Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/10/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.

Credyd Cynhwysol

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd y toriad o £20 yr wythnos i gredyd cynhwysol yn ei chael ar gymunedau Cymru? OQ57034

Mae dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos bod y toriad creulon i gredyd cynhwysol yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Ymhob etholaeth yng Nghymru, mae incwm dros chwarter y teuluoedd â phlant wedi gostwng. Mae mynd ag arian oddi ar ein teuluoedd tlotaf pan fo biliau'n codi yn gywilyddus.

Wel, diolch, Weinidog, ac rwy'n cytuno. Yn amlwg, ni waeth beth fo'r dadleuon o blaid ac yn erbyn gwneud y toriad, mae'n amlwg y bydd gwneud y toriad yn cael effaith sylweddol iawn ar lawer o bobl yng Nghymru. A Weinidog, fel y gwyddoch, mae fy nghyd-Aelod yng ngogledd Cymru, Jack Sargeant, wedi siarad yn gyhoeddus ac yn rheolaidd o blaid cynnal treial i archwilio dichonoldeb incwm sylfaenol cyffredinol yma yng Nghymru. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn perthynas â lansio treial a pha ystyriaeth a roddwyd i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol yma yng ngogledd Cymru?

Wel, a gaf fi ddiolch i Ken Skates am ei gwestiynau? Bydd pob un ohonoch wedi clywed ddoe fod y Prif Weinidog wedi darparu diweddariad ar gynllun peilot incwm sylfaenol wrth ymateb i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Dywedodd, ac rwyf am ailadrodd unwaith eto er eglurder,

'Yn amodol ar ddatrys y materion ymarferol sy'n weddill, gan gynnwys rhyngwyneb ein taliadau incwm sylfaenol â'r system fudd-daliadau, rydym yn bwriadu cyflwyno'r treial yn y flwyddyn ariannol...1 Ebrill 2022.'

A byddaf yn cyhoeddi diweddariad gweinidogol cyn bo hir i ddarparu mwy o fanylion. Ond mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â lliniaru tlodi—mae incwm sylfaenol yn ymwneud â lliniaru tlodi. Ond mae hefyd yn ymwneud â rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, a chael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a llesiant.

Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma wedi cael clywed gan rywun y mae'r toriadau i gredyd cynhwysol wedi effeithio arnynt. Hoffwn roi un enghraifft: Mrs D, a gysylltodd â mi yn ddiweddar. Dywedodd hyn, 'Fis Mawrth diwethaf, cefais ddiagnosis o fath prin o ganser y gwaed. Dros nos, euthum o fod yn fenyw annibynnol, hunangynhaliol, a oedd yn cyfrif y blynyddoedd tan y gallwn ymddeol, i fod yn rhywun di-waith trigain a rhywbeth oed sy'n gaeth i'r tŷ ac sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau a haelioni pobl eraill. Credyd cynhwysol oedd fy rhwyd ​​ddiogelwch, ac rwy'n ddiolchgar ei bod yno pan oeddwn ei hangen. Fodd bynnag, y mis hwn, mae'n teimlo fel pe bai Boris Johnson wedi torri twll yn ei gwaelod ac rwy'n ei chael hi'n anodd dal fy ngafael.'

Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy ar sawl achlysur i lenwi'r twll a wnaed gan doriadau llym y Torïaid, ac mae'r Prif Weinidog yn enwedig wedi cael cryn dipyn o ganmoliaeth drwy gydol y pandemig am wneud safiad gwahanol i Lywodraeth San Steffan. Mae angen i hyn ddigwydd eto, Weinidog. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn y gronfa cymorth dewisol, a ddaeth i ben ar 30 Medi, i helpu pobl fel Mrs D ac unigolion y mae'r toriad hwn wedi cael effaith ddinistriol arnynt? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen, a rhoesoch enghraifft glir iawn—enghraifft ddynol—sy'n peri cryn bryder, o'r effaith andwyol y mae torri'r £20 o gredyd cynhwysol eisoes wedi'i chael ar eich etholwr. Ac mae'n gwbl amlwg fod yn rhaid inni chwarae ein rhan i sicrhau y gallwn gefnogi'r teuluoedd hynny. Efallai fod Llywodraeth y DU wedi troi eu cefnau ar y teuluoedd hyn, ond ni fydd Llywodraeth Cymru'n gwneud hynny. Felly, mae'r cymorth a roddwn drwy ein cronfa cymorth dewisol yn un llwybr i helpu'r teuluoedd a fydd yn wynebu gaeaf caled, fel y gwyddom—ac fel y buom yn ei drafod yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y bore yma—i gael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i gynhesu eu cartrefi a bwydo eu plant. Ac felly, mae'n bwysig fy mod yn gallu ymestyn yr hyblygrwydd, fel y cyhoeddais ac fel y trafodwyd gennym y bore yma, ac ymestyn y gronfa cymorth dewisol hyd at fis Mawrth ac yna ystyried—wrth inni symud drwy hyn, a'r pandemig yn wir, yn ogystal â'r toriadau gan Lywodraeth y DU—pa effaith y bydd hynny'n ei chael o ran bwrw ymlaen â'r gronfa cymorth dewisol.

13:35
Amrywiaeth yn y Sector Cyhoeddus

2. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog amrywiaeth mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus? OQ57042

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws sector cyhoeddus Cymru. Rydym yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio dull partneriaeth gymdeithasol o annog a dylanwadu ar gyflogwyr i gymryd camau i sicrhau gweithlu mwy amrywiol.

Diolch, Weinidog. Yn ystod un o gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, datgelwyd mai 4.2 y cant yn unig o'r staff a gyflogir yn y Senedd sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Nawr, o'r staff—a maddeuwch i mi am ddweud hyn, ond mae'n well gennyf y term 'ethnig leiafrifol', felly dyna rwyf am ei ddefnyddio yn fy nghwestiwn—ethnig leiafrifol hynny, mae 81 y cant yn y ddau fand cyflog isaf. O ystyried dymuniad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gynhwysol ac yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig Cymru, a ydych yn cytuno y dylai'r Senedd arwain drwy esiampl, a pha drafodaethau a gawsoch ynglŷn â chynyddu nifer yr unigolion ethnig leiafrifol mewn rolau uwch yma yn y Senedd ei hun?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. A chredaf fod y ffaith eich bod yma nawr—. Ac mae pob un ohonom wedi siarad yn y gorffennol ynglŷn â sut y mae bod yn weladwy mewn bywyd cyhoeddus yn bwysig iawn hefyd, o ran gosod esiampl a pheidio â bod yr unig un ond y cyntaf o lawer, ac i annog pobl i gynnig eu hunain hefyd, a chael Senedd fwy cynrychioliadol nid yn unig o ran y bobl yn y Siambr, ond y bobl sy'n ein cefnogi ac yn gweithio ar draws ystad y Senedd. Felly, mae Llywodraeth Cymru'n sicr wedi ymrwymo i wneud hynny, ac rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth—roeddwn yn edrych ar y Llywydd wrth ichi ofyn y cwestiwn hefyd—i Gomisiwn y Senedd, ond rwy'n siŵr hefyd ei fod yn rhywbeth y gallwn weithio arno gyda'n gilydd, ar y cyd, fel nod cyffredin ac uchelgais cyffredin. Ac rwy'n siŵr y byddai croeso i'r Aelod fod yn rhan o'r gwaith hwnnw hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni mewn tymhorau blaenorol, rwy'n gweithio gyda National Energy Action, National Energy Action Cymru, a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, i ailsefydlu'r grŵp trawsbleidiol yn y chweched Senedd. Bydd ein cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar Zoom am 11 a.m. ddydd Llun, 8 Tachwedd—pawb i roi nodyn yn eu dyddiaduron, os gwelwch yn dda—a diolch am gadarnhau y byddwch yn mynychu fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rydym yn cydnabod bod mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol, ond rydym yn cydnabod y bydd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi tlawd o ran tanwydd yng Nghymru hefyd yn cyfrannu at amcanion newid hinsawdd yng Nghymru. O ystyried bod tlodi tanwydd yn rhan o'ch portffolio chi, ond bod effeithlonrwydd ynni yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, pa mor benodol rydych chi'n cydgysylltu gweithgarwch gyda hi er mwyn sicrhau nad yw'r nodau cyfiawnder cymdeithasol ehangach wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn cael eu colli wrth geisio cyflawni amcanion newid hinsawdd?

Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn, ac edrychaf ymlaen at fynychu'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd. Yn amlwg, mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn mewn ffordd drawslywodraethol, felly drwy weithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a deall y mater o'i safbwynt hi fel yr un sy'n gyfrifol am dai a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Felly, gan weithio gyda'n gilydd, yn enwedig mewn perthynas â threchu tlodi tanwydd, fe wnaethom gyhoeddi'r cynllun i drechu tlodi tanwydd ym mis Mawrth eleni. Cawsom ymgynghoriad cyhoeddus, gyda llawer o ymatebion, wrth gwrs, gan y rheini a fydd, rwy’n siŵr, yn mynychu’r grŵp trawsbleidiol. Ond credaf ei bod yn bwysig nodi ein targedau, a gwneud hynny, wrth gwrs, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod, Julie James. Ac maent yn dargedau lle nad amcangyfrifir, dros y 15 mlynedd nesaf, y bydd unrhyw aelwyd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus; nid amcangyfrifir y bydd mwy na 5 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ar unrhyw adeg benodol; ac y dylem edrych ar nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl o syrthio i dlodi tanwydd, a dylent gael eu haneru, fwy na 50 y cant, yn seiliedig ar asesiad 2018. Yr hyn sy'n hanfodol yw bod angen inni sicrhau bod gan 155,000 o gartrefi—sef 12 y cant o gartrefi yng Nghymru—amgylcheddau cartref diogel a chyfforddus, a dyna ble mae hi mor hanfodol bwysig ein bod yn cydweithio'n agos.

Diolch. Mae'r cysylltiad rhwng tlodi tanwydd ac iechyd yn real iawn. Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2018, nodais fod y gost i GIG Cymru o drin pobl sy'n cael eu gwneud yn sâl am eu bod yn byw mewn cartref oer a llaith oddeutu £67 miliwn bob blwyddyn, gydag effeithiau iechyd a achosir gan gartrefi oer yn bennaf gysylltiedig â phroblemau cardiofasgwlaidd ac anadlol. Mae tymereddau isel hefyd yn lleihau ymwrthedd i heintiau ac yn annog tyfiant llaith a llwydni yn y cartref. Ac mae amgylcheddau oer dan do hefyd wedi'u cysylltu ag iechyd meddwl gwael, yn deillio o bryder a straen, ac mae cartrefi oer hefyd yn gwaethygu ynysigrwydd cymdeithasol ac yn lleihau cyrhaeddiad addysgol, ac felly'n croesi i faterion cyfiawnder cymdeithasol. Wrth siarad yng nghynhadledd tlodi tanwydd National Energy Action Cymru ym mis Chwefror 2019, dywedais fod eich rhagflaenydd wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol y byddai Llywodraeth Cymru'n datblygu cynllun tywydd oer ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac y byddai cronfa argyfwng, ynghyd â mabwysiadu canllawiau a safon ansawdd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru ar farwolaethau ychwanegol y gaeaf ac afiechyd sy'n gysylltiedig ag oerfel hefyd yn allweddol i hyn. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gyfeiriad o gwbl at dlodi tanwydd yn y datganiad ddoe gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gynllun iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gaeaf. O gofio bod y gaeaf bron ar ein gwarthaf unwaith eto, pa gynlluniau penodol i wrthsefyll y tywydd oer drwy gydol y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn, fel y mae'n ymwneud â’r materion trawsbynciol yn eich portffolio cyfiawnder cymdeithasol?

13:40

Diolch eto am eich cwestiwn dilynol. Rwyf wedi sôn am y cynllun i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Yr hyn sy'n hanfodol amdano yw bod gennym hefyd banel cynghori ar dlodi tanwydd, sydd, wrth gwrs, yn cael ei fynychu gan lawer o'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy yn y grŵp trawsbleidiol, ac mae'n ein cynorthwyo i gydgysylltu camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Yr hyn sy'n bwysig, ac mae'n gysylltiedig â'ch cwestiwn cyntaf, yw rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae'n amlwg fod cysylltiad rhwng iechyd a llesiant a mynd i'r afael â thlodi tanwydd hefyd. Felly, mae rhaglen Cartrefi Clyd, fel y gwn eich bod yn gwybod, yn cynnwys cynllun Nyth, sy'n seiliedig ar alw, ac sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023, a chynllun Arbed, a ddaw i ben yn nes ymlaen eleni, ac mae hwnnw'n darparu cymorth i'r bobl fwyaf anghenus yn y rhaglen Cartrefi Clyd.

Ond credaf ei bod yn bwysig dangos, er enghraifft, mai dyma ble y mae cynlluniau o dan raglen Cartrefi Clyd yn cael y lefel uchaf o fuddsoddiad ar gyfer pob annedd er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael yr effaith fwyaf bosibl, a gwelliannau nid yn unig er mwyn cael cartrefi cynhesach, ond hefyd er mwyn arbed arian i gartrefi ar eu biliau ynni blynyddol, gan mai dyna sydd mor bwysig am y mesurau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim sy'n cael eu gweithredu drwy gynllun Nyth yn awr.

Diolch, ac er fy mod yn croesawu eich sylwadau am gynllun Cartrefi Clyd, roedd y cwestiwn yn ymwneud yn benodol â'r cynllun tywydd oer, sy'n rhywbeth y mae monitor tlodi tanwydd blynyddol National Energy Action Cymru wedi galw amdano ers peth amser, ac y gwnaeth y Gweinidog yn Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn 2019 ei dderbyn gan ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu.

Ond wrth symud ymlaen, ar 1 Hydref, cynyddodd y cap ar brisiau ynni a osodwyd gan y rheoleiddiwr ynni Ofgem o ganlyniad i'r cynnydd mewn costau ynni, gyda phrisiau nwy yn cyrraedd y lefel uchaf erioed wrth i gyfyngiadau symud gael eu codi ar draws y byd. Er bod y cap ar brisiau'n sicrhau mai costau dilys yn unig y mae'r cyflenwyr yn eu codi ar gwsmeriaid, rhybuddiodd National Energy Action Cymru y byddai'r codiad hwn yn arwain at 22,500 yn rhagor o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd y gaeaf hwn, a galwasant am ddiogelwch cryfach a chymorth ariannol mwy uniongyrchol i aelwydydd incwm isel dros y gaeaf hwn. Sut rydych yn ymateb, felly, i'w datganiad yn dilyn hynny fod gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn cefnogi cartrefi tlawd o ran tanwydd ym mhob math o ddeiliadaeth i ôl-osod ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a sut y byddwch yn ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni cynyddol, yn ogystal â buddsoddiad mwy hirdymor mewn effeithlonrwydd ynni cartref, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon eu defnydd o ynni?

Wel, wrth gwrs, mewn ymateb i'ch cwestiwn penodol y byddaf yn ymateb iddo, ynglŷn â'r cynllun tywydd oer, bydd gennym gynllun tywydd oer ar waith. Soniais am ein cynllun i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, ac wrth gwrs, mae pob un o'r rhain yn strategaethau ac yn gynlluniau rhyngweithiol i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Ond byddwn yn gallu ymateb i hynny drwy roi diweddariad erbyn diwedd mis Tachwedd.

Dyma ble y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau'n cydweithio'n agos iawn, ac rydym yn cyflwyno ein sylwadau i Lywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n gwneud hynny hefyd. Rydych yn cyflwyno sylwadau i mi, ond mae angen cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn. Ac yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod cyllid ar gael i'n galluogi i chwarae ein rhan. A byddwn yn edrych i weld beth sy'n digwydd yn y cyhoeddiadau ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant cyn bo hir.

Ond hefyd, ar Ofgem eu hunain, cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a sylwadau rydym yn eu cyflwyno, gan gydnabod y bydd cynnydd yn nifer yr aelwydydd sy'n wynebu tlodi tanwydd, mewn gwirionedd, trafodwyd hyn yn llawn yn ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y bore yma yng nghyd-destun cyngor ar ddyledion, a’r ffaith ein bod yn sicrhau nid yn unig ein bod yn rhyddhau £20.1 miliwn i gynllun Nyth—100 y cant o osodiadau'n cael eu cwblhau gan gwmnïau gosod wedi'u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys prentisiaethau—ond rydym yn edrych ar archwiliadau hawl i fudd-daliadau, sydd ynddynt eu hunain, drwy ein rhaglen pwyslais ar incwm, yn arwain at sicrhau bod aelwydydd agored i niwed yn manteisio ar fudd-daliadau i'w cefnogi; agored i niwed oherwydd y toriadau rydym newydd fod yn sôn amdanynt i gredyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo, a phrisiau tanwydd a bwyd cynyddol hefyd.

13:45

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn dilyn y cwestiwn blaenorol, efallai y byddwch yn cofio fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gynharach yr haf pan ddaeth y newyddion gyntaf am y codiadau mewn tariffau tanwydd. Rhybuddiais bryd hynny am yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar gyllidebau aelwydydd, yn enwedig yng ngoleuni penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i fwrw ymlaen â chael gwared ar yr ychwanegiad i'r credyd cynhwysol, er eu bod yn ymwybodol o'r niwed y byddai hynny'n ei achosi. Rydym yn y sefyllfa hon yn rhannol oherwydd blerwch y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn methu buddsoddi mewn capasiti storio nwy, gan wneud y DU yn arbennig o agored i siociau allanol. I mi, mae hyn yn tanlinellu cynlluniau Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni yma yng Nghymru a fyddai’n cynyddu ein gwytnwch ac yn lleihau ein dibyniaeth ar rymoedd allanol. Does bosibl nad yw'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dweud wrthym na allwn ddibynnu ar San Steffan gyda'r cyflenwad ynni. A yw cynyddu ein hannibyniaeth ynni'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn weithredol er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a phrisiau afresymol? Ac os nad ydyw, pam ddim?

Wel, diolch yn fawr. Ac mae'n hollol iawn ac yn amserol fod y cwestiynau hyn yn codi ynglŷn â pha rôl a phŵer sydd gennym, fel Llywodraeth Cymru, o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Buom yn siarad y bore yma am y storm berffaith a fydd yn taro ac yn effeithio ar deuluoedd agored i niwed. Felly, mae angen inni sicrhau y gallwn gael cymaint o afael a rheolaeth a chyfrifoldebau â phosibl i allu bwrw ymlaen â hyn, o ran cyflenwad ynni ac adnoddau. Yn amlwg, nid yw hyn yn gyfan gwbl yn fy mhortffolio, ond yn y ffordd drawslywodraethol y gweithiwn yn Llywodraeth Cymru, rwy'n amlwg yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog newid hinsawdd ar y materion hyn.

Diolch yn fawr. I symud ymlaen at rywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo: dros y misoedd diwethaf, mae Cymru wedi croesawu ffoaduriaid, yn dilyn cwymp sydyn Llywodraeth Affganistan. Mae'n anodd dychmygu'r ofn a deimlent wrth ffoi o'u cartrefi, ac mae'n iawn fod Cymru wedi chwarae ei rhan wrth fod yn hafan ddiogel i rai o'r teuluoedd hyn. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae WARD neu gynllun Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru wedi cael cryn lwyddiant yn cynorthwyo pobl i ailddechrau eu bywydau proffesiynol yma yng Nghymru. Maent wedi gwneud hyn drwy gael gwared ar y rhwystrau rhag cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, sy'n ofynnol er mwyn ymarfer yn y DU. Mae'r cynllun hefyd wedi arbed llawer o arian, gan fod hyfforddi meddygon newydd yn costio oddeutu £230,000, ond mae proses WARD yn costio oddeutu £30,000 am bob meddyg sy'n cwblhau'r cynllun. A all Llywodraeth Cymru ymrwymo i gynorthwyo mwy o weithwyr proffesiynol sy'n ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ailddechrau eu gyrfaoedd drwy geisio ehangu cylch gwaith y cynllun WARD gwreiddiol i gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill, a helpu ein GIG?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Peredur. Roeddwn yn falch iawn o fod yn Weinidog iechyd pan ddechreuasom ar y llwybr hwnnw, gyda’r cynllun meddygon sy'n ffoaduriaid, fel yr oeddem yn ei alw bryd hynny, 20 mlynedd yn ôl. Ac rwyf bob amser yn cofio adroddiadau Aled Edwards ar faint o'r meddygon o ffoaduriaid hynny yr oeddem yn eu cefnogi gyda sgiliau iaith, drwy'r cynllun a ddatblygwyd, ac sydd bellach wedi'i efelychu a'i ddilyn, nid yng Nghymru, ond ledled y DU a thu hwnt, a sut yr oedd cymaint o'r meddygon hynny a gydnabuwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gweithio wedyn yn y GIG ledled Cymru a'r DU. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y cyfleoedd a chwmpas y cynllun hwnnw. Bydd yn fater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—. Mewn gwirionedd, rwyf wedi trafod y cwestiwn hwnnw gyda hi, nid yn unig o ran meddygon, ond gweithwyr iechyd proffesiynol eraill hefyd. Ond hoffwn ddweud bod gennym gyfleoedd, unwaith eto, gyda'r ffoaduriaid o Affganistan sy'n dod i ymuno â ni yma yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yn meddu ar sgiliau—eu teuluoedd cyfan; mae gan y gwŷr a’r gwragedd sgiliau—fel y gwelsom gyda’r ffoaduriaid o Syria, sydd bellach yn chwarae eu rhan, yn enwedig yn y GIG, ac yn sicr, byddaf yn codi’r pwynt eto ynglŷn â’r cynllun a sut y gallwn ei wella.

