Y Cyfarfod Llawn
Plenary
09/03/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma. Mae'r rheini wedi eu nodi ar yr agenda.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen ar awdurdodau lleol i weithredu'r trothwyon newydd ar gyfer llety hunanarlwyo sy'n gymwys ar gyfer ardrethi annomestig? OQ57756

Mae’r broses o asesu eiddo hunanarlwyo ar gyfer trethi lleol wedi’i hen sefydlu ac nid ydym yn disgwyl y bydd angen adnoddau ychwanegol ar awdurdodau lleol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal ailasesiadau rheolaidd i sicrhau bod eiddo'n parhau i fodloni'r meini prawf perthnasol, ac mae'n rhoi gwybod i awdurdodau lleol ynglŷn ag unrhyw newidiadau.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Gan ichi grybwyll y cynigion newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, nodaf y newid yn y meini prawf i lety hunanarlwyo fod yn agored i ardrethi busnes yn hytrach na thalu eu treth gyngor, ac felly hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar yr effaith y bydd hyn yn debygol o'i chael ar rôl cynghorau a'u rhan yn hyn o beth. Oherwydd mae'n debygol, wrth gwrs, mai cynghorau a swyddogion cyngor fydd y rhai a fydd yn gorfod sicrhau bod eiddo a landlordiaid yn glynu at yr hyn y dylent fod yn glynu ato, ac mai hwy yw'r rhai sy'n debygol o orfod monitro defnydd o eiddo dros yr amser hwn hefyd. Felly, wrth gwrs, bydd angen i swyddogion cynghorau a chynghorau ddefnyddio cryn dipyn o adnoddau i sicrhau bod hyn yn digwydd. Felly, tybed pa sgyrsiau yr ydych yn eu cael gyda chynghorau, a pha drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda chynghorau, ynglŷn â'u rôl yn sicrhau bod y cynigion a gyflwynwch i ddod i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, mwy na thebyg, a'r adnoddau sydd ganddynt yn gallu cefnogi'r cynigion hyn.
Diolch am eich cwestiwn. Gwnaethom ymgynghori’n eang iawn ynghylch y cynigion hyn, wedi i fwy na 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad ddod i law, ac yn amlwg, fe wnaethom eu hystyried yn ofalus cyn dod i’r casgliadau ar y newidiadau i’r meini prawf.
Fe ddywedaf mai Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ar yr asesiadau a chydymffurfiaeth â meini prawf, ac rydym yn cyllido'r asiantaeth i wneud y gwaith hwnnw ac i gynnal asesiadau rheolaidd. Yn amlwg, gallai unrhyw ymgais i gamarwain yr asiantaeth, neu i ddarparu gwybodaeth ffug neu anghywir yn fwriadol, arwain at erlyniad neu dwyll, felly mae'r gofyniad i fusnesau wneud datganiadau cywir yn un difrifol iawn.
Rwyf am ddweud, ac mae’r Aelod wedi cyfeirio at y ffaith, na fydd y newidiadau hyn yn dod i rym tan fis Ebrill 2023, felly mae hynny’n rhoi digon o amser i’r newidiadau a’r goblygiadau gael eu hystyried gan y perchnogion eiddo a allai gael eu heffeithio. Ond mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio dîm penodol i ddilysu'r dystiolaeth a ddarparwyd am eiddo hunanarlwyo a rhestru cofnodion yng Nghymru. Mae'n cynnal hapwiriadau yn rheolaidd hefyd, ac yn ymchwilio i unrhyw bryderon a nodir. Felly, os bydd yr awdurdod lleol, neu aelodau’r cyhoedd yn wir, yn pryderu am y ffordd y caiff eiddo ei restru a’i ddefnyddio ac nad yw’r ddau beth o reidrwydd yn cyd-fynd â'i gilydd, gall yr unigolyn godi hynny gyda’r awdurdod lleol, a gallant hwy roi gwybod i'r asiantaeth, a fydd yn cynnal eu hymchwiliad.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba ofynion a ystyriwyd wrth benderfynu ar y setliad cyfalaf ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn? OQ57750
Mae’r fformiwla y cytunwyd arni ar gyfer dosbarthu cyfalaf heb ei neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol yn ystyried ffactorau megis poblogaeth, hyd ffyrdd, teneurwydd poblogaeth a chyflwr y stoc dai. Roedd lefel y cyllid cyfalaf a gawsom gan Lywodraeth y DU yn siomedig ac nid yw’n ddigon i gyflawni ein huchelgeisiau i fuddsoddi yn nyfodol Cymru.
A dwi'n sicr yn cyd-fynd efo'r Gweinidog ar yr angen i sicrhau lefel uwch o wariant gyfalaf. Mae sicrhau cyllid cyfalaf ddigonol yn gwbl angenrheidiol er mwyn gallu buddsoddi yn y dyfodol. Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn, o dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, drac record arbennig yn ddiweddar wrth ddarparu eiddo ar gyfer busnesau ar yr ynys, er enghraifft efo buddsoddiad pwysig yn Llangefni ac yng Nghaergybi, ac mae yna gynlluniau pellach i fuddsoddi mewn ardaloedd eraill er mwyn sicrhau bod llewyrch yn cael ei ledaenu ar draws yr ynys, i ardal Amlwch, er enghraifft. Pa sicrwydd all y Llywodraeth ei rhoi y bydd Gweinidogion yn barod i weithio efo cyngor Môn i alluogi delifro ar gyfer cefnogi mwy o fusnesau a chreu mwy o swyddi ar yr ynys?
Credaf fod gan Lywodraeth Cymru hanes cryf iawn o weithio'n agos iawn ag Ynys Môn. Dros y pum mlynedd diwethaf, er enghraifft, mae bron i hanner buddsoddiad cyfalaf y cyngor wedi’i ariannu drwy grantiau cyfalaf, sy’n dangos, yn fy marn i, y gwaith partneriaeth effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Ac o’r cyllid cyfalaf a ddarparwyd gennym yn y gyllideb, a gytunwyd gennym ddoe, gwn fod rhai meysydd penodol o ddiddordeb cyffredin i'n pleidiau, gan gynnwys, ledled Cymru, bron i £300 miliwn i gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, £10 miliwn i'r gronfa sero net, a bron i £20 miliwn i addysg cyfrwng Cymraeg. A chredaf fod y rheini'n adlewyrchu ein blaenoriaethau addysg a newid hinsawdd, sy'n flaenoriaethau a rennir. Ond fel y dywedais, mae llawer o wariant cyfalaf Ynys Môn wedi’i gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru, ac yn amlwg, rydym yn awyddus i barhau’r berthynas gynhyrchiol honno.
Er y bydd cyllid refeniw llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 yn cynyddu 9.4 y cant, mae elfen o ddwyn o'r naill law i dalu'r llall yma, gyda chyllid cyfalaf cyffredinol awdurdodau lleol ledled Cymru, ac yn Ynys Môn, i lawr 16 y cant. Yn ychwanegol at hynny, er mai lefelau ffyniant fesul y pen Ynys Môn yw'r isaf yng Nghymru, ychydig yn llai na hanner y lefelau yng Nghaerdydd, a bod Ynys Môn ymhlith y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle y caiff 30 y cant neu fwy o weithwyr gyflogau is na’r cyflog byw gwirfoddol, gwelodd Ynys Môn un o’r toriadau mwyaf i'r setliad llywodraeth leol yn 2019-20, un o’r codiadau isaf i'r setliad llywodraeth leol yn 2020-21 a 2021-22, a dim ond saith o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Gwynedd, a fydd yn derbyn cynnydd is i'r setliad llywodraeth leol yn 2022-23. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod ei fformiwla llywodraeth leol wedi ei dylanwadu’n drwm gan ddangosyddion amddifadedd, pam felly fod Ynys Môn ar ei cholled?
Mae’r cwestiwn yn ymwneud â chyllid cyfalaf a’r setliad cyfalaf, a chyfeiriodd y siaradwr at ddwyn o'r naill law i dalu'r llall. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Rydym yn cael setliad refeniw gan Lywodraeth y DU, ac rydym yn cael setliad cyfalaf gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi rhoi'r ddau ar waith yn llawn. Rydym wedi gor-raglennu ar gyfer cyfalaf ac rydym yn bwriadu tynnu'r benthyciad i lawr yn llawn. Felly, nid oes unrhyw elfen o ddwyn o'r naill law i dalu'r llall. Yr hyn a welwn yn y setliad cyfalaf yw effaith uniongyrchol setliad cyfalaf gwael iawn Llywodraeth y DU i Gymru. Byddwn yn gweld ein cyllid cyfalaf yn gostwng bob blwyddyn dros y tair blynedd nesaf, o gymharu ag eleni. Ac nid dyna'r ffordd i fuddsoddi pan fyddwn yn dod allan o bandemig, pan fo angen buddsoddi mewn seilwaith, mewn creu swyddi, ac ni chredaf y dylid torri gwariant cyfalaf yn y ffordd honno. Yn sicr, mae ein hawdurdodau lleol yn erfyn am arian ychwanegol. A dyna un o'r rhesymau pam y bu modd imi ddarparu £70 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i awdurdodau lleol eleni, er mwyn iddynt ei ddefnyddio yn lle cyllid eleni, gallant ei roi yn y cronfeydd wrth gefn a chynllunio i'w wario yn y blynyddoedd i ddod. Ac rwy'n gobeithio y bydd hynny’n lleddfu rhywfaint ar yr anfantais y byddant yn ei theimlo o ganlyniad i setliad cyfalaf gwael iawn Llywodraeth y DU yn yr adolygiad o wariant.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Mae Ewrop, ac yn wir, y byd i gyd, wedi’u syfrdanu gan y digwyddiadau yn Wcráin. Bydd rhyfel cwbl ddiangen ac anwaraidd, a achoswyd gan unigolyn a ddallwyd gan ei olwg wrthnysig ei hun ar y byd, yn arwain at ganlyniadau ymhell y tu hwnt i ffiniau dwyrain Ewrop. Rwy'n hyderus y byddai pob Aelod sy'n eistedd yn y Siambr hon yn cytuno â hynny. Mae gennym rwymedigaeth foesol yma yng Nghymru i wneud popeth a allwn i gefnogi ein ffrindiau o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel. Dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd amddiffyn, Ben Wallace, wedi datgan y gall ac y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud mwy.
Ond mae’r argyfwng presennol yn codi cwestiynau hollbwysig ynghylch parodrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn hollbwysig wrth ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol i’n cyfeillion o Wcráin a fydd yn ceisio ailadeiladu bywydau newydd yma yng Nghymru. Dyma lle bydd ein hawdurdodau lleol, a’r gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol ehangach, unwaith eto, ar y rheng flaen. Ond er mwyn iddynt ymateb i'r her, mae'n rhaid rhoi'r offer iddynt wneud y gwaith. Nawr, Weinidog, gwn ichi ddweud ddoe eich bod wedi cynnal sgyrsiau cychwynnol gyda phartneriaid llywodraeth leol ar y mater. Fodd bynnag, bydd blaengynllunio'n hanfodol wrth baratoi ar gyfer pa senario bynnag a all godi, gan y gwn y bydd angen ystod eang o wasanaethau i gefnogi ein ffrindiau o Wcráin. Fodd bynnag, mae’r gwasanaethau hyn, ac awdurdodau lleol yn wir, eisoes o dan bwysau aruthrol oherwydd y pandemig. Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r adnoddau y bydd eu hangen ar gynghorau i ddarparu gwasanaethau i bobl sy’n cyrraedd Cymru, megis llety, cyflogaeth, addysg, tai, mynediad at gyllid personol, ac adnoddau hanfodol eraill? Ac yn olaf, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Aelodau o bob rhan o Lywodraeth Cymru am y gwersi y gellir eu dysgu o'r cynllun i adsefydlu dinasyddion Affganistan, fel y gall cynllun newydd ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth orau sy'n bosibl?
Diolch i Peter Fox am ei gwestiwn, ac rwy’n cytuno'n fawr â’r sylwadau ar ddechrau ei gyfraniad mewn perthynas ag arswyd yr ymosodiad digymell a’n dymuniad i wneud popeth a allwn i gefnogi pobl yn Wcráin, gan ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni. Hoffwn roi sicrwydd i fy holl gyd-Aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo drwy'r dydd, bob dydd, mewn perthynas â hyn ar draws Llywodraeth Cymru, ac ar draws llywodraeth leol er mwyn paratoi i groesawu ffoaduriaid o Wcráin i Gymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn arbennig ym maes tai. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau fod gennym fannau addas i dderbyn pobl i mewn i Gymru, ac yna, i symud ymlaen i'r cymunedau a fydd yn eu croesawu. Ac mewn perthynas â'i chynllun noddi, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried darparu'r math hwnnw o rôl gydgysylltu i Lywodraeth Cymru gan ein bod wedi gwneud hynny o'r blaen. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus iawn, yn fy marn i, drwy’r pandemig, lle rydym wedi wynebu her debyg i gartrefu niferoedd mawr o bobl yn gyflym iawn, ac rydym wedi gwneud hynny drwy ein hymateb i ddigartrefedd a chysgu allan yn ystod y pandemig. Felly, mae gennym brofiad diweddar y gallwn adeiladu arno yn hynny o beth.
Rydym wedi cael sgyrsiau gwirioneddol gynhyrchiol a chadarnhaol ar lefel swyddogol gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid. Yr hyn y byddem yn disgwyl ei weld fyddai cynllun ariannu y pen, fel y gwelsom gyda chynlluniau adsefydlu blaenorol, yn hytrach na swm canlyniadol Barnett, gan nad dyna fyddai’r mecanwaith priodol yn yr achos penodol hwn. Ond rydym yn cael y trafodaethau hynny ynglŷn ag anghenion gofal iechyd, anghenion tai, integreiddio, a chynorthwyo pobl i gael gwaith hefyd pan fyddant yn cyrraedd yma.
Diolch am eich ymateb, Weinidog; mae hynny'n galonogol, a bydd y rheini ohonom ar y meinciau hyn yn gwneud popeth a allwn i helpu'r ymdrech i sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol hynny.
Nawr, Weinidog, yr wythnos diwethaf, adroddodd y BBC fod oddeutu £200 miliwn o gynlluniau pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi'u clymu mewn cronfeydd a chwmnïau Rwsiaidd ar hyn o bryd. Mewn cyfnodau mwy arferol, byddai buddsoddiadau o’r fath yn arferol, ond wrth gwrs, nid ydym mewn cyfnod arferol. Felly, mae'n gwbl hanfodol sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan i gosbi Rwsia am eu hymosodiad anghyfreithlon drwy sicrhau nad yw'r un geiniog o arian cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyfundrefn Rwsia yn anfwriadol mewn unrhyw ffordd. Fel y gwyddoch, Weinidog, y cynghorau fydd yn penderfynu pa gamau i’w cymryd ar y mater hwn, ond bydd llawer o gynghorau yn pendroni pa gyngor y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ynghylch dyfodol cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, yn ogystal â lleihau unrhyw effaith ariannol ar bensiynau pobl yma yng Nghymru. Wrth ddweud hyn, rwy’n cydnabod nad mater i gynghorau Cymru yn unig yw hyn, nac i wasanaethau cyhoeddus eraill yn wir. Ac felly, Weinidog, byddai gennyf fi, a’r cyhoedd yn gyffredinol, rwy’n siŵr, ddiddordeb mewn gwybod pa asesiad a wnaethoch o’r graddau y mae arian cyhoeddus Cymru wedi'i glymu wrth asedau Rwsiaidd ar hyn o bryd. Er budd Cymru, mae angen inni gael gwybod ar unwaith a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw asedau wedi'u clymu yn Rwsia, ac rwy'n mawr obeithio y gallwch sôn am hynny. A fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei rôl o ran cefnogi polisïau buddsoddi cyfrifol i helpu i sicrhau bod arian Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi mentrau cadarnhaol yng Nghymru a thu hwnt?
Rwy’n ddiolchgar i chi am godi’r mater penodol hwnnw, a thros gyfnod o amser, rwyf wedi cael trafodaethau da iawn gyda chynrychiolwyr y cynllun pensiwn llywodraeth leol mewn perthynas ag amryw o faterion—er enghraifft, rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, sydd unwaith eto yn faes pryder cyffredin rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Ond mewn perthynas â phensiynau yn benodol, mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn yn dymuno ymchwilio iddo ers dechrau'r argyfwng, a chawsom sgyrsiau â llywodraeth leol yn y cyfarfod yr ydych wedi clywed amdano, a gynhaliwyd yn agos at ddechrau'r argyfwng. Bryd hynny, rhoddodd llywodraeth leol sicrwydd eu bod wedi gwneud rhywfaint o ymchwilio cynnar a'u bod yn tybio bod llai nag 1 y cant o'u cynllun pensiwn yn agored i fuddiannau Rwsiaidd, os caf ei roi felly. Ac yn amlwg, maent yn awyddus i wneud yr hyn a allant i symud y buddsoddiad hwnnw a'i addasu at ddibenion gwahanol yn rhywle arall. Felly, gofynnais y cwestiwn hwnnw i lywodraeth leol yn gynnar, ond nid oeddwn yn hapus i wneud hynny hyd nes fy mod wedi gofyn yr un cwestiwn i mi fy hun. Felly, rydym yn aros am wybodaeth gan dîm pensiwn y Senedd hefyd i sicrhau bod gennym drefn arnom ein hunain, os mynnwch, o ran ein pensiynau.
Yn ehangach, yn y sector cyhoeddus, dim ond y cynllun pensiwn llywodraeth leol sy’n cael ei ariannu, felly mae’n defnyddio cyfraniadau gan aelodau i fuddsoddi mewn asedau i ddarparu incwm yn y dyfodol ar gyfer costau pensiwn yn y dyfodol. Mae’r rhan fwyaf os nad yr holl gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn rhan o gynlluniau nad ydynt yn cael eu hariannu. Felly, mae cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, cynllun pensiwn y GIG, y cynllun pensiwn athrawon ac yn y blaen yn defnyddio refeniw treth cyfredol a chyfraniadau aelodau cyfredol i ariannu’r costau pensiwn cyfredol hynny, felly nid ydynt yn buddsoddi mewn asedau. Ac unwaith eto, yn ehangach, wrth feddwl am asedau, nid oes gan Lywodraeth Cymru y mathau hynny o asedau dramor yn y ffordd y mae gan Lywodraethau eraill, felly nid oes angen inni boeni am hynny.
Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch am hynny, Weinidog. Weinidog, mae’r gymuned ryngwladol wedi dod at ei gilydd, yn gwbl briodol, i osod sancsiynau eang ar Putin a’i gyfeillion. Wrth gwrs, mae’r rhain yn gwbl angenrheidiol, ac mae’r rhain yn debygol o gael eu cynyddu. Fodd bynnag, bydd pawb yn teimlo effaith y sancsiynau hyn—o deuluoedd sy’n gweithio’n galed i fusnesau bach a mawr, ac yn wir, ein gwasanaethau cyhoeddus ein hunain. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y sancsiynau a’r rhyfel ar economi Cymru a theuluoedd ledled Cymru? Er enghraifft, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag effaith cynnydd sylweddol ym mhris tanwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru? Ac yn olaf, Weinidog, efallai y bydd y rhyfel yn effeithio ar gost ac argaeledd nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith ar gaffael cyhoeddus?
Unwaith eto, diolch am eich cwestiwn. Mae sawl elfen yn eich cwestiwn, a cheisiaf roi sylw iddynt yn fyr, ond yn amlwg, rwy'n awyddus i gael trafodaeth bellach gyda'r Aelodau, os oes ganddynt ddiddordeb, ar elfennau penodol ohono. Felly, rydym wedi gwneud llawer o waith dadansoddi ar draws Llywodraeth Cymru i ddeall beth y gallai'r effeithiau fod, o ran sancsiynau, ond hefyd y sefyllfa ehangach mewn perthynas â'r argyfwng. Felly, rydym wedi edrych ar farchnadoedd ynni a chwyddiant cyffredinol. Mae’r effeithiau yng Nghymru, o ran ein defnydd o nwy ac olew o Rwsia, yn llai nag mewn rhannau eraill o Ewrop: mae llai na 5 y cant o’n nwy, er enghraifft, yn dod o Rwsia, gyda’r gweddill yn dod o fôr y Gogledd a Norwy, yn ogystal â nwy naturiol hylifedig o wledydd fel Qatar a'r Unol Daleithiau. Ond wrth gwrs, mae prisiau ynni yn cael eu gosod ar sail fyd-eang, felly mae'n anochel y byddwn yn teimlo effaith rhywfaint o hynny, ac rydym wedi gwneud gwaith ychwanegol i edrych ar beth fyddai'r effaith ar yr economi pe bai pris casgen o olew yn codi'n uwch na $100. Rydym wedi edrych ar wahanol senarios, a'r effaith bosibl, a'r dewisiadau posibl wedyn gan Fanc Lloegr o ran cyfraddau llog ac ati.
