Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/05/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw'r eitem gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.

Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reolaeth lefelau dŵr yng nghronfa ddŵr Llyn Clywedog, Powys? OQ58059

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Cefin Campbell. Caiff y gwaith o reoli lefelau dŵr a gollwng dŵr o gronfa ddŵr Clywedog ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth glir a sefydledig. Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr sy'n gyfrifol am reoli'r gollyngiadau a lefelau dŵr, mewn ymgynghoriad â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn ddiweddar iawn, ces i gyfarfod gyda nifer o ffermwyr yn ardal Llanidloes ym Mhowys, gan drafod pryderon gyda nhw am sut mae lefelau dŵr yn cael eu rheoli yng nghronfa ddŵr Clywedog a'r effaith mae hyn yn ei chael ymhellach lawr y dyffryn, gyda thir amaethyddol ac eiddo yn cael eu heffeithio gan lifogydd, a hynny mor ddiweddar â mis Chwefror eleni.

Nawr, mae fy nghyd-Aelod dros sir Drefaldwyn, Russell George, wedi tynnu sylw'r Senedd at hyn yn barod, ac mae'n debyg bod cryn amwysedd ynglŷn â phwy sy'n rheoli'r gronfa ddŵr a'r gollyngiadau dŵr—ai asiantaeth amgylchedd Lloegr neu Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol. Dwi'n gwybod bod dŵr yn fater emosiynol iawn yng Nghymru a bod y gronfa hon wedi cael ei sefydlu er mwyn darparu dŵr a lliniaru llifogydd ymhellach i ffwrdd o Gymru, felly dwi'n siŵr eich bod chi'n deall pryderon lleol. Ac mae'n bosibl fod modd dadlau bod camreoli traws-sefydliadol wedi achosi llifogydd ar yr ochr yma i'r ffin. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r gwahanol asiantaethau i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch rheoli llifogydd ar ochr Cymru ac a ydych chi'n gallu cadarnhau a oes bwriad i ehangu cronfa ddŵr Clywedog yn y dyfodol?

Ie, diolch yn fawr iawn am y gyfres honno o ymholiadau. Ac wrth gwrs, rydym yn deall sensitifrwydd y mathau hyn o faterion i bobl Cymru yn ogystal â'r holl bobl sy’n dibynnu ar yr afonydd a’r dalgylchoedd am amrywiaeth o bethau, gan gynnwys eu dŵr yfed.

Felly, fel y gwyddoch yn barod, rwy’n siŵr, Hafren Dyfrdwy sy'n berchen ar gronfa ddŵr Clywedog. Dylid cynnwys cynigion ar gyfer defnydd ychwanegol o'r dŵr neu opsiynau trosglwyddo yng nghynllun rheoli adnoddau dŵr y cwmni. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a CNC yn cydnabod effeithiau llif dŵr uchel ar landlordiaid lleol ac ymhellach i lawr afon Hafren. Ac mae pob un o’r sefydliadau sydd ynghlwm wrth hyn wedi ymrwymo i gynnal adolygiad hirdymor i foderneiddio'r gwaith o reoli'r gronfa ddŵr er mwyn mynd i'r afael â heriau’r dyfodol yn y ffordd orau, sy’n amlwg yn beth cymhleth iawn i’w wneud, ac sy’n debygol o gymryd cryn dipyn o amser a deddfwriaeth newydd i sicrhau'r newid cynaliadwy hirdymor hwnnw. Yn y cyfamser, mae CNC yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i roi unrhyw newidiadau posibl i’r gweithdrefnau ar waith o dan y rheolau a’r ddeddfwriaeth gyfredol a allai wella gweithrediad y cynllun ar hyn o bryd, gan bwyso ar brofiadau o reoli systemau tebyg eraill yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Dylai’r newidiadau gael effaith fuddiol ar y gwaith o liniaru llifogydd o ystyried natur y dalgylchoedd, ond mae’n annhebygol y gallai’r newidiadau hyn wneud gwahaniaeth sylweddol os ceir sawl achos o lawiad o’r maint a welsom dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac felly mae angen adolygiad mwy hirdymor o'r broses gyfan.

Ein polisi, yn amlwg, yw lleihau a rheoli'r perygl o lifogydd i bobl a chymunedau dros y degawd nesaf, ac mae hynny wedi’i nodi yn y strategaeth llifogydd genedlaethol. Mae'n tanlinellu pa mor bwysig yw perygl llifogydd i ni ynghyd â'r risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd yn sgil llifogydd ac erydu arfordirol.

Yn ogystal, fel rhan o'r cynllunio mwy hirdymor ar gyfer y cyflenwad dŵr, rydym yn edrych ar gynlluniau a allai gyflenwi dŵr lle rhagwelir diffygion dros yr 50 mlynedd nesaf. Mae Hafren Dyfrdwy, sy'n gweithredu'r gronfa ddŵr, fel y dywedais eisoes, a Severn Trent yn edrych ar gynllun ar y cyd i archwilio ymarferoldeb yr argae fel y gellid anfon mwy o ddŵr i lawr afon Hafren yn ystod cyfnodau sych—felly, y gwrthwyneb i’r llifogydd—i gynnal llif dŵr yn yr afon, lle rhagwelir diffyg. Ond nid yw hynny'n rhan o'r cynllun rheoli adnoddau dŵr drafft presennol, sy'n cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru beth bynnag. Felly, os caiff hwnnw ei gyflwyno, byddwn yn sicr yn edrych arno fel y gallwn fod yn fodlon ei fod yn addas at y diben, ar gyfer dalgylch afon Hafren ac ar gyfer y bobl leol.

13:35

Weinidog, rwy’n ddiolchgar i Cefin Campbell am godi’r mater hwn, mater rwyf wedi’i godi nifer o weithiau o’r blaen, ynglŷn â rhwystredigaeth tirfeddianwyr i lawr yr afon o ganlyniad, yn eu barn hwy—a byddwn yn cytuno—i'r angen i newid y rheolau gweithredol ar gyfer argae Clywedog. Nawr, rwy'n deall ei fod yn fater cymhleth—rwyf wedi codi hyn droeon gyda'ch rhagflaenwyr hefyd—ond a gaf fi ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r taliad i dirfeddianwyr am reoli gorlifo tir lle byddai hynny wedyn yn helpu i liniaru llifogydd mewn eiddo ymhellach i lawr yr afon? A hefyd, Weinidog, rwy'n ymwybodol, neu—bûm mewn cyfarfod ag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd, gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Rebecca Pow, yn gynharach eleni—yn y cyfarfod hwnnw, gwn fod y Gweinidog yn mynd i ysgrifennu atoch i ofyn am gydweithredu a chydweithio pellach. Tybed a ydych wedi derbyn y llythyr hwnnw, a ydych wedi ymateb, a beth yw’r trafodaethau yr ydych yn eu cael gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Rebecca Pow, ar lunio dull cydweithredol o reoli argae Clywedog yn well, ac adolygu'r rheolau gweithredu?

Ie, roeddwn yn ymwybodol fod y Gweinidog Pow wedi ymweld â’r gronfa ddŵr. Ac mewn gwirionedd, trafodais y mater gyda hi ymlaen llaw, mewn grŵp rhyngweinidogol, ond mae’n debyg ei bod wedi sôn am hynny ar y pryd. Rydym yn awyddus iawn i weithio ar draws y ffin ar gyfer y dalgylchoedd sy’n llifo dros y ffin, ac yn wir, i rannu arferion da lle mae hynny’n effeithiol ar gyfer y cymunedau ar y naill ochr a'r llall i'r ffin. Oherwydd yn amlwg, ceir nifer o ddalgylchoedd yn Lloegr nad ydynt yn croesi'r ffin i mewn i Gymru, ond gallant ddysgu gwersi serch hynny o rai o'r mesurau naturiol i amddiffyn rhag llifogydd yr ydym yn eu rhoi ar waith yma yng Nghymru, er enghraifft. Felly, rydym wedi cyfnewid y llythyrau hynny.

A gwyddoch yn well na minnau, yn ôl pob tebyg, Russell, am afon Hafren a'i phwysigrwydd amgylcheddol i Gymru fel afon sy'n ardal cadwraeth arbennig, at gyfres gyfan o ddibenion, gan gynnwys dŵr yfed ac amddiffyn rhag llifogydd, amddiffyn rhag sychder, ac yn y blaen. Felly, mae rhan o'r cynllun hirdymor yr wyf newydd ei grybwyll mewn ymateb i Cefin Campbell yn ymwneud ag edrych ar beth yn union yr ydym yn gofyn i'r tirfeddianwyr ei wneud—perchnogion glannau'r afon a'r tirfeddianwyr cyfagos—ar hyd dalgylch afon Hafren ac o gwmpas y gronfa ddŵr, i ganfod sut beth ddylai cynllun hirdymor ar gyfer hynny fod, mewn cydweithrediad â’r tirfeddianwyr hynny, ac yna i gyflwyno’r hyn rydym yn disgwyl y bydd yn newid deddfwriaethol er mwyn gwireddu’r gallu i reoli’r system honno’n well. Ond mae honno'n strategaeth hirdymor, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac yn amlwg, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a Cefin ac eraill wrth inni fwrw ymlaen â'r broses honno.

Ynni Rhad a Glân

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod ffynonellau newydd o ynni rhad a glân i Gymru yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl? OQ58049

Diolch am eich cwestiwn, Laura. Rydym yn defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i ddatblygu system ynni lân, glyfar a hyblyg ar gyfer y dyfodol, gyda chynhyrchu ynni adnewyddadwy wrth ei gwraidd. Roedd strategaeth ynni Llywodraeth y DU yn gyfle a gollwyd yn ein barn ni i bennu llwybr credadwy ar gyfer cynyddu cynhyrchiant pob math o ynni adnewyddadwy gan gefnogi defnyddwyr drwy'r argyfwng costau byw yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.

Diolch, Weinidog. A all y Gweinidog gadarnhau, drwy adeiladu gorsafoedd ynni niwclear newydd, yn Wylfa a Thrawsfynydd, fod gan Gymru ran hollbwysig i’w chwarae i sicrhau cyflenwad hirdymor ar gyfer y DU?

Mae'n braf iawn gweld diddordeb o'r newydd yn Wylfa a'r datblygiad yno. Rydym yn awyddus iawn i weithio—. Mae gennym ganolfan ragoriaeth gerllaw ar gyfer ynni niwclear, ac mae gennym rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd yma yng Nghymru ar gyfer hynny. Felly, rwy'n falch iawn o weld diddordeb o'r newydd gan Lywodraeth y DU yn hynny—efallai y dylent fod wedi bod ychydig yn gyflymach, a dweud y gwir, mewn perthynas â rhai o'r materion mwy diweddar sydd wedi codi gyda hynny, fel y gŵyr pawb, i fyny ar Ynys Môn. Wedi dweud hynny, yn amlwg, mae ynni niwclear yn lân ac yn adnewyddadwy, ond mae problemau gydag ynni o'r fath, ac nid wyf am weld gorddibyniaeth ar ynni niwclear pan fo gennym ddigonedd o adnoddau naturiol eraill yma yng Nghymru y gellir manteisio arnynt fel rhan o system ynni adnewyddadwy dda.

Y bore yma, rhoddais dystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU, mewn gwirionedd, am yr angen i gynllunio'r grid yn dda—yn ein barn ni, datganoli’r grid i Gymru, fel y gallwn gael y cynllun hwnnw—a newid o’r dull o weithredu'r grid ar hyn o bryd, sy’n cael ei arwain a'i yrru gan y farchnad, ac sydd wedi ein gadael heb unrhyw drosglwyddo yng nghanolbarth Cymru, fel y mae eich cyd-Aelod, Russell George, a minnau wedi'i nodi ar lawr y Senedd ac mewn mannau eraill ar sawl achlysur—mae llinellau trosglwyddo yn y gogledd a'r de yn annigonol, gan eu bod yn ddibynnol ar yr angen i ddatblygwr penodol gysylltu â'r grid yn hytrach na dull wedi'i gynllunio, ac yn amlwg, nid yw hynny'n ddull cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gael strategaeth ynni. Mae'n drueni ei bod yn cynnwys olew a nwy—credaf fod hwnnw’n gam mawr yn ôl ar gyfer sero net. Ond y peth gwirioneddol bwysig yw sicrhau eu bod yn deall yr angen am gynllun priodol, ac mae hwn yn gam da ar y llwybr hwnnw, fel y gallwn gynllunio ein hanghenion ar gyfer y dyfodol, fel rydym yn ei wneud yma yng Nghymru, ar gyfer ein partneriaid rhanbarthol a chael y grid hwnnw ar waith er mwyn inni allu cael grid sy'n addas at y diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a’r ail ganrif ar hugain, ac y gallwn fanteisio yma yng Nghymru ar y dulliau cynhyrchu ynni adnewyddadwy gorau, gan gadw'r gost yn isel i bobl yma yng Nghymru ac allforio’r ynni adnewyddadwy hwnnw i’r byd, gan fod y capasiti gennym i wneud hynny, yn sicr.

13:40

Pe na bai David Cameron, chwedl yntau, wedi 'cael gwared ar y rwtsh gwyrdd' ddegawd yn ôl, byddem wedi gwneud mwy o gynnydd ar effeithlonrwydd ynni adnewyddadwy a niwclear, a byddai aelwydydd yn talu llai am ynni, nid mwy. Felly, rwy'n cytuno fod angen inni ddal i fyny, ond ochr arall y geiniog i gynhyrchu ynni yw effeithlonrwydd ynni. Felly, a allwch roi gwybod i ni, Weinidog, sut y gallai'r rhaglen newydd sydd ar y ffordd, Cartrefi Clyd, adeiladu ar lwyddiant y cynllun blaenorol, a gyflwynodd fesurau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, fel boeleri gwres canolog ac inswleiddio, i fwy na 4,500 o aelwydydd ledled Cymru?

Diolch yn fawr iawn, Joyce—rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen grid wedi'i gynllunio; mae angen grid wedi'i gynllunio ar gyfer graddfa wahanol o gysylltiad â'r grid hwnnw hefyd. Un o'r pethau yr ydym yn falch iawn ohonynt yma yng Nghymru, wrth gwrs, yw menter Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Mae hyn yn ymwneud ag ôl-osod cartrefi er mwyn iddynt gyrraedd y safon orau bosibl, lleihau tlodi tanwydd, lleihau’r galw am ynni a’r defnydd ohono—mae dwy ran yr hafaliad hwnnw'n gwbl hanfodol—ac y gellir eu rhoi mewn sefyllfa hefyd lle y gallant fanteisio ar y cyflenwadau trydan adnewyddadwy a fydd i'w cael yng nghymunedau Cymru, am fod modd ôl-osod eu cartrefi’n briodol. Daw hynny o’n dull o weithredu, sef y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sydd, fel y gŵyr pob Aelod, gan fy mod wedi sôn am hyn sawl tro yn y Siambr, yn edrych ar ba dechnoleg sy’n gweithio i ba fath o dŷ yng Nghymru, gan na cheir un ateb sy'n addas i bawb mewn unrhyw fodd. Yna, bydd yn ein galluogi i weithio gyda’r cwmnïau ynni i ddefnyddio pethau fel buddion cymunedol a pherchnogaeth gymunedol i sicrhau bod y tai hynny'n cyrraedd y safon. Mae'r cwmnïau ynni yn ennill ym mhob ffordd, gan y bydd ganddynt fwy o gwsmeriaid ar gyfer eu hynni y gellir ei ddefnyddio yn y ffordd lân ac effeithlon honno. Felly, mae ein holl raglenni—rhaglen Cartrefi Clyd a'r holl rai eraill, ein rhaglen tai arloesol a'n rhaglen ynni—wedi'u cynllunio i gynhyrchu nifer o'r atebion sy'n dod at ei gilydd i greu grid sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar. Mae'r cwestiynau yma i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Natasha Asghar.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi dod i gytundeb i sefydlu porthladd rhydd newydd yng Nghymru yn hynod gyffrous. Mae gan y cytundeb hwn, sy’n werth miliynau o bunnoedd, botensial i ddarparu miloedd o swyddi lleol, gan ysgogi arloesedd a hybu buddsoddiad busnes, a darparu manteision a chyfleoedd i'r cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Mae’r ddwy Lywodraeth wedi cytuno y byddent yn barod i ystyried yr achos dros borthladd rhydd ychwanegol arall yng Nghymru pe bai cynnig gwirioneddol eithriadol yn cael ei gyflwyno yn ystod y cam cyflwyno ceisiadau. Ddirprwy Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Weinidogion a phartïon sydd â diddordeb ynghylch annog ceisiadau am statws porthladd rhydd, a pha gymorth yr ydych chi'n bersonol yn ei ddarparu i sicrhau bod y ceisiadau hyn o’r ansawdd gorau posibl fel bod Cymru’n cael y budd mwyaf posibl o'r buddsoddiad hwn o £26 miliwn gan Lywodraeth y DU? Diolch.

Rydym yn falch, yn amlwg, ein bod wedi gallu dod i gytundeb o'r diwedd gyda Llywodraeth y DU ar y porthladdoedd rhydd. Mae wedi bod yn drafodaeth hirach nag y dylai fod, ac nid oedd y ffordd y’i cynhaliwyd yn ddelfrydol, ond rwy’n falch inni ddod i gytundeb yn y pen draw. Dangosodd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, gryn dipyn o amynedd i sicrhau canlyniad boddhaol, ac ef sydd wedi bod yn arwain y trafodaethau hynny. Roeddwn yn awyddus iawn i sicrhau, fel rhan o’n cytundeb, fod gennym ffin fân-dyllog rhwng y gwahanol borthladdoedd yng Nghymru i ganiatáu cydweithredu, yn enwedig er mwyn iddynt fanteisio ar gyfleoedd ynni’r môr ac ystyried y porthladdoedd yn ddarn allweddol o seilwaith i'n galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd, yn ogystal â chyfleoedd ynni gwynt ar y môr Celtaidd o ran cynaliadwyedd.

Felly, cafwyd cytundeb y bydd y Trysorlys a Llywodraeth y DU yn ystyried ceisiadau ar gyfer cyfuno porthladdoedd gwahanol, a allai ganiatáu i Aberdaugleddau a Phort Talbot gyflwyno cais ar y cyd, ac mae geiriau yn y cytundeb sy’n caniatáu inni archwilio mwy nag un cais. Ond maent yn ddibynnol, fel y nododd Natasha Asghar, ar farn Llywodraeth y DU am ansawdd y cynigion hynny, ond ni chafwyd unrhyw ddiffiniad o sut beth yw cynnig o ansawdd. Felly, mae'n sgwrs barhaus. Rydym yn awyddus i achub ar y cyfleoedd ac mae gennym amheuon o hyd ynghylch prif bwyslais y polisi, ond rydym yn benderfynol o gydweithio er budd Cymru.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio bod disgwyl i gost prosiect metro de Cymru fod yn sylweddol uwch na’i gyllideb o £734 miliwn. Er na roddwyd unrhyw arwyddion pendant o swm disgwyliedig y gorwariant, rhagwelir y bydd yn ddegau o filiynau o bunnoedd. Mae gan brosiect metro de Cymru gadwyn gyflenwi gymhleth, ac mae’r pandemig a chostau cynyddol wedi effeithio ar argaeledd deunydd adeiladu. Pan fydd yr arian wrth gefn ar gyfer unrhyw orwariant wedi dod i ben, mae'n anochel y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu'r gost ychwanegol. Felly, Ddirprwy Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â gwneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer sefyllfa o’r fath, ac a oes perygl y bydd oedi i'r gwaith o gwblhau metro de Cymru, gyda’r holl oblygiadau amgylcheddol ac ariannol y gallai hynny ei olygu? Diolch.

13:45

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r cyhoeddiad heddiw fod chwyddiant yn y DU wedi cyrraedd 9 y cant ym mis Ebrill. Mae chwyddiant yn y diwydiant adeiladu yn agosach at 30 y cant, felly mae unrhyw brosiect seilwaith yn cael ei effeithio gan gostau uwch; mae hynny, mae arnaf ofn, yn anochel, o ystyried y ffordd y mae chwyddiant yn codi'n afreolus. Felly, wrth gwrs, nid yw'r prosiect metro'n ddiogel rhag hynny, a bydd y costau'n cael eu heffeithio. Rydym yn edrych ar hynny'n ofalus i ddeall y goblygiadau i gyflymder a maint y gwaith. Cyfarfûm â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i drafod hyn. Nid oes gennym ddarlun clir—sut y gallem, o ystyried cyflwr yr economi—o ganlyniad terfynol hyn, ond rydym wedi ymrwymo i'r metro.

Byddai'n sicr o gymorth pe gallai Llywodraeth y DU ddarparu cyfran Cymru o'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu hyn yn gyfan gwbl ar ein pen ein hunain, gyda rhywfaint o gymorth o gronfeydd yr UE. Ond fel yr ydym wedi'i ailadrodd yn y Siambr hon sawl tro, pe byddem yn cael ein cyfran o brosiect HS2, byddai Cymru'n cael £5 biliwn yn y grant bloc, y byddem yn gallu ei ddefnyddio i wella buddsoddiad. Rwy'n ailadrodd fy ngalwad ar Natasha Asghar a’i chyd-Aelodau unwaith eto i ymuno â ni mewn ymdrech drawsbleidiol i alw ar Lywodraeth y DU i wneud yr hyn y dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig dan arweiniad y Torïaid oedd y peth iawn i’w wneud, sef Barnetteiddio gwariant HS2 i ganiatáu i Gymru gael ein cyfran o wariant y DU. Byddwn yn sicr yn croesawu ei chymorth i ddadlau'r achos hwnnw ar y cyd.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Fel y gwyddoch yn well nag unrhyw un, mae eich Llywodraeth wrthi'n treialu cynlluniau peilot i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ar bob ffordd gyfyngedig yng Nghymru. Yng Nghil-y-coed yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, mae trigolion lleol yn cwyno bod tagfeydd wedi gwaethygu ers cyflwyno’r terfyn hwn, yn enwedig ar amseroedd agor a chau ysgolion. Mae ceir, ac rwy'n dyfynnu, 'yn ymlusgo ar hyd y ffordd mewn gêr is gan achosi llygredd, ac mae rhwystredigaeth yn peri i yrwyr gyflymu a thorri'r terfynau cyflymder cyn gynted ag y cânt gyfle i wneud hynny.' Yn y Fenni, rhan arall o fy rhanbarth, mae gosod terfyn cyflymder o 20 mya ar Ffordd Trefynwy, sy’n cludo’r A40 o gylchfan Hardwick, wedi’i alw'n anymarferol a pheryglus gan drigolion lleol.

Nid oes gennyf unrhyw broblem—a hoffwn i hyn gael ei gofnodi—gyda chyfyngiadau cyflymder is ar ffyrdd lle y ceir llawer o gerddwyr, megis y tu allan i siopau, ysgolion, y stryd fawr, mannau addoli ac ati. Fodd bynnag, Ddirprwy Weinidog, mae’n amlwg fod y cyfyngiad cyflymder 20 mya cyffredinol hwn yn achosi problemau mawr ar ffyrdd prysur i gymudwyr. Felly, Ddirprwy Weinidog, fy nghwestiwn yw: ai gwir fwriad eich cynlluniau peilot yw llywio eich cynigion, neu a ydynt yn fantell ar gyfer cynlluniau y cytunwyd arnynt eisoes? Diolch.

Yn y Senedd ddiwethaf, cawsom gefnogaeth drawsbleidiol i gyflwyno’r polisi o derfynau cyflymder 20 mya ar ffyrdd lleol. Fe wnaethom sefydlu tasglu a ymgynghorodd yn eang iawn ac a gynhwysodd randdeiliaid wrth weithio drwy fanylion y ffordd orau o lunio a gweithredu'r polisi hwn. Un o’r pethau y cytunwyd arnynt oedd y byddem yn mynd ati mewn wyth ardal i dreialu gwahanol ddulliau o sicrhau y gellid cyflwyno hyn yn ddidrafferth pan gaiff ei weithredu y flwyddyn nesaf. Bydd angen inni ddod yn ôl i’r Senedd cyn bo hir cyn y gellir bwrw ymlaen â hynny. Mae diben y cynlluniau peilot hynny yn ddiffuant: deall a dysgu am y ffordd orau o'i weithredu.

Soniodd yr Aelod am ystod o wrthwynebiadau rwy'n gyfarwydd â hwy. Credaf fod rhai ohonynt yn deg, mae rhai ohonynt yn ganlyniad i'r ffaith bod rhai pobl yn gwrthwynebu newid a ddim eisiau cadw at derfynau cyflymder is. Mae'r arolwg wedi dangos yn fras fod 80 y cant o bobl o blaid y polisi, a 20 y cant o bobl yn ei erbyn. Mae’r 20 y cant hynny o bobl yn lleisio’u barn, ond ni chredaf y dylem ystyried hynny’n dystiolaeth fod y polisi wedi'i wrthod yn gyfan gwbl—i'r gwrthwyneb. Credaf fod cefnogaeth gyffredinol, hyd yn oed yn y cymunedau y soniodd amdanynt. Felly, bydd cyfleoedd i ddysgu o'r cynlluniau peilot.

Soniodd am y broblem o gael cyfyngiad cyffredinol o 20 mya. Nid y bwriad yw cael cyfyngiad cyffredinol o 20 mya. Un o'r pethau sy'n cael eu treialu yw'r broses eithriadau, fel y'i gelwir. Yn fras, mae Trafnidiaeth Cymru wedi llunio fformiwla ar gyfer pa ffyrdd y credant y dylid eu cyfyngu i 20 mya. Bydd pob cymuned yn cael cyfle i ymateb i ymgynghoriad ar hynny, a bydd cyfle i gynghorau lleol, sef yr awdurdodau priffyrdd, ddweud pa ffyrdd y dylid eu heithrio—pa ffyrdd y mae'n well eu cadw ar gyflymder o 30 mya. Yn yr ardaloedd peilot, mae’r broses eithrio honno’n cael ei phrofi. Yn sicr, rydym wedi gweld cryn dipyn o bryder ym Mwcle yn sir y Fflint ynghylch y ffordd y mae hynny wedi’i roi ar waith. Credaf fod llawer o wersi i gynghorau ac i Lywodraeth Cymru eu dysgu o hynny. Dyna holl bwynt ei dreialu—rhoi cynnig arni, dysgu gwersi ac addasu. Dyna y bwriadwn ei wneud.

13:50

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad hynod feirniadol gan Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd. Roedd yn rhybuddio Llywodraeth y DU fod y cynnydd i gyflawni ymrwymiadau amgylcheddol yn Lloegr yn rhy araf, ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer camau gweithredu brys. Mae’n pwysleisio’r angen am dargedau cyfreithiol rwymol.

Gwn ein bod wedi cael y drafodaeth hon sawl gwaith o’r blaen, Weinidog. Gwyddom nad yw sefyllfa'r amgylchedd yn llai difrifol yng Nghymru, ond serch hynny, nid oes gennym gorff annibynnol a all ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Gwn y gall pobl godi pryderon am weithrediad cyfraith amgylcheddol gyda'r asesydd dros dro ar gyfer diogelu amgylchedd Cymru, ond nid oes gan yr asesydd dros dro bwerau i ymchwilio a gweithredu mewn perthynas â methiannau canfyddedig neu achosion o dorri’r gyfraith gan gyrff cyhoeddus.

Mae gan Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd wefan ar gyfer y cyhoedd, ac maent wedi ymgynghori ar strategaeth ddrafft ar eu polisi gorfodi, ond nid yw hynny’n wir ar hyn o bryd am waith yr asesydd dros dro, gan nad yw yn y parth cyhoeddus. Felly, a ydych yn cydnabod, Weinidog, fod bwlch annerbyniol yn bodoli mewn perthynas â llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru? A wnewch chi roi sicrwydd i’r Siambr, os gwelwch yn dda, y byddwch yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol a thargedau adfer natur i Gymru yn ail flwyddyn y Senedd hon?

Rydym yn mynd i wneud hynny, yn bendant. Nid wyf am ei addo yn yr ail flwyddyn, Delyth, gan fod y mater yn nwylo'r rhaglen ddeddfwriaethol i ryw raddau. Mae gennym nifer fawr o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd, yn anffodus, ac mae'n ymwneud â beth sydd yn sefyllfa orau i fwrw ymlaen ag ef ar unrhyw adeg benodol, a sut y gallwn ei gael drwy'r systemau pwyllgor ac yn y blaen. Nid yw’n ymwneud â ph'un a ydym yn credu ei fod yn flaenoriaeth. Rydym yn credu ei fod yn flaenoriaeth.

Rwy'n falch iawn ein bod newydd ddechrau'r archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth. Rwy'n falch iawn o sut yr aeth hynny yr wythnos diwethaf. Mae gennym gyfres gyfan ohonynt yn mynd rhagddynt yn awr. Er eglurder, mae gennym y grŵp craidd ar gyfer hynny, ond mae gennym hefyd gyfres o gyfarfodydd rhanddeiliaid ynghlwm wrth hynny a grwpiau arbenigol ynghlwm wrth hynny. Yna, byddaf yn gwneud datganiad i’r Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd modd inni gael rhywbeth yn y Sioe Frenhinol ar ffurf proses ymgysylltu â’r cyhoedd ar hynny hefyd, pan fydd y broses ar gyfer y cam cychwynnol hwn wedi dod i ben.

Holl ddiben hynny yw dweud wrthym sut i gyrraedd 30x30, beth ddylai’r targed fod, a sut y dylem strwythuro hynny ar gyfer Cymru mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad. Credaf ein bod yn rhannu’r farn fod angen i hynny ddigwydd. Yn sicr, hoffwn roi corff annibynnol ar waith sy’n ein dwyn i gyfrif, ond hoffwn wybod am beth y maent yn ein dwyn i gyfrif yn ei gylch, a sut y gallwn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau bosibl i wneud hynny, cyn inni fynd amdani. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at ganlyniad yr archwiliad dwfn, sef y cam mawr cyntaf ar y llwybr i allu gwneud hynny.

Wedyn, Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd modd inni gael sesiwn yn y Senedd er mwyn inni allu cytuno sut y dylem fwrw ymlaen â hynny. Bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud yn y cyfamser. Os ydym yn mynd i warchod 30 y cant o’n tirwedd i’r lefel y byddem yn ei hoffi, bydd hynny’n effeithio ar bobl sy’n byw yn y dirwedd honno ac sy’n gweithio ac sy’n dymuno gwneud cartref a bywyd gweddus ynddi. Felly, mae'n bwysig gwneud hyn yn iawn, er mwyn inni allu cael y gefnogaeth honno, yn ogystal â'r targedau.

Diolch, Weinidog. Rwy’n sicr yn croesawu’r archwiliad dwfn, ac rwy’n cytuno â chi am yr angen i fod yn onest ac yn realistig gyda ni ein hunain, a chyda phobl Cymru, ynglŷn â sut y bydd yn rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd. Byddwn yn dal i bwysleisio, mewn gwirionedd, oni bai fod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn yr ail flwyddyn, fy mod yn poeni faint y gallai'r amser fynd yn ei flaen ymhellach. Ond hyderaf fod hynny’n rhywbeth y byddwch yn parhau i wthio amdano, gymaint â phosibl, o fewn y Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi hynny.

Rydych wedi dweud eisoes eich bod yn dymuno gweld y targedau adfer natur hyn ar gyfer Cymru yn cael eu llywio gan dargedau byd-eang a fydd yn cael eu cytuno yn uwchgynhadledd COP15. Mae'r uwchgynhadledd hon eisoes wedi'i gohirio. Mae ansicrwydd parhaus ynghylch pryd y bydd yn cael ei chynnal. Drwy gydol yr amser, rydym mewn argyfwng natur. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Gwn ein bod yn crybwyll yr ystadegyn hwnnw’n aml, ond rwy'n credu o ddifrif, weithiau, fod angen inni gamu y tu allan i ni'n hunain, bron, i feddwl pa mor ddinistriol y bydd hynny mewn gwirionedd.

A wnewch chi gadarnhau bod y ddeddfwriaeth ar gyfer targedau adfer natur, pan gaiff ei chyflwyno—? Rwy'n derbyn eich pwynt ynglŷn â sut nad ydych yn gwybod eto a ellir gwneud hyn yn ail flwyddyn y Senedd, er fy mod o ddifrif yn eich gwthio ar hynny unwaith eto, os gwelwch yn dda. A fydd hynny’n cael ei effeithio gan unrhyw oedi pellach yn uwchgynhadledd COP15, neu a oes prosesau yn y Llywodraeth i sicrhau nad yw hynny’n mynd i fod yn rhwystr pellach i’w chyflwyno, os gwelwch yn dda?

13:55

Mae'n drueni mawr ei bod wedi'i gohirio am amrywiaeth o resymau. Mae'n drueni mawr i'r byd, heb sôn am Gymru. Un agwedd yr hoffwn ei gweld ar y gwaith, ac mae hyn yn rhan o broses yr archwiliad dwfn hefyd, i gael cyngor ar hyn, yw sut y gallwn strwythuro’r targedau fel y gellir eu tynhau ond nid eu llacio. Mae’n hawdd strwythuro targedau y gellir eu newid, ond hoffwn roi proses ar waith lle y gellir cyflymu’r targedau hynny, ond lle na ellir eu llacio’n hawdd. Rwy'n sylweddoli, yn amlwg, y gallai unrhyw Senedd wrthdroi'r ddeddfwriaeth gyfan a’u llacio, ond hoffem gael proses lle y gall rhyw fath o fethodoleg, offerynnau statudol, rheoliadau—nid wyf yn gwybod, rhywbeth; dyma y mae gennyf bobl yn gweithio arno—gyflymu'r targedau hynny neu ychwanegu rhai newydd fel y bo'n briodol wrth i dystiolaeth ddod i'r amlwg yn sgil COP a phrosesau eraill, ond heb roi'r disgresiwn inni allu eu dadwneud am unrhyw reswm. Mae hynny'n hawdd iawn i mi ei ddweud, ond mae'n eithaf anodd ei wneud. Felly, mae rhan o'r hyn y ceisiwn weithio arno yn ymwneud â chanfod, gyda'r arbenigwyr hyn, a yw hynny'n bosibl, ac os felly, sut y gallwn ei wneud.

Mae'n ymwneud â'r targedau cychwynnol, sut beth yw 30x30. Tri deg y cant erbyn 2030—mae'n wych i'w ddweud, ond beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Beth yw'r 30 y cant? Tri deg y cant o beth? Ac ai 30 y cant o Gymru neu 30 y cant o bob ardal awdurdod lleol neu 30 y cant o bob cymuned ydyw? Am beth y soniwn mewn gwirionedd? Ac yna beth yw'r 30 y cant o rywogaethau y soniwn amdanynt? Neu a yw'n 30 y cant ar draws pob rhywogaeth, neu beth? Nid wyf yn gwybod yr ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hynny eto. Felly, rhan o'r hyn a wnawn yw, 'Beth yw'r ateb? A oes ateb? Beth yw'r consensws?', ac yna sut y gallwn gael proses gyflymu er mwyn gwarchod mwy a mwy o rywogaethau a darnau o dir, gan nad ydym am gael system ychwaith lle mae gennym 30 y cant o'r tir wedi'i gadw'n hyfryd a 70 y cant o'r tir wedi'i balmantu. Yn amlwg, nid dyna rydym am ei weld ychwaith.

Mae hyn oll yn ymwneud â’r cydbwysedd, sut y defnyddiwn y 30 y cant, efallai, fel esiampl, sut y defnyddiwn hynny fel enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru, sut y gallwn gynnwys cymaint â phosibl o dirfas Cymru, a chymaint â phosibl o'r rhywogaethau ac yn y blaen. Felly, mae'n beth hawdd i'w ddweud, ond mewn gwirionedd, mae'n wirioneddol gymhleth i'w wneud mewn ffordd sy'n ystyrlon ac sy'n ein dwyn i gyfrif mewn ffordd lle na allaf godi a dweud, 'O ie, mae 30 y cant o holl dir Cymru wedi'i warchod ar hyn o bryd', gan nad dyna ble mae unrhyw un ohonom yn dymuno bod. Felly, nid yw'n fater o fod eisiau ei wneud; rydym yn parhau â'r prosesau hyn am ein bod eisiau ei wneud yn iawn.

Yr Argyfwng Hinsawdd a Natur

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur? OQ58051

Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas. Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ynghyd â’n cyngor partneriaeth, y grŵp strategaeth newid hinsawdd llywodraeth leol a’r rhwydwaith partneriaethau natur lleol. Mae ein cyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a thrwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn cefnogi ein gwaith.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae etholiadau llywodraeth leol Cymru wedi dangos bod mandad clir ledled Cymru ar gyfer polisïau blaengar i fynd i’r afael â’r materion mawr y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu, ac efallai mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf. Weinidog, sut y bwriadwch sicrhau bod yr argyfwng hinsawdd a natur yn uchel ar agenda Cabinetau awdurdodau newydd Cymru, mor uchel ag y mae yma yn y Senedd a chyda Llywodraeth Cymru? Mae'n galonogol iawn gweld pa mor aml y soniwyd amdano yma yn y Siambr ers imi gael fy ethol. Gwn eu bod hefyd yn wynebu pwysau wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen, felly yn aml iawn, maent wrthi fel lladd nadroedd drwy'r amser yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Sut y gallwn sicrhau bod hyn yn uchel ar yr agenda yn ogystal â mynd i’r afael â’r gwasanaethau rheng flaen hynod bwysig hynny? Diolch.

Mae'n bwynt da iawn, onid ydyw, gan fod pob un ohonom yn cydnabod yr her o gydbwyso'r gwaith diflas bob dydd, os mynnwch, gyda ffocws ar waith hanfodol a strategol sydd ei angen i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rwy'n credu imi ddweud ddoe yn un o fy natganiadau y bydd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, a minnau’n gweithio gyda’r timau arweinyddiaeth newydd mewn llywodraeth leol i weithio gyda’r cabinetau sydd newydd eu ffurfio, yr aelodau cabinet unigol, i sicrhau nad yw'r agenda'n llacio. Cyn yr etholiadau llywodraeth leol, roedd gennym gefnogaeth dda iawn i hyn ar draws yr holl awdurdodau lleol, ac nid wyf yn rhagweld unrhyw newidiadau yn sgil y canlyniad. Cawsom sgyrsiau hynod ddiddorol ag arweinwyr a oedd yn arweinwyr cyn yr etholiad, ac sy’n parhau i fod yn arweinwyr o hyd, ynglŷn â strwythuro eu cabinet mewn ffordd sy'n cynnwys effeithlonrwydd adnoddau ac argyfwng hinsawdd fel rhan ddifrifol iawn o waith portffolio eu Cabinet, ac rwy'n gobeithio gweld o leiaf rai o'r swyddi portffolio hynny'n ymddangos. Mae'n ymwneud â sicrhau bod y mater yn aros ar y lefel arweinyddiaeth strategol honno ac nad yw'n llithro i lawr y sefydliad ac yn colli ffocws.

Felly, rwy'n wirioneddol argyhoeddedig fod yr ewyllys wleidyddol yno. Byddwn yn gwneud rhywfaint o gydgysylltu canolog fel y gwnawn bob amser gyda CLlLC a thrwy’r cyngor partneriaeth i gadw hyn, ac mae'n eitem sefydlog ar agenda’r cyngor partneriaeth, ac mae’n parhau i fod. Ac rydym wedi dyrannu £1.49 miliwn i CLlLC gyflawni'r rhaglen gymorth i helpu awdurdodau i ddefnyddio dull 'unwaith i Gymru' gyda llawer o hyn. A gaf fi ddweud, gyda llaw, fod y gwaith y buoch yn ei wneud ar y lleiniau ar ymylon ffyrdd a No Mow May ac ati wedi bod yn llawer o gymorth? Cefais gyfarfod hynod ddiddorol ddoe yn Nhorfaen gyda darn o dir amwynder No Mow May a ariannwyd gan fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd wedi bod yn adeiladu ar rywfaint o’r gwaith y buoch chi'n ei wneud, ac rydym yn sicr yn gobeithio adeiladu arno yn y dyfodol.

14:00

Weinidog, rwy'n sicr yn croesawu eich ymrwymiad parhaus i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, yn enwedig ym maes yr argyfwng hinsawdd a natur. Fel y nodwyd eisoes, credaf y gall awdurdodau lleol chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi a chyflawni'r uchelgais ar gyfer economi wyrddach a chryfach yma yng Nghymru, ac un enghraifft wych o hyn yn fy rhan i o Gymru, yn y gogledd, yw gwaith Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, a chydag awdurdodau lleol yno, yn gweithio gydag awdurdodau lleol dros y ffin yn Lloegr a sefydliadau eraill, i ystyried darparu miloedd o swyddi gwyrdd, megis y gwaith sy'n gysylltiedig â'r seilwaith hydrogen, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r economi yn ehangach. Felly, yng ngoleuni hynny, tybed a wnewch chi amlinellu sut rydych yn gweld cyfleoedd pellach i awdurdodau lleol chwarae eu rhan yn cefnogi'r gwaith o sicrhau economi gryfach, megis y swyddi gwyrdd hynny y mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn bwriadu eu darparu, a fydd, wrth gwrs, yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Diolch.

Ie, yn sicr, Sam, ac mae hynny'n taro'r hoelen ar ei phen, onid yw? Gan fod hyn yn ymwneud â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ond mae hefyd yn ymwneud â newid y meddylfryd i weld hynny fel cyfle, cyfle yn economaidd, cyfle i dwristiaeth a llu o gyfleoedd i wasanaethau, yn hytrach na rhwystr i'r math hwnnw o beth. Rwy'n credu ein bod wedi gweithio'n galed iawn i wneud hynny gyda'n hawdurdodau lleol ledled Cymru, a chyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'i wahanol fersiynau. Rwy'n gwybod eich bod wedi chwarae rhan ganolog yn llawer o hynny yn eich rôl flaenorol hefyd. Felly rydym yn parhau i weithio'n galed iawn gyda'n partneriaethau yn yr awdurdodau lleol a'r rhanbarthau i wneud peth o'r gwaith hwn. Ac yna os caf roi un enghraifft fach o sut y mae'r pethau hyn yn datblygu'n gyflym, rwy'n falch iawn fod Cymru'n parhau i fod yn drydydd yn y byd o ran ailgylchu, ac rydym ar fin cyflwyno hynny i fusnesau yng Nghymru. Rydym wedi cael llawer o adborth ymgynghori cadarnhaol yn ôl gan fusnesau y mae eu meddylfryd wedi newid llawer dros y pum mlynedd diwethaf; mae eu cwsmeriaid am iddynt fod yn well yn y maes hwn, gyda'r holl safbwynt byd-eang ar ddeunydd pacio wedi newid yn llwyr yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Ond oddi ar gefn y deunydd eildro y gallwn ei ddarparu yng Nghymru bellach i ailbroseswyr, rydym yn cael ceisiadau gan ailbroseswyr i ddod yma i Gymru ac agor gorsafoedd newydd yng Nghymru ar gyfer deunydd eildro nad yw gennym eto hyd yn oed. Felly, maent yn dweud, 'Pe baech yn casglu'r deunydd penodol hwn, ar wahân hefyd, yna gallem ei ddefnyddio yng Nghymru i greu swyddi a chyfleoedd economaidd', yn enwedig mewn mannau fel Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, oherwydd y cyfoeth o ddeunydd a fyddai'n deillio o'r drefn gasglu yno. Dim ond un enghraifft ydyw, ac mae llawer o rai eraill, o'r effaith gynyddol yn economaidd o wneud y peth iawn ar gyfer yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag awdurdodau lleol i nodi llawer mwy. 

Plannu Coed

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau plannu coed Llywodraeth Cymru? OQ58043

Mae'n rhaid inni blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 os ydym am gyrraedd llwybr cytbwys Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i'n cael i sero net. Rydym wedi agor cynllun cynllunio newydd i greu coetiroedd er mwyn cefnogi rheolwyr tir i ddatblygu cynlluniau i blannu coed, a bydd cynlluniau newydd i gefnogi plannu coetiroedd newydd yn cael eu hagor yn ddiweddarach eleni. 

Mae chwe mis wedi mynd heibio ers i chi ddatgelu cynlluniau i roi coeden i bob aelwyd yng Nghymru. Yn y misoedd dilynol, prin fu'r manylion am hyn, ac rwyf wedi cael fy llethu gan ymholiadau gan fy etholwyr yn gofyn sut y gallant gael gafael ar eu coed i'w plannu. Felly, Ddirprwy Weinidog, sut a phryd y bwriadwch roi gwybod i aelwydydd sut y gallant gael gafael ar eu coed a sut y bwriadwch sicrhau'r defnydd mwyaf posibl o'r cynllun?

Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn braidd yn wirion, os nad oes ots gennych imi ddweud hynny, oherwydd roedd digon o wybodaeth pan lansiwyd y cynllun gennym yn gynharach eleni. Fe'i gwnaethom yn glir iawn y byddai cam cychwynnol. Roeddem yn awyddus iawn i wneud rhywbeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, nid aros tan y flwyddyn ariannol hon, felly cawsom lansiad ysgafn lle cafwyd chwe chanolfan ranbarthol wahanol yn agor i ddechrau'r broses, mewn partneriaeth â Coed Cadw. Ond fe'i gwnaethom yn glir o'r cychwyn cyntaf—a phe bai'r Aelod yn trafferthu chwilio ar Google, rwy'n siŵr y byddai'n dod o hyd i wybodaeth am hyn—y byddem yn cael lansiad llawnach yn ddiweddarach eleni ar gyfer tymor plannu mis Hydref. Rydym yn bwriadu cael tua 25 o wahanol hybiau rhanbarthol lle bydd pobl yn gallu dod draw i gasglu eu coeden am ddim.

Fe fydd, yn ôl ei ddiffiniad, yn fesur cymedrol ond pwysig o ran cyrraedd ein targed o tua 86 miliwn o goed. Mae rhoi coeden i bob aelwyd unigol yn arwydd symbolaidd pwysig i godi ymwybyddiaeth pobl o fanteision plannu coed, ond nid yw hynny'n mynd i gyrraedd ein targed. Mae gennym becyn cynhwysfawr o fesurau i gyrraedd y targed hwnnw, ac rwy'n falch iawn fod aelodau o'r archwiliad dwfn i goed yn oriel y Senedd heddiw a weithiodd yn agos iawn gyda mi, ac sy'n parhau i wneud hynny, ar weithredu pecyn cyfan o fesurau a nodwyd gennym i chwalu rhwystrau i gyrraedd ein targed. Rwy'n credu bod yr ymgyrch rhoi coed yn fenter bwysig iawn, a byddwn yn gweld mwy ohoni yn yr hydref. 

14:05

Ddirprwy Weinidog, i'ch cynorthwyo, rydych yn iawn: mae 5,000 o goed eisoes wedi'u rhoi fel rhan o'r cynllun—5,000 ym mis Mawrth; bydd 200,000 yn cael eu rhoi ym mis Tachwedd. Fodd bynnag, a gaf fi awgrymu y cynhelir adolygiad cyflym o delerau ac amodau'r rhaglen a weithredir gan Coed Cadw er mwyn sicrhau bod cymaint o goed â phosibl yn cael eu dosbarthu yr hydref hwn a thu hwnt. Oherwydd mae'n rhaid imi ddweud bod y telerau a'r amodau braidd yn gyfyngol ac yn atal, er enghraifft, trydydd partïon rhag casglu coed. Mae hynny'n golygu, os oes gennych gymuned lle y ceir cwmni rheoli, lle mae pawb wedi cytuno i greu hyb cymunedol, fel sy'n wir mewn un gymuned yma yn Ne Clwyd, y byddai'n rhaid i bob unigolyn yrru i un o'r hybiau rhanbarthol ar hyn o bryd. Felly, fel rhan o unrhyw fath o adolygiad a llacio, a gaf fi awgrymu ein bod yn defnyddio ystadau ysgolion i'w dosbarthu, a hefyd, efallai, peidio â chyfyngu aelwydydd i un goeden yn unig ychwaith.

Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Yn sicr, nid bwriad y cynllun yw cyfyngu ar bobl sydd am blannu coed. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'r telerau ac amodau yn gwneud hynny, a byddwn yn awyddus i glywed mwy gennych am eich enghraifft benodol i weld beth a allai fod wedi mynd o'i le yno. Mewn gwirionedd, gwnaethom gynnwys yn y cynllun y gallu i Coed Cadw ddosbarthu i bobl nad ydynt yn gallu cyrraedd hyb, ac rwy'n sicr am ddefnyddio ysgolion a grwpiau cymunedol eraill i grynhoi'r galw, os gallant ddefnyddio ysgolion fel canolfannau dosbarthu bach i drosglwyddo coed i deuluoedd. Rwy'n sicr am edrych ar hynny. 

Mae angen inni edrych ar logisteg hyn. Mae'n gynllun cymhleth iawn, ond mae gennym gyllideb gyfyngedig ar ei gyfer, felly rhaid inni fod yn bragmatig ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud. Ond rwy'n sicr am weld dull caniataol yn cael ei weithredu er mwyn inni allu cael cymaint o goed yn y ddaear â phosibl. A byddwn yn croesawu clywed mwy am y problemau a oedd gan eich etholwyr.

Rhwydwaith Trafnidiaeth Gynaliadwy

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy yng Ngogledd Cymru? OQ58037

Bydd ein rhaglen metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau trên, bysiau a theithio llesol ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi cyhoeddi comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns, cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys, sydd wedi gwneud gwaith mor dda i ni o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd. Ac mae hynny eisoes yn dechrau. Mae'n cyfarfod am y tro cyntaf heddiw, rwy'n credu, i ddatblygu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd wedyn yn datblygu llif o argymhellion ar gyfer ffrwd o ddatrysiadau trafnidiaeth aml-ddull ac integredig ar gyfer y gogledd.

Bydd mannau gwefru cerbydau trydan yn allweddol i rwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy yng ngogledd Cymru. Ym mis Chwefror, ysgrifennais atoch i gefnogi etholwr a ofynnodd am help i ddarganfod pam fod Trafnidiaeth Cymru yn cymryd cyhyd i osod y 21 man gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan a gyhoeddwyd fis Mehefin diwethaf. Yn eich ateb, fe ddywedoch chi fod y prosiect y cyfeiriwyd ato yn un cymhleth, y bu oedi cyn cael caniatâd cynllunio, lesoedd a ffyrddfreintiau a bod Trafnidiaeth Cymru wedi sicrhau eich swyddogion y bydd y safleoedd yn symud yn gyflym i'r cyfnod adeiladu ar ôl iddynt gael y caniatadau. Sut rydych chi'n ymateb felly i ddatganiad dilynol fy etholwr fod gwir angen i Trafnidiaeth Cymru symud hyn ymlaen gyda blaenoriaeth, gan y bydd ymwelwyr sy'n gyrru cerbydau trydan, a fydd ag incwm gwario, yr hoffai ein diwydiant twristiaeth lleol iddynt ei wario yma, yn dod i ogledd Cymru ac yn ei weld heb fod yn barod ar eu cyfer, a bod ystad Rhug wedi cyhoeddi ei bod yn gosod wyth gwefrydd ceir pŵer uchel yng Nghorwen—ychydig wythnosau i osod wyth gwefrydd pŵer uchel, pan na all Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ymdopi â mwy nag un gwefrydd pŵer canolig mewn 10 mis?

14:10

Rwy'n sicr yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelod fod y cynllun wedi taro rhai rhwystrau. Gadewch imi ddweud ychydig o bethau mewn ymateb i'r pwyntiau y mae'n eu codi. Yn gyntaf oll, credaf ei fod yn hyrwyddwr gwych dros y sector preifat a byddwn wedi meddwl, yn yr achos hwn, nad mater i'r Llywodraeth yw arwain y gwaith o gyflwyno e-wefru; nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol ac nid wyf yn credu ei bod yn rhesymol disgwyl i'r Llywodraeth fod yn brif ddarparwr cyfleusterau e-wefru—mae honno'n rôl i'r sector preifat yn bennaf. A rôl y sector cyhoeddus yw ysgogi ac ymdrin â'r meysydd hynny sy'n mynd i fod yn llai tebygol o gael eu gwasanaethu gan y sector preifat, yn gyntaf.

Mae gan Trafnidiaeth Cymru raglen waith ac mae hon yn gymhleth iawn, oherwydd yr ystod o resymau a nododd, ac fe fu oedi am ystod eang o resymau, yn enwedig oherwydd cadwyni cyflenwi yn ogystal ag oedi cyfreithiol, a chyfyngiadau'r grid hefyd, fel yr oeddem yn ei drafod yn y Senedd yn gynharach. Ac mae hon yn broblem arall lle nad yw'r grid sydd gennym yn addas i'r diben i ymdopi â'r argyfwng newid hinsawdd. Nawr, nid yw'r rhain yn bethau sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, mae yna glytwaith cymhleth o resymau pam y bu rhwystredigaethau.

Hoffwn ddweud bod y ffigurau a welais yn dangos bod gan Gymru, fesul y pen, gynifer o bwyntiau gwefru â rhannau eraill o'r DU. Rydym wedi nodi cynllun gweithredu e-wefru, sy'n dangos—[Anghlywadwy.]—cadw i fyny â hynny. Ond nid wyf yn gwadu nad yw'r cynnydd hyd yma ar brosiect Trafnidiaeth Cymru wedi bod cystal ag y byddwn wedi hoffi ei weld, ond mae nifer o resymau dros hynny fel y nodais.

Weinidog, rhaid i rwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy fod â buddiannau'r cyhoedd sy'n teithio yn ganolog iddynt. Rhaid iddynt gludo pobl i lle maent angen ac eisiau bod, ac mae hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i adeiladu rhwydweithiau sy'n gweithio i bobl—a'i phartneriaid fel ein cydweithwyr gwych mewn llywodraeth leol. Lywydd, os caf achub ar y cyfle hwn yn awr i longyfarch fy nghyfaill, Keith Jones, sydd newydd gael ei benodi i swydd uchel ei pharch yr aelod cabinet dros drafnidiaeth yng Nghaerdydd, swydd bwysig iawn i bob awdurdod lleol.

Weinidog, os edrychwn ar fy etholaeth i, mae'n rhaid i lwybrau trafnidiaeth fod yn drawsffiniol, ac mae hynny'n golygu gweithio gyda phartneriaid ar draws y ffin, fel y maer metro, Steve Rotheram. Weinidog, a gaf fi eich ymrwymo heddiw i ymrwymo eich swyddogion i weithio gyda swyddogion y maer metro, Steve Rotheram, i sicrhau bod trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn cyrraedd eu swyddi a'r mannau hamdden sydd agosaf at eu cartrefi ar rwydweithiau trafnidiaeth cynaliadwy?

Wel, gallaf sicrhau Jack Sargeant mai un o ganlyniadau gweithio gyda Ken Skates am ddwy flynedd a hanner yw fy mod yn deall yn iawn yr angen i weithio'n drawsffiniol ac i weithio'n agos gyda'r maer metro. Gallaf eich sicrhau mai dyna a wnawn. Sefydlwyd cysylltiadau da pan oedd Ken yn gyfrifol am y portffolio trafnidiaeth ac maent wedi'u cadw, rwy'n falch o ddweud. Mewn gwirionedd, mae comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru a sefydlwyd gennym o dan yr Arglwydd Burns yn cynnwys aelod o gyngor swydd Nottingham, yn ogystal ag Ashley Rogers, cadeirydd Growth Track 360, i ddangos ein bod yn llwyr ddeall natur dwyrain-gorllewin y cysylltiadau trafnidiaeth, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, ac rydym yn parhau i sicrhau bod hynny'n ganolog i'r cynllunio y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud.

Mae Jack Sargeant yn llygad ei le, mae arnom angen ystod o rwydweithiau ac mae angen iddynt wneud—. Y peth iawn i'w wneud a'r peth hawsaf i'w wneud—. Ar hyn o bryd, rydym wedi etifeddu system drafnidiaeth 70 oed lle rydym wedi'i gwneud yn hawdd i yrru ac yn anos defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac oni bai ein bod yn troi hynny ar ei ben ac yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd hawdd, amlwg, ddi-boen, gosteffeithiol o wneud ein teithiau dyddiol, ni fyddwn byth yn cyrraedd ein targedau hinsawdd. Ac rwy'n gobeithio y bydd comisiwn Burns yn gwneud gwaith ymarferol i sefydlu llif o gynlluniau a chreu cysylltiadau yn y gogledd ac y gellir cyflawni'r rheini'n gyflym wedyn.

Ansawdd Aer

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd aer yng Ngorllewin Clwyd? OQ58045

Mae mynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth sy'n llygru wedi bod yn ffocws i'n rhaglen waith aer glân. Ac fel y soniais, mae comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru a'r panel adolygu ffyrdd ill dau'n gwneud gwaith a fydd yn ein helpu gyda'r targed hwn mewn golwg.

Mae aer glân yn ymwneud â mwy na'r llygredd sydd gennym o draffig ffyrdd, Ddirprwy Weinidog, mae hefyd yn cynnwys llygredd o leoedd eraill, megis gweithfeydd diwydiannol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ystad Glasdir yn Rhuthun wedi'i phlagio ag ansawdd aer gwael o ganlyniad i weithgarwch gweithfeydd gwres a phŵer cyfunedig cyfagos Newbridge Energy Limited. Ac yn anffodus, yn ddiweddar iawn, yn y dyddiau diwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwydded i weithredu ail waith gwres a phŵer cyfunedig yn yr un lleoliad, gan ddyblu, i bob pwrpas, yr allyriadau sy'n codi i'r atmosffer yn lleol. Mae'r trigolion ar yr ystad honno eisiau gwybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd er mwyn sicrhau, naill ai y gellir dadwneud y penderfyniad hwnnw, neu fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro gweithrediad effeithiol ac effeithlon y gweithfeydd hynny'n briodol i sicrhau nad oes raid iddynt wynebu problemau parhaus y teimlant y byddant yn effeithio ar eu hiechyd. Gan fod hwn yn fater iechyd cyhoeddus hefyd, hoffwn wybod pa ymgysylltiad sydd gan Lywodraeth Cymru rhwng yr adrannau, a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau gyda'r mathau hyn o gynlluniau, fod yr effaith gronnol yn cael ei hystyried, ac nad yw'r mathau hyn o gynlluniau'n mynd rhagddynt lle y ceir pryderon eisoes ynglŷn â llygredd.

14:15

Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n ymwybodol o'r pryderon y mae wedi'u codi o'r blaen ar ran trigolion ynglŷn â'r cyfleuster ar ystad Glasdir yn Rhuthun. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru ymchwiliad ochr yn ochr â Chyngor Sir Ddinbych fis Medi diwethaf, a nododd nifer o fân broblemau a arweiniodd wedyn at gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr, ac ymdriniwyd â'r materion hynny a chydymffurfiwyd â'r hysbysiad. Ac ers hynny, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion am y safle ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn monitro'r ardal yn fanwl er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn parhau'n dda. Fe soniodd Darren Millar fod trwydded wedi'i rhoi, a dyna yw pwynt y rheoleiddiwr, i roi trwyddedau, ond hefyd i fonitro'r trwyddedau i sicrhau y cydymffurfir â hwy. Nawr, rwy'n credu ein bod wedi gweld enghraifft o lle mae hynny wedi'i wneud, ac rwy'n siŵr y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i wneud hynny, ac os oes pryderon gan drigolion lleol, byddwn yn eu hannog i'w codi gyda'r awdurdod lleol a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Adeiladu Tai Newydd

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog adeiladu tai newydd yn etholaeth Mynwy? OQ58063

Diolch am y cwestiwn, Peter Fox. Mae tai, yn enwedig tai cymdeithasol, yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu'n gymdeithasol, ac fe'u hategir gan y lefelau buddsoddi uchaf erioed. Rydym hefyd yn darparu ystod o gymorth i adeiladwyr tai, gan gynnwys cynlluniau sy'n benodol ar gyfer mentrau bach a chanolig ledled Cymru. 

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n siŵr fod pawb ar draws y Siambr yma'n gwybod pa mor bwysig yw cael stoc o dai o ansawdd da. Hebddynt, bydd y stoc dai'n dod o dan fwy byth o bwysau, gan brisio pobl allan o allu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ac rydym wedi gweld hynny, yn anffodus, ym mhob man. Fodd bynnag, mae nifer o ddatblygiadau newydd yn fy etholaeth wedi profi oedi o ganlyniad i'r rheolau presennol ynghylch lefelau ffosffad, gyda datblygiadau'n agos at ddalgylchoedd afonydd yn gorfod dangos sut na fydd y cynllun yn cyfrannu at lefelau ffosffad uwch. Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr na ddylai datblygiadau newydd gael effaith andwyol ar yr amgylchedd, ond mae'n ymddangos bod y rheolau presennol wedi achosi tagfa wirioneddol yn y gwaith o adeiladu cartrefi newydd y mae eu hangen yn fawr. Ac yn wir, ceir pryderon y bydd y rheolau hyn yn effeithio ar ddatblygiad posibl canolfan trin canser yn Nevill Hall yn y Fenni. Sylwaf y byddwch yn cael uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru, a fydd yn ystyried nid yn unig ffosffadau ond llifogydd hefyd, ond Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydbwyso ystyriaethau amgylcheddol â'r angen i adeiladu cartrefi newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng tai? Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio a datblygwyr i ddeall y rheolau presennol yn well, yn ogystal â datgloi safleoedd lle mae gwaith wedi oedi? A gwyddom hefyd nad ffermio yw'r unig chwaraewr yn y sefyllfa hon—

Iawn. Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda Dŵr Cymru i uwchraddio systemau trin carthion yn sir Fynwy i sicrhau bod mwy o systemau'n gallu trin ffosffadau yn y ffynhonnell a sicrhau y gall datblygiadau newydd gysylltu â'r rhain? Diolch.

Ie, diolch, Peter Fox, am y gyfres honno o gwestiynau, ac yn sicr, rydym yn deall yn llwyr fod mater ffosffad yn fater difrifol iawn ledled Cymru. Mae'n effeithio ar y gwaith o ddarparu ein 20,000 o gartrefi cymdeithasol, mae'n effeithio ar y gwaith o ddarparu nifer o dai i'r farchnad agored a ddylai fod wedi mynd rhagddynt at ddibenion cynlluniau datblygu lleol ac yn y blaen. Mae hefyd yn effeithio ar nifer o ddatblygiadau eraill ledled Cymru. Ac yn sicr, ceir nifer o gymhlethdodau. Mae gan bob dalgylch afon set wahanol o chwaraewyr, a allai fod yn cyfrannu at y lefelau ffosffad yno neu beidio. Ffosffad yw'r prif fater, ond mae gennym nitradau ac amoniwm hefyd, pob math o bethau eraill sydd gennym yn mynd i mewn i'n hafonydd am wahanol resymau ledled Cymru. Mae gennym nifer o grwpiau sy'n edrych ar afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn benodol, felly, mae gan afon Gwy un drawsffiniol, er enghraifft, y gwn fod Peter yn ymwybodol ohono.

Ond y rheswm dros yr uwchgynhadledd yn y Sioe Frenhinol, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, yw dod â'r chwaraewyr at ei gilydd, oherwydd nid oes amheuaeth o gwbl fod yn rhaid i bawb gyfaddawdu yma, oherwydd ni allwn gael sefyllfa lle na allwn gael dim byd yn digwydd, ond ni allwn ychwaith gael sefyllfa lle mae ein hafonydd yn amlwg yn marw. Pa ddefnydd yw hynny i unrhyw un? Rydym yn caniatáu i'r tai gael eu hadeiladu, ac yna mae'r afon yn garthffos agored—mae'n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol ychwaith. Felly, mae hyn oll yn ymwneud â chyrraedd y cyfaddawd gorau posibl i'r amgylchedd, yr afonydd a'u dalgylchoedd a'r ffordd y maent yn llifo i'r môr ac yn effeithio ar ein fforestau lludwymon a glaswellt y môr ac ati, sy'n hanfodol ar gyfer gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur, ond hefyd y broblem wirioneddol sydd gennym gyda phrinder tai, yn enwedig yn y sector cymdeithasol ac yn y blaen.

Mae nifer fawr o ddarnau o waith yn mynd rhagddynt ar hyn yn gyffredinol, mae'n broblem anodd a chymhleth iawn, iawn, a'r rheswm dros yr uwchgynhadledd yw dod â'r chwaraewyr at ei gilydd mewn ysbryd o, 'Sut y gallwn ni, gyda'n gilydd, gyrraedd y cyfaddawd gorau posibl i fwrw ymlaen â hyn yng Nghymru?' Oherwydd, rhag bod unrhyw gamsyniad, ni fydd neb sy'n dod i'r uwchgynhadledd honno yn gadael gyda'u hagenda wedi'i bodloni 100 y cant ac agenda pawb arall wedi'i rhoi o'r neilltu. Mae'n ymwneud â chyfaddawdu a chyrraedd yr ateb gorau posibl i bawb er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'n gilydd fel set o gymunedau.

14:20
Prosiectau Ynni'r Llanw

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol ar gyfer prosiectau ynni'r llanw yng Nghymru? OQ58061

Ie, diolch, Janet. Fel y dywedais yn fy ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ar 18 Mawrth 2022, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen ynni'r môr. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwy'n ystyried pa gyllid y bydd ei angen mewn blynyddoedd i ddod i gefnogi prosiectau ynni'r môr.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi £20 miliwn y flwyddyn mewn ynni ffrwd lanw—trydan—ac mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth y Senedd hon fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu her môr-lynnoedd llanw. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod opsiynau amrediad llanw wedi'u gadael o dan ddŵr. Mae TPGen24 wedi'i gynllunio i weithredu ar y cyd ag ymchwydd a chwymp y llanw, a thrwy reolyddion clyfar, yn annibynnol arno hefyd. Gyda chynhyrchiant ynni 24 awr, a system tri morlyn hyfryd o syml â thyrbinau 15 x 7.5km wedi'u lleoli o leiaf 1 km oddi ar yr arfordir, gorsaf bŵer adnewyddadwy fach ei heffaith, hwylus, a chynhyrchiol yw TPGen24 a all gynhyrchu ynni gwyrdd yn barhaus am ganrifoedd i ddod. Yn amlwg, mae gan TPGen24 botensial eithriadol, felly a wnewch chi egluro pa gamau y byddwch yn eu cymryd i helpu i weld prosiectau amrediad llanw fel y rhain yn dod yn realiti yma yng Nghymru? Fel rydym wedi dweud o'r blaen, mae angen coctel o fesurau, ac mae'r cynllun hwn yn gweddu'n dda i'r coctel hwnnw. Diolch.

Wel, nid wyf yn un i wrthod unrhyw gynnig o goctel, Janet; gadewch imi ddechrau gyda hynny. [Chwerthin.] Yn amlwg, mae arnom angen ystod eang o fesurau i sicrhau nid yn unig ein bod yn datblygu ystod o fathau o ynni llanw: amrediad llanw, ffrwd lanw, môr-lynnoedd llanw, pob math—. Rydym yn falch iawn o weld Llywodraeth y DU yn camu i'r maes hwn, ond mae angen inni weld y gweithredu i ddilyn hynny hefyd. Rhoddais dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig y bore yma ar hyn; rydym yn falch iawn fod Llywodraeth y DU yn gwneud y synau cywir ac yn dod tuag atom, ond mae Lee Waters newydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn iddo eto i nodi cynlluniau Llywodraeth y DU o ran cefnogi cyllid ar gyfer datblygu cynhyrchiant amrediad llanw yn y DU, a'r grid i'w gefnogi a dweud y gwir, y rhyng-gysylltedd i'w gefnogi ac ystod o fesurau eraill sy'n golygu nad yw'r prosiectau arddangos bach hynny'n ysgwyddo baich y cysylltiad â'r grid y maent angen iddo dynnu eu hynni oddi arnynt ac y gallwn fynd ati'n briodol i wasgaru llwyth rhai o'r pethau risg uchel y gofynnir i'r prosiectau hynny edrych arnynt.

Ond gallaf eich sicrhau—gwn ei bod eisoes yn ymwybodol o brosiect Morlais yr ydym eisoes wedi rhoi'r grant iddo—rydym yn awyddus iawn i archwilio hyn, yn enwedig y prosiectau arloesol y mae Janet newydd eu hamlinellu'n frwdfrydig, oherwydd, yn amlwg, un o'r materion mawr inni yw tynnu sylw'r farchnad weithgynhyrchu fyd-eang yn ogystal â'r farchnad ynni fyd-eang sy'n mynd gyda hynny a'r swyddi sy'n dilyn hynny. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Janet—nid wyf yn dweud hynny'n aml iawn—ac rydym yn gobeithio'n fawr y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithio gyda ni i sicrhau bod hynny i gyd ar waith wrth symud ymlaen.

14:25
2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf prynhawn yma gan Sioned Williams. 

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? OQ58054

Braint oedd mynychu dathliad dengmlwyddiant y coleg yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o ddarparu cyllid ychwanegol i'r coleg i gynyddu'r ddarpariaeth o ran prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg. Gwneir hyn ar y cyd gyda Cefin Campbell, Aelod dynodedig Plaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru.

Diolch, Weinidog. Yn ei araith yma yn y Senedd yn nodi dengmlwyddiant y coleg, cyfeiriodd y prif weithredwr, Dr Ioan Matthews, at y nifer helaeth o siaradwyr Cymraeg yn astudio mewn prifysgolion ar draws Cymru sydd dal ddim yn gwneud y dewis hwnnw i astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg bod yna her o hyd o ran annog myfyrwyr i astudio eu pynciau drwy'r Gymraeg, ac yn ôl y coleg mae hynny'n enwedig o wir pan ddaw at bynciau gwyddonol. Mae'n debyg mai un o'r prif resymau yw nad yw'r gwyddorau'n cael eu cynnig yn y Gymraeg ym mhob ysgol cyfrwng Cymraeg. Yn ôl darlithwyr, unwaith mae dysgwr wedi newid iaith astudio pwnc i'r Saesneg, mae'n anodd eu darbwyllo i astudio'r pwnc drwy'r Gymraeg yn y brifysgol, sydd, wrth gwrs, yn creu cylch dieflig o ran athrawon sy'n cymhwyso yn y gwyddorau sy'n medru dysgu yn y Gymraeg. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen ymyrraeth i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Safon Uwch os am gynyddu'r nifer o fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i astudio'r gwyddorau drwy'r Gymraeg yn y prifysgolion, ac felly sy'n mynd i hyfforddi fel athrawon uwchradd ym maes y gwyddorau? Ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gynnal arolwg i ganfod beth yw'r sefyllfa o fewn ein hysgolion Cymraeg o ran darpariaeth yn y gwyddorau? Diolch. 

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Wel, rŷn ni'n gwybod beth yw'r sefyllfa. Mae angen recriwtio mwy o athrawon sy'n gallu dysgu pynciau gwyddoniaeth, er enghraifft, drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae gyda ni gynlluniau i wneud hynny drwy'r ysgogiadau ariannol i ysgogi pobl a dwyn pobl i mewn i'r proffesiwn i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'r cwestiwn o ddilyniant y mae'r Aelod yn sôn amdano'n hollbwysig, dwi'n credu, ac mae, wrth gwrs, cyllideb bellach sy'n mynd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn mynd i allu cefnogi eu gwaith nhw i sicrhau bod hynny'n digwydd hefyd. Erbyn hyn, mae rhyw 34 o 35 maes pwnc yn ein prifysgolion ni ar gael drwy'r Gymraeg ac mae'r coleg yn gwneud gwaith arloesol iawn, er enghraifft ym maes milfeddygaeth, parafeddygaeth a meysydd eraill gyda sail wyddonol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y ddegawd nesaf o'u gwaith nhw ac yn barod i wneud cymaint ag y gallwn ni i gefnogi eu gwaith nhw. 

Weinidog, un o'r meysydd gwaith allweddol y mae angen mynd i'r afael ag ef yn ein strategaethau iaith Gymraeg yw darparu hyfforddiant meddygol cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gwneud gwaith amhrisiadwy yma yn ne Cymru yn cefnogi myfyrwyr doethurol ac yn darparu grantiau pwnc i Gaerdydd ac Abertawe. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r coleg ynglŷn â'r rôl y maent yn ei chwarae yn darparu hyfforddiant meddygol cyfrwng Cymraeg yn ysgol feddygol gogledd Cymru i'w wneud yn wasanaeth gwirioneddol genedlaethol? Diolch.

Wel, edrychwn ymlaen at gefnogi'r coleg Cymraeg i ehangu ei gyrhaeddiad drwy bob rhan o'r system addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys y rhai y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt yn ei gwestiwn. Bydd yr adnoddau sydd ar gael i'r coleg Cymraeg yn cael eu hymestyn yn sylweddol o ganlyniad i'r gwaith a wnawn ar y cyd â Phlaid Cymru o dan y cytundeb cydweithio, ac mae peth o'r gwaith mwyaf arloesol y mae'r coleg wedi bod yn ei wneud yn fwyaf amlwg mewn llawer o'r meysydd sydd â sylfaen feddygol, os mynnwch. Fe soniais am rai ohonynt yn fy ateb i Sioned Williams eiliad yn ôl.

Plant a Phobl Ifanc Dyslecsic

2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau’r Llywodraeth i gefnogi plant a phobl ifanc dyslecsic yn etholaeth Arfon? OQ58053

Rydyn ni wrthi'n datblygu sgiliau'r gweithlu addysg ac wedi darparu adnoddau a chanllawiau dwyieithog ychwanegol er mwyn helpu ymarferwyr i gyflawni anghenion addysgol dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol yn well, gan gynnwys dyslecsia yn hynny. Rydyn ni hefyd yn ceisio sefydlu'r hawl i brawf sgrinio dyslecsia newydd i bob oed yng Nghymru.

Mae un o fy etholwyr i yn Arfon wedi cynnal astudiaeth ymchwil annibynnol ar ôl canfod diffygion yn y ddarpariaeth dyslecsia cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei merch. Mae wedi cael ei siomi gan y diffyg adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac, ar hyn o bryd, er gobeithio i'r dyfodol y bydd yna brawf dyslecsia ar gael yn y Gymraeg, does yna ddim prawf dyslecsia ar gael i rywun ei gymryd yn ei mamiaith. Does yna ddim hyd yn oed gwefan cyfrwng Cymraeg a fyddai'n gallu bod yn adnodd gwybodaeth gwerthfawr tu hwnt. Dwi yn deall bod yna arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus iawn i greu adnoddau cyfrwng Cymraeg. Felly, pa gymorth fedrwch chi a'ch Llywodraeth ei gynnig iddyn nhw, ac a wnewch chi roi diweddariad i ni ynglŷn â'r datblygiadau i greu gwefan ddwyieithog i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion niwroamrywiol?

14:30

Wel, diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'n sicr bod angen gwneud mwy i sicrhau argaeledd adnoddau yn y Gymraeg ar gyfer dyslecsia yn gyffredinol. Fel rhan o’r cynllun i sicrhau bod y Ddeddf newydd yn cael ei gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol, rŷn ni'n gweithio gyda grŵp llywio a byddwn yn recriwtio pobl ag arbenigedd arbennig o ran gweithredu’r system ALN drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys mapio’r hyn y bydd angen inni ei ddarparu. Rŷn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol yng nghyd-destun y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg i sicrhau ein bod yn deall beth yw eu dadansoddiad nhw o'r angen ar gyfer adnoddau pellach hefyd.

Ond fel gwnes i ddweud yn fras yn fy ateb i'r cwestiwn ar y cychwyn, rŷn ni wrthi'n ceisio cael yr hawl i’r teclyn sy'n sgrinio ar gyfer dyslecsia trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gyda ni eisoes drwy gyfrwng y Saesneg, ond wrth gwrs, mae angen cael hwnna yn Gymraeg hefyd ac mae’r trafodaethau hynny’n digwydd ar hyn o bryd.

Cododd yr Aelod dros Arfon bwynt pwysig iawn, oherwydd gwyddom fod tua 10 y cant o'n poblogaeth yma yng Nghymru yn ddyslecsig. Ac rwy'n gwybod fy hun os nad yw'n cael ei drin neu os na roddir cymorth priodol tuag ato pan fydd rhywun yn ifanc, gall achosi anawsterau i bobl yn ddiweddarach mewn bywyd. Yn ogystal â hyn, mae arwyddion a symptomau dyslecsia yn amrywio o berson i berson, felly mae'n bwysig iawn fod unrhyw gynlluniau a chymorth yn cael eu darparu ar sail unigol efallai yn ogystal â'r cymorth ehangach y gellir ei gynnig.

Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o rôl y cwricwlwm newydd, pa rôl y gall hwnnw ei chwarae i sicrhau bod y rheini sydd â dyslecsia yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y gallai fod eu hangen arnynt cyn gynted â phosibl er mwyn eu helpu i ffynnu?

Wel, rwy'n credu mai effaith gyfunol diwygiadau'r cwricwlwm a'r diwygiadau ADY yw—. Bydd y ffocws ar lythrennedd yn sbarduno gwelliant yn y maes hwn, a bydd yr hyfforddiant sydd ar gael drwy'r rhaglen dysgu proffesiynol yr ydym wedi bod yn buddsoddi ynddi yn paratoi ein gweithlu addysgu yn benodol i ganfod dyslecsia a chefnogi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol. Wrth gwrs, ceir amrywiaeth o anghenion yn gysylltiedig â dyslecsia ac anghenion cymharol ysgafn fydd gan rai, a bydd angen ymyrraeth fwy sylweddol ar eraill. Ond ethos y cwricwlwm newydd, yn ogystal ag ethos y diwygiadau ADY, yw sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu cyn belled ag y bo modd mewn lleoliad prif ffrwd ym mywyd yr ysgol ac yn yr ystafell ddosbarth. Ac felly, credaf mai effaith gyfunol y ddau ddiwygiad fydd ffocws o'r newydd ar y maes hwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, ymhen pedair blynedd yn unig, ni fydd cymwysterau BTEC ar gael i'n dysgwyr yng Nghymru. Mae llawer o weithwyr proffesiynol mewn colegau yr ymwelais â hwy ledled Cymru yn pryderu fwyfwy nad oes unrhyw beth wedi'i gyhoeddi i gymryd eu lle. Gyda chyfnod mor fyr i fynd, ni chafwyd unrhyw gyfarwyddyd polisi clir gan y Llywodraeth hon yng Nghymru ac yn anffodus, ymateb Cymwysterau Cymru oedd 'Peidiwch â chynhyrfu.' Weinidog, mae angen i'n haddysgwyr wybod beth yw'r cynllun a byddent yn falch iawn pe gallech ein goleuo heddiw beth yw'r cynllun hwnnw.

Wel, mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig. Mae'n iawn i ddweud bod Llywodraeth y DU yn graddol ddiddymu nifer o gymwysterau yn Lloegr, a fydd yn effeithio ar ddysgwyr yng Nghymru oherwydd eu bod yn cael eu hastudio yma yng Nghymru hefyd. Mae hwnnw'n benderfyniad sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU heb ystyried buddiannau dysgwyr yng Nghymru. Yr hyn y mae Cymwysterau Cymru wedi gallu ei wneud yw sicrhau bod rhai o'r cymwysterau allweddol hynny'n cael eu hymestyn fel bod gennym ddiogelwch ychwanegol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, na fydd y rhai dros y ffin yn ei gael, fel y mae'n digwydd.

Bydd hefyd yn gwybod mai rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw cynnal adolygiad o gymwysterau galwedigaethol a gweld i ba raddau y gallwn ymestyn y syniad o gymwysterau a wnaed yng Nghymru. Rydym wedi gwneud rhai o'r rheini. Mae lle i wneud mwy o'r rheini i sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad i benderfyniadau yn San Steffan.

Weinidog, nid yw hynny'n ddigon da. Mae arnom angen cymhwyster galwedigaethol o ansawdd uchel ac o'r radd flaenaf, sy'n addas ar gyfer y cenedlaethau nesaf, ond mae angen amser ar ein haddysgwyr i'w baratoi a sicrhau nad yw ein myfyrwyr a'n dysgwyr yn cael cam yn sgil y diffyg paratoi ar gyfer ei gyflwyno. Mae'n gwbl glir y bydd eich balchder a'ch barn ideolegol eich hun yn golygu nad ydym yn dilyn Lloegr gyda'r lefelau T, ond nid ydym yn cael gwybod beth yw'r opsiynau eraill. Weinidog, a gânt eu gwneud yng Nghymru gan ein rheoleiddiwr ein hunain, fel yn yr Alban, ynteu a gaiff ei wneud drwy bartneriaeth â sefydliadau addysg uwch?

14:35

Wel, mae'n ddrwg gennyf roi'r un ateb i'r Aelod ag a roddais yn gynharach, ond nid wyf yn siŵr ei bod wedi dilyn yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud yn llwyr. Mae adolygiad o gymwysterau galwedigaethol ar y gweill a fydd yn archwilio i ba raddau y gellir ymestyn cymwysterau a wneir yng Nghymru y tu hwnt i'r lefel bresennol o ddarpariaeth. Ac yn y cyfamser, ceir estyniad i'r cymwysterau mwyaf poblogaidd, er mwyn rhoi amser ychwanegol i hynny ddigwydd.

Un o'r heriau a wynebwyd gennym drwy gydol y broses hon yw bod Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen heb ystyried anghenion rhannau eraill o'r DU. Felly, y ffordd orau o wneud hyn, er budd dysgwyr ym mhob rhan o'r DU, yw ei wneud mewn ffordd gydweithredol. Nid dyna fu'r profiad yn gyffredinol. Ac felly, y sefyllfa yr ydym ynddi yw ein bod yn datblygu dewisiadau amgen i ddiogelu buddiannau dysgwyr Cymru, a thrafod estyniadau i'r cymwysterau presennol hynny, a dyna mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn ei wneud. Rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd. Trafodais y cwestiwn hwn gyda nifer o benaethiaid addysg bellach yn ddiweddar. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod deialog barhaus rhwng Cymwysterau Cymru a'r colegau, fel y ceir eglurder a dealltwriaeth o'r hyn sydd o'n blaenau er budd y dysgwyr, sy'n hollbwysig yn yr holl drafodaethau hyn.

Weinidog, unwaith eto, mae'n ymddangos bod diffyg arweiniad amlwg ar eich rhan ar fater mor bwysig mewn addysg i'n plant a'n dysgwyr yng Nghymru. Rydych yn methu egluro eich safbwynt ar rywbeth yr ydych wedi gwybod amdano ers amser maith. Gellid bod wedi cynnal yr adolygiad hwn amser maith yn ôl. Mae angen amser ar bobl i baratoi, mae angen amser ar ein colegau i baratoi'r rhain a gwybod i ba gyfeiriad y byddwch yn mynd. Rydych wedi gadael ein colegau heb y cyfarwyddyd hwn, ac o ganlyniad, mae pedwar coleg addysg bellach yn datblygu partneriaeth i ddyfarnu cymhwyster gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ai dyma'r model y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer Cymru gyfan?

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn drysu rhwng dau beth gwahanol. Mae'r adolygiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â Phlaid Cymru, yn ymwneud â'r cymwysterau a wnaed yng Nghymru. Ceir adolygiad y mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi'i gyflawni ac fel y gŵyr, mae'n siŵr, mae wedi gwneud dadansoddiad risg o effaith cael gwared ar gymwysterau DU gyfan ar ddysgwyr Cymru. Gwyddom am y gwaith y maent eisoes wedi bod yn ei wneud ar gymwysterau a wnaed yng Nghymru mewn rhai meysydd allweddol—ac rwy'n siŵr ei bod yn gwybod amdano—a hefyd yn comisiynu cymwysterau ychwanegol ar gyfer y bylchau a ddaeth i'r amlwg. Felly, mae'r gwaith eisoes ar y gweill. Fel y gŵyr hi, mae'r dynodiad, y cyfrifoldeb, dros reoli hyn, fel y mae ym mhob rhan o'r DU, y tu allan i ddwylo uniongyrchol y Llywodraeth, a chyda'r rheoleiddiwr cymwysterau, sef yr hyn y byddem i gyd yn dymuno'i weld. A'r gwaith y soniais wrthych amdano yw gwaith y maent yn ei wneud gyda cholegau addysg bellach. Ond mae'n dra phwysig sicrhau bod y ddeialog honno'n parhau, fel bod dysgwyr yn gwybod beth yw'r opsiynau wrth i'r cymwysterau hynny—y dibynnwyd ar lawer ohonynt ers amser maith—gael eu diddymu gan Lywodraeth y DU.

Diolch, Llywydd. Weinidog, ar 11 Mai, fe wnes i a Jayne Bryant gyfarfod ag aelodau NEU Cymru ar gyfer sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag effaith pwysau gwaith ar iechyd meddwl a lles staff mewn ysgolion. Canfu arolwg diweddar o’u haelodau fod 95 y cant o addysgwyr yn gweithio mwy na’r oriau yn eu cytundeb, a bod 44 y cant o addysgwyr yn ystyried o ddifrif gadael y sector addysg. Canfu’r arolwg hefyd fod 79 y cant o'r ymatebwyr yn ansicr bod ganddynt gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a dywedodd 62 y cant nad yw eu cyflogwr yn gwneud unrhyw beth i leihau eu llwyth gwaith.

Er bod peth cefnogaeth wedi dod gan y Llywodraeth o ran cefnogi iechyd a lles staff, y neges glir a gefais ganddynt oedd nad oedd hyn yn ddigonol, ac mai'r peth pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw lleihau llwyth gwaith. Oes unrhyw gynlluniau ar waith i gefnogi’n bellach iechyd meddwl athrawon a staff mewn ysgolion drwy leihau llwyth gwaith, a sicrhau nad ydym yn colli mwy o athrawon?

'Oes' yw'r ateb. Mae dau beth ar waith. Rŷn ni wedi treblu'r gyllideb sydd ar gael i ddarparu cefnogaeth i athrawon sydd o dan bwysau penodol. Mae rhan o hynny'n adnoddau ar-lein, mae peth ohono fe'n gyngor un wrth un, ac mae peth ohono fe'n hyfforddiant i arweinwyr a phenaethiaid er mwyn adnabod beth mwy gellid ei wneud o ran cefnogaeth o fewn yr ysgol. Mae'r gyllideb ehangach yn mynd i alluogi'r gwasanaeth hwnnw i gyrraedd mwy o bobl. Y profiad fuaswn i'n dweud ar y cyfan yw, os ydych chi wedi bod mewn ysgol lle rydych chi wedi cael profiad o'r gwasanaeth hwnnw, mae'n beth positif, ond dyw e ddim wedi bod ar gael i ddigon o bobl. Felly, dyna'r bwriad wrth gynyddu'r gyllideb: sicrhau ei fod ar gael i fwy o athrawon.

Ond y cwestiwn sylfaenol yw: beth mae hynny'n golygu o ran pwysau gwaith? Mae gennym ni fforwm ar waith gyda'r undebau llafur, gyda'r awdurdodau addysg lleol, yn edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud er mwyn sicrhau ein bod ni'n taro'r cydbwysedd iawn rhwng gofynion a hefyd y pwysau. Felly, mae'r broses yna'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r undebau i gyd yn rhan ohono fe, a rwy'n gobeithio y bydd yn dwyn ffrwyth cyn hir.

14:40

Diolch, Weinidog. Mae'n amlwg i'w groesawu eich bod chi'n ymwybodol ac yn trio ymateb i'r galw. Dwi'n meddwl mai un o'r heriau oedd yn cael ei adlewyrchu i ni ydy'r amser i fod yn edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles, oherwydd y pwysau gwaith hwnnw. Felly, mae yn heriol ofnadwy.

Un o'r pethau roedden nhw'n pwysleisio i ni hefyd oedd y ffaith eu bod nhw'n dal i ymdopi efo COVID a'r heriau hynny, y gefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion sydd ei hangen, tra hefyd wrth gwrs yn paratoi ar gyfer y datblygiadau sydd eu hangen, wrth gwrs, efo anghenion dysgu ychwanegol a hefyd y cwricwlwm newydd. Yn sicr, un o'r negeseuon clir o ran y cwricwlwm newydd, er eu bod nhw'n gyffrous iawn amdano fo, oedd bod yr heriau o ran paratoi ar gyfer mis Medi yn ofnadwy o heriol ac yn rhoi y pwysau cynyddol hwnnw. Felly, gyda Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno hyn ym mis Medi, pa gynlluniau sydd ar waith yn benodol fel ein bod ni'n cefnogi'r athrawon hynny sydd efallai'n ystyried gadael y proffesiwn oherwydd y llwyth gwaith rŵan, ac i sicrhau hefyd y gwaith pontio angenrheidiol hwnnw rhwng y cwricwlwm presennol a’r un newydd?

Rwy'n derbyn y pwynt mai un o'r heriau yw cael yr amser i sicrhau eich bod chi'n gofalu am eich hunan. Mae hynny wedi bod yn heriol iawn. Rydych chi'n iawn hefyd i ddweud bod y profiad o'r ddwy flynedd ddiwethaf ddim ar ben, ac mae ymarferwyr addysg, athrawon a chynorthwywyr hefyd o dan bwysau ar hyn o bryd. Mae hynny'n sicr yn wir. O ran y gefnogaeth bellach, fe fyddwch chi wedi gweld y datganiad bod rhyw hanner o'r ysgolion uwchradd wedi penderfynu dechrau'r cwricwlwm ym mis Medi eleni yn hytrach nag aros tan flwyddyn nesaf, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Mae'n gallu ni i gynyddu lefelau staffio yn sgil COVID—hynny yw, rhyw 1,800 o staff ychwanegol i mewn i'r system—rwy'n credu, yn darparu rhywfaint ychwanegol o gymorth. Ond, wrth gwrs, mae'r anghenion yn uwch hefyd yn sgil y pwysau sydd wedi bod ar fyfyrwyr a disgyblion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Efallai bydd yr Aelod wedi gweld nôl ym mis Chwefror fe wnes i ddatgan cynllun o gefnogaeth i athrawon dros y misoedd nesaf, o ddechrau'r flwyddyn, i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n barod ar gyfer mis Medi. Bydd athrawon mewn mannau gwahanol ar y llwybr o deimlo eu bod nhw'n barod, ac rwy'n sicr y bydd llawer yn meddwl eu bod nhw wedi colli'r amser ychwanegol hwnnw i ddarparu ar gyfer mis Medi. Ond, mae lot o waith wedi bod yn digwydd ers cyfnod hir i sicrhau bod yr adnoddau yno a'r hyfforddiant yno. A dyw e ddim yn rhy hwyr; mae lot o gefnogaeth ar gael i sicrhau bod pob un athro yn teimlo'n hyderus i ddysgu'r cwricwlwm newydd ym mis Medi.

Y Bwlch Sgiliau

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch sut y gallai'r system addysg fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau? OQ58041

Rydym yn trafod y mater hwn yn rheolaidd. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi trafod amrywiaeth o feysydd sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â bylchau sgiliau, gan gynnwys profiadau gyrfaoedd a chysylltiedig â gwaith, y warant i bobl ifanc, a'r prosiect adnewyddu a diwygio.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch ichi am yr adloniant a ddarparwyd gennych ddoe wrth ichi guro'r drwm gyda'r Prif Weinidog am eich rhaglen gerddorol. Byddaf yn gofyn cwestiwn ichi am hynny'n fuan iawn yn y dyfodol. Ond am y tro, Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd gan academyddion am gynlluniau i ddisodli ffiseg, cemeg a bioleg fel pynciau ar wahân a chael un dyfarniad gwyddoniaeth integredig yn eu lle. Rhybuddiodd un academydd, ac rwy'n dyfynnu, y gallai 'gorsymleiddio' gwyddoniaeth ar lefel TGAU olygu bod Cymru

'yn methu meithrin gwyddonwyr gwych yn y dyfodol',

ac ehangu'r bwlch sgiliau presennol mewn pynciau STEM. Weinidog, rwyf wedi siarad â nifer o fyfyrwyr ar wahanol lefelau ac nid ydynt am i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno. Maent am gael yr opsiwn o allu cael un wyddoniaeth i'w hastudio, megis bioleg, cemeg neu ffiseg, beth bynnag fo'u diddordeb. Mae'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg wedi galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn Lloegr drwy ymgorffori sgiliau peirianneg a thechnoleg mewn addysg gynradd. Felly, Weinidog, fy nghwestiwn i yw: pa sicrwydd y gallwch ei roi nad yw newidiadau i addysgu gwyddoniaeth yn gyfystyr â gorsymleiddio, beth rydych chi'n ei ddweud wrth y myfyrwyr sydd am arbenigo mewn un wyddoniaeth yn unig, ac a wnewch chi ystyried y cynnig i ymgorffori sgiliau peirianneg a thechnoleg mewn addysg gynradd? Diolch.

14:45

Wel, gallaf eich sicrhau—gwn eich bod wedi dyfynnu academydd sy'n teimlo'n gryf o blaid y safbwynt a ddisgrifiwch—mae digon o rai eraill sy'n arddel y farn gwbl groes i hynny. Ac fe fydd hi'n gwybod, ddoe, fod y Sefydliad Ffiseg a'r cyrff tebyg eraill ar gyfer cemeg a bioleg yma gyda ni yn y Senedd, a phe baech yn rhoi amser i siarad â rhai o'r rheini, byddech wedi clywed llawer o gefnogaeth i'r hyn sy'n cael ei gynnig mewn perthynas â'r cymwysterau newydd. Mae cyfuno'r cymwysterau yn darparu lle ychwanegol er mwyn caniatáu i ddysgwyr sefyll arholiadau ychwanegol, gan gynnwys mewn rhai o'r pynciau STEM y mae'n argymell y dylid eu hannog i'w dilyn, a rhai o'r rheini mewn cyd-destun cymhwysol, fel peirianneg, fel y soniodd yn ei chwestiwn. Ac mae cyfuno'r gwyddorau hefyd yn galluogi i gysylltiadau gael eu gwneud ar draws y gwyddorau, sy'n bendant yn cyd-fynd ag ethos y cwricwlwm newydd—i fod nid yn unig yn dysgu, ond i fod yn deall ac i fod yn deall y cysylltiadau rhwng gwahanol rannau o'r hyn rydych yn ei ddysgu—a chredaf y bydd yn rhoi cyfle i wneud hynny.

Mewn perthynas â'r gwaith y soniodd amdano yn yr ysgolion cynradd, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dechrau taith y dysgwr yn gynnar iawn, gan ddeall beth fyddai'r ystod o opsiynau posibl i ddysgwyr eu hastudio, ar gyfer peirianneg neu bynciau STEM eraill yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae nifer o bethau yr ydym yn eu hariannu sydd wedi'u targedu'n benodol at bobl ifanc oedran cynradd, gan gynnwys yn yr ysgolion eu hunain, ond hefyd cyfleoedd i fynd y tu allan i fyd yr ysgol i brofi codio, technoleg y gofod, ac ystod o brofiadau eraill sy'n eu dechrau ar y daith honno, os mynnwch, o ddeall yr ystod o opsiynau, ehangu eu gorwelion, ac annog llawer ohonynt, gobeithio, i ddilyn pynciau STEM yn nes ymlaen.

