Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/03/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr, ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, a nodir y rhain ar yr agenda. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod hwn, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr â'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths MS 13:31:08
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynllun Cartrefi i Wcráin. Yn ail, rwyf i wedi tynnu'n ôl y datganiadau ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar COVID-19 ac ar ddiogelwch adeiladau. 

Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno'r datganiad ar ddiogelwch tomenni glo. Ac, yn olaf, rwyf i wedi ychwanegu dadleuon ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a rheoliadau (Rhif 8) 2022, y bydd angen atal y Rheolau Sefydlog ar eu cyfer. 

Trefnydd, yn ddiweddar, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bleidlais o ddiffyg hyder mewn nifer o aelodau a oedd wedi'u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru. Yn lleol, mae llawer o anfodlonrwydd ynghylch sut mae'r parc cenedlaethol yn cael ei gynnal a rhan aelodau sydd wedi'u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a sut y mae'n penodi aelodau Llywodraeth Cymru i'r cyrff hyn? Diolch, Dirprwy Lywydd. 

Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad ar hyn o bryd. 

Rhai wythnosau'n ôl gofynnais i am ddatganiad ynghylch sut y mae'n rhaid i drigolion y de-ddwyrain deithio'n bell ar gyfer apwyntiadau ysbyty. Gwnes i dynnu sylw at y mater bod triniaeth ddiagnostig y fron ond yn cael ei chynnal yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae etholwr arall wedi cysylltu â mi, a bu'n rhaid iddi fynychu apwyntiad gynaecoleg yn Ysbyty Nevill Hall. Nawr, mae hi'n byw yng Nghaerffili, a chymerodd y daith fwy nag awr, taith gron o 56 milltir. Mae hi'n gallu gyrru, ond roedd hi'n bryderus efallai na fyddai hi'n dod o hyd i'r ysbyty mewn pryd, oherwydd ei bod y tu allan i'w hardal, ond cafodd hi wybod mai dyma'r unig glinig gynaecoleg ar gyfer holl ymddiriedolaeth Aneurin Bevan. Fel yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n gwerthfawrogi, Trefnydd, mae 50 y cant o'r bobl sy'n byw yn yr ardal yn fenywod; bydd angen apwyntiad gynaecoleg arnyn nhw rywbryd. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad eto os gwelwch chi'n dda a fydd yn esbonio pam y bu'n rhaid i fy etholwr deithio'r pellter hwnnw pan nad yw Ysbyty Ystrad Fawr ond tua 4 milltir i lawr y ffordd o'i chartref. A gawn ni edrych eto ar sut y caiff ein gwasanaethau ysbyty ni eu darparu, fel nad oes rhaid i gleifion sydd eisoes dan straen naill ai dreulio cyfnodau hir yn y car i gyrraedd eu hapwyntiadau, neu ragor o oriau ar fysiau os na allan nhw yrru?

Diolch. Wel, yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o'r achos penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch darpariaeth gwasanaethau ledled bwrdd iechyd yn bwysig iawn ac yn rhywbeth y mae pob bwrdd iechyd yn amlwg yn gyfrifol amdano, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i'r boblogaeth y maen nhw'n yn ei gwasanaethu. Yn amlwg, gyda rhai gwasanaethau mwy arbenigol, nid ydym ni'n disgwyl cael pob gwasanaeth ym mhob ysbyty. Rydych chi'n cyfeirio at wasanaethau gynaecoleg yn yr achos penodol hwn, ac ni wn a yw'n fwy cyffredinol neu'n fwy arbennig, ond mae darpariaeth gwasanaethau yn rhywbeth y mae bwrdd iechyd yn gyfrifol amdano ar gyfer ei boblogaeth leol. 

Prynhawn da, Gweinidog. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda, y datganiad cyntaf gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg am gymorth ariannol i ysgolion bach a gwledig. Mae undebau'r wythnos hon wedi codi'r pryderon y gwnes i eu codi yn ystod proses y gyllideb ynghylch dileu grant yr ysgolion bach a gwledig—ac nad yw'r arian ychwanegol sy'n cael ei darparu i awdurdodau lleol drwy'r grant ysgolion bach a gwledig yn cyrraedd ysgolion. 

Ac, yn ail, tybed a allech chi wneud datganiad ynghylch y sefyllfa o ran Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn colli eu hachos llys ynghylch y rheoliadau adnoddau dŵr, a pha gymorth ariannol sy'n cael ei ddarparu nawr i gefnogi'r sector amaethyddol i addasu i'r rheoliadau hyn? Diolch.

13:35

Diolch. O ran y grant ysgolion bach a gwledig, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod £2.5 miliwn wedi'i gyflwyno dros dymor blaenorol y Senedd i annog arloesi a chynyddu gweithio ysgol i ysgol. Roedd yn grant penodol iawn, ac rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol wedi cael gwybod o'r cychwyn cyntaf fod y grant yn gyfyngedig o ran amser, a gwnaethon nhw gyflwyno eu cynlluniau ar gyfer gwariant a chynaliadwyedd ar y sail honno. Roedd y grant i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth y llynedd—2021—ond, i gefnogi'r broses bontio, estynnodd Llywodraeth Cymru y grant am flwyddyn arall. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod mewn trafodaethau gydag awdurdodau lleol, ac nid wyf yn credu bod awdurdodau lleol wedi gwthio'n ôl ynghylch dod â'r grant i ben, oherwydd cafodd ysgolion a'r awdurdodau lleol wybod amdano.

O ran eich ail gwestiwn, yn amlwg, mae hynny'n dod o fewn fy mhortffolio i, ac roeddwn i'n sicr yn croesawu'r dyfarniad a gafodd ei roi gan y llys ddydd Iau diwethaf. Byddaf i'n parhau i weithio gydag undebau'r ffermwyr i leihau effaith amaethyddiaeth a llygryddion eraill. Cawsom ni achos llygredd amaethyddol sylweddol iawn arall, a gafodd ei gadarnhau’n syth, yr wythnos diwethaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn os ydym ni i gyd yn mynd i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r llygredd yr ydym ni'n ei weld yn ein dyfroedd. Ond mae'r un mor bwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n cefnogi'r diwydiant ffermio, wrth symud ymlaen, a byddaf i'n parhau â'r trafodaethau hynny. O dan y cytundeb cydweithredu sydd gan Lywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru, mae hwn yn faes lle'r ydym ni wedi ymrwymo i weithio nid yn unig gyda ni ein hunain ond, unwaith eto, gyda'r diwydiant i dargedu'r gweithgareddau hynny y mae'n hysbys eu bod yn achosi llygredd. Mae angen i ni ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a'r hyn y mae'r dyfarniad hwn yn ei wneud yw ein galluogi ni i barhau â'r gwaith pwysig hwnnw.

Dim ond dwy eitem i'w codi. Yn gyntaf oll, Trefnydd, roedd gêm bêl-droed y Gynghrair Genedlaethol ar y Cae Ras ddydd Sadwrn yn ddigwyddiad anhygoel—roeddech chi a fi yn bresennol yno, ynghyd â bron i 9,000 o wylwyr. Ac unwaith eto dangosodd sut y gall stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf y byd gynnal digwyddiadau dramatig a syfrdanol. A fyddai'r Llywodraeth yn ymrwymo i ddwyn perswâd am ddychwelyd gemau rhyngwladol i'r Cae Ras cyn gynted â phosibl?

Ac hefyd, Trefnydd, gyferbyn â'r Cae Ras—yn wir, mae darn o'r Cae Ras yn rhan ohono—y mae prosiect porth Wrecsam, y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo swm enfawr o arian iddo. Er ein bod ni wedi cael addewid o gyllid codi'r gwastad gan Lywodraeth y DU, nid yw hyn wedi dod i'r amlwg eto. A fyddech chi'n gallu gwneud datganiad ynghylch a ydych chi'n credu bod Llywodraeth y DU mewn sefyllfa i ariannu'r prosiect adfywio hollbwysig hwn, neu a yw'n fater o eiriau teg yr ydym ni'n eu clywed?

Diolch. Roedd y gêm ddydd Sadwrn yn sicr yn gwbl anhygoel. Roeddwn i'n sgwrsio â Llyr Huws Gruffydd amdano dros ginio. Rwy'n dal i wenu. Yn fy 50 mlynedd o fynd i'r Cae Ras, nid wyf i erioed wedi gweld dim byd tebyg iddo. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Fel plentyn, dyna lle'r oeddwn i'n mynd i wylio gemau rhyngwladol, ac, wrth gwrs, gyda'r llwyddiant y mae tîm pêl-droed Cymru wedi'i gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn arbennig, rwy'n credu bod y chwaraewyr wedi gwneud Stadiwm Dinas Caerdydd yn gaer iddyn nhw, os mynnwch chi. Rwy'n credu, yr wythnos diwethaf—. Unwaith eto, roeddem ni'n sgwrsio amser cinio, yn dweud na allwn ni ddychmygu torfeydd pêl-droed yn canu fel yna 20 mlynedd yn ôl, a chanu yn Gymraeg. Ac rwy'n credu bod hynny'n dweud tipyn am y ffordd y mae pobl wedi cymryd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru i'w calonnau. Ond rwy'n gwybod bod prif weithredwr newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn awyddus iawn i weld gemau'n cael eu chwarae ar y Cae Ras. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni yn y gogledd fod y gemau hynny'n cael eu chwarae, hyd yn oed os mai dim ond gemau cyfeillgar ydyn nhw, yn y blynyddoedd sydd i ddod. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip yn sicr yn parhau i wthio hynny gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Rydych chi'n cyfeirio at y cais am gyllid codi'r gwastad sydd wedi'i gyflwyno o ran porth Wrecsam. Yn anffodus, fe wyddom ni, er gwaethaf addewid Llywodraeth y DU na fyddai gennym ni geiniog yn llai pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw hynny'n wir. Mae'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth y DU yn llawer llai na'r hyn a gawsom ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a Llywodraethau datganoledig eraill, ynghylch y gronfa codi'r gwastad. Mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth wirioneddol os yw'n mynd i weithio; nid ydym ni eisiau bod â sefyllfa ariannu dameidiog. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gweld y cyllid hwnnw. Rwy'n gwybod bod yr ail gais wedi'i cyflwyno, ac rwy'n credu mai erbyn mis Mehefin y mae'n rhaid cyflwyno’r cais hwnnw am gyllid.

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr adroddiad interim a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar gan adolygiad Cass. Gwnaeth yr adroddiad interim amlygu nifer o faterion sy'n achosi pryder y mae angen i swyddogion etholedig a gweithwyr proffesiynol ymdrin â nhw a'u trafod. Gwnaeth rhai o'r canfyddiadau a gafodd eu codi yn yr adroddiad dynnu sylw at y diffyg consensws a thrafodaeth agored am natur dysfforia rhywedd ac, felly, yr ymateb clinigol priodol. Mae'n amlwg i mi nawr, yng ngoleuni adroddiad interim Cass, y dylai adolygiad o wasanaethau yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu rhywedd gael ei gynnal. Mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu hyn, ac mae angen gwneud yn iawn am hyn ar frys. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, Gweinidog. 

13:40

Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r ddau Ddirprwy Weinidog yn amlwg yn ymwybodol o'r adroddiad neu'n gweithio drwy'r adroddiad, ac rwy'n siŵr, ar yr adeg fwyaf amserol, y byddan nhw'n cyflwyno rhagor o wybodaeth. 

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Mae'n ymwneud â gwasanaethau post sy'n cael eu darparu gan y Post Brenhinol a sut y gall Llywodraeth Cymru bwyso arno i wella gwasanaethau. Mae'n fater yr wyf i wedi gohebu'n flaenorol â'r Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol ynghylch, gan fy mod i'n gwybod ei bod hi'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Post Brenhinol, ac mae hi, ac rwy'n ddiolchgar am hyn, wedi cyflwyno sylwadau o'r blaen ar ran etholwyr. Fodd bynnag, mae gwasanaethau mewn sawl rhan o'r Rhondda yn arbennig, yn ysbeidiol, a'r post, yn ystod y misoedd diwethaf, yn cael ei ddosbarthu unwaith bob pythefnos mewn ardaloedd fel Glyn-fach, yn ôl preswylydd lleol, sydd hefyd yn golygu bod dogfennau pwysig yn cael eu methu neu nad ydyn nhw'n cael eu derbyn o gwbl. Roedd hyn hefyd yn ymwneud ag apwyntiadau brechu. Byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad i weld sut y gallwn ni ddylanwadu ar y Post Brenhinol ar hyn, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Rwy'n credu i chi ddweud eich bod chi eisoes wedi cyflwyno sylwadau'n uniongyrchol i'r Dirprwy Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae'n amlwg bod y Post Brenhinol yn fater a gedwir yn ôl, ond mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn dibynnu ar wasanaethau post mewn ffordd yr ydych chi newydd ei disgrifio, ac, yn fy marn i, yn ystod y pandemig, rydym ni wedi dibynnu arnyn nhw hyd yn oed yn fwy. Rwy'n siŵr, os ydych chi'n cyflwyno sylwadau i'r Dirprwy Weinidog, y bydd hi'n ymateb i chi. 

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd a Gweinidog. Rwy'n ddiolchgar, ac mae'n braf bod nôl yma, yn eich plith. Gweinidog, byddwch chi'n ymwybodol o adroddiad archwilio mewnol diweddar yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr a ddatgelodd daliad o £316,192 i gwmni ar gyfer gwaith inswleiddio cartrefi, lle'r oedd y cyfarwyddwr yn aelod o gabinet y cyngor Llafur, a lle cafodd yr arian ei dalu i gwmni na allai'r archwilwyr sefydlu ei fod wedi bodoli mewn gwirionedd. Rwy'n credu y dylai Heddlu De Cymru fod yn ymchwilio iddo. Rwyf i wedi galw arnyn nhw i wneud hynny. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn y Siambr, yn nodi sut y caiff polisïau caffael Cymru eu tynhau i leihau'r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd eto? Diolch yn fawr. 

Diolch, ac mae'n braf iawn eich gweld chi nôl yn y Siambr. Rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud y peth iawn drwy ysgrifennu'n uniongyrchol at yr awdurdod lleol. Mae caffael yn fater pwysig, mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyflawni darn mawr o waith arno yn ein rhaglen lywodraethu, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai modd ei ystyried. 

Trefnydd, a gaf i ddatganiad ar gysylltedd digidol mewn ardaloedd gwledig, sy'n effeithio'n fawr, wrth gwrs, ar drigolion yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru? Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae'r arian ychwanegol, y top-up, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi i'r system talebau gan Lywodraeth San Steffan yn dod i ben ddydd Iau yr wythnos yma, ac mae hynny, wrth gwrs, yn peri ansicrwydd mawr iawn, achos dwi wedi cael nifer o bobl yn cysylltu â fi dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn cwyno bod y ddarpariaeth mewn rhai ardaloedd gwledig yn dal i fod yn anfoddhaol. Mae cynghorau cymuned, er enghraifft, wedi cysylltu i nodi nad oes modd iddyn nhw gynnal cyfarfodydd rhithiol neu hybrid oherwydd diffyg cysylltedd band llydan digonol, ac unigolion, wrth gwrs, a busnesau hefyd wedi cysylltu yn cwyno yn yr un modd. Nawr, dwi'n gwybod bod y top-up yma yn dod i ben ac rydych chi'n adolygu'r system talebau. Felly, a oes modd i ni gael datganiad ynglŷn â beth ydy bwriadau'r Llywodraeth i gefnogi'r math o gymunedau sy'n dal yn dioddef, ar gyfer sicrwydd i'r dyfodol? Diolch yn fawr. 

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, unwaith eto, yn ystod y pandemig cafodd sylw ei dynnu ato, yr anawsterau yn rhai o'n hardaloedd gwledig yn arbennig—ac nid ardaloedd gwledig yn unig, ond ardaloedd trefol hefyd. Ond, rwy'n credu, gydag ardaloedd gwledig, yn sicr rwyf i wedi cael fy lobïo gan fusnesau bach, er enghraifft, nad ydyn nhw wedi gallu gwella eu gwerthiant ar y wefan yn y ffordd y bydden nhw wedi dymuno ei wneud. Felly, rwy'n credu ei fod yn fater pwysig. Byddwch chi'n ymwybodol, unwaith eto, fel Llywodraeth, ein bod ni wedi gorfod llenwi'r bylchau a gafodd eu gadael gan Lywodraeth y DU o ran darparu mwy o fand eang, ac fel y dywedwch chi, mae adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

13:45

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Rwyf i wedi cael llawer o gwynion am fwyd ysbyty, nid yn unig yn Ysbyty Treforys, sy'n agos iawn ataf i, ond mewn ysbytai ledled de Cymru. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar fwyd mewn ysbytai, i gynnwys ansawdd, maint, sut y mae rheolwyr wardiau'n gweithredu'r polisi sy'n caniatáu i berthnasau a ffrindiau helpu'r rhai y mae angen help arnyn nhw i fwyta—cefais i wybod, er ei fod yn bolisi gan y byrddau iechyd, ac yn bolisi gan Lywodraeth Cymru, erbyn iddo fynd i lawr i reolwyr wardiau, mae'r polisi hwnnw'n diflannu—a hefyd faint o fwyd gwastraff sydd, ac rwy'n deall gan bobl sydd wedi bod yn ymweld â chleifion yn yr ysbyty bod hwnnw'n sylweddol.

Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Rydym ni wedi cael datganiadau diweddar am fetro'r gogledd a Chaerdydd, a gawn ni un ar greu metro dinas-ranbarth bae Abertawe? Rwy'n sylweddoli ei fod yn llawer mwy cymhleth, ac mae'r Dirprwy Lywydd yn sylweddoli hynny hefyd, oherwydd nid yw teithio yn ein hardal ni'n llinellol. Mae cryn dipyn o Gymoedd i fyny ac i lawr o Abertawe i fyny i gymunedau'r Cymoedd, a hefyd o sir Gaerfyrddin i Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a hefyd y ffordd arall. Nid yw'n unffordd, sef yr hyn y mae metro bae Caerdydd yn bennaf. Mae'n amlgyfeiriad ac mae hynny'n ei wneud yn llawer mwy cymhleth, ond nid yw'n ei wneud yn llai o broblem i mi a fy nghyd-Aelodau, fel chithau, Dirprwy Lywydd, a'r Aelod sy'n cynrychioli Castell-nedd.

Diolch, Mike. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am fwyd mewn ysbytai. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddwn i bob amser yn arfer dweud bod bwyd yr un mor bwysig â meddygaeth. Mae'n bwysig iawn bod gan gleifion fwyd o ansawdd priodol, ac mae'n fater y gwn i fod y Gweinidog iechyd yn ei ystyried. Rydym ni hefyd yn ystyried caffael. Af i nôl at ateb cynharach ynghylch caffael. Mae hynny'n rhan o'r broses y mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn edrych arni hefyd. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod NHS Improvement England yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o arlwyo'r GIG ar hyn o bryd, a gwn i fod cynrychiolwyr GIG Cymru yn mynychu'r cyfarfodydd adolygu hynny. Pan fydd yr adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau, bydd yn cael ei asesu, ac yna, yma yng Nghymru, byddwn ni'n ystyried pa arferion gorau a chanllawiau y bydd modd eu cyflwyno a'u mabwysiadu ledled GIG Cymru. 

O ran Dinas-ranbarth bae Abertawe, neu Metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, rwy'n credu, yw'r teitl cywir, rydym ni yng nghamau cynnar iawn datblygu'r tri phrosiect metro—gogledd Cymru, de Cymru, a bae Abertawe. Mae'n rhan bwysig o gyflawni ein targedau newid dulliau teithio. Os ydym ni eisiau cyrraedd ein targedau sero-net, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hyn, ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru i'w gyflymu.

Trefnydd, rwy'n sylwi bod llawer o fy nghyd-Aelodau'n gofyn am ddatganiadau yn ystod y datganiad busnes, ond ni welaf i byth y datganiadau hynny, a dweud y gwir, yn dod o hyn. Ond rwy'n mynd i ofyn yn ffurfiol am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth, Lee Waters, a hoffwn i hefyd gofnodi fy siom fwyaf nad oedd ein Dirprwy Lywydd yn gweld yn dda i ganiatáu i hwn fod yn gwestiwn brys.

Nawr, mae fy nghwestiwn yn ymwneud—[Torri ar draws.] Nid oeddech chi yno, roeddwn i yno.

Mae'n ymwneud â'r oedi difrifol ac anhrefnus yr oedd cannoedd o deithwyr yn ei wynebu ddoe oherwydd digwyddiad gweithredol ar y rheilffyrdd yn y Fenni. Cafodd tri thrên, sawl cerbyd, a channoedd o deithwyr eu gadael yn sownd ar y trenau hyn mewn tywydd cynnes heb unrhyw awyru. Y trên cyntaf, cawsom ni ganiatâd i fynd ar y platfform am ychydig oriau. Gadewais i fy swyddfa gydag aelod o staff am 1 o'r gloch. Cyrhaeddais i fy fflat yma, yng Nghaerdydd, am 10 o'r gloch neithiwr. Dyma'r sefyllfa fwyaf erchyll i mi ei gweld erioed: pobl yn crio, pobl yn awyddus i gyrraedd pen eu taith.

Mewn anobaith, aeth fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd a minnau i Twitter, gan gopïo'r Dirprwy Weinidog, ac aeth awr fesul awr heibio heb ddim. A dweud y gwir, byddai gennyf i gywilydd mawr petai fi oedd y Dirprwy Weinidog, neu i beidio â mynd at Twitter a dweud, 'Edrychwch, fe wnaf lansio ymchwiliad ynglŷn â'r hyn sydd wedi mynd o'i le.' Ond cawsom ni ein gadael heb fwyd, heb faeth, heb ymborth na dim.

13:50

Rwyf yn. Fel y gwelwch chi, rwy'n eithaf gofidus am y peth, oherwydd rwy'n adnabod rhywun a gollodd angladd, rhywun sydd wedi colli ei swydd, ac a dweud y gwir, roedd gan bawb, pawb stori drist iawn. Mae cael eich oedi am awr neu ddwy, mae'r pethau hyn yn digwydd. Rydym ni'n sôn am bump neu chwe awr, yn sownd ar drên, yn methu gwneud dim. Nawr, rwy'n credu ei bod yn fater mor ddifrifol ddoe y dylai'r Dirprwy Weinidog fod wedi dod ymlaen y bore yma i wneud datganiad mewn gwirionedd. Felly, nid eich bai chi, Trefnydd, ac nid wyf i'n ddig gyda chi, ond rwyf i eisiau cael datganiad gan Lee Waters a byddaf i'n mynd ar ei drywydd, a byddaf i'n gofyn a gofyn eto. Mae pobl Cymru, teithwyr hyd yn oed o Loegr—

Mae'r Aelod wedi gwneud ei phwynt. Mae hi wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w hamser.

Iawn. Maen nhw'n haeddu rheswm dros yr hyn a ddigwyddodd ddoe ac rwyf i'n gobeithio'n fawr y bydd yn lansio ymchwiliad trylwyr, oherwydd yn bendant: a oes gennyf i unrhyw hyder yn awr yn Trafnidiaeth Cymru a gallu'r Llywodraeth hon yng Nghymru i fy nghael i yma o fy etholaeth? Nac oes.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn daith anodd iawn ddoe i chi ac i lawer o bobl eraill, ac rwyf wedi siarad ag Aelodau eraill a oedd ar y trên hwnnw. Rwyf i hefyd wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ac sy'n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y prynhawn yma ynghylch y mater hwn. Mae'n ateb cwestiynau yfory, y Dirprwy Weinidog, yn y Siambr hon, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi bryd hynny, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n gyflymach o lawer a byddwch chi'n gallu cael rhai atebion. Rwy'n credu, o safbwynt Trafnidiaeth Cymru, fod ymchwiliadau cychwynnol wedi dangos mai mater gweithredol annisgwyl oedd yn gyfrifol amdano, ac maen nhw'n gweithio o'i gwmpas.

