Y Cyfarfod Llawn
Plenary
09/11/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19 yn ardal bwrdeistref sirol Caerffili? OQ57168

Llywydd, rwy'n diolch i Hefin David am y cwestiwn yna. Brechu yw'r cam mwyaf effeithiol o hyd i fynd i'r afael â'r coronafeirws. Mae'r cyfraddau sy'n manteisio arno yn etholaeth yr Aelod yn dal i fod yn uchel, gyda 75 y cant o bobl ifanc 16 ac 17 oed eisoes wedi cael eu brechlyn cyntaf. Rwy'n parhau i ddiolch i drigolion Caerffili am eu cefnogaeth yn hyn ac mewn camau eraill sydd eu hangen i leihau lefelau presennol y feirws.
Cyn i mi symud at fy nghwestiwn atodol, Llywydd, gyda'ch caniatâd, rwy'n siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol o'r digwyddiadau trasig ddoe ym Mhenyrheol yn fy etholaeth i, lle ymosododd ci domestig ar fachgen 10 oed ifanc a'i ladd. Mae'r bachgen wedi ei enwi yn Jack Lis, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno anfon eu cydymdeimlad a'u dymuniadau gorau i'r teulu a chymuned Penyrheol, a fydd, yn ddi-os, yn gefn iddyn nhw o dan yr amgylchiadau hyn. Hoffwn ddweud hynny hefyd, ar ran fy nghyd-Aelodau rhanbarthol yn y Blaid Geidwadol ac ym Mhlaid Cymru hefyd, gan fy mod i'n gwybod ein bod ni i gyd yn teimlo yr un fath. Diolch, Llywydd.
Felly, fy nghwestiwn atodol: bydd mater y pasys COVID yn cael ei drafod heddiw. Byddaf i'n pleidleisio dros yr estyniad i sinemâu a neuaddau cyngerdd. Byddaf i'n gwneud hynny nid oherwydd y chwip, ond gan fy mod i'n credu mai dyma'n sicr yw'r peth iawn i'w wneud. Ac mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cysylltu â mi wedi dweud yn union yr un peth. Diben y rhain yw atal rhagor o gyfyngiadau symud a'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog roi amlinelliad i ni o lwyddiant pasys COVID hyd yma, ac amlinelliad o sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen yn y dyfodol?

Llywydd, rwy'n diolch i Hefin David, ac a gaf i hefyd ddechrau drwy gysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd am y digwyddiadau trist iawn yn ei etholaeth? Bydd yr Aelodau yma yn meddwl am Jack a'i deulu, rwy'n gwybod. Darllenais yr hyn a oedd gan bennaeth Ysgol Gynradd Cwm Ifor i'w ddweud amdano, a gallwch chi ddychmygu'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y plant ifanc iawn hynny a fydd wedi ei adnabod ac a fyddai, mewn rhai achosion, yn drist iawn, wedi bod yn dyst i'r digwyddiadau ofnadwy hynny.
O ran y pàs COVID, rwy'n diolch i Hefin David am yr hyn a ddywedodd amdano. Rwy'n credu ei fod wedi mynd cystal ag y gallem ni fod wedi ei obeithio o ran ei weithredu yma yng Nghymru. Clywais lawer o'r pethau a gafodd eu dweud yn y ddadl flaenorol ynglŷn ag ymarferoldeb y pàs COVID, ac, yn ymarferol, mae wedi troi allan mor syml ag y gallem ni fod wedi ei ddychmygu. Rydym ni wedi cael cyfres o ddigwyddiadau mawr â miloedd ar filoedd o bobl yn bresennol. Fe es i fy hun i Barc yr Arfau wythnos yn ôl. Edrychais yn ofalus iawn i weld sut roedd pobl yn ymddwyn wrth iddyn nhw gyrraedd y giatiau tro a chefais fy nghalonogi yn fawr gan y ffordd yr oedd pobl wedi meddwl ymlaen, yn barod iawn, yn gwybod beth roedden nhw'n ei wneud. Cafodd pob person a oedd yn bresennol eu gwirio wrth iddyn nhw fynd drwodd, ac, yn fwy na hynny, Llywydd, cefais fy nharo yn llwyr gan nifer y bobl a ddaeth ataf i yn y digwyddiad hwnnw i ddweud eu bod nhw wedi bod yn nerfus ynglŷn â dod. 'Saith deg mil o bobl', meddai rhywun wrthyf i; "rwyf i wedi bod mor ofalus. Prin rwyf i'n mynd allan, ac roeddwn i'n gwybod fy mod i'n dod yma gan wybod bod y person yr oeddwn i'n eistedd wrth ei ymyl, y person y tu ôl i mi a'r person o fy mlaen i gyd wedi eu brechu ddwywaith neu wedi cael prawf diweddar iawn. Rhoddodd hynny yr hyder i mi ddod yma heddiw.'
A dyna pam rwy'n credu bod y pasys COVID yn boblogaidd ymhlith pobl yma yng Nghymru, oherwydd, fel y dywedodd Hefin David, maen nhw'n helpu i gadw Cymru yn ddiogel ac maen nhw'n helpu i gadw Cymru ar agor. Dyna eu diben nhw—i ganiatáu i'r lleoliadau mwy agored i niwed hynny barhau i fod ar agor drwy'r hydref, drwy'r gaeaf, gan fod yr amddiffyniad ychwanegol hwnnw ar waith bellach.
Mae nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws, diolch byth, wedi gostwng rhyw fymryn dros y 10 diwrnod diwethaf, ac os byddan nhw'n parhau i wneud hynny, yna ni fydd angen ymestyn y pàs y tu hwnt i'r estyniad y bydd y Senedd yn ei drafod y prynhawn yma. Ond pe bai'r niferoedd yn codi eto, a phe bai angen amddiffyniad y pàs hwnnw mewn mwy o leoliadau, yna ni fydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn oedi cyn cymryd y camau hynny sy'n helpu i gadw pobl yng Nghymru yn ddiogel ac yn helpu i gadw'r busnesau hynny yn masnachu.
Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb i fy nghyd-Aelod anrhydeddus. Mae Caerffili yn parhau i fod â'r nifer uchaf o achosion newydd o COVID yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru. Rydych chi'n berson dysgedig, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld y straeon bod rheoleiddiwr meddyginiaethau'r DU wedi cymeradwyo yn ddiweddar y feddyginiaeth wrthfeirysol gyntaf ar gyfer COVID y gellir ei chymryd fel pilsen, yn hytrach na'i chwistrellu neu ei rhoi yn fewnwythiennol. Mewn treialon clinigol, fe wnaeth y bilsen leihau'r risg o fynd i'r ysbyty, neu o farwolaeth, o tua hanner, ond mae angen ei rhoi o fewn pum niwrnod i'r symptomau ddatblygu i fod y mwyaf effeithiol. Dywedwyd y bydd y driniaeth yn newid pethau yn llwyr, a chytunodd Llywodraeth y DU i brynu 480,000 dos. Prif Weinidog, pa drafodaethau mae eich Llywodraeth chi wedi eu cael ynghylch cael cyflenwadau o'r cyffur hwn ar gyfer cleifion COVID yma yng Nghymru, a phryd gallwn ni ddisgwyl i'r driniaeth hon ddechrau, ac a fydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ardaloedd fel Caerffili, lle mae cyfraddau COVID yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel? Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r newyddion bod y rheoleiddiwr wedi cymeradwyo meddyginiaeth wrthfeirysol newydd drwy'r geg yn newyddion da. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gydag adran iechyd y DU. Yr hyn sydd wedi'i gynllunio yw astudiaeth ar raddfa fawr, gan ddefnyddio'r 480,000 dos hynny. A bydd yr astudiaeth honno yn cael ei defnyddio i nodi, yn y ffordd yr awgrymodd yr Aelod, yr amgylchiadau clinigol lle gellir darparu'r driniaeth honno yn fwyaf effeithiol. Bydd Cymru yn rhan o'r cynllun treialu hwnnw. Bydd cleifion yng Nghymru a fydd yn rhan o'r gwaith a fydd yn cael ei wneud i sicrhau ein bod ni'n dysgu popeth y mae angen i ni ei ddysgu am y posibilrwydd newydd hwn ac yna ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Ac rydym ni'n parhau i weithio yn agos gydag adran y DU ar y mater hwn i wneud yn siŵr bod cleifion o Gymru yn gallu cael gafael ar y driniaeth a'n bod ni i gyd yn elwa ar y gwaith a fydd yn cael ei wneud.
Rwy'n cysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Hefin am y gymuned ym Mhenyrheol.
Prif Weinidog, fis diwethaf, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgyrch yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID-19 oherwydd faint o fenywod heb eu brechu y mae angen triniaeth ysbyty arnyn nhw yn y pen draw. Mae un o bob chwe chlaf COVID sydd angen y math uchaf o gymorth bywyd yn Lloegr yn fenywod beichiog heb eu brechu, ond nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ffigurau cyfatebol ar gyfer Cymru. Maen nhw'n dweud y gallai camwybodaeth fod yn gwneud menywod yn amharod i gael y brechlyn, er ei fod yn ddiogel, tra bod y risg y mae'r feirws yn ei pheri iddyn nhw yn ddifrifol. Dim ond tua 15 y cant o fenywod beichiog yn y DU sydd wedi eu brechu yn llawn, o'i gymharu â 79 y cant o bobl yn y boblogaeth gyffredinol. Byddwn i'n ddiolchgar, Prif Weinidog, pe gallech chi ddweud wrthym sut y mae'r ffigurau yn edrych ar gyfer Cymru, ac a wnewch chi ddweud wrthym hefyd beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamwybodaeth fel y gall menywod beichiog yn sir Caerffili, a ledled Cymru gyfan, glywed sut y gallai cael y brechlyn helpu i achub eu bywydau?

Rwy'n diolch i Delyth Jewell am wneud yr union bwynt yna, Llywydd. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi arwain ymdrechion i geisio mynd i'r afael â chamwybodaeth, ac yn benodol i apelio i fenywod beichiog gael eu brechu. Maen nhw'n llawer iawn mwy mewn perygl o'r coronafeirws nag y byddan nhw byth o'r brechlyn. Ac mae hon yn un o'r enghreifftiau hynny lle mae camwybodaeth fwriadol yn achosi niwed gwirioneddol. Nid yw'r ffigurau gwirioneddol gen i o fy mlaen, Llywydd, ond rwy'n gwybod bod menywod beichiog heb eu brechu wedi eu gorgynrychioli yn sylweddol iawn mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru, yn ogystal â dros y ffin. Mewn geiriau eraill, nid yw menywod yn mynd yn sâl gyda'r coronafeirws ac yn dioddef ohono yn y gymuned yn unig, yn hytrach maen nhw ym mhen mwyaf difrifol y salwch y gall y coronafeirws ei greu, ac mae hynny yn achosi risg iddyn nhw ac i'r amgylchiadau y maen nhw'n eu cael eu hunain ynddyn nhw, ac a fyddai, o dan unrhyw amgylchiadau eraill, yn fater o ddathlu enfawr iddyn nhw.
Felly, rwy'n ailadrodd yr union apêl y mae Delyth Jewell wedi ei gwneud, Llywydd: os oes menywod yng Nghymru nad ydyn nhw wedi eu brechu ac sy'n cael perswadio i beidio â chael eu brechu oherwydd rhai o'r pethau y maen nhw'n eu darllen ar y cyfryngau cymdeithasol am frechu, edrychwch ar yr hyn y bydd y gwir ffeithiau yn ei ddweud wrthych chi, ac mae'r prif swyddog meddygol wedi eu nodi yn gwbl eglur yma yng Nghymru. Rydych chi'n llawer gwell eich byd, yn llawer mwy diogel o gael brechiad, ac yng Nghymru byddem ni'n sicr yn eich annog i wneud hynny.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Ngorllewin De Cymru? OQ57167

Diolch, Llywydd, am y cwestiwn. Nid yw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi ffigurau ar wahân ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Ngorllewin De Cymru. Yn ôl ffigurau diweddaraf yr ONS, roedd y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 5.0 y cant ym mis Ebrill 2021. Mae hyn yn cymharu â 7.9 y cant yn y Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch wedi ymestyn yn y Deyrnas Unedig dros y flwyddyn flaenorol, ond nid yw wedi newid yng Nghymru.
Diolch, Brif Weinidog. Gwelwn yn glir yn ein gweithleoedd y modd y mae anghydraddoldebau economaidd yn cyfuno gydag anghydraddoldebau eraill, megis rhywedd, ac mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi yn ddiweddar yn datgelu bod y bwlch cyflog ar sail rhywedd yn 12.3 y cant yng Nghymru—ffigur y mae Chwarae Teg wedi’i ddisgrifio fel un siomedig ac sydd yn uwch yng Nghymru na’r llynedd o 0.7 y cant. Mae’r bwlch yma yn codi i 20.7 cant yn yr ardal ble dwi’n byw ac yn ei chynrychioli, sef Castell-nedd Port Talbot. Mae’r ffigurau wedi cael eu torri i lawr fesul awdurdod lleol, a’r awdurdod lleol hwnnw yw’r un sydd â’r pumed bwlch uchaf yng Nghymru. Sut, felly, mae’r Llywodraeth am gau’r bwlch annerbyniol hyn yn y sectorau gwaith y mae ganddi reolaeth drostyn nhw, ac annog, wrth gwrs, sectorau eraill i wneud yr un fath? Ac o ystyried yn enwedig nod y Llywodraeth o annog 30 y cant o’r gweithlu i weithio o gartref yn y dyfodol, pa gynlluniau sydd mewn lle er mwyn sicrhau bod y newid mewn arferion gwaith yn un sy’n dileu anghydraddoldebau yn hytrach na dyfnhau’r bwlch cyflog ac anghydraddoldebau strwythurol hirsefydlog eraill? Diolch.

Diolch, Llywydd. Wel, rwy'n siŵr y gallem ni ailadrodd gwahanol setiau o ffigurau, ond y pwynt sylfaenol yw ein bod ni eisiau gweld y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn parhau i leihau i'r pwynt lle mae'n cael ei ddileu, ac mae hwnnw yn uchelgais a rennir mewn sawl rhan o'r Siambr hon. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau i Lywodraeth Cymru yn rhan o'n dull o ymdrin â phartneriaeth gymdeithasol ac â gwaith teg, ac rydym ni'n mynd ar ei drywydd drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol ac mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ymarferol ar draws amrywiaeth o'n cyfrifoldebau. Rydym ni'n gwybod bod y cynnig gofal plant yn arbennig o ddefnyddiol i fenywod yn y gweithle, ac rwy'n falch o ddweud bod y ffigurau diweddaraf sydd gennym ni yn dangos y nifer uchaf erioed yng Nghymru yn manteisio ar y cynnig gofal plant—y cynnig gofal plant mwyaf hael i deuluoedd sy'n gweithio yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
O ran y polisi gweithio gartref neu drwy ganolfannau gweithio o bell, yna rwy'n credu bod manteision gwirioneddol y gellir eu hennill o hynny ym maes bylchau rhwng dynion a menywod, ond grwpiau eraill yn y gweithle hefyd. Rydym ni'n gwybod, Llywydd, bod pobl anabl, yn arbennig, wedi canfod bod y gallu i weithio gartref wedi dileu rhai o'r anfanteision yr oedden nhw'n eu hwynebu fel arall, a thrwy ein system, sef creu canolfannau gweithio o bell mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru, yna, i bobl nad yw gweithio o'u cartref eu hunain yn ddewis ymarferol iddyn nhw, bydd dewisiadau eraill y gallan nhw eu defnyddio. Rwy'n credu y bydd hynny'n golygu y bydd pobl yn y dyfodol a fydd yn gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth a chyfleoedd â chyflog gwell nag a allai fod wedi digwydd yn y gorffennol, a gall, o'i ddefnyddio yn iawn, fod yn arf arall yn yr arfdy i leihau'r bwlch cyflog.
A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod o orllewin de Cymru, Sioned Williams, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn hefyd? A, Prif Weinidog, rwy'n rhannu ei huchelgais i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, yn enwedig gan ein bod ni'n gwybod bod y bwlch cyflog yn ehangach yng Nghymru nag ydyw yng ngweddill—o'i gymharu â chyfartaledd y DU. Ond, un o'r ffyrdd y gallwn ni helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw trwy sicrhau nad yw menywod a merched yn cael eu perswadio yn erbyn dilyn cyrsiau mewn gyrfaoedd â chyflogau da mewn sectorau o'r economi sy'n cael eu hystyried yn sectorau i ddynion yn draddodiadol. Yn adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhywiol ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, fe wnaethom ni weld mai 22 y cant yn unig o'r lleoliadau seiliedig ar waith hynny yn y sector STEM a gofrestrwyd gyda Chyngor y Gweithlu Addysg oedd yn fenywod. Nododd yr adolygiad hefyd mai Cymru hefyd oedd â'r ganran isaf o fenywod yn cofrestru ar gyrsiau STEM addysg uwch yn unrhyw le yn y DU. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at y sector STEM i fenywod a'u hannog yn well i ddilyn cyrsiau STEM mewn addysg uwch?

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Ar gyfer y cofnod, Llywydd, mae'n bwysig dweud bod y bwlch cyflog yng Nghymru yn uwch nag ydyw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ond yn is nag yn unrhyw ranbarth o Loegr. Felly, wyddoch chi, mae'r sefyllfa ychydig yn llai llwm nag a awgrymodd yr Aelod wrth agor ei gwestiwn. Ond mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn un pwysig iawn.
Mae ymdrechion enfawr wedi eu gwneud yng Nghymru i annog menywod ifanc i fynd i addysg bellach ac uwch yn y pynciau STEM. Arweiniodd ein Prif Swyddog Gwyddonol Cymru blaenorol hynny ei hun; creodd grŵp o fenywod yn y pynciau STEM mewn sefydliadau academaidd, ond mewn diwydiant hefyd, i ddod at ei gilydd i fod yn esiamplau i fenywod ifanc. Ac mae'r gwaith hwnnw yn parhau, rwy'n credu, mewn ffordd ymarferol iawn mewn sawl rhan o Gymru. Yn Thales, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Alun Davies, mae'r cwmni yno yn gwneud ymdrechion enfawr i wneud yn siŵr bod cyfleoedd yn y diwydiannau newydd ac sy'n dod i'r amlwg yn cael eu hysbysebu i fenywod ifanc sy'n byw yn y rhan honno o Gymru, a bod llwybr yn cael ei greu ar eu cyfer, o'r ystafell ddosbarth, drwy addysg bellach ac uwch, ac yn uniongyrchol i gyflogaeth hefyd.
Yn ein prentisiaethau lefel gradd newydd, mae mwy o fenywod ifanc yn dechrau cyflogaeth sy'n gysylltiedig â STEM na dynion ifanc, ac rwy'n credu o ystyried y patrymau hanesyddol y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn gwbl briodol, bod hynny yn llwyddiant sylweddol iawn. Mae newid diwylliannol yr ydym ni'n ceisio ei gyflwyno yma ac ni fydd hynny yn digwydd yn gyflym ym mhob man. Ond mae'r ymdrechion cyfunol sy'n cael eu gwneud ar draws y sector addysg a'r sector cyflogaeth, rwy'n credu, yn dechrau dangos erydiad gwirioneddol o'r ffyrdd mwy traddodiadol hynny o feddwl am gyfleoedd sydd ar gael.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac ar ran arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Llywydd, a gaf i hefyd gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Gaerffili? Ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu Jack Lis heddiw.
Prif Weinidog, yn eich barn chi, am ba hyd ddylai rhywun 85 mlwydd oed aros am ambiwlans ar ôl dioddef strôc?

Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r achos y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, ac mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol y gadawyd i rywun aros cyhyd ag y gadawyd yr unigolyn hwnnw. Mae'r gwasanaeth ambiwlans, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, o dan straen enfawr o'r lefel uchaf erioed o alwadau y mae wedi eu cael yn ei hanes; o lefelau salwch staff, sy'n effeithio ar nifer y bobl y mae'n gallu eu rhoi mewn ambiwlansys ac ar y ffordd, ac mae cryn dipyn o hynny yn gysylltiedig â'r coronafeirws ei hun; ac o gyflyrau coronafeirws, sy'n golygu bod yn rhaid i staff ambiwlans wisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol rhwng galwadau ac ambiwlansys yn cael eu hoedi gan yr angen i'w glanhau nhw rhwng teithiau, oherwydd amodau COVID. Mae hynny i gyd yn helpu i esbonio rhywfaint o'r straen sydd ar y system, ond nid oes neb yn fodlon pan fydd unigolion yn cael eu gadael yn aros yn rhy hir i ambiwlans gyrraedd.
Ie, Prif Weinidog, y gwir amdani oedd bod David Evans wedi aros mwy na hanner diwrnod am ambiwlans, ac nid yw hynny yn dderbyniol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o sylwadau Darren Panniers, pennaeth gwasanaethau ambiwlans yn y de-ddwyrain, sydd wedi dweud
'Mae oedi hir cyn trosglwyddo cleifion mewn ysbytai, nifer mawr o alwadau ac absenoldeb staff wedi amharu'n sylweddol'
ar allu'r gwasanaeth ambiwlans
'i gyrraedd cleifion yn gyflym yn ystod yr wythnosau diwethaf.'
Aeth ymlaen i ddweud, wrth i Mr Evans aros am gymorth, y collwyd dros 840 o oriau mewn ysbytai yn y de yn unig. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymddiheuro i Mr Evans a'i deulu yn awr am yr amser annerbyniol y bu'n rhaid iddo aros am ambiwlans? A wnewch chi ystyried yn awr gosod targedau yn erbyn pob galwad ambiwlans, ni waeth beth fo'i chategori, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol yn awr i sicrhau nad yw pobl ledled Cymru yn gorfod aros mwy na hanner diwrnod am ambiwlans?

Llywydd, nid wyf i'n cael unrhyw anhawster o gwbl yn ymddiheuro i unrhyw un nad yw wedi derbyn y gwasanaeth y byddem ni'n dymuno iddo ei gael, ac rwy'n gwybod bod yr ymddiriedolaeth ambiwlans eisoes wedi gwneud hynny ar ran y gwasanaeth yn uniongyrchol. O ran yr esboniadau a gynigiwyd gan yr ymddiriedolaeth, rwyf i eisoes wedi cyfeirio at y nifer mawr o alwadau a'r sefyllfa staffio y mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn ei hwynebu, ond mae'r trydydd esboniad hefyd yn rhan bwysig iawn o'r darlun hwn: mae ein hysbytai yn llawn pobl nad oes angen iddyn nhw fod yno, ond lle mae'n amhosibl eu rhyddhau yn ddiogel i'w cartrefi eu hunain neu i'r gymuned, oherwydd y pwysau enfawr sydd ar y system gofal cymdeithasol hefyd ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n golygu, pan fydd ambiwlansys yn cyrraedd ysbyty, eu bod nhw'n dod i system sydd yn llawn pwysau a straen ei hun ar hyn o bryd. Felly, nid yw gosod targedau ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yn unig yn arwain at y gwelliannau yr hoffai'r Aelod eu gweld ac y byddwn i'n hoffi eu gweld hefyd. Mae'n rhaid i ni allu gwella llif cleifion drwy'r ysbyty fel bod mwy o gapasiti i dderbyn pobl pan fyddan nhw'n cyrraedd.
Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i geisio ymateb i'r pwysau a'r straen y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu. Yn ysbyty'r Faenor ac yn Ysbyty Treforys, lle mae rhai o'r pwysau hyn wedi bod fwyaf, mae mannau newydd yn cael eu creu fel y gellir symud pobl yn ddiogel o ambiwlans ac i mewn i'r ysbyty, dechrau eu taith a chaniatáu i'r ambiwlans hwnnw fynd yn ôl ar y ffordd eto. Rydym ni'n recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth ambiwlans ei hun—dros 250 o swyddi llawnamser ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae pwyslais di-baid, drwy'r ymddiriedolaeth ambiwlans a gyda'u cydweithwyr yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth, ar ddod o hyd i ffyrdd o atal yr angen i bobl gael eu cludo i ysbyty yn y lle cyntaf. Mae hynny i gyd yn digwydd drwy'r amser.
Er gwaethaf y pwysau sydd ar y system, Llywydd, ym mis Medi, ymatebwyd i dros 1,000 o alwadau coch o fewn pum munud, ymatebwyd i dros 2,000 o alwadau coch o fewn wyth munud, a munud a hanner oedd yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwad goch yng Nghymru. Er gwaethaf y pwysau enfawr sydd ar y system, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod, ym mhob rhan o'r system, fod ymdrechion yn parhau bob dydd i geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw a'u bod yn ei gael mewn modd mor brydlon â phosibl.
Wrth gwrs, nid dim ond amseroedd aros ambiwlansys y mae angen eu blaenoriaethu ar frys, mae angen mynd i'r afael ag amseroedd atgyfeirio i driniaeth hefyd. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae nifer y cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu o ychydig yn llai na 26,000 ym mis Chwefror y llynedd i ychydig yn llai na 244,000 erbyn mis Awst eleni. Yn wir, roedd yr arosiadau hiraf yn cynnwys tua 56,000 o bobl y mae angen triniaeth orthopedig neu drawma arnyn nhw, ac, o ganlyniad, rydym ni wedi gweld pobl yn dewis hedfan i wledydd fel Lithwania oherwydd yr effaith y mae aros am driniaeth wedi ei chael ar eu bywydau.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud yn gynharach bod pobl yn yr ysbyty na ddylen nhw fod yno, ond mae nifer y gwelyau mewn ysbytai wedi ei dorri 30 y cant ers 1999 o dan Lywodraethau Llafur a dan arweinyddiaeth Llafur olynol. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod argyfwng recriwtio staff sy'n golygu nad yw tua 3,000 o swyddi gofal iechyd wedi eu llenwi ar hyn o bryd. Mae'r problemau capasiti wedi codi o dan eich arweinyddiaeth chi, hyd yn oed cyn y pandemig. Ers dros flwyddyn, rydym ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw am gyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol i helpu gydag ôl-groniadau rhestrau aros, ac nid dim ond ni sy'n dweud hynny, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon hefyd wedi bod yn galw am yr un peth yn union.
Felly, Prif Weinidog, mae cynllun gaeaf Llywodraeth Cymru yn sôn am ddatblygu canolfannau rhanbarthol COVID-lite ar gyfer rhai lleoliadau, ac felly a wnewch chi gadarnhau heddiw y bydd canolfannau llawfeddygol yn cael eu sefydlu ledled Cymru, ac os felly, pryd? Hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym ni ba gamau byrdymor brys eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drin y rhai sydd wedi bod yn aros ar restr ers misoedd ar fisoedd fel nad oes yn rhaid iddyn nhw deithio i Lithwania i gael triniaeth yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, mae mwy o bobl yn gweithio yn y GIG heddiw nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, ac mae hynny yn wir am staff clinigol, nyrsys, meddygon a mathau eraill o arbenigwyr sy'n helpu i gadw ein GIG yn sefyllfa y mae ynddi. Ac o ran sylwadau'r Aelod ynglŷn â gwelyau, gwelais y deunydd a gyhoeddwyd gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru ynglŷn â gwelyau, ac mae mor arbennig o anghywir ei bod hi'n anodd dychmygu nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn anghywir wrth ei gyhoeddi. Mae'r gostyngiad i nifer y gwelyau yng Nghymru wedi bod yn arafach nag y bu yn Lloegr o dan ei Lywodraeth Geidwadol ef yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae gostyngiad i nifer y gwelyau yn nodweddiadol o bob gwasanaeth iechyd datblygedig, wrth i ni geisio gofalu am fwy o bobl ag anableddau dysgu yn y gymuned, mwy o bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y gymuned, a mwy o bobl oedrannus yn eu cartrefi eu hunain nag mewn gwelyau ysbyty. Wrth i hyd yr arhosiad i gleifion mewn gwely ysbyty leihau, mae nifer y gwelyau yn y gwasanaeth iechyd wedi gostwng hefyd. Mae wedi gostwng yn arafach yng Nghymru nag o dan ei Lywodraeth ef yn Lloegr dros y degawd diwethaf. Ac nid mwy o welyau yw'r ateb yn y gwasanaeth iechyd modern, er gwaethaf y ffaith, fel yr wyf i wedi sylwi na wnaeth ei ddatganiadau i'r wasg gyfeirio ati unwaith, bod 6,000 o welyau ychwanegol wedi eu cyflwyno yn y gwasanaeth iechyd y llynedd er mwyn ymdrin ag argyfwng y pandemig.
O ran trefniadau yn y dyfodol a'r mathau o ddarpariaeth ranbarthol y gellid ei chyflwyno i helpu i ymdrin â'r ôl-groniad, yna, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ac eraill i wneud cynlluniau ar gyfer y math hwnnw o ddarpariaeth yma yng Nghymru. Byddwn ni, fel y bydd pob rhan arall o'r Deyrnas Unedig yn ei wneud, yn chwilio am adnoddau prin er mwyn ymdrin â'r ôl-groniad. Mae'r Deyrnas Unedig gyfan wedi gweld y mathau o gynnydd i'r niferoedd sy'n aros am driniaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw. Nid oes unrhyw gapasiti sbâr hawdd yn aros i gael ei ddefnyddio i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn creu capasiti yma yng Nghymru, byddwn yn diwygio rhai o'r arferion gwaith a all arwain at fwy o gynhyrchiant, a byddwn yn gweithio gydag eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i ddysgu o unrhyw arbrofion sy'n cael eu cynnal yno er mwyn ceisio gwneud yr hyn y byddai unrhyw Aelod o'r Senedd hon yn dymuno ei weld yn cael ei wneud: bod pobl yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw cyn gynted â phosibl o dan amgylchiadau eithriadol pandemig iechyd cyhoeddus parhaus y mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin ag ef yma yng Nghymru heddiw.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf, hefyd, ar ran Plaid Cymru gydymdeimlo o waelod calon â theulu Jack Lis? Ni ellir ond dechrau deall y galar y mae'n rhaid bod y teulu hwnnw yn ei ddioddef, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda nhw, gyda ffrindiau Jack, gyda'r gymuned a gyda staff yr ysgol, sydd hefyd, rwy'n gwybod, wedi eu heffeithio yn ofnadwy gan y drasiedi erchyll hon.
Prif Weinidog, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, pleidleisiodd mwyafrif yr Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin i wrthdroi dyfarniad y Comisiynydd Safonau Seneddol i ddiogelu cyn-Weinidog. Cyfaddefodd cyn-Weinidog arall, yr Arglwydd Bethell, i ddileu negeseuon WhatsApp lle bu'n trafod dyfarnu contractau COVID, ac mae'r Llywodraeth Geidwadol bellach wedi ei chyhuddo o rannu nid yn unig contractau ond seddi yn Nhŷ'r Arglwyddi yn gyfnewid am roddion gwleidyddol. Rydym ni wedi gweld cyhuddiadau o lygredd gwleidyddol yn y gorffennol, ond o ystyried maint a chwmpas y don bresennol o ffrindgarwch, contractau gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd, a'r ymgais amlwg i danseilio'r cyrff gwarchod annibynnol sy'n nodweddion democratiaeth sy'n gweithio, a yw San Steffan fel system wleidyddol, fel y mae hyd yn oed cyn-Brif Weinidog Ceidwadol wedi ei ddadlau, yn gwbl lygredig erbyn hyn?

