Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/02/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd rhai o'r Aelodau—bydd yr holl Aelodau, a dweud y gwir—sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Yr eitem gyntaf sydd gyda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher.

Cyfiawnder Cymdeithasol

1. Pa flaenoriaethau y mae'r Gweinidog yn eu hystyried wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? OQ57577

Mae ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 wedi darparu dros £400 miliwn i’r portffolio cyfiawnder cymdeithasol hyd at 2024-25, gan gynnwys £16.5 miliwn yn ychwanegol mewn amrywiaeth o ymyriadau wedi’u targedu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, hybu a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, gwella canlyniadau i bobl a chyfrannu at Gymru fwy cyfartal.

Diolch, Weinidog, ac wrth gwrs, fel aelod o Blaid Cymru, mae’n destun balchder i weld nifer o bolisïau y mae Plaid Cymru ac eraill wedi bod yn ymgyrchu drostynt i daclo tlodi yn cael eu gweithredu yn y Llywodraeth yn sgil y cytundeb cydweithio.

Yn dilyn ateb y Prif Weinidog i mi mewn perthynas â threchu tlodi a’r rôl y gall y lwfans cynhaliaeth addysg ei chwarae, ar 14 Rhagfyr, nodais ei fod yn amcangyfrif y byddai cynyddu taliadau'r lwfans cynhaliaeth addysg i £45, yn ogystal â chynyddu’r trothwy i’w wneud yn fwy hygyrch, yn costio £10 miliwn yn fras. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y cyfyngiadau ar gyllid Llywodraeth Cymru, ond o ystyried yr argyfwng costau byw a’r ffaith ein bod yn gwybod bod teuluoedd â phlant yn fwy tebygol, yn gyffredinol, o fod yn byw mewn tlodi, a allai’r Gweinidog roi sicrwydd i mi, pan fydd cyllid pellach ar gael, y bydd y Llywodraeth yn edrych o ddifrif ar ehangu’r lwfans cynhaliaeth addysg a chynyddu’r taliadau, hyd yn oed os gwneir hynny drwy ddull graddol? Roedd yn gymorth mawr i mi pan oeddwn yn blentyn a gwn y byddai’n gymorth mwy byth i deuluoedd pe bai’n cael ei ehangu ymhellach.

Diolch yn fawr iawn am godi’r mater hwn. Rydym yn parhau i fod yn wirioneddol falch yng Nghymru o’r gwaith rydym wedi’i wneud i gadw’r lwfans cynhaliaeth addysg, ac yn falch iawn hefyd o’r gwaith rydym yn ei wneud ar y cyd â Phlaid Cymru ar lawer o eitemau yn y cytundeb cydweithio sy’n ymwneud â thlodi, yn enwedig ein haddewid prydau ysgol am ddim, a fydd yn buddsoddi £90 miliwn yn ychwanegol hyd at 2024-25 i gyflawni’r ymrwymiad hwn fesul cam, wrth i awdurdodau lleol allu ehangu eu gwaith yn y maes penodol hwn.

Ar y lwfans cynhaliaeth addysg, yn amlwg, bydd yn rhaid inni barhau i adolygu'r mater hwnnw. Rydym wedi mabwysiadu ymagwedd wahanol at ein cyllideb dros y tair blynedd nesaf, gan ddyrannu'r holl gyllid sydd ar gael ar hyn o bryd, yn y bôn, er mwyn darparu cymaint o gyllid â phosibl ac osgoi'r risg o danwariant yn codi o fewn blynyddoedd ac ati. Felly, rydym wedi mabwysiadu ymagwedd ychydig yn wahanol eleni gan roi llai o hyblygrwydd i ni'n hunain, ond gwn fod Luke Fletcher yn dadlau achos cryf o blaid y lwfans cynhaliaeth addysg, a byddem yn awyddus i'w adolygu’n barhaus, yn amlwg.

Fel y gŵyr y Gweinidog, bydd y gyllideb cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol yn cynyddu o £12.7 miliwn yn 2022-23 i £20.8 miliwn yn 2024-25. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 64 y cant. O’r hyn a ddeallaf, dyma’r prif gynnydd yn y gwariant cyfiawnder cymdeithasol. Nid wyf yn beirniadu dyraniad yr arian hwn i'r gyllideb cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol mewn unrhyw ffordd. Yn sicr, mae effaith economaidd y cyfyngiadau symud wedi gwaethygu llawer o’r anghydraddoldebau y mae pobl eisoes yn eu hwynebu ac mae’n iawn cydnabod y caledi anghymesur y maent yn ei wynebu. Ond mae gennyf ddiddordeb mewn deall ymhellach sut y gellir cynnal cynnydd canrannol mor fawr a sut y gellir ei gynnwys mewn cyllidebau y tu hwnt i 2024-25, gan y gallaf weld problem wirioneddol yn datblygu lle mae sefydliadau'n disgwyl derbyn cyllidebau mwy o faint, ond yn ei chael hi'n anodd yn nes ymlaen pan fyddant yn cael llai o gyllid. Gyda hyn mewn golwg, a allai’r Gweinidog egluro a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal neu ehangu ar y lefel hon o gyllid ar ôl 2024-25 ai peidio? Diolch.

Diolch am godi'r mater hwn. Mewn sawl ffordd, mae'r hyn y gallwn ei wneud y tu hwnt i 2024-25 yn dibynnu ar y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU drwy unrhyw adolygiad cynhwysfawr o wariant yn y dyfodol. Ac mae'n wych ein bod, yn y cyfnod gwariant hwn, wedi cael rhagolwg tair blynedd o wariant. Nid ydym wedi cael hynny ers 2017, felly mae hyn wedi ein galluogi ni a sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus i edrych ymlaen ac i gynllunio’n llawer gwell ar gyfer y blynyddoedd i ddod. A chredaf y bydd yr hyn sy'n digwydd y tu hwnt i 2024-25 yn destun trafodaethau pellach y byddwn yn eu cael yn llawer agosach at y dyddiad hwnnw gyda Llywodraeth y DU, ond yn sicr, rwy'n gobeithio y byddem yn cael setliadau ffafriol y tu hwnt i'r cyfnod gwariant presennol.

13:35
Y Argyfwng Costau Byw

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ57575

Mae cyllidebau awdurdodau lleol a theuluoedd yn teimlo effaith biliau ynni sydd ar eu lefel uchaf erioed, costau bwyd cynyddol, a’r cyfraddau chwyddiant uchaf ers degawd. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Roedd cyllideb ddiwethaf Llywodraeth y DU yn gyfle a gollwyd.

Wel, mae yna tswnami costau byw yn torri o'n cwmpas ni, onid oes e, Weinidog? Ac unwaith eto, mi fydd awdurdodau lleol, ymhlith eraill wrth gwrs, yn nannedd y storm honno wrth iddyn nhw barhau i ddelio ar un llaw â heriau COVID, tra hefyd nawr yn gorfod camu mewn â chefnogaeth ychwanegol wrth i bobl bwyso'n drymach arnyn nhw am eu gwasanaethau, efallai am nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu'r rhent, neu fforddio cynhesu cartrefi, neu fforddio prynu bwyd. Nawr, roedd yr ymateb i'r argyfwng COVID, wrth gwrs, yn un sydyn ac yn un sylweddol iawn, ac fe gafodd awdurdodau lleol Cymru gyllid ychwanegol gennych chi i ymateb i'r pwysau aruthrol hwnnw. Ydych chi'n derbyn ei bod hi'n gwbl bosib y bydd angen yr un math o ymateb i'r argyfwng costau byw, ac, os ydych chi, a allwch chi roi sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn barod i gamu i'r adwy â chefnogaeth ychwanegol i awdurdodau lleol i gwrdd â'r galw ychwanegol fydd arnyn nhw os bydd angen hynny yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?

Diolch am eich cwestiwn. Fel y nodais yn fy ateb i’ch cyd-Aelod, Luke Fletcher, rydym wedi defnyddio bron iawn yr holl gyllid sydd ar gael i ni felly ni fydd cyfleoedd i ailagor cyllidebau yn yr ystyr honno yn y flwyddyn ariannol nesaf, oni cheid cyllideb gan Lywodraeth y DU a fyddai’n darparu cyllid canlyniadol ychwanegol i Gymru. Ond wedi dweud hynny, rydym wedi bod yn wirioneddol ymwybodol o'r pwysau ar awdurdodau lleol a phwysigrwydd y gwasanaethau y maent yn eu darparu. A dyna pam fod y setliad ar gyfer 2022-23, a gyhoeddais ar sail dros dro ym mis Rhagfyr, yn setliad da i lywodraeth leol, gan ddarparu cynnydd o 9.4 y cant yn y cyllid ar sail tebyg am debyg. A chredaf fod hynny'n rhoi sylfaen dda i awdurdodau lleol allu gwasanaethu cymunedau.

Wedi dweud hynny, rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau sy’n wynebu awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a dyna pam fy mod wedi ysgrifennu at arweinwyr heddiw, yn cadarnhau trafodaethau a gafwyd ar lefel swyddogion a swyddogol y bydd £70 miliwn o gyfalaf ar gael i gefnogi awdurdodau lleol gyda’u rhaglenni cyfalaf cyffredinol, gan gynnwys effeithiau ar briffyrdd, er enghraifft. Ac wrth wneud hynny, rwyf wedi ystyried costau cynyddol deunyddiau, er enghraifft, y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu gyda'u prosiectau cyfalaf. Felly, y flwyddyn nesaf, rwy'n credu bod awdurdodau lleol wedi cael setliad da, sy'n eu galluogi i gynllunio, ac rydym hefyd yn ceisio gwneud yr hyn a allwn i gefnogi teuluoedd unigol. Ni chredaf fod modd inni gamu i’r adwy'n gyfan gwbl, gan mai gan Lywodraeth y DU y mae'r grym cyllidol i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw. Ond wedi dweud hynny, lle gallwn weithredu, fe fyddwn yn gweithredu, ac rydych wedi ein gweld yn gwneud hynny'n ddiweddar gyda'r taliad o £200 i aelwydydd cymwys ar gyfer eu biliau ynni.

Ymddiheuriadau ymlaen llaw, gan fy mod am ddilyn yr un thema â Llyr, os caf, ond rwy'n ymwybodol o'ch ateb, Weinidog. Fel y gwyddom, mae’r pandemig wedi cael effaith economaidd sylweddol ar deuluoedd, ac wedi arwain at fwy o bobl sydd angen mynediad at gymorth a chyngor ariannol. Yn aml, cynghorau yw’r man cyswllt cyntaf i bobl, ac maent yn cynnig ffynhonnell bwysig o gymorth a chyngor, ac felly bydd y galw cynyddol am gymorth yn arwain at oblygiadau o ran costau i gynghorau, a bydd y pwysau’n cynyddu, heb os, wrth i unigolion, cymunedau a llawer o grwpiau eraill yn y gymuned ehangach fod angen mwy o gymorth. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni fydd cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru ar gael i awdurdodau lleol oni bai bod y gwasanaethau a ariennir yn cael eu cynllunio a’u darparu ar sail ranbarthol. Felly, Weinidog, tybed pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i lacio’r meini prawf ar gyfer y gwasanaeth cynghori sengl er mwyn caniatáu i gynghorau gael mynediad haws at gyllid fel y gallant ehangu eu gwasanaethau cymorth lleol mewn ffordd lawer cyflymach ac wedi’i thargedu? A beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu cynghorau i ddarparu cymorth ychwanegol i'r rheini sydd ei angen? Diolch.

Diolch am godi mater y gronfa gynghori sengl. Mae’r polisi sy'n sail i’r gronfa honno a’r broses o'i rhoi ar waith yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn cael sgwrs gyda hi ynglŷn â hynny. Ac rwyf hefyd yn cael cyfle rheolaidd i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol, fel y byddwch yn cofio o ychydig yn ôl, a byddaf yn achub ar y cyfle yn un o'r cyfarfodydd hynny sydd i ddod i archwilio eu barn ar y gronfa gynghori sengl a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy o ran eu gallu i gefnogi eu trigolion lleol.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Weinidog, sut y byddech yn diffinio’r gair 'diwygio’?

Diwygio fyddai gwneud newid, ac yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru, yn amlwg, nid ydym am wneud newidiadau er mwyn gwneud newidiadau, ac ni fyddem yn dymuno gwneud diwygiadau anflaengar. Felly, yng nghyd-destun y dreth gyngor, er enghraifft, byddai diwygio'n golygu creu system fwy blaengar.

Hyfryd, a diolch, Weinidog—rydych wedi dyfalu mai cyfres o gwestiynau ar ddiwygio’r dreth gyngor sydd gennyf; roeddwn wedi gobeithio bod hynny'n weddol amlwg. Fel pob Aelod ar draws y Siambr, rwy'n siŵr, mae gennyf gryn dipyn o ddiddordeb yn nogfen y cytundeb cydweithio rydych wedi ymrwymo iddo gyda Phlaid Cymru, ac ynddo, fel y nodoch chi, ar fater diwygio’r dreth gyngor, mae gennych uchelgais i ddiwygio un o’r ffurfiau mwyaf anflaengar ar drethu sy’n effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach o Gymru, ac rydych yn bwriadu ei wneud yn decach. Felly, Weinidog, gan ichi ddisgrifio hyn fel un o’r ffurfiau mwyaf anflaengar ar drethu, pa mor bell y byddwch yn mynd i’w ddiwygio?

Wel, gwneuthum ddatganiad ar 7 Rhagfyr, yn nodi ein hymateb cynnar i'r gwaith a gomisiynwyd gennym dros gyfnod y Senedd ddiwethaf, a gyhoeddwyd yn ein crynodeb o'r canfyddiadau. Roedd hwnnw'n dod â modelau posibl ar gyfer y dyfodol ynghyd, fel yr ymchwiliwyd iddynt gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ac eraill sydd wedi bod yn gwneud gwaith i ni. Felly, ein camau nesaf, fel y nodwyd yn y datganiad hwnnw, fyddai edrych ar nifer o ffrydiau gwaith. Un fyddai gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddiweddaru’r prisiadau yma yng Nghymru. Nid yw hynny wedi digwydd ers peth amser; mewn gwirionedd, mae wedi bodoli ar ei ffurf bresennol—mae system y dreth gyngor wedi bodoli ar ei ffurf bresennol—ers 1993, felly mae gennym lawer o waith dal i fyny i'w wneud ar adnabod gwerth eiddo. Ac mae hynny'n ddechrau da. Bydd hynny’n ein helpu wedyn i ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol—er enghraifft, newid nifer y bandiau, ychwanegu bandiau ar frig ac ar waelod y system i geisio gwneud y system yn decach. A'r bwriad hefyd yw adolygu cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn gallu cefnogi dros 200,000 o deuluoedd, aelwydydd, ledled Cymru mewn perthynas â biliau'r dreth gyngor. Felly, byddwn yn adolygu hynny i sicrhau bod y system newydd yn gydlynol â beth bynnag a ddaw nesaf ar ôl y prisio. A byddwn hefyd yn adolygu gostyngiadau, diystyriadau, eithriadau a phremiymau i sicrhau eu bod hwythau'n berthnasol hefyd i uchelgeisiau polisi heddiw.

Diolch, Weinidog. Mae'n debyg mai'r risg rwy'n cyfeirio ati yw ein bod yn sôn am ddiwygio, ac yn sôn, yn fy marn i, am newid mwy cyffredinol, ac efallai nad diwygio yw rhai o'r pethau rydych newydd eu crybwyll ond mân newidiadau ar yr ymylon. Ac nid yw ailbrisio, gan ychwanegu ychydig o fandiau ychwanegol, o bosibl, at y dreth gyngor, yn ddiwygio go iawn. Ac wrth gwrs, y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru gynnal ailbrisiad yng Nghymru, mae'n bwysig nodi bod un o bob tair aelwyd wedi wynebu cynnydd yn y dreth gyngor roeddent yn ei thalu. Ac mae'n debyg ei bod hefyd yn risg, heb awydd gwirioneddol i ddiwygio, y gallem fod yn sôn am hyn eto ymhen pum, 10 mlynedd arall, siarad am natur anflaengar y dreth gyngor heb wneud unrhyw newid go iawn iddi, dim ond rhyw fân newidiadau yma ac acw. Felly, Weinidog, a allwch roi sicrwydd i ni heddiw fod gennych awydd go iawn i weld newidiadau yn y maes hwn a gweld diwygio go iawn yn digwydd, yn hytrach na mân newidiadau ar yr ymylon yn unig?

Roedd tipyn o bethau yn eich cwestiwn. Ni chredaf mai mân newid ar yr ymylon yw ailbrisio. Hyd yn oed yn yr ailbrisiad diwethaf, fe ddywedoch chi fod biliau traean o'r eiddo wedi cynyddu. Mae hynny'n eithaf dramatig, ac mae'n debyg y byddai biliau nifer cyfatebol o'r eiddo wedi gostwng, a'r system wedi aros yr un peth i rai eraill. Felly, bydd llawer o gwestiynau i ni eu hystyried hyd yn oed yn y cyd-destun hwnnw. Pa fath o gymorth trosiannol, os o gwbl, rydym yn ei roi i’r aelwydydd hynny? Beth yw’r effaith ar y cynghorau eu hunain o ran gallu codi refeniw? A fydd angen inni roi mesurau trosiannol ar waith ar eu cyfer hwy? Felly, dyna gwestiwn mawr arall. Ond yn gyffredinol, nid yw hyn oll yn cau'r drws ar ddiwygio mwy sylfaenol yn y dyfodol. Felly, bydd hyd yn oed ailbrisio, y bandiau newydd ac ati, yn cymryd tymor cyfan y Senedd hon, bron â bod. Mae hynny'n rhannol oherwydd y rheolau sy'n effeithio ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a phryd y gellir gwneud newidiadau, a phryd y gellir eu gweithredu ac ati. Felly, mae hwn yn waith hirdymor, ond nid yw’n cau’r drws ar ddiwygio mwy sylfaenol yn y dyfodol, megis treth gwerth tir. Byddwn yn parhau i archwilio rhywbeth felly. Gallem gael ailbrisiadau treigl. Pan feddyliwn am y data y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn ei gael yn gyson ar brisiau tai, gallem gael ailbrisiadau treigl, a allai wneud pethau’n decach ac yn fwy cyfredol yn y dyfodol. Felly, ochr yn ochr â’r ailbrisio, rydym yn ystyried mathau ychwanegol o ddiwygiadau ar gyfer y dyfodol. Credaf y dylai hwn fod yn waith cydweithredol, ac rwy'n fwy na pharod i gael trafodaethau â chyd-Aelodau ar draws y Senedd a gwrando ar syniadau ar gyfer gwneud y dreth gyngor yn decach.

13:45

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’n debyg fod Llywodraeth San Steffan wedi cyrraedd lefel uwch byth yr wythnos hon yn y ffordd y mae'n gwadu cyllid i Gymru. Efallai na ddylem synnu, gan y gwyddom eisoes fod Llywodraeth y DU yn gwadu ein cyfran o £5 biliwn o gyllid HS2 i Gymru—arian y maent wedi'i roi, gyda llaw, i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon. Mae San Steffan hefyd yn gwadu’r gallu inni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i greu refeniw drwy ddatganoli Ystad y Goron, rhywbeth arall y maent wedi’i roi i ran arall o’r Deyrnas Unedig. Ond fe ddysgom ni, wrth gwrs, yr wythnos hon, er gwaethaf addewid pendant gan Brif Weinidog y DU na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled yn sgil gadael yr UE, fod San Steffan yn pocedu gwerth £1 biliwn o arian a ddylai fod yn dod i Gymru. Felly, a ydych yn cytuno â mi, Weinidog, po fwyaf y bydd Llywodraeth San Steffan yn torri ei haddewidion, y mwyaf y bydd yn chwalu’r Deyrnas Unedig?

Ydw, rwy'n cytuno. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Yn fy marn i, bob tro y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud addewid nad yw’n ei gadw i Gymru ac i bobl Cymru, mae'n mentro chwalu'r Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig fod yn grŵp o genhedloedd lle mae gennym barch cydradd at ein gilydd, lle rydym yn trin ein gilydd yn gyfartal, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw hynny'n golygu na all Llywodraeth y DU wneud newidiadau yn hynny o beth heddiw, a newid ei hymagwedd at y Deyrnas Unedig. Ni chredaf fod Llywodraeth y DU ar ben arall yr M4 yn wirioneddol ymwybodol o'r teimladau yng Nghymru ac yn clywed pa mor ddig yw pobl yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU. Ond wrth gwrs, daw cyfleoedd iddynt glywed hynny’n glir iawn dros y misoedd nesaf.

Ac wrth gwrs, nid yn unig eu bod yn gwadu'r cyllid y mae gennym hawl iddo, ond maent hefyd yn gwadu'r ysgogiadau cyllidol i ni a fyddai'n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yma yng Nghymru, o gyfyngu'n fwriadol ar y pwerau cyllidol sydd gennym i wadu pwerau i ni dros ysgogiadau allweddol eraill fel treth gorfforaeth, treth ar werth a tholl teithwyr awyr. Fel y dywedoch chi mewn ateb blaenorol, nid oes gennym y grym cyllidol. Unwaith eto, mae'n debyg na ddylem synnu, gan nad yw'n gyfrinach fod y Llywodraeth Dorïaidd hon yn San Steffan yn benderfynol nid yn unig o danseilio datganoli, ond o ddadwneud datganoli, a mynd â phwerau yn ôl i San Steffan. Felly, a ydych yn rhannu fy mhryderon fod bwriad Llywodraeth San Steffan i adolygu Deddf Cymru 2014 yn arwydd fod y Torïaid yn bygwth datganoli, ac nad ein harian yn unig y byddant yn ei gymryd gennym, ond ein pwerau hefyd?

Mae cymaint i ymateb iddo yno. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryderon ynglŷn â'r diffyg hyblygrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru. Gwn fod hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi ennyn cytundeb ar draws y Senedd yn y gorffennol, o ran yr angen i Lywodraeth Cymru gael mwy o hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn i gael blwyddyn ariannol lawn i wario arian sy'n aml yn cael ei gyflwyno i ni yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol. Byddai ein gallu i fenthyca mwy yn ei grynswth a mwy yn flynyddol hefyd yn ddefnyddiol o ran rheoli ein cyllid. Felly, mae sawl math o hyblygrwydd rydym am ei weld. Mae ystod eang o bwerau trethu y byddem am eu gweld yn dod i Gymru—fe sonioch chi am doll teithwyr awyr. Mae'r drafferth enfawr rydym yn ei chael hyd yn oed i gael sgwrs iawn yn awr gyda Llywodraeth y DU ynghylch y dreth ar dir gwag yn enghraifft arall o sefyllfa nad yw'n foddhaol ar hyn o bryd. Ac felly, mae'r cyhoeddiadau diweddar ar ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at Lywodraeth Cymru a phwerau Cymru yn peri pryder, ac yn amlwg, dylem fod yn rhoi sylw llawn i'r mater. Unwaith eto, mae hwn yn faes lle bydd y rheini ohonom sy'n rhannu'r farn hon yn awyddus i gydweithio.

Cynnal a Chadw Ffyrdd

3. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gyfrifoldebau awdurdodau lleol dros gynnal a chadw ffyrdd wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y portffolio newid hinsawdd? OQ57574

13:50

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd, sy’n cynrychioli ased o £17 biliwn. O fewn y portffolio newid hinsawdd, rydym yn buddsoddi £0.5 biliwn i gynnal rhwydwaith diogel a dibynadwy. Yn ogystal â hyn, mae’r setliad llywodraeth leol yn darparu bron i £16 biliwn i gefnogi eu cyfrifoldebau yn y meysydd hyn a meysydd eraill.

Diolch. Mae ardaloedd gwledig fel etholaeth fy nghyd-Aelod, Peter Fox, ym Mynwy—a hoffwn ddatgan buddiant fel cynghorydd sir yn sir Fynwy o hyd—yn dueddol o fod â rhwydweithiau ffyrdd mawr iawn y mae angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt, ond er hynny, gwelwn nad yw Llywodraeth Cymru wedi dyrannu unrhyw arian ychwanegol drwy'r grant ffyrdd cydnerth. Os yw Llywodraeth Cymru am barhau â’r agenda i beidio ag adeiladu mwy o ffyrdd, dylid dyrannu cyllid ychwanegol i gynnal a chadw’r ffyrdd presennol a mynd i'r afael ag ôl-groniad y gwaith cynnal a chadw. Mae pob un ohonom yn dymuno gweld Cymru lanach a gwyrddach, ond nid gadael i’n ffyrdd ddadfeilio yw’r ffordd o gyflawni hynny. Canfu arolwg cynnal a chadw ffyrdd awdurdodau lleol blynyddol yr Asphalt Industry Alliance y byddai angen £36.3 miliwn ychwanegol ar awdurdodau priffyrdd pob un o awdurdodau lleol Cymru i atgyweirio ffyrdd ar draws y siroedd. Byddai'n cymryd 10 mlynedd i atgyweirio pob ffordd. Felly, Weinidog, pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod ein ffyrdd yn addas i'r diben yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain a pham nad oes unrhyw arian ychwanegol wedi’i ddyrannu i atgyweirio ein ffyrdd ofnadwy yng Nghymru?

Byddai’r Aelod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ymateb i gwestiwn blaenorol fy mod wedi ysgrifennu heddiw at arweinwyr awdurdodau lleol i gadarnhau £70 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac roedd hynny’n rhannol mewn ymateb i’r trafodaethau a gefais mewn perthynas â'u pryderon ynghylch cynnal a chadw ffyrdd. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd cynnal a chadw ffyrdd, ac rwy’n aml yn rhyfeddu pan glywaf Weinidogion Llywodraeth y DU yn awgrymu bod Cymru’n cael ei gorariannu. Rwyf hyd yn oed yn clywed hynny yn y Siambr hon ynghylch y fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion ac sy’n darparu cyllid i Gymru. Un o’r rhesymau pam fod gennym gyllid ychwanegol yma yng Nghymru yw oherwydd ein patrwm anheddu gwasgaredig. Cefais fy atgoffa pan oedd Laura Anne Jones yn siarad am y ffaith bod 6.7 milltir o ffyrdd ar gyfer pob 1,000 o bobl yng Nghymru a 3.4 milltir yn Lloegr. Felly, mae bron ddwywaith cymaint o ffyrdd fesul y pen o’r boblogaeth i ni eu cynnal yma yng Nghymru nag yn Lloegr. Ac yn amlwg, mae ein poblogaeth wasgaredig yn golygu costau uwch mewn perthynas ag addysg a gwasanaethau eraill. Felly, roeddwn am roi hynny fel enghraifft i ddangos pam fod y fformiwla ariannu'n gweithio fel y mae. Credaf fod cymunedau ledled Cymru ar eu hennill o ganlyniad i’r hyn y cytunodd Mark Drakeford arno pan oedd yn y swydd hon.

Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn wedi gobeithio gofyn cwestiwn atodol i gwestiwn Laura Jones, felly rwy'n ceisio dod o hyd i fy lle iawn. Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o glywed am y cyllid cyfalaf ychwanegol sy’n cael ei ddarparu eleni ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd—

Mae'n ddrwg gennyf, a gaf fi ddatgan fy mod yn gynghorydd sir yn sir y Fflint? Diolch.

Gallwch, gallwch ddatgan, a nawr gallwch ofyn y cwestiwn rydych wedi'i gyflwyno fel cwestiwn 4, er ichi geisio bod yn gyflym a chynnwys eich cwestiwn atodol i gwestiwn 3 hefyd. Fe wnawn ni barhau, a gofynnwch gwestiwn 4, os gwelwch yn dda.

Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid teg i awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru? OQ57558

Rwy’n sicrhau cyllid teg i bob awdurdod lleol yng Nghymru drwy roi blaenoriaeth i lywodraeth leol a gwasanaethau iechyd wrth wneud penderfyniadau ar y gyllideb a thrwy fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg a gynhyrchir ar y cyd â’n partneriaid llywodraeth leol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mater sy'n cael ei ddwyn i fy sylw'n aml yw bod angen mynd i’r afael â’r fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol. Credaf ei fod wedi'i godi yma gryn dipyn o weithiau hefyd. Am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ddadl wedi mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, gydag arweinwyr cynghorau yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru wedyn yn dweud bod angen i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gytuno ar y cyd, ac yna mae ganddynt safbwyntiau gwahanol gan fod rhai'n ennill a rhai'n colli. Ond mae cynghorau’n dal i deimlo effaith cyni cyllidol, ac er bod setliad eleni’n un da, gall yr amrywiant fesul y pen a fesul cyngor fod yn hynod sylweddol, gyda’r bwlch rhwng y cyngor sy'n cael y lefel uchaf o gyllid a’r cyngor sy’n cael y lefel isaf yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Gall yr effaith gronnol olygu bod y llinell sylfaen ar gyfer rhai yn parhau i fod yn isel bob blwyddyn, felly gall y gwahaniaeth rhwng dau gyngor cyfagos fod yn £650 fesul trigolyn a £50 miliwn neu fwy y flwyddyn. Er enghraifft, gall grant cynnal a chadw priffyrdd o £20 miliwn drwy’r fformiwla gyfateb i £1.2 miliwn ar gyfer un awdurdod ac £850,000 i awdurdod arall. Os bydd hyn yn parhau bob blwyddyn mae'r effaith gronnol yn parhau i dyfu hefyd, felly bydd un yn gwneud yn dda tra bo'r llall yn ei chael hi'n anodd. Felly, a allai’r pwyllgor dosbarthu sy’n dod o dan y pwyllgor cyllid ymchwilio i’r fformiwla ariannu wrth symud ymlaen, neu i gael cyllid gwaelodol?

13:55

Diolch i Carolyn Thomas am godi’r pwynt hwn. Credaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain pam y dyfeisiwyd cyllid gwaelodol yn wreiddiol. Y bwriad bob amser oedd iddo fod yn fesur dros dro i liniaru effaith newidiadau negyddol na ellid eu rheoli yng nghyllid awdurdodau mewn blynyddoedd unigol ac nid i leihau ystod y dyraniad rhwng awdurdodau. Rydym wedi gweithio’n galed i wella swm y cyllid a ddarperir yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Fel y soniais yn gynharach, rydym wedi gwneud hynny drwy ddyrannu ymlaen llaw, ar y cam dros dro, i roi gallu i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer y cyfnod llawn o dair blynedd.

Yn amlwg, wrth baratoi’r setliad terfynol, bydd yn rhaid imi roi ystyriaeth drylwyr i’r broses ymgynghori. Ar hyn o bryd, mae’n setliad dros dro a daw’r ymgynghoriad i ben ar 8 Chwefror, felly byddai’n rhaid imi ystyried yr ymatebion i hwnnw. Os yw awdurdodau’n gofyn ar y cyd am gyllid gwaelodol eleni, yna, yn amlwg, byddai’n rhaid iddo fod yn gyllid gwaelodol wedi’i ailddosbarthu, lle byddai'r cyllid yn dod gan awdurdodau eraill uwchlaw’r cyllid gwaelodol a ddewisir. Mae gennyf gyfarfod o'r is-grŵp cyllid ar 9 Chwefror, a byddaf yn sicr yn cael y trafodaethau hynny gydag arweinwyr cynghorau eto i archwilio a ydynt yn dymuno adolygu'r fformiwla ariannu. Mae hynny'n rhywbeth rydym wedi dweud ein bod yn agored i'w wneud, ond byddai'n rhaid iddo ddod fel cais gan lywodraeth leol.

Wrth gwrs, bydd gan bob awdurdod lleol syniadau gwahanol ynglŷn â sut y dylai pethau weithio a pha bethau y dylid rhoi mwy o bwyslais arnynt. Bydd angen ystyried amddifadedd a theneurwydd poblogaeth yn y dyfodol, ac yn amlwg, byddem yn awyddus i gadw'r rheini yn rhan o hyn. Ond byddaf yn cael y drafodaeth honno eto gyda fy nghyd-Aelodau ar 9 Chwefror i drafod eu safbwyntiau. A Lywydd, nid yw Carolyn Thomas byth yn colli cyfle i godi gwaith cynnal a chadw ffyrdd gyda mi.

Ers i fformiwla llywodraeth leol gyfredol Cymru gael ei chyflwyno dros 20 mlynedd yn ôl, mae sir y Fflint wedi cael un o’r setliadau isaf yng Nghymru. Wrth siarad yma ddwy flynedd yn ôl, nodais mai'r un awdurdodau yng ngogledd Cymru unwaith eto oedd pedwar o’r pum awdurdod lleol lle gwelwyd y cynnydd isaf mewn cyllid, gan gynnwys sir y Fflint. Nodais bryd hynny fod talwyr y dreth gyngor yn sir y Fflint yn wynebu cynnydd o 8.1 y cant yn y dreth gyngor, er bod cynghorwyr sir y Fflint wedi lansio ymgyrch, Back the Ask, i dynnu sylw at rwystredigaeth drawsbleidiol ynghylch y cyllid a gânt gan Lywodraeth Cymru, gan arwain at ddirprwyaeth fawr o gynghorwyr trawsbleidiol yn dod yma i lobïo Gweinidogion Llywodraeth Cymru, i alw am adolygu’r fformiwla ariannu.

Ar ôl ichi gyhoeddi'r setliad dros dro ar gyfer 2022-23 ym mis Rhagfyr, beirniadodd arweinydd Llafur sir y Fflint y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo faint o arian y maent yn ei dderbyn i ddarparu gwasanaethau wrth iddynt frwydro i fantoli eu cyfrifon. Maent yn cael cynnydd o 9.2 y cant, ond mae hynny’n dal i olygu bod y sir yn drydydd o’r gwaelod o blith 22 awdurdod lleol Cymru o ran y swm y maent yn ei dderbyn fesul y pen yn yr ardal, sy'n golygu bod lefelau cronfeydd wrth gefn y cyngor ymhlith yr isaf yng Nghymru, a heb y glustog sydd gan awdurdodau lleol eraill. Felly, pa bryd y byddwch yn rhoi'r gorau i guddio y tu ôl i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—bydd fformiwla decach yn golygu collwyr yn ogystal ag enillwyr, ac nid yw tyrcïod yn pleidleisio o blaid y Nadolig—a chydnabod bod y fformiwla ariannu 22 oed wedi dyddio a bod taer angen ei hadolygu'n annibynnol?

Hoffwn atgoffa Mark Isherwood mai’r cynnydd cyfartalog ledled Cymru ar gyfer y setliad llywodraeth leol y flwyddyn nesaf yw 9.4 y cant a bod sir y Fflint yn cael cynnydd o 9.2 y cant, felly nid yw’n bell iawn oddi ar y cyfartaledd.

Gwariant ar Ddeddfwriaeth

5. Sut mae'r Gweinidog yn monitro gwerth am arian ac effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth? OQ57544

Telir cost deddfwriaeth o ddyraniadau cyllidebau portffolio, ac mae Gweinidogion yn ystyried costau wrth flaenoriaethu gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol. Pan fydd Gweinidog yn cyflwyno Bil, caiff ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso’r polisi ei nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.

Diolch. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwy’n gwrthwynebu cyflwyno deddfwriaeth ddiangen yn llwyr—Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 a Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, i enwi ond dwy. Ar yr ail, nododd y memorandwm esboniadol y byddai’r opsiwn a ffefrir i ddeddfu i ddileu amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru yn costio cyfanswm o rhwng £6 miliwn ac £8 miliwn i’n trethdalwyr. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £1,650,098. Daw Adran 1 o’r Ddeddf hon i rym ym mis Mawrth. Nawr, ers i'r ddeddfwriaeth gael Cydsyniad Brenhinol, mae ein gwlad wedi cael ei tharo gan COVID-19. Mae’r effaith ar iechyd meddwl plant yn unig wedi bod yn ddifrifol, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi gorfod codi ei llais ynglŷn â'r ffaith nad oes lleoedd addas i bobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl. Felly, mae'n rhaid inni flaenoriaethu cymorth i'r plant sydd, heb unrhyw fai arnynt eu hunain, yn dioddef oherwydd yr ymateb i'r pandemig. O ystyried y pryderon nad oes unrhyw ganolfannau argyfwng iechyd meddwl pwrpasol yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc, a’r ffaith eich bod wedi gwario £1.6 miliwn hyd yn hyn—yn amlwg, mae mwy o arian wedi’i ddyrannu ar gyfer y Bil y soniais amdano—a fyddech yn fodlon cydweithredu â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i adolygu effeithiolrwydd y gwariant ar ddileu amddiffyniad cosb resymol, a bod yn eithaf radical efallai ac ystyried dargyfeirio rhywfaint o’r cyllid hwnnw i wasanaethau iechyd meddwl rheng flaen i bobl ifanc? Diolch.