Nid wyf i'n dweud ei fod yn dderbyniol o gwbl; rwy'n llwyr werthfawrogi—. Rwyf i wedi gwneud y daith honno lawer, lawer gwaith fy hun. Roeddwn i ar drên fore ddoe, felly gallai wedi bod yn fi fy hun. Felly, nid wyf i'n cymryd dim i ffwrdd o gwbl, ond mae'n rhaid i ni weithio drwy'r broses ac mae'n rhaid i ni ddarganfod beth aeth o'i le. Mae'n destun gofid mawr; yr oedd yn amlwg yn brofiad gwael iawn i deithwyr.

Mae'n rhaid imi ddweud, neithiwr oedd y profiad gwaethaf, mwyaf erchyll dwi erioed wedi ei gael o ddefnyddio trên yng Nghymru. Roedd y siwrnai, oedd i fod yn dair awr, yn siwrnai o saith awr. Buodd fy nhrên i yn llonydd am bedair awr: un trên; dwi'n gwybod am bedwar trên oedd yn yr un sefyllfa. Dim gwybodaeth, achos doedd yr uchelseinydd yn fy ngherbyd i ddim yn gweithio. Dyna gyflwr y stoc sydd gennym ni erbyn hyn. Dim cludiant amgen. Er ein bod ni wedi aros pedair awr, dim trefniadau i symud y teithwyr. Mi oedd yna bobl yn sâl ar un o'r trenau. Mi oedd yna bobl yn crio ar fy nhrên i. Mi wnaeth yna rywun fethu angladd. Mi oedd rhywun yn poeni am ddyfodol eu gwaith oherwydd eu bod nhw'n hwyr i'w shifft. Roeddwn i'n gwrando ar swyddogion Trafnidiaeth Cymru yn y pwyllgor bythefnos yn ôl yn dweud wrthym ni, 'Ydy, mae'n heriol, ond mae pethau'n gwella.' Chi'n gwybod beth? Dwi ddim yn credu y gallaf i gredu gair maen nhw'n ei ddweud wrthyn ni ragor. Dwi'n sicr ddim yn teimlo bod gyda fi ffydd ynddyn nhw ar hyn o bryd.

Roeddwn i'n clywed bod yna broblemau eto bore yma: trenau o'r gogledd i'r de yn hwyr, yn cael eu canslo. Mi ges i nifer o bobl yn cysylltu â fi fore dydd Gwener, miloedd o bobl yn trio teithio'n ôl i ogledd Cymru ar ôl y gêm nos Iau: dau gerbyd. Dau gerbyd. Doedd Trafnidiaeth Cymru ddim yn sylweddoli bod y gêm yn digwydd?

Felly a gawn ni ddatganiad? A datganiad—nid cyfle i ofyn cwpwl o gwestiynau atodol fory—gan y Dirprwy Weinidog, oherwydd dwi eisiau iddo fe wneud tri pheth: yn y lle cyntaf, mae'n rhaid iddo fe ymddiheuro i bobl gogledd Cymru am gyflwr y gwasanaeth enbydus dŷn ni'n gorfod ei ddioddef o un dydd i'r llall; yn ail, dwi eisiau iddo fe esbonio i ni fel Senedd beth mae e'n mynd i wneud i ddatrys y broblem yma yn y tymor byr; ac yn drydydd, mae angen iddo fe esbonio pam ein bod ni'n mynd i orfod aros tan ddiwedd y flwyddyn cyn y gwelwn ni stoc newydd ar y gwasanaeth rhwng y de a'r gogledd. Oherwydd os ydy'r gwasanaeth yn para fel ag y mae e am yr wyth mis tan hynny, wel, fydd yna ddiawl o neb ar ôl yn defnyddio'r trenau yn mynd o'r gogledd i'r de.

Rwy'n credu mai dyna'r pwynt—. Gwnaethoch chi bwynt gwahanol i Janet Finch-Saunders am ddiffyg gwybodaeth yn cael ei darparu, ac rwy'n credu os yw pobl yn deall beth sy'n digwydd, mae hynny bob amser yn helpu'r sefyllfa, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth penodol iawn y dylai'r Dirprwy Weinidog ei dderbyn yn ei gyfarfod y prynhawn yma, a byddaf i'n sicrhau ei fod wedi clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud. Gwnaethoch chi gyfeirio at y cerbydau newydd sydd i fod i ddod ddiwedd y flwyddyn hon—gwerth £800 miliwn—ond, fel y dywedwch chi, mae'n bwysig iawn i ni gyflwyno hynny cyn gynted â phosibl.

13:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gawn ni ddatganiad gennych chi fel Gweinidog amaeth, os gwelwch yn dda, neu, yn wir, y Gweinidog economi, am sut ydych chi am hyrwyddo gwlân? Mae gwlân wedi gweld amseroedd anodd iawn yn ddiweddar. Deng mlynedd yn ôl, roedd o'n gwerthu am £1.25 y cilogram, ond dwy flynedd yn ôl, disgynnodd y pris i 15c. Mae'n dda gweld y pris bellach yn cynyddu eto.

Mae yna nifer o gamau, wrth gwrs, i'w cymryd cyn i'r gwehyddion gael gafael ar y gwlân, o'r cneifio i'r gwahanu—mae yna dros 10 gradd wahanol o wlân ar bob fferm, er enghraifft—ac yna y glanhau. Mae gwlân yn ddeunydd andros o hyblyg, nid yn unig ei fod yn ddefnydd ardderchog er mwyn gwneud dillad, ond hefyd carpedi ac insiwleiddio. Ond mae llawer iawn mwy na hynny. Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud gwaith rhagorol yn edrych ar botensial arall gwlân, o'i ddefnyddio fel deunydd pecynnu, i ddefnyddio nodweddion cemegol y gwlân. Mae gwlân yn amsugno fformaldehyd yn yr amgylchedd, gan wella ansawdd aer, heb sôn am y linoliwm a'r ceratin sydd yn y gwlân a'r ffibrau. Felly, mae'r potensial yn sylweddol a hoffwn glywed pa gamau mae'r Llywodraeth am eu cymryd er mwyn manteisio ar y defnydd hyblyg a gwych yma sydd gennym ni yng Nghymru.

Diolch. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae ffermwyr wedi gweld gostyngiad mawr i'r pris y maen nhw wedi bod yn ei gael am eu gwlân dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf i wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar hyn, a dweud y gwir, yn hytrach na Gweinidog yr Economi. Oherwydd un o'r awgrymiadau a ddaeth i'r amlwg oedd y gallem ni edrych ar sut y gallem ni wneud mwy o ddefnydd o wlân yn y stoc dai yma yng Nghymru. Cefais gyfarfod â Gwlân Prydain a dweud y gwir—cynrychiolwyr o'r fan honno. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf nad inswleiddio oedd y peth gorau ar gyfer y gwlân mewn gwirionedd; ond roedd carpedi yn sicr. Ac efallai na ddylwn i ddweud hyn heddiw, ond peth arall yr oedden nhw wir yn meddwl y gallem ni ei wneud yma yng Nghymru oedd ei ddefnyddio yn ein trenau, yn y seddi ar gyfer ein trenau. Felly, mae hwnnw yn faes yr wyf i'n edrych arno gyda'r Gweinidog hefyd. [Torri ar draws.] Fe wnes i betruso cyn dweud hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn, gan ein bod yn gweld gostyngiad sylweddol i bris ein gwlân. Felly, rydym ni'n parhau i edrych ar opsiynau, yn parhau i weithio gyda Gwlân Prydain.

Gwnaed darn o waith ledled y DU, gyda holl wledydd y DU, ynghylch defnydd pellach, ond dyna oedd y ddau faes: carpedi a thrafnidiaeth—seddi yn bennaf, yn ein trenau. Rydym ni bob amser yn agored iawn i awgrymiadau, a gwn fod y Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn awyddus iawn i weld a ellir ei ddefnyddio ym maes tai mewn gwahanol ffyrdd. Ond, yn ddiddorol, fel y dywedais, nid inswleiddio oedd y ffordd yr oedden nhw'n meddwl y dylid ei ddefnyddio.

Diolch i'r Trefnydd. Cyn inni symud ymlaen,

Galwaf ar Altaf Hussain i roi eglurhad.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i wneud fy natganiad o fuddiant, gan fy mod i'n gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Diolch.

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Eitem 2 y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1 gan Sam Rowlands.

Dileu Gwrthsemitiaeth

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddileu gwrthsemitiaeth yng Nghymru? OQ57901

Prynhawn da, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am y cwestiwn.

Ers dros ddegawd, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost i ddarparu ei rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Bydd hynny, a chamau eraill i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth, yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Rwy'n siŵr bod pob Aelod o bob rhan o'r Siambr yma heddiw yn cytuno bod gwrth-semitiaeth yn wrthun i bob un ohonom ni, a bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod hwn a phob math o hiliaeth yn cael eu dileu yng Nghymru. Ac fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, yn ôl ym mis Mai 2017, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddiffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrth-semitiaeth. Serch hynny, mae yn destun pryder mawr i mi nad yw'r rhan fwyaf o brifysgolion yng Nghymru wedi mabwysiadu'r diffiniad hwn eu hunain o hyd. Er efallai nad oes gennych chi reolaeth uniongyrchol dros brifysgolion yng Nghymru, mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid sylweddol, ac, fel Prif Weinidog, mae gennych chi swyddogaeth arwyddocaol o ran pennu naws a disgwyliadau'r ffordd y mae pobl, cyrff cyhoeddus a sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yn cyflwyno eu hunain yma yng Nghymru. Felly, yng ngoleuni hyn, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog a phennu'r disgwyliad y dylai pob un o'n prifysgolion yng Nghymru fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrth-semitiaeth?

Wel, Llywydd, rwy'n disgwyl na fydd yr un corff cyhoeddus yng Nghymru yn goddef gwrth-semitiaeth, Islamoffobia nac unrhyw fath arall o wahaniaethu yn erbyn grwpiau yn ein cymdeithas. Fel y dywedodd yr Aelod, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrth-semitiaeth. Mae'r Gweinidog addysg wedi bod yn trafod y mater hwn dros y misoedd diwethaf. Cafodd gyfarfod â'r Arglwydd Mann, sy'n cynnal yr adolygiad o bolisïau gwrth-semitiaeth ar ran Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu tystiolaeth i'r adolygiad hwnnw. Cafodd y Gweinidog Addysg gyfarfod â'r Arglwydd Mann yn ôl ym mis Tachwedd a thrafodwyd y mater hwn yno. Cafodd gyfarfod ag Undeb y Myfyrwyr Iddewig yma yng Nghymru ddiwedd mis Chwefror ac eto codwyd y mater hwn. Mae'n cael cyfarfod ag uwch staff y brifysgol ddydd Llun, rwy'n credu, yr wythnos nesaf, ac mae'r eitem hon ar yr agenda. Felly, gall yr Aelod fod yn sicr bod Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw prifysgolion ledled Cymru at y mater hwn pan fydd gennym ni gyfle i wneud hynny, a gosod y drafodaeth honno yng nghyd-destun y disgwyliad cyffredinol yr ydym ni'n ei bennu o ran cyrff cyhoeddus yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â gwahaniaethu. Fodd bynnag, fel y dywedodd yr Aelod, mae prifysgolion yn gyrff annibynnol. Nid ydyn nhw'n cael eu rheoli, ac ni ddylen nhw gael eu rheoli, gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn trafod y mater hwn ac yn tynnu eu sylw ato, ond fel y dywedodd George Freeman, y Gweinidog Ceidwadol dros addysg uwch yn Llywodraeth y DU y penwythnos hwn, mae trafodaethau academaidd rhydd ac agored wedi eu seilio ar werthoedd rhyddid yn hanfodol, ac mae'r rhyddid hwnnw yn berthnasol i brifysgolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain o ran y materion sy'n dod o fewn eu cwmpas eu hunain.

14:00
Datganiad y Gwanwyn gan y Canghellor

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Datganiad y Gwanwyn 2022 gan y Canghellor i Gymru? OQ57906

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae degawd o fesurau cyni yn golygu nad yw’r cartrefi tlotaf yng Nghymru yn gallu ymdopi â’r argyfwng costau byw. Yn natganiad y gwanwyn, roedd gan y Canghellor gyfle i roi cymorth hanfodol i’r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Gadael y bobl hynny i lawr wnaeth e, ac roedd hynny’n anfaddeuol.  

Mi fethwyd cyfle, do, achos fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim byd, er enghraifft, yn natganiad y gwanwyn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod Cymru'n cael ei tharo'n galetach yn hynny o beth gan fod gennym ni stoc dai llai effeithlon o ran ynni. Mae gennym ni hefyd mwy o gartrefi oddi ar y grid, ac, wrth gwrs, rŷn ni yng Nghymru yn talu cyfraddau uwch o daliadau sefydlog am ein trydan—y standing charges yma. Er bod gogledd Cymru yn gyfoethog mewn ynni, er ein bod ni'n cynhyrchu mwy o ynni nag yr ŷn ni'n ei ddefnyddio, er ein bod ni'n un o allforwyr ynni mwyaf yn y byd, mae standing charges yn y gogledd am drydan yn mynd i gynyddu 102 y cant, tra bod Llundain dim ond yn cynyddu 38 y cant. Ydych chi, felly, yn cytuno â fi, Brif Weinidog, bod datganiad y gwanwyn yn dangos yn glir i ni, mewn gwirionedd, bod yna ddim difidénd i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn enwedig pan fo'n dod i'r rhai sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta?

Dwi'n cytuno gyda'r Aelod. Roedd cyfle da gyda'r Canghellor ddydd Mawrth diwethaf i ddangos beth mae'r Deyrnas Unedig yn gallu ei wneud i helpu pobl mewn tlodi, ac i wneud hwnna mewn ffordd sy'n deg ar draws y Deyrnas Unedig i gyd. Mae'n siomedig nad oedd y Canghellor yn fodlon cymryd y cyfle i ddangos y pwerau sydd yn ei ddwylo e i helpu pobl—pobl yn y gogledd, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, a phobl sy'n dioddef o broblemau yn y maes ynni ac yn y maes bwyd. Roedd cyfle iddo fe wneud y gwaith sydd gyda fe i'w wneud, ond, fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, dyw e ddim wedi gwneud pethau'n deg i bobl yma yng Nghymru, neu dros y Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog, prin fod y Canghellor wedi eistedd yn ôl i lawr ar y meinciau gwyrdd cyn i'r feirniadaeth chwalu ei ddatganiad ar gyllideb y gwanwyn, ac nid dim ond gan rai ASau Torïaidd ar y meinciau cefn y daeth; daeth gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan y Resolution Foundation, gan Martin Lewis, yr arbenigwr arbed arian, a edrychodd ar effaith y baich treth cynyddol a'r baich ychwanegol ar y bobl dlotaf yn ein gwlad. Mae'r rhagolygon bellach yn dweud y bydd un rhan o bump o boblogaeth y DU mewn tlodi llwyr—tlodi llwyr, 12.5 miliwn o bobl. Mae'n edrych fel y bydd incwm eu haelwydydd yn gostwng ar y raddfa fwyaf mewn unrhyw Senedd ar gofnod a bydd y baich treth ar y lefel uchaf ers 70 mlynedd, tra bydd y tlotaf yn mynd yn dlotach byth. Bydd teulu nodweddiadol tua £1,100 yn waeth eu byd eleni. Ac ar ôl toriadau blaenorol i gredyd cynhwysol, rydym yn falch o weld cynnydd o 3 y cant—

14:05

Gan gydnabod bod cynnydd o 8 y cant o ran chwyddiant ar hyn o bryd, mae'n ei ddileu yn llwyr. Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon ei bod hi weithiau yn teimlo fel nofio yn erbyn llanw Llywodraeth y DU. Prif Weinidog, sut gallwn ni helpu pobl i nofio yn erbyn y llanw, i gadw eu pennau uwchben y dŵr? Gan fod rhai pobl yn boddi yn awr, a'n hetholwyr ni yw'r rhain.

Ni allwn gytuno'n fwy â Huw Irranca-Davies yn ei ddadansoddiad o effaith datganiad y gwanwyn. Mae'r Canghellor yn dweud ei fod wedi amddiffyn y gwaethaf eu byd; mae'n ddisynwyr pan edrychwch chi ar ffigurau'r arian y mae wedi ei ddarparu—bydd £1 ym mhob £3 yn mynd i hanner isaf y dosbarthiad incwm, a bydd £2 ym mhob £3 yn mynd i'r rhai sydd â'r mwyaf. Nid yw hynny yn ffordd o helpu'r bobl y soniodd Huw Irranca-Davies amdanyn nhw, sy'n cael trafferth gyda hanfodion bwyd a thanwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cyson i ragori ar y symiau canlyniadol a ddarparwyd i ni. Yr wythnos diwethaf dywedodd Canolfan Llywodraethiant Cymru fod y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn llawer iawn mwy hael yn y cymorth yr ydym ni wedi gallu ei gasglu nag unrhyw Lywodraeth arall ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn gwneud yn siŵr, er enghraifft, fod y £150 sydd ar gael i helpu pobl gyda'u treth gyngor yn mynd i bawb a ddylai dalu'r dreth gyngor, pa un a ydyn nhw'n talu bil ai peidio, ac felly bydd yr arian hwnnw yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.

Yr wythnos diwethaf darparodd y Gweinidog addysg £100 yn ychwanegol i deuluoedd dalu cost y diwrnod ysgol. Bydd yr arian hwnnw yn aros ym mhocedi'r teuluoedd hynny a bydd ar gael i'w helpu gyda'r costau eraill y maen nhw'n eu hwynebu yn awr. Ac mae hynny heb sôn am y cymorth yr ydym ni wedi ei roi gyda biliau tanwydd—£200 i deuluoedd yn ystod y gaeaf hwn, a mwy i ddod yn ddiweddarach eleni. Wrth gwrs, byddem ni'n hoffi pe gallem ni wneud mwy, ond Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y rhwymedigaeth sylfaenol. Y Canghellor sydd â'r ysgogiadau mawr hynny, y system dreth a budd-daliadau, sy'n gyrru cymorth i bobl sy'n byw ar fudd-daliadau sylfaenol neu mewn gwaith â chyflog isel. Dyna oedd methiant datganiad y gwanwyn, ac mae'n fethiant a ddangosodd Ganghellor a oedd yn barod i wastraffu yn ddidrugaredd gyfle i helpu, yn fy marn i.

Nid oeddwn i'n disgwyl i'r Aelodau yn y Siambr hon groesawu datganiad y gwanwyn, ond roedd llawer o bethau cadarnhaol dros ben, er nad oes gen i gyfle i'w codi nhw yma. [Torri ar draws.] Mae'r cyfuniad o argyfyngau digynsail—pandemig COVID-19, ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin—wedi arwain at bwysau chwyddiant sylweddol sydd wedi eu teimlo ar draws cymdeithas—[Torri ar draws.]

Er bod mwy i'w wneud i gynorthwyo pobl dros y misoedd nesaf, rwy'n croesawu'r camau y mae'r Canghellor wedi eu cymryd a fydd yn helpu i leddfu'r baich ar deuluoedd ledled y DU. Yn wir, fe wnaeth Martin Lewis gydnabod manteision codi'r trothwy yswiriant gwladol. Dirprwy Lywydd, bydd dyblu'r gronfa cymorth i aelwydydd yn Lloegr, a amlinellwyd yr wythnos diwethaf, yn arwain at symiau canlyniadol o tua £25 miliwn i Gymru, a dylid defnyddio hwn i ddarparu'r cymorth ychwanegol y mae'r Prif Weinidog yn dymuno ei roi i bobl yng Nghymru sy'n wynebu anawsterau. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw—

—a nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddefnyddio eu gwybodaeth leol i helpu'r rhai mewn angen. Yn wir, maen nhw eisoes yn darparu amrywiaeth o wasanaethau dewisol. Prif Weinidog, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael ynghylch sut i ddyrannu'r cyllid hwn, y £25 miliwn ychwanegol hwn, i gynghorau yng ngoleuni'r pwysau presennol? A wnewch chi ystyried llacio meini prawf cymhwyso rhai o'r cynlluniau cymorth yng Nghymru fel y gall mwy o bobl gael gafael ar gymorth? Diolch yn fawr.

14:10

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu'r £25 miliwn hwnnw, gan ein bod ni wedi gwario dwywaith y swm a roddwyd i ni yn y gronfa cymorth i aelwydydd ddiwethaf a gyhoeddodd y Canghellor. Rydym ni wedi cyhoeddi gwerth £340 miliwn o gymorth i aelwydydd i ymateb i'r argyfwng costau byw, ac fe wnaethom ni roi £10 miliwn arall yn y grant cynnal refeniw yn y setliad terfynol a drafodwyd o flaen y Senedd ychydig wythnosau yn ôl. Ond mae £25 miliwn, Dirprwy Lywydd, yn swm pitw yn wyneb yr anawsterau y mae teuluoedd yng Nghymru yn eu gweld o'u blaenau bellach. Nid yw hynny yn mynd i ddatrys problemau pensiynwyr sy'n cael eu gadael â chynnydd o 3 y cant i'w budd-daliadau tra bod chwyddiant yn 8 y cant. Nid yw'n mynd i helpu'r cannoedd o filoedd o aelwydydd hynny yng Nghymru a gollodd £20 bob wythnos o'u credyd cynhwysol. Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ceisio defnyddio'r adnoddau sydd gennym ni i helpu'r teuluoedd hynny, ac mae hynny yn cynnwys, fel y dywedodd yr Aelod, gweithio gyda'n hawdurdodau lleol ac edrych ar y meini prawf sy'n gysylltiedig â'r systemau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith i helpu'r teuluoedd hynny. Ond mae unrhyw awgrym mai £25 miliwn yw'r ateb i'r problemau sy'n wynebu teuluoedd ledled Cymru yn dangos i ba raddau y mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi colli cysylltiad â realiti'r bywydau y mae'n rhaid i gynifer o bobl eu byw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau. Yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr hyn yr wyf i'n ei gofio fel cynnydd pitw oedd y 75c yr wythnos y pleidleisiodd Llafur drwyddo ac y pleidleisiodd Aelodau Seneddol o'i blaid yn ôl ar ddechrau'r 2000au pan oedd Gordon Brown yn Ganghellor y Trysorlys.

Ond hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog am rywbeth y mae ef yn gyfrifol amdano ac y mae ei Lywodraeth yn gyfrifol amdano, sef amseroedd ymateb ambiwlansys yma yng Nghymru, a gawsom ni yr wythnos diwethaf. O ran y galwadau rhybudd coch, roedd gennych chi, yn llythrennol, un mewn dau o siawns o gael ymateb i'r alwad honno. O ran galwadau oren, mae gennych chi llai nag un mewn pump o siawns y bydd ymateb iddyn nhw yn yr amser targed o 30 munud. Dylai chwe deg pump y cant o alwadau coch daro'r amser ymateb wyth munud hwnnw. Fel y dywedais, mae gennych chi siawns o 50:50 bellach y bydd hynny'n digwydd yng Nghymru, yn anffodus. Prif Weinidog, beth amser yn ôl, dywedodd y Gweinidog iechyd, Eluned Morgan, eich bod chi'n buddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans a bod y buddsoddiad hwn yn talu ar ei ganfed. O ran y ffigurau hynny, yn amlwg, nid yw'r manteision hynny yn dod i'r amlwg. Pryd ydym ni'n mynd i weld y gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu?

Am 48 wythnos yn olynol, tan i'r pandemig ein taro ni ym mis Mawrth 2020, fe gyrhaeddodd y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ei dargedau. Nid wyf i'n cofio cael fy holi unwaith gan arweinydd yr wrthblaid amdano bryd hynny. Y gwir amdani yw, fel y bydd yn gwybod, bod y pandemig wedi achosi heriau mawr i'r gwasanaeth ambiwlans, oherwydd bob tro y bydd ambiwlans yn mynd allan a gall gludo rhywun sydd â COVID—a gyda'r cyfraddau COVID presennol yng Nghymru, mae hynny yn golygu nifer sylweddol iawn o bobl y mae'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans ymdrin â nhw—yna mae'n rhaid glanhau'r ambiwlans yn ddwys eto cyn y gall fynd yn ôl ar y ffordd.