Wel, Llywydd, clywais y cyfweliad a roddodd Syr John Major dros y penwythnos, ac yr oedd yn gyhuddiad grymus iawn am y datblygiadau mwy diweddar yn San Steffan. Os nad yw'r Aelodau wedi cael cyfle i'w glywed, rwy'n credu ei fod yn werth 20 munud o amser unrhyw un. Byddai'r dystiolaeth gronnol o'r ffordd y mae'r Llywodraeth Geidwadol bresennol yn cyflawni ei chyfrifoldebau, rwy'n credu, yn dychryn unrhyw un sydd â buddiannau democratiaeth iach a gweithredol yn agos at ei galon. Ac nid yw yn y meysydd hyn yn unig. Byddwch yn cofio i Syr John Major ddechrau ei gyfweliad drwy ddweud bod awgrym o'r Llywodraeth hon yn gweithredu mewn ffordd, 'Ni yw'r meistri nawr.' Mewn geiriau eraill, 'Gallwn ni wneud beth bynnag rydym ni ei eisiau, lle'r ydym ni ei eisiau, sut rydym ni ei eisiau.' Ac mae hynny yr un mor wir o'u triniaeth o'r setliad datganoli ag y mae o'r materion y mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyfeirio atyn nhw heddiw. Yn y pen draw, mae'n peryglu dwyn anfri nid yn unig arnyn nhw eu hunain ond ar y sefydliadau rydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw hefyd, ac mae llawer iawn o waith adfer i'w wneud os nad yw digwyddiadau'r 10 diwrnod diwethaf yn mynd i adael etifeddiaeth barhaol.
Wrth gwrs, mae'r cymhleth uwchraddoldeb hwn sydd gan y Llywodraeth bresennol hon yn San Steffan yn cael ei fynegi nid yn unig o ran tanseilio annibyniaeth y comisiynydd safonau ond hefyd annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol, y comisiwn penodiadau, a'r holl fesurau gwirio a chadw cydbwysedd annibynnol ar ei grym. Ein hateb i hynny, wrth gwrs, yw dangos sut y gallai democratiaeth iach, fodern o'r radd flaenaf edrych yn yr unfed ganrif ar hugain drwy ddod yn genedl annibynnol ein hunain. Ond, wrth i ni fod wedi ein dal yn gaeth mewn system San Steffan sy'n bwdr i'r gwraidd, beth allwn ni ei wneud i insiwleiddio ein hunain o'i chanlyniadau mwyaf dybryd? A wnewch chi ychwanegu eich llais, Prif Weinidog, at y rhai sy'n galw am ddiddymu Tŷ'r Arglwyddi sy'n seiliedig ar nawdd gwleidyddol yn hytrach na'i ddiwygio yn unig? Ac a ydych chi'n cytuno y dylai'r heddlu Metropolitan drin honiadau o werthu anrhydeddau o leiaf mor ddifrifol nawr ag y mae wedi ei wneud o dan weinyddiaethau blaenorol?

Mae Adam Price yn llygad ei le i ddweud, yn ystod y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf, fod Scotland Yard wedi cymryd honiadau o werthu anrhydeddau mor ddifrifol ei fod wedi anfon aelodau uchel iawn o Scotland Yard i Downing Street heb unrhyw rybudd eu bod nhw'n dod. Byddai'n ddiddorol gweld a yw mewn gwirionedd yn mabwysiadu'r un dull o ran yr achosion presennol.
Rwyf i wedi credu ers tro byd mewn diddymu Tŷ'r Arglwyddi. Rwy'n credu mewn ei ddisodli ag ail siambr etholedig lle mae sefyllfa'r cenhedloedd wedi ei diogelu—mewn rhai ffyrdd, fel y mae'r Senedd yn gweithredu yn system yr Unol Daleithiau. Ond, nid yw rhai o'r pethau yr ydym ni wedi eu clywed yn ddiweddar yn ymwneud â Thŷ'r Arglwyddi yn unig; maen nhw'n ymwneud â'r ffyrdd eithriadol y mae'n ymddangos bod rhai Aelodau Seneddol yn gweithredu hefyd. Mae achos Geoffrey Cox yr ydym ni wedi bod yn darllen amdano y tu hwnt i ddisgrifiad—dyn yn cael ei dalu bron i £0.5 miliwn i weithio i Lywodraeth dramor sy'n destun ymchwiliad i lygredd gan Lywodraeth y DU ac yn gwneud hynny i gyd pan fo'n ymddangos bod ganddo swydd lawnamser yn cynrychioli ei etholwyr ei hun. Ni allech chi wneud y peth i fyny.
Rwyf i yn meddwl, mewn ffordd, Llywydd, ei bod bron, i mi, yn cael ei drechu gan y newyddion am gyn-Weinidog arall, Chris Grayling—dyn, y byddwch chi'n cofio, lle dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol y byddai'r gost o ddigolledu pobl am y contractau yr oedd wedi eu cytuno ar gyfer fferïau yn £56 miliwn. Byddwch chi'n cofio ei gytundeb gyda Seaborne Freight: £14 miliwn i gwmni nad oedd hyd yn oed yn berchen ar fferi—dim un o gwbl—ac £1 miliwn yn cael ei thalu i ymgynghorwyr er mwyn sicrhau'r contract hwnnw. Rwy'n gorwedd yn effro yn y nos yn meddwl tybed sut gallwch chi dalu £1 miliwn i ymgynghorydd i sicrhau contract i chi gyda chwmni at ddibenion fferïau nad oedd ganddo fferi hyd yn oed. Ond, y newyddion da yw bod Chris Grayling bellach yn ennill £100,000 yn ychwanegol at ei gyflog fel ymgynghorydd i gwmni porthladdoedd. Wel, mae'n ddyn sydd â llawer o arbenigedd i fanteisio arno, fel y gwyddom.
Mae'n dweud rhywbeth—Geoffrey Cox yw'r cyn-Dwrnai Cyffredinol, onid yw? Pa mor isel maen nhw wedi mynd? Wrth i San Steffan suddo'n ddyfnach i'w lygriad ei hun, beth allwn ni ei wneud yma yn y Senedd hon i gynnal y lefelau uchaf o uniondeb cyhoeddus yn ein democratiaeth ein hunain? Y mis hwn, cyhoeddodd y pwyllgor Nolan, yn dilyn adolygiad Boardman, argymhellion newydd i gryfhau uniondeb cyhoeddus, sy'n cynnwys rhai y gallem ni eu deddfu yn annibynnol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi'r cynghorydd annibynnol ar y cod gweinidogol, neu'r hyn sy'n cyfateb iddo yn y fan yma, ar sail statudol a rhoi'r awdurdod iddo gychwyn a phenderfynu ar achosion o dorri'r cod. Byddai hyn yn cryfhau hyder y cyhoedd yn sefydliadau democrataidd Cymru ar adeg pan fo ymddiriedaeth yn plymio mewn mannau eraill. Ac, wrth gwrs, pan fyddwn ni'n datganoli'r system cyfiawnder troseddol, o'r diwedd, gallem ni fynd ymhellach i greu cyfraith newydd o lygredd mewn swyddi cyhoeddus, fel y mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr wedi ei gynnig ar hyn o bryd. Os bydd Prif Weinidog y DU yn gwrthod archwilio'r syniadau hyn, a ydych chi'n barod i wneud hynny fel Prif Weinidog yn ei le?

Rwy'n diolch i Adam Price am hynna. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n credu bod profion olynol o farn y cyhoedd sy'n cael eu cynnal yn flynyddol gan Brifysgol Aberystwyth yn dangos bod y cyhoedd yng Nghymru yn meddwl yn wahanol am y sefydliad hwn nag y maen nhw am San Steffan? Wrth i mi edrych o gwmpas y Siambr, rwy'n gweld pobl sy'n gweithio yn galed iawn ar ran eu hetholwyr, nad oes ganddyn nhw unrhyw swyddi eraill y maen nhw'n eu gwneud ar yr un pryd a lle mae pobl yn cyflawni eu cyfrifoldebau â synnwyr gwirioneddol o uniondeb a gyda budd y cyhoedd yn bennaf yn eu meddyliau. Ac rwy'n credu bod hynny yn wir ym mhob rhan o'r Siambr hon. A oes mwy y gallwn ni ei wneud i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnal yr enw da hwnnw, ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn parhau i fod â hyder bod yr hyn sy'n digwydd yn eu henw nhw, yn eu Senedd nhw, yn cael ei wneud mewn ffordd y bydden nhw'n barod i'w hystyried yn gyson â'r safonau y maen nhw'n credu byddai'n iawn? Wel, wrth gwrs, os oes—ac mae gen i ddiddordeb yn adroddiadau adolygiad Nolan—mwy o bethau y gallwn ni eu gwneud i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i sicrhau'r enw da hwnnw, yna, wrth gwrs, rwy'n credu y dylem ni eu gwneud nhw. Ond rwy'n credu y dylai fod gennym ni rywfaint o hyder bod y ffordd y mae tymhorau dilynol ar ôl datganoli wedi eu cynnal yn rhoi gwahanol lwyfan ac enw da i ni ym meddyliau'r cyhoedd yng Nghymru. Dylem ni warchod hynny yn ofalus a pharhau i wneud pethau i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i'w sicrhau i'r dyfodol.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gofal yn ystod y pandemig? OQ57132

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae'r sector gofal cymdeithasol wedi gwneud ymdrech gyfunol enfawr i amddiffyn y rhai sy'n dibynnu arno yn ystod y pandemig. I gefnogi hynny, rydym ni wedi darparu dros £185 miliwn drwy gyllid caledi a chyfarpar diogelu personol am ddim. Ers mis Medi, mae £90 miliwn arall wedi ei gyhoeddi ar gyfer y sector, gan gydnabod parhad y pandemig.
Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai profion COVID yn cael eu hymestyn i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr. Nid oedd hynny yn wir yng Nghymru, wrth i chi, Prif Weinidog, ddweud nad oeddech chi'n gweld unrhyw werth i ddarparu profion i bawb mewn cartrefi gofal ar y pryd. Roedd honno yn foment allweddol i Mr a Mrs Hough, a oedd yn rhedeg cartref nyrsio Gwastad Hall yng Nghefn-y-Bedd, sir y Fflint. Ni chafodd profion eu cyflwyno i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal gan eich Gweinidog iechyd ar y pryd tan 16 Mai 2020. Bum diwrnod yn ddiweddarach, ar 21 Mai, lladdodd Mr Hough ei hun. Roedd deuddeg o'u preswylwyr wedi marw ym misoedd cyntaf hynny y pandemig. Dywedodd ei weddw, Mrs Hough, ei bod yn credu bod trallod ei gŵr o weld y cleifion yn ei chael yn anodd wedi arwain yn uniongyrchol at ei farwolaeth, gan ychwanegu bod ei gŵr wedi marw yn sgil COVID a'i bod yn dymuno i Lywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif ac yn dymuno atebion. Dywedodd prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru nad oedd y materion yr oedden nhw wedi eu hwynebu yn annodweddiadol. Sut, felly, ydych chi'n cyfiawnhau i weithwyr proffesiynol yn y sector gofal fel Mrs Hough eich gwrthodiad parhaus i'w galwad am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i'r broses o ymdrin â phandemig COVID-19?

Rwy'n gwneud hynny drwy gyfeirio at fy nghytundeb â Phrif Weinidog y DU, sef arweinydd y blaid y mae'r Aelod yma yn ei chynrychioli.
Yfory, Brif Weinidog, bydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia yn cyhoeddi adroddiad ynglŷn â gofal ysbyty, a hoffwn i yn y fan hon dalu teyrnged haeddiannol iawn i Lynne Neagle am ei gwaith arbennig gyda'r adroddiad yma cyn iddi hi ymuno â'r Llywodraeth. Brif Weinidog, mae'r pandemig unwaith eto wedi dangos pwysigrwydd aruthrol cydweithio agos rhwng y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol. Mae yna argymhellion yn yr adroddiad yma, wedi siarad gyda'r proffesiynau iechyd, wedi siarad gyda phobl a'u teuluoedd sy'n dioddef o ddementia, argymhellion ymarferol iawn, er enghraifft slotiau amser penodol i berson gael ei ryddhau o'r ysbyty, a hynny'n galluogi wedi hynny y teuluoedd, y cartrefi gofal a'r gofalwyr i drafod ac i gyfrannu ynglŷn â'r system, ac i ddeall y system ryddhau o'r cartref. Hefyd, timau penodol yn yr ysbyty yn sicrhau bod popeth yn barod erbyn bod rhywun yn gadael yr ysbyty; bod y meddyginiaeth, bod y gwaith papur, bod y drafnidiaeth, bod y cyfan i gyd yn barod. A fyddech chi, Brif Weinidog, yn fodlon darllen yr adroddiad yma gan y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ac wedyn ystyried creu peilot i roi'r argymhellion ymarferol yma ar waith? Diolch yn fawr.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol, a dwi'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad. Mae'n grêt i glywed am yr argymhellion ymarferol sydd tu fewn i'r tudalennau, ac fel oedd yr Aelod yn dweud, bydd y Gweinidog, Lynne Neagle, yn awyddus i weld yr adroddiad, a siŵr o fod i weld os mae pethau ymarferol yna ŷn ni'n gallu rhoi ar y gweill yma yng Nghymru. Rŷn ni'n gwybod, yn ystod y pandemig i gyd—pobl sy'n dioddef o ddementia a'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw—wedi cael amser caled dros ben, a bydd y gwaith mae'r grŵp trawsbleidiol yn ei wneud, dwi'n siŵr, yn help i ni gynllunio i roi mwy o wasanaethau i'r bobl sy'n dioddef o ddementia yn y dyfodol.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu cymunedau Cymru i ymgysylltu â diwrnod y cofio? OQ57135

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Yr wythnos hon, rydym ni i gyd yn cydnabod aberth y rhai a gollwyd mewn brwydrau neu a ddioddefodd anaf. Mae aelodau yn mynd i ddigwyddiadau coffa allweddol yn bersonol ac mae ein swyddogion cyswllt lluoedd arfog yn cynorthwyo gweithgarwch cofio lleol mewn cymunedau ledled Cymru.
Prif Weinidog, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae'n mynd yn her i sicrhau bod cymunedau yn ymgysylltu â'r hyn y mae Dydd y Cofio yn ei olygu, ac, yn wir, y dyddiau sy'n arwain ato. Fel Cymro mabwysiedig, rwy'n falch o gyfraniad ein cenedl at amddiffyn ein rhyddid, am yr aberth a wnaed bryd hynny a nawr. Mae gan y Lleng Brydeinig Frenhinol amrywiaeth o adnoddau addysgol am ddim i ysgolion rannu pwysigrwydd cofio â phobl. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol i asesu ei effaith yn ein hysgolion? Diolch.

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Rydym ni'n falch iawn o'i gael yn ddinesydd mabwysiedig yma yng Nghymru. Cefais y fraint o fod yn bresennol yng ngwasanaeth canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Abaty Westminster. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yma yng Nghymru yn rhagorol, yn fy marn i, o ran y gwasanaethau lles y maen nhw'n eu darparu i gyn-bersonél y lluoedd arfog, ond hefyd yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud i wneud yn siŵr bod cenedlaethau dilynol yn parhau i fod yn ymwybodol o'r aberth a wnaed yma yn y gorffennol. Rwy'n gwybod y bydd gan yr Aelod ddiddordeb arbennig mewn arddangosfa y mae'r lleng Brydeinig wedi bod yn rhan ohoni; cafodd ei hagor gan Brif Swyddog y Staff Awyr a fy nghyd-Weinidog Hannah Blythyn yma yng Nghaerdydd yn ôl ym mis Medi, ac mae'n canolbwyntio yn rhannol ar y profiad yn Abertawe 80 mlynedd yn ôl eleni, yn ôl ym mis Chwefror 1941. Rwy'n cofio, Llywydd, fy hun yn tyfu i fyny a byddai fy nhad yn dweud wrthyf i sut y cafodd ei alw allan o'i dŷ yng Nghaerfyrddin i wylio'r awyr lle'r oedd Abertawe yn llosgi o ganlyniad i'r cyrchoedd awyr hynny, a bwriad yr arddangosfa yw atgoffa pobl heddiw o'r profiadau a gafodd pobl bryd hynny—mae'n rhan o'r ymdrech honno y mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn ei gwneud, ac mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â nhw.
Fel y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd, os nad pob un ohonom ni, byddaf yn mynychu gwasanaethau cofio ddydd Iau a dydd Sul. Rwy'n llongyfarch ac yn diolch i'r Lleng Brydeinig Frenhinol ac eraill fel band iachawdwriaeth Treforys a chymdeithas hanesyddol Llansamlet a fydd yn cynnal digwyddiadau yn fy etholaeth i. Cais i Lywodraeth Cymru: a wnewch chi ddarparu rhestr o ddigwyddiadau ar eich gwefan, fel y gall pobl edrych arno a gweld beth sy'n digwydd yn eu hardaloedd?

Rwy'n diolch i Mike Hedges am hynna. Mae'n tynnu sylw, Llywydd, at bwysigrwydd y digwyddiadau lleol hynny sy'n cael eu cynnal mewn cynifer o gymunedau ledled Cymru, a bydd cymaint o Aelodau'r Senedd hon yn cymryd rhan ynddyn nhw. Rwy'n gwybod yn iawn bod band byddin yr iachawdwriaeth Treforys, er enghraifft, wedi chwarae rhan yn Abertawe ers tro byd yn y digwyddiadau coffáu a fydd yn cael eu cynnal yno. Ar hyn o bryd, rydym ni wrthi gyda'n swyddogion cyswllt lluoedd arfog yn archwilio y posibilrwydd y gellid hysbysebu digwyddiadau lleol o'r fath drwy wefan newydd Cyfamod Cymru. Mae'r wefan honno yn cael ei datblygu, mae disgwyl iddi fod yn weithredol erbyn diwedd eleni, a byddai, rwy'n credu, yn lle priodol iawn ar gyfer digwyddiadau o'r math y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw, i'w rhestru a'u hysbysebu a thynnu sylw mwy o bobl atyn nhw o ganlyniad.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gweithio o bell yng Nghymru? OQ57142

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Llywydd, nod polisi gweithio o bell Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio o bell yn rheolaidd yn ystod y tymor Senedd hwn. Ceir llawer o fanteision amgylcheddol ac economaidd i weithio o bell, a bydd hyn yn magu arwyddocâd yng nghyd-destun newid hinsawdd.
Diolch, Prif Weinidog. Nawr, mewn ateb rhyddid gwybodaeth diweddar, nododd eich swyddogion mai dim ond 18 o gyflogeion oedd y lefel presenoldeb ddyddiol gyfartalog a gofnodwyd ar gyfer mis Medi er gwaethaf y ffaith bod ychydig dros 390 o bobl wedi eu contractio ar hyn o bryd i weithio yn adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno. Nid yw hyn yn gynaliadwy o ystyried maint a chwmpas yr adeilad hwnnw. Nawr, mae polisi 30 cyllideb garbon Sero Net Cymru 2 yn ailadrodd eich uchelgais hirdymor i alluogi tua 30 y cant o weithwyr Cymru i weithio o bell y tu hwnt i COVID-19, a bydd buddsoddiad o £0.5 miliwn mewn chwe safle gweithio hyblyg ar leoliadau yng Nghymoedd Cymru. Ond Prif Weinidog, rwy'n pryderu nad oes unrhyw safleoedd yn y gogledd wedi eu clustnodi eto i gefnogi gwaith tebyg. Felly, gyda dymuniad i weld arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio yn fwy doeth, a gan gydnabod bod tua £23 miliwn wedi ei wario ar yr adeilad eiconig hwn yng Nghyffordd Llandudno, ac £1 miliwn ar waith cynnal a chadw ac atgyweirio ers hynny, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi mor garedig â chynnal adolygiad ac esbonio pam nad oes gennym ni unrhyw ganolfannau gweithio hyblyg, ac a allech chi edrych ar yr adeilad hwn i'w addasu at ddibenion gwahanol a throi ei ddefnydd yn rhannol i fod yn ganolfan gweithio hyblyg i fusnesau a hyd yn oed entrepreneuriaid yn y gogledd, a allai fod eisiau cael trefniant gweithio gartref. Rwy'n awyddus iawn i weld yr adeilad hwn yn cael ei ddefnyddio yn well. Diolch.

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at lwyddiant polisi Llywodraeth Cymru o leihau nifer y bobl y mae angen iddyn nhw fod yn y gweithle yn ystod pandemig byd-eang. Yn bersonol, rwy'n credu ei fod yn gyflawniad gwych bod Llywodraeth Cymru wedi gallu parhau i ddarparu'r holl wasanaethau yr ydym ni'n eu darparu wrth gadw ein staff yn ddiogel, gyda dim ond pobl hanfodol yn cael eu dwyn ynghyd yn sgil y risg gynyddol y mae pobl yn ymgynnull yn ei olygu yn anochel yng nghyd-destun COVID. Rwy'n falch hefyd o allu helpu'r Aelod drwy roi gwybod iddi fod tair canolfan gweithio o bell wedi eu cynllunio ar gyfer y gogledd, ym Mae Colwyn, yn y Rhyl ac ar safle M-SParc ar Ynys Môn. Rwy'n diolch iddi am yr awgrym adeiladol a wnaeth tua diwedd ei chwestiwn atodol am ddefnyddiau amgen y gellid meddwl amdanyn nhw ar gyfer adeilad Cyffordd Llandudno. Mae'n iawn—mae'n adeilad eiconig ac roedd yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Lafur Cymru i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ym mhob rhan o'n cenedl. Mewn byd ôl-COVID ac yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni edrych ar y defnydd o'r adeiladau hynny yn y dyfodol, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr awgrymiadau a wnaeth yr Aelod yn cael eu hystyried yn rhan o hynny.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno band eang ffibr llawn? OQ57129

Rwy'n diolch i Peter Fox am hynna, Llywydd. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd. Lle ceir bylchau, rydym ni'n parhau i gamu i mewn. Mae dros 27,000 o adeiladau bellach wedi sicrhau mynediad at ffeibr llawn ledled Cymru o dan ein rhaglen cyflwyno ffeibr llawn gwerth £56 miliwn, ac mae hynny yn cynnwys dros 1,000 o adeiladau yn sir Fynwy.
Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Yn gynyddol, mae mwy a mwy o waith ac, yn wir, gweithgareddau dyddiol eraill yn symud ar-lein, sy'n golygu bod cael band eang cyflym yn gwbl hanfodol i deuluoedd. A dyna pam mae cyflwyniad band eang ffeibr llawn wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu. Ond yn ddiweddar, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi i rannu eu pryderon ynghylch Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y gallu iddyn nhw deipio eu cod post ar ei gwefan i ganfod a fydd eu heiddo yn cael ei gynnwys ac, yn wir, pryd yn y rhaglen gyflwyno. Daeth y pryderon i'r amlwg pan gafwyd gwared ar y gwiriwr cod post ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy'n sylwi y gall pobl ddefnyddio'r gwiriwr Openreach, ond nid yw hwn yn cynnig llawer o wybodaeth ac nid yw'n gwahaniaethu, gellid dadlau, yn gywir o safbwynt y cyhoedd rhwng cael eu cysylltu drwy'r rhaglen gyflwyno sydd wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a chyflwyniad masnachol Openreach. Yn ddealladwy, mae'r mater tryloywder hwn yn achosi pryder enfawr a gofid diangen. Prif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth roi sylw i'r diffyg hwn yn gyflym er mwyn atal unrhyw straen pellach i etholwyr ac, mae'n siŵr, llawer o bobl eraill ledled Cymru? Ac ar ôl rhoi sylw i hyn, a allwch chi amlinellu unrhyw gynlluniau i ddarparu rhaglen cyflwyno ffeibr llawn ddilynol pan fydd yr un bresennol yn dod i ben? Diolch.