14:00

Wel, nid wyf am ymddiheuro am fuddsoddi i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol a'r gwaith sydd ei angen ochr yn ochr â hynny, a gwn—. Mae'n ymddangos bod gan Janet Finch-Saunders a minnau safbwyntiau gwahanol ar yr hyn sy'n ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r hyn nad yw'n ddeddfwriaeth angenrheidiol, ond mewn perthynas â'r gyllideb ar gyfer y cyfnod sydd i ddod, rydym wedi dyrannu £100 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl, a bydd rhywfaint o hwnnw'n ymgais i gryfhau ein dull ysgol gyfan o sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. Felly, mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth hon, a byddwch yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gyllideb a gyhoeddwyd gennym cyn y Nadolig.

Weinidog, nid wyf yn credu bod angen ichi wrando ar unrhyw bregethau gan y blaid Dorïaidd ynghylch gwastraffu arian; maent yn arbenigwyr ar wneud hynny. Ond Weinidog, fel deddfwrfa ifanc, gyda thua 50 o Ddeddfau ar y llyfr statud, mae'r Senedd mewn sefyllfa wych i sicrhau bod ei holl Ddeddfau yn effeithlon, yn addas i'r diben, ac yn cyflawni'r diben a fwriadwyd. A all y Gweinidog ddarparu gwybodaeth am unrhyw adolygiadau ôl-weithredu o ddeddfwriaeth yn ddiweddar, ac a oedd y costau a'r arbedion a ragwelwyd ar gyfer y Deddfau hynny yn gywir mewn gwirionedd? Diolch yn fawr.

Gallaf. Cyfrifoldeb pob Gweinidog portffolio fydd yr adolygiadau hynny, ond mae gennyf rai yn fy mhortffolio i a fydd yn berthnasol yma. Er enghraifft, rwyf newydd gyhoeddi adolygiad o'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hynny wedi'i osod mewn deddfwriaeth, y dylid cynnal adolygiad o fewn pum mlynedd o weithrediad y Ddeddf, felly rydym yn sefydlu'r comisiwn ar gyfer y gwaith hwnnw ar hyn o bryd. Rwyf wedi cysylltu â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cwmpas y gwaith, a byddem yn ceisio gwneud hynny dros y cyfnod sydd i ddod, gyda'r bwriad o'i gyhoeddi yn hydref 2023. Felly, dyna enghraifft o ble y mae wedi'i nodi mewn deddfwriaeth fod yn rhaid inni gynnal yr adolygiadau hyn, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny.

Dylai'r Senedd fod â diddordeb gwirioneddol ym maint adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth a'r modd o'u targedu'n effeithiol, oherwydd nodwn y cynnydd digynsail yn y defnydd o'r broses cydsyniad deddfwriaethol, lle mae adnoddau Llywodraeth Cymru yn cael eu hailgyfeirio tuag at San Steffan yn ychwanegol at yr hyn a geir yma yng Nghymru; yr adnodd ychwanegol sydd ei angen i ymateb i ddeddfwriaeth o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n parhau; a'r adnodd ychwanegol sydd ei angen i ymateb i ddeddfwriaeth frys mewn ymateb i'r coronafeirws; yn ogystal, rhaid imi ddweud, â'r hyn y gellir ei ystyried yn fusnes rheolaidd deddfwriaeth 'a wnaed yng Nghymru' yn y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio a'r rheoliadau rheolaidd. Felly, Weinidog: a ydych yn credu bod unrhyw ddadansoddiad cymharol defnyddiol i'w wneud rhwng yr adnoddau a roddir tuag at ddeddfwriaeth, drafftio a pholisi yn San Steffan, neu'n wir yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, o'i gymharu â'r hyn a ddyrennir yma yng Nghymru? Ac a allai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw'n teimlo bod budd i ddadansoddiad mwy helaeth a mwy manwl o sut a ble y dyrennir adnoddau deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru? Ac efallai y gallai hi, a Gweinidogion eraill, a'r Cwnsler Cyffredinol, ein cynorthwyo yn y dadansoddiad hwnnw.

Dyna gwestiwn diddorol. Mae'n un y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda chyd-Weinidogion. Mae gennym fwrdd o Weinidogion sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth o fewn eu portffolios sy'n dod at ei gilydd yn aml iawn i drafod cynnydd deddfwriaeth, a chredaf y gallai hwnnw fod yn fforwm defnyddiol i gael rhai o'r trafodaethau hynny. Felly, mae'n gynnig diddorol a byddaf yn sicr yn ei ystyried ymhellach ac yn ei drafod gyda chyd-Weinidogion. 

14:05
Ardoll Twristiaeth

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll twristiaeth? OQ57569

Gwnaf. Mae'r gwaith o ddatblygu polisi wedi dechrau ac mae trafodaethau ar y gweill gydag awdurdodau lleol. Cynhelir ymgynghoriad yn yr hydref eleni, i alluogi'r holl safbwyntiau i gael eu hystyried ar weithrediad ardoll ymwelwyr.

Diolch, Weinidog. Gallwn ddeall pe baech wedi cael llond bol o gwestiynau am ardoll twristiaeth bosibl, yn enwedig fel y dywedoch chi, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad sy'n dechrau'r hydref hwn. Fodd bynnag, mae'r mater yn parhau i gael ei wleidyddoli a'i ddefnyddio i ledaenu gwybodaeth anghywir yn fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Byddaf yn cefnogi fy etholwyr beth bynnag a benderfynant pan gânt leisio eu barn ar ardoll bosibl, ond rwyf am i'r bobl yn fy nghymuned allu gwneud penderfyniad yn seiliedig ar ffeithiau a thegwch. Mae'r pandemig wedi rhoi cyfle i gryfhau economïau twristiaeth lleol, megis Porthcawl yn fy etholaeth i, ac eto ni allwn anwybyddu'r ffaith bod degawd neu fwy bellach o gyni San Steffan wedi arwain at gau toiledau cyhoeddus, amgueddfeydd ac amwynderau lleol a bod angen inni groesawu twristiaid heb roi pwysau ychwanegol ar y trigolion a'r busnesau. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y gallai ardoll twristiaeth roi cyfle i'r gymuned fuddsoddi mewn atyniadau i dwristiaid ac amwynderau cyhoeddus heb roi baich ar y trigolion i dalu'r bil?

Ydw, yn bendant. Felly, i'r awdurdodau sy'n penderfynu yr hoffent godi ardoll ymwelwyr, yn amlwg bydd yn rhoi refeniw ychwanegol iddynt i'w cymunedau fuddsoddi yn y pethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, a chredaf y bydd cyfraniad cymesur a theg gan ymwelwyr yn cefnogi'r ymagwedd fwy cynaliadwy tuag at dwristiaeth sydd gennym yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae twristiaid yn defnyddio seilwaith, maent yn defnyddio gwasanaethau ac yn y blaen, felly credaf fod gwneud cyfraniad tuag at gynnal a chadw ac ehangu'r rheini yn beth teg i'w wneud. Ac mewn gwirionedd, nid yw'r hyn rydym yn ei hyrwyddo yn radical hyd yn oed; mae'n gwbl normal mewn sawl rhan o'r byd, ac yn Ewrop, mae peidio â chael unrhyw ardollau twristiaeth nac ardollau ymwelwyr ar draws y Deyrnas Unedig yn ein gwneud yn eithriadau mewn perthynas â'r agenda hon mewn gwirionedd. Rydym ni, fel y DU, ar ei hôl hi gyda hyn, ond mae Cymru'n awyddus iawn i groesawu'r cyfleoedd sydd yma.

Credaf fod y ffaith eich bod wedi cyfeirio at ymgynghori yn bwysig iawn. Felly, rydym wedi gwneud rhywfaint o waith ymgysylltu cychwynnol ag awdurdodau lleol, ond y bwriad yw ymgysylltu'n eang yn awr, wrth inni anelu tuag at yr hydref eleni, i sicrhau ein bod yn clywed lleisiau'r sector twristiaeth, yn enwedig darpariaethau llety ac yn y blaen, fel y gallwn sicrhau bod yr hyn a gynigiwn i awdurdodau lleol fel offeryn yn un sy'n ddefnyddiol ac yn gymesur.

Diolch, Lywydd, ac rwyf am ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel cynghorydd presennol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn syndod i mi weld y Gweinidog, sy'n cynrychioli etholaeth Gŵyr, a Sarah Murphy, a gyflwynodd y cwestiwn hwn, y mae ei hetholaeth yn cynnwys Porthcawl, ill dwy yn dadlau dros dreth twristiaeth heddiw. Gan fy mod yn Aelod rhanbarthol dros Orllewin De Cymru, sy'n cynrychioli'r ddwy gymuned hynny, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith negyddol y byddai treth fel honno'n ei chael ar ymwelwyr â chymunedau fel Porthcawl, y Mwmbwls a Gŵyr. Nid yw busnesau yn yr ardaloedd hynny'n ei gefnogi na'r trigolion lleol ychwaith. Ond un o'r prif ddadleuon a glywais gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac eraill sy'n cefnogi treth twristiaeth yw y dylid diogelu unrhyw arian a godir wedyn i hybu gwariant twristiaeth yn eu hardaloedd lleol, a nodaf, o ateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Rhagfyr gan fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, eich bod chi wedi dweud, Weinidog:

'Bydd arian a godir gan yr ardoll yn cael ei fuddsoddi'n ôl yn y gwasanaethau a'r darpariaethau lleol sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant yng Nghymru.'

Ond ar hyn o bryd, nid ydym wedi gweld unrhyw beth a fyddai'n atal cynghorau rhag lleihau cyllidebau twristiaeth presennol ar ôl cyflwyno treth twristiaeth ychwaith, felly pa fecanweithiau rydych chi'n eu hystyried ar hyn o bryd i sicrhau nad yw cynghorau'n defnyddio'r incwm a gynhyrchir gan dreth twristiaeth er mwyn lleihau'r gwariant a wnânt ar hyn o bryd ar dwristiaeth?

Credaf fod dechrau'r cwestiwn wedi'i osod ar sail nad yw'r dystiolaeth yn ei chefnogi. Nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiad fod ardollau twristiaeth yn rhwystr mawr i dwristiaeth. Pam y byddai gan y rhan fwyaf o ogledd Ewrop ardollau twristiaeth pe baent mor niweidiol? Pam y byddai gan rai o fannau twristaidd mwyaf poblogaidd y byd ardollau twristiaeth pe na baent yn llwyddo i gynnal twristiaeth gynaliadwy yn y mannau hynny?

Felly, mae'r cwestiwn manwl iawn a ofynnwch yn un a fydd yn dilyn o'r ymgynghoriad, a hynny'n briodol. Mae llawer eto i'w benderfynu ynglŷn â beth yn union a fydd yn digwydd i'r cyllid a godir a pha fathau'n union o lety a gaiff eu cynnwys ac yn y blaen. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn nodi ein cynlluniau bras, a bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i edrych yn fanylach ar y ffordd y cynlluniwn ardoll bosibl yn y dyfodol. Bydd digon o gyfleoedd i gyd-Aelodau ar draws y Senedd ymwneud â'r broses ymgynghori, fel y bydd i fusnesau twristiaeth ym mhob un o'r cymunedau y cyfeirioch chi atynt.

14:10
Cefnogi Busnesau

7. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi busnesau i ddelio ag effaith COVID-19 wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi? OQ57550

Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi defnyddio pob sbardun at ein defnydd i gefnogi busnesau Cymru, gan ddarparu mwy na £2.8 biliwn a diogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gefnogi'r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, gan gynnwys drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Diolch, Weinidog. Manteisiodd llawer o fusnesau yng Nghwm Cynon ar y gronfa adfer ar ôl COVID i'w helpu i wneud addasiadau i allu gweithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyflawni ymyriadau eraill mewn ymateb i'r coronafeirws—busnesau fel Cheryl's Fruit and Veg yn Abercynon, caffi marchnad Aberdâr, Temple Bar yn Aberaman a Penaluna's Famous Fish and Chips yn Hirwaun. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ariannu a gweinyddu'r cynllun. Ond a allech amlinellu sut rydych yn adeiladu cymorth tebyg i mewn i'r gyllideb fel y gall busnesau ffynnu yn ogystal â goroesi wrth inni symud ymlaen?

Diolch yn fawr am hynny, a hefyd am roi cyfle imi, fel chithau, i adleisio ein diolch i RhCT a chynghorau eraill ledled Cymru a weithiodd mor galed i gael y cyllid hwnnw i gyfrifon banc busnesau mor gyflym ac mor ddidrafferth â phosibl. Credaf eu bod wedi gwneud gwaith anhygoel, yn enwedig ochr yn ochr â'r holl bethau eraill y gofynnwn iddynt eu gwneud ar daliadau cymorth hunanynysu a'r holl waith y gofynnwn iddynt ei wneud mewn perthynas â'r taliad o £200 i aelwydydd sy'n wynebu tlodi tanwydd ac yn y blaen. Felly, maent wedi gwneud gwaith hollol anhygoel ac rwy'n falch ein bod yn cael y cyfle hwn y prynhawn yma i ddweud 'diolch' am hynny.

Ar y gyllideb, credaf fod y gwaith a wnawn i sicrhau y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn cael rhyddhad ardrethi o 50 y cant y flwyddyn nesaf yn bwysig. Mae hefyd yn werth cofnodi ein bod wedi buddsoddi £20 miliwn yn fwy yn hynny nag a gawsom mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Mae hynny oherwydd natur ein sylfaen drethu ar gyfer busnesau yma yng Nghymru, ond rydym wedi bod yn falch o wneud hynny i sicrhau nad oes neb ar eu colled. Ac rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i fuddsoddi mewn cymunedau drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Felly, bydd honno'n darparu £136 miliwn i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol trefi ledled Cymru ymhellach, a chredaf y bydd honno'n ymyrraeth bwysig iawn. Gwn fod enghreifftiau gwych yn etholaeth Vikki Howells, gan gynnwys cyllid tuag at adnewyddu adeilad neuadd y dref Aberpennar, sy'n bwysig iawn, yn ogystal ag ailddatblygu hen fanc Barclays yn Aberpennar hefyd. Felly, ceir llawer o enghreifftiau da, yn enwedig, rwy'n credu, yn etholaeth Vikki Howells, a gwn ei bod yn dadlau'n gryf dros fusnesau yn ei hardal.

Cyngor Sir Ynys Môn

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2022-23? OQ57554

Gwnaf. Ar gyfer 2022-23, bydd Ynys Môn yn cael cynnydd o 9.2 y cant yn ei dyraniadau setliad craidd. Dyma gynnydd mwyaf yr awdurdod ers dechrau datganoli. Yn ogystal, bydd yr awdurdod yn derbyn ei gyfran o £1.1 biliwn o grantiau refeniw penodol.

Diolch am yr ateb yna. Y peth cyntaf i'w ddweud ydy mor falch ydw i bod sefyllfa gyllidol Cyngor Sir Ynys Môn wedi setlo mor dda dan arweinyddiaeth Plaid Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r dreth gyngor ymhlith yr isaf yng Nghymru. Un ardal o risg sy'n peri pryder ydy cyflogau athrawon. Rŵan, yn y gorffennol, mae'r Llywodraeth wedi helpu cynghorau efo'r costau hynny, ond, fel dwi'n ei deall, mae'r Llywodraeth rŵan yn pasio'r risg yna ymlaen i awdurdodau lleol, a hynny ymysg nifer o gyfrifoldebau eraill sy'n cael eu trosglwyddo yn y setliad—digartrefedd yn un ohonyn nhw; cyflog byw gwirioneddol i ofalwyr hefyd. Ond mae'r risg yma o gwmpas cyflogau athrawon yn un gwirioneddol. Allwn ni gael sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn barod i gamu i mewn i roi cymorth ariannol pan fydd setliad terfynol athrawon wedi cael ei benderfynu, os ydy hynny, mewn difrif, yn bygwth y gwasanaethau hanfodol eraill mae cynghorau'n gorfod eu delifro?

14:15

Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o allu darparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol mewn perthynas â'r pwysau sy'n gysylltiedig â chyflogau athrawon, ond mewn gwirionedd, nid yw'r ffordd honno o weithio wedi bod yn un foddhaol. Ac mae'n golygu, pan edrychwch ar—. Wel, rwyf wedi dweud fwy nag unwaith yn ystod y cwestiynau heddiw ein bod wedi dyrannu'r holl arian sydd ar gael i ni. Felly, ni fydd yn bosibl i ni fynd yn ôl a dod o hyd i gyllid ychwanegol mewn perthynas â thâl athrawon ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn ar y pwynt hwnnw a phwyntiau eraill yn fy llythyr at arweinwyr llywodraeth leol y bydd angen i'r setliad ariannu da o 9.4 y cant ledled Cymru gynnwys cyflogau athrawon yn awr. Felly, ni fyddwn yn gallu cael yr un trafodaethau yn y flwyddyn sydd i ddod ag a gawsom yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, oherwydd ni fydd y cyllid ar gael. A chredaf fod y setliad da a ddarparwyd gennym wedi cael croeso cynnes, ac rydym wedi bod yn agored iawn gydag awdurdodau lleol ynglŷn â'r hyn y disgwyliwn iddynt allu ei gyflawni o ganlyniad.

Seilwaith Trafnidiaeth

9. Pa ystyriaeth a roddwyd i wella seilwaith trafnidiaeth wrth bennu cyllideb y portffolio newid hinsawdd? OQ57548

Fel rhan o'r buddsoddiadau trafnidiaeth sylweddol rydym yn eu gwneud, rydym wedi darparu £1.6 biliwn o gyfalaf i gyflawni gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth dros y tair blynedd nesaf. Mae ein strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru newydd hefyd yn adlewyrchu ein dull o wella trafnidiaeth ledled Cymru a nodir yn 'Llwybr Newydd'.

Diolch, Weinidog. Ym mis Mehefin y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai'r holl brosiectau adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael eu rhewi. O ganlyniad, cafodd prosiect ffordd osgoi Llanbedr ei ganslo ar ôl gwario bron i £1.7 miliwn arno. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd yn gofyn faint o arian a wariwyd ar brosiectau ffyrdd a oedd wedi'u hatal yn sgil yr adolygiad. Yn yr ateb a gefais, dywedodd y Dirprwy Weinidog na allai ateb hyd nes y byddai'r panel adolygu ffyrdd, a sefydlwyd ym mis Medi, wedi llunio'i adroddiad cychwynnol, a oedd i fod i gael ei gyhoeddi o fewn tri mis i'w sefydlu. Yr wythnos diwethaf, mewn ateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, dywedodd y Dirprwy Weinidog: 

'Rydym yn gobeithio y caiff adroddiad y panel adolygu ffyrdd ei gyhoeddi yn yr haf'.

Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, gan eich bod yn gyfrifol am reoli adnoddau Llywodraeth Cymru, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Dirprwy Weinidog ar y gwastraff arian posibl ar brosiectau ffyrdd sydd bellach wedi'u canslo?

Nid ydym wedi canslo prosiectau; rydym yn gohirio prosiectau fel y gellir eu hadolygu. Ac rwy'n credu ei bod yn iawn fod y panel adolygu ffyrdd yn cael gwneud ei waith. Hynny yw, mae'n amlwg ein bod yn dal i gydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth yn ein cyllideb, oherwydd dros y tair blynedd nesaf, rydym yn buddsoddi'n agos at £1.4 biliwn ac mae hynny'n cynnwys £0.75 biliwn ar gyfer darpariaeth trenau a bysiau, gan gynnwys cyflawni camau nesaf metro de Cymru. Felly, rydym yn gweld symud tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid wyf yn credu bod hynny'n beth drwg pan fyddwn yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu.

Ond fel y dywedwch, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am y rhaglen benodol hon, a gwn y bydd ganddo fwy i'w ddweud am waith y panel adolygu ffyrdd maes o law pan fyddant yn cyflwyno eu hadroddiad.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.

Iechyd Gwenyn

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar effaith plaladdwyr ar iechyd gwenyn? OQ57566

Member
Lesley Griffiths 14:18:57
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Polisi Llywodraeth Cymru yw lleihau i'r lefel isaf sy'n bosibl effaith defnyddio plaladdwyr ar bobl, yr amgylchedd a bywyd gwyllt, gan gynnwys gwenyn, tra'n sicrhau bod plâu, clefydau a chwyn yn cael eu rheoli'n effeithiol.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r effaith y mae plaladdwyr yn ei chael ar ein pryfed peillio yn bryder gwirioneddol i lawer o fy etholwyr. Mae rôl fawr gan ffermio ffrwythau i lawer yn Nyffryn Clwyd, gan gynnwys eirin Dinbych, y soniaf amdanynt yn aml, a heb wenyn a phryfed peillio eraill, ni fyddai gennym berllannau ffrwythau. Er bod llawer, gan gynnwys yr awdurdodau lleol—ac a gaf fi ddatgan buddiant fel aelod presennol o Gyngor Sir Ddinbych—yn cymryd camau i wneud yr ardal yn gyfeillgar i wenyn, ni waeth faint o flodau gwyllt a geir os yw'r gwenyn yn cael eu lladd gan gemegion. Felly, Weinidog, nid ffermwyr yn unig sy'n defnyddio plaladdwyr, mae llawer o berchnogion cartrefi hefyd yn gwneud hynny. Yn ogystal â'r camau rydych eisoes wedi'u hamlinellu, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i godi ymwybyddiaeth o'r broblem, ac a wnewch chi roi cyhoeddusrwydd i ddewisiadau amgen yn lle plaladdwyr cemegol er mwyn sicrhau bod gwenyn a pherllannau'n ffynnu yn Nyffryn Clwyd ac ar draws Cymru?

14:20

Diolch. Credaf eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn ac fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i hybu'r defnydd o'n dulliau integredig ar gyfer rheoli plâu er mwyn lleihau'r defnydd o blaladdwyr cemegol. Felly, rydym yn hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur, atebion tocsigedd isel a thechnolegau manwl, a dyma'r unig bethau a fydd â gallu i wella bioamrywiaeth, a bydd dulliau integredig ar gyfer rheoli plâu hefyd yn rhan bwysig iawn o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond fel y dywedwch, mae pobl heblaw ffermwyr yn defnyddio cemegau yn y ffordd a nodwch, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rheolwyr tir ac unigolion eraill sy'n defnyddio plaladdwyr i fabwysiadu technegau a thechnolegau sy'n darparu ffyrdd amgen o reoli plâu, clefydau a chwyn.

Gwasanaethau Fasgiwlar

2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wasanaethau fasgiwlar i gleifion o Arfon a phob rhan o’r gogledd ers ad-drefnu’r ddarpariaeth? OQ57541

Rwyf wedi trafod gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol o ad-drefnu darpariaeth y gwasanaethau fasgwlaidd, y pryderon parhaus a'r gwaith y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei wneud i fynd i'r afael ag argymhellion a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Mae yna dystiolaeth bendant a chynyddol fod ad-drefnu'r gwasanaethau fasgwlar wedi arwain at ddirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl y gogledd. Mi fyddai wedi gwneud synnwyr i leoli'r hwb newydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor—dyna fyddai ad-drefnu synhwyrol wedi'i wneud, sef adeiladu ar yr uned o safon ardderchog oedd yno. Fel rydych chi'n ei ddweud, mae yna adolygiad arall ar y gweill, ond mae hwn yn cael ei gynnal gan yr un un corff sydd wedi argymell y model ad-drefniant gwallus yn y lle cyntaf, ac felly, dydy hynny ddim yn ennyn llawer o hyder. A wnewch chi felly, fel y Gweinidog sy'n cynrychioli'r gogledd, ofyn i'r Gweinidog iechyd ymyrryd yn uniongyrchol yn y sefyllfa a chynnal ymchwiliad gweinidogol ddaw ag argymhellion clir gerbron er mwyn tawelu ofnau cynyddol fy etholwyr i yn Arfon?

Wel, rydym yn aros, wrth gwrs, am ran dau o adolygiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon. Deallaf fod y bwrdd iechyd wedi'i gael yn ddiweddar ar ffurf ddrafft, ac rydym yn disgwyl iddo gael ei gyhoeddi'n fuan. Rwy'n credu ei bod yn werth aros am yr adolygiad hwnnw. Credaf fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud yn glir iawn ei bod yn disgwyl i welliannau gael eu gwneud ac i'r gwasanaeth hwn fodloni'r disgwyliadau, ac y bydd yn wasanaeth blaenllaw yng Nghymru. Felly, credaf y byddai'n werth aros am yr adroddiad a gwn fod y Gweinidog yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn wrth gwrs.

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac fel y gwyddom, codwyd y mater gyda'r Prif Weinidog ddoe hefyd fel rhan o gwestiynau'r Prif Weinidog, ac mae pryder trawsbleidiol yn ei gylch yn y Siambr. Yn ei ymateb ddoe, amlinellodd y Prif Weinidog na fyddai'n cefnogi ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd yr amser y gallai ei gymryd, a byddai'n ystyried na fyddai hynny er budd gorau cleifion yng ngogledd Cymru, sydd efallai'n sylw teg. Ond yng ngoleuni hyn, Weinidog, ac yn eich rôl fel Gweinidog gogledd Cymru, a chlywed yr hyn rydych newydd ei grybwyll ynghylch aros am ganlyniadau gwaith pellach, a fyddech yn ystyried rhoi camau brys ar waith i weld y mater hwn yn cael ei ddatrys ac i gleifion yng ngogledd Cymru gael y driniaeth orau bosibl? A oes unrhyw beth y gallwch ei wneud ar frys i ddatrys y mater hwn?

Wel, fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Siân Gwenllian, credaf ein bod yn disgwyl y bydd yr adroddiad, ail ran yr adolygiad, yn cael ei gyhoeddi'n fuan, ac wrth ddweud 'yn fuan', yr hyn a olygaf yw'r wythnos hon hyd yn oed. Felly, credaf ei bod yn iawn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol aros i'r adroddiad hwnnw ddod i law, ac yna, yn amlwg, yn fy rôl fel Gweinidog gogledd Cymru, gallwn ofyn am gyfarfod brys gyda hi ynghylch yr argymhellion a ddaw gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.

Yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, a allwch ddweud wrthym pam y mae gogledd Cymru yn cael cyn lleied o fuddsoddiad yn eu metro o'i gymharu â de Cymru?

Wel, fel y gwyddoch, credaf ein bod yn gwneud yn dda iawn yn awr gyda'n gwaith cwmpasu ar fetro gogledd Cymru, a chredaf ein bod yn gweld cyllid sylweddol ar gyfer y metro. Cefais gyfarfod â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei gylch, a chredaf y bydd o fudd mawr i'r rhanbarth. Yn amlwg, mae metro de Cymru ymhell ar y blaen i fetro gogledd Cymru, ond os oes angen rhagor o arian wrth inni fynd drwy bob cam, gwn fod y Dirprwy Weinidog ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau ariannu a'r hyn sydd angen ei wneud nesaf ar ddatblygu'r metro.

14:25

Weinidog, croesawodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru newyddion y byddai metro yn cael ei adeiladu. Wrth gwrs, roedd yn eich maniffesto yn 2016, mae bellach yn 2022, ac nid oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o hyd yng ngogledd Cymru. Clustnodwyd £750 miliwn ar gyfer de Cymru, o gymharu â dim ond £50 miliwn yn y gogledd. Nawr, fel Gweinidog gogledd Cymru, bydd pobl yn y rhanbarth yn disgwyl i chi fod yn llais gogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet, gan sicrhau eich bod yn denu adnoddau cymesur fan lleiaf i'r rhanbarth o gymharu â'r rhai a werir mewn mannau eraill yng Nghymru. A allwch ddweud wrthym sut y mae'r mecanwaith hwnnw'n gweithio a pha sicrwydd rydych yn ei gael gan eich cyd-Aelodau yn y Cabinet fod buddsoddiad cymesur yng ngogledd Cymru a'u bod yn mynd i'r afael â'r problemau a'r heriau sydd gennym yng ngogledd Cymru ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus?

Rydych yn llygad eich lle, rwy'n sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o gyllid yng ngogledd Cymru. Mae'n rhaid imi fod yn ofalus iawn, oherwydd yn amlwg rwy'n Aelod y Senedd dros Wrecsam, ac yn amlwg, mae Wrecsam yn rhan bwysig iawn o fetro gogledd Cymru. Fel y dywedaf, mae cynlluniau metro de Cymru ymhell ar y blaen. Roeddech yn iawn, 2016 oedd hi—. Cofiaf ein bod wedi ymrwymo i gyflwyno cynlluniau ar gyfer metro gogledd Cymru yn ystod 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth 2016, ac fe wnaethom hynny.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod pandemig wedi bod sydd wedi mynd â llawer iawn o adnoddau, yn amlwg, ac nid ydym mor bell ymlaen ag y byddem wedi gobeithio bod gyda metro gogledd Cymru, ond mae'n dda gweld y cynlluniau yn awr a'r gwaith i sicrhau cysylltedd rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, sydd mor bwysig i'n rhanbarth. Ond fel y dywedais, mae'r Gweinidog yn edrych ar opsiynau ariannu ar hyn o bryd a pha feysydd y bydd angen canolbwyntio arnynt yn awr i sicrhau bod y metro'n datblygu.

Chwe blynedd, cynnydd araf ac mae angen inni ei gael yn ôl ar y llwybr iawn, os esgusodwch y chwarae ar eiriau. Un o'r pethau eraill sydd wedi bod yn methu ers amser maith yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, yw gwasanaethau iechyd meddwl. Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig oherwydd methiannau yn ei wasanaethau iechyd meddwl yn ôl yn 2015. Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn destun mesurau arbennig, ac mae pawb yn cydnabod bod angen eu gwella'n sylweddol. Pam ei bod yn cymryd cymaint o amser i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â phroblemau yng ngwasanaethau cyhoeddus gogledd Cymru, megis gwasanaethau iechyd meddwl, a pham ei bod hi'n cymryd llai o amser i chi ddatrys problemau mewn mannau eraill yng Nghymru? Onid yw hyn yn fwy o dystiolaeth fod gogledd Cymru yn eilradd, yn fan dall i'r rhan fwyaf o'r bobl yn eich Cabinet? Nid wyf yn dweud mai chi sydd ar fai o reidrwydd, oherwydd rydych chi'n un o'r rhai sy'n cynrychioli gogledd Cymru, ond onid yw'n awgrymu i chi fod tystiolaeth glir nad yw gogledd Cymru'n cael digon o sylw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru?

Nac ydy, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rydych chi'n hoffi ei ddweud, mai felly y mae hi. Nid yw'n wir o gwbl—

Pam y mae'n cymryd saith mlynedd, saith mlynedd i'w ddatrys?

Nid wyf yn credu o gwbl fod gogledd Cymru yn eilradd i unrhyw un o fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet. Yn amlwg, rwyf fi yno i sicrhau nad yw hynny'n digwydd, ond rwy'n eistedd wrth fwrdd y Cabinet, yn wahanol i chi, a gallaf eich sicrhau nad yw'n fan dall o gwbl.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Cefin Campbell am ei waith yn y rôl yma o'm mlaen i a phob lwc iddo fo yn ei rôl newydd?

Dwi eisiau gofyn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda—. Mae yna lawer o sylw wedi cael ei roi i'r argyfwng costau byw sydd yn wynebu cynifer o bobl heddiw. Mae'n werth cofio bod y cynnydd yn y costau egni a thanwydd hefyd yn cael effaith ar ein sector amaeth, sydd yn ei dro yn cael ei adlewyrchu yn y farchnad. Mewn arolwg gan y Farmers Weekly, nododd 57 y cant o ffermwyr eu bod nhw'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn eu costau dros y flwyddyn nesaf. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio nad yw prisiau ynni cynyddol yn gynaliadwy i'r sector amaeth. Er enghraifft, mae pris disel coch wedi cynyddu bron 50 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae cost amoniwm nitrad wedi cynyddu bron i 200 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Weinidog, nid argyfwng sydd yn gyfyngedig i ffermwyr ydy hyn; mae'r gost ychwanegol yma o'r fferm yn cario ymlaen i'r prosesu ac yna i'r silffoedd yn yr archfarchnad. Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lleihau y bwrdwn ychwanegol yma ar ffermwyr?

14:30

Diolch a hoffwn groesawu Mabon ap Gwynfor i'w rôl newydd. Rydych yn llygad eich lle—mae costau byw yn effeithio ar bawb. Cawsom gyfarfod grŵp rhyngweinidogol ddydd Llun gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a fy swyddogion cyfatebol o’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac un o’r meysydd y canolbwyntiais arnynt, lle rydym wedi gweld cynnydd sylweddol, oedd gwrtaith i’n ffermwyr, oherwydd mae’n amlwg fod pris popeth wedi codi. Felly, roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr eu bod yn ceisio gwneud rhywbeth ynghylch cymorth pellach. Ond rwy’n credu mai un o'r meysydd y gallaf wneud gwahaniaeth ynddo, oherwydd yn amlwg rydym wedi gweld llawer mwy o alw ar ein gwasanaethau iechyd meddwl gan ein ffermwyr, yw drwy sicrhau fy mod yn cefnogi ein helusennau iechyd meddwl. Ac fe wnaethom lansio FarmWell Cymru yn ystod y pandemig COVID-19, oherwydd, unwaith eto, gwelsom gynnydd sylweddol yno. Ond rwy’n credu ei bod yn wirioneddol hanfodol fod pob adran ar draws Whitehall yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb.

Diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog, a dwi’n siŵr eich bod chithau, fel minnau, wedi mwynhau brecwast efo’r Undeb Amaethwyr Cymru a oedd yn casglu pres i’r DPJ Foundation yn ddiweddar iawn, sy’n gwneud gwaith da yn y maes iechyd meddwl hwnnw.

Mae’r cynnydd yma yn y costau mewnbwn dros y misoedd diwethaf yn ychwanegu at broblem fwy hirdymor sy’n wynebu ein hamaethwyr. Dyma ddarlun i chi o sut mae’r costau wedi bod yn cynyddu: nôl yn 1970, roedd angen gwerthu tua 163 oen er mwyn prynu tractor newydd. Erbyn 2020, roedd angen gwerthu 864 o ŵyn er mwyn cael tractor newydd. Mae hyn yn naturiol yn golygu bod nifer o ffermwyr, yn enwedig y ffermydd llai sydd yn britho cefn gwlad Cymru, yn gorfod defnyddio peiriannau ac isadeiledd hŷn sydd yn aml bellach ddim yn addas i'w pwrpas.

Ar ben hyn, wrth gwrs, mae disgwyl iddyn nhw rŵan ddatblygu mwy o storfeydd slyri i ateb y rheoliadau NVZ newydd rydych chi wedi'u rhoi arnyn nhw. Pan gyflwynwyd y rheoliadau NVZ yng Ngogledd Iwerddon, rhoddodd y Llywodraeth yno £150 miliwn i ariannu’r gwaith cyfalaf angenrheidiol. Hyd yma, dim ond £11.5 miliwn o bres RDP Cymru sydd wedi cael ei wario ar waith cyfalaf yn ei gyfanrwydd, ac mae data gan NFU Cymru yn dangos bod yn dal i fod angen gwario hyd at £272 miliwn o arian RDP erbyn diwedd 2023.

Ydych chi, Weinidog, yn cytuno mai un datrysiad posib ydy defnyddio’r arian RDP yma sydd yn weddill er mwyn helpu amaethwyr i adeiladu a gwella isadeiledd eu ffermydd, yn ogystal â helpu busnesau a chontractwyr cefn gwlad? Byddai hyn, felly, yn galluogi buddsoddiadau mewn peiriannau ac isadeiledd newydd a fyddai’n cynyddu effeithlonrwydd, lleihau effaith amgylcheddol a gwella diogelwch gan sicrhau hyfywedd y diwydiant.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad oes gennym y parthau perygl nitradau mwyach; mae gennym reoliadau llygredd amaethyddol ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn aros am ddyfarniad cyfredol y llys.

Rhoddais gyllid sylweddol—roedd oddeutu £44 miliwn, rwy’n credu—i geisio gweithio gyda’r sector amaethyddol ar wella darpariaethau slyri. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y rhaglen datblygu gwledig o fudd i'n cymunedau gwledig wrth gwrs—dyna yw ei diben. A dylai fod ar gyfer pethau fel seilwaith er mwyn ein helpu gyda'r argyfwng newid hinsawdd. Felly, rwy’n edrych ar ba gyllid sydd ar ôl yn y rhaglen datblygu gwledig. Rwyf hefyd yn aros am gyngor gan swyddogion am raglen olynol yn lle'r rhaglen datblygu gwledig. Felly, mae’r rhain yn bethau y byddaf yn sicr yn eu hystyried yn rhan o hynny.

