y ffordd adeiladol y mae ef wedi ymgysylltu â'r datganiad y prynhawn yma, ac am ei gynigion i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol eto o ran nifer o'r Biliau y byddwn ni'n eu cyflwyno gerbron y Senedd?
Roedd ef yn iawn i dynnu sylw at fwlch yn fy natganiad, oherwydd ni chyfeiriais i, rwy'n sylweddoli nawr, at ddeddfwriaeth y meinciau cefn ac, yn wir, at ddeddfwriaeth pwyllgorau yn y Senedd flaenorol, sydd hefyd yn ychwanegu at y llwyth gwaith deddfwriaethol y mae'n rhaid i Aelodau'r Senedd ei gwblhau. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r Biliau hynny sy'n cael eu cyflwyno yn y modd hwnnw. Nid ydym ni'n cytuno bob amser, fel nododd ef o ran y Bil awtistiaeth, gan ein bod ni o'r farn bod ein gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol a mesurau eraill yn cynnig ffordd fwy effeithiol o wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, fel trafodwyd gennym ni wrth gyflwyno'r Bil hwnnw.
O ran y cwestiynau penodol, Llywydd, a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid nawr, yn fyr, o ran y Bil aer glân, fe fyddwn ni'n bwriadu cynnwys nodau uchelgeisiol ar gyfer ansawdd aer yn y Bil a'u gosod nhw o fewn fframwaith rheoleiddio mwy cadarn, fel gellir cefnogi'r nodau hynny mewn modd priodol.
O ran y Bil amaethyddiaeth, rwy'n credu wrth i mi sôn am hwnnw yn fy natganiad i, y peth cyntaf a ddywedais i am y Bil amaethyddiaeth yw y byddai'n cefnogi cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy yma yng Nghymru. Ac mae ein cynlluniau ni ar gyfer diwygio amaethyddiaeth wedi bod â chynhyrchu bwyd cynaliadwy wrth ei hanfod bob amser ac yn rhan annatod o'r ffordd yr ydym ni'n gweld dyfodol amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Ac, fel gwnaethom ni ei drafod o'r blaen, yn wir, mae'r argyfwng yn Wcráin wedi tynnu sylw o'r newydd at yr angen i allu bod â chyflenwad o fwyd ar gael heb angen mewnforio, ac mae hynny wedi bod yn dylanwadu ar ein hystyriaeth ni. Ond, fe fydd y Bil yn parhau i osod fframwaith i gefnogi ffermwyr yng Nghymru, gyda'r gwaith y maen nhw'n ei wneud i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, ond o ran y nwyddau cyhoeddus eraill hynny hefyd y mae'r cyhoedd yn barod i ddod o hyd i arian i'w cefnogi. Rwy'n edrych ymlaen at fynd i Sioe Frenhinol Cymru a thrafod y pethau hyn ochr yn ochr â'r Gweinidog.
Bydd ein dull gweithredu ni yn y Bil plastigau untro yn fwy tebyg i'r un yn Lloegr yr oedd Andrew R.T. Davies yn ei grybwyll. Bydd yn pennu rhestr o blastigau untro penodol, na fydd modd eu defnyddio nhw yng Nghymru eto. Nodwyd 60 o enghreifftiau o'r rhain yn yr ymgynghoriad, ac ni fyddwn ni'n dod â phob un o'r 60 ohonyn nhw gerbron y Senedd yn y Bil, ond fe fyddwn ni'n gobeithio cynnwys pŵer rheoleiddio i Weinidogion ar gyfer gallu ychwanegu rhagor o blastigau untro at y rhestr honno wrth i'r dystiolaeth yn eu cylch nhw gynyddu, ac fe fydd y rhain yn cael eu harchwilio wedyn drwy weithdrefnau is-ddeddfwriaeth y Senedd.
O ran diogelwch tomennydd glo, hanfod y Bil fydd sefydlu awdurdod goruchwylio newydd—dyna a ddywedodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith wrthym ni—i oruchwylio cyfundrefn newydd i sicrhau bod trefniadau rheoli priodol ar waith ar gyfer y categori uchaf o awgrymiadau—yr awgrymiadau hynny sydd â'r risg mwyaf i'r cymunedau y lleolir nhw ynddyn nhw—ac yna i'w nodi nhw a chynnal cofrestr asedau genedlaethol newydd. Rydym ni wedi dysgu llawer mwy nag yr oeddem ni'n ei wybod ddwy flynedd yn ôl, pan ddechreuodd y gwaith hwn, am nifer y tomennydd glo yng Nghymru a'u lleoliadau nhw. Mae dros 2,500 o domennydd glo segur ledled Cymru, gyda 327 ohonyn nhw erbyn hyn gyda'r dynodiad categori D uchaf. Rydym ni'n dymuno sicrhau ein bod ni'n adeiladu ar yr holl waith hwnnw drwy fod â'r gofrestr genedlaethol honno ar gyfer y dyfodol, a all olygu mwy yn y dyfodol na dim ond tomennydd glo, oherwydd mae llawer o fathau eraill o domennydd gwastraff yng Nghymru, yn enwedig o fwyngloddiau metel. Ni fyddwn ni'n gallu ymestyn y Bil, ar y dechrau, hyd at yr ystod fwy eang o domennydd sy'n peri pryder yng Nghymru, ond fe fyddwn ni, drwy'r Bil, yn agor y ffordd er mwyn gallu gwneud hynny yn y dyfodol.
O ran cyllid llywodraeth leol, ni fyddwn ni'n gallu cyflwyno cynigion yn ystod tymor y Senedd hon ar gyfer math sylfaenol wahanol o gyllid llywodraeth leol. Fe fyddai hi'n dda gennyf i pe baem ni mewn sefyllfa i wneud hynny, ond mae swm y gwaith sydd ei angen i symud oddi wrth y system dreth gyngor gyfredol i system wahanol—system treth incwm leol neu system prisio tir—mor arwyddocaol fel bydd angen i'r gwaith cefndir i ganiatáu i hynny ddigwydd barhau nid yn unig fel y gwnaeth yn nhymor y Senedd flaenorol, ond yn ystod tymor y Senedd hon hefyd. Yr hyn y byddwn ni'n ceisio ei wneud gyda'r Bil hwnnw yw sicrhau ein bod ni'n moderneiddio system y dreth gyngor, a'n bod ni'n ei gwneud hi mor deg ag y gallwn ni ei gwneud hi, ac y dylai fod yn fwy blaengar o ran ei dyluniad a'i chyflawniad.
Ac yn olaf, Llywydd, o ran diwygio'r Senedd a mater y ffiniau, fe fydd yn nodi'r ffiniau ar gyfer etholiad 2006; bydd yn sefydlu comisiwn ffiniau i Gymru—
Dau ddeg a chwech.

Ar gyfer 2026; rwy'n ymddiheuro.
Nid 2006. [Chwerthin.]

Fe fyddai hynny'n ôl-weithredol. Nid ydym ni'n hoff o ddeddfwriaeth ôl-weithredol, fel gwyddoch chi. [Chwerthin.]
Ar gyfer 2026, ac fe fydd yn sefydlu comisiwn ffiniau i Gymru, a fydd yn gallu adolygu'r ffiniau hynny yn nhymor y Senedd nesaf a'u sefydlu nhw wedyn ar gyfer etholiadau wedi'r un nesaf. Pan gyflwynir y cynigion, fe fydd yna ddatrysiad i sicrhau y gallwn ni fynd ar drywydd ein huchelgeisiau ni ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yn y Senedd, a mathau eraill o gydraddoldeb, heb wynebu'r risg y bydd y fenter gyfan yn mynd i'r gwellt oherwydd materion cymhwysedd.
A gaf i orffen drwy barhau i gynnig i arweinydd yr wrthblaid ran weithredol yn y trafodaethau a fydd yn ffurfio'r Bil? Gan ein bod ni wedi cwblhau gwaith y pwyllgor a gwaith y pleidiau gwleidyddol erbyn hyn, fe fydd angen llawer o waith manwl i fynd i mewn i'r Bil, y byddwn ni'n ei gyflwyno o fewn y fframwaith 12 i 18 mis yr ydym ni wedi cytuno arno gyda Phlaid Cymru. Wrth i'r gwaith manwl hwnnw fynd rhagddo, rwyf i o'r farn y byddai'n cael ei atgyfnerthu drwy barhau i fod â diddordeb trawsbleidiol ynddo, oherwydd fe fydd yn ymwneud â gwaith y lle hwn y tu hwnt i dymor y Senedd nesaf. Ac fe fydd gan bobl ym mhob cwr o'r Siambr ddiddordeb mewn sicrhau y gellir cyflawni hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl, ac i'r graddau y gall Plaid Geidwadol Cymru fod â rhan yn y trafodaethau hynny, fe hoffwn i sicrhau bod y cynnig hwnnw'n cael ei ymestyn i chi.
Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog. Gan ddechrau gyda'r cyd-destun roeddech chi wedi'i ddarlunio i ni, mae wedi bod yn un digon heriol yn ddiweddar, yn rhannol oherwydd COVID a hefyd o ran sgileffeithiau Brexit, fel oeddech chi'n esbonio. Ond, hefyd, mae yna ddimensiwn arall sydd yn ddigon heriol, wrth gwrs, sef yr ystod eang yma—y 27—o Ddeddfau mewn lle arall—mewn Senedd arall—sydd yn fwyfwy ymdreiddio mewn i'n meysydd o gyfrifoldeb ni. Mae'n teimlo, weithiau, fod yna fwy o ddeddfu yn mynd ymlaen yn San Steffan o ran meysydd datganoledig na sy'n digwydd yn y lle yma, hyd yn oed.
Un o'r cwestiynau, reit ar y cychwyn, yr hoffwn i ofyn yw: sut ydyn ni'n ymdopi gyda'r amgylchedd gwleidyddol, deddfwriaethol anodd yma? Dŷn ni, fel pwynt o egwyddor, wedi bod yn gwrthwynebu LCMs fel symbol o'n hanfodlonrwydd â'r sefyllfa gwbl annemocrataidd hon, yn ein tŷb ni. Sut ŷch chi'n meddwl rŷn ni'n gallu cryfhau ac amddiffyn ein deddfwrfa Gymreig ni yn erbyn ymgais bwriadol i ddisodli ein grymoedd ni fan hyn a thanseilio'r setliad democrataidd?
Rŷn ni, ym Mhlaid Cymru, o'r blaen wedi cyflwyno Bil hunanbenderfyniad er mwyn gosod hawl Cymru, fel pobl cenedl arall, o dan siarter y Cenhedloedd Unedig—yr hawl i hunanbenderfyniad—fel rhan greiddiol o'n gwerthoedd gwleidyddol ac o'n fframwaith gwleidyddol a chyfreithiol. A oes ffyrdd eraill rŷn ni'n gallu cydweithio i sicrhau ein bod ni'n gwrthsefyll yr ymgais yma i danseilio'n democratiaeth ni—rhyw fersiwn Gymreig o'r claim of right, er enghraifft, unwaith eto, sydd yn crisialu'r hawl yma i hunanbenderfyniad?
I symud at y rhaglen arfaethedig ei hun ar gyfer y flwyddyn sy'n dod, yn gyffredinol rwy'n credu ein bod ni'n croesawu'r cynnwys. Mae yna ryw linyn amgylcheddol yn rhedeg trwyddyn nhw i gyd, a gan fod nifer o'r Deddfau hyn—y Bil awyr lân a'r Bil ar ddiogelwch tomenni glo, er enghraifft—yn rhai hirddisgwyliedig, mi fydd ein gobeithion ni ar gyfer y ddeddfwriaeth yma yn glir, ac fe fydd Plaid Cymru yn edrych ymlaen at graffu arni yn ofalus ac i wthio ei heffaith cymaint â phosib.
Yn y blynyddoedd canlynol, fe edrychwn ni ymlaen at weld ffrwyth rhaglen waith y cytundeb cydweithio yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn rhai o'r meysydd rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw eisoes, fel diwygio'r Senedd, Deddf addysg Gymraeg. Ac mae'n rhaid cofio, wrth gwrs, am ddeddfwriaeth eilradd a rhaglen safonau'r Gymraeg yn cael ei hailgydio ynddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Hoffwn i weld, hefyd, deddfu o ran targedau natur, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at gydweithio o ran gwneud y dreth gyngor yn fwy teg.
At ei gilydd, un feirniadaeth gyffredinol y byddwn i'n ei gwneud yw: mae'n sicr bod y rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod dal yn edrych yn denau iawn o gymharu â'r rhaglen ddeddfwriaethol dŷn ni'n ei gweld yn yr Alban, er enghraifft, ac mae hynny wedi bod yn gyffredinol wir, onid yw e? Rhyw gyfartaledd o ryw bedwar, pump neu hanner dwsin o Filiau dŷn ni wedi bod yn ei gyflawni fel cyfartaledd yn y Senedd yma, o gymharu â thua 15 y flwyddyn yn Senedd yr Alban. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon, pan yw'n weithredol, â rhywbeth fel 14 darn o ddeddfwriaeth gynradd y flwyddyn ar gyfartaledd.
Wrth gwrs, mae'r mater o gapasiti y lle yma yn berthnasol iawn, felly mae diwygio'r Senedd yn ymateb i hyn. Rŷm ni wedi gweld arafwch mewn addewidion i ddeddfu—hynny yw, addewid yn mynd yn ôl pedair blynedd nawr i ddeddfu o ran llywodraethiant amgylcheddol. Felly, mae yna oblygiadau i'r diffyg yma. Oes yna elfennau eraill o gapasiti mae'n rhaid edrych arnyn nhw—nid yn unig o ran cynyddu capasiti'r lle yma o ran yr Aelodau, ond beth am gapasiti gweddill y system? Roedd arweinydd y Blaid Geidwadol yn cyfeirio at y gwaith da sy'n cael ei wneud gan weision sifil yn drafftio Deddfau; wrth inni gynyddu gapasiti'r lle yma, oes angen inni edrych ar godi'r cap ar y nifer o weision sifil, yn sicr o ran y rhai sydd â sgiliau arbenigol, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynyddu a chyflymu'r broses o ddeddfu?