Mae'r ffigurau ar gyfer y mis diwethaf yn dangos bod y gwasanaeth ambiwlans yn dal ei dir yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod nifer y galwadau i'r gwasanaeth wedi bod ar ei uchaf erioed dros y gaeaf hwn. Roedd y Gweinidog yn iawn pan gyfeiriodd at y buddsoddiad sy'n mynd i'r gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig o ran recriwtio staff newydd. Mae staff newydd yn ymuno â'r gwasanaeth ambiwlans drwy'r amser, ac mae mwy o staff yn cael eu recriwtio i helpu i ddarparu'r gwasanaeth y mae pobl yng Nghymru yn haeddu ei gael. Mae cryn dipyn i'w wneud o hyd i gyflawni hynny, nid oes amheuaeth o gwbl am hynny, ond mae'r buddsoddiad ar y naill law, y staff ar y llaw arall, a, gobeithio, gallu i symud y tu hwnt i'r pandemig, yn llunio prosbectws lle bydd y gwasanaeth ambiwlans yn gallu dychwelyd i'r blynyddoedd o lwyddiant a fwynhawyd ganddo cyn i'r pandemig daro.

Prif Weinidog, mae 18 mis wedi mynd heibio ers i'r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd y targedau. Dro ar ôl tro, rwyf i wedi ei godi gyda chi, mae Aelodau ar draws y rhaniad gwleidyddol wedi codi materion—materion torcalonnus—o'u profiadau ym mhob rhan o Gymru, lle nad yw ambiwlansys, yn anffodus, wedi gallu ymateb i sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd. Rydym ni'n gwybod bod y gwasanaeth ambiwlans wedi cael cefnogaeth gan y fyddin ar sawl achlysur—ledled y Deyrnas Unedig mae'r cymorth hwnnw wedi ei gynnig, dylwn ychwanegu, nid yma yng Nghymru yn unig. Mae'r cymorth hwnnw yn dod i ben ar 31 Mawrth. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r gwasanaeth ambiwlans, wedi eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr na fyddwn ar y dibyn ar 31 Mawrth ac, yn y pen draw, na fydd ffigurau hyn yn dirywio hyd yn oed yn waeth nag y maen nhw ar hyn o bryd?

14:15

Wel, Dirprwy Lywydd, a gaf i gofnodi yn gyntaf ein diolch i'r fyddin am y cymorth yr ydym ni wedi ei gael yma yng Nghymru yn ystod y pandemig, ac yn enwedig, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, am y cymorth yr ydym ni wedi ei gael ganddyn nhw i gefnogi ein gwasanaethau ambiwlans, o ran gyrru ambiwlansys ac o ran helpu i lanhau ambiwlansys fel y gellir eu hailddefnyddio cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny a'u rhoi nhw yn ôl ar y ffordd eto? Mae'n anochel bod yn rhaid i'r cymorth hwnnw ddod i ben, a cheir llawer o ofynion eraill, fel yr ydym ni'n gwybod, ar wasanaethau'r lluoedd arfog ar hyn o bryd.

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud, fel yr wyf i wedi ei ddweud, Dirprwy Lywydd, yw buddsoddi mewn aelodau staff newydd, parhaol, llawnamser, sydd wedi eu hyfforddi i'r lefel lle gallan nhw gyflawni'r holl ddyletswyddau y byddech chi'n disgwyl i'r gwasanaeth ambiwlans allu eu cyflawni. Ac ar yr un pryd, yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi'r gwasanaeth ambiwlans mewn cyfnod o bythefnos i ailosod y gwasanaeth yn ystod hanner cyntaf y mis hwn. Nawr, mae canlyniadau'r ailosod hwnnw yn dal i gael eu dadansoddi. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni, dros y pythefnos diwethaf, wedi gweld gostyngiad o 10 y cant i'r oriau ambiwlans cyfartalog dyddiol a gollwyd o'i gymharu â'r pythefnos cyn sefydlu'r ailosod. Ac rwy'n credu bod hynny yn rhoi rhywfaint o optimistiaeth i ni ein bod ni'n creu'r llwyfan a fydd yn caniatáu i'r gwasanaeth ambiwlans ymdrin â'r gostyngiad i nifer y bobl sydd ar gael iddo wrth i gymorth milwrol gael ei dynnu yn ôl.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y clywsom yr wythnos diwethaf mewn adroddiadau yn y cyfryngau, mae gweithwyr ambiwlans yn dweud wrthym ei fod, mewn gwirionedd, yn waith anobeithiol y maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd, ac mae llawer, yn anffodus, yn gorfod troi at gyffuriau gwrth-iselder i'w cael drwy'r dydd. O recordiadau cudd, clywsom, mewn gwirionedd, o lefel reoli, pan fo pryderon gwirioneddol yn cael eu codi, fod pobl yn cael eu rhoi ar lwybrau camau disgyblu yn eu herbyn. Ni all hynny fod yn iawn, Prif Weinidog, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi gytuno â mi na ellir goddef hynny mewn sefydliad cyhoeddus yn unman yng Nghymru. Mae'r staff hyn o dan bwysau enfawr. Rwy'n ddiolchgar i chi am nodi'r staff ychwanegol sy'n dod ymlaen o ymgyrchoedd recriwtio diweddar, ond pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Senedd, pa sicrwydd allwch chi ei roi i weithwyr ambiwlans a pha sicrwydd allwch chi ei roi i bobl Cymru y byddwn ni'n gweld gwelliant gwirioneddol i amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans ledled Cymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf ac y bydd y ffigurau hyn yn dechrau gwella, a thrwy'r haf, y bydd yr amseroedd targed y mae eich Llywodraeth eich hun wedi eu pennu i'r gwasanaeth yn cael eu bodloni?

Wel, y sicrwydd y gallaf i ei roi i Aelodau'r Senedd a phobl yn fwy cyffredinol yw hyn: mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn gwneud popeth o fewn ei gallu, gyda'i phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd yn fwy cyffredinol, i ddarparu'r gwasanaeth y mae ei staff yn awyddus i'w ddarparu, ac mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yno i'w cynorthwyo yn yr ymdrech honno.

Y peth na allaf ei ddweud, ac na all arweinydd yr wrthblaid ei ddweud chwaith, yw i ba raddau y bydd y cynnydd presennol i nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws yn effeithio ar y gwasanaeth hwnnw dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod bod gennym ni rai o'r niferoedd uchaf o bobl yn mynd yn sâl gyda'r feirws ar unrhyw adeg yn y pandemig cyfan. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaethom ni lwyddo i leihau nifer y bobl yn ein gwelyau ysbyty a oedd yn dioddef o'r coronafeirws i lawr i tua 700. Aeth uwchben 1,400 ddoe, ac mae'r nifer hwnnw wedi parhau i godi. Mae hynny yn effeithio ar allu'r system gyfan i ymdrin â'r gofynion arni, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans. Oherwydd pan fydd gennych chi'r nifer hwnnw o bobl yn y system ysbytai yn dioddef o COVID-19, yna mae'n cael effaith ar ein gallu i ryddhau pobl, ac felly i lifo cleifion drwy'r system o'r drws ffrynt pan fydd yr ambiwlans yn cyrraedd i'r pwynt lle gall pobl gael eu rhyddhau. Hefyd, fel y dywedais, mae'n cael effaith uniongyrchol ar ba mor gyflym y gall y gwasanaeth ambiwlans ei hun ymateb i'r galwadau y mae'n eu cael, ac mae'n cynyddu nifer y galwadau sy'n cael eu gwneud. Felly, er fy mod i'n credu bod y gwasanaeth yn gwneud popeth o fewn ei allu, a bod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yno i'w gynorthwyo yn hynny i gyd, mae'n parhau i weithredu o fewn cyd-destun heriol iawn, a chyd-destun sydd wedi bod yn dirywio, o safbwynt pandemig, dros yr wythnosau diwethaf. Mae'n rhaid ystyried hynny i gyd mewn unrhyw sicrwydd y gall unrhyw un ei roi ynghylch i ba raddau y bydd perfformiad yr ambiwlans yn adlewyrchu'r cyd-destun hwnnw yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

14:20

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn 2016, cafodd yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a'r gallu i greu rhai newydd. Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru adroddiad yn 2019 a oedd yn nodi y gallai rhoi'r un pwerau dros fudd-daliadau i Gymru ag sydd gan yr Alban roi hwb o £200 miliwn y flwyddyn i gyllideb Cymru. Nawr, roedd datganiad y gwanwyn yr wythnos diwethaf, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn anfaddeuol—bydd yn arwain at filiwn a mwy o gynnydd o ran tlodi llwyr am y tro cyntaf erioed y tu allan i ddirwasgiad. Nawr, yn dod gan Ganghellor y mae ei ffortiwn deuluol ei hun wedi ei phardduo gan arian gwaed Rwsia, ac sydd wedi gorfod llenwi ei holiadur ei hun am y sgandal partïon, ni ddylai ei dôn-fyddardod foesol fod yn syndod, efallai. Ond onid yw hyn hefyd yn golygu na fydd disodli Johnson, dyweder gyda Sunak, yn gwneud dim i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru? Os bydd pwerau dros les Cymru—yr 'ysgogiadau mawr' hynny y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, Prif Weinidog—yn aros yn nwylo San Steffan, onid dyma'r amser yn awr, o'r diwedd, i gyflwyno'r ddadl unedig dros ddatganoli lles i Gymru mewn ffordd fwy radical a phellgyrhaeddol na model yr Alban hyd yn oed?

Dirprwy Lywydd, nid oes gen i unrhyw uchelgais i ddisodli Johnson gyda Sunak. Fy uchelgais i yw disodli Johnson gyda Starmer, a byddai hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu a'r ffordd y mae pobl sy'n dibynnu ar—[Anghlywadwy.]—nid yn unig—[Anghlywadwy.]—yn y bôn—[Anghlywadwy.]

Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi oedi am eiliad, oherwydd eich bod chi'n torri i fyny rhywfaint? Rydym ni eisiau gwirio'r system TG. A gawn ni seibiant o ddau funud, dim ond i wneud yn siŵr bod y TG yn gweithio yn iawn? Felly, galwaf am egwyl o ddau funud.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:22.

Ailymgynullodd y Senedd am 14:28, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

14:25

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Felly, roeddwn i newydd ddechrau ymateb i gwestiwn cyntaf arweinydd Plaid Cymru drwy ddweud nad oes gen i ddiddordeb mewn disodli Boris Johnson gyda Sunak, mae gen i ddiddordeb mewn disodli Boris Johnson gyda Keir Starmer, a dyna fyddai'n gwneud gwahaniaeth i bobl yma yng Nghymru, ond nid dim ond pobl yma yng Nghymru. Dyma le mae gen i farn wahanol i arweinydd Plaid Cymru, oherwydd bod gen i ddiddordeb mewn plentyn sy'n byw mewn tlodi, pa un a yw'r plentyn hwnnw yng Nghymru neu yn Lloegr, a fy rysáit i ar gyfer y Deyrnas Unedig yw lle y gall pawb, ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, elwa ar y polisi yswiriant mawr y mae bod yn aelod o'r Deyrnas Unedig yn ei gynnig. Mae ffordd o wneud hynny, sef disodli'r Llywodraeth hon, a dyna y byddaf i'n ceisio ei wneud. 

Mae'r Dirprwy Lywydd wedi fy hysbysu yn ddibynadwy mai ar ben Llundain yr oedd y broblem yn awr, ac onid dyna'r pwynt? Nid yw'n ddigon da dweud, 'O, bydd popeth yn iawn pan fydd Llywodraeth Lafur', pan nad yw Cymru erioed, ers y Ddeddf Ddiwygio, erioed wedi ethol mwyafrif o ASau Torïaidd, ac eto bu gennym ni Lywodraethau Torïaidd am fwy na dwy ran o dair o'r amser. Mae Sefydliad Bevan wedi dadlau'n gryf yn ddiweddar dros ddatganoli grym dros fudd-dal tai a'r elfen dai o gredyd tai fel mater o frys. Pam? Oherwydd y byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru symud o fodel sydd yn ei hanfod yn rhoi cymhorthdal rhent i fodel sy'n rhoi cymhorthdal i'r cyflenwad tai cymdeithasol, sef yr unig ateb i'r cwestiwn yn y pen draw. Pan fydd hyd yn oed sefydliad sydd wedi ei enwi ar ôl Aneurin Bevan, yn sicr nad oedd yn gyfaill i genedlaetholdeb Cymreig, yn dadlau'r achos dros ddatganoli lles, onid yw'n dangos, Prif Weinidog, ein bod ni ar ochr iawn y cwestiwn, ac, yn anffodus, eich bod chi yn dal ar yr ochr anghywir?

14:30

Wel, wrth gwrs, nid wyf i'n cytuno â hynny am eiliad. Mae gen i ddiddordeb ac rwy'n awyddus i waith difrifol gael ei wneud ar ddatganoli gweinyddiaeth y system les. Rwy'n credu bod achos cynyddol dros hynny, a byddem ni'n gweinyddu budd-dal tai, er enghraifft, yn wahanol pe bai'n cael ei ddatganoli i Gymru. Mae hynny yn wahanol i chwalu'r system dreth a budd-daliadau y mae pobl yng Nghymru wedi dibynnu arni dros lawer iawn o'r amser y mae'r Aelod yn cyfeirio ato.

Cymro—nid Aneurin Bevan, ond James Griffiths—a roddodd ar y llyfr statud sylfeini'r wladwriaeth les, sydd wedi gwneud llawer o ddaioni i bobl yng Nghymru yn ystod llawer o'r cyfnod ers i James Griffiths basio'r Deddfau yswiriant gwladol a chysylltiedig yn ôl ym 1947. Roedd Griffiths yn Gymro gwych, ac yn sosialydd mawr. Rwy'n credu mai'r rysáit a gynigiwyd ganddo ef yw'r un sydd o fudd i bobl yng Nghymru o hyd.

Ac roedd Jim Griffiths, o bentref genedigol fy mam, Betws, hefyd yn gefnogwr brwd o reolaeth gartref i Gymru drwy gydol ei fywyd gwleidyddol. 

Gall Llywodraeth Cymru hefyd fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng costau byw ei hun, wrth gwrs, ar gyfer gweithwyr ar gyflogau is yn y sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd dim ond am 39 i 43 wythnos o'r flwyddyn y mae cynorthwywyr addysgu yn cael eu talu. Nid ydyn nhw'n cael eu talu yn ystod chwe wythnos yr haf, ond maen nhw'n rhwym i'r ysgol ac ni allan nhw gael swydd arall yn ystod y cyfnod hwn, tra bod athrawon, wrth gwrs, yn cael eu talu am flwyddyn waith lawn o 52 wythnos. Mae misoedd yr haf ymysg y rhai drutaf, heb sôn am yr effaith niweidiol y gall y diffyg cyflog hwn ei chael ar bensiynau yn ddiweddarach mewn bywyd. O ystyried bod llawer o'r ymdrechion i adfer yn sgil COVID wedi eu rhoi ar ysgwyddau cynorthwywyr addysgu, a'r gwaith hanfodol y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed neu'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, onid yw'n bryd i'r gweithlu gwerthfawr hwn gael ei werthfawrogi yn llawn o'r diwedd? 

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno ag arweinydd Plaid Cymru ynghylch gwaith cynorthwywyr addysgu. Ac mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn cael eu talu yn ystod gwyliau'r ysgol yma yng Nghymru gan mai nhw yw sylfaen y rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol a fu gennym ni yng Nghymru o ddechrau tymor diwethaf y Senedd—yr unig system genedlaethol yn unman yn y Deyrnas Unedig lle gall plant fynychu'r ysgol a chael pryd bwyd iawn a chael gweithgareddau cyfoethogi eraill. Ac mae cynorthwywyr addysgu wrth wraidd hynny i gyd, ac maen nhw'n cael eu talu yma yng Nghymru am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Nid oes dim i atal awdurdodau lleol, os byddan nhw'n dewis gwneud hynny, rhag cael gwahanol delerau ac amodau ar gyfer cynorthwywyr addysgu, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr awdurdodau lleol hynny lle mae Plaid Cymru wrth y llyw, ac a allai, mae'n siŵr, wneud y dewisiadau y mae'r Aelod wedi eu hyrwyddo y prynhawn yma.

Gwasanaethau Mamolaeth

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith COVID ar wasanaethau mamolaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57865

Wel, diolch yn fawr, Llywydd, i'r Aelod am y cwestiwn. 

Roedd gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru yn cael eu hystyried yn wasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig, gan gynnwys y rhai yng ngorllewin y de. Er gwaethaf heriau sylweddol oherwydd COVID, mae bron pob un o'n gwasanaethau wedi parhau i weithredu'n llawn, gan roi gofal mamolaeth diogel ac addas i famau beichiog, babanod a'u teuluoedd.

Diolch, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, cysylltodd un o fy etholwyr o gwm Tawe, o'r enw Laura, â mi ynglŷn â'i phrofiad ofnadwy o orfod cael sganiau beichiogrwydd ar ei phen ei hun heb ei gŵr oherwydd rheolau COVID. Ers i gyfyngiadau a mesurau COVID ddod i rym ddwy flynedd yn ôl, mae hi wedi cael tri chamesgoriad yn olynol yn anffodus. Dywedwyd bod dau o'r rhain yn 'gamesgoriadau a fethwyd' ac roedd angen nifer o sganiau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i ganfod hyfywedd y beichiogrwydd—y cyntaf ym mis Medi 2020, yr ail ym mis Awst 2021. Meddai:

'Yn ystod y ddau gyfnod hynod boenus ac anodd hyn, nid oeddwn i, fel llawer o ddarpar famau eraill yng Nghymru, yn cael bod â fy ngŵr gyda mi yn y sganiau, a bu'n rhaid i mi gael clywed ar y ddau achlysur nad oedd y ffetws yn hyfyw ac y byddwn i'n colli'r beichiogrwydd ar fy mhen fy hun heb neb yno i roi cysur na chefnogaeth. Yn hytrach, cefais fy arwain i ystafell aros fach, gan ddweud y gallwn i adael pan oeddwn i'n barod. Yna bu'n rhaid i mi fynd allan a rhannu'r newyddion â fy ngŵr fy hun, wrth iddo aros yn bryderus allan yn y maes parcio.'

Yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid iddi wynebu'r un profiad ofnadwy. Diolch byth, roedd yn newyddion da. Er fy mod i'n deall, wrth gwrs, y bu'n rhaid i ysbytai gyflwyno a chynnal rheolau llym i ddiogelu rhag haint COVID, ceir mater sylfaenol o anghysondeb o ran dull yma. Mae Laura yn dweud wrthyf fod menywod beichiog, erbyn y llynedd, yn cael bod â phartner yn bresennol yn ystod rhai sganiau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn wir ar gyfer y math o sganiau yr oedd eu hangen arni hi—sganiau sy'n cael eu caniatáu yn y GIG dim ond pan fydd problemau neu risgiau posibl. Prif Weinidog, wrth i Gymru ddechrau ar gyfnod newydd yn y pandemig, a wnaiff y Llywodraeth sicrhau gwell triniaeth i'r holl fenywod eraill ledled Cymru sydd wedi dioddef ac y bydd y sefyllfa hon yn effeithio arnyn nhw a allai fod yn drawmatig, drwy edrych ar y canllawiau a gyflwynwyd i fyrddau iechyd a sicrhau dull cyson a phriodol o ymdrin â gwasanaethau mamolaeth?

14:35

Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n teimlo cydymdeimlad enfawr tuag at yr unigolyn y rhannodd ei hamgylchiadau. Yn ystod y pandemig cyfan, mae rhai o'r amgylchiadau mwyaf anodd y bu'n rhaid i'r GIG eu hwynebu wedi ymwneud â gofal mamolaeth a chyfranogiad y ddau bartner yn yr hyn a ddylai, o dan amgylchiadau arferol, fod yn un o'r adegau mwyaf cyffrous yn eu bywydau. Ond, fel yr wyf i wedi ei esbonio droeon ar lawr y Senedd, bu'n rhaid i'r penderfyniad ynghylch a all pobl gymryd rhan fod yn benderfyniad clinigol, wedi ei wneud gan y sawl sydd â'r cyfle gorau i wneud yn siŵr y gellir diogelu iechyd y fam ac iechyd y baban heb ei eni i'r graddau mwyaf posibl. Ac mae hynny yn dibynnu ar iechyd y fam, er enghraifft, ei gwendidau, cyflyrau iechyd sylfaenol ac yn y blaen, yn ogystal â'r amgylchiadau sy'n bodoli ym mha safle bynnag y mae'r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu. Ac nid yw wedi bod yn iawn yn ystod y pandemig hyd yma i fod wedi ceisio cyhoeddi cyfres o reolau o Barc Cathays a fyddai'n diystyru'r dyfarniad clinigol angenrheidiol mai dim ond y sawl sy'n gyfrifol am ofal cyffredinol y fam a'r plentyn heb ei eni allai ei wneud.

Wrth i ni adael, fel yr ydym yn gobeithio, effeithiau gwaethaf y pandemig, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i'r GIG yn ei gyfanrwydd. Bydd, er enghraifft, yn ceisio safoni hyd yr ymweliadau y gall teuluoedd eu gwneud tra bo rhywun yn yr ysbyty, i wneud yn siŵr bod y dull o gynnal profion llif unffordd yn gyson ledled Cymru, a bod yr amgylchiadau lle gall y ddau riant gymryd rhan, ac wrth gwrs eisiau cymryd rhan, yn yr holl brofiad hwnnw hefyd yn gyson o un rhan o'r GIG i'r llall. Gallwn wneud hynny oherwydd bod effaith brechu, triniaethau newydd sydd gennym ni, y ffordd y mae'r GIG wedi dysgu i ymdrin ag effaith COVID-19, yn ein galluogi yn awr i symud i'r cyfnod hwnnw o ddarparu gofal mamolaeth. Ond, yn nyfnderoedd y pandemig, y farn a gymerwyd gan y rhai sy'n ein cynghori yn Llywodraeth Cymru oedd bod yn rhaid i'r math hwnnw o ddull cenedlaethol ildio i'r angen i ganiatáu i glinigwyr wneud y dyfarniad mai dim nhw sy'n gallu ei wneud, er mwyn diogelu iechyd mamau a phlant heb eu geni.

Diolch, Sioned Williams, am godi'r mater pwysig hwn. Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn ystod anterth y pandemig, gwelsom gyfyngiadau enfawr yn cael eu gosod ar famau newydd a'u teuluoedd, nad oedden nhw'n cael ymweld â nhw yn yr ysbyty. Mae'r elusen a'r grŵp ymgyrchu Birthrights wedi monitro'r effaith ar draws y DU i fynegi'r heriau y mae llawer wedi eu hwynebu. Mae'n debyg eu bod nhw wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn gofyn am newid, gan ddweud bod gan Gymru

'rai o'r trefniadau ymweld mwyaf cyfyngol mewn gwasanaethau mamolaeth yn y DU.'

A yw'r Prif Weinidog yn credu y dylid ystyried yr effaith ar deuluoedd ar adeg mor bwysig yng nghyd-destun hawliau dynol, ac a gafodd yr hawliau hynny eu parchu? Diolch.

14:40

Wel, nid oes mwy o hawl, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, na sicrhau nad yw'r system yn eich rhoi mewn perygl ac yn achosi niwed i chi, ac o ran yr hyn y mae rhai pobl yn ei ddisgrifio fel cyfyngiadau, yn fy marn i, mae'n decach eu disgrifio fel amddiffyniadau, oherwydd dyna yr oeddem ni'n ei gynnig yma yng Nghymru. Nid yw hynny, am funud, yn gwadu'r torcalon y mae hynny wedi'i achosi i bobl. Ond yr unig gymhelliad erioed ar gyfer y ffordd y darperir gwasanaethau fu gwneud yn siŵr nad oedd y teuluoedd hynny y cyfeiriodd Altaf Hussain atyn nhw, yn cael eu rhoi mewn perygl yn ddiangen. Rydym wedi bod yng nghanol pandemig byd-eang sydd wedi lladd pobl yma yng Nghymru bob un wythnos, ac unig fwriad y camau y mae ein clinigwyr wedi'u cymryd ac y mae ein byrddau iechyd wedi'u cymryd erioed fu sicrhau nad yw pobl sy'n mynd drwy rywbeth a fydd yn rhan o'u bywydau am byth, fel y byddan nhw'n gobeithio, yn gweld effaith andwyol ar hynny oherwydd na ddarparwyd yr amddiffyniadau y gellid bod wedi'u darparu iddyn nhw. Ac er mor anodd y bu hynny, nid wyf i'n credu am funud y dylem ni wneud unrhyw beth heblaw cydnabod mai'r rhesymau pam y cymerwyd y camau hynny oedd amddiffyn y teuluoedd hynny, amddiffyn y menywod hynny, amddiffyn y babanod yr oedden nhw'n gobeithio rhoi genedigaeth iddyn nhw, ac, wrth i ni symud y tu hwnt i'r pandemig, byddwn yn gallu dychwelyd at wahanol ffyrdd a ffyrdd gwell, wrth gwrs, o wneud pethau. Ond dyna'r rheswm pam y cymerwyd y camau hynny a dim byd arall.

