Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/10/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar yr agenda. Dwi eisiau nodi hefyd i'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price.

Cyfleoedd Prentisiaeth Lleol

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth lleol i bobl ifanc? OQ56999

Mae prentisiaethau'n helpu pobl, yn enwedig pobl ifanc, i wella eu sgiliau a'u gyrfaoedd, ac yn helpu cyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion sgiliau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n manteisio ar bob cyfle i drafod ymrwymiadau uchelgeisiol ein rhaglen lywodraethu i gefnogi twf, ehangu cyfranogiad mewn hyfforddiant a hybu symudedd cymdeithasol gyda Gweinidog yr Economi.

Roedd cyfeiriad gan Jenny Rathbone yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe ynghylch y prinder dybryd sydd yna o ran prentisiaethau yn y sector adeiladu, ac mae'r ffigurau gan y corff hyfforddi, y Construction Industry Training Board, yn dangos gostyngiad o hyd at 20 y cant, rwy'n credu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dwi wedi cael gohebiaeth gan lu o bobl ifanc yn fy etholaeth i sydd angen prentisiaeth er mwyn sicrhau eu cymhwyster ond yn methu â chael hyd iddo fe. Roedd un person ifanc wedi ffonio pob trydanwr yn sir Gaerfyrddin a methu â dod o hyd i brentisiaeth. Rwyf wedi cael fy nghyfeirio gan Weinidog yr Economi at wefan pori'r Llywodraeth, Dod o Hyd i Brentisiaeth, ac fe wnes i drial fy hunan i ffeindio prentisiaethau ym mhob maes, a dweud y gwir, ar draws Cymru. Dim ond 107 trwy Gymru gyfan sydd ar gael ar hyn o bryd ar y wefan pori ac yn amlwg dyw hwnna ddim yn ddigonol o gwbl ar gyfer pobl ifanc yn fy etholaeth i a thrwy Gymru gyfan. Onid oes cyfle i ddatrys y sefyllfa trwy siarad gyda, a rhoi adnoddau i, awdurdodau lleol sydd â'r cysylltiadau gyda busnesau lleol a gwybodaeth leol er mwyn eu 'incentivise-o' nhw i gynnig y prentisiaethau sydd eu hangen?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n galed iawn i gymell cyflogwyr i recriwtio prentisiaid i helpu pobl i gael gwaith ac i helpu’r economi i ddechrau symud unwaith eto, ac yn ddiweddar, rydym wedi ymestyn ein cymelliadau i gefnogi busnesau yng Nghymru i recriwtio prentisiaid hyd at fis Chwefror 2022. Mae'r cynllun cymell prentisiaethau i gyflogwyr yn rhan allweddol o'n hymrwymiad COVID i gefnogi busnesau a gweithwyr i'w helpu i ymadfer wedi effeithiau pandemig y coronafeirws. Ac mae'r cymelliadau hynny eisoes wedi golygu bod mwy na 5,500 o brentisiaid newydd wedi cael eu recriwtio ers mis Awst 2020.

Mae'r pwyntiau a wnewch yn rhai da ynglŷn â'r diwydiant adeiladu a diwydiannau eraill y bydd y pandemig, a Brexit wrth gwrs, yn effeithio'n arbennig arnynt. Byddaf yn gofyn i swyddogion Gweinidog yr Economi gael trafodaeth bellach gyda bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu i archwilio beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwn i sicrhau bod prentisiaethau adeiladu ar gael i'n pobl ifanc yng Nghymru.

Fe welwch fod gan ein rhaglen lywodraethu ymrwymiadau i gynyddu prentisiaethau ym maes gofal yn enwedig, gan fod hwnnw'n faes arall lle rydym yn gweld heriau penodol gyda recriwtio, ac yn arbennig gyda siaradwyr Cymraeg yn hynny o beth. Mae gennym ymrwymiad i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Senedd hon ac i ehangu'r defnydd o rannu prentisiaethau a gradd-brentisiaethau. Felly yn sicr, byddaf yn archwilio ymhellach gyda Gweinidog yr Economi a gofyn am i'w swyddogion archwilio ymhellach gyda bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu beth arall y gellir ei wneud yn y maes penodol hwnnw.

Bydd prentisiaethau'n chwarae rhan allweddol yn cefnogi'r broses o greu swyddi wrth inni ymadfer wedi'r pandemig hwn, ond mae sawl sector, fel sydd newydd gael ei drafod, yn dal i'w chael hi'n anodd recriwtio aelodau newydd o staff ers diwedd y cyfyngiadau symud. Yn dilyn cwestiwn Adam Price a'ch ateb chi, pa asesiad a wnaethoch—a wnaeth Llywodraeth Cymru—i gynyddu cwmpas cynllun prentisiaethau Llywodraeth Cymru er mwyn llenwi'r swyddi crefftus allweddol hyn?

13:35

Wel, yn ystod tymor blaenorol y Senedd, fe wnaethom greu mwy na 100,000 o brentisiaethau, ac roedd hynny'n uwch na'r targed a oedd gennym mewn gwirionedd, ond y tro hwn, rydym hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, gan gydnabod yr angen yn yr economi am y sgiliau hyn, ac rydym wedi codi ein targed i 125,000 o brentisiaethau newydd erbyn 2025. Felly yn amlwg, rydym wedi cydnabod bod angen sylweddol yn y maes hwn, ac rydym yn parhau i fuddsoddi, yn enwedig yn y meysydd lle rydym yn deall bod prinder sgiliau. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gynyddu nifer y prentisiaethau yn y sector gofal yn enwedig.

Adolygiad Gwariant 2021

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad gwariant arfaethedig Llywodraeth y DU 2021? OQ57021

Hoffwn weld Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad i weithio yn unol â pholisïau'r Llywodraethau datganoledig. Mewn meysydd fel sero-net a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, ceir cyfleoedd i weithredu ar fuddsoddiadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae perygl y bydd Cymru'n colli dros £150 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i brosiect HS2, a fydd yn cynyddu atyniad gogledd a gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n hanfodol fod Cymru'n cael ei chyfran deg ac nad yw'n cael ei gadael ar ôl. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod gan Lywodraeth y DU gyfle perffaith i wneud hyn yn yr adolygiad o wariant sydd ar y ffordd ar 27 Hydref, drwy ymrwymo buddsoddiad a all gyflawni'r pecyn seilwaith rheilffyrdd hanfodol a nodwyd yn argymhellion Burns ar gyfer Casnewydd, gan gynnwys uwchraddio'r brif reilffordd a chwe gorsaf newydd mawr eu hangen?

Diolch. Lywydd, mae Jayne Bryant yn llygad ei lle yn cydnabod bod dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn dangos y gallai HS2 wneud niwed i Gymru, ac yn enwedig de-orllewin Cymru, ond maent yn dal i'w gategoreiddio fel prosiect Cymru a Lloegr. Maent ganddynt gyfle i fynd i'r afael â hyn ynghyd â thanariannu a thanfuddsoddi hanesyddol mewn perthynas â rheilffyrdd yng Nghymru yn yr adolygiad o wariant sydd ar y ffordd ar 27 Hydref.

Ond i ymateb yn benodol i'r cwestiynau ynghylch comisiwn Burns, derbyniwyd ei 58 o argymhellion mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cyd-fynd yn dda iawn â'n strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru. Mae'r uned gyflawni wedi'i sefydlu bellach yn Trafnidiaeth Cymru, ac mae honno'n bwrw ymlaen â'r gwaith o wireddu'r argymhellion hynny. Argymhellodd Burns chwe gorsaf newydd yn Heol Casnewydd, parcffordd Caerdydd, gorllewin Casnewydd, dwyrain Casnewydd, Llan-wern a Magwyr, a gwnaethom dderbyn yr argymhellion hynny, ond mae angen uwchraddio prif reilffordd de Cymru, sydd heb ei datganoli, er mwyn galluogi'r gorsafoedd hynny. Felly, yn yr adolygiad o wariant sydd ar y ffordd, mae cyfle gwych i Lywodraeth y DU wireddu'r hyn a ddywed am godi'r gwastad a buddsoddi yn y maes hwn yn enwedig.

Weinidog, un o brif nodau adolygiad o wariant y DU yw codi'r gwastad ledled y DU er mwyn cynyddu a lledaenu cyfleoedd. Fodd bynnag, fel y clywsom yn y cwestiwn blaenorol heddiw, mae Cymru'n parhau i wynebu prinder sgiliau sylweddol, sy'n rhwystro economi Cymru a gallu'r gweithlu i addasu i ddiwydiannau a thechnoleg sy'n newid yn barhaus. Mae ymchwil gan y Brifysgol Agored yn dangos bod bwlch sgiliau Cymru yn 2020 yn fwy na'r Alban a chwech o wyth rhanbarth Lloegr. O'r 50,000 o raglenni prentisiaeth a gychwynnwyd yn 2019-2020, 740 yn unig a oedd ym maes gweithgynhyrchu, a 5,000 ym maes adeiladu. Weinidog, pa warantau y gallwch eu rhoi mai un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu unrhyw gyllid cynyddol a ddaw i Gymru fydd ei ddefnyddio i godi'r gwastad yn economi Cymru drwy ddiwallu anghenion busnesau er mwyn sicrhau na fydd prinder sgiliau yma yng Nghymru?

Wel, mae cryn dipyn o eironi yn y cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, gan nad yw Llywodraeth y DU yn ariannu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r £375 miliwn y byddem wedi'i dderbyn yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd llawer o'r cyllid hwnnw yn cael ei fuddsoddi mewn sgiliau, cyflogadwyedd, prentisiaethau, Banc Datblygu Cymru a phrosiectau seilwaith strategol eraill. Felly, mae'n amlwg fod datgysylltiad rhwng awydd yr Aelod am gyllid ychwanegol yn y maes hwn a realiti gwirioneddol yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran peidio â chadw at ei haddewid na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.  

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, a ydych yn cytuno â honiad blaenorol y Prif Weinidog fod Plaid Cymru yn credu mewn economeg fwdw a bod ganddynt arfer, ac rwy'n dyfynnu unwaith eto, o

'addo pethau i bobl yr wyf i'n gwybod nad ydyn nhw'n bosibl'?

13:40

Lywydd, nid wyf am gyfryngu rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ar lawr y Senedd. Gadawaf hynny iddynt hwy gael y trafodaethau hynny eu hunain.

Crybwyllais hyn, Weinidog, o gofio bod Llafur Cymru, eich Llywodraeth a Phlaid Cymru wrthi'n negodi cytundeb cydweithredu ar hyn o bryd. Serch hynny, Weinidog, ni wyddom o hyd beth sydd yn y cytundeb. Beth fydd yn ei olygu i gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr? Y cyfan a gawsom hyd yn hyn yw datganiad annelwig a gyhoeddwyd fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru, ac ni chredaf fod hynny'n dderbyniol. Ac fel gwrthblaid gyfrifol, mae angen inni gael cyfle i graffu ar y cytundeb hwn ac archwilio'r hyn y bydd yn ei olygu i drethdalwyr gweithgar Cymru. Wedi'r cyfan, y trethdalwyr fydd yn talu'r bil am y cytundeb hwn yn y pen draw. Roedd rhestr siopa maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys, fel y gwyddom, datganoli cyfiawnder yn llawn, a fyddai'n costio oddeutu £100 miliwn yn ôl amcangyfrif comisiwn Silk, ac roeddent hefyd yn sôn am gael benthyg £4 biliwn o'r sector preifat i ariannu ymrwymiadau polisi amrywiol. Meddyliwch am hynny am eiliad.

Felly, a fydd y polisïau hyn yn mynd i'r afael â'r problemau mwyaf dybryd? Na fyddant. A fydd y polisïau hyn yn creu swyddi? Na fyddant. A fydd y polisïau hyn yn helpu Cymru i ymadfer ar ôl COVID? Na fyddant. Yn hytrach, bydd yr ymrwymiadau hyn yn llesteirio'r adferiad ariannol sydd ei angen arnom. Mae symiau mor anferthol o arian yn creu risg o achosi lefelau anghynaladwy o ddyled i genedlaethau'r dyfodol. Ni fydd hyn yn creu swyddi, yn cefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus nac yn helpu adferiad ariannol Cymru wedi'r pandemig. Felly, Weinidog, mewn ysbryd o atebolrwydd a chraffu da, a wnewch chi amlinellu pa ymrwymiadau yn y cytundeb Llafur-Plaid fydd yn rhan o'r gyllideb sydd ar y ffordd, a sut y cânt eu hariannu?

Lywydd, rwy'n ceisio helpu cymaint ag y gallaf mewn sesiynau cwestiynau, ond nid wyf am gael fy nhemtio i wneud sylwadau ar drafodaethau a allai fod yn digwydd rhwng fy mhlaid a Phlaid Cymru. Ni chredaf fod hon yn adeg briodol i wneud hynny.

Wedi dweud hynny, credaf fod pethau pwysig y gall y Ceidwadwyr eu cyflwyno i'r drafodaeth hon o ran yr hyn sy'n dda i bobl yng Nghymru. Mae gennym gyfle perffaith ar 27 Hydref i'r Ceidwadwyr ddangos eu hymrwymiad i Gymru ac i roi'r dyfodol gwell rydych newydd awgrymu eich bod yn dymuno'i weld. Un ffordd y gallent wneud hynny, wrth gwrs, fyddai ariannu'r gwaith o adfer tomenni glo yng Nghymru. Gadewch inni gofio y bydd hynny'n £500 miliwn i £600 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf, ac os nad yw Llywodraeth y DU yn ei ariannu, gan gofio na fwriadwyd cyllid Barnett at y diben hwn erioed, mae hwnnw'n gyllid y bydd yn rhaid inni ei ddargyfeirio oddi wrth bethau eraill, megis adeiladu tai cymdeithasol, buddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai, mewn cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar 27 Hydref, gallant fynd i’r afael â thanariannu hanesyddol y rheilffyrdd yr ydym newydd ei drafod mewn ymateb i gwestiwn Jayne Bryant, a gallant fynd i’r afael â diffyg arian yr UE, sy'n rhywbeth yr ydym wedi'i drafod mewn cwestiwn arall y prynhawn yma, ac yn fwy cyffredinol, darparu'r sicrwydd na fyddwn yn wynebu cyfnod arall o gyni. Felly, credaf fod Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio gyda phawb sy'n rhannu ein huchelgais ar gyfer Cymru fwy teg, mwy gwyrdd a mwy cyfartal, ond credaf fod gan y Ceidwadwyr gyfle i ddylanwadu ar eu Llywodraeth eu hunain ar y pwynt pwysig hwn.

Wel, ni allaf ddiolch i chi am hynny, Weinidog; credaf eich bod wedi osgoi ateb y cwestiwn. Mae'n gwestiwn dilys gan blaid sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r gyllideb sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol y byddwn yn eu gweld yn y lle hwn, ac o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl ledled Cymru, mae angen i hon fod yn gyllideb sy'n canolbwyntio nid yn unig ar adfer, ond ar ddyhead hefyd.

Ond mae'r cytundeb y mae eich plaid yn bwriadu ei wneud â Phlaid Cymru yn mentro mynd â mwy o arian o bocedi ein pobl. Roedd maniffesto Plaid Cymru'n cynnwys nifer o drethi llechwraidd posibl, megis treth bwyd sothach, treth ar yrwyr, treth dwristiaeth, sydd wedi ei chrybwyll ac a fyddai’n arwain at ganlyniadau enbyd i’r sector lletygarwch yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o dreth ffordd a threth dwristiaeth—ergyd ddwbl i deuluoedd ledled y wlad. Yn y pen draw, mae angen cynllun uchelgeisiol arnom sy'n edrych tua'r dyfodol ac sy'n dod â phennod dywyll COVID yr ydym wedi byw drwyddi i ben. Felly, Weinidog, a allwch gadarnhau nad yw'n fwriad gennych gyflwyno unrhyw drethi newydd yn eich cyllideb sydd ar y ffordd, ac wnewch chi ddweud a yw eich cytundeb â Phlaid Cymru'n cynnwys cytundeb penodol ar ddiwygio'r dreth gyngor? Yn syml, beth fydd eich cytundeb cydweithredu yn ei olygu i deuluoedd gweithgar Cymru? Diolch.

Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cyllideb ddrafft a chyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, a bydd digon o gyfle i'r cyd-Aelodau graffu ar y gyllideb ddrafft wedi hynny.

13:45

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Onid yw'n braf clywed y nadu ar feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn â pholisïau treth Plaid Cymru pan na allant hyd yn oed gadw eu haddewidion mewn perthynas â threthiant ar lefel y DU? Ac mae'n enghraifft amlwg iawn, yn fy marn i, o amherthnasedd cenfigennus yr Aelodau yr honnir eu bod yn wrthblaid swyddogol—a gwrthblaid swyddogol na all hyd yn oed sicrhau bod ei Haelodau'n pleidleisio pan ddaw'n amser iddynt wneud hynny.

Nawr te, Weinidog, i ni gael trafod rhai o'r materion sydd wir yn mynd â bryd pobl Cymru—mae yna heriau eithriadol, wrth gwrs, yn wynebu nifer o fusnesau ar hyn o bryd yng Nghymru, sy'n gorfod dygymod â chynnydd sylweddol ym mhris ynni. Mae hynny'n effeithio yn arbennig ar fusnesau sydd yn ddefnyddwyr ynni dwys. Dŷn ni'n ymwybodol o drafodaethau sy'n digwydd rhwng adrannau ar lefel Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gallwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau sy'n digwydd oddi fewn i Lywodraeth Cymru, gyda chi fel Gweinidog cyllid, i edrych ar y posibilrwydd o gynnig cymorth ychwanegol i'r busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan hyn?

Wel, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i'w hannog i weithredu ym mhob ffordd sy'n bosibl i ddiogelu pobl a busnesau ar y pwynt hwn. A gwn iddi gael sesiwn friffio gydag Ofgem ar 21 Medi, lle bu'n ceisio sicrwydd ar ran defnyddwyr. O ran busnesau, yn amlwg, rydym yn pryderu am effaith y cynnydd mewn costau ynni, yn ogystal â'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus hefyd. Yn y pen draw, mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar hyn, gan mai dyma'r math o faes lle mae angen y grym sydd gan Lywodraeth y DU, yn wahanol i ni. Y tu hwnt i hynny, rwy'n cael trafodaethau pellach ynghylch cymorth i fusnesau am weddill y flwyddyn ariannol, drwy'r cyllid ychwanegol sydd gennym mewn perthynas â COVID, sydd eto i'w ddyrannu, er nad wyf yn awgrymu bod hwnnw ynghlwm wrth ynni o reidrwydd, ond hoffwn roi sicrwydd fod cymorth ychwanegol i fusnesau'n cael ei drafod ar hyn o bryd.

Wel, diolch am hynny. Dŷch chi wedi gwneud y pwynt i fi, dwi'n meddwl, drwy ddweud bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bwerau sydd ddim gennym ni yn y fan hyn i ymateb i hyn. Ac wrth gwrs, unwaith eto, mae amgylchiadau eithriadol fel rŷn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn dangos cyn lleied o bwerau a dylanwad macroeconomaidd sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru i fedru ymateb i wahanol argyfyngau. Mi welsom ni hefyd elfennau o hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r pandemig; mi wnaeth yr Institute for Fiscal Studies ddadlau bod llywodraethau datganoledig wedi cael eu dal yn ôl yn eu hymateb cyllidol i'r pandemig—gan gronfeydd wrth gefn annigonol, gan bwerau benthyg cyfyngedig, ac yn y blaen. Nawr, roedd eich dadl chi fel Llywodraeth yr wythnos diwethaf hefyd, wrth gwrs, yn mynd â ni i'r un cyfeiriad, o safbwynt methiant a diffygion y setliad presennol yn y cyd-destun cyllidol yna. Felly, yng ngoleuni hyn oll, ydych chi'n cydnabod bod y setliad presennol yn annigonol, bod angen ail-negodi'r fframwaith gyllido, a gwneud hynny er mwyn cryfhau'r pwerau cyllidol sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru, er mwyn ein hymbweru ni i ymateb yn well i sefyllfaoedd fel y maen nhw'n codi?

Ydw, rwy'n cytuno bod angen ailedrych ar y fframwaith cyllidol a'r datganiad o bolisi ariannu sy'n cyd-fynd ag ef, ac yn arbennig felly mewn perthynas â hyblygrwydd cyllidol. Mae gennyf gyfle yfory, yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidogion cyllid, i godi'r union bwynt hwnnw, ochr yn ochr â Gweinidogion o Ogledd Iwerddon a’r Alban, sy’n rhannu ein pryder y dylem allu cario cyllid ymlaen am gyfnod o 12 mis, er enghraifft, pan gawn gyllid canlyniadol ychwanegol hwyr wedi ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn. Dylai fod gennym allu i ddefnyddio mwy o arian o gronfa wrth gefn Cymru, a dylai fod gennym allu i gael mwy o bwerau benthyca. A dyna rai enghreifftiau o'r hyblygrwydd ychwanegol a fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer rheoli'r gyllideb yn dda, yn anad dim. Felly, bydd y trafodaethau hynny'n parhau gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys yfory. Pan wnaethom drafod y mater o'r blaen gyda'r Prif Ysgrifennydd blaenorol, cytunwyd y byddai hon yn drafodaeth barhaus. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn wneud rhywfaint o gynnydd.

Diolch yn fawr iawn. Ac wrth gwrs, yn y cyfamser, mae'n bwysig bod y Llywodraeth yma'n troi pob carreg bosib er mwyn creu'r adferiad dŷn ni eisiau ei weld. Ac mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, yn cynnig pecyn o fesurau posib a fyddai'n cyfrannu at hynny, drwy ddefnyddio caffael. Maen nhw hefyd yn sôn am annog mwy o start-ups a chynyddu'r lwfans cyflogaeth, ac ati. Ond mae caffael, wrth gwrs, yn benodol, yn un arf sydd yn eich meddiant chi fel Llywodraeth yma yng Nghymru, ac yn rhywbeth a all gael yr effaith drawsnewidiol dwi'n siŵr dŷn ni i gyd eisiau ei gweld ar yr economi. Nawr, rŷn ni i gyd wedi dadlau bod angen cynyddu faint o arian caffael cyhoeddus Cymreig sy'n aros yng Nghymru o'r o gwmpas 52 y cant presennol. Rŷn ni fel plaid wedi dweud y bydden ni eisiau anelu at o leiaf 70 y cant o hwnnw, ac wrth gwrs mae pob 1 y cant yn ychwanegol yn cynrychioli 2,000 o swyddi. Felly, mi fyddai cynnydd o 20 y cant yn cynrychioli 40,000 o swyddi o fewn yr economi yng Nghymru, a beth sy'n wych am hynny yw byddai hynny'n cael ei wireddu heb wario mwy o bres. Mae'r pres yna'n cael ei wario yn barod, ond bydden ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd llawer mwy clyfar. Felly, beth ŷch chi'n mynd i'w wneud i wireddu'r potensial hwnnw, ac a wnewch chi nawr ymrwymo i darged, fel mae Plaid Cymru yn anelu ato fe, er mwyn uchafu gwerth y bunt Gymreig, a fyddai, wrth gwrs, yn cael dylanwad mor bositif ar yr economi ac ar fywydau pobl yng Nghymru?

13:50

Byddwn yn cymeradwyo dangosfwrdd GwerthwchiGymru i'r Aelod ac i'r holl gyd-Aelodau fel cyfle i gael cipolwg pwysig iawn ar y sefyllfa gaffael yma yng Nghymru. Felly, rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, dyfarnwyd 1,078 o gontractau i gyflenwyr, ac o'r rheini, dyfarnwyd 706 i gyflenwyr Cymreig. Felly yn amlwg, rydym am barhau i wella'r ffigurau hynny, ac mae gwahanol ffyrdd o wneud hynny. Un o'r pethau y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddynt, ac rydym wedi cychwyn gweithio arno, yw deall yn well y bylchau sydd gennym yn y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, ble y gallwn eu llenwi pan nad oes unrhyw reswm rhesymegol pam ein bod yn prynu o fannau eraill, a chreu'r swyddi hynny yma yng Nghymru.

Mae caffael yn ymwneud â hyd yn oed mwy na hynny mewn gwirionedd. Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar werth cymdeithasol a gwerth amgylcheddol caffael. Felly, gwnaethom gyhoeddi ein themâu, canlyniadau a mesurau gwerth cymdeithasol newydd yn ddiweddar, sy'n ymyrraeth bwysig yn y maes hwnnw, ac rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad caffael newydd i Gymru, sy'n nodi'r math o werth ychwanegol rydym am ei weld yn ein caffael cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac rydym hefyd yn edrych ar ein grantiau, oherwydd wrth gwrs, mae grantiau'n gorbwyso caffael cyhoeddus mewn sawl ffordd o ran y cyllid a ddyrennir drwyddynt, felly rydym yn edrych eto ar ba werth cymdeithasol y gallwn ei gael o'n grantiau yma yng Nghymru. Ond mae'n amlwg yn faes lle mae gan y ddau ohonom ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod busnesau yma yng Nghymru yn ennill mwy o'r contractau hyn.

Hoffwn ddatgan buddiant ar y dechrau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hyd at mis Mai flwyddyn nesaf.

Y Setliad Llywodraeth Leol

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd y setliad llywodraeth leol eleni? OQ57010

Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gwnaethom ddarparu cynnydd o 3.8 y cant i gyllideb graidd llywodraeth leol, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol a ddarparwyd gennym yn 2020-21. Yn ogystal, rydym wedi darparu dros £325 miliwn drwy'r gronfa galedi i lywodraeth leol er mwyn helpu llywodraeth leol i ymateb i'r pandemig.

Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni hefyd, darparodd Llywodraeth Cymru £40 miliwn yn ychwanegol mewn adnoddau i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol yn benodol yn 2021-22 drwy'r gronfa adfer gofal cymdeithasol. Drwy hyn, mae cyngor RhCT wedi penderfynu talu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion a chynorthwywyr personol dan gontract o fis Rhagfyr ymlaen, sydd i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal fel rhan o’ch rhaglen lywodraethu, a fydd cynghorau yn y dyfodol yn derbyn y cyllid ychwanegol i gyflawni hyn yn flynyddol fel rhan o’u setliad blynyddol?

Diolch am gydnabod y gwaith pwysig y mae RhCT wedi bod yn ei wneud yn buddsoddi yn eu staff er mwyn eu cadw a'u gwerthfawrogi. Credaf fod hynny wedi bod yn bwysig iawn, ac yn ymyrraeth ragorol ar eu rhan. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall yn well beth fydd goblygiadau llawn ein cynnydd tuag at sicrhau bod holl staff y sector gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, a thrwy wneud hynny, i ddeall yn well y ffyrdd y gallwn sicrhau mai'r staff sy'n elwa o'r codiad cyflog a ddarperir.

Gwn fod y £42 miliwn y cyfeirioch chi ato ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol wedi'i groesawu gan lywodraeth leol, ond cefais drafodaethau da gyda hwy yn ddiweddar, ac maent wedi dweud yn glir iawn wrthyf y bydd yn dal i fod angen cyllid ychwanegol eleni. Felly, rwyf wedi bod yn gweithio gyda llywodraeth leol a chyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi ffigur ar gyfer hynny er mwyn sicrhau y gallwn ymateb i hynny cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud hynny drwy'r gronfa COVID, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu finnau'n dweud mwy am hynny cyn bo hir.

Diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw ynghylch setliadau llywodraeth leol. Weinidog, ymddengys bod gwahaniaeth sylweddol ar adegau rhwng yr hyn y mae arweinwyr cynghorau ac aelodau a etholir yn lleol yn ei ddweud yw'r cyllid sydd ei angen drwy'r fformiwla ariannu i ddarparu llawer o'r gwasanaethau pwysig a'r hyn rydych chi, yn ôl pob golwg, yn barod i'w gefnogi ar brydiau. Un enghraifft o un o'r meysydd y gwn y bydd wedi cael eu dwyn i'ch sylw yw gallu awdurdodau gwledig i ddarparu gwasanaethau ar draws ardaloedd daearyddol enfawr, weithiau, a sut y mae'r fformiwla ariannu gyfredol yn llwyddo i adlewyrchu hyn. Wrth gwrs, nid yw hyn yn newydd. Ymddengys ei bod yn frwydr reolaidd y mae awdurdodau lleol yn ei chael gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r fformiwla ariannu, oherwydd wrth gwrs, mae oddeutu 70 y cant o allu cyngor i wario ar wasanaethau a'u darparu. Felly, fy nghwestiwn yw: wrth weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pa ystyriaeth y byddech yn ei rhoi i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu ar gyfer cynghorau lleol?

13:55

Diolch am ofyn y cwestiwn, ac rwyf innau hefyd yn cael trafodaethau gyda llywodraeth leol am yr arian sydd ei angen. Ond mae'n rhaid imi ddweud, nid yw'n ymwneud â beth rwy'n barod i'w gefnogi; mae'n ymwneud â beth y gallaf ei gefnogi o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Cymru a ddarperir i ni gan Lywodraeth y DU. Felly yn amlwg, byddwn yn awyddus i wneud mwy dros lywodraeth leol, ond fe wnaethom lwyddo y llynedd i ariannu'r pwysau ar eu gweithlu a nodwyd ganddynt yn llawn, ac roedd hwnnw'n bwysau sylweddol, felly roeddwn yn falch ein bod wedi gallu gwneud hynny. A'r ddau setliad diwethaf ar gyfer llywodraeth leol yw'r rhai gorau a gynigiwyd ers dros 12 mlynedd.

Yn ein trafodaethau ar y gyllideb cyn yr haf, cytunwyd fel Cabinet y byddai iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, a hefyd y byddem yn ceisio rhoi’r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Felly, rwy'n cael cyfarfod gyda'r is-grŵp cyllid, sy'n cynnwys arweinwyr llywodraeth leol ac eraill—eu llefarwyr cyllid, dylwn ddweud—yr wythnos nesaf, lle byddaf yn clywed yn uniongyrchol ganddynt beth yw'r pwysau arnynt ar gyfer y flwyddyn nesaf.

O ran adolygiad o'r fformiwla ariannu, rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth lywodraeth leol, os ydynt am i'r fformiwla ariannu honno gael ei hadolygu a dod ataf gyda chais i wneud hynny, rwy'n fwy na pharod i gychwyn yr adolygiad hwnnw a chael trafodaethau pellach yn ei gylch gyda hwy. Nid yw'r cais hwnnw wedi'i gyflwyno eto, ond os daw, rwy'n sicr yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny.

Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro? OQ56992

Rwy'n ddiolchgar am waith parhaus llywodraeth leol, gan gynnwys sir Benfro, ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi'r adferiad wedi COVID a diogelu pobl agored i niwed yn ein cymunedau. Mae llywodraeth leol yn parhau i wneud gwaith rhagorol mewn cyfnod heriol.

Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn ystyried dyfodol ei ganolfannau gwastraff ac ailgylchu, ac mae'r opsiynau'n cynnwys lleihau nifer y safleoedd a weithredir gan y cyngor a lleihau oriau agor pob safle. Nawr, ni allaf bwysleisio pwysigrwydd casglu gwastraff ac ailgylchu i'n hamgylchedd, ac yn wir, i'n hiechyd, a phe bai'n rhaid i breswylwyr deithio ymhellach am y gwasanaethau hanfodol hyn, gallai ddadwneud peth o'r cynnydd da a wnaed gan Gyngor Sir Penfro dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, a allwch ddweud wrthym, Weinidog, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Gyngor Sir Penfro i sicrhau y gallant gadw eu safleoedd ar agor fel bod gan bobl yn sir Benfro fynediad at ganolfannau gwastraff ac ailgylchu?

Wel, mae'n dda fod Paul Davies yn cydnabod y cynnydd da a wnaed gennym yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yn ailgylchu gwastraff cartrefi. Rydym yn sicr ymhlith y gorau yng Nghymru, ac rydym am gynnal—.

Ni allaf glywed ymateb y Gweinidog. Rwy'n siŵr fod Paul Davies yn dymuno clywed yr ymateb.

Felly, roeddwn yn cyfeirio at ein cynnydd da yng Nghymru yn ailgylchu gwastraff cartrefi, sy'n golygu mai ni yw un o'r gorau yn y byd, ac yn amlwg, rydym am gynnal hynny a pharhau i wella ein perfformiad yn hynny o beth.

Fel y dywedwch, mae sir Benfro yn ymgynghori ar hyn ar hyn o bryd. Mater i Gyngor Sir Penfro yw hwn. Fodd bynnag, byddaf yn rhoi gwybod am eich pryderon i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am wastraff.

Canlyniadau Economaidd yng Ngorllewin De Cymru

5. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i wella canlyniadau economaidd yng Ngorllewin De Cymru wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi? OQ57002

Mae cadernid economaidd yn parhau i fod yn un o nodau craidd y Llywodraeth hon, a dyna pam ein bod wedi buddsoddi dros £600 miliwn mewn cyllid grant i gefnogi busnesau eleni, ac mae dros £250 miliwn wedi'i ddarparu i fusnesau yn ne-orllewin Cymru ers mis Ebrill 2020.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb, a dechrau drwy ddatgan fy niddordeb fel cynghorydd sy'n eistedd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgelu bod cyflogau wythnosol cyfartalog yn sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng o £525.90 yn 2019, ffigur a oedd yn agos at gyfartaledd Cymru gyfan, i ddim ond £464.10 yn 2020, sef yr isaf ond un bellach o 22 awdurdod lleol Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Weinidog, fod llithro o ganol y tabl i'r isaf ond un mewn cyfnod o flwyddyn yn destun pryder i lawer am berfformiad y cyngor a Llywodraeth Cymru yn gwella canlyniadau economaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Pe bai'r perfformiad hwnnw i'w weld gan reolwr pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair, byddent wedi cael eu diswyddo bellach. O ystyried hyn, pa ddisgwyliadau sydd gan y Llywodraeth i awdurdodau lleol wella eu heconomïau lleol yn eu hardaloedd, a pha ymyrraeth benodol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i atal pethau rhag dirywio ymhellach?

14:00

Mae gennyf ddisgwyliadau y bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau nad ydynt yn llesteirio cyflogau yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, fel y gwelsom yn fwyaf diweddar gan Lywodraeth y DU, felly mae'n anodd iawn i mi ymateb i'r cwestiwn hwn. Fe geisiaf helpu a chyfeirio at rôl y cyd-bwyllgorau corfforaethol a'r hyn y gallant ei wneud drwy gydweithio i wella'r sefyllfa economaidd yn eu hardaloedd lleol, ond rwy'n ei chael yn anodd iawn ymateb i gwestiynau gan y Ceidwadwyr am gyflogau pobl er mai Llywodraeth y DU sy'n dal cyflogau yn ôl ac sydd hefyd yn mynd â £20 o bocedi rhai o'n gweithwyr tlotaf o ganlyniad i'w newidiadau i'r credyd cynhwysol.

Weinidog, os ydym am wella sefyllfa economaidd pobl Gorllewin De Cymru, mae angen inni daclo'r lefelau uchel ac annheg o drethi cyngor mewn awdurdodau lleol a mynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ôl-ddyledion trethi cyngor. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyson yn pennu un o'r lefelau uchaf o'r dreth gyngor yng Nghymru. Dyw preswylwyr ddim yn gallu deall pam mae e'n costio cymaint yn fwy i fyw yng nghyngor Castell-nedd Port Talbot a sut maen nhw'n darparu gwasanaethau sydd llawer mwy drud o'u cymharu â siroedd cyfagos. Holais i'r Prif Weinidog nôl yng Ngorffennaf a oedd y Llywodraeth wedi ystyried cynnal ymchwiliad yn benodol i awdurdodau sy'n trethu yn uwch, fel Castell-nedd Port Talbot, gyda'r nod o sicrhau lefelau treth mwy cyson yng Nghymru, ond yn anffodus ches i ddim ateb uniongyrchol i'r cwestiwn hwnnw. A all y Gweinidog felly ddarparu ateb i'r cwestiwn hwn heddiw? Ac ar ben hyn, wrth gwrs, mae'r ôl-ddyledion trethi cyngor wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y pandemig, gyda 55,000 o gartrefi bellach mewn ôl-ddyledion gyda'u trethi cyngor rhwng Ionawr a Mai. Felly, hoffwn hefyd holi a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i gyhoeddi cynlluniau newydd i daclo problem gynyddol ôl-ddyledion trethi cyngor, gan fod hyn yn effeithio ar deuluoedd incwm isel yn fy rhanbarth. Diolch.

Diolch am ofyn y cwestiwn. Yn y pen draw, wrth gwrs, mater i awdurdodau lleol eu hunain yw pennu'r dreth gyngor—neu i'r cynghorau, dylwn ddweud. Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi pobl gyda'r dreth gyngor a thalu'r dreth gyngor, ac rydym yn cefnogi dros 200,000 o aelwydydd gyda'u treth gyngor. Yn aml, nid yw aelwydydd yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt, felly byddwn yn awgrymu yn y lle cyntaf y gallent gysylltu â'r cyngor neu edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael iddynt. Rwy'n gwybod bod anallu i gasglu'r holl dreth gyngor drwy gyfnod COVID wedi bod yn broblem benodol i awdurdodau lleol, felly y llynedd, gallais roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol i gydnabod eu bod wedi ei chael yn anos casglu'r dreth gyngor, a chredaf fod honno'n ymyrraeth ddefnyddiol.

O ran ôl-ddyledion, rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol yn awr i ddod o hyd i ffordd o gasglu ôl-ddyledion mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Felly, gofynnwn i awdurdodau lleol archwilio gydag unigolion beth yw achos yr ôl-ddyledion yn y lle cyntaf—efallai nad ydynt yn hawlio'r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo, er enghraifft—ac i ddod o hyd i ffordd sensitif o fynd ati i hawlio'r ôl-ddyledion hynny. Ond wyddoch chi, mae'n broblem wirioneddol yn ystod COVID, ac rydym wedi gweithio'n galed i gefnogi awdurdodau lleol, gan gydnabod nad ydynt wedi gallu hawlio cymaint o dreth, a rhoi dull o weithredu sy'n canolbwyntio llawer mwy ar yr unigolyn ar waith wrth fynd ati i gasglu ôl-ddyledion.

Ardrethi Busnes

6. A wnaiff y Gweinidog nodi polisi ardrethi busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor seneddol hwn? OQ56991

Rydym yn datblygu rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau treth lleol sy'n cefnogi economi gryfach, cymunedau sefydlog a gwasanaethau cyhoeddus bywiog. O fewn hyn, rydym yn ystyried sut i wella ein system ardrethi annomestig tra'n cynnal refeniw hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol sy'n sicrhau manteision sylweddol i bawb.

14:05

Diolch. Weinidog, mae arweinydd eich plaid, Keir Starmer, wedi dweud bod y Blaid Lafur o blaid diddymu ardrethi busnes ac y dylid cael rhywbeth arall yn eu lle. Gŵyr pawb ohonom fod llawer o fusnesau yng Nghymru wedi ei chael hi'n anodd, a chyda ein trefi angen hwb economaidd, mae'n bryd mynd i'r afael â'n dull o roi cymorth busnes. A oedd Keir Starmer yn siarad ar eich rhan chi hefyd, ac os nad oedd, beth yw barn Llywodraeth Lafur Cymru am ddyfodol ardrethi busnes?

Wel, mae'n gyffrous iawn gweld cymaint o ddiddordeb sydd gan feinciau'r Ceidwadwyr yn ymagwedd Llywodraeth y DU at ardrethi annomestig. Fi sy'n penderfynu ar ardrethi annomestig yma yng Nghymru, a gwnawn hynny ar sail y sefyllfa yma yng Nghymru, sydd ychydig yn wahanol o ran ein heconomi, ac rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i wneud hynny yma yng Nghymru.

Yr hyn a ddywedaf yw ein bod yn edrych ar raglen ddiwygio uchelgeisiol ar gyfer trethiant lleol, gan ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio dweud mwy, yr ochr hon i'r Nadolig yn ddelfrydol, ar drethiant lleol ar gyfer y dreth gyngor yn arbennig, ond rydym yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud i wella ardrethi annomestig. Unwaith eto, ar 27 Hydref, mae cyfle mawr i Lywodraeth y DU nodi ei chynlluniau ar gyfer ardrethi annomestig yn Lloegr ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf drwy'r adolygiad o wariant, ac wrth gwrs mae'n cael effaith fawr ar yr hyn y gallwn ei wneud yma.

Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun sydd gennym yng Nghymru, lle mae busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael blwyddyn lawn o ryddhad ardrethi, sy'n llawer mwy hael na'r hyn sydd ar gael dros y ffin, ond mae gwneud hynny'n costio £380 miliwn, felly nid ymyriadau bach yw'r rhain, ac maent yn gwneud—. Os bydd Llywodraeth y DU yn llwyddo i sefydlu cynllun sy'n gallu cefnogi busnesau yn y ffordd sylweddol honno, yn amlwg, byddem yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg yma yng Nghymru. Ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnal yr adolygiad sylfaenol o ardrethi busnes yn Lloegr ac rydym yn edrych yn fanwl iawn ar hynny i ddeall beth y mae'n ei olygu i ni yma yng Nghymru. Er enghraifft, a fyddant yn gweithredu ar drethu gwerthiannau digidol ac yn y blaen? Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd, ond edrychwn ymlaen at glywed beth sydd gan yr adolygiad hwnnw i'w ddweud.

Prynhawn da, Weinidog. A gaf fi ofyn ichi eto ynglŷn ag ardrethi busnes? Oherwydd, fel llawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon, gofynnir i ni am ardrethi busnes gan fusnesau teuluol bach, sydd o dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â'r busnesau hynny, yn enwedig busnesau teuluol bach, pa ddiwygiadau sy'n digwydd ac yn wir y rheolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru, neu'r diffyg rheolaeth, mewn perthynas â'u sefyllfa benodol. Ac a gaf fi ofyn hefyd pa ryddhad ar gyfer buddsoddiadau yr ydych yn edrych arno er mwyn cefnogi'r busnesau bach a chanolig hynny i fuddsoddi er mwyn hybu cynhyrchiant ac ymdrechion datgarboneiddio? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am godi'r mater hwn y prynhawn yma. Rydym yn cyfathrebu'n uniongyrchol â busnesau mewn nifer o ffyrdd. Un ffordd yw drwy Busnes Cymru, sydd â chronfa ddata ragorol o fusnesau yma yng Nghymru, felly gallwn gael gwybodaeth iddynt yn gyflym iawn ac roedd hynny'n hynod o ddefnyddiol i ni yn ystod y pandemig. Ac wrth gwrs, bydd pob busnes sy'n talu ardrethi annomestig ar gofrestr leol eu cynghorau, a ddylai, unwaith eto, fod yn ffordd ddefnyddiol o rannu gwybodaeth. Ac unwaith eto, roedd hynny'n ddefnyddiol iawn i ni yn ystod y pandemig i allu cael grantiau i fusnesau yn hynod o gyflym.

Ar ddyfodol ardrethi busnes, credaf fod llawer yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad sylfaenol a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i ni yma yng Nghymru. Mae ardrethi busnes yma yn darparu tua £1 biliwn o'n cyllideb yng Nghymru, felly mae hwn yn swm sylweddol o arian, ac mae angen inni feddwl, mewn unrhyw fath o adolygiad o ardrethi busnes, beth fyddai'r goblygiadau i wariant cyhoeddus. Cefais gyfarfod rhagorol ddoe gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru ac roeddent yn gallu siarad yn eithaf angerddol am y ffyrdd posibl y gallai ardrethi busnes newid, o bosibl i gydnabod buddsoddiad pellach mewn datgarboneiddio, er enghraifft. Roeddent yn gallu rhannu llawer o syniadau gyda ni, ac roeddent i gyd yn ddiddorol iawn. Nid oes gennyf gynllun ar gyfer unrhyw newidiadau heddiw, ond rwy'n awyddus i glywed syniadau am yr hyn a allai wella'r sefyllfa yn y dyfodol.

14:10
Darparu Gwasanaethau

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i wella'r modd y darperir gwasanaethau? OQ57015

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru drwy amrywiaeth o fecanweithiau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol ar draws pob portffolio. Mae Gweinidogion yn gweithio gydag arweinwyr, ac mae ein swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd, i sicrhau eu bod yn datblygu polisïau gwell a chanlyniadau gwell wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru.

Diolch yn fawr, Weinidog. Credaf ei bod yn deg dweud bod yna farn gyffredinol fod Llywodraeth Cymru, yn ystod y pandemig, wedi gweithio'n dda iawn gydag awdurdodau lleol ac arweinwyr awdurdodau lleol, gyda'r dechnoleg newydd, weithiau, yn helpu hynny i sicrhau bod cyfarfodydd wythnosol a chyfarfodydd rheolaidd iawn yn llawer haws i'w gwneud, a bod awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda'r sector gwirfoddol yn gallu gwneud hynny'n gyflymach a chyda llai o fiwrocratiaeth.

Tybed, Weinidog, i ba raddau y mae'r profiad hwnnw o weithio yn ystod y pandemig wedi cael ei werthuso, ac yn cael ei werthuso, fel y gellid cadw rhai o'r ffyrdd gwell hynny o weithio, ffyrdd mwy effeithiol o weithio, lle bo'n briodol. Rwy'n tybio mai ar gyfer sefyllfa o argyfwng fwy neu lai yn unig, fel y gwelsom, y gallai rhai ohonynt fod wedi bod yn addas. Ond mae'n debyg y gellid cadw rhai ohonynt er budd pobl Cymru.

Hefyd, i ba raddau y mae trawsnewid digidol, sydd eto wedi bod yn bwysig iawn yn ystod y pandemig wrth ddarparu gwasanaethau a ffyrdd newydd o weithio—? I ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y posibiliadau digidol hynny'n cael eu defnyddio a'u defnyddio'n llawn, unwaith eto er budd ein cymunedau yma yng Nghymru?

Mae John Griffiths yn iawn i ddweud bod y cysylltiadau'n rhagorol drwy'r pandemig, ac fe wnaeth y ffyrdd newydd o weithio alluogi hynny mewn gwirionedd. Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar y cysylltiadau a'r technolegau newydd sydd wedi galluogi'r cysylltiadau hynny i fod yn gryf iawn drwy gydol y pandemig.

Felly, fe gadeiriais—yr wythnos diwethaf, rwy'n credu—gyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru a phob un o'r 22 arweinydd awdurdod lleol yng Nghymru, a dyna'r tro cyntaf inni ddod at ein gilydd mewn fforwm o'r fath, a gwnaethom hynny'n ddigidol. Roedd yn gyfarfod rhagorol, lle gwnaethom ganolbwyntio'n fanwl ar ddwy o'r problemau mawr a'r heriau mawr sy'n ein hwynebu—yr heriau ym maes gofal cymdeithasol a heriau newid hinsawdd—gan archwilio sut y gallwn gydweithio i fynd i'r afael â'r ddwy her fawr. Felly, roedd hwnnw'n gyfarfod gwirioneddol ddefnyddiol, addysgiadol a chyffrous ar y ffyrdd newydd o weithio a chanlyniadau hynny.

Cyhoeddwyd y strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru ym mis Mawrth eleni. Felly, fe'i cyhoeddwyd i raddau helaeth yng nghyd-destun COVID, ac mae'n nodi gweledigaeth ac uchelgais cryf iawn ar gyfer dull digidol cydgysylltiedig o weithredu yma yng Nghymru. Felly, rydym yn awr yn gweithio ar gyflawni'r strategaeth honno, ac fel rhan o hynny, rydym yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud drwy Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, a sefydlwyd y llynedd i gefnogi sector cyhoeddus Cymru yn ei gyfanrwydd i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n allweddol, mewn gwirionedd, i lwyddiant y strategaeth. Un enghraifft o ble y mae'n dangos gwerth cydweithio a chynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr yw drwy weithio gyda thri awdurdod, hyd yma, ar brosiect trawsnewid digidol ar fynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a rhannu dysgu. Felly, cyfleoedd enfawr, rwy'n meddwl, gyda digidol, i ni wella gwasanaethau cyhoeddus a phrofiadau pobl.  

Weinidog, a gaf fi ofyn ichi am gefnogaeth i gynghorau cymuned, yn arbennig, gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n ymwybodol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fod gofyniad i gynghorau cymuned sefydlu systemau i ganiatáu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, o bell neu hybrid. Mae llawer o gynghorau cymuned, wrth gwrs, yn cyfarfod mewn canolfannau cymunedol neu neuaddau pentref, ac nid oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Felly, mae angen cymorth ar y cynghorau hynny, yn arbennig. Rwy'n ymwybodol fod gan Lywodraeth Cymru gronfa a oedd ar gael i bobl wneud cais amdani, ond mae'r gronfa honno bellach ar gau i geisiadau newydd. Felly, a gaf fi ofyn pa gefnogaeth bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynghorau cymuned lleol yn y cyd-destun hwn?

Wel, yn ddiweddar iawn, cymeradwyais gyllid ar gyfer rheolwr cyflawni digidol newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, a'r disgwyl yw y byddant yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i sefydlu. Wrth gwrs, fe wnaethom ymgynghori ar y gofyniad ynglŷn â gweithio hybrid yn y dyfodol, a dylai fod yn glir mai'r hyn sy'n ofynnol gan gynghorau tref a chymuned yw y dylai'r sawl sy'n mynychu o bell allu clywed a chael ei glywed. Felly, credaf y gellir gwneud hynny am gost isel, os oes angen. Ond rwy'n awyddus i weithio gyda chynghorau tref a chymuned, drwy'r rheolwr cyflawni digidol newydd, i ddeall yn well beth yw'r problemau penodol ac a oes ffyrdd y gallwn helpu i'w datrys.

14:15
Adfer Tomenni Glo

8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sicrhau setliad ariannol cynaliadwy gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o adfer 2,100 o domenni glo Cymru yn effeithiol? OQ57006

Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu i fynd i'r afael â'r gost etifeddol hirdymor i Gymru o atgyweirio, adfer ac ail-lunio safleoedd tomenni glo, a etifeddwyd gan y diwydiant glo cyn datganoli. Mae angen o leiaf £600 miliwn dros ddegawd a hanner, llawer mwy na'r disgwyl pan ddechreuodd datganoli a'n trefniadau ariannu presennol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae creithiau ffisegol y chwyldro diwydiannol yn etifeddiaeth yr ydym yn byw gyda hi heddiw, gyda bron i 40 y cant o'r holl domenni glo segur yn y DU yma yng Nghymru. Fel y dywedoch chi mor gywir, mae costau adfer ar raddfa sy'n uwch nag unrhyw beth y gellid bod wedi'i ragweld pan ddechreuodd datganoli, ond mae'n bwysig ein bod yn ymdrin â'r mater hwn yn awr. Felly, a wnewch chi bwyso ar Lywodraeth y DU yn yr adolygiad o wariant sydd i ddod i ymrwymo'r buddsoddiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog hon, mewn ardaloedd fel Cwm Cynon, i sicrhau diogelwch ein holl gymunedau?

Gallaf yn bendant roi'r ymrwymiad hwnnw i bwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater hwn. Cyn yr adolygiad o wariant, byddaf yn ysgrifennu at y Canghellor yn amlinellu ein blaenoriaethau i Gymru yn y llythyr hwnnw, a byddaf yn gofyn i Lywodraeth y DU weithio ar frys gyda ni i ddatblygu strategaeth ffurfiol a rhaglen ariannu ar gyfer atgyweirio, adfer ac ail-lunio safleoedd tomenni glo yn hirdymor, er mwyn rheoli effeithiau newid hinsawdd a lleddfu pryderon yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd yn hynny o beth.

Yn y cyfarfod rhagarweiniol a gefais gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys yn ddiweddar, manteisiais ar y cyfle i amlinellu ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer yr adolygiad o wariant, ac roeddwn yn glir iawn mai diogelwch tomenni glo yw ein pryder allweddol yr ydym am ei weld yn cael sylw yn yr adolygiad o wariant. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Prif Ysgrifennydd yfory lle byddaf unwaith eto'n pwyso mewn perthynas â'r union bwyntiau a nodwyd gennych y prynhawn yma.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.

Diogelu Bywyd Morol

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y flaenoriaeth a roddir i ddiogelu bywyd morol wrth benderfynu ar bolisi pysgodfeydd Llywodraeth Cymru? OQ57001

Member
Lesley Griffiths MS 14:18:02
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rydym yn gweithio ar draws y portffolios i ddatblygu'r cyd-ddatganiad pysgodfeydd i nodi polisïau ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy er mwyn cyflawni'r amcanion pysgodfeydd. Bydd hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar gyfer pysgodfeydd.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed, rwy'n siŵr, fy mod wedi cael fy mhenodi yn hyrwyddwr y morlo llwyd yn ddiweddar, a'r wythnos diwethaf, tra'n cymryd rhan mewn gweithgaredd glanhau traeth ar draeth y gogledd, Dinbych-y-pysgod, mwynheais gyfarfod â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i drafod rhai o'r heriau y mae'r creaduriaid hyn yn eu hwynebu yn sgil gweithredoedd pobl. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae llawer o forloi bach newydd-anedig yn mentro allan am y tro cyntaf i gefnfor gwyllt yr Iwerydd ar arfordir sir Benfro a sir Gaerfyrddin ond yn anffodus, un o'r prif fygythiadau i'r creaduriaid rhyfeddol hyn yw'r llygredd sy'n cael ei greu gan draffig morol. Gyda'r cyfrifoldeb dros ddiogelu ein bywyd gwyllt morol ar ysgwyddau eich cyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r cyfrifoldeb am bysgodfeydd o fewn eich portffolio eich hun, a allwch fanylu ar ba gamau yr ydych chi a'ch cyd-Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod dyfodol yr ymwelwyr hyn â'n harfordir yn cael ei ddiogelu am genedlaethau i ddod?

Da iawn chi ar gael eich penodi'n hyrwyddwr y morlo llwyd. Dylech gael cystadleuaeth gyda'ch cyd-Aelod, Darren Millar, i weld sawl gwaith y gallwch ddweud yn y Siambr pa rywogaeth yr ydych yn hyrwyddwr arni. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei bod wedi bod yn hyfryd iawn gweld cymaint o forloi bach o gwmpas ein harfordir dros yr haf. I fynd yn ôl at eich cwestiwn penodol am y sgyrsiau rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau ynglŷn â'n polisïau, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau, er enghraifft, fod ein holl nodweddion dynodedig yn ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu hasesu yn erbyn unrhyw niwed posibl o weithgareddau fel y rhai y cyfeirioch chi atynt.

14:20

Mae diogelu'r amgylchedd morol yn rhywbeth y bûm yn ei hyrwyddo ers blynyddoedd lawer, ac un mater penodol a godais yn y Siambr droeon yw ailgyflwyno treillio am gregyn bylchog mewn ardal fechan ym mae Ceredigion, ardal gadwraeth arbennig, a'r effaith ar fywyd morol yn yr ardal honno. Weinidog, mae nifer o flynyddoedd bellach ers ailgychwyn y gweithgaredd hwn, ac rwy'n awyddus i wybod pa asesiad a gynhaliwyd o effaith amgylcheddol treillio am gregyn bylchog ar y safle hwn ers ei ailgyflwyno yn 2016.

Diolch, a gallaf dawelu meddwl Joyce Watson fod treillio am gregyn bylchog yn cael ei reoleiddio'n llym yn nyfroedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys drwy gyfyngiadau gofodol hefyd. Rydym yn monitro'r gweithgaredd yn ofalus. Rydym yn rhoi camau gorfodi ar waith lle bynnag y bo angen, a gwneir hyn yn bennaf drwy dracio llongau gan ddefnyddio'r systemau monitro llongau sydd gennym ar ein llongau patrolio pysgodfeydd, sy'n cynnwys llong y Rhodri Morgan, er enghraifft, a hefyd drwy archwiliadau porthladd a harbwr gan ein swyddogion gorfodi morol. A phob blwyddyn cyn i'r bysgodfa cregyn bylchog ailagor, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad rheoleiddio cynhwysfawr o'r cynefinoedd, a dim ond gyda chytundeb pellach Cyfoeth Naturiol Cymru y gwneir hynny.

A gaf fi yn gyntaf oll, fel hyrwyddwr eogiaid y Senedd, ofyn i'r morloi chwarae'n ofalus? [Chwerthin.] Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig, fel y gŵyr y Gweinidog, yn y gwaith partneriaeth sy'n sail i bysgodfeydd a rheoli morol, yr ymelwa, yn gynaliadwy, ar ein hadnoddau naturiol, ochr yn ochr â'r dull rheoli ar lefel yr ecosystem, y dywedodd yn gywir y byddai'n sail i ystyriaeth Llywodraeth Cymru. Felly, tybed a yw'n rhoi amser i edrych ar waith effeithiol y grwpiau cenedlaethol a lleol—grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol, ond hefyd y grwpiau sy'n ei gynnal yn lleol—i sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw'n iawn gennym, fod pob llais yn cael ei glywed, a bod partneriaeth effeithiol yn bodoli. Mae cryn dipyn o flynyddoedd bellach ers iddynt gael eu rhoi ar waith, felly mae'n ymddangos ei bod yn amser priodol i ddweud, 'A ydynt yn gweithio'n effeithiol, a yw'r cydbwysedd yn iawn ganddynt ar gyfer natur a hefyd ar gyfer ymelwa cynaliadwy?'

Diolch. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, yn sicr gyda'r rhan hon o'r portffolio; byddwn yn dychmygu y byddai hynny bellach yn dod o fewn cylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r grwpiau, fel yr awgrymwch, oherwydd os ydym am gael statws amgylcheddol da, er enghraifft, i'n dyfroedd, rhywbeth yr ydym yn ceisio'i gyflawni ar hyn o bryd, mae gwir angen inni wrando ar beth y mae'r bobl hyn yn ei ddweud wrthym a pha waith sy'n cael ei wneud. Ond fe ofynnaf i'r Gweinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Cynnyrch Lleol ar gyfer Prydau Ysgol

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch cyrchu cynnyrch lleol ar gyfer prydau ysgol? OQ57003

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi economi sylfaenol, gyda bwyd yn rhan annatod ohono. Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau yn cael trafodaethau rheolaidd ar y cysylltiadau rhwng ein portffolios a chaffael cynnyrch lleol yn ehangach. Awdurdodau lleol ac ysgolion sy'n gyfrifol am brynu bwyd ar gyfer prydau ysgol a chaffael gan gyflenwyr y cytunwyd arnynt.

Diolch, Weinidog. Er mwyn lleihau allyriadau carbon, byddai caffael cynnyrch lleol ar gyfer prydau ysgol yn helpu tuag at dargedau Llywodraeth Cymru ac yn amlwg yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall, monitro, mesur, asesu faint o gynnyrch lleol sy'n cael ei ddefnyddio mewn prydau ysgol ac o ble y daw.

Diolch. Rydym yn amlwg yn cydnabod manteision clir iawn caffael cynnyrch lleol o safbwynt gwahanol ystyriaethau, ac mae hynny'n cynnwys milltiroedd bwyd, a fyddai, yn amlwg, yn rhan bwysig o'ch cwestiwn. Hefyd, os ydych yn defnyddio cynnyrch lleol, credaf fod hynny'n helpu plant a phobl ifanc i gysylltu'n dda â'u hamgylchedd lleol. Mae un neu ddau o awdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Gwn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Chyngor Sir Caerfyrddin, rwy'n credu, yn edrych ar y ffordd yr ydym yn caffael bwyd ar hyn o bryd, ac yn amlwg, byddai monitro'r allyriadau carbon yn rhan o'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen. Mae'n ddrwg gennyf, mae sir Fynwy, hefyd yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Ond unwaith eto, ni fyddai hyn yn rhan o fy mhortffolio i, ond fe wnaf yn siŵr fod y Gweinidog yn ymateb os oes unrhyw wybodaeth bellach.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Reit. Cwestiynau'r llefarwyr.

Mae'n ddrwg gennyf am yr oedi. Roeddwn ar y rhan anghywir yn fy sgript.

Cwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, pa gamau a gymerir gennych i ddatgloi'r moratoriwm ar fuddsoddi cyfalaf mewn ffyrdd yn y rhanbarth?

14:25

Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyflwyno adolygiad ffyrdd. Nid yw wedi adrodd eto, ond yn amlwg, pan fydd yn adrodd, gallwn weld pa gynlluniau fydd yn parhau a gallwn edrych ar y materion ariannu bryd hynny.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond ni fydd llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn ystyried ei fod yn ddigon da. Gwnaeth y Blaid Lafur addewidion cyn yr etholiad y byddai'n sicrhau gwelliannau sylweddol i'r rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd Cymru. Fe ddywedoch chi y byddech yn darparu pont dros y Fenai—trydedd bont y Fenai—ond mae wedi'i gohirio. Fe ddywedoch chi y byddech yn cael gwared ar gylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr ar yr A55, ac mae'r prosiectau hynny wedi'u gohirio. Ac fe ddywedoch chi hefyd y byddech yn cyflawni'r addewid i fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Glannau Dyfrdwy, ond mae hynny wedi'i ohirio. Felly, mae'r rhain yn brosiectau mawr yr addawoch chi eu cyflawni ar gyfer pobl gogledd Cymru, ac maent bellach wedi'u rhewi o ganlyniad i'r penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth hon. Byddai pobl yng ngogledd Cymru yn disgwyl y byddech chi, fel Gweinidog gogledd Cymru, yn galw am ddatgloi'r prosiectau hyn a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Ond onid y gwir, mae arnaf ofn, yw nad yw'r Llywodraeth Lafur hon yn malio am ogledd Cymru, ac mai dyna pam y mae prosiectau eraill yn mynd rhagddynt tra bo'r rhain wedi'u rhewi?

Wel, mae Darren Millar yn gwybod nad yw hynny'n wir o gwbl. Rwy'n Aelod o ogledd-ddwyrain Cymru ac ni fyddwn byth yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r ffaith bod gennym Weinidog gogledd Cymru a hynny ers nifer sylweddol o flynyddoedd, gydag is-bwyllgor Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, yn dangos hynny'n glir, felly peidiwch â chamarwain yn y ffordd honno. Rydych yn dweud eu bod wedi'u rhewi; nid ydynt wedi'u rhewi. Mae adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd. Fel y dywedwch, gwnaed ymrwymiadau maniffesto. Llywodraeth bum mlynedd yw hon, rydym bum mis i mewn iddi, felly nid wyf yn credu y gallwch ddweud na fydd y pethau hyn yn digwydd. Mae proses adolygu ar y gweill, a phan fydd y broses adolygu wedi adrodd ac y cawn weld beth sy'n digwydd, efallai y cewch ddechrau gweiddi wedyn.

Ond o gofio eu bod yn ymrwymiad maniffesto, a'ch bod newydd awgrymu y byddant yn cael eu cyflawni o fewn pum mlynedd tymor y Llywodraeth Lafur, pam ar y ddaear y byddech yn eu rhewi yn y lle cyntaf? Y gwir amdani yw y dylent fod yn mynd rhagddynt, oherwydd rydych wedi rhoi ymrwymiad clir. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch, eich bod yn malio am ogledd-ddwyrain Cymru: mae hwnnw'n lle rydych wedi'i gynrychioli'n fedrus ers blynyddoedd lawer. Ond mae arnaf ofn nad yw llais gogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet i'w weld yn cael llawer iawn o ddylanwad, oherwydd os edrychwch ar gyflawniad y Llywodraeth hon yng ngogledd Cymru, ein gwasanaeth iechyd, y perfformiad damweiniau ac achosion brys gwaethaf o bob un o'r byrddau iechyd yw'r un sy'n gwasanaethu rhanbarth gogledd Cymru. Gennym ni y mae'r amseroedd aros hwyaf yng Nghymru gyfan—ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan mewn gwirionedd. Gwyddom fod awdurdodau lleol, ar gyfartaledd, yng ngogledd Cymru yn cael setliadau gwaeth na rhannau eraill o'r wlad, a gwyddom fod prosiectau ffyrdd yng ngogledd Cymru wedi'u rhewi tra bod prosiectau'n dal i fynd rhagddynt yn ne Cymru ac mewn rhannau eraill o'r wlad. Onid yw'r dystiolaeth honno'n dangos yn glir mai Llywodraeth yw hon nad yw'n blaenoriaethu gogledd Cymru mewn gwirionedd, fod yr ardal honno bob amser yn ail ar ei rhestr o flaenoriaethau, a'i bod yn bryd i'r Llywodraeth hon godi'r gwastad ar draws Cymru gyfan er mwyn inni gael rhywfaint o degwch i'n rhanbarth ni yn y gogledd?

Wel, gallai fod ateb byr, a'r ateb byr yw 'na', ond rwyf am fod yn garedig a cheisio ymateb mewn ffordd llawer mwy cadarnhaol gyda chi. Rydych chi'n dewis a dethol. Fe gyfeirioch chi at awdurdodau lleol, er enghraifft. Fe wyddoch sut y caiff awdurdodau lleol eu hariannu—fe wyddoch hynny. Fformiwla yw hi. Rydym newydd glywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn esbonio i'r Aelodau nad oeddent, efallai, yn ymwybodol o'r ffordd y caiff awdurdodau lleol eu hariannu. Fformiwla yw hi. Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud—

Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a hyd nes y bydd awdurdodau lleol yn gofyn—. Ac rwyf wedi bod yn Weinidog llywodraeth leol ac ni chefais erioed gais i edrych ar y fformiwla, oherwydd fe wyddant, os oes gennych—[Torri ar draws.] Os oes gennych chi restr o 22 awdurdod lleol, bydd rhywun ar y brig a bydd rhywun ar y gwaelod, a pha fformiwla bynnag a ddefnyddiwch, bydd hynny'n digwydd. Bydd hynny'n digwydd. Felly, un peth yw dewis a dethol yr holl bethau hyn.

Nawr, i fynd yn ôl at yr adolygiad ffyrdd, sef y cwestiwn a ofynnoch chi i mi yn y dechrau. Rydych yn sôn am 'rewi'. Nawr, rwy'n derbyn, ar hyn o bryd, fod adolygiad ffyrdd ar y gweill, felly mae'r pethau hyn wedi'u rhoi heibio am y tro—nid eu rhewi; maent wedi'u rhoi heibio am y tro. A phan gyhoeddir yr adolygiad ffyrdd gyda'r argymhellion—[Torri ar draws.] Gwn nad ydych erioed wedi bod mewn Llywodraeth yma. Mae ymrwymiad maniffesto yn ymrwymiad ar gyfer pum mlynedd; mae rhaglen lywodraethu yn para am bum mlynedd. Rydym bum mis i mewn i'r rhaglen lywodraethu honno; mae digon o amser i barhau i gyflawni dros ogledd Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod hon yn Wythnos Wlân, a llynedd, cododd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd pryderon gyda chi am gyflwr y farchnad wlân yng Nghymru. O ganlyniad i'r pandemig, roedd y cwymp yn y farchnad wlân yn golygu bod ffermwyr yn talu rhyw £1 am gneifio dafad a dim ond cael rhyw 19c neu 20c yn ôl am bob rholyn o wlân ar gyfartaledd. Diolch byth, mae prisiau gwlân wedi codi rhywfaint bach ers hynny, ond mae'n bell o fod yn ddigonol. Mae'n amlwg felly bod angen meddwl am ddulliau gwahanol o ddefnyddio gwlân er mwyn helpu'r diwydiant. Ac mae gwlân, fel mae pawb yn gwybod, yn cael ei ddefnyddio ers tro byd fel insiwleiddydd effeithiol iawn. Yng ngoleuni'r sylw cynyddol sy'n cael ei rhoi i newid hinsawdd a gwella'r amgylchedd, mae rhinweddau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig i adeiladwyr a phrynwyr cartrefi. Felly, ydych chi'n fodlon rhoi ystyriaeth i gefnogi'r diwydiant gwlân yng Nghymru a defnyddio gwlân i insiwleiddio'r tai y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu codi, gan gynnwys y cynllun retroffitio? Diolch yn fawr.

14:30

Rydych yn gwneud pwyntiau cymwys iawn ynghylch pris gwlân. Rwy'n ceisio meddwl—rwy'n credu mai ar ddiwedd tymor y Llywodraeth ddiwethaf y gwelsom y prisiau gwlân yn gostwng o ddifrif a chefais gyfarfodydd gydag awdurdod gwlân Prydain i geisio gweld beth y gallem ei wneud i helpu Cymru. Cyflwynais sylwadau i Lywodraeth y DU gyda gweinidogion cyfatebol o'r Alban.

Yn sicr, gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn gyfrifol am dai ac am ôl-osod wedi cael trafodaethau am hyn, oherwydd, fel y dywedwch, mae gwlân yn ddeunydd inswleiddio da iawn. Felly, os yw honno'n un ffordd y gallwn barhau i helpu i gefnogi gwlân Cymru, byddwn yn sicr yn ystyried gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr pa mor bell y mae'r Gweinidog wedi mynd gyda'i thrafodaethau, ond gwn ei bod wedi cael trafodaethau cychwynnol ynglŷn â hyn.

Diolch yn fawr iawn. Mae'r clafr, neu'r sgab, yn fater pwysig iawn, eto yn ymwneud â defaid ym maes llesiant anifeiliaid yn arbennig, ac yn fater sydd efallai ddim wedi derbyn ffocws digonol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n broblem sydd yn helaeth ac yn cynyddu, yn anffodus. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei fod yn clustnodi rhyw £5 miliwn i helpu cael gwared ar y clafr nôl ar ddechrau 2019. Yna, er mawr siom ym mis Tachwedd y llynedd, fe gyhoeddwyd y byddai'r £5 miliwn yn cael ei ddargyfeirio i gefnogi cynlluniau COVID. Mae'r sector amaeth nawr yn awyddus iawn bod Llywodraeth Cymru yn adfer y £5 miliwn yma i'r ymdrechion i waredu'r clafr, ac yn gwireddu eu hymrwymiad a'r addewid a wnaethoch chi i'r diwydiant. Mae yna arian, fel rŷch chi'n gwybod, dros ben yn y cynllun datblygu gwledig, ac ym marn Plaid Cymru, dylai'r Llywodraeth ddyrannu £5 miliwn o'r cynllun hwnnw i helpu'r diwydiant i waredu'r clafr. Felly, ydy'r Gweinidog yn fodlon ymrwymo  i gadw at ei haddewid gwreiddiol er mwyn taclo'r her bwysig hon?

Rwy'n cytuno'n llwyr; mae'r clafr yn glefyd cymhleth ac anodd iawn. Nid wyf yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig ydyw; rwy'n credu ei fod yn fater i'r diwydiant gyda'i gilydd. Yn sicr, buom yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Yn anffodus, oherwydd penderfyniadau y bu'n rhaid i mi eu gwneud am y gyllideb mewn perthynas â COVID, ni fu modd imi gyflwyno'r cyllid hwnnw, ond yn sicr rwy'n cael trafodaethau yn awr am gam nesaf y cynllun datblygu gwledig, ac yn sicr gallaf eich sicrhau chi a'r diwydiant y bydd cyllid i helpu i ddileu'r clafr yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau.

Diolch yn fawr iawn. A'r cwestiwn olaf: bydd Aelodau'n ymwybodol bod y penwythnos diwethaf, wrth gwrs, wedi cael ei ddynodi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn ôl eu natur, mae cymunedau gwledig yn rhai diarffordd ac ynysig iawn, ac oherwydd y diffyg cyfleoedd i bobl i gwrdd â phobl eraill o ddydd i ddydd, mae teuluoedd yn aml yn gallu dioddef ynysu cymdeithasol gyda phroblemau iechyd meddwl yn gallu deillio o hyn. Yn anffodus, mae 84 y cant o ffermwyr o dan 40 oed yn dweud mai materion iechyd meddwl yw'r her anweledig fwyaf i ffermio yng Nghymru. Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Gronfa Cefn Gwlad Tywysog Cymru wedi amlinellu sut y gall martau sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i ffermwyr a'r cymunedau gwledig fel mannau mae pobl yn gallu mynd iddyn nhw i gymdeithasu. Felly, a allai'r Gweinidog amlinellu pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd nid yn unig i helpu i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr, ond hefyd i helpu i gefnogi'r rôl economaidd mae canolfannau cymunedol fel martau yn eu chwarae i ddarparu manteision cymdeithasol pwysig?

14:35

Diolch. Credaf mai dyna'r cwestiwn pwysicaf o'ch tri chwestiwn, ac mae'n rhywbeth rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr ac arbennig ynddo ers i mi ymgymryd â'r portffolio hwn. Oherwydd, er bod y sector amaethyddol a chymunedau ffermio yn rhai o'r grwpiau mwyaf agos y cyfarfûm â hwy erioed, gallwch deimlo braidd yn ynysig weithiau wrth fod ar fferm. Yn enwedig yn ystod y pandemig, credaf fod hynny'n sicr wedi'i amlygu. Felly, rwyf wedi rhoi cyllid sylweddol i elusennau iechyd meddwl amaethyddol.

Fe ofynnoch chi ar y diwedd am farchnadoedd, er enghraifft, ac un o'r pethau yw'r cyllid y gallasom ei ddyrannu i Sefydliad DPJ. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r elusen honno. Fe wnaethant edrych ar sut y gallent hyfforddi pobl eraill i adnabod symptomau o broblemau iechyd meddwl mewn mannau fel marchnadoedd ffermwyr, lle na fyddech yn meddwl efallai, pe baech yn ffermwr â phryderon, y gallech gael eich cyfeirio at y lle mwyaf priodol. Felly, mae hwnnw'n faes y buom yn gweithio arno. Hefyd, lansiwyd FarmWell gennym yn ystod pandemig COVID-19, a oedd fel siop un stop, lle byddech yn cael gwybod, pe baech yn cysylltu â hwy, ble i fynd ymlaen wedyn i gael rhagor o gymorth.

Rwy'n cyfarfod yn eithaf rheolaidd â'r holl elusennau amaethyddol, ac maent hwy, rwy'n credu, pob un ohonynt—cyfarfûm â thua hanner dwsin ohonynt yn rheolaidd dros y 18 mis diwethaf—wedi dweud bod yr atgyfeiriadau atynt wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i helpu, rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.

Mae cwestiwn 3 wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 4, Siân Gwenllian. 

Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OQ57022].

Pysgota Anghyfreithlon

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i daclo pysgota anghyfreithlon? OQ57024

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro, a lle bo angen, yn gorfodi cydymffurfiaeth â rheoliadau pysgodfeydd drwy amrywiaeth o weithgareddau sicrhau ansawdd ac arolygu. Mae'r rhain yn cynnwys patrolau, gwyliadwriaeth ac arolygiadau ar y tir ac ar y môr, ac rydym hefyd yn cymryd camau cyfreithiol priodol a chymesur.

Mae cymdeithas o bysgotwyr lleol wedi cysylltu efo mi ynghylch potsio honedig sy'n digwydd, a diffyg gorfodi deddfau pysgota. Yr honiad ydy bod yna ostyngiad sylweddol yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adael tîm o ddim ond 15 i wneud y gwaith yma ar hyd a lled Cymru. Mae'r gymdeithas pysgotwyr yn teimlo bod hyn yn annigonol ar gyfer diogelu ein pysgodfeydd, ac yn adrodd bod potswyr yn manteisio ar hyn, ac yn achosi niwed mawr i'r stociau pysgod ac i hyfywedd y dyfrffyrdd i'r dyfodol. Pa gamau penodol ydych chi am eu cymryd i wella'r sefyllfa yma? 

Rydym yn sicr wedi cynyddu nifer y swyddogion gorfodi morol sydd gennym fel Llywodraeth, ac yng ngogledd Cymru, mae wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf hefyd. Mae nifer yr arolygiadau ar y tir wedi cynyddu'n sylweddol. Eleni yn unig, hyd at ganol mis Hydref, yn amlwg, rydym wedi cael 350 o arolygiadau ar y tir, ac mae hynny'n cymharu â 310 yn 2020. Felly, rydym yn gweld llawer mwy o waith arolygu. Rwy'n bryderus iawn o glywed am y pryder penodol a godwyd gennych, ac os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf, byddaf yn gofyn i hynny gael ei wneud yn benodol. Ond fel y dywedaf, mae lefel yr arolygiadau wedi cynyddu'n sylweddol, a chan ein bod yn cyflwyno recriwtiaid newydd, oherwydd rydym yn parhau i recriwtio swyddogion gorfodi, byddwn yn gobeithio gweld gweithgarwch yn cael ei fonitro'n llawer agosach, a bod gorfodi'n digwydd hefyd yn amlwg.

Fel y gŵyr y Gweinidog, er gwaethaf pob ymdrech i atal a rhwystro pysgota anghyfreithlon, mae rhai pobl yn dal i fod yn benderfynol o dorri'r gyfraith a gorgynaeafu ein moroedd yn anghyfreithlon er budd masnachol iddynt hwy. Mae hyn, yn anffodus, yn cael effaith ganlyniadol enfawr, gyda stociau pysgod yn lleihau, bywoliaeth pysgotwyr sy'n cadw at y gyfraith yn cael eu heffeithio, a phoblogaeth rhywogaethau pysgod sydd eisoes mewn perygl yn dirywio ymhellach. Fel y gŵyr llawer yn y Siambr hon, mae Brexit wedi arwain at fwy na geiriau tanbaid ynghylch pysgota gan wledydd Ewrop yn nyfroedd tiriogaethol Prydain, a mater cyfredol sy'n dod i'r amlwg yw bod llongau pysgota yn diffodd eu systemau adnabod awtomatig a'u dyfeisiau adnabod a thracio o bell er mwyn iddynt allu pysgota mewn dyfroedd heb gael eu canfod. Nid oes gennyf fawr o amheuaeth fod dyfroedd Cymru yn debygol o gael eu targedu gan yr ymddygiad hwn, felly a allai'r Gweinidog wneud datganiad am y sgyrsiau y maent hwy a'u cyd-weinidogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr arfer hwn, a pha fesurau y gallant eu rhoi ar waith i'w atal?

14:40

Mae hwn yn amlwg yn rhywbeth a drafodais droeon gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chyda Llywodraeth y DU yn gyffredinol, yn sicr pan oeddem yn nesáu at gyfnod pontio'r UE. Weithiau, ateb Llywodraeth y DU oedd, 'Fe anfonwn y llynges i mewn', ac nid wyf yn credu mai dyna oedd yr ateb o gwbl. Ond mae unrhyw bysgota anghyfreithlon yn annerbyniol.

Yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth, oherwydd dyna oedd ail ran eich cwestiwn, oedd sicrhau bod gennym longau patrolio pysgota newydd, oherwydd, yn sicr pan ymgymerais â'r portffolio hwn bum mlynedd yn ôl, nid oedd y llongau a oedd gennym bryd hynny yn addas i'r diben. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym longau gorfodi pysgota newydd, ac mae hynny'n sicr wedi helpu yn fy marn i. Ond mae unrhyw bysgota anghyfreithlon yn annerbyniol. Rwy'n cyfarfod â Gweinidog DEFRA a fy nghymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon eto, rwy'n credu, ddiwedd y mis hwn, ac yn sicr, mae pysgota bob amser ar yr agenda.

Llygredd