Y Cyfarfod Llawn
Plenary
22/06/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Anne Jones.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl y mae materion cladin wedi effeithio arnynt? OQ58217

Rwyf wedi ymrwymo i edrych y tu hwnt i gladin, gan fabwysiadu ymagwedd gyfannol at ddiogelwch adeiladau. Mae hyn yn cynnwys newid rheoliadau sy’n llywodraethu rheoli adeiladu, deddfwriaeth a mynd i’r afael â materion presennol sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau drwy gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Mae'r gwaith o gael gwared ar gladin deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM) oddi ar y rhan fwyaf o adeiladau uchel iawn wedi'i gwblhau, gyda chynlluniau ar waith ar gyfer y gweddill.
Diolch. Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant ar y mater hwn.
Fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw bod gennyf etholwyr mewn adeiladau sy’n aros i’w heiddo gael ei wneud yn ddiogel, fel rydych newydd ei amlinellu. Ar hyn o bryd, maent yn aros am y broses honno, ac yn y cyfamser, nid ydynt yn gallu gwerthu eu heiddo, symud i eiddo mwy o faint—mae hyn yn cael effaith ar lu o faterion, yn amlwg, ac mae'n effeithio ar y farchnad dai. Beth rydych yn ei wneud a pha gamau gweithredol a roddir ar waith gennych i sicrhau bod y broses honno’n cael ei chyflymu neu ei chwblhau cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu cael tystysgrifau tân fel y gallant werthu eu heiddo? Diolch.
Byddaf yn gwneud datganiad ar hyn yr wythnos nesaf i drafod y mater mewn mwy o fanylder, ond dylwn ddweud ein bod yn ymrwymedig iawn i sicrhau bod yr holl ddiffygion yn yr adeiladau, nid y cladin ACM yn unig, yn cael eu hunioni. Felly, y cladin ACM, rydym wedi unioni hynny. Mae gan yr adeiladau sector preifat gynlluniau ar waith sy'n cael eu hadeiladu ac sydd wedi'u cymeradwyo i wneud y rhan benodol honno o'r gwaith.
Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn cynnal yr arolygon. Rydym wedi cwblhau pob un o’r arolygon ymarfer bwrdd gwaith ac wedi dechrau ar yr arolygon ymwthiol. Mae’n rhaid cynnal arolygon ymwthiol, yn amlwg, ar y cyd â’r bobl sy’n byw yn yr adeiladau, gan eu bod yn ymwthiol, ac felly mae’n rhaid inni fod yn siŵr fod pobl yn hapus ac y gallant ymdopi â hynny yn eu bywydau bob dydd. A chyn gynted ag y bydd yr arolygon ymwthiol wedi’u cwblhau ar yr adeiladau, byddwn yn gallu comisiynu gwaith i unioni’r adeiladau. Byddaf yn rhoi llawer mwy o fanylion yr wythnos nesaf yn fy natganiad yn hytrach na'u cyhoeddi ymlaen llaw heddiw.
Prynhawn da, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cynhaliais wylnos i nodi pum mlynedd ers i 72 o bobl golli eu bywydau yn nhân Tŵr Grenfell, a chollodd llawer mwy o bobl eu cartrefi hefyd. Roeddwn yn ddiolchgar i’r holl Aelodau o’r Senedd a’r ymgyrchwyr a ymunodd â ni. Tybed a gaf fi ofyn ynglŷn â mater sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’ch cyd-Aelodau yn San Steffan. Ymddengys i mi fod methiant llwyr mewn gweithio rhynglywodraethol wedi arwain at berchnogion tai o Gymru yn methu manteisio ar ddatblygiadau allweddol yn Neddf Diogelwch Adeiladu 2022 y DU. Tybed a wnewch chi amlinellu beth yw'r materion hyn fel y gall perchnogion tai Cymru gael yr un mynediad at yr un cymorth â phobl Lloegr, ac yn hollbwysig, fod yn rhaid i ddatblygwyr gynnig y cyllid i ddechrau gwaith brys ar unwaith i unioni eu methiannau, a'u bod yn gwneud hynny. Diolch yn fawr iawn.
Ie, fel y dywedaf, byddaf yn rhoi llawer mwy o fanylion am hyn yr wythnos nesaf, neu byddaf yn defnyddio'r sesiwn gwestiynau gyfan pe bawn yn gwneud hynny yn awr. Ond digon yw dweud, o ganlyniad i gyfarfod grŵp rhyngweinidogol gyda Michael Gove, ein bod wedi gwneud peth cynnydd ar sicrhau ein bod yn cael ein cynnwys yn y trafodaethau gyda’r prif ddatblygwyr. Yr wythnos nesaf, byddaf yn gallu rhoi rhagor o fanylion am hynny. Y materion yr oeddem yn anfodlon yn eu cylch oedd yr ychwanegiadau munud olaf i'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau na chawsom fawr ddim amser i'w hystyried. Fodd bynnag, nid oeddem am gymryd rhan mewn un agwedd ar hynny—sef lle mae’r lesddeiliaid yn daleion wrth gefn, gan ein bod yn dal o’r farn na ddylid gorfodi lesddeiliaid i dalu am waith adfer ar yr adeiladau hyd yn oed fel mesur wrth gefn, ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion yn fy natganiad yr wythnos nesaf.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth coed i amgylchedd iach? OQ58230
Diolch. Mae coed yn darparu ystod eang o fanteision, gan gynnwys storio carbon, bioamrywiaeth, lliniaru llifogydd a chyfleoedd hamdden. Rydym wedi cynnal gwerthusiad manwl o'r manteision hyn, gan gynnwys drwy becyn tystiolaeth coedwigoedd cenedlaethol rhaglen monitro a modelu’r amgylchedd a materion gwledig a'u gwaith ar gyfrifon cyfalaf naturiol.
Diolch am yr ymateb yna.
Credaf fod pob un ohonom o blaid plannu llawer mwy o goed mewn egwyddor, er bod gennyf bryder gwirioneddol, mae'n rhaid dweud, ynghylch penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i brynu tir amaethyddol da i blannu coed arno. Ond nid dyna yw ffocws fy nghwestiwn heddiw; mae'n ymwneud â diogelu'r coed sydd gennym eisoes. Yng Nghaergybi, mae dicter gwirioneddol ynglŷn â'r cynlluniau sydd wedi bod ar waith ers degawd neu ragor bellach i dorri rhan fawr o goetir ym Mhenrhos, i wneud lle i adeiladu pentref hamdden. Nawr, dywed adroddiad yr asesiad sylfaenol o ardal o harddwch naturiol eithriadol ar gyfer y cais am y datblygiad hamdden hwnnw wrthym fod Ynys Môn yn un o’r siroedd lleiaf coediog yn y DU. Ond ym Mhenrhos, credaf fod oddeutu 27 erw o goetir wedi’u clustnodi i gael eu torri, ac mae mewn ardal sy’n hoff gan lawer, ardal a ddefnyddir gan y cyhoedd, a fydd yn cael ei cholli. A yw’r Llywodraeth yn ystyried ei bod yn werth camu i mewn i ddiogelu coed, a yw’n fodlon cymryd camau i ddiogelu coetir, neu a yw ond am brynu tir i blannu coed newydd?
Felly, mae honno’n set eithaf cymhleth o faterion, Rhun, er fy mod yn deall y teimladau sy'n sail i'ch cwestiwn, ac yn cytuno â hwy. Felly, ar y feirniadaeth o'r tir a brynwyd gan CNC, rydym yn prynu darnau bach o dir ledled Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, fel tir plannu amgen, yn enwedig lle mae ffermydd gwynt wedi’u lleoli ar ystad goed Cymru, ac felly, fel rhan o’r polisi hwnnw, caiff coed eu plannu am bob erw o goed sy’n cael eu torri ar gyfer pob un o’r colofnau. Os nad yw’r Aelodau wedi cael cyfle i wneud hynny, euthum i Ben y Cymoedd yn ddiweddar, i gael golwg ar yr hyn sy'n digwydd gydag ailblannu o amgylch y tyrbinau yno, ac mae'r cynnydd mewn bioamrywiaeth yn syfrdanol. Ac mae'n wych, gan fod ganddynt linell sylfaen pan oeddent yn adeiladu'r fferm wynt, a'r hyn sydd ganddynt bellach. Felly, dros y cyfnod hwnnw o bum mlynedd, dyma'r tro cyntaf inni gael llinell sylfaen wirioneddol, i weld beth sydd wedi digwydd. Gallwch weld bod y newid yn y plannu, i goetir cymysg llydanddail, bioamrywiol, yn hytrach na choed Sitka ungnwd, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yno. Felly, tir cyfnewid yw hwnnw. Mae wedi bod yn digwydd ers oesoedd, nid yw'n fater deuaidd mewn unrhyw ffordd. Rydym yn sicrhau nad ydym yn gwneud hynny ar y tir amaethyddol gorau, wrth gwrs, ac mae’n gymysgedd o dir sy’n aml yn digwydd ar y cyd â'r cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid, er eglurder. Dywedais yn y pwyllgor y diwrnod o’r blaen, os oedd gan unrhyw Aelod dystiolaeth o fferm benodol yr oeddent am inni edrych arni sydd wedi’i phrynu naill ai gan Lywodraeth Cymru neu CNC, i roi gwybod i ni, gan nid wyf yn ymwybodol o unrhyw un. Nid yw hynny'n dweud ein bod yn gwybod popeth, wrth gwrs, felly os oes gennych wybodaeth, rhowch wybod i ni.
Os caf ddychwelyd at Ynys Môn, mae dau beth wedi digwydd ar Ynys Môn. Y cyntaf yw ein bod wedi comisiynu gwaith ar y wiwer goch, y gwn ei fod wedi’i godi. Gwn nad dyna’r mater yr ydych newydd sôn amdano, ond buom yn ei drafod heb fod yn hir yn ôl, a chredaf fod Darren Millar, ymhlith eraill, wedi'i godi hefyd. Felly, rwyf wedi comisiynu gwaith i ddweud wrthym beth yw’r ffordd orau o ddiogelu’r cynefin yn y coedwigoedd cynhyrchiol yno. Felly, mae gennym y gwaith hwnnw, rwy'n disgwyl iddo gael ei gwblhau cyn bo hir, fel sail i hynny. Ar Benrhos, mae hwnnw ychydig yn fwy cymhleth, gan ei fod yn fater sy'n ymwneud â chais cynllunio i awdurdod cynllunio. Felly, ni chaf wneud sylw ar yr agweddau unigol ar hynny, oherwydd yn amlwg, fi yw'r Gweinidog cynllunio, ac efallai y bydd gennyf rôl apeliadol yn y cyswllt hwnnw maes o law. Ond yn gyffredinol, yr awdurdod cynllunio lleol sy'n gyfrifol am greu ei bolisïau yn ei gynllun datblygu lleol cyn eu rhoi ar waith. Felly, yn amlwg, cyngor Ynys Môn a fyddai'n gwneud hynny.
Fel y gŵyr pob un ohonom, mae coed yn bwysig iawn ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Ond gyda phenderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i brynu fferm Gilestone yn fy nghymuned, credaf fy mod newydd eich clywed yn dweud, Weinidog, nad ydych yn plannu ar dir cynhyrchiol. Felly, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd gennych, ac ar gyfer y gymuned yn fy etholaeth, nad ydych yn bwriadu plannu coed ar fferm Gilestone, sef yr hyn rydych newydd ei ddweud.
Hefyd, ail gwestiwn: gyda chorfforaethau mawr yn prynu darnau mawr o dir fferm yn fy etholaeth at ddibenion gwrthbwyso carbon, ceir pryderon mawr y gall y corfforaethau hyn gael mynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu'r coed hyn, felly a gaf fi sicrwydd gennych eich bod yn edrych ar hyn, er mwyn sicrhau bod grantiau i blannu coed yn canolbwyntio ar fusnesau ffermio dilys sydd am arallgyfeirio, yn hytrach na chynorthwyo corfforaethau mawr i gyflawni eu targedau newid hinsawdd? Diolch, Lywydd.
Mae fferm Gilestone, fel y gwn fod yr Aelod yn gwybod yn iawn, wedi’i phrynu fel rhan o ymgais y portffolio datblygu economaidd i sicrhau dyfodol gŵyl y Dyn Gwyrdd, un o’r unig wyliau annibynnol sydd ar ôl yn Ewrop. Ac nid yw'n ddim i'w wneud â CNC na chreu coed. Wrth gwrs, ni allaf addo na fydd yr un goeden yn cael ei phlannu ar dir fferm Gilestone—byddai hynny’n hurt.
O ran cyfeirio’r cynlluniau creu coetir at ffermwyr gweithredol, mae hwn yn fater sydd wedi cael ei drafod yn y Siambr hon sawl gwaith. Ac wrth gwrs, rydym yn annog ceisiadau gan elusennau a sefydliadau'r trydydd sector, megis Coed Cadw, y mae gan rai ohonynt bencadlys y tu allan i Gymru, i wneud ceisiadau i gynyddu faint o goetir bioamrywiol sydd gennym. Mae’r bobl ar y meinciau gyferbyn yn sôn wrthyf o hyd am newid hinsawdd ac achub bioamrywiaeth. Ni allwn wneud hynny oni bai ein bod yn newid y ffordd y defnyddiwn ein tir. Mae’r pwyllgor newid hinsawdd wedi dweud yn glir iawn sawl erw o dir y mae angen eu gorchuddio gyda choedwigoedd bioamrywiol yng Nghymru, ac rydym yn dilyn y llwybr cytbwys hwnnw.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’n ffaith mai pobl ar yr incwm isaf yng Nghymru sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig. Mae Cyfeillion y Ddaear wedi canfod, yng Nghymru, mai ardaloedd difreintiedig o ran incwm sydd â’r llygredd aer gwaethaf yn anghymesur, a bod pobl o liw 2.5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn ardal â llygredd gronynnol uchel, a phum gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaeth sydd wedi'i llygru â nitrogen ocsid. Yn amlwg, mae diffyg camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn niweidio ein cymunedau du, asiaidd ac ethnig leiafrifol, a’r tlotaf mewn cymdeithas yn fwy na neb. Yn wir, roedd Joseph Carter, sy’n adnabyddus iawn i ni yma yn y Siambr oherwydd y gwaith y mae wedi’i wneud fel cadeirydd Awyr Iach Cymru, yn llygad ei le pan ddywedodd:
'Mae’r gwaith ymchwil newydd hwn yn syfrdanol, ond nid yw’n syndod.'
Roedd hyd yn oed y Prif Weinidog yn gwybod am ddifrifoldeb llygredd aer pan addawodd yn ei faniffesto ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Llafur yn 2018 i ddatblygu Deddf aer glân newydd. Fodd bynnag, Weinidog, dros dair blynedd a hanner yn ddiweddarach, nid oeddech hyd yn oed yn gallu dweud wrth ein pwyllgor newid hinsawdd yr wythnos diwethaf p'un a yw’r ddeddfwriaeth aer glân wedi’i drafftio i’r graddau y gellid ei chyflwyno, pe bai’r Prif Weinidog yn penderfynu gwneud hynny. Nawr, er y byddwn yn falch o wybod a ydych yn cefnogi penderfyniad y Prif Weinidog i ohirio'r ddeddfwriaeth aer glân ai peidio, byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech egluro pam fod canlyniad ymgynghoriad y Papur Gwyn ar Fil aer glân (Cymru), a ddaeth i ben ar 7 Ebrill, 2021—
Mae gennych dri chwestiwn, Janet Finch-Saunders, ac rydych ymhell dros eich amser ar eich cwestiwn cyntaf. Felly, gofynnwch gwestiwn os gwelwch yn dda.
—14 mis yn ôl, yn dal heb ei gyhoeddi.
Iawn. Diolch.
Wel, credaf fod hynny'n bum cwestiwn, a dweud y gwir. [Chwerthin.]
Na, dim ond yr un cwestiwn. Dywedwch wrthym pam nad yw’r adroddiad wedi—
Wel, pa un fyddech chi'n hoffi i mi ei ateb, Janet?
Y Bil aer glân—pam nad yw'r papur wedi'i gyhoeddi.
Iawn, mae hynny'n syml iawn. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cyhoeddi, ar 7 Mehefin, y cynllun ymgysylltu a fydd yn ein helpu gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn cyflwyno’r Ddeddf aer glân.
Nawr, dyna ffordd wych o'i wneud—gofynnwch gwestiwn byr, Janet, fel y gwnaethoch tua'r diwedd, ac fe gewch ateb byr.
Dyna sy'n wych am gwestiynau'r llefarwyr—mae gennym rywfaint o ddylanwad.
Na. Rwy'n credu y byddwn yn symud ymlaen yn gyflym pe bawn yn eich lle chi, Janet.
Mae’r oedi cyson gan Lywodraeth Cymru yn llanast. Ac os nad ydych yn fy nghredu, gwrandewch ar Haf Elgar, is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, sy'n datgan:
'Os yw Cymru am fod yn genedl deg a chyfiawn, yn ogystal â bod yn genedl werdd, rhaid inni wella'r ffordd y gweithredwn yn awr.'
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Awyr Iach Cymru wedi datgan bod angen mynediad at gyfiawnder amgylcheddol ar Gymru. Mae eu llythyr i Lywodraeth Cymru yn nodi bod 1,600 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd llygredd aer, mai dim ond cyfran fach iawn o’n safleoedd natur gorau ar y tir a’r môr sydd mewn cyflwr da, a bod oedi parhaus cyn cyflwyno deddfau i warchod a gwella ein hamgylchedd yn tanseilio hawl pobl i gyfiawnder amgylcheddol. Faint yn fwy o rybudd y mae angen i 20 o sefydliadau a holl aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru ei roi i chi cyn y byddwch yn gwrando ar ein galwadau i fod o ddifrif ynglŷn â chyfiawnder amgylcheddol, rhoi deddfwriaeth gadarn ar waith i ysgogi adferiad byd natur, yn ogystal â’r arfau i ddwyn eich Llywodraeth eich hun i gyfrif?
Felly, unwaith eto, geiriau teg a dim gweithredu o gwbl gennych chi. Felly, rydym wedi gwneud nifer o bethau eisoes ar Fil aer glân (Cymru), y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n un o nifer o gamau gweithredu a nodir yn y cynllun aer glân i Gymru, 'Awyr Iach, Cymru Iach', yr ydym yn eu cymryd i wella ansawdd aer. Mae’r camau a gymerwyd yn cynnwys, wrth gwrs, strategaeth drafnidiaeth Cymru, ‘Llwybr Newydd’, a’r adolygiad ffyrdd, a rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd ledled Cymru, sy’n cynyddu allyriadau a gronynnau. Ac nid ydych yn hoffi'r darnau hynny. Y camau cadarn yr ydym yn eu cymryd, ni allwch eu cefnogi mewn unrhyw ffordd. Felly, geiriau teg, dim gweithredu, unwaith eto, oddi ar feinciau’r Torïaid.
Mae'n deg dweud, pe byddai'r Ceidwadwyr Cymreig mewn Llywodraeth, gyda'r ysgogiadau sydd gennych chi, byddem ni yn eu defnyddio.
Nawr, er bod gan Loegr a Gogledd Iwerddon Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd, a bod gan yr Alban safonau amgylcheddol, yma yng Nghymru, rydym yn dal i ddibynnu ar y drefniadau dros dro y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Awyr Iach Cymru wedi’u disgrifio fel rhai heb bwerau cyfreithiol, strategaeth gyhoeddus, a gwefan hawdd ei defnyddio. Fodd bynnag, mae'n peri mwy fyth o bryder fod adroddiad blynyddol asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru yn tynnu sylw at y canlynol:
'Un broblem allweddol a nodwyd yn ystod yr adolygiad oedd bod y galw am y gwasanaeth wedi bod yn fwy o lawer nag a ddisgwylid yn wreiddiol.'
Felly, Weinidog, yng ngoleuni hyn, rydym wedi bod yn gweithio i roi prosesau mwy cadarn ar waith i sicrhau ein bod yn targedu ein hadnoddau at faterion lle y gallwn ychwanegu’r gwerth mwyaf. Yn wyneb y galw mawr am gymorth gyda chyfraith amgylcheddol, a wnewch chi roi’r broses o sefydlu corff parhaol ar lwybr carlam?
Felly, Janet, eto, unwaith eto, sawl gwaith y mae'n rhaid imi ddweud yr un peth? Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i roi corff diogelu’r amgylchedd ar waith. Mae'r cynllun interim diogelu'r amgylchedd yn gweithio; mewn gwirionedd, mae'n tynnu sylw at faint o bobl sydd am i'w problemau gael sylw, ac mewn amserlen lawer byrrach nag a oedd yn bosibl erioed o'r blaen. Fel y gwyddoch, rydym yn gweithio gyda’r archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth i roi safonau ar waith gyda thargedau a fydd yn cadw'r pwysau arnom. Mae cael bathodyn sy'n dweud, 'Nid wyf yn gwybod beth rwyf ei eisiau, ond mae arnaf ei eisiau yn awr' yn un peth, ond mae'n bwysig cael targedau sy'n golygu rhywbeth ac a fydd yn gwthio'r mater yn ei flaen, yn hytrach na set o eiriau gwag, unwaith eto.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Hoffwn dynnu sylw at gyfraniad band eang ffeibr i'n taith i sero net a'n dyfodol cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod i 30 y cant o'r gweithlu weithio o gartref yn rheolaidd, neu'n agos at gartref, erbyn 2030. Yr hyn sy'n amlwg ydy bod angen rhwydwaith band eang sy'n darparu profiad gwaith symlach a dibynadwy o'n cartrefi a chanolfannau cydweithio cymunedol. Mae ymchwil diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig wedi tynnu sylw at sut yn union y byddai uwchraddio'r rhwydwaith ffeibr llawn yn cefnogi ymdrechion datgarboneiddio, naill ai drwy ailddefnyddio pibellau a pholion ffôn presennol, neu oherwydd bod technolegau newydd yn rhyddhau 80 y cant yn llai o garbon hyd yn oed cyn ystyried defnyddio ynni digarbon. Felly, Weinidog, beth ydy rôl band eang ffeibr go iawn yn strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050 neu'n gynharach, plis?
