Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/01/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a blwyddyn newydd dda i bawb. Cyn inni ddechrau'r cyfarfod yma o'r Senedd, dwi angen atgoffa pawb am ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at bwrpas Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. A dwi angen atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn mewn Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod rhithwir yma.
Felly, yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, ac mae cwestiwn cyntaf 2022 yn mynd i Delyth Jewell.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gapasiti ysbytai yn Nwyrain De Cymru? OQ57425
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn cyntaf yna. Mae absenoldebau staff, ynghyd â phwysau'r gaeaf a chynnydd mewn achosion o COVID, wedi arwain at heriau sylweddol i fyrddau iechyd ledled Cymru. Mae gan bob bwrdd iechyd, gan gynnwys y rhai yn y de-ddwyrain, gynlluniau ar waith i gynyddu capasiti o ran lle a chysoni'r adnoddau dynol sydd ar gael â'r anghenion clinigol mwyaf brys.
Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedoch chi, mae ysbytai dan straen aruthrol oherwydd yr amrywiolyn omicron o COVID-19. Mae Dr Phil Banfield, cadeirydd pwyllgor ymgynghorwyr Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain, wedi disgrifio sut mae meddygon yn ofidus iawn ynghylch eu hanallu i asesu cleifion mewn adrannau achosion brys, ac y gallai nifer y bobl sy'n cael yr amrywiolyn hwn olygu y gallai hyd yn oed nifer fach ohonyn nhw sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty wthio'r GIG yng Nghymru dros y dibyn. Ac mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn y mae ymgynghorydd uned therapi dwys o fwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi'i ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol am y niferoedd mawr o gleifion COVID, a sut mae hyn, ynghyd â phrinder staff, yn effeithio ar allu'r GIG i gynnal llawdriniaethau arferol, gwasanaethau cleifion allanol a diagnosteg.
Yr wythnos diwethaf, canfu arolwg o aelodau BMA Cymru fod un o bob pump o feddygon yng Nghymru wedi gorfod hunanynysu o'r gwaith oherwydd COVID yn ystod y pythefnos diwethaf, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu bod masgiau FFP2 ar gael i'r holl staff gofal iechyd rheng flaen, a bod masgiau FFP3 ar gael i bawb sy'n trin cleifion y mae'n hysbys eu bod yn dioddef o COVID. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi eu darparu nhw?
Wel, Llywydd, y sefyllfa ynghylch masgiau yw hyn: sef bod grŵp arbenigol cenedlaethol yn cynghori'r Llywodraeth ar ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, gan gynnwys masgiau gradd uwch. Ar ddechrau mis Rhagfyr, gofynnodd y prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol i'r pwyllgor hwnnw am gyngor wedi'i ddiweddaru, gan edrych ar y masgiau hynny yng nghyd-destun yr amrywiolyn omicron. Rydym yn dilyn eu cyngor. Eu cyngor nhw yw na ddylai'r masgiau hynny fod ar gael ym mhobman, ond, yn y cyngor a gyhoeddwyd ganddyn nhw, fe wnaethon nhw dynnu sylw byrddau iechyd yng Nghymru at yr hyblygrwydd sydd gan fyrddau iechyd i ymestyn y defnydd o fasgiau o'r fath mewn lleoliadau clinigol lle byddai dyfarniad lleol yn eu hasesu yn rhan o'r amddiffyniadau sydd ar gael i staff. Ac rwy'n sylwi bod nifer y masgiau hynny a ddarparwyd gan wasanaethau a rennir yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi cynyddu ledled Cymru. Ac er mai dyna gyngor y pwyllgor arbenigol o hyd, rwy'n credu mai dyna'r cyngor y mae'n rhaid i ni ei ddilyn yma yng Nghymru—nid eu defnyddio'n gyffredinol, ond bod hyblygrwydd ar gyfer gwneud penderfyniadau lleol a'u defnyddio'n ehangach pan fo'r farn bod hynny'n fesur diogelu clinigol pwysig.
Prif Weinidog, mae pryder mawr ymhlith trigolion y de-ddwyrain ynghylch penderfyniad bwrdd iechyd Aneurin Bevan i dorri ei wasanaethau i'r cyhoedd oherwydd prinder staff. Mae'r toriadau'n cynnwys lleihau oriau yn yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Ystrad Fawr, er gwaethaf anogaeth eich Llywodraeth i gleifion ddefnyddio'r gwasanaethau hyn yn hytrach na mynd yn syth i'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Er fy mod yn cydnabod yn ddiffuant effaith y coronafeirws, ac yn enwedig yr amrywiolyn omicron, ar lefelau staffio, mae'n ffaith nad oes digon o staff yn y GIG yng Nghymru, fel y soniodd fy nghyd-Aelod abl. Datgelwyd y llynedd fod 3,000 o swyddi gwag staff GIG Cymru, a phob adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn methu â chyrraedd lefelau staffio diogel. Sonioch chi'n gynharach, Prif Weinidog, fod gennych chi gynlluniau ar waith, ond byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn cael mwy o fanylion o lawer ynghylch pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder staff difrifol yn y GIG a'r methiant wrth staffio adrannau damweiniau ac achosion brys yn ddiogel ar draws de-ddwyrain Cymru. Diolch.
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, mae'n rhaid imi anghytuno â'r sylw diwethaf. Nid yw lefelau staffio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, ar eu lefelau llawn, yn anniogel—wrth gwrs nad ydyn nhw; maen nhw'n bodloni gofynion gwahanol y coleg brenhinol. Nawr, ar hyn o bryd, oherwydd yr amrywiolyn omicron, mae gennym gyfrannau sylweddol o staff yn y GIG, a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru, nad ydyn nhw'n gallu bod yn y gweithle. Mae gan Aneurin Bevan ei hun dros 1,300 o aelodau o'i staff naill ai'n uniongyrchol wael gyda'r amrywiolyn omicron neu'n hunanynysu am iddynt fod mewn cysylltiad ag ef. Effeithiwyd ar bron i 10,000 o staff ar draws GIG Cymru gyfan yn y ffordd honno. Ac, er mor galed y mae'r gwasanaeth yn gweithio i geisio sicrhau ei fod yn diogelu gwasanaethau hanfodol, a bod pobl sydd yn y sefyllfa fwyaf brys yn glinigol yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw, mae'n amhosibl dychmygu sut y gall gwasanaeth sydd â miloedd o bobl sy'n methu â bod yn y gwaith oherwydd pandemig byd-eang barhau fel pe na bai hynny'n digwydd. Felly, rwy'n credu mai'r pryderon sydd gan bobl yng Nghymru yw sut y gallwn ni weithredu gyda'n gilydd i amddiffyn ein hunain a'r staff hynny rhag y don o'r coronafeirws sydd ar ei hynt drwy Gymru. Ac rwy'n cymeradwyo'r staff yn ein GIG am bopeth y maen nhw yn ei wneud—y straen enfawr sydd arnyn nhw, i wneud popeth y gallan nhw, er gwaethaf yr anawsterau hynny, i fynd ymlaen i ddarparu gwasanaeth ddydd ar ôl dydd i gleifion yn ne-ddwyrain Cymru ac ar draws ein cenedl gyfan.
Prif Weinidog, un o dasgau sylfaenol unrhyw lywodraeth yw diogelu bywydau a sicrhau iechyd cyhoeddus ei dinasyddion, ac mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cadw Cymru'n ddiogel yn ystod y pandemig byd-eang hwn. Gyda'r don omicron a ddaeth drosom ni, roedd angen mesurau iechyd y cyhoedd, a gwelwn arwyddion calonogol, gyda'r gyfradd heintio yn gostwng dros ddau ddiwrnod yn olynol. Prif Weinidog, rwyf wedi cael sylwadau gan fusnesau lletygarwch yn Islwyn, sy'n amlwg yn pryderu am golli busnes y maen nhw'n ei ddioddef ar hyn o bryd. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Drysorlys Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ariannol pellach i fusnesau yng Nghymru y mae'r mesurau iechyd cyhoeddus angenrheidiol presennol a gymerwyd yng Nghymru wedi effeithio arnyn nhw? A, Prif Weinidog, a wnewch chi ei gwneud hi'n glir y byddwch chi a'ch Gweinidogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa bob dydd ac yn sicrhau bod anghenion ein GIG, ein heconomi, ac iechyd cyhoeddus pobl Cymru yn gytbwys, gan sicrhau'r canlyniadau gorau posibl yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn?
Llywydd, diolch i Rhianon Passmore am yr hyn a ddywedodd ar ddechrau ei chwestiwn atodol. Yma yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth sy'n abl ac yn benderfynol o wneud y penderfyniadau anodd hynny sy'n helpu i gadw pobl yn ddiogel ac i gadw ein heconomi ar agor. Ac rydym yn gwneud hynny yng nghyd-destun y don omicron ddiweddaraf. Hoffwn rybuddio'r Aelodau am y ffigurau diweddaraf—y maen nhw'n dangos bod gostyngiad yn dechrau yn nifer y bobl sy'n mynd yn sâl; maen nhw'n dal i fod yn astronomegol o uchel o'u cymharu â'r hyn y byddem ni wedi'i weld ar adegau cynharach o'r pandemig, ac nid yw'n glir a yw'r rhain yn ostyngiadau gwirioneddol ai peidio neu a ydyn nhw'n ganlyniad i lai o bobl yn dod i gael profion PCR oherwydd cyfnewidiwyd profion llif unffordd mewn nifer o gyd-destunau lle byddai profion PCR wedi'u defnyddio'n flaenorol. Felly, rwy'n credu y bydd hi ychydig ddyddiau eto cyn i ni wybod a yw'r arwyddion hynny'n arwyddion gwirioneddol o ostyngiad mewn ffigurau yng Nghymru, neu a yw'n adlewyrchiad o rai newidiadau polisi mewn gwirionedd.
Yn y cyfamser, wrth gwrs rydym yn parhau i gefnogi'r economi o dan yr amgylchiadau heriol y mae'n eu hwynebu: £120 miliwn—arian y bydd yr wythnos hon yn dechrau gadael Llywodraeth Cymru a mynd i ddwylo busnesau ym mhob rhan o Gymru. Mae ein hymdrechion niferus i ddwyn perswâd ar Lywodraeth y DU y dylai'r Trysorlys fod yn Drysorlys i'r Deyrnas Unedig gyfan, nid dim ond yn Drysorlys sy'n ymateb pan fydd Gweinidogion Lloegr yn credu bod angen cymorth arnyn nhw yn Lloegr, wedi syrthio ar glustiau byddar. Mae'r £120 miliwn hwnnw'n arian a geir o fewn ein hadnoddau ein hunain, ac awn ymlaen, fel y dywedodd Rhianon Passmore, Llywydd, bob dydd yn astudio'r ffigurau ac yn cael y sgyrsiau hynny gyda gwahanol rannau o economi Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn fel Llywodraeth i'w helpu wrth i ni, gyda'n gilydd, fynd drwy'r cyfnod heriol iawn diweddaraf hwn.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leddfu'r pwysau ar GIG Cymru y gaeaf hwn? OQ57435
Diolch. Llywydd, y camau diweddaraf mwyaf arwyddocaol i helpu codi'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn yw’r ymgyrch brechiadau atgyfnerthu a'r mesurau atal i leihau effaith ton omicron o'r coronafeirws.
Diolch, Prif Weinidog. Dros yr wythnos diwethaf, mae tri o bobl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â mi ynglŷn â phroblemau yr oeddent wedi wynebu yn cael ambiwlans i gymydog neu aelod o'r teulu. Mewn un achos, roedd y person yn cael trawiad ar y galon ac fe ddywedwyd wrth ei chymydog nad oedd ambiwlans am hyd at chwe awr a bod angen canfod ffordd amgen i'w chael i'r ysbyty. Fe roddwyd y ffôn i lawr arni gan ddweud bod mwy o alwadau ffôn yn dod drwyddo, gan adael i'r cymydog orfod ffonio o gwmpas i geisio canfod rhywun i fynd â'r person i'r ysbyty. Wrth lwc, llwyddwyd i gael lifft, ac fe gafodd y person driniaeth frys ac mae hi bellach gartref yn gwella. Ond byddai wedi bod yn stori wahanol iawn pe na byddai rhywun wedi bod ar gael i fynd â hi. Pa gefnogaeth sydd yn cael ei rhoddi gan Lywodraeth Cymru i'r gwasanaeth ambiwlans a'n hysbytai i sicrhau bod gwasanaeth ar gael i fynd â phobl mewn sefyllfa argyfyngus i'r ysbyty, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad oes canran uchel o berchnogaeth ar geir na thrafnidiaeth gyhoeddus neu dacsis ar gael yn rhwydd?
Llywydd, diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn ychwanegol yna. Wrth gwrs, rwy'n falch i glywed bod pethau wedi troi mas fel gwnaethon nhw yn yr achos mae hi wedi siarad amdano. Mae effaith omicron a'r coronafeirws ar y gwasanaeth ambiwlans yn un uchel iawn. Mae mwy o bobl yn dost yn yr ymddiriedolaeth ambiwlans yng Nghymru nag yn unrhyw le arall dros y gwasanaeth iechyd i gyd. So, rŷn ni wedi gwneud lot o bethau fel Llywodraeth: mwy o arian, mwy o staff, mwy o hyfforddiant, mwy o bosibiliadau i wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol, ac ar hyn o bryd mae help gyda ni hefyd oddi wrth y fyddin, a bydd mwy o bobl o'r fyddin ar gael i helpu'r gwasanaeth ambiwlans dros yr wythnosau sydd i ddod tan ddiwedd mis Mawrth nag mewn unrhyw amser dros gyfnod coronafeirws i gyd. Nawr, dydy hynny ddim yn golygu y bydd popeth yn gallu bod fel oedd e cyn i'r coronafeirws ddechrau. Un o'r problemau sy'n wynebu pobl yn y gwasanaeth ambiwlans yw bod nifer y bobl sy'n dioddef o coronafeirws pan fyddan nhw'n dod i'w helpu nhw wedi cynyddu hefyd, ac mae hwnna'n cymryd mwy o amser—gwisgo PPE, glanhau’r ambiwlans, ac yn y blaen—ac mae hwnna'n arafu'r cyfleon sydd gyda'r bobl yn y gwasanaeth ambiwlans i fynd mas ar yr hewl unwaith eto i helpu pobl eraill. So, mae'r sefyllfa yn un heriol, ond rŷn ni fel Llywodraeth yn gwneud popeth allwn ni ei wneud i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans, a nawr mae help arall gyda ni hefyd.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod GIG Cymru o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ond rydym hefyd yn ymwybodol y bu GIG Cymru, mewn cyfnod cyn y pandemig, dan bwysau sylweddol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Wrth gwrs, mae angen i ni leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys drwy annog y defnydd o wasanaethau eraill, fel unedau mân anafiadau a defnyddio fferyllfeydd, cyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol i ymdrin â'r ôl-groniad o driniaeth, a hefyd ei gwneud yn llawer haws cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu. Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd yr wyf newydd eu hamlinellu?
Wel, gallaf helpu gyda nifer ohonyn nhw, Llywydd, neu fel arall byddwn i yma drwy'r prynhawn, rwy'n credu. Ond y pwynt cyntaf i'w wneud, fel y gwn y bydd Russell George yn ei gydnabod, yw bod y rhannau eraill hynny o'r system hefyd dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd. Dim ond yn gynharach heddiw y gwelais yr effaith ar y proffesiwn fferyllol, nifer y fferyllwyr cymunedol sy'n sâl ar hyn o bryd gyda coronafeirws neu'n hunanynysu ac felly ni allan nhw gynnig y gwasanaethau sydd fel arall yn ychwanegiad mor ddefnyddiol at y GIG.
Felly, mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn cwmpasu cryn amrywiaeth o bethau, gan gynnwys llawer o'r pethau ond nid y cyfan y soniodd yr Aelod amdanyn nhw. Yn sicr, mae'n golygu cryfhau fferyllfeydd cymunedol—yr oeddwn yn falch iawn o weld ein bod wedi dod i gytundeb yn ddiweddar ar gontract gyda fferylliaeth gymunedol a fydd yn golygu y bydd ystod estynedig o wasanaethau ar gael mewn mwy o rannau o Gymru, fel y gall mwy o gleifion gael gofal diogel a chlinigol priodol ym maes fferylliaeth gymunedol. Rydym wedi cwblhau trafodaethau contract gyda phwyllgor meddygon teulu Cymru hefyd. Bydd hynny'n canolbwyntio'n benodol ar fynediad at y tîm gofal sylfaenol, nid yn unig at feddygon teulu, ond fel yr wyf yn ei ddweud o hyd yn y fan yma, y tîm ehangach hwnnw o bobl sy'n darparu gwasanaethau ym maes gofal sylfaenol ac eto'n aml iawn yn gweld pobl mewn ffordd sy'n arbed amser pobl sydd â set fwy cyflawn o sgiliau ac felly'n gallu gofalu am achosion mwy heriol. Felly, ym mhob rhan o'r system, nod Llywodraeth Cymru yw atgyfnerthu'r gwasanaeth iechyd yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng, ond ei wneud mewn ffordd sy'n cyfrannu at adferiad hirdymor y GIG pan fyddwn o'r diwedd yn symud y tu hwnt i'r pandemig presennol.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddymuno blwyddyn newydd dda iawn i chi a'r Prif Weinidog a chyd-Aelodau ac iechyd da i bawb hefyd.
Prif Weinidog, dros gyfnod y Nadolig, gwelsom y golygfeydd chwerthinllyd yng nghlwb rygbi Caerffili lle yr oedd dim ond 50 o bobl yn cael gwylio'r gêm y tu allan, tra bod cannoedd yn ymgynnull dan do i'w gwylio ar y teledu. Yn anffodus, mae eich cyfyngiadau diweddaraf hefyd wedi gwneud gweithgareddau fel y parkrun yn ymarferol amhosibl eu trefnu. I lawer o bobl, hyd yn oed y rhai sydd wedi cefnogi eich penderfyniadau a'ch cyfyngiadau yn hanesyddol, nid yw'n ymddangos bod hyn yn gwneud synnwyr ac yn sicr nid yw'n dilyn y wyddoniaeth yr ydym wedi'i gweld hyd yma. A wnewch chi wrando ar y pryderon dilys hyn, Prif Weinidog, a gwneud y newidiadau angenrheidiol yn yr adolygiad yr wythnos hon?
Wel, rwyf innau'n dymuno'n dda i arweinydd yr wrthblaid hefyd, wrth gwrs, wrth i ni fynd i mewn i'r flwyddyn newydd, ond nid wyf yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd. Mae'r holl gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd wedi eu hargymell i ni a'u cymeradwyo gan ein cynghorwyr clinigol a gwyddonol. Llywodraeth yw hon sy'n dilyn y wyddoniaeth, nid yw'n treulio ei hamser yn ceisio pwyso ar wyddonwyr i roi cyngor i ni a fydd yn gyfleus yn wleidyddol i ni. Nid wyf ychwaith yn cytuno ag ef ei bod yn amhosibl gwneud rhai o'r pethau a ddywedodd; rwy'n gweld llawer o bobl yn rhedeg yn y parc mewn grwpiau wedi'u trefnu o fewn y lefel bresennol o amddiffyniadau. Gall hanner cant o bobl ddod at ei gilydd gyda 50 o bobl eraill yn helpu i drefnu eu hunain mewn gweithgareddau o'r fath, ac mae llawer o bobl yn manteisio ar hynny. Byddwn ni'n parhau i adolygu'r amddiffyniadau. Cyn gynted ag y cawn gyngor ei bod yn ddiogel gwneud hynny, yna wrth gwrs byddwn ni eisiau dechrau gwrthdroi'r daith yr ydym wedi gorfod bod arni tra bod Cymru yn nannedd y storm omicron. A gadewch i mi fod yn glir, Llywydd: dyna lle yr ydym ni. Rydym ni'n dal i wynebu pwysau ac effeithiau enfawr y coronafeirws yn y ffordd y mae'r ddau gwestiwn diwethaf wedi dangos yn helaeth.
Rwy'n siomedig, Prif Weinidog, i weld eich bod yn benderfynol o barhau ar y trywydd hwn, yn enwedig pan yr oedd yn ymddangos eich bod yn eithriad o ran y mater penodol hwn. Mae parkrun yn mynd yn ei flaen ar draws y Deyrnas Unedig. Yn Lloegr, nid oes cyfyngiadau ar niferoedd yn y dorf, yng Ngogledd Iwerddon, mae capiau ar dorfeydd yn 50 y cant o'r capasiti neu 5,000 o bobl, tra bod newidiadau i'w gweld ar droed yn yr Alban. Ddoe, dywedodd cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol yr Alban nad yw terfynau torf wedi cael fawr o wahaniaeth ar nifer eu hachosion. Gyda gemau'r chwe gwlad ar ddod, sy'n rhan bwysig o'r model busnes i lawer o fusnesau Cymru, yn enwedig Undeb Rygbi Cymru, mae'n hanfodol eich bod yn rhoi ymdeimlad clir o gyfeiriad y daith iddyn nhw. Gan eich bod yn derbyn y modelu a'r cyngor diweddaraf, a allwch chi gadarnhau, neu o leiaf roi syniad, pryd y bydd cefnogwyr yn gallu dychwelyd i stadia Cymru?
Wel, wrth gwrs, mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn fod gennym y modelu diweddaraf. Mae'n dangos nad yw brig y don omicron o'r coronafeirws wedi ein cyrraedd eto yng Nghymru, ac y gallem ni fod 10 diwrnod i ffwrdd o'r brig, a gallai'r niferoedd barhau i ddringo'n gyflym iawn. Nawr, fel yr wyf wedi ei ddweud nifer o weithiau, mewn darn bach o newyddion da, mae'r un modelu yna yn dangos y niferoedd yn dechrau gostwng yn gymharol gyflym hefyd.
Pan fyddwn ni mewn sefyllfa pryd y byddwn yn gwybod bod y brig wedi pasio yng Nghymru, ar effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ar weithwyr yn y sector preifat, ar allu ein gwasanaeth iechyd i ymdrin â'r niferoedd cynyddol o bobl mewn gwely ysbyty oherwydd y coronafeirws, yna byddwn ni eisiau, cyn gynted â phosibl ond mor ddiogel â phosibl, ddechrau llacio rhai o'r amddiffyniadau sydd wedi bod yn angenrheidiol tra bod y don omicron yn dal i ddod tuag atom, ond nid ydym ni wedi cyrraedd y pwynt yna. Nid ydym ni yn y sefyllfa honno heddiw. Nawr, byddwn ni'n adolygu'r data, fel y gwnawn ni bob dydd a phob wythnos, a'r wythnos nesaf fydd diwedd cyfnod adolygu tair wythnos. Os byddwn ni'n ffodus iawn, ac mae'n 'os' mawr iawn, a'n bod yn canfod ein bod wedi pasio'r brig hwnnw ac yn gweld gostyngiad dibynadwy yn effaith y coronafeirws arnom ni, yna byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud, fel y dywedais i, i lacio rhai o'r amddiffyniadau yr ydym wedi gorfod eu rhoi ar waith. Ond wnawn ni ddim gwneud hynny—[Torri ar draws.] Wnawn ni ddim gwneud hynny nes ein bod yn ffyddiog mai'r cyngor gwyddonol a meddygol i ni yw ei bod yn ddiogel i ni symud i'r cyfeiriad hwnnw.
Prif Weinidog, gosodwyd cyfyngiadau yng Nghymru yn seiliedig ar y modelu ac felly dylech fod yn seilio'r broses o lacio ymhellach ar y modelu. Nid oes gennych unrhyw esgusodion i beidio â darparu cynllun o'r fath, Prif Weinidog. Mae'n hanfodol i fusnesau sy'n teimlo'r boen gyda chyfyngiadau ar letygarwch ac iechyd meddwl yn dioddef yn sgil llai o chwaraeon, bod cynllun i ddod allan o'r cyfyngiadau hyn yn cael ei gyflwyno gan eich Llywodraeth. A wnewch chi gadarnhau heddiw y byddwch yn gwrando ar y galwadau hyn ac yn darparu llwybr allan o'r cyfyngiadau yn eich adolygiad ddydd Gwener?
Wel, fe wnawn ni'n union yr hyn a ddywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol y dylem ni ei wneud ar ddechrau'r cwestiwn olaf yna—byddwn ni'n dilyn y modelu. Fel yr wyf wedi dweud wrtho, mae'r modelu ar hyn o bryd yn dangos nad ydym eto wedi gweld brig ton coronafeirws yng Nghymru. Nawr, nid wyf yn credu y byddai neb mewn sefyllfa gyfrifol yn dadlau y dylem fod yn lleihau'r lefelau amddiffyn sydd ar gael yma yng Nghymru tra bod nifer y bobl sy'n dioddef o'r don omicron yn cynyddu, nid yn gostwng. Pan fyddwn ni mewn sefyllfa pan fyddwn yn ffyddiog ein bod wedi mynd heibio'r brig a bod y niferoedd yn wir yn gostwng, dyna'r pwynt pan allwn ni nodi, fel y byddem ni eisiau ei wneud wrth gwrs, gynllun ar gyfer lleihau rhai o'r amddiffyniadau sydd ar waith ar hyn o bryd, oherwydd, dyna pryd y bydd y niferoedd yng Nghymru yn gwella, nid yn gwaethygu. Mae'r model yn dweud wrthym ein bod yn debygol o'u gweld yn gwaethygu dros yr wythnos nesaf, ac o dan yr amgylchiadau hynny, ni fyddai'n gyfrifol ystyried mai dyma'r adeg y byddech yn dechrau dileu'r amddiffyniadau sy'n helpu i achub pobl rhag y feirws hwn, cadw mwy o bobl mewn gwaith, lleihau'r pwysau ar y GIG. Dyna'r rhesymau dros gymryd camau yma yng Nghymru, ac ni fyddwn yn cael ein dargyfeirio rhag gwneud hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, gall dyledion cynyddol a'r cynnydd cyflym a chronnol yng nghostau byw oddiweddyd COVID cyn bo hir fel yr argyfwng mwyaf a wynebwn dros y flwyddyn i ddod, gan ein bwrw ni fwyfwy i dlodi a salwch meddwl. Mae llawer o'r ysgogiadau allweddol, wrth gwrs, yn aros yn San Steffan, ond rydym wedi dysgu hyd yn oed heddiw, onid ydym ni, i roi ychydig iawn o ffydd mewn Prif Weinidog sy'n trefnu partïon gardd yng nghanol pandemig? Pan darodd yr argyfwng ariannol byd-eang, trefnodd Llywodraeth Cymru wedyn uwchgynhadledd economaidd frys i rannu syniadau ynghylch yr hyn y gallem ni yng Nghymru ei wneud yn annibynnol ein hunain i ymateb. A fyddech chi'n cytuno, Prif Weinidog, i ystyried trefnu uwchgynhadledd gymdeithasol yng Nghymru i helpu i lunio ymateb brys ar draws y Llywodraeth i'r argyfwng costau byw sy'n wynebu pobl a theuluoedd yn 2022?
Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt y dechreuodd Adam Price ag ef. Mewn dadansoddiad manwl iawn a gyhoeddwyd ychydig ddyddiau'n ôl, dywedodd y Resolution Foundation y bydd mis Ebrill yn nodi trychineb costau byw i lawer, llawer o deuluoedd ledled y Deyrnas Unedig, gyda biliau o dros £1,000 yn dod i'w rhan a hynny dim ond yn sgil cynnydd mewn prisiau tanwydd a'r newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol, ac nid yw hynny'n ystyried yr holl bwysau eraill y gwyddom sydd yno eisoes mewn cyllidebau teuluol, gyda chyflogau go iawn yn aros yn eu hunfan neu'n lleihau. Ac yn yr ystyr hwnnw, rwy'n credu bod Adam Price yn llygad ei le—mae'r argyfwng costau byw yn mynd i gael lle blaenllaw ym mywydau llawer o deuluoedd ledled Cymru. Ac i lawer o deuluoedd mae wedi dechrau eisoes, Llywydd, gyda'r miloedd hynny o deuluoedd yn wynebu toriad o £20 yr wythnos gyda'r gostyngiad mewn credyd cynhwysol—penderfyniad gwirioneddol greulon a wnaed gan Lywodraeth a oedd yn gwybod beth fyddai effaith y penderfyniad hwnnw ar fywydau'r teuluoedd tlotaf.
Nawr, ar draws Llywodraeth Cymru, rydym eisoes yn gweithredu, boed hynny drwy'r gronfa cymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn, a fydd yn cynnig cymorth gyda biliau tanwydd i deuluoedd yng Nghymru y gaeaf hwn; gyda'n hymrwymiad i'r cynllun i ostwng y dreth gyngor, mae 60 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn cael cymorth drwy'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor; drwy'r miliynau o bunnau hefyd yr ydym ni wedi'u rhoi yn y gronfa cymorth dewisol; a thrwy'r camau yr ydym yn eu cymryd drwy ein cronfa gynghori sengl i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fyddan nhw'n hawlio'r pethau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw—£17.5 miliwn mewn budd-daliadau ychwanegol a sicrhawyd yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon drwy'r gronfa gynghori sengl a 35 o gynghorwyr budd-daliadau newydd a recriwtiwyd i'n helpu gyda'r ymgyrch yr ydym ni'n ei rhedeg i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd yna.
Nawr, byddaf yn ystyried y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, wrth gwrs, ynghylch a fyddai dod â phobl o gwmpas y bwrdd cyn mis Ebrill i weld beth arall y gellid ei wneud yn ein helpu ni gyda'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond nid yw hynny oherwydd nad oes set gynhwysfawr iawn o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u rhoi ar waith.
O ystyried maint yr argyfwng, nid wyf yn credu mai gor-ddweud o gwbl yw ei alw'n drychineb costau byw, yna rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig y mae'n rhaid i bob un ohonom ni ei ofyn, hyd yn oed o fewn terfynau'r setliad datganoli: beth arall y gallem ni ei wneud i helpu pobl ar yr adeg ofnadwy o anodd hon? Ac os caf i roi un enghraifft, Prif Weinidog, ar hyn o bryd, gall darparwyr tai cymdeithasol gyflwyno cynnydd mewn rhent o hyd at 4.1 y cant. Gallai Llywodraeth Cymru ostwng y cap fel na fyddai unrhyw gynnydd rhent, o leiaf, yn fwy na chwyddiant. Gallech chi benderfynu peidio â chyd-fynd â'r cynnydd mewn prisiau rheilffyrdd o 3.8 y cant a gyhoeddwyd yn Lloegr cyn y Nadolig. Byddai cynyddu prisiau tocynnau trên a rhent tua 4 y cant, ar adeg pan gododd incwm blynyddol yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf, 0.4 y cant yn unig, yn sicr yn rhywbeth na fyddech chi na minnau eisiau ei weld.
Rwy'n deall y pwyntiau y mae Adam Price yn eu gwneud, Llywydd. Bydd yn gwybod bod cymdeithasau tai yn dibynnu ar incwm rhent i ariannu eu rhaglenni datblygu, felly os na allan nhw gael y symiau yr oedden nhw yn eu rhagweld drwy incwm rhent, bydd yn golygu y byddan nhw'n adeiladu llai o dai ar gyfer rhent cymdeithasol yn y dyfodol. Dyna yw'r hyn y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Mae'r achos y mae'n ei wneud dros beidio â chynyddu lefelau rhent uwchlaw cyfradd chwyddiant yn un pwerus, ond nid yw'n benderfyniad heb ei gostau mewn cyfleoedd eraill sy'n wirioneddol bwysig i'r bobl hynny sy'n aros am dai cymdeithasol addas yng Nghymru. Bydd yr un peth yn wir mewn cysylltiad â thrafnidiaeth gyhoeddus, os na chodir yr arian drwy dderbyniadau, yna byddwch yn talu, fel yr ydym ni yng Nghymru, ymhell, ymhell dros £100 miliwn i'r gwasanaeth rheilffordd dim ond i gadw ei ben uwchben y dŵr, a byddai hynny'n golygu y byddai'n rhaid dod o hyd i fwy o arian o'r ffynonellau hynny, ac mae hynny'n golygu nad yw arian ar gael i wneud pethau eraill. Felly, nid fy mod yn dadlau yn erbyn yr achos y mae'n ei wneud—mae'n ei wneud fel y dywedais i, gan ddwyn perswâd—dim ond tynnu sylw ydw i at y ffaith nad yw'r rhain yn gamau gweithredu heb gost. Maen nhw'n cynnwys costau cyfle a'n hanallu i wneud pethau eraill y gallen nhw eu hunain helpu'n uniongyrchol y math o deuluoedd y mae arweinydd Plaid Cymru yn canolbwyntio arnyn nhw heddiw.
Ac rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol, Prif Weinidog, i chi godi mater y goblygiadau, o ran refeniw, i Trafnidiaeth Cymru ac i'r sector tai. Mae'n debyg mai'r pwynt yw, o dan yr amgylchiadau penodol hyn, gan ystyried natur yr argyfwng costau byw, a ddylid bod mwy o bwyslais yn y tymor byr ar hynny nag ar ystyriaethau eraill.
Rwy'n croesawu, wrth gwrs, y cytundeb y mis diwethaf i gefnogi ein cynnig i ddechrau trafodaethau gydag awdurdodau lleol ar goelcerthi dyledion i'r rhai sydd ag ôl-ddyledion treth gyngor, a'r buddsoddiad ychwanegol yn y cynllun cymorth tanwydd gaeaf y cyfeirioch chi ato. Gallech chi fynd ymhellach eto, wrth gytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i amlinellu cynlluniau i gyflymu ôl-osod tai cymdeithasol ac, yn wir, fel y mae National Energy Action wedi'i annog, dwyn ymlaen eich targed o ddiddymu tlodi tanwydd o 2035 i 2028, a gosod y targed hwnnw ar sail statudol. Byddai'n naïf meddwl y byddai'r camau hyn yng Nghymru yn cywilyddio Boris Johnson i weithredu yn San Steffan, gan nad oes gan y dyn gywilydd, ond bydden nhw'n llygedyn o obaith, yn ogystal â ffynhonnell cymorth ymarferol, i lawer o bobl yng Nghymru ar adeg dywyll ac anodd iawn.
Wel, Llywydd, y gwir risg yma yw na allwn ni ddwyn y targed tlodi tanwydd ymlaen, ond bydd yr hyn sydd ar fin digwydd i deuluoedd ym mis Ebrill yn bwrw mwy o deuluoedd yng Nghymru i dlodi tanwydd yn hytrach na lleihau'r nifer hwnnw. Gwyddom fod pobl ar waelod y sbectrwm incwm yn gwario cyfran sylweddol uwch o'u hincwm ar filiau tanwydd na phobl sy'n well eu byd, ac mae mwy o'r teuluoedd hynny'n mynd i orfod ymdopi â chanlyniadau methiant y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr. Llywodraeth Geidwadol a drodd y cyflenwad ynni a thanwydd yn y Deyrnas Unedig yn ateb i'r farchnad, ac rydym wedi gweld methiant llwyr yn y farchnad honno, tra bod Llywodraeth y DU yn sefyll yn ôl ac yn gwneud dim yn ei gylch. Mae 28 o gwmnïau wedi mynd yn fethiant ac, ar ben y £500 y bydd yn rhaid i deuluoedd ei dalu oherwydd methiant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â phrisiau ynni, gofynnir iddyn nhw i gyd dalu £100 y flwyddyn i ymdrin â chanlyniadau'r methiannau hynny yn y farchnad hefyd. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl bethau y gallwn ni eu paratoi i helpu teuluoedd, Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol yn y maes hwn—Llywodraeth y DU a allai wrthdroi ei thoriadau credyd cynhwysol, Llywodraeth a allai feddwl am ffyrdd eraill y gellir rhannu'r biliau tanwydd hynny'n fwy teg ymhlith pobl, a gallai wynebu ei chyfrifoldebau yn hytrach na, fel y gwna'r Prif Weinidog heddiw ac mewn cynifer o feysydd bywyd, dim ond cuddio ac osgoi'r pethau a ddylai fod ar ben ei restr o bethau i'w datrys.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i amserlenni sgrinio serfigol? OQ57431
Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi gweithredu argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ac wedi ymestyn y cyfnod sgrinio arferol o bobl rhwng 25 a 49 oed o dair i bum mlynedd os na chanfyddir HPV yn eu prawf sgrinio serfigol. Mae'r cyfnod sgrinio bellach yn cyd-fynd â'r cyfnod sgrinio ar gyfer pobl 50 i 64 oed yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr, fel y digwyddodd i lawer ohonom ni sydd yma heddiw, cysylltodd llawer o etholwyr â mi yn pryderu fod Sgrinio Serfigol Cymru wedi ymestyn y cyfnod arferol ar gyfer sgrinio serfigol o dair i bum mlynedd i'r rhai rhwng 25 a 49 oed. Rwy'n gwerthfawrogi'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad hwn, yn seiliedig fel y mae ar stori newyddion dda am ddatblygiadau meddygol a'r canllawiau dilynol gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Ond roedd trosglwyddo'r newyddion hynny, heb fawr o fanylion ynghylch pam yr oedd y newid hwn yn digwydd, yn broblem a dweud y lleiaf. Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â phartneriaid i ledaenu'r wybodaeth honno, a pha wersi a ddysgwyd ynghylch trosglwyddo'r math hwn o neges bwysig ynghylch iechyd y cyhoedd yn y dyfodol?
Llywydd, rwy'n rhannu rhwystredigaeth Vikki Howells yn llwyr ynghylch y ffordd y cafodd llwyddiant ei gyfleu mewn ffordd a achosodd gymaint o bryder i gynifer o bobl, oherwydd bod y system sgrinio yng Nghymru yn llwyddiant. Ni yma oedd rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i newid ein system sgrinio i brawf mwy sensitif ar gyfer canser ceg y groth yn 2018. Rydym wedi cael brechiad ar gyfer HPV ymhlith menywod ifanc ers 2008, a bydd y risgiau o ganser ceg y groth yn y blynyddoedd i ddod yn wahanol iawn, ac yn llawer is nag yr oedden nhw i gynifer o bobl yn y gorffennol.
