Y Cyfarfod Llawn
Plenary
27/04/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch effaith Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 Llywodraeth Cymru ar y diwydiant twristiaeth? OQ57912

Cynhaliais gyfarfod bord gron gyda Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 7 Chwefror i drafod canlyniad yr ymgynghoriad ar drethi lleol ar ail gartrefi a llety hunanddarpar.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Lywydd, fel y mae’r Gweinidog eisoes yn gwybod, rwy’n siŵr, mae newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i godi’r meini prawf defnydd ar gyfer cael eich dosbarthu'n fusnes 160 y cant wedi creu cryn dipyn o gynnwrf yn y diwydiant twristiaeth. Ar adeg pan fo'r sector yn dal i wella o effeithiau ariannol y pandemig, mae newid o'r fath wedi achosi pryder ymhlith llawer o ddarparwyr llety sy'n nerfus ynglŷn â pha mor simsan yw'r archebion a gânt ar hyn o bryd ac a fyddant yn gallu cyrraedd y trothwy newydd. Nawr, mae adroddiad diweddar gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality, a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU wedi nodi bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i ymgynghoriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru o blaid alinio’r rheolau yng Nghymru â’r rheini a gynigiwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn Lloegr, sef trothwy o 105 diwrnod o gymharu â’r trothwy presennol o 70. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu mynd ar drywydd trothwy o 182 diwrnod, gan anwybyddu’r safbwyntiau a gafwyd drwy’r ymgynghoriad gwreiddiol yn ôl pob golwg, heb egluro fawr ddim i gynrychiolwyr y sector pam eu bod yn gwneud hynny. Weinidog, pam y penderfynodd Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynigion nad yw cyfran fawr o’r sector twristiaeth yng Nghymru yn cytuno â hwy? Ac a wnewch chi gyfarfod ar fyrder â chynrychiolwyr y sector i sicrhau bod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn addas i'r diben? Diolch.
Diolch i Peter Fox am godi’r mater hwn y prynhawn yma. Gwn y cawn gyfle eto i drafod rhai o'r manylion yn y ddadl sydd wedi'i threfnu ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Ond mae’n wir, fel y mae Peter Fox yn cydnabod, ein bod wedi ymgynghori ar ein cynigion i newid trethi lleol, a chawsom oddeutu 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw, a oedd yn ymateb rhagorol. Ac roedd y safbwyntiau a gasglwyd drwy'r ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys, mae'n rhaid imi ddweud, sylwadau gan y diwydiant twristiaeth ehangach, yn cefnogi newidiadau i'r meini prawf ar gyfer categoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig. Ac mae'n deg dweud fod barn pobl yn amrywio'n fawr ynglŷn â lle y dylem bennu'r lefelau hynny o ran nifer y nosweithiau y dylid hysbysebu llety ar eu cyfer, ac y caiff y llety hwnnw ei osod mewn gwirionedd, er mwyn cael ei ystyried yn fusnes ac yna er mwyn cael ei ystyried yn fusnes mewn perthynas â rhyddhad ardrethi busnes.
Rydym o'r farn y dylid gosod eiddo hunanddarpar ar sail ddigon mynych i wneud cyfraniad gwirioneddol i'r economi leol ac y dylai'r rheini nad ydynt yn gwneud hynny dalu'r dreth gyngor. Ac rwyf wedi cyfarfod â Chynghrair Twristiaeth Cymru—cefais gyfarfod rhagorol â hwy yn ddiweddar iawn—ac fe wnaethant ddangos casgliad o’r 1,500 o ymatebion a gawsant i mi, ac rwy'n eu hystyried ochr yn ochr â’r gwaith a wnawn ar hyn o bryd ar yr ymgynghoriad technegol. Ond rydym wedi cael trafodaethau rhagorol gyda’r diwydiant drwy gydol y broses o lunio’r gwaith hwn, ac wrth gwrs, dylwn ychwanegu ei fod yn waith a wnawn ar y cyd gyda Phlaid Cymru.
2. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi'r gwaith o gyflwyno strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol wrth ddyrannu cyllidebau awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ57934
Cyhoeddwyd cronfa cefnogi cwmnïau lleol gwerth £1 miliwn gan Weinidog yr Economi er mwyn cefnogi’r economi leol ledled Cymru i ddarparu mwy o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y sector cyhoeddus. Ynghyd â setliad llywodraeth leol sy'n sylweddol uwch, mae hyn yn helpu i greu mwy o swyddi, a swyddi gwell yn nes at adref.
Diolch, Weinidog. Mae ein holl gymunedau wedi dioddef yn sgil effeithiau economaidd COVID, ac mae hyn wedi’i waethygu, wrth gwrs, gan yr argyfwng costau byw, sy’n taro ein hardaloedd mwyaf difreintiedig galetaf. Yn ogystal â lliniaru’r argyfyngau yn awr, mae angen inni hefyd sicrhau bod ein cymunedau’n ddigon cryf i allu ymdopi ag unrhyw stormydd economaidd yn y dyfodol. Felly, yn awr yn fwy nag erioed, dylai ein hawdurdodau lleol flaenoriaethu strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol uchelgeisiol, gan ddefnyddio gwariant caffael gan gyrff angori lleol er budd y gymuned. Mae awdurdodau lleol, fel Castell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i, wedi addo adfywio eu cymunedau yn y Cymoedd, ond mae’r realiti ar lawr gwlad yn dangos bod y strategaethau hynny wedi methu cyflawni. Mae strategaeth Cadw'r Budd yn Lleol Cyngor Gwynedd, sy’n ystyried y ffordd orau o gadw arian sy’n cael ei wario gan y cyngor yn yr ardal leol, yn sicr yn fodel i’w annog yng Ngorllewin De Cymru. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r swm o wariant y cyngor sy'n aros o fewn y sir wedi codi o £56 miliwn i £78 miliwn, cynnydd o 39 y cant. A yw’r Gweinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad ar hyn, a sicrhau bod cyllid a chymorth ar gael i awdurdodau lleol ddyfeisio a gweithredu strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol effeithiol, a fydd yn creu cymunedau cynaliadwy, cryf, er mwyn cyflawni newid cymdeithasol ac economaidd mawr ei angen?
Rwy’n ddiolchgar i Sioned am godi mater pwysig, yn enwedig yng nghyd-destun cael y cymunedau cryf hynny wrth inni symud i gyfnod anodd iawn. Ac rydym yn gwbl ymrwymedig, fel Llywodraeth Cymru, i gryfhau'r economi sylfaenol yma yng Nghymru. Rydym wedi ymgysylltu â’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i weithio ar draws pum clwstwr o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, i archwilio’r potensial ar gyfer adeiladu cyfoeth cymunedol a gynigir drwy gaffael blaengar. Ac o ganlyniad, mae aelodau'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi nodi blaenoriaethau o ran caffael, megis cynyddu ymgysylltiad â chyflenwyr lleol a chyflenwyr y trydydd sector—er enghraifft, ar ôl-osod tai, caffael bwyd lleol, a hefyd ar ddatgarboneiddio cadwyni cyflenwi. Ac mae ymgysylltiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol hefyd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o gonglfeini eraill adeiladu cyfoeth cymunedol, megis sut yr awn ati i ddefnyddio ein hasedau a’n hadeiladau, yn ogystal â phwysigrwydd strategaethau gweithlu lleol, a sut y gallant oll gydweithio i gefnogi’r blaenoriaethau llesiant lleol hynny. Felly, yn sicr, mae hyn yn ffocws allweddol i fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi. Credaf fod gennym waith da i adeiladu arno, o ran y gwaith yr ydym eisoes wedi'i wneud gyda'r ganolfan, y gwaith y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn ei wneud, a cheir enghreifftiau gwych hefyd o ran yr hyn sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol unigol. Mae cronfa her yr economi sylfaenol ym Mro Morgannwg, er enghraifft, wedi llwyddo i ymgysylltu â mwy na 1,000 o fusnesau newydd, drwy ddigwyddiadau gyda Busnes Cymru, GwerthwchiGymru, ac eraill, i helpu i ddeall rhai o’r problemau tendro a oedd yn atal busnesau bach rhag tendro am eu gwaith. Felly, credaf fod hwnnw wedi bod yn waith defnyddiol, ac yn sicr, gallwn archwilio sut y byddem yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o hynny ag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru.
Nawr, wrth inni gynllunio ar gyfer adnewyddu ein heconomi, mae cyfleoedd enfawr i gymunedau gymryd rhan yn y gwaith o benderfynu sut y gwneir hynny ac i awdurdodau lleol weithredu fel yr arweinwyr a'r hwyluswyr. Ceir enghreifftiau o hyn yn Lloegr, yn Preston, lle mae ganddynt strategaeth adeiladu cyfoeth uchelgeisiol. Pa strategaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhagweld ar gyfer Cymru er mwyn harneisio budd caffael lleol, defnydd tir, asedau cymunedol, a’r amrywiaeth o sefydliadau angori sy’n bodoli ledled Cymru, megis cymdeithasau tai a chyrff y trydydd sector? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Altaf Hussain am godi model Preston—mae'n rhywbeth sydd wedi bod o gryn ddiddordeb i Lywodraeth Cymru wrth inni ddatblygu ein gwaith ein hunain ar yr economi sylfaenol. Ac mae'n sicr yn fodel y gwnaethom ei archwilio mewn perthynas â'r sefydliadau angori hynny—y rôl sydd gan y GIG i'w chwarae, y rôl sydd gan awdurdodau lleol i'w chwarae, sefydliadau addysg uwch. Mae gan bob un o'r sefydliadau hynny nad ydynt yn mynd i unman ran bwysig iawn i'w chwarae yn y gwaith ar yr economi sylfaenol. Ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi'i ddysgu o fodel Preston, yn ogystal â'r gwaith gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol. O ganlyniad i rywfaint o’r meddylfryd hwnnw, rydym wedi cefnogi’r GIG yng Nghymru drwy ein rhaglen economi sylfaenol, i ymgorffori gwerth cymdeithasol yn eu penderfyniadau dyfarnu contractau. Ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, arweiniodd hyn at £28 miliwn yn cael ei ddyfarnu i fusnesau yng Nghymru. Felly, rydym yn sicr yn defnyddio'r hyn a ddysgwyd gennym drwy fodel Preston, ond wedyn, yn amlwg, rhoi ein stamp Cymreig a'n pwyslais Cymreig ein hunain ar hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel rhywun sy'n frwdfrydig iawn dros gynghorau, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yr un mor falch â minnau o weld yr etholiadau llywodraeth leol yr wythnos nesaf. Ac yn gyntaf, Weinidog, gyda'r cylch etholiadol yn dod i ben, rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi i ddiolch i'r holl gynghorwyr sydd wedi bod yn cyflawni'r rôl honno dros y pum mlynedd diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i’r holl aelodau etholedig hynny wrth iddynt weithio gyda’u swyddogion i ddarparu gwasanaethau gwirioneddol hanfodol dros y cyfnod o bum mlynedd. Cynghorwyr, fel y gwyddom, yw arwyr di-glod ein cymunedau yn aml.
Ond i symud ymlaen, Weinidog, sut y byddech yn asesu’r rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chwarae dros y pum mlynedd diwethaf o ran caniatáu i’n cynghorau gyflawni eu blaenoriaethau? Diolch.
Ie, diolch yn fawr am roi’r cyfle hwnnw imi ddiolch ar goedd, a diolch ar ran Llywodraeth Cymru, i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol a'r rhai annibynnol sydd wedi gwasanaethu eu cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig i’r rhieni sy’n dewis camu i lawr y tro hwn. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r rheini, a hefyd, o safbwynt personol, diolch enfawr i’r arweinwyr llywodraeth leol y buom yn gweithio mor agos â hwy ers imi fod yn y swydd, ond ymhell cyn hynny hefyd, yn sicr, gan eu bod wedi gwneud gwaith anhygoel. Credaf ichi gyfeirio at y gwaith sydd wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf, ac os oes angen i unrhyw un wybod beth yw gwerth llywodraeth leol, nid oes ond angen ichi edrych ar yr ymateb a gafwyd gan gynghorwyr lleol yn ystod y pandemig, wrth iddynt fynd y tu hwnt i'r galw bob dydd i ddiwallu anghenion pobl yn eu cymunedau. Nid oes gwleidyddiaeth bleidiol ynghlwm wrth hynny. Mae’n ymwneud â diolch ar goedd am hynny.
Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio gweithio’n adeiladol ac yn gydweithredol â llywodraeth leol dros y pum mlynedd diwethaf, a chredaf ein bod wedi datblygu perthynas ragorol â llywodraeth leol. Rydym wedi ceisio cael trafodaethau’n gynnar fel y gallwn gael gwared ar broblemau cyn iddynt droi'n broblemau go iawn, a chredaf fod gennym y berthynas aeddfed honno â hwy bellach, ac mae awydd ar ein rhan i gefnogi llywodraeth leol i wireddu eu huchelgeisiau. A gallwch weld rhywfaint o hynny drwy'r cymorth y buom yn ei roi drwy'r dinas-ranbarthau, ond hefyd drwy'r gwaith y buom yn ei wneud gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig a cheisio'u cefnogi i ddod yn llwyddiannus, er bod y gwaith hwnnw megis dechrau o hyd, fel y byddwch yn deall.
Diolch, Weinidog, ac rydych yn sôn am rai o’r cyrff rhanbarthol sydd wedi’u sefydlu, rwy'n credu, o’ch safbwynt chi, i helpu’r cynghorau hynny i gyflawni eu blaenoriaethau. Ond rwy’n clywed gan gynghorau a chynghorwyr am rywfaint o’r rhwystredigaeth ynghylch yr haenau o fiwrocratiaeth a’r haenau o lywodraethu a byrddau a chyrff sy’n cael eu rhoi ar waith, a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau arweinyddiaeth rhanbarthol, a’r cyd-bwyllgorau corfforedig y sonioch chi amdanynt. Ac mae nifer o'r byrddau a'r cyrff hyn wedi'u sefydlu dros y blynyddoedd diwethaf ac yn mynd ag amser ac egni oddi ar lawer o'r gwasanaethau rheng flaen hynny sy'n darparu'r hyn sydd ei angen ar drigolion ar lawr gwlad. Felly, tybed pa gynlluniau a allai fod gennych, neu pa gamau y byddwch yn ystyried eu cymryd dros y tymor nesaf, wrth weithio gyda chynghorau, i gael gwared ar rywfaint o'r fiwrocratiaeth honno a chael gwared ar rai o'r haenau hynny, a all fynd â llawer iawn o amser ac egni ar brydiau. Fe sonioch chi am arweinwyr y cynghorau, ac yn aml, yr arweinwyr sy'n eistedd ar yr holl gyrff a byrddau ymhell o'r canol, fel petai, sy'n clywed y materion sy'n codi ar lawr gwlad y mae angen iddynt eu cefnogi a chymryd camau i fynd i'r afael â hwy. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gael gwared ar rywfaint o’r fiwrocratiaeth honno? Diolch.
Credaf fod gennym oll ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod tirwedd partneriaeth strategol ledled Cymru yn addas i'r diben ac yn galluogi yn hytrach na llesteirio cyflawniad i gymunedau. Credaf fod ffocws arbennig gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, yn benodol, ond nid oes unrhyw beth i atal aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rhag dewis uno i gyd-fynd â'r bwrdd iechyd lleol, ac felly, ôl troed y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, er enghraifft. Felly, mae opsiynau gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol.
Rydym yn sicr wedi bod o’r farn y dylai unrhyw newidiadau o’r fath fod o’r gwaelod i fyny, ond rwyf wedi ymrwymo i gyfarfod â holl gadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol i drafod eu profiadau, ac efallai y bydd hwn yn gyfle i glywed ganddynt beth y credant sy'n gweddu orau, os mynnwch, ar gyfer gwasanaethu cymunedau lleol. Ond yn sicr, nid wyf am weld dyblygu. Nid wyf am weld gwaith beichus i unigolion. Felly, mae gwaith i’w wneud, ac mae’n rhan o’n hymrwymiad gyda Phlaid Cymru i edrych ar dirwedd ein partneriaethau strategol i sicrhau eu bod yn gweithio yn y ffordd orau bosibl. Ond rwy'n croesawu syniadau o bob rhan o’r Siambr.
Diolch, Weinidog, ac mae'n galonogol clywed y bydd y gwaith hwnnw’n cael ei wneud i ddeall effeithiolrwydd yr holl fyrddau a chyrff hynny, a pha mor bwysig yw hi, wrth gwrs, fod ein cynghorwyr a etholwyd yn lleol yn cyflawni ar lawr gwlad ar ran eu trigolion. Ond dros yr 20 mlynedd neu fwy diwethaf, wrth gwrs, rydym hefyd wedi gweld tangyllido hanesyddol mewn perthynas â'r cynghorau, sydd wedi gorfodi cynghorwyr i gynyddu’r dreth gyngor—cynnydd o oddeutu 200 y cant o dros yr 20 mlynedd—gyda’n trigolion gweithgar yn ysgwyddo baich y costau hyn. Byddwn yn dweud mai nawr yw’r amser i ddarparu cynllun i sicrhau cymunedau cryfach a mwy diogel, a grymuso pobl leol, gan mai hwy sy'n gwybod beth sydd orau i'w hardal, fel y dywedaf, i gyflawni ar lawr gwlad, gan fynd i’r afael â’r problemau sy’n difetha ein cymunedau. Ac wrth gwrs, byddwn yn dweud mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â'r gallu i gyflawni yn ein cymunedau lleol. Felly, Weinidog, a fyddech yn rhannu fy mrwdfrydedd y bydd pleidlais dros y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos nesaf yn etholiadau'r cynghorau yn grymuso cynghorau lleol gan ddarparu cymunedau cryfach a mwy diogel?
Rwyf bob amser yn hoffi ateb cwestiwn uniongyrchol gydag ateb uniongyrchol. Felly, na, nid wyf yn cytuno â’r Aelod ar hynny. Rwy’n synnu, yn ystod wythnos yr etholiadau llywodraeth leol, neu ychydig cyn wythnos yr etholiadau llywodraeth leol, fod yr Aelod Ceidwadol yn dymuno codi’r hyn y mae’n ei alw'n dangyllido hanesyddol mewn perthynas â llywodraeth leol yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mae hyn, uwchlaw dim, yn ganlyniad i'r cyfnod o gyni y buom drwyddo. Mae'n sicr yn wir mai dim ond y cyllid a gawn gan Lywodraeth y DU y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i lywodraeth leol, ac er inni gael setliad gwell eleni, rydym bob amser wedi ceisio blaenoriaethu llywodraeth leol o fewn y cyllid sydd gennym. Ond rydym wedi bod drwy 10 mlynedd o gyni ac mae awdurdodau lleol yn dal i deimlo effaith hynny, wrth gwrs eu bod, yn ogystal ag aelwydydd ledled Cymru, wrth inni fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ym mis Chwefror, mi gyhoeddodd eich Llywodraeth y bydd 53,000 o weithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o ryw £1,000 o bunnau. Mae unrhyw arian ychwanegol i weithwyr yn y sector i'w groesawu, wrth gwrs, ond nid taliadau bonws one-off ydy'r ateb. Dydy o ddim yn mynd i'r afael â'r broblem go iawn. Beth sydd angen ydy i weithwyr yn y sector gofal gael eu gwobrwyo a'u cydnabod fel maen nhw yn eu haeddu yn eu cyflogau fis ar ôl mis, blwyddyn ar ôl blwyddyn, a chael eu trin hefyd yn gyfartal efo gweithwyr sydd yn y sector iechyd. Pennawd yn unig oedd y taliad bonws; plastr dros dro. Felly pa gyllid sydd ar gael ac mewn lle ar gyfer gwobrwyo, sefydlogi a thyfu'r gweithlu gofal yn yr hir dymor, fel sydd ei angen?
Wel, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gyflawni ein hymrwymiad maniffesto yn gynnar iawn i ddarparu cyflog byw gwirioneddol i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, mae’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaethau cymdeithasol, ond roeddem yn falch iawn o allu cyflawni hynny. Ond er mwyn cynorthwyo'r gweithwyr yn y sector hwnnw i bontio i hynny, wrth gwrs, fe wnaethom gyhoeddi'r bonws diweddar, neu'r taliad diweddar, dylwn ddweud, i bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw fel gweithwyr proffesiynol cofrestredig, gweithwyr gofal cymdeithasol—yn benodol, y rheini mewn cartrefi gofal, gofal cartref a chynorthwywyr personol sy’n cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol—er mwyn sicrhau eu bod yn cael y budd o hynny cyn i daliad y cyflog byw gwirioneddol ddechrau. Ond gwnaethom geisio sicrhau bod camau cynnar iawn yn cael eu cymryd ar hynny o ran cyflawni'r addewid penodol hwnnw.
Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llanast o'r ymgais i gyflwyno taliadau bonws dro ar ôl tro, mae'n rhaid dweud, dros y blynyddoedd diwethaf. Mi ddywedais i, funud yn ôl, wrth gwrs fod unrhyw daliad ychwanegol i gael ei groesawu gan y rhai sy'n ei dderbyn o, ond problem fawr arall ydy bod llawer ddim yn ei gael o: gweithwyr ceginau a glanhawyr mewn cartrefi gofal, fel mae etholwyr i fi ac undeb Unsain wedi tynnu sylw ato fo—pobl sy'n gweithio mewn canolfannau dydd i oedolion hefyd. Mae'n rhestr hirfaith, ac iddyn nhw y cwbl maen nhw'n ei weld ydy eu rôl nhw yn cael ei thanseilio. Rŵan, mae'r taliad yn creu dwy haen yn y gweithlu, ac mae'n anodd meddwl am ffordd fwy amlwg i ddweud wrth rai, 'Sori, dydych chi ddim yn cael eich gwerthfawrogi.' Rŵan, gan eich bod chi mor grediniol fel Llywodraeth mai drwy daliadau bonws one-off mae dangos gwerthfawrogiad, a gawn ni ymrwymiad i dalu'r bonws o £1,000 i'r holl weithlu gofal?
Er eglurder, nid yw'r taliad o £1,000 yr ydym yn sôn amdano yma yn daliad bonws. Bu modd inni dalu dau daliad bonws i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig. Roedd y cyntaf yn daliad o £500, ac yna cafwyd ail daliad o £735. Fe wnaethom ddweud yn glir mai taliadau bonws oedd y rheini, roeddent yn daliadau diolch am y gwaith a wnaed gan bobl a oedd yn gweithio yn y sectorau hynny, yn gweithio dan straen aruthrol, yn gweithio mewn sefyllfaoedd anodd a phryderus iawn, ac roedd hwnnw’n daliad i ddweud diolch am y gwaith hwnnw.
Yr hyn sydd gennym heddiw a’r hyn yr ydym yn sôn amdano heddiw yw’r taliad o £1,000, sydd, fel rwyf wedi’i ddisgrifio, yn daliad pontio rhwng adeg cyhoeddi’r cyflog byw gwirioneddol a’i roi ar waith drwy'r gyllideb ar gyfer eleni a'r blynyddoedd i ddod. Felly, maent yn ddau daliad gwahanol iawn, a dyna pam nad ydynt yn berthnasol i'r un grwpiau o bobl. Nid yw'r taliad yr ydym yn sôn amdano yn awr yn daliad bonws yn yr un ffordd â'r taliadau blaenorol. Felly, credaf ein bod yn sôn am ddau daliad gwahanol. Nid wyf am roi'r argraff o gwbl nad yw gwaith pawb yn y lleoliadau hyn yn cael ei werthfawrogi'n llwyr, ond rydym yn sôn am ddau daliad gwahanol a chanddynt ddibenion gwahanol.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y seddi lle nad oes ond un ymgeisydd yn etholiadau llywodraeth leol Cymru? OQ57910
Er nad ydym yn casglu gwybodaeth yn ganolog am nifer y seddi diymgeisydd yn etholiadau llywodraeth leol Cymru, rwy'n ymwybodol fod y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn nodi bod 74 o seddi diymgeisydd ledled Cymru.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n bryderus iawn wrth weld y nifer hwnnw o seddi diymgeisydd, gyda 28 ohonynt yng Ngwynedd a 19 yn sir Benfro. Mae'n wirioneddol siomedig fod hynny'n digwydd, gan rwystro'r hyn y byddwn yn ei ystyried yn ddemocratiaeth briodol rhag digwydd drwy bleidlais. Rwy’n siŵr, Weinidog, eich bod wedi gweld erthygl newyddion y BBC yn gynharach y mis hwn a nodai, yn anffodus, fod camdriniaeth ar-lein wedi gorfodi llawer o gynghorwyr i roi’r gorau iddi neu golli'r awydd i sefyll, ynghyd ag ymgeiswyr posibl nad ydynt yn dymuno cael eu bwlio. Enghraifft o hyn oedd Huw George, sy’n weinidog gyda’r Bedyddwyr yn sir Benfro, a ddywedodd ei fod bob amser wedi croesawu’r craffu ar benderfyniadau gwleidyddol ond bod ymosodiadau personol ar ei ddefnydd o’r Gymraeg ac ar ei ffydd, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol. Felly, Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod angen mynd i’r afael â hyn? Ni ddylai ein cynghorwyr a'n hymgeiswyr orfod wynebu'r gamdriniaeth bersonol erchyll honno. A fyddech hefyd, yn yr un gwynt, yn ymuno â mi i ddiolch i’r bobl sy’n sefyll etholiadau yr wythnos nesaf a dymuno’r gorau iddynt wrth iddynt sefyll yn yr etholiadau hynny?
Yn sicr. Credaf fod unrhyw un sy’n cynnig eu henwau ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus drwy etholiad yn gwneud rhywbeth hynod o ddewr, ac mae’n bwysig fod pobl yn cael y cyfle i wneud y cyfraniad hwnnw i’w cymunedau a’u bod yn gallu gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n eu gwneud yn agored i gamdriniaeth. Mae’r gamdriniaeth y mae pobl mewn bywyd cyhoeddus yn ei hwynebu yn warthus. Credaf eich bod yn unigolyn lwcus iawn yn y Siambr hon, mae’n debyg, os nad ydych wedi dod ar draws rhyw driniaeth ofnadwy, fel arfer drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd mewn ffyrdd eraill. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau nad yw pobl sy'n sefyll etholiad a phobl sy'n cael eu hethol yn wynebu'r gamdriniaeth honno. Mae'n ymwneud yn rhannol â dod at ein gilydd ar draws y pleidiau i dynnu sylw at gamdriniaeth pan fyddwn yn ei gweld a sefyll gyda'n gilydd yn yr ystyr honno, ond mae hefyd yn ymwneud â gwneud pethau fel defnyddio ein deddfwriaeth yn y ffordd a wnaethom i sicrhau yn awr nad oes raid cyhoeddi cyfeiriadau cartrefi'r ymgeiswyr ac ati. Felly, mae rhai mesurau diogelu pwysig y gallwn eu rhoi ar waith, ond yn y drafodaeth hon, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad ydym yn annog pobl i beidio ag ymgymryd â gwasanaeth cyhoeddus hefyd. Mae pob un ohonom yn wynebu'r gamdriniaeth hon, ond mewn gwirionedd, mae’n fraint anhygoel cael gwneud y swyddi hyn, a chredaf fod angen inni gadw ein llygad ar hynny bob amser hefyd pan fyddwn yn sôn am ochr negyddol ac ochr dywyllach y profiadau mae pobl yn eu cael.
Hoffai pob un ohonom weld mwy o seddi'n cael eu hymladd. Yn sicr, hoffwn i weld hynny. Nid oes gennyf etholiad gartref yn sir Benfro chwaith, lle mae 19 o seddi diymgeisydd. Ac mae Sam Rowlands yn llygad ei le wrth nodi bod yr ymosodiadau, yr ymosodiadau cyhoeddus, ar unigolion sydd eisoes yn eu swyddi yn atal pobol rhag sefyll. Ac rydym newydd weld, dros y penwythnos, yr hyn a ddioddefodd Angela Rayner dan ddwylo AS Torïaidd a’r adroddiadau yn y Sunday Mirror. Felly, fy nghwestiwn, Weinidog—. Rwy'n gobeithio bod pob plaid, ni waeth pa blaid ydynt, pan fyddant yn cyhoeddi datganiadau am ymgeiswyr neu bobl etholedig, yn ymwybodol o’r niwed y gallant fod yn ei wneud. Gwelwyd achosion eraill o’r fath, wrth gwrs, gan Blaid Cymru yn ddiweddar iawn yn Grangetown. Felly, wyddoch chi, ni allwn ofyn ar y naill law i bobl sefyll ac yna ymosod ar y llaw arall ar y rheini sy'n sefyll. Mae gennym gyfrifoldeb personol, a gofynnaf i chi wneud hynny'n hollol glir, Weinidog.
Yn sicr. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i ddangos arweiniad yn y maes hwn ac i gynnal dadl adeiladol a chadarn. Gallwch gael dadl gadarn heb ildio i ymosod yn bersonol, a chredaf fod gweld y mathau hyn o bethau'n digwydd yn gwneud gwleidyddiaeth yn annymunol i bobl. Dyna un o'r rhesymau pam fy mod mor falch o weld bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dangos arweiniad go iawn yn yr etholiadau hyn gyda'u haddewid ymgyrch etholiadol deg a pharchus. Maent wedi hwyluso hynny, a chredaf y dylai roi hwb pwysig i’r cynghorwyr newydd a fydd yn dechrau eu gwaith ar ôl yr etholiad. A chredaf fod gwaith pwysig i’w wneud yn y cyfnodau cynnar, pan fydd pobl yn ymgynefino â'u swyddogaeth fel cynghorwyr, er mwyn iddynt ddeall y cod ymddygiad, yr hyn a ddisgwylir ganddynt o ran y ffordd y maent yn ymddwyn mewn dadleuon ac ati. Felly, mae llawer o waith i ni ei wneud mewn perthynas â hyn, a sicrhau hefyd fod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant, yn anffodus, yn wynebu ymddygiad annymunol.
Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n adleisio ac yn ategu’r sylwadau a wnaeth Sam Rowlands, ac yn diolch iddo am godi’r mater hwn, a'r sylwadau gan Joyce Watson hefyd. Mae’r un peth yn wir am ein cynghorau tref a chymuned ledled Cymru hefyd. Mae 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, sy’n gweithredu dros oddeutu 94 y cant o arwynebedd tir a 70 y cant o boblogaeth Cymru. Mae potensial enfawr heb ei gyffwrdd yma, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i lunio a darparu gwasanaethau seiliedig ar leoedd yn well mewn deialog â chymunedau. Tybed a gaf fi ofyn i chi beth yw eich gweledigaeth, yn hirdymor, ac yn y tymor byr, ar gyfer y cynghorau tref a chymuned hynny a'r camau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau eu llwyddiant? Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ymuno â Jane Dodds i gydnabod rôl bwysig cynghorwyr tref a chymuned yn gwasanaethu a llunio eu cymunedau lleol, ac rwyf wedi cael rhai cyfarfodydd da iawn gydag Un Llais Cymru i ddeall beth y mae’r sector yn credu yw ei botensial. A gwn fod gennym gynghorau tref a chymuned o bob lliw a llun a phob math o brofiad a lefel o uchelgais, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi sylw i'r cynghorau tref a chymuned hynny sy’n gwneud dewisiadau gwirioneddol effeithiol yn eu cymunedau ac archwilio sut y gallwn ddefnyddio Un Llais Cymru ac eraill i helpu cynghorau tref a chymuned eraill i ystyried y lefel honno o uchelgais. Credaf fod gennym astudiaethau achos anhygoel y gallwn edrych arnynt ledled Cymru.
Ond unwaith eto, mae bod yn gynghorydd tref a chymuned yn ffordd arall y gallwch wneud cyfraniad anhygoel i’ch cymuned. Unwaith eto, rydych yn hygyrch iawn, felly dyma un o'r pethau y mae angen inni eu sicrhau, nad yw pobl yn teimlo bod y ffaith eich bod fel arfer yn adnabyddus yn eich cymuned yn rhywbeth a ddylai fod yn rhwystr o reidrwydd. Oherwydd un arall o’r pethau a grybwyllwyd yn yr erthygl y cyfeiriodd Sam Rowlands ati oedd yr ymdeimlad fod cynghorwyr a chynghorwyr tref a chymuned yn teimlo bod angen iddynt fod ar ddyletswydd 24/7, fod angen iddynt roi'r gorau i bopeth am 10 o’r gloch nos Wener i fynd i ymdrin â'r mater uniongyrchol y cawsant alwad ffôn yn ei gylch. Felly, credaf fod y math hwnnw o gymorth ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith i'r cynghorwyr hynny, yn enwedig ar lefel tref a chymuned, yn wirioneddol bwysig hefyd.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi pobl Islwyn drwy'r argyfwng costau byw? OQ57922
Rwyf wedi codi’r argyfwng costau byw gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys sawl gwaith, fodd bynnag, nid yw cymorth Llywodraeth y DU yn ddigon da o hyd. Byddwn yn parhau i gynorthwyo’r rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy’r argyfwng hwn ac yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gydnabod yr effeithiau sy’n wynebu Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae pobl yn fy etholaeth i yn Islwyn a ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw gwirioneddol ddigynsail. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud y byddwn yn gweld y gostyngiad mwyaf erioed mewn safonau byw yn 2022-23. Gwyddom mai’r bobl dlotaf mewn cymdeithas fydd yn cael eu heffeithio fwyaf, yn enwedig y rhai ar fudd-daliadau mewn etholaethau fel fy un i. Weinidog, rwy’n croesawu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yn hyn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i geisio mynd i’r afael â’r heriau y mae unigolion a’u teuluoedd yn eu hwynebu, gan gynnwys y taliad o £150 i bob aelwyd ym mandiau treth A i D, sy’n estyniad i’r cynllun cymorth tanwydd y gaeaf gwerth £200 i aelwydydd cymwys a’r £25 miliwn i awdurdodau lleol ddarparu cymorth dewisol. Ond rydym yn gwybod bod y broblem yn ddyfnach na hyn. Gwyddom fod gan Lywodraeth y DU ddulliau o ddarparu’r cymorth hanfodol hwnnw, ond fel y dangosodd eu diffyg gweithredu yn natganiad y gwanwyn yn ddiweddar, nid yw’r Torïaid yn poeni am yr heriau ariannol y mae’r rhai mwyaf agored i niwed yn eu hwynebu. Weinidog, wrth i unigolion a theuluoedd wynebu’r pwysau digynsail hwn ar gyllid eu haelwydydd, beth y gellir ei wneud i annog Llywodraeth y DU i weithredu’n gyfrifol a chefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau?
Mae Rhianon Passmore yn llygad ei lle bod datganiad y gwanwyn yn ddiweddar yn warthus o ran y modd y methodd fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw sydd bellach yn wynebu unigolion a theuluoedd ledled Cymru. Dim ond yn awr y bydd teuluoedd yn dechrau gweld eu biliau tanwydd yn codi. Gwyddom fod prif swyddogion gweithredol cwmnïau ynni yn rhagweld, heb ymyrraeth Llywodraeth y DU, y bydd hyd at 40 y cant o aelwydydd yn wynebu tlodi tanwydd yn ystod y flwyddyn hon, ac wrth gwrs, ar ben hynny i gyd, rydym yn gweld y codiadau treth mwyaf ers 30 mlynedd gan Lywodraeth y DU, a bydd y rheini’n dechrau brathu y mis hwn hefyd. Felly, bydd pethau’n mynd yn anos.
Byddwn yn gwneud popeth a allwn o fewn ein pwerau a’n hadnoddau i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed drwy’r cyfnod hwn, ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu o ddifrif. Rydym wedi llunio camau ymarferol y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd, er enghraifft rydym wedi eu hannog dro ar ôl tro i gynyddu haelioni’r gostyngiad Cartrefi Cynnes. Gallent ariannu hwnnw drwy gynnydd mewn trethiant cyffredinol yn hytrach na’r ardoll ar ddefnyddwyr ynni yn y cartref eraill, oherwydd gwyddom fod yr ardoll gymdeithasol honno mewn gwirionedd yn taro’r teuluoedd na allant ei fforddio yn waeth. Byddem hefyd yn hoffi gweld tariff cymdeithasol yn cael ei gyflwyno fel bod y bobl sydd ar incwm isel iawn yn gallu cael mynediad at ynni am lai gost. Ac wrth gwrs, gallai Llywodraeth y DU hefyd gyflwyno ardoll ffawdelw ar yr elw gormodol y mae cwmnïau ynni wedi’i wneud a defnyddio’r refeniw hwnnw i gefnogi’r aelwydydd tlotaf. Felly, mae digon eto y gall Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU.
Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn cydnabod, ac o’r atebion yr ydych wedi’u rhoi hyd yn hyn, rydych yn bendant yn cydnabod pwysigrwydd cadw pobl mewn gwaith i’w cefnogi drwy’r argyfwng costau byw. Felly, er eglurder, yn ogystal â phecyn £9 biliwn Llywodraeth y DU i helpu teuluoedd yn y DU gyda'u biliau tanwydd, gan gynnwys ad-daliad treth gyngor o £150 ar gyfer aelwydydd ym mandiau eiddo A i D, maent hefyd wedi diogelu—Llywodraeth y DU, hynny yw—25,900 o swyddi yng Nghaerffili drwy’r cynllun ffyrlo ac wedi darparu cymorth gwerth £51.6 miliwn i 5,700 o unigolion hunangyflogedig. Bydd Caerffili hefyd yn elwa o dros £1.3 miliwn o fuddsoddiad cronfa adfywio cymunedol Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y byddai’r caledi y mae teuluoedd yn Islwyn yn ei wynebu ar hyn o bryd yn llawer mwy heb y symiau enfawr o arian sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Geidwadol y DU? Diolch.
Mae'r pecyn cymorth y gallwn ei gynnig i bobl sy'n byw yng Nghymru bron ddwywaith yr hyn a gawsom mewn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Felly, byddwch yn cael y taliad o £150 mewn aelwydydd ym mandiau A i D yng Nghymru, ond byddwch hefyd yn ei gael ym mhob un o’r bandiau eraill os ydych yn derbyn arian o gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, gan gydnabod y bydd yna bobl y tu hwnt i'r bandiau A i D hynny sy'n ei chael hi'n anodd ac y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gyda'u biliau. Yn gynharach eleni hefyd, rydym wedi darparu taliad o £200 i'r aelwydydd sydd ar yr incwm isaf. Fe wnaethom hynny heb unrhyw gymorth ychwanegol gan Lywodraeth y DU ac nid yw’n rhywbeth a oedd ar gael i bobl dros y ffin yn Lloegr, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r £200 ychwanegol hwnnw eto yn ddiweddarach eleni, ond rydym yn bwriadu ehangu nifer yr aelwydydd a fydd yn elwa o hwnnw. Ac er eglurder, nid yw hwn yn arian y bydd yn rhaid ei dalu'n ôl i Lywodraeth Cymru. Yn wahanol i gynllun benthyca Llywodraeth y DU, byddwn yn darparu hwnnw fel grant i aelwydydd ac edrychwn ymlaen at wneud hynny yn ddiweddarach eleni oherwydd ein bod yn cydnabod y bydd yr argyfwng costau byw yn parhau am beth amser—nid digwyddiad untro yn unig ydyw.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch darparu cymorth ariannol i'r sector twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ57916
Rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â Gweinidog yr Economi ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys twristiaeth. Rydym wedi darparu dyraniad cyllideb o dros £16.9 miliwn y flwyddyn i gefnogi twristiaeth ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys wyth prosiect yng ngogledd Cymru drwy gronfa'r pethau pwysig 2020-21.
Diolch. Wel, mae llety hunanarlwyo yn allweddol i sector twristiaeth gogledd Cymru. Wrth eich holi fis diwethaf, tynnais sylw at bryderon a gafodd eu dwyn i fy sylw gan fusnesau llety gwyliau dilys yng Nghymru y byddai eich cynigion trethiant lleol yn eu dinistrio, ac rwy'n dyfynnu perchnogion busnes a ddywedodd wrthyf, 'Rwy'n ofni y byddwn yn mynd yn fethdalwyr yn y pen draw', a, 'Sut y gellir codi'r dreth gyngor ar fythynnod sydd â chaniatâd cynllunio sy'n nodi na allant byth fod yn eiddo preswyl?' Fe gyfeirioch chi yn eich ymateb at yr ymgynghoriad technegol a oedd yn agored i ymatebion, ond dywedodd busnesau wrthyf wedyn, 'Nid ymgynghoriad ar y penderfyniad i godi trothwyon llety gwyliau ydyw mewn gwirionedd. Go brin fod hwn yn gyfle i ni fel busnesau dilys gael dweud ein barn.'
Sut ydych chi'n ymateb i’w cwestiwn felly? A all Llywodraeth Cymru fod o ddifrif ynglŷn â’u trothwyon defnydd ystafelloedd o ystyried bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad a luniodd Cynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU yn dangos bod llai nag 1 y cant o’r rhai a ymatebodd i adroddiad Llywodraeth Cymru—naw o bobl yn unig—wedi awgrymu’r trothwy defnydd ystafelloedd a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, tra bod ymgynghoriad mwy y diwydiant ei hun, gyda 1,500 o ymatebion mewn pedwar diwrnod yn unig, yn dangos na all y mwyafrif sylweddol o fusnesau gyrraedd y trothwy newydd hwn, y bydd yn lleihau gallu perchnogion lleol i ennill incwm ac yn achosi gostyngiad yn nifer y swyddi eilaidd mewn lletygarwch, manwerthu, cynnal a chadw tai a glanhau, ac na fydd yn diogelu'r Gymraeg gan y bydd y busnesau hyn yn cael eu colli i bobl gyfoethog o'r tu allan i Gymru?