13:50

Diolch, a diolch am fwrw ymlaen â hynny. Yn ddiweddar, cyflwynais ddadl ar gamddefnyddio sylweddau. Yn ystod y ddadl honno, nododd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod dull y Llywodraeth o ymdrin â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn canolbwyntio ar iechyd a lleihau niwed. O gofio hyn, sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac yn ymgysylltu â hwy i sicrhau bod y dull hwn yn cael ei drosi'n weithredu gyda'r heddlu ar lawr gwlad? Yn benodol, sut y mae'r Llywodraeth a'r comisiynwyr heddlu a throseddu'n cynorthwyo swyddogion i nodi problemau camddefnyddio sylweddau neu gaethiwed ac i ymateb yn briodol yn unol â'r dull iechyd a lleihau niwed?

Wel, diolch am eich cwestiwn. Mae'n amserol iawn eto, gan y byddaf yn cyfarfod â'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol yfory, Dafydd Llywelyn, a byddaf i, ac yntau, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi y prynhawn yma gyda fy rôl arweiniol mewn perthynas â phlismona. Rwy’n cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona gyda’r Prif Weinidog, ac mae'n rhaid imi ddweud, dros y 18 mis diwethaf, er ein bod wedi bod yn canolbwyntio ar effaith y pandemig a’r cymorth y mae’r heddluoedd wedi bod yn ei roi i ymateb i'r pandemig a chyflwyno nifer fwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, sy'n galonogol iawn, mae camddefnyddio sylweddau hefyd wedi bod yn amlwg ar yr agenda. Mae'n rhywbeth lle mae'r heddluoedd, yn arbennig, dan arweiniad y comisiynwyr heddlu a throseddu, yn edrych ar atal o ran rôl gwasanaethau'r heddlu yng Nghymru. Ac rydym yn canolbwyntio ar beth yw anghenion Cymru ac amgylchiadau Cymru, a byddaf yn codi hyn eto gyda Dafydd Llywelyn, y comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol, pan fyddaf yn cyfarfod ag ef yfory.

Mae cwestiwn 3 [OQ57061] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 4, Mabon ap Gwynfor.

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarpariaeth canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol? OQ57059

Rydyn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth â'r GIG, yr heddlu a'r trydydd sector i ddarparu mynediad at ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yng Nghymru. Mae cydweithio fel hyn yn sicrhau bod y rheini sy'n dioddef ymosodiadau rhywiol yn cael cymorth, cefnogaeth a chyngor gan weithwyr proffesiynol profiadol, sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol.

Diolch yn fawr iawn, a dwi'n arbennig o ddiolchgar eich bod chi wedi ateb trwy gyfwng y Gymraeg. Mae'r canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yn cynnig gwasanaeth andros o bwysig i bobl fregus sydd yn amlwg wedi mynd trwy brofiadau erchyll. Rŵan, pan fydd rhywun yn edrych ar yr ystadegau ymosodiadau rhywiol, does yna ddim llawer o wahaniaeth rhwng y niferoedd o ymosodiadau rhywiol am bob 1,000 o'r boblogaeth yn ein cymunedau gwledig o'u cymharu â chymunedau trefol a dinesig. Er hynny, mae lefel y ddarpariaeth sydd ar gael yn ein cymunedau gwledig yn affwysol o isel, yn enwedig, felly, yng ngogledd Cymru. Dim ond un canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol sydd yng ngogledd Cymru gyfan, a honno ym Mae Colwyn. Mae'n bedair awr o siwrnai ar drafnidiaeth gyhoeddus i rywun, er enghraifft, o Dudweiliog i Fae Colwyn neu o Harlech i Fae Colwyn. Weinidog, ydych chi ddim yn cytuno ei bod hi'n amser inni weld buddsoddiad mewn canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol arall yn y gogledd, a hynny mewn man mwy cyfleus i drigolion Gwynedd a Môn?

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor, a diolch am roi'r ffocws hwnnw ar ein rhaglen canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol. Mae mor bwysig fod gennym y mynediad hwnnw at ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol ledled Cymru gyfan, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gefn gwlad Cymru a gogledd Cymru, lle rydych chi, yn amlwg, yn gynrychiolydd. Mae gennym drefniadau gweithio cydweithredol cadarn i sicrhau ein bod yn cael yr ymateb amlasiantaethol hwnnw, sy'n hanfodol, fel y gwn eich bod yn ei gydnabod. Mae gennym fwrdd rhaglen, sy'n goruchwylio hyn o ran y ddarpariaeth o ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol ledled Cymru. Cydweithfa'r GIG sy'n ei drefnu, ac wrth gwrs, mae'r cyfan yn anelu at wella canlyniadau iechyd i ddioddefwyr a goroeswyr ymosodiadau rhywiol. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar ddull rhanbarthol o weithredu, felly byddaf yn trosglwyddo'r sylwadau a wnaed gennych heddiw iddynt hwy. Mae gwasanaeth integredig eisoes ar gael gennym yng ngogledd Cymru, ond credaf fod eich pwyntiau ynglŷn â phellter a mynediad at gyfleusterau achrededig, er enghraifft, yn hanfodol bwysig. Fe soniaf hefyd efallai fod hyn yn rhywbeth lle mae gennym ganolbwynt rhanbarthol newydd yn cael ei ddatblygu yma yng Nghaerdydd, ond gall hwnnw fod yn fodel ar gyfer gweddill Cymru.

13:55

Diolch, Mabon, am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Yn ein rhanbarth ni, cyn y digwyddiadau Rhuban Gwyn eleni, rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r elusen trais rhywiol, Llwybrau Newydd, sy'n gweithredu chwech o wyth canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol Cymru. Maent yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi dioddefwyr, menywod a merched yn bennaf, ac rwy'n falch o ddweud eu bod wedi derbyn cyllid newydd yn ddiweddar i gefnogi mwy o bobl mewn mwy o ffyrdd. Ond mae'r system cyfiawnder troseddol yn gwneud cam â gormod lawer o ddioddefwyr. Mae angen llawer mwy o adnoddau a hyfforddiant ar yr heddlu ac erlynwyr i gyflymu ymchwiliadau i ymosodiadau a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae hyn yn hollbwysig, yn anad dim gan y gwyddom fod achosion llys hirfaith, ynghyd â chyfraddau truenus o isel a chyson o euogfarnau, yn atal dioddefwyr rhag rhoi gwybod i'r awdurdodau am y troseddau hynny. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, Weinidog, gyda swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch blaenoriaethu dioddefwyr dros gyflawnwyr, a gwella mynediad cyflym at gyfiawnder?

Wel, diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn, ac rwyf hefyd yn cydnabod ei hymrwymiad diwyd a hirsefydlog i fynd i’r afael ag anghenion dioddefwyr o ran gwella darpariaeth y canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol. A chanolbwyntio'n benodol hefyd ar yr angen am gyfiawnder i'r dioddefwyr hynny a phwysigrwydd, fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf gan Mabon, yr ymateb amlasiantaethol hwn. Mae hyn yn ymwneud â'r modd y blaenoriaethwn ein gwasanaethau canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, ac mae angen inni sicrhau bod yr heddlu a'r Swyddfa Gartref yn chwarae eu rhan yn y cyswllt hwn, felly roeddem hefyd yn falch iawn o gefnogi cyllid a chymorth ychwanegol ar gyfer Llwybrau Newydd.

Ond mae'n rhaid inni feithrin hyder mewn dioddefwyr, os ydynt yn rhoi gwybod i'r awdurdodau, y bydd y rhai sy'n eu cam-drin yn cael eu dwyn i gyfrif, ac o ran pa mor bwysig yw hi fod gennym ddylanwad a'n bod yn defnyddio'r dylanwad hwnnw i sicrhau mwy o gyfrifoldeb yn y system cyfiawnder troseddol, dyna pam ei bod mor bwysig eich bod wedi codi'r mater hwn y prynhawn yma.

A gaf fi ddweud hefyd fod hyn yn gysylltiedig iawn â'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, y byddwn yn datblygu ei cham nesaf am y pum mlynedd nesaf? Mae'n ddiddorol ein bod yn gwella cyfleusterau gwrandawiadau llys o bell, er enghraifft, ledled Cymru, ac yn helpu i'w hariannu, neu yn eu hariannu, rwy'n credu, gan y gwyddom pa mor bwysig yw hi fod dioddefwyr yn gallu cyflwyno tystiolaeth ddiogel mewn modd diogel drwy gyswllt fideo.

Gwasanaethau Bancio Cymunedol

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau bancio cymunedol? OQ57038

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi undebau credyd sy'n darparu gwasanaeth bancio cymunedol amgen. Rydym hefyd yn gweithio gyda LINK, sy'n gweithredu rhaglen cynhwysiant ariannol i ddiogelu mynediad am ddim at arian parod i bawb, ond yn enwedig y rheini mewn cymunedau mwy difreintiedig lle ceir mwy o ddibyniaeth ar arian parod.

Diolch yn fawr am eich ymateb, Weinidog. Bydd Aelodau ar draws y Siambr hon, wrth gwrs, wedi cefnogi eu cymunedau drwy geisio cadw banciau yn eu hetholaethau eu hunain, ac fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon, efallai y bydd y banciau’n cael y deisebau hynny ac yna'n eu hanwybyddu ac yn bwrw ymlaen â'u cynlluniau, a bydd banciau’n cau. Ond wrth gwrs, rwyf wedi dadlau dros fodel bancio cymunedol ers amser maith, Weinidog; credaf fod angen ymyrraeth gan y Llywodraeth, felly rwy'n sicr yn cefnogi nodau Llywodraeth Cymru drwy Fanc Cambria. Mae hwn yn brosiect cwbl hanfodol. Weinidog, mewn datganiad gan y Llywodraeth ychydig cyn yr etholiad, gwn fod Gweinidog y Llywodraeth ar y pryd, Ken Skates, wedi dweud ei fod yn gobeithio bod mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau pellach mewn perthynas â Banc Cambria cyn diwedd 2021. Felly, tybed a allwch ddarparu unrhyw wybodaeth heddiw ynglŷn â phryd y gwneir y cyhoeddiad hwnnw, ond yn fwyaf arbennig, sut y gall Aelodau lobïo i sicrhau lleoliadau yn eu hetholaethau eu hunain. Rwyf wedi dadlau ers amser maith y dylai'r banciau hynny fod ar waith yn fy etholaeth fy hun mewn trefi fel Llanidloes, Machynlleth a'r Trallwng, felly byddaf yn parhau i lobïo ar ran yr ardaloedd hynny. Ond Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf—gan y deallaf mai chi fydd y Gweinidog a fydd yn gyfrifol pan fydd Banc Cambria wedi'i ddatblygu—er mwyn cefnogi'r Aelodau i sicrhau bod lleoliadau Banc Cambria yn yr ardaloedd mwyaf priodol ledled Cymru, ac yn enwedig, wrth gwrs, mewn etholaethau gwledig fel fy un i?

14:00

Diolch, Russell George. Mae bob amser yn dda ac yn bwysig gyrru pethau ymlaen pan gawn y gefnogaeth drawsbleidiol honno i gynnig. Fe'i cefnogwyd yn glir gan Lywodraeth Cymru, gan ymgymryd â gwaith arloesol Ken Skates, a byddwn yn dweud Jack Sargeant hefyd, a gododd lawer o gwestiynau ar y pwynt hwn. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod pawb ar draws y Senedd hon yng Nghymru yn ystyried bod Banc Cambria yn nod y dylem anelu ato. Oherwydd y pwynt difrifol yw bod banciau'n cau yn gyson ar y stryd fawr ym mhob un o'n hetholaethau. Mae'n ddirywiad parhaus, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau bancio. Rwyf wedi sôn am y mudiad undebau credyd, ac rydym yn rhoi mwy a mwy o gyllid a chefnogaeth i'r undebau credyd.

Un diweddariad cyflym: fe wyddoch ein bod yn cael trafodaethau uniongyrchol, fel rwyf wedi dweud, rwy'n credu, rhwng y rheoleiddiwr a sefydliad ariannol y sector preifat, oherwydd bod y sector bancio'n cael ei reoleiddio'n dynn, mae'n fater a gedwir yn ôl, ac mae sefydlu'r banc cymunedol yn dibynnu ar ddarpariaeth y sector preifat. Ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi a chreu banc cymunedol Cymru. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gallu cydnabod a pharhau i godi'r cwestiynau, gan gydnabod ein bod yn gweithio gyda'r sector preifat. Maent yn datblygu eu cynigion masnachol yn unol â'r broses gymeradwyo reoleiddiol, ac rydym yn cyflawni cynlluniau gweithredol ochr yn ochr â'r asesiadau rheoleiddio hyn.

Mae o'n bryder mewn llawer rhan o Gymru ac i lawer o fudiadau bod y sector fancio i'w gweld yn troi eu cefnau ar fudiadau cymunedol. Rydyn ni'n gwybod bod HSBC yn mynd i ddechrau codi ffi am gyfrifon cymunedol. Mae o'n rhywbeth y mae sawl un wedi cysylltu efo fi ynglŷn ag o—Merched y Wawr, er enghraifft, ac eisteddfodau lleol. Dwi'n annog pawb i arwyddo deiseb gan yr Aelod o'r Senedd a'r Aelod o Senedd Prydain dros Ddwyfor Meirionnydd yn galw ar y banciau i newid eu meddwl ar hyn.

Os ydy'r banciau am droi eu cefnau ar y cymunedau sy'n rhoi eu helw iddyn nhw, gadewch i ni fuddsoddi mwy mewn dulliau bancio amgen. Mae undebau credyd yn un model. Rydw innau hefyd yn gwybod bod Banc Cambria yn eiddgar i gynnig y math yma o becyn i fudiadau cymunedol. Ydy Llywodraeth Cymru wedi trafod efo'r criw y tu ôl i Banc Cambria y posibilrwydd o gynnig y pecyn yma a fyddai o gymaint o help i fudiadau? Hefyd, dwi yn disgwyl ymateb gan y Financial Conduct Authority i ohebiaeth gen i yn galw arnyn nhw i edrych i mewn i'r mater yma. Ydy Llywodraeth Cymru hefyd wedi trafod efo nhw neu'n ystyried gwneud hynny ar ran mudiadau cymunedol Cymru?

Diolch i'r Aelod. Rhun, diolch ichi am godi hynny eto, oherwydd mae llawer o Aelodau'r Senedd wedi codi hyn gyda mi, fod sefydliadau gwirfoddol yn cael anawsterau wrth geisio mynediad at wasanaethau bancio. Ceir anhawster i gael cyfrif sy'n rhad ac am ddim ac sy'n addas ar gyfer anghenion sefydliad gwirfoddol, yn ogystal ag anhawster i allu agor un yn y lle cyntaf hyd yn oed. Rydych wedi cydnabod rôl yr undebau credyd, sy'n gallu darparu cyfrifon a chyfleusterau bancio i sefydliadau elusennol. Nid wyf yn credu bod pawb yn ymwybodol o hynny o bosibl. Ond hefyd, bydd llawer ohonoch yn gwybod am waith Purple Shoots, elusen microfenthyciadau arloesol sydd wedi'i datblygu yng Nghymru. Maent bellach yn gweithio'n agos iawn gydag undebau credyd i'w helpu i hwyluso hyn.

Yn fy marn i, ni allwn adael i'r banciau droi cefn ar eu cyfrifoldeb, ac rydym yn cyfarfod â hwy, unwaith eto, nid yn unig i siarad am nifer y banciau sy'n cau—rydym i gyd yn eu gweld yn ddyddiol, bron, onid ydym—ond y ffaith bod hyn yn eithrio pobl a sefydliadau elusennol. Fodd bynnag, mae gennym gyfle hefyd, gyda'r gefnogaeth trydydd sector a gawn gan ein cynghorau gwirfoddol sirol, ynghyd â CGGC. Maent yn sefydlu cronfa benthyciadau asedau cymunedol, a byddwn yn eu helpu gyda chyllid—£2 filiwn mewn cyfalaf trafodiadau ariannol. Gallant gynnig benthyciadau, er enghraifft, i sefydliadau sy'n ceisio caffael ased cymunedol. Hefyd, gallant gael benthyciadau i’w helpu i adeiladu hanes credyd ar gyfer sefydliadau gwirfoddol. Ond yn sicr byddaf yn mynd â hyn yn ôl i'r sector bancio gyda fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, hefyd. Mae hyn yn hollbwysig. Mae’n sicr yn fater a gedwir yn ôl, ond mae Banc Cambria ar ei ffordd.

14:05

I ddilyn pwyntiau Russell a Rhun, mae bancio cymunedol yn ymwneud â phresenoldeb ar y stryd fawr, ac rydym wedi gweld mwy a mwy o fanciau’n diflannu oddi arnynt dros yr ychydig flynyddoedd, os nad degawdau, diwethaf. Mae hefyd yn ymwneud â mynediad rhad ac am ddim at fancio i grwpiau cymunedol ac elusennau. Gwelsom mai HSBC yw’r banc diweddaraf i fachu'r arian a diflannu, ac nid yw'n ddigon da. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog gyflwyno’r sylwadau cryfaf. Oherwydd cefais ymateb HSBC i fy llythyr atynt; maent wedi egluro’r rhesymau masnachol pam ei bod yn hanfodol nad ydynt yn darparu bancio am ddim i'r sefydliadau elusennol a chymunedol hyn mwyach. Nid yw hynny'n ddigon da, ac nid hwy yw'r unig rai i wneud hyn. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gyflwyno’r sylwadau cryf hynny i HSBC? Efallai y byddant yn gwrando, efallai ddim. Ond os na wnânt, byth etholwyr uniongyrchol i mi ac eraill, pobl sy'n credu mewn bancio moesegol am ddim i elusennau a grwpiau cymunedol—gallai fod yn undebau credyd, fel Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr neu undeb credyd Maesteg; mae yna fanciau eraill a chymdeithasau adeiladu a fydd yn fodlon ei wneud—os ydynt yn bachu'r arian ac yn diflannu, gadewch inni bleidleisio â'n traed a gwneud iddynt hwy ddioddef hefyd.

Hoffwn ddweud wrth Huw Irranca-Davies fy mod yn credu ein bod ni i gyd yn cytuno â’r mynegiant hwnnw o anobaith bron ynglŷn â’r ffordd y mae’r banciau masnachol wedi gadael ein cymunedau. Byddwn yn cyflwyno'r sylwadau hynny. Rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn gallu ailadrodd enghreifftiau o'r math o sefyllfa rydych yn ei disgrifio, a'r ffaith nad oes ymrwymiad i'r gymuned. Beth am gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, sydd i fod i'w gael yn y sector preifat a'r byd bancio?

Roeddwn eisiau sicrhau cyd-Aelodau yma heddiw fod Banc Cambria yn amcangyfrif, yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol a buddsoddiad, y gellid sefydlu'r banc cymunedol yn 2022—ni fydd hyn yn ddigon cyflym i ni a'n cymunedau, rwy'n gwybod—a lansio i gwsmeriaid yn 2023. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn. Ond gwyddom y bydd yn ymwneud â chyflwyno darpariaeth a lleoliad canghennau, a byddwch i gyd eisiau un, oni fyddwch, yn eich trefi a'ch cymunedau. Mae'n rhaid i chi aros gyda ni a'n cefnogi wrth inni ddatblygu hyn a sicrhau trefniant bancio cydfuddiannol moesegol gyda Banc Cambria.

Y Gronfa Cymorth Dewisol

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa cymorth dewisol? OQ57056

Mae'r gronfa cymorth dewisol yn parhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol yng Nghymru. Ers mis Mawrth 2020, mae dros 300,000 o daliadau brys wedi cael eu gwneud, gwerth cyfanswm o fwy na £20 miliwn. Cyhoeddais yn ddiweddar y bydd yr hyblygrwydd ychwanegol a ddarparwyd drwy gydol y pandemig yn cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2022.