Edrychwch, rwy'n mynd i gofnodi os caf i, Llywydd, beth mae'r penderfyniad yn ei olygu mewn gwirionedd. Pan fydd rhywun yn cael prawf yn y dyfodol, os yw'r prawf yn dangos perygl uchel o HPV a bod newidiadau i'r celloedd yn y sampl a gymerwyd, caiff wahoddiad ar unwaith am golposgopi. Os oes arwyddion o HPV risg uchel ond nad oes unrhyw newidiadau i'r celloedd, yna bydd y cyfnod cyn y sgrinio nesaf yn flwyddyn. Os nad oes HPV ac nad oes unrhyw newidiadau i'r celloedd yn ymddangos yn y sampl, yna caiff wahoddiad i gael ei sgrinio'n serfigol ymhen pum mlynedd. Mae'n newid sy'n sicrhau budd gorau'r system ac yn achub mwy o fywydau.
Nawr, mae gwersi i Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch sut y gwnaethon nhw gyfleu hyn. Methwyd ag egluro i bobl buddion yr hyn a oedd yn cael ei gynnig, sut y bydd hyn yn gwneud y system yn well ac yn gryfach ac yn fwy llwyddiannus, ac, o ganlyniad, gwelsom y llif hwnnw o bobl yn drysu ac yn pryderu o ganlyniad. Rwy'n credu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud ei orau i adennill rhywfaint o'r tir hwnnw ers hynny, drwy roi gwybodaeth gliriach a gwell, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r trydydd sector ac elusennau canser hynny a ddaeth i mewn ac a helpodd gyda'r ymdrech esboniadol honno. Y tro nesaf, mae angen i ni sicrhau bod hynny'n iawn cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud, nid fel rhyw fath o ymdrech achub ar ôl i bethau fynd o chwith.
Diolch, Prif Weinidog. Mae wedi bod yn destun pryder mawr i holl fenywod Cymru, o ran symud o dair blynedd i bum mlynedd rhwng apwyntiadau sgrinio serfigol, fel y gwelwch chi gan y nifer fawr o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb honno, hyd at dros 1 miliwn yn awr. Mae'n rhaid imi gyfaddef i mi gael pwl o banig fy hun i ddechrau, wrth glywed y newyddion, ar ôl byw drwy effaith Jade Goody—ni wn i a ydych chi'n ei chofio hi—ei marwolaeth drist o ganser ceg y groth a'r ymgyrch gyhoeddusrwydd a ddilynodd hynny ar bwysigrwydd bod â threfn sgrinio ceg y groth. Gwnaeth yr ymgyrch honno wahaniaeth enfawr.
Mae'n dal i fy mhoeni, ac wedi gwneud llawer o bobl yn bryderus, bod dwy flynedd gyfan ychwanegol cyn y gallwch chi gael eich sgrinio, oherwydd, fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, bydd celloedd rhai pobl yn tyfu'n gyflym, a byddan nhw'n datblygu ymhen ychydig flynyddoedd. Rwy'n deall, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf nawr, fod gennym sgrinio sy'n nodi HPV yn gyntaf, ac yna'n chwilio am newidiadau i'r celloedd wedyn, ac, os oes HPV yn bresennol, yna edrychir ar newidiadau i'r celloedd, sy'n newid i'w groesawu. Mae'n ddatblygiad gwych o ran sgrinio ceg y groth ar gyfer canser, a gobeithio y bydd yn achub bywydau. Fodd bynnag, y peth mwyaf pryderus ynghylch hyn i gyd, fel yr amlinellwyd gan Vikki, yw bod yr ymgyrch gyhoeddusrwydd mor wael. Roedd y cyfathrebu'n bryderus o wael, ac yn peri llawer o banig ar draws y genedl ac yn dychryn pobl ac nid oedd addysgiadol o gwbl er mwyn tawelu meddwl pobl ynghylch y newidiadau, y newidiadau i'w croesawu. Felly, Prif Weinidog, oherwydd y protestiadau cyhoeddus sylweddol ar hyn, a wnewch chi lansio ymgyrch arall nawr, fel ymgyrch Jade Goody yn ôl yn y 1990au, i roi gwybod i'n dinasyddion am y newidiadau sylweddol sydd wedi digwydd ac adfer ffydd yn y broses sgrinio, sy'n bryder ynddo'i hun, yn ogystal ag annog yr holl fenywod hynny nad ydyn nhw wedi camu ymlaen yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i ddod ymlaen i gael eu sgrinio? Diolch.
Wel, diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna, Llywydd. Yn gyntaf oll, i ddweud, wrth gwrs, os oes unrhyw un yn teimlo bod eu hiechyd yn newid ac efallai nad yw pethau fel y bydden nhw eisiau iddyn nhw fod, ddylen nhw ddim aros am sgrinio, dylen nhw fynd at y meddyg teulu a sicrhau bod eu hanghenion iechyd yn cael sylw ar unwaith. Felly, pan fo pobl, sy'n adnabod eu cyrff eu hunain orau, yn teimlo bod newidiadau'n digwydd, nid oes awgrym yma o gwbl bod yn rhaid i bobl aros am bum mlynedd i ganfod a yw hynny'n wir ai peidio. Nid dyna yw pwrpas sgrinio. Dyna pam y dylai pobl wneud yn siŵr eu bod yn mynd at y meddyg a chael yr archwiliadau angenrheidiol.
A gaf i adleisio'r hyn a ddywedodd yr Aelod ar ddiwedd ei chyfraniad? Mae tua 25 y cant o bobl nad ydyn nhw'n dod at y gwasanaeth sgrinio. Ac mewn ffordd wrthnysig, rwy'n deall, ond, yn yr un modd fe dynnodd y stori drist iawn honno am Jade Goody fwy o sylw pobl a daeth mwy o bobl ymlaen i gael eu sgrinio, efallai y bydd y ffaith bod hyn wedi bod yn y newyddion yn y ffordd y bu, o leiaf yn atgoffa rhai pobl bod y gwasanaeth hwnnw yno a pha mor llwyddiannus yw'r gwasanaeth a pha mor bwysig yw dod ymlaen i fanteisio arno. Ac rwy'n gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth o fewn ei allu nawr i sicrhau bod gwybodaeth briodol, gwybodaeth gywir, gwybodaeth a fydd yn helpu pobl i wneud y dewisiadau cywir yn y maes hwn—eu bod yn gwneud hyd yn oed mwy i geisio unioni'r stori honno, oherwydd, fel y dywedais i, y rhwystredigaeth yw bod pethau wedi gwella cymaint yn y maes hwn, am y ddau reswm hynny, y rhaglen frechu a'r newidiadau i sgrinio, fel ein bod eisiau i bobl ddeall bod y newidiadau yno o ganlyniad i lwyddiant ac nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn tanseilio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth sydd yno ar eu cyfer.
Cwestiwn 4, Joyce Watson.
A wnewch chi aros? A wnewch chi ddechrau eto, Joyce? Diolch.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i gostau byw cynyddol yng Nghymru? OQ57437
Diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Mae argyfwng costau byw'r Torïaid eisoes yn realiti i filoedd o deuluoedd Cymru. Fel y dywedais i yn gynharach, Llywydd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi dewis cymryd £20 bob wythnos i ffwrdd oddi wrth y teuluoedd tlotaf yn y wlad a thorri ei haddewidion etholiadol i bensiynwyr, wrth i brisiau tanwydd a chwyddiant saethu i fyny.
Mae'n wir yn amser brawychus i lawer o bobl sy'n byw yng Nghymru. Gwelwn chwyddiant allan o reolaeth, a gwelwn gynnydd mewn prisiau tanwydd ar y ffordd yn fuan iawn. Wrth gwrs, yng Nghymru, mae gan y Llywodraeth Lafur y rhaglen Cartrefi Cynnes, sy'n ôl-osod stoc tai sy'n aneffeithlon o ran tanwydd yn gyson. Rydym yn rhoi taliad arian parod o £100 i deuluoedd incwm isel—mae eich Llywodraeth chi wedi—ar yr un pryd ac mewn cyferbyniad, gyda'r Torïaid, fel y dywedoch chi, yn cymryd £20 yr wythnos allan o'u pocedi. Ac mae hynny wrth gwrs yn benderfyniad creulon, mae'n ddiangen, ac mae'n benderfyniad sy'n cael ei ysgogi'n wleidyddol. Maen nhw hefyd yn gwrthod mabwysiadu toriad TAW arfaethedig Llafur ar filiau ynni cartref a threth ffawdelw ar elw olew a nwy môr y Gogledd. Mae hynny, wrth gwrs, yn gamreoli economaidd. Felly, yn ychwanegol at yr holl bethau yr ydych chi eisoes wedi'u crybwyll yn y ffyrdd y mae eich Llywodraeth chi yn cynnig cymorth, a gaf i ofyn, mewn sgyrsiau y byddwch chi wrth gwrs wedi'u cael gyda'r Trysorlys, os nad ydyn nhw eisoes yn ymwybodol, os ydyn nhw'n absennol heb ganiatâd, a ydych chi wedi gofyn iddyn nhw wynebu eu cyfrifoldeb i bobl Cymru a sicrhau eu bod yn cynnig yr holl gymorth y gallan nhw ar yr adeg dyngedfennol hon ym mywydau pobl?
Llywydd, gallaf sicrhau Joyce Watson yn llwyr fod Gweinidogion Cymru, dro ar ôl tro ar ôl tro, ynghyd â'u cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi lobïo Gweinidogion y DU yn erbyn eu cynlluniau i gymryd y £20 hwnnw bob wythnos oddi ar y teuluoedd tlotaf. Bydd yna gyfarfod o weinidogion cyllid y pedair gwlad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Bydd Rebecca Evans unwaith eto yn gwneud y pwyntiau hyn i Weinidogion Llywodraeth y DU. Treth ffawdelw—. Wrth i'r prisiau hyn gynyddu'n sydyn, mae'r elw a wneir gan gwmnïau yn cynyddu'n sydyn hefyd ochr yn ochr â nhw, ac o gofio mai'r cyhoedd sy'n talu'r arian hwnnw i mewn, rwy'n credu bod gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl y byddai Llywodraeth sy'n gweithredu ar eu rhan yn cymryd rhywfaint o'r arian hwnnw yn ôl i'w fuddsoddi mewn lliniaru'r effaith ar y rhai hynny sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf. Nid yw'r rhain yn benderfyniadau anodd i unrhyw Lywodraeth eu gwneud, oni bai, fel y dywedodd Joyce Watson, fod agenda wleidyddol wahanol y mae Llywodraeth yn ei dilyn. Mae camau y gall Llywodraeth y DU eu cymryd a chamau y dylen nhw eu cymryd. Bydd Gweinidogion Cymru yno yr wythnos hon eto yn pwyso arnyn nhw i wneud hynny.
Rwy'n cydnabod bod nifer o bethau o ganlyniad i'r pandemig sy'n rhoi pwysau ar incwm pobl, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i bob Llywodraeth gydweithio arno i fynd i'r afael ag ef. Prif Weinidog, rwyf eisiau gofyn beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu pobl sydd mewn caledi ariannol. Mae Llywodraeth Cymru, er tegwch, yn darparu nifer o gynlluniau cymorth i ategu'r rhai a gynigir gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, er gwaethaf y gefnogaeth werthfawr hon, mae Sefydliad Bevan wedi datgan yn ddiweddar fod natur bresennol y cynlluniau hyn yn golygu ei bod yn anodd i bobl gael gafael ar yr holl gymorth y mae ganddyn nhw'r hawl iddo. Prif Weinidog, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer cynlluniau budd-daliadau a chymorth a weinyddir yng Nghymru, yn ogystal ag archwilio'r posibilrwydd o basbortio hawlwyr credyd cynhwysol yn awtomatig i'r system honno? Diolch.
Diolch i Peter Fox am hynna. Rwy'n credu bod y gronfa gynghori sengl, mewn sawl ffordd, yn mynd i'r afael â rhai o'r materion y mae Peter Fox wedi'u codi, oherwydd mae'n un gwasanaeth ac mae pobl yn cael y cyngor y mae ei angen arnyn nhw ar draws ystod eang o faterion gwahanol, boed hynny'n dlodi tanwydd neu'n broblemau o ran talu'r dreth gyngor, ac ati. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ymdrech ymwybodol i symleiddio'r gwasanaethau cynghori sydd gennym ni yma yng Nghymru, a'u gwneud mor hawdd â phosibl i bobl eu defnyddio.
Mae Peter Fox yn gwneud pwynt pwysig am basbortio. Un o broblemau credyd cynhwysol yw ei fod wedi torri'r pasbort awtomatig a oedd yno o'r blaen ar gyfer pobl sy'n hawlio budd-dal tai ac yna'n gallu hawlio budd-dal y dreth gyngor. Nid yw'n hawdd i Lywodraeth Cymru drwsio'r cyswllt hwnnw sydd wedi ei dorri ein hunain. Ond gallaf ddweud wrth yr Aelod fod trafodaethau wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gallwn ni wneud y cymorth sydd ar gael drwy gynllun budd-dal y dreth gyngor ar gael yn fwy awtomatig i bobl sydd newydd gymhwyso ar gyfer budd-dal tai ac sydd, ar hyn o bryd, yn gorfod gwneud hawliad ar wahân mewn ffordd nad oedden nhw o'r blaen er mwyn cael cymorth gan gynllun budd-dal y dreth gyngor.
Felly, mae'r system yn nodedig o gymhleth a pho fwyaf y byddwch chi'n ceisio ei mireinio er mwyn gallu helpu pobl â gwahanol rannau o'u bywydau, y mwyaf o gymhlethdod sy'n tueddu i gael ei gynnwys yn y system. Ond yma yng Nghymru, rydym ni o leiaf mewn sefyllfa lle mae gennym gynllun budd-dal y dreth gyngor cenedlaethol, cynllun cenedlaethol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, cynllun cenedlaethol a fydd yn caniatáu i hyd at 350,000 o aelwydydd yng Nghymru elwa ar daliad tanwydd gaeaf, a Llywodraeth sydd wedi ymrwymo, ar y sail genedlaethol honno, i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol lle bynnag y gallwn ni. Mae'r cyfan yn rhan o ymdrech i geisio sicrhau ein bod yn amddiffyn pobl yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd â'r lleiaf, yn erbyn yr argyfwng costau byw sydd i ddod.
Jane Dodds.
Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda i chi, Prif Weinidog.
Mae saith o'r 20 ardal ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi'u taro waethaf gan brisiau tanwydd yn cynyddu yng Nghymru, felly rwyf eisiau dilyn ymlaen o'r pwynt gan fy nghyd-Aelod Joyce Watson. Disgwylir i brisiau gynyddu £598 y flwyddyn ar gyfartaledd, a bydd rhai yn gweld biliau'n cynyddu mor uchel â £750. Mae pedair o'r saith ardal hynny yn y rhanbarth y mae Joyce a minnau yn eu cynrychioli, sef Ceredigion, Powys, sir Benfro a sir Gaerfyrddin.
Mae hon yn sefyllfa enbyd i deuluoedd ac aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn ariannol. Os bydd y cap ar brisiau yn cynyddu, fel y rhagwelir, gallem ni weld nifer gyffredinol yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn cynyddu 50 y cant neu fwy. Rhwng y cap ar brisiau'n cynyddu a'r Ceidwadwyr yn cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol, a'r ffaith eu bod nhw wedi rhewi'r lwfans treth personol, gallai teuluoedd fod yn wynebu £1,200 yn ychwanegol mewn biliau yn y flwyddyn nesaf. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi, er mwyn achub teuluoedd rhag yr hyn sy'n dod yn drychineb costau byw, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn sefydlu treth Robin Hood ar uwch-elw olew a nwy i gefnogi teuluoedd â biliau gwresogi sy'n cynyddu'n aruthrol? Diolch.
Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn ac am y dymuniadau gorau.
Diolch iddi am dynnu sylw at y dreth Robin Hood—y dreth Tobin, fel yr oedd yn cael ei galw weithiau—rwyf i bob amser, fy hunan, wedi cael fy nenu ati; treth fach iawn ar nifer fawr iawn o drafodiadau, a fyddai'n arwain at lif ychwanegol sylweddol iawn o arian i mewn i Drysorlys y DU, y gellid ei ddefnyddio o dan yr union amgylchiadau a amlinellwyd gan yr Aelod.
Mae'n iawn iddi ddweud ein bod wedi canolbwyntio ar y cynnydd mewn prisiau tanwydd. Nid dim ond y cap ydyn nhw. Cynyddwyd y cap £139 dim ond fis Hydref diwethaf. Gellid ei godi £500 ym mis Ebrill. Nid yn unig hynny a'r £100 y bydd yn rhaid i bob teulu ei dalu i ymdrin â methiant y farchnad y gwnaeth y Llywodraeth Geidwadol lywyddu drosto, ond pe baech ar dariff pris sefydlog gydag un o'r cwmnïau hynny sydd wedi methu, ni fyddwch ar dariff pris sefydlog gyda'r cwmni sydd wedi eich derbyn. Byddwch chi yn awr yn agored i'r cynnydd yn y cap hefyd. Dyna pam mae Jane Dodds yn iawn i dynnu sylw at y ffaith nad £500 yw'r uchafswm y bydd llawer o deuluoedd yng Nghymru yn agored iddo o bell ffordd.
Ac, nid dim ond y cynnydd mewn yswiriant gwladol. Unwaith eto, fel y dywed Jane Dodds, effaith rhewi trothwyon treth incwm am y pedair blynedd nesaf, a fydd yn llusgo mwy a mwy o deuluoedd i'r rhwyd dreth ar ben isaf y sbectrwm ac yn tynnu pobl i fyny'r hierarchaeth o gyfraddau treth wrth iddyn nhw ganfod bod eu hincwm yn cynyddu ond bod y trothwy treth yn aros yr un fath. Mae'r rhain yn godiadau treth llechwraidd a byddan nhw'n effeithio ar deuluoedd yma yng Nghymru. Felly, mae syniadau dychmygus fel y dreth Robin Hood ac fel y dreth ffawdelw, y soniodd Joyce Watson amdani, yn ddewisiadau sydd ar gael i Lywodraeth y DU a dylen nhw eu harfer.
5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn perthynas â'r addewid i ddarparu cynnig gwaith, addysg neu hyfforddiant i bawb dan 25 oed a nodwyd ym maniffesto Llafur Cymru yn 2021? OQ57409
Diolch i Huw Irranca-Davies, Llywydd. Mae'r cynllun gwarant i bobl ifanc eisoes ar waith yng Nghymru, ac mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio yn darparu porth i'r cyfleoedd estynedig sydd ar gael ar draws addysg, hyfforddiant, prentisiaethau, cyflogaeth a hunangyflogaeth i'n pobl ifanc.
Prif Weinidog, diolch ichi am yr ateb yna. Byddwch chi'n gwybod mai dyma un o'r prif addewidion ym maniffesto Llafur Cymru, a enillodd gefnogaeth mor gryf gan bobl Cymru y llynedd. Roedd yn cynnwys bargen deg ar gyfer gofal, gyda'r cyflog byw gwirioneddol i ofalwyr; gwlad wyrddach, gan gynnwys coedwig genedlaethol i Gymru; cymunedau mwy diogel, gyda 500 yn fwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol, a llawer mwy.
Ond o ran y gwarant i bobl ifanc, yn ogystal â chyfrannu at iechyd ein heconomi yn y dyfodol, mae hyn yn anfon neges glir am flaenoriaethau'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n gwybod na all Cymru ffynnu tra bod pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd, felly mae gweithredu yn awr i fuddsoddi mewn pobl ifanc yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cael cyflogau a sgiliau uwch yn y tymor hirach, gyda'r holl fanteision sy'n dod gyda hynny i bob un ohonom ni mewn cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod y gwarant i bobl ifanc yn arf hollbwysig i newid rhagolygon bywyd pobl ifanc, gan ddechrau gyda'r rhwydweithiau y mae pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol, y rhai nad ydyn nhw'n cael eu geni'n freintiedig, ond sydd ag awydd i wireddu eu doniau a'u huchelgeisiau?
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud. Cefais fy nharo yn fawr, fy hun, yn ôl ym mis Ebrill y llynedd, gan y ffordd yr oedd y warant i bobl ifanc wedi cyfathrebu ei hun, nid yn unig i bobl ifanc, ond i rieni a neiniau a theidiau y bobl ifanc hynny a oedd yn bryderus am eu dyfodol ac yn edrych i gyfeiriad y Llywodraeth i sefydlu'r sylfeini llwyddiant ar gyfer y bobl ifanc hynny wrth i ni ddod allan o effaith y coronafeirws. Mae'r ffaith bod y warant yno eisoes, ei bod yn gweithredu ar draws y sbectrwm, mae ganddi bethau yno i bobl mewn addysg uwch, mae ganddi fuddsoddiad newydd sylweddol i'r bobl ifanc hynny sy'n penderfynu y byddai'n well ganddyn nhw fynd yn uniongyrchol i fyd gwaith a byd prentisiaethau, ac mae cynnig gwirioneddol yno i'r bobl ifanc hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur—y bobl ifanc yr wyf i'n gwybod y byddai Huw Irranca-Davies a minnau yn poeni amdanyn nhw—lle mae angen cyfres gryfach o fesurau ar waith i ddangos i'r bobl ifanc hynny bod yna lwybr y gallan nhw deithio arno sy'n mynd â nhw o le y maen nhw heddiw i le y bydden nhw'n dymuno gweld y dyfodol ar eu cyfer. Dyna pam y mae yna hyfforddeiaethau. Dyna pam y mae rhai rhaglenni blas ar waith wedi'u cynnwys yn y warant hefyd. Nawr, wrth i economi Cymru wella o effaith y coronafeirws, fe welsom ni dwf cyflogaeth cryf, ac roedd hynny'n cyrraedd bywydau pobl ifanc hefyd. Ond bydd y profiad omicron diweddaraf yn creu pryderon newydd ymysg pobl ifanc y gallai'r cyfleoedd hynny fod yn araf wrth ailsefydlu eu hunain eleni, a dyna pam y bydd y ffaith ein bod â'r warant yno, bod â Cymru'n Gweithio yno fel y gwasanaeth sy'n cydlynu'r cyfan ac sy'n sicrhau ei fod ar gael i bobl ifanc, mor bwysig wrth i ni fynd i 2022.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffordd fwyaf teg o asesu ansawdd dysgu ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 yn sgil y don ddiweddaraf o COVID-19? OQ57434
Diolch i Jenny Rathbone. Llywydd, mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu cynnal arholiadau yn 2022, yn gyson â'r dull a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r DU, ac mae addasiadau wedi'u gwneud i'r cynnwys a gaiff ei asesu fel nad yw dysgwyr o dan anfantais. Ar 16 Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog addysg £24 miliwn o gymorth ychwanegol, yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn y blynyddoedd arholiadau.
Wel, mae'r arian hwnnw i'w groesawu'n fawr. Ddoe, cefais e-bost gan ferch ifanc bryderus iawn am y posibilrwydd o orfod sefyll arholiadau ar ôl cael cynifer o'i gwersi wedi'u cyflwyno gan athrawon cyflenwi yn hytrach na'r athrawon pwnc arferol. Yn amlwg, gyda'r cynnydd yn COVID eto, mae y tu hwnt i reolaeth ac ymdrechion gorau arweinwyr ysgolion a dysgwyr i allu sicrhau eu bod yn cael yr addysgu a'r lefel o ddysgu y maen nhw'n dymuno'n daer eu cael. Felly, mae hi'n gofyn pam nad ydym ni eisoes wedi canslo arholiadau ar gyfer yr haf hwn, ond rwy'n cydnabod yn llwyr mai rhinwedd arholiadau yw eu bod yn osgoi'r rhagfarn hiliol a dosbarth cymdeithasol sy'n rhan annatod o systemau pan fo athrawon yn asesu ac yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd y caiff algorithmau cyfrifiadurol eu creu.
Felly, o gofio bod arholiadau i fod i'w cynnal, yr wythnos hon ac yn yr haf, a oes unrhyw amgylchiadau a allai arwain Llywodraeth Cymru i ganslo'r arholiadau haf hyn, neu sut ydym ni'n rhoi sicrwydd i bobl ifanc mai un cyfle yn unig yw arholiadau yr haf hwn iddyn nhw ddangos y lefel y gallan nhw ei chyrraedd?
Mae Jenny Rathbone yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn yn y fan yna. Rwy'n deall yn iawn y pryder y mae pobl ifanc yn ei deimlo wrth wynebu arholiadau gan deimlo nad yw'r profiad y maen nhw wedi'i gael yn eu paratoi nhw yn y ffordd y bydden nhw wedi dymuno. Ond pan wnaethom ni ddibynnu yn llwyr ar raddau a bennwyd gan y ganolfan y llynedd—rwy'n gwybod y bydd Jenny Rathbone yn gwybod beth ddigwyddodd—gwelsom y bwlch rhwng y graddau a ddyfarnwyd i'r disgyblion mwy breintiedig a'r rhai hynny ar brydau ysgol am ddim yn ehangu o 15 y cant, lle yr oedd wedi bod cyn y pandemig, sydd eisoes yn llawer rhy uchel, i 21 y cant y llynedd. Mae arholiadau'n gywiriad pwysig i ragfarn anymwybodol yn y system. Gwyddom fod dynion ifanc dosbarth gweithiol yn benodol yn gwneud yn well mewn arholiadau nag yr oedd eu hathrawon wedi'i ragweld weithiau. Dyna pam mae'n bwysig iawn inni gynnal arholiadau fel rhan o'r ffordd y bydd pobl ifanc yn cael eu hasesu yng Nghymru yr haf hwn.
Mae CBAC wedi cynnal arholiadau ym mis Tachwedd y llynedd a mis Tachwedd yn ystod cyfnod atal byr y flwyddyn flaenorol, ac wedi gwneud hynny'n llwyddiannus. Maen nhw'n gweithredu fel cywiriad pwysig o ran y tegwch hwnnw i bobl ifanc nad ydyn nhw weithiau'n cael y clod y byddai eu galluoedd yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ei gael pan fyddwn ni'n dibynnu ar ddulliau eraill yn unig. Ond mae'n ddull cyfunol. Bydd arholiadau, ie—wedi'u rheoli'n ofalus, y cynnwys wedi'i leihau, rhybudd o flaen llaw o'r pynciau i'w trafod ac ati, er mwyn ystyried y pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone—ochr yn ochr â mathau eraill o asesu, yn caniatáu canlyniad cyflawn i'r bobl ifanc hynny, ac yn un y gellir ei ddefnyddio nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig, oherwydd bod cyfrededd y dyfarniad hwnnw wedi'i ddiogelu ac mae'n golygu y caiff ei gydnabod pan ddaw pobl ifanc i'w ddefnyddio wrth wneud cais am swyddi neu pan fyddan nhw'n dymuno mynd ar gyrsiau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Chlwb Pêl-droed Caer a Chyngor Sir y Fflint yn dilyn y gêm yn Stadiwm Deva ar 28 Rhagfyr 2021? OQ57394
Cynhaliwyd cyfres o drafodaethau, yn ymwneud yn bennaf â Chlwb Pêl-droed Caer ac awdurdodau gorfodi Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru. Mae deialog adeiladol yn canolbwyntio ar sicrhau bod y gyfraith yn cael ei chadarnhau yma yng Nghymru, a bod buddiannau'r clwb yn cael eu diogelu.
Diolch ichi am yr ateb. Yn sicr, mae angen datrysiad pragmatig i'r sefyllfa yma. Dwi'n siŵr y byddwch chi hefyd yn gwerthfawrogi'r angen am gysondeb, oherwydd mae cefnogwyr wedi cysylltu â fi yn gofyn pam bod rhaid iddyn nhw ddilyn y rheolau os yw clwb arall yn cael eu hanwybyddu nhw. Ac os nad yw'r Llywodraeth a'r awdurdodau perthnasol yn gyson yn y ffordd mae nhw'n gorfodi'r rheoliadau yma, yna mater o amser fydd hi cyn i glybiau eraill geisio plygu'r rheolau, ac wedyn mi aiff pethau yn flêr yn ddigon sydyn.
Does gen i ddim drwgdeimlad at Gaer; mae'n grŵp sy'n eiddo i'r cefnogwyr, ac mae gan y clwb gefnogwyr sy'n byw yn fy rhanbarth i. Dwi eisiau iddyn nhw fedru chwarae o flaen torf o gefnogwyr yn yr un modd â dwi eisiau i glybiau eraill yng Nghymru fedru gwneud hynny. Mi glywais i eich ateb blaenorol chi pan wnaethoch chi wrthod ystyried codi'r cyfyngiadau ar gefnogwyr yn mynychu digwyddiadau chwaraeon awyr agored, ond a wnewch chi o leiaf ystyried codi'r uchafswm cefnogwyr ddigon er mwyn i chwaraeon ar lawr gwlad gael bod yn weithredol, ac yn achos y clybiau mwy, efallai i ryw ganran penodol, traean neu hanner o gapasiti'r stadiwm, cyhyd, wrth gwrs, â bod rheolau ymbellhau a masgiau ac yn y blaen yn eu lle?
Fe glywais i beth ddywedodd Llyr Huws Gruffydd am y sefyllfa gyda Chlwb Pêl-droed Caer, a dwi'n cytuno â beth ddywedodd e. Mae'n bwysig cael rhyw fath o ymateb sy'n bragmatig ac sy'n glir am y gyfraith yma yng Nghymru—a'r gyfraith yw'r un gyfraith i unrhyw glwb—ond hefyd i gydnabod y ffaith bod yna bethau sy'n bwysig i glwb Caer a thrio eu helpu nhw gyda phethau fel yna hefyd.
O ran y pwynt mwy cyffredinol, bob wythnos rŷn ni'n cael cyngor oddi wrth y prif swyddog meddygol a phobl eraill, a phan mae'n nhw'n dweud wrthym ni fel Llywodraeth ei bod hi'n saff i godi'r cyfyngiadau, wrth gwrs dŷn ni'n awyddus i wneud hynny. Dydyn ni ddim yn y sefyllfa yna eto. Gobeithio, dros yr wythnosau sydd i ddod, y bydd hwnna yn mynd i droi mas, ac y bydd y don o'r coronafeirws omicron yn dod lawr. Pan fo hwnna'n digwydd, wrth gwrs dŷn ni'n awyddus i ailedrych ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd â'i gilydd yn yr awyr agored a gwneud pethau fel cefnogi'r clybiau gyda phethau sy'n bwysig iddyn nhw. Ond yr amser i'w wneud e yng Nghymru yw pan fo'r cyngor meddygol, a'r cyngor eraill sy'n dod atom ni, yn dweud ei bod hi'n saff inni ei wneud e.
Yn olaf, cwestiwn 8, Paul Davies.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ57400
Diolch i Paul Davies am y cwestiwn. Yn ogystal â’i holl wasanaethau eraill, mae’r bwrdd iechyd wedi cynnal rhaglen pigiadau atgyfnerthu lwyddiannus dros gyfnod heriol iawn y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Mae’n parhau i ddarparu’r gweithgareddau sydd â’r angen clinigol mwyaf brys, a hynny gyda chynnydd mewn salwch ymysg staff a chleifion oherwydd ton omicron o’r coronafeirws.
Diolch am yr ymateb yna, Brif Weinidog. Fe wrandawais i'n astud iawn ar eich ateb chi i gwestiwn Heledd Fychan yn gynharach ynglŷn ag ambiwlansys, oherwydd mae etholwr wedi cysylltu â fi'n ddiweddar i ddweud y bu'n rhaid i wraig sy'n 84 oed aros bron i 12 awr am ambiwlans ar ôl cwympo ar Ddydd Nadolig. Dwi'n sylweddoli bod y gwasanaeth ambiwlans o dan bwysau aruthrol, ond dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â fi ei bod hi'n gwbl annerbyniol aros y cyfnod hwn yn methu â symud ar lawr cegin oer. Dwi wedi codi mater gwasanaethau ambiwlans gyda chi droeon, ac, fel Aelodau eraill, dwi'n parhau i gael gohebiaeth gan etholwyr rhwystredig a gofidus, fel yr enghraifft dwi newydd ei rhoi i chi, sydd wedi gorfod aros yn llawer yn rhy hir am ambiwlans. Felly, yn ychwanegol i beth ddywedoch chi'n gynharach, allwch chi ddweud wrthym ni pa gynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau bod ambiwlansys yn cyrraedd pobl yn llawer cyflymach? Allwch chi hefyd ddweud wrthym ni pa fuddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn sir Benfro, o ystyried bod hwn yn fater sydd wedi parhau nawr ers tro?
Jest i ddechrau, bydd yn rhaid i fi ddweud, yn ôl ym mis Medi, roedd yr Aelod yn gofyn cwestiynau i ni, gan awgrymu y byddai'r gwasanaeth ambiwlans yn Hywel Dda yn cael ei leihau. Roedd yn anghywir bryd hynny, ac mae'n anghywir nawr. Yn wir, ar y mater hwnnw, bydd mwy o staff ambiwlans, nid llai, yn gweithio yn ardal Hywel Dda.
Wrth gwrs dwi'n cydnabod beth ddywedodd Paul Davies ar ran pobl sy'n byw yn ei ardal e. Fel y dywedais i wrth Heledd Fychan, mae'r straen yn y gwasanaeth ambiwlans yn fwy nag unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'r bobl yn y gwasanaeth yn gweithio'n galed i drial cael mwy o bobl, fel y cymorth dŷn ni'n ei gael oddi wrth y fyddin ar hyn o bryd, ond i recriwtio pobl eraill hefyd. Mae'r Llywodraeth wedi rhoi yr arian—nid diffyg arian yw'r broblem o gwbl, achos dŷn ni wedi rhoi'r arian i'r gwasanaeth ambiwlans i recriwtio mwy o bobl yn y flwyddyn ariannol hon. Ac maen nhw yn ei wneud e. Y broblem ar hyn o bryd yw bod nifer y bobl sy'n cwympo'n dost yn mynd lan, ac, ar yr un amser, mae galwadau, a galwadau coch hefyd, wedi cynyddu bron bob mis dros y gaeaf. Ac mae hwnna'n creu'r problemau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu ac y mae'r bobl yn eu hwynebu hefyd.
Gallaf i ddweud wrth yr Aelod fy mod i'n gwybod, yn y gwasanaeth, eu bod nhw'n gweithio mor galed ag y gallan nhw i gryfhau'r sefyllfa sydd gyda nhw. Ac yn y ffigurau am y mis mwyaf diweddar ble mae ffigurau ar gael—mis Tachwedd—roedd perfformiad y gwasanaeth ambiwlans wedi mynd lan, roedden nhw yn fwy llwyddiannus nag yr oedden nhw ym mis Hydref. So, mae rhai pethau maen nhw'n eu gwneud yn llwyddo, ond llwyddo mewn sefyllfa sy'n heriol dros ben.
Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog. Dyna ddiwedd ar yr eitem yna.
Rydyn ni'n symud i'r ail eitem, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rydw i wedi ychwanegu dadleuon ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 at yr agenda heddiw, ynghyd â'r cynnig cyfatebol i atal y Rheolau Sefydlog. Yn ogystal, mae'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch, Trefnydd, am y datganiad yna. A gaf i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran mynediad at basys COVID y GIG yng Nghymru ar gyfer y rhai a gafodd eu brechiadau dramor? Rwy'n deall bod camau eisoes wedi'u cymryd yn Lloegr ac yn wir yn yr Alban er mwyn sicrhau y gall pobl sydd wedi derbyn eu brechlynnau dramor gael y rheini wedi'u dilysu er mwyn eu hymgorffori yn eu systemau pasys COVID y GIG, ond am ba reswm bynnag mae'n ymddangos bod Cymru'n llusgo ei thraed yma. Mae gennyf i etholwyr sydd wedi cael eu brechiadau yn Ffrainc a Norwy, a hyd yn oed mewn rhan arall o'r DU, yng Ngogledd Iwerddon, sy'n methu â dilysu'r rheini yma yng Nghymru i'w defnyddio yn system basys COVID y GIG. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol ac mae angen ymdrin ag ef. Byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad brys ar y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â hyn fel bod modd cael amserlen glir i'r unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw er mwyn iddyn nhw gael mynediad at eu pasys COVID cyn gynted â phosibl.
Diolch. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio arno a bydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig pan fyddan nhw wedi dod i'r casgliad y maen nhw eisiau ei gael.
Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Trefnydd yn cadarnhau adroddiadau'r cyfryngau y bydd dadl frys yn cael ei chynnal yn fuan ynghylch y newid i sgriniau canser ceg y groth, ar ôl i ni glywed eisoes y prynhawn yma fod dros 1 miliwn o bobl wedi llofnodi deisebau ar y mater hwn. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig, oherwydd unwaith eto, fel yr ydym ni wedi'i glywed, yn ystod yr wythnos diwethaf, mae pobl yng Nghymru, menywod yng Nghymru, wedi drysu ac yn bryderus iawn oherwydd bydd y profion ceg y groth arferol hyn yn cael eu cynnig bob pum mlynedd yn hytrach na phob tair blynedd. Roedd y ffaith bod y cyhoeddiad wedi'i wneud ar y cyfryngau cymdeithasol gyda graffigyn nad oedd yn esbonio'r cyd-destun na'r rheswm dros y newid hwn yn achosi rhywfaint o banig.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â'r Aelodau nawr, ac mae'r Prif Weinidog wedi nodi hyn y prynhawn yma hefyd, i egluro bod y prawf wedi newid, yn y dyfodol bydd y celloedd yn cael eu profi ar gyfer haint HPV yn gyntaf, ac rydym ni wedi cael sicrwydd bod hynny'n ffordd fwy cywir o sgrinio. Mae clywed hynny'n galonogol, er bod etholwyr yn dal i bryderu ac wedi cysylltu â mi. Mae rhai cwestiynau eraill y byddaf i'n eu codi mewn unrhyw ddadl, ond yn bennaf, mae'n sicr y bydd angen dadl frys i helpu i leddfu pryderon y menywod hynny a welodd y graffigyn hwnnw ar-lein. Nid oedd ganddyn nhw'r wybodaeth gyd-destunol. Mae'n annhebygol bod y miloedd ar filoedd o bobl sydd wedi llofnodi'r deisebau hynny nawr yn ymwybodol o'r rheswm sydd wedi'i roi.
Rwy'n gwybod bod ein llefarydd iechyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn gofyn iddi hi drefnu bod neges uniongyrchol yn mynd at bawb yr effeithiwyd arnyn nhw i esbonio'r newid, ac rwy'n credu mewn gwirionedd y byddai dadl frys ar ben hyn i'w chroesawu. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Trefnydd, fod yr adroddiadau hynny'n gywir, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd a fydd yr Aelodau'n gallu diwygio'r ddadl?