Coleg Pen-y-bont

4. Pa ymgysylltiad y mae'r Gweinidog wedi'i gael â Choleg Pen-y-bont ar gynlluniau i ddatblygu'r campws? OQ58034

Mae fy swyddogion yn nhîm y rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau gyda Choleg Pen-y-bont am y datblygiad hwn, ac yn bersonol, rwy'n falch iawn fod y coleg yn bwriadu cyflymu'r broses o gyflawni prosiect llwybrau yn y dyfodol, a allai wella ei gynnig addysgol a chefnogi'r gwaith o adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr .

Wel, rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac mae'r Gweinidog wedi bod yn ffrind da i'r coleg, ac wedi cyfarfod â Simon Pirotte droeon yn ddiweddar, ac wedi gweld datblygiad academi STEAM ym Mhencoed, sydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn arwain yng Nghymru ar ddod â thechnoleg peirianneg, y celfyddydau creadigol ac eraill at ei gilydd ar un campws, ac mae'n ddatblygiad hollol wych i'r bobl ifanc hynny—pobl ifanc a phobl hŷn o bob oed o bob rhan o ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Sarah Murphy wedi ymweld â'r fan honno gyda mi hefyd, ac mae eraill wedi bod yno. Rydym wedi cyffroi'n fawr am hynny, ond rydym hefyd yn gyffrous, mae'n rhaid imi ddweud, ynglŷn â chynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys yn ein tref fwyaf yn lleol, sef Pen-y-bont ar Ogwr wrth gwrs, a'r hyn y gallai ei wneud nid yn unig i bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr, ond hefyd i adnewyddu trefol hefyd. Felly, a wnaiff ymrwymo i weithio gyda Simon Pirotte a'r tîm gwych sydd ganddo, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i ddod â phwysau Llywodraeth Cymru y tu ôl i hynny hefyd er mwyn inni wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r effaith fwyaf posibl i bobl ifanc a hen bobl ledled yr ardal, ar gyfer dysgu a sgiliau gydol oes ond hefyd ar gyfer adfywio canol y dref hefyd?

Wel, rwy'n mynd i achub ar y cyfle, os caf, i ganmol Huw Irranca-Davies a Sarah Murphy am eu hymrwymiad i waith y coleg, y gefnogaeth y mae'r ddau ohonoch yn ei roi iddo, ac i'r cynnig addysg bellach yn eich etholaethau hefyd. Ar y ddau achlysur y bûm yn y coleg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ddau ohonoch wedi bod yno, ac mae wedi bod yn wych gweld lefel y gefnogaeth gymunedol i waith y coleg.

Mae tîm y rhaglen yn Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos yn awr gyda'r coleg i nodi beth fyddai'r gofynion ariannu, ac rydym yn gefnogol iawn i'r cynnig strategol sydd gan y coleg yn yr ardal hon. Credaf eu bod yn edrych ar safle tir llwyd, felly mae hynny hefyd yn gadarnhaol iawn, am resymau amlwg. Rwy'n credu ei fod yn gyffrous, wrth gwrs, am ei fod yn cryfhau cynnig addysg y coleg, y byddem oll yn ei gefnogi, ond hefyd, rwy'n credu ei fod yn cyflawni'r genhadaeth sydd mor bwysig i bob coleg addysg bellach, sef cefnogi'r economi leol, gan annog nifer yr ymwelwyr i ganol y dref, gan ddarparu'r eurgylch economaidd lleol hwnnw, os mynnwch, o amgylch ei weithgareddau, a chredaf fod hynny hefyd yn rhan gyffrous o'r cynnig.

Weinidog, mae gwefan cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud,

'Yn ogystal â dangos cynlluniau uchelgeisiol Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ehangu a gwella ansawdd ac ystod y cyfleoedd dysgu a hyfforddi yn y fwrdeistref sirol, mae hefyd yn dangos sut mae uwchgynllun adfywio'r cyngor yn ceisio gweithio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol i sicrhau newid cadarnhaol sylweddol a hirdymor i ganol y dref.'

Mae hon yn enghraifft wych o ddarparwyr addysg mawr yn cael eu gweld fel angor mewn cynllun adfywio economaidd, felly rwy'n gyffrous hefyd. Fodd bynnag, er mwyn i hyn weithio, mae angen i'r coleg a'r cyngor sicrhau bod y myfyrwyr sy'n byw y tu hwnt i ganol y dref yn rhai o gymunedau cyfagos y Cymoedd yn gallu cael mynediad at hyn drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r coleg, cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a chynghorau cyfagos ynghylch her trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn manteisio i'r eithaf ar ehangu'r campws, heb anghofio teithio llesol?

14:50

Ie, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae popeth rwy'n ei wybod o fod wedi ymweld â'r coleg—ac roeddwn yn falch iawn o allu agor yr Academi STEAM yn swyddogol ar gampws Pencoed—yw bod gan y coleg ffocws gwirioneddol ar sicrhau ei fod yn hygyrch i'w fyfyrwyr, yn amlwg, ond hefyd yn gyffredinol i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Ceir ymdeimlad cryf o genhadaeth mewn perthynas â hynny. Felly, byddwn yn disgwyl i'r blaenoriaethau y mae Altaf Hussain wedi'u nodi yn ei gwestiwn fod yn ganolog i'w hystyriaethau mewn perthynas â hyn. Credaf fod y cynllun arfaethedig ei hun yn gatalydd ar gyfer adfywio economaidd, a chredaf y bydd effaith hynny i'w theimlo'n fwyaf cyffredinol os caiff y blaenoriaethau y mae wedi'u nodi yn ei gwestiwn eu bodloni, fel y cânt, rwy'n siŵr.

Prinderau yn y Proffesiwn Addysgu

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phrinderau yn y proffesiwn addysgu? OQ58052

Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaethau addysg gychwynnol i athrawon a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod recriwtio i raglenni addysg gychwynnol i athrawon yn bodloni'r lefelau a ddymunir ar gyfer gweithlu'r dyfodol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r rhai sy'n gweithio mewn ysgolion sy'n poeni ynglŷn â bodloni disgwyliadau ar gyfer atebolrwydd mewn perthynas ag Estyn, a chyflwyno'r cwricwlwm yng Nghymru wrth ymrafael â materion capasiti. Gwn fod pryder gwirioneddol ynghylch y prinder staff sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig athrawon gwyddoniaeth, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Felly, a gaf fi ofyn i chi: beth yw eich cynlluniau hirdymor i wella recriwtio a chadw staff yn yr arbenigeddau hyn, yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael ar unwaith i ysgolion sy'n cael trafferth yn y tymor byr? Diolch.

Wel, diolch am hynny, a chredaf ei fod yn bwynt cwbl bwysig, fel y clywsom eisoes heddiw. Gobeithio y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod—byddaf yn cyhoeddi cynllun 10 mlynedd yn fuan iawn a fydd yn nodi'r camau y bwriadwn eu cymryd mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau eraill i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, ond yn benodol hefyd yn y meysydd a nododd yn ei chwestiwn fel rhai lle y ceir pwysau penodol. Credaf ein bod wedi gosod sylfeini eithaf cadarn dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, sy'n darparu hyd at £5,000 i fyfyrwyr hyfforddi i addysgu pynciau uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chymhellion ychwanegol ar gael i'r myfyrwyr hynny os ydynt yn addysgu mewn meysydd lle y ceir prinder penodol, fel y rhai y soniodd amdanynt yn ei chwestiwn. Ond hefyd rwy'n credu bod y cynlluniau sy'n seiliedig ar gyflogaeth a'r cynlluniau trosi o'r cynradd i'r uwchradd oll yn ychwanegu at allu ein gweithlu addysgu i addysgu'r pynciau hollbwysig hyn yn Gymraeg. Rwyf hefyd wedi gwahodd ysgolion i wneud cais am grantiau i gefnogi meithrin gallu mewn rhai rhannau o'r gweithlu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y flwyddyn ariannol hon, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arwain at ddefnyddio ffyrdd arloesol yn yr ysgolion sydd dan bwysau arbennig i edrych ar ffyrdd creadigol o ymateb i'r heriau. Rydym hefyd wedi gosod targed i'n partneriaethau AGA i sicrhau bod 30 y cant o'r rhai sy'n dechrau cyrsiau yn fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, a bydd hwnnw'n darged a gaiff ei gynyddu'n raddol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod ein bod yn gweithredu, hyd yn oed heb fudd cynllun newydd, ond byddaf yn cyhoeddi cynllun newydd cyn bo hir ar gyfer ymgynghori yn ei gylch, ac edrychaf ymlaen at ei barn ar hwnnw.

Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y rhai sy'n cymhwyso ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon, AGA, yng Nghymru yn dangos bod nifer y myfyrwyr sy'n cwblhau eu cwrs ym mhrifysgolion Cymru neu'r Brifysgol Agored wedi gostwng o 1,740 o fyfyrwyr yn 2010-11 i 1,030 yn 2019-20, gostyngiad o tua 41 y cant. Gyda'r gostyngiad hwnnw dros y cyfnod o 10 mlynedd, mae'r gronfa o dalent sydd ar gael i ysgolion recriwtio ohoni wedi crebachu. Felly, beth sydd wedi mynd o'i le, a beth sy'n cael ei wneud i'w unioni?

14:55

Mae'r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod derbyniadau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth uwchradd, sef y maes sy'n peri pryder allweddol, wedi cynyddu 8 y cant, a bod derbyniadau i hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel iaith, wedi cynyddu 45 y cant. Felly, dyna'r realiti ar lawr gwlad. Ond mewn gwirionedd, mae'r mater yn llawer mwy na'r ffigurau ar gyfer blwyddyn neu ddwy; mae'n angen strategol i gynyddu'r cyflenwad o bobl sy'n dod i mewn i'r proffesiwn sy'n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd i sicrhau bod gennym gynorthwywyr addysgu sy'n gallu gwneud y gwaith pwysig a wnânt hwythau hefyd drwy gyfrwng y Gymraeg. A chredaf fod angen creadigrwydd mawr a chredaf fod angen gwneud pethau'n wahanol—chwilio am gymhellion ariannol; ei gwneud yn haws i bobl hyfforddi, trosi o'r gwaith y gallent fod yn ei wneud eisoes; hefyd edrych ar roi gwybod i bobl ifanc wrth iddynt fynd drwy'r ysgol beth yw'r opsiynau iddynt addysgu yn Gymraeg, a marchnata, os mynnwch, addysgu yn Gymraeg a thrwy'r Gymraeg fel opsiwn. Felly, edrychaf ymlaen at sylwadau'r Aelod ar y cynllun pan gaiff ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ei gylch yn fuan iawn. 

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro i ba raddau y caiff Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ei gweithredu? OQ58056

Rydym yn cyd-greu fframwaith atebolrwydd i ddeall effaith gweithredu'r ddeddfwriaeth ADY newydd. Bydd hyn yn cynnwys asesu effeithiolrwydd gweithredu, yn amlwg, ond hefyd nodi rhwystrau, yn ogystal â mesurau i gefnogi gweithredu ac archwilio effeithiau a manteision sy'n dod i'r amlwg yn sgil y system newydd.

Diolch. Nod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, neu Ddeddf ADY, yw ailwampio'r system anghenion addysgol arbennig bresennol, gan roi barn y plentyn neu'r person ifanc wrth wraidd y broses a'u cynnwys hwy a'u teuluoedd yn y broses gynllunio, ymyrryd ac adolygu o'r cychwyn cyntaf, gyda'r ysgolion eu hunain yn cael mwy o ymreolaeth dros eu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r cod ymarfer ADY yn nodi y dylai awdurdodau lleol ystyried ar lefel strategol a yw newidiadau i'r trefniadau ariannu ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY yn briodol. Er bod asesiad effaith hawliau plant y cod ADY yn nodi bod plant a phobl ifanc y cofnodir bod ganddynt AAA ar hyn o bryd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim na'r rhai nad ydynt yn gymwys, ceir pryder fod rhai awdurdodau lleol yn defnyddio prydau ysgol am ddim fel yr unig ddull o fesur ar gyfer dyrannu cyllid ADY i ysgolion, sefyllfa a allai olygu bod disgyblion ADY mewn ysgolion â lefelau is o brydau ysgol am ddim yn cael eu hamddifadu o'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial. Sut felly y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod dyraniad awdurdodau lleol o gyllid ADY i ysgolion yn caniatáu i nodau'r Ddeddf gael eu gweithredu?

[Anghlywadwy.]—pwynt. Rwy'n credu bod yr arian ychwanegol sydd ar gael i awdurdodau lleol er mwyn gweithredu'r diwygiadau newydd wedi'i wella a'i ymestyn yn sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf. Ym mis Ionawr, cyhoeddais £18 miliwn ychwanegol, a chyhoeddais £4 miliwn arall ar gyfer ysgolion arbennig yn benodol ddechrau mis Mawrth. Ond mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn bwysig iawn—fod angen inni sicrhau bod cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn ffordd sy'n galluogi i ofynion y Ddeddf gael eu bodloni, a dylai hynny ddilyn angen lle mae'n bodoli mewn ysgolion yn ein system. Felly, un o'r agweddau allweddol ar yr adolygiad gweithredu y byddwn yn ei gynnal yw sicrhau bod y prosesau sy'n dod i'r amlwg wrth i'r Ddeddf gael ei gweithredu yn cyflawni'r canlyniad hwnnw, ond hefyd yn sicrhau bod y cyd-greu a grybwyllais yn fy ateb cychwynnol yn bwysig iawn, oherwydd mae hynny'n ei gwneud hi'n bosibl i leisiau ym mhob rhan o'r system chwarae rhan yn yr atebolrwydd ynghylch cyflawni'r Ddeddf. Ac rwy'n sicr iawn mai rhan allweddol o'r gwaith hwnnw fydd ateb y cwestiwn y mae newydd ei nodi. 

Pynciau STEM

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM? OQ58062

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1.5 miliwn o gyllid grant eleni i gefnogi'r gwaith o gyflwyno mentrau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, gyda'r prif nodau o gefnogi a datblygu gweithgareddau cyfoethogi STEM, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac annog pobl i astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch.

15:00

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Weinidog. Gellir mynd i'r afael â'r mwyafrif helaeth o'r problemau sy'n wynebu Cymru heddiw drwy gael mwy o wyddonwyr, peirianwyr a mathemategwyr. Mae mathemategwyr wedi dyfeisio ffordd well o drefnu llawdriniaethau gyda'r nod o leihau nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo. Mae arnom angen mwy o feddygon, radiograffwyr a thechnegwyr labordy er mwyn mynd i'r afael â'n rhestrau aros erchyll, ac os ydym am fynd i'r afael â newid hinsawdd, rydym angen i fwy o wyddonwyr a pheirianwyr weithio ar dechnoleg batri a storio grid newydd. Mae astudio pynciau STEM yn dysgu un o sgiliau mwyaf bywyd, sef meddwl yn feirniadol, sgil sydd ei angen yn fwy na'r un yn yr oes hon o dwyllwybodaeth. Weinidog, er mwyn ennill y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr, rhaid inni hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phrosiectau allgymorth gwyddoniaeth a chyfathrebwyr gwyddoniaeth er mwyn cael pobl ifanc i fwynhau STEM o oedran ifanc? 

Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn ac yn bwynt da iawn y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei gwestiwn. Mae rhywfaint o'r £1.5 miliwn o gyllid grant y cyfeiriais ato'n gynharach—. Er enghraifft, rydym wedi buddsoddi yn Techniquest yn ddiweddar i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno rhaglenni gwaith i wella gwyddoniaeth a mathemateg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, gan ddatblygu cariad at wyddoniaeth yn ifanc iawn, fel y soniais wrth Natasha Asghar yn gynharach. Rydym yn ariannu Cynllun Addysg Beirianneg Cymru, sy'n cynnal rhaglenni ledled Cymru i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i ddewis gyrfaoedd mewn meysydd STEM, gan ganolbwyntio'n benodol, fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda'r enw hwnnw, ar beirianneg. Rydym yn ariannu gweithdai codio cyfrifiadurol ar gyfer disgyblion, rydym yn cefnogi'r rhaglen gymorth mathemateg bellach gyda Phrifysgol Abertawe, sy'n anelu at ehangu mynediad at fathemateg bellach, sy'n amlwg yn hanfodol i rai o'r disgyblaethau STEM, ac rydym hefyd yn cefnogi rhaglen Stimulating Physics Network y Sefydliad Ffiseg, ymhlith buddsoddiadau eraill. Felly, cytunaf yn llwyr ag ef ei bod yn bwysig iawn annog ein pobl ifanc sydd â dawn a brwdfrydedd ynghylch pynciau STEM i ystyried y rheini'n opsiynau realistig iddynt.

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Gareth Davies yn ei ddweud y prynhawn yma. [Chwerthin.] Lywydd, neithiwr cefais y fraint, fel cyn-beiriannydd fy hun—dechreuais fy ngyrfa fel prentis—o siarad ochr yn ochr â Gweinidog yr Economi yn nigwyddiad Gwyddoniaeth a'r Senedd. Siaradais am bwysigrwydd annog pobl ifanc i ddilyn pynciau STEM. Mae Gareth Davies yn iawn; os ydym am greu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion carbon niwtral yma yng Nghymru, mae angen i Gymru hyfforddi ei pheirianwyr a'i gwyddonwyr proffesiynol. Ni fydd hynny'n digwydd, Weinidog, os na lwyddwn i gael pobl ifanc i ymddiddori mewn meysydd STEM. A gaf fi ofyn ichi felly, Weinidog, nid yn unig beth a wnewch yn y diwydiant gwyddoniaeth a'r sector addysg, ond sut rydych yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant a Gweinidog yr Economi i sicrhau bod gwyddoniaeth ar gael i bawb, y gall pawb ei hastudio, a sicrhau eu bod yn sylweddoli bod y byd yn eu dwylo pan fyddant yn astudio STEM? 

Mae Gweinidog yr Economi a minnau'n gweithio'n agos iawn ar y maes hwn, oherwydd mae'n thema drawsbynciol ac mae'r ddau ohonom yn angerddol yn ei gylch. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd, gan ganolbwyntio'n wirioneddol ar ddeall opsiynau gyrfa o oedran ifanc—oedran iau nag y mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc efallai'n cael cyfle i'w wneud ar hyn o bryd. Ond mae'n ymwneud â'r pwyntiau pontio hynny hefyd, o'r ysgol i addysg bellach, o addysg bellach i fyd gwaith neu i addysg uwch. Ar bob un o'r camau hynny mae'n bwysig iawn ein bod yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen i'n pobl ifanc allu dod o hyd i waith, yn amlwg, ond hefyd dealltwriaeth o'r opsiynau sydd ar gael iddynt, ac yn hollbwysig, y dyhead i edrych ar yr ystod ehangaf o opsiynau sydd ar gael iddynt ym myd gwaith, o ran eu heconomi leol—y mathau o fentrau yr oedd Huw Irranca-Davies yn cyfeirio atynt yn ei gwestiwn—ond hefyd yn fyd-eang. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i hynny fel Llywodraeth ac rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfleoedd hynny. 

Anghenion Addysgol Arbennig

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i ganfod ac asesu anghenion addysgol arbennig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58055

Mae ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol yn hyrwyddo asesu a chynllunio cydweithredol i hwyluso'r broses o nodi ac ymyrryd yn gynnar. Mae cydlynwyr ADY a swyddogion arweiniol ADY y blynyddoedd cynnar yn helpu i sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu, ac mae'r gronfa datblygiad plant a Dechrau'n Deg yn ymateb i'r galw cynyddol am gymorth datblygiadol ychwanegol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae wedi bod yn wych ymweld â llawer o leoliadau blynyddoedd cynnar ar draws fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gwn eu bod yn falch o allu dychwelyd i drefniadau a gweithgareddau cyn COVID er budd y plant sy'n eu gofal. I lawer o rieni a disgyblion, gall ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn aml olygu dechrau'r daith ar gyfer asesu anghenion dysgu ychwanegol. Fel y gwyddom, mae cael staff hyfforddedig a systemau cymorth sy'n gallu nodi arwyddion cynnar o anghenion dysgu ychwanegol yn allweddol i ddarparu'r pecynnau cymorth gorau i'r plant hynny fel y gallant ffynnu mor gynnar â phosibl. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o ganlyniad i'r pandemig, cafwyd cyfnodau lle nad oedd plant yn gallu mynd i'r ysgol, yn anffodus, ac mae hyn yn sicr wedi effeithio ar ein gallu i asesu plant ar gyfer unrhyw anghenion dysgu ychwanegol. Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ysgolion wrth iddynt geisio dal i fyny â'r asesiadau hyn a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cwympo drwy'r bylchau mewn perthynas â chymorth anghenion dysgu ychwanegol oherwydd y pandemig?

15:05

Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gallu i asesu a chefnogi anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ym mhob rhan o'u taith addysg.

Y llynedd, dyfarnwyd pecyn adfer gwerth £10 miliwn gennym i awdurdodau lleol, a diben hwnnw oedd ariannu'r gwaith o ailintegreiddio disgyblion ag ADY yn ôl i'r ystafell ddosbarth yn dilyn y pandemig. Rydym wedi darparu grantiau i awdurdodau lleol—grant gweithredu—i gynyddu'r gallu i symud plant o'r system AAA i'r system ADY, ac i gefnogi staff i ddatblygu gwybodaeth am y ffordd orau o wneud hynny.

Yn ogystal â hynny, rydym wedi ymrwymo cyllid i bob awdurdod lleol yng Nghymru am y tair blynedd nesaf i gefnogi'r gwaith o ddarparu cynlluniau datblygu unigol ar-lein, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth disgyblion ag ADY yn cael ei chofnodi, fel bod disgyblion ag ADY yn cael cymorth addas. 

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol fydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma i'w ofyn gan James Evans ac i'w ateb gan Weinidog yr Economi.

Fferm Gilestone

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg? TQ622

Llwyddodd Llywodraeth Cymru i sicrhau rhydd-ddaliad ac adles tymor byr Fferm Gilestone am £4.25 miliwn. Rydym yn caffael yr eiddo er mwyn hwyluso buddsoddiad mewn busnesau lleol, y gymuned ac economi Cymru. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am eich datganiad, Weinidog. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cael fy llethu gan alwadau ffôn, negeseuon e-bost a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg. Mae gennyf fi, a llawer o fy etholwyr, gwestiynau dilys iawn ynghylch prynu a gosod y fferm i berchnogion Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Mae ganddynt bwyntiau amrywiol yr hoffent eu cyflwyno ichi, ac rwyf am wneud hynny yn awr.

Weinidog, rydych wedi dweud wrthym beth oedd y pris prynu. Felly, hoffwn wybod: a oedd hwnnw'n destun gwerthusiad annibynnol gan brisiwr dosbarth? Pa ymarfer tendro a gynhaliwyd i ddod o hyd i denant addas ar gyfer y fferm? A roddwyd cyfle i unrhyw un lleol wneud cais amdano, ac os na, pam? Beth yw'r uchelgais hirdymor ar gyfer y fferm, o ystyried y materion sy'n codi ynghylch diogeledd bwyd, a pham rhoi'r gorau i ddefnyddio fferm gynhyrchiol?

Pa ymarfer economaidd a wnaethpwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau y gellir gwireddu'r 174 o swyddi y soniwyd amdanynt pan fo ffermydd yn fy etholaeth i yn ei chael hi'n anodd cyflogi un person? Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ai polisi Llywodraeth Lafur Cymru yn awr yw defnyddio arian trethdalwyr i brynu ffermydd a'u gosod ar rent i fusnesau ac unigolion preifat gyflawni ei phrosiectau bioamrywiaeth a newid hinsawdd?

Cafwyd amryw o gwestiynau yn y fan honno. Fe geisiaf fynd i'r afael â hwy cystal ag y gallaf, ac mor gryno ag y gallaf—rwy'n edrych ar y Dirprwy Lywydd. Cafodd y pris prynu ei ardystio'n annibynnol gan ein syrfewyr ymgynghorol. Fe fyddwch yn falch o wybod na wnaethom dalu mwy na gwerth y farchnad amdano. O ran ein sefyllfa yn awr, mae wedi'i adlesio i'r perchnogion presennol. Mae ganddynt amrywiaeth o bethau i'w gwneud i gynnal a chadw'r eiddo, cynaeafu cnydau sydd yno eisoes a chadw archebion presennol ar y safle.

Rydym wedi bod yn trafod gyda pherchnogion Gŵyl y Dyn Gwyrdd am y posibilrwydd y byddant hwy yn lesio'r safle, er mwyn rhoi mwy o sicrwydd iddynt fuddsoddi yn yr ŵyl, sydd, fel y gŵyr yr Aelod, yn ennyn cefnogaeth ar draws ystod o wahanol sectorau. Mae'n un o bum gŵyl annibynnol fawr sy'n dal i fodoli ledled y DU, gyda budd economaidd sylweddol i Gymru, ac mae ganddynt gynlluniau ac uchelgeisiau i allu ehangu. Bydd angen inni weld cynllun busnes ganddynt cyn bwrw ymlaen ag unrhyw drefniant pellach. Byddem yn ystyried wedyn a ddylid cael les tymor byr i reoli'r eiddo cyfan am gyfnod o amser. Ond mae angen inni gael trafodaethau pellach gyda hwy, naill ai i edrych ar y pryniant neu drefniant lesio pellach ar gyfer y safle.

Yr uchelgais cyffredinol yw sicrhau bod gan un o'r ymrwymiadau economaidd mwyaf sylweddol ym maes gwyliau cerddorol, sydd â grŵp penodol o bobl â diddordeb ynddo oherwydd y ffordd y caiff ei gynnal a'r gwerthoedd sy'n sail iddo hefyd, gartref parhaol yng Nghymru, oherwydd mae darparwyr gwyliau eraill sydd am brynu'r brand wedi dangos diddordeb sylweddol. Rydym yn awyddus iawn i gadw'r ŵyl yng Nghymru, gyda'r budd economaidd sylweddol sydd eisoes wedi'i gynhyrchu ac a gaiff ei gynhyrchu yn y dyfodol. Wrth i'r trafodaethau hynny barhau, rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ac yn wir i Aelodau eraill a fydd, yn sicr, â diddordeb.

15:10

Weinidog, diolch am yr atebion a roesoch y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn egluro bod prynu Fferm Gilestone yn fwy o fater o sicrhau gofod arddangos/gŵyl yn hytrach na gofod amaethyddol. Os gallwch gadarnhau mai felly y mae hi, gan mai dyna oedd fy nealltwriaeth i o'r ateb a roesoch. Os oes elfen amaethyddol wedi'i chynnwys, a ydych yn ystyried rhoi cyllid sylweddol, fel y gwnaethoch gyda'r pryniant hwn, i ardaloedd eraill yng Nghymru a allai ryddhau cyfleoedd i amaethyddiaeth ac i newydd-ddyfodiaid i'r busnes? Yn amlwg, cafwyd problem gynyddol i sicrhau bod gan newydd-ddyfodiaid fynediad at y diwydiant amaethyddol, a byddai clywed bod £4.25 miliwn wedi'i wario ar un fferm mewn un lleoliad penodol, rwy'n credu, yn destun diflastod i rai ffermwyr, pan fo aelodau o'u teuluoedd eu hunain yn ei chael hi'n anodd cael eu troed ar yr ysgol. Felly, a wnewch chi gadarnhau i mi mai gofod arddangos a brynwyd gennych yn hytrach na—[Torri ar draws.] Hoffwn nodi mai aelodau'r sioe a brynodd y Sioe Frenhinol, nid y Llywodraeth.

Fel y dywedais, mae'r pris prynu wedi'i ardystio'n annibynnol i ni, ac rydym yn edrych ar y cyfle sy'n bodoli ynghylch dyfodol hirdymor Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Fel bob amser, mae yna fuddiannau'n cystadlu â'i gilydd mewn perthynas â defnydd tir a budd economaidd. Yn y cynllun busnes, rwy'n disgwyl gweld sut y byddai'r ystad gyfan yn cael ei rheoli. Byddai'n anghywir imi geisio nodi polisi defnydd tir ar gyfer yr ystad gyfan gan mai dyna y dymunwn ei weld yn cael ei gyflawni. Fel y dywedais, yn y cytundeb sydd gennym eisoes, mae gennym adles i sicrhau bod y cnydau sydd eisoes yn tyfu yn cael eu cynaeafu a bod yr archebion presennol yn cael eu cadw. Fel y dywedais, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r Aelodau ar ôl inni gael cynllun busnes gan y bobl sy'n cynnal ac sy'n berchen ar Ŵyl y Dyn Gwyrdd. Credaf ei bod yn bwysig cynnal annibyniaeth yr ŵyl honno a'i chysylltiad â Chymru, sydd ynddo'i hun yn cynnig budd economaidd sylweddol. Byddaf wedyn yn gallu rhoi atebion manylach ynglŷn â'r defnydd tir cyfan. Dylwn ddweud hefyd fod Cyngor Sir Powys yn cefnogi'r cynnig a'r hyn y bydd yn caniatáu inni ei wneud ar y safle hwnnw.

Diolch i James Evans am ddod â'r cwestiwn pwysig yma ger ein bron ni. Yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yn Fferm Gilestone ydy tir amaethyddol da, a'r peryg ydy ein bod ni'n mynd i weld tir amaethyddol da unwaith eto yn cael ei golli ar gyfer dibenion masnachol eraill. Rydyn ni'n gwybod nad oes gan Lywodraeth Cymru record arbennig o dda pan fo'n dod i brynu tir amaethyddol, oherwydd rydyn ni wedi gweld tir amaethyddol yn cael ei brynu gan y Llywodraeth ac yn cael ei drosi i fod yn goedwig. Felly, pa sicrwydd fedrwch chi ei roi inni heddiw ar gyfer y tymor hir y bydd y tir yma a'r fferm yma yn cael ei gadw a'i ddefnyddio at ddibenion amaethyddol, sef cynhyrchu bwyd?

Hefyd, mae nifer o amaethwyr lleol wedi cysylltu efo'r swyddfa, efo fi, yn dweud ac yn cwyno eu bod nhw ddim wedi cael unrhyw gyfle i fod yn rhan o'r broses yma i dendro am y ffarm, am y tir, ac i fod yn denantiaid. Pa ymgynghoriad ddaru chi gynnal yn lleol er mwyn sicrhau mai'r tenantiaid newydd ydy'r rhai gorau ar gyfer y tir yma, a pham na ddaru ffermwyr eraill lleol gael cyfle i fod yn denantiaid ar y ffarm?

Ac yn olaf, mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn rhoi pres i mewn i amaethyddiaeth. Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld awdurdodau lleol yn gorfod gwerthu ffermydd dros y blynyddoedd. Ydyn ni rŵan yn medru edrych ymlaen i weld Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bres i awdurdodau lleol i ailbrynu ffermydd nôl fel bod cyfle i ffermwyr ifanc fynd yn ôl mewn i amaeth eto?

Gyda phob parch, credaf ein bod yn drysu mwy nag un mater yn y gyfres o gwestiynau sy'n cael ei gofyn. Nid wyf am drafod y materion hanesyddol y mae'r Aelod yn fy ngwahodd i'w hailadrodd heddiw. Mae'r mater yn ymwneud â'r gwerthwyr a'u hawydd a'u parodrwydd i werthu, lle mae'r ŵyl wedi'i lleoli ar hyn o bryd, ein gallu i gadw'r ŵyl yng Nghymru gyda'r holl fudd economaidd sylweddol sy'n deillio o hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, budd economaidd sylweddol yn y Gymru wledig, a sut y gwnawn yn siŵr nad yw'r digwyddiad hwn, gyda'i bwysigrwydd arbennig, yn cael ei golli a'r brand yn cael ei ddefnyddio at ddiben masnachol cwbl wahanol gyda'r holl swyddi a'r budd ehangach yn diflannu i ran wahanol o Gymru. Fel y dywedais, rydym yn disgwyl cael cynllun busnes. Byddwn yn edrych wedyn ar y cynllun busnes hwnnw ar gyfer y defnydd tir cyfan, ond byddwn hefyd yn ystyried a fyddai hyn yn broblem lle byddai les fwy hirdymor neu bryniant. Felly, o ran y swm a fuddsoddwyd gennym yn yr ardal, mae'n ymwneud â sicrhau dyfodol mwy hirdymor i Ŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghymru, a chredaf ein bod wedi gwneud y dewis cywir wrth wneud hynny, ond rwy'n hapus, fel y dywedaf, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cwestiwn mwy hirdymor y mae'r Aelodau wedi'i godi heddiw am y defnydd tir cyfan ar gyfer yr ystad a werthwyd gan y gwerthwyr.

15:15

Diolch, Weinidog. Bydd y cwestiwn nesaf yn cael ei ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a galwaf ar Llyr Gruffydd.

Ysbyty Glan Clwyd

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bederfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol? TQ624

Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad siomedig, ac mae'r methiannau mewn gofal sydd wedi eu nodi yn annerbyniol. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau i ni fod trefniadau goruchwyliaeth cadarn nawr mewn lle. Rŷn ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gydag Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru i gyflymu gwelliannau, ac mi fyddwn ni'n parhau i gynnig cefnogaeth er mwyn galluogi newid.

Wel, faint o weithiau ydw i wedi clywed yr ateb yna o'r blaen, Gweinidog? Sgandal arall, adroddiad damniol arall, cwestiwn brys arall yn y Senedd, ac ateb tila arall, dwi'n ofni, gan y Llywodraeth. Rŷn ni'n mynd rownd mewn cylchoedd fan hyn, onid ydyn ni? Rŷn ni yn mynd rownd mewn cylchoedd fan hyn. Faint o weithiau ydyn ni'n gorfod gwrando arnoch chi yn addo bod pethau'n mynd i wella, tra bod cyrff fel Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru a chynghorau iechyd cymunedol ac eraill yn dweud stori wahanol iawn wrthyn ni? Pryd wnewch chi dderbyn bod geiriau fel hyn ddim yn ddigon bellach, a bod yr amser wedi dod i ystyried newidiadau strwythurol i sut mae gwasanaethau iechyd yn cael eu cyflwyno yn y gogledd?

Rydych wedi bod yn addo gwelliannau i gleifion yng ngogledd Cymru ers blynyddoedd mawr, ac nid ydynt byth i'w gweld yn cael eu gwireddu. Rydych wedi rhoi cynnig ar fesurau arbennig, ac roedd yn fethiant; rydych wedi rhoi cynnig ar bob math o ymyriadau dwysach ac mae'n amlwg nad ydynt yn gweithio. Ychydig wythnosau'n ôl, roeddem yma yn trafod methiannau difrifol gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd a'r risg yn sgil hynny i ddiogelwch cleifion. Cyn hynny, wrth gwrs, roeddem yn trafod y methiannau parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, a'r ffordd y câi cleifion eu niweidio er gwaethaf rhybuddion gan adroddiadau a gyhoeddwyd flynyddoedd ynghynt. A heddiw, yn awr, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn rhybuddio mai'r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yw'r waethaf a welodd erioed, a bod hynny, wrth gwrs, yn arwain at ganlyniadau difrifol i ddiogelwch cleifion.

Felly, onid ydych yn cytuno, Weinidog, fod yr amser wedi dod yn awr i Lywodraeth Cymru ddechrau sgwrs ehangach ynghylch diwygio gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? Maent yn dweud, 'Os nad yw wedi torri, peidiwch â'i drwsio.' Wel, wyddoch chi beth? Mae wedi torri ac mae angen ei drwsio. Felly, a wnewch chi dderbyn o'r diwedd fod yr amser ar ben i Betsi y tro hwn?

Rwy'n gwbl glir nad yw hyn yn dderbyniol. Mae'r sefyllfa—

Os gadewch imi orffen—nid yw'n dderbyniol. Cyn gynted ag y clywais fod problem, euthum i dreulio'r diwrnod cyfan yn yr ysbyty er mwyn gweld drosof fy hun beth oedd yn digwydd ac i weld y pwysau a oedd arnynt. A gallaf ddweud wrthych fy mod wedi cyfarfod â rhai aelodau o staff y bu'n rhaid iddynt roi'r gorau iddi am eu bod, mewn gwirionedd, yn eu dagrau oherwydd y pwysau a oedd arnynt. Wrth gwrs, mae angen inni gefnogi'r staff hynny ac mae angen inni eu helpu, ac mae'r bwrdd iechyd bellach wedi ein sicrhau y byddant yn cryfhau goruchwyliaeth weithredol dros adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd. Os mai eich ateb yw ailstrwythuro ar adeg pan fo pobl yn aros am lawdriniaethau, a'ch bod eisiau dadelfennu'r bwrdd iechyd cyfan ar yr adeg hon, pan wyf i, a bod yn onest, eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith o wella pobl—

Wel, nid yw'n gweithio. [Anghlywadwy.]—nid yw'n gweithio. [Anghlywadwy.]—deng mlynedd. [Anghlywadwy.]

Os ydych yn credu mai ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd—

Weinidog—. Credaf ei bod yn bwysig inni adael i'r Gweinidog ateb heb dorri ar draws, os gwelwch yn dda.

Nid ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd. Byddwn yn cael cyfarfod teirochrog ym mis Mehefin a bydd hwnnw'n darparu argymhellion i mi ar y lefel briodol o uwchgyfeirio. Rwyf wedi gofyn am sicrwydd fod fy swyddogion yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd a ddaw o'r cyfarfod teirochrog hwnnw, ac mae gennym ddulliau gwahanol yn awr o sicrhau y gallwn gefnogi ac ymyrryd yn y ffordd fwyaf ymarferol bosibl i ddarparu'r cymorth y maent ei angen. Nawr, eich ateb bob amser yw difrïo'r gwasanaeth a'r bobl—[Torri ar draws.]—a'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw sydd ar eu gliniau, sydd yn eu dagrau. Ac wrth gwrs, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i wasanaethu pobl y gymuned honno. Os ydych yn credu mai ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd, mae arnaf ofn fy mod yn meddwl eich bod wedi camgymryd. Nid dyna fyddaf yn ei wneud. Nid wyf yn mynd i ailstrwythuro yng nghanol pandemig. Nid dyna'r ffordd i sicrhau newid. Rydym yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn yr ardal, rydym yn cyfarfod yn aml â'r GIG yn yr ardal, a byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd gynhyrchiol a blaengar, sy'n adeiladol. Ac wrth gwrs, mae sefyllfa o'r fath yn annerbyniol, ond byddwn yn eu cefnogi i sicrhau eu bod yn gwneud gwelliannau.

15:20

Weinidog, rydym ni yng ngogledd Cymru wedi cael llond bol, a dweud y gwir, ar eich clywed yn dweud wrthym na allwn daflu goleuni ar y pethau ofnadwy sy'n digwydd yn ein gwasanaeth iechyd yn y gogledd. A bod yn onest, roedd yr adroddiad heddiw nid yn unig yn siomedig, roedd hefyd yn frawychus. Efallai nad yw'n frawychus i chi, ond mae'n frawychus i'r bobl yn fy etholaeth y mae'r adran achosion brys honno'n eu gwasanaethu. Mae pobl yn fy etholaeth yn dibynnu ar yr adran achosion brys honno, a phan fyddant yn darllen fod problemau ynddi oherwydd diffyg gwelyau, diffyg staff, cofnodion gwael neu gofnodion nad ydynt yn bodoli, diogelwch cleifion yn cael ei roi mewn perygl dro ar ôl tro, cleifion sy'n agored i niwed y dylid eu gweld mewn 10 munud nad ydynt yn cael mynediad at feddyg ymgynghorol neu arbenigwr am chwe awr, cleifion iechyd meddwl hunanladdol yn cael eu rhoi mewn rhannau o ardal aros lle na ellir eu gweld na'u monitro ac sydd weithiau'n diflannu heb i unrhyw un yn yr ysbyty wybod eu bod wedi gadael mewn gwirionedd—. Dyma fwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu neu'n destun mesurau arbennig ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl ers dros chwe blynedd. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. Ac os darllenwch yr adroddiad, fe welwch ei fod yn adleisio bron bob adroddiad a ddaeth i sylw'r Senedd tra bûm yn Aelod ohoni, ymhell dros ddegawd, fel y dywedwyd eisoes. Ac a dweud y gwir, mae'n ddrwg gennyf ddweud nad oedd yn syndod i mi, yr adroddiad hwn, oherwydd wythnos ar ôl wythnos, rydym yn gweld cleifion, rydym yn gweld aelodau o'u teuluoedd a'u hanwyliaid, yn ein cymorthfeydd, yn anfon e-byst atom ac ar y ffôn yn dweud wrthym fod problemau yn yr adrannau hyn. Rydym yn eu codi gyda'r bwrdd iechyd a chawn y math o nonsens yr ydych newydd ei roi inni heddiw—eu bod wedi rhoi sylw i'r pethau hyn, fod pethau'n gwella, eu bod wedi cynhyrchu cynllun gwych sydd ar silff yn barod i gael ei weithredu. 

A hyn gwta ddeufis ar ôl adroddiad arall ar y gwasanaethau fasgwlaidd. Wyddoch chi, dau wasanaeth yn unig yng Nghymru a ddisgrifiwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel gwasanaethau sydd angen eu gwella'n sylweddol. Mae'r ddau ohonynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—yn unman arall, dim ond ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae angen i'r bwrdd iechyd wella, Weinidog. Nid wyf yn gwybod, a dweud y gwir, a yw newid strwythurol yn briodol. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o hynny eto—

Darren, mae angen ichi ofyn y cwestiwn. Rwy'n gwybod eich bod yn teimlo'n angerddol, ond mae angen ichi ofyn cwestiwn.

Rwyf am ofyn cwestiwn, ac os gadewch imi ei ofyn, fe wnaf. Ond mae staff yn dweud wrthyf mai'r broblem sylfaenol yw nad oes digon o welyau i gleifion mewnol yn yr ysbyty hwnnw, ac nad oes digon o aelodau staff. Beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod cydbwysedd y gwelyau i gleifion mewnol yn iawn ar gyfer y boblogaeth leol honno yng Nghonwy a sir Ddinbych sy'n dibynnu ar yr ysbyty hwnnw? Oherwydd, yn ddemograffig, dyma'r boblogaeth hynaf yng Nghymru, ac eto mae llai o welyau ar gyfer nifer y preswylwyr sy'n cael eu gwasanaethu gan yr ysbyty hwnnw nag mewn unrhyw ran arall o'r wlad. Ac a ydych yn derbyn—a ydych yn derbyn—fod y penderfyniad a wnaed gan eich rhagflaenydd, sy'n eistedd wrth eich ymyl yn y Siambr ac sydd wedi bod yn cilwenu yn ystod y cwestiwn hwn—

Rydych wedi bod yn cilwenu yn ystod y cwestiwn hwn. A ydych yn derbyn bod y penderfyniad—

A gaf fi—? [Torri ar draws.] Arhoswch. Arhoswch am eiliad, bawb, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] Darren, arhoswch am eiliad. Mae angen inni fod yn ofalus o'r iaith sy'n cael ei defnyddio yn y Siambr hon ar bob ochr, os gwelwch yn dda. Felly, gadewch inni sicrhau bod y cwestiynau'n canolbwyntio ar y mater sydd wedi'i godi heddiw, a gadewch inni gadw at y cwestiynau hynny ar y mater.

Mae'r cwestiwn yn ymwneud â'r mater. A ydych yn derbyn bod y sawl sy'n eistedd wrth eich ymyl chi, eich rhagflaenydd, wedi gwneud y penderfyniad anghywir pan benderfynodd dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig cyn etholiad diwethaf y Senedd? Roedd y penderfyniad hwnnw'n anghywir, Weinidog, ac mae angen ichi ddatrys y broblem.

Rwyf am geisio tawelu'r sefyllfa yma rywfaint, a gadewch inni geisio bod ychydig bach yn fwy adeiladol. Nawr, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dweud yn union beth sydd angen ei wneud yn y sefyllfa hon. Maent wedi dweud—maent wedi rhestru'r hyn y mae angen ei wneud. Nid oedd yr ymateb fel y dylai fod pan aethant yn ôl i mewn; bellach cafwyd ymateb gan y bwrdd iechyd. Felly, gadewch imi ddweud wrthych beth y maent yn bwriadu ei wneud. Maent yn bwriadu cryfhau goruchwyliaeth weithredol ar adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd; maent yn bwriadu rhoi mwy o fewnbwn uwch-arweinwyr a hapwiriadau yn y fan honno—yn ystod fy ymweliad, roeddwn yn sicr yn teimlo bod angen gwneud hynny; byddant yn cael cyfarfodydd diogelwch bob dwy awr fel bod dulliau gweithredu'n cael eu cryfhau o fewn y cwadrant brys, ynghyd â'r amlygrwydd cynyddol i uwch-arweinwyr; bydd hyfforddiant yn cael ei gynyddu ar draws nifer o feysydd. Gallwch ddychmygu iddynt orfod oedi hyfforddiant yn ystod y pandemig oherwydd bod cymaint yn digwydd—bydd yr hyfforddiant hwnnw'n cael ei aildrefnu. Caiff cleifion sy'n agored i niwed eu nodi a'u trafod yn y cyfarfodydd diogelwch a gynhelir bob dwy awr, a bydd y gwaith o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn dechrau pan fyddant yn cyrraedd.

Ac nid gwelyau yw'r ateb bob amser, a dweud y gwir—yn sicr nid dyna y mae AGIC yn ei ddweud, a byddai'n well gennyf wrando ar AGIC, sef yr arbenigwyr. A gadewch inni fod yn glir, mewn gwirionedd, nad rhoi pobl mewn gwelyau yw'r ateb. Ein cynnig a'n dull polisi yw rhyddhau pobl o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Bydd yna system olrhain cleifion ddigidol newydd a fydd yn symleiddio teithiau cleifion gyda mwy o hyfforddiant i staff ar sut i'w defnyddio. Felly, mae mesurau ar waith. Maent wedi bod yn glir iawn ynglŷn â sut y maent yn bwriadu ymateb i hyn ac wrth gwrs, byddwn yn edrych ar hyn yn y cyfarfod teirochrog ym mis Mehefin.

15:25

Weinidog, roeddem eisoes yn gwybod, fel Aelodau lleol, nad yw adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn un sy'n perfformio'n dda yng Nghymru. Rwy'n drist iawn, fy hun, ar ôl darllen yr adroddiad a dysgu mai dyma'r adran achosion brys sy'n perfformio waethaf yng Nghymru erbyn hyn. Ym mis Mawrth 2022, dim ond 44.1 y cant o gleifion a welwyd o fewn y targed pedair awr; cafodd 62.4 y cant eu gweld o fewn y targed wyth awr; a threuliodd 1,351 o bobl fwy na hanner diwrnod, 12 awr, yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Nawr, mae ein gwaith achos yn tynnu sylw at y sefyllfa dyngedfennol yng Nglan Clwyd, ond cipolwg yn unig y mae adroddiad AGIC yn ei roi i ni ar ba mor ddrwg yw pethau mewn gwirionedd. Ac rwy'n cydnabod eich bod yn cydnabod hynny, a diolch i fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, oherwydd pe na baech chi wedi codi hyn fel cwestiwn amserol, roeddwn yn gobeithio ei godi fel rhyw fath o gwestiwn brys.

Rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau Darren Millar. Mae'n dorcalonnus bod yn Aelod pan fo pobl yn cysylltu â ni bob dydd gyda phethau sy'n mynd o chwith yn y bwrdd iechyd hwn. Ac nid ydym eisiau beirniadu'r bwrdd iechyd hwn yn ddi-sail. Mae gennym staff gwych yno'n gweithio'n galed iawn, ond maent hwy eu hunain o dan straen mawr. Fe fyddwch yn colli aelodau o staff, nid oherwydd yr hyn a ddywedwn yma, ond oherwydd yr amodau y maent yn gweithio ynddynt a'r pwysau sydd arnynt. Weinidog, sut y credwch chi rwy'n teimlo wrth ddarllen hyn? Fod yr amgylchedd generig, yr ystafell glinigol, offer dadebru, offer sugnedd ocsigen, offer codi a chario yn fudr; fod cyfleustodau a chegin ward yn llychlyd neu'n fudr; fod cleifion sydd angen troli yn y prif ardaloedd, os ydynt ar gael—

Rydych wedi rhoi amser i Aelodau eraill, rhowch amser i mi, os gwelwch yn dda.

Maent yn cael eu cadw yn yr ystafell aros fel mater o drefn; nid oes unrhyw wiriadau cyson na pharhaus i gleifion risg uchel. Gallai hynny fod yn unrhyw un o'n perthnasau neu berthnasau ein hetholwyr. Mae cydymffurfiaeth â—

Rwyf wedi diffodd y meicroffonau, oherwydd gofynnais i sawl Aelod gadw eu cwestiynau—. Rydych yn gyfyngedig o ran amser cwestiynau, fe wyddoch hynny, ac felly rydych wedi mynd y tu hwnt i'r amser a neilltuwyd eisoes. Cadwch at y cwestiwn os gwelwch yn dda.

Iawn, fe wnaf hynny. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Weinidog, pan roddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig yn 2015, roedd angen gwelliannau o ran arweinyddiaeth a llywodraethu. Tynnodd adroddiad AGIC sylw at bryderon difrifol. Felly, a yw'n wir, saith mlynedd yn ddiweddarach, fod amcanion y mesurau arbennig hyn yn dal i fod heb eu cyflawni? Cwestiwn 1 oedd hwnnw. A'r cwestiwn olaf, Ddirprwy Lywydd: Weinidog, fe wyddoch yn iawn beth yw fy marn am adrannau achosion brys yng ngogledd Cymru—yng ngoleuni methiant yr ysbyty penodol hwn, a wnewch chi edrych yn awr ar Ysbyty Cyffredinol Llandudno, ac ar roi mesurau ar waith yno a fyddai o leiaf yn tynnu pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd ac yn arwain, gobeithio, at ganlyniadau mwy diogel ar gyfer ein hetholwyr? Diolch.

Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, mae Glan Clwyd, ynghyd ag adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, yn gweld cynnydd enfawr yn y galw, ac mae rhywfaint o'r galw hwnnw'n deillio o'r ffaith bod pobl na wnaeth geisio cymorth yn ystod y pandemig yn gwneud hynny yn awr. Ond mae'r sefyllfa yng Nglan Clwyd yn waeth nag mewn ysbytai eraill, a dyna pam y mae angen inni sicrhau ein bod yn tynnu sylw at Ysbyty Glan Clwyd—ac nid oes neb yn dweud na ddylech dynnu sylw ato; mawredd, os na thynnwch chi sylw ato, gallaf ddweud wrthych y byddaf i'n tynnu sylw ato. Felly, mae'n bwysig inni ddeall bod yr arweinyddiaeth a'r trefniadau llywodraethu a oedd yn destun mesurau arbennig ond sydd bellach yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu, sy'n rhywbeth yr ydym yn dal i'w fonitro ac angen ei wella, a dyna pam y byddwn yn ailedrych ar hyn pan gawn ymateb a'r argymhelliad o'r cyfarfod teirochrog ym mis Mehefin—cawn weld beth fydd ganddynt i'w ddweud am hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn deall y bydd yna dîm rheoli ysbytai estynedig a phresenoldeb gweithredol yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys, ac y bydd yna fwy o ddefnydd o hapwiriadau cadw cofnodion. Mae'n gwbl annerbyniol i ysbyty gael ei ddisgrifio'n 'fudr', yn enwedig yn yr hinsawdd presennol. Nid yw'n adroddiad deniadol, ac yn amlwg mae angen inni sicrhau eu bod yn deall difrifoldeb yr hyn sy'n digwydd yma.

Gallaf ddweud wrthych fod Ysbyty Cyffredinol Llandudno eisoes yn cael ei ddefnyddio fel man lle mae pobl yn mynd i gael eu rhyddhau. Felly, mae hwnnw eisoes yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi ymweld—[Torri ar draws.] Rwyf wedi ymweld ag ef, ac mae'n—. Mae'n eithaf llwyddiannus o ran ysgwyddo rhywfaint o'r baich. Ac yn amlwg, os oes angen parhau â'r trefniant hwnnw yn fwy hirdymor, rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn ystyried hynny. Ond rwy'n derbyn bod Ysbyty Glan Clwyd mewn sefyllfa anodd iawn mewn gwirionedd, a byddwn yn sicr yn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn deall bod brys gwirioneddol yn awr i wella'r sefyllfa.

15:30

Darllenais adroddiad gwirio ansawdd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y bore yma, ac roedd ei gynnwys yn frawychus—yn wirioneddol frawychus. Ac rwy’n bryderus iawn am ddiogelwch fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd, ac rwy'n bryderus hefyd am fy etholwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r ysbyty ac arweinyddiaeth y bwrdd iechyd wedi gwneud cam â'r cleifion a'r staff dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r ffaith i’r adroddiad hwn dynnu sylw at yr angen am newid diwylliannol sylweddol er mwyn gwneud yr adran yn amgylchedd diogel ac effeithiol i gleifion a staff yn peri cryn bryder, fel y mae’r ffaith nad yw’r gwersi a ddysgir o ddigwyddiadau'n cael eu rhannu fel mater o drefn ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Weinidog, a ydych yn credu bod y bwrdd iechyd lleol yn addas at y diben? A gofynnodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, y cwestiwn i chi, ac ni chredaf ichi ateb y cwestiwn, felly fe ofynnaf i chi eto: a ydych yn gresynu at benderfyniad eich Llywodraeth i dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig cyn etholiadau'r Senedd y llynedd? Ac a oes gennych unrhyw gynlluniau i adolygu gwasanaethau ar draws y rhanbarth er mwyn sicrhau amgylchedd diogel i gleifion a staff?

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn sicr, rydym wedi gweld pwysau aruthrol yng Nglan Clwyd, ac mae hynny'n un o'r rhesymau pam yr euthum yn syth i'r ysbyty cyn gynted ag y gwelais yr adroddiad cyntaf, a threulio'r diwrnod yn yr ysbyty, nid ymweliad cyflym yn unig, ond treuliais amser gyda phobl ar y rheng flaen yn yr adran achosion brys, yn gweld y math o bwysau sydd arnynt, a gallaf ddweud wrthych fod y pwysau'n aruthrol. Cyfarfûm hefyd â’r undebau llafur, a soniodd wrthyf sut y mae staff yn ymdopi. Mae hwn yn gyfnod anodd ac maent yn sefyllfaoedd anodd, ond mae’n amlwg nad yw Glan Clwyd a Betsi'n ymdopi cystal â byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Ac wrth gwrs, felly, mae angen inni edrych ar hynny, a dyna pam y bydd y cyfarfod teirochrog yn rhoi rhyw syniad i ni a oes angen inni uwchgyfeirio'r sefyllfa.

Credaf fod fy rhagflaenydd wedi gwneud y peth iawn yn edrych ar y ffordd yr oedd bwrdd Betsi'n cael ei redeg a sicrhau ei fod yn eu hisgyfeirio o’r ymyrraeth a oedd ar waith. Ond ers hynny, rydym wedi cael prif weithredwr newydd, credaf fod gennym gadeirydd sy'n weithgar ac sy'n ymgysylltu â'r gweithlu ac sy'n gwbl benderfynol o newid y sefyllfa. A chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd iawn yma rhwng sicrhau ein bod yn gweld gwelliannau enfawr ym mwrdd Betsi, yn enwedig yn yr adran achosion brys a gwasanaethau fasgwlaidd, a hefyd yn sicrhau ein bod yn cefnogi'r staff, sydd wedi bod dan bwysau aruthrol dros gyfnod hir iawn o amser.

15:35

Diolch. Nid oeddwn am siarad ar y pwnc hwn, ond fe wnaf yn awr, felly gobeithio bod yr hyn a ddywedaf yn iawn. Yn aml, gofynnir i mi a wyf yn credu bod y bwrdd iechyd yn rhy fawr. Ac mae fy synnwyr cyffredin, fy adwaith greddfol, yn dweud, 'Ydy, mae'n rhy fawr.' Mae'n ardal enfawr—[Torri ar draws.] Synnwyr cyffredin. Ond rwy'n hoffi holi pobl, felly gofynnais i weithwyr iechyd proffesiynol, gofynnais i bobl yn y gwasanaethau cymdeithasol, beth roeddent yn ei feddwl, hynny yw, a oes angen inni wneud rhywbeth yn awr. Ac roeddent yn dweud y byddai gwneud rhywbeth yn awr yn weithred gostus, fod ad-drefnu'n ddrud iawn, a bod pethau eraill y mae angen rhoi sylw iddynt yn gyntaf. Mae llawer o wasanaethau rhagorol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac rwyf mor falch fod fy merch, sy’n byw ar yr ochr arall i'r ffin, wedi gallu cael ei phlentyn yn Wrecsam, oherwydd, dros y ffin yn swydd Amwythig, mae’r gwasanaethau iechyd mamolaeth yno'n wirioneddol wael. Felly, mae rhai adrannau da iawn, ac nid wyf am ladd arnynt, ond mae rhai sydd angen buddsoddiad.

Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ddrwg gennyf, dywedais nad oeddwn am—. Felly, gwn fod Ysbyty Brenhinol Alexandra yn gobeithio cael buddsoddiad yn hynny, i helpu i leddfu'r pwysau ar yr uned mân anafiadau—[Torri ar draws.] Mân anafiadau. Ond gwn fod problem oherwydd y gostyngiad o 11 y cant yn y cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Na, rwy'n siarad, rwy'n gofyn cwestiwn.

Arhoswch funud. Os gwelwch yn dda, gofynnwch eich cwestiwn, gan ein bod yn symud ymlaen, mae'r amser yn mynd rhagddo.

Felly, rwy’n gofyn i’r Gweinidog a yw’r diffyg cyllid cyfalaf hwnnw, gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, yn cael effaith ar ein gallu i adeiladu gwasanaethau ychwanegol i dynnu’r pwysau oddi ar rai ysbytai penodol. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, byddwn yn cytuno â chi, Carolyn, fy mod yn credu y byddai meddwl am ad-drefnu yng nghanol y pandemig, pan fo gennym y rhestrau aros hiraf erioed, yn weithred ddiangen. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl, a’r hyn y maent ei eisiau yw cael eu trin yn dda a bod yn siŵr eu bod yn cael eu gweld mewn modd amserol. Credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sôn am yr hyn y mae bwrdd Betsi'n ei wneud yn dda. Ganddynt hwy y mae'r cyfraddau canser gorau, er enghraifft, yng Nghymru.

Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd eich bod yn llygad eich lle ei bod yn anodd, oherwydd y cyfyngiad ar ein cyllid cyfalaf, inni roi’r buddsoddiad y byddem wedi’i ddymuno. Edrychwch, credaf ei bod yn bwysig iawn—[Torri ar draws.] Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall, fel Llywodraeth, ein bod wedi ymrwymo i wella’r sefyllfa yng Nglan Clwyd, ond hefyd yn fwy cyffredinol ledled Cymru, lle mae ein holl adrannau damweiniau ac achosion brys o dan bwysau aruthrol. Nid ydynt erioed wedi gweld galw fel hyn o'r blaen. Rwyf wedi cael cyfarfodydd heddiw gyda’r gwasanaeth ambiwlans, i sicrhau ein bod yn deall y math o bwysau sydd arnynt, a gallaf ddweud wrthych eu bod yn gweld cynnydd o fis i fis yn nifer y bobl sy'n galw am eu gwasanaethau.

Diolch, Weinidog. Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi atgoffa’r Aelodau, os gwelwch yn dda, pan fydd gennym fater angerddol fel hwn—ac mae’n ennyn angerdd ac emosiwn ymhlith yr Aelodau, gan eich bod yn cynrychioli eich etholwyr—i barchu'r Cadeirydd pan fydd y Cadeirydd yn gofyn ichi ofyn cwestiynau a dim areithiau hir. Mae’n bwysig inni gyrraedd y cwestiynau fel y gall yr Aelodau eu gofyn a’r Gweinidogion eu hateb. Canolbwyntiwch ar hynny.

Bydd y cwestiwn olaf heddiw yn cael ei ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Galwaf ar Huw Irranca-Davies.

Protocol Gogledd Iwerddon

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw oblygiadau i Gymru o'r cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch y bwriad i ddeddfu i newid telerau protocol Gogledd Iwerddon? TQ626

Diolch am eich cwestiwn. Mae angen mwy o fanylion arnom ynglŷn â'r cynigion hyn er mwyn asesu eu heffaith. Mae gennym ddiddordeb uniongyrchol mewn unrhyw beth sy’n effeithio ar y ffordd y mae nwyddau’n symud rhwng Prydain ac ynys Iwerddon, ac mae angen i Weinidogion y DU ymgysylltu â ni ar fyrder ynglŷn â'u cynigion.

Gwnsler Cyffredinol, mae cyhoeddiad Ysgrifennydd Tramor y DU yn codi pryderon clir ynghylch llif nwyddau rhwng Prydain ac ynys Iwerddon i'n porthladdoedd sy’n wynebu’r gorllewin, yn enwedig Caergybi, ac i fusnesau Cymru yn fwy cyffredinol. A gwae ni os ydym yn anwybyddu pwysigrwydd diogelu ac amddiffyn cytundeb Gwener y Groglith. Rydym yn nodi dyhead Llywodraeth y DU i ailysgrifennu protocol Gogledd Iwerddon yn unochrog. Mae’n gytundeb rhyngwladol rhwymol, y gwnaethant ei negodi eu hunain, gwnaethant gytuno arno eu hunain, ac fe wnaethant ei werthu i Senedd y DU ac i’r cyhoedd ym Mhrydain fel rhan o’r cytundeb gwych a oedd yn barod i'w bobi, ac fe wnaethant hefyd warantu ar yr un pryd na fyddai unrhyw archwiliadau rhwng Gogledd Iwerddon a’r DU. Ac wrth gwrs, mae dadwneud y protocol yn tanseilio enw da’r DU fel partner rhyngwladol dibynadwy. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a fu Llywodraeth Cymru yn rhan o unrhyw drafodaethau ynglŷn â chyhoeddiad Llywodraeth y DU i ailysgrifennu protocol Gogledd Iwerddon? Ac o gofio pwysigrwydd hyn yn uniongyrchol i Gymru yn ogystal ag i’r DU yn gyffredinol, a yw Llywodraeth y DU wedi cytuno â chais Prif Weinidog Cymru i drafod hyn ar fyrder yn un o gyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a'r UE?

15:40

Diolch am eich cwestiwn atodol, ac wrth gwrs, rydych yn codi materion pwysig mewn perthynas ag achosion posibl o dorri cyfraith ryngwladol, ac ni ddylid tanbrisio'r rheini. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU ddydd Llun 16 Mai i fynegi ei bryderon ynghylch y cynigion i gyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno rhannau o’r protocol. Cafodd Gweinidog yr Economi alwad gyda James Cleverly nos Lun, pan roddodd y Gweinidog Cleverly wybodaeth am y datganiad, ond ni chafwyd unrhyw drafodaeth arall o sylwedd. Rydym yn cydnabod bod y protocol yn gymhleth ac yn fater sensitif, a dyna pam mai drwy ddeialog yn unig, nid drwy gamau gweithredu unochrog, y gellir dod o hyd i ateb y gall y ddwy ochr gytuno arno.

Credaf ei bod hefyd yn hanfodol—ac mae’n deillio o’r cwestiwn atodol—fod y sefyllfa bresennol yn cael ei thrafod gyda Llywodraethau datganoledig mewn perthynas â Chymru yn benodol. Mae gennym ddiddordeb uniongyrchol mewn unrhyw beth sy’n effeithio ar y ffordd y mae nwyddau’n symud rhwng Prydain ac ynys Iwerddon ac ar faterion a allai effeithio ar fusnesau Cymru yn fwy cyffredinol. Yn benodol, mae angen inni ddeall beth fydd eu cynigion yn ei olygu i fewnforion o ynys Iwerddon yr ydym yn datblygu’r seilwaith angenrheidiol i gynnal archwiliadau iechydol a ffytoiechydol ar eu cyfer. Felly, am y rheswm hwnnw, galwodd y Prif Weinidog yn ei lythyr am drafodaethau gweinidogol pellach, o bosibl mewn un o gyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a'r UE. Nid ydym wedi cael ymateb i hynny eto. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw i’r argyfwng costau byw presennol, y mae effeithiau economaidd Brexit eisoes yn effeithio arno, gael ei waethygu ymhellach gan anghydfod masnach rhwng y DU a’i phartner masnachu pwysicaf.

Credaf ei bod yn bwysig fod deialog bellach rhwng yr UE a'r DU, a chredaf ei bod hefyd yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â'r Llywodraethau datganoledig lle y ceir effaith ar bobl, yn enwedig yma yng Nghymru, yn amlwg. Nid oes unrhyw un yn dymuno gweld camau gweithredu unochrog. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir nad oedd yn dymuno bod mewn sefyllfa lle roedd angen iddi gyflwyno newidiadau posibl i’r cytundeb ar un ochr yn unig, ond mae’n bwysig cael atebion pragmatig. Credaf fod y Bil a luniwyd a’r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ddoe yn bragmatig. Nid oeddent yn sôn am rwygo cytundeb rhyngwladol o gwbl; cafodd mân newidiadau eu cynnig er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon sylweddol sydd wedi'u codi ledled Gogledd Iwerddon, yn enwedig gan y gymuned fusnes. A ydych yn derbyn, Gwnsler Cyffredinol, er nad yw’r mater hwn wedi’i ddatganoli, mai cyfyngedig fydd yr ymgysylltu sy’n gorfod digwydd gyda Llywodraeth Cymru, am mai rhwng Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd y mae'r cytundeb, wrth gwrs? Ac a ydych yn derbyn fod angen i'r Undeb Ewropeaidd hefyd symud a cheisio cyfaddawdu os ydym am ddod i gytundeb—[Torri ar draws.]—os ydym am ddod i gytundeb sy'n sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon ac sy'n cynnal egwyddorion cytundeb Gwener y Groglith?

Diolch am eich cwestiwn. Mae'n sicr yn wir fod deialog yn bwysig, a chredaf ei bod yn bwysig eich bod yn cydnabod pwysigrwydd deialog â'r Llywodraethau datganoledig. Ni chredaf ei fod yn fater bach. Mae’n fater a allai gynnwys Llywodraethau datganoledig o’r diwrnod cyntaf un, gan fod buddiannau economaidd sylweddol ynghlwm wrth hyn. Credaf fod yr Aelod blaenorol, Huw Irranca-Davies, wedi cyfeirio at yr effeithiau economaidd sylweddol ar borthladdoedd Cymru. Credaf eich bod yn tanbrisio goblygiadau’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig, sef ei bod, o fewn ychydig wythnosau, yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth. Credaf hefyd fod angen inni fod yn glir ynglŷn â'r llanast y mae Llywodraeth y DU wedi'i greu, drwy'r hyn sy'n fethiant gwladweinyddol a diplomyddol.

Gadewch inni fod yn glir: llofnododd gytundeb sy'n gyfreithiol rwymol mewn cyfraith ryngwladol. Dyma gytundeb Prif Weinidog y DU. Nawr, un cynnig a awgrymodd oedd y dylem ddefnyddio erthygl 16 o brotocol Gogledd Iwerddon. Dim ond mesur brys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer sefyllfa dros dro yw hwnnw. Mae hefyd yn agor y drws i'r UE ddefnyddio gwrthfesurau. I bob pwrpas, mae’r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU yn un sy’n agor y drws i ryfel masnach. Mae proses gymrodeddu annibynnol yn bosibl, ond nid yw’r Llywodraeth wedi sôn am hynny. Wrth gwrs, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw gwneud ei hun yn agored i her gyfreithiol yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.

Un peth sy’n glir iawn yw hyn: ni waeth beth a wnaiff Llywodraeth y DU, os yw’n deddfu, mae’n dal yn ofynnol iddi gydymffurfio ag erthygl 4 ac adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sydd drechaf. Felly, hyd yn oed os yw’n cyflwyno ei deddfwriaeth ddomestig ei hun, ni all anwybyddu ei rhwymedigaethau rhyngwladol. Ni waeth beth a wnaiff y DU ar lefel cyfraith ddomestig, ni all ddirymu rhwymedigaethau cyfraith ryngwladol, felly mae mewn perygl difrifol o ddinistrio ei henw da rhyngwladol, ei hygrededd mewn cyfraith ryngwladol, a dylem fod yn wlad sy’n cadw at ein gair, neu fel arall, pam fyddai unrhyw wlad byth yn ceisio masnachu gyda'r DU os na ellir ymddiried ynddi?

Credaf mai dau bwynt arall sydd angen eu gwneud mewn ymateb i’ch cwestiwn yw, yn gyntaf, beth sy’n digwydd: mae’r dull a fabwysiadwyd, yn gyntaf, yn ansefydlogi’r sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'n rhaid inni beidio â thanbrisio hynny, ond mae hefyd mewn perygl o greu difrod sylweddol iawn i economi Prydain ac i economi Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt o ddifrif, y bydd yn cymryd rhan mewn deialog, ond yn anad dim, y bydd yn ymgysylltu â’r Llywodraethau datganoledig ynghylch materion sy’n effeithio'n uniongyrchol ar ein llesiant economaidd.

15:45

Bythefnos cyn refferendwm Brexit, rhagwelodd Syr John Major, pe bai Brexit yn digwydd, y byddai pos jig-so’r broses heddwch yn cael ei daflu i’r awyr ac na fyddai gan unrhyw un syniad lle byddai’r holl ddarnau’n glanio. Ond roedd gan un dyn yr ateb, ac nid unrhyw hen ateb, roedd ganddo ateb parod i'w bobi yn 2019, ac arwyddwyd, seliwyd a thraddodwyd yr ateb hwnnw gan ei Lywodraeth drwy brotocol Gogledd Iwerddon. Mae bellach yn dymuno torri ei air ar y cytundeb rhyngwladol rhwymol hwnnw, ac mae wedi cael ei rybuddio gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, gan Taoiseach Iwerddon i beidio â gwneud hynny. Onid dyma'r eironi yma, fod y Brexiteers rhonc sydd â chymaint o obsesiwn ynghylch statws Prydain yn y byd, a bod Prydain yn wych yn y byd unwaith eto, yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr? Maent yn tanseilio statws Prydain yn y byd—

A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi, gadewch inni fod yn onest, nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw atebion ynghylch sut i ddatrys y cwestiwn ynglŷn â ffin Gogledd Iwerddon, nid oes ganddynt unrhyw atebion ynglŷn â sut i ddatrys y materion cyfansoddiadol sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ac mewn gwirionedd, fod eu gweithredoedd eu hunain yn prysur gyflymu tranc eu hundeb gwerthfawr?

Mae’r Aelod yn gwneud ei bwynt yn dda iawn. Mae gennyf ddau bryder penodol. Y cyntaf yw tanseilio cyfraith ryngwladol, ac mae hynny’n rhywbeth a ddylai beri pryder i unrhyw un o swyddogion y gyfraith, a byddwn yn gobeithio bod swyddogion eraill y gyfraith ar draws Llywodraethau’r DU yn rhannu’r pryderon hynny sydd gennym. Mae'r pwynt arall y mae’n ei wneud, wrth gwrs, yn ymwneud â'r effaith ansefydlogi. Fe gyfeirioch chi at Lywodraeth yr Unol Daleithiau a goblygiadau'r broses hon o ran tanseilio cytundeb Gwener y Groglith, ond yn anad dim, methiant diplomyddiaeth a gwladweinyddiaeth ar ran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y sefyllfa y mae ynddi. Ni fydd clecian cleddyfau gyda'r bygythiad o ddeddfwriaeth sy’n torri cyfraith ryngwladol yn datrys unrhyw beth, ac rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl. Ond unwaith eto, rwy'n gwneud y pwynt hollbwysig hwn fod osgoi neu beidio ag ymgysylltu'n briodol â'r Llywodraethau yn y DU sydd hefyd â phryderon sylweddol am yr effaith economaidd yn dangos dirmyg tuag at y Llywodraethau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd yn ailystyried ei safbwynt, ac y bydd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol agos iawn.

15:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym eisoes wedi gweld rhywfaint o niwed y Brexit parod i’w bobi wrth gwrs, neu’r syniad hanner pan, fel y mae’n well gennyf ei alw, ar borthladdoedd Cymru, gan eu bod yn osgoi ein porthladdoedd yn barod. Felly, rydym eisoes wedi gweld hynny. Wrth gwrs, Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, a luniodd y cynllun gwych hwn—nad yw mor wych, mae'n debyg, yn ôl yr hyn a ddywed bellach. Felly, hoffwn ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, y tu hwnt i’r niwed y bydd rhwygo’r cytundeb hwn yn ei achosi i statws rhyngwladol Cymru a'r DU yn y byd ehangach, a fyddwch yn cael trafodaethau â’ch swyddogion cyfatebol yn y gwledydd datganoledig i annog Prif Weinidog y DU i ailystyried y sefyllfa ryngwladol niweidiol iawn i fasnach ac ymddiriedaeth y mae ar fin rhoi'r DU ynddi?

Wel, diolch am eich cwestiwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Gweinidog yr Economi a Phrif Weinidog Cymru yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod y buddiannau rhyngwladol hynny a buddiannau’r DU, ond yn enwedig buddiannau Cymru, ar frig yr agenda mewn unrhyw drafodaethau, ac yn defnyddio pob cyfle i geisio dod â rhywfaint o synnwyr i'r sefyllfa hon.

Fe sonioch chi am yr effaith economaidd, ac wrth gwrs, ar adeg pan fo'n argyfwng costau byw, efallai y caf gyfeirio at yr hyn a ddywedodd cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Ngogledd Iwerddon. Os na fydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar y Llywodraethau datganoledig, efallai y bydd yn gwrando ar Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, llais busnes yng Ngogledd Iwerddon, a ddywedodd hyn:

'dylai gwleidyddion ym mhobman ganolbwyntio ar helpu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yng nghanol yr argyfwng costau byw gwaethaf ers degawdau.

'Gyda chwmnïau eisoes yn gwegian yn sgil cost gynyddol gwneud busnes, y peth olaf y maent am ei weld yw ansicrwydd pellach mewn trefniadau masnachu ynghanol heriau byd-eang gyda chadwyni cyflenwi.'

Credaf fod y datganiad hwnnw’n siarad drosto’i hun.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r un cyntaf gan Vikki Howells.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd. Fe'i dathlwyd am y tro cyntaf ym 1977, a'r llynedd, cymerodd dros 37,000 o amgueddfeydd ran mewn dros 150 o wledydd. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o amgueddfeydd fel arenâu ar gyfer cyfnewid diwylliannol, lle rydym yn cyfoethogi ein dealltwriaeth ohonom ein hunain ac eraill. Mae thema eleni, grym amgueddfeydd, yn canolbwyntio ar y potensial trawsnewidiol hwn. Mae’n archwilio sut y mae amgueddfeydd yn gwneud lles i’w cymunedau drwy ledaenu syniadau am gynaliadwyedd a’r economi gymdeithasol; arloesi a gwella prosesau digideiddio i ehangu mynediad; ac adeiladu cymunedol drwy wead democrataidd, cymdeithasol sy'n darparu cyfleoedd dysgu gydol oes. Yn wir, gall amgueddfeydd fod yn arfau pwerus ar gyfer newid cymdeithasol.

Mae mynediad i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn parhau i fod yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn bwysig iawn, gan ei fod yn sicrhau y gall pawb ymgysylltu â'n treftadaeth gyffredin. Cyn y pandemig, gwnaed 1.8 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn o dan y cynllun hwn. Mae cyhoeddiad heddiw gan y Dirprwy Weinidog diwylliant yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein hamgueddfeydd. Rwy'n croesawu'r addewidion yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi amgueddfeydd ac i sicrhau bod straeon eraill, megis profiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru, yn cael eu hadrodd.

I gloi, hoffwn sôn am Amgueddfa Cwm Cynon. Dyma berl go iawn, ac mae'n werth ymweld â’r safle o flaen olion hanesyddol ffwrneisiau gwaith haearn y Gadlys. Diolch i staff a gwirfoddolwyr yr amgueddfa am eu gwaith, nid yn unig ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd, ond drwy gydol y flwyddyn.

Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu ar Ddementia. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r cymunedau a’r gwasanaethau hynny am y gwaith a wnânt i gefnogi unigolion a theuluoedd sy’n byw gyda dementia, yn enwedig y rheini yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae gennym gymuned deall dementia Aberhonddu, a enillodd wobr am eu gwaith yn 2016; marchnad Llanelli oedd y farchnad gyntaf yng Nghymru sy’n deall dementia; mae Cymdeithas Alzheimer's yn cynnal gwasanaethau yn sir Benfro; gwasanaethau cymorth Age Cymru Dyfed; Materion Dementia ym Mhowys; a Chrucywel, tref sy'n deall dementia. Mae cymaint ohonynt, nid yn unig yn fy rhanbarth i, ond mewn llawer o rai eraill hefyd. Thema ymgyrch eleni yw diagnosis cynnar. Dim ond 53 y cant o'r bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis, sy’n golygu bod llawer yn mynd heb y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw gydag urddas.

Mae gennyf fy mhrofiadau personol fy hun. Roedd clefyd Alzheimer ar fy nhad, ac roedd dementia ar fy mam. Pan gawsant ddiagnosis, wrth gwrs, cawsom y gwasanaethau a oedd eu hangen arnynt, ond cyn hynny, roeddem yn ei chael hi'n anodd fel teulu, yn enwedig gyda’r cywilydd a’r stigma. Felly, hoffwn achub ar y cyfle i ofyn i’r Senedd gofnodi ein diolch i’r holl wirfoddolwyr, y gofalwyr, a'r gwasanaethau sydd wedi codi ymwybyddiaeth o ddementia er mwyn cynorthwyo i gael diagnosis cynnar a gwella ansawdd bywyd y bobl y mae dementia’n effeithio arnynt. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Yr wythnos hon yw Wythnos Twristiaeth Cymru, ac mae Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 yn gyfle i fusnesau a chymunedau ledled Cymru godi ymwybyddiaeth o’r sector ac arddangos ansawdd cynnig twristiaeth Cymru i dwristiaid o’r DU a gweddill y byd. Mae ymwelwyr yn gwario dros £6 biliwn y flwyddyn, ac mae twristiaeth yng Nghymru yn cyflogi bron i 10 y cant o weithlu Cymru. Ac i nodi Wythnos Twristiaeth Cymru 2022, mae thema Cynghrair Twristiaeth Cymru yn cefnogi’r ymgyrch recriwtio a sgiliau twristiaeth a lletygarwch, ‘y rhai sy'n creu Profiadau’. Ac mewn partneriaeth â phartneriaeth twristiaeth a sgiliau Cymru, a arweinir gan y diwydiant, yn 2021, lansiodd Croeso Cymru 'y rhai sy'n creu Profiadau', sef ymgyrch sgiliau a recriwtio i gefnogi'r sector drwy godi ymwybyddiaeth o'r niferoedd uchel o swyddi gwag a'r amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Mae’r ymgyrch yn targedu pobl ifanc, pobl sy’n gadael ysgol, myfyrwyr, pobl sy’n ansicr am eu gyrfa yn y dyfodol, neu oedolion ifanc a allai fod yn chwilio am waith hyblyg, er enghraifft ym maes gofal plant, ac oedolion hŷn eraill sy’n chwilio am waith rhan-amser neu hyd yn oed newid gyrfa. Neges yr ymgyrch eleni yw ymuno â'r rhai sy'n creu profiadau. Felly, ble bynnag y bo eich busnes twristiaeth yng Nghymru, gwn y bydd y Senedd hon am ddiolch i chi am eich holl ymdrechion parhaus i arddangos Cymru ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8003 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 22 Chwefror 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn wir am y cyfle i drafod cynnwys adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn gynnar yn ystod y Senedd yma, fe gytunodd y pwyllgor y dylai polisïau morol fod yn faes blaenoriaeth i ni yn ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf yma. Y bwriad oedd i'r ymchwiliad byr yma fod yn rhywbeth cychwynnol, yn rhyw fath o gipolwg ar y sefyllfa bresennol o ran y polisïau morol sydd gennym ni yng Nghymru. Ac er nad oedd gennym ni lawer o amser i gymryd y cipolwg cychwynnol yma, fe lwyddon ni, mae'n rhaid imi ddweud, i ymdrin â nifer fawr o bynciau. Ac mae'r pwyllgor, wrth gwrs, yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a gyfrannodd at ein gwaith ni, ac i RSPB Cymru a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn arbennig am roi rhagor o wybodaeth inni hefyd cyn y ddadl yma y prynhawn yma.

Nawr, mae arfordir Cymru, wrth gwrs, dros 2,000 km o hyd, llawer ohono fe'n destun cenfigen i'r byd i gyd yn grwn. Mae'n creu cyfleoedd ynni morol enfawr inni—digon i'n helpu i gyrraedd ein targedau datgarboneiddio—ac mae hyn yn ei dro yn gallu arwain at swyddi, twf economaidd ac adfywio ein cymunedau arfordirol—rhai o'r cymunedau hynny, wrth gwrs, sydd angen ein cymorth ni fel ag y mae pethau erbyn heddiw.

Ac mae ein hamgylchedd morol ni hefyd yn gartref i rai o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau mwyaf amrywiol a phwysig sydd gennym ni yn Ewrop, ac mae hynny hefyd yn rhywbeth i'w werthfawrogi ac i'w warchod ar yr un pryd. A thema allweddol ein hadroddiad ni oedd, wrth gwrs, y cydbwysedd rhwng y ddwy flaenoriaeth yma. Rŷn ni yn croesawu cynigion i gynyddu datblygiadau ynni morol dros y ddegawd nesaf, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod y cydbwysedd priodol yn cael ei daro rhwng y datblygiadau hynny a'r elfen o gadwraeth ac amddiffyn yr hyn sydd gennym ni o safbwynt ecosystemau morol a bioamrywiaeth.

Mae ein hadroddiad hi'n dechrau drwy ganolbwyntio ar gynllunio morol. Nawr, ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae gennyn ni gynllun morol cenedlaethol, ac fe ddywedodd y cyrff anllywodraethol amgylcheddol wrthym mai un o brif anfanteision y cynllun hwn yw nad yw e yn gynllun gofodol. Ac oherwydd hyn, dyw e ddim yn nodi, er enghraifft, ble y dylid lleoli datblygiadau na faint o ddatblygiadau fyddai yn gynaliadwy. Dyw e ddim yn caniatáu i ni ystyried effaith gronnol—cumulative impact—datblygiadau ar yr amgylchedd morol.

Roedd rhanddeiliaid o'r sector ynni adnewyddadwy yn credu'n gryf fod yn rhaid i'r degawd nesaf ganolbwyntio ar roi cynlluniau ar waith yn hytrach nag ailgynllunio strategaethau. Roedden nhw'n pryderu y byddai polisi newydd neu efallai dull newydd o weithredu yn arwain at ragor o oedi. Ar ôl ystyried y ddwy ddadl a'r ddau bersbectif yma, mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad mai'r ymateb gorau yn y lle cyntaf fyddai i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad allanol o gynllun morol cenedlaethol Cymru. Dyma'r amser i ystyried a fydd y cynlluniau a'r strategaethau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn parhau i fod yn addas i'r diben yng ngoleuni'r cynnydd disgwyliedig rŷn ni'n ei weld, ac yn ei ragweld, mewn datblygiadau morol.

Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor—ac mae gen i broblem weithiau efo derbyn pethau mewn egwyddor, achos dwi ddim wastad yn deall yn iawn beth mae hynny'n ei feddwl—rwy’n siomedig bod ei hymateb yn dangos na fydd dadansoddiad allanol yn cael ei gomisiynu ar gyfer yr adolygiad eleni, ond ar gyfer yr adolygiad nesaf, ond dyw hynny ddim yn cael ei gynnal tan 2025. Felly, Weinidog, mae hwn yn gyfle yn fy marn i sydd wedi’i golli, ac mae'n golygu na welwn ni'r newidiadau angenrheidiol am flynyddoedd eto i ddod.

Ail ffocws y pwyllgor oedd cynnydd y sector ynni adnewyddadwy morol. Dylwn ddweud ein bod yn croesawu ymdrechion Gweinidogion, drwy'r archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, i ddileu rhai o'r rhwystrau i ddatblygu. Bydd yr Aelodau wedi clywed datganiad Gweinidog yr Economi ddoe am y cynnydd yn y maes hwn, ac mae llawer i'w groesawu, ond ni fyddai sylwadau'r Gweinidog wedi gwneud fawr ddim i dawelu meddyliau rhai o'r cyfranwyr i'n gwaith pwyllgor. Bydd yr Aelodau wedi clywed Gweinidog yr Economi yn dweud ei fod yn disgwyl i gynhyrchiant gwynt ar y môr gynyddu o lefelau presennol o 726 MW i 2.8 GW erbyn 2030, gyda'r posibilrwydd o gynhyrchu 6.8 GW erbyn 2035. Mae hwnnw'n gynnydd sylweddol mewn ychydig mwy na degawd o nawr.

Nid yw'n syndod, yn y cyd-destun hwnnw, fod rhanddeiliaid unwaith eto wedi cwestiynu pa mor addas i'r diben yw cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y cynllun ynni morol yn ôl yn 2016. Nid yw'n esbonio uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni morol yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor. Felly, credwn fod angen edrych ar hyn eto. Rydym angen pennu trywydd ar gyfer y dyfodol, a byddai hyn wedyn yn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr ac yn magu hyder ym mhotensial hirdymor y sector. Unwaith eto, mae'r Gweinidog wedi cytuno mewn egwyddor i adolygu'r cynllun ynni morol, ond nid oes awgrym o amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, gwnaf.

16:00

Diolch am ildio ar y pwynt hwnnw, Llyr, ac am y ffordd yr ydych wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw. A fyddech yn cydnabod bod rhai o'r sefydliadau hynny, fel WWF, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, yr RSPB, yr Ymddiriedolaethau Natur ac eraill, mewn gwirionedd yn deall yr angen i fwrw ymlaen ag ynni adnewyddadwy, ond maent eisiau sicrhau ein bod yn diogelu rhai o'r rhywogaethau gwerthfawr hynny, gan gynnwys bywyd gwyllt ac adar mudol, ond morfilod hefyd? Mae angen inni wneud hyn yn iawn, ac mae data a thystiolaeth yn allweddol.

Mae hynny'n arwain yn ddi-dor at ran nesaf fy nghyfraniad. Rydych yn iawn, nid yw'n ddewis deuaidd rhwng y naill neu'r llall, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y fframweithiau a'r strategaethau a'r polisïau ar waith i sicrhau bod y datblygiadau hyn, y mae pob un ohonom eisiau iddynt ddigwydd, ac yn wir y mae pob un ohonom angen iddynt ddigwydd o ran yr heriau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â newid hinsawdd, yn cael eu gwneud ar y telerau cywir, ac o fewn y paramedrau cywir.  

Fe sonioch chi am fylchau yn y data a'r dystiolaeth, a hwnnw oedd y trydydd maes a drafodwyd yn ein gwaith. Nid yw cynlluniau a strategaethau morol ond cystal â'r data sy'n sail iddynt. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Mae diffyg sylfaen dystiolaeth gadarn i ategu'r penderfyniadau datblygu hynny'n golygu, mewn gwirionedd, fod risgiau cynhenid ynghlwm wrth gynyddu'r datblygiad y mae llawer ohonom eisiau ei weld. Fe wnaethom argymell y dylid adolygu a diweddaru strategaeth tystiolaeth forol Cymru yng ngoleuni'r archwiliad dwfn, a oedd yn ymrwymo i nodi'r prif fylchau yn y dystiolaeth forol a nodi mecanweithiau i'w llenwi. Felly, roeddem yn synnu wrth ddarllen ymateb y Gweinidog i'n hargymhelliad, sy'n dweud hyn:

'Mae swyddogion yn fodlon bod y blaenoriaethau tystiolaeth strategol trosfwaol yn dal i gynrychioli'r anghenion tystiolaeth lefel uchel gan gynnwys y rhai a nodwyd gan yr archwilio dwfn.'

Felly, mae'n debyg fod popeth yn iawn, nid oes unrhyw beth i boeni yn ei gylch. Weinidog, mae'r diffyg tystiolaeth, fel y clywsom, yn broblem wirioneddol. Dywedodd pawb hynny wrthym fel rhan o'r ymchwiliad. Ac os yw'r strategaeth yn iawn, mae'n amlwg fod rhywbeth arall nad yw'n gweithio, felly efallai y gallwch ddweud wrthym beth ydyw ac yn bwysicach, beth y bwriadwch ei wneud yn ei gylch. Ac rydych yn nodio, felly rwy'n edrych ymlaen at eich cyfraniad. Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at eich cyfraniad, ond yn enwedig yn awr. 

Ar ardaloedd morol gwarchodedig, rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhellion, ond wrth edrych yn fanylach gwelwn fod rhai meysydd yn peri pryder o hyd. Roedd argymhelliad 16 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau diweddaraf ar gyfer dynodi ardaloedd morol gwarchodedig iawn. Dywed y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn ar ôl rhaglen gwblhau'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig. Ond y gwir amdani yw na fydd yr ymgynghoriad ar y rhaglen honno yn cael ei gynnal tan 2023. Felly, unwaith eto, efallai y bydd blynyddoedd o oedi ar hyn. Ble mae'r brys?

Mae'n ymddangos bod ymateb y Gweinidog i adroddiad y pwyllgor yn creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Byddai unrhyw un sy'n ei ddarllen yn teimlo, yn briodol, nad oes unrhyw broblemau yn y maes polisi hwn, nad oes unrhyw wendidau y mae angen eu cryfhau, ac nad oes angen brys. Efallai y byddent hyd yn oed yn meddwl bod y Gweinidog yn ceisio gwthio'r materion hyn i'r naill ochr. Cymerwch enghraifft arall. Gofynnwyd i'r Gweinidog am amserlen ar gyfer ymgynghoriad ar ddyfodol treillrwydo môr-waelodol a llusgrwydo mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae llawer o Aelodau wedi'i godi yma yn y Siambr yn y gorffennol, a gwn fod y Pwyllgor Deisebau hefyd wedi ystyried hyn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar reolaeth gêr llusg eto, gan gynnwys treillrwydo môr-waelodol, mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Mewn cyferbyniad, wrth gwrs, mae gweinyddiaethau'r DU wedi symud ymlaen i gyflwyno mesurau rheoli ar gyfer offer pysgodfeydd mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Yn ei hymateb, dywed y Gweinidog wrthym:

'Bydd yr amserlen ar gyfer unrhyw ymgynghoriad yn cael ei phennu ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru ar y pryd.'

Beth y mae hynny'n ei olygu? Dim manylion, dim dyddiadau. Rydym eisoes yn llusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU ac efallai y bydd yn flynyddoedd cyn y gwelwn newidiadau ar y mater penodol hwnnw. 

Weinidog, ar ddechrau fy araith, dywedais fod yr ymchwiliad hwn yn gipolwg ar iechyd polisïau morol, felly beth oedd dyfarniad y pwyllgor? Wel, rydym i gyd yn disgwyl i ddatblygiadau ynni morol gynyddu'n sylweddol yn ystod y degawd hwn ac eto mae ein hamgylchedd morol dan fygythiad. Felly, er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae arnom angen system gyfannol sy'n ystyried effeithiau datblygiadau cronnol ar yr amgylchedd morol, gan wneud yr hyn a all, wrth gwrs, i ddileu unrhyw rwystrau diangen a nodir i'r defnydd o adnoddau naturiol. Mae'r pwyllgor yn credu ein bod yn bell o hynny ar hyn o bryd. Felly, mae arnom angen i'r Gweinidog a'r Llywodraeth dderbyn nad yw meddylfryd busnes fel arfer yn ddigon i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth a wynebwn. Mae angen inni wneud mwy ac mae angen inni ei wneud yn gynt. Diolch.

16:05

Mae'n bleser dilyn Llyr, ein Cadeirydd ar y pwyllgor hwn, a dweud ychydig eiriau. Ceisiaf beidio ag ailadrodd yr hyn a ddywedodd, ond hoffwn grybwyll ychydig o bwyntiau, gan gynnwys rhai yn ymateb Llywodraeth Cymru hefyd, cyn imi ddod at y mater allweddol, yn fy marn i, sef data a thystiolaeth, ac rwyf am ganolbwyntio ar hynny, os yw hynny'n iawn. 

Yn gyntaf oll, o ran argymhelliad 1, y dylid comisiynu dadansoddiad allanol o gynllun morol cenedlaethol Cymru, nodwn fod cytundeb mewn egwyddor yno, ond bydd yn llywio'r adroddiad statudol nesaf. Credaf y byddai'r pwyllgor yn teimlo'n gryf y byddem eisiau ei weld yn gynharach na hynny oherwydd y brys y mae'r Cadeirydd wedi'i bwysleisio. Felly, byddwn yn dal i wthio'n galed ar hynny, rwy'n credu, ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd ato. 

Ar ymgysylltu â rhanddeiliaid yn argymhelliad 2, hoffwn ddweud wrth y Gweinidog nad dweud nad oes strwythurau ar waith i ymgysylltu â rhanddeiliaid y mae, ond yn hytrach, mae'n ymwneud ag ansawdd yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Mae rhai yn teimlo—ac rwy'n cyfaddef mai unigolion o'r sector amgylcheddol ydynt yn bennaf—er eu bod yn ymgysylltu, ac yn ymestyn eu hunain i ymgysylltu â'r gwahanol grwpiau rhanddeiliaid, nad ydynt yn sicr eu bod yn cael eu clywed yn y ffordd yr ydym yn wynebu'r argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth. Nid y llinell sylfaen y maent hwy eisiau dechrau ohoni yw'r llinell sylfaen y mae'r Llywodraeth eisiau dechrau ohoni. Maent eisiau gweld darlun o wely'r môr a'r fflora a'r ffawna fel y dylai fod, nid fel y mae ar hyn o bryd, ac yn y blaen. Felly, byddai'n anogaeth, mewn perthynas ag argymhelliad 2, Weinidog, i allu gweld yr argymhelliad hwnnw yn yr is-destun sy'n sail iddo sef ei fod yn ymwneud ag ansawdd yr ymgysylltu a'r gwrando. Rydych yn ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'r ymgysylltiad a'r manylion i'w ddilyn hefyd. Felly, peidiwch â chymryd hynny o chwith. A gwn mai fi yw hunllef waethaf unrhyw Weinidog yn y swydd honno—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod hynny; diolch am ddweud 'ie'. Fel cyn-Weinidog pysgodfeydd a morol fy hun, fi yw'r hunllef waethaf. 