Diolch, Weinidog. Gyda ffyrlo’n dod i ben, y toriad dinistriol i'r £20 yr wythnos o ychwanegiad i'r credyd cynhwysol a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn poeni llawer am y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, wrth i ni agosáu at yr hyn a fydd eisoes yn aeaf caled. Bydd miloedd o deuluoedd yn y Rhondda ac ar draws Cymru yn ei chael yn anodd. Bydd miloedd o deuluoedd yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau amhosibl, fel bwyta neu wresogi.

Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu cefnogaeth drwy'r gronfa cymorth dewisol, ac rwy'n ddiolchgar i'r miloedd o elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru sy'n cefnogi teuluoedd a phlant sy'n byw mewn tlodi. Dros yr haf, neilltuodd Llywodraeth Cymru arian ar gyfer menter lwyddiannus 'Haf o Hwyl'. A wnaiff y Gweinidog archwilio’r posibilrwydd o weithredu cynllun tebyg drwy fisoedd y gaeaf i’r rhai sy’n cael eu taro galetaf gan benderfyniadau Llywodraeth y DU, fel ein bod yn gweld gaeaf cynnes yn hytrach na gaeaf o bryder?

Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams, sy'n cynrychioli’r Rhondda a'r cymunedau lle rydych yn gwybod am y caledi sydd eisoes yn cael ei brofi oherwydd y toriad creulon a disynnwyr i'r credyd cynhwysol. A gadewch inni gofio, y byddai'r £20 wedi cael ei wario yn yr economi leol yn ogystal â diwallu anghenion y teuluoedd hynny. Trafodasom hyn y bore yma—soniais am y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol oherwydd yr effaith y bydd y toriadau hyn yn ei chael ar deuluoedd a pha mor agored i niwed y byddant. Rydym wedi trafod tlodi tanwydd heddiw a gwn y byddwn yn cydnabod hyn o ran pwysigrwydd y gronfa cymorth dewisol.

Gwnaethom roi mwy o arian i'r gronfa cymorth dewisol oherwydd yr angen digynsail a welsom yn ystod y pandemig, ond hefyd yr hyblygrwydd i bobl y bydd yn rhaid iddynt—ac yn sicr, fe fydd angen iddynt—ddod yn ôl am fwy o daliadau. Hoffwn wneud sylw hefyd mewn ymateb i'ch cwestiwn am yr effaith. O safbwynt tlodi tanwydd, rydym wedi cytuno i ailgyflwyno cymorth tanwydd ar gyfer aelwydydd nad ydynt ar y grid o 1 Hydref tan 31 Mawrth 2022, a fydd yn caniatáu i lawer o aelwydydd sy'n dibynnu ar brynu olew costus a nwy petrolewm hylifedig gael eu cefnogi y gaeaf hwn.

Roedd menter Haf o Hwyl yn gyfle gwych, ac ar draws ein holl etholaethau, gwyddom fod plant a phobl ifanc a theuluoedd wedi elwa'n fawr ohoni. Nid oedd yn rhan o fy mhortffolio; byddaf yn rhannu'r cwestiwn hwn gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Oherwydd credaf fod angen inni edrych, fel y mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud—rydym yn edrych ar ein cenhedlaeth hŷn a'r effaith ar eu hiechyd a'u llesiant, yn ogystal ag effeithiau toriadau disynnwyr a wneir gan Lywodraeth y DU.

14:10

Weinidog, yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ceir rhai heriau i fynd i'r afael â hwy. Dywedodd Karen Davies o Purple Shoots, darparwr Cyllid Cyfrifol, fod lefel ymwybyddiaeth o'r gronfa'n isel ac nad yw'n cael ei hyrwyddo'n dda, a nododd Shelter Cymru eu bod wedi gweld nifer sylweddol o geisiadau i'r gronfa cymorth dewisol yn cael eu gwrthod, llawer ohonynt oherwydd cap ar nifer y ceisiadau y gall pobl eu gwneud. A yw'r Gweinidog yn derbyn bod angen mynd i'r afael â'r materion hyn os yw pobl yn mynd i elwa o'r cynllun? Diolch.

Diolch, Altaf Hussain. Yn fy ymateb i'r cwestiwn gan Buffy Williams, a chredaf fod hyn yn bwysig i'w gydnabod, dywedais fod dros 300,000 o daliadau brys wedi'u gwneud ers mis Mawrth 2020 y llynedd—300,000—gwerth cyfanswm o fwy nag £20 miliwn. Ond mewn ymateb i gwestiynau y bore yma yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, dywedais ein bod yn edrych ar hygyrchedd y gronfa cymorth dewisol. Yn amlwg, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'n gweithio'n agos iawn gyda Chyngor ar Bopeth drwy'r gronfa gynghori sengl. Mae'n cyfeirio pobl sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol at gyngor ychwanegol i wella eu hamgylchiadau. Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae hefyd. Credaf fod tystiolaeth fod pobl yn cael y cyllid hwnnw yn hollbwysig. Mae gennym y gronfa cymorth dewisol yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw beth tebyg i hyn yn bodoli yn Lloegr. Mae gennym y gronfa hon yma, ac rydym wedi gwneud gwerth dros £91 miliwn o ddyfarniadau ers agor y gronfa cymorth dewisol. Ond rydym yn edrych ar y dystiolaeth sy'n dod drwodd ynglŷn â sut y gallwn wella mynediad at y gronfa cymorth dewisol, a bydd hynny, rwy'n credu, o gymorth wrth ateb y cwestiynau hynny ac ymateb i dystiolaeth lle gwyddom fod pobl yn ei chael yn anodd ac angen cael gafael ar yr arian hwn, yn enwedig wrth inni agosáu at yr hyn a fydd, rwy'n siŵr, yn aeaf caled iawn.

Cymorth i Aelwydydd sy'n Agored i Niwed

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa gymorth a gyhoeddwyd ar gyfer aelwydydd sy'n agored i niwed dros y gaeaf? OQ57060

Bydd Cymru'n derbyn £25 miliwn o gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig â'r gronfa gymorth i aelwydydd, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda chyd-Weinidogion i nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn, a fydd yn rhoi cymorth ar unwaith i aelwydydd sy'n agored i niwed dros y gaeaf. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda phrisiau tanwydd domestig cynyddol. Byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yn ôl cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar y gronfa gymorth i aelwydydd, fel y nododd y Gweinidog, bydd fformiwla Barnett yn gymwys yn y ffordd arferol, sy'n golygu y bydd gweinyddiaethau datganoledig yn cael hyd at £79 miliwn o'r £500 miliwn hwnnw. Ac i Gymru, mae hynny'n golygu mai dim ond £25 miliwn a gawn, fel y dywedoch chi. Hyn, wrth gwrs, pan fo dadansoddiad Sefydliad Joseph Rowntree o ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos mai Cymru sydd â'r canrannau tlodi uchaf yn y DU yn gyson. A all y Gweinidog nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio blaenoriaethu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU hyd eithaf ei gallu? Ac a all y Gweinidog roi diweddariad inni ynglŷn â pha bryd y mae'r Llywodraeth yn pwyso am ddatganoli lles? Mae gennym enghraifft arall yma i ddynodi pam na allwn adael y wladwriaeth les yn nwylo Llywodraeth y DU.

14:15

Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig hwnnw, Luke Fletcher. Rwyf wedi dweud hyn fwy nag unwaith yma, rwy'n credu, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf ers inni glywed mai £25 miliwn yn unig a gawsom. £25 miliwn. Wyddoch chi, toriad o £20 oddi ar y credyd cynhwysol, £6 biliwn wedi'i ddileu'n llwyr, a £500 miliwn pitw ar gyfer y DU gyfan—£25 miliwn i Gymru. Ac un o'r pwyntiau nad yw wedi cael ei bwysleisio ddigon: taliad untro ydyw. Ac mae pawb yn gwybod pa mor anodd yw hi gyda chyllid untro—£25 miliwn—oherwydd fe wyddoch na allwch ei gynnal i sicrhau mynediad hirdymor at gyllid i'r bobl sy'n cael eu taro galetaf. Felly, dyna pam ein bod yn edrych yn ofalus iawn ar sut y gallwn dargedu'r arian hwn, gan edrych hefyd ar ffyrdd y gallwn barhau, fel y dywedais, â'r hyblygrwydd sydd gennym yn y gronfa cymorth dewisol a hefyd systemau tanwydd y gaeaf ar gyfer cartrefi nad ydynt ar y grid.

Ond ar eich pwynt ynglŷn â chyfrifoldeb a phwerau mewn perthynas â datganoli lles, yn amlwg, rwyf wedi dweud, ac yn wir, wedi ymateb i gwestiynau yn ddiweddar—a chwestiynau oddi wrthych chi, rwy'n siŵr, Luke Fletcher—ein bod wedi ymrwymo i ystyried yr holl dystiolaeth a'r adroddiadau a luniwyd ar effaith datganoli gweinyddu lles, sydd, wrth gwrs, ochr yn ochr â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban. Ac rydym yn awr wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag archwilio'r opsiynau ar gyfer hynny, y cyfleoedd, ac yn wir, yn hollbwysig—. Ac mae hyn bob amser yn ymwneud â sut y gallwn fod yn sicr ein bod yn cael cyllid gyda chyfrifoldeb, oherwydd dyna un o'r materion allweddol gyda Llywodraeth y DU.

Troseddau Casineb

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ne-ddwyrain Cymru? OQ57070

Nid oes lle i gasineb a throseddau o'r math hwn yn y Gymru y mae pawb ohonom eisiau ei gweld. Roedd datganiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn nodi'r ystod o waith ataliol, cymorth i ddioddefwyr, a gwaith codi ymwybyddiaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid drwy ein bwrdd troseddau casineb a thensiynau chymunedol, y rhaglen gydlyniant cymunedol, a'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn yn bryderus o weld bod ffigurau diweddar yn dangos bod troseddau casineb homoffobig wedi treblu ar draws y DU yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Yn wir, hyd at 31 Awst eleni, cafodd dros 150 o droseddau casineb LHDTC+ eu hadrodd i Heddlu Gwent. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod gan y rhai sy'n dioddef troseddau casineb hyder i adrodd am eu profiadau? A beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â phartneriaid, megis Heddlu Gwent, i ddileu malltod troseddau casineb?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn, ac rwy'n rhannu ei phryder ynghylch y cynnydd yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd. Ac mae hyn yn ddi-os yn cynnwys troseddau ychwanegol sy'n digwydd, ond hefyd mae'n adlewyrchu gwell ymwybyddiaeth o droseddau casineb a mwy o hyder i'w hadrodd, a bod troseddau casineb o'r fath yn cael eu cofnodi'n well gan heddluoedd ledled Cymru. Ac fel y dywedwch, rydym yn mabwysiadu dull partneriaeth yma yng Nghymru gyda bwrdd troseddau casineb a thensiynau cymunedol Cymru sy'n ymgysylltu â holl heddluoedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys Heddlu Gwent. Ac yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yr wythnos diwethaf, cydweithiodd Heddlu Gwent a swyddog hyfforddi ac ymgysylltu Cymorth i Ddioddefwyr Gwent ar sesiwn hyfforddi agored i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn y rhanbarth.

Ond rwy'n credu bod yr elfen godi ymwybyddiaeth yn bwysig iawn, nid yn unig o ran y mathau gwahanol o droseddau casineb—felly, er bod yr ymosodiadau corfforol a welsom yn cael eu hadrodd yn rhy aml o lawer y dyddiau hyn yn gwbl wrthun, ceir mathau eraill o droseddau casineb hefyd: gall fod yn gam-drin geiriol, bygythiadau, aflonyddu a bwlio, a gall ddigwydd all-lein ac ar-lein. Ac mae'n bwysig siarad amdano i annog mwy o bobl i sylweddoli bod yna fathau gwahanol o droseddau casineb, ond hefyd i roi gwybod amdanynt.

A dweud y gwir, eleni, dioddefais i a fy ngwraig drosedd gasineb. Ym mis Awst, ychydig ar ôl i ni lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynllun gweithredu LHDTC drafft Llywodraeth Cymru, un bore, dihunais i weld gohebiaeth, a thrannoeth cafodd hithau rywbeth tebyg iawn, a oedd yn ein hannog i ymwared â chyfunrywioldeb. Dywedodd wrthym ei bod yn bryd cefnu ar y ffordd gyfunrywiol o fyw a gadael ein gilydd, ac aeth ati i gyfeirio at bethau’n ymwneud â therapi trosi. Rwy'n ei rannu heddiw am fy mod eisiau annog mwy o bobl i roi gwybod am y pethau hyn. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom ni pan wnaethom gysylltu â’r heddlu, ond hefyd gan fy nghyd-Aelodau, yn enwedig fy nghyd-Aelod yma—fy nghyd-Weinidog. Hoffwn annog pobl eraill i adrodd, i wrthsefyll troseddau casineb a chael gwared arnynt yng Nghymru.

14:20
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Rŷn ni'n symud ymlaen nawr i'r eitem nesaf, sef y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.

Priodasau Dyngarol

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr ymgyrch i roi cydnabyddiaeth gyfreithiol i briodasau dyngarol? OQ57051

Diolch i'r Aelod am gwestiwn pwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynigion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer fframwaith a fyddai’n caniatáu i sefydliadau anghrefyddol gynnal priodasau sy'n rhwymo mewn cyfraith. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi cefnogaeth i'r cynigion hyn ac yn ceisio sicrhau y bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu mewn modd amserol.

Diolch am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod cydnabyddiaeth gyfreithiol i briodasau dyneiddiol mewn llawer o wledydd eraill, ond nid yw hynny'n wir am Gymru a Lloegr. Fy nghwestiwn i chi, felly, yw: a ydych yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar yr anghysondeb sy'n bodoli ar hyn o bryd gyda'r gydnabyddiaeth gyfreithiol honno’n bodoli mewn mannau eraill, ond nid yng Nghymru a Lloegr?

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Dylwn sôn fy mod yn aelod o Humanists UK. Mae hwn yn fater sydd wedi ei godi o bryd i'w gilydd yn y Siambr hon. Rydym yn gwybod bod priodasau dyneiddiol wedi ennill cydnabyddiaeth gyfreithiol yn yr Alban yn 2005, yng Ngweriniaeth Iwerddon yn 2012 ac yng Ngogledd Iwerddon yn 2018, ar ôl penderfyniad Llys Apêl. Digwyddodd yn Jersey yn 2019, yn Guernsey yn 2021, ac yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn adolygu’r mater ers 2013.

Onid yw’n eironig eich bod yn gallu cael angladd dyneiddiol yng Nghymru, ond na allwch gael priodas ddyneiddiol? A gallaf gadarnhau—. Os yw'n ddefnyddiol, efallai y gallaf ysgrifennu, ar y cyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—wel, gallaf gadarnhau y byddaf yn ysgrifennu i ategu’r hyn a ysgrifennodd hithau, mewn gwirionedd, i roi cefnogaeth bellach i'r angen i ddiwygio'r gyfraith yn hyn o beth a datganoli'r maes penodol hwn i'r Senedd hon. Rwy'n credu y gallaf hefyd sôn bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod â Dyneiddwyr y DU ddoe. Mae hi eisoes wedi cadarnhau y bydd yn ysgrifennu eto, ac rwy'n fwy na pharod i gefnogi hynny, os yw'n credu bod hynny'n ddefnyddiol, ac efallai y gallem ysgrifennu ar y cyd at Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r ddwy elfen hynny: yn gyntaf, fod angen diwygio’r gyfraith, ond yn ail, os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ystyried diwygio neu’n dymuno gohirio diwygio, er gwaethaf gwaith Comisiwn y Gyfraith a dyfarniad y Llys Apêl, fod hwnnw'n fater y gellid ei ddatganoli i ni ysgwyddo cyfrifoldeb drosto.

Sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector cyfreithiol i sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru? OQ57055

Diolch am y cwestiwn hwnnw ar gyngor cyfraith Cymru. Ers dechrau 2020, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r sector cyfreithiol i sefydlu cyngor cyfraith Cymru, drwy drafodaethau gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr, cwmnïau cyfreithiol masnachol a chwmnïau cyfreithwyr y stryd fawr, y bar, ysgolion y gyfraith, y farnwriaeth a chynrychiolwyr blaenllaw eraill yn y sector yng Nghymru.

14:25

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Credaf ei bod yn hanfodol fod addysg gyfreithiol yng Nghymru mewn sefyllfa gadarn yng nghyd-destun Cymru ac yn canolbwyntio ar adeiladu ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru. Cyn cyfarfod nesaf aelodau arfaethedig y pwyllgor gwaith, a allwch chi amlinellu eich blaenoriaethau ar gyfer cylch gwaith y cyngor cyfraith?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac fel a nodwyd, mae sefydlu cyngor cyfraith i Gymru yn un o argymhellion comisiwn Thomas, ac roedd yr argymhelliad hefyd yn adeiladu ar alwad gan yr Arglwydd Lloyd-Jones i sefydlu sefydliad ar gyfer cyfraith Cymru i hyrwyddo astudio cyfraith Cymru ac argymhellodd sefydlu cyngor cyfraith, ond un â chylch gwaith ehangach nag addysg gyfreithiol yn unig fel y byddai'n cynnwys llais i'r gymuned gyfreithiol yng Nghymru drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r corff cynyddol o gyfraith Gymreig, gan sicrhau bod adnoddau cyfreithiol yn cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg a chynorthwyo ysgolion y gyfraith yng Nghymru i arfogi myfyrwyr ag addysg a hyfforddiant i allu ffynnu yn eu gwaith, ond yn ogystal, byddai'n gorff ymbarél i rannu adnoddau, cefnogi hyfforddiant ar gyfraith Gymreig ar gyfer y farnwriaeth a'r proffesiynau a sicrhau cydweithio a gwaith cydweithredol i gyfrannu at ddatblygiad a chynaliadwyedd y sector cyfreithiol. Felly, mae'n sector hanfodol, mae'n sector pwysig i economi Cymru, ond mae hefyd yn sector pwysig i dwf a datblygiad cyfraith Cymru, ac i'r graddau hynny, rôl Llywodraeth Cymru yn hyn o beth fu gweithio gyda chyngor cyfraith Cymru a hwyluso ei ddatblygiad, rhoi cymorth iddo, ond wrth gwrs, bydd yn gorff sy'n annibynnol ar y Llywodraeth. Ond rwy'n sicr wedi ymrwymo i ddarparu unrhyw gymorth y gallaf ei roi i sicrhau ei fod yn llwyddiant, oherwydd mae'n ddatblygiad mor bwysig i Gymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a wnewch chi wneud datganiad am safbwynt eich Llywodraeth ar ddatganoli pellach i ranbarthau ac awdurdodau lleol Cymru?

Wel, ein safbwynt ar ddatganoli pellach i awdurdodau lleol yn y bôn yw bod gennym gomisiwn wedi'i sefydlu a fydd yn edrych ar lywodraethu yng Nghymru, lles y llywodraethu hwnnw, sut y gallai symud ymlaen, sut y gallem weithio i rymuso a chefnogi—grymuso cymunedau ac unigolion yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen, maes o law, at weld argymhellion y comisiwn sydd wedi'i sefydlu, ac a gaiff ei gadeirio ar y cyd gan y rhai a gyhoeddais ddoe.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn eich datganiad ddoe, eich datganiad ysgrifenedig a'ch datganiad llafar, ni chafwyd unrhyw gyfeiriad at ddatganoli rhagor o bwerau o Fae Caerdydd i Fae Colwyn a lleoedd eraill ledled y wlad. Onid yw'n ffaith bod eich Llywodraeth chi, dros y blynyddoedd, wedi bod yn Llywodraeth sydd wedi canoli pwerau i lawr yma ym Mae Caerdydd, yn hytrach na'u dosbarthu i'r cymunedau lleol a ddylai fod wedi gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain? Y gwir amdani yw bod pobl yn y rhan o'r wlad lle rwy'n byw yng ngogledd Cymru yn teimlo bod ganddynt Lywodraeth sy'n bell ac allan o gysylltiad â hwy. Gennym ni y mae'r amseroedd aros gwaethaf yn ein hysbytai, mae gennym setliadau gwaeth i awdurdodau lleol, mae gennym brosiectau ffyrdd wedi eu rhewi. Nid dyma'r difidendau datganoli a addawyd i bobl. Pryd y gallwn ddisgwyl gweld Llywodraeth Cymru yn datganoli pwerau go iawn i ranbarthau Cymru ac i awdurdodau lleol?