Rwy'n diolch i Peter Fox am hynna, Llywydd. Fe wnaf i ymholiad ynghylch y cyfleuster cod post a'r hyn sydd wedi digwydd iddo, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod gydag ateb am hynny.
Mae'n gwestiwn diddorol am yr hyn sydd y tu hwnt i'r cylch presennol o gyllid Llywodraeth Cymru. Mae ein cyllid dros y blynyddoedd diwethaf wedi ei ddefnyddio i raddau helaeth i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth a ddechreuwyd gan Lywodraeth y DU, ond mae'n deg dweud bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol i'w rhaglen yn ystod y 12 mis diwethaf—ei 'Project Gigabit' a ariennir ar lefel y DU. Rydym ni wedi darganfod yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ei bod yn credu bod 234,000 o eiddo yn debygol o fod o fewn cwmpas nawr ar gyfer ei chyllid, ac mae trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i weithio drwy'r cwestiwn pa un a fydd yn well i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â'i chynllun ei hun nawr—ei redeg, ei ddarparu, ei weithredu yma yng Nghymru—neu a fyddai'n well defnyddio'r fframwaith ar lawr gwlad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei sefydlu, ac yna defnyddio cyllid Llywodraeth y DU i barhau i ddarparu yn y modd hwnnw. Mae'r sgyrsiau hynny yn digwydd ar hyn o bryd, ac rwy'n disgwyl iddyn nhw gael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
Er mwyn i ddyfodol porthladd Caergybi ffynnu, bydd angen seilwaith cyfathrebu da yn seiliedig ar fand eang ffeibr i fodloni'r galw. Mae FibreSpeed wedi cysylltu â mi, sydd eisoes wedi gosod pwynt presenoldeb yn agos at ble bydd yr adeilad tollau tramor a chartref arfaethedig yn cael ei adeiladu. Rwyf i wedi cael gwybod y gallai eu technoleg nhw helpu i gludo nwyddau yn hwylus a datgloi awtomeiddio drwy ddefnyddio technoleg 5G, ond maen nhw'n ei chael hi'n anodd cael gwrandawiad. Nid oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb o gwbl mewn manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn, ac nid ydyn nhw'n ymateb i'w gohebiaeth. Prif Weinidog, a gaf i ofyn pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am ddatblygu canolfan seilwaith tollau uwch-dechnolegol ac effeithlon ym mhorthladd Caergybi i helpu gyda'r drafnidiaeth hwylus? Diolch.

Rwy'n diolch i Carolyn Thomas am hynna, Llywydd, ac yn diolch iddi am ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, at fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, ar ran y cwmni, ac o ganlyniad i'w llythyr rwy'n gwybod bod swyddogion Gweinidog yr economi wedi cyfarfod â FibreSpeed yr wythnos diwethaf, a rhan o'r hyn y byddan nhw'n ei wneud nawr fydd gwneud yn siŵr bod y berthynas rhyngddyn nhw a chamau Llywodraeth y DU ar lawr gwlad yng Nghaergybi yn gwella, a bod y cwmni yn gallu cyflwyno eu hachos. Mae'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud, wrth gwrs, yn un pwysig iawn; mae Caergybi yn parhau i fod yn borthladd allweddol i'r Deyrnas Unedig. Mae effaith Brexit ar y porthladd a phrotocol Gogledd Iwerddon yn real iawn. Mae'r angen am seilwaith newydd yn y porthladd i ymdrin â'r rhwymedigaethau newydd y bydd yn rhaid i ni eu cyflawni erbyn hyn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn i'r porthladd. Ein nod yw cydweithio â Llywodraeth y DU ar y mater hwnnw. Ond, Llywydd, roedd yn peri pryder mawr gweld yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant bod y Canghellor wedi gwrthod cynnig ymrwymiad uniongyrchol i ariannu'r seilwaith hwnnw ar ôl i'r buddsoddiad cyfalaf ddod i ben. Bydd costau rhedeg y cyfleusterau hynny, nad ydyn nhw erioed wedi eu darparu i Lywodraeth Cymru ac nad ydyn nhw'n ganlyniad o'n penderfyniadau ni ein hunain, yn sylweddol, ac mae'n ddyletswydd wirioneddol ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod y gweithgarwch hwnnw yn parhau i gael ei ariannu.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi personél sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr? OQ57159

Llywydd, mae'r camau ymarferol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi milwyr a chyn-filwyr yn cael eu nodi yn flynyddol yn ein hadroddiad cyfamod y lluoedd arfog. Mae'r argraffiad diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed, yn ogystal â'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol i ddarparu cymorth i'r gymuned bwysig hon.
Rwy'n diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn draddodiadol, mae Cymru wedi darparu cymorth anghymesur i'n lluoedd arfog, ac mae angen anrhydeddu'r ymrwymiad a'r aberth hwnnw, yn enwedig yn ystod yr Wythnos y Cofio nesaf. Dyna pam mae cyllid cynyddol eich Llywodraeth ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n darparu cymorth iechyd meddwl i gyn-bersonél y lluoedd arfog, ac ar gyfer swydd swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, mor bwysig. Ond nododd asesiad y Financial Times o gyllideb y DU yr wythnos diwethaf ostyngiad mewn termau real o 1.4 y cant i dwf blynyddol gwariant amddiffyn o ddydd i ddydd dros y pedair blynedd nesaf—mwy byth o doriadau milwrol gan y Torïaid. A ydych chi wedi trafod hynny gyda Gweinidogion y DU, oherwydd mae'r diwydiant amddiffyn yn cefnogi llawer o swyddi da, hynod fedrus yn fy rhanbarth i a Chymru yn ehangach, ac mae'n rhaid i ni ddiogelu dyfodol ac ansawdd ôl troed ein lluoedd arfog?

Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Mae hi'n iawn am y cyfraniad anghymesur y mae Cymru yn ei wneud at y lluoedd arfog. Cymru yw 5 y cant o boblogaeth y DU, ond rydym ni'n darparu 9 y cant o bersonél y lluoedd arfog, ac eto dim ond 2.5 y cant o bersonél y lluoedd arfog sydd wedi eu lleoli yma yng Nghymru. Rydym ni'n rhoi mwy ac rydym ni'n cael llai. A Joyce Watson, rwy'n deall yn llwyr y bydd yn pryderu yn lleol am 14eg Catrawd y Signalau ym Mreudeth, a'i dyfodol, o ystyried ei chyfraniad sylweddol at y gymuned leol, yn economaidd ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae pedwardeg pum mil o bersonél, Llywydd, wedi eu torri o'r lluoedd arfog yn y Deyrnas Unedig ers i'r Blaid Geidwadol gymryd yr awenau yn Llywodraeth y DU yn 2010, a bydd eu cynlluniau diweddaraf yn arwain at leihad pellach i faint y fyddin i ddim ond 72,500 o bersonél erbyn 2025. Dyna fydd maint lleiaf y fyddin yn y Deyrnas Unedig ers y ddeunawfed ganrif, a dyna'r sail i'r ffigurau y dyfynnodd yr Aelod o'r gyllideb. Rwyf i wedi cael trafodaethau gyda'r Farwnes Goldie, y Gweinidog sy'n gyfrifol am adolygiad integredig Llywodraeth y DU o'r lluoedd arfog. Rydym ni'n disgwyl i ganlyniad yr adolygiad hwnnw gael ei gyhoeddi yr hydref hwn. Ni allaf gadarnhau beth fydd goblygiadau'r adolygiad hwnnw i Gymru, ond gallaf yn bendant sicrhau'r Aelod fy mod i wedi gwneud yr holl bwyntiau hynny ynglŷn â'r angen i Lywodraeth y DU barhau i fuddsoddi yma yng Nghymru i gydnabod y cyfraniad y mae Cymru yn ei wneud at y lluoedd arfog, ac edrychwn ymlaen at weld hynny yn cael ei gydnabod yng nghanlyniadau'r adolygiad.
Yn olaf, cwestiwn 8, Gareth Davies.
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd ei bresenoldeb yn COP26 o fudd i drigolion Dyffryn Clwyd? OQ57171

Llywydd, mae trigolion Dyffryn Clwyd eisoes wedi wynebu effaith newid yn yr hinsawdd o ran llifogydd afonydd a llifogydd ar y môr. Daw COP26 â syniadau newydd a chyfle i ddysgu o brofiadau mewn rhannau eraill o'r byd, fel y bydd modd eu rhoi nhw i weithio er budd dinasyddion Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae fy etholwyr i, yn enwedig y rhai sy'n byw ar yr arfordir yn y Rhyl a Phrestatyn, yn agored iawn i lifogydd o lefelau'r môr sy'n codi. Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol, bydd ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud yn COP26 yn dal i arwain at gynnydd o 1.8 y cant mewn tymheredd byd-eang. Mae hyn yn newyddion ofnadwy i ranbarthau arfordirol a'r rhai sy'n byw yno, gan ei fod yn golygu y bydd eu cartrefi dan ddŵr. Prif Weinidog, rwy'n derbyn na all Llywodraeth Cymru orfodi gwledydd fel Tsieina, Rwsia a'r Unol Daleithiau i leihau eu hallyriadau'n sylweddol, felly bydd yn rhaid i drigolion y Rhyl a Phrestatyn ymdopi â llifddŵr yn ystod y degawdau nesaf. Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru liniaru'r cynnydd yn lefelau'r môr. Felly, Prif Weinidog, gofynnaf i chi: pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn rhanbarthau arfordirol rhag llifogydd cynyddol o'r môr a'n hafonydd?

Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £27 miliwn, un o'r prosiectau rheoli risg arfordirol mwyaf erioed yng Nghymru yn nwyrain y Rhyl, yn etholaeth yr Aelod—prosiect dwy flynedd a fydd yn gweld 600 metr o wal amddiffyn newydd rhag y môr a phromenâd yn cael eu hadeiladu yno, a buddsoddiad mawr iawn i amddiffyn poblogaeth y rhan honno o arfordir Cymru rhag effeithiau newid hinsawdd.
Mae'r Aelod yn iawn, serch hynny, na fydd y camau y maen nhw wedi eu cytuno arnyn nhw hyd yma yn y gynhadledd hinsawdd yn ddigonol i gyflawni nodau Paris o gynnydd o 1.5 ar ei uchaf mewn tymheredd byd-eang, ac oni allwn ni weld cytundebau eraill ac ymrwymiadau eraill—rydym ni eisiau chwarae ein rhan yma yng Nghymru, ond gallwn ni wneud hynny dim ond fel rhan o ymdrech fyd-eang—heblaw ein bod ni'n gweld y cytundebau hynny yn cael eu gwneud yn nyddiau olaf y gynhadledd, yna byddwn ni'n cael ein gadael yn ymdrin â'r canlyniadau.
Llywydd, pan oeddwn i yn Glasgow, cefais i gyfle i gwrdd â llywodraethwr Louisiana yn yr Unol Daleithiau, a gwnes i gwrdd ag ef yn arbennig oherwydd bod y dalaith honno yn dal i ymdrin ag effaith llifogydd arfordirol ac eraill o ddigwyddiadau tywydd mawr. Roedd yn gyfarfod sobreiddiol. Mae ganddyn nhw ddegau o filoedd o bobl sy'n dal i fyw mewn ystafelloedd gwesty oherwydd effaith digwyddiadau rhai, fisoedd lawer yn ôl. Mae diboblogi yn eu cymunedau arfordirol, wrth i bobl symud i ffwrdd, gan deimlo na allan nhw wynebu digwyddiad arall o'r math y maen nhw wedi gorfod ymdopi ag ef ddwywaith mewn 10 mlynedd bellach.
Nawr, roedd llawer i'w ddysgu o'r ffordd y mae llywodraeth Louisiana yn helpu ei dinasyddion, a byddwn ni'n parhau i gael deialog â nhw. Ond oni bai bod y byd yn barod i weithredu, yna bydd y profiadau y mae rhannau eraill o'r byd eisoes yn gorfod ymdrin â nhw i'w gweld yma yng Nghymru hefyd. A dyna pam mae gwaith gweddill dyddiau COP26 yn arbennig o bwysig.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn eglwysi? Roeddwn i yn y Stadiwm Principality dros y penwythnos, ynghyd â dros 70,000 o bobl eraill, ac roeddwn i'n gallu canu 'Bread of Heaven' heb orchudd wyneb mewn golwg. Pam na all eglwysi ganu emynau o hyd, a chanu 'Bread of Heaven', oni bai eu bod yn gwisgo gorchudd wyneb wrth wneud? Mae'n ymddangos yn hurt i mi fod anghysondeb mor sylweddol. A hoffwn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt ar hyn, er mwyn rhoi cyfle i'r bobl hynny sy'n mynychu eglwysi a mannau addoli eraill ledled y wlad allu canu'n rhydd, heb fod angen gwisgo gorchuddion wyneb.
Wel, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn edrych yn barhaus ar yr holl amgylchiadau lliniarol yr ydym ni wedi eu cyflwyno i atal COVID-19 rhag lledaenu ymhellach. Yn amlwg, rydym ni yn cael dadl y prynhawn yma hefyd.
Hoffwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, am y camau nesaf sy'n ymwneud â'r 327 o domenni glo risg uchel yng Nghymru. Roedd y Llywodraeth, a minnau, wedi gobeithio y byddai arian ar gyfer hyn yn dod o gyllideb y DU fis diwethaf, ond cafodd Cymru ei siomi unwaith eto gan San Steffan. Trefnydd, mae'r Gweinidog cyllid wedi dweud bod gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol i wneud y tomenni yn ddiogel. Nawr, mae'r rhwymedigaeth foesol yn glir yn fy marn i—cafodd gwerth tua £200 biliwn o lo ei echdynnu o Gymru, ac ni chafodd ei ail-fuddsoddi erioed i'r cymunedau. Mae'n anghredadwy bod y Trysorlys yn honni yn awr y dylai trethdalwyr Cymru dalu'r bil hwnnw am glirio'r llanast a'r perygl, pan wnaethon nhw gymryd y rhan fwyaf o elw'r glo. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, i esbonio mwy ynghylch dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan Lywodraeth y DU i glirio'r tomenni, a'r hyn y mae modd ei wneud i sicrhau eu bod yn cadw'n driw i'r rhwymedigaeth honno, ond beth yw'r cynllun B os bydd San Steffan yn parhau i osgoi ei gyfrifoldeb. Ac yn olaf, Trefnydd, bu awgrym diweddar o ran gweithredu system rhybudd cynnar ar gyfer pryd y bydd tomenni yn dechrau symud. Rwy'n credu bod hynny yn haeddu mwy o drafod ar lawr y Siambr, yn enwedig a fydd hyn yn ychwanegol at waith diogelwch neu yn lle hynny. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad arall gan y Llywodraeth ynghylch y mater hwn, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr iawn. Mae Delyth Jewell yn codi pwynt pwysig iawn, ac roeddem ni i gyd yn hynod siomedig na chafodd rhagor o gyllid ei gyhoeddi yn adolygiad cynhwysfawr Llywodraeth y DU o wariant yr wythnos diwethaf, fel y gwnaethoch chi ddweud eich hun. Mae'r tomenni glo yn rhagflaenu datganoli ym 1999, ac rwyf i'n synnu'n fawr—ac rwyf i'n sicr wedi trafod â Llywodraeth y DU yn nhymor blaenorol y Llywodraeth ynghylch y mater hwn. Byddwch chi'n ymwybodol bod rhaglen treialon technoleg diogelwch tomenni glo ar y gweill i archwilio'r offeryniaeth a'r dechnoleg a'r technegau monitro sydd ar gael i ni gyda swyddogaethau rhybuddio posibl. Ac rwy'n credu bod angen gwirioneddol i ni ddeall y dangosyddion cyflwr a digwyddiadau sbarduno o ran diogelwch y tomenni glo. Mae'n debyg y byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod Comisiwn y Gyfraith wedi gwneud darn sylweddol o waith i Lywodraeth Cymru, ac mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol bellach yn ystyried hynny a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar yr adeg fwyaf priodol.
A gaf i ofyn am ddadl ar ddeddfwriaeth yr amgylchedd yn amser y Llywodraeth, Gweinidog? Diwygiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Fil yr Amgylchedd ddoe i gynnwys ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn Lloegr. Nawr, mae hyn yn amlwg yn gwneud polisi ar gyfer Lloegr, ond nid yw'n gwneud polisi ar gyfer Cymru. A gyda'r holl anhrefn sydd wedi bod yn digwydd yn San Steffan dros yr wythnosau diwethaf, rwy'n credu bod ymdeimlad gwirioneddol o ddadleoli—beth yw'r polisi ar gyfer gollyngiadau, beth yw'r gyfraith, ble mae'r gyfraith yn sefyll ar hyn o bryd i Gymru yn hyn oll? Rydym ni wedi gweld nifer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn gofyn am ein cymeradwyaeth i bwerau gael eu deddfu yn San Steffan, heb graffu yn y lle hwn, ond rwy'n credu bod angen lefel o gydlyniad arnom ni yn y ddadl hon, a chydlyniad yn y ddeddfwriaeth sy'n sail i reoleiddio amgylcheddol, fel y gallwn ni yma drafod y materion hyn, a gall pobl yng Nghymru eu deall.
Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar allu'r cyhoedd i gael mynediad i'r adeilad hwn. Rwy'n deall bod digwyddiad yn cael ei gynnal yma amser cinio, ond mae'r adeilad hwn ar gau o ganlyniad i brotest arfaethedig y tu allan. Nawr, mewn democratiaeth, mae gan bobl yr hawl i brotestio; ni waeth pa mor anghyfforddus yw hynny i'r Aelodau yma, mae gan y cyhoedd hawl llwyr i ddod yma, i weld ein dadleuon, ac i'n dwyn ni i gyd i gyfrif. Mae'n annerbyniol mewn democratiaeth, ac eithrio o dan amgylchiadau cul iawn, y bydd yr adeilad hwn ar gau i'r bobl yr ydym ni'n ceisio eu cynrychioli. Rwyf i'n credu, er gwaethaf y materion iechyd cyhoeddus y mae'n rhaid i ni ymdrin â nhw ar hyn o bryd—ac rwy'n derbyn hynny—ar bob achlysur arall, fod yn rhaid i'r lle hwn fod yn agored i'r cyhoedd, ac mae gan y cyhoedd hawl llwyr i ddod yma i wylio ein dadleuon a gwylio ein pleidleisiau a sut yr ydym ni'n cynrychioli'r bobl hynny.
Diolch. O ran eich cais ynghylch Bil yr amgylchedd—ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, rydym ni wedi cael nifer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi eu trafod yn y Siambr hon—mae'r Gweinidog yn ystyried pa gamau y mae angen i ni eu cymryd. Byddwch chi'n ymwybodol o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu sy'n canolbwyntio ar wella ein dyfroedd mewndirol yn arbennig, ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda chwmnïau dŵr ynghylch gollyngiadau, yn enwedig o orlifo o stormydd cyfunol—mae'r gwaith hwnnw wedi ei wneud ers sawl blwyddyn bellach.
O ran eich ail bwynt, mae'r Llywydd wedi clywed eich sylwadau. Yn amlwg, cafodd hyn ei drafod yn y Pwyllgor Busnes y bore yma; bu cyfnodau o gau'r Senedd, fel y dywedwch chi, o ran materion iechyd y cyhoedd yn ymwneud â COVID-19, ond rwyf i'n siŵr y bydd y Llywydd, os yw'n teimlo bod angen rhagor o wybodaeth, yn ysgrifennu atoch chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i ymateb fy hun ar y pwynt hwnnw. Rwy'n siŵr na ddylwn i, ond dim ond i roi sicrwydd i'r Aelod ac unrhyw Aelodau eraill nad yw unrhyw benderfyniad i gau'r adeilad hwn yn cael ei wneud er mwyn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus i'r Aelodau a lleihau ein hatebolrwydd i ddinasyddion Cymru. Rwy'n derbyn cyngor ar ddiogelwch a diogelwch proffesiynol yn y materion hyn er mwyn cadw'r Aelodau, aelodau o'r cyhoedd a staff yn ddiogel, a dyna'r penderfyniad yr wyf i wedi ei wneud ar gyfer heddiw. Ond, fel bob amser, mae barn yr Aelodau yn cael dylanwad ar fy ystyriaeth, yn ogystal â'r cyngor proffesiynol yr wyf i'n ei dderbyn. Felly, rwy'n ddiolchgar bod y mater wedi ei godi, credwch chi neu beidio, er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol nad yw er cysur yr Aelodau yma, ond ei fod er diogelwch pawb sydd y tu allan neu'r tu mewn i'r adeilad hwn. Ac mae ein holl drafodion ar gael i'w gweld gan yr Aelodau yn rhithwir, wrth gwrs, yn ogystal â'r penderfyniadau y byddwn ni'n eu gwneud a'r geiriau y byddwn ni'n eu siarad yn nes ymlaen y prynhawn yma, byddan nhw i gyd yn atebol i bobl Cymru.
Peter Fox.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar fater cladin anniogel ar adeiladau uchel? Yn ddiweddar, mae rhai etholwyr sy'n berchen ar eiddo yn ardal datblygiad Celestia wedi cysylltu â mi ynghylch eu pryderon o ran diffyg cefnogaeth uniongyrchol i lesddeiliaid. Rwy'n deall bod hwn yn fater cymhleth, ond mae'n bwysig bod pawb y mae hyn yn effeithio arnyn nhw yn cael sicrwydd ac eglurder. Rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi sefydlu cam 1 cronfa diogelwch adeiladau Cymru, ac rwy'n credu y byddai gan Aelodau ddiddordeb mewn gwybod mwy am yr effaith y mae'r gronfa hon wedi ei chael hyd yma. Nawr, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, roedd manylion am gam 2 y gronfa i fod i gael eu cyhoeddi yr hydref hwn, ond nid oes dim wedi ei gyhoeddi eto. Mae'n bwysig cyhoeddi manylion am y cam nesaf o gymorth i'r rhai y mae hyn yn effeithio arnyn nhw cyn gynted â phosibl. Yn olaf, nododd y datganiad ysgrifenedig a gafodd ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ym mis Gorffennaf 2021 ei bod yn ystyried cyflwyno
'cynllun prynu er mwyn cefnogi lesddeiliaid y mae diogelwch adeiladau yn effeithio arnynt ac y byddai'n well ganddynt werthu eu heiddo.'
Rwy'n credu y byddai llawer o drigolion yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa un a fydd cynllun o'r fath yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru. Diolch.
Wel, rwy'n siŵr bod yr Aelod yn gwerthfawrogi bod hwn yn faes cymhleth iawn ac mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn y Nadolig.
Trefnydd, bydd llawer yn y Siambr hon yn gwybod bod y Senedd hon wedi ei hadeiladu ar ddoc sych, ac mae'n debyg ei bod yn iawn dweud na fyddai'r adeilad hwn yma yn awr oni bai am borthladd Caerdydd a glo y Cymoedd. Felly, mae'n addas i mi ofyn am ddatganiad heddiw gan Lywodraeth Cymru am eu strategaeth porthladdoedd a morol. Fel yn ystod y chwyldro diwydiannol, mae gan ein porthladd ran allweddol i'w chwarae yn ystod y chwyldro gwyrdd. Nawr, aeth fy nghyd-Aelodau Luke Fletcher, Heledd Fychan a minnau i ymweld â phorthladd Caerdydd heddiw; cawsom ni daith dywys, cawsom ni daith dywys rithwir, a gwnaethom ni siarad â'r rheolwyr yno. Rwy'n annog unrhyw Aelod i fynd i ymweld â'r porthladd, sydd yn llythrennol o gwmpas y gornel oddi wrthym ni. Roedd y rheolwyr yno yn awyddus i dynnu ein sylw at y rhan y gall y porthladd ei chwarae wrth gyflawni Cymru wyrddach a Chymru wedi'i datgarboneiddio. Felly, a gawn ni ddatganiad am eich strategaeth ar gyfer porthladdoedd?
Diolch. Byddwn i'n sicr yn annog Aelodau i fynd ar yr ymweliad yr ydych chi newydd gyfeirio ato. Byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog pa waith sy'n mynd rhagddo o ran ein strategaeth porthladdoedd a morol a gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Ddydd Sul diwethaf, roeddwn i'n bresennol mewn gwasanaeth coffa yn heneb yr Armeniaid ym Mharc Cathays, sef yr heneb gyntaf er cof am yr holocost a ddioddefodd gymuned Armenia ym 1915. Llywydd, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cofio mai'r sefydliad hwn, a Llywodraeth Cymru ar y pryd, oedd y cyntaf i gydnabod hil-laddiad yr Armeniaid yn ystod y rhyfel byd cyntaf, a'r cyntaf i gyflwyno heneb i bobl Armenia a gafodd eu lladd, a gafodd ei dadorchuddio gan eich rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni i gyd yn parhau i gofio hil-laddiad yr Armeniaid, y penwythnos hwn a phan fyddwn yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ddiwedd mis Ionawr.
Trefnydd, yng ngoleuni sylwadau cynharach y Prif Weinidog am y lefelau llygredd annymunol, sy'n prysur ddod yn gyfystyr â Llywodraeth y DU, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y difrod a gafodd ei wneud i ddinasyddion Cymru o ganlyniad i ddyfarnu'r contract ar gyfer profion PCR i Glinig Iechyd Immensa yn Wolverhampton wythnosau yn unig ar ôl iddo gael ei ymgorffori. Mae grant cychwynnol o £119 miliwn y llynedd a £50 miliwn arall ym mis Awst wedi ei roi i gwmni nad yw'n gallu darparu profion PCR cywir. Cafodd pedwardeg tri mil o brofion PCR eu datgan yn negatif pan oedden nhw mewn gwirionedd yn bositif ym mis Medi a dechrau mis Hydref yn unig. Felly, yn y datganiad hwn, a gawn ni wybod faint o'r profion ffug-negatif a effeithiodd ar bobl sy'n byw yng Nghymru? A pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio iawndal am y profion ffug-negatif, yr ydym ni'n gwybod o sylwadau diweddar gan gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd eu bod wedi cyfrannu at ledaeniad COVID yn y de-ddwyrain?
Diolch. Yr oedd yn sicr yn bryderus iawn bod 43,000 o brofion COVID ffug-negatif, fel yr ydych chi'n ei ddweud. Dylwn i ddweud bod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cadarnhau y cysylltwyd â phobl o Gymru a gafodd eu profion wedi eu dadansoddi yn y labordy preifat hwnnw yn Lloegr rhwng 15 a 17 Hydref. Mae hwn yn ddarn o waith sy'n parhau. Rydym ni'n gweithio gydag Awdurdod Iechyd a Diogelwch y DU i edrych ar yr adolygiadau. Rydym ni'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd, ac yn cefnogi'r grŵp cynghori technegol i asesu effaith bosibl y digwyddiadau hynny ar ein cyfraddau achosion mewn epidemioleg. Bydd angen i'r Gweinidog aros am ganlyniadau'r ymchwiliadau a'r adolygiadau hynny cyn cyflwyno datganiad.
Gweinidog, mae ffigurau diweddar yn dangos bod ein gwasanaethau brys yn wynebu argyfwng, gydag amser ymateb ambiwlansys yn cyrraedd lefelau sy'n peryglu bywyd yng Nghymru. Mae hyn yn wir nid yn unig am alwadau coch. Ym mis Medi, dim ond 52 y cant o alwadau coch a gyrhaeddodd eu claf o fewn wyth munud, ond, ar gyfer galwadau ambr, bu'n rhaid i 5,228 o gleifion aros dros dair awr ac, o'r rhain, ar gyfer 1,608 cymerodd yr ambiwlansys dros bum awr. Gall galwadau ambr gynnwys strôc yn ogystal â thorri esgyrn. Yn ddiweddar, galwodd y Gweinidog argyfwng hinsawdd, ond yr hyn sy'n amlwg yn awr yw bod cyfleoedd bywyd cleifion Cymru yn wynebu mwy o fygythiad uniongyrchol—argyfwng ambiwlans. A wnaiff y Gweinidog neilltuo amser ar gyfer dadl ar yr argyfwng hwn i'r Gweinidog iechyd ymdrin â'r mater hwn? Diolch.
Rydym ni'n gwybod nad yw'n dderbyniol aros yn rhy hir am ymateb ambiwlans, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ynghylch amseroedd aros ein hambiwlansys. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru, fel holl wasanaethau'r GIG, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, yn gweithio'n galed iawn i ymateb i'r heriau parhaus a sylweddol y mae'r pandemig byd-eang wedi eu cyflwyno i ni. Fe wnaethom ni glywed y Prif Weinidog yn dweud, yn amlwg, pan fydd ambiwlansys yn ymateb i alwadau bellach, yn ddieithriad, mae'n rhaid iddyn nhw wisgo cyfarpar diogelu personol, ac mae hyn yn cymryd llawer mwy o amser, yn anffodus, a hefyd glanhau'r ambiwlansys. Nid wyf i'n credu bod angen dadl benodol ar amseroedd ambiwlans arnom ni ar hyn o bryd, ond mae'r Gweinidog iechyd yn y Siambr y rhan fwyaf o wythnosau, lle y gall ateb cwestiynau penodol.
Trefnydd, hoffwn i godi helynt trigolion a busnesau yn ardal ehangach Brynmawr y mae'r gwaith parhaus ar ffordd Blaenau'r Cymoedd yn effeithio arnyn nhw. Mae hon wedi bod yn saga hirhoedlog i'r bobl leol oherwydd bod gwaith wedi llusgo ymlaen ac ymlaen. Mae'r hyn a gafodd ei addo, sef cau'r ffordd ymuno am dri mis, wedi troi yn 15 mis. Rwy'n falch bod y ffordd ymuno, o ddydd Llun ymlaen, wedi agor rhwng 6 a.m ac 8 p.m bellach, ond mae gwaith i'w wneud o hyd ar y rhan hon o'r ffordd, sydd wedi ei chyfyngu i un lôn ar hyn o bryd. Mae contractwyr wedi dweud, am yr hyn y mae'n werth, y bydd yr adran yn cael ei chwblhau rhywbryd yr hydref hwn, sy'n dod i ben yn swyddogol lai nag wythnos cyn y Nadolig.
Mae trigolion a busnesau lleol wedi dioddef yn ddigon hir yn barod. Mae llawer o fasnachwyr lleol ar y dibyn. A fyddai modd archwilio mater cymorth busnes? Cyflwynais i gwestiynau ysgrifenedig ar y mater, ond nid oedd yr atebion a ddaeth yn ôl yn sylweddol. Dywedodd un preswylydd lleol wrthyf i yr wythnos hon, 'Rydym ni wedi bod yn ddigon amyneddgar'. Wrth i gyfnod hollbwysig y Nadolig nesáu, a fyddai modd cyfeirio adnoddau hefyd at y rhan hon o'r ffordd, er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau cyn y dyddiad terfyn ar 20 Rhagfyr? Os bydd yn parhau hyd at y dyddiad hwnnw, ni fyddai'n dda i ganol y dref, sydd wedi dioddef digon eisoes ac sy'n gobeithio adfer yn y cyfnod cyn y Nadolig? Diolch.
Nid oes gen i unrhyw wybodaeth wrth law am y ffordd y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Rwy’n falch iawn bod y ffordd ymuno wedi agor, ac yn sicr, byddaf i'n gofyn—rwy'n tybio mai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wnaeth eich ateb—iddo ailedrych ar eich cwestiynau ysgrifenedig i weld a oes unrhyw wybodaeth arall y bydd modd ei rhoi a sicrwydd i'ch etholwyr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwy'n gofyn am eich cyngor doeth ar sut y gallwn ni gael mater penodol iawn wedi ei godi yma yn y Siambr. Gallai fod drwy ddadl ar berchnogaeth tir cymunedol, neu, yn wir, swyddogaeth Ystâd y Goron, neu rywbeth arall a allai helpu i ddatrys problem hirsefydlog yng nghwm Garw hyfryd. Mae gennym ni hen reilffordd lofaol sydd yn llwybr troed a llwybr beicio cymunedol poblogaidd erbyn hyn, ond sydd wedi ei hesgeuluso rhywfaint. Mae gan gwmni rheilffyrdd treftadaeth, cymdeithas treftadaeth a hanes leol ar wahân, a grwpiau amgylcheddol, fuddiant gweithredol ynddi, ac mae'n rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol, felly mae gan Sustrans fuddiant hefyd, ac eto mae ei pherchnogaeth wedi ei herio, ac mae cyfrifoldeb lesddaliad a chynnal a chadw ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn syrthio rhwng gwahanol randdeiliaid a'r awdurdod lleol, a'r sefydliad sylfaenol blaenorol nad yw'n bodoli mwyach, ac—aroshowch amdani—Ystadau'r Goron hefyd. Felly, ar hyn o bryd, mae perygl y bydd y coridor bywyd gwyllt cymunedol a hamdden hollbwysig hwn yn dadfeilio gan nad oes neb yn gallu camu i'r adwy a chymryd cyfrifoldeb amdano. Felly, ar ôl blynyddoedd o rwystredigaeth i bawb dan sylw, rwy'n dwyn ynghyd cyfarfod o'r holl randdeiliaid i weld a allwn ni gytuno ar ffordd ymlaen, ond byddai dadl ar hyn o gymorth yn wir. Felly, beth fyddai'r Trefnydd yn ei gynghori pe bawn i'n dymuno ceisio gwyntyllu'r mater hwn ar lawr y Senedd i annog penderfyniad i'r saga hirdymor hon?
Dadl fer o bosibl; rwyf i bob amser wedi canfod os oes gennych chi fater penodol fel hynny, ei bod ffordd eithaf defnyddiol ymlaen. Mae'n amlwg yn fater cymhleth yr ydych chi newydd ei nodi, felly rwy'n credu bod rhai materion yn amlwg sy'n ymwneud â pherchnogaeth tir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn y lle cyntaf i geisio cael gwell dealltwriaeth o'r materion hynny, fel y bydd hynny'n llywio'r opsiynau sydd ar gael. Gallech chi ysgrifennu at y Gweinidog, neu godi cwestiwn yn ystod ei sesiwn holi, ond rwy'n credu bod angen i ni ystyried y materion cyfreithiol hefyd, a gallai hynny wedyn agor mwy o gyfleoedd i ystyried pa bwerau sydd ar gael, gan gynnwys prynu gorfodol, er enghraifft. Felly, byddwn i'n sicr yn awgrymu bod yr Aelod yn gwneud hynny yn y lle cyntaf.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch tâl teg i staff y GIG, gan fod nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, o gofio bod Ysbyty Glan Clwyd yn gyflogwr mawr yn Nyffryn Clwyd, ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn eich etholaeth eich hun yn yr un modd. Ac maen nhw wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd o 3 y cant i gyflogau a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer staff y GIG a'r ffaith nad ydyn nhw eto wedi cael y cynnydd. Mae'n ymddangos nad yw llawer o staff ar fand 2 wedi derbyn y codiad cyflog wedi ei ôl-ddyddio, ac maen nhw'n staff sy'n darparu gwasanaethau hanfodol fel microbioleg, fflebotomeg ac ystod eang o ddiagnosteg hanfodol. Mae hyn yn effeithio ar forâl rhai o weithwyr y GIG â'r cyflogau isaf a gweithwyr hanfodol, sydd yr un mor bwysig â'n meddygon a'n nyrsys. Ac, fel sawl rhan o'n GIG, mae prinder staff yn y gwasanaethau hyn ac maen nhw wedi bod dan bwysau a straen aruthrol drwy gydol y pandemig. Bu'n rhaid i staff gymryd llwyth gwaith ychwanegol yn ystod y 18 mis diwethaf i sicrhau bod ein GIG yn parhau i weithredu. Felly, Trefnydd, a wnewch chi ofyn i'r Gweinidog iechyd ddod i'r Siambr hon a rhoi gwybod i fy etholwyr i pryd y byddan nhw'n gallu gweld y cynnydd a gafodd ei addo yn eu cyflog? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, rydych chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dosbarthu datganiad ysgrifenedig i ddangos ei hymrwymiad hi i ddilyn argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG o ran y codiad cyflog o 3 y cant. Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig iawn nad ydym ni fyth yn colli cyfle i ddweud cymaint yr ydym ni'n gwerthfawrogi'r gwaith ac yn gwerthfawrogi popeth y mae staff GIG Cymru wedi'i wneud, yn enwedig dros 18 mis anodd iawn. Fe wn i fod y trafodaethau yn parhau. Yn sicr, fe fyddaf i'n gofyn i'r Gweinidog a oes rhagor o wybodaeth ddiweddar i'w roi i ni, ond fe wn i fod ei swyddogion hi'n gweithio gyda GIG Cymru yn agos iawn i wneud yn siŵr bod y staff i gyd yn cael y codiad cyflog hwnnw cyn gynted â phosibl.
Ac yn olaf, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Drefnydd, gaf i ofyn i chi am ddatganiad llafar ynglŷn â'r sefyllfa ddiweddaraf o ran effaith cyngor cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru ar afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n sensitif i phosphates? Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn deall yn glir yr angen am afonydd glân ac afonydd dilygredd, ond mae'n amlwg i mi fod y canllawiau hyn yn mynd i gael effaith fawr iawn a sylweddol ar allu awdurdodau lleol a chi, fel Llywodraeth—fe wnaf i dynnu'r masg i chi fy nghlywed i yn well—i gyflawni nifer o gynlluniau pwysig iawn, fel adeiladu tai fforddiadwy, cynlluniau datblygu economaidd, bargen canolbarth Cymru ac yn y blaen. Nawr, rwy'n deall eich bod chi wedi sefydlu gweithgor cenedlaethol i ddod â'r prif asiantaethau at ei gilydd i gynllunio ffordd ymlaen. A allwn ni gael datganiad wrthych chi, felly, ar waith y gweithgor hwn a fyddai'n ein galluogi ni, fel Aelodau yn y Siambr, i drafod y materion hyn? Diolch yn fawr.
Diolch i chi. Wel, mae'r mater hwn ym mhortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn gwirionedd, ac nid fy un i, ac fe wn i ei bod hi wedi bod yn ystyried yr adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y Gweinidog yn ateb cwestiynau llafar yfory, ac efallai y byddai'n fwyaf addas i chi godi hyn gyda hi bryd hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi—a galwaf ar Weinidog yr Economi—ar yr economi sylfaenol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, fe welsom ni gynnydd mawr yn ein cefnogaeth ni i'r economi sylfaenol yma yng Nghymru. Mae hon yn flaenoriaeth ym mhob rhan o'r Llywodraeth, ac rydym ni wedi canolbwyntio ein sylw ni ar fusnesau sy'n cynnig gwasanaethau a chynhyrchion sy'n effeithio ar ein bywydau ni bob dydd: y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, y cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw, yr ynni yr ydym ni'n ei ddefnyddio, a'r gofal a gawn ni. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod pedwar o bob 10 swydd, a £1 ym mhob £3 a wariwyd, yn perthyn i gategori'r economi sylfaenol. Ac mae meithrin yr economi sylfaenol yn rhan sylfaenol o'n cynlluniau ni i'r dyfodol. Hon yw'r sail i'n cenhadaeth ni o ran cydnerthedd ac adferiad economaidd. Yn yr uwchgynhadledd economaidd y mis diwethaf, fe roddais i amlinelliad o'r weledigaeth sydd gennyf i ar gyfer economi Cymru ac fe eglurais i'r swyddogaeth sydd gan ein heconomi ni o ran creu lleoedd llewyrchus ledled Cymru—lleoedd y gall pobl ifanc wireddu eu huchelgeisiau ynddyn nhw a chyrraedd eu potensial, lleoedd lle gall unrhyw un lansio a datblygu busnes ffyniannus.
Mae'r economi sylfaenol yng Nghymru, fel y dywedais i, yn cyfrif am bedair o bob 10 swydd, ond mae'r rhain yn cwmpasu ystod eang o broffesiynau a chyfleoedd llwybr gyrfa. Bydd cadarnhau'r economi sylfaenol yn gwella ac yn cyfoethogi cyfleoedd cyflogaeth a bydd yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar gadw doniau Cymru yng Nghymru i warchod bywyd lleol a'r economïau yn ein dinasoedd ni ac yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol.
Un o elfennau hanfodol yr economi sylfaenol yw gofal cymdeithasol. Mae'n galluogi cymaint o bobl i fyw bywydau llawn, os ydyn nhw'n rhai sy'n cael gofal, yn berthnasau neu ffrindiau agos i'r rhai sy'n cael gofal, yn ogystal â'r nifer sylweddol o bobl sy'n gweithio yn y sector. Mae'r sector yn wynebu straen ar ei adnoddau na welwyd ei debyg erioed, ac felly rydym ni'n sianelu cymorth i geisio helpu i fynd i'r afael â'r her hon.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cael ei gefnogi i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio ar hyn o bryd. Mae gennym ni raglen genedlaethol i ganolbwyntio ar hyn sy'n helpu darparwyr gofal i leihau costau recriwtio, a rhoi cynnig o gyfleoedd i ddychwelyd i'r gwaith i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth gyflogaeth a'r rhai sy'n wynebu newidiadau annisgwyl mewn bywyd, fel diswyddiadau.
Rydym ni'n cefnogi Cyngor Sir y Fflint i fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gomisiynu gofal yn uniongyrchol gan ficro-ofalwyr. Fe allai recriwtio micro-ofalwyr mewn pentrefi anghysbell helpu i adeiladu economïau cefn gwlad a chynnig mwy o atebion lleol, fe all leihau gofynion teithio ac allyriadau carbon cysylltiedig hefyd, yn ogystal â chefnogi'r Gymraeg wrth gwrs. Fe allai helpu i annog twf busnesau sy'n perthyn i Gymru, ac mae hwn yn ddull y byddwn ni'n ceisio ei hyrwyddo ledled Cymru.
Rydym ni hefyd yn helpu'r sector manwerthu i ymateb i arferion siopa newydd drwy roi cyfrwng electronig ar waith i helpu i wella presenoldeb digidol manwerthwyr llai a helpu hefyd i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer lleihau effaith carbon. Mae'r datblygiad hwn yn cael ei gyflwyno mewn tri awdurdod lleol i ddechrau, ac rwy'n disgwyl i hynny gael ei ddilyn i hynny gael ei gyflwyno trwy Gymru gyfan wedyn.
Mae'r pandemig ac effaith barhaus Brexit wedi tanlinellu pwysigrwydd cadwyni cyflenwi bwyd lleol sy'n rhai cadarn. Mae bwyd yn hanfodol yn yr economi sylfaenol ac fe all helpu i ddod â manteision niferus, gan ddarparu cyfleoedd i gyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol, yn ogystal â gwella iechyd a lles. Fe all chwarae rhan bwysig hefyd wrth helpu i wireddu ein huchelgeisiau sero-net ni. Rydym ni wedi parhau i gefnogi gwaith i helpu i feithrin y gallu i gynhyrchu bwyd yn lleol. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ei ariannu i archwilio'r gwaith o ddatblygu cyfleuster rhewi a choginio a anelir tuag at gynhyrchwyr bwyd lleol.
Rydym ni'n cefnogi cynhyrchu amaethyddol mewn amgylchedd rheoledig. Fe ddylai hyn helpu i wella ein gallu i dyfu cnydau drwy gydol y flwyddyn ac fe fydd hynny'n helpu busnesau bach i gystadlu yn deg o ran darpariaeth bwyd yn lleol, ar yr un pryd â chyfrannu at dwf ein heconomi werdd ni. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynyddu'r swm o fwyd o Gymru a roddir ar blatiau'r cyhoedd yma. Rydym ni'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i wneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys cyngor Caerffili, sy'n arwain ar y fframweithiau bwyd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda chyfanwerthwyr a chyflenwyr bwyd mawr i'w helpu i bontio tuag at fwy o gyflenwad o Gymru.
I feithrin yr economi sylfaenol yn llwyddiannus ac ar y cyd, fe fydd yn rhaid i ni gydnabod y manteision ehangach sy'n deillio o brynu yn lleol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gwaith teg, cryfhau cymunedau a lleihau ein heffaith ni o ran carbon, yn ogystal â gwella llesiant. Mae caffael cyhoeddus werth tua £7 biliwn bob blwyddyn yng Nghymru. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n bwrw ymlaen â mentrau sy'n sicrhau bod ein harian cyhoeddus yn cael ei wario yma ac yn hyrwyddo cydnabyddiaeth ehangach o swyddogaeth yr economi sylfaenol wrth helpu i gynnal a chryfhau ein ffyrdd unigryw o fyw.
Rwy'n falch o amlinellu, drwy gymorth a ddyrannwyd ar gyfer rhaglen gaffael economi sylfaenol GIG Cymru, fod cyflenwyr o Gymru wedi gallu ennill gwerth £11 miliwn ychwanegol o gontractau gofal iechyd o fis Ebrill i fis Hydref yn ystod y flwyddyn. Mae gwerth cymdeithasol yn faen prawf gorfodol erbyn hyn yn llawer o gontractau'r GIG ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i brif ffrydio hyn ymhellach.
Rydym wedi gweld blaengynllun contractau GIG Cymru am y ddwy flynedd nesaf ac mae llywodraeth leol wedi creu llif contractio blaengar a chydweithredol. Felly, fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda'n gilydd i egluro cyfleoedd contractio ar gyfer yr economi sylfaenol a'r cymorth i fusnesau a fydd yn rhoi pob cyfle i'n cyflenwyr lleol allu ennill y cytundebau hyn. Byddwn yn annog cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau eraill sy'n eiddo i weithwyr i gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwariant cyhoeddus.
Mae gwelliant o ran gwelededd y cyfleoedd contractio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â rhwystr sylweddol, sydd yn draddodiadol wedi cyfyngu ar y cyfle sydd gan gyflenwyr lleol i gael gafael yn llwyddiannus ar gaffael cyhoeddus. Fe all gofynion eraill hefyd, gan gynnwys achredu a chymwysterau, gyfyngu ar gyfle busnesau lleol i ennill cytundebau. I helpu i fynd i'r afael â hyn, rwy'n gallu cadarnhau y byddaf i'n lansio cronfa i gefnogi cwmnïau lleol y mis hwn; i ddechrau, fe fydd yn rhoi cymorth i fusnesau yn y sectorau bwyd, gofal cymdeithasol, ac ôl-osod er mwyn optimeiddio. Fe fydd y gronfa £1 miliwn sy'n cefnogi cwmnïau lleol yn adeiladu ar lwyddiant y gronfa her. Yn ogystal ag achredu a chymwysterau, fe fydd y gronfa yn hyrwyddo'r ystod eang o gyfleoedd y mae'r sectorau hyn yn eu cynnig o ran gyrfaoedd. Fe all hyn apelio at bob rhan o'n poblogaeth eang ac amrywiol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi gwneud peth cynnydd calonogol. Fe geir cyfle ardderchog o hyd i gyflymu twf yn yr economi sylfaenol ac ymgysylltu yn llawn â'r busnesau hynny yn ein huchelgeisiau ni i gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, y cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu, a helpu i sicrhau sero-net. I wireddu posibiliadau'r economi sylfaenol, mae angen gweithio cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, gyda busnes, y sector cyhoeddus yn fwy eang a'n partneriaid cymdeithasol ni.