Cig Oen ac Eidion o Gymru

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi marchnata cig oen a chig eidion o Gymru? OQ57579

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Hybu Cig Cymru, yng Nghymru a thrwy ein swyddfeydd rhyngwladol, i gefnogi marchnata cig oen a chig eidion o Gymru. Roedd HCC yn bartner yn BlasCymru ym mis Hydref 2021, i gefnogi ystod o fusnesau sy’n arddangos ac yn marchnata cynhyrchion cig.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Byddwn yn arbennig o ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â gwelliannau i labelu bwyd, gan weithio gyda’r diwydiant a’r sector ac archfarchnadoedd yn enwedig. Gofynnaf hyn yng nghyd-destun agor marchnadoedd newydd ar gyfer cig oen a chig eidion o Gymru, yn enwedig wrth inni feddwl am farchnadoedd newydd yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft. Nawr, fe wyddom fod gennym gynnyrch cig oen a chig eidion o ansawdd uchel yng Nghymru a gwyddom hefyd fod ffermwyr yn talu sylw mawr i les anifeiliaid. Felly sut y gallwn werthu hynny, gwerthu brand Cymru, gan wybod bod llawer o'r marchnadoedd newydd hyn yn mynnu ansawdd uchel, ac yn mynnu tystiolaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â lles anifeiliaid? Sut y gallwn wella ein labelu yn benodol er mwyn helpu i werthu brand Cymru a chig oen a chig eidion o Gymru mewn marchnadoedd newydd eraill ym mhob cwr o'r byd?

14:35

Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn chwifio’r faner dros Gymru, a’n bod yn gwneud hynny mewn sawl ffordd. Soniais am ein swyddfeydd rhyngwladol. Mae gennym ddigwyddiad Gulfood ar y gorwel yn Dubai, yr wythnos nesaf rwy’n credu. A bydd HCC yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru, neu’n cefnogi dirprwyaeth Llywodraeth Cymru, yn Dubai. Ac rydym wedi parhau â digwyddiadau tramor rhithwir, ond bydd yn dda gallu mynychu yn y cnawd. Felly, mae gennym ddigwyddiadau Anuga a SIAL i ddod eleni. Ond wrth gwrs, rydym yn croesawu'r ffaith bod y farchnad bellach wedi’i hagor yn America. Mae hynny'n rhywbeth rydym wedi bod yn gweithio arno ers tua chwe blynedd, felly mae i'w groesawu'n fawr.

Ac fe wyddom fod pobl yn edrych ar y labelu, onid ydynt—wrth gwrs eu bod. Un maes lle rydym wedi gwneud gwelliannau enfawr yw marchnata cig oen a chig eidion o Gymru drwy deulu dynodiadau daearyddol Cymru. Felly mae gennym bedwar cig coch yn hwnnw erbyn hyn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym gig oen morfa heli Gŵyr—hwnnw oedd y cyntaf, mewn gwirionedd, o'r cynhyrchion o'r DU yng nghynllun dynodiadau daearyddol newydd y DU. Felly mae'n bwysig iawn, ac yn amlwg, bydd hwnnw ar y pecynnu. O ran labelu bwyd yn gyffredinol, rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, yn gyntaf oll, nad ydym yn gadael i Lywodraeth y DU lunio cytundebau masnach a fydd yn tanseilio’r safonau uchel iawn mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid. Felly mae hynny'n rhywbeth y buom yn siarad amdano yng nghyfarfod  y grŵp rhyngweinidogol y cyfeiriais ato yn gynharach gyda DEFRA. Felly rydym yn parhau i weithio ar labelu. Ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth rydym wedi'i wneud yn dda iawn ers amser maith, ac yn sicr mae'r weledigaeth ar gyfer ein sector bwyd a diod o Gymru, nid cig coch yn unig, a lansiwyd gennyf yn ôl ym mis Hydref, yn dangos hynny.

Rasio Milgwn

4. Sut mae'r Llywodraeth yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar arolygiadau o'r trac rasio milgwn sy'n weddill yng Nghymru i sicrhau safonau lles anifeiliaid? OQ57572

Mae arolygiadau o’r trac rasio milgwn sydd ar ôl yng Nghymru wedi’u trefnu drwy raglen gyflawni partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cael ei rheoli a’i chydlynu gan safonau masnach sir Fynwy a’r gweithgor milgwn, is-grŵp o Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, un o'n rhwydweithiau partneriaeth allweddol.

Yn fy rhanbarth i mae’r trac rasio milgwn olaf sy'n weddill yng Nghymru. Mae'r trac hwn hefyd yn annibynnol, sy'n golygu nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw ofynion rheoleiddio na thrwyddedu. Fel ag y mae, nid oes gofyniad i filfeddyg fod yn bresennol nac i oruchwylio lles. Dywed Hope Rescue eu bod, dros y pedair blynedd ddiwethaf, wedi derbyn 200 o filgwn o’r trac hwn—ac roedd 40 o’r rhain wedi dioddef anafiadau. Maent yn ofni y bydd y nifer yn cynyddu pan ddaw'n bryd trwyddedu'r trac yn ddiweddarach eleni. Dim ond wyth gwlad yn y byd sy’n dal i ganiatáu rasio milgwn. Weinidog, onid yw’n bryd inni wneud yr un peth a gwahardd y gweithgaredd hwn ar sail lles anifeiliaid?

Diolch. Mae hwn yn rhywbeth rwy'n edrych yn fanwl iawn arno. Cefais gyfarfod ddoe gyda Jane Dodds, ac fe fyddwch yn ymwybodol ei bod yn gredwr cryf iawn yn yr hyn rydych newydd ei awgrymu, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych arno. Rwy'n gobeithio cael cyfarfod gyda Hope Rescue; byddwn yn falch iawn o glywed eu safbwyntiau. Yn amlwg, maent wedi rhoi'r gorau i fod yn bresennol wrth y trac rasio—roeddent yno am sawl blwyddyn rwy'n credu. Rwyf hefyd yn bwriadu gofyn i Fwrdd Milgwn Prydain am gyfarfod i weld beth arall y gallwn ei wneud wedyn. Yn amlwg, pe baem yn edrych ar wahardd rasio milgwn, byddai'n rhaid inni edrych ar dystiolaeth, ac ymgynghoriad. Bydd y cyfan yn cymryd peth amser, ac yn amlwg, byddai'n rhaid bod capasiti deddfwriaethol ar gael imi allu gwneud hynny. Ond mae'n sicr yn rhywbeth—. Ac fe sonioch chi am rywbeth ar y diwedd nad wyf ond wedi'i ddysgu yn ddiweddar, sef mai dim ond wyth gwlad yn y byd sy'n dal i ganiatáu rasio milgwn, ac rydym ni'n un ohonynt.

Weinidog, yn 2018, lansiodd Bwrdd Milgwn Prydain ei ymrwymiad ar filgwn, sy'n cynnwys ei ddisgwyliadau ynghylch y modd y dylid cynnal y gamp, gyda lles yn ganolog iddo. Mae sicrhau diogelwch pob milgi sy'n rasio, fel y sonioch chi, ar drac sydd wedi'i drwyddedu gan Fwrdd Milgwn Prydain yn hollbwysig—rwy'n credu ynddo 100 y cant. Mae milfeddyg annibynnol yn bresennol wrth bob un o draciau Bwrdd Milgwn Prydain i archwilio iechyd a lles pob milgi, cyn ac ar ôl rasio. Maent yno hefyd i ddarparu gofal brys os bydd ci ei angen. Mae'r bwrdd yn ymdrechu'n gyson i leihau'r posibilrwydd o anaf drwy ariannu ymchwil i wella traciau, gyda'r nod o leihau anafiadau a helpu i ymestyn gyrfaoedd rasio cŵn. Yn ogystal, gwnaed llawer o waith uwchraddio ar gytiau caeau rasio yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau y gall milgwn orffwys yn gyfforddus cyn ac ar ôl eu rasys, a chaiff pob cae rasio ei archwilio'n rheolaidd i gadarnhau bod eu cyfleusterau'n parhau i fodloni'r safon ofynnol. Felly, Weinidog, gwn ichi ateb fy nghyd-Aelod eiliad yn ôl, ond hoffwn wybod, mewn perthynas â fy safbwynt personol i, a ydych yn cytuno bod rasio milgwn wedi'i reoleiddio'n briodol, gyda'r safonau lles uchaf, yn gamp gwylwyr sy'n creu swyddi ac yn darparu llawer o adloniant i'w dilynwyr.

14:40

Mae fy niddordeb yn amlwg yn yr unig drac sydd gennym yma yng Nghymru, ac un o fy rhesymau dros fod eisiau cyfarfod â Hope Rescue yw oherwydd fy mod wedi gweld ffigurau ac ystadegau pryderus iawn. Ac un o'r pethau, unwaith eto, a drafodais gyda Jane Dodds ddoe oedd nifer yr anifeiliaid sydd wedi'u hanafu, a hynny'n angheuol—mae'n amlwg eu bod wedi marw yno. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall pam fod nifer mor uchel o anafiadau. Nawr, unwaith eto, o'r hyn a welais, deallaf fod yna un troad, yn anffodus, lle caiff llawer o gŵn eu hanafu, ac mae rhai wedi marw. Felly, mae fy niddordeb yn yr un trac hwn, ac mae angen imi dawelu fy meddwl fy hun. Mae gennym safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel iawn yma yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod yn genedl o bobl sy'n caru anifeiliaid. Weithiau, rwy'n credu ein bod yn llawer mwy hoff o'n hanifeiliaid nag o'n cyd-ddyn. Ac rwyf eisiau sicrwydd, ac nid wyf yn cael sicrwydd ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod angen imi gyfarfod â phobl eraill sydd â diddordeb yn y mater yn awr. Mae'n rhaid imi ddweud, mae'r Aelodau newydd yn y Senedd yn sicr wedi codi'r mater yn uwch ar yr agenda wleidyddol ac wedi'i godi gyda mi, ac mae'n faes sy'n peri pryder mawr. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch i Peredur Owen Griffiths am godi'r mater hwn, sy'n fater pwysig i lawer ohonom yn y Senedd. Fel y clywsoch, mae'r trac yng Nghaerffili yn brolio bod ganddo un o'r troadau mwyaf siarp sydd gan unrhyw drac rasio, ac rwyf am ddarllen rhywbeth i chi o'u llenyddiaeth. Maent yn dweud am y troad hwn yn eu trac rasio: 

'mae milgwn yn aml yn hedfan i mewn i'r gornel gyntaf yn llawer rhy gyflym i wneud y tro. Y gorau yw'r ci, y cyflymaf y cyrhaedda'r troad cyntaf a'r mwyaf o drwbl a ddaw i'w ran.'

Ac rwyf am orffen y dyfyniad yn y fan honno. Bydd cynlluniau i ymestyn y trac yn cynyddu rasio yng Nghaerffili bedair gwaith, o un ras yr wythnos i bedair. A hyd yn oed yn 2020, pan gyfyngwyd yn sylweddol ar rasio oherwydd COVID, ar draws traciau a reoleiddir y DU, dioddefodd 3,575 o filgwn anafiadau difrifol, a bu farw 401 o gŵn. Nid yw hon yn gamp gwylwyr rydym am ei chael yng Nghymru. Ac mae'r rhain yn cynnwys traciau Bwrdd Milgwn Prydain, felly rwy'n dod yn ôl at Natasha Asghar a dweud, 'O ddifrif, a ydym eisiau gweld cŵn yn cael eu hanafu, ac yn marw, hyd yn oed ar draciau a reoleiddir?' O gofio ein bod yn gwybod nad yw rheoleiddio'n atal milgwn rhag marw a chael eu hanafu—ac rwy'n falch o glywed eich bod yn barod i gyfarfod â Hope Rescue—tybed a fyddech yn cytuno â mi fod pryderon difrifol ynghylch traciau a reoleiddir hyd yn oed. Diolch yn fawr iawn. 

Byddwn yn cytuno â Jane Dodds. Ac fel y dywedais, mae rhai o'r ffigurau—ac rydych newydd roi ystadegau yn awr a gwybodaeth am y trac—yn gwneud imi bryderu'n fawr. Rwyf wedi cael dau gyfarfod gyda fy swyddogion i drafod hyn, ac rwyf am sicrhau'r Aelodau ei fod yn rhywbeth rwy'n rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo, fy mod yn bryderus iawn yn ei gylch, ac fe gawn weld beth y gallwn ei wneud i edrych—. Fel y dywedwch, nid yw'n ymwneud â rheoleiddio yn unig, ond byddwn yn edrych o fewn y cynllun lles anifeiliaid i Gymru ar gyfer tymor y Llywodraeth hon. Er ei bod yn rhaglen bum mlynedd, mae rasio milgwn yn rhywbeth rwyf am ei ystyried yn y rhan gyntaf o dymor y Senedd. 

Cysylltedd Trafnidiaeth

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch cysylltedd trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OQ57543

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyd-Weinidogion Cabinet. Bydd ein rhaglen metro newydd ar gyfer gogledd Cymru, sy'n werth miliynau lawer o bunnoedd, yn trawsnewid gwasanaethau trenau, bysiau a theithio llesol ar draws gogledd Cymru. Bydd yn sicrhau bod teithio ar draws gogledd Cymru yn haws ac yn gyflymach a bydd yn adeiladu cysylltiadau gwell â gogledd-orllewin Lloegr.

Diolch. Wrth siarad mewn dadl yn Neuadd San Steffan fis diwethaf ar gysylltedd trafnidiaeth yng Nglannau Mersi, galwodd Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, James Davies, sydd hefyd fel mae'n digwydd yn cadeirio grŵp seneddol hollbleidiol Mersi a'r Ddyfrdwy a gogledd Cymru, am wasanaethau trenau bob awr rhwng Llandudno a Lerpwl, rhywbeth a addawyd o ddiwedd 2023 ymlaen, gan ddweud:

'daeth gwasanaethau tremai uniongyrchol o arfordir gogledd Cymru i ben yn y 1970au. Diolch i ailagor tro Halton, addawyd gwasanaethau bob awr o Landudno i Lerpwl, ond nid tan fis Rhagfyr 2023, rwy'n credu. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i alw ar Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno hynny'n gynt os yn bosibl?'

Diolch i brosiect tro Halton, a gostiodd £14.5 miliwn, ac a ariannwyd drwy gyllid llywodraeth leol Llywodraeth y DU a ddyfarnwyd i bartneriaeth menter leol dinas-ranbarth Lerpwl, cyflwynwyd gwasanaethau dyddiol uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl, y gwyddoch amdanynt, yn 2019, ond ni ddisgwylir y gwasanaethau uniongyrchol a addawyd rhwng Llandudno a Lerpwl tan ddiwedd y flwyddyn nesaf. Pa drafodaethau rydych yn eu cael, felly, gyda'ch cyd-Weinidogion Cabinet ynghylch sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn cyflwyno'r gwasanaeth yn gynharach i helpu i ailadeiladu ein rhanbarth ar ôl y pandemig, denu ymwelwyr, hybu'r economi leol ac annog mwy o bobl i ddefnyddio trenau er lles yr amgylchedd?

14:45

Diolch. Rydych chi'n gywir; ar hyn o bryd, ein hymrwymiad yw darparu gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl a Llandudno o fis Rhagfyr 2023. Byddwn hefyd yn ceisio ymestyn gwasanaeth presennol Llandudno i Faes Awyr Manceinion i gynnwys Bangor. Oherwydd nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli'n briodol ac am na cheir setliad ariannu teg, mae angen i Lywodraeth y DU gyflawni eu cyfrifoldebau dros wella'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a chredaf fod honno'n un ffordd y gallai'r Aelod helpu. 

Mae adeiladu cysylltedd yn ymwneud â llunio ac adeiladu rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n ymateb i anghenion ein cymunedau. Golyga hynny fod angen inni reoleiddio'r diwydiant bysiau mewn ffordd sy'n rhoi rhwydweithiau ac angen cymunedol wrth wraidd ein penderfyniadau. Ond Weinidog, gwyddom fod y rheoliadau presennol a gyflwynwyd o dan Lywodraeth Thatcher wedi'u seilio ar elw yn unig. Maent yn atal croes-sybsideiddio llwybrau ac yn arwain at ddarparwyr yn defnyddio'r awdurdodau cystadlu i gau llwybrau cystadleuwyr. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, felly, a ydych yn cytuno â mi y dylai ail-reoleiddio'r diwydiant bysiau fod ar frig ein hagenda, a phan edrychwn ar y gwaith hwnnw, y dylem ystyried cynrychiolwyr gweithwyr bysiau, fel undeb Unite, lle rwy'n datgan buddiant fel aelod? Dylent gael rhan yn hyn, a dylem wrando arnynt ac ar eu hymgyrch 'cyrraedd adref yn ddiogel', sy'n hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth hyfyw i weithwyr yn yr economi nos.

Yn sicr. Rydym yn croesawu ymgyrch 'cyrredd adref yn ddiogel' undeb Unite, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a'n cwmnïau bysiau wrth gwrs i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n fwy diogel ac yn fwy deniadol yn hwyr gyda'r nos. Fel y gwyddoch, rydym yn bwriadu cyflwyno Bil bysiau newydd yn ystod tymor y Senedd hon, a fydd yn cynnwys pwerau newydd i awdurdodau lleol fasnachfreinio gwasanaethau bysiau ledled Cymru i ddarparu rhwydwaith bysiau mwy sefydlog, hygyrch, deniadol ac integredig i deithwyr. Credaf y byddwn yn gweithio'n galed iawn i drawsnewid ansawdd teithio ar fysiau a threnau ledled Cymru, a byddwn yn parhau i ddarparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer gwella hygyrchedd a diogelwch arosfannau bysiau, oherwydd mae hwnnw'n amlwg yn faes sy'n peri pryder. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

6. Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi prosiectau cadwraeth cynefinoedd? OQ57564

Er mwyn cefnogi gwytnwch ecosystemau, bydd ein ffermwyr yn cael eu talu i reoli a chreu cynefin ar y fferm. Byddwn hefyd yn cynorthwyo ffermwyr i gydweithio i gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol ar raddfa'r dirwedd.

Diolch am y datganiad, Weinidog. Lywydd, hoffwn atgoffa'r Aelodau o'r ffaith fy mod yn ffermwr gweithredol, fel y nodwyd yn fy muddiannau. Fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, Weinidog, y dydd Gwener hwn yw dechrau'r Cyfrif Mawr o Adar Tir Amaethyddol a drefnir gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt. Ei nod yw annog ffermwyr a rheolwyr tir i gefnogi adar tir amaethyddol a thynnu sylw at y gwaith caled a wnaed eisoes gan lawer ohonynt i helpu i wrthdroi colli bioamrywiaeth. Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod y gwaith sy'n digwydd yn glodwiw. Gwyddom fod hyrwyddo cynaliadwyedd a bioamrywiaeth yn rhywbeth y mae cynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy yn ceisio ei wneud. Fodd bynnag, Weinidog, mae pryderon mawr o hyd ymhlith ffermwyr fod cymorth ffermio yn y dyfodol yn gwyro gormod tuag at dalu am nwyddau cyhoeddus, heb ddigon o gydnabyddiaeth i bwysigrwydd cefnogi'r cynhyrchwyr yng Nghymru sy'n ceisio cynhyrchu bwyd fforddiadwy o ansawdd da i'n cymunedau. Weinidog, sut y bydd y cynllun newydd arfaethedig yn sicrhau cydbwysedd rhwng gwella canlyniadau amgylcheddol o fewn y sector amaethyddol ac annog a chefnogi cynhyrchiant bwyd cynaliadwy o ansawdd da i gynyddu cydnerthedd economïau gwledig a'n systemau bwyd ledled Cymru?

14:50

Rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn fod cynhyrchu bwyd yn flaenoriaeth bendant i'n ffermwyr, wrth gwrs ei fod. Rydych yn dweud bod pryderon difrifol. Rydym wedi ymgynghori dair gwaith bellach. Nid yw'r cynllun wedi'i gynllunio o hyd; rydym eisiau cydgynllunio'r cynllun hwnnw. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud droeon, os nad oes gennym y cynllun cywir ar gyfer ein ffermwyr, ni fydd yn gweithio, felly mae'n bwysig iawn eu bod yn rhan o'r gwaith cydgynllunio. Rydym yn gofyn i ffermwyr, ac efallai y byddwch yn un ohonynt, weithio gyda ni yn yr haf pan awn ymlaen i ail ran y broses o gydgynllunio'r cynllun. Yr hyn sy'n bwysig iawn, fel rydym wedi'i ddweud o'r cychwyn, yw arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus. Pan ddywedwch fod pryderon difrifol, nid wyf yn clywed y pryderon difrifol hynny yn y ffordd y gwneuthum bedair neu bum mlynedd yn ôl. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i gefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd sydd ag ôl troed carbon isel, ond byddant hefyd yn cael eu gwobrwyo am y pethau nad ydynt yn cael eu talu amdanynt ar hyn o bryd—felly, yr aer glân, y dŵr glân, y gwaith a wnânt ar liniaru llifogydd, y gwaith a wnânt ar liniaru sychder, y gwaith a wnânt ar iechyd a lles anifeiliaid. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gael y cydbwysedd hwnnw. Mae'n rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, neu ni fydd yn gweithio.

Defnyddio Bwyd yn Effeithlon

7. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i sicrhau y defnyddir unrhyw fwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru mewn ffordd effeithlon? OQ57576

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a sefydliadau bwyd cymunedol i leihau gwastraff ym mhob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd, o'r fferm i'r fforc. Mae hyn yn helpu i gyflawni nodau allweddol eraill, gan gynnwys haneru gwastraff bwyd erbyn 2025 a'r effaith ganlyniadol ar leihau allyriadau newid hinsawdd.

Diolch am eich ateb. Mae FareShare Cymru wedi dathlu dengmlwyddiant yn ddiweddar, ac mae eu hangen nhw nawr yn fwy nag erioed, byddwn i'n dweud. Un agwedd ar eu gwaith nhw yw rhedeg y gronfa Surplus with Purpose Cymru. Bwriad y gronfa—sy'n cael ei hariannu gan y Llywodraeth, er tegwch—yw i weithio gyda busnesau bwyd a ffermwyr i atal gwastraff bwyd drwy dalu costau cynaeafu, pecynnu, rhewi, cludo, beth bynnag sydd ei angen er mwyn sicrhau bod unrhyw fwyd sydd dros ben yn cael ei ddargyfeirio i'r rhai sydd ei angen. Mae dyddiad cau ymgeisio i'r gronfa yna yn disgyn ddiwedd y mis yma, felly gaf i ofyn i chi, fel y Gweinidog sy'n gweithio agosaf gyda busnesau bwyd a'r sector amaeth, i wneud ymdrech arbennig yn yr wythnosau olaf yma i hyrwyddo'r gronfa ymhlith y rhai rydych chi'n ymwneud â nhw? A gaf i hefyd, efallai yr un mor bwysig os nad yn bwysicach, ofyn i chi gydweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau fod y gronfa allweddol yma yn gallu parhau y flwyddyn nesaf, gan ei fod, wrth gwrs, wrth daclo gwastraff bwyd, yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol?

Byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Fe gyfeirioch chi at FareShare Cymru, ac maent wedi arbed 819 tunnell o fwyd dros ben rhag cael ei wastraffu. Mae hynny'n ddigon i ddarparu bron i 3 miliwn o brydau bwyd mewn blwyddyn yn unig. Felly, gallwn weld y gwaith enfawr sydd wedi'i wneud. Cafodd y prydau hynny eu hanfon at lochesi i bobl ddigartref, clybiau brecwast ysgolion a chanolfannau cymunedol, felly mae'n bwysig iawn. Byddwn yn hapus iawn i weithio i hyrwyddo hynny dros yr wythnosau nesaf, a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, fel rydych yn gofyn.

Weinidog, mae ein diwydiant pysgota ac yn wir y sector dyframaethu yn parhau i fod yn elfen hanfodol o strategaeth fwyd Cymru. O granc gogledd Cymru i gregyn gleision Conwy a Menai, mae cynhyrchwyr cynaliadwy yn darparu bwyd maethlon o ansawdd uchel sy'n cynnwys ffynonellau protein ac omega 3 hanfodol. Gyda'r ymgynghoriad ar y cyd-ddatganiad pysgodfeydd bellach ar y gweill, rhywbeth rwyf wedi ymateb iddo, mae'r amcan budd cenedlaethol wedi dod i'r amlwg unwaith eto. O'r tua 660,000 tunnell o bysgod a gafodd eu ffermio a'u dal yn y DU yn 2014, allforiwyd 75 y cant ohonynt. Rwy'n dal i ddadlau bod angen i'r sector bwyd môr yma yng Nghymru gael ei integreiddio'n llawnach yn awr mewn strategaeth bwyd a diod newydd, gan fod yr adran bwyd-amaeth ar hyn o bryd yn ein hatal rhag cychwyn ar yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel strategaeth fwyd hollgynhwysol. Weinidog, er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o fwyd môr a gynaeafir o'n moroedd, a allwch chi egluro pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adolygu a diwygio arferion caffael cyhoeddus fel bod y defnydd o bysgod a bwyd môr tymhorol a hyfryd o Gymru yn cynyddu yn ein hysgolion, ein hysbytai, ac yn cael ei gynnwys ym mhrydau bwyd y rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ledled Cymru? Diolch.

14:55

Diolch. Yn sicr, rwy'n gwneud popeth yn fy ngallu i hyrwyddo pysgod a'n sector dyframaethu. Fe sonioch chi am y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, sy'n destun ymgynghoriad yn awr. Bydd y pwyllgor yn craffu arnaf mewn perthynas ag ef yfory mewn gwirionedd, ac rwy'n credu ei fod yn gyfle mawr. Wrth inni edrych ar gaffael, fe fyddwch yn ymwybodol fod Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â chaffael. Credaf eich bod yn iawn ynglŷn â sicrhau bod ysgolion—. Roeddwn yn eithaf hwyr yn dechrau bwyta pysgod. Fel plentyn, nid oeddwn mor awyddus â hynny, ac efallai mai'r rheswm am hynny yw na châi ei roi i mi yn fy nghinio ysgol na chymaint â hynny gartref—roeddem yn bwyta llawer o gig. Felly, credaf eich bod yn iawn fod ychydig mwy y gallwn ei wneud efallai i hyrwyddo pysgod ac yn sicr pysgod cregyn ymhlith ein pobl iau, ac mae cyfle i wneud hynny wrth inni fynd drwy'r broses gaffael hon.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

8. Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur? OQ57546

Mae ymateb i'r argyfwng natur yn un o amcanion allweddol ein cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Bydd cymorth i ffermydd yn y dyfodol yn gwobrwyo ffermwyr sy'n rhoi camau ar waith i gynnal a chreu ecosystemau gwydn. 

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn gychwyn drwy roi clod llawn ac unrhyw freindaliadau sy'n deillio o unrhyw sylwadau yma i Sam Kurtz am ei ddatganiad barn ddoe, a gefnogwyd yn llawn ar sail drawsbleidiol gan Mabon ap Gwynfor a minnau—a llawer o rai eraill, mae'n siŵr—ar yr ymgyrch barhaus i blannu perthi, ymylon caeau a choed a arweinir gan Coed Cadw a Coed Cymru. A yw'r Gweinidog yn cytuno â'r ymgyrch fod angen cynyddu niferoedd coed yn y lleoedd cywir ar ffermydd i liniaru'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol ar frys, ac yn arbennig, fod nifer o fanteision i fyd natur, ecosystemau ac oeri byd-eang, ac yn wir, i atal a lliniaru llifogydd ac yn y blaen, a all ddeillio o gynnal a chadw ac ehangu perthi a lleiniau cysgodi i safon y cytunwyd arni, plannu cyrsiau dŵr ffres ar ymylon caeau, a choed pori estynedig? Os felly, a wnaiff hi gefnogi rôl ymylon caeau a pherthi estynedig o ansawdd da fel rhan gyffredinol o gynllun ffermio cynaliadwy, gan ddarparu cymorth uniongyrchol i ffermwyr ar sail nifer o fanteision cyhoeddus ac amgylcheddol ar gyfer defnydd costeffeithiol o arian cyhoeddus?

Diolch. Yn sicr, bydd hynny'n rhan o'n cynllun ffermio cynaliadwy, ac fel y soniais yn fy ateb cynharach i Peter Fox, rydym yn ei gydgynllunio ar hyn o bryd gyda'n ffermwyr a chyrff eraill sydd â diddordeb. Fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi gwneud astudiaeth at wraidd y mater ar y rhwystrau i blannu coed a'r hyn y gallem ei wneud i sicrhau bod—. Os ydym am ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn y ffordd yr hoffem a dod yn Gymru sero net erbyn 2050, mae'n rhaid inni blannu 86 miliwn o goed dros y degawd nesaf. Nid ydym wedi bod yn plannu digon o goed—nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn dweud ein bod wedi gwneud hynny.

Mae'n bwysig iawn ein bod yn helpu ein ffermwyr i gymryd rhan yn y cynlluniau hyn. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi sefydlu gweithgor cyllid coetiroedd, ac mae fy swyddogion yn rhan o hwnnw yn amlwg, oherwydd mai fi sy'n dal y rhan fwyaf o'r cyllid mewn perthynas â choed, ond wrth gwrs, mae'r polisi'n perthyn i'r weinyddiaeth newid hinsawdd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth, felly mae'n dda clywed am ddatganiadau barn trawsbleidiol. Rydym eisiau gweithio gydag unrhyw un, ein rhanddeiliaid, i sicrhau ein bod yn plannu llawer mwy o goed. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, ac fe ddywedoch chi hynny ar ddechrau eich cwestiwn, yw ein bod yn plannu'r goeden gywir yn y lle cywir. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

9. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? OQ57559

Mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yw'r amcanion ar gyfer ein cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Ein bwriad yw creu sector amaethyddol cynaliadwy a chadarn yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i nodi'r ffaith nad yw hawliau tramwy cyhoeddus ar hyn o bryd yn rhan o'n gwaith trawsgydymffurfio presennol ar gyfer cynllun amaethyddol presennol Llywodraeth Cymru. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud hawliau tramwy cyhoeddus yn rhan o'n gwaith trawsgydymffurfio, byddai'n rhoi cymhelliad go iawn i'r gymuned ffermio agor a chynnal eu hawliau tramwy cyhoeddus fel eu bod o safon lawer gwell, er mwyn cael eu taliad blynyddol gan Lywodraeth Cymru. A wnaiff y Gweinidog ystyried hyn wrth wneud cynlluniau ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? Credaf y gallai sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r gymuned ffermio a cherddwyr sy'n mwynhau ein cefn gwlad bendigedig ledled Cymru. Diolch.

15:00

Rydym yn edrych ar gamau gweithredu a allai wella llwybrau tramwy cyhoeddus. Felly, gallai hynny olygu bod cyfleoedd i ffermwyr uwchraddio llwybrau troed i fod yn llwybrau beicio neu lwybrau ceffylau, er enghraifft, neu yn wir, newid y seilwaith ategol, fel y mathau o gatiau, neu gamfeydd. Nod y cynllun fydd cynyddu cyfran y llwybrau tramwy cyhoeddus sy’n agored, yn hawdd i’w defnyddio gyda digon o arwyddion, a chan fod dros ddwy ran o dair o lwybrau tramwy cyhoeddus ar dir fferm, bydd gwella llwybrau tramwy cyhoeddus presennol y tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol yn galluogi ffermwyr i gyfrannu ymhellach at iechyd a ffyniant ein gwlad, gan ddarparu gwell mynediad hefyd i'n hardaloedd gwledig diwylliannol a threftadaeth. Felly, er mwyn cael y budd mwyaf, nod y cynllun fydd cefnogi blaenoriaethau cymunedau lleol drwy gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y cynlluniau gwella llwybrau tramwy a'n fforymau mynediad lleol.

Cronfa Her Ddatgarboneiddio a COVID

10. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r meini prawf ar gyfer derbyn cyllid o dan gronfa her ddatgarboneiddio a COVID Llywodraeth Cymru? OQ57555

Nod y gronfa her ddatgarboneiddio a COVID yw cefnogi adferiad sector bwyd a diod Cymru. I fod yn gymwys, mae'n rhaid i fusnesau ddangos atebion arloesol mewn un neu fwy o feysydd, o arbed ynni i ddal carbon.

Diolch, Weinidog. Mae Gwinllan Velfrey, gwinllan fach, annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan deulu ger Hendy-gwyn ar Daf yn fy etholaeth, yn cynhyrchu gwin o ansawdd rhagorol, a bûm yn ddigon ffodus i ymweld a chael blasu rhai o’u goreuon y llynedd. Mae pryderon wedi’u codi, fodd bynnag, fod ceisiadau i gronfa her ddatgarboneiddio a COVID y Llywodraeth yn cael mwy o ffafriaeth os dônt gan fusnesau mwy o faint yn hytrach na busnesau llai. Pa sicrwydd y gallwch ei roi fel Gweinidog i sicrhau bod pob cais yn cael ei ystyried yn gyfartal?

Wel, gallaf roi sicrwydd i chi fod pob cais yn cael ei ystyried yn gyfartal. Cawsom 39 o geisiadau, a bydd cyllid, fel y dywedaf, yn cael ei ddarparu ar sail y meini prawf a nodais yn fy ateb gwreiddiol i chi. Fy nealltwriaeth i yw nad yw'n wir o gwbl y byddai ceisiadau gan gwmnïau mwy yn cael eu hystyried â mwy o ffafriaeth. Roedd yn fater a oedd yn ymwneud, fel y dywedais, ag ynni a dal carbon. Mae a wnelo â thwf gwyrdd hefyd, ac edrych ar ddatgarboneiddio logisteg. Mae bwyd a diod yn sector â blaenoriaeth, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ei helpu i adfer yn sgil y pandemig. Ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf os oes ganddo bryder penodol, byddwn yn fwy na pharod i ymchwilio i'r mater ar ei ran.

Diolch i'r Gweinidog. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wrth fy modd pan ddaw cynllun at ei gilydd. Gofynnais i reolwyr busnes ddydd Mawrth ofyn i’w Haelodau a’u Gweinidogion am gwestiynau ac atebion byr, cryno, ac rwyf wedi gweld hynny ar waith yn y sesiwn gwestiynau flaenorol. Deuawd ardderchog o Weinidogion yn rhoi atebion cryno ac uniongyrchol, a chwestiynau cryno gwych gan yr Aelodau hefyd. Ac fe wnaethom ni chwistrellu ychydig o gyflymder i'n cwestiynau, sy'n braf ei weld.

3. Cwestiynau Amserol

Iawn, mae gennym un cwestiwn ar ôl y prynhawn yma. Y cwestiwn amserol yw hwnnw. Dewch inni weld a allwn ddal ati gyda'r gwaith da. Mark Isherwood i ofyn y cwestiwn amserol, i’w ateb gan y Gweinidog, Jane Hutt. Mark Isherwood.

Y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am daliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf? TQ594

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Mae taliad cynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyblu o £100 i £200 wrth i’r argyfwng costau byw waethygu. Mae datganiad ysgrifenedig wedi’i gyhoeddi i fynd gyda fy nghyhoeddiad.

Diolch, ac fe'i darllenais ychydig eiliadau yn ôl. Ond ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe fod Llywodraeth Cymru wedi dyblu taliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf i £200 ac wedi ymestyn y dyddiad cau i wneud cais i 28 Chwefror, cysylltodd cynrychiolwyr o Gynghrair Tlodi Tanwydd Cymru â mi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, yn croesawu'r newyddion i'r rheini sy'n gymwys. Fodd bynnag, maent yn cydnabod na fydd yn helpu nac yn cyrraedd pawb sydd mewn angen, gan gynnwys y rheini mewn tlodi tanwydd nad ydynt yn cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, ac roeddent yn dweud ei bod yn hanfodol fod cynifer o aelwydydd cymwys â phosibl yn ei gael. Felly, maent wedi gofyn i mi ofyn: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dyddiad cau estynedig i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael ymhellach? Faint o'r oddeutu 350,000 o aelwydydd cymwys sydd wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yma? Pa gyfran yw hon o'r holl aelwydydd yr amcangyfrifir eu bod yn gymwys? Sut y mae’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun yn cymharu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, lle rydym am osgoi unrhyw loteri cod post? Ac o'r rhai sydd wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yn hyn, faint a pha gyfran a oedd yn cael gostyngiad y dreth gyngor, a olygai fod y cyngor wedi cysylltu â hwy'n uniongyrchol?

Mae Age Cymru hefyd wedi galw am ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun i gynnwys pobl hŷn sy’n cael credyd pensiwn, lle mae biliau cartref sylfaenol yn prysur ddod yn anfforddiadwy i lawer o bensiynwyr sy’n byw ar incwm sefydlog isel, ac anfonodd etholwr e-bost ataf ddoe yn gofyn imi atgoffa Llywodraeth Cymru am y problemau a wynebir yn arbennig gan y rheini â chyflyrau fel syndrom ôl-polio. Sut, felly, y bydd y Gweinidog yn ymateb i’r cwestiynau dilys hyn gan gyrff perthnasol? Unwaith eto, pwysleisiaf fy mod yn gofyn hyn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, nid i sgorio unrhyw bwyntiau gwleidyddol.