P&O Ferries

4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am drigolion Cymru sydd wedi cael eu diswyddo'n anghyfreithlon gan P&O? OQ57905

Wel, diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn pwysig yna, Dirprwy Lywydd. Mae penderfyniad P&O Ferries i ddiswyddo ei weithlu ffyddlon heb ymgynghori a hynny ar unwaith yn annerbyniol ac yn anghyfreithlon. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU na ddylen nhw sefyll o'r neilltu a chaniatáu ras garlam i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr yn y diwydiant hwn nac unrhyw un arall. 

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai isafswm cyflog y DU yw £8.91. Y cyflog cyfartalog newydd yn P&O yw £5.50, a chafodd hyn ei gyflwyno ar ôl iddyn nhw ddiswyddo eu gweithlu ffyddlon yn anghyfreithlon heb ymgynghori. Fel y dywed y Prif Weinidog yn gywir, mae hon yn weithred warthus, anghyfreithlon gan benaethiaid P&O, ac mae'n un sy'n annerbyniol i mi. Prif Weinidog, mae'r distawrwydd o feinciau'r Ceidwadwyr yn Siambr y Senedd heddiw yn fyddarol, onid yw? Ond nid yw'n syndod—[Torri ar draws.] Ond nid yw'n syndod. Wedi'r cyfan, eu cydweithwyr nhw—[Torri ar draws.] Eu cydweithwyr nhw yn San Steffan, yn San Steffan, a rwystrodd y Bil diswyddo ac ailgyflogi a oedd yn ceisio gwahardd yr arferion hyn. 

A gaf i ofyn i'r Aelodau ganiatáu i'r cwestiwn gael ei ofyn os gwelwch yn dda, er mwyn i mi allu ei glywed? 

Dirprwy Lywydd, nid yw'n syndod, oherwydd Bil a gyflwynwyd gan Aelod Seneddol y Blaid Lafur ydoedd. Ond mae'r heclo y trodd hyn i mewn iddo o'r meinciau draw yn y fan yna yn atgyfnerthu'r neges, onid yw? Maen nhw'n atgyfnerthu'r neges nad yw Plaid Geidwadol y DU yn poeni am bobl gyffredin sy'n gweithio yng Nghymru a ledled y DU. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i anfon neges syml iawn, ond pwerus i Lywodraeth Geidwadol y DU fod angen deddfwriaeth arnom ni yn awr i roi terfyn ar arferion diswyddo ac ailgyflogi, a bod angen i ni hefyd ddirymu'r holl gyfreithiau gwrth-undebau llafur sy'n tynnu pŵer oddi ar bobl gyffredin sy'n gweithio? 

Wel, Dirprwy Lywydd, mae Jack Sargeant wedi gwneud y pwyntiau hynny'n rymus iawn. Addawodd Llywodraeth y DU, Llywodraeth hon y DU, mewn araith gan y frenhines yn 2019 y byddai'n dod â Bil cyflogaeth gerbron Tŷ'r Cyffredin. Ble mae'r Bil hwnnw wedi bod? Nid yw unman i'w weld, wrth gwrs. A phe bai wedi'i gyflwyno, efallai y byddai cyfle wedi bod i fynd i'r afael â'r hyn y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ei ddisgrifio fel ymelwa ar fwlch yn y gyfraith. Dwy fil ac un deg naw, Llywydd. Dyma ni yn 2022, ac nid oes unrhyw arwydd o'r Bil hwnnw a addawyd, ac mae hynny'n dweud wrthych chi, fel y dywed Jack Sargeant, bopeth y mae angen i chi ei wybod am agwedd y Llywodraeth Geidwadol bresennol hon at hawliau gweithwyr. Cefais y fraint o gwrdd â Barry Gardiner, yr Aelod Seneddol a gyflwynodd y Bil Aelod preifat i wahardd diswyddo ac ailgyflogi. Disgrifiodd y Prif Weinidog yr arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi fel un annerbyniol, ac eto caniataodd i feincwyr cefn y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin atal y Bil Aelod preifat hwnnw pan allai fod wedi gwneud cymaint o les ac yn sicr byddai wedi gwneud gwahaniaeth yn achos P&O. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi honni y bydd P&O yn cael ei erlyn o dan adran 194 o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, ond nid oes unrhyw arwydd o hynny'n digwydd ychwaith. Mae'r diffyg gweithredu yn fyddarol, fel y dywed Jack Sargeant. Yr hyn a glywn ni gan Weinidogion Ceidwadol yw'r esgusodion mwyaf llipa yn wyneb diystyru y gyfraith yn fwriadol gan P&O. Roedd yn syfrdanol bod Peter Hebblethwaite yn barod i fynd i bwyllgor dethol yn Nhŷ'r Cyffredin a chydnabod y ffaith nad oedd 'dim amheuaeth o gwbl'—dyna a ddywedodd—

'ei bod yn ofynnol i ni ymgynghori â'r undebau.'

Wel, nid oedd dim amheuaeth oherwydd dyna yr oedd y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ei wneud. Aeth ymlaen wedyn i ddweud, 'Fe wnaethom ni ddewis peidio â gwneud hynny—fe wnaethom ni ddewis torri'r gyfraith yn fwriadol.' Ble mae'r camau y mae angen i'r Llywodraeth hon eu cymryd yn San Steffan i fynd i'r afael â'r math hwnnw o ddiystyru'r gyfraith yn fwriadol ac amddiffyn y gweithwyr y digwyddodd hyn iddyn nhw?

14:45

Mae'n drueni mawr bod rhai Aelodau yn y Siambr hon yn chwarae gwleidyddiaeth gyda'r mater yma. Ac er mwyn i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy glywed, ac Aelodau eraill, mae ymddygiad P&O Ferries yn sgandal ac yn hollol annerbyniol, ac rydyn ni fel grŵp fan hyn wedi gwneud hynny yn hollol glir. Nawr, o ystyried y sefyllfa ddifrifol yma, ac o ystyried ei bod hi'n ymddangos bod prif weithredwr y cwmni hwn wedi cyfaddef iddo fe dorri'r gyfraith, ai eich barn chi felly fyddai y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fynd â'r mater hwn nawr i'r llysoedd i'w erlyn ef a'r cwmni?

Wel, wrth gwrs. Wrth gwrs, mae diddordeb yn y pwnc yma yng Nghymru, ac mae cyfrifoldeb ar Weinidogion yn San Steffan i fynd i'r llysoedd ac i fynd ar ôl y cwmni sydd wedi torri'r gyfraith. Ond, yn fwy na hynny, Dirprwy Lywydd, rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ddelio â'r cwmni sy'n rhedeg P&O yn y rhaglen free ports sydd gyda nhw. Dydy hi ddim yn dderbyniol i ni i fynd ar ôl P&O pan maen nhw'n dal i weithio gyda'r cwmni sydd y tu ôl i P&O. Mae lot mwy—mae lot mwy—i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud, ac nid yw hynny'n chwarae gwleidyddiaeth o gwbl; mae jest yn bod yn glir am ble mae'r cyfrifoldeb yn aros. 

Twristiaeth Feicio

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth feicio yng ngorllewin Cymru? OQ57871

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Mae gorllewin Cymru mewn sefyllfa dda yn barod i ddod yn un o’r lleoliadau beicio allweddol yng Nghymru i ymwelwyr o Gymru a thu hwnt. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi camau gweithredu’r awdurdodau lleol ac eraill i ddatblygu twristiaeth feicio.

Diolch yn fawr iawn. Fel ŷch chi'n gwybod, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn hybu twristiaeth feicio dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gweld datblygiad y gylchffordd gaeedig genedlaethol ym Mhen-bre—y closed road circuit ym Mhen-bre—ailddatblygu'r felodrom yn nhre Caerfyrddin, hefyd mae yna lwybr beicio ar hyd dyffryn Tywi ar fin cael ei orffen, ac mae sir Gaerfyrddin wedi cynnal sawl cymal o'r Tour of Britain dros y blynyddoedd diwethaf. Ac rydyn ni'n gwybod hefyd fod sir Benfro, ardal o harddwch naturiol, wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau mawr, fel yr Iron Man yn Ninbych-y-pysgod yn flynyddol, yn sicr cyn y pandemig. Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y Tour de France i Gymru o'r blaen, ac rydyn ni’n gwybod am fuddiannau economaidd hynny. Roedd y Grand Depárt o swydd Efrog nôl yn 2014 wedi dod â rhyw £130 miliwn i mewn i'r ardal. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn: a fyddech chi'n cytuno bod gorllewin Cymru yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer cynnal cymal o'r Tour de France? A nawr bod COVID wedi pasio, pa waith mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei wneud i wahodd y Tour de France, un o'r cymalau, i orllewin Cymru rywbryd yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn. 

14:50

Wel, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn. Dwi'n cytuno â fe, wrth gwrs, am y posibiliadau sydd yna yn y gorllewin am feicio. Dwi'n cofio bod ym Mhen-bre gydag arweinydd cyngor y sir, pan oedden ni'n gweithio gyda'n gilydd i agor tour y Deyrnas Unedig nôl yn 2018, pan oedd Geraint Thomas yn arwain y tour. Ac, wrth gwrs, dwi'n cofio, wrth dyfu lan yng Nghaerfyrddin, defnyddio'r felodrom yn y parc yng Nghaerfyrddin bron bob dydd. Wel, rydyn ni, Dirprwy Lywydd, yn dal i gydweithio gyda'r Alban a Lloegr i ddatblygu bid i dynnu'r Tour de France i'r Deyrnas Unedig yn 2026. Mae trafodaethau yn mynd ymlaen ac, wrth gwrs, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i dynnu sylw at y posibiliadau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae lot o fanylion i'w trafod gyda'r bobl sy'n gyfrifol am y Tour de France, ac rydyn ni jest yn dechrau gwneud hynny. Ond, os ydy'r posibiliadau yna, i ddenu'r tour i Gymru, wel wrth gwrs dwi'n gwybod, i bobl sydd â diddordeb yn y maes beicio, bydd hynny'n rhywbeth mawr iawn iddyn nhw. 

Olew Gwresogi ac LPG

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi amddiffyniadau ar waith yn erbyn codiadau mewn prisiau i bobl ledled Cymru wledig sy'n dibynnu ar olew gwresogi ac LPG? OQ57879

Wel, Llywydd, prynhawn da i Jane Dodds. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd sydd, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, yn wynebu argyfwng ynni a chostau byw. Trafodwyd cost olew gwresogi ddiwethaf gyda swyddogion Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ar 23 Mawrth.

Diolch, Prif Weinidog am eich ymateb. 

Mae hwn yn fater y gwn fod llawer wedi'i godi gyda nhw ar draws y Siambr. Mae llawer wedi gweld pris olew gwresogi yn dyblu mewn llai na chwe mis. Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Gweinidog Gwladol Ceidwadol y DU dros Ynni, Twf Glân a Newid Hinsawdd, Greg Hands, fod Llywodraeth y DU yn credu mai'r farchnad agored ar gyfer cyflenwi olew gwresogi yn y DU yw'r warant hirdymor orau o brisiau cystadleuol. Aeth ymlaen i ddweud nad oes angen cap ar brisiau. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod yr ymateb hwn, ar wahân i fod yn esgeulus, yn dangos cyn lleied y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddeall am yr argyfwng y mae pobl yn ei wynebu? Diolch yn fawr iawn.

Wel, Dirprwy Lywydd, yn sicr nid ydyn nhw'n deall dim o sefyllfa y bobl hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn gwybod bod 28 y cant o aelwydydd mewn ardaloedd gwledig mewn rhannau o Gymru yn dibynnu ar olew gwresogi i wresogi eu cartrefi a chael dŵr poeth. Mae'r syniad bod y farchnad yn eu gwasanaethu nhw'n dda yn mynd yn groes i bopeth yr ydym ni'n ei glywed am y ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu ar hyn o bryd. Rydym yn clywed llawer gormod o achosion o bobl yn dweud wrthym na allan nhw gael un ymateb gan unrhyw gwmni sy'n barod i ddarparu tanwydd iddyn nhw, a bod cwmnïau'n gwrthod datgan pris am yr olew gwresogi hwnnw nes bod yr olew gwresogi'n cael ei ddosbarthu i'r tŷ ei hun. Yn sicr, nid yw honno'n farchnad sy'n gweithredu fel y dylai wneud. Wrth gwrs, byddwn i'n arddel safbwynt gwahanol yn gyffredinol ynghylch effeithiolrwydd marchnadoedd fel ffordd o ddarparu gwasanaethau cwbl hanfodol o unrhyw fath, ond yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sy'n gyfrifol am sicrhau bod marchnadoedd masnachol yn gweithredu'n effeithiol a bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg.

Gwnaeth ein panel cynghori ar dlodi tanwydd gyfarfod ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, ac rydym wedi gofyn i aelodau'r panel a'u cysylltiadau â rhanddeiliaid roi unrhyw dystiolaeth i ni o arferion masnachu annheg, er mwyn i ni allu parhau i godi hynny wedyn gyda Llywodraeth y DU ond hefyd, os oes angen, i bwyso ar yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i arfer y cyfrifoldebau sydd ganddo i sicrhau bod marchnadoedd yn gweithredu fel y dylen nhw. Ac mae cred naïf y bydd marchnad agored, heb unrhyw ymyrraeth, yn gwasanaethu pobl yn dda o dan yr amgylchiadau presennol yn wir, fel y dywedodd Jane Dodds, Dirprwy Lywydd, yn dangos unwaith eto sut y mae Gweinidogion Ceidwadol, nad ydyn nhw byth yn gorfod wynebu'r cyfyng-gyngor hwn yn eu bywydau eu hunain, wedi'u datgysylltu'n llwyr o'r ffordd y mae'n rhaid i bobl yng Nghymru wledig ac mewn mannau eraill wneud y dewisiadau y maen nhw'n eu hwynebu yn awr.

14:55
Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU

7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol y gallai datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU eu cael ar aelwydydd yn Nwyrain De Cymru? OQ57904

Diolch i Delyth Jewell am hynny, Dirprwy Lywydd. Yng Nghymru, rydym eisoes wedi darparu pecyn cymorth sy'n werth mwy na dwywaith y cyllid canlyniadol a gawsom ni, wrth i ni geisio chwarae ein rhan i helpu pobl y mae arnyn nhw angen y cymorth hwnnw fwyaf. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ymuno â ni i wneud hynny.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi canfod y bydd aelwyd gyfartalog yng Nghymru yn dal i fod £315 y flwyddyn yn waeth ei byd, bydd effaith anghymesur ar aelwydydd â'r incwm isaf gan y byddan nhw'n elwa'n llai ar y toriad yn y dreth tanwydd a'r cynnydd i'r trothwy yswiriant gwladol, a bydd pobl ar fudd-daliadau yn gweld gostyngiad mewn termau real o 4.3 y cant oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynyddu budd-daliadau. Gan fod incwm yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU, mae'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau yn uwch ac rydym ni'n talu mwy am drydan, bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio'n anghymesur ar bobl yng Nghymru. Prif Weinidog, er bod y camau yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw i'w croesawu, mae arnaf i ofn na fyddan nhw'n ddigon. Pa gyfiawnhad y mae'r Trysorlys wedi'i roi i Weinidogion Cymru dros fethu â gwneud mwy i helpu pobl ar incwm isel yng Nghymru, ac onid ydyn nhw'n sylweddoli bod eu methiant nhw i weithredu yn atgyfnerthu'r gred ymhlith y cyhoedd yng Nghymru na fydd San Steffan byth yn gweithio i Gymru?  

Yr hyn yr wyf i'n credu y mae'r ymateb yn ei ddweud wrthych chi, Llywydd, yw na fydd y blaid Geidwadol byth yn gweithio i Gymru, oherwydd dyma Ganghellor Ceidwadol a aeth ati yn natganiad y gwanwyn ar sail ceisio brolio ei gymwysterau ei hun fel Canghellor a oedd yn torri trethi er mwyn gwella ei gyfleoedd yn yr etholiad arweinyddol y mae'n disgwyl ei frwydro yn y dyfodol agos. Felly, nid oedd llygaid y Canghellor yn canolbwyntio ar helpu'r 5.5 miliwn o bobl sy'n economaidd anweithgar yn y wlad hon, na'r 11 miliwn o bensiynwyr sy'n sylweddol waeth eu byd o ganlyniad i dorri ei addewid ei hun i godi pensiynau yn unol â'r clo triphlyg. Bydd dau ddeg saith miliwn o bobl allan o 31 miliwn o bobl yn dal i dalu mwy o dreth ar ôl gimig etholiadol y Canghellor o weithredu toriad o 1 geiniog mewn treth incwm yn 2024, ac mae hynny'n dweud wrthych chi ble mae buddiannau y Canghellor a'r blaid Geidwadol.

Dyma a ddywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi'i weld drosti ei hun. Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wrth sôn am addewid y Canghellor i weithredu toriad o 1c mewn treth incwm yn 2024 y bydd y cyfuniad o gynnydd mewn cyfraddau yswiriant gwladol a gostyngiad mewn treth incwm yn gwneud y system yn llai teg ac yn llai effeithlon—yn fwy annheg ac yn fwy gwastraffus ar yr un pryd. Mae'n beth syfrdanol i fod wedi'i gyflwyno fel Canghellor, ond dyna sydd gennym ni, a phobl ledled y Deyrnas Unedig, o ganlyniad i'r penderfyniadau bwriadol a wnaeth y Canghellor. Nid yw'n gamgymeriad; roedd yn gwybod beth yr oedd yn ei wneud. Penderfynodd pwy y byddai'n eu haberthu a phwy y byddai'n eu hamddiffyn, a dyna oedd blaenoriaethau'r blaid Geidwadol.  

Llifogydd

8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Cyfoeth Naturiol Cymru i liniaru llifogydd ar dir yng nghanolbarth Cymru? OQ57902

Llywydd, ar 15 Mawrth, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd ein rhaglen llifogydd fwyaf erioed, sef cyfanswm o £71 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig. Mae'r buddsoddiad hwnnw'n cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cynlluniau yn y canolbarth.

15:00

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn ôl ym mis Chwefror—20 o fis Chwefror, i fod yn benodol—bu llifogydd mawr yn fy etholaeth i, yn arbennig yn Llandinam, Llandrinio a Chei'r Pwll. Pan fydd llifogydd yn effeithio ar dir ac yn ei foddi fel hyn, mae hynny'n achosi gofid enfawr; a mwy byth o ofid pan fydd llifogydd yn effeithio ar gartrefi pobl, fel y digwyddodd bryd hynny.

Fy mhryder i, Prif Weinidog, yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ymrwymiadau i gynghorwyr sir lleol, fi fy hun a thrigolion ddwy flynedd yn ôl, ond nid yw'r gwaith hwnnw wedi ei wneud. Wrth gwrs, mae ofn ar drigolion y byddan nhw'n gwneud gwaith i adfer eu heiddo yn awr—eiddo y gwnes i ymweld â nhw fy hunan yn ddiweddar—dim ond i weld llifogydd eto ymhen dwy flynedd neu rywbryd yn y dyfodol. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, yn y cyllid y gwnaethoch chi sôn amdano heddiw, ac rwy'n croesawu hwnnw'n fawr iawn, roi blaenoriaeth i brosiectau sydd eisoes ar waith ac a drafodwyd yn flaenorol, ac mai dyna le y mae'r flaenoriaeth ar gyfer y cyllid penodol hwnnw?

Hefyd, Prif Weinidog, pan gafwyd llifogydd mewn rhannau eraill o Gymru ddwy flynedd yn ôl, roedd yna daliad iawndal i aelwydydd ar gyfradd o £1,000 i bob aelwyd. Nid yw'r un iawndal ar gael y tro hwn, pan gafwyd y llifogydd sylweddol hyn yn y canolbarth. Felly, a gaf i ofyn i chi pam mae hynny'n wir, ac a all y safbwynt polisi hwnnw newid? Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.

Dirprwy Lywydd, diolch i Russell George am y cwestiynau yna. Roedd angen i mi deithio trwy etholaeth yr Aelod ychydig ddyddiau ar ôl y llifogydd ar 20 Chwefror ac roeddwn i'n gallu gweld gyda fy llygaid fy hun faint y difrod a'i effaith ar gymunedau yn ei etholaeth ef, felly rwy'n deall yn iawn pam mae'n codi'r pwyntiau hyn ar lawr y Senedd brynhawn yma.

Fel dywedais i, Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid yn uniongyrchol i Gyngor Sir Powys, i helpu i ddatblygu cynlluniau, ac i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i weithredu'r cynlluniau hynny'n ymarferol, ac fel y dywed yr Aelod, mae yna gynlluniau ar gyfer gwaith adeiladu yn Llandinam, er enghraifft, ond mewn rhannau eraill o etholaeth yr Aelod hefyd. Rwy'n hapus iawn i godi'r angen i sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud mewn dull mor amserol â phosibl gyda'r Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb.

Mae'r Aelod yn iawn, wrth gwrs, pan fu llifogydd mewn tai ar raddfa sylweddol, ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethom ni ymateb i hynny drwy ddarparu £1,000 i'r aelwydydd yr effeithiwyd arnyn nhw. Maint y llifogydd—. Rwy'n gwybod os chi sydd yn ei chanol hi, ni all hi fod ddim gwaeth, ond nid oedd y niferoedd dan sylw a oedd yn gysylltiedig â'r llifogydd ar 20 Chwefror ar yr un raddfa. Gall y rhai y mae llifogydd wedi effeithio arnyn nhw wneud cais am gymorth o'r gronfa cymorth dewisol, a bydd yr Aelod yn gwybod ein bod ni wedi cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i'r gronfa honno yn sylweddol yn y flwyddyn ariannol gyfredol, ac eto yn y flwyddyn sy'n dechrau ym mis Ebrill. Pan fydd pobl yn gymwys i ddefnyddio'r gronfa honno, mae effaith llifogydd yn un o'r pethau y gallan nhw ddefnyddio'r gronfa am gymorth ar ei chyfer.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin

Felly, fe symudwn ni ymlaen i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Dirprwy Lywydd, diolch i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw am y cynnydd a fu o ran y cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru a'r cymorth yr ydym ni'n ei roi ar waith i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 3.8 miliwn o bobl wedi ffoi o Wcráin erbyn hyn. Mae'r mwyafrif llethol wedi chwilio am ddiogelwch yng Ngwlad Pwyl ac mewn gwledydd cyfagos. Mae'r argyfwng hwn yn datblygu ar garreg ein drws ni. Mae pobl yma yng Nghymru—a ledled y DU—wedi arddangos parodrwydd mawr i helpu pobl Wcráin. Rydym ni wedi gweld hynny yn niferoedd y bobl sydd wedi mynychu gwylnosau, sydd wedi rhoi dillad, nwyddau ac arian—hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn. Rydym ni wedi gweld ymateb ysgubol gan bobl yng Nghymru hefyd wrth iddyn nhw gofrestru yn eu miloedd â chynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU a bod yn noddwyr o bosibl i rai sy'n ffoi rhag y rhyfel ac agor drysau eu cartrefi iddyn nhw. Mae Cymru yn dangos ein dyhead ni i fod yn genedl noddfa yn ymarferol.

Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU ers iddo gael ei sefydlu ac rydym ni wedi cofrestru yn uwch-noddwyr. Fe fydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i bobl o Wcráin nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiadau teuluol yn y DU, na noddwyr unigol, gael noddfa yng Nghymru. Gall pobl sy'n ffoi o Wcráin sy'n dymuno dod i Gymru ddewis cael eu noddi am fisa gan Lywodraeth Cymru. Aeth yr opsiwn hwn yn weithredol brynhawn Gwener diwethaf ac rydym yn gwneud trefniadau i'r bobl gyntaf gyrraedd yma. Rydym ni wedi dweud y byddwn yn noddi 1,000 o bobl ar y cam cyntaf. Mae hynny ar sail profiad cynlluniau llwyddiannus i ailsefydlu pobl o Syria ac Afghanistan. Serch hynny, rydym ni'n barod i dderbyn mwy os oes angen. Pan roddir caniatâd am fisa, fe fydd canolfan gyswllt Llywodraeth Cymru yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol i gadarnhau'r trefniadau ar gyfer eu dyfodiad.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

15:05

Byddan nhw'n dod am y DU, a bydd hyn yr un fath i bawb sy'n cael eu noddi gan unigolion o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae canolfannau wedi eu sefydlu ar gyfer newydd-ddyfodiaid mewn porthladdoedd ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun, ac ym Maes Awyr Caerdydd i helpu pobl sy'n cyrraedd o Wcráin. Mae canolfannau newydd-ddyfodiaid yng ngorsafoedd trenau a bysiau Caerdydd canolog a gorsaf drenau Wrecsam. O'r canolfannau hyn, bydd pobl yn gymwys i deithio ymlaen i Gymru am ddim, ac i un o'r canolfannau croeso, sy'n cael eu sefydlu ledled y wlad i gynnig llety a chymorth ar unwaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid o Wcráin. Yn y canolfannau croeso, bydd pawb yn cael cymorth a chefnogaeth i'w helpu i ymgartrefu yng Nghymru.

Bydd gwasanaethau cyfieithu ar gael i bobl nad ydyn nhw'n siarad Saesneg a bydd cyfleoedd i ddechrau dysgu Cymraeg a Saesneg. Bydd gwasanaethau iechyd ar gael; bydd plant yn dechrau yn yr ysgol a bydd cyngor ar gael i helpu pobl i ffeindio'u ffordd mewn gwlad newydd; cymorth ariannol a gyda budd-daliadau ac ar sut i ddod o hyd i waith. Bydd llety ar gael ar y safle yn y canolfannau croeso, ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddod o hyd i gartref tymor hwy i bob unigolyn a theulu ledled Cymru.

Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed tu hwnt gyda phartneriaid dros y pythefnos diwethaf, ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi manylion cyntaf y cynllun hwn, i roi'r gefnogaeth ar waith y bydd ei hangen ar bobl sy'n cyrraedd o Wcráin. Fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf. Mae'r rhain ar gael ar ein gwefan. Rwy'n ddiolchgar iawn am y berthynas waith agos sydd gennym ni â llywodraeth leol ac am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r trydydd sector a'r gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys y GIG.

Ddoe, fe wnaethom ni lansio llinell gymorth bwrpasol ar gyfer pobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin ac ar gyfer pobl sy'n eu noddi nhw, i roi cyngor ac arweiniad. Ar gyfer rhai sy'n ffonio yn y DU, y rhif rhadffon yw 0808 175 1508. I rai sy'n ffonio o'r tu allan i'r DU, y rhif yw +44 20 4542 5671. Byddaf i'n gwneud yn siŵr y bydd pob Aelod yn ymwybodol o'r rhifau ffôn hyn.

Llywydd dros dro, mae yna sawl ffordd i bob un ohonom ni helpu pobl Wcráin. Mae'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau wedi sefydlu apêl ddyngarol yn Wcráin, sy'n helpu i ddarparu bwyd, dŵr, lloches, gofal iechyd a diogelwch i bobl sy'n dianc rhag yr ymladd. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £4 miliwn i apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau ac wedi anfon cyflenwadau meddygol i Wlad Pwyl, lle byddan nhw'n cael eu hanfon ymlaen i Wcráin. Mae rhagor o gyflenwadau meddygol yn barod i'w cludo.

Rwyf i wedi cadarnhau heddiw y byddwn yn rhoi £1 miliwn i gronfa newydd Croeso Cenedl Noddfa, sydd wedi ei sefydlu ac sy'n cael ei rhedeg gan Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae'r gronfa hon yn agored i'r cyhoedd a sefydliadau, ac mae hi'n gweithio gyda phobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru. Rydym yn falch o allu cyfrannu at y gronfa ac at fenter Sefydliad Cymunedol Cymru i gefnogi pobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru a chefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches eraill yng Nghymru. Rydym yn gofyn i fusnesau neu sefydliadau am gymorth i ddarparu llety ar raddfa eang, a chludiant i fynd â phobl i'w cartrefi newydd a chyflenwadau—fel bwyd, dillad a chynhyrchion mislif—cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd. Gall busnesau gofrestru eu cefnogaeth ar ein gwefan, a byddaf i'n gwneud yn siŵr bod y manylion hyn ar gael i'r Aelodau.

Llywydd dros dro, roedd yr ymosodiad ar Wcráin gan Putin yn ddiwrnod tywyll o ran heddwch yn y byd, ond mae'r awydd aruthrol i helpu y mae pobl ledled Cymru wedi ei ddangos yn dystiolaeth o obaith yn yr amseroedd mwyaf dyrys, hyd yn oed. Diolch.

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi yn breifat—galwad arall ddoe. Pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf pam nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn opsiwn uwch-noddwr ar wefan Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, fe wnaethoch chi ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd yn uwch-noddwr ddydd Gwener diwethaf ac, felly, rwy'n falch o weld bod yr opsiwn hwnnw ar gael ar y wefan erbyn hyn, fel rydych chi'n ei ddweud.

Roedd yr wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Wcráin, a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn diwethaf, yn cynnwys llawer o ffactorau yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad chi heddiw. Ond, wedi dweud hynny, fe all pobl sy'n ffoi o Wcráin sy'n dymuno dod i'r DU ddewis cael eu noddi am fisa gan Lywodraeth Cymru. Pan roddir y fisa, bydd canolfan gyswllt Llywodraeth Cymru yn cysylltu yn uniongyrchol â phobl i gadarnhau'r trefniadau ar gyfer eu dyfodiad. Bydd angen iddyn nhw drefnu eu ffordd eu hunain i'r DU, ond, pan fyddan nhw yma, byddan nhw'n gymwys i deithio ymlaen am ddim i Gymru ac i un o'r canolfannau croeso a sefydlwyd ledled y wlad i ddarparu llety a chymorth ar unwaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid o Wcráin.

Fodd bynnag, pan oeddwn i'n eich holi yr wythnos diwethaf, cyfeiriais i hefyd at ffoadur a oedd wedi cyrraedd sir y Fflint o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, a oedd wedi cael gwybod na allai hi gael budd-daliadau na chofrestru gyda meddyg teulu hyd nes iddi hi gael fisa llawn. Felly, o dan y cynllun uwch-noddwr ar wahân, a fydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â phobl felly ar ôl i'r fisa gael ei ganiatáu, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi cael fisa llawn eto? Pa gymorth, os o gwbl, sydd ar gael iddyn nhw os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd drefnu eu ffordd eu hunain i'r DU, ac os na ddaw hwnnw oddi wrth y Llywodraethau eu hunain, pa ymgysylltiad sydd gan Lywodraeth Cymru â chyrff anllywodraethol neu gyrff eraill i'r diben hwn?

Rydych chi wedi nodi lleoliad canolfan groeso gychwynnol Llywodraeth Cymru rywle yn y gogledd yn gyfrinachol, a chanolfannau eraill rywle mewn rhanbarthau eraill. A fydd y rhain yn parhau i fod yn gyfrinachol neu a fydd eu lleoliadau yn dod yn hysbys i'r cyhoedd?

Yn y diweddariad gan Lywodraeth Cymru ddydd Sadwrn diwethaf, y cyfeiriais ato, fe wnaethoch chi nodi ystod o wasanaethau a fydd ar gael yn y canolfannau croeso hefyd, a gwnaethoch chi eu nodi eto heddiw, gan gynnwys darpariaeth i ddysgu Cymraeg a Saesneg, a gallu cael gwasanaethau iechyd a gwersi i blant. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi felly fod asiantaethau lleol, yn enwedig awdurdodau lleol a byrddau iechyd, wedi cytuno ar y rhain i gyd, ac y byddan nhw ar waith pan fydd pobl yn cyrraedd? Rydych chi'n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddod o hyd i gartrefi tymor hwy i unigolion a theuluoedd sy'n cael eu lletya yn y canolfannau croeso. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni felly am sut yr ydych chi'n ymgysylltu â'r llu o ganolfannau cymorth, cymunedau eglwysig a ffydd ac aelwydydd unigol sy'n cysylltu â ni i gyd gyda chynigion o lety tymor hwy?

Yn eich datganiad, rydych chi'n galw ar fusnesau neu sefydliadau i helpu drwy ddarparu llety ar raddfa eang. Ym mrecwast seneddol Gŵyl Dewi 2022 ar 1 Mawrth, y gwnaethoch chi siarad ynddo, os ydw i'n cofio yn iawn, roeddwn i'n eistedd wrth ymyl rhywun yr oedd ei gwmni yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu llety ar raddfa fwy eang—llety o safon, ond dros dro. Felly, pa ymgysylltiad, os o gwbl, ydych chi'n ei gael â'r Weinyddiaeth Amddiffyn o ran darparu llety ar raddfa mor eang, ac yng Nghymru o bosibl?

Ac yn olaf, beth fydd oriau gweithredol y llinell gymorth bwrpasol? A sut ydych chi am sicrhau y bydd y staff yn cael hyfforddiant llawn a chymwys, ac y bydd rhai sy'n siarad Wcreineg ar gael? Diolch.

15:10

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am nifer o gwestiynau, a chewch chi atebion i rai ohonyn nhw wrth edrych ar y canllawiau sydd ar gael ar y wefan erbyn hyn. Ond i gadarnhau, gan ein bod ni wedi cyflwyno ein statws uwch-noddwr ddydd Gwener diwethaf, ei fod o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU ac, fel dywedais yn fy natganiad i ddechrau, mae'n golygu ymrwymiad i hyd at 1,000 o bobl. Y pwynt pwysig yw bod hynny, mewn gwirionedd, yn hepgor yr angen i fod â noddwr unigol ac, yn lle hynny, fe gewch eich noddi gan Lywodraeth Cymru. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i gyfleu'r neges honno mai llwybr i mewn i Gymru ar gyfer y ffoaduriaid hynny yw hyn. A hefyd, sicrhau, pan fyddan nhw wedi dewis Llywodraeth Cymru trwy'r cynllun ymgeisio am fisa gan Lywodraeth y DU, y byddan nhw'n cael un, ac rydym ni'n disgwyl, wrth gwrs, y bydd hynny i gyd yn digwydd. Byddwn yn gweithio yn agos iawn, rwyf i am ei ddweud hefyd, o ran—. Rydym yn gweithio yn agos iawn gyda Llywodraeth y DU o ran sut y mae hynny'n digwydd ac, yn wir, rydym yn edrych ymlaen at allu sicrhau bod yr wybodaeth a'r ffigurau gennym ni o ran y ceisiadau llwyddiannus hynny am fisâu. Ond mae'r darnau i gyd yn cwympo i'w lle.

Ein canolfannau croeso: roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau hynny sydd â chanolfan groeso a fydd yn agor yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau nhw. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried y preifatrwydd a'r gefnogaeth sydd ar gael yn y canolfannau croeso hynny ar hyn o bryd. Mae angen i ni gynnig tawelwch a llonyddwch yn y cymunedau hynny lle mae'r canolfannau croeso hyn i'r ffoaduriaid sy'n dianc rhag y trawma a'r argyfwng a'r trychineb dyngarol y maen nhw'n dod ohono. Rwyf i o'r farn bod hynny'n gwbl synhwyrol. Fe fydd y cymunedau yn dod i'w hadnabod ac fe fyddan nhw, rwy'n siŵr, yn cefnogi'r bobl hynny sydd yn y canolfannau croeso. Ond hefyd, mae'n rhaid iddyn nhw fod o ansawdd a chyflwr rhagorol; mae rhywfaint o waith wedi ei wneud i rai o'r canolfannau sydd wedi eu nodi. Ond rydym yn dilyn llwyddiant y cynllun ffoi o Afghanistan i raddau helaeth iawn o ran y ffordd y mae Urdd Gobaith Cymru yn chwarae ei ran, a honno yw'r safon y mae'n rhaid i bob canolfan groeso ei chyrraedd.

Rwyf i wedi sôn am y mynediad at wasanaethau a fydd ar gael. Os edrychwch chi ar y canllawiau i lywodraeth leol a gyhoeddwyd ddydd Gwener, mae'r rhain yn ymdrin yn llwyr â'r holl bwyntiau ynglŷn â'r gwasanaethau a fydd ar gael—addysg, iechyd—ac mae hefyd yn ymdrin ag ystod eang o faterion fel diogelu, materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a lles a'r trawma y mae ffoaduriaid wedi ei ddioddef. Mae'n cwmpasu pob un peth, ond mewn gwirionedd, rydym ni hefyd bellach yn llunio canllawiau i noddwyr yr wythnos hon. Bydd y rhain yn cynnig arweiniad i bawb sy'n noddi ledled Cymru a gobeithio y byddan nhw'n gallu derbyn y ffoaduriaid hynny, wrth iddyn nhw gael eu fisa, i roi llety iddyn nhw.

O ran canolfannau cymorth a chysylltu â'r trydydd sector, eglwysi a grwpiau gwirfoddol, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio yn agos iawn gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Cytûn a Llais Wcráin. Fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, a minnau gyfarfod â llawer o'r cysylltiadau hynny ledled Cymru gyfan yr wythnos diwethaf. Byddwn yn cyfarfod eto yr wythnos hon a byddwn yn cyfarfod yn rheolaidd, gan gynnwys â'r cyswllt y gwnaethoch chi, Mark, ei roi i ni o'r gogledd. Maen nhw hefyd yn dechrau cynnig eu cefnogaeth o ran darparu adnoddau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, adnoddau addysgol, ac adnoddau iechyd meddwl hefyd. Roedd hi'n dda iawn bod y comisiynydd plant yno, Sally Holland, sydd â chysylltiadau uniongyrchol â chomisiynydd plant Wcráin a chomisiynwyr plant ledled Ewrop, ac rydym yn dwyn llywodraeth leol i mewn i hynny hefyd. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cwrdd ag arweinwyr, prif weithredwyr, grwpiau cydnerthedd lleol a rhanbarthol, ac maen nhw'n gweithio mor galed i sicrhau eu bod nhw'n barod i helpu i ddarparu'r math o gymorth y bydd y rhai sy'n ffoi i Gymru yn gallu ei gael. Rwy'n credu mai dull tîm Cymru yw hwn—pawb yn gweithio gyda'i gilydd, llywodraeth leol, y trydydd sector, ac yn amlwg, yn gweithio yn agos iawn nid yn unig â Llywodraeth y DU, ond gyda Llywodraeth yr Alban hefyd, oherwydd eu bod nhw hefyd yn uwch-noddwyr. Rydym ni'n dysgu oddi wrth ein gilydd, yn gweithio ar sail pedair gwlad.

Mae llinell gymorth bwrpasol wedi ei sefydlu erbyn hyn, ac rwyf i wedi rhoi'r rhifau ar ei chyfer—a rhoddais i'r rhifau er mwyn iddyn nhw fod ar y cofnod, ond ni allwch chi byth â rhoi gormod o gyhoeddusrwydd i'r rhifau hyn—ar gyfer pobl sy'n ffonio o'r tu mewn i'r DU a'r tu allan i'r DU. Mae hwn yn dîm cryf o blith llywodraeth leol yng Nghymru. Timau yw'r rhain sydd wedi bod yn weithredol drwy gydol y pandemig, yn enwedig o ran profi, olrhain a diogelu a'r holl swyddogaethau a sgiliau eraill maen nhw wedi eu datblygu. Maen nhw'n amlwg wedi eu cynnwys a'u hyfforddi'n llawn ac mae siaradwyr Wcreineg a Rwseg ar gael iddyn nhw hefyd. Maen nhw'n barod, ar agor ac yn weithredol. Fe fyddaf yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â'u horiau gweithredu, ond rwy'n credu iddyn nhw agor ddydd Llun a'u bod nhw ar waith yn effeithiol. Rwy'n credu hefyd ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod eu ffyrdd o weithio a chefnogi'r noddwyr niferus hynny sy'n cysylltu â ni gan ddweud, 'Pryd ydw i'n mynd i gael croesawu'r teulu, yr unigolyn, neu'r bobl yr ydym ni wedi cytuno i'w noddi eisoes?' Maen nhw'n ateb yr holl gwestiynau, ac rydym ni'n eu hadrodd yn ôl i Lywodraeth y DU wedyn, oherwydd bod angen yr atebion arnom ninnau hefyd ynglŷn â phob un o'r pwyntiau hynny.

15:15

O ystyried ymagwedd gwbl annigonol ac anghymwys Llywodraeth y DU tuag at argyfwng ffoaduriaid o Wcráin, a'r rhybudd a gyhoeddwyd mewn datganiad gan benaethiaid y Cyngor Ffoaduriaid, y Groes Goch Brydeinig, Achub y Plant ac Oxfam yn mynegi bod y system fisa yn achosi gofid mawr i bobl o Wcráin sydd wedi dioddef trawma eisoes, mae yna groeso mawr i nod Llywodraeth Cymru i'w gwneud hi mor hawdd â phosibl i ni groesawu pobl yma. Mae hi'n amlwg, er hynny, y dylai Llywodraeth Cymru alw am hepgor unrhyw angen am fisa o ran y bobl druenus hyn, ac unrhyw ffoadur rhag rhyfel, yn ôl y rhwymedigaeth sydd arnom ni o dan gonfensiwn ffoaduriaid 1951 y Cenhedloedd Unedig.

Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, rydym yn gwybod bod ymateb pobl Cymru i'r alwad i helpu'r rhai sy'n ffoi o Wcráin wedi bod yn rhyfeddol iawn, ac adlewyrchir eu haelioni mewn arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Sul, a oedd yn dangos bod mwyafrif y bobl yn y DU yn cefnogi polisi o hepgor fisâu ac yn dymuno caniatáu i nifer digyfyngiad o bobl Wcráin, sy'n ffoi rhag ymosodiad anghyfreithlon ac erchyll Rwsia ar eu cenedl, ddod i'r DU. Felly, er ein bod ni'n barod ac yn aros i'w helpu nhw, i'w croesawu nhw a gwneud popeth yn ein gallu i'w helpu i ddod o hyd i gartref, mae'r rhai sy'n dymuno dod i'r DU yn gorfod wynebu oedi diangen a chreulon yn eu hymgais am ddiogelwch, yn ogystal â phryder a achosir gan fiwrocratiaeth gymhleth, gwaith papur di-ben-draw sy'n rhwystro diogelwch. Gweinidog, ar ran pobl Cymru, mae'n rhaid i ni erfyn ar y Swyddfa Gartref i wneud mwy i helpu pobl i ddod o hyd i'r gefnogaeth a'r noddfa sydd eu hangen arnyn nhw.

Gweinidog, a ydych chi wedi cael unrhyw ddiweddariad gan Lywodraeth y DU am nifer y fisâu sydd wedi eu rhoi i'r rhai sy'n awyddus i ddod i'r DU ond heb gysylltiadau teuluol yma? Ai nifer bach iawn o bobl sy'n dod drwy'r cynllun hyd yn hyn, fel y mae'r ffoaduriaid yn ei awgrymu, ac a yw hyn yn cael unrhyw effaith ar yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r cynllun uwch-noddwr? Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y bobl a allai gael eu gorfodi i geisio cymorth gan eu gwledydd lletyol presennol, ac a fydd hynny'n peryglu eu ceisiadau am statws ffoadur pan fyddan nhw'n cyrraedd Cymru?

Rydych chi wedi ailadrodd heddiw yr hyn y gwnaethoch ei ddweud yn eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, fod Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ffoaduriaid o Wcráin yn cael teithio am ddim tra byddan nhw'n ymgartrefu yng Nghymru drwy ddangos pasbort Wcreinaidd i docynwyr a staff gorsafoedd am gyfnod o chwe mis, a bod y cynllun yn estyniad o raglen barhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cludiant cyhoeddus am ddim i geiswyr lloches yng Nghymru. Mae'r prosiect trafnidiaeth sy'n darparu'r cludiant am ddim hwn a gafodd ei dreialu gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, dan arweiniad Lywodraeth Cymru, yn dod i ben ar ddiwedd y mis hwn. Yn y cyfamser, mae ffoaduriaid o Wcráin wedi cael caniatâd i deithio am ddim ledled Cymru drwy ddangos eu pasbort i ddarparwyr y gwasanaethau. Ceir adroddiadau gan geiswyr lloches eu bod nhw'n cyrraedd gorsaf Caerdydd Canolog dim ond i gael gwybod eu bod nhw y math anghywir o geisiwr lloches—hynny yw, nid o Wcráin. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd cludiant am ddim yn cael ei ymestyn i bob ffoadur a cheisiwr lloches am y chwe mis nesaf?

Er bod y rheswm dros gadw lleoliadau canolfannau croeso Cymru, wrth gwrs, yn gwbl ddealladwy, mae hi'n bwysig bod y sefydliadau cymharol y trydydd sector yn gwybod ble y bydd y canolfannau wedi eu lleoli, er mwyn iddyn nhw allu darparu'r gwasanaethau perthnasol a'r cymorth arbenigol, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu. A wnaiff y Gweinidog amlinellu felly sut y caiff sefydliadau'r trydydd sector eu cefnogi i fod â'r rhan lawn a hanfodol sydd ei hangen yn y broses integreiddio ac ailsefydlu ar gyfer y rhai sy'n dod i Gymru yn ôl y cynllun noddi, y tu hwnt, wrth gwrs, i'r rhodd o £1 miliwn y gwnaethoch ei chyhoeddi i gronfa Cenedl Noddfa Croeso?

Ac yn olaf, i'r rhai sy'n dod i Gymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, disgwylir i'r noddwyr letya ffoaduriaid am o leiaf chwe mis. I'r rhai a fydd yn dod yn syth i gartrefi yng Nghymru, beth fydd yn digwydd pe byddai gwrthdaro rhwng y gwesteiwr a'r gwestai? A fydd yr awdurdod lleol yn cynnig llety brys mewn gwesty? Beth fydd yn digwydd pe byddai'r lletywr yn gwrthod llety ar ôl y chwe mis? A fydd y teulu yn cael eu lletya yn yr un ardal? A fyddan nhw'n cael eu hadleoli i ardal arall? Os felly, sut y bydd hyn yn effeithio ar eu hintegreiddio i'r gymuned? Pa gynllun sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth? Diolch.

15:20

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Fel y dywedais i mewn ymateb i Mark Isherwood, rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom ni, ar draws y Siambr hon, bobl sy'n cysylltu â ni sy'n pryderu'n fawr am eu bod nhw'n aros am ganlyniadau eu ceisiadau am fisa. Maen nhw'n awyddus i roi croeso i bobl o Wcráin i'w cartrefi. Wrth gwrs, yn aml iawn, maen nhw mewn cysylltiad â'r rhai sy'n aros mewn gwahanol rannau o Ewrop, yn aros iddyn nhw allu dod, ac yn aros am benderfyniad ar y cais hwnnw am fisa. Fe godwyd pryderon ynghylch cymhlethdod y ffurflenni cais hefyd, ac fe godwyd y rhain, rwy'n gwybod, yn Nhŷ Senedd y DU. Rwy'n ymwybodol bod Yvette Cooper, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, wedi gofyn yn benodol i Lywodraeth y DU gyhoeddi rhagor o wybodaeth ar frys i ddangos y cynnydd yn y cynlluniau fisa. Mae angen i ni gael gwybod beth sy'n digwydd. Rwyf i o'r farn, fel y dywedodd hi, fod pobl Prydain wedi dangos haelioni aruthrol o ran yr awydd i gefnogi pobl o Wcráin sy'n sy'n ffoi rhag ymosodiad Putin, fel yr ydym yn ei ddweud wrth bawb sydd wedi cyflwyno eu hunain yma yng Nghymru.