Yn ystod y misoedd nesaf, fe fyddaf i'n dal ati i weithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i adeiladu ar y cydweithio trawsbortffolio a sefydlwyd eisoes a datblygu dulliau sy'n tanlinellu eto ein cydnabyddiaeth ni o gyfraniad hanfodol yr economi sylfaenol tuag at lesiant yma yng Nghymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cyflwyno datganiad ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi sylfaenol heddiw. Wrth gwrs, mae'r economi sylfaenol mor hanfodol bwysig i'r ffordd yr ydym ni'n byw; fel y dywedwyd, mae'n cwmpasu popeth o'r gofal cymdeithasol sydd ar gael yn ein cymunedau ni i'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, ac felly mae hi'n galonogol iawn i ni gael gweld Llywodraeth Cymru yn ymgorffori iaith yr economi sylfaenol a'i hegwyddorion yn ei pholisïau economaidd.
Mae datganiad heddiw wedi tynnu sylw at rai o'r prosiectau a ariannwyd drwy gronfa her yr economi sylfaenol, ac fe wn i fod effaith y cyllid hwnnw wedi arwain at ddatblygu rhai prosiectau sy'n wirioneddol arloesol. Mae'r datganiad yn ei gwneud hi'n glir y bydd cronfa cwmnïau lleol gwerth £1 miliwn yn adeiladu ar lwyddiant y gronfa her, sy'n gadarnhaol iawn. Efallai mai dyma'r amser, felly, i adolygu'r gronfa her i sicrhau bod yna wir werth am arian a bod economïau lleol yn cael eu trawsnewid o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am fonitro effeithiolrwydd y gwariant drwy gronfa her yr economi sylfaenol ac a wnaiff ef gadarnhau hefyd y bydd yn cyhoeddi asesiad o'r prosiectau hynny sydd wedi cael cyllid? Ac a wnaiff ef egluro hefyd a fydd y gronfa sy'n cefnogi cwmnïau lleol ar hyn o bryd yn disodli'r gronfa her neu, yn wir, yn gweithio ochr yn ochr â hi?
Mae datganiad heddiw yn sôn am gaffael blaengar, ac mae hwnnw'n rhywbeth y mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod i'n awyddus i'w weld yn digwydd ledled Cymru. Mae angen i ni weld gwelliannau i'n harferion o ran caffael i sicrhau bod busnesau bach yn gallu cystadlu'n deg am gytundebau. Mae'r Gweinidog yn dweud ei fod ef yn benderfynol o fwrw ymlaen â mentrau sy'n sicrhau bod ein harian cyhoeddus ni'n cael ei wario yma a hyrwyddo cydnabyddiaeth ehangach o swyddogaeth yr economi sylfaenol wrth helpu i gynnal a chryfhau ein ffyrdd unigryw o fyw, ac rwy'n falch o glywed hynny. Efallai y gwnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym ni am raglen gaffael economi sylfaenol GIG Cymru, ac o gofio bod gwerth cymdeithasol yn faen prawf gorfodol erbyn hyn yn llawer o gytundebau'r GIG, a wnaiff ef ddweud wrthym ni sut y bydd yn monitro hyn i sicrhau bod contractau yn cael eu dyfarnu i'r busnesau priodol?
Wrth gwrs, er mwyn nodi cyfleoedd i leoleiddio gwariant, mae'n hanfodol bod cymorth busnes yn cael ei adolygu mewn gwirionedd. Roedd y Gweinidog blaenorol o'r farn y dylid cynnal adolygiad o gymorth busnes, gan gynnwys Busnes Cymru, i sicrhau y gallai cwmnïau o Gymru gyflenwi cytundebau cyhoeddus a bylchau cyflenwad. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal, ac os felly, a wnaiff ef hefyd rannu canlyniadau'r adolygiad hwnnw gyda ni?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o alwad y Ffederasiwn Busnesau Bach am safbwynt economi sylfaenol i lywio'r gwaith o lunio polisïau, ac rwy'n credu bod budd i'r syniad hwn. Un agwedd ar eu safbwynt yw annog busnesau mwy i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint mewn sectorau sy'n cael eu dominyddu gan gwmnïau mawr sydd â dylanwad anghymesur. Yr enghraifft a gaiff ei defnyddio ganddyn nhw, wrth gwrs, yw'r diwydiant bwyd, ac mae datganiad heddiw hefyd yn rhoi ystyriaeth i bwysigrwydd y sector bwyd. Er enghraifft, rwy'n falch o weld bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei ariannu i archwilio'r gwaith o ddatblygu cyfleuster rhewi a anelir at gynhyrchwyr bwyd lleol. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n helpu cynhyrchwyr lleol yn y rhanbarth ac yn cadw mwy o'r gwerth ychwanegol a ddaw yn sgil cynhyrchu yn lleol hefyd.
Mae'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o barc bwyd sir Benfro yn Hwlffordd, sy'n enghraifft wych o ffordd o estyn cyfleoedd i gynhyrchwyr gaffael rhandiroedd i ddatblygu cyfleusterau cynhyrchu a phrosesu bwyd a fydd yn creu gwerth ychwanegol, ac, yn wir, yn creu swyddi newydd yn y rhanbarth. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu safbwynt yr economi sylfaenol? Ac a wnaiff ef ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau fel parc bwyd sir Benfro a sicrhau bod ymarfer da fel hyn yn cael ei gyflwyno mewn ardaloedd eraill?
Efallai fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan y llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar allu a photensial busnesau mewn tair cymuned yng Nghymoedd y de: Treharris ym Merthyr Tudful, Treherbert yn Rhondda Cynon Taf, a Chwmafan yng Nghastell-nedd Port Talbot. Roedd yr adroddiad hwnnw'n canfod bod angen anelu cymorth at ficrofusnesau gyda chyfathrebu a rhwydweithiau llawer mwy effeithiol rhwng y busnesau eu hunain a rhwng y busnesau, llywodraeth leol, a Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle heddiw i ddweud mwy wrthym ni am sut mae Llywodraeth Cymru am rymuso ei chyfathrebu a'i rhwydweithiau gyda busnesau, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r economïau lleol yn eiddil.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith a wnaeth Cyngor Dinas Preston i ddatblygu cyfoeth cymunedol, sydd wedi llwyddo i hybu twf cynhwysol yr economi leol ers 2012, ac fe allwn ni ddysgu gwersi o'r ffordd y mae eraill yn datblygu'r economi sylfaenol. A chan fod Llywodraeth Cymru hefyd yn berchen ar dir ac eiddo sylweddol, mae'n hanfodol ei bod yn defnyddio'r asedau hynny i sicrhau manteision cymdeithasol ac amgylcheddol. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa waith a wnaethpwyd i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hasedau ei hun i ddatblygu'r economi sylfaenol yng Nghymru? Ac, fel y mae'r Gweinidog wedi ein hatgoffa ni heddiw, mae'r economi sylfaenol yn gyfrifol am greu pedair o bob 10 swydd a £1 ym mhob £3 a wariwn ni, felly nid ydym ni'n sôn am symiau bach o arian yn y fan hon. Wrth gwrs, mae pandemig COVID wedi effeithio ar gadernid rhai cymunedau, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n deall pa mor fawr yw'r effaith a fu ar yr economi sylfaenol. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn cytuno i gyhoeddi asesiad o effaith COVID-19 ar yr economi sylfaenol.
Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed mwy am sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno'r economi sylfaenol ar raddfa fwy yma yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe ddechreuaf gyda'ch pwynt am y gronfa her a'r asesiad. Cefnogwyd 52 o brosiectau, daeth 47 o'r rhain i ben ym mis Mawrth, ac mae asesu'r rhain wedi helpu i lywio'r gweithgaredd yr ydym ni'n symud ymlaen ag ef nawr hefyd. Mae digon, er hynny, i'w ddysgu o'r gymuned ymarfer, yn fewnol, y mae Cynnal Cymru wedi helpu ei gynnal i ni, ac fe fyddaf i'n sicr yn ystyried a fyddai hi'n gwneud synnwyr i gyhoeddi rhywbeth, datganiad ysgrifenedig efallai, a fyddai'n rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r gronfa her a nodi'n fwy eglur sut mae hynny wedi helpu i lywio'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, a fydd yn datblygu llawer o'r hyn a ddysgwyd o gyfnod cychwynnol y gronfa her, a ddeilliodd, wrth gwrs, o gytundeb cyllideb blaenorol.
Rwy'n credu i chi ofyn wedyn am fwyd fel sector, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi gwneud dewisiadau ynglŷn ag ef eisoes, gan fuddsoddi yn y sector bwyd, nid yn unig yn y gorllewin ond ledled Cymru. Dyma un o'r manteision cadarnhaol a welaf i ar gyfer dyfodol economi Cymru ynghyd â dealltwriaeth barhaus pobl ynglŷn â tharddiad cynnyrch a sut rydym ni'n ei ddefnyddio wedyn. Rwy'n credu bod cyfle mawr mewn gwirionedd i ddwyn perswâd ar fwy o bobl i ddefnyddio bwyd o Gymru yn eu dewisiadau nhw eu hunain, yn ogystal â dewisiadau caffael cyhoeddus eraill yr wyf wedi sôn amdanyn nhw hefyd. Felly, fel y dywedais i, bwyd, y rhaglen ôl-osod, a gofal cymdeithasol yw'r tri maes yr ydym ni'n anelu'r gronfa cwmnïau lleol tuag atyn nhw i ddechrau, i geisio bwrw ymlaen â rhai o'r gwersi ynglŷn â sut yr ydym ni'n deall yr ystyr ehangach o werth cymdeithasol. Felly, nid ymwneud â'r pris yn unig y mae hyn, ond â gwerth yr hyn a wnawn ni pan fyddwn ni'n gwario arian cyhoeddus. Rwy'n disgwyl y byddwn ni'n dysgu mwy o'r cam nesaf hwn wrth i ni barhau i gyflwyno hyn. Ac, mewn sawl ffordd, mae'n debyg bod y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, o safbwynt allanol, yn haws ei deall na'r economi sylfaenol. Mae'n gwneud yr union beth y mae'n dweud y bydd yn ei wneud: cefnogi cwmnïau lleol er mwyn iddyn nhw fod yn llwyddiannus, i gael mwy o fantais oherwydd caffael cyhoeddus, i gael y cymorth a fydd yn darparu o ran swyddi lleol, ond y pwynt ehangach hwnnw hefyd am ein heffaith ni ar y byd yn fwy eang.
Ac o ran y GIG, sy'n un arall eto—. Ac rwyf i'n gallu gweld hyn o safbwynt bod yn Weinidog iechyd, ac yn gallu edrych ar hyn eto o safbwynt yr economi sylfaenol ac yn gallu bwrw golwg arall o safbwynt caffael lleol, a nawr yn fy swydd bresennol. Mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig eisoes ar ddull economi sylfaenol o fewn y GIG, felly rwyf i o'r farn ei bod hi'n galonogol iawn bod mwy nag £11 miliwn wedi cael ei wario o fewn chwe mis gyda chwmnïau o Gymru nad oedden nhw wedi ymgysylltu o'r blaen ac yn cyflawni gwaith drwy gaffael y GIG. Felly, mae hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac rwy'n disgwyl i ni allu gwneud mwy yn raddol yn y maes hwnnw yn y dyfodol. Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi gwneud y pwynt yn rheolaidd yn fewnol yn y Llywodraeth, yn ogystal ag yn allanol, ynghylch sut a ble y cewch chi'r arian a wariwyd ar gontractau bwyd o fewn y GIG, ond yn llawer ehangach hefyd, ac o ble y daw'r cyflenwad hwnnw. Felly, fe geir mwy o waith y gallwn ni ei wneud yn fy marn i, nid yn unig o ran bwyd ond gydag ystod eang o feysydd eraill hefyd. Ac fe fydd hynny'n golygu monitro a deall llwyddiant a sicrhau, unwaith eto, fod y gwersi a gaiff eu dysgu oherwydd hynny'n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol.
Rwyf i o'r farn fod hyn yn cyffwrdd â'ch pwynt chi am safbwynt yr economi sylfaenol, felly mae yna nifer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud. Mae gennym ni ddull cymunedol o ddatblygu cyfoeth yng Ngwent sy'n ystyried gwersi o Preston ac o fannau eraill, a'n partneriaid allanol yn y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol, a elwir fel arall yn CLES. Mae honno'n edrych ar ddatblygu cyfoeth cymunedol ledled Gwent, ond mae hynny'n bendant yn cynnwys y GIG, ac felly mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn ymwneud â hynny i raddau helaeth wrth geisio deall yr hyn y gallem ni ei wneud yn well a'u dealltwriaeth nhw o'u heffaith nhw yn eu heconomi leol a'r cymunedau lle maen nhw nid yn unig yn darparu gwasanaethau ond yn gwario llawer iawn o arian cyhoeddus.
Fe fydd hynny hefyd yn cynnwys golwg arall gennym ni ar y cymorth busnes yr ydym ni'n ei roi—y cymorth y mae Busnes Cymru yn ei ddarparu, ond pan ydym ni'n sôn am y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, fe fydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â chyngor busnes i'r busnesau hynny. Felly, rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni eu helpu nhw i ddeall sut y gallan nhw fynd drwy'r giât a bod yn fwy llwyddiannus ym maes caffael yn ei ystyr ehangaf. Roeddech chi'n trafod ychydig ar asedau Llywodraeth Cymru—nid asedau materol yn unig yw'r rhain, wrth gwrs; rwyf i o'r farn mai un o'n harfau mwyaf ni yw'r hyn yr ydym yn barod i'w wneud yn raddol gyda chaffael a'n dealltwriaeth ni o'r hyn yr ydym ni'n disgwyl i bobl ei wneud, yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, ond yn ehangach ar draws y sector cyhoeddus hefyd.
Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth i'w bwynt ef am COVID-19 ac effaith hynny ar yr economi sylfaenol ac ym mha fodd neu beidio, ond rwyf i'n ystyried yn gliriach am sut mae'r cyfyngiadau a gawsom ni wedi cael effaith ar fusnesau, a llwyddiant yr ymyriadau a wnaethom ni'n fwy cyffredinol. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn y cyswllt hwnnw, ond rwyf i'n rhoi mwy o ystyriaeth i'r adferiad, a sut rydym ni am sicrhau bod yr economi sylfaenol yn tyfu mewn gwirionedd—nid yn unig yn goroesi, ond yn tyfu'r sector gyda swyddi â chyflog gwell ac amodau gwell i gwmnïau lleol a busnesau lleol.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, wrth gwrs, i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw.
Mae ymagwedd macro-economaidd traddodiadol at ddatblygiad economaidd wedi methu â sicrhau cynnydd economaidd na lles cymdeithasol o fewn terfynau amgylcheddol cynaliadwy nac wedi gwasgaru'r cynnydd hwnnw ledled broydd Cymru. Mae'r model presennol sy'n dibynnu ar dwf parhaus, cronni cyfalaf, a thynnu allan er elw yn amhosibl ei gynnal ar blaned â therfynau gydag adnoddau â therfynau.
Gan droi at y datganiad, mae ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyfleustodau cymdeithasol wrth ddyfarnu contractau—yr wyf i'n ei groesawu yn llwyr—yn peryglu gweld rhai busnesau yn aralleirio eu ceisiadau i ymgorffori'r gofynion newydd ar bapur er mwyn gwneud hynny'n unig, yn hytrach na dangos sut maen nhw am ymgorffori gwerth cymdeithasol yn eu harferion gwaith arfaethedig. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod rhag hyn?
Mae'n rhaid i ni symud oddi wrth obsesiynau gyda sectorau gwerth uchel, a mewnfuddsoddiad hefyd, tuag at farn fwy cyfannol sy'n canolbwyntio mwy ar yr economi sylfaenol. Gellid cyflawni hyn drwy ffrwyno grym adeiladu cyfoeth cymunedol a sefydliadau angori sy'n annog busnesau sy'n eiddo lleol neu fusnesau sy'n cael eu gwarchod yn gymdeithasol, sy'n fwy tebygol o gyflogi, prynu, a buddsoddi yn lleol yn hytrach na thynnu cyfoeth allan. Yn Preston—fel clywsom ni heddiw eisoes—fe ddefnyddiwyd adeiladu cyfoeth cymunedol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bresennol yn y rhanbarth a sicrhau bod datblygu economaidd yn yr ardal yn cael ei rannu yn fwy cyfartal ymhlith y trigolion. Oherwydd yr ymagwedd hon, fe wariwyd £4 miliwn yn ychwanegol yn lleol gan gyngor Preston dros gyfnod o bedair blynedd.
Mae'r ffaith bod cyflenwyr o Gymru wedi gallu ennill gwerth £11 miliwn ychwanegol o gontractau gofal iechyd i'w groesawu, ond rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn rhannu fy uchelgais i inni fynd ymhellach fyth. Mae beth da bod y Gweinidog wedi cyhoeddi'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol. Fe fyddwn i'n croesawu rhagor o fanylion am y gronfa honno, ac yn adleisio galwadau Paul Davies am adolygiad o'r gronfa her. Ac ymhellach, a wnaiff y Gweinidog amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â chreu patrwm Cymreig o gaffael cyhoeddus lleol, sydd wedi ei adeiladu ar yr economi sylfaenol, trwy osod nod penodol o gynyddu lefel caffael y sector cyhoeddus i 75 y cant o gyfanswm gwariant cyllideb caffael y Llywodraeth?
Mae'n rhaid i strategaeth ddiwydiannol werdd newydd nid yn unig gefnu ar arferion carbon-ddwys, ond pontio hynny yn deg gyda swyddi gwyrdd parod a gwarant o swyddi lleol a fydd yn helpu i adfywio economïau lleol cefn gwlad ac ardaloedd ôl-ddiwydiannol Cymru. Yn dilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban, fe ddylid datblygu comisiwn pontio teg i oruchwylio'r newid diwydiannol gwyrdd, ac fe ddylem ni sefydlu cynghrair o fusnesau yng Nghymru—sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru—i ganolbwyntio ar gydlynu camau gweithredu, nid polisïau yn unig, a fydd yn sicrhau twf cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol. Mae pontio teg yn allweddol i’r economi sylfaenol yng Nghymru, gan fod cynifer o sectorau yn yr economi sylfaenol yn dioddef oherwydd materion sy'n deillio o gyflogau fesul awr sy'n is na'r cyfartaledd ac oriau gwaith sy'n gymharol ansefydlog. Mae hyn yn arwain at fwy o bobl yn byw mewn tlodi neu mewn perygl o syrthio i dlodi, ac mae'n cael effaith ddinistriol ar fywyd teuluol, ar iechyd, ac ar wariant yn yr economi leol. Rwyf i o'r farn y bydd y Siambr yn gallu dyfalu i ba gyfeiriad yr wyf i'n teithio, ond a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu comisiwn ar gyfer pontio teg neu beidio?
Wrth gwrs, mae'n rhaid i gynyddu cyflogau a chynnig mwy o ddiogelwch a sefydlogrwydd oriau fod yn rhan annatod o unrhyw bolisi sy'n anelu at feithrin yr economi sylfaenol, ac fe all hynny ein helpu ni i fynd i'r afael â rhai o'r materion recriwtio hynny a amlinellwyd gan y Gweinidog yn ei ddatganiad. Yn y gwasanaethau bwyd a diod, llety a manwerthu, er enghraifft, mae gweithwyr yn cael o leiaf £3 yr awr yn llai na'r gweithiwr cyfartalog yng Nghymru, ond mae'r sectorau hyn yn cyflogi tua phedwar o bob 10 o holl weithwyr Cymru. Yn y sectorau manwerthu, bwyd, llety, a gofal cymdeithasol, mae hyd yn oed y gweithwyr sy'n cael eu talu'r cyflog gorau yn ennill llai na £500 yr wythnos. Pa fesurau a wnaiff y Llywodraeth eu cymryd i gynyddu enillion ac oriau yn yr economi sylfaenol, ac a yw'r Gweinidog wedi ystyried sut y gallem ni ymgorffori wythnos waith pedwar diwrnod yn yr economi sylfaenol? Fe soniais i am gaffael yn gynharach—wel, mae cyfle yma i ddefnyddio Deddf gwaith teg Cymru ac ysgogi wythnosau gwaith byrrach drwy gynnwys hynny yn y strategaeth gaffael, sydd, wrth gwrs, yn gwbl briodol, yn ôl adran 60 Deddf Cymru 2006.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn yr economi sylfaenol yn peri pryder hefyd, gan fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mwyaf i'w weld yn y diwydiant ynni ac mae'n sylweddol iawn hefyd mewn addysg, iechyd, a gofal cymdeithasol dibreswyl. Ceir bwlch nodedig mewn enillion wythnosol gros rhwng menywod a dynion ym mhob sector o'r economi sylfaenol, sy'n gwaethygu wrth i gyflogau gynyddu. Mae ffigurau Chwarae Teg a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru rhwng 2020 a 2021 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gwaethygu yn y cyfnod hwn, gan gynyddu 0.7 y cant i fwlch cyfan o 12.3 y cant. Wrth i ni drosglwyddo at economi werddach, lle bydd llawer o'r canolbwyntio ar sectorau fel ynni, adeiladu, a thai, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â'r bwlch cyflog hwn a sicrhau bod pawb yn cael cyfran deg a gwaith teg yn economi werdd Cymru i'r dyfodol?
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi clywed Luke Fletcher mwy adeiladol heddiw na'r wythnos diwethaf, pan ddywedodd ei fod yn ei ddisgrifio ei hun yn un sydd braidd yn negyddol ac yn gweld yr ochr dywyll. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod llawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch yn yr economi sylfaenol, ac fel dywedais i, fe wnaethom ni ddechrau'r gronfa her yn benodol wedi cytundeb cyllideb gyda'i blaid ef yn y Senedd flaenorol, a hynny wedyn sydd wedi caniatáu i ni ddechrau'r gronfa her.
Unwaith eto, roedd llawer o'r hyn a ddywedodd ef ar ddechrau ei gyfraniad ynglŷn â chydnabod gwerth sefydliadau angori a sut y gallan nhw gael effaith llawer mwy eang ar yr economi leol yn sicr wrth hanfod ein ffordd ninnau o feddwl, yn bendant. Dyna pam roeddem ni'n gallu dod i gytundeb ar wneud hynny o'r blaen. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr wyf i'n ystyried ei ddatblygu. Nid wyf i am geisio datod y gwersi y gwnaethom ni eu dysgu, ond sut y gallwn ni wneud mwy, a bod yn fwy—nid yn unig yn frwdfrydig, ond mewn gwirionedd yn fwy uchelgeisiol o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol. Dyna pam rwyf i'n falch iawn ein bod ni, o fewn chwe mis, wedi gwneud yr hyn a ddywedais i gyda'r £11 miliwn o wariant ychwanegol gan y GIG yng Nghymru a oedd, cyn hyn, yn mynd y tu allan i Gymru. Mae hynny'n arwyddocaol iawn, ac rwy'n disgwyl i ni allu nodi mwy o wariant gan y GIG yn dychwelyd, yn raddol, i Gymru yn y dyfodol. Fel y dywedais i wrth Paul Davies, rwy'n sicr yn ceisio monitro hynny ynghyd â'r Gweinidog iechyd, am fy mod i'n awyddus i ddeall sut rydym ni wedi gwneud hynny'n llwyddiannus yn ymarferol, ac ailosod ein hamcanion ni wedyn i wneud mwy yn y dyfodol, yn hytrach na dim ond dweud, 'Rydym ni wedi gwneud digon, gadewch i ni anghofio am hyn a symud ymlaen.' Mae hyn yn rhan o'r dyfodol, nid rhywbeth ar gyfer un datganiad yn unig ac yna symud ymlaen.
O ran eich pwynt ynghylch sut y mae angen i'r gwerth hwnnw fod yno, rwy'n credu bod eich pwyntiau chi am gaffael a'r gadwyn gyflenwi yn bwysig iawn. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth o ran caffael dros y tymor diwethaf a chyn hynny. Fe wyddom ni fod mwy o fusnesau yng Nghymru a mwy o swyddi yng Nghymru oherwydd y ffordd yr ydym ni wedi newid ein dull o gaffael. Ond yr her, unwaith eto, yw sut rydym ni yn gwneud mwy, a pheidio â bod yn amddiffynnol o ran yr hyn a wnaethom ni neu beidio hyd yn hyn, ond sut rydym ni yn dweud y gallwn ni wneud yn well eto, hyd yn oed. Mae'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol yn rhan o hynny, ond dyma'r holl bethau eraill a amlinellais i'n gynharach heddiw. Y gwaith a wnaeth CLES gyda ni, y gwersi maen nhw wedi eu dysgu eisoes gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus—maen nhw'n dysgu gwersi wrth gyrraedd diwedd y flwyddyn ariannol hon i ni allu deall mwy am yr hyn a wnaethom ni eisoes, er mwyn gallu symud ymlaen a gweld mwy o gynnydd. Mae hi'n wir ein bod ni'n deall mwy ar hyn o bryd, o fewn y gadwyn gyflenwi, ynghylch rhai busnesau sydd â chod post ar gyfer talu, ond nid yw'r holl weithgarwch, yn sicr, yn digwydd yng Nghymru. Mae hynny, unwaith eto, yn rhan o'n her ni—sut rydym ni'n dod i ddealltwriaeth wrth i ni fynd drwy reolaeth y gadwyn gyflenwi ei hun mai dim ond contractwyr sylfaenol a leolir yma, ond wrth i chi fynd ddau gam arall i lawr, fod y busnesau hynny a leolir yn wirioneddol yng Nghymru, a bod y swyddi yma? Ac yn hollbwysig, sut mae sefydlu busnesau Cymru ymhellach i fyny'r gadwyn honno o fewn y gadwyn gyflenwi fel mai y nhw yw'r prif gontractwyr ac nid y trydydd neu'r pedwerydd i lawr o'r brig?
Rwy'n disgwyl y byddwch chi'n gweld mwy ar hynny wrth i ni fynd drwy'r hyn y bydd y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol yn ein helpu ni i'w wneud—a mwy o'r cyngor y bydd Busnes Cymru yn parhau i'w roi yn y sector hefyd. Felly, rwyf i o'r farn fod lle i ni fod yn obeithiol am ein bod ni wedi gwneud rhywfaint o hyn eisoes. Enghraifft dda o'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol yw'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sy'n debyg i'ch pwynt chi am yr economi werdd. Rydym ni wedi cyhoeddi £150 miliwn i'w wario gyda'r bwriad o wneud gwahaniaeth mawr i'r tai y mae pobl yn byw ynddyn nhw. Mae hynny'n rhan o'n bwriad ni, a lleihau'r biliau a'r costau i bobl sy'n byw yn y tai hynny. Ond o'r safbwynt hwn, y swyddi a fydd yn dod yn sgil hynny. Ymhle y caiff y £150 miliwn hwnnw ei wario? Sut fyddwn ni'n clustnodi cwmnïau o Gymru, busnesau Cymru, swyddi yng Nghymru a fydd yn manteisio ar yr arian hwnnw? Ac eto, mae hynny'n eglur iawn, ac mae hon yn enghraifft dda o ddull llawer mwy cydgysylltiedig rhwng fy nghydweithwyr newid hinsawdd, Julie James a Lee Waters, a'r adran hon i sicrhau ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd hynny.
Nid wyf i wedi fy argyhoeddi bod angen comisiwn ar gyfer pontio teg arnom ni o reidrwydd, ond rwyf i o'r farn bod yr hyn y gwnaethom ni ei nodi, gyda'ch pwyntiau chi am waith teg a hefyd yr amcanion sydd gennym ni gyda'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael—fe fydd gwaith teg wrth wraidd hynny. Fe fydd llawer mwy i ni siarad amdano wrth graffu ar y darn hwnnw o ddeddfwriaeth, yn ogystal â'n dull gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd eraill. Ond rwy'n cydnabod bod gennym ni fwy y gallwn ni ei wneud, yn fy marn i, o ran y ffordd yr ydym ni'n dewis gwario arian ynddi, a sut rydym ni'n dwyn perswâd ar fusnesau i ddod gyda ni—drwy anogaeth y bydd hynny ond mae hyn yn ymwneud hefyd â'r gofynion sydd gennym ni o ran sut rydym ni'n disgwyl i arian cyhoeddus Cymru gael ei wario. Ac fe fydd hynny'n cynnwys ein huchelgeisiau o ran lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, oherwydd rwy'n cydnabod, wrth i'r economi gael ei strwythuro, fod yna lawer o swyddi y mae pobl yn eu hystyried yn swyddi i ddynion neu i fenywod ac eto, mewn gwirionedd, fe wyddom ni nad oes angen i'r rhaniad hwnnw fod yn un gwirioneddol. Rydym ni'n awyddus i annog pobl i ystyried gwahanol yrfaoedd mewn ffordd gadarnhaol, yn ogystal â'n hymagwedd ni tuag at economi sylfaenol, sy'n ceisio codi cyflogau mewn meysydd lle gwyddom ni fod menywod yn aml ar gyflog isel. Felly, dyna pam rydym ni'n sôn am ofal cymdeithasol fel sector pwysig iawn, ond dyna pam y byddwn ni'n parhau hefyd i gymryd camau rhagweithiol ac adeiladol i annog menywod i ddilyn gyrfaoedd, i ennill sgiliau a hyfforddiant ar gyfer ennill y swyddi hynny, ac annog cyflogwyr i newid y gweithle.
Rwyf i am orffen ar y pwynt hwn, Dirprwy Lywydd. Fe allaf i ddweud yn onest fy mod i wedi gweithio mewn gweithleoedd gyda gwahanol grwpiau o bobl mewn gwahanol dimau, a'r timau gorau yr wyf i wedi gweithio ynddyn nhw yw'r timau sy'n fwy cytbwys o ran nifer y dynion a'r menywod—y timau mwyaf pleserus, y diwylliant gorau o fewn y timau, y ffordd orau o ennyn y gorau o'i gilydd. Felly, nid yw hyn yn ymwneud yn unig â bod yn awyddus i wneud y peth iawn o safbwynt ideolegol; fe geir tystiolaeth dda, nid yn unig yn fy mhrofiad i ond yn fwy cyffredinol, fod busnesau yn tueddu i wneud yn well os ydyn nhw'n gallu mynd i'r afael â'r mater hwn ynghylch pwy sy'n gweithio iddyn nhw ac, yn hollbwysig, i fod â thegwch yn y ffordd y caiff pobl eu talu am eu gwaith.
Ac yn olaf, Sarah Murphy.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cefnogi busnesau lleol yn hanfodol a dyna pam rwyf i mor hapus o weld gennych chi heddiw, Gweinidog, y buddsoddiad o £1 miliwn ar gyfer y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol. Fe wn i yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr am y gwahaniaeth mawr y mae busnesau lleol cryf yn ei wneud, ac y maen nhw'n hanfodol i'n cymunedau ni ledled Cymru. Rwy'n arbennig o falch y bydd y gronfa hon yn blaenoriaethu busnesau yn y sectorau bwyd, gofal cymdeithasol ac ôl-osod er mwyn optimeiddio, y mae gennym ni lawer ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Mae'n wir yn tynnu sylw at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi buddsoddiad dilys i gryfhau ein heconomi sylfaenol a chan ymestyn hynny, er lles pobl Cymru gyfan. Mae'n ddrwg gen i, does gen i ddim fy sbectol. Ennill mwy o werth a gwell swyddi o'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta a'r gofal a gawn ni a'r cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw ddylai hyn fod amdano, ac mae'r gronfa hon, wrth gwrs, yn ychwanegiad ac yn adeiladu ar y cyhoeddiad gan ein Gweinidog yn gynharach yr haf eleni gyda'r hwb ariannol o £2.5 miliwn i gefnogi busnesau yn yr economi leol bob dydd. Felly, fel roeddech chi'n dweud, rydym ni'n adeiladu drwy'r amser. Rwy'n awyddus iawn i wybod hefyd, fel dywedodd Luke Fletcher, fwy am y gronfa hon, sut y gall fy etholwyr i fod â rhan ynddi hi a gwneud cais cyn gynted ag y gallan nhw.
Ac yn olaf, rwy'n llwyr werthfawrogi'r ffaith bod y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol gan Lywodraeth Cymru ar sail tystiolaeth a phartneriaeth. Dyma'r rheswm pam roeddwn i'n dymuno cael fy ethol ar gyfer cynrychioli pobl fy etholaeth i—ar gyfer sicrhau, pan ddaw'r cyllid hwn i ni, mai dyna'n union sut y penderfynir arno. Oherwydd, yn anffodus, nid yw hynny wedi bod yn wir am Ben-y-bont ar Ogwr na Chymru o ran cyllid gan Lywodraeth y DU i godi'r gwastad, a allai, a dweud y gwir, gael ei galw'n 'gronfa gefnogi ffyddloniaid y Torïaid'. Felly, er fy mod i wrth fy modd am fod gennym ni'r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer busnesau lleol heddiw, Gweinidog, rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth y DU ddysgu oddi wrth Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Diolch. Roedd dau bwynt yn y fan yna. Y cyntaf yw'r pwynt cadarnhaol iawn i Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl ac etholaethau eraill—y gallwch chi ddisgwyl i fwy o fusnesau fynd at gwmnïau lleol ar gyfer cefnogi swyddi lleol. Y tri sector yw'r tri maes i ddechrau yn y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol—cyflenwyr bwyd, gofal cymdeithasol ac ôl-osod er mwyn optimeiddio, ac rwy'n siŵr bod gennych chi nifer ohonyn nhw yn eich etholaeth chi. Ystyr hyn yw sut rydym ni am gyflwyno'r ddealltwriaeth o ran sut y gall pobl chwilio am y cymorth a chael gafael ar gyngor busnes ar eu cyfer nhw, ond, yn hollbwysig, ar gyfer y bobl sy'n rhedeg y contractau hynny wedyn ac yn tendro'r contractau hynny i sicrhau eu bod nhw'n manteisio ar gyfleoedd i fuddsoddi yn eu cymunedau lleol. Ac rwy'n hyderus y byddwn ni nid yn unig yn gweld arian yn cael ei wario, ond mwy o werth i'w gael ohono hefyd mewn cymunedau lleol o ganlyniad i'r dewis yr ydym ni'n ei wneud.
Ac mae eich ail bwynt chi'n ymwneud â'r her barhaus ynglŷn â'r ffordd y mae agenda'r gronfa codi'r gwastad yn cael ei rhedeg. Mae Prif Weinidog y DU wedi anghofio'r cyfan am ei addewid maniffesto blaenorol na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Mae'r cronfeydd hynny'n cael eu hysbeilio pan ddylid eu gwario nhw yma yng Nghymru. Fe ddylai'r sefydliad hwn, yr ochr seneddol a'r Llywodraeth fel ei gilydd, gael dweud ei farn ar sut y caiff yr arian hwnnw ei wario fel sefydliad sy'n gwneud penderfyniadau, ac mae hyn wedi costio cannoedd o filiynau o bunnoedd i Gymru yn barod eleni, fel y mae hi nawr. Ac rydych chi yn llygad eich lle hefyd i dynnu sylw at y ffaith bod arian yn cael ei wario mewn ffordd sy'n rhoi'r argraff gref iawn fod yr Aelod Seneddol yr ydych chi'n ei ethol i San Steffan yn gwneud gwahaniaeth o ran ble mae'r arian yn cael ei wario, ac nid yn ôl yr angen sydd amdano, ac nid yw hynny'n dderbyniol nac yn deg, ac ni fydd y Llywodraeth hon yn cymryd cam yn ôl wrth ddadlau'r achos y dylai Cymru gael yr hyn sy'n haeddiannol. Rwy'n sicr yn gobeithio y bydd pleidiau eraill yn y fan hon yn gweld yn dda i wneud fel hyn hefyd, mewn gwirionedd.
Diolch i'r Gweinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Cofiwch, os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:31.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:39, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Gymru ac Affrica, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Jane Hutt.

