Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/12/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch Cymru yn cael cyfran deg o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd yn dilyn cymeradwyaeth adroddiad Hendy ar gyfer cynigion metro de-ddwyrain Cymru? OQ57341
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac yn croesawu cefnogaeth adolygiad Hendy i'n metro ac argymhellion comisiwn Burns. Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod â Gweinidog y DU sy'n gyfrifol am yr adolygiad ar 15 Rhagfyr i drafod yr adroddiad, y diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd yn ymwneud â'i waith.
Wel, mae hynny'n newyddion ardderchog, Prif Weinidog, oherwydd ei bod hi'n bedair blynedd bellach ers i Lywodraeth y DU benderfynu canslo trydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe. Pa mor hir mae'n ei gymryd i Lywodraeth y DU lunio eu cynllun amgen ar gyfer moderneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru? Ac rwy'n gobeithio, yn eich trafodaethau, a thrafodaethau Lee Waters gyda Llywodraeth y DU, fod dealltwriaeth lawn bod gan Gymru hawl i system reilffordd wedi'i moderneiddio yn union fel gweddill y Deyrnas Unedig.
Wel, rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynna. Wrth gwrs, dyna'r pwyntiau yr ydym ni'n eu gwneud dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU. Yn syml, nid yw'r system bresennol yn gweithio i Gymru. Mae'r gwelliannau arfaethedig i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn dal i ganolbwyntio ar fuddsoddi yn ne-ddwyrain Lloegr. Nid oes gennym ni unrhyw reolaeth drosto. Nid oes gennym ni lais yn y broses, ac mae'r broses ei hun yn anhryloyw, mae'n fiwrocrataidd ac mae'n araf, fel y mae Jenny Rathbone wedi ei ddweud.
Ac yna nid oes chwarae teg yma. Rydym ni'n sôn yn aml am HS2 yma yn y Siambr. Gyda'r rhaglen HS2, 100 y cant yw'r ffactor cymharedd sy'n ysgogi arian drwy fformiwla Barnett ar gyfer yr Alban. Ar gyfer Gogledd Iwerddon, mae'n 100 y cant. I Gymru, mae'n 0 y cant, er gwaethaf y ffaith nad yw HS2 yn dod i mewn i Gymru yn unman, ac mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn dangos ei fod yn fwy tebygol o wneud niwed economaidd i Gymru na gwneud lles economaidd.
Ac mae Jenny Rathbone, Llywydd, yn llygad ei lle i dynnu sylw at y ffaith, pan gafodd trydaneiddio prif reilffordd de Cymru ei ganslo gan y Llywodraeth Geidwadol mor bell yn ôl â 2017, fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd wedi gwneud llawer iawn o'r ffaith y byddai cyfres o achosion busnes yn cael eu cyflwyno i wella amseroedd teithio ar hyd y rheilffordd honno. Nid oes un o'r achosion busnes hynny, bedair blynedd yn ddiweddarach, wedi ei gwblhau.
Prif Weinidog, ar ôl cyfarfod â rhai o'r cydweithwyr sydd gennym ni yn Senedd San Steffan, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod, wrth wella cysylltiadau trafnidiaeth, fel yr ydych chi, eu bod nhw'n rhan bwysig o helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith a chefnogi twf busnes ledled Cymru gyfan. Ac rwy'n cytuno yn llwyr â chi—mae codi'r gwastad yn bwysig iawn iddyn nhw, mor bwysig ag ydyw i bob un ohonom ni. Dyna pam maen nhw'n buddsoddi'r symiau uchaf erioed yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, gan gynnwys mwy na £1.5 biliwn yn llwybr Cymru rhwng 2019 a 2024, £5.7 biliwn mewn trenau cyflym InterCity newydd ar brif reilffordd y Great Western, £125 miliwn mewn gwaith uwchraddio rheilffyrdd Cymoedd Cymru, a £50 miliwn mewn ailarwyddo ar brif reilffordd arfordir gogledd Cymru.
Dywedodd adroddiad Hendy, fel y gwnaethoch chi sôn—rwy'n ei werthfawrogi; rydych chi'n ei groesawu, ac rwyf innau'n ei groesawu hefyd—bod datganoli wedi bod yn dda i drafnidiaeth ac mae'r ddarpariaeth wedi cael ei datganoli, ond bod hyn wedi arwain at ddiffyg sylw i gysylltedd rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth y DU yn barod i gefnogi unrhyw gynllun seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd newydd, gydag achos busnes cryf y tu ôl iddo. A wnewch chi, Prif Weinidog, groesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i wella seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth y DU ar gynigion Hendy i wella trafnidiaeth i gryfhau economi Cymru a darparu mwy o gysylltedd?
Wel, y rhan o gyfraniad yr Aelod yr oeddwn i'n cytuno â hi oedd ei chymeradwyaeth i adolygiad Hendy. Mae yn dweud yn wir, fel y dywed, fod datganoli wedi bod yn dda i drafnidiaeth, ac rwy'n credu bod hynny yn sail gadarn y gallwn ni obeithio bellach y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen a gweithredu'r cynigion. Oherwydd gadewch i ni fod yn eglur, Llywydd, yr hyn sydd gennym ni yw adroddiad wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU, ac sy'n dweud wrthi fod angen iddi fuddsoddi, bod angen iddi fuddsoddi yn iawn, ym mhrif reilffordd de Cymru, yn rheilffordd gogledd Cymru, er mwyn gwella cysylltedd. Rydym ni wedi cael addewid o ateb gan Lywodraeth y DU yn y flwyddyn newydd. Bryd hynny, yr hyn y bydd angen i ni ei weld yw buddsoddiad gwirioneddol—buddsoddiad gwirioneddol yn eu cyfrifoldebau, y mae adolygiad Hendy yn eu cyflwyno iddi, yn deg ac yn blaen. Ac os byddwn yn gweld y buddsoddiad hwnnw yn dod drwodd bryd hynny, yna byddaf yn barod i ymrwymo i rai o gynigion yr Aelod ynghylch mwy o fuddsoddiad. Yn sicr, nid ydym ni wedi ei weld hyd yn hyn. Rwy'n obeithiol y byddwn ni'n gweld, os yw Llywodraeth y DU yn barod i weithredu arno, fuddsoddiad o ganlyniad i'r adolygiad.
Rwy'n falch ei bod hi'n ymddangos bod rheilffordd metro de Cymru yn symud ymlaen o'r diwedd; rydym ni wedi bod yn ei thrafod ers blynyddoedd lawer. Rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud yn y gorffennol ei fod wedi disgrifio rheilffordd metro de Cymru fel rhyw fath o brosiect Loch Ness—nid oedd neb yn hollol siŵr a oedd yn bodoli ai peidio. Ond rwy'n falch, gyda chymeradwyaeth adroddiad Hendy bellach, efallai y bydd Nessie yn dod i fyny am ychydig o aer bellach ag y byddwn ni'n gweld ei fod yn bodoli mewn gwirionedd. Mae'r Athro Mark Barry wedi gwneud llawer o waith ar hyn, er mwyn cadw rheilffordd y metro ar y map gwleidyddol. Ac yn gynharach eleni, mewn cydweithrediad â phrifddinas-ranbarth Caerdydd, cyhoeddodd weledigaeth rheilffyrdd teithwyr. Mae'r ddogfen hon yn darparu enghreifftiau clir o adfywiad a datblygiad economaidd wedi ei alluogi gan drafnidiaeth. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r adroddiad hwnnw, a pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau y daw digon o arian i droi'r freuddwyd o fetro yn ne Cymru yn realiti? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Llywydd, mae metro de Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru—gwerth £438 miliwn o fuddsoddiad y byddwn ni wedi ei roi ar waith er mwyn ei wireddu. Rwy'n talu teyrnged i waith Mark Barry, yn sicr, sydd wedi dadlau ers cyhyd dros well buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn y rhan hon o dde Cymru, yn ne-orllewin Cymru, ac yn fwy cyffredinol hefyd. Mae gwaith metro de Cymru yn sicr wedi hen gychwyn—rwy'n gwybod o fy etholaeth fy hun, lle ceir tarfu anochel ar gymunedau lleol tra bod y buddsoddiad mawr hwnnw mewn trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn digwydd. Ond mae pobl yn cydnabod bod y tarfu dros dro—cyn belled â'i fod yn cael ei reoli yn briodol—yn fuddsoddiad hirdymor yn y gwelliannau a ddaw yn sgil metro de Cymru: system gyfoes, ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn caniatáu i bobl adael y car gartref, i ddefnyddio'r cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus newydd. Mae'n fuddsoddiad economaidd, mae'n fuddsoddiad yn nyfodol ein heconomi, ac mae'n fuddsoddiad sy'n gyson â'r her newid hinsawdd yr ydym yn gwybod ein bod ni'n ei hwynebu.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad cymdeithasau budd cymunedol? OQ57315
Llywydd, rwy'n diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Darperir cyllid craidd i Ganolfan Cydweithredol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru i gefnogi datblygiad mentrau cydweithredol, gan gynnwys cymdeithasau budd cymunedol. Mae cymorth gan wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a phrosiect cadernid Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru hefyd ar gael i hyrwyddo eu sefydliad yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb yna. Yn ddiweddar, cefais y pleser o drafod fy Mil bwyd arfaethedig gydag aelodau Câr-y-Môr, cymdeithas budd cymunedol, y bydd fy nghyd-Aelodau yn y gorllewin yn gwbl ymwybodol ohoni. Y mae'n eiddo i dros 100 o aelodau lleol, ond yn canolbwyntio ar wasanaethu buddiannau ehangach eu cymuned leol. Roedd yn wych clywed am eu cynlluniau a sut y mae eu gwaith yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy ein hamgylchedd arfordirol. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw godi rhai problemau yr oedden nhw wedi eu cael, sydd wedi llesteirio datblygiad cymdeithasau budd cymunedol ledled Cymru. Er enghraifft, roedd angen sicrhau bod dealltwriaeth eang o'r model cymdeithas budd cymunedol ymysg sefydliadau'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus, yn ogystal â darparwyr cyllid, fel banciau. Oherwydd diffyg gwybodaeth am sut y maen nhw'n gweithio, mae rhai cymdeithasau budd cymunedol wedi cael trafferth yn cael gafael ar ffynonellau cyllid dibynadwy, yn ogystal â mynediad at gyngor a chymorth digonol, ac mae ofn y gallan nhw fynd i'r wal os na ellir mynd i'r afael â hyn yn gyflym. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod cymdeithasau budd cymunedol yn ffordd bwysig o hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yng Nghymru? A beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu cymdeithasau budd cymunedol, fel Câr-y-Môr, i wireddu eu potensial ac i helpu eraill i gopïo'r model hwn i greu mwy o fusnesau â pherchnogion lleol? Diolch.
Llywydd, rwy'n diolch i Peter Fox am hynna. Rwy'n gyfarwydd â Câr-y-Môr, ond yn fwy yng nghyd-destun y de-orllewin, yn ardal Solfach a Thyddewi, ac mae'n enghraifft ardderchog o fenter fasnachol, ond â gwreiddiau cymunedol cryf, sydd â'r nod o sefydlu'r fferm gwymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n debygol bod y pethau y maen nhw wedi eu dweud wrth Peter Fox yn wir: gwell dealltwriaeth o'r model newydd hwnnw a'r hyn y gall cymdeithasau budd cymunedol ei wneud, yn enwedig gwell dealltwriaeth ymhlith darpar fuddsoddwyr masnachol, fel nad ydyn nhw'n ddibynnol ychwaith ar eu gallu i godi arian o gymunedau lleol iawn neu drwy Lywodraeth Cymru. Ceir potensial gwirioneddol am fuddsoddiad masnachol mewn rhai o'r syniadau hyn hefyd. Rwy'n berffaith hapus, Llywydd, i ofyn i fy swyddogion gyfarfod â Câr-y-Môr i glywed yn uniongyrchol ganddyn nhw am eu profiad eu hunain, ac yna i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo'r ddealltwriaeth o gymdeithasau budd cymunedol, a chwilio am ffyrdd newydd y gellir eu hyrwyddo ymhellach yng Nghymru.
Cefais gyfarfod yn ddiweddar â Mark Hooper o Fanc Cambria yn Abertyleri i drafod y cyfleusterau bancio sydd ar gael mewn gwahanol rannau o'n cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan heddiw, yn ei datganiad ar y rhaglen lywodraethu, ei hymrwymiad i fancio cymunedol. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r flaenoriaeth ar gyfer bancio cymunedol a bwrw ymlaen â lansiad Banc Cambria, fel banc cymunedol cenedlaethol yng Nghymru, yw sicrhau bod gan bobl ledled y wlad gyfan afael ar wasanaethau ariannol yn eu cymunedau eu hunain, a bod gan rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig wasanaethau bancio ac ariannol ar gael iddyn nhw gyda changhennau yn ôl ar y stryd fawr?
Llywydd, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Alun Davies yn y fan yna. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi sefydliad banc cymunedol i Gymru, sydd â'i bencadlys yma yng Nghymru, sy'n eiddo i'w aelodau ac yn cael ei redeg er eu budd fel sefydliad ariannol cymunedol cydfuddiannol. Rwy'n gwybod mai nod Banc Cambria yw darparu gwasanaethau bancio manwerthu llawn bob dydd, yn enwedig yn y cymunedau hynny lle'r ydym ni wedi gweld ymadawiad sefydliadau ariannol prif ffrwd, gan adael llawer o strydoedd mawr heb gyfleusterau y mae llawer o bobl wedi dibynnu arnyn nhw. Rwy'n cofio yn iawn, Llywydd, ymweliad â Bwcle gyda fy nghyd-Aelod Jack Sargeant, pan oedd Jack yn gallu pwyntio, o un man ar y stryd fawr, at bedwar gwahanol adeilad—un neu ddau ohonyn nhw yn adeiladau nodedig—a oedd, hyd yn oed bum mlynedd yn ôl, wedi eu meddiannu gan fanciau prif ffrwd, ac mae pob un ohonyn nhw wedi diflannu o'r stryd fawr honno. A'r pwysigrwydd yr ydym yn ei neilltuo i'r syniad o ddatblygu banc cymunedol i Gymru yw dod â'r gwasanaethau hynny yn ôl i'r stryd fawr yn y ffordd yr awgrymodd Alun Davies, ac i wneud hynny yn arbennig yn y mannau hynny lle mae'r sefydliadau ariannol prif ffrwd hynny, a wnaeth lawer o arian o'r cymunedau hynny, wedi ffoi, gan adael ychydig iawn ar eu holau yn aml iawn.
Rwy'n cofio'r ymweliad gyda'r Prif Weinidog â Bwcle yn fy etholaeth i yn annwyl iawn. Roedd yn ymweliad ardderchog rai misoedd yn ôl. Roedd hi'n Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ddydd Sadwrn diwethaf, fel y gwyddom ni, a'r busnesau bach hynny, fel y cigyddion ar stryd fawr Bwcle, y trinwyr gwallt ar stryd fawr Bwcle a'r llu o fusnesau eraill, sy'n cadw mwy o arian yn ein cymunedau bob un diwrnod o'r flwyddyn. Ac, fel fy nghyd-Aelod Alun Davies, cefais sgwrs wych yn ddiweddar â Mark Hooper o Fanc Cambria am y mathau o fuddion y gall banc cymunedol eu cynnig i fusnesau bach a chanolig eu maint. Felly, rwy'n croesawu'r ymgyrch gan y Prif Weinidog i ysgogi'r agenda feiddgar hon i'r cam hwn, lle'r ydym ni wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru, ac fe fydd yn cael ei gyflawni yng Nghymru. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog sut y gallwn ni barhau â'r math hwn o agenda feiddgar lle mae pwyslais cymunedol yn gwbl ganolog i'n rhaglen lywodraethu feiddgar a radical?
Wel, rwy'n diolch i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Roeddwn innau hefyd allan ddydd Sadwrn, yn nodi Dydd Sadwrn Busnesau Bach ac yn cyfarfod â busnesau sy'n gwneud cymaint i gadw ein strydoedd mawr yn fywiog ac yn fyw. Roedd gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Llywydd, a ddaeth â'r syniad o fanc cymunedol i Lywodraeth Cymru gyntaf, ffigurau dramatig iawn ar y gostyngiad i fenthyciadau i fentrau bach iawn o fewn radiws o filltir i fanc masnachol pan na fydd ar gael yn yr ardal honno mwyach. O fewn blwyddyn, mae benthyca i'r sector hwnnw yn gostwng yn wirioneddol, a dyna pam, yn ogystal â bod yn ddatblygiad pwysig iawn i bobl unigol sydd fel arall wedi eu hallgáu yn ariannol, bydd bod â banc cymunedol ar y stryd fawr yn dda iawn i'r busnesau lleol hynny hefyd—nad ydyn nhw'n chwilio am symiau mawr o arian, ond sy'n ceisio gwneud y buddsoddiad bach nesaf hwnnw sy'n rhoi'r busnes hwnnw ar y llwybr i ehangu ac i ffyniant pellach. Bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad yma ar lawr y Senedd yr wythnos nesaf ar greu banc cymunedol Cymru, ac rwy'n credu y bydd yn dangos y ffyrdd y gallwn ni, fel y dywedodd Jack Sargeant, barhau i gefnogi'r agenda honno sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau.
Ac mae'n braf iawn gweld arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl gyda ni, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr am y croeso cynnes iawn a gyda'ch goddefgarwch, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon a thu hwnt sydd wedi anfon dymuniadau gorau ataf i, yn enwedig y nodyn personol a ysgrifennodd y Prif Weinidog ataf i—fe wnes i ei werthfawrogi yn fawr—ynghyd â Gweinidogion eraill hefyd. Gallwn ni beidio ag ildio'r un fodfedd yn y Siambr hon, ond pan fyddwn ni'n mynd y tu allan i'r Siambr hon rydym ni i gyd yn fodau dynol, a gwerthfawrogais y gefnogaeth honno yn fawr, a dweud y lleiaf. Gadewais y Siambr hon ym mis Medi yn 19.5 stôn; rwyf i bellach yn 17.5 stôn. Felly, mae dwy stôn yn llai o gig eidion Cymreig yn y Siambr hon heddiw. [Chwerthin.]
Ond yn ôl at y busnes dan sylw, cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r rhain. Hoffwn i ofyn i chi, Prif Weinidog, am ofal iechyd sylfaenol ac, yn benodol, y sylwadau yr wythnos diwethaf gan Gymdeithas Feddygol Prydain a ddywedodd fod yn rhaid rhoi'r gorau i rywbeth yn sgil cyflwyno'r pigiad atgyfnerthu mewn gwasanaethau eraill, ac roedd y Gweinidog iechyd yn cytuno â'r ddarpariaeth y byddai'n rhaid cwtogi'r darpariaethau hynny fwy na thebyg, mewn meddygfeydd teulu yn arbennig. Mae Llywodraethau eraill yn y DU wedi gwneud cyhoeddiad dros y penwythnos. A ydych chi mewn sefyllfa i gyhoeddi pa wasanaethau allai gael eu tynnu yn ôl dros dro o wasanaethau cymunedol, yn enwedig gwasanaethau meddygol sylfaenol, oherwydd yn amlwg gallai hynny arwain yn y pen draw at fwy o alw am unedau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru?
Wel, Llywydd, cyn i mi ddechrau, a gaf i ddweud ei bod hi'n braf iawn gweld yr Aelod yn ôl yn ei le yn y Siambr y prynhawn yma? Diolch am y cwestiwn pwysig yna hefyd. Rydym ni'n cloi ein trafodaethau gyda darparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru. Rydym ni eisiau iddyn nhw chwarae mwy o ran yn yr angen byrdymor ond brys i gryfhau ein rhaglen frechu cyn, fel y mae arnaf ofn y mae'n rhaid i ni ei ddisgwyl bellach, i don fawr o amrywiolyn omicron gyrraedd. Yng Nghymru, rydym ni wedi edrych yn ehangach ar ofal sylfaenol nag mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig ym maes brechu, felly rydym ni hefyd yn cynnwys optometryddion a deintyddion y stryd fawr hefyd, a all ddarparu brechiadau clinigol yn llwyddiannus. Y pethau y bydd yn rhaid eu rhoi o'r neilltu dros dro, gobeithio, fydd yr agweddau mwyaf arferol ar ofal sylfaenol—pethau pwysig, rwy'n gwybod. Rydym ni'n talu llawer o arian drwy'r contract i'n cydweithwyr yn y gwasanaethau meddygol cyffredinol i gyflawni'r gweithgareddau gwyliadwriaeth hynny, fel monitro cyflwr diabetig pobl, eu pwysedd gwaed, yr holl bethau hynny. Nid yw hynny am eiliad yn dweud nad ydyn nhw'n bwysig, ond o'r holl bethau y mae meddygon teulu yn eu gwneud, mae'n debyg y gellir eu gosod o'r neilltu am gyfnod byr er mwyn cael mwy o gapasiti mewn gofal sylfaenol i ddarparu mwy o'r rhaglen frechu, oherwydd yr angen brys i achub y blaen cyn belled ag y gallwn, ac mor gyflym ag y gallwn, ar effaith debygol yr amrywiolyn newydd hwnnw.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n bwysig ein bod ni'n deall pa wasanaethau allai gael eu tynnu yn ôl; fe wnaethoch chi gyfeirio at archwiliadau iechyd, er enghraifft. Pryd gallem ni wybod canlyniad y trafodaethau hyn, oherwydd mae pobl yn wirioneddol bryderus? Bu pwysau dealladwy ar feddygfeydd teulu a chael apwyntiadau ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall yr hyn y gallan nhw ei ddisgwyl yn ystod misoedd y gaeaf wrth symud ymlaen, gyda'r holl bwysau sydd ar feddygfeydd teulu. Ond yn bwysig, pa fesurau diogelu fydd yn cael eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau dros gyfnod pwysig y Nadolig ac i'r flwyddyn newydd? Yn draddodiadol, mae hwnnw yn wasgbwynt am resymau dealladwy ac rwy'n gobeithio, yn y trafodaethau hynny gyda gofal sylfaenol, bod y trafodaethau hynny yn arwain at ddarparu gwasanaethau ychwanegol, fel y gall adrannau damweiniau ac achosion brys gael y seibiant hwnnw y mae ei angen yn daer. Rydym ni'n gwybod beth ddigwyddodd mewn uned damweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd dros y penwythnos lle gwnaethon nhw erfyn ar bobl i beidio â mynd yno oni bai ei bod hi'n sefyllfa a oedd yn fygythiad i fywyd. Byddwn i'n awgrymu bod hynny yn cael ei efelychu mewn unedau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru, ac felly rwy'n credu ei bod yn hollbwysig gwybod pryd y bydd y trafodaethau hynny gyda darparwyr sylfaenol yn cael eu cwblhau a pha wasanaethau allai gael eu tynnu yn ôl. Felly, pe gallech chi rannu hynny, byddem yn ddiolchgar dros ben.
Diolch eto i Andrew R.T. Davies. Byddwn yn gwneud y cyhoeddiadau hynny mor gyflym ag y gallwn. Mae cwpl o ddarnau o'r jig-so rydym ni'n dal i'w cwblhau. Rydym ni'n gobeithio cael cymorth ychwanegol yn yr ymgyrch frechu hon gan y gwasanaeth tân ac achub, er enghraifft, sy'n gwneud llawer iawn fel ymatebwyr cyntaf ac rydym ni'n credu a fyddai'n gallu, gyda rhywfaint o sylw ychwanegol, darparu brechwyr. Rydym ni bwriadu cynnwys mwy o gymorth gan y lluoedd arfog fel y gwnaethom ni yn gynharach yn y pandemig, ac rydym ni'n aros i gael y cadarnhad terfynol o'r cymorth y gallwn ni ei gael ganddyn nhw. Ac, wrth gwrs, mae fferyllfeydd yn gyfranwyr mawr arall at frechiadau. Felly, dim ond rhai o'r darnau o'r jig-so yr ydym ni'n aros am gadarnhad terfynol arnyn nhw yw hynny. Byddai pob un ohonyn nhw yn ein helpu i leihau'r angen i feddygon teulu dynnu yn ôl o rywfaint o'u gweithgareddau mwy arferol, gan ein bod ni'n awyddus i sicrhau bod hynny yn digwydd cyn lleied â phosibl hefyd, a gwneud hynny am yr union resymau y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu dweud.
Mae'r system yn ei chyfanrwydd o dan bwysau enfawr ym mhob rhan ohoni, ac os byddwn yn lleihau gweithgarwch mewn un rhan o'r system, y perygl yw mai'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yw symud y gweithgarwch hwnnw i ryw ran arall o'r system sydd eisoes o dan bwysau enfawr. Felly, rwy'n gobeithio, yn fuan iawn, mor gyflym â phosibl—rydym ni'n sôn am ddyddiau, nid wythnosau—y byddwn ni'n gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw, ond ceir y darnau olaf hynny y mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod nhw gennym ni ar waith yn llwyr, fel y gallwn ni ddefnyddio gofal sylfaenol a'n timau meddygon teulu, ond ei wneud mewn ffordd sy'n caniatáu iddyn nhw barhau i wneud y pethau pwysig iawn eraill y maen nhw'n eu darparu gymaint â phosibl.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Edrychaf ymlaen at y cyhoeddiad hwnnw yn fuan, gobeithio.
Ond fe wnaethoch chi sôn am jig-so, ac mae patrwm gofal iechyd yn ymwneud â jig-so ac mae'n bwysig bod gan y Llywodraeth strategaethau gyda'i phartneriaid. Nawr, yr wythnos diwethaf, i'r pwyllgor iechyd, tynnodd Ymchwil Canser sylw at sut mai Cymru, cyn bo hir, fydd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig heb strategaeth ganser gyfredol. Rydym ni'n gwybod, dros y penwythnos, fod Llywodraeth Cymru—ac rwy'n ei chymeradwyo am wneud hyn—wedi cyflwyno cyllideb hyfforddi staff â chynnydd o £250 miliwn a bydd honno yn darparu cynnydd o 15 y cant, yn ôl yr hyn rwyf i'n ei ddeall, i ddarpariaeth hyfforddiant. Ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod llawer o bobl nad ydyn nhw wedi dod yn eu blaenau â symptomau canser, ac rydym ni'n gwybod, erbyn 2030 yn ôl Macmillan, y bydd angen 80 y cant o nyrsys arbenigol canser ychwanegol arnom ni yma yng Nghymru. Felly, er mwyn dod â'r jig-so hwn at ei gilydd, mae'n bwysig bod strategaeth ar waith sy'n tynnu'r holl gydrannau at ei gilydd, fel y gall gwasanaethau canser ymdrin â'r don llanw—ac mae'n flin gen i ddefnyddio'r gair yna—o ganser heb ddiagnosis sy'n bodoli mewn cymunedau, gan nad yw pobl, am resymau dealladwy, wedi dod ymlaen. A wnewch chi ymrwymo heddiw i gyflwyno strategaeth ganser fel y gall yr holl wasanaethau canser ledled Cymru weithio yn unol â'r strategaeth honno, a lle bynnag y byddwch yn byw yng Nghymru, byddwch yn sicr o wasanaeth canser sydd ymysg y gorau yn y byd, lle bynnag y byddwch yn byw yng Nghymru, yn hytrach na loteri cod post, nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, fel rwy'n dweud, ond nid ydym ni eisiau i hynny ddatblygu yng Nghymru?
Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am hynna ac yn diolch iddo am dynnu sylw at yr wythfed flwyddyn yn olynol lle bydd buddsoddiad newydd a mwyaf erioed i greu gweithlu'r dyfodol ar gyfer ein GIG. Ac mae'r hyn a ddywedodd Mr Davies yn iawn: mae gennym ni wasanaethau canser o ansawdd uchel iawn ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd ac maen nhw'n adnoddau gwerthfawr iawn i mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n eu cynnal.
O ran strategaeth ganser, rwy'n credu mewn rhai ffyrdd mai dadl am semanteg yn hytrach na sylwedd yw hon. Mae gan Loegr gynllun canser, mae gan yr Alban strategaeth ganser ac mae gennym ni ddatganiad ansawdd canser. Nawr, mae'r datganiadau ansawdd hynny yn deillio o'r adolygiad seneddol o'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a ddisgrifiodd ffyrdd y gallem ni wneud yn siŵr, ym mhob un o'r prif gyflyrau—clefyd y galon, strôc ac, wrth gwrs, canser—fod gennym ni ddatganiadau o flaenoriaethau cenedlaethol, pwyslais ar driniaeth a chanfod clefydau yn gynnar. Fe wnaethom ni gyhoeddi ein datganiad ansawdd canser ym mis Mawrth eleni ac rwy'n credu ei fod yn gwneud y pethau y mae pobl sy'n gofyn am strategaeth neu gynllun yn chwilio amdanyn nhw. Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n hapus iawn i drafod hynny gyda'r sefydliadau trydydd sector hynny y soniodd arweinydd yr wrthblaid amdanyn nhw, ond nid yw'n wir nad oes unrhyw gynllun ar gyfer Cymru. Mae cynllun ac mae strategaeth; mae wedi ei nodi yn y datganiad ansawdd hwnnw. Nod y datganiad yw gwneud yn union y mathau o bethau a awgrymodd arweinydd yr wrthblaid.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud pa mor falch yr wyf i o weld arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl yn ei le yma? Rydym ni wedi anghytuno droeon yn y Siambr hon, Andrew, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n anghytuno droeon eto, ac weithiau'n angerddol, ond a gaf i ddweud ein bod ni bob amser wedi bod â'r berthynas bersonol orau posibl? A gaf i hefyd dalu teyrnged i'r ffordd y gwnaethoch chi siarad yn agored am faterion llesiant? Rydych chi'n ysbrydoliaeth wirioneddol i bob un ohonom ni yn hynny o beth.
Prif Weinidog, mae prif weithredwr Banc Datblygu Cymru wedi bod yn gwneud buddsoddiadau personol mewn cwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru heb geisio cymeradwyaeth y bwrdd ymlaen llaw. A yw hynny yn rhywbeth yr ydych chi, fel Prif Weinidog, yn gyfforddus ag ef?
Rwy'n disgwyl i unrhyw brif weithredwr neu gyflogai menter neu asiantau Llywodraeth Cymru gadw at yr holl briodoldebau a'r rheolau sy'n ofynnol ganddyn nhw. Nid wyf i'n siŵr a yw arweinydd Plaid Cymru yn awgrymu y bu amhriodoldeb yma, ond os ydyw, dylai ddweud hynny, ac os yw'n dweud hynny, yna byddwn yn ymchwilio i hynny.
Wel, fe wnaeth Mr Thorley ofyn am gymeradwyaeth y bwrdd ac ysgrifennodd hefyd at Weinidog yr economi ar y pryd cyn dechrau ei swydd gyflogedig fel cadeirydd Zip World. Efallai y gallai'r Prif Weinidog gadarnhau a oedd buddsoddiad personol Mr Thorley yn Zip World hefyd yn destun cymeradwyaeth y bwrdd ymlaen llaw, fel sydd wedi ei adrodd yn y wasg.
Nawr, os oedd, a'r rheswm yr wyf i'n codi hyn—. Wel, mae'r cwestiwn yn eglur, onid yw? Pam na chafodd yr un egwyddor ei ddilyn ar gyfer ei fuddsoddiad yn y busnes newydd Love to Visit yng Nghaerdydd? A gaf i ofyn pwynt o egwyddor eithaf sylfaenol i chi, Prif Weinidog, a yw wedi ei nodi na ddylai Mr Thorley, sydd eisoes ymhlith y cyflogeion â'r tâl uchaf mewn unrhyw gorff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, fuddsoddi mewn cwmnïau drwy ddefnyddio gwybodaeth neu rwydweithiau y mae wedi eu caffael drwy ei waith yn y banc datblygu? Oni fyddech chi'n cytuno â mi nad yw'n asesiad y dylai Mr Thorley gael ei wneud, fel barnwr a rheithgor yn ei achos ei hun i bob pwrpas?
Wel, rwy'n sicr yn cytuno â'r pwynt olaf, Llywydd, pan fo unrhyw berson yn gwneud gwaith ar ran budd y cyhoedd yng Nghymru ac mewn swydd a benodir yn gyhoeddus i wneud hynny, yna mae wedi ei rwymo gan lyfrau rheolau nad ydyn nhw wedi eu llunio ganddyn nhw eu hunain, ac nad y person hwnnw ddylai fod yr unig feirniad o ba un a yw'n cydymffurfio â'r llyfrau rheolau hynny.
Nid wyf i'n gyfarwydd â manylion y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan brif weithredwr Banc Datblygu Cymru yn y ffordd y mae arweinydd Plaid Cymru. Os oes pryderon penodol y dylid ymchwilio iddyn nhw, yna mae angen tynnu sylw'r Llywodraeth atyn nhw ac yna byddan nhw'n yn cael y sylw hwnnw.
Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, roedd eich rhagflaenydd Rhodri Morgan yn feirniadol iawn o ffigyrau arweinyddiaeth uwch yn Awdurdod Datblygu Cymru a oedd â buddiannau busnes allanol a arweiniodd at dybiaethau negyddol. Dywedodd, ac rwy'n dyfynnu:
'Nid yn unig y mae'n rhaid i fusnes gael ei gyflawni, mae'n rhaid iddo gael ei weld yn cael ei gyflawni. Mae hynny fwy neu lai yn amhosibl pan fydd gennych chi gysylltiadau sy'n cyd-gloi.'
Nid yw'n ddigon i ddweud mai materion i'r bwrdd yn unig yw'r rhain, er enghraifft, pan fo hwn yn gwmni sy'n eiddo cyhoeddus a Llywodraeth Cymru yw ei unig gyfranddaliwr. Fe wnaethoch chi ddiwygio'r ddogfen fframwaith sy'n nodi, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, ddisgwyliadau'r Llywodraeth o'r banc o ran llywodraethu—rhai o'r cwestiynau yr wyf i wedi eu codi gyda chi heddiw—ym mis Chwefror eleni. A gaf i ofyn i chi gyhoeddi'r ddogfen honno, ynghyd â'r llythyr cylch gwaith y gwnaethoch ei lofnodi gyda'r banc fel Llywodraeth fis diwethaf? A wnewch chi fynnu ar adolygiad o drefniadau llywodraethu i sicrhau eu bod nhw'n bodloni disgwyliad rhesymol pobl nad oes gorgyffwrdd na diystyriaeth rhwng budd y cyhoedd a buddiannau preifat unigolion, er mwyn osgoi rhai o'r problemau o ran tybiaethau yr wyf i wedi eu codi gyda chi heddiw?