Diolch, Delyth. Rwy'n cytuno'n llwyr; mae strategaeth ddigidol yn gwbl hanfodol er mwyn gwneud hynny. Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi ymrwymo i gael o leiaf 30 y cant o bobl yn gweithio gartref neu’n agos i’w cartref—felly, llawer llai o amser cymudo, a ffyrdd o gymudo sy'n llygru llawer llai, gobeithio. Er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid inni ddarparu cyfleusterau iddynt allu gwneud hynny, yn ddigidol ac mewn amgylchedd swyddfa. Rydym yn edrych, fel y gwyddoch, ar hybiau cymunedol mewn gwahanol fannau yng Nghymru i alluogi hynny i ddigwydd, ac mewn gwirionedd, mae’r rhan gymdeithasol o hynny’n bwysig iawn hefyd, gan y gall pobl fynd i deimlo'n ynysig yn eu cartrefi.
Amlinellodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn y Siambr yn ddiweddar y ffaith ein bod wedi gwneud ychydig o newidiadau i'n strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru, ar ôl cael llawer o lwyddiant wrth gyflwyno Band Eang Cymru, oherwydd nid yw hwn yn faes datganoledig mewn gwirionedd. Rydym wedi ymyrryd, oherwydd fel arall, ni fyddai Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny, a byddai gennym nifer fawr o adeiladau heb fand eang dibynadwy. Ond yn ddiweddar, rydym wedi cael golwg arall ar hynny, ac rydym wedi cael peth llwyddiant yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn edrych eto ar eu strategaeth. Maent newydd gyflwyno nifer o addewidion, y gobeithiwn y byddant yn dwyn ffrwyth, ac rydym wedi bod yn ailddefnyddio rhywfaint o’n harian. Yn ddiweddar iawn, mewn ateb i gwestiwn gan Rhun, rwy’n credu, cyhoeddodd Lee Waters y gwaith gyda Phrifysgol Bangor, er enghraifft, sy’n enghraifft newydd hynod ddiddorol o arloesi a allai ddarparu cysylltedd llawer gwell i bobl ledled Cymru.
Felly, rydym yn cytuno at ei gilydd. Rydym yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU, ac rydym yn targedu ein harian ein hunain yn llawer mwy penodol at safleoedd—y safleoedd gwyn, fel y’u gelwir—nad oes ganddynt unrhyw gysylltedd o gwbl, yn hytrach nag uwchraddio pobl a chanddynt gysylltedd yn barod i ffeibr llawn gyda'n harian ni, gan y credwn y dylai Llywodraeth y DU gyflawni ei chyfrifoldebau a gwneud hynny.
Diolch, Weinidog. Ar gyfer fy ail gwestiwn a’r cwestiwn olaf gennyf fi, hoffwn droi at ddatgoedwigo a chadwyni cyflenwi. Yn COP26, fe ddywedoch eich bod yn benderfynol o newid polisi caffael Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn hyrwyddo cadwyni cyflenwi sy'n deg, yn foesegol ac yn gynaliadwy. Rwy'n croesawu hynny. Nid yn unig y byddai hynny'n lleihau ôl troed byd-eang Cymru, byddai hefyd yn cefnogi economïau lleol. Mae gennym gyfle i ddod yn arweinydd yn hyn o beth, gan ddilyn, neu'n hytrach, ymuno ag arloeswyr fel Ffrainc a thalaith Califfornia, sydd wedi cyflwyno polisïau caffael i roi terfyn ar ddatgoedwigo a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Weinidog, ceir tystiolaeth hefyd fod y cyhoedd yn cefnogi’r camau hyn. Canfu arolwg diweddar gan WWF Cymru o gymunedau gwledig Cymru fod 84 y cant o’r ymatebwyr yn cytuno na ddylai gwasanaethau cyhoeddus sy’n darparu ac yn gwerthu bwyd, fel ysgolion ac ysbytai, brynu bwyd o ffynonellau a all gyfrannu at golledion i fyd natur a newid hinsawdd yng Nghymru a thramor. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym, Weinidog, pa gynnydd a wnaed ar gyflwyno targedau dim datgoedwigo, asesiadau risg a phrosesau diwydrwydd dyladwy yn arferion caffael y sector cyhoeddus, os gwelwch yn dda?
Gwnaf, yn sicr, Delyth. Mae caffael ym mhortffolio Rebecca Evans mewn gwirionedd, ond yn amlwg, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda Rebecca. Yn ddiweddar, mae hi wedi cyhoeddi nifer o faterion ymchwil i'r maes caffael, ac un ohonynt yw sicrhau nad yw Cymru’n defnyddio mwy na’n cyfran deg o adnoddau’r byd. Rhan o hynny yw sicrhau, wrth brynu cynhyrchion neu gael cadwyni cyflenwi yma sy’n dibynnu ar gynhyrchion sydd o reidrwydd yn golygu datgoedwigo mewn rhannau eraill o’r byd, ein bod yn ceisio cael cynhyrchion yn lle'r rheini yn y gadwyn gyflenwi a chynorthwyo’r gwledydd i ymbellhau oddi wrth eu harferion, ac ailgoedwigo.
Rydym yn falch iawn o'n gwaith yn Affrica, yn Uganda, yn Mbale, gyda'r coed yr ydym yn eu plannu—un goeden yno, un goeden yma, ar gyfer pob plentyn sy'n cael ei eni yng Nghymru. Mae bob amser yn werth atgoffa pobl o hynny. Rydym yn falch iawn o'r ailgoedwigo y gallasom ei wneud. Rwyf wedi addo gweithio gyda Maint Cymru ar brosiect sy’n caniatáu i’r sector cyhoeddus, a chymaint â phosibl o'r sector preifat yng Nghymru, ddeall sut olwg sydd ar eu cadwyni cyflenwi ac i sicrhau y ceir gwared ar gynhyrchion sydd o reidrwydd yn arwain at ddatgoedwigo ledled y byd o'r cadwyni cyflenwi hynny cyn gynted â phosibl.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nyffryn Clwyd? OQ58226
Bydd rhaglen metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau trên, bws a theithio llesol ar draws y gogledd. Mae’r metros yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau i gyflawni ein targed o sicrhau bod 45 y cant o deithiau'n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040, gan helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, allyriadau carbon a llygredd aer.
Rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb, Weinidog. Mae fy mewnflwch yn llawn gohebiaeth gan etholwyr sy'n hynod bryderus ynghylch materion trafnidiaeth lleol. Problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yw ail gategori mwyaf cyffredin fy ngwaith achos bellach. Mae’r problemau y mae’n rhaid i fy etholwyr eu dioddef yn amrywio o fysiau annigonol ac anfynych, yn enwedig yn ardaloedd mwy gwledig yr etholaeth, i drenau gorlawn a diffyg blaengynllunio gan y gwasanaethau rheilffyrdd, gyda rhy ychydig o gerbydau yn weithredol yn ystod digwyddiadau y gŵyr pawb eu bod yn brysur, megis rasys Caer a digwyddiadau chwaraeon lleol. O gofio bod eich Llywodraeth wedi pennu nodau uchelgeisiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, nid yw'n anodd deall y bydd angen unioni'r problemau a amlinellais, yn enwedig os ydych am ddenu mwy o deithwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, Weinidog, beth a wnewch i dawelu meddwl fy etholwyr pryderus ynglŷn â'r materion hyn a gwella eu profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Nyffryn Clwyd?
Diolch. Rwy’n deall eich bod wedi codi pryderon gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch perfformiad gwael y trenau yn eich etholaeth, a chredaf eich bod wedi cael ymateb ganddynt. Bu achlysuron pan fu’n rhaid i Trafnidiaeth Cymru ganslo gwasanaethau ar y funud olaf, ac achosion lle roedd angen inni weithredu gwasanaethau amgen er mwyn sicrhau bod opsiynau teithio amgen ar gael. Mae oddeutu 68 y cant o’r gwasanaethau a gafodd eu canslo yn ymwneud â phroblemau Network Rail, lle roedd angen iddynt ymchwilio i ddigwyddiadau amrywiol ar y seilwaith. Mae’r traciau a’r signalau ar gyfer prif linell arfordir gogledd Cymru yn cael eu rheoli a’u gweithredu gan Network Rail, ac mae hyn yn cyfyngu ar allu Trafnidiaeth Cymru i weithredu pan fydd problem yn codi. Yn anffodus, mae rhai digwyddiadau, megis tresmaswr ar y rheilffordd neu farwolaeth, angen sylw sensitif a bydd angen i'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ymdrin â'r digwyddiadau hynny.
Lle bo modd, mae Trafnidiaeth Cymru yn ceisio cynnig gwasanaeth amgen i sicrhau bod pobl yn gallu teithio. Weithiau, y dewis arall fyddai ei ganslo'n gyfan gwbl. Ac er ei bod yn ddrwg iawn gennym am yr amodau gorlawn wrth gwrs, weithiau mae'n well cael gwasanaeth gorlawn na dim gwasanaeth o gwbl, sef yr opsiwn arall o bosibl. Ac wrth gwrs, rydym yn gweithio i wella'r rhwydwaith yn gyffredinol. Mae'r streiciau diweddar—ddoe ac yfory—a’r tarfu heddiw wedi'u hachosi gan y ffordd y mae Network Rail yn rhyngweithio â’r cwmnïau sy'n gweithredu'r trenau. Felly, mae cael sgwrs iawn gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pam fod y system honno a roddwyd ar waith gan y Ceidwadwyr wedi methu ym mhob ffordd yn un o'r pethau cyntaf ar ein rhestr.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y rhandiroedd cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ58237
Mae ein grant cymorth rhandiroedd bellach yn ei ail flwyddyn, a bydd yn dyrannu £750,000 ar draws holl awdurdodau lleol Cymru i helpu i wella a chynyddu darpariaeth rhandiroedd. Yn ogystal â’r gronfa benodedig hon, mae amrywiaeth o raglenni eraill, megis Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, hefyd yn helpu i gefnogi datblygiad rhandiroedd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae’r pandemig wedi amlygu llawer o anghydraddoldebau yn y gymdeithas, ac roedd mynediad i fannau gwyrdd, i mi, yn un o’r gwersi mwyaf y mae angen inni eu dysgu a mynd i’r afael â hwy. I lawer yn yr ardaloedd mwyaf poblog, nid oes modd mynd allan i’r ardd, ac mewn wardiau yng nghanol dinasoedd, fel y rheini yn fy etholaeth i, mae mannau gwyrdd yn aml yn brin. Felly, mae rhandiroedd a gerddi cymunedol yn achubiaeth hanfodol i natur a’r rhyngweithio cymdeithasol a ddaw yn eu sgil. Mae'r manteision yn bellgyrhaeddol. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, maent yn helpu gyda chynhyrchu bwyd, yn enwedig wrth i gostau byw gynyddu, ac maent hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag ynysigrwydd ac yn gwella lles meddyliol. Mae angen rhandiroedd cymunedol yn y mannau gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf, ond yn aml, dyma lle mae tir ar ei ddrytaf hefyd. Sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i hwyluso’r broses lle y gellir trawsnewid tir nas defnyddir yn fannau sydd o fudd i’r gymuned, a pha gymorth y gallwn ei roi i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ar gyfer archwilio'r pocedi angof hyn o dir fel y gallant gefnogi pobl leol yn well?
Rwy'n cytuno'n llwyr, Jayne; yn sicr, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at yr angen i bobl gael man yn yr awyr agored y gellir ei ddefnyddio ac i ddod i gysylltiad â natur, sydd nid yn unig o fudd i'w hiechyd corfforol, ond hefyd yn dda iawn i iechyd meddwl wrth gwrs. Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau sy'n rhoi'r wybodaeth a'r arfau i grwpiau cymunedol sicrhau perchnogaeth ar fannau gwyrdd—gan gynnwys tir gwastraff; ni fyddent o reidrwydd yn wyrdd ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth o sefydliadau yn darparu cyngor arbenigol ac yn cefnogi'r gwaith o drosglwyddo mannau gwyrdd i sefydliadau cymunedol. Rydym yn ariannu’r gwasanaeth cynghori ar dir cymunedol i roi cymorth i grwpiau lleol ac i nodi a pherchnogi neu reoli mannau gwyrdd at ddibenion hamdden a thyfu bwyd. Rydym wedi gweithio gyda dros 200 o grwpiau ers 2018 i helpu i negodi'r broses o drosglwyddo tir i grwpiau cymunedol, gan gynnwys dau yng Nghasnewydd, rwy’n falch o ddweud. Gwn eich bod yn gyfarwydd â rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd wedi creu dros 300 o fannau gwyrdd ledled Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gyda 22 yng Nghasnewydd, gan gynnwys gwaith y gwn eich bod yn gyfarwydd ag ef yn rhandir cymunedol Pilgwenlli.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, am roi sylw i'r cwestiwn hwn. Mae gan rai ysgolion yn fy rhanbarth i ac mewn mannau eraill yng Nghymru dir dros ben ar gael fel rhan o dir yr ysgol. Mae rhai megis, a maddeuwch fy ynganiad, Ysgol Gyfun yr Olchfa yn eich etholaeth—[Torri ar draws.] Dyna ni, ie—yn gwerthu eu tir er mwyn codi tai. Fodd bynnag, mae gan rai ysgolion dir dros ben, nad yw’n ddigon mawr ar gyfer datblygu tai efallai, ond a allai fod yn addas ar gyfer rhandiroedd, a thrwy hynny, gallai gynyddu ymgysylltiad yr ysgolion â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac addysgu disgyblion ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd a phwysigrwydd llysiau ffres er mwyn cael deiet iach. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch cyd-Weinidogion ac eraill, Weinidog, ynglŷn ag annog ysgolion o bosibl i ddarparu rhywfaint o’u tir at ddibenion ffermio a thyfu mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol?
Rydym eisoes yn gwneud hynny. Mae'n rhan o'r cwricwlwm, ar wahân i unrhyw beth arall. Wrth gwrs, rydym yn annog ysgolion i annog defnydd cymunedol. Nid yn unig fy mod wedi cael sgyrsiau, ond rwyf wedi ymweld ag ysgolion sy'n gwneud hynny, gyda fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles. Rydym yn awyddus iawn i ysgolion ymuno â'r prosiect hwnnw, felly os gwyddoch am unrhyw un nad ydynt yn gwneud hyn eto ac y byddent yn awyddus i'w wneud, byddem yn fwy na pharod i helpu.
5. Pa waith y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar gynllunio defnydd tir i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o dir yng nghyd-destun Cymru Sero Net? OQ58229
Diolch, Jenny. Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau sero net bydd angen newid defnydd tir. Defnyddir y rhan fwyaf o dir Cymru ar gyfer amaethyddiaeth. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cymell ffermwyr i wneud y defnydd gorau o’u tir i gyflawni canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy ddull rhannu tir.
Hoffwn ychwanegu at y cwestiynau y mae Jayne Bryant a Natasha Asghar wedi’u gofyn, ond mewn perthynas â thyfu bwyd i’w werthu. Mae’n amlwg fod yn rhaid inni leihau ein hallyriadau carbon o fwyd, gan gynnwys y milltiroedd y mae’n rhaid i fwyd eu teithio. Mae adroddiad Sustain ar ffermio ar gyrion trefi, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn tynnu sylw at bwysigrwydd diogelu tir o gwmpas trefi â phriddoedd gradd 1 a gradd 2 ar gyfer tyfu bwyd. Edrychaf ymlaen at y gwaith y mae Bwyd Caerdydd yn ei wneud gyda Chyngor Caerdydd i fapio pwy yn union sy’n berchen ar ba ddarnau o dir ar gyrion Caerdydd yn ogystal â Chasnewydd. Mae gennyf fy llygad yn benodol ar y gorlifdir rhwng Caerdydd a Chasnewydd, sy’n lle delfrydol ar gyfer tyfu bwyd yn ôl pob golwg. Felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu tir ffrwythlon ar gyrion trefi a dinasoedd ar gyfer tyfu bwyd fel rhan o'ch uchelgais ar gyfer cymunedau trefol cynaliadwy?
Rwy'n cefnogi hynny'n fawr, Jenny. Mae gennym system gynllunio genedlaethol yng Nghymru—system wedi’i chynllunio sy’n caniatáu inni gael fframwaith cadarn er mwyn sicrhau bod tir amaethyddol yn cael ei ddiogelu at ddefnydd cynhyrchiol drwy ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a ‘Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040’. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ceisio sicrhau y gwneir y defnydd gorau o dir. Er enghraifft, mae’n ffafrio defnyddio tir addas a chynaliadwy a ddatblygwyd eisoes ar gyfer datblygu o fewn aneddiadau presennol, mae ganddo bolisi cryf i ddiogelu ardaloedd o gwmpas trefi rhag datblygu, gan gynnwys blerdwf trefol, ac mae’n ceisio gwarchod y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas fel adnodd cyfyngedig ar gyfer y dyfodol. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio trefn chwilio wrth baratoi cynlluniau datblygu lleol i flaenoriaethu dyraniad safleoedd addas a chynaliadwy. Ni ddylid datblygu tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas, graddau 1, 2 a 3A, onid oes angen 'sy’n drech na dim arall'. Mae hwnnw'n derm cyfreithiol; mae'n safon uchel iawn. Nid yw'n golygu 'am na allwch feddwl am unman gwell'; mae'n rhaid iddynt ddangos nad oes unrhyw dir addas arall ar gael cyn ei fod yn angen sy'n drech na dim arall.
Mae gennym hefyd strategaeth hirdymor i hyrwyddo newid deietegol ac i annog pobl Cymru i fwyta bwyd o ffynhonnell iachach a mwy cynaliadwy. Er ein bod yn awyddus i annog pobl i brynu cynnyrch Cymreig lleol o ansawdd uchel, gallwn weithio gyda’n sector cynhyrchu bwyd i sicrhau ei fod yn cael ei gynhyrchu mewn modd gwirioneddol gynaliadwy yn hytrach na'n bod yn trosglwyddo'r allyriadau i wledydd eraill. Cefais gyfarfod da iawn gyda’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yn ddiweddar iawn, lle buom yn trafod y gwahanol ffyrdd, er enghraifft, y gallech gynhyrchu gwartheg brîd Cymreig heb fewnforio unrhyw fath o gynnyrch soi, gan leihau nid yn unig y milltiroedd bwyd os ydych yn prynu ac yn bwyta'r cig hwnnw, ond y milltiroedd bwyd i'w gynhyrchu yn y lle cyntaf. Felly, rydym yn gwneud gwaith da iawn ar hynny gyda fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, ac yn diogelu’r tir o gwmpas trefi ar yr un pryd. Ac yna, ynghyd â sgwrs gyda Jayne a Natasha, sicrhau bod yr holl dir sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i ddod â phoblogaethau trefol, yn enwedig, yn ôl i gysylltiad â'r modd y caiff bwyd ei dyfu a lle sydd orau i'w gynhyrchu.
Weinidog, mae ‘Cymru Sero Net: Cyllideb Garbon 2' yn nodi:
‘Er mwyn gwireddu'r uchelgais sero net, bydd angen defnyddio mwy o bren mewn sectorau fel y sector adeiladu yn lle'r deunyddiau gweithgynhyrchu ynni uchel a ddefnyddir ar hyn o bryd, fel dur a choncrid.'
a hefyd bod y Llywodraeth hon yn bwriadu datblygu strategaeth ddiwydiannol newydd ar gyfer pren:
‘er mwyn datblygu economi coed ac annog mwy o ddefnydd o bren ym maes adeiladu’
Ond rwy’n pryderu nad yw hyn yn arbennig o dryloyw o ran sut y caiff ôl troed carbon pren ei gyfrif. Mae'n awgrymu rywsut fod pren a ddefnyddir i adeiladu yn ddi-garbon mewn rhyw fodd, ond mewn gwirionedd mae'n gynnyrch gweithgynhyrchu sydd angen mewnbwn ynni ar gyfer cynaeafu a chludo, ac ar ben hynny ceir y carbon a ryddheir o aflonyddu ar bridd. Yna mae angen ei brosesu gan ddefnyddio gludion a deunydd cadw cemegol ynni-ddwys, ac nid yw hyn yn cyfrif cylchred oes carbon yn ystod y cyfnod y defnyddir yr adeilad. Weinidog, cefais fy siomi gan eich ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ynghylch allyriadau carbon o bridd, oherwydd tynnodd sylw at y dystiolaeth annigonol sydd ar gael i gefnogi cynllun y Llywodraeth hon wrth symud ymlaen. Yn wir, erbyn i’ch strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren ddechrau dwyn ffrwyth ymhen 40 i 50 mlynedd, bydd y diwydiant concrit eisoes wedi’i ddatgarboneiddio’n llwyr. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth hon wedi’i rhoi i fesur potensial y diwydiant concrit yn y broses atafaelu carbon? Ac a wnaiff y Gweinidog gytuno i gyfarfod â mi a chynrychiolwyr y diwydiant i drafod sut y gall concrit chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatgarboneiddio Cymru? Diolch.