Wel, roedd y cynigion yn destun ymgynghoriad 12 wythnos. Felly, byddwn yn dadlau bod digon o gyfle i fusnesau a chyrff cynrychioliadol ymgysylltu â'r ymgynghoriad hwnnw, ac fe wnaethant hynny yn wir. Cawsom dros 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac roedd llawer ohonynt yn cefnogi’r cynnydd yn nifer y nosweithiau y mae’n rhaid cynnig neu osod eiddo. Felly, cawsom ymatebion cryf i’r ymgynghoriad hwnnw. Ers hynny, fel y dywedais wrth Peter Fox, rwyf hefyd wedi cyfarfod â Chynghrair Twristiaeth Cymru, a chawsom drafodaeth fanwl ar y pwynt penodol a wnaethoch ynghylch amodau cynllunio ar eiddo penodol, ac ymrwymais i archwilio’r mater hwnnw ymhellach yn y cyfarfod hwnnw, ac rwyf yn y broses o gael cyngor ar hynny ar hyn o bryd.
6. Beth yw asesiad y Gweinidog o'r setliad llywodraeth leol a ddarperir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol? OQ57937
Rwy’n blaenoriaethu cyllid ar gyfer llywodraeth leol wrth osod cyllideb Cymru. Yn 2022-23, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn cynnydd o 9.4 y cant yn nyraniad ei setliad craidd.
Wel, diolch i chi, Weinidog. Mae’n wirioneddol galonogol eich clywed chi, Jane Dodds, Joyce Watson a Sam Rowlands yn talu teyrnged i gynghorwyr ac i gynghorau sydd wedi gweithredu’n arwrol yn ystod y pandemig ac sydd wedi wynebu beirniadaeth, a hynny'n aml heb unrhyw gyfiawnhad. Croesawodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y setliad i gynghorau eleni wrth gwrs fel y setliad gorau ers degawdau, a daw ar adeg pan fo cydweithredu na welwyd ei debyg o'r blaen rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Wrecsam ar brosiectau fel Porth Wrecsam, y cais Dinas Diwylliant ac wrth gwrs, y cynllun atgyweirio ffordd Newbridge yn fy etholaeth fy hun. Yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi £2.8 miliwn ar gyfer y cynllun hwnnw. Pa mor bwysig yw’r math hwn o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol, ac a fyddech yn sicrhau fy etholwyr fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i helpu cyngor Wrecsam ac awdurdodau lleol eraill i lywio drwy gyfnod a fydd yn anodd iawn wrth inni ddod allan o’r pandemig COVID a wynebu, gyda’n gilydd, yr argyfwng costau byw?
Yn bendant, hoffwn roi sicrwydd i’ch etholwyr y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar y cyfrifoldebau a'r diddordebau a rannwn, ac yn enwedig yn awr i gydweithio i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Drwy gydol yr argyfwng COVID, rwy'n credu ein bod wedi datblygu mecanweithiau rhagorol, perthynas ragorol a ffyrdd rhagorol o gyfathrebu a fydd, yn fy marn i, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i oresgyn yr heriau eraill y byddwn yn eu hwynebu yn awr, ac mae’r argyfwng costau byw yn un ohonynt, ond hefyd y problemau a'r anawsterau y bydd pobl sy'n ffoi o Wcráin yn eu hwynebu. Rydym wedi sefydlu mecanweithiau da iawn i weithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr fod pobl yn cael croeso cynnes pan fyddant yn dod i Gymru a bod ganddynt wasanaethau a chymorth angenrheidiol i sicrhau eu bod yn cael croeso a’u bod yn teimlo'n ddiogel pan fyddant yn dod yma i Gymru.
Felly, rwy'n credu bod ein cysylltiadau wedi bod yn rhagorol. Rwy’n gobeithio y byddant yn parhau yn hynny o beth, ond rydym yn dal i wynebu llawer o heriau y bydd angen inni weithio arnynt gyda’n gilydd. Ac ochr yn ochr â'r heriau uniongyrchol, mae gennym heriau uniongyrchol a mwy hirdymor materion fel newid hinsawdd a'r angen inni weithio gyda'n gilydd ar ddatgarboneiddio. Felly, ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol, edrychaf ymlaen at gyfarfodydd gydag arweinwyr eto a chwrdd ag arweinwyr newydd. Gwn y bydd gennym rai yn sicr, oherwydd mae un neu ddau o arweinwyr yn rhoi’r gorau iddi, felly edrychaf ymlaen at gyfarfod ag arweinwyr newydd a hen rai i ystyried sut y gallwn barhau i fynd i’r afael â’r heriau hyn gyda’n gilydd.
7. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gydag arweinwyr cynghorau i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir ganddynt o fudd i'r cyhoedd? OQ57908
Mae awdurdodau lleol yn gyrff annibynnol sy’n atebol yn ddemocrataidd ac sy’n gyfrifol am graffu ar eu penderfyniadau eu hunain. O fis Mai ymlaen, bydd gan bob prif gyngor ddyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan yn eu penderfyniadau. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well i gynghorau o ddiddordebau'r cyhoedd yn eu hardal.
Diolch i’r Gweinidog am yr ateb. Un penderfyniad gwael, mae arnaf ofn, na wnaed er budd y cyhoedd oedd y penderfyniad diweddar gan Gyngor Abertawe yn yr ardal y mae’r ddau ohonom yn ei chynrychioli, Weinidog. Roeddech chi a minnau’n bresennol yn agoriad gwych Arena Abertawe, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chynghorau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pawb yn cydweithio. Fodd bynnag, cafodd yr awyrgylch cadarnhaol hwnnw ei suro’n llwyr y diwrnod canlynol pan ddatgelwyd bod arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi enwi ystafelloedd yn yr arena newydd ar ôl cynghorwyr Llafur. Roedd hwnnw’n gam a ddisgrifiwyd fel un ‘clust fyddar’, ‘ffrindgarol’, a ‘heb unrhyw gysylltiad â phobl Abertawe’, a, diolch byth, diolch i bwysau pobl Abertawe a’i chynghorwyr Ceidwadol, newidiodd yr arweinydd ei feddwl yn ddiweddarach a phenderfynu lansio ymgynghoriad ar enwi'r arena. Ond mae'r llanast hwn yn codi cwestiynau difrifol am arweinyddiaeth bresennol y cynghorau a'u gallu i wneud penderfyniadau er budd y cyhoedd. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog: pa asesiad a wnaethoch mewn perthynas â gallu arweinyddiaeth bresennol Cyngor Abertawe i flaenoriaethu buddiannau pobl Abertawe dros fuddiannau’r Blaid Lafur?
Lywydd, unwaith eto mae'n rhaid imi ateb cwestiwn plaen gydag ateb plaen, a chredaf fod arweinydd cyngor Abertawe yn bendant yn rhoi pobl Abertawe yn gyntaf yn y gwaith y mae'n ei wneud. Rwy’n credu ei fod yn uchelgeisiol dros bobl Abertawe a bod ganddo weledigaeth gref ar gyfer Abertawe, fel y gwelsom yn agoriad yr arena newydd. Rwyf am ei adael yn y fan honno cyn imi fynd ymhellach nag y mae’r Llywydd yn caniatáu i mi ei wneud, ond rwy'n credu eich bod yn deall y pwynt rwy’n ei wneud.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn? OQ57935
Rhoddais flaenoriaeth i gyllid ar gyfer llywodraeth leol wrth osod cyllideb Cymru. Yn 2022-23, bydd Ynys Môn yn cael £114.6 miliwn drwy’r setliad llywodraeth leol, sef cynnydd o 9.2 y cant. Mae'r setliad da hwn yn galluogi'r cyngor i sefydlu cyllideb i gynnal a buddsoddi mewn gwasanaethau.
Mae'n dda gweld rhywfaint o lacio ar gyllidebau eleni, ond, wrth gwrs, mi fydd cynghorau dan arweiniad pob plaid wedi wynebu heriau mawr efo cyllidebau mewn blynyddoedd diweddar. Ond er gwaethaf hynny, mae'r sefyllfa ym Môn wedi cael ei thrawsnewid. Yn 2017-18 mi wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru feirniadu cyngor Môn yn eithaf llym ar y pryd am ba mor fregus oedd ei sefyllfa ariannol. Ond erbyn hyn maen nhw'n cydnabod y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei wneud i wyrdroi'r sefyllfa a rhoi'r cyngor mewn sefyllfa digon cryf o ran ei gyllideb. Rŵan, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi gwaith ein cynghorwyr ni ym mhob rhan o Gymru. Felly, ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod y trawsnewidiad yma wedi bod yn bosib oherwydd y weledigaeth glir a'r llywio cyllidol gofalus, a'r sefydlogrwydd hefyd, dan arweiniad Plaid Cymru a'i phartneriaid ar gyngor Môn?
Credaf ein bod wedi gweld sefyllfaoedd ariannol gwell mewn cynghorau ledled Cymru, a bod yn deg, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y tair blynedd diwethaf, yn sicr, o ran y cyllidebau y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu eu darparu i awdurdodau lleol mewn perthynas â blaenoriaethu llywodraeth leol ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd. Nid yw'n golygu, wrth gwrs, nad oes cyfnodau anodd o'n blaenau. Mae blynyddoedd 2 a 3 yr adolygiad o wariant yn edrych yn arbennig o anodd, sef un o'r rhesymau pam, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yr oeddwn yn falch o geisio dod o hyd i gyllid cyfalaf ychwanegol, yn enwedig i awdurdodau lleol, fel y gallent ei drosglwyddo i gynlluniau ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 os mai dyna y dymunent ei wneud, neu ei wario'n gynt os oeddent eisiau gwneud hynny. Credaf fod awdurdodau ledled Cymru mewn sefyllfa well o lawer nag yr oeddent, ond bydd rhai dewisiadau anodd i'w gwneud o hyd.
9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ardoll brentisiaethau Llywodraeth y DU ar gyllid awdurdodau lleol? OQ57928
Gosodwyd yr ardoll brentisiaethau ar awdurdodau lleol gan Lywodraeth y DU. Nid ymgynghorwyd â Gweinidogion Cymru, ac ni wnaeth Llywodraeth y DU ystyried ei chanlyniadau na'i heffaith ar y setliad datganoli.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Hoffwn weld rhaglenni prentisiaeth yn cael eu defnyddio i lenwi'r bylchau presennol mewn perthynas â recriwtio i awdurdodau lleol. Mae cynghorau'n ei chael hi'n anodd llenwi swyddi fel swyddogion priffyrdd, cynllunwyr ac arbenigwyr draenio. Mae'r rhain yn swyddi technegol sy'n gofyn am hyfforddiant ac arbenigedd yn ogystal â gwybodaeth gref am yr ardal leol. Fodd bynnag, mae'r ardoll brentisiaethau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn 2017 yn rhwystr ariannol ac mae'n cael effaith anghymesur yng Nghymru a'r sector cyhoeddus yma. Mae tua 700 o gyflogwyr yng Nghymru yn talu'r ardoll o 0.5 y cant, gan gynnwys holl gyflogwyr y sector cyhoeddus, y GIG, llywodraeth leol a'r heddlu. Er gwaethaf y baich ariannol ychwanegol y mae'r ardoll yn ei roi ar gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, nid oes arian ychwanegol amlwg ar gael yng Nghymru o ganlyniad i'r ardoll. Er enghraifft, bydd Cyngor Sir y Fflint—mae'n rhaid imi ddatgan fy mod yn dal yn gynghorydd yn sir y Fflint am wythnos—yn talu cost ychwanegol o £617,840 eleni. Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU am effaith ariannol yr ardoll brentisiaethau ar y sector cyhoeddus yma yng Nghymru? Diolch.
Gwnaethom gyflwyno sylwadau cryf i Lywodraeth y DU pan oedd yn ystyried cyflwyno'r ardoll, gan wneud y pwynt hwnnw ei bod, yn ei hanfod, yn faich treth ychwanegol ar y sector cyhoeddus yma yng Nghymru, ac i bob pwrpas mae'n lleihau'r cyllid sydd ar gael iddynt i gyflawni eu dyletswyddau. Gan fod y refeniw o'r ardoll wedi disodli'r cyllid prentisiaethau presennol yn Lloegr, nid yw'r ardoll mewn gwirionedd yn darparu unrhyw arian sylweddol newydd i ni yma yng Nghymru. Roedd hynny'n sicr yn dwyllodrus ar ran Llywodraeth y DU.
Wedi dweud hynny, nid yw'n golygu nad ydym wedi ymrwymo'n llwyr i brentisiaethau. Mae Gweinidog yr Economi wedi gwneud rhai cyhoeddiadau ynglŷn â'n hymrwymiad i'r prentisiaethau pob oed hynny, a fydd yn bwysig iawn. Rwy'n rhannu'r pryderon, mewn gwirionedd, ynghylch yr arbenigeddau y mae rhai awdurdodau lleol yn cael anhawster gyda hwy. Cefais gyfarfod da iawn gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill ychydig ddyddiau'n ôl, i edrych yn arbennig yn yr achos hwnnw ar yr heriau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau arolygu statudol, iechyd yr amgylchedd, ac yn y blaen. Mae'r rhain yn sgiliau yr ydym wedi dibynnu'n wirioneddol arnynt drwy gydol y pandemig, ac eto maent yn dal i fod yn brin, ac mae angen inni archwilio sut y gallwn eu datblygu yn y dyfodol. Rwy'n cael yr un sgyrsiau ynghylch caffael—mae caffael cyhoeddus yn faes arall lle mae angen inni fuddsoddi yn sgiliau pobl ar gyfer y dyfodol, ac yn enwedig ceisio sicrhau ein bod yn eu cael i mewn i'n gwasanaethau cyhoeddus ac yn eu cadw pan fyddant yno. Credaf fod meysydd o bwysau arbennig mewn perthynas â'r sgiliau sydd gan awdurdodau lleol, ond rwyf eisiau sicrhau fy nghyd-Aelodau ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i geisio mynd i'r afael â hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gydnabod yn gyfreithiol ymdeimlad anifeiliaid yn y broses o lunio polisïau datganoledig? OQ57929

Mae Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) y DU wedi cwblhau ei daith seneddol ac mae'n aros am Gydsyniad Brenhinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei blaenoriaethau yn ein 'Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26' a bydd yn pennu ein cyfeiriad ein hunain ar ymdeimladoldeb, gan gydnabod bod anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ar ôl Brexit, mae'r DU yn ddiffygiol o ran deddfwriaeth i ddiogelu lles anifeiliaid, ac mae'n rhaid cymryd camau brys. Mae ymchwil yr RSPCA wedi dangos bod tua 73 y cant o'i arolygwyr yn credu bod creulondeb tuag at anifeiliaid yn digwydd am nad yw pobl yn deall bod anifeiliaid yn ymdeimladol, gyda theimladau ac emosiynau. Gyda llinellau cymorth brys yn derbyn dros 1 filiwn o alwadau bob blwyddyn, mae'n amlwg fod angen gwell dealltwriaeth o les anifeiliaid ledled y DU. A fyddai'r Gweinidog yn fodlon gweithio ochr yn ochr â'r Gweinidog addysg i hyrwyddo rhaglenni addysgol i wella dealltwriaeth pobl o ymdeimladoldeb anifeiliaid a sut y mae'n berthnasol i ni yn ein bywydau bob dydd, yn enwedig gan fod cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru yn rhoi cyfle i athrawon roi gwybod i ddisgyblion ynglŷn ag empathi a thosturi? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryder, ac mae'r ystadegau a gyflwynoch chi yn sicr yn peri pryder mawr. Yn ystod tymor blaenorol y Llywodraeth, cyfarfûm â'r cyn Weinidog addysg pan oedd hi'n edrych ar y cwricwlwm newydd i weld a oedd modd cynnwys rhywbeth yn y cwricwlwm yn y ffordd a awgrymwch. Roeddwn eisiau gweld hefyd a allem wneud mwy am berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes, am fy mod yn credu bod hynny'n bwysig iawn, gyda phlant a phobl ifanc. Fel y dywedwch, bydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, a byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion fynd ar drywydd hyn gyda'r Gweinidog addysg i weld a oes unrhyw beth pellach y gellir ei wneud.
Roedd yr RSPCA yn un o nifer o sefydliadau lles anifeiliaid a oedd yn dathlu pan gafodd Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) Llywodraeth Geidwadol y DU ei gymeradwyo yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 7 Ebrill. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i holl bolisïau Llywodraeth y DU gael eu craffu gan y pwyllgor newydd a ffurfiwyd ar ymdeimladoldeb anifeiliaid. Er ei bod yn amlwg bod Llywodraeth y DU unwaith eto'n arwain y ffordd ar gydnabod ymdeimladoldeb anifeiliaid mewn cyfraith, nid yw Llywodraeth Cymru yn sôn am y mater hwn yn eu cynllun lles anifeiliaid i Gymru nac unrhyw ddogfennau eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn codi pryderon difrifol ymhlith sefydliadau fel RSPCA Cymru, sydd wedi dweud y gallai arwain at ddiffyg craffu ar les anifeiliaid yng Nghymru os na weithredir ar hyn. O ystyried hynny, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddilyn Llywodraeth y DU a sefydlu pwyllgor ymdeimladoldeb anifeiliaid i sicrhau na fydd diffyg craffu'n digwydd a bod anifeiliaid yng Nghymru yn cael eu diogelu yn yr un modd â'r rhai yn Lloegr? Diolch.
Yn sicr, rwy'n bwriadu gwneud mwy na dilyn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud neu wedi'i wneud. Credaf eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn—ei fod yn ymwneud â gweithredu. Os edrychwch ar y cynllun a gyflwynwyd gennym ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn, fe welwch ei fod yn ymwneud yn llwyr â gweithredu. Nid oes diben cael strategaeth a deddfwriaeth, mae'n ymwneud â gweithredu'r rheini. Yn ein cynllun, fe welwch y pethau y byddwn yn eu cyflwyno yn ystod y pum mlynedd nesaf. Fe wnaethom ddilyn y Bil yn agos iawn, fel y gwnawn bob amser gydag unrhyw ddeddfwriaeth newydd a ddaw i mewn gan Lywodraeth y DU, ac yn amlwg, er nad oedd ei ddarpariaethau'n berthnasol i Gymru, credaf fod iechyd a lles anifeiliaid yn faes yr ydym wedi gweithio'n agos iawn arno gyda Llywodraeth y DU.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu faint o fwyd o Gymru sy'n cael ei brosesu yng Nghymru? OQ57915
Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi'n helaeth mewn cwmnïau prosesu bwyd drwy ddarparu cymorth grant drwy'r cynlluniau buddsoddi mewn busnesau bwyd a buddsoddi mewn busnesau gwledig. Rydym hefyd wedi darparu cymorth technegol drwy Brosiect Helix, a chymorth meddal fel ymgysylltu mewn digwyddiadau masnach a thrwy ein clystyrau a'n rhwydweithiau busnes.
Dyna newyddion gwych, Weinidog, oherwydd mae COVID, Brexit a'r rhyfel yn Wcráin oll wedi gwanhau diogelwch ein llinellau cyflenwi bwyd. Bu'n rhaid arllwys llaeth o Gymru i lawr y draen yn ystod y cyfyngiadau symud am fod y cwmni prosesu o orllewin Llundain wedi gwrthod dod i'w gasglu. Ac yn amlwg, mae'r cynnydd diddiwedd ym mhrisiau petrol yn ei gwneud yn llawer drutach i brosesu bwyd y tu allan i'n gwlad. Rydych wedi rhestru llawer o fentrau diddorol; a allwch chi roi unrhyw syniad faint o fwyd nad yw'n gorfod teithio ar draws y ffin mwyach o ganlyniad i waith Arloesi Bwyd Cymru ac eraill?
Rydych wedi enwi tair her uniongyrchol y bu'n rhaid i'n sector bwyd a diod eu hwynebu, ac y mae'n parhau i'w hwynebu. Yn amlwg, rydym yn dal i ymdopi â chanlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw pandemig COVID ar ben, ac yn amlwg, mae rhyfel Wcráin hefyd yn ychwanegu haen arall o anhawster. Soniais am yr holl fentrau sydd gennym. Ni allaf ddweud yn union faint o fwyd, ond rwy'n credu mai un o'r pethau a nodais pan ddeuthum i'r swydd hon gyntaf oedd bod angen inni adeiladu capasiti prosesu bwyd, a llaeth yn arbennig. Roeddwn yn falch iawn yn ystod wythnos gyntaf toriad y Pasg o ymweld â safle newydd Mona Dairy a fydd yn agor ar Ynys Môn, ym mis Mehefin rwy'n credu, ac roeddent yn dweud wrthyf, oni bai am y grant o £3 miliwn a gawsant gan Lywodraeth Cymru, mae'n debyg na fyddai hynny wedi digwydd. Maent wedi rhoi cyllid sylweddol eu hunain, felly mae'n wych clywed y mathau hynny o straeon, a gweld sut y mae swm bach o arian—mae £3 miliwn mewn cyllideb fel fy un i yn swm cymharol fach—yn helpu gyda'r prosesu, oherwydd fel y dywedwch, un peth nad ydym eisiau ei weld eto yw—. Credaf fod gweld y llaeth hwnnw'n cael ei arllwys ymaith yn emosiynol iawn, a gwn faint o ofid a achosodd i'n ffermwyr.