A gaf i jest, yn olaf, ategu pwysigrwydd Biliau Aelodau a Biliau pwyllgor? Unwaith eto, dŷn ni ddim wedi bod yn gwneud cystal yn y ddeddfwrfa yma. Dim ond 7 y cant o ddeddfwriaeth sylfaenol Cymru sydd wedi dod trwy Filiau Aelodau, o'i gymharu gyda 10 y cant yn neddfwrfa'r Alban ac 16 y cant yn Senedd San Steffan. Felly, ydyn ni i gyd yn gytûn mai rhan o ddiwygio'r Senedd ydy cynyddu capasiti ar gyfer Biliau Aelodau a Biliau pwyllgor? Oherwydd mae hynny â rôl bwysig mewn Senedd sydd yn gytbwys o ran y grym rhwng y ddeddfwrfa a'r weithrediaeth.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr i Adam Price am y sylwadau yna. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, gyda beth ddywedodd e am y cyd-destun heriol. Siaradais i am COVID a Brexit, ond mae'n wir beth ddywedodd arweinydd Plaid Cymru am y cyd-destun gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig.
Dwi ddim yn cytuno gyda fe a Phlaid Cymru ar y pwynt o egwyddor roedd e'n codi am wrthwynebu LCMs. Pan fo pethau'n dod o flaen Tŷ'r Cyffredin ac rŷm ni'n gallu gweld bydd hynny yn ffordd o wneud pethau yn fwy cyflym nag y gallwn ni wneud pethau ar lawr y Senedd, mae hi jest yn gwneud synnwyr, i fi, i'w wneud e fel yna. Ond y peth pwysicaf yw bod y penderfyniad yna yn benderfyniad sydd i fod yn ein dwylo ni. Os rŷm ni'n gweld pethau a rŷm ni'n eisiau bod yn rhan ohonyn nhw, wel, mae hynny'n fine a dwi ddim yn gweld yr achos i beidio â gwneud pethau pan fyddan nhw'n gweithio i ni ac i bobl yng Nghymru. Beth sydd ddim yn iawn yw pan yw'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwrw ymlaen i ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gael ein cytundeb ni, a dyna ble mae'r gwaith pwysig i'w wneud.
Dwi'n ddiolchgar i'r Arglwydd Dafydd Wigley am y Bil mae e wedi cyhoeddi, a'r cyfle i drafod pethau gydag e. Dwi wedi ysgrifennu gyda chopi o'i Fil e at Michael Gove i fod yn rhan o'r trafodaethau y mae e wedi cytuno i'w cael ar y confensiwn Sewel, a sut i wneud hynny mewn ffordd well nag ydym ni wedi'i gweld dros y blynyddoedd diwethaf. Mae syniadau eraill ar gael hefyd am sut i gryfhau'r system o ddeddfu, ble rŷm ni'n gallu defnyddio'r cyfle, pan fydd cyfle yn codi yn San Steffan, ond heb gael y perygl rŷm ni'n ei weld heddiw.
Diolch i Adam Price hefyd am dynnu sylw at y Biliau sydd i ddod ar ôl y drydedd flwyddyn o'r Senedd hon. Mae pethau pwysig yn mynd i ddod o flaen y Senedd yn y bedwaredd a'r bumed flwyddyn hefyd. Wrth gwrs, dwi ddim yn cytuno pan yw Aelodau yn disgrifio ein rhaglen ni fel un tenau iawn. Rŷm ni wedi gweithio mor galed gyda'r capasiti sydd gyda ni i roi popeth y gallwn ni yn y flwyddyn nesaf, a gallaf i ddweud wrth Aelodau ym mhob cwr o'r Senedd y bydd y flwyddyn a hanner nesaf yn anodd a llawn, llawn gwaith i ni i gyd—yn y pwyllgorau, ac i Weinidogion. Dwi ddim yn meddwl y bydd pobl yn mynd i feddwl ar ôl y profiad yna eu bod nhw wedi cael amser tenau.
I gymharu beth sy'n mynd ymlaen yma ac yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, mae'r cyfrifoldebau yn yr Alban yn wahanol i’n cyfrifoldebau ni, ac mae’r ffordd maen nhw'n mynd ati i ddeddfu yn wahanol hefyd. Y traddodiad sydd wedi cael ei ddatblygu yma yw i gael nifer o filiau sy'n filiau eithaf mawr, llawn o bethau, ond yng Ngogledd Iwerddon, dwi’n meddwl—dwi ddim wedi astudio pethau'n fanwl—maen nhw'n cael mwy o ddeddfau, ond deddfau bach ydyn nhw, ddim ar lefel y Biliau rŷn ni'n mynd i'w rhoi o flaen y Senedd.
Wrth gwrs dwi'n cytuno bod nifer o bethau o ran capasiti ein system ni a chapasiti y Comisiwn os dŷn ni’n mynd i wneud mwy o ddeddfu yn y dyfodol, a chapasiti ar yr ochr polisi, capasiti ar ochr pobl sy'n gwneud y gwaith ar y gyfraith, a phobl sy'n drafftio pethau i ni, ond mae popeth yn costio arian. Mae'n rhaid i fi ddweud hynny. Pan dwi bob wythnos yn sefyll fan hyn ac yn clywed o bob ochr y Siambr galwad i fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth, mwy mewn iechyd, mwy mewn addysg, mwy mewn beth bynnag rydyn ni'n trafod, fel Llywodraeth, yr egwyddor rydyn ni wedi'i derbyn yw dydyn ni ddim yn rhoi mwy o arian i ni fel Llywodraeth na allwn ni ei roi i'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n dibynnu ar y cyllid sydd gyda ni. Pan ydyn ni'n ei wneud e yn y ffordd yna, does dim lot o arian i gynyddu'r capasiti mewn unrhyw agwedd ar y gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac mae hwnna'n cynnwys y rhaglen ddeddfwriaethol hefyd.
Mae cyflwyno'r rheoliadau 20 mya wedi cael croeso cynnes iawn gan fy etholwyr i pan gyhoeddwyd hynny wythnos diwethaf. Yn amlwg, rwy'n croesawu eich cyhoeddiad chi hefyd am y Bil aer glân a'r Bil bysiau yn hydref y flwyddyn nesaf, ac roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y mesurau yr ydych chi'n gobeithio eu cymryd i sicrhau y bydd pob rhan o gymdeithas yn gwneud eu rhan i leihau llygredd aer. Fe fyddai cael ychydig mwy o fanylion am hynny'n dderbyniol iawn.
Rwy'n amlwg yn croesawu'r Bil amaethyddiaeth a'ch pwyslais chi ar gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Yng nghyd-destun ansicrwydd y cyflenwadau bwyd presennol oherwydd Brexit a'r rhyfel yn Wcráin, mae hwnnw'n amlwg yn fater pwysig iawn.
Ac yn olaf, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n dweud ychydig mwy am y Bil cydsyniad seilwaith. Mae hi'n debyg nad yw hwnnw'n rhywbeth y bydd llawer yn eich holi chi amdano, ond yng nghyd-destun aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni, a'r cynnydd mewn prisiau nwy, yn amlwg mae'r cyflymder y gallwn ni drosglwyddo o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy yn hanfodol i gyfoeth a llesiant ein cenedl i'r dyfodol. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall sut y bydd y Bil cydsyniad seilwaith hwn yn lleihau'r amserlen ar gyfer cael cynigion ynni adnewyddadwy, pan fyddan nhw wedi llwyddo i basio gwaith craffu, a'i roi ar waith. Mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i mi—
Diolch yn fawr, Jenny. Mae angen i chi orffen nawr.
Iawn. Roeddwn i'n dymuno datgan buddiant oherwydd mae fy mhartner i'n gweithio i Bute Energy ac mae gen i fuddsoddiadau yn Awel Aman Tawe hefyd.

Diolch i Jenny Rathbone. Yn fy natganiad i, Llywydd, roeddwn i'n ceisio rhoi mwy o bwyslais eleni nag mewn datganiadau cynharach ar arwyddocâd is-ddeddfwriaeth a'r llwyth gwaith y mae hynny'n ei greu yma yn y Senedd; mae'n enfawr. Rydym ni wedi defnyddio llawer o'n hegni ni i basio deddfwriaeth sylfaenol. Pan wyf i'n meddwl am y Bil llywodraeth leol a ddygodd fy nghyd-Aelod i Julie James drwy'r Senedd yn y tymor diwethaf; yr ymgais lwyddiannus gyntaf i ddiwygio agweddau ar lywodraeth leol yng Nghymru. Ond mae'r Bil ei hun yn darparu fframwaith, ac wedyn fe geir y gwaith aruthrol ynglŷn â'r manylion a gyflwynir mewn rheoliadau, ac fe dynnodd Jenny Rathbone sylw at y rheoliadau y bydd y Senedd yn eu cymryd yr wythnos nesaf o ran parthau 20 mya.
Nid wyf i am ddweud llawer mwy am y Bil aer glân, Dirprwy Lywydd, oherwydd rydym ni eisoes wedi cael cynllun aer glân, a Phapur Gwyn aer glân, ac mae'r rhan fwyaf o'r mesurau y bydd y Bil yn eu hadlewyrchu i'w gweld yn y gwaith gwnaethom ni ei roi gerbron y cyhoedd eisoes.
Serch hynny, o ran y Bil bysiau, mae Jenny Rathbone yn llygad ei lle—mae'r Bil bysiau yn rhan o'n hymdrechion ni i gynhyrchu aer glân, lawn cymaint â sicrhau bod gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr a dibynadwy. Rydym ni'n dymuno sicrhau y gall pobl adael eu ceir gartref, ac rydym ni'n awyddus i weld fflyd o fysiau, fel dywedais i wrth ateb cwestiwn cynharach heddiw, sy'n rhedeg yn y ffordd lanaf bosibl, ac fe fydd y Bil bysiau yn ein helpu ni gyda hynny i gyd.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am dynnu sylw at y Bil cydsyniad seilwaith, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hwnnw'n Fil pwysig iawn yn y rhaglen hon? Mae'r pwerau gennym ni, fel gŵyr yr Aelodau, i gydsynio i brosiectau cynhyrchu ynni, prosiectau cynhyrchu trydan, hyd at 350 MW, ac eithrio gwynt ar y tir, lle mae gennym ni gymhwysedd deddfwriaethol llawn. Y tensiwn sy'n bodoli yn hyn o beth yw hwnnw rhwng sicrhau y gallwn ni symud ymlaen gyda thechnolegau newydd sy'n rhoi gobaith i ni, er enghraifft, gynaeafu ynni o'r amgylchedd morol, a diogelu'r amgylchedd bregus iawn hwnnw hefyd ar yr un pryd. Fe fydd y Bil cydsynio yn caniatáu i ni ddatblygu cyfundrefn gydsynio yng Nghymru sy'n gyflymach ac yn fwy ystwyth na'r un bresennol, a fydd yn caniatáu i brosiectau ynni adnewyddadwy symud ymlaen er mwyn ein helpu ni gyda'r argyfwng hinsawdd, ond a fydd, ar yr un pryd, yn cydnabod ein rhwymedigaethau ni i beidio â gwneud pethau a allai beryglu'r amgylchedd bregus iawn hwnnw. A honno fydd y ddadl, y cydbwysedd rhwng y ddwy agwedd hynny, nad oes amheuaeth gennyf i y byddwn ni'n ei chael wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Nid oeddwn i wedi sylweddoli ein bod ni'n brin o amser ar hyn, ond fe geisiaf i fod yn fyr. Rwy'n credu, fel y nododd Adam Price, fod Bil ar goll—dyna Fil llywodraethu amgylcheddol, a fyddai, yn fy marn i, yn agwedd allweddol iawn ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd trefniant llywodraethu amgylcheddol sy'n benodol i Gymru yn bwysig iawn wrth symud ymlaen. A'r Bil arall—ac rwy'n diolch i fy nghyd-Aelod Andrew Davies am ei godi—yw fy Mil meinciau cefn fy hun, ac rwy'n diolch i chi am eich cydnabyddiaeth o ddeddfwriaeth sydd wedi'i harwain gan y meinciau cefn. Mae'n bwysig bod y rheini ohonom ni ar y meinciau cefn sy'n cyflwyno deddfwriaeth, neu gynigion ymlaen, yn cael y cyfle i'w datblygu, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael y gefnogaeth i wneud hynny.
Roeddwn i braidd yn siomedig bod eich cyd-Weinidog, y Gweinidog materion gwledig, wedi awgrymu yn y Siambr na fydd yn cefnogi'r Bil, ac mae hynny'n siomedig pan fyddwch chi'n ceisio cyflwyno rhywbeth ac mae meddwl caeedig yn ei wynebu, oherwydd rwy'n credu ei fod yn eithaf sylfaenol. Mae gennym ni Fil amaethyddiaeth sy'n ystyried cymorth ffermio a Bil caffael cyhoeddus sy'n hyrwyddo caffael cymdeithasol a chyfrifol, ond yr hyn sydd ar goll yw fframwaith i ymuno'r cwbl, yn ogystal â strategaethau amrywiol y Llywodraeth. Gyda'n gilydd mae angen i ni sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn fwy rhagweithiol wrth fonitro iechyd a hygyrchedd y system fwyd yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod mwy o graffu ac atebolrwydd yn rhan annatod o'r system.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr.
Iawn, mae'n ddrwg gennyf i. Felly, Prif Weinidog, a gaf i eich annog i ystyried sut y gallwch chi gydweithio â mi i gyflwyno'r newidiadau y mae angen i bob un ohonom ni eu gweld, y mae rhanddeiliaid niferus ledled Cymru yr wyf i wedi ymgysylltu â nhw wedi gofyn amdanyn nhw? Diolch.

Llywydd, a gaf i roi sicrwydd i'r Siambr y bydd Bil llywodraethu amgylcheddol yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y tymor hwn. Mae gennym ni drefniadau dros dro ar waith, a'r wybodaeth sydd gennyf i yw eu bod yn gweithio'n foddhaol fel mesur dros dro, ond rydym ni wedi ymrwymo i Fil ar lywodraethu amgylcheddol. Ni fydd yn ail flwyddyn y rhaglen, ond bydd o'ch blaen chi yn ystod y tymor hwn.