Gwnaf, bydd dadl yr wythnos nesaf.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Fel rhywun sydd wedi gofyn yn barhaus am y ddarpariaeth o athrawon cyflenwi yn y sector cyhoeddus, rwyf i wedi credu ers tro byd fod athrawon cyflenwi yn cael eu trin yn wael. Roeddwn i'n falch iawn o weld y camau arfaethedig yng nghytundeb Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar ble a sut y bydd y dewis ar gyfer model mwy cynaliadwy o addysgu cyflenwi gyda gwaith teg yn ganolog iddo, a fydd yn cynnwys dewisiadau eraill wedi'u harwain gan awdurdodau lleol ac ysgolion, yn cael ei weithredu.
Mae'r ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano ar hawliau tramwy cyhoeddus. Mae adrannau 53 i 56 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn cyfeirio at ddyddiad terfyn sef 1 Ionawr 2026 ar gyfer hawlio hawliau tramwy hanesyddol heb eu cofrestru a oedd yn bodoli cyn 1949. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod yr holl hawliau tramwy cyhoeddus wedi'u cofrestru?
Diolch. O ran eich ail bwynt, ynghylch adrannau 53-56 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, nid ydyn nhw wedi cychwyn eto yng Nghymru, sy'n golygu nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi ar hyn o bryd, ac nid oes bwriad i ddod â nhw i rym yng Nghymru.
O ran eich pwynt ynghylch y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru o ran athrawon cyflenwi, fel y mae'r Aelod yn ymwybodol, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflogi staff ysgolion, ac mae hynny'n cynnwys athrawon cyflenwi. Yn amlwg, mae gennym ni lawer o wahanol systemau ledled Cymru—mae gwahanol systemau a modelau cyflenwi ar waith. Felly, er mwyn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn, rydym ni'n gwneud darn o waith cychwynnol i ddarganfod sut mae gwahanol awdurdodau lleol yn ymgysylltu, sut y maen nhw'n defnyddio'r athrawon cyflenwi sydd ganddyn nhw, ac mae gwaith hefyd wedi'i wneud i ddarganfod sut y mae athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, a manteision ac anfanteision y modelau a ddefnyddir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni yn ystyried arfer gorau ac yn dysgu o wledydd eraill hefyd. Mae swyddogion y Gweinidog wedi dechrau nodi modelau eraill. Mae'n faes cymhleth iawn. Mae llawer o gymhlethdodau ariannol a chyfreithiol yn gysylltiedig ag ef. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i'r adolygiad, fel y dywedwch chi, ac mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.
Gweinidog, fel cyfaill Senedd i Srebrenica, hoffwn i alw am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod y datblygiadau sy'n peri pryder yn Bosnia a Herzegovina. Mae llawer o'n cyd-Aelodau yma, gan gynnwys Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gefnogwyr ers tro i Remembering Srebrenica UK, gan sicrhau llais cryf o Gymru ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn San Steffan. Mae dadleuon wedi bod yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ar y mater hwn, ac rwy'n credu ei bod yn iawn i ni ddangos undod a mynegi ein pryderon ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ei weld yn dod i'r amlwg yn Bosnia a Herzegovina, lle mae bygythiad o ymwahaniad yr endid Republika Srpska y mae Serbiaid yn fwyafrif ynddo, gyda'r wlad nawr yn wynebu her fawr i'w sefydlogrwydd a'i diogelwch. Rwy'n gwybod ein bod ni'n brin o amser. Rwy'n gwybod y bydd aelodau'r Llywodraeth yn pryderu. Yn ysbryd cydweithredu, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog neilltuo amser i drafod hyn. Diolch.
Diolch. Rwy'n gwybod bod sawl Aelod o'r Senedd sydd â swyddogaeth fel cyfaill i Srebrenica. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU. Nododd hi hefyd ei phryderon ynghylch ansefydlogi'r rhanbarth, o ystyried hanes diweddar Bosnia. Felly, fel y dywedwch chi, mae'n fater o bolisi tramor—mae'n fater a gadwyd yn ôl gan Lywodraeth y DU—felly mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a faint y gallwn ni ei ddweud. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau unwaith y bydd ganddi ymateb gan yr Ysgrifennydd Tramor.
Rwyf i eisoes wedi codi'r mater hwn gyda chi a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sawl achlysur, ond nid yw eto wedi'i ddatrys, sef mater pobl nad oes modd eu brechu na chymryd prawf llif unffordd, a'r ffaith na allan nhw gael mynediad at basys COVID o hyd, sy'n caniatáu iddyn nhw fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau yn awtomatig. Ar 7 Rhagfyr, gwnaethoch chi gytuno â mi fod angen ei ddatrys ar frys, a gwnaethoch chi ymrwymo i ofyn i'r Gweinidog iechyd ymchwilio i'r mater a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn datganiad llafar yr wythnos ganlynol neu ymlaen llaw. Ni ddigwyddodd hyn, a phan holais i'r Gweinidog, ymatebodd hi drwy ddweud bod llawer iawn o waith wedi'i wneud ar hyn ond bod yr un bobl nawr yn gweithio ar y rhaglen frechu, felly nid yw wedi'i gwblhau. A yw'n bosibl felly i'r Aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ac amserlen ddangosol ar gyfer pryd y caiff ei gwblhau? Caiff y cwestiwn hwn ei ofyn i mi'n gyson gan etholwyr, ac maen nhw'n awyddus iawn i wybod pryd y byddan nhw'n gallu cael pàs COVID i fyw eu bywydau mor llawn ag y gallan nhw o fewn y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Diolch.
Diolch. Nid wyf i wedi siarad â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ers i mi wneud hynny ar y cychwyn yn dilyn eich cwestiwn chi i mi, Heledd Fychan. Yn sicr, byddaf i'n gofyn iddi a yw'n bosibl rhoi llinell amser ddangosol. Yn amlwg, mae dadl y prynhawn yma ar reoliadau COVID—ni wn i a gewch chi'r cyfle, ond yn sicr, byddaf i'n gofyn iddi edrych ar pryd y byddwn ni'n gallu cyflwyno'r wybodaeth honno.
Rwy'n falch iawn o glywed, Trefnydd, ein bod ni'n mynd i gael dadl yr wythnos nesaf ar ganser ceg y groth, sy'n digwydd bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Ganser Ceg y Groth, felly amseru da. Diolch yn fawr iawn.
Roeddwn i eisiau gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi ynghylch y ffordd y mae'r £120 miliwn ychwanegol a gyhoeddodd ef ym mis Rhagfyr i ymdopi â'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gosod o ganlyniad i omicron yn mynd i helpu gyrwyr tacsis yn arbennig, yr effeithiwyd arnyn nhw'n anghredadwy o wael gan ba mor eglur y cafodd neges Llywodraeth Cymru ei chlywed ynghylch yr angen i bobl beidio â chyfarfod â'i gilydd dros yr ŵyl yn ôl yr arfer. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar enillion gyrwyr tacsis. Bydden nhw fel arfer yn ennill dros £3,000 ym mis Rhagfyr, sy'n helpu i'w cynnal yn ystod tawelwch mis Ionawr, ond nawr, y cyfan y maen nhw wedi ei ennill ym mis Rhagfyr yw tua £800 neu lai, a phrin fod hyn wedi talu am eu costau ac nid oes ganddyn nhw unrhyw arian i fyw arno. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn clywed sut y bydd arian ychwanegol Gweinidog yr economi yn galluogi pobl fel gyrwyr tacsis ac, yn wir, y diwydiant lletygarwch lle nad oes ganddyn nhw hawliau cyflogaeth, i gynnal eu hunain yn ystod y sefyllfa anghredadwy hon, o gofio na allan nhw gael credyd cynhwysol am hyd at chwe wythnos.
Diolch. Wel, byddwch chi'n ymwybodol o ddatganiad Gweinidog yr Economi ychydig cyn y Nadolig. Felly, bydd cronfa ddewisol yn cael ei darparu gan awdurdodau lleol. Bydd proses ymgeisio fer, a bydd hynny'n cefnogi busnesau eraill fel unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd, ac mae hynny'n cynnwys gyrwyr tacsis hefyd, a busnesau sy'n cyflogi pobl ond nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes. Felly, bydd y gronfa'n darparu £500 i unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd, a £2,000 i fusnesau sy'n cyflogi pobl yn y sectorau yr effeithiwyd arnyn nhw. Bydd ceisiadau'n agor ar wefannau awdurdodau lleol, rwy'n credu, yr wythnos nesaf—yr wythnos sy'n dechrau 17 Ionawr—a bydd y cyfleoedd hynny ar agor am bythefnos. Yn amlwg, bydd Gweinidog yr Economi yn adolygu'r gefnogaeth.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn benodol ar anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd oedolion neu asesiadau awtistiaeth gan y GIG yng Nghymru? Rydw i wir yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl am ei hymateb ysgrifenedig prydlon pan ofynnwyd iddi am ddarpariaethau ADHD, ac rwy'n falch iawn o glywed am y cynlluniau ar gyfer fframwaith amser newydd i wella mynediad cynnar plant i'r cymorth cywir, yn ogystal â chydweithredu ar draws y Llywodraeth i wella cefnogaeth i bobl ag ADHD. Fodd bynnag, yn anffodus, mae llawer o oedolion yn cael eu diagnosis yn eu plentyndod, a gwyddom ni y gall amgylchiadau personol unigolyn arwain at newid dwys yn ei iechyd meddwl, ac ar ôl siarad ag oedolion sydd ag ADHD, mae'n tueddu i fod yn fwy difrifol ar ôl colli swydd, perthynas yn chwalu neu newid mewn amgylchiadau. Cafodd deiseb ei chyflwyno i'r Senedd ym mis Hydref a ddywedodd nad oedd unrhyw asesiadau ADHD nac awtistiaeth oedolion yn y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n ffaith bod llawer o ddioddefwyr yn mynd heb ddiagnosis nes eu bod yn oedolion oherwydd bod y meini prawf diagnostig yn seiliedig ar ymchwil sy'n canolbwyntio ar nodweddion y mae bechgyn ifanc yn eu harddangos. Mae absenoldeb ADHD neu ddiagnosis awtistiaeth yn aml yn arwain at broblemau iechyd meddwl sylweddol, megis iselder, gorbryder a gorbryder cymdeithasol. Cafodd y ddeiseb hon ei gwrthod, gyda'r honiad ei bod eisoes wedi'i chynnwys gan wasanaeth awtistiaeth integredig y Llywodraeth yng Nghymru. Mae gwefan GIG 111 Cymru yn nodi o ran gwasanaethau o'r fath,
'Mae pwy yr ydych chi'n cael eich cyfeirio ato yn dibynnu ar eich oedran a'r hyn sydd ar gael yn eich ardal leol.'
Fodd bynnag, mae etholwr wedi cysylltu â mi i gwyno na all ei feddygfa wneud atgyfeiriad ar gyfer ei wraig gan nad oes gwasanaeth o'r fath ar gael. Mae seicolegwyr blaenllaw wedi rhybuddio bod rhagfarn rhywedd yn gadael llawer o fenywod ag ADHD heb ddiagnosis, ac amcangyfrifir nad yw degau o filoedd o fenywod yn y DU yn ymwybodol bod ganddyn nhw'r cyflwr ac nad ydyn nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn ymdrin â'r pryderon hyn a sut y bydd yn darparu gwasanaethau ADHD digonol i oedolion yng Nghymru nawr? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, gwnaethoch chi gyfeirio at yr wybodaeth ddiweddaraf a gawsoch chi gan y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl, a byddaf i'n gofyn iddi a oes rhagor o wybodaeth ddiweddar y gall hi ei rhoi i chi. Gwnaethoch chi gyfeirio at etholwr yn cysylltu â chi; byddwn i'n eich cynghori i ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os caf i, gan y Gweinidog iechyd ar effaith COVID ar weithlu'r GIG, yn benodol sut y bydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn gofalu am bobl sydd wedi'u heintio gan COVID ac sydd â phroblemau parhaus gyda'u hiechyd, sy'n golygu na allan nhw weithio. Rwy'n meddwl yn arbennig am un o fy etholwyr, Steve Bell, a oedd yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, ac wedi dal COVID yn sgil y gwaith hwn ac sydd nawr wedi methu gweithio ers hynny. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn. Ac rwy'n credu, wrth gefnogi'r gwasanaeth iechyd gwladol, fod y Llywodraeth wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond mae angen i ni hefyd ofalu am yr unigolion a'r bobl yn y gwasanaeth iechyd gwladol, yn enwedig y rhai sydd wedi dal COVID yn sgil eu gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod gennym ni ddyletswydd gofal barhaus i'r bobl hyn—dyletswydd gofal barhaus yn ystod eu salwch ac yna wedyn, hefyd, os yw COVID yn effeithio arnyn nhw. Felly, gobeithio y gallwn ni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar y materion hyn a dadl ar sut y gallwn ni barhau i ofalu am y bobl hynny sydd wedi gofalu amdanom ni.
Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae effaith COVID ar unigolion sydd wedi dioddef yn amrywiol iawn, felly mae'n arbennig o bwysig ein bod ni'n parhau i gefnogi ein gweithlu, sydd, fel y dywedwch chi, wedi gwneud cymaint, a gofynnaf i'r Gweinidog roi datganiad ysgrifenedig i ni.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. Hoffwn i alw am ddatganiad brys ynglŷn â'r datgeliadau ynghylch ariannu tomenni glo Cymru sy'n peri pryder. Efallai y bydd rhai Aelodau'n ymwybodol bod adroddiad pwyllgor craffu gwasanaethau amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, dyddiedig 14 Gorffennaf 2014, yn nodi
'Yn draddodiadol, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwaith adfer 100%. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r cyngor nad yw'n debygol o ariannu gwaith adfer yn y dyfodol oni bai bod "achos busnes" drosto. Mae'r achos busnes yn canolbwyntio ar allbynnau economaidd fel cyflwyno tir datblygu...Fodd bynnag, mae hyn yn gadael y safleoedd eraill, y mae gan rai ohonyn nhw broblemau sefydlogrwydd hanesyddol, heb gyllid posibl a mwy o atebolrwydd i'r Cyngor yn y dyfodol.'
Felly, rydym ni'n ymwybodol o'r tomenni gyda phroblemau sefydlogrwydd yn cael eu rhwystro yn y bôn rhag cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys tomenni Tylorstown a Llanwynno. Y llynedd, gwelodd storm Dennis dirlithriad ar domen Llanwynno. Felly, mae gwir angen i ni, fel Senedd, i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad i'r Senedd yn esbonio pam mae Llywodraeth Cymru wedi newid y meini prawf ar gyfer cyllid adfer, ac a wnaiff egluro hefyd faint o domenni gyda phroblemau sefydlogrwydd na welodd gynlluniau adfer yn cael eu hariannu fel canlyniad uniongyrchol? Diolch, Llywydd.
Rwy'n credu mai'r achos yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato yn ôl yn 2014 oedd oherwydd na chafodd achos busnes ei gyflwyno. Rwy'n credu mai dyna fy atgof i ohono. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r cynnydd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella ein dealltwriaeth o nifer a hefyd statws y tomenni glo sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae gennym ni tua 2,500 o domenni glo segur. Mae darn sylweddol o waith wedi'i wneud gyda'r Awdurdod Glo a gyda Llywodraeth y DU, sydd, mae arnaf i ofn, yn parhau i anwybyddu ei chyfrifoldeb am yr etifeddiaeth ddiwydiannol sydd gennym ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau buddsoddiad o £44.4 miliwn mewn diogelwch tomenni glo ar gyfer gwaith cynnal a chadw dros y tair blynedd nesaf, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi bod yn rhaid cyflwyno achosion busnes er mwyn gallu archwilio a dangos y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys cyflwyno Bil diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hefyd.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar ddatganiad cyllideb ddrafft 2022-23. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cyflwyniad hynny ac i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Pleser i mi yw gwneud datganiad ar gyllideb ddrafft 2022-23 a gyflwynwyd ar 20 Rhagfyr—y gyllideb aml-flwyddyn gyntaf ers 2017.
A ninnau ar ddechrau blwyddyn newydd, hoffwn i fyfyrio ar yr amgylchiadau a lywiodd ein paratoadau, ynghyd ag edrych ymlaen hefyd at yr hyn y bydd y gyllideb hon yn ei gyflawni. Nid yw effeithiau parhaus ymadawiad y DU â'r UE, y pandemig, gan gynnwys dyfodiad omicron, a'r argyfwng hinsawdd a natur—nid ydym ni wedi wynebu amgylchiadau fel y rhain erioed o'r blaen. Nid ydym ni wedi dianc rhag cysgod hir cyni chwaith. Er ein bod ni wedi croesawu'r setliad aml-flwyddyn gan Lywodraeth y DU, nid yw hwnnw wedi gwireddu ei hun ar gyfer Cymru. Bydd ein cyllideb yn 2024-25 bron i £3 biliwn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010-11. Rhwng 2022-23 a 2024-25, mae ein cyllid adnoddau yn cynyddu lai na hanner y cant mewn termau real. Mae cyllid cyfalaf cyffredinol yn gostwng mewn termau arian parod ym mhob blwyddyn o gyfnod yr adolygiad o wariant ac mae'n 11 y cant yn is yn 2024-25 nag yn 2021-22.
Rydym ni hefyd yn wynebu Llywodraeth yn y DU sydd wedi torri ei haddewidion ac sy'n benderfynol o ymosod ar ddatganoli, a chymryd pwerau a chyllid yn ôl—ymhell iawn o'i rhethreg ynglŷn â chodi'r gwastad a diogelu'r undeb. O dan gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, dim ond £46 miliwn y bydd Cymru'n ei gael eleni, o'i gymharu ag o leiaf £375 miliwn y byddem ni wedi ei gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnu hefyd ar etifeddiaeth ddiwydiannol y pyllau glo a oedd yn rhagflaenu datganoli. Ac eto, ar yr un pryd, mae gennym ni lawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch. Rwy'n awyddus i gydnabod yr ymdrech aruthrol y mae pawb wedi ei wneud wrth ymateb i'r heriau yr ydym ni wedi eu hwynebu. Er gwaethaf y cyd-destun, rydym ni wedi defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni, nid yn unig i gefnogi Cymru heddiw, ond i lunio dyfodol sy'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach na'r hyn a fu o'r blaen.
Mae cydweithrediad yn parhau i fod wrth wraidd ein dull o weithredu ac rydym ni wedi dweud yn eglur bob amser nad oes gennym ni fonopoli ar syniadau da. Rydym ni wedi llunio cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a gellir gweld blaenoriaethau hwnnw yn eglur yn y gyllideb hon. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol mewn meysydd blaenoriaethau cyffredin sy'n trysori ein treftadaeth gyfoethog a'n diwylliant. Rwyf i wedi gwrando'n astud hefyd ar syniadau a gyflwynwyd gan Jane Dodds. Er nad oes gennym ni gytundeb ffurfiol, rwyf i wedi cytuno i sefydlu cronfa newydd gwerth £20 miliwn, i helpu i gyflawni diwygiadau hanfodol i wasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwy'n falch hefyd o weithredu ar y ddadl adeiladol a gawsom ni cyn toriad yr haf, ar 13 Gorffennaf. Fe welwch chi lawer o'r blaenoriaethau a nododd cyd-Aelodau yn y ddadl honno yn cael eu hadlewyrchu yn ein cyllideb. Mae'r rhain yn cynnwys blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus; ariannu ar gyfer tai a mynd i'r afael â digartrefedd; cyllid i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2022; buddsoddiad sylweddol yn ein hymateb ni i'r argyfwng hinsawdd a natur; cydnabod swyddogaeth addysg; a'r angen i gefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.
Bydd y gyllideb hon yn symud Cymru ymlaen. Rwyf i wedi cyflawni fy addewid i flaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd, awdurdodau lleol a gofal cymdeithasol. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn dal ati i ddiogelu, ailadeiladu, a datblygu ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni'n buddsoddi £1.3 biliwn ychwanegol yn ein GIG yng Nghymru i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy, ac yn helpu i adfer ar ôl y pandemig. Byddwn yn sefyll gyda'n hawdurdodau lleol gyda bron i dri chwarter biliwn o bunnoedd ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol, gan ddarparu cyllid ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill. Yn ogystal â £60 miliwn o gyllid ychwanegol yn uniongyrchol, yn 2022-23 yn unig byddwn yn darparu dros £250 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £180 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i fwrw ymlaen â diwygiadau ehangach i roi sail gynaliadwy hirdymor iddo.
Mae'r pandemig wedi achosi argyfwng iechyd meddwl hefyd. Yn ogystal â'r buddsoddiad uniongyrchol yn y GIG, byddwn yn buddsoddi £100 miliwn ychwanegol wedi ei dargedu at iechyd meddwl, gan gynnwys mwy na £10 miliwn ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gydnabod risgiau'r effeithiau parhaol a hirdymor y mae ein pobl ifanc yng Nghymru yn eu teimlo.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Byddwn yn adeiladu economi gryfach a gwyrddach, gan gynnwys dros £110 miliwn mewn rhyddhad ychwanegol o ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden, a lletygarwch. Ni allwn ni anwybyddu'r effeithiau dinistriol ac anghyfartal y mae'r pandemig wedi eu cael ar bobl Cymru, ac ni fyddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn parhau i ddathlu amrywiaeth ac yn symud i ddileu anghydraddoldeb o bob math, gan gynnwys drwy fuddsoddiad o £10 miliwn yn ein cynllun treialu incwm sylfaenol, i brofi manteision mynd i'r afael â thlodi, diweithdra, a gwella llesiant.
Wrth i unigolion barhau i deimlo effeithiau'r pandemig a newidiadau i gredyd cynhwysol, mae pobl a theuluoedd sy'n agored i niwed ledled Cymru yn troi at ein cronfa cymorth dewisol am gymorth ychwanegol. Byddwn yn buddsoddi £7 miliwn ychwanegol i ateb y galw parhaus hwn, gan roi cymorth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac mewn addysg yn parhau i fod yn un o'n hysgogiadau mwyaf grymus. Rydym yn buddsoddi £320 miliwn ychwanegol yn ein diwygiadau addysg hirdymor, gan sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau yn codi. Mae hyn yn cynnwys £90 miliwn, yn ein blaenoriaeth ar y cyd â Phlaid Cymru, i sicrhau bod 196,000 yn fwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru.
Byddwn yn adeiladu economi sydd wedi ei seilio ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, gan gynnwys £61 miliwn ychwanegol ar gyfer ein gwarant i bobl ifanc, cymorth cyflogadwyedd a darpariaeth brentisiaethau, gan helpu pobl i gael gwaith er mwyn iddyn nhw allu ennill cyflog da, a chynnig llwybr allan o dlodi yn ogystal ag amddiffyn rhag hynny.
Mae'r byd i gyd yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur sy'n gofyn am ymatebion brys a radical, a gall Cymru fod â rhan yn hynny. Rwyf i wedi cyflawni fy addewid i ddefnyddio strategaeth 10 mlynedd newydd Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cryfhau'r cysylltiad rhwng seilwaith a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Trwy gynnal adolygiad sylfaenol ar sail sero net, rwyf i wedi cyhoeddi cynllun tair blynedd newydd i ariannu seilwaith, sydd wedi ei ategu gan £8 biliwn o wariant cyfalaf, gan gynnwys defnydd llawn o'n pwerau benthyca cyfalaf gwerth £450 miliwn.
Ochr yn ochr â phecyn refeniw ychwanegol o £160 miliwn, wrth wraidd y cynllun hwn y mae buddsoddiad gwerth cyfanswm o £1.8 biliwn yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae hyn yn cynnwys £57 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni coedwig genedlaethol sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de; £90 miliwn i wella mannau gwyrdd ar bob graddfa a sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau rhyngwladol presennol ni a'r rhai sy'n dod i'r amlwg o ran bioamrywiaeth; £580 miliwn i hybu'r gwaith o ddatgarboneiddio ein stoc o dai cymdeithasol; bydd £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a darparu cartrefi cynnes; £90 miliwn i gyflawni ein huchelgeisiau o ran ynni adnewyddadwy; a £102 miliwn i ddarparu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd i fwy na 45,000 o gartrefi, gan gyflwyno atebion sydd wedi eu seilio ar natur ledled Cymru.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, byddwn yn sefyll gyda'n cymunedau drwy fuddsoddiad o £44.4 miliwn mewn diogelwch tomenni glo a chymorth i'w gwella, eu hadfer, a'u haddasu at ddiben arall. Rydym yn buddsoddi dros £1 biliwn mewn ffermio a datblygu gwledig, a fydd yn cefnogi gwelliannau amgylcheddol, rheoli tir a'n cymunedau gwledig. Mae hyn yn cynnwys refeniw ychwanegol o £85 miliwn a chyfanswm cyfalaf o £90 miliwn, gan neilltuo'r cyllid fferm yr ydym wedi ei gael yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.
O dan ein cynllun cyllid seilwaith newydd, byddwn yn buddsoddi yn agos at £1.6 biliwn o gyfalaf yn ein blaenoriaethau o ran tai hefyd, gan gynnwys £1 biliwn i gefnogi ein hymrwymiad allweddol i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu; £375 miliwn i alluogi buddsoddiad hirdymor mewn diogelwch adeiladau, gan gefnogi gwaith ar ddiwygio ac adfer hirdymor; dros £1.3 biliwn o gyfalaf i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy; £1 biliwn o gyfalaf mewn addysg, Dechrau'n Deg, gofal plant, a darpariaeth blynyddoedd cynnar, gan gynnwys £900 miliwn i ddatblygu ysgolion a cholegau sero net o ran carbon, gan sicrhau eu bod yn y lleoliadau priodol i ddiwallu anghenion lleol; £750 miliwn mewn darpariaeth rheilffyrdd a bysiau, gan gynnwys darparu metro de Cymru; a £210 miliwn i gefnogi'r Gymraeg, a sicrhau ffyniant ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau.
Rwyf i'n defnyddio ein pwerau treth datganoledig hefyd i helpu adferiad Cymru, gan adeiladu ar ein dull gweithredu neilltuol i Gymru, gan gynnwys ein hymrwymiad i wneud trethi yn decach drwy ddiwygio'r dreth gyngor. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru cyhyd ag y bydd effeithiau economaidd y pandemig yn parhau. Er mwyn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth gwastraff, byddaf yn cynyddu cyfraddau treth gwarediadau tir yn unol â'r lefelau chwyddiant a ragwelir. I gefnogi ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol, byddaf yn cadw'r cyfraddau preswyl uwch o dreth trafodiadau tir ar 4 pwynt canran.
Rwyf i wedi cyhoeddi hefyd gynllun gwella cyllideb wedi ei ddiweddaru, sy'n amlinellu'r cynnydd ar ein prosesau o ran cyllideb a threth, ac rydym ni wedi parhau i ganolbwyntio ar ein huchelgeisiau tymor hwy. Rydym ni wedi cynnal yr adolygiad gwariant aml-flwyddyn cyntaf ers 2015, gan ymgysylltu â Llywodraethau blaenllaw eraill yn rhyngwladol ynglŷn ag ymgorffori llesiant. Rydym yn bwrw ymlaen â dau gynllun treialu newydd yn ymwneud â chyllidebu ar sail rhyw ac rydym ni wedi sefydlu strategaeth buddsoddi mewn seilwaith 10 mlynedd newydd i Gymru, gan barhau â'n diwygiadau o ran sut yr ydym yn asesu effeithiau carbon.
Felly, wrth gloi, rwy'n falch bod y gyllideb hon yn cyflawni ein gwerthoedd, gan osod y sylfaen ar gyfer ein hadferiad a rhoi cyfeiriad i'n taith ni tuag at Gymru sy'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw? Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod ymysg y rhai anoddaf yr ydym ni erioed wedi eu gweld. Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom ni, mae cyfyngiadau wedi cyfyngu ar ein rhyddid, mae rhannau helaeth o'n cymdeithas ni wedi eu gorfodi i gau, ac mae gwasanaethau cyhoeddus wedi bod o dan bwysau enfawr. Mae ein gwasanaethau rheng flaen, yn ogystal â'n cymunedau, yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth i ni symud drwy gam nesaf y pandemig.
Rydym ni yn rhan o undeb ehangach o genhedloedd, a thrwy fod yn rhan o'r undeb hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn sefyllfa i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau, yn ogystal ag i ymateb i'r pandemig. Rydym ni wedi gweld symiau sylweddol o arian yn llifo i Gymru oddi wrth Lywodraeth y DU ers dechrau'r pandemig, ac rwy'n croesawu'r £2.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn ar gyfartaledd i Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr adolygiad o wariant yn fawr iawn, fel y cafodd ei gyhoeddi yn setliad y gyllideb yn ddiweddar, ac mae dadansoddiad cyllidol Cymru yn nodi bod hynny'n cyfateb i gynnydd cyfartalog o 3.1 y cant y flwyddyn bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn y cyd-destun hwnnw, felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r gwyliau ardrethi busnes y mae'r angen yn ddirfawr amdanyn nhw i helpu cwmnïau i adfer ar ôl heriau parhaus y pandemig, ynghyd â'r cynnydd yn y cyllid i'n hawdurdodau lleol sy'n darparu cynifer o wasanaethau allweddol mewn cymunedau ledled Cymru. Rwy'n credu y bydd pob un ohonom ni yn y Siambr rithwir hon yn croesawu'r £1.3 biliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf hefyd.
Ond, wrth gwrs, Gweinidog, fel sy'n wir bob amser, yn y manylion y mae'r broblem, ac, fel yr oedd y Prif Weinidog yn sôn yn gynharach, fe geir cost cyfle bob amser wrth wneud penderfyniadau gwario, ac mae angen i ni ddeall beth allai'r rhain fod, ac rwy'n siŵr y bydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo yn y pwyllgorau dros yr wythnosau nesaf. Er enghraifft, rwyf i wedi clywed pryderon gan nifer o berchnogion busnes yn fy etholaeth i na fyddai'r cymorth a gynigir gan y gronfa cadernid economaidd yn cwmpasu'r golled sylweddol o ran incwm y bu iddyn nhw ei dioddef yn ystod cyfnod y Nadolig, sydd, wrth gwrs, fel arfer yn helpu llawer o fusnesau lletygarwch drwy'r misoedd tawelach hynny ar ddechrau'r flwyddyn. Ceir pryderon hefyd ynghylch y meini prawf y mae'n rhaid eu defnyddio i gael defnyddio'r gronfa cadernid economaidd, lle mae angen i fusnesau fod wedi colli 60 y cant o'u trosiant i fod yn gymwys ar gyfer hynny. Felly, hyd yn oed os oedd busnes yn ddigon ffodus i beidio â bod wedi gweld effaith sylweddol iawn yn sgil y cyfyngiadau, byddai colled lai o incwm yn dal i gael effaith sylweddol, o ystyried agweddau ariannol y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru hefyd i adolygu a chynyddu'r cyllid sydd ar gael i gefnogi busnesau yn y sector sydd wedi eu taro gan y cyfyngiadau COVID a gafodd eu cyflwyno yn ystod cyfnod y Nadolig. Maen nhw wedi datgan eu bod nhw'n pryderu ynghylch, rwy'n dyfynnu,
'natur benagored dybiedig y cyfyngiadau presennol. Felly mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r amodau ar gyfer llacio'r cyfyngiadau ar fusnesau yng Nghymru o bosibl i ganiatáu iddyn nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol.'
Gweinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i fusnesau ledled Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ychwanegol brys ar ben yr hyn a gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb, pe byddai'r cyfyngiadau dinistriol presennol hyn yn parhau?
Ar wahân i gymorth busnes, mae angen i ni edrych hefyd ar ffyrdd o gefnogi ein heconomïau lleol a chenedlaethol, ac rwy'n credu y gallai'r gyllideb hon fod wedi gwneud llawer mwy yn hynny o beth. Bydd ein canol trefi yn cael cyfalaf ychwanegol o £100 miliwn yn ystod cyfnod y gyllideb, ond rwy'n amau na fydd y gronfa hon yn ddigonol i ddechrau gwrthdroi dirywiad hirdymor y stryd fawr o'r diwedd nac yn eu helpu i addasu i arferion defnyddwyr sydd wedi newid a hynny hyd yn oed yn fwy yn ystod cyfnod y pandemig. Ni allwn i ychwaith ddod o hyd i lawer o sôn am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i allforio mwy o'u nwyddau a'u gwasanaethau dramor a helpu i wella'r brand 'Gwnaed yng Nghymru'. Hoffwn i gael rhagor o wybodaeth am hynny, os yn bosibl, Gweinidog.
Ac yna mae'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer y GIG. O'r hyn yr wyf i'n ymwybodol ohono, bydd bron i £900 miliwn o gyfanswm yr arian yn cael ei ddyrannu yn ystod y flwyddyn ariannol 2022-23. Er bod yr angen amdano yn fawr, ac rydym ni'n ei groesawu, dim ond £400 miliwn a fyddai yn weddill i'w ddyrannu dros y ddwy flynedd ganlynol, sy'n golygu y gallai byrddau iechyd gael eu temtio i ddal rhywfaint o'r cyllid gwreiddiol yn ôl i lenwi unrhyw fylchau a ragwelir mewn cyllidebau yn y dyfodol. Gweinidog, a gaf i ofyn sut y cafodd y penderfyniadau ynghylch sut i ddyrannu'r cyllid hwn eu gwneud, ac a wnewch chi roi'r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar ysbytai a byrddau iechyd yn y tymor canolig a hir? Rwyf wedi siomi hefyd o nodi nad oedd cyflwyno'r canolfannau llawfeddygol rhanbarthol er mwyn mynd i'r afael ag ôl-groniad rhestr aros y GIG, fel y galwodd y Ceidwadwyr amdanyn nhw yn flaenorol, yn rhan o'r gyllideb. A wnewch chi ystyried gweithio gyda ni, Gweinidog, i ymchwilio i sut y gallwn ni gyflymu mynediad at driniaeth, gan ddefnyddio rhywfaint o'ch cyllid nad yw wedi ei neilltuo i gyflwyno cynllun gwerth £30 miliwn i roi mynediad at feddygon teulu fel y gall mwy o gleifion weld eu meddyg teulu a helpu i leihau'r straen ar ysbytai?
Nawr, er gwaethaf y setliad cadarnhaol i gynghorau, mae'n rhaid edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach. Mae hyn yn cynnwys yr effeithiau parhaus na fydd cronfa caledi COVID yn eu datrys mwyach, y pwysau sylweddol a wynebir ar draws maes gofal cymdeithasol, costau polisi Llywodraeth Cymru a phwysau chwyddiant. Bydd llawer o'r arian ychwanegol hwn wedi ei lyncu eisoes, gan gyfyngu'n fawr ar allu cynghorau i weithredu. Mae angen mwy o eglurder ar gynghorau hefyd o ran y ffrydiau cyllid grant penodol ar gyfer y flwyddyn nesaf i helpu gyda chynllunio ariannol, yn ogystal ag eglurder o ran cyllid grant ychwanegol y gallen nhw ddisgwyl ei weld cyn diwedd mis Mawrth. Gweinidog, a wnewch chi roi mwy o eglurder yn hynny o beth?
Rwyf i hefyd wedi clywed rhai pryderon ei bod yn bosibl y bydd y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus presennol yn cael ei ddileu, gan beri pryder i gynghorau ynghylch sut y maen nhw am dalu i gynnal a chadw rhwydweithiau ffyrdd sy'n dirywio eisoes. Rwy'n cydnabod safbwynt eich Llywodraeth chi ar adeiladu ffyrdd newydd, ond y gwir amdani yw bod angen ffyrdd arnom ni o hyd ac mae'r angen i gynghorau eu cynnal a'u cadw yn parhau. A wnewch chi egluro'r sefyllfa hon, Gweinidog, a dweud a yw hi'n fwriad gennych chi i roi arian ychwanegol ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd, fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o'r blaen?
At hynny, bydd pwysau parhaus yn golygu y bydd yn rhaid i gynghorau barhau i ddibynnu ar drethdalwyr sy'n gweithio'n galed i ategu eu cyllidebau drwy gyfrwng y dreth gyngor. O ystyried y pwysau ariannol ar deuluoedd, y buom ni'n sôn amdanyn nhw'n gynharach heddiw, a wnaiff y Llywodraeth ystyried darparu cyllid ychwanegol i gynghorau—hynny yw, y tu hwnt i'r hyn sydd wedi ei gyhoeddi—i alluogi cynghorau i rewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd ac ysgafnu'r pwysau ar deuluoedd? Mae gennych chi'r gallu i wneud hyn pe byddech chi'n dymuno.
Mae ysgolion hefyd wedi eu taro'n wael yn ystod y pandemig ac mae tarfu parhaus yn peryglu rhwystro ein pobl ifanc yn fwy byth. Rwy'n sylwi bod y gyllideb yn dyrannu £320 miliwn arall ar gyfer adfer a diwygio addysg, sydd i'w groesawu. Serch hynny, mae'r cyllid hwn wedi ei wasgaru unwaith eto dros y tair blynedd ariannol nesaf, felly tybed a fydd y cyllid yn cael ei wasgaru'n rhy eang gan arwain at fod yn ddiffygiol, felly, yn ei gymorth i ysgolion a phobl ifanc er mwyn adfer ar ôl effaith y pandemig.
At hynny, rwy'n sylwi bod y gyllideb yn cynnwys £64.5 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i gefnogi ysgolion mewn cysylltiad ag amrywiaeth o bethau, megis anghenion dysgu ychwanegol, cefnogi parhad y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, a chefnogi lles dysgwyr. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael dadansoddiad o'r dyraniadau penodol yn y pecyn cyllid hwn, yn ogystal â chael deall a fydd unrhyw arian ychwanegol ar gael i ysgolion i gefnogi'r broses o recriwtio staff addysgu parhaol ar ôl i'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau ddod i ben. Mae hi'n amlwg, er mwyn helpu i godi safonau a chefnogi dysgwyr i adennill tir o ran eu haddysg, fod angen i ni wrthdroi'r dirywiad yn nifer yr athrawon yng Nghymru. I ailadrodd y pwynt hwn, yn ôl ystadegau diweddaraf Cyngor y Gweithlu Addysg, mae nifer yr athrawon sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru wedi gostwng 10.3 y cant rhwng 2011 a 2021, ac mae'n amlwg nad yw hyn yn gynaliadwy.
Yn olaf, mae newid hinsawdd yn her sylweddol wrth i ni symud trwy'r degawd hwn a thu hwnt i hynny. Yn ôl amcangyfrifon diweddar gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, mae angen gwerth tua £4.2 biliwn o fuddsoddiad yn ystod yr ail gyllideb garbon rhwng 2021 a 2025, ac eto dim ond £1.8 biliwn o gyfalaf a £160 miliwn o refeniw mewn buddsoddiad gwyrdd y mae eich cyllideb chi'n ei ddyrannu ar gyfer y tair blynedd nesaf. Gweinidog, a ydych chi'n hyderus y bydd y lefel hon o fuddsoddiad yn cyflawni'r newidiadau angenrheidiol i drawsnewid Cymru i fod yn gymdeithas carbon isel? Ac rwyf i o'r farn bod angen mwy o eglurder arnom ni o ran yr elfennau sy'n gysylltiedig ag amddiffynfeydd llifogydd. Gan ein bod ni ar ddechrau'r adeg honno o'r flwyddyn pan all unrhyw beth ddigwydd, ac rwy'n credu bod diffyg eglurder ynghylch yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud ynglŷn â llifogydd, ac rydym ni'n gwybod beth y mae angen i ni ei weld yn digwydd.
I grynhoi, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yna bethau yn y gyllideb hon y gallwn ni eu croesawu. Mae'r arian ychwanegol sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn tynnu sylw yn wirioneddol at bwysigrwydd bod yn rhan o undeb cryf. Ond mae angen gwirioneddol i'r gyllideb hon gyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud—Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraethau blaenorol, Llywodraethau Cymru, wedi methu â'i chyflawni, yn aml. Mater i'r Llywodraeth hon yw dangos y gall sicrhau newid gwirioneddol i bobl Cymru, ac adeiladu cenedl sy'n fwy llewyrchus ac uchelgeisiol. Ac os na allwch chi wneud hynny, yn sicr mae yna blaid yn y Senedd hon a all ei wneud. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfannu at y ddadl yma ar y datganiad ar gyllideb drafft Cymru. Mae’r Gweinidog wedi disgrifio’r gyllideb yma, ac rŷn ni newydd glywed llefarydd y Ceidwadwyr hefyd yn ailadrodd hynny, fel cyllideb fydd yn creu Cymru deg, Cymru werdd a Chymru gref. Wel, mi fentraf i fynd ymhellach a dweud, diolch i Blaid Cymru, bydd y gyllideb hon yn creu Cymru hyd yn oed yn fwy teg, yn fwy gwyrdd ac yn fwy cryf. O brydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed, i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a llawer, llawer mwy, mae’r ymrwymiadau mae Plaid Cymru wedi’u sicrhau fel rhan o’r cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn drawsnewidiol, yn enwedig, wrth gwrs, i rai o’n cartrefi tlotaf ni. Mae’r buddsoddiad sydd yn y gyllideb hon, felly, i roi’r polisïau radical, diriaethol o’r cytundeb cydweithredu ar waith yn rhai rŷn ni yn eu cefnogi, wrth gwrs, am y byddan nhw, fel dwi’n dweud, yn cyfrannu’n helaeth at newid bywydau pobl er gwell, ble bynnag ŷch chi yng Nghrymu.
Y tu hwnt i’r hyn sydd yn y cytundeb, wrth gwrs, mae gennym ni, fel pob Aelod arall o’r Senedd yma, job o waith i’w wneud i graffu ar weddill y gyllideb ac i sicrhau ei bod hi'n cyflawni’r hyn sydd ei angen, a’i bod hi’n cael yr effaith fwyaf positif posib o dan yr amgylchiadau rŷn ni’n ffeindio’n hunain ynddyn nhw. A dwi’n dweud hynny nid yn unig am fod COVID, wrth gwrs, yn taflu ei gysgod dros bob dim, nid yn unig chwaith am fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dal i gael effaith ar economi Cymru, nac am fod lefel uchel chwyddiant a chynnydd costau byw oll yn mynd i gael effaith sylweddol ar waith y Llywodraeth, ar wasanaethau cyhoeddus ac ar fywydau teuluoedd ar draws Cymru, ond dwi’n sôn hefyd am annigonolrwydd y setliad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Nawr, fel rŷn ni wedi clywed sawl gwaith, ac mi ategodd y Gweinidog hyn yn ei datganiad hi, pe bai’r gyllideb sy’n dod i Gymru wedi cynyddu’n unol â maint economi’r Deyrnas Unedig ers 2010, yna fyddai gan Gymru £3 biliwn yn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft sydd o’n blaenau ni heddiw. Mewn cyllideb o faint yr un sydd gennym ni, mae £3 biliwn yn swm arwyddocaol iawn, iawn. Yn lle hynny, wrth gwrs, ac yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru yn gorfod troedio’r bil ar gyfer prosiectau fel rheilffordd HS2, sy’n cael ei hadeiladu’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru ac er anfantais i’r economi Gymreig. Mae’r toriad creulon gan y Prif Weinidog i gredyd cynhwysol wedi cymryd dros £0.25 biliwn allan o economi Cymru, ac mi fydd e’n gadael dros 0.25 miliwn o deuluoedd Cymru yn wynebu cael eu plymio i dlodi. Mae’r Ceidwadwyr wedi torri addewidion ar arian Ewropeaidd hefyd. Fe soniodd y Gweinidog am y £46 miliwn rŷn ni wedi’i dderbyn o’r community renwal fund, lle bydden ni, wrth gwrs, wedi derbyn £375 miliwn petai ni'n dal yn yr Undeb Ewropeaidd. Er eu haddewid nhw yn San Steffan na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled, mae’r gyllideb ar gyfer cefnogaeth amaethyddol £137 miliwn yn llai eleni, ac mi fydd hi'n £106 miliwn yn brin y flwyddyn nesaf.
Er, felly, bod y setliad ar yr olwg gyntaf yn edrych yn reit bositif, y gwir yw ei fod yn llawer mwy heriol nag y mae'n ymddangos. Erbyn diwedd y drydedd flwyddyn, mi fydd y gyllideb refeniw i fyny dim ond 0.5 y cant mewn termau real, ac mi fydd y gyllideb gyfalaf wedi disgyn tua 11 y cant.
Nawr, mae proffil y gyllideb yn heriol hefyd, wrth gwrs, gyda'r cynnydd yn uwch yn y blynyddoedd cyntaf, neu yn y flwyddyn gyntaf yn benodol. Mae hynny'n golygu, er bod blwyddyn 1 yn lled gadarnhaol, mae'n stori wahanol yn y blynyddoedd dilynol. Canlyniad hynny yw y bydd y gyllideb iechyd, er enghraifft, yn codi 8 y cant yn y flwyddyn gyntaf, ond yna dim ond 0.8 y cant yn yr ail flwyddyn a 0.3 y cant yn y drydedd flwyddyn. Mae’r stori’n debyg ar gyfer awdurdodau lleol a chyllidebau eraill hefyd. Felly, tra bod cyllideb 2022-23 yn heriol am y rhesymau y gwnes i grybwyll gynnau, mi fydd cyllidebau 2023-24 a 2024-25 hyd yn oed yn anos.
Nawr, dwi'n croesawu bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ei phwerau benthyca cyfalaf yn llawn yn y blynyddoedd yma sydd i ddod—rhywbeth y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw amdano fe ers amser—er mwyn buddsoddi mewn gwella isadeiledd a chryfhau seiliau twf yn yr economi Cymreig, ac mae'n hen bryd, os caf i ddweud, i hynny ddigwydd.
Dwi eisiau dweud ychydig hefyd am setliad awdurdodau lleol, oherwydd roedd ariannu awdurdodau lleol, wrth gwrs, o dan bwysau sylweddol cyn y pandemig, gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn awgrymu bod gwariant y pen yn 2019-20 9.4 y cant yn is nag yr oedd e ddegawd ynghynt. Mae’r heriau hynny, wrth gwrs, wedi dwysáu yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae costau gwasanaethau wedi cynyddu wrth i awdurdodau lleol ymateb yn arwrol, os caf i ddweud, i’r angen i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol a newydd o ganlyniad i COVID, gan gynnwys pethau fel gweinyddu taliadau grant i fusnesau, ehangu cymorth digartrefedd, rhoi'r gwasanaeth olrhain a chysylltu ar waith, ac yn y blaen ac yn y blaen, ac, ar yr un pryd, fe gollwyd ffynonellau refeniw pwysig o wahanol wasanaethau fel hamdden a gwasanaethau diwylliannol ac yn y blaen.
Fel mae'n sefyll ar hyn o bryd, mae nifer o’r heriau rheini'n dal i fodoli. Nawr, allwn ni ddim ond croesawu’r cynnydd ar gyfartaledd o 9.4 y cant i'r setliad awdurdodau lleol yn y gyllideb ddrafft hon, wrth gwrs, ond pan ŷch chi'n sylweddoli fod y cynnydd yn cymryd lle pethau fel y gronfa galedi i awdurdodau lleol, a bod disgwyl i elfennau eraill megis newidiadau i ariannu digartrefedd a chwestiynau ynglŷn ag ariannu ffyrdd, fel y clywsom yn gynharach, a'r newid i’r grant gweithlu gofal cymdeithasol, i gyd angen dod allan o'r setliad, ynghyd â phethau fel codiadau cyflog sydd ar y gweill, a phwysau eraill megis costau ynni uwch, chwyddiant uchel, ac yn y blaen ac yn y blaen, yna yn sydyn, wrth gwrs, dyw e ddim yn edrych mor hael. Unwaith eto, mae’n debyg mai yn yr ail a’r drydedd flwyddyn y gwelwn yr heriau mwyaf sylweddol o safbwynt awdurdodau lleol wrth i'r esgid wasgu ymhellach.
Tra, felly, bod yna lawer yn y gyllideb hon rŷn ni yn ei groesawu, a hynny yn bennaf, fel roeddwn i'n dweud, yr adnoddau sy'n cael eu clustnodi ar gyfer y polisïau radical a phellgyrhaeddol sydd yn y cytundeb cydweithio, mae mwy i'r gyllideb na hynny, ac fe fyddwn ni, fel y pleidiau eraill, yn craffu ar y gyllideb yn fanwl, yn bennaf drwy waith y pwyllgorau o hyn ymlaen, dros yr wythnosau sydd i ddod, fel sydd, wrth gwrs, yn hawl ac yn gyfrifoldeb i bob Aelod o'r Senedd yma.
Sefydlodd ein hadolygiad o wariant grant bloc heb ei addasu i Gymru o'r Trysorlys hyd at 2024-25. Mae'r gyllideb tair blynedd hon yn rhywbeth y mae llawer ohonom ni wedi bod yn galw amdani ers tro byd, ac mae'n caniatáu cynllunio tymor hwy.
Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn amcangyfrif, ac eithrio cyllid COVID, y bydd y gyllideb graidd ar gyfer gwariant blynyddol o ddydd i ddydd gan Lywodraeth Cymru yn cynyddu £2.9 biliwn erbyn 2024-25 o'i gymharu â 2021-22, sy'n cyfateb i ryw 3.1 y cant y flwyddyn yn ystod cyfnod yr adolygiad o wariant mewn termau arian. Roedd hwnnw yn rhywbeth a ddywedodd Peter Fox yn gynharach. Ond—mae yna 'ond' bob amser—os ystyrir chwyddiant, cyllideb sy'n aros yn ei hunfan yw hon ar y gorau. Rydym ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn chwyddiant yn ddiweddar. Mae hynny yn siŵr o effeithio ar y sector cyhoeddus. Mae costau uwch darparu gwasanaethau, cyflogau uwch a chostau ynni llawer uwch hefyd—nid yw awdurdodau lleol na'r sector cyhoeddus yn ddiogel rhag hyn.
O ran y gwariant arfaethedig ar dai, rwy'n falch iawn o'r buddsoddiad arfaethedig ar gyfer y tair blynedd nesaf yn y grant tai cymdeithasol, ac yn falch o weld y grant cymorth tai yn cael ei gynnal ar ei lefel bresennol, ond byddai'n well gen i weld cynnydd i gyflogau staff sy'n unol â chwyddiant dros dair blynedd i gefnogi'r cynnydd mewn costau byw. Mae'r gyllideb ddangosol yn aros ar wastad am dair blynedd, felly mewn termau real byddai hynny'n golygu rhywbeth fel gostyngiad o 10 y cant.
Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu trafod cyllidebau amgen gan nad yw Plaid Cymru na'r Ceidwadwyr yn gallu neu'n barod i lunio dewisiadau eraill. Cafodd yr amcangyfrif diweddaraf o dreth a gwariant yng Nghymru ei lunio yn yr adroddiad 'Dyfodol Cyllidol Cymru', a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ym mis Mawrth 2020, ac nid yw'n cael ei ystyried yn grŵp sy'n wrthwynebus i genedlaetholdeb Cymreig na Phlaid Cymru. Ac amcangyfrifodd yr adroddiad fod Cymru, yn 2018-19, wedi codi £29.5 biliwn mewn trethi a bod Llywodraethau Cymru a'r DU wedi gwario £43 biliwn arni, sy'n golygu bod £13.5 biliwn yn fwy wedi ei wario ar Gymru nag a godwyd gan drethi Cymru.
Fel arfer ar yr adeg hon byddwn i'n gofyn a fyddai Plaid Cymru yn awyddus i lunio cyllideb ar gyfer Cymru annibynnol, a'r ateb fu 'byddem' bob amser, ond ni welais i un erioed. Eleni, rwyf i am ofyn cwestiwn gwahanol: ydyn nhw, mewn Cymru annibynnol, yn bwriadu diddymu'r GIG, diddymu pensiynau, cynyddu trethi 46 y cant, neu fod â chyfuniad o doriadau i'r holl wasanaethau a chodiadau sylweddol, neu a oes ganddyn nhw goeden arian hud? Hefyd, mae gwrthwynebiad Plaid Cymru i ffyrdd osgoi yn hysbys iawn, ond gwahanol iawn yw hi yn yr ardal y mae eu harweinydd yn ei chynrychioli, lle mae Llandeilo ar fin cael ei hail ffordd osgoi pan nad oes llawer o leoedd eraill wedi cael un o gwbl.
Mae polisi'r Ceidwadwyr yn hawdd ei ddeall: torri trethi a pheidio â chael unrhyw gynnydd mewn gwariant. Yn syml, nid yw hynny'n gweithio. Os yw'r Ceidwadwyr yn awyddus i leihau gwariant, gadewch iddyn nhw ddweud wrth y bobl ble. Ni pharodd eu syniad mawr nhw i ddiddymu presgripsiynau am ddim yn hir iawn yn ystod yr ymgyrch etholiadol i'r Senedd ar ôl iddyn nhw ddechrau siarad â grwpiau ffocws ac â'r etholwyr yn gyffredinol.
Yr un mor bwysig â maint y gyllideb yw'r dull o'i gwario. Hoffwn i geisio argyhoeddi Llywodraeth Cymru i gymhwyso'r prawf pumplyg i wariant. Effeithiolrwydd: a yw'r gwariant yn effeithiol o ran cyflawni nod y Llywodraeth? Effeithlonrwydd: a yw'r gwariant y defnydd mwyaf effeithlon o'r adnoddau? Tegwch: a yw hyn yn cynnig tegwch i bob rhan o Gymru, nid o reidrwydd mewn blwyddyn ond dros gyfnod o amser? Gall gwaith ffordd mawr ar ffordd Blaenau'r Cymoedd neu'r A55 ystumio gwariant. Cydraddoldeb: a yw pawb yn cael eu trin yn gyfartal? A yw'r gwariant yn cael ei ystumio i un neu fwy o grwpiau o bobl neu i ffwrdd oddi wrth eraill? Ac, yn olaf, yr amgylchedd: a fydd y gyllideb yn gwella'r amgylchedd, yn lleihau ein hôl troed carbon, ac yn gwella bioamrywiaeth?
O ran trethiant, rwyf i bob amser wedi gwrthwynebu amrywio'r dreth incwm. Os gwnewch chi ei thorri, byddwch chi'n brin o incwm. Os gwnewch chi ei chynyddu, rydych chi'n cynhyrfu'r etholwyr; bydd pobl sy'n gallu defnyddio cyfeiriad yn Lloegr yn gwneud hynny ac felly mae hynny'n annhebygol iawn o godi'r swm a ragwelir. Yr hyn y byddwn i'n galw amdano eto yw dychwelyd ardrethi busnes i reolaeth awdurdodau lleol. Os ydym ni'n sôn am ddatganoli, ac mae pawb yn y fan hon neu bron pawb yn y fan hon o blaid datganoli, ni all datganoli orffen yng Nghaerdydd. Mae'n rhaid i ni ddatganoli mwy o bwerau a mwy o arian, a mwy o allu cyllidebol i godi arian i'r awdurdodau lleol.
I gloi, mae'r gyllideb yn rhagdybio bod cynnydd mewn costau yn cael ei reoli y tu allan i wariant craidd—cyllideb statig, ond ar ôl dod i arfer â thoriadau blynyddol, mae hwnnw yn sicr yn gam i'r cyfeiriad iawn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei dull agored a chydweithredol hi a'i swyddogion o weithio gyda mi yn ystod y misoedd diwethaf? Diolch i chi. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf i'n cytuno â hi yn llwyr wrth iddi ddweud bod y Senedd wedi gweithio ar ei gorau ac wedi cyflawni fwyaf wrth i bleidiau ar draws y Siambr weithio gyda'i gilydd. Blaenoriaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn yr etholiad oedd adferiad teg a gwyrdd yn dilyn y pandemig; gan sicrhau bod ein GIG a'n gwasanaethau gofal yn cael eu cefnogi; gan gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc; gan gefnogi gweithwyr a busnesau bach; a gan roi'r argyfwng hinsawdd wrth wraidd ein heconomi ni. Rwy'n falch o weld elfennau o'r gyllideb ddrafft hon yn adlewyrchu'r nodau hynny, ac rwyf i wrth fy modd, yn dilyn trafodaethau yn ystod y misoedd diwethaf ynghylch cyllideb plant a phobl ifanc, fod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi gallu sicrhau £20 miliwn i ddiwygio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn radical. Ac rwy'n falch o weld cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl wedi ei gynnwys yn y gyllideb hefyd.
Mae'n rhaid i hon fod yn gyllideb sy'n cydbwyso'n ofalus yr heriau uniongyrchol sy'n ein hwynebu ni, ond sy'n edrych ar y dyfodol yr ydym ni'n awyddus i'w greu ar gyfer ein planed a'r genhedlaeth nesaf: Cymru sy'n fwy caredig, yn decach, yn wyrddach ac yn fwy cyfiawn. Ac, yn olaf, rwy'n edrych ymlaen at weddill y broses gyllidebol hon. Diolch, Gweinidog; diolch, Dirprwy Lywydd.
Hoffwn i ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb ac iechyd da yn 2022.
Er bod llawer i'w groesawu yn y gyllideb hon, yn anffodus nid yw'n gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r argyfwng enfawr sy'n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y gyllideb hon yn rhoi ar waith ateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal, sef cyflog o £9.90 yr awr. Ond yn anffodus, mae hwn yn rhy ychydig, yn rhy hwyr, oherwydd ychydig ddyddiau yn ôl, cyhoeddodd y gadwyn fwyaf ond un o archfarchnadoedd yn y DU, sef Sainsbury's, ei bod ar fin talu isafswm cyflog o £10 yr awr, ac rydym ni eisoes wedi gweld Lidl yn cynyddu ei isafswm cyflog i £10.10 yr awr. Sut gallwn ni gyfiawnhau talu llai o arian i'r rhai sy'n gofalu am y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni nag i unigolyn sy'n gweithio mewn archfarchnad? A chefais fy meirniadu yn ddiweddar am wneud y gymhariaeth hon, ond nid wyf i'n bychanu'r bobl hynny sy'n darparu gwasanaeth gwerthfawr wrth fwydo ein cenedl, dim ond yn tynnu sylw at ba mor wrthnysig yw talu llai o arian i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal na gweithwyr mewn archfarchnadoedd.
Flwyddyn yn ôl, pan oedd fy mhlaid i yn llunio ein llwyfan polisi, pan wnaethom ni ymrwymo i dalu isafswm o £10 yr awr i staff gofal, roedd hyn yn llawer uwch na'r isafswm cyflog, ac yn rhan o becyn gyda'r nod o wneud y proffesiwn gofalu yn yrfa ddeniadol i bobl ifanc. Ni allwn ni barhau i gymryd mantais o'r rhai y mae eu gofal a'u cydymdeimlad yn eu harwain i neilltuo eu bywydau i ofalu am bobl eraill. Dylid bod wedi rhoi cyflogau ac amodau digonol ar waith ar gyfer staff gofal ar ddiwrnod cyntaf y chweched Senedd hon, ond oherwydd y tin-droi a'r oedi parhaus, rydym ni'n gweld ffrwyth y corwynt. Mae gennym ni argyfwng recriwtio ym maes gofal ac mae hynny yn cael effaith glir ac amlwg ar ein GIG, gan fod un o bob chwe gwely yn y GIG wedi ei lenwi gan gleifion y gellid eu rhyddhau o safbwynt meddygol ond na ellir eu hanfon adref oherwydd diffyg pecyn gofal—pecyn gofal na ellir ei ddarparu oherwydd diffyg staff gofal. Ac mae hyn wedi arwain rhai byrddau iechyd lleol at gyflogi staff gofal yn uniongyrchol, sydd yn ei dro wedi arwain at ddwyn staff o'r sector gofal.
Yn anffodus, nid yw'r gyllideb hon yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r materion hyn. Ni fydd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio, a bydd yr arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn cael ei roi yn y gronfa gofal integredig—cronfa y dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru nad yw'n cyflawni ei photensial. Dywedodd ef, ac rwy'n dyfynnu,
'mae agweddau ar reolaeth y gronfa ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a phrosiectau wedi cyfyngu ar ei photensial hyd yn hyn. Prin yw'r dystiolaeth bod prosiectau llwyddiannus yn cael cyflwyno ar lefel prif ffrwd a'u hariannu yn rhan o ddarpariaeth gwasanaethau craidd y cyrff cyhoeddus.'
Felly, mae'n dangos, yn wir, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru yn hoelio ei gobeithion ar y gronfa. Ni ddylai integreiddio iechyd a gofal barhau i ddibynnu ar brosiectau treialu; ni ddylid trin gofal cymdeithasol fel partner iau yn y fargen hon. Ac unwaith eto, cafodd symiau enfawr eu cyfeirio i ofal eilaidd, i fagddu'r GIG. Ond oni bai ein bod ni'n mynd i'r afael â'r materion ym maes gofal cymdeithasol ac yn darparu'r cyllid angenrheidiol, bydd ein rhestrau aros yn parhau i dyfu, wrth i welyau barhau i gael eu llenwi gan gleifion sydd ag anghenion gofal cymdeithasol ac nid gofal meddygol. Felly, rwy'n annog y Gweinidog cyllid i ailystyried a sicrhau bod mwy o gyllid ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol. Diolch yn fawr.
Diolch, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb y prynhawn yma. Rwy'n siarad y prynhawn yma gan fy mod i'n un o Aelodau rhanbarthol dwyrain de Cymru. Rwy'n croesawu'r eglurder ychwanegol sy'n dod yn sgil eich datganiad, gan ei fod yn caniatáu i'r Senedd wneud y gwaith craffu trwyadl a manwl sy'n ofynnol ar gyfer pob un o gyllidebau Llywodraeth Cymru. Byddwn i'n falch o gael rhagor o fanylion am un neu ddau o faterion pwysig.
Ers i mi gael fy ethol, rwyf i wedi hyrwyddo setliad cyllid gwell ar gyfer Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith—y ddwy hosbis ar gyfer plant yng Nghymru. Mae'r bobl anhygoel sy'n cynnal y ddwy hosbis yn dyheu am setliad cyllid gwell i'w galluogi i wneud mwy i'r plant a'r teuluoedd agored i niwed y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Rydym ni wedi sefydlu eisoes fod eu cyllid gwladol yn fach iawn o'i gymharu â hosbisau plant yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Pan godais i'r mater hwn yn y Siambr yr haf diwethaf, dywedodd y Gweinidog iechyd fod adroddiad wedi ei gomisiynu ac y byddai'n adrodd yn ôl yn yr hydref. Wel, mae'r hydref wedi mynd a dod ers hynny, ac nid ydym ni wedi clywed dim yn gyhoeddus. Rwyf i ar ddeall y bu rhai arwyddion cadarnhaol ynghylch gwell cyllid ar gyfer hosbisau plant yng Nghymru, ond, hyd yma, nid oes dim ar gofnod. A wnewch chi felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr adolygiad o gyllid hosbisau gwirfoddol a pha gyllid ychwanegol a fydd ar gael i Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn y gyllideb ar gyfer 2022-23?
Yn olaf, a wnewch chi ddweud wrthyf a yw'r gyllideb yn cynnwys digon o ymrwymiad i wasanaethau adfer i blant? Mae yna groeso i'r ymrwymiad i fuddsoddi mewn ymyriadau blynyddoedd cynnar fel Dechrau'n Deg, yn ogystal â'r pwyslais ar ofal cymdeithasol. Serch hynny, rwyf i ar ddeall bod pryder ymhlith arbenigwyr yn y maes, fel NSPCC Cymru, nad yw gwasanaethau adfer i blant sydd wedi eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu sydd wedi cael trawma eisoes wedi eu hariannu mewn ffordd gynaliadwy bob amser. Yn ôl ym mis Tachwedd, fe wnaethoch chi roi sicrwydd i'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol i blant yn ogystal ag iechyd meddwl plant hefyd. Hoffwn i gael ymrwymiad heddiw y bydd gwasanaethau adfer i blant yn parhau i fod ar gael i blant am faint bynnag o amser y mae eu hangen arnyn nhw. Diolch yn fawr.
Hoffwn i groesawu'r gyllideb ddrafft hon, sy'n amlinellu cefnogaeth barhaus i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw barhau i ddarparu gwasanaethau ar reng flaen y pandemig. Rwyf i ar ddeall ei bod hi'n fwy hael na'r hyn sydd wedi ei ddyrannu i gynghorau Lloegr gan Lywodraeth y DU, ac mae'r ffaith nad yw hi'n cynnwys unrhyw neilltuo, fel y mae yn yr Alban, i'w groesawu yn fawr.
Fodd bynnag, hoffwn i amlinellu rhai pryderon sydd gen i ynghylch y diffyg cyllid a amlinellir ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd presennol sydd yng ngofal yr awdurdodau lleol. Dywedwyd wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru na fydd y grant gwerthfawr iawn o £20 miliwn yn parhau ac y bydd cyllid cynnal a chadw ffyrdd yn cael ei ailfuddsoddi mewn teithio llesol. Dywedwyd wrthyf i mewn ymateb i fy nghwestiwn yn y Senedd y byddai cyllid yn sgil yr egwyl wrth adeiladu ffyrdd newydd yn cael ei ailfuddsoddi mewn teithio llesol a chynnal a chadw ffyrdd presennol. Yn y cyfnod ariannol heriol hwn, mae hi'n hanfodol nad ydym ni'n esgeuluso gwaith cynnal a chadw ein priffyrdd. Yn dilyn 10 mlynedd o gyni yn y DU a thoriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus, amcangyfrifodd arolwg gan syrfëwr sirol yn 2020 fod gwerth dros £1.6 biliwn o ôl-groniad o waith cynnal a chadw asedau priffyrdd wedi ei ohirio yn bodoli ar hyn o bryd.
Yn ogystal â defnydd cyson a henaint, mae ein hasedau o dan bwysau oherwydd effeithiau newid hinsawdd. Mae'r glaw trwm yr ydym ni'n ei gael yn golchi arwynebau ffyrdd i ffwrdd, yn creu tyllau yn y ffordd, yn cwympo cwteri, ac yn llenwi draeniau gyda malurion sydd wedyn yn gorfod cael eu gwagio trwy'r amser i fod yn effeithiol. Mae cyllid grant ychwanegol diweddar gan y Llywodraeth wedi rhoi cyfle i awdurdodau atal dirywiad rhai asedau, ond nid holl asedau'r priffyrdd. Gwerthfawrogwyd yn fawr iawn yr £20 miliwn bob blwyddyn dros y tair blynedd diwethaf. Mae angen buddsoddiad cyson gan y wladwriaeth yn flynyddol i gadw'r asedau yn eu cyflwr presennol. Amcangyfrifir, i gadw cerbytffyrdd yn eu cyflwr presennol yn unig, y bydd angen £65 miliwn y flwyddyn, £9 miliwn ar droedffyrdd, a £46 miliwn y flwyddyn ar adeileddau gan gynnwys pontydd. Mae llifogydd a newid hinsawdd yn effeithio'n fawr ar yr adeileddau hyn, fel pontydd. Felly, mae angen y buddsoddiad hwn arnyn nhw yn fawr. Mae caniatáu i asedau ddirywio i gyflwr lle nad oes dewis arall ond gosod asedau newydd yn eu lle yn arwain at gostau yn y dyfodol y gellid eu hosgoi, yn ogystal â'r posibilrwydd y gallai rhai asedau ddiffygio ar fyr rybudd, sy'n digwydd ar hyn o bryd, fel pont newydd—. Mae yna bont yn sir Ddinbych a bu tirlithriadau yn sir y Fflint. Mae llawer o awdurdodau lleol wedi gweld effaith hyn. Bydd hyn i gyd yn golygu y bydd angen gwaith atgyweirio ymatebol helaeth a chostus, cau ffyrdd, ac, mewn achosion eithafol, mwy o berygl i ddefnyddwyr.
Rwy'n sylwi bod asiantaethau cefnffyrdd yn parhau i gael eu hariannu yn gymharol dda, fel yn y gyllideb hon eto, ond yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'n rhwydwaith priffyrdd. Canran fach iawn o'n seilwaith ni ledled Cymru yw'r traffyrdd a'r ffyrdd deuol. Mae angen cynnal ein ffyrdd fel eu bod nhw'n parhau i fod ar gael i'w defnyddio gan gerddwyr, beicwyr, trafnidiaeth gyhoeddus, modurwyr, a busnesau. Mae hi'n amhosibl darparu llwybrau beicio pwrpasol ar y rhan fwyaf o'n priffyrdd. Mae angen i feicwyr ddefnyddio ymylon y ffyrdd, sy'n beryglus oherwydd tyllau a chwteri wedi eu cau. Mae'r rhain hefyd yn achosi mwy o draul ar deiars, sef un o'r llygryddion mwyaf ac sy'n gwaethygu'r newid yn yr hinsawdd hefyd, a llygredd yn ein cyrsiau dŵr. Wrth symud ymlaen, hoffwn i weld buddsoddiad sylweddol a pharhaus gan Lywodraeth Cymru yn ein rhwydwaith ffyrdd i sicrhau ei fod yn addas i'w ddiben. Y rhain yw ein hasedau mwyaf. Diolch i chi.
Wrth groesawu datganiad y gyllideb a'r ddadl hon, mae'n rhaid i mi gofnodi fy siom o ran ein hagenda newid hinsawdd. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol iawn o fy mhryderon a gafodd eu codi yn y Senedd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wthio trefniadau hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol i'r cefndir, gan wastraffu'r cyfle hwn i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes diogelu amgylcheddol gwyrdd. Yn wir, er bod Natural England yn cael cynnydd o 47 y cant yng nghyllid Llywodraeth y DU, mae data a gafodd ei ddarparu gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, drwy eu cyflwyniad ymgynghori cyllidebol, yn dangos bod cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng 35 y cant rhwng 2013 a 2020. Yn ystod yr un cyfnod, mae erlyniadau ynghylch troseddau amgylcheddol wedi gostwng 61 y cant, gydag aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru yn codi pryderon yn briodol am ddiffyg capasiti ymddangosiadol ar gyfer rhaglenni monitro cadarn a rheoli safleoedd gwarchodedig. Yn ôl fy nadansoddiad i fy hun, mae CNC nawr ar fin cael toriad mewn cyllid mewn termau real, gyda nhw'n parhau i fod ar £69.7 miliwn ar gyfer 2022-23. Felly, er mwyn diogelu ein mannau gwyrdd, rwy'n gofyn i'r Gweinidog adolygu'r sefyllfa hon, a cheisio defnyddio pa adnoddau bynnag sydd ar gael i gyflwyno fframwaith ar gyfer swyddfa annibynnol hirdymor ar gyfer diogelu'r amgylchedd.
O ran dadansoddi cyllidebau, rwyf i hefyd yn sylwi ar bryderon ynghylch y ffaith bod llinellau'r gyllideb ar gyfer y môr a physgodfeydd yn aml yn mynd yn ddyrys. Gyda chadwraeth forol yn bryder canolog i lawer o drigolion ar hyd yr arfordir yma, yn y gogledd, mae lefel bresennol yr anhawster wrth geisio nodi pa lefel o gyllideb sy'n cael ei darparu ar gyfer bioamrywiaeth forol neu adfer cynefinoedd, o'i chymharu â'r arian sydd ar gael i gefnogi'r diwydiant pysgota—. Nid yw yno. Felly, yn enw tryloywder, a fyddai'r Gweinidog yn ceisio darparu dadansoddiad ychwanegol fel y byddai modd craffu ar hyn yn haws?
Mewn mannau eraill, rwy'n cydnabod y bydd swm amhenodol yn mynd tuag at sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd. O ystyried y materion y mae cwmni Bristol Energy wedi'u hwynebu, pryd cafodd yr ased aflwyddiannus ei werthu am £14 miliwn, a oedd yn llawer llai na'r £36.5 miliwn a gafodd ei fuddsoddi gan Gyngor Dinas Bryste, efallai y byddai'n well gwario'r arian hwn yn sefydlu treial microgrid yn y gogledd. Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym Mae Caerdydd wedi cydnabod ers tro bod Cymru'n parhau i wynebu argyfwng capasiti grid, sy'n achosi toriadau diangen yn y system, gan atal cynnydd ystyrlon a hirdymor yn chwyldro diwydiannol gwyrdd y genedl. Byddai meithrin treial microgrid o'r fath yn y gogledd yn cyd-fynd â strategaeth ynni'r gogledd. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych eto ar y gyllideb hon fel bod modd cydnabod ein diddordeb cyffredin mewn cynnydd o'r fath gyda'r adnodd y mae'n ei haeddu.
Yn olaf, mae'n bryder i mi fod y gyllideb yn ceisio darparu £1 miliwn o gyllid refeniw i sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol a fydd, i bob pwrpas, yn cystadlu â'n datblygwyr eiddo sy'n gweithio'n galed. O sgyrsiau gyda'r diwydiant, gwn i fod y sector preifat yn barod i ddarparu tai a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Fodd bynnag, fel y gall fy ngrŵp rhanddeiliaid fy hun dystio, gwyddom ni fod 10,000 o gartrefi newydd yn cael eu rhwystro drwy ganllawiau trafferthus CNC ar ffosffadau. Mae angen i'r Gweinidog Newid Hinsawdd egluro pa adnoddau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu neilltuo i glirio'r rhwystr ar adeiladu tai ledled Cymru. Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd ymhell dros ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, byddai rhywun wedi meddwl erbyn hyn y byddai'r gyllideb hon wedi adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran newid hinsawdd a'n hallbynnau carbon. Yn amlwg, wrth ddarllen drwyddi, nid yw'n amlwg iawn o gwbl bod y pwyslais hwn mor ystyrlon ag y dylai fod. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Bydd pobl Islwyn yn croesawu'r datganiad pwysig hwn heddiw, a bydd y gyllideb hon yn datblygu Cymru. Fel y nododd y Gweinidog, nid ydym ni wedi dianc, mewn unrhyw ffordd, flynyddoedd o gyni'r Torïaid cyn i'r pandemig hwn daro. Mae'r diffyg cyllid teg i Gymru, yn niweidiol yn ystod y degawd diwethaf, a'r diffyg gwariant seilwaith y DU yng Nghymru, gan gynnwys diffyg symiau canlyniadol HS2, wedi bod yn frawychus ac mae ganddo ganlyniadau, fel oedd gan ddileu grŵp parodrwydd pandemig y DU. Mae COVID-19 wedi herio ac mae'n parhau i herio pob cenedl ar y ddaear. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru hawl ariannol a moesol i flaenoriaethu cyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n iawn darparu £1.3 biliwn ychwanegol i'n GIG arwrol yng Nghymru a £0.75 biliwn ychwanegol i'n hawdurdodau lleol gweithgar yn y setliad llywodraeth leol. Gydag ymagwedd gydweithredol gref yn ein polisi a buddsoddiad cryf yn y gyllideb mewn addysg, trafnidiaeth a'r hinsawdd, gydag atebion tecach, gwyrddach, seiliedig ar natur, dull gweithredu a wnaed yng Nghymru ar gyfer—
Rhianon, a gaf i ofyn i chi aros eiliad? Rydym ni wedi colli eich fideo. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ei fod yn weithredol eich ochr chi.
Ydy. Rydym ni'n cael problemau gyda'r fideo. Mae'n rhaid ei rhoi yn ôl yn ysbeidiol. Rydw i bron â gorffen. Os caf i ddod at fy nghwestiwn, Dirprwy Lywydd.
Iawn. Cyn belled â'ch bod chi'n ymwybodol nad yw'r fideo yn gweithio i ni. Iawn?
Mae hynny'n hollol iawn. Mae'n gwneud hynny, ac maen nhw'n ceisio ei ddatrys.
Felly, Gweinidog, sut yr ydych chi'n egluro, felly, i fy etholwyr pam y bydd Cymru'n cael £46 miliwn yn unig eleni o gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, ar sail ad hoc, nad yw'n dryloyw, o'i gymharu â'r £375 miliwn y byddem ni wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021? Mae hynny'n golled o £329 miliwn, pan ddywedwyd wrthym ni na fyddem ni'n cael ceiniog yn llai. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r gyllideb hon.
Yn gyntaf, fel y mae'r Aelodau'n ymwybodol, rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn ceisio'i gyflawni, yn enwedig o ran prydau ysgol am ddim. Ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yw'r cam cyntaf tuag at sicrhau prydau ysgol am ddim i bawb, a bydd hynny'n gwneud llawer i sicrhau bod plant o bob cefndir yn ddi-ffael yn cael bwyd maethlon fel rhan o'u haddysg.
Mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd eto, ond os caf i ganolbwyntio ar brydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd am y tro, rwy'n gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i gymorth ariannol o flaen llaw yn y gyllideb hon ar gyfer prydau ysgol am ddim fel y gallwn ni weld manteision y polisi hwn cyn gynted â phosibl. Gorau po gyntaf y gallwn roi'r polisi hwn ar waith ledled Cymru, gorau oll eu byd fydd pobl. Yn ddelfrydol, hoffwn weld y polisi hwn yn cael ei weithredu'n llawn yn 2022.
Byddai gennyf i ddiddordeb hefyd mewn dysgu a yw'r ddarpariaeth ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim drwy gyfnod gwyliau'r ysgol yn dal i gael ei hystyried yn y gyllideb. Ni allaf bwysleisio digon faint o achubiaeth yw hyn i deuluoedd dros gyfnod y gwyliau, pan fydd costau'n codi'n sylweddol i deuluoedd â phlant, ac mae hyn yn dod yn bwysicach fyth wrth i ni ddechrau gweld argyfwng costau byw yn dod i'r amlwg.
Ac yn olaf ar brydau ysgol am ddim, ond ar bwynt polisi ehangach, a yw'r Llywodraeth yn rhoi cyfrif am effeithiau cadarnhaol polisïau fel prydau ysgol am ddim a'r arbedion dilynol sy'n cael eu gwneud mewn meysydd eraill, megis iechyd a'r economi, wrth lunio eu cyllideb?
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad wrth agor y ddadl hon. Sylwais i ei bod yn ymddangos bod y Gweinidog yn gwneud llawer iawn o nodiadau yn ystod y ddadl hon. Mae croeso iddi bob tro, wrth gwrs, pryd bynnag yr ydym ni'n trafod y pethau hyn, ond rwy'n siŵr ei bod hi wedi cael cymaint o sioc ag yr wyf i yn ystod y ddadl hon, ar ôl treulio 10 mlynedd yn gwrando ar y Torïaid yn ein darlithio ni ar gyni, yn ein darlithio ar fod yn ofalus iawn gyda'r pwrs cyhoeddus ac ati, rydym ni newydd gael nifer o siaradwyr Torïaidd yn sefyll i fyny ac yn gwario miliwn o bunnau gyda phob anadl y maen nhw'n ei gymryd. Rydym ni wedi cael Gareth Davies yn mynnu mwy o arian ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol. Rwyf i'n dueddol o gytuno ag ef, fel y mae'n digwydd, ond ei Lywodraeth ef sydd wedi bod yn ei dorri yn y lle cyntaf, wrth gwrs. Mae Janet Finch-Saunders yn cwyno am y diffyg buddsoddiad mewn newid hinsawdd pan fo ganddi Lywodraeth sydd prin yn credu ynddo yn San Steffan ac yn sicr wedi cwtogi ar fuddsoddiad ar ochr arall y ffin. Ac mae'r hen Peter Fox druan, wrth gwrs, eisiau gwario arian ar bopeth, rhag ofn. Felly, rydym ni wedi cael dadl Geidwadol y prynhawn yma sydd wedi'i gwreiddio'n llwyr mewn gwario arian cyhoeddus y maen nhw eu hunain yn rhan o'r broses o'i dorri. Mae gair am hynny. Nid wyf am drethu eich amynedd, Dirprwy Lywydd, y prynhawn yma, ond mae gair am hynny, ac fe gafodd ei ddefnyddio’n eithaf rhydd yn San Steffan amser cinio.
Gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n credu o ran y dadleuon sydd gennym ni ar ein cyllidebau yng Nghymru, mae angen i ni ganolbwyntio mwy ar incwm nag ar wariant. Gall unrhyw un wario arian. Gall unrhyw un sefyll i fyny a mynnu mwy o arian ar gyfer pob pwnc dan haul. Rwy'n croesawu'r sgyrsiau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda Phlaid Cymru a gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Rwy'n gweld dylanwad y ddwy blaid hynny ar y gyllideb hon, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth i'w groesawu. Rwy'n sylwi hefyd fod cyfraniadau Jane Dodds a gan Aelodau Plaid Cymru y prynhawn yma wedi'u gwreiddio'n llawer mwy mewn gwirionedd ac wedi'u gwreiddio mewn cyflawni na'r ffantasïau yr ydym ni wedi'u clywed gan Aelodau Ceidwadol. Ond gadewch i mi ddweud hyn o ran peidio â gwario, ond codi arian: hoffwn i ddeall mwy gan y Gweinidog o ran sut y mae hi'n edrych ar ei chyllidebau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Gan ei bod hi'n ffug, wrth gwrs, i'r Ceidwadwyr ddadlau mai dyma'r cytundeb neu setliad gwario mwyaf hael i ni ei gael erioed. Y peth hawsaf yn y byd yw edrych ar niferoedd yr arian parod a dweud bod hyn yn fwy na'r llynedd, a bod hynny'n fwy na'r flwyddyn flaenorol. Mae hynny'n rhifyddeg sylfaenol. Nid dyma'r gwir sefyllfa, serch hynny, ac nid dyma'r sefyllfa yr ydym wedi'i chael yn ystod y degawd diwethaf. Rwy'n cofio Peter Fox yn dda iawn yn arweinydd llywodraeth leol; nid wyf yn ei gofio yn dweud wrthyf unwaith y byddai'n well ganddo fod yn arweinydd llywodraeth leol yn Lloegr nag arweinydd llywodraeth leol yng Nghymru pan oedd yn dawnsio dawns fach grefftus iawn o amgylch geiriau Andrew R.T. Davies yn y Siambr a oedd yn cael eu taflu'n ôl ato mewn cyfarfodydd eraill. Ond nid wyf i'n ei feio am hynny chwaith.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae Brexit yn cael effaith ffyrnig ar ein cyllid cyhoeddus. Mae eisoes wedi'i grybwyll, a siaradodd Rhianon Passmore am fradychu cymunedau Cymru yn llwyr; byddai'r £375 miliwn a addawodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei gynnal mewn Pwyllgor Cyllid y llynedd—gwnaeth ef yr ymrwymiad hwnnw ar y cofnod i'r Aelodau yma, a bydd yr Aelodau'n cofio hynny. I'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ydoedd, mewn gwirionedd; rwy'n credu mai'r Dirprwy Lywydd oedd yn y Gadair yn ystod y cyfarfod hwnnw. Rydym ni wedi cael £46 miliwn. Naill ai yr oedd e'n ceisio ein camarwain ni ar y pryd, neu y mae wedi'n camarwain ni ers hynny. Gan fod gennym ni nawr Brif Weinidog y DU sy'n camarwain pobl bob munud o bob dydd, nid ydym ni'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw ein bod ni wedi cael ein camarwain, a bod pobl ar hyd a lled Cymru wedi cael eu camarwain yn fawr, a bod cyllid cyhoeddus yn waeth o lawer o'r herwydd. Ond rydym ni hefyd yn gwybod bod Brexit yn lleihau ein cynnyrch domestig gros 4 y cant ar gyfartaledd. Mae hynny'n mynd i gael effaith uniongyrchol, wrth gwrs, ar ein defnydd o drethi a gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau o ran trethiant, a hoffwn i ddeall sut y mae'r Gweinidog yn ceisio ymdrin â hynny.
Rwyf i hefyd eisiau codi mater buddsoddi mewn rheilffyrdd. Rydym ni wedi gweld eto nad yw'r Torïaid yn buddsoddi yng Nghymru. Gorffennodd Peter Fox ei gyfraniad agoriadol drwy ddweud bod y gyllideb hon yn cydnabod lle Cymru mewn undeb cryf. Yr hyn y mae'n ei wneud mewn gwirionedd yw cydnabod gwendid Cymru mewn undeb nad oes ots ganddo am Gymru. Dyna mae'n ei wneud mewn gwirionedd. Os edrychwch ar—. Wel, gall Janet ysgwyd ei phen, ond mae'r rhifau'n siarad drostyn nhw eu hunain. Nid ydym ni'n gweld y buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd yr ydym ni'n ei weld yn yr Alban. Nid ydym ni'n gweld y buddsoddiadau seilwaith yng Nghymru yr ydym ni'n eu gweld dros y ffin yn Lloegr, a pham hynny? Y rheswm am hynny yw nad yw Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan eisiau gwario'r arian yng Nghymru. Mor syml â hynny. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os bydd unrhyw un o'r Aelodau hynny'n dymuno gwneud hynny.
Nid oes gennych chi'r amser i wneud hynny, Alun.
Nid oes gennyf i'r amser, felly ni wnaf i drethu eich amynedd y prynhawn yma, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog, wrth ymateb, yn gallu ymdrin â rhai o'r materion sy'n ymwneud â sut yr ydym ni'n codi arian yng Nghymru, a sut y gallwn ni drefnu'r arian hwnnw'n well er mwyn cyflawni'r amcanion yr oedd hi wedi'u nodi rwy'n credu, yr wyf i'n cytuno'n llwyr â nhw.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar y gyllideb ddrafft. Dyma bwynt byr i'ch atgoffa yma fy mod i'n dal i fod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y mae fy nghofrestr o fuddiannau yn ei dangos.
Fel llawer o Aelodau, ychydig cyn y Nadolig, wrth i mi wneud fy ngorau i sicrhau bod Siôn Corn yn gallu cyrraedd yn ddiogel ac yn iach, roeddwn i hefyd yn disgwyl yn eiddgar i'r gyllideb ddrafft gael ei rhyddhau ac i weld beth fyddai'n cael ei wario ac ymhle, a'r effeithiau y byddai hyn yn ei gael. Fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod Peter Fox yn rhagorol yn ei gyfraniad, gan gydnabod y pwysau y mae'r pandemig wedi'u hachosi, er gwaethaf pryderon Mr Davies nad yw rhai ohonom ni Geidwadwyr yn ddigon ceidwadol efallai, mae'n rhaid buddsoddi'r gyllideb hon yn ddoeth i gyflawni blaenoriaethau pobl sy'n gweithio, gan ganolbwyntio ar greu swyddi sy'n talu'n well a darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
A chithau'n Weinidog, rydych chi wedi amlinellu eich hun rhywbeth yr wyf i wedi'i godi gyda chi'n barhaus yn ystod y pandemig hwn, sef bod cynghorau wedi mynd y tu hwnt i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol. Yn wir, mae'r farn hon wedi cael ei hailadrodd gan Aelodau ar draws y pleidiau heddiw, gan gynnwys Mr Hedges a Mr Gruffydd hefyd yn eu cyfraniadau. Felly, ni fydd yn syndod heddiw y byddaf i'n canolbwyntio fy nghyfraniad byr ar lywodraeth leol, ac yn benodol y setliad llywodraeth leol. Rwy'n gwybod bod llawer o gynghorau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi croesawu'r setliad llywodraeth leol o fewn y gyllideb hon—cynnydd o 9.4 y cant ar sail gyfatebol o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Wrth gwrs, fel cyn-arweinydd cyngor, byddwn i hefyd wedi hoffi gweld hyn yn ystod fy nghyfnod yn arwain cyngor.
Fodd bynnag, mae'n deg dweud hefyd fod y setliad llywodraeth leol hwn wedi dod ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o danariannu i gynghorau, yn enwedig y rhai ymhellach i'r gogledd ac efallai cynghorau gwledig eraill, sydd wedi cael toriadau sylweddol yn ystod y cyfnod hwnnw. Oherwydd hyn, ac er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid, mae'n edrych fel y bydd yn rhaid i lawer o gynghorau godi'r dreth gyngor eleni i gynnal y pwysau. Ond gallai mwy o arian i gynghorau eleni fod wedi lleddfu'r mater hwn. Mae'n debygol nawr y bydd mwy o bwysau'n cael ei roi ar drigolion lleol drwy drethiant uwch, er eu bod wedi cael eu taro'n galed yn ystod y pandemig COVID-19 hwn. Gyda'r cyd-destun hwn mewn golwg, hoffwn i godi tri phwynt byr iawn yn unig, Dirprwy Lywydd.
Yn gyntaf, yn gysylltiedig â'r pwysau hyn, mae'n werth tynnu sylw at y gofynion ariannol y mae cynghorau'n debygol o'u hwynebu yn ystod y tair blynedd nesaf. Yr amcangyfrif yw bod hyn yn fwy na £1 biliwn o bwysau ychwanegol. A, Gweinidog, fel y nododd eich datganiad chi, dim ond tri chwarter o'r cyllid i ymdrin â hyn sydd wedi'i ymrwymo ar gyfer y tair blynedd nesaf sef, £750 miliwn. Yn wir, mae blynyddoedd i ddod yn dangos diffygion sylweddol mewn cyllid sy'n debygol o gael ei roi i gynghorau. Byddai'n gam i'w groesawu pe gallech chi, Gweinidog, ystyried ariannu'r tair blynedd nesaf hyn o bwysau i alluogi cynghorau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar ein trigolion.
Yn ail, Gweinidog, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae cynghorau ac arweinwyr cynghorau yn gweithio orau pan fydd sicrwydd ariannol a gallan nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, er i chi gael eich setliad ar gyfer y dyfodol am y tair blynedd nesaf gan Lywodraeth y DU, nid oes dadansoddiad penodol o gyllid i gynghorau unigol y tu hwnt i 2023. Ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn glir y byddai dadansoddiad o'r cyllid y tu hwnt i'r amser hwn yn fanteisiol iawn. Felly, yng ngoleuni hyn, yr wyf i'n siomedig nad yw hyn wedi'i ddarparu, a gobeithio ei fod yn rhywbeth y gallwch chi ymchwilio iddo cyn gynted â phosibl.
Yn olaf, mater enfawr sy'n wynebu llawer o gynghorau ar hyd a lled Cymru yw cefnogi poblogaeth sy'n heneiddio drwy ofal cymdeithasol. Mae gennyf i bryderon nad yw'r fformiwla ariannol bresennol ar gyfer llywodraeth leol yn adlewyrchu'r newid hwn yn ein poblogaeth yn briodol a'r pwysau y mae ein gwasanaethau sy'n gweithio'n galed yn eu hwynebu. Un enghraifft o hyn, yn fyr, yw bod y fformiwla ariannu bresennol yn rhoi dros £1,500 i gynghorau ar gyfer pawb dros 85 oed, ond i'r rhai rhwng 60 ac 84 oed, dim ond £10.72 y mae'n ei ddarparu—anghysondeb enfawr yn y fformiwla, sy'n ei gwneud yn anodd iawn i gynghorau gefnogi poblogaeth sy'n heneiddio. Felly, byddwn i'n croesawu adolygu'r fformiwla honno'n barhaus gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn sicrhau ei bod yn dal yn briodol.
Felly, i gloi, mae pethau cadarnhaol, wrth gwrs, yn y setliad llywodraeth leol, sydd i'w croesawu. Serch hynny, fel yr wyf wedi'i amlinellu, mae nifer o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw. Edrychaf i ymlaen at graffu ar y Gweinidog o ran y setliad yn ystod yr wythnosau nesaf ar ein Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a chyflwyno ein hymateb o fy ochr i o'r meinciau i'r darn pwysig iawn hwn o waith. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd wedi bod yn ddadl wirioneddol ddefnyddiol. Mae cynifer o bwyntiau wedi'u codi. Felly, ceisiaf ymateb i rai o'r themâu allweddol o leiaf, ond rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau wedi bod yn gwrando'n ofalus, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb i rai o'r pwyntiau manylach yn sesiynau craffu'r pwyllgorau a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Felly, dechreuodd y ddadl gyda myfyrdodau Peter Fox ar fanteision yr undeb, ac, fe fyddwn i'n cytuno'n llwyr fod Cymru'n gryfach drwy fod yn rhan o'r undeb, ac mae'r undeb yn gryfach gyda Chymru ynddo. Ond yn sicr nid yw'n golygu nad oes lle i wella. O safbwynt cyllid, gallem ni yn sicr wneud â gwelliant o ran hyblygrwydd, eglurder, chwarae teg, a glynu wrth lythyren ac ysbryd y datganiad o bolisi ariannu.
Rwy'n credu bod rhai o'r cyfraniadau wedi tynnu sylw at pam y mae hyn i gyd yn bwysig. Felly, roedd Rhianon Passmore ac Alun Davies yn awyddus i siarad am golli cyllid yr UE. O dan gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, gwnaethom ni glywed mai dim ond £46 miliwn a gaiff Cymru eleni, o'i gymharu ag o leiaf £375 miliwn y byddem ni wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Felly, yn amlwg, mae addewid wedi'i dorri ac un a fydd yn cael effaith wirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae ymadael â'r UE yn dwysáu'r difrod economaidd sydd wedi'i achosi gan COVID. Mae colli cannoedd o filiynau o bunnau o gyllid yr UE drwy gynlluniau Llywodraeth y DU yn ychwanegu at y pwysau sy'n ein hwynebu, a bydd yn effaith ffyrnig, fel y disgrifiodd Alun Davies.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd £0.4 biliwn ar gael ledled y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin yn 2022-23, £0.7 biliwn yn 2023-24, a £1.5 biliwn yn 2024-25. Felly, yn amlwg, yn ôl amcangyfrif unrhyw un, rydym ni'n cael ein hamddifadu'n llwyr o'r £375 miliwn y byddem ni wedi'i gael yn flynyddol drwy'r UE pe baem ni wedi aros ynddo a phe bai Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid na fyddem yn geiniog yn waeth ein byd.
Soniodd Llyr Gruffydd hefyd am ariannu ffermydd, ac mae hynny'n faes arall lle mae Llywodraeth y DU wedi ein siomi'n wael. Bydd ein cymunedau gwledig a'n ffermwyr ar eu colled o leiaf £106 miliwn o gyllid newydd yr UE dros gyfnod yr adolygiad o wariant, ar ben y £137 miliwn nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu ar ei gyfer yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, rydym yn anghytuno'n llwyr â haeriad Llywodraeth y DU ei bod wedi cyflawni ei rhwymedigaethau i ddarparu cyllid newydd i ffermwyr a datblygu gwledig drwy gyfuniad o arian newydd o'r adolygiad o wariant a gweddill cyllid Cymru o'r UE. Mae'n ffordd wirioneddol anniffuant o ddisgrifio'r ffordd y maen nhw'n darparu cymorth i'n cymunedau gwledig, ac, unwaith eto, bydd yn cael gwir effeithiau ar gymunedau ffermio ledled Cymru.
Roedd cyfeirio hefyd at fater benthyca, ac mae hwn eto'n faes lle gallem ni'n sicr gynllunio'n well a gallem ni wneud y gorau o'n gallu benthyca pe bai gennym fwy o hyblygrwydd. Mae ein cyllideb ddrafft yn adlewyrchu ein cynlluniau i fanteisio i'r eithaf ar fenthyca cyfalaf, gan dynnu i lawr y swm mwyaf blynyddol o £150 miliwn y flwyddyn, gan fenthyca £450 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25, a dyna'r mwyaf y gallwn ni ei gael ar hyn o bryd o fewn y fframwaith cyllidol. Felly, hoffem ni gynyddu maint y benthyca blynyddol y gallwn ni ei gael, a hefyd maint y benthyca drwyddo draw y gallwn ni ei gael. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau gyda Llywodraeth y DU. Nid ydym ni'n gwneud unrhyw gynnydd ar hyn o bryd, ond bydd dal dadleuon yr ydym ni'n parhau i'w gwneud ochr yn ochr â chyd-Aelodau yn y Llywodraethau datganoledig eraill. Ond byddaf i'n ychwanegu ein bod ni bob amser, yn ein cyllidebau, yn bwriadu tynnu'r benthyciad llawn i lawr. Mae'r rheswm pam nad yw'n cael ei ddyrannu ar ddiwedd y flwyddyn yn ganlyniad i newidiadau hwyr yn y flwyddyn wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU sy'n effeithio ar ein cyllideb gyffredinol.
Rwyf i hefyd yn tynnu sylw cyd-Aelodau at y ffaith ein bod ni, am y tro cyntaf eleni, yn defnyddio gor-ddyranu cyfalaf cyffredinol, fel y bydd hynny'n ein helpu i ymestyn pob punt o gyllid cyfalaf sydd ar gael ymhellach, a gobeithio y bydd yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni ddarparu hyblygrwydd i ni ein hunain yn absenoldeb hwnnw gan Lywodraeth y DU.
Rwyf i wedi sôn am fenthyca, felly gwnaf i hefyd sôn am dreth. Mae ein cyllideb ddrafft yn defnyddio rhagolygon treth sy'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagolygon trethi Cymru, a gyda'i gilydd, bydd CTIC, treth trafodiadau, treth gwarediadau tirlenwi ac ardrethi annomestig yn cyfrannu tua £3.9 biliwn at gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2022-23, ac mae hynny'n codi i £4.3 biliwn yn 2024-25. Dyma'r gyllideb aml-flwyddyn gyntaf ers datganoli trethi, felly mae'n bwysig nodi bydd rhagolygon y dyfodol nid yn unig yn effeithio ar reoli cyllidebau yn ystod y flwyddyn yn 2022-23, ond hefyd ar y rhifyddeg gyllidebol gyffredinol ar gyfer 2023-24 a 2024-25, a gwn i y byddwn ni'n trafod hynny gyda'r Pwyllgor Cyllid maes o law. Ond mae wir yn mynegi, rwy'n credu, yr angen i barhau â'n hymdrechion i dyfu ein sylfaen drethi yng Nghymru, a gallwch chi weld enghreifftiau drwy gydol y gyllideb ynghylch sut yr ydym ni'n bwriadu gwneud hynny. Byddai'r cyfrifon dysgu personol yn un enghraifft dda iawn o sut yr ydym ni'n bwriadu cefnogi pobl a pharhau i gefnogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm. Felly, rwy'n credu bod hynny'n faes y gallwn ni fod yn falch iawn ohono, ac yn faes, mewn gwirionedd, lle yr ydym ni wedi bod yn gwneud gwaith da iawn o ran cyllidebu ar sail rhywedd, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfleoedd i drafod hynny ymhellach mewn pwyllgorau.
Byddaf i'n ymateb i rai o'r prif feysydd polisi y cyfeiriwyd atyn nhw yn y ddadl—gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yw un. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal cymdeithasol gyda'r cyllid sydd ei angen arno. Yn ogystal â'r buddsoddiad drwy'r grant cynnal refeniw, rydym ni'n darparu £60 miliwn o gyllid ychwanegol i hyrwyddo diwygiadau ehangach i'r sector a'i roi ar y sylfaen gynaliadwy honno ar gyfer y dyfodol. Yn 2022-23 yn unig, rydym ni'n darparu dros £250 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys £180 miliwn sydd wedi'i ddarparu yn y setliad llywodraeth leol, buddsoddiad uniongyrchol o £45 miliwn, ynghyd â £50 miliwn o gyfalaf gofal cymdeithasol ychwanegol o'i gymharu â 2021-22. Ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddeall faint o arian y byddai ei angen i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol, felly rwy'n falch ein bod ni wedi gallu rhoi'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu. Ac ochr yn ochr â hyn, wrth gwrs, o ran cyfalaf, yn 2024-25 byddwn ni'n buddsoddi cyfanswm o £110 miliwn o gyfalaf mewn gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer seilwaith integredig a hygyrch. Ac rydym ni'n buddsoddi £180 miliwn i gefnogi amrywiaeth o raglenni gofal cymdeithasol i fuddsoddi mewn seilwaith gofal preswyl a'i wella, a hefyd i gefnogi buddsoddiad yn y canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd. Felly, mae llawer o waith cyffrous yn digwydd yn y meysydd hynny.
Mae cyfeirio wedi bod at iechyd meddwl, ac, unwaith eto, mae hwn yn un o bileri pwysig iawn ein cyllideb, a gwn fod pryder penodol wedi'i fynegi yn ystod y ddadl ynghylch iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac yr ydym ni'n cydnabod yn llwyr yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael yn y maes hwn. Felly, fel rhan o'n buddsoddiad cyffredinol o £100 miliwn, rydym ni'n dyrannu £10.5 miliwn ychwanegol, hyd at 2024-25, yn uniongyrchol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc i gefnogi'r dull system gyfan.
Yn amlwg, iechyd yw'r rhan fwyaf o'n cyllideb, ac rydym ni'n buddsoddi £1.3 biliwn yn ychwanegol mewn cyllid refeniw yn ystod y tair blynedd nesaf yn ein GIG, gan gymryd cyfanswm y gwariant yn y GIG i dros £9.6 biliwn. Fel rhan o hynny, rydym yn ymrwymo £170 miliwn yn rheolaidd i gefnogi trawsnewid gofal cynlluniedig, i helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion y mae eu triniaethau wedi'u gohirio gan y pandemig, a hefyd yn buddsoddi £20 miliwn arall yn rheolaidd i gefnogi canolbwyntio ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werthoedd, gan gyflawni canlyniadau sy'n bwysig i gleifion. Felly, erbyn diwedd cyfnod y gyllideb hon, byddwn ni wedi buddsoddi dros £800 miliwn yn adferiad y GIG, gan ddangos ein hymrwymiad i wario £1 biliwn yn ystod oes y Llywodraeth hon. Ac rydym ni hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod sefydliadau'r GIG yn cynnal y sefydlogrwydd ariannol y maen nhw wedi gweithio mor galed i'w sicrhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth iddyn nhw drawsnewid gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Felly, rydym ni'n dyrannu £180 miliwn yn rheolaidd o 2022-23 ymlaen i helpu'r GIG i reoli effaith ariannol y pandemig ar eu sefyllfa ariannol sylfaenol, gan gynnwys cydnabod yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar gynhyrchiant ac effeithlonrwydd, a byddem ni'n disgwyl i'r GIG ddychwelyd i lefelau effeithlonrwydd a oedd yn bodoli cyn y pandemig wrth i effaith COVID ar wasanaethau craidd leddfu.
Roedd cyfeiriad at ardrethi annomestig a phwysigrwydd cefnogi busnesau, ac rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Wrth gwrs, yn y flwyddyn ariannol hon, ac nid wyf i eisiau sôn gormod am y flwyddyn ariannol hon gan nad wyf i eisiau achosi dryswch, ond nid yw busnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn talu ardrethi busnes o hyd oherwydd eu bod wedi cael blwyddyn lawn o gefnogaeth. Ac mae'r gyllideb ddrafft nawr yn cynnwys £116 miliwn i ddarparu'r rhyddhad ardrethi o 50 y cant hwnnw i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn 2022-23. Ac mae hynny'n golygu y bydd busnesau yn y sectorau hynny yn parhau i dderbyn cefnogaeth sylweddol wrth iddyn nhw wella o'r pandemig. Ac rydym ni wedi buddsoddi, mewn gwirionedd, £20 miliwn ychwanegol ar ben y swm canlyniadol a gawsom ni gan Lywodraeth y DU i ariannu'r penderfyniad hwn, ac mae hynny'n golygu, ar y cyd â'n cynlluniau rhyddhad parhaol presennol, y byddwn ni'n sicrhau bod dros 85,000 o eiddo yng Nghymru yn cael cymorth i dalu eu biliau ardrethi yn 2022-23. Ac ers dechrau'r pandemig, wrth gwrs, rydym ni wedi darparu dros £2.2 biliwn o gymorth i drethdalwyr drwy ein rhyddhadau a'n cynlluniau grant, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud hynny.
Byddaf i'n ymdrin ag un neu ddau faes arall, addysg a'r blynyddoedd cynnar yw un ohonyn nhw. Yn amlwg, buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac addysg yw un o'r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym ni i ymdrin ag anghydraddoldeb, ymgorffori atal a buddsoddi yn ein cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r gyllideb hon yn cynnwys £320 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i barhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi. Mae hyn yn cynnwys £30 miliwn ychwanegol ar gyfer darpariaeth gofal plant a'r blynyddoedd cynnar—unwaith eto, maes blaenoriaeth arall ar y cyd gyda Phlaid Cymru. Roedd Luke Fletcher yn myfyrio ar ba mor falch yr oedd ef o'r hyn y mae'r cytundeb cydweithredu wedi'i gyflawni, ac rwy'n credu bod hyn yn enghraifft arall o hynny. Ochr yn ochr â'r buddsoddiad hwn mewn addysg a'r blynyddoedd cynnar, mae gennym ni £40 miliwn ar gyfer Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, £64.5 miliwn ar gyfer ysgolion ehangach a diwygio'r cwricwlwm a buddsoddiad o £63.5 miliwn mewn darpariaeth ôl-16. Ac ochr yn ochr â'r cyllid ar gyfer ysgolion, rydym ni hefyd yn darparu £63.5 miliwn ychwanegol o gyllid ychwanegol ar gyfer darpariaeth ôl-16 i gefnogi cyllid adnewyddu a diwygio sydd â'r nod o sicrhau nad yw'r pandemig yn cael effaith hirdymor ar bobl ifanc, yn enwedig o ran peidio â chael cyflogaeth, derbyn hyfforddiant nac addysg, a chaniatáu iddyn nhw gyrraedd eu llawn botensial. Ac—
Gweinidog, a wnewch chi ddod â'ch ymateb i ben nawr?
Yn olaf, o ran llywodraeth leol, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu rhoi setliad cadarnhaol i lywodraeth leol. Fel y dywed Sam Rowlands, wrth gymharu tebyg â thebyg, bydd yn cynyddu 9.4 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol ac ni fydd unrhyw awdurdod yn cael llai nag 8.4 y cant o gynnydd. Rwyf i'n credu bod hyn yn adlewyrchu'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar lywodraeth leol fel partneriaid allweddol llwyr wrth ddarparu ar gyfer pobl yng Nghymru a'n harwain ymlaen tuag at y Gymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus honno y gwn ein bod ni i gyd yn awyddus i'w gweld. Mae fy nghyd-Aelodau a minnau yn edrych ymlaen yn fawr at sesiynau craffu'r pwyllgor.
Diolch i'r Gweinidog a'r holl siaradwyr.
Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr hyn sy'n parhau i fod yn sefyllfa iechyd y cyhoedd ddifrifol iawn. Ers i'r Senedd gael ei galw yn ôl cyn y Nadolig, mae'r sefyllfa yng Nghymru wedi newid. Mae'r don omicron wedi cyrraedd, fel y rhagwelwyd, ac mae'n achosi salwch i lawer iawn o bobl. Mae hyn yn amharu ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG, ar adeg brysuraf y flwyddyn.
Dirprwy Lywydd, byddaf yn dechrau trwy nodi'r sefyllfa iechyd y cyhoedd o ran y ffeithiau a'r ffigurau diweddaraf. Ychydig cyn y Nadolig, pan oedd delta y ffurf amlycaf o’r feirws, roedd y gyfradd achosion yn uchel ond yn sefydlog ar ryw 500 o achosion fesul 100,000 o bobl. Yn sgil dyfodiad omicron mae cyfraddau wedi cyflymu i lefelau nad ydym ni wedi eu gweld o'r blaen yn y pandemig. Roedd gennym ni gyfraddau o fwy na 2,300 o achosion fesul 100,000 o bobl yr wythnos diwethaf; ddoe, roedd 1,780. Ond dylem ni fod yn ofalus cyn tybio ein bod ni wedi cyrraedd uchafbwynt a bod y gwaethaf ar ben. Bydd y newidiadau yn y drefn brofi yn effeithio ar niferoedd achosion a'r ffaith nad ydym ni'n ei gwneud yn ofynnol i bawb sy'n profi'n bositif ar brawf llif unffordd gymryd prawf PCR i gadarnhau mwyach. Mae'r newid hwn i'r drefn brofi yn golygu bod yn rhaid i ni ddibynnu ar ystod ehangach o fesurau i ddeall natur y don.
Mae cyfran yr achosion sy'n profi'n bositif yn parhau i fod tua 50 y cant. Mae canlyniadau diweddaraf arolwg heintiau y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod un o bob 20 o bobl wedi eu heintio, ac mae ein data ein hunain ynghylch nifer y derbyniadau i ysbytai yn dangos bod nifer y derbyniadau COVID-19 yn parhau i godi, er bod y niferoedd yn llawer is nag mewn tonnau blaenorol. Mae cyfanswm y bobl yn yr ysbyty sydd â COVID-19 bellach ychydig dros 1,000—y lefel uchaf ers 11 Mawrth. Ond gallai fod yn wythnos arall cyn i ni weld achosion yn cyrraedd uchafbwynt.
Mae rhywfaint o dystiolaeth obeithiol bod omicron yn llai difrifol na delta, ond mae'r cynnydd yn nifer y derbyniadau i ysbytai a pha mor gyflym y mae'n teithio yn parhau i beri pryder. Roeddem ni'n gwybod y byddai niferoedd yr achosion yn codi'n gyflym iawn, roeddem ni'n gwybod y byddai hyn yn rhoi'r GIG dan bwysau, ac y byddai hefyd yn rhoi gwasanaethau cyhoeddus eraill dan bwysau ac yn rhoi pwysau ar staff mewn busnesau masnachol a manwerthu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos absenoldebau staff ar draws y GIG, o ganlyniad i COVID, hunanynysu ac afiechydon eraill, a oedd ychydig dros 8 y cant yr wythnos diwethaf, ond mewn rhai sefydliadau GIG mae'n fwy na dwywaith hyn. Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod rhai apwyntiadau a thriniaethau yn cael eu gohirio a bod staff yn cael eu trosglwyddo i weithio mewn gwasanaethau brys ac argyfwng. Mae rhannau eraill o'r sector cyhoeddus wedi nodi lefelau tebyg ac yn cyflwyno cynlluniau wrth gefn sifil i symud staff i ddiogelu gwasanaethau hanfodol.
Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni gymryd camau cynnar i gyflwyno mesurau diogelu i gadw Cymru'n ddiogel ac i gadw Cymru ar agor, yn unol â chyngor gan ein grŵp cynghori technegol a Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau. Rydym ni ar lefel rhybudd 2 ac rydym ni wedi cryfhau canllawiau i gefnogi pobl i gadw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Rydym ni'n adolygu'r sefyllfa a'r mesurau lefel rhybudd 2 yn gyson. Rydym ni wedi gwneud rhai newidiadau ychwanegol, yn gyntaf i'r rheolau hunanynysu, gan leihau'r cyfnod hunanynysu o 10 i saith diwrnod i'r bobl hynny sydd â dau brawf llif unffordd negatif yn olynol ar ddiwrnodau 6 a 7. Mae'r penderfyniad i newid y cyfnod hunanynysu yn adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf o ran am ba mor hir y gall pobl drosglwyddo'r feirws ac mae'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chadwyni cyflenwi yn ystod y gaeaf, wrth barhau i gyfyngu ar ledaeniad y feirws ar yr un pryd. Mae'r newid cyntaf i'r drefn brofi yn golygu y dylai pobl nad ydyn nhw wedi eu brechu, sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achos positif ac sy'n hunanynysu am 10 diwrnod bellach wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8, yn hytrach na phrawf PCR.
Ac, ynghyd â chenhedloedd eraill y DU, rydym ni wedi cytuno os yw person yn cael prawf llif unffordd positif, na fydd yn cael ei gynghori i gael prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad mwyach, oni bai ei fod mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol neu ei fod wedi cael cyngor i wneud hynny yn rhan o raglen ymchwil neu wyliadwriaeth. Rydym ni'n credu y bydd y newid hwn yn lleihau'r galw am brofion PCR rhwng 5 y cant a 15 y cant.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Heb brawf PCR dilynol, mae'n bwysicach byth fod pobl yn rhoi gwybod am ganlyniad pob prawf llif unffordd y maen nhw'n ei wneud ac yn hunan-ynysu cyn gynted ag y maen nhw'n cael prawf positif. Os na wneir hyn, fydd ddim modd olrhain cysylltiadau, felly fyddwn ni ddim yn gallu rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar rai pobl. Mae angen i bawb barhau i wneud eu rhan i dorri trosglwyddiad COVID-19 trwy gofnodi canlyniadau eu profion llif unffordd ar wefan gov.uk, neu drwy ffonio 119.
Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gytuno yn anfoddog i ddileu'r gofynion i deithwyr sydd wedi'u brechu'n llawn a phobl ifanc dan 18 oed i gael prawf cyn ymadael am wlad dramor a phrawf PCR ar ddiwrnod 2 wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig. Bydd angen i bob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn gael prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2. Os yw'r prawf yn bositif, bydd angen cael prawf PCR dilynol er mwyn i'r broses dilyniannu genomig gael ei chynnal. Mae'r gofyniad i hunan-ynysu nes bod prawf negatif wedi cael ei adolygu wedi dod i ben hefyd. Ond rŷn ni'n ystyried cyflwyno canllawiau y dylid parhau i hunan-ynysu tan eich bod wedi cael y prawf. Mae'r gofynion i deithwyr sydd heb eu brechu'n aros yr un fath.
Mae'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ail-agor teithio rhyngwladol mor gyflym yn peri pryder i ni o ystyried y pryderon am y risg o fewnforio amrywiolion newydd a fyddai'n rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd. Mae profion PCR ar ddiwrnod 2 yn gweithredu fel math o system wyliadwriaeth ar gyfer teithio rhyngwladol. Pe bai'r gofyniad i gael prawf PCR ar ddiwrnod 2 heb gael ei ddileu, efallai y byddem ni wedi cael gwybod am bresenoldeb omicron yn gynharach.
Llywydd, mae'r dadansoddiad diwethaf sydd wedi'i gyhoeddi gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig am omicron yn dangos bod gostyngiad sylweddol yn y risg o fynd i'r ysbyty ar ôl tri dos o'r brechlyn o'i gymharu â phobl sydd heb eu brechu. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o gleifion COVID-19 sy'n derbyn gofal yn ein hunedau gofal critigol ar hyn o bryd yn bobl sydd heb gael eu brechu. Brechu yw'r amddiffyniad orau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae'r cyfraddau ein rhaglen brechiadau atgyfnerthu'n drawiadol. Mae mwy na 1.7 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechiad atgyfnerthu. Fe gyrhaeddon ni ein nod o gynnig brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y flwyddyn, a diolch yn fawr i ymdrechion anhygoel ein holl staff a gwirfoddolwyr yn nhimau'r gwasanaeth iechyd. Bydd cannoedd o filoedd o bobl yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu y mis yma hefyd, felly gwnewch yn siŵr bod hyn yn flaenoriaeth ichi.
Rŷn ni hefyd wedi gweld mwy o bobl yn dod i gael eu dos gyntaf a'u hail ddos dros y mis diwethaf, a dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yma yng Nghymru. Erbyn hyn, rŷn ni'n agosáu at yr hyn a fydd, yn ein barn ni, yn frig y don hon o achosion. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r cam pryderus diweddaraf hwn yn y pandemig sydd wedi torri ar draws ein bywydau i'r fath graddau. Dwi'n annog pawb i gael y brechlyn pan gaiff ei gynnig, cadw at y cyfyngiadau sydd mewn grym, cymryd profion llif unffordd, a rhoi gwybod beth yw'r canlyniadau. Bydd y camau hyn, ynghyd â holl fesurau amddiffyn eraill sydd gyda ni yma yng Nghymru, yn helpu i arafu lledaeniad y feirws, i leihau'r niwed i bobl a chymunedau, ac i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Diolch yn fawr.
Russell George.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, a'r Gweinidog a'r holl Aelodau hefyd? Gadewch i ni obeithio y bydd 2022 yn flwyddyn dda.
Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Gweinidog. A gaf i ddiolch i chi hefyd am eich sesiynau briffio y gwnaethoch chi eu rhoi i mi a chyd-Aelodau eraill heddiw gyda'ch swyddogion? Rwy'n credu eu bod nhw'n arbennig o ddefnyddiol, felly rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr. Rwy'n sylwi bod ymchwil ddiweddar gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn awgrymu eich bod chi ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa nag mewn sinema, ac mae'r un risg yn gysylltiedig â mynd i'r dafarn ag â mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae'n debyg fy mod i'n tynnu sylw at hynny yng nghyd-destun y gyfres bresennol o gyfyngiadau a'r ffaith bod effaith y cyfyngiadau'n cael llai o effaith o bosibl oherwydd nifer yr achosion o'r feirws mewn cymunedau. Felly, rwy'n gobeithio eich bod chi'n deall cyd-destun y pwynt yna. Ond a gaf i ofyn: ydych chi’n dal i gredu, Gweinidog, fod pasys COVID wedi bod yn llwyddiannus? Beth yw eich meini prawf ar gyfer dod â'r pasys i ben, a phryd y byddwch chi mewn sefyllfa i ddarparu'r dystiolaeth bod pasys COVID yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus, beth bynnag fo’r achos?
Mae'r bygythiad, wrth gwrs, Gweinidog, i'r economi a gwasanaethau cyhoeddus ddod i stop yr un mor ddifrifol â'r feirws ei hun, yn rhannol oherwydd y rheolau hunanynysu. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod 1.4 y cant o staff y GIG yn hunanynysu—dyna'r lefel uchaf ers mis Ebrill y llynedd, ond eto'n weddol gyson â'r cyfraddau yr adeg hon y llynedd. Mae i’w groesawu’n fawr, Gweinidog, fel y gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad eich hun, fod Cymru bellach wedi cyflwyno cyfnod hunanynysu is o saith diwrnod. Nawr, hoffwn i ofyn am eich barn ar leihau'r cyfnod hwn ymhellach. Rwy’n nodi bod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn ystyried lleihau'r cyfnod o saith diwrnod, ac, wrth gwrs, rwy'n gofyn hyn yn y cyd-destun, ar ryw adeg, na fydd unrhyw gyfnod hunanysyu, fel sy'n wir bron am bob feirws. Rwy'n sylweddoli nad ydym ni ar y pwynt hwnnw eto, ond dyna'r pwynt y byddwn yn ei gyrraedd rywbryd; dyna gyd-destun y cwestiwn.
Fe wnaethoch chi ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, fod rhai apwyntiadau a thriniaethau'n cael eu gohirio tra bod staff yn cael eu trosglwyddo i waith mewn mannau eraill. Rydym ni'n gwybod bod gennym ni ôl-groniadau mawr— mae un o bob pump o boblogaeth Cymru ar restrau aros, mae diagnosisau canser yn cael eu colli. Nawr, sylwais fod Gweinidog yr wrthblaid dros iechyd yn San Steffan a'ch cyd-Aelod Llafur chi wedi mynegi ei gefnogaeth i ddefnyddio ysbytai preifat i glirio'r ôl-groniad, ac rwy'n falch o glywed bod GIG Lloegr wedi ymrwymo i drefniadau gyda darparwyr preifat. Felly, a gaf i ofyn: a wnewch chi ddilyn barn eich cyd-Aelod yn San Steffan i wneud beth bynnag sydd ei angen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad? A gaf i ofyn pa mor bell yr ydych chi wedi mynd o ran canolfannau llawfeddygol rhanbarthol ers eich cyhoeddiad y llynedd? I bob pwrpas, pryd ydym ni'n mynd i'w gweld, mae'n debyg?
Nawr, mae tystiolaeth yn casglu'n gyson i awgrymu bod y brechlynnau yn gweithio, wrth i 90 y cant yn llai o gleifion gael eu derbyn i ysbytai y DU oherwydd y pigiad atgyfnerthu, ac rwy'n falch wrth gwrs fod dwy ran o dair o boblogaeth Cymru wedi dod ymlaen i gael eu pigiadau atgyfnerthu. Rwy'n ymuno â chi i ddiolch i bawb a wnaeth i hyn ddigwydd, yn enwedig yn ystod cyfnod y Nadolig. Cyn COVID, roeddem ni wedi gweld tua 2,000 o farwolaethau, yn anffodus, o'r ffliw bob blwyddyn yng Nghymru, ac roedd GIG Cymru eisoes yn wynebu pwysau'r gaeaf bob blwyddyn hefyd. Mae eich datganiad yn dweud y byddwch chi'n parhau i adolygu'r cyfyngiadau, ond y bygythiad neu'r pryderon cyson ynghylch cyfyngiadau am flynyddoedd i ddod sy'n cyfyngu ar symudiadau pobl a bywyd bob dydd—rwy'n credu y gwnaethoch chi ddweud yn eich datganiad hefyd eu bod nhw'n tarfu ar ein bywydau—felly, mae'n rhaid i ni ddod i sefyllfa o wybod pryd y byddwn yn rhoi diwedd ar y cyfyngiadau. Felly, a gaf i ofyn i chi ddweud wrthym ni pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r meini prawf ar gyfer dychwelyd i fywyd heb gyfyngiadau, oherwydd rwy'n gobeithio y gallwch chi ddeall pam mae'r meini prawf hynny a'r cynllun hwnnw yn bwysig i bobl a busnesau fod yn ymwybodol ohonyn nhw? Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr, Russell, a blwyddyn newydd dda i chi, ac mae'n dda gweld pawb yn ôl, er yn amlwg rydym ni i gyd yn gobeithio bod gyda'n gilydd yn y Siambr pan fyddwn ni allan o'r don arbennig hon. Rydym ni i gyd yn gobeithio y bydd eleni yn well na'r llynedd ac yn sicr rydym ni'n gobeithio y byddwn yn gweld diwedd ar y don arbennig hon yn fuan iawn.
Cefais i fy nharo hefyd gan y datganiadau, yn adroddiad SAGE ac yn ein hadroddiad TAC ein hunain, a awgrymodd fod siopa, mewn gwirionedd, yn gyfrifol am gryn dipyn o ledaeniad y feirws. Rwy'n credu mai'r gwahaniaeth o ran y cyfyngiadau sydd gennym ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol, er enghraifft, i bobl ddangos pàs COVID i fynd i sinemâu o'i gymharu â siopa yw nad oes rhaid i chi fynd i sinema, ond, mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn byw heb fwyd, ac mae angen i chi fynd i siopa ar gyfer hynny. Felly, dyna'r gwahaniaeth sylweddol o ran pam rydym ni wedi cyflwyno mesurau mewn rhai mannau ac nid mewn mannau eraill.
Rydym yn amlwg yn awyddus i weld pa fesurau y gallwn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y brechlyn atgyfnerthu yn cael ei gydnabod ar y pàs COVID hefyd, os ydym ni am ddefnyddio hynny fel mesur yn y dyfodol. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod y brechlyn atgyfnerthu yn rhoi amddiffyniad i bobl a'i fod wedi atal niferoedd sylweddol rhag mynd i'r ysbyty, fel yr awgrymodd yr adroddiadau hynny. Wrth gwrs, mae'n gyffredin ar y cyfandir i bobl fod yn defnyddio'r pasys COVID hyn ac, wrth gwrs, mae wedi ei gyflwyno yn Lloegr hefyd bellach mewn rhai lleoliadau. Felly, rwy'n falch o weld Lloegr yn dilyn arweiniad Cymru unwaith eto.
O ran y GIG, rydych chi wedi clywed bod tua 8 y cant o staff y GIG yn hunanynysu. Mae angen i mi ei gwneud yn gwbl glir: nid ydym ar ddiwedd yr argyfwng COVID hwn eto. Rydym ni mewn sefyllfa lle'r ydym yn cyrraedd brig y don, felly mae yn fy synnu braidd ein bod ni'n dal i siarad am sut olwg fydd ar y dyfodol. Rydym ni yng nghanol y storm ar hyn o bryd; nid nawr yw'r amser i siarad am ddod i ben â'r mesurau amddiffyn yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith.
Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i ni gydnabod bod nifer y bobl sy'n dal y feirws ar hyn o bryd yn cael effaith enfawr ar ein gallu i sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus hynny yn cael eu cynnal, a dyna pam y gwnaethom ni wrando ar y cyngor, a thrwy wrando ar gyngor arbenigol y cafodd ei awgrymu y gallem ni leihau'r cyfnod hunanynysu o 10 i saith diwrnod gyda PCR negyddol ar ddiwrnodau 6 a 7. Ond, yn sicr, mae'r cyngor yr wyf i wedi ei weld hyd yma gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn awgrymu y byddai'n wrthgynhyrchiol lleihau'r cyfnod yn fwy na saith diwrnod oherwydd, mewn gwirionedd, gallech chi fod yn anfon pobl yn ôl i'r gweithle a lledaenu'r feirws ymhellach. Felly, dyna oedd eu cyngor yn y gorffennol yn sicr; os byddan nhw'n newid eu meddyliau, yna mae'n amlwg y bydd angen i ni ystyried y cyngor hwnnw. Felly, byddwn yn cael ein harwain yn glinigol ar y penderfyniad hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, lle mae'r gofyniad i hunanynysu am bum diwrnod, eu bod nhw'n dechrau o bwynt gwahanol. Felly, maen nhw’n dechrau o'r adeg maen nhw’n gweld y symptomau'n dechrau, ond rydym ni’n dechrau ar y pwynt profi, ac mae gwahaniaeth sylweddol yn y fan yna. Felly, mae angen i ni ddeall hynny.
Rydych chi'n sôn am y GIG yn Lloegr yn defnyddio ysbytai preifat i helpu i glirio'r ôl-groniad; rydym ni'n gwneud hynny hefyd yma yng Nghymru, Russell, felly mae hynny eisoes yn digwydd yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd. Y broblem ar hyn o bryd yw nad oes llawer o gapasiti ar ôl yn yr ysbytai preifat hynny ychwaith. Felly, hyd yn oed pe byddem ni'n mynd ymhellach ar hyd y llwybr hwnnw, byddai'n anodd iawn dod o hyd i'r capasiti gan mai’r un bobl sy’n gwneud y swyddi hyn yn aml iawn—mae pobl sy'n gweithio yn y GIG yn gweithio yn y sector preifat hefyd weithiau. Ein dewis ni bob amser fyddai ceisio sicrhau bod y flaenoriaeth honno'n cael ei rhoi i'r GIG. Rydym ni wedi buddsoddi £0.25 biliwn i geisio helpu i glirio'r ôl-groniad. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw'r arian hwnnw yn cael ei fuddsoddi fel bod gennym ni rywbeth parhaol a hirdymor wedyn i'w roi ar waith ac i'w ddefnyddio ar gyfer y dyfodol, a dyna pam yr wyf i hefyd o blaid canolfannau llawfeddygol os yw'n bosibl, ac rwyf i wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd yng Nghymru, pan fyddan nhw'n llunio eu cynigion a'u cynlluniau fy mod i'n disgwyl gweld rhai atebion rhanbarthol yn eu hargymhellion. Felly, byddaf i'n edrych arnyn nhw yn ofalus iawn.
Rydym yn adolygu'r cyfyngiadau yn gyson, wrth gwrs. Dyna pam rydym ni wedi symud i adolygiad wythnosol ar hyn o bryd, ac wrth gwrs rydym ni i gyd yn awyddus iawn i weld bywyd yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd. Nid wyf i'n credu, Russ, mai nawr yw'r amser i nodi pryd y bydd hynny'n digwydd oherwydd ein bod ni yn wirioneddol yn llygad y storm ar hyn o bryd, ond wrth gwrs rydym ni i gyd yn awyddus iawn i fod allan o'r sefyllfa ac i lacio'r cyfyngiadau hynny cyn gynted ag y gallwn.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am y datganiad. Ydyn, rydyn ni mewn sefyllfa ansicr. Mae niferoedd achosion positif yn uchel. Rydyn ni'n gwybod hynny—rydw i'n gwybod o brofiad fy nheulu cyfan i a'm mhrawf positif i ar Ddiwrnod y Nadolig cymaint o ledaenu cymunedol sydd wedi bod. Ond edrych ymlaen sy'n bwysig i'w wneud rŵan. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog eisiau taro tôn ddifrifol efo'r datganiad hynny heddiw—ac mae hynny'n hollol iawn, wrth gwrs, mae'n sefyllfa anodd mewn sawl ffordd—ond mi fuaswn i, dwi'n meddwl, wedi leicio ychydig mwy o sylw ar yr arwyddion cadarnhaol sydd gennym ni rŵan achos ar y rheini y byddwn ni'n gallu adeiladu, gobeithio, a'r rheini, gobeithio, wrth iddyn nhw ddod yn fwy eglur, a'r golau ym mhen draw'r twnnel yma'n dod yn fwy llachar, sydd angen arwain penderfyniadau mewn dyddiau i ddod.
Dwi'n ddiolchgar i'ch swyddogion chi sydd wedi rhoi dau briefing i fi dros y 24 awr diwethaf. Mae'n dda gweld yr arwyddion calonogol, y dystiolaeth reit glir ynglŷn â faint yn llai tebygol ydy unigolion o fynd yn sâl efo'r amrywiolyn yma o'i gymharu efo delta a'r newyddion da hyd yma o ran y pwysau ar adrannau gofal dwys yn benodol. Mae yna arwyddion clir hefyd, mae'n bwysig dweud, fod y rheoliadau sydd wedi bod mewn grym dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn effeithiol yn gyffredinol. Mi godaf i gwestiynau am ambell i elfen ohonyn nhw yn y man.
Wrth gwrs, oherwydd niferoedd uchel achosion positif—llawer mwy nag mewn unrhyw don arall—rydyn ni'n gwybod bod yna'n dal impact sylweddol ar wasanaethau iechyd. Mae hynny'n wir o ran niferoedd staff sy'n sâl, er bod llawer mwy yn colli gwaith am resymau eraill na sydd yna am resymau COVID—mae'n bwysig cofio hynny. Ac ar y pwynt hwnnw, a gaf i ofyn pam ddim gwneud y penderfyniad rŵan, fel mae'r RCN ac eraill yn gofyn, i roi gorchuddion wyneb FFP3 i staff i'w gwarchod nhw, i'w gwneud hi'n llai tebygol eu bod nhw'n cael eu taro gan y feirws?
Mae yna bwysau hefyd o ran faint sydd yn COVID positif yn yr ysbyty sydd angen cael eu trin yn wahanol o'r herwydd a'r pwysau sy'n dod yn sgil hynny. Mae'n bwysig cofio ei bod hi'n debyg iawn mai lleiafrif o gleifion COVID positif sydd yn yr ysbyty oherwydd problemau COVID; mae rhai yno wedi torri braich, ddywedwn ni, ond sydd yn digwydd bod yn COVID positif. Ac mae hi'n amlwg hefyd—rhaid cofio hyn—fod problemau eraill. Anghynaliadwyedd yr NHS—pwysau’r gaeaf, i roi enw arall arno fo—ydy prif sail yr heriau yn yr NHS ar hyn o bryd, a’r hyn mae sefyllfa COVID anodd yn ei wneud ydy gwaethygu hynny. Y canlyniad, wrth gwrs, ydy bod pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal, oherwydd y don omicron, yn debyg o godi am sbel eto. Mae angen bod yn bwyllog, ond mae yna arwyddion ein bod ni’n cyrraedd pegwn y don ei hun o ran achosion. Efallai mai rhan o beth rydym ni’n ei weld, o ran achosion positif yn dechrau lefelu, ydy’r newid mewn rheolau profi—y ffaith bod llai o bobl yn cael prawf PCR erbyn hyn. Gaf i ofyn pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o bobl yn cofnodi profion LFT positif? Mae hynny’n bwysig iawn.
Ond, fel mae’n edrych, mae yna arwyddion bod pethau yn dechrau gwella. Felly, fy nghwestiwn canolog i yn y fan hyn ydy: pa mor fuan, unwaith rydym ni yn hyderus ein bod ni wedi cyrraedd brig y don yna, fydd y Llywodraeth yn barod i ddechrau addasu’r rheoliadau diweddaraf? Dwi’n gwybod nad ydy’r Gweinidog ddim am roi amserlen i hynny. Dwi’n gwybod hefyd ei bod hi ddim eisiau unrhyw faint yn fwy o reoliadau na sydd angen eu cael. Ond tybed allwn ni ddisgwyl ymateb cyflym, o leiaf, ar rai o’r rheoliadau, ddywedwn ni. Yn gynharach heddiw, mi wnaeth Llyr Gruffydd roi’r achos dros ganiatáu mwy o bobl i fynd i wylio chwaraeon. Dwi’n nodi bod yr Alban, sydd fymryn ar y blaen i ni o ran y don—bosib wedi cyrraedd y pegwn erbyn hyn—wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw am groesawu torfeydd yn ôl i gemau chwaraeon eto. Gawn ni sicrwydd mai bwriad y Llywodraeth ydy gwneud hynny ar y cyfle cyntaf? Ac, wrth gwrs, efo gemau llai, ychydig gannoedd o dorf efallai, dwi’n gweld dim rheswm pam na ellid caniatáu y rheini yn syth, mewn difrif. Gaf i wahodd y Gweinidog i gymryd y cam hwn a chynnyddu faint sy’n cael dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau awyr agored fel hynny?
Ac mae’r un peth yn wir, dwi’n meddwl, efo parkruns—rhywbeth sydd wedi cael ei godi gan Aelodau eraill hefyd. Mi liciwn i weld y rheini yn ailddechrau. Os ydy’r Llywodraeth ddim yn credu bod hynny’n ddiogel, efallai gallwn ni gael eglurhad pam gan y Gweinidog. Nid galw am godi pob un o’r rheoliadau ydw i yn fan hyn—dwi’n gwybod bod y Gweinidog yn sylweddoli hynny—ond, drwy’r amser, mae eisiau gweld lle mae modd mireinio a dwi yn credu bod yr arwyddion cadarnhaol sydd gennym ni rŵan yn rhai y dylid gweithredu arnyn nhw cyn gynted ag y bo modd.
Diolch yn fawr, Rhun, a dwi’n falch i weld eich bod chi’n well ar ôl eich profiad chi o COVID, ac mae cymaint o bobl sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â chi dros yr ŵyl, felly dwi’n falch o weld eich bod chi’n ôl ac yn saff. Yn sicr, mae’n dda i weld bod yna arwyddion cadarnhaol o ran y cyfeiriad rŷn ni’n mynd ynddo, yn arbennig o ran y niferoedd yn ein hysbytai ni. Felly, mae hynny'n arwydd da.
O ran yr achosion, mae'n dda gweld bod y ffigurau'n dod i lawr, ond dwi yn meddwl bod yn rhaid inni fod yn rili ofalus gyda'r ffigurau ar hyn o bryd. Dwi ddim eisiau bod yn besimistaidd; dwi eisiau bod yn realist, ond mae yna ychydig o bethau sydd wedi newid yn ddiweddar sydd jest yn cynnig ein bod ni, efallai, yn cymryd tamaid bach mwy o amser cyn ein bod ni'n dechrau dathlu ein bod wedi cyrraedd y brig. Un o'r rhesymau am hynny, wrth gwrs, yw'r ffaith ein bod ni wedi stopio gofyn i bobl i fynd am PCR tests achos eu bod nhw'n gorfod cymryd lateral flow test a bod dim angen iddyn nhw wedyn gymryd PCR test. Mae hynny, efallai, wedi gostwng y niferoedd. Mae'r ysgolion wedi mynd yn ôl yr wythnos yma, ac felly dŷn ni ddim yn siŵr beth fydd yr effaith ar y niferoedd o ganlyniad i hynny. A hefyd mae’r sefyllfa o ran y gwastraff dŵr, ac rŷn ni’n monitro gwastraff dŵr, yn creu’r argraff bod achosion, os rhywbeth, yn mynd i fyny. Felly, rŷn ni jest eisiau bod yn rili ofalus cyn ein bod ni’n dechrau dathlu ein bod ni wedi cyrraedd y brig.
O ran gorchuddion wyneb FFP3, dwi’n gwybod bod lot o ymchwil wedi cael ei wneud ar hyn. Rŷn ni'n cadw hyn o dan ystyriaeth ac yn gofyn i’r arbenigwyr ynglŷn â beth yw'r peth gorau, byth a hefyd, ac os dylem ni fod yn cyflwyno hyn. Maen nhw'n dal i ddweud nad oes angen inni gyflwyno hyn achos mae yna pros a cons iddyn nhw hefyd, achos maen nhw'n lot mwy anghyfforddus, maen nhw'n fwy anodd i ddelio â nhw. Felly, mae yna resymau dros beidio â gwneud hynny. Dyna pam rŷn ni'n aros am gyngor oddi wrth yr arbenigwyr.
O ran anghynaliadwyedd yr NHS, un o'r pethau dwi'n awyddus iawn i'w wneud yw dysgu'r gwersi o COVID. Un o'r gwersi rŷn ni wedi'i weld yw bod COVID wedi taro pobl mewn cymunedau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol. Felly, mae angen i ni fynd ati i wneud lot mwy pan fo'n dod i ffocysu ar prevention a gwneud yn siŵr bod yr anghyfartaledd yn ein cymunedau ni—ein bod ni'n gwneud rhywbeth i ddileu hynny. Wrth gwrs ein bod ni'n awyddus i weld lot mwy o bobl yn cofnodi eu LFTs, ac yn sicr roedd hwnna'n rhywbeth roeddwn i eisiau tanlinellu yn y gynhadledd i'r wasg heddiw.
Pa mor fuan ydyn ni'n gallu datgymalu rhai o'r rheoliadau? Wrth gwrs, rŷn ni'n awyddus iawn i wneud hynny cyn gynted ag sy'n bosibl. Rŷn ni'n ymwybodol dros ben bod y cyfyngiadau yma yn cael effaith niweidiol ar nifer fawr o bobl, busnesau ac unigolion. Byddwn ni'n newid hynny ar y cyfle cyntaf rŷn ni'n meddwl ei bod hi'n saff i wneud hynny. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi gofyn am gyngor ar yr opsiynau o ran sut i ysgafnhau'r rheoliadau cyn gynted â bo modd, a beth yw'r opsiynau i gael yn y sefyllfa yna. Mae'r gwaith yna eisoes yn cael ei wneud.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. O fy mhrofiad i, rwyf i'n credu bod mwyafrif llethol y boblogaeth yng Nghymru yn cefnogi ymagwedd ofalus briodol Llywodraeth Cymru at COVID-19 yn fawr, ac maen nhw'n ddiolchgar iawn eu bod nhw'n byw yng Nghymru fel eu bod nhw wedi eu diogelu yn y ffordd honno. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Gweinidog, am y cydbwysedd rhwng deall hynt bresennol y feirws a llacio'r amddiffyniadau cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Yn y cyd-destun hwnnw, a chyd-destun yr adolygiad wythnosol—ac, rwy'n credu, adolygiad tair wythnos yr wythnos nesaf—tybed, Gweinidog, os oes unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud am rai o'r ceisiadau am lacio ar hyn o bryd, er enghraifft chwaraeon gwylwyr ac yn wir y parkrun. Rwy'n credu bod gan parkruns yn arbennig achos cryf iawn, fel yr wyf i'n siŵr eich bod chi wedi ei gydnabod, oherwydd eu bod nhw'n fenter iechyd cyhoeddus eu hunain, ac wrth gwrs maen nhw yn yr awyr agored, ac maen nhw wedi eu trefnu'n dda iawn, ac mae ganddyn nhw hanes diogelwch da iawn. Yn ddealladwy, mae'r trefnwyr yn deall pwysigrwydd sicrhau bod pobl yn mynd i arferion da yn gynnar yn y flwyddyn, yn enwedig ym mis Ionawr, pan fydd pobl yn gwneud addunedau blwyddyn newydd, ac yn y blaen. Os byddan nhw'n penderfynu bod yn fwy egnïol yn gorfforol, gallai hynny fod o fudd i'w hiechyd nid yn unig yn y tymor byr, ond os byddan nhw'n parhau â'r arferion, ymhell i'r dyfodol am weddill eu bywydau. Felly, mae'n gydbwysedd pwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod dadl gref iawn o'r ddwy ochr i rai o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i chi a'ch cydweithwyr yn y Llywodraeth eu gwneud, Gweinidog. Ond tybed a oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud o ran os bydd hynt y feirws yn caniatáu llacio rhai o'r cyfyngiadau, a fyddai parkruns a chwaraeon gwylwyr ar flaen y ciw, fel petai.
Diolch yn fawr iawn, John. Wrth gwrs, rydym ni wedi cael ceisiadau di-rif i lacio ein rheoliadau mewn cysylltiad â chwaraeon gwylwyr, ac rydym yn deall hynny'n llwyr. Rydym ni i gyd yn awyddus iawn i weld a oes modd dileu'r rhain cyn twrnamaint y chwe gwlad. Yn amlwg, rydym ni am adolygu pethau yn ofalus iawn, ac os yw'n bosibl, byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i weld a allwn ni wireddu hynny. O ran chwaraeon gwylwyr, mae'n amlwg fy mod i'n credu ei bod yn gwneud gwahaniaeth p'un a yw pethau'n cael eu cynnal dan do neu yn yr awyr agored, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried. O ran parkruns, rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, mae'n debyg, fod digon o bobl yn gwneud parkruns. Mae hwn yn ddigwyddiad penodol, sy'n sefydliad rhyngwladol. Mae ganddyn nhw ffordd o wneud pethau. Rydym ni wedi awgrymu iddyn nhw, 'Pam na wnewch chi rannu'r bobl hyn yn grwpiau o 50? Yna gallech ei gynnal', ond nid yw'r trefnwyr wedi dymuno gwneud pethau yn y ffordd honno. Felly, rydym ni wedi rhoi'r opsiwn hwnnw iddyn nhw, ond nhw yw'r bobl sydd wedi penderfynu nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid cael rhywfaint o gyfaddawdu yma, oherwydd bod yr hyblygrwydd ar gael, pe bydden nhw'n dymuno manteisio ar hynny. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, John, rydym ni i gyd wedi gwneud ein haddunedau blwyddyn newydd, rydym ni i gyd wedi dweud ein bod ni i gyd yn mynd i fod yn fwy heini, rydym ni'n mynd i fwyta'n well a'r holl bethau hynny yr ydym ni i gyd yn addo eu gwneud ar ddechrau'r flwyddyn. Rwyf yn siŵr, yn yr opsiynau hynny y mae'r Prif Weinidog wedi gofyn amdanyn nhw, fod y dewis i lacio cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored yn debygol o fod yn un o'r cystadleuwyr cyntaf.
Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ac am annerch aelodau'r pwyllgor iechyd yn gynharach heddiw, amser cinio—a blwyddyn newydd dda, wrth gwrs. Diolch byth, wrth gwrs, yn ôl llawer o arbenigwyr, rydym ni mewn cyfnod o drawsnewid o bandemig i endemig. Wrth i ni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn, mae'n rhaid i ni ddyblu ymdrechion i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, y rhai sy'n byw yn ein cartrefi gofal. Diolch byth, mae'n ymddangos bod y brechlynnau yn dal eu tir yn erbyn yr amrywiolyn omicron, o leiaf o ran y derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau. Gweinidog, diolch i'r gwaith anhygoel gan bawb sy'n ymwneud â chyflwyno'r brechlyn, o Lywodraethau'r DU a Chymru i'r fyddin o wirfoddolwyr yn ein canolfannau brechu torfol, mae dros hanner poblogaeth y DU wedi cael brechlyn atgyfnerthu hyd yma. Fodd bynnag, mae gennym ni ganran fawr o staff cartrefi gofal nad ydyn nhw wedi cael y brechlyn atgyfnerthu—cymaint ag un o bob pedwar. Mae gennym ni hefyd un o bob 10 preswylydd cartref gofal nad ydyn nhw wedi derbyn eu trydydd pigiad. Gweinidog, pryd bydd holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn cael brechlyn atgyfnerthu, ac a wnewch chi roi'r flaenoriaeth uchaf i hyn? A pha fesurau ychwanegol ydych chi'n eu cynnig i amddiffyn preswylwyr cartrefi gofal, wrth symud ymlaen? Yn olaf, Gweinidog, yn ogystal â brechlynnau, mae angen amddiffyniadau ychwanegol ar staff ein cartrefi gofal gan na allan nhw weithio gartref. A wnewch chi sicrhau bod holl staff cartrefi gofal yn cael y cyfarpar diogelu personol gorau posibl, fel masgiau FFP3? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Gareth. Yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, ond mae angen i ni sicrhau hefyd eu bod yn cael y cyfle, er enghraifft, i gwrdd â'u hanwyliaid. Rydym yn ceisio cael y cydbwysedd cywir rhwng eu diogelu ac, er enghraifft, caniatáu ymwelwyr i gartrefi gofal. Mae'n gydbwysedd anodd iawn, oherwydd rwy'n siŵr, Gareth, mai chi fyddai un o'r cyntaf i gwyno pe byddem ni'n gweld omicron yn cael ei gyflwyno i gartrefi gofal hefyd o ganlyniad i ymwelwyr. Felly, mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd hwnnw yn iawn, ac mae'n anodd ei gael yn iawn. Ond, mae'n rhaid i ni gofio bod y cartrefi gofal hyn yn bodoli yn ein cymunedau a bod ein cymunedau, ar hyn o bryd, yn ceisio ymdrin â chyfradd uchel iawn o COVID.
Yn sicr, o ran ffigurau brechu, mae 90 y cant o breswylwyr cartrefi gofal, rwy'n falch o ddweud, wedi cael brechlyn atgyfnerthu. Mae hynny'n fesur amddiffyn sylweddol iawn iddyn nhw. O ran y staff, rwy'n credu mai un o'r pethau y mae angen i chi ei ystyried a'i gofio yw, os ydych chi wedi cael COVID, na chaniateir i chi gael y brechiad am 28 diwrnod. Felly, efallai y bydd cyfnod pan na fydd pobl yn gallu cael y brechlyn atgyfnerthu. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n mynd ar eu trywydd yn gyson. Rydym yn awyddus iawn, iawn, yn amlwg, i sicrhau bod y staff hynny mewn cartrefi gofal, gymaint â phosibl, yn cael eu cefnogi. Ac yn sicr, mae staff gofal iechyd, 92 y cant ohonyn nhw, yn gyffredinol, wedi cael ail ddos. Felly, rydym ar lefelau eithaf uchel o ddiogelwch. Mae'n rhaid i ni gofio hefyd, o ran staff cartrefi gofal, fod grŵp mwy dros dro o bobl sy'n gweithio yn y lleoliadau hynny. Bydd rhai pobl yn dod i mewn ac yn gadael, ac felly mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof, y gallai olygu bod hynny ychydig yn wahanol i'r lefelau y gallech eu gweld mewn sectorau eraill.
O ran cyfarpar diogelu personol, byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi rhoi yn llythrennol miliynau ar filiynau o ddarnau o gyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal. Rydym ni wedi eu helpu gyda'r amddiffyniad hwnnw drwy'r pandemig cyfan hwn. Ac, unwaith eto, os bydd y dystiolaeth yn awgrymu y dylem ni fod yn defnyddio mesurau mwy amddiffynnol, fel y masgiau FFP3 yr oeddech chi'n eu hawgrymu, yna mae'n amlwg y byddwn yn ystyried hynny. Ond, ar hyn o bryd, nid ydym yn cael ein cynghori i wneud hynny.
Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. Mi fyddwch chi, Lywydd, yn ymwybodol o'r dystiolaeth mae fy nghyfaill Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan, ac yn wir ein cyfaill ni yma, Rhys ab Owen, wedi ei chyflwyno o'u profiadau nhw wrth sôn am eu hanwyliaid sydd efo dementia ac yn byw mewn cartref gofal yng nghanol coronafeirws. Mae pawb yn dallt yn iawn yr angen i reoli'r haint a diogelu ein hiechyd cyhoeddus. Fel y sonioch chi rŵan hyn wrth Gareth Davies, mae'n fater o gael balans, ond mae arnaf ofn yn yr achos yma fod y balans hwyrach yn anghywir. Mae grwpiau o bobl sydd ag anghenion arbennig efo gwahanol reolau pan fo'n dod i ymweliadau. Os gwnewch chi ystyried mamau a babanod newyddanedig, er enghraifft, mae lle iddyn nhw sicrhau fod partneriaid yn rhan o'r broses enedigaeth. Mae yna le felly i ddadlau y dylid cael yr un math o eithriadau ar gyfer cleifion efo nam ymenyddol, megis pobl sydd efo dementia. Mae amddifadu'r bobl yma o gariad eu hanwyliaid yn mynd yn groes i'r hawliau dynol mwyaf elfennol sydd ganddyn nhw. A wnewch chi felly ailedrych ar y canllawiau a sicrhau bod anwyliaid cleifion o'r fath yn cael mynediad i gartrefi, a threulio amser hanfodol yng nghwmni eu hanwyliaid?
Diolch yn fawr, Mabon. Dwi'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa a pha mor anodd yw hi i bobl sydd yn dioddef o dementia sydd ddim yn gallu deall beth yn union sy'n digwydd, a pham nad ydyn nhw'n gallu gweld eu hanwyliaid. Ond y ffaith yw bod ein canllawiau ni'n glir. Rŷm ni wedi ei gwneud hi'n hollol glir ein bod ni yn disgwyl i gartrefi gofal ganiatáu pobl i ymweld, yn arbennig os ydyn nhw'n berthynas agos. Mae'r canllawiau'n hollol glir. Y broblem sydd gyda ni yma yw bod rhai o'r cartrefi gofal sydd yn breifat, nhw sydd yn dweud nad ydyn nhw eisiau i'r canllawiau yma i ddigwydd, ac maen nhw ofn efallai mewn rhai achosion na fydd eu hyswiriant nhw, er enghraifft, yn eu diogelu nhw os bydd yna sefyllfa lle mae COVID wedyn yn cael ei gyflwyno i'r cartrefi gofal yna. Felly, mae'n canllawiau ni mor glir ag y gallan nhw fod: mi ddylai bod pobl yn gallu ymweld â'u hanwyliaid. Ond dyna lle mae'r broblem, achos mae'r rhan fwyaf o'r cartrefi gofal yn gartrefi preifat sydd gydag yswiriant preifat, a nhw sydd wedyn yn gwneud y penderfyniad yna.
Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru heddiw yn dal yn fregus; amcangyfrifir bod un o bob 20 o ddinasyddion wedi eu heintio, mae achosion sy'n profi'n bositif tua 50 y cant ac, o ganlyniad uniongyrchol, mae absenoldebau staff ar draws GIG Cymru ychydig dros 8 y cant yr wythnos diwethaf, gyda rhai ymddiriedolaethau yn gweld dwywaith hyn. Felly, nid yw'n syndod bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan yng Ngwent wedi dyfarnu ymweliadau hanfodol yn unig â chleifion mewn ysbytai. Gweinidog, nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru. Yn wir, rydym ni'n gwybod bod brechu'n gwneud gwahaniaeth sylfaenol, a dyna pam mae 1.7 miliwn o drigolion Cymru eisoes wedi cael eu pigiadau atgyfnerthu. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, Gweinidog, i hyrwyddo, rhoi cyhoeddusrwydd a sicrhau bod mwy o glinigau brechu galw i mewn ar gael, fel y rhai sy'n cael eu cynnal heddiw yng nghanolfan frechu torfol Pontllanfraith yn Islwyn, a beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gyrraedd y rhai nad ydyn nhw wedi eu brechu ar hyn o bryd i'w hargyhoeddi o'r manteision y mae brechlynnau'n eu cynnig iddyn nhw, eu teuluoedd ac i bob un ohonom? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Rydych chi'n llygad eich lle bod y pwysau sydd ar y GIG ar hyn o bryd yn wirioneddol ryfeddol, a dyna pam, wrth gwrs, rydym ni'n ceisio cyfeirio pobl i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn yn y lle iawn. Rydym yn cyfarwyddo pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth 111. Mae gwasanaethau ar-lein y gall pobl eu defnyddio. Gallan nhw ddefnyddio eu fferyllfeydd lleol ar gyfer rhai anhwylderau. Ac felly, rydym ni'n ceisio tynnu cymaint o bwysau oddi ar staff y GIG ag y gallwn.
O ran canolfannau brechu, rydym ni wrth ein boddau gyda'r cyflawniad anhygoel dros y tair wythnos. Mae brechu, rhoi brechlyn atgyfnerthu i 1.3 miliwn o bobl mewn cyfnod mor fyr, yn rhywbeth na ddylem ei gymryd yn ganiataol. Mae'n gamp wirioneddol y dylem ni i gyd fod yn hynod falch ohoni. Nid wyf i'n siŵr a allai hynny ddigwydd yn unman arall yn y byd heb y math o GIG yr ydym ni wedi dysgu ei dyfu a'i garu. O ran y clinigau brechu, maen nhw bellach ar gael ym mhob bwrdd iechyd. Felly, mae cyfleuster, ac os yw pobl yn dymuno gwybod ble y gallan nhw fynd am eu brechlynnau, dylen nhw edrych ar y wefan ar gyfer eu bwrdd iechyd—a fydd yn eich cyfeirio i ble y gallwch chi fynd.
O ran y rhai nad ydyn nhw wedi eu brechu, y newyddion da yw, mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r rhaglen atgyfnerthu a'r ymgyrch fawr a'r ymgyrch gyhoeddusrwydd ynghylch hynny, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld mewn gwirionedd yw cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod ymlaen ar gyfer eu dosau cyntaf a'u hail ddosau. Felly, rydym ni'n falch o weld y ffigur hwnnw yn codi'n gyson, oherwydd dyna'r amddiffyniad gorau y gallwn ni ei roi i bobl. Felly, rydym ni'n falch iawn o weld bod hynny'n digwydd, ond byddwn yn parhau i estyn allan hefyd, fel yr ydym ni wedi ei wneud drwy gydol y rhaglen frechu.
Sut ydych chi'n ymateb i bryder a godwyd gyda mi gan gynrychiolwyr y gymuned fyddar yn y gogledd am y diffyg gwybodaeth yn iaith arwyddion Prydain ar y wefan swyddogol ar sut i gymryd profion llif unffordd a phrofion PCR, ac, fel y maen nhw'n ei ddweud, os yw eu haelodau nhw'n cael trafferth, hyd yn oed gyda'u cymorth nhw, yna mae'n rhaid bod eraill hefyd?
Codwyd pryder hefyd gyda mi gan etholwyr ar ôl y cyhoeddiad 12 diwrnod yn ôl fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i fenthyg 4 miliwn o brofion llif unffordd i Lywodraeth y DU, sy'n delio â dosbarthu ar gyfer y DU gyfan, pan oedden nhw wedi ceisio heb lwyddiant i ddod o hyd i brofion llif unffordd mewn fferyllfeydd a chanolfannau dosbarthu sydd ar agor mewn pedair tref yn sir y Fflint a sir Ddinbych. Sut ydych chi felly'n ymateb i'w datganiad nad oedd y niferoedd nad oeddynt ar gael yn gydnaws â datganiad Mark Drakeford bod gennym fwy na digon o gyflenwad i ddiwallu ein hanghenion ni, ac i'r datganiad dilynol ddoe, er eu bod bellach wedi llwyddo i gael profion llif unffordd, bod staff a chwsmeriaid yn y fferyllfeydd yr aethon nhw iddyn nhw wrth chwilio am y rhain yr wythnos flaenorol wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn cael ei ystyried yn lwc oes oeddech chi'n llwyddo i'w cael?
Diolch yn fawr iawn, Mark. Fe wnaf godi eich pwynt am y cyfleusterau ar gyfer pobl fyddar. Rwyf eisiau sicrhau bod y rheini'n cael sylw, felly fe fyddaf yn sicr yn nodi hyn a gweld a all ein swyddogion roi cyngor cliriach ar hynny.
O ran y profion llif unffordd, rwy'n credu ei bod yn bwysig, pan allwn ni—. Wyddoch chi, rydym yn blaid sy'n credu yn y Deyrnas Unedig, ac mae adegau pan fyddwn ni'n gofyn am gefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r tro hwn, roedden nhw'n gofyn am ein cefnogaeth ni.
Mae gwahaniaeth enfawr, Mark, rhwng cyflenwi a dosbarthu. Felly, nid oes problem gyda chyflenwi—mae digon o gyflenwad—gyda dosbarthu y mae'r broblem wedi bod. Nawr, pan ddaw'n fater o fferyllfeydd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddosbarthu i'r fferyllfeydd. Felly, byddwn i'n awgrymu, Mark, eich bod yn cael gair gyda'ch cydweithwyr yn San Steffan a dweud wrthyn nhw i fynd ati i sicrhau y gallwn ni gael gafael ar y profion llif unffordd hynny yn ein fferyllfeydd. Rydym ni'n rhoi pwysau, ond byddai'n ddefnyddiol iawn, Mark, pe gallech chi siarad â'ch cymheiriaid yn eich plaid a gofyn iddyn nhw roi pwysau ar y Llywodraeth Dorïaidd i sicrhau bod yna system ddosbarthu well. Mae'r cyflenwad yng Nghymru yn iawn. Y dosbarthiad yw'r broblem, a phan ddaw'n fater o ddosbarthu i fferyllfeydd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny.
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog am y datganiad heddiw. Hoffwn ategu eich diolch i weithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaeth iechyd am eu gwaith arwrol, a hoffwn ymestyn hefyd fy niolch i ofalwyr a gofalwyr di-dâl am bopeth y maen nhw'n ei wneud ar y funud.
O ran profion llif unffordd am ddim, ydy hi'n bosib cael cadarnhad y byddan nhw'n parhau i fod ar gael ac am ddim yma yng Nghymru, beth bynnag fydd yn digwydd yn Lloegr? Mae hyn yn rhywbeth y mae gofalwyr di-dâl wedi codi gyda mi fel pryder, gan eu bod yn ddibynnol iawn arnynt o ran medru gwneud popeth o fewn eu gallu i warchod eu hanwyliaid rhag y feirws.
Hefyd, pwnc dwi wedi ei godi efo chi o'r blaen, sef pasys COVID ar gyfer unigolion sydd methu a chael eu brechu neu'n methu â chymryd prawf llif unffordd—oes modd cael diweddariad, os gwelwch yn dda, o ran pryd fydd y gwaith yma'n cael ei gwblhau, er mwyn rhoi sicrwydd i'r unigolion hynny sydd, ar y funud, methu byw bywydau llawn o fewn y cyfyngiadau gan nad ydynt yn gallu cael mynediad i bàs?
Diolch yn fawr, Heledd. Rŷch chi'n eithaf reit: mae gwaith arwrol wedi cael ei wneud gan bob math o bobl yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn sicr gan ofalwyr, gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, ac yn sicr gan y gofalwyr di-dâl yna sydd yn gweithio drosom ni i gyd. Y ffaith yw, os nad ydyn nhw yna, fe fyddai angen inni fel Llywodraeth gamu i mewn, neu i lywodraeth leol gamu i mewn, i wneud y gwaith yna ar eu rhan nhw. Felly, rŷn ni wastad eisiau diolch i'r gofalwyr di-dâl yna.
O ran lateral flow tests, roeddwn i yn wirioneddol wedi synnu bod Llywodraeth Prydain wedi codi'r mater yma reit yng nghanol y pandemig mwyaf, pan oeddem ni ar frig y don. Os ydych chi eisiau creu sefyllfa lle mae pobl yn rhuthro allan i geisio cael cymaint o brofion llif ag sy'n bosibl, pan fo'n anodd cael hyd iddyn nhw—. Roedd e jest yn anhygoel eu bod nhw hyd yn oed wedi ystyried hyn ar yr adeg yma. Felly, na, does dim cynlluniau gyda ni ar hyn o bryd i godi tâl ar gyfer lateral flow tests.
O ran y pasys COVID, dwi'n meddwl y gwnes i ddweud cyn y Nadolig fod gwaith manwl yn cael ei wneud ar y mater yma. Fe ddywedais i yn y cyfnod yna mai'r un bobl sy'n gweithio ar y pethau yma ag sydd wedi bod yn gweithio ar faterion eraill fel y profion, felly ar hyn o bryd maen nhw dal yng nghanol y storm yna, felly fe fyddwn i'n gofyn ichi fod tamaid bach yn amyneddgar, jest fel ein bod ni'n gallu dod ar ddiwedd y pwsh yma i gael pobl wedi eu brechu. Ac yn sicr, fe wnaf fi ddilyn i fyny unwaith eto. Dwi'n gwybod, Heledd, fod hwn yn bwynt rili pwysig i chi, ac yn sicr, dŷn ni ddim wedi colli llygaid arno fe, ond jest ar hyn o bryd yr un bobl sy'n gwneud y gwaith.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am y datganiad a'ch atebion y prynhawn yma, sydd, yn fy marn i, wedi tawelu llawer o feddyliau. Wrth ateb cwestiwn gan Russell George ar ddechrau'r sesiwn, fe wnaethoch chi ddweud nad dyma'r amser i drafod datgymalu ein rheoliadau, os hoffech chi, pan fyddwch yn llygad y storm. Byddwn i'n dadlau mai dyna'r union amser cywir i drafod y ffordd ymlaen, fel mae'n digwydd, oherwydd pan fyddwn ni'n ceisio dwyn perswâd poblogaeth i gadw at reoliadau penodol, rwy'n credu bod yn rhaid i ni allu llunio map llwybr i bobl wrth i ni fynd drwy'r storm hon, wrth i ni fynd drwy'r rheoliadau hyn. Rwy'n credu bod y pwyntiau am fap llwybr wedi'u gwneud yn dda gan arweinydd yr wrthblaid, mewn gwirionedd, yn gynharach y prynhawn yma hefyd.
Felly, hoffwn ddeall gan y Llywodraeth lle'r ydych chi'n gweld hyn yn mynd ar hyn o bryd. Nawr, nid wyf yn gofyn i chi wneud rhagfynegiadau, ond rwy'n gofyn i chi fod ychydig yn fwy clir, os mynnwch chi. Pa fetrigau mae'r Llywodraeth yn eu defnyddio er mwyn llywio ei phenderfyniadau? Mae'n ymddangos mai nifer o dderbyniadau i'r ysbyty yn hytrach na lefelau heintiau yw hynny. Mae lefelau heintiau yn uchel iawn, iawn, ac felly hefyd cyfraddau positif. Ond nid ydym wedi gweld newidiadau i reoliadau o ganlyniad i hynny. Felly, rwy'n cymryd ein bod yn edrych ar nifer y derbyniadau i'r ysbyty o ganlyniad i hynny. Ydy hynny'n wir? Pryd fyddai nifer penodol y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn sbarduno rheoliadau ychwanegol, neu ostyngiadau mewn derbyniadau i ysbytai yn arwain at ostyngiad mewn rheoliadau? Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i ni ddeall meddylfryd y Llywodraeth ar hynny.
Mae'r pwynt olaf, Llywydd, yr hoffwn i ei wneud, ar rôl y pasys COVID o ran lleihau'r rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd. Fel eraill, hoffwn i weld llawer mwy o ryddid o ran gweithgareddau awyr agored, a rhaid i mi ddweud nad wyf wedi fy argyhoeddi'n ormodol gan rai o ddadleuon y Llywodraeth ar rai o'r gweithgareddau awyr agored. Nid wyf yn siŵr a yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno ei hachos ar hynny. Ond yn sicr, o ran galluogi pobl i gyfarfod a mynychu digwyddiadau a gweithgareddau, y pàs COVID cyn y Nadolig, yn yr hydref, pan gawsom ni ein dadleuon ar hyn, oedd y modd o alluogi pobl i wneud hynny gyda lefel o ddiogelwch. Rwy'n cytuno â'r ddadl honno. Rwy'n credu bod y pàs COVID yn fesur da er mwyn hyrwyddo a sicrhau diogelwch y cyhoedd gan hefyd alluogi pobl i fwynhau lefel o ryddid, a hoffwn i weld y pàs COVID yn cael ei ddefnyddio fel rhan o gam i lawr o reoliadau lle'r ydym ni heddiw, er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf o bobl yn gallu mwynhau'r rhyddid mwyaf, yn gymesur â'r gofyniad pennaf i gynnal blaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Alun. Yn amlwg, mae gennym ryw fath o fap llwybr allan o hyn yn yr ystyr bod gennym ni eisoes y lefelau sydd ar waith, felly nid oes rheswm pam na allem ni symud i lawr y lefelau'n eithaf cyflym. Nid oes angen i ni hyd yn oed symud i lefel 1; efallai y gallem ni symud yn uniongyrchol i lefel sero, neu efallai y byddem ni'n hoffi mynd hyd yn oed yn gyflymach, ac efallai y byddem ni eisiau cyflwyno rhywfaint o ymlacio'n gyflymach nag eraill. Felly, mae'r holl bethau hynny wedi bod yn bethau mae'r Prif Weinidog bellach wedi gofyn am rywfaint o gyngor arnyn nhw, fel y gallwn ni weld ffordd allan o hyn.
O ran pa fetrigau y byddwn ni'n eu defnyddio, wel, rydym ni bob amser wedi defnyddio'r pwysau ar y GIG fel metrig ac ni fyddem am weld y GIG yn cael ei llethu. Felly, yn amlwg derbyniadau i'r ysbyty—mae newyddion da am dderbyniadau i'r ysbyty, felly mae hynny'n rhyddhad. Rwyf yn dyfalu bod y pwysau ar y GIG ar hyn o bryd yn dod o absenoldeb, felly dyna lle mae'r pwysau ar hyn o bryd, ar amser, gadewch i ni gofio, pan fydd y GIG dan bwysau sylweddol, felly mae'r adeg hon o'r flwyddyn bob amser yn anodd, ond i geisio ymdopi â hyn ar adeg pan fydd gennych 8 y cant o'ch staff i ffwrdd—. A gadewch i ni beidio ag anghofio, nid yw wedi dod i ben eto, felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn cael y ffigurau absenoldeb diweddaraf hynny. Felly, rwy'n credu y bydd y ddau beth hynny'n eithaf allweddol o ran gwneud ein penderfyniad.
A phan ddaw'n fater o'r pàs COVID, rwy'n credu bod y pàs COVID yn rhoi rhywfaint o hyder i bobl, mewn gwirionedd, ei bod ychydig yn fwy diogel i fynd allan. Rwy'n credu eu bod am wybod bod y bobl o'u cwmpas yn ei gymryd o ddifrif, a gwybod bod pobl eraill o'ch cwmpas wedi cael eu brechu neu wedi cael brechlyn atgyfnerthu—yn sicr o ran y negeseuon e-bost yr oeddwn i yn eu derbyn, roedd yn ddiddorol iawn gweld nifer y bobl yn dweud, 'Iawn, fe af i i'r sinema. Doeddwn i ddim yn hapus i fynd cyn hyn.' Ond roedd yn ddiddorol iawn, ac yn sicr, o'r ymateb a gefais i gan un sinema, yn dweud: 'Nid ydym ni erioed wedi ei gael cystal.' Roedd yn ddiddorol iawn; dyna oedd y gwahaniaeth. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n dal i fod yn wir, ond yn sicr, ar y pryd, delta oedd yr amrywiolyn amlycaf, ac yn sicr, dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, Laura Jones.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, blwyddyn newydd dda. Mae fy nghyd-Aelodau Gareth, Russell a Mark wedi gofyn yn gynhwysfawr am y rhan fwyaf o'r hyn yr oeddwn i am ei gynnwys, a'n pryderon cyffredin, ac Alun Davies hefyd, nad wyf yn aml yn cytuno ag ef. Fodd bynnag, ar yr achos hwn, rwyf yn gwneud hynny, a hoffwn ailadrodd galwadau am y map llwybr hwnnw allan o'r cyfyngiadau. Mae angen map llwybr mwy cynhwysfawr allan ohonyn nhw, ac mae angen rhywbeth hefyd sy'n—. Mae dinasyddion Cymru bellach yn gweiddi am ryw fath o nod i weithio tuag ato, felly hoffwn i ailadrodd hynny.
Hefyd, yn gyflym ar parkruns, rwy'n credu o fy nhrafodaethau gyda nhw, rwy'n credu mai faint o wirfoddolwyr ychwanegol sydd eu hangen yw'r broblem. Dyna'r broblem pan fyddwch chi eisiau ceisio eu rhannu'n grwpiau o 50.
Rwyf eisiau gofyn ichi am fasgiau wyneb, os caf i, Gweinidog. Siaradais i â Dr Rob Orford, prif gynghorydd gwyddonol, y bore yma, am yr angen am fasgiau mewn ystafelloedd dosbarth drwy'r dydd—nid dim ond o amgylch ysgolion, mewn ystafelloedd dosbarth—a'r penderfyniad hwn, fel y gwyddom ni, a'r angen i gydbwyso'r niwed, cydbwysedd y niwed â'r penderfyniad hwn—. Fel y gwyddom ni, bydd llawer o benaethiaid a'n plant wedi dweud wrthych chi hefyd am y tarfu ar y dysgu mae'n ei achosi, yn ogystal â'r effaith amlwg ar iechyd meddwl, cyfathrebu, a pha mor anghyfforddus ydyw. A hefyd, fel y cododd Altaf, fy nghyd-Aelod, y bore yma, o ran gwisgo'r un masg drwy'r dydd; dydw i ddim yn siŵr pa mor dda yw hynny. Bydd yn ddiddorol gweld eich safbwynt ar faint o waith ac arweiniad sydd wedi'i wneud ar hynny, a sut y cânt eu gwaredu—sut yr ydym yn gwaredu masgiau mewn ysgolion. Roeddwn i'n credu ei fod yn bwynt dilys iawn a godwyd gan Altaf y bore yma. Cefais fy nghalonogi hefyd gan ymateb Dr Orford a chydnabyddiaeth o'r effaith andwyol mae masgiau mewn ystafelloedd dosbarth yn ei chael ar blant a'r angen i gael gwared arnyn nhw cyn gynted â phosibl.
Felly, Gweinidog, oherwydd y ffigurau yr ydym ni yn eu gweld, a'r dystiolaeth yr ydym ni wedi'i gweld o Dde Affrica a Llundain, ein bod yn agosáu at yr uchafbwynt hwnnw yma yn awr yng Nghymru, faint hirach ydych chi'n rhagweld y gallai fod yn rhaid i ni gael y cyfyngiad hwnnw o hyd yn y canllawiau, i gadw gwisgo masgiau mewn ysgolion drwy'r dydd? Ac a oes gennych ddyddiad yr hoffech ddod â'r cyfyngiad penodol hwnnw i ben? Rwy'n gwybod yn Lloegr, mai 26 Ionawr yw'r dyddiad. Roeddwn i'n meddwl tybed a oedd gennych chi ddyddiad penodol mewn golwg i bobl weithio tuag ato, a hefyd sut rydych chi'n cydbwyso gwisgo masgiau gydag awyru, addasiadau a phrofion yn ein hysgolion. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Laura, ac yn sicr, yr hyn a wyddom ni yw nad yw gorchuddio wyneb mewn ystafelloedd dosbarth yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld yn ddelfrydol. Rydym yn gwybod ei bod yn anghyfforddus, rydym yn gwybod bod y comisiynydd plant, er enghraifft, yn anhapus iawn ynglŷn â'r angen i wneud hynny, ond rydym ni hefyd yn cydnabod bod rhai amgylchiadau eithriadol, a bod hynny bellach yn amgylchiad eithriadol. Mae'r cyfraddau mor anhygoel o uchel fel bod angen i ni sicrhau ein bod yn deall hynny.
Y peth arall, wrth gwrs, i'w gadw mewn cof o ran ysgolion yw bod fframwaith rheoli penderfyniadau heintiau lleol, mae llawer o ysgolion wedi cyflwyno systemau unffordd a chynlluniau eistedd ar gyfer dysgwyr hŷn, maen nhw wedi gwasgaru adegau dechrau a diwedd y dydd a'n bod mewn gwirionedd wedi dosbarthu 30,000 o fonitorau carbon deuocsid i'n hysgolion ac wedi rhoi £3.3 miliwn ar gyfer rheolaethau awyru. Felly, rydym ni'n cymryd hyn o ddifrif. Rwy'n gwybod bod ysgolion yn ei gymryd o ddifrif.
Rwy'n credu bod eich pwyntiau am fasgiau wedi'u gwneud yn dda iawn, a dyna pam mae angen i ni feddwl nid yn unig am rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi, ond hefyd am sicrhau eu bod yn ffitio'n dda, oherwydd mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr o ran lledaeniad hefyd. Nid oes gennym ddyddiad sy'n glir ar hyn o bryd. Rydym wedi dysgu o'r camgymeriadau a wnaed yn Lloegr, os byddwch yn pennu dyddiad ac yna bod yn rhaid i chi ei newid, rydych chi'n edrych braidd yn dwp. Felly, nid ydym am fod yn y sefyllfa honno. Felly, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw parhau â'n dull gweithredu, sef yr adolygiadau tair wythnos, sydd bellach wedi'u gostwng i adolygiad wythnosol. Wrth gwrs, rydym eisiau cael gwared arnyn nhw cyn gynted ag y gallwn ni, cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Rydym yn cydnabod nad yw hon yn sefyllfa gyfforddus i blant, ac yn amlwg byddwn yn ceisio datgymalu'r cyfyngiad penodol hwnnw cyn gynted ag y gallwn.
Diolch i'r Gweinidog.
Ambell gynnig gweithdrefnol nawr. Y cyntaf ohonyn nhw yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i eitemau 6 a 7 gael eu trafod heddiw. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hwnnw'n ffurfiol.
Cynnig NNDM7872 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7874 a NNDM7875 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Iawn. Y cynnig, felly, yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, ac felly mae hynny wedi cael ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig nesaf, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, yw y bydd y tri chynnig o dan eitemau 5, 6 a 7 ar y rheoliadau diogelu iechyd, cyfyngiadau'r coronafeirws, yn cael eu grwpio i'w trafod ond yn cael eu pleidleisio arnyn nhw ar wahân. Felly, os dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, fe fedrwn ni symud ymlaen i wneud hynny ac i gael y drafodaeth ar y tri set o reoliadau.
Ac felly, dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion yma. Eluned Morgan.
Cynnig NDM7873 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2021.
Cynnig NNDM7874 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2021.
Cynnig NNDM7875 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Rhagfyr 2021.
Cynigiwyd y cynigion.
Llywydd, cynigiaf y cynigion sydd ger ein bron. Fel y nododd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, omicron bellach yw'r ffurf amlycaf ar y feirws yng Nghymru ac mae achosion wedi bod yn codi'n sydyn. Mae achosion yn llawer uwch yn awr nag yr oedden nhw ar anterth y tonnau blaenorol. Mae omicron eisoes yn rhoi pwysau sylweddol ar y GIG ar yr adeg brysuraf o'r flwyddyn, nid yn unig o dderbyniadau cynyddol i'r ysbyty, ond drwy absenoldebau staff. Mae lefelau salwch staff yn codi yn yr un modd mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ger ein bron heddiw mae tair set o reoliadau diwygio. Mae'r rhain yn deillio o'r ffaith bod y Cabinet wedi symud i adolygiad wythnosol o'r rheoliadau coronafeirws ar ôl i'r amrywiolyn omicron gyrraedd a lledaenu.
Yn gyntaf, fe wnaeth diwygiadau rhif 22 o 11 Rhagfyr egluro bod yn rhaid gwisgo masgiau mewn theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd. Gwnaethon nhw hefyd orchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol yn ystod gwersi gyrru proffesiynol a phrofion ymarferol yng Nghymru. O 15 Rhagfyr, dilëwyd adferiad blaenorol neu imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID.
Yn ail, ger ein bron heddiw mae diwygiadau Rhif 23. O 20 Rhagfyr, gosododd y rhain ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i ganiatáu i'w gweithwyr weithio gartref pan fyddai hyn yn fesur rhesymol i'w gymryd, ac ar gyflogeion i wneud yr un peth pan fo'n ymarferol. Mae pwysigrwydd gweithio gartref fel mesur lliniaru wedi'i nodi dro ar ôl tro gan SAGE a TAG. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd cyfraddau achosion yn y gymuned yn uchel. Gall cysylltiadau yn y gweithle fod yn sbardun sylweddol i drosglwyddo. Bwriedir i ddyletswydd benodol ar yr unigolyn gynorthwyo gweithwyr drwy roi'r gofyniad iddyn nhw nodi a oes anghydfod gyda chyflogwr sy'n gwneud i bobl fynd i'r gwaith pan nad yw'n angenrheidiol neu'n rhesymol. Nid yw hon yn ddarpariaeth newydd; roedd yn ofyniad cyfreithiol hyd at fis Gorffennaf 2020 gyda'r un sancsiynau'n berthnasol bryd hynny fel yn awr. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi'u cyflwyno i unigolion drwy gydol yr holl gyfnod y bu hyn yn y gyfraith yn ystod 2020. Disgwylir i'r un dull cymesur gael ei gymryd gan gyrff gorfodi o addysgu a chynghori unigolion cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud, os na chaiff y rhain eu cefnogi, y bydd y rheoliadau hyn yn peidio â bod yn weithredol o ddiwedd heddiw a bydd llai o fesurau ar waith i amddiffyn gweithwyr.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Cymru wedi symud i lefel rybudd 2 ar Ŵyl San Steffan. Darparwyd ar gyfer y mesurau ychwanegol hyn gan reoliadau diwygio Rhif 25, sydd ger ein bron ni heddiw, ac mae'r rhain yn cynnwys gofyniad cyffredinol i fusnesau rhoi mesurau ar waith i sicrhau pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy'n cael ei reoleiddio, gan gynnwys gweithleoedd pan fo hynny'n rhesymol. Mae rheol o chwech o bobl ar gyfer ymgynnull mewn lleoliadau, fel, er enghraifft, bwytai a thafarndai ac mewn sinemâu neu theatrau. Rhaid i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd. Mae gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser, heblaw pan fo pobl yn eistedd. Nid yw digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu; y nifer mwyaf o bobl sy'n cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do yw 30, a 50 yn yr awyr agored, ac mae'n ofynnol i glybiau nos i gau.
Gallaf sicrhau Aelodau nad ydym ni'n cymryd y mesurau hyn yn ysgafn. Mae'r don omicron, fodd bynnag, wedi darparu rhagor o dystiolaeth nad yw'r pandemig yma ar ben. Mae'r digwyddiadau hyn yn bwysig i ddiogelu Cymru. Diolch, Llywydd.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, hefyd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, a gosodwyd ein hadroddiadau i'r Senedd sy’n cynnwys pwyntiau adrodd ar y rhinweddau ar gyfer pob un o'r rheoliadau hyn yn syth wedyn.
Nawr, weithiau, rwy'n ymwybodol bod cydweithwyr weithiau'n gweld ein harsylwadau ychydig yn sych wrth i ni geisio taflu goleuni, yn hytrach na gwres, ond byddwch yn amyneddgar, gan ein bod yn gobeithio y bydd ein sylwadau'n helpu'r Senedd hon yn ei gwaith craffu ac yn helpu'r Llywodraeth drwy wella'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau a'r esboniadau a ddaw yn ei sgil.
Nawr, mae ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn yn codi'r hyn y bydd Aelodau bellach yn ei gydnabod fel pwyntiau teilyngdod eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a diffyg ymgynghori ffurfiol. Rydym wedi cydnabod cyfiawnhad Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r pwyntiau hyn, fel y nodir yn y memoranda esboniadol.
Nawr, yn dilyn y pwyntiau adrodd hyn, rydym hefyd wedi nodi pwyntiau adrodd ychwanegol ar gyfer rheoliadau Rhif 22 a Rhif 23. O ran rheoliadau Rhif 22, fe wnaethom nodi nad oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Felly, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud mewn perthynas â'r rheoliadau hyn i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Yn ogystal â hyn, ac fel y nodwyd yn rheoliadau Rhif 22, o 15 Rhagfyr 2021, dilëwyd imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID. Mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn nodi bod
'asesiadau effaith cryno wedi'u cyhoeddi yn flaenorol sy’n cynnwys effeithiau sy’n ymwneud â gorchuddion wyneb.'
Fodd bynnag, ni chyfeirir at asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n ymwneud â newidiadau i reoliadau sy'n eithrio imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd asesiad effaith wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac rydym yn croesawu hynny. Ond, o gofio bod y rheoliadau hyn wedi bod mewn grym ers canol mis Rhagfyr, wrth i ni siarad, gobeithiwn y bydd y Gweinidog yn cytuno â ni y dylid cyhoeddi'r diweddariadau hyn, pan fo hynny'n bosibl, mewn modd mwy amserol ac, yn wir, y gwneir hyn yn y dyfodol, pryd bynnag y bo modd.
Felly, o ran eithrio adferiad blaenorol, h.y. imiwnedd naturiol, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod y diben hwn
'yn cael ei gyfiawnhau ar sail iechyd y cyhoedd'
yn ogystal â chynrychioli
'cryfhau'r gofynion fel y cynigiwyd yn flaenorol gan y Grŵp Cyngor Technegol ac fe'i cefnogir gan y Prif Swyddog Meddygol.'
Fodd bynnag, ni chyfeirir at y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu arni i wneud y ddarpariaeth hon. Felly, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth sy'n dangos bod eithrio imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID, mewn dyfyniadau, yn 'cael ei gyfiawnhau ar sail iechyd y cyhoedd'.
Ers hyn, mae Llywodraeth Cymru, a diolchwn iddyn nhw am hyn, wedi rhannu gwybodaeth bellach gyda ni, gan gynnwys cofnodion cyfarfod SAGE 99 a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021, ac a nodir yn ein hadroddiad. Felly, Gweinidog, wrth groesawu'r wybodaeth ychwanegol honno, rydym yn atgoffa Llywodraeth Cymru yn barchus ac yn dyner, os oes gennym wybodaeth lawnach a chynnar yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau pan gânt eu gosod gerbron y Senedd, y byddai'n fuddiol i'r gwaith craffu ac yn ddefnyddiol i bob un ohonom ni.
Fe wnaethom ni hefyd ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru o ran dau bwynt teilyngdod a godwyd yn ein hadroddiad ar reoliadau Rhif 23, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, yn newid y darpariaethau sy'n ymwneud â gweithio gartref. Unwaith eto, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud ynglŷn â'r rheoliadau hyn i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Yn ogystal â hyn, mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â rheoliadau Rhif 23 yn nodi, a dyfynnaf,
'mae asesiadau effaith cryno yn cael eu paratoi a fydd yn cynnwys effeithiau sy’n ymwneud â gweithio gartref.'
Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd yr asesiadau hyn yn cynnwys asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Gan nad yw'r asesiadau hyn wedi'u cyhoeddi eto, nid yw'r cyhoedd, yn ogystal â'r Senedd, ychwaith yn gallu asesu effaith ar gydraddoldeb y ddarpariaeth newydd sy'n cael ei chyflwyno gan y rheoliadau hyn.
Nawr, ymatebodd y Llywodraeth, yn wir, i'n hadroddiad yn gynharach heddiw, ac, ynglŷn â'r pwynt hwn, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru yn paratoi ac yn cyhoeddi asesiadau effaith cryno fel mater o drefn ar y newidiadau yn y rheoliadau coronafeirws, mewn dyfyniadau
'cyn gynted â phosibl ar ôl pob cyfnod adolygu.'
Felly, fe wnaf ailadrodd unwaith eto bwynt yr wyf eisoes wedi'i wneud, y byddai'n ein helpu ni i gyd pe bai'r rhain yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl mewn modd amserol. Ac, yn wir, credwn y dylen nhw.
Mae ein pwynt adrodd diwethaf yn ymwneud â chreu trosedd i unigolion sy'n torri'r gofyniad i weithio gartref pan fo'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Nawr, unwaith eto, nid yw'r memorandwm esboniadol yn nodi nac yn cysylltu ag unrhyw dystiolaeth benodol y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth wneud y ddarpariaeth hon, felly rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth berthnasol sy'n cefnogi tynhau sylweddol ar y cyfyngiadau ar weithio gartref ar hyn o bryd.
Ac, yn yr ymateb a gawsom heddiw tua amser cinio, mae Llywodraeth Cymru wedi ein cyfeirio at yr is-grŵp gweithredol Modelu Ffliw Pandemig Gwyddonol ar gyfer SAGE o fis Mehefin 2021, a'r cyngor gan y gell cyngor technegol o fis Rhagfyr 2021. Mae ymateb Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi bod data arolygon a symudedd ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad yn dangos nad oedd canllawiau a negeseuon yn cael yr effaith a ddymunir o ran symud cyfran y bobl sy'n gweithio gartref yng Nghymru i leihau lledaeniad COVID, a nodwn yr ymateb hwnnw a diolchwn i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw.
Felly, Gweinidog, mewn perygl o ailadrodd ac i gloi, mae ein pwyllgor, unwaith eto, gan gydnabod natur frys y rheoliadau dilynol hyn sy'n ymwneud â'r coronafeirws, yn gofyn yn syml y dylai gwybodaeth lawnach fod ar gael ar y dechrau pryd bynnag y bo modd pan fydd rheoliadau'n cael eu gosod gerbron y Senedd, oherwydd byddai'n well i'r Senedd a'r cyhoedd graffu arnyn nhw, ond hefyd yn well i'r Llywodraeth wrth wneud ei hachos. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod yn credu ei bod yn gwbl annerbyniol ar yr adeg hon yn y pandemig ein bod yn pleidleisio ar y rheoliadau hyn yn ôl-weithredol? Roedd hyn, wrth gwrs, yn ddealladwy bron i ddwy flynedd yn ôl ar ddechrau'r pandemig, ond rydym ni yn awr mewn cyfarfod rhithwir, lle gellir gofyn am gyfarfodydd yn haws, ac rydym yn awr mewn sefyllfa lle y dylid trafod y rheoliadau yn gyntaf cyn i'r rheoliadau ddod i fodolaeth. Rwy'n credu bod angen i ni hefyd weld y dystiolaeth wyddonol sydd y tu ôl i'r rheoliadau yn cael ei darparu'n llawer cynharach, nid yn hwyr fel y bu yn achos y rheoliadau hyn hefyd.
Ac mae nifer o anghysonderau, rwy'n credu, yn y set bresennol o reoliadau, Gweinidog. Bu cryn dipyn o drafod heddiw ar ddigwyddiadau parkrun, er enghraifft, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog a'r eitem olaf hefyd. Rwy'n credu bod gwaharddiad ar ddigwyddiadau awyr agored, fel digwyddiadau parkrun, sy'n denu mwy na 50 o bobl fel uchafswm presenoldeb, fel y nodwyd gennych, yn amhriodol. Rwyf wedi clywed, Gweinidog, eich esboniad yn yr eitem flaenorol, ond soniodd Aelodau eraill am yr agweddau ymarferol o ran goresgyn rhai o'r materion. Rydych chi, rwy'n credu, Gweinidog, yn yr eitem ddiwethaf, wedi sôn am rywfaint o hyblygrwydd gan y trefnwyr. Wel, byddwn i'n awgrymu bod gennych chi, Gweinidog, hyblygrwydd o ran y rheoliadau ac o ran adolygu'r rheoliadau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ran digwyddiadau parkrun, Gweinidog, ond rwy'n credu ei bod yn hurt bod 50 o wylwyr ar yr ystlys mewn gêm rygbi ddiweddar yng Nghaerffili, ond 140 y tu fewn i'r clwb. Felly, mae hyn yn cyfeirio at agweddau sylweddol ar y rheoliadau nad ydyn nhw'n gymesur. Ac, wrth gwrs, mae'r rheoliadau hyn, yn enwedig o ran digwyddiadau chwaraeon awyr agored, yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles pobl hefyd. Wrth gwrs, fe dynnaf sylw heddiw at y ffaith y daw'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored mawr yn yr Alban i ben o ddydd Llun ymlaen.
Cyhoeddwyd tystiolaeth y grŵp cyngor technegol diwethaf ar 17 Rhagfyr, nad yw llwyr yn ystyried y dystiolaeth sy'n ymddangos yn awr. Ni fyddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, Gweinidog, yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Mae cryn nifer o agweddau ar y rheoliadau yr ydym ni'n eu cefnogi, yn enwedig o ran y gofynion amrywiol ar gyfer masgiau wyneb ac agweddau eraill hefyd. Byddwch yn ymwybodol, Gweinidog, ein bod wedi cefnogi'r mwyafrif llethol o reoliadau Llywodraeth Cymru o'r blaen, er y bu gennym bryderon am agweddau ar y rheoliadau hynny, ond mae arnaf ofn, y tro hwn, fod mwy o anghysondebau nad ydyn nhw, ar y cyfan, yn ei gwneud yn briodol i'r Ceidwadwyr Cymreig roi eu cefnogaeth i'r rheoliadau.
Rydych wedi amlinellu, Gweinidog, os na chaiff y rheoliadau hyn eu cefnogi heddiw, y bydd y rheoliadau wedyn yn dod i ben a bydd llai o gyfyngiadau yng Nghymru. Yr hyn y byddwn i yn ei ddweud am hynny, Gweinidog, yw bod angen i'r rheoliadau gael eu cyflwyno a chael eu trafod cyn iddyn nhw ddod i rym, ynghyd â'r dystiolaeth wyddonol sy'n cael ei chyhoeddi bryd hynny hefyd, ac yna ni fyddem yn y sefyllfa fel y gwnaethoch chi ei nodi. Diolch.
Diolch am y cyfle i amlinellu safbwynt Plaid Cymru ar y tri set o reoliadau yma. Mi wnaf i eu cymryd nhw yn eu trefn, yn dechrau efo'r hawsaf, Rhif 22. Dwi ddim yn gweld bod yna lawer yn ddadleuol yn fan hyn; newidiadau bach sydd yna, mewn difrif, o ran ambell i ddiffiniad o gwmpas y pàs COVID, o ran gwisgo gorchudd wyneb. Rydyn ni'n hapus i'w cefnogi nhw. Yr unig beth y gwnaf innau dynnu sylw ato fo yn fan hyn, fel rydw i ac eraill wedi gwneud droeon o'r blaen dros bron i'r ddwy flynedd ddiwethaf, yw bod y rheoliadau yma'n rhai sydd wedi cael eu gosod ers dros fis. Mi ddaethon nhw i rym union fis yn ôl. Oes, mae yna resymau drwy gydol y pandemig yma i fod wedi gweithredu'n gyflym, ond mae'n adlewyrchiad gwael yn ddemocrataidd arnom ni fel Senedd nad ydym ni'n cael cyfle i bleidleisio arnyn nhw tan fis ar ôl i reoliadau ddod i rym. Yn ymarferol, does dim ots efo'r rheoliadau yma achos rydym ni'n eu cefnogi nhw, fel dwi'n ei ddweud.
A dydy pethau ddim cweit mor straightforward, wedi dweud hynny, efo'r ail set, sef rheoliadau Rhif 23. Y nod canolog yn fan hyn—rydym ni'n hapus iawn efo hynny—ydy'r rheoliadau ar weithio o gartref. Roedd hynny'n gwneud synnwyr, dwi'n credu, ac yn dilyn cyngor gwbl glir gan gynghorwyr gwyddonol, technegol y Llywodraeth. Ond mae yna elfen o'r rheoliadau yma dydyn ni ddim yn gyfforddus efo nhw, sef yr elfen o fygythiad o ddirwy i weithwyr unigol os dydyn nhw ddim yn gweithio o gartref lle bo hynny'n bosib. I ni, i'r TUC—rydym ni'n ddiolchgar am y gwaith mae'r TUC wedi gwneud ar hyn—ac i lawer o bobl sydd wedi codi pryder am hyn, dydy hyn ddim yn dderbyniol. Mi eglurodd y Prif Weinidog fod hyn yn warchodaeth i weithwyr mewn rhyw ffordd. Dwi ddim yn derbyn hynny. Mi ddywedodd fod hyn yn adlewyrchu'r rheolau sydd wedi bod mewn grym yn gynharach yn y pandemig. Mi wnaeth y Gweinidog ailadrodd hynny heddiw ac rydym ni wedi clywed nad oes unrhyw un wedi cael dirwy o gwbl. Wel, dydy hynny ddim yn cyfiawnhau'r hyn sy'n annheg ac yn anghyfiawn yma o ran egwyddor, dwi ddim yn credu. Mater o sicrhau diogelwch yn y gweithle ydy hyn, onid e, mewn difrif, ac i ni dydy hi ddim yn dderbyniol rhoi'r onus ar gyflogeion unigol i sicrhau eu diogelwch eu hunain yn y gweithle; y cyflogwr sy'n gorfod cario'r cyfrifoldeb yn hynny o beth. Dyna'r sail resymol i faterion yn ymwneud â diogelwch yn y gweithle. A thra dydw i ddim eisiau dirwyon i gael eu rhoi i gyflogwyr chwaith—dwi eisiau i bobl gadw at y rheoliadau—mae'n iawn mai'r cyflogwr sy'n gorfod wynebu'r bygythiad hwnnw os ydy'r rheoliadau'n cael eu torri.
Mae'r Llywodraeth wedi newid tipyn o'r canllawiau o gwmpas y rheoliadau, ond mae'r rheoliadau sylfaenol yn aros fel yr oedden nhw. Felly, fel mae hi'n sefyll, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau yma. Mi ydw i, serch hynny, yn mynd i wrando'n astud ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud. Os gallwn ni gael sicrwydd cliriach na fydd gweithwyr yn cael eu dirwyo, na fydd y bygythiad yno, ac y bydd, yn bwysicach, rheoliadau newydd yn cael eu llunio ar frys a fyddai'n rhoi cyfrifoldeb ar y cyflogwr ac nid y cyflogai—gwneud hynny'n glir—mi fuasem ni'n barod i ymatal er mwyn cadw'r elfen greiddiol bwysig yna o ran gweithio o gartref, er wrth gwrs dwi'n gobeithio ein bod ni'n agosáu at allu codi'r gofyniad hwnnw hefyd. Fel dwi'n dweud, mi wrandawaf yn ofalus iawn ar ymateb y Gweinidog.
Yn olaf, dwi'n troi at reoliadau 25. Dyw'r rhain ddim yn syml chwaith. Rydyn ni'n cefnogi'n gryf yr egwyddor greiddiol bod codi'r lefel o reoliadau diogelu'r cyhoedd wedi bod yn beth synhwyrol i wneud yn wyneb y dystiolaeth oedd gennym ni yn y cyfnod yna cyn y Nadolig ar y bygythiad roeddem ni'n ei wynebu, ond mae yna elfen o'r rheoliadau dydyn ni ddim yn cyd-fynd â nhw—mi wnaethom ni godi hynny cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno; mae'n rhywbeth rydw i ac eraill wedi cyfeirio ato fo heddiw droeon ar draws y pleidiau gwleidyddol—a hynny ydy'r nifer o bobl sy'n cael ymgynnull y tu allan, yn cynnwys ar gyfer digwyddiadau chwaraeon. Dydyn ni ddim yn credu bod yr uchafswm o 50 wedi bod yn gymesur, ac mae bod yn gymesur ac ymddangos yn deg yn gorfod bod yn rhan hanfodol o reoliadau. Wrth ymateb i alwadau am ddileu'r rheoliadau yna ar ganiatáu torfeydd mewn gemau chwaraeon mawr, beth ddywedodd y Llywodraeth oedd mai'r ffactor mwyaf, o bosib, efo digwyddiadau ydy nid gwylio'r gêm ei hun, yn angenrheidiol, ond y pethau eraill sy'n gysylltiedig â nhw—y niferoedd sydd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar yr un pryd neu yn ymgynnull mewn tafarndai cyn ac ar ôl gêm. Wel, efallai bod hynny yn wir efo'r digwyddiadau mwyaf—hyd yn oed efo'r rheini, dwi'n dymuno bod y Llywodraeth yn codi’r cyfyngiadau mor fuan â phosib fel bod modd cario ymlaen efo'r gemau chwe gwlad, er enghraifft—ond os edrychwn ni’n sicr ar yr haenau is yna o chwaraeon—gemau pêl-droed a rygbi lleol neu genedlaethol sy’n denu cannoedd yn hytrach na degau o filoedd o bobl—wel, sori, ond dydy’r dadleuon dros bobl yn heintio'i gilydd mewn niferoedd mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tafarndai, yn amlwg, ddim yn dal dŵr yn yr un ffordd.
Rŵan, oherwydd ein bod ni yn gytûn efo’r egwyddor greiddiol o godi y lefel rhybudd, wnawn ni ddim gwrthwynebu, ond mae ein penderfyniad ni i ymatal ar hyn heddiw, dwi’n meddwl, yn adlewyrchu’r teimlad y gellid bod wedi mireinio o gwmpas y digwyddiadau chwaraeon yn enwedig, ac fel neges eto ein bod ni’n gofyn, unwaith eto, i’r Gweinidog edrych ar y mater hwnnw, p’un ai efo gemau chwaraeon neu parkruns ac ati, a hynny mor fuan â phosib. Diolch.
Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog fod gennyf bryderon mawr ynghylch y dirwyon ar weithwyr yn rheoliad Rhif 23, ac nid fi yw'r unig un, wrth gwrs—fel y nododd Rhun ap Iorwerth, mae'r TUC ac Aelodau eraill wedi codi pryderon. Fel y nodais pan gafodd y Senedd ei galw'n ôl, mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth y Llywodraeth yn dangos yn gwbl glir fod y Llywodraeth yn credu bod y berthynas yn gytbwys rhwng gweithwyr a chyflogwyr, sydd yn bell iawn o'r gwir. Roedd pwynt a wnaed gan y Prif Weinidog ar gofnod yn ystod dadl yr adalw fod y dirwyon hyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i weithwyr, a soniwyd am senario damcaniaethol, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol o'r Cofnod yn y fan yma,
'gallant ddweud wrth y cyflogwr, "Ni allaf ddod i weithio ar y telerau hynny, oherwydd, pe bawn yn gwneud hynny, byddwn yn cyflawni trosedd, ac ni allwch fy rhoi yn y sefyllfa honno."'
Gyda'r parch mwyaf, mae'n rhaid i mi ddweud bod hon yn safbwynt gwbl naïf. Mae'n debyg y gallwn i roi sawl enghraifft o sut y byddai'r sgwrs honno wedi bod o'r adeg y gweithiais mewn swyddi isafswm cyflog cyn dod i'r lle hwn, ond rwy'n gwerthfawrogi, wrth gwrs, ein bod yn brin o amser.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn pwysleisio'r ffaith nad oes unrhyw weithiwr wedi cael dirwy eto. Mae hyn yn dangos i mi nad yw'r Llywodraeth eisiau i weithwyr gael dirwy yn y lle cyntaf, ac os felly, yna rwy'n ei chael yn anodd deall pam mae'r Llywodraeth am fwrw ymlaen â'r dirwyon ar weithwyr o gwbl. I gloi, Llywydd, dylai'r cyfrifoldeb fod ar gyflogwyr ac nid gweithwyr. Y cyflogwr sy'n gyfrifol am ddiogelwch yn y gweithle, ac nid ydym ni'n sôn am berthynas gytbwys yma.
Mae’r rheoliadau a chanllawiau mae’r Llywodraeth wedi’u gosod dros y ddwy flynedd bron ddiwethaf yma wedi, ar y cyfan, cael cefnogaeth eang, ond mae’r gefnogaeth yma yn gwanhau, a hyn yn dilyn y penderfyniad i atal rhagor na 50 o bobl i ymweld â digwyddiadau awyr agored. Mae coronafeirws, o’r annwyd cyffredin i COVID-19, yn lledu ar yr adeg yma o’r flwyddyn oherwydd bod pobl yn cymysgu o dan do. Ond, o dan y rheoliadau presennol, gall pobl fynd i weld gemau ar y teledu yn y clybiau a thafarndai, fel rydym ni wedi'i glywed yn barod, ond fedran nhw ddim mynd i weld y gêm ar y cae chwarae yn yr awyr agored. Mae rhywun yn deall yr angen i reoli y gemau mwy o faint sydd efo miloedd o bobl yn heidio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac i mewn i dafarndai, fel y gwnes i sôn fy hun yn ôl yn ystod gemau rygbi yr hydref. Ac mae rhywun yn deall, wrth gwrs, yr angen i reoli hynny. Ond mae’r rheolau presennol yma, sy’n rhwystro gemau fel Llanuwchllyn yn erbyn Porthmadog yn y pêl-droed, er enghraifft, yn rheoliadau sy’n anghymesur ac, fel y dywedais i, yn peryglu’r gefnogaeth eang sydd wedi bod i reoliadau yn eu cyfanrwydd. A wnewch chi felly ailedrych ar yr elfen yma ac, fel y soniodd Llyr Gruffydd yn gynharach heddiw, edrych ar gynyddu’r uchafswm ar gyfer mynd i weld gemau yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn parkrun, a hynny mor fuan â phosib, os gwelwch yn dda?
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a hefyd ei thîm am eu holl waith, dan bwysau, ar yr adeg hon. Diolch i chi am eich ymroddiad i'n cadw ni'n ddiogel. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i chi am eich amser i gwrdd â mi. Hoffwn wneud cyfraniad byr i'r drafodaeth ar ddiwygiad 23 i'r rheoliadau COVID.
Rwy'n cyd-fynd yn fawr iawn â chyfraniadau gan Blaid Cymru yma. Fel y gwyddoch chi, rwy'n bryderus o weld y Llywodraeth yn parhau i fynd ar drywydd y diwygiad hwn, a allai weld gweithwyr yn cael dirwy o £60 am dorri'r gyfraith hon. Byddwn i'n hapus i gefnogi'r gwelliant gyda'r ddirwy ar weithwyr yn cael ei dileu a chadw'r cosbau ar y cyflogwyr.
Ar y cyfan, rwyf wedi cefnogi, ac rwy'n parhau i gefnogi, y dull pragmatig y mae'r Llywodraeth hon wedi'i arddel, ond ni allaf gefnogi rhoi dirwy i weithwyr am benderfyniad sydd y tu hwnt i'w rheolaeth yn llwyr. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar hyn, Gweinidog, a meddwl oeddwn i tybed a allech chi egluro a yw gwelliant 23 yn ymwneud dim ond â'r gofynion hynny ar weithwyr unigol i weithio gartref, ac nid darpariaethau i ddirwyo cyflogwyr nad ydyn nhw'n gwneud darpariaethau i unigolion weithio gartref yn ddiogel. Pe na bai'r rheoliadau hyn yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, a fyddai'r ddarpariaeth i ddirwyo cyflogwyr yn cael ei dileu o'r rheoliadau?
Yn olaf, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau diwygiedig cyn gynted â phosibl sy'n dileu'r ddarpariaeth i ddirwyo gweithwyr? Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog iechyd nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Diolch am y ddadl ddiddorol honno. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar fanylion rhai o'r pwyntiau y mae Aelodau wedi'u nodi heddiw.
O ran chwaraeon awyr agored, rwyf eisiau ei gwneud hi'n glir ein bod ni wedi clywed barn pobl yn glir iawn o ran chwaraeon awyr agored, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi fy nghlywed i yn gynharach heddiw yn awgrymu y byddwn ni, yn amlwg, yn ceisio datgymalu'r rheolau hynny cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Yn amlwg, wrth i ni fynd tuag at y brig, nid dyma'r amser i wneud hynny.
Rwyf i eisiau canolbwyntio fy ymateb, os nad oes ots gennych chi, ar reoliad 23. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Aelodau'n deall ein bod ni, fel Llywodraeth Lafur, yn gwbl awyddus i sicrhau ein bod ni wedi gosod mesurau ar waith sy'n amddiffyn gweithwyr yn ein cymunedau ni. Mae'n bwysig bod Aelodau'n nodi, os nad oes cefnogaeth i'r rheoliad penodol hwn heddiw, y bydd y rheolau hynny sydd wedi bod ar waith ers mis nawr yn peidio â chael effaith o ddiwedd heddiw. Felly, yfory ni fyddai gofyniad penodol i gefnogi pobl i weithio gartref, a bydd llai o amddiffyniadau i weithwyr yng Nghymru. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio'n ofalus iawn ar hyn cyn bwrw eu pleidlais.
I ateb cwestiwn Jane Dodds yn benodol, byddai'r ddirwy honno i gyflogwyr hefyd yn cael ei dileu o yfory. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi eto fod hwn yn fesur lliniarol sydd wedi'i nodi dro ar ôl tro gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a'r Grŵp Cyngor Technegol, ac mae wedi bod yn fesur sylfaenol mewn canllawiau ers i ni symud i lefel rhybudd 0. Rwyf i eisiau pwysleisio ein bod ni wedi clywed pryderon Aelodau am y dirwyon ar weithwyr unigol, ond hoffwn i nodi fy mod i'n credu mai'r ffordd o ddatrys hyn yw peidio â threchu'r rheoliadau heddiw—ond i ganiatáu i'r rheoliadau basio ac i drafodaethau ar y materion hyn barhau. Hoffwn i wneud ymrwymiad, os aiff y rheoliadau drwodd, y byddwn ni'n trafod ymhellach a ddylai fod diwygiadau eraill i'r pwyntiau hyn.
Bwriad bod â dyletswydd benodol ar unigolyn yw cefnogi gweithwyr. Rwyf i eisiau gwneud y pwynt hwnnw. Dyna pam yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith. Mae'n darparu'r cyfeiriad hwnnw yn y gyfraith petai anghydfod gyda chyflogwr sy'n gwneud i bobl ddychwelyd i'r gweithle pan nad yw'n angenrheidiol nac yn rhesymol.
A gaf i dorri ar draws y Gweinidog am eiliad? Dwi'n gweld bod Rhun ap Iorwerth eisiau gwneud ymyrraeth. Os ydy'r Gweinidog yn cytuno, fe wnaf i ganiatáu'r ymyrraeth.
Dwi'n hapus i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn yr ymyrraeth. Dwi yn cymryd yr hyn dwi wedi'i glywed gan y Gweinidog yn fanna fel cam positif, ei bod hi'n barod i drafod. Dwi'n meddwl un o'n gofynion ni yw bod hyn yn digwydd ar fyrder. A fyddwn ni'n cael rhywfaint yn rhagor o ymrwymiad o ran parodrwydd i symud yn gyflym iawn ar hyn? Oherwydd dwi'n meddwl ei bod hi'n angenrheidiol, os oes yna newid yn gallu cael ei gyflwyno, bod hynny'n digwydd mor fuan â phosib, a bod y cyngor cyfreithiol angenrheidiol ac ati yn cael ei gymryd fel mater o frys.
Rhun, gallaf roi'r ymrwymiad hwnnw i chi, oherwydd rydym ni'n gobeithio ein bod yn cyrraedd y brig a bydd pobl, gobeithio, yn mynd yn ôl i'r gwaith rywbryd yn fuan iawn. Felly, os ydym ni eisiau gwneud unrhyw newidiadau, yna mae'n gwneud synnwyr i ddeall y byddai'n rhaid i ni eu gwneud yn gyflym iawn er mwyn iddyn nhw wneud unrhyw synnwyr o gwbl. Felly, gallaf i roi'r ymrwymiad hwnnw i chi.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig—ac rwy'n nodi'r pwyntiau y gwnaeth Luke—yw realiti yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yma, o ran y pŵer sydd gan gyflogeion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddarllen y canllawiau. Gobeithio, os yw pobl yn pleidleisio ar hyn heddiw, eu bod wedi darllen y canllawiau, oherwydd mae'r canllawiau'n ei gwneud yn gwbl glir bod yr holl bwysau hyn ar gyflogwyr, nid gweithwyr, ac mae'r hyblygrwydd i gyflogeion yn eithaf sylweddol. Ac felly rwy'n gobeithio bod pobl sy'n petruso yma yn gwneud hynny gyda'r wybodaeth lawn am yr hyn sydd yn y canllawiau hynny, oherwydd mae'r canllawiau hynny'n glir iawn ac yn benodol iawn, a gobeithio y bydden nhw'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i bobl.
Os caf i, unwaith eto, dorri ar draws y Gweinidog, hoffai Huw Irranca-Davies wneud ymyriad, os yw hynny'n dderbyniol i'r Gweinidog.
Ydy. Yn sicr.
Gweinidog, diolch yn fawr i chi am y sicrwydd hwnnw. Nid wyf i'n siarad fel Cadeirydd y pwyllgor yn y fan yma, rwy'n siarad fel aelod ufudd o'r meinciau cefn, ond mae llawer ohonom ni'n aelodau undeb ac wedi bod ers ein dyddiau cynharaf yno. Rwy'n croesawu'r sicrwydd y mae hi newydd ei roi mewn ymateb i'r cwestiwn gan Rhun am drafodaethau, ond hefyd y pwyslais ar gyflogwyr yma, sy'n bwysig yn fy marn i. Ac ar y sail honno, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi y bydd Rhun ac eraill, a Jane ac eraill, yn gallu cefnogi'r rhain a chael y trafodaethau brys hynny, fel ein bod ni'n egluro bod y pwysau ar y cyflogwr, nid ar weithwyr yma.
Rwy'n gobeithio, pe bai pobl yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi'r mesurau hyn heddiw, y bydden nhw wedyn yn cael cyfle i edrych ar fanylion yr hyn yr ydym ni wedi'i nodi yn y canllawiau hynny. Diolch am yr ymyriad hwnnw, Huw.
Yn sicr, yr hyn yr ydym ni wedi'i ddarganfod yw y bu gennym ni ganllawiau ar waith, ond wrth i fygythiad omicron ddod yn gliriach, roedd yn amlwg bod angen i ni gryfhau'r amddiffyniadau, oherwydd yr hyn y gwnaethom ni ei ddarganfod oedd bod y data symudedd yr oeddem ni'n ei weld yn awgrymu, mewn gwirionedd, nad oedd pobl yn cymryd y canllawiau 'gweithio gartref' o ddifrif. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn deall bod y canllawiau i weithwyr yn ei gwneud yn gwbl glir y gall pobl fynd i'r gwaith am resymau lles, ac mae'n rhoi cyngor i weithwyr hefyd i sicrhau eu bod yn deall y gallan nhw gael cymorth a chyngor ychwanegol gan eu hundebau neu'r mudiad undebau llafur.
Ar hyn o bryd, mae modd cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o ran unrhyw drosedd, a gall swyddogion gorfodi roi dirwy i berson sydd wedi cyflawni trosedd. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i yw, pe bai'r ddarpariaeth yn cael ei dileu o ran gweithio gartref, y gallai ddangos yn anfwriadol bod y gofyniad i weithio gartref yn cael ei ystyried rywsut yn llai o rwymedigaeth na'r holl ofynion eraill yn y rheoliadau, a gallai wanhau'r gofyniad hwnnw i bwynt lle na fyddai'n effeithiol mwyach. Felly, hoffwn i ailadrodd y pwynt ein bod ni wedi clywed y farn o ran unigolion yn cael eu dirwyo. Rydym ni'n sicr wedi ymrwymo i ystyried hyn, ond y ffordd i ddatrys hyn, hoffwn i danlinellu, yw peidio â threchu'r rheoliadau heddiw; ond caniatáu i'r rheoliadau hynny fynd drwodd, er mwyn caniatáu i'r drafodaeth honno barhau. Byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron ni heddiw. Diolch.
Y cwestiwn nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly byddwn yn gohirio'r bleidlais ar eitem 5 tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad eto, ac felly rwy'n gohirio'r bleidlais ar eitem 6.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac yn olaf wedyn, a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar hynny hefyd.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae eitem 8 wedi cael ei ohirio tan 18 Ionawr.
Eitem 9 yw'r eitem olaf, a hynny ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig, sef Jeremy Miles.
Cynnig NDM7876 Jeremy Miles
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig heddiw. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac amlinellu pam rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi caniatâd i ddarpariaeth gael ei gwneud yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ystyried y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac am yr adroddiad a luniwyd ym mis Rhagfyr. Rwy'n croesawu'r ohebiaeth gyda Chadeirydd y pwyllgor ac yn gobeithio bod fy ymatebion yn rhoi'r atebion i'r cwestiynau a godwyd gan y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaethau a'u hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, a nodaf fod y pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad pellach ddoe.
Rwy'n croesawu casgliadau ac argymhellion y ddau bwyllgor, a hoffwn drafod rhai o'u pwyntiau heddiw. Yn benodol, rwy'n nodi bod y ddau bwyllgor yn ystyried bod angen cael cydsyniad y Senedd ar gyfer yr hyn a oedd yn gymal 35 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd i Dŷ'r Cyffredin, ac sydd ar hyn o bryd yn gymal 31. Ac rwy'n credu mai'r cymal dan sylw ar hyn o bryd yw cymal 32 o'r Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin. Dwi ddim yn cytuno gyda'r casgliad hwnnw. Mae'r prif ddarpariaethau a wneir gan y cymal hwn yn ymwneud gydag addysg bellach yn Lloegr, ac mae'r ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â Chymru dim ond yn ailddatgan ac yn egluro'r gyfraith bresennol. Mae'r newidiadau hyn yn ganlyniadol i'r ddarpariaeth a wneir ar gyfer Lloegr.
Mae Rheol Sefydlog 29.1 yn gwneud eithriad ar gyfer darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol ac arbed, ac yn fy marn i, mae'r ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â Chymru gan y cymal hwn yn ganlyniadol i'r ddarpariaeth a wneir ar gyfer Lloegr, ac yn ymwneud â mater nad yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, nid yw'r cymal hwn wedi ei gynnwys yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol rwyf wedi eu gosod i'r Senedd i'w hystyried.
Rwy'n nodi ac yn derbyn pryderon y ddau bwyllgor ynghylch yr oedi wrth osod ger bron y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol, a'r memoranda atodol dilynol i'r Bil. Y tro hwn, ni chawsom ni weld yr holl ddarpariaethau sy'n effeithio ar Gymru tan ychydig cyn i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Senedd. Yn ogystal â hyn, roedd dadansoddiad datganoli Llywodraeth y DU yn wahanol i'n dadansoddiad ni, ac yn anffodus arweiniodd hyn at drafodaethau hirfaith i geisio datrys materion. Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU, fodd bynnag, wedi ymateb yn gadarnhaol i'n ceisiadau am welliannau, ac rwy'n credu bod y Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin, nawr yn parchu cymhwysedd datganoledig ym maes addysg.
Yr unig gymal y mae angen cydsyniad y Senedd arno yw cymal 15, sy'n addasu Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn modd sy'n effeithio ar y swyddogaethau sydd wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru. Mae'r swyddogaethau hynny'n ymwneud â phwerau i wneud rheoliadau o ran cymorth i fyfyrwyr, ac maen nhw'n arferadwy ar yr un pryd gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru. Dim ond o ran swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol y mae'r addasiadau'n gymwys, ac maen nhw'n gadael swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn gyflawn. Ac ar y sail honno, rwy'n gofyn i'r Aelodau roi eu caniatâd i gynnwys cymal 15 yn y Bil.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch eto, Llywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil hwn. Gobeithiaf eu bod wedi bod o gymorth i'r Gweinidog wrth iddo barhau i lywio trafodaethau rhynglywodraethol ar y Bil, yn ogystal ag i'r Aelodau sy'n cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Rhoddodd ein hadroddiad cyntaf ni, y gwnaethom ni ei osod gerbron y Senedd fis Tachwedd diwethaf, grynodeb o'n hystyriaeth ni o femorandwm gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar y Bil, yn ogystal â memorandwm Rhif 2. Nawr, yn yr adroddiad hwnnw, daethom ni i nifer o gasgliadau a oedd yn llywio'r argymhellion a wnaethom ni wedyn i'r Gweinidog. Hyd yma, rydym ni'n dal i aros am ymateb ffurfiol i'r adroddiad hwnnw gan y Gweinidog, sy'n amlwg yn siomedig i'r pwyllgor a'r Senedd. Ond, efallai y bydd y Gweinidog eisiau, yn ei sylwadau, roi rhywbeth ar y cofnod heddiw fel esboniad. Mae ef wedi sôn bod y Bil hwn wedi bod braidd yn gymhleth, ac weithiau mae ef wedi gorfod ymateb mewn modd munud olaf i ryw welliannau wedi'u cyflwyno gan San Steffan, ond byddai'n helpu.
Nawr, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod memorandwm Rhif 3 wedi'i osod ar 10 Rhagfyr, ychydig cyn toriad y Nadolig. Fodd bynnag, gwnaethom ni lwyddo i adrodd ar y memorandwm atodol arall hwn erbyn prynhawn ddoe. Dim ond dau argymhelliad a wnaethom ni yn yr adroddiad cyntaf i'r Gweinidog eu hystyried. O ystyried yr amser sydd nawr wedi mynd heibio, mae'r argymhellion hyn, fel yr ydym ni newydd glywed, wedi'u disodli gan ddatblygiadau diweddar yn Senedd y DU, gan fod y Bil wedi'i ddiwygio yn ystod ei daith seneddol. Wrth fynd heibio, rydym ni'n nodi bod hyn yn amlygu cymhlethdod dealladwy craffu yn gyffredinol, ond hefyd gymhlethdod ychwanegol craffu yma yn y Senedd o ddeddfwriaeth sy'n tarddu ac yn datblygu yn Senedd y DU.
Gofynnodd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad cyntaf bod y Gweinidog, cyn dadl y Senedd ar y cynnig cydsyniad perthnasol, yn cadarnhau pa welliannau y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu gweld yn cael eu gwneud i gymalau 1 a 4 o'r Bil er mwyn iddo argymell bod y Senedd yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil. Wrth gwrs, mae gwelliannau nawr wedi'u gwneud i'r Bil sydd wedi arwain Llywodraeth Cymru i benderfynu nad oes angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd mwyach o ran cymalau 1 a 4 hynny.
Nawr, er ein bod ni'n cytuno ag asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch cymalau 1 a 4 fel y maen nhw wedi'u gwella, a gawn ni awgrymu y byddai wedi bod yn well, er mwyn cynorthwyo'r Senedd i graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, pe bai'r Gweinidog wedi rhoi rhagor o fanylion o'r cychwyn ynghylch y newidiadau penodol yr oedd ef eisiau eu gweld yn cael eu gwneud i'r Bil, pe bai hyn wedi bod yn bosibl bryd hynny? Nawr, efallai y bydd ef yn dadlau nad oedd modd iddo eu rhagweld bryd hynny, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod hynny.
Gofynnodd argymhelliad 2 yn ein hadroddiad cyntaf ni i'r Gweinidog gadarnhau pam na ddylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer cymal newydd 25, a gafodd ei ychwanegu at y Bil yng Nghyfnod Adrodd yr Arglwyddi. Er bod memorandwm Rhif 3 yn cadarnhau bod y cymal wedi'i ddileu o'r Bil gan Dŷ'r Cyffredin, y gwir amdani yw ei fod yn gymal perthnasol at ddibenion ein gweithdrefnau cydsynio pan gafodd memorandwm Rhif 2 ei osod ddiwedd mis Hydref y llynedd.
Roedd ein hadroddiad cyntaf hefyd yn cynnwys ein casgliad, er ei fod wedi'i hepgor o femorandwm gwreiddiol Llywodraeth Cymru, y dylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer cymal 35 o'r Bil. Yn wir, cadarnhaodd nodiadau esboniadol Llywodraeth y DU i'r Bil fod y cymal yn ymwneud â mater datganoledig. Fel y mae'r Gweinidog wedi sôn, yr ydym ni'n ymwybodol bod y mater hwn wedi'i godi mewn gohebiaeth rhwng y pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg a'r Gweinidog. Ac, fel y mae ein hadroddiad cyntaf ni'n ei wneud yn glir, nid ydym ni'n cytuno â safbwynt y Gweinidog. Mae'r Gweinidog yn honni, fel y mae ef wedi'i wneud heddiw, nad yw'r cymal hwn yn gwneud unrhyw newid i'r gyfraith bresennol; mae'n ailddatgan y ddarpariaeth bresennol. Ond, fel pwyllgor, rydym ni'n tynnu sylw at eiriad Rheol Sefydlog 29.1(i), sy'n nodi nad yw'n gwahaniaethu rhwng cyfraith newydd neu ailddatganiad o'r gyfraith bresennol, ond bod darpariaeth mewn Bil yn y DU yn ddarpariaeth berthnasol at ddibenion proses gydsynio'r Senedd os yw'n gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
O gofio bod y Bil wedi mynd drwy sawl cyfnod gwella yn Senedd y DU, fel y mae pethau, mae'r cymal hwn, fel y mae'r Gweinidog wedi'i grybwyll, bellach wedi'i rifo'n gymal 31. Mae ein hunig argymhelliad ni yn ein hadroddiad a gafodd ei osod ddoe yn ailadrodd y farn y gwnaethom ni ei mynegi fis Tachwedd diwethaf, a gofynnodd i'r Gweinidog gadarnhau, cyn y ddadl y prynhawn yma, pam na ddylai cydsyniad y Senedd gael ei geisio ar gyfer y cymal yn y Bil. Mae ef wedi cynnig esboniad y prynhawn yma, ond efallai y bydd angen i ni ddal i gytuno i anghytuno ar ôl ei esboniad arall. Ond edrychaf ymlaen at glywed unrhyw ymateb gweinidogol arall y prynhawn yma i'r pwyntiau hyn, a hefyd at dderbyn yr ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'n hadroddiadau gan y Gweinidog cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn, Llywydd a Gweinidog.
Fel rŷm ni wedi datgan fel plaid nifer o weithiau wrth drafod cynigion memoranda cydsyniad deddfwriaethol, rydym ni'n credu mewn egwyddor mai Senedd Cymru ddylai deddfu mewn meysydd polisïau datganoledig. Ac ar adeg pan fo Llywodraeth San Steffan yn dangos dro ar ôl tro eu hawydd a'u penderfyniad i dramgwyddo'r egwyddor honno, mae'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad yw Cymru a'i Llywodraeth yn cael eu gwthio i'r ymylon wrth lunio polisi yn y meysydd yma. Rydym ni felly yn mynd i wrthwynebu'r cynnig.
Mae'n hollbwysig, ar adeg pan fo sectorau ledled Cymru—y sector addysg yn enwedig—yn ei chael hi'n anodd o ran capasiti i ddarparu gwasanaethau oherwydd heriau ac effaith y pandemig, sicrhau ein bod yn osgoi gosod unrhyw feichiau diangen ar sefydliadau a chyrff allweddol yng Nghymru, nac yn achosi unrhyw ansicrwydd neu ddryswch iddyn nhw o ran cynllunio eu darpariaeth. Mae'r sector addysg eisoes yn wynebu heriau anferth, ac ni ddylem ganiatáu i unrhyw ddarpariaethau yng nghymalau'r Bil amharu ar y sefydliadau sy'n ymateb i anghenion sgiliau Cymru, boed hynny mewn modd penodol neu o ran egwyddor gyffredinol. Mae'r ddeialog y bu'n rhaid ei chael rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi dangos y diffyg cyffredinol yn y berthynas a'r agwedd mae angen ei gwrthod yn llwyr. Y pwynt ehangach yw nad yw'r newidiadau a'r diwygiadau arfaethedig i'r cymalau a nodwyd fel rhai problematig yn wreiddiol yn ddigonol i sicrhau nad yw sylfaen ein democratiaeth yn cael ei thanseilio mewn modd cyffredinol—cymal technegol wrth gymal technegol, Deddf wrth Ddeddf.
Fel mae Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiad wedi amlinellu, mae angen mwy o fanylion efallai, a mwy o sicrwydd am y pryderon posib a amlinellwyd yn adroddiadau'r pwyllgor a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—mwy o fanylion ynglŷn â'r ansicrwydd allai'r cymalau hyn a'r pryderon yma achosi i sefydliadau, ac o ran y dargyfeirio posib o ran adnoddau yn groes i flaenoriaethau Cymreig a all barhau i fod yn beryglon o fewn y Bil wrth inni roi ein cydsyniad i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddeddfu mewn maes polisi datganoledig. Ac yn bennaf, efallai, yn sgil y broses y mae'r Gweinidog wedi'i hamlinellu, wedi'i hesbonio a'i disgrifio inni y prynhawn yma, a'r brys yma, a'r dryswch yma y mae e'n cyfleu, mae'r broses gyfan yn sicr o greu dryswch inni o ran y broses graffu. Dyw hynny ddim yn gallu cael ei gymeradwyo na'i ganiatáu.
Wrth orffen, hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn ogystal â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, wedi nodi nifer o bryderon, ac rŷm ni wedi eu clywed nhw y prynhawn yma, yn ymwneud ag oedi wrth osod yr LCM a'r SLCM, gan nodi pwysigrwydd cadw at yr amserlenni a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd. Yn hyn o beth, nodwyd nad oedd digon o amser i ystyried na chraffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r SLCM yma yn ddigon manwl. Dŷn nhw ddim yn denu sylw ar lawr ein Siambr fel y dadleuon mawr neu'r cwestiynau amserol, ac anaml iawn mae unrhyw sôn amdanyn nhw yn y penawdau, ond maen nhw'n bwysig ac, yn dawel bach, maen nhw'n gwanhau llais ein democratiaeth.
Rwy'n galw ar y Gweinidog addysg nawr i ymateb.
Diolch, Llywydd. Gaf i jest ymateb a diolch i'r ddau gyfrannwr yn y ddadl? Jest i ateb y pwynt oedd Sioned Williams yn ei wneud nawr, rwy'n cytuno â'r ffaith ei bod yn annymunol bod proses graffu a phroses benderfynu'r Senedd hon yn dibynnu ar amserlen y Senedd yn San Steffan, wrth gwrs. Rwy wedi esbonio sut mae hynny wedi achosi elfen o oedi o ran cyflwyno’r memoranda, sydd yn annymunol, a fyddai dim un ohonon ni eisiau gweld hynny, wrth gwrs. Ond, beth buaswn i'n dweud yng nghyd-destun y memorandwm penodol hwn yw, erbyn hyn, yn sgil y ffaith bod y trafodaethau rhyngom ni a'r Llywodraeth yn San Steffan wedi dwyn ffrwyth yn yr ystyr eu bod nhw wedi ymateb i'r hyn yr oeddem ni'n gofyn amdano fel diwygiadau, erbyn hyn mater cul iawn sydd ar ôl ar wyneb y Bil sydd yn mynnu cydsyniad y Senedd hon, dwi'n falch o allu dweud.
Diolch i Huw Irranca-Davies ac rwy'n achub ar y cyfle unwaith eto i ddiolch i'w bwyllgor, a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, am ystyried nifer o femoranda sydd wedi ymddangos fel rhan o'r ddeddfwriaeth hon. O ran y pwyntiau a wnaeth y pwyllgor ar gymalau 1 a 4 o'r Bil, rwy'n gobeithio bod fy llythyr at y pwyllgor Plant Phobl Ifanc ac Addysg, a gafodd ei gopïo i'w bwyllgor, ddiwedd mis Tachwedd yn nodi ein barn fel Llywodraeth yn ddigon llawn o ran y ddau gymal hynny. Mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i'n barn ni amrywio ynghylch y dadansoddiad o ran cymal 31. Rwy'n hyderus bod ein safbwynt ni fel Llywodraeth ar sail gadarn, ond rwy'n parchu'r ffaith ei fod ef a'r pwyllgor yn arddel safbwynt ychydig yn wahanol o ran hynny. Ond, unwaith eto, rwy'n gobeithio nad yw'n fater o sylwedd mor arwyddocaol fel bod hynny'n achosi her ymarferol iddo.
Yn olaf, dylwn i gydnabod ac ymddiheuro nad yw'r pwyllgor wedi derbyn yr ymateb ffurfiol i'r adroddiad. Rwy'n gobeithio bod fy sylwadau heddiw wedi nodi, o leiaf ar gyfer y cofnod heddiw, ein safbwynt ni o ran un pwynt sy'n weddill ar sylwedd y materion a oedd yn yr adroddiad hwnnw. O'r cof, rwy'n credu y bydd llawer ohonyn nhw wedi cael eu trin yn y trydydd memorandwm, ond rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw hynny wedi bod yn destun ymateb ffurfiol i'r pwyllgor, ac fe wnaf yn siŵr ei fod yn ei gael. Diolch yn fawr iawn. Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd gefnogi'r cynnig a chydsynio i'r ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud yn y Bil hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn i ni atal y cyfarfod ar gyfer y cyfnod pleidleisio, dwi eisiau galw Carolyn Thomas i wneud un esboniad, eglurhad, i'w roi ar y Cofnod. Carolyn Thomas.
Diolch, Llywydd. Wnes i ddim datgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint mewn cyfeiriad at y ddadl ar y gyllideb ddrafft, eitem rhif 3 ar yr agenda. Rwy'n ymddiheuro, ac a gaf i wneud hynny'n ôl-weithredol?
Diolch am yr esboniad yna. Felly, fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais. Toriad byr, felly, nawr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:12.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:17, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5. Yr eitem hynny yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Eitem 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 5. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 41, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 6 yw'r bleidlais nesaf, ac mae'r bleidlais hynny ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig ar eitem 6, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. O blaid 28, 13 yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Eitem 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 13
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 7 yw'r bleidlais nesaf. Mae'r bleidlais hynny ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig ar eitem 7, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 12 yn ymatal—. Na, mae'n ddrwg gen i. O blaid 29, 12 yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 29, Yn erbyn: 15, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais olaf ar eitem 9 ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal ac 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi cael ei dderbyn.
Eitem 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, cyflwynwyd yn enw Jeremy Miles: O blaid: 44, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ni ddiwedd ar ein pleidleisio ni am heddiw. Prynhawn da i chi i gyd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:20.