Fe wnes i siarad fore heddiw â'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Richard Harrington, a mynegais unwaith eto fy mhryder ynglŷn â'r diffyg cynnydd a fu o ran fisâu, oherwydd rydym ni'n awyddus i gael yr holl baratoadau, ac, yn wir, ein llwybr uwch-noddwr ni hefyd—. Mae'r canolfannau croeso yn barod. Hefyd, yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe—. Rwyf i am ddyfynnu'r Farwnes Ilora Finlay. Dywedodd:

'A yw'r Llywodraeth yn cydnabod bod y broses fisa yn achosi gofid mawr i bobl o Wcráin sydd eisoes yn dioddef trawma o brofedigaethau cronnus, arswyd treiddiol am eu bywyd a galar torfol ac sydd mewn perygl cynyddol erbyn hyn?'

Felly, mae'r cwestiynnau hyn yn cael eu gofyn. Mae hi'n bwysig eich bod chi'n codi'r cwestiynau hyn heddiw, ac rwy'n siŵr eu bod nhw'n dod o bob rhan o'r Siambr. Heddiw, fe addawodd y Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, ei fod yn ceisio symleiddio'r system a dywedodd ei fod hefyd yn gweithio i sicrhau hynny. Galwad i'r pedair gwlad yw hon, hefyd, gyda'n cydweithwyr yn yr Alban. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n symud ymlaen yn hyn o beth ac yn cael eglurder o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r fisâu a chael yr wybodaeth am y niferoedd sydd wedi eu derbyn ar hyn o bryd.

Mae hi'n bwysig hefyd fod popeth yn ei le gennym ni wrth i bobl gyrraedd. Rydych chi wedi codi pwynt pwysig ynglŷn â chludiant am ddim ar reilffyrdd a bysiau i ffoaduriaid o Wcráin. Roeddem ni eisoes—mewn gwirionedd, cynllun treialu oedd ar waith, fel gwyddoch chi—yn cynnig cludiant am ddim i ffoaduriaid wrth iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru yn ystod y chwe mis cyntaf ar ôl iddyn nhw gyrraedd. Yn sicr rwy'n dymuno olrhain y pwynt y gwnaethoch ei godi o brofiad personol. Yn wir, rydym ni'n gweithio yn agos iawn gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, sydd wedi bod yn rheoli'r cynllun hwnnw, ar sail profiad ffoaduriaid yng Nghymru o ran gallu manteisio ar y cymorth hanfodol hwnnw.

Mae'r holl gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i ffoaduriaid o Wcráin yn gefnogaeth yr ydym ni yn ei rhoi ac yr ydym ni wedi ei rhoi i ffoaduriaid o Afghanistan sydd yma oddi ar fis Awst, ond nid yn unig oddi ar fis Awst, ac sydd wedi parhau i gyrraedd dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac i'n ffoaduriaid sydd wedi dod o Syria hefyd. Roeddwn i'n edrych ar y niferoedd heddiw. Mae gennym ni 3,000 o geiswyr lloches yng Nghymru ar unrhyw adeg benodol, ac mae tua 600 yn cael eu statws ffoadur drwy'r system bob blwyddyn. Mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn dod o Afghanistan ar hyn o bryd. Rydym ni'n eu cefnogi gyda llety dros dro, ond hefyd, mae gan awdurdodau lleol eu cyfrifoldebau nhw wedyn o ran ailgartrefu'r bobl hyn. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig o ran y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi.

Ond hefyd, o ran y trydydd sector, rwyf i wedi cyhoeddi datganiad heddiw am y gronfa newydd hon sef Cronfa Croeso Cenedl Noddfa. Ydym, rydym ni newydd roi rhodd i honno, a bydd yn adeiladu'r gronfa. Fe fydd hi'n cael cefnogaeth, rwy'n gwybod; bydd yna lawer o bobl yng Nghymru sydd wedi rhoi yn hael iawn i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, ond rwy'n gwybod y byddan nhw'n awyddus i roi eto hefyd, ac rydym yn gobeithio y bydd yr elusennau a'r busnesau mawr yn cyfrannu at y gronfa honno hefyd er mwyn gallu gweithio gyda'r rhai sy'n cefnogi dyfodiaid o Wcráin. Mae'n mynd yn ôl at y pwynt ynglŷn â'n dull ni o weithio gyda'r grwpiau hynny a'r cysylltiadau â Llais Wcráin, yn ogystal ag eglwysi a grwpiau eraill.

Mae hi'n bwysig ein bod ni'n symud ymlaen yn awr i sicrhau bod pob agwedd ar gymorth yn cael ei darparu i'r rhai sy'n dod yma. Os edrychwch chi ar y canllawiau i awdurdodau lleol, fe welir gwybodaeth yn y fan honno am wiriadau ar gyfer noddwyr a'r rhai sy'n chwilio am gefnogaeth, sy'n dod i Gymru, ond ynglŷn â materion o ran diogelu hefyd, a pherthynas waith glòs. Nid pecynnau croeso sydd ar gael yn unig, ond canllawiau i noddwyr hefyd, oherwydd ein bod ni'n cydnabod y gallai materion godi a fyddai'n golygu mai dim ond llety dros dro y gellir ei ddarparu, hyd yn oed gan letywr. Ond fe fyddwn ni'n symud ymlaen at gyfrifoldebau'r awdurdodau lleol wedyn i gynnig llety i ffoaduriaid o Wcráin yn y tymhorau canolig a hwy. 

15:30

Galwaf ar y siaradwyr eraill yn awr. Os gallech chi gymryd munud yr un gan fod llawer o bobl yn awyddus i siarad ac rydym ni mewn perygl y bydd amser yn drech na ni, ac mae hwn yn fater mor bwysig. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd dros dro, a dim ond un cwestiwn byr sydd gen i. Ond fe hoffwn i ystyried—. Bydd Jane Dodds yn gyfarwydd iawn â neuadd les y glowyr yn Ystradgynlais. Mae gennym ni draddodiad balch yn y wlad hon o gefnogi ceiswyr lloches, ffoaduriaid, dros genedlaethau lawer—ymweld â theuluoedd o Syria yn y fan honno, dathlu eu diwylliant, ond dathlu'r rhodd a gawsom ni ganddyn nhw hefyd, y fraint a gawsom ni o'u derbyn nhw a'u teuluoedd i ysgolion a chymunedau lleol. Ac unwaith eto, dyma ni'n gwneud yr un peth eto. Rwy'n croesawu'r mesurau yn fawr, y mesurau ymarferol, yn hyn o beth, ac am hyn yr hoffwn i ofyn cwestiwn, ynglŷn ag un yn benodol. Mae cymaint o fy etholwyr i wedi cynnig eu cartrefi, ystafelloedd yn eu cartrefi, gan rannu â'u teuluoedd, i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel Putin yn Wcráin. Ar y sail honno, o ble y byddan nhw'n cael y cyswllt os nad ydyn nhw'n adnabod rhywun, os nad oes ganddyn nhw rywun sy'n mynd drwy'r cam fisa ar hyn o bryd? A fydd hyn yn dod o'r canolfannau croeso? A fydd yn dod o'r awdurdodau lleol? Am bwy y maen nhw'n disgwyl i ddweud, mewn gwirionedd, 'Iawn, fe allwn ni eich defnyddio yn awr ac fe allwch chi dderbyn rhywun i'ch cartref'? 

Wel, diolch i chi am y cwestiwn pwysig hwn, ac mae hwn yn gwestiwn y mae ein cyd-Aelodau ar draws y Siambr wedi ei ofyn heddiw. Cynllun Llywodraeth y DU yw Cartrefi i Wcráin. Rydym ni'n aros—. Nid yw'r wybodaeth gennym ni nes iddyn nhw ddweud wrthym ni pwy sy'n dod drwy'r llwybr hwnnw mewn gwirionedd. Yn amlwg, gallan nhw ymuno â'r llwybr uwch-noddwr, ac yna fe gawn ni'r wybodaeth am bwy sy'n dod drwy'r llwybr hwnnw hefyd. Ond rwyf i wedi rhoi manylion y llinell gymorth genedlaethol a agorodd ddydd Llun, ddoe. Bydd y llinell gymorth genedlaethol ar gael i alluogi, i roi rhywfaint o gyngor ac arweiniad i'r rhai sy'n awyddus i fod yn noddwr. Mae llawer o'ch etholwyr chi wedi cytuno i wneud hynny eisoes, rwy'n siŵr, ac wedi gwneud cysylltiadau â theuluoedd a ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin hyd yn oed neu sydd eisoes yn aros yn Ewrop i gael y sêl bendith honno. Mae'n rhaid i ni gael y sêl bendith honno gan Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid i ni gyflymu'r broses fisa. Mae hynny'n gwbl hanfodol, oherwydd bod y croeso cynnes yng Nghymru—rydych chi wedi sôn am neuadd les y glowyr yn Ystradgynlais—ledled Cymru, mae gennym ni'r parodrwydd, rydym ni'n aros, ac mae angen y gefnogaeth honno arnom ni. Felly, neges gref i Lywodraeth y DU heddiw: mae'n rhaid i ni gyflymu'r broses o ran cymeradwyo'r fisâu hyn.

Prynhawn da, Gweinidog. A gaf i ddiolch i chi hefyd, fel y gwnaeth Mark, am y gwaith yr ydych chi a'ch tîm wedi ei wneud, ac am gadw mewn cysylltiad â mi? Mae fy mater penodol i yn ymwneud â phobl dlawd o Wcráin—y rhai nad oes ganddyn nhw gar efallai, nad oes ganddyn nhw danwydd, nad oes ganddyn nhw'r adnoddau, nad oes ganddyn nhw ffordd o groesi'r ffin hyd yn oed, neu gyrraedd man lle gallan nhw wneud cais am fisa hyd yn oed a gallu dod i Gymru. Mewn cynlluniau gwacáu blaenorol, mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi sicrhau bod awyren neu gludiant, neu wedi sicrhau bod trefniadau ariannol ar waith i bawb—ni waeth o ba gefndir maen nhw—i ddod i wlad o'u dewis nhw. 

Rwy'n cytuno â barn fy nghyd-Aelod Sioned Williams ac yn ei chefnogi: dweud na i fisâu ac ie i amddiffyniad a noddfa ar unwaith. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei ddymuno. Dyna'r hyn yr ydym ni'n dymuno i Lywodraeth y DU ei wneud. Ar hyn o bryd, argyfwng yw hwn, mae hwn yn fater o frys. Gadewch i ni anfon yr awyrennau hynny yno, gadewch i ni gael y bobl yma, gadewch i ni sicrhau eu bod yn ddiogel, a gadewch i ni roi iddyn nhw'r hyn yr wyf i'n gwybod y mae pobl Cymru yn awyddus i'w roi iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'r rhain yn gyfraniadau pwysig iawn, ac fe fyddwn ni'n trosglwyddo—. Yn wir, dywedais wrth y Gweinidog Ffoaduriaid y byddwn i'n anfon fy natganiad ato a byddaf i'n mynd ar drywydd ein pwyntiau a'n pryderon a'r cwestiynau sydd wedi eu codi. Dim ond i ddweud, rydym ni'n estyn allan yn arbennig at Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, oherwydd ein bod ni'n awyddus iawn i ddefnyddio'r llwybr uwch-noddwr hwn i oresgyn cynifer o rwystrau â phosibl. Rwy'n credu, Sioned, mai chi wnaeth y pwynt hwnnw. Y ffordd orau y gallwn ni gefnogi pobl sy'n ffoi o Wcráin, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, nad oes ganddyn nhw arian o bosibl, neu bobl sy'n eu noddi nhw yma, sy'n digwydd i gryn dipyn o ffoaduriaid fel gwyddom ni—. Rydym ni'n awyddus i estyn allan at rai nad oes ganddyn nhw'r modd o gyrraedd ein glannau. Ac, wrth gwrs, fe fyddaf i'n codi hynny unwaith eto o ran costau trafnidiaeth, nid yn y fan hon yn unig, ond i gyrraedd yma hefyd. Cwestiwn i Lywodraeth y DU yw hwn, yn amlwg. Felly, rydym ni'n genedl noddfa, rydym ni'n uwch-noddwr, ac rydym ni'n awyddus i gefnogi unigolion ac, yn benodol, y rhai mwyaf agored i niwed i gael lloches yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

15:35

Rwy'n ymwybodol o'r amser, Gweinidog, felly rwyf i am grynhoi yr hyn yr oeddwn i am ei ddweud. Gweinidog, diolch i chi am bopeth yr ydych chi'n ei wneud, ac rwy'n croesawu datganiad heddiw yn fawr iawn. Cysylltodd etholwr â mi sydd wedi bod mewn cysylltiad ei hun yn ei dro, drwy gynllun ffoaduriaid Wcráin, â myfyriwr meddygol o Wcráin sy'n awyddus iawn i barhau â'i hastudiaethau yn y DU. Yn amlwg, byddai Wcráin yn dymuno i'w myfyrwyr aros yno a chael eu haddysgu yno, ond nid yw hyn yn wir am rai ohonyn nhw. Y broblem yw, yn y wlad hon, ar gyfer myfyrwyr meddygol yn arbennig, nid oes achrediad dysgu blaenorol mewn addysg feddygol israddedig yn y DU, sy'n golygu y byddai angen i unrhyw fyfyrwyr sy'n dod i'r DU ddechrau eu hastudiaethau unwaith eto o flwyddyn 1 y cwrs. Yn amlwg, mae honno'n broblem fawr, ac mae hi'n amlwg ein bod ni i gyd yn awyddus i weld y bobl ifanc hyn yn parhau â'u hastudiaethau. Gweinidog, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n gallu rhannu unrhyw drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'ch cyd-Weinidogion, o bob rhan o'r DU, ynglŷn â sut y gall ffoaduriaid gael mynediad i addysg, ac, yn benodol, i addysg uwch ac addysg bellach. A pha ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i roi cymorth arbennig i'r rhai sy'n astudio am raddau arbennig, fel meddygaeth a chymwysterau iechyd?

Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Mae pob Gweinidog yn ymgysylltu â'u sectorau arbennig nhw. Felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, ac, yn wir, gan weithio gyda fi a'i swyddogion, yn gweithio gyda'r holl brifysgolion yng Nghymru, ryw ffordd neu'r llall, ac yn llunio cysylltiadau. Roedd gan rai ohonyn nhw gysylltiadau â phrifysgolion yn Wcráin eisoes. Ond ceir cysylltiadau penodol â myfyrwyr meddygol yr wyf i'n ymwybodol ohono. Felly, rwy'n siŵr, pe byddech chi'n rhoi'r wybodaeth i mi hefyd, y gallwn ni edrych yn benodol ar ffyrdd y maen nhw'n dechrau goresgyn rhai o'r rhwystrau hynny eisoes, efallai. Gan fod myfyrwyr meddygol o Wcráin yn dod i Gymru—dyna groeso arall yr ydym ni'n barod iawn i'w estyn.

Apêl arall i gyflymu'r broses fisa. Mae yna gymuned ar Ynys Môn sy'n barod i groesawu mam a merch; mae'r wisg ysgol yn barod i'w gwisgo. Aeth naw diwrnod heibio erbyn hyn ers i'r teulu ar Ynys Môn ddechrau'r broses o wneud cais am fisa—gwneud hynny eu hunain, yn hytrach na'i gadael i'r fam a'r ferch, oherwydd yn Saesneg yn unig y mae ar gael ac nid ydyn nhw'n rhugl yn Saesneg, oherwydd ei bod nhw'n ceisio gwneud hynny dros y ffôn, ond yma mae yna gyfrifiadur ar gael, mae rhyngrwyd cyflym ar gael yng Nghymru, ond nid yw hynny ar gael yn Wcráin. Mae'r teulu ar Ynys Môn yn credu bod y broses y maen nhw wedi bod yn destun iddi yn warthus, a naw diwrnod yn ddiweddarach, nid ydyn nhw'n gwybod a yw eu cais wedi dod i law hyd yn oed—nid oes unrhyw gydnabyddiaeth o hynny wedi dod. A wnaiff Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod system o gydnabyddiaeth yn bodoli, a bod modd mewngofnodi i wirio'r broses efallai? Mae angen i ni allu croesawu'r teuluoedd hyn cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny.

Diolch yn fawr iawn i chi. Ac rwy'n croesawu eich cwestiwn, a'ch sylwadau, a'ch cyfraniad, Rhun ap Iorwerth. O ran y teulu hwnnw ar Ynys Môn, o ran y gymuned honno, y gwn ei bod wedi croesawu cynifer ar Ynys Môn, mae'n bwysig fy mod i'n trosglwyddo hyn yn ôl i chi, y gefnogaeth gref hon i Lywodraeth y DU gyflymu'r broses fisa. Gadewch i ni ystyried hynny: mae dros 10,000 o bobl yng Nghymru wedi mynegi diddordeb i fod yn noddwr gyda chynllun Cartrefi i Wcráin. Ac mae cynifer ohonyn nhw'n gwneud hyn ar ran pobl erbyn hyn, ac yn codi arian, ac yn mynd allan i gwrdd â phobl a'u gyrru nhw adref—fe geir llaweroedd o enghreifftiau o gefnogaeth anhygoel. Ac mae pobl Cymru yn awyddus i hon fod yn llwyddiannus, ac yn dymuno i'r fisâu hyn gael eu cwblhau, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau y gallwn ni gefnogi'r rhai hynny sy'n aros—y mae llawer ohonyn nhw'n agored iawn i niwed. Ac rwy'n diolch i'ch etholwyr chi am ymgymryd â'r gwaith hwn sy'n arbennig o bwysig. Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Cysylltodd etholwr â mi fore heddiw a oedd yn holi ynglŷn â noddi, ac mae'n awyddus i noddi mam a'i mab o Wcráin. A'r broblem y mae ef wedi'i chael oedd nad yw wedi cael unrhyw wybodaeth am hynny, gan Lywodraeth Cymru na Chyngor Sir Ddinbych. Felly, mae fy nghwestiwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â gwella'r cyfathrebu sydd rhwng awdurdodau lleol, a gyda Llywodraeth Cymru hefyd, fel ein bod ni i gyd yn dilyn yr un cyfarwyddyd. Rwy'n siŵr nad fy etholwr i yw'r unig un a fyddai'n hoffi gwneud rhywbeth o'r fath, felly mae'n rhaid i ni fod mewn sefyllfa lle rydym ni'n manteisio i'r eithaf mewn gwirionedd ar bosibiliadau hyn er mwyn helpu cynifer o bobl Wcráin â phosibl.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies. Mae'n gynllun Cartrefi ar gyfer Wcráin gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn uwch-noddwr yn y cynllun hwnnw. Gallwch gael mynediad iddo yn homesforukraine.campaign.gov.uk. Fe welwch chi fod gennym ni wefan Noddfa Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi rhoi'r rhifau i chi. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwthio'r wybodaeth hon gymaint â phosibl. Rhannwch y datganiad llafar â phawb, gan ei fod yn cynnwys yr wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnyn nhw mewn gwirionedd. Ond y peth pwysicaf yw cydnabod mai cynllun gan Lywodraeth y DU ydyw, ac rwy'n siŵr y bydd eich Aelodau Seneddol yn cynorthwyo yn hyn o beth hefyd. Mae'n rhaid iddyn nhw bellach sicrhau, drwy'r hyn y gallwn ni ei wneud, Llywodraeth Cymru, gyda'n gwefan ni, gyda'n rhif cyswllt ni—gallan nhw ffonio'r rhif cyswllt hwnnw yr wyf i wedi ei roi i chi heddiw hefyd—i drosglwyddo'r wybodaeth. Oherwydd, ydym, rydym ni i gyd yn awyddus i hyn weithio, i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag erchyllterau ymosodiad trychinebus llwyr Putin. Mae mor ofnadwy. Rydym yn awyddus i helpu'r ffoaduriaid hynny o Wcráin. Diolch.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio ardrethi annomestig

Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar ddiwygio ardrethi annomestig. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.

Diolch. Ym mis Chwefror 2021 cyhoeddais 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau'. Ochr yn ochr â diwygiadau i'r dreth gyngor, archwiliodd yr adroddiad cynhwysfawr hwn sut y gellid gwella'r system ardrethi annomestig, ystyriodd newidiadau i'r dreth bresennol ac edrychodd ar y posibilrwydd o newid mwy sylfaenol tuag at dreth gwerth tir.

Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o system gyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd. Mae sicrhau bod refeniw hanfodol yn cael ei gasglu i ariannu'r gwasanaethau lleol yr ydym ni i gyd yn eu defnyddio a sicrhau cyfraniad teg a chynaliadwy gan fusnesau wedi bod yn gydbwysedd heriol i'w gyflawni erioed. Mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyson ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i adolygu ac addasu polisi trethiant lleol i ymateb i heriau sy'n bodoli eisoes ac sy'n dod i'r amlwg.

Ar 7 Rhagfyr cyhoeddais ein cynlluniau ar gyfer diwygio'r dreth gyngor yn sylweddol. Heddiw, rwy'n cyhoeddi rhaglen o ddiwygio ardrethi annomestig a fydd yn cael ei chyflawni dros y pedair blynedd nesaf. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru decach, wyrddach a chryfach. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i unrhyw newidiadau posibl i'r system ardrethi annomestig.

Agwedd hollbwysig ar drethiant lleol yng Nghymru yw'r rhan y mae llywodraeth leol yn ei chwarae. Mae eu profiad a'u hymroddiad yn rhan annatod o gasglu a gweinyddu trethi lleol yn effeithiol. Mae ymrwymiad anhygoel awdurdodau lleol cyn a thrwy gydol pandemig COVID wedi bod yn ganolog i ddarparu rhyddhad ardrethi, grantiau busnes a chymorth treth gyngor. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â llywodraeth leol i ddiwygio'r system ardrethi, gan ddefnyddio eu harbenigedd helaeth a'u gwybodaeth leol.

Byddwn hefyd yn parhau i archwilio cyfleoedd i ddiwygio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Mae datganoli yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff prisio hyn weithredu mewn ffyrdd newydd ac arloesol, gan gyflawni swyddogaethau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer anghenion Cymru. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr, ac mae'n hanfodol bwysig bod swyddogaethau prisio yn esblygu yn unol â nodau polisi treth lleol Llywodraeth Cymru. Mae gwaith ar y gweill gyda'r asiantaeth a'r tribiwnlys i archwilio a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio i Gymru.

Un maes newid pwysig yw'r cylch ailbrisio. Rydym wedi gwrando ar alwadau gan randdeiliaid am ailbrisiadau amlach, gan sicrhau bod y sylfaen drethi yn adlewyrchu'r amodau economaidd a'r amgylchedd y mae busnesau'n gweithredu ynddyn nhw. Rydym yn parhau i archwilio pa mor aml y dylid ac y gellid darparu ailbrisiadau'n ymarferol ar gyfer Cymru, gan fanteisio ar gyfleoedd a gyflwynir gan sylfaen drethi unigryw Cymru.

Mae eiddo annomestig ledled Cymru yn cael ei ailasesu ar hyn o bryd ar gyfer y broses ailbrisio sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2023, a bydd yn adlewyrchu effaith y pandemig ar ein sylfaen drethi. Ein nod yw cyflwyno deddfwriaeth i symud tuag at gylch ailbrisio tair blynedd, yn unol â rhannau eraill o'r DU, ac rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer cylchoedd ailbrisio byrrach. Mae hyn yn cynnwys archwilio'r posibilrwydd o leihau'r bwlch rhwng y dyddiad prisio a'r dyddiad y mae'r rhestr ardrethu newydd yn dod i rym.