15:05

Wel, diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rydym yng nghanol trychineb costau byw, fel y mae Sefydliad Resolution yn ei alw, a lansiwyd y cynllun cymorth tanwydd gaeaf hwn fel rhan o’r gronfa cymorth i aelwydydd i dargedu teuluoedd a’r rhai mwyaf agored i niwed mewn perthynas â'r cwestiynau sydd bellach yn wynebu llawer o deuluoedd ynghylch gwresogi neu fwyta. Mae hynny'n frawychus, onid yw, yn y wlad gyfoethog hon rydym yn byw ynddi. Felly, bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at gefnogi aelwydydd incwm isel gyda'u biliau ynni cynyddol a chost gynyddol hanfodion bob dydd.

I ateb eich cwestiynau, erbyn diwedd mis Ionawr, mae data gan 22 o awdurdodau lleol yn dangos bod dros 146,000 o geisiadau wedi dod i law, fod 105,785 o geisiadau wedi’u talu, ac mae awdurdodau lleol yn gweithio’n galed nid yn unig i’w hyrwyddo; maent wedi cysylltu â phawb y maent yn eu hystyried yn gymwys. Bernir bod 350,000 yn gymwys yng Nghymru, felly mae angen inni wneud popeth a allwn, ac mae’r grŵp trawsbleidiol yn chwarae ei ran gyda’i bartneriaid i hyrwyddo hyn.

Fel y dywedais, mae a wnelo hyn â chefnogi aelwydydd o oedran gweithio, a dywedaf hefyd fod hyn yn ymwneud nid yn unig â’r costau tanwydd a’r costau bwyd cynyddol, ond y rhai a ddioddefodd sioc incwm pan ddaeth Llywodraeth y DU â'r codiad o £20 yr wythnos i'w credyd cynhwysol i ben, ac rydym am iddo gynorthwyo’r aelwydydd sy’n cael un o’r budd-daliadau yn lle enillion ar sail prawf modd y gwrthododd y DU eu cynyddu £20 yr wythnos.

Ond rwyf am ddweud, ar y sylwadau, ac rwyf wedi gweld hynny'n arbennig gan Age Cymru, rwy'n gobeithio y byddwch chi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, Mark Isherwood, a llefarydd y Ceidwadwyr, yn annog Llywodraeth y DU i wneud yr hyn y dylent fod yn ei wneud a chynyddu eu taliad tanwydd gaeaf a hefyd yn ymestyn cymhwysedd ar gyfer y gostyngiad Cartrefi Clyd. Nid ydym wedi clywed unrhyw beth gan Lywodraeth y DU. Rheini yw'r taliadau lle gall pobl hŷn cymwys gael cymorth gyda’u biliau ynni a hefyd—ac rwyf am orffen gyda’r pwynt hwn, i fod yn gryno, Lywydd—rydym yn cynnal ymgyrch wrth gwrs i sicrhau bod pobl hŷn a phensiynwyr yn manteisio ar yr hyn y mae hawl ganddynt i'w gael ac sydd ei angen arnynt, ac mae hynny’n cynnwys credyd pensiwn. Fe wyddoch fod llai o bobl nag y dylent yn hawlio credyd pensiwn. Mewn gwirionedd, nid yw dau o bob pump o bobl sy’n gymwys i gael credyd pensiwn yng Nghymru yn ei hawlio, a gallai’r rheini sy’n cael credyd pensiwn gael mynediad at y gostyngiad Cartrefi Clyd yn sgil hynny.

Felly, rydym yn chwarae ein rhan. Nid wyf am ddweud mwy am hyn ar hyn o bryd, ond rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod y gronfa gynghori sengl yn gweithio ledled Cymru gyda grŵp sy’n ceisio cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles, gan gynnwys cynrychiolwyr pobl hŷn. Ac yn olaf, wrth gwrs, gall pobl hŷn wneud cais am ein cronfa cymorth dewisol, sydd wedi’i hymestyn hefyd. Ond os gwelwch yn dda, a gawn ni alw ar Lywodraeth y DU i gynyddu eu taliad tanwydd gaeaf a’u gostyngiad Cartrefi Clyd, a hefyd, wrth inni wynebu’r cynnydd hwn yn y cap tanwydd, a allwn ni gael cymorth tariff cymdeithasol ar gyfer defnyddwyr ynni?

Mae miloedd o gartrefi yng Nghymru, nifer sy'n cyfateb i Abertawe gyfan, eisoes yn cael trafferth i dalu am eitemau bob dydd. Fel rŷn ni wedi clywed, mae'r costau ynni cynyddol yna a'r codiadau treth yn agosáu, ac felly bydd y costau ychwanegol o dros £1,000 yn gam yn rhy bell i'r rhai sydd eisoes dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Rwy'n croesawu mesurau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a thlodi, gan gynnwys y taliad ychwanegol yma a gyhoeddwyd yr wythnos hon, ond, er hyn, mae problemau yn bodoli o ran delifro mesurau fel hyn o ganlyniad i'r ffaith taw awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am eu gweithredu, ac mae yna dystiolaeth bod hyn yn creu anghysondeb o ran y cymorth sy'n cyrraedd teuluoedd ar lawr gwlad mewn gwahanol rannau o Gymru. Beth mae'r Llywodraeth, felly, yn ei wneud i sicrhau bod y lefel hawlio o ran taliadau fel hyn yn gyson drwy Gymru, yn ogystal â hyrwyddo eu bod nhw ar gael? Ac wrth inni wynebu'r fath argyfwng, a fydd yn un estynedig, gyda dim ond ychydig fisoedd cyn codi'r cap ar brisiau ynni, a wnaiff y Llywodraeth gyflwyno cynllun gweithredu argyfwng costau byw fel mater o frys? Rwy'n cytuno â sylwadau'r Gweinidog o ran y grym sydd yn nwylo'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan a'r diffyg gweithredu, ond a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi lan i ni yng Nghymru i amddiffyn ein pobl, felly, rhag y storm economaidd hon?

15:10

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am dynnu sylw at y pwysau sydd ar eich etholwyr, y pwysau costau byw sydd mor real ac sydd mor fyw ac y clywir amdanynt bob dydd mewn adroddiadau gan Sefydliad Resolution, Sefydliad Bevan. Mae awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan. Credaf fod y nifer sydd wedi manteisio, o ystyried yr amser rydym wedi'i gael—. Rydym wedi ymestyn yr amser ar gyfer hyn, wedi ymestyn y dyddiad cau, fel y dywedodd Mark Isherwood, i ddiwedd mis Chwefror. Yr awdurdodau lleol a fydd yn gwneud y taliadau. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi cael cefnogaeth gref iawn gan etholwyr, gydag enghreifftiau go iawn o beth y mae hyn wedi'i olygu iddynt hwy. Ac rwyf am ddyfynnu un o ogledd Cymru, a ddywedodd yr hoffai imi rannu hyn â'r Senedd:

'Wrth gwrs, fe wnaeth y £100 cyntaf leddfu fy nhlodi caled ar gyfer y mis hwn, a bydd hefyd yn fy nghadw'n gynnes am fis ac ychydig, o leiaf. Bydd £100 arall yn golygu y gallaf gadw'n gynnes ym mis Mawrth, mis Ebrill a hyd at ganol mis Mai, ac erbyn hynny, bydd fy ngwres i ffwrdd tan ddechrau mis Hydref o leiaf, ac wedi hynny, gobeithio.'

Dywedai fod yn rhaid iddo fwyta’r bwyd rhataf, o’r ansawdd gwaethaf. Y £200 hwn yw’r hyn rydym yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i estyn allan at ein hetholwyr.

Nawr, fel y gwyddoch, yn dilyn y ddadl a arweiniwyd gennych yn ddiweddar iawn, rydym yn trefnu uwchgynhadledd bord gron ar 17 Chwefror, ar draws y Llywodraeth, gyda’n holl bartneriaid, a bydd yn cynnwys llawer o’r partneriaid yn y grŵp trawsbleidiol, ar fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Ond dywedaf eto, nid yn unig o ran yr hawliau sydd gennym a'n cronfa cymorth dewisol, a gaf fi apelio hefyd at bobl nad ydynt ar y grid mewn perthynas ag olew—a gwn fod hyn yn effeithio ar lawer o Aelodau'r Senedd yma—fod y gronfa cymorth dewisol ar gael i helpu gyda’r costau hynny o ran mynediad at olew fel ffynhonnell ynni allweddol? Dyma ble mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Ond nid oes a wnelo hyn â chymorth gennym ni yn unig, mae'n rhaid cael cymorth Llywodraeth y DU hefyd, sy'n cadw'n ddistaw ar hyn—yn gwbl ddistaw—pan ydym yn gweld y costau ynni hyn yn codi. Ond dylid dweud hefyd fod hwn yn gyfle gwirioneddol i Lywodraeth y DU ddangos eu bod yn mynd i'r afael â’r argyfwng costau byw, sy’n cael effaith mor andwyol a chreulon ar bobl ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwerthfawrogi’r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio sicrhau bod pawb yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ond fel y dywedoch chi yn gynharach, yn bennaf, Llywodraeth y DU sydd â’r ysgogiadau. Ac rwy’n sylweddoli bod yn rhaid ei bod yn anodd iawn cael unrhyw un i ateb y ffôn pan fo Llywodraeth y DU ynghanol argyfwng arweinyddiaeth, ond tybed a allech godi’r pwynt gyda hwy fod holl wledydd eraill Ewrop yn rhoi camau ar waith i ddefnyddio trethi Llywodraeth i leihau cost biliau ynni. Felly, mae Cabinet yr Iseldiroedd wedi torri trethi ynni ac wedi darparu mwy o arian ar gyfer inswleiddio; yn Ffrainc, maent yn rhoi pwysau ar EDF, sy'n eiddo i'r wladwriaeth, i leihau'r gost i gartrefi Ffrainc; yn Sbaen, mae treth ffawdelw ar gyfleustodau; yn yr Almaen, maent yn torri'r cynllun ynni gwyrdd; yn yr Eidal, yr un peth; ac yn Sweden, swm cyfwerth â bron i £500 miliwn, yn ogystal â Norwy. Felly, a oes unrhyw bosibilrwydd y gallwn gael unrhyw beth gan Lywodraeth y DU ynglŷn â newid y ffordd rydym yn casglu'r trethi gwyrdd fel eu bod yn rhan o brif ffrwd casgliadau treth incwm, neu'n wir, treth ffawdelw—y naill neu'r llall—fel nad yw'n gorfod cael ei ysgwyddo gan y rheini yr effeithir arnynt waethaf gan y cynnydd enfawr hwn ym mhrisiau ynni?

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Fe fyddwch yn ymwybodol, o’r gwaith rydych yn ei wneud fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a minnau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ymhell yn ôl ar ddechrau mis Ionawr. Rhannais y llythyr hwnnw gydag Aelodau’r Senedd. Felly, mae llawer o alwadau, ac rwyf wedi sôn am sawl un ohonynt eisoes, fel y taliadau tanwydd gaeaf, y cynllun gostyngiadau Cartrefi Clyd, ond edrych hefyd ar y ffyrdd y gallent—. A dweud y dylent symud y costau gwyrdd a pholisi cymdeithasol hynny allan o filiau cartrefi pobl ac i drethiant cyffredinol. Mae'n wych eich bod wedi cyfeirio at yr holl wledydd eraill sy'n rhoi camau ar waith i gynorthwyo pobl mewn tlodi tanwydd ac sy'n wynebu argyfwng dyfnach, ond hefyd eu bod yn cydnabod bod yn rhaid iddynt ariannu hyn drwy drethiant cyffredinol. Ac wrth gwrs, ar dreth ffawdelw, mae galwadau am seibiant treth ar werth, ac ati. Ond rydym wedi gwneud y pwyntiau hyn.

Rydym wedi codi'r pwyntiau hyn gyda Llywodraeth y DU ac mae hwn yn gyfle yn awr inni uno, gobeithio, yn y Senedd hon i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan. Ganddynt hwy y mae'r ysgogiadau. Rydych wedi clywed National Energy Action. Maent yn nodi'n glir mai dyma ble rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU ymateb a sicrhau eu bod yn cynorthwyo pobl sy’n mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i dlodi oherwydd costau byw, a'u bod yn gwneud hynny yn y ffordd gywir hefyd o ran tariff ynni cymdeithasol.

15:15
4. Datganiadau 90 Eiliad

Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Y datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Sioned Williams. 

Diolch, Lywydd. Ar ddydd Sadwrn olaf mis Ionawr 1872, cyfarfu Clwb Rygbi Castell-nedd ag Abertawe i gystadlu yn y gêm glwb gyntaf i'w chofnodi yn hanes rygbi Cymru. Ddydd Gwener, bydd y gêm hanesyddol hon yn cael ei choffáu wrth i Gastell-nedd ac Abertawe fynd benben â'i gilydd unwaith eto. Mae Clwb Rygbi Castell-nedd, clwb hynaf Cymru, yn dathlu cant a hanner o flynyddoedd ers ei sefydlu. Dros yr amser hwnnw, mae crysau duon Cymru wedi gweld a gwneud y cyfan; maent wedi cystadlu yn erbyn rhai o gewri’r gamp, wedi ennill nifer drawiadol o fuddugoliaethau cwpan, ac wedi torri sawl record. Mae nifer o gyn-chwaraewyr nid yn unig wedi cynrychioli’r clwb gyda rhagoriaeth, ond hefyd eu gwlad; mae dynion fel Gareth Llewellyn, Dai Morris, Jonathan Davies, Martyn Davies, Brian Thomas, Duncan Jones, Shane Williams a gormod i sôn amdanynt heddiw wedi sicrhau eu lle parhaol yn hanes rygbi Cymru.

Mae'r rheini sydd wedi chwarae dros Gastell-nedd wedi diddanu pobl dirifedi yng Nghymru ac ym mhob rhan o'r byd, ac wedi ysbrydoli llawer i ymgymryd â'r gamp. Ond nid y chwaraewyr yn unig y dylid eu dathlu; dylid dathlu'r gymuned gyfan o amgylch y tîm, o'r staff hyfforddi i'r rheini sy'n gweithio yn y clwb, o'r gwirfoddolwyr i'r cefnogwyr ymroddedig ac angerddol. Heddiw, hoffwn fyfyrio ar waddol cyfoethog a chyfraniad sylweddol Clwb Rygbi Castell-nedd. Mae'r hyn a gychwynnodd ar y diwrnod oer hwnnw ym mis Ionawr wedi trawsnewid camp, tref a chenedl. Llongyfarchiadau, Castell-nedd. Ymlaen i'r 150 mlynedd nesaf.

Roeddwn i am rannu efo'r Senedd wybodaeth am ffilm fer ond hyfryd sy'n rhoi bywyd newydd i un o hen chwedlau ein cenedl ni. Disgyblion Ysgol Gynradd Rhosgadfan yn fy etholaeth i sydd wedi creu'r ffilm. Fe'i dangoswyd yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow, a chael ymateb brwd. Cafodd y plant a'u teuluoedd gyfle i weld y ffilm ar sgrin fawr mewn dangosiad arbennig yn Galeri Caernarfon, ac roedd yn bleser i mi gael ymuno â nhw.

Mae Rhosgadfan yn un o bentrefi mwyaf difreintiedig fy etholaeth, a rhai teuluoedd erioed wedi cael cyfle i fynychu'r theatr o'r blaen. Enw'r ffilm ydy Blot-deuwedd, ac mae'n rhoi gwedd newydd i gainc adnabyddus y Mabinogi sy'n dilyn hanes Blodeuwedd, y ferch a wnaed o flodau. Mae disgyblion Ysgol Gynradd Rhosgadfan wedi gosod y stori mewn cyd-destun modern wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae'r 'blot' yn Blot-deuwedd yn cynrychioli dinistr y ddynoliaeth i'r byd. Mae'r actio, y ffilmio, yr animeiddio, y lleoliadau yn creu cyfanwaith hudolus, a dwi'n eich annog chi i wylio Blot-deuwedd, ac yn llongyfarch pawb fu ynghlwm â'r project. Ond yn bennaf, dwi'n diolch i'r plant am ddod â hen chwedl yn fyw mewn ffordd hynod berthnasol wrth i ni wynebu un o heriau mawr ein hoes.

Cefais y fraint o groesawu chwaraewyr dartiau gorau’r byd i'n Senedd y prynhawn yma, wrth iddynt baratoi ar gyfer noson gyntaf yr Uwch Gynghrair Dartiau yng Nghaerdydd yfory. Fel chwaraewr dartiau brwd fy hun, roedd yn wych cynnal y digwyddiad hwn gyda fy ffrind, fy nghyd-Aelod a chwaraewr a chefnogwr dartiau, Jack 'The Beard to be Feared' Sargeant. Ymysg y chwaraewyr a ymwelodd â’n Senedd roedd chwaraewr rhif 1 y byd, y Cymro Gerwyn Price, a phencampwr yr uwch gynghrair y llynedd, Jonny Clayton.

Rwy’n siŵr fod y Senedd gyfan yn dymuno’n dda i fechgyn Cymru yn yr uwch gynghrair eleni. Mae Cymru ar flaen y gad yn y byd dartiau, a dylem oll fod yn hynod falch o’r chwaraewyr sy’n ysbrydoli miliynau o bobl yn ddyddiol o gwmpas y byd. Edrychaf ymlaen at groesawu’r Gorfforaeth Dartiau Proffesiynol a’r chwaraewyr yn ôl i’r Senedd yn y dyfodol i arddangos eu doniau anhygoel yma yn ein cartref, Senedd Cymru. Diolch, Lywydd.

15:20

Diolch yn fawr. Rwy’n dipyn o gefnogwr dartiau fy hun, felly roeddwn yn arbennig o awyddus i glywed y datganiad hwnnw heddiw.

Diolch i bawb am hynny. Fe gymerwn ni egwyl fer nawr, ac fe gawn ni doriad tra bod newidiadau i'r Siambr yn cael eu cynnal. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:20.

15:35

Ailymgynullodd y Senedd am 15:37, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian.  

Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ordewdra. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7903 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi ei phryder bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd.

2. Yn nodi bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar y rhai sy'n byw gyda gordewdra, a bod gan fwy na hanner y bobl sy'n cael eu derbyn i ofal critigol BMI o dros 30.

3. Yn nodi ymhellach bod gwasanaethau rheoli pwysau wedi'u hoedi neu eu haddasu wrth i GIG Cymru drin cleifion COVID.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ailagor ar frys y gwasanaethau rheoli pwysau hynny sydd wedi'u hoedi yn ystod y pandemig;

b) nodi pryd y bydd gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yn cael eu hehangu ledled Cymru; ac

c) darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau rheoli pwysau yn gallu ymdopi â'r angen cynyddol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar. Gordewdra yw un o'r argyfyngau iechyd mwyaf y mae'r byd yn eu hwynebu. Am y tro cyntaf erioed, disgwylir y bydd plant yn byw bywydau byrrach na'u rhieni, ac mae'r rhan fwyaf o hyn oherwydd gordewdra. Mae COVID-19 wedi amlygu iechyd corfforol gwael Cymru. Gennym ni y mae'r gyfradd uchaf o farwolaethau COVID-19 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth o holl wledydd y DU, ac ar hyn o bryd, mae dwy ran o dair o'r boblogaeth dros bwysau neu'n ordew. Mae'n amlwg fod yn rhaid i iechyd corfforol y genedl fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac i'r Gweinidog. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan StatsCymru Llywodraeth Cymru ei hun yn nodi bod gan bron i ddwy ran o dair, neu 61 y cant, o bobl dros 16 oed yng Nghymru yn 2021 fynegai màs y corff (BMI) o dros 25. 

Mae bod dros bwysau yn cynyddu'n sylweddol y risg o nifer o glefydau cronig. Yn fwyaf arbennig, mae'r rhai sydd dros bwysau mewn perygl penodol o ddatblygu diabetes math 2, gorbwysedd, clefyd cardiofasgwlaidd, strôc. Mae hefyd yn achosi clefyd yr arennau, mathau penodol o ganser, apnoea cwsg, gowt, osteoarthritis a chlefyd yr afu, i enwi rhai cyflyrau'n unig. Felly, mae'r achos dros flaenoriaethu gordewdra yn glir. Rhagwelir y bydd gordewdra'n costio £465 miliwn y flwyddyn i'n GIG yng Nghymru erbyn 2050, ond bron i £2.4 biliwn i economi a chymdeithas Cymru yn gyffredinol. Gallai'r costau hyn olygu bod cleifion yn ein GIG yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o driniaethau y maent eu hangen i achub eu bywydau neu sy'n ymestyn eu hoes. 

Mae ffigyrau gan Cancer Research UK yn dangos mai bod dros bwysau yw'r prif achos canser mwyaf ond un yn y DU. Mae mwy nag un o bob 20 achos o ganser wedi eu hachosi gan bwysau gormodol. Nododd ymchwil canser hefyd fod cario pwysau iach yn lleihau'r risg o 13 math gwahanol o ganser. Mae angen i bob un ohonom gydweithio ar hyn. Mae hwn yn fater pwysig, a chredaf y dylem roi gwleidyddiaeth o'r neilltu. Mae angen i bob un ohonom bryderu'n briodol fod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr fod pawb yn cytuno bod hwnnw'n ystadegyn sy'n peri pryder.

Yn 2021, safodd y Ceidwadwyr Cymreig etholiad ar addewidion i wella iechyd a lles corfforol y genedl drwy ddarparu mynediad am ddim i gampfeydd a chanolfannau hamdden awdurdodau lleol i bobl ifanc 16 i 24 oed. Dywedasom y byddem yn buddsoddi mwy o arian mewn teithio llesol, cerdded a beicio ac y byddem yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw mewn ysgolion. Dywedasom y byddem yn creu cronfa adfer chwaraeon cymunedol, ac rwy'n awyddus iawn i weld bod Gweinidogion wedi edrych ar hyn a'i roi ar waith. Gwyddom i gyd am y dywediad fod atal yn well na gwella, ond yn anffodus, nid ydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei bregethu. 

Efallai mai gwleidydd newydd gorfrwdfrydig ydw i yma, delfrydwr, rhywun sy'n credu y gall pethau newid. Nid wyf yn credu y dylem gynnal y status quo. Ond beth yw'r dewis arall yma? Ers dau ddegawd, mae gwleidyddion a Gweinidogion yn y lle hwn wedi siarad am y broblem. Maent wedi creu strategaethau, wedi cael ymgynghoriadau cyhoeddus, wedi mynd yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen, ond nid ydym yn cyrraedd unman, oherwydd mae pethau yng Nghymru'n gwaethygu. Mae'r byd wedi newid, a rhaid inni ddeall hynny. Mae pobl yn byw bywydau llawer mwy disymud nag o'r blaen. Yn y lle hwn, rydym yn tueddu i eistedd am lawer o'r amser a pheidio â byw'r ffordd o fyw egnïol honno. Os ydych dros bwysau neu'n ordew, mae angen ichi wneud hynny oherwydd eich bod yn rhoi eich hun mewn perygl mawr iawn o fynd yn sâl. 

Rhoddwyd cynnig ar lawer o syniadau, gan gynnwys trethi siwgr a gwariant enfawr ar negeseuon cyhoeddus, felly pam nad ydym yn gweld y canlyniadau? Credaf fod angen inni symud oddi wrth y syniadau a'r polisïau presennol sydd ar waith, a cheisio edrych ar hyn o safbwynt strategol a gwrthrychol. Mae'n amlwg fod problem sylweddol gydag ansawdd y bwyd sy'n cael ei fwyta, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y byd. Ond nid yw pobl yn sôn am ordewdra ac o ddifrif yn ei gylch. Mae bod yn ordew mor beryglus â bod yn ysmygwr di-baid neu'n alcoholig, ond nid yw'n ymddangos bod ganddo'r un math o ddelwedd gyhoeddus â'r pethau hynny, o ran ffordd o fyw iach. Rydym i gyd yn teimlo'r canlyniadau, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn fyd-eang. Roedd diabetes yn glefyd nad oedd prin yn bodoli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn yr Unol Daleithiau ychydig amser yn ôl, roedd canran y bobl â diabetes yn un o bob 10,000, ac mae ymchwil bellach yn dangos ei fod yn un o bob 11 erbyn hyn. Mae hwnnw'n ystadegyn syfrdanol. 

Fodd bynnag, mae deiet wedi newid. Rydym wedi mynd o fwydydd iachus go iawn i fwydydd wedi'u prosesu, o fwydydd wedi'u prosesu â braster isel i fwydydd wedi'u prosesu â llawer o siwgr. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith nad yw swyddi pobl mor egnïol ag yr arferent fod, fod pobl yn fwy disymud, yn golygu ein bod yn gweld gordewdra'n gwaethygu, oherwydd mae gormod o bobl yn ein hysgolion ac yn ehangach heb gael eu haddysgu am fwyd ac o ble y daw. Mae angen i bobl ddechrau mabwysiadu ffordd o fyw sy'n iach, yn gytbwys ac yn egnïol, ac mae angen i'r Llywodraeth hyrwyddo hynny. Gellir mynd i'r afael â hyn drwy rai o'r pwyntiau a godais yn gynharach ynghylch hybu ffyrdd iach o fyw yn yr ysgol, annog chwaraeon, mynediad am ddim i gampfeydd i bobl ifanc lleol ac addysgu pobl o ble y daw eu bwyd.

Credaf fod angen inni weld newid ymagwedd yn gyfan gwbl tuag at fynd i'r afael â'r mater hwn. Y polisi a godwyd yma gan y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, nad ydynt yma yn anffodus, y Democratiaid Rhyddfrydol—. Mae gan bawb yn y lle hwn syniadau da, ac nid oes gan yr un blaid fonopoli ar y rheini. Felly, rwy'n croesawu pob syniad, ac rwy'n croesawu bron bopeth a ddywedai gwelliant Plaid Cymru. Felly, gobeithio, heddiw, y gallwn gefnogi'r newidiadau, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gefnogaeth ar waith i gynnal adolygiad llawn o strategaeth gordewdra, oherwydd nid yw gwneud dim yn ddigon da. Os na wnawn unrhyw beth, dyma fydd argyfwng iechyd mwyaf y genhedlaeth hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd. 

15:40

Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi dynnu eich sylw at y ffaith bod yna Aelodau Plaid Cymru ar-lein sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon. 

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod:

a) y cynllun cyflawni newydd 2022-24, y bwriedir ei lansio ar 1 Mawrth, sy’n cefnogi’r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ei nod fydd atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf.

b) y buddsoddiad o £5.8m mewn gwasanaethau gordewdra yn sgil y cynllun, i alluogi byrddau iechyd i gyflawni Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan ar ei newydd wedd a gwasanaethau cyfartal, gan gynnwys gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. 

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mesurau ataliol i leihau gordewdra yng Nghymru, fel:

a) buddsoddi mewn adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ym mhob cymuned; 

b) gwella addysg iechyd; 

c) cynyddu'r amser a ddyrennir i wersi addysg gorfforol mewn ysgolion.

d) Ymchwilio i'r defnydd o offer trethu i annog deiet gwell.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gynnig y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw. Mi wnaf i ychydig o sylwadau a sôn am ein gwelliant ni.

Dwi'n sicr ddim yn anghytuno efo beth sydd yn y cynnig gwreiddiol, a dwi'n sicr wedi trio gwneud beth gallaf i dros y blynyddoedd i roi sylw i fy mhryderon i am effaith gordewdra. Mi roedd o'n torri fy nghalon i i weld Ynys Môn, ychydig o flynyddoedd yn ôl, yn codi i frig y tabl cenedlaethol o faint o blant oedd yn ordew, a dyna pam y clywch chi fi yn galw am fuddsoddi mewn cyfleon i ymarfer corff ac ati. A dyna sydd ar goll yn y cynnig yma, dwi'n meddwl. Gallwch chi ddim sôn am broblem gordewdra a'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheoli pwysau heb gymryd y cam yna yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach. A dwi'n croesawu'r awgrym clir yn fanna y byddai'r Ceidwadwyr yn cefnogi ein gwelliannau ni oherwydd hynny.

Os ydy gordewdra yn bandemig byd-eang, ac mae o, os ydy bod yn ordew yn cynyddu'r risg o afiechydon cronig, diabetes, os ydy o'n un o brif achosion canser, os ydy o'n rhoi costau sylweddol iawn, iawn ar wasanaethau iechyd, os ydy o'n gostwng safon byw, os ydy o'n arwain at broblemau seicolegol, a bod hyn yn effeithio ar ddwy ran o dair o bobl ein gwlad ni—wel, mae eisiau trio mynd at wraidd hynny, onid oes, o'r crud, a mynd i'r afael go iawn â'r agenda ataliol.

Fel mae papur gwnes i ei ddarllen yn y National Library of Medicine yn America yn dweud:

'Y strategaethau mwyaf addawol yw addysg ac ymdrechion gan unigolion i wneud dewisiadau cyfrifol sawl gwaith bob dydd i ddiogelu, yn fwyaf effeithiol drwy ymatal, eu hased mwyaf gwerthfawr.'

Does yna ddim byd yn fwy gwerthfawr na'n hiechyd ein hunain, a rywsut mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni yn buddsoddi yn yr holl bethau hynny sy'n mynd i roi y dechrau gorau i bobl mewn bywyd. A dyna pam mae'n gwelliant ni'n sôn am adnoddau hyrwyddo gweithgarwch corfforol, gwella addysg iechyd, mwy o amser i addysg gorfforol. Dwi'n croesawu’r peilotau sy'n digwydd ar y diwrnod ysgol ar hyn o bryd er mwyn creu mwy o amser i addysg gorfforol. Rydym ni yn sôn yma eto am y syniad o gael rhyw fath o lefi ar y bwydydd lleiaf iach. Ym Mecsico, dwi'n meddwl, roedd yna 10 y cant o ostyngiad yn faint oedd yn bwyta'r bwydydd lleiaf iach ar ôl i dreth gael ei chyflwyno. Gadewch i ni edrych ar yr holl bethau yma yn eu cyfanrwydd. Rydym ni wedi defnyddio'r gair 'pandemig' lot mewn cyd-destun arall yn y ddwy flynedd ddiwethaf; mae hwn yn bandemig gwirioneddol ac mae'n rhaid edrych o dan bob carreg i chwilio am yr atebion iddo fo.

15:45

Cytunaf yn llwyr â'r teimladau a fynegwyd ynghylch pwysigrwydd gordewdra a mynd i'r afael â gordewdra os ydym am greu'r math o Gymru rydym am ei gweld o ran iechyd a lles. Mae'n her fawr ac mae wedi bod yn her gynyddol ers peth amser, ac mae angen inni sicrhau bod y GIG yn ymateb yn effeithiol pan fo gan bobl broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â gordewdra. Ond rwy'n cytuno'n gryf, y tu hwnt i hynny, fod angen inni symud lawer mwy at yr agenda ataliol, a chredaf fod ysgolion yn gwbl allweddol. 

Cawsom adroddiad Tanni Grey-Thompson yn sôn am bwysigrwydd sicrhau bod ein pobl ifanc, ein plant, yn mabwysiadu arferion da yn gynnar, arferion a fydd yn aros gyda hwy am oes; pwysigrwydd cwricwlwm yr ysgol i sicrhau bod plant yn ddigon egnïol mewn ysgolion, eu bod yn sylweddoli pwysigrwydd cadw'n heini, yn egnïol ac yn iach, a bod gweithgareddau ychwanegol ar gael y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod rhai plant yn cael profiad tacsi mam neu dad lle maent yn datblygu eu diddordebau a'u galluoedd drwy chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol eraill. Nid yw plant eraill, yn enwedig plant mewn cymunedau mwy difreintiedig, yn cael y profiad hwnnw mor aml, ond byddant yn ei gael, gobeithio, drwy'r ysgol os caiff ei ddarparu yn yr ysgol yn ystod neu y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Credaf o ddifrif fod angen inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu gyda a thrwy ein hysgolion. 

Mae eraill yn helpu'r ymdrech honno. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, mae gan Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth hamdden, raglen chwaraeon ysgol ac mae'n sicrhau bod ei chyfleusterau ar gael i ysgolion ac yn gweithio gyda'n hysgolion. Maent hefyd yn weithgar iawn yn y gymuned, yn ymdrin â'r ffactorau amddifadedd sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch corfforol. Mae ganddynt raglen Dyfodol Cadarnhaol, er enghraifft, sy'n estyn allan at gymunedau. Maent hefyd yn gweithio gyda'r GIG drwy gynllun cenedlaethol Cymru i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, ac mae gennym gangen County in the Community Casnewydd yn gweithio gydag ysgolion gan ddarparu rhaglen chwe wythnos ar gyfer 900 o blant rhwng naw a 10 oed bob blwyddyn, ac maent hefyd yn estyn allan at ein cymunedau gan ddefnyddio cyfleusterau i ddarparu chwaraeon a gweithgaredd drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, yn ystod misoedd y gaeaf, maent yn canfod bod yn rhaid i hanner y rhaglen allgymorth gymunedol honno ddod i ben am nad oes goleuadau yn rhai o'r cyfleusterau hynny, ac maent hefyd yn canfod nad yw'r arwynebau fel y dylent fod, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem edrych ar fynd i'r afael ag ef drwy Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, Chwaraeon Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod y cyfleusterau'n cyrraedd y safon. Ac yn yr un modd ar gyfer yr holl glybiau chwaraeon llawr gwlad, megis clwb pêl-droed Gwndy, er enghraifft, sydd â dros 500 o bobl yn cymryd rhan bob wythnos—llawer o bobl ifanc, merched, menywod, yn dod yn egnïol, yn mwynhau chwaraeon ac yn mwynhau'r agweddau cymdeithasol hefyd. Credaf fod angen inni roi mwy o gefnogaeth i'r gweithredwyr cymunedol hyn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr.

15:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? Ac fel y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno, rwy'n siŵr, mae gordewdra yn fater iechyd cyhoeddus difrifol; tynnodd James sylw at y materion sy'n codi, yn ogystal â Rhun. Gwasanaeth iechyd Cymru—mae'n costio miliynau y flwyddyn i hwnnw ei drin, ac mae pethau'n gwaethygu. Yn amlwg, mae'n broblem y mae angen mynd ben ben â hi, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni edrych yn ehangach ar y mater, yn hytrach na dim ond annog pobl i fod yn fwy egnïol, oherwydd yn y bôn, mae problemau fel gordewdra a diffyg maeth yn gysylltiedig â deiet pobl, sy'n dibynnu ar argaeledd a hygyrchedd bwyd. Ac felly, y cwestiwn yw sut rydym yn gwella hygyrchedd ac argaeledd bwyd maethlon, iach, o ansawdd da i helpu i atal problemau fel gordewdra yn y lle cyntaf, yn ogystal ag ymateb i'r gwahanol broblemau economaidd-gymdeithasol a all arwain at ordewdra.

Mewn adroddiad diweddar, mae Cydweithrediad Ymchwil Bwyd wedi dadlau bod corff sylweddol o dystiolaeth wedi dangos bod llunio polisïau integredig cysylltiedig yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â materion trawsbynciol cymhleth fel bwyd a gordewdra, yn hytrach na dulliau polisi tameidiog. Nid yw hyn o reidrwydd yn beth syml i'w gyflawni, ond mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi galw o'r blaen ar Lywodraethau i edrych ar eu polisïau sy'n berthnasol i systemau bwyd, gan gynyddu'r sylfaen dystiolaeth ar ryngweithiadau polisi. Credaf fod mwy o le hefyd inni ddefnyddio addysg fel mesur ataliol i helpu i wella iechyd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rhywbeth y mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi galw amdano yw polisi integredig ar gyfer bwyd mewn ysgolion, gan alinio polisi'r Llywodraeth yn well i wella bwyd ac addysg, cynnig mwy o gyfle i gynhyrchwyr lleol gyflenwi mwy o'u cynnyrch yn lleol a chynyddu'r cyflenwad o fwyd iach mewn ysgolion. Byddai hyn o fudd i'r amgylchedd, yn gwella llesiant plant, ac yn rhoi hwb i economeg leol. Mae'r nodau cyffredinol hynny'n rhywbeth y mae fy Mil bwyd arfaethedig yn anelu at ei sefydlu. Wrth ddrafftio'r Bil, rwyf wedi clywed corff cynyddol o dystiolaeth sy'n cyfeirio at yr angen i ailystyried sut y mae'r system fwyd yma yng Nghymru wedi'i chynllunio a sut i integreiddio materion fel diffyg maeth a gordewdra o fewn y system fwyd ehangach er mwyn sicrhau bod gwahanol bolisïau a chynlluniau'r Llywodraeth i gyd yn tynnu i'r un cyfeiriad.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, diolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r ddadl amserol hon ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r cynnig gwreiddiol. Mae hwn yn bwnc mor bwysig; ni allwn gilio rhagddo. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Roedd James yn iawn i sôn fod hon yn drasiedi fyd-eang. Y gwledydd tlotaf yw'r rhai sy'n cael eu targedu'n helaeth hefyd gan hysbysebion diodydd siwgr, a elwir fel arall yn ddiodydd ffisiog, a bwyd wedi'i brosesu, pan na all y gwledydd hyn fforddio trin y diabetes sy'n ganlyniad anochel iddynt. Felly, mae'n warthus fod y cwmnïau rhyngwladol hyn yn ymddwyn yn y fath fodd.