Diolch i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am godi'r pwnc pwysig ac amserol hwn, a chytunaf fod angen prosesu mwy o fwyd o Gymru yng Nghymru, yn enwedig o gofio'r amharu a welsom ar gadwyni cyflenwi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n destun gofid felly, fel y dywedodd yr Athro Terry Marsden yn flaenorol, fod dirywiad sylweddol wedi bod yn y seilwaith bwyd yng Nghymru. Er enghraifft, nododd Undeb Amaethwyr Cymru yn ddiweddar fod Cymru wedi colli tua 90 y cant o'i lladd-dai dros y tri degawd diwethaf. Nawr, yn ôl ym mis Mehefin 2019, gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosesu bwyd. Roedd hyn yn cynnwys cynnal ymarfer mapio i bennu cryfder y sector, yn ogystal â sefydlu grŵp a arweinir gan y diwydiant i ystyried ymyriadau polisi i gynyddu capasiti, ac i ychwanegu gwerth at gadwyni cyflenwi. Weinidog, pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ar weithredu'r argymhellion hyn i gryfhau'r sector prosesu bwyd? Diolch.
Diolch. I mi, un o'r mentrau mwyaf yw Prosiect HELIX. Nid wyf yn gwybod a yw'r Aelod yn ymwybodol o Brosiect HELIX ond dyna'r cynllun sydd wedi symud pethau ymlaen mewn ffordd sy'n gadarnhaol iawn i'r sector yn fy marn i. Mae'n darparu arloesedd, mae'n darparu cymorth technegol ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd a'n busnesau prosesu, a gwn fod hyn wedi'i groesawu'n fawr. Fel y dywedais, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i geisio gwella capasiti, a rhoddais un enghraifft yn y sector llaeth, ond rwyf yr un mor awyddus i wneud hynny gyda rhannau eraill o'r sector prosesu hefyd.
Felly, mae gennym amrywiaeth o gynlluniau. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym dair canolfan arloesi bwyd ledled Cymru, un yn Llangefni, un yng Ngheredigion ac un yma yng Nghaerdydd. Ac eto, mae'r tair canolfan wedi cefnogi rhan brosesu'r sector bwyd a diod dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod COVID.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae cyfanswm nifer y pysgod cregyn yng Nghymru a nifer y cychod pysgota cyffredinol sy'n glanio yng Nghymru wedi gostwng yn barhaus ers 2018, ac yn ystod y cyfnod hwn rydych wedi llywyddu dros y diwydiant ac wedi gweld y dirywiad hwn. Er mwyn gwrthdroi'r duedd drist, ni ddylid tanbrisio arwyddocâd ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig mewn perthynas â deall pam fod y diwydiant yn wynebu dirywiad difrifol. Mae pwysigrwydd clywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr yn y diwydiant wedi'i gydnabod yn dda. Felly, mae'r ffaith na chynhaliwyd y digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid y diwydiant fis diwethaf yn peri pryder mawr i mi. O ystyried hyn, Weinidog, a wnewch chi ddarparu ymrwymiad clir i gynnal cyfarfodydd yn y dyfodol gyda rhanddeiliaid pysgodfeydd a dyframaethu, ac a allwch chi ddweud pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y diwydiant hirsefydlog hwn yng Nghymru yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Cyfarfûm yn ddiweddar â rhanddeiliaid pysgodfeydd a dyframaethu—ddechrau'r flwyddyn hon, mae'n debyg—oherwydd roeddwn eisiau trafod ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y bensaernïaeth yn iawn. Gwn fod fy swyddogion wedi parhau i ymgysylltu â hwy. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod y diwydiant pysgodfeydd yn llawer mwy cadarn. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i ddenu newydd-ddyfodiaid i bysgodfeydd yn y ffordd a wnaethom gyda'r sector amaethyddiaeth, a cheisio denu mwy o fenywod hefyd, ac roeddwn yn falch iawn o siarad yng nghyfarfod cyntaf Menywod mewn Pysgodfeydd.FootnoteLink
Diolch i chi, Weinidog, ac rwy’n sylwi nad ydych yn cyfeirio o gwbl at y cyfarfod ym mis Mawrth a byddwn yn gofyn i’r ymgysylltiad â rhanddeiliaid pysgodfeydd a dyframaethu barhau gyda pheth brys.
Ond gan symud ymlaen at gynllun creu coetir Glastir, ym mis Tachwedd y llynedd, codais y mater hwn ynglŷn ag arian yn cael ei dalu i dderbynwyr sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru. Rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Tachwedd 2020, cynyddodd nifer ymgeiswyr o’r fath o 3 y cant i 8 y cant, a chododd cyfanswm cyfran y tir a oedd yn rhan o’r ceisiadau hyn o 10 y cant i 16 y cant. Mae ymhell dros £1 filiwn yn gadael Cymru i fusnesau y tu allan i Gymru mewn symudiad sy'n dangos diffyg ystyriaeth o'n cymunedau gwledig.
Gwelwyd enghreifftiau niferus o fusnesau o’r fath yn prynu tir Cymreig yn cael sylw yn y wasg ac yma yn y Siambr. Nid oes unrhyw dir amaethyddol newydd yn cael ei greu, Weinidog, ac nid yw’r duedd hon yn gynaliadwy. Felly, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol gyda chronfeydd creu coetir Glastir a pha fesurau y mae eich Llywodraeth wedi’u rhoi ar waith i ddiogelu ein cymunedau gwledig, ein diwylliant a’n hiaith drwy leihau faint o arian cyhoeddus yng Nghymru sy’n mynd i mewn i gyfrifon banc cwmnïau rhyngwladol ac amlwladol?
Wel, mae’n ffaith bod rhywfaint o dir yng Nghymru yn eiddo i landlordiaid o Loegr. Ar gyfer pob cynllun Glastir sydd gennym lle mae taliad wedi’i wneud neu wedi’i ymrwymo, o’r £251.1 miliwn a wariwyd, gwnaed £4.4 miliwn i gyfeiriadau y tu allan i Gymru. Felly, nid wyf yn gwybod a ydych yn ceisio creu darlun fod swm sylweddol o gyllid yn mynd allan, ond mae hynny'n ffaith. Felly, mae hynny'n llai na 2 y cant—mae llai na 2 y cant o'r arian a delir o dan gynlluniau Glastir yn mynd i fuddiolwyr sydd â chyfeiriadau y tu allan i Gymru.
Nawr, a wyf i eisiau i dir fferm gael ei werthu i bobl y tu allan i Gymru? Nac ydw, wrth gwrs nad ydwyf. Fodd bynnag, ni allaf ddweud wrth ffermwyr i bwy y dylent werthu eu tir ac nid wyf yn credu y byddech chi na’ch plaid am imi wneud hynny. Rwy’n bryderus iawn ynghylch arferion y clywaf amdanynt lle caiff pobl alwadau ffôn diwahoddiad yn eu cymell i werthu eu tir. Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud efallai fod rhai o’r ffermydd sy’n cael galwadau diwahoddiad mewn sefyllfa braidd yn fregus ac mae pobl yn chwarae ar hynny. Ac nid ydym eisiau clywed am unrhyw un sydd mewn sefyllfa fregus yn cael galwadau ffôn o'r fath.
Felly, fel rwy’n dweud, ni allaf ddweud wrth ffermwyr i bwy y dylent werthu eu tir. Mae hefyd yn destun pryder ein bod yn clywed, unwaith eto, yn anecdotaidd gan fwyaf—ac rwyf wedi gofyn am dystiolaeth bendant ynghylch hyn—fod gennym gwmnïau mawr yn dod i mewn i Gymru ac yn prynu tir er mwyn plannu coed i wrthbwyso eu hallyriadau carbon. Felly, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn, ac rwy'n gweithio'n agos iawn, gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar hynny, ond os oes gan unrhyw un dystiolaeth o'r arfer hwnnw, rwy'n awyddus iawn i'w chlywed.
Diolch, Weinidog. Mae'n fwy nag anecdotaidd yn unig, ceir enghreifftiau clir o'r busnesau hyn, busnesau sydd wedi'u lleoli yn Llundain yn bennaf, yn prynu tir amaethyddol Cymru ar gyfer coedwigaeth wyrddgalchu, sy’n cynyddu'r angen i wella diogeledd bwyd yma. A ddoe, gwnaeth eich cyd-Aelod, y Prif Weinidog, sylwadau diddorol am y Bil amaethyddiaeth (Cymru) sydd ar y gorwel, yn enwedig am ei gynnwys a’ch uchelgeisiau ar gyfer y diwydiant pwysig hwn yn y dyfodol.
Roeddem yn falch ar y meinciau hyn fod yr oedi pellach i’r Bil amaethyddiaeth yn deillio o'r ffaith eich bod chi a’ch tîm yn edrych arno eto, gan ystyried y gwrthdaro erchyll yn Wcráin a’i effaith ar ddiogeledd bwyd. Fodd bynnag, ar sawl achlysur, rydych wedi dweud yn gyson wrth y meinciau hyn nad yw cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus, oherwydd, fel y dywedoch chi, mae bwyd yn nwydd gwerthadwy, ac felly, yn ôl safonau Llywodraeth Cymru, mae y tu allan i gylch gorchwyl y dosbarthiad pwysig hwn. A allwch chi fy helpu i ddeall yn well felly, Weinidog, os mai dyma yw polisi Llywodraeth Cymru, sef peidio â chefnogi rhywbeth sydd â gwerth gwerthadwy, pam y mae awgrymiadau cynnar yn dangos y bydd y Bil amaethyddiaeth yn gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi atafaelu carbon er bod marchnad dal carbon yn bodoli sy'n tyfu'n gyflym? Onid yw hyn yn mynd yn groes i fantra 'arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus' y Llywodraeth Lafur hon?
Rwy’n falch eich bod yn meddwl bod y Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau diddorol. Roeddwn yn meddwl bod eich arweinydd chi wedi gwneud sylwadau diddorol mewn gwirionedd. Dywedodd fy mod wedi datgan wrth y pwyllgor na fyddai’r Bil amaethyddiaeth yn cael ei gyflwyno cyn y Nadolig. Rwy'n gobeithio, Lywydd, y bydd yn manteisio ar y cyfle i ymddiheuro am gamarwain y Siambr, oherwydd ar y pryd dywedais nad oeddwn wedi gwneud hynny, ac yn sicr edrychais yn ôl ar y Cofnod o fy ymddangosiad ar y pwyllgor, a dywedais na allwn roi amser, ond yn sicr ni fyddai'n digwydd y mis hwn, sef mis Ebrill, y mis yr ydym ynddo yn awr. Felly, rwy’n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn manteisio ar y cyfle i gywiro hynny.
Ynglŷn â’r oedi pellach, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar yr heriau a gododd Jenny Rathbone. Mae yna nifer o heriau sydd wedi golygu nad yw’r Bil amaethyddol yn barod mor gynnar ag y byddwn wedi dymuno, ac rwy’n meddwl y byddai gweddill Llywodraeth Cymru wedi dymuno. Siaradodd y Prif Weinidog am effaith bargeinion masnach. Siaradodd am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel y gwyddom, mae gennym ryfel Wcráin hefyd, ac mae'r cyflenwad bwyd yn bwysig iawn. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn na all bwyd fod yn nwydd cyhoeddus oherwydd bod ganddo farchnad. Felly, os edrychwch ar y diffiniad o nwyddau cyhoeddus, nid oes ganddynt farchnad. Felly mae’r dal carbon yr ydych yn cyfeirio ato yn nwydd cyhoeddus. Fodd bynnag, yr hyn a wnaethom wrth inni ddatblygu'r Bil—ac mae hynny'n amlwg wedi bod ar waith yn awr ers pedair blynedd a hanner, pum mlynedd mwy na thebyg—yw edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas â chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Ac mae'r thema honno wedi llifo drwy'r ymgynghoriadau ac yn parhau i wneud hynny. Pan gawsom yr ymgynghoriad cyntaf yn ôl yn 2017, 2018, rwy'n credu, roeddwn yn awyddus iawn i wneud yn siŵr fod y gair 'bwyd’ ynddo. Ac os edrychwch ar gynigion Llywodraeth y DU, nid oedd y gair 'bwyd' yno. Roeddem yn awyddus iawn i wneud hynny. Mae’r cynllun ffermio cynaliadwy, a fydd yn amlwg yn mynd ochr yn ochr â’r Bil amaethyddol, wrthi'n cael ei ddatblygu. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda phawb, mewn gwirionedd, gan gynnwys ein hundebau ffermio. Ac maent yn awyddus iawn i mi edrych ar sut y gallwn gael carboniadur, er enghraifft, a grŵp o—ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn oherwydd rwy’n ymwybodol fod y Ffermwyr Ifanc yn un o'r rhai a lofnododd y llythyr a ysgrifenasant ataf, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud. Felly, gweithiwch gyda ni ar hyn—rwy’n awyddus iawn i glywed eich barn ar y Bil amaethyddol—byddwn yn rhannu drafft—ac rwy’n gwybod ein bod yn cyfarfod fel llefarwyr y gwrthbleidiau yr wythnos nesaf, ac efallai y gallwn gael trafodaeth bellach.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am barhau â chwestiwn cyntaf Sam Kurtz, os caf i.
Mae ffigurau swyddogol ar laniadau fflyd Cymru yn awgrymu bod fflyd bysgota Cymru bellach ar drai peryglus o isel, ac os bydd y trywydd presennol yn parhau, mae mewn perygl o ddiflannu’n fuan. Yn gyffredinol, mae glaniadau cychod o Gymru wedi gostwng o uchafbwynt o 11,300 yn 2017 i bron i chwarter hynny, ychydig dros 3,000 y llynedd. Mae hwnnw'n ostyngiad enfawr o bron i 75 y cant yn nifer y cychod o Gymru sy'n cael eu glanio. Yn wir, o’i gymharu â glaniadau gwledydd eraill y DU, mae glaniadau fflyd Cymru ar gyfer pob rhywogaeth yn gyfran fach iawn o’r glaniadau yn yr Alban—dim ond 1 y cant o laniadau'r Alban. Rydym mewn perygl o golli sector sy’n bwysig yn ddiwylliannol ac yn economaidd yng nghefn gwlad Cymru. Felly, mae angen cynllun clir arnom er mwyn sicrhau dyfodol hyfyw i’r diwydiant. Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod gennym un ar hyn o bryd, heb sôn am gynllun sydd wedi'i gydgynhyrchu gyda'r diwydiant. Mae grŵp cynghori Cymru ar y môr a physgodfeydd wedi bod yn cael ei adolygu ers diwedd 2020. Ac er ein bod, o'ch ateb yn gynharach, yn deall ichi gael cyfarfod answyddogol yn ddiweddar, nid oes unrhyw ymgysylltiad ffurfiol â rhanddeiliaid pysgodfeydd wedi digwydd ers 11 Mawrth 2021, dros flwyddyn yn ôl. O ystyried bod y cyd-ddatganiad pysgodfeydd a datblygiad cynlluniau rheoli pysgodfeydd yn symud yn gyflym, pryd y disgwyliwch gyhoeddi manylion y strwythur ymgysylltu newydd a gwell yng Nghymru, a phryd y disgwyliwch i’r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal?
Diolch. Rwy’n cytuno yn llwyr â’r hyn yr ydych yn ei ddweud am y diwydiant pysgota yng Nghymru, a’n pryderon yn ei gylch, ac mae mor bwysig i’n cymunedau arfordirol. Dau gyfarfod ffurfiol a gynhaliais, a dweud y gwir. Mae'n ddrwg gennyf, nid atebais y cwestiwn am y cyfarfod ym mis Mawrth, ac nid oeddwn yn ymwybodol ei fod wedi'i ganslo—roeddwn yn meddwl bod swyddogion wedi cyfarfod. A bydd y cyfarfodydd hynny'n parhau, ac rwyf i fod i gwrdd â'r rhanddeiliaid eto—fis nesaf, rwy’n credu, sef mis Mai. Mewn perthynas â grŵp cynghori Cymru ar y môr a physgodfeydd, fel y dywedwch, manteisiais ar y cyfle—roedd yn dilyn diwedd cyfnod y cadeirydd blaenorol, a oedd wedi bod yn ei swydd ers tua 10 mlynedd rwy’n meddwl—i adolygu’r grŵp. A deuthum i'r casgliad fod angen inni symud at ddull gwahanol o weithredu, wrth symud ymlaen, a pheidio â disgwyl i un grŵp unigol wneud popeth yr oeddem yn ei ddisgwyl gan yr un grŵp hwnnw. Felly byddaf yn cyhoeddi'r hyn yr ydym yn mynd i'w wneud mewn perthynas ag ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyn diwedd y tymor yr ydym ynddo yn awr mae'n debyg, cyn yr haf.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Dwi'n siŵr y bydd yr ateb yna yn rhoi gobaith o leiaf i rai yn y sector.
Fel y gwyddom, mae'r sector yn hanfodol ar gyfer ein diogeledd bwyd. Fel y nodwyd gennym, mae ganddo botensial aruthrol. Fodd bynnag, fel sectorau eraill, mae'r sector hwn hefyd yn dioddef canlyniadau'r amryfal argyfyngau sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Mae'r fflyd bysgota yn gorfod gwneud llai o deithiau yr wythnos, neu'n gorfod canolbwyntio ar yr ardal yn agos at y lan gan fod yn rhaid iddynt osod offer pysgota yn rheolaidd yn y gobaith o ddal digon i dalu'r costau. Mae cost yr holl offer atodol hefyd wedi codi’n aruthrol—dur, rhaffau, rhwydi ac abwyd, er enghraifft. Mae costau ynni ar gyfer storio pysgod a physgod cregyn hefyd yn broblem sylweddol. Mae gwerthiannau uniongyrchol wedi'u heffeithio oherwydd goblygiadau costau byw cynyddol, sydd wedi arwain at fwytai'n canslo, neu ar y gorau, yn lleihau archebion sefydlog yn sylweddol. Mae costau pecynnu a chludiant hefyd yn effeithio ar y sector, gan na ellir trosglwyddo'r costau uwch hyn i'r cwsmer heb leihau galw cwsmeriaid ymhellach.
Mae’r UE yn gwneud darpariaethau gyda rhaglen cronfa’r môr, pysgodfeydd a dyframaethu Ewropeaidd i gefnogi fflyd bysgota’r UE, ynghyd â fframwaith argyfwng dros dro yr UE sy’n nodi pecyn llawer ehangach o gymorth ariannol i aelod-wladwriaethau. Mae disgwyl i Ogledd Iwerddon wneud datganiadau ar becyn cymorth ar gyfer fflyd bysgota Gogledd Iwerddon yn fuan, ac mae apêl ar y cyd, wedi’i chyd-lofnodi gan sefydliad pysgota cenedlaethol y DU, hefyd wedi’i gwneud i Weinidog pysgodfeydd y DU.
Felly, Weinidog, pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fflyd bysgota Cymru i sicrhau ei bod yn goroesi’r argyfwng presennol hwn?
Diolch. Wel, fe sonioch chi am yr arian yn lle cyllid morol a physgodfeydd yn y dyfodol, ac mae’r cynigion ar gyfer pob un o’r pedair gwlad yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Ac mae swyddogion wedi dechrau ymgysylltu ymhellach â’n rhanddeiliaid i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gydgynhyrchu, gan gefnogi amryw o ymrwymiadau sydd gennym eisoes yn ein rhaglen lywodraethu newydd.
Bydd y buddsoddiad drwy gynllun newydd cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop yn cyfrannu at gynllun morol cenedlaethol Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal ag egwyddorion ac ymrwymiadau’r cyd-ddatganiad pysgodfeydd, y byddwch yn ymwybodol ohonynt, a chynlluniau rheoli pysgodfeydd. Dyrannodd adolygiad o wariant a chyllideb y DU £6.2 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i Lywodraeth Cymru ar gyfer y môr a physgodfeydd, a bydd hynny’n ein galluogi i wneud newid cadarnhaol iawn i’r sector hwnnw, gan weithio gyda’r rhanddeiliaid.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ag adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU i ddiogelu lles anifeiliaid drwy atal mewnforio cŵn yn anghyfreithlon drwy borthladdoedd Cymru? OQ57924
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith a gaiff smyglo cŵn bach yn anghyfreithlon drwy borthladdoedd Cymru ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ57907
Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gydag adrannau Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Mae’r Bil yn bwriadu cyflwyno cyfres o fesurau a fydd yn anghymell mewnforio cŵn yn anghyfreithlon cyn iddynt gyrraedd porthladdoedd Cymru, mesurau sydd wedi’u cynllunio ar ôl ymgynghori agos ag asiantaethau a rhanddeiliaid.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ceisio barn y cyhoedd a diwydiant ar gynlluniau i ddiogelu lles cŵn a chŵn bach sy’n cael eu mewnforio. Mae’r Dogs Trust yn nodi, ar hyn o bryd, ac rwy’n dyfynnu:
'dim ond gwiriad "dogfen ac adnabod" anifeiliaid anwes a fewnforir sy'n ofynnol yn ôl rheolau PETS, a gwneir hyn gan staff fferi ac Eurotunnel nad oes ganddynt unrhyw arbenigedd mewn lles anifeiliaid. Nid yw hyn yn cynnwys gofyniad i dynnu llun yr anifail anwes a fewnforir.'