Rydym hefyd wedi edrych yn benodol ar fwyd. Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau ddoe ynghylch prisiau a'r hyn y bydd hynny’n ei olygu i’r gallu i gynnal prisiau yma yng Nghymru. Credaf ein bod yn debygol o weld prisiau’n codi o ganlyniad i’r sefyllfa. Gwrtaith: unwaith eto, soniodd y Prif Weinidog am hynny ddoe. Rydym hefyd wedi gwneud ymchwil ar fetelau a diemwntau. Ceir rhai materion sy’n benodol i Gymru yma, er enghraifft yn y diwydiant modurol. Mae Fforwm Modurol Cymru wedi siarad ag aelodau sy'n cyflenwi cydrannau i gyfleusterau gweithgynhyrchu ceir Rwsiaidd, ac felly rydym yn aros i ddeall yr effeithiau posibl ar werthiant ac effeithiau pellach posibl y tu hwnt i hynny. Ac yn amlwg, y diwydiant awyrofod—daw oddeutu hanner titaniwm y byd ar gyfer awyrofod o Rwsia, ac mae awyrofod a'r diwydiant modurol yn ddiwydiannau pwysig iawn i ni yma yng Nghymru. Felly, rydym wedi gwneud gwaith dadansoddi mewn perthynas â hynny hefyd. Felly, mae gennym yr effeithiau mawr posibl hyn ar yr economi, ond hefyd effeithiau ar aelwydydd unigol. Ac nid wyf am ailadrodd y pecyn cymorth a roddwyd ar waith gennym, ond bydd yr Aelodau'n gyfarwydd bellach â'r pecyn sy'n ymwneud â phrisiau tanwydd a'r taliad o £150 ac yn y blaen.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, byddwch chi'n gwybod, dwi'n siwr, fod pob 1 y cant yn ychwanegol o werth caffael cyhoeddus sydd yn aros yng Nghymru yn gyfwerth â 2,000 o swyddi newydd, a dyna pam roedd maniffesto Plaid Cymru, wrth gwrs, eisiau gweld cynnydd, o'r 52 y cant o'r gwerth yna sy'n aros yng Nghymru ar hyn o bryd i 75 y cant, fel bod hynny, wrth gwrs, yn ei dro, yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru.
Nawr, yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol o dan arweiniad Plaid Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod mwy o'u cyllid nhw yn aros oddi mewn i'r economi leol yna. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, wedi treialu strategaeth 'cadw'r budd yn lleol', sy'n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'u harian yn lleol, a dros bedair blynedd wedi cynyddu gwariant lleol y cyngor o £56 miliwn i £78 miliwn, sy'n gynnydd sylweddol iawn o 39 y cant. A chyngor sir Gaerfyrddin, eto o dan arweiniad Plaid Cymru, oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi y cynllun adfer COVID ar waith, gan ddiogelu 10,000 o swyddi a chefnogi llawer iawn mwy o feicrofusnesau a fyddai fel arall wedi llithro drwy rwyd cymorth y Llywodraeth. A thrwy'r cytundeb cydweithredu, wrth gwrs, rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, dwi'n hynod o falch fod y nod yma o sefydlu targed caffael nawr yn cael ei edrych arno o ddifri er mwyn sicrhau'r budd uchaf posib i'r economi yma yng Nghymru.
Nawr, mae angen sicrhau, wrth gwrs, ar yr un pryd, fod unrhyw nodau neu dargedau cenedlaethol yn cael eu trosglwyddo i'r lefel leol. Gaf i ofyn, felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr arfer da rŷn ni'n gweld mewn awdurdodau lleol sy'n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn cael ei efelychu gan awdurdodau eraill?
Byddwn yn dweud bod gennym arferion da ledled Cymru, a bod yn deg â'r holl awdurdodau lleol sy’n cael eu rhedeg gan amrywiaeth o bleidiau gwahanol wrth gwrs. Rydym yn gweld arferion da ledled Cymru, ac rwy’n falch iawn fod rhan o’n cytundeb cydweithio'n ymwneud â chynyddu faint o arian sy’n cael ei wario yma yng Nghymru a'i gadw yma yng Nghymru yn y math o economi sylfaenol yr ydym yn awyddus iawn i'w rhoi ar waith. Cyfeiriwyd at 52 y cant—cefais gyfarfod â’ch Aelod dynodedig yn ddiweddar lle buom yn sôn am rai o heriau’r ffigur hwnnw yn yr ystyr ei fod ond yn cyfeirio at ble y caiff yr anfoneb ei hanfon, yn y bôn, yn hytrach na chanfod ble y caiff y gwariant ei wneud, ac yn enwedig ble y caiff y gwariant ei wneud yn y cadwyni cyflenwi. Felly, mae gennym waith yn mynd rhagddo i geisio mireinio'r ffigur hwnnw ymhellach i gael gwell dealltwriaeth ohono, ac mae rhan o'r gwaith hwnnw wedyn yn ymwneud ag edrych ar ble y ceir bylchau yn y gadwyn gyflenwi. Felly, rydym yn caffael pethau o'r tu allan i Gymru—beth ydynt, ac a allwn eu gwneud yma, ac a allwn eu gwneud yn well, ac a allwn eu gwneud mewn ffordd sy'n creu swyddi lleol? Felly, mae hwnnw'n waith pwysig a fydd, rwy’n siŵr, yn ein cynorthwyo i gyflawni'r uchelgais a rennir gennym i gynyddu faint o arian a gedwir yma yng Nghymru o'r sector cyhoeddus.
Ac mae'r wobr yna o ddegau o filoedd o swyddi ychwanegol, wrth gwrs, yn medru digwydd heb wario pres ychwanegol, oherwydd mae'n bres rŷn ni'n gwario ar gaffael yn barod, ond mae yna fodd i'w wario fe mewn ffordd wahanol. Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod hyn yn cael ei edrych arno o ddifrif.
Ond nid dim ond buddion economaidd, wrth gwrs, sy'n dod yn sgil cryfhau a gwella polisi caffael; mae yna lwyth o elfennau positif eraill. Rŷn ni'n gwybod y gallai helpu i leihau allyriadau carbon. Does ond angen meddwl am dorri milltiroedd bwyd, er enghraifft, fel un enghraifft. Mae'n gallu cryfhau yr economi gylchol, mae'n gallu gwella safonau cynnyrch, ac yn y cyd-destun bwyd eto mae hynny'n gallu arwain at well canlyniadau o safbwynt iechyd cyhoeddus hefyd.
Ac mae'r sector bwyd a'r diwydiant amaeth yn benodol yn un elfen bwysig iawn o'r gwaith yma, achos mi fyddai darparu bwyd lleol maethlon drwy ysgolion, drwy ysbytai, drwy sefydliadau gofal ac yn y blaen nid yn unig yn creu marchnadoedd domestig newydd a fyddai'n cryfhau'r sector yn economaidd, ond mi fyddai hefyd, wrth gwrs, yn lleihau rhywfaint ar fewnforio. Ac yn y cyd-destun rhyngwladol y clywon ni amdano fe yn y cwestiynau blaenorol, mi ddylai fod creu mwy o gydnerthedd bwyd a mwy o ddiogelwch bwyd yn flaenoriaeth i ni i gyd.
Gaf i ofyn, felly, pa drafodaethau ydych chi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gaffael o fewn y Llywodraeth wedi'u cael gyda'r Gweinidog cefn gwlad ynglŷn â'r Bil amaeth, gan ei bod hi'n gwbl allweddol, wrth gwrs, fod y cynlluniau a'r amcanion caffael, rŷn ni i gyd dwi'n siŵr yn eu rhannu fan hyn, yn clymu i mewn yn agos â'r Bil, a bod y Bil hefyd wedyn yn ategu ac yn cefnogi'r ymdrechion i greu marchnadoedd lleol newydd?
Mae hyn yn sicr yn rhywbeth sy’n rhan o’r ymagwedd tuag at y Bil amaethyddiaeth, ac mae’n un o’r pethau y gwn fod y Gweinidog materion gwledig hefyd wedi bod yn eu trafod gyda Peter Fox mewn perthynas â’i gynigion ar gyfer Bil, a fyddai’n ceisio sicrhau ein bod yn caffael mwy o fwyd yn lleol. Credaf fod hwn yn un maes lle mae gennym arferion da yn dod i'r amlwg yn y gwaith sy'n cael ei arwain gan Gaerffili. Maent yn arwain ar gaffael bwyd i geisio sicrhau bod mwy o gyfle i'r sector cyhoeddus gaffael ar y cyd, er mwyn gwneud i arbedion maint weithio iddynt. Rydym yn edrych hefyd ar beth arall y gallwn ei wneud i ddechrau—. Mewn gwirionedd, mae hyn yn rhan o broblem y bylchau yn y gadwyn gyflenwi, ond ar raddfa lai o lawer, ond mae'n ymwneud ag edrych o ble rydym yn caffael ein bwyd. Felly, er gwaethaf yr holl ffermydd ieir sy'n ymddangos ledled Cymru, un o'r pethau rhyfedd yw ei bod yn ymddangos nad ydym yn gallu llunio contractau dofednod gyda ffermwyr Cymru, a'r rheswm am hynny yw ei bod yn well ganddynt werthu i'r archfarchnadoedd ar hyn o bryd. Felly, rydym yn cael trafodaethau ynglŷn â sut y gallwn greu llinell ddofednod a fyddai wedyn yn defnyddio'r marchnadoedd i mewn i'r sector cyhoeddus. Felly, rydym yn gweithio'n galed yn y maes penodol hwn, weithiau mewn ffordd fanwl a phenodol iawn.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol ynghylch effaith cyfraddau treth cyngor ar yr argyfwng costau byw? OQ57737
Mae pennu lefelau’r dreth gyngor yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol, ynghyd ag ystyried yr holl ffynonellau cyllid sydd ar gael a blaenoriaethau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae'n rhaid i awdurdodau sicrhau cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a'r pwysau ariannol ar aelwydydd.
Diolch, Weinidog. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae teuluoedd ledled Cymru gyfan yn wynebu un o’r argyfyngau costau byw mwyaf difrifol ers degawdau. Mae costau cynyddol, prisiau ynni cynyddol a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan yn golygu bod miloedd o aelwydydd yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd talu am eitemau bob dydd. Ac ym mis Ebrill, wrth gwrs, bydd costau ynni'n codi hyd yn oed ymhellach, bydd codiadau treth yn taro cartrefi, a ddoe, rhagwelodd Sefydliad Resolution sut y bydd y rhyfel ofnadwy yn Wcráin hefyd yn gwaethygu'r argyfwng hwn.
Ar hyn o bryd, sir Castell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth sydd â'r lefel dreth gyngor uchaf ond dwy yng Nghymru, ac mae wedi bod ag un o’r lefelau treth gyngor uchaf yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Mae llawer o fy etholwyr wedi dweud wrthyf pa mor annheg yw hyn yn eu barn hwy. Roedd setliad y gyllideb gan Lywodraeth Cymru i’r cyngor yn well nag arfer eleni, a byddai wedi bod yn bosibl torri’r dreth gyngor a buddsoddi yng ngwasanaethau’r cyngor hefyd. Cyflwynodd cynghorwyr Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol ar y cyngor gynnig ar y cyd i dorri'r dreth 2.75 y cant, a fyddai wedi gadael cronfeydd wrth gefn cyffredinol o bron i £18.5 miliwn i'r cyngor, yr uchaf yng Nghymru, ond gwrthodwyd hyn gan y cyngor a reolir gan Lafur.
Mae’r dreth gyngor yn effeithio’n anghymesur ar bobl ar incwm isel yn ein cymunedau, felly pa sgyrsiau y mae’r Gweinidog yn eu cael gydag arweinwyr cynghorau i sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gadw lefel y dreth gyngor mor isel â phosibl eleni? Ac a wnaiff y Llywodraeth ystyried galwad Plaid Cymru i ddileu dyled treth gyngor fel rhan o’n cynllun gweithredu ar yr argyfwng costau byw?
Diolch am eich cwestiwn, ac rwyf am ailadrodd eto fod yn rhaid i awdurdodau sicrhau'r cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau ac ystyried y pwysau ar aelwydydd, heb gael fy nenu i wneud sylwadau ar benderfyniadau unrhyw awdurdod penodol, oherwydd penderfyniadau i awdurdodau lleol yw'r rhain, ac nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw pennu beth y dylent fod. Wrth gwrs, mae pŵer gennym i osod cap ar gynnydd, ond nid yw hwnnw'n bŵer a ddefnyddiwyd gennym hyd yma, ac o'r hyn a glywaf am y math o lefelau y mae awdurdodau yn meddwl amdanynt, er y ceir ystod, nid ydym wedi cyrraedd y pwynt lle'r ydym ymhell i mewn i ffigurau dwbl a fyddai'n golygu y byddem o ddifrif yn ystyried defnyddio'r pŵer hwnnw i osod cap ac yn y blaen. Felly, credaf mai dewisiadau i'r awdurdodau lleol yw'r rhain ar hyn o bryd.
Ar y pwynt ynglŷn â choelcerth dyledion, y gwn ei fod yn rhywbeth sydd wedi’i godi gan sawl un—rwyf wedi edrych ar hyn i weld a fyddai hyd yn oed yn bosibl. Nid oes gan awdurdodau lleol bŵer cyfreithiol i ddileu dyledion yn y ffordd honno. Mae ganddynt bŵer i weithio gydag unigolion ac yna i wneud penderfyniadau ar sail unigol, ond nid oes ganddynt bŵer o'r fath i ddileu dyledion. Felly, yn gyfreithiol, nid yw hynny'n opsiwn. Ond gallant weithio gydag unigolion, a buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu fframwaith iddynt wneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gallu nodi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd a gweithio ochr yn ochr â hwy wedyn i archwilio a ydynt yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael ac yn y blaen, neu a oes angen rhyw fath o gymorth ychwanegol ar y teulu neu’r aelwyd. Felly, nid wyf yn mynd i gael fy nenu i sôn am gynghorau unigol, ond fe ddywedaf fod ganddynt alluoedd i ddarparu cymorth unigol i aelwydydd.
Weinidog, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi £175 miliwn i Gymru i helpu teuluoedd gweithgar yng Nghymru gydag achubiaeth ariannol i helpu i leddfu pwysau costau byw. [Torri ar draws.] 'Hwrê', yn hollol. Croesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a darparu ad-daliad arian parod o £150 i gartrefi ym mandiau treth gyngor A i D, ac i greu cronfa ddewisol i roi cymorth pellach i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r cyllid ychwanegol hwn gan San Steffan, ac a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am eich trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut a phryd y bydd ad-daliad y dreth gyngor yn cael ei ddarparu i aelwydydd sydd eisoes yn teimlo’r pwysau ar eu cyllidebau dyddiol? Diolch.
Wel, bydd Natasha Asghar yn falch iawn o glywed ein bod wedi rhoi mwy na'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu i dalwyr y dreth gyngor yn Lloegr, ac wedi mynd ymhellach o lawer drwy allu darparu pecyn cymorth sy'n werth bron i ddwbl yr hyn sydd ar gael dros y ffin yn Lloegr. Felly, bydd awdurdodau—mae'n ddrwg gennyf, bydd aelwydydd—yn cael y taliad o £150 ym mhob cartref ym mandiau A i D, ond hefyd, yng Nghymru, os ydych yn dderbynnydd cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, byddwch hefyd yn cael y taliad hwnnw, ni waeth ym mha fand yr ydych ynddo. Yn ogystal, wrth gwrs, mae aelwydydd yng Nghymru wedi gallu cael taliad o £200 os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd i'w helpu gyda phrisiau uchel y gaeaf, neu'r prisiau tanwydd uchel, a welir ar hyn o bryd, a byddwn hefyd yn gallu cyflawni'r cynllun hwnnw eto o fis Hydref nesaf ymlaen i sicrhau ein bod yn rhoi cymorth i deuluoedd tuag at ddiwedd y flwyddyn, pan fydd pethau'n brathu o ran yr angen i ddefnyddio mwy o danwydd ac yn y blaen.
Yn ogystal, rydym wedi rhoi £25 miliwn i awdurdodau lleol allu darparu cymorth dewisol, gan gydnabod na fydd pob cartref yn gallu perthyn i un o'r categorïau hyn. Felly, rydym wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a oedd ar gael yn Lloegr. Nid wyf am fynd i drafod a oedd yn arian ychwanegol ai peidio, gan fy mod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid ar y mater hwnnw, yn nodi amserlen digwyddiadau a gwybodaeth a rannodd y Trysorlys gyda ni, a oedd yn golygu mewn gwirionedd ein bod yn waeth ein byd ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth y DU am yr ad-daliad o £150 dros y ffin. Ond rwy'n hapus i roi copi o'r llythyr hwnnw yn y Llyfrgell er mwyn i bawb gael golwg arno yn eu hamser eu hunain.
Weinidog, yfory bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn pleidleisio ar eu cyllideb ar gyfer 2022-23. Diolch i'ch setliad llywodraeth leol, sy'n grymuso cynghorau Cymru, o dan y cynigion hyn bydd gwasanaethau'n cael eu diogelu, a bydd arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol ac i gefnogi isafswm cyflog sy'n uwch na'r cyflog byw go iawn, a'r cyfan gan gyfyngu'r cynnydd yn y dreth gyngor i 1 y cant, sydd, rwy'n credu, ymhlith yr isaf yng Nghymru. A ydych yn cytuno bod hon yn enghraifft wych o awdurdod dan arweiniad Llafur yn cefnogi ei drigolion yn ystod yr argyfwng costau byw gan ddiogelu'r gwasanaethau allweddol y maent i gyd yn dibynnu arnynt ar yr un pryd?
Wel, rwyf mewn sefyllfa braidd yn anodd yn awr, ar ôl ymrwymo i beidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau unigol, ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt rhagorol.

4. Pa ddyraniadau ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu gwneud i'r portffolio newid hinsawdd i gynorthwyo awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt? OQ57730
Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun cymorth ariannol brys i ddarparu cymorth ariannol arbennig i awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau difrifol fel llifogydd. Nid ydym wedi derbyn unrhyw geisiadau hyd yma i agor y cynllun yn dilyn y stormydd diweddar.
Mae fy etholaeth i, a chymunedau yn fy etholaeth i, fel etholaethau fy nghyd-Aelodau, wedi cael ei heffeithio yn gyson yn y blynyddoedd diweddaf, wrth gwrs, gan y ffenomenon o stormydd mwy niferus a mwy difrifol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn rhagweithiol o ran cefnogi'r cymunedau yna, o ran cynnig iawndal a help ymarferol. Ond mae yna rwystredigaeth gyffredinol, Gweinidog, yn eu gallu nhw i gynnig y buddsoddiad ataliol, ac o ran lliniaru effaith y llifogydd ar y cymunedau, yn arbennig oherwydd ein bod ni'n sôn, wrth gwrs, am ardaloedd gwledig ar hyd y Teifi a Thawe gwasgarog. Dŷn nhw ddim bob amser yn cyrraedd y meini prawf o ran nifer y trigolion a fyddai caniatáu'r buddsoddiad sydd ei angen. A fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn helaeth mewn cynlluniau atal llifogydd fel ein bod ni'n gallu cael chwarae teg nid yn unig o ran y Gymru drefol lle mae angen dybryd, ond hefyd o ran y Gymru wledig, wrth i'r ffenomen yma, yn anffodus, waethygu yn y blynyddoedd nesaf?
Ie, diolch am godi hyn, ac wrth gwrs, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio sydd gennym gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £24 miliwn ychwanegol o refeniw dros y tair blynedd nesaf a chyfanswm o £102 miliwn o gyfalaf hyd at 2024-25 i helpu i gyflawni ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Ac wrth gwrs, mae'r gwaith hwn yn cynnwys adeiladu asedau llifogydd newydd, cynnal a chadw'r seilwaith llifogydd a draenio presennol, a datblygu cynlluniau yn y dyfodol, rheoli llifogydd yn naturiol a mesurau gwrthsefyll llifogydd ar gyfer eiddo, yn ogystal â mapio a modelu a chodi ymwybyddiaeth. Bydd hyn yn darparu diogelwch ychwanegol i fwy na 45,000 o gartrefi.
Fe ofynnaf i fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog sy'n gyfrifol am newid hinsawdd, ac felly am lifogydd, ystyried y pwyntiau a godwyd gennych ynglŷn â meini prawf cymhwysedd. Rwyf wedi paratoi rhestr o gynlluniau sydd wedi'u cynllunio neu ar y gweill yn sir Gaerfyrddin, ac mae gan rai ohonynt lai o eiddo ynddynt o ganlyniad i geisio ymateb i anghenion cymunedau penodol a sicrhau nad yw cymunedau gwledig dan anfantais. Ond byddaf yn gofyn i fy nghyd-Weinidog edrych ar hynny, ac fe gaf sgwrs yn ei gylch hefyd.
Yn ystod yr ymchwiliad pwyllgor a gynhaliwyd gennym i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd mis Chwefror 2020 ac adegau eraill pan gafwyd llifogydd yn sir Gaerfyrddin ac mewn etholaethau eraill, amlygodd adroddiad pwyllgor a gyhoeddwyd yn 2020 fod lefel y cyllid refeniw yn golygu bod awdurdodau ymhell o fod wedi'u paratoi'n llawn ac yn gallu gwrthsefyll llifogydd, a bod awdurdodau wedi cael yr un lefel o gyllid refeniw ni waeth beth oedd y perygl o lifogydd yn eu hardal eu hunain. Ni all hynny fod yn iawn. Felly, gwnaeth ein pwyllgor argymhelliad clir y dylai dull Llywodraeth Cymru o ddyrannu refeniw ar gyfer llifogydd ystyried y perygl o lifogydd ar hyn o bryd a'r perygl a ragwelid yn y dyfodol ym mhob ardal awdurdod lleol. Ddydd Llun, eglurodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod dyrannu refeniw'r blynyddoedd i ddod yn seiliedig ar berygl llifogydd a/neu erydu arfordirol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol yn rhywbeth y gallent ei ystyried. Felly, Weinidog, a wnewch chi egluro pam y mae'r dyraniad refeniw yn dal i fethu ystyried perygl llifogydd i gymunedau, megis sir Gaerfyrddin ac ardaloedd eraill, er gwaethaf ein hargymhelliad clir fel pwyllgor? Diolch.