O ran deddfwriaeth y meinciau cefn, tybed a gaf i ddweud yn dawel fach wrth yr Aelodau y gall deddfwriaeth y meinciau cefn fod yn ddylanwadol mewn mwy nag un ffordd, ac nid bob amser drwy sicrhau bod y Bil yn mynd ar y llyfr statud. Drwy ddod â Bil gerbron y Senedd, mae Aelodau'n creu dadl, maen nhw'n creu dylanwad, maen nhw'n llunio agweddau eraill ar bolisi'r Llywodraeth. Felly, nid wyf i'n credu mai mesur llwyddiant yw bod Bil yn gwneud ei ffordd drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol gyfan. Mae Aelodau'n cyflwyno darnau o ddeddfwriaeth mewn llawer o ffyrdd eraill sy'n ddylanwadol ac sy'n gwneud gwahaniaeth.
Rhys ab Owen. Rhys ab Owen? A all rhywun ei ddad-dawelu? Diolch.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Adam Price yn gywir. O fewn y pum mlynedd diwethaf, roedd 44 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn y setliad datganoledig, o'i gymharu â 21 o Filiau Cymreig. Ac mae nifer o'r Biliau yna, Biliau'r Deyrnas Unedig, wedi eu pasio heb gydsyniad y Senedd yma, a nifer ohonyn nhw hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Prydeinig newid y setliad datganoledig. Felly, sut y mae modd diwygio'r broses LCM er mwyn bod yn fwy cynhwysol o'r Senedd yma?
Rwy'n bryderus iawn, Prif Weinidog, ein bod ni'n cerdded yn ein cwsg i mewn i Senedd wahanol iawn—Senedd Cymru yn ôl ei henw ond gyda phwerau llawer gwannach. Eich ateb yr wythnos diwethaf i Adam Price, os gwnawn ni ethol Llywodraeth Lafur, dyna'r ffordd i ddiogelu datganoli yn San Steffan—beth sy'n digwydd os nad oes gennym ni Lywodraeth Lafur? Ni all yr ateb fod yn San Steffan, rhaid iddo fod yma yng Nghymru. Beth sy'n diogelu deddfwriaeth Cymru rhag cael ei diddymu dro ar ôl tro, fel y gwelwn ni yn yr arwydd ynghylch Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017?

Wel, Llywydd, rwy'n rhannu'r pryderon y mae Rhys ab Owen wedi'u mynegi. Rydym ni wedi wynebu, ers mis Rhagfyr 2019, Lywodraeth wahanol iawn yn y DU i unrhyw un yr ydym ni wedi'i gweld yn y cyfnod datganoli. Tan 2018 nid oedd confensiwn Sewel erioed wedi cael ei ddefnyddio i anwybyddu ewyllys y Senedd, ac rwy'n credu ein bod ni nawr wedi'i weld bum gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr, mae hyn yn dweud wrthym ni fod rhywbeth gwahanol iawn yn digwydd, ac mae gennym ni Lywodraeth sydd â chyfres wahanol iawn o agweddau yn San Steffan. Ac mae hynny'n her i ni—nid wyf i'n anghytuno â hynny. Pan ddywedais i mai'r ffordd orau o ddatrys yr her yw cael Llywodraeth wahanol, er fy mod i'n gwneud pwynt o ddifrif, mewn gwirionedd—mai dyna'r ffordd y gallwn ni ddod o hyd i ffordd o ymwreiddio datganoli fel na all Llywodraethau o'r argyhoeddiad presennol yn y dyfodol, fel y mae'r un bresennol wedi'i wneud, geisio gwrthdroi penderfyniadau wedi’u gwneud o'r blaen a'u cymeradwyo mewn refferenda yn olynol yma yng Nghymru.
Yn y cyfamser, rydym ni'n parhau i chwilio gyda chydweithwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac yn Llywodraeth y DU, i ddod o hyd i ffyrdd gwell o symud ymlaen. Yn y strwythur cysylltiadau rhynglywodraethol newydd, bydd cyd-Aelodau'n cofio bod dau brif bwyllgor sy'n eistedd islaw pwyllgor Prif Weinidogion y gwledydd datganoledig a Phrif Weinidog y DU. Gwnaeth un o'r pwyllgorau hynny gyfarfod yr wythnos diwethaf; confensiwn Sewel oedd un o'r ddwy eitem ar yr agenda honno. Ac mae cyfres o ffyrdd ymarferol y byddai modd gwneud confensiwn Sewel i weithredu mewn ffordd a oedd yn cynnig mwy o hyder i ni a mwy o allu i amddiffyn y setliad datganoli. Y risg, a'r risg yr wyf i'n ei gyflwyno i Weinidogion y DU, yw hyn: oni bai eu bod yn barod i barchu'r setliad datganoli presennol, neu'r cyfrifoldebau sy'n gorwedd mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, yn y pen draw, nid tanseilio datganoli y mae, ond tanseilio'r Deyrnas Unedig ei hun.
Prif Weinidog, rwyf i wedi eich herio chi a'r Cwnsler Cyffredinol o'r blaen i roi rhaglen i ni sy'n llawn deddfwriaeth wedi'i gwneud yng Nghymru. Rwy'n credu y bydd gan y Senedd bresennol hon o 60 o Aelodau eu dwylo'n llawn yn y flwyddyn i ddod, rhaid i mi ddweud—mae digon yma i gael ein dannedd ynddo. Nid oes rhywbeth at ddant pawb, ond mae llawer yma. A byddwch chi'n falch o wybod na fyddaf i'n sôn am yr un sy'n achosi cyffro yn ein pwyllgor ein hunain, y Bil cydgrynhoi ar yr amgylchedd hanesyddol, er bod hynny'n mynd i'n cadw ni'n brysur, ac nid wyf i eisiau siarad am Fil diwygio'r Senedd, er bod croeso iddo ac mae croeso i'ch sylwadau chi am bawb sy'n ymwneud â llunio hyn nawr wrth fwrw ymlaen, pawb yn y Senedd hon—mae'n ymwneud â'r Bil aer glân mewn gwirionedd. A gaf i ofyn i chi ganmol ymgyrchu pobl, nawr dros flynyddoedd lawer, i gyflwyno Bil aer glân yma yng Nghymru, a gwaith y grŵp trawsbleidiol—mae llawer o Aelodau'r Senedd yma yn aelodau o'r grŵp hwnnw, ond yr holl ymgyrchwyr arno? Ac a wnaiff ef ymrwymo, ynghyd â Lee Waters, ei Weinidog, sydd wedi bod ar gael bob tro i'r grŵp hwn, i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol yn y Senedd i helpu i lunio hyn, gan gynnwys y targedau uchelgeisiol y mae'r Prif Weinidog wedi'u disgrifio fel rhai sy'n angenrheidiol i'r Bil aer glân hwnnw?

Wel, diolch i Huw Irranca-Davies, Llywydd, ac o gofio ei fod wedi sôn am Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a'r unig berson hyd yn hyn, efallai y dylwn i ddweud rhywbeth am arwyddocâd y Bil hwnnw. Dyma'r Bil cydgrynhoi cyntaf o'i fath i ddod o flaen y Senedd. Bydd yn gwneud darn pwysig iawn o waith i wneud deddfwriaeth yma yng Nghymru yn hygyrch i'r bobl sy'n gorfod ei defnyddio, boed hynny'n aelodau o'r cyhoedd, ond yn sicr y bobl hynny sy'n gweithio yn y maes hwn. Ac efallai na fydd yn torri tir newydd yn y ffordd y bydd rhai darnau eraill o ddeddfwriaeth, ond bydd yn sicr yn gwneud y gyfraith bresennol yn fwy effeithiol yng Nghymru.
Yn sicr rwy'n cytuno â'r hyn y gwnaeth yr Aelod ei ddweud am y bobl hynny sydd wedi ymgyrchu ar fater aer glân a gwaith y grŵp trawsbleidiol, ac wrth i'r Bil hwnnw gael ei gyflwyno o flaen y Senedd, wrth gwrs edrychwn ni ymlaen at barhau i weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd, ond y rheini y tu hwnt i hynny sydd â diddordeb ynddo. Rwyf i eisoes wedi fy nghofnodi, Dirprwy Lywydd—. Rwyf i wedi dweud na allaf i feddwl am un Bil nad yw wedi'i wella o ganlyniad i'r broses graffu y mae Biliau'n mynd drwyddi yma ar lawr y Senedd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n wir am y Bil aer glân, cymaint ag y byddai o ran unrhyw ddarn arall o ddeddfwriaeth.
A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad heddiw o ran y rhaglen ddeddfwriaethol? Prif Weinidog, yn natganiad Llywodraeth Cymru i'r wasg ddoe ar ymdrin â niferoedd uchel o ail gartrefi, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'r rhaglen ddeddfwriaethol barhaus, gwnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae twristiaeth yn hanfodol i’n heconomi ni'.
Fodd bynnag, nid yw'n glir i mi, o'ch rhaglen ddeddfwriaethol chi ac, yn wir, y rhaglen lywodraethu, pa gymorth i'r sector fydd yn cael ei gynnwys, y disgrifiwch chi fel rhan hanfodol o'n heconomi. Yn wir, yr hyn yr ydym ni'n ei weld ar y gorwel, wrth gwrs, yw treth dwristiaeth arfaethedig, y mater aneglur hwn rhwng busnesau hunanarlwyo ac ail gartrefi, a gyda'r rheoliadau niweidiol presennol ar osod gwyliau am 182 diwrnod, fy nealltwriaeth i a fy asesiad i o'r sector hwn yw bod y mesurau hyn yn debygol o rwygo'r diwydiant a gorfodi llawer o fusnesau sy'n gweithio'n galed a busnesau lleol i fynd i'r wal. Ac, wrth gwrs, byddwch chi'n gwybod mai dyma'r un sector twristiaeth sy'n cefnogi ac yn cynnal llawer o'n cymunedau gyda degau o filoedd o swyddi, gan gefnogi nifer fawr o fusnesau drwy'r gadwyn gyflenwi, ac, wrth gwrs, croesawu degau o filiynau o ymwelwyr i Gymru bob blwyddyn. Felly, yng ngoleuni hyn, Prif Weinidog, pa ran o'r rhaglen ddeddfwriaethol a gafodd ei chyhoeddi heddiw sy'n cefnogi'r diwydiant hanfodol hwn?

Wel, Llywydd, rwyf i wedi clywed tranc diwydiant twristiaeth Cymru yn cael ei ragweld gan Geidwadwyr Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nid ydyn nhw'n helpu'r sector o gwbl drwy'r ffordd y maen nhw'n ei fychanu'n gyson. Mae'n sector cadarn iawn, mae'n sector llwyddiannus iawn, a rhan o hynny yw'r gefnogaeth sylweddol iawn y mae eisoes yn ei chael gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n mynd ymhell y tu hwnt i ddeddfwriaeth. Mae agweddau deddfwriaethol ar hynny. Rydym ni, yr wyf i'n falch o ddweud, yn newid ar ba sail y mae modd cofrestru llety gwyliau ar gyfer naill ai'r dreth gyngor neu ar gyfer ardrethi busnes, er mwyn sicrhau mai dim ond busnesau dilys sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i gymunedau lleol sy'n gallu manteisio ar y system ardrethi busnes, a bydd diwygiad ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y tymor hwn. A bydd hynny hefyd yn cryfhau'r diwydiant, oherwydd bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol godi symiau bach o arian, fel sy'n cael eu codi ledled y byd, ar bobl sy'n dewis ymweld â Chymru, fel y gellir ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn y cymunedau hynny, gan gefnogi'r amodau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.
Fe ysgrifennais atoch chi yn ddiweddar, fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, yn gofyn ichi gynnwys deddfwriaeth ar lywodraethiant amgylcheddol yn eich datganiad chi heddiw. Yn amlwg, dyw hynny ddim wedi digwydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, dwi'n meddwl nôl yn 2018, eich bod chi am ddefnyddio'r cyfle cyntaf posib i ddeddfu ar y mater yma. Rŷn ni dal yn mynd i aros tan y flwyddyn nesaf, o beth dwi'n deall mewn ateb blaenorol, a'r flwyddyn wedyn hefyd. Fe gyfeirioch chi at y trefniadau interim. Does dim sail statudol i'r trefniadau yna. Mae'r asesydd interim heb bwerau gorfodi. Mae gweddill y Deyrnas Unedig wedi gweithredu ar hyn, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs—a byddwn i'n gofyn, felly, ydych chi'n cydnabod—mai Cymru nawr yw'r wlad gyda'r llywodraethiant amgylcheddol gwanaf yng ngorllewin Ewrop. Does bosib bod hynny'n ei wneud e'n fwy o flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi.

Wel, Dirprwy Lywydd, fel dwi wedi esbonio, pan ŷch chi'n creu rhaglen ddeddfwriaethol, mae dewisiadau gyda chi i'w gwneud. Rŷn ni wedi dewis dod â'r Bil ymlaen, fel mae'r Aelod wedi sôn amdano. Dydy hwnna ddim yn y flwyddyn nesaf, ond bydd y Bil ar ei ffordd.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Mae llawer o bethau ynddo rwy'n eu croesawu, a llawer o bethau nad wyf wedi fy argyhoeddi yn eu cylch hyd yn hyn. Ond, ar faterion eraill, Prif Weinidog, gwnaethoch chi ddweud yn ystod y datganiad eich bod chi'n gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddeddfu ar rai meysydd—rhywbeth fel diogelwch adeiladau a Deddf yr Amgylchedd—lle mae gan y Senedd gymhwysedd i greu ei deddfwriaeth ei hun, ond, os gallwch chi weithio'n adeiladol, oherwydd cyfyngiadau amser yma, mae'n gwneud synnwyr. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Senedd yn cael y cyfle i graffu ar unrhyw ddeddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno, hyd yn oed os ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, pan ydych chi'n deddfu ar faterion datganoledig. Felly, a wnewch chi amlinellu, Prif Weinidog: a oes unrhyw feysydd nad ydyn nhw yn eich rhaglen yr ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU arnyn nhw i ddeddfu mewn meysydd datganoledig? Ac os ydych chi'n gwneud hynny, sut y byddwch chi'n sicrhau bod y Senedd hon yn gallu craffu ar y pethau hynny'n iawn, felly gallwn sicrhau bod polisi'n cael ei ddatblygu er budd pobl Cymru, ac rwy'n siŵr eich bod chi a minnau eisiau gwneud hynny?