Ar argymhelliad 4, sy'n nodi'r cynlluniau ar gyfer datganoli'r cyfrifoldeb dros reoli Ystad y Goron, rwy'n meddwl tybed, Weinidog, a oes yna wrth-ddweud, oherwydd rydych wedi derbyn hynny, ac mae hynny'n wych, ond wedyn mae'n sôn am 

'edrych ar oblygiadau datganoli.... Unwaith y bydd y dasg hon wedi'i chwblhau, byddwn yn gallu cwblhau ein cynlluniau ar gyfer Ystâd y Goron.'

Rydych wedi derbyn yr argymhelliad ynghylch datganoli'r cyfrifoldeb dros reoli, sy'n nodi'r cynlluniau, ac yn y blaen. Mae'n debyg na allwch fynd ymhellach ar hyn o bryd, ond byddai'n ddiddorol pe gallech godi heddiw a dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, mae'n gwneud synnwyr yn awr i symud ymlaen gyda hyn a'i ddatganoli.' Gyda llaw, nid wyf yn tanbrisio'r rôl sydd ganddynt a'r gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, ond byddai'n ddiddorol cael rhai o'r dulliau rheoli yma.

Ar argymhellion 9, 10 ac 11, ar dystiolaeth a data—. Wel, gadewch imi ddod yn ôl at hynny mewn munud, oherwydd rwyf am dreulio ychydig funudau'n sôn amdano. Gadewch imi fwrw ymlaen yma. Ar argymhelliad 13, lle rydym yn edrych ar y diffyg cynnydd ar ddynodi ardaloedd morol gwarchodedig a pharthau cadwraeth morol, ac yn gofyn ichi nodi amserlen, rydych wedi derbyn hyn, ac rydych wedi dweud y bydd hyn yn digwydd yng ngham nesaf y gwaith sydd i'w lansio yn ystod y misoedd nesaf, sy'n wych i'w glywed. Yn dilyn hynny, yn argymhelliad 16, symudwn ymlaen at y cynnydd araf ar ardaloedd morol gwarchodedig iawn, ac unwaith eto, rydych yn derbyn hynny. Rydych yn derbyn y

'Dylid ystyried yr angen, a phriodoldeb, ar gyfer meysydd lle ceir mwy o ddiogelwch fel rhan o'r broses hon.' 

Rydym yn deall hynny i gyd. Y cyfan y byddwn yn ei ddweud wrthych—a gwn eich bod yn deall hyn, Weinidog, rwy'n gwybod yn iawn eich bod yn deall hyn—yw bod yna ddyhead mawr allan yno i fwrw ymlaen â dynodi'r rheini, a hefyd, felly, oherwydd bod hynny'n ein galluogi i fwrw ymlaen â'r gwaith o reoli'r ardaloedd hynny'n effeithiol hefyd, oherwydd dyna'r peth arall. Mae gennym argymhelliad yma sy'n ymwneud â threillrwydo—dyna'r unig beth arall yr oeddwn eisiau sôn amdano cyn y materion sy'n ymwneud â data a thystiolaeth. Mae'n ymwneud â llusgrwydo a threillrwydo môr-waelodol. Unwaith eto, rydych wedi derbyn ein hargymhelliad, ac rydych wedi dweud—ac mae wedi'i ysgrifennu'n dda iawn—y byddwch yn cynnal

'gwerthusiad strwythuredig o'r rhyngweithio posibl rhwng offer pysgota â nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru y cyfeirir atynt fel prosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru.'

ac y bydd yn cael ei gwblhau yn ystod haf 2022. Mae hynny'n wych iawn, ond rydym yn gwybod am y niwed y mae'r gweithgareddau hyn yn ei wneud i rai o'r ardaloedd mwyaf sensitif. A gwn fod hyn yn anodd i bobl sy'n ymwneud â'r diwydiant pysgota, ond mewn gwirionedd, dyma un o'r meysydd y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniad arno yn y pen draw mewn perthynas â'r dyhead i newid yr ardaloedd hyn yn ôl i'r hyn y gwyddom y dylent fod yn hytrach na'r hyn ydynt ar hyn o bryd, a sut y cânt eu difrodi. 

Mae fy amser wedi dod i ben yn barod. Gofynnaf i chi'n benodol, felly, heb gyfeirio at fy nodiadau, i edrych ar fater tystiolaeth a data. Clywsom lawer o dystiolaeth dda yma. Dywedodd llawer o bobl nad ydym lle y dylem fod mewn perthynas â data a thystiolaeth, ac oni bai ein bod yn gallu gweld beth sydd yno yn y parth mawr glas o dan y tonnau, ac yn y blaen, bydd yr hyn y gallwn ei wneud yn gyfyngedig. Weinidog, mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers dros ddegawd, ceisio dwyn ynghyd y sylfaen dystiolaeth. Gwn fod sensitifrwydd masnachol, ac wrth i fy mhum munud ddirwyn i ben, hoffwn ddweud yn syml, Weinidog, fod angen inni fynd ymhellach gyda'r strategaethau gwyddoniaeth forol a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i chwalu'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth rhwng y byd academaidd, buddiannau masnachol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylai pawb fod yn rhannu'r wybodaeth honno, hyd yn oed os yw'n ddienw, fel y gallwn fapio'r hyn sy'n digwydd allan yno ar hyn o bryd yn fwy cywir. Diolch yn fawr.

16:10

Rwy'n falch fod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i'w drafod heddiw. Derbyniwyd 15 o'r argymhellion, a derbyniwyd pump mewn egwyddor. Mae hynny'n swnio'n dda, ond mae arnaf ofn y gellid dweud bod y sector morol yn cael cam wrth inni ystyried y manylion. 

Mewn ymateb i argymhelliad 1, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adrodd ar effeithiolrwydd cynllun morol cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn gywir iawn yn pwysleisio y dylech gadarnhau y bydd yr adolygiad yn ystyried yr angen am gynllun datblygu morol gofodol a chyfannol statudol. Credaf fod y Gweinidog a'r Senedd wedi fy nghlywed yn sôn am hyn sawl gwaith. Yr hyn rwy'n pryderu'n fawr amdano—a chredaf ei fod yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, Huw Irranca, wedi'i grybwyll—yw ein bod angen ynni adnewyddadwy blaengar, ond rhaid inni ofalu am ein systemau ecolegol hefyd. Rwy'n poeni'n fawr am y dull ad hoc hwn o weithredu—fod datblygwyr yn dod i mewn ac mae'n ymddangos eu bod yn nodi lle maent eisiau datblygu, ond sut y mae hynny wedyn yn cymryd ei le mewn cynllun cyffredinol, cynllun strategol? 

Rydych wedi fy nghlywed yn siarad am yr angen am gynllun datblygu morol i Gymru droeon. Serch hynny, dyna sydd ei angen arnom. Er enghraifft, tynnodd RSPB Cymru sylw at ddiffyg elfen ofodol neu bolisïau rheoli datblygu, sy'n golygu nad yw'r cynllun presennol yn ymgorffori blaengynlluniau strategol nac yn ceisio mynd i'r afael â gwrthdaro mewn modd rhagweithiol, a gall hynny wedyn achosi oedi i gynlluniau. Felly, byddwn yn falch pe gallai'r Gweinidog egluro pam ei bod yn fodlon i'w Dirprwy Weinidog fynd ar drywydd ardaloedd adnoddau strategol, ond nad yw'n barod i greu cynllun datblygu morol manwl. 

Yn yr un modd, mae arnom angen mwy o uchelgais ar y camau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd morol. Eisoes, rydych wedi cydnabod bod bylchau yn y dystiolaeth mewn perthynas â rhyngweithio rhwng y dechnoleg a'r amgylchedd. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn annog rhannu tystiolaeth. Fel y dywedodd y pwyllgor yn ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, mae'r ffaith nad oes gennym sylfaen dystiolaeth gadarn i ategu penderfyniadau datblygu yn golygu bod risgiau cynhenid o ran cynyddu'r datblygiad morol hwn.

Mae Emily Williams o Cyswllt Amgylchedd Cymru yn dweud bod datblygwyr yn casglu llawer iawn o ddata morol wrth iddynt ddatblygu prosiectau, ond bod llawer ohono wedyn yn aml yn cael ei nodi fel deunydd masnachol sensitif. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno bod angen inni gyrraedd pwynt lle mae trwyddedau datblygu morol angen eu monitro cyn ac ar ôl gwaith adeiladu a rhannu gwybodaeth, fel bod datblygwyr yn gwneud mwy o gyfraniad i'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i gynllunio morol.

Yn ddiweddar, synnais glywed bod cynllun Gwynt y Môr, a'n pysgotwyr lleol a ddywedodd hyn wrthym, mewn gwirionedd—. Diflannodd 13 rhywogaeth o bysgod, ac mae pum rhywogaeth o bysgod nad ydynt erioed wedi dychwelyd, ac roedd hynny flynyddoedd yn ôl. Felly, mae angen inni weld cynnydd ar ddynodi ardaloedd morol gwarchodedig yn y dyfodol hefyd. Mae un Lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi oedi ar hyn, er gwaethaf y ffaith ei fod yn arf i fynd i'r afael â bygythiadau deuol yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Yn wir, nid oes amheuaeth nad oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2012 yn drychineb. Cyfeiriodd Clare Trotman ato—a bu Clare yn gwneud gwaith i'r Gymdeithas Cadwraeth Forol—fel methiant. Galwodd Sue Burton ef yn druenus o annigonol, a dywedodd Dr Richard Unsworth fod yr ymgynghoriad wedi methu edrych ar brofiad parciau morol llwyddiannus ac ardaloedd morol gwarchodedig yn unman arall ledled y byd. Felly, er eich bod wedi cadarnhau, mewn ymateb i argymhelliad 16, eich bod yn bwriadu asesu'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu dyddiad targed ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn.

Dywedodd adroddiad ym mis Hydref 2020 yn The Guardian fod treillrwydo môr-waelodol wedi digwydd yn 97 y cant o ardaloedd morol gwarchodedig alltraeth y DU yn 2019. Nawr, rydym wedi clywed Cyfoeth Naturiol Cymru yn honni nad yw'r prif ystadegau hynny'n berthnasol i Gymru mewn gwirionedd, ond bod eu sylwadau'n seiliedig ar ddealltwriaeth anecdotaidd. Nawr, mae hynny'n peri pryder imi, pan fo hyd yn oed Cyfoeth Naturiol Cymru yn ein hysbysu na allant ddod i gasgliadau clir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn nyfroedd Cymru. Fel y dywedais o'r blaen, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru—beth y maent yn ei alw—rôl potsiwr a  chiper yma, oherwydd maent yn darparu'r trwyddedau morol, ac yna maent yn gyfrifol am orfodaeth, a gwn fod problemau yno. Felly, ni ellir anwybyddu'r mater hwn.

Yn olaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod COP15 ar y gorwel. Felly, credaf ei bod yn briodol cloi gyda chwestiwn ynglŷn ag a yw'r Gweinidog o'r farn fod y dull presennol o weithredu cynllun morol cenedlaethol Cymru yn rhoi'r argyfwng natur ar yr un lefel â'r argyfwng hinsawdd. Diolch.

16:15

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw, a diolch i Llyr am ei gadeiryddiaeth arbenigol, a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad a'r argymhellion. Mae llawer i'w drafod, ond roedd y neges glir a gawsom yn ymwneud â'r angen i'r cynllun morol cenedlaethol ystyried effeithiau cronnol datblygiadau. Credaf fod datganiad Gweinidog yr Economi ddoe ar ynni morol alltraeth yn tanlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai manteision economaidd a manteision ynni adnewyddadwy ddarparu manteision amgylcheddol hefyd. Felly, hyderaf y bydd y dull hwnnw'n llywio'r adolygiad sydd ar y ffordd o gynllun morol cenedlaethol Cymru.

Roeddwn yn rhan o'r pwyllgor blaenorol a fu'n ymchwilio i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yn y Senedd flaenorol. Bum mlynedd ers yr ymchwiliad cychwynnol hwnnw, at ei gilydd mae ein hargymhelliad ynghylch nodi a dynodi parthau cadwraeth morol yn dal i fod heb gael sylw—ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny. Felly, edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gam nesaf y gwaith yn ystod y misoedd nesaf. Ond byddwn yn croesawu rhywfaint o eglurder ynghylch beth yw parth cadwraeth morol. Beth sy'n digwydd ynddo? Beth na all ddigwydd ynddo? Mae'n ymddangos bod llawer o negeseuon croes yn hynny o beth. Mae'n amlwg mai un ohonynt, wrth symud ymlaen, fydd trwyddedu ynni adnewyddadwy. Felly, mae gwir angen rhywfaint o eglurder arnom yn hynny o beth.

Rwyf am droi at garbon glas. Ni fyddwn yn colli cyfle, wrth gwrs, i siarad am garbon glas. Mae ein cynefinoedd morwellt, morfa heli a gwymon, a'r holl garbon sy'n cael ei storio a'i amsugno gan amgylchedd morol Cymru yn llawer mwy na'r hyn sy'n cael ei storio yn ein coetiroedd a'n tir. Ac roedd yna stori ofidus, onid oedd, am Brifysgol Bangor yn gosod morwellt a bod rhywun wedi ei ddinistrio mewn cyfnod byr iawn. Felly, efallai fod hynny'n cyd-fynd â fy nghwestiwn cynharach ynglŷn â beth yw parth morol gwarchodedig.

Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad i archwilio sut y gellir cynnal a gwella ein cynefinoedd carbon glas. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y rhaglen rhwydweithiau natur fel dull o wneud hynny, felly byddai'n ddefnyddiol iawn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen honno'n fuan. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun tystiolaeth carbon glas a rennir, a deallaf fod hwnnw'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. 

Yn olaf, gofynnwyd i'r Llywodraeth nodi diben ac amserlen yr ymgynghoriad cyhoeddus ar lusgrwydo a threillrwydo môr-waelodol yn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Sylwaf fod y Pwyllgor Deisebau wedi ystyried ymgyrch 'Rhowch y gorau i chwalu ein moroedd!' yn ddiweddar ac rwy'n sicr yn cydymdeimlo â barn y deisebydd. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad, sy'n newyddion da, ond mae'n ymddangos bod yr amserlenni braidd yn niwlog. Unwaith eto, dylwn ddweud fy mod wedi eistedd ar bwyllgorau blaenorol y Senedd a fu'n annog cynnydd ar y mater hwn. Cofiaf ymgynghoriad drafft ar gêr llusg yn 2018. Ond i mi mae rhywbeth yn sylfaenol anghywir mewn gallu llusgo unrhyw beth ar hyd gwely'r môr, gan ddinistrio popeth sy'n bodoli yno. Ac rwy'n siŵr, pe bai hyn yn digwydd ar dir, pe baem yn dinistrio tir a bod pawb yn ei weld yn digwydd, byddai pobl yn gandryll, ac rwy'n pryderu nad yw pobl yn deall o gwbl beth mae llusgrwydo môr yn ei olygu mewn gwirionedd a'r niwed y mae'n ei wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ymrwymiad ac amserlen benodol mewn perthynas â hynny. Diolch.

16:20

Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor a diolch iddynt am eu holl waith, ac mae'n waith pwysig iawn, wrth inni symud ymlaen, oherwydd yn sgil y ffaith bod daearyddiaeth Cymru yn arfordirol gan fwyaf, mae'r sector morol yn cyfrannu'n helaeth at economi Cymru. Mae polisi morol yn cael effaith uniongyrchol ar fywoliaeth pobl yn ogystal ag ar fywyd gwyllt ac ecosystemau—ac mae llawer o'r galwadau mewn perthynas â moroedd ac arfordiroedd Cymru yn aml yn gwrthdaro. Defnyddir yr amgylchedd morol i sicrhau ynni adnewyddadwy glân, bwyd cynaliadwy yn ogystal ag at ddibenion hamdden, ac mae'n hanfodol i fioamrywiaeth Cymru. Am y rheswm hwn, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu polisi morol ac yn cael y polisi'n iawn, yn ogystal â sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu a bod bioamrywiaeth ein moroedd yn cael ei diogelu.

Mae ynni adnewyddadwy yn hanfodol, mae'n sector sy'n tyfu, ac mae'n allweddol i gyflawni ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fodd bynnag, mae'n creu risgiau yn ogystal â chyfleoedd pan na chynllunnir ar eu cyfer yn gynhwysfawr. Mae effeithiau posibl datblygiadau morol ar anifeiliaid morol yn cynnwys gwrthdrawiadau bywyd gwyllt, aflonyddwch, sŵn morol, colli cynefinoedd a cholli mynediad at dir bwydo a ffefrir. Dylai unrhyw benderfyniadau ar ddatblygu adnewyddadwy ym moroedd Cymru gydnabod ein bod mewn argyfwng natur morol a bod bywyd gwyllt y môr wedi cael ei anwybyddu ers gormod o amser.

Yn fy marn i, ac ym marn llawer o bobl eraill, hyd yma, mae Llywodraeth Cymru, yn anffodus, wedi methu cyflawni ei dyletswydd gyfreithiol i sicrhau statws amgylcheddol da i gynefinoedd a rhywogaethau morol. Mae bioamrywiaeth forol yn parhau i ddirywio, ac mae llawer o ardaloedd morol gwarchodedig mewn cyflwr anffafriol. Rhaid cyfaddef, i fod yn deg, fod hyn yn wir am lywodraethau ledled y byd, ond mae iddo bwysigrwydd penodol i ni'r Aelodau sy'n hyrwyddwyr rhywogaethau bywyd gwyllt morol—er enghraifft, fi yw'r hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer yr heulgi. Yn y pen draw, yn fy marn i, mae'r sector ynni adnewyddadwy morol yn cael ei lywio gan rymoedd dilyffethair y farchnad ar hyn o bryd, gan arwain at geisiadau cynyddrannol. Wrth i foroedd Cymru fynd yn fwy gorlawn, rhaid i'r system cynllunio morol weithredu ar lefel strategol i lywio'r gwaith o leoli datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif yn ecolegol, yn ogystal â lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a darparu mwy o sicrwydd i ddatblygwyr yn hirdymor.

Rwy'n croesawu'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor a hoffwn hefyd ategu rhai o argymhellion ychwanegol y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Mae'r rheini'n cynnwys adolygiad o gynllun morol cenedlaethol Cymru, gan ystyried yr angen am gynllun datblygu morol statudol i ategu'r ymdrechion presennol gan Lywodraeth Cymru i weithredu dull mwy cyfannol. At hynny, rhaid i'r archwiliad dwfn ystyried effeithiau gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd morol ac ystyried y rhyngweithio rhwng pob elfen o raglen waith forol Llywodraeth Cymru, er enghraifft pysgota a chynllunio morol, a pheidio ag adrodd ar yr elfennau hyn ar wahân. Ac yn olaf, mae angen i Lywodraeth Cymru gyflawni strategaeth ardaloedd morol gwarchodedig a ddylai gynnwys camau rheoli clir ar gyfer y rhwydwaith presennol a lle bo'n ymarferol, unrhyw safleoedd a ystyrir ym mhroses y parthau cadwraeth morol sydd ar y ffordd.

Ac un pwynt olaf cyn imi ddirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd: ni allwn fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd oni bai bod gennym amgylchedd morol iach. Mae hynny'n golygu dod o hyd i ffyrdd glanach o gynhyrchu ynni, peidio â llygru'r amgylchedd morol, a diogelu ei fioamrywiaeth. Daeth pob bywyd o'r môr, ond ni all bywyd ffynnu hebddo. Unwaith eto, diolch i'r pwyllgor am ei waith ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld lle bydd y Llywodraeth yn mynd â hyn.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor ac yn enwedig i'r Cadeirydd am yr adolygiad a'r ffocws diweddar ar yr amgylchedd morol, gan gydnabod yn llwyr y rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ac os caf ddweud, Llyr, rwy'n credu eich bod wedi gwneud gwaith anhygoel o fynd drwy'r hyn a wnaethoch mewn amser byr, ac mae wedi bod yn werthfawr iawn i ni fod y pwyllgor yn gwneud y gwaith hwnnw i ni. Gallant gasglu llawer o dystiolaeth a fydd yn helpu i lywio ein proses. Felly, rwy'n wirioneddol ddiolchgar am waith y pwyllgor.

Yn amlwg, mae ein moroedd yn ased naturiol amhrisiadwy, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i foroedd sy'n lân, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Fel y mae pob Aelod wedi'i ddweud, mae moroedd iach yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, ac rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r ddadl a gawn heddiw.

Er gwaethaf siom amlwg Llyr, roedd ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn bendant yn ceisio adlewyrchu'r un ysbryd cadarnhaol ag y gwnaethom dderbyn yr adroddiad ynddo, a'n hymrwymiad i barhau i ddatblygu ein polisïau morol a chryfhau ein dull o weithredu. Tynnodd y pwyllgor sylw at y potensial cynyddol ar gyfer ynni adnewyddadwy morol yn enwedig, ac mae llawer o'r Aelodau wedi tynnu sylw ato, ac rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn cael y cydbwysedd perffaith hwnnw rhwng datblygu a chadwraeth a sicrhau bod yr holl ddatblygiadau yn y môr yn addas i'r diben ac yn gwella bioamrywiaeth a'r amgylchedd y maent ynddo, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Felly, rwy'n hollol—[Torri ar draws.]—yn sicr, Huw.

Ar nodyn cadarnhaol, a gaf fi ddweud o ddifrif ein bod ymhell iawn o lle roeddem 12 neu 15 mlynedd yn ôl? Mae'r holl bethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn bellach ar waith gennym ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnynt—y cynlluniau morol, yr uchelgais i ddarparu parthau cadwraeth morol, i daro'r cydbwysedd priodol ar gyfer datblygu'r dystiolaeth ac yn y blaen. Felly, mae nodyn cadarnhaol yno, ond a fyddai'n cytuno â mi mai dyma'r adeg, mewn gwirionedd, a ninnau'n wynebu'r argyfwng costau byw, gyda phrisiau cynyddol, pan fo angen inni ymdrin ag ynni adnewyddadwy, a hefyd argyfwng bioamrywiaeth ac argyfwng hinsawdd—dyma'r adeg y gallai Cymru fod yn arweinydd mewn gwirionedd, cymryd yr holl bethau hynny sydd wedi bod ar waith gennym ers degawd a'u gwreiddio go iawn, a dangos i'r DU beth y gallwn ei wneud yma yng Nghymru mewn gwirionedd?

Ni wnaf osgoi'r cyfle i wneud hynny byth, Huw, felly rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu gwneud hynny.

Gan grwydro o fy sgript am eiliad, roeddwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig y bore yma am y grid a rhwydwaith ynni Cymru, ac un o'r rhwystredigaethau gwirioneddol i ni yw nad yw'r holl ddulliau sydd eu hangen arnom yn ein dwylo ni. Felly, annog Llywodraeth y DU i weithio gyda'n gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu, yn enwedig y gweithredwyr trosglwyddo ynni, i gyfieithu'r jargon, i wneud yn siŵr fod yr ynni sy'n dod o'r môr Celtaidd, er enghraifft, yn dod i'r tir yn y ffordd gywir, yn gwella ein cymunedau arfordirol ac yna'n ein helpu gyda'n rhwydwaith ynni drwy Gymru. Bydd yn gwbl ganolog i hynny, felly rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a chydag Ystad y Goron.

Roeddwn yn gwneud y pwynt eto y bore yma am yr angen i ddatganoli Ystad y Goron er mwyn cael y dulliau ar waith inni allu sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw gennym mewn perthynas â chynllunio. Felly, gofynnodd y pwyllgor imi y bore yma a oedd yn ymwneud â'r refeniw, a dywedais, 'Wel, wrth gwrs, byddai'r refeniw'n hyfryd', ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud lawer mwy â chael rheolaeth dros y dulliau cynllunio i allu sicrhau bod y rowndiau lesio a thrwyddedu yn hollol iawn i Gymru yn yr union le iawn, yn yr union ffordd gywir. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n ymyriad pwysig, Huw, i ganiatáu imi wneud y pwynt hwnnw.

I ddychwelyd at fy sgript, fel y mae pawb wedi'i gydnabod wrth gwrs, mae gennym gynllun morol cenedlaethol Cymru, a dyma'r tro cyntaf—fe'i cyflwynais yn 2019—i ni fod â'r fframwaith polisi strategol hwnnw i lywio'r gwaith o reoli ein moroedd yn gynaliadwy. Rwy'n cytuno â phawb sydd wedi nodi'r angen am gynllun gofodol i Gymru ar gyfer y moroedd. Bydd pawb yn gwybod fy mod yn hoff iawn o gynlluniau gofodol ar gyfer tir, ac nid yw'r môr yn eithriad. Mae'r ffaith na allwn weld beth sy'n digwydd oddi tano'n golygu ei bod yn bwysicach fyth fod gennym y math hwnnw o gynllun strategol.

Felly, mae'r cynllun yn gosod fframwaith ar gyfer datblygu sy'n parchu'r amgylchedd a gweithgarwch sydd eisoes wedi'i sefydlu ac mae'n gosod agenda i sicrhau budd parhaol o'r cyfleoedd. Mae ein ffocws ar weithredu'r cynllun ac yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol tair blynedd cyntaf ar berfformiad y cynllun. Er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau'n cael eu clywed, rydym wrthi'n cynnal arolwg rhanddeiliaid i lywio'r adroddiad sy'n adrodd ar y cynllun ar gyfer y tair blynedd gyntaf. Yn amlwg, mae wedi bod yn dair blynedd ryfedd iawn, gyda'r pandemig a phopeth arall, felly rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu adeiladu ar hynny.

Bydd mabwysiadu'r dull gofodol hwnnw o gynllunio morol, gan gynnwys nodi ardaloedd adnoddau strategol, yn helpu i lywio'r datblygiad cywir i'r lle cywir, gan gefnogi ein huchelgais ar gyfer bioamrywiaeth forol ffyniannus ochr yn ochr â'r ffynonellau ynni adnewyddadwy hynny. Ac fel y dywedodd pawb, mae'r brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn glir; nid oes neb yn dadlau ynghylch hynny. Mae'r archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy wedi ailbwysleisio ein hymrwymiad i ddatblygu ynni morol adnewyddadwy cynaliadwy. 

Rwyf newydd ddechrau'r archwiliad dwfn i fioamrywiaeth a fydd yn edrych ar yr hyn y mae diogelu'n ei olygu—felly, y pwynt a wnaeth Joyce Watson am yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, 'parth diogelwch morol' neu 'barth cadwraeth morol' neu 'ardal forol warchodedig iawn'? Beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? A yw hynny'n golygu y gallwch ac na allwch wneud pethau penodol ynddynt? Beth y mae'n ei olygu ar gyfer treillrwydo môr-waelodol ac yn y blaen? Felly, bydd yr adolygiad yn fy helpu i ddod i rai casgliadau ar hynny. Yn amlwg, bydd angen inni ddod â'n rhanddeiliaid gyda ni. Rydym wedi rhoi cynnig arni o'r blaen; ni wnaethom lwyddo i'w gael yn iawn o gwbl y tro diwethaf. Mae'n bwysig bod y cymunedau hynny'n rhan o hyn ac mae'n bwysig sicrhau eu bod yn ei ddeall.

16:30

Diolch am ildio. Yn gryno iawn—mae'n ddadl go iawn yma—dau beth: un yw, wrth ddod â rhanddeiliaid gyda chi, peidiwch â bod ofn bod yn radical hefyd. Mae mater Lyme Bay yn un eithaf addysgiadol. Cafodd ei wrthwynebu'n llwyr, ond arweiniodd at adfer byd natur ar raddfa aruthrol, ac mae'r pysgotwyr bellach yn ei hoffi oherwydd yr hyn y mae wedi'i wneud. Felly, peidiwch ag ofni gwneud hynny wrth ddod â rhanddeiliaid gyda chi.

Nid wyf yn enwog am ofni'r math yna o beth, Huw. [Chwerthin.] Felly, nid wyf yn credu fy mod am ddechrau yn awr.

Yr hyn rwy'n ei olygu wrth ddweud 'dod â hwy gyda ni' yw sicrhau bod pawb yn deall goblygiadau'r hyn rydym yn ei gynnig yn iawn, ac nad ydynt yn eu hystyried yn rhywbeth negyddol i ymladd yn ei erbyn, ond yn rhywbeth i'w gefnogi er mwyn gwella eu statws economaidd eu hunain a'u hangen penodol eu hunain i sicrhau bod y moroedd a'u cymunedau arfordirol yn y cyflwr yr hoffai pob un ohonom iddynt fod. Felly, rwy'n siŵr y gallwn gael cefnogaeth y rhanddeiliaid hynny. Nid pysgotwyr yn unig ychwaith; mae angen inni siarad â llawer o bobl eraill. Mae llawer o bysgotwyr yn gwerthfawrogi hyn yn llwyr.

Ac yna, i gyflymu, gan fod y Dirprwy Lywydd yn mynd i dorri ar fy nhraws yn fy anterth fel arall, mae digwyddiadau yn Wcráin yn amlwg wedi atgyfnerthu'r angen am gyflenwad ynni cadarn, ac mae ynni gwyrdd yn amlwg yn rhan hynod bwysig o hynny. Roeddwn yn falch iawn fod y pwyllgor wedi cydnabod ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r rhwystrau i’r datblygiad hwnnw.

Rydym hefyd yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r broses drwyddedu morol, fel rhan o'r archwiliad dwfn dilynol, i wella profiad y cwsmer, gan sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo mor effeithiol â phosibl, ei fod yn hyblyg ar gyfer y galw yn y dyfodol. Mae'r adolygiad wedi dechrau. Mae rhan o'r adolygiad hwnnw'n ymwneud â sicrhau, wrth ddefnyddio ynni’r môr, ein bod yn anfon camerâu ac ati allan i gasglu'r data sydd ei angen arnom yn y fan a'r lle fel y gallwn barhau i ailgyflenwi ein ffynhonnell ddata, yn hytrach nag aros tan y bydd y data gennym cyn gallu gwneud unrhyw beth. Felly, rwy’n awyddus iawn i wneud hynny; rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i hynny fynd rhagddo.

Bydd yr adolygiad nesaf o'r strategaeth tystiolaeth forol yn nodi sut y gallwn weithio hyd yn oed yn agosach gyda’r diwydiant i wneud y mathau hynny o ddarpariaethau'n rhan bendant o’r gyfundrefn drwyddedu, a sicrhau bod y dystiolaeth bresennol yn cael ei gwella drwy rannu data. Tynnodd Huw Irranca a nifer o Aelodau eraill sylw at yr angen i rannu data yn y ffordd honno drwy gydol y gwaith. Mae’r dystiolaeth gadarn honno’n hollbwysig i’r penderfyniadau polisi a'r strategaethau a gynlluniwyd gennym, ac rwy’n derbyn yn llwyr fod angen gweithredu i wella’r sylfaen dystiolaeth honno. Er eglurder, Llyr, rydym yn derbyn hynny'n llwyr. Nid ydym yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd. Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i nodi a llenwi'r bylchau yn y dystiolaeth y gwyddom eu bod yn bodoli.

Mae gennym fframweithiau hirdymor ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig—139 ohonynt; 50 y cant o holl ddyfroedd Cymru. Mae rhaglen rhwydweithiau natur a strategaeth forol y DU yn arfau pwysig ar gyfer deall hyn hefyd. Ond fel y nododd Joyce Watson ac eraill: beth y mae hynny'n ei olygu? Bydd yr archwiliad dwfn yn edrych ar hynny gyda mi: beth y mae'n ei olygu, 'ardal forol warchodedig'? Beth y gallwch ei wneud a beth na allwch ei wneud?

Rwyf hefyd yn cynnal yr archwiliad dwfn cyffredinol. Dylai 30 y cant o'n tir a'n môr fod mewn cyflwr da erbyn 2030. Cawsom drafodaeth ar hynny a gychwynnwyd gan Delyth yn ystod y cwestiynau yn gynharach, a chredaf fod pob un ohonom o'r un farn mewn perthynas â hynny.

Rydym yn cefnogi rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig gyda chynllun grant a gefnogir gan fframwaith rheoli, sy’n cynnwys potensial carbon glas, newid hinsawdd ar nodweddion gwarchodedig ac ap dwyieithog o’r enw Crwydro Arfordir Cymru i lywio a helpu i gynllunio ymweliadau â’r amgylchedd morol. Rwyf hefyd wedi dyrannu cyllideb i ariannu pum cam gweithredu eleni, gan gynnwys datblygu rhaglenni gwyddoniaeth dinasyddion i helpu i nodi rhywogaethau anfrodorol a gwaith ymchwil pellach i ddeall y pwysau y mae'r rhwydwaith yn ei wynebu, yn enwedig sbwriel môr, ac yn enwedig llygredd plastig. Rwy'n gobeithio bod llawer ohonoch yn cymryd rhan yn y Big Plastic Count sydd ar y gweill ar hyn o bryd—yn sicr, rwy'n cymryd rhan. Rydym am fod—. Yn dilyn llwyddiant y flwyddyn gyntaf o gasglu deunydd i'w ailgylchu—1.2 tunnell o offer pysgota a gyrhaeddodd ddiwedd ei oes; llwyddiant ysgubol—rydym am barhau â’r cynllun hwnnw a’i ymestyn i holl borthladdoedd Cymru cyn gynted ag y gallwn. Mae'n lleihau'r risg y gallai offer sy'n cael ei golli ar y môr wneud niwed i'r amgylchedd, ac mae pob un ohonom wedi gweld y ffotograffau ofnadwy o fywyd gwyllt wedi'i mynd yn sownd mewn offer.

Rydym yn cytuno’n llwyr hefyd ein bod am gyflymu’r adolygiad o dreillrwydo môr-waelodol, fel y’i gelwir. Mae hynny'n amlwg yn hollbwysig ac nid wyf yn gohirio hynny o gwbl; rwy’n sicr yn gweld yr angen am hynny. A bydd hynny'n rhan o'r cwestiwn ynglŷn â beth y gallwch neu beth na allwch ei wneud mewn darnau penodol o'r môr ac ati. Byddwn hefyd yn nodi uchelgeisiau ar gyfer proses o ddynodi parthau cadwraeth morol fel rhan o rwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig—unwaith eto, beth y mae hynny'n ei olygu, sut y mae'n gwella cadernid?

Ac yna, gan droi, yn olaf, Ddirprwy Lywydd—gwn fy mod yn profi eich amynedd—

16:35

Rwy'n gwybod; mae hynny'n iawn. Rwy’n parablu nawr, ond trof at y darn olaf, sef y darn sy'n ymwneud â charbon glas, fel y nododd Joyce Watson. Mae honno'n rôl hynod bwysig yn ein taith i gyrraedd sero net. Rydym yn cydnabod yr angen i warchod ac adfer glaswellt y môr, morfeydd heli a chynefinoedd. Mae'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth yn cynnwys Athro o Brifysgol Abertawe ar laswellt y môr am y rheswm penodol hwnnw, ac rydym yn cyflymu hynny yn gyffredinol.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd—a diolch am eich amynedd—rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr. Gallaf eich sicrhau nad ydym yn llusgo ein traed, rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl, ac rwy'n croesawu'r argymhellion yn fawr, ac edrychwn ymlaen at adrodd yn ôl arnynt wrth inni eu rhoi ar waith.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wnaf i ddim ailadrodd y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, dim ond diolch i'r Gweinidog ac i bawb arall, wrth gwrs, am eu cyfraniadau. Dwi'n meddwl bod natur y drafodaeth yn adlewyrchu pa mor eang oedd y meysydd wnaeth yr ymchwiliad byr yma geisio mynd i'r afael â nhw ac, yn amlwg, hefyd, pa mor eang yw'r gwaith sydd angen ei gyflawni gennym ni fel pwyllgor, a'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn y cyd-destun hwnnw.

Jest cwpwl o bwyntiau, efallai, godwyd na wnes i gyffwrdd â nhw yn fy nghyflwyniad. Yn amlwg, mae Ystad y Goron yn allweddol. Mae yna rôl gwbl, gwbl ganolog yn fanna, a dwi'n falch o weld bod y Llywodraeth nawr ar yr un dudalen â nifer ohonom ni pan fo'n dod i ddatganoli rhai o'r grymoedd yna. Dwi'n gwybod mai barn fwyafrifol yn y pwyllgor, efallai, fyddai hynny, ond yn sicr mae e'n gyfle inni weld gwahaniaeth gwirioneddol. A dwi'n edrych ymlaen at groesawu prif weithredwr newydd Ystad y Goron yma i'r Senedd yr wythnos nesaf, a fydd yn gyfle inni, gobeithio, ddatblygu rhai o'r pwyntiau a'r trafodaethau yma.

O ran treillrwydo môr-waelodol, unwaith eto, cododd nifer o'r Aelodau hynny, a chredaf ei fod yn rhywbeth y buom yn ceisio mynd i'r afael ag ef ers amser maith, a byddai'n well gan bob un ohonom pe baem wedi gwneud mwy o gynnydd nag a wnaethom. Rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi addo newid gêr mewn perthynas â gêr llusg a threillrwydo môr-waelodol, felly gadewch inni symud mor gyflym ag y gallwn ar hynny. Mae Joyce Watson yn llygad ei lle: bum mlynedd ar ôl adroddiad y pwyllgor blaenorol ar bolisïau morol, nid oes unrhyw beth wedi newid, a dweud y gwir, neu o leiaf, rydym yn dal i aros i’r argymhellion gael sylw go iawn.

Mae’r agenda carbon glas yn agenda enfawr, sy’n hollbwysig o ran cloi carbon—yn fwy felly na storfeydd carbon daearol. Mae llawer o gynlluniau newydd ledled Cymru sy’n haeddu ein cefnogaeth yn fy marn i, ac yn sicr, maent yn haeddu mwy o sylw gennym fel pwyllgor, a gobeithio bod hwnnw'n un o'r meysydd y byddwn yn dewis eu harchwilio'n fanwl.

Mae'n debyg ei bod yn anochel fod hyrwyddwyr rhywogaethau yn codi yn y ddadl hon. Ac er gwybodaeth, fi yw'r—. A wyf i ar frig neu ar waelod eich cadwyn fwyd? Nid wyf byth yn cofio. Ond heb y llymrïen, ni fyddai gennym yr heulgi, iawn. Felly, cadwch hynny mewn cof. [Torri ar draws.] O, ie. Wel, yr wystrysen yw un y Gweinidog. Dyna ni. Iawn.

Ie. A gadewch i'r eog fod. Da iawn, da iawn.

A chredaf fod y pwynt ynglŷn â chynllunio gofodol yn bwysig—cynllunio gofodol daearol, ac yna mae gennym gynllunio gofodol morol. Wel, yn sicr, ni ddylai fod datgysylltiad rhwng y ddau beth hynny ychwaith. Mae arnom angen y cynllunio gofodol di-dor hwnnw ar gyfer cynllunio daearol a morol, yn fy marn i. Yn sicr, credaf fod angen defnyddio'r gwaith a welwn yn cyflymu ar hyn o bryd o ran datblygu ynni adnewyddadwy i gyfoethogi ein data, er mwyn llenwi rhywfaint o'r bylchau yn y dystiolaeth.

Felly, mae'r adroddiad hwn, fel y dywedais, yn fan cychwyn. Mae'n gipolwg o lle rydym arni. Mae'n gipolwg, yn fy marn i, o'r hyn y gŵyr pob un ohonom fod angen ei wneud, ond pe bawn yn crynhoi ein neges yn syml i'r Llywodraeth, 'Dewch yn eich blaenau' fyddai'r neges honno.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar iechyd menywod. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8004 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y diffyg sôn am iechyd menywod—gan gynnwys darpariaeth mamolaeth—yng nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach', er gwaethaf y nod a ddatganwyd o fod yn 'lywodraeth ffeministaidd'.

2. Yn nodi bod costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n llwyr ar fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis, a dementia.

3. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, a bod angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu Strategaeth Iechyd Menywod pwrpasol i Gymru a ddylai ganolbwyntio ar iechyd gydol oes menywod;

b) darparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol, sydd ar gael i breswylwyr ar hyd a lled Cymru;

c) buddsoddi mewn ymchwil o ansawdd uchel i iechyd a thriniaethau menywod;

d) buddsoddi mewn gwell hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd menywod.

Cynigiwyd y cynnig.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gallwn agor y ddadl hon drwy restru’r ystadegau sy’n dangos yn glir yr angen i weithredu ar anghydraddoldebau iechyd a’r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno’r cynnig hwn gerbron yr Aelodau heddiw, a bod angen craffu a dadlau ynghylch y diffyg strategaeth iechyd menywod, yn enwedig o ystyried nod datganedig y Llywodraeth ei hun o ddod yn Llywodraeth ffeministaidd. Ond rwyf am arbed fy ngeiriau fy hun y prynhawn yma a gadael i eraill siarad ar fy rhan, gan fy mod am rannu adroddiadau a phrofiadau menywod a fydd yn dadlau'r achos dros ein cynnig yn rymus ac yn llwyddiannus. Mewn gwirionedd, mae rhoi'r llwyfan iddynt hwy yn Siambr y Senedd, gan sicrhau bod pob un ohonom yn clywed eu lleisiau y prynhawn yma, yn hollbwysig. Oherwydd y gwir trist yw bod stigmateiddio cyflyrau iechyd menywod fel endometriosis, y menopos, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif ac eraill yn cyfyngu ar y sgwrs ac yn ynysu menywod pan fyddant, mewn gwirionedd, yn brofiadau a ddylai ein huno a'n sbarduno i weithredu. Nid yw'r lleisiau hyn yn cael eu clywed, na’u galwad am fwy o gymorth, am y sylw y maent yn ei haeddu, am driniaeth well, oherwydd, yn hanesyddol, gyda phrinder buddsoddiad mewn ymchwil i iechyd menywod yn gyffredinol, mae cyn lleied o ymchwil wedi bod i gyflyrau fel endometriosis fel nad ydym hyd yn oed yn gwybod beth sy'n ei achosi. A heb wybod yr achos, wrth gwrs, ni ellir dod o hyd i wellhad.

Mae Kate Laska o Wynedd yn dioddef o endometriosis. Bu’n rhaid iddi deithio y tu allan i Gymru i gael cymorth arbenigol a thalu’n breifat am driniaeth, ar ôl aros am flynyddoedd i gael diagnosis a hyd yn oed yn hwy i gael triniaeth. Ac mae hi mewn poen cronig o hyd. Dyma ei geiriau hi:

'Dychmygwch eich bod yn byw mewn cryn dipyn o boen corfforol ers blynyddoedd. Rydych yn ceisio cael cymorth, ond dywedir wrthych fod y poen a deimlwch yn normal. Yn y cyfamser, rydych yn colli eich swydd, eich incwm a'ch partner. Ar ôl newid fy meddyg, cefais fy niagnosis o’r diwedd, ond nid oedd gennyf unrhyw syniad y byddwn yn treulio'r saith mlynedd nesaf yn ymladd dros fy hawl i gael triniaeth. Oherwydd y gofal a oedd yn aml iawn yn llai na delfrydol a diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y gweithwyr gofal iechyd yn ogystal â'r gymdeithas, gan gynnwys fi fy hun, gwaethygodd fy endometriosis i gam 4 ac roedd angen nifer o lawdriniaethau cymhleth arnaf. Nawr, dychmygwch nad ydych yn cael fawr o gefnogaeth ar yr adegau pan fydd ei hangen fwyaf arnoch, gan fod yna gred yn y gymdeithas mai tynged menywod yw profi poen. Mae menywod ag endometriosis yn dioddef yn dawel ac yn aml iawn ar eu pen eu hunain, gan na all unrhyw un o'u cwmpas ddychmygu eu poen. Un clinig arbenigol yn unig a geir, a hwnnw yng Nghaerdydd lle y gall menywod fel fi obeithio cael lleddfu eu poen. Fodd bynnag, mae'r clinig hwn yn llawn ar hyn o bryd. Mae amser yn hollbwysig gyda'r cyflwr cronig hwn. Dyna pam fod taer angen gwasanaeth lleol yng ngogledd Cymru.'

Mae’r diffyg buddsoddiad mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd menywod fel endometriosis wedi arwain at gytundebau trawsffiniol ar gyfer triniaethau—er enghraifft, mae menywod fel Kate, sy’n byw yng ngogledd Cymru, yn mynychu'r ganolfan endometriosis arbenigol yn Lerpwl. Ond nid yw hyn yn digwydd bob amser. Mae un o fy etholwyr, Becci Smart, wedi bod yn byw gydag anhwylder dysfforig cyn mislif, PMDD, er pan oedd yn 14 oed, ond ni wnaed diagnosis o'r cyflwr tan oedd yn 30 oed. Mae PMDD yn fath difrifol iawn o syndrom cyn mislif, a all achosi amrywiaeth o symptomau emosiynol a chorfforol bob mis yn ystod yr wythnos neu ddwy cyn eich mislif. Yn ei phrofiad ei hun, ac o brofiadau pobl eraill â PMDD y mae hi wedi siarad â hwy, dywed fod prinder difrifol o gymorth iechyd meddwl ar gael a diffyg dealltwriaeth o’r cyflwr ymhlith meddygon teulu. Yn wir, dywed fod dioddefwyr PMDD yn cael eu troi ymaith gan wasanaethau iechyd meddwl, gan y dywedir wrthynt, yn anghywir, mai cyflwr gynaecolegol yn unig yw hwn, yn hytrach na chyflwr iechyd meddwl. Wrth gwrs, mae'r ddau beth yn wir. Yn hytrach, dywedir wrthynt fynd i weld eu meddyg teulu, nad ydynt yn arbenigwyr ar iechyd meddwl, bob tro y bydd PMDD yn effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd meddwl, ac mae'n gwneud hynny am wythnos neu ddwy bob mis.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw brofion gwaed na phoer na sganiau a all wneud diagnosis o PMDD. Yr unig ffordd i wneud diagnosis ohono yw drwy olrhain symptomau ochr yn ochr â chylchred y mislif am o leiaf ddeufis llawn. Nid oes gwellhad, dim ond rheoli symptomau. Mae diagnosis yn cymryd 12 mlynedd ar gyfartaledd, ac mae'n rhaid mynd at chwe gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gwahanol ar gyfartaledd. Hyn, tra bo PMDD yn effeithio ar un o bob 20 unigolyn o oedran atgenhedlu sy'n cael mislif, ac mae'r rheini sydd â PMDD yn wynebu risg 7 y cant yn uwch o hunanladdiad na phobl nad ydynt yn cael anhwylderau cyn mislif. Mae 72 y cant yn cael syniadau hunanladdol gweithredol yn ystod pob cylchred PMDD, hynny yw, ym mhob cylchred mislifol. Mae 34 y cant wedi gwneud ymdrechion hunanladdol gweithredol yn ystod wythnosau PMDD. Mae 51 y cant wedi hunan-niweidio mewn ffordd nad yw'n hunanladdol yn ystod wythnosau PMDD. Rwy’n siŵr y byddwn yn clywed llawer mwy o’r hanesion brawychus hyn yn rhan o gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma. Rwy’n falch fod ein cynnig yn golygu y cânt eu clywed, gan fod y dioddefaint hwn yn anfaddeuol, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ar waith yma.