Mae'r meini prawf gwariant ar gyfer cynlluniau perygl llifogydd ychydig y tu allan i fy maes cyfrifoldeb ac arbenigedd, felly byddai'n well imi ofyn i fy nghyd-Aelod ysgrifennu at Janet Finch-Saunders er mwyn iddi gael ateb manwl gywir.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ar gyfer y cynllun buddsoddi i arbed ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23? OQ57735
Gwnaf. Mae cyllideb y cynllun buddsoddi i arbed dros y tair blynedd nesaf yn £7 miliwn. Mae'r gyllideb hon yn ganlyniad i ad-daliadau a wneir mewn perthynas â buddsoddiadau blaenorol. Felly, mae'r gyllideb rhwng 2022-23 a 2024-25 tua £25 miliwn, sy'n cynnwys £4 miliwn o gyfalaf.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Fel y gŵyr yr Aelodau yma, rwyf wedi bod yn gefnogol iawn i'r cynllun buddsoddi i arbed a'r cynllun arloesi i arbed dros nifer o flynyddoedd. Cawsant eu darparu ers sawl blwyddyn. A wnaiff y Gweinidog egluro sut y caiff cynlluniau llwyddiannus eu cyflwyno ar draws sectorau a faint o gynlluniau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn seiliedig ar gynlluniau llwyddiannus blaenorol? Fy mhryder yw bod rhai prosiectau buddsoddi i arbed rhagorol yn digwydd ond nid ydym yn dysgu ganddynt, ac nid yw'r budd a allai ddod i'r pwrs cyhoeddus drwy ei wneud ledled Cymru ond yn mynd i'r un lle sy'n ei wneud y tro cyntaf.
Ie, fel y dywed Mike Hedges, mae wedi cefnogi buddsoddi i arbed ers amser maith ac arloesi i arbed hefyd, ac mae wedi herio'r modd y dangoswn fod yr arferion da hyn yn teithio. Felly, o ganlyniad i hynny, fe wnaethom gomisiynu Prifysgol Caerdydd i wneud ymchwil ar ein rhan fel y gallem ddeall yn iawn beth yw'r profiadau a gafwyd o'r cynlluniau hynny.
O ganlyniad i'r ymchwil honno, nodwyd bod rhwystrau penodol o ran y modd y mae arferion da yn teithio, gan gynnwys argaeledd y cyllid—felly, ar ôl i gynllun ddod i ben, a oes gan sefydliadau eraill allu i wneud gwaith tebyg? Yn amlwg, mae rhai pethau y gallwn edrych arnynt mewn ymateb i hynny. Roedd argaeledd adnoddau staff gyda'r sgiliau cywir i weithredu newid yn her arall, ochr yn ochr â chymorth uwch arweinwyr i weithredu newid, parodrwydd i gymryd risgiau ac i ba raddau y maent yn ystyried tystiolaeth o gynlluniau eraill, ac yna'n olaf, ymrwymiadau cytundebol wrth gwrs, a allai olygu y byddai rhai newidiadau'n arwain at gosbau ariannol pe baent yn cael eu torri. Felly, mae'r rheini'n heriau a nodwyd gan yr ymchwil honno yn ddiweddar, heriau y mae angen inni eu hystyried yn awr wrth inni ddechrau datblygu cynlluniau. Ond rwyf am ddweud ein bod yn buddsoddi mewn prosiect lleihau carbon sylweddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 2022-23, ac mae hynny'n dilyn llawer o'r mentrau eraill mewn byrddau iechyd ledled Cymru sy'n ymwneud â lleihau allyriadau carbon, felly rydym wedi dysgu o'r cynlluniau llai hynny ac rydym bellach yn ei weithredu mewn cynllun mwy.
Ac rydym yn canolbwyntio yn awr ar gynigion sy'n hyrwyddo agenda'r rhaglen lywodraethu, a byddwn yn defnyddio'r profiad o'r cynlluniau blaenorol hynny i helpu'r mentrau hyn, ac edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhain cyn bo hir.
Weinidog, cefais y fraint fawr o fod yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid pan oedd yn ystyried y cynllun buddsoddi i arbed yn ôl yn 2013, ac roedd yr Aelodau i gyd yn cydnabod rhinweddau'r cynllun ar gyfer helpu i sicrhau gwell gwerth am arian i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, wrth inni edrych ymlaen, mae'n gwbl hanfodol fod prosiectau sy'n cael cyllid buddsoddi i arbed yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn hirdymor, ac felly, Weinidog, gan adeiladu ar y cwestiwn a ofynnwyd gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe, a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i brofi effeithiolrwydd prosiectau a gwblhawyd ac i asesu effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed yn ehangach, i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol?
Gwnaf. Rydym yn gwerthuso'r prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r cynllun, ac mae hynny'n ein helpu i ddeall i ble yr awn yn y dyfodol. Wrth gwrs, nid yw pob cynllun yn llwyddiant mawr; mae'n debyg fod hynny'n rhan o bwynt y mathau hyn o brosiectau, ein bod yn profi'r hyn sy'n gweithio, ac rydym wedi cael rhai yn y gorffennol a fu'n llai llwyddiannus ond rhan o'r her wedyn yw dysgu pam na lwyddodd a'r hyn y gallwn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.
Rydym wedi gweld cynnydd da iawn yn y cynlluniau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn gofal ac sy'n gadael gofal, ac mae hwnnw'n faes penodol lle'r ydym yn bwriadu buddsoddi yn y dyfodol. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd dan arweiniad swyddogion gofal cymdeithasol i nodi'r hyn y gallwn ei wneud yn y maes hwn i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal gyda'r model arloesi i arbed hwnnw.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thlysorlys y DU i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi'r rhai sy'n wynebu argyfwng costau byw? OQ57738
Rwyf wedi codi'r argyfwng costau byw gyda Thrysorlys y DU droeon. Er gwaethaf y sefyllfa anodd sy'n ein hwynebu am nad yw cymorth Llywodraeth y DU yn mynd yn ddigon pell, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo pobl ledled Cymru trwy gydol yr argyfwng.
Rwy'n mynd i—er siom i lawer, rwy'n gwybod—dynnu'r wleidyddiaeth allan yn llwyr ar gyfer hyn. Mewn democratiaeth aeddfed ledled y DU, pan fyddwn yn wynebu sawl argyfwng ar unwaith—mae gennym yr argyfwng newid hinsawdd; mae gennym yr argyfwng a welwn mewn materion rhyngwladol yn awr yn Wcráin a'r drychineb ddyngarol yno; ac mae gennym yr argyfwng costau byw, sy'n mynd i waethygu, nid gwella—mae'n ymddangos i mi fod gwir angen i Seneddau a Llywodraethau ledled y DU ymgysylltu yn adeiladol, yn gydweithredol ac yn ystyrlon, fel y gall syniadau lifo yn ôl ac ymlaen, a bod proses wirioneddol ryngweithiol ar waith.
Rwy'n gofyn i'r Gweinidog fy ngoleuo ynghylch ansawdd yr ymgysylltu, gan wybod, rhaid imi ddweud, hyd yn oed yn Whitehall ei hun, fod Gweinidogion y DU wedi cael anawsterau wrth siarad â'r Trysorlys—maent yn griw go oer a gochelgar—a geir ymgysylltiad o ansawdd a all roi sicrwydd i fy etholwyr fod Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd mewn gwirionedd i ddatrys yr argyfwng costau byw?
Credaf ei bod yn hanfodol i bob Llywodraeth yn y DU weithio gyda'i gilydd i ddatrys y materion hyn, ac rydym yn cael cyfarfodydd rhagorol gyda chymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban sy'n rhannu llawer o'n pryderon am y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymateb i'r argyfwng costau byw yn benodol, ac rydym wedi cynnig syniadau am bethau syml y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud i ddefnyddio'r dulliau at ei defnydd tra byddwn ni'n gwneud popeth a allwn.
Gallai pethau y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud ar hyn o bryd gynnwys cyflwyno tariff cymdeithasol, er enghraifft ar gyfer biliau ynni, i sicrhau nad pobl ar yr incwm isaf sy'n talu fwyaf. Roeddwn yn siarad â rhywun y bore yma ynglŷn â sut y byddwch chi'n mynd i'r siop, os ydych chi'n talu am eich trydan ar fesurydd, ac yn talu cymaint mwy na phobl eraill yn y pen draw, a dyna'r ffordd gwbl anghywir o wneud y pethau hyn. Felly, gallai tariff cymdeithasol wedi'i dracio fod yn rhywbeth y gallai ei wneud yn gyflym.
Byddai dileu—neu adfer—y cynnydd o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy'n mynd i wynebu sefyllfa gynyddol anodd yn y cyfnod sydd i ddod. Felly, byddwn yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol, gan roi pethau i Lywodraeth y DU y gallant eu gwneud. Ac yn y cyfarfodydd hyn, rwyf bob amser yn gwneud pwynt o ddweud, 'Dyma'r hyn y gofynnwn i Lywodraeth y DU ei wneud, ond gallwch fod yn sicr ein bod ni yn gwneud ein rhan', ac rwy'n rhoi gwybod i Lywodraeth y DU am yr ymyriadau yr ydym yn eu cyflawni yma hefyd.
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaeth yr Aelod dros Ogwr a'r Gweinidog ar hynny. Os ydym am oresgyn yr argyfwng costau byw, mae angen i'r Llywodraeth gydweithio ar bob lefel. Ac mae'n rhaid inni gofio mai Putin a ddechreuodd yr argyfwng wrth iddo geisio bygwth cyflenwadau nwy ac olew i Ewrop drwy gau'r tapiau. Mae'r ffaith y gallai'r byd i gyd gael ei ddal yn wystl gan biliwnyddion o unbeniaid yn frawychus ac yn ofidus. Bydd effaith y rhyfel yn Wcráin yn gorfodi prisiau ynni a phrisiau bwyd i godi ymhellach fyth. Mae'r rhagolygon yn dynodi y bydd aelwydydd yn y DU yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn incwm ers hanner canrif. Weinidog, er bod y ffocws yn gwbl briodol ar helpu dioddefwyr uniongyrchol rhyfel Putin, pobl Wcráin, pa drafodaethau a gawsoch gyda Thrysorlys y DU ynghylch ffyrdd o liniaru'r effaith y bydd y gwrthdaro'n ei chael ar deuluoedd Cymru?
Yn fy ymateb i Huw Irranca-Davies, nodais rai o'r ffyrdd y buom yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi i helpu teuluoedd a chartrefi yma yng Nghymru. Ond mae gan Lywodraeth y DU gyfle gwirioneddol yn awr ar 23 Mawrth, pan fydd yn cyflwyno ei datganiad cyllidol nesaf, ac mae hwnnw'n gyfle yn fy marn i i Lywodraeth y DU nodi ymyriadau cryf iawn i gefnogi pobl drwy'r argyfwng hwn. Er enghraifft, gallent gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Credaf y byddai hynny'n ddechrau. A gallai ailystyried rhai o'r dewisiadau treth y mae'n eu gwneud ar gyfer y dyfodol agos, oherwydd unwaith eto, yn amlwg, nid oedd y dewis a wnaeth mewn perthynas â chyfraniadau yswiriant gwladol yn un y byddem ni wedi'i ddewis, er enghraifft. Felly, mae yna ddewisiadau y gall Llywodraeth y DU eu gwneud a gallant barhau i archwilio gwahanol ffyrdd o gefnogi pobl.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru? OQ57755
Rydym wrthi'n ymgynghori ar amrywiadau lleol posibl i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi, a daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 28 Mawrth.
Diolch, Weinidog. Mae trethi ar eiddo a brynir yng Nghymru ymhlith yr uchaf a godir yn y Deyrnas Unedig. Cost tŷ yn nhref Aberhonddu yn fy etholaeth i ar gyfartaledd yw £261,000. Yn seiliedig ar y pris hwn, bydd prynwr tro cyntaf, sydd wedi cael trafferth dod o hyd i'r blaendal hyd yn oed, yn talu treth o £3,000 i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cymharu â ffigur o £2,050 yn yr Alban, dim yng Ngogledd Iwerddon a dim yn Lloegr. Weinidog, a allwch egluro pam y mae eich polisi trethiant yma yn ei gwneud yn anos i'r bobl ifanc hyn yng Nghymru fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain? Ac yn eich rôl fel Gweinidog cyllid, a wnewch chi o leiaf ymrwymo i glustnodi rhywfaint o'r arian a gesglir o'r dreth trafodiadau tir i'w ddefnyddio i adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru i leddfu'r argyfwng tai?
Rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn gweld rhywfaint o'r eironi yn y ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu ein hymdrechion i weithredu ar sefyllfa ail gartrefi, pan fydd pobl, fel y dywed yr Aelod, yn ei chael hi'n anodd prynu dim ond un, ac i lawer, ni fydd modd gwneud hynny byth. Felly, dyma un o'r rhesymau pam ein bod yn gweithredu ar fater ail gartrefi. Ond o ran ein cyfradd gychwynnol ar gyfer treth trafodiadau tir, mae'n dechrau ar £180,000, felly mae ein prif drothwy cychwyn yn sylweddol uwch nag unrhyw ran arall o'r DU. Ac yn y flwyddyn hyd yma, mae hyn wedi golygu bod y rhan fwyaf o drafodiadau preswyl yng Nghymru yn is na'r trothwy hwnnw, ac nid yw hyn yn wir am wledydd eraill yn y DU.
Mae'r rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn dal i elwa o beidio â thalu unrhyw dreth o gwbl, ond gyda'n dull ni o weithredu, gall pobl eraill sydd dan bwysau hefyd elwa o beidio â thalu unrhyw dreth. Oherwydd pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru yw £204,835 mewn gwirionedd, ond y pris ar gyfartaledd i brynwr tro cyntaf yw £175,908. Felly, fe welwch yn glir fod y prynwr tro cyntaf cyffredin yn gallu prynu'r tŷ hwnnw heb dalu unrhyw dreth o gwbl.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau grwpiau cymunedol i brynu asedau cyhoeddus? OQ57757
Gwnaf. Mae asedau cymunedol fel mannau gwyrdd ac adeiladau cymunedol yn hanfodol i iechyd a lles ein cymunedau. Rydym yn cefnogi perchnogaeth gymunedol ar yr asedau hyn, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni argymhellion ein hymchwil ar drosglwyddo asedau cymunedol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y trafodwyd ddoe yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac er gwaethaf cysyniadau fod cymunedau yng Nghymru yn fwy cymunedol o gymharu â chymunedau eraill ledled Prydain, Cymru sydd â'r lleiaf o hawliau statudol o bell ffordd mewn perthynas â thir. Er bod ychydig o fecanweithiau cyfyngedig yn bodoli ar gyfer rheolaeth gymunedol, megis trosglwyddo asedau cymunedol sy'n caniatáu i gymunedau gymryd perchnogaeth ar gyfleusterau a'u rheoli, a Deddf Llywodraeth Leol 1972: Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 sy'n caniatáu i awdurdodau lleol a rhai cyrff cyhoeddus eraill werthu tir am lai na gwerth y farchnad os—ac rwy'n dyfynnu—yw'r awdurdod o'r farn y byddai'r gwerthiant yn gwella lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ardal, prosesau yw'r rhain sy'n cael eu gyrru gan awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn y pen draw yn hytrach na chymunedau.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol yng Nghymru yn cynorthwyo prosiectau mannau gwyrdd cymunedol i gaffael tir a chael yr holl ganiatadau angenrheidiol i sefydlu a rheoli mannau gwyrdd, ond nid oes unrhyw hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a dim hawl i gynnig, herio nac adeiladu fel yn Lloegr. Gan gofio sylwadau'r Prif Weinidog ddoe, pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i rhoi i Fil grymuso cymunedol sy'n sefydlu cofrestr o asedau cymunedol ac yn rhoi hawl gyntaf statudol i gymunedau wrthod yr asedau hyn pan gânt eu cynnig i'w gwerthu neu eu trosglwyddo? Diolch.
Diolch am ofyn y cwestiwn hwn. Yn amlwg, byddwn yn cysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i'r mater ddoe. Rydym wedi edrych ar y sefyllfa yn Lloegr a phan gyflwynwyd y cofrestri, gwn fod ymateb eithaf cymysg wedi bod i'r cynllun pan gafodd ei gyflwyno yn Lloegr mewn gwirionedd. Ac nid yw ymchwil Llywodraeth Cymru ar drosglwyddo asedau cymunedol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn tynnu sylw at yr angen am ateb deddfwriaethol. Yn hytrach, mae'n argymell gweithio gydag awdurdodau lleol a chyda throsglwyddeion i ddatblygu a rhannu arferion gorau. A dyna yw ein ffocws ar hyn o bryd.
Credaf fod gennym enghreifftiau rhagorol o gynlluniau yma yng Nghymru. Mae gennym ein cronfa benthyciadau asedau cymunedol a gaiff ei gweithredu ar ein rhan gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae honno'n darparu benthyciadau hirdymor i grwpiau cymunedol corfforedig sy'n ceisio prynu'r asedau cymunedol hynny. A hefyd ein rhaglen cyfleusterau cymunedol ragorol sy'n darparu grantiau cyfalaf i grwpiau cymunedol ar gyfer prynu neu wella asedau cymunedol a gaiff eu defnyddio'n dda ac sydd eu hangen yn fawr. Felly, credaf fod y math o gymorth a ddarparwn yma yng Nghymru yn drawiadol, yn enwedig cymorth cyllidol, ond hefyd o ran rhannu arferion gorau ac yn y blaen. A chredaf y bydd y rhan fwyaf ohonom, os nad pob un ohonom, yn gyfarwydd iawn â chynlluniau cymunedol yn lleol sydd wedi elwa o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol sy'n darparu grantiau ledled Cymru.
Peredur Owen Griffiths, yn olaf.
Gwrandewais ar eich ateb ac rwy'n gobeithio eich bod wedi edrych ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar rymuso cymunedau a oedd ac a ddylai fod wedi bod yn agoriad llygad i'r Llywodraeth, gan i'r adroddiad hwnnw ganfod mai cymunedau yng Nghymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU. Mae hyn yn cyd-fynd â sgyrsiau a gefais yr wythnos hon, mewn gwirionedd, gyda rhywun sy'n ymwneud â'r prosiect i ailagor sefydliad y glowyr yn Abertyleri. Gyda dagrau yn eu llygaid, dywedodd yr unigolyn hwnnw wrthyf fod llawer o bobl yn anobeithio a'u bod yn credu na fyddai pethau'n newid yn eu cymuned. Mae'n anomaledd gwirioneddol fod gan bobl yng Nghymru lawer llai o hawliau dros eu hasedau cymunedol na chymheiriaid eraill yn yr Alban a hyd yn oed yn Lloegr, sydd, na foed ichi anghofio, yn cael ei llywodraethu gan Blaid Dorïaidd nad yw'n enwog yn draddodiadol am ddal datblygwyr yn ôl. Pryd y gall cymunedau yng Nghymru, gyda'u hysbryd cymunedol ysbrydoledig, fwynhau'r un hawliau â chymunedau ledled gweddill y DU?
Fel y dywedais mewn ymateb i'r siaradwr blaenorol, rydym wedi cyflawni ein hymchwil ein hunain nad oedd yn dynodi angen am ateb deddfwriaethol. Ond rydym yn edrych gyda diddordeb ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn ogystal â'r gwaith gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, 'Perchenogaeth gymunedol ar dir ac asedau: galluogi i dai a arweinir gan y gymuned gael eu darparu yng Nghymru', a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn hefyd. Felly, rydym yn edrych yn ofalus ar y ddau adroddiad i weld beth y gallwn ei ddysgu ganddynt. Ond rwy'n credu bod gennym waith rhagorol ar y gweill eisoes, ond mae'n fater o sut i sicrhau yn y ffordd orau mai dyna yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu TB? OQ57742
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu TB yng nghanolbarth Cymru? OQ57749

Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i grwpio cwestiynau 1 a 3. Daeth yr ymgynghoriad ar raglen adnewyddedig i ddileu TB i ben ar 8 Chwefror 2022. Daeth 246 o ymatebion i law, ac mae'r rhain yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud datganiad ar raglen adnewyddedig i ddileu TB ym mis Gorffennaf eleni.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn atgoffa'r Aelodau hefyd fy mod yn ffermwr, fel y nodwyd yn fy nghofrestr buddiannau, ac nid oes gennyf TB ar hyn o bryd.
Weinidog, roedd eich ymgynghoriad diweddar ar y cynllun adnewyddedig i ddileu TB yn argymell newidiadau i'r system bresennol ar gyfer prisio anifeiliaid a laddwyd yn orfodol gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i TB mewn gwartheg. Fodd bynnag, ceir pryderon nad yw system brisio dablaidd yn deg, gan fod system sy'n seiliedig ar gyfartaledd yn debygol o greu llawer o achosion o orbrisio neu danbrisio. Nid yw system o'r fath yn ystyried nifer o ffactorau pwysig sy'n ymwneud â nodweddion unigol anifail a allai effeithio ar ei brisiad. Yn y cyfamser, yn yr ymgynghoriad ei hun, mae'r Llywodraeth yn awgrymu bod ei hargymhellion yn ganlyniad i orwario ei chyllideb TB. Yr unig ffordd o leihau gorwariant yw sicrhau bod y clefyd yn cael ei reoli'n gyflym ac yn effeithiol, fel bod y clefyd yn cael yr effaith leiaf bosibl ar y fuches genedlaethol.
Weinidog, oni chytunwch mai'r unig ffordd o ddigolledu ffermwyr yn deg am anifeiliaid a gollir o ganlyniad i TB yw eu prisio ar sail eu gwerth unigol? A sut y bydd eich strategaeth adnewyddedig yn mynd i'r afael â'r clefyd mewn bywyd gwyllt drwy strategaeth ddileu gynhwysfawr i leihau'r angen i ladd gwartheg yn y lle cyntaf? Diolch.
Rwy'n credu mai'r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw nad wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Nid wyf wedi gweld unrhyw ymatebion eto. Fel y dywedaf, mae fy swyddogion wrthi'n eu dadansoddi ar hyn o bryd. Ac yn amlwg, bydd yr wybodaeth a gyflwynir o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn bwydo i mewn wedyn i'r rhaglen adnewyddedig i ddileu TB y byddaf yn gwneud datganiad arni ym mis Gorffennaf. Felly, credaf mai dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.