Wel, mae cyfres gyfan o feysydd, Llywydd, y byddwn ni'n gweithio arnyn nhw gyda Llywodraeth y DU—weithiau oherwydd ein bod ni'n dewis gwneud hynny, weithiau oherwydd eu bod yn cyflwyno cynigion lle maen nhw'n ceisio deddfu mewn meysydd a ddylai fod yn faes yr Aelodau yma. Nawr, mae'r Bil diogelwch ar y rhyngrwyd—gobeithio bod y teitl hwnnw'n gywir—yn enghraifft o Fil pryd yr ydym ni'n credu bod manteision i Gymru o gymryd pwerau a fydd yn amddiffyn pobl yma yng Nghymru. Felly, rydym ni'n cychwyn y trafodaethau hynny ac rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn y DU. Mae eraill lle mae'n anochel bod ein sgyrsiau wedi'u cynllunio'n fwy er mwyn sicrhau nad oes modd arfer unrhyw bwerau y mae Llywodraeth y DU yn eu ceisio yn unochrog a heb i Weinidogion Cymru na'r Senedd ei hun gymryd rhan.
Y ffordd y mae'r Senedd yn cael gwybod am y pethau hyn, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, yw drwy'r broses gydsyniad deddfwriaethol. Rhaid i ni osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n nodi i'r Aelodau yr hyn yr ydym ni'n ei drafod a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu'i wneud, ac yna rhaid i ni osod cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Nawr, fy nod, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, yw gallu rhoi cynifer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol o flaen y Senedd y gallwn ni eu cefnogi â phosibl, oherwydd bydd hynny'n golygu fy mod i'n ffyddiog bod y camau sy'n cael eu cynnig er budd pobl yng Nghymru. Felly, dyna fy man cychwyn i: rwy'n gobeithio gallu rhoi LCM y gallwn ni ddweud y dylai'r Senedd ei gefnogi. Pryd na allwn ni ei gefnogi, mae confensiwn Sewel yn sicr yn glir: os bydd y Senedd yn gwrthod caniatâd, ni ddylai Llywodraeth y DU ddeddfu. Mae hynny'n sefyllfa nad ydym ni wedi'i sicrhau o dan y Llywodraeth bresennol. Gwnaethom ni hynny o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol. Mae angen i ni ddychwelyd at hynny er mwyn i gonfensiwn Sewel chwarae'r rhan y mae angen iddi ei chwarae wrth amddiffyn y setliad datganoli, ond hefyd, fel y gwelaf fi, sicrhau ei fod yn cryfhau'r Deyrnas Unedig.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad—Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw rydym yn nodi cam hanesyddol arall ar daith ddeddfu ein gwlad. Dyma'r Bil cydgrynhoi cyntaf i’w gyflwyno fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, rydym yn parhau â'r broses o greu llyfr statud i Gymru. Mae'r Bil cydgrynhoi hwn yn nodi dechrau prosiect uchelgeisiol i roi trefn ar ein deddfwriaeth. Mae hon yn rhaglen hirdymor, ond rwy'n gobeithio y bydd pawb yn gweld bod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn dangos y manteision niferus a fydd yn deillio o gynhyrchu deddfwriaeth fodern a dwyieithog sy'n benodol i Gymru.
Mae cydgrynhoi yn ymwneud â dwyn deddfwriaeth berthnasol ynghyd sy'n gysylltiedig â phwnc, egluro ei strwythur a mabwysiadu dulliau mwy dealladwy o ddrafftio ac iaith. Yma, mae'r prif Ddeddfau ar yr amgylchedd hanesyddol wedi'u dwyn ynghyd, ynghyd â darpariaethau o Ddeddfau perthnasol eraill ac offerynnau eilaidd. Mae'r gyfraith wedi'i hailgyflwyno mewn strwythur rhesymegol a, lle bynnag y bo modd, mae wedi'i hailddatgan mewn iaith syml, bob dydd. Hefyd, mae'r Bil a'i ddogfennaeth ategol yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn cynnwys tua 200 o dudalennau, ac mae'n un o'r darnau hiraf o ddeddfwriaeth sydd wedi'i gyflwyno i'r Siambr hon hyd yma. Mae hyn yn gryn gamp.
Nid yw cydgrynhoi yn ymarfer mecanyddol o wneud dim mwy na chopïo'r darpariaethau presennol i Fil newydd gydag ambell newid. Yn hytrach, mae'r gyfraith bresennol wedi'i harchwilio'n ofalus i ddeall ei bwriad a'i chymhwyso fel y gellir ei hailddatgan heb newid ei heffaith. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth sy'n dod gerbron y Siambr hon, nid Bil diwygio yw hwn; nid yw'n newid polisi. Felly, rhaid gwerthuso ei lwyddiant drwy gyfeirio at y graddau y mae'n gwella strwythur ac eglurder y gyfraith bresennol, gan gadw ei heffaith gyfreithiol.
Amlygodd yr archwiliad o'r gyfraith bresennol rai mân broblemau ac, er mwyn mynd i'r afael â nhw, gwnaed newidiadau yn unol â'r hyn a ganiateir gan Reol Sefydlog y Senedd ar Filiau cydgrynhoi. Mae'r gwaith hwn wedi'i grynhoi yn nodiadau'r drafftiwr. Mae tablau tarddiad a thrawsleoli hefyd wedi'u cynhyrchu, yn bennaf i helpu Aelodau ddeall o ble y daeth y gyfraith newydd ac, i'r gwrthwyneb, i sut mae'r gyfraith bresennol wedi esblygu. Os daw'r Bil yn gyfraith, bydd y rhain yn parhau i fod yn adnodd ar gyfer y dyfodol ar wefan deddfwriaeth am ddim y DU, legislation.gov.uk.
Hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr am eu hymgysylltiad cadarnhaol â'r broses ddeddfwriaethol yng Nghymru. Mae adroddiad y comisiwn, 'Cyfraith Cynllunio yng Nghymru', sy'n llunio'r cydgrynhoi cynllunio presennol, hefyd wedi'i ystyried ym Mil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Rydym hefyd yn ddiolchgar bod Comisiwn y Gyfraith, ar gais Llywodraeth Cymru, wedi gwneud pedwar argymhelliad ar gyfer newidiadau i'r Bil hwn yr oedd yn eu hystyried yn briodol mewn Bil cydgrynhoi. Mae hyn eto'n gyson â'r hyn a ganiateir o dan y Rheol Sefydlog.
Tynnaf eich sylw hefyd at adran gyntaf y Bil, sy'n datgan ei fod yn rhan o god cyfreithiol sy'n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru. Ochr yn ochr ag atgyfnerthu, mae codio yn offeryn i greu a chynnal trefn yn llyfr cyfraith Cymru. Os caiff ei phasio gan y Senedd, bydd y ddeddfwriaeth hon, ynghyd â'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, yn ffurfio cod cyfraith Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae hyn yn golygu y caiff y gyfraith i gyd ei chyhoeddi gyda'i gilydd fel cod ac, yn y dyfodol, byddai'n rhaid i'r Aelod sy'n gyfrifol gyfiawnhau unrhyw awydd i wyro o'r strwythur sefydliadol a grëwyd. Gan mai hwn yw'r Bil cydgrynhoi cyntaf i ddod gerbron y Senedd, gwn y bydd Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn rhoi sylw gofalus i'w chynnydd ac yn dysgu o'r broses hon er budd Biliau cydgrynhoi yn y dyfodol.
Felly, i gloi, rwy'n cyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i chi ac yn eich annog i gefnogi Bil a fydd yn rhoi cyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog i Gymru ar gyfer diogelu a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw a gwerthfawr. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr am eich datganiad. Wrth gwrs, rydym yn croesawu mesurau i gyflwyno, yn y derminoleg a ddefnyddir, gyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog at y diben a nodir. Ond, wrth gwrs, yn aml, yn y manylion y mae'r anawsterau. Felly, yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe ar gyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i'r Senedd hon, fe ddywedoch chi eich bod
'wedi nodi cyfraith amgylchedd hanesyddol Cymru fel pwnc addas ar gyfer y prosiect cyntaf mewn rhaglen uchelgeisiol o gydgrynhoi deddfwriaethol.'
A allwch chi gadarnhau felly ar goedd—ac fe wnaethoch chi hynny'n rhannol, ond nid yn llwyr, yn eich cyflwyniad—mai Bil cydgrynhoi yn unig yw hwn ac na fydd y gyfraith ei hun, nid polisi'n unig, yn cael ei newid na'i diwygio i ddarparu ar gyfer hyn? Os caiff ei newid neu ei diwygio—y gyfraith, yn benodol—mewn unrhyw ffordd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi sut.
Fel y nodais yma fis Medi diwethaf, wrth ymateb i'ch datganiad ar hygyrchedd cyfraith Cymru:
'Roedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) yn ymwneud â chasglu cyfraith i wahanol gabinetau ffeilio pwnc, gyda phrif statud a phopeth arall yn cyfeirio at y statud hwnnw—gwaith enfawr a gynlluniwyd i helpu'r cyhoedd i ddod o hyd i gyfraith a'i defnyddio eu hunain.'
Felly, i ba raddau y bydd y Bil cydgrynhoi hwn yn ategu neu'n cyflawni hyn a pha gapasiti sydd gennych chi a'ch adran i weinyddu'r ymgymeriad dan sylw a allai fod yn sylweddol?
Yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch chi:
'Mae ein deddfwriaeth bresennol ar yr amgylchedd hanesyddol wedi datblygu’n gasgliad dryslyd o ddarpariaethau sydd wedi'u diwygio droeon.'
Ac, wrth gwrs, mae ein hanes presennol ei hun wedi dod yn gasgliad dryslyd o ffeithiau, gwirioneddau, chwedlau a chamsyniadau. Fis Medi diwethaf, fe wnaethoch chi ddyfynnu o Lyfr Iorwerth, testun o gôd Gwynedd neu Venedotaidd cyfraith Cymru'r oesoedd canol, lle'r oedd teyrnas Gwynedd, neu Venedotia, yn wladwriaeth a olynodd yr ymerodraeth Rufeinig a ddaeth i'r amlwg ym Mhrydain ôl-Rufeinig yn y bumed ganrif. Wrth gwrs, mae testunau eraill yn ein hatgoffa mai nod y bobl Frythonig, neu'r Brytaniaid, yn y gorllewin, bryd hynny a thros ganrifoedd olynol, oedd adennill y tiroedd coll yn y dwyrain ac ailuno â'u brodyr Prydeinig ar draws ein hynys. Mae testunau diweddarach yn ein hatgoffa o sut y bu i oresgynwyr Normanaidd gamdrin y Brytaniaid ledled ein hynys a sefydlu codau cyfreithiol newydd. Sut y byddwch chi, felly, yn sicrhau, wrth gyfuno deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol Cymru, y caiff y cofnod hanesyddol hanfodol hwn, sy'n aml yn ddryslyd a chymhleth, ei gadw a'i egluro?
Pan oeddem yn derbyn tystiolaeth ar Fil—Deddf, bellach—yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn 2015, cyfeiriodd un o fy nghwestiynau i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd at bryderon a ddygwyd i'n sylw bod i'r cynigion, ac rwy'n dyfynnu,
'oblygiadau enfawr o ran capasiti ac adnoddau',
gan ychwanegu bod hyn yn ailadrodd
'pryderon a grybwyllwyd ynghylch deddfwriaeth arall...ble, beth bynnag fo bwriad y ddeddfwriaeth, mae'r gost a nodwyd...yn llawer mwy na'r hyn a nodir yn y memorandwm esboniadol.'
Felly, ailadroddaf fy nghwestiynau ichi pan ymatebais i'ch datganiad ar hygyrchedd cyfraith Cymru fis Medi diwethaf: beth yw cyfanswm cost ariannol y rhaglen atgyfnerthu ddeddfwriaethol hon, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi nad rhywbeth a fydd o fantais i ddim ond y sector cyfreithiol ar gost fawr i'r pwrs cyhoeddus yw hyn? Ac yn olaf, pa ymgynghori ydych chi wedi'i wneud gyda'r sector amgylchedd hanesyddol ei hun ynghylch y Bil hwn?
A gaf i ddiolch ichi am y cwestiynau hynny? Rwyf innau hefyd yn croesawu'r daith drwy ein hanes, sydd bob amser o gryn ddiddordeb.
Mae'r ddeddfwriaeth, y Bil cydgrynhoi hwn—. Yn gyntaf, i ddelio â mater diwygio, rydych chi yn llygad eich lle, nid diben y Bil penodol hwn yw newid y gyfraith, i ddiwygio'r gyfraith. Yr hyn y mae yn ei olygu, wrth gwrs, yw, ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei chydgrynhoi, ei bod yn gwneud yr holl broses ddiwygio yn llawer haws, oherwydd ei bod wedi casglu'r holl gyfraith, yr holl gyfreithiau perthnasol, mewn un lle penodol, ac felly bydd hi gryn dipyn yn rhwyddach gwneud unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau drwy ddiwygio diweddarach. Felly, mae'n llawer haws diwygio a newid cyfraith yn y dyfodol, ond mae hynny'n adeiladu ar y broses o gydgrynhoi ei hun. Ac, wrth gwrs, mae'n arwain, fel y dywedwch chi, fel y gwnaethoch chi ei nodi yn gwbl briodol, at drefniadaeth well o'r gyfraith, oherwydd mae hon yn broses hirdymor a fydd yn parhau am flynyddoedd lawer, lle'r ydym ni'n ceisio codio'r gyfraith, i ddod â'r gyfraith o wahanol feysydd—yn hytrach na'i bod wedi gwasgaru mewn amrywiaeth eang o wahanol feysydd—i un lle mewn modd wedi'i godio. Ac mae hynny eto nid yn unig yn golygu bod hygyrchedd yn well, mae'n gwneud y gyfraith yn symlach ac yn haws ei deall, ond mae hefyd yn golygu, pan fydd angen diwygio, y gellir gwneud hynny mewn ffordd lawer mwy adeiladol a symlach, rwy'n credu.