Y gwledydd prin nad oes ganddynt hysbysebion dros y lle ym mhob man yw'r rhai iachaf, a rhaid inni atgoffa ein hunain fod poblogaeth Prydain erioed wedi bod yn iachach nag yn ystod yr ail ryfel byd ac ar ôl hynny, pan oedd bwyd wedi'i ddogni, ac felly nid oedd pobl yn gallu bwyta mwy nag ychydig bach iawn o fwyd a oedd yn eu gwenwyno mewn gwirionedd.

Felly, gordewdra yw prif achos marwolaeth gynnar ar ôl ysmygu, a bydd yn ei oddiweddyd yn fuan, oherwydd rydym yn atal pobl rhag ysmygu yn effeithiol iawn. Ymhlith methiannau trasig niferus Llywodraeth y DU mae'r methiant i ddeddfu i gael labelu golau traffig clir ar bob cynnyrch bwyd, fel y gall pobl weld pa mor drychinebus yw bwydydd penodol i'ch iechyd. Mae llawer gormod o siopau bwyd tecawê yn boddi mewn braster, siwgr a halen, gan mai dyna'r ffordd rataf o guddio bwyd diflas. A dyna hefyd sut y mae'r cwmnïau prosesu bwyd rhyngwladol yn gwneud eu biliynau. Felly, mae'n anodd iawn mynd i'r afael â hynny, oherwydd mae pobl wedi anghofio sut i goginio, ac rydym yn gorfod unioni hynny ym mhopeth a wnawn, boed hynny yn ein hysgolion neu mewn canolfannau cymunedol eraill. Mae'n rhaid inni adfywio'r syniad y gallwch goginio pryd o fwyd gydag ychydig gynhwysion syml iawn, ac mae'n llawer mwy blasus nag unrhyw beth a gewch gan rywun sydd ond yn eisiau mynd â'ch arian. 

Felly, rwy'n cofio cam pwysig iawn gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, sef Eluned Morgan, yn y Senedd ddiwethaf, i sicrhau bod rhaglenni rheoli pwysau ym mhob awdurdod lleol wedi'i targedu ar bobl a oedd mewn perygl o gael diabetes math 2, ac rwy'n gobeithio ei bod yn bosibl i'r Dirprwy Weinidog presennol ddweud wrthym pa mor dda y mae'r gwaith o gyflwyno'r rheini'n mynd rhagddynt, oherwydd rwy'n credu ei bod yn rhaglen eithriadol o bwysig. Mae atal bob amser yn rhatach na thrin ar ôl iddo ddigwydd, felly mae hon yn ffordd y gallwn yn bendant geisio atal yr epidemig o ddiabetes math 2. 

15:55

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y Siambr hon unwaith eto ar ordewdra, a diolch i James Evans am ddod â hyn i'r llawr heddiw a rhoi sylw i'r angen pendant i fynd ben ben â gordewdra unwaith eto. Nid problem gosmetig yn unig yw gordewdra; mae'n glefyd cymhleth a phroblem feddygol sy'n peri pryder ac yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau iechyd mawr, gan gynnwys llawer a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, James Evans, yn gynharach, yn cynnwys clefyd y galon, diabetes, pwysedd gwaed uchel a hyd yn oed canser.

Yn 2016, roedd 1.9 biliwn o bobl yn y categori dros bwysau, gyda 650 miliwn o bobl yn ordew, ac mae gordewdra byd-eang bron â bod wedi treblu ers 1975—ffigurau sy'n peri pryder. Mae'n destun pryder ein bod yn wynebu darlun llwm yng Nghymru. Dengys ystadegau fod bron i ddwy ran o dair o bobl 16 oed a hŷn wedi nodi yn 2021 fod ganddynt BMI o fwy na 25, gan eu gwneud yn ordew neu dros bwysau. Mae'n ofid mawr nad yw'r darlun yn dda i'n pobl ifanc ychwaith, gyda lefelau gordewdra a gorbwysau ymhlith plant Cymru bellach yn uwch nag y buont erioed, a byddant yn parhau i godi oni bai ein bod yn gweithredu yn awr. Er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio nifer o gynlluniau ers i mi fod yma o dan y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach', dair blynedd yn ddiweddarach ymddengys na wnaed fawr o gynnydd ar sefydlu arferion iach ymhlith poblogaeth Cymru. 

Mae ffactorau amrywiol yn chwarae eu rhan yn yr argyfwng gordewdra, ac un o'r elfennau diweddar sy'n cyfrannu ato, yn amlwg, yw'r pandemig, fel yr amlinellwyd yn gynharach. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gwelsom gau campfeydd, pyllau nofio a chyfyngu ar ymarfer corff awyr agored hyd yn oed. Gwelsom filiynau o bobl yn cael eu gorfodi i fod yn anweithgar yn gorfforol, a chafodd hyn effaith wirioneddol ddinistriol ar iechyd ein cenedl. Mae'n amlwg fod angen cynllun gweithredu difrifol arnom i fynd i'r afael â gordewdra. Mae angen i unrhyw gynllun a ddaw fod yn hollgynhwysol, yn gydnabyddiaeth wirioneddol o natur draws-bortffolio'r broblem, ac yn gydnabyddiaeth eto fod atal bob amser yn well na gwella. Mae angen cyfleusterau chwaraeon newydd ym mhob rhan o Gymru—nid mewn dinasoedd yn unig ond mewn ardaloedd gwledig, i roi cyfle i bawb fod yn heini—a gwella ffyrdd fel ei bod yn ddiogel ac yn atyniadol i ddechrau beicio, rhedeg a cherdded. Ac eto, mae'n ymddangos ein bod yn cael ein llywodraethu gan Blaid Lafur wrth-ffyrdd nad yw wedi dyrannu unrhyw beth, yn llythrennol, i'r gronfa ffyrdd cydnerth yn y gyllideb.

Fel Gweinidog addysg yr wrthblaid, mewn unrhyw ran o gynllun i fynd i'r afael â gordewdra, rwyf am weld prydau ysgol iach, maethlon yn cael eu gweithredu, a gwell addysg ar ba mor bwysig yw deiet cytbwys, a pha mor bwysig yw ffordd o fyw egnïol. Mae atal ac addysg bob amser yn well na gwella, ac rwy'n gobeithio gweld hyn yn ffurfio rhan o'r cwricwlwm newydd. Yn hollbwysig, mae angen inni ddechrau meddwl yn greadigol, gan nad yw'r hyn a wnawn ar hyn o bryd yn gweithio. Beth am edrych ar rywbeth syml fel campfeydd awyr agored i oedolion wedi'u lleoli wrth ymyl meysydd chwarae fel y gall plant a rhieni gadw'n heini ar yr un pryd? Mae angen inni edrych ar syniadau syml, effeithiol a heb fod yn gostus fel y rhain.

I gloi, mae angen inni weld Gweinidogion yn bod yn rhagweithiol a syniadau newydd ar sut i drechu gordewdra. Nid yw'n ddigon meddwl y bydd gwahardd bwydydd neu hysbysebion gwael yn ddigon; mae maint effeithiau economaidd gordewdra mor sylweddol, ac yn ein helpu i ddeall o ddifrif ei bod hi'n bryd gweithredu ar frys yn awr. Mae angen inni annog a hyrwyddo newidiadau ffordd o fyw a'i gwneud mor hawdd â phosibl i bawb yng Nghymru gadw'n heini a mabwysiadu ffordd o fyw egnïol. Nawr yw'r amser i weithredu. Diolch.

16:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae gordewdra yn gyflwr cymhleth ac ni all y Llywodraeth na'r GIG ei ddatrys wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai dull partneriaeth a dull system gyfan yw'r unig ffordd o sicrhau newid.

Strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru yw'r cam cyntaf tuag at ddull trawslywodraethol o leihau gordewdra yng Nghymru ar raddfa poblogaeth. O ganlyniad uniongyrchol i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a basiwyd gan y Senedd ddiwethaf, lansiwyd y strategaeth ym mis Hydref 2019 a chaiff ei chefnogi gan gyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd. Wrth ddatblygu'r strategaeth, daethom â'r dystiolaeth ryngwladol orau ar gyfer newid at ei gilydd. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, o gyllid i bolisi a deddfwriaeth. Dechreuodd y gwaith o'i chyflawni o ddifrif yn 2019. Gwnaethom nodi ein cynllun uchelgeisiol i gefnogi'r gwaith ar gyfer 2020-22 ac roeddem yn anelu'n uchel. Fodd bynnag, newidiodd y pandemig drywydd ein gwaith yn sylfaenol ac mae wedi gwaethygu a dyfnhau heriau a oedd yn bodoli eisoes. Cafodd gallu cyllido gwasanaethau ar draws y Llywodraeth a phartneriaid allweddol ei symud i ddiwallu anghenion brys a achoswyd gan COVID-19, sy'n golygu bod llawer o'r ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun wedi'u gohirio. Cafodd staff y GIG eu hadleoli i feysydd lle roedd angen brys yn ystod yr ymateb i'r pandemig, a dyna lle'r oedd eu hangen fwyaf.

Wrth inni geisio symud heibio'r don omicron, mae byrddau iechyd yn gobeithio ailgychwyn y gwasanaethau presennol tra'n parhau â chynlluniau newydd. Ar 1 Mawrth, byddaf yn cyhoeddi cynllun cyflawni 2022-24, sy'n cynnwys y gwersi a ddysgwyd o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd hyn yn cynnwys ymrwymiad ariannu o dros £13 miliwn dros ddwy flynedd. Byddaf yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn a fydd yn tynnu sylw at raddfa ac uchelgais ein cynlluniau i sicrhau newid gwirioneddol. O'r buddsoddiad hwn, dyrennir £5.8 miliwn yn benodol i fyrddau iechyd, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cymorth teg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy ddarparu llwybr rheoli pwysau i Gymru gyfan. Bydd hyn yn helpu i sefydlu gwasanaethau ochr yn ochr â buddsoddiad ehangach drwy fyrddau iechyd. Mae llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan wedi'i gynllunio i sicrhau ein bod yn ei wneud yn deg drwy Gymru. I gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, parhaodd y gwaith arno o ddifrif dros y pandemig ac roeddwn yn falch iawn o'i lansio'n swyddogol yr haf diwethaf. Gwyddom y bydd yn cymryd amser i adeiladu'r seilwaith gofynnol wrth i'r gwasanaeth ddatblygu, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gydag arweinwyr lleol, gan ddangos eu hymrwymiad i gynnydd. Bydd cyfres o raglenni, o opsiynau ymarfer corff i sgiliau maeth, yn dod â dull cwrs bywyd at ei gilydd.

Mae byrddau iechyd lleol wedi cynllunio a datblygu estyniadau i gael mynediad at wasanaethau cymunedol ar lefel 2. Bydd hyn yn darparu ystod o gymorth i unigolion allu cael gafael ar gymorth ar yr adeg iawn iddynt hwy. Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd gwasanaethau lefel 3 arbenigol ar gyfer plant a theuluoedd yn cael eu darparu ledled Cymru. Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd lleol flaenoriaethu hyn ac mae cynlluniau datblygedig ar waith i wella'r gwasanaethau a ddarperir. Gyda chymorth a gwaith cydweithredol ein proffesiynau gofal sylfaenol, mae gennym bellach gynllun atal gordewdra gofal sylfaenol i gefnogi a sbarduno'r gwaith o ddarparu'r llwybr, gan gynnwys gwneud i bob cyswllt gyfrif drwy ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd wedi'u llywio gan seicoleg. Ac rydym yn adeiladu cynnig digidol ar lefel 1 y llwybr gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd hwn yn cael ei ategu gan ddull ymgyrchu ymddygiadol hirdymor a bydd yn rhoi cymorth a chyngor defnyddiol i bobl ledled Cymru. Ac a gaf fi sicrhau Jenny Rathbone ein bod yn parhau i dreialu rhaglen atal diabetes Cymru gyfan ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru? A bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny yn fy natganiad ar 1 Mawrth.

Drwy'r fframweithiau cynllunio GIG a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, bydd byrddau iechyd yn cael eu monitro a'u dal yn atebol i Weinidogion er mwyn sicrhau bod y cynnydd yn parhau'n gyflym. Mae byrddau iechyd lleol hefyd yn cyflwyno gwaith monitro blynyddol i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol ac rydym wedi dyrannu £4.5 miliwn o gyllid i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol, gyda buddsoddiad pellach o £24 miliwn mewn cyfleusterau dros y tair blynedd nesaf. Mae addysg iechyd yn hanfodol, ac mae'r Cwricwlwm i Gymru, ein cwricwlwm newydd, yn cynnwys iechyd a llesiant fel un o chwe maes dysgu a phrofiad statudol. Rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfleoedd gweithgarwch corfforol mewn ysgolion. Rydym wedi buddsoddi yn y gaeaf llawn lles ac rydym wedi ymrwymo i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol. Drwy ein cynllun 'Pwysau Iach', rydym hefyd yn datblygu rhaglen egnïol ddyddiol newydd ar gyfer ysgolion gyda phartneriaid. Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio'r defnydd o bwerau trethu i gefnogi deiet iach, a bydd fy swyddogion yn cwmpasu cynigion cychwynnol ar y mater hwn.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at lansio ein cynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach' 2022-24 ar 1 Mawrth, a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni, gan gydnabod yr ymdrechion sylweddol y mae byrddau iechyd wedi dechrau eu gwneud. Gofynnaf i bob Aelod gefnogi ein gwelliant i'r cynnig heddiw. Diolch.

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gau'r ddadl heddiw, yn dilyn cyfraniadau manwl ac addysgiadol iawn o bob rhan o'r Siambr. Ac a gaf fi ddweud pa mor wych yw bod yn ôl yn y Siambr, yn gwneud yr hyn y mae ein hetholwyr wedi ein hethol i'w wneud?

Yr hyn a wnaed yn glir y prynhawn yma yw bod gordewdra yn glefyd cronig a achosir gan anghydraddoldebau iechyd, dylanwadau genetig a ffactorau cymdeithasol, ac fel y dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon, mae hon yn broblem y mae'n rhaid i bob Aelod o'r Cabinet fod yn gyfrifol amdani ar draws y Llywodraeth gyfan. Fel y nododd yr Aelod dros Ynys Môn yn gywir, mae gordewdra yn bandemig.

Roedd strategaeth Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2019, yn bryderus o amwys, er ei bod yn llawn o fwriadau da, ac fel y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud, roedd yn uchelgeisiol iawn. Ond er gwaethaf hyn, fel llawer o gynlluniau, cafodd ei gwthio o'r neilltu oherwydd pandemig COVID-19. Mae'r pwynt wedi'i wneud ei bod yn hanfodol ein bod yn ei chael yn ôl ar y trywydd cywir ar frys a byddwn yn cadw llygad barcud ar hyn.

Gwnaeth yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed hyn yn glir drwy restru'r afiechydon, yr anhwylderau a'r clefydau y gall gordewdra eu gwaethygu, a thynnodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd sylw at y pwynt am fesurau ataliol i leddfu'r baich ar y GIG. Cyfeiriodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd at ansawdd gwael bwyd, ac rwy'n cytuno â hi, felly y cyfan y gallaf ei wneud yw ei hannog hi a'i hetholwyr i gefnogi cynnyrch o Brydain, cefnogi cynnyrch o Gymru, prynu cynnyrch lleol o ansawdd uchel, gan gynnwys cig a llaeth, sydd nid yn unig o ansawdd uchel, ond yn iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy.

Tynnodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd sylw hefyd at brinder cyfleusterau o ansawdd uchel, a chyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y cyllid sydd ar gael. Ond cyfeiriwyd at hyn hefyd gan Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon yn ddiweddar, grŵp a gaiff ei gadeirio gan fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, a wnaeth y pwynt cywir nad problem gosmetig yn unig yw gordewdra; mae'n broblem iechyd hefyd.

Ni cheir un dull sy'n addas i bawb o fynd i'r afael â gordewdra, ac mae pob unigolyn yn wahanol, ond mae themâu cyffredin wedi bod erioed. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw i'n dadl heddiw ac yn atgyfnerthu eu hymdrechion i roi blaenoriaeth i ymladd problem gordewdra yng Nghymru. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau i ddangos eu hymrwymiad tuag at frwydr y braster a chefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf heddiw yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7905 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr effaith y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chamddefnyddio sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd.

2. Yn credu y dylid rhoi mwy o ffocws i atal cam-drin ac esgeuluso plant na delio â'r canlyniadau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ei hystyried yn fraint cael gwneud y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, yn ffurfiol ac agor y ddadl hon ar bwnc mor bwysig ond anodd.

Fel llawer ohonom yma yn y Siambr, ymrwymais i gefnogi targed WAVE Trust o 70 y cant ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod erbyn diwedd y degawd hwn. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, roedd bron pob Aelod yn cefnogi'r addewid 70/30. Yn wir, yr unig rai nad oeddent yn cefnogi gosod targedau i fynd i'r afael â cham-drin plant oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, er i'r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, ddweud wrth y Siambr ei fod yn cefnogi gwaith WAVE Trust.

Mae gennym gyfle gwirioneddol ger ein bron heddiw. Gallwn gadarnhau ein hymrwymiad i'r targed 70/30 a rhoi Cymru ar lwybr i fod yn un o'r gwledydd blaenllaw o ran mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effeithiau mor ddinistriol ar unigolion. Maent yn codi'r risg o iechyd corfforol a meddyliol gwael, yn cyfrannu at ganlyniadau addysgol gwaeth ac yn arwain at ddisgwyliadau oes byrrach. Rydym i gyd wedi gweld yr ystadegau ac yn credu ein bod yn deall y problemau, ond hyd nes y siaradwch â dioddefwyr a chlywed eu stori, ni allwch lwyr amgyffred maint y problemau sy'n wynebu llawer o blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae'r trawma yn effeithio ar eu bywydau ac yn eu gyrru ar gyfeiliorn.

Rhannodd un dioddefwr ei stori ysgytwol gyda mi. Cafodd ei cham-drin yn rhywiol yn 12 oed. Cafodd y profiad erchyll hwn ei ddwysáu wrth i'r trais rhywiol arwain at feichiogrwydd, a chamesgoriad wedyn. Parhaodd y trawma drwy gydol ei bywyd ifanc. Dilynodd mwy o ymosodiadau rhywiol yn ogystal â dau feichiogrwydd pan oedd yn ei harddegau. Ni orffennodd ei haddysg ffurfiol a throdd at alcohol a chyffuriau. Yn y pen draw, aeth yn gaeth i heroin a dywedodd ei bod wedi ystyried cyflawni hunanladdiad fwy nag unwaith.

Drwy gydol y cyfnod trawmatig hwn, roedd hi'n galw am gymorth. Yr unig gymorth a gafodd oedd gwrth-iselyddion. Pan aeth yn feichiog, unwaith eto, gofynnodd am help gyda dibyniaeth, a rhagnodwyd Subutex iddi heb lawer o ystyriaeth i'r effaith y gallai hyn fod wedi'i chael ar ei phlentyn yn y groth. Drwy'r cyfnod hwn, dros sawl degawd, gofynnodd am gymorth gan lawer o asiantaethau. Bu dros 150 o wahanol adrannau a phobl yn rhyngweithio â hi, ac eto ni wnaeth yr un ohonynt gynnig cymorth heb leisio barn. Aeth un o'i phlant hŷn ymlaen i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Pan glywodd am WAVE Trust a dysgu am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fe weithredodd i newid ei bywyd. Heb gymorth, rhoddodd y gorau i'w harfer heroin ar ei phen ei hun yn llwyr ac mae'n falch o fod yn sobr ers dwy flynedd bellach. Gwnaeth hyn er mwyn ei phlant, ond rydym yn parhau i wneud cam â hi a'i phlant. Cafodd bresgripsiwn ar gyfer therapi trawma, ond dywedwyd wrthi fod rhestr aros o fwy na dwy flynedd.

Drwy rannu ei stori, mae'n gobeithio y gall helpu i atal rhywun arall rhag byw drwy'r un uffern ag y mae hi wedi byw drwyddo. Syrthiodd drwy'r bylchau, fel y gwnaeth ei phlant. Ni chafodd gymorth i'w phlentyn oherwydd ei bod yn byw yn y cod post anghywir, gan ei bod yn byw mewn ardal ymddangosiadol gefnog nad oedd yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg na Teuluoedd yn Gyntaf.

Sut y gall hyn ddigwydd yn y Gymru fodern? Nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd, ond rwy'n gwybod bod yn rhaid inni weithredu, ac mae'r daith honno'n dechrau gyda mabwysiadu'r targed o 70/30 yn swyddogol. Ni fydd yn datrys popeth yn wyrthiol, ond bydd yn rhoi ffocws i feddyliau pobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i fabwysiadu 70/30 gan nad yw'n ddigon uchelgeisiol a chan nad yw'n llwyr o fewn cwmpas gwaith y Llywodraeth. Ni wnaeth hyn atal Llywodraeth yr Alban, ac ni ddylai ein hatal ni. Ac os ydym am roi diwedd ar y cam-drin a'r trawma sy'n effeithio ar fywydau plant, mae'n rhaid inni gymryd y cam cyntaf.

Mae fy mhlaid yn addo lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod 70 y cant erbyn 2030. A wnewch chi?

16:10

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Heledd Fychan i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian a siarad amdanyn nhw.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Dileu popeth ar ôl pwynt 1, a rhoi yn ei le:

Yn credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn ystod plentyndod ac ymyrraeth gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru.

Yn nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ganlyniad i COVID-19.

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd targedau pendant yn y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gaiff ei gyhoeddi’r haf hwn i fesur effeithiolrwydd y cynllun.

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn gyflwyno'n ffurfiol ein gwelliannau heddiw, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc sy'n eithriadol o bwysig. Bwriad ein gwelliannau yw cryfhau'r cynnig, fel ein bod yn gweld y gweithredu hirdymor sydd ei angen i fynd i'r afael â hyn, a dwi'n gresynu'r ffaith bod y WAVE Trust ddim wedi ei enwi yn benodol yn y cynnig gwreiddiol. Yn sicr, rydyn ni'n gyfan gwbl gefnogol fel plaid o ran cael targedau pendant, ond dydy targedau yn unig ddim yn golygu dim os nad ydyn ni hefyd yn gweld newid gwirioneddol.

Hoffwn ganolbwyntio'n benodol yn fy nghyfraniad ar effaith y pandemig o ran gwaethygu'r sefyllfa oedd yn barod yn eithriadol o bryderus o ran y lefel oedden ni'n ei gweld o ran effaith ar blant a phobl ifanc.

Yn ystod pandemig COVID-19, mae mesurau iechyd y cyhoedd fel cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol wedi bod yn hanfodol i atal y feirws a diogelu iechyd y boblogaeth. Fodd bynnag, i rai pobl, mae hyn wedi golygu eu bod yn fwy agored i niwed yn y cartref ac ar-lein, tra'n lleihau mynediad at ofal a chymorth gan wasanaethau. Yn fwyaf arbennig, mae hyn wedi rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl, gyda'r perygl o fod yn fwy agored i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais a allai arwain at ganlyniadau hirdymor.

Mae sawl ffordd y gallai profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod wedi'u gwaethygu gan yr ynysigrwydd cymdeithasol, colli swyddi, cau ysgolion a mathau eraill o straen a achoswyd gan y pandemig. Yn gyntaf, mae'n bosibl fod y pandemig wedi cynyddu trallod o fewn y teulu, gan wneud plant yn fwy agored i bryderon rhieni, yn enwedig pryderon sy'n gysylltiedig â cholli swydd, ansicrwydd bwyd ac ansicrwydd tai. Gall straen o'r fath aros ym meddwl rhywun am fisoedd neu flynyddoedd. Yn ail, drwy gynyddu straen gwenwynig, gallai trallod teuluol cynyddol amharu ar ddatblygiad ymennydd plant, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar. Rydym wedi gweld trawma ar ôl colli anwyliaid. Rydym hefyd wedi gweld bod y pandemig a'r ymateb iddo yn effeithio'n anghymesur ar boblogaethau incwm isel a lleiafrifoedd ethnig, sydd eisoes mewn mwy o berygl o fod â chyflyrau cronig yr effeithir arnynt gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel geni cyn amser, diabetes, gorbwysedd a chlefyd cronig yr ysgyfaint. 

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhagweld y bydd dros 1 filiwn o farwolaethau plant y gellir bod wedi eu hatal ar draws y byd o ganlyniad i effaith anuniongyrchol y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn ystadegau dirdynnol. Rhaid inni weithredu'n gyflym. Rhaid inni weithredu yn awr i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, ac rwy'n gobeithio y gall cyd-Aelodau o bob ochr i'r rhaniad gwleidyddol gefnogi ein gwelliant heddiw fel ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc. 

16:15

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 3.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a dull sy'n cael ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma yn faes ac yn bwnc rwy'n angerddol yn ei gylch. Y llynedd, ysgrifennais ddarn wedi'i gyd-ysgrifennu gyda Charlotte o Platfform, elusen iechyd meddwl, am yr angen am ddull mwy caredig wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma ym mhob un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Gwn fod llawer o Aelodau'n rhannu'r diddordeb hwn gyda mi, ac rwy'n aml yn meddwl, fel y gwnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ddoe, am y rôl a chwaraeodd fy nhad yn hyrwyddo profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r agenda yng Nghymru.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a diolch i Darren Millar am hynny, ond rwyf am gael trafodaeth ehangach am bwysigrwydd atal. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud â lleihau yn unig; rwy'n credu ei fod yn ymwneud â helpu pobl sydd wedi dioddef trawma. Ac wrth wraidd trawma mae tlodi. Ni allwch gefnogi dull sy'n cael ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma a chefnogi, er enghraifft, y system les bresennol, sydd mor anhyblyg a thrawmatig. Natur gosbol y system hon yw'r gwrthwyneb llwyr i ddull wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma. Mae'n achosi pryder ac mae'n achosi anobaith.

Ddirprwy Lywydd, clywais ystadegyn gan un o fy nghyd-bleidwyr Llafur Cymru y bore yma. Roedd hi'n siarad mewn dadl, a dywedodd fod 94 y cant o benderfyniadau budd-daliadau—94 y cant—yn ei hetholaeth sy'n mynd i apêl yn cael eu gwyrdroi. Nid yw hwnnw'n ddull o weithredu a gaiff ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, ni fydd hynny'n lleihau nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ond wrth gwrs, eto heddiw, ni sonnir am hyn yn y cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig am eu bod yn cefnogi'r anhrefn y mae hyn yn ei achosi i aelwydydd ledled y wlad. Mae'n werth nodi, Ddirprwy Lywydd, nad yw'r cynnig yn dweud dim am yr argyfwng costau byw a'r dioddefaint cysylltiedig y bydd yn ei achosi i lawer. Felly, fel y dywedais, Ddirprwy Lywydd, rwyf am gael y sgwrs ehangach ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae'n bwysig ein bod yn cael y ddadl hon yn ein Senedd heddiw, ond rhaid inni—

Roeddwn eisiau tynnu sylw at y ffaith mai'r peth pwysicaf am Platfform yw symud at ddull sy'n cael ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, fel nad ydym yn dweud, 'Beth sydd o'i le arnoch chi?', ond yn hytrach yn dweud, 'Beth a ddigwyddodd i chi, a sut y gallwn eich helpu i'w unioni?' A fyddech yn cytuno â hynny?

Diolch i'r Aelod, Jenny Rathbone, am yr ymyriad hwnnw. Mae hi'n llygad ei lle; rwy'n cytuno â Platfform a'u hymgyrch i arwain dull a gaiff ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, am mai dyna sy'n iawn. Pan edrychwn ar y system les, er enghraifft, mae honno'n system sydd wedi'i sefydlu i wneud cam â phobl gyffredin. Felly, rwyf eisiau i'r sgwrs honno ddigwydd. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael asesiad gonest fod y cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thlodi yn glir iawn, felly gadewch inni beidio â chladdu ein pennau yn y tywod yma. Rwy'n dod i ben, Lywydd. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd yn adeiladol ac yn onest i greu cenedl sy'n cael ei llywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma yng Nghymru. Diolch.

16:20

Unwaith eto, diolch i Gareth am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yn y Senedd heddiw—mae'n hollbwysig i blant ar hyd a lled ein gwlad. Amcangyfrifodd arolwg troseddu Cymru a Lloegr fod un o bob 100 o oedolion—bron i hanner miliwn o bobl rhwng 18 a 74 oed—wedi cael eu hesgeuluso'n gorfforol cyn eu bod yn 16 oed. I waethygu hyn, cafodd 160,000 o droseddau'n ymwneud â cham-drin plant yn gorfforol eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2019-20, a gwelsom gynnydd pryderus, fel yr amlinellwyd yn gynharach, yn ystod y cyfyngiadau symud, gyda'r pandemig yn gwaethygu problem a oedd eisoes yn peri pryder.

Dyma gipolwg yn unig ar yr her a wynebwn yma yng Nghymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rhaid inni ei gwneud yn flaenoriaeth i ddiogelu ein plant a'r cenedlaethau sy'n dilyn, oherwydd gallwn i gyd weld yn glir yr effaith enfawr a dinistriol y mae trawma, fel yr amlinellwyd, yn ei chael ar berfformiad addysgol a chanlyniadau bywyd. Mae mwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer y rhai nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau a gostyngiad yn nifer y rhai sydd â chymwysterau addysg uwch. Pan fyddwn yn methu cyflawni ar gyfer y plant hyn yn eu blynyddoedd ffurfiannol, rydym fel arfer yn eu tynghedu hwythau i fethu ar hyd eu hoes, rhywbeth na ellir caniatáu iddo barhau. Dylem fod yn ymdrechu i fod yn arweinwyr byd ym maes diogelu plant, a fyddai yn ei dro yn gwella ein canlyniadau addysgol. Os methwn wneud hynny, mae'r dystiolaeth yn dangos inni beth a all ddigwydd a beth sydd fel arfer yn digwydd.

Cynhaliodd yr Adran Addysg yn Lloegr adolygiad o'r dystiolaeth ryngwladol ar effaith camdriniaeth ac esgeulustod ar blant. Roedd y dystiolaeth yn yr adolygiad yn awgrymu bod plant sy'n cael eu cam-drin yn fwy tebygol o ymddwyn yn wael yn yr ysgol, yn fwy tebygol o ddioddef bwlio yn yr ysgol, yn fwy tebygol o fod ag anghenion addysgol arbennig, yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o'r ysgol, ac yn fwy tebygol o fod yn absennol o'r ysgol. Mae'r cyfrifoldeb yn awr ar Lywodraeth Cymru i ddweud 'digon yw digon' ac ymdrin ag achosion sylfaenol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, oherwydd os parhawn i fethu cyflawni ar gyfer y rhai ieuengaf a mwyaf agored i niwed, rydym i gyd yn methu fel cymdeithas.

Hoffwn ailddatgan yr hyn a ddywedodd Gareth yn gynharach: eich lle chi, Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru, yw ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw i'r targed 70/30 yn awr, oherwydd byddai hwnnw'n lle da iawn i ddechrau. Diolch.  

Fel Aelodau'r Senedd, efallai fod rhai ohonom yn byw gydag un neu fwy o'r saith profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Weithiau gallwn ymdopi â hwy, ac weithiau ni allwn wneud hynny. Ar ôl gweithio am dros 25 mlynedd ym maes diogelu plant, gyda llawer o'r blynyddoedd hynny ar y rheng flaen, gallwn adrodd straeon am lawer iawn o blant a phobl ifanc y cyfarfûm â hwy lle mae'r cylch cam-drin a thlodi, fel y mae Jack wedi sôn, yn parhau i'r genhedlaeth nesaf, heb fawr o obaith na disgwyliad o newid. Felly, diolch am y ddadl hon, ac rwy'n gobeithio'n fawr y cawn gyfle i gydweithio ar draws y pleidiau gwleidyddol i newid pethau.

Roeddwn yn falch ddoe o fod wedi cael fy ethol yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd, a byddwn yn rhoi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymarfer wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma ar yr agenda, felly rwy'n croesawu pob diddordeb yn y mater hwn. Yr ail fater a drafodwyd gennym oedd ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn cyfraith ddomestig. Roeddwn wrth fy modd fod y comisiynydd plant presennol, Sally Holland, wedi gallu ymuno â ni yn y cyfarfod, a gwnaeth alwad eglur i bob un ohonom fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Dywedodd fod mentrau polisi'n mynd a dod, ond yr unig ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd ar gyfer ein plant yw drwy sicrhau hawliau cyfreithiol a hawliau y gellir eu gorfodi. Felly, rwy'n falch o weld y gwelliant gan Blaid Cymru yn dadlau dros y safbwynt hwnnw, oherwydd mae dull sy'n seiliedig ar hawliau i atal trawma yn gwbl hanfodol.

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn drasiedi. Hoffwn ddiolch i'r holl staff sy'n gweithio ar y rheng flaen i wneud eu gorau i newid bywydau plant a phobl ifanc, a diolch enfawr i'r plant a'r teuluoedd sy'n ymdrechu i newid eu bywydau a hwythau'n byw mewn sefyllfaoedd enbyd a heriol. Rydych chi'n haeddu mwy. Gadewch i hyn fod yn gydnabyddiaeth fod pob un ohonom, o ba blaid wleidyddol bynnag, yn gweld ein rôl i newid yr hyn a wnawn er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael y gefnogaeth a'r cymorth rydych eu hangen. Diolch yn fawr iawn. 

16:25

Un ffactor go fawr sy'n peri pryder ac sy'n cyfrannu at y bwlch cyrhaeddiad yw iechyd meddwl a llesiant ein plant, a'r llynedd canfu adroddiad gan Brifysgol Caerdydd fod tua 19 y cant o bobl ifanc yng Nghymru wedi nodi lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl gwael cyn y pandemig COVID-19. Mae ysgolion wedi dweud yn glir nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i ymdopi â'r galw am gymorth angenrheidiol, er eu bod yn mynd y tu hwnt i'r galw i weithredu dulliau ysgol gyfan yn eu darpariaeth. Cymeradwyodd adroddiad 'Dim Drws Anghywir' y comisiynydd plant system gydgysylltiedig lle gall gweithwyr proffesiynol ddod at ei gilydd i ddarganfod pa gymorth y gallant ei gynnig, gan ganiatáu i ofal hyblyg gael ei ddarparu i ddiwallu anghenion. Mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio bod ffigurau ar gyfer Gorffennaf 2021 wedi dangos bod 432 o gleifion allan o gyfanswm o 720 yn aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed. 

Weinidog, yng ngoleuni'r pwysau a amlygir eto gan y pandemig, ac i'r plant sydd wedi cael profiadau niweidiol, pa gamau y gallwch ymrwymo i'w cymryd i sicrhau bod gennym ddull 'dim drws anghywir' â digon o adnoddau, gyda chysylltiad rhwng yr holl wasanaethau fel ffordd o leihau cam-drin plant a phrofiadau niweidiol 70 y cant erbyn 2030? Dywed Barnardo's mai'r ffactor canolog sy'n effeithio ar iechyd meddwl yng ngogledd Cymru oedd amgylchedd byw llawn straen, gyda chynnydd yn nifer y plant sy'n troi at ddefnyddio canabis yn lle mynd i'r afael â'u trawma. Mae gennyf nifer enfawr o blant ifanc mewn teuluoedd sydd wedi bod yn byw mewn llety dros dro fel y'i gelwir am gyhyd â 18 mis, ac mae hynny hefyd yn achosi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Yng Nghonwy, rwy'n falch o ddweud bod Barnardo's yn cael eu hariannu i gefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau ac alcohol fel ffordd o fynd i'r afael â ffactorau sy'n cyfrannu, ond ymdrin â'r symptomau y mae hynny'n ei wneud, nid yr achos. Dywed yr elusen ei bod yn anodd parhau â'u darpariaeth arbenigol pan nad yw staff yn gwybod a fydd eu swydd yn cael ei hariannu o flwyddyn i flwyddyn. Felly, unwaith eto, a gawn ni ryw ymrwymiad ynglŷn â sut y bwriadwch ariannu hyn, a rhoi rhywfaint o obaith i'r sefydliadau hyn? A wnewch chi gydweithio â'ch cyd-Weinidog i adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i ddarparu ymrwymiad ariannu mwy hirdymor i'r rhai sy'n cynorthwyo yn y maes hwn?