Weinidog, a ydych yn cytuno bod rhaid i ddeddfwriaeth gyflwyno gwiriad gweledol o’r holl anifeiliaid sy’n dod i mewn i’r wlad drwy’r cynllun teithio anifeiliaid anwes, a bod yn rhaid i ffocws gorfodi ar gyfer y ddeddfwriaeth teithio anifeiliaid anwes newid o'r cludwyr i asiantaethau’r Llywodraeth, a'i bod yn ofynnol i'r asiantaethau hyn gael digon o staff mewn porthladdoedd y tu allan i oriau ac ar benwythnosau? Diolch.
Rwy’n sicr yn meddwl nad yw cynllun Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â smyglo cŵn bach yn mynd yn ddigon pell. Rwy’n meddwl y bydd yn gadael y drws ar agor i droseddwyr cyfundrefnol barhau i elwa o’r arfer ffiaidd hwn. Ar hyn o bryd, fel y nodwch, nid oes angen i staff fferi na staff Eurotunnel weld y cŵn sy'n cael eu mewnforio. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth gyflwyno gwiriadau gweledol, rwy'n meddwl, ar y ffin, oherwydd heb y gwiriadau hynny, nid wyf yn meddwl y byddai gennym unrhyw obaith o ddod â'r fasnach greulon hon i ben.
Weinidog, yn anffodus, mae’r weithred ffiaidd o smyglo cŵn bach ar gynnydd oherwydd y prisiau hynod o uchel y gall cŵn werthu amdanynt. Un o’r problemau mawr sy’n achosi smyglo cŵn bach yw y gellir prynu cŵn dros y rhyngrwyd a’u casglu o gartref rhywun, sy’n rhoi cyfle i gŵn bach wedi’u smyglo gael eu cyflwyno i brynwyr fel rhai sydd wedi’u bridio mewn amgylchedd iach gyda safonau lles uchel, er eu bod wedi cael eu bridio ar ffermydd cŵn bach mewn gwirionedd, a'u smyglo mewn amodau echrydus, a'u cyflwyno i brynwyr. Mae hyn nid yn unig yn hynod drawmatig i'r anifail dan sylw, ond mae iddo ganlyniadau ehangach. Yn aml, mae angen gofal milfeddygol sylweddol ar y cŵn bach hyn sydd wedi’u smyglo, gofal sy’n costio’n ddrud, ac mewn llawer o achosion, mae anifeiliaid yn marw'n fuan ar ôl cael eu prynu neu mae ganddynt gyflyrau iechyd sy'n para oes a phroblemau seicolegol ac ymddygiadol mewn llawer o achosion. Effaith ganlyniadol hynny yw bod rhai pobl yn methu fforddio cadw'r anifeiliaid hyn a chânt eu gosod mewn canolfannau ailgartrefu, neu eu gadael.
Yng ngoleuni dioddefaint sylweddol cŵn bach sy'n cael eu dal yn y fasnach fewnforio anghyfreithlon a'r risgiau o glefydau posibl, mae'n amlwg, fel y soniwyd eisoes, nad yw'r rheoliadau mewnforio presennol yn darparu amddiffyniad digonol i gŵn. At hynny, mae angen rheolaeth dynnach o lawer ar werthu cŵn gan fridwyr didrwydded, yn enwedig ar ddefnyddio'r rhyngrwyd. Rwy'n sicr y byddai cefnogaeth drawsbleidiol i unrhyw gynigion ar gyfer rheoleiddio gwell a mwy sylweddol i helpu i atal smyglo pob anifail yn anghyfreithlon a'u gwerthu ar-lein. Felly, Weinidog, yn eich barn broffesiynol, pa welliannau posibl y gellid eu gwneud i'r ddeddfwriaeth bresennol, ar lefel ddatganoledig ac ar lefel Llywodraeth y DU, gwelliannau sy'n mynd i'r afael â gwerthu anifeiliaid ar-lein, a pha drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn? Diolch.
Diolch. Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennyf ddiwedd y llynedd i sicrhau bod pobl yn meddwl o ddifrif ynglŷn â ble y maent yn prynu eu cŵn bach a’u cathod bach, neu unrhyw gi, i wneud yn siŵr eu bod yn cwrdd â’r bridiwr a’u bod yn gweld bod y bridiwr yn un cyfreithlon. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar orfodi hyn.
Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar newidiadau i fewnforion anifeiliaid anwes masnachol, a’r nod yw cyflawni hynny o fewn y Bil anifeiliaid a gedwir newydd. Un peth yr ydym am ei weld yw isafswm oedran cŵn a fewnforir yn codi—felly, i fynd o 15 wythnos i chwe mis. Rydym eisiau gwahardd mewnforio cŵn ag anffurfiadau sydd heb eu heithrio, gwahardd mewnforio a symud anfasnachol geist sy'n dorrog ers mwy na 42 diwrnod—darpariaethau sydd i’w cefnogi gan system orfodi wirioneddol gadarn. Fel y dywedaf, rydym bellach yn nhrydedd flwyddyn rhaglen tair blynedd, yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y drefn orfodi yn llawer mwy cadarn, ac mae hynny'n cynnwys sancsiynau sifil a throseddol.
Er y gallwn wneud rheoliadau ynghylch prynu a gwerthu cŵn, oni bai bod trywydd papur—neu’n fwy cywir heddiw, trywydd electronig—bydd hynny bob amser yn agored i gamfanteisio. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi mai cam cyntaf da fyddai dod â thrwyddedau cŵn yn ôl a chadw cofnod o gŵn, eu prynwyr a’u gwerthwyr?
Rydych chi a minnau'n ddigon hen, Mike, i gofio trwyddedau cŵn. Rwy’n meddwl bod cryn dipyn o bobl yn y Siambr na fyddent yn eu cofio yn ôl pob tebyg. Pan ddeuthum i’r swydd gyntaf, rwy'n cofio gofyn pam na allem gael trwyddedau cŵn yn eu holau. Ond rwyf wedi cael fy mherswadio bod llawer mwy o bethau y gallwn eu gwneud. Gellir gwneud pethau pwysicach a mwy gwerth chweil i sicrhau bod gennym system well—felly, gosod microsglodion gorfodol, er enghraifft; y rheoli ffiniau sydd gennym ar fewnforion, ac rydych newydd fy nghlywed yn dweud mewn atebion blaenorol sut y gallwn wella hynny; rheoleiddio gwerthu cŵn bach a chathod bach a gyflwynwyd gennym y llynedd, a gwn eich bod yn awyddus iawn i weld hynny'n cael ei gyflwyno; a'r gwelliannau i gryfhau'r drefn orfodi yn ein hawdurdodau lleol.
Diddymwyd trwyddedu cŵn ym 1988, a phan edrychais yn ôl ar y system a'r briff a gefais, roeddwn o'r farn ei bod yn eithaf anhylaw ac roedd yn ddrud iawn. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr ystod o fesurau a gyflwynwyd gennym yn cynyddu’r gallu i olrhain cŵn a chŵn bach, yn enwedig y rhai a amlinellais.
4. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith anallu pobl ar incwm isel i dalu costau milfeddyg a bwyd i'w hanifeiliaid anwes ar les anifeiliaid? OQ57920
Rydym yn cydnabod y mater a godwyd mewn perthynas â chostau sy'n gysylltiedig â pherchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes i'r rhai ar incwm isel. Mae swyddogion yn trafod y mater hwn yn rheolaidd gyda’n partneriaid yn y trydydd sector, er mwyn monitro’r sefyllfa a gweld a ellir gwneud mwy i roi cyhoeddusrwydd i’r cymorth y maent yn ei gynnig.
Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, fe wnes i ymweld â banc bwyd yn fy rhanbarth sydd yn gynyddol yn derbyn ceisiadau gan unigolion a theuluoedd y maen nhw'n eu cefnogi am fwyd i'w hanifeiliaid anwes. Fe wnaeth y rheolwr rannu gyda mi fod nifer yn meddwl cael gwared o'u hanifeiliaid anwes oherwydd eu bod yn pryderu na fedrant fforddio bwyd iddynt oherwydd yr argyfwng costau byw, na chwaith dalu costau milfeddyg. Fel y gwŷr unrhyw un gydag anifail anwes, maent yn aml yn cael eu hystyried gan eu perchnogion fel rhan annatod o'r teulu, ac, i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain, yn rhoddi cysur a chwmni amhrisiadwy. Sut mae Llywodraeth Cymru, felly, am sicrhau nad yw'r argyfwng costau byw yn effeithio ar les anifeiliaid? Dwi ddim yn credu bod digon yn cael ei wneud ar y funud.
Wel, yn anffodus, rydych yn codi pwnc sy’n peri pryder sylweddol. Drwy ein Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru, mae swyddogion yn parhau i gael trafodaethau gyda sefydliadau trydydd sector megis People’s Dispensary for Sick Animals, Dogs Trust a Cats Protection, i fonitro’r sefyllfa bresennol. Yn amlwg, rwy'n gwybod am lawer o filfeddygon sydd hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau hynny ac yn gwneud llawer iawn.
Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn parhau i dynnu sylw at gost anifeiliaid anwes. Mae'n ymrwymiad oes ar hyd bywyd yr anifail anwes hwnnw. Fel y dywedwch, maent yn aelodau llawn o’n teuluoedd. I wynebu’r argyfwng costau byw, gallaf ddychmygu fod banciau bwyd yn cael ceisiadau yn y ffordd yr ydych yn ei nodi.
Fe fyddwch yn ymwybodol o'n hymgyrch cyfryngau cymdeithasol Aros, Atal, Amddiffyn, a dyna faes lle rydym hefyd yn parhau i dynnu sylw pobl at y costau oes sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar anifail anwes, yn enwedig cŵn bach. Cyfeiriaf eto at ein cynllun lles anifeiliaid, a chredaf fod y bartneriaeth a ddaeth â’r cynllun hwnnw i fodolaeth yn allweddol iawn i sicrhau ein bod yn llwyddo i ailadrodd maint y gost i bobl, ond hefyd ynglŷn â sut y gallwn helpu.
6. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod gogledd Cymru yn elwa o ganlyniadau economaidd sy'n gyfartal â gweddill Cymru? OQ57909
Mae gennyf gyfarfodydd rheolaidd wedi eu trefnu gyda Gweinidog yr Economi i drafod ystod eang o gyfleoedd economaidd ar draws nifer o sectorau allweddol, gan gynnwys y rheini o fewn bargen twf gogledd Cymru.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cael y sgyrsiau hynny gyda Gweinidog yr Economi. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â mi ei bod yn wirioneddol bwysig fod gogledd Cymru yn cael ei chyfran deg o gymharu â rhannau eraill o Gymru. Ond rydym yn parhau i weld gagendor rhwng gogledd a de Cymru, sy'n drist i'w weld. Enghraifft o hynny yw gwerth ychwanegol gros. Gwelwn, er enghraifft, fod gan Ynys Môn oddeutu hanner y gwerth ychwanegol gros y pen sydd i lawr yma yng Nghaerdydd. Rydym yn gweld bwrdd iechyd sy'n parhau i lusgo ar ei hôl hi, yn anffodus, yn enwedig mewn meysydd gwirioneddol bwysig fel amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Rydym yn gweld tanfuddsoddi, yn fy marn i, mewn trafnidiaeth. Enghraifft o hynny yw metro gogledd Cymru, y clustnodwyd £50 miliwn ar ei gyfer, o gymharu â de Cymru, lle mae £750 miliwn wedi’i glustnodi. Mae llawer o bobl y siaradaf â hwy yn y gogledd, Weinidog, yn teimlo bod bwlch rhwng yr hyn a fuddsoddir yn y de yn erbyn yr hyn a fuddsoddir a’r cyfleoedd yn y gogledd. Felly, Weinidog, pam y mae pobl yng ngogledd Cymru yn teimlo bod y bwlch hwnnw yno, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i newid hynny?
Felly, fel cynrychiolydd gogledd Cymru fy hun, rwy’n ei glywed hefyd. Nid wyf yn cydnabod rhai o'r rhaniadau y dywedir wrthyf sydd yno. Fodd bynnag, canfyddiad yw popeth mewn gwleidyddiaeth, ac yn sicr mae’r rhaniad canfyddedig hwnnw yn bod. Ond credaf y gallwch brofi lawer gwaith nad yw hynny'n wir. Weithiau, rwy'n meddwl bod hyn braidd fel afalau a gellyg. Nid ydych yn cymharu pethau tebyg. Yr hyn sy’n bwysig, os awn yn ôl at ran gyntaf eich cwestiwn, yw bod gogledd Cymru yn cael ei chyfran deg—fod ein holl etholaethau yn y gogledd yn cael eu cyfran deg. Rwy’n meddwl bod hynny’n wirioneddol bwysig. Rwy’n meddwl mai un maes yr ydym yn mynd i gael ein siomi yn ei gylch yw’r gronfa ffyniant gyffredin. Dylai’r cyllid hwnnw fod wedi dod i ni, er mwyn i ni benderfynu fel Llywodraeth sut y caiff ei rannu ledled Cymru. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cael ein cyfran deg. Fel Gweinidog gogledd Cymru, rwy’n sicrhau’n gyson fod trafodaethau’n mynd rhagddynt. Rwy'n meddwl, mewn perthynas ag ynni, er enghraifft—a gwn eich bod yn ymwybodol iawn o gynlluniau ynni Conwy—mae hwnnw'n faes lle y gallwn arwain y ffordd yn bendant, a byddwn yn gweld y bwlch yn agor y ffordd arall.
Weinidog, efallai eich bod wedi gweld fy erthygl i Fabians Cymru heddiw am ddyfodol economi gogledd Cymru, ac os nad ydych, rwy’n siŵr y byddwch yn ei darllen â diddordeb maes o law. Ond yn anffodus, daw’r erthygl ar adeg pan ydym unwaith eto wedi cael ein siomi gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Weinidog, a wnewch chi ddefnyddio eich rôl fel Gweinidog Gogledd Cymru i siarad â Gweinidogion Torïaidd y DU a’u hatgoffa bod gogledd Cymru yn bodoli, a phan fyddant yn ein hanwybyddu wrth rannu cyllid—fel y gronfa ffyniant gyffredin, fel y gronfa adfywio cymunedol—mae’n atgyfnerthu’r neges honno, onid yw, Weinidog, nad oes ots gan y Torïaid am ogledd Cymru?
Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â dadansoddiad Jack Sargeant o’r Torïaid a’r ffordd y gwelant ogledd Cymru. Nid wyf wedi cael cyfle i ddarllen eich erthygl, ond byddaf yn sicr o wneud. Ac af yn ôl at yr hyn yr oedd y Prif Weinidog yn ei ddweud ddoe a’r cwestiynau niferus a oedd ganddo ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin—mae Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei haddewid i roi arian yn lle'r cyllid hwnnw o'r UE yn llawn, gan ddidynnu derbyniadau presennol yr UE cyn dyrannu arian drwy’r gronfa ffyniant gyffredin. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU, hyd yn oed ar y cam hwyr iawn hwn, yn dechrau ymwneud llawer mwy â ni os ydynt am inni chwarae ein rhan yn eu helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cyfran deg, a byddaf yn sicr yn hapus iawn i wneud hynny.
7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith y rhyfel yn Wcráin ar y sector amaethyddiaeth yng ngorllewin a chanolbarth Cymru? OQ57931
Diolch. Rydym yn monitro'n agos effeithiau'r rhyfel yn Wcráin ar yr holl sectorau amaethyddol, yn enwedig cyfradd chwyddiant costau mewnbwn. Mae grŵp monitro marchnad amaethyddol y DU yn cyfarfod yn rheolaidd i asesu’r sefyllfa, a byddaf yn parhau i drafod gyda’n holl randdeiliaid wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Wel, fel rŷch chi'n gwybod, does dim dwywaith fod y cyfnod hwn yn gyfnod difrifol iawn ac anodd i ffermwyr, gyda phrisiau ynni, tanwydd a nwyddau ar gynnydd, a hyn ynghyd â'r toriadau i gyllideb y sector amaeth gan y Torïaid yn Llundain a hefyd y cytundebau masnach sy'n mynd i wneud niwed mawr iawn i'r sector yn ogystal. Ac mae'r golygfeydd trychinebus yn Wcráin yn rhoi pwysau pellach ar ein ffermwyr ni. Rŷn ni'n gyfarwydd â statws hanesyddol Wcráin fel basged fara Ewrop, gydag Wcráin a Rwsia yn gyfrifol am 30 y cant o wenith y byd a rhyw 30 y cant o india-corn Prydain—dau gynnyrch sy'n hanfodol, wrth gwrs, mewn bwyd anifeiliaid. Ac fel y clywon ni ddoe, mae pris gwrtaith—fertiliser—wedi codi rhyw bedair gwaith i ryw £1,000 y dunnell, ac mae goblygiadau hyn i gost cynhyrchu bwyd yn sylweddol iawn, a'r realiti yw y bydd pob owns o fwyd nad ŷm ni yn medru ei gynhyrchu yn y gwledydd hyn yn debygol o ddod allan o geg y bobl dlotaf yn y byd. Felly, Weinidog, wrth i ffermwyr wynebu'r anawsterau yma, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud ar effaith y rhyfel ar y sector amaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru?
Diolch. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedwch ynghylch y sefyllfa ddifrifol iawn mewn perthynas â’r rhyfel yn Wcráin, a heno rwy’n cyfarfod â fy nghymheiriaid o Lywodraeth y DU a’r Alban i drafod prisiau tanwydd yn arbennig, oherwydd gwyddom fod cynnydd sylweddol yn y costau mewnbwn hynny a wynebwyd gan ein cynhyrchwyr amaethyddol yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae hynny wedi’i waethygu gan y gwrthdaro yn Wcráin. Fe sonioch chi fod 30 y cant o wenith yn dod yma o Wcráin; mewn rhai o wledydd Affrica mae'n 100 y cant. A'r mater a godais gyda Llywodraeth y DU oedd ein bod yn wlad gyfrifol iawn yn fyd-eang yma yng Nghymru a dylem fod yn meddwl sut y gallwn helpu gwledydd sydd â 100 y cant o rai cynhwysion yn dod o Wcráin.
Rydym yn gweithio’n agos iawn i fonitro’r sefyllfa. Soniais am y grŵp sy’n gwneud hynny. Mae hwnnw’n grŵp technegol mewnol rhwng y pedair Llywodraeth sy’n ein cynghori fel Gweinidogion ar y materion hyn, ac rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â llawer o’n rhanddeiliaid, sy’n sicr yn dweud wrthyf fod prisiau’r nwyddau y cyfeiriwch atynt yn cael effaith ddifrifol. Ymwelais â fferm yn ystod wythnos gyntaf toriad y Pasg, ac roedd y ffermwr wedi prynu llwyth mawr o wrtaith—dwy neu dair wythnos cyn hynny rwy’n meddwl—a dywedodd, 'Ni wn a ddylwn ei werthu neu ei wasgaru,' am fod ei gost wedi codi cymaint. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn faes sy’n peri pryder ac sy’n mynd i gael effaith ymhellach ymlaen. Ond bydd y trafodaethau hynny'n parhau. Fel y dywedaf, mae gennyf gyfarfod heno, oherwydd rwy’n credu bod angen inni gadw llygad barcud ar y mater.
Weinidog, mae’r rhyfel yn Wcráin wedi tynnu sylw at ba mor fregus yw’r cadwyni cyflenwi byd-eang ledled y byd, ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod ac arweinydd yr wrthblaid ddoe, mae ffermwyr yn wynebu pwysau enfawr o ran costau cynyddol disel coch, prisiau gwrtaith, a phorthiant i fwydo eu hanifeiliaid. Weinidog, mae hon yn broblem enfawr. Gwaith cyntaf unrhyw Lywodraeth dda yw bwydo ei phoblogaeth. Felly, a wnewch chi fy sicrhau, Weinidog, mai cynhyrchiant bwyd fydd prif gymhelliad eich Bil amaethyddol a’r cymorth i ffermwyr yn y dyfodol, fel y gallwn oroesi’r holl ddigwyddiadau byd-eang sy'n effeithio arnom i sicrhau bod pobl Cymru'n cael eu bwydo? Diolch, Lywydd.
Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Samuel Kurtz fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn sicr yn rhan o’r cynllun ffermio cynaliadwy a’r Bil amaethyddiaeth. Rwy’n ymwybodol iawn o’r holl faterion yr ydych wedi’u codi a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd fel gwahanol Lywodraethau ledled y DU, oherwydd yn amlwg, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn gwbl allweddol ledled y DU. Felly, fel y dywedaf, mae gennyf gyfarfod yn ddiweddarach heno.
Nid yw Laura Anne Jones yma i ofyn ei chwestiwn 8.
Ni ofynnwyd cwestiwn 8 [OQ57918].
Felly cwestiwn 9, Rhun ap Iorwerth.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y diwydiant bwyd môr yn Ynys Môn? OQ57936
Diolch. Mae'r diwydiant bwyd môr yn sector pwysig yn Ynys Môn. Rydym yn cefnogi’r diwydiant mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cyflwyno deddfwriaeth rheoli pysgodfeydd, cefnogi presenoldeb mewn digwyddiadau rhyngwladol a hwyluso ceisiadau am gyllid.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn am gyfarfod efo hi ers tro i drafod yr angen am fuddsoddi yn y sector bwyd môr yn Ynys Môn. Dwi'n falch, ers i fi gyflwyno'r cwestiwn yma, fod amser wedi cael ei gytuno arno fo inni gyfarfod, a dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod y Gweinidog a'i swyddogion. Mae yna gyfleon lu, dwi yn gwbl glir ar hynny, i dyfu'r sector. Mae yna arbenigedd mawr mewn ffermio pysgod ar y tir yn Ynys Môn, er enghraifft trwy dechnoleg recirculatory aquaculture systems, ac mae yna botensial mawr i dyfu'r sector. Dwi eisiau trafod hynny. Dwi eisiau trafod cefnogi busnesau fel y gwerthwyr cimwch, The Lobster Pot, i gyrraedd marchnadoedd newydd, sut i godi'r diwydiant cregyn gleision yn ol ar ei draed, wrth gwrs, ar ôl cael ei chwalu gan Brexit. Ydy'r Gweinidog yn rhannu'r uchelgais yna sydd gen i i drio rhoi momentwm o'r newydd i'r sector yma yn Ynys Môn ac yng ngweddill Cymru, ac a all hi roi addewid i fi y gwnaiff hi ei wneud o'n fusnes iddi hi ei hun yn bersonol i drio gwthio am gynyddu'r momentwm yna?
Gallaf, yn sicr, ac edrychaf ymlaen at glywed eich syniadau yn ein cyfarfod. Nid wyf yn gwybod a ydych yn ymwybodol, ond mae digwyddiad Seafood Expo Global yn cael ei gynnal yn Barcelona ar hyn o bryd, a gwn fod cynrychiolaeth dda iawn yno gan fusnesau Ynys Môn. Yn Dubai Expo 2020, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, unwaith eto, credaf fod cynrychiolaeth dda— yn sicr, cynrychiolaeth dda o'r sector bwyd môr yma yng Nghymru. Credaf fod un busnes o Ynys Môn wedi'i gynrychioli yno. Felly, mae'n dda iawn ein bod yn parhau i gefnogi busnesau i allu allforio, er yr holl heriau sy'n bodoli, ond yn sicr, bydd cryn ddiddordeb gennyf fi a fy swyddogion mewn clywed unrhyw syniadau.
Yn olaf, cwestiwn 10, Vikki Howells.
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru? OQ57932
Diolch. Nodais fy mlaenoriaethau ar gyfer y sector bwyd a diod yn fy ngweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Y blaenoriaethau yw parhau i gefnogi diwydiant cryf a bywiog gyda gwell cynhyrchiant, darpariaeth gwaith teg, mabwysiadu achrediad diwydiant i raddau mwy a gwella cynaliadwyedd. Rwyf hefyd yn ceisio sicrhau rhwydweithiau cryf rhwng ac o fewn cadwyni cyflenwi, gan ychwanegu gwerth at gynhyrchiant sylfaenol, manwerthu a’r sector gwasanaethau.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac wrth gwrs, mae’r sector bwyd a diod yn hynod o bwysig i economi Cymru, gan gyfrannu £17.3 biliwn y flwyddyn mewn gwerthiant gros. Mae'n bwysig iawn, felly, fod ein polisi sgiliau yn cyd-fynd ag anghenion y sector fel y gall ffynnu a chynnal swyddi o ansawdd da. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod hyn yn digwydd?
Diolch. Rydych yn llygad eich lle: mae’n sector pwysig iawn, ac ochr yn ochr â’r gwerthiant gros y cyfeirioch chi ato, mae hefyd yn cyflogi 0.25 miliwn o bobl yma yng Nghymru. Rhaid imi ddweud bod fy nghydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn; maent yn ystyried y sector bwyd yn sector â blaenoriaeth. Mae gennym lawer o brosiectau wedi’u hariannu: mae gennym Sgiliau Bwyd Cymru, cyfrifon dysgu personol sydd wedi’u hariannu drwy ein colegau addysg bellach i uwchsgilio pobl ym mhob rhan o’r diwydiant, boed hynny’n rheoli busnes neu arweinyddiaeth neu drafodaethau masnach, technoleg bwyd, iechyd a diogelwch. Mae nifer fawr o astudiaethau achos ar wefan Sgiliau Bwyd Cymru, a hoffwn annog yr Aelodau i edrych arnynt. Hefyd, mae prentisiaethau, fel y gwyddoch, wedi bod yn destun adolygiad yma yng Nghymru, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i hyrwyddo cymaint o brentisiaethau â phosibl yn y sector bwyd. Hoffwn weld cynnydd yn nifer y prentisiaid sydd gennym yn y maes hwn.
Rwy'n credu hefyd fod angen inni wneud y sector ychydig yn fwy deniadol. Rwy'n credu ei fod yn aml yn cael ei weld fel sector ag oriau anghymdeithasol, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod gwir angen i fusnesau edrych ar y patrymau sifft a ddefnyddiant i annog mwy o bobl i fynd i mewn i’r sector.
Diolch i'r Gweinidog.
Cwestiynau amserol sydd nesaf. Dwi wedi cytuno i un cwestiwn, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Gareth Davies.
Diolch, Lywydd. A diolch am dderbyn y cwestiwn amserol pwysig hwn y prynhawn yma.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am eithrio staff ategol cartrefi gofal o daliadau bonws y gweithwyr cartrefi gofal a'r gweithwyr gofal cartref? TQ620

Diolch. Mae cynllun y taliadau ychwanegol yn cyd-fynd â chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Mae'n dangos ein hymrwymiad i wella telerau ac amodau a strwythurau gyrfa gweithwyr gofal cofrestredig ymhellach. Mae staff ategol yn cyflawni rolau gwerthfawr iawn, ond nid ydynt yn weithwyr gofal cofrestredig, ac felly nid yw'r cynllun hwn yn berthnasol iddynt.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rwy’n falch o weld bod y BBC yn adrodd heddiw eich bod yn gwrthod rhoi'r bonws o £1,000 ar gyfer gweithwyr gofal i holl staff cartrefi gofal, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio fel glanhawyr ac yn y ceginau. Nid ar ein gofalwyr rhagorol yn unig y mae gofal o'r safon uchaf yn dibynnu. Heb lu o rolau ategol, bydd gofal yn dioddef. Ac mae'n ymdrech tîm—tîm sydd wedi bod drwy uffern yn ystod y pandemig hwn, ac sydd wedi dioddef straen y pandemig a phrinder staff. Mae eich penderfyniad i beidio â rhoi'r bonws hwnnw i staff ceginau, glanhawyr a gofalwyr cartrefi gofal yn wahaniaethol, fel pe na baent hwythau wedi mynd y tu hwnt i'r galw yn ystod y pandemig. Onid oedd gweithdrefnau glanhau a hylendid llym i'w dilyn? Onid oedd angen bwydo trigolion? A wnaeth y staff ategol roi'r gorau i weithio a mynd adref? Naddo. Mae'r staff yn credu bod hyn yn annheg. Rwyf innau'n credu ei fod yn annheg, fel pob un ohonom ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, Ddirprwy Weinidog, gyda hynny mewn golwg, a wnewch chi gytuno yn awr i ailystyried a thalu’r bonws hwn i’r holl staff sy’n gweithio yn ein sector gofal?
Diolch. Diolch i Gareth Davies am ei gwestiwn, y cwestiwn atodol. Darparodd cynlluniau yn 2020 a 2021 daliadau o £500 a £735 i ystod ehangach o weithwyr yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys y gweithwyr gwerthfawr hynny y mae wedi’u crybwyll: y glanhawyr, y cogyddion, y garddwyr—pawb yn y system ofal. Roedd y taliadau hyn yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad eithriadol staff yn ystod cyfnodau gwaethaf y pandemig COVID-19, ac mae'n gwbl briodol fod staff ategol y cartrefi gofal wedi derbyn y ddau daliad hyn. Ac roedd hynny i gydnabod y perygl yr oeddent ynddo a'u bod wedi mynd y tu hwnt i'r galw, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi'r taliadau hynny iddynt.
Mae hwn yn hollol wahanol, y taliad ychwanegol newydd hwn. Mae'n cyd-fynd yn benodol, fel y dywedais, â chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol o'r mis hwn—mae'r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyflwyno y mis hwn—ac mae'n dangos ein hymrwymiad i wneud gwelliannau pellach i delerau ac amodau swyddi gofal cymdeithasol proffesiynol ac i ddatblygu strwythur gyrfa gwell, ac rydym yn parhau i weithio gyda fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i'r perwyl hwn. Gwyddom fod staff cegin, glanhawyr, cydlynwyr gweithgareddau, staff derbynfa, yn gwneud gwaith hynod werthfawr, ac maent yn sicrhau darpariaeth gofal o’r ansawdd uchaf. Ond nid oes angen iddynt ddarparu gofal personol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym yn ceisio datblygu gofal cymdeithasol fel proffesiwn, ac mae hyn yn gysylltiedig â'r cofrestriad hwnnw.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddod yma a rhoi'r ateb. Ond y gwir ydy bod yna sawl person wedi cysylltu efo fi ac eraill yma dros yr wythnosau diwethaf yn cwyno ac yn pryderu'n arw eu bod nhw wedi cael eu heithrio o'r bonws yma. Yn wir, maen nhw'n dweud bellach bod yna ddwy haen yn y gweithlu yn y cartrefi gofal a'u bod nhw, fel gweithwyr atodol, yn teimlo'n eilradd. Y gwir ydy bod yna—. Ar gyfer darparu gwasanaethau gofal effeithiol, mae hyn yn ganlyniad i ymdrech tîm cyfan, fel rydyn ni wedi'i glywed, o'r rheolwyr i'r darparwyr gofal, i'r gweithwyr gofal, i'r glanhawyr, i'r cogyddion ac i bawb arall sy'n rhan o'r broses yna o sicrhau bod ein hanwyliaid yn cael eu gofalu amdanyn nhw. Felly, mae'n gwbl anghywir bod y Llywodraeth yma wedi gwahaniaethu rhwng y gweithlu ac yn dangos diffyg gwerthfawrogiad a diffyg parch i'r criw yma sydd hefyd yn gweithio'n galed. Dwi'n deall eich dadl chi mai'ch bwriad chi ydy trio sicrhau bod y gweithwyr gofal yna'n cael eu cydnabod a'i fod yn dod yn waith cydnabyddedig fel bo pobl eisiau mynd i mewn i'r sector, a'ch bod chi eisiau cynyddu'r lefel gyflog, ond mae hynna hefyd yn wir am y gweithlu atodol. Maen nhw'n haeddu gwell cyflog, mae hwythau'n haeddu gwell amgylchiadau gwaith. Felly, gaf i alw arnoch chi eto, os gwelwch yn dda, i ailystyried hyn a sicrhau bod pob un sydd yn y sector yna yn derbyn y taliad bonws yma er mwyn dangos bod pawb yn cael eu gwerthfawrogi?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am eich cyfraniad. Hoffwn roi sicrwydd llwyr i chi nad oes diffyg parch at yr holl weithwyr ategol hynny yn y cartrefi gofal; rydym yn parchu'r hyn a wnânt yn llwyr ac rydym wedi cydnabod hynny drwy'r ddau daliad blaenorol a wnaed gennym. Ond fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn blaenorol, mae hyn wedi'i anelu'n benodol at weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig, ac nid yw'r grwpiau hynny o weithwyr yn perthyn i'r categori hwnnw. Rydym yn ceisio datblygu gofal cymdeithasol fel proffesiwn; rydym am i ofal cymdeithasol gael ei gydnabod mewn ffordd sy’n cydnabod y gwaith hynod bwysig a wnânt. Ac wrth gwrs, mae'r gweithwyr ategol eraill yn gwneud gwaith hynod bwysig, ond nid oes gofyn iddynt fod yn weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig. Felly, mae hyn wedi'i anelu'n benodol atynt hwy. Ac rwy'n falch fod yr Aelod yn deall rhesymeg yr hyn y ceisiwn ei ddweud, ond byddai'n gas gennyf i unrhyw un feddwl nad ydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr a wnaed gan yr holl weithwyr ategol eraill.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Eitem 4 sydd nesaf—datganiadau 90 eiliad. Yr wythnos hon, dim ond un datganiad sydd gennym, a galwaf ar Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ryngwladol Pontio'r Cenedlaethau, cyfle i ddathlu’r cysylltiadau sydd gennym gyda phobl o bob oed yn ein bywydau bob dydd. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi creu heriau difrifol i bobl iau a phobl hŷn, felly mae'n briodol fod thema ymgyrch ryngwladol eleni'n canolbwyntio ar ailgysylltu, ymladd unigrwydd ac ynysigrwydd, dathlu mannau sy'n pontio'r cenedlaethau, ac wrth gwrs, undod.
I nodi’r wythnos bwysig hon, mae’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth genedlaethol, ac mae’n gwneud hynny ochr yn ochr â grŵp trawsbleidiol y Senedd ar undod rhwng cenedlaethau y mae’n bleser gennyf ei gadeirio. Mae’r gystadleuaeth yn gwahodd ceisiadau sy’n dathlu cysylltiad ar draws y cenedlaethau. Dylai fod yn ddathliad gweledol o ddod o hyd i enaid hoff cytûn, boed yn bump neu'n naw deg pump oed. Byddwn yn annog unrhyw un o unrhyw oedran sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i ymweld â gwefan y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia. Felly, a hithau'n Wythnos Ryngwladol Pontio'r Cenedlaethau, rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom gadw mewn cof sut y mae meithrin cysylltiadau, herio rhagfarn ar sail oed a dathlu undod rhwng gwahanol grwpiau oedran yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau, ond yn bwysicaf oll, efallai, Ddirprwy Lywydd, mae'n ffordd o ddod â llawenydd i fywydau miliynau o bobl. Felly, hoffwn ddymuno Wythnos Ryngwladol Pontio'r Cenedlaethau hapus iawn i bob un ohonoch.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Symudwn ymlaen i eitem 4—na, eitem 5, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7990 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.
2. Yn gresynu at effaith ddinistriol cyfyngiadau COVID ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
3. Yn credu y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r system ardrethu annomestig yn tanseilio llawer o fusnesau llety gwyliau.
4. Yn nodi data Cynghrair Twristiaeth Cymru sy'n dangos na fydd mwyafrif helaeth o fusnesau'n gallu bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys fel busnes llety gwyliau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) roi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru;
b) cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebion i'w hymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau;
c) rhoi'r gorau i gynlluniau i ymestyn nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn bodloni'r gofyniad ardrethu annomestig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Agoraf yn ffurfiol y ddadl hon heddiw ar dwristiaeth yng Nghymru, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Boed yn Borthcawl, Prestatyn, y Barri, Llandudno neu Ddinbych-y-pysgod, y Ceidwadwyr Cymreig yw’r blaid sy'n cynrychioli cymunedau twristiaeth yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i ddarpar dwristiaid nid yn unig o’r DU, ond o bob rhan o’r byd. A gwn y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon a'r rhai sy'n ymuno'n rhithwir yn awyddus iawn i sôn am gyrchfannau twristiaeth yn eu hardaloedd lleol yn y ddadl hon, felly roeddwn yn meddwl y byddwn yn achub ar y cyfle i sôn am rai yn fy ardal innau. Yn fy rhanbarth i yn unig, Gorllewin De Cymru, gallaf frolio ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf y DU, sef penrhyn Gŵyr; mynachlog Nedd, a ddisgrifiwyd fel y fynachlog harddaf yng Nghymru; a Phorthcawl, cartref yr ŵyl Elvis flynyddol. Wrth ichi ddawnsio ar draws Gorllewin De Cymru, ni allwch lai na disgyn mewn cariad â'r lle, ond ni fyddwn yn argymell aros yn yr heartbreak hotel. [Chwerthin.]
Gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig yw’r diwydiant twristiaeth i Gymru. Yn 2019, roedd 154,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, ac yn ôl Cynghrair Twristiaeth Cymru, cyn COVID, roedd un o bob saith swydd yng Nghymru ym maes twristiaeth, neu’n ddibynnol ar dwristiaeth. Ond mae'r diwydiant twristiaeth wedi cael amser caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn aml iawn, y busnesau a oedd yn gweithredu yn y sector hwn oedd y cyntaf i gau a’r olaf i ailagor, gyda llu o gyfyngiadau eraill yn y cyfamser. A gwn fod llawer o fusnesau twristiaeth yn ddiolchgar am rai pecynnau cymorth gan Lywodraeth Cymru, ond yn benodol, cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU a gadwodd lawer ohonynt i fynd, sy'n golygu bod gennym sector twristiaeth mor fywiog o hyd yng Nghymru heddiw. Ond y rheswm pam y cyflwynasom y ddadl hon yw nad yw nifer o'r rhai sy’n gweithredu yn y sector twristiaeth yn rhannu’r un optimistiaeth am y dyfodol. Yn benodol, maent yn poeni am effaith ddeublyg y beichiau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gosod arnynt.
Yn gyntaf, hoffwn sôn am y cynigion gan Lywodraeth Cymru i newid y trothwy defnydd ar gyfer llety hunanddarpar o 70 diwrnod o ddefnydd y flwyddyn i'r ffigur enfawr o 182 diwrnod. Ac er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithredu ar ail gartrefi, mae'n erfyn di-awch a fydd yn ergyd angheuol i'r sector twristiaeth yn y pen draw. A'r rheswm allweddol am hynny yw am fod Llywodraeth Cymru naill ai wedi methu neu'n anfodlon gwahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar. Golyga hyn na fydd llawer o bobl normal ledled Cymru sy’n gosod fflatiau, tai a bythynnod i ymwelwyr yn gallu cyrraedd y trothwy newydd a byddant yn cael eu prisio allan yn llwyr o allu fforddio cynnig llety i ymwelwyr o bob rhan o Gymru a gweddill y byd. Ac nid dadl wleidyddol yw honno; mae'n rhywbeth a fydd yn effeithio ar weithredwyr twristiaeth go iawn yma yng Nghymru.
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi cynnal arolwg defnyddiol o rai o’u haelodau, a dyma rai o’r pethau a oedd ganddynt i’w dweud. Dywedodd un, 'Dros yr 20 mlynedd diwethaf, nid wyf erioed wedi gallu gosod y llety am 182 diwrnod y flwyddyn, ac ni fydd hynny'n newid ym mis Ebrill 2023.' Dywedodd un busnes gosod llety gwyliau yn sir Benfro, 'Rwyf o ddifrif yn ystyried gwerthu fy eiddo. Ni fydd hyn yn rhyddhau cartref parhaol i rywun lleol, ond o bosibl, bydd yn tynnu llety gwyliau fforddiadwy oddi ar y farchnad, ac felly'n lleihau incwm twristiaeth i'r economi leol.' Un arall—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Wrth gwrs.
Y pwynt yma, fodd bynnag, yw na allant hyd yn oed roi eu heiddo ar y farchnad dai gan nad yw’r caniatâd cynllunio a roddwyd yn caniatáu hynny. Felly, dyma'r broblem yma, lle y ceir anghysondeb llwyr y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Na, rydych yn llygad eich lle, a chredaf fod fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi codi hynny gyda'r Gweinidog yn gynharach, ac mae'n bwynt pwysig iawn ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cynnig hwnnw hefyd, gan y bydd llawer yn gweld eu hunain yn cael eu cau allan o hynny.
Wel, dywedodd gweithredwr arall yng Ngheredigion, 'Byddai effaith y rheol 182 ar fy musnes yn golygu y byddwn yn annhebygol o gyrraedd y trothwy hwn, gan imi gyrraedd 22 wythnos yn 2021, a oedd yn flwyddyn dda, a chyda 18 wythnos wedi'u harchebu hyd yn hyn eleni, rwy'n rhagweld ychydig o wythnosau'n rhagor efallai, ond mae 26 wythnos yn annhebygol.' Ar benrhyn Llŷn: 'Mae'r adeilad ar gael am 365 diwrnod y flwyddyn, ond ychydig iawn o bobl sy'n dymuno dod yn y gaeaf, er bod gennym system wresogi o dan y llawr a llosgyddion coed. Rwy'n ystyried bod 2021 wedi bod yn flwyddyn dda iawn, ac yn y flwyddyn dda iawn honno, llwyddais i gyrraedd 163 diwrnod.'