Er bod gan fenywod yng Nghymru ddisgwyliad oes hirach na dynion, mae’n glir eu bod yn treulio llai o’u bywydau mewn iechyd da, ac mae hyn yn deillio o ddiffyg ymchwil feddygol i iechyd menywod, sy’n golygu nad yw ymchwilwyr yn cael cyfle i nodi ac astudio gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn clefydau. Ac mae’n creu rhagdybiaethau y bydd triniaethau meddygol tebyg yn gweithio i ddynion a menywod. Er enghraifft, mae diabetes, trawiadau ar y galon ac awtistiaeth yn gyflyrau a all edrych yn wahanol mewn dynion a menywod. Ceir cred hollbresennol hefyd mewn rhannau o’r gymuned feddygol sy’n deillio o batriarchaeth gymdeithasol, ac i ryw raddau, o gasineb at fenywod, fod menyw, pan fydd yn cwyno am ei hiechyd, naill ai’n hormonaidd, yn emosiynol neu’n afresymol, ac yn aml, caiff ei fframio o amgylch eu gweithrediadau atgenhedlol fel menywod.

Ceir bwlch iechyd rhwng y rhywiau y mae’n rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael ag ef. Pam arall y gwnaed pum gwaith cymaint o waith ymchwil i anhawster codiad ymhlith gwrywod, sy'n effeithio ar 19 y cant o ddynion, nag a wnaed i syndrom cyn mislif, sy'n effeithio ar 90 y cant o fenywod? Beth arall a all egluro pam, pan fo pryderon nad oedd rhai menywod ledled y DU yn gallu cael eu presgripsiynau oherwydd prinder cynhyrchion therapi adfer hormonau, HRT, ddwy flynedd yn ôl, y bu methiant i fynd i'r afael â’r prinder? Ac mae hyn, ynghyd ag effaith problemau cyflenwi byd-eang sy’n gysylltiedig â COVID, yn golygu y bydd oddeutu 1 filiwn o fenywod yn y DU, sy’n defnyddio HRT i leddfu symptomau’r menopos, yn cael eu heffeithio, ac felly hefyd nifer o fenywod yng Nghymru sy’n dibynnu ar y driniaeth hon.

Mae’n hollbwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r methiannau ym maes iechyd menywod, fel y gallwn agor y sgwrs a newid ei natur gul. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth iechyd menywod bwrpasol i Gymru, a ddylai ganolbwyntio ar iechyd gydol oes menywod; gwasanaethau o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol; a buddsoddiad mewn gwell hyfforddiant a hyfforddiant o ansawdd uchel ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl bwysig hon, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi’r cynnig. Ein dyletswydd i'r menywod sydd wedi dweud wrthym am eu poen a'u rhwystredigaeth yw gwrando a gweithredu. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod nad yw iechyd menywod yn cael ei grybwyll yn benodol yng nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach'. Strategaeth lefel uchel yw hon sy'n nodi'r fframwaith a'r egwyddorion allweddol ar gyfer sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac, o’r herwydd, nid yw'n canolbwyntio ar grwpiau na chyflyrau penodol.

2. Yn nodi bod costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n unig ar fenywod ac ar rai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis a dementia.

3. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, sy’n golygu bod angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Datganiad Ansawdd a chynllun i’r GIG yn yr haf gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel ar draws holl feysydd iechyd menywod.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw? Pan ffurfiwyd y pwyllgor iechyd y llynedd, fel y mae llawer o bwyllgorau'n ei wneud, anfonodd ymgynghoriad at randdeiliaid perthnasol, a'r ymateb mwyaf a gafwyd oedd yr angen i ganolbwyntio ar faterion iechyd menywod, ac o ganlyniad, cytunodd holl aelodau'r pwyllgor y byddai hyn yn flaenoriaeth i’r pwyllgor iechyd yn y Senedd hon. Felly, a gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl? Ac fel Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru fel y'i cyflwynwyd heddiw hefyd.

Fel rhan o’n gwaith fel pwyllgor, gwnaethom ofyn i Glymblaid Iechyd Menywod Cymru ddod i siarad â ni, i roi eu safbwyntiau i ni mewn sesiwn dystiolaeth gyhoeddus yn ôl ym mis Mawrth, felly rwyf am amlinellu rhai o’r materion a godwyd ganddynt. Ac o hynny hefyd, tynnwyd sylw'r Gweinidog at rai o’r materion, ond bydd y dystiolaeth a gawsom ar y diwrnod hwnnw yn ein helpu i wneud rhywfaint o’n gwaith arall hefyd drwy gydol gweddill y tymor hwn. Yr hyn a ddywedodd y glymblaid wrthym yw bod menywod yn fwy tebygol o brofi iechyd gwaeth na dynion, ac y gwneir diagnosis anghywir o symptomau’n aml neu ni chânt eu trin. Roeddent yn dweud hefyd fod menywod yn wynebu oedi cyn cael diagnosis a gofal.

Dywedodd adroddiad a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Rhagfyr 2019 wrth bob un o bedair gwlad y DU fod angen cynllun gofal iechyd menywod arnom, ac yn yr Alban, maent yn arwain y ffordd, er tegwch i’r Alban. Cyflwynwyd eu cynllun ym mis Awst 2021. Mae cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly rydym yn awyddus i sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl yn hyn o beth wrth gwrs.

Un o’r materion a nododd y glymblaid yw prinder data. Un rheswm posibl am hyn yw'r ffaith nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol mewn treialon, sy'n aml yn broblem a fydd yn arwain at y diffyg gwybodaeth, at y prinder data.

Roedd mynediad at wasanaethau arbenigol yn fater arall a nodwyd. Yn hanesyddol, nid yw’r modelau darparu gofal iechyd presennol yng Nghymru wedi gweithio i fenywod gan eu bod wedi'u canoli neu heb eu teilwra i anghenion penodol—mater a nododd y glymblaid yn benodol. Nid yw’r modelau sydd angen arbenigwyr gwahanol y gallant ddod o hyd iddynt yn cael eu cydgysylltu’n effeithiol, a’r diffyg cydweithredu hefyd rhwng byrddau iechyd wrth ddatblygu gwasanaethau arbenigol a sicrhau eu bod ar gael i bawb.

Mae gwybodaeth a chyfathrebu'n fater arall a nodwyd yn bendant hefyd. Wrth gwrs, yr enghraifft yno oedd y camgyfathrebu diweddar ynghylch y rhaglen sgrinio serfigol. Mae hynny wedi amlygu pwysigrwydd cyfathrebu clir a chywir.

Roedd iechyd meddwl, wrth gwrs, yn fater arall a gafodd ei ddwyn i'n sylw fel pwyllgor gan y glymblaid. Canfu adroddiad gan dasglu iechyd meddwl menywod y DU fod menywod yn fwy tebygol o gael cyflyrau iechyd meddwl cyffredin fel gorbryder ac iselder na dynion, a dywedant fod hyn, yn enwedig ymhlith menywod ifanc, ac mewn grwpiau iau o fenywod yn benodol, yn deillio'n bennaf o'u gorbryder cynyddol nad ydynt yn gwybod yn iawn pa gyflwr sydd arnynt.

Roedd addysg a hyfforddiant yn fater arall a godwyd. Tynnodd y glymblaid ein sylw at yr angen blaenoriaethol am well hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Unwaith eto, gwnaethant awgrymu meysydd i'w gwella, gan gynnwys blaenoriaethu gwell hyfforddiant meddygol ar iechyd menywod yn benodol mewn hyfforddiant sylfaenol i feddygon, er mwyn mynd i'r afael â rhagfarn ddiarwybod ac i godi ymwybyddiaeth hefyd.

A'r pwynt olaf yr hoffwn ei godi yw iechyd ataliol. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn cytuno â hynny ac y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny hefyd. Ond awgrymodd y glymblaid, mewn sawl achos, fod yfed alcohol, ysmygu, ac ati, yn ddulliau eithaf cyffredin o ymdopi â phroblemau mewn bywyd, gan gynnwys salwch cronig. Heb ddealltwriaeth well o'r hyn sy'n ysgogi'r ymddygiad hwn ymhlith merched a menywod, roeddent yn dweud y byddai'n anodd iawn cynllunio gwasanaethau i ddiwallu'r anghenion penodol hynny. Felly, rwy'n gobeithio—.

Diolch yn fawr iawn. Nodaf fod fy amser wedi dod i ben, ond diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac edrychaf ymlaen at weddill y cyfraniadau gan yr Aelodau.

16:50

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar rywbeth y mae Sioned Williams wedi’i grybwyll: normaleiddio poen i fenywod mewn gweithdrefnau meddygol a’r ffyrdd y mae merched a menywod yn cael eu magu i ddisgwyl a goddef anghysur yn rhan o’u bywydau bob dydd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf efallai, pan fydd menywod yn cwyno am boen, fel y clywsom, yw y ceir digonedd o ymchwil i awgrymu eu bod yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn, neu nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif i'r un graddau â dynion mewn lleoliadau meddygol. Ym mis Ionawr, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod drafodaeth am brofiadau o boen mewn lleoliadau gynaecolegol i gleifion allanol, a chlywsom straeon gwirioneddol frawychus, Lywydd, ynglŷn â sut y mae rhai menywod yn teimlo na allant gwyno pan fyddant mewn poen. Clywsom am anfodlonrwydd ymhlith rhai ymarferwyr i ddarparu cyffuriau lleddfu poen ar raddfa ehangach ac am ddatgysylltiad rhwng cleifion a chlinigwyr yn y ffordd y maent yn amcangyfrif poen.

Ar y cwestiwn ynglŷn â sut rydym yn amcangyfrif poen, ymddengys bod y datgysylltiad yn deillio o'r ffaith bod menywod a merched yn cael clywed yn aml iawn y bydd lefel yr anghysur yn debyg i boen mislif, ac mae problem fawr yn hynny o beth gan y bydd poen mislif yn dra gwahanol i wahanol unigolion, a bydd y dybiaeth fod poen mislif yn gyson yn golygu bod rhai clinigwyr naill ai’n rhoi disgwyliad afrealistig o isel i gleifion ynglŷn â'r math o boen y dylent ei disgwyl, neu nid ydynt yn deall sut y mae cyrff rhai menywod yn gweithio. A pham y dylid disgwyl i fenywod oddef poen tebyg i boen mislif fel mater o drefn? Pam y dylid cael rhagdybiaeth y bydd menywod yn gallu goddef mwy o boen am eu bod yn geni plant? Pam y dylai hynny fod yn normal?

Mae ein cynnig yn sôn am gost iechyd menywod. Mae'r gost ariannol wedi'i hailadrodd lawer gwaith: eitemau ar gyfer y mislif yn cael eu trethu fel pethau moethus tan yn ofnadwy o ddiweddar; meddyginiaeth lleddfu poen dros y cownter. Ond unwaith eto, beth am iechyd meddwl? Mae wedi'i grybwyll eisoes, effaith y methiant i gydnabod problemau iechyd menywod ar iechyd meddwl, cost cynnal tabŵ i gymdeithas ac i’r economi, llen o gywilydd wrth sôn am rai cyflyrau. Faint o fenywod sy'n teimlo na allant ddweud wrth eu cyflogwr na allant fynd i'r gwaith am fod eu poen mislif yn wanychol? Faint o fenywod sy'n dioddef yn dawel neu'n methu dweud wrth eu cydweithwyr eu bod wedi cael camesgoriad a bod angen amser i ffwrdd arnynt i ymdopi? Faint o fenywod sy'n cael eu galw gan yr adran adnoddau dynol i egluro pam fod eu cofnod salwch mor hir, pan fyddant, mewn gwirionedd, yn mynd drwy'r menopos? Mae cymdeithas yn normaleiddio poen menywod ac yn disgwyl i ni ei anwybyddu, peidio â sôn amdano, ei ystyried yn amhriodol ar gyfer sgwrs gwrtais. Mae hynny'n anghyfiawnder dwbl, yn anaf dwysach ac yn gamwedd ar fenywod.

Nawr, mae ymchwil yn awgrymu bod menywod sydd mewn poen acíwt yn mynd yn hirach heb gael eu trin mewn ysbytai na dynion sy'n dioddef o gyflyrau tebyg. Maent hefyd, fel y clywsom, yn fwy tebygol o gael diagnosis anghywir o broblemau iechyd meddwl a chael meddyginiaeth gwrth-bryder yn hytrach na bod eu poen neu achos y boen yn cael ei drin. Mae'r duedd i ddiystyru poen menywod wedi'i gwreiddio mewn rhagfarn sy'n ganrifoedd oed. Mae’r geiriau am hysterectomi a hysteria yn dod o'r un gwreiddyn, a’r syniad canoloesol hwn fod menywod wedi mynd yn wallgof neu’n ddryslyd oherwydd eu crothau, sy'n dal atseinio heddiw—rhagfarn hynafol, hen ffasiwn sy'n cael ei chynnal gan arferion meddygol modern.

Mae cyflyrau poen cronig sy'n effeithio ar fenywod, fel ffibromyalgia ac endometriosis, yn cael eu trin â diffyg difrifoldeb a brys. Mae menywod yn aros yn hirach i gael meddyginiaeth lleddfu poen; maent yn wynebu amseroedd aros hirach cyn cael diagnosis o ganser; maent yn llai tebygol o gael triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd am fod eu symptomau'n cael eu hanwybyddu neu eu diystyru mor aml. Ac nid rhagfarn wybyddol yn unig yr ydym yn brwydro yn ei herbyn, ond y ffaith bod gwerslyfrau'n tueddu i ganolbwyntio ar anatomeg wrywaidd. Mae’r norm yn wrywaidd bob amser, ac nid oes digon o gyllid yn cael ei roi tuag at y cyflyrau sy’n effeithio ar fenywod. Mae'r methiannau hyn, Lywydd, yn arwain at niferoedd annerbyniol o fenywod yn marw, a chyn hynny, niferoedd ofnadwy o uchel o fenywod yn meddwl bod lefel y boen y maent yn ei dioddef yn normal pan nad yw'n normal. Dyna gost diffyg sylw i iechyd menywod: gallwch ei gyfrif mewn cyrff neu bresgripsiynau.

Felly, i gloi, Lywydd, yn hytrach na normaleiddio poen menywod, dylem fod yn normaleiddio siarad am y ffordd yr ydym yn profi poen, yn siarad am gyflyrau gynaecolegol, yn gwella hyfforddiant, gan fod yn rhaid cau’r bwlch poen hwn rhwng y rhywiau unwaith ac am byth.

16:55

Rwyf bob amser yn falch o gymryd rhan mewn unrhyw ddadl am iechyd menywod, ond credaf fod y ffordd y mae’r cynnig wedi’i eirio braidd yn anffodus gan nad yw’n amserol nac yn strategol o ran ei ymagwedd, felly mae’n mynd i gael effaith gyfyngedig. Y rheswm am hynny yw bod y Gweinidog iechyd eisoes wedi cyhoeddi yn y Senedd rai wythnosau’n ôl ei bod yn gweithio ar ddatganiad cydraddoldeb ar iechyd menywod y bydd yn ei wneud cyn toriad yr haf, ac mae hefyd wedi dweud wrthym yn y Siambr ei bod yn craffu fesul llinell ar gynlluniau datblygu canolraddol y byrddau iechyd. Rwy'n hyderus ei bod yn edrych drwy lens iechyd menywod yn ogystal ag effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mwy cyffredinol y ffordd y maent yn cyflawni eu rhwymedigaethau i fenywod.

Wedi dweud hynny, mae'n amlwg fod yr holl bwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill yn bwysig iawn. Mae bob amser yn mynd i fod yn syniad da troi'r ffocws ar iechyd menywod, oherwydd yn draddodiadol nid yw menywod erioed wedi cael yr un gofal â dynion. Cyn i'r GIG gael ei sefydlu gan y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel, rhaid inni gofio mai prin y câi menywod unrhyw ofal iechyd o gwbl, oherwydd byddent bob amser yn rhoi eu plant a'u gŵr, a oedd yn brif enillydd cyflog, yn gyntaf i gael gofal iechyd am dâl. Felly, roedd dechrau'r GIG yn ddigwyddiad gwirioneddol bwysig ym mywydau menywod.

Gan ganolbwyntio ar 'Cymru Iachach', a gyhoeddwyd yn 2021, nid oedd hwnnw'n fy mhlesio'n llwyr ychwaith, oherwydd mae gennych Senedd newydd, Gweinidog iechyd newydd a nifer o gynlluniau pwysig iawn y teimlaf fod gwir angen inni barhau i ganolbwyntio arnynt. Fodd bynnag, wedi dweud hynny i gyd, mae'n amlwg fod angen inni ganolbwyntio ar y materion hyn. Ni ddylai gymryd wyth mlynedd i wneud diagnosis cywir o endometriosis. Roedd yn bleser cyfarfod â Suzy Davies i fyny'r grisiau heddiw—mae hi yma yn rhinwedd ei gwaith gyda'r bwrdd twristiaeth—am mai hi, yn anad neb, a roddodd hyn ar yr agenda. Ac yn awr, o ganlyniad i ymyriadau Suzy yn arbennig, mae gennym addysg llesiant mislif i fechgyn a merched ym mhob un o'n hysgolion fel nad yw merched yn dioddef mewn distawrwydd am rywbeth nad ydynt yn sylweddoli nad yw'n arferol yn y ffordd y maent yn cael y mislif. A bydd bechgyn yn gallu cefnogi merched yn hynny o beth pan fyddant yn cael y sgyrsiau agos hynny am y person y maent mewn perthynas agos â hwy.

Rydym yn gobeithio y bydd penodi nyrsys endo arbenigol ym mhob bwrdd iechyd yn gwella perfformiad meddygon teulu ac yn fwy pryderus, dealltwriaeth rhai gynecolegwyr o symptomau endometriosis, oherwydd i mi mae'n anesboniadwy fod rhywbeth sy'n effeithio ar un o bob 10 dynes—. Nid rhyw glefyd prin nad oes neb ond meddyg arbenigol yn ei ddeall ydyw, mae'n un o bob 10 dynes. Sut y mae'n bosibl na all gynaecolegwyr weld symptomau endometriosis pan ddônt drwy'r drws? Felly, mae'n amlwg fod llawer o waith i'r nyrsys endo hynny ei wneud.

Cyfeiriodd Jane Dodds at ddementia a'i phrofiad personol o hynny yn gynharach y prynhawn yma. Rhaid inni gofio mai dementia, yn ôl yr hyn a ddarllenais, sy'n lladd fwyaf o fenywod y dyddiau hyn, ac mae hynny, yn amlwg, yn rhywbeth y mae gwir angen inni fyfyrio arno, oherwydd bydd rhywfaint ohono'n ymwneud ag unigrwydd, bydd rhywfaint ohono'n ymwneud ag ansawdd bwyd menywod, ymarfer corff, a phob math o bethau eraill y mae gwir angen inni eu deall, oherwydd mae'n bandemig go iawn.

Ar erthyliadau telefeddygol, mae Cymru wedi arwain y ffordd ar sicrhau bod yr hyn a ddatblygwyd gennym yn ystod y pandemig bellach wedi dod yn nodwedd barhaol, fel y gall menywod gael erthyliad telefeddygol heb orfod gadael y tŷ, gallu ei wneud yn ddiogel ym mhreifatrwydd eu cartref eu hunain, a pheidio ag oedi cyn cael triniaeth a gorfod cael erthyliad llawfeddygol wedyn. Felly, da iawn Weinidog iechyd, am fod yn ddigon dewr i wneud hynny, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi bradychu'r achos.

Ond mae llawer mwy o bethau y mae angen inni eu dysgu gan wledydd eraill. Er enghraifft, yn Ffrainc, fe gewch 10 sesiwn ffisiotherapi am ddim ar ôl geni plentyn, nid oherwydd eu bod yn awyddus iawn i roi sesiynau am ddim i bobl—y rheswm dros ei wneud yw ei bod yn ymyrraeth ataliol i sicrhau nad yw menywod yn cael prolapsau, problemau cefn, anymataliaeth, a'r holl bethau eraill sy'n gallu mynd law yn llaw â beichiogrwydd. I'r rhai ohonoch nad ydych erioed wedi'i wneud, gallaf ddweud wrthych ei fod yn ymarfer eithaf corfforol yn ogystal â meddyliol. Felly, credaf fod hwnnw'n un peth y byddwn yn sicr o fod eisiau dod yn ôl ato.

Rhaid i hyn fod yn fwy na siarad gorchestol. Mae angen inni gael y drafodaeth aeddfed hon a sicrhau cefnogaeth yr holl randdeiliaid. Mae'n wych fod Sioned ac eraill wedi dod â barn rhanddeiliaid i'r Siambr. Bydd cyfle i unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y pwnc glywed gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod amser cinio yfory, sy'n cael ei gynnal yn rhithiol, felly, lle bynnag y byddwch chi, fe allwch ymuno. Oherwydd dyma'r ffordd y mae'n rhaid inni fynd ar hyd-ddi i gael strategaeth iechyd menywod—i sicrhau bod pob dynes yn cael ei chynnwys, a merched. Edrychaf ymlaen at gael cynllun arloesol, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ei gynhyrchu maes o law. 

17:05

Dwi’n falch ein bod ni'n cael y drafodaeth bwysig hon heddiw. Er ein bod ni wedi cael ymrwymiad gan y Gweinidog, dwi'n meddwl bod y ffaith bod cymaint o etholwyr yn parhau i gysylltu efo ni yn dangos pwysigrwydd siarad a chodi ymwybyddiaeth bob cyfle rydyn ni'n ei gael ynglŷn ag iechyd menywod a phobl gydag organau benywaidd. Dwi'n gwybod bod pethau, fel rydw i'n sôn, ar y gweill, ond mae pobl yn byw mewn poen, ac mae gwybod eu bod nhw'n gorfod efallai dioddef y boen yna am flynyddoedd i ddod, gan y bydd cynllun, neu y bydd datrysiadau, yn eithriadol o anodd pan fo'n cael effaith andwyol ar eich gallu chi i fyw o ddydd i ddydd.

Mae yna gyfeiriadau wedi bod at endometriosis yn barod, pwnc y gwnes i godi yn ddiweddar yn sgil cael etholwraig yn cysylltu gyda mi wedi iddi gael ar ddeall gan fwrdd iechyd Cwm Taf bod y driniaeth hanfodol roedd hi ei hangen, ac oedd i fod i ddigwydd cyn y cyfnod clo cyntaf COVID nôl yn 2020, ddim jest wedi ei ohirio, ond wedi'i ganslo yn llwyr. Ers hynny, mae hi wedi cysylltu gyda mi i ddweud ei bod wedi gwrthod yr unig opsiwn a roddwyd iddi hi, sef triniaeth er mwyn ei gorfodi mewn i'r menopos, oherwydd bod ganddi hefyd gyflwr esgyrn, a allai waethygu yn ddirfawr gyda meddyginiaeth o'r fath. Yn hytrach na bod yn gefnogol, aeth y nyrs yn flin iawn gyda hi a bygwth y byddai'n cael ei rhyddhau o ofal gynaecolegydd os nad oedd yn fodlon derbyn y meddyginiaeth yn hytrach na pharhau i fynnu y llawdriniaeth y mae ei hangen. Mae hyn er gwaetha’r ffaith ei bod mewn poen sydd yn cael effaith ar ei gwaith a’i bywyd personol. Yn anffodus, mae achosion o’r fath yn llawer rhy gyffredin a dydy o ddim digon da ein bod yn disgwyl i fenywod ddioddef fel hyn.

Hoffwn hefyd yn fy nghyfraniad heddiw ganolbwyntio ar feichiogrwydd yn benodol, a’r problemau y mae’n rhaid i strategaeth o’r fath fynd i’r afael â nhw. Er bod beichiogrwydd yn y Deyrnas Unedig yn cael ei ystyried yn ddiogel ar y cyfan, mae menywod a babanod yn dal i farw'n ddiangen o ganlyniad uniongyrchol i gymhlethdodau beichiogrwydd y gellir eu hatal. Bob blwyddyn mae tua 5,000 o fabanod yn y Deyrnas Unedig naill ai’n farwanedig neu’n marw yn fuan ar ôl eu geni, ac mae 70 o famau’n marw o ganlyniad i gyflyrau beichiogrwydd-penodol. Rydyn ni'n gwybod bod menywod du bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd na merched gwyn, a merched Asiaidd ddwywaith yn fwy tebygol. Mae mamau hŷn, y rheini o grwpiau difreintiedig, a menywod o ethnigrwydd cymysg hefyd yn fwy tebygol o farw yn ystod beichiogrwydd, neu’n fuan ar ôl hynny. Mae gofal menywod yn cael ei rwystro'n ddifrifol gan ddiffyg meddyginiaethau addas y gwyddom yn bendant eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd neu wrth fwydo ar y fron. Ond dros y 40 mlynedd diwethaf, dim ond dwy feddyginiaeth newydd sydd wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.

Pwnc arall sydd hefyd angen sylw, ac sydd yn adeiladu ar bwynt Jenny Rathbone, yw anafiadau mae merched yn eu dioddef wrth eni plentyn sydd yn cael effaith andwyol a hirdymor ar allu person i weithio, hyd yn oed gadael y tŷ, a chael rhyw, oherwydd anymataliaeth y coluddyn. Maen nhw hefyd yn colli cysylltiad efo'u plant. Mae hyn yn cael effaith seicolegol dirfawr. Prin yw hyn yn cael ei drafod. Mi oeddwn i'n falch iawn ddydd Llun o gael mynychu lansiad hyb iechyd pelfig yn Ysbyty’r Barri. Dan arweiniad Julie Cornish, dyma’r unig hyb yng Nghymru sydd yn cefnogi menywod gydag anafiadau o’r fath. Bûm yn siarad gyda’r elusen MASIC am hyn, wnaeth rannu gyda mi bod un ym mhob 20 menyw neu berson sy’n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf yn dioddef anaf difrifol. Wrth ganmol i’r cymylau gwaith yr hyb newydd hwn, fe ddywedon nhw pa mor annerbyniol oedd o nad yw hyb o’r fath ym mhob bwrdd iechyd, a bod y mwyafrif o fenywod yng Nghymru yn methu â chael unrhyw gefnogaeth o gwbl gyda hyn. Ni all hyn barhau.

Ac nid dyma’r unig faes sydd angen gwella. Mae 65 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia yn fenywod ond mae 60 i 70 y cant o ofalwyr pobl â dementia yn fenywod. Hefyd, mae 20 y cant o ofalwyr benywaidd wedi mynd o gyflogaeth amser llawn i waith rhanamser oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, ac roedd 17 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi yn y gwaith.

Rydyn ni'n gwybod hefyd bod yna lu o ystadegau o ran clefydau'r galon, ffigurau dirdynnol iawn bod merched ddim yn cael y cydnabyddiaeth bod ganddynt clefyd coronaidd y galon, ac ati, i gymharu efo dynion. Mae menyw 50 y cant yn fwy tebygol na dyn o gael y diagnosis cychwynnol anghywir ar gyfer trawiad ar y galon. Felly, mae yna anomalïau llwyr yn fan hyn o ran merched a dynion efo cyflyrau sy'n gyffredin iawn. Mae hwn yn gallu bod yn ddigalon eithriadol o ran gweld yr holl bethau rydyn ni'n eu hwynebu fel heriau. Ond, y mwyaf rydyn ni'n siarad amdanyn nhw a gobeithio, hefyd, annog merched i fynd at feddygon yn lle dioddef yn dawel—dwi'n meddwl am y ffaith roedden ni bron yn sibrwd am rai o'r cyflyrrau yma yn y gorffennol—y mwyaf rydym yn siarad, trafod a sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen yn y meysydd hyn. Dwi'n falch ein bod ni'n cael cyfleoedd fel hyn, ac mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn croesawu gweld y strategaeth yma, ond hefyd y gweithredu ar lawr gwlad i gefnogi menywod Cymru. 

17:10

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw. Rydym wedi clywed am y nifer o glefydau sy'n unigryw i fenywod a llu o glefydau eraill sy'n effeithio'n anghymesur ar iechyd a llesiant menywod. Un o nodau allweddol 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol' gan Lywodraeth Cymru yw gofal iechyd ataliol, ac mae modd atal nifer o'r clefydau sy'n effeithio ar iechyd menywod i raddau helaeth, neu bydd iddynt ganlyniadau llawer gwell, os cânt ddiagnosis ar gam cynnar. 

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn enghraifft. Er mai clefyd cardiofasgwlaidd yw'r prif achos marwolaeth ymhlith menywod, mae rhai gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd yn aml yn tybio bod menywod mewn llai o berygl o'r clefyd hwn. Er bod hyn yn wir i ryw raddau, mae'r gwahaniaeth yn lleihau gydag oedran, yn enwedig dros 50 oed, a hyd yn oed yn gynharach o bosibl mewn menywod sy'n cael menopos cynnar. Felly, yma eto, mae'r menopos yn ffactor arwyddocaol yn iechyd menywod. Ategir hynny gan ymchwil, wrth gwrs, ac mae'n dangos, yn achos clefyd cardiofasgwlaidd, fod menywod yn fwy tebygol o gael diagnosis arafach neu o gael diagnosis hollol anghywir o'u cymharu â dynion. Gall hyn, wrth gwrs, gael effaith ddinistriol ar gyfradd farwolaethau ac afiachedd unigolion. Gellir atal rhai o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd, gan gynnwys dewisiadau ffordd o fyw, deiet, pwysedd gwaed uchel a cholesterol. Gyda hynny mewn golwg, credaf y gall sgrinio iechyd hefyd chwarae rhan bwysig yn atal clefydau yn y lle cyntaf. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roeddem i gyd i fod i gael sgriniad blynyddol yng Nghymru yn 50 oed—pawb. Ac rwy'n meddwl rywsut nad yw hynny wedi digwydd, yn gyntaf oll oherwydd COVID, ond nid yw wedi digwydd ar ôl COVID mewn gwirionedd oherwydd y pwysau a ddaeth i'r amlwg yn ei sgil. Mae hynny'n amlwg yn rhan o ddull gweithredu ataliol, ac rwy'n gobeithio y gallwn gael hynny'n ôl ar y trywydd iawn. 

Mae addysg, wrth gwrs, yn ffactor pwysig i helpu i atal clefydau a chael diagnosis ohonynt yn gynharach. Faint o fenywod, er enghraifft, sy'n ymwybodol mai clefyd cardiofasgwlaidd yw'r bygythiad mwyaf i'w hiechyd? Dewisais hyn yn fwriadol oherwydd roeddwn bron yn rhagweld yr hyn y byddai pawb arall yn siarad amdano. Mae'n ddiddorol, onid yw, nad yw'n un o'r pethau y siaradwyd amdano. Nid oeddwn yn ymwybodol o hyn nes imi ddechrau chwilio am y pethau nad oedd pobl yn siarad amdanynt sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o fenywod. Felly, credaf fod angen lledaenu'r negeseuon hynny. Wrth gwrs, ceir nifer o afiechydon perthnasol eraill, ac mae canser yr ofari yn un o'r rheini. Mae nifer o symptomau amhenodol yn perthyn i'r canser hwnnw, fel bol chwyddedig, teimlo'n llawn ar ôl bwyta, newidiadau mewn arferion gwneud dŵr ac ysgarthu, lludded eithafol a blinder, ymhlith eraill. Ond mae llawer o'r symptomau'n debyg i gyflyrau iechyd llai difrifol, fel syndrom coluddyn llidus, ac nid ydynt yn cael sylw. Felly, mae addysg yn gwbl hanfodol, oherwydd gwyddom mai lladdwr tawel yw canser yr ofari. A fy nghwestiwn i yw hwn: pam y'i gelwir yn lladdwr tawel? Ai oherwydd nad yw pobl yn gwybod amdano ac nad ydynt yn ei adnabod, neu ai am nad yw pobl yn siarad amdano? Felly, credaf fod arnom angen ffocws gwirioneddol ar hynny.

Weinidog, rwy'n falch iawn eich bod wedi cyhoeddi eich bod yn cyflwyno cynllun iechyd menywod, ac rwy'n croesawu'r cam hwnnw'n fawr. Gobeithio y gallwch ddweud wrthym pryd y credwch y gallem drafod hynny yn y Senedd. Rwy'n falch iawn fod gennym Weinidog sydd wedi ymrwymo i iechyd menywod, i gyflwyno'r hyn a fydd yn gynllun iechyd menywod cyntaf, rwy'n credu, ac rwyf wedi eistedd yma sawl gwaith—mae eraill wedi bod yma ers 1999. Felly, mae'n gam enfawr ymlaen, a gallaf weld erbyn heddiw—ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno heddiw—fod gennych gefnogaeth enfawr i'w chyflawni. 

17:15

Mae iechyd menywod yn rhywbeth mae angen i ni gyd ddeall. Mae yna ddyletswydd arnon ni i sicrhau gwell ymwybyddiaeth, a bod gwell darpariaeth gofal ar gael i'r amryw o gyflyrau mae menywod o bob oedran yn eu dioddef, a hynny yn aml yn dawel a heb gymorth digonol, fel y clywon ni'n gynharach gan Sioned Williams.

Yn y misoedd diwethaf, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fi ynglŷn ag un cyflwr yn benodol, sef endometriosis. Mae'n gyflwr sy'n achosi poen cronig i un o bob 10 menyw yng Nghymru—tua 300,000 i gyd. Ac er fy mod i'n ymwybodol bod y Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi y bydd pob bwrdd iechyd yn cyflogi nyrsys arbenigol i ofalu am ferched sy'n dioddef o endometriosis—a dwi'n croesawu hynny yn fawr iawn—mae'r bwlch iechyd, fodd bynnag, o ran rhywedd yn parhau. Fel rŷn ni wedi clywed eisoes, yng Nghymru mae'n cymryd naw mlynedd i dderbyn diagnosis o'r cyflwr endometriosis, yr hiraf yn yr holl Deyrnas Unedig.

Hoffwn rannu stori un o fy etholwyr, Emily o sir Gaerfyrddin, gyda chi. Mae hi bellach yn 23 oed, ond roedd Emily yn gwybod nad oedd pethau'n iawn pan ddechreuodd gael ei mislif yn 12 oed. Bob mis, câi boen annioddefol. Fodd bynnag, am flynyddoedd, nid oedd ei meddyg yn credu pa mor ddifrifol oedd ei chyflwr. Nid tan i Emily lewygu a chael ei chludo i'r ysbyty gyda sepsis ym mis Awst 2019 y rhoddwyd ystyriaeth ddifrifol i'w chyflwr.

Mae Emily wedi ysgrifennu'n ddirdynnol am ei phrofiad mewn rhifyn diweddar o gylchgrawn Glamour, ac rwy'n dyfynnu: 'Dywedodd meddygon wrthyf fy mod yn ceisio dod o hyd i atebion nad oeddent yno, fy mod yn bod yn ddramatig, eu bod yn poeni mwy am fy iechyd meddwl; yn y bôn, roedd y cyfan yn fy mhen. Cefais dabledi gwrth-iselder ar bresgripsiwn, a gwyddwn wrth gwrs nad oeddwn eu hangen. Cefais fwy o atgyfeiriadau iechyd meddwl nag a gefais o sganiau ar fy ofarïau.'

Pan gafodd ei derbyn i'r ysbyty yn y pen draw, canfuwyd syst 25 cm ar ei hofarïau, a chafodd ddiagnosis o endometriosis cam 4—y cam mwyaf difrifol. Mae Emily hefyd yn dioddef o adenomyosis, cyflwr sy'n mynd law yn llaw ag endometriosis difrifol, a gall achosi i'r groth chwyddo i dair gwaith ei maint arferol.

Mae Emily wedi profi pa mor annigonol yw'r gofal sydd ar gael i fenywod ifanc sy'n dioddef o'r cyflwr hwn drwy'r blynyddoedd a gymerodd i gael diagnosis gan y GIG. Ar ôl poen pellach ac anesmwythyd difrifol, bu'n rhaid iddi dalu am ofal preifat dros y ffin yn Lloegr yn y pen draw. Dyma feirniadaeth drist o'r ffordd y cefnogwn iechyd menywod yng Nghymru, yn enwedig y ffordd y caiff y cyflwr gwanychol hwn ei drin. Yn y tair blynedd ers y diagnosis cychwynnol, mae wedi cael sawl llawdriniaeth i leddfu ei symptomau, ac mae bellach yn mynd drwy fenopos wedi'i gymell yn gemegol. Ie, mae'n ddrwg gennyf, fe ildiaf.

17:20

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn am ymyrryd yn gynharach. Mae'n ymwneud â'r boen, ac endometriosis, nad yw'n ymwneud ag un organ yn unig—mae'n broblem sy'n effeithio ar sawl organ. Tynnu sylw'n unig a wna poen. Mae'n tynnu sylw at y ffaith fod yn rhaid ichi weld y claf cyfan, rhywbeth nad yw'n digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi bod yn trin y symptomau. Dyna pam fy mod wedi bod yn llafar iawn yn ei gylch dros y 15 neu 20 mlynedd diwethaf—y dylem weld y claf yn ei gyfanrwydd, blaenoriaethu triniaeth a pharhau â'r driniaeth. Mae'r rhain yn bethau pwysig iawn, ac nid yw'n digwydd. Dyna pam ein bod yn dioddef, a dyna pam nad ydym yn cyrraedd unman gyda'r mathau hyn o ddiagnosis, yn enwedig mewn menywod. Mae fy nghalon yn gwaedu drostynt. Mae gennyf wraig, mae gennyf ferch, mae gennyf wyres. Pam y dylent ddioddef? Mae'n digwydd yn bennaf am nad ydym yn edrych ar yr unigolyn cyfan. Diolch yn fawr iawn. 

Wel, diolch ichi am hynny, ac rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed sut yr ymdrinnir â'r symptomau yn hytrach na gwraidd y broblem. Os caf ddyfynnu Emily unwaith eto? Fe'ch atgoffaf mai dim ond 23 oed yw hi:

'Rwy'n byw mewn poen bob dydd ac yn ceisio ymdopi gystal ag y gallaf. Nid yw pethau'n edrych yn wych gyda fy ffrwythlondeb. Rwy'n gobeithio drwy'r amser am ryw fath o ryddhad. Ond oherwydd bod fy endometriosis wedi cael ei adael i ddatblygu i gyflwr mor ddifrifol, mae fy ngobaith o fyw bywyd normal, di-boen yn fychan. Fy nghyngor i unrhyw fenywod eraill sy'n cael cam yn sgil y bwlch iechyd rhwng y rhywiau yw peidio â chymryd "na" fel ateb. Gwrandewch ar eich corff, a pheidiwch â gadael i unrhyw un wneud i chi feddwl bod y cyfan yn eich pen. Rydych chi'n adnabod eich corff yn well na neb arall. Ymladdwch dros hawl eich corff i gael ei glywed.'

Wrth restru ei phryderon am y gofal sydd ar gael i'r rheini sy'n dioddef o'r cyflwr, roedd mam Emily yn glir ei barn fod angen mwy o ganolfannau endometriosis ar draws Cymru er mwyn darparu gofal arbenigol sydd yn hollol angenrheidiol i gleifion. Er bod yna un yng Nghaerdydd, mae hi o'r farn bod angen gwella'r gofal yno yn fawr iawn.

Yn ail, a dwi'n gorffen gyda hyn, codwyd pryderon gan y teulu am yr ymwybyddiaeth sydd ar gael yn gyffredinol am y cyflwr yma, boed yn gymdeithasol neu yn y byd meddygol, ac sydd, yn anffodus, yn arwain at naw mlynedd i dderbyn diagnosis. Mae tystiolaeth cymaint o ferched yn awgrymu bod gormod o feddygon teulu yn diystyru difrifoldeb y cyflwr. Dyw awgrymu bod 'hyn yn arferol i ferched o'ch oedran chi, a chymerwch gwpwl o barasetamols' ddim yn ddigon da.

Dwi yn gorffen gyda hwn, sori, os caf i jest eiliad arall—

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hynod bwysig hon i'r Siambr heddiw. Nos Lun, bûm mewn digwyddiad caffi menopos lleol a gynhaliwyd gan Sarah Williams o Equality Counts, lle daeth menywod a'r rhai sy'n ymdrin â materion iechyd tebyg at ei gilydd i drafod eu profiadau. Heb os, mae mannau agored fel caffis menopos a digwyddiadau fel hyn yn fy nghymuned yn eithriadol o rymusol.

Yn y caffi, trafododd menywod ddiffyg ymwybyddiaeth o'r menopos. Mae'r etholwyr wedi gofyn am glinig arbenigol ac am ffyrdd mwy hyblyg o gael HRT i'r rhai sy'n dioddef o symptomau menopos. Mae Sarah wedi dweud wrthyf fod tystiolaeth yn awgrymu bod menywod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o fanteisio ar driniaeth HRT hyd yn oed, a bod hyn yn parhau anghydraddoldebau iechyd i'r rhai mwyaf agored i niwed. Roedd y sesiwn hefyd yn archwilio sut y mae profiadau menopos yn unigryw ac yn amrywio rhwng un unigolyn a'r llall. Dyna pam y mae arnom angen ymarferwyr diwylliannol tosturiol sy'n ymarfer heb ragdybio cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd, oherwydd mae rhagfarnau o'r fath yn atal pobl rhag cael gafael ar gymorth a thriniaeth.

Rwyf am bwysleisio nad yw ein profiad o gyflyrau na wnaed diagnosis ohonynt, poen heb esboniad, y diffyg opsiynau triniaeth byth yn ymwneud â ni fel unigolion. Maent yn ymwneud â system sydd bob amser wedi rhoi gofal iechyd dynion heterorywiol, gwyn yn flaenaf. A dyna pam, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, y gofynnais i fenywod rannu eu profiadau fel y gallaf rannu eu lleisiau yma heddiw, yn union fel y dywedoch chi, Sioned Williams. Mae'n gyfle gwych i allu gwneud hynny.

Dywedodd un etholwr mai'r hyn a ddymunai oedd gallu teimlo bod rhywun yn gwrando arni. Dywedodd un arall wrthyf am eu profiad o fynd at y meddyg teulu ynghylch haint cronig ar y llwybr wrinol, lle y dywedwyd wrthynt nad oedd dim y gellir ei wneud, ac mai'r unig beth i'w wneud oedd cymryd parasetamol a chael bath. Rwyf wedi siarad â menywod eraill yn fy etholaeth sydd wedi cael asesiad hwyr ar gyfer niwroamrywiaeth megis awtistiaeth ac ADHD. Yr amser aros ar hyn o bryd ar gyfer yr asesiad hwnnw yw dwy flynedd. Ar hyd eu hoes, gwrthodwyd hawl i fenywod yn eu 30au a'u 40au hwyr gael cymorth, a hynny'n unig am fod yr arwyddion ar gyfer asesiad wedi'u hadeiladu o amgylch y ffordd y mae bechgyn ifanc yn arddangos arwyddion o niwroamrywiaeth.

Ar bwynt arall, dywedodd fy etholwr, Samantha, 'Nid oes ward gynaecoleg yn ein hysbyty lleol.' Mae clywed am ddynes yn mynd drwy gamesgoriad wrth ymyl pobl sy'n geni eu babanod tymor llawn, ar yr un ward â phobl sy'n mynd drwy erthyliad, nid yn unig yn dorcalonnus, mae hefyd yn annerbyniol.

Dywedodd etholwr arall wrthyf ei bod wedi llewygu oherwydd y boen o osod dyfais yn y groth ar gyfer endometriosis. Dywedwyd wrthi y byddai'r boen fel ychydig bach o gramp mislif. Dim ond ar ôl mynychu cyfarfod gyda menywod eraill a wynebodd yr un problemau y sylweddolodd y gallai fod wedi cael cyffuriau lleddfu poen yn ystod y driniaeth, ond ni ddywedwyd hynny wrthi. Dywedodd wrthyf, 'Os ewch at y deintydd i gael tynnu dant, ni waeth pa mor barod i ddod allan yw'r dant, byddant yn lladd y teimlad yn eich deintgig. Cefais driniaeth i gael IUD drwy geg y groth heb unrhyw gyffur lleddfu poen. Roeddwn mor ddig pan sylweddolais y gallwn fod gofyn amdano.'

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi canfod nad yw menywod weithiau'n sylweddoli eu bod yn cael trawiad ar y galon oherwydd bod poen eu mislif yn waeth na'u symptomau—gan droi at yr hyn yr oeddech yn ei ddweud yn gynharach, Delyth—oherwydd, fel y clywsom droeon heddiw, os ydych chi'n ddynes, dywedir wrthych fod poen yn rhywbeth y mae'n rhaid ichi fyw gydag ef.

Felly, er fy mod yn cymeradwyo'r newidiadau cymdeithasol sy'n caniatáu inni siarad am iechyd yn fwy agored, rhaid inni fod yn ymwybodol fod cywilydd a rhagfarn hanesyddol yn dal i fwrw eu cysgod dros ein profiadau o ofal iechyd. Ac yn ogystal, mae gofal iechyd menywod bob amser wedi cael ei weld fel mater unigol. O ganlyniad, mae cymhlethdod ac amrywiaeth llawer o broblemau, fel y clywsom amdanynt heddiw, yn aml wedi'u clystyru gyda'i gilydd mewn un maes, gan arwain at ddiffyg ymchwil, ymwybyddiaeth a buddsoddiad, a rhaid inni wneud mwy i newid hyn.

Ond rwyf hefyd am adleisio fy nghyd-Aelodau heddiw—Jenny Rathbone a Joyce Watson. Rwy'n credu bod Gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru yn deall hyn. Nid wyf yn credu eich bod yn ei weld fel un mater unigol. Credaf mai'r hyn y ceisiwch ei wneud mewn gwirionedd yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb. Ac rwyf hefyd am ddweud bod gennym waith gwych eisoes yn digwydd ar draws ein cymunedau. Nid wyf am golli golwg ar hynny. Rwy'n ffodus o gael Wings Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n gweithio i ddadstigmateiddio urddas mislif. Mae gennym y caffis menopos gwych, fel y soniais. Maent yn chwyldroi gweithleoedd i fod yn fwy cynhwysol. 

Rwyf am ddod â fy nghyfraniad i ben drwy ddiolch i'r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol—meddygon teulu, nyrsys, bydwragedd ac arbenigwyr—sy'n gweithio'n ddiflino i wrando ar fenywod a'u cefnogi yn yr amgylchiadau hyn. Rydym yn herio system gyfan, ond nid yw hynny'n golygu na all y system newid, ac mae menywod yn gweiddi'n ddigon uchel. Rhaid inni wrando a rhaid inni weithredu. Diolch.

17:25

Galwaf nawr ar y Gweinidog iechyd i gyfrannu i'r ddadl. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr am ganiatáu imi ymateb i'r ddadl hon gan yr wrthblaid ar iechyd menywod, y gwn fod y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn ymwybodol ei fod yn fater rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac mae'n wych gweld bod consensws llwyr ar y mater, os nad ar y cynnig ei hun.

Nawr, fel y gwyddom, menywod yw ychydig dros hanner ein poblogaeth a 47 y cant o'r gweithlu. Ond mae'r dystiolaeth yn cynyddu nad yw menywod bob amser yn cael y cymorth iechyd sydd ei angen i gyflawni'r canlyniadau gwell a ddisgwyliwn. Mae anghydraddoldebau iechyd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, gyda chlefydau'r galon, fel y clywsom, mae menywod yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o'u risgiau a'u symptomau, yn llai tebygol o gael diagnosis cyflym, yn llai tebygol o gael y driniaeth orau bosibl, ac yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth adsefydlu. Rwy'n ddiolchgar iawn i Sefydliad Prydeinig y Galon am dynnu fy sylw at hyn mewn sesiwn friffio, gan fy arwain i gomisiynu datganiad ansawdd ar fenywod yn fuan iawn ar ôl i mi gael fy mhenodi y llynedd.