Rydych yn llygad eich lle, prisio yw un o'r agweddau yr ydym yn edrych arnynt yn yr ymgynghoriad, a chredaf, unwaith eto, ei bod yn deg iawn dweud bod gennym ddyletswydd statudol i ddigolledu ffermwyr mewn perthynas â TB, ac rydym bob amser yn gorwario. Mae'n gyllideb o fewn fy nghyllideb gyfan sydd bob amser yn cael ei gorwario, ac mae'n rhaid imi ddod o hyd i'r cyllid hwnnw bob amser. Ac yn amlwg, arian cyhoeddus yw hwnnw, ac mae angen inni sicrhau bod yr arian cyhoeddus hwnnw'n cael ei wario'n briodol. Credaf fod y ffordd y gwnawn y prisiadau yn awr yn gywir. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol iawn fod gwerth anifail ar y farchnad wedi ei ddiffinio fel pris y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol am yr anifail yn y farchnad pe na bai TB arno, ac mae'n gwbl seiliedig ar bris y farchnad. Fel Llywodraeth, rydym yn penodi panel o briswyr dan gontract i asesu gwerth anifeiliaid sydd i'w lladd oherwydd TB. Ond mae hyn yn rhan bwysig o'r ymgynghoriad, ac fel y dywedaf, nid wyf am achub y blaen ar yr hyn y byddwn yn ei gyflwyno.
Rwy'n llwyr sylweddoli ei fod yn gyflwr gofidus iawn. Rwyf wedi bod ar ffermydd lle mae ffermwyr yn aros am ganlyniadau profion TB neu'n llawn gofid am ei fod yn agosáu, ac rwy'n deall yn iawn y dinistr y mae'n ei achosi. A dyna pam y mae'n bwysig iawn fod y rhaglen i ddileu TB yn gwneud yr hyn yr ydym eisiau iddi ei wneud, sef dileu TB yma yng Nghymru.
Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno, Weinidog, ei bod yn straen fawr i deulu ffermio a busnes ffermio pan fyddant o dan gyfyngiadau TB. Ac rwy'n siŵr y byddwch am i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gyfyngu ar y straen a'r pryder y mae'n rhaid i fusnesau a theuluoedd fferm fynd drwyddynt. Un mater a godwyd gyda mi dros nifer o flynyddoedd yw'r diffyg cyfathrebu rhwng busnesau fferm a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Gofynnais i'ch rhagflaenydd ynglŷn â hyn; mae'n dal i fod yn broblem. Felly, a gaf fi ofyn, a ydych yn cydnabod bod problem gyfathrebu yn atal ffermwyr rhag cael cyswllt uniongyrchol â'r asiantaeth? Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wella cyfathrebu yn hynny o beth?
Ac yn olaf, Weinidog, y llynedd, nodwyd ardal â phroblem TB ym Mhennal yn fy etholaeth i, a gosodwyd mesurau llym ar ffermwyr yn yr ardal honno. A yw'r mesurau hynny, y mesurau caeth iawn hynny, yn dwyn ffrwyth bellach? A beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mesurau rheoli yn yr ardal honno, ac unwaith eto, gyda chyfathrebu?
Diolch, ac roeddwn yn gobeithio fy mod wedi nodi, yn fy ateb i Peter Fox, fy mod yn deall yn iawn pa mor anodd a gofidus y gall TB fod i deulu fferm. Credaf eich bod yn iawn ynglŷn â chyfathrebu. Pan wneuthum y datganiad ar y rhaglen TB fis Tachwedd diwethaf yma yn y Siambr, pan gyhoeddais yr ymgynghoriad, un o'r pethau a gyhoeddais oedd sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen. Rwyf am i'r grŵp gorchwyl a gorffen ystyried sut y gallwn ymgysylltu a sut y gallwn gyfathrebu'n well â'r diwydiant ffermio fel Llywodraeth. Rydym wedi recriwtio aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen. Fe wnaethant gyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf ar 2 Mawrth. Rwy'n aros am nodyn o'r cyfarfod cyntaf hwnnw. Fe wnaethant gyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddant yn cyfarfod eto'n fuan ac rwy'n disgwyl adroddiad terfynol ganddynt ddiwedd y gwanwyn, cyn imi allu cyhoeddi'r rhaglen adnewyddedig i ddileu TB. Fe sonioch chi am yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn benodol; gwahoddwyd swyddogion yr asiantaeth i gymryd rhan yn y grŵp gorchwyl a gorffen fel cynghorwyr yn hytrach na'u bod yn aelodau llawn o'r grŵp. Ond rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y gallwn bob amser gyfathrebu'n well, oni allwn ni, ac ymgysylltu'n well. Dyna'r rheswm pam y sefydlais y grŵp gorchwyl a gorffen. Fe gyfeirioch chi at ardal yn eich etholaeth, a gwn fod nifer o'n hardaloedd TB yn sir Drefaldwyn ynghyd â gweddill canolbarth Cymru. Credaf ein bod yn gweld gwelliant yn y ffigurau yn yr ardal y cyfeirioch chi ati. Cafodd yr ystadegau TB diweddaraf eu rhyddhau y bore yma.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y bydd y cynigion yn y rhaglen adnewyddedig i ddileu TB yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl ffermwyr. Wrth gwrs, rydym eisoes yn gweld 50 o weithwyr amaethyddol yn cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn, ac mae milfeddygon dair i bedair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad nag unrhyw broffesiwn arall. Yng ngoleuni hynny, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i effeithiau'r cynigion hyn ar gyflwr meddyliol cymunedau gwledig, oherwydd yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae'r ffaith na chafwyd asesiad o'r effaith yn ddiffyg sylfaenol.
Gwelais y sylwadau gan Undeb Amaethwyr Cymru. Rwy'n cwrdd â hwy yn un o fy nghyfarfodydd rheolaidd gydag Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Llun nesaf, ac yn sicr bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed pam eu bod yn arddel y safbwyntiau hynny. Gan ddychwelyd at yr hyn a ddywedais mewn atebion cynharach, rwy'n llwyr gydnabod y straen y gall profion TB ei greu i ffermwyr. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol a wneuthum ar wella iechyd meddwl ffermwyr. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn, yn enwedig dros y pandemig—rwyf wedi mynychu'r grŵp cynghori a chefnogi a sefydlwyd gennym, rwyf wedi ariannu rhai o'r elusennau yn y sector amaethyddol i gynorthwyo yn y modd hwn. Felly, bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn ei ddweud a pham eu bod yn teimlo bod hynny'n wir. Fel y dywedais, nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad—mae'n ymgynghoriad ystyrlon ac nid wyf eisiau i bobl feddwl na fyddwn yn gwrando ar eu barn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyried pob agwedd gan gynnwys y rhai yr ydych newydd gyfeirio atynt. Ond bydd gennyf ddiddordeb penodol mewn clywed pam fod Undeb Amaethwyr Cymru yn credu hynny.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brisiadau TB yng Nghymru? OQ57753
Ar ôl ymgynghori ar y rhaglen adnewyddedig i ddileu TB, byddaf yn gwneud datganiad ar hyn ym mis Gorffennaf, pan fydd canlyniadau'r ymgynghoriad wedi'u dadansoddi a'u hadolygu. Bydd hyn yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am iawndal TB a phrisiadau.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fe wnaethoch ateb rhai o'r cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn mewn ymateb cynharach i Peter Fox, ond yr hyn yr hoffwn gyfeirio ato, Weinidog, yw'r ffaith ichi ddweud bod y gyllideb ar gyfer iawndal wedi'i gorwario bron bob blwyddyn ers 2015, sy'n profi bod angen gwneud gwaith pwysig iawn i geisio dileu'r clefyd ofnadwy hwn ledled Cymru. A wnewch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein sefyllfa mewn perthynas â chyflwyno brechlyn ac a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi unrhyw gamau pellach ar waith, ar wahân i'r brechlyn, i fynd i'r afael â TB buchol? Diolch.
Nid wyf yn hollol siŵr a ydych yn cyfeirio at frechlyn ar gyfer moch daear neu frechlyn gwartheg.
Y brechlyn ar gyfer moch daear.
Ar y brechlyn ar gyfer moch daear, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun grant a fu gennym. Rydym yn parhau i gefnogi brechu moch daear ar ffermydd ledled Cymru. Fis Tachwedd diwethaf, rwy'n credu, cyhoeddais £100,000 ychwanegol a fyddai ar gael i ehangu'r cynllun brechu moch daear yng Nghymru. Credaf fod y dyddiad cau yfory, mewn gwirionedd, 10 Mawrth, felly hoffwn annog unrhyw un sy'n dymuno cwblhau'r ffurflen hon i wneud hynny cyn yfory, oherwydd mae'n rhoi cyfle go iawn i'n ffermwyr, i'n tirfeddianwyr ac i sefydliadau eraill frechu moch daear rhag TB buchol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn 2019, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £1.29 miliwn i gefnogi a thyfu sector moch Cymru, gyda Cyswllt Ffermio yn dweud bod cynhyrchiant moch yn profi adfywiad yng Nghymru. Yn anffodus, mae digwyddiadau byd-eang, megis colli'r farchnad allforio i Tsieina yn achos rhai proseswyr moch, yr aflonyddwch rhyngwladol i gyflenwadau carbon deuocsid, a'r prinder llafur byd-eang, wedi golygu bod diwydiant moch Cymru wedi wynebu sawl her dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwy'n pryderu'n benodol am y ffermwyr moch sy'n wynebu caledi ariannol oherwydd proseswyr sy'n gwrthod cyflawni eu contractau. Gan fod hwn yn sector y mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb arbennig ynddo, fel y nodais, rwy'n synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw gefnogaeth uniongyrchol i'r sector ar yr adeg hon. Mae ffermwyr moch sy'n ei chael hi'n anodd yn yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Gwlad Pwyl wedi cael cefnogaeth gan eu Llywodraethau. Pam nad ydych chi wedi cefnogi ffermwyr moch sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru?
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y sector moch. Fel Gweinidog, credaf mai dim ond dwy fferm foch yr ymwelais â hwy erioed, am ei fod yn rhan fach iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Pan oeddem yn ystyried a ddylem gefnogi'r sector moch ai peidio—fe sonioch chi am broblemau gyda'r cyflenwad carbon deuocsid yn arbennig, ac rwy'n credu mai o gwmpas yr adeg honno pan oedd hynny'n cyrraedd uchafbwynt y gwnaethom edrych ar hynny—penderfynwyd peidio â gwneud hynny, oherwydd nifer y ffermydd a oedd wedi bod mewn trafodaethau gyda swyddogion ynglŷn â hynny. Ond rwyf bob amser yn agored i hynny; os oes gennych ffermwyr moch penodol yn eich etholaeth, cysylltwch â mi yn eu cylch. Ond nid oedd yn rhywbeth a laniodd ar fy nesg yn yr un ffordd ag y gwnaeth gyda phethau eraill, megis y sector llaeth, er enghraifft.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n galonogol gwybod, hyd yn oed os oes llai ohonynt, nad ydynt yn cael eu trin yn llai cyfartal na rhannau eraill o'r diwydiant amaethyddol. Wrth symud ymlaen, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi'r angen i ddiogelu cyllid ar gyfer swydd cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt Cymru droeon, swydd sy'n cael ei gwneud gan Rob Taylor ar hyn o bryd. Rwy'n falch fod eich cyd-Weinidog, y Gweinidog newid hinsawdd, ar ôl fy ngalwadau mynych, wedi cadarnhau wrthyf fod cyllid wedi'i gadarnhau am dair blynedd arall. Mae hwn yn newyddion cadarnhaol. Un o'r materion allweddol y mae Rob a minnau wedi'i drafod yw ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid fferm, a defaid yn arbennig. I ddefnyddio eich rhanbarth eich hun yn y gogledd fel enghraifft, yn 2018, cafodd 52 o gŵn eu saethu o ganlyniad i ymosodiadau ar anifeiliaid fferm, sy'n cyfateb i 648 o anifeiliaid unigol a laddwyd gan gŵn afreolus. Os cymharwn hyn â Dyfnaint a Chernyw, ardal gyda chefndir gwledig tebyg, ond gyda phoblogaeth lawer mwy, dim ond 10 ci a gafodd eu saethu, a dim ond 205 o anifeiliaid unigol a gollwyd. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cydnabod yr effeithiau ariannol ac emosiynol y mae ymosodiadau o'r fath yn eu cael ar ein cymuned ffermio. O ystyried y pryderon hyn, a oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth ar waith sy'n gweithio ochr yn ochr â ffermwyr a'r cyhoedd i fynd i'r afael â'r duedd hon sy'n peri pryder mewn ymosodiadau ar anifeiliaid fferm?
Mae'n duedd bryderus iawn, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae Rob Taylor wedi bod yn ei wneud, ynghyd â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, yn arbennig. Rwy'n falch iawn fod fy nghyd-Aelod Julie James wedi cyflwyno cyllid ar gyfer y swydd am dair blynedd arall. Tua phedair blynedd yn ôl mae'n debyg, cyn i Rob ddechrau yn y swydd hon, ond pan oedd ganddo ddiddordeb penodol yn y mater yn y tîm troseddu gwledig yn y gogledd, ceisiais lobïo'r Ysgrifennydd Cartref ynglŷn â hyn, oherwydd fe fyddwch yn deall bod llawer o'r ddeddfwriaeth yn nwylo Llywodraeth y DU. Credaf fod rhywfaint ohoni'n dyddio'n ôl i'r 1800au, yn llythrennol—mae wedi dyddio'n llwyr, ac nid yw'n addas i'r diben o gwbl. Credaf y byddai'n dda iawn pe gallai Llywodraeth y DU edrych ar y ddeddfwriaeth honno, a'n bod yn gallu cynorthwyo yn y ffordd honno. Yn sicr, pan oedd yr Arglwydd Gardiner yn Weinidog yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, roedd yn rhywbeth yr oedd yn awyddus iawn i'w ddatblygu, ond credaf fod pethau wedi arafu ychydig. Mae gennyf gyfarfod grŵp rhyngweinidogol DEFRA wythnos i ddydd Llun, a byddwn yn falch iawn o weld a oes unrhyw beth pellach y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei wneud, gyda'r Ysgrifennydd Cartref, i geisio sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i'r diben ac yn addas ar gyfer 2022.
Rwy'n ddiolchgar am hynny, Weinidog, oherwydd gwn fod Rob yn angerddol iawn ynglŷn â'r mater hwn, ac mae wedi siarad yn helaeth amdano yn San Steffan, mewn sesiynau pwyllgor dethol yno. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech godi'r mater yn eich cyfarfod rhynglywodraethol.
Yn olaf, rwy'n falch eich bod yn y Siambr ddoe pan gododd fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies y pryderon ynghylch sefyllfa ansicr diogelwch bwyd Cymru, o gofio'r ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Mae'r rhyfel wedi dangos bod y gorllewin wedi mynd yn orddibynnol ar nwyddau a gwasanaethau a fewnforir, a bydd yr ymosodiad ar Wcráin, basged fara Ewrop, yn cael effaith ar wledydd ledled y byd, ac effaith ar brisiau bwyd yn enwedig. Yn wir, mae arbenigwyr wedi dweud bod prinder bwyd ar y gorwel, sy'n peri pryder o gofio bod y gyfradd o gynhyrchiant bwyd sy'n hunangynhaliol yng Nghymru oddeutu 60 y cant.
Weinidog, mae'n rhwystredig oherwydd ceir beirniadaeth, ar y naill law, o gytundebau masnach y DU, sy'n llenwi'r bwlch cynhyrchiant hwn, ac eto, ar y llaw arall, ein nod yma yng Nghymru yw cyflwyno Bil amaethyddiaeth sy'n cynyddu ein dibyniaeth ar fewnforion. Credaf fod gwir angen inni ailfeddwl am gyfeiriad teithio polisi amaethyddol Cymru, a chredaf yn gryf fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i gynyddu ein hunangynhaliaeth ein hunain yma yng Nghymru i dros 80 y cant fan lleiaf. O ystyried hyn, a'r galwadau gan fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies, a wnewch chi ymrwymo i uwchgynhadledd fwyd i ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr fel y gallwn feithrin cadernid, diogelwch bwyd a hunangynhaliaeth ym mholisi amaethyddol Cymru?
Nid wyf yn credu bod angen uwchgynhadledd fwyd arnom ar hyn o bryd. Credaf ei bod yn bwysig fy mod yn parhau i gael trafodaethau gyda'r sector ffermio, gyda chynhyrchwyr, a chyda phroseswyr hefyd. Credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd mae'r gadwyn cyflenwi bwyd mor hanfodol ledled y DU. Soniais yn fy ateb i gwestiwn Andrew R.T. Davies yn ystod y datganiad busnes fy mod wedi gofyn i hyn gael ei gynnwys ar agenda grŵp rhyngweinidogol DEFRA wythnos i ddydd Llun. Fodd bynnag, mae pethau'n symud yn gyflym iawn mewn gwleidyddiaeth, onid ydynt; mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddaf yn cyfarfod â DEFRA a fy nghymheiriaid o'r Alban a Gogledd Iwerddon yfory, oherwydd mae'n amlwg fod hwn yn rhywbeth sy'n peri mwy a mwy o bryder.
Credaf fod y DU gyfan, y byd i gyd yn wir, yn wynebu cyfnod hir ac ansefydlog o aflonyddwch mewn perthynas â bwyd oherwydd yr ymosodiad ar Wcráin. Fel y dywedwch, mae'n cyflenwi llawer iawn o wenith i'r byd. Felly, rwy'n awyddus iawn i ofyn i DEFRA beth yw eu hasesiad diweddaraf o'r sefyllfa, sut y gallai effeithio ar y diwydiant bwyd-amaeth, a'r hyn y mae'n ei olygu i'r cyhoedd. Rwy'n siŵr ei fod yn golygu prisiau uwch am fwyd ledled y byd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gadw llygad arno. Nid wyf yn credu bod angen uwchgynhadledd fwyd yn y ffordd yr awgrymodd Andrew R. T. Davies ar hyn o bryd. Soniais mewn ateb cynharach fy mod yn cyfarfod ag Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Llun. Rwyf hefyd yn cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, felly mae'n bwysig iawn clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud ar y mater hwn hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi am barhau efo thema'r diciâu, os caf fi. Droeon dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Llywodraeth yma wedi sôn am yr angen i ddilyn y wyddoniaeth pan fo'n dod at COVID. Dylid, wrth gwrs, defnyddio'r un egwyddor wrth ymdrin â heintiau eraill, megis y diciâu. Mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar yng Nghaerloyw a Gwlad yr Haf, lle mae moch daear wedi cael eu rheoli, wedi dangos gostyngiad o 66 y cant a 37 y cant yn y nifer o achosion o'r diciâu mewn gwartheg ar ôl pedair blynedd o weithredu. Mae Iwerddon, Seland Newydd a gwledydd eraill wedi canfod ffyrdd o fynd i'r afael â'r haint yma. Mae angen felly tynnu'r arbenigedd sydd gennym ni yng Nghymru, ac yn rhyngwladol, at ei gilydd yma er mwyn datblygu polisi a fydd yn gweithio i Gymru. A wnewch chi, Weinidog, ystyried sefydlu tasglu annibynnol i gynghori'r Llywodraeth a datblygu ymateb effeithiol sydd yn seiliedig ar y wyddoniaeth?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dilyn y wyddoniaeth. Efallai eich bod yn gwybod bod gennym Glyn Hewinson yn ei le erbyn hyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ein cynghori mewn perthynas â'n rhaglen i ddileu TB. Unwaith eto, nid wyf am achub y blaen. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn atebion cynharach i Aelodau Ceidwadol fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym wedi cael 246, sy'n nifer go arwyddocaol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwrando ar farn pobl.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Ond i barhau efo'r diciâu, ddwy flynedd yn ôl, fe gyhoeddodd DEFRA adroddiad yn dangos effaith ariannol y diciâu ar ffermydd gwartheg yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'n dangos bod canolrif y gost sy'n cael ei thalu'n uniongyrchol gan eu busnesau yn anferthol. Dros naw mis, mae fferm sydd yn gorfod ymdopi ag achos cronig o'r diciâu yn gorfod talu £16,000. Er mwyn rhoi'r ffigwr yna yn ei gyd-destun, incwm cyfartalog busnesau fferm yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl oedd £26,200. Mae'n rhaid gwneud mwy felly i gefnogi ffermwyr sy'n gweld yr haint yma ar eu ffermydd. Mae hyn heb sôn am yr effaith ar iechyd meddwl y teuluoedd ar y ffermydd yma ac ar y gymuned. Ond eto, er hyn, dydy'r Llywodraeth ddim wedi nodi'r costau yma neu unrhyw effeithiau a ddaw o'r cynigion ar fusnesau amaethyddol Cymru yn yr ymgynghoriad diweddar. Bydd cynigion y Llywodraeth ar y diciâu yn arwain at effeithiau sylweddol ar amaeth yma, ond eto, dydy'r Llywodraeth ddim wedi cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol llawn na chynhwysfawr ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori. Mae'n rhaid cael asesiad effaith rheoleiddiol. Weinidog, pryd gawn ni un?
Soniais fod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi a'u hadolygu ar hyn o bryd. Fy nghynllun wedyn yw cyflwyno'r rhaglen adnewyddedig i ddileu TB, a byddaf yn gwneud datganiad. Rwy'n dychmygu y bydd y ddau'n mynd law yn llaw—cyhoeddi'r rhaglen adnewyddedig a'r datganiad—ym mis Gorffennaf eleni, a dyna pryd y caiff yr holl ddogfennau ynglŷn â hynny eu cyhoeddi, er y byddaf yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn hynny.