Felly, yn amlwg, ceir cyfres gymhleth o gyfrifiadau'n ymwneud â dal a storio carbon ac atafaelu carbon ar gyfer amrywiaeth o wahanol gynhyrchion. Ni allaf gymryd arnaf fy mod yn arbenigwr ar hynny, ond mae gennym nifer o bobl yn ein cynghori, gan gynnwys ar y paneli archwilio dwfn ac yn y blaen, sy'n arbenigwyr ar hynny. Un o’r pethau yr ydym eisiau ei wneud yw dod i gytundeb gyda ffermwyr, yn enwedig ar gyfer pridd, ynglŷn â sut y maent yn mesur carbon ar eu tir, er enghraifft, a’u hallyriadau carbon. Felly, rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i geisio cytuno ar set o safonau ac offer mesur safonol er mwyn gwneud yn union hynny. Rydym yn falch iawn o weithio gydag unrhyw ddiwydiant yng Nghymru sydd eisiau datgarboneiddio, ac rydym yn fwy na pharod i gyfarfod gyda chi ag unrhyw ddiwydiant arall sydd eisiau gwneud hynny. Er enghraifft, rydym wedi cael nifer o sgyrsiau buddiol gyda’r diwydiant dur am eu taith ddatgarboneiddio, ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny gydag unrhyw ddiwydiant yng Nghymru sydd eisiau mynd ar y daith honno.
O gofio bod dros dri chwarter o holl dir Cymru yn dir fferm, mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r cynnyrch o’r tir hwn ar ein taith i gyflawni sero net. Nid oes unrhyw gynnyrch mwy naturiol na gwlân dafad. Yn anffodus, mae pris cnu gwlân oddeutu 20c—pris sy’n llawer llai na'r £1.40 y mae’n ei gostio i'w gneifio. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi addo defnyddio mwy o wlân mewn adeiladau cyhoeddus yn ôl yn 2020, ond mae angen inni wneud mwy. Galwodd Cymdeithas Ffermwyr Iwerddon ar Lywodraeth Iwerddon i greu cymhellion i sicrhau bod mwy o bobl yn dewis gwlân domestig fel deunydd inswleiddio ar draws eu gwlad. A fyddai Llywodraeth Cymru yn gefnogol i gynllun fel hwn yng Nghymru? A gyda'r dasg enfawr bosibl o ôl-osod stoc dai Cymru i fod yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, a wnaiff Llywodraeth Cymru archwilio'r defnydd o wlân domestig fel deunydd inswleiddio mewn rhaglen ôl-osod o'r fath i gefnogi ein ffermwyr a pharhau â'n taith tuag at sero net?
Ie. Yr ateb byr iawn i hynny yw 'gwnawn'. Mae'n bendant yn rhan o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol. Mae'r rhaglenni hynny'n cymryd cyfres gyfan o gynhyrchion ac rydym yn adeiladu tai—tai newydd ar gyfer y rhaglen tai arloesol a thai wedi'u hôl-osod ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio—ac yna rydym yn profi sut y mae'r cynnyrch wedi perfformio yn ôl yr hyn y mae wedi'i honni mewn gwirionedd. Fel y dywedais droeon yn y Siambr, rydym ddwy flynedd i mewn i'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, a phum mlynedd, rwy'n credu fy mod yn iawn yn dweud hynny—efallai chwe blynedd—i mewn i'r rhaglen tai arloesol, ac mae hynny'n golygu bod gennym gryn dipyn o ddata empirig da iawn ynglŷn â sut y mae gwahanol fathau o bethau'n perfformio ar y cyd ag eraill. Felly, er enghraifft, ar wlân defaid, a yw hwnnw'n perfformio'n dda rhwng dwy wal o blastrfwrdd, neu ddwy wal wellt, neu—? Y mathau hynny o bethau. Felly, mae'r rhaglen yn eithaf cynhwysfawr. Byddwn yn annog unrhyw Aelod nad yw wedi ymweld ag un o'r safleoedd i wneud hynny. Byddwch yn cael taith gynhwysfawr o'r gwahanol fathau o dechnoleg. Ymwelais ag un i lawr yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, ddoe ddiwethaf, ac mae'n eithriadol o ddiddorol gweld y data'n sy'n dod yn ôl. O ganlyniad i hynny, byddwn yn ei ddefnyddio i gynyddu'r cadwyni cyflenwi, yn helpu i fasnacheiddio'r cynnyrch, yn datblygu strategaeth farchnata ac yn ei fwydo i'r brif ffrwd, gan mai dyna yw holl bwrpas y rhaglen.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod seilwaith digonol ar waith lle cynigir datblygiadau tai newydd? OQ58232
Diolch yn fawr, Darren. Mae egwyddorion creu lleoedd yn sail i bolisi cynllunio cenedlaethol. Maent angen seilwaith digonol i gefnogi datblygu tai a hyrwyddo lleoedd o ansawdd. Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol fabwysiadu dull strategol o ddarparu seilwaith wrth gynllunio ar gyfer tai newydd, ac mae'r Llywodraeth yn cynnig cymorth parhaus i gyflawni hyn.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Mae llawer o drigolion Bae Colwyn wedi cysylltu â mi ynglŷn â datblygiad posibl yn ardal Pwllycrochan yn y dref, ac yn anffodus, fel y byddwch yn gwybod, mae llawer o'r ysgolion yn y dref yn orlawn, mae yna brinder deintyddion, mae ein cyfleusterau gofal iechyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r gofynion a osodir arnynt, ac mae gennym broblemau draenio yn y safle hwn ac o'i amgylch hefyd. Rwy'n sylweddoli na allwch wneud sylwadau am achosion cynllunio unigol, ond a fyddech yn ystyried cryfhau'r canllawiau yr ydych yn eu rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn ystyried y pethau hyn yn llawn ac yn briodol fel rhan o'r broses gynllunio, oherwydd wedyn, pan gaiff datblygiadau newydd eu hargymell, a phan fo pobl yn symud i ardal, gallant fwynhau'r cyfleusterau y maent yn disgwyl gallu eu mwynhau, ac ni ddylent fod mewn sefyllfa lle mae llifogydd yn her arbennig hefyd?
Ie, rwy'n ysgrifennu at awdurdodau cynllunio drwy'r amser yn atgyfnerthu gwahanol rannau o 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae gennym fforwm swyddogion cynllunio hefyd ac rwy'n cyfarfod yn fuan iawn—mae arnaf ofn na allaf gofio pryd yn union—gyda'r aelodau cabinet newydd sy'n gyfrifol am gynllunio ar draws llywodraeth leol, gan fod pob awdurdod bellach wedi ffurfio eu cabinetau newydd. Byddaf yn cyfarfod â'r arweinwyr a'r aelodau cabinet perthnasol i gadarnhau'r ffordd yr ydym yn gweithio a'r hyn y dylent ei wneud. Rydym hefyd wedi gofyn i bob un o'n hawdurdodau cynllunio edrych eto ar broses eu cynllun datblygu lleol, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yn cyflwyno'r rheoliadau i alluogi'r cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd i wneud y trefniadau cynllunio strategol rhanbarthol, a fydd yn ein galluogi i roi'r seilwaith ar waith ar y lefel ranbarthol honno. Felly, bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol weithio'n rhanbarthol i sicrhau bod digon o faterion ar draws y rhanbarth—wel, yr holl faterion yr ydych newydd eu codi.
Felly, mae'r polisi'n gryf eisoes; mae angen iddynt roi sylw iddo. Yn amlwg, os nad ydynt yn rhoi sylw iddo, maent yn agored i her. Ond yn amlwg ni allaf wneud sylw ar y cais unigol.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau sy'n cael eu taro gan lifogydd dro ar ôl tro? OQ58208
Diolch. Mae ein hamcanion ariannu i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau wedi'u nodi yn ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a'r rhaglen lywodraethu. Eleni, cyhoeddwyd y lefel uchaf erioed o fuddsoddiad o fwy na £214 miliwn dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddiogelu o leiaf 45,000 o gartrefi rhag perygl llifogydd.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi clywed gan lawer o fy etholwyr eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn cael yswiriant yn y blynyddoedd dilynol ar ôl llifogydd. Nid yw peth o'r eiddo wedi dioddef llifogydd hyd yn oed, ond daw o fewn ardal y cod post, ac felly caiff ei ystyried yn eiddo lle mae'r risg o lifogydd yn uchel. Mae gan y bobl hyn lawer llai o ddewis o ddarparwyr yswiriant, ac maent yn aml yn talu premiymau llawer uwch, gan mai prin yw'r opsiynau sydd ar gael iddynt siopa o gwmpas. Mae'r bobl hynny'n ofni hawlio am symiau yswiriant bach iawn hyd yn oed, rhag ofn y byddant yn colli eu hyswiriant yn gyfan gwbl. Felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r trigolion hyn sy'n wynebu'r sefyllfa amhosibl hon? Diolch, Lywydd.
Mae yna gynllun yswiriant arbenigol, ac rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol ohono, o'r enw Flood Re, sy'n caniatáu i bobl sydd ag eiddo mewn ardaloedd lle y ceir perygl llifogydd—ac rwy'n sylweddoli ei bod hyd yn oed yn fwy rhwystredig os nad ydynt wedi dioddef llifogydd mewn gwirionedd—gael yswiriant drwy'r rhaglen Flood Re. Rhaglen yw hon lle mae nifer o yswirwyr yn dod at ei gilydd i rannu'r risg, i bob pwrpas. Rydym hefyd yn cynorthwyo awdurdodau lleol i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn cael yr yswiriant hefyd. Ac wrth gwrs, mae gennym nifer o brosiectau cymorth incwm i wneud hynny. Felly, mae rhaglen ar gyfer hynny ar waith. Rwy'n sylweddoli y gall fod yn ddrutach, felly, i yswirio eich tŷ, ac mae hwnnw'n fater y mae arnaf ofn nad oes gennym bŵer i ymyrryd ag ef, gan nad yw'r diwydiant yswiriant wedi'i ddatganoli. Ond rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau'r DU ac rydym wedi cael nifer o uwchgynadleddau yn y gorffennol, gyda'r cwmnïau yswiriant yn bresennol—mae nifer o fy nghyd-Aelodau wedi bod yn rhan o'r uwchgynadleddau hynny—i sicrhau bod y rhaglen Flood Re yn addas i'r diben ac nad yw'n gwbl anfforddiadwy i'r bobl yr effeithir arnynt.
8. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i adfywio canol trefi yn Nwyrain De Cymru? OQ58220
Diolch. Rydym wedi buddsoddi dros £53.7 miliwn mewn mwy na 100 o brosiectau sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni cynlluniau ehangach i greu lleoedd yng nghanol trefi. Rydym yn parhau i fuddsoddi a gweithio mewn partneriaeth â phob sector i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddynt, ac i ymweld â hwy.
Diolch, Weinidog. Mae llawer o ganol trefi yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd. Mae'r storm berffaith o ardrethi busnes uchel, y cynnydd mewn siopa ar-lein a'r argyfwng costau byw wedi gwneud y rhagolygon yn llwm i lawer o fasnachwyr. Er gwaethaf buddsoddiad o £900 miliwn yng Nghymru yn yr wyth mlynedd diwethaf, mae un o bob saith siop ar y stryd fawr yn parhau i fod yn wag yn ôl Archwilio Cymru. Maent hefyd yn dweud:
'Nid yw pwerau a all helpu i ysgogi adfywiad canol trefi yn cael eu defnyddio'n effeithiol nac yn gyson.'
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddysgu gwersi o strategaethau blaenorol i fynd i'r afael â'r duedd hon ar i lawr? A yw cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys unrhyw syniadau i addasu rhannau o ganol trefi i ddarparu mwy o gyfleoedd hamdden a desgiau poeth i fusnesau newydd neu bobl a allai fod yn gweithio gartref yn barhaol erbyn hyn?
Yn hollol, ac mae hon yn broblem anodd iawn wrth i'r byd newid o'n cwmpas. Ac felly mae'n gwbl glir, onid yw, nad yw llawer ohonom bellach yn siopa yng nghanol trefi nac yn mynd i ganol trefi yn y ffordd yr arferem ei wneud er mwyn cael nwyddau a gwasanaethau cyffredin. Felly, mae ein polisi 'canol y dref yn gyntaf', sydd wedi'i wreiddio yn y fframwaith cynllunio cenedlaethol, 'Cymru'r Dyfodol', yn dweud y dylai canol trefi fod yn ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad sy'n ymwneud â lleoliad gweithleoedd a gwasanaethau, nid manwerthu'n unig, fel nad oes gennym benderfyniadau cyrion y dref ar gyfer popeth y gallwch feddwl amdano mewn gwirionedd, o'r coleg lleol i leoliadau adloniant ac yn y blaen. Mae hynny er mwyn sicrhau ymwelwyr a gwneud y dref yn gyrchfan i bobl, ac nid mewn perthynas â manwerthu'n unig.
Rydych yn darllen y rhestr o heriau yr ydym yn ymgodymu â hwy bob dydd. Mae'n rhaid i'r dref ailddyfeisio ac ailfywiogi ei hun i fod yn fan lle mae pobl eisiau mynd iddo, boed i ddigwyddiad neu os ydynt eisiau cymdeithasu neu gyfarfod â ffrindiau. Felly, mae'n rhaid iddo fod yn lle sy'n groesawgar ac sydd â gofod sy'n ystyriol o deuluoedd ac yn y blaen. Yn ystod y pandemig, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi addasu rhywfaint o le ar ffyrdd i gaffis a bwytai i'w gwneud yn fannau mwy dymunol i eistedd. Mae'n ddirgelwch, rwy'n credu, i lawer ohonom pam nad ydym yn gwneud hynny mewn ffordd fwy eang ym Mhrydain. Mae'n ymddangos ein bod yn teimlo bod ein tywydd yn ofnadwy, ond bydd unrhyw un sydd wedi bod yn Ffrainc yn y gaeaf yn gwybod bod eu tywydd lawn mor wael a'u bod yn dal i fod yn hapus i ddefnyddio eu mannau awyr agored yn sgwâr y dref ac yn y blaen. Felly, mae angen inni ailfeddwl.
Mae gennym nifer o raglenni ar draws y Llywodraeth wedi'u cynllunio i helpu awdurdodau lleol i feddwl am y pethau hynny ac i sicrhau, pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau, yn ogystal â phan fyddwn ni'n gwneud ein penderfyniadau, eu bod yn meddwl 'canol y dref yn gyntaf', i sicrhau eich bod yn cael crynodiad o wasanaethau sy'n denu pobl, os mynnwch, i ganol y dref ac nad oes gennych flerdwf trefol sydd wrth gwrs yn bwydo i mewn i rai o'r pethau eraill yr ydym wedi'u trafod heddiw am y defnydd o dir o gwmpas trefi ac yn y blaen.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd yn etholaeth Mynwy? OQ58200
Diolch, Peter. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i leihau'r perygl o lifogydd i dros 45,000 o gartrefi dros y weinyddiaeth hon. Eleni rydym yn buddsoddi dros £71 miliwn drwy awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma'r cyllid mwyaf a ddarparwyd erioed yng Nghymru mewn un flwyddyn.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae'n ymddangos yn ddoniol, ar ddiwrnod heulog hardd, i fod yn meddwl am lifogydd, ond Weinidog, fe fyddwch yn gwybod yn iawn fod cymunedau ledled sir Fynwy, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi dioddef llifogydd dinistriol, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, gyda llefydd fel Ynysgynwraidd yn dioddef llifogydd yn gyson, a Threfynwy, lle y cafodd cartrefi symudol eu golchi i ffwrdd—ac yn wir, cafwyd llifogydd yng ngwaith Dŵr Cymru a olygodd nad oedd dŵr i'r dref am sawl diwrnod, rhywbeth y llwyddasom i'w oresgyn—a Llanwenarth, wrth gwrs, yr ardal lle y gorlifodd afon Wysg, ond gwyddom na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn mabwysiadu'r asedau hynny wrth symud ymlaen. Gwn am eich ymrwymiad i'r maes hwn, Weinidog, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau rheoli risg, awdurdodau lleol a chymunedau i baratoi ar gyfer yr hydref/gaeaf hwn i helpu i leihau effaith llifogydd posibl ar fywydau, busnesau ac eiddo? A chyda newid hinsawdd yn dylanwadu fwyfwy ar y tywydd, pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod amddiffynfeydd tebyg i rai sir Fynwy yn addas ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r pryderon difrifol hyn?
Diolch, Peter. Mae'r strategaeth llifogydd genedlaethol yn nodi sut y byddwn yn rheoli'r perygl dros y degawd nesaf, ac yn tanlinellu'r pwysigrwydd a roddwn ar fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd ac effeithiau cynyddol newid hinsawdd. Eleni, ar y cyd â Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, cyhoeddwyd y lefel uchaf erioed o fuddsoddiad, sef mwy na £240 miliwn dros y tair blynedd nesaf, i'n helpu i gyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Rydym yn cyhoeddi'r rhaglen flynyddol ar gyfer llifogydd ac arfordiroedd ar-lein, ac mae'n cynnwys y rhestr o gynlluniau sy'n cael eu hariannu ynghyd â map. Mae gennym hefyd fap rhyngweithiol ar DataMapWales, lle y gall y cyhoedd ddefnyddio'r map i gael rhagor o fanylion am y cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen ar gyfer eleni.
Mae Cyngor Sir Fynwy ei hun wedi cael £360,000 i ddarparu wyth cynllun gwahanol a fydd o fudd i 140 eiddo, sef rhai o'r rhai yr ydych newydd sôn amdanynt fel rhai yr effeithiwyd arnynt yn ystod yr un neu ddwy o stormydd gaeafol diwethaf. Ac mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru unwaith eto, rydym wedi comisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau llywodraeth leol adran 19 a Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeafau 2020-21.
Fel y dywedoch chi eich hun, Peter, cyfrifoldeb awdurdodau rheoli risg yw nodi'r ardaloedd sydd angen y gwaith lliniaru llifogydd. Mae'r strategaeth llifogydd yn gwneud hynny'n glir, ac mae'n rhaid i'r penderfyniadau a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch mabwysiadu amddiffynfeydd preifat ystyried y goblygiadau ariannu yn y dyfodol. Ond rydym yn disgwyl i'r awdurdodau rheoli risg a Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda'i gilydd i roi'r cynllun ar waith, a gweithio tuag at ddiogelu'r cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf, yn amlwg, a gweithio i lawr o hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Ken Skates.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn Ne Clwyd drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ58198

Manteisiodd yr ystad addysg yn ardal De Clwyd ar fuddsoddiad o dros £20 miliwn yn ystod y don gyntaf o gyllid drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, a bydd yn parhau i elwa ar £22 miliwn arall drwy'r don bresennol o fuddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys arian grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg.
Weinidog, diolch am eich ateb. Mae hwnnw'n newyddion gwych, ac mae'r £20 miliwn hwnnw wedi cyfrannu'n helaeth at wella nid yn unig ystadau ysgolion, ond cymunedau'n gyffredinol. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a fy etholwyr yn Ne Clwyd am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn benodol yng nghymuned Brymbo, yng ngogledd yr etholaeth, lle byddai ysgol newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei gwerthfawrogi gan bob dinesydd, ac yn enwedig gan ddysgwyr.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n ymwybodol ei fod wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar ynglŷn â hyn, ac i gadarnhau bod llythyr ar fin cael ei anfon yn ôl mewn ymateb i'r ymholiad hwnnw. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol a datblygwyr safle Brymbo yn gyffredinol. Fel y mae'r Aelod yn amlwg yn ymwybodol iawn, mae'n safle sydd â nifer o ddimensiynau a nifer o gynlluniau. Mewn ffyrdd gwahanol, mae cynllun yr ysgol yn un o'r datblygiadau arfaethedig hynny, ac mae swyddogion yn gweithio i sicrhau datblygiad cynhwysfawr o'r safle. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae cynnydd da wedi'i wneud ar rai agweddau ar reoli tir, sy'n angenrheidiol er mwyn i bethau allu symud ymlaen. Felly, mae hwnnw'n gynnydd, a byddaf yn adrodd yn ôl mewn mwy o fanylder iddo yn y llythyr y byddaf yn ei anfon ato gyda hyn.
Diolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am gyflwyno'r cwestiwn pwysig ac amserol iawn hwn, oherwydd yr wythnos diwethaf croesewais ddisgyblion o ysgol gynradd y Santes Fair, Brymbo i'r Senedd yma, ac roedd ganddynt gryn ddiddordeb mewn sesiwn holi ac ateb fywiog, ac anodd ar adegau efallai, yn enwedig pan ofynnwyd i mi am gyfyngiadau oedran mewn perthynas â llafnau. Ond roedd un o'r cwestiynau penodol, mewn gwirionedd, yn ymwneud â rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac roeddwn yn rhyfeddu eu bod yn gwybod amdani. Yn amlwg, mae'n bwysig iddynt hwy a'u hysgol. Daeth yn amlwg i mi yn y sesiwn holi ac ateb gyda phlant yr ysgol fod angen gwneud mwy i gyflymu a sicrhau cynnydd yn y rhaglen, yn enwedig ym Mrymbo. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, hoffwn ymuno â galwadau'r Aelod dros Dde Clwyd a gofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi fod yr ysgol hon yn flaenoriaeth i'r rhaglen, a pha drafodaethau yr ydych yn eu cael yn bersonol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i hwyluso cynnydd y rhaglen yno. Diolch.
Diolch i Sam Rowlands am hynny. Fel y dywedais yn fy ateb i Ken Skates, mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r awdurdod ar y safle hwn. Mae iddo nifer o ddimensiynau. Mae datblygu ysgolion yn un agwedd ar hynny. Ond bu cynnydd da ar nifer o'r elfennau allweddol sydd eu hangen er mwyn i hynny symud ymlaen, ac rwy'n hapus i gofnodi hynny. Rwy'n ei longyfarch am ymgysylltu â disgyblion yn ei ranbarth mewn perthynas â photensial y rhaglen adeiladu ysgolion. Credaf fod cyfleoedd da, yn enwedig mewn perthynas ag ysgolion sero net y dyfodol, i ymgorffori'r dysgu hwnnw yn y cwricwlwm ei hun, ac i ddefnyddio'r gwaith o adeiladu'r ysgol fel adnodd addysgu ynddo'i hun.
2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am hyfforddi darpar feddygon drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgol feddygol Bangor? OQ58233
Rwy'n ymwybodol, o fy nhrafodaethau gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithsol, ei bod hi, mewn sgyrsiau gyda Bangor, wedi amlinellu ein disgwyliadau ni ynghylch y ddarpariaeth Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn ystyriaeth greiddiol i Fangor, sy'n cymryd camau rhagweithiol i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg wrth iddynt fynd ati i ddatblygu a gweithredu'r cwricwlwm newydd.
Mi wnes i holi’r Gweinidog iechyd yma yn y Siambr yn ddiweddar ynghylch sut y gallai’r ysgol feddygol newydd ym Mangor helpu i wireddu polisi ardderchog 'Mwy na Geiriau', ond rhaid imi ddweud, siomedig oedd yr ateb ges i. Dyna pam dwi’n parhau efo’r thema efo chi yma heddiw yma. O’r hyn dwi’n ei ddeall, prin ydy’r nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n hyfforddi drwy’r ysgol feddygol ym Mangor ar hyn o bryd, ac mae hynny hefyd yn siomedig.
A ydych chi’n credu bod targedau digonol wedi cael eu gosod ar gyfer recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer y rhaglen hyfforddi meddygon ym Mangor? A wnewch chi ddod yn ôl ataf i, os gwelwch yn dda, efo esboniad llawn am sut rydych chi yn bwriadu gwella’r sefyllfa os ydy’r hyn dwi’n ei ddeall yn gywir? Mae gennym ni gyfle gwych efo sefydlu’r ysgol feddygol newydd i sefydlu targedau i gefnogi’r egwyddor bod angen gweithlu cyfrwng Cymraeg priodol ar gyfer diwallu egwyddorion 'Mwy na Geiriau', a hefyd strategaeth 'Cymraeg 2050'.
Rwy’n hapus iawn i ysgrifennu gyda mwy o fanylion at yr Aelod am y cwestiwn pellach y mae hi wedi’i ofyn. Fel y bydd hi’n gwybod, mae gwerthusiad wedi digwydd o gynllun 'Mwy na Geiriau', ac mae’r Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad pellach dros yr wythnosau nesaf ynglŷn â’r camau nesaf fydd yn dod yn sgil y gwaith y gwnaeth pwyllgor Marian Wyn Jones ar ein rhan ni yn ddiweddar.
Felly, heb fynd i fanylu ar hynny, mae’n glir mai gweithlu dwyieithog yw un o’r blaenoriaethau o fewn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran 'Mwy na Geiriau' a bod angen hefyd symud, efallai, o fframwaith i ddefnyddio’r polisi fel rhywbeth sydd yn fwy rhagweithiol ac yn gallu gyrru cynnydd, mewn ffordd rwy’n sicr y bydd yr Aelod yn ei chroesawu. Mae cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol, wrth gwrs, yn rhan greiddiol o hwnnw, a bydd rôl sicr gan yr ysgol feddygol ym Mangor i'w chwarae yn hynny.FootnoteLink
Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaed gan Siân Gwenllian am yr angen i sicrhau bod gennym feddygon yn dod drwy'r system sy'n rhugl yn y Gymraeg.
Mae hefyd yn bwysig iawn, wrth gwrs, fod y rhai hynny sydd yn y gweithlu addysg, yn addysgu, sydd â sgiliau iaith Gymraeg, yn gallu parhau i'w defnyddio. Yn y Senedd ddoe nodais sefyllfa mewn sefydliad addysg bellach, lle mae cyrsiau'n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, mewn cymuned ac ardal Gymraeg ei hiaith i raddau helaeth yn ne sir Ddinbych, a bydd y rheini'n cael eu hadleoli i'r arfordir, lle y ceir llai o siaradwyr Cymraeg, a lle bydd y galw am y cyrsiau hynny'n wahanol. Bydd yn rhoi pobl ifanc sydd eisiau manteisio ar y cyfle i barhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant yn mynd i addysg ôl-16 dan anfantais ddifrifol.
Lle mae gennym diwtoriaid, athrawon ac eraill yn y gweithlu addysg sy'n gallu darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, beth a wnewch i sicrhau nad yw'r cyfleoedd hynny'n cael eu lleihau o ganlyniad i benderfyniadau gwirion, a bod yn onest, gan sefydliadau addysg bellach, ac yn wir, gan rai ysgolion hefyd?
Wel, nid wyf am wneud sylw am y penderfyniad penodol hwnnw, oherwydd yn amlwg nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny, ond fel y gŵyr o ateb y Prif Weinidog ddoe, byddaf yn mynd ar drywydd hynny. Rydym wedi pasio trydydd cyfnod darn o ddeddfwriaeth ddoe, a fydd, yn y cyd-destun penodol—y cyd-destun addysg bellach—y mae'n gofyn y cwestiwn, yn sicr ddoe a chredaf ei fod yn gwneud yr un pwynt heddiw, yn arwain at newid sylweddol yn narpariaeth addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amlwg, un o'r heriau oedd sicrhau bod gennym weithlu sy'n gallu gwneud hynny, ac fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r cynllun a gyflwynwyd gennym i gynyddu'r gweithlu addysgol yn gyffredinol yng Nghymru i'r rheini sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn fy nhrafodaethau â cholegau addysg bellach ym mhob rhan o Gymru, ceir cydnabyddiaeth yn bendant fod angen inni wneud mwy a brwdfrydedd i gydweithio i sicrhau hynny, ac felly edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda hwy a byddaf yn mynd ar drywydd y pwynt penodol y mae wedi'i godi. Diolch.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i'n cynghorau lleol am eu hymdrechion i ddod o hyd i leoliadau addysg ar gyfer plant o Wcráin. Mae pob awdurdod lleol wedi cyflawni i sicrhau bod pob plentyn o Wcráin yn cael mynediad at addysg. Mae hyn yn cynnwys, yn unol â'r wybodaeth ddiweddaraf, 73 o blant Wcráin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yma yng Nghymru.
Yr hyn sy'n wych am ein hiaith yw ei bod yn perthyn i bawb. Gellir ei dysgu a'i charu gan unrhyw un o unrhyw gefndir, fel sy'n wir yma. Ond gall dysgu ein hiaith fod yn anodd, nid lleiaf i'r rhai sydd wedi eu dadleoli gan ryfel. Felly, Weinidog, a allwch amlinellu pa gymorth ychwanegol rydych wedi'i gynnig i athrawon cyfrwng Cymraeg sy'n darparu addysg ragorol i'r plant hyn tra'u bod nhw yn westeion yn ein gwlad?
Wel, mae hi wedi bod yn flaenoriaeth i ni sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i'r rhai sydd eisiau cymryd mantais ar hynny o Wcráin, ac wedi bod yn sicrhau, o ran plant a hefyd oedolion, fod mynediad ar gael i wersi yn y Gymraeg, ac wedi gweithio gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg i sicrhau bod hynny yn bosib, ac mae'r adnoddau sydd ar gael yn ddwyieithog yn sicrhau bod hynny yn hygyrch iddyn nhw. Byddwn i'n hoffi gweld mwy a mwy o blant o Wcráin yn dewis addysg Gymraeg, os taw hynny maen nhw eisiau ei wneud, a sicrhau bod angen cefnogaeth i ysgolion i allu darparu hynny hefyd.
Diolch i chi am hynny, Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd yr Wcrainiaid ledled Cymru yn gwerthfawrogi'r ateb a'r cymorth hwnnw.
O ran addysg cyfrwng Cymraeg, hoffwn ddiolch i chi am ateb llythyr a halais atoch ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos fel pe bai'n blaenoriaethu addysg cyfrwng Cymraeg dros addysg cyfrwng Saesneg. Byddwch yn gwybod am enghreifftiau o gynnig cludiant am ddim i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg ond nid disgyblion cyfrwng Saesneg. Yn eich ateb, rydych yn nodi mai cynghorau lleol sydd â'r cyfrifoldeb am gynllunio eu trefniadau addysg. Eto, mae canllawiau ein Llywodraeth ar y Gymraeg, yng nghyd-destun cynlluniau addysg strategol, yn annog awdurdodau lleol i drafod eu hanghenion unigol gyda Llywodraeth Cymru. Os yw'r canllawiau hynny yn wir, pam felly fod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg sy'n creu anghydbwysedd yn y cymorth sydd ar gael?
Dwi ddim yn credu ein bod ni yn gwneud hynny.
Dyna ni. Diolch. Ond o'r ateb a ges i yn y llythyr a ges i o'r Gweinidog, dwi'n credu bod angen edrych ar hwn unwaith eto. Dwi'n ddigon hapus i ddod ymlaen â chwestiynau eraill ynglŷn â hyn.
Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o fy aelodaeth hir a phleserus o fudiad y ffermwyr ifanc, a hoffwn ddatgan diddordeb. Mae'n fudiad sydd wedi ei drwytho yn nhraddodiadau cefn gwlad Cymru, ac yn un sydd wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad llawer o bobl ifanc ar draws ein gwlad. Mae sefydliadau ieuenctid fel y ffermwyr ifanc yn bwysig wrth helpu i gyflawni amcanion uchelgeisiol 'Cymraeg 2050'. Maent yn annog dysgu a datblygu sgiliau iaith dwy'r gymuned, ac yn ategu gwaith pwysig datblygiad yr ysgol. Er fy mod yn ymwybodol o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n clybiau ffermwyr ifanc, drwy gyllido swyddog iaith Gymraeg amser llawn, rwy'n awyddus i ddeall a yw sefydliadau ieuenctid eraill, megis mudiad y Sgowtiaid neu gadetiaid y fyddin, yn cael cynnig adnoddau tebyg. Diolch.
Dwi ddim yn gwybod beth yw'r gyllideb benodol ar gyfer y mudiadau eraill mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw, ond mae gennym ni, wrth gwrs, gynllun o gefnogaeth ariannol i amryw o gyrff gwirfoddol, cyrff trydydd sector, cyrff ieuenctid hefyd. Rŷm ni'n edrych ar hyn o bryd ar adolygu cynllun grantiau hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol. Mae cwmni allanol wedi cael ei benodi ar gyfer edrych ar yr adolygiad hwnnw. Un o'r blaenoriaethau sydd gyda fi, fel rŷch chi'n gwybod, fel Gweinidog, yw sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i gynyddu nid jest nifer y bobl sy'n dysgu'r Gymraeg ond hefyd cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a gofyn i'n partneriaid ni i edrych ar ffyrdd o allu grymuso pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein cymunedau ni. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n dod i ben maes o law. Bydd yn gyfle inni edrych eto ar y cynllun grantiau yn gyffredinol, ond, yn sicr, mae'r gwaith y mae amryw o fudiadau, o'r math y mae e wedi bod yn sôn amdanyn nhw yn ei gwestiynau, yn ei wneud yn bwysig iawn.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae lefel buddsoddiad Cymru mewn ymchwil ac arloesi yn sylweddol is na chyfartaleddau'r DU a'r UE, a bydd y darlun hwn yn gwaethygu wrth i brifysgolion Cymru fod o dan anfantais anghymesur oherwydd colli arian strwythurol yr UE o ystyried y lefel uchel o ddibyniaeth ar y cyllid hwnnw yn y gorffennol. Erbyn hyn, mae gwariant gros ar ymchwil ac arloesi yng Nghymru ymhlith yr isaf o 12 rhanbarth y DU. Felly, o ystyried hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r bwlch enfawr hwn mewn cyllid a fydd yn peryglu ein gallu i ymchwilio ac arloesi. Felly, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y strategaeth a awgrymwyd gan adolygiad yr Athro Graeme Reid i fynd i'r afael â'r union sefyllfa hon? A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y strategaeth hon sydd â'r nod hirdymor o drawsnewid a chefnogi'r dirwedd ymchwil ac arloesi yn sefydliadau addysg uwch Cymru? Diolch.
Wel, nid fy maes polisi i yw hwn; un fy nghyd-Aelod Vaughan Gething ydyw, sydd wedi gwneud datganiad yn ddiweddar mewn perthynas ag ymateb y Llywodraeth i adolygiad Reid. Mae rhan o hynny'n ymwneud â gweithredu nifer o'r pwyntiau a argymhellodd yr Athro Reid yn yr adolygiad hwnnw, gan gynnwys mewn perthynas ag agor swyddfa yn Llundain yn benodol i gael mynediad at rai o'r cyfleoedd eraill sy'n codi yno a'r cynnydd mewn cyllid ymchwil o ansawdd, yr ydym wedi'i gynyddu uwchben yr hyn a argymhellodd yr Athro Reid, yn ôl yr hyn a gofiaf. Ond mae nifer o gyd-destunau eraill i ymateb y Llywodraeth i adolygiad Reid, a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, mewn datganiad diweddar. Felly, cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad hwnnw.
Diolch. Mae aildrefnu ysgolion yn ardal Pontypridd wedi bod yn bwnc llosg ers blynyddoedd bellach. Un o'r prif bryderon yw cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd, gan olygu y bydd rhaid i blant sydd yn byw yn Ynys-y-bŵl, Coed-y-cwm, Glyn-coch, Trallwn a Chilfynydd deithio milltiroedd yn bellach i dderbyn addysg Gymraeg. Cyflwynodd ymgyrchwyr dystiolaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o ba mor niweidiol yw hyn i addysg Gymraeg, gan annog y cyngor i agor ysgol newydd Gymraeg ar safle yng Nglyn-coch. Brynhawn yma, mae cabinet y cyngor wedi cymeradwyo ysgol Saesneg newydd ar yr union safle hwn ac yn gwrthod cyflwyno ffrwd Gymraeg ynddi.
I rwbio halen yn y briw, yn yr adroddiad sydd wedi mynd i'r cabinet, dywedwyd bydd yr ysgol newydd hon yn gwella darpariaeth Saesneg yn yr ardal a chynyddu capasiti Saesneg. O ble daw y disgyblion ychwanegol hyn os nad o addysg Gymraeg? Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu 81 y cant o gost yr ysgol newydd. Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gennych i sicrhau nad yw'r Llywodraeth yn parhau i ariannu cynlluniau fel hyn sydd yn tanseilio addysg Gymraeg mewn ardaloedd lle mae dirfawr angen cynnydd, os ydym am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg? Ydych chi'n rhannu fy mhryder am y sefyllfa hon?
O ran cynlluniau strategol a phob awdurdod lleol yng Nghymru, byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â lle maen nhw, ar ôl yr adolygiadau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd, o fewn yr wythnosau nesaf, cyd diwedd y tymor, ac mae hynny'n cynnwys cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd. Beth rydw i wedi'i ddweud yn y gorffennol yw ei bod yn bwysig ein bod ni'n sicrhau nid jest, fel petai, fod y niferoedd sy'n dysgu'r Gymraeg yn cynyddu ond bod daearyddiaeth—dosbarthiad iaith a mynediad i addysg Gymraeg—hefyd yn bwysig yn sgil y cynlluniau hynny yn y dyfodol. A byddaf eisiau gweld cynnydd o ran darpariaeth Gymraeg wrth edrych ar y cynnydd o fewn ystâd ysgolion Saesneg ar y cyd.
Mae cwestiwn 3 [OQ58207] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 4, Joel James.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl y model consortia mewn ysgolion? OQ58228
Gwnaf. Mae consortia rhanbarthol yn cefnogi ysgolion i wella, gan gynnwys drwy ddysgu proffesiynol, ymgysylltu uniongyrchol a hwyluso gweithio rhwng ysgolion. Byddaf yn cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion yr wythnos nesaf, i nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gonsortia rhanbarthol gefnogi gwelliant ysgolion o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn dilyn digwyddiadau Cynhadledd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) yn Telford yn ddiweddar, a sylwais ar gynnig a gyflwynwyd gan NAHT Cymru, a oedd yn nodi bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y model consortia wedi bod, hyd yma, yn annheg, ac i lawer o ysgolion mae wedi bod yn gwbl annigonol. Roedd y cynnig gan NAHT Cymru yn mynd ymhellach, ac roedd eisiau gweld strwythur atebolrwydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer Cymru sy'n cefnogi'r cwricwlwm diwygiedig a dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, a hefyd na fyddai unrhyw ehangu pellach, haenau ychwanegol, na chyrff ychwanegol yn cael eu creu a allai fynd â chyllid ac adnoddau sydd eisoes yn gyfyngedig oddi wrth ddiben craidd ysgolion ac addysg rheng flaen. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa ystyriaeth a roesoch i ddiwygio'r model consortia yng ngoleuni'r feirniadaeth hon, ac i ddatblygu strwythur atebolrwydd addas i'r diben yng Nghymru sy'n cefnogi dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn derbyn bod y cyllid yn mynd ag arian oddi wrth y system ysgolion; mae'r cyllid yno er mwyn cefnogi'r rhaglen gwella ysgolion sydd gennym ledled Cymru. Ac mae mwyafswm y cyllid sydd ar gael i'r consortia rhanbarthol yn cael ei ddirprwyo'n uniongyrchol i ysgolion, yn hytrach na chael ei gadw gan y consortia eu hunain.
Ar y pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei wneud, credaf ei fod yn seilio, neu efallai fod NAHT yn seilio rhai o'u hystyriaethau ar yr adroddiad thematig gan Estyn yn ddiweddar i'r consortia rhanbarthol a chefnogaeth awdurdodau lleol i gynllunio'r cwricwlwm, a ddywedodd fod y consortia yn arddangos cynnydd wrth lunio'r cwricwlwm a chamau datblygu'r cwricwlwm, gan ddatblygu dulliau cryfach o gefnogi cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, a thargedu cymorth yn gyffredinol ar gyfer ysgolion sy'n peri pryder, ond gan nodi hefyd fod angen gwneud mwy o waith mewn perthynas â chynnal cysondeb o ran y ddealltwriaeth o ansawdd yr addysgu a'r dysgu, er enghraifft.
Felly, credaf fod yr adroddiad hwnnw'n ddefnyddiol, gan ei fod wedi nodi nifer o fesurau y gallwn eu rhoi ar waith i gefnogi ymhellach ein huchelgais ar y cyd i ddiwygio'r cwricwlwm. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r consortia ac yn yr ardaloedd lle nad oes consortiwm, gyda'r awdurdodau lleol, i sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i baratoi ar gyfer y cwricwlwm, a chan gweithio hefyd i ddatblygu model cliriach ar gyfer casglu a deall rhywfaint o'r wybodaeth sydd ar gael yn y system, mewn ymateb i argymhelliad penodol y mae Estyn wedi'i wneud. Ac mae fy swyddogion hefyd wedi sicrhau bod y telerau a'r amodau ar gyfer grantiau i gonsortia rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn glir ac yn cyd-fynd yn agos â'r blaenoriaethau a'r gofynion ar gyfer cynorthwyo ysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ehangu addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ58227
Diolch, Jack. I gefnogi eu cynlluniau i dyfu addysg Gymraeg, mae’r cyngor wedi cael cymeradwyaeth mewn egwyddor i sefydlu ysgol gynradd newydd, trwy gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eich bod yn cytuno y bydd buddsoddi mewn adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn allweddol os ydym am gyflawni o ddifrif a rhoi cyfle i bob rhiant a phlentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi cynllun strategol uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sir y Fflint. Tybed a wnewch chi roi sylwadau pellach, Weinidog, ynglŷn â sut y byddwch yn cefnogi'r cynllun hwn ac uchelgeisiau'r cyngor, a sut y byddech yn buddsoddi mewn ysgolion fel Ysgol Croes Atti yn Shotton, yn fy etholaeth i.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach ac am ei ddefnydd o'r Gymraeg yn ei gwestiwn cyntaf. Mae awdurdod lleol sir y Fflint wedi ymrwymo yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg drafft i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg o 6.3 y cant ar hyn o bryd i 15 y cant o fewn y 10 mlynedd nesaf. Fe wnes i gyhoeddi'n ddiweddar, ym mis Mawrth, 11 o brosiectau a fydd yn elwa o'r grant cyfalaf addysg Gymraeg—cronfa o ryw £30 miliwn—a bydd sir y Fflint yn un o'r naw awdurdod lleol a fydd yn elwa o'r cyllid hwn. Mae elfen wedi ei dyrannu'n barod i sefydlu ysgol Gymraeg newydd, ac mae ardal Bwcle yn etholaeth yr Aelod yn un o'r opsiynau ar gyfer y lleoliad hwnnw. A bydd sir y Fflint hefyd yn cyflwyno'u hachos busnes er mwyn buddsoddi yn Ysgol Croes Atti, i gefnogi'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, ac rwy'n edrych ymlaen i weld y cynllun hwnnw.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r cwestiwn hwn hefyd, oherwydd mae gennyf innau hefyd ddiddordeb brwd mewn addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy? Ac fel y dywedodd yr Aelod, mae'n bwysig ein bod yn galluogi addysg Gymraeg ac yn annog mwy o bobl i siarad a dysgu Cymraeg.
Ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwyf wedi cael y pleser o ymuno â chynllun dysgu Cymraeg y Senedd, ac rwy'n mwynhau'n fawr iawn.
Ond fel y gwyddom, Weinidog, mae llawer o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn deillio'n bennaf o waith ein hawdurdodau lleol gydag ysgolion, gan weithio gyda chonsortia rhanbarthol, megis GwE yn y gogledd. Felly, yng ngoleuni hyn, pa asesiad a wnaethoch o'r cydweithio rhwng awdurdodau lleol yn y gogledd sy'n gweithio gyda GwE, gan weithio gydag ysgolion, fel y gallant weithio fel tîm i gyflawni uchelgeisiau'n ymwneud ag addysg Gymraeg yn fy rhanbarth i? Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddweud mor braf yw e i glywed mwy o Aelodau yn siarad Cymraeg yn y Siambr? Llongyfarchiadau i Sam, ynghyd â Jack, heddiw.
Ie, mae e wir yn bwysig, er mwyn i ni allu gweld y cynnydd rŷn ni eisiau ei weld o fewn darpariaeth Gymraeg, a bod mynediad hafal gan bob plentyn yng Nghymru i addysg Gymraeg yn unrhyw ran o Gymru, fod cynlluniau uchelgeisiol o ran cynlluniau strategol ar waith, ond hefyd fod gwaith da yn digwydd rhwng ysgolion, rhwng awdurdodau lleol a'r consortia. Ac rwy'n sicr bod hynny'n digwydd yng ngogledd Cymru fel mae e ym mhob rhan o Gymru.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi disgyblion sy'n cymryd eu arholiadau eleni o ystyried effaith COVID? OQ58231
Mae pecyn cymorth cynhwysfawr ar waith, sydd yn werth £24 miliwn yn gyfan, i roi blaenoriaeth i ddysgwyr sy’n gwneud eu harholiadau. I gyd-fynd â hyn, mae mesurau ymarferol wedi’u cymryd hefyd, gan gynnwys addasu cynnwys yr arholiadau, rhoi gwybodaeth ymlaen llaw i ddysgwyr, a ffiniau graddau man canol er mwyn gwneud y broses o ailgydio mewn arholiadau mor deg â phosibl.
Diolch am yr ymateb yna. Dwi'n datgan diddordeb fel tad i un disgybl lefel A, ond dwi yn gwybod fy mod i'n siarad ar ran llawer o ddisgyblion a'u rhieni sydd wedi pryderu'n fawr am yr arholiadau lefel A eleni yng nghyd-destun COVID. Dyma i chi ddisgyblion sydd erioed wedi sefyll arholiad allanol o'r blaen achos bod eu TGAU nhw a'u AS nhw wedi cael eu canslo, ac eto mae mwy na'r arfer o'u gradd nhw, y radd gyfan i lawer, yn gwbl ddibynnol ar arholiad yr haf yma. Ac mae rhai sydd wedi colli efallai un o ddau arholiad yr haf yma oherwydd COVID, sy'n golygu bydd eu gradd nhw yn cael eu bennu ar sail eu perfformiad yn yr un papur maen nhw wedi llwyddo i'w sefyll. Mae o'n teimlo'n annheg i lawer. Felly, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd y broses apêl yn cael ei chryfhau, er mwyn gallu delio yn gyflym a delio yn deg efo achosion lle mae yna deimlad bod yr amgylchiadau eleni wedi arwain at ddisgybl yn cael cam?
Wel, mae e wedi bod yn sefyllfa anodd eleni i'r rheini sydd heb sefyll arholiad allanol o'r blaen, ac mae hynny yn ddealladwy. Ac, felly, mae'r pryder sy'n dod yn sgil papurau oedd efallai yn annisgwyl i unigolion, wrth gwrs, wedyn yn cael effaith arnyn nhw. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o ran ambell bapur arholiad, yn cynnwys lefel A mathemateg, fod cwynion a phryderon wedi bod ynglŷn â chynnwys rhai o'r papurau hynny. Mae'r Aelod yn sicr wedi gweld ymateb y cyd-bwyllgor addysg i hynny ynglŷn â'r cynnwys, a bydd unrhyw gŵyn sydd yn cael ei gwneud iddyn nhw yn cael ymchwiliad trylwyr a review o'r papur hwnnw.
Mae un enghraifft o bapur Saesneg lle roedd cynnwys yn eisiau, ac mae hynny'n amlwg wedi bod yn gamgymeriad, a bydd review penodol yn digwydd yn sgil hwnnw, ond mae e'n bosib gosod y graddau wrth farcio'r papurau mewn ffordd sydd yn adlewyrchu'r ffaith bod cynnwys wedi bod yn eisiau, neu hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod rhai o'r cwestiynau yn anoddach na'r disgwyl.
Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ei bod hi'n bosib edrych ar y sgîm graddau wrth fynd ati i farcio'r papurau hynny, ond hefyd, wrth gwrs, bydd y trefniadau sydd ar gael o ran apêl yn gallu delio gyda rhai o'r cwestiynau eraill sydd yn codi. Ac, eleni, rŷn ni hefyd yn sicrhau na fydd cost apêl yn rhwystr i'r rheini efallai a fyddai'n stryglo i allu fforddio gwneud hynny fel arall, i sicrhau bod tegwch yn y system.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Weinidog, mae hwn yn fater y gwn fy mod wedi'i godi gyda chi o'r blaen hefyd, a'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar fyfyrwyr yn sgil colli addysg yn ystod y pandemig. Ond hoffwn ofyn i chi i ba raddau y bydd y mecanweithiau a ddatblygwyd gennych i gynnig y cymorth ychwanegol hwnnw'n parhau ar ôl y pandemig, ar gyfer pethau eraill efallai, lle mae angen cymorth ychwanegol ar fyfyrwyr. Rwy'n meddwl yn arbennig am y cwricwlwm newydd wrth ystyried hynny hefyd.
Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn da iawn. Mae'r ymgyrch Lefel Nesa, fel y gŵyr o'n cyfathrebu blaenorol ac o'i brofiad ei hun, rwy'n siŵr, yn darparu pecyn o gymorth adolygu, ond yn cyfeirio at gymorth arall hefyd, yn ogystal ag addasiadau, eleni, i'r cynnwys ar gyfer yr arholiadau yn benodol. Mae'n fath o siop un stop gynhwysfawr, os mynnwch. Credaf fod dulliau gweithredu'n deillio o hynny a allai fod o fudd yn y dyfodol, yn enwedig rhai o'r elfennau llesiant, oherwydd yr hyn a wyddom wrth gwrs yw na fydd y pwysau sy'n bodoli i ddysgwyr eleni yn diflannu i ddysgwyr y flwyddyn nesaf. Felly, byddwn yn edrych yn greadigol ar sut y gallwn gynnal rhai o'r adnoddau hynny. Mae'n amlwg fod rhai ohonynt yn addas i fod ar gael yn y dyfodol beth bynnag; mae rhai'n fwy penodol ar gyfer yr arholiadau yr haf hwn. Ond os caf sicrhau'r Aelod, rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda hynny i wneud yn siŵr ei fod ar gael yn ehangach yn y dyfodol hefyd.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg alwedigaethol yn sir Benfro? OQ58214
Mae amrywiaeth o gyfleoedd addysg alwedigaethol ar gael ar bob lefel i weddu i'n dysgwyr yn sir Benfro. Mae cymwysterau galwedigaethol yn chwarae rhan hanfodol yn darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar ein dysgwyr i fynd i'r afael â gofynion ein heconomi.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â Chlwb Pêl-droed Hwlffordd gyda fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, i ddysgu mwy am eu rhaglen cyn prentisiaeth, a ddarperir gan Cyflawni Mwy o Hyfforddiant. Mae'r rhaglen yn darparu cyfleoedd lleol i bobl ifanc yn sir Benfro sydd am gael gyrfa mewn addysg, chwaraeon neu hamdden, ac yn helpu i gau'r bwlch sgiliau yn y sectorau hynny. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gymeradwyo Clwb Pêl-droed Hwlffordd am eu gwaith yn cefnogi ac yn meithrin pobl ifanc drwy ddarparu prentisiaethau yn sir Benfro? Ac a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi mentrau o'r fath?
Rwy'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod i longyfarch y coleg, ac rwy'n edrych ymlaen at fod gydag ef yfory yng Ngholeg Sir Benfro, lle y cawn gyfle i siarad â llawer o'r dysgwyr ifanc yno—a'r manteision y gallant eu cael o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael yno hefyd. Fel y gŵyr, o ran ein dull o ymdrin â phrentisiaethau, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu ein cyfleoedd prentisiaeth ledled Cymru, gan gynnwys yn sir Benfro, yn amlwg. A dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £366 miliwn i ddarparu 125,000 o brentisiaethau ledled Cymru, ac rydym yn gweithio gyda Busnes Cymru, tîm y Porth Sgiliau i Fusnes ac amrywiaeth o gyrff eraill, i sicrhau bod gwasanaeth effeithlon ar gael i gyflogwyr sy'n dymuno recriwtio prentis, felly byddwn yn gwneud y broses honno mor llyfn ac mor hygyrch i gynifer o'n dysgwyr ifanc â phosibl.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoi ar gyfer arholiadau TGAU yr haf? OQ58218
Yn ogystal â'r addasiadau a gyhoeddwyd i gynnwys arholiadau a ffiniau graddau, rhoddwyd pecyn cymorth gwerth £24 miliwn ar waith, gan gynnwys yr ymgyrch Lefel Nesa. Mae'r buddsoddiad hwn wedi rhoi gwybodaeth, adnoddau arholiadau, a chynghorion i ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer tymor arholiadau 2022.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae hyn yn dilyn ymlaen o gwestiwn a gawsoch gan Rhun yn gynharach am baratoadau ar gyfer yr arholiadau yr haf hwn, o ystyried bod nifer o adroddiadau pryderus iawn fod testunau gosod wedi bod ar goll mewn llenyddiaeth Saesneg safon uwch, fel yr amlinellwyd gennych eisoes, a bod y cynnwys yn annisgwyl i ddisgyblion—hynny mewn mathemateg, gyda'r anhawster, fel y nodoch chi eisoes, felly nid wyf am ei ailadrodd. Ond pa sicrwydd y gallwch ei roi i ddysgwyr heddiw fod y gwersi hynny wedi'u dysgu gan y bwrdd arholi, ac na fydd camgymeriadau'r bwrdd arholi yn cael eu hailadrodd y tro hwn ar gyfer dysgwyr TGAU? Diolch.
Rwyf wedi cyfarfod â'r bwrdd arholi wrth gwrs a chyda Cymwysterau Cymru, fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd, ac wedi trafod tymor arholiadau yr haf hwn yn rhan o'n trafodaethau yn gyffredinol. Mae dysgwyr eleni wedi wynebu cyfres arbennig o heriau, y garfan gyntaf efallai i beidio â bod wedi sefyll unrhyw arholiadau allanol, ond yn eu hwynebu am y tro cyntaf eleni. Yn amlwg, fel y dywedais yn yr ateb cynharach, bydd dysgwyr yn teimlo'n bryderus iawn o ganlyniad i hynny. Fe fyddwch wedi gweld yr ymateb y mae CBAC wedi'i roi yn benodol ar gynnwys arholiadau. I ailadrodd y pwynt, ochr yn ochr â'r addasiad cyffredinol ar draws y system i'r graddau, sef canol y cyfnod rhwng 2019 a 2021—y math hwnnw o addasiad cyffredinol—mae hefyd yn bosibl addasu ffiniau graddau ar bapurau i adlewyrchu'r cynnwys a'r perfformiad cyffredinol ar y papur hwnnw, sy'n amlwg yn adlewyrchu rhai o'r pwyntiau yr oeddech yn eu gwneud. Felly, os caf roi'r sicrwydd hwnnw. Gwneir y set honno o benderfyniadau pan fydd y papurau'n cael eu marcio, felly gellir ystyried y mathau o faterion y mae'r Aelod wedi'u crybwyll. Rwy'n deall bod dysgwyr yn bryderus, ond rwyf am roi sicrwydd iddynt fod mecanwaith yn y system sy'n gallu ymateb i hynny.
9. Sut y mae'r Llywodraeth yn annog plant yn Nwyrain De Cymru i ddechrau addysg bellach? OQ58221
Gwelir y lefel uchaf o fuddsoddiad mewn addysg bellach mewn hanes diweddar yn setliad 2022-23. Rydym yn cydnabod bod mwy o ddysgwyr yn dewis aros mewn addysg ôl-16. Drwy'r gyllideb, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr mewn addysg ôl-16 yn cael cynnig y cymorth gorau posibl, yn enwedig yn dilyn effaith y pandemig.
Diolch yn fawr am yr ateb.
Mae'r rhan fwyaf o fy rhanbarth yn cynnwys cymunedau dosbarth gweithiol lle mae'r argyfwng costau byw i'w deimlo'n fwyaf difrifol. Roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y byddai cyfraddau llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr yn cael eu capio ar 7.3 y cant i'w hatal rhag codi i 12 y cant yn drugaredd, ond yn un bach iawn er hynny. Mae cyfradd llog o 7.3 y cant yn dal i fod yn eithafol ac yn gwneud i bobl ailfeddwl. Mae arnaf ofn y bydd y cynnydd enfawr hwn mewn llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr yn cymell llawer o bobl ifanc o deuluoedd dosbarth gweithiol rhag cyflawni eu potensial a mynd i'r brifysgol. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynyddu'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y ffodus a'r anffodus, rhywbeth y mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru eisoes wedi siarad amdano. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r datblygiadau diweddaraf yng nghyfraddau llog benthyciadau i fyfyrwyr, ynghyd â'r pwysau ychwanegol a achosir gan yr argyfwng costau byw, er mwyn sicrhau nad yw plant o deuluoedd dosbarth gweithiol yn cael eu cymell i beidio â mynd i addysg uwch?
Diolch i'r Aelod am ei bwynt. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. Efallai ei fod wedi gweld rhai o'r sylwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf yn benodol am fynediad at bob math o addysg i bobl ifanc o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig. Am y tro cyntaf eleni, ac ym mhob blwyddyn ddilynol, byddwn yn gallu darparu data—yn amodol ar gydsyniad yr unigolyn wrth gwrs—drwy UCAS, er enghraifft, ar gymhwysedd dysgwyr unigol i gael prydau ysgol am ddim fel bod modd gwneud cynigion cyd-destunol.
Mae'n gwneud pwynt ychydig yn wahanol am gostau mynd i'r brifysgol. Rwy'n cytuno; mae'r mesurau a welwn gan Lywodraeth y DU yn bryder mawr, yn ogystal â rhai o'r newidiadau y maent yn eu crybwyll mewn perthynas â gwneud trothwyon graddau gwahanol yn ofynnol ar gyfer TGAU, sydd, yn fy marn i, yn anflaengar ac nid oes unrhyw le iddynt mewn unrhyw bolisi sy'n seiliedig ar ehangu mynediad at addysg prifysgol.
Fel y gŵyr efallai, er bod y gallu i ariannu cyllid myfyrwyr wedi'i ddatganoli i Gymru, mae rhai o'r dewisiadau a wnawn wedi'u cyfyngu gan ein gallu i gysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, nad ydynt wedi'u datganoli wrth gwrs. Ni yng Nghymru sydd â'r pecyn cymorth cyllid i fyfyrwyr mwyaf blaengar o hyd o gymharu ag unrhyw ran arall o'r DU o ran y cymysgedd rhwng benthyciadau a grantiau, ond hefyd—er na cheir sôn am hynny'n aml iawn—yng Nghymru, cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ad-dalu eich dyled, fe gewch ostyngiad o £1,500 ar unwaith ar eich ad-daliad, sef yr unig ran o'r DU lle mae hynny'n digwydd.
Ond rwy'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pwynt y mae wedi'i wneud. Fe wnawn beth bynnag a allwn. Yn amlwg, rydym wedi ymrwymo i'n system flaengar yma yng Nghymru. Ar fater cyfraddau llog yn benodol, yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad yw hynny'n effeithio ar y gwariant misol, mae hynny'n effeithio ar hyd y benthyciad. Nid wyf yn gwadu am eiliad ei fod yn bwynt pwysig iawn, ond o ran fforddiadwyedd uniongyrchol, ni fydd yn achosi cynnydd uniongyrchol yn y gwariant misol. Ond mae'n bwynt pwysig, gan ei fod yn ymestyn cost dysgu yn gyffredinol.
10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi dysgwyr sydd wedi colli cyfleoedd gwirfoddoli hanfodol o ganlyniad i’r pandemig? OQ58219
Mae cyfleoedd gwirfoddoli fel rhan o addysg yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas o wirfoddolwyr a meithrin yr arfer o wirfoddoli ymysg pobl ifanc. Rydyn ni’n parhau i gefnogi cyrff seilwaith y trydydd sector a chynlluniau grant cenedlaethol i hwyluso mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc.
Diolch, Weinidog. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn 2021, fe gomisiynodd ColegauCymru adroddiad oedd yn nodi bod nifer o ddysgwyr sy'n gwirfoddoli ers 2020 wedi colli cyfleoedd ymarferol i gymhwyso eu dysgu, gyda'r mwyafrif o'r rhain yn dod o gyrsiau chwaraeon. O ystyried bod Wythnos Gwirfoddolwyr wedi'i chynnal ar ddechrau'r mis hwn, ydych chi'n cytuno, Weinidog, bod rhaid i ni sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael yn ehangach i ddysgwyr—dwi'n derbyn bod yna waith yn mynd rhagddo—a bod hyn yn bwysig nid yn unig ar gyfer nodau addysgol a'r cyfraniad at gymuedau, ond hefyd o ran iechyd meddwl a llesiant dysgwyr? Os felly, sut y gallwn sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael iddynt?
Diolch i Heledd Fychan am godi'r cwestiwn. Fe welson ni yn ystod cyfnod y pandemig gynnydd o bron i 4,500 o bobl ifanc, sy'n cynrychioli bron i 20 y cant o'r cofrestriadau newydd, ar blatfform Gwirfoddoli Cymru, sy'n galonogol, dwi'n credu. Mae gwirfoddoli yn ffordd bwysig o ddangos gwerthoedd dinasyddiaeth, ac yn ran bwysig o'r broses ddemocrataidd cymunedol hefyd. Dwi'n cwrdd yn rheolaidd gyda chyrff gwirfoddoli trydydd sector trwy'r WCVA i drafod cyfleoedd gwirfoddoli a sut mae hynny ar gael i bobl ifanc hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n flaenoriaeth i gefnogi'r sector gwirfoddoli gyda phecyn o gefnogaeth ariannol sylweddol, ac mae fy nghydweithiwr y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi sefydlu grŵp traws-sector arweinyddol i edrych ar beth mwy gallwn ni ei wneud i esbonio gwerth gwirfoddoli, yn cynnwys i bobl ifanc hefyd.
Symudwn ymlaen at eitem 3, sef y cwestiynau amserol. Ni ddaeth unrhyw gwestiynau amserol i law.
Symudwn ymlaen at eitem 4, y datganiadau 90 eiliad. Galwaf ar Elin Jones.
Mae'n bosib y bydd rhai heb sylwi ar ddigwyddiad pwysicaf yr wythnos yma. Ddydd Llun, lansiwyd A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800-c.1800, gwaith y Dr Daniel Huws, a’i gyflwyno i’r Prif Weinidog. Bu Dr Huws yn gweithio ar y cyfrolau ers ei ymddeoliad o’r llyfrgell genedlaethol 30 mlynedd yn ôl, a mis yma mi fydd Daniel Huws yn 90 oed. Fe’i cynorthwywyd gan brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a'r llyfrgell genedlaethol, ac yn benodol gan yr Athro Ann Parry Owen, Dr Maredudd ap Huw, Glenys Howells a Gruffudd Antur.
Mae’r tair cyfrol yn pwyso 5 kg ac yn cynnwys dros 1,500 o dudalennau. Mae cyfrol gyntaf y repertory yn cynnwys disgrifiadau o tua 3,300 o lawysgrifau Cymreig. Yng nghyfrol 2, ceir gwybodaeth fywgraffyddol am tua 1,500 o ysgrifwyr. Yng nghyfrol 3, ceir rhyw 900 delwedd sy’n cynnig enghreifftiau o amrywiol lawiau’r ysgrifwyr pwysicaf.