Llywydd, mae Cymru yn genedl sy'n edrych tuag allan, a byddwn ni bob amser yn ymdrechu i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein rhaglen Cymru ac Affrica yn ffordd bwysig o ddangos hyn.
Eleni, rydym yn dathlu 15 mlynedd o raglen Cymru ac Affrica, sy'n parhau i addasu i heriau a chyfleoedd. Mae ganddo le amlwg yn ein strategaeth ryngwladol a lansiwyd yn 2020. Yn y datganiad hwn, byddaf yn canolbwyntio ar ddwy o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu—COVID-19 a'r argyfwng hinsawdd—a sut y mae'r rhaglen Cymru ac Affrica yn ymateb.
Mae'r pandemig wedi gadael llawer iawn o ddinistr a cholled yn ei sgil—ac nid yw wedi dod i ben eto. Mae llawer o wledydd Affrica yn dal i fod yn llygad y ddrycin, gydag achosion COVID a thonnau mynych o heintiau'n ysgubo drwy gymunedau. Chwech y cant yn unig yw cyfartaledd y gyfradd frechu yn Affrica is-Sahara. Yn wir, nid oes yr un ohonom yn ddiogel nes bod pob un ohonom yn ddiogel.
Annhegwch brechu yw'r rhwystr mwyaf sy'n atal y byd rhag dod allan o'r pandemig hwn. Er nad yw dosbarthiad y brechlyn wedi ei ddatganoli, mae'r Prif Weinidog wedi annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cyflenwad o frechlynnau i'r byd datblygol, ac, yn benodol, i leoedd sydd â chysylltiadau cryf â Chymru fel Uganda, Namibia a Lesotho. Ac rwy'n gwneud yr alwad honno eto heddiw, Llywydd. Yma yn y DU, bydd miliynau o ddosau'n cael eu taflu, hyd yn oed pan fyddai modd iddyn nhw, o gynllunio yn well, gael eu defnyddio yn Affrica is-Sahara, fel mae Cynghrair Brechu'r Bobl wedi ei nodi. Er na allwn ni anfon brechlynnau ein hunain, fel Llywodraeth, mae gwaith pwysig y gallwn ei gefnogi, a dyma pam, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.5 miliwn ychwanegol i sefydliadau yng Nghymru er mwyn gweithio mewn partneriaeth â llawer o wledydd yn Affrica i ymladd yn erbyn COVID.
Petruster ynghylch y brechlyn a diffyg ymwybyddiaeth, diffyg ocsigen, cyfarpar diogelu personol a'r hyfforddiant i'w ddefnyddio'n iawn—mae'r rhain i gyd yn feysydd sy'n peri pryder. Dyna pam yr wyf i'n falch ein bod ni wedi gallu cefnogi nifer o wahanol brosiectau gyda'r cyllid ychwanegol hwn. Un enghraifft yw United Purpose yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn darparu ymateb brys cyflym i COVID yn Nigeria, y Gambia, Senegal a Guinea, gan gyrraedd dros 4 miliwn o'r bobl dlotaf yn y byd. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae ardaloedd glanweithdra glân yn cael eu darparu, mae ymwybyddiaeth o frechlynnau yn cael ei chodi, ac mae pobl sydd wedi colli eu bywoliaeth gyfan o ganlyniad i COVID yn cael hyfforddiant mewn ffyrdd eraill o'u cefnogi eu hunain.
Enghraifft arall yw Teams4U. Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol yn Uganda, gan wella glanweithdra a darpariaeth mislif mewn canolfannau iechyd ac ysgolion, a sicrhau bod dŵr poeth yn cael ei blymio i ganolfannau iechyd, sy'n hanfodol ar gyfer trin cleifion yn effeithiol ac yn ddiogel.
Mae'r Prosiect Phoenix yn brosiect hynod gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, sy'n gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno rhaglen hybu brechu yn Namibia yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yna cyflwyno'r rhaglen frechu ei hun, gan achub llawer o fywydau. Dyfarnwyd grant i Brosiect Phoenix hefyd yn ddiweddar i gefnogi Namibia i sicrhau bod cyflenwadau ocsigen gwell yn y mannau cywir, ar yr adeg gywir, gyda hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu i gannoedd o nyrsys a meddygon i reoli'r cyflenwadau ocsigen hynny.
Yn yr un modd, fe wnaethom ni ddarparu grant hefyd i Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Partneriaethau Tramor, neu PONT, sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty Cyfeirio Rhanbarthol Mbale yn Uganda, i brynu cyfarpar diogelu personol, offer a generaduron ocsigen hanfodol. Wrth gwrs, nid dim ond drwy ddarparu arian y gallwn ddangos ein hymrwymiad i gefnogi gwledydd lle mae ei angen fwyaf. Mae'r rhodd ddiweddar i Namibia o offer dros ben a phrofion llif unffordd wedi helpu gyda'i thrydedd don o COVID.
Gyda COP26 yn digwydd yn Glasgow, hoffwn i hefyd dynnu sylw at y gwaith parhaus y mae ein rhaglenni cymorth i blannu coed yn ei wneud wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae ein prosiectau partner yn gweithio i liniaru tlodi a chefnogi ymaddasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir o blannu 15 miliwn o goed yn gynharach eleni, tuag at y targed o ddosbarthu 25 miliwn o goed erbyn 2025.
Yn gysylltiedig â'r gwaith hwn mae Jenipher’s Coffi, partneriaeth rydym yn falch o'i chefnogi, sy'n mewnforio coffi masnach deg ac organig o'r ansawdd gorau i Gymru ac yn helpu ffermwyr o Uganda i weithio mewn cytgord â natur, wrth iddyn nhw wynebu'r argyfwng hinsawdd. Jenipher Sambazi sy'n arwain y prosiect hwn, gan arwain y ffordd i fenywod a'u cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at ei chyfarfod pan fydd yn ymweld â Chymru yn ddiweddarach y mis hwn. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu ei chefnogi i fynychu COP26. Mae hi'n siarad y prynhawn yma mewn digwyddiad COP26 gan Lywodraeth Cymru yn Glasgow, ynghyd â chynrychiolwyr o Namibia ac Uganda. Byddan nhw'n sôn am effaith gweithgarwch plannu ac ailgoedwigo y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ariannu.
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a bydd y rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i chwarae ei rhan yn hynny. Rydym yn defnyddio ein cynlluniau grant bach a mwy i roi cymorth i'r heriau byd-eang hyn. Agorodd ail rownd cynllun grantiau bach Cymru ac Affrica a'r £700,000 sy'n weddill o'r £2.5 miliwn o gyllid ymateb brys COVID ar gyfer ceisiadau yr wythnos diwethaf. Bydd y grantiau bach yn parhau i ariannu sefydliadau yng Nghymru a'u gwaith gyda phartneriaid yn Affrica i gyflawni prosiectau o dan bedair thema, sef dysgu gydol oes, iechyd, bywoliaeth gynaliadwy a newid yn yr hinsawdd.
Gan ei fod yn thema diwrnod rhywedd yn COP26 heddiw, roeddwn i eisiau nodi rhai o'r prosiectau ar draws ein grantiau a'n rhaglenni sy'n cefnogi mentrau cydraddoldeb rhwng y rhywiau—prosiectau fel Mamau Affrica, Cydweithfa Menywod Chomuzangari a phrosiect grymuso menywod Hub Cymru Africa sy'n ymchwilio i brofiad dioddefwyr trais ar sail rhywedd yn Lesotho, sut y mae angen asesu'r system adrodd. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Hub Cymru Africa yn lansio cynllun grant i sefydliadau gyflwyno cynigion prosiect i weithio gyda'u partneriaid yn Uganda ar y gweithgaredd cydraddoldeb rhwng y rhywiau hwn. A gaf i fanteisio ar y cyfle i ganmol y gweithredydd hinsawdd o Uganda Vanessa Nakate, sydd wedi dweud yr wythnos hon yn COP26 yn Glasgow:
'Mae rhai ohonom yn dod o gymunedau lle mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched'?
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gweld mwy o waith gyda'n cymunedau sydd ar wasgar yng Nghymru. Dylai unrhyw weithgarwch a wneir yn Affrica fod yn llai amdanom ni’n gwneud penderfyniadau ac yn gwneud y gwaith a mwy am gefnogi pobl yn y cymunedau hyn i nodi a chyflawni'r hyn sydd ei angen. Mae gan bob etholaeth yng Nghymru bartneriaethau yn Affrica, a byddwn yn parhau i gefnogi'r partneriaethau hyn drwy'r rhaglen Cymru ac Affrica. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen hyn. Am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, cododd tlodi eithafol byd-eang yn 2020. Nawr yw'r amser i roi hwb i gymorth i genhedloedd sydd ei angen fwyaf. Rydym yn glynu wrth ein hegwyddorion fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac rydym yn sefyll wrth ochr ein ffrindiau. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n wych gweld bod y rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i fod o fudd i rai o wledydd tlotaf y byd, a bod cylch arall o gyllid ar raddfa fach wedi ei lansio. Mae hyn wedi bod yn ffynhonnell hanfodol o incwm i ddarparu cymorth a chefnogaeth i lawer o elusennau bach a grwpiau cymunedol ar gyfandir Affrica. A hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch a fy nghefnogaeth i'r holl waith maen nhw’n ei wneud.
Gan fyfyrio ar y ffordd orau o sicrhau y cyllid grant mwyaf, hoffwn i godi mater trosi a chyfnewid arian cyfred, sy'n elfen hanfodol ar gyfer cyllido prosiectau dramor. Fel y gŵyr y Gweinidog, ac os defnyddiwn ni Uganda fel enghraifft, mae'r bunt Brydeinig dros y degawd diwethaf wedi bod yn werth unrhyw beth o 3,600 swllt Uganda i hyd at 5,700 swllt, a bydd y gwahaniaeth eithaf mawr hwn yn cael effaith ganlyniadol enfawr ar faint o arian y gall prosiect ei wario. Gall pum mil o bunnoedd, er enghraifft, fod yn werth unrhyw beth o 18 miliwn i 28 miliwn swllt, yn dibynnu ar ba bryd y caiff yr arian ei gyfnewid, ac mae hyn yn golygu y gallai prosiectau ei chael hi’n anodd cyflawni eu potensial llawn.
Mae'n sicr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol na allwch chi brynu swllt Uganda a llawer o arian Affricanaidd arall yn y Deyrnas Unedig, a'r ffordd fwyaf effeithlon o ran cost i elusennau drosglwyddo arian i'r gwledydd hyn yw trwy fynd ag ef yno eu hunain mewn arian parod yn gorfforol ac yna ei gyfnewid wrth gyrraedd. Yn ogystal â'r ffaith y gall cario arian parod mewn symiau mor fawr fod yn beryglus, mae prosiectau elusennol a chymunedol hefyd ar drugaredd ffioedd cyfnewid uchel, sy'n golygu ei bod yn anodd iawn pennu costau a rheoli cyllidebau. Gyda hyn mewn golwg, a all y Gweinidog gadarnhau p’un a yw wedi ystyried y posibilrwydd o ganiatáu i'r elusennau a'r grwpiau cymunedol hyn hawlio arian prosiect yn uniongyrchol yn eu priod wledydd, yn hytrach na rhedeg y risgiau o fewnforio eu harian yn gorfforol?
Rwy'n ymwybodol nad yw'r Gweinidog wedi sôn amdano, ond, yr wythnos diwethaf, cefais i wrando ar rai o'r trafodaethau yng nghynhadledd flynyddol Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, GlobalCitizenship2021, a chefais fy nharo gan y drafodaeth ar yr adroddiad ar sicrhau’r potensial mwyaf posibl ar gyfer budd yn y dyfodol, sy'n dadansoddi cysylltiadau partneriaeth iechyd mewn cysylltiad â'r rhaglen Cymru ac Affrica a'r gwaith rhyngwladol a wneir gan staff iechyd yng Nghymru. Nid yw'n syndod bod beirniadaeth yn yr adroddiad, a thynnodd sylw at sawl maes y mae angen eu gwella, a byddwn i'n croesawu'n fawr sylwadau'r Gweinidog ar ddau o'r pwyntiau hynny.
Yn gyntaf, mewn arolwg a gynhaliwyd gan yr adroddiad, tynnodd y cyfranogwyr sylw at eu pryderon ynghylch rhwystrau sydd ar waith sy'n lleihau'r tebygolrwydd y bydd cymunedau ar wasgar yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gwaith partneriaeth iechyd. Un o'r materion sylfaenol a nodwyd, ac rwy’n dyfynnu, yw 'ymdeimlad o allgáu o sector datblygu rhyngwladol rhy wyn'. Yn wir, os byddwn yn crafu'r wyneb, fel maen nhw’n ei ddweud, gallwn ddod o hyd i ryw elfen o wirionedd yn hyn o beth. Er enghraifft, mae'r naw ymddiriedolwr ym Maint Cymru, dan arweiniad cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn wyn; mae gan Rwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru yn Affrica bedwar allan o chwe ymddiriedolwr gwyn; ac ar dudalen we Hub Cymru Africa, mae 10 allan o 12 o'r rhai hynny a restrir hefyd yn wyn. Er nad oes gen i amheuaeth bod ymgysylltiad â'r gymuned ar wasgar yng Nghymru, ac rydych chi wedi sôn yn benodol amdano yn eich datganiad heddiw, mae'n amlwg pam mae cymunedau'n credu nad oes ganddyn nhw lais ar y prif fwrdd. Gan fyfyrio ar ddatganiadau Llywodraeth Cymru ar greu ac annog mwy o amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, rwy'n awyddus i wybod beth mae'r Gweinidog yn ei wneud mewn gwirionedd i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Yn ail, fel y mae'r adroddiad yn ei amlinellu, mae cynigion Llywodraeth Cymru yn cael eu hategu gan weithrediad polisi tameidiog a darniog, sy'n creu bwlch amlwg rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fwriadu ac arfer gwirioneddol. Mae hwn yn fater sydd, ar bob golwg, yn codi dro ar ôl tro gyda'r Llywodraeth hon. Er enghraifft, ar ôl wyth mlynedd o'i mabwysiadu, nid yw'r siarter ar gyfer partneriaethau iechyd rhyngwladol yn cael ei gweithredu'n llawn o hyd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu digon o adnoddau i sefydliadau neilltuo cyfrifoldeb am waith rhyngwladol o fewn eu strwythurau sefydliadol—sy'n eithaf eironig, o gofio bod 'rhyngwladol' wedi ei gynnwys yn enw'r siarter. At hynny, er gwaethaf manteision canfyddedig y siarter, mae diffyg strategaeth gyfathrebu, sy'n golygu nad yw sefydliadau wedi cynnwys y siarter yn eu blaengynlluniau gwaith. Yn wir, prin iawn yw'r ymwybyddiaeth o'r siarter y tu hwnt i lefel y bwrdd, gan awgrymu'n glir mai ychydig o bobl sy'n credu ei bod yn werth siarad amdano.
Rydym yn gwybod am y manteision y gall gwaith rhyngwladol eu cynnig i'r GIG, ac mae pobl ymroddedig yn buddsoddi eu hamser a'u hegni i geisio gwneud i hyn weithio a datblygu partneriaethau iechyd rhyngwladol, ond maen nhw’n cael eu siomi gan obsesiwn afiach y Llywodraeth hon â gor-gymhlethu popeth. Mae'r adroddiad ar sicrhau’r potensial mwyaf posibl ar gyfer budd yn y dyfodol yn frith o gyhuddiadau nad oes gan y Llywodraeth strategaeth glir ym maes iechyd rhyngwladol ac nad oes dim nodau nac amcanion cydgysylltiedig. At hynny, mae'n ymddangos bod gennych gymhelliad seicotig bron i greu mwy a mwy o gytundebau partneriaeth yn wyneb dyblygu ymdrech a phledio'r rhai sy'n gysylltiedig i leihau nifer y cyfarfodydd y mae'n rhaid iddyn nhw eu mynychu. Dangosir hyn gan y siart rhyngddibyniaeth ysgubol sydd i’w weld yn yr adroddiad, a fyddai'n rhoi hunllefau hyd yn oed i'r gwyliwr ffilmiau arswyd mwyaf caled.
Felly, mae'n codi'r cwestiwn pam ydych chi'n ymwneud â hyn o gwbl. Mae'r adroddiad yn dangos yn glir bod y gymuned partneriaeth iechyd yn galw am arweinyddiaeth ac ewyllys wleidyddol i ddatrys y materion hyn. Felly, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sy'n gyfrifol am y rhaglen Cymru ac Affrica, mae'r cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â'r materion hyn ar eich ysgwyddau chi. Sut ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon hyn? Diolch.
Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am ei gefnogaeth agoriadol amlinellol i'r rhaglen Cymru ac Affrica ac i'r partneriaethau, sydd, wrth gwrs, yn ymestyn i bob etholaeth, ac mae llawer o'r Aelodau yma yn falch iawn ohonyn nhw ac wedi derbyn ein cyllid grantiau bach hollbwysig.
Wrth gwrs, rydych chi’n codi pwyntiau pwysig am faterion trosi, cyfnewid ac arian cyfred, materion sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar yr holl waith o gefnogi datblygiad rhyngwladol, o ran cyfraddau cyfnewid a mynediad at arian cyfred, ac mae hynny'n bwynt pwysig, o ran sicrhau y gall ein sefydliadau partner hawlio’r cyllid yr ydym ni, wrth gwrs, yn ei rannu ac yn ei ddyrannu i ddiwallu eu hanghenion.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu mynd i gynhadledd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, yr oeddwn i'n bresennol ynddi hefyd, fel y gwyddoch chi, a lle cyflwynais araith yr wythnos diwethaf. A thema'r gynhadledd hon i gyd-Aelodau oedd dinasyddiaeth fyd-eang. Wrth gwrs, cawsom gynrychiolaeth gan yr holl fyrddau iechyd hynny, sefydliadau Cymru a phartneriaid Affrica, prifysgolion, a gweithwyr iechyd a'r GIG o bob rhan o'r DU, sy'n cydnabod y gwaith yr ydym yn ei wneud a’i bwysigrwydd. Ac rwy'n credu ei bod hi, mewn gwirionedd, yn ddefnyddiol i fyfyrio ar gryfder cyfleoedd dysgu rhyngwladol. Mae'r cynllun hwnnw wedi ei ddarparu i bron i 200 o bobl o Gymru, gyda lleoliadau wyth wythnos naill ai yn Lesotho, Uganda neu Namibia, ac maen nhw wedi cynorthwyo sefydliadau partner yn eu hymdrechion i gyflawni agweddau ar nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Os oes unrhyw un ohonoch chi wedi cwrdd â phobl yn ein byrddau iechyd sydd wedi cymryd rhan mewn gwirionedd—ac, yn wir, gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi cymryd rhan—yn y cynllun cyfleoedd dysgu rhyngwladol hwn, byddwch chi'n gwybod pa mor drawsnewidiol ydyw ar sail cyd-ddysgu o ran y cyfleoedd hynny.
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar y ddarpariaeth a'r cymorth a roddir o ganlyniad i'n rhaglen grantiau bach a gwaith Hub Cymru Africa, ac rwy'n credu, dim ond o ran edrych ar Hub Cymru Africa, cefnogi cymuned Cymru-Affrica, soniais am y gymuned ar wasgar, ac rydym ni'n cydweithio'n agos iawn â Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori Is-Sahara a Masnach Deg Cymru, ac, i roi un enghraifft i chi, fis diwethaf, cafodd Hub Cymru Africa £40,000 gan y rhaglen Cymru ac Affrica i gyflawni'r prosiect grymuso menywod. Ac mae hynny yn ymwneud â grymuso felly—. Mae'r Aelod yn tynnu sylw pwysig at y ffaith bod hyn yn ymwneud â grymuso'r cymunedau hynny a grymuso, yn arbennig, menywod, ac mae hynny'n caniatáu i grwpiau o Gymru gyfrannu at ganlyniadau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn Uganda.
Rwyf i wedi siomi yn y ffaith nad yw'n ymddangos eich bod chi'n cydnabod effaith y rhaglen Cymru ac Affrica am gynifer o flynyddoedd. Hoffwn i atgoffa'r Aelod mai gweledigaeth rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yw cefnogi Cymru i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy ddatblygu a meithrin partneriaethau cynaliadwy, ac mae yn cyflawni'r partneriaethau cynaliadwy hynny yn Affrica Is-Sahara mewn gwirionedd, neu yn y swyddogaeth o gefnogi nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Ac, wrth gwrs, mae galw enfawr yng Nghymru am ymateb Cymreig nodedig i gyfrannu at ddatblygu rhyngwladol. Ac, wrth gwrs, y rheswm am yr ymateb hwnnw yw ein bod ni'n gweld ein bod ni'n cefnogi dwsinau o grwpiau cymdeithas sifil bach sy'n gweithio gyda phartneriaid yn Affrica ar addysg ac ar anghenion cymunedol, gan hybu iechyd a lles, diwylliant, chwaraeon a busnes, fel Jenipher’s Coffi, ac rydym yn dangos effaith ein gweithgareddau datblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd mwyaf llwyddiannus ledled Cymru.
A byddwn i'n gobeithio, fel y dywedais i ar ddiwedd fy natganiad, y byddem ni'n gweld mai dyma'r amser i ni ddod at ein gilydd, ac yn enwedig gyda COP26 a'r her newid yn yr hinsawdd. Byddwch chi wedi gweld yr hyn sy'n digwydd i Affrica o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, ac fe wnes i’r pwynt yn fy natganiad: nawr yw'r amser i ni wneud popeth o fewn ein gallu i rannu ein hadnoddau ac edrych ar roi cymorth. Felly, gofynnaf i chi godi gyda'ch Llywodraeth yn y DU y pryderon sydd gennym ni fod Llywodraeth y DU wedi diddymu'r Adran Datblygu Rhyngwladol ac wedi amsugno ei chyllideb i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad y llynedd—ac roeddem ni'n gwybod y byddai rhai tlotaf y byd yn dioddef—ac yna troi yn ôl ar ymrwymiad maniffesto'r Ceidwadwyr, gan dorri £4 biliwn o'r gyllideb dramor, gan arwain at effaith ddinistriol ar gynifer o fywydau yn y gwledydd tlotaf. Ac i roi un enghraifft i chi, Bees for Development yn Nhrefynwy—mae eu cyllid grant partneriaeth gymunedol tair blynedd o £250,000 ar gyfer gwaith yn Ethiopia wedi ei dorri o ganlyniad i'r toriadau o'r gyllideb datblygu cymorth tramor. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n cau prosiect pwysig, gan dorri 41 y cant o'r gyllideb. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gwrando ar Jenipher, wrth iddi sôn am ei gwaith heddiw yn Glasgow, yn COP26. Mae hi'n mynd i fod yn sôn am yr hyn y mae'n ei olygu iddi gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r rhaglen Cymru ac Affrica i gefnogi ei gwaith fel tyfwr coffi yn Uganda.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae nifer o bwyntiau pwysig yn cael eu codi gennych, ac roedd yn wych cael ein hatgoffa am yr holl gysylltiadau cryf sydd rhwng Cymru ac Affrica, a’r cyfoeth o brosiectau sydd yn cael eu gwireddu’n barod.
Fel y byddwch yn ymwybodol, mae ymgyrch Brechlyn y Bobl yn rhywbeth rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn gyfan gwbl gefnogol ohono, a dwi'n cytuno’n llwyr gyda chi: mae diogelwch pawb yn ddibynnol ar bawb yn cael yr un cyfle i dderbyn y brechlyn, lle bynnag eu bod yn byw yn y byd, ac mae’n warth o beth nad yw Llywodraeth Prydain wedi gweithredu’n gynt ar hyn.
Mi oedd hi'n amlwg iawn bod Joel James wedi penderfynu peidio cyfeirio at y rhan yna o'ch datganiad chi, a dwi'n meddwl os gall pobl yn y Blaid Geidwadol sydd yma heddiw fynd â'r neges yna nôl i San Steffan mi fyddai hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bawb ohonom ni.
Fe wnaethoch chi nodi yn eich datganiad, Gweinidog, fod y Prif Weinidog wedi annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cyflenwad o frechlynnau i'r byd datblygol. A allwch chi roi gwybod pa ymateb mae'r Prif Weinidog wedi ei gael i'r cais hwn ac, yn ogystal â gwneud yr alwad heddiw, a ydych chi eich hun hefyd wedi ysgrifennu neu a fyddwch chi’n ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn? Byddai gennych ein cefnogaeth lawn ar hyn.
Wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi sôn hefyd, mae'r cymorth rhyngwladol a dorrwyd gan Lywodraeth y DU, gan arwain at fod ar ei isaf ers naw mlynedd, gyda'r toriad i wariant cymorth tramor yn dod i gyfanswm o tua £4 biliwn. Ni fydd y toriad hwn yn cael ei wrthdroi tan 2024-25 ar y cynharaf, a bydd yr effaith hon nid yn unig yn cael ei theimlo o ran ymateb ac adfer ar ôl COVID, ond hefyd, fel yr ydych chi’n ei amlinellu'n briodol, yr effaith andwyol ar iechyd mewn pob math o wahanol ffyrdd. I ychwanegu at eich enghreifftiau, bydd menter dileu polio byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd, i bob pwrpas, yn colli ei holl gyllid yn y DU, o £110 miliwn i £5 miliwn. Yn yr un modd, mae WaterAid wedi lleisio pryderon y bydd y toriad hwn yn golygu o leiaf tair blynedd arall o ddŵr budr a marwolaethau babanod mewn cymunedau sy'n agored i niwed. Bydd UNICEF hefyd yn gweld toriad o 60 y cant i'w gyllid yn y DU. Felly, er ein bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei meddwl, a fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r rhaglen Cymru ac Affrica i geisio unioni effaith y toriadau cymorth llym hyn sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth y DU ac, os felly, sut?
Ac wrth gwrs, bydd y toriad hwn hefyd yn effeithio'n negyddol ar sut y bydd y gwledydd hyn yn gallu ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur—rhywbeth y gwnaethoch chi hefyd gyfeirio ato, Gweinidog, fel rhywbeth cwbl hanfodol yn eich datganiad—ac roedd hi’n dda clywed bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio cyfleoedd a grëwyd gan COP26 i hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Yn amlwg, nodwyd hyn fel cam gweithredu yn rhan o gynllun gweithredu Cymru ac Affrica, a oedd hefyd yn nodi y byddai COP26 yn gyfle i greu partneriaethau newydd. Byddai'n dda gen i wybod pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran gwireddu'r amcanion hyn hyd yma. Yn amlwg, mae COP26 yn parhau, felly byddwn i'n ddiolchgar yn y dyfodol am ddiweddariad hefyd.
Un o'r ffactorau allweddol sy'n ysgogi newid yn yr hinsawdd byd-eang ac argyfwng natur, fel y gwyddom ni, yw datgoedwigo a cholli cynefinoedd. Yn ôl astudiaeth WWF Cymru, Maint Cymru ac RSPB Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yr adroddiad 'Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang', mae ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Gymru. Er enghraifft, mae'r tir cyfartalog sydd ei angen bob blwyddyn i gynhyrchu galw Cymru am goco yn unig yn cyfateb i faint sir Wrecsam neu ddwywaith arwynebedd tir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Cymru'n mewnforio y rhan fwyaf o'i goco o wledydd gorllewin Affrica, lle mae risgiau uchel o ddatgoedwigo a materion cymdeithasol, tra bod 55 y cant o dir mewnforio coco i'w weld mewn gwledydd lle mae risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo a materion cymdeithasol. Hefyd, mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr o gynhyrchu coco ar gyfer mewnforion Cymru yn dod i gyfanswm o tua 68,800 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ehangu mentrau fel Coffi 2020 a Fair Do's/Siopa Teg i fynd i'r afael â datgoedwigo a materion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â mewnforion Cymru? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei pholisïau contract economaidd a chaffael i sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn rhydd o ddatgoedwigo a chamfanteisio cymdeithasol?