Mae'r cydgrynhoi'n cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth sy'n mynd yn ôl ymhell cyn datganoli, ond fel y gwelwch chi o adran 1 o'r Bil, sy'n rhoi trosolwg, mae'n nodi, mewn gwirionedd, beth yw'r ddeddfwriaeth, ond hefyd beth yw'r amcan a beth yw diben y cydgrynhoi a sut y bydd hynny'n gweithredu. Felly, y Rheolau Sefydlog yr ydym ni'n gweithio gyda nhw i ganiatáu inni ailddatgan y gyfraith; maen nhw'n caniatáu inni egluro'r gyfraith; dileu'r darnau hynny o ddeddfwriaeth sydd wedi darfod, darnau o ddeddfwriaeth nad ydyn nhw'n berthnasol mewn gwirionedd; gall wneud mân newidiadau lle mae angen—weithiau o ran iaith ryweddedig rhai o'r ddeddfwriaeth hŷn; ac, wrth gwrs, gwneud rhai newidiadau a argymhellir gan Gomisiwn y Gyfraith sy'n briodol i'w cydgrynhoi. Gall hefyd i bob diben eithrio deddfwriaeth na chaiff ei harfer mwyach, sydd wedi dyddio neu ddarnau o ddeddfwriaeth yn y gorffennol nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiben ymarferol—rhai darnau nad ydyn nhw erioed wedi'u gweithredu.
Felly, mae'n dwyn ynghyd Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953. Nid yw'n mynd yn ôl cyn belled â'r meysydd yr oeddech chi'n ymdrin â nhw yn eich araith—credaf fod hynny'n gwbl ddealladwy. Mae'n dwyn ynghyd Rhannau I a III o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979. Mae'n dwyn ynghyd darnau o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, ac mae'n ailddatgan rhai darnau o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r maes yma mewn perthynas â chynllunio gwlad a thref, cynllunio a phrynu gorfodol.
Ac, wrth gyflwyno'r Bil, wrth gwrs, yn ogystal â'r memorandwm esboniadol, mae tablau sy'n sylfaenol yn nodi ac yn dangos o ble y daeth y gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Ond, fel y dywedais i, nid yw hyn yn ymwneud â diwygio neu newid y gyfraith; mae'n ymwneud â dod â'r gyfraith bresennol i un lle, a dyna fydd yr her. Prawf yw hwn ac, fel y nodwyd eisoes gan y Prif Weinidog, dyma'r cyntaf o'r darnau hyn o ddeddfwriaeth gydgrynhoi. Ni ddylai effeithio o ran unrhyw faterion o ran y cofnod hanesyddol, oherwydd y cyfan y mae'n ei wneud yw cyflwyno'r rhannau hynny o ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli.
Ac o ran y pryderon a godwyd o'r blaen o ran a oes goblygiadau cymhleth ynghylch adnoddau a chapasiti ac yn y blaen, credaf mai'r gwrthwyneb yn union yw'r effaith. Credaf fod hyn mewn gwirionedd yn symleiddio pethau. Yn sicr, fyddem ni ddim eisiau dod â Bil cydgrynhoi a oedd mewn gwirionedd yn gwneud pethau'n fwy cymhleth neu'n creu costau ychwanegol, ac mewn gwirionedd, dylai hyn fod yn rhywbeth sy'n lleihau costau mewn gwirionedd. Mae'n ei gwneud yn haws i gyfreithwyr ddeall, mae'n ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n ymarfer yn y maes, neu sy'n ymwneud â'r maes amgylchedd hanesyddol, weithredu'n fwy effeithlon, yn fwy syml a gyda llai o gost.
Ac o ran, mae'n debyg, y sylw yr ydych chi'n ei wneud am y sefydliadau hynny, megis Cadw, er enghraifft—sefydliadau'r amgylchedd hanesyddol—wrth gwrs, nid yw'r Bil cydgrynhoi hwn yn briodol ar gyfer ymgynghoriad yn yr un modd â diwygio deddfwriaeth, oherwydd yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn gwirionedd yw sôn am ddod â'r ddeddfwriaeth bresennol i un lle, ond roedd gweithgor a ddygwyd ynghyd o gyrff perthnasol i edrych yn fanwl ar y ddeddfwriaeth ac i fod yn fodlon â chyfeiriad cyffredinol hynny. Yn sicr, yr holl argoelion sydd gennyf i yw bod hynny'n rhywbeth a gefnogir yn fawr, bod croeso mawr i'r Bil cydgrynhoi hwn gan y rheini ym maes yr amgylchedd hanesyddol, eu bod yn y broses eu hunain o wneud newidiadau i roi'r ddeddfwriaeth a'r newidiadau fydd yn digwydd ar eu gwefannau. Felly, gobeithio bod hynny wedi ateb yr holl sylwadau allweddol a wnaethoch chi.
Rhys ab Owen. Rhys, dydych chi heb droi eich meicroffon ymlaen eto, arhoswch funud.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cwnsler Cyffredinol, gaf i ddechrau trwy eilio sylwadau'r Arglwydd Ustus Green, cadeirydd Comisiwn y Gyfraith, a llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y cam pwysig yma i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch? Nawr, efallai bod hwn ddim o ddiddordeb i bawb, ond dwi'n excited iawn am y cam pwysig yma. Mae hwn yn gam sy'n mynd i weddnewid y gyfraith yng Nghymru. I ymateb i bwynt Mark Isherwood, wrth gwrs mae gan gydgrynhoad effeithiol fanteision amlwg i'r proffesiwn cyfreithiol ac mae ganddo hefyd fanteision amlwg i ni fel seneddwyr, ichi, Cwnsler Cyffredinol, fel Llywodraeth, ond hefyd, yn bwysicach fyth, fanteision amlwg i ddinasyddion Cymru.
Fel y Bil cydgrynhoad cyntaf yng nghyfraith Cymru, mae e'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau ei fod e'n gywir, ac edrychaf ymlaen, Cwnsler Cyffredinol, at gydweithio â chi ac i graffu'r Bil fel aelod o'r pwyllgor deddfwriaethol. Dwi'n credu, fel deddfwrfa ifanc, fod yna gyfle arbennig gyda ni yma yng Nghymru i sicrhau bod ein cyfraith ni mor hygyrch â phosibl. Dŷn ni ddim fel San Steffan, sy'n mynd nôl i'r ddeuddegfed ganrif; mae cyfraith Cymru yn ifanc, felly mae modd i ni gydgrynhoi, mae modd i ni ei chodeiddio mewn ffordd sydd bron a bod yn amhosib yn San Steffan. Mae hwn hefyd yn dangos bod cyfraith Cymru yn aeddfedu a bod gennym system o gyfraith am y tro cyntaf sy'n fyw am y tro cyntaf ers y Deddfau Uno.
Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yn hygyrch ac yn glir, ac yn darparu ar gyfer codeiddio. Yn hynny o beth, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi mewn llinach teilwng iawn. Braf, fel mae Mark Isherwood wedi sôn, oedd gweld dyfyniad yn y memorandwm esboniadol o ragymadrodd Llyfr Iorwerth yn 1240 a oedd yn sôn am gyfraith Hywel Dda o'r ddegfed ganrif, ond efallai hyd yn oed yn fwy braf, Cwnsler Cyffredinol, oedd y ffaith bod yr hen ddyfyniad gyda chi wedi ei foderneiddio i Gymraeg ddealladwy, i Gymraeg fodern ein hoes ni, ac i ddyfynnu,
'A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd eraill o'r newydd.'
Da iawn yn wir. Dwi'n credu ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n atgoffa ein hunain dro ar ôl tro o'r traddodiad cyfreithiol gyfoethog sydd gennym ni yma yng Nghymru, a chael ein hysbrydoli gan ein hanes i sicrhau bod cyfraith Cymru yn bwrpasol i'r oes fodern.
Mae'r cyhoeddiad heddiw, fel rwyf fi'n dweud, yn gam pwysig ymlaen i godeiddio'r gyfraith. Dwi wedi gweld pob math o sôn am amserlennu'r codeiddio, gydag un dyfyniad yn dweud ei fod e'n mynd i fod yn waith generation cyfan. Oes unrhyw amserlen gyda chi yn eich meddwl, Cwnsler Cyffredinol, am ba mor hir fydd y broses codeiddio yn digwydd a beth yw'r amserlen am y Biliau cydgrynhoi eraill?
I orffen, Dirprwy Lywydd, yn dilyn lleihad amlwg mewn cymorth cyfreithiol, mae angen cyfraith sydd wedi ei drafftio mewn ffordd ddealladwy ac sydd wedi ei threfnu mewn ffordd fel bod y gyfraith berthnasol mewn un lle, bod dim rhaid i bobl fynd i edrych mewn llefydd gwahanol. Mae'r gwaith yn enfawr, fel ŷch chi'n dweud, mae'r Bil yma a'r memorandwm esboniadol yn y ddwy iaith yn dros 500 o dudalennau. Dwi'n eich llongyfarch chi, Gwnsler Cyffredinol, gan obeithio mai dyma'r cyntaf o nifer fawr o Filiau o'r fath i ymddangos ger ein bron ni fel Senedd. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau, ac yn enwedig gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a fydd yn craffu ar y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, bydd amryw wedi sylwi nad yw hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n cael ei ddiwygio yn y ffordd arferol. Hynny yw, y prif waith fydd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn sylfaenol graffu ar y Bil yn y bôn, asesu'r Bil, drafftio'r Bil, edrych ar nodiadau'r drafftiwr, ac i fod yn fodlon bod hyn yn cyflawni ei ddiben—ei fod yn cydgrynhoi, ac nid yn diwygio. Ac, wrth gwrs, mae'r gwelliannau, byddwn i'n disgwyl—byddwn i'n gobeithio—yn fach iawn, ond efallai eu bod o natur dechnegol mewn gwirionedd, ond, wrth gwrs, mae dewis o gael cyfnod diwygio pellach. Y pwynt arall, rwy'n credu, y gwnaethoch chi ddechrau sôn amdano oedd, wrth gwrs, fod hyn yn arloesol, bod y broses hon o hygyrchedd i ryw raddau yn unigryw o fewn y Deyrnas Unedig, o fewn y pedair gwlad.
Cafwyd enghreifftiau o geisio cydgrynhoi yn y gorffennol mewn meysydd cyfreithiol, ond yr hyn sydd wedi tueddu i ddigwydd yw bod hynny wedyn wedi'i danseilio gan gyfres o ddeddfwriaeth nad yw wedyn yn diwygio'r ddeddfwriaeth gyfunol ac yn y blaen—mae addysg, mae'n debyg, yn enghraifft, yn enwedig yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, ystyr 'codio' yw drwy roi cyfraith mewn categorïau y caiff y gyfraith ei diwygio o fewn y cod hwnnw yn hytrach na chreu darn newydd o ddeddfwriaeth. Felly, mae hynny'n gofyn am ddisgyblaeth o'r Senedd hon ac ymrwymiad i'r cysyniad o gydgrynhoi a dealltwriaeth ohono. Mewn gwirionedd, ni fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, ac efallai ei bod yn briodol iawn bod hynny yn holl faes yr amgylchedd hanesyddol, sydd mor bwysig i bob un ohonom ni ac i'n holl gymunedau.
Fe wnaethoch chi sôn am y pwynt iaith a rhoddwyd sylw penodol wrth ddrafftio hyn i ddefnyddio iaith syml, i ddefnyddio iaith sy'n fodern ac yn ddealladwy, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y creffir arno yn ystod y broses. Ac, unwaith eto, fel y mae eraill wedi'i wneud, rhaid imi ganmol y cyfreithwyr a'r holl swyddogion a fu'n rhan o'r broses hon oherwydd bod hyn—. Mewn rhai ffyrdd, pan ddechreuom ni edrych ar hyn, y cwestiwn oedd, 'Wel, beth yw buddugoliaeth gyflym i gydgrynhoi?' Wel, pan gyrhaeddwch chi 200 tudalen, rydych chi'n sylweddoli'n sydyn nad oes unrhyw ddeddfwriaeth byth mor syml â hynny, yn enwedig pan fyddwch yn mynd yn ôl dros gyfnod mor hir ac yn chwilio am femoranda esboniadol ar gyfer deddfwriaeth nad oedd ganddi femoranda esboniadol erioed, lle nad oedd unrhyw ddogfennau cefndirol clir o ran yr hyn y bwriadwyd i rai rhannau o'r ddeddfwriaeth ei gyflawni mewn gwirionedd na'r hyn yr oedden nhw'n ei olygu mewn gwirionedd.
O ran yr amserlen codio, wel, i ryw raddau, mae bron yn beth fydd yn cymryd cenhedlaeth, onid yw, oherwydd mae'n rhaid inni ddelio â rhaglen ddeddfwriaethol enfawr ynddo'i hun, ond fel y gwyddoch chi o'r datganiad y gwnes i y llynedd, rydym ni'n edrych ar dri darn o gydgyfnerthu. Byddwn yn ceisio symud ymlaen y tu hwnt i hynny i sesiwn nesaf y Senedd nesaf gyda rhagor o gydgrynhoi. Felly, mae hon yn broses a fydd yn parhau am gryn nifer o flynyddoedd. Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennym ni ymrwymiad cyson o un Senedd i'r Senedd nesaf mai dyma'r ffordd yr hoffem ni ailstrwythuro'r gyfraith, er mwyn gwneud y gyfraith yn hygyrch dros genedlaethau. Felly, nid proses tymor byr, dros ddwy flynedd yw hon; mae hwn yn fodd o wneud y gyfraith yn well, i'w gwneud yn fwy hygyrch, a fydd yn cymryd cenhedlaeth. A'r sylwadau a wnaethoch chi am hygyrchedd, maen nhw'n rhai yr ydym ni wedi'u trafod droeon, ac rwy'n cytuno'n llwyr â nhw.