Mae'r cyfrolau yma yn gampwaith. Fe’u hymchwilwyd, lluniwyd, golygwyd a’u hargraffwyd yn bennaf yng Ngheredigion, ond nawr y maent yn perthyn i ysgolheictod y byd. Gall ambell un ddweud mai prin fydd y bobl fydd yn pori drwy’r tudalennau yma, ond mi fedra i ddweud, o’r tua 60 Aelod oedd yma yn y Senedd y prynhawn ddoe yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth, mi oedd o leiaf un Aelod yn darllen drwy gyfrol 2 Daniel Huws. Fe gewch chi ddyfalu pwy.
Diolch i Daniel am y magnum opus yma a fydd yn adrodd hanes y Cymry i'r byd ac i'r canrifoedd i ddod am byth.
Yr wythnos hon yw Wythnos y Lluoedd Arfog ledled y Deyrnas Unedig, wythnos sy'n dod â chymuned ein lluoedd arfog ynghyd, gan gynnwys milwyr, eu teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Mae'n rhoi cyfle i bobl ledled y wlad ddangos ein gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnânt. Fel rhan o'r wythnos, cynhaliwyd Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn ninas Wrecsam ddydd Sadwrn, a bydd Scarborough yn cynnal Diwrnod Lluoedd Arfog y DU ddydd Sadwrn nesaf.
Mae gan Gymru, wrth gwrs, gysylltiad balch â'n lluoedd arfog. Yn y canolbarth, mae gennym bencadlys y fyddin, canolfan Brigâd 160 (Cymru), a chanolfan ddiogel yn awr, diolch i benderfyniad gan Lywodraeth y DU. Ac yn y gogledd, yn RAF y Fali, y caiff pob un o beilotiaid jet yr Awyrlu Brenhinol eu hyfforddi. Yma yng Nghaerdydd, ychydig i lawr y ffordd, mae gennym HMS Cambria, unig uned wrth gefn y Llynges Frenhinol yng Nghymru. Ond heddiw, rydym yn nodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn, cyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad o filwyr wrth gefn y lluoedd arfog sy'n chwarae rôl hanfodol ond un sy'n aml yn cael ei thanbrisio. Ceir dros 2,000 o filwyr wrth gefn yng Nghymru sy'n gwirfoddoli i gydbwyso eu swyddi dydd a bywyd teuluol â gyrfa filwrol. Ac fel y mae'r pandemig diweddar wedi dangos i bawb ohonom, maent yn barod i wasanaethu pan fydd galw arnynt i wneud hynny.
Felly, wrth inni nodi Wythnos y Lluoedd Arfog, a Diwrnod y Milwyr wrth Gefn heddiw, gadewch inni adnewyddu ein hymrwymiad i bawb sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, a gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ein comisiynydd cyn-filwyr, ac eraill i roi'r gefnogaeth y maent yn ei haeddu iddynt.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ddoe oedd Diwrnod Ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor y Byd, a hoffwn ddiolch i'r llu o Aelodau'r Senedd a ymunodd â mi ddoe i gyfarfod â phobl sy'n byw gyda MND ac yr effeithiwyd arnynt gan MND ar risiau'r Senedd i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd creulon hwn. Ac roedd y rhai a oedd yno'n gwerthfawrogi'n fawr eich bod chi yno.
Mae'n braf fod newidiadau sylweddol wedi digwydd yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae angen gwneud mwy yn gyflym. Mae taer angen mwy o fuddsoddiad ar ddioddefwyr MND mewn meysydd a fydd yn gwella ansawdd eu bywydau. Mae angen iddynt weld mwy o fuddsoddi mewn ymchwil MND yng Nghymru, gwelliannau i ofal a gwasanaethau, ac mae angen niwrolegydd ymgynghorol arweiniol MND ar gyfer Cymru gyfan. Ac mae hefyd yn bwysig fod angen i awdurdodau lleol ddod o hyd i ffyrdd o gyflymu addasiadau i gartrefi er mwyn galluogi'r rhai sydd ag MND i fyw gydag urddas a pheidio â dioddef yn yr hyn sydd eisoes yn adeg ofnadwy yn eu bywydau. Mae MND yn wirioneddol ddinistriol i'r rhai sy'n byw gydag ef a'u teuluoedd, ond dyma lle y gallwn ni, Senedd Cymru, wneud gwahaniaeth drwy sicrhau nad yw eu bywydau'n cael eu gwneud hyd yn oed yn anos. Yn wir, mae gan bob un ohonom yn y Siambr hon, fel seneddwyr Cymreig, rwymedigaeth foesol i sicrhau bod lleisiau'r rheini sydd ag MND yn cael eu clywed. Wedi'r cyfan, nid oes gan ddioddefwyr MND amser i'w wastraffu ac mae taer angen mwy o gefnogaeth arnynt yn awr.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, y pedwerydd adroddiad i’r chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Vikki Howells.
Cynnig NDM8034 Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Pedwerydd adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 15 Mehefin 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Eluned Morgan AS ynghylch ei heuogfarn am droseddau goryrru. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ynglŷn â'r sancsiwn sy'n briodol yn yr achos hwn.
Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Cododd nifer o faterion eraill wrth ystyried y gŵyn hon, ac mae'r pwyllgor o'r farn ei bod yn briodol eu nodi fel materion o egwyddor sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau yn gyffredinol, a thynnaf sylw'r Aelodau at y rheini. Yn benodol, tynnaf sylw'r Aelodau at sylwadau'r comisiynydd ynglŷn ag Aelodau'n rhoi gwybod iddo am euogfarnau am unrhyw drosedd. Hoffai'r pwyllgor ailadrodd bod hyn nid yn unig yn arfer da, ond hefyd yn cydymffurfio â'r egwyddor tryloywder yn y cod ymddygiad ac yn helpu i gynnal y safonau uchel yr ydym wedi'u gosod i ni'n hunain. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor safonau am eu gwaith ac am ystyried adroddiad y comisiynydd safonau. Rwy'n ymwybodol mai rôl cynrychiolwyr etholedig yw arwain drwy esiampl. Mae disgwyl i bob un ohonom gynnal y safonau uchaf, a thrwy gydol y broses hon, rwyf wedi derbyn fy mod wedi methu gwneud hynny drwy fy ngweithredoedd yn yr achos hwn. Hoffwn gofnodi yn y Siambr fy edifeirwch diffuant a fy ngofid mawr am fy ngweithredoedd a chadarnhaf fy mod wedi pledio'n euog ac wedi derbyn dyfarniad y llys. Ymddiheuraf yn ddiamod ac yn llwyr i chi, fy nghyd-Aelodau yn y Senedd, ac i bobl Cymru am y sefyllfa annifyr y rhoddais fy hun a'r sefydliad uchel ei barch hwn ynddi, ac rwyf am ymddiheuro wrth unrhyw un y mae fy ngweithredoedd wedi effeithio arnynt.
Dwi'n ymwybodol o’r cyfrifoldeb sydd arnom ni i gyd fel Aelodau i arwain drwy enghraifft, a dwi'n derbyn nad wyf fi wedi cadw at y safonau sydd yn ofynnol ohonom ni fel Aelodau Seneddol yn yr achos yma. Dwi eisiau ei wneud yn glir yn y Senedd heddiw fy mod i'n ymddiheuro i chi i gyd, fy nghyd-Aelodau, ac i bobl Cymru am y sefyllfa anffodus dwi wedi gosod fy hun ynddi, a dwi am ddweud ei fod yn flin gen i am unrhyw embaras dwi wedi achosi i'r sefydliad ac i unrhyw un sydd wedi dioddef fel canlyniad o fy ngweithredoedd. Dwi am gadarnhau fy mod i wedi pledio yn euog i'r cyhuddiad o oryrru a dwi wedi derbyn dyfarniad y llys. Diolch, Llywydd.
Ydy'r Cadeirydd eisiau ymateb?
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Eluned Morgan AS am ei geiriau yma heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu gwaith ar y mater hwn a'r tîm clercio am eu holl waith caled a'u proffesiynoldeb wrth gefnogi ein hymchwiliad.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Y ddadl yma ar rymuso cymunedau. Dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NNDM8018 Mabon ap Gwynfor, Luke Fletcher, Buffy Williams
Cefnogwyd gan Adam Price, Carolyn Thomas, Heledd Fychan, Huw Irranca-Davies, Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone, Joel James, Llyr Gruffydd, Mark Isherwood, Paul Davies, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen, Sam Rowlands, Sarah Murphy, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.
2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.
3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai 'ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol'.
4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus.
5. Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.
6. Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.
7. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.
8. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol;
b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd eleni, canfu Sefydliad Bevan mai gan Gymru y mae rhai o'r darpariaethau gwannaf ar gyfer hawliau perchnogaeth a rheolaeth gymunedol yn y DU. Canfu adroddiad arall fod cymunedau'n wynebu proses sydd bellach yn anodd ac yn ddigalon, a'i bod yn debygol iawn fod y sefyllfa yng Nghymru wedi arwain at lawer o gymunedau'n colli asedau'n barhaol. Gall asedau fel caeau chwarae, adeiladau hanesyddol ac ardaloedd o harddwch naturiol trawiadol gael eu gadael i fynd yn adfail neu'n segur o ganlyniad i system wael a chymhleth. Fel gwlad sydd â hanes balch o hyrwyddo ein cymunedau, ni allwn ganiatáu i hyn barhau.
Golygodd y pandemig COVID-19 a'r cyfnodau o gyfyngiadau symud yn ei sgil ein bod i gyd wedi dod i wybod ychydig mwy am ein trefi, ein dinasoedd a'n pentrefi lleol. Roeddem yn fwy ymwybodol o'r llwybr bach braf hwnnw rownd y gornel, y cae newydd i lawr y ffordd i fynd â'r ci iddo, neu'r caeau chwarae nad oeddem wedi ymweld â hwy er pan oeddem yn blant. Er gwaethaf y nifer fawr o safleoedd gwych ledled y wlad, rhaid inni fod yn rhagweithiol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda a'u defnyddio'n dda yn eu cymunedau. Un o'r ffyrdd gorau o sicrhau bod y parc lleol neu beth bynnag y bo yn cael gofal yw ei roi yn nwylo'r gymuned. Wedi'r cyfan, pwy sydd mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod ased cymunedol yn cael y gofal a'r sylw y mae ei angen ac yn ei haeddu na'r gymuned ei hun?
Yn dilyn y pandemig, dangosodd adroddiad diweddaraf 'Llesiant Cymru' gynnydd amlwg yn nifer y bobl sy'n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol. Ledled Cymru, gwelsom ymateb ar lefel gymunedol i COVID, a arweiniodd at nifer o enghreifftiau o well dealltwriaeth, penderfyniadau a chydweithredu rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus. Rydym yn byw mewn gwlad lle mae pobl yn falch o'u cymunedau ac eisiau bod yn rhan o'u dyfodol. Ond er ein bod yn wlad sy'n llawn o gymunedau balch, nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'r gefnogaeth ar gael i rymuso'r cymunedau hyn. Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir' yn cynnig nifer o argymhellion a fyddai, pe baent yn cael eu deddfu, yn caniatáu i drigolion reoli eu hardal leol a sicrhau dyfodol cryf a grymus i'w cymuned, yn ogystal ag adroddiad Canolfan Cydweithredol Cymru, 'Tir ac asedau sy'n eiddo i'r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru'. Fodd bynnag, nid yw'r system sydd gennym ar hyn o bryd yn addas i'r diben. Mae'r system trosglwyddo asedau cymunedol yn un sy'n fwy addas ar gyfer torri costau awdurdodau lleol yn hytrach na grymuso cymunedau.
Nid oes angen inni edrych yn bell am enghreifftiau o rymuso cymunedau a gefnogir gan Lywodraethau. Mae Cronfa Tir yr Alban wedi caniatáu i nifer o gymunedau ledled yr Alban sicrhau rheolaeth ar asedau lleol a'u mowldio'n rhywbeth sy'n addas i bobl leol. Dyma sydd ei angen yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn galw ar y Llywodraeth i gydgynhyrchu strategaeth gymunedol, i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol, ac i'r Llywodraeth archwilio'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru. Ers gormod o amser, nid yw ein cymunedau wedi cael digon o bŵer, ac maent ar drugaredd buddiannau allanol. Yr hyn a gynigiwn—Mabon, Buffy a minnau—yw ein bod yn rhoi'r pŵer yn ôl yn nwylo'r bobl. Mae mor syml â hynny.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r cynnig heddiw, hefyd i Buffy Williams a Luke Fletcher am ei gyd-gyflwyno. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, roeddwn yn falch o allu cofnodi fy nghefnogaeth i'r cynnig heddiw, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n siŵr, nid wyf byth yn colli cyfle i siarad am ein cymunedau lleol, yn enwedig eu grymuso, fel sydd mor bwysig, fel yr amlinellwyd eisoes ar y cychwyn gan Luke Fletcher. Ond wrth gyfrannu yn y ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ddau faes allweddol sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i rymuso ein cymunedau lleol cyn ceisio mynd i'r afael â'r ddau brif bwynt gweithredu yn y cynnig heddiw.
A'r pwynt cyntaf mewn gwirionedd yw pwysigrwydd a rôl ein cynghorwyr a'n cynghorau i wneud yr uchelgais hwn yn llwyddiant. Fel y dywedais dro ar ôl tro yn y Siambr, cynghorwyr sy'n adnabod eu cymunedau orau yn aml a hwy sy'n dadlau orau dros eu cymunedau, oherwydd cânt eu hethol yn ddemocrataidd i wneud hynny. Ac i gynghorwyr y dylid rhoi'r ysgogiadau a'r pŵer i gyflawni newid yn ôl yr angen yn y gymuned, er mwyn eu grymuso hwy a'r trigolion y maent yn eu cynrychioli.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Mae'n nodi ym mhwynt 4 y cynnig heddiw fod 'awdurdodau lleol yn aml yn chwarae rôl bwysig
'o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau,'
wrth weithio gyda grwpiau cymunedol. Nawr, gwnaeth Luke Fletcher bwynt da yn yr ystyr nad yw rhai o'r pwerau presennol efallai mor dryloyw nac mor hawdd ag y dylent fod i grwpiau cymunedol ymgysylltu â hwy.
Ond hefyd, fel yr amlinellir ym mhwynt 2, y grwpiau a'r cynghorwyr cymunedol hyn a aeth y tu hwnt i'r galw yn ystod y pandemig COVID-19, ac ni allwn golli'r brwdfrydedd hwnnw. Dylem ei harneisio mewn gwirionedd. Mae'n hanfodol fod ein hyrwyddwyr etholedig lleol yn ennyn ymddiriedaeth ac yn cael eu cefnogi'n llawn os ydym am fanteisio i'r eithaf ar y brwdfrydedd a welsom dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ail, wrth sôn am rymuso cymunedau, rwyf am sôn am bwysigrwydd balchder mewn lle, bod yn falch o'r lle yr ydym yn gweithio ac yn byw ynddo. Fel y gwyddom, yn anffodus, mae angen dybryd am welliannau sylfaenol iawn yn llawer o'n cymunedau ac efallai nad ydynt yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu i bobl fod â balchder o'r fath yn y lle y maent yn byw ynddo. Unwaith eto, drwy'r pandemig, gwelsom ymdeimlad newydd o gymuned a balchder yn ein hardaloedd lleol, fel yr amlinellodd Luke Fletcher eisoes—roedd nifer o bobl yn defnyddio ein parciau lleol, yn gwerthfawrogi golygfeydd naturiol, sy'n aml wedi eu cymryd yn ganiataol ers amser hir, ond yn sydyn yn dod yn fyw wrth i bawb ohonom wneud ein hawr o ymarfer corff dyddiol ar hyd y llwybr troed lleol. Mae gweld y gwelliannau bach hynny yn y lle yr ydym yn byw ynddo yn gwneud cymaint o wahaniaeth, ac mae ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth hefyd yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Gwelwn y gwelliannau mewn mannau eraill drwy weld y gwelliannau ffisegol yn yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Rydym yn gweld cymunedau'n ffynnu, balchder newydd yn y lle yr ydym yn byw ynddo, ac yn aml hyrwyddwyr cymunedol, ein trigolion lleol, sydd wrth wraidd hyn i gyd.
Ond ar y camau gweithredu, fel petai, yn y cynnig heddiw, mae'r cynnig
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
'a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol;
'b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.'
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gennyf fi, mae hawl i brynu yn rhywbeth rwy'n sicr yn ei chefnogi mewn sawl ffordd wahanol. Dyna pam ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr heddiw yn hapus iawn i gefnogi'r cynnig heddiw, oherwydd, fel yr amlinellwyd gennym yn ein maniffesto diweddar fel Ceidwadwyr, credwn fod grymuso cymunedau lleol yn bwysig iawn, ac mae gallu eu cefnogi i ddiogelu eu gwasanaethau lleol yn bwysig hefyd. Rydym wedi archwilio ac wedi meddwl am syniadau ynglŷn â phethau fel cronfa perchnogaeth gymunedol, a allai fod yn rhywbeth y gallai Llywodraethau feddwl amdano yn y dyfodol hefyd. Byddai cronfa perchnogaeth gymunedol yn helpu cymunedau lleol i brynu cyfleusterau, megis tafarn, siop neu lyfrgell leol y mae angen eu hachub ac sydd efallai'n cau, ac yn grymuso'r cymunedau neu'r grwpiau hynny o ddifrif i sicrhau perchnogaeth ar y pethau sy'n bwysig iawn i'w pentref neu i'w tref.
Fel rwy'n siŵr y byddai Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno, unwaith eto, y bobl leol hynny, ein trigolion a wasanaethir gennym ar lefel leol iawn, sy'n aml yn gwybod orau beth sydd ei angen ar gyfer eu hardal, ond nid oes ganddynt y pwerau a'r arfau cywir ar hyn o bryd i'w galluogi i wneud hynny'n gyflym—
Tybed a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr, Rhianon.
Diolch yn fawr iawn. Ni fyddai neb yn anghytuno ag unrhyw un o'r safbwyntiau hynny—
Diolch yn fawr iawn.
—a'r sylwadau hynny, ond fy nghwestiwn i, mewn gwirionedd, yw hwn: onid yw grymuso cymunedau'n ymwneud â chael cyllid o fewn y cymunedau hynny fel bod gennym lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ac ysgolion gweithgar, ac a fyddech yn dweud bod yr agenda cyni, toriadau bwriadol i Gymru, wedi lleihau'r gallu hwnnw?
Rydych chi'n hollol gywir; fel y dywedais, mae cyllid yn elfen bwysig o hyn, ac mae gan awdurdodau lleol rôl i'w chwarae yn hynny. Er hynny, credaf mai'r hyn y soniwn amdano yma yw asedau mewn gwirionedd, perchnogaeth ar bethau, nid mynd drwy awdurdodau lleol yn unig, ond ar lefel fwy lleol fyth, gyda grwpiau cymunedol, unrhyw un sy'n gweld rhywbeth y maent yn credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w cymuned i gael gafael arno a gwneud gwaith da o redeg y cyfleuster hwnnw mewn gwirionedd.
Ond diolch am eich sylwadau agoriadol yno, Rhianon; rwyf bob amser yn gwerthfawrogi cael fy nghefnogi gennych draw acw. Ni allaf gofio lle roeddwn wedi'i gyrraedd yn yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud; fe wnaethoch fy nrysu.
Ond yn ogystal â'r pwyntiau a wnaed, mae grymuso cymunedau lleol hefyd yn edrych fel cynlluniau cymdogaeth lleol hefyd. Ar adegau, rwy'n credu y gall ein system gynllunio, gyda'r holl gyfyngiadau cyfreithiol sydd arni ac sy'n rhaid eu cael, fod yn amddifad o gysylltiad lleol iawn â phobl yn cael penderfynu ynglŷn â sut y mae pethau'n edrych ac yn teimlo yn eu hardal, sut y mae pethau'n edrych ac yn teimlo am yr hyn sydd wedi ei adeiladu o'u cwmpas hefyd.
Felly, wrth gloi heddiw, rwy'n credu ei fod yn gyfle gwych i ni fel Aelodau ar draws y Senedd, ar draws y Siambr wleidyddol, ddod at ein gilydd i gydnabod pwysigrwydd ein cymunedau lleol a chefnogi'r dyhead i'w grymuso, fel y dywedodd Rhianon mor huawdl. Yng ngoleuni hyn, hoffwn ddiolch eto i Mabon am gyflwyno'r cynnig heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed llawer mwy o gyfraniadau ac at allu cyfrannu ymhellach fy hun, gobeithio, wrth i'r ddadl fynd rhagddi. Diolch yn fawr iawn.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn i wneud i bobl deimlo bod ganddynt rywfaint o reolaeth dros eu cymunedau, pan ymddengys bod cymaint nad yw o dan reolaeth pobl. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn paratoi cymunedau'n well i ddiogelu eu hunain rhag buddiannau allanol heb unrhyw fudd mewn ardal, sydd ond am roi gwerth ariannol i bopeth y gallant gael eu dwylo arno.