Credaf ein bod, o fewn y Senedd hon, bob amser wedi gweithio'n deg ym mhob rhan o Gymru a chyda golwg ar gwmpasu holl safbwyntiau pobl Cymru. Tybed a wnaethoch wrando ar yr araith a wneuthum ddoe, oherwydd yn yr araith honno a'r datganiadau cynharach, roeddwn yn sôn drwy'r amser sut y mae'r ethos sy'n sail i'r comisiwn yn ymwneud â grymuso pobl, mae'n ymwneud â grymuso cymunedau, ac mae'n ymddangos i mi eich bod wedi diystyru'r hyn a ddywedwyd yn llwyr er mwyn gwneud rhyw fath o ddatganiad tila sy'n amlwg wedi dod yn rhan o fantra'r Blaid Geidwadol yng Nghymru.

Gallaf eich sicrhau fy mod wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedoch chi ddoe, ac ni chlywais y geiriau, 'datganoli i ranbarthau ac awdurdodau lleol' o gwbl. Rydych yn sôn am rymuso pobl a chymunedau, ond onid y gwir yw eich bod yn syml eisiau cipio pwerau gan awdurdodau lleol a chipio pwerau gan Lywodraeth y DU ac mai dyna yw hanfod y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru?

A gaf fi ofyn ichi sicrhau, fel rhan bwysig o ffrwd waith y comisiwn annibynnol, oherwydd nid yw o fewn y cylch gwaith a gyhoeddwyd gennych ddoe—cylch gwaith eang iawn, os caf ddweud—? A wnewch chi ofyn yn benodol iddynt ystyried ble y dylai pwerau priodol fod, yn ogystal ag a ddylid datganoli ymhellach i awdurdodau lleol Cymru, sy'n llawer agosach at y bobl ar lawr gwlad na'r Llywodraeth Lafur anghysbell hon yng Nghymru, sydd wedi bod yn canoli pwerau ers 1999?

14:30

Wel, mae'n debyg ei bod yn wir eich bod wedi gwrando ar fy natganiad ddoe, ond yn sicr ni chlywsoch yr hyn a ddywedais. Ac rwy'n meddwl tybed beth yw eich dealltwriaeth o'r cysyniad o rymuso pobl a chymunedau. A tybed beth yw eich dealltwriaeth o'r amcanion eang a bennwyd, sy'n ymwneud mewn gwirionedd â dyfodol Cymru a gwella democratiaeth Cymru ac ystyried y materion a fyddai'n arwain at wella pobl Cymru ac o fudd iddynt.

Nawr, os credwch ei bod yn briodol mewn comisiwn i ddechrau dweud wrth y comisiwn beth ddylai ei gasgliadau fod o'r diwrnod cyntaf—wel, nid dyna fy nghysyniad i o beth yw comisiwn. Credaf ei bod yn allweddol bwysig fod gan y comisiwn hyblygrwydd a disgresiwn i fynd i'r afael â'r amcanion eang hynny. Ac os ydych yn dweud wrth gomisiwn am fynd allan ac ymgysylltu â phobl Cymru, wel, rhaid ichi wrando ar bobl Cymru a'r hyn y maent yn ei ddweud mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud wrthynt mai dyma rydych eisoes wedi'i benderfynu sy'n bwysig iddynt. Nawr, efallai mai dyna'r ffordd Geidwadol o wneud hyn, ond nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd y mae llawer o bobl eraill yn y Senedd hon yn ei gredu sy'n briodol i gomisiwn.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, mae nifer ohonom ni yn fan hyn yn bryderus iawn am y cynnydd sylweddol yn nifer y Biliau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio eu pasio mewn meysydd datganoledig. Bydd nifer ar y meinciau yna yn gyfarwydd â’r adnod,

‘Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed’.

Wel, gwrandawed ar hyn, y rheini ar feinciau’r Torïaid: yn y pedwerydd Senedd, wyth LCM; yn y chweched Senedd yn barod, 14 LCM. Mae rhai o’r Biliau, fel y Bil Cymwysterau Proffesiynol, yn rhoi pwerau i Weinidogion i newid Deddfau cynradd y lle hwn ac i newid Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dwi’n siŵr gwnewch chi gytuno gyda fi, Cwnsler Cyffredinol, ddylai setliad datganoledig ein gwlad ni ddim bod yn fympwy i Weinidog y Torïaid yn San Steffan. Beth ŷch chi, wedyn, felly, yn ei wneud i amddiffyn y Senedd rhag Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy’n ceisio tanseilio ein datganoli ni? Diolch.

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud ei bwyntiau'n dda iawn, ac maent yn rhai yr wyf fi, yn sicr, yn canolbwyntio'n fawr arnynt. Ac efallai, i ychwanegu at rai o'r enghreifftiau a roddodd, byddwn hefyd yn mynegi pryder fod peth o'r ddeddfwriaeth y bydd angen inni ei hystyried, oherwydd ei goblygiadau i ddatganoli, yn mynd at wraidd ein democratiaeth a democratiaeth y Deyrnas Unedig—yr argymhellion mewn perthynas ag adolygiad barnwrol, y cafodd y gwaethaf ohonynt eu dileu gan yr Arglwydd Ganghellor blaenorol. Ac mae gennyf ofn mawr, o'r math o bethau a ddywedir gan yr Arglwydd Ganghellor newydd, fod bwriad i ailgyflwyno hynny; mater Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, a fyddai'n gyfyngiad sylweddol ar yr hawl i brotest gyhoeddus. A gwelwn yn awr y bwriad hyd yn oed i gyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu'n sylweddol ar fater hawliau dynol o fewn ein system gyfreithiol. Mae'r rhain i gyd yn bethau y credaf ein bod yn eu hystyried yn arwyddocaol a phwysig tu hwnt, boed yn ddemocratiaeth o fewn Cymru, neu'n ddemocratiaeth o fewn y Deyrnas Unedig.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod, mewn perthynas â system y cydsyniad deddfwriaethol, yw bod yna feysydd wrth gwrs—darnau o ddeddfwriaeth—lle bydd gorgyffwrdd posibl ac yn y blaen, ac felly mae'r broses yn un sy'n bwysig, wrth ystyried ble y gallai fod manteision i'r ddwy ochr ai peidio, neu ble y gallai fod ymyrraeth i gyfrifoldebau datganoledig. Ond y gwir amdani yw bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn fy marn i yn ymosodiad ar gyfrifoldebau datganoledig, mae'n ymgais i danseilio cyfrifoldebau datganoledig, ac rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod yn tanseilio'r mandad democrataidd sydd gennym.

Felly, i ystyried yr holl femoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac i gael dealltwriaeth o'u heffaith gyffredinol gyda'i gilydd, yn ogystal â'r prosesau eraill, megis memoranda dealltwriaeth, y math o gytundebau blwch dogfennau, golyga werthuso'r effaith a gânt ym mhob ystyr o ran y setliad datganoli, gyda'r farn mai yng Nghymru ei hun y dylid mynd ar drywydd deddfwriaeth ar faterion Cymreig. Lle ceir meysydd o ddiddordeb cyffredin, mae ar yr amod, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, nad yw'n tanseilio datganoli nac yn arwain at drosglwyddo pwerau o'r lle hwn. Mae'n amgylchedd anodd tu hwnt. Rwy'n obeithiol y gallai'r adolygiad rhynglywodraethol a'i ganlyniad wella'r sefyllfa. Ond fel y dywedais ddoe wrth drafod y materion hyn, nid ydynt yn darparu'r sylfaen gyfansoddiadol hanfodol sydd ei hangen arnom mewn gwirionedd yn fy marn i, ac un y bydd y comisiwn yr oeddem yn cyfeirio ato ychydig yn gynharach yn sicr o'i ystyried.

14:35

Diolch yn fawr. Rwyf am aros gyda'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf am ddyfynnu rhai geiriau doeth i chi, Gwnsler Cyffredinol. Fe'u hysgrifennwyd ym mis Mawrth 2021, gan gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pryd, mewn llythyr at Weinidog yr amgylchedd. Dyma'r geiriau:

'Mae'r dadleuon a gyflwynwyd gennych i gefnogi deddfu gan senedd y DU a Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig wedi canolbwyntio'n aml ar faterion yn ymwneud ag eglurder a hygyrchedd y gyfraith neu sicrhau cydymffurfiaeth â pholisi yn Lloegr. Mae'r rhain yn ddadleuon o blaid peidio â dal pwerau yn y maes hwn o gwbl ac yn ein barn ni, nid oes unrhyw rinwedd yn perthyn iddynt.

'Rydym yn pryderu am effaith gronnol sylweddol a niweidiol olyniaeth o benderfyniadau a wnaed sydd wedi arwain at Senedd y DU a Llywodraeth y DU yn deddfu'n drwm ar faterion datganoledig o fewn eich portffolio.'

Wel, rwy'n cytuno â'r geiriau hynny, Gwnsler Cyffredinol, a'ch geiriau chi ydynt wrth gwrs. Nawr, a ydych chi'n dal i arddel y geiriau hynny, Gwnsler Cyffredinol, ac os felly, pam y bu ichi gefnogi rhoi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd fis diwethaf, a beth yw eich meini prawf ar gyfer rhoi cydsyniad i orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn y dyfodol? Diolch yn fawr.

Wel, yn gyntaf, rwy'n arddel y geiriau hynny—maent yn aros. Rwyf bob amser wedi rhybuddio, wrth gwrs, wrth fynychu sesiynau tystiolaeth ac yn y blaen, fod yna feysydd, o bryd i'w gilydd, lle gallai fod manteision i Gymru o fynd ar drywydd camau gweithredu penodol, lle mae cyfrifoldebau'n gorgyffwrdd—. Mae'r amgylchedd, wrth gwrs, yn un o'r meysydd lle gwneir penderfyniadau mawr ar lefel y DU sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Gymru. Ac ym mhob un o'r dulliau hynny o weithredu, rwy'n credu ein bod ni'n mabwysiadu'r safbwynt sydd er budd gorau Cymru, beth yw'r ffordd orau o weithio i ddiogelu'r amgylchedd, i ddatblygu cyfrifoldebau yng Nghymru, lle bo hynny'n bosibl, sy'n ein galluogi i fynd i'r afael â'r amgylchedd.

Deallaf y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, oherwydd weithiau mae'r rhain yn benderfyniadau astrus ac anodd iawn, ac o bryd i'w gilydd, ceir amgylchiadau lle mae'n angenrheidiol, neu lle rydym yn rhoi cydsyniad ac efallai nad dyna'r amgylchiadau mwyaf dymunol lle rydym yn rhoi cydsyniad, ond wrth bwyso a mesur yr holl amgylchiadau, dilyn y llwybr penodol hwnnw sydd orau i Gymru. Maent yn codi o bryd i'w gilydd. Ond nid yw'n fy nhroi oddi wrth y safbwyntiau sylfaenol yn y llythyr hwnnw—rhai rwy'n dal i'w harddel o hyd—mai un o'n prif amcanion yw diogelu uniondeb datganoli, a datblygu uniondeb datganoli hefyd.

Diolch yn fawr. Ac yn olaf, rydych wedi cyffwrdd â fy nghwestiwn olaf eisoes—y sylwadau gan Dominic Raab i newid Deddf Hawliau Dynol 1998 i ganiatáu rhyw fath o fecanwaith fel y gall Gweinidogion gywiro dyfarniadau llys. Nawr, Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid bod Dominic Raab wedi anghofio un o'i ddarlithoedd cyfansoddiadol cyntaf yn y brifysgol, oherwydd mae hyn yn mynd at wraidd ein democratiaeth seneddol? Mae gan y Senedd a Senedd San Steffan bwerau eisoes i ddiwygio'r gyfraith. Nid mater i Weinidogion yw diystyru dyfarniad llys am nad ydynt yn ei hoffi, neu am ei fod yn anghyfleus iddynt. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno nad eu rôl hwy yw gwneud hynny, nad rôl unrhyw Weinidog yw cywiro dyfarniad llys, ac os bydd hyn yn mynd rhagddo, mae'n amlwg yn tramgwyddo egwyddor gwahaniad pwerau a rheolaeth y gyfraith? Pa sgwrs a gawsoch gyda swyddogion y gyfraith i fynd i'r afael â hyn? Diolch yn fawr.

14:40

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny? Maent yn bwyntiau hollol ddilys ac fe'u gwnaed gan nifer o sefydliadau o fewn y proffesiwn cyfreithiol, a gallwn ei roi fel hyn: heb fframwaith rheolaeth y gyfraith, i bob pwrpas mae'r Senedd yn unbennaeth a etholir bob pum mlynedd. Rheolaeth y gyfraith yw'r hyn sy'n gosod y fframwaith ar gyfer arfer pwerau. Nawr, dyna fu fy nealltwriaeth erioed o'r ffordd y mae'r Senedd yn gweithio a phwysigrwydd rheolaeth y gyfraith. Yr hyn a gynigiwyd mewn perthynas ag adolygiad barnwrol yn y bôn yw adeiladu ar yr hyn a gynigiwyd mewn deddfwriaeth flwyddyn neu ddwy yn ôl, sef caniatáu i Lywodraethau weithredu'n anghyfreithlon, caniatáu i Lywodraethau dorri eu rhwymedigaethau rhyngwladol mewn gwirionedd.

Felly, mae'n fater yr oeddwn wedi bwriadu ei drafod gyda Robert Buckland pan oedd yn Arglwydd Ganghellor. Yn anffodus, cynhaliwyd fy nghyfarfod y diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo—nid bod unrhyw gysylltiad rhwng y ddau beth. [Chwerthin.] Ond mae'n destun pryder mawr yn awr fod yr Arglwydd Ganghellor newydd yn gwneud sylwadau sy'n dynodi bod y penderfyniad a wnaed gan Robert Buckland wedi newid ar ôl ymgynghori. Maes o law, byddaf yn cyfarfod â'r Arglwydd Ganghellor, a byddaf yn gwneud y pwyntiau hyn, ond rhaid imi ddatgan bod y cynigion hyn, gyda'r holl ddarnau eraill o ddeddfwriaeth gyda'i gilydd yn tanseilio hawliau sifil a democratiaeth yn sylweddol yn fy marn i.

Tomenni Glo

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Weinidogion Cymru ynghylch cyfrifoldeb am domenni glo risg uwch? OQ57039

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, unwaith eto ar bwnc pwysig iawn. Mae diogelwch ein cymunedau yn hollbwysig ac rydym yn parhau i weithio'n gyflym i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo. Mae'r Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau rheolaidd ar y tomenni glo risg uwch ac yn sicrhau bod unrhyw waith cynnal a chadw arall yn cael ei nodi.

Diolch. Nawr, yr wythnos diwethaf, fe fyddwch yn gwybod bod rhagor o hen domenni glo yng Nghymru wedi'u categoreiddio fel tomenni risg uwch bellach. Mae'r niferoedd i fyny o 295 i 327. Nawr, er fy mod yn croesawu'r ffaith bod archwiliadau o domenni glo risg uwch wedi dechrau, mae Llywodraeth Cymru yn dal i ddadlau ynglŷn ag o ble y daw'r £500 miliwn i £600 miliwn ychwanegol sydd ei angen dros y 10 i 15 mlynedd nesaf. Mae'r Gweinidog cyllid, wrth drosglwyddo'r baich, yn defnyddio'r ddadl bod hyn, fel mater sy'n deillio o'r cyfnod cyn datganoli, yn golygu bod angen i Lywodraeth y DU rannu cyfrifoldeb ac atal tirlithriad arall rhag digwydd. Fodd bynnag, mae papur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith, 'Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru', yn nodi:

'Ein barn dros dro yw bod diogelwch tomennydd glo yn perthyn i gymhwysedd
ddatganoledig... Nid yw materion cysylltiedig â’r amgylchedd, rheoli risg llifogydd a draenio tir yn rhai a gedwir.'

Felly, a ydych yn cytuno â barn Comisiwn y Gyfraith fod diogelwch tomenni glo yn perthyn i'r weinyddiaeth ddatganoledig hon, a pha bryd y byddwch yn cynghori Gweinidogion fod gwir angen iddynt ddechrau edrych ar y cyllid i wneud y tomenni glo hyn yn ddiogel? Diolch.

A gaf fi ddiolch i chi am y cwestiwn atodol a'r datganiad diddorol hwnnw? Rydych wedi dewis yn ddetholus iawn o adroddiad Comisiwn y Gyfraith, oherwydd ceir llawer mwy o fanylion ynglŷn â chymhlethdod y gyfraith a dryswch cyfreithiol ers preifateiddio'r diwydiant glo a'r holl ganlyniadau ers hynny, o'r Bwrdd Glo Cenedlaethol i Glo Prydain, Deddf 1994 ac ymlaen wedyn at yr Awdurdod Glo yn awr.  

I ateb hynny, efallai y dylwn fynd â chi'n ôl at eich cwestiwn gwreiddiol, a oedd yn gwestiwn am y cyngor a roddir ynglŷn â chyfrifoldeb am domenni glo risg uwch. Ac wrth gwrs, gellir deall y term 'cyfrifoldeb' mewn sawl ffordd. Ceir gwahanol fathau o gyfrifoldeb, a chredaf fod gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb—cyfrifoldeb moesegol. Credaf fod ganddi gyfrifoldeb moesol, a chredaf fod ganddi gyfrifoldeb gwleidyddol a chyfrifoldeb cyfreithiol o bosibl am y tomenni glo sy'n bodoli. Ac rwy'n byw mewn etholaeth sydd â chryn dipyn o'r tomenni glo hyn.

Os caf ddweud, rwy'n credu ei bod yn warth llwyr fod Llywodraeth y DU yn parhau i beidio â derbyn bod etifeddiaeth y tomenni glo yn fater sy'n deillio o'r cyfnod cyn datganoli a waethygir gan newid hinsawdd? A chlywaf y math o eiriau camarweiniol gan Lywodraeth y DU am hyn, geiriau rydych yn eu hailadrodd heddiw, a rhaid i mi ofyn pa neges y credwch eich bod yn ei rhoi i bobl Cymoedd de Cymru, y bobl y mae'r tomenni glo hyn yn bodoli yn eu cymunedau, gan osgoi unrhyw atebolrwydd yn llwyr—atebolrwydd moesegol, moesol neu wleidyddol—mewn perthynas â hynny? Nawr, soniodd y Prif Weinidog ddoe fod hwn yn un o ddau fater allweddol y bu iddo eu dwyn i sylw Prif Weinidog y DU. A rhaid imi ddweud, yn hytrach na bod y mater hynod sensitif hwn yn destun dadl, dylai fod yn enghraifft ddiffiniol o sut y gall Llywodraeth y DU weithio gyda ni i ddatblygu manteision effeithiol o weithio'n rhynglywodraethol, yn enwedig felly yng nghyd-destun y ffaith bod y COP26 yn cael ei gynnal yn y DU.

Os nad yw Llywodraeth y DU yn cytuno i gael rhaglen ariannu, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i £600 miliwn o gyllidebau dros y 10 i 15 mlynedd nesaf—arian sydd wedi dod ar gyfer adeiladu ysbytai, adeiladu ffyrdd, adeiladu ysgolion, ac i wneud llawer o bethau eraill. A rhaid imi ddweud wrthych, pe bai cyfle byth i Lywodraeth y DU allu dangos i bobl Cymru y difidend a ddaw yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, mae'n sicr mai cydweithio gyda ni ar domenni glo fyddai hynny. Dyna'r prawf y dylech fynd ag ef yn ôl at eich Llywodraeth yn San Steffan yn fy marn i, ac rwy'n meddwl y bydd pobl de Cymru, y bobl sy'n byw yn y cymunedau lle mae'r tomenni glo hyn, yn gwrando'n ofalus iawn ar yr ymateb a ddaw gan Lywodraeth y DU ar y mater moesol, moesegol a gwleidyddol hwn. 

14:45

Yfory, bydd yn 55 mlynedd ers i'r domen lo uwchben Aberfan lithro a lladd llond ysgol o blant ac athrawon, ac yn y 55 mlynedd ers hynny, mae'r dasg o gael gwared ar domenni glo eraill oddi ar lethrau ein mynyddoedd yn dal heb ei gorffen. Sylwaf fod rhai wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ysgwyddo'r baich o wneud y tomenni glo hyn yn ddiogel, baich a ddylai fod wedi'i gyflawni gan San Steffan ddegawdau'n ôl. Gwnsler Cyffredinol, hoffwn ofyn i chi yn hytrach a fyddwch yn adnewyddu eich galwadau ar Lywodraeth y DU i dalu'r bil brad hwn, oherwydd, wedi'r cyfan, arferid galw glo yn aur du. Aethpwyd â chyfoeth na ellir dychmygu, bron, o Gymru, ac fe'n gadawyd gyda'r llwch, y budreddi a'r trychineb. Pam y dylai Cymru orfod talu i glirio'r llanast a'r arswyd a adawyd ar ôl?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y sylw atodol pellach hwnnw? Rwy'n cytuno, ac rwy'n credu, os nad yw Llywodraeth y DU yn cyflawni ei rhwymedigaethau i'r bobl yn y cymunedau glofaol sy'n byw gyda'r tomenni glo hyn, a derbyn y cyfrifoldeb amdanynt, bydd yn arwydd o frad arall eto gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Mae'n bwnc sensitif iawn—mae rhywbeth wedi codi ers hynny. Felly, ni fyddaf yn ei ofyn, os yw hynny'n iawn.