Cyn y pandemig, Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o ordewdra ymhlith plant, gyda bron i 27 y cant o blant pedair i bump oed dros bwysau neu'n ordew. Pan oeddwn ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, roeddwn yn rhan o'r ymchwiliad, ac roedd rhai o'r ystadegau a welsom yn frawychus. Weinidog, rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw a rhoi mwy o ffocws i atal cam-drin plant. Gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn profi unrhyw driniaeth niweidiol. Diolch. 

Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, ac rwy'n ddiolchgar i sefydliadau fel WAVE Trust sy'n hyrwyddo ac yn dylanwadu'n gyson ar bolisïau blaengar fel yr ymgyrch 70/30. Neges sylfaenol yr ymddiriedolaeth yw y gellir atal y rhan fwyaf o gamdriniaeth a thrais teuluol drwy raglenni hysbys, hyfyw yn economaidd, i dorri cylchoedd teuluol niweidiol. Mae hefyd yn dweud bod ymchwil helaeth yn tynnu sylw at natur allweddol profiad rhwng beichiogi a thair oed—mewn geiriau eraill, pwysigrwydd gwasanaethau ymyrraeth blynyddoedd cynnar.

Ond rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhwyllo i amau fy mhwyll fy hun gan bregethau'r Ceidwadwyr ar hyn, plaid sydd, ers 2010, wedi torri, cyrydu a diberfeddu cymaint o'r gwasanaethau hyn, yn ogystal â mwy na 1,000 o ganolfannau Cychwyn Cadarn yn Lloegr. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraethau Llafur Cymru wedi ehangu cymorth y blynyddoedd cynnar, fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Rwy'n falch iawn o weld Dechrau'n Deg newydd a gwasanaeth gofal plant yn cael ei adeiladu yn Aberhonddu, ar safle Priordy yr Eglwys yng Nghymru.

Rydym wedi lleddfu'r ergyd ac wedi neilltuo arian lle gallwn, ond mae llawer iawn o deuluoedd Cymru wedi'u llethu gan flynyddoedd o bolisïau treth a budd-daliadau cosbol y Torïaid. Canfu dadansoddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gynhaliwyd cyn y pandemig, ac rwy'n dyfynnu, 'y bydd effaith gronnol toriadau a pholisïau'r Torïaid wedi gwthio 50,000 yn fwy o blant Cymru i fyw mewn tlodi.' Ddwy flynedd yn ôl hefyd, daeth adolygiad Marmot, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Tegwch Iechyd, i'r casgliad hwn:

'Bydd cyni'n bwrw cysgod hir dros fywydau'r plant a aned ac a fagwyd o dan ei effeithiau.'

16:30

Mewn munud. Dyna mae’r Torïaid wedi’i wneud i brofiadau plentyndod yn y wlad. Hoffwn symud ymlaen i sôn am gam-drin domestig, ond rwyf am dderbyn yr ymyriad.

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Joyce Watson. A ydych yn credu ei bod yn briodol gor-wleidyddoli’r ddadl hon? Rydym yn trafod pwnc sensitif a phwysig iawn, ac mae llawer o'r cyfraniadau heddiw wedi sôn am gydweithio. Soniodd Jack Sargeant am hynny; Laura Anne Jones, Janet Finch-Saunders—

A ydych yn credu ei bod yn briodol gor-wleidyddoli hyn, o ystyried natur yr hyn rydym yn sôn amdano?

Wel, mae’n ddrwg gennyf eich bod braidd yn sensitif i’r ffeithiau a’ch bod yn ystyried hyn mewn termau gwleidyddol yn unig, ond ffeithiau oeddent, ac fe'u dyfynnais.

A hoffwn symud ymlaen, i gloi, at bwynt am gam-drin domestig. Gŵyr pob un ohonom fod cysylltiad agos rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais, ond mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ganolog i’n strategaeth i ddileu trais, gan y gwyddom, yn y sefyllfaoedd hynny mewn cartrefi, fod plant a phobl ifanc yn ddioddefwyr hefyd, ac mae'n rhaid i'r strategaeth adlewyrchu hynny.

Ond, ac rwy’n dod at ddiwedd fy mhwynt, rwy’n credu, rwy’n canmol y Gweinidog am ddileu cosb resymol yn erbyn plant. Roedd yn drueni, fodd bynnag, clywed Janet Finch-Saunders yn cyfeirio ato gan alw ar Lywodraeth Cymru i leihau gwariant ar hyn heddiw. Felly, mae'n ddrwg gennyf os ydych yn ystyried hynny'n wleidyddol, ond rwy'n dyfynnu un o'ch cyd-Aelodau, a ddywedodd hynny lai na dwy awr yn ôl.

Diolch am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron heddiw.

Deallaf fod dadleuon bob amser o blaid ac yn erbyn gosod targedau, yn enwedig mewn perthynas â rhywbeth mor gymhleth â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yr wrthddadl yn erbyn targedau yw bod y data a gyhoeddir yn seiliedig ar lefelau adrodd, ac nad yw niferoedd uwch yn beth drwg o reidrwydd, gan y gall olygu lefelau uwch o ymwybyddiaeth a mwy o amddiffyniad i blant. Yng nghyd-destun plant, fodd bynnag, dylem wneud yn well. Gall targedau ddarparu cyfeiriad a chymhelliant ar gyfer newid a gwneud gwelliannau y mae eu hangen yn daer. Byddai angen darparu cyllid ychwanegol i alluogi monitro, coladu a chymharu effeithiol dros amser. Byddai hyn, wrth gwrs, yn creu heriau, ond nid ydynt yn rhai anorchfygol.

Ar yr alwad i osod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030, roedd hyn yn seiliedig ar arweiniad gan gynghorwyr arbenigol. Roeddent yn cytuno bod modd ei gyflawni pe bai'r polisïau a'r camau cywir yn cael eu cymryd gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn rheoli'r arian. Mae’n siomedig gweld Llywodraeth Cymru yn dileu’r pwynt hwn heb wneud unrhyw awgrymiadau adeiladol. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog egluro’r rhesymau dros hyn yn ystod y ddadl hon.

Hoffwn hefyd godi mater Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, fel y clywsom gan Jane Dodds yn gynharach. Mae'r gwaith o'i weithredu'n parhau i fod yn araf ac yn ddatgymalog. Mae anghydraddoldebau dwfn wedi cynyddu mewn rhai meysydd, gan gynnwys iechyd meddwl a thlodi plant. Mae oddeutu traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Mae marwolaethau plant 70 y cant yn uwch ymhlith y grwpiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn warth cenedlaethol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru. Yng Nghymru, mae gan Weinidogion ddyletswydd sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond nid oes dyletswydd sylw dyledus ar gyrff cyhoeddus.

Hefyd, hoffwn grybwyll y gyfradd uchel o blant sy’n derbyn gofal ac sydd dan ofal y wladwriaeth yng Nghymru. Y gyfradd ym mhob 100,000 yng Nghymru yw 102, sy’n llawer uwch na’r ffigur o 64 yn Lloegr. Mae'n rhaid sefydlu rhaglenni ymyrraeth gynnar amlasiantaethol i gefnogi teuluoedd. Dylai gwella iechyd a llesiant ein plant fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon a’r sefydliad hwn rydym i gyd yn perthyn iddo. Mae plant yn agored i niwed ac yn werthfawr. Hwy hefyd yw ein dyfodol, ac mae'n rhaid inni gofio hynny bob amser. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a chefnogi iechyd a lles holl blant a phobl ifanc Cymru. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Dangosodd canfyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru am nifer yr achosion a’u heffaith yr effaith bersonol, gymdeithasol ac economaidd y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ei chael ar unigolion, eu teuluoedd ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Fodd bynnag, dangosodd y canfyddiadau i ni hefyd nad oedd profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn anochel, ac nad oeddent bob amser yn arwain at drallod neu ganlyniadau gwaeth. Roedd y dystiolaeth hefyd yn dangos manteision posibl atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac fe wnaeth hynny lywio ein penderfyniad i flaenoriaethu mynd i’r afael â hwy yn 2016, dan arweiniad ein cyd-Aelod, Carl Sargeant. Ac rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth a wnaeth bryd hynny.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu’r hyb cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, canolfan arbenigedd i gefnogi sefydliadau i gael eu llywio'n fwy gan ymwybyddiaeth o effaith trawma. Ac rwyf hefyd wrth fy modd ein bod wedi cefnogi cymaint o brosiectau gwerthfawr yn y gymuned eleni, gan helpu i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol a thrawma yn ystod plentyndod, a lliniaru eu heffaith. Ond rwy’n llwyr gydnabod bod mwy i’w wneud, ac rwy’n gweld hynny yn y cyfraniadau a wnaed yma heddiw.

Diolch. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'n ymwneud â'r hyb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yr wyf yn falch iawn ei fod yn bodoli yng Nghymru, ac mae'n dda ein bod yn gwybod ei fod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o rannu arferion da. Ond nid yw'n mesur y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y boblogaeth gyfan nac yn olrhain a ydynt yn lleihau neu'n cynyddu. Onid yw'n bwysig mesur y pethau hyn fel y gallwch lynu wrth eich honiad ein bod yn gwneud cynnydd da ar y mater? Dyna pam fod angen targed.

Cefais gyfarfod ddoe, a dweud y gwir, gyda’r tîm profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, lle gwnaethant ddisgrifio'r ymchwil unigol roeddent yn ei chyflawni, ac roedd yn ymddangos i mi eu bod, yn yr ymchwil honno, yn mesur beth oedd effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a pha gynnydd roeddent yn ei wneud. Felly, credaf efallai y dylem edrych ar hynny'n fanylach, gan eu bod yn sicr yn gwneud llawer o ymchwil o'r fath. Ond fel y dywedais, rwy’n cydnabod bod mwy i’w wneud.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 21 Ionawr, yn nodi’r camau nesaf, gan gynnwys datblygu cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod newydd. Bydd y cynllun hwn yn nodi’r camau gweithredu pellach y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd yn cyd-fynd â blaenoriaethau ein rhaglen lywodraethu a’r egwyddorion allweddol sy’n sail i'n holl bolisïau, megis hawliau plant, diogelu, llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, hiliaeth a gwahaniaethu. Ac rwyf wedi nodi’r sylwadau a wnaed am dlodi yma yn y Siambr heddiw. Bydd yn adeiladu ar ein gwaith presennol i fynd i’r afael â cham-drin ac esgeulustod, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau ac i gefnogi iechyd meddwl gwell.

Gan droi at hawliau plant, rwy’n falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i ymgorffori hawliau plant yn y gyfraith—crybwyllwyd y Mesur plant yma heddiw—a’r Llywodraeth gyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd plant. Felly rwy'n croesawu ac yn barod i gefnogi’r gwelliant sy’n galw am ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru. Fodd bynnag, mae marc cwestiwn o hyd ynglŷn ag a oes gennym y pwerau deddfwriaethol datganoledig angenrheidiol i wneud hynny yng ngoleuni dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys ar ddatblygiadau yn yr Alban. Felly, rydym yn ystyried goblygiadau’r dyfarniad, a gwn fod Llywodraeth yr Alban hefyd yn edrych ar y goblygiadau hynny yn awr. Ond rydym yn sicr yn barod i gefnogi’r gwelliant.

Yna, yn olaf, hoffwn roi sylw i fater gosod targed ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ein nod bob amser yw diogelu pob plentyn rhag niwed. Nid yw unrhyw beth llai na hynny'n dderbyniol. Mae arferion diogelu da yn dibynnu ar ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol pob plentyn, nid targedau. Ac felly nid yw'n dderbyniol i'r Llywodraeth hon fabwysiadu targed a allai ymddangos fel pe bai'n awgrymu ei bod yn dderbyniol goddef cam-drin neu esgeuluso rhai plant. Am y rheswm hwn, nid yw’r Llywodraeth yn cefnogi gosod unrhyw darged ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nid ydym am i unrhyw blant gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a byddwn yn parhau i ymdrechu tuag at roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru ynghyd â’r cyfleoedd i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau unigol. Diolch.

16:40

Diolch. Wel, rwyf wedi gwrando ar y Dirprwy Weinidog a diolch iddi am ei hymateb, ond y gwir amdani yw ei bod yn ymddangos bod y Llywodraeth Lafur hon ar fin pleidleisio yn erbyn gosod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030, er bod y targed hwn wedi'i lansio gan y Worldwide Alternatives to Violence Trust, elusen ryngwladol sydd wedi ymrwymo i wneud y byd yn fwy diogel drwy leihau achosion sylfaenol trais, gan gynnwys cam-drin plant, esgeulustod a thrais domestig. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ddigwyddiadau a all fod yn drawmatig sy’n digwydd yn ystod plentyndod, gan effeithio ar iechyd meddwl a llesiant, addysg a photensial cyflogaeth.

Mae Home-Start yn sefydliad gwirfoddol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo lles teuluoedd a chanddynt o leiaf un plentyn o dan 11 oed. Y mis diwethaf, cyfarfûm â Home-Start sir y Fflint, pan glywais fod mwy na 53 y cant o’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’r mwyaf cyffredin yw rhieni’n gwahanu a salwch meddwl, gydag esgeulustod emosiynol a thrais domestig heb fod ymhell ar eu holau. Fel roeddent yn dweud wrthyf, mae’n rhaid canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, yn hytrach nag ymdrin â’r canlyniadau pan aiff pethau o chwith, gan ychwanegu bod eu gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n bennaf gan wirfoddolwyr hyfforddedig y mae eu sgiliau, eu cymwysterau a’u profiadau bywyd yn cael eu paru'n ofalus ag anghenion teuluoedd, a hyd yn oed â dynameg teuluoedd. Maent yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, gan nodi beth sy'n gweithio'n dda ac adeiladu ar hynny. Yn aml, gyda theuluoedd yr ystyrir eu bod yn rhai anodd eu cyrraedd, gall hyn gymryd peth amser. Maent yn gweithio gyda'r teulu cyfan, gan alluogi teuluoedd i symud drwy eu gwasanaeth a chael mynediad at amrywiaeth o ymyriadau. Fel y dywedant, nid oes ffordd gyflym o fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae angen agwedd gyfannol, yn hytrach na rhaglen rianta fer ragnodol.

Byddwn yn cefnogi’r ddau welliant gan Blaid Cymru. Wrth agor y ddadl, dywedodd Gareth Davies, yn gywir, fod gennym gyfle gwirioneddol i roi Cymru ar lwybr i fod yn arweinydd byd-eang ar fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen targed er mwyn llenwi’r bylchau y mae plant yn syrthio drwyddynt drwy fabwysiadu’r targed 70-30. Cefnogodd Heledd Fychan dargedau penodol ynghyd â newid go iawn, a thynnodd sylw at ganlyniadau rhoi plant mewn perygl o niwed yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud. Galwodd Jack Sargeant am ddull mwy caredig wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma. Dyfynnodd Laura Anne Jones arolwg troseddu Cymru a Lloegr—mae 0.5 miliwn o bobl wedi dioddef esgeulustod corfforol cyn eu bod yn 16 oed—a dywedodd na allwn barhau i baratoi plant i fethu.

Soniodd Jane Dodds am ei 25 mlynedd yn gweithio ym maes diogelu plant a’r cylch o gam-drin a thlodi y bu’n dyst iddo, a galwodd arnom i weithio gyda’n gilydd ar draws y pleidiau i newid pethau ac am ddull o atal trawma sy'n seiliedig ar hawliau. Soniodd Janet Finch-Saunders am ganfyddiad ymchwil fod 19 y cant o bobl ifanc yng Nghymru wedi adrodd am lefelau uchel o symptomau iechyd meddwl cyn y pandemig a’r cyfyngiadau symud, a’r cynnydd yn nifer y plant sy’n troi at ganabis yn lle cael eu cefnogi i fynd i’r afael â’u trawma. Roedd Joyce Watson yn iawn i bwysleisio pa mor bwysig yw gwasanaethau ymyrraeth yn y blynyddoedd cynnar, ond yn anffodus, ceisiodd gyflwyno gwleidyddiaeth bleidiol i'r ddadl bwysig hon. Ac roedd Peredur Owen Griffiths yn llygad ei le pan ddywedodd y gall targedau roi cyfeiriad ac ysgogiad ar gyfer newid, a bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn destun cywilydd cenedlaethol.

Wel, gall atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod helpu plant ac oedolion i ffynnu, ac o bosibl, atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod rhag cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig yn unol â hynny, a rhoi dannedd yng ngheg y nodau a fynegir dro ar ôl tro gan bawb yma. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe fyddwn ni yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.   

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 70 mlynedd ers esgyn i'r orsedd

Y ddadl nesaf felly yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar 70 mlynedd ers esgyn i'r orsedd, a dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7904 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar 70 mlwyddiant ei hesgyniad i'r orsedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno'r cynnig ar y papur trefn y prynhawn yma i argymell y dylai’r Senedd ymestyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i’w Mawrhydi y Frenhines wrth nodi deng mlynedd a thrigain ers ei hesgyniad i’r orsedd, achlysur y byddwn yn ei ddathlu, wrth gwrs, y penwythnos yma. Mae'n frenhines sydd wedi torri record; ei theyrnasiad hi yw'r hwyaf yn hanes Prydain. Mae'n gwbl briodol y dylai pob un o'i Seneddau gydnabod y ffaith hon a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gofnodi eu diolch a'u llongyfarchiadau yn eu papurau trefn.

Mae’n werth nodi, fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno datganiad na dadl ar y garreg filltir bwysig hon yn nheyrnasiad Ei Mawrhydi. Gwnaethant hynny ar y trigeinmlwyddiant, ar gyfer y Jiwbilî Ddiemwnt. Cyflwynodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ddadl gan y Llywodraeth, ac roedd hynny i’w groesawu’n fawr iawn, ond yn anffodus, nid oes unrhyw beth o'r fath wedi digwydd y tro hwn, a dyna pam ein bod wedi defnyddio ein hamser fel yr wrthblaid, fel y Ceidwadwyr Cymreig—gwrthblaid ffyddlon i'w Mawrhydi yma yn y Senedd hon.

Nawr, wrth gwrs, yn ystod y 70 mlynedd y mae Ei Mawrhydi wedi bod ar yr orsedd, cafodd ei chefnogi am y rhan fwyaf o'r amser hwnnw gan y Tywysog Philip, ei thywysog cydweddog, Dug Caeredin, ac yn wir, Iarll Meirionnydd, fel y mae'n rhaid inni atgoffa pawb pryd bynnag y bydd ei enw'n codi mewn sgwrs. Ef, wrth gwrs, oedd ei 'chryfder a'i chynhaliaeth', a bu ei farwolaeth y llynedd yn golled fawr nid yn unig i'w Mawrhydi y Frenhines, ond hefyd i'r genedl gyfan.

Dros y saith degawd diwethaf, mae’r Frenhines wedi ymroi i wasanaeth anhunanol i Gymru, y DU a’r Gymanwlad gyfan. Mae hi wedi gweithio gyda 14 o Brif Weinidogion y DU—onid yw hynny'n rhyfeddol—ac wrth gwrs, pedwar o Brif Weinidogion Cymru. Ond mae hi bob amser wedi codi uwchlaw'r ffraeo gwleidyddol; mae hi wedi bod yn angor cadarn i'r genedl mewn argyfyngau ac mewn cyfnodau cythryblus, gan gynnwys yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn y mae pob un ohonom wedi gorfod ei ddioddef gyda'r pandemig coronafeirws yn ddiweddar.

Ei Mawrhydi yw diplomydd a llysgennad gorau Prydain, gan gynrychioli buddiannau Cymru a Phrydain dramor ar gannoedd o ymweliadau a chroesawu arlywyddion, prif weinidogion a phenaethiaid gwladwriaethau o wledydd eraill yma i'r DU. Credaf ei bod yn anodd iawn gorbwysleisio pwysigrwydd yr ymweliadau hyn yn meithrin cysylltiadau rhyngwladol, yn helpu i oresgyn rhaniadau ac yn cadarnhau’r cysylltiadau cryf sydd gan Brydain gyda’n cynghreiriaid.

Nid yw’n syndod, felly, fod Ei Mawrhydi y Frenhines yn cael ei hedmygu’n fawr, nid yn unig yma yng Nghymru, lle mae poblogrwydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn fwy nag yng ngwledydd eraill y DU, ond ledled y byd. Mae’r edmygedd hwnnw wedi’i ddangos mewn sawl ffordd gan bobl ledled y byd, a chaf fy atgoffa o’r edmygedd hwnnw sydd gan bobl tuag at Ei Mawrhydi y Frenhines bob tro y byddaf yn siarad â fy mam annwyl, oherwydd, wyddoch chi beth, pan aned fy mam yn Nulyn yn 1952, y flwyddyn yr esgynnodd Ei Mawrhydi y Frenhines i’r orsedd, penderfynodd ei mam a’i thad—fy nhaid a fy nain—ei galw’n Elizabeth ar ôl Ei Mawrhydi y Frenhines.

Felly, mae’r Jiwbilî Blatinwm yn rhoi cyfle i bob un ohonom ddathlu saith degawd o wasanaeth Ei Mawrhydi i ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, i nodi’r Jiwbilî Blatinwm, mae Ei Mawrhydi a Thywysog Cymru wedi lansio menter Canopi Gwyrdd y Frenhines i wahodd pobl ledled y DU i blannu coeden, gan y bydd hynny, wrth gwrs, yn cael effaith barhaol a chadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Oedd, roedd y Frenhines yn plannu coed ac yn dadlau dros blannu coed ymhell cyn i Lee Waters wneud hynny yn y Siambr hon. [Chwerthin.] Dylai hi fod ar bob hysbyseb ar gyfer ymgyrch blannu coed y Llywodraeth Cymru hon.

Ac nid yn unig hynny, ond bydd medalau Jiwbilî Blatinwm arbennig hefyd yn cael eu dyfarnu i swyddogion heddlu rheng flaen, diffoddwyr tân, staff gwasanaethau brys, swyddogion carchardai a’n lluoedd arfog gwerthfawr—symbol o ddiolchgarwch ar ran y genedl am y gwaith a wnânt. Yna, bydd penwythnos gŵyl y banc—penwythnos gŵyl y banc estynedig—ym mis Mehefin, canolbwynt sylw i ddathliadau’r Jiwbilî Blatinwm. Bydd parti gardd yn fy nhŷ i, os hoffech alw heibio.

Mae gan Gymru le arbennig iawn yng nghalon Ei Mawrhydi, nid yn unig oherwydd ei hoffter—ei hoffter mawr—o gorgwn sir Benfro, ond am ei bod hi'n cario darn o Gymru gyda hi, yn llythrennol, i bob man y bydd hi’n mynd ar ffurf modrwy briodas o aur Cymru. Mae ei hymroddiad i Gymru wedi’i ddangos mewn cymaint o ffyrdd eraill. Mae hi wedi bod ar ymweliadau cyson yma dros y blynyddoedd. Ei nawdd a'i chefnogaeth i sefydliadau, digwyddiadau a sefydliadau elusennol Cymru, gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Llandaf, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru—gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ond wrth gwrs, i ni fel Aelodau o'r Senedd hon, dylem hefyd atgoffa ein hunain heddiw o gefnogaeth ddiwyro Ei Mawrhydi i'r sefydliad hwn—y Senedd. Mae hi wedi mynychu pob un o agoriadau’r Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i gelwid yn flaenorol, gan gynnwys, wrth gwrs, ei phresenoldeb yn ddiweddar ychydig fisoedd yn ôl yn ein hagoriad swyddogol.

Mae dau ddiddordeb penodol y mae’r Frenhines a minnau’n eu rhannu. Y cyntaf yw cefnogaeth ddiwyro i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr. Mae gan Ei Mawrhydi, ynghyd ag aelodau eraill o’r teulu brenhinol, gysylltiad hir a dwfn â’r fyddin, gan gynnwys y fyddin yma yng Nghymru. Hi yw Prif Gyrnol y Cymry Brenhinol a'r Gwarchodlu Cymreig.

A'r ail beth sydd gennyf yn gyffredin â'i Mawrhydi y Frenhines yw ffydd Gristnogol gref. Bydd y rheini ohonoch sy’n gwylio trafodion rhithwir y Senedd wedi gweld bod dau lun o'i Mawrhydi y Frenhines yn fy swyddfa. Maent yno i fy atgoffa i, ac unrhyw un sy’n ymweld â fy swyddfa, o’r esiampl ragorol o wasanaeth cyhoeddus y mae’r Frenhines wedi’i gosod ar fy nghyfer i a phob Aelod o’r Senedd a phob cynrychiolydd etholedig arall. Mae'n esiampl y dylai pob un ohonom geisio'i dilyn. Mae un o’r lluniau’n dangos Ei Mawrhydi y Frenhines yn un o agoriadau swyddogol y Senedd—yr un cyntaf imi gael y cyfle i fod yn bresennol ynddo fel Aelod o’r Senedd, yn ôl yn 2007—ac mae’r llall yn dangos Ei Mawrhydi yn dilyn un o ddarllediadau Dydd Nadolig y Frenhines. Mae’r un hwn, i mi, yn arbennig o bwysig gan ei fod yn pwysleisio rôl Ei Mawrhydi fel amddiffynnydd y ffydd—teitl y mae hi’n sicr, yn fy marn i, wedi'i haeddu, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod ffydd Gristnogol gref Ei Mawrhydi wedi bod yn ganolog i’w bywyd, a gwelwn sawl enghraifft o hyn yn ei darllediadau Nadolig. Yn 2000, dywedodd y Frenhines:

'I mi, mae dysgeidiaeth Crist a fy atebolrwydd personol fy hun gerbron Duw yn darparu fframwaith rwy'n ceisio byw fy mywyd o'i fewn. Rwyf fi, fel cynifer ohonoch, wedi cael cryn gysur ar adegau anodd drwy eiriau ac esiampl Crist.'

Mae ei theyrnasiad hir wedi’i seilio ar ffydd Gristnogol bersonol, ddofn. Yn 2011, dywedodd yn ei darllediad Nadolig:

'Er bod y gallu gennym i gyflawni gweithredoedd o gryn garedigrwydd, mae hanes yn ein dysgu bod angen inni gael ein hachub rhagom ein hunain weithiau—rhag ein diofalwch neu ein trachwant. Anfonodd Duw rywun unigryw i'r byd—nid athronydd na chadfridog (er mor bwysig ydynt)—ond Gwaredwr, gyda'r gallu i faddau.'

Geiriau anhygoel. Mae'r Frenhines hefyd wedi bod ar flaen y gad yn hyrwyddo deialog a dealltwriaeth rhwng gwahanol gymunedau ffydd drwy gydol ei theyrnasiad. Yn 2014, yn ei darllediad Nadolig, dywedodd:

'mae bywyd Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd, y dathlwn ei enedigaeth heddiw, yn ysbrydoliaeth ac yn angor yn fy mywyd. Yn esiampl o gymod a maddeuant, estynnodd ei ddwylo mewn cariad, derbyniad ac iachâd. Mae esiampl Crist wedi fy nysgu i geisio parchu a gweld gwerth pawb, ni waeth beth fo'u ffydd, neu ddiffyg ffydd.'

Mae'r Frenhines yn esiampl anhygoel. Mae hi wedi amddiffyn ei ffydd Gristnogol yn gadarn gan hyrwyddo goddefgarwch a dealltwriaeth o eraill, ac mae'n byw yn ôl y cod moesol y mae'n ei bregethu. Felly, i gloi, hoffwn ddweud hyn. Am ei 70 mlynedd ar yr orsedd, am ei gwasanaeth i Gymru, y DU a’r Gymanwlad, ac am ei rôl fel amddiffynnydd y ffydd, dywedaf hyn: Duw a gadwo'r Frenhines, hir oes i'r Frenhines, a llongyfarchiadau, Eich Mawrhydi.

16:50

Ar ran pobl a chymunedau Islwyn, hoffwn gofnodi ein gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth cyhoeddus ffyddlon ac ymroddedig y mae Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi'i roi ac yn parhau i'w roi heddiw. Ni fyddai unrhyw un, ni waeth beth yw eu barn ar y frenhiniaeth, heb eu cyffwrdd, fel roeddwn innau, wrth weld Ei Mawrhydi yn eistedd ar ei phen ei hun y llynedd yn y capel yn Windsor yn angladd ei gŵr. Roedd yn symbol pellach eto, pe bai angen un, o’r ddynes eiconig hon sydd wedi cadw at y llw a dyngodd wrth gael ei choroni i wasanaethu ei phobl.

Fel cynrychiolydd Llafur yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rwyf innau hefyd wedi gweld a chlywed drosof fy hun faint o edmygedd a pharch sydd i'r Frenhines ar draws y Gymanwlad a sut y mae hi, yn bersonol, yn cryfhau ein henw da rhyngwladol. Nid oes unrhyw amheuaeth fod safbwyntiau cryf a gwahanol iawn i'w cael ar y frenhiniaeth ar draws y Siambr hon, fel sydd i'w cael yn Islwyn ac fel sydd i'w cael ar draws y Gymanwlad, ac mae hi’n cryfhau’r enw da personol hwnnw i ni, a gwelsom hynny’n ddiweddar, pan ddaeth Barbados yn weriniaeth, a nodwn y modelau Sgandinafaidd gwahanol, ond nid dyma'r adeg na’r lle ar gyfer y ddadl honno er hynny.

Felly, fodd bynnag, yn yr ysbryd diffuant y teimlaf fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno ynddo, hoffwn ddweud 'diolch' wrth ein Brenhines. Ni waeth beth yw ein barn ar yr angen, neu fel arall, am frenhiniaeth fodern, gadewch inni uno o gwmpas y ffaith bod rhywbeth eithaf dwys a sefydlog yn y syniad ei bod hi wedi bod yn Frenhines arnom drwy'r cyfnodau anoddaf yn hanes Prydain a'i bod wedi teyrnasu drwy gydol bywydau pob un o Aelodau’r Senedd hon. Drwy'r degawdau a'r gwahanol amseroedd, mae’r Frenhines Elizabeth II wedi bod yn seren gyson mewn byd sy’n newid yn barhaus ac sy'n aml yn ddryslyd. Gadewch i ymroddiad y Frenhines i wasanaeth cyhoeddus fod yn goron iddi am byth a’i hymrwymiad i ddyletswydd gyhoeddus yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom.

Ac i gloi, Lywydd, pan agorwyd y chweched Senedd yn ffurfiol, mwynheais wrando ar Ei Mawrhydi a chefais fy synnu gan ei chwerthin gwirioneddol ddiffuant wrth imi adrodd stori roedd hi'n ei chofio am Alun Davies. Ac fel ffeminydd falch, mae rhywbeth cryf i'w edmygu yn y fenyw hon, cryfder go iawn, a sylwedd go iawn, lle mae ffigurau blaenllaw honedig eraill yn toddi o flaen ein llygaid, a hithau wedi bod yn ffigwr blaenllaw, ein cynrychiolydd a'n Brenhines, ac wedi bod yn fenyw flaenllaw ar lwyfan y byd am y saith degawd diwethaf. Rydym wedi bod yn ffodus ac rwyf innau hefyd yn dymuno llawer mwy o flynyddoedd i’w Mawrhydi deyrnasu drosom. Duw a'ch bendithio, Eich Mawrhydi, a diolch.

16:55

Diolch, Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf ychwanegu fy llais heddiw at y teyrngedau i’w Mawrhydi y Frenhines i nodi deng mlynedd a thrigain ers ei hesgyniad i’r orsedd. Mae Jiwbilî Blatinwm yn ddigwyddiad unigryw yn hanes Prydain, a dylem roi amser i fyfyrio ar deyrnasiad hir y Frenhines a sut y mae pethau wedi newid. Nid oedd y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon wedi ein geni ym 1952; yn sicr, nid oeddwn i, ac ni ellir gwadu bod y byd yn lle llawer gwahanol bryd hynny. Roedd Winston Churchill yn Brif Weinidog y DU, roedd galwyn o betrol yn costio 22c yn arian heddiw, daeth dogni te i ben, ac agorodd drama Agatha Christie, The Mousetrap, yn y West End, sydd, fel Ei Mawrhydi, yn dal i fynd hyd heddiw, rwy'n falch o ddweud.

Ym 1952, roedd fy nau riant wedi'u geni, yn India a hefyd ym Mhacistan. Roedd fy nhad-cu ar ochr fy nhad yn aelod o lu awyr India a fy nhad-cu ar ochr fy mam yn aelod o lu awyr Pacistan, ac rwy'n sicr wedi etifeddu eu cariad, eu hymroddiad a’u hedmygedd tuag at y Frenhines. Yna, ar ôl y rhaniad ym 1952, roedd fy nau riant yn blant ysgol, fel y soniais, ond un o lwyddiannau mwyaf teyrnasiad y Frenhines fu trawsnewidiad yr ymerodraeth yn Gymanwlad.

Heddiw, mae'r Gymanwlad yn cynnwys 53 o wledydd annibynnol sy'n cydweithio ar drywydd nodau cyffredin sy'n hyrwyddo datblygiad, democratiaeth a heddwch. Gyda phoblogaeth gyfunol o 2.4 biliwn, mae'r Gymanwlad yn ymestyn dros y byd ac yn cynnwys economïau datblygedig a gwledydd sy'n datblygu. Mae'n cwmpasu Affrica, Asia, y Caribî a De a Gogledd America, Ewrop a'r Môr Tawel. Daw ei chryfder o'i gwerthoedd a rennir, amrywiaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb hiliol. Mae hyn ar adegau wedi achosi straen yn y sefydliad, gyda gwledydd yn gadael neu'n cael eu diarddel, ond heddiw, mae'r Gymanwlad yn parhau i fod yn rym unedig ar gyfer hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb hiliol a democratiaeth yn y byd.

Dywedodd y Frenhines unwaith, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae bob amser wedi bod yn hawdd casáu a dinistrio. Mae adeiladu a choleddu'n llawer anos.'

Ac:

'Wrth gofio dioddefaint echrydus y rhyfel ar y ddwy ochr, rydym yn cydnabod pa mor werthfawr yw'r heddwch rydym wedi'i adeiladu'.

Y Frenhines, i raddau helaeth, sy'n gyfrifol am lwyddiant y Gymanwlad, ac mae hi fel ei harweinydd yn cael ei charu, ei hedmygu a'i pharchu gan bawb. Ni ddylem synnu at hyn. Ar ei phen-blwydd yn un ar hugain ym 1947, dywedodd y Dywysoges Elizabeth ar y pryd:

'Rwy'n datgan ger eich bron chi i gyd y byddaf yn cysegru fy mywyd, boed yn hir neu'n fyr, i'ch gwasanaethu chi a gwasanaethu'r teulu mawr ymerodrol y mae pob un ohonom yn perthyn iddo.'

Ac mae hi'n sicr wedi cadw at yr addewid hwnnw. Ers 70 mlynedd, mae'r Frenhines wedi gwasanaethu'r wlad hon a'r Gymanwlad gydag ymroddiad a theyrngarwch. Mae hi wedi bod, ac mae'n parhau i fod, yn elfen sefydlog mewn byd sy'n newid yn gyflym, 'mor gyson â seren y gogledd', fel y gallai Shakespeare fod wedi'i ddweud. Esgynnodd y Frenhines i'r orsedd 70 mlynedd yn ôl pan fu farw ei thad annwyl, a llynedd, collodd ei gŵr, y Tywysog Philip, a fu wrth ei hochr drwy gydol ei theyrnasiad, yn ei chefnogi a'i hannog bob cam o'r ffordd. Rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd y Frenhines,

'Nid yw'r byd yn lle dymunol iawn. Yn y pen draw, mae eich rhieni yn eich gadael, ac nid oes unrhyw un yn mynd i fynd allan o'u ffordd i'ch amddiffyn yn ddiamod. Mae angen ichi ddysgu sefyll drosoch eich hun a'r hyn rydych chi'n ei gredu'.