Talodd Dom Phillips a Bruno Pereira gyda'u bywydau wrth geisio tynnu sylw at ddinistr enfawr yr Amazon, y goedwig law fwyaf yn y byd. Yn drasig, mae rheolaeth y gyfraith wedi'i thanseilio neu ei hanwybyddu, yn enwedig gan Lywodraeth bresennol Brasil. Nid yw buddiannau masnachol—rhai buddiannau masnachol—yn cydnabod unrhyw ffiniau wrth chwilio am elw, heb eu poeni gan yr effaith ar natur, Indiaid yr Amazon sydd wedi byw yno ers milenia, a'r effaith ddinistriol y mae hyn gyda'i gilydd yn debygol o'i chael ar ddyfodol ein planed. Mae'n enghraifft eithafol, ond nid yw'n ddigwyddiad ynysig, felly rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar bwynt 8 yn y cynnig, ynglŷn â galluogi cymunedau i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol.
Ymwelais yn ddiweddar â safle cronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen, sydd ar y ffin rhwng Caerdydd Canolog a Gogledd Caerdydd, a fydd ymhen ychydig flynyddoedd yn dychwelyd i fod yn ased cymunedol sy'n agored i'r cyhoedd. Byddai'r amwynder wedi'i golli'n llwyr oni bai am ymdrechion y gymuned, wedi'u harwain gan Grŵp Gweithredu'r Gronfa (RAG) ac ymgyrch 10 mlynedd i ymladd un o'r cwmnïau rhyngwladol Americanaidd mwyaf—Pennsylvania Power & Light—a oedd am ei droi'n dai oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n llawer mwy proffidiol na bod yn geidwad hen gronfa ddŵr.
Cyn gynted ag y cafodd ei brynu gan Dŵr Cymru yn 2004, aeth Pennsylvania Power & Light ati i gychwyn y clwb hwylio a oedd ar y safle, gwrthod caniatâd i'r clwb pysgota a gosod rhwystrau enfawr i atal pobl rhag mynd ar y safle i fwynhau'r safle arbennig hwn o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn sgil presenoldeb amrywiaeth eang o ffyngau glaswelltir ac adar sy'n gaeafu sy'n glanio ar gronfa ddŵr Llys-faen.
Felly, roedd Pennsylvania Power & Light, drwy ei is-gwmni, Western Power Distribution, yn dadlau nad oedd angen yr amwynder hwn mwyach, a dim ond ymdrechion RAG a'i galluogodd i ddod yn adeilad rhestredig, a chymerodd dri ymchwiliad cyhoeddus i drechu Pennsylvania Power & Light. Rhoesant y gorau iddi yn y pen draw yn 2010—na, ychydig yn ddiweddarach rwy'n credu, yn 2013, ond nid nes eu bod eisoes wedi draenio cronfa ddŵr Llanisien yn llwyr, proses sy'n costio miliynau o bunnoedd i ail-lenwi ac atgyweirio, o ystyried y cyfyngiadau llym mewn perthynas â chronfeydd dŵr, am resymau da. Felly, mae'n eironig fod yr ased hwn bellach yn ôl yn nwylo Dŵr Cymru oherwydd ymdrechion yr annwyl Carl Sargeant, y gwelir ei golli'n fawr, a'u perswadiodd i ailfeddiannu'r safle yr oeddent wedi'i werthu yn y lle cyntaf.
Bydd yn safle gwych, ond oni bai am ymdrechion gwirioneddol ymgyrch gymunedol ar raddfa fawr iawn, ni fyddai'r safle gennym, a'r gymuned sydd wedi ei ddiogelu mewn gwirionedd. Felly, mae'n dangos pa mor benderfynol y mae angen i bobl fod a hefyd y ffaith bod y gyfundrefn gynllunio a'r rheoliadau asedau cymunedol sy'n bodoli mewn rhannau eraill o Brydain yn absennol yng Nghymru, ac mae angen unioni hynny.
Felly, o ran problemau presennol, mae yna dafarn o'r enw Roath Park yn fy etholaeth i, ar Heol y Ddinas. Dyma'r dafarn oes Fictoria olaf sydd ar ôl ar y ffordd honno, ac mae'n cael ei dymchwel oherwydd ei bod yn rhatach ei chwalu ac adeiladu fflatiau modern yn lle hynny. Rwy'n siŵr y byddant yn erchyll. Ac yn lle hynny, gallent addasu'r adeilad cain hwn i wneud anheddau i'w defnyddio yn y dyfodol. Felly, rhaid bod opsiwn arall yn lle hyn. Gwrthododd Cadw ei restru, a hyd yn oed pe bai wedi'i restru'n lleol gan Gyngor Caerdydd, ni fyddai hynny wedi'i ddiogelu.
Felly, mae angen inni edrych eto ar sut y gallwn ddiogelu pethau yn ein cymunedau y mae pobl yn eu hystyried yn werthfawr ac am eu cadw. Ac os yw pobl yno'n dweud, 'Fe wnawn rywbeth am hyn', ni ddylai pobl sydd ag arian i wneud hynny ac am wneud elw sydyn allu eu hatal rhag gwneud hynny. Ac os na wnawn hyn, nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn gallu datblygu'r ddinas 15 munud sy'n cael ei datblygu ym Mharis a Nottingham a lleoedd eraill, sef yr unig ffordd ymlaen os ydym am gyflawni ein nodau cynaliadwyedd.
Fel y gwyddom ni oll, mae grwpiau cymunedol yn chwarae rôl bwysig a hanfodol yn ein cymunedau a hoffwn ddechrau drwy ddiolch, o waelod calon, i bob grŵp cymunedol sydd yn weithgar yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli. Ac er bod nifer o grwpiau cymunedol yn derbyn cefnogaeth gan awdurdodau lleol, mae nifer yn wynebu heriau hefyd. Yr hyn yr hoffwn i yn bersonol ei weld yn deillio o'r cynnig hwn yw ei gwneud hi'n haws i gymunedau berchnogi asedau lleol o werth cymunedol.
O fis Hydref 2021 i Ebrill eleni, fe dderbyniodd fy swyddfa 11 ymholiad gan grwpiau cymunedol yn ceisio cymorth yn benodol o ran y broses trosglwyddo asedau cymunedol. Mae un enghraifft o grŵp cymunedol sydd eisiau achub caeau chwarae lleol a'u hadfer ar gyfer deunydd cymunedol, tra bod y cyngor lleol, sydd berchen y tir, eisiau gwerthu'r tir ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol. Profiad y grŵp cymunedol hwn oedd bod swyddogion y cyngor, oedd i fod i gefnogi trosglwyddo asedau cymunedol, wedi cael eu cyfaddawdu oherwydd bod barn bendant gan y cyngor o ran dyfodol y llecyn hwnnw o dir. Ble, felly, oedd y gefnogaeth ar gyfer y grŵp penodol hwn?
Yn wir, mae tir yn cael ei werthu'n rheolaidd gan gynghorau lleol heb i gymunedau fod yn ymwybodol nac ychwaith gael cyfle i'w diogelu fel asedau cymunedol. Mae llawer o'r rhain yn ddarnau bychan o dir o fewn cymunedau presennol sy'n cael trafferth gyda materion lluosog megis parcio, mynediad i wefru cerbydau trydan, ac, wrth gwrs, efo'r argyfwng costau byw, ddim efo llecyn er mwyn tyfu bwyd yn lleol. Byddai hawl cymunedol i brynu yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau ystadau ymgysylltu â chymunedau lleol ynghylch cynlluniau i werthu parseli o dir, ac ymgysylltu â'r gymuned i sefydlu diddordeb a phenderfynu sut y gellid defnyddio asedau o'r fath i ddiwallu anghenion lleol.
Mae grŵp arall a gysylltodd â'm swyddfa newydd sicrhau'r brydles ar eu hased cymunedol, bum mlynedd ar ôl dechrau eu trafodaethau â'r awdurdod lleol. Gall y broses hirfaith hon roddi pwysau aruthrol ar wirfoddolwyr sy'n rhan o grwpiau cymunedol a rhoi cyllid y mae dirfawr ei angen arnynt mewn perygl, a hefyd bygwth dyfodol yr asedau y mae cymunedau'n gweithio'n galed i'w hachub, oherwydd rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i ddirywio os nad ydy'r buddsoddiad yna'n dod tra maen nhw'n aros penderfyniad gan y cynghorau lleol.
Profiad cymunedau sydd wedi cysylltu â mi, felly, yw bod rhai awdurdodau lleol yn trin cymunedau fel pe baent yn endidau masnachol yn hytrach na fel rhan allweddol o'r gymuned y mae'r awdurdod wedi ymrwymo i’w gwasanaethu. Mae'n sicr bod yn rhaid inni roi rhyw fesur ar waith. Dydy'r system fel y mae hi ddim yn gweithio, a dwi'n ddiolchgar i Mabon ap Gwynfor am godi'r pwnc pwysig eithriadol hwn. Wedi'r cyfan, rydym ni i gyd yn elwa os ydym ni'n grymuso ein cymunedau. Rydym ni i gyd yn elwa os ydy adeiladau hanesyddol neu ddarnau o dir yn cael defnydd sydd er budd i ni oll. Felly dwi'n falch iawn o gefnogi, ond mae angen hefyd gweld gweithredu gan y Llywodraeth ar hyn. Diolch.
Mae'n wych gweld cymaint o gefnogaeth o bob rhan o'r Siambr. Mae'n siŵr bod cymuned yn bwysig lle bynnag yr ydych yn byw yn y byd. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd, ond credaf fod y gymuned yn fwy arbennig byth i bobl sy'n byw yng Nghymru. Wrth ein natur, rydym yn bobl radlon, garedig ac anhunanol. Efallai mai dyna pam ein bod yn tueddu i chwilio am gysylltiadau cyffredin drwy deulu, ffrindiau neu leoliad geni, yn hytrach na phroffesiwn, pan fyddwn yn cyfarfod â rhywun am y tro cyntaf. Felly, mae'n anodd clywed gan felin drafod uchel ei pharch fel y Sefydliad Materion Cymreig mai cymunedau yng Nghymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU. Mae'r pandemig yn dangos faint o ysbryd cymunedol sy'n para yn ein trefi a'n pentrefi, er nad oes ganddynt amodau i allu ffynnu, fel ein cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr.
Mae'n anghysondeb rhyfedd nad oes hawl gymunedol i brynu yng Nghymru. Cyflwynwyd deddfwriaeth gan y Torïaid yn Lloegr ddegawd yn ôl. Yn yr Alban, mae'r amddiffyniad i gymunedau hyd yn oed yn gryfach. Yma yng Nghymru, dim byd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch yn fawr iawn, Peredur. Rydych yn llygad eich lle yn nodi bod Llywodraeth y DU, 10 mlynedd yn ôl, wedi cyflwyno trosglwyddo asedau cymunedol, hawl gymunedol i brynu, ac mewn gwirionedd, roedd yn ddeddfwriaeth dda iawn yr oeddem am ei gweld yma yng Nghymru. Yn wir, fe'i codais fy hun droeon pan oeddwn yn Ysgrifennydd Cabinet yr wrthblaid, fel y'i gelwid bryd hynny, dros lywodraeth leol. Ac mae'n deg dweud bod fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn y 10 mlynedd hynny, wedi'i godi hefyd. Felly, rydym ni fel grŵp wedi codi hyn dro ar ôl tro. Oni fyddech yn cytuno ein bod wedi gwastraffu 10 mlynedd? Ac rydych wedi bod i mewn gyda'r Llywodraeth Lafur dros y cyfnod hwn. Oni chredwch ein bod wedi gwastraffu amser ac mae gwir angen inni ofyn cwestiwn cadarn i Lywodraeth Lafur Cymru er mwyn bwrw ymlaen ag ef?
Fel rydym yn ei ddweud yma heddiw, credaf ei bod yn bryd gwneud rhywbeth yn ei gylch, felly mae'n dda—[Torri ar draws.]
Beth bynnag. Heb y ddeddfwriaeth, bydd llawer o gymunedau yng Nghymru wedi colli asedau cymunedol dros y degawd diwethaf. Gallaf roi enghraifft ddiweddar o rywle sydd i'w weld yn mynd i golli'r unig dafarn mewn cymuned fach iawn. Mae'r bobl y tu ôl i'r ymgyrch i achub y dafarn wedi gofyn imi beidio â datgelu pwy ydynt am fod llygedyn bach o obaith y gallai pethau fynd eu ffordd hwy, ac nid ydynt am beryglu'r berthynas â pherchennog presennol y dafarn. Er bod ganddynt gefnogaeth ariannol, cynllun busnes cadarn a chefnogaeth gref gan y gymuned, mae'r ymdrechion i achub y dafarn wedi bod yn aflwyddiannus hyd yma, ac mae'n debyg y bydd y dafarn yn cael ei gwerthu ar y farchnad breifat. Pan ddywedwyd wrthynt am ymdrech Plaid Cymru i gael deddfwriaeth hawl gymunedol i brynu yng Nghymru, dywedodd fy nghyswllt yn yr ymgyrch, 'Cynllun hawl gymunedol i brynu? Byddai hynny wedi bod mor ddefnyddiol. Byddem yn berchen ar ein tafarn erbyn hyn a byddem yn eistedd y tu allan iddi yn mwynhau'r heulwen.' Felly, os gwelwch yn dda, yn ymateb y Llywodraeth i'r ddadl hon, gobeithio na chlywaf ddadl sy'n dweud nad oes angen deddfwriaeth, neu o leiaf, ceisiwch ddweud hynny wrth y bobl rwyf mewn cysylltiad â hwy sy'n brwydro i achub y dafarn a'r unig ganolfan gymunedol am filltiroedd.
Ceir enghreifftiau o adeiladau'n cael eu hachub, eu hadfer a'u dychwelyd i ddefnydd y gymuned. Cefais y pleser o gadeirio digwyddiad i randdeiliaid y Pwyllgor Cyllid yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yr wythnos diwethaf. Mae'r adeilad aruthrol hwn, sef rhodd i'r bobl o gyfraniadau glowyr, yn adnodd anhygoel, ac yn lleoliad ar gyfer pobl yr ardal leol a thu hwnt. Ceir enghreifftiau eraill, ond mae rhai o'r asedau cymunedol hyn wedi'u hachub er budd y trigolion lleol yn groes i bob disgwyl. Gadewch inni wneud pethau'n haws i gymunedau gadw eu treftadaeth a chadw cyfleusterau. Dylent, o leiaf, gael eu trin yn yr un modd â'u cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr.
Cefais fy atgoffa o bwysigrwydd hyn yn ystod ymweliad yn fy rhanbarth ychydig fisoedd yn ôl. Roeddwn wedi mynd i ymweld ag etholwr a oedd yn arwain ymgyrch i adfer ased cymunedol sydd â photensial mawr ac a allai drawsnewid yr ardal. Dywedodd wrthyf am ei hymdrechion i ennyn diddordeb yn y prosiect drwy godi stondin yng nghanol y dref gerllaw. Fe wnaeth y difaterwch a ganfu yn y bobl y siaradodd â hwy ei diflasu'n fawr. Yn ei geiriau hi, 'Mae cymaint o bobl wedi rhoi'r ffidil yn y to.' Oni weithredwn yn fuan a grymuso ein cymunedau, rwy'n ofni y byddwn nid yn unig yn colli'r bobl hynny, ond y cenedlaethau sy'n dilyn yn ogystal. Ni allwn ganiatáu i hyn ddigwydd. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon? I ddilyn yr hyn a ddywedodd nifer o'r Aelodau sydd wedi siarad heddiw, hoffwn ddweud fy mod innau hefyd yn falch o'r cyfle i gydnabod y miloedd o grwpiau cymunedol ledled Cymru, a diolch iddynt am wneud cymaint o wahaniaeth i fywyd y cymunedau a gefnogant. Ac wrth gwrs, mae llawer o'r grwpiau cymunedol hyn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn trechu tlodi, yn meithrin hyder, hunan-barch, ac yn gwella iechyd a llesiant. Mae llawer o'r grwpiau hyn eisoes hefyd yn rheoli cyfleusterau cymunedol, adeiladau a mannau gwyrdd, sy'n gweithredu fel ffocws ar gyfer gweithredu cymunedol, ac yn darparu mynediad lleol at wasanaethau hanfodol. Ac mae'n amlwg y gall asedau sy'n eiddo i'r gymuned ac sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned helpu i rymuso ein cymunedau, sef byrdwn eich dadl heddiw—grymuso cymunedau—a gwella eu gwytnwch hefyd. Oherwydd mae'n gwbl glir fod tystiolaeth yn dangos y gall cymunedau sydd ag adnoddau fel asedau cymunedol, partneriaethau cryf a hyrwyddwyr lleol fod yn wydn iawn mewn gwirionedd wrth ymateb i'r mathau o ergydion y mae cynifer o gymunedau wedi'u profi yn ystod y blynyddoedd diwethaf—nid yn unig y pandemig, ond llifogydd, ac yn awr, wrth gwrs, yr argyfwng costau byw, argyfwng costau byw nad ydym wedi'i weld ers degawdau. Ac mae cymunedau'n ymateb i hynny.
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn rhy hwyr i siarad ar yr eitem hon. Hoffwn gadarnhau rhywbeth—ein bod yn sôn am gyfleusterau cymunedol, sy'n wirioneddol bwysig. Oherwydd mae gennyf broblem braidd gyda'r Ceidwadwyr yn credu y gallai gwirfoddolwyr redeg gwasanaethau cyhoeddus a bod trosglwyddo cyfleusterau cymunedol i grwpiau gwirfoddol, yn hytrach na chael eu rhedeg gan arian cyhoeddus, er mwyn torri costau gwasanaethau cyhoeddus, yn bolisi dymunol iawn. Ac yn fy mhrofiad i, mae prosiectau'n aml yn anghynaliadwy heb rywun i arwain arnynt a heb gymorth cyllid canolog. Felly, mae hyn yn ymwneud â chyfleusterau cymunedol, onid yw? Hoffwn gael y cadarnhad hwnnw. Diolch.
Mae hwn yn faes cymhleth o ran datblygu polisi cymunedol, a hoffwn symud ymlaen at hynny, a beth fydd hyn yn ei olygu o ran darparu’r gwasanaethau hynny ar lawr gwlad, a hefyd, gan gydnabod bod rhwystrau, fod hyn yn ymwneud â'r berthynas waith. Mae gennyf ddiddordeb mawr, er enghraifft, yn y rôl y mae Cyngor Sir y Fflint wedi'i chwarae wrth weithio'n rhagweithiol iawn gyda'u cynghorau tref a chymuned—efallai ichi fod yn rhan o hynny yn rhinwedd eich rôl flaenorol fel cynghorydd—ar drosglwyddo asedau. Oherwydd mae'r awdurdod lleol, sir y Fflint, y cyngor gwirfoddol sirol lleol, grwpiau sydd am i asedau gael eu trosglwyddo, wedi cydweithio. Dyna y byddem yn dymuno'i weld ledled Cymru gyfan, ac mae hynny'n gwella'r gobaith o lwyddo i drosglwyddo cyfleusterau, er enghraifft, gyda'r awdurdod lleol, gyda chefnogaeth y cyngor gwirfoddol sirol, a ariennir gennym i chwarae'r rôl hon wrth gwrs. Hefyd, mae gan sir y Fflint restr o'i holl asedau trosglwyddadwy ar eu gwefan. Mae'r wefan honno'n hygyrch, ac mae'n gwahodd cynigion gan grwpiau sy'n awyddus i reoli'r asedau hynny.
Hoffwn symud ymlaen at y ffaith bod gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, fel y dywedais, wedi chwarae rhan hynod bwysig wrth ymateb i’r pandemig, yn enwedig, a’r ffaith bod rhai grwpiau gwirfoddol a chymunedol hefyd—mae gan bob un ohonom rai yn ein hetholaethau—yn chwarae rhan bwysig, er enghraifft, wrth sicrhau adferiad teg a gwyrdd. Maent yn gweithio ar bob lefel, yn aml o'u pen a'u pastwn eu hunain, ond gan ymgysylltu â’r awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a thirfeddianwyr eraill hefyd, yn enwedig o ran y ffaith bod cymaint o grwpiau gweithredu dros natur a grwpiau amgylcheddol ledled Cymru.
Mewn perthynas â pheth o adferiad Cymru wedi'r pandemig, dylwn ddweud ein bod wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â chyngor partneriaeth y trydydd sector a gadeirir gennyf fi. Mae cynrychiolaeth draws-sector yno i bob math o grwpiau cymunedol a gwirfoddol y trydydd sector. Credaf fod y cynllun adfer yn bwysig, ac mae’n ein helpu wrth imi ymateb i’r ddadl hon, oherwydd o ganlyniad i’r cynllun adfer a’n hymateb yn awr i’r argyfwng costau byw, rydym yn cymryd y camau cyntaf i ddatblygu polisi cymunedau. Credaf fod Luke Fletcher wedi gofyn y cwestiwn hwnnw i mi yn ei sylwadau agoriadol, ynglŷn â sut yr awn ati i ddatblygu ffyrdd cydgynhyrchiol newydd o weithio gyda chymunedau. Mae ein polisi cymunedau'n rhoi cyfle i ni, a byddwn yn dweud bod y ddadl hon hefyd yn ganllaw clir i hynny.