Un o'r gofynion allweddol ar gyfer ailbrisiadau amlach fydd yr angen i adolygu'r broses apelio yng Nghymru a'i diwygio ymhellach o bosibl. Byddwn yn cymryd camau cychwynnol i wella'r broses apelio bresennol ar gyfer mis Ebrill 2023, a bydd diwygiadau pellach i gefnogi cylchoedd ailbrisio amlach yn y dyfodol.

Rydym wedi cymryd camau breision o ran rhannu data a gallu dadansoddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth fanwl o sut y mae'r system ardrethi'n gweithredu, ac mae wedi bod yn hollbwysig wrth feddu ar yr wybodaeth briodol i wneud penderfyniadau polisi mewn tirwedd economaidd sy'n newid yn gyflym. Rydym yn datblygu ein seilwaith data ymhellach fel rhan o'n hagenda ddiwygio. Bydd hyn yn ein helpu ni a'n partneriaid i gyflawni gwelliannau eang o ran targedu cymorth a darparu gwasanaethau digidol i drethdalwyr.

Byddwn yn cynnal adolygiad o'n cynlluniau rhyddhad ardrethi. Mae rhyddhad ardrethi wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi busnesau drwy gydol y pandemig ac mae lefel gyffredinol y rhyddhad a roddir i drethdalwyr wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond nawr yw'r amser i gamu yn ôl ac adolygu ein holl gynlluniau presennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn darparu cymorth yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd ein hadolygiad yn ystyried yr ystod o gynlluniau rhyddhad, lefel y cymorth, sut y caiff rhyddhad ardrethi ei dargedu a pha mor hir y mae'n para.

Yn ystod pumed tymor y Senedd, gwnaethom ddatblygiadau o ran mynd i'r afael â thwyll ac osgoi yn y system drethu leol. Gwnaethom ddiwygio rhyddhad ar eiddo gwag i leihau'r posibilrwydd o gylchoedd rhyddhad ardrethi dro ar ôl tro. Gwnaethom hefyd newid y rheolau dim sgôr ar gyfer eiddo gwag er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol roi dim sgôr dim ond mewn achosion pan fo angen gwirioneddol i elusen fod yn berchen ar adeilad gwag neu ei brydlesu.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi pwerau ymchwilio cryfach i gynghorau, gan gynnwys y gallu i gynnal archwiliadau eiddo a gofyn am wybodaeth gan drethdalwyr ac eraill. Mae'r Ddeddf hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyletswydd newydd ar drethdalwyr i roi gwybod i gynghorau am newidiadau mewn amgylchiadau, rhywbeth sy'n ofynnol gan drethdalwyr o dan gyfundrefnau treth eraill. Rwy'n bwriadu cyflwyno rheoliadau ar gyfer mis Ebrill 2023. Mae ein huchelgais i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi yn parhau i fod yn gryf a byddwn yn mynd ar drywydd newidiadau pellach yn ystod tymor y Senedd.

Er bod ein rhaglen bresennol yn canolbwyntio ar newidiadau yn y tymor byr a chanolig, mae rhai opsiynau ar gyfer diwygio yn parhau i fod yn flaenoriaethau ar gyfer y tymor hwy. Rydym yn parhau i archwilio'r posibilrwydd o dreth gwerth tir yn lle ardrethi annomestig, gan adeiladu ar asesiad technegol manwl Prifysgol Bangor y tymor diwethaf. Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn symud ymlaen gyda chanfyddiadau'r adroddiad hwn, gan ddefnyddio ystod eang o arbenigedd i ddatblygu dealltwriaeth glir o sut y byddai newid mor sylweddol yn edrych i Gymru a sut y gallai weithio yn ymarferol. Bydd y dadansoddiad hwn yn cynnwys map ffyrdd posibl i'w weithredu.

Rydym yn glir y dylai diwygio ddarparu trethi lleol sy'n amlwg yn well i Gymru, nid rhai sy'n wahanol i'r system bresennol yn unig. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd datblygiadau pellach yn gofyn am gydweithio agos â'n holl bartneriaid ac ymgysylltu'n helaeth â chyflogwyr ardrethi.

Bydd y pecyn sylweddol hwn o ddiwygio ardrethi hefyd yn gofyn am gyfuniad o newid deddfwriaethol sylfaenol ac eilaidd. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Senedd a rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith o archwilio a chyflawni'r pecyn uchelgeisiol hwn o ddiwygio ardrethi a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau.

15:45

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar ddiwygio ardrethi annomestig. Fel y gwyddom, mae ardrethi busnes yn parhau i fod yn bryder enfawr i lawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru, a chynhaliodd y Ffederasiwn Busnesau Bach arolwg cyn etholiadau'r Senedd yn 2021 a ganfu mai ardrethi busnes oedd y brif broblem sy'n wynebu busnesau, wrth i 99 y cant o'r rhai a ymatebodd gredu y byddai camau i liniaru'r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar eu busnes a'r economi.

Am ormod o amser, mae ein busnesau lleol a'n strydoedd mawr wedi eu gadael i ddirywio'n araf o dan bwysau'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Ar yr ochr hon i'r meinciau, byddai'n llawer gwell gennym weld ardrethi busnes yn cael eu diddymu ar gyfer busnesau bach a diwygio'r dreth hen ffasiwn hon ar dwf.

Yn fwy nag erioed, nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth a chefnogi ein busnesau. Felly, pan welais yr eitem hon ar yr agenda heddiw, roeddwn i'n edrych ymlaen at weld y Gweinidog yn cyflwyno rhywfaint o ddiwygio gwirioneddol, ac mae'n amlwg bod ei angen yn y maes hwn, ond rwyf i wedi fy siomi, Gweinidog, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r diffyg manylion yn y datganiad heddiw. Rwy'n sylweddoli efallai ei fod yn fwy o drosolwg heddiw, ond hoffwn i siarad yn fyr am sut y gallwn ni weld mwy o fanylion y tu ôl i'r sylwadau sydd yma heddiw. Ac rwyf i wedi herio yn y gorffennol y defnydd o'r gair 'diwygio' wrth gyfeirio at y dreth gyngor. Ac eto, dyma'r gair yn cael ei ddefnyddio, diwygio, ond nid ydym yn gweld llawer iawn o ddiwygio'n digwydd—efallai ei fod yn fwy o addasu o amgylch yr ymylon.

A thrwyddi draw yn eich datganiad, Gweinidog, mae ymadroddion yn cael eu defnyddio yma, fel 'byddwn yn parhau i weithio', 'byddwn yn parhau i archwilio', 'rydym wedi gwrando ar alwadau', 'ein nod yw cyflwyno', 'byddwn yn cymryd camau cychwynnol', 'rydym yn datblygu ymhellach', 'byddwn yn cynnal adolygiad'—nid yw'n ymddangos bod yr un ohonyn nhw yn ymrwymo i gyfeiriad neu faes o'r diwygiad hwn sydd ei angen. Ac rwy'n siŵr bod llawer o'r rhai hynny y mae diwygio ardrethi annomestig yn effeithio arnyn nhw, a'r 99 y cant o'r busnesau hynny sy'n ystyried mai ardrethi busnes yw'r broblem fwyaf sy'n eu hwynebu, yn dymuno gwybod beth rydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd a beth fyddwch chi'n ei wneud, a sut y bydd pobl a busnesau yn cael budd o'r diwygiad hwn. Ond nid wyf i'n cael syniad heddiw, o'r hyn yr ydych wedi ei rannu, ynglŷn â'r hyn yr ydych chi'n ei ystyried yw'r materion allweddol a'r hyn yr ydych chi'n ei ystyried yw'r atebion i'w datrys fel Llywodraeth.

Yn eich datganiad, Gweinidog, rydych chi hefyd yn awgrymu y gallai'r darn hwn o waith gymryd pedair blynedd. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn deall pam rydych chi'n meddwl y bydd yn cymryd cymaint o amser i'r diwygiad hwn ddigwydd.

Serch hynny, ar yr ochr gadarnhaol, roeddwn i'n falch iawn o weld eich sylwadau ynglŷn â'r rhan y mae llywodraeth leol yn ei chwarae, gan ddweud bod eu profiad a'u hymroddiad yn rhan annatod o gasglu a gweinyddu trethi lleol yn effeithiol, gan gynnwys y gwaith y gwnaethon nhw yn ystod y pandemig, ac, fel gwir hyrwyddwyr llywodraeth leol, rydym ni yn croesawu rhoi rhagor o bwerau i gynghorau ac yn edrych ymlaen at gyflwyno rheoliadau pellach ym mis Ebrill 2023. Byddai'n dda gen i wybod a ydych chi'n rhagweld y bydd unrhyw bwerau ychwanegol yn cael eu rhoi i lywodraeth leol o ran diwygio ardrethi annomestig hefyd.

Yn olaf, Gweinidog, roedd yn ddiddorol i mi weld y byddwch yn parhau i archwilio'r posibilrwydd o dreth ar werth tir yn lle ardrethi annomestig. Fodd bynnag, mae'n drueni nad ydym wedi cael rhagor o wybodaeth am hyn heddiw. A Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae ardrethi busnes yng Nghymru yn dal i fod yn uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at gynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach Llywodraeth Cymru, sydd wedi helpu llawer o fusnesau bach, ond nid yw'n newid y ffaith bod ardrethi annomestig yng Nghymru yn dal i fod yn uwch, gyda lluosydd yng Nghymru o 53.5c, ac yn Lloegr y lluosydd safonol yw 51.2c. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, hoffwn i wybod a allech chi amlinellu sut y bydd eich diwygiadau arfaethedig yn sicrhau nad yw'r busnesau hynny yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â busnesau mewn mannau eraill. Diolch yn fawr iawn. Diolch.

15:50

Diolch i Sam Rowlands am y sylwadau hynny, ac i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn fy natganiad, mai'r datganiad hwn heddiw yw chwaer ddatganiad y datganiad y gwnes i ar ddiwygio'r dreth gyngor yn ôl ym mis Rhagfyr. Ac wrth gwrs, mae hwn yn ymgymeriad sylweddol ac mae llawer o elfennau iddo, a dyna pam y mae'n ddarn o waith tymor hirach na dim ond cyflwyno rheoliadau i wneud newidiadau tymor byr iawn.

O ran y sylwadau a wnaed am lefel y dreth a delir yma yng Nghymru, rwy'n agored i gael pob math o drafodaeth, ond rwyf i yn credu os oes galwad i ddileu ardrethi busnes yn llwyr, yna rwy'n credu bod yn rhaid iddi ddod gyda'r baich o roi manylion am sut y byddech chi'n codi £1.1 biliwn i ariannu llywodraeth leol a gwasanaethau'r heddlu. Nid wyf i'n credu ei bod yn beth rhesymol gofyn iddyn nhw gael eu dileu heb allu cyflwyno syniadau ynghylch sut y gellid codi arian arall. Ac mae'n bwysig cydnabod hefyd fod pob un geiniog o ardrethi annomestig yn cael ei hailfuddsoddi mewn awdurdodau lleol. Mae'n mynd yn ôl i awdurdodau lleol i helpu i ariannu'r gwasanaethau lleol hynny.

Ac rydym ni yn cydnabod y pwysau y mae'n ei roi ar fusnesau, a dyna pam yr ydym wedi darparu dros £620 miliwn o ryddhad ardrethi i drethdalwyr yng Nghymru eleni, wedi ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, sy'n wahanol i'r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr. Ac mae angen i ni gofio hefyd fod tri chwarter y trethdalwyr ledled Cymru yn cael rhyddhad ardrethi eleni. Mae hynny'n fwy na 70,000 o fusnesau nad ydyn nhw'n talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ac rwy'n credu hefyd fod angen i ni gydnabod bod y sylfaen drethi yma yng Nghymru yn wahanol i'r sylfaen yn Lloegr. Y gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yw tua £19,000—yn Lloegr, mae tua £32,000—felly mae'n iawn bod ein system ardrethi a'r rhyddhad sydd ynghlwm wrthyn nhw yn adlewyrchu'r amgylchiadau unigryw sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Roedd cwestiynau ynglŷn â'r gwaith ar drethi gwerth tir, a chais am ragor o wybodaeth. Wel, fe wnes i gyhoeddi adroddiad manwl iawn iawn a ddarparwyd gan Brifysgol Bangor ym mis Mawrth 2020. Rwy'n gwerthfawrogi nad oedd yr Aelod yn y Senedd bryd hynny, ond rwy'n hapus i'w ailddosbarthu i gyd-Aelodau. Ein hamcan mewn gwirionedd wrth archwilio treth gwerth tir yn lle un neu'r ddau o'r trethi lleol yn bennaf yw codi refeniw sefydlog ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd decaf bosibl wrth chwilio, yn amlwg, am ganlyniadau manteisiol eraill lle bo hynny'n bosibl. Fe wnaeth Prifysgol Bangor ddod i'r casgliad y gallai trethi gwerth tir lleol godi digon o refeniw i ddisodli'r trethi lleol presennol, ac y gallai dosbarthu atebolrwydd fod yn fwy blaengar, a hynny i raddau sylweddol, na'r drefn trethi lleol bresennol. Ond mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd gwaith y byddai angen i ni eu gwneud yn y dyfodol i asesu'n llawnach a fyddai'n amlwg yn well na'n trefniadau presennol, a dyna'r math o waith y mae angen i ni fod yn ei wneud wrth i ni symud ymlaen ar yr agenda bwysig hon.

Codwyd y cwestiwn ynglŷn â'r lluosydd, ond wrth gwrs yn 2021-22 fe wnaethom ni ddewis rhewi'r lluosydd, a hynny er mwyn atal cynnydd mewn biliau i drethdalwyr a darparu cymorth parhaus i fusnesau yn ystod yr hyn yr ydym yn dal i'w gydnabod yn gyfnod heriol iawn. Gallaf gadarnhau ein bod yn cynnal y dull hwn ar gyfer 2022-23, gan gydnabod effaith estynedig pandemig y coronafeirws ar fusnesau ac ar sefydliadau eraill.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ffederasiwn Busnesau Bach am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn. Rydym o'r farn bod ein trafodaethau gyda nhw yn hynod gynhyrchiol. Maen nhw'n rhanddeiliaid rhagorol o ran cynrychioli barn busnesau bach ac maen nhw'n cydnabod eu hunain, rwy'n credu, fod cydbwysedd heriol i'w sicrhau o ran codi refeniw'n deg ac ariannu gwasanaethau lleol. Maen nhw hefyd yn cydnabod y bydd angen gwneud gwaith sylweddol i symud i ffwrdd o unrhyw system sydd wedi esblygu ac sydd wedi ei hymgorffori dros 30 mlynedd. Mae hwn yn dasg enfawr, a dyna pam yr wyf i wedi amlinellu yn y datganiad heddiw rai o elfennau pwysig y gwaith hwnnw—bydd ailbrisio a'n dull o wneud hynny yn hollbwysig. Bydd y system apelio yn hollbwysig. Ond rwyf i hefyd wedi myfyrio ar rywfaint o'r cynnydd sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud eisoes, yn enwedig, yn fy marn i, ym meysydd osgoi trethi a thwyll, lle gallwn ddweud yn sicr ein bod ni wedi cymryd camau pwysig yn ddiweddar.

Felly, mae hwn yn ddarn parhaus o waith. Mae'n ddarn enfawr o waith, ond rwy'n awyddus iawn i fynd ati mewn ffordd gydweithredol iawn, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau gyda'r holl gyd-Aelodau yn y dyfodol.

15:55

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dwi ddim eisiau cael fy nhynnu mewn i ryw ddadl ynglŷn â pha ochr i'r ffin sy'n talu'n fwyaf neu'n talu'n lleiaf; y cwestiwn dwi eisiau ei ateb yn y Siambr yma yw: pa ochr o'r ffin sydd â'r gyfundrefn decaf, a'r gyfundrefn sydd yn cael ei gweithredu'n fwyaf effeithiol? A doed a ddelo wedyn beth yw'r gost, cyhyd â bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn deg o fewn y gyfundrefn fydd neu sydd ohoni.

Nawr, rwy'n cytuno, rŷn ni wedi clywed bod ardrethi busnes yn fater gwbl allweddol i fusnesau, onid yw e? Mae'n un o'r costau mwyaf maen nhw'n ei wynebu, ac mae'n ffactor allweddol yn hyfywedd y busnesau yma. Felly, mae cael system sydd mor deg â phosibl yn allweddol. Fel dywedodd y Gweinidog, rŷn ni eisiau creu sefyllfa lle mae'n decach, mae'n wyrddach, ac mae Cymru'n gryfach yn sgil y gyfundrefn yma. Felly, mae yna rôl bwysig o ran adfywio'r stryd fawr yn y drafodaeth sydd o'n blaenau ni, yn ogystal, wrth gwrs, â helpu mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a gyrru lawr allyriadau carbon. Yr un rhwystredigaeth sydd gen i, wrth gwrs, yw, fel sydd wedi cael ei fynegi, rŷn ni wedi bod yn trafod y mater yma ers blynyddoedd mawr. Dwi'n cofio Mark Drakeford, pan oedd e'n Weinidog cyllid, yn trafod yr angen i ddiwygio, a dwi yn gobeithio, a dwi yn cymryd y datganiad yma am beth yw e, fod hwn yn ddatganiad o fwriad i symud nawr go iawn i weithredu ac i ddiwygio ac i gyflwyno'r newidiadau mae nifer ohonom ni eisiau eu gweld.

Yr un nodyn, efallai, o siom yn hyn oll yw, tra bod yna eglurder nawr y bydd diwygiadau i'r dreth annomestig wedi'u cwblhau a'u gweithredu o fewn pedair blynedd—dyna dwi'n deall o'r datganiad—mae sôn am barhau i archwilio treth gwerth tir. Yn ddelfrydol, mi fyddwn i wedi hoffi gweld newid mwy radical yn digwydd yn y pedair blynedd nesaf—cyflwyno, neu yn sicr mynd llawer bellach tuag at gyflwyno, treth gwerth tir. Felly, dwi eisiau clywed gan y Gweinidog beth yw'r amserlen o safbwynt hynny, te. Rŷch chi'n sôn am archwilio'r dreth yna, gwneud mwy o ymchwil, edrych i mewn i'r peth, ond a fydd yna gynnig ar y bwrdd erbyn diwedd y pedair blynedd, er efallai na fydd e wedi cael ei gyflwyno, ar gyfer y diwygiadau ehangach y mae nifer ohonom ni eisiau eu gweld?

Mae rôl llywodraeth leol, fel rydych chi'n cydnabod yn eich datganiad, yn allweddol; y capasiti yw'r cwestiwn, wrth gwrs. Ydych chi'n hyderus bod ganddyn nhw'r capasiti fel ag y mae i chwarae rhan lawn yng nghyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu'r cynigion newydd yma, ond hefyd pan fo'n dod i weithredu neu weinyddu unrhyw ofynion penodol? Rŷn ni'n cwyno bod nifer o gyrff sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael llawer mwy o ddyletswyddau a chyfrifoldebau newydd ond ddim wastad yn cael eu hariannu i gyflawni hynny'n llawn. Byddwn i'n hoffi sicrwydd, os oes yna unrhyw ofynion ychwanegol i'r perwyl yna, y bydd yr adnoddau ar gael yn hynny o beth. 

Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r tribiwnlys, rydych chi'n sôn amdanyn nhw yn gweithredu mewn modd mwy addas i Gymru—grêt—a byddwn i'n dweud bod Awdurdod Cyllid Cymru yn enghraifft berffaith i ni o'r math o ddiwylliant rydyn ni eisiau ei annog. Yn wahanol i HMRC, sy'n delio â phroblemau ar ôl i rywun dramgwyddo, mae holl ddiwylliant a holl ffocws Awdurdod Cyllid Cymru ar, wrth gwrs, sicrhau bod hynny ddim yn digwydd yn y lle cyntaf. 

Dwi'n cytuno bod angen ailbrisio, neu system revaluation, mwy cyson, mwy deinamig, mwy abl i ymateb i ac adlewyrchu newid mewn amgylchiadau. Gwnaethoch chi sôn am ddiwygio'r broses apêl erbyn Ebrill 2023, ac mae hynny wrth gwrs yn hanfodol, oherwydd byddai rhywun yn rhagweld llawer iawn o waith fyddai angen ei wneud erbyn bod yr ailbrisio yna wedi digwydd. Ond a allwch chi hefyd roi sicrwydd y bydd yna ddigon o gapasiti i ddelio unwaith eto â'r ceisiadau apêl yma mewn modd amserol ac mewn modd tryloyw?

16:00

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau a'r sylwadau yn y fan yna, ac fe wnaf ddechrau gyda threth gwerth tir, gwn fod hwnnw, rwy'n gwybod, yn faes o ddiddordeb cyffredin rhwng ein pleidiau. Hoffwn i gadarnhau y bydd y gwaith yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r newidiadau y byddwn yn eu cyflwyno dros y cyfnod sydd i ddod. Rwy'n falch iawn bod Prifysgol Bangor, o fewn cwmpas yr ymchwil, wedi gallu llunio model ystadegol rhagarweiniol i amcangyfrif cyfres o werthoedd tir, ac na fu ymgais hyd yn oed i roi'r fath manylion yn llenyddiaeth Cymru o'r blaen, ac mae wedi galluogi Bangor yn awr i bennu cyfraddau treth posibl y byddai angen codi treth gwerth tir arnyn nhw i godi refeniw sy'n cyfateb yn fras i'r systemau trethiant lleol presennol. Fodd bynnag, un wers allweddol a ddysgwyd o'r gwaith modelu oedd ei bod yn llawer mwy heriol amcangyfrif gwerthoedd tir at ddibenion annomestig nag ydyw at ddibenion domestig.

Un canfyddiad pwysig i'w ystyried yn y dyfodol yw'r buddsoddiad sydd ei angen i fodloni'r gofynion gwybodaeth manwl y gellid seilio treth o'r fath arnyn nhw. Felly, byddai'n rhaid i ni gael cofnod cynhwysfawr o dir—mae hynny'n ymgymeriad enfawr ynddo'i hun—ac yn amlwg ddulliau cadarn ar gyfer prisio. Ond, yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn amlwg yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i'n dealltwriaeth o ddiwygiadau posibl yn y dyfodol, ond mae yn cydnabod y bydd angen llawer mwy o waith o ran goblygiadau ymarferol a pholisi'r syniad, er enghraifft, a ellid cynllunio gwahanol opsiynau mewn ffordd i gefnogi amcanion polisi ehangach, fel datgarboneiddio a mynd i'r afael â thlodi, ac yn hollbwysig sut y gellir cynnal y cysylltiad rhwng talwyr trethi lleol a gwasanaethau lleol. Felly, rwy'n credu bod y gwaith blaenorol yr ydym wedi ei wneud ar hyn yn pennu i ba gyfeiriad y mae angen i ni deithio ar gyfer ymchwil bellach, trafodaeth bellach a dadansoddiad pellach yn y cyfnod o'n blaenau. Ond, fel y dywedais i, bydd yn cael ei wneud ochr yn ochr â'r gwaith yr wyf i wedi ei ddisgrifio heddiw, a dywedais i hefyd yn y datganiad mai'r nod fyddai darparu map ffyrdd posibl er mwyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw fel rhan o'r gwaith pwysig hwnnw.

Codwyd yr ailbrisio. Bydd yr ailbrisiad nesaf yng Nghymru, a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cael ei gynnal yn 2023, ond bydd yn seiliedig ar werthoedd ardrethol ar 1 Ebrill 2021. Felly, mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac un o'r pethau y gallem ei archwilio yn y dyfodol fyddai lleihau'r bwlch deddfwriaethol hwnnw rhwng y pwynt lle y pennir y gwerthoedd ardrethol a'r pwynt lle maen nhw'n dod i rym. Felly, gallai hynny fod yn rhywbeth y byddwn ni'n edrych arno. Mae'n amlwg nad yw newidiadau i werth ardrethol o ganlyniad i ailbrisio mis Ebrill 2023, sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn hysbys, ond rydym ni yn disgwyl cyhoeddi rhestr ardrethu ddrafft newydd erbyn diwedd eleni i roi rhyw fath o sicrwydd i bobl am y ffordd ymlaen yn hynny o beth.