4. Beth yw strategaeth y Gweinidog ar gyfer cynyddu faint o lysiau a gaiff eu tyfu yng Nghymru? OQ57746
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth cynhwysfawr ac yn hyrwyddo tyfu llysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant a chyngor pwrpasol a ddarperir gan Tyfu Cymru a Cyswllt Ffermio, ac mae ein prosbectws amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir yn cynnig cyngor ac yn annog buddsoddi yn y rhan hon o'r sector amaethyddol.
Diolch yn fawr iawn. Rydym eisoes wedi trafod yr aflonyddwch i farchnadoedd bwyd sy'n digwydd o ganlyniad i Brexit a'r rhyfel yn Wcráin, ond hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, oherwydd un o'r cytundebau pwysicaf o fewn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Felly, yn unol ag amcanion economi sylfaenol Llywodraeth Cymru a'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, pa gamau y mae eich swyddogion yn eu cymryd i hyrwyddo garddwriaeth yng Nghymru fel y gall awdurdodau addysgol lleol ddod o hyd i'r tunelli ychwanegol o lysiau ffres y bydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu cydymffurfio â safonau bwyta'n iach, a helpu i gryfhau economïau bwyd lleol hefyd?
Efallai eich bod wedi clywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn ei hateb i gwestiwn ynghylch caffael bwyd, sy'n amlwg yn rhan o'r prydau ysgol am ddim a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar y materion hyn—. Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac maent yn edrych ar sut y gallwn gynyddu'r cyflenwad o fwyd o Gymru mewn prydau ysgol. A soniais am y gefnogaeth rydym yn ei rhoi i ffermio, oherwydd os yw ffermio moch yn rhan fach iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru, mae garddwriaeth hyd yn oed yn llai; dim ond 1 y cant o'r sector amaethyddiaeth ydyw. Felly, fel y gwyddoch, mae'n rhywbeth y bûm yn awyddus iawn i'w hyrwyddo, a byddwn yn cynnig cymorth i annog ffermwyr, os ydynt yn dymuno troi at ochr arddwriaethol ffermio.
Os ydym am fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gyflenwyr lleol ac annog mwy o gynhyrchwyr i fod yn rhan o hyn, credaf mai un o'r pethau sy'n rhaid inni ei wneud yw newid caffael cyhoeddus. Mae gwir angen inni symud oddi wrth y gost isaf mewn tendrau bwyd a sicrhau ein bod yn cynnwys gwerth cymdeithasol a gwerth amgylcheddol, ac ystyriaethau ansawdd hefyd. Rwy'n credu bod angen i bobl werthfawrogi gwerth tarddiad lleol. Felly, mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim, fel y dywedwch, sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio.
Mae garddwriaeth yng Nghymru wedi bod yn dirywio ers amser, gyda llai na 3,000 hectar bellach yn cael eu trin ar gyfer tatws, llysiau maes, perllannau ffrwythau bach a pherllannau masnachol. Mae nifer yr hectarau wedi haneru mewn 40 mlynedd. Nawr, yn ôl Prifysgol Caerdydd, er mwyn i Gymru gynhyrchu'r ffrwythau a llysiau sydd eu hangen i fodloni argymhellion maethol pump y dydd, byddai angen 2 y cant o arwynebedd tir Cymru i'w gynhyrchu. Nawr, fel y gwyddoch, Weinidog, credaf y dylai Llywodraeth Cymru wobrwyo ac annog ein ffermwyr yng Nghymru i barhau i gynhyrchu bwyd, gan fynd â ni gam yn nes at fod yn fwy hunangynhaliol. Felly, tybed a wnewch chi egluro i ba raddau y mae Bil amaethyddol (Cymru) yn gyfle inni geisio hybu cynhyrchiant bwyd lleol yng Nghymru, yn hytrach na'n gwneud yn fwy dibynnol ar fewnforion o'r tu allan i Gymru ar gyfer ein cig, ein llaeth, ein ffrwythau a'n llysiau? Diolch.
Nid wyf yn cydnabod y ffigurau y mae Janet Finch-Saunders yn cyfeirio atynt, ac yn ddiddorol, nid wyf yn gwybod a oeddech yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan ddaeth Jenny Rathbone i mewn yn cario cenhinen a gofyn imi faint o gennin sy'n cael eu tyfu yng Nghymru, felly rwyf wedi gwneud yn siŵr fod gennyf y ffigur hwnnw rhag ofn i Jenny ofyn imi eto heddiw.

Beth yw'r ffigur?
Nid y ffigur unigol, ond tyfwyd 1,500 tunnell o gennin gan Puffin Produce yn unig, ac maent yn gobeithio tyfu 50 y cant yn fwy eto y flwyddyn nesaf. Felly, ni fyddwn yn dweud bod y sector garddwriaethol yn dirywio. Soniais yn fy ateb gwreiddiol i Jenny ein bod wedi cyhoeddi prosbectws 'Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir' ym mis Medi 2021. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld y diddordeb yn hwnnw. Ymwelais â fferm fefus ym Mro Morgannwg sy'n defnyddio technegau amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, ac mae'n dda iawn gweld y dull economi gylchol a fabwysiadwyd ganddynt.
Roedd eich cwestiwn penodol yn ymwneud â'r Bil amaethyddiaeth. Fe fyddwch yn gwybod bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn rhan o'r Bil amaethyddiaeth, ac mae'r ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu, sicrhau'r bwyd cynaliadwy hwnnw, yn gwbl hanfodol i'r cynllun ffermio cynaliadwy a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo ein ffermwyr. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn wahanol i gynllun y taliad sylfaenol. Yr hyn a wnawn yw gwobrwyo ein ffermwyr—yr arian cyhoeddus a gânt am ddarparu nwyddau cyhoeddus—ac er ein bod bob amser wedi dweud nad yw bwyd yn nwydd cyhoeddus, yr hyn y byddwn yn ei wneud yn y Bil amaethyddiaeth yw hyrwyddo cynhyrchiant bwyd cynaliadwy a thalu amdano.
5. Pa rôl y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chwarae yn y broses o adfer rhywogaethau? OQ57743
Diolch. Mae ymateb i'r argyfwng natur yn un o amcanion allweddol ein cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Bydd cymorth i ffermydd yn y dyfodol yn gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu i gynnal a chreu ecosystemau cadarn. Bydd hyn yn helpu i greu'r amodau a fydd yn galluogi inni adfer rhywogaethau ar raddfa fferm a thirwedd.
Chwe wythnos yn ôl, mewn ymateb ysgrifenedig i mi, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd
'Yn fwy hirdymor, bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn fecanwaith pwysig ac yn ffynhonnell arian i fynd i'r afael â cholli cynefinoedd a dirywiad rhywogaethau, gan gynnwys rhai o'n hadar fferm eiconig megis y gylfinir. Bydd sylwadau gan bartneriaeth Gylfinir Cymru yn cael eu hystyried gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wrth i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei ddatblygu.'
Ond gyda'r bygythiad y byddant wedi diflannu ar lefel gwlad erbyn 2033, rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno nad oes gennym amser i aros. Gan y bydd yn cymryd y rhan orau o ddegawd i gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy ledled Cymru, sut y bydd hyn yn helpu i adfer poblogaethau o rywogaethau prin a bregus fel y gylfinir, sy'n galw am weithredu ar frys yn awr os nad ydym yn mynd i'w colli yng Nghymru? Ac a all y Gweinidog gadarnhau ei bod yn derbyn cais Gylfinir Cymru am gyfarfod ar y safle gyda ffermwyr, rheolwyr tir a phartneriaid Gylfinir Cymru i drafod adferiad y gylfinir, y manteision lluosog ac amlrywogaethol ehangach, a chefnogi datblygu polisi fel y cynllun ffermio cynaliadwy o bosibl?
Diolch. Wel, gan ein bod eisoes ynghanol argyfwng hinsawdd a natur, rydych yn llygad eich lle nad oes gennym amser i'w wastraffu. Felly, ni fyddwn eisiau i bobl feddwl ein bod yn aros i'r cynllun ffermio cynaliadwy ymddangos cyn diogelu ein rhywogaethau, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o lawer o gynlluniau sydd bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—y cynllun rheoli cynaliadwy, er enghraifft, sydd eisoes yn gwella cadernid ein hecosystemau, mae'n gwella ein bioamrywiaeth, ac wrth gwrs mae'n mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae cyllid sylweddol—oddeutu £235 miliwn, rwy'n credu—eisoes wedi'i ddarparu i oddeutu 50 o brosiectau ledled Cymru. Mae gennym hefyd y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd, sy'n helpu i gynyddu cadernid ecosystemau ein mawndiroedd yng Nghymru. Felly, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn edrych ar arferion da y cynlluniau hyn ac yn adeiladu arnynt.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau partner i sicrhau bod safonau iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal? OQ57745
Diolch. Mae gweithio mewn partneriaeth yn un o egwyddorion allweddol ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys ceidwaid anifeiliaid, awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflawni i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cynlluniau megis y gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon—cyfraith Lucy—yn dod i rym, ond mae hyn hefyd yn cynyddu rolau arolygu a gorfodi ein cynghorau yng Nghymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cynghorau i gyflawni'r swyddogaethau hyn, ac a oes unrhyw rôl i ddarparu cyfrifoldebau statudol tebyg i'r RSPCA, er enghraifft, fel y gallant hwy hefyd wneud eu rhan?
Diolch. Mewn perthynas â rhan olaf eich cwestiwn, nid oes rôl i roi pwerau i'r RSPCA o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae hwnnw'n rhywbeth rwy'n edrych arno ochr yn ochr â materion iechyd a lles anifeiliaid eraill. Ar eich cwestiwn ynghylch cefnogi awdurdodau lleol, pan gyflwynwyd y rheoliadau y cyfeiriwch atynt, fe wnaethom edrych ar eu heffeithiau ar awdurdodau lleol, ac o safbwynt ariannol, yn y gorffennol, roedd yn ofynnol i werthwyr masnachol wneud cais am drwydded gan awdurdod lleol ac roeddent yn destun arolygiadau parhaus. Ond yn y ffordd y gwnaethom lunio'r rheoliadau newydd, rhagwelwyd y bydd y rhai sy'n gymwys i fasnachu ac sy'n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer trwyddedu yn parhau i weithredu ac y byddent ond yn gwerthu'n uniongyrchol i'w cwsmeriaid. Byddai'r rhai anghymwys yn peidio â masnachu wedyn, ac ar y sail honno ni fyddai, neu ni ddylai fod baich ariannol ychwanegol i awdurdodau lleol. Byddant yn gallu pennu ffi newydd y drwydded, a dylai'r ffi a bennir fod yn ddigon i dalu cost ddisgwyliedig cofrestru, arolygu a gorfodi.
Weinidog, er bod angen sicrhau bod pob sefydliad yn glynu wrth safonau iechyd a lles anifeiliaid wrth gwrs, credaf fod llawer o fentrau angen cael eu hannog yn hytrach na'u gwthio. Dylai mentrau fel llochesau a chanolfannau achub ac ailgartrefu fod yn ddarostyngedig i reoliadau, ond mae'r mwyafrif llethol yn cynnal y safonau lles anifeiliaid mwyaf llym. Mae llawer o lochesi anifeiliaid wedi cael trafferth yn ystod y pandemig wrth i ffynonellau ariannu sychu, rhywbeth a all gael effaith andwyol ar eu gallu i ofalu am anifeiliaid anwes a adawyd. Weinidog, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod llochesi anifeiliaid, megis y gymdeithas ragorol yn Nyserth sy'n achub anifeiliaid anwes, yn cael eu cefnogi'n ariannol? Diolch.
Diolch. Wel, fe fyddwch yn gwybod bod llawer o sefydliadau, nid yn unig o fewn fy mhortffolio i, wedi dioddef oherwydd y pandemig, a gwnaethom bopeth yn ein gallu i'w cefnogi, yn enwedig yn ariannol. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â llawer o elusennau a sefydliadau a llochesau yn ystod fy nghyfnod yn y portffolio hwn, a chredaf mai un o'r pethau yr ydym yn sicr yn edrych arno yw pa reoliadau sydd eu hangen mewn perthynas â llochesau.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol i sicrhau bod bwyd a diod lleol ar gael mewn ysgolion, cartrefi gofal ac ysbytai? OQ57733
Rwyf wedi cael trafodaethau gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ac rwy'n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i sicrhau bod bwyd a diod gan gyflenwyr lleol ar gael mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y cawn ein hatgoffa'n aml gan Jenny Rathbone, mae cynifer o bethau cadarnhaol yn deillio o ailadeiladu economi fwyd leol: mae'n creu swyddi, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd, ac mae cymaint o gyfleoedd busnes rhagorol yma, gan fod y galw lleol yn llawer mwy na'r cyflenwad lleol ar hyn o bryd. Rydym wedi cael ein hatgoffa eto yn ddiweddar, onid ydym, am bwysigrwydd peidio â bod yn orddibynnol ar fewnforio bwyd i'r wlad hon. Mae angen rhoi cyfle i bobl ifanc aros yn eu cymunedau a chael eu cefnogi gan sefydliadau'r sector cyhoeddus. Nawr, roedd fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth yn canmol cyngor Ynys Môn, soniodd fy nghyfaill Llyr Gruffydd am gyngor Caerfyrddin a Chyngor Gwynedd. Wel, Lywydd, rwyf am sôn am gyngor Ceredigion yn awr, oherwydd mae yna enghraifft wych pan wnaeth cyngor Ceredigion, dan arweiniad Plaid Cymru, yn siŵr mai'r cynnyrch lleol gorau a gâi ei gynnwys yn eu holl barseli bwyd i bobl agored i niwed yn ystod y pandemig COVID. Ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad pwysig yn y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd prydau ysgol am ddim yn defnyddio cynhwysion a gynhyrchir yn lleol, er budd i ffermydd a busnesau lleol ledled Cymru. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod mwy i'w wneud, felly a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y mater a sut y gallwn sicrhau bod bwyd lleol ar gael ac yn cael ei annog ledled Cymru ym mhob sector? Diolch yn fawr.
Rydych wedi mynd â fi yn ôl ddwy flynedd i'r nosweithiau di-gwsg oherwydd y blychau bwyd ar ddechrau'r pandemig COVID. Roedd yn waith gwych, ac rwy'n sicr yn talu teyrnged i gyngor Ceredigion. Fe wnaethant weithio'n ddygn i sicrhau eu bod yn defnyddio bwyd lleol, a chredaf ei bod yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod rhagorol o Gymru yn llawer gwell.
Fe fyddwch wedi clywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn sôn am y gwaith y mae'n ei wneud ar gaffael mewn perthynas â chynyddu'r cyflenwad bwyd o Gymru yn ein prydau ysgol, er enghraifft drwy fframweithiau bwyd sector cyhoeddus Cymru y mae cyngor Caerffili wedi arwain arnynt, a'r haf diwethaf bûm mewn cyfarfod i weld beth arall y gallem ei wneud i ddarparu bwyd a diod o Gymru yn ein hysbytai. Rwy'n falch iawn o weld bod y gwaith hwnnw'n parhau i gael ei ddatblygu.
Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth Jenny Rathbone, a dweud y gwir. Rwy'n credu bod angen inni newid y ffordd yr ydym yn meddwl am dendro am fwyd, ac nid oes rhaid dewis yr opsiwn rhataf. Unwaith eto, cyfeiriodd Rebecca Evans at y ffaith ein bod yn ei chael hi'n anodd cael cyflenwr dofednod ar gyfer darpariaeth fwyd ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, mae gwaith sylweddol i'w wneud. Gwn ein bod, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, yn edrych ar sut y'i gwnawn ar gyfer prydau ysgol am ddim, ond credaf fod angen inni ei wneud ar draws y sector cyhoeddus ehangach hefyd.

Rai misoedd yn ôl, Weinidog, codais y Bil gyda chi a aeth drwy Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc ac a oedd yn ymwneud â chaffael lleol, ac yn benodol â gosod targedau i archfarchnadoedd gyrchu cynnyrch lleol. Mae Bil fy nghyd-Aelod Peter Fox yn mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd. Fe ddywedoch chi y byddech yn edrych ar y ddeddfwriaeth honno sydd bellach wedi'i phasio yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc. Ymddengys ei fod yn gyfrwng a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwyf wedi bod yma ers bron i 15 neu 16 mlynedd bellach—gwn nad yw’n edrych fel hynny—[Chwerthin.]—ac nid wyf byth yn clywed unrhyw un yn anghytuno ynglŷn â chefnogi cynnyrch lleol, ond y gwir amdani yw bod mân welliannau wedi'u gwneud yma ac acw, ond nid oes unrhyw fomentwm cyffredinol y tu ôl i hyn, a chredaf y byddai cynnig deddfwriaethol fel yr un a gyflwynwyd gan y Ffrancwyr ac fel y mae fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi'i gyflwyno yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes penodol hwn.
Credaf fy mod wedi bod yma am yr un faint o amser, felly nid wyf yn dweud dim. [Chwerthin.]
Rydych chi'n edrych yn well na fi. [Chwerthin.]
Fe wnaethom edrych ar y ddeddfwriaeth honno, ac yn sicr, mewn trafodaethau a gefais gyda Peter Fox—oherwydd, fel y gwyddoch, ni chefnogais Fil Peter, ond rydym yn cyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol. Felly, credaf fod gan Peter syniadau da iawn yr ydym yn awyddus i'w hymgorffori yn y strategaeth bwyd cymunedol, ac fe wnaethom edrych, fel y dywedwch, ar y ddeddfwriaeth honno. Ac rydych yn llygad eich lle, nid oes llawer o bobl yn anghytuno â, 'Mae'n rhaid inni wneud mwy, mae'n rhaid inni ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol ac ati', ond credaf fod angen inni newid y meddylfryd hwnnw y soniais amdano mewn atebion cynharach sy'n mynnu bod yn rhaid mynd am y tendr rhataf. Nid ydym yn dymuno cael ein gorlethu â chig rhad; rydym am weld y cig o safon sydd gennym yma yng Nghymru, ond mae’n rhaid i bobl gydnabod bod hynny weithiau’n costio mwy. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â newid y meddylfryd hwnnw, ond yn sicr, wrth inni fwrw ymlaen â’r strategaeth bwyd cymunedol, ni chredaf fod angen newid y ddeddfwriaeth, credaf fod gennym yr offer i wneud hynny yn barod. Ond rydym yn edrych yn fanwl iawn ar yr hyn y mae Peter yn ei awgrymu, ynghyd â Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, mewn perthynas â'r strategaeth bwyd cymunedol.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ffermio cynaliadwy? OQ57759
Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn gwobrwyo ffermwyr actif sy’n rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â heriau’r argyfyngau hinsawdd a natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Rwy’n bwriadu cyhoeddi amlinelliad o’r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yr haf hwn a lansio ail gam ein proses gydlunio.
Diolch am eich ateb. Mae diwydiant amaethyddol Cymru, wrth gwrs, yn wynebu dyfodol ansicr wedi i gytundeb masnach rydd Awstralia gael ei gymeradwyo fis Rhagfyr diwethaf. Rwyf wedi sôn sawl tro yn y Siambr hon fy mod yn credu bod perygl i'r cytundeb hwnnw ostwng safonau lles yma yng Nghymru a gweddill y DU. Gallai mewnforio cynhyrchion â safonau lles is yn ddigyfyngiad o wledydd fel Awstralia arwain at gystadleuaeth ffyrnig rhwng cynhyrchion sy’n cael eu mewnforio a’r rheini a gynhyrchir yma yng Nghymru. Mae'n hollbwysig nad yw'n ofynnol i ffermwyr dorri costau ac aberthu lles anifeiliaid er mwyn gallu cystadlu â'r mewnforion rhatach hynny. Gwyddom fod dulliau cynhyrchu â safonau lles uwch yn aml yn ddrytach na systemau ffermio dwysach, ond cânt eu hadlewyrchu hefyd yn y costau y gofynnir i ddefnyddwyr eu talu. Mae’r cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi cyfle gwych, yn fy marn i, i wobrwyo ffermwyr sy’n cynhyrchu bwyd o safon lles uwch. Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i sut y gallwch gymell safonau lles uwch mewn ffermio o dan y cynllun ffermio cynaliadwy?
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn: mae’r sector amaethyddol wedi wynebu, ac yn dal i wynebu cyfnod ansicr iawn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd effeithiau cronnol y cytundebau masnach rydd. Fe sonioch chi yn benodol am Awstralia, sydd â safonau amgylcheddol a safonau lles ac iechyd anifeiliaid is nag sydd gennym ni. Felly, credaf fod hwn yn waith—. Rydym wedi gwneud mwy na dim ond aros am y cynllun ffermio cynaliadwy, er y credaf eich bod yn iawn, mae’n gyfle gwych i wobrwyo ein ffermwyr actif mewn modd nad oedd cynllun y taliad sylfaenol yn ei wneud. Ond rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda’r sector amaethyddol dros y pum mlynedd diwethaf i wneud yn siŵr ein bod yn eu cefnogi i sicrhau bod eu safonau’n uchel iawn. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn sicr yn rhan bwysig o’r cynllun ffermio cynaliadwy.
Efallai yr hoffwn, a dweud y gwir, Lywydd.
Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OQ57741].
Cwestiwn 10 [OQ57736] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 11, Joel James.
11. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned? OQ57752
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sector amaethyddol cynaliadwy a chadwyn fwyd sy’n helpu i gynnal yr economi wledig ehangach. Mae cymorth ar gael ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned drwy raglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru o dan y cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio a LEADER.
Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch eisoes o bosibl, mae'r rhan fwyaf o brosiectau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yn seiliedig ar ddarnau bach o dir, gyda llawer ohonynt yn llai na 3 hectar o ran maint. Fel y cyfryw, yn hanesyddol, maent wedi bod yn anghymwys ar gyfer cael cymorth ariannol drwy'r polisïau amaethyddol prif ffrwd, gan gynnwys cynlluniau taliad sylfaenol a Glastir, ac yn anffodus, ychydig iawn y mae’r rheini sy’n gymwys wedi elwa o system sy’n seiliedig ar daliadau arwynebedd daliad.
Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE ac nad yw wedi’i rhwymo bellach gan y polisi amaethyddol cyffredin, mae cyfle yn awr i gefnogi busnesau amaethyddol cymunedol a busnesau bwyd cymunedol eraill yn well ar lefel briodol i’r nwyddau cyhoeddus y maent yn eu darparu. Fel y bydd y Gweinidog yn cydnabod, mae'n siŵr, byddai helpu i ddatblygu prosiectau amaethyddol cymunedol drwy gyllid uniongyrchol yn cyd-fynd yn dda â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac felly byddai o fudd mawr i Lywodraeth Cymru. Felly, a all y Gweinidog amlinellu pa gynigion y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu gwneud i sicrhau bod cyllid ar gael yn benodol er budd amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned? Diolch.
Diolch. Credaf fod gwaith ffermydd a gefnogir gan y gymuned yn darparu manteision gwirioneddol i fywydau llawer o bobl, ac mae'n bwysig iawn, os gallwn eu cefnogi, ac os ydynt yn dymuno cyflawni ein nodau, ein bod yn gallu gwneud hynny. Bydd arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus, a fydd yn rhan o’r cynllun ffermio cynaliadwy, yn sicr yn gydnaws â ffermydd a gefnogir gan y gymuned. Hefyd, cyfeiriais mewn atebion cynharach at y strategaeth bwyd cymunedol yr ydym yn ei datblygu, ac unwaith eto, credaf fod ganddi botensial i sicrhau llawer o fanteision i'r ffermydd llai a gefnogir gan y gymuned. I mi, mae’n wirioneddol bwysig fod ffermwr actif, beth bynnag yw maint ei fferm, yn gallu cymryd rhan yn y cynllun ffermio cynaliadwy, ac wrth inni fynd drwy’r broses gydlunio, rydym am sicrhau bod pob math o fferm, a ffermydd o bob maint, ledled Cymru, yn gymwys i wneud cais.
Rwy’n dal pobl allan o bob tu ar hyn o bryd. Byddwn wedi galw ar Andrew R.T. Davies yn awr pe bai yn y Siambr. Felly, down â'ch sesiwn gwestiynau i ben. Rydych wedi cyrraedd cwestiwn 12 gan fod yr Aelodau wedi caniatáu i hynny ddigwydd drwy beidio â bod yn barod. Iawn.
Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
Cwestiwn amserol fydd nesaf. Mae'r cwestiwn heddiw i'w ateb gan y Gweinidog iechyd ac i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfynaid Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ddynodi gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol? TQ605

Diolch yn fawr. Rwy'n croesawu'r ymyriad a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru heddiw. Mae uwchgyfeirio'r gwasanaeth fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fod yn wasanaeth y mae angen ei wella’n sylweddol yn cefnogi’r argymhelliad cryf a roddais ar 16 Chwefror 2022 fod angen i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â materion yn y gwasanaeth ar unwaith.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i'r Gadair.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Mae'r cyhoeddiad a'r datganiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn sobri rhywun. Os darllenwch chi ganllawiau yr arolygiaeth, mae'n egluro'r broses maen nhw'n ei dilyn wrth roi gwasanaeth yn y categori o fod eisiau gwelliant sylweddol. Mae'n egluro eu bod nhw'n gorff sy'n mynnu gweithredu pan fyddan nhw'n gweld bod safonau ddim yn cael eu cyrraedd.
Dywed AGIC wrthym fod y broses uwchgyfeirio hon yn sicrhau y gall ystod o randdeiliaid gymryd camau penodol a chyflym i sicrhau bod gofal diogel ac effeithiol yn cael ei ddarparu. Felly, gadewch inni oedi gyda'r gair hwnnw, 'diogel'. Mae AGIC wedi rhoi’r mesur uwchgyfeirio hwn ar waith am fod adroddiad coleg brenhinol y llawfeddygon wedi nodi nifer o bryderon sydd, yn ein barn ni, yn dangos risg amlwg i gleifion sy’n defnyddio’r gwasanaeth fasgwlaidd. Nawr, mae cleifion fasgwlaidd wedi’u rhoi mewn perygl oherwydd rheolaeth wael, yn union fel y mae bywydau cleifion iechyd meddwl wedi’u rhoi mewn perygl drwy nifer o sgandalau o fewn yr un bwrdd iechyd. Rwy'n teimlo o ddifrif dros y rheini sy'n ceisio unioni pethau ac yn cael eu bwrw i lawr dro ar ôl tro. Nawr, mae'r rhain yn edrych i mi fel mesurau lled-arbennig, ond rwy'n cwestiynu a yw'r broses hon o uwchgyfeirio yn ddigon ynddi'i hun. Felly, ailadroddaf fy ngalwad heddiw: rhowch wasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y lefel uchaf bosibl o fesurau arbennig sydd gennych, a gwnewch hynny gyda'r claf mewn golwg—y rheini y mae eu ffydd yn eu bwrdd iechyd lleol wedi'i dinistrio, y rheini ym mhellafion y gogledd-orllewin sy'n bell iawn o'r gwasanaethau craidd o ganlyniad i'w canoli yn Ysbyty Glan Clwyd a'r bobl y mae'n rhaid cryfhau'r gwasanaethau sy'n hygyrch iddynt.
Nawr, nid wyf yn dymuno gweld ad-drefnu fwy nag y mae’r Gweinidog, ond mae hyn unwaith eto'n awgrymu bwrdd iechyd sy’n rhy fawr, sy'n rhy anhylaw i gael ei redeg yn effeithiol, ac sy'n rhy bell oddi wrth y bobl y mae’n eu gwasanaethu. Mae digwyddiad ar ôl digwyddiad, fel yr un yr ydym yn ei drafod heddiw, yn golygu bod yn rhaid gadael y gwaith o ailgynllunio gwasanaethau iechyd ar draws y gogledd ar y bwrdd. Felly, ai felly fydd hi, neu a fydd y Llywodraeth o leiaf yn dod â mesurau arbennig yn ôl ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd i ddangos eich bod o ddifrif ynglŷn â datrys pethau o fewn y strwythurau presennol?
Diolch yn fawr, Rhun. Rwyf wedi dweud, ac fe’i dywedaf eto, nad yw’r gwasanaethau fasgwlaidd a’r gwasanaethau a gynigir ym mwrdd Betsi Cadwaladr o safon dderbyniol. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 3 Chwefror yn dilyn yr adroddiad gan goleg brenhinol y llawfeddygon, ac roedd yn siomedig iawn clywed bod rhai pethau hanfodol a sylfaenol iawn nad oeddent yn digwydd—diffygion o ran gofal, cadw cofnodion, cymryd caniatâd, camau dilynol, yr holl bethau hyn y byddech yn tybio eu bod yn bethau sylfaenol sy'n digwydd ym mhob adran o fewn y gwasanaeth gofal. Felly, rwyf wedi dweud yn glir fy mod wedi rhoi tri mis i'r bwrdd—a pheidied ag anghofio mai'r bwrdd ei hun a alwodd goleg brenhinol y llawfeddygon i mewn, felly roeddent yn ymwybodol fod yna broblem. Maent wedi cymryd camau, maent wedi edrych ar y 22 argymhelliad ac maent wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith erbyn hyn. Nawr, rwyf wedi nodi'n glir fod ganddynt dri mis i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac mae'r amser hwnnw wedi dechrau eisoes, a dywedwyd yn glir wrthyf y byddaf yn cael diweddariadau misol gan y bwrdd iechyd, ac os nad oes cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn y tri mis hynny, byddaf yn gofyn am fesurau uwchgyfeirio neu oruchwyliaeth, a byddwn yn cynnull cyfarfod teirochrog arbennig i ystyried hynny. Cefais y diweddariad cyntaf ddydd Llun, a byddaf yn cyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd i drafod hyn yn fanylach ddydd Gwener.
Diolch i’r Llywydd am dderbyn y cwestiwn amserol hwn y prynhawn yma ar fater sy’n bwysig iawn i bob Aelod yn rhanbarth Gogledd Cymru, gan ei fod yn fater mor berthnasol a phwysig i’w drafod.
Weinidog, er fy mod yn croesawu ymyrraeth AGIC, mae’r newyddion yn peri cryn bryder i fy etholwyr, a byddwn yn falch o’ch gwahodd i edrych ar fy mewnflwch e-bost a’r llythyrau a gaf wythnos ar ôl wythnos gan etholwyr sy’n defnyddio Ysbyty Glan Clwyd ac sydd wedi dioddef yn sgil rhai o'r methiannau yn y gwasanaethau fasgwlaidd yn Nyffryn Clwyd, ac yn wir, ar draws gogledd Cymru—y rheini sy'n dibynnu ar y gwasanaeth yn ogystal â'r staff sy'n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'n rhaid inni gofio mai methiant y systemau yw hyn, nid y staff gweithgar yng Nglan Clwyd. Mae Rhun eisoes wedi codi rhai o’r pwyntiau yr oeddwn am eu codi, ond mae’n werth ailadrodd y pryder fod bwrdd Betsi Cadwaladr wedi’i dynnu allan o fesurau arbennig yn rhy gynnar. Weinidog, a ydych yn gresynu at benderfyniad eich rhagflaenwyr, a pha gamau a gymerwch i sicrhau yr eir i’r afael â’r methiannau fel mater o frys? Yn olaf, Weinidog, beth sydd wedi digwydd yn y pythefnos ers hynny, rhwng AGIC yn gwneud y penderfyniad i ddefnyddio eu proses uwchgyfeirio a gwneud y cyhoeddiad yn gyhoeddus? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, nid yw’r safonau a welwn, yn enwedig yn y gwasanaeth hwnnw yn y gogledd, yn dderbyniol, a dyna pam y byddwn yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa a’r 22 argymhelliad. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall bod systemau wedi methu, yn ôl pob tebyg, a dyna pam, o’r 22 argymhelliad, fod y bwrdd iechyd wedi gwneud rhai ymrwymiadau clir iawn ynghylch yr hyn y maent yn bwriadu ei roi ar waith. Maent wedi derbyn y canfyddiadau yn ddiamod, maent wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael yn gyflym â’r problemau a amlygwyd yn fwyaf diweddar, a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod bod cadeirydd annibynnol newydd, Susan Aitkenhead, wedi’i phenodi. Mae hi wedi'i phenodi i banel sicrhau ansawdd fasgwlaidd. Bydd yn edrych ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros fynd i'r afael â hyn. Cytunwyd ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth mewn egwyddor gyda Lerpwl, ac mae'r timau clinigol eisoes wedi dechrau gweithio'n agosach ar lwybrau sefydlu. Mae gennym ddau lwybr wedi'u cymeradwyo ar gyfer gofal traed diabetig. Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu hyfforddiant safonau proffesiynol ar gyfer y tîm fasgwlaidd, ond hefyd yn ehangach ar draws y gweithlu clinigol. Mae dwy o'r sesiynau hyfforddi hyn eisoes wedi'u cynnal. Felly, mae llawer iawn a rhestr lawer hwy o bethau sydd eisoes wedi'u rhoi ar waith, ond yn amlwg, y peth allweddol yw bod angen inni weld canlyniad ac allbwn o'r pethau sydd wedi'u rhoi ar waith. Felly, dyna y byddwn yn ei fonitro, a dyna y byddwn yn ei wneud dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Diolch, Weinidog.
Y nesaf yw eitem 4, datganiadau 90 eiliad, a'r cyntaf i siarad y prynhawn yma yw Elin Jones.
Yr wythnos diwethaf, bu farw Dai Jones, Llanilar. Sut mae crynhoi mewn 90 eiliad yr hyn oedd a’r hyn gyflawnodd Dai Llanilar? Fe oedd y cyfuniad quirky yna o Cockney a Cardi—un o’r London Welsh a ddaeth adref. Mi oedd yn ffermwr, mi oedd yn denor dawnus a enillodd Rhuban Glas yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna mi gychwynnodd ar yrfa ddarlledu lwyddiannus dros ben—Siôn a Siân, cyflwyno’r rhaglen Rasus am 25 mlynedd ac, wrth gwrs, Cefn Gwlad am dros 35 mlynedd. Mi ddaeth yn bencampwr i’r bywyd gwledig Cymreig, yn lais cryf i gefnogi mudiad y ffermwyr ifanc ac amryw o gymdeithasau stoc da byw a chobiau. Mi enillodd BAFTA am gyfraniad oes i ddarlledu, ac mi oedd yn llywydd y Royal Welsh yn 2010.
Ac mi oedd e’n gymeriad, yn gwneud i bobol chwerthin ac yn chwerthin ar ei hunan—pan yn cwympo mewn i’r Teifi o'i gwrwgl neu’n goesau i gyd wrth geisio dysgu sgïo ar yr Alps, y cyfan yn gwneud sioeau teledu bythgofiadwy. Dyw hi ddim yn or-ddweud i’w alw yn ffigwr eiconig, yn drysor cenedlaethol, un o’r bobol hynny oedd yn meddu ar y ddawn o fod yn gyffredin ac anghyffredin ar yr un pryd. Dyn pobol oedd Dai, yn medru cefnogi ei annwyl Elystan Morgan a Cynog Dafis—y person oedd yn bwysig. Mi ddangosodd gefnogaeth i fi hefyd, ac mi fyddai’n dweud wrthyf i ei fod yn werth fy nghefnogi i gan fod fy nhad-cu i, Tim Moelfre, wedi rhoi pris da iddo fe am loi ym mart Tregaron unwaith. [Chwerthin.] Coffa da am Dai Llanilar—diolch am fod yn gystal Cardi, cymeriad a Chymro. [Cymeradwyaeth.]
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf dynnu eich sylw y prynhawn yma at Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, a sôn am rywfaint o’r gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo ledled Cymru yn y sector addysg bellach. Thema Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd eleni yw dyfodol gwaith, sy'n addas iawn, o ystyried bod cynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi ddoe, yn ogystal â chyhoeddi Twf Swyddi Cymru+. Rydym ar adeg dyngedfennol, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bawb sgiliau i’w galluogi i gael mynediad at swyddi yn y dyfodol. A hoffwn dynnu sylw at enghraifft yn fy etholaeth fy hun sy'n darlunio'n berffaith pa mor bwysig yw'r sector addysg bellach i ddarparu sgiliau sy'n arwain at gyflogaeth ystyrlon.
Yn 2016, lansiodd Coleg Sir Benfro ei swyddfa cyflogaeth myfyrwyr, i roi cyfle i ymgeiswyr gael eu paru â’r swydd gywir, gan gefnogi a pharatoi myfyrwyr ag amrywiaeth eang o brofiad a sgiliau yn barod ar gyfer cael eu recriwtio. Cwblhaodd un fyfyrwraig, Elizabeth Collins, ddiploma lefel 3 mewn tecstilau yng Ngholeg Sir Benfro, a rhoddodd y swyddfa gyflogaeth gymorth iddi greu curriculum vitae a chwblhau cais am brentisiaeth gwisgoedd gyda’r BBC yng Nghaerdydd. Roedd Elizabeth yn llwyddiannus, ac yn dilyn ei phrentisiaeth, cafodd swyddi fel hyfforddai gwisgoedd yn y BBC, lle bu’n gweithio ar raglenni teledu a ffilmiau fel War of the Worlds.
Ers hynny, camodd Elizabeth ymlaen yn ei gyrfa, ac mae bellach yn gynorthwyydd dylunio gwisgoedd, ac mae newydd orffen gweithio ar ddrama gyfnod i Red Planet Pictures. Un enghraifft yw stori Elizabeth, ond mae llawer iawn mwy o ddysgwyr eraill ledled Cymru yn cael eu meithrin a’u cefnogi drwy ein sector addysg bellach. Felly, a hithau'n Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, hoffwn dalu teyrnged i’r rheini sy’n gweithio yn ein sector sgiliau ac addysg bellach am y rôl amhrisiadwy y maent yn ei chwarae yn cefnogi dysgwyr ac yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnom i ddatblygu ein heconomi.
Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y Senedd hon ac mewn Seneddau blaenorol, mae sawl un ohonom wedi mabwysiadu rhywogaeth sydd dan fygythiad yn ein rhanbarthau neu ein hetholaethau. Cyn y lle hwn, cyn y farf, pan oeddwn yn tyfu i fyny, roeddwn am fod yn fiolegydd morol, felly, pan gefais gyfle i fabwysiadu rhywogaeth dan fygythiad, nid oedd unman yn well i edrych nag yn y dyfroedd o amgylch Cymru. A dyna pam rwy'n falch o gael y cyfle i fod yn hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer yr heulgi, a'r Aelod cyntaf i hyrwyddo morgi.
Ychydig o ffeithiau cyflym: yr heulgi yw'r morgi mwyaf ond un ar ôl y morgi morfilaidd. Maent yn 30 troedfedd o hyd ar gyfartaledd, ac yn pwyso oddeutu 5,200 kg. Er eu maint, hidlwyr bwyd ydynt, ac maent yn agor eu cegau hyd at fetr o led i ddal swoplancton, gan hidlo 2,000 tunnell o ddŵr yr awr ar gyfartaledd, ac maent i'w cael yn holl ddyfroedd arfordirol Cymru, bron â bod.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda Cyswllt Amgylchedd Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac eraill i hyrwyddo'r gwaith o warchod y pysgodyn godidog hwn.
Symud ymlaen yn awr at eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, datganoli plismona. Galwaf ar Mike Hedges i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7925 Mike Hedges, Alun Davies, Delyth Jewell, Jane Dodds, Rhys ab Owen
Cefnogwyd gan Sarah Murphy
Cynnig bod y Senedd:
Yn cefnogi datganoli plismona.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod yr achos dros ddatganoli plismona yn hynod o gryf. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl. Diolch i fy nghyd-gyflwynwyr, a bydd un ohonynt, Rhys ab Owen, yn ymateb i’r ddadl. Mae dadl fel hon yn rhoi cyfle i’r Senedd ddangos i ba gyfeiriad y mae am i ddatganoli fynd. Mae llawer o’r ysgogiadau sy’n effeithio ar lefelau troseddu eisoes wedi’u datganoli i Gymru, megis diogelwch cymunedol, addysg, hyfforddiant, swyddi, gwasanaethau iechyd meddwl, triniaeth alcohol a chyffuriau, tai, cymunedau iach, yn ogystal â llawer o wasanaethau eraill sy’n ymwneud â ffactorau cymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â throseddu, lleihau troseddu ac aildroseddu, mae angen gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, sydd eisoes yn gweithredu ar wahanol lefelau ledled Cymru. Er enghraifft, mae cymorth i bobl â chyflyrau iechyd meddwl cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng lle mae angen i'r heddlu ymyrryd, ac ar ôl iddynt ddod i mewn i’r system droseddol, yn golygu gweithio gyda GIG Cymru a byrddau iechyd lleol. Pe bai pŵer plismona’n cael ei ddatganoli, credaf y byddai hynny’n caniatáu ar gyfer llawer mwy o gysylltiad rhwng gwasanaethau ar lefel leol a chan Weinidogion a gweision sifil ar lefel strategol yng Nghymru, yn hytrach na rhwng Cymru a San Steffan.
Credaf fod potensial gwirioneddol ar gyfer model llwyddiannus yng Nghymru, a all adeiladu ar gryfder datganoli heb dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam y credaf na ddylai hyn gynnwys Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU, diogelwch gwladol a gwrthderfysgaeth. Mae’n bwysig fod gwasanaethau’r heddlu'n parhau i allu darparu cymorth ar y cyd ar gyfer digwyddiadau mawr, fel yr hyn a welsom gydag uwchgynhadledd lwyddiannus NATO yn ne Cymru.
Mae'n amlwg fod angen i gydweithredu ym maes plismona ymestyn nid yn unig i Ynysoedd Prydain, ond i Ewrop a thu hwnt. Gwyddom fod troseddu a therfysgaeth yn croesi ffiniau, yn fwy felly yn awr nag erioed o'r blaen, ac mae angen inni gydgysylltu mesurau i sicrhau na all troseddwyr osgoi cyhuddiadau drwy ffoi i Sbaen neu wledydd eraill, fel oedd i'w weld yn arfer digwydd ar un adeg. Dyna pam y galwyd y Costa del Sol yn 'Costa del Crime'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos y gallu i arwain a defnyddio synnwyr cyffredin, gan weithredu polisïau a ddatblygwyd gan Lafur Cymru, megis buddsoddi mewn swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol. Faint o bobl a hoffai roi diwedd ar y swyddogion cymorth cymunedol hynny erbyn hyn? Ym Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, mae pwerau’r comisiynydd heddlu a throseddu wedi’u huno yn rôl y maer. Rwy'n aros i weld gyda diddordeb pam fod pobl yn credu y dylid datganoli plismona i Fanceinion a Gorllewin Swydd Efrog ond nid i Gymru. Mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon; Cymru yw'r eithriad, yn sicr.
Hoffwn edrych ar ddau eithriad, sef Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol. Credaf fod angen ymdrin â hwy'n ganolog, gan nad yw diogelwch gwladol yn cydnabod unrhyw ffiniau ychwaith, felly credaf ei bod yn bwysig inni ymdrin â phethau yn y lle y gellir ymdrin â hwy yn y ffordd orau, ac yn fy marn i, y lle gorau i ymdrin â’r rhan fwyaf o blismona yw Cymru.
Asiantaeth ymladd troseddau a chanddi gyrhaeddiad cenedlaethol a rhyngwladol yw'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ac mae ganddi fandad pŵer i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy'n gorfodi’r gyfraith, gan ddefnyddio grym llawn y gyfraith i leihau troseddu difrifol a chyfundrefnol. Mae'r rheolaeth plismona ffiniau'n rhan hanfodol o'r gwaith o wella diogelwch y ffin. Mae'r rheolaeth troseddau economaidd yn rhoi'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn troseddu economaidd sy'n effeithio ar y DU.