O'r gorau. Rydych wedi codi ein chwilfrydedd gyda'r rheswm hwnnw. Rhaid imi ddweud nad yw tynnu cwestiwn yn ôl ar gam mor hwyr yn arfer da, yn enwedig pan fyddwch yn y Siambr ar y pwynt hwnnw.

Ni ofynnwyd cwestiwn 4 [OQ57049].

Annibyniaeth Cyngor Cyfraith Cymru

5. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i sicrhau annibyniaeth cyngor cyfraith Cymru wrth y Llywodraeth? OQ57036

Diolch am y cwestiwn ar gyngor cyfraith Cymru. Rydym wedi bod yn glir o'r cychwyn ei bod yn hanfodol i'r cyngor cyfraith fod yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Er ein bod wedi hwyluso'r broses o'i sefydlu, ni fydd Llywodraeth Cymru yn aelod o'r cyngor, a mater i'r cyngor fydd penderfynu ar ei gyfansoddiad a'i drefniadau gweithio.

Rwy'n croesawu sefydlu cyngor cyfraith Cymru. Rwy'n credu bod potensial mawr yno. Fel y sonioch chi'n gynharach, mae sector cyfreithiol cryf a chynaliadwy yng Nghymru yn bwysig iawn am sawl rheswm gwahanol. Yn ystod y pandemig COVID dangoswyd pa mor bwysig yw technoleg. Ac yn y sector cyfreithiol, nid ydym bob amser wedi bod yn dda iawn gyda thechnoleg, fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol. Pan ddechreuais weithio mewn practis cyfreithiol, roedd sawl un o'r cyfreithwyr heb gyffwrdd â chyfrifiadur erioed, a châi'r peiriant ffacs ei ddefnyddio tan yn ddiweddar iawn. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno y dylai'r cyngor cyfraith flaenoriaethu arloesedd digidol ac asesiad o anghenion technegol fel rhan o'i raglen waith? Diolch yn fawr.

14:50

Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu, yn ôl fy nealltwriaeth i, fod cryn dipyn o gyfreithwyr o gwmpas o hyd nad ydynt erioed wedi cyffwrdd â chyfrifiadur, ond rwy'n siŵr fod hynny'n newid gydag amser.

Credaf eich bod yn llygad eich lle—rydym eisoes yn dechrau cael profiad o'r datblygiadau digidol mewn perthynas â rhoi tystiolaeth, o ran trosglwyddo tystiolaeth, defnydd digidol yn y ffordd y mae dogfennau ar gael yn hygyrch yn y llysoedd ac yn y blaen. Fy mhryder mawr—ac mae'n fater a drafodais pan ymwelais â Chanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd yn ddiweddar, a mater a drafodais ag eraill ac y byddaf yn cael trafodaethau eraill yn ei gylch maes o law gydag aelodau o'r farnwriaeth—yw hygyrchedd a'r cydraddoldeb sy'n deillio ohono, oherwydd un peth yw i'r cyfreithwyr gael eu systemau wedi'u digideiddio'n dda, ond mae'n gwestiwn hefyd o sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r llysoedd, a bod ganddynt hawl hefyd, rwy'n meddwl, i wrandawiadau llys wyneb yn wyneb, yn hytrach na rhai digidol, ac yn y blaen.

Efallai y bydd yna amgylchiadau sy'n pennu sut y caiff hynny ei reoli mewn gwirionedd. Ond yr hyn sy'n glir iawn ar hyn o bryd, gyda nifer o'r llysoedd wedi cau, yn erbyn dymuniadau'r Senedd hon, a heb unrhyw brosesau ymgynghori priodol a digonol yn fy marn i, yw bod gennym bellach rannau mawr o nifer o gymunedau yn ne Cymru â mynediad cyfyngedig iawn. A dywedir wrthynt, wrth gwrs, mai'r ffordd ymlaen yw mynediad digidol. Wel, yn sicr yn fy etholaeth i, a gwn ei fod yr un fath mewn etholaethau tebyg eraill yn ne Cymru a llawer o ardaloedd eraill rwy'n siŵr, pan fydd gennych rhwng 20 a 30 y cant o'r boblogaeth heb gyfrifiadur at eu defnydd, neu at eu defnydd rheolaidd, rhaid gofyn cwestiynau difrifol ynglŷn â chydraddoldeb. 

Fodd bynnag, nid oes amheuaeth fod cyfleoedd yn hynny. Yn union fel y gwelwn fod cyfleoedd yn codi o fewn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd, mae'r un peth yn wir gyda gwasanaethau cyfreithiol. Cofiaf yr arswyd llwyr pan ddywedwyd wrthym y gallem gael gwrandawiadau dros y ffôn gyda barnwyr rhanbarth, a'r sioc a achosodd y datganiad hwnnw. Ac wrth gwrs, o fewn ychydig wythnosau, roedd wedi dod yn rhywbeth cwbl normal. Wel, rydym yn mynd yn llawer pellach na hynny wrth gwrs, ond mae'n galw am fuddsoddi. Nawr, mae yna gynigion ac mae arian wedi'i neilltuo ar gyfer y buddsoddiad hwnnw, ond credaf fod yn rhaid inni sicrhau ei fod ynghlwm wrth y broses o foderneiddio'r llysoedd ac ar agenda cydraddoldeb glir iawn. Ac mae honno'n agenda rwy'n bwriadu ei chodi bob cyfle a gaf. 

Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

6. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n cyffwrdd ar feysydd datganoledig? OQ57065

Diolch am y cwestiwn. Mae effaith gronnol Biliau presennol Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli yn peri pryder mawr. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud newidiadau i'r Biliau nad ydynt yn parchu datganoli.

Diolch am yr ateb. Fel y gwyddoch, mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr LCMs y tymor yma. Fydd y cyfreithiau yma ddim yn ddwyieithog, fyddan nhw ddim yn hygyrch ac, yn waeth fyth, fyddan nhw ddim yn cael eu craffu yn llawn gan y Senedd yma. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a'ch cyd-Weinidogion yma i sicrhau na fydd y cynnydd yma yn yr LCMs yn parhau?

Wel, lle bynnag y ceir deddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n effeithio ar ddatganoli neu sydd â chysylltiad â chyfrifoldebau datganoledig, mae'r mater o osod memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn codi. Ac wrth gwrs, mae'r rhain yn orfodol; nid dewis ydynt. Credaf mai'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn serch hynny, yw natur y ddeddfwriaeth honno ac i ba raddau y mae'n ymwthio neu'n tanseilio'r cyfrifoldebau datganoledig. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn codi mater effaith confensiwn Sewel, onid yw, sydd wedi bod o dan lawer o straen.

Rwyf am ailadrodd rhai o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud, ac un ohonynt yw ein bod wedi gosod gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â 14 o filiau. Ar gyfer saith o'r biliau hynny, rydym wedi nodi na allwn argymell cydsyniad. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â gwneud newidiadau a allai arwain at roi cydsyniad. Mae'r trafodaethau hynny'n digwydd rhyngof fi a fy swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Maent hefyd yn digwydd mewn cysylltiad â Gweinidogion unigol a deddfwriaeth yn eu portffolios penodol, ac wrth gwrs, ceir ymgysylltiad parhaus yn rheolaidd rhwng swyddogion Llywodraethau pedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Os caf ailadrodd, y dull gweithredu sydd gennym, sef ein hegwyddor gyffredinol, yw y dylai deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd y Senedd gael ei gwneud a'i diwygio gan y Senedd. O bryd i'w gilydd, rhaid inni fabwysiadu dull pragmatig o ddefnyddio deddfwriaeth Llywodraeth y DU i gyflawni ein hamcanion polisi lle mae'r cyfle i wneud hynny'n codi, a lle mae'n synhwyrol ac yn fanteisiol i wneud hynny a'i fod er budd pobl Cymru i wneud hynny.

14:55

Ond nid damwain, Gwnsler Cyffredinol—rwy'n ddiolchgar iawn i Mabon ap Gwynfor am godi'r pwnc hollbwysig hwn y prynhawn yma—yw'r ffaith ein bod wedi gweld rhes o orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol nad oes angen cydsyniad deddfwriaethol arnynt, ac eithrio'r ffaith bod Llywodraeth y DU am erydu pwerau'r lle hwn, am erydu cymhwysedd democratiaeth Gymreig, ac am sicrhau bod ein rhyddid i ddeddfu yn cael ei gyfyngu gymaint ag y gallant heb ddeddfu'r lle hwn allan o fodolaeth? Ac a yw hyn eto'n sicrhau bod mwy o gyfiawnhad nag erioed dros y datganiad a wnaethoch ddoe ar gonfensiwn cyfansoddiadol i sicrhau bod gennym gyfansoddiad y gallwn fod yn siŵr ohono? Rydym eisoes wedi gweld newidiadau i'r setliad ers i ni gael ein hethol chwe mis yn ôl. Mae'n ymyrraeth annioddefol ar ein democratiaeth, ac mae angen inni allu cael setliad sy'n cryfhau democratiaeth Cymru yn hytrach na thanseilio democratiaeth Cymru.

Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny a chredaf ei fod yn llygad ei le; nid damwain yw hi, yn fy marn i. Pan edrychwch ar yr effaith gronnol a'r cyfuniad o ddeddfwriaeth mewn meysydd penodol, mae'n ymddangos i mi fod yna strategaeth gydunol ar waith. Credaf ei bod yn strategaeth sy'n deillio o'r ffaith bod gennym Lywodraeth sy'n casáu datganoli yn y bôn ac sy'n credu mai camgymeriad oedd datganoli. Pa neges sy'n—[Torri ar draws.] Pa neges—[Torri ar draws.] Pa neges—? Wel, i bwy bynnag sy'n dweud, 'Am rwtsh', ni fyddai ond yn rhaid inni ddyfynnu'n ôl iddo sylwadau Prif Weinidog y DU a wnaed ac a gyhoeddwyd yn eang, ac mae yntau'n ymwybodol iawn ohonynt. Rwy'n credu bod yr anhawster yn deillio nid yn unig o gredu bod datganoli yn gamgymeriad—

Gadewch i'r Gweinidog barhau â'i ateb mewn tawelwch, os gwelwch yn dda.

—nid yn unig fod datganoli'n gamgymeriad, ond mewn gwirionedd, lle mae gennych Lywodraeth sy'n methu cydnabod y cryfder gwirioneddol sy'n deillio o ddatganoli grym a grymuso pobl a chymunedau, a sut y mae datganoli'n dda i ddemocratiaeth, ac mae'n drueni fod gennym Brif Weinidog ar hyn o bryd sydd nid yn unig wedi gwneud y sylwadau hynny, ond sydd heb dynnu'r sylwadau hynny yn ôl yn iawn chwaith. Cymeraf fod hynny'n golygu ei fod yn arddel y sylwadau hynny, a dyna'r sylwadau sy'n arweiniad a aiff allan i weddill aelodau'r Cabinet.

Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ57046

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar gyfiawnder ar 30 Medi, ac ychydig dros 10 diwrnod yn ôl, cefais y fraint o annerch cynrychiolwyr yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith, pan wneuthum ailddatgan ein hymrwymiad i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno â mi ar draws y meinciau yn y Siambr fod toriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU yn golygu ei bod yn anos i bobl gyffredin gael mynediad at gyfiawnder. Rwy'n siŵr fod Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cytuno â mi na ddylai mynediad at gyfiawnder fodoli ar gyfer y cyfoethog yn unig. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu sefydliadau i ddarparu cyngor cyfreithiol, ac mae hyn yn achubiaeth wirioneddol i lawer, ac mae'n hanfodol fod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n effeithlon. Nawr, Gwnsler Cyffredinol, argymhellodd yr adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru', ac rwy'n dyfynnu:

'Dylai'r cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol a'r trydydd sector sy'n rhoi cyngor a chynhorthwy gael ei ddwyn ynghyd yng Nghymru i ffurfio un gronfa o dan gyfeiriad strategol corff annibynnol.'

Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â'r argymhelliad hwnnw ac os felly, pa mor gyflym y gallwn weithredu'r argymhelliad hwn?

15:00

Wel, diolch am hynny, ac ydw, rwy'n cytuno â'r argymhelliad. Wrth gwrs, gwnaed yr argymhelliad yng nghyd-destun datganoli cyfiawnder ymhellach. Hefyd, efallai, hoffwn ailddatgan y sylwadau a wnaethoch mewn perthynas ag effaith toriadau i gymorth cyfreithiol. Mae hyn yn rhywbeth a godwyd gennyf bron bob tro y cefais gyfarfod gyda swyddogion y gyfraith a'r farnwriaeth berthnasol. Mae'n fater sy'n cael ei godi'n rheolaidd yn y Siambr hon, gan fod gennym, i bob pwrpas, system gyfiawnder ddwy haen bellach: system gyfiawnder i'r rheini a all ei fforddio a fawr iawn o gyfiawnder i'r rheini na allant ei fforddio.

Rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy gydag adnoddau nas bwriadwyd ar gyfer hyn gyda'r gronfa gynghori sengl y cyfeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ati'n gynharach, pwysigrwydd honno, ond nid yw'n cymryd lle system gyfiawnder a ariennir yn briodol a system gymorth cyfreithiol a ariennir yn briodol. Rwy'n gobeithio, serch hynny, fod y gronfa gynghori sengl a'r buddsoddiad a wnawn yn y cymorth hwnnw'n darparu'r sylfaen ar gyfer sefydlu cronfa cymorth cyfreithiol i Gymru yn y pen draw.

Credaf ei bod hefyd yn werth cyfeirio at y sylwadau a wnaed yn ddiweddar gan y cyn-Arglwydd Ganghellor, Robert Buckland, a soniodd, yn y bôn, am y ffordd y tanfuddsoddwyd mewn cyfiawnder ers degawdau, ac rwy'n cytuno â hynny, a chredaf mai'r toriadau mewn perthynas â chymorth cyfreithiol oedd yr enghraifft waethaf, bron iawn, o hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth y bu methiant hirdymor i werthuso pwysigrwydd y system gyfiawnder a bod y system gyfiawnder, yn y pen draw, yn ymwneud â grymuso pobl yn ein cymunedau. Felly, credaf ei fod yn fater arall sy'n gysylltiedig â phwynt a wnaed yn gynharach mewn perthynas â'r comisiwn a'r angen am yr adolygiad sy'n debygol o ddigwydd.

Cardiau Adnabod Pleidleiswyr

8. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â defnyddio cardiau adnabod pleidleiswyr yng Nghymru? OQ57067

Diolch i Jane Dodds am ei chwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bleidleisio cynhwysol a hygyrch yn etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol, ac yn awyddus i annog cyfranogiad yn hytrach na chyfyngu arno. Felly, ni fyddwn yn cyflwyno mesurau adnabod pleidleiswyr yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol, rwy'n falch iawn o glywed hynny gan fy mod i, fel chi, yn hynod bryderus ynglŷn â chynigion y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i ddefnyddio mesurau adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl. Er nad wyf am ailadrodd y dadleuon o blaid ac yn erbyn heddiw, rwy'n parhau i wrthwynebu'r mesurau gwahaniaethol hyn yn llwyr. Yr hyn rwy'n poeni amdano, serch hynny, yw y gallai'r mesurau hyn, yng nghyd-destun Cymru, greu dryswch ynghylch yr angen i fynd â cherdyn adnabod i'r gorsafoedd pleidleisio ar gyfer pob etholiad yn y Deyrnas Unedig, er bod etholiadau datganoledig a lleol yng Nghymru yn cadw'r system lawer tecach. Felly, a gaf fi ofyn pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith i liniaru'r dryswch cyhoeddus posibl ynghylch y mater hwn? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Credaf fy mod eisoes wedi nodi yn y gorffennol yr angen am, a fy awydd a'm cred y byddwn yn cael, Bil diwygio etholiadol o fewn tymor y Senedd hon, a'i ddiben fydd moderneiddio ein system etholiadol i wella hygyrchedd, i ddysgu o'r gwersi rhyngwladol a all ddarparu mynediad i bobl, boed yn bobl ag anableddau neu'n gyffredinol, sy'n adlewyrchu'r gymdeithas fodern rydym yn byw ynddi.

Mae'n rhaid imi ddweud nad wyf wedi gweld unrhyw sail dystiolaethol o sylwedd a fyddai'n cyfiawnhau cyflwyno cardiau adnabod. Credaf ei fod yn syniad a ddaeth o America. Mae'n rhan o agenda sy'n ymwneud â chyfyngu ar hygyrchedd pleidleisio i rai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Nawr, pan ddywedaf nad oes sylfaen dystiolaethol, fe roddaf enghraifft i chi o'r data gan y Comisiwn Etholiadol: yn 2019, ledled y DU, gyda'r miliynau ar filiynau o bleidleisiau a fwriwyd, ymchwiliodd yr heddlu i gyfanswm o 595 achos o dwyll etholiadol honedig. O'r rheini, 142 yn unig a oedd wedi'u categoreiddio o dan gategori pleidleisio. Cafwyd un unigolyn yn euog o ddefnyddio pleidlais rhywun arall mewn gorsaf bleidleisio, cafodd un unigolyn rybudd am yr un rheswm, ac yng Nghymru, ymchwiliwyd i 14 achos o dwyll etholiadol honedig gan heddluoedd Cymru yn 2019, gyda chwech ohonynt yn unig yn ymwneud â phleidleisio.

Safbwynt Llywodraeth Cymru yw ein bod yn dymuno gwneud etholiadau mor agored ac mor hygyrch â phosibl. Hoffem ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu â phleidleiswyr i sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac fel rwyf wedi'i ddweud, rydym yn bwriadu cyflwyno ein cynigion ein hunain ar sut i gyflawni hyn yn nes ymlaen yn y chweched Senedd.

15:05
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y metro, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd y teithiwn. Mae 17 y cant o allyriadau carbon Cymru yn cael eu cynhyrchu gan drafnidiaeth, ac fel y mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ei nodi'n glir, ni fydd newid i geir trydan yn unig yn cyflawni targed sero-net 2050. Mae angen inni leihau nifer y teithiau a chael pobl i newid i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth hefyd.

Rydym yn llwyr gydnabod nad yw hyn yn mynd i fod yn hawdd. Ers tua 70 mlynedd, mae polisi trafnidiaeth yn y DU wedi ffafrio teithio mewn ceir dros drafnidiaeth gyhoeddus, ac o ganlyniad, mae'n haws bellach i'r rhan fwyaf o bobl ddefnyddio ceir na chynllunio taith gan ddefnyddio mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae'n rhaid i hynny newid. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud.

Mae ein strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru yn nodi'r camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd i gyflawni ein targed o 45 y cant o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040. Rydym yn anelu at gyhoeddi strategaeth fysiau newydd oddeutu diwedd eleni, a Phapur Gwyn i ddilyn, a Bil diwygio bysiau yn ystod tymor y Senedd hon.

Ein buddsoddiad mewn teithio llesol ar gyfer teithiau lleol byr yw'r buddsoddiad uchaf y pen yn y DU, ac rydym yn gweithio gyda chynghorau i nodi rhwydweithiau lleol diogel a fydd yn annog pobl i adael y car gartref a cherdded neu feicio yn lle hynny. Mae 10 y cant o deithiau car o dan 1 filltir o hyd, a gellid gwneud llawer o'r teithiau hynny ar droed neu ar feic.

Ar gyfer teithiau canolig a phell, mae gan reilffyrdd ran bwysig i'w chwarae. Mae angen gwneud iawn am y diffyg o £5 biliwn mewn buddsoddiad rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU er mwyn moderneiddio ein rhwydwaith. O'n rhan ni, rydym wedi dod â masnachfraint Cymru a'r gororau o dan reolaeth gyhoeddus ac rydym yn gweithio'n galed i'w sefydlogi ar ôl y cwymp yn nifer y teithwyr yn ystod COVID. Wrth inni gynllunio adferiad y rheilffyrdd, rhaid ei wneud ochr yn ochr â'r dulliau cynaliadwy eraill, fel y gall pobl gwblhau eu taith gyfan, o ddrws i ddrws, drwy drafnidiaeth gynaliadwy.