Yn olaf, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolchwn i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad rhagarweiniol a hefyd am ychwanegu at raglen graffu brysur ein pwyllgor drwy gyflwyno'r Bil cydgrynhoi cyntaf hanesyddol hwn—mewn mwy na theitl yn unig—yng Nghymru. Nawr, mae dyfodiad y Bil cydgrynhoi Cymreig cyntaf hwn yn rhywbeth y bu rhai yn eiddgar ddisgwyl amdano, ac, mewn gwirionedd, fel yr ydym ni newydd glywed, os oes un gair sydd wedi cael ei ddefnyddio fwyaf gan fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor Rhys, James ac Alun mewn perthynas â'r agenda uchelgeisiol hon, dyma fo: cyffro. Nawr, efallai fod hyn yn adlewyrchiad arnom ni, deddfwyr unigol, ond byddwn yn dweud ei fod yn adlewyrchu arnom ni mewn ffordd dda iawn. Rydym yn cymryd hyn o ddifrif. Rydym ni'r pwyllgor yn deall y gall fod mwy o Fesurau cydgrynhoi o'r fath dan ystyriaeth, felly bydd y Cwnsler Cyffredinol yn deall ein bod yn awyddus iawn i graffu ar yr un cyntaf hwn yn gwbl gywir.
Roedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, y craffwyd arni gan ein pwyllgor blaenorol, a basiwyd gan y pumed Senedd, yn gosod dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol i adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru yn barhaus. Yna, cytunodd y pumed Senedd wedyn ar Reol Sefydlog 26C ar gyfer Deddfau cydgrynhoi'r Senedd ym mis Mawrth 2021, a sefydlodd brosesau craffu newydd yn y Senedd hon. Felly, dyma ni â Bil cydgrynhoi cyntaf nodedig, ac mae'n un sylweddol hefyd. Rydym yn wirioneddol werthfawrogi'r gwaith a'r amser aruthrol y bydd Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i baratoi'r Bil hwn, sydd, wrth gwrs, wedi dilyn gwaith sylweddol a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr.
Mewn unrhyw faes, mae cydgrynhoi cyfraith Cymru yn dasg frawychus, ond mae'n bwysig. Gall ymddangos yn sych, ond mae bod â llyfr statud hygyrch yn hanfodol bwysig i wella mynediad at gyfiawnder i'n dinasyddion. Mae ein pwyllgor yn wynebu materion sy'n tynnu sylw'n rheolaidd at gymhlethdodau ein llyfr statud. Mae llawer o resymau dros gymhlethdod. Mae ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn un digwyddiad o'r fath. Mae wedi sbarduno mwy o gyfraith yn cael ei gwneud yn gaclwm gwyllt—cyfraith nad yw wedi'i llunio'n daclus nac yn syml yn aml. Ac, yn fwy diweddar, mae'r achosion cynyddol o Lywodraeth y DU a Senedd y DU yn deddfu mewn meysydd datganoledig yn ychwanegu haen arall o gymhlethdod at lyfr statud sydd eisoes yn anhygyrch.
Dyma'r tro cyntaf y bydd gan y Senedd ran ffurfiol a bwriadol yn y gwaith o atgyfnerthu cyfraith Cymru, ac, fel y pwyllgor cyfrifol, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at wneud ein rhan. Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd sydd ynghlwm wrth gydgrynhoi'r gyfraith fel y mae'n berthnasol yng Nghymru ac, yn yr un modd, rydym yn rhoi pwys mawr ar graffu ar y Bil cydgrynhoi cyntaf hwn yn ddiwyd ac yn effeithiol, ac yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog. Mae hyn, Cwnsler Cyffredinol, yn wirioneddol gyffrous, i ddefnyddio'r gair hwnnw eto, dim ond i ddangos bod ein pwyllgor yn cyffroi weithiau. Mae'n gam cyffrous i ddeddfwriaeth yng Nghymru, ac os cawn hyn yn iawn gyda'n gilydd, Cwnsler Cyffredinol, byddwn yn gosod esiampl o arfer da ar gyfer Seneddau eraill ledled y DU a thu hwnt. Felly, edrychwn ymlaen at ein gwaith craffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), gan ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gyda'r Cwnsler Cyffredinol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau cefnogol iawn hynny? Rwy'n sicr yn cytuno â'r holl sylwadau hynny am y cyffro. Yn wir, roeddwn yn gallu gweld y cyffro'n tonni drwy'r Siambr wrth imi sefyll i siarad ac i'r Aelodau adael yr ystafell. Yn natur rhai o'r prosesau deddfwriaethol hyn, nid ydyn nhw ynddynt eu hunain yn creu cyffro naturiol, ond yr hyn a wnânt yw creu cyffro gwirioneddol am bwysigrwydd y ffordd y gallwn ni wneud y gyfraith yn well, yn gliriach, yn symlach ac yn fwy hygyrch. Credaf, o ran ein cyfrifoldebau i bobl Cymru ac i'r Senedd hon, fod hynny, yn amlwg, yn bwysig iawn. Mae'r sesiwn gyntaf sydd gennyf gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yr wyf yn edrych ymlaen ato, ar 11 Gorffennaf, rwy'n credu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ynghylch yr hyn sy'n rhywbeth a fydd yn brofiad dysgu pwysig pan symudwn ymlaen i feysydd eraill, megis, er enghraifft, cynllunio. Felly, edrychaf ymlaen at hynny, a diolch ichi am y sylwadau hynny.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gynnydd o ran cyllidebu ar sail rhyw. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am yr hyn yr wyf yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru drwy ein dull o gyllidebu ar sail rhyw. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn dal i fod yn gyffredin yn 2022, er gwaethaf y datblygiadau niferus a wnaed. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru sy'n gyfartal o ran rhyw, sy'n golygu cyfran gyfartal o rym, adnoddau a dylanwad i bawb. Mae ein hymrwymiad i gyllidebu ar sail rhyw wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu.
Weithiau gall y term 'cyllidebu ar sail rhyw' arwain at ddryswch, felly hoffwn fod yn glir o'r cychwyn am yr hyn y mae'n ei olygu i ni. Nid yw'r dull hwn yn ymwneud â chyllidebau pinc a glas, gan gyfrif faint rydym yn ei wario ar wahanol grwpiau. Mae cyllidebu ar sail rhyw yn fesur y gallwn ni ei ddefnyddio i weld ein cyllidebau a'n polisi. Mae'n ein helpu i amlygu ac ystyried yr effeithiau anfwriadol y gall polisi da ei fwriad ei gael ar wahanol fathau o bobl a meysydd effaith. Bydd cyllidebu ar sail rhyw yn ein helpu i gryfhau a gwella ein gwaith o lunio polisïau, a fydd yn ei dro yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell am y gyllideb, gan arwain at ganlyniadau gwell. Drwy ddeall a lliniaru effeithiau negyddol anfwriadol ac amlygu ac adeiladu ar y cadarnhaol, gallwn sicrhau'r gwerth mwyaf am bob punt a wariwn.
Hoffwn fod yn glir bod y gwaith hwn yn newid diwylliant systemig hirdymor, a galwaf ar Aelodau'r Senedd hon, a'n hystod eang o bartneriaid, i'n cefnogi ar y daith hon. Ni fydd yn digwydd dros nos, ac ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae ein cynllun gwella'r gyllideb yn nodi'n glir yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Yn rhan o'r adolygiad rhywiau yn 2018, gwnaethom ymgysylltu â gwledydd Nordig sy'n arwain y byd ar y maes hwn, gan ddysgu o'u dulliau o gyllidebu ar sail rhyw. Clywsom am yr angen i ganolbwyntio ar ymgymryd â gweithgarwch peilot i'n helpu i wella'r ffordd yr ydym ni'n asesu effaith ein penderfyniadau cyllidebol, deall yr effaith wirioneddol y mae ein penderfyniadau'n ei chael, gan wella yn ei dro yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni'r canlyniadau yr ydym yn eu ceisio. Bydd cynlluniau peilot yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio.
Yn 2019, lansiwyd ein cynlluniau peilot cyntaf, ein cyfrifon dysgu personol. Mae ein cyfrifon dysgu personol yn sefydlu dull hyblyg o ddarparu dysgu er mwyn helpu mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n ceisio gwella eu cyfleoedd eu hunain yn y gweithle. Dewiswyd cyfrifon dysgu personol gennym ni oherwydd bod pwyslais ar ddiwydiannau ag effaith rhywedd, a gwelsom ganfyddiadau cychwynnol cadarnhaol. Drwy'r gwerthusiad parhaus, rydym wedi nodi rhai gwersi allweddol ynghylch yr heriau o gynnal canlyniadau cadarnhaol pan gaiff gweithgarwch ei gynyddu o ddarpariaeth leol i weithgaredd cenedlaethol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod cyllidebu ar sail rhyw yn parhau i fod wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu rhaglenni ac nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n braf ei wneud yn unig.
Mae ein hymrwymiad i gyllidebu ar sail rhyw wedi cael momentwm ychwanegol gan ymrwymiad y rhaglen lywodraethu ac rydym bellach wedi cynnal dau gynllun peilot pellach ym meysydd teithio llesol a gwarant y person ifanc, pob un wedi'i ddewis yn benodol i ddarparu dysgu gwahanol i sicrhau y gallwn fireinio dull cyllidebu ar sail rhyw yng Nghymru. Er eu bod yn dal i fod yng nghamau cynnar y datblygiad, maen nhw eisoes wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud popeth o fewn ein gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol a gwella'r ffordd y caiff polisi ei gyflawni a'i gynllunio, gan gydnabod natur hirdymor y gwaith hwn.
Mae ein hymgysylltiad â gwledydd eraill sy'n arwain y ffordd o ran cyllidebu ar sail rhyw wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amhrisiadwy, o ran helpu i lywio ein gwaith o ymgorffori hyn yng Nghymru. O'r trafodaethau cynnar a gawsom ni gyda gwledydd Nordig i'n hymgysylltiad parhaus â gwledydd fel Canada a Seland Newydd drwy'r rhwydwaith o Lywodraethau llesiant, rydym nid yn unig yn dysgu gan y rhai sydd wedi mynd o'n blaenau ond rydym ni hefyd yn rhannu ein profiadau ein hunain i'w cefnogi yn eu teithiau. Mae'r ymgysylltu hwn hefyd wedi ein hatgoffa, er bod llawer ohonom ni, yn cynnwys fy hun, yn ddiamynedd am newid, y bydd y newid hwn yn cymryd amser.
Gan edrych yn nes at adref, rydym yn falch o weithio gydag arbenigwyr yma yng Nghymru megis Grŵp Cyllideb Menywod Cymru a'n grŵp cynghori ein hunain ar wella ac asesu effaith y gyllideb. Rwyf wedi bod yn falch o weithio gyda Phwyllgor Cyllid y Senedd i archwilio a deall ymhellach fanteision cyllidebu ar sail rhyw wrth gefnogi ein taith hirdymor o wella'r gyllideb. Mae'r grwpiau hyn yn rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a her adeiladol i ni wrth i ni barhau i symud ymlaen. Rydym yn dwyn ynghyd y dysgu hwn drwy ein meysydd gwaith niferus nid yn unig i lywio ein dull gweithredu, ond hefyd i gefnogi partneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i'n helpu i wireddu ein gweledigaeth o Gymru sy'n gyfartal o ran y rhywiau.
Wrth gloi'r datganiad heddiw, mae'n bleser gennyf rannu gyda'r Senedd y gwaith trawslywodraethol sydd ar y gweill i archwilio'r potensial ar gyfer pecyn gwaith penodol mewn ymchwil rhywedd sy'n gysylltiedig ag iechyd. Yn ddiweddarach heddiw, byddwch yn clywed y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer sut y dylai gwasanaeth iechyd o ansawdd da gefnogi menywod a merched. Fy uchelgais yw y byddwn ni, drwy gydweithio ar draws y Llywodraeth, yn sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang wrth fynd i'r afael â rhagfarn rhywedd mewn gofal iechyd.
Yr unig ffordd y gallwn ni fynd i'r afael â chamgymeriadau'r gorffennol yw drwy gydweithio a chyd-gynhyrchu gyda'r rhai yr ydym yn bwriadu eu helpu. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid i gynllunio cynllun drwy gyd-gynhyrchu gwirioneddol gyda chyllidebu ar sail rhywedd yn ganolog iddo. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion sy'n wynebu menywod bob dydd ac yn nodi atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod ledled Cymru. Dyma ddechrau ein taith ac mae'n un yr wyf wedi ymrwymo'n llwyr iddi. Edrychaf ymlaen at y drafodaeth heddiw ac at glywed awgrymiadau cyd-Aelodau ynghylch sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i wirioneddol ymgorffori cyllidebu ar sail rhyw yn ein holl waith.
A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad? Rwy'n credu y gall mentrau fel cyllidebu ar sail rhyw fod yn ddefnyddiol iawn i helpu dadansoddi'r gwahanol effaith y gall polisïau ei chael ar wahanol rywiau. Er bod cydraddoldeb rhywiol wedi gwella dros amser, gwyddom fod rhwystrau o hyd i gydraddoldeb llawn, ac felly mae'n bwysig edrych ar sut y gallwn ni deilwra polisïau'n well i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau gwahanol grwpiau o bobl.