Rydym wedi darparu ymateb cenedlaethol cydgysylltiedig i seiberdroseddu a throseddu a gaiff ei alluogi gan seiber. Nid yn unig nad yw'n cydnabod ffiniau ym Mhrydain, nid yw'n cydnabod ffiniau ledled y byd ychwaith, ac fe fydd pobl sydd wedi cael e-byst yn dweud wrthynt fod rhywun yn Affrica eisiau rhoi £10 miliwn, neu $10 miliwn iddynt, yn ymwybodol iawn fod y pethau hyn yn dod o bob rhan o'r byd. Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw un wedi cael y $10 miliwn hwnnw, ond rwy'n tybio bod y seiberdroseddau hyn yn gweithio. Mae pobl yn cael eu targedu gan seibrdroseddu ledled Prydain yn awr, gyda negeseuon yn dweud wrthynt fod angen iddynt dalu i gael prawf COVID. Ac unwaith eto, dyna'r math o drosedd—. Nid ydynt yn meddwl ar ba ochr i ffin Cymru y mae'n digwydd; mae'n digwydd ledled Prydain. Felly, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r pethau hyn yn ganolog.
Beth am y plismona o ddydd i ddydd a wneir gan bedwar heddlu Cymru? I bob pwrpas, rôl y comisiynwyr heddlu a throseddu, sy’n adrodd i’r Ysgrifennydd Cartref ar hyn o bryd, dylent fod yn adrodd i ba Ysgrifennydd bynnag neu ba Aelod bynnag o'r Cabinet sydd gennym yma. Ac rwy’n tybio, o dan y trefniadau presennol, gan y gwn fod Jane Hutt yn ymateb i’r ddadl hon, mai Jane Hutt fyddai'r unigolyn dan sylw. Ond pwy bynnag sydd ym mha swydd bynnag sy'n gyfrifol am hynny, dylent fod yn adrodd iddynt hwy, nid i'r Ysgrifennydd Cartref.
Nid yw'r heddlu'n gweithio ar eu pen eu hunain. Pan fyddwch yn ffonio 999, nid ydych yn dweud, 'Pa wasanaeth yr hoffech ei gael? A hoffech un datganoledig neu un heb ei ddatganoli?' Rydych yn ffonio 999 ac yn gofyn am wasanaeth brys. Pam fod tri ohonynt wedi'u datganoli ac un heb ei ddatganoli?
Dadl arall o blaid datganoli plismona yw’r gallu i gysylltu plismona’n well â gwasanaethau datganoledig eraill, megis cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a’r gwasanaeth iechyd. Nawr, nid beirniadu'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yw hyn, gan fy mod yn edmygu'r pedwar ohonynt yn fawr iawn. Mae dau ohonynt yn ffrindiau personol, a chredaf fod pobl yn gwneud gwaith da iawn o dan yr amgylchiadau y maent yn gweithio ynddynt. Ond mewn gwirionedd, maent yn gweithio i'r Ysgrifennydd Cartref, nid ydynt yn gweithio i'r Gweinidog yma, a chredaf ei bod yn bwysig eu bod yn atebol i'r Gweinidog yma.
Mae gwaith Llywodraeth Cymru ar ehangu rôl swyddogion cymorth cymunedol, gan gynyddu eu hamlygrwydd, wedi cael effaith gadarnhaol ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydych yn fwy tebygol o weld swyddog cymorth cymunedol pan fyddwch yn cerdded o gwmpas yr etholaeth neu'r rhanbarth yr ydych yn byw ynddo nag yr ydych chi o weld swyddog heddlu'n cerdded y strydoedd. Nawr, nid beirniadu'r heddlu yw hynny ychwaith, ond hwy yw wyneb gweladwy plismona dyna i gyd. Mae 500 a mwy ohonynt wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru, ac fel y dywedodd Aelod yn y lle hwn flynyddoedd lawer yn ôl pan oeddem yn trafod hyn ddiwethaf, sef Steffan Lewis, ‘Wrth gwrs, mantais arall datganoli plismona, oherwydd y ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithio, yw ein bod yn cael 5 y cant yn fwy ar gyfer plismona yng Nghymru nag a werir ar hyn o bryd.' Gall y 5 y cant hwnnw wneud gwahaniaeth mawr i blismona yng Nghymru. Gwyddom mai dyna sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio. Ac rwy'n talu teyrnged i Steffan Lewis, a wnaeth lawer iawn o waith ar gefnogi datganoli eitemau fel plismona.
Gwn pa mor boblogaidd yw swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn Nwyrain Abertawe, ac rwy'n adnabod pobl sy'n ystyried y swyddog cymorth cymunedol lleol yn bwynt cyswllt cyntaf pan fydd ganddynt broblem, gan eu bod yn gweld nifer ohonynt yn cerdded ar hyd y strydoedd. Bydd llawer o’r genhedlaeth hŷn yn cofio pan oedd gennym bwyllgorau'r heddlu yn gyfrifol am blismona yng Nghymru. Am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, roedd plismona'n swyddogaeth i lywodraeth leol a reolid gan bwyllgor heddlu'r sir berthnasol, neu yn achos Abertawe, Caerdydd, Merthyr Tudful a Chasnewydd, y cyngor bwrdeistref sirol. Newidiwyd wedyn o bwyllgorau heddlu lleol i awdurdodau'r heddlu, gyda Heddlu De Cymru'n gyfrifol, er enghraifft, am Forgannwg gyfan, ond heb fawr o reolaeth dros yr heddlu lleol. Penodi comisiynwyr heddlu yn lle rhingylliaid heddlu yw'r unig newid strwythurol mawr sydd wedi digwydd ym maes plismona ers 1960. Mae heddluoedd De Cymru, Dyfed-Powys, Gogledd Cymru a Gwent wedi bod ar eu ffurf bresennol, gyda mân newidiadau yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, ers y 1960au.
Gyda phlismona wedi'i ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n anomaledd nad yw wedi'i ddatganoli i Gymru. Pleidleisiodd Cynulliad Gogledd Iwerddon o'i blaid. Nawr, byddech yn meddwl mai Gogledd Iwerddon fyddai'r lle olaf y byddech yn datganoli plismona, gyda'r holl broblemau a fu yno a chyda'r pleidiau gwleidyddol sy'n bodoli yno a chynrychiolwyr sy'n gysylltiedig â phobl a gymerodd ran mewn gwrthdaro arfog. Roedd y bleidlais yn sail i gytundeb Hillsborough, a drefnwyd rhwng y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd a Sinn Féin, ac fe sefydlogodd Lywodraeth rhannu grym y rhanbarth. Yna, creodd y Cynulliad Adran Gyfiawnder ar gyfer Gogledd Iwerddon ar ôl i'r pwerau gael eu datganoli.
Pe bai Cynulliad Cymru'n pleidleisio o blaid datganoli plismona heddiw, pwy sy'n credu y byddai wedi'i ddatganoli ymhen ychydig fisoedd? Ond bydd yn dangos yr hyn y dymunwn ei weld yn digwydd; credaf mai dyna'r peth pwysig. Rydym yn dweud wrth Lywodraeth San Steffan mai dyma’r cyfeiriad yr ydym yn awyddus i fynd iddo.
O edrych ar gyfandir Ewrop a Gogledd America, Cymru, unwaith eto, sy'n edrych allan ohoni. Ar draws y rhan fwyaf o'r byd democrataidd, heblaw am reoli diogelwch gwladol a throseddau difrifol, heddluoedd rhanbarthol neu leol sy'n cyflawni gwaith plismona. Mae gorfodi'r gyfraith yn yr Almaen yn nwylo'r 16 talaith ffederal; mae pob un yn nodi trefniadaeth a dyletswyddau ei heddlu. Mae gan yr Almaen heddlu canolog hefyd sy'n gyfrifol am ddiogelwch y ffin, diogelu adeiladau ffederal, a llu ymateb symudol sy'n gallu helpu neu atgyfnerthu heddlu'r wladwriaeth os oes angen. Mae plismona yn UDA yn cynnwys asiantaethau ffederal fel y Swyddfa Ymchwilio Ffederal, asiantaethau'r taleithiau, megis patrolau priffyrdd, a phlismona lleol gan heddlu sirol ac adrannau siryfion. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw bod plismona lleol yn lleol, ac ymdrinnir â throseddau mawr a diogelwch gwladol ar lefel genedlaethol.
Beth yw barn y cyhoedd yng Nghymru? Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Beaufort Research a Chomisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru fod 63 y cant o’r 2,000 o ymatebwyr a holwyd o blaid datganoli pwerau plismona i Gymru o'r Llywodraeth ganolog yn Lloegr. Credaf mai’r ffordd ymlaen yw datganoli’r rhan fwyaf o blismona i’r Cynulliad Cenedlaethol. Fe ddywedaf hyn yn awr: rwy'n gobeithio nad ydym am gael y Ceidwadwyr yn dweud, 'Nid ydym am ddatganoli’r asiantaeth troseddu cenedlaethol a diogelwch gwladol.' Na finnau chwaith; y plismona arferol o ddydd i ddydd rwyf fi am ei weld yn cael ei ddatganoli. Cofiwch, hyd at 1960, roedd dinasoedd mawr Prydain yn plismona eu hunain heb i unrhyw un y tu allan i'r Swyddfa Gartref fod ag unrhyw bryderon. Dylem gael yr hawl yn ôl i blismona ein hunain a rhoi plismona lleol yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Yn ei dystiolaeth i Gomisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru, dywedodd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr:
'roeddem wedi dod i'r casgliad ar gyfer Comisiwn Silk y "gellid datganoli plismona" mae'r cwestiwn "a ddylid datganoli" yn fater ac yn benderfyniad gwleidyddol wrth gwrs.'
Gwnaethant ailadrodd eu safiad niwtral wedi'i arwain gan dystiolaeth yn eu briff ar gyfer y ddadl hon.
Yn eu tystiolaeth i gomisiwn Thomas, dywedodd Cymdeithas Uwch-arolygwyr Heddlu Cymru a Lloegr,
'Ar hyn o bryd, mae'r Swyddfa Gartref yn cefnogi'r Heddlu mewn ystod eang o feysydd; enghreifftiau o'r rhain yw arweinyddiaeth, datblygu, trawsnewid, bregusrwydd, cydweithio, ymyrraeth, atal, diogelwch, gwrthderfysgaeth a chyflogau, pensiynau ac amodau. Bydd angen i unrhyw drefniant newydd sicrhau nad yw'r gefnogaeth Lywodraethol i blismona yn cael ei lleihau na'i herydu gan strwythur plismona datganoledig.'
Fe wnaethant ychwanegu,
'Bydd datganoli plismona yng Nghymru yn newid sylweddol ac mae'n hanfodol fod cwestiwn o'r fath yn cael ei ystyried gyda dadansoddiad caeth o fudd a'r un mor bwysig yn cynnwys y cyhoedd a'r holl randdeiliaid mewn unrhyw opsiynau ailgynllunio yn y dyfodol.'
Yn y cyd-destun hwn, mae cyn ddirprwy brif gwnstabl Gwent, Mick Giannasi, wedi ysgrifennu y gallai newid yn natur perthynas Llywodraeth Cymru â'r gwasanaeth heddlu fod yn llai cynhyrchiol yn y pen draw. Ac mae fy nghysylltiadau yn Heddlu Gogledd Cymru a ffederasiwn heddlu'r rhanbarth wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro fod ganddynt gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr na gweddill Cymru a bod diffyg cymhwysedd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â datganoli plismona. Gyda throseddu a chyfiawnder yn gweithredu ar echel dwyrain-gorllewin, nid yn unig yn y gogledd, ond ledled Cymru, mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu gwasanaethau gan gynnwys troseddau cyfundrefnol rhanbarthol, arfau tanio, cudd-wybodaeth, dalfeydd, eiddo a gwaith fforensig gyda'u cyd-heddluoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr. Maent hefyd yn mynegi pryder ynghylch unrhyw awydd yn Llywodraeth Cymru i uno'r heddluoedd yng Nghymru gan eu bod yn dweud bod y ddaearyddiaeth a'r calibradau presennol gydag amrywiol heddluoedd yn Lloegr yn gwneud y cysyniad o heddlu Cymru gyfan yn anodd iawn, gan ychwanegu y dylid monitro'n ofalus unrhyw gamau i orfodi cam o'r fath i fodloni ego gwleidyddion penodol. Rwy'n dyfynnu.
Pan adolygodd Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio'r Cynulliad strwythur plismona yn 2005—roeddwn yn rhan o hwnnw—nododd ein hadroddiad nad yw gweithgaredd troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol a bod yn rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mark?
Fe dderbyniaf un ymyriad.
Rydym yn sôn am ddatganoli'r heddlu, nid datganoli troseddu.
Yn wir, a rhaid i blismona adlewyrchu realiti demograffig, daearyddol a hanesyddol a lle mae troseddu'n digwydd mewn gwirionedd a sut y mae'n symud, nid dyheadau neu ddiffyg dyheadau gwleidyddion penodol.
Arweiniodd gwaith is-bwyllgor y Cynulliad a oedd yn ystyried y cynnig i uno heddluoedd Cymru ar y pryd, is-bwyllgor yr oeddwn yn aelod ohono, at roi'r gorau i uno heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. Fel y dywedais yn y ddadl ym mis Chwefror 2006 ar hyn, dywedodd awdurdodau'r heddlu wrthym y byddai cost flynyddol ychwanegol ad-drefnu Cymru gyfan oddeutu £57 miliwn, gyda'r prif gwnstabl yn dweud y byddai hyd yn oed yn fwy. Ac roedd hynny 16 mlynedd yn ôl.
Gellir cymharu, wrth gwrs, â'r Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae plismona'n fater sydd wedi ei ddatganoli, ond am resymau daearyddol a hanesyddol, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn gwbl wahanol. Cadwodd un Lywodraeth ar ôl y llall yn y DU ymrwymiad i ail-ddatganoli plismona yng Ngogledd Iwerddon wedi i reolaeth uniongyrchol ddod i ben, ac os nad ydych yn deall pam, efallai y dylech ddarllen eich llyfrau hanes.
Mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a 90 y cant o fewn 50 milltir ac mae hynny'n adlewyrchu'r patrymau troseddu. Mewn cyferbyniad, dim ond 5 y cant o boblogaethau cyfun yr Alban a Lloegr sy'n byw o fewn 50 milltir i'r ffin rhwng y gwledydd hynny. Er hynny, dim ond un cyfeiriad a geir yn adroddiad Thomas at fater allweddol troseddoldeb trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r unig ateb y mae'n ei argymell yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru, mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at sefydlu gweithio ar y cyd â phartneriaid cyfagos ar draws y ffin trosedd a chyfiawnder anweledig â Lloegr.
Wel, fel y dysgais pan ymwelais â Titan, uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol y gogledd-orllewin, sef cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phum heddlu yng ngogledd-orllewin Lloegr, gwneir holl waith cynllunio at argyfyngau gogledd Cymru gyda gogledd-orllewin Lloegr; mae 95 y cant neu fwy o droseddu yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol, o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithgarwch sylweddol sy'n gweithio ar sail Cymru gyfan; a bod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas gan y prif gwnstabliaid a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru wedi'i 'hanwybyddu' i raddau helaeth—rwy'n dyfynnu—yn adroddiad y comisiwn.
Fel y dywedais yma fis diwethaf, byddai datganoli plismona felly'n wallgofrwydd gweithredol ac yn ynfydrwydd ariannol. Datganoli plismona—[Torri ar draws.]
Gwrandewch ar y dystiolaeth, rhowch y gorau i wneud sylwadau gwirion, tyfwch i fyny, a gwrandewch ar yr arbenigwyr rwy'n eu dyfynnu yma.
Byddai datganoli plismona yn cyflawni'r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn, gan fygwth mynd â mwy o bwerau o ranbarthau Cymru, a chanoli'r rhain yng Nghaerdydd—
Rhaid i'r Aelod ddod i ben yn awr.
[Anghlywadwy.]—y pŵer i gyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid. Rwy'n dod i ben. O ystyried hanes Llywodraeth Lafur Cymru o wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn gynyddol ac yn aml mewn modd bygythiol, mae hwn yn gynnig sy'n codi ofn. [Torri ar draws.] Gallaf eich cyflwyno i'r chwythwyr chwiban sy'n dioddef o ganlyniad i'r hyn rwyf newydd ei ddisgrifio.
Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am ei galw hi. Mae consensws cynyddol y dylai cyfrifoldeb dros yr heddlu gael ei ddatganoli i’r lle hwn, ac nad yw’n gwneud synnwyr yn gyfansoddiadol nac yn ymarferol i’r materion hyn gael eu llywodraethu o rywle arall. Rwy’n credu y dylai heddlua fod yn lleol. Bydd Aelodau yma yn gyfarwydd â’r dadleuon cyfansoddiadol, nawr fod Cymru’n creu ei chyfraith ei hun, mae’n gwneud synnwyr y dylem hefyd fod yn gyfrifol am ei gweithredu, ond mae cyfiawnhad moesegol dros ei ddatganoli hefyd.
Mae’r gair Saesneg 'policing' yn dod o’r Hen Roeg 'polis', sydd ag ystyr ddeublyg, sef y ddinas a’r dinasyddion sy’n byw ynddi. Felly, mae hanes a chysyniad y gair yn cysylltu’r sefydliad a’r bobl. Nid dim ond gweithredu’r gyfraith y mae’r heddlu, nhw hefyd ydy ymgorfforiad y gyfraith ar ein strydoedd. Ac wrth gwrs, mae’r gair Cymraeg 'heddlu' yn golygu 'lluoedd dros hedd'.
Ond, Dirprwy Lywydd, does dim angen edrych yn ôl dros ganrifoedd i weld y cysylltiad rhwng awdurdod a’r bobl trwy’r heddlu, ac fel y mae hwnna, yn anffodus, yn cael ei erydu. Rydym wedi gweld erydu niweidiol dros y blynyddoedd diwethaf o ran ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr heddlu. Er bod y mwyafrif llethol yn bobl dda, yn bobl gydwybodol tu hwnt, mae niwed yn cael ei achosi gan leiafrif a diwylliant sydd angen newid. Nid problem i’r Met yn Llundain yn unig ydy hon, mae’n wir yng Nghymru hefyd. Mae ymchwil gan Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru’r wythnos hon yn dangos bod pobl ddu saith gwaith yn fwy tebygol o wynebu cael eu stopio a'u chwilio gan yr heddlu na phobl wyn.
Mae hyn yn wir am y system gyfiawnder, yn ogystal â’r heddlu. Mae ymchwil flaenorol gan Dr Jones yn dangos bod pobl bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu os ydynt yn ddu, o’i gymharu â phobl wyn. Ac mae dedfrydau ar gyfer pobl ddu, Asiaidd a hil gymysg yn sylweddol uwch ar gyfartaledd nag ar gyfer pobl wyn. Ac mae marwolaethau Mohamud Hassan a Mouayed Bashir, wedi iddynt ddod i gysylltiad â Heddlu De Cymru, yn parhau i fod yn destun cwestiynau difrifol.
Rydym ni wedi cynnal dadleuon yn y Senedd dros y misoedd diwethaf am sbeicio, stelcian, ac mae cwestiynau wedi cael eu codi am gyfraddau dedfrydu gwarthus o isel am dreisio a thrais gwrywaidd yn erbyn menywod. Ydynt, mae’r ffeithiau hyn yn rhan o broblemau ehangach, strwythurol mewn cymdeithas, ond dydyn nhw ddim yn eithriadau—maen nhw’n seiren argyfwng, yn dweud bod rhywbeth mawr o’i le. Wrth ddatganoli heddlua, yn ogystal â’r system gyfiawnder, gallwn ddechrau mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau dwfn o fewn ein cymdeithas. Gallwn gysylltu cyfiawnder a heddlu gydag iechyd, addysg a pholisi cymdeithasol, fel y gwnaeth yr Arglwydd Thomas ei gydnabod. Gallwn edrych o ddifrif am y rhesymau dros droseddu er mwyn ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf, hynny ydy, yn hytrach na pharhau â’r cylch dieflig o gosb a charchar.
Nid oes gan y Senedd hon y gallu i ddatrys y problemau gyda heddlu’r Met, ond mae dadl anatebol o gryf dros ddatganoli y system o bŵer i ddatrys ein problemau ni ein hunain. Drwy weithredu system gyfiawnder fwy cyfiawn, a pholisïau heddlu mwy goleuedig, gallwn adfer ymddiriedaeth yn ein systemau, lleihau trosedd a, thrwy hynny, gwarchod y cyhoedd o niwed gellir ei osgoi.
Dylai’r heddlu weithio o blaid y bobl. Dylen nhw fod yn weladwy, yn dryloyw ac yn atebol. Ond wnaiff hyn ddim digwydd wrth barhau â’r system bresennol sydd yn amlwg ddim yn gweithio. Dylai heddlua fod yn lleol, sy’n golygu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos at y bobl ag sydd yn bosibl.
Diolch i Mike am gyflwyno hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan.
Hoffwn ddechrau gydag ymateb cyflym iawn i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood. Ac rwy'n deall ei angerdd a'r angen inni edrych yn ôl a gweld beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb weithio. Ond rwyf am edrych ymlaen. Ac nid yw hyn, fel y clywsom, yn ymwneud â datganoli troseddu. Mae'n ymwneud ag edrych ar sut yr ymatebwn iddo, a sut y gallwn atal troseddu hefyd. Mae'n ymwneud â ni yng Nghymru yn cymryd pŵer yn ôl a dweud, 'Dyma sut yr ydym am ei wneud yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.' Ac rwyf am ganolbwyntio ar sefyllfa menywod, yn enwedig menywod mewn carchardai.