Ac, ydw, mae'n amlwg fy mod i'n dymuno rhannu'r sylwadau hynny am y rhan hanfodol y bydd llywodraeth leol yn ei chwarae yn y darn hwn o waith, a rhoi sicrwydd fy mod i yn eu hystyried yn bartneriaid wrth gyd-lunio'r gwaith pwysig hwn, ac, yn amlwg, bydd y trafodaethau hynny yn cynnwys y cwestiwn ynghylch pa adnoddau y mae awdurdodau lleol yn credu sydd eu hangen arnyn nhw, ac a oes angen iddyn nhw newid y math o fodel sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Felly, mae llawer o ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar hyn, ac mae ganddyn nhw arbenigedd anhygoel yr ydym yn awyddus iawn i'w ddefnyddio yn y maes hwn.

Yna, mae pwysigrwydd system apelio wirioneddol gadarn yn rhywbeth sydd hefyd wedi ei godi. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio gwneud cynnydd da arno a lansio ymgynghoriad arno yn ystod y flwyddyn hon. Felly, bydd hyn yn rhywbeth y gall cyd-Aelodau fynd i'r afael â hi fel eitem gynnar o'r diwygiad hwn. Byddwn yn edrych, er enghraifft, ar haenau'r system apelio; pa un a ddylid cael ffioedd apelio ai peidio ac a ddylid eu newid; ble y dylid eu gosod, ac yn y blaen; a ddylid cael cosbau am ddarparu gwybodaeth ffug, ac os felly, lle y byddem yn gosod y cosbau hynny; edrych ar amserlenni a deall beth yw'r goblygiadau pan fydd amserlenni'n wahanol dros y ffin yn Lloegr; ac egluro gwybodaeth y byddai angen ei darparu i Dribiwnlys Prisio Cymru, er enghraifft. Felly, mae llawer o bethau sy'n eithaf manwl, ac weithiau pethau technegol y bydd angen i ni fod yn ymgynghori arnyn nhw yn ystod y flwyddyn hon, ond rwy'n credu y gallwn ni wneud rhywfaint o gynnydd cynnar o ran apeliadau, fel y byddwn yn ei wneud o ran ailbrisio hefyd.

Ac, ydw, rwy'n cydnabod bod gan Awdurdod Cyllid Cymru ffordd wirioneddol ragorol o weithio, yn yr ystyr ei fod yn ceisio galluogi trethdalwyr i dalu'r swm cywir o dreth y tro cyntaf, yn hytrach na chanolbwyntio ar geisio mynd ar drywydd trethdalwyr ar ôl y digwyddiad. Ac rwy'n credu bod y math hwnnw o ethos yn rhagorol. I fynd yn ôl i'r dechrau, mewn gwirionedd, i'r man lle dechreuodd Llyr Gruffydd o ran pwysigrwydd tegwch mewn treth, dyna ein hegwyddor treth Rhif 1 y dylid casglu treth yn deg yng Nghymru, a bydd hynny'n sicr ar flaen ein meddyliau ac yn ganolbwynt i'r diwygiadau wrth i ni fwrw ymlaen â hyn. 

16:05

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr, ac rwy'n falch iawn o weld derbyn ardrethi annomestig cenedlaethol yn rhan bwysig o incwm llywodraeth leol. Wrth gwrs, cyn ardrethi annomestig cenedlaethol, cafodd ardrethi eu talu gan fusnesau i'r cyngor lleol. Pam nad yw'r Gweinidog yn dymuno dychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol?

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailbrisiadau mwy rheolaidd. Dylai hyn atal y codiadau mawr a'r gostyngiadau mewn gwerthoedd ardrethol yr ydym wedi'u gweld o'r blaen. Mae gan ardrethi busnes un fantais fawr dros drethi busnes eraill gan eu bod yn anodd eu hosgoi. Ni allwch guddio'r adeilad, ni allwch fynd â'r adeilad dramor, ac ni allwch wneud yr holl bethau clyfar maen nhw'n eu gwneud i osgoi treth gorfforaeth.

Er fy mod i'n croesawu ystyried treth ar werth tir, a yw'r Gweinidog yn derbyn y gallai treth o'r fath arwain at rai ardaloedd o werth tir uchel heb siopau? Rwy'n meddwl am ardaloedd yn eich etholaeth eich hun sydd â gwerthoedd uchel iawn i lawr ar benrhyn Gŵyr, ac mae gwerth y tir mor uchel ei fod yn ddigon posibl na allai siopau ei fforddio.

Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn derbyn bod yn rhaid i'r prif bwyslais fod ar sicrhau bod beth bynnag sy'n cael ei wneud yn dod ag union yr un swm o arian ag sydd gennym yn awr, oherwydd bod ei angen ar lywodraeth leol?

Diolch yn fawr am godi'r materion hyn, a dyna yw'r her fawr, onid yw, o ran cydbwyso anghenion busnes ochr yn ochr ag anghenion llywodraeth leol, sy'n darparu'r gwasanaethau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Felly, dyna'r her a osodais i'r rhai hynny a fyddai'n dymuno i ni gael gwared â rhyddhad ardrethi'n llwyr, sef dangos sut y byddai'n cael ei dalu. Ac rwy'n credu ei bod yn her dda.

Rwy'n croesawu'r hyn yr oedd gan Mike Hedges i'w ddweud am ailbrisio a symud atyn nhw'n amlach. Felly, dyna un o'r pethau y byddwn yn ei archwilio, pa mor aml y byddwn yn cael yr ailbrisiadau hynny, ond yna hefyd yr amser rhwng yr ailbrisio a phryd y daw i rym ac y rhoddir ar waith.

A bydd y cwestiynau sy'n ymwneud â threth ar werth tir, unwaith eto, yn rhan o'n darn o waith wrth i ni symud ymlaen o ran deall y goblygiadau i wahanol gymunedau o'r newidiadau posibl a allai ddigwydd, pe baem yn symud at dreth gwerth tir. Ond rwy'n credu bod yr ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor yn nodi rhai o'r heriau hyn a byddwn yn bwrw ymlaen â mwy o waith arnyn nhw yn y dyfodol agos.

Ac rwy'n credu bod y pwynt am awdurdodau lleol yn cadw ardrethi annomestig yn bwysig iawn. Mae'n bwysig cydnabod bod yr holl refeniw o ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol i ariannu'r gwasanaethau lleol hynny, ac, yn amlwg, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y sylfaen dreth yr ardrethi ac ar gyfraddau casglu. Mae angen i ni ddeall yr effeithiau hynny cyn y gallem ni ystyried sut y byddwn yn symud ymhellach byth mewn cysylltiad â newidiadau i'r ffordd yr ydym yn ymdrin ag ardrethi annomestig, oherwydd yn amlwg nid ydym yn dymuno i awdurdodau lleol fod yn llai cadarn yn ariannol o ganlyniad i unrhyw un o'r newidiadau y gallem ni ystyried eu cyflwyno. Fodd bynnag, rydym ni wedi nodi cynlluniau ar gyfer edrych ar y ffordd y mae system gyllid llywodraeth leol yn gweithredu yn ei chyfanrwydd, ac mae'n ymwneud â'r cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol.

Mae'n werth dysgu gwersi o'r hyn sy'n digwydd dros y ffin o ran lleoleiddio ardrethi annomestig. Yn Lloegr, mae hynny'n rhan o'r newidiadau ehangach y maen nhw'n eu gwneud i gyllid llywodraeth leol yno, ac maen nhw wedi cynnwys gostyngiadau sylweddol, serch hynny, i'r Grant Cynnal Refeniw o ganlyniad. Felly, dros y ffin, mae awdurdodau lleol yn cadw 50 y cant o'r cyfraddau, gyda chynlluniau i gynyddu hynny i 75 y cant o 1 Ebrill 2022, ond mae'r trefniadau yno'n gymhleth, ac mae'r manteision o ran ysgogi twf economaidd lleol, yn ein barn ni, yn amheus.

Rydym wedi gwahodd awdurdodau lleol yng Nghymru, gan weithio gyda'i gilydd fel rhanbarthau, i gyflwyno cynigion ar gyfer sut y gallai dull elw cyfranddaliadau o ymdrin ag ardrethi annomestig weithio, lle gallan nhw ddangos bod eu gweithredoedd wedi sicrhau twf. Felly, rydym eisoes wedi cytuno ar gynnig penodol ar gyfer cadw ardrethi yn rhannol gyda dinas-ranbarth bae Abertawe, i gefnogi ei fargen ddinesig.

Rwyf i yn deall y galwadau gan rai mewn llywodraeth leol am gadw ardrethi, a gallai fod o fudd i awdurdodau a all adeiladu eu heconomïau lleol yn gyflymach na'u holl gymdogion. Mae'r un awdurdodau hynny, wrth gwrs, yn aml yn galw am sefydlogrwydd o ran cyllid, ac mae rhywfaint o dystiolaeth bod cadw ardrethi yn cael effaith andwyol ar gyllid mewn ardaloedd llai bywiog, gan gynyddu anghydraddoldeb rhwng y rhanbarthau yn Lloegr. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae awdurdodau lleol yn well gyda'i gilydd i gydnabod y risgiau sy'n bodoli, a pharhau â'n traddodiadau gwasanaeth cyhoeddus cryf o gydweithredu a chydraddoli'r budd i Gymru gyfan.

Ac i orffen ar y pwynt hwn—gallaf deimlo llygaid y Dirprwy Lywydd arnaf—ar hyn o bryd dim ond pedwar o'r 22 awdurdod yng Nghymru a fyddai'n elwa'n gyson ar eu cadw pe baem yn gweithredu system debyg i'r un yn Lloegr, a hyd yn oed ar gyfer y pedwar hyn, byddai cadw ardrethi yn dibynnu ar allu cynyddu twf yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, rydym yn awyddus i ddysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, ond nid ydym yn credu mai'r model hwnnw yw'r un iawn i ni yng Nghymru. Diolch.

16:10
7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Tomenni Glo

Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan y Dirpwy Weinidog Newid Hinsawdd, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Lee Waters i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith i wella diogelwch tomenni glo.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ers i'r Prif Weinidog sefydlu tasglu diogelwch tomenni glo, a chafwyd cam sylweddol ymlaen yr wythnos diwethaf o ran rhoi mesurau ar sail hirdymor, gyda chyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith, 'Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru'. Mae hwn yn adroddiad nodedig. Yn 2020, gwahoddodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y pryd, Gomisiwn y Gyfraith i gynnal asesiad annibynnol o'r ddeddfwriaeth tomenni glo ac i ddarparu argymhellion ar gyfer fframwaith deddfwriaethol yn y dyfodol. Ymgynghorodd Comisiwn y Gyfraith ar ei ganfyddiadau a'i gynigion yr haf diwethaf, a'r wythnos diwethaf cyhoeddodd ei adroddiad terfynol, sydd wedi ei osod yn y Senedd. Mae'n garreg filltir bwysig ac rwy'n ddiolchgar i Gomisiwn y Gyfraith am flaenoriaethu'r prosiect hwn ac am ei gwblhau'n gyflym. Mae'n adroddiad rhagorol, y byddai'n werth i'r Aelodau ei ddarllen.

Mae'n nodi'n glir nad yw'r gyfraith fel y mae yn addas i'r diben. Cynlluniwyd Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Awgrymiadau) 1969 ar gyfer cyfnod gwahanol. Ei nod oedd rheoli gwastraff pyllau glo gweithredol, nid mynd i'r afael ag etifeddiaeth y pyllau glo hynny, ac yn sicr nid oedd wedi ei gynllunio i fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd. Yn hollbwysig, nid yw'r Ddeddf yn cynnwys unrhyw ddyletswyddau gorfodol ar berchnogion i sicrhau diogelwch tomenni segur ar eu tir. Pwerau cyfyngedig yn unig y mae'n eu darparu ar gyfer ymyrryd ac nid yw'n cynnwys unrhyw bwerau o gwbl ar gyfer goruchwylio, monitro a gorfodi.

Ymysg y 36 o argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith mae sefydlu awdurdod goruchwylio newydd i oruchwylio trefn reoli newydd ar gyfer diogelwch tomenni glo, ac roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn cefnogi cyfundrefn reoli newydd a oruchwylir gan awdurdod goruchwylio.

Mae dadansoddiad Comisiwn y Gyfraith a'i argymhellion yn darparu tystiolaeth werthfawr, sydd, ynghyd â'n dadansoddiad ni, yn llywio ein cynigion ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer rheoli tomenni segur. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn nhymor y Senedd, a byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyn yn nodi ein cynlluniau ddechrau mis Mai. Byddwn wedyn yn ymgynghori ar ein cynigion i ddarparu dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni.

Ein blaenoriaeth, Dirprwy Lywydd, yw sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo'n ddiogel yn awr ac yn y dyfodol drwy leihau'r perygl o dirlithriadau pellach. Gallaf hysbysu'r Senedd ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ein tasg gyntaf oedd pennu maint y broblem. Mae'r gwaith o nodi ac asesu statws yr holl domenni glo segur wedi bod yn un hynod gymhleth. Rydym yn gwybod bellach fod dros 2,500 o domenni glo segur ledled Cymru, a bod 327 yn y categori uwch. Mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd yfory yn cyfeirio at domenni risg uchel, ond hoffwn i fod yn glir i'r Aelodau nad yw bod mewn categori â sgôr uwch gyfystyr â bod yn risg uchel, ac mae'r iaith yr ydym yn ei defnyddio yn bwysig.

Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar y tomenni y mae angen y lefel uchaf o fonitro arnyn nhw ac rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid i gynnal arolygiadau rheolaidd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel diwydiant gofod y DU i dreialu technoleg i wella'r ffordd y caiff tomenni eu monitro yn y dyfodol. Mae llawer y gallwn ei wneud i fesur symudiadau tir a chyfundrefnau dŵr ac mae rhai o'r technolegau sy'n cael eu profi yn arloesol yn y byd. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r sector ymchwil i gael y dystiolaeth orau bosibl ar effeithiau'r hinsawdd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn deall sefydlogrwydd hirdymor tomenni a llywio dulliau arloesol o adfer tomenni. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd cost cwblhau pob cam o waith adfer tomen Tylorstown, a achosodd y pryder mwyaf, tua £20 miliwn. Daw bron y cyfan o'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru.

Hoffwn i fod yn glir gyda'r Aelodau mai Llywodraeth Cymru, nid Llywodraeth y DU, sy'n parhau i ariannu'r Awdurdod Glo i gynnal arolygiadau. Hyd yma, rydym wedi gwario £1.6 miliwn ar y dasg hon. Mae'r Awdurdod Glo yn amcangyfrif y bydd angen £30 miliwn i'w codi i gyd i'r safon, a £5 miliwn arall y flwyddyn i'w cynnal. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir mai cost y gwaith adfer llawn fydd rhwng £500 miliwn a £600 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £44.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf fel bod y gwaith hanfodol hwn yn parhau. Ond etifeddiaeth o orffennol diwydiannol Prydain yw hyn. Prydain a elwodd ar fanteision ein hadnoddau naturiol, ac roedd yr holl domenni hyn ar waith cyn i bŵer gael ei ddatganoli i Gymru ym 1999. Ac eto, dim ond £9 miliwn y mae Llywodraeth y DU yn fodlon ei gyfrannu at y gost o'u glanhau. Dywedodd Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David T.C. Davies, wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin

'os yw Llywodraeth Lafur Cymru yn credu bod y tomenni glo hynny'n anniogel, mae'n rhaid iddyn nhw weithredu yn awr i'w diogelu. Mae ganddi'r arian i wneud hynny.'

Nid ni sy'n dweud ei fod yn anniogel, ond yr Awdurdod Glo, nad yw wedi ei ddatganoli, ac nid oes gennym yr arian i'w wneud. Rydym yn disgrifio'r Deyrnas Unedig fel undeb sy'n rhannu. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl am chwarae ei rhan wrth glirio eu hetifeddiaeth nhw o'n gorffennol diwydiannol cyfunol.

Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio'n ddiwyd gyda'i gilydd i ddarparu dull cyson o ymdrin â'r drefn arolygu bresennol. Daeth trydedd rownd o arolygiadau gaeaf o'r tomenni sy'n uwch ar y rhestr i ben ym mis Chwefror, ac mae'r rhaglen arolygu yn un sylweddol. Mae'r canlyniadau hyd yma wedi golygu bod angen gwaith cynnal a chadw i helpu i sicrhau sefydlogrwydd safleoedd. Gan fod canran uchel o'r tomenni hyn mewn perchnogaeth breifat, mae nifer o faterion i'w datrys mewn cysylltiad â thrin gwybodaeth, gan gynnwys sicrhau bod sicrwydd ansawdd cadarn wedi ei gwblhau a bod materion diogelu data wedi cael sylw llawn. Mae hyn wedi cymryd llawer o amser.

Er bod ein dealltwriaeth o'r darlun cyffredinol wedi gwella'n aruthrol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mwy o domenni'n cael eu nodi o hyd. Mae'r gwaith hwn yn sicr yn brosiect byw, a gallwn ddisgwyl addasiadau pellach i'r nifer cyffredinol o domenni wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyhoeddi lleoliadau'r tomenni sy'n uwch ar y rhestr cyn gynted â phosibl a chyn gynted ag y bo'n gyfrifol i wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni fod yn hyderus yn ein hasesiadau cyn i ni wneud hynny. Ar gyfer tomenni sy'n uwch ar y rhestr, mae gwybodaeth eisoes wedi ei rhannu ag awdurdodau lleol a fforymau cadernid lleol i helpu i ddatblygu cynlluniau parodrwydd mewn argyfwng lle bo angen. Ond mae mynediad y cyhoedd i'r data ar leoliadau tomenni sy'n uwch ar y rhestr yn fater sensitif, ac mae'n hanfodol bod yr wybodaeth, pan gaiff ei chyhoeddi, yn gywir ac mor gyflawn â phosibl. Pan fydd y gwaith hwn wedi ei gwblhau, byddwn yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y dyddiad cyhoeddi.

Dirprwy Lywydd, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo'n ddiogel yn awr ac yn y dyfodol. Nod ein cynigion ar gyfer cyfundrefn newydd yw cyflawni hynny drwy leihau'r risg o dirlithriadau pellach. Diolch.

16:20

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae'n deg dweud ein bod yn cydnabod, o ran Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Awgrymiadau) 1969, fod y cyfnod mor wahanol bryd hynny, gyda phyllau glo gweithredol. Gyda newid yn yr hinsawdd yn awr, mae'n amlwg bod yn rhaid i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd o ran unrhyw domenni sy'n cael eu hystyried yn anniogel. Rwyf i fy hun yn falch iawn o weld eich bod yn cyflwyno deddfwriaeth; rydym yn edrych ymlaen at hynny. Mae sut y gallwn ni weithio gyda chi mewn modd cadarnhaol yn bwysig. Rwyf i hefyd yn croesawu'r eglurder a roddwyd yn yr adroddiad gan Gomisiwn y Gyfraith, 'Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru', ar 23 Mawrth eleni, fod diogelwch tomenni glo yn dod o dan gymhwysedd datganoledig, a bod ariannu diogelwch tomenni glo yn gyfrifoldeb datganoledig.

Er gwaethaf y pwyntiau yr ydych wedi eu codi heddiw, fel Llywodraeth a rennir â Llywodraeth y DU, y gobaith yw y gall mwy o weithio, efallai, symud ymlaen lle gallwn ni nodi mewn gwirionedd—ac rwy'n gwybod bod yna'r rhai yn y categori risg uchel—neu sut yr ydych yn categoreiddio pa domenni, mewn gwirionedd, y mae angen gweithredu arnyn nhw ar unwaith. Mae'n debyg mai un o fy nghwestiynau, mewn gwirionedd, oedd a oes gennych chi—rwyf i wedi gofyn hyn o'r blaen—ddadansoddiad o'r tomenni mwyaf peryglus mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod nad ydym yn dymuno achosi braw na phanig ymhlith y cyhoedd, ond rwy'n credu, cyn y gallwn ni benderfynu ble mae arian yn cael ei wario, fod yn rhaid gwneud y gwaith hwn. Rwy'n gwybod, fel y dywedwch chi, rai o'r ffigurau yr ydych chi wedi eu gwario hyd yn hyn yn gwneud hyn.

Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi gwneud dyraniad ychwanegol o £4.5 miliwn dros dair blynedd, a chyfanswm cyllid cyfalaf o £44 miliwn i gefnogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar domenni glo. Fodd bynnag, mae dros 2,500 o domenni glo segur, felly nid yw'r arian ychwanegol ond yn cyfateb i £19,500 i bob tomen ar gyfartaledd, sydd ymhell o'r nod. Yn ogystal ag esboniad ynghylch sut y bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech egluro pa opsiynau yr ydych yn eu hystyried ar gyfer dod o hyd i'r £0.5 biliwn y soniwyd amdano dros y 10 mlynedd nesaf er mwyn talu cost y rhaglen adfer a gwella, a sut yr ydych efallai'n gweithio gyda Llywodraeth y DU mewn modd cadarnhaol.

Fel fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil i wella'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer diogelwch tomenni glo. Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith wedi tynnu sylw at y ffaith na ddylid newid y drefn reoleiddio bresennol ar gyfer tomenni sy'n gysylltiedig â phyllau glo gweithredol, ac na ddylai unrhyw ddeddfwriaeth newydd fod yn berthnasol i domen y mae Rheoliadau Chwareli 1999 neu Reoliadau Mwyngloddiau 2014 yn berthnasol iddi. Felly, byddai'n dda cael rhai sylwadau ar hynny, Dirprwy Weinidog, o ran a fyddwch yn gweithredu ar yr argymhelliad hwnnw.

O ran yr hyn y mae angen ei gwmpasu gan ddeddfwriaeth newydd, mae problemau y mae angen mynd i'r afael â nhw, fel colli sgiliau arbenigol dros y degawdau diwethaf, straen difrifol ar adnoddau ein hawdurdodau lleol—oherwydd eu bod yn credu bod yn rhaid iddyn nhw ysgwyddo rhywfaint o gost hyn—dosbarthiad anghyfartal o domenni ledled Cymru sydd bellach yn rhoi baich anghymesur ar rai awdurdodau lleol, ac un sy'n gosod pwerau statudol sydd ond yn dod i rym pan fydd tomen wedi mynd yn ansefydlog. Er mwyn helpu awdurdodau i weithredu'n rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol i sicrhau diogelwch tomenni, mae argymhelliad y dylid ffurfio un corff goruchwylio, sy'n gyfrifol am ddiogelwch tomenni ac sydd â mwy o bwerau. Mae hyn yn ymddangos i mi yn gynnig synnwyr cyffredin. Felly, a ydych chi'n cefnogi hynny? Roedd dros 90 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynnig, ond roedden nhw wedi eu rhannu'n weddol gyfartal ynghylch a ddylai'r awdurdod goruchwylio fod yn gorff newydd neu yn wir gorff sy'n bodoli eisoes. Rwy'n cytuno y byddai corff newydd efallai'n rhoi hwb newydd i hyn, yn hytrach nag is-adran newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd ein bod ni'r Aelodau i gyd yn gwybod y pwysau sydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru—maen nhw'n wynebu prinder staff ac maen nhw'n wynebu diffyg cyllid difrifol. Felly, mae hwnnw'n gwestiwn penodol sydd gen i.

Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi bod yn gweithio i nodi 2,456 o domenni, ac mae 327 ohonyn nhw yn cael eu hystyried yn rhai risg uwch. Mae Comisiwn y Gyfraith yn dymuno ein gweld yn ychwanegu at y gwaith hwnnw drwy greu cofrestr ganolog o domenni—mae hynny'n adleisio fy mhwynt yn gynharach—fel ein bod yn gwybod yn union beth yw'r sefyllfa yr ydym yn ymdrin â hi. Roedd dros 90 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno â chael y gofrestr tomenni hon, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni'r Aelodau yma heddiw, a fyddwch chi'n darparu'r data pwysig hynny, yr wybodaeth bwysig honno, mewn gwirionedd fel y gallwn ni i gyd weithio ar draws pleidiau gwleidyddol, a gweithio ar draws Llywodraethau, gobeithio, fel y gellir lleddfu ofnau pobl sy'n byw neu'n gweithio'n agos at y tomenni hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach? Diolch.

16:25