Dywedodd rhywun yn y Bala, Gwynedd, 'Nid ydym erioed wedi cyrraedd y lefel hon o ddefnydd yn ein pum mlynedd o fasnachu, gyda'r flwyddyn orau yn 152 noson y bwthyn ar gyfartaledd. Mae'r tymor yn fyr yma ac mae'n anodd iawn cael archebion ar gyfer misoedd y gaeaf. Byddai effaith methiant a diwedd ein busnes, a busnesau eraill fel ein busnes ni, yn cael ei theimlo ar draws ein cymuned wledig. Rydym yn cyflogi llawer o grefftwyr lleol i wneud gwaith cynnal a chadw—trydanwyr, plymwyr, addurnwyr, garddwyr. Rydym yn gwario arian mawr yn lleol bob blwyddyn ar nwyddau glanhau, darnau sbâr a chynnyrch ar gyfer ein basgedi croeso.' Ac mae'r straeon hyn yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.
Ac ychydig cyn toriad y Pasg, bûm yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, a gadeirir gan fy nghyd-Aelod Sam Rowlands ac roedd y neges i Lywodraeth Cymru yno’n glir hefyd: mae hwn yn gynllun gwirion a fydd yn cosbi busnesau twristiaeth, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau Plaid Cymru yn gwrando ar rai o’r straeon hynny hefyd. Ceredigion, penrhyn Llŷn, Y Bala, mae pob un o’r rhannau hynny o’r wlad yn cael eu cynrychioli gan Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd. Bydd pobl yn y diwydiannau hynny yn sylwi ar rôl Plaid Cymru yn hynny o beth hefyd.
Ond nid yw'r sector yn bod yn afresymol wrth ddweud nad ydynt am weld unrhyw newid. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn awgrymu codi’r trothwy defnydd o 70 diwrnod i 105 diwrnod, yn unol â throthwy Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rhwng y dreth gyngor ac ardrethi busnes. Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o 50 y cant ac fe’i hawgrymwyd gan aelodau o sector proffesiynol sy’n deall tueddiadau archebu, marchnata ac ymddygiad cwsmeriaid. Mae’r sector yn fodlon cyfaddawdu â’r Llywodraeth yma, ond nid yw'r Llywodraeth yn fodlon gwrando.
Y bygythiad mawr arall ar y gorwel gan Lywodraeth Cymru yw’r cynnig i gyflwyno treth dwristiaeth. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn benthyg ei syniadau polisi asgell chwith eithafol o dudalennau canol y Morning Star, ond mae hyn gam yn rhy bell. Mae’r cynnig hwn yn gwbl anflaengar a bydd yn rhwystro’r union fusnesau y dylem eu cefnogi rhag dod allan yr ochr arall wedi'r ychydig flynyddoedd diwethaf.
Fel fy nghyd-Aelodau, nodais wrthwynebiad ein plaid i’r dreth hon ar sawl achlysur yn y Siambr hon ac rydym bob amser yn cael yr un hen ymateb treuliedig gan Lywodraeth Cymru fod gwledydd eraill ledled y byd wedi rhoi’r dreth hon ar waith, heb ystyried unrhyw ffactorau penodol Gymreig o gwbl. Felly, maent yn dweud na fyddai cyflwyno treth dwristiaeth yn cael unrhyw effaith o gwbl ar nifer yr ymwelwyr â rhai o’n lleoliadau twristiaeth allweddol yng Nghymru. Ond roeddwn yn credu efallai y byddai'r Gweinidogion yn awyddus i glywed y diweddaraf o Fenis, un o brif gyrchfannau twristiaeth y byd, sydd bellach wedi dweud eu bod yn cyflwyno treth dwristiaeth i atal mwy o ymwelwyr rhag mynd yno. Do, fe glywsoch hynny'n iawn; ymddengys bod trethi ychwanegol i ymwelwyr yn golygu bod llai o bobl yn dymuno ymweld. Gwyddom hefyd, o holi’r Prif Weinidog a’r Gweinidog cyllid, nad oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd treth o’r fath yn arwain at wario unrhyw arian ychwanegol ar wella'r cynigion twristiaeth yn yr ardaloedd hyn. Ni all neu ni fydd y Llywodraeth yn gallu atal cynghorau rhag dileu cyllidebau twristiaeth presennol a chyflwyno'r dreth hon yn eu lle.
Felly, beth a wyddom mewn gwirionedd am ddau gynnig y Llywodraeth? Byddant yn arwain at lai o lefydd i aros, busnesau bach yn mynd i'r wal, llai o ymwelwyr yn gyffredinol a dim mwy o arian yn cael ei wario ar dwristiaeth. Rwy'n synnu na wnaethant roi hynny ar dudalen flaen y maniffesto. Ond mae amser o hyd gan Lywodraeth Cymru i newid eu trywydd. Mae busnesau’n fodlon gweithio gyda chi a chyfaddawdu, ond mae angen Llywodraeth arnynt sydd ar ochr y sector twristiaeth. Yr hyn nad ydynt ei angen yw Llywodraeth sy'n chwilio am ffordd anuniongyrchol o godi mwy o drethi i dalu am fwy o wleidyddion yn y lle hwn. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID.
2. Yn cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: 'Twristiaeth sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr'.
3. Yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
4. Yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud hynny.
5. Yn nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd.
6. Yn croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
7. Yn croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael eu dadansoddi.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.
Credaf y gall pob un ohonom gytuno bod yna fater y mae angen mynd i’r afael ag ef mewn perthynas â thwristiaeth, sef ei heffaith ar gymunedau lleol. Mae pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru yn ddiamau, ond mae'n rhaid inni osgoi’r math o dwristiaeth echdynnol sy’n defnyddio Cymru fel adnodd. Mae pob un ohonom yn rhannu’r uchelgais o weld Cymru’n gyrchfan twristiaeth gynaliadwy o’r safon uchaf, ond mae'n rhaid i’r datblygiad ddigwydd gyda’r cymunedau y mae’n effeithio fwyaf arnynt, yn hytrach nag iddynt.
Y gair allweddol yma i mi yw 'cynaliadwy'. Mae iteriad presennol y sector yn rhoi straen ar ein hadnoddau naturiol, ein tirweddau a’n seilwaith a’n gwasanaethau lleol. Yn 2021, bu cynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon, sbwriel a gwastraff dynol ar lwybrau ac mewn meysydd parcio yn awdurdodau parciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog a Phenfro. Os na chaiff twristiaeth ei rheoli’n gywir, bydd yn achosi erydiad i’n llwybrau, byddwn yn gweld mwy o sbwriel a llygredd yn ein tirweddau.
Gan droi at y cynnig, yn gyntaf, ar gynyddu ardrethi annomestig a’r trothwy defnydd, mewn cymaint o gymunedau yng Nghymru, mae prynu cartrefi preswyl i’w defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau ar osod drwy wasanaethau fel Airbnb yn prisio pobl leol allan o’u cymunedau eu hunain ac yn tanseilio'r Gymraeg. Down yn ôl at y gair allweddol hwnnw, 'cynaliadwy'. I mi, er mwyn i Gymru fod yn gyrchfan twristiaeth o safon fyd-eang, bydd diwylliant ein hardaloedd lleol yn allweddol er mwyn cyflawni hynny, felly mae prisio ein pobl leol allan, yn fy marn i, yn wrthgynhyrchiol. Gadewch inni fod yn blwmp ac yn blaen yma: mewn rhai o’n cymunedau gwledig, rydym yn gweld boneddigeiddio'n digwydd. Nid oes dwywaith am hynny.
Ar y cynnydd mewn defnydd, nid yw'r penderfyniad wedi'i wneud eto i godi'r trothwy defnydd. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben, ond nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, ac fel y nododd Tom Giffard, yn gwbl briodol, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU wedi cydnabod y dylid ei gynyddu. Mae un o’u hargymhellion eu hunain yn eu hymateb i’r ymgynghoriad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r trothwy o 70 diwrnod i 105 diwrnod. Nid ydym wedi cyrraedd pen y daith eto, ond mae'n rhaid inni fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyfraith yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn tynnu sylw ato ers peth amser.
Ar yr ardoll dwristiaeth, nid yw hwn yn syniad newydd, fel y nododd Tom Giffard yn gywir unwaith eto. Mae gwledydd ledled y byd yn defnyddio ardoll dwristiaeth, er enghraifft, Awstria, Gwlad Belg, Bhutan, Bwlgaria, ynysoedd y Caribï, Croatia, y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Indonesia, yr Eidal, Japan, Malaysia, Seland Newydd, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Slofenia, Sbaen, y Swistir a'r Unol Daleithiau. Gallwn fynd ymlaen—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ond y pwynt yw hwn: y DU yw'r eithriad yma. Ie, ewch amdani.
Diolch am dynnu sylw at y rhestr o wledydd a nodoch chi sydd wedi cyflwyno treth dwristiaeth. Tybed beth yw eich barn ar Fenis, sydd wedi cyflwyno treth dwristiaeth newydd i atal pobl rhag dod i Fenis, gan y gwyddant y bydd hynny'n annog ymwelwyr newydd i beidio ag ymweld.
Diolch am eich ymyriad, Tom, ac unwaith eto, rydych yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod Fenis yn ei defnyddio i anghymell twristiaeth, ond dyna bwynt treth: mae'n ysgogiad i annog pobl naill ai i wneud rhywbeth a fydd yn gadarnhaol i'r gymuned neu i atal gweithgarwch negyddol. Dyna'r pwynt ynglŷn â threth, onid e? Gŵyr pob un ohonom mai dyna bwynt treth.
Ac os ydym am ddefnyddio enghreifftiau, gadewch inni ddefnyddio enghraifft Barcelona. Ni chredaf, mewn gwirionedd, fod llawer o bobl yn gwadu bod Barcelona gyda'r gorau yn y byd pan ddaw'n fater o ddatblygu polisi twristiaeth. Mae’r refeniw a godir drwy eu hardoll dwristiaeth yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned, gan wella'r profiad i dwristiaid yn rhinwedd y buddsoddiad hwnnw. Ers cyflwyno'r dreth hon, mae nifer y gwesteion mewn gwestai sydd wedi'u cofrestru yn Barcelona wedi bod yn cynyddu'n gyson.
Felly, mae’r ddadl hon y byddai ardoll yn drychineb i Gymru er ei bod yn gweithio mewn mannau eraill yn fy arwain i gredu nad yw pobl yn meddwl y gall Cymru gystadlu â’r cyrchfannau hyn, ein bod islaw'r safon rywsut. Nid mecanwaith i gosbi ydyw, ond yn hytrach, mae'n seiliedig ar y syniad o gynaliadwyedd a pharch rhwng yr ardal a'r ymwelydd. Credaf ei bod yn anodd dadlau yn erbyn codi tâl bychan ar ymwelwyr a fydd yn caniatáu i gymunedau lleol ffynnu a chael eu gwarchod, ac yn caniatáu i dwristiaid barhau i fwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig am flynyddoedd i ddod.
A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yma, Ddirprwy Lywydd, yw nad oes ymgynghoriad wedi'i gynnal eto ar ardoll dwristiaeth, a bydd cyflwyno unrhyw ardoll yn benderfyniad i'r Senedd ei hun. Yn fy marn i, nid yw gwrthwynebiad y Torïaid i’r ardoll yn ddim mwy nag ymgais i dynnu sylw oddi ar fethiannau’r Canghellor ei hun i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch. Nid fi'n unig sy'n dweud hynny; mae busnesau yn y sector yn dweud hynny hefyd. Gadewch inni edrych ar TAW: fe'i gostyngwyd i 12.5 y cant yn ystod y pandemig ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth—a chafodd hynny ei groesawu'n fawr. Bellach, mae wedi saethu i fyny i 20 y cant. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a gwahardd y sector rhag defnyddio diesel coch, a ddefnyddir gan lawer mewn ardaloedd gwledig. Os ydych am helpu'r sector, yna lobïwch eich Canghellor ar y materion hyn gan mai dyna sy'n peri'r loes fwyaf i'r sector ar hyn o bryd. Dyna’r bygythiad mwyaf i’r sector yn awr, nid ardoll dwristiaeth.
Mae’r sector twristiaeth yng Nghymru yn bwysig iawn i economi Cymru ac i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma yng Nghymru. Mae twristiaeth yn chwarae rhan enfawr yn fy etholaeth i, Brycheiniog a Sir Faesyfed, o Ystradgynlais i Lanbadarn Fynydd, tref lyfrau’r Gelli Gandryll, gŵyl y Dyn Gwyrdd. Gallwn barhau, gan mai Brycheiniog a Sir Faesyfed yw canolbwynt twristiaeth Cymru.
Mae gormod o bobl yn y lle hwn yn credu bod ein sector twristiaeth yn ffynhonnell ddiddiwedd o arian. Mae gennyf farn lawer mwy cadarnhaol. Ydy, mae ein gwlad yn wynebu anawsterau, ond nid trethu ein sector twristiaeth yw’r ateb. Mae’n bosibl y bydd cynghorau ledled Cymru yn gweithredu cynnydd o hyd at 300 y cant mewn trethi ar lety gwyliau dilys. Bydd hyn yn cael effaith aruthrol ar yr economi leol ac ar ein perchnogion busnes yma yng Nghymru.
Gallaf weld pam fod y Llywodraeth am fynd i’r afael â pherchnogaeth ail gartrefi, ac rwy'n cydymdeimlo â’ch amcanion. A yw’n iawn fod rhywun 500 milltir i ffwrdd yn gallu prynu tŷ yng nghefn gwlad sir Faesyfed a’i ddefnyddio fel llety gwyliau am rai wythnosau o’r flwyddyn i osgoi talu trethi, gan yrru pobl leol o’r ardal a chodi prisiau tai? Rwy'n amau y byddai llawer yn dweud bod hyn yn dderbyniol. Drwy drethu busnesau twristiaeth dilys, gyda rhai ohonynt yn wynebu cyfyngiadau cynllunio ar ddefnydd, byddant yn cael eu cosbi a’u gorfodi i roi'r gorau iddi. Bydd y polisi treth, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad y tu ôl iddo, yn arwain at ganlyniadau anfwriadol i'n cymuned fusnes. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw mynd i’r afael â’r nifer fawr o gartrefi gwag a thai gwag neu’r diffyg adeiladu tai. Dylai’r cartrefi hyn gael eu blaenoriaethu ar gyfer pobl leol er mwyn helpu i ddatrys yr argyfwng tai. Ond beth a welwn gan y Llywodraeth Lafur sosialaidd hon? Dim cynllun, dim ond cynllun treth.
Mae’r polisi hwn, yn ogystal â threth dwristiaeth sy’n cael ei chynllunio gan y sosialwyr o fy mlaen, yn ffordd sicr o wneud llanast ohoni: effaith ddeublyg treth ar fusnesau a phobl sy’n darparu gwasanaeth hanfodol ac yn rhoi profiad gwych i bobl sy’n ymweld â Chymru. Gwn y bydd llawer ar draws y llawr a fy nghyd-Aelodau newydd ar y dde yn dweud bod angen treth dwristiaeth arnom. Maent yn ein cymharu ag Ewrop ac yn dweud bod gan ddinasoedd fel Amsterdam a Budapest dreth dwristiaeth. Felly, pam nad oes gennym un yma yng Nghymru? Clywn y Prif Weinidog yn dweud yn eithaf rheolaidd, 'Yng Nghymru, fe'i gwnawn yn ein ffordd ein hunain.' Felly, pam fod yn rhaid inni ddilyn pawb arall? Gallwn wneud pethau'n wahanol. Gadewch inni beidio â chael treth dwristiaeth. Gadewch inni gael sgwrs go iawn am y sefyllfa.
Yn syml, nid oes gennym yr un niferoedd o bobl yn ymweld â nifer helaeth o'n cyrchfannau yng Nghymru o gymharu â llawer o leoliadau Ewropeaidd. Dylem fod yn annog twristiaeth ac yn hyrwyddo Cymru fel lle y mae pobl yn dymuno dod i ymweld ag ef, i dyfu ein heconomi, gan ddarparu swyddi a chyfleoedd i bawb. Mae treth dwristiaeth yn peryglu ein heconomi. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi swyddi mewn perygl ar adeg pan fo angen swyddi ar bobl yn fwy nag erioed. Mae angen Llywodraeth gefnogol ar bobl Cymru a phobl Brycheiniog a Sir Faesyfed, Llywodraeth sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng tai ac yn cefnogi ein busnesau, nid un sy'n defnyddio ymwelwyr a gweithwyr fel bwch dihangol i wneud iawn am fethiannau’r Llywodraeth hon. Mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi ein cymuned fusnes, mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi twristiaeth, a byddwn yn gwrthwynebu unrhyw reoliadau gwarthus a gyflwynir gan y glymblaid anhrefnus hon rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Ni yw plaid busnes, a dyna pam fy mod yn annog pawb yn y Siambr i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon a'r cyfle i wyntyllu'r cynnig, felly gobeithio y bydd y wybodaeth gywir yn hysbys, wrth symud ymlaen, am yr hyn sy'n cael ei gynnig a pha gam y mae arno. Mae rhai penawdau wedi bachu sylw yn y wasg, ac mae'n cael ei ddefnyddio fel pêl droed wleidyddol. Un pennawd sy'n cael ei rannu yw bod Llywodraeth Cymru yn cynnig y byddai'n rhaid i dwristiaid dalu £15 y noson i aros yng Nghymru. Roedd un arall, y rhannodd fy mam, sy'n byw dros y ffin, yn bryderus â mi, yn dweud y gallai fod yn rhaid i drigolion swydd Gaer dalu i ymweld â Chymru mewn cynllun treth newydd, fel pe bai toll ar y ffin wrth i chi ddod i mewn i Gymru. Felly, roedd yn rhaid i mi dawelu ei meddwl hithau hefyd.
Wrth fynd i ymgynghoriad, mae angen i bobl gael yr wybodaeth gywir. Rwyf wedi ceisio sicrhau pobl y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn yr hydref, nad oes ffi wedi'i phennu, a mater i awdurdodau lleol unigol fydd codi ardoll dwristiaeth os ydynt yn dewis gwneud hynny. Os bydd ardoll, dylai fod yn swm rhesymol. Mae llawer o wledydd yn codi ardoll dwristiaeth o €2, nid £15 y noson. Byddai'n codi refeniw mawr ei angen i awdurdodau lleol i alluogi cynghorau a pharciau cenedlaethol i reoli a buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, megis cadw traethau a phalmentydd yn lân, cynnal parciau, toiledau a llwybrau cerdded lleol—y seilwaith hanfodol sy'n cynnal twristiaeth. Dylai gael ei gefnogi gan bawb sy'n dibynnu arno.
Pe na bai Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gwneud toriadau i wasanaethau cyhoeddus, a arweiniodd at gau neu drosglwyddo gofal am doiledau cyhoeddus, mannau chwarae, llyfrgelloedd a chyfleusterau eraill yn ystod cyni, gwasanaethau glanhau strydoedd dan bwysau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr, gymydog newydd.
Oni chytunwch â mi mai'r rheswm pam y bu'n rhaid i'r Llywodraeth Geidwadol gymryd camau doeth i adfer trefn ar gyllid cyhoeddus yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Lafur ar y pryd wedi gadael y wlad hon mewn cyflwr ariannol gwael? Fel y dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, nid oedd arian ar ôl.
A dweud y gwir, nac ydw. Yr argyfwng bancio ar y pryd ydoedd a'r ffordd y cafodd yr arian ei drin ar draws y byd, a dyna sut yr ymdriniwyd ag ef. Aeth cyni ymlaen yn rhy hir o lawer. Nid ydym yn trafod cyni ar hyn o bryd, ond roeddwn eisiau ei grybwyll oherwydd ei fod yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gennyf greithiau o hyd ar ôl 14 mlynedd o fod yn gynghorydd, 10 mlynedd o doriadau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan fod yn rhaid ailstrwythuro cynghorau. Aethom o chwe depo i lawr i un depo yng nghyngor sir y Fflint lle'r oeddwn yn aelod cabinet, a gwelwn yn awr sut y mae swyddi wedi cael eu dileu dros y blynyddoedd. Mae gennym swyddi gwag na allwn eu llenwi yn awr, ac mae gwasanaethau dan bwysau. Dyma'r meysydd gwasanaeth y soniais amdanynt, megis glanhau strydoedd, swyddogion llwybrau cerdded, a thoiledau hefyd. Dros y blynyddoedd, maent wedi cael eu trosglwyddo i ofal cynghorau tref a chymuned neu wedi cau, yn y bôn. Ond pe bai gennym arian, gallem fod wedi'u cadw ar agor. Rhywbeth arall y mae'n rhaid imi ei egluro'n eithaf aml yw'r ffaith bod y dreth gyngor yn talu am ddarparu 25 y cant i 30 y cant o'r gwasanaethau hyn. Yn aml iawn, mae pobl yn dweud, 'Ar beth y mae fy nhreth gyngor yn cael ei wario? Beth y mae fy nhreth gyngor yn talu amdano?' Daw'r gweddill gan y Llywodraeth a daw cyfran fach o daliadau incwm. Diolch.
Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy natganiadau o fuddiant.
Ers blynyddoedd, mae Llafur Cymru wedi tanbrisio a thanwerthu twristiaeth yma yng Nghymru. A hithau'n genedl chwaraeon fawr, gyda pharciau cenedlaethol gwych, arfordiroedd ysblennydd, bariau a bwytai prysur yn ein trefi a'n dinasoedd, mae Cymru'n rhan unigryw o'r Deyrnas Unedig. Ond bydd cyfarwyddyd polisi gwael gan Blaid Lafur Cymru yn parhau i fygwth cymunedau yng Nghymru, ac os na chânt eu cefnogi, gallai pobl Cymru wynebu'r adferiad mwyaf araf yn yr ynysoedd hyn o'r pandemig COVID-19. Os yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos unrhyw beth, mae wedi dangos bod y diwydiant twristiaeth a'r bobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn yn gryf, a'u bod hwy eu hunain wedi ymrwymo i adeiladu Cymru fwy a gwell. Mae'n rhaid dweud bod hynny'n fwy nag y gellir ei ddweud am y Llywodraeth Lafur gysglyd a diflas hon ym Mae Caerdydd.
Mae'r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau wedi bod yn brolio am eu hymrwymiad i ailadeiladu'r sector twristiaeth yn ddiweddar. Fodd bynnag, fel bob amser, mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, a'r hyn a welwn yw strategaeth erydol. Pe bai Llywodraeth Cymru yn mynegi unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi ein sector twristiaeth, byddent yn rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru. Byddent yn cydnabod mwyafrif yr ymatebion i'w ymgynghoriad—oes, mae ymgynghoriad wedi bod eisoes—ar dreth dwristiaeth, yn ogystal â gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau. Mae angen iddynt gydnabod eu bod wedi methu codi'r diwydiant i lefelau a welir mewn rhannau eraill o'r DU. Efallai fod angen atgoffa'r Gweinidog—mewn gwirionedd, credaf fod angen atgoffa Llywodraeth Lafur Cymru—mai trethi is sy'n denu entrepreneuriaeth a buddsoddiad busnes. Mae hyn wedyn yn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi dirywio cymaint yng Nghymru erbyn hyn, fel y soniodd Carolyn—. Wyddoch chi, os oes gennym sector preifat gwell, gyda gwell busnes, yn talu trethi—trethi naturiol sydd wedi'u gosod eisoes, nid cyflwyno rhai newydd—bydd mwy o arian mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Rydych hefyd yn mynd ar drywydd treth dwristiaeth ar adeg pan ydym yn dychwelyd at TAW o 20 y cant. Mae gan yr holl wledydd eraill sydd wedi'u crybwyll, lle mae ganddynt dreth dwristiaeth, drothwyon is o TAW. Ni all y diwydiant lletygarwch oroesi hyn i gyd. Mae'n ymosodiad epig, ac mae'n dangos camddealltwriaeth lwyr o'r sector twristiaeth. Rhaid imi ddweud, rwy'n hoff iawn o fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, ond mae ei rethreg gwrth-ymwelwyr, gwrth-dwristiaeth bellach yn dechrau bwydo'n ôl i fusnesau yn ei etholaeth, ac mae bellach yn ffaith bod y diwydiant ei hun yn gweld Plaid Cymru, a'r Blaid Lafur erbyn hyn, yn anffodus, fel gelynion i'r diwydiant twristiaeth.
Mae diwydiant twristiaeth Cymru wedi'i greu o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint i raddau helaeth. Mae'r sector yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig yn ogystal ag economïau trefol, gan wella'r ddarpariaeth o gyfleusterau ac amwynderau a ddefnyddir gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yng Nghymru, mae 25 y cant o'r holl fusnesau cofrestredig yn yr economi ymwelwyr. Maent yn cynnig cyfleoedd gwaith sylweddol lle bo dewisiadau eraill yn gyfyngedig iawn. Yma yn sir Conwy, mae twristiaeth yn werth £887 miliwn, a gynhyrchir gan 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae effaith COVID eisoes wedi gadael ei ôl ar fusnesau yn ardal Aberconwy, gyda cholledion refeniw yn amrywio o tua 60 y cant i 85 y cant.
Yn ogystal â chefnogi tua 10,000 o swyddi yn Aberconwy drwy ffyrlo, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn buddsoddi ymhellach yn yr economi leol, yn enwedig twristiaeth, er enghraifft £51,000 yn y gwaith o wella promenâd bae Llandudno, £219,000 yn natblygiad strategaeth ddiwylliant Conwy, a £850,000 mewn canolfan arloesi twristiaeth. Er bod Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn sector twristiaeth Cymru, mae arnaf ofn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn ceisio ei gosbi. Synnwyr cyffredin yn economaidd yw rhoi'r gorau i'r cynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru. Mae angen inni hefyd ddileu'r trothwy 182 diwrnod arfaethedig ar gyfer llety gwyliau. Dylem i gyd fod yn gweithio gyda busnesau i weld pa gymorth sydd ei angen arnynt i barhau i greu swyddi a rhannu'r gorau yng Nghymru gyda'r byd. Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru, David Chapman:
'Mae'r diwydiant hwn angen mwy o ofal a llai o drethi. Ar ôl dwy flynedd hir o ansefydlogrwydd masnachol, gyda chau gorfodol a chyfyngiadau, rydym yn awr yn wynebu argyfwng costau a hyfywedd a'r peth diwethaf sydd ei angen yw mwy byth o drethiant.'
Ar ôl y pandemig—
Janet, mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Ddirprwy Lywydd, os ydym am roi hwb gwirioneddol i economi a diwydiant twristiaeth Cymru, mae Cymru angen gweinyddiaeth yn awr sy'n cefnogi'r sector twristiaeth, nid un sy'n ceisio ei dinistrio drwy'r amser. Diolch.
Dwi'n gwaredu, mae'n rhaid dweud, weithiau, pan dwi'n gweld cynigion y Ceidwadwyr sy'n dod ger ein bron. Mae'r cynnig yma'n dangos nad oes gan y grŵp yna unrhyw ddiddordeb mewn cyfrannu'n adeiladol, ond yn hytrach yn trafod potensial hwyrach fod yna dreth yn mynd i fod rhywbryd yn y dyfodol. Mae yna ymgynghoriad yn mynd i fod, does yna ddim sicrwydd am y peth, ond dyna ni, rydyn ni'n gwastraffu amser yma heddiw yn trafod rhywbeth dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd ei ddyfodol o.

A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, wnaf i ddim cymryd un y tro yma, mae'n flin gennyf fi, â phob parch.
Nid wyf am dderbyn ymyriad yn y cyfraniad hwn, mae'n ddrwg gennyf, Andrew.
Rwyf weithiau'n anobeithio ynghylch tactegau'r Blaid Geidwadol. Mae'r cynnig hwn yn cyfeirio at y posibilrwydd o ardoll dwristiaeth, a'r cyfan y mae'n ei wneud yw tynnu sylw oddi ar fethiannau eich plaid eich hun i lawr y lôn, yr M4, yn Llundain bell. Nid yw'r dagrau crocodeil a welwn gan y Ceidwadwyr yn twyllo neb. Mae'r Ceidwadwyr yn arwain yn Ynys Wyth, ac maent yn argymell treth dwristiaeth ar gyfer ymwelwyr ar dripiau undydd. Mae Cyngor Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, dan arweiniad y Torïaid, wedi galw dro ar ôl tro am dreth dwristiaeth ar gyfer Caerfaddon. Rydych chi'n cwyno y byddai'n gwneud Cymru'n fwy anghystadleuol. Wel, cyflwynodd Bourton-on-the-Water yn y Cotswolds dâl twristiaeth y llynedd. Yn ôl eich rhesymeg eich hun, dylai hyn arwain at bob ymwelydd yn mynd i Chipping Norton neu Cirencester gerllaw, ond na, mwynhaodd Bourton wyliau Pasg llawn o bobl eto eleni.
Mae'r egwyddor eisoes wedi'i derbyn beth bynnag. Mae gan gyrchfannau gwyliau ledled y DU daliadau tymhorol amrywiol, er enghraifft yn y meysydd parcio, gyda thaliadau parcio ceir yn ddrutach yn ystod y tymor ymwelwyr ac yn rhatach yn y gaeaf. Nid yw hynny'n ddim mwy nag ardoll ar ymwelwyr. Pam fod y Ceidwadwyr yn credu ei bod hi'n iawn i'r sector preifat arfer y polisi hwn, ond nid y Llywodraeth? Mae mynediad i Gadeirlan Caerefrog yn rhad ac am ddim i bobl leol, ond pe bawn i'n ymweld â hi, byddai'n rhaid i mi dalu £12.50. Pe bawn i eisiau mynd i un o'r palasau brenhinol hanesyddol—Tŵr Llundain, er enghraifft—byddwn i'n talu £29.90, ond mae'n rhad ac am ddim i grwpiau cymunedol yn Kensington a Chelsea, Westminster, Hammersmith a Fulham a Brent. Ond na, nid oes gan yr Aelodau gyferbyn unrhyw gwynion o gwbl am gynlluniau prisio amrywiol pan fo'r arian yn mynd i gyfrifon banc preifat. Yr hyn nad ydynt yn ei hoffi yw'r syniad o ddosbarthu cyfoeth—arian rhywun yn talu am ofal iechyd neu addysg rhywun arall, er enghraifft. Byddwch yn onest am y peth o leiaf.
Wedyn, wrth gwrs, mae'r gŵyn y byddai treth dwristiaeth yn ei gwneud yn anodd i'r sector yn ystod cyfnod anodd. Ac mae'n gyfnod anodd. Ond nid yw'r ddadl honno gan yr Aelodau gyferbyn â mi yn ddim mwy na chodi bwganod. Mae'r sector lletygarwch yn dioddef ar hyn o bryd, ac maent yn dioddef oherwydd y codiadau treth a'r costau cynyddol a osodwyd arnynt gan y Llywodraeth Geidwadol ddideimlad yn Llundain, dan arweiniad twyllwr a chelwyddgi profedig. Mae'r busnesau hyn yn wynebu bygythiad dirfodol heddiw. Bydd codi'r cap ar brisiau ynni yn golygu mai hwn fydd y tymor olaf i lawer o fusnesau. Roedd un busnes yn fy etholaeth, er enghraifft, yn talu £350 y mis am drydan yn ôl yn 2003. Heddiw, maent yn talu £4,700 y mis, yn seiliedig ar 17c yr uned, a bydd y contract hwnnw'n cynyddu i 50c yr uned ym mis Tachwedd. Bydd hyn yn amhosibl iddynt. Eich Llywodraeth chi sydd ar fai am hynny.
Yn ogystal â hynny, ni all y sector lletygarwch ddefnyddio diesel coch mwyach, felly mae angen dod o hyd i ffynhonnell danwydd lawer drutach diolch i'r Llywodraeth Geidwadol. Mae TAW wedi codi o 12.5 y cant i 20 y cant ar gyfer y sector lletygarwch. Eich Llywodraeth chi sydd ar fai am hynny. Mae cyfraniadau yswiriant gwladol wedi codi 1.25 y cant. Eich Llywodraeth chi sydd ar fai am hynny. A dyma'r wasgfa y mae cyflenwyr yn ei theimlo, gan wthio prisiau cwrw a bwyd i fyny hefyd. Y Ceidwadwyr sydd ar fai am hyn i gyd, ac mae'n digwydd yn awr, heddiw. Nid oes diben ichi rygnu ymlaen am y posibilrwydd y gallai'r dreth dwristiaeth wneud rhywfaint o niwed—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf. Mae'r busnesau hyn yn galw am help yn awr—[Torri ar draws.]—ac mae'r Torïaid yn troi eu cefnau.
Dwy eiliad, Mabon. Hoffwn glywed diwedd cyfraniad yr Aelod, felly a gaf fi dawelwch ar y meinciau gyferbyn, os gwelwch yn dda?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ysgrifennu at Rishi Sunak ac wedi gofyn iddo wrthdroi'r toriadau niweidiol. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ac ysgrifennu at Rishi Sunak hefyd i'w annog i wrthdroi'r toriadau hyn.
Mae'r Torïaid yn gywir i ddweud bod twristiaeth yn sector pwysig, a'i fod angen ein cefnogaeth. Mae arnom angen sector cynaliadwy, un sydd o fudd i bob cymuned ac sy'n sicrhau bod y cyfoeth a grëir yn cael ei gadw yn y cymunedau hynny. Bydd yr ymgynghoriad ar ardoll dwristiaeth yn helpu i'r perwyl hwn. Bydd y sector yn cael cyfle i rannu eu barn a sicrhau bod polisi newydd yn cael ei gynllunio o amgylch anghenion y sector yng Nghymru, polisi Cymreig wedi'i deilwra'n arbennig sy'n ymateb i anghenion Cymru. Os caiff ei wneud yn iawn a'i gydgynhyrchu gan y sector, fe allai ac fe ddylai ardoll dwristiaeth fod o fudd i'r sector a'n cymunedau. Felly, anwybyddwch gynnig y Torïaid a chefnogwch y gwelliant. Diolch.
Rwy'n teimlo bod angen i mi gael fy ngwynt ataf ar ôl y cyfraniad hwnnw. Iawn. Yn gyntaf, gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod gan Gymru dirwedd unigryw, hanes unigryw a diwylliant unigryw. Am flynyddoedd, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, ac yn ddiweddar dros wyliau'r Pasg, gwelodd pob un ohonom ymwelwyr yn cyrraedd Cymru i fwynhau ein mynyddoedd, ein cefn gwlad a'n traethau. Mae llawer yn dod i Gymru i ymweld â'n cestyll, ein tai hanesyddol, yn ogystal â'n gerddi a'n safleoedd treftadaeth ddiwydiannol. Maent yn dod i fwynhau ein diwylliant bywiog, ein gwyliau celfyddydol, ein gwyliau cerddorol a'n heisteddfodau.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru. Roedd 143,500 o bobl yng Nghymru yn gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn 2020, i lawr o 154,000 yn y flwyddyn flaenorol. Mae un o bob saith swydd yng Nghymru mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, ac mewn rhai rhannau o Gymru dyma brif gynheiliad yr economi. Byddai'n anghywir ystyried bod twristiaeth yn wasanaeth eilradd. Mae twristiaeth yn farchnad hynod gystadleuol sy'n galw am sgiliau, talent a menter. Cyn y pandemig, cyfrannai 6 y cant o'r holl werth ychwanegol gros, dros £3 biliwn i economi Cymru. O ystyried y ffigurau hyn, mae pwysigrwydd twristiaeth yn glir. Dylai fod yn glir hefyd, gydag asedau aruthrol Cymru, y dylai'r Llywodraeth flaenoriaethu'r potensial ar gyfer tyfu'r sector hwn o'r economi.
Ni all neb wadu bod y sector twristiaeth wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i'r pandemig, cyfyngiadau symud, cyfyngiadau ar deithio, a gwestai, lletygarwch ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu gorfodi i gau. Mae angen cymorth ac anogaeth ar y diwydiant i sicrhau ei adferiad a manteisio i'r eithaf ar y potensial enfawr ar gyfer twf sy'n dal i fodoli. Y peth diwethaf sydd ei angen arnynt yw bod Llywodraeth Cymru'n llesteirio eu hadferiad drwy roi rhwystrau yn eu ffordd. Yn hytrach na marchnata Cymru'n gadarnhaol ac annog mwy o ymwelwyr i ddod i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno treth dwristiaeth niweidiol.
Ceir pryderon sylweddol o fewn y diwydiant ynghylch gweithredu treth o'r fath, ac mae llawer o gwestiynau o hyd. Tynnwyd sylw at y rhain gan y grŵp hollbleidiol seneddol ar letygarwch ym mis Mai 2019. Roeddent yn gofyn sut y byddai ardoll yn cael ei chodi'n effeithiol yn absenoldeb cofrestr gynhwysfawr o'r cyflenwad o lety. Aethant ati i dynnu sylw at y ffaith bod ymwelwyr undydd yn gwario llawer llai o gymharu ag ymwelwyr dros nos a gallai cost arall ar ystafelloedd gwestai gymell ymwelwyr i beidio ag aros dros nos. Byddai hyn yn ddrwg i'r diwydiant gwestai a gallai arwain at ostyngiad sylweddol yng ngwariant defnyddwyr mewn dinasoedd.
Hoffwn sôn am yr hyn a grybwyllodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, yn ei chyfraniad, sef bod sector gwestai y DU eisoes ymhlith y rhai sy'n talu fwyaf o dreth o gymharu â gwledydd yn yr UE. Mae gan wledydd yn yr UE sydd â threth dwristiaeth gyfraddau TAW is, gyda'r Eidal a Ffrainc ar 10 y cant, yr Almaen ar 7 y cant, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd ar 6 y cant. O'i gymharu, mae TAW ar y sector gwestai yma yn y DU yn 20 y cant. Hoffwn hefyd—[Torri ar draws.] Byddwn—[Anghlywadwy.]
Hoffwn hefyd i'r Gweinidog, wrth ymateb—yn fy rôl fel Gweinidog trafnidiaeth yr wrthblaid—ddiystyru cyflwyno taliadau atal tagfeydd yma yng Nghymru, gan fod hyn yn peri pryder imi, nid yn unig i ymwelwyr ond i drigolion Cymru sydd eisiau mynd â'u teulu am wyliau byr i ran arall o Gymru. Oherwydd nid yn unig y byddai taliadau atal tagfeydd yn gosod baich ar drigolion Cymru ond byddai'n ychwanegu baich ychwanegol ar dwristiaid sy'n dod i drefi a dinasoedd Cymru, ac yn y pen draw byddai'n niweidio'r gobaith am adferiad i fusnesau sy'n dibynnu ar dwristiaid i oroesi.
Ddirprwy Lywydd, yn ddi-os, mae twristiaeth yn rhan allweddol o economi Cymru ac mae sicrhau ei bod mewn iechyd da yn hanfodol. Mae gennym gyfrifoldeb yma fel gwleidyddion yn y Senedd i gefnogi'r sector yma yn awr. Mae'n sector diwydiant a gafodd ei daro'n arbennig o wael gan y pandemig ac nid oes angen gosod rhwystrau diangen i'w adferiad. Galwaf ar Lywodraeth Cymru yma heddiw i gael gwared ar unrhyw gynlluniau ar gyfer treth dwristiaeth a thaliadau atal tagfeydd, a mynd ati, yn hytrach, i lunio strategaeth gyda rhanddeiliaid allweddol a fydd yn mynd i'r afael â'r problemau hyn ac yn caniatáu i'r sector hanfodol hwn o'n heconomi dyfu a ffynnu fel y mae'n haeddu ei wneud ar ôl dioddef cymaint yn y gorffennol. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.

Diolch. Nid oes anghytundeb o gwbl fod twristiaeth yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol tu hwnt i Gymru, gyda gwariant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cyrraedd mwy na £5 biliwn bob blwyddyn yn 2019, cyn y pandemig, ac wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld diwydiant twristiaeth ffyniannus ac adferiad cryf o COVID-19. I gydnabod effaith COVID rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i'r sector. Mae busnesau twristiaeth wedi bod yn gymwys i gael gwerth £2.6 biliwn o grantiau o'r gronfa cadernid economaidd, sydd wedi diogelu 28,500 o swyddi ledled Cymru. Mae llawer o fusnesau twristiaeth hefyd wedi elwa o'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £108 miliwn, sy'n cefnogi digwyddiadau diwylliannol a'r unigolion sy'n gweithio yn y sector, ac mae busnesau twristiaeth hefyd wedi elwa o'r £730 miliwn a ddarparwyd gennym drwy ein cynlluniau rhyddhad ardrethi i'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae'r mesurau hyn, yn ogystal â'r grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a'r grantiau dewisol a ddarperir gan awdurdodau lleol, yn amlwg wedi galluogi'r sectorau hyn i oroesi.
Mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref i adfer ac ailadeiladu ar ôl y pandemig. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi croesawu'r nifer uchaf erioed o ymwelwyr o'r DU. Mae ein diwydiant twristiaeth yn aeddfed, mae'n brofiadol ac mae ganddo'r gallu i dyfu o hyd, ond mae hefyd wedi dweud wrthym fod yn rhaid i dwf gynnal, nid bygwth, y pethau pwysicaf. Ein huchelgais yw cefnogi datblygiad twristiaeth gynaliadwy sy'n mynd i'r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a'r cymunedau sy'n cynnal y dwristiaeth honno, ac mae honno'n egwyddor sylfaenol sy'n sail i'n