Gwyddom fod menywod wedi'u tangynrychioli mewn treialon clinigol, ac mae'r anghydraddoldebau hyn yn costio'n fawr. Mae ymchwil yn awgrymu y gellid bod wedi atal marwolaeth o leiaf 8,000 o fenywod drwy driniaeth gardiaidd deg dros gyfnod o 10 mlynedd yng Nghymru a Lloegr. 

Mae pobl wedi sôn am ymatebion gwahanol menywod, er enghraifft i awtistiaeth, i iechyd meddwl. Ond yn hollbwysig hefyd, rwy'n credu mai un peth nad yw'n cael ei drafod mewn poblogaeth sy'n heneiddio, yw effaith enfawr anymataliaeth ar fenywod hŷn—sy'n effeithio'n anghymesur, unwaith eto, ar fenywod yn hytrach na dynion. Ceir ymagwedd benodol yn 'Cymru Iachach', sef ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a holl ethos y rhaglen yw i'r gwasanaethau fod yn deg, wedi'u cynllunio o amgylch yr unigolyn ac o amgylch grwpiau o bobl, yn seiliedig ar eu hanghenion unigryw a'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Ond gydag iechyd menywod, mae gofal iechyd menywod yn y GIG yn rhy aml o lawer wedi'i gyfyngu i faterion iechyd atgenhedlol. Nawr, rwyf am gael gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n cefnogi ac yn meithrin iechyd a llesiant ehangach menywod, ac rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion i fabwysiadu'r ymagwedd ehangach hon wrth ddatblygu'r datganiad ansawdd hwnnw.

17:30

Diolch am ildio, Weinidog, ac rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo eich ymdrechion i greu cynllun iechyd menywod. Rwy'n credu ei fod yn gam gwych ymlaen yn yr hyn y ceisiwch ei wneud. Fe sonioch chi am ehangu'r cynllun i ateb popeth—mae'n fy atgoffa o ddeiseb ar wella gofal iechyd endometriosis a'r deisebydd, Beth Hales; byddwn yn adolygu honno eto ddydd Llun. Ond sylw a wnaeth i mi: nid bwlch iechyd rhwng y rhywiau yn unig yw hwn, nid anghydraddoldeb iechyd yn unig ydyw, mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol mewn gwirionedd. A fyddech yn cytuno â hynny?

Yn bendant. Credaf fod anghyfiawnder wedi bod yn digwydd ers gormod o amser, a'r union ffaith nad yw menywod mewn treialon, fod swm anghymesur o arian yn cael ei fuddsoddi mewn rhai meysydd ymchwil yn hytrach nag eraill—menywod sydd ar eu colled bron bob tro. Rhaid i hynny fod yn rhywbeth yr ydym yn mynd i'r afael ag ef. Mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol, yn hollol.

Yn 2019, cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr 'Better for women: Improving the health and wellbeing of girls and women'. Nawr, mae'r adroddiad hwn yn dadlau bod angen dull strategol ar hyd oes dynes er mwyn atal afiachedd a marwolaethau rhagweladwy ac i fynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd sy'n benodol i fenywod. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen i'n gwasanaethau iechyd ddarparu cyngor a gofal i ferched a menywod ar hyd eu hoes. Rhaid i'r GIG yng Nghymru ddarparu model gofal sy'n galluogi menywod i fyw bywydau iach a chynhyrchiol, ac nid bod yn wasanaeth sydd ond yn ymyrryd pan fydd menywod yn cael problemau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o'n hymateb i fynd i'r afael â materion iechyd menywod wedi'i gyflawni drwy waith y grŵp gweithredu ar iechyd menywod, sydd wedi canolbwyntio ar faterion atgenhedlol. Ers ei sefydlu, dyrannwyd £1 miliwn y flwyddyn i'r grŵp gan Lywodraeth Cymru, a defnyddiwyd y cyllid hwn i sefydlu rhwydwaith o gydlynwyr iechyd y pelfis a llesiant ym mhob bwrdd iechyd. Yn fwy diweddar, mae'r cyllid hwn wedi ei gwneud hi'n bosibl recriwtio rhwydwaith o nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd, a hynny er mwyn datblygu llwybrau cenedlaethol, lleihau amseroedd diagnostig a chefnogi menywod sy'n byw gydag endometriosis. A gallaf eich sicrhau yn y Siambr hon heddiw fy mod wedi treulio mwy o amser ar yr angen i wella ein hymateb i endometriosis nag y gwneuthum ar bron unrhyw gyflwr iechyd arall.

Rhaid inni roi diwedd ar brofiadau dirdynnol pobl fel Emily, ac rwy'n tybio, Beth, a deisebwyr eraill hefyd. Gwyddom fod tabŵs a diffyg addysg am y mislif yn cael effeithiau negyddol gwirioneddol ar fywydau merched a menywod, a'r llynedd, lansiwyd Mislif Fi, ein hadnoddau ar-lein a'n platfform addysgol. Fe'i lluniwyd gyda mewnbwn sylweddol gan bobl ifanc i helpu i dorri tabŵs a hwyluso sgyrsiau agored am iechyd mislif, gan gynnwys yr hyn sy'n normal a phryd y dylent ofyn am gymorth. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio i helpu i wella gwasanaethau i gefnogi menywod sy'n mynd drwy'r menopos. Mae grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i geisio rhannu arferion gorau lleol a sefydlu llwybr gofal gwell. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn nhasglu menopos y DU, sy'n defnyddio dull pedair gwlad o wella gwybodaeth am y menopos a rhoi gwell cefnogaeth i fenywod sy'n mynd drwyddo.

Mae’r cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi’i gyhoeddi ac mae hwn yn gosod nifer o dargedau heriol i fyrddau iechyd eu cyflawni ar draws pob arbenigedd, gan gynnwys gwasanaethau gofal eilaidd gynaecolegol. Bydd y bwrdd gynaecoleg sydd newydd gael ei ffurfio yn datblygu cynlluniau i gyflawni'r targedau. Bydd hyn yn cynnwys amryw o gamau gweithredu, gan gynnwys e-gyngor, gwell llwybrau atgyfeirio a rhyddhau, cyflwyno siopau un-stop, sylw yn ôl symptomau, a chamau dilynol ar gais y claf.

Nawr, fel mae Aelodau'n ymwybodol, dwi wedi cytuno ar ddull dwy elfen o sicrhau gwell canlyniadau, a sicrhau bod menywod yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl i aros yn iach drwy gydol eu bywydau. Fel dwi wedi nodi, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu datganiad ansawdd iechyd menywod a fydd yn ein galluogi i roi darlun strategol o'n disgwyliadau o ran darparu gwasanaethau iechyd menywod ledled Cymru. Bydd hwn yn disgrifio beth ddylai darpariaeth dda edrych fel, nid yn unig ar gyfer iechyd atalgenhedlol menywod, ond hefyd er mwyn mynd i'r afael â'r bias rhyw sydd yn ein system prif ffrwd ar hyn o bryd. Nawr, mi fydd hwn yn cael ei gyhoeddi y tymor yma, ac mi fyddwn ni'n trafod hwnna ar lawr y Senedd, dwi'n meddwl ym mis Gorffennaf.

Yn ail, bydd cydweithfa'r gwasanaeth iechyd yn arwain y gwaith o ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar gyfer iechyd menywod. Bydd hwn yn nodi'r camau y bydd y gwasanaeth yn eu cymryd i fodloni'r disgwyliadau yn y datganiad ansawdd. Bydd y cynllun yn dilyn yr un dull cwrs bywyd a argymhellir gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynecolegwyr yn ei adroddiad 'Better for Women', a'r bwriad yw lleihau anghydraddoldeb mewn iechyd, gwella tegwch gwasanaethau a gwella canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu tymor byr, canolig a thymor hir, a byddaf i'n cyflwyno hwnnw yn ystod yr hydref. Dwi'n awyddus y dylai defnyddwyr gwasanaethau gael cyfrannu'n sylweddol i'r cynllun er mwyn sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog iddo. Felly, bydd ymgysylltu'n digwydd gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r cynllun, yn ogystal â'r ymgynghoriad arferol. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Gynghrair Iechyd Menywod am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i godi proffil iechyd menywod, a dwi'n edrych ymlaen i gyfarfod a gweithio gyda nhw wrth inni ddatblygu ein cynlluniau. Dwi'n sylweddoli bod llawer i'w wneud o hyd, ond dwi'n sicr y bydd y datganiad a'r cynllun ansawdd, law yn llaw â'r gwaith sydd ar y gweill sydd gyda ni eisoes, yn arwain at ofal llawer gwell i fenywod ledled Cymru.

17:35

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am bob cyfraniad i'r ddadl bwysig yma heddiw ac am ymateb y Gweinidog. Mae hwn yn faes sydd wedi cael ei esgeuluso yn llawer, llawer rhy hir, ac mae'n rhyfeddol ei fod o wedi cael ei esgeuluso mor hir. Mae yna, dwi'n meddwl, ryw fath o ddeffroad wedi bod—a dwi ddim yn sôn am Gymru'n benodol yn y fan yna, ond yn fwy cyffredinol. Dwi'n nodi'r gwaith yn Lloegr, er enghraifft, ar y strategaeth iechyd i ferched, sydd wedi cael ei chroesawu yno. Rydyn ni fel y pwyllgor iechyd, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn gwneud gwaith yn y maes yma, a dwi'n ddiolchgar i Joyce Watson am ei bod wedi gwthio i sicrhau bod hynny yn digwydd. Yma yng Nghymru, rydyn ni wedi clywed y Gweinidog heddiw yn sôn am yr ystod o gamau mae hi'n bwriadu eu cymryd. Rydyn ni'n gweld yng ngwelliant y Llywodraeth y cyfeiriad at y datganiad ansawdd a'r cynllun NHS sydd i ddod. Mi gafon ni, os gwnes i glywed yn iawn gan Aelod sydd wedi gadael y Siambr erbyn hyn, ein cyhuddo o 'grandstand-o'. Roeddwn i'n gobeithio gofyn iddi hi egluro ai dyna ddywedodd hi, ond dydy hi ddim yma i wneud hynny.

Dwi'n deall bod Senedd.tv wedi 'crash-o' y prynhawn yma, bosib iawn oherwydd bod yna gymaint o bobl yn gwylio'r sesiwn yma—mor bwysig ydy hyn. A'r gwir amdani ydy, dydy clywed geiriau gan y Gweinidog ynddo fo'i hun ddim yn ddigon. Dwi'n croesawu'r geiriau, ond beth sy'n bwysig ydy beth sy'n mynd i fod yn digwydd o hyn ymlaen. 

Mi oedd yr Aelod, eto sy'n absennol, wedi awgrymu bod ein dadl ni heddiw ddim yn amserol oherwydd bod y Gweinidog wedi gwneud sylwadau yn ddiweddar ynglŷn â'r cynlluniau mae'n mynd i'w datblygu. Ond ydych chi'n gwybod beth? Mi wnaf i fanteisio, mi wnawn ni i gyd fanteisio, ar y negeseuon positif yna. Mae yna Weinidogion Llafur mewn lle ers 1999, felly allwch chi ddim gweld bai arnom ni am amau beth sy'n digwydd dan law Gweinidogion yn y fan hyn. Ond beth sy'n bwysig i mi ydy mai dyma'r union gyfle felly i wthio ar Weinidog sy'n dweud ei bod hi'n benderfynol o wneud gwahaniaeth yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb dros iechyd meddwl yn frwd iawn dros wneud gwahaniaeth yn y maes hwnnw, a dyna pam fy mod i'n gwthio mor galed arni hi i'w wneud, achos dwi'n gweld bod yna ddrws agored yno. Mae i fyny i chi, fel Llywodraeth, brofi bod eich geiriau chi yn eiriau sy'n gallu cael eu troi'n realiti.

Mae yna gymaint o elfennau i hyn dŷn ni wedi'u trafod a chlywed amdanyn nhw. Mae gennym ni'r afiechydon sy'n effeithio ar ferched yn unig, a lle mae yna wendid dirfawr wedi bod mewn ymchwil ac mewn buddsoddiad—endometriosis rŷn ni wedi clywed amdano fo'n barod, sy'n golygu bod cymaint o ferched yn byw mewn poen bob dydd. A dydyn ni ddim hyd yn oed wedi rhoi'r parch iddyn nhw o fuddsoddi yn yr ymchwil a all ganfod beth yn union sy'n achosi hyn er mwyn gallu gwneud buddsoddiad mewn canfod ffordd o drin endometriosis.

Mae yna sylw dŷn ni'n gallu rhoi ar gefnogaeth i ferched sydd yn mynd drwy'r menopos: hanner ein poblogaeth ni—hanner ein poblogaeth ni—yn mynd drwy'r menopos. A tan yn ddiweddar iawn, doedd yna brin sôn amdano fo, ac ar y gorau, ar y gorau, mae'r ddarpariaeth sydd ar gael yng Nghymru yn anghyson—mae hynny'n bod yn garedig. Mae yna ferched ym mhob cwr o Gymru sy'n methu â chael y gofal maen nhw ei angen.

Mae tair o bob pedair merch feichiog yn cymryd rhyw fath o feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd—lle mae'r ymchwil ar ganfod beth sydd yn ddiogel i'w cymryd fel meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd a thra'n bwydo o'r fron? Mae angen buddsoddi yn hynny.

Dyna chi rai materion sy'n gwbl benodol i ferched. Ond wedyn mae gennych chi'r materion hynny sy'n berthnasol i'r boblogaeth gyfan ond lle mae yna impact mwy ar ferched, oherwydd diffyg sylw, diffyg buddsoddiad, diffyg ei gymryd o ddifrif, diffyg ystyriaeth o anghenion penodol merched—anghydraddoldeb rhwng dynion a merched, mor syml â hynny.

Y bwlch rhwng y rhywiau mewn perthynas â chlefyd y galon y clywsom amdano heddiw. Mae'n costio bywydau menywod. Ac fe wnaeth yr adroddiad arloesol yn 2019, 'Bias and biology: The heart attack gender gap', gan Sefydliad Prydeinig y Galon, agor fy llygaid i'r hyn a oedd yn digwydd, neu'r hyn nad oedd yn digwydd, wrth drin clefyd y galon mewn menywod: trawiadau ar y galon mewn menywod yn arwain at ddiagnosis anghywir o orbryder neu byliau o banig. Cafodd ei wneud yn glir i mi yn y ffordd hon: yn draddodiadol mae'r mwyafrif llethol o arbenigwyr cardiaidd wedi bod yn ddynion, felly mae anghenion menywod o fewn yr arbenigedd ei hun wedi'u hanwybyddu'n rhy hir.

Meigryn—roeddwn yn siarad â grŵp a oedd â diddordeb mewn gwthio'r agenda ar feigryn yn ei blaen yn ddiweddar. Mae'n llawer mwy cyffredin mewn menywod nag mewn dynion; efallai y bydd traean o fenywod yn profi meigryn, o'i gymharu â 13 y cant o ddynion. Efallai y bydd rhywfaint o danadrodd gan ddynion, ond mae'r lefel uwch ymhlith menywod yn debygol o ddeillio o ffactorau hormonaidd, gwahaniaethau genetig ac yn y blaen. 

Mae asthma ar 180,000 o fenywod yng Nghymru. Mae ffigurau'n awgrymu bod asthma yn lladd ddwywaith cymaint o fenywod â dynion. Mae'n broblem iechyd menywod y mae angen mynd i'r afael â hi. Mae un elusen wedi dweud bod menywod wedi cael cam yn sgil diffyg ymchwil i gysylltiadau rhwng newidiadau hormonaidd ac asthma. Dywedodd Asthma + Lung UK fod menywod yn cael eu dal mewn cylch o fod i mewn ac allan o'r ysbyty ac mewn rhai achosion, yn colli eu bywydau oherwydd diffyg ymchwil. Mae ymchwil ynddo'i hun yn faes lle mae angen canolbwyntio o'r newydd ar fenywod. Crybwyllodd Russell George hyn. Yn draddodiadol, mae treialon clinigol wedi canolbwyntio ar ddynion, dynion hŷn, heb ddigon o fenywod yn cymryd rhan.

Gallaf weld bod amser yn brin. Rydym ni fel seneddwyr heddiw yn gwneud yr alwad hon ar y Llywodraeth. Er gwaethaf yr hyn y mae wedi'i addo, gwnawn yr alwad i fynnu bod yr addewidion a wnaed yn cael eu rhoi ar waith yn awr. Gwn fod cynghrair o sefydliadau wedi dod at ei gilydd i lunio ei hachos dros strategaeth iechyd menywod, fel y galwn amdani heddiw. Mae'n bryd gweithredu ar hyn. Rydym wedi siarad llawer am anghydraddoldebau iechyd yn y Senedd hon yn ddiweddar. Dyma enghraifft arall eto o anghydraddoldeb, yr anghydraddoldeb mwyaf amlwg o bosibl, a rhaid inni ei ddileu.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Y ddadl nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dwi'n galw ar James Evans i wneud y cynnig. James Evans.

Cynnig NDM8005 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac fe wnaf aros i Aelodau adael y Siambr iddi gael tawelu ychydig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n credu bod y ddadl hollbwysig hon heddiw ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn un o'r dadleuon pwysicaf a gawsom yn y Senedd, ac mae'n drueni fod cynifer o Aelodau newydd adael y Siambr a ninnau'n trafod pwnc mor bwysig.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae gan lawer o bobl yn y Siambr hon brofiad personol o ymdrin â phroblemau iechyd meddwl. Rwyf wedi dioddef problemau iechyd meddwl fy hun yn y gorffennol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod mwy o bobl yn siarad am broblemau iechyd meddwl, er mwyn inni allu dadstigmateiddio iechyd meddwl a chaniatáu i bobl ofyn am y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae'r problemau sy'n wynebu pobl ifanc heddiw'n wahanol iawn i'r rhai a wynebai genedlaethau blaenorol. Mae ieuenctid heddiw yn byw yn y byd go iawn a'r byd digidol. Gall sefydliadau a busnesau nad ydynt erioed wedi clywed amdanynt ddylanwadu arnynt a chysylltu â hwy, ar gyfryngau cymdeithasol a fforymau ar-lein, gan greu, iddynt hwy, ganfyddiad camystumiedig o beth yw bywyd. Mae llawer o bobl ifanc yn agored i niwed ac i gael eu dylanwadu fel hyn, ac os cânt eu sugno ar hyd y llwybr anghywir, gallent ei chael yn anodd dod o hyd i ffordd allan neu ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt.

Rwy'n siarad â phobl ifanc yn rheolaidd. Rwyf hyd yn oed yn ystyried fy hun yn berson ifanc, Ddirprwy Lywydd, felly rwy'n deall y trafferthion y mae llawer o fy nghenhedlaeth i yn eu hwynebu. Mae llawer yn pryderu'n fawr na allant ennill digon o arian i fodloni'r safonau sydd gan gymdeithas ar eu cyfer yn eu barn hwy. Mae llawer yn ceisio dangos eu bod yn byw bywyd hudolus ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu argraff ar eraill ar lwyfannau. Yn anffodus, mae hyn wedi dod yn gyffredin iawn, gyda phobl ond yn rhannu'r amseroedd da heb fod eisiau dangos yr adegau gwael, tra byddant yn eistedd gartref yn dioddef mewn distawrwydd. Canfu arolwg gan Mind Cymru fod 75 y cant o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod misoedd cyntaf y pandemig. Byddwn yn dweud mai'r rheswm am hyn yw'r cyfryngau a dewisiadau gwleidyddol a'r cyfyngiadau symud a ddeilliodd o hynny, a welodd gynnydd enfawr yn y dirywiad yn iechyd meddwl pobl.

Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o anhwylderau bwyta, gyda gwasanaethau cymorth wedi'u dileu dros nos bron iawn a llawer yn cael eu gadael i ddioddef ar eu pen eu hunain. Mae angen inni sicrhau bod mwy o staff yn cael eu hyfforddi i nodi a chefnogi plant sy'n dioddef o anhwylderau bwyta. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr meddygol yn cael llai na dwy awr o hyfforddiant ar anhwylderau bwyta, ac mae hynny dros bedair i chwe blynedd o astudio israddedig. Mae llawer o bobl ifanc sydd angen gwasanaethau arbenigol yn cael eu symud o'u cymunedau, i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd heb rwydwaith cymorth. Felly, mae angen inni archwilio'r posibilrwydd o sefydlu uned anhwylderau bwyta yma yng Nghymru.

Mae ein hysgolion hefyd yn chwarae rhan bwysig yn atal ac yn ymdrin â'r mater hwn. Dylai ysgolion fod yn adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol. Yn anffodus, mae UNICEF yn amcangyfrif bod mwy nag un o bob saith unigolyn ifanc rhwng 10 a 19 oed yn byw gyda diagnosis o anhwylder iechyd meddwl. Os ychwanegwn y rhai nad ydynt wedi cael diagnosis, mae hwn yn ddarlun sy'n peri pryder mawr wrth symud ymlaen. Mae ein gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y maes hwn. Yn anffodus, ar ôl bod yn Weinidog yr wrthblaid dros iechyd meddwl ers dros flwyddyn bellach, mae llawer o bobl ifanc wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael cam gan y gwasanaethau hyn, gyda gormod yn aros am apwyntiad heb unman arall i droi, ac yn teimlo'n ynysig ac yn unig. Felly, mae angen diwygio CAMHS ar fyrder i sicrhau bod eu cymorth ar gael pan fydd ei angen.

Gallai un o'r diwygiadau hynny gynnwys cynyddu nifer y timau cymorth mewn ysgolion, ac rwy'n credu, a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn credu, y dylai fod gan bob ysgol aelod penodol o staff sy'n ymdrin ag iechyd meddwl mewn ysgolion, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi. Peth arall y mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n cytuno yn ei gylch yw defnyddio'r trydydd sector fel bod y bwlch rhwng atgyfeirio ac apwyntiad yn cael ei lenwi, er mwyn i'r unigolyn ifanc gael ei weld ar unwaith ac nad yw'n cael ei adael i ddioddef gartref.

Mae llenwi swyddi CAMHS arbenigol sy'n wag ers amser maith hefyd yn fater rwy'n siŵr fod pawb yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n un y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys yn awr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, dywedwyd wrthyf droeon fod hyn yn flaenoriaeth, ond nid yw pethau'n gwella; maent yn gwaethygu. Mae hwn yn fater sy'n rhy fawr i wleidyddion ddatgan ei fod yn flaenoriaeth a methu darparu'r adnoddau sydd eu hangen i ategu'r datganiadau. Mae rhagor o arian yn rhywbeth i'w groesawu, ac wedi'i groesawu, ond mae angen inni sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyflawni'r canlyniadau a ddymunwn i'n pobl ifanc yng Nghymru.

Mae llawer o heriau'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, ac yn anffodus, bydd yr heriau hynny'n parhau i waethygu oni bai bod gwleidyddion yn y fan hon yn gwneud rhagor. Ceir llawer o sbardunau a all achosi iechyd meddwl niweidiol mewn plant a phobl ifanc, boed yn fwlio yn yr ysgol, ffurfiau ar fethu gwybod lle rydych chi am fod mewn bywyd, methu cael tai priodol, pwysau ysgol. Mae'n rhestr ddiddiwedd, a gallwn siarad am hynny am oriau. Rhaid inni sicrhau bod cymorth priodol ar gael i blant a phobl ifanc, a chymryd camau yn ogystal i fynd i'r afael â'r sbardunau a all achosi iechyd meddwl niweidiol. Felly, mae angen inni sefydlu gwasanaethau argyfwng 24 awr i blant a phobl ifanc ledled Cymru, er mwyn gallu darparu cymorth pan fyddant yn gofyn am gymorth. Mae gormod o bobl ifanc yn aros yn rhy hir o lawer am apwyntiad ac mae llawer yn cyrraedd pwynt argyfwng cyn i unrhyw beth gael ei wneud, ac ni all hyn barhau.

Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau llawer o Aelodau i'r ddadl hon heddiw. Mae'n drueni fod y Llywodraeth wedi gwneud eu 'dileu popeth' arferol—fel y gwnânt bob wythnos—i'n cynnig. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw. Nid yw'n ddiwrnod i ganmol Llywodraeth Cymru, ond yn hytrach, i wneud ein gwaith yn y lle hwn, i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a chael adolygiad brys ar y gweill o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yma yng Nghymru. Mae'n bryd gweithredu, ac rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw.

17:50

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb amlasiantaeth, priodol.

4. Yn nodi adolygiad Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir ei adroddiad erbyn diwedd 2022.

5. Yn croesawu’r gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc ledled Cymru.

6. Yn nodi ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.  

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael cyfrannu i'r ddadl yma a dwi'n ddiolchgar ei bod hi wedi cael ei chyflwyno o'n blaenau ni. Mae iechyd meddwl yn destun rydyn ni yn ei drafod yn reit gyson yn y Senedd erbyn hyn, sydd yn dda o beth, yn wahanol i'r sefyllfa ers talwm, lle'r oedd iechyd meddwl yn cael prin dim sylw o gwbl, yn cael ei sgubo dan y carped. Ond fel dwi'n dweud, mae'n dda cael cyfle eto heddiw, achos drwy ddyfal donc mae gwneud yn siŵr bod camau gweithredu yn cael eu rhoi mewn lle sydd, gobeithio, yn mynd i helpu pobl efo'u hiechyd meddwl, a dwi'n falch ein bod ni eto yn rhoi sylw i iechyd meddwl pobl ifanc yn benodol.

Mi gefnogwn ni'r cynnig heddiw. Rydyn ni yn cytuno ynglŷn â'r impact gafodd y pandemig ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mi oedd o'n gyfnod digynsail o bryder am golli gwaith ysgol, o unigrwydd, o golli'r profiadau hynny sydd mor bwysig i bobl ifanc, o golli rhwydweithiau cefnogaeth ac yn y blaen. Dwi'n dad i dri o blant ac wedi gweld hynny drosof fi fy hun. Rydyn ni, wrth gwrs, yn gresynu at yr amser mae llawer gormod o blant a phobl ifanc yn gorfod aros am gefnogaeth a thriniaeth.

Mae'r trydydd pwynt, wedyn, ynglŷn â defnydd pwerau adran 136 yn ein symud ni at faes dydyn ni ddim wedi bod yn rhoi cymaint o sylw iddo fo, sef afiechyd meddwl difrifol a goblygiadau hynny. O edrych yn ôl dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth ymchwilio ar gyfer heddiw, dwi ddim yn gweld bod Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru wedi siarad am afiechyd meddwl difrifol o gwbl, ac mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, fod hynny yn cael sylw.

Yn aml, mae salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, yn datblygu'n gyntaf rhwng 14 a 25 oed. Mae'n gyfnod tyngedfennol i bobl ifanc, oherwydd newidiadau niwrolegol, biolegol a gwybyddol y glasoed i fod yn oedolion ifanc. Mae'n gyfnod o newid mawr yn eu bywydau, pan fyddant yn cyrraedd cerrig milltir addysgol mawr.

Rydym yn aml yn siarad, onid ydym, am yr angen am ymyrraeth gynnar er mwyn osgoi gadael i broblemau iechyd meddwl ddirywio. Bu Plaid Cymru'n hyrwyddo ymyrraeth gynnar ers amser maith, gan gynnwys mewn ffyrdd mwy anffurfiol, neu efallai mewn ffyrdd llai ffurfiol: fe fyddwch wedi ein clywed yn hyrwyddo'r canolfannau galw heibio siop un stop yn debyg i fodel Seland Newydd, ac mae ein gwelliant heddiw yn cyfeirio at gyflwyno cynlluniau peilot o dan y cytundeb cydweithio, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini'n datblygu, a rhaid iddynt ddatblygu. Ond gall yr ymyriadau llai ffurfiol hyn effeithio ar ganlyniadau clinigol. Mae bod yn ymwybodol o arwyddion cynnar o salwch meddwl difrifol yn gam cyntaf hollbwysig i bobl gael yr help sydd ei angen arnynt, ac mae atal clinigol yn bwysig. I lawer, ymyrraeth timau clinigol sy'n atal dirywiad a salwch pellach. Mae ymyrraeth gynnar a strategaethau ataliol yn cynnig cyfle i liniaru'r straen sy'n effeithio ar les corfforol, emosiynol a seicolegol ar adeg hynod agored i niwed ym mywyd unigolyn ifanc.

Mae seicosis yn effeithio ar un o bob 100 o bobl. Mae'r pwl cyntaf yn fwyaf tebygol o ddigwydd rhwng 18 a 24 oed, ond mae ymchwil ddiweddar yn dweud y byddai llai nag un o bob pump o bobl ifanc yn ddigon hyderus i sylwi ar arwyddion cynnar—nid oedd eu chwarter erioed wedi clywed amdano. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'n ystyrlon mewn darpariaeth feddygol seiciatrig arbenigol yng Nghymru, yn awr ac yn hirdymor.

Rydyn ni wedi sôn yn helaeth am anghydraddoldebau iechyd yn ddiweddar. Buon ni'n sôn am hynny yng nghyd-destun iechyd merched ychydig funudau yn ôl. Mae'r anghydraddoldebau y mae pobl efo afiechyd meddwl difrifol yn eu hwynebu'n sylweddol iawn. Maen nhw'n fwy tebyg o wynebu problemau iechyd corfforol ac yn marw, ar gyfartaledd, 15 i 20 mlynedd yn fwy ifanc. Mae'n cael ei amcangyfrif bod dau o bob tri o bobl efo afiechydon meddwl difrifol yn marw o afiechydon corfforol a allai gael eu hatal. Felly, mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod yna fonitro gofalus ar iechyd corfforol pobl sydd yn dioddef.

Mae Rhan 2 Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn dweud bod pob person ifanc sy'n derbyn triniaeth iechyd gan wasanaethau iechyd meddwl plant a glasoed arbenigol i fod i gael cynllun gofal a thriniaeth cynhwysfawr i'w helpu nhw i wella. Mae'n ymddangos bod llawer o bobl ifanc ddim hyd yn oed yn gwybod am hynny.

Dirprwy Lywydd, i gloi, gallwn ni ddim cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw. Er bod yna waith da yn mynd ymlaen mewn rhai meysydd, gallwn ni ddim jest derbyn pethau fel ag y maen nhw; rydyn ni'n gwneud cam gwag â'n hunain wrth wneud hynny. Er bod gennym ni ein gwelliant ein hunain a fy mod i wedi egluro pwysigrwydd yr hyn sydd dan sylw yn hwnnw, mae'n bosib na wnawn ni gyrraedd at hwnnw, pwy a ŵyr, felly beth wnawn ni heddiw ydy mi gefnogwn ni'r cynnig gwreiddiol fel ag y mae o i ddechrau ac i uchafu'r siawns o gael cefnogaeth i rai o'r egwyddorion creiddiol sydd yn hwnnw.

Mae yna wastad gymaint y gallwn ni gyffwrdd arno fo pan rydyn ni'n sôn am iechyd meddwl, ond dwi'n falch o fod wedi gallu gwneud yr ychydig sylwadau yna, beth bynnag.

17:55

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i James Evans am ddod â'r ddadl hon i'n Senedd heddiw. Mae'n bwnc pwysig iawn i'w drafod, ond fel y dywedodd yr Aelod dros Ynys Môn, mae'n wych gweld ein bod yn siarad amdano yn awr a bod y sgyrsiau hyn yn real, oherwydd mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu yn real iawn, ac mae'n braf gweld nad yw bellach yn bwnc tabŵ, fel y dywedoch chi, Rhun.

Fel y dywedodd James, mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn fwyaf diweddar, fel y dywedwyd eisoes, gyda'n pobl ieuengaf mewn cymdeithas a'r trafferthion a'r pwysau y gwnaethant eu hwynebu mewn addysg ac wrth dyfu i fyny yn ystod y pandemig. Yn anffodus, er bod Llafur Cymru'n honni'n barhaus fod iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc yn flaenoriaeth, fel y dywedodd James, mae'r realiti'n wahanol iawn. Mae plant a phobl ifanc yn aros yn hirach am wasanaethau iechyd meddwl ac mewn rhai byrddau iechyd, mae ymhell dros naw o bob 10 yn aros yn hirach na'r amser targed ar gyfer asesiadau. Yn amlwg, mae'r problemau hyn yn rhai hanesyddol. Cyn i COVID-19 daro yng Nghymru, roedd amseroedd aros ar gyfer plant a phobl ifanc eisoes yn hir, a chafodd pryderon eu lleisio gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bron i bedair blynedd yn ôl bellach am y problemau hyn yn y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed.

Nid wyf yn siŵr a ydych yn cofio'r adroddiadau niferus a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y maes hwn, ond cydnabu'r un pwysicaf gennym, 'Cadernid Meddwl', fod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd a bod angen canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar. Efallai y dylech edrych ar rai o'r adroddiadau hynny.

18:00

Bron i bedair blynedd yn ôl roeddem yn sôn am y problemau hyn, ac nid oes llawer o weithredu wedi bod o hyd, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n ei chael yn syfrdanol edrych ar y ffigurau diweddaraf, sy'n dangos bod llai na dwy ran o dair o bobl ifanc yn cael eu hasesiadau o fewn 28 diwrnod ac ar gyfartaledd, dros y chwe mis diwethaf, gwelwyd 48.5 y cant—llai nag un o bob dau—o fewn yr amser hwn. Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, gwelwn fod amseroedd aros am CAMHS arbenigol yn wael, gyda thros 14 y cant o bobl ifanc yn aros dros bedair wythnos am apwyntiad cyntaf. Mae'n amlwg yn awr nad yw hyn yn ddigon da ac na all ein gwasanaethau presennol ymdopi â'r pwysau y maent yn ei wynebu. Mae bron i dair blynedd bellach ers y cyd-adolygiad thematig yn 2019, a dros ddwy flynedd ers adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y pumed Senedd ar y defnydd o osod dan gadwad o dan adran 135 a 136. Nododd y pwyllgor ar y pryd fod gwella gwasanaethau gofal argyfwng, yn enwedig gwasanaethau y tu allan i oriau, yn allweddol i leihau'r defnydd cyffredinol o adran 136 a sicrhau bod y rhai a ryddheir o adran 136 ar ôl asesiad yn mynd ymlaen i gael gofal a chymorth digonol yn eu cymuned. Wrth i amseroedd aros ymestyn, mae angen cymorth argyfwng ar fwy a mwy o blant a phobl ifanc, gyda 30 o blant dan 18 oed dan gadwad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ni fydd gosod plant a phobl ifanc dan gadwad yn darparu'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt, felly mae'n hanfodol fod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael er mwyn iddynt gael eu trin mewn amgylchedd diogel a phriodol, rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn destun dadl ar ei ben ei hun.

Mae'n amlwg i mi ac i eraill ar y meinciau hyn fod yn rhaid sefydlu canolfannau argyfwng iechyd meddwl er mwyn inni allu sicrhau bod gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl le diogel i gael eu hasesu a'u trin, gan leihau nifer y bobl dan gadwad ac a drosglwyddir.

Yn anffodus, gwelwn hyn hefyd gydag amseroedd aros ar gyfer awtistiaeth. Amcangyfrifir bod 30,000 neu fwy o bobl awtistig yng Nghymru, ac er bod pawb wedi clywed am awtistiaeth, nid oes digon o bobl yn deall sut beth yw bod yn awtistig a pha mor galed y gall bywyd fod os nad yw pobl awtistig yn cael y cymorth cywir. Mae miloedd o blant yn aros am fisoedd lawer neu flynyddoedd hyd yn oed i gael eu hasesu. Canfu astudiaeth ddiweddar mai 28 y cant o ddisgyblion awtistig yng Nghymru a deimlai fod eu hathrawon yn deall awtistiaeth, ac mae data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai dim ond 29 y cant o bobl awtistig sydd mewn unrhyw fath o waith. Heb gymorth, mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl, sydd weithiau'n troi'n argyfwng.

Mae'r amser i siarad ar ben. Po hwyaf yr arhoswn i fynd i'r afael â gwir wraidd ac achosion yr argyfwng iechyd meddwl a'i driniaeth, y gwaethaf y bydd y sefyllfa'n mynd. Mae arnom angen gweithredu clir a diweddariadau rheolaidd yn y Senedd hon, yn amlinellu sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â'r argyfwng ac i weld a yw ei dulliau'n gweithio.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch ichi am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw. Iechyd meddwl plant a'r glasoed yw un o'r prif faterion y mae pobl ifanc yn ei ddwyn i fy sylw ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, roedd yn wych cynnal ein ffair pobl ifanc ar yr union bwnc hwn gyda Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, lle y daeth ysgolion, disgyblion a grwpiau cymorth lleol at ei gilydd i drafod sut y gallwn wneud darpariaeth iechyd meddwl yn well i bobl ifanc yn ein cymuned. Oherwydd, fel gyda llawer o faterion, neu'r holl faterion sy'n ymwneud â phobl ifanc, mae oedolion sy'n aml yn llawn bwriadau da yn rhagdybio beth sydd orau, ac nid felly y dylai fod. Dylai unrhyw benderfyniadau sy'n effeithio ar bobl ifanc o leiaf fod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu i sicrhau ein bod yn darparu cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Gwn fod ein Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo'n llwyr i hyn. Roeddwn am ychwanegu hefyd fod un o'n Haelodau Senedd Ieuenctid o Ben-y-bont ar Ogwr, Ollie, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, am ddweud bod lleisiau a barn pobl yn cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio weithiau wrth wneud penderfyniadau, felly rydym am sicrhau bod hynny bob amser yn flaenoriaeth.

Credaf ei bod yn werth cofio hefyd am y rôl ganolog y credaf fod pobl ifanc wedi'i chwarae yn cyflwyno'r sgwrs am iselder a gorbryder i'n bywydau bob dydd. I bobl ifanc ar draws ein cymunedau y mae llawer o'r diolch am lawer o'r gwaith a wnaed i chwalu rhwystrau a'r cywilydd o siarad am iechyd meddwl, a gwn fod hyn yn flaenoriaeth i'n Haelod Senedd Ieuenctid dros Ben-y-bont ar Ogwr, Ewan Bodilly, a ddywedodd ei bod wedi bod yn hawdd i bobl ifanc deimlo eu bod wedi'u dieithrio ers y pandemig, a dim ond drwy ymgysylltu â phobl ifanc y bydd pethau'n gwella. Ac yn y ffair iechyd meddwl, dywedodd ein maer ieuenctid, Xander, fod pobl ifanc wedi bod yn galw am i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth ers gormod o amser, ond mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod gwasanaethau ar gael a bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.

Hoffwn ddweud hefyd fy mod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd meddwl i bobl ifanc drwy ysgolion gyda'r dull ysgol gyfan. Mae ysgolion ar draws fy etholaeth eisoes yn gwneud y gwaith hwn, gydag Ysgol Gyfun Porthcawl yn gweithio gyda grwpiau cymorth iechyd meddwl lleol i ddadstigmateiddio gofyn am gymorth a sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn gwybod lle i droi os oes angen. Ond dylid safoni hyn, a dylai pob plentyn ac unigolyn ifanc wybod lle i droi. Dylai pob plentyn gael yr offer i gael mynediad at gymorth pan fo angen, beth bynnag yw'r amgylchiadau.

Hoffwn orffen drwy ddweud nad oeddwn yn bwriadu siarad am hyn heddiw mewn gwirionedd, ond James, hoffwn ddweud hyn i gefnogi eich galwad am uned anhwylderau bwyta yng Nghymru, ac uned anhwylderau bwyta preswyl yn ddelfrydol. Roedd gennyf anorecsia nerfosa pan oeddwn yn 14 oed. Roedd yn gwbl frawychus i mi a fy nheulu, a fy ffrindiau a fy athrawon, a chefais sgwrs gyda fy mam am y peth ychydig fisoedd yn ôl—wythnosau yn ôl, mae'n ddrwg gennyf—pan oeddem yn gwneud y ddadl ar anhwylderau bwyta, oherwydd roeddwn am siarad amdano. A dywedodd fy mam rywbeth wrthyf nad oedd erioed wedi'i ddweud wrthyf o'r blaen, sef bod fy meddyg ymgynghorol pediatrig ar y pryd wedi ysgrifennu at fy nghwnselydd, a heb hyd yn oed ddweud hyn wrth fy rhieni—heb roi gwybod iddynt—fy mod ddeuddydd i ffwrdd o gael fy nerbyn i'r ward seiciatrig oedolion yn ysbyty dwyrain Morgannwg, pan oeddwn yn 14 oed. Byddent wedi fy nghloi mewn ward seiciatrig i oedolion yn ysbyty dwyrain Morgannwg. Ni fyddwn byth wedi dod allan. Ni fyddwn byth wedi dod allan. Felly, yr unig opsiwn arall ar y pryd oedd uned breswyl, a oedd ym Mryste, ac roedd yn llawn, ac roedd fy rhieni mor ofnus. A bod yn onest, rwy'n credu fy mod i mor sâl fel nad wyf yn meddwl fy mod i'n ofnus erbyn hynny; nid oeddwn yn gwybod beth oedd yn digwydd.

Fe wellais, ac rwy'n anghyffredin iawn. Os edrychwch ar yr ystadegau, mae gwella o hyn yn anghyffredin iawn, ac fe wnes i wella. Ac ni allaf ddweud yn iawn wrthych sut y gwnes i hynny, hyd yn oed yn awr. Ond roeddwn i eisiau dweud bod hynny 20 mlynedd yn ôl, ac nid oes gennym uned yng Nghymru o hyd. Ac yn fy nghymuned i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym Mental Health Matters Wales, a flwyddyn neu ddwy yn ôl cyfarfûm â Michaela yn Mental Health Matters Wales, ac roedd ganddi grŵp anhwylderau bwyta lle y gall pobl sy'n dioddef ohono, a'u teuluoedd hefyd, ddod at ei gilydd i gael cefnogaeth. Ac nid oeddwn erioed wedi siarad am hyn mewn gwirionedd, ac fe es i mewn ac fe ddaeth y cyfan allan, ac fe wnaethom ni chwerthin, ac rwy'n gwybod bod hynny'n swnio'n rhyfedd iawn, ond mae rhai pethau'n rhyfedd weithiau, yn enwedig rhai o'r pethau y byddwch yn eu gwneud pan fyddwch chi'n mynd drwy hyn. Ac fe wnaeth imi deimlo mor—. Yr hyn a âi drwy fy meddwl oedd, 'Duw, byddai'n dda gennyf pe baech chi wedi bod yno pan oeddwn i yr oedran hwnnw. Byddai'n dda gennyf be bawn i wedi cael hynny, byddai'n dda gennyf pe baech chi wedi bod yno i fy rhieni pan oeddwn i yr oedran hwnnw'.

Felly, Weinidog, gwn eich bod yn gwneud cymaint ar hyn. Gwn ein bod wedi siarad amdano o'r blaen hefyd, ac rwyf bob amser yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr, ond os oes unrhyw ffordd y gallwn gael uned anhwylderau bwyta preswyl yng Nghymru—fel bod mwy o le—fel nad oes raid i bobl symud i ffwrdd o'u cartref. Unwaith eto, yn 14 oed, nid wyf yn gwybod sut y byddwn wedi mynd i Fryste fel yna. Felly, ie—diolch.

Hoffwn orffen drwy ddweud wrth unrhyw un a phob unigolyn ifanc allan yno, fel y dywedaf wrthych bob amser, nid ydych ar eich pen eich hun—nid oes dim o'i le arnoch, mae cymorth ar gael, a gallwch ddod drwy hyn. [Cymeradwyo.]

18:05

Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau.

Nid wyf yn credu y dylid ymddiheuro nad yw'r ddadl hon y prynhawn yma yn un gyfforddus, ac mae pob cyfraniad a glywn yn hynod berthnasol i'r ddadl hon. Hoffwn dalu teyrnged i Sarah Murphy am rannu ei stori hynod bersonol gyda ni. Diolch ichi am roi o'ch amser i rannu hynny gyda ni. 

Nid wyf yn credu mai bwriad y ddadl hon yw dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru na chodi cywilydd; yn hytrach, fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Maesyfed yn gywir, mae'n rhaid dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a bydd yn tynnu sylw at y methiannau gwirioneddol sefydledig yng ngwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru. Mae'r methiannau hyn wedi arwain at chwalu a chreu cythrwfl ym mywydau plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad y prynhawn yma i dynnu sylw'r Aelodau at y sefyllfa mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, sefyllfa lle mae ein gwasanaethau iechyd meddwl heb ddigon o adnoddau ac yn brin o gyllid. 

Nawr, mae'n wir fod tyfu i fyny yn y Gymru wledig yn fendith, ac nid yw hynny'n golygu nad yw heb ei heriau a'i anawsterau—sefyllfa sy'n arbennig o wir i'n pobl ifanc. Mae ynysu gwledig yn broblem sy'n effeithio ar bob grŵp cymdeithasol, ond yn aml, ein pobl ifanc sy'n cael eu gadael heb y rhwydwaith cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu perthynas iach ag eraill a thwf emosiynol. Heb y rhwydweithiau hyn a heb y cymorth angenrheidiol a'r mesurau ataliol, mae ein pobl ifanc yn aml yn cael eu gadael i frwydro yn erbyn iselder a mathau eraill o salwch meddwl, sefyllfa sydd wedyn yn galw am ymyrraeth broffesiynol gan wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Wrth edrych o gwmpas y Siambr, faint ohonom sy'n gorfod ymdrin yn uniongyrchol ac ymyrryd yn uniongyrchol mewn achos CAMHS unigol am nad oedd adnoddau ar gael i gael y cymorth hanfodol sydd ei angen ar blentyn neu unigolyn ifanc? Un o'r achosion cyntaf un yr ymdriniais ag ef ar ôl yr etholiad fis Mai diwethaf oedd merch ifanc ag anhwylder bwyta. Ac i mi, sy'n cynrychioli etholaeth wledig, mae ymyriadau fel hyn yn rhy gyffredin ac yn llawer rhy gyfarwydd.

Mae ffigurau diweddaraf rhestrau aros CAMHS yn dangos mai llai na dwy ran o dair o'r bobl ifanc sy'n derbyn yr asesiad gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol gofynnol o fewn 28 diwrnod. Yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n cynnwys fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, dim ond 3.2 y cant o atgyfeiriadau CAMHS a welir o fewn 28 diwrnod—3.2 y cant. Mewn cymhariaeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal 91.3 y cant o'u hasesiadau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn y cyfnod o 28 diwrnod, gwahaniaeth a allai, i lawer, fod yn wahaniaeth rhwng cael y gefnogaeth a'r mynediad sydd ei angen ar y bobl ifanc hyn neu dywyllu'r cymylau o'u cwmpas ymhellach.