Mae comisiwn Burns yn ne-ddwyrain Cymru wedi gosod glasbrint ar gyfer sut y gellir gwneud hynny, ac rydym am ymestyn y dull gweithredu hwnnw i gynnwys rhannau eraill o Gymru. Yn fwyaf arbennig, rwyf am efelychu'r model lle mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi ffurfio un uned gyflawni ar y cyd â'r awdurdodau lleol, a bwrdd cyflawni annibynnol a sefydlwyd i hybu perfformiad a sicrhau cynnydd. Rwy'n falch fod Simon Gibson a Dr Lynn Sloman, ill dau'n nodedig am eu ffocws ar gyflawni, yn gwasanaethu fel cadeirydd ac is-gadeirydd y bwrdd cyflawni yn ne-ddwyrain Cymru.

Lywydd, gallaf gyhoeddi fy mod wedi gofyn i fy swyddogion greu dull cydweithredol tebyg yng ngogledd Cymru hefyd. Byddwn yn creu bwrdd cyflawni metro gogledd Cymru, a byddaf yn hysbysebu am gadeirydd ac is-gadeirydd annibynnol i sicrhau ein bod mor uchelgeisiol â phosibl ac i ddwyn partneriaid cyflenwi i gyfrif, gan gynnwys ein hunain. Hoffwn hefyd weld y model partneriaeth, cyd-gynllunio a rhannu arweinyddiaeth yn cael ei fabwysiadu gan y pedwar cyd-bwyllgor corfforedig ledled Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â'u cyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth ranbarthol dros dymor y Senedd hon.

Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn awgrymu, os ydych am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen iddi fod yn hawdd ei defnyddio. Mae angen gallu 'cyrraedd a gadael', fel petai, a dyna'r egwyddor gynllunio sydd wrth wraidd ein rhaglen metro: gwasanaethau di-dor, rheolaidd sy'n cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol, ac rydym wedi ymrwymo dros £1 biliwn i'n tair rhaglen metro. Mae pob un ar wahanol gamau o'u datblygiad a heddiw rydym yn cyhoeddi mapiau wedi'u diweddaru sy'n dangos yr uchelgais cyfredol.

Yn y de-ddwyrain, mae gwaith adeiladu sylweddol eisoes ar y gweill, ac yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn gweld mwy a mwy o dystiolaeth ffisegol o un o'r prosiectau seilwaith mwyaf uchelgeisiol i'w gynnal yng Nghymru yn y cyfnod modern. Bydd gorsaf fysiau newydd wrth ymyl y brif orsaf reilffordd yn cael ei chodi yng Nghaerdydd. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros yr haf ar linell graidd y Cymoedd i'w pharatoi ar gyfer trenau tram newydd. Erbyn 2024, bydd trenau tram newydd yn cynnig gwasanaethau 'cyrraedd a gadael' cyflym mewn oddeutu 50 o orsafoedd ar rwydwaith Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwasanaethau newydd sy'n cael eu cynllunio i ddyblu'r amlder ar reilffordd Glynebwy drwy Fro Morgannwg, ac i Faesteg.

Yng ngogledd Cymru, rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd a bysiau gwell o lawer a theithio llesol drwy ein cyhoeddiad o werth £50 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, gwelais drosof fy hun y cynlluniau yng ngorsaf Wrecsam Cyffredinol i'w gwneud yn haws i newid rhwng trên a bws, gan helpu'r cysylltiadau rhwng rheilffordd arfordir gogledd Cymru a gwasanaethau amlach lein y Gororau o'r flwyddyn nesaf yn Shotton, ynghyd â gorsaf newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ymgymryd â'r gwaith o ddatblygu metro bae Abertawe a gorllewin Cymru i gynorthwyo'r awdurdodau lleol yn yr ardal honno. Y gwaith hwn sydd ar y cam cynharaf yn natblygiad y tri chynllun metro allweddol, ac rwy'n awyddus i gynyddu cyflymder ac uchelgais ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhan hon o Gymru. Mae oddeutu £8 miliwn wedi'i ddyrannu eleni i ddarparu cynlluniau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi rhaglen metro bae Abertawe. Mae gwaith rhagarweiniol yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun peilot bws hydrogen posibl ym mae Abertawe a sir Benfro, a bydd cyfnewidfeydd newydd, gan gynnwys gorsaf newydd yn Sanclêr a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru, yn weithredol erbyn 2024, gan gynnig gwelliannau gwirioneddol i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.

Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi comisiynu gwaith i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer canolbarth Cymru i archwilio sut y gellir cymhwyso ein dull metro yn y rhanbarth hwn a'n hardaloedd mwy gwledig ledled Cymru gyfan. Mae'n rhaid inni ddysgu o'r Almaen a'r Swistir ei bod yn gwbl bosibl cael system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol mewn ardaloedd gwledig. Bydd angen ymagwedd wahanol tuag at y Gymru drefol, ond mae'n gwbl ddichonadwy gydag ymrwymiad. Bydd gan glybiau ceir a beiciau trydan rôl fawr i'w chwarae, ynghyd â thrafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, ac mewn cynlluniau peilot ledled Cymru, mae ein gwasanaeth Fflecsi'n cynnig mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus lle nad oedd i'w gael o'r blaen, gan ddarparu cyfleoedd newydd i fwy o bobl. Rydym bellach yn treialu Fflecsi mewn 11 ardal, lle rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr, ac mae bellach wedi'i ddefnyddio ar gyfer dros 100,000 o deithiau. Ac rydym wedi ymrwymo i ddysgu ohono a'i ymestyn.

Lywydd, mae darparu ein metros yn un o'r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol a chymhleth a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed. Mae'r mapiau a gyhoeddwyd heddiw'n darlunio ein rhaglenni sydd ar y gweill. Mae gennym y gallu, yr arbenigedd, y profiad a'r awydd yng Nghymru i symud ymlaen yn gyflym. Mewn gwirionedd, ni fyddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau sero-net os na wnawn hynny. Diolch.

15:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae gennyf nifer fawr o bobl sy'n dymuno siarad, ac felly gofynnaf i bawb gadw o fewn eu dyraniad amser fel y gallwn glywed cymaint ohonynt â phosibl, os gwelwch yn dda. Ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn gryno wrth ateb y cwestiynau.

Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Hoffwn ddweud ar goedd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi'r prosiectau metro ledled Cymru, ond rwyf hefyd am ddweud nad ydym yn credu y bydd yn ateb cyflawn i'r argyfwng amgylcheddol. Rydym yn rhannu eich gobaith y bydd yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio llai ar eu ceir ac i ddefnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, mae gennym bryderon fod eich Llywodraeth yn dibynnu gormod ar y metro fel ateb trafnidiaeth uniongyrchol ar gyfer de Cymru. Gwn ichi grybwyll bod £750 miliwn yn cael ei wario ar dde Cymru, ac fel rhywun o dde Cymru, mae hynny'n wych, ond mewn cymhariaeth, mae £50 miliwn ar gyfer gogledd Cymru yn dro gwael braidd â'r bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru.

Ddirprwy Weinidog, hoffwn roi enghraifft i chi. Pe bawn yn cwympo ac yn baglu yn awr ac yn torri fy llaw, bydd plastr yn llythrennol yn fy helpu hyd at bwynt penodol yn unig, ond os oes angen cast arnaf i ddatrys y broblem, dyna sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Mae angen cast arnom, rhywbeth sy'n mynd i ddatrys problem trafnidiaeth. Felly, credaf y bydd y buddion economaidd a ddaw yn sgil y metro yn cael eu gwrthbwyso gan y difrod a wnaed gan eich methiant i fuddsoddi er mwyn gwella ein ffyrdd. Fel y dywedodd arolygydd cynllunio ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn 2019, pe bai metro de Cymru'n cael ei greu dros nos, ni fyddai ond yn lliniaru traffig 5.9 y cant. Felly, hoffwn wybod: a yw eich ffigurau wedi newid ers hynny?

Mae eich penderfyniad i rewi'r holl waith adeiladu ffyrdd newydd wedi'i wfftio'n llwyr gan fusnesau yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud bod angen rhwydwaith ffyrdd addas at y diben ar Gymru er mwyn hybu masnach. Fe nodoch chi mewn datganiad blaenorol nad oes gan un o bob pump o bobl fynediad at gar. Nid wyf yn ceisio bod yn anodd, ond carwn wybod o ble y cawsoch y ffigur hwnnw, gan mai fy mhrif bryder yw'r pedwar o bob pump nad ydym wedi'u trafod a'u crybwyll. Felly, Ddirprwy Weinidog, onid ydych yn teimlo efallai na fydd metro de Cymru'n datrys holl broblemau trafnidiaeth de Cymru, a bod angen seilwaith ffyrdd effeithlon a modern arnom hefyd, ochr yn ochr â hynny?

Mae eich sylwadau ar wasanaethau bysiau newydd a gwell yn cael croeso gennyf fi a llawer o fy nghyd-Aelodau, ond maent yn tynnu sylw at yr esgeulustod a’r dirywiad mewn gwasanaethau bysiau o dan Lywodraeth Lafur Cymru. O dan eich Llywodraeth, mae nifer y teithiau bws lleol wedi disgyn o 100 miliwn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Felly, sut y byddwch yn cyflawni'r cynnydd rydych yn ei addo mewn gwasanaethau bysiau? Chwe blynedd yn ôl, rhoddwyd grant cynnal gwasanaethau bysiau Cymru ar waith yn lle'r grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau, gyda chyllid wedi'i osod ar £25 miliwn. Mae'n warthus, felly, nad yw'r pot sefydlog hwn o £25 miliwn wedi newid ers cychwyn y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Felly, sut y byddwch yn cyflawni'r cynnydd rydych wedi'i addo mewn gwasanaethau bysiau pan fo'r cyllid fesul teithiwr yn annigonol, ac yn wael o gymharu â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr ar drenau?

Rwy'n croesawu o waelod calon eich sylwadau ar system docynnau integredig newydd ac opsiynau prisiau hyblyg, ond a allwch ddweud wrthyf beth yw'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â fy ngalwad am gerdyn teithio Cymru gyfan, a gafodd ymateb cadarnhaol gan y Prif Weinidog? Ar ôl siarad â'r bobl a oedd yn gyfrifol am gerdyn Oyster yn Llundain, mae gennym y system ar waith eisoes yma yng Nghymru, ac mae gennym y seilwaith i ddarparu'r cerdyn teithio Cymru gyfan hollbwysig hwnnw. Rwyf wrth fy modd â'r syniad o gael system cerdyn debyd yma. Byddai'r system 'tapio-a-mynd' yn wych i gynifer o bobl yn gyffredinol, ond byddai'n costio llawer o arian ac amser. A oes gennym yr amser hwnnw, Ddirprwy Weinidog?

Yn olaf, Weinidog, cytunaf fod angen gorsafoedd trên newydd a gwell ar Gymru, ac rwyf wedi cefnogi galwadau am un ym Magwyr a Gwndy. Hoffwn wybod pa drafodaethau penodol a gawsoch, neu y bwriadwch eu cael, gydag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth, Grant Shapps, i wireddu hyn ac i ddarparu'r cysylltiadau hanfodol hyn yng nghadwyn rhwydwaith Cymru ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.

15:15

Rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau, ac rwy'n ymwybodol o gais y Dirprwy Lywydd i gadw'r atebion yn gryno, felly rwyf am wneud fy ngorau.

Rwy'n dechrau blino ar rannu llwyfannau gyda llefarwyr Ceidwadol sy'n galw arnom i roi camau beiddgar ar waith ar y newid yn yr hinsawdd a'r diwrnod wedyn yn codi yn y Senedd i fynnu ein bod yn gwario biliynau o bunnoedd ar raglenni ffyrdd. Nid yw'r ddau beth yn gydnaws, felly sut rydych yn esbonio'r datgysylltiad hwnnw, nid wyf yn deall, gan ei fod yn rhagrith llwyr. Dyna beth ydyw: rhagrith. Ni allwch wneud y ddau beth ar yr un pryd. Nawr, rydych am inni wario £2 biliwn ar draffordd drwy Gasnewydd, a fyddai, fel y gwyddom, yn cynyddu traffig a'r defnydd o geir, yn hytrach na'i leihau fel y dywed Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wrthym fod angen inni ei wneud. Mae eich ffigurau ar y metro'n hen ffigurau, gan fod dull comisiwn Burns o weithio wedi dangos y gall dull integredig o deithio ar fysiau, rheilffyrdd a theithio llesol, gyda'r ffocws ar ddinas Casnewydd, newid dulliau teithio. Gall gyflawni'r un effaith â'r ffordd am hanner y pris.

Rydych yn gofyn o ble y cawsom y ffigurau sy'n dweud nad oes car gan 20 y cant o bobl. Mae'r ateb yn eithaf syml: y cyfrifiad. Nid oes unrhyw un yn herio'r ffigurau hyn. Mae'r rhain yn ffigurau dilys. Mewn gwirionedd, mae ffigurau ychwanegol gan Trafnidiaeth Cymru'n dangos nad oes unrhyw ddewis arall gan 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau. Felly, mae buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn llawn cymaint o achos cyfiawnder cymdeithasol ag y mae o achos newid hinsawdd.

Mae awgrym y cerdyn teithio Cymru gyfan yn un deniadol, ond ni ellir ei gyflawni gyda'r system dameidiog, wedi'i phreifateiddio rydym wedi'i hetifeddu gan ei phlaid, a dyna pam ein bod yn cyflwyno'r Bil moderneiddio bysiau. Gall felltithio a dweud ei bod yn anghyfleus fy mod yn tynnu sylw at hanes y Ceidwadwyr mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, ond rydym yn byw gyda'r etifeddiaeth honno 40 mlynedd yn ddiweddarach. Roedd preifateiddio'r gwasanaeth bysiau'n drychineb, ac mae'n ei gwneud fwy neu lai yn amhosibl cyflwyno'r math o newidiadau a welsom yn Llundain, oherwydd yn Llundain, cafodd y gwasanaeth bws ei gadw wedi ei reoleiddio ac mewn perchnogaeth gyhoeddus. Nid oedd hynny—[Torri ar draws.]

A wnaiff y Dirprwy Weinidog aros am funud? Dylai'r Aelodau wrando ar yr ateb. Rydych wedi gofyn cwestiynau; gwrandewch ar yr ateb, os gwelwch yn dda. A'r Aelodau ar feinciau cefn y Llywodraeth, gwrandewch chi ar yr ateb hefyd, os gwelwch yn dda. Ddirprwy Weinidog.

Ar y gwahanol lefelau o fuddsoddiad mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y dywedais yn glir, rydym ar wahanol gamau datblygu. Mae metro de Cymru wedi bod ar y gweill ers amser hir iawn. Mae angen inni sicrhau bellach ei fod yn cael ei efelychu ledled gweddill Cymru. Rwy'n gobeithio y byddai wedi croesawu'r cyhoeddiad a wnaethom heddiw ynglŷn â bwrdd cyflawni ar gyfer gogledd Cymru, gyda chadeirydd annibynnol, i'n herio ni oll—awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru—i gynyddu ein huchelgais a chynyddu ein cyflymder. Oherwydd, os wyf fi, yn wahanol iddi hi, o ddifrif ynglŷn â chyflawni ein hymrwymiadau sero-net, mae angen inni symud adnoddau oddi wrth adeiladu ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi'r adolygiad ffyrdd.

15:20

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Roeddwn i eisiau gofyn yn gyntaf ichi am hyder y cyhoedd ynglŷn â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn sgil COVID. Mae gwaith ymchwil Transport Focus yn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng y rhai sydd wedi bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig neu'n ddiweddar a'r rhaid sydd heb. Mae'r grŵp olaf yn poeni llawer mwy am ddefnyddio trafnidiaeth eto ac maen nhw eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n teimlo'n hyderus bod y drafnidiaeth yn lân ac yn ddiogel ac yn barod i'w defnyddio. Mae'n glir o'r hyn dŷch chi wedi bod yn ei ddweud a beth dŷn ni i gyd yn ei wybod bod angen modal shift yn y sector er mwyn cyrraedd net zero, ond eto mae niferoedd mawr o bobl yn dal i bryderu am eu diogelwch. So, pa gamau y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau a rhoi hwb i hyder teithwyr er mwyn hybu'r defnydd yma o drafnidiaeth, yn enwedig ar gyfer y metro?

Roeddwn yn awyddus hefyd i ofyn am hygyrchedd, Weinidog, oherwydd yn amlwg, mae angen i ni ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sylwaf ichi ddweud bod yn rhaid inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud. Rwy'n croesawu hynny, a hoffwn ychwanegu hefyd: y peth diogel i’w wneud. Felly, yn ogystal â sicrhau ein bod yn dysgu o'r hyn a ddywed Sustrans ynglŷn â sicrhau bod y filltir gyntaf a'r filltir olaf wedi'u cysylltu, pa gamau rydych chi a'r Llywodraeth yn edrych arnynt ac yn cynllunio ar eu cyfer i sicrhau bod rhodfeydd wedi'u goleuo'n dda, eu bod yn hygyrch ac yn teimlo'n ddiogel i fenywod sy'n cerdded ar eu pen eu hunain, a phobl hŷn a allai deimlo'n nerfus ynglŷn â chwympo hefyd os nad yw rhodfeydd wedi'u goleuo'n dda—y math hwnnw o beth? Sut rydych yn ystyried y pethau hynny?

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, felly rwyf am ofyn un cwestiwn olaf. Gan droi at ddatgarboneiddio a chysylltedd, fe ddywedoch chi, Weinidog, yn eich ymateb i’r Ceidwadwyr yn awr, fod gennym system dameidiog sydd wedi'i phreifateiddio, sef y sefyllfa a etifeddwyd gan San Steffan o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes rhwydwaith rheilffyrdd cynhwysfawr yn cysylltu gwahanol rannau o Gymru, ac mae'n rhaid gwneud teithiau rhwng y gogledd a'r de drwy Loegr. Un o'r prif resymau am hyn yw nad yw'r holl gyfrifoldeb am reilffyrdd wedi'i ddatganoli. Felly, a gaf fi ofyn sut y bwriadwch fynd i’r afael â rhwystrau i gysylltedd mewn perthynas â thrydaneiddio, ie, cyfyngiadau’r grid, capasiti, pethau a godwyd yn ein dadl yr wythnos diwethaf, ond yn ogystal â hynny, y pwerau cyfyngedig sydd gennym ar hyn o bryd dros y seilwaith rheilffyrdd, fel y gall rhwydwaith trafnidiaeth cysylltiedig wedi'i ddatgarboneiddio'n gyfan gwbl ddod yn realiti?

Diolch. Fe ofynnoch chi nifer o gwestiynau. Mae'r galw gan deithwyr yn dechrau dod yn ôl yn y gwasanaeth rheilffyrdd. Mae bellach yn 66 y cant o'r lefelau cyn y pandemig, sy'n is o lawer, yn amlwg, ond mae'n codi drwy'r amser ac rydym yn cynnal gwaith glanhau dwys mewn gorsafoedd ac ar drenau. Rydym wedi gweld y duedd hon ledled y byd, gyda llai o hyder mewn trafnidiaeth dorfol yn sgil y pandemig, ac nid yw hynny'n annisgwyl. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod yn cadw cymorth i'r diwydiant rheilffyrdd a bysiau ar yr un lefelau. Ond yn amlwg, rydym yn awyddus i'w leihau wrth i'r galw gynyddu. Felly, a dweud y gwir, mae'n rhaid inni deimlo ein ffordd. Rydym mewn argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail ac nid ydym yn gwybod beth fydd gan y dyfodol i'w gynnig.

Ar hyn o bryd, rydym ar lefel rhybudd 0 ac mae hynny'n caniatáu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ond rydym yn annog mesurau cadw pellter cymdeithasol. Rwy'n cael adroddiadau sy'n peri cryn bryder ynglŷn â gwasanaethau gorlawn a phobl ddim yn gwisgo masgiau ac mae hynny'n amlwg yn amharu ar hyder y cyhoedd. Ond mae'r gyfraith yn glir: rydym am i bobl wisgo masgiau. Mae gennym fesurau gorfodi ar waith ac mae gennym, bob un ohonom, gyfrifoldeb i ddilyn y gyfraith ac i ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd. Ond yn amlwg, rydym mewn sefyllfa anhygoel o anodd a digynsail ac rydym yn ei monitro'n wythnosol.