Dros y 70 mlynedd diwethaf, gyda chyngor ac arweiniad y Tywysog Philip, mae'r Frenhines wedi dangos gallu'r frenhiniaeth i addasu i'r oes fodern. Mae hi wedi gwneud mwy o deithio nag unrhyw un o arweinwyr eraill y wlad hon. Ar adeg jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Victoria, roedd y frenhines yn ffigwr pell na châi eu gweld yn aml gan ei phobl. Heddiw, amcangyfrifir bod y Frenhines wedi cyfarfod yn bersonol â 4 miliwn o bobl. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod uchel ei barch, Darren Millar, mae hi wedi cyfarfod â mwy na 14 o Brif Weinidogion y DU, gan arfer ei dyletswyddau statudol i roi cyngor, i annog ac i rybuddio yn ystod eu cyfarfodydd rheolaidd, a rhoi budd ei phrofiad digyffelyb iddynt. Mae hi wedi cyfarfod â phob un o Arlywyddion yr Unol Daleithiau o Truman i Biden, ac eithrio un. Mewn 70 mlynedd, nid yw wedi rhoi cam o'i le, ac nid yw byth yn cwyno na byth yn esbonio. Mae’n parhau i fod yn agos at galon y genedl, gan gyflawni ei dyletswydd a gwasanaethu ei gwlad, a Lywydd, rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.

17:00

Rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw, a gyflwynwyd gan Darren Millar, i nodi deng mlynedd a thrigain ers i’r Frenhines esgyn i’r orsedd. Mae’n gynnig syml un linell o hyd, ac weithiau, y rhai symlaf yw'r rhai mwyaf effeithiol. Mae'r cynnig yn dweud:

'Cynnig bod y Senedd:'—

ein Senedd ni—

'Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar achlysur 70 mlwyddiant ei hesgyniad i'r orsedd.'

A byddwn yn awgrymu, gyda phob parch, nad dyma'r achlysur i drafod rhinweddau neu wendidau’r frenhiniaeth neu gynnig dewisiadau amgen, na'r adeg ychwaith ar gyfer sinigiaeth fodern, ffasiynol tuag at bob sefydliad mewn bywyd cyhoeddus. Mae'r rheini ar gyfer adeg arall a lle arall. Nod y ddadl heddiw’n syml yw nodi gwasanaeth rhyfeddol unigolyn sydd, ers saith deg mlynedd, wedi rhoi ei rôl unigol a’r modd y mae’n cyflawni gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw popeth arall, ac yn wir, y modd y mae wedi aberthu llawer o bethau eraill er mwyn cyflawni’r un genhadaeth honno o fod yn bennaeth cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Mae hynny, ynddo’i hun, yn deilwng o’n sylw.

Mae pawb ohonom yma wedi derbyn rôl yn llygad y byd cyhoeddus, ond fe wnaethom wirfoddoli. Wrth wneud hynny, gwnaethom ddewis ymwybodol, gan wybod pe bai’n mynd yn ormod i ni neu ein teuluoedd, y gallem hefyd wneud y dewis, er mor anodd, i gamu’n ôl o’r amlygrwydd a dilyn llwybr gwahanol—hynny yw, os nad yw'r etholwyr wedi gwneud y dewis hwnnw ar ein rhan yn y cyfamser. Ond rwy’n credu mai’r hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei dderbyn yw, i Dywysoges Elizabeth o Efrog ifanc, a aned yn aelod o’r teulu brenhinol, nad oedd fawr o ddewis yn sgil hynny yn wyneb yr hyn y byddai hi wedi’i weld fel dyletswydd—dyletswydd i wasanaethu ei gwlad, yn aml yn y cyfnodau mwyaf anodd y gellid eu dychmygu i’r wlad honno, ac yn aml yn anodd iddi hi'n bersonol ac yn gyhoeddus iawn fel merch, mam ac ati.

Nid yw’n anodd gweld pam fod parch y cyhoedd ehangach tuag ati wedi tyfu, oherwydd rhai o’r nodweddion y mae hi wedi dod i’w dangos ar yr adegau anoddaf. Nid yw’r nodweddion hyn yn unigryw iddi, ac yn ei heiliadau preifat tawel, efallai y byddai hefyd yn cydnabod ei bod hi, fel pob un ohonom, wedi gwneud syrthio'n fyr o'r nod yn awr ac yn y man mewn ffyrdd bach. Ond maent hefyd yn rhai o'r nodweddion y byddem am eu gweld ynom ni ein hunain yn fwy cyson, ac yn ein holl arweinwyr cyhoeddus hefyd, yn enwedig y rhai yn swyddi uchaf y wladwriaeth. Ac fe soniaf am ddwy o'r nodweddion hynny yn benodol, oherwydd mae rhinwedd mewn gwneud hynny wrth inni edrych yn ôl ar 70 mlynedd o rôl y Frenhines Elizabeth fel pennaeth y wladwriaeth, ac wrth inni edrych yn awr hefyd ar gyfnodau tymhestlog presennol mewn bywyd cyhoeddus. Y ddwy nodwedd hynny yw anhunanoldeb a'r ffocws ar wasanaeth i eraill. Ac arwain trwy esiampl hefyd, a gosod y safonau mewn bywyd cyhoeddus sy’n wirioneddol bwysig i'n democratiaeth a'n parch at y ffordd y cawn ein llywodraethu a’r rhai sy'n ein llywodraethu ni.

Pan edrychwn at ein ffigyrau cenedlaethol mewn bywyd cyhoeddus ar unrhyw adeg mewn amser, ar unrhyw adeg mewn hanes, sylweddolwn fod gan hyd yn oed y gorau ohonynt, y gorau ohonom, wendidau. Ond rydym yn disgwyl—mewn gwirionedd, rydym yn mynnu—er mwyn ennyn parch y cyhoedd, eu bod yn ceisio byw yn ôl delfrydau anhunanoldeb ac arwain drwy esiampl. Mae’r anrhydedd o fod mewn swydd uchel ynddi’i hun yn creu dyletswydd i barchu'r swydd honno, nid i gamddefnyddio'r swydd, ac i drin y cyhoedd â pharch hefyd. Ac os ydynt yn methu cynnal y nodweddion hyn yn gyson, neu'n methu derbyn pan fyddant wedi baglu a syrthio’n fyr o’r nod, neu'n waeth, eu bod yn ceisio twyllo'r cyhoedd, yna bydd y cyhoedd yn gwbl anfaddeuol; nid ydynt byth yn ffyliaid. Ac rydym wedi gweld hyn trwy gydol hanes a byddwn yn siŵr o'i weld eto.

Felly, rwy’n gorffen yn syml drwy nodi bod y Frenhines Elizabeth II wedi gwasanaethu am saith degawd hir yn y swydd fwyaf amlwg mewn bywyd cyhoeddus yn y DU, yn sylw nid yn unig y cyhoedd ar yr ynys fach hon oddi ar lannau gogledd-orllewinol cyfandir Ewrop, ond yn sylw’r cyhoedd, y wasg a sylwebaeth y byd ar bob symudiad a phob gair o’i heiddo. Mae hi wedi bod yn dyst i rai o’r argyfyngau cyfansoddiadol, diplomyddol, gwleidyddol a phersonol mwyaf difrifol y gellir eu dychmygu a gwrthdaro milwrol a streiciau sifil yma ac ymhell dramor, ac yn aml bu’n rhan ohonynt, un cam oddi wrthynt fel pennaeth cyfansoddiadol y wladwriaeth ond byth yn ddifater yn eu cylch, ac eto mae'n ennyn parch y mwyafrif llethol o'r dinasyddion—a defnyddiaf y term 'dinasyddion' yn fwriadol mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol—ar yr ynysoedd hyn. Awgrymaf fod hynny’n deillio i raddau mawr oherwydd, er bod gennym ni i gyd wendidau fel y dywedais, mae’r ddwy nodwedd barhaus, sef anhunanoldeb ac arweiniad a pharodrwydd i gydnabod pan aiff pethau o chwith wedi golygu bod y parch at y Frenhines ei hun wedi tyfu a thyfu gyda phob blwyddyn a degawd a aeth heibio. Efallai bod gwersi i bob un ohonom yno ac i’n holl arweinwyr mewn bywyd cyhoeddus sydd, mewn rolau etholedig, yn gobeithio cadw eu swyddi breintiedig yn gwasanaethu’r cyhoedd. Rydym i gyd yn llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines, y Frenhines Elizabeth II, wrth nodi deng mlynedd a thrigain ers iddi esgyn i’r orsedd.

17:05

A gaf fi ddweud diolch wrth fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno’r ddadl hynod bwysig hon y prynhawn yma? Fel y gŵyr pob Aelod, mae Ei Mawrhydi’r Frenhines yn cyrraedd deng mlynedd a thrigain ers iddi gael esgyn i’r orsedd ar 6 Chwefror, ac fel y dywed ein cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn sicr, fe hoffwn innau hefyd gyfrannu at estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i’w Mawrhydi y Frenhines ar gyflawniad anhygoel.

Yn gyntaf, Lywydd, hoffwn fynd yn ôl at ychydig atgofion o’r adeg pan oedd y Frenhines yn fy nghymuned yn ôl yn 2002, pan oeddwn yn llawer iau, ac rwy’n cofio Ei Mawrhydi’r Frenhines yn ymweld â Bae Colwyn ac yn dod draw i ymweld â'r ysgol roeddwn yn ei mynychu ar y pryd. Rwy'n cofio'n iawn cael moment ryfedd pan oedd hi ar y trac rhedeg yn yr ysgol ac roeddwn i'n hanner disgwyl iddi redeg o gwmpas a gwneud y 400m, ond cafodd ei gyrru o amgylch y trac rhedeg y diwrnod hwnnw. Ond yr hyn a’m trawodd, a’r hyn a nodais, hyd yn oed yn fy arddegau, oedd y ffordd roedd presenoldeb Ei Mawrhydi yn uno pobl o bob maes, pob cefndir, pob oed, lefel addysg, cyrhaeddiad, pob credo, hil ac oedran—ffigwr sy’n uno, gan ddangos y lefel eithriadol o uchel o ymddygiad roedd Ei Mawrhydi yn ei harfer ac y mae’n parhau i’w harfer.

Yn ail, ac mewn perthynas â hyn, fel yr amlinellwyd eisoes gan yr Aelodau yma heddiw, rhaid inni ganu clodydd yr esiampl o wasanaeth a dyletswydd y mae Ei Mawrhydi wedi’i gosod inni, esiampl wych i bawb drwy gydol ei 70 mlynedd ar yr orsedd. Mae’r ffaith bod Ei Mawrhydi yn parhau, o un diwrnod i'r llall, i gyflawni ei rôl gyda pharch ac urddas yn esiampl y gallwn ni i gyd ei dilyn. Ac mae’r esiampl honno’n amlwg drwy ei holl waith gwych—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, rydych am i mi dderbyn ymyriad. Yn sicr.

Diolch i’r Aelod, Sam Rowlands. Fe sonioch chi, Sam, am y gwasanaeth cyhoeddus a’ch profiad o weld y Frenhines yn yr ysgol. Gwelais innau'r Frenhines yn agor canolfan rhagoriaeth peirianneg Coleg Glannau Dyfrdwy yn 2003 ac euthum ymlaen i astudio prentisiaeth yno. Felly, ar ran gogledd Cymru a fy nhrigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y Frenhines ym mhob dim y mae’n ei wneud, a thynnu sylw, yn sicr, at yr esiampl y mae’n ei rhoi i bob un o’n gweision cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig a’r byd?

Yn bendant. Ac mae Mr Sargeant yn gwneud pwynt pwysig iawn, yn enwedig mewn perthynas â'i chariad at addysg yn ogystal â gweld eraill yn meithrin uchelgais ac yn gwneud yn dda mewn bywyd.

Mae’r gwaith gwych y mae hi wedi’i wneud yn gweithio gyda, a chafodd ei grybwyll yn gynharach, gydag oddeutu 14 o Brif Weinidogion gwahanol y DU—rwy’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd gweithio gydag un ar adegau, ond mae cael 14—dros ei 70 mlynedd, cyflawni dros 2,000 o ddigwyddiadau brenhinol a bod yn noddwr ac yn llywydd 600 o elusennau, hyn oll, wrth gwrs, dros y pedwerydd teyrnasiad hwyaf erioed—. Mae ganddi bob hawl i gael ei pharchu a’i chefnogi’n enfawr ledled y Deyrnas Unedig, ar draws y Gymanwlad, ac yn enwedig yma yng Nghymru.

Ac ar y pwynt hwn, Lywydd, rwy’n meddwl ei bod hefyd yn bwysig inni atgoffa ein hunain o’r safle sydd gan Ei Mawrhydi yn ein rôl fel Aelodau, ac rwy’n falch o’r geiriau a ddefnyddiais, ynghyd â llawer o Aelodau yma, wrth dyngu llw yn y Senedd lai na 12 mis yn ôl, a’r geiriau a ddefnyddiais oedd:

'Rwyf fi, Samuel Rowlands, trwy gymorth Duw, yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn ôl y gyfraith.'

Yn y pen draw, dyma’r geiriau y mae’n rhaid inni barhau i’w cofio wrth gyflawni ein rôl yn gwasanaethu ein hetholwyr. Ac i orffen fy nghyfraniad, Lywydd, ac i ddathlu’r cyflawniad anhygoel hwn, hoffwn ddarllen y geiriau a ganlyn sy’n uno llawer o bobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig:

'Duw gadwo ein grasol Frenhines / Hir oes i'n Brenhines fonheddig / Duw gadwo'r Frenhines / Boed iddi fod yn fuddugoliaethus / Hapus a gogoneddus / Boed iddi deyrnasu'n hir drosom / Duw gadwo'r Frenhines.'

17:10

Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n mynd i ganu. Efallai y byddwn wedi ymuno—pwy a ŵyr. Jane Dodds.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno’r cynnig hwn, a gwnaf gyfraniad byr iawn, oherwydd, gydag eraill, hoffwn innau hefyd estyn fy llongyfarchiadau i’w Mawrhydi’r Frenhines ar ddeng mlynedd a thrigain ers iddi esgyn i’r orsedd. Mae Ei Mawrhydi wedi parhau i atgoffa’n gyson beth yw gwasanaeth cyhoeddus drwy gydol fy oes ac wedi gwasanaethu gydag ymroddiad, anrhydedd ac urddas. Mae hi wedi dangos ei bod yn fenyw gref a gwydn a chanddi ffydd Gristnogol gref, sydd wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i mi fel Cristion ac fel y clywsom, i eraill hefyd. Mae hi wedi dangos pwysigrwydd menywod hefyd, nid yn unig yn ein gwlad ni ond ar draws ein byd. Braint fawr i mi oedd cael ei chyfarfod am y tro cyntaf yn agoriad y chweched Senedd fis Hydref diwethaf. Ac i orffen, fe ddywedaf 'Dymuniadau gorau i chi, Eich Mawrhydi. Estynnaf fy llongyfarchiadau ar y garreg filltir arwyddocaol hon'.

Diolch yn fawr iawn i chi, Frenhines Elizabeth.

Diolch, Lywydd, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi a’r holl Aelodau yn ymuno â mi i ddweud 'Llongyfarchiadau, yn wir, Eich Mawrhydi’. Mae gan y Frenhines rôl ganolog a hollbwysig yn ein cyfansoddiad ni. O dan athrawiaeth gwahaniad pwerau, rhennir llywodraethiant y wladwriaeth yn dair cangen, pob un â phwerau a chyfrifoldebau ar wahân ac annibynnol. Fel y gwyddoch, ar gyfer Cymru, mae'r weithrediaeth yn cynnwys y Goron a dwy Lywodraeth, ac ni ddylem byth anghofio bod y Frenhines yn chwarae rhan gyfansoddiadol yn agor a diddymu'r Senedd—ein Senedd Cymru, yn wir. Mewn gwirionedd, mae'r Frenhines wedi agor Senedd y DU bob tro ond dwy yn ystod ei theyrnasiad ei hun—gyda’r eithriadau ym 1959 a 1963 pan oedd hi’n feichiog. Mae wedi bod yn gymaint o anrhydedd cael cyfarfod â'i Mawrhydi ar dri achlysur ein hagoriad brenhinol yma a siarad â hi ac roedd hi'n anrhydedd eto ei gweld yn agor y chweched Senedd yn swyddogol heb fod ymhell yn ôl.

Rhaid inni beidio ag anghofio bod yr holl Ddeddfau sy’n deillio o’r Senedd hon yn cael eu cymeradwyo ganddi, sy’n golygu bod effaith anuniongyrchol y Goron ar Gymru yn llawer mwy nag y gallem byth ei fesur. Yn Aberconwy cawsom y fraint o bresenoldeb Ei Mawrhydi pan fynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno yn 1963, pan agorodd dwnnel Conwy, gyda'r diweddar Wyn Roberts, Arglwydd Roberts o Gonwy, ac wrth iddi ymweld â Venue Cymru yn 2010. Ac rwy’n ei chofio’n dda ym mrenhines cyrchfannau gwyliau Cymru, Llandudno, fel rhan o daith y Jiwbilî Arian yn 1977. Roedd yr haul yn gwenu a’r promenâd yn llawn dop o bobl leol ac ymwelwyr, pob un yn awyddus i gael cipolwg ar y pâr brenhinol. Mae’r brwdfrydedd lleol dros Ei Mawrhydi yn ddiwyro. Yn wir, mae ein parch a'n cariad tuag ati wedi tyfu, ac yn briodol felly. Mae hi'n elfen gyson drwy bob amser ac wedi gweithio gyda Phrif Weinidogion o bob lliw a llun ac wedi ein gwasanaethu â theyrngarwch, urddas ac ymrwymiad llwyr bob amser. A dweud y gwir, rwy’n meddwl mai Harold Macmillan a’i crynhodd yn dda pan alwodd y Frenhines yn

'gymorth gwych, am mai hi yw'r un person y gallwch chi siarad â hi.'

Yn ogystal â chynorthwyo Prif Weinidogion, mae'r Frenhines yn noddwr brenhinol neu'n llywydd ar oddeutu 600 o elusennau, ac mae'n cyflawni'r cyfrifoldebau hyn gyda brwdfrydedd mawr. Mae 14 o’r rheini yma yng Nghymru, ac yn cynnwys undeb golff Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Meysydd Chwarae Cymru, sefydliad sy’n ceisio gwarchod a gwella meysydd chwarae a mannau hamdden eraill yn y DU. Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae ein hamgylchedd awyr agored a'n hargyfwng newid hinsawdd ar flaen ein meddyliau i gyd. Ac fel y nododd Ei Mawrhydi yn ystod COP 26,

'Nid oes yr un ohonom yn bychanu'r heriau sydd o'n blaenau: ond mae hanes wedi dangos pan ddaw gwledydd at ei gilydd gydag un nod cyffredin, mae lle bob amser i obeithio. Drwy weithio ochr yn ochr, gallwn ddatrys y problemau mwyaf anorchfygol a threchu’r adfyd mwyaf.'

Rwy’n meddwl ei bod yn hynod briodol heddiw ein bod yn cael ein hysbrydoli gan y neges honno ynghylch cydweithio a’r balchder y mae’r teulu brenhinol wedi’i ddangos wrth annog pobl i ddiogelu ein planed fregus. Rwy’n annog yr holl Aelodau i ysgrifennu at eu cynghorau tref a chymuned yn eu hetholaethau ac i ysbrydoli cyfranogiad yng Nghanopi Gwyrdd y Frenhines. Nid wyf yn amau y gwelwn bartïon stryd yn llu yn ystod gŵyl y banc pedwar diwrnod, ond bydd y coed a blannwn yn byw am ganrifoedd i ddod. Bydd cyfraniad y Frenhines i’r wlad hon, y Gymanwlad a’r byd yn parhau am ganrifoedd hefyd, boed yn y deddfau a basiwyd, y coed a blannwyd, y calonnau niferus a gyffyrddwyd neu’r gwledydd a gefnogwyd. Rwy’n mawr obeithio y caiff Ei Mawrhydi fwynhau digwyddiad hyfryd iawn i ddathlu ei 70 mlynedd ogoneddus ar yr orsedd, ac rwy’n gweddïo am hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Lywydd, a gaf fi ofyn i lythyr gael ei anfon at ein Brenhines ar ran Aelodau’r Senedd yn estyn ein llongyfarchiadau diffuant a diolchgar? Diolch, a hir oes i'r Frenhines.

17:15

Dwi'n galw nawr ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gyfrannu i'r ddadl. Mick Anoniw.

Diolch, Llywydd. Bydd achlysur esgyniad y Frenhines yn ennyn emosiynau cymysg i Ei Mawrhydi, gan ei bod hefyd yn nodi marwolaeth ei thad. Yn ôl yr adroddiadau, bydd yn nodi'r achlysur yn dawel ac mae hynny'n naturiol. Hefyd, eleni fydd y flwyddyn gyntaf heb yr un a fu'n gymaint o gefn iddi dros y blynyddoedd, wedi marwolaeth Dug Caeredin y llynedd. Rydym ni i gyd yn cofio'r lluniau trawiadol o Ei Mawrhydi yn eistedd ar ei phen ei hun yn gwisgo ei masg yn angladd ei diweddar ŵr. Ar yr adeg honno, roedd hi'n eistedd mewn undod gyda'r holl bobl hynny a oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig, a llawer ohonyn nhw wedi gorfod galaru ar eu pennau eu hunain. Roedd hi'n esiampl i bawb o urddas ac anhunanoldeb.

Lywydd, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ei chynnig ei hun, fel y gwnaethom 10 mlynedd yn ôl ar adeg dathliadau’r Jiwbilî, yn yr haf. Fodd bynnag, byddai'n briodol nodi’r achlysur sydd i ddod gyda rhai ystyriaethau. Ar ei phen-blwydd yn un ar hugain, cysegrodd y Frenhines ei bywyd i wasanaeth y Gymanwlad gyda'r geiriau hyn:

‘Rwy’n datgan ger eich bron chi i gyd y byddaf yn cysegru fy mywyd, boed yn hir neu'n fyr, i'ch gwasanaethu chi'.

Ac ni all fod unrhyw amheuaeth nad yw Ei Mawrhydi wedi parhau’n gwbl ffyddlon i'r addewid a wnaeth gynifer o flynyddoedd yn ôl.

Lywydd, yn y Senedd hon, ac yng Nghymru, rydym yn cynrychioli llawer o safbwyntiau amrywiol. Dyna yw democratiaeth. Fodd bynnag, ledled Cymru, credaf fod y Frenhines wedi ennill y parch mwyaf yn sgil ei hymroddiad personol i wasanaeth cyhoeddus a’r safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus. Am 70 mlynedd, bu'n esiampl wrth arfer y ddyletswydd honno, gan weithio’n ddiflino er budd cenhedloedd y DU a phobl y Gymanwlad, a dyna pam y mae ganddi le mor arbennig yng nghalonnau cymaint o Gymry.

Cawsom i gyd y pleser o bresenoldeb y Frenhines yma yn y Senedd yn ddiweddar ar gyfer agoriad ein chweched sesiwn seneddol. Mae cyffro a balchder y rhai a oedd yn gysylltiedig â hynny’n arwydd o’r parch mawr sydd gan lawer o bobl at Ei Mawrhydi, cyffro a adlewyrchwyd ar wyneb y Frenhines, a oedd i’w gweld yn dangos cymaint o ddiddordeb yn y cyfraniadau i’n bywyd cenedlaethol a bywyd dinesig y rhai y tu hwnt i’r Siambr hon ag a wnâi i'r gwaith sy'n digwydd o’i mewn. Bydd pobl Cymru yn cael cyfle i nodi Jiwbilî'r Frenhines drwy nifer o ddigwyddiadau a dathliadau sydd wedi'u cynllunio. Ar ran y Llywodraeth, rwy’n ei llongyfarch ar achlysur nodi ei hesgyniad i’r orsedd, ac ar ei 70 mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth. Diolch, Lywydd.

17:20

Diolch, Lywydd. Mae’n anrhydedd cau’r ddadl hon heddiw. Rwyf am dalu teyrnged i'n brenhines sydd wedi gwasanaethu hwyaf, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Gellir crynhoi ei bywyd a’i theyrnasiad mewn dau air: dyletswydd, ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, gwasanaeth hynod i’n gwlad. Yn 19 oed, ymrestrodd Ei Mawrhydi yn ystod yr ail ryfel byd i wasanaethu yng Ngwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol y menywod, ar ddechrau oes o ymrwymiad i’r wlad hon a’i phobl. Crynhowyd hyn yn araith enwog Ei Mawrhydi yn Cape Town, fel y mae nifer wedi dweud heddiw, lle dywedodd,

'Rwy’n datgan ger eich bron chi i gyd y byddaf yn cysegru fy mywyd, boed yn hir neu'n fyr, i'ch gwasanaethu chi'.

Mae hi wedi gwneud hynny'n rhyfeddol trwy gydol ei theyrnasiad. Fel y dywedodd Darren Millar, Ei Mawrhydi y Frenhines yw'r frenhines sydd wedi gwasanaethu hwyaf yn hanes Prydain. Mae Ei Mawrhydi wedi parhau i fod yn ddylanwad sefydlog ac yn bresenoldeb tawel dros y wlad, ac mae hi wedi gweld 14 o Brif Weinidogion y DU a phedwar o Brif Weinidogion Cymru, felly rhaid imi ddweud bod ganddi ddigonedd o amynedd.

Mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi moderneiddio’r frenhiniaeth ochr yn ochr â’i diweddar annwyl ŵr, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, a gwnaethant ei throi’n sefydliad poblogaidd iawn fel y mae heddiw, gyda chyrhaeddiad byd-eang yn hyrwyddo buddiannau Prydain ledled y byd, gan hyrwyddo heddwch, ac fel y dywedodd Sam Rowlands yn gwbl gywir, gan uno pobl er mwyn gwella'r byd. Mae ymroddiad ac ymdeimlad o ddyletswydd Ei Mawrhydi i’w gweld yn glir trwy ei hymrwymiad i’w helusennau dirifedi, ac fe’i hystyrir yn rhywun sy’n gwneud mwy nag unrhyw frenin neu frenhines arall mewn hanes i gefnogi elusennau. Bu'n noddwr ac yn llywydd ar dros 600 o elusennau yn ystod ei theyrnasiad.

Nid ymroddiad Ei Mawrhydi i'r wlad yn unig y dylem i gyd ryfeddu ato. Parhaodd Ei Mawrhydi i hyrwyddo’i gwaith mawr yn y Gymanwlad, gan weithio dros y blynyddoedd i ailadeiladu cysylltiadau a chadw ei haelodau gyda’i gilydd ers 1952, fel y soniodd Rhianon Passmore a Natasha Asghar. Pan goronwyd Ei Mawrhydi, roedd gan y Gymanwlad wyth aelod-wladwriaeth. Heddiw, mae yna 54, ac mae’r Frenhines wedi goruchwylio proses sydd i bob pwrpas wedi newid yr hyn ydoedd o’r blaen a’i drawsnewid yn gymdeithas wirfoddol o genhedloedd sofran yn gweithio law yn llaw â’i gilydd i hyrwyddo heddwch byd-eang.

Yn syml iawn, Aelodau, mae Ei Mawrhydi wedi bod yn ddiwyro fel pennaeth y wladwriaeth ac fel ein brenhines, a byddwn ni a’r genedl gyfan hon yn ddyledus iddi am byth. Rwy’n credu fy mod yn siarad ar ran y Siambr gyfan yma heddiw pan ddywedaf, ‘Duw gadwo’r Frenhines’.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn, ac fel awgrymodd Janet Finch-Saunders, fe wnaf i ysgrifennu i longyfarch y Frenhines ar 70 mlynedd o wasanaeth, yn unol â chynnwys y cynnig. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Stelcio

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar. 

Yr eitem nesaf fydd dadl Plaid Cymru ar stelcio, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig hwnnw. 

Cynnig NDM7906 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y cynnydd mewn trais ac aflonyddu yn erbyn menywod, gan nodi bod troseddau stelcio a adroddwyd i'r heddlu wedi cynyddu 30 y cant yng Nghymru rhwng 2020 a 2021.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio'r cwricwlwm newydd ac adnoddau eraill i feithrin diwylliant sy'n atal achosion o stelcio yn y lle cyntaf;

b) llunio canllawiau ar gyfer cyrff cynllunio sy'n sicrhau bod diogelwch menywod yn cael ei ystyried wrth ddylunio mannau cyhoeddus;

c) gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i wella'r ffordd y mae'r heddlu'n ymdrin â stelcio, gan sicrhau bod yr heddlu'n cael eu hyfforddi i ymdrin â gwir natur stelcio a bod gorchmynion amddiffyn rhag stelcio yn cael eu defnyddio;

d) darparu cymorth arbenigol i oroeswyr stelcio;

e) ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru fel y gall fynd i'r afael yn llawn â throsedd stelcio a gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae stelcian yn batrwm o ymddygiadau digroeso, sefydlog, obsesiynol ac ymwthiol gan un person tuag at berson arall sy'n achosi ofn o drais a thrallod i'r unigolyn sy'n cael ei dargedu. Mae'n hawdd meddwl am stelcian fel rhywbeth sydd dim ond yn digwydd i ffigurau cyhoeddus neu enwogion megis sêr pop, ond y gwir amdani heddiw yn y Deyrnas Unedig yw y bydd un ym mhob pump menyw ac un ym mhob 10 dyn yn cael ei stelcian ar ryw bwynt yn eu bywydau. Yn wir, amcangyfrifir bod oddeutu 1.5 miliwn o bobl yn cael eu stelcian yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r niferoedd mewn gwirionedd yn debygol o fod yn uwch na'r ffigwr hwn am nifer o resymau, megis: diffyg ymwybyddiaeth o beth yw stelcian; cymhlethdodau ynghylch perthynas yr unigolyn â'r troseddwr; sut mae ymddygiad stelcian fel arfer yn datblygu dros amser; ofn am ddiogelwch personol; diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol; profiadau trawmatig blaenorol; ac ateb anfoddhaol gan yr heddlu pan fo rhywun yn cwyno.

Yn frawychus hefyd, ar gyfartaledd, mae'n cymryd 100 achos o ymddygiadau digroeso gan stelciwr cyn i berson gysylltu gyda'r heddlu ynglŷn â hyn. Cefnogir hyn gan ymchwil a wnaed gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a ganfu nad oedd bron i ddwy ran o dair o'r goroeswyr stelcian y buont yn siarad â nhw ers dechrau'r pandemig wedi rhoi gwybod i'r heddlu amdano. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn stelcian dros y degawd diwethaf, ac mae wedi cynyddu hefyd yn sylweddol dros gyfnod y pandemig. Yn wir, yng Nghymru, os ydym yn cymharu ffigurau Ebrill i Fehefin 2020 i ffigurau Ebrill i Fehefin 2021, mae cynnydd o 30 y cant wedi bod yn y nifer o achosion o stelcian ac aflonyddu a gafodd eu recordio. Yn Nyfed-Powys, roedd cynnydd o 102 y cant, 23 y cant yng ngogledd Cymru a 24 y cant yn ne Cymru. Yng Ngwent yn unig bu gostyngiad, sef gostyngiad bychan o 1 y cant.

17:25

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn 2020, cofnododd gwasanaethau cymorth stelcio a heddluoedd ymchwydd yn nifer y stelcwyr sy’n troi at dactegau ar-lein i aflonyddu ar unigolion yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud, yn enwedig yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud cyntaf, wrth i bobl gael eu cyfyngu i'w cartrefi. Mewn gwirionedd, gwelodd y gwasanaeth eiriolaeth stelcio cenedlaethol, Paladin, gynnydd o bron i 50 y cant mewn atgyfeiriadau stelcio pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud. I’r rhai a oedd yn dioddef stelcio cyn dechrau’r cyfyngiadau symud, cadarnhaodd bron i hanner yr ymatebwyr i arolwg gynnydd mewn patrymau ymddygiad ar-lein, a gwelodd traean ohonynt gynnydd mewn patrymau ymddygiad all-lein. Awgrymodd llawer o ymatebwyr fod y ffaith bod eu stelciwr wedi’i ynysu ac wedi diflasu yn ystod y cyfyngiadau symud yn golygu nad oedd ganddynt ddim byd arall i feddwl amdano ar wahân i’w hobsesiwn. Ar yr un pryd, nid yw nifer yr arestiadau wedi cadw i fyny â nifer y troseddau, gan mai dim ond ar hanner cyfradd y cynnydd mewn troseddau rhwng 2019 a 2020 y cynyddodd nifer yr arestiadau.

Bydd bron i hanner y stelcwyr, wrth wneud bygythiad, yn gweithredu arno, yn enwedig pan fydd yr unigolyn y maent yn eu stelcio yn gwybod pwy ydynt. Yn wir, unwaith eto mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh wedi adrodd bod naw o bob 10 o lofruddiaethau menywod a ddadansoddwyd dros gyfnod o dair blynedd wedi canfod bod y llofrudd yn arddangos patrymau ymddygiad a gysylltir â stelcio. Rhaid inni weithredu ar stelcio, nid yn unig oherwydd yr effaith enfawr y mae’n ei chael ar oroeswyr, ond oherwydd y bygythiad y mae’n ei greu i fywyd a’r effaith ar deuluoedd a ffrindiau’r rhai a lofruddiwyd. Mae gormod o farwolaethau wedi bod a rhy ychydig o weithredu, trafodaeth ac addysg ynglŷn â hyn. Er mwyn yr holl ddioddefwyr, rhaid inni weithredu ar y mater difrifol hwn.

Rwyf wedi dethol tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu Deddf Diogelu Rhag Stelcian 2019 a'r diwygiad i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ym mhwynt 2(c), ar ôl 'gweithio gyda' rhoi 'lluoedd heddlu a'.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (e) a rhoi yn ei le:

'sicrhau bod rhaglenni cyflawnwyr ar gael ledled Cymru'.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch. Rwy’n cynnig gwelliannau 1 i 3, tra’n cydnabod hefyd fod llawer o rinwedd yn y cynnig gwreiddiol. Mae’r cynnydd mewn troseddau stelcio yn fwy na thestun gofid. Fe all, ac mae'n rhaid i'r cwricwlwm newydd feithrin diwylliant sy'n atal stelcio rhag digwydd yn y lle cyntaf. Dylai canllawiau newydd i gyrff cynllunio sicrhau bod diogelwch menywod ac eraill sydd mewn perygl, gan gynnwys pobl anabl, yn cael ei ystyried wrth gynllunio mannau cyhoeddus. Rhaid i ddarparwyr cymorth arbenigol ar gyfer goroeswyr stelcio gael adnoddau cynaliadwy hefyd, a'u cynnwys wrth lunio a darparu gwasanaethau cysylltiedig.

Mae ein gwelliant 2, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda heddluoedd a chomisiynwyr heddlu a throseddu i wella’r modd y mae’r heddlu’n ymdrin â stelcio, yn welliant technegol yn ei hanfod, a dylai’r Aelodau ei gefnogi oherwydd hynny. Rôl y comisiynydd yw dwyn prif gwnstabliaid i gyfrif a’u heddluoedd i gyfrif, a chyfrifoldeb prif gwnstabliaid a’u heddluoedd yw gweithredu'r ddarpariaeth o wasanaethau plismona.

Canfu ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd fis Mawrth diwethaf, er bod y rhan fwyaf o’r ffigurau troseddau wedi gostwng yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2020, fod troseddau stelcio ac aflonyddu a gofnodwyd wedi cynyddu 20 y cant yn ystod y cyfyngiadau symud coronafeirws, gyda’r ffigur yn codi i 31 y cant wrth i gyfyngiadau lacio yn ystod haf 2020. Dywedodd yr elusen gwrth-stelcio Paladin fod y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn adrodd iddynt gael eu stelcio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseua ac e-bost, ond roedd stelcio corfforol hefyd yn digwydd er gwaethaf y cyfyngiadau symud. Roedd Paladin hefyd wedi tynnu sylw’n flaenorol at y diffyg rhaglenni cyflawnwyr ar gyfer stelcwyr. Felly mae ein gwelliant 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhaglenni cyflawnwyr ar gael ledled Cymru.

Fis Rhagfyr diwethaf, nodais yma fy mod yn un o dri llefarydd plaid a aeth â Llywodraeth Cymru i'r pen draw ar hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, gan sicrhau addewidion gan Lywodraeth Cymru mewn sawl maes, gan gynnwys rhaglenni cyflawnwyr achrededig, i newid agweddau, ymddygiad a chred cyflawnwyr. Fel y dywedais, yn ystod taith y Ddeddf, cynigais welliannau'n galw am i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darparu o leiaf un rhaglen cyflawnwyr. Fel roedd Relate Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor, dywedodd 90 y cant o’r partneriaid y gwnaethant eu holi rywbryd ar ôl diwedd eu rhaglen fod trais a brawychu gan eu partner wedi dod i stop yn llwyr. Ymatebodd y Gweinidog bryd hynny nad oedd o’r farn fod fy ngwelliant yn briodol, ond ei fod wedi cydariannu ymchwil i helpu i lywio ymatebion i gyflawnwyr yn y dyfodol. Fodd bynnag, fel y dywedais ym mis Rhagfyr, mae’r unig gyfeiriad at gyflawnwyr yng nghynllun blynyddol diweddaraf cynghorwyr cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyfeirio at archwilio glasbrint ar gyfer y system gyfan sy’n anelu, ymhlith pethau eraill, at ddwyn cyflawnwyr i gyfrif.

Mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh wedi lleisio pryder fod llawer o ddioddefwyr yn tueddu i ollwng y cyhuddiadau oherwydd eu bod yn ei chael hi’n ormod o her yn emosiynol, sy’n golygu y gallai niferoedd gwirioneddol dioddefwyr stelcio fod yn llawer uwch nag y mae data swyddogol yn ei awgrymu. Mae stelcio yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel ffurf ar gam-drin domestig o fewn y system cyfiawnder troseddol, a chanfu dadansoddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron fod mwyafrif y troseddau'n cael eu cyflawni gan gyn-bartneriaid. Er bod y nifer uchaf erioed, sef 2,288 o gyhuddiadau, wedi’u dwyn ger bron yn 2019-20, mwy na dwbl y ffigur bum mlynedd ynghynt, gostyngodd canran yr achosion yr adroddwyd yn eu cylch a arweiniodd at gyhuddiad o 23 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016 i ddim ond 11 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Wrth siarad yr haf diwethaf, dywedodd uwch swyddog polisi ac ymgyrchoedd Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh:

'Yr hyn sydd ei wir angen yw arbenigwyr manwl a hyfforddiant rheolaidd i swyddogion heddlu. Mae angen inni wneud yn siŵr pan fydd rhywun yn adrodd am stelcio... fod yr heddwas sy'n ymateb i'r digwyddiad yn deall beth yw stelcio.'

Yn anffodus, mae galwad ragweladwy Plaid Cymru am ddatganoli pwerau ar ddiwedd eu cynnig yn tynnu oddi ar ddadl hynod bwysig ac yn rhoi’r camargraff nad yw ein cyd-Aelodau yn San Steffan hefyd yn ymwybodol o’r materion hyn eisoes. Dyna’r rheswm dros ein gwelliant 1, sy’n galw ar y Senedd i groesawu Deddf Diogelu rhag Stelcian 2019 a gyflwynwyd gan yr AS Ceidwadol ar y pryd, Sarah Wollaston, a’r Farwnes Bertin o’r Blaid Geidwadol, a phleidlais yr Arglwyddi o blaid gwelliant i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr, dan arweiniad y Farwnes Newlove o’r Blaid Geidwadol. Mae datganiad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei llythyr yr anfonwyd copi ohono at yr Aelodau ddydd Gwener diwethaf ei bod yn debygol y bydd gwelliannau y cytunwyd arnynt yn Nhŷ’r Arglwyddi yn cael eu gwyrdroi a gwelliannau pellach yn cael eu gwneud, yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi fod y Senedd hon yn anfon neges unedig o blaid gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb. Diolch.

17:30

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, gan fod stelcio, fel y clywsom, yn cael effaith sylweddol a pharhaol ar fywydau dioddefwyr, goroeswyr a'u teuluoedd. Mae'r effaith ar iechyd meddwl y dioddefwyr yn aml yn ddwys. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn 2020, o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg, fod 94 y cant wedi dweud bod stelcio wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae'n drosedd ar sail rhywedd yn bennaf, ac rydym eisoes wedi clywed heddiw fod un o bob pum menyw yn cael eu targedu o'i gymharu ag un o bob 10 dyn. Effeithir yn anghymesur hefyd ar bobl sy'n byw gydag anableddau a phroblemau iechyd hirdymor.

Yn 2019, pasiwyd y Ddeddf Diogelu rhag Stelcian. Mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr. Rhan hanfodol o'r Ddeddf yw'r gorchymyn diogelu rhag stelcio. Mae hwn yn caniatáu i'r heddlu wneud cais i'r llys ynadon, sy'n gallu gosod cyfyngiadau a gofynion cadarnhaol ar y sawl sy'n cyflawni'r weithred. Yn hollbwysig, mae torri amodau'r gorchymyn diogelu rhag stelcio yn drosedd. Mae unrhyw achos o dorri'r amodau yn rhoi pŵer i'r heddlu arestio'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd. Gellir eu defnyddio hefyd i amddiffyn dioddefwyr stelcio wrth i achos troseddol gael ei ddatblygu. Yn frawychus, canfu adroddiad gan y BBC mai dim ond dau orchymyn atal stelcio a roddwyd yng Nghymru rhwng 2020 a mis Mawrth 2021, er i 3,000 o droseddau stelcio gael eu dwyn i sylw'r heddlu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Canfu adroddiad 'Unmasking Stalking' Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn 2021 mai dim ond 9 y cant o ddioddefwyr y dechreuodd eu profiad o stelcio ar ôl y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud oedd â gorchymyn atal stelcio ar waith. Mae cael deddfwriaeth, wrth gwrs, yn un peth, ond mae'n destun pryder difrifol os na chaiff ei defnyddio i ddiogelu dioddefwyr fel y bwriadwyd. Rwy'n awyddus i ddeall pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r sefydliadau perthnasol, megis yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol ehangach, ynglŷn â pham y mae nifer y gorchmynion atal stelcio a roddwyd yn ystod y cyfnod hwn mor isel. A yw'n fater o hyfforddi heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac ynadon ac os ydyw, sut yr eir i'r afael â hynny. Rwyf hefyd yn croesawu heddiw y buddsoddiad o £400,000 yn y 30 cyfleuster newydd a fydd yn caniatáu i lysoedd weithredu drwy gyswllt fideo, oherwydd rydym eisoes wedi clywed mai'r hyn a fydd yn atal dioddefwyr stelcio rhag mynd i'r llys yw'r syniad o orfod wynebu'r cyflawnwr yn yr un ystafell. Felly, unwaith eto, wrth orffen, hoffwn ddweud fy mod yn falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac yn falch iawn ei bod wedi'i chyflwyno. 

17:35

Mae stelcio'n drosedd sy'n chwalu bywydau. Mae'n ofn cynyddol sy'n adeiladu yn y meddwl, màs o eiliadau o doriadau i seice ac iechyd meddwl goroeswr, ymgyrch o arswyd tawel sy'n chwalu person fesul darn. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o oroeswyr stelcio, ac mae'r gofid meddwl y maent yn ei ddioddef yn wanychol. Mae stelcwyr yn chwalu teuluoedd, yn dinistrio perthynas pobl â'i gilydd, yn gwneud ichi deimlo na allwch gerdded ar hyd y stryd neu hyd yn oed agor eich gliniadur heb i'w presenoldeb wneud ichi deimlo'n llai neu dan fygythiad. Rwyf wedi gweithio gyda menywod y gwnaeth eu stelcwyr osod dyfeisiau ysbïo a gwrando yn eu cartrefi, menywod sydd wedi dioddef anhwylder straen wedi trawma, menywod y daeth eu stelcwyr i'w gweithle, a aeth â'u hallweddi er mwyn eu copïo, menywod a gafodd negeseuon yn bygwth eu lladd, un fenyw a gafodd neges destun gan ei stelciwr gyda llun o raff crogwr gyda'r geiriau, 'Not long now, my flower.' Ac yn waeth na dim, menywod y gadawyd eu teuluoedd i adrodd eu straeon drostynt am eu bod wedi cael eu llofruddio gan eu stelcwyr. 

Clywais y dystiolaeth hon, Ddirprwy Lywydd, pan oeddwn yn rhan o ymgyrch yn San Steffan rhwng 2010 a 2012 a arweiniodd at gyflwyno deddfau stelcio newydd. Gan weithio gyda'r diweddar Harry Fletcher, y gwelir ei golli'n fawr, sefydlwyd ymchwiliad gennym dan gadeiryddiaeth Elfyn Llwyd AS. Clywsom dystiolaeth gan ymarferwyr, arbenigwyr cyfreithiol a goroeswyr a theuluoedd, ynglŷn â sut roedd y system yn gwneud cam â dioddefwyr. A diolch i raddau helaeth i dystiolaeth y menywod gwych hynny, gwnaethom berswadio Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfau newydd, a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012, fis yn unig ar ôl inni gyhoeddi ein hadroddiad. Cafodd y cymalau newydd eu pasio wedyn o fewn 11 diwrnod, rwy'n credu, sy'n torri record, gan ddau Dŷ'r Senedd. Ac eto, Ddirprwy Lywydd, mae'n fy ngwylltio ac yn fy nigalonni, 10 mlynedd yn ddiweddarach, fod angen inni gael y ddadl hon—ac mae angen—gan nad yw heddluoedd yn cael yr hyfforddiant cywir ac am fod cyfraddau erlyn yn ystyfnig o isel. Nid yw'r deddfau stelcio, yr ymladdwyd cyhyd i'w cael, yn cael eu defnyddio ac mae menywod yn dal i gael cam gan y system gyfiawnder. Mae ein cynnig yn galw ar y Llywodraeth a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i sicrhau bod heddluoedd yn deall gwir natur stelcio a bod mesurau sydd ar gael iddynt yn cael eu defnyddio.

Fel y clywsom, rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mawrth 2021, dim ond dau orchymyn diogelu rhag stelcio llawn a roddwyd yng Nghymru, er bod 3,000 o droseddau stelcio wedi eu dwyn i sylw'r heddlu—3,000. Ac rwy'n crybwyll gwir natur stelcio oherwydd, yn rhy aml, mae'n cael ei leihau neu ei anwybyddu. Canfu'r llinell gymorth stelcio genedlaethol fod tua 50 y cant o oroeswyr yn anfodlon ynghylch ymateb yr heddlu i'w hachos. Mewn chwarter o'r achosion, y rheswm am hynny oedd nad oedd yr heddlu'n adnabod y patrwm ymddygiad fel stelcio. 

Gyda stelcio, Ddirprwy Lywydd, y patrwm sy'n creu'r drosedd. Bydd digwyddiadau unigol a gymerir ar eu pen eu hunain yn ymddangos yn gwbl ddibwys, ond gyda'i gilydd maent yn magu perygl, a diffinnir stelcio yn y gyfraith mewn ffordd benodol iawn o ran yr effaith y mae'r ymddygiad yn ei chael ar ddioddefwr—patrymau ymddygiad sy'n achosi braw neu ofid difrifol. Os nad yw'r heddlu'n cael hyfforddiant ar sut i gofnodi patrymau ymddygiad, i feddwl am y straen gronnol ar y dioddefwr, ac i weld y tu hwnt yr un peth o'u blaenau—y blodau sydd wedi cyrraedd yn y post am y pedwerydd tro yr wythnos honno, y negeseuon a anfonwyd ar Twitter ar ffurfiau newydd a gofalus, y stelciwr sy'n digwydd bod wedi parcio y tu allan i gartref person. Nid yr achos unigol sy'n creu braw, ond effaith y cyfan gyda'i gilydd. Ac os nad yw'r swyddog heddlu sy'n ymdrin â'ch achos yn cydymdeimlo â natur yr hyn y gall stelcio ei wneud, gallwch deimlo eich bod wedi eich caethiwo yn y artaith hon. 

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig yn galw am i ddiogelwch menywod fod yn gonglfaen wrth gynllunio mannau cyhoeddus. Rydym yn meddwl am fwy na mannau ffisegol yn unig yma, ond mannau ar-lein hefyd. Ni ddylid gorfodi menywod nac unrhyw ddioddefwyr stelcio i encilio o fannau cyhoeddus oherwydd ofn. Hyd nes y caiff plismona a chyfiawnder eu datganoli'n llawn, dim ond pwerau rhannol fydd gennym dros wella bywydau pobl yn y maes hwn. Mae arnom ddyled i oroeswyr fel y menywod rhyfeddol hynny y gweithiais gyda hwy i wneud popeth yn ein gallu i roi diwedd ar artaith stelcio. 

17:40

Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gynnig y ddadl hon. Diolch i Joyce am dynnu sylw at y ffaith mai dim ond dau orchymyn stelcio a roddwyd yn y set ddiwethaf o ffigurau sydd ar gael mewn un flwyddyn, a chredaf ei fod yn gwneud pwynt (c) a phwynt (e) o'r cynnig yn arbennig o bwysig, a hoffwn sôn am hynny mewn perthynas ag un o fy etholwyr, sydd wedi dioddef stelcio parhaus dros ddau neu dri mis, ac mae'r heddlu wedi methu cymryd camau priodol. Felly, cafodd ei—. Daeth y berthynas i ben, ac roedd hi'n meddwl fod hynny wedi digwydd yn weddol gyfeillgar, ond wedyn mae hi wedi gorfod adrodd yn barhaus wrth yr heddlu am slaesio ei theiars, ac arllwys paent dros y car, drosodd a throsodd, rhwygo'r drychau ochr a sychwyr y ffenestr flaen. Digwyddodd hyn bum gwaith, a'r cyfan a wnaeth yr heddlu oedd dweud wrthi am symud ei char i rywle arall, ac i brynu camera teledu cylch cyfyng. Felly, bu'n rhaid iddi gasglu ei henillion prin i brynu camera teledu cylch cyfyng, ac yna cafodd dystiolaeth ar gamera teledu cylch cyfyng ohono'n slaesio'r car unwaith eto. Ac aeth yr heddlu yno a dweud, 'O, nid oes digon o dystiolaeth yma i fynd â hyn at Wasanaeth Erlyn y Goron oherwydd ni chawn yr erlyniad sydd ei angen arnom.'  

Wel, mae'n rhaid inni newid y diwylliant ar hyn, oherwydd dylem wybod ei fod yn wahanol iawn i bobl sy'n gwneud pethau dwl yng ngwres y foment oherwydd ein bod wedi cynhyrfu. Mae hwn yn ymddygiad parhaus ac obsesiynol a fydd, os caiff ei wneud i un person, yn cael ei wneud i berson arall os yw'r person hwnnw'n llwyddo i ddianc rhag eu hobsesiwn. Efallai ein bod i gyd wedi gweld y rhaglen am Dennis Nilsen. Roedd methiant yr heddlu i weithredu ar lofruddiaethau Dennis Nilsen yn golygu bod llawer mwy o bobl ifanc wedi'u lladd nag a ddylai fod, ac yn achos stelcio, yn amlwg, nid ydym yn sôn am lofruddiaeth ar y pwynt hwn, ond sut y gwyddoch chi na fydd rhywun sy'n stelciwr ar hyn o bryd yn mynd ymlaen i wneud pethau mwy eithafol oherwydd eu bod yn mynd i gael mwy o wefr o weithredu mwy eithafol?

Felly, mae hwn yn fater difrifol iawn. Rhaid mynd ag ef i'r llys er mwyn cael y llysoedd i orfodi'r unigolyn i fynd i'r afael â'u profiad niweidiol yn ystod plentyndod, mae'n debyg, ond o leiaf i ddeall nad dyna'r ffordd i ymddwyn. Os nad yw rhywun am gael perthynas â chi mwyach, dyna ddiwedd y stori. Os yw'n methu rhoi diwedd ar yr ymddygiad obsesiynol hwn, mae'r person hwnnw'n mynd i fynd ymlaen i wneud yr un peth yn union i lawer o bobl eraill—unrhyw un arall y byddant yn cael perthynas â hwy ac sydd ddim eisiau bod mewn perthynas â hwy ar ôl iddynt sylweddoli pa mor reolaethol yw'r unigolyn hwnnw.

Yn amlwg, byddaf yn codi hyn gyda'r heddlu, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gorfodi ein comisiynwyr heddlu i fod o ddifrif ynghylch y mater hwn. O'r un o bob pump o bobl y credwn fod hyn yn digwydd iddynt, mae gennym ddau orchymyn stelcio. Ni wnaiff hyn y tro, a chredaf fod gwir angen inni—. Ni allwn ddibynnu'n unig ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pobl ifanc yn deall sut beth yw perthynas sy'n seiliedig ar barch. Rhaid inni sicrhau bod gorfodi'r gyfraith yn atal pobl sydd wedi dod yn berygl i'r gymuned rhag mynd â phethau ymhellach byth.

17:45

Fel rydym ni newydd glywed, mae stelcian yn brofiad trawmatig i'r rhai sy'n ei brofi fo ac yn ei oroesi. Yn aml, mae'r effaith seicolegol enfawr yma yn arwain at iselder, pryder a straen. Credir bod tua hanner goroeswyr stelcian yn cael trafferth efo PTSD, straen, pryder a bod yn or-wyliadwrus.

Yn y pen draw, effaith stelcian ydy cwtogi yn sylweddol ar ryddid unigolyn arall, gan adael y teimlad eu bod nhw'n gorfod bod yn ofalus drwy'r amser. Yn aml, mae'n rhaid i unigolion sy'n cael eu stelcio adael eu cartref, golli gwaith neu roi'r gorau i weithio, i'w hysgol a'r coleg. Ar ben hyn, mae stelcian yn aml yn digwydd dros gyfnod hir, felly mae'r person yn byw mewn gofid neu ofn yn gyson. Ar gyfartaledd, bydd unigolyn yn cael ei stelcio am gyfnod rhwng chwe mis a dwy flynedd. 

Dydy o ddim yn syndod, o gofio hynny, felly, fod 94 y cant o ddioddefwyr stelcian yn dweud ei fod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae 80 y cant o oroeswyr stelcian yn profi symptomau sy'n gyson â PTSD yn sgil cael eu stelcio. Mae'r pandemig a'r straen sy'n deillio ohono fo, a llai o fynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd, wedi gwaethygu effaith stelcian ar iechyd meddwl goroeswyr. Rhaid i ni, felly, sicrhau bod cymorth arbenigol a chynhwysfawr ar gael i oroeswyr stelcian a bod yr hyfforddiant priodol ar gael ar gyfer yr heddlu a gweithwyr proffesiynol. 

Mae stelcian, fel aflonyddu rhywiol, yn effeithio ar ferched llawer mwy na dynion. Mae un o bob pump o ferched wedi dioddef stelcian, sy'n arwydd o'r gymdeithas batriarchaidd rydyn ni'n rhan ohoni hi, lle mae grym a phŵer yn gorwedd yn nwylo un rhan o'r boblogaeth ar draul y llall. Mae stelcian, aflonyddu rhywiol a'r defnydd o drais yn erbyn merched yn deillio o anghydbwysedd pŵer strwythurol, hanesyddol.

Rydw i'n credu bod merched fy nghenhedlaeth i wedi cadw'n rhy dawel am y mater yma, ac wedi cadw'n rhy dawel yn rhy hir, er bod y rhan fwyaf ohonom ni wedi dioddef yn ei sgil yn ystod ein bywydau ni. Felly, mae'n bryd i ni, fel merched o bob oed, ddweud 'Digon yw digon—na i stelcian, na i aflonyddu rhywiol, na i drais a cham-drin domestig.' Mae'n bryd i ni sefyll efo'n gilydd i dynnu sylw at bob gweithred amhriodol, yn cynnwys pob gweithred o stelcian, a dweud 'Dim mwy' efo llais unedig. Yn fwy na hynny, mae'n rhaid i ni fynnu bod yr asiantaethau, yr heddlu a'r llysoedd yn cymryd stelcian o ddifrif. Dwi'n credu mai dyna ydy'r neges glir rydyn ni'n ei chlywed o'r Senedd genedlaethol yma heddiw. Diolch.

17:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn i'w drafod heddiw? Mae'n amserol iawn eich bod wedi cyflwyno hyn i'w drafod yn y cyfnod cyn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol, digwyddiad blynyddol sy'n ceisio dod â phobl at ei gilydd i gondemnio'r ymddygiad hwn ac i bwyso am newid. Rwyf hefyd yn falch o gefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Credaf fod tynnu sylw at effaith erchyll stelcio ar fywydau dioddefwyr yn cryfhau ac yn darparu neges unedig gan y Senedd hon. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A gaf fi ddweud wrth bawb sydd wedi cyfrannu heddiw y bydd yr holl gyfraniadau a wnaethoch yn cael eu hystyried? Byddant yn helpu i lywio'r ffordd ymlaen o ran cryfhau'r camau y mae angen eu cymryd ar bob lefel o'r Llywodraeth hon a phob Llywodraeth sydd â phwerau a chyfrifoldebau.

Mae stelcio'n drosedd wrthun, ac mae'n enghraifft bwysig o'r camddefnydd o bŵer a rheolaeth sy'n nodweddu trais yn erbyn menywod a merched. Nod stelcio yw achosi ofn, braw a gofid i ddioddefwyr. Mae'n barhaus, mae'n ymyrrol—rydym wedi clywed enghraifft go iawn y prynhawn yma—ac nid yn unig y mae'n difetha bywydau, mae'n cael effaith hirsefydlog, fel y dywedwyd, ar iechyd meddwl ac anhwylder straen wedi trawma. Yn ofnadwy, fel y nodwyd, mae'r data hefyd yn dangos ei fod ar gynnydd.

Felly, rwyf hefyd am osod y ddadl hon ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais fis diwethaf ar ôl marwolaeth drasig Ashling Murphy, datganiad a ddilynodd ddatganiadau a wneuthum ar ôl llofruddiaethau Sabina Nessa a Sarah Everard. Mae'r menywod hyn, a llawer mwy, yn ddioddefwyr trais gan ddynion. Cafodd eu bywydau eu torri'n fyr am nad oeddent yn ddiogel ar ein strydoedd: nid yn ddiogel i gerdded adref, nid yw'n ddiogel i ymarfer corff, nid yw'n ddiogel i fod yn fenywod yn byw eu bywydau. Rydych wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen, ac nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd, ond rwy'n gobeithio eich bod hefyd wedi clywed lleisiau menywod sy'n codi mewn ymateb i droseddau creulon a thrasig o'r fath, troseddau sy'n digwydd yn gyson gwaetha'r modd, a dweud, 'Dyna ddigon.'

Byddwch wedi clywed lleisiau'r rhai a fynychodd yr wylnos i Ashling yng Ngerddi Grange yng Nghaerdydd fis diwethaf, er enghraifft. Yn dilyn yr wylnos, crynhodd Sara Robinson hyn mor berffaith yn ei cholofn yn y Western Mail, gan ein hannog i gyd i,

'adeiladu byd lle nad oes arnom angen y gwylnosau hyn'.

Fel menyw ifanc sy'n hoffi mynd i redeg, daeth i gymryd rhan yn yr wylnos honno, a chredaf fod llawer o fenywod a dynion wedi mynd i gefnogi, i wneud y pwynt ac i wneud safiad y noson honno. Felly, credaf fod dadleuon fel hyn yn rhoi cyfle i ychwanegu ein lleisiau ni at eu lleisiau hwy, i bawb gytuno ei fod yn anghywir, fod yn rhaid iddo ddod i ben, a chyda'n gilydd mae'n rhaid inni greu byd lle nad oes angen gwylnosau oherwydd y gweithredoedd ffiaidd hyn.

Felly, dyna pam ein bod yn cryfhau ac yn ehangu ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys y ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag yn y cartref, a sicrhau bod y strategaeth honno ar ei newydd wedd yn cael ei datblygu ochr yn ochr â phartneriaid allweddol—ac adlewyrchir hyn yn y cynnig—gan gynnwys yr heddlu, comisiynwyr yr heddlu a throseddu, ac wrth gwrs y sector arbenigol sydd wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd mawr, yn enwedig y rhai sy'n darparu cymorth lloches ar gyfer cam-drin domestig a chanolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, ac wrth gwrs maent yn darparu cymorth mor anhygoel ac amhrisiadwy i ddioddefwyr a goroeswyr stelcio yn ogystal â mathau eraill o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Felly, cydweithio—ac mae'r neges honno wedi ei chlywed ar draws y Siambr hon—gydag asiantaethau fel yr heddlu a phartneriaid cyfiawnder troseddol, i wneud i ddeddfwriaeth weithio—yr hyn a amlygwyd yw'r methiant mewn gwirionedd, mewn perthynas â phrinder gorchmynion stelcio—i'w dwyn i gyfrif a gweld beth arall y mae angen inni ei wneud. Ond rydym yn cydnabod bod rhaid i ni, wrth wraidd y strategaeth ddiwygiedig hon—

17:55

Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, dim ond un byr. Dim ond dweud eich bod yn gwbl gywir, yn amlwg, am y cydweithio; ni allwn fynd i'r afael â hyn oni bai ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r heddlu, fel rydych newydd ei nodi, ac yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol a pha mor hawdd yw hi i stelcio rhywun drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, boed hynny drwy gael eich pinio ar fap ar Snapchat neu fod mewn llun sy'n tagio lle rydych chi, beth yw eich lleoliad. Mae mor hawdd y dyddiau hyn, ac felly mae angen inni siarad â'r cwmnïau mawr hynny a llunio rhyw fath o strategaeth sy'n ei gwneud hi'n anos olrhain ble mae pobl. Diolch.

Diolch. Dyna gyfraniad ychwanegol defnyddiol iawn i'r ddadl heddiw, gan weithio yn amlwg o ran yr heddlu'n mynd i'r afael â thrais domestig ar bob lefel, gan gynnwys trais ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n ei ganlyn yn aml ac wedi'i gynnwys yn y digwyddiadau stelcio y clywsom amdanynt, ac yn sicr gan weithio gyda Chomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr a Gweinidogion Llywodraeth y DU ar y materion hyn, a'r heddlu hefyd.

Ond rwyf am ddweud bod pobl wedi sôn am hyfforddiant ac addysg, addysgu a dysgu priodol o ansawdd uchel. Wrth gwrs, bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn, a dyna pam y mae gofyniad gorfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb o fewn y cwricwlwm newydd, gan ddechrau ym mis Medi y flwyddyn nesaf, mor bwysig, oherwydd mae'n rhaid i'r newid ddod gyda'n plant a'n pobl ifanc i dynnu sylw at bwysigrwydd mathau diogel, cyfartal ac iach o gydberthynas a bod ymddygiad camdriniol bob amser yn anghywir.

Rhaid i'r strategaeth ddiwygiedig fod yn uchelgeisiol. Mae'n mynd i fod yn gyraeddadwy. Rydym wedi ymestyn yr ymgynghoriad i 18 Chwefror, felly bydd pwyntiau a fynegwyd heddiw yn bwysig iawn. Mae'n rhaid inni glywed beth y mae pobl Cymru yn ehangach yn ei feddwl. Mae'n rhaid inni greu cymdeithas lle mae menywod yn cael eu trin yn gyfartal a lle nad ydynt yn dioddef trais a cham-drin ar raddfa mor ofnadwy.

Hoffwn ddweud i orffen fod gennym ymgyrch y mis hwn. Fe'i gelwir yn 'Dim Esgus'. Ei nod yw helpu pobl i adnabod patrymau ymddygiad sy'n gysylltiedig ag aflonyddu ar y stryd. Mae'n cydnabod profiadau menywod a merched ac mae hefyd yn cydnabod lle gall hynny achosi ofn, braw a gofid. Ond mae'n galw ar y cyhoedd i dynnu sylw beirniadol at ragdybiaethau ynglŷn ag aflonyddu a'u herio, yn enwedig y syniad fod aflonyddu yn erbyn menywod a merched wedi cael ei ystyried yn rhywbeth diniwed, a hynny'n anghywir yn aml, ac mae'n rhaid iddynt dynnu sylw beirniadol ato gyda'u cyfoedion, eu ffrindiau a'u cydweithwyr. Felly, cadwch olwg am yr ymgyrch 'Dim Esgus'. Dyna fydd y neges.

Ac fel y dywedais, rydym yn cefnogi gwelliant Tŷ'r Arglwyddi i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd i gynnwys casineb at fenywod fel trosedd casineb ac mae'n wych ein bod yn gallu cael cefnogaeth y Senedd i hynny heddiw, onid yw? Felly, cefnogi'r gwelliant hwnnw.

Rydym yn sôn yn benodol am stelcio heddiw, ond rhaid inni wneud hyn yn glir, fod hyn yn rhan o sbectrwm o ymddygiad sy'n effeithio'n arbennig ar fenywod a merched a rhaid i'n hymateb fod yn gynhwysfawr os yw'n mynd i fod yn effeithiol, ac rwyf eisiau cael fy nwyn i gyfrif ar hyn. Rhaid inni uno pan fo trais ar ein stryd, rhaid inni uno dros newid a rhaid inni uno i ganiatáu i bawb fyw heb ofn. Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma ac i’r Gweinidog am ei hymateb cadarn i'r ddadl, a dwi'n cytuno â hi: yn waelodol i’n cynnig ni y prynhawn yma mae’r angen yma i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, sy’n brofiad annerbyniol o gyffredin yn ein cymdeithas. Mae stelcio yn effeithio yn bennaf ar fenywod a merched, gyda dros 80 y cant o’r rhai sy’n cysylltu â’r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol yn hunan adnabod fel benyw, a’r rhai sy'n cyflawni'r drosedd yn wrywaidd yn bennaf.

Mae’n amlwg bod stelcio yn symptom o broblem gymdeithasol ehangach ac yn rhan o’r trais, aflonyddu a cham-driniaeth sy’n creithio gormod o fywydau menywod a merched yng Nghymru. Rhaid, felly, sicrhau bod y broblem yn cael ei chynnwys a'i hystyried yn llawn yn y strategaeth VAWDASV nesaf.

Weinidog, rwy'n gwybod bod yr awydd a’r uchelgais yno, ond rhaid gwneud mwy; rhaid i bethau wella i ddioddefwyr stelcio. Mae hefyd yn werth nodi natur groesdoriadol stelcio: tra bod elfen rywiol neu rywiaethol bron bob amser ynghlwm wrth stelcio, mae llawer o grwpiau lleiafrifol a bregus yn ein cymdeithas yn fwy tebygol o fod yn dargedau stelcio, er enghraifft, yn sgil eu hil neu rywioldeb. Mae pobl â salwch neu anabledd hirsefydlog hefyd yn fwy tebygol o gael eu stelcio, ac adroddwyd 2,000 o achosion o stelcio gan bobl ifanc dan 18 oed yn 2020 yng Nghymru a Lloegr. Ac fel clywon ni gan Heledd Fychan, fel yn achos pob trosedd yn erbyn menywod a merched, yn anffodus, tybir bod y nifer o achosion nad ydynt yn cael eu hadrodd o gwbl yn uwch o lawer na'r ffigurau hyn.

Er bod y mwyafrif o achosion yn cael eu cyflawni gan rywun y mae'r goroeswr yn ei adnabod, a bod achosion yn medru digwydd o fewn lleoliadau domestig, mae bron i draean o'r achosion yn cael eu cyflawni gan ddieithriaid, ac felly mae ceisio sicrhau bod llefydd cyhoeddus yn ddiogel, yn cael eu cynllunio neu eu haddasu i sicrhau diogelwch menywod a merched yn gwbl hanfodol. Ac fel clywon ni yn y ddadl, mae lleoliadau digidol hefyd angen eu diogelu. 

Mae mynd i'r afael ag atal stelcio yn y lle cyntaf yn ganolog i'n brwydr dros sicrhau Cymru gyfartal. Sut allwn ni oddef sefyllfa lle mae menywod yn dioddef yn y fath fodd a ddisgrifiwyd mor rymus gan Delyth Jewell a Siân Gwenllian yn sgil y drosedd hon? Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn dangos bod 71 y cant o fenywod yn y Deyrnas Gyfunol wedi dioddef aflonyddu rhywiol, ac mae hyn yn codi i 86 y cant yn yr oedran 18 i 24. Rydym yn methu ein merched, Dirprwy Lywydd. Ac mae Ymddiriedaeth Suzy Lamplugh wedi canfod bod 97 y cant o fenywod wedi profi aflonyddu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond dim ond 14 y cant oedd wedi adrodd hyn i'r heddlu, ac o'r rheini, dim ond 6 y cant gafodd gynnig unrhyw gefnogaeth. Dim ond 1 y cant o'r rhai a erlynwyd gafodd eu canfod yn euog.

Mae cael diwylliant lle mae pobl yn medru aflonyddu yn gyhoeddus yn amlwg yn arwain at ganiatáu i stelcwyr feddwl bod ganddynt rwydd hynt i ymddwyn yn eu modd obsesiynol ac, yn aml, fygythiol heb i neb sylwi, neu heb unrhyw ganlyniadau cymdeithasol na chyfreithiol. Mae'r broblem o ran diffyg cefnogaeth a diffyg gweithredu o ran y system gyfiawnder a heddlua yn amlwg. Fe amlinellodd Delyth Jewell, Mark Isherwood a Joyce Watson y problemau sydd ynghlwm wrth y sefyllfa bresennol o ran hyn, gan amlinellu sut mae'r ymateb ar hyn o bryd yn aneffeithiol ac yn annerbyniol, yn gadael gormod o bobl i brofi'r drosedd ofnadwy yma. Ac rwy'n diolch i Jenny Rathbone am rannu profiad ofnadwy ei hetholwr.

Mae cyfiawnder a heddlu, wrth gwrs, dan reolaeth Llywodraeth San Steffan, ac er ein bod yn croesawu'r diwygiad yn Nhŷ'r Arglwyddi i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr, mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan wedi awgrymu eisoes na fydd yn cefnogi'r diwygiad hwnnw. A beth bynnag, mae'r Bil yn annigonol o ran mynd i'r afael â'r achosion cymdeithasol ac economaidd ehangach sy'n cyfrannu at drais yn erbyn menywod, sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau ar sail hil, crefydd, statws mewnfudwyr, anabledd, rhywedd, rhywioldeb, dosbarth, oedran, heb sôn am fynediad cyfartal at wasanaethau iechyd, iechyd meddwl, tai a gwaith. 

Mae nifer o'r siaradwyr y prynhawn yma wedi amlinellu camau y gellir eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cefnogaeth i oroeswyr yn cael ei gwella, bod mwy yn cael ei wneud i atal stelcio yn y lle cyntaf, a bod angen gwell hyfforddiant ar yr heddlu a gwasanaethau cefnogi eraill i adnabod, ymateb ac atal y drosedd ofnadwy hon sy'n achosi cymaint o boen meddwl ac yn arwain yn rhy aml at drais. A Mark Isherwood, dyw anfon neges ddim yn ddigonol yn wyneb agwedd Llywodraeth eich plaid yn San Steffan. Does dim dwywaith bod angen datganoli'r grymoedd sydd eu hangen arnom i geisio ymateb yn fwy effeithiol i'r drosedd hon a'r rhai y mae'n ei effeithio, ac, yn y pen draw, ddileu'r agwedd a'r amgylchiadau sy'n arwain at stelcio yn gyfan gwbl. Diolch.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:04.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:10, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

18:10
9. Cyfnod Pleidleisio

Croeso nôl. Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ordewdra. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar welliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.

O blaid 15, dim ymatal, 39 yn erbyn.

Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gordewdra. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.

O blaid 40, dim ymatal, 14 yn erbyn.

Felly, derbynnir y gwelliant.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. 

O blaid 40, dim ymatal, 14 yn erbyn.

Felly, derbynnir y gwelliant.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7903 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi ei phryder bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd.

2. Yn nodi bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar y rhai sy'n byw gyda gordewdra, a bod gan fwy na hanner y bobl sy'n cael eu derbyn i ofal critigol BMI o dros 30.

3. Yn nodi ymhellach bod gwasanaethau rheoli pwysau wedi'u hoedi neu eu haddasu wrth i GIG Cymru drin cleifion COVID.

4. Yn cydnabod:

a) y cynllun cyflawni newydd 2022-24, y bwriedir ei lansio ar 1 Mawrth, sy’n cefnogi’r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ei nod fydd atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf.

b) y buddsoddiad o £5.8m mewn gwasanaethau gordewdra yn sgil y cynllun, i alluogi byrddau iechyd i gyflawni Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan ar ei newydd wedd a gwasanaethau cyfartal, gan gynnwys gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mesurau ataliol i leihau gordewdra yng Nghymru, fel:

a) buddsoddi mewn adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ym mhob cymuned; 

b) gwella addysg iechyd; 

c) cynyddu'r amser a ddyrennir i wersi addysg gorfforol mewn ysgolion.

d) Ymchwilio i'r defnydd o offer trethu i annog deiet gwell.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudaf yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Galwaf am y bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn wedyn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidleisiwn ar y gwelliannau yn awr. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.

18:15

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudaf ymlaen yn awr at bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. Roedd 27 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, defnyddiaf fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7905 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr effaith y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chamddefnyddio sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd.

2. Yn credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn ystod plentyndod ac ymyrraeth gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru.

3. Yn nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ganlyniad i COVID-19.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru.

Agorwch y bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudaf ymlaen yn awr at y bleidlais ar ddadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Stelcio. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daw hynny â ni at ddiwedd y busnes am heddiw. Siwrnai ddiogel adref i chi, a byddaf yn eich gweld chi i gyd yr wythnos nesaf.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.