Ond gadewch inni fod yn glir, nid canlyniad y pandemig yw'r problemau hyn; yn anffodus maent yn symptom o duedd hanesyddol o fynediad cyfyngedig ac adnoddau sy'n crebachu. Lle mae methiannau fel hyn yn digwydd, mae ein cymunedau lleol, ac fel y nododd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir, y trydydd sector, yn cyd-dynnu ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen. Ac nid oes neb yn well am wneud hyn na chymuned ffermwyr ifanc Cymru. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon, mae clybiau ffermwyr ifanc Cymru yn darparu mwy na chyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth amaethyddol yn unig; maent hefyd yn darparu nifer o sgiliau bywyd, ond hefyd ymdeimlad o gwmnïaeth a chefnogaeth. Datblygir cyfeillgarwch gydol oes rhwng pobl a chaiff rhwydweithiau cymorth eu creu, ar lefel leol a ledled CFfI. Nid yw'n hawdd mesur y gwerth sydd i'r cysylltiadau hyn yn cefnogi aelodau a allai fod yn wynebu problemau iechyd meddwl, ond ar sail anffurfiol, ni ddylid tanbrisio gwerth cyfaill sy'n deall yr heriau a'r ansicrwydd sydd gan lawer o bobl ifanc wrth iddynt dyfu fyny. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at aelod o Lys-y-frân yng Nghlwb CFfI Sir Benfro, Hannah Rees, a gyflwynodd gynllun i CFfI Cymru o'i phen a'i phastwn ei hun i roi cymorth pellach i aelodau ifanc CFfI, drwy ddiwrnodau cystadlu. O gofio mai unigolyn ifanc yw hi sy'n gwybod bod bwlch yno ac a geisiodd lenwi'r bwlch hwnnw ei hun, rwy'n talu teyrnged i Hannah Rees am y gwaith y mae'n ei wneud.

Ond ni ddylai'r sefydliadau hyn fod ar eu pen eu hunain, ac nid yw bob amser yn ddigon. Dyna pam y mae hi mor bwysig sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn meddu ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Beth bynnag y bo'n lliwiau gwleidyddol, mae gennym ddyletswydd yn y Siambr hon i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt. Ond fel y clywsoch y prynhawn yma, nid yw hynny'n digwydd, yn anffodus. Mae rhestrau aros yn gwaethygu, mae'r galw'n rhy uchel a nifer y staff yn rhy isel. Y cynnig hwn sydd ger ein bron yw ein cyfle i newid y ffordd y mae ein gwasanaethau CAMHS yn gweithredu, gan sicrhau bod ein plant yn gallu cael y gwasanaethau iechyd meddwl y maent eu hangen ac yn eu haeddu. Diolch, Ddirprwy Lywydd. 

18:10

A gaf fi ddiolch i James am gyflwyno'r ddadl hon? Diolch yn fawr iawn, James. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Rwy'n siarad fel cyn-weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant a fu'n gweithio am oddeutu 25 mlynedd gyda phlant a phobl ifanc. Rhan o'r frwydr i mi oedd cael y plant hynny a'u teuluoedd i mewn i wasanaethau CAMHS.

Rwyf am gydnabod ychydig o bethau yng Nghymru y credaf eu bod wedi mynd yn dda. Rwy'n falch iawn o weld bod y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yn parhau i gael ei gyflwyno, oherwydd mae canolbwyntio ar atal ac amgylcheddau ysgol sy'n defnyddio dull wedi'i lywio gan drawma yn hynod bwysig i feithrin iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc. Ond rydym mewn lle anodd iawn. Rwy'n mynd i wrando ar weddill y ddadl i benderfynu sut y byddaf yn pleidleisio heno, oherwydd mae'n peri pryder gwirioneddol imi fod dau fater pwysig yma. Un ohonynt yw'r amser aros am CAMHS. Mae'n rhy hir o lawer, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog beth yw'r ffigurau gyda'r amseroedd aros, oherwydd nid wyf yn hollol glir beth ydynt. A chlywsom rai gan Laura Anne Jones yn y ddadl, ond darllenais ffigurau gwahanol y bore yma, felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog egluro beth yw'r amseroedd aros am bedair wythnos neu fwy. 

Fy marn i yw bod arnom angen amrywiaeth eang o wasanaethau. Nid wyf yn siŵr fod angen gwasanaeth newydd drwyddo draw. Mae gennym wasanaethau da iawn. Mae'r gwasanaeth datrys argyfwng a thriniaeth yn y cartref yn darparu gwasanaeth cyflym yn y gymuned 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ond dim ond ar gyfer pobl ifanc dros 18 oed. Rydym yn sôn yma am gyrraedd y sefyllfaoedd hyn ymhell cyn hynny.

Credaf fod dau fater pwysig yn codi. Un ohonynt, fel y dywedais, yw'r rhestr aros. Yn fy mhrofiad i fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, mae'n llawer rhy hir. Os gallwch ddod i mewn yn gynnar, gallwch atal y plant a'r bobl ifanc hynny a'u teuluoedd rhag cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a dod yn blant sy'n derbyn gofal, o bosibl, sy'n sefyllfa ofnadwy, i feddwl mai dyna sy'n digwydd i lawer o blant a phobl ifanc.

Yn ail, hoffwn dalu teyrnged i'r gwasanaethau gwirfoddol a'r trydydd sector ledled Cymru. Mae yna rai anhygoel, ac yn fy mhrofiad i, mae'n llawer gwell gan bobl ifanc fynd at y gwasanaethau gwirfoddol hynny nag at wasanaethau statudol. Maent yn teimlo'n llawer mwy diogel yn troi at wasanaeth nad oes ganddo 'GIG' uwch ei ben. Mewn gwirionedd, mae angen inni weithio'n llawer agosach gyda'r gwasanaethau gwirfoddol. Ceir llawer ohonynt, fel Youth Shedz ym Mlaenau Ffestiniog, yr ymwelais â hwy yr haf diwethaf, Mind Aberhonddu, prosiect Amethyst yn Aberteifi, a Noddfa yn sir Benfro. Yn fy marn i, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y gwasanaethau hyn, a'u mapio er mwyn inni weld sut y gallwn greu capasiti pellach iddynt allu diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, a rhoi cyllid hirdymor cynaliadwy iddynt ac i weld a allant ddarparu'r dull 24/7, sydd, yn fy marn i, yn gwbl amhrisiadwy.

Rwy'n mynd i orffen gyda dyfyniad a glywais gan unigolyn ifanc: 'Y rhai sy'n gwneud i eraill chwerthin a gwenu sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd.' Rhaid inni ystyried hynny, a rhaid inni weld bod pobl ifanc yn dioddef yn dawel. Mae angen inni eu cyrraedd a'u helpu. Rwy'n credu mai drwy fath o wasanaeth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos y mae gwneud hynny, i roi cymorth i blant a theuluoedd ar yr adeg y maent ei angen, cyn ei bod yn rhy hwyr. Diolch yn fawr iawn. 

18:15

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Mae angen canolbwyntio mwy ar atal, nid darpariaethau adweithiol yn unig, cefnogi iechyd meddwl da fel rhan o raglen sy'n sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i leihau'r tebygolrwydd y bydd afiechyd yn digwydd yn y lle cyntaf.

Bu galw am adolygiad o'r cyfnod pontio rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau i oedolion yn y GIG. Yn ddiweddar, ymdriniodd newyddion ITV â stori dynes ifanc ag awtistiaeth. Galwai am newid y system, fel nad yw pobl ifanc sy'n cael eu symud i ofal oedolion yn profi gostyngiad sylweddol yn y gwasanaethau y maent yn eu cael. Awgrymwyd bod sesiynau seiciatrig yn cael eu lleihau o un awr i ddim ond 10 munud. Gall hyn fod yn sylweddol i bobl ifanc mewn cyfnod mor fregus. Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y cyfnod 2022-23. Ond beth yw'r strategaeth i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i ganiatáu i bobl ifanc bontio'n ddidrafferth i wasanaethau oedolion? A pha mor hyderus yw Gweinidogion eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i leihau'r risg o niwed i'r rhai sy'n symud o ofal plant i ofal oedolion? 

Rwyf am droi at yr heriau a'r effaith ar bobl ifanc. Canfu adroddiad arolwg YoungMinds fod 80 y cant o blant a phobl ifanc a oedd eisoes â phroblemau iechyd meddwl yn cytuno bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys achosion newydd o ddirywiad mewn iechyd meddwl. Mae 91 y cant o bobl ifanc wedi defnyddio gwasanaeth iechyd meddwl ar ryw adeg. Mae'n ymddangos bod pobl ifanc o gartrefi incwm isel yn cael eu heffeithio'n arbennig. Mae ynysu oddi wrth ffrindiau a theulu, a chau gwasanaethau hanfodol, wedi cyfrannu at hyn. 

Mae'n destun pryder fod bron hanner y bobl ifanc sy'n profi dirywiad mewn iechyd meddwl wedi defnyddio technegau ymdopi negyddol fel hunan-niweidio. Mae rhai wedi profi newidiadau dietegol sylweddol. Er bod unigedd yn ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol at ddirywiad mewn iechyd meddwl, mae dros hanner bellach yn teimlo'n bryderus ynglŷn â dychwelyd i fywyd normal. Mae'n amlwg y bydd effaith y pandemig i'w theimlo am gyfnod sylweddol. Mae'r ffeithiau hyn yn peri pryder a rhaid i'r Gweinidog eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer dyfodol iechyd meddwl. Ym mis Chwefror 2022, canfu adroddiad yn y Senedd fod 60 y cant o blant a phobl ifanc a oedd angen gofal arbenigol yn gorfod aros dros bedair wythnos am apwyntiad cyntaf.

Mae gennyf ambell awgrym y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn eu hystyried. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried Deddf iechyd meddwl newydd, a fyddai'n diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol ac a fyddai'n cynnwys y syniadau diweddaraf ynglŷn â darpariaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n gwneud newidiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a rhaid eu hystyried wrth newid y ddeddfwriaeth iechyd meddwl yma yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau bod Bil iechyd meddwl newydd yn addas i'r diben, dylai'r egwyddorion cyffredinol: sicrhau bod barn a dewisiadau cleifion yn cael eu parchu; sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei defnyddio yn y ffordd leiaf cyfyngol posibl; sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol; ac yn olaf, dylid trin y claf fel unigolyn. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ystyried newidiadau i adran 136 o Ddeddf 1983, a allai helpu i leihau'n sylweddol nifer y bobl dan gadwad. Er mwyn i rywun gael ei roi dan gadwad, rhaid iddi fod yn glir mai dim ond drwy fod dan gadwad y gellir sicrhau lles gorau'r claf. Bydd yr egwyddor hon yn lleihau 'warysu' cleifion, gan ganiatáu ar gyfer gwell gofal i'r rhai y mae angen eu rhoi dan gadwad, a dileu straen diangen i'r rhai nad oes angen eu rhoi dan gadwad.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu deialog rhwng San Steffan a Chaerdydd. Fodd bynnag, mae iechyd meddwl wedi'i ddatganoli, ac mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno Deddf iechyd meddwl sy'n cynnwys manteision argymhellion Llywodraeth y DU, ac sy'n sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ond sydd hefyd yn addas i Gymru. At hynny, mae angen inni sicrhau cydweithrediad ag elusennau iechyd meddwl fel YoungMinds, sydd, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn gallu darparu cymorth arbenigol i blant a phobl ifanc. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r agenda atal. I blant, gall profiad gwael newid bywyd, felly gadewch inni wella'r ffordd y gwnawn hyn. Diolch.

18:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na gwella, amddiffyn a chefnogi lles meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rwyf wedi datgan ac ailddatgan fy ymrwymiad droeon yn y Siambr hon, ac rwy'n dal yn benderfynol o'n gweld yn gwneud y cynnydd sydd ei angen i drawsnewid eu bywydau er gwell. Mewn gwirionedd, dyma'r union reswm y deuthum i mewn i'r Llywodraeth, yn dilyn pum mlynedd o ymgyrchu ar hyn yn y Senedd ddiwethaf.

Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn hyn o beth. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym, 'Peidiwch â meddygoli tyfu i fyny.' Gall pob un ohonom helpu i herio'r naratif fod angen cymorth arbenigol ar bob unigolyn ifanc pan fyddant yn ei chael hi'n anodd. Ni fydd ei angen ar y rhan fwyaf o bobl ifanc, a dylai pob un ohonom yn y Siambr hon godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo pobl ifanc i gael mynediad at y lefel briodol o wasanaethau, pan fo'i hangen arnynt a lle mae ei hangen arnynt.

Rwy'n llwyr gydnabod yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl, ac fel y dywedais wrth ymyrryd ar gyfraniad Laura Anne Jones, roeddem yn cydymffurfio â'r targedau amseroedd aros cyn y pandemig, a dyna'n union pam y galwodd y pwyllgor plant blaenorol am ffocws o'r newydd ar ymyrraeth gynnar, oherwydd eu bod hwy—y pwyllgor a gadeiriais—yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar amseroedd aros.

Mae perfformiad amseroedd aros wedi dirywio'n sylweddol o lefelau cyn y pandemig, ond mae hynny yng nghyd-destun mwy o atgyfeiriadau a chleifion â lefel fwy difrifol a chymhleth o broblem yn cael eu gweld gan weithlu ymroddedig ond dan bwysau. Er bod amseroedd aros mewn rhai ardaloedd wedi cynyddu, mae byrddau iechyd yn rhoi sicrwydd bod rhestrau aros yn cael eu hadolygu'n glinigol yn rheolaidd, gyda chleifion yn cael eu blaenoriaethu ar sail anghenion clinigol.

Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd y bore yma yn dangos gwelliant cyson mewn amseroedd aros ers mis Rhagfyr, ac rwy'n croesawu hynny'n ofalus, ond nid wyf yn hunanfodlon o gwbl ynglŷn â'r heriau parhaus sy'n ein hwynebu. Ac a gaf fi ddweud wrth Jane Dodds fod yr holl ddata ar amseroedd aros yn cael ei gyhoeddi bob mis? Rwy'n falch o ddweud ein bod ym Mhowys yn cyrraedd y targed i weld 80 y cant o bobl ifanc o fewn pedair wythnos, ond mae'r sefyllfa'n amrywio yng Nghymru, yn enwedig gyda Chaerdydd a'r Fro yn ystumio'r darlun, gan fod mwy na 50 y cant o'r bobl ifanc sy'n aros yng Nghaerdydd a'r Fro. Fe ildiaf i Darren Millar.

18:25

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig ydych chi i'r achos hwn ac rydych chi wedi bod yn angerddol iawn yn ei gylch ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae'n ymwneud â mwy na'r targed o 80 y cant, onid yw? Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y therapïau siarad, yn enwedig, y maent yn gorfod aros yn hir iawn amdanynt ar hyn o bryd, hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu hasesu fel rhai sydd eu hangen o fewn yr amser targed. A wnewch chi ddweud wrthym pa gynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw?

Diolch yn fawr, Darren. Fel y dywedwch, mae'n ymwneud â mwy na'r amseroedd aros yn unig. Rwyf fi fy hun wedi galw am fwy o ffocws ar ganlyniadau a'r hyn sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael asesiad. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddilysu'r data er mwyn inni allu darparu mwy o wybodaeth gyhoeddus am fynediad at driniaethau seicolegol. Ond rwy'n credu bod yr hyn rydych newydd ei ddweud, mewn gwirionedd, yn dangos bod yn rhaid iddo fod yn ddull system gyfan, sef yr hyn y ceisiwn ei wneud.

Rydym wedi cryfhau ein trefniadau i fonitro ansawdd a pherfformiad gwasanaethau iechyd meddwl y GIG drwy gyfarfodydd ag uned gyflawni'r GIG yn fisol. O ystyried yr amrywio ym mherfformiad amseroedd aros, rydym hefyd wedi comisiynu uned gyflawni'r GIG i gynnal adolygiad o CAMHS sylfaenol ac arbenigol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yr amrywio, a bydd yn cefnogi ein rhaglen wella, oherwydd rhaid inni gael y data cywir.

Wrth inni gefnu ar y pandemig, mae angen amser ar ein gwasanaethau i wella a datblygu modelau a all ddiwallu anghenion newidiol unigolion, a gwneud hynny'n gynaliadwy, heb ansefydlogi rhannau eraill o'r gwasanaeth. Rwy'n canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a chryfhau gwasanaethau arbenigol i bobl ifanc sydd angen y lefel honno o gymorth. Mae hyn yn cynnwys ein dull system gyfan gyd-weinidogol sydd â'n hysgolion wrth wraidd y broses o wella lles emosiynol pobl ifanc. Mae ein dull yn cynnwys cefnogi iechyd meddwl da drwy'r cwricwlwm, gan helpu ysgolion i nodi a chefnogi pobl ifanc sydd angen cymorth yn gynt, ond gan gysylltu hefyd â chyngor a chymorth gan CAMHS wrth gyflwyno'r gwasanaeth mewngymorth CAMHS. Felly, yn wir, James, rydym yn gwneud yr holl bethau y cyfeirioch chi atynt mewn gwirionedd.

Rydym yn parhau i lywio'r gwaith o weithredu ein fframwaith NYTH ledled Cymru drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac rydym yn cefnogi gweithredu'r fframwaith mewn ffordd systematig ac integredig. Mae pob unigolyn ifanc angen perthynas ddiogel a meithringar gydag oedolion dibynadwy lle bynnag y maent yn byw eu bywydau. Mae hyn yn ganolog i'n fframwaith NYTH. Yn hollbwysig, bydd hyn yn helpu i ddarparu cymorth emosiynol ac iechyd meddwl cynnar i'r rhai nad oes angen cymorth neu ymyrraeth glinigol arnynt. Roeddwn yn falch o glywed yn uniongyrchol gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol am rai o'r gwasanaethau newydd ac estynedig a weithredwyd o ganlyniad i fframwaith NYTH, fframwaith sydd wedi'i gydgynhyrchu gydag ystod eang o randdeiliaid, ond yn fwyaf pwysig gyda'r bobl ifanc eu hunain.

Rydym yn parhau i gryfhau ein cynnig haen 0/1 ar gyfer pobl ifanc, gan ddarparu mynediad hawdd at ystod o gymorth heb fod angen atgyfeirio. Rydym wedi diweddaru'r pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, sy'n rhoi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed mewn cysylltiad â gwefannau, apiau a llinellau cymorth sy'n ymdrin â gorbryder, hwyliau isel, profedigaeth, cyngor ar gadw'n iach ac adeiladu gwytnwch. Rydym wedi ymestyn ein gwaith o gyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein drwy SilverCloud i gynnwys model newydd ar gyfer pobl ifanc.

Er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau arbenigol, rydym yn gweithredu un pwynt cyswllt ar gyfer gwasanaethau CAMHS ym mhob bwrdd iechyd, gan sicrhau mynediad haws at y lefel gywir o gymorth. Er mwyn gwella'r ffordd y mae gwasanaethau'n ymateb i argyfwng iechyd meddwl, mae byrddau iechyd yn gweithio tuag at gyflwyno '111, pwyso 2' yn llawn ar gyfer iechyd meddwl i rai o bob oedran. Bydd yn darparu mynediad uniongyrchol at ymarferydd iechyd meddwl dros y ffôn 24 awr y dydd i ddarparu cyngor, cymorth ac atgyfeiriad. Mae byrddau iechyd yn cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn raddol, ac mae'r gwerthusiad cynnar yn addawol.

Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw ac mae'n adlewyrchu'r ymrwymiad ar y cyd a wnaethom yn y cytundeb cydweithio, ond rwyf am fod yn gwbl glir mai ein hymrwymiad yw treialu cyfleusterau cymunedol i gefnogi pobl ifanc mewn argyfwng. Byddant yn cynnig dewis arall yn lle derbyn cleifion i'r ysbyty, ond byddant hefyd yn gallu darparu atgyfeiriadau clir at wasanaethau'r GIG os bydd angen, a byddant ar gael ar benwythnosau a chyda'r nos. Rydym ar gamau cynnar pedwar cynllun peilot yn Llanelli, Aberystwyth, Wrecsam ac Abertawe i brofi darpariaeth noddfa ar gyfer pobl ifanc. Nod y modelau hyn fydd cefnogi'r unigolyn ifanc ac atal yr angen i uwchgyfeirio. Os yw'n llwyddiannus, gallai'r model hwn ddarparu dewis amgen hefyd yn lle darpariaeth dan gadwad adran 136 pan fo'n briodol. Ond rwyf hefyd am bwysleisio bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru eisoes yn mynd ati i ddiogelu iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc, sydd ag ymyrraeth gynnar ac atal yn ganolog i'w dull o weithredu. Mae ein dull ysgol gyfan, NYTH, mewngymorth CAMHS a gwell mynediad at wasanaethau haen 0/1 eisoes yn cael eu hariannu a'u cyflwyno ledled y wlad i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd ar yr agenda hon. 

Mae cael gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy, amlbroffesiynol yn hanfodol i'r gwelliannau y soniais amdanynt wrth gwrs, a chyfarfûm ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ddoe i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu strategaeth newydd ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yn dilyn eu hymgynghoriad helaeth. Ac wrth gwrs, mae'r dull a nodais heddiw wedi'i gefnogi gan ein buddsoddiad ychwanegol parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl, gyda £50 miliwn o gyllid ychwanegol eleni, sy'n codi i £75 miliwn y flwyddyn nesaf a £90 miliwn yn 2024-25. Bydd dros £21 miliwn o'r arian ychwanegol hwn eleni yn mynd yn uniongyrchol i'r GIG i gefnogi meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys CAMHS, anhwylderau bwyta a gofal mewn argyfwng. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a rheolaidd sy'n ategu ein dull system gyfan o gefnogi iechyd meddwl ac emosiynol holl blant a phobl ifanc Cymru. Diolch yn fawr.

18:30

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma ar bwnc mor hanfodol bwysig. Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed wedi bod dan bwysau difrifol ers blynyddoedd lawer, ond mae'r pandemig wedi gwaethygu'r problemau, fel y nodwyd yn eang yn ystod y ddadl heddiw, o ran amseroedd aros, ond hefyd o ran cynyddu'r niferoedd sydd angen cymorth. Mae staff Barnardo's Cymru yn nodi cynnydd mewn problemau iechyd meddwl a llesiant ymhlith y plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, gallais glywed tystiolaeth gan dystion am gyflwr gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod ein hymchwiliad i amseroedd aros. Clywsom gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, ymhlith eraill, a dynnodd sylw at y ffordd yr oedd gwasanaethau iechyd meddwl yn ei chael hi'n anodd ymhell cyn y pandemig. Dywedasant y byddai amseroedd aros a rhwystrau i fynediad yn annerbyniol mewn unrhyw faes meddygol arall. A chlywsom gan randdeiliaid am gostau gwirioneddol yr amseroedd aros hyn, am fod oedi cyn cael triniaeth yn arwain at ganlyniadau sylweddol i bobl ifanc, gan ddwysáu eu dioddefaint, ond gan arwain yn aml hefyd at anghenion mwy cymhleth a chostau cynyddol am driniaethau. Rydym yn gorfodi mwy o bobl ifanc i wynebu argyfwng iechyd meddwl oherwydd ein hanallu i ymyrryd yn gynnar.

Dylai'r ffaith mai hanner y bobl ifanc sy'n cael asesiad o fewn 28 diwrnod i gael eu hatgyfeirio fod yn destun cywilydd cenedlaethol, yn enwedig gan ein bod wedi bod yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu CAMHS ers blynyddoedd lawer. Mae'n hen bryd inni gael adolygiad brys o'r ddarpariaeth CAMHS yng Nghymru, fel yr amlinellodd James Evans wrth agor y ddadl. Roedd yn ddewr iawn i godi a siarad am rai o'i—

A wnaethoch chi wrando mewn gwirionedd ar yr hyn a ddywedais pan esboniais ein bod yn cael adolygiad, adolygiad yr uned gyflawni, o wasanaethau CAMHS yng Nghymru? Felly, rydym yn gwneud yr hyn rydych chi wedi codi i alw amdano yn awr. Efallai y byddai'n help pe baech yn talu sylw.

Roeddwn yn talu sylw, ond roeddwn am amlygu'r angen gwirioneddol am yr adolygiad i wasanaethau CAMHS, sydd wedi'i ohirio ers amser maith ac mae'n hen bryd ei gael. Felly, Weinidog, byddwn yn croesawu rhywfaint o frys gyda'r adolygiad CAMHS hwnnw, a byddwn yn awyddus i glywed datganiad gennych maes o law ynglŷn â sut rydych yn bwrw ymlaen â hynny.

Fel y soniwyd, soniodd James am brofiadau personol, ac roedd yn ddewr iawn i godi yma a dweud hynny, ac mae arnom angen mwy o bobl i ddod ymlaen i godi proffil iechyd meddwl a mynd i'r afael â pheth o'r stigma o'i gwmpas. Mae rhai o'r cyfryngau cymdeithasol, y llwyfannau modern a natur rodresgar rhai o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cyfleu golwg ffug ar fywyd a all fwydo rhai o'r pryderon sy'n gysylltiedig â rhai sefyllfaoedd cymdeithasol. Ac wrth gwrs, pandemig COVID-19, a'r galw am uned anhwylderau bwyta, sydd oll yn gynnydd da, a'r angen, yn wir, am ganolfannau argyfwng 24 awr i blant a phobl ifanc—.

Yna clywsom gan Rhun ap Iorwerth a soniodd, unwaith eto, am bandemig COVID-19 a disgyblion ysgol yn cael eu hamddifadu o waith ysgol a chyswllt â grwpiau cyfoedion, sy'n eithriadol o bwysig i bobl ifanc sy'n tyfu fyny. Un o'r prif bwyntiau a wnaeth oedd y problemau iechyd meddwl difrifol, oherwydd clywn yn rhy aml yn y cyfryngau am orbryder ac iselder, sy'n chwarae rhan fawr mewn iechyd meddwl, ond mae hefyd yn ymwneud â chydnabod problemau iechyd meddwl mwy difrifol, weithiau, fel anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia, seicosis a'r angen i atal y pwl cyntaf mewn seicosis, i drin pobl wrth iddynt ddod i mewn i wasanaethau, ac yn hytrach na threulio oes mewn gwasanaethau, mae'n ymwneud â thrin y pethau hyn pan fyddant yn eithaf ifanc. A chredaf fod hwnnw'n bwynt da iawn a godwyd gennych heddiw, Rhun.

Clywsom gan Laura Anne Jones am wahaniaethau rhwng peth o'r ddarpariaeth gan Lywodraeth Cymru a'r hyn sy'n realiti mewn gwirionedd. A'r pwynt a wneuthum nad yw dwy ran o dair o bobl yn cael eu gweld o fewn y cyfnod o 28 diwrnod, rhywbeth y mae gwir angen inni weld gwelliannau arno, a chael y cymorth cywir i blant ag awtistiaeth ac anableddau dysgu mewn ysgolion ac yn gyhoeddus.

Ac yna clywsom yr achos personol gan Sarah Murphy. Hoffwn eich canmol, unwaith eto, am ddangos y dewrder hwnnw, oherwydd mae gofyn cael llawer iawn o ddewrder i godi yma a siarad am rywbeth a ddioddefoch chi pan oeddech chi'n ferch ifanc, ac rwy'n eich canmol yn fawr am hynny. Ac yn amlwg, rydych wedi teithio'n bell o hynny a beth bynnag am wleidyddiaeth plaid, mae pobl dda Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl wedi ymddiried ynoch i'w cynrychioli yma ac rwy'n eich cymeradwyo am hynny, ac rydych yn gwneud yn dda iawn.

Ac yna clywsom gan Sam Kurtz ynglŷn â dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a'r amrywio y gwyddom yn iawn amdano mewn cymunedau gwledig o'u cymharu â dinasoedd ac ardaloedd trefol mwy o faint. Clywsom gan Jane Dodds am ei phrofiad yn y proffesiwn gwaith cymdeithasol a gofynnodd am eglurhad ar yr amseroedd aros hynny, rhywbeth y gallodd y Dirprwy Weinidog ymateb i chi yn eu cylch—roeddwn yn gwrando, Ddirprwy Weinidog, er eglurder—a'r straeon cadarnhaol o wasanaethau timau triniaeth yn y cartref a'r cymorth gwirfoddol a'r trydydd sector sydd ar gael hefyd, sydd, fel y dywedwch yn gywir, yn ddull o gael gofal y mae rhai pobl yn ei ffafrio, yn enwedig y bobl iau a'r plant y siaradwn amdanynt heddiw.

Soniodd Altaf Hussain am drosglwyddo rhwng gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r gwasanaeth oedolion, y newid llyfn, a chredaf pe bai'r ailasesiadau'n fwy cyffredin rhwng y trosglwyddiadau hynny, a rhwng y gwasanaethau hynny, gallem weld pontio mwy di-dor rhwng systemau y byddwn yn awyddus i weld cynnydd arno, ac wrth gwrs, y Ddeddf iechyd meddwl yng Nghymru, a'r hyn y gall honno ei olygu i Gymru ei hun yng nghyd-destun y DU.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am eich ymateb heddiw ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw am rai o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnynt. Hoffwn weld diweddariadau rheolaidd i'r Senedd, fel y soniais, ynglŷn â sut rydych yn bwrw ymlaen â hynny, gan ei fod yn fater mor emosiynol a phersonol i lawer o Aelodau a phobl ledled Cymru. Felly, byddwn yn cadw llygad manwl ar hynny. Rwyf am orffen fy nghyfraniad drwy annog yr Aelodau, os ydych yn teimlo'n angerddol am hyn ac yn cytuno â'r pwyntiau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, hoffwn eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywais wrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

18:40

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac yr ydym yn awr wedi cyrraedd yr amser hwnnw. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:40.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:43, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Pleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar iechyd menywod. Galwaf am bleidlais a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Iechyd menywod. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. 

18:45

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod.

Pleidleisiwn nawr ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, iechyd meddwl plant a glasoed. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn, ac mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8005 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan. 

4. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Gwella mynediad at ofal iechyd

Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Gareth Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. 

Os gwelwch yn dda, bawb sy'n gadael, byddwch yn dawel i adael i Gareth gael ei ddadl fer.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a dyma fi eto. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Samuel Kurtz heno.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bûm yn arolygu fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd i ganfod beth yw eu pryderon mwyaf, yn ogystal â'u blaenoriaethau allweddol ar gyfer y Senedd wrth inni gefnu ar y pandemig. Un o'r themâu mwyaf syfrdanol a ddaeth i'r amlwg oedd y nifer fawr o ymatebwyr a restrodd fynediad at ofal iechyd fel eu prif bryder.

Mae'r pandemig yn sicr wedi rhoi ein systemau iechyd a gofal o dan bwysau aruthrol, ond roeddem yn gwybod bod mynediad at ofal iechyd yn broblem cyn COVID. Ymhell cyn i'r coronafeirws newydd ymddangos yn rhanbarth Wuhan yn Tsieina ar ddechrau 2020, roedd ein dinasyddion yn ei chael hi'n anodd gweld eu meddygon teulu, gan yrru cannoedd o filltiroedd i gael triniaeth ddeintyddol, neu'n aros am flynyddoedd i gael clun newydd. Daethom yn gyfarwydd â gweld rhesi o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'n hysbytai. Roedd pwysau'r gaeaf wedi dod yn bwysau drwy gydol y flwyddyn; roeddem yr un mor debygol o weld ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau achosion brys ar wyliau banc mis Awst ag yr oeddem ar Ddydd Calan.

Fel rhywun a fu'n gweithio ar reng flaen ein GIG ers dros ddegawd, gallaf dystio'n bersonol i'r straen enfawr sydd wedi bod ar ein systemau iechyd a gofal. A phan gafodd feirws marwol ei daflu i mewn i'r pair, mae'n wyrth lwyr na wnaeth y system dorri. Ond i ymroddiad fy nghyn-gydweithwyr yn y GIG y mae'r diolch na ddigwyddodd hynny, nid oherwydd unrhyw arweiniad o'r brig.

Mae'r rhan fwyaf o'r problemau sy'n wynebu ein GIG yn deillio o ddiffyg arweiniad. Y rheswm syml pam na all fy etholwyr a'ch etholwyr chi weld eu meddyg teulu, cael deintydd GIG, neu pam eu bod wedi cael eu llawdriniaeth wedi'i chanslo sawl gwaith, yw bod Llywodraethau olynol wedi methu cynllunio gweithlu integredig priodol. Mae'r colegau brenhinol a'r cyrff proffesiynol wedi bod yn rhybuddio ers o leiaf ddegawd nad ydym yn hyfforddi nac yn recriwtio digon o staff rheng flaen. Ac mae Llywodraeth Cymru yn dda iawn am greu rheolwyr, biwrocratiaid a biwrocratiaeth, ond maent yn gwbl ddiwerth pan ddaw'n fater o greu meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae pethau wedi gwella rhywfaint—rwy'n rhoi clod lle mae'n ddyledus—a chyda chreu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mae gennym gynllun gweithlu erbyn hyn o leiaf, ond mae arnaf ofn ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Yr wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Coleg Nyrsio Brenhinol eu hadroddiad ar lefelau staff nyrsio, ac roedd ei gynnwys yn sobreiddiol, oherwydd dylai'r nifer fawr o nyrsys sy'n gadael y proffesiwn fod yn destun pryder i bawb ohonom. Ceir o leiaf 1,719 o swyddi nyrsio gwag ar draws byrddau iechyd Cymru, a, thros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gwario tua £0.75 biliwn ar staff asiantaeth. Mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos sut rydym yn colli bron cymaint o staff ag yr ydym yn eu recriwtio, a'r llynedd 0.1 y cant yn unig o gynnydd a welwyd yn y gweithlu. Cawsom lond llaw o nyrsys y llynedd pan fo angen miloedd. Collwyd 6 y cant o'r gweithlu nyrsys ardal rhwng mis Mehefin 2020 a mis Mehefin 2021 ac mewn arolwg o'i aelodau, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn tynnu sylw at y ffaith bod traean o nyrsys yn ystyried gadael y proffesiwn yn gynnar, a'r cyfan oherwydd pwysau cronig ar y gweithlu. Rydym mewn perygl gwirioneddol o greu dolen adborth negyddol—pobl yn gadael gofal iechyd oherwydd y pwysau yn sgil prinder staff. Ac nid nyrsys yn unig sy'n teimlo'r pwysau, mae'n ymestyn diddiwedd ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae meddygon teulu hefyd yn gadael y proffesiwn wrth y dwsin. Mae meddygon teulu'n ymddeol yn gynnar ac mae rhai hyd yn oed yn ildio eu trwydded feddygol, sy'n golygu na ellir eu galw o'u hymddeoliad ar adegau o argyfwng.

Fe'n rhybuddiwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain bron 10 mlynedd yn ôl fod angen inni recriwtio tua 200 o feddygon teulu y flwyddyn yng Nghymru. Am y rhan fwyaf o'r blynyddoedd yn y cyfamser, roeddem yn lwcus pe baem yn llwyddo i recriwtio hanner hynny. Ac oherwydd na lwyddwyd i fynd i'r afael â'r problemau recriwtio, crëwyd problem cadw staff. Yn 2019, cyn y pandemig, roedd bron chwarter y practisau a arolygwyd yn ystyried dychwelyd eu contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol. Ers y pandemig, mae pethau wedi gwaethygu'n fawr. Mae meddygon teulu'n rhybuddio y gallai'r straen fod yn drech na'r system, fod y pwysau'n anghymell pobl yn llwyr rhag ymuno â'r proffesiwn, ac mae un o bob wyth o'r rhai sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn dweud nad ydynt yn bwriadu gweithio mewn practis cyffredinol ar ôl cymhwyso fel meddygon, yn ôl arolwg barn diweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain.

Mae hyn i gyd yn cael effaith ddinistriol ar gleifion, gyda llawer ohonynt yn mynd yn salach oherwydd diffyg ymyrraeth gynnar. Dywed fy etholwyr wrthyf y gall gymryd wythnosau iddynt gael apwyntiad gyda'u meddyg teulu ac ni all practisau ymdopi â nifer y bobl sydd ar eu rhestrau. A phan fydd cleifion yn llwyddo i lywio eu ffordd drwy ofal sylfaenol, maent yn wynebu'r un heriau mewn gofal eilaidd. Roedd amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth eisoes yn eithriadol cyn COVID ac maent wedi cynyddu'n aruthrol ers hynny. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod un o bob pump ohonom ar restr aros am driniaeth GIG, mae dwy ran o dair o filiwn o bobl yn aros blynyddoedd am driniaeth i roi diwedd ar eu poen a'u dioddefaint, ac mae 691,000 o ddinasyddion Cymru'n cael eu gadael mewn limbo heb wybod pryd y bydd eu triniaeth yn dechrau. Faint o'r un o bob pump fydd yn marw oherwydd na chawsant driniaeth canser yn ddigon buan? Faint fydd yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i weithio oherwydd bod eu cyflwr wedi dirywio i'r fath raddau fel na allant weithredu yn y gweithle?

Dyma'r effeithiau gwirioneddol y mae oedi cyn cael triniaeth yn eu cael ar fywydau pobl. Mae cleifion yn marw, yn mynd yn ddall ac yn colli symudedd oherwydd na ellir eu trin yn ddigon buan. Ac ni ellir eu trin yn ddigon cynnar am nad oes gennym staff. Ar hyn o bryd mae dros 3,000 o swyddi gwag yn ein GIG a llawer yn fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae gennym 10,000 yn llai o welyau nag a oedd gennym ar ddechrau'r ganrif, ac eto rydym yn aml wedi torri lefelau staffio diogel dros y misoedd diwethaf. Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwelsom adrannau damweiniau ac achosion brys gyda llai na thraean o'r staff gofynnol, ac os ydym am adfer yn ddigonol o'r pandemig a bod yn barod ar gyfer y nesaf, os byddwn yn ddigon anffodus i gael un arall, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hyfforddi, recriwtio a chadw staff.

Mae arnom angen cynlluniau gwirioneddol integredig ar gyfer y gweithlu sy'n rhagweld y galw ar y gwasanaeth yn y dyfodol, a gadewch inni beidio ag anghofio bod yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol wedi ein rhybuddio am yr heriau sy'n ein hwynebu wrth i'n demograffeg newid. Nid ydym yn cynllunio ar gyfer diwallu anghenion heddiw, heb sôn am ymateb i heriau'r dyfodol. Mae arnom angen diwygio ein polisïau recriwtio a chadw staff o'r bôn i'r brig, a byddai o gymorth pe bai gennym bolisïau cadw staff yn y lle cyntaf.

Mae angen inni wneud gweithio ac aros ym maes iechyd a gofal yn gynnig mwy deniadol. Mae angen inni annog mwy o Gymry ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal. Mae arnom angen cynllun gweithlu sy'n edrych ar y darlun cyfan, o addysgu gwyddoniaeth i gynllunio ar gyfer ymddeol a phopeth rhyngddynt. Mae'n bryd cydgysylltu'r cyfan, ac mae hynny'n galw am arweiniad. Mae'n galw am Lywodraeth Cymru a all gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy'n annog y Gweinidog i fanteisio ar y cyfle hwn yn awr a gwneud cynllunio'r gweithlu yn brif flaenoriaeth, neu fel arall bydd fy mag post a'ch un chithau'n parhau i orlifo â chwynion ynghylch methu cael apwyntiad wyneb yn wyneb â meddyg teulu, am fethu gweld deintydd GIG, neu am fethu cael pecyn gofal addas ar gyfer perthynas oedrannus. Ni allwn fforddio colli rhagor o staff y GIG, ac ni all fy etholwyr aros yn hwy am driniaeth. Diolch yn fawr.

18:55

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod o Ddyffryn Clwyd am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac ni fydd y Gweinidog yn synnu fy mod yn defnyddio Argyle Medical Group a meddygfa Argyle Street fel fy enghraifft heno. Dyma un o feddygfeydd meddygon teulu mwyaf Cymru, gyda chymhareb cleifion o tua 2,506 o gleifion i bob meddyg teulu. Mae hwn yn bwnc llosg gwirioneddol yn fy mag post, gan na all etholwyr gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Rwy'n deall yr angen i newid o ofyn am wasanaethau meddygon teulu yn unig, a gallwn newid i edrych ar nyrsys, ffisiotherapyddion a fferyllwyr, ond mae problemau gwirioneddol o hyd yn y practis meddygon teulu hwn yn Argyle Street. Rwy'n talu teyrnged i Judith Scourfield, rheolwr y practis, a staff Argyle Street; maent yn gweithio'n eithriadol o galed. Ond rwy'n teimlo bod angen targedu rhywbeth yma i'w cefnogi'n wirioneddol yn yr hyn y maent yn ceisio'i gyflawni yn fy rhan i o'r etholaeth. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar am gyfle'r ddadl fer hon heddiw i drafod mater pwysig mynediad at wasanaethau iechyd. Nawr, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru mae mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen: dros 104,000 o bobl ac 89,000 o staff cyfwerth ag amser llawn—3,600 yn fwy o staff nag ar yr un pryd y llynedd. Ac ymhell o fod yn gwbl ddiwerth, ers 2016 mae nifer y staff meddygol a deintyddol wedi cynyddu 21 y cant. Mae nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd wedi cynyddu 9 y cant, mae'r staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol wedi cynyddu 24 y cant, a staff ambiwlans wedi cynyddu 39 y cant. Rydym yn hyfforddi 69 y cant yn fwy o nyrsys nag yr oeddem yn ei wneud cyn 2016, a'r wythnos diwethaf, rwy'n gobeithio eich bod wedi nodi inni recriwtio 400 o nyrsys rhyngwladol newydd.

Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, ac nid niferoedd yn unig sy'n mynd i warantu llwyddiant. Mae'n ymwneud â sut y mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cydweithio ac yn defnyddio eu sgiliau, gan gynnwys eu sgiliau Cymraeg, yn y ffordd fwyaf effeithiol i gleifion. Felly, mae gennym ymrwymiad rhaglen lywodraethu i sicrhau gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n adeiladu ar ymrwymiadau blaenorol. Mae gweithgaredd yn canolbwyntio ar y model gofal sylfaenol i Gymru, sy'n ymwneud â phobl yn cael y gofal cywir gan y gweithiwr proffesiynol neu'r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion penodol, yn eu cartrefi neu mor agos i'w cartrefi â phosibl.

Nawr, mae hyn yn golygu y bydd mwy a mwy o bobl ond yn teithio i ysbytai ar gyfer y gwasanaethau na ddylid eu darparu yn unman ond y lleoliadau hynny. Wrth i raglen y fframwaith clinigol cenedlaethol yrru llwybrau clinigol cenedlaethol, byddwn yn gwneud cynnydd cyflymach ar ailgydbwyso gwasanaethau, gan ariannu'r gweithlu i ffwrdd oddi wrth salwch ac ysbytai a thuag at iechyd a gofal yn nes at adref. 

Nawr, yn yr amser sydd gennyf heddiw, ni allaf wneud cyfiawnder â'r ystod enfawr o bolisïau a gweithgaredd sy'n digwydd drwy ein rhaglenni cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng ac ar gyfer iechyd meddwl i gefnogi ailgydbwyso'r system, felly rwy'n mynd i dynnu sylw at y camau i wella mynediad at y gwasanaethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu mynychu ac yn fwyaf cyfarwydd â hwy, sef ein gwasanaethau sylfaenol a chymunedol. 

Er mwyn gwella mynediad at feddygon teulu, rydym wedi cyflwyno newid drwy'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol i gael gwared ar y tagfeydd ar ddechrau'r dydd. Rwyf wedi darparu cyllid ychwanegol o £4 miliwn bob blwyddyn dros y tair blynedd nesaf i adeiladu capasiti ym mhractisau meddygon teulu. Mae'r model gofal sylfaenol yn ymwneud â chynyddu'r ystod o wasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd ar gael yn y gymuned. Nid meddygon teulu a nyrsys practis yw'r gweithwyr iechyd proffesiynol cywir bob amser ar gyfer anghenion rhywun, ac fel ffisiotherapydd, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o hynny. Er enghraifft, optometrydd yw'r person cywir i drin problemau llygaid fel llygad coch; mae fferyllwyr cymunedol yn cynnig ystod gynyddol o wasanaethau, o dwymyn y gwair i ddulliau atal cenhedlu brys; mae cwyr clust sy'n achosi nam ar y clyw yn broblem gyffredin, ac rydym yn cynyddu argaeledd awdiolegwyr cymunedol.

Rwy'n ymwybodol iawn mai un o'r meysydd sy'n peri'r pryder mwyaf i bobl o ran eu hygyrchedd yw deintyddion. Mae rheoli gofynion mesurau rheoli heintiau COVID wedi golygu bod llawer llai o gapasiti mewn practisau deintyddol. Diwygio'r contract deintyddol yw ein prif ddull polisi o sicrhau hygyrchedd gwell, a byddwn yn creu mwy o gapasiti i gleifion newydd drwy symud oddi wrth yr hen drefn o archwiliadau chwe misol i bawb i wasanaeth sy'n seiliedig ar angen unigolion ac atal. I lawer o bobl y mae eu hiechyd y geg yn dda, dim ond unwaith bob dwy flynedd y mae angen iddynt gael archwiliad. Mae angen inni gyfathrebu hyn yn well i'r cyhoedd, ac rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelodau i gyfleu'r neges honno.

Y mis diwethaf, lansiais ein chwe nod newydd ar gyfer rhaglen gofal brys a gofal mewn argyfwng, ac rwy'n cefnogi hyn gyda buddsoddiad o £25 miliwn. Mae'r wyth canolfan gofal sylfaenol brys newydd ledled Cymru yn ddatblygiadau allweddol sy'n hwyluso gwell mynediad, gyda dwy arall yn agor cyn bo hir. Ac mae ein gwasanaeth ffôn 111 bellach ar gael ledled Cymru. Mae '111, pwyso 2', yn cyfeirio pobl at gymorth lles iechyd meddwl. Hefyd ym mis Ebrill, cyhoeddais ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal ysbyty wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros. Nawr, yn bwysig, mae'r cynllun hefyd yn arwydd o drawsnewid gwasanaethau yn y gymuned i gynnig gwahanol opsiynau a luniwyd i gynorthwyo unigolyn i wneud yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy. Rydym yn symud yn raddol i gam newydd o'r model gofal sylfaenol. Mae'r cam hwn yn ymwneud â chynyddu gwelededd a datblygu gwasanaethau cymunedol, lle mae ffocws yr arweinyddiaeth a'r buddsoddiad ar iechyd, annibyniaeth ac integreiddio iechyd a gofal.

Mae papur diweddar gan Gronfa'r Brenin ar yr hyn y gallem ei ddysgu o'r pandemig yn nodi bod adferiad llwyddiannus a chynaliadwy yn bosibl os oes buddsoddiad yng nghadernid cymunedau a dulliau a arweinir gan y gymuned, gydag unigolion a chymunedau yn yr iechyd gorau posibl i ymdopi â'r hyn a ddaw nesaf.

Fel rhan o'n rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, mae yna ffrwd waith benodol hefyd ar atal a llesiant. Mae'r ffrwd waith hon yn nodi cynnig sylfaenol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl a lles a fydd yn sylfaen i waith cynllunio a darparu lleol. Mae yna ymrwymiadau eraill o dan y rhaglen llywodraethu hefyd ar gyfer gwasanaethau cymunedol, a datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol yw un ohonyn nhw. 

Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol newydd—cronfa sydd gwerth £144.7 miliwn—yn parhau i'n symud ni'n agosach tuag at wireddu ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach', gweledigaeth lle mae gan Gymru un system iechyd a gofal integredig, sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch—system sy'n galluogi pobl i elwa'n hawdd ar amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau yn eu cymunedau.

I gloi, rwy'n meddwl y gallwn ni gytuno bod amrywiaeth eang o fesurau yn cael eu datblygu i wella mynediad at ofal iechyd, ond mae rhagor i ddod eto. Yn ogystal â gwella mynediad ar gyfer unigolion, dwi am weld y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth positif i'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau. Mae eu hymrwymiad nhw yn ddiflino, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cefnogi unigolion yn eu cymunedau. Ac mae'r gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi i'r cyhoedd yn wirioneddol wych. Diolch yn fawr.

19:05

Daeth y cyfarfod i ben am 19:05.