Fel y gwnaethoch chi ei nodi, Gweinidog, cynyddodd tlodi eithafol byd-eang yn 2020, ac os ydym ni am fod yn genedl wirioneddol gyfrifol yn fyd-eang, yna mae angen gweithredu gan bob Llywodraeth, nid geiriau cynnes yn unig. Mae dyfodol ein planed yn gofyn am hyn gennym ni.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth i fy natganiad heddiw. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy godi'r mater ynghylch mynediad i frechlynnau. Byddaf i'n ailadrodd eto yr hyn a ddywedais o ran cyfraddau brechu yn Affrica Is-Sahara ar gyfartaledd o 6 y cant yn unig. A'r pwynt yr ydym ni i gyd yn ei wneud yw nad yw'r un ohonom ni'n ddiogel nes bod pob un ohonom ni'n ddiogel, ac rydym yn ddinasyddion byd-eang ac mae gennym ni'r cyfrifoldebau hynny. Mae'n rhwystr enfawr i atal y byd rhag dod allan o'r pandemig. Ydy, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu ac wedi annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cyflenwad o frechlynnau i'r byd datblygol. Mae wedi ysgrifennu at y cyn-Ysgrifennydd Tramor, ac mae wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor newydd hefyd, i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn glir yn Llywodraeth y DU. Ac rwyf i wedi gwneud yr alwad honno eto—ac rwy'n dyfynnu Cynghrair Brechu'r Bobl—oherwydd ein bod ni'n taflu brechlynnau i ffwrdd. Ni allwn anfon y brechlynnau dramor ein hunain, ond fe allwn ni helpu o ran estyn allan a dweud, 'Wel, beth ydyw?' Ac rwyf i eisoes wedi disgrifio sawl ffordd yr ydym yn cefnogi ein partneriaid yn Affrica.
Hoffwn roi enghraifft i chi o Brosiect Phoenix eto gyda Phrifysgol Caerdydd. Bydd llawer ohonoch chi'n adnabod yr Athro Judith Hall sy'n arwain y bartneriaeth honno. Roeddem ni'n gallu rhoi grant o £125,000 i gyflwyno rhaglen frechu yn Namibia—roedd hyn gennym i'w galluogi nhw i wneud y gwaith hwnnw, a oedd yn hollbwysig; eu rhaglen nhw ydyw, mae'n eu galluogi—oherwydd bod ganddyn nhw ymwrthedd mawr i frechu COVID-19, yn enwedig ymysg y cymunedau agored i niwed, anghysbell a difreintiedig. Ond yr hyn a wnaethon nhw—. Mewn partneriaeth, mae Gweinyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Namibia, Prifysgol Namibia a Phrifysgol Caerdydd wedi cyd-gynhyrchu ymgyrchoedd cymorth, hyrwyddo ac ymwybyddiaeth i 90,000 o'r bobl fwyaf difreintiedig, ac roedd hynny'n cynnwys pobl anabl, pobl oedrannus a charcharorion, ac yna roedden nhw, yn Namibia, yn gallu darparu'r rhaglen frechu ei hun, gan achub llawer o fywydau. Ond hefyd, mae cynghrair the People's Vaccine yn glymblaid o sefydliadau ac ymgyrchwyr. Mae'n ymgyrchu dros frechlyn pobl ar gyfer COVID-19. A diolch i chi am eich cefnogaeth i hyn, oherwydd dylai hyn fod yn seiliedig ar yr wybodaeth gyffredin honno a sicrhau ei bod ar gael am ddim i bawb. Mae er lles cyffredinol byd-eang, ac mae hefyd yn cael ei gefnogi gan arweinwyr y byd yn y gorffennol a'r presennol, arbenigwyr iechyd, arweinwyr ffydd ac economegwyr.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â datgoedwigo a'r gwaith sydd wedi bod—. Mae cymaint o broffil i hyn yn ystod y dyddiau diwethaf a'r wythnos ddiwethaf yn COP26. I edrych ar raglen goed Mbale yn Uganda, sy'n dangos yn glir ein hymrwymiad i fynd i'r afael â newid. Mae'n ymwneud â chyfiawnder hinsawdd, onid yw? Pobl wledig Uganda sydd wedi gwneud ychydig iawn i achosi'r newid yn yr hinsawdd sydd bellach yn achosi cymaint o broblemau iddyn nhw. Felly, mae hwn yn brosiect a arweinir gan Uganda—rydym ni'n helpu rhai o'r bobl dlotaf yn y byd i addasu i newid yn yr hinsawdd—wedi ei ddarparu gan elusen Maint Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'n fenter tyfu coed Mount Elgon, a ddarperir yn lleol ac ar gyfer cyrff anllywodraethol lleol yn rhanbarth Mbale yn nwyrain Uganda.
A'r hyn sy'n bwysig iawn o ran plannu coed hefyd yw cysylltu hyn â'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn rhannau eraill o Affrica gyda'n cymorth ni, sy'n mynd i'r afael â'r pwyntiau allweddol iawn yr ydych chi'n eu gwneud am ddatgoedwigo ac ailgoedwigo. Felly, os edrychwch ar brosiect parc coedwig frodorol Ogongo, mae hynny'n gydweithrediad arall rhwng Prifysgol Caerdydd, Prosiect Phoenix a Phrifysgol Namibia, sy'n cefnogi gwaith ailgoedwigo ym mharc coedwig frodorol Ogongo, gan weithio mewn partneriaeth, unwaith eto, a chreu 100 hectar o goetir wedi ei adfer yng ngogledd pellaf Namibia. Ac mae hynny'n ymwneud â sefydlu ecosystem gyfan mewn ardal a oedd unwaith yn wyrdd ac yn ffrwythlon, ac mae'n ymwneud ag annog y prosiect hunangynhaliol hwn i fwrw ymlaen â hyn mewn partneriaeth â Phrosiect Phoenix. Unwaith eto, coedwig gymunedol Bore yn Kenya, rydym ni wedi bod yn ei chefnogi dros y 13 mlynedd diwethaf, ac mae hwn unwaith eto yn brosiect a reolir yn lleol i blannu 2.4 miliwn o goed trofannol, sy'n oeri'r hinsawdd, gan ehangu'r capasiti blynyddol presennol, gydag 1 miliwn o hadau wedi eu dosbarthu i 3,000 o ffermwyr teuluol a 460 o ysgolion. Mae hyn, unwaith eto, yn ehangiad mawr iawn o ran mynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni gysylltu ein polisi caffael â phwysigrwydd cadwyni cyflenwi a chydnabod bod yn rhaid i hyn fod yn foesegol. Mae gennym ni god ymarfer ar gaffael moesegol yr ydym ni wedi ei ddatblygu, ac mae hynny'n cael effaith ac, wrth gwrs, mae'n bwysig wrth i ni fwrw ymlaen â'n Bil partneriaeth a chaffael cymdeithasol, deddfwriaeth newydd, yn y dyfodol agos.
Felly, hoffwn i ddweud eto fod Affrica wedi ei tharo gan COVID-19 a newid yn yr hinsawdd. Rydym yn gweld y newyn newid hinsawdd cyntaf ym Madagascar, ond rydym ni'n gweld athro o Brifysgol Bangor yn gweithio ym Madagascar i fynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, mae gennym ni arbenigwyr ac mae gennym ni bartneriaid ledled Cymru sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac, wrth gwrs, mae'n ymwneud â chynaliadwyedd, ac mae'n ymwneud â dull partneriaeth a fydd yn cyflawni'r newid trawsnewidiol gyda'n partneriaid, ochr yn ochr â'n partneriaid.
Yn gyntaf, rwy'n falch iawn bod Jenipher Sambazi wedi mynd i Glasgow i roi barn pobl Uganda i COP. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n dal i fod yno pan fyddaf i'n cyrraedd yno nos yfory, oherwydd ei bod hi'n gwbl anhygoel, fel y rhai ohonom a gafodd y fraint o'i chyfarfod cyn y pandemig—ac yn eiriolwr gwych dros ei chymuned a'r gwaith maen nhw’n ei wneud.
Ond rwy'n dal i geisio prosesu'r wybodaeth rydych chi wedi ei rhannu â ni am y brechlynnau, oherwydd codais hyn gyda'r Gweinidog iechyd ychydig fisoedd yn ôl, a chefais sicrwydd, neu cefais yr argraff bod yr holl AstraZeneca yr oeddem ni'n ei ddefnyddio’n flaenorol yng Nghymru yn mynd i fynd i Affrica yn awr, a oedd yn ymddangos i mi fel y lle iawn ar ei gyfer. Felly, ydym ni’n dweud bod Llywodraeth y DU wedi gwahardd defnyddio'r brechlynnau y gallem ni fod wedi eu defnyddio yng Nghymru yr oeddem ni wedi penderfynu y dylen nhw fynd i Affrica? Gan ei bod hi'n sefyllfa wirioneddol anghyfforddus iawn, iawn, rwyf i’n teimlo, ynof i fy hun, ar ôl cael brechlyn atgyfnerthu yr wythnos diwethaf, pan ddarllenais mai dim ond 2 y cant o bobl yn Kenya sydd wedi cael brechlyn, a byddai hynny'n cynnwys, felly, bod gweithwyr iechyd sy'n ceisio gofalu am bobl â COVID heb eu diogelu mewn unrhyw ffordd. Felly, dyma'r sefyllfa fwyaf anghyfforddus, sy'n tynnu sylw yn wirioneddol at y byd anghyfartal iawn yr ydym ni i gyd yn byw ynddo. Felly, mae hyn yn gwbl annerbyniol, a ble mae'r cyfryngau i ddweud wrth bawb am hyn? Helo, bobl, mae gwir angen i chi fod yn hyrwyddo hyn; mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig. Os yw Llywodraeth y DU yn gwrthod gweithredu, yna mae angen ei bod yn ofynnol iddi siarad ynghylch pam ei bod yn gwrthod gweithredu.
Un neu ddau o gwestiynau penodol: rydych chi’n sôn am y cynhyrchion mislif y mae Teams4U yn eu hanfon i Affrica, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym a yw'r rhain yn gynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio, gan fod cynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio yn elfen hanfodol o sicrhau bod merched yn aros yn yr ysgol ar ôl iddyn nhw gyrraedd y glasoed. Ond rwy'n derbyn, os nad oes gennych chi ddŵr rhedeg glân, y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio rhai untro, gyda'r holl broblemau y maen nhw’n eu hachosi i'w gwaredu. Felly, mae'n ymddangos i mi—. Siaradais am hyn â Jenipher Sambazi ddwy flynedd yn ôl, ac mae angen i ni sicrhau bod yr holl gymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw yn Affrica yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio maen nhw’n eu gwneud eu hunain. Nid yw hynny’n gymhleth iawn: y cyfan sydd ei angen ar bobl yw dyluniad sylfaenol a sut i'w wneud a'r deunyddiau er mwyn ei wneud, ond mae'n fater ffeministaidd hynod bwysig.
O ran plannu coed, sut mae ein rhaglen plannu coed yn amrywio deiet, gan fod coffi'n gnwd allforio defnyddiol, ond nid yw'n sail i ddeiet iach ac amrywiol? Felly, mae'n ymddangos i mi, os ydym yn elwa ar goffi gwych Uganda, fod angen i ni fod yn sicrhau bod cynhyrchion eraill sy'n atgyfnerthu iechyd a lles y cymunedau sy'n eu gwneud i ni.
Ac rwy'n credu efallai mai dyna'r peth olaf oedd gen i. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn. Rwy'n credu, o ran y rhaglen atgyfnerthu, ei bod yn amlwg bod angen i ni weiddi'n groch gyda'n gilydd ei bod yn gwbl annerbyniol nad yw Llywodraeth y DU wedi camu i'r adwy ar y mater pwysig hwn. Nid yn unig maen nhw’n torri popeth yr oedd yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn enwog amdano o ran darparu cymorth datblygu da iawn, ond maen nhw’n ei amsugno i'r swyddfa dramor i hyrwyddo jac yr undeb. Mae'n drychineb llwyr.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. A gaf i ddechrau drwy adleisio eich edmygedd a'ch cefnogaeth i Jenipher, sy'n siarad mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg wrth i ni siarad, y prynhawn yma yn Glasgow? Mae Jenipher’s Coffi yn brosiect sy'n bartneriaeth rhwng siop masnach deg Caerdydd, Fair Do's, y soniais amdani'n gynharach, rhostwyr coffi Ferrari ym Mhont-y-clun, Canolfan Cydweithredol Cymru a chydweithfa coffi o Uganda. Mae'n bartneriaeth sy'n mewnforio coffi masnach deg ac organig o'r radd flaenaf. Bydd llawer ohonom ni yma heddiw yn cofio ymweliadau Jenipher â'r Senedd, ac yn cydnabod bod hyn bellach yn cael ei fewnforio i Gymru ac yn uchel ei barch, yn enwedig o ganlyniad i effaith rhostwyr coffi Ferrari ar y coffi hwnnw. Ond hefyd, wrth gwrs, mae hyn yn mynd yn ôl at eich pwynt a'ch cwestiwn ynglŷn â phlannu coed. Mae'r coffi organig yn cael ei dyfu gan ein partneriaid plannu coed. Mae hi'n sôn am hynny y prynhawn yma. Mae'n ffordd wych i ni helpu ffermwyr Uganda, wrth iddyn nhw wynebu'r argyfwng hinsawdd, ond hi hefyd sy'n arwain y prosiect hwn yn Uganda, gan arwain y ffordd i fenywod a'u cymunedau. Mae hi yn dod i Gaerdydd, ac mae wedi bod cyn iddi fynd i Glasgow, ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n gallu dod i gwrdd â chyd-Aelodau ac Aelodau ar draws y Siambr eto yr wythnos nesaf.
Rydych chi yn codi pwynt pwysig am fynediad i frechlynnau. Yn anffodus, ni allwn allforio na rhoi ein brechlynnau. Rwyf i wedi rhoi enghraifft i chi gyda phrosiect Namibia lle gallwn helpu i hwyluso'r rhaglen frechu mewn gwahanol ffyrdd. Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi gwneud yr hyn a allwn o ran darparu offer, cyfarpar diogelu personol, ond hefyd ocsigen, pan ofynnwyd i ni, 'Wel, beth allwch chi ei wneud?' Mae'n bwysig nad ydym ni'n dweud, 'Wel, allwn ni ddim gwneud hyn, felly nid ydym yn gwneud dim.' Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol. Ond mewn gwirionedd, darperir y rhaglen frechu drwy'r mecanwaith byd-eang, COVAX. Gan Lywodraeth y DU mae'r dylanwad ar COVAX i ateb ein cwestiynau ynghylch pam nad ydym yn sicrhau bod y brechlyn sydd gennym yn cael ei rannu'n briodol. Mae'n annioddefol ei fod yn cael ei ddinistrio. Mae'n warthus ei fod yn cael ei ddinistrio, ac rwy'n falch y gallwn ni godi'r pwynt hwnnw yma heddiw. Rwy'n credu bod cynghrair The People's Vaccine yn bwysig. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn dymuno cael gwybod mwy am hyn.
Mae materion eraill yn ymwneud â'r brechlyn hefyd, sy'n ymwneud â chost. Oherwydd os edrychwch chi ar Pfizer mewn gwirionedd, mae'n gwerthu ei ymgeisydd brechlyn COVID-19 am tua $39 am ddau ddos, sy'n tua 80 y cant o elw. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn ei roi y tu hwnt i gyrraedd pob gwlad ond y cyfoethocaf. Felly, mae'n bwysig ein bod yn mynegi'r pwyntiau hyn, ein bod yn sicrhau bod y materion hyn ar gael, bod pobl yn ymwybodol o sut y gallwn ni ddylanwadu ar COVAX a Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i lywodraethau gwledydd datblygol gynyddu'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd er mwyn iddyn nhw allu darparu'r brechlyn pan fydd ar gael. A gadewch i ni fyfyrio ar y ffaith mai brechu yw un o'r buddugoliaethau iechyd mwyaf llwyddiannus mewn hanes dynol.
Rwyf wedi ateb rhai cwestiynau ynglŷn â phwysigrwydd y cynlluniau plannu coed yr ydym ni eisoes yn eu cefnogi, ac mae eich pwyntiau ynglŷn â chynaliadwyedd yn hollbwysig, fel yn wir yw eich pwyntiau ynglŷn â'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud o ran lles mislifol a chynhyrchion mislif. Yn sicr, mae hyn yn rhywbeth lle rydym yn mynd allan am fwy o brosiectau ar sail rhywedd sy'n dod drwy'r cynlluniau grantiau bach, lle rydym yn edrych yn arbennig ar faterion rhywedd. Rwy'n credu y bydd rhai o'r prosiectau hynny yr ydym ni eisoes yn eu hariannu, ac yn sicr y dull cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio, yn rhan allweddol o'r amcan ecolegol a chynaliadwy hwnnw.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad manwl am COVID a newid yn yr hinsawdd, cynorthwyo gwledydd sydd ei angen fwyaf, cadw'n driw i'n hegwyddorion a sefyll gyda’n ffrindiau. A all y Gweinidog gadarnhau faint mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario dros y 15 mlynedd diwethaf yn cefnogi'r rhaglen hon, nid yn unig drwy ddyraniadau grant, ond hefyd o ran y gost o gyflogi swyddogion mewn Llywodraeth? A all y Gweinidog nodi'n fanwl sut y cyflawnwyd amcanion strategaeth ryngwladol y Llywodraeth i dyfu'r economi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad drwy'r rhaglen hon ac a oes unrhyw fudd pendant i bobl Cymru? Yn olaf, a yw'r Llywodraeth wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen hon i sicrhau gwerth am arian? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, a diolch am eich cefnogaeth i'r rhaglen Cymru ac Affrica. Yr hyn sy'n glir iawn yw bod hon yn rhaglen 15 mlynedd— rwy’n ei chofio’n cael ei lansio yn y Siambr hon gan y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan—ac mae'n rhaglen sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran ei heffaith. Mae gennym ni dîm Cymru ac Affrica bach iawn yn Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hyn, ond mae wedi bod yn rhan o'r strategaeth ryngwladol, a gafodd ei chyhoeddi yn 2020 cyn i chi ymuno â ni. Bydd llawer o'r Aelodau newydd yn gwybod bod gennym ni strategaeth ryngwladol gyda chynlluniau gweithredu, ac mae'r rhaglen Cymru ac Affrica yn un o'r cynlluniau gweithredu.
Yn sicr, gallaf roi rhagor o wybodaeth am gyfanswm y gwariant dros y 15 mlynedd diwethaf.FootnoteLink Ond rwy'n credu eich bod chi wedi rhoi'r cyfle i mi atgoffa ein Haelodau eto a'ch hysbysu am effaith rhywfaint o'r cyllid yr ydym ni wedi ei roi, yn enwedig wrth ymateb i bandemig COVID-19. Roedd y tri grant mawr y gwnaethom eu dyfarnu drwy'r £1 miliwn ychwanegol a gafodd ei ddyrannu i'r rhaglen Cymru ac Affrica ym mis Mawrth eleni yn cynnwys United Purpose o Gaerdydd. Roedd hwnnw'n grant o £600,000 ar gyfer yr ymateb brys cyflym yn Nigeria, y Gambia, Senegal a Guinea; cyrhaeddodd 4.4 miliwn o bobl. A hefyd, mae Teams4U yn Wrecsam yn bartneriaeth bwysig iawn; bydd yr Aelodau yn y gogledd yn ymwybodol o hyn. Darparodd yr elusen gyllid grant o £125,000 ar gyfer gwella glanweithdra, darpariaeth mislif a chyfleusterau iechyd ac ysgolion yn Uganda mewn ymateb i COVID-19—dŵr poeth yn rhedeg wedi'i blymio'n uniongyrchol i theatrau llawdriniaeth, dwy ganolfan iechyd 24/7 sy'n trin hyd at 300 o gleifion bob dydd, gan gwmpasu pob agwedd ar ofal iechyd cymunedol, gan gynnwys profion a thriniaeth HIV, triniaeth TB, imiwneiddio, cynllunio teulu, gofal cyffredinol, gofal cynenedigol ac ôl-enedigol. Mae hon yn bartneriaeth rhwng pobl Wrecsam ac Uganda, gyda Teams4U. A, wyddoch chi, yr adborth a gafwyd yw bod gweithwyr gofal iechyd, yn enwedig menywod a merched, yn teimlo'n llawer mwy diogel yn defnyddio'r cyfleusterau hyn na'r hen rai, a oedd yn aml y tu allan ac mewn ardaloedd heb olau.
Hoffwn i ddweud bod hyn yn gweithio gyda Llywodraethau yn ogystal â phrosiectau lleol. Felly, mae Ysbyty Atgyfeirio Rhanbarthol Mbale y gwnes i sôn amdano—byddaf i yn dweud, pan oeddem yn gallu darparu cymorth ar gyfer darparu ocsigen, y bydd y peiriant ocsigen newydd, sy'n cael ei gynllunio gan y Weinyddiaeth Iechyd yn Uganda, yn cael ei ategu gan ein cyfraniad ni. A hefyd y ffaith bod effaith y buddsoddiadau yr ydym ni wedi eu gwneud wedi golygu bod pobl wedi dweud mewn gwirionedd—ac mae'n dda cael dyfyniad gan fuddiolwr y prosiect dŵr, glanweithdra a hylendid—'Roedd arfer bod ofn arnaf i fynd i'r tŷ bach ar fy sifft nos oherwydd byddai'n rhaid i mi symud allan o'r ward, ac roedd yn dywyll iawn y tu allan. Nawr, rwy'n gallu defnyddio'r toiled y tu mewn ac rwy'n ddiogel ac nid yw'n mynd â fi oddi wrth y cleifion.’ Dyna Lydia, o ganolfan iechyd Mukongoro. Felly, dyma'r effaith mae ein cyllid a'n cymorth i'r rhaglen Cymru ac Affrica yn ei chael.
Yn olaf, John Griffiths.
Diolch, Llywydd. Gallaf i ddweud yn sicr, ar ôl bod i Mbale fy hun, fod arian y rhaglen ar gyfer Affrica yn cael ei wario'n dda, oherwydd roedd y cysylltiadau iechyd, y cysylltiadau addysgol rhwng y rhanbarth hwnnw o Uganda a PONT, er enghraifft, ym Mhontypridd yng Nghymru mor gryf, ac roedd y ddwy wlad ac ardal yn elwa’n fawr iawn ar y berthynas gilyddol a'r ymweliadau cyfnewid. Roedd hi mor galonogol gweld y plant ysgol yn dawnsio gyda'i gilydd yn ogystal â'r staff yno ym Mbale mewn digwyddiadau penodol, ac wrth gwrs yr holl godi arian a ddigwyddodd yn ôl yng Nghymru ar gyfer ystafelloedd dosbarth newydd a chyfleusterau newydd. Felly, roedd y sector iechyd, roedd y sector addysg, roedd cydweithfa coffi masnach deg Gumutindo, a'r holl waith datblygu cymunedol a gafodd ei wneud o ran y ffermio ymgynhaliol hefyd. Roedd cymaint o elfennau iddo, roedd yn dangos gwerth y rhaglen hon, ac mae'n braf iawn ein bod ni wedi cael 15 mlynedd bellach o Gymru dros Affrica yn gwneud y gwaith da iawn hwn, a chydnabod bod Cymru'n lwcus—rydym ni yn lwcus o fod yn rhan o'r byd heddychlon, cymharol ffyniannus, ac mae hynny yn rhoi cyfrifoldeb moesol i ni weithio gyda gwledydd eraill nad ydyn nhw o dan yr amgylchiadau ffafriol hynny i'w helpu, a thrwy wneud hynny rydym ni hefyd yn helpu ein hunain. Ac wrth gwrs mae'n rhan o'r rhyngwladoli honno o Gymru sydd, yn fy marn i, wedi bod yn nodwedd gref o ddatganoli ers 1999, ac mae'n beth da iawn i bawb yn ein gwlad.
Yn fwy lleol i mi yn awr, mae gennym ni Love Zimbabwe, sy'n gwneud gwaith da iawn yn y rhan honno o Affrica, ac maen nhw’n dweud wrthyf i fod rhai materion, yn union fel y mae'r Gweinidog wedi sôn, yn amlwg o ran y pandemig ac, yn wir, newid hinsawdd. Felly, o ran newid hinsawdd, mae'r ffactorau newydd hynny y mae'n rhaid i ffermwyr eu hystyried yn peri pryder gwirioneddol iddyn nhw ac yn ei gwneud yn anoddach iddyn nhw gynhyrchu'r bwyd y maen nhw’n dibynnu arno, ac mae pryder gwirioneddol ynghylch methiant cnydau cynyddol. Ar yr un pryd, yn ystod y pandemig, roedden nhw'n ei chael yn anoddach mewnforio bwyd i'r wlad hefyd, felly mae anawsterau mawr yno mae'n rhaid i ni eu cydnabod. A dywedir wrthyf nad ydyn nhw mewn sefyllfa dda iawn i amcangyfrif nifer yr achosion o COVID, oherwydd bod cost profion llif unffordd tua £25, ac yn amlwg nid yw llawer iawn o bobl yn gallu ei fforddio. Felly, mae'r agwedd honno ar nodi achosion yn broblem yn Zimbabwe, ac mae hynny wedi ei gwneud yn anodd gwybod graddau'r haint yn y wlad.
Mae problem hefyd o ran brechu. Dywedwyd wrthyf mai dim ond tua 1 miliwn allan o tua 15 miliwn sydd wedi cael eu brechu, a'r brechlyn sy'n cael ei ddefnyddio yw'r un Tsieineaidd, nad yw'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU, sydd ynddo’i hun yn creu nifer o anawsterau. Felly, byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech helpu i wneud y pwyntiau hynny yn eich cyswllt a'ch gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU. Rwy'n credu y bu'n destun siom mawr iawn bod Llywodraeth bresennol y DU wedi torri'r consensws hwnnw i gynnal cyllid datblygu rhyngwladol ar gyfer y byd datblygol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl bengam, yn anghywir, yn anfoesol, ac yn wir yn wrthgynhyrchiol o ran yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn dweud yw ei hamcan. Rwy'n gobeithio yn fawr y byddan nhw'n ailystyried, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, ac yn mabwysiadu polisi a dull mwy moesol y gellir ei amddiffyn.
Y mater arall y byddaf yn sôn amdano, Gweinidog, yw Somaliland, oherwydd bod gennym ni nifer o bobl, yng Nghaerdydd yn arbennig, ond hefyd yng Nghasnewydd, sydd â chysylltiadau â Somalia a Somaliland. Mae Somaliland wedi cymryd camau breision i brofi ei hun yn ddemocratiaeth weithredol sydd wedi ymrwymo i sefydlogrwydd a datblygiad cynyddol yn y wlad. Ond yn amlwg maen nhw'n cael anawsterau mawr gyda COVID, fel y mae gweddill y byd, ac yn fwy felly oherwydd y tlodi mawr yn y wlad. Felly, rwy'n gwybod bod gennym ni gysylltiadau yn datblygu â Somaliland, Gweinidog, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ddweud rhywfaint am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweld y berthynas honno'n esblygu ac yn datblygu, yn enwedig yng ngoleuni'r anawsterau presennol o ran y pandemig.
Diolch yn fawr, John Griffiths, a John, rwy'n cofio pan aethoch chi i Uganda, mae'n debyg eich bod chi wedi plannu coed eich hun pan aethoch yno a dod yn ôl a dweud wrthym. Mae gennym ni gonsensws cryf. Rydym yn sicr wedi ei gael yn y gorffennol yn y Siambr hon i gefnogi Cymru ac Affrica, ac rwy'n cofio Rhun ap Iorwerth yn cadeirio'r grŵp datblygu lle cawsom ni gefnogaeth drawsbleidiol i'r hyn yr oeddem yn ei wneud yng Nghymru ac Affrica. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am Zimbabwe gan fy mod i'n ymwybodol iawn o Gymdeithas Gwirfoddoli Zimbabwe Casnewydd, ac roeddem yn gallu rhoi rhywfaint o gyllid, fel y gwyddoch chi, o'r grant COVID-19, i brynu bwyd ar gyfer ceginau cymunedol, diheintyddion ar gyfer 18 gorsaf, cyfarpar diogelu personol i wirfoddolwyr, treuliau gwirfoddolwyr, ar gyfer mynd i'r afael â chamwybodaeth sydd, wrth gwrs, rydym yn gwybod yn broblem enfawr, ond hefyd cymorth banc bwyd, masgiau wyneb. Rydym ni wedi gwneud llawer i gefnogi cymdeithas wirfoddoli Casnewydd, pob etholaeth—. A sawl gwaith rydym ni wedi cael ymweliadau gan Love Zimbabwe, ac rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau wedi croesawu Love Zimbabwe i'r Senedd. Ac rydym ni wedi rhoi cyllid iddyn nhw hefyd, unwaith eto i wella hylendid, mynediad at ddŵr glân ar gyfer golchi dwylo, ymgysylltu â'r gymuned, hyfforddi pobl i wnïo masgiau wyneb, cadw pellter cymdeithasol, deall golchi dwylo, ac yn y blaen. Rydym ni wedi ymateb i'r cynigion sydd wedi dod o'r cymunedau hyn.