Ar y pwynt ynghylch pwerau rheilffyrdd a rhwystrau i gysylltedd, mae hwn yn amlwg yn bwynt pwysig iawn. Rydym am i bwerau rheilffyrdd gael eu datganoli. Nid yw Llywodraeth y DU yn cymryd rhan yn y sgwrs honno. Mewn gwirionedd, prin eu bod yn cymryd rhan mewn unrhyw sgwrs o gwbl. Gofynnodd Natasha Asghar i mi pa bryd y cyfarfûm â Grant Shapps; rwyf wedi methu cael cyfarfod gyda Mr Shapps, mae'n gwrthod cyfarfod â ni. Felly yn sicr, mae datgysylltiad yma, sy'n peri cryn bryder i ni o ran cyflawni'r uchelgeisiau y dymunwn eu cyflawni. Ac fel y dywedais yn y datganiad, rydym yn dal i fod £5 biliwn yn brin o ran y buddsoddiad sydd ei angen arnom ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd. Felly, mae'n ein rhwystro rhag cyflawni ein huchelgeisiau sero-net, yn sicr, a chodais hyn gyda Syr Peter Hendy, cadeirydd Network Rail, yn ddiweddar. Yn amlwg, penderfyniadau gwleidyddol gan Lywodraeth y DU yn San Steffan yw'r rhain; maent yn sôn am godi'r gwastad, ond nid ydynt yn codi'r gwastad, a hyd nes y gwnânt hynny, byddwn yn wynebu'r rhwystrau a amlinellwyd gan Delyth Jewell. Yn y cyfamser, mae'n rhaid inni geisio mynd i'r afael â hwy gyda phethau eraill sydd gennym o dan ein rheolaeth, sef bysiau, yn benodol. Dyna pam ein bod yn datblygu ein strategaeth bysiau ddiwedd y flwyddyn eleni.

15:25

O ran yr aliniad, Weinidog, rhwng y metro a bwrdd cyflawni comisiwn Burns, tybed a allech ddweud mwy ynglŷn â sut y bydd hynny'n cael ei sicrhau a'i gyflawni. Mae nifer o sefydliadau'n ymwneud â hyn, fel y dywedoch chi. Bydd Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, yr awdurdodau lleol, a'r bwrdd cyflawni, yn cyflawni strategaeth comisiwn Burns ar ran y partneriaid a chyda'r partneriaid.

Mae gennych y gwaith ar y metro, ac mae gennych y cyd-bwyllgorau corfforedig. Credaf ei bod yn dipyn o dasg i sicrhau bod cyfathrebu da a chydberchnogaeth a gweledigaeth yn trosi'n fesurau gwirioneddol ar lawr gwlad. Felly, tybed a allwch ddweud mwy am y broses sy'n mynd i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni'n effeithiol mewn senario o'r fath a chyda threfniant o'r fath.

Ar deithio llesol, Weinidog, credaf ei bod yn deg dweud bod awdurdodau lleol, weithiau, wedi'i chael hi'n anodd gyda'u capasiti mewnol eu hunain i sicrhau ein bod yn cael—

Yn sicr—ein bod yn cael yr ansawdd a'r effeithiolrwydd cywir. Felly, tybed a allwch ddweud rhywfaint ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru, gyda phartneriaid, yn sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni?

Yn sicr. Credaf fod y ddwy elfen yn agweddau ar yr un ddadl. Mae capasiti a gallu o fewn awdurdodau lleol yn gyfyngiad gwirioneddol ar gyflawniad. Dyna pam ei bod yn hanfodol fod awdurdodau lleol yn gweithio drwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig i gronni eu hadnoddau. Yna, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â hwy, drwy Trafnidiaeth Cymru. Mae James Price wedi dweud, fel prif weithredwr, ei fod am i Trafnidiaeth Cymru wasanaethu awdurdodau lleol—i fod yn ymennydd technegol iddynt; fod yr atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau yn lleol, ond ein bod yn cronni'r gallu i gyflawni. Credaf fod hwnnw'n fodel synhwyrol.

Fel y dywedaf, mae enghraifft Casnewydd yn galonogol iawn. Drwy gynllun cyflawni Burns, credaf ein bod yn braslunio'r hyn y gellir ei roi ar waith ar gyfer gweddill Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru lawer iawn o waith yn digwydd y tu ôl i'r llenni, na fyddwch wedi gweld ei ganlyniad eto. Dyna un o'r problemau sydd gennym gyda holl ddatblygiad y metro. Mae cryn dipyn o oedi rhwng y cynllunio a'r gwaith technegol a chyflawni, ac mae pobl wedi cael llond bol ar glywed yr addewidion gan nad ydynt yn gweld unrhyw beth yn eu sgil.

Ond rydym yn sicr yn mynd i weld newid gyda hynny ar gyfer metro de Cymru yn ystod y flwyddyn neu fwy i ddod, a chredaf y byddwn yn gweld hynny yng Nghasnewydd hefyd. Mae Llywodraeth Cymru a'r cyngor a Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio'n agos iawn fel un uned ar lunio cynlluniau, gwneud cais am gyllid ar eu cyfer a gweithio ar eu cyflawni. Felly, rwy'n hyderus fod y model yn gweithio, ac rydym yn gobeithio ei ymestyn.

Mae pobl Caerdydd yn sicr wrth eu boddau eu bod yn mynd i gael eu gorsaf fysiau yn ôl, gan fod hyn wedi cymryd cryn dipyn o amser. Felly, bydd hynny'n gyffrous iawn. Diolch am gyhoeddi'r mapiau hyn, gan ei bod yn ddefnyddiol iawn gweld beth yw eich blaenoriaethau hyd at 2029.

Mae adroddiad Burns wedi'i fframio o gwmpas defnyddio dau o'r pedwar trac trên rhwng Casnewydd a Chaerdydd a thu hwnt fel asgwrn cefn i fetro de-ddwyrain Cymru, ond ni allaf weld unrhyw beth ynglŷn â hynny ar eich map. Rwy’n arbennig o bryderus am hyn gan fod Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd wedi datgelu bod trenau deufodd yn llygrol iawn. Mae teithwyr yn anadlu aer sy'n waeth nag aer mewn lleoliad trefol prysur ar ochr y ffordd. Felly, mae hynny'n newyddion drwg iawn i Gaerdydd ac i'r holl deithwyr sy'n teithio tua'r gorllewin.

Felly, a ydych chi bron â gorfod rhoi’r gorau i ddibynnu ar Lywodraeth y DU? Bedair blynedd ar ôl canslo cynlluniau—

—i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, nid ydynt wedi cynnig eu hasesiad cychwynnol o hyd o sut y byddant yn gwella seilwaith rheilffyrdd Cymru. A oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud i'n darbwyllo na fydd hynny'n dwll yn y cynlluniau o adroddiad Burns?

[Anghlywadwy.]—dal popeth sy'n digwydd, mae hynny'n sicr. Mae gennym gynigion i'r Adran Drafnidiaeth am waith i gyflawni argymhellion adroddiad Burns. Rydym wedi clywed pethau calonogol wrth gyfarfod â Gweinidogion, ond nid ydym wedi cael unrhyw gadarnhad eto y byddwn yn cael y cyllid. Heb y cyllid, ni fydd modd cyflawni argymhellion adroddiad Burns a mynd i'r afael â'r tagfeydd. Felly, ar y naill law, dywedant eu bod yn dymuno adeiladu ffordd, ac mae Boris Johnson yn ein ceryddu am nad ydym wedi adeiladu'r ffordd. Rydym wedi cynnig dewis arall, cynnig cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys, sydd wedi'i gymeradwyo gan gadeirydd Network Rail, ac nid yw Llywodraeth y DU yn ei ariannu. Felly, rydym yn dal yn obeithiol y bydd hynny'n digwydd, ond nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd eto. Ond mae'r Aelod yn llygad ei lle na fyddwn, heb y cyllid hwnnw, yn gallu dod â thraffig llygrol oddi ar y ffyrdd.

15:30

Diolch, Ddirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae'n ddatganiad amserol iawn wrth gwrs. Ychydig wythnosau'n ôl, gofynnais gwestiwn i chi yn y Siambr ynghylch metro gogledd Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn cytuno â mi y dylai fod brys ynghylch darparu'r metro yng ngogledd Cymru. Ac yng ngoleuni hyn, rwy'n sicr yn croesawu rhywfaint o ffocws pellach ar fy rhanbarth, gyda chreu bwrdd cyflawni metro gogledd Cymru, fel rydych wedi'i gyhoeddi yma heddiw. Rwy'n siomedig, serch hynny, na chlywais unrhyw beth am gynnig estynedig ar gyfer gogledd Cymru. Mae'r cynnig metro presennol ar gyfer y rhanbarth yn dod i ben yn y Rhyl. Nawr, er bod y Rhyl yn gyrchfan gwych, mae gweddill gogledd Cymru angen strategaeth wedi'i chefnogi'n glir i liniaru'r pwysau presennol ar y rhai sy'n byw yn y rhanbarth, ochr yn ochr â'n 26 miliwn o ymwelwyr blynyddol, tra'n darparu ateb sy'n cyfrannu at yr her newid hinsawdd. Felly, Ddirprwy Weinidog, sut rydych chi am i fwrdd cyflawni metro gogledd Cymru fynd ati i ddarparu metro gogledd Cymru sy'n gwasanaethu'r rhanbarth mewn gwirionedd? Diolch.

Wel, fel cyn-arweinydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, gwn y bydd Sam Rowlands yn llawn werthfawrogi pwysigrwydd arweinyddiaeth leol, a'r rôl sydd gan awdurdodau lleol yn llunio'r cynigion hyn. A dyna pam fy mod yn credu ei bod yn bwysig creu'r mecanwaith cyflawni cyfunol hwn, ar gyfer dulliau gweithredol a strategol, fel y gallwn gynyddu'r uchelgais gyda'n gilydd. Cyfarfûm ag aelodau cabinet bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru yn ddiweddar, a rhoddais yr her hon iddynt. Credaf fod ffocws o hyd gan rai ar gynlluniau ffyrdd, ond mae angen lledaenu'r neges fod angen inni symud ein ffocws yma. Unwaith eto, mae diffyg cysylltiad rhwng, ar y naill law, galw arnom i gyrraedd targedau sero-net, ac ar y llaw arall, i fod yn gaeth i ffordd o feddwl nad yw'n cyd-fynd â'r weledigaeth honno. Felly, rwy'n awyddus iawn ein bod yn dechrau edrych o ddifrif ar y rôl y gall trafnidiaeth gyhoeddus ei chwarae fel ceffylau gwaith y system drafnidiaeth, a'n bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol gogledd Cymru i gynllunio'r hyn a fydd yn addas i'w cymunedau, fel y gallwn roi dewisiadau amgen realistig i bobl yn lle'r car.

Weinidog, fe fyddwch yn gwybod beth yw fy mhwynt terfynol ar hyn, ond a gaf fi ddweud yn gyntaf, fy mod yn credu bod y map hwn, y ddogfen, y datganiad heddiw yn dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch newid y sgwrs gyfan am symud tuag at deithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus—fel rydych newydd ei ddisgrifio: ceffyl gwaith y ffordd y teithiwn yn ein cymunedau, cyrraedd y gwaith, cyrraedd digwyddiadau cymdeithasol, ac yn y blaen? Ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ni roi ein hewyllys da gwleidyddol y tu ôl i hyn hefyd, a bod yn gyson wrth ddadlau'r achos drosto, fel y gall pobl gael tocynnau cyffredinol sy'n hygyrch, yn fforddiadwy, yn rheolaidd, yn aml, fel y gallant fynd o fws i feic ac ar drên, a chyrraedd y lleoedd y maent angen mynd iddynt, a llunio'r cymunedau o gwmpas hynny.

Ond Weinidog, fe wyddoch beth rwy'n mynd i'w ddweud. Mae'r ddogfen yn cyfeirio at Faesteg, mae Maesteg ar y mapiau hefyd, yn y cynigion sy'n dod i'r amlwg hyd at 2029. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar hyn bellach ers bron i ddegawd—nid ers imi ddod i'r Senedd yn unig. Weinidog, a wnewch chi gyfarfod â mi, a chynrychiolwyr awdurdodau lleol, i drafod y cynigion ar gyfer Maesteg yn fanylach, fel y gallwn roi amserlenni i'n hetholwyr i nodi pryd y byddwn yn cyflawni hyn? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

Yn naturiol, byddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r Aelod, a'i gydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, i drafod y pum opsiwn rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd i gynyddu amlder gwasanaethau ar reilffordd Maesteg fel rhan o broses cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru a gwblheir yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'r holl opsiynau sy'n cael eu hasesu yn cynnwys canolfannau trafnidiaeth integredig ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Heol Ewenni, a byddant yn ystyried y math priodol o gerbydau ar gyfer darparu gwasanaethau mwy mynych. Ac edrychaf ymlaen at fynd drwy'r manylion hynny gydag ef.

Weinidog, fel eraill, rwy'n croesawu'r datganiad a maint yr uchelgais gan Lywodraeth Cymru heddiw yn fawr. Aeth y cwestiwn olaf â chi i Faesteg; rwyf am fynd â chi i Lynebwy ac Abertyleri, ac ni fydd hynny'n syndod o gwbl i chi. A allech chi sicrhau bod rheilffordd Glyn Ebwy yn cael ei thrin yn gyfartal o ran y gwasanaethau a'r buddsoddiad? Nid ydym wedi gweld datganoli rheilffordd Glynebwy, ac rydym wedi gweld nad yw Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn rheilffordd Glynebwy, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gamu i'r adwy ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn lle Llywodraeth y DU yn hynny o beth. Ond rydym angen gwasanaethau cyfartal ac amserlen ar gyfer datblygu gwasanaethau newydd. Rydym angen cysylltiadau ag ysbyty'r Faenor hefyd. Rydym wedi trafod sawl gwaith yn y lle hwn dros y blynyddoedd. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am yr uchelgais hwn, ni all wneud buddsoddiadau mor fawr ag ysbyty'r Faenor, a pheidio â sicrhau wedyn fod yna gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ag ysbyty'r Faenor o bob rhan o'r ardal a wasanaethir ganddo, gan gynnwys Blaenau Gwent.

Ac mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â'r strategaeth fysiau a'r Bil. Deallais y byddai'r Bil hwn yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, ac felly, byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i'r Aelodau ddeall pam y mae'n ymddangos bod rhywfaint o oedi oherwydd mae angen i wasanaethau bysiau gael eu hail-reoleiddio heddiw. Rydym yn gweld effaith y polisi Thatcheraidd annoeth hwnnw ym Mlaenau Gwent heddiw. Mae pobl Blaenau Gwent eisiau rheolaeth ar eu bysiau unwaith eto. Diolch.

15:35

Wel, Ddirprwy Lywydd, nid oes unrhyw Fil yn y rhaglen ddeddfwriaethol nad yw gwahanol ymgyrchwyr eisiau iddo gael ei wneud ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, ac yn amlwg ni allwn eu gwneud i gyd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon. Felly, mae'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd orau o reoli'r dagfa honno. Byddwn yn dweud bod yr oedi'n caniatáu inni gael cyfle i fod yn fwy uchelgeisiol, ac rydym yn awr yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r gweithredwyr i weld a allwn gynllunio Bil bysiau a fydd yn fwy radical ac yn fwy effeithiol na'r un a luniwyd gennym yn y gorffennol. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gyfle cyffrous i ni gyflawni ein huchelgais, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn bendant wedi ymrwymo i'w wneud. 

O ran ysbyty'r Faenor, credaf ei fod yn astudiaeth achos o rywbeth y mae angen i ni ei ddysgu mewn gwirionedd a pheidio â chaniatáu iddo ddigwydd eto, a dyna pam y dywedais yn y datganiad pam ei bod mor bwysig i'r cyd-bwyllgorau corfforedig a'r awdurdodau lleol ddod at ei gilydd a chymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif fel y gallant gynllunio trafnidiaeth ochr yn ochr â gwasanaethau eraill, fel nad ydym yn creu datblygiadau y tu allan i'r dref nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus. Ac wrth gwrs, yn yr achos hwn, Llywodraeth Cymru ei hun—cynlluniau'r GIG sydd ar fai am greu safle mawr sy'n denu teithiau ymwelwyr o'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Ac rwy'n credu y dylem ddweud na ddylid caniatáu i hyn ddigwydd byth eto.

Ac felly, rwy'n teimlo'n rhwystredig nad ydym wedi gallu gwneud mwy o gynnydd ar sicrhau gwasanaeth bws i ysbyty'r Faenor fel y trafodwyd gennym o'r blaen. Y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf i'r Aelod yw bod gwasanaeth bws bob awr, rhif 29, yn cael ei weithredu gan Bws Casnewydd, sy'n cysylltu'r ysbyty â Chwmbrân a Chasnewydd drwy Gaerllion bob awr, saith diwrnod yr wythnos. Ar ei bwynt penodol am y cymoedd y mae'n eu cynrychioli, bydd gwasanaeth bws uniongyrchol newydd i'r ysbyty o ganolfannau allweddol ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn y chwe mis nesaf os gellir dod o hyd i gyllid, a byddwn yn edrych i weld sut y gallwn gydblethu hynny â'r gwelliannau metro rydym yn eu cynllunio. Ac rwy'n sylweddoli nad yw hynny cystal ag y dylai fod, ac rwy'n ymddiheuro am hynny, ond mae hwnnw'n rhywbeth rydym yn dal i'w ddatblygu.

Ac ar ei bwynt olaf am y cysylltiadau rheilffordd, fel y gŵyr, o fis Rhagfyr eleni ymlaen, bydd gwasanaeth bob awr rhwng Cross Keys a Chasnewydd, ac rydym wedi rhoi benthyciad o £70 miliwn i Flaenau Gwent ar gyfer uwchraddio'r seilwaith fel y gallwn gael gwasanaeth newydd yn ymestyn yr holl ffordd o Lynebwy i Gasnewydd, rhywbeth y mae wedi bod yn ymgyrchu drosto'n gyson, ac yn awr bydd yn cael ei gyflwyno. Ac ar y cysylltiad ag Abertyleri, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwnnw ac nid yw'n rhan o'r setliad datganoli. Ond mae ein buddsoddiad o £70 miliwn yn hwb i Abertyleri sy'n caniatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn barod i gamu i'r adwy o'r diwedd a chefnogi'r rhwydwaith fel y dylai. 

Rwy'n croesawu sylwadau y Dirprwy Weinidog ar yr opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus annigonol i ysbyty'r Faenor. Mae consensws cynyddol ynghylch yr angen am weithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd y mae ein planed yn ei wynebu, er bod y Ceidwadwyr gyferbyn yn parhau i fod yn ddryslyd er bod Boris wedi newid o oren i wyrdd.

Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru yn uchelgeisiol, ac mae'r metro'n cynnig potensial gwirioneddol i ni wneud gwahaniaeth ochr yn ochr â'r dulliau cynaliadwy eraill o deithio o ddrws i ddrws. Gwyddom fod pobl yn ymwybodol o'r angen i leihau'r defnydd o'r car ond yn briodol, maent yn gofyn am well dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy'n croesawu'r cynnydd ar bolisi bysiau i Gymru a'r newid dulliau teithio i ddilyn. Ddirprwy Weinidog, nodwch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo traean yn fwy o wasanaethau rheilffordd er mwyn gwella cysylltedd, er nad yw'r DU wedi gwario unrhyw arian ar seilwaith yma yng Nghymru—dim gwariant ar drydaneiddio na gwariant arall yn y maes hwnnw gan Lywodraeth y DU. Ac yn Islwyn, rydym wedi gweld—

15:40

—cymaint o groeso y mae'r rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd wedi'i gael. Ddirprwy Weinidog, pa gamau y gallwch chi a Llywodraeth Cymru eu cymryd felly er mwyn cyfarfod â Llywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau bod Cymru'n cael yr arian mawr ei angen hwnnw i drawsnewid seilwaith sector cyhoeddus Cymru?

Wel, rydym o ddifrif eisiau gweithio gyda hwy, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gael deialog adeiladol gyda hwy, ond mae'n un ochrog ar hyn o bryd, mae'n rhaid dweud. Cefais gyfarfod da gyda chadeirydd Network Rail yn ddiweddar, fel y dywedais, ac rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r Gweinidogion trafnidiaeth iau, ond nid gyda Grant Shapps ei hun. Eu barn hwy yw y dylem fod yn gwneud ceisiadau tameidiog i Lywodraeth y DU i gystadlu â phob rhan arall o'r DU am gynlluniau rheilffyrdd. Ein gwrth-ddadl yw: mae gennym gyfran o'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae gennym gyfran gryn dipyn yn llai o'r buddsoddiad sydd ei angen ar y rhan honno o'r rhwydwaith. Ac felly, credwn fod gennym hawl i ddarn mwy o'r gacen yn ôl y gyfran ar sail poblogaeth a'r gyfran o'r rheilffordd hefyd. Nid ydynt yn cytuno ac ni fyddant yn gweithredu. Felly, credaf fod hynny'n golygu bod holl rethreg codi'r gwastad yn wag mewn perthynas â Chymru, ac mewn gwirionedd, maent yn gwneud pethau'n waeth drwy ddatblygu rheilffordd high speed 2 heb roi ein cyfran ar sail poblogaeth i ni; nid ydym yn cael cyfran Barnett am honno. Felly, yn ôl eu cynllun busnes eu hunain, mae rheilffordd high speed 2 yn mynd i sugno arian allan o Gymru, ac mae hefyd—gadewch i ni fod yn glir—yn mynd i niweidio economi Cymru. Felly, gwelwn effaith negyddol ar ein heconomi; ni chawn y gyfran ar sail poblogaeth y byddem fel arfer yn ei chael drwy wariant ar y rheilffyrdd yn Lloegr, felly rydym ar ein colled, ac nid ydynt yn mynd i'r afael â'u tanfuddsoddiad hanesyddol yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Felly, credaf ei bod yn stori gywilyddus, a byddwn yn gobeithio y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd hon, yn hytrach na chanu'r hen ganeuon, yn canolbwyntio ar fod yn adeiladol a cheisio cael eu Llywodraeth eu hunain i sefyll dros Gymru.