Rwyf am osod saith ffaith ger eich bron. Mae menywod yn fwy tebygol na charcharorion gwrywaidd o gael dedfryd fer o garchar am droseddau di-drais. Y pellter cyfartalog y caiff menyw ei chadw o'i chartref yw 63 milltir. Mae dros hanner y menywod yn y carchar yn dweud eu bod wedi dioddef trais yn y cartref neu gam-drin emosiynol, corfforol neu rywiol pan oeddent yn blant. Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o hunan-niweidio tra byddant yn y carchar. Ac yn olaf, mae menywod du a lleiafrifol ethnig dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na menywod gwyn.
Lluniwyd y strategaeth troseddwyr benywaidd, a gyhoeddwyd yn 2018, bedair blynedd yn ôl, i sicrhau gwelliannau enfawr i atebion yn y gymuned, lles a charcharau gwell. Ond dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr mai cynnydd cyfyngedig tuag at ei nodau a wnaeth Llywodraeth y DU ers cyhoeddi'r strategaeth yn 2018 am nad oedd wedi blaenoriaethu buddsoddiad yn y gwaith hwn. Ac roedd y cyllid ar gyfer y strategaeth yn llai na hanner yr isafswm o £40 miliwn yr oedd swyddogion wedi amcangyfrif y byddai ei angen, ond daethpwyd o hyd i £150 miliwn i ariannu 500 o leoedd ychwanegol mewn carchardai i fenywod pan oedd ei angen, yn erbyn y cyfeiriad teithio o dan y strategaeth newydd.
Rwyf am inni edrych yn wahanol ar sut yr ydym yn trin menywod yn ein carchardai, ac edrych ar sut yr ydym yn ymdrin â throseddwyr benywaidd. Gallwn wneud yn well yma yng Nghymru; rwy'n gwybod y gallwn. Gadewch inni beidio â charcharu ein menywod; gadewch inni edrych ar ddedfrydau cymunedol, canolfannau menywod, sut yr edrychwn ar ddewisiadau preswyl amgen, gyda rhai o'r rheini gyda phlant, nid yn unig gyda babanod, ac unedau llawer iawn llai o faint. Credaf y dylai gwella'r ffordd y mae'r system cyfiawnder troseddol yn ymateb i anghenion menywod fod yn ganolog i'r alwad honno, a'r alwad i ddatganoli pwerau i Gymru, y gobeithiaf y gall y Gweinidog roi sylw iddi wrth ymateb i'r ddadl heddiw. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint rwy'n cytuno â'r hyn y mae Jane Dodds newydd ei ddweud? A chredaf y bydd llawer o'r hyn y bydd gennyf i'w ddweud yn ategu'r sylwadau hynny.
Pe bai gennym gyfrifoldeb dros blismona, a chyfiawnder troseddol yn wir, yma yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu y byddai gennym system lawer mwy blaengar, a chynhyrchiol yn wir, a fyddai'n gwella bywyd ein cymunedau yma yng Nghymru yn fawr, oherwydd credaf fod model y DU o anfon mwy o bobl i'r carchar fesul y pen o'r boblogaeth na bron unrhyw wlad arall, unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop yn sicr, wedi'i wrthbrofi. Ac fel y gwyddom, mae gan lawer o'r bobl hynny broblemau iechyd meddwl, maent yn anllythrennog, mae ganddynt broblemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau ac maent, mewn sawl ffordd, yn ddioddefwyr eu hunain yn ein cymunedau a'n cymdeithas.
Pe bai gennym fodel gwahanol, a fyddai'n ymwneud llawer mwy ag atal ac atal aildroseddu pan fydd pobl yn dod i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, byddai gennym lai o ddioddefwyr troseddau, byddai gennym lai o bobl wedi'u carcharu ac o fewn y system cyfiawnder troseddol gyda'r holl ofid sy'n dod yn sgil hynny iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd. Mae arnom angen dull mwy goleuedig o weithredu. Byddai o fudd mawr i fenywod, fel y dywedodd Jane, byddai'n ategu ein gwasanaeth ieuenctid yma yng Nghymru, a'n gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol hefyd yn wir. Fe ildiaf i Mark Isherwood.
A ydych yn cydnabod, fel a drafodwyd yma, ac fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol, fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r union bolisi hwnnw mewn perthynas â menywod—na ddylent fod yn y carchar, y dylent fod yn y gymuned—a'u bod yn ariannu cyfres o ganolfannau newydd i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru? Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fis Tachwedd diwethaf yn y Siambr hon fod hynny'n datblygu'n dda a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt i sefydlu'r ganolfan honno.
Credaf ein bod yn clywed llawer o rethreg gan Lywodraeth y DU, Mark, ond ni chafwyd tystiolaeth ymarferol ohoni bob amser. Oes, efallai fod enghreifftiau unigol, ond rydym am weld dull o weithredu cyson ym maes plismona a chyfiawnder troseddol, sy'n symud ymlaen at yr hyn y byddwn yn ei alw'n dir blaengar a goleuedig fel yr ydym eisoes wedi clywed amdano yn y ddadl hon heddiw, a chredaf fod gwir angen hynny.
Rwy'n gwybod gan ddarparwyr gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, er enghraifft, eu bod yn teimlo eu bod yn ceisio gwasanaethu dau feistr, fel petai, yng Nghymru. Mae ganddynt y Swyddfa Gartref, a pholisïau'r Swyddfa Gartref ar gyffuriau anghyfreithlon, er enghraifft, sy'n ymwneud yn helaeth â throseddoli a'r llwybr cyfiawnder troseddol, ac mae ganddynt bolisïau Llywodraeth Cymru, sy'n ymwneud llawer mwy ag iechyd ac atal a thrin. Nid yw'n hawdd gwasanaethu dau feistr yn y ffordd honno, ac rwy'n gwybod bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol hanfodol yn teimlo nad ydynt yn gweithredu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl o ganlyniad i hynny. Mae gennym lawer o gynlluniau. Gwn fod Dyfodol Cadarnhaol, sy'n gweithredu drwy Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth hamdden yng Nghasnewydd, ac sy'n ceisio gweithio gyda phobl ifanc a'u dargyfeirio oddi ar y llwybr cyfiawnder troseddol, yn ei chael hi'n anodd, oherwydd unwaith eto, gweithiant o fewn y system blismona hon nad yw wedi'i datganoli, er eu bod yn cael eu hariannu, yn rhannol o leiaf, gan y comisiynydd heddlu a throseddu. Byddai bywyd yn llawer haws iddynt pe ceid dull o weithredu mwy cyson, integredig a chydgysylltiedig.
Mae llawer o amrywio rhanbarthol mewn plismona ledled Cymru, a'r ffordd y mae comisiynu'n digwydd ar y cyd â'r gwasanaethau iechyd neu beidio. Gallai llawer o hynny gael ei integreiddio'n well ac ni fyddai'n amrywio ledled Cymru pe bai Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phlismona yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Clywsom am wasanaethau cam-drin domestig; dyna enghraifft arall. Credaf fod y ddadl am gydgysylltiad gwell rhwng plismona a gwasanaethau datganoledig pe bai plismona'n cael ei ddatganoli wedi'i hen sefydlu a'i chydnabod, ac mae llawer o waith yn y Senedd yn pwyntio i'r cyfeiriad hwnnw, gan gynnwys gwaith gan ein pwyllgor iechyd, rwy'n credu, yn ôl yn 2019, pan wnaethant argymhellion pwysig am iechyd meddwl mewn plismona ac yn nalfeydd yr heddlu. Gwn fod gwasanaeth yr heddlu yng Ngwent yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ganddynt dîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n ceisio ymdopi â'r straen ddifrifol iawn ar blismona, oherwydd nid yw'r heddlu'n weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ond maent yn aml iawn yn wynebu'r problemau iechyd meddwl hyn wrth gyflawni eu dyletswyddau plismona, ac maent hefyd yn ceisio hyfforddi eu heddlu eu hunain i raddau llawer mwy, yn ogystal â gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd. Credaf fod cydgysylltiad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a phlismona yn un a fyddai'n elwa'n fawr pe baem yn datganoli plismona.
Ddirprwy Lywydd, fel arfer rwy'n gweld bod amser yn brin. A gaf fi ddweud fy mod yn credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod y bydd plismona yng Nghymru yn cael ei ddatganoli yn y pen draw? Mae'n fater o ba bryd y bydd hynny'n digwydd. Ceir cymaint o fanteision pwysig. Gorau po gyntaf y bydd datganoli'n digwydd.
Mae'n bleser mawr cael cymryd rhan yn y ddadl hon a dilyn y cyfraniad hwnnw gan John Griffiths, a hefyd y cyfraniadau gan Jane Dodds ac eraill yn y ddadl hon. Pan gefais gyfrifoldeb dros y maes polisi yn y Llywodraeth ddiwethaf, cefais fy syfrdanu gan ba mor wael y mae'r system cyfiawnder troseddol gyfan yn gwasanaethu Cymru. Ni ellir ei hystyried yn llwyddiant pan fydd menywod, ers inni gael awdurdodaeth ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr, yn cael eu trin mor ofnadwy gan yr holl system honno. Nid oedd gennym gyfleuster diogel i unrhyw un yng ngogledd Cymru tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Ers canrifoedd, câi anghenion pobl gogledd Cymru eu hanwybyddu gan y system cyfiawnder troseddol. Mae anghenion menywod ledled y wlad hon yn dal i gael eu hanwybyddu. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth Mark Isherwood am gynllun diweddaraf Llywodraeth y DU, ond wyddoch chi, maent wedi'u cael ers 1536. Felly, rhaid i chi esgusodi fy sinigiaeth pan glywaf y pethau hyn. Mae hon wedi bod yn daith i ni, ac mae wedi bod yn daith yr ydym wedi cymryd rhan ynddi, weithiau ar gyflymder gwahanol, ond fel arfer—[Torri ar draws.] Iawn, fe ildiaf.
A ydych yn cytuno, yn 1536, fod systemau cosbol pob man ar draws y byd yn trin menywod a dynion yn ofnadwy o fewn y system cyfiawnder troseddol?
Ydw, ond mae'r rhan fwyaf wedi gwella'n sylweddol ers hynny. Yn anffodus, nid yw'r system sy'n gwasanaethu Cymru wedi dod o hyd i ffordd o wasanaethu menywod eto, ac mae angen ichi ystyried hynny wrth wneud eich dadl.
Mae'n bwynt pwysig y mae angen inni ei godi, oherwydd rydym wedi bod ar daith yn y fan hon. Cofiaf eistedd yn swyddfeydd y Llywodraeth yn cael sgyrsiau hir gyda Carl Sargeant ar y materion hyn pan siaradai am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rôl yr heddlu yn ymdrin â chanlyniadau hynny. Rwy'n cofio sut y gwnaethom ddatblygu ein syniadau gyda'n gilydd ar lawer o wahanol faterion, gyda'r heddlu'n rhan o'n cymuned, yn rhan o gyfres ac ystod o wasanaethau sy'n darparu ar gyfer pobl yn ein cymunedau, yn hytrach na rhywbeth dieithr neu ar y tu allan i'n cymunedau.
Rwy'n gobeithio ac yn credu bod plismona, pan gaiff ei ddatganoli—. A chredaf y caiff ei ddatganoli ar ryw adeg. Y cwestiwn i'w ofyn i chi'ch hun yw: faint o bobl sy'n mynd i orfod dioddef cyn i hynny ddigwydd? Pan fyddwn yn datganoli plismona, rwy'n gobeithio y gallwn wneud pethau'n wahanol. Mae'r pwyntiau a wnaeth Rhys ab Owen yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe yn feirniadaeth arall ar y system cyfiawnder troseddol bresennol. Nid ydym yn trin pobl yn iawn yn y wlad hon ac mae angen inni gydnabod hynny. Pan fyddwn yn datganoli plismona, nid y cyfrifoldeb yn unig a gaiff ei ddatganoli, nid darparu pluen arall yn het gwleidydd arall, Mark, ond ffordd o wneud pethau'n wahanol.
Wyddoch chi beth hoffwn i ei weld? Rwyf am weld plismona'n rhan integredig o'n gwasanaethau eraill, ond rwyf hefyd am ei weld yn cael ei ddwyn i gyfrif yn wahanol. Hoffwn weld mwy o rôl i lywodraeth leol, er enghraifft, yn dwyn heddluoedd lleol i gyfrif. Hoffwn ddeall sut y gall pobl leol gael mwy o lais yn y ffordd y caiff plismona ei wneud yn ein cymunedau lleol. Oherwydd nid yw'r model sydd gennym ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer hynny, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn dadlau o ddifrif ei fod yn gwneud hynny.
Roedd canfyddiadau comisiwn Thomas ynghylch y materion hyn yn gwbl ddinistriol. Roeddent yn ddinistriol—o bosibl y gwaith pwysicaf a welsom wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi ers cyflwyno Llywodraeth ddatganoledig dros 20 mlynedd yn ôl. Dylai plismona a'r system cyfiawnder troseddol fod yn ganolog i'r Llywodraeth, ond maent yn gwneud cam â'r wlad y maent i fod i'w gwasanaethu. Ac mae pobl yn gweld hynny wrth gwrs, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn datganoli plismona yn Lloegr—mae'n datganoli plismona yn Lloegr. Mae'n cydnabod grym y ddadl dros ddemocratiaeth ac atebolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau'r heddlu ym mhobman heblaw Cymru.
Cymru yw'r unig ran o'r deyrnas hon lle nad oes rheolaeth leol dros blismona, lle nad oes atebolrwydd lleol am blismona. A dywedir wrthym, a chawn ein gwahodd i gredu bod hynny'n beth da—ei bod yn dda nad oes gennym lefel o'r fath o atebolrwydd democrataidd, ei bod yn dda nad oes gennym lefel o'r fath o integreiddio lleol, ei bod yn dda nad oes gennym unrhyw lefel o gefnogaeth a rheolaeth leol i'r system cyfiawnder troseddol a'r heddlu. Rwyf am ddod â fy sylwadau i ben. Nid wyf yn credu bod hanes yn cefnogi'r achos hwnnw. Nid wyf yn credu bod y ffeithiau'n cynnal y ddadl honno. Ac nid wyf yn credu y bydd y dyfodol yn derbyn y ddadl honno ychwaith.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon gerbron y Senedd, ac am yr holl gyfraniadau y prynhawn yma, sy'n bwysig yng nghyd-destun y mater allweddol hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig.
Mae dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i gomisiwn Thomas gyhoeddi ei adroddiad ar gyfiawnder yng Nghymru. Yr adroddiad hwn yw'r ymarfer mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed i archwilio cyflwr y system gyfiawnder yng Nghymru, ac mae'n nodi angen clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i weithredu. Argymhellodd comisiwn Thomas y dylid pennu polisi plismona a lleihau troseddu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod plismona'n cael ei integreiddio'n gadarn o fewn yr un polisi a fframwaith deddfwriaethol ag iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel y disgrifiwyd heddiw yn y ddadl hon, gyda llawer iawn o enghreifftiau clir. Mae angen i'r gwasanaethau hyn gydweithio'n gyfannol i atal troseddu ac aildroseddu yn y ffordd a ddisgrifiwyd gan Jane Dodds mewn perthynas â menywod o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ac ategodd John Griffiths hyn drwy ddweud mai'r dull ataliol yw'r ffordd gywir ymlaen. Ond argymhellodd comisiwn Thomas mai dim ond drwy ddatganoli plismona y gellir integreiddio polisi a deddfwriaeth. Rydym yn cefnogi hynny'n gryf. Ni allwn gysoni'r ddarpariaeth yn llawn ag anghenion a blaenoriaethau pobl a chymunedau Cymru hyd nes y bydd gennym oruchwyliaeth lawn ar y system gyfiawnder yng Nghymru.
Oes, mae yna elfen gyfansoddiadol i hyn. Mae Cymru mewn sefyllfa lle y gall ddeddfu ond ni all orfodi'r deddfau hynny. Y Senedd yw'r unig Senedd ym myd y gyfraith gyffredin y gwyddom amdani sy'n gallu deddfu heb yr awdurdodaeth i orfodi ei deddfau ei hun. Dyna pam ein bod yn mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ac mae'n parhau i fod yn ymrwymiad gweinidogol cadarn yn ein rhaglen lywodraethu y pleidleisiodd pobl Cymru yn gadarn o'i phlaid y llynedd. Roedd yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, yn atgyfnerthu'r safbwynt hwn. Mae'n cynnwys 20 o gynigion i roi'r undeb ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y cynnig y dylai sefydliadau datganoledig fod yn gyfrifol am blismona a gweinyddu cyfiawnder. Mae angen datganoli plismona er mwyn gwneud y setliad cyfansoddiadol yn gydlynol ac yn ymarferol. Fe ddylai, ac fe fydd datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn digwydd. Mae'n fater o pryd, nid os. Nid teimlad gwleidyddol yn unig yw hyn; caiff cyfiawnder ei gyflawni'n well ar lefel fwy lleol, lle y gellir ei deilwra, ei flaenoriaethu a dylanwadu arno yn ôl angen y gymdeithas. Mae'n galondid fod y comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yn cefnogi'r achos dros ddatganoli. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â hwy a rhanddeiliaid eraill ar y mater hwn. Rwy'n gwerthfawrogi fy nghysylltiad rheolaidd ag arweinyddiaeth gylchredol y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac mae wedi bod yn fuddiol iawn o ran canlyniadau ymarferol.
Rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU safbwynt gwahanol i ni, ac rydym yn gweithio ar gyhoeddiad cyfiawnder a fydd yn amlinellu sut yr ydym eisoes yn galluogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mentrau sy'n atal pobl rhag dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder yn y lle cyntaf, yn ogystal â gweithgarwch sy'n helpu pobl sydd eisoes mewn cysylltiad â'r system i wneud y daith oddi wrthi. Bydd y cyhoeddiad hwn yn atgyfnerthu'r pwynt a wnaed gan gomisiwn Thomas fod plismona'n cydblethu'n sylfaenol â'r gwasanaethau datganoledig sy'n cefnogi pobl ac yn atal troseddu. Bydd hefyd yn tanlinellu ein bod eisoes yn cyflawni ein gweledigaeth unigryw ar gyfer sut y dylai cyfiawnder troseddol weithio yng Nghymru. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym yn cefnogi dull ataliol, cydweithredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i dorri cylchoedd aildroseddu rhwng cenedlaethau. Mae ein gwaith gyda phartneriaid yn ganolog i'r weledigaeth hon. Mae Cymru eisoes yn cydweithio, gan groesi'r ffawtliniau anodd sy'n treiddio trwy ein gwasanaethau a gadwyd yn ôl a'n gwasanaethau a ddatganolwyd. Rydym yn rhannu'r nod cyfunol o sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni'n effeithiol yng Nghymru.
Mae'r setliad datganoli presennol wedi creu llu o heriau diangen i blismona yng Nghymru. Er gwaethaf y rhain, mae'r heddlu yng Nghymru wedi gweithio'n ddiflino, mewn partneriaeth â ni, i oresgyn y diffygion deddfwriaethol. Yn benodol, ni fyddai Llywodraeth Cymru wedi llwyddo yn ei hymateb brys i'r pandemig COVID heb y berthynas waith eithriadol o gryf a chydweithredol â heddluoedd Cymru a chydag asiantaethau cyfiawnder eraill sy'n chwarae rhan hanfodol yn ymgysylltu â phobl a gorfodi ein rheoliadau lle y bo angen. Mae hon yn bartneriaeth sydd wedi cryfhau ymhellach o ganlyniad i'r pandemig, ac mae'r dull partneriaeth hefyd yn amlwg yn ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu yr ydym yn eu cyflawni, ynghyd â chomisiynwyr heddlu a throseddu a heddluoedd yng Nghymru. Mae ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi gweithio mor dda i wella canlyniadau i fenywod a phobl ifanc yn y system gyfiawnder, yn enghraifft berffaith, a byddaf yn cyd-gadeirio'r bwrdd gweithredu cenedlaethol ar gyfer y strategaeth gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn, gan gydweithio i wneud Cymru'n lle mwy diogel i fenywod a merched.
Mae uchelgais ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i fod yn Gymru gwrth-hiliaeth yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd i sicrhau newid pendant. Mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru bob amser wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth, ac rydym yn gweithio'n agos gyda hwy ar eu cynllun cydraddoldeb hiliol i sicrhau cysondeb ar draws y ddau gynllun, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad cryf gan ein partneriaid cyfiawnder i fod yn rhan o'r ateb i ddileu hiliaeth. Ond fel y mae Delyth Jewell wedi nodi, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas â stopio a chwilio, fel y soniodd y Prif Weinidog yn y Siambr ddoe hefyd, yn wirioneddol frawychus. A dyna pam y mae gennym ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru i sicrhau bod elfennau cyfiawnder yn y cynllun cydraddoldeb hiliol yn gadarn ac yn mynd i'r afael â'r dystiolaeth glir o anghyfranoldeb o fewn y system gyfiawnder.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i gadw ein cymuned yn ddiogel a rôl hanfodol plismona yn y gymdogaeth, fel a fynegwyd y prynhawn yma. Dyna pam y mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gynnal cyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a sicrhau cynnydd o 100 yn eu nifer. Unwaith eto, dyma lle y gallwn weld grym a chryfder y swyddogion cymorth cymunedol ym mhob un o'n cymunedau yn ymgysylltu â'r bobl a'r cymunedau ar y rheng flaen, ym mhob dim sy'n effeithio ar fywydau a chymunedau pobl.
Mae bwrdd partneriaeth plismona Cymru, sy'n cyfarfod bob chwarter, ac a gadeirir naill ai gennyf fi neu gan y Prif Weinidog, yn gyfle gwerthfawr i blismona yng Nghymru a Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn i Gymru sy'n torri ar draws agweddau ar wasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli neu heb eu datganoli. Hyd yn oed heb ddatganoli plismona, rydym yn cyflawni cymaint pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'n heddluoedd a'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ond dychmygwch yr hyn y gallem ei gyflawni dros bobl Cymru pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, ac rwy'n eich annog heddiw i fy nghefnogi a derbyn y cynnig hwn. Diolch yn fawr.