Yn olaf, rwyf i am ddweud fy mod i'n credu bod consensws cryf, mae cefnogaeth fwyafrifol gref yn y Siambr hon heddiw i ni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r brechlyn nad yw'n cael ei ddefnyddio yn y wlad hon. Rwy'n credu bod honno yn neges gref sydd wedi dod i'r amlwg heddiw; siom a gofid enfawr ynghylch torri'r cyllid i'r gyllideb dramor. Ac i ddweud i gloi, trwy gau prosiect ym Malawi o ganlyniad i'r toriad hwnnw, dywedodd United Purpose yng Nghaerdydd fod y prosiect adeiladu mwyaf o ran gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd ym Malawi wedi ei derfynu ar fyr rybudd yn uniongyrchol oherwydd y toriad hwn, colledion enfawr ar gyfer gweithgareddau datblygu a chanlyniadau partneriaeth, gan gynnwys 23 o ddiswyddiadau Malawi yn United Purpose yn unig, gan dorri £1 miliwn o'r prosiect. Felly, mae gennym ni lais cryf, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon i gefnogi Cymru ac Affrica, i gefnogi ein dulliau o ymdrin â Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn cael y brechlynnau hynny i Affrica ac yn fyd-eang ledled y byd i'r man lle mae eu hangen, ac unwaith eto ein pryder a'n siom fawr barhaus ynghylch toriadau'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf felly yw eitem 5, a hynny yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021, a dwi'n galw'n gyntaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig, Eluned Morgan.
Cynnig NDM7822 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n cyflwyno'r cynnig sydd ger ein bron. Dwi'n sefyll yma gyda thristwch heddiw i gyflwyno deddfwriaeth i gynyddu'r defnydd o'r pàs COVID. Serch hynny, rhaid i mi unwaith eto bwysleisio nad yw coronafeirws wedi diflannu, ac yn anffodus mae'r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol o hyd. Mae nifer yr achosion o COVID-19 yn dal yn uchel iawn ac wedi bod yn cynyddu mewn rhai ardaloedd. Yn y don bresennol, rŷm ni wedi gweld y nifer mwyaf erioed o achosion wedi eu cadarnhau yng Nghymru. Ar hyn o bryd, y gyfradd drosglwyddo yw 527 mewn 100,000. Mae'r cyfraddau uchel cyson hyn yn arwain at salwch difrifol i niferoedd cynyddol o bobl. Mae hyn hefyd yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth iechyd sydd eisoes o dan bwysau aruthrol.
Er bod y cysylltiad rhwng achosion o COVID-19 a derbyniadau i ysbyty wedi ei wanhau gan y rhaglen frechu, dyw'r cysylltiad ddim wedi ei dorri yn llwyr. Fe wnaeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 gyflwyno'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y lefelau rhybudd sydd yn y cynllun rheoli coronafeirws. Fe fydd Aelodau erbyn hyn yn ymwybodol iawn o'r broses ar gyfer adolygu'r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos. Ar ôl yr adolygiad diwethaf ar 28 Hydref, ac mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion ar draws Cymru, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ein bwriad i ehangu'r gofyniad i ddangos y pàs COVID.
Os caiff y gofyniad i gyflwyno pàs COVID ei basio heddiw, bydd yn golygu, o 15 Tachwedd ymlaen, y bydd angen i bobl dros 18 oed yng Nghymru ddangos pàs cyn y caniateir iddyn nhw fynd i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Bydd hyn yn profi naill ai eu bod wedi eu brechu'n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf. Nawr, rwy'n ymwybodol nad yw'r penderfyniad hwn wedi ei groesawu gan bawb ymhlith ein rhanddeiliaid, ond gadewch i mi ddweud wrthych na chafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn ysgafn, ac mae'r lleoliadau hyn wedi eu dewis oherwydd eu bod dan do ac mae llawer iawn o bobl yn ymgynnull yno yn agos at ei gilydd am gyfnod hir. Fel y gwyddom, po fwyaf o amser mae llawer o bobl yn agos at ei gilydd, yn enwedig dan do, y mwyaf yw'r risg o drosglwyddo. Mae'n rhaid i mi bwysleisio bod y mesurau hyn wedi eu cynllunio i gadw'r busnesau hyn ar agor yn ystod misoedd anodd yr hydref a'r gaeaf sydd o'n blaenau, a bydd y dewis arall yn yr hinsawdd bresennol yn golygu dychwelyd i reolaethau a chyfyngiadau llymach yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod gofyn i bobl, ers 11 Hydref, ddangos pàs COVID y GIG i fynd i glybiau nos a lleoliadau a digwyddiadau tebyg. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid yn y sectorau hyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod y gwasanaeth yn gweithio'n dda a'n bod ni wedi cael sylwadau cadarnhaol i raddau helaeth gan amrywiaeth o fusnesau a threfnwyr digwyddiadau mawr, gan gynnwys ar ôl y gemau rygbi rhyngwladol diweddar. Mae hefyd yn amlwg bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn cefnogi'r defnydd o'r pàs COVID a'r sicrwydd ychwanegol y mae'r system yn ei roi iddyn nhw.
Ar hyn o bryd mae Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd 0, a'n nod yw osgoi gorfod cau sectorau neu ailgyflwyno cyfyngiadau. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa'n ddifrifol, ac er mwyn parhau ar lefel rhybudd 0, mae'n hanfodol bod sefydliadau a busnesau yn cydymffurfio â'r mesurau sylfaenol ar y lefel rhybudd hon, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod gwisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol. Rydym yn gofyn i gyflogwyr wneud mwy i helpu pobl i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Pan fydd cyfraddau achosion yn y gymuned yn uchel, gall cysylltiadau yn y gweithle fod yn sbardun trosglwyddo sylweddol. Mae'n rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau cyfrifol i leihau risg.
Brechu yw ein hamddiffyniad mwyaf effeithiol o hyd. Ein nod yw cyrraedd cynifer o bobl â phosibl gyda'r dos cyntaf, yr ail ddos a'r dos atgyfnerthu. Er mwyn cadw Cymru'n ddiogel ac yn agored dros y gaeaf, mae angen ymdrech ar y cyd arnom gan bob rhan o gymdeithas Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n siarad fel Cadeirydd ein pwyllgor nawr. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i gyflymu ein gwaith craffu, a gosodwyd ein hadroddiad yn syth wedyn.
Cododd ein hadroddiad yr hyn y bydd yr Aelodau bellach yn ei gydnabod yn bwyntiau teilyngdod eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, a diffyg ymgynghori ffurfiol ac asesu'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau. Fe wnaethom ni gydnabod cyfiawnhad Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r pwyntiau hyn, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol. Fodd bynnag, at ddiben y ddadl heddiw, hoffwn i dynnu sylw at ein trafodaeth ddilynol ar y rheoliadau ac yn benodol, ar y geiriad a ddefnyddiwyd yn y datganiad ysgrifenedig cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod bod y mater o beth sy'n ganllawiau a beth sy'n gyfraith wedi ei godi gyda'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr hon ddydd Mawrth diwethaf. Os tynnaf sylw'r Siambr at y datganiad ysgrifenedig, dywed hynny, a dyfynnaf:
'Rhaid i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant rhwng pump a 17 oed hunanynysu os oes gan rywun ar eu haelwyd symptomau neu ganlyniad prawf positif am COVID-19 nes eu bod wedi cael canlyniad prawf PCR negatif.'
Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau hyn, na rheoliadau Rhif 20, y gwnaethom eu hystyried ddoe hefyd, yn gofyn am ynysu fel y disgrifir yn y datganiad. Nawr, mae ein pwyllgor o'r farn bod hyn yn arwain at ddiffyg eglurder sy'n peri pryder ynghylch yr hyn sy'n gyfraith a'r hyn a allai, yn wir, fod yn gyngor synhwyrol gan y Llywodraeth. Cafodd pryderon tebyg eu codi gan ein pwyllgor blaenorol wrth graffu ar rai rheoliadau sy'n gysylltiedig â COVID yn ystod y pumed Senedd, ac fe'u nodwyd yn yr adroddiad etifeddiaeth.
Felly, y tro hwn, cytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod dinasyddion Cymru yn gallu deall y gyfraith sy'n berthnasol iddynt. Diolch yn fawr, Llywydd.
Rhybuddiodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai cyflwyno pasbortau COVID yng Nghymru yn gosod cynsail beryglus, ac nid yw'n bleser gen i heddiw ddweud ein bod yn iawn.
Dim ond ychydig wythnosau sydd ers cyflwyno pasbortau COVID yma yng Nghymru, ac eto, er gwaethaf dim tystiolaeth glir na chredadwy eu bod yn gallu atal lledaeniad y coronafeirws, rydym heddiw yn trafod cynnig arall i ymestyn eu defnydd y tu hwnt i'r digwyddiadau mawr a'r economi nos, i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd bellach ac mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes tystiolaeth i awgrymu mai'r lleoliadau hyn yw lle mae haint y feirws yn rhemp.
Llywydd, fel y gwyddoch yn iawn, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu cyflwyno pasbortau brechlyn o'r cychwyn cyntaf. Mae gan y defnydd gorfodol o basbortau brechu domestig oblygiadau eang yn foesegol, o ran cydraddoldeb a phreifatrwydd, yn gyfreithiol ac yn weithredol. Rydym ni, fel Aelodau eraill o'r Senedd hon, wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu bywydau a bywoliaethau. Rydym yn deall bod yn rhaid bod yn ofalus wrth gymryd y camau olaf at ddatgloi cymdeithas a'r economi. Ond, gan fod y gyfradd frechu yng Nghymru mor uchel, ac mae'r cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i'r ysbyty wedi ei wanhau'n ddifrifol, nid ydym yn credu mai cyflwyno rhwystrau sy'n effeithio ar ryddid a phreifatrwydd pobl yw'r peth iawn i'w wneud.
Nid yw pasbortau brechu yn llwybr allan o gyfyngiadau, maen nhw'n gyfyngiadau. Ni ddylid eu hehangu i safleoedd eraill pan na ddylen nhw byth fod wedi eu cyflwyno na'u rhoi ar y bwrdd yn y lle cyntaf. Mae pasbortau brechu yn gymhellol, yn aneffeithiol ac yn wrth-fusnes; maen nhw'n cyfyngu ar ein rhyddid ond nid ydyn nhw'n cyfyngu ar ledaeniad COVID-19.
Nawr, mae Gweinidogion Llafur yn dweud wrthym yn aml eu bod yn gwrando ar yr arbenigwyr, felly gadewch i ni ystyried yr hyn y mae'r arbenigwyr wedi bod yn ei ddweud. Dywedodd cell ymgynghorol technegol Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws y bydd pasys COVID yn cael effaith fach iawn ar ledaeniad y feirws. A dywedodd Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru ei hun, yr wythnos diwethaf fod effaith uniongyrchol gwirioneddol pasys COVID yn eithaf bach, mae'n debyg. Ac aeth ymhellach na hynny, dywedodd mewn gwirionedd fod y dystiolaeth yn dal i ddatblygu o amgylch pasys COVID, ac mai'r effaith fwy gormod o negeseuon a defnyddio pasys COVID ochr yn ochr â chyfyngiadau eraill fel gorchuddion wyneb. Nawr, os nad yw prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru ei hun wedi ei argyhoeddi eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yna sut ar y ddaear y gallwch chi ddisgwyl i Aelodau'r Senedd hon heddiw, ynghyd â'r cyhoedd a busnesau ar hyd a lled y wlad hon, fod wedi eu hargyhoeddi eu bod nhw? Amlinellwyd a gweithredwyd y syniad o bàs COVID yng Nghymru ar fyr rybudd, ac mae'r cynigion diweddaraf hyn yn debyg, gydag ychydig iawn o ystyriaeth i sut y bydd yn effeithio mewn gwirionedd ar y busnesau a'r sefydliadau hynny y maen nhw'n ymwneud â nhw. Mae'r diwydiant adloniant eisoes wedi ei chwalu gan gyfyngiadau COVID-19, a'r cyfan y bydd ymestyn pasbortau COVID i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn ei wneud yw eu cosbi ymhellach. Mae prif swyddog gweithredol Cymdeithas Sinema'r DU wedi rhybuddio y gallai'r cam hwn arwain at gau llawer o leoliadau llai, gan ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
'lle mae cynlluniau tebyg wedi'u cyflwyno mewn...tiriogaethau Ewropeaidd, rydym ni wedi gweld nifer yr ymwelwyr yn gostwng cymaint â 50%.'
Dyma swyddi a bywoliaeth pobl yn y fantol.
A bywydau.
Ac roedd prif weithredwr y Grŵp Lletygarwch Creadigol wedi dweud bod diffyg ymddiriedaeth enfawr yn Llywodraeth Cymru, ac er gwaethaf cyflogi 10 y cant o boblogaeth Cymru, bod y diwydiant yn teimlo ei bod wedi ei fychanu gan y Prif Weinidog. Pam mae diwydiant sydd mor bwysig i economi Cymru yn cael ei eithrio gan Lywodraeth Cymru? Pam mae Gweinidogion yn methu cymaint â gweithio gyda'r rhanddeiliaid pwysig hyn?
Ein dyletswydd gyntaf fel Aelodau'r Senedd hon, fel deddfwyr, yw gwneud cyfraith dda a chwalu cyfraith wael. [Torri ar draws.] Ac eto, mae gofyn i ni heddiw ymestyn y defnydd o basbortau COVID i leoliadau eraill heb unrhyw dystiolaeth eu bod yn achub unrhyw fywydau mewn gwirionedd, Mike Hedges, heb unrhyw asesiad manwl o'u heffaith. Felly, mae'n anghywir.
Felly, beth fyddem ni'n ei wneud yn wahanol? Wel, byddem yn canolbwyntio ar gael y pigiadau—y pigiadau atgyfnerthu—i freichiau pobl. Rydym ni bob amser wedi bod yn glir mai'r ffordd allan o'r pandemig hwn yw trwy frechu, ac mae hynny'n dal i fod yn wir. [Torri ar draws.] Dylai egni'r Llywodraeth, bob un darn o'ch egni, fod yn canolbwyntio ar gyflwyno'r rhaglen frechu i'r rhai sy'n gymwys.
Byddaf, byddaf yn hapus i dderbyn ymyriad.
Rydych chi wedi siarad yn angerddol am bwysigrwydd rhyddid a rhyddid dewis unigolion, ac rydych chi wedi siarad am frechu. Mae eich cydweithwyr dros y ffin yn Lloegr yn gwneud brechiadau'n orfodol. A fyddech chi'n mynd ar hyd y llwybr hwnnw? A fyddech chi'n cefnogi hynny?
Nid wyf i'n cefnogi hynny. Nid wyf i'n cefnogi hynny, ac rydym ni wedi bod yn glir ar y meinciau hyn nad ydym ni'n ei gefnogi, a dyna pam yr ydym ni wedi cefnogi'r Prif Weinidog yn ei safbwynt i beidio â gwneud brechu gorfodol yn ofyniad i weithwyr mewn cartrefi gofal neu'r GIG yma yng Nghymru.
Felly, dylem ni fod yn ceisio ehangu'r rhaglen frechu honno a'i gwneud yn haws i bobl gael y brechlynnau hynny. Gadewch i ni sôn am sefydlu canolfannau galw heibio ar gyfer y rhai hynny sy'n gymwys, er enghraifft. Nid oes gennym ni rai yma mewn sawl rhan o Gymru. [Torri ar draws.] Wel, yn sicr, nid oes gennym ni rai yn fy rhan i o'r wlad, ac efallai pe byddech chi'n mynd i fyny yno yn fwy rheolaidd byddech chi'n gallu gweld.
Felly, i gloi, Llywydd, mae llawer o faterion moesegol ac yn ymwneud â chydraddoldeb o ran pàs Covid. Ochr yn ochr â'u heffaith ar hawliau sifil, mae'r Llywodraeth Lafur wedi methu'n aruthrol â darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl bod y pasys COVID hyn yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws mewn gwirionedd neu'n cynyddu'r nifer sy'n cael y brechlyn, ac yn y cyfamser mae'r bwlch hunanardystio, o ran profion llif unffordd, yn nonsens, mae'n agored i gael ei gam-drin. Gallwch chi gynnal prawf ar eich ci a rhoi ei ganlyniad yn y system honno a dal cael eich pasbort brechlyn i gael mynychu unrhyw ddigwyddiad, clwb nos, sinema, theatr, neu unrhyw le arall. Mae'n hurt. Felly, o ystyried hyn, nid oes dim y gallwn ei wneud o gwbl ond pleidleisio yn erbyn yr estyniad hwn i drefn pasys COVID.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, unwaith eto heddiw, mae yna gryn ddiddordeb yn yr hyn rydym ni’n ei drafod, a dwi’n falch iawn o hynny. Mae’r rhain, fel popeth rydym ni wedi ei drafod dros y flwyddyn ac wyth mis diwethaf—y penderfyniadau anodd sydd wedi cael eu cymryd—yn faterion o wirioneddol bwys. Mi ddywedais i yr wythnos diwethaf fod Plaid Cymru yn debyg o fod yn pleidleisio dros y rheoliadau yma heddiw. Mi fyddwn ni yn gwneud hynny, ond mae’n bwysig hefyd bod yna eglurhad nid yn unig sut rydym ni’n pleidleisio ar faterion fel hyn, ond pam.
Pan drafodon ni’r rheoliadau cyntaf ar basys COVID ar 5 Hydref, mi gofiwch chi i Blaid Cymru bleidleisio yn erbyn. Mi oeddem ni’n cefnogi’r egwyddor, fel y gwnaethon ni’n glir, o fynnu tystiolaeth bod pobl yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws i eraill cyn cael mynediad i rai lleoliadau—nid i wasanaethau hanfodol, ond i rai lleoliadau. Ond mi oeddem ni wedi gofyn am dystiolaeth am effeithiolrwydd tebygol y polisi penodol oedd wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Roeddem ni’n bryderus, er enghraifft, am yr elfen o hunanardystio canlyniadau profion llif unffordd. Mi oeddem ni wedi cynnig trafod ymhellach efo’r Llywodraeth sut y gellid cryfhau’r rheoliadau, ond am resymau hysbys iawn bryd hynny mi gymeradwywyd y rheoliadau. Felly pasys COVID ar y model hwn sydd gennym ni yng Nghymru, ac er i ni bleidleisio yn erbyn, am y rhesymau dwi wedi eu hegluro, yn y gobaith o allu dod â model gwahanol a chryfach, o bosib, i mewn, rydym ni'n derbyn, wrth gwrs, fod hyn yn well na pheidio â chael unrhyw beth yn ei le.
Y cwestiwn o'n blaenau ni heddiw ydy: a ddylid ymestyn y rhestr o lefydd lle mae angen gorfod dangos pàs? Eto, mynnu tystiolaeth y gwnaethom ni. Er enghraifft, mi oedd yna un darn o ymchwil penodol cafodd ei dynnu i'm sylw i, ac roedd hi yn bwysig rhoi ystyriaeth iddo fo, a dwi'n ddiolchgar i bobl sydd yn pasio tystiolaeth ac yn codi pryderon efo fi. Gwaith ymchwil gan Goleg Imperial oedd hwnnw, wedi'i gyhoeddi yn y Lancet, yn edrych ar ba mor drosglwyddadwy ydy'r feirws mewn pobl sydd â brechiad dwbl o'i gymharu â rhai sydd ddim. Ac mae'n rhaid sicrhau, wedi'r cyfan, fod modd dangos budd i frechiad o ran helpu i atal trosglwyddiad. Un o ganfyddiadau'r ymchwil oedd bod trosglwyddiad gan rywun wedi'i frechu bron cymaint â rhywun sydd heb ei frechu, ond dim ond pan fyddan nhw ar eu mwyaf heintus mae hynny. Ac, o drafod efo'r Gweinidog iechyd—a dwi'n ddiolchgar am y trafodaethau rydym ni wedi'u cael—a gofyn barn gwyddonwyr y Llywodraeth, a thrwy astudiaeth bellach, mae rhywun yn pwyso a mesur hynny efo'r canfyddiad bod llwyth feirysol rhywun sydd wedi'i frechu yn lleihau yn gyflymach na rhywun sydd ddim, ac mae hynny i fi yn dangos gwerth brechu fel mesur atal trosglwyddo. Dyna'r dystiolaeth gafodd ei rhoi o'm blaen i. Dwi wedi darllen astudiaeth arall gan weinyddiaeth iechyd yr Iseldiroedd hefyd, sy'n dod i gasgliad tebyg.
Yn ogystal, mae'r Gweinidog yn nodi yn hollol gywir fod pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn llai tebygol o fod yn heintus yn y lle cyntaf; dwi'n ddiolchgar am lythyr yn egluro hynny. Mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei gadarnhau eto yn astudiaeth Imperial hefyd, a dwi'n dal yn gwbl argyhoeddedig, fel y mae trwch yr arbenigwyr a'r gwyddonwyr yn rhyngwladol, mai brechu ydy'r amddiffyniad gorau yn erbyn cael eich heintio. Mae o'n wirfoddol, wrth gwrs, ond dwi'n annog pobl i gymryd y brechiad, ac mae mesurau sy'n gallu dylanwadu ar benderfyniad pobl i gymryd y brechiad ai peidio, yn fy nhyb i, yn gallu bod yn werthfawr iawn.
Gair yn sydyn am y gefnogaeth ymarferol fydd ei hangen ar grwpiau ehangach o sefydliadau rŵan, os caiff y rheoliadau yma eu cymeradwyo heddiw. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn cydnabod, waeth pa mor llyfn mae Gweinidogion yn dweud wrthym ni mai pethau wedi mynd o ran y pasys COVID hyd yma, fod hyn yn creu poen meddwl. Mi fydd mudiadau gwirfoddol ymhlith y rhai sy'n cael eu cynnwys—theatrau a sinemâu cymunedol ac ati—ac mae angen sicrhau bod pob cymorth ar gael efo gweithredu'r pasys.
Ac i gloi, gadewch inni gofio mai ceisio osgoi cyfyngiadau mwy na sydd rhaid ydy nod hyn. Mi fyddai'r Llywodraeth yn cyd-fynd â fi yn hynny o beth, dwi'n gwybod. Ond os ydy'r Llywodraeth yn teimlo, er enghraifft, fod angen gwneud yr achos dros ehangu pasys COVID ymhellach eto yn y dyfodol, rhywbeth allai gynnig fwy fyth o her o ran ei weithredu o, mi fyddwn ni eto yn mynnu bod y dystiolaeth yn mynd yn gryfach eto. Does yna ddim un o'r penderfyniadau yma yn hawdd, a thra ei bod hi'n bwysig gallu cyfiawnhau cyflwyno unrhyw gyfyngiadau, mae'n rhaid hefyd inni gadw llygaid ar y nod, sef i gadw pobl, yn cynnwys pobl fregus iawn yn aml iawn, mor ddiogel ag y gallwn ni. A chofiwch, dydy pasys na dim byd arall yn gweithio ar eu pennau eu hunain, a rŵan, fel trwy gydol y pandemig yma, mae'n rhaid pwysleisio pwysigrwydd—ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei orfodi hefyd y gorau gallan nhw—y pethau sylfaenol yna fel gwisgo mwgwd, sicrhau awyr iach, cadw pellter ac ati, sydd yn dal yn gwbl allweddol yn y frwydr yn erbyn y feirws, a dwi'n gofyn i'r Llywodraeth gryfhau ei gwaith yn hynny o beth.
Wel, pob lwc i Darren Millar yn ceisio cynnal prawf ar ei gi. Mae'n ddigon anodd cael plentyn i'w wneud, felly rwy'n credu y gallai cynnal prawf ar eich ci fod yn anodd. Nid yw'n golygu na fydd gan eich ci COVID. Cofiwch, daeth y clefyd hwn o ystlumod, felly nid yw hwn yn syniad hollol hurt. Ond rwy'n credu mai'r pwynt yr ydych yn ceisio ei wneud, yw mai Llywodraeth awdurdodol yw hon mewn rhyw ffordd, sy'n ceisio amddiffyn ein cyhoedd rhag effeithiau gwaethaf y clefyd hwn—nid yw'r achos yn cael ei wneud, yn fy marn i.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid oedd y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud yn ymwneud cymaint â'r ffaith bod y Llywodraeth hon yn un awdurdodol; nid wyf i'n credu fy mod i wedi defnyddio'r geiriau hynny. Y pwynt yw bod gan y system ddiffyg mawr ynddi, hynny yw y gallwch chi hunanardystio o ran canlyniad eich prawf llif unffordd. Dyna'r broblem gyda'r system. Yn y bôn, mae'n golygu y gall unrhyw un roi unrhyw beth yn y system, hyd yn oed os nad yw wedi cael prawf eu hunain. Ac mae hynny, a dweud y gwir, yn system hurt.
Iawn. Rwy'n cydnabod bod hynny'n ddiffyg yn y system, ond y dewis arall yw gwahardd y rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu cael brechiad rhag mynychu unrhyw un o'r digwyddiadau hyn lle bydd angen pàs COVID. Ac nid wyf i'n credu bod hynny'n iawn, oherwydd bod yna bobl nad ydyn nhw'n gallu cael brechiad COVID am un rheswm iechyd neu'r llall. Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod mai lleiafrif bach, bach iawn o'r boblogaeth yw hynny, ond, serch hynny, un y mae angen i ni ei ystyried. Felly, rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ond mae bob amser yn bosibl, os yw tafarn yn pryderu ynglŷn â hynny, neu os yw sefydliad yn pryderu, i osod profion llif unffordd y tu allan i'r lleoliad y maen nhw'n dymuno rheoli pobl yn mynd iddo. Felly, mae hynny'n opsiwn sydd ar gael i bobl.
Ond rwy'n meddwl—. Fe wnaethom ni glywed yn gynharach gan y Prif Weinidog pa mor anodd yw'r sefyllfa yn y gwasanaeth iechyd, gyda chriwiau ambiwlans yn methu â dod i'r gwaith oherwydd bod ganddyn nhw COVID, a bydd hynny hefyd yn berthnasol i weithwyr iechyd proffesiynol eraill, sydd felly'n gwneud bywyd yn llawer anoddach i'w cydweithwyr. Ac mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid i ni wneud popeth posibl i sicrhau bod gennym ni gyfres o bethau. Fel y nododd Frank Atherton yn ei gyfweliad diweddar yn y cyfryngau, mae hyn yn ymwneud â chyfres o fentrau sy'n helpu i atgoffa pobl nad yw'r pandemig ar ben.
Felly, wrth gwrs, ar frig y rhestr yw brechu—ac mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn ei dderbyn, yn sicr ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro—ond hefyd pethau fel hyn, masgiau, nad oedden nhw'n cael eu gwisgo ar y trên yr es i arno i Loegr yr wythnos diwethaf, ac nid oedd negeseuon atgoffa arno ychwaith. Rwy'n gwybod, ar drenau eraill, bod negeseuon atgoffa ac mae pobl yn eu gwisgo. Cadw pellter cymdeithasol yw'r ail beth yn amlwg. Bob tro y byddwn yn cyfarfod mewn mannau agos, rydym mewn perygl o drosglwyddo COVID. Mae hynny'n ffaith. Felly, mae'n gydbwysedd rhwng y rhyddid i gael cwrdd â phobl eraill a'r angen i wneud hynny ac atal y clefyd. Ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn beth eithaf bach gofyn i bobl gyflwyno pàs COVID neu i wneud prawf llif unffordd. Yn wir, mae busnesau—
Jenny Rathbone, os caf i ymyrryd, mae ymyriad ar Zoom. Os ydych yn dymuno ei dderbyn—
Rwy'n hapus i'w dderbyn.