Fel aelod cabinet blaenorol yn sir y Fflint, hoffwn ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad enfawr ym metro gogledd Cymru, gan ddarparu £17 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ac rwyf wedi gweld buddsoddiad mewn lonydd beicio, cyfleusterau parcio a theithio, bysiau trydan, ar draws rhanbarth gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi rhoi—. Gwn fod sir y Fflint wedi cyflwyno cais am orsaf barcffordd hefyd—cais cynllunio ar gyfer honno—a chais i Lywodraeth y DU i'w hadeiladu. Rydym angen buddsoddiad yn rheilffordd gogledd Cymru hefyd, sydd, unwaith eto, yn arwain yn ôl at Lywodraeth y DU. Rydym wedi cael buddsoddiad o £17 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a dim byd, hyd yma, gan Lywodraeth y DU ar ffurf cyllid codi'r gwastad, ac maent yn dal i aros i glywed am y buddsoddiad hanfodol hwn. Felly, mae gwir angen inni wthio hynny a gwneud iddo ddigwydd.

Yr wythnos diwethaf, bûm yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r holl arian sydd wedi'i fuddsoddi ym menter y metro. Felly, mae hwnnw'n fuddsoddiad mewn trafnidiaeth Fflecsi—

Iawn, dyma ni: felly, rwy'n gofyn a allwn gael arwyddion metro fel y bydd pobl yn deall y buddsoddiad a wneir mewn cyfleusterau parcio a theithio, y cysylltiadau beicio—sut y maent i gyd yn cysylltu â'i gilydd—buddsoddiad mewn gorsafoedd hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. A hefyd, ar ôl COVID—

Ar ôl COVID, mae angen i ni annog pobl i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus unwaith eto. Felly, a fyddech chi, Ddirprwy Weinidog, yn sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol allu buddsoddi fel y gellir hysbysebu'r metro yn briodol, hysbysebu amserlenni ar gyfer bysiau a'r hyn sydd ar gael i bobl, fel y gallant gael hyder i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus eto? Diolch.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch rhoi gwybodaeth i bobl. Mae'r ymchwil yn dangos bod dau beth yn rhwystro pobl rhag manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus: y cyntaf yw diffyg gwasanaethau, ond yr ail yw diffyg gwybodaeth am y gwasanaethau sy'n bodoli. Felly, mae rhoi gwybodaeth wedi'i thargedu i bobl yn hanfodol, a dyna un o'r pethau rydym yn edrych arnynt fel rhan o strategaeth trafnidiaeth Cymru. Yn ogystal â'r seilwaith, sut y gallwn wella'r hyn a elwir yn fesurau mwy meddal, mesurau annog? Mae arwyddion a gwybodaeth yn rhan allweddol o hynny. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym yn ei ddatblygu ymhellach.

Mae arian eisoes ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer arwyddion teithio llesol a gwybodaeth am lwybrau os ydynt eisiau gwneud cais amdano. Mae'n rhaid imi ddweud, mae'r darlun ar draws gogledd Cymru, o ran yr awdurdodau lleol sy'n gwneud cais am y cyllid, yn anghyson iawn. Nid yw rhai awdurdodau lleol wedi cyflwyno cais. Felly, yn bendant, mae cyllid ar gael, ac mae cyllid ar gael i bob awdurdod lleol.

Byddaf yn ystyried y pwynt am arwyddion ar gyfer datblygiad y metro yn arbennig. Mae'n bwynt sydd wedi'i wneud am ddatblygiadau metro eraill. Fel y dywedais, mae hon yn rhaglen seilwaith sylweddol—£1 biliwn o fuddsoddiad—ac mae angen inni roi gwybod i bobl ei bod ar y ffordd a'i bod yn gyffrous, a dylai hynny eu helpu i feddwl am newid eu cynlluniau teithio.

15:45

Weinidog, fe gyfeirioch chi'n gynharach at yr angen i Gymru gael ei chyfran ar sail poblogaeth. Beth am gyfran ar sail poblogaeth o fuddsoddiad o fewn Cymru? Rydych wedi dweud bod £1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi neu ei glustnodi hyd yma ar gyfer y tri phrosiect metro, ac eto, o'r £1,000 miliwn hwnnw, £50 miliwn yn unig sydd wedi'i ddyrannu i ogledd Cymru. Mae hwnnw'n wahaniaeth mawr yn y buddsoddiad gan eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Beth a wnewch i sicrhau bod cyfran deg o fuddsoddiad yn dod i ogledd Cymru, yn hytrach na'r swm sarhaus a thila yr awgrymoch chi ei fod yn mynd yno heddiw?

Wel, nid yw Darren Millar byth yn colli cyfle i greu rhwyg a cheisio creu ymdeimlad o anghyfiawnder—

Dyma'r tro cyntaf i mi ei glywed yn cyflwyno achos dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Fel y dywedais, mae ganddo obsesiwn gyda rhoi arian i gynlluniau adeiladu ffyrdd, er ei fod yn mynd ymlaen wedyn i bledio dros drafferthion y wiwer goch—a gyda llaw, os nad awn i'r afael â newid hinsawdd, bydd bioamrywiaeth dan fygythiad. Felly, mae datgysylltiad yn ei ddadl a'i ffordd o feddwl hefyd.

Fel y dywedais, mae cyflwr y metros mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol. Mae'n rhaid inni wella'r uchelgais a chyflawniad ledled Cymru. Dyna hanfod ein strategaeth drafnidiaeth i Gymru, ac nid yw'r Aelod wedi'i chefnogi. Dyna hanfod ein buddsoddiad yn y metro, ac nid yw'r Aelod wedi'i gefnogi. A dyna yw hanfod y cyhoeddiad heddiw am fwrdd cyflawni metro gogledd Cymru. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'n cefnogi hwnnw.

Diolch ichi, Weinidog. Rwy'n croesawu cyhoeddiad y bwrdd cyflawni, ond mae'n rhaid iddo gyflawni. Nawr, mae'n amlwg i mi fod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â gogledd Cymru drwy beidio â thrydaneiddio'r brif reilffordd, felly byddai'n dda gennyf wybod pa drafodaethau a gawsoch, Weinidog, ynghylch gwella signalau a chroesfannau signal fel ffordd o wella'r rheilffordd honno. Hoffwn ddeall hefyd pa gynlluniau sydd gennych chi a Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno cerbydau deufodd a thri modd yng ngogledd Cymru i helpu gyda'r cynnydd yn y ddarpariaeth o fewn y rhanbarth.

Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallais, Weinidog, roedd y rhan honno o'r metro bob amser yn cynnwys teithiau bws cyflym. Nawr, i mi, heb y llwybr coch, ni fydd gennym lonydd bysiau pwrpasol i ganiatáu i hyn ddigwydd. Nawr, rydych wedi gwneud rhai eithriadau ar gyfer ffyrdd yn eich adolygiad. A ydych wedi ystyried eithrio'r llwybr coch a'i lonydd bysiau?

Ac yn olaf, Weinidog, a ydych yn cefnogi ymdrechion Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i adeiladu rhwydwaith teithio llesol cynhwysfawr? A chyda'r Llywydd yn syllu arnaf, rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno. [Chwerthin.]

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud nad oes unrhyw beth i atal yr awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru rhag datblygu rhwydwaith teithio llesol uchelgeisiol yn awr, nac yn wir rhag creu lonydd bysiau. Mae'r pŵer hwnnw wedi bod yno drwy'r amser, ac mae arian ar gael i'w wneud. Felly, dyna pam fy mod eisiau sefydlu'r uned gyflawni, fel ein bod yn gweithredu'n llawer gwell gyda'n gilydd ac yn gwthio i'r un cyfeiriad.

Mae'r llwybr coch, fel y gŵyr Jack Sargeant yn iawn, yn rhan o'r adolygiad ffyrdd, ac un o ddibenion yr adolygiad ffyrdd yw edrych ar sut y gallwn flaenoriaethu buddsoddiad i gynnal y seilwaith presennol, yn ogystal â chreu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom i greu pethau fel llwybrau bysiau teithio cyflym a gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyffredinol. Felly, nid wyf am ddyfalu beth fydd yr adolygiad ffyrdd yn ei ddweud am y llwybr coch, ond mae yn y pot gyda bron bopeth arall i geisio symud ein cyfeiriad teithio.

O ran seilwaith, o ran rheilffyrdd—trenau, yn hytrach—ar rwydwaith gogledd Cymru, rydym ar hyn o bryd yn datblygu'r trenau dosbarth 230 ar gyfer rheilffordd Wrecsam a Bidston yn ddiweddarach eleni, ac rydym wedi cyflwyno trenau InterCity wedi'u hadnewyddu ar wasanaethau rhwng gogledd a de Cymru, gyda mwy o gapasiti a gwell gwasanaethau i gwsmeriaid. Rydym yn cynnal profion ar drenau newydd o amgylch gogledd Cymru ar hyn o bryd, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o fanylion am y cynlluniau sydd gennym.

Diolch yn fawr iawn ichi, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi caniatáu’r cwestiwn. Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am hyn. Dim ond rŵan dwi'n gweld y mapiau. Yr hyn sy’n drawiadol ydy’r diffyg buddsoddi ac absenoldeb unrhyw beth yn ein hardaloedd gwledig ni unwaith eto. Rŵan, dwi’n deall bod y mapiau’n edrych ar drenau, ond mae pobl ardaloedd gwledig yn fwy dibynnol ar drafnidiaeth breifat na thrafnidiaeth gyhoeddus oherwydd absenoldeb trafnidiaeth gyhoeddus yn ein cymunedau gwledig. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi er mwyn ehangu'r ddarpariaeth drenau yn ein cymunedau gwledig, yn enwedig yn edrych ar y gorllewin—o Ynys Môn lawr trwy Feirionnydd, trwy Geredigion a sir Gaerfyrddin? Diolch yn fawr iawn.

15:50

Wel, credaf y dylem fod yn fwy diagnostig, mewn gwirionedd, wrth ystyried trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Gwn fod yna ffocws ar drenau rheilffordd trwm, ond o ran carbon, mae gennym dargedau anodd iawn i'w cyrraedd. Mae'n rhaid inni gynyddu'r toriadau i allyriadau yn y 10 mlynedd nesaf i raddau mwy nag y llwyddasom i'w wneud dros y 30 mlynedd diwethaf, a swm cyfyngedig o arian sydd gennym i wneud hynny. Felly, credaf fod angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â ble y gall yr arian sydd gennym gael yr effaith orau o ran arbedion carbon. Ac nid gwario dros £1 biliwn ar reilffyrdd trwm mewn ardaloedd gwledig yw'r ffordd orau o wneud hynny yn fy marn i.

Nawr, credaf y gallwn sicrhau newid sylweddol mewn dulliau teithio mewn ardaloedd gwledig gan ddefnyddio dulliau gwahanol. Felly, fel y soniais yn fy natganiad, os edrychwn er enghraifft ar gefn gwlad yr Almaen neu gefn gwlad y Swistir, lle mae ganddynt fysiau fflecsi fel rydym yn eu datblygu yng Nghymru, mae ganddynt feiciau trydan, mae ganddynt glybiau ceir—ceir ystod eang o bethau eraill y gellir eu gwneud yn gyflym, yn llawer cyflymach nag adeiladu llwybr rheilffordd trwm, i roi dewisiadau amgen ymarferol i bobl yn lle'r car na fyddai'n costio cymaint ac a fyddai yn ein galluogi i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd mewn ffordd na fyddai dargyfeirio adnoddau tuag at gynlluniau fel y rhain yn ei wneud.

Diolch. Tri chwestiwn byr iawn. Rydych yn cyfeirio at Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. O gofio bod cynnig y fargen dwf yn gynnig gan Lywodraeth y DU yn wreiddiol, a bod Llywodraeth Cymru wedi arwyddo penawdau'r telerau gyda Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2019, cynnig sy'n canolbwyntio'n bennaf ar seilwaith ac a gaiff ei ariannu ar y cyd gan y ddwy Lywodraeth, mae'n rhaid bod Llywodraeth y DU eisoes yn rhan o fetro gogledd Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r seilwaith a'r cysylltedd trawsffiniol. A allwch chi gadarnhau beth yw'r ymgysylltiad hwnnw? Oherwydd gwn ei fod yn ddiffuant ac yn parhau o gyfeiriad y Llywodraeth arall.

A ydych yn cydnabod bod llawer o'r cynigion mewn perthynas â metro gogledd Cymru mewn gwirionedd yn rhagflaenu metro gogledd Cymru, ac yn deillio, er enghraifft, o gynigion Trac Twf 360 y bwrdd uchelgais economaidd, y cynigion ynghylch gorsaf Crewe, sydd bellach wedi dwyn ffrwyth, diolch byth, a fy nghysylltiad â Llywodraeth Cymru ar ran grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd yn galw am y gwelliannau i wasanaethau yn Shotton a'r orsaf newydd ym Mharcffordd Glannau Dyfrdwy, a ddigwyddodd sawl blwyddyn cyn y cyhoeddiadau ar y metro?

Ac yn olaf, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad, ar lefel ddatganoledig, gan Fanceinion yn Lloegr, mai'r cyswllt rheilffordd o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion yw'r opsiwn a ddewiswyd ac mai hwnnw fydd yn cael ei gadw wrth inni symud ymlaen?

Wel, yn amlwg, mae gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru, ac nid yw'r rheilffyrdd wedi'u datganoli. Ac fel y soniwyd eisoes, nid yw rheilffordd gogledd Cymru wedi cael ei thrydaneiddio eto. Rydym wedi pwyso am gyllid cysylltedd yr undeb er mwyn i'r uned gyflawni fwrw ymlaen â thrydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a byddwn yn gwerthfawrogi cymorth Mark Isherwood i berswadio ei gyd-bleidwyr yn San Steffan i gefnogi ei etholwyr, oherwydd nid ydynt wedi gwneud hynny eto. Rydym hefyd wedi cefnogi'r cais gan Gyngor Sir y Fflint i gronfa codi'r gwastad, ac rydym yn dal i aros i glywed am y cais hwnnw. Felly, mae yna rôl i'w chwarae yn sicr, ac rydym eisiau gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i wneud i hyn ddigwydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer 'Great British Railways', fel y maent yn ei alw, ac os caiff ei wneud yn iawn—ac os nad yw'n fater o chwifio baner yn unig, os yw'n ymwneud â gwella cyflawniad—os caiff ei wneud yn iawn, gallai wella gwaith partneriaeth. Gwnaethom gefnogi argymhelliad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ar gyfer bwrdd cyflawni ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr i fwrw ymlaen â'r pethau hyn, a byddem yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth â hwy ar hynny. Ond mae partneriaeth yn gweithio'r ddwy ffordd, ac nid yw'r cyfrifoldeb am seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ac nid yw Llywodraeth y DU yn cyflawni.

Diolch, Dirprwy Weinidog, a diolch, bawb. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

15:55

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:55.

16:05

Ailymgynullodd y Senedd am 16:06, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Croeso nôl. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y tri chwestiwn cyntaf yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Carolyn Thomas.

Ymgysylltu ag Ysgolion yng Ngogledd Cymru

1. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i ymgysylltu ag ysgolion yng Ngogledd Cymru? OQ57053

Mae tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc y Senedd yn cysylltu ag ysgolion ledled Cymru i gynyddu dealltwriaeth o waith y Senedd. Ers mis Ebrill 2021, mae dros 5,000 o bobl ifanc a gweithwyr addysg wedi cymryd rhan yn ein sesiynau addysg, sydd, oherwydd y pandemig, wedi cael eu cynnal ar-lein yn bennaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein gwaith ymgysylltu â phobl ifanc wedi canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o etholiad y Senedd ym mis Mai ac annog pobl ifanc i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd eleni. Mae 56 o bobl ifanc o ranbarth y gogledd wedi enwebu eu hunain ar gyfer etholiad Senedd Ieuenctid Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw. Rwyf wedi mwynhau cyfarfod ag ysgolion ar draws gogledd Cymru yn rhithwir a chlywed am y pethau sy'n bwysig iddynt. Mae rhiant plentyn yn Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug wedi cysylltu â mi, yn datgan ei siom na fydd eu plentyn yn gallu ymweld â'r Senedd ar ymweliad addysg yn y cnawd yn ystod taith ysgol i Gaerdydd. Credaf eu bod yn ei gynnwys gydag ymweliadau â sefydliadau eraill yn ne Cymru, felly mae'n daith dda iawn i ddod o ogledd Cymru i dde Cymru. Felly, credaf ei bod yn drueni mawr, a dylem annog plant i fod yn rhan o'n democratiaeth o oedran ifanc, felly byddai'n wych pe gallent ddod ar ymweliad addysg yn y cnawd. Felly, a gaf fi ofyn a oes gan y Comisiwn gynlluniau i ailagor ystad y Senedd ar gyfer ymweliadau addysg yn y cnawd? Diolch.

Diolch am y cwestiwn, ac mae'n ddrwg gyda fi, wrth gwrs, fod y profiad yma ddim ar gael ar hyn o bryd i bobl ifanc a phobl ifanc mewn ysgolion oherwydd y pandemig a'r asesiadau risg ŷn ni wedi ymgymryd. Ond yr ydym ni yn bendant eisiau gweld dychwelyd pobl ifanc i'r ystâd yma, iddyn nhw gael y profiad o ddod yma i'w Senedd genedlaethol nhw yn ogystal â dysgu am ddemocratiaeth. Felly rydym ni yn edrych i weld pryd fydd yr asesiad risg yn caniatáu inni fod yn medru ailagor y ganolfan ar gyfer dysgu i bobl ifanc. Mae'n ddrwg gen i i'r ysgol benodol yma os nad yw e'n mynd i fod yn barod i wneud hynny o fewn cyfyngiadau'r pandemig ar gyfer y trip penodol yma, ond os na fydd e'r tro yma, gobeithio'n wir y bydd e'n fuan ac y bydd y profiad ar gael i bobl ifanc unwaith eto.

Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ynghylch ei berthynas â bwrdd pensiynau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd? OQ57041

Mae perthynas y Comisiwn â bwrdd pensiynau cynllun pensiwn Aelodau'r Senedd wedi ei chyfyngu i enwebu dau o'r pum ymddiriedolwr sy'n eistedd ar fwrdd pensiynau cynllun pensiwn Aelodau'r Senedd. Caiff dau ymddiriedolwr arall eu henwebu'n uniongyrchol gan Aelodau o'r Senedd ac mae'r un ymddiriedolwr arall yn annibynnol ac wedi ei phenodi gan y bwrdd taliadau. Mae'r Comisiwn yn talu cyfraniadau i'r cynllun pensiwn ar gyfradd a bennir gan actiwari'r cynllun ac mae'r Comisiwn hefyd yn cyflogi'r staff sy'n gweinyddu'r cynllun pensiwn ar ran yr ymddiriedolwyr.

Diolch am hynny.

Rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yn sgil ymholiad a gefais gan un o fy etholwyr ynghylch cynllun pensiwn yr Aelodau, sy'n cael ei reoli'n rhannol, fel y dywedwch, gan fwrdd pensiynau'r Senedd. Mae gwleidyddiaeth a moeseg wedi'u cydblethu'n llwyr, ac felly mae'n hanfodol nad yw'r Senedd fel sefydliad yn cynnwys ei hun, hyd yn oed yn anuniongyrchol, mewn unrhyw beth sy'n amheus yn foesegol, er enghraifft, y diwydiant arfau niwclear neu weithgynhyrchwyr arfau eraill a waharddwyd gan gytundebau'r Cenhedloedd Unedig. A all y Comisiwn ddweud sut y gallwn gael eglurder ar hyn, fel y gallaf obeithio tawelu meddwl fy etholwr nad yw cynllun pensiwn yr Aelodau yn buddsoddi mewn cwmnïau arfau niwclear nac unrhyw weithgynhyrchwyr arfau gwaharddedig eraill? Diolch.

16:10