Fel y sonioch chi, Gweinidog, mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno rhai cynlluniau peilot, megis cyfrifon dysgu personol, a byddwn yn gwerthfawrogi rhagor o fanylion am y prosiect, yn ogystal â mwy o fanylion am werthuso'r cynllun peilot hwn. Sut mae canlyniadau'r cynllun hwn yn helpu i lywio polisïau eraill y Llywodraeth? Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn hefyd fod dau gynllun peilot newydd cyllidebu ar sail rhyw bellach ar y gweill, un ar gyfer teithio llesol ac un ar gyfer gwarant y person ifanc. Gweinidog, pa ganlyniadau y mae'r Llywodraeth yn ceisio'u cyflawni drwy hyn, a sut y cânt eu gwerthuso? Sut y bydd y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwahanol gynlluniau a'u heffaith ar feddylfryd y Llywodraeth?
Mae'r rhaglen lywodraethu hefyd yn ymrwymo Gweinidogion i weithredu targedau sy'n ymwneud â chyllidebu ar sail rhyw. Pryd y caiff y rhain eu cyhoeddi, ac a yw'r cynlluniau peilot yn cael eu defnyddio i helpu llywio'r targedau hyn a sut y gellir mesur cynnydd yn ehangach? Mewn perthynas â hyn, os yw mentrau fel cyllidebu ar sail rhyw i gael canlyniadau pendant, yna mae angen sefydlu strwythurau priodol o ran gwneud penderfyniadau. Sut, felly, y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio gyda'r grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb yn ogystal â rhanddeiliaid eraill i asesu galluoedd presennol y Llywodraeth i lunio polisïau a chyllidebau?
Dirprwy Lywydd, hoffwn i orffen ar bwynt ehangach: rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn ystyried yn briodol yr effaith y bydd polisïau'n ei chael ar amrywiaeth o bobl a nodweddion gwarchodedig ac nid canolbwyntio ar rywedd yn unig, oherwydd wrth gwrs nid yw rhywedd a hunaniaethau penodol yn grwpiau unffurf ac mae ganddyn nhw amrywiaeth o anghenion. Yn hyn o beth, rydym ni wedi clywed amryw o faterion o'r blaen ynghylch pa mor effeithiol neu aneffeithiol yw asesiadau effaith integredig strategol y Llywodraeth. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gennych chi, Gweinidog, am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatblygu offeryn asesiad effaith integredig cryfach yn benodol i allu cynnal asesiadau effaith manylach a mwy cyson ar draws adrannau, gan gynnwys gweithio'n agosach gyda'r comisiynwyr perthnasol i graffu'n well. Diolch.
Diolch yn fawr am godi'r pwyntiau hynny ac am eich cydnabyddiaeth, ar ddechrau eich cyfraniad, am y swyddogaeth bwysig y gall cyllidebu ar sail rhyw ei chwarae wrth ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, sydd wedi bod gyda ni ers llawer gormod o amser nawr. Credaf y bydd cyllidebu ar sail rhyw yn arf pwysig inni o ran hyrwyddo cydraddoldeb yma yng Nghymru.
Roedd rhai cwestiynau penodol am y cynlluniau peilot, felly rwy'n hapus iawn i ddarparu mwy o wybodaeth am y rheini. Y cynllun peilot cyntaf a gynhaliwyd gennym ni yw'r cynllun peilot cyfrifon dysgu personol, a dechreuodd hynny ym mis Medi 2019. Yna cafodd y rhaglen honno ei huwchraddio a dechreuodd y ddarpariaeth ar draws Cymru yn 2021. Mae hynny'n gweithio'n agos iawn gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod darpariaeth o ran ymateb i anghenion sgiliau rhanbarthol penodol, ond gwyddom fod rhai o'r rhain mewn ardaloedd lle mae menywod fel arfer wedi cael eu tangynrychioli neu eu gorgynrychioli. Felly, rydym ni wedi edrych ar feysydd fel adeiladu ar y naill law a gofal cymdeithasol ar y llaw arall. Rydym yn disgwyl i'r adroddiad terfynol o'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'n cynlluniau peilot gyda'r cyfrifon dysgu personol gael ei gyhoeddi ddiwedd haf 2022. Felly, bydd cyfle inni archwilio hynny'n fanylach. Ar hyn o bryd, ni allwn ni ddarparu mwy o fanylion am yr allbynnau sy'n benodol i ryw, ond edrychwn ymlaen at weld mwy o fanylion ar gael yn ddiweddarach yn yr haf.
Fodd bynnag, mae rhai canfyddiadau cychwynnol y gallaf eu rhannu yn rhoi pwyslais gwirioneddol inni ar yr angen i gadw'r pwyslais parhaus hwnnw ar gyllidebu ar sail rhyw pan gaiff gweithgarwch ei gynyddu. Pan fydd pethau'n digwydd ar lefel fwy penodol a bach, lleol, mae llawer o bwyslais ar y cyllidebu hwnnw ar sail rhyw; daw'r her, felly, pan fyddwn yn gwneud pethau mwy. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn ofalus wrth inni symud i'r cynlluniau peilot eraill. Fel y dywed Peter Fox, un yw gwarant y person ifanc, a dyna un o'n hymrwymiadau allweddol i sicrhau bod pawb o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru yn cael cymorth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu'r cymorth sydd ei angen arnynt i fod yn hunangyflogedig.
Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn galluogi'r rhaglen warant i bobl ifanc i adolygu ei systemau, adolygu ei sylfaen dystiolaeth ac edrych eto ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a dylunio a chyflwyno gweithgarwch newydd o ran rhywedd ac o'r safbwynt rhyngsectorol hwnnw. Mae'r adolygiad cychwynnol o feysydd amrywiol y gwarant pobl ifanc yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o ddatblygu cynllun manylach i sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf i'r rhaglen, ac, yn y pen draw, wrth gwrs, i bobl ifanc Cymru.
O ran y cynllun peilot teithio llesol, mae'n amlwg bod gan hyn ran bwysig iawn o ran darparu trafnidiaeth gynaliadwy. Mae hynny'n rhywbeth mae arnom ni eisiau i bawb allu elwa ohono. Mae ein cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn hyn o beth yn canolbwyntio ar raglen E-Symud Cymru, a fydd yn ystyried pa ddysgu y gallwn ni ei gyflawni drwy hynny. Mae'r cynllun peilot E-Symud yn cael ei ddarparu gan Sustrans Cymru, ac ar hyn o bryd rydym yn cydweithio â nhw i ddeall sut y gall mabwysiadu dull cyllidebu ar sail rhyw ychwanegu gwerth at ein rhaglen bresennol a helpu i gynllunio'r gwaith o gyflawni yn y dyfodol.
Mae'r dadansoddiad cynnar o'r rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen hyd yma wedi dangos bod cyfran uwch o gyfranogwyr a nododd eu bod yn fenywod yn defnyddio'r cynllun mewn ardaloedd gwledig. Drwy archwilio a chymhwyso'r safbwynt rhyngsectorol hwnnw, byddwn yn ceisio deall nodweddion y defnyddwyr hyn yn well er mwyn cael mwy o ddealltwriaeth o'r rhesymau y tu ôl i hyn, er mwyn helpu i lywio ein syniadau ar deithio llesol yn y dyfodol. Ond, unwaith eto, byddwn yn gallu rhannu mwy o wybodaeth gyda'r Senedd maes o law.
Mae'r grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb yn bwysig iawn o ran helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau a gwella'r ffordd yr ydym ni'n cyllidebu. Mae'r diben, mewn gwirionedd, yn ymwneud â gwella nid yn unig y gyllideb ond hefyd ein prosesau treth i wella canlyniadau. Ac mae'r grŵp hwnnw'n mynd i fwrw ymlaen â gwaith ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a bwrw ymlaen â rhai o'n dulliau cyllidebu ar sail rhyw a darparu'r llais cyfaill beirniadol hwnnw i ni yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn.
Mae'r grŵp ei hun yn gymysgedd o aelodau'r grŵp cynghori cyllidebol blaenorol ar gyfer cydraddoldebau, BAGE, gyda rhai ychwanegiadau bellach i gwmpasu ystod ehangach o feysydd effaith. Mae cymysgedd o sefydliadau'r sector gwirfoddol a sefydliadau'r sector cyhoeddus, ac rydym yn gweithio gyda'r grŵp hwnnw ar hyn o bryd i gytuno ar strwythur y rhaglen waith yn y dyfodol. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp hwnnw a'i gynllun gwaith 12 mis ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ac yna, dim ond i fyfyrio ar y pwynt pwysig iawn fod yna amrywiaeth o nodweddion sy'n effeithio ar brofiadau pobl o'r dewisiadau a wnawn o ran cyllidebu, dyna pam y mae'n rhaid i hyn ymwneud â'r dull rhyngsectorol hwnnw. Felly, nid yw'n ymwneud ag edrych ar bethau o safbwynt menywod a safbwynt dynion yn unig, ond ystyried yr holl nodweddion gwarchodedig eraill hynny sy'n effeithio ar brofiadau pobl o wasanaethau a chymdeithas.
Rydym ni yn gwybod fod y dadansoddiadau mwyaf effeithiol o ran rhywiau yn defnyddio'r dull rhyngsectorol hwnnw, gan gyfuno craffu ar yr effaith ar fenywod a dynion, ond gyda'r nodweddion eraill hefyd. Felly, fe allwn ni wneud hynny, ac edrych hefyd ar les o safbwynt diwylliant, yr amgylchedd, cymdeithas ac yn y blaen hefyd. Felly, mae sawl ffordd o edrych ar hyn, a llawer o bethau y gallwn eu dysgu pan fyddwn yn edrych ar y dull rhyngsectorol hwnnw, gan wneud hynny o safbwynt rhywedd.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad, a dwi'n croesawu, yn amlwg, yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, a dwi'n cael fy nghalonogi hefyd gan rai o'r atebion rŷch chi newydd eu rhoi, er efallai y byddem ni gyd—fel chi, dwi'n siŵr—eisiau mynd ymhellach ac yn gynt. Yn sicr, fel roeddech chi'n dweud, mae yna siwrnai wedi ei chychwyn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyrraedd—. Wel, efallai na chyrhaeddwn ni fyth ben y daith, ond yn sicr mae'r gwaith yma'n esblygu'n barhaus. Ond byddem ni eisiau gweld y cynnydd yn digwydd cyn gynted ag sy'n bosib.
Dwi jest yn meddwl, o ran effaith, beth ydych chi'n meddwl bydd effaith yr argyfwng costau byw a'r wasgfa ar gyllidebau cyhoeddus ar gyllidebau ar sail rhyw, oherwydd y peryg yw y bydd cyrff cyhoeddus, efallai, yn teimlo eu bod nhw o dan ormod o bwysau i fynd i'r afael â rhywbeth fel hyn a thrio newid mindset a newid diwylliant, lle dwi'n siŵr y byddech chi, ac yn sicr y byddwn i, yn dadlau mai nawr yw'r amser i wneud y shift yna er mwyn amddiffyn y bobl sy'n mynd i ddioddef fwyaf yn sgil yr argyfwng sy'n ein hwynebu ni.
Mi wnaeth Gwlad yr Iâ, wrth gwrs, ddechrau defnyddio cyllido ar sail rhyw adeg y crash economaidd, ac, wrth gwrs, maen nhw ar flaen y gad nawr, onid ydyn nhw—ymhellach ymlaen na neb arall. Felly, a oes cyfle inni ddefnyddio'r amgylchiadau rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddyn nhw i gyflymu'r broses rŷch chi wedi'i hamlinellu i ni?
Rwy'n croesawu bod peilotiau yn digwydd, wrth gwrs. Mae'n rhaid dysgu, mae'n rhaid cropian cyn cerdded ac yn y blaen. Weithiau, rwy'n teimlo bod yna risg ein bod ni'n dioddef o ryw fath o pilotitis—dwi ddim yn siŵr a yw hwnnw'n derm swyddogol. Mae angen inni fynd ati i brif-lifo ar y cyfle cyntaf posib, onid oes e, a dysgu ar y job, mewn ffordd. Felly, dydw i ddim yn gwybod eto, o wybod y rhyferthwy sydd o'n blaenau ni o safbwynt costau byw a'r oblygiadau fydd yna, a allwn ni fod yn symud yn gynt, efallai, ar rhai o'r materion yma.
Rŷch chi wedi cyffwrdd â'r amserlen tymor byrrach, efallai, jyst mewn atebion blaenorol, felly ble ydyn ni o ran yr amserlen tymor hir? Pryd ydych chi'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych i fyw llygaid pobl Cymru a dweud, 'Mae hwn yn digwydd', a phryd byddwch chi'n gallu dweud y bydd y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru hefyd yn cyllido ar sail rhyw mewn modd ystyrlon sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
Dwi'n deall bod y Llywodraeth yn gwerthuso'r peilotiau yma ac yn dysgu gwersi. Sut mae hwnna yn cael ei rannu—rhannu'r dysgu a'r arfer da? Byddai'n dda deall sut mae hwnna'n cael ei raeadru yn ehangach, a hefyd bod y sector cyhoeddus yn dysgu'r gwersi rŷch chi yn eu dysgu.
Yn olaf, beth yw'r sail ddeddfwriaethol fan hyn? A oes angen deddfu i sicrhau bod hwn yn cael ei brif-lifo ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, neu a ydych chi'n hyderus y bydd e'n digwydd heb fod angen deddfwriaeth? Mae Awstria wedi'i wneud e'n rhan o'i chyfansoddiad ers 2009, ac erbyn 2011 mi oedd pob adran o'r Llywodraeth yn prif-lifo cyllidebu ar sail rhyw ar draws deddfu, cyllido a chaffael cyhoeddus. Os ydyn ni eisiau i hyn ymgyrraedd i fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn, yna mae'n bosib bod hynny'n rhywbeth rŷch chi yn ei ystyried.
Diolch yn fawr am y pwyntiau a'r cwestiynau hynny, a rhannaf yr awydd hwnnw i symud yn gyflym iawn ar hyn. Yn y tymor agos, mae gennym ni bedwar maes gwaith y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw, ac maen nhw'n drawsbynciol ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn gwneud y cysylltiadau hynny o ran cyllidebu ar sail rhyw. Felly, mae gennym ni wybodaeth a dealltwriaeth; cymorth a her adeiladol; cyfathrebu ac arweinyddiaeth; a dysgu parhaus. Mae'r rhain yn bethau y byddwn ni, yn amlwg, yn ymgysylltu'n ehangach â'r sector cyhoeddus yn eu cylch wrth inni symud ymlaen.