Oherwydd yr hyn a ddywedasom, a siaradais am hyn yn y gynhadledd Gofod y bore yma, yw ein bod yn anelu at sicrhau bod cymunedau Cymru yn ffynnu, wedi'u grymuso ac yn gysylltiedig, fel y gallant ymateb i heriau newydd. Mae 'ffynnu' yn golygu bod gan ein cymunedau sylfeini cryf, cynaliadwy, y gallant adeiladu ar eu hasedau, fod ganddynt yr arfau sydd eu hangen arnynt i ymdopi ag anawsterau ac ymateb i gyfleoedd newydd. Mae 'wedi'u grymuso' yn golygu bod ein cymunedau'n rhan annatod o benderfyniadau ar bob lefel, fod ganddynt y capasiti nid yn unig i ddylanwadu ond hefyd i ddatblygu ffyrdd o weithio i nodi eu hasedau, eu hanghenion a'u blaenoriaethau eu hunain, ac i wneud penderfyniadau a darparu atebion. Rwy'n gweld rhywun yn codi eu llaw arnaf.
Weinidog, a gaf fi nodi—mae'n ddrwg gennyf, fe'ch collais, Huw—fod Huw'n dymuno gwneud ymyriad?
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Nid oeddwn eisiau siarad yn y ddadl hon, ond rwy’n falch iawn o gefnogi’r ddadl hon heddiw a chlywed eraill yn siarad, ac mae’n wych clywed y Gweinidog yn sôn am yr ymgysylltu â fu gyda chanolfan cydweithredol Cymru. A fyddai'n cydnabod bod llawer o’r cynnig yma heddiw, y cynnig trawsbleidiol hwn, yn adlewyrchiad teilwng o'r ymgyrchoedd hirfaith gan y Blaid Gydweithredol yng Nghymru, a ledled y DU, o ran grymuso, adeiladu cyfoeth, perchnogaeth, ac yn cynnwys archwilio'r potensial ar gyfer deddfwriaeth? Felly, yn ei sylwadau, wrth gloi, tybed a fyddai'n cyfeirio at hynny hefyd, wrth groesawu'r ddadl hon heddiw a'r cyfraniadau gwych a gawsom.
Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies. Rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud yr ymyriad hwnnw ac wedi cydnabod egwyddorion nid yn unig y Blaid Gydweithredol, sydd wedi'u hymgorffori yng ngwerthoedd ac egwyddorion Llywodraeth Cymru hefyd, gan fod fy nhrydydd pwynt yn ymwneud â bod yn gysylltiedig. A beth a olygwn wrth hynny? Y gall cymunedau weithio’n effeithiol mewn partneriaeth i gydgynhyrchu’r gwasanaethau a rheoli asedau a’r cymorth sydd ei angen arnynt.
Wrth orffen fy ymateb, rwyf am ddweud fy mod yn croesawu’r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar berchnogaeth gymunedol gan y Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Cydweithredol Cymru, sef Cwmpas erbyn hyn. A hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau yn y Senedd fod cymunedau, a gweithredu cymunedol, a sut y gallwn eu cefnogi a’u grymuso, yn ganolog i raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Hoffwn grybwyll pwysigrwydd adnoddau. Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn darparu grantiau i helpu cymunedau i brynu, datblygu a gwella asedau cymunedol. Credaf y bydd pob un ohonoch yn gwybod beth y gall yr arian hwnnw ei olygu yn eich cymunedau, ac i rai o’r asedau cymunedol, adeiladau a mannau gwyrdd hyn. Rydym wedi darparu dros £41 miliwn mewn grantiau cyfalaf i 295 o brosiectau. Ceir cymaint o’r prosiectau hynny, gyda £19.5 miliwn drwy’r rhaglen cyfleusterau cymunedol dros y tair blynedd nesaf, felly cofiwch annog cynigion a datblygiadau. Ymwelais ag ambell un yn ddiweddar, megis Gerddi Rheilffordd yn y Sblot ddydd Sadwrn, a weithredir gan y Wiwer Werdd, sy’n enghraifft mor wych o hyn—cymuned amrywiol yn cydweithio, cymuned sy'n pontio’r cenedlaethau, gweithredu cymunedol, busnesau lleol, diwylliant, cerddoriaeth a bwyd. Ond hefyd, mae angen ichi ymweld â chanolfan Dusty Forge yn Nhrelái, y prosiect Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, ond hefyd, sicrhau bod arian yn cyrraedd lleoliadau chwaraeon, canolfannau cymunedol, mosgiau, temlau, yn ogystal ag eglwysi a chapeli. Nid yw'r holl asedau yn eiddo i'r gymuned, ond mae cymaint ohonynt yn cael eu rhedeg gan y gymuned a chyda'r gymuned, ac rydym bellach yn symud tuag at sicrhau y gallwn helpu'r prosiectau hyn gyda buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni. Yn ddiweddar, Ymddiriedolaeth Gymunedol y Fenni—maent yn awyddus i gyflawni sero net; mae ganddynt y paneli solar, ac fe wnaethom eu helpu i ariannu hynny. Ac rydym hefyd wedi lansio cronfa benthyciadau asedau cymunedol, sy'n werth £5 miliwn, a weithredir ar ein rhan gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, i ategu'r rhaglen cyfleusterau cymunedol.
Rwyf wedi dod i ddiwedd yr amser sydd gennyf i siarad â chi heddiw, ond hoffwn ddweud, o ran ein cymorth i'r trydydd sector, fod CGGC, 19 o gynghorau gwirfoddol sirol yng Nghymru, sefydliadau'r trydydd sector, Cwmpas a Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru oll yn ein helpu ac yn edrych ar ffyrdd y gallwn gryfhau ein hymrwymiad. Mae gan awdurdodau lleol ran hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o drosglwyddo asedau cymunedol, lle mae perchnogion yr asedau yn rhan o’r broses cyn, yn ystod ac ar ôl y trosglwyddo. [Torri ar draws.]
Mae eich amser ar ben.
Yn olaf, a gaf fi roi sicrwydd i chi fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw? Credaf mai dyma'r cam cyntaf i ni o ran edrych ar lwybr cydgynhyrchiol ar gyfer ein polisi cymunedau newydd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd dros dro.
A gaf fi ddweud ar ddechrau fy nghyfraniad fod gennym nifer o ddinasyddion ifanc Cymru yma? Croeso i bawb; efallai'n wir y byddwch chi'n eistedd yma rywbryd yn y dyfodol.
Mae'n bleser cael cloi y ddadl yma heddiw, a dwi eisiau diolch i Luke Fletcher am agor y ddadl mor huawdl, ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu. Dwi am ddweud, cyn mynd ymlaen i sylwedd y pwnc, y byddai Buffy Williams wedi hoffi bod yma heddiw, ac mae Buffy yn ganolog i'r cynnig. Mae hithau yn gyforiog o brofiad yn y maes, ac mi fuasai wedi cyfoethogi'r ddadl yma. Felly, diolch iddi am ei chydweithrediad a chymorth wrth gyrraedd y pwynt hwn.
Dwi ddim am dreulio gormod o amser yn lladd ar y Llywodraeth. Mae hynny'n beth hawdd iawn i wneud, o ran gwleidyddiaeth y peth, ond y gwir ydy fy mod i wirioneddol am weld hyn yn cael ei weithredu mor fuan â phosib, a dim ond y Llywodraeth all wneud hynny. Felly, dwi ddim yn meddwl y caf i lawer o lwyddiant drwy fwrw sen arnyn nhw am funudau olaf y drafodaeth.
Ond mae'n rhaid nodi, cyn mynd ymhellach, ei fod yn hen bryd i'r Llywodraeth wireddu'r addewidion sydd wedi cael eu gwneud. Oes, mae yna gamau mewn lle, megis y community asset transfer, sydd, ar bapur, yn galluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth o eiddo pan fo awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus yn cael gwared ohono. Ond, a dwi'n siarad o brofiad personol fan hyn, mae'n broses lafurus ac anodd iawn, iawn i weithredu gan filwrio yn erbyn grwpiau cymunedol, gyda llawer yn rhoi'r ffidil yn y to cyn gwireddu'u huchelgais. Dwi'n gwybod hyn o brofiad. Mae Heledd wedi sôn am y profiadau yna yn ei chyfraniad hithau hefyd.
Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn galluogi cymunedau i restru eu hasedau cymunedol a chael y cynnig cyntaf, wrth i asedau cymunedol ddod ar y farchnad. Mae'n saith mlynedd ers i'r Gweinidog, ar y pryd, dros gymunedau a thaclo tlodi gyhoeddi gwaith ymgynghori ar y syniad o ddatblygu polisi Cymreig i rymuso cymunedau, gan ddweud bod yna gefnogaeth gref i'r syniad o sefydlu cynllun fyddai'n rhoi moratoriwm ar werthu asedau tra bod grŵp lleol yn trefnu ei hun i wneud cais i'w brynu. Yn wir, rhoddwyd ymrwymiad y byddai fframwaith deddfwriaethol yn cael ei roi mewn lle i ddatblygu cynllun asedau o werth cymunedol yma, ac y byddai hynny'n digwydd yn dilyn etholiadau 2016. Ond, a ninnau bellach yn 2022, mi rydym ni dal yn aros.
Mae gan yr Alban ddeddfwriaeth sydd wedi bod mewn lle ers dros 20 mlynedd, fel ddaru fy nghyfaill Peredur sôn, ac wedi cael ei gryfhau ers hynny. Mae gan gymunedau ar draws yr Alban, yn wledig ac yn drefol, yr hawl gyntaf i roi ceisiadau am dir ac asedau cymunedol efo cofrestr o eiddo a thir cyhoeddus. Ac mae degau o filiynau o bunnoedd yn cael eu rhoi tuag at gynorthwyo grwpiau cymunedol yno a chymorth ymarferol yn cael ei roi hefyd. Dyma sydd ei angen yma. Mae llawer o hyn yn digwydd yn organig yma yng Nghymru, ar lawr gwlad, ond mae angen dealltwriaeth o'r systemau, ac, yn fwy na dim, mae'n cymryd dygnwch, amser ac ymroddiad, sydd ddim efo nifer o bobl.
Dwi am gymryd y cyfle yma, os caf i, i dalu teyrnged i un a wnaeth yr amser ac a ddaeth i ddeall y system, tad y mudiad gweithredu cymunedol yng Nghymru fodern, os leiciwch chi, y diweddar Dr Carl Clowes, a weithiodd mor galed er mwyn ailfywiogi cymuned Llanaelhaearn, drwy sefydlu Antur Aelhaearn, ac yna mynd ymlaen i sefydlu Nant Gwrtheyrn. Ef hefyd, gyda llaw, oedd un o sylfaenwyr Dolen Cymru, efo'r berthynas odidog yna rhwng Lesotho a Chymru. Bu farw Carl yn gynharach eleni, ond am waddol ar ei ôl. Ef a chriw gweithgar Llanaelhaearn sefydlodd y fenter gymunedol gydweithredol gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol ar ôl gweld difrod a'r niwed a grëwyd wrth i'r chwareli gwenithfaen gau yn yr ardal. Ysbrydolodd y gymuned i ddod ynghyd, a chreu menter o dan berchnogaeth leol, oedd, ar un pwynt, yn gwerthu dillad a nwyddau i rai o siopau mwyaf Efrog Newydd a Pharis. Dwi'n falch dweud bod y fenter, Antur Aelhaearn, yn parhau i weithredu yn Llanaelhaearn hyd heddiw.
Gŵyr pawb, gobeithio, am hanes rhyfeddol Nant Gwrtheyrn, wrth i Carl a'r criw adfeddiannu'r hen bentref diarffordd hwnnw, a'i droi yn ganolfan dysgu Cymraeg cwbl lwyddiannus, gan nid yn unig rhoi bywyd newydd i adeiladau ond i gymuned, i bobl ac i iaith. Mae gwaddol Carl a gwaith yr antur i'w weld heddiw, o dafarndai cydweithredol Y Fic yn Llithfaen, Pengwern Cymunedol yn Llan Ffestiniog, Y Plu yn Llanystumdwy a'r Heliwr yn Nefyn i waith cwmni Bro Blaenau Ffestiniog a'r dwsinau o fentrau cydweithredol sydd yn britho Gwynedd.
Dyma'r ysbryd sydd angen ei harnesu: yr ysbryd cydweithredol, cymunedol, fel ddaru Peredur sôn. Mae'r awydd a brwdfrydedd a'r cariad at fro yno. Rhaid inni ond edrych ar y gwaith cymunedol rhagorol a wnaed mewn cymunedau yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth i gymunedau adnabod y gwendidau a dod ynghyd i ofalu am ei gilydd, fel ddaru Sam sôn yn ei gyfraniad.
Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed sgyrsiau yn y tŷ tafarn neu wrth giât yr ysgol, gyda pobl yn sôn am dafarn, hen sinema, garej, hen westy, hen gapel neu darn o dir gwag yn sefyll yn segur, a hwythau’n dweud, 'Dwi'n siŵr bod yna rhywbeth y fedrwn ni ei wneud efo'r deunydd hwnnw'?
Sawl gwaith ydyn ni wedi gweld adeiladau sydd ag iddyn nhw bwysigrwydd hanesyddol lleol yn cael eu dymchwel er mwyn codi blociau o swyddfeydd neu fflatiau moethus, fel ddaru Jenny sôn yn ei chyfraniad? Rhaid inni ond fynd allan i ganol Caerdydd i weld y difrod pensaernïol a diwylliannol yma wrth inni golli nifer o'n hen adeiladau.
Mae'n stori llawer rhy gyfarwydd, ac yn anffodus mae'n un sydd wedi gwaethygu dros y 10 mlynedd ddiwethaf, fel ddaru Janet sôn yn ei hymyrraeth, wrth i awdurdodau lleol orfod gwerthu asedau er mwyn gwneud i fyny am golledion ariannol yn sgil y toriadau a gafwyd. Ond mae gan y Llywodraeth yma'r gallu i weithredu a sicrhau bod cymunedau yn cael eu grymuso i gymryd perchnogaeth o'r asedau yma a'u datblygu ar gyfer budd cymunedol.
A beth sydd o ddiddordeb i fi yn benodol ydy'r posibilrwydd cyffrous gwirioneddol y gall cymunedau gychwyn datblygu tai fforddiadwy i gyfarch y galw yn eu cymuned. Meddyliwch am hynny. A ninnau'n dioddef argyfwng tai ac argyfwng costau byw—ill dau'n gysylltiedig, gyda llaw—meddyliwch beth fedrai cymunedau, wrth iddyn nhw adnabod anghenion lleol a chael parsel o dir i ddatblygu tai o'r maint perthnasol ar gyfer eu trigolion, ei wneud. Nid elw fyddai yn eu cyflyru, ond yr angen i roi to uwchben eu teulu a'u cymdogion. Nid breuddwyd gwrach mo hyn; mae'n bosibilrwydd go iawn.
Meddyliwch am y posibilrwydd, drwy Ynni Cymru, i alluogi cymunedau i ddatblygu eu hynni eu hunain, a'r budd economaidd cymunedol a ddaw yn sgil hynny, neu meddyliwch am Gymru wedi'i britho â siopau, sinemâu, rhandiroedd, canolfannau hamdden cydweithredol, yn creu swyddi o ansawdd, efo'r pres wedi’i gloi mewn yn y gymuned.
Dwi yn croesawu cyfraniad y Gweinidog, a dwi'n falch o glywed na fydd y Gweinidog yn gwrthwynebu'r cynnig. Ddaru'r Gweinidog sôn am a chanmol sir y Fflint yn cynnig rhestr o'r asedau. Wel, beth am ddilyn esiampl sir y Fflint a sicrhau bod yna restr genedlaethol o'r asedau cymunedol ar gael? Pam ddim dilyn arweiniad sir y Fflint?
Diolch hefyd i Huw Irranca-Davies am bwysleisio'r angen am ddeddfwriaeth. Dwi heb glywed yma heddiw gan y Gweinidog beth ydy bwriadau'r Llywodraeth o ran deddfwriaeth, ond dwi'n gobeithio bod yna sgôp yno inni weithio arni yn symud ymlaen. Felly, i chi, Weinidog, ac i'r Llywodraeth, cydiwch yn y cyfle yma—cyfle i ddatblygu polisi a, gobeithio, deddfwriaeth sydd efo’r potensial i wyrdroi rhagolygon ein cymunedau a’n trigolion yma yng Nghymru.
Buasai’n dda gweld deddfu yn y maes, wrth gwrs—deddfwraeth grymuso cymunedau, yn cynnwys cofrestr o asedau cymunedol a’r gallu i gymunedau gael y cynnig cyntaf ar asedau, deddfwriaeth wedi cael ei chyd-greu efo’n cymunedau fydd yn sicrhau ei bod hi'n bosib trosglwyddo asedau yn syml i grwpiau cymunedol strwythyredig, ac, ie, efo cymalau fydd yn golygu nad ydyw’r eiddo hynny yn cael ei golli o reolaeth gyhoeddus. Sicrhewch fod y gyllideb yno, ond hefyd y cymorth ymarferol i hebrwng cymunedau ar hyd y daith, gan sicrhau mai nhw sydd mewn rheolaeth. Diolch yn fawr iawn.
Y cynnig—. Arhoswch funud, dyna'r darn nesaf. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru'.
Cynnig NDM8032 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd—neu Dirprwy Lywydd dros dro, dylwn i ddweud. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r arddodiad yma. Hwn yw'r adroddiad cyntaf ar Cyfoeth Naturiol Cymru y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi'i gyhoeddi yn ystod y Senedd yma, ac mae yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷn ni'n bwriadu ei gyhoeddi yn flynyddol. Ac fe fydd hynny wedyn yn cael ei ddilyn, fel heddiw, â dadl, ac mi fydd yna gyfle i Aelodau godi unrhyw faterion perthnasol gyda'r Gweinidog, wrth gwrs, fan hyn yn y Siambr yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Nawr, yn ein hadroddiad ni eleni rŷn ni'n sôn, ymhlith pethau eraill, am y digwyddiad yn 2020 ar afon Llynfi. Mae'r Llynfi yn isafon i’r afon Gwy, a gwnaethon ni glywed ddoe, gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, am ofidiau ynglŷn â chyflwr yr afon honno. Ond mae'r Llynfi yn un o'r safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, sydd wedi'i leoli mewn ardal cadwraeth arbennig. Ac, ym mis Gorffennaf 2020, fe laddwyd 45,000 o bysgod a chreaduriaid eraill mewn digwyddiad llygredd ar yr afon.
Nawr, mi fuodd yna oedi o 13 awr cyn i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru gyrraedd y lleoliad ar ôl codi’r larwm. Mi ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym ni mai'r rheswm am yr oedi oedd bod swyddogion yn ymateb i ddigwyddiadau llygredd eraill â blaenoriaeth uchel a bod pryderon hefyd ynghylch iechyd a diogelwch yr un swyddog oedd ar gael. Fe ddaeth ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad nad oedd unrhyw obaith realistig o ffeindio unrhyw gwmni neu unigolyn yn euog o achosi'r llygredd, a fyddwn ni byth yn gwybod pa dystiolaeth y gallai fod wedi'i chanfod heb yr oedi cyn ymchwilio i’r digwyddiad hwn. Nawr, dwi ddim yn ailadrodd y manylion yma er mwyn bod yn feirniadol o Cyfoeth Naturiol Cymru a'i staff. Dwi'n gwybod bod staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u digalonni’n llwyr fod y llygrwyr heb eu cosbi am y dinistr a achoswyd. Ond, wrth gwrs, mae'n enghraifft bwysig o beth yw gwir effaith diffyg adnoddau a diffyg capasiti.
Rhwng 2013, pan gafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu, a 2020, mae cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng mwy na thraean—mwy na thraean. Ac wrth i'w gyllideb fynd i un cyfeiriad, roedd y gwaith y gofynnwyd i'r corff ei wneud yn mynd i'r cyfeiriad arall. Dros y blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi pentyrru cyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol ar y corff. Nawr, dwi ac eraill fan hyn wedi gwneud yr achos dro ar ôl tro yn y Siambr yma, ac mewn gwahanol bwyllgorau, fod yn rhaid, felly, edrych o ddifrif ar gyllid Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r pwyllgor, felly, yn falch bod y Gweinidog o’r diwedd wedi penderfynu cynnal adolygiad sylfaenol, neu baseline review, i fapio dyletswyddau a swyddogaethau statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn ei gyllideb. Ac mae'n dda bod y Gweinidog wedi cydnabod bod cynnydd graddol wedi bod yn yr hyn y gofynnir i Cyfoeth Naturiol Cymru ei gyflawni.
Nawr, mae'r pwyllgor o'r farn bod angen mawr am yr adolygiad yma. Mi fuodd galw cynyddol gan randdeiliaid am adolygiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rhai ohonyn nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n colli hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau. Nid beirniadaeth o’r staff oedd hynny, ond jest mater o ddiffyg capasiti a diffyg adnoddau. Rŷn ni'n gobeithio felly y bydd yr adolygiad sylfaenol, ar ôl ei gwblhau, yn rhoi eglurder ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r math o sefydliad y mae'r Llywodraeth yn fodlon talu amdano fe.
Mae hwn felly yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, ond roedd hi efallai yn siomedig, wrth edrych ar y print mân yn ymateb y Gweinidog, na fydd yr adolygiad, wrth gwrs, yn dod i ben tan ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022-23. Gallaf ddeall y rhesymeg dros yr amseru, ond mae'r cynnydd rŷn ni'n ei weld yn hyn o beth yn boenus o araf, ac mae