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cynnig terfynol a wnaeth Mr Price; ni ddylai pobl roi eu hunain yn y sefyllfa honno. Rwy'n cofio yn iawn farn y cyn Brif Weinidog ar Awdurdod Datblygu Cymru a'i hanes a nifer o'i gyflogeion. Safbwynt rheolaidd Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi llythyrau cylch gwaith i sefydliadau yr ydym yn eu noddi, ond mae Banc Datblygu Cymru yn ymdrin â meysydd sy'n fasnachol sensitif lle nad yw bob amser yn bosibl cyhoeddi'r un lefel o wybodaeth â'r hyn sy'n bosibl i gyrff nad ydyn nhw'n ymdrin â'r un meysydd hynny. Rwy'n gyndyn, Llywydd, i roi ymrwymiadau cyffredinol ar sail awgrymiadau nad wyf i'n gwbl sicr o'u sail, nac yn wir yr hyn sy'n cael ei honni. Byddaf yn darllen yn ofalus iawn y Cofnod o'r hyn sydd wedi ei ddweud y prynhawn yma ac, wrth gwrs, os byddaf yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw gamau, yna bydd y camau hynny yn dilyn.FootnoteLink
3. Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud mewn perthynas â'i hadolygiad ffyrdd? OQ57345
Diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn. Mae panel yr adolygiad ffyrdd wedi gweithio'n gyflym i nodi ac ystyried y prosiectau sydd o fewn cwmpas yr adolygiad. Rydym yn disgwyl yr adroddiad interim yn ddiweddarach y mis yma. Mae disgwyl i’r adroddiad terfynol a'r argymhellion fod yn barod ym mis Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Gaf i ddarllen tamaid allan o gwmpas yr adolygiad, sydd yn y cylch gorchwyl ar gyfer panel adolygu'r ffyrdd? Mae'n dweud:
'Bydd ffyrdd mynediad sydd â'r prif ddiben o gysylltu safle neu fangre ar gyfer diwydiant trwm â'r briffordd gyhoeddus, neu o fewn ffin safle datblygu diwydiant trwm, yn cael eu heithrio o'r adolygiad. Dylid oedi o ran ffyrdd mynediad gyda'r prif ddiben o wasanaethu datblygiadau preswyl, manwerthu a swyddfeydd / diwydiant ysgafn yn y porth penderfynu nesaf i'w galluogi i gael eu hystyried gan y panel adolygu.'
Ydych chi'n meddwl fod yna anghysondeb yma wrth eich bod chi'n eithrio diwydiant trwm—y ffyrdd mwyaf llygredig—o'r adolygiad, ond yn oedi ac atal y ffyrdd sydd am wasanaethu cymunedau mwy gwledig, hwyrach, ffyrdd i ddiwydiant ysgafn ac yn y blaen, megis a welwyd yn Llanbedr? A wnewch chi felly esbonio’r rhesymeg a'r wyddoniaeth y tu ôl i hyn, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr am y cwestiwn ychwanegol. Mae'n bwysig, Llywydd, imi fynd yn ôl at bwrpas yr adolygiad ffyrdd. Rydyn ni wedi rhoi'r adolygiad ar y gweill achos mae'n rhan sylfaenol o ymateb y Llywodraeth hon i'r argyfwng amgylcheddol, argyfwng sydd wedi ei ddatgan, wrth gwrs, gyda'i blaid e. Beth rŷn ni'n ei wneud yw trio bod yn glir gyda phobl yng Nghymru na allwn barhau i fynd ati i adeiladau ffyrdd newydd fel ateb diofyn i'r heriau trafnidiaeth. Dyna pam rydyn ni wedi gofyn i'r panel wneud y gwaith rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud, a dyna pam rydyn ni wedi'i wneud e yn y ffordd rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.
Dwi’n gwybod bod pobl yn etholaeth yr Aelod wedi bod yn pryderu am y dewisiadau sydd wedi dod ar ôl i’r panel edrych i mewn i’r ffyrdd newydd a oedd yn mynd i gael eu hadeiladu o gwmpas cymuned Llanbedr. Ond, dyna beth oedd pwrpas yr adolygiad—i edrych i mewn i’r achos am greu ffyrdd newydd. A phan oedd y panel adolygu wedi dod at y casgliad bod opsiynau eraill yn cynnig cyfle gwell i leihau carbon a llygredd aer, dyna beth mae’r Gweinidog wedi’i dderbyn, a dyna yw’r pethau fydd y grŵp adolygu yn mynd i edrych amdanynt ble bynnag bydd ffyrdd newydd yn cael eu considro.
Prif Weinidog, byddwch chi'n ymwybodol o'r ffordd arfordirol i Dyddewi drwy Niwgwl, sydd wedi ei heffeithio yn fawr gan erydu arfordirol a difrod stormydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, mae rhai astudiaethau wedi awgrymu y bydd y ffordd yn Niwgwl o dan y dŵr erbyn 2036, oherwydd yr effaith sy'n newid yn gyflym a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau moratoriwm ar adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru, ond mae'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio yn gwbl briodol ar brosiect i ailgyfeirio'r darn hwn o ffordd o amgylch pentref Niwgwl, fel y gall cymunedau barhau i gysylltu â lleoedd fel Solfach a Thyddewi o Hwlffordd. Prif Weinidog, a allwch chi, felly, ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Chyngor Sir Penfro am y darn penodol hwn o ffordd? A allwch chi gadarnhau y byddwch chi'n dal i ystyried cefnogi'r prosiect hwn yn ariannol i adeiladu ffordd newydd fel bod gan y cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli rwydwaith ffyrdd sy'n ddiogel ac yn hygyrch ar gyfer y dyfodol?
Rwy'n cymryd o ddifrif y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Rwy'n gyfarwydd â'r darn hwnnw o ffordd a'r risgiau y mae'r newid yn yr hinsawdd yn eu peri iddo. Yr hyn nad wyf i'n credu y gallwn ni ei gael, serch hynny, Llywydd, yw sefyllfa lle bydd pawb yn cytuno ar yr egwyddor sylfaenol, os ydym ni am fod o ddifrif ynghylch y newid yn yr hinsawdd, na allwn ni wneud adeiladu ffordd newydd yn opsiwn diofyn bob tro y bydd problem drafnidiaeth, ond bob amser eisiau gwneud ffordd yn eu rhan nhw o Gymru yn eithriad i'r rheol yr ydym ni wedi cytuno arni. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sgwrsio, wrth gwrs, â Chyngor Sir Penfro. Rydym ni wedi cytuno y bydd y gwelliannau i'r A40—nid wyf i'n credu eu bod nhw yn etholaeth yr Aelod, ond yn y sir—yn mynd yn eu blaenau. Nid yw'r ffaith bod gennym ni adolygiad o ffyrdd yn golygu, lle ceir ystyriaethau diogelwch eglur, er enghraifft, na fydd buddsoddiad mewn cyfleusterau ffyrdd newydd yn cael ei wneud. Yn syml, mae'n rhaid i'r bar fod yn uwch nag yr oedd yn y gorffennol i wneud ffordd newydd yn ateb i broblem. Oherwydd oni bai ein bod ni'n barod i wasgu'r ddanhadlen anodd honno, bydd y tebygolrwydd y byddwn yn gallu bod yn garbon niwtral erbyn 2050, heb sôn am 2035, yn amhosibl iawn.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynnwys pobl leol a chymunedol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OQ57343
Rwy'n credu bod synnwyr cryfach nag erioed o'r blaen o frys yr argyfwng hinsawdd. Mae'r ffyrdd ymarferol y gall gweithredu lleol a chyfranogiad cymunedol wneud gwahaniaeth yn cael eu dangos yn eglur yn 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Gyrraedd Sero Net', y ddogfen ategol i'n cynllun Cymru sero net.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n galonogol iawn gweld pobl a sefydliadau â chynlluniau a mentrau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain, ond, yn bwysicach, i leihau rhai pobl eraill hefyd. Dau sefydliad o'r fath yn fy etholaeth i yw RE:MAKE Casnewydd, sydd wedi agor y caffi trwsio parhaol cyntaf yng Nghymru, gyda chymorth llawer o wirfoddolwyr yn y gymuned, a'r fenter Sero Zero Waste arobryn, sydd wedi ei leoli ar dir Tŷ Tredegar, sy'n gwerthu cynnyrch ail-lenwi a chynaliadwy. Mae'r rhain yn cael eu derbyn gan bron pawb fel mentrau da, ond gall sefydlu sefydliadau fod yn anodd, ac mae eu cynnal yn y tymor hir yn eithaf aml yn gofyn am gymorth. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu sefydliadau fel y rhain i sefydlu a ffynnu yn y tymor hir, a sut gallwn ni annog mwy ohonyn nhw i ddechrau yng Nghymru?
Rwy'n diolch i Jayne Bryant am hynna ac am y ddwy enghraifft ymarferol y soniodd amdanyn nhw. Dywedais fod Jack Sargeant wedi mynd â mi i weld effaith cau banciau ym Mwcle; ond aeth yr Aelod dros Orllewin Casnewydd â mi i weld Sero Zero Waste, y siop gymunedol yn Nhŷ Tredegar, a'r ddwy fenyw ifanc wych a oedd wedi cymryd y risg o sefydlu'r cyfan ac sydd wedi gwneud cymaint o lwyddiant ohono.
O ran RE:MAKE Casnewydd, yna bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n siŵr, ei fod yn cael ei ariannu gan gynllun cymunedau treth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru, cynllun a ddyluniwyd yn arbennig yma yng Nghymru pan gafodd y darn hwnnw o gyfrifoldeb cyllidol ei drosglwyddo i ni a chafodd ei gymeradwyo wrth i'r ddeddfwriaeth fynd drwy'r Senedd. Mae caffis trwsio yn ffenomenon o Gymru—mae gennym ni dros 60 ohonyn nhw eisoes—ond rwy'n credu bod RE:MAKE Casnewydd yn cynnig cam ymhellach eto . Oherwydd, mewn ffordd yr wyf i'n gyfarwydd â hi o rai enghreifftiau eraill, gallwch gymryd eitemau cartref y mae angen eu trwsio, ac os nad oes eu hangen nhw eich hun, gallwch eu cyfrannu nhw at lyfrgell fenthyca lle gall pobl efallai nad oes ganddyn nhw fynediad hawdd at eitemau wedi eu trwsio yn gyflym fynd i'w benthyg at eu defnydd eu hunain.
Rydym ni'n edrych o gwmpas y Siambr yma ac yn meddwl yn gyffredinol pa mor lwcus yw pob un ohonom ni nad oes yn rhaid i ni feddwl, os aiff rhywbeth bach o'i le gartref—os bydd y tegell yn torri, os oes angen trwsio'r tostiwr—ble rydym ni'n mynd i ddod o hyd i'r arian i allu cael eitem newydd yn ei lle. Ond rydym ni'n gwybod bod canran enfawr o aelwydydd yng Nghymru nad oes ganddyn nhw unrhyw gynilion o gwbl ar gael wrth gefn lle mae hyd yn oed mân anawsterau domestig yn taflu cysgod mawr iawn ar allu'r aelwyd honno i ymdopi drwy'r wythnos i ddod. Mae'r llyfrgelloedd benthyg hynny o eitemau wedi eu trwsio yn achubiaeth wirioneddol yn y cymunedau hynny, ac mae'n wych gweld RE:MAKE Casnewydd yn rhan o'r cam diweddaraf hwnnw yn y datblygiad hwnnw.
Prif Weinidog, y penwythnos hwn, ceisiodd trefi a chymunedau ledled y gogledd, a Chymru gyfan yn fwy na thebyg, amddiffyn eu hunain yn erbyn ymosodiad ofnadwy arall o dywydd stormus iawn. Cymerodd fy awdurdod lleol i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, nifer o gamau rhagataliol drwy gau'r holl lifddorau oedd ar gael, ond rydym ni wedi gweld difrod helaeth iawn i'r promenâd yn Llanfairfechan. Mae'n ymestyn yr holl ffordd i Benmorfa, a cheir goblygiadau pellach i'r rheilffordd sy'n rhedeg ar hyd hynny. Mae mor ddrwg bod hyd yn oed gwaith diweddar ar ôl un o'r stormydd blaenorol wedi ei olchi i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. I mi, mae digwyddiadau fel hyn yn profi canfyddiad trydydd asesiad risg newid hinsawdd y DU, bod angen mwy o weithredu gan bob Llywodraeth i fynd i'r afael â'r risg o effeithiau newid yn yr hinsawdd, ond yn enwedig llifogydd ac erydu arfordirol amlach sy'n achosi difrod i seilwaith. Felly, Prif Weinidog, pa gamau rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymgysylltu â'n cymunedau, ac yn arbennig ein hawdurdodau lleol sy'n ysgwyddo baich hyn, a Cyfoeth Naturiol Cymru, i nodi pwyntiau seilwaith sydd mewn perygl i sicrhau bod rhagofalon i wrthsefyll stormydd yn cael eu cyflwyno? Ac yn fwy felly, pa gamau allwch chi eu cymryd yn awr fel Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog, i wneud yn siŵr bod cronfa wrth gefn ar waith i gynorthwyo ein hawdurdodau lleol yn sgil stormydd ailadroddus o'r fath? Oherwydd rwy'n credu bod y rhain yn mynd i ddod yn fwy aml nag y maen nhw wedi bod yn y gorffennol erbyn hyn. Diolch.
Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am y pwynt pwysig iawn yna. Nid oes amheuaeth, Llywydd, bod newid yn yr hinsawdd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Mae digwyddiadau tywydd difrifol a pha mor aml y maen nhw'n digwydd yn ystod y gaeaf yn mynd i fod yn rhan o'n bywydau yn llawer mwy nag yr oedden nhw yn y gorffennol. Rydym ni wedi ei weld eisoes mewn cymunedau yma yn y de. Ymwelais gydag arweinydd cyngor Conwy ar y pryd â chymuned a oedd wedi ei heffeithio yn wael iawn gan lifogydd flwyddyn yn ôl. Rwy'n talu teyrnged i waith awdurdodau lleol, gwasanaethau brys ac, yn wir, gweithwyr CNC sydd wedi bod allan y penwythnos diwethaf hwn, ac sydd allan eto heddiw, yn y gwyntoedd cryfion a'r glaw yr ydym ni'n eu gweld, yn gweithio'n galed i geisio amddiffyn cymunedau rhag effaith y digwyddiadau tywydd eithafol hyn. Byddwn yn buddsoddi'r swm uchaf erioed eto y tymor hwn, Llywydd, mewn amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol ledled Cymru gyfan. Pan fydd argyfyngau yn taro, ceir trefniadau ar wahân, wrth gwrs, yn debyg i hen fformiwla Bellwin fel yr arferai gael ei hadnabod, sy'n helpu awdurdodau lleol lle mae'n rhaid iddyn nhw dalu'r costau uniongyrchol, fel yr wyf i'n cofio y bu'n rhaid i Gyngor Sir Ceredigion ei wneud pan gafodd ffrynt Aberystwyth ei ddifrodi yn wael mewn gwyntoedd cryfion ac ymchwydd y môr. Mae hynny yn mynd i fod yn nodwedd fwy parhaol o'r ffordd y mae pethau yn digwydd yng Nghymru tra byddwn yn ymdrin ag effaith newid yn yr hinsawdd, ac mae gwneud yn siŵr bod gennym ni'r trefniadau sy'n addas i ymateb i'r amgylchiadau hynny yn bwynt pwysig y mae'r Aelod wedi ei wneud y prynhawn yma.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu sgiliau digidol yn Ynys Môn? OQ57347
Mae dysgu sgiliau digidol yn ofyniad gorfodol ar draws y cwricwlwm newydd i Gymru. Mae gan ysgolion yn Ynys Môn fynediad at adnoddau dwyieithog digyffelyb a ddarperir drwy'r rhaglen Hwb. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu dosbarthiadau llythrennedd digidol am ddim ar gyfer pob dysgwr sy'n oedolyn ar yr ynys ac ar draws y wlad.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Yr amser cinio yma, roeddwn i'n cadeirio'r cyfarfod diweddaraf o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion digidol, a sgiliau oedd y testun dan sylw gennym ni heddiw. Trafodaeth ddifyr iawn ac mi glywsom ni enghreifftiau o waith rhagorol sy'n digwydd yn barod, nid yn unig yn Ynys Môn yn y parc gwyddoniaeth yn M-SParc, ond hefyd yng Ngwynedd—strategaeth ddigidol newydd y cyngor yno—a hefyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a'r bartneriaeth sgiliau yn y de orllewin. Mae'n bwysig, wrth gwrs, bod arfer da yn cael ei rhannu. Felly, sut all Llywodraeth Cymru sicrhau bod arfer da yn cael ei rhannu'n effeithiol fel bod pobl o bob oed yng Nghymru, lle bynnag maen nhw, yn gwybod eu bod nhw'n gallu cael y mynediad maen nhw ei angen at addysg yn y maes digidol, a hefyd, wrth gwrs, bod cyflogwyr ym mhob rhan o Gymru yn gwybod eu bod nhw'n gallu cael pipeline o bobl efo'r sgiliau y maen nhw eu hangen fel diwydiant?
Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Fe welais i fod y grŵp trawsbleidiol yn cwrdd unwaith eto yr wythnos hon, ac, wrth gwrs, dwi'n gyfarwydd hefyd gyda'r gwaith sy'n mynd ymlaen yn M-SParc ar Ynys Môn, ac mae Blue Lobster, un o'r cwmnïau sy'n gweithio mas o M-SParc, yn enghraifft o'r pwynt roedd Rhun ap Iorwerth yn ei wneud.
Pe bawn i'n cymryd un enghraifft yn unig, Llywydd, o'r pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud ynghylch rhannu arfer da a sicrhau bod pethau da sy'n digwydd mewn un rhan o Gymru yn hysbys ac y gellir eu datblygu mewn mannau eraill, yna efallai, y prynhawn yma, y gwnaf i gyfeirio at y rhaglen prentisiaeth gradd. Mae'r rhain yn brentisiaethau lefel gradd, a llawer ohonyn nhw ym maes sgiliau digidol. Tan tua blwyddyn yn ôl, nid oedd gennym ni unrhyw brentisiaethau gradd ar Ynys Môn, ond mae gennym ni erbyn hyn. Mae hynny yn newyddion da iawn ac mae'n wych gweld y bobl ifanc hynny yn dod ymlaen i fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Rwy'n credu mai un o'r rhesymau y bydd hynny wedi digwydd yw oherwydd bod llwyddiant y rhaglen prentisiaeth gradd mewn rhai rhannau eraill o Gymru, rhai gweithredwyr cynnar, bellach wedi ei gyfleu ar draws y rhwydwaith o golegau addysg bellach—ac mae gan yr Aelod enghraifft ragorol yn Llandrillo o goleg addysg bellach blaengar—a bod arfer da mewn rhai rhannau o Gymru bellach yn cael ei ledaenu drwy'r rhwydwaith hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd yn arwain at y cyfleoedd ychwanegol hynny i bobl ifanc, ac nid pobl ifanc yn unig, pobl o bob oed—
fel roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud
—i fanteisio ar y cyfleoedd hynny, yn enwedig o ran sgiliau y bydd eu hangen ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau yn y dyfodol.
6. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddileu trais yn erbyn menywod? OQ57336
Llywydd, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau heddiw ar strategaeth pum mlynedd nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod, a bydd datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma gan fy nghyd-Weinidog Jane Hutt. Ymysg camau gweithredu eraill, mae'n canolbwyntio ar ddod â'r holl asiantaethau yng Nghymru at ei gilydd i herio agweddau ac ymddygiadau a gwella ymddiriedaeth menywod yn y cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Diolch yn fawr. Yr wythnos diwethaf, cafodd ffigurau annymunol eu cyhoeddi ar gyfer ardal Gwent o ran trais domestig. Dywedodd y South Wales Argus fod troseddau cam-drin domestig wedi mwy na dyblu yng Ngwent yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Er gwaethaf deddfwriaeth fel Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ac ymgyrchoedd uchel eu proffil fel ymgyrch ddiweddar y Rhuban Gwyn, mae gennym ni broblemau o hyd yng Nghymru o ran cam-drin domestig. Mae dileu'r drosedd hon wedi ei gwneud yn anoddach byth oherwydd natur newidiol ein bywydau gwaith, wrth i lawer weithio gartref bellach. Mae'r pandemig wedi cyd-daro â chynnydd i drais domestig, yn anffodus. Sut mae'r Llywodraeth hon yn teilwra ei dull o fynd i'r afael â thrais domestig, o ystyried y ffordd y mae coronafeirws wedi newid bywydau pobl?
Rwy'n diolch i'r Aelod am gwestiwn pwysig iawn arall y prynhawn yma. Roedd y ffigurau hynny a gafodd eu cyhoeddi yn annymunol ac, fel erioed, mae'n anodd iawn gwahaniaethu rhwng y llwyddiant y mae sefydliadau ar lawr gwlad wedi ei gael yn argyhoeddi mwy o bobl i ddod ymlaen a rhoi gwybod am droseddau cam-drin domestig a'r cynnydd gwirioneddol yr ydym ni'n gwybod sydd wedi bod o ganlyniad i'r pandemig, ond gan nad ydym ni erioed wedi llwyddo i ddileu cam-drin domestig yma yng Nghymru. Ceir cyfres o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag eraill i geisio ymateb i'r patrymau mwyaf cyfoes: £4 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn ystod cyfnod y pandemig, gwaith y tasglu yr ydym ni wedi ei gynnull yng Nghymru ar drais domestig, dan arweiniad comisiynydd heddlu a throseddu. Mae'n cyfarfod bob wythnos, mae'n cyfarfod eto ddydd Iau yr wythnos hon. Mae'n datblygu'r dull glasbrint yma yng Nghymru sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran troseddau ieuenctid a throseddau menywod, ac mae'r dull glasbrint hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y strategaeth yr ydym ni'n ei lansio ar gyfer ymgynghoriad heddiw, strategaeth sy'n canolbwyntio ar gydgysylltu, ar wneud yn siŵr bod gwasanaethau arbenigol ar gael pan fo'u hangen, a lle ceir fframwaith cenedlaethol o safonau i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau sydd ar gael mewn un rhan o Gymru yn adlewyrchu natur ac ansawdd gwasanaethau a fydd ar gael mewn mannau eraill.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru? OQ57332
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol yn y gogledd i baratoi cynllun cynhwysfawr i wella gwasanaethau bysiau lleol yn rhan o'n cyhoeddiad diweddar i greu rhwydwaith metro trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ar draws yr ardal.
Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o'r gogledd yn wledig, yn wahanol i ardaloedd dinesig mawr fel Caerdydd. Mae'n we gymhleth o ganolfannau trafnidiaeth sy'n cynnwys llawer o gymunedau gwledig ynysig, llawer iawn o ganol trefi hanesyddol, cyfleusterau iechyd, gorsafoedd rheilffordd, ac mae wedi ei gysylltu yn gynhenid ag addysg i'w gwneud yn ymarferol. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr wybodaeth helaeth am arbenigedd awdurdodau lleol a chysylltiadau da â gweithredwyr y rhwydwaith cymhleth hwn yn cael ei rhannu yn effeithiol â chyd-bwyllgorau corfforaethol ac yn cael ei datblygu ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn, wrth gadw dewisiadau lleol hefyd?
Rwy'n diolch i Carolyn Thomas am hynna, ac mae'n iawn i gyfeirio at gymhlethdod cynllunio gwasanaethau trafnidiaeth dros ddaearyddiaeth sy'n cynnwys crynodiadau trefol, ond llawer iawn, iawn o ardaloedd gwledig hefyd. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i ddiwygio gwasanaethau bysiau ledled Cymru, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael eu trefnu a'u darparu yn unol â budd y cyhoedd, yn hytrach na chael eu hysgogi gan fynd ar drywydd elw preifat. Ond mae'r ffordd yr ydym ni wedi cynllunio cyd-bwyllgorau corfforaethol, Llywydd, yn fy marn i, yn cynnig yr hyblygrwydd hwnnw, oherwydd bydd pob cyd-bwyllgor corfforaethol, sy'n gallu cyflogi staff yn uniongyrchol, i ddal asedau a chyllidebau, yn gynnyrch yr awdurdodau lleol sy'n rhan o'r cyd-bwyllgor corfforaethol hwnnw. A mater i'r cyd-bwyllgor corfforaethol hwnnw fydd gwneud yn siŵr ei fod yn gweithredu mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu natur yr ardal y mae'n ei gwasanaethu, a bod ei staff yn gallu cyflawni ei swyddogaethau mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion penodol ardal y cyd-bwyllgor corfforaethol hwnnw.
Nawr, rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i'r ffaith ein bod ni wedi gofyn i awdurdodau lleol ddarparu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn y lle cyntaf sydd ym meysydd trafnidiaeth, datblygu strategol a chynllunio economaidd lleol, gan fy mod i'n credu eu bod nhw'n dri chyfrifoldeb sydd gan awdurdodau lleol sy'n amlwg wedi eu rhyng-gysylltu, a bydd gwneud i bob un ohonyn nhw ddod at ei gilydd ar draws y daearyddiaethau hynny mewn cyd-bwyllgor corfforaethol yn caniatáu i'r union fath o wybodaeth hyblyg leol gael ei defnyddio wrth gyflawni'r cyfrifoldebau hynny ar yr olion troed newydd hynny.
8. A gafwyd unrhyw ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol mewn perthynas ag wythnos waith pedwar diwrnod? OQ57314
Llywydd, mae trafodaeth reolaidd yn cael ei chynnal rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar amrywiaeth o faterion, ac mae hynny'n cynnwys yr achos dros wythnos waith o bedwar diwrnod.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Prif Weinidog.
Yn ddiweddar, gwnes i gyfarfod â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i drafod incwm sylfaenol cyffredinol ac wythnos waith pedwar diwrnod, ac yr oedd yn ddiddorol clywed bod nifer o fusnesau yng Nghymru wedi cysylltu â'i swyddfa yn gofyn am gymorth i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ceisio dysgu o gynlluniau peilot mewn mannau eraill yn y byd, ond o gofio bod nifer o fusnesau yng Nghymru yn bwriadu treialu wythnos waith pedwar diwrnod ac yn awyddus i ddechrau arni, a fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried rhoi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r busnesau hyn fel y gallwn ni roi hwb i daith Cymru tuag at wythnos waith pedwar diwrnod?
Llywydd, rwy'n credu, lle mae busnesau—ac rwy'n gwybod bod Technovent ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd, yr wyf i'n siŵr, yn adnabyddus i'r Aelod, yn un o'r busnesau hynny sydd wedi mynegi diddordeb o'r fath—wrth gwrs lle mae busnesau sy'n penderfynu ei fod o fudd masnachol iddyn nhw symud i'r cyfeiriad hwnnw nawr, byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w cefnogi. Yn gyffredinol, fel y dywedodd Luke Fletcher, Llywydd, rydym ni'n awyddus iawn i ddysgu o brofiad mewn mannau eraill. Pan oeddwn i yn Glasgow yn COP26, cefais i gyfle i gyfarfod â Phrif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog Gwlad yr Iâ, ac ag uwch bobl o Seland Newydd, fel rhan o rwydwaith yr ydym ni i gyd yn perthyn iddo, gan edrych ar ddyfodol gwaith. Ac roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am y datblygiadau sydd wedi digwydd yng Ngwlad yr Iâ eisoes, a bod Llywodraeth yr Alban wedi cynnig ar gyfer tymor y Senedd hwn. A byddwn ni, drwy'r rhwydwaith hwnnw yr ydym ni'n perthyn iddo, yn parhau i edrych ar y profiad y mae eraill yn ei gael, ac i ddod â'r wybodaeth honno yn ôl i Gymru i weld pa bosibiliadau sydd i ni. Ond nid oes dim o hynny'n ein hatal ni rhag cefnogi mentrau lleol, lle mae cwmnïau eisoes wedi dod i'r casgliad bod wythnos waith pedwar diwrnod, ar eu cyfer nhw, o fudd masnachol eu hunain.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar ddiweddariad i'r rhaglen lywodraethu ac, yn ogystal, bydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y broses o graffu dwys ar ynni adnewyddadwy yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig bellach. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fel y mae pawb yn y Siambr hon yn ymwybodol, yn fy etholaeth gartref i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed mae pencadlys y fyddin Brydeinig yng Nghymru. Mae gennym ni wersyll hyfforddi gwych Pontsenni, ysgol frwydro milwyr traed Dering Lines, ac, ers dros 200 mlynedd, rydym ni wedi bod yn falch o fod yn gartref i farics Aberhonddu, ac rwy'n falch o ddweud yn y Siambr hon eu bod wedi eu diogelu rhag cau yn niwygiadau arfaethedig y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ond mae un peth yr ydym ni'n gweld ei eisiau yn awr, a hynny yw comisiynydd cyn-filwyr y lluoedd arfog i Gymru i arwain ar gynrychioli ein cyn-filwyr dewr. Cymru yw'r unig genedl yn y DU heb y swydd, a hoffwn i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yma o ran penodi comisiynydd cyn-filwyr y lluoedd arfog i Gymru. Diolch, Llywydd.
Nid mater i Lywodraeth Cymru yw hwn o gwbl; mae hwn yn fater y mae Llywodraeth y DU, rwy'n gwybod, wedi edrych arno, ond nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar sut y mae penderfyniadau ar driniaethau'r GIG yn cael eu gwneud yng Nghymru. Dros y penwythnos, enillodd un o fy etholwyr i, Maria Wallpott, ei hachos yn yr Uchel Lys ar ôl i'r GIG yng Nghymru wrthod ariannu triniaeth arbenigol ar gyfer ei chanser sydd ar gael yn yr Alban a Lloegr. Nawr, rwy'n sylweddoli'n iawn na fydd y Llywodraeth yn gallu gwneud sylwadau ar achosion unigol; ond ar y materion mwy cyffredinol sydd wedi eu hamlygu yr hoffwn i weld y Llywodraeth yn myfyrio, os gwelwch yn dda.
Mae penderfyniadau fel hyn yn cael eu gwneud gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n pryderu y gallai'r canllawiau y maen nhw'n yn eu dilyn fod yn rhy anhyblyg. Yn achos Ms Wallpott, roedd ei oncolegydd yn Felindre wedi cadarnhau bod ganddi ganser prin iawn; dim ond un enghraifft mewn pum mlynedd yr oedd yr oncolegydd wedi ei gweld, ac roedd yr oncolegydd yn credu y byddai achos Ms Wallpott yn bodloni'r trothwy achosion eithriadol yng nghanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond penderfynodd panel ceisiadau cyllid cleifion unigol Cymru, ar ran y pwyllgor arall hwn yr wyf i wedi sôn amdano, yn erbyn darparu'r driniaeth. Rwy'n gwybod bod y teulu wedi codi pryderon ynghylch a yw'r pwyllgor dan bwysau i wrthod triniaethau a allai achub bywydau oherwydd y gost.
Unwaith eto, rwy'n sylweddoli na all y Llywodraeth gymryd rhan mewn achosion unigol na rhoi sylwadau arnyn nhw, ond rwy'n credu y byddai cael datganiad yn nodi'r prosesau a gaiff eu dilyn gan y pwyllgor gwasanaethau arbenigol a'r egwyddorion y maen nhw'n eu dilyn wrth wneud penderfyniadau yn ddefnyddiol ar gyfer tryloywder. Mae teitlau hir y gwahanol baneli a phwyllgorau yr wyf i wedi eu crybwyll, maen nhw'n ddryslyd, ond y prif bryder sydd gen i yw bod y prosesau'n golygu bod rhai triniaethau'n cael eu gwrthod i gleifion yng Nghymru a fyddai ar gael mewn rhannau eraill o'r DU.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi’n codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried y canllawiau hynny. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, efallai eu bod yn rhy anhyblyg, gan fy mod i'n cofio'n dda iawn o fy nyddiau fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr hyblygrwydd a oedd ar gael i'r pwyllgor gwasanaethau arbenigol sy'n ystyried hyn i ni. Felly, os oes rhywbeth yr wyf i'n credu ei fod o werth ei ddiweddaru i'r Aelodau, byddwn ni'n sicr yn ceisio gwneud hynny.
Ym mis Hydref eleni, cafwyd Mark Hankinson, a oedd yn gyfarwyddwr Cymdeithas Masters of Foxhounds, yn euog o annog hela llwynogod anghyfreithlon. Cafodd ei ddal ar gamera yn cynghori helfeydd ar sut i dorri Deddf Hela 2004. Datgelodd yr hyn y mae llawer yn credu ei fod yn wir ynghylch hela dilyn trywydd, ei fod yn cael ei ddefnyddio fel llen i guddio hela anghyfreithlon. Ers ei gollfarn, roeddwn i'n falch o weld bod nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi gwahardd hela dilyn trywydd ar eu tir ers hynny. Pleidleisiodd aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn llethol i gefnogi'r gwaharddiad hwnnw. Bydd awdurdod lleol Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn dilyn eu hesiampl hefyd. Mae hela dilyn trywydd wedi ei atal ar hyn o bryd ar barc cenedlaethol ardal y llynnoedd hefyd.
Gweinidog, hoffwn i alw am waharddiad ar hela dilyn trywydd ar bob darn o dir sy'n eiddo i'r cyhoedd. Mae hynny'n cynnwys canol trefi, lle mae llawer o'r helfeydd wedi cyfarfod yn draddodiadol ar gyfer eu helfeydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Hoffwn i annog Llywodraeth Cymru i edrych ar hyn a gweithio'n agos gydag awdurdodau a sefydliadau a pherchnogion tir eraill i wireddu hyn. Nid ein bywyd gwyllt yn unig sydd wedi dioddef yn ofnadwy o ganlyniad i hela dilyn trywydd honedig, ond cŵn hefyd. Mae llawer yn cael eu taro gan gerbydau ar ffyrdd prysur yn ystod helfa, neu, fel sydd wedi ei weld mewn deunydd fideo diweddar, yn cael eu saethu'n farw pan nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn ddefnyddiol mwyach. Yn anffodus, nid yw hyn yn anghyfreithlon, ond serch hynny mae'n farbaraidd.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad a gafodd ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar 18 Tachwedd i beidio ag adnewyddu eu cytundeb â Chymdeithas Masters of Foxhounds. Ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, gwaharddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hela dilyn trywydd ar eu tir o 25 Tachwedd. Cafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud mewn sesiwn gyhoeddus, lle cafodd yr holl faterion dan sylw eu hystyried yn ofalus yn dilyn canlyniad yr achos llys yr ydych chi'n cyfeirio ato yn erbyn uwch arweinydd Cymdeithas Masters of Foxhounds. Mae eich cais chi ynghylch ystyried gwaharddiad ar hela dilyn trywydd ar bob darn o dir cyhoeddus yn rhywbeth y byddai angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried ymhellach.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y cyfyngiadau pwysau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer cerbydau ar yr M4 rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28? Rwy'n gwybod bod hynny'n benodol iawn, a'r rheswm pam yr wyf i'n gofyn yw oherwydd bod etholwr—. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi ateb cwestiynau ar achosion penodol, ond y rheswm pam rwy'n gofyn yw oherwydd ei fod yn ddryslyd braidd o ran yr hyn sydd wedi codi o fy mlaen i.
Felly, mae etholwr wedi cysylltu â mi ynglŷn â chais rhyddid gwybodaeth yr oedd wedi ei anfon at Lywodraeth Cymru, gan ofyn faint o gerbydau nwyddau trwm sydd wedi eu hatal ers rhoi'r cyfyngiad ar waith a faint sydd wedi eu darganfod i fod dros y terfyn pwysau cyfyngedig. Ymatebodd Llywodraeth Cymru, a phan wnaethon nhw ymateb, gwnaethon nhw ddweud nad oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth ac y dylai gysylltu â'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, gan mai nhw sy'n ymgymryd â'r gweithgaredd—a fyddai i gyd yn iawn yn ôl pob golwg. Ond yna dywedodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau nad oedd ganddyn nhw yr wybodaeth, gan ei bod y tu allan i'w cylch gwaith ac y dylai gysylltu â Phriffyrdd Cymru—unwaith eto, yn iawn. Yna cysylltodd fy etholwr â Phriffyrdd Cymru. Dywedodd fod ei ymchwiliad wedi ei ystyried fel, ac rwy'n dyfynnu, 'o natur polisi/rhaglennu', a'u bod wedi anfon ei gais ymlaen—unwaith eto, yn ôl at Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i ddatrys y dryswch hwn a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen? Gan ei bod yn ymddangos i'r etholwr mai taflu llwch i'r llygaid yn unig yw'r cyfyngiad pwysau i guddio diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thagfeydd ar y rhan hon o'r M4. Diolch i chi, Gweinidog.
Diolch. Fel y dywedwch chi, mae'n ymholiad penodol iawn. Yn amlwg, mae gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gwestiynau yfory, felly byddwn i'n eich annog chi i chwilio am gyfle i'w holi yfory. Ond os nad yw hynny'n digwydd, ysgrifennwch at y Dirprwy Weinidog efallai.
Trefnydd, ddechrau'r mis hwn, cafodd gohebiaeth ei gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gynllunydd Persimmon Homes dwyrain Cymru. Roedd y llythyr yn ymwneud â chynllun dadleuol i adeiladu 300 o gartrefi ar gaeau o amgylch Heol y Cefn, Cefn Fforest, Bedwellte—yn ddadleuol gan fod y man gwyrdd hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn lleol a bod safleoedd tir llwyd yn agos y mae llawer o bobl yn dweud sy'n fwy addas i'w datblygu. Cafodd y mater ei godi yn ystod cymhorthfa stryd ddiweddar ar ystad Grove Park gerllaw. Gwrthododd Llywodraeth Cymru ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwn yn 2020, ond cafodd y penderfyniad hwn ei herio yn yr Uchel Lys, a chafodd penderfyniad y Llywodraeth ei ddiddymu wedyn. Roedd y llythyr diweddar yn rhoi rhybudd i Persimmon fod y Dirprwy Weinidog yn gwahodd sylwadau ynghylch a ddylai'r ymchwiliad gael ei ailagor. Yn ogystal ag ailagor yr ymchwiliad hwn, hoffwn i hefyd i'r Llywodraeth adolygu'r broses gynllunio bresennol gyda'r bwriad o dynhau gweithdrefnau fel eu bod, pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud i wrthdroi ceisiadau cynllunio, eu bod yn gryf a bod ganddyn nhw amddiffyniad cadarn y tu ôl iddyn nhw, yn barod ar gyfer unrhyw her gyfreithiol. Fy mhryder i yw, os aiff y datblygiad hwn yn ei flaen heb lawer o frwydr, y bydd datblygwyr uwchben eu digon gan wybod mai dim ond mân anghyfleustra ar y ffordd i gael yr hyn y maen nhw ei eisiau yn y pen draw yw gwrthodiad Llywodraeth Cymru ar faterion cynllunio.
Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn fater penodol iawn yr ydych chi wedi ei godi, ac mae'r ffaith y bu'n fater o achos llys—nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad llafar. Ond byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog ystyried eich cwestiwn yn ei gyfanrwydd, ac, unwaith eto, os yw'n credu bod rhagor o wybodaeth y gall ei rhoi, bydd yn ysgrifennu at yr Aelod.
Trefnydd, efallai eich bod chi wedi gweld yn y wasg yr helynt o amgylch perchennog Cwmni Marchnad a Neuadd y Dref Aberdâr yn galw i rym deddf Seneddol o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i fygwth ffeiriau Nadolig elusennol a chodi arian rhag digwydd i bob pwrpas yn fy etholaeth i. Roedd hyn yn cynnwys digwyddiadau wedi eu cynllunio yn Eglwys Sant Elfan, yng nghanolfan gymunedol newydd Cynon Linc a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac yng nghlwb band Aberaman—a byddai hyn i gyd wedi dod â nifer ychwanegol o ymwelwyr ac wedi helpu i adfywio a chynnal Aberdâr. Nawr, mae'n amlwg nad yw stondinwyr ym marchnad Aberdâr yn cefnogi'r ymyriad didostur hwn, felly rwy'n gobeithio na fydd y drwgdeimlad sydd wedi ei gynhyrfu gan hyn yn adlewyrchu arnyn nhw. Ond byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi barn Gweinidogion ar yr achos hwn, a'u myfyrdodau ar effaith Deddfau Seneddol preifat mor waharddedig a hen ffasiwn, sy'n mynd yn groes i bolisïau economaidd ac adfywio ehangach.
Diolch. Ac rwyf i yn ymwybodol o'r helynt y mae hyn wedi ei achosi yn etholaeth yr Aelod. Mae'n amlwg yn fater cyfreithiol sy'n cael ei orfodi ar lefel leol, felly ni allaf wneud sylw arno yn benodol. Ond rwy'n credu ei bod yn destun siom mawr, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, nad yw busnesau lleol ac aelodau o'r gymuned wedi gallu cydweithio er budd y dref. Yn absenoldeb unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth y DU, rwyf i ar ddeall bod ein hardal gwella busnes Aberdâr, ynghyd â phartneriaid allweddol eraill yng nghanol tref Aberdâr, ac mae hynny'n cynnwys y farchnad, yn ceisio negodi ffordd ymlaen ar y mater. Fel Llywodraeth, rydym ni'n cydnabod yn llawn y gall marchnadoedd sicrhau amrywiaeth o fanteision y mae mawr eu hangen ar gyfer canol ein trefi, a dyna pam y mae modd defnyddio ein grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi i alluogi marchnadoedd lleol i gael eu cynnal yng nghanol trefi, a pham y gwnaethom ni hefyd gomisiynu canllaw arfer gorau.
Gweinidog busnes, mae llawer o'r gwasanaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yn cael eu gwella'n fawr gan amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector yn ein cymunedau. Roedd hyn yn amlwg yn ystod y pandemig, ac, i ryw raddau, rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio'r cyrhaeddiad sydd gan y sefydliadau hyn. Yn fy rhanbarth i, mae Brigâd Ambiwlans Sant Ioan, sy'n gweithio 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, wedi helpu miloedd o bobl drwy eu math nhw o wasanaeth. Mae llawer o enghreifftiau, sy'n tynnu sylw nid yn unig at eu swyddogaeth allweddol nawr, ond ar gyfer y dyfodol. A wnaiff y Llywodraeth drefnu dadl yn nodi sut y byddwn yn dweud wrthyn nhw fod swyddogaeth y trydydd sector yn rhan hanfodol o'n rhwydwaith darparu gwasanaethau cyhoeddus? Diolch.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn o faint yr ydym ni wedi dibynnu ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â'n sefydliadau trydydd sector, i'n helpu ni fel Llywodraeth drwy bandemig COVID-19. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr ac mae wedi clywed eich cais, ac rwy'n siŵr, yn y dadleuon yr ydym ni'n eu cynnal yn rheolaidd ynghylch trydydd sector Cymru, y bydd hi'n ystyried eich cais.
Trefnydd, rwyf wedi codi'r mater hwn ar nifer o adegau erbyn hyn, ond, gan nad ydy'r mater wedi ei ddatrys, rwyf dal i gael etholwyr yn cysylltu â mi ynglŷn â'r anhawster o ran cael pàs COVID os nad ydynt yn gallu cael eu brechu am resymau meddygol. Yn aml, golyga'r rheswm meddygol na allant chwaith gymryd prawf llif unffordd. Ar wefan Llywodraeth Cymru, mae'n parhau i ddweud, 'Rydym yn gweithio ar system fydd yn galluogi hyn i ddigwydd.' Mae mynediad yn cael ei wrthod i bobl ar y funud, oherwydd yr anawsterau maen nhw'n eu hwynebu o ran cael pàs, ac mae angen i hyn gael ei ddatrys ar fyrder. Cefais un teulu yn cysylltu â mi i ddweud nad oedd eu mab, sydd ag awtistiaeth ac sy'n methu cael ei frechu na chymryd prawf llif unffordd, wedi medru mynd i ddigwyddiad gyda gweddill ei deulu oherwydd hyn, a bod y diffyg hwn yn cael effaith andwyol ar hawliau pobl mewn sefyllfa gyffelyb. A gawn ni, os gwelwch yn dda, ddatganiad o ran y gwaith hwn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac amserlen o ran pryd y bydd y gwaith hwn wedi ei gwblhau?
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir: mae angen ei ddatrys ar frys. A byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am reoliadau COVID ddydd Mawrth nesaf, ac rydym ni hefyd yn cael datganiad llafar. Ac yn sicr, byddaf yn gofyn iddi ymchwilio i'r mater hwn, ac, os na allwn ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ymlaen llaw, i wneud hynny yn ystod y datganiad hwnnw.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwasanaethau amddiffyn plant ledled Cymru. Byddwn ni i gyd wedi ein dychryn yn llwyr gan farwolaeth drasig iawn Arthur Labinjo-Hughes yr wythnos hon, ac mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio nad y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol yw'r bobl sy'n gyfrifol am hynny, nac, yn wir, mewn unrhyw wasanaethau statudol eraill. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni i edrych ar gyflwr ein hawdurdodau lleol, yn enwedig o ran swyddi gwag amddiffyn plant. Ac rwy'n gwybod, o fy awdurdod lleol fy hun, sut y maen nhw'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr tîm yn y rheng flaen i weithio yn y swyddi hynny. Dyma stori bersonol gyflym iawn: fy achos amddiffyn plant cyntaf i oedd merch fach wyth oed a gafodd anaf. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn anaf damweiniol; roeddwn i'n ddibrofiad iawn. Es i at fy rheolwr tîm a dweud wrtho am y sefyllfa. Yn syth, meddai, 'Na. Nid yw hynny'n anaf sydd wedi ei achosi'n ddamweiniol' ac roedd ganddo'r profiad i allu fy arwain i a fy nhywys i drwy'r broses. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n edrych ar y sefyllfa honno, a'n bod ni'n gallu dweud yn hyderus fod gennym ni'r bobl yn y lleoedd iawn i amddiffyn ein plant yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Yn sicr, rwy'n credu bod llofruddiaeth erchyll Arthur Labinjo-Hughes wedi dychryn llawer ohonom ni. Ac yma yng Nghymru byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cael Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gyflwynodd drefniadau diogelu cryfach a chadarn i Gymru, ac a oedd yn wirioneddol sail i weithdrefnau diogelu Cymru a chanllawiau ymarfer Cymru gyfan. Ac maen nhw'n eiddo i'r byrddau diogelu a chawson nhw eu cyhoeddi yn ôl yn 2019 ac maen nhw yn rhoi'r arferion diogelu cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ni ledled Cymru, ac, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i weithio gyda Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru a'r byrddau diogelu plant rhanbarthol er mwyn i ni allu cefnogi'r arferion hynny.
Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch pwy a niweidiodd Arthur, ac rwy'n credu ei bod yn aml yn wir nad y bobl a ddylai fod yn amddiffyn ac yn gofalu am eu plant yn llwyr yw'r rhai sy'n gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod angen i ni hefyd dalu teyrnged i'r heriau y mae ein gweithwyr cymdeithasol yn eu hwynebu bob dydd. Mae'n rhaid i ymyrraeth mewn bywyd teuluol preifat fod yn gymesur ac yn briodol, ac rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch chi ei godi am eich achos personol eich hun yn bwysig iawn hefyd. Ac, unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn o waith i ddarparu hyfforddiant.
Yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r niferoedd sydd yn dioddef o COVID-19 yn parhau'n styfnig o uchel, ac erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r amrywiolyn omicron wedi dod i'n plith, gyda'r ystadegau'n dangos, neu'n awgrymu, o leiaf, fod yr haint yn dyblu bob deuddydd. Mae nifer o ysgolion yn Nwyfor Meirionnydd wedi gorfod gyrru eu plant yn ôl o'r ysgol yn ddiweddar. Roedd fy mab fy hun wedi cael ei yrru nôl am 10 diwrnod o Ysgol Godre'r Berwyn, y Bala, oherwydd niferoedd uchel y plant a phobl ifanc oedd efo COVID yno. Ond mae yna bryder mawr ymhlith rhieni yn rhai o'r ardaloedd yma nad ydy plant wedi cael cynnig y brechlyn eto. Dwi'n nodi bod y Llywodraeth wedi gwneud cyhoeddiad heddiw y caiff yr hwblyn ei gynnig i bob oedolyn yng Nghymru cyn diwedd Ionawr. A wnewch chi sicrhau bod datganiad yn cael ei wneud mor fuan â phosib ynghylch erbyn pryd y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael cynnig y brechlyn hefyd, os gwelwch yn dda?
Byddwn, yn sicr, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen lywodraethu a'r diweddariad ar hynny. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Llywydd, cyhoeddwyd ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y tymor hwn o fewn wythnosau i'r etholiadau ym mis Mai, a gwnes i ddatganiad i'r Senedd ar 15 Mehefin. Cyhoeddwyd y rhaglen yn gynnar er mwyn i ni ddechrau ar y polisïau radical ac uchelgeisiol sydd eu hangen arnom wrth inni wynebu’r cyfuniad unigryw o’r pandemig parhaus, adladd Brexit a'r her o newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn wynebu'r Llywodraeth fwyafrifol Geidwadol gyntaf yn San Steffan yn hanes datganoli, Llywodraeth sy'n ceisio tanseilio a dirwyn y setliad datganoli yn ôl fel mater o drefn, setliad sydd wedi'i gymeradwyo mewn dau refferendwm yn olynol. Heddiw, rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a thynnu sylw at welliannau a wnaed i'r rhaglen lywodraethu i adlewyrchu'r cytundeb cydweithio a lofnodwyd gan arweinydd Plaid Cymru a fi yr wythnos diwethaf.
Llywydd, wrth i mi roi'r datganiad hwn rydym ni'n parhau i ymateb i'r pandemig, gan gynnwys i'r datblygiadau er gwaeth diweddaraf, er mwyn cyflawni ein prif flaenoriaeth yn y rhaglen lywodraethu, sef diogelu Cymru mewn cyfnod o argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang. Mae'r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers i'r brechiadau fod ar gael. Ers hynny, mae mwy na 5.5 miliwn o ddosau wedi eu gweinyddu i oedolion a phlant dros 12 oed yng Nghymru, o ganlyniad i ymdrechion aruthrol ein rhaglen frechu.
Yr wythnos diwethaf, cafwyd cadarnhad o'r achos cyntaf o'r amrywiolyn newydd, omicron, yng Nghymru. Rydym ni'n sefyll ar drothwy adeg beryglus arall, o bosibl, yn hanes ein hymdrechion i ddiogelu Cymru a chadw Cymru ar agor. Mae ein harbenigwyr iechyd cyhoeddus wedi modelu effaith bosibl yr amrywiolyn newydd yng Nghymru, gan ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf o Dde Affrica ac o rannau eraill o'r byd. Er bod llawer i'w ddysgu o hyd a darpariaethol, yn anochel, yw unrhyw fodelu ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni ymbaratoi ar gyfer y posibilrwydd o don arswydus newydd o heintio yn y flwyddyn newydd, chwe wythnos o heddiw o bosibl, os na allwn ni arafu ymlediad yr amrywiolyn newydd hwn.
Brechu yw ein hamddiffyniad cryfaf ni o hyd yn erbyn y feirws creulon hwn. Erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf, fe fydd miliwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn trydydd, dos atgyfnerthu. Ond mae yna ormod o bobl o hyd nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cynnig o frechiad, ac os oes un neges yr hoffwn i ei chyfleu i chi heddiw, mae'n rhaid mai hon yw hi: pan fyddwch chi'n cael eich gwahoddiad i fynd am frechiad, boed hwnnw'n frechiad cyntaf, neu'n ail neu'n un atgyfnerthu, gwnewch honno'n flaenoriaeth i chi, os gwelwch chi'n dda. Nid oes unrhyw beth arall y gallech chi ei wneud ar y diwrnod hwnnw a fyddai'n gwneud mwy i helpu i'ch cadw chi neu i gadw pobl eraill yn ddiogel. Ac nid yw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yma yng Nghymru. Os nad ydych chi wedi eich brechu eto, dewch ymlaen nawr. Dyma'r anrheg Nadolig gorau y gallech chi ei roi i chi eich hunan a'ch teulu chi eleni, ac nid yw hi'n rhy ddramatig i ddweud bod hwnnw'n fuddsoddiad i sicrhau eich bod chi yma i ddathlu'r Nadolig yn iach ac yn hapus y flwyddyn nesaf hefyd.
Llywydd, er gwaethaf yr her barhaus o ymateb i'r pandemig, rydym ni'n parhau i fwrw ymlaen yn y Llywodraeth, ym mha fodd bynnag y gallwn ni, â'n blaenoriaethau ni a'r holl gamau gweithredu hynny a fydd yn creu dyfodol gwell y tu draw i'r pandemig. Nododd fy mhlaid i chwe phrif addewid yn ein maniffesto yn gynharach eleni. Rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol ar bob un ohonyn nhw, a byddaf i'n tynnu sylw heddiw at dri yn unig.
Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n cadw'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu sy'n bresennol yng Nghymru, sy'n gwneud cymaint i gadw ein cymunedau yn ddiogel, ac y byddem ni'n ariannu 100 arall yn oes y Senedd hon. Bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gadw yn ei gyfanrwydd nid dros bum mlynedd, ond ym mlwyddyn gyntaf y tymor Seneddol hwn. Mae'r cyllid wedi ei sicrhau ac mae'r broses o recriwtio'r 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yn mynd rhagddi ers amser. Cefais i'r fraint o dreulio amser gyda swyddogion yr heddlu wrth eu gwaith yn Wrecsam yn ddiweddar, lle clywais i'n uniongyrchol am y lles y bydd y swyddi ychwanegol hynny yn ei wneud i blismona rheng flaen.
Fis diwethaf, lansiodd Gweinidog yr economi gam cyntaf y warant i bobl ifanc, sy'n warant i sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yma yng Nghymru ar ôl y pandemig. Fe wnaethom ni addo talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol hefyd. Rydym ni wedi derbyn cyngor erbyn hyn gan y fforwm gofal cymdeithasol ar sut i wneud hynny ar gyfer gweithlu mawr a symudol wedi eu gwasgaru ar draws cannoedd o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a phan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 20 Rhagfyr, bydd rhagor o fanylion am sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad pwysig iawn hwnnw.
Mae ymdrechion ymarferol i gyflawni gweddill ein rhaglen radical yn parhau bob dydd. Fe wnaethom ni addo y byddem ni'n buddsoddi yn ein gweithlu iechyd a gofal ac yn sefydlu ysgol feddygol newydd yn y gogledd. Y penwythnos hwn, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid yn gynharach, fe gyhoeddodd y Gweinidog iechyd gyllid ychwanegol am yr wythfed flwyddyn yn olynol ar gyfer gweithlu iechyd a meddygol y dyfodol, gan ychwanegu £260 miliwn arall at y gyllideb ar gyfer hyfforddiant.
Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd i Gymru, a'r wythnos diwethaf fe gadarnhaodd y Gweinidog addysg £6.8 miliwn ar gyfer addysg cerddoriaeth a'r celfyddydau mewn ysgolion, gan roi offerynnau cerddorol yn nwylo myfyrwyr.
Fe wnaethom ni ymrwymo i ddal ati i weithio tuag at ddileu trais yn erbyn menywod a merched, ac, fel y dywedais i'n gynharach y prynhawn yma, rydym ni'n lansio ymgynghoriad heddiw ar ein strategaeth newydd pum mlynedd.
Llywydd, yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn gwneud datganiad ynglŷn â'r modd yr ydym ni'n bwriadu diwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Dyma un o'r meysydd penodol sy'n cael eu cwmpasu gan y cytundeb cydweithredu. Rwyf i o'r farn fod hon yn enghraifft ardderchog o'r hyn y bydd y cytundeb yn galluogi'r Senedd hon i'w gyflawni. Y dreth gyngor yw'r dull mwyaf atchweliadol o drethu yng Nghymru. Mae'r rhai sydd â'r incwm lleiaf yn talu cyfran lawer uwch o'r incwm hwnnw drwy'r dreth gyngor na'r rhai sy'n llawer mwy cefnog. Yn nhymor y Senedd diwethaf, mewn adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, nodwyd ffyrdd y gellid diwygio'r dreth gyngor i'w gwneud hi'n decach. Nawr, mae yna rai pobl yn y Siambr hon a oedd yma yn nyddiau'r ailbrisiad mawr diwethaf i'r dreth gyngor yn 2003, a byddan nhw'n cofio pa mor gymhleth a gwleidyddol heriol yr oedd hynny. Bydd y cytundeb cydweithredu yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r gallu gwleidyddol cyfunol i ni gael diwygiad arall, 20 mlynedd ar ôl yr ailbrisio cyntaf hwnnw. A, Llywydd, byddwn yn mynd ymhellach na diwygio'r system gyfredol. Byddwn yn defnyddio'r tair blynedd nesaf sy'n cael eu cwmpasu gan y cytundeb cydweithredu i adeiladu gyda'n gilydd ar y gwaith a wnaed yn nhymor y Senedd diwethaf o ran dewisiadau amgen a mwy sylfaenol i'r dreth gyngor, dewisiadau amgen a allai fod yn decach i ddinasyddion ac yn fwy effeithiol wrth gefnogi datblygiadau economaidd ym mhob rhan o Gymru. Un enghraifft yn unig yw hon o'r 46 maes yn y cytundeb cydweithredu, ac mae pob un o'r rhain yn cael eu cynrychioli erbyn hyn yn y rhaglen lywodraethu ddiwygiedig, yr ydym ni wedi ei chyhoeddi.
Llywydd, dim ond un rhaglen lywodraethu sydd. Hwn yw'r fframwaith y mae'r gwasanaeth sifil a phartneriaid eraill yn ei ddefnyddio i ganolbwyntio eu hymdrechion nhw ar y blaenoriaethau ar draws ein cyfrifoldebau datganoledig. Mae yna rannau allweddol o'r rhaglen a fydd yn cael eu datblygu bellach mewn cynghrair flaengar rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a bydd hynny yn harneisio ein hymdrechion yn wyneb heriau digynsail a gwrthwynebiad Llywodraeth y DU yn San Steffan sy'n anghymwys ac esgeulus. [Torri ar draws.] Wel, Llywydd, ni fydd pobl eraill wedi clywed y gri 'gwarthus' yn y lle hwn, ac rwy'n cytuno â hynny—mae cyfradd y gwrthwynebiad a'r anallu yr ydym yn ei wynebu bob dydd oddi wrth y Llywodraeth honno yn wir yn warthus, felly rwy'n hapus i ategu'r sylwadau hynny.
Ymysg pwyslais uniongyrchol y polisïau rhaglen lywodraethu hynny sy'n adlewyrchu'r cytundeb cydweithredu, fydd ymestyn prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd ar gyfer pob disgybl ysgol gynradd, ac ehangu gofal plant hyd at blant dwy flwydd, a chamau radical ac uniongyrchol i fynd i'r afael â'r problemau a wynebir gan bobl nad ydyn nhw'n gallu cael cartref cyntaf mewn cymunedau lle mae llawer o ail gartrefi a chartrefi gwyliau hefyd. Mae ymgynghoriadau wedi eu lansio ar amrywiaeth o offerynnau polisi y gallwn ni eu defnyddio, a bydd y gwaith gwirioneddol o ddatblygu a chyflwyno polisïau newydd yn y meysydd hynny yn awr yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth.
Llywydd, rwyf i am orffen yn y man y cychwynnais i y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu rhoi'r diweddariad hwn heddiw. Rwyf i o'r farn bod y gallu i weithio gydag eraill ar agendâu a rennir wedi bod yn nodwedd o dymhorau Seneddol olynol, ac y bydd hynny'n cynnig manteision pendant i bobl yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Ond, bydd yn rhaid i'r argyfwng iechyd cyhoeddus dybryd fod yn flaenoriaeth dros bopeth arall i ni dros yr wythnosau nesaf. Drwy ein rhaglen frechu a'r holl gamau eraill y gallwn ni eu cymryd i gadw ein gilydd yn ddiogel, byddwn yn dod trwy waethaf y storm sydd o'n blaenau ni. Ond nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hynny. Mae angen i bob un ohonom ni, i bob dinesydd yng Nghymru, ddal ati i fwrw ymlaen gyda'n gilydd unwaith eto i achub bywydau a fyddai'n cael eu colli fel arall, i amddiffyn ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol rhag y perygl y bydden nhw'n cael eu llethu fel arall, a thywys Cymru yn ddiogel drwy gyfnod o berygl mawr sy'n ein hwynebu ni i gyd.
Prif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac a gaf i gytuno â chi o ran eich pwynt olaf chi yn y fan yna am yr heriau sydd o'n blaenau ni, a'r angen i bobl ddod ymlaen a chael y brechlyn atgyfnerthu, a threchu'r feirws ofnadwy hwn, a'r pwysau y mae'n eu rhoi ar ein GIG ni hefyd? Felly, peth da bob amser yw dechrau datganiad ar bwynt y ceir cytundeb cyffredin arno, ond lle'r ydym ni'n anghytuno, yn amlwg, yw'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru am y cytundeb yr ydych chi a Phlaid Cymru wedi ei lunio—mai blaendal annibyniaeth oedd hwn. Felly, a yw'r rhaglen lywodraethu hon yr ydych chi'n ei chyflwyno heddiw yn flaendal o ran annibyniaeth, Prif Weinidog, oherwydd byddai hi'n beth da i ni gael clywed beth yw eich barn chi ar hynny, oherwydd—y tro olaf i mi edrych—rwyf i wedi credu erioed mai plaid unoliaethol yw'r Blaid Lafur?
A gaf i ofyn hefyd am y mecanweithiau ar gyfer craffu ar y rhaglen lywodraethu gan y bydd Aelodau dynodedig yn dod o Blaid Cymru yn awr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi a gweithio o fewn y Llywodraeth? Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith i graffu ar Aelodau dynodedig, oherwydd tymor newydd yw hwn, mae hi'n sefyllfa newydd. Rwy'n llongyfarch Siân Gwenllian, sef y gyntaf i'w phenodi yn Aelod dynodedig yn y cytundeb hwn, rwy'n credu. Ond a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig craffu ar eu swyddogaeth nhw o fewn y Llywodraeth a bod cyfle yn cael ei roi yn amser y Llywodraeth i ni yn yr wrthblaid graffu ar yr Aelodau hynny? Oherwydd nid gwaith i'r Llywydd yn unig yw hwn; mae'r Llywodraeth yn rheoli busnes ar ddydd Mawrth ac, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei deall, gellid sicrhau bod amser ar gael i hynny ddigwydd. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael deall hyn, oherwydd bod hon yn gytundeb tair blynedd; nid cytundeb tair wythnos yw hi, cytundeb tair blynedd yw hi, ac mae'n bwysig ein bod ni'r Aelodau yn yr wrthblaid yn cael y cyfle hwnnw i graffu ar swyddogaeth yr Aelod dynodedig sy'n cefnogi Gweinidogion ar y fainc flaen.
Hoffwn i ddeall hefyd ba gynnydd y mae'r rhaglen lywodraethu yn ei wneud o ran amseroedd aros, yn enwedig yr amseroedd aros cronig yr ydym ni'n eu gweld oherwydd pandemig COVID lle, os ydych chi'n tynnu pobl ifanc allan o'r amseroedd aros hynny, mae bron i un ym mhob pedwar o bobl ar restr aros rywle yng Nghymru erbyn hyn. Os nad ydym ni'n ofalus, ac os nad yw eich Llywodraeth chi yn ofalus, fe allai'r amseroedd aros hyn lethu'r Llywodraeth yn y pen draw wrth fynd ymlaen. Rwy'n deall bod y Gweinidog iechyd blaenorol wedi dweud y byddai'n cymryd tymor Cynulliad llawn, neu dymor seneddol, i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn, ond mae hi'n bwysig, yn fy marn i, i ni ddeall pa gynnydd sy'n cael ei wneud, oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn sy'n dod i'r amlwg mae unigolyn a theulu ag anwylyd sydd, yn y pen draw, yn debygol o fod mewn poen echrydus o ryw fath yn aros am driniaeth o fewn ein GIG ni.
Rwy'n sylwi na wnaethoch chi sôn am y Ddeddf aer glân o gwbl, Prif Weinidog, a oedd yn rhan o'ch maniffesto arweinyddiaeth chi ac a oedd yn bwynt trafod allweddol yn yr etholiad seneddol a gawsom ni ym mis Ebrill. Byddwn i'n falch o wybod a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny, gan fy mod i'n gwybod o lobïo a gan sefydliadau allanol hefyd fod angen mawr am symud ymlaen yn hyn o beth. Pe byddai Mike Hedges yma, rwy'n siŵr y byddai ef yn ymuno â mi yn hyn o beth, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cadw llygad barcud ar y cynnydd, neu ddiffyg hynny o bosibl, hyd yn hyn o ran cyflwyno Deddf aer glân.
O ran prydau ysgol am ddim, sy'n bolisi canolog o'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda Phlaid Cymru, byddwn i'n ddiolchgar ac rwy'n siŵr y byddai llawer o bobl eraill yn ddiolchgar o gael deall goblygiadau cyllidebol y polisi hwn a cheisio deall sut y mae hynny'n cydbwyso â'r angen i'r rhai sydd â'r gallu mwyaf wneud y cyfraniadau mwyaf. Nid wyf i'n siŵr ei bod yn bolisi synhwyrol galluogi cyfreithwyr, gwerthwyr tai, a chyfrifwyr i fanteisio ar brydau ysgol am ddim i'w plant pan fo'r system eisoes yn galluogi'r rhai sydd ar swyddi incwm heriol gael prydau ysgol am ddim fel dylai hi fod, yn wir. Nid wyf i o'r farn bod y bonllefau o lawenydd yn St Andrew's Crescent yng Nghaerdydd, oherwydd y byddan nhw'n cael manteisio ar brydau ysgol am ddim bellach, yn ddefnydd da iawn o adnoddau cyhoeddus gwerthfawr, a dweud y lleiaf.
Rydym ni yn cytuno ar ddiwygio amseroedd tymhorau ysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynnig synhwyrol. Rwy'n cofio pan ddes i yma am y tro cyntaf yn 2007, y bu Jane Hutt am gyfnod byr iawn yn Weinidog addysg bryd hynny, ac rwy'n cofio codi'r pwynt penodol hwnnw gyda hi. Efallai fod rhai pobl wedi anghofio hynny, ond rwyf i yn cofio codi'r pwynt hwnnw ac ar y pryd nid oedd hi'n ymddangos i mi fod llawer o fynd ar y syniad arbennig hwnnw.
Rydym ni yn awyddus i weld cynnydd yn y system ofal. Rydym ni yn awyddus i weld cynnydd o ran y gronfa diogelwch adeiladu, y mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn amdani, ac rwyf i'n deall bod datganiad i ddod yr wythnos nesaf ynglŷn â hyn, ond mae hi'n hanfodol bwysig fod y datganiad hwnnw yn cyflwyno cynigion pendant i fynd i'r afael â'r maes allweddol hwn sy'n creu anawsterau i fywydau llawer o drigolion ar hyn o bryd.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddiwygio llywodraeth leol, ac at y fformiwla ariannu yn arbennig. Pob lwc gyda hynny, ddywedwn i, a bod yn onest gyda chi. Rwyf i'n credu y byddwch chi'n cael amser heriol, a dweud y lleiaf, yn hynny o beth, Prif Weinidog. Ond dyna yw hanfod y Llywodraeth, herio'r pethau hyn a sicrhau ein bod ni'n rhoi atebion ar waith, neu a ddylwn i ddweud eich bod chi'n rhoi atebion ar waith. Ond yr hyn y byddwn i'n falch o geisio'i ddeall yw ai dull gweithredu ar ddau gam yw hwn: (1) ailbrisio i ddechrau, ac yna (2) diwygio mwy sylfaenol. Ac os felly, a fyddai'r ddwy agwedd yn cael eu cwblhau o fewn y cyfnod hwn o bum mlynedd yn y Llywodraeth, neu a fydd yr ailbrisio yn digwydd yn ystod y tymor hwn, a diwygiadau mwy sylfaenol ar ôl 2026? Rwy'n credu, yn arbennig cyn yr etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf, fod angen i bobl wybod beth yw cyfeiriad y daith o ran y maes polisi pwysig hwn. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ati, mae hi'n 20 mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf, ond mae'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hynny yn heriol a dweud y lleiaf.
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei godi gyda chi nawr yw'r comisiwn cyfansoddiadol, yr wyf i ar ddeall ei fod newydd ei roi ar waith ar hyn o bryd. I fodloni fy chwilfrydedd personol yn unig y mae hyn. Wrth ddarllen y ddogfen bartneriaeth gyda Phlaid Cymru, mae'n dweud y bydd yr adroddiad interim a'u hadroddiad terfynol yn cael eu cyflwyno i'r ddwy blaid. Hoffwn i wybod pam mae hynny wedi ei gynnwys yn y ddogfen fel sefyllfa bod yn rhaid i'r comisiwn cyfansoddiadol hwnnw gyflwyno ei adroddiad interim a'i adroddiad terfynol fel pe bai'n fater i Blaid Cymru a'r Blaid Lafur yn unig gymryd perchnogaeth o'r ddogfen honno. Felly, i fodloni fy chwilfrydedd i fy hun y mae hynny yn bennaf, ond byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ateb y pwyntiau yr wyf i wedi eu cyflwyno i chi.
Wel, rwy'n diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am y cwestiynau manwl yna, ac a gaf i ddiolch iddo am y ffordd y dechreuodd, am ei gefnogaeth i'r alwad i bobl ddod ymlaen i gael eu brechu? Mae gan bob un Aelod o'r Senedd gyrhaeddiad yn ei gymuned ei hun. Rydym ni'n cyhoeddi pethau yn gyson; rydym ni'n ceisio cyfathrebu bob amser â phobl sy'n pleidleisio yn ein hardaloedd ni, ac mae unrhyw beth y gall unrhyw un ohonom ni ei wneud i fynegi'r neges honno yn gyfraniad bach arall at adeiladu'r amddiffyniad y bydd ei angen arnom ni yng Nghymru, pe byddem ni'n gweld ton o haint omicron o'r fath y mae rhai dadansoddwyr yn ei hawgrymu.
Nid yw annibyniaeth yn ymddangos o gwbl yn y cytundeb cydweithredu. Mae'r pwnc yn un o'r pethau hynny y byddwn ni'n parhau i ddadlau llawer yn eu cylch, rwy'n siŵr, ar draws llawr y Senedd. Nid yw safbwynt fy mhlaid i wedi newid o gwbl. Rydym ni'n credu mewn cyfundrefn datganoli sefydledig, cyfundrefn o ddatganoli na ellir ei datgymalu yn ôl mympwy Llywodraeth yn San Steffan, ond ein cred ni hefyd yw ei bod hi'n well i Gymru fod mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus a'i bod hi'n well i'r Deyrnas Unedig fod Cymru yn rhan o honno, ac rwy'n gwbl sicr y byddwn ni'n parhau i drafod y gwahanol safbwyntiau hynny.
Yn fy marn wirioneddol i, Llywydd, nid mater i mi yw craffu. Rwy'n wyliadwrus iawn o'r syniad y dylai'r Llywodraeth fod â rhan mewn llunio trefniadau i graffu ar y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud, ond fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid bwyntiau pwysig iawn, yn bendant. Rwy'n gwybod y bydd y Pwyllgor Busnes wedi cymryd papur heddiw y bydd grwpiau yn y Senedd yn dymuno ei ystyried, ac yn y pen draw, mater i'r Senedd yw penderfynu ar ei threfniadau ei hun, ac nid i'r Llywodraeth fod â rhan uniongyrchol yn hynny.
Nid wyf i'n anghytuno â rhan o'r hyn a ddywedodd yr Aelod am amseroedd aros yn y GIG. Mae'n fater sy'n peri gofid mawr i mi fod gennym ni'r amseroedd aros yn GIG Cymru ar eu lleiaf ers 2014 ac yn parhau i leihau ar ddechrau'r pandemig ond rydym ni'n wynebu sefyllfa wahanol iawn erbyn hyn, fel pob rhan o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n falch, i ryw raddau, o weld rhai amseroedd aros yn byrhau yn y ffigurau diweddaraf o ran rhai o'r cyflyrau mwyaf enbyd. Buom ni'n siarad am ganser yn gynharach, ac fe ostyngodd amseroedd aros o ran canser yn y cyfnod diweddaraf, ond datblygiadau bach yw'r rhain mewn sefyllfa anodd iawn, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda Llywodraethau eraill. Os oes unrhyw syniadau nad ydym ni wedi meddwl amdanyn nhw ein hunain a all ein helpu ni i weld y cynnydd yr ydym ni'n awyddus i'w gael o ran amseroedd aros yng Nghymru, yna wrth gwrs rydym ni'n awyddus i ddysgu'r pethau hynny o unrhyw ffynhonnell a allai fod ar gael.
Mae'r rhaglen lywodraethu yn parhau i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno Deddf aer glân i Gymru, sy'n gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, ac ymestyn y ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer, a bydd y broses honno yn dechrau yn gynnar yn nhymor y Senedd gyda Phapur Gwyn normal, ac yna fe ddaw Bil i'r Senedd ei ystyried. Rwy'n parhau i edrych ymlaen at weithio gyda rhannau eraill o'r Siambr sydd â diddordeb cyffredin yn hyn.
Mae ein barn ar y mater o brofion modd a gwasanaethau cyffredinol yn hanfodol wahanol. Rwyf i o'r farn mai prydau ysgol mewn rhai ffyrdd yw'r esiampl fwyaf amlwg o'r effaith y mae profion modd yn ei chael, oherwydd eu bod nhw'n gwaradwyddo'r bobl hynny y dylai'r system fod yn eu cefnogi. Rwy'n cofio hen, hen stori, Llywydd, y bydd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a rhai eraill yma yn ei chofio. Byddai cyn-arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg, yr Arglwydd Jack Brooks, yn adrodd stori am sut yr aeth ef, yn 18 oed, i neuadd ddawnsio yma yng Nghaerdydd, yn ei ddillad gorau, ac fe welodd ferch ifanc yn croesi'r ystafell tuag ato ac roedd e'n credu efallai y byddai'r noson yn un fwy llwyddiannus nag yr oedd wedi tybio ar y dechrau, a daeth y ferch ifanc hon ato a dweud, 'Rwy'n gwybod pwy wyt ti', meddai hi, 'Jack Brooks wyt ti, onid e?' ac fe ddywedodd, 'Ie', a dywedodd hi, 'Ti oedd yr un oedd yn arfer cael prydau ysgol am ddim pan oeddem ni yn yr ysgol gynradd gyda'n gilydd.' A hyd yn oed ar yr oedran hwnnw, fe barhaodd boen y dolur a achosodd y digwyddiad hwnnw iddo byth oddi ar hynny ac mae'n rhaid mai 50 mlynedd yn ddiweddarach pan yr oedd yn dweud y stori honno wrthym ni ac roedd y graith yno o hyd, roedd hynny i'w glywed yn ei lais. A dyna pam, ar yr ochr hon i'r Siambr, ein bod ni'n credu bod gwasanaethau cyffredinol lle nad oes gwarthnod ynghlwm—. Ac wrth gwrs, dylai'r bobl yn St Andrews Crescent dalu, ond dylen nhw dalu drwy'r system drethu, system drethu raddedig sy'n cymryd mwy yn ôl oddi wrth bobl sydd â mwy i ddechrau, ac nid trwy system prawf modd lle nad yw'r bobl hynny â gwir angen am y gwasanaeth yn ei gael mewn gwirionedd, ond yn cael yr holl anfanteision sy'n mynd law yn llaw â hynny. Fe fydd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn nodi'r goblygiadau cyllidebol; rydym ni wedi gwneud darpariaeth gyllidebol briodol ar gyfer y polisi a nodir yn y cytundeb.
Diolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn a ddywedodd am ddiwygio'r tymor ysgol a'r flwyddyn ysgol, bydd hi'n dda cael gweithio gyda'n gilydd ar hynny, ac ar faterion gofal cymdeithasol a diogelwch adeiladau. Mae'r cynnig ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn broses ar ddau gam. Yn y tymor Senedd hwn, rwy'n awyddus i ni fynd i'r afael â'r materion anodd sy'n ymwneud â diwygio'r system bresennol, fel bydd y system bresennol mor deg ag y gallwn ni ei gwneud hi, ac ar yr un pryd, byddwn ni'n mynd ati i weithio ar y posibiliadau ar gyfer diwygio mwy sylfaenol. Cafodd llawer o waith ei wneud ar hyn yn y tymor Senedd diwethaf, ond os ydych chi am, ddywedwn ni, ddisodli'r dreth gyngor â math o drethiant gwerth tir, ni ellir gwneud hynny mewn un tymor; byddai hynny yn digwydd ar ôl y tymor presennol.
Bydd adroddiadau'r comisiwn cyfansoddiadol, wrth gwrs, ar gael i bob plaid ar ôl eu cyhoeddi ac rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am gynnig enwebiad i'r comisiwn. Rwy'n siŵr y bydd ei chyfranogiad yn ei drafodaethau yn ychwanegu llawer at yr her angenrheidiol yr ydych chi'n ei ddymuno mewn grŵp o bobl sydd wedi dod ynghyd i edrych ar faterion sydd mor hanfodol bwysig.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n gwybod y byddai'r ymadrodd yna, 'blaendal ar annibyniaeth', yn corddi'r Torïaid; mae'n rhywbeth hawdd iawn i'w wneud y dyddiau hyn. Ond beth roeddwn i'n golygu wrth hwnna, beth oedd yn fy meddwl i, a dweud y gwir, oedd ymadrodd arall yr oedd Raymond Williams wedi'i fathu lle'r oedd e'n sôn am annibyniaeth real. Nid annibyniaeth haniaethol, ond annibyniaeth real iddo fe oedd y polisïau a oedd yn mynd i drawsnewid bywydau pobl. Ac er fy mod i a chithau, Prif Weinidog, yn anghytuno ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru, byddai'r ddau ohonom ni'n cytuno mai pwrpas gwleidyddiaeth, wrth gwrs, yw newid bywydau pobl.
Ac fel un a oedd, am gyfnod yn yr ysgol uwchradd, yn derbyn prydau ysgol am ddim, fe allaf i ddweud wrthych chi mai dyma yw'r foment fwyaf prowd yn fy nghyfnod i mewn gwleidyddiaeth, i weld nid yn unig y polisi hwnnw yn y cytundeb cydweithio, ond nawr, heddiw yma, yn cael ei adlewyrchu yn y rhaglen lywodraethu. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddo fe ac, wrth gwrs, cydweithio: dwy blaid yn dod at ei gilydd gydag ysbryd cydweithredol, er mwyn beth? Er mwyn newid a thrawsnewid bywydau pobl Cymru heddiw ac, wrth gwrs, o ran ein plaid ni, hau'r hedyn ym meddyliau pobl, 'Wel, os gallwn ni wneud hyn o fewn y cyfyngiadau o ran pwerau a'r cyfyngiadau cyllidol sydd arnom ni ar hyn o bryd, dychmygwch beth allwn ni ei wneud fel cenedl os ydy'r pwerau yna i gyd yn ein dwylo ni yn y dyfodol.' Dyna oedd yn fy meddwl i wrth sôn am flaendal ar annibyniaeth.
Rwy'n croesawu'r ysbryd cydweithredol rŷch chi wedi cyflwyno'r datganiad yma heddiw ynddo. Dŷn ni ddim yn cytuno gyda phopeth sydd yn y rhaglen lywodraethu, achos rhaglen y Llywodraeth ydy hon. Er bod yna ryw chwarter o'r ymrwymiadau yn y fersiwn newydd, hynny yw, yr amcanion delifro—achos mae yna wahaniaeth, onid oes, rhwng y cytundeb cydweithio a'r hyn sydd, hyd yn oed o adlewyrchu hynny, yn y rhaglen; hynny yw, ffocysu ar yr hyn y bydd y Llywodraeth yn delifro ydych chi yn y ddogfen yma—mae tri chwarter ohonyn nhw yn bethau y tu fas i'r cytundeb cydweithio: rhai ohonyn nhw rydyn ni'n cytuno â nhw fel plaid, a byddwn ni'n eu cefnogi, a rhai eraill, byddwn ni'n dal i wrthwynebu, wrth gwrs, fel gwrthblaid adeiladol.
Mae'r ddadl hon ynglŷn â swyddogaeth y Llywodraeth a'r wrthblaid yn un ddiddorol yn fy marn i. Mae'n fy atgoffa o ymadrodd enwog gan y gwyddonydd gwleidyddol Americanaidd Robert Dahl, a ddywedodd unwaith:
'Mae dweud lle mae'r llywodraeth yn gorffen a'r wrthblaid yn dechrau yn ymarfer mewn metaffiseg.'
Roedd yn ddamcaniaethwr mawr o ran plwraliaeth mewn democratiaeth; bod pŵer, mewn gwirionedd, mewn democratiaeth wirioneddol, wedi ei ddosbarthu a bod gan bob un ohonom ni ran yn hynny—mae gan bob ohonom ni ran—mewn llunio polisïau a gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, nid wyf i wedi fy argyhoeddi gan y model gwrthwynebus a sychlyd iawn hwn yn San Steffan. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb yn y Siambr hon. Mae gan bawb nad ydyn nhw yn y Cabinet, mewn gwirionedd, gan gynnwys aelodau meinciau cefn Llafur, swyddogaeth graffu, ac mae honno'n swyddogaeth y dylem ni i gyd ei chymryd o ddifrif calon.
Ond fe ddylem fod yn gydweithredol hefyd yn ein dull o wneud gwahaniaeth. Roedd hi'n ddiddorol darllen y cyngor cyfreithiol yr ydych chi wedi ei gael gan yr Arglwydd Pannick, Llywydd, sydd wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau y prynhawn yma. Mae'n mynd ymlaen i drafod y cytundeb cydweithredu, 'O safbwynt cyfansoddiadol, mae hi'n anodd gweld sut y gallai mabwysiadu gweithdrefn sy'n datblygu polisi drwy geisio meithrin consensws fod yn rhywbeth amhriodol, a chael cefnogaeth y rhai sy'n cynrychioli cyfran fwy o'r etholwyr yn sgil hynny'.
Dylai hynny fod wrth hanfod unrhyw system ddemocrataidd, ond yn sicr fe gafodd ei sefydlu yn egwyddorion sylfaenol y sefydliad hwn. Er mai'r rhaglen Lywodraethu yw hon—mae'n nodi'r canlyniadau yr ydych chi, mewn swydd weithredol, yn ceisio eu cyflawni—rwy'n cymeradwyo'r croeso i ymagwedd gydweithredol tuag at wleidyddiaeth, oherwydd dyna'r ffordd y gallwn ni gael, gyda'n gilydd, yn Senedd gyfan—. Gan fy mod i'n gwybod bod syniadau adeiladol, ac roeddwn i'n falch o gefnogi Bil Peter Fox o ran llunio system fwyd i Gymru. Fe all syniadau da ddod o bob man, a thrwy gydweithio gallwn ni gyflawni'r Gymru well honno y dylem ni fod yn gweithio tuag ati ar bob ochr.
Diolch yn fawr i Adam Price am ei sylwadau. Wrth gwrs, dwi'n cytuno â beth ddywedodd e am ysbryd y rhaglen rŷn ni wedi cytuno arni gyda'n gilydd. Lle allwn ni gydweithio, mae'n bwysig i ni gydweithio, ac mae hynny wedi bod yn rhan o hanes datganoli yma yng Nghymru o'r cychwyn. Mae beth rŷn ni wedi cytuno yn y tymor hwn yn rhywbeth newydd—rhywbeth rŷn ni wedi'i greu yma gyda'n gilydd yng Nghymru—ond mae'n rhan o'r traddodiad rŷn ni wedi'i greu. Ble allwn ni gydweithio, mae'n bwysig i ni wneud hynny.
Mae saith deg pump y cant o'r rhaglen lywodraethu, yn wir, y tu allan i'r cytundeb, ac fe fydd diwrnodau pan fydd gennym ni wahaniaeth barn ar lawer o'r eitemau hynny, ond dyna'n union y gwnaethom ni ei gydnabod a fyddai'n digwydd pan wnaethom ni ddechrau ar y daith i lunio'r cytundeb yr oeddem ni'n gallu ei lofnodi yr wythnos diwethaf.
Efallai fod hynny yn rhywbeth cymharol newydd yn y fan hon, yn yr ystyr mai dyma'r amlygiad diweddaraf o gydweithredu, Llywydd, ond nid yw'n beth hollol ddigynsail o gwbl mewn rhannau eraill o'r byd. Yn wir, roedd y cyngor gan Pannick a welais i yn tynnu sylw at y cytundeb rhwng y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan a'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, pan gawson nhw gefnogaeth i'r Llywodraeth honno o'r tu allan i'r Llywodraeth, gyda pheirianwaith cymhleth i'w gefnogi a buddsoddiad gwerth £1.5 biliwn i hwyluso'r ffordd ar gyfer y trefniadau hynny hefyd. Felly, nid oes dim yr ydym ni'n ei wneud yma nad oes cyffelybiaeth bwysig iddo mewn mannau eraill—yn Sgandinafia, yn Seland Newydd ac, yn wir, yn nes at gartref.
Rwyf wedi fy nharo, Llywydd, gan nifer y bobl sydd wedi dweud wrthyf i yn ystod yr wythnos ddiwethaf mor falch maen nhw o weld pobl yn y Senedd yn cydweithio ar agendâu heriol iawn. Rwy'n credu mai dyma'r hyn y mae pobl sydd y tu allan i'r cylch bach o wleidyddiaeth yr ydym ni'n gweithredu ynddo yn disgwyl i ni ei wneud, a phan allwn ni wneud felly, fe ddylem ni wneud hynny. Mae hynny'n wir am unrhyw ran o'r Siambr lle gellir dod o hyd i gytundeb o'r fath. A phan na allwn ni, yna mae'r ddadl sydd gennym ni a'r gwrthdaro rhwng syniadau yn caniatáu i bob un ohonom ni ystyried y syniadau yr ydym ni'n eu datblygu ac, rwy'n gobeithio, yn eu gwella yn rhan o'r broses honno.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n falch iawn eich bod wedi mynegi'r neges gadarn honno ynghylch pwysigrwydd brechiadau a dosau atgyfnerthu, a fydd, wrth gwrs, yn sail i'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud dros y cyfnod nesaf. A wnewch chi gadarnhau pwysigrwydd gorchuddion wyneb hefyd, yn ogystal â chadw pellter corfforol a golchi dwylo i'n cadw ni ein hunain a'n hanwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn?
Rwyf i hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim, gan adeiladu ar y rhaglen lywodraethu flaenorol. Rwyf i o'r farn mai un o'r ymyriadau pwysicaf yn ystod y pandemig fu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim 365 diwrnod o'r flwyddyn i blant a phobl ifanc cymwys. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod gwarant gan Lywodraeth Cymru o'r ddarpariaeth hon hyd at y Pasg 2022, ond pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i'r agwedd hon ar ei gwaith, ac a ellid ei ymestyn, i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn mynd yn llwglyd yn ystod gwyliau'r ysgol?
Yn olaf, rwy'n croesawu eich sylwadau am y Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithlu gofal cymdeithasol. Pryd allwn ni ddisgwyl yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf o'r trafodaethau hynny?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae hi'n llygad ei lle; brechu, er mai dyma'r amddiffyniad pwysicaf sydd gennym ni, nid dyna'r unig un o bell ffordd. Mae'r pethau syml hynny yr ydym ni wedi dysgu eu gwneud yn ein bywydau ein hunain—gorchuddion wyneb, pellter cymdeithasol, golchi dwylo, ac yn syml, dangos parch at bobl eraill. Os ydych chi allan ac mae llawer o bobl eraill yno hefyd, meddyliwch am y bobl eraill sydd yn yr ystafell gyda chi a'u trin â'r parch priodol. Rwyf i o'r farn fod y pàs COVID yn rhan bwysig o'r amddiffyniadau y gwnaethom ni eu datblygu yma yng Nghymru, ac mae'r camau hynny y gallwn ni eu cymryd bob dydd gyda'n gilydd, gyda'i gilydd, yn gyfystyr ag amddiffyniad pwysig.
O ran mater penodol newyn yn ystod gwyliau'r ysgol, mae'r rhaglen lywodraethu, wrth gwrs, yn ein hymrwymo i fynd ati i ddatblygu'r system o ymateb i'r gwyliau y gwnaethom ni roi cychwyn arni ar ddechrau'r tymor Seneddol diwethaf, hyd yn oed pan nad oedd arian ar gyfer unrhyw beth, oherwydd bod ein cyllidebau ni wedi eu cwtogi flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, un o'r pethau yr oeddwn i'n fwyaf balch ohonyn nhw oedd y ffaith ein bod ni wedi dod o hyd i arian yn y flwyddyn gyntaf honno i ddechrau system genedlaethol o gymorth i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta yn ystod y gwyliau. Yn fwy na dim ond pryd o fwyd, ond y profiad cyfan hwnnw o gael pobl ifanc yn gallu mynd i'r ysgol, a chanolbwyntio ar faeth, cynnwys y rhieni, a choginio prydau gyda'i gilydd, a dysgu drwy hwyl, ac ymarfer corfforol—yr ystod gyfan honno o faterion y mae ein Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, y rhaglen i gyfoethogi gwyliau ysgol, wedi gallu eu darparu mewn nifer cynyddol o ysgolion, flwyddyn ar ôl blwyddyn, hyd at ddechrau'r pandemig, ac wedyn yn ystod gwyliau'r ysgol eleni. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo ni i barhau i ymestyn y gwaith hwnnw.
Prif Weinidog, rwy'n sylwi bod y rheoliadau parthau perygl nitradau, nad oedden nhw wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu wreiddiol a gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin, wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu ddiweddaraf. Ar bennod dydd Sul Politics Wales y BBC, roeddech chi'n dweud na fyddai'r rheoliadau parth perygl nitradau yn cael eu diddymu o gwbl—ac rwy'n dyfynnu—'ni fu erioed fwriad i fod â rhyw fath o ddull cyffredinol'. Felly, os mai dull gweithredu Cymru gyfan ond wedi ei dargedu oedd bwriad y Llywodraeth hon erioed, yna beth yn union mae Plaid Cymru wedi ei gyflawni yn y cytundeb cydweithredu i ffermwyr, o gofio eu bod nhw wedi gwrthwynebu'r rheoliadau parth perygl nitradau yn flaenorol? Ac os, fel yr ydych chi'n ei ddweud, Prif Weinidog, na fydd unrhyw newidiadau i'r polisi parth perygl nitradau, a yw'r dystiolaeth, felly, sy'n cael ei chasglu ar hyn o bryd a'r argymhellion sydd i'w cyflwyno gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gwbl ofer? Diolch.
Mae arnaf i ofn, Llywydd, fod yr Aelod wedi camddeall yn llwyr yr hyn yr ydym ni wedi ei gytuno. Nid yw'n fater o beidio â newid y polisi o gwbl—ond yn fater o beidio â newid y rheoliadau a basiwyd ar lawr y Senedd hon tua diwedd y tymor diwethaf. Mae'r rheoliadau hynny yn parhau ar y llyfr statud ac ni fyddwn yn eu dirymu. Ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n gwrando yn astud ar waith y pwyllgor; mae'r cytundeb yn ein hymrwymo ni i weithio yn agos gyda'r gymuned ffermio ynglŷn â'r ffordd y caiff y rheoliadau hynny eu defnyddio, er mwyn gwneud yr hyn y mae pob Aelod yn y Siambr hon yn dymuno ei weld yn digwydd yn fy marn i. Mae llygredd yn y diwydiant ffermio yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn; ac nid yw'r rhifau yn lleihau dim. Mae difenwad y diwydiant yn sylweddol ac mae'n cronni flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ein bod ni'n methu â mynd i'r afael â ble mae'r anawsterau yn digwydd. Mae'r cytundeb yn ein hymrwymo ni i ddefnyddio'r rheoliadau mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y meysydd hynny lle ceir yr anhawster mwyaf. Mae hynny'n gyson iawn â'r ffordd y byddwn i'n awyddus i weld y rheoliadau yn cael eu defnyddio. Os cawn ni gyngor oddi wrth y pwyllgor ynghylch sut y gallwn ni ddefnyddio'r rheoliadau i leihau llygredd amaethyddol, i amddiffyn enw da y diwydiant, i sicrhau ei barhad, fel y gwna cynifer o ffermwyr, wrth weithio'n galed i ennill enw da am ansawdd y cynhyrchion y maen nhw'n eu darparu, yna fe fydd hwnnw'n ganlyniad da iawn i ni.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Dwi'n croesawu cyhoeddi'r rhaglen yma sydd wedi'i hehangu ac wedi'i diwygio i adlewyrchu y meysydd yna lle mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gallu canfod y tir cyffredin yna i gydweithio arno fe. Ac, wrth gwrs, rŷn ni wedi cadw ffocws digyfaddawd yn y trafodaethau hynny ar sicrhau lles pobl Cymru, newid bywydau pobl Cymru er gwell, fel dywedodd Adam Price, a lles democratiaeth Cymru yn ehangach hefyd, wrth gwrs.
Dwi'n siŵr y byddech chi'n cytuno gyda fi, Prif Weinidog, bod hwn yn dangos fod modd cyflawni mwy drwy gydweithio, lle mae modd gwneud hynny, yn hytrach na'r cystadlu efallai rŷn ni'n ei gysylltu yn aml gyda Seneddau eraill o fewn yr ynysoedd yma. Ond mae hwn yn gerbyd neu yn gyfrwng nawr i daclo rhai o'r meysydd polisi yna, yn fy marn i, lle mae angen yr arweiniad cryfach. Maen nhw'n feysydd lle mae angen yr ewyllys wleidyddol fwyaf penderfynol i fynd i'r afael â nhw. Dwi'n meddwl yn benodol am bethau fel yr argyfwng hinsawdd, fel yr argyfwng tai, fel y diffyg democrataidd, i enwi dim ond tri maes.
Mae mapio y llwybr i sero net erbyn 2035 i fi yn ddatganiad clir o fwriad, bod Cymru eisiau ymuno â'r gwledydd a'r rhanbarthau yna sydd wedi dangos yr uchelgais mwyaf ar wyneb y ddaear yma o safbwynt mynd i'r afael â beth sydd, wrth gwrs, yn un o heriau mwyaf dynoliaeth. A dyw uchelgais byth yn aros yn llonydd, yn enwedig yn y cyd-destun yma. Dwi wedi dweud yn y gorffennol bod yna ormod o bobl yn y byd yma sy'n trio mynd hanner ffordd lan y mynydd ac yn llwyddo; mae'n rhaid inni anelu at y copa. Ac, ocê, rŷn ni'n ddigon pragmatig fan hyn i dderbyn weithiau wnawn ni ddim cyrraedd y copa, ond mi awn ni'n bellach na hanner ffordd. Ac felly, mae'r uchelgais yna yn rhywbeth sy'n sicr yn rhywbeth sydd angen inni ymrwymo iddi hi.
Yr argyfwng tai—
Dwi angen cwestiwn i'r Prif Weinidog nawr.
Gwnes i ofyn a oedd y Prif Weinidog yn cytuno â fi.
Rŷch chi dros eich amser ddwywaith, Llyr Gruffydd, felly gofynnwch y cwestiwn terfynol nawr.
Doeddwn i ddim yn deall bod yna gyfyngiad amser.
Mae'n amlwg bod y Torïaid yn pryderu cryn dipyn am y cytundeb cydweithredu, a beth, tybed, yw asesiad y Prif Weinidog o'r rheswm am hynny. Gan ein bod ni i gyd yn cofio, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, y rhodd o £1 biliwn gan y Torïaid—ai oherwydd ein bod ni wedi dangos y ffordd briodol o negodi cytundeb seneddol gyda thryloywder llawn o ran gweithrediad y cytundeb hwn yr ydych chi'n credu eu bod nhw wedi cynhyrfu fel hyn?
Diolch i Llyr Gruffydd am y sylwadau. Dim ond 30 o bleidleisiau sydd gyda ni yn y Blaid Lafur yma ar lawr y Senedd, ac os ydyn ni eisiau bwrw ymlaen gyda phethau radical ac uchelgeisiol, dydy hwnna ddim yn ddigonol. A dyna pam bod y cytundeb yn bwysig, achos mae'r cytundeb yn canolbwyntio ar y meysydd sydd yn anodd i'w cario ymlaen heb fwy o gefnogaeth.
Dyna yn hollol pam yr wyf i wedi bod o'r farn bod cytundeb mor bwysig. Rwy'n cofio dweud wrth arweinydd Plaid Cymru, yn un o'r trafodaethau cynharaf a gawsom ni, nad oedd cytundeb ar bethau hawdd yn apelio rhyw lawer i mi, oherwydd mae'n debyg y gallwn ni wneud y pethau hawdd beth bynnag. Yr hyn yr oeddwn i'n dymuno ei gael oedd cytundeb ar bethau anodd, pethau heriol, a fyddai, heb i ni allu llunio cytundeb, yn golygu dirywio'r cyfleoedd o allu gwneud y cynnydd y byddai pobl yng Nghymru, yn fy marn i, yn elwa arno o ganlyniad i'r cytundeb.
Yn ysbryd cydweithrediad y prynhawn yma, efallai, Llywydd, byddaf i'n dweud, mewn gwirionedd, nad wyf i wedi clywed gwrthwynebiad sylfaenol i'r syniad o gytundeb gan arweinydd yr wrthblaid. Yn hytrach na hynny, fe glywais i bryderon o ran craffu a gwahaniaethau barn ar bolisïau penodol, ac rwy'n disgwyl hynny'n gyfan gwbl, ond ni chlywais i yng nghyfraniad Andrew R.T. Davies, anghytundeb sylfaenol ynghylch y ffaith y gall pleidiau yn y Siambr hon ddod i gytundeb, a gallu cydweithio wedyn i gyflawni'r canlyniadau hynny.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad prynhawn yma. Dwi eisiau jest canolbwyntio ar un peth os gwelwch yn dda, a hynny yw iechyd meddwl.
Yn ystod y cyfnod yn union cyn y pandemig, dioddefodd 11.7 y cant o Gymry broblemau iechyd meddwl difrifol. Cododd y gyfran hon hyd at 28.1 y cant ym mis Ebrill 2020, gan effeithio yn arbennig ar bobl ifanc a phlant yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allwn i ofyn am rywfaint o eglurder ynghylch beth yw'r ymrwymiad yn y trefniant gyda Phlaid Cymru i wella'r llwybrau atgyfeirio y sonnir amdanynt i driniaeth, a sut y bydd hynny'n digwydd yn ymarferol, yn enwedig i bobl ifanc.
Ac, yn ail, os caf i ofyn: gall argyfyngau iechyd corfforol godi ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, mae hynny'n wir hefyd am argyfyngau iechyd meddwl. Ac ni fyddwn yn sicrhau parch cydradd rhwng materion iechyd corfforol a meddyliol oni bai bod gennym wasanaeth gofal argyfwng 24/7. A gaf i ofyn pa syniadau sydd gennych chi i symud hynny ymlaen o fewn y cytundeb? Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, ac, wrth gwrs, dwi'n cytuno am bwysigrwydd iechyd meddwl, yn enwedig gyda phobl ifanc, fel dwi wedi'i ddweud fwy nag unwaith ar lawr y Senedd. Bob tro dwi'n cwrdd gyda grwpiau o bobl ifanc, mae lles ac iechyd meddwl yn codi bob tro.
Ac mae un pwynt yn y cytundeb rhyngddom ni â Phlaid Cymru yn y maes iechyd meddwl. Mae hwnna'n rhywbeth penodol, a bydd y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am iechyd meddwl yn mynd i weithio ar hwnna. Ond, wrth gwrs, mae hwnna'n jest un peth mewn rhan fwy o'r rhaglenni sydd gyda ni yn y maes iechyd meddwl.
Pan fydd y gyllideb ddrafft yn cael ei gosod, Llywydd, rwy'n credu y bydd aelodau'n gallu gweld buddsoddiad parhaus ym maes ehangach iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau brys ac argyfwng sy'n mynd y tu hwnt i'r rhan benodol o iechyd meddwl yr ydym wedi gallu cytuno arni fel rhan o'n cytundeb cydweithredu. A gobeithio, pan fydd yr Aelod yn gweld y gyllideb, y bydd yn cydnabod yr effaith mae hi ac Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chael pan fyddan nhw wedi tynnu sylw'n rheolaidd at yr effaith mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl ein pobl ifanc yn benodol.
Rwyf innau hefyd, Prif Weinidog, yn diolch i chi am eich datganiad, ac rwyf am ofyn am gyfleusterau cymunedol iechyd meddwl, y sonnir amdanyn nhw yn eich cytundeb â Phlaid Cymru—rydych chi'n dweud eich bod am gael cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan staff hyfforddedig yn y trydydd sector, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n ei gefnogi i bobl ifanc oherwydd rydym ni'n gweld atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn codi, a rhestrau aros yn mynd yn hirach. Yn syml, ni all rhai pobl aros ar restr aros tra bod eu problemau'n gwaethygu. Mae'n nodi y bydd llwybrau cyfeirio clir i wasanaethau'r GIG sydd â phroblemau iechyd meddwl neu les emosiynol brys.
Felly, a allwch chi roi rhywfaint o eglurder a sicrwydd i ni, pan gaiff y bobl ifanc hynny eu cyfeirio i'r GIG, y bydd y gwasanaethau hynny y bydd eu hangen yno ar frys i'r bobl hynny, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol iddyn nhw gael eu hatgyfeirio ac yna gorfod aros misoedd a misoedd a misoedd am apwyntiad? Diolch, Llywydd.
Diolch i'r Aelod; mae hwnnw'n bwynt pwysig. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â sefydliad trydydd sector llwyddiannus iawn ym maes iechyd meddwl, ynghyd â'r Gweinidog, Lynne Neagle. Ac mae'r pwynt a drafodwyd gennym yno yn un y gwn fy mod wedi'i ymarfer droeon yma yn y Senedd, mai'r rheswm pam mae pobl ifanc weithiau'n aros yn rhy hir yw oherwydd bod gormod o bobl yn y ciw am apwyntiad nad oes angen y math hwnnw o wasanaeth arno. Ac yr oedd y sefydliad trydydd sector, yr oeddwn i'n meddwl, yn gallu dangos yn argyhoeddiadol iawn, gyda'u lefel llawer is, nad yw'n glinigol, mai dim ond y ffracsiwn llawer llai hwnnw o bobl ifanc yr oedd angen gwasanaeth gwirioneddol arbenigol arnyn nhw, aeth ymlaen wedyn i chwilio am y gwasanaeth hwnnw. Ac oherwydd bod llai o bobl yn dod drwy'r drws, yna roedd y gwasanaeth arbenigol hwnnw'n gallu eu gweld yn gyflymach. Felly, dyna pam rydym yn sôn am lwybrau atgyfeirio. Rydym am sicrhau bod y gwasanaethau bob dydd hynny, heb eu stigmateiddio, ar gael i bobl ifanc sy'n mynd drwy gyfnod anodd yn y busnes anodd o dyfu i fyny, yn enwedig o dan amgylchiadau eithriadol pandemig. Maen nhw'n cael yr help sydd ei angen arnyn nhw gan bobl hyfforddedig, sy'n gallu ymateb i'r lefel honno o angen, ond mae'r bobl hynny hefyd yn ddigon medrus a chymwys i allu nodi'r bobl ifanc hynny sydd angen rhywbeth y tu hwnt i'r hyn y gallan nhw ei gynnig, ac yna dim ond y bobl ifanc hynny sy'n symud ymlaen i'r gwasanaethau hynny, gan sicrhau eu bod ar gael yn gyflymach o ganlyniad.
Hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad ar y rhaglen lywodraethu yma heddiw, a'r ysbryd o gydweithredu a amlinellwyd. Roeddwn wrth fy modd eich bod wedi cyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo yn yr ymgyrch etholiadol i greu gwasanaeth cerddoriaeth genedlaethol newydd. Felly, braf oedd gweld y Gweinidog addysg yn cadarnhau y bydd £6.8 miliwn ar gael ar gyfer dysgu yn y celfyddydau creadigol yn y cwricwlwm, a cherddoriaeth yn rhannol, gan roi gwell mynediad i fyfyrwyr at offerynnau cerdd. Ac rwy'n croesawu'n arbennig ymrwymiad Jeremy Miles y bydd yr offerynnau'n cael eu dosbarthu yn y lle cyntaf i ddysgwyr sy'n llai tebygol o fod yn gallu cael gafael arnyn nhw eisoes, fel y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hwn yn ddechrau addawol i gyflawni ein hymrwymiad datganedig. Prif Weinidog, pryd fydd prosesau addysgu a dysgu'r gwasanaeth cerddoriaeth newydd i Gymru yn cael eu darparu, a beth mae'n ei ddweud wrth bobl Cymru ynghylch pa mor werthfawr mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ystyried mynediad i addysg gerddorol? Pa fesurau pellach, Prif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Dirprwy Lywydd, gallaf ddweud yn onest nad oeddwn i'n gwybod bod Rhianon Passmore y tu ôl imi yn ystod y datganiad—fel arall, byddwn i wedi gwneud hyd yn oed mwy o'r buddsoddiad a gyhoeddodd Jeremy Miles mewn gwasanaethau cerddoriaeth. Rwy'n siŵr fy mod ymhell iawn o fod yr unig Aelod o'r Senedd a gafodd offeryn yn yr ysgol i roi cynnig arno, i weld a fyddwn yn mynd ymlaen—fel y gwnes i bryd hynny, i ddysgu chwarae'r clarinet. Ac oni bai am y ffaith bod offeryn yno i mi roi cynnig arno, ni fyddai hynny byth wedi digwydd. Nid oedd yn hawdd dod o hyd i arian ar gyfer offeryn yn y tŷ y cefais fy magu ynddo, ond roedd fy rhieni, ar ôl gweld yr hyn y gallwn i ei wneud, yn ymrwymedig iawn i sicrhau fy mod yn mynd ymlaen i fwynhau hynny. Ac roeddwn i'n ffodus iawn, iawn o gael fy magu yn y traddodiad Cymreig mawr hwnnw o gerddorfeydd ysgol, cerddorfeydd sirol, cerddorfeydd ieuenctid cenedlaethol. Roedd yn rhan ffurfiannol o fy magwraeth, ac rydym am sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn mynd ati i allu chwarae rhan lawn yn hynny'n union. Mae'r gwasanaeth cerdd cenedlaethol yn ymrwymiad am bum mlynedd y tymor, oherwydd nid arian yn unig, fel y gwn i y bydd Rhianon yn gwybod yn iawn, yw'r ateb i gyd. Mae problem y gweithlu, a'r gweithlu medrus, a sicrhau bod cyfleusterau i bobl ifanc allu eu mwynhau hefyd. Ond mae'n ymrwymiad pwysig yno yn y rhaglen lywodraethu, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi rhywfaint o amlygrwydd iddo y prynhawn yma.
Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad at rai o'r prif newidiadau sydd wedi eu gwneud i'r rhaglen lywodraethu yn sgil y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Heb os, mae'r ymrwymiad i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, ac i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, yn ddau gam ymarferol sydd yn mynd i elwa miloedd o deuluoedd yn uniongyrchol, ac yn mynd i wneud cyfraniad mawr at liniaru effaith y cynnydd mewn costau byw aelwydydd, a chreu Cymru fwy cyfiawn i bawb. A dyna pam mae sefydliadau gwrth-dlodi, fel Sefydliad Bevan, wedi croesawu'r cytundeb. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi wrth roi cydnabyddiaeth ddyladwy a diolch am y cyfraniad y mae nifer o grwpiau gwrth-dlodi a mudiadau ymgyrchu, fel Cynulliad y Werin, wedi ei wneud dros nifer o flynyddoedd, i arwain at fabwysiadu'r polisïau yma, sydd nawr wrth galon rhaglen y llywodraeth heddiw?
Ac fel un sydd hefyd wedi bod yn ymgyrchu dros brydau ysgol am ddim i bob plentyn, rwy'n hynod falch fod y Llywodraeth nawr am flaenoriaethu ehangu prydau ysgol yn enwedig. Rwy'n siŵr fod y Llywodraeth yn gytûn ei fod yn gam cyntaf pwysig yn yr ymgyrch i ddileu'r lefel gywilyddus o dlodi plant yng Nghymru, ond yn cytuno gyda Sefydliad Bevan a grwpiau eraill bod angen mynd ymhellach pan fo adnoddau yn caniatáu. Ac, wrth i'r polisïau blaengar yma gael eu rhoi ar waith, mae'n drueni fod y Blaid Geidwadol, nad sydd wedi ennill yr un etholiad yng Nghymru, yn milwrio yn erbyn yr ymdrechion i drechu tlodi. Y toriad cywilyddus i'r credyd cynhwysol yn un o'r enghreifftiau diweddaraf o hynny. Felly, Prif Weinidog, beth allwn ni wneud, yn sgil y cytundeb, i sicrhau nad yw polisïau o'r fath, nad oes mandad iddyn nhw yma yng Nghymru, yn cael eu gorfodi ar ein pobl ac yn tanseilio'r camau mawr yma ymlaen?
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Sioned Williams, a dwi'n cytuno ein bod ni'n lwcus. Rydym ni yn lwcus yng Nghymru i gael nifer o asiantaethau yn y trydydd sector a phobl sy'n gwneud ymchwil sy'n ein helpu ni i greu polisïau sy'n addas i'r pethau rydym ni'n wynebu yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, pwrpas y cyrff yna yw rhoi pwysau arnom ni i wneud mwy. Ac mae hwnna'n grêt, onid yw e? Rydyn ni'n lwcus i gael pobl sy'n fodlon ymdrechu fel yna a dangos inni sut gallwn ni wneud mwy nag oeddem ni yn disgwyl gwneud. Wrth gwrs, i fi, fel Prif Weinidog, y peth cyntaf yw canolbwyntio ar bethau rydym ni wedi cytuno i wneud yn y cytundeb, ac i wneud popeth rydym ni'n gallu i fynd ar ôl popeth rydym wedi cytuno gyda'n gilydd. Ond cael cymorth oddi wrth bobl tu fas y Senedd, ac yn enwedig pobl sy'n canolbwyntio ar y maes tlodi plant—wel, wrth gwrs, rydym yn lwcus i'w cael nhw.
Ac, yn olaf, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Prif Weinidog. Er bod eich cytundeb gyda Phlaid Cymru—neu a ddylwn ddweud clymblaid ym mhopeth ond enw, yn ôl llawer o'ch aelodau meinciau cefn eich hun, o leiaf—wedi creu llawer iawn o stŵr i lawr yma yn swigen Caerdydd, nid yw'n golygu fawr ddim i'r gweithiwr gofal yng ngogledd Cymru sy'n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd ar lai o gyflog na rhywun sy'n gweithio yn siop leol Lidl. Prif Weinidog, sut mae'r diweddariad hwn yn rhoi unrhyw eglurder i'r sector gofal? Pryd y bydd staff gofal yn gweld cyflog gweddus a gwell amodau? Sut y bydd ymgynghori ar wasanaeth gofal cenedlaethol yn sicrhau gwelliannau y mae mawr eu hangen i'r ddarpariaeth gofal yng Nghymru? Pa amserlenni yr ydych yn eu rhoi ar ddeddfu i integreiddio iechyd a gofal ymhellach?
Ac, yn olaf, Prif Weinidog, mae eich cyhoeddiad ar ddileu elw o ofal plant eisoes yn effeithio ar y sector, gan fod darparwyr gofal yn ei chael hi'n anodd sicrhau cyllid i agor cyfleusterau gofal newydd. Sylwaf eich bod wedi rhoi'r gorau i'r ymrwymiad hwn i gyflawni'r nod afresymol ac afrealistig hwn yn ystod tymor y Senedd hwn. Pryd ydych chi'n bwriadu dileu elw o ofal, o gofio bod y sector preifat yn darparu 80 y cant o ofal? Oni fyddai'n well rhoi'r gorau i'r nod yn gyfan gwbl? Siawns na ddylem ganolbwyntio ymdrechion ar sicrhau bod plant yn cael gofal o ansawdd da yng Nghymru, yn hytrach na mynd ar drywydd fendeta dogmatig yn erbyn y sector gofal preifat. Diolch.
Wel, rwyf yn anghytuno'n llwyr. Rwy'n credu bod pwynt sylweddol ar y diwedd yno, ac, mae arnaf ofn, mae'r Aelod wedi'i gael yn gwbl anghywir. Rwyf yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi ymrwymo i ddileu'r gwaith o geisio gwneud elw preifat yng ngofal plant yma yng Nghymru. Mae gennyf gof byw o'r adroddiad a baratowyd gan y comisiynydd plant ar ein cyfer, pan oedd menyw ifanc yn sôn am y ffordd y gwelodd ei hun wedi cael ei rhoi ar wefan a'i gofal yn cael ei gynnig i'r cwmni a oedd yn barod i'w wneud y rhataf, ac nid dyna'r ffordd rwyf am weld ein plant yng Nghymru yn derbyn gofal. Mae taith yma. Rhaid i ni feithrin gallu ein gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu'r gofal hwnnw'n nes at ble mae pobl ifanc yn byw, ac i ofalu am fwy o blant lle mae teuluoedd yn cael trafferth yn nes at eu cymunedau eu hunain. Ond dyna'r ffordd i ofalu am blant, yma yng Nghymru, lle mae'r arian mae'r cyhoedd yn ei ddarparu yn cael ei neilltuo'n gyfan gwbl i ofal y plant hynny, heb i gynyddrannau gael eu tynnu ymaith, a bron bob amser cael eu tynnu allan o Gymru hefyd, i elw cwmnïau preifat. Efallai ei fod yn meddwl bod hynny'n syniad da; ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr nid ydym yn gwneud hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Eitem 4, datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Mae ein rhaglen lywodraethu yn gwneud ymrwymiad clir i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach. Mae'r cytundeb cydweithredu yr ydym wedi ymrwymo iddo gyda Phlaid Cymru yn ailddatgan y nod hwnnw, a heddiw rwyf am nodi'r camau cychwynnol cyntaf ar hyd y daith honno.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r dreth gyngor yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol, o addysgu ein plant i ofalu am ein hanwyliaid i ailgylchu ein gwastraff, i roi ychydig o enghreifftiau yn unig. Ond mae angen diwygio'r system. Ein huchelgais yw sicrhau bod y cyfraniadau a wneir gan bobl Cymru yn cael eu cymhwyso mor deg â phosibl. Dylai system y dreth gyngor fod yn fwy blaengar o ran ei dyluniad a dylid ei moderneiddio wrth ei chyflwyno, ar ôl bodoli ar ei ffurf bresennol ers 1993.
Rwyf yn falch o gyflawniadau ein Llywodraeth yng Nghymru ar y dreth gyngor yn ystod y tymor diwethaf. Rydym wedi dileu'r bygythiad o garchar am beidio â thalu, rydym wedi creu eithriad newydd ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal, rydym wedi gwella mynediad at ostyngiadau i bobl â nam meddyliol difrifol, ac rydym wedi lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys ein cynllun cenedlaethol i leihau'r dreth gyngor. Hoffwn gofnodi fy niolch i Aelodau a chydweithwyr llywodraeth leol am weithio gyda ni ar y newidiadau pwysig hynny.
Ym mis Chwefror, roeddwn yn falch o gyhoeddi darn mawr o waith, 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau', gan gynnwys gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Prifysgol Bangor ac arbenigwyr enwog eraill yn y maes hwn. Mae'n dangos y dystiolaeth bwysig rydyn ni ei hangen i nodi’r dewisiadau sydd o'n blaenau ac i lywio'r penderfyniadau mae angen i ni eu gwneud. Fe wnaethom archwilio ystod eang o opsiynau, o newid cymedrol hyd at ailgynllunio sylfaenol, megis treth gwerth tir. Bydd y canfyddiadau hynny'n ein helpu i feddwl am yr opsiynau ar gyfer diwygio ystyrlon dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â'r sylfeini mae angen i ni eu gosod ar gyfer newid mwy sylfaenol, tymor nhw.
Fe wnes i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol yn ddiweddar i gasglu eu barn o bob rhan o Gymru. Byddan nhw'n bartneriaid hanfodol wrth helpu i gyd-ddylunio a chyflawni'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni. Rwyf hefyd wedi dechrau gweithio'n agos gyda chydweithwyr Plaid Cymru ar y flaenoriaeth bwysig hon a rennir. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn newid pwysig, a dyna pam yr wyf yn awyddus bod y diwygiadau hyn yn rhan o sgwrs genedlaethol, ddinesig gyda phobl Cymru. Dyna pam y byddaf yn ymgynghori, maes o law y flwyddyn nesaf, ar becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor fel man cychwyn y daith hon i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon.
Cam cyntaf pwysig, a bloc adeiladu hanfodol y bydd newidiadau eraill yn dilyn arno, fydd edrych ar opsiynau ar gyfer ailbrisio yng Nghymru. Ar ôl cynnal ailbrisiad yn 2003, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi diweddaru ei sylfaen treth gyngor ers y 1990au, ond mae'r dosbarthiad treth yng Nghymru bron i 20 mlynedd ar ôl yr oed. Bydd ail-brisio’r tymor hwn, a gwneud hynny'n amlach wedi hynny, yn rhoi'r llwyfan i ni newid. Bydd yn rhoi cyfle i ni ychwanegu bandiau at y gwaelod neu ben uchaf y raddfa er mwyn adlewyrchu cyfoeth aelwydydd a gallu pobl i dalu'n well—y camau cyntaf i system decach. Byddwn hefyd yn edrych ar newidiadau i'n cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Rydym wedi parhau i gynnal hawliau i ostyngiadau ar gyfer dros 275,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel, a byddaf yn cyflwyno rheoliadau cyn bo hir i ddiweddaru'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf, lle byddwn unwaith eto'n buddsoddi £244 miliwn i'w gefnogi.
Fodd bynnag, datblygwyd y cynllun yn gyflym yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor yn 2013. Ers cyflwyno ein cynllun cenedlaethol, rydym wedi gweld dechrau cyflwyno credyd cynhwysol. Wrth i'r broses o gyflwyno credyd cynhwysol symud yn ei blaen, mae'n cyflwyno cymhlethdod i'r ffordd mae pobl yn gwneud cais am gymorth a'r ffordd mae eu hawl yn cael ei chyfrifo. Mae angen i ni sicrhau bod ein cynllun yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith credyd cynhwysol, ond gallem fynd ymhellach. Mae angen i ni adolygu'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor er mwyn sicrhau ei fod wedi'i foderneiddio, yn hawdd cael mynediad ato ac nad yw'n atal unrhyw un rhag gwneud cais am ei hawl haeddiannol i gael cymorth. Byddwn hefyd yn edrych yn ofalus gyda phartneriaid ar y ffordd y gallwn foderneiddio'r gwaith o ddiweddaru biliau'r dreth gyngor, gan fanteisio ar dechnoleg newydd fel rhan o'r gwaith ehangach rydym yn ei wneud i wella rhyngweithio unigolion â gwasanaethau cyhoeddus allweddol a'u dealltwriaeth ohonynt. Nawr yw'r amser cywir i gydweithio i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar. Mae angen i ni feddwl yn eofn.
Rwyf am fod yn glir iawn—ni fydd unigolion yn gweld unrhyw newidiadau ar unwaith i'w biliau. Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud cyn y gellir cyflwyno diwygiadau. Byddaf hefyd yn edrych yn ofalus ac yn sensitif, wrth i ni symud drwy'r newidiadau hyn, ar yr opsiynau posibl ar gyfer cymorth trosiannol i'r rhai mae unrhyw newidiadau'n effeithio arnynt. Byddaf yn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wnawn yn ystod tymor y Senedd hwn yn cadw'r potensial i fynd ymhellach yn y dyfodol yn agored. Byddaf yn parhau i archwilio syniadau mwy radical, megis system sydd â chysylltiad agosach â gwerthoedd tir fel math mwy blaengar o godi refeniw.
Yn olaf, yn gysylltiedig â'n hystyriaethau tymor hwy, rwy'n ystyried pa ddiwygiadau sydd eu hangen i'r system ardrethi annomestig. Mae cysylltiadau penodol rhwng y trethi lleol hyn, ac mae'n ffrwd refeniw allweddol arall ar gyfer gwasanaethau lleol. Amlygodd yr ymchwil a gynhaliwyd gennym y tymor diwethaf gyfleoedd gwirioneddol yn y maes hwn, a bydd angen diwygio er mwyn sicrhau bod y system dreth leol yn ei chyfanrwydd yn parhau i fod yn addas i'r diben wrth i ni wella o'r pandemig.
Wrth i ni wynebu ansefydlogrwydd economaidd, anghydraddoldeb ac argyfwng newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni sicrhau bod y trefniadau ar gyfer trethi lleol yn gadarn, y gallant ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a helpu i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru decach. Bydd y diwygiadau hyn yn ymgymeriadau sylweddol y bydd angen amser deddfwriaethol arnynt a chefnogaeth Aelodau o bob rhan o'r Senedd hon. A byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar ddiwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Rwyf yn siŵr bod Aelodau ar draws y Siambr yn croesawu cyhoeddiad y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf ar hyn, ac fel rydych chi’n ei ddisgrifio fel pecyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor, byddai gen i, Gweinidog, ddiddordeb mewn clywed mwy am ba mor radical y credwch y gallai'r diwygiadau hyn fod yn y pen draw. Nodaf yn eich datganiad fod awydd i ystyried diwygiadau i'r system ardrethi annomestig fel rhan o drethiant lleol, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar hyn, efallai, yn eich ymateb.
Mae gen i dri phwynt yr hoffwn eu codi, ac efallai cwestiynu arnynt. Yn gyntaf, hoffwn groesawu eich ymgysylltiad â chynghorau lleol, a gydag arweinwyr yn benodol, fel y gwnaethoch sôn, ac rydych chi wedi tynnu sylw yn eich datganiad at y gwaith eithriadol a wnaed gan gynghorau, a amlygwyd, unwaith eto, ac sy'n parhau i gael ei amlygu yn ystod pandemig COVID-19. Ond mae angen i ni ddeall pam mae'n rhaid i rywfaint o'r diwygiad hwn ddigwydd, ac, yn ôl Archwilio Cymru, mae cyllid craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ers 2010 wedi gweld gostyngiad o 17 y cant, ac nid yw cynghorau lleol wedi cael eu hariannu'n ddigonol gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'r diffyg blaenoriaethu’r cyllid cyngor hwn wedi golygu bod llawer o gynghorau'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â chynnydd yn y dreth gyngor, sydd yn y pen draw wedi arwain at gynnydd o bron i 200 y cant yn y dreth gyngor yma yng Nghymru ers dechrau datganoli o dan y Llywodraeth Lafur hon. Felly, Gweinidog, gyda'r ymgynghoriad hwn, sut y byddwch yn cydbwyso'r gallu i gynghorau fod yn gyfrifol am eu tynged ariannol eu hunain heb orlwytho'r trethdalwyr lleol hynny?
Yr ail bwynt, Gweinidog, yw fy mod yn nodi yn eich datganiad a datganiadau perthnasol i'r wasg mai opsiwn ar gyfer diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru fyddai ailbrisio bandiau'r dreth gyngor am y tro cyntaf ers 2003. Rwyf yn siŵr, Gweinidog, y byddwch yn gwbl ymwybodol, yn ystod yr ailbrisio diwethaf, fod un o bob tair aelwyd wedi gweld cynnydd yn eu biliau o ganlyniad i'r ailbrisio. Yn eich datganiad, rydych yn dweud bod y dreth gyngor yn hen ac y gall fod yn annheg. Nid wyf yn credu y gellir dadlau hyn o reidrwydd, serch hynny, gallai ailbrisio weld teuluoedd sy'n gweithio'n galed yn cael eu taro â'r biliau uwch hynny, felly, Gweinidog pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau na fydd cymaint o bobl yn cael eu heffeithio'n negyddol drwy gael y cynnydd hwnnw—y cynnydd sylweddol hwnnw—yn eu bil treth gyngor?
Ac yna, yn olaf, Gweinidog, mae llawer o bobl ledled Cymru yn byw ar y ffin â Lloegr, gan weithio'n agos gyda ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion, wrth gwrs. Credaf ei fod tua dwy ran o dair o boblogaeth Cymru sy'n byw mor agos at ffin Lloegr, a gallai diwygio'r dreth gyngor weld llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu rhoi o dan anfantais i'r rhai sy'n byw dros y ffin. Felly, rwyf yn meddwl tybed pa drafodaethau yr ydych chi’n eu cael gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch hyn, ac, yn wir, arweinwyr cynghorau ledled Lloegr. Os nad yw'r trafodaethau hynny eisoes yn digwydd, pryd y byddwch yn bwriadu cynnal y rheini? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am ei gwestiynau y prynhawn yma a'r ffordd mae wedi rhoi sylw hyn sy'n ymgymeriad gwirioneddol arwyddocaol yn ystod tymor nesaf y Senedd. Ac mae'n cydnabod pwysigrwydd ymgynghori. A heddiw rwy'n cyhoeddi, maes o law, y flwyddyn nesaf, y byddaf yn cynnal ymgynghoriad, ymgynghoriad cyhoeddus ar raddfa fawr, tua 12 wythnos. Ac mae hynny ar gyfer y cyhoedd, ond hefyd bydd angen ymgysylltu'n ddifrifol iawn ag arweinwyr llywodraeth leol a'r swyddogion refeniw a budd-daliadau ac yn y blaen. Felly, rydym yn rhoi'r strwythurau hynny ar waith ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n rheolaidd. A gwn fod gan Sam Rowlands arbenigedd penodol yn y maes hwn, o ystyried ei gefndir mewn llywodraeth leol, felly byddaf yn awyddus i archwilio ei farn ar y cynigion wrth iddynt ddod ymlaen a chynnal trafodaethau pellach ar hynny.
Roedd cwestiwn ynglŷn â diwygio ardrethi annomestig. Felly, heddiw, yr hyn rydym yn sôn amdano yw dyfodol diwygio'r dreth gyngor. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn cydnabod bod ardrethi annomestig yn rhan bwysig arall o'r darlun cyllid llywodraeth leol hwnnw. Y tu mewn i'r ddogfen yr wyf wedi cyfeirio ati, mae'r crynodeb o'r canfyddiadau—sydd, Dirprwy Lywydd, yn wych i’w ddarllen ac rwy’n ei argymell i bob cyd-Aelod, fel yr wyf wedi bod yn ei wneud ers i ni ei gyhoeddi ym mis Chwefror—mae'n nodi'r holl ymchwil a wnaed gennym yn ystod tymor diwethaf y Senedd, gan edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer y dreth gyngor. Felly, mae'n archwilio rhai o'r opsiynau radical hynny yr oedd Sam Rowlands yn eu disgrifio, megis treth ar werth tir, ond mae hefyd yn sôn am y gwaith yr ydym yn dechrau ei wneud o ran diwygio ardrethi annomestig. Ac mae'r gwaith hwnnw'n fwy yn ei ddyddiau cynnar na gwaith y dreth gyngor, oherwydd rydym wedi gwneud cymaint o gynnydd dros dymor diwethaf y Senedd. Ond, fel y dywedais i, mae ardrethi annomestig yn rhan bwysig iawn o'r darlun hwnnw, ac mae'n amhosibl, mewn gwirionedd, gweld dwy ochr y geiniog cyllid llywodraeth leol honno ar wahân i'w gilydd.
Rhai cwestiynau pwysig iawn am unrhyw drefniadau trosiannol a beth allai'r effeithiau fod ar aelwydydd. Felly, cynhaliodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ymchwil i ni yn ystod tymor diwethaf y Senedd, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio'n agos gyda nhw ar hynny. Ac mae'n archwilio a allai system lai atchweliadol fod yn bosibl drwy gyflwyno ailbrisio neu ailbrisio gyda bandiau ychwanegol, neu system gyfrannol heb fandiau. Ac mae hynny'n dod i'r casgliad yn yr ymchwil bod ein system bresennol bellach yn hen, mae'n atchweliadol, mae'n ystumio, er bod yr ymchwil hefyd yn cydnabod mai ni yw'r unig ran o'r DU i fod wedi ailbrisio ers y 1990au. Ac mae nawr beth fydd effaith yr ailbrisio ar ddinasyddion, cynghorau ac economïau lleol yn gwbl hanfodol wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Ac mae'r gwaith IFS yn ein helpu i wneud hynny.
Felly, amcangyfrifodd y gwaith hwnnw y byddai cynnal ailbrisiad a chadw'r naw band presennol yn symud tua 25 y cant o eiddo i fyny’r bandiau, byddai 26 y cant yn symud i lawr y bandiau, a byddai tua 49 y cant yn aros yr un fath. Ond, yn amlwg, mae goblygiadau o ran bod gwahanol awdurdodau lleol yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd. Ond rhan o'r hyn rydym ni'n edrych arno hefyd fyddai cynyddu nifer y bandiau, a fyddai'n amlwg yn newid y darlun hwnnw hefyd. Felly, llawer o waith i ni ei wneud wrth i ni symud ymlaen, ond rwy'n credu mai'r cwestiynau a nodwyd am y goblygiadau i aelwydydd ac i awdurdodau lleol yw'r rhai cywir a'r rhai y bydd angen i ni eu dilyn yn y cyfnod sydd i ddod. Ac ochr yn ochr â hynny, felly, i edrych ar drefniadau trosiannol ar gyfer yr aelwydydd hynny a fyddai'n cael eu heffeithio. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i'w archwilio maes o law, a hefyd yn awyddus i gael yr ymgysylltiad hwnnw â Llywodraeth y DU, a byddwn yn estyn allan atynt. Rwyf wedi siarad â nhw, fel yr wyf wedi siarad â phawb ers mis Chwefror, am y crynodeb o'r ddogfen canfyddiadau, ac rwyf wedi'i argymell i Lywodraeth y DU hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Edrychwch, mae o fewn yn ein grym yn y Siambr hon i ddiwygio'n sylweddol yr hyn sy'n un o'r trethi mwyaf atchweliadol sydd gennym, mewn gwirionedd. Mae'n etifeddiaeth o gyfnod Thatcher. Mae'n annheg iawn, oherwydd mae'n codi bron bedair gwaith cymaint â chyfran o gyfoeth ar y tlotaf ag y mae ar y cyfoethocaf. Nawr, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem ei oddef, ac mae hynny'n rhywbeth mae angen iddo ei newid. Rwyf yn falch, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ein bod nawr yn wynebu hynny, yn herio hynny, a gobeithio newid hynny hefyd. Mae'r drefn bresennol wedi dyddio, mae'n annheg ac mae'n anghyson hefyd. Gwyddom i gyd am bentrefi efallai gannoedd o lathenni ar wahân lle mae'r gwahaniaeth yn gannoedd o bunnoedd yn y biliau maen nhw'n eu talu bob blwyddyn. Felly, fel y dywedodd y Gweinidog, dyma ddechrau taith, a bydd y cytundeb cydweithredu tair blynedd yn mynd â ni ar ran o'r daith honno, ond gadewch i ni ddechrau'n dda o leiaf.
Rwy'n falch bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw wedi croesawu'r cyhoeddiad hwn. Credaf fod hynny'n gadarnhaol oherwydd, yn amlwg, o ran rhanddeiliaid allweddol, mae'n debyg mai nhw yw un o'r rhai mwyaf allweddol yn y cyd-destun hwn. Ond mae'n mynd i fod yn broses eang lle bydd yr holl randdeiliaid yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o'r drafodaeth honno. Yn awr, rydym ni fel plaid yn ein maniffesto wedi ymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor ac, yn y tymor hwy, wrth gwrs, yn mynd ati i ystyried treth un eiddo yn seiliedig ar egwyddor treth ar werth tir. Felly, gyda hynny mewn golwg, byddaf yn gofyn ychydig o gwestiynau.
Er mwyn asesu gwir oblygiadau treth gwerth tir, mae angen, wrth gwrs, mwy o ddata arnom ni. Mae hynny wedi dod yn glir ym mheth o'r gwaith mae adroddiad Prifysgol Bangor wedi'i wneud. Yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad, wrth gwrs, oedd mynd ati i ddechrau casglu’r data angenrheidiol mewn modd mwy bwriadol, efallai. Felly, gaf i ofyn pa waith mae'r Llywodraeth wedi ei wneud neu yn bwriadu ei wneud i gasglu'r data yna er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer y drafodaeth sydd angen ei chael ynglŷn â threth gwerth tir?
Mae meddwl nad oes ailbrisio, neu revaluation, wedi bod ers dau ddegawd yn dweud llawer, dwi'n meddwl, am ble ŷn ni a pha mor outdated yw'r sefyllfa. Felly, a fyddech chi'n cytuno â fi bod angen i ni symud i sefyllfa fwy deinamig, lle mae'r ailbrisio yma yn digwydd yn fwy cyson, ond wrth gwrs byddai angen bod yn ymwybodol o'r angen i greu mecanweithiau a fyddai'n llyfnhau allan unrhyw peaks and troughs fyddai'n yn dod yn sgil gwneud hynny?
Ac yn olaf, ŷch chi'n cyfeirio at dechnegau neu dechnolegau newydd mewn brawddeg yn y datganiad. Pa fath o bethau sydd gyda chi mewn golwg efallai yn y cyd-destun yna? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac am y ffordd yr ydym eisoes wedi dechrau cydweithio ar yr hyn sy'n ymdrech bwysig iawn. Mae'r holl bwyntiau hynny a wnaethoch chi ar ddechrau eich cyfraniad, o ran pa mor annheg yw'r dreth gyngor ar hyn o bryd a pha mor atchweliadol ydyw, wir yn rhoi cyd-destun y gwaith hwn a pham ei bod mor bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â'r agenda ac yn gwneud cynnydd da yn awr yn nhymor y Senedd hwn.
Rwyf hefyd yn falch iawn bod CLlLC wedi croesawu'r darn hwn o waith a'r ffordd maen nhw, unwaith eto, wedi bod mor barod i ymgysylltu ar yr hyn sy'n mynd i fod yn ddarn mawr a phwysig iawn o waith. Maen nhw’n randdeiliaid hollol allweddol. Rydym ni ar hyn o bryd, fel y soniais i mewn ymateb i Sam Rowlands, yn rhoi'r strwythurau hynny ar waith a fydd yn ein helpu i sicrhau bod gennym fynediad at yr arbenigedd angenrheidiol drwy gydol y darn hwn o waith, ac mae CLlLC yn amlwg yn bartner allweddol yn hynny.
O ran y dreth ar werth tir, cyflwynodd astudiaeth Prifysgol Bangor i ni'r ystyriaeth fanwl gyntaf erioed o dreth gwerth tir lleol yng Nghymru, ac roedd pwyslais gwirioneddol ar ymarferoldeb gweithredu, yn hytrach na syniadau cysyniadol treth ar werth tir. Mae angen gwneud rhagor o waith yn awr. Credaf fod yr hyn a gawsom yn astudiaeth Prifysgol Bangor yn adroddiad dichonoldeb cychwynnol mewn gwirionedd, oherwydd cwmpas y gwaith, ond rwy'n credu, os oes angen inni symud ymlaen ymhellach, y dylem ni edrych ar yr ystyriaethau posibl allweddol yn y dyfodol a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol inni amlinellu'r gofynion ar gyfer cronfa ddata cadastraidd gynhwysfawr. Yn amlwg, rydym ni angen hynny cyn y gallwn ni hyd yn oed ddechrau symud ymlaen ar yr agenda honno. Byddai angen i ni drafod dichonoldeb hynny gyda phartneriaid a fframiau amser, costau, ac ystyried cyfleoedd i gysylltu â'r agenda trethi datganoledig ehangach.
Rydyn ni hefyd angen deall goblygiadau perchnogaeth tir a defnydd tir yng Nghymru, ac a fyddai angen unrhyw newidiadau i'r system gynllunio o ganlyniad, ac i gynnal dadansoddiad ystadegol o dir amaethyddol, a fyddai, wrth gwrs, yn rhan o'n hystyriaethau o ran sut y gallai hyn gynnwys tir amaethyddol neu beidio. Ac yna'n amlwg, byddai angen i ni gynnal dadansoddiad llawnach o'r gofynion deddfwriaethol a datganoli. Mae disodli'r dreth gyngor, ardrethi annomestig, neu'r ddau, gyda threth gwerth tir yn wyriad sylfaenol o'r hyn a fu'n statud canrifoedd ac yn fwyaf tebygol o fod angen sawl Deddf yn y Senedd, ac yn amlwg byddai hynny'n ymarfer cymhleth, hir iawn, ond wrth gwrs, gallai ddod â chyfleoedd i ni bryd hynny o ran moderneiddio ac atgyfnerthu'r gyfraith hefyd.
Byddai'n rhaid i ni edrych ar sut y gwnaethom oresgyn rhai o'r rhwystrau cyfansoddiadol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod trethi lleol i ariannu gwariant cynghorau a chyllid llywodraeth leol yn faterion datganoledig, fodd bynnag, mae natur led-ddatganoledig y swyddogaeth brisio yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ofyn am ganiatâd gan Lywodraeth y DU i newid y swyddogaeth brisio mewn unrhyw ffordd arwyddocaol, felly mae'n amlwg bod trafodaethau i'w cael gyda Llywodraeth y DU ar hynny wrth i ni symud ymlaen ar yr agenda bwysig iawn hon.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau roedd Llyr Gruffydd yn eu gwneud ynghylch cael system fwy deinamig, lle mae gennym ailbrisiadau mwy rheolaidd. Rwy'n credu bod rhai cyfleoedd eithaf cyffrous i ni yma, oherwydd yn awr, wrth gwrs, mae gennym Awdurdod Cyllid Cymru ac rydym yn casglu'r dreth trafodiadau tir, felly mae gennym ddarlun rheolaidd, byw, wedi'i ddiweddaru ac amser real o brisiau tai yma yng Nghymru. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn fanteisio ar hynny, ac o bosibl creu system lle mae gennym fynediad at ddata nid yn unig at ddibenion trethiant lleol, ond mewn gwirionedd i’n helpu i ddeall y darlun mewn perthynas ag ail gartrefi a'r hyn y gallwn ni ei gasglu o hynny i helpu i ddatblygu polisi, a gallech gynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni eiddo, er enghraifft. Felly, mae cyfle enfawr i ni yma o ran defnyddio neu greu cronfa ddata newydd a fyddai'n rhan o'r gwaith hwn wrth symud ymlaen, ac mae hynny'n berthnasol i'r gwaith ailbrisio gymaint ag y mae'n i unrhyw waith y gallai fod angen ei ddatblygu yn y dyfodol o ran treth ar werth tir. Ond, yn amlwg, llawer o gyfleoedd cyffrous i ni wneud pethau'n wahanol a gwneud pethau'n well, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Phlaid Cymru ar hynny.
Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r datganiad? Mae'r prisiad eiddo bron i 20 mlynedd ar ôl ei oes. Mae bron yn sicr y bydd gwerthoedd wedi codi. Mae gwerthoedd hefyd wedi newid o'u cymharu ag eiddo eraill. Wrth gwrs, mantais treth ar werth eiddo yw ei bod yn anodd iawn ei hosgoi, o'i gymharu â threth incwm. Mae'r dreth gyngor wedi'i gosod ar fand D ac mae'r holl daliadau band eraill yn seiliedig ar hynny. Eiddo ym mand A yn talu dwy ran o dair o'r swm a godir ar fand D, ac eiddo ym mand H yn talu ddwywaith band D. Yr hyn mae hynny'n ei olygu yw tŷ gwerth £40,000 sy'n talu dwy ran o dair o dŷ gwerth £120,000 er ei fod yn draean o'r gwerth; mae tŷ gwerth £420,000 yn talu dwywaith cymaint â thŷ £120,000 a thair gwaith cymaint â thŷ £40,000. Mae gennym sefyllfa hefyd, a elwir yn broblem Blaenau Gwent, lle mae dros hanner yr eiddo ym Mlaenau Gwent ym mand A.
Gwyddom fod y system gyfan hon yn annheg. Nid yw'r taliad yn gymesur â'r gwerth ac mae'n cael ei ystumio i'r rhai sy'n byw mewn eiddo gwerth is sy'n talu mwy, a gwyddom mai gwerth eiddo yw'r dangosydd cyfoeth gorau sydd gennym, mae'n debyg. A wnaiff y Gweinidog ystyried ailbrisio gyda bandiau culach a heb derfyn uchaf, ac ailbrisio o leiaf bob pum mlynedd? A wnaiff y Gweinidog hefyd ystyried dychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol? Ac yn drydydd, oni fyddai treth gwerth tir yn golygu—nid golygu—na fyddai unrhyw dai cymdeithasol mewn ardaloedd o werth tir uchel?
Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am y gyfres honno o gwestiynau a gwn fod hon yn agenda y mae e' hefyd yn angerddol iawn amdani. Ar ddechrau ei gyfraniad, rhoddodd rai enghreifftiau amlwg iawn i ni, mewn gwirionedd, ynghylch pam mae'r gwaith hwn mor angenrheidiol o ran bod y dreth gyngor yn atchweliadol ar hyn o bryd, ac angen newid er mwyn dod yn decach. Rwy'n credu y bydd y ffaith ein bod ar yr un pryd â'r gwaith hwn yn cynnal adolygiad o gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, a gwerthusiad o'n gostyngiadau a'n heithrio ac yn y blaen, yn bwysig iawn gan na allwn ni gymryd y darnau hynny o waith ar wahân, ac mae angen gwneud unrhyw gymorth y gallwn ni ei ddarparu i aelwydydd mewn ffordd a fydd yn ymwybodol o'r gwerthoedd newydd ac yn y blaen.
Bydd yr holl gwestiynau hynny mae Mike Hedges wedi'u disgrifio yn rhan o'r ymgynghoriad, lle bydd pobl yn cael cyfleoedd i roi barn arnynt, fel y pwynt hwnnw ynghylch ble y dylai'r terfyn uchaf fod, y pwyntiau hynny am nifer fwy o fandiau cul ac yn y blaen, felly bydd cyfleoedd i gyfrannu'r syniadau hynny fel rhan o'r ymgynghoriad, a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf. Yr hyn yr ydym yn ei amlinellu heddiw yw'r ffordd fras ymlaen yn hytrach na chynigion penodol ar gyfer y ffordd ymlaen, ond mae'r cwestiynau hynny, rwy'n credu, unwaith eto yn rhai y bydd yn rhaid inni fynd i'r afael â nhw yn y cyfnod sydd i ddod.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Rwy'n credu, fel yr ydym ni i gyd wedi clywed heddiw, fod pawb wedi croesawu'r cyfle i ailedrych ar y dreth gyngor. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn nad yw'n dreth arbennig o dda, ac rydym wedi gweld hynny o'r nifer enfawr o ôl-ddyledion a welsom dros y blynyddoedd, sydd wedi cynyddu 42 y cant i werth dros £156 miliwn o ôl-ddyledion. Felly, rwy'n credu bod lle i gael system decach, ac roeddwn i'n falch iawn eich bod wedi dweud y byddai angen i chi wneud pethau mor deg â phosibl, a barn Llyr ei bod yn annheg iawn ar hyn o bryd.
Rwyf am ganolbwyntio ar degwch, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd ofalus iawn pan fyddwn yn diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru nad ydym mewn gwirionedd yn rhoi llawer o bobl dan anfantais. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, cydnabyddir bod eiddo o werth uwch yn gyffredinol, ac mae'r hyn sy'n dilyn wedyn yn amlwg yn dreth gyngor uwch. Ond mae'n hysbys bod gan sir Fynwy, er enghraifft, ardaloedd mawr o bobl sy'n dlawd o ran arian parod ond sy'n gyfoethog o ran asedau, felly, Gweinidog, sut yr ydym yn mynd i sicrhau bod ein diwygiadau ni, neu eich diwygiadau chi, yn ystyried gallu pobl i dalu'r dreth honno, yn hytrach na dim ond ei seilio ar faint o eiddo sydd ganddyn nhw, neu beth yw ei werth? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar hynny'n fanwl.
Rwyf hefyd yn falch iawn o glywed yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud ynghylch diwygio ardrethi busnes. Mae hynny'n rhan allweddol o'r darlun ehangach, yn enwedig. Rwy'n croesawu gweithio'n agos iawn gydag arweinwyr awdurdodau lleol—mae hynny'n gwbl sylfaenol ac mae CLlLC mewn sefyllfa dda i'n cynghori ar y ffurf gorau ar gyfer pethau wrth symud ymlaen. Ond mae pwynt sylfaenol yn ymwneud â sicrhau bod llywodraeth leol yn cael ei hariannu'n iawn. Nid ydym am weld hyn yn ateb cyflym, gan geisio denu mwy o arian i gefnogi awdurdodau lleol. Mae'n rhaid ei wneud—
Mae angen i'r Aelod ddod i ben yn awr.
—mewn ffordd ystyriol. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd. Felly, Gweinidog, edrychaf ymlaen at y datganiad ym mis Chwefror, ac edrychaf ymlaen at ddeall sut y byddwch yn gweithio'n well gyda chynghorau i newid y system dreth gyngor honno. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r materion hynny. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy sôn am ôl-ddyledion y dreth gyngor, sydd, wrth gwrs, yn bryder i ni pan fyddwn yn gweld unigolion a theuluoedd yn y sefyllfa honno. Mae cyfraddau casglu'r dreth gyngor yn uchel iawn mewn gwirionedd, ond mae'r effaith gyffredinol ar y rhai sy'n wynebu dyledion ac ôl-ddyledion yn peri pryder, a dyna pam rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cytuno â llywodraeth leol ar brotocol y dreth gyngor i Gymru. Mae honno'n ddogfen sy'n nodi'r canllawiau arfer da ar gyfer casglu'r dreth gyngor, a ddatblygwyd unwaith eto mewn cydweithrediad llawn â llywodraeth leol ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a CLlLC, ac a lofnodwyd hyd yma gan bob un o'r 22 awdurdod lleol. Mae hynny'n nodi'n wirioneddol y dull arfer da ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau cyngor ar ddyledion i sicrhau bod unrhyw gamau y byddan nhw'n eu cymryd yn gymesur, yn deg, yn gyson, ac yn darparu'r sail wedyn ar gyfer perthynas fwy adeiladol â thalwyr y dreth gyngor, yn enwedig y rhai sy'n ei chael yn anodd talu.
Felly, unwaith eto, mae hon yn enghraifft o'r gwaith da a gyflawnwyd dros dymor blaenorol y Senedd, ond yn rhywbeth, yn amlwg, y mae angen i ni adeiladu arno, oherwydd mae gennym system sy'n annheg o hyd. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn bod hynny'n cael ei gydnabod o bob rhan o'r Senedd. Rwy'n credu bod tryloywder yn bwysig iawn yn yr agenda hon hefyd, a dyna pam yr ydym wedi bod yn falch o gyhoeddi'r holl ymchwil a gawsom yn ystod tymor diwethaf y Senedd. Ac wrth gwrs, mae wedi'i ddistyllu i lawr i'n dogfen crynodeb o ganfyddiadau.
Yn y modd hwnnw o dryloywder, mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi gwneud rhywfaint o ddadansoddiad yn ôl mathau o aelwydydd, ac mae'n dangos bod biliau, pe baem yn mynd am yr ailbrisio heb y bandiau ychwanegol, ac yn y blaen—felly dim ond un enghraifft ddangosol ydyw—mae'n awgrymu y gallai biliau gynyddu ar gyfer cyplau oedran pensiwn a chyplau oedran gweithio heb blant, ond yna gallai biliau leihau ar gyfer rhieni unigol, pensiynwyr sengl a chyplau â phlant. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cynnal y dadansoddiad dosbarthiadol hwnnw o'r holl waith yr ydym yn ei wneud i ddeall yr effaith ar aelwydydd, a beth, os o gwbl, y byddai angen i ni eu rhoi ar waith i'w cefnogi, ac yna sicrhau bod y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a'n cyfres o eithriadau a gostyngiadau yn addas i'r diben ar gyfer unrhyw system newydd wrth i ni symud ymlaen.
Ac yn olaf, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Yn gyntaf oll, a fyddech chi'n cytuno bod y 22 awdurdod lleol ledled Cymru wedi bod yn gwbl anhygoel o ran cefnogi pobl, cymunedau a busnesau sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig cyfan, a'i fod yn dangos gwerth gwasanaethau cyhoeddus ar lefel leol iawn? Wrth gwrs, mae'n hen bryd diwygio'r dreth gyngor, ond mae ffyrdd eraill mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi cynghorau i ddarparu prosiectau galluogi hanfodol bwysig, fel Porth Wrecsam yn y gogledd a'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth ar y rheilffyrdd yng nghanolbarth a de Cymru, a gefnogir gan Weinidogion Cymru drwy awdurdodau lleol. A wnaiff y Gweinidog ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi magnetau creu swyddi o'r fath ochr yn ochr â, wrth gwrs, cynghorau yn codi refeniw drwy system ddiwygiedig? Ac yn olaf, Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi sicrwydd i'r Aelodau unwaith eto na fydd unrhyw newidiadau sydyn i Filiau, ac y bydd y system newydd yn mynd i'r afael ag annhegwch y dreth gyngor.
Rwy'n ddiolchgar i Ken Skates am godi'r materion hyn a rhoi'r cyfle hwn i mi gofnodi fy niolch a diolch Llywodraeth Cymru i bob un o'r 22 o'n hawdurdodau lleol, sydd wedi gwneud gwaith hollol anhygoel yn cefnogi cymunedau drwy'r pandemig, ond yna, fel y dywed Ken Skates, mynd y tu hwnt i hynny o ran yr uchelgais sydd ganddyn nhw ar gyfer eu hardaloedd. Mae'r enghreifftiau gwych hynny o brosiect Porth Wrecsam a'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth ar y rheilffyrdd yn dangos rhai ffyrdd pellach y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda llywodraeth leol a'i chefnogi yn eu huchelgeisiau i greu a datblygu lles economaidd yn eu hardaloedd, a darparu'r swyddi cynaliadwy, medrus a phwysig hynny. Rwy'n credu bod ein gwaith yn mynd ymhell y tu hwnt i'r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn ystod y pandemig, er hynny. Rwy'n credu bod gennym ni lawer mwy i'w ddathlu gyda llywodraeth leol hefyd. Ac yna, yn olaf, dim ond cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau ar unwaith o ganlyniad i'r datganiad heddiw. Yr hyn yr wyf yn ei nodi yw'r cyfeiriad teithio ac ymrwymiad i ymgynghori'n eang y flwyddyn nesaf, cyn inni lunio cynigion ynghylch sut y gallai system decach o'r dreth gyngor edrych yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog. Byddaf nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:17.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:28, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Croeso nôl. Cyn i ni ddechrau'r ail sesiwn hon, hoffai Peter Fox roi eglurhad ar gyfer y cofnod. Peter.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn ar fai yn y sesiwn ddiwethaf am beidio â datgan buddiant a minnau'n gynghorydd sir i Gyngor Sir Fynwy, felly hoffwn wneud hynny nawr. Diolch.
Diolch. Mae hynny bellach wedi ei gofnodi.
Yr eitem nesaf yw eitem 5. Fe fydd yr eitem hon yn cael ei chyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.
Eitem 6: datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Dirprwy Lywydd, rwy'n gwybod y bydd fy natganiad heddiw ar y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn taro tant ar draws y Senedd. Roedd cefnogaeth bendant i ddelio â thrais yn erbyn menywod yn y Siambr hon dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac rwy'n falch iawn o hynny.
Byddwch yn ymwybodol imi weithio yn y dyddiau cynnar o sefydlu llochesau Cymorth i Fenywod yng Nghymru, gyda grant cyntaf y Llywodraeth yng Nghymru i gydlynu rhwydwaith o ddarparwyr arbenigol a cheisio cefnogaeth ddeddfwriaethol i fynd i'r afael â chamddefnyddio pŵer a chasineb at fenywod sydd y tu ôl i lawer o'r trais y mae menywod yn ei wynebu. Ond mae gennyf gyfle nawr, yn Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i fwrw ymlaen â'n cam gweithredu nesaf gyda goroeswyr i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, sy'n endemig mewn cymdeithas, fel y mae digwyddiadau diweddar wedi dangos.
Cawsom ni i gyd ein syfrdanu gan ddigwyddiadau'r haf. Mae llofruddiaethau Sarah Everard, Sabina Nessa a Wenjing Lin wedi amlygu gwrywdod gwenwynig dychrynllyd a arweiniodd ddynion treisgar i'w llofruddio a'r pwyslais a osodir ar ymddygiad menywod yn hytrach nag ar y troseddwyr.
Fodd bynnag, bu newid pwysig yn ymateb y cyhoedd i'r digwyddiadau hyn. Croesawais yr ymateb cyhoeddus a geisiodd anrhydeddu eu cof drwy fynd i'r afael â'r casineb at fenywod a laddodd nhw a'u hadennill fel bodau dynol â bywydau go iawn, nid fel dioddefwyr. Rwyf wedi cael fy nghalonogi'n arbennig gan y lleisiau gwrywaidd yr ydym wedi'u clywed yn cydnabod bod trais gan ddynion wrth wraidd y broblem hon ac, felly, bod gan ddynion ran bwysig i'w chwarae fel rhan o'r ateb.
Dyma'r ymdeimlad cyhoeddus yr ydym yn ceisio eu harneisio a'u harwain gyda'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae menywod wedi dod o hyd i gynghreiriaid ymhlith dynion ers tro byd, fel y rhai yn eich plith chi sy'n hybu ymgyrch y Rhuban Gwyn yr ydym yn ei dathlu ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni droi'r gefnogaeth honno nawr yn arweinyddiaeth sy'n ymestyn ar draws y gymdeithas gyfan, fel nad yw chwibanu ar fenywod, aflonyddu, cellwair rhywiaethol a gwrthrycholi yn darparu'r cerrig sylfaen y mae cam-drin, gorfodaeth, trais a llofruddiaeth yn digwydd arnyn nhw.
Rydym wedi cyflawni llawer yng Nghymru wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, VAWDASV, ond cam-drin domestig sy'n lladd y mwyaf o fenywod rhwng 19 a 44 oed yn y DU. Dywedaf hynny eto, er mwyn caniatáu iddo dreiddio i'r cof: yn y DU, mae cam-drin domestig yn lladd mwy o fenywod rhwng 19 a 44 oed na chanser y fron. Mae cant a phymtheg o fenywod wedi cael eu lladd gan ddynion hyd yma eleni, a bydd un o bob pedair menyw yn profi gweithred o gam-drin domestig ac un o bob pump, ymosodiad rhywiol yn ystod eu hoes. Er y gallwn gydnabod yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, mae maint yr her a'r ymrwymiad y mae angen i bob un ohonom ni ei wneud yn amlwg yn sgil y ffaith honno; ffaith rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn benderfynol o'i newid.
Felly, sut bydd y strategaeth yn gwneud gwahaniaeth? Mae'r strategaeth hon wedi'i llunio ar bartneriaeth gryfach. Rydym wedi gweithredu gyda chryn dipyn o ymrwymiad rhwng partneriaid allweddol, yn statudol, yn y sector arbenigol, a gyda goroeswyr. Ond, mae angen inni gryfhau strwythurau arweinyddiaeth a llywodraethu er mwyn sicrhau bod gweithredu'n cael ei gydlynu a'i gyfeirio fel ein bod, gyda'n gilydd, yn cynnig mwy na chyfanswm ein rhannau.
Mae llawer o'r ymateb i VAWDASV yn syrthio ar ysgwyddau cyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli, fel yr heddlu neu'r gwasanaeth carchardai a phrawf. Os ydym ni am wneud i'n cyfraniadau ategu ei gilydd, os ydym am fod yn atebol i'n gilydd, yna mae arnom angen system lywodraethu a all ysgogi cydweithio go iawn. Mae hon, felly, yn strategaeth sector cyhoeddus Cymru gyfan y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddi, ond hefyd cyrff perthnasol nad ydyn nhw wedi'u datganoli.
Bydd y bwrdd partneriaeth cenedlaethol sy'n rhan o'r trefniadau newydd hyn yn y strategaeth yn dwyn ynghyd bartneriaid datganoledig a rhai nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Byddaf yn cyd-gadeirio'r bwrdd hwn gyda Dafydd Llywelyn, prif gomisiynydd heddlu a throseddu Cymru ar gyfer y pedwar heddlu. Trafodwyd y gwaith o ddatblygu'r dull glasbrint hwn yn y bwrdd plismona a phartneriaeth ddydd Iau 2 Rhagfyr, a gadeiriais, gydag ymrwymiad cryf i'r strategaeth newydd yn cael ei fynegi gan y pedwar prif gwnstabl, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a'u partneriaid. Bydd y bwrdd hefyd yn cynnwys lleisiau grŵp amrywiol o oroeswyr i gyd-gynhyrchu ein hatebion a monitro ein cynnydd.
Mae mynd i'r afael ag aflonyddu ar y stryd yn rhan bwysig o'r strategaeth hon. Mae'n ganolog i'n barn, drwy leihau'r lefel gyffredinol a gwneud aflonyddu ar y stryd a'r agweddau sydd y tu ôl iddo yn fwy annerbyniol, ein bod yn lleihau'r tebygolrwydd cyffredinol o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy herio'r casineb at fenywod sydd y tu ôl iddo.
Yn yr un modd, mae aflonyddu yn y gweithle yn cael effaith sylweddol ar gyfleoedd bywyd i unigolion; cydraddoldeb rhywiol yn ogystal â materion cydraddoldeb trawsadrannol fel hil, anabledd a LHDTC+. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i fynd i'r afael ag aflonyddu yn y gweithle.
Gan ddysgu o ddulliau iechyd cyhoeddus, byddwn yn gweithio gyda chyflawnwyr i herio a chefnogi'r rhai sy'n cam-drin i atal a hwyluso newid parhaus yn eu hymddygiad.
Rydym eisiau parhau i ddatblygu ein gwaith gyda gweithwyr proffesiynol i'w paratoi i adnabod, herio a chyfeirio achosion o VAWDASV drwy raglenni fel 'gofyn a gweithredu' a'r 'adnabod ac atgyfeirio i wella diogelwch', neu IRIS, cynllun sy'n ymgysylltu ag ymarferwyr cyffredinol ar y rheng flaen, ond byddwn hefyd yn cryfhau ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ehangach i adlewyrchu ein pwyslais ar atal.
Byddwn yn hwyluso newid ar lefel cymdeithas gyfan drwy arwain trafodaeth gyhoeddus i ddad-normaleiddio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r agweddau sy'n eu cefnogi.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau tynnu sylw at agwedd gydgynhyrchiol y strategaeth. Bydd lleisiau goroeswyr o wahanol gymunedau a chefndiroedd yn rhan annatod o ddatblygu ein strategaeth mewn ffordd sy'n gallu gweithio yn y byd go iawn. Bydd gwrando ar y lleisiau amrywiol hynny yn ein helpu ni i ddod o hyd i atebion sy'n adeiladu ar gryfderau goroeswyr.
Mae hon yn strategaeth drawslywodraethol gydag ymgysylltiad a chefnogaeth weithredol gan gydweithwyr gweinidogol ym maes addysg, iechyd, tai, llywodraeth leol a'r economi. Yn arbennig o berthnasol i'r strategaeth fu'r dilyniant i'r adroddiad 'Everyone's Invited', gydag arolygiad estyn i fod i adrodd yn fuan, a disgwyliadau o ran y rhan y bydd y cwricwlwm newydd yn ei chwarae mewn swyddogaeth gadarnhaol yn natblygiad perthnasoedd iach a pharchus rhwng ein plant a'n pobl ifanc.
Wrth ddatblygu'r strategaeth hon, fe'n cefnogwyd gan gyfraniad nifer o randdeiliaid. Yn amlwg, rydym ar gam ymgynghorol, felly rydym yn parhau i fod yn agored i'r ymatebion a fydd yn deillio o'r ymgynghoriad hwn, ond rwy'n ffyddiog ein bod wedi ffurfio sylfaen gref iawn ar gyfer y strategaeth hon, a galwaf ar yr Aelodau i ymrwymo eu cefnogaeth i'w chyflawni. Bydd y rhai sy'n agored i drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn disgwyl hyn gennym wrth i ni ymdrechu i Gymru fod y lle mwyaf diogel i fyw i fenywod a merched, lle mae gan bob un ohonom hawl i fyw heb ofn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch. Gan weithio ochr yn ochr â Jocelyn Davies o Blaid Cymru a Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol, roeddwn i'n un o lefarwyr y tair plaid yn y pedwerydd Cynulliad a aeth â Llywodraeth Cymru i'r pendraw ar hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, gan sicrhau addewidion Llywodraeth Cymru mewn sawl maes. Gwnaethom alw am ymrwymiad i gyflwyno addysg perthnasoedd iach mewn ysgolion, gan gyfeirio at Brosiect Sbectrwm Hafan Cymru, yr oeddwn i ac eraill wedi'i weld yn yr ystafelloedd dosbarth fel model arfer gorau i helpu i atal ymddygiad camdriniol rhag datblygu. Wrth siarad yma dair blynedd yn ôl, fe'ch heriais ynghylch yr oedi wrth weithredu hyn. Sut ydych chi'n ymateb i bryder nad yw addysg cydberthynas a rhywioldeb, neu'r cod RSE sy'n rhan o Gwricwlwm newydd Cymru, sydd gerbron y Senedd yr wythnos nesaf, yn rhoi canllawiau i athrawon ar yr hyn sy'n gyfystyr â deunydd derbyniol, sy'n briodol i oedran, gan eu gadael yn y sefyllfa anymarferol o orfod gwneud y penderfyniad eu hunain, yn wahanol i'r canllawiau 'plan your relationships, sex and health curriculum' ar gyfer ysgolion yn Lloegr? Ac, o gofio bod Hafan Cymru yn dweud ei bod yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyflwyno sesiynau mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar berthnasoedd iach, sut y byddwch chi'n sicrhau na fydd hyn yn cael ei golli i ddarpariaeth fewnol wrth i ysgolion weithredu'r cod RSE newydd?
Yn ystod hynt y Ddeddf, cynigiais welliannau yn galw ar y strategaeth genedlaethol i gynnwys darparu o leiaf un rhaglen gyflawnwyr. Fel y dywedodd Relate Cymru wrth y pwyllgor, dywedodd 90 y cant o'r partneriaid a holwyd ganddyn nhw beth amser ar ôl diwedd eu rhaglen fod eu partner wedi rhoi'r gorau i drais a bygythiadau. Ymatebodd y Gweinidog bryd hynny gan ddweud nad oedd yn ystyried bod fy ngwelliant yn briodol, ond ei fod wedi ariannu ymchwil ar y cyd i helpu i lywio ymatebion i gyflawnwyr yn y dyfodol. Wrth siarad yma bedair blynedd yn ôl, tynnais sylw at dystiolaeth mai'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant y rhaglen Relate, Choose2Change, oedd yr unig raglen gyfredol wedi'i achredu gan Respect yng Nghymru. Wrth siarad yma dair blynedd yn ôl, codais gwestiynau ynghylch rhaglenni cyflawnwyr cyn carcharu a sut y byddan nhw'n adlewyrchu safonau achredu Respect. Fodd bynnag, mae'r unig sôn am gyflawnwyr yn y cynllun blynyddol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol diweddaraf cynghorwyr cenedlaethol, yn cyfeirio at archwilio glasbrint ar gyfer y system gyfan, sydd â'r nod, ymhlith pethau eraill, o ddal cyflawnwyr yn atebol. Beth, felly, Gweinidog, yw'r sefyllfa bresennol?
Wrth siarad yma bedair blynedd yn ôl, nodais fod Cymorth i Fenywod Cymru yn pryderu am y diffyg cyllideb iechyd a oedd yn cael ei fuddsoddi mewn darparwyr arbenigol yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Wrth siarad yma 20 mis yn ôl, o bell, cyfeiriais at y llythyr a anfonwyd atoch gan Cymorth i Fenywod Cymru yn datgan bod gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru wedi mynegi dryswch, rhwystredigaeth a phryder ynghylch pa gyllid ychwanegol sydd ar gael fel ymateb i COVID-19. Pa gamau ydych chi felly, wedi'u cymryd ers hynny i sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau hanfodol hyn mewn cyfnodau arferol ac eithriadol?
Mae'r arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef pob math o gamdriniaeth—rhywiol, nad yw'n rhywiol a stelcian—ac eithrio ymosodiad rhywiol gan aelod o'r teulu, na dynion, gyda saith o bob 100 o fenywod rhwng 16 a 74 oed yn profi cam-drin domestig mewn un flwyddyn. Fodd bynnag, fel y dywedais yma dair blynedd yn ôl, roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod chwarter eu hadroddiadau cam-drin domestig yn cynnwys dynion, ac mae'r arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr yn dweud bod 42 y cant o'r achosion y maen nhw bellach yn eu casglu yn effeithio ar ddynion a bod tri chwarter yr hunanladdiadau yn rhai gan ddynion. Yn eich ymateb, fe wnaethoch chi ddweud
'nid yw maint y broblem yn ddim byd tebyg i'r hyn y byddai'r ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod yn ei awgrymu.'
Wel, ffigurau swyddogol oedden nhw. Wrth gwrs, mae menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o gael eu lladd gan bartneriaid neu gyn-bartneriaid, ond gall dynion fod yn ddioddefwyr hefyd, ac mae nifer y dynion a laddwyd o ganlyniad i drais domestig wedi bod yn codi. Wrth gwrs, mae cyd-destunau gwahanol yn berthnasol i gam-drin domestig yn erbyn menywod a dynion. Fodd bynnag, siawns na ddylem ni fod yn gweithio i gefnogi pob dioddefwr trais a cham-drin domestig, gan ddefnyddio strategaethau ac ymyriadau profedig sy'n cyflawni hyn.
Yn ystod hynt y Ddeddf, rhoddais welliant hefyd yn galw am yr hyn yr oedd Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw amdano yn y gorffennol, a oedd yn strategaethau penodol i ryw ar gyfer dynion a menywod. Unwaith eto, dywedodd y Gweinidog na fyddai hyn yn y Ddeddf ond byddai'r angen yn cael sylw wrth i ni symud ymlaen.
Sut felly y byddwch yn cyflawni addewid Llywodraeth Cymru yn ystod hynt y Ddeddf y byddai hyn yn cael sylw? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch am eich cefnogaeth barhaus ers i chi chwarae'r rhan allweddol honno wrth i ni fynd drwy ddeddfwriaeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru. Ac ymgysylltu trawsbleidiol iawn a'n harweiniodd i'r Ddeddf holl bwysig honno, y cyntaf o'i math i fod ar y llyfr statud. Ac rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at bwysigrwydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud mewn addysg gyda phobl ifanc, yn enwedig o edrych ar waith Sbectrwm; mae codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o gydraddoldeb, parch a chydsyniad yn hanfodol os ydym am atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi—ac roeddem ni i gyd yn falch o roi hyn ar y llyfr statud o ran Bil y cwricwlwm yn gynharach eleni—yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd i bob dysgwr, ac rydym yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru.
Rwy'n credu efallai y bydd rhai ohonoch chi wedi gweld y rhaglen ragorol, yn fy marn i—diolch i ITV Cymru am y rhaglen neithiwr a gyflwynwyd gan Ruth Dodsworth, a oedd mewn gwirionedd yn dioddef rheolaeth drwy orfodaeth. Roedd hi'n cyflwyno'r rhaglen ynghylch mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth, ac, mewn gwirionedd, gwelsom effaith gwaith Sbectrwm Hafan Cymru mewn ysgolion a'r effaith a gafodd ar ferched ifanc ac ar fechgyn ifanc o ran dysgu am ddatblygu perthnasoedd iach a pharchus, ac mae'n darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion. Mae dros 150,000 o blant a phobl ifanc wedi cael eu haddysgu am berthnasoedd iach drwy'r prosiect Sbectrwm ers 2015, ers i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.
Gwnaf sylwadau ar fater y gyllideb, oherwydd y gyllideb refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2021-22 yw £6.825 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys cyllid anghylchol—cynnydd ar gyllideb 2020-21. Ac roedd hynny'n arian ychwanegol, gan gydnabod effaith y pandemig, gweld yr angen i roi mwy o gymorth i ddarparwyr gwasanaethau, gwasanaethau hanfodol i ymdrin â'r galw cynyddol a achoswyd gan bandemig COVID-19, a hefyd cynyddu'r dyraniad i sefydliadau'r trydydd sector 4 y cant am flwyddyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymateb i'r galw cynyddol o ganlyniad i'r pandemig. Mwy o arian i gyfalaf hefyd, er mwyn sicrhau y gallem ymgysylltu, galluogi asedau sefydlog i gael eu haddasu a'u cyfarparu, a hefyd sicrhau adeiladau ac offer mwy priodol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector.
Nawr, rydym yn gweithio ar bob lefel, ac rwy'n credu o ran mynd i'r afael â'r materion a'r strategaeth sydd i ddod, gobeithio y byddwch chi—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymateb i'r ymgynghoriad yn llawn—yn cydnabod ein bod wedi canolbwyntio ar atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hwn yn fater sy'n fater i gymdeithas. Mae angen ymateb cymdeithasol. Mae'n rhaid i ni newid agweddau a newid ymddygiad hefyd, a chredaf y byddwn ni'n gwneud hynny drwy addysg. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y gwaith sy'n cael ei wneud yn y cwricwlwm newydd, ond hefyd, yn fuan iawn, bydd gennym adroddiad Estyn yn ymateb i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn dilyn adroddiad Everyone's Invited. Bydd canlyniad yr adolygiad hwnnw hefyd yn ein harwain yn ein gwaith i gadw mwy o blant a phobl ifanc yn ddiogel, yn ogystal ag edrych ar swyddogaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb, RSE.
Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, o ran y datganiad yr wyf wedi'i wneud heddiw, i gydnabod lefel y trais yn erbyn menywod. Rwyf, wrth gwrs, wedi sôn am y ffaith bod angen i ni weithio gyda throseddwyr, a dyna mae'r rhaglen Drive yn ei wneud, sy'n cael ei ariannu gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu. Mae angen inni weithio gyda chyflawnwyr i newid eu hymddygiad, ond mae hynny hefyd yn ymwneud â herio'r casineb at fenywod a gwrywdod gwenwynig, sydd, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i mi ddweud, pan ddaethom ni ynghyd ar risiau'r Senedd, yn drawsbleidiol, yr oedd yn wych bod dynion o bob plaid wedi siarad mor glir ynghylch sut yr oedden nhw eisiau herio trais gan ddynion yng Nghymru a gwneud newid gwirioneddol o ran y ffordd ymlaen.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog heddiw a'r camau sydd wedi eu hamlinellu i fynd i'r afael â'r lefel annerbyniol bresennol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sydd yn creithio ein cymdeithas yma yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf, fel mae'r Gweinidog wedi sôn, yn dangos yn glir fod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r sefyllfa sy'n arwain at y mathau yma o drais wrth eu gwraidd, a bod angen creu newid sylweddol o ran agweddau cymdeithasol er mwyn gwaredu ar ymddygiad sy'n creu trawma, sy'n creu dioddefaint, sy'n creu niwed seicolegol a chorfforol ac, mewn gormod o achosion, yn lladd.
Hyd at y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl adroddiad diweddar gan Gymorth i Ferched Cymru, roedd y rhestr aros ar gyfer pobl oedd angen gwasanaethau cefnogi yn sgil trais rhywiol dros 300, a bron i 700 yn methu â chael mynediad at loches. Cafodd yr anawsterau, wrth gwrs, o ran cael gafael ar gymorth eu dwysáu yn ystod y pandemig, wrth i oroeswyr gael eu gadael yn teimlo fel eu bod nhw ar eu pennau eu hunain yn sgil y modd cyfyngedig oedd ar gael o gyrchu cymorth a mynediad at wasanaethau. A bu'n gyfnod arbennig o anodd i oroeswyr sy'n perthyn i grwpiau o bobl sy'n barod dan anfantais yn ein cymdeithas, fel, er enghraifft, pobl ag anableddau. Mae'r dyfyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad Cymorth i Ferched yn werth ei adrodd yn uchel dwi’n meddwl, inni i gyd gael clywed sut beth yw canfod eich hun yn y sefyllfa yna:
'Doeddwn i ddim yn gallu ffonio gwasanaethau, ffrindiau na theuluoedd ac yn sicr ni allwn fentro cael unrhyw gymorth oherwydd bod popeth yn cael ei fonitro. Roedd bod yn fyddar yn â'i broblemau ei hun ond rwy'n ymwybodol na fyddai cael gafael ar wasanaethau wedi gallu diwallu fy anghenion pe byddwn i wedi llwyddo i wneud galwad, ni fyddwn wedi gallu clywed yr ymateb.'
Mae profiadau fel hyn yn symptom, dwi'n credu, o'r diffygion presennol yn y strategaeth a'r modd y mae gwasanaethau yn cael eu hariannu.
Dim ond y bore yma ar Radio Cymru clywais Rhian Bowen-Davies, a benodwyd yn gynghorydd cenedlaethol cyntaf ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ôl ym mis Medi 2015, yn cadarnhau nad oes digon o wrando ar leisiau goroeswyr, yn enwedig y rhai o grwpiau ymylol a difreintiedig.
Felly, mae'n fy nghalonogi i weld ymrwymiad y Llywodraeth i ddull mwy cyfannol o ymdrin â'r mater hwn, ac yn croesawu'n arbennig y camau a grybwyllir yn y strategaeth ynghylch gwrando'n well ar y rhai sydd â phrofiad bywyd. Croeso hefyd i'r ymrwymiad i fframwaith cenedlaethol i geisio gwella'r loteri cod post presennol sy'n wynebu goroeswyr yn rhy aml.
Fodd bynnag, Gweinidog, mae'r sector arbenigol wedi sylwi ar newid iaith yn y strategaeth fel y'i cyhoeddwyd, o 'gyllid cynaliadwy' i 'gyllid priodol'. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd yn cynnal ei ymrwymiad i ddatblygu model ariannu strategol, cynnal model ariannu ar gyfer y sector arbenigol a fydd yn sicrhau bod yr holl oroeswyr yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt?
Y tro diwethaf imi siarad â'r Gweinidog ynghylch cyllid yn y Siambr hon nododd y byddai'r gyllideb refeniw eleni yn cynyddu dros £1.5 miliwn o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a bod y dyraniad i sefydliadau'r trydydd sector hefyd wedi cynyddu 4 y cant, ac y byddai hyn yn helpu'r galw cynyddol am wasanaethau cymorth. A yw'r Gweinidog o'r farn y bydd y cynnydd hwn mewn cyllid yn ddigonol i gyflawni uchelgeisiau'r strategaeth hon, a sut y penderfynwyd ar y ffigurau hyn? Gan nad oes ymrwymiad cyllidebol i gyd-fynd â'r strategaeth, a fydd cynllun gweithredu cysylltiedig i sicrhau bod amcanion y strategaeth hon yn cael eu cyflawni?
Tybed a wnaiff y Gweinidog roi manylion hefyd am yr amcan datganedig o wneud ymyrraeth gynnar ac atal yn flaenoriaeth, gan fod cyllid cynaliadwy, wrth gwrs, hefyd yn amddiffyn menywod a merched rhag trawma, ond hefyd yn helpu i ariannu materion ar gyfer gwasanaethau cymorth pan fyddan nhw'n profi trais ar sail rhyw. Byddai rhan o hyn, wrth gwrs, yn golygu sicrhau bod cyflawnwyr trais yn erbyn menywod a merched yn cael eu dal yn yr achos cyntaf o'r ymddygiad hwn ac na chaniateir i'w hymddygiad waethygu, felly byddai gallu mynd i'r afael â chasineb at fenywod am yr hyn ydyw, trosedd casineb, yn helpu gyda'r nod hwn. Gwn i'r Gweinidog nodi o'r blaen, pan siaradom ni, ei bod yn aros am fewnbwn gan y bwrdd partneriaeth plismona a hefyd Comisiwn y Gyfraith. Mae canfyddiadau adolygiad Comisiwn y Gyfraith wedi'u cyhoeddi heddiw, canfyddiadau bod clymblaid o 20 o grwpiau ymgyrchu am hawliau menywod yn dweud y bu methiant i fynd i'r afael â phryderon cyffredinol ynghylch diffyg gweithredu ar ran y system cyfiawnder troseddol. A wnaiff y Gweinidog felly roi ei hymateb i'r argymhellion hyn?
Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y byddai'r fframwaith cenedlaethol a amlinellir yn y strategaeth yn cael ei orfodi er mwyn sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn cael eu darparu a'u cefnogi yn gyson ledled Cymru? Pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod y safonau cyflenwi yn bodloni'r lefel ofynnol? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n falch iawn o gael y cwestiynau yna y prynhawn yma. Ac efallai i ddechrau ar y pwynt olaf hwnnw ynghylch sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod hyn yn wahanol a bod hyn yn cael ei weithredu, rwy'n credu mai dyma pam y mae cynnig dull glasbrint, cryfhau'r llywodraethu, y cydweithrediad amlasiantaethol, yn enwedig gyda'r heddlu—. Gan ei bod yn gwbl glir, o ran y system cyfiawnder troseddol, fod yn rhaid i ni gryfhau nid yn unig y ffaith y gall menywod fod â ffydd ynddo, a'n bod hefyd yn gweld bod ffydd yn cael ei droi'n weithredoedd, euogfarnau, a hefyd i weld hyn fel rhan o'r ffordd—ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio ato—mae'r heddlu eu hunain wedi sefydlu eu tasglu eu hunain, sy'n cynnwys yr holl heddluoedd yng Nghymru. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fy mod yn cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol gyda'r prif gomisiynydd heddlu a throseddu. Felly, mae'n gwbl glir bod yn rhaid iddyn nhw gyflawni'r canlynol—. Bydd yn eiddo ar y cyd, ac wedi ymrwymo i sefydlu'r strwythur hwn ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mewn gwirionedd, mae'r dull glasbrint yn gweithio'n dda o ran datblygu ein glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a throseddau benywaidd yng Nghymru.
Mae ymyrraeth gynnar ac atal yn flaenoriaeth, fel y dywedwch chi. Ac rwyf eisiau canolbwyntio ar eich pryderon am ariannu, y comisiynu cynaliadwy. Rwyf eisoes wedi sôn am y symiau o arian sydd wedi mynd i mewn a'r cynnydd mewn cyllid, ond mae ein cynghorydd cenedlaethol Yasmin Khan wedi gwneud gwaith arloesol yn cadeirio adolygiad comisiynu cynaliadwy gyda'r holl ddarparwyr arbenigol—anodd yn ystod y pandemig, ond rydym yn cydnabod bod angen dulliau comisiynu effeithiol arnom i sicrhau bod darpariaeth genedlaethol o ran cyllid, cyfuno adnoddau'n well, alinio'r dulliau caffael sydd gennym, er mwyn ennill mwy ar gyfer y buddsoddiad cyhoeddus sy'n mynd i mewn i VAWDASV. Felly, mae gennym y canllawiau comisiynu presennol, sy'n cael eu hadolygu, yn seiliedig ar grŵp comisiynu'r cynghorydd cenedlaethol, i weithredu hynny, ond mae hefyd yn ymwneud â buddsoddiad y mae'n rhaid iddo ddod o bob rhan o'r Llywodraeth, nid llywodraeth Cymru yn unig, ond llywodraeth leol, felly mae'n gyllid gan adrannau iechyd, tai, addysg a diogelu hefyd. Gan fod hyn i gyd yn ymwneud â gwella ansawdd gwasanaethau. Felly, mae canllawiau comisiynu yn argymell comisiynu gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan anghenion, a hynny er mwyn sicrhau bod gennym gyllid ar gyfer gwasanaethau i gyrraedd anghenion a thirweddau amrywiol.
Rwy'n falch iawn eich bod hefyd wedi sôn am anghenion a materion penodol amrywiaeth—soniais amdano yn fy natganiad—er enghraifft, profiad menywod anabl, pobl anabl, a oedd wedyn yn teimlo'n gaeth iawn, yn enwedig yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud. Felly, rwyf eisiau tynnu sylw at ein llinell gymorth Byw Heb Ofn, y gwasanaeth 24/7 ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, ond, yn amlwg, mae materion yn ymwneud â hygyrchedd hyd yn oed gyda hwn, ond hefyd i ddweud bod angen inni roi cyhoeddusrwydd i'r 999 a phwyso 55 pan fydd cysylltwr ffôn yn ateb, felly mae'r heddlu yn barod i ymateb. Ond ymgysylltu â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl hefyd, o ran yr ymgynghoriad, byddaf yn gofyn am eu barn, yn ogystal ag, wrth gwrs, barn ein fforwm cydraddoldeb hiliol hefyd. Rydych hefyd yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn o ran cyflawni'r strategaeth hon, o ran ymyrraeth gynnar a hefyd atal. Dyma pryd mae'n rhaid iddo fod yn ddull aml-asiantaeth.
A dywedaf i orffen fod yn rhaid i leisiau goroeswyr fod wrth wraidd popeth a wnawn. Rwyf bob amser yn cofio un o'r menywod cyntaf un a ddaeth i mewn i'r lloches yng Nghaerdydd yr oeddwn yn ymwneud â hi. Ni fydd ots ganddi fy mod yn sôn amdani—Monica Walsh. Roedd hi'n unigolyn mor gryf. Yn y pen draw, ychydig yn ôl, daeth yn Arglwydd Faer Caerdydd. Gwelsom bryd hynny fod yn rhaid i oroeswyr ein harwain yn y ffordd y gwnaethom ddatblygu'r gwasanaethau arbenigol hynny, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny yn y strategaeth newydd hon. Dylen nhw fod wrth wraidd popeth a wnawn. Clywsom oroeswyr, oni wnaethom ni, yn yr wylnos ychydig wythnosau'n ôl. Rwyf wedi mynnu eu bod yno ar bob lefel o'r strategaeth newydd hon. Ond mae'n rhaid i ni hefyd ymgysylltu â chyflawnwyr VAWDASV, gan barhau i herio eu gweithredoedd, gan geisio deall beth sy'n gweithio i atal cyflawni fel y gallwn ni ddiogelu'r rhai a fyddai fel arall yn cael eu cam-drin. Ond bydd ein fframwaith cenedlaethol ymgysylltu â goroeswyr yn cael ei gryfhau gan y strategaeth hon.
Cefais gyfarfod ddoe gyda Heddlu De Cymru, a nodwyd cynnydd enfawr mewn trais yn y cartref yn ogystal â chynnydd sylweddol mewn llofruddiaethau. Yn amlwg, mae'r niferoedd, o ran rhif, ar gyfer llofruddiaethau yn fach iawn, ond mae'n dal i fod yn symptomatig o'r straen a achoswyd gan y cyfyngiadau symud a phopeth yn eu sgil, yn enwedig canlyniadau economaidd y cyfan. Ac roeddwn yn myfyrio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ymateb—pob un ohonom. Oherwydd ni all yr heddlu fod ym mhobman drwy'r amser. Os gwelwn ni hynny, dywedwn ni hynny ac mae wedi'i ddatrys, fel y dywedan nhw yn ddiddiwedd ar y trenau mewn cysylltiad â therfysgaeth. Ond mae gan bob un ohonom rwymedigaeth. Os gwelwn rywbeth sydd o'i le yn ein tyb ni, pan fo rhywun yn cael ei gam-drin, yn enwedig os yw'n blentyn, mae'n rhaid i ni ddweud wrth rywun siawns—peidio â cheisio ei ddatrys ein hunain, ond dweud wrth bobl sydd wedi'u hawdurdodi i ddatrys y pethau hyn. Oherwydd fel arall, byddwn bob amser yn mynd i mewn i'r cylch dieflig hwn o drais, oherwydd y plant sy'n dyst i drais yn y cartref, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Gweinidog, ar ôl eich anogaeth—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr.
—hirsedydlog yn hyn i gyd, yw'r rhai sydd naill ai'n mynd ymlaen i fod yn ddioddefwyr eu hunain neu'n gyflawnwyr. Ac mae'n rhaid i ni roi terfyn ar y drws troi hwn. Felly, gobeithio—. Rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad ar Everyone's Invited gan Estyn, oherwydd yr wyf yn siŵr y bydd hwnnw'n rhoi rhai marcwyr pwysig i ni o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud i newid.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Wel, fe wnaf ganolbwyntio ar y pwynt yna am blant. Rydym mewn gwirionedd yn chwilio am leisiau plant a phobl ifanc yn yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae gennym arolwg ar-lein wedi'i gynllunio, wedi'i dargedu'n benodol at blant a phobl ifanc, a Chomisiynydd Plant Cymru, NSPCC, Plant yng Nghymru, Cymorth i Fenywod Cymru, Llwybrau Newydd, Bawso, maen nhw i gyd yn ymgysylltu â ni i sicrhau y gallan nhw fod yn rhan o hynny. Ac maen nhw, wrth gwrs, yn elwa ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan brosiect Sbectrwm Hafan Cymru. Rydym hefyd yn awyddus iawn—rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg—. Mae gennym beth amser i fynd i sefydlu'r cwricwlwm mewn gwirionedd, y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb, a'r hyn y mae'n ei ddweud yw, 'Beth ydym ni'n ei wneud nawr?' oherwydd bod gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant yn cael mynediad i amgylchedd dysgu diogel ond y gallan nhw hefyd adrodd ar eu profiadau bywyd.
Hoffwn ddweud yn olaf fod pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cymryd y mater hwn o ddifrif—yn fwy o ddifrif nag yr wyf erioed wedi'i weld—cofnodi digwyddiadau, darparu mwy o hyfforddiant, sicrhau ymateb cadarn i ddwyn troseddwyr i gyfrif, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac iechyd i ddarparu'r ymateb cydgysylltiedig a chydlynol hwnnw. A gobeithio y byddwch, hyd yn oed drwy'r pwyllgor efallai, yn gallu gofyn i'r heddlu ddangos sut y maen nhw'n ymgysylltu â hyn. Gwn y bydd hyn yn newid sylweddol, a 'paid cadw'n dawel' yw'r neges—'gofyn a gweithredu', bod yn ddewr—a dywedwyd hyn ar draws y Siambr hon droeon, rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr.
Diolch ichi, Gweinidog. Mae eich datganiad unwaith eto, fel bob amser ar y pynciau hyn, i'w groesawu'n fawr. Ni ellir ac ni ddylid goddef unrhyw drais yn erbyn menywod a merched o fewn y gymdeithas heddiw. Mae'r ffaith mai cam-drin domestig sy'n lladd y mwyaf o fenywod rhwng 19 a 44 oed—fel y dywedwch chi yn eich datganiad, Gweinidog, hyd yn oed yn fwy na chanser y fron—yn ein hatgoffa ni o'r angen dybryd i fynd i'r afael â cham-drin domestig a'r ymddygiadau o gasineb at ferched yn ein cymdeithas.
Rwy'n teimlo y gallai addysg fod yn arf defnyddiol iawn wrth helpu i fynd i'r afael â cham-drin domestig, a dyma pam yr hoffwn ganolbwyntio ar hyn. Bydd meithrin beth yw perthnasoedd iach ym meddyliau ein plant a'n pobl ifanc, rwy'n credu, yn gam allweddol ymlaen o ran dileu'r ymddygiadau hyn, felly rwy'n falch y bydd trafodaeth ac addysg ar hyn yn cael eu hymgorffori yn y cwricwlwm newydd; yn wir, roedd yn un o'r prif drobwyntiau allweddol i mi, o beidio â chefnogi'r Bil addysg y tymor diwethaf i'w gefnogi wedyn, oherwydd roeddwn mor falch o weld y byddai hyn yn rhan o'r cwricwlwm newydd, oherwydd mae angen cael y sgyrsiau hyn. Ac rwy'n credu'n wirioneddol y bydd ei ymgorffori yn gymorth mawr i fynd i'r afael ag ef.
Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn amlinellu effaith addysgu hyn i bobl ifanc a sut y caiff ei fonitro a'i fesur i sicrhau ei fod yn cael yr effaith a ddymunir, a bod ansawdd a chynnwys y ddarpariaeth yn bwysig, yn amlwg, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ei briodoldeb o ran oedran yn ogystal â chysondeb, wrth gwrs, y dull gweithredu ar draws pob ysgol. A pha drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg ynghylch pwy fydd yn y sefyllfa orau i addysgu ar y materion hyn—athrawon eu hunain neu gyrff allanol sydd ag arbenigedd mewn siarad am hyn gyda phobl ifanc? Oherwydd—
Mae angen i chi ddod i ben nawr.
[Anghlywadwy.]—yn y Bil addysg, ond nawr yw'r amser ar gyfer y manylion hynny, os gwelwch yn dda, a pha arian a fydd yn dilyn i sicrhau y cyrhaeddir yr uchelgeisiau hyn. Diolch.
Diolch yn fawr, Laura Anne Jones, a diolch am ymateb mewn ffordd mor adeiladol a chadarnhaol i'm datganiad. Rwy'n falch eich bod wedi ailadrodd yr ystadegyn gwarthus hwnnw yn fy natganiad, y ffaith bod 115 o fenywod wedi'u lladd gan ddynion hyd yma eleni ac mai cam-drin domestig sy'n lladd y mwyaf o fenywod rhwng 19 a 44 oed yn y DU. Mae'n rhaid i ni ailadrodd yr ystadegyn hwnnw i'n hatgoffa ni ei fod yn endemig ac mae'n rhaid i ni wneud y newid hwnnw.
Roeddwn i eisiau sôn am ysgolion, oherwydd rwyf wedi ymateb cryn dipyn am addysg cydberthynas a rhywioldeb, yr ymateb i adroddiad Estyn a gyflwynwyd gan y Gweinidog addysg, gan weithio'n agos iawn, nid yn unig â mi fy hun, ond hefyd â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o ran diogelu plant. Ond rwy'n credu fy mod hefyd am gydnabod rhaglen ysgolion heddlu Cymru, yr ydych o bosib i gyd yn ymwybodol ohoni. Rydym wedi cefnogi honno; eto, nid yw wedi'i ddatganoli, plismona, ond rydym yn cefnogi rhaglen ysgolion heddlu Cymru. Rydym yn buddsoddi £1.98 miliwn bob blwyddyn ac mae hynny'n cyfateb i'r pedwar heddlu, ac mewn gwirionedd, maen nhw wedi ehangu cwmpas yr hyn y maen nhw yn mynd i'r afael ag ef pan fyddan nhw yn dod i mewn i ysgolion, a byddwch yn gwybod faint o ddisgyblion sy'n ymateb yn gadarnhaol iawn i raglen ysgolion Cymru. Felly, nawr, mae'r rhaglen graidd yn cynnwys cam-drin domestig, bwlio, diogelwch ar-lein, secstio, camfanteisio'n rhywiol ar blant, cydsyniad; rhaglen gytbwys iawn o fewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Rydym yn adolygu'r rhaglen i weld sut y gallwn symud hynny ymlaen, a'i haddasu hefyd i ymateb i'r pryderon a godwyd gan wefan Everyone's Invited. Unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â'r gwaith y gallwn ni ei wneud mewn ysgolion; mae gennym gyfle gwirioneddol yng Nghymru gyda'n cwricwlwm newydd. Rwyf hefyd eisiau dweud bod Amanda Blakeman, y dirprwy brif gwnstabl, a hefyd y dirprwy gomisiynydd heddlu a throseddu Eleri Thomas yn ein sicrhau ni eu bod yn mynd i sicrhau bod rhaglen ysgolion yr heddlu yn barod i ymateb yn arbennig i wefan ac adroddiad Everyone's Invited, sydd, wrth gwrs, yn ymateb i Estyn, a bydd y Gweinidog yn ymateb i'w hadroddiad maes o law.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei gwaith parhaus ar y strategaeth hon, a hefyd i'r Gweinidog am sicrhau nad yw merched yn gorfod ysgwyddo'r cyfrifoldeb am drais yn erbyn menywod drwy orfod addasu eu hymddygiad. Ers gormod o amser yn ein hanes, mae'r naratif wedi canolbwyntio ar weithredoedd y dioddefwr a dim digon ar sut yr ydym yn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, oherwydd nid oes dioddefwyr heb gyflawnwyr.
Mae'n gadarnhaol gweld bod gwaith eisoes yn cael ei wneud mewn llawer o awdurdodau lleol ledled Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno cynllun cyflawnwyr arloesol. O fewn y cynllun, gwneir ymdrech i ddiogelu dioddefwyr a hefyd adsefydlu cyflawnwyr i ddod ag unrhyw gylchoedd cam-drin i ben yn y dyfodol. A gyda'r achosion diweddar o gynnydd sydyn yn yr economi nos, ni allwn adael i'r naratif symud o wraidd y broblem. Mae'n rhaid i ni ddechrau drwy newid y diwylliant sydd wedi caniatáu i ymosodiadau fel y rhain ddigwydd mor aml.
Felly, roeddwn am orffen drwy ofyn i'r Gweinidog, mae'n debyg, faint yr ydych yn ymwybodol o'r cynlluniau cyflawnwyr a sut y maen nhw'n lledaenu ar draws Cymru, a'ch cefnogaeth i'r rheini. A hefyd hoffwn gydnabod, fel y dywedoch chi, y nifer fawr o oroeswyr sydd wedi cyfrannu at y cynllun hwn. Maen nhw wedi bod yn hynod ddewr ac anhunanol wrth rannu eu straeon fel y gallan nhw ddiogelu ac achub bywydau.
Diolch yn fawr iawn i Sarah Murphy, a diolch i chi hefyd am dynnu sylw at yr arfer da iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'r cynllun cyflawnwyr. Gan gydnabod pwysigrwydd—hynny yw, mae'n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gyflawni, bum mlynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, ond gweithio mewn partneriaeth a chydnabod bod hyn yn rhywbeth sylfaenol o ran sut yr ydym yn mynd i'r afael â hyn.
Fe fanteisiaf ar y cyfle i ymateb, nid i Sarah Murphy, ond i gwestiwn a godwyd gyda mi yn gynharach hefyd gan Sioned Williams. Rydym yn siomedig iawn ynghylch adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar droseddau casineb heddiw, y ffaith nad ydyn nhw wedi argymell y dylid ychwanegu rhyw neu rywedd fel nodwedd warchodedig o ran ein galwad am gydnabod casineb at ferched. Rwy'n siomedig iawn am benderfyniadau eraill i beidio ag ychwanegu oedran fel nodwedd warchodedig mewn cyfreithiau troseddau casineb, a chynnwys hefyd bobl sy'n ddigartref, gweithwyr rhyw neu is-ddiwylliannau eraill. Felly, rydym yn sylweddoli bod yn rhaid i ni gyflwyno ein sylwadau i Lywodraeth y DU, ond hoffwn sicrhau Sarah Murphy ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid nad ydyn nhw wedi'u datganoli yn yr heddlu, fel y mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a diolch i'r awdurdod lleol am gymryd y cam a bod ar y blaen o ran yr hyn yr ydym eisiau ei gyflawni yn y strategaeth.
Mae'n drist clywed yr ystadegau yna heddiw o ran trais yn y cartref. Roeddwn i'n ymweld â'r heddlu a oedd yn gyfrifol, y sarjant a oedd yn gyfrifol, am Ddwyfor Meirionnydd yn ddiweddar, ac yntau'n dweud, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae niferoedd yr achosion trais yn y cartref wedi cynyddu yn aruthrol. Beth oedd yn fy nhristáu i yn fwy, hyd yn oed, oedd ymweliad ag Ambiwlans Awyr Cymru ddydd Gwener diwethaf yn Ninas Dinlle, a hwythau'n dweud bod eu galwadau nhw'n bellach wedi cynyddu yn sylweddol, yn mynd allan oherwydd trais yn y cartref. Mae'n dangos lefel yr her sydd o'n blaenau ni, felly diolch yn fawr iawn i chi am eich cyflwyniad.
Dwi jest eisiau canolbwyntio ar un pwynt yn benodol, sef amcan 6 sydd yn eich cyhoeddiad ysgrifenedig. Rydych chi'n sôn am:
'Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau...a’r rheini’n wasanaethau holistaidd o ansawdd uchel y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau'
ac sy'n ymatebol ledled Cymru. A wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymhelaethu ar beth yn union rydych chi'n ei olygu wrth 'fynediad cyfartal'? Dwi wedi nodi o'r blaen mewn sgwrs efo chi yma yn y Siambr y ffaith mai dim ond un canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol sydd gennym ni yng ngogledd Cymru, ym Mae Colwyn, a bod angen gweld mwy o'r rhain, er enghraifft. Beth yn union mae 'rhoi mynediad cyfartal' i bob dioddefwr yn ei olygu, ac a wnewch chi sicrhau bod cymunedau gwledig ddim yn colli allan? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiynau yna, cwestiynau treiddgar. Mae'n mynd i fod, yn y strategaeth hon, fel y gwyddoch chi, rydym yn ymestyn cylch gwaith y strategaeth i gynnwys nid yn unig trais yn y cartref, ond trais ar y stryd, yn y gweithle, ac i edrych yn llawnach o lawer ar drais rhywiol a gwasanaethau trais rhywiol, a sicrhau, pan ddywedwn 'mynediad cyfartal', daw'n ôl at y cwestiwn hwnnw gan eich cyd-Aelod ynghylch comisiynu cynaliadwy a sicrhau bod gennym ddull gweithredu i Gymru gyfan. Felly mae hynny'n ymwneud â safonau a fydd yn cael eu pennu o ran y comisiynu cynaliadwy hwnnw a darparu gwasanaethau, a sicrhau bod gennym gynllunio strategol effeithiol a fframwaith safonau cenedlaethol a all wella a gweithio tuag at y trefniadau ariannu cynaliadwy hynny ar gyfer y sector VAWDASV yng Nghymru. Felly, mae'n rhaid i hynny gynnwys cymunedau gwledig a bydd yn eu cynnwys. Cofiaf y digwyddiad a arweiniwyd gan Joyce Watson, pan edrychom yn benodol ar gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod mewn cymunedau gwledig, ac arweiniwyd hynny gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched. Mae gennym y cyfrifoldeb statudol hwnnw gan fod gan bob awdurdod lleol y cyfrifoldeb statudol hwnnw, ond o ran cyllid cyffredinol, byddwn yn sicrhau y bydd Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, yn cael ei chynnwys, ac mae'n rhaid cefnogi'r canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, wrth gwrs, i ddiwallu anghenion ledled Cymru.
Ar gyfer y cofnod, yn 2018 deuthum yn llysgennad balch y Rhuban Gwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Gweinidog. Ond, rwyf eisiau dechrau gyda datganiad a neges syml na ellir ei dweud digon: dynion sy'n gorfod newid os ydym ni am fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a chasineb yn erbyn menywod. Dirprwy Lywydd, rydym wedi clywed heddiw gan y Gweinidog a'r Aelodau ar draws y Siambr am yr ystadegau brawychus a gofidus iawn, na fyddaf yn eu hailadrodd, ond pryd bynnag yr wyf yn siarad am drais yn erbyn menywod, rwyf bob amser yn cael yr un neges: beth am ddynion? Nawr, er bod cam-drin domestig yn erbyn dynion yn fater gwirioneddol a difrifol iawn, mae'n bwysig nodi bod 38 y cant o ddioddefwyr benywaidd yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gyn-bartner. Nawr, mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn ymwneud â chael dynion i ddeall maint y broblem honno. Mae hefyd yn ymwneud â deall mai ein problem ni fel dynion ydyw—nid menywod, dynion. Ond er gwaethaf yr holl waith mae Rhuban Gwyn yn ei wneud ac mae llawer o sefydliadau eraill yn ei wneud, mae rhai dynion yn profi'n anoddach eu cyrraedd nag eraill. Gweinidog, felly, a gaf i ofyn i chi pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog sefydliadau, mawr neu fach, ledled Cymru i gymryd addewid y Rhuban Gwyn a lledaenu'r neges hynod bwysig hon?
A gaf ddiolch i Jack Sargeant am y datganiad pwysig iawn yna cyn ei gwestiwn? A dim ond dweud, rydych yn chwarae rhan mor bwysig, Jack Sargeant, heddiw wrth ofyn y cwestiwn a datgelu'r heriau yr ydych chi'n eu hwynebu drwy siarad, drwy beidio â chadw'n dawel, drwy fod yn llysgennad Rhuban Gwyn. Felly, rydych chi'n esiampl i eraill. Gall ein holl gyd-Aelodau gwrywaidd fod yn esiamplau yn hyn o beth, a gobeithio y byddwch i gyd yn cofrestru i fod yn llysgenhadon Rhuban Gwyn. Rydych chi'n esiampl fel dyn ifanc, rydych chi'n cael eich parchu a'ch edmygu'n eang gan eich cyfoedion, felly mae hynny'n hynod bwerus a phwysig.
Roeddwn i eisiau diolch hefyd i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a drefnodd mentrau yn ddiweddar i fynd i'r afael â chasineb at fenywod ar-lein. Efallai eich bod yn ymwybodol, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, iddo lansio ymgyrch, gan gynnwys ffilm bwerus iawn yn cynnwys chwaraewyr pêl-droed Cymru yn trafod enghreifftiau bywyd go iawn o gam-drin ar-lein. Addysg yw'r allwedd, onid yw e, i'r newid? Ond roeddwn i'n falch iawn, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau, pan welsom gadetiaid Heddlu Gwent, cadetiaid ifanc, yn yr wylnos a drefnodd Joyce Watson ychydig wythnosau'n ôl, ochr yn ochr â diffoddwyr tân, y gwasanaethau cyhoeddus, pobl sydd eisiau bod yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn. Gallwn wneud y newid hwnnw os gallwn ystyried galwad Jack Sargeant heno, byddwn yn dweud, i sicrhau bod pawb yn rhan o ymgyrch y Rhuban Gwyn. Byddwn ni'n sicr yn galw amdano, nid yn unig yn y sector cyhoeddus, ond yn y sector preifat a'r trydydd sector hefyd.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Roedd yn wefreiddiol ac yn peri gwyleidd-dra ymuno â chi a chyd-Aelodau eraill ar draws y Siambr hon ac, yn bwysicach, goroeswyr trais yn y cartref y noson o'r blaen, ac rwyf eisiau ailddatgan fy ymrwymiad ac ymrwymiad fy mhlaid i roi terfyn ar drais a thrais domestig yn erbyn menywod.
Yn anffodus, mae aflonyddu, cam-drin a thrais yn ddigwyddiadau dyddiol i fenywod, ac am lawer rhy hir, mae menywod wedi cyflyru eu bywydau, wedi newid eu hymddygiad ac wedi cymryd gwahanol lwybrau adref, pan mai'r realiti yw nad mater i fenywod yw newid eu hymddygiad, mater i ddynion yw newid ein hymddygiad. Mae gan ddynion ran bwysig iawn yma ac mae'n rhaid i ni siarad, helpu i lunio polisi'r Llywodraeth a bod yn rhan o'r ateb. Felly, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu i mi yn y Siambr—gwn eich bod wedi codi hyn yn gynharach—pa waith ar draws y Llywodraeth sydd wedi'i wneud, yn ehangach na'r cwricwlwm yn unig, i addysgu pobl ifanc am berthnasoedd iach, ac i annog pobl i dynnu sylw at droseddau casineb at fenywod a throseddau casineb pan fyddant yn eu gweld? Diolch.
Diolch yn fawr, James Evans. Dyma'r union beth sydd ei angen arnom, onid yw e, o ran yr ymateb i'r datganiad heddiw? Roeddech yn rymus iawn ar risiau'r Senedd pan sonioch chi am fod yn dad hefyd, a gwnaeth siaradwyr eraill—Rhun ap Iorwerth ac eraill, a Jack Sargeant—siarad mor rymus. Felly, rydych yn rhan o'r ateb, a diolch i chi am gefnogaeth eich plaid, gan fod gennym gytundeb trawsbleidiol ar draws y Siambr hon, rwy'n credu. Nid mater i fenywod addasu eu hymddygiad ydyw; mater i gamdrinwyr newid eu rhai nhw ydyw. Ac os gall y neges hon ledaenu o heddiw ymlaen, mae hynny'n bwysicach fyth. Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â rhai o'r pwyntiau a godwyd gennych. Rwy'n credu bod rhaglen ysgolion yr heddlu yn bwysig. Mae'n ymyriad arall y tu allan i gwricwlwm yr ysgol. Byddwn yn cael cyfle pwerus iawn gyda'r newidiadau i'r cwricwlwm ysgol hefyd. Ond hefyd, rwy'n credu, fel y dywedais mewn ymateb i Jenny Rathbone, y bydd lleisiau plant a phobl ifanc yn allweddol iawn i'r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft. Nid yw hynny erioed wedi digwydd o'r blaen. Felly, maen nhw'n mynd i'n helpu ni. Nhw yw'r dyfodol. Nhw yw'r rhai sydd hefyd wedi'u targedu, yn enwedig drwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan rai o'r ffyrdd erchyll y mae casineb at fenywod yn cael ei ddwysau gan ddod yn endemig. Gwelsom—ac rwy'n credu, Janet Finch-Saunders, efallai eich bod chi wedi gweld y rhaglen honno, ac eraill—pan oedd bechgyn ifanc yn dweud, 'Rydym wedi gweld beth sy'n anghywir am y ffordd y gall dynion a bechgyn drin menywod'. Dyna'r hyn a ddysgwyd o raglen Sbectrwm Hafan. Mae'n rhaid i hynny ddigwydd ym mhob ystafell ddosbarth, yn fy marn i.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 7 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar.
Byddwn i'n galw'r Gweinidog, ond nid wyf yn siŵr a yw ar-lein ai peidio. A, fe welwn ni'r Gweinidog. Felly, galwaf ar Weinidog yr Economi i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.
Cynnig NDM7857 Vaughan Gething
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n fodlon cynnig y cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd heddiw. Roeddwn cyn hyn wedi cynghori'r Senedd i beidio â rhoi ei gydsyniad i'r cynnig sydd ger ein bron, oherwydd roedd y Bil fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol yn cynnwys mater a gedwir yn ôl. Yn anffodus, fe'i cyflwynwyd ym mis Mawrth eleni, heb fawr o ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y pryd.
Bwriedir i ARIA fod yn gorff ariannu ledled y DU i fynd ar drywydd ymdrechion ymchwil a dyfeisio risg uchel newydd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, ac rwy'n croesawu, fel yn wir Gweinidogion eraill ledled y DU, yr uchelgais ar gyfer ARIA a'r model gweithredu hyd braich sydd ganddo. Fodd bynnag, fel y nodais, byddai drafft blaenorol y Bil wedi mewnosod mater a gadwyd yn ôl newydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag ymchwil ac arloesi, ac ni wnaeth y Bil unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cynnwys Llywodraethau datganoledig wrth lywodraethu ARIA. Rhannwyd fy mhryderon gan gymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Yn dilyn trafodaethau adeiladol diweddarach gyda Llywodraethau datganoledig, mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil. Cytunwyd ar y gwelliannau hynny o fewn Senedd y DU, ac maen nhw wedi dileu'r mater a gedwir yn ôl hwnnw. Mae hynny felly'n golygu bod ein pwerau datganoledig mewn perthynas ag ymchwil, datblygu ac arloesi yn cael eu cadw mewn perthynas ag ARIA.
Er mwyn sicrhau'r gwelliannau pwysig hynny, yr oeddem i gyd yn cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth. Mae hynny'n nodi sut, gyda chydweithrediad rhwng ein prif gynghorwyr gwyddonol yn y pedair Llywodraeth, y byddwn yn goruchwylio gweithrediad ARIA ar y cyd, gan ganiatáu iddo weithredu'n annibynnol. Nid dyma'r hyn y byddwn yn ei ddisgrifio fel canlyniad perffaith, ond mae'n adlewyrchu parodrwydd gan bob un o'r pedair Llywodraeth i gydweithio i gytuno ar sefyllfa sy'n fuddiol i'r ddwy ochr. Mae Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd wedi cytuno ar yr un darpariaethau, gyda'u priod Seneddau yn ystyried eu darpariaethau cydsyniad deddfwriaethol eu hunain heddiw, fel yr ydym ni. A dylwn gydnabod bod Gweinidog gwyddoniaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ers ei benodiad, wedi dangos agwedd ymarferol 'gallu gwneud' ac mae'n awyddus i weithio gyda mi ac yn wir Llywodraethau datganoledig eraill i wneud ARIA yn llwyddiant i bob un ohonom.
Mae'r cyllid bydd ar gael i ARIA tua £800 miliwn dros y cyfnod nesaf. Nid yw hynny'n arbennig o fawr o'i gymharu â chyfanswm cyllideb ymchwil ac arloesi'r DU. Dylid tynnu sylw at y ffaith bod ein rhagoriaeth ymchwil yng Nghymru yn gryf, yn enwedig mewn meysydd sy'n ymwneud â nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig, fel y dangoswyd yn ddiweddar gan ein prif gynghorydd gwyddonol ein hunain. Mae'n hanfodol bod ARIA yn cydnabod, mewn ffordd deg a gwrthrychol, ragoriaeth ymchwil yng Nghymru, fel bod Cymru yn cael cystadlu yn yr un modd am y cyllid sydd ar gael drwy'r ffynhonnell hon.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac, yn wir, i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am eu gwaith craffu mewn cysylltiad â'r Bil hwn. Rwyf eisiau cydnabod y canfyddiadau y maen nhw wedi'u gwneud, ar gyfer y Bil gwreiddiol fel y'i cyflwynwyd ac, yn wir, y Bil diwygiedig. Gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, rwy'n credu ein bod wedi mynd i'r afael â'u hargymhellion drwy ddileu'r pwerau a gedwir yn ôl a chyfyngu ar hyd a lled pwerau Harri VIII.
O ran pwyntiau'r pwyllgor economi a masnach, rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor i esbonio pam rwyf yn credu bod angen cydsyniad ar gyfer cymal 5 y soniwyd amdano, ac mae hynny'n ymwneud â'r cyfarwyddiadau diogelwch cenedlaethol. Rwy'n cydymdeimlo â barn y pwyllgor ar lywodraethu ARIA, ond am y rhesymau yr wyf wedi'u hegluro, rwy'n derbyn y sefyllfa gyfaddawd yr ydym wedi'i chyrraedd ar hyn i ddiogelu'r setliad datganoli ehangach, i roi cyfle i ni, drwy ein prif gynghorwyr gwyddonol, i gael cipolwg ar y darpariaethau strategol sy'n llywodraethu ARIA. Felly, rwyf bellach mewn sefyllfa i argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil ARIA. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar Alun Davies ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf y mae wedi'i rhoi i ni y prynhawn yma. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar 21 Hydref ac ar femorandwm Rhif 2 yn dilyn ein cyfarfod pwyllgor ddoe.
Yn ein hadroddiad cyntaf, gwnaethom nodi'r pwyntiau y mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfeirio atyn nhw a'r pryderon a gododd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch gwneud ARIA yn awdurdod a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a'r darpariaethau ar gyfer cynnwys Llywodraethau datganoledig yn ei lywodraethiant. Daethom i'r casgliad bryd hynny nad yw cadw pwerau newydd yn ôl i Senedd y DU heb unrhyw barch at ymchwil ac arloesi yn dderbyniol, ac argymhellwyd y dylai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn y ddadl heddiw ar drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dileu'r cyfyngiad hwnnw. Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, eisoes wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ac rydym yn ddiolchgar iddo amdano.
Yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2, roeddem felly'n croesawu dileu'r cyfyngiad hwn ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a wnaed gan welliant i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac na fydd ARIA bellach yn fater a gedwir yn ôl yng Nghymru. Rydym hefyd wedi nodi, Dirprwy Lywydd, er mwyn sicrhau bod y cyfyngiad yn cael ei ddileu, fod trafodaethau rhynglywodraethol wedi arwain at y memorandwm cyd-ddealltwriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i ddisgrifio gyda Llywodraeth y DU. Arweiniodd hyn ni i argymell bod y Gweinidog yn cyhoeddi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn cyn gynted â phosibl ac yn ymrwymo i ddarparu adroddiadau rheolaidd ar weithgaredd mewn cysylltiad â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwnnw o dan y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru.
Wrth gloi, hoffwn ddychwelyd at yr ail argymhelliad yn ein hadroddiad cyntaf. Mynegwyd pryder gennym, Dirprwy Lywydd, fod cymal 10 o'r Bil yn cynnwys pŵer Harri VIII sy'n sylweddol ac y credwn y gellid ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Fel y dywedwn yn rheolaidd yn ein hadroddiadau, ni ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei addasu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU. Felly, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog ofyn am welliant i'r Bil i'r perwyl na all Gweinidogion y DU ddefnyddio'r pwerau yn y Bil i wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf 2006. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gwneud sylwadau ar yr agwedd honno ar ein hadroddiad yn ei sylwadau terfynol. Diolch.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly galwaf ar Weinidog yr Economi i ymateb.
Diolch. Gan gymryd y pwynt y mae Alun Davies wedi'i wneud ar ran y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, yr oedd hynny'n bryder a oedd gan y Llywodraeth hefyd, ond credwn, gyda'r gwelliannau sydd bellach wedi'u mewnosod, ei fod yn cyfyngu ar allu Gweinidogion y DU i ddefnyddio pwerau Harri VIII i ddiwygio mesurau cymhwysedd a deddfwriaethol y Senedd benodol hon. Roedd yn rhan o'r pwynt o sicrhau'r newid, felly ni fyddan nhw'n gallu gwneud hynny'n unochrog.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn werth i mi ymateb yn uniongyrchol i'r pwynt ynghylch cyhoeddi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, y soniodd Alun Davies amdano ar ran y pwyllgor hefyd. Rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn yn rhannu ffurflen ddrafft gyda'r pwyllgor ac yna byddwn yn cyhoeddi'r ffurflen derfynol ar y pwynt pan fydd wedi'i llofnodi. Byddaf hefyd yn hapus i adrodd ar weithgareddau ARIA yn rheolaidd, fel y mae'r Aelod wedi gofyn amdano.
Rwy'n credu y bydd y gwelliannau yr ydym ni bellach wedi'u sicrhau yn mynd i'r afael â sylwadau a phryderon y pwyllgor, sef rhai a rannwyd gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, mae'n dangos, pan fo'r Llywodraeth hon ac eraill yn ymgysylltu'n adeiladol, a bod ymateb adeiladol gan Lywodraeth y DU, ei bod yn bosibl dod o hyd i fesurau deddfwriaethol ac arloesi newydd sy'n gweithio gyda'r setliad datganoli ac nad ydyn nhw'n torri ar ei draws.
Byddwn yn gobeithio bod arwydd yno i gyfreithwyr a Gweinidogion o fewn y weinyddiaeth hon, fel yn wir eraill ledled y DU, o ffordd well a mwy adeiladol o gynnal cydberthnasau rhyng-weinidogol, ac arloesi y gallai pob un ohonom, rwy'n credu, ni waeth beth fo ein gwleidyddiaeth, ddymuno ei weld ar draws y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Rydym wedi dod i ddealltwriaeth gyffredin ar draws pedair llywodraeth wahanol y DU ynghylch sut y gall ARIA weithredu, a gobeithio y gallwn wneud hynny ar faterion eraill yn y dyfodol. Ond, fel y dywedais i, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron ar sail y gwelliannau yr ydym wedi llwyddo i'w sicrhau i'r Bil fel y'i cyflwynwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes; felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dadl yw eitem 8 heddiw: cymeradwyo'r cynllun hawliau plant. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan.
Cynnig NDM7858 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig drafft yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
2. Yn nodi y caiff y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Ychydig wythnosau'n ôl, roedd hi'n Ddiwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig, a chefais y pleser mawr o fod yn y gynhadledd Cymru Ifanc, a ddaeth â phobl ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gael sgwrs â Gweinidogion y Llywodraeth. Roedd yn fraint cael bod yn rhan o'r digwyddiad hwn. Rhoddodd gyfle i mi, ynghyd â'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill y Cabinet, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu pryderon, eu problemau a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Cynlluniwyd y gynhadledd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, ac roedd y pynciau'n amrywio o newid hinsawdd ac iechyd meddwl a lles i faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac roedd y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl yno hefyd yn y gynhadledd. Galluogodd y gynhadledd ddeialog onest ac uniongyrchol rhwng y Llywodraeth a phobl ifanc, a oedd yn hynod werthfawr.
Mae pwysigrwydd llais plant yn ganolog i gynllun hawliau plant drafft 2021, yr ydym yn ei drafod heddiw. Mae'n 10 mlynedd ers i ni gyflwyno Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae hyn yn rhoi i blant hawl i fywyd, iechyd, addysg, chwarae ac i fod â theulu, yn ogystal ag amddiffyniad rhag trais, gwahaniaethu ac ataliad. Mae'r ddeddfwriaeth bwysig hon wedi sicrhau bod plant a hawliau plant yn ganolog i lunio polisïau a deddfwriaeth yma yng Nghymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Mesur yn nodi gofyniad i ni gyhoeddi cynllun hawliau plant. Mae'n iawn ein bod, 10 mlynedd ar ôl cyflwyno'r Mesur, yn ailedrych ar y cynllun ac yn adolygu ein trefniadau.
Cyn amlinellu rhai o'r newidiadau allweddol yn y cynllun diwygiedig, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg blaenorol am eu hymchwiliad i hawliau plant. Mae eu hadroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd, wedi bod yn ffynhonnell anhygoel o dystiolaeth i ni gan ein bod wedi diweddaru'r cynllun. Felly, pa ddull a gymerwyd i ddiweddaru'r cynllun? Edrychwyd yn fanwl ar 'Y Ffordd Gywir—Dull Hawliau Plant yng Nghymru' y comisiynydd plant, gan fabwysiadu'r pum ffordd o weithio. Mae'r cynllun diwygiedig, felly, wedi'i strwythuro o amgylch yr egwyddorion allweddol canlynol: sut i ymgorffori hawliau plant; sut i sicrhau cydraddoldeb a diffyg gwahaniaethu i bob plentyn; sut i rymuso plant; sut i hwyluso cyfranogiad ystyrlon; a sut i sefydlu strwythurau atebolrwydd clir. Mae strwythuro'r cynllun fel hyn yn helpu i integreiddio hawliau plant hyd yn oed ymhellach i'r broses o wneud penderfyniadau. Ymgynghorais ar y cynllun drafft rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021, a hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd, yn enwedig y plant a'r bobl ifanc a gymerodd yr amser i rannu eu meddyliau gyda ni.
Fe wnaf dynnu sylw at rai o nodweddion allweddol y cynllun diwygiedig. Yn gyntaf, rydym ni wedi datblygu llawlyfr i roi cyngor a chymorth ymarferol i swyddogion Llywodraeth Cymru i ymgorffori hawliau plant yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae'n rhoi canllaw cam wrth gam ar sut i gwblhau asesiad o'r effaith ar hawliau plant ac, fel y gŵyr yr Aelodau, rwy'n siŵr, mae'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant, fel rhan o'r broses asesu effaith integredig, yn darparu fframwaith i swyddogion Llywodraeth Cymru ystyried a chofnodi a yw ein cynigion polisi yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc. Mae'n ein galluogi ni i nodi effeithiau posibl, yn gadarnhaol ac yn negyddol, ar blant â gwahanol brofiadau bywyd. Mae'r llawlyfr hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn ogystal â dolenni i'r hyfforddiant a'r adnoddau diweddaraf. Bwriedir iddo fod yn adnodd hyblyg y gellir ei ddiweddaru pan fo angen, er mwyn sicrhau bod swyddogion a Gweinidogion yn gallu cael gafael ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Er mwyn cefnogi tryloywder, gwnaethom gyhoeddi'r llawlyfr cyn y ddadl hon, a rhannwyd y ddolen gyda'r Aelodau. Yn dilyn adroddiad y pwyllgor, fe wnaethom symud yn gyflym i gyhoeddi asesiadau effaith hawliau plant wedi'u cwblhau ar wefan Llywodraeth Cymru, a gallaf gadarnhau y byddwn ni'n parhau.
Yn ail, rydym wedi datblygu model newydd i gefnogi Gweinidogion a swyddogion i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhoi'r hawl i blant ddweud eu dweud mewn materion sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried. Mae ein model yn ceisio galluogi llais y plentyn i gael ei glywed ar bob lefel o Lywodraeth—ar lefel weinidogol, o fewn adrannau'r Llywodraeth, ac o fewn timau polisi unigol. Ei nod yw hyrwyddo egwyddorion arfer da wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan sicrhau bod gwaith cyfranogol yn gynrychioliadol, yn adlewyrchu natur amrywiol plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac yn annog swyddogion i weithio ar sail hirdymor gyda phlant a phobl ifanc i gynyddu dyfnder cyfranogiad ac ansawdd y mewnwelediad. Fel y gŵyr yr Aelodau, rwy'n siŵr, mae Gweinidogion yn cyfarfod â phlant a phobl ifanc yn rheolaidd, ond mae'r cynllun yn nodi'r disgwyliad y bydd pob Gweinidog a Dirprwy Weinidog yn cyfarfod â phlant a phobl ifanc bob blwyddyn. Mae hyn yn tynnu sylw at y gwerth a roddwn ar glywed llais plant a phobl ifanc ym mhob rhan o'r Llywodraeth.
Yn drydydd, rydym wedi cyhoeddi ein cynllun codi ymwybyddiaeth ar gyfer hawliau plant. Rydym yn gwybod na all plant a phobl ifanc gael eu hawliau a'u mwynhau oni bai eu bod nhw eu hunain a'r rhai o'u cwmpas yn gwybod am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'u hawliau. Mae Erthygl 42 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi bod yn rhaid i lywodraethau weithio'n weithredol i sicrhau bod plant ac oedolion yn gwybod am y confensiwn. Mae nod ein cynllun yn mynd y tu hwnt i rannu gwybodaeth, ac yn ceisio grymuso plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau fel dinasyddion Cymru a'r byd. Mae wedi'i anelu at blant, pobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Rhan allweddol o'r cynllun hwn fydd ein gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y comisiynydd plant ac UNICEF, i ddatblygu gweledigaeth gyfunol, i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. A bydd Diwrnod Byd-eang y Plant, a gynhelir ar 20 Tachwedd bob blwyddyn, yn ddyddiad pwysig i'w ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant ar draws y Llywodraeth a thu hwnt.
Ac yn bedwerydd, rydym wedi gwella'r broses adborth a chwyno ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn yn rhywbeth a godwyd gan y pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg yn ei adroddiad. Rydym eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i blant a phobl ifanc gael eu lleisiau wedi'u clywed. Rydym wir eisiau clywed ganddyn nhw am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a lle y gallwn ni wneud yn well.
A'r pumed maes yr hoffwn i sôn amdano yw'r pecyn cymorth i swyddogion a Gweinidogion gyflawni'r trefniadau hyn yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys modiwlau e-ddysgu ar gyfer holl staff Llywodraeth Cymru ar hawliau plant ac asesiadau o'r effaith ar hawliau plant, yn ogystal â gwahodd siaradwyr allanol i annerch swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar faterion hawliau plant. Yn ddiweddar, rhoddodd y comisiynydd plant gyflwyniad craff i swyddogion i gyd-fynd â Diwrnod Byd-eang y Plant. Felly, gyda'i gilydd, mae'r trefniadau hyn yn ategu'r llawlyfr ar gyfer staff y soniais amdano yn gynharach.
Ac, yn olaf, ond yn hollbwysig, o ran atebolrwydd, rydym wedi ailddatgan ein hymrwymiad o fewn y cynllun hwn i adrodd ar gynnydd bob 2.5 mlynedd.
Felly, i gloi, rwy'n cymeradwyo'r cynllun diwygiedig hwn i chi. Mae'r trefniadau hyn, ynghyd â'r cymorth sydd ar gael, yn sail i'n hymrwymiad i hybu hawliau plant. Felly, rwy'n edrych ymlaen at wrando ar farn yr Aelodau. Diolch yn fawr.
Mae Ceidwadwyr Cymru yn croesawu cynllun hawliau plant drafft y Llywodraeth 2021, a byddwn ni'n cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw. Fodd bynnag, mae cafeat i'r pethau hyn bob amser, onid oes? Er ein bod ni'n croesawu'r cynllun hawliau plant, mae gennym ni bryderon gwirioneddol nad yw gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn gwella hawliau plant Cymru.
Mae wedi bod yn 10 mlynedd ers i'r Senedd hon gyflwyno'r Mesur hawliau plant, sy'n
'gosod dyletswydd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn',
eto, mae Gweinidogion Cymru yn parhau i ddiystyru'r ddyletswydd honno pryd bynnag y mae'n gyfleus iddyn nhw.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb ond yn methu'n llwyr yn eu dyletswydd i gynnal asesiad trylwyr o'r effaith ar hawliau plant. Mae asesiadau o effaith ar hawliau plant yn adnoddau hanfodol i sicrhau bod holl bolisïau'r Llywodraeth yn cadw at gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Drwy fethu â chynnal asesiadau o'r effaith ar hawliau ar wariant cyhoeddus, nid oes gennym ni fawr ddim eglurder ynghylch sut mae penderfyniadau cyllidebol yn effeithio ar blant Cymru. Mae hyn wedi arwain at gondemniad gan y comisiynydd plant a phwyllgor plant y Senedd. Nododd adroddiad comisiynwyr plant y Deyrnas Unedig i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae Llywodraeth Cymru wedi torri llinellau cyllideb lle y byddai asesiad o effaith ar hawliau plant manwl wedi nodi'r effaith ar hawliau plant, er enghraifft, grantiau gwisgoedd ysgol a chyllid i ddysgwyr difreintiedig. Er i'r rhain gael eu gwrthdroi'n ddiweddarach, mae'n peri pryder bod y sefyllfaoedd hyn yn digwydd.'
Pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd pe na bai'r comisiynydd plant wedi bod yno i sefyll dros blant Cymru. Ni fyddai'r penderfyniadau hyn wedi'u gwrthdroi, mae hynny'n sicr. Nid dim ond y methiant i gynnal asesiadau o effaith ar hawliau plant, sy'n peri pryder; mae llawer ohonom ni'n teimlo nad oes unrhyw werth i asesiadau o effaith ar hawliau plant Llywodraeth Cymru. Yn rhy aml o lawer, caiff asesiadau effaith integredig eu cyfleu fel asesiadau effaith hawliau plant—dull sy'n gwbl annigonol ac nid yw'n adlewyrchu gwir effaith penderfyniadau ar hawliau plant Cymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn wir. Mae'n ddrwg gennyf i, roeddwn i wedi ymgolli'n llwyr.
Tybed a allech chi egluro: a yw Llywodraeth y DU yn gwneud asesiad o'r effaith ar hawliau plant pan fydd yn ystyried ei chyllideb?
Gan ei fod yn CCUHP, byddwn i'n dychmygu ei bod yn ffordd gyffredinol y mae pob Llywodraeth yn ymrwymo iddi. Felly, nid wyf i'n siŵr am fanylion Llywodraeth y DU, ond fy ngwaith i'n bennaf yw craffu ar Lywodraeth Cymru, a dyna'r hyn yr wyf i'n ceisio'i wneud, a pheidio â siarad gormod am Lywodraeth y DU, sef y duedd y dyddiau hyn.
Felly, ble oeddwn i? Drwy gydol y pandemig, mae hawliau plant wedi cael eu hanwybyddu ar y gorau ac ar eu gwaethaf wedi'u herydu. Plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf, ond eto nid ydyn nhw'n debygol o ddioddef salwch difrifol o COVID. Ar ddechrau'r argyfwng COVID, roedd ysgolion ar gau i helpu i atal lledaeniad y feirws. Ni chafodd unrhyw ystyriaeth ei rhoi i'r effaith a gafodd hyn ar blant. Methodd Llywodraeth Cymru â chynnal asesiadau hawliau ar unrhyw un o'i rheoliadau COVID. Pan effeithiodd mesurau'r Llywodraeth yn andwyol ar bobl ifanc, unwaith eto, cymerodd ymyriad y comisiynydd plant i wrthdroi'r penderfyniad i hepgor pobl ifanc 16 ac 17 oed o reoliadau diwygiedig sy'n caniatáu i bobl unigol ymuno â swigod estynedig aelwydydd. Byddai'r diofalwch hwn gan Lywodraeth Cymru wedi'i nodi cyn i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, pe baen nhw wedi cynnal asesiadau o effaith ar hawliau plant. Hyd yn oed nawr, pan fydd y mwyafrif llethol o oedolion wedi'u brechu yn erbyn COVID, mae ysgolion yn dal i gau i leihau lledaeniad feirws nad yw'n cael fawr ddim effaith ar bobl ifanc. Sut mae hyn yn diogelu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru?
Gobeithio, ochr yn ochr â'r cynllun hawliau plant, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynnal gwerthusiadau o'r effaith ar hawliau plant. Bydd y gyllideb ddrafft yn cynnwys asesiadau o effaith ar hawliau plant a bydd wedi'i drafftio yn unol â Mesur hawliau plant 2011. Byddan nhw'n gwarantu ni fydd mwy o ysgolion yn cau oherwydd COVID ac yn ymrwymo i gynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yng Nghymru i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â COVID-19. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig wedi cael cymaint o effaith ar blant fel bod angen ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru er mwyn dysgu'r gwersi a chryfhau hawliau plant yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon, a bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig, oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n diogelu ac yn hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru, ac ni allwn ni gyfyngu ar wariant wrth wneud hynny. Gwyddom ni fod plant yng Nghymru o dan anfantais economaidd-gymdeithasol gan fod gennym ni'r gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw wlad yn y DU. Yn ôl y comisiynydd plant tlodi plant yw her fwyaf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw hon yn her newydd, er ein bod ni'n gwybod bod pandemig COVID-19 ac effeithiau rheoliadau yn aml wedi ei gwneud yn anodd i lawer o blant a phobl ifanc wireddu'r hawliau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Mae'r her y mae'r comisiynydd plant a llawer o sefydliadau plant yng Nghymru yn sôn amdani, wrth gwrs, wedi'i gwaethygu gan y cyni sydd wedi'i osod ar ein cenedl gan Lywodraethau Torïaidd olynol, ond mae llywodraethau Cymru hefyd yn aneffeithiol wrth fynd i'r afael â thlodi plant.
Er y bydd meysydd yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru nawr o gymorth enfawr i leddfu'r anfantais sy'n cael ei achosi gan dlodi, fel yr hawl i ofal plant am ddim i blant dwy flwydd oed a phrydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, ni ddylem ni fod yn fodlon ar hynny'n unig. Ni allwn ni golli uchelgais wrth ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni—y rhai nad ydyn nhw ddim llai na dyfodol ein cenedl. Y polisïau hyn y mae wedi bod eu hangen arnom ni ers tipyn yw'r camau cyntaf. A phan glywaf i rai Aelodau ar feinciau eraill yn sôn am gost y camau hyn, mae'n fy ngwneud yn ddig ac mor rhwystredig, oherwydd wrth ymdrin â materion fel hyn, mae angen i ni siarad llai am gost a mwy am fuddsoddi—buddsoddi yn ein blaenoriaeth bwysicaf. Nid blaenoriaeth yn unig, ond y flaenoriaeth. Ac os nad ydym ni'n mabwysiadu'r meddylfryd hwnnw, yna ni fyddwn ni byth yn cyflawni'r hyn y mae'r cynnig ger ein bron yn ei gynrychioli: ymrwymiad gwirioneddol a rhwymol i glywed a chydnabod anghenion plant, ac i roi'r anghenion hynny wrth wraidd popeth a wnawn ni ac yr ydym ni eisiau'i gyflawni fel cenedl mewn termau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, sifil a gwleidyddol.
Un mater sydd wedi'i godi dro ar ôl tro gan adroddiadau a rhanddeiliaid wrth werthuso effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu CCUHP yw asesiadau o'r effaith ar hawliau plant, ac rydym ni wedi clywed ychydig amdano y prynhawn yma. Er bod asesiadau effaith, yn amlwg, yn adnoddau pwysig, mae'n rhaid iddyn nhw beidio â dod yn ymarfer ticio blychau, a dylen nhw, yn hytrach, ddylanwadu ar bolisi—dylanwadu'n ystyrlon ar bolisi.
Fel yr oeddem ni wedi clywed gan bwyllgor y Senedd—. Gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddarganfod bod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn cael eu cynhyrchu'n llawer rhy hwyr yn y broses o ddatblygu polisi, sydd, wrth gwrs, nid yn unig yn niweidiol i hawliau plant a phobl ifanc, ond yn awgrymu nad yw hawliau plant bob amser yn gyrru penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Llywodraeth. Gan fod yr asesiadau effaith integredig hyn yn chwarae rhan yn y cynllun hawliau plant drafft y pleidleisir arno heddiw, rhaid i'r Llywodraeth ofalu i sicrhau bod yr asesiadau hyn yn cael eu cynnal yn briodol gyda gofal priodol er budd plant Cymru. Yn rhy aml, mae polisi blaengar a goleuedig yn syrthio wrth gyrraedd rhwystr gweithredu hwnnw.
Mae'r asesiadau effaith hyn hefyd yn cael eu defnyddio i ymdrin â materion gwahaniaethu ymhlith gwahanol grwpiau o blant. Rydym ni'n ymwybodol bod pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu Islamoffobia, hiliaeth, anablaeth a mathau eraill o wahaniaethu drwy gydol eu hamser yn system addysg Cymru ac yn eu bywyd cymdeithasol ehangach. Mae arolygon ac adroddiadau diweddar wedi dangos bod hyn yn wir, megis y darlun erchyll a gafodd ei ddatgelu gan wefan Everyone's Invited, sy'n dangos sut mae rhai o'n disgyblion ysgol ni'n gorfod ymdrin â'r diwylliant ofnadwy hwn o gasineb at fenywod, aflonyddu rhywiol, cam-drin rhywiol ar-lein a gorfodaeth rywiol. Felly, o ystyried y cynnydd yn hyn a llawer o fathau eraill o droseddau casineb yn ein cymdeithas, gall llawer o bobl iau o grwpiau penodol fod yn arbennig o bryderus am eu diogelwch a'u hawliau. Ac mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn rhoi cymorth penodol i'r grwpiau hyn o blant ac yn gwneud cyfiawnder â nhw o fewn asesiad effaith. Dylai diwydrwydd dyladwy hefyd gael ei dalu ynghylch pryd y mae bwlio'n croesi i'r diriogaeth honno o droseddau casineb, ac i sicrhau nad yw effaith gronnol gwahaniaethu ar bobl ifanc yn cyrraedd y pwynt lle mae'n drawma i berson ifanc ac yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym ni'n ymwybodol bod cost ddynol ac economaidd trawma plentyndod yn rhy uchel ac yn para'n hir. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal ac nid dim ond ymdrin â'r materion hyn.
Nid oes modd cefnogi plant a phobl ifanc i wireddu eu hawliau fel dinasyddion Cymru a'r byd os nad ydyn nhw'n ymwybodol ohonyn nhw. Roedd y diffyg ymwybyddiaeth o hawliau plant ymhlith plant eu hunain a'r cyhoedd yn ehangach yn fater arall a gafodd ei godi gan adroddiad y pwyllgor. Felly, mae cynnal adolygiadau rheolaidd ar effeithiolrwydd y cynllun hwn yn allweddol i sicrhau bod ganddo'r cyrhaeddiad angenrheidiol ac yn rhoi canlyniadau boddhaol.
Un o'r pethau y gall y Senedd fod yn fwyaf balch ohono, wrth gwrs, yw'r Senedd Ieuenctid; gwnaethom ni ei chlywed hi'n cael ei hethol yma yr wythnos diwethaf—a'r penderfyniad i ostwng yr oedran pleidleisio i'n Senedd i 16 oed. Nid oes amheuaeth y bydd y camau hyn yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi i glywed safbwynt unigryw ein dinasyddion iau. Ond rwy'n gwybod, yn rhy aml o lawer, fod plant weithiau'n ceisio lleisio eu barn, ond nid yw eu barn yn cael ei gwerthfawrogi, ac mae hyn yn aml i'w weld pan fyddwn ni'n ystyried penderfyniadau i gau ysgolion, er enghraifft—
Mae angen i chi ddod i ben nawr.
Mae'n rhaid i'r sianeli sydd wedi'u hamlinellu er mwyn i'n pobl ifanc leisio eu barn fod yn ystyrlon. Mae creu sinigiaeth ac anobaith yn ein pobl ifanc yn anfaddeuol, bydd yn erydu ac yn gwneud nid yn unig unrhyw ymgyrch ymwybyddiaeth o hawliau a dulliau o gymryd rhan mewn penderfyniadau, ond hefyd yr holl egwyddor y mae'r cynllun hawliau plant hwn yn dibynnu arni yn ddiystyr. Diolch.
Dirprwy Lywydd, yn y gymdeithas orllewinol fodern, mae consensws cyffredinol bod gwahaniaeth amlwg rhwng plant ac oedolion, sy'n deillio o'r ffaith bod plant yn cael eu diffinio'n llai aeddfed yn gorfforol ac yn feddyliol. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser wedi digwydd, oherwydd, drwy gydol gwahanol gyfnodau mewn hanes, mewn gwahanol wledydd a diwylliannau, mae barn ar yr hyn y dylai plant ei wneud pan fyddan nhw'n oedrannau penodol, megis sut y maen nhw'n cael eu haddysgu a'u cymdeithasu, yn ogystal â pha oedran y maen nhw'n dod yn oedolyn cyfreithiol, wedi newid ac wedi bod yn wahanol. Er enghraifft, yn y DU, ni ddechreuodd plentyndod fel cyflwr sy'n wahanol i fod yn oedolyn gael ei gydnabod tan yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, pan ddechreuodd cymdeithas ymdrin â'r plentyn nid fel oedolyn bach, ond fel person o lefel aeddfedrwydd is y mae angen cariad a meithriniad oedolion arno. Parhaodd hyn i'r ddeunawfed ganrif ac arweiniodd at Ddeddf Atal Creulondeb i Blant, a'i Diogelu, 1889, siarter plant, a heddiw mae gennym ni Ddeddf amddiffyn plant 1989, sy'n rhoi'r cyfrifoldeb dros amddiffyn a meithrin plant ar y rhieni, ond cadarnhaodd y byddai'r wladwriaeth, pe baen nhw'n methu yn y cyfrifoldeb hwn, yn ymgymryd â'r swyddogaeth hon.
Rwy'n dweud hyn i gyd i wneud y pwynt bod plentyndod yn lluniad cymdeithasol, wedi'i greu gan oedolion, ac wedi'i bennu yn bennaf gan oedolion ac wedi'i ddylanwadu arno gan yr hyn y mae cymunedau oedolion yn credu sydd orau i'r plentyn o ran yr hyn y maen nhw'n yn ei ganfod yn gyfrifoldebau a'u hawliau eu hunain. Felly, y mae'r paradeim hwn nid yn unig yn dueddol o atgyfnerthu'r awdurdod y gallai oedolion ei gael dros blant, ond mae hefyd yn golygu bod hawliau plant yn aml yn cael eu gwrthod pan fyddan nhw'n gwrthdaro â normau hawliau dynol, a dyna pam yr wyf i'n gefnogwr brwd i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, gan ei fod yn dadlau y dylai plant cael eu trin fel bodau dynol yn eu rhinwedd eu hunain, gyda phwyslais arbennig ar ymgynghori â nhw bob amser ynghylch penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Rwy'n fodlon ac yn falch bod y cynllun hawliau plant yn ofyniad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi arni'i hun i sicrhau bod hyn yn digwydd yng Nghymru. Nid oes gwell enghraifft o hyn yn cael ei weithredu na Bil Plant (Cymru), a fydd yn helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd cosbi plant yn gorfforol. Nid oeddwn yn Aelod o'r Senedd pan gafodd y ddeddfwriaeth hon ei phasio, ond rwyf i mor falch o hynny, oherwydd lle'r oedd hawliau plant yn gwrthdaro â hawliau oedolion, rhoddodd ein Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Senedd yr un sylfaen iddyn nhw, ac ni allwn ni fyth danbrisio pa mor arwyddocaol, eithriadol a hanfodol oedd hyn, ac roedd yn arwydd clir o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Rwy'n credu ein bod ni hefyd yn gweld hyn yn ein Senedd Ieuenctid yng Nghymru, sy'n cynrychioli pobl ifanc yn y cymunedau ac yn codi eu lleisiau, gan sicrhau nad yw polisïau a chynnydd yn cael eu gwneud iddyn nhw ond gyda nhw. Bydd ein Ewan Bodilly ni, sy'n aelod o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynrychioli etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef ar ei faterion allweddol, sy'n cynnwys gofal iechyd meddwl ieuenctid, yr argyfwng hinsawdd a ffioedd dysgu prifysgolion.
Felly, mae llawer o les yn cael ei wneud yng Nghymru, yn unol â CCUHP. Fodd bynnag, pan ddaw'n fater o hawliau digidol plant, y mae gennyf i awch amdanyn nhw, fel gyda llawer o wledydd eraill, dylem ni fod yn gwneud mwy. Ni allaf i grynhoi hyn yn well na'r athro Harvard Shoshana Zuboff, sy'n dweud:
'Bob dydd rydym ni'n anfon ein plant i'r byd llwfr newydd hwn o economeg gwyliadwriaeth, fel caneris diniwed i byllau glo y Cewri Technoleg. Mae dinasyddion a deddfwyr wedi sefyll yn dawel, wrth i systemau cudd o dracio, monitro a dylanwadu ddifetha bywydau preifat plant diniwed a'u teuluoedd, gan herio egwyddorion democrataidd hanfodol er elw a phŵer. Nid dyma'r ganrif ddigidol addawol y gwnaethom ni gytuno iddi.'
Mae hyn yn hynod wir yma yng Nghymru ar adegau hefyd. Faint ohonom ni sy'n ymwybodol bod data biometrig yn cael ei gasglu o blant mewn ysgolion gyda'u holion bysedd yn cael eu cyfnewid am brydau ysgol am ddim, neu'r apiau ystafell ddosbarth sy'n casglu nid yn unig ddata academaidd, ond hefyd data ymddygiadol ynghylch ein plant ni? Ac mae llawer o sôn yn y byd technoleg nawr am fanteision ac anfanteision microsglodynnu ein plant.
Ond mae rhywfaint o newyddion cadarnhaol, a hynny yw bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ar 2 Mawrth, wedi mabwysiadu sylw cyffredinol Rhif 25 ar hawliau'r plant o ran yr amgylchedd digidol. Mae ei fabwysiadu'n egluro am y tro cyntaf bod hawliau plant yn berthnasol yn y byd digidol. Bu ymgynghori â saith cant a naw o blant a phobl ifanc rhwng naw a 22 oed mewn 26 gwlad a chwe chyfandir. Maen nhw eisiau cael byd digidol mwy preifat, a thryloyw, sy'n eu hamddiffyn, un sy'n briodol i'w hoedran ac sy'n galluogi eu diddordebau, eu perthnasoedd a'u cyfleoedd. Ac er nad yw sylwadau cyffredinol yn rhwymol ac nid ydyn nhw'n rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ei hun, byddwn i'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ymgorffori hawliau digidol plant yng nghynllun hawliau plant 2021.
A hefyd hoffwn ddweud—hoffwn i fynegi fy nghefnogaeth i argymhelliad 15 yn adroddiad 'Hawliau Plant yng Nghymru' gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y pumed Senedd, dan gadeiryddiaeth Lynne Neagle, a argymhellodd fod yn rhaid i awdurdodau lleol hefyd wneud yr asesiadau risg plant, yn enwedig pan fydd toriadau'n cael eu gwneud i wasanaethau fel teithio am ddim ar fysiau ysgol.
Ac yn olaf, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried gofyn i bobl ifanc, o bosibl ein Haelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, ynghylch eu barn ar hawliau digidol a hyrwyddo llythrennedd data, oherwydd beth yw cydsyniad os nad yw ein plant yn deall yr hyn y maen nhw'n ymrwymo iddo, ac os nad ydym ni fel oedolion a gwleidyddion yn deall chwaith? Mae'r plant eisiau ac angen bod ar-lein, ond mae angen iddyn nhw allu gwneud hynny'n ddiogel. Rhaid i bawb dan sylw ddyblu eu hymrwymiad i sicrhau bod eu hawliau, gan gynnwys eu hawliau i ddiogelwch a phreifatrwydd, yn cael eu cynnal.
Galwaf ar y Ddirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, a diolch i bawb, am eich cyfraniadau i'r ddadl heddiw ar y cynllun hawliau plant. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus a'ch gwaith craffu ar ein gwaith, oherwydd, fel y nododd yr Aelodau, mae hawliau plant nawr yn bwysicach nag erioed, gan ein bod ni wedi gweld yr effaith ddwys y mae'r pandemig wedi'i chael ar blant a phobl ifanc, oherwydd mae plant yn llai tebygol o fod yn weladwy ac yn llai tebygol y byddant yn cael eu clywed nag oedolion, ac, oni bai eu bod yn cael eu holi'n uniongyrchol, maen nhw'n annhebygol o ddweud wrthym ni sut mae polisïau'n effeithio arnyn nhw. Felly, hoffwn i ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd, a diolch yn fawr iawn i chi, Gareth, am eich cefnogaeth i'r cynllun, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gref honno. Ond rwy'n nodi'r pwyntiau yr ydych hi'n eu gwneud. Ac, o ran y pandemig, hoffwn i wneud y pwynt bod Llywodraeth Cymru, ar y cyd â'r comisiynydd plant, wedi gwneud arolwg enfawr o farn plant a phobl ifanc. Rwy'n credu, gyda'r ddau arolwg, fod hynny'n cyfateb i tua 40,000 o bobl ifanc a ymatebodd ynghylch sut yr oedd y pandemig yn effeithio arnyn nhw. Ac fe ddylanwadodd hynny'n uniongyrchol ar sut y gweithredodd Llywodraeth Cymru bryd hynny mewn ymateb i'r pandemig. Felly, rwy'n credu ei bod hi braidd yn annheg, mewn gwirionedd, i ddweud nad oeddem ni'n gwrando ar blant yn ystod y pandemig, oherwydd yr oedd hynny'n rhan bwysig iawn o'n gwaith yn ystod y pandemig. Ac rwy'n awgrymu ei fod yn edrych ar gyllideb ddrafft 2021-22, i weld yr hyn y mae effeithiau'r plant yn ei wneud mewn cysylltiad â hynny.
Sioned, hoffwn i ddweud gymaint yr oeddwn i'n gwerthfawrogi'ch cefnogaeth angerddol iawn i blant ac am yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, ac rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda'ch plaid i fynd i'r afael â phla tlodi plant. Ac rwyf i wir yn teimlo y bydd prydau ysgol am ddim ac ymestyn gofal plant i blant dwyflwydd oed, sy'n dod o dan fy mhortffolio, wir yn cael effaith ar dlodi plant yng Nghymru, ac rwyf i'n cydnabod yn llwyr ei fod yn llawer rhy uchel. Rwy'n nodi hefyd yr hyn a ddywedodd Sioned am y don o droseddau casineb a sut y mae'n rhaid i ni sefyll yn erbyn hynny. A hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at y strategaeth cydraddoldeb hiliol sy'n cael ei chynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, sy'n heriol, yn bellgyrhaeddol, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i blant yng Nghymru.
Ac yna yn olaf, Sarah. Diolch yn fawr iawn, Sarah, am eich sylwadau. Rwy'n falch iawn o'ch cefnogaeth, yn enwedig am y gefnogaeth i gael gwared ar y gosb resymol i blant, a'r geiriau y gwnaethoch chi eu dweud am hynny. A hefyd y pwyntiau pwysig iawn y gwnaethoch chi am ddigidol, oherwydd mae'n bwysig; mae gwir angen i blant ifanc ddeall eu hawliau ar-lein, a byddwn i'n sicr yn hoffi manteisio ar y cynigion y gwnaeth hi ar ddiwedd ei haraith, ac efallai fod hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried eto.
Felly, diolch yn fawr. Rwy'n gwybod fy mod yn dod i ddiwedd yr amser. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniadau heddiw. Mae hawliau plant wrth wraidd Llywodraeth Cymru ac maen nhw'n dylanwadu ar bopeth a wnawn ac rydym ni'n bwriadu parhau i wneud hynny yn yr holl bolisïau yr ydym ni'n eu cyflwyno, a hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau ar draws y Siambr am eu cefnogaeth. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:55.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:00, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Rydym ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, a dim ond yr un bleidlais sydd gennym ni heno, ac mae hynny ar eitem 7, sef y bleidlais ar gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Vaughan Gething. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig.
Eitem 7: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar. O blaid: 40; yn erbyn: 11; ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig.
Mae hynny'n dod â ni at ddiwedd y busnes am heddiw. Gobeithio y bydd pawb yn cael taith ddiogel adref.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.