Credaf fod yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o Wlad yr Iâ wedi dangos bod y dull peilot a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wedi cymryd saith mlynedd o'r cynlluniau peilot cychwynnol i adeiladu tuag at weithredu mwy cynhwysfawr, ac roedd hynny'n rhywbeth yr oedden nhw'n awyddus iawn i'w rannu â ni. Unwaith eto, mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi'i brofi, rwy'n credu, ar y raddfa lai honno gyda'n cynllun peilot cyntaf—wyddoch chi, mae'r brwdfrydedd, yr awch a'r pwyslais cychwynnol ar y lefel leol honno'n wych, ond wedyn yr her yw pan fyddwch yn dechrau ei phrif ffrydio a'i chodi i lefel fwy cenedlaethol. Dyna'n union, rwy'n credu, yr her yr oedden nhw'n ei hwynebu yng Ngwlad yr Iâ.
Rydym ni wedi bod yn ymgysylltu â nhw, fel y dywedais i, ers 2019, ac mae'r cydberthnasau hynny'n dal i fynd rhagddynt, fel y maen nhw gyda'r rhwydwaith Llywodraethau llesiant hefyd, i weld beth y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd o ran cyllidebu ar sail rhyw. Credwn fod gan Wlad yr Iâ ddull diddorol iawn. Felly, saith mlynedd yn ddiweddarach, o leiaf, ers iddyn nhw ei gyflwyno gyntaf, maen nhw bellach yn dechrau, rwy'n credu, cael y teimlad hwnnw o'r newid diwylliannol. Erbyn hyn, maen nhw'n gweithredu mewn modd cynhwysfawr, ac fe gefnogwyd hynny drwy basio cyfraith cyllideb organig newydd.
Yn amlwg, rydym yn awyddus i archwilio'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill o ran deddfwriaeth. Does arna i ddim eisiau awgrymu y byddem yn gallu dod o hyd i'r amser yn ystod tymor y Senedd hon i wneud hynny, ond mae'n sicr yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i'r dyfodol yng Nghymru, o gofio ein pwyslais ar sut olwg fydd ar gyllid a'r ddeddfwriaeth sy'n cefnogi hynny yn y dyfodol. Felly, rydym yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'r gwahanol ddulliau gweithredu.
Mae'r sylw am yr argyfwng costau byw yn un pwysig mewn gwirionedd, a chredaf, pan fyddwch mewn argyfwng, fel y gwelsom ni drwy'r pandemig, ei fod yn canolbwyntio'r meddwl ac mewn gwirionedd mae'n rhoi'r ysgogiad i chwalu rhwystrau na ellir eu chwalu fel arall, felly nid oes rheswm pam na ddylem ni fod yn defnyddio'r ysgogiad hwn i fwrw ymlaen â'r agenda cyllidebu ar sail rhyw gyda phwyslais gwirioneddol. Credaf y bu rhywfaint o ymchwil ddiddorol ar effaith yr argyfwng costau byw ar sail rhyw, a ddarparwyd gan y Grŵp Cyllideb Menywod ar lefel y DU, ac mae hynny'n dangos bod gan fenywod lai o gynilion a chyfoeth yn gyffredinol na dynion, a hyd yn oed cyn COVID-19 roedd menywod yn fwy tebygol o fod mewn dyled, ac mae hyn wedi gwaethygu o ganlyniad i'r pandemig. Maen nhw'n glir iawn y bydd yr argyfwng costau byw yn taro'r tlotaf galetaf, ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn dlawd, ac maen nhw wedi cael eu taro'n galetach gan doriadau i nawdd cymdeithasol a darparu gwasanaethau cyhoeddus dros y degawd diwethaf, o ganlyniad i gyni. Felly, nid oes amheuaeth nad yw hwn yn fater rhywedd yn ogystal ag argyfwng costau byw.
Ac yna'r pwynt ehangach ynglŷn â sut y byddwn yn rhannu'r dysgu—byddwn yn gwneud hynny drwy'r grŵp gwella cyllideb a chynghori. Diben y grŵp hwnnw yw ymgysylltu â'r rhanddeiliaid allweddol hynny, felly mae angen inni sicrhau yr ymgysylltir â'r holl bobl hynny y mae angen ymgysylltu â nhw, a byddwn, fel y dywedais i, yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am gylch gorchwyl y grŵp hwnnw, ond rwy'n fodlon cynnwys aelodaeth y grŵp hwnnw er mwyn i gyd-Aelodau weld pwy sy'n ymwneud ag ef hefyd. Efallai y gwnaf hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig yn yr wythnosau nesaf, pan fydd y cynllun gwaith ar gael inni, fel y gall fy nghyd-Aelodau ymgyfarwyddo â hynny, oherwydd gwn fod llawer o ddiddordeb.
Un ffordd hanfodol o sicrhau bod cyllidebu'n cyflawni ar gyfer menywod yw drwy wneud buddsoddiadau strategol yn y sector gofal. Gwyddom na fyddai'r buddsoddi hwn yn cyflawni ar gyfer menywod yn unig, byddai hefyd yn rhoi hwb i'n heconomi ac yn cynyddu cyflogaeth gyffredinol.
Mae ymchwil wedi dangos y byddai buddsoddi 2 y cant o gynnyrch domestig gros mewn gofal yn creu bron cymaint o swyddi i ddynion â buddsoddi mewn diwydiannau adeiladu, ond y byddai'n creu hyd at bedair gwaith cymaint o swyddi i fenywod. Yn y DU, byddai hyn yn cynyddu cyfradd cyflogaeth menywod 5 y cant a byddai'n cael effaith gadarnhaol fawr ar dwf economaidd a lleihau dyledion, a byddai'n helpu cymunedau lleol hefyd. Byddai buddsoddi o'r fath hefyd yn gyson â phontio tuag at economi carbon isel. Felly, Gweinidog, a gaf i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i archwilio buddsoddi strategol o'r fath mewn gofal yn rhan o'r gwaith o adeiladu'n ôl ar ôl COVID?
Mae'n gwbl wir bod gan y sector gofal cymdeithasol y gyfran uwch honno o weithwyr benywaidd, felly mae'r buddsoddiad a wnawn yn y sector gofal cymdeithasol yn cael yr effaith uniongyrchol honno ar y gweithwyr hynny a'u dyfodol, ac wrth gwrs ar y teuluoedd y maen nhw yn eu cefnogi. A gwyddom fod menywod yn tueddu i fyw'n hirach na dynion, felly mae gennym ni fwy o fenywod hŷn i fod yn eu cefnogi yn ein cymunedau hefyd, felly credaf fod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol bob amser yn fuddsoddiad da ac yn sicr o'r safbwynt hwnnw o ran rhywedd. Gwnaethom newid sylweddol yn y cymorth i awdurdodau lleol yn ein cyllideb ddiwethaf, 2022-23, ac yn arbennig felly mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Felly, buom yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol ei hun i ddeall cwantwm y cyllid y byddai ei angen arnyn nhw er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol o'r ansawdd yr hoffem ei weld. A rhoesant ffigur o £180.5 miliwn inni yn ychwanegol at yr adnoddau presennol, felly roeddem yn gallu bodloni'r cais hwnnw'n llawn, o gofio'r pwyslais gwirioneddol hwnnw sydd gennym ni ar ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy o safon, ac mae hynny ochr yn ochr â chyllid ychwanegol mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn. Mae'r cyflog byw go iawn, unwaith eto, rwy'n credu, yn enghraifft berffaith o'r ffordd yr ydym ni'n buddsoddi mewn menywod ac yn gwneud dewisiadau sy'n cefnogi menywod, ac mae'r pwyslais hwnnw ar y rhywiau yn ganolog iddo, felly mae'n un o'r meysydd allweddol. A hefyd, nid gofalwyr cyflogedig yn unig, wrth gwrs; mae gofalwyr di-dâl yn aml—fel arfer—yn fenywod, ac felly mae'n rhaid i'n cefnogaeth i ofalwyr di-dâl gael ei gweld o'r safbwynt hwnnw sy'n canolbwyntio ar y rhywiau hefyd. Felly, credaf fod yr enghraifft a roddwyd yn un perffaith o ran ein dull cyllidebu ar sail rhyw.
Rwyf wedi bod yn ymwneud â chyllidebu ar sail rhyw ers cyn fy ethol yma, fel un o sylfaenwyr Grŵp Cyllidebu ar Sail Rhyw, Cymru, bron 20 mlynedd yn ôl. Felly, nid yw'n gysyniad newydd, ond mae llawer o gamddealltwriaeth o'i gwmpas o hyd. Nid yw, fel y dywedoch chi, ac ni fu erioed, yn ymwneud â chyllidebau gwahanol i ddynion ac i fenywod, ond mae'n ymwneud â dilyn yr arian a rhoi cnawd ar esgyrn ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i degwch. Felly, rhaid i gyllidebu ar sail rhyw gael ei lywio gan ddata, rhaid iddo ganolbwyntio ar ganlyniadau, a rhaid ei archwilio a rhaid iddo gadw i fyny â'n democratiaeth sy'n esblygu.
Fe wnaethoch chi sôn am gynlluniau peilot ac am ddysgu gwersi, ac rydych chi hefyd wedi sôn am y gwersi rhyngwladol sy'n cael eu dysgu. Ond os edrychwn ni ar y datganiadau—ac mae pobl wedi sôn am geisio dod â'r argyfwng y mae pobl ynddo i ben—os edrychwn ni ar y ffigyrau gros sy'n deillio o'r arian sy'n cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU yn uniongyrchol i ardaloedd, yr elfennau mawr bob amser yw'r rhai sy'n ymwneud ag adeiladu a newid i'r cyfeiriad hwnnw, ac eto gwyddom yn iawn nad oes gan fenywod le amlwg o gwbl yn y gyrfaoedd hynny.
Felly, o ran edrych ar eich cyllidebu ar sail rhyw, rwy'n mwy na'i groesawu—credaf ei fod ddegawdau'n hwyr, ond mae yma—sut ydych chi'n rhyngweithio â'r penderfyniadau hynny a wneir y tu allan i'ch rheolaeth ac yn cyfeirio buddsoddiad lle na fydd yr anghydraddoldebau hynny ond parhau ac yn gwaethygu?
Rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am godi hyn. Rwy'n gwybod y bu'n hyrwyddo hyn ers blynyddoedd lawer, ac mae Grŵp Cyllideb Menywod Cymru yn dal yn ei anterth ac yn cynnig her wirioneddol adeiladol i'r Llywodraeth. Maen nhw'n dweud wrthym ni fod angen inni weithredu'n gyflymach ar y gwaith yr ydym yn ei wneud ac rydym yn gwrando arnyn nhw yn hynny o beth i geisio sicrhau ein bod yn symud mor gyflym â phosibl ac yn dechrau sefydlu'r dull hwn, gan gydnabod, wrth gwrs, fod newid diwylliant yn anodd, mae'n cymryd amser hir, ond credaf, os oes gennych chi ymrwymiad iddo ac os oes gennych chi arweiniad priodol yna credaf y gallwn ni gyrraedd y pwyntiau hyn.
Maen nhw hefyd wedi bod yn ein herio i ddarparu mwy o fanylion am ein gwaith, a dyna pam rydym ni'n awyddus i ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallwn i Aelodau'r Senedd ond hefyd yn rhoi mwy o fanylion drwy ein cynllun gwella cyllideb, a gyhoeddir gennym ni'n flynyddol, ond sy'n edrych bum mlynedd i'r dyfodol, ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft. Felly, rydym ni wedi gallu gwneud hynny a sicrhau bod cyllidebu ar sail rhyw yn rhan fawr o'n cynlluniau cyhoeddedig yn hynny o beth.
Felly, rydym ni wedi bod yn gwrando'n ofalus iawn ar y grŵp hwnnw, ochr yn ochr â grwpiau fel Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru; rwy'n gwybod y bydd Sioned Williams yn noddi lansiad y cerdyn sgorio, y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn bresennol ynddo, ac rwy'n gwybod y bu cyllidebu ar sail rhyw yn rhan bwysig iawn o'u her i ni, felly, unwaith eto, byddwn yn ymgysylltu â'r grwpiau hynny wrth inni geisio symud yr agenda yn ei blaen. Ond mae'n ymwneud yn llwyr â rhoi cnawd ar esgyrn ein hymrwymiad i degwch, a chredaf fod yr enghraifft a roddodd Joyce Watson o'r diwydiant adeiladu a sut rydym ni bob amser yn edrych ar y diwydiant hwnnw o ran—. Wel, hyd yn oed nawr, rydym ni'n edrych o ran yr adferiad o COVID, gan adeiladu ein ffordd allan, creu swyddi, ond gwn fod Joyce Watson yn gweithio'n galed iawn ar agenda menywod ym maes adeiladu i sicrhau bod swyddi ar gael i fenywod a bod menywod yn ystyried adeiladu fel gyrfa iddynt. A dyna un o feysydd ein cyfrifon dysgu personol, sy'n edrych yn benodol ar y diwydiant adeiladu a diwydiannau eraill lle'r ydym ni'n draddodiadol wedi gweld menywod yn cael eu tangynrychioli. Felly, mae pethau inni fod yn eu gwneud yno.
Ond eto, ac yn olaf, i gloi, Dirprwy Lywydd, credaf fod ein herio ni yn y Llywodraeth i wneud y newid diwylliant hwnnw tuag at gyllidebu ar sail rhyw ac edrych o'r safbwynt tyner hwnnw'n bwysig, ond rhaid inni fynd â hynny, wedyn, i'n cyfarfodydd ac i'n trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU fel ein bod yn eu herio yn yr un modd. Ac yna mae'n rhaid i ni wneud hynny hefyd gyda'n partneriaid mewn byrddau iechyd, mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill i sicrhau bod y dysgu yr ydym yn ei ddatblygu a'r ymrwymiad sydd gennym ni yn treiddio drwy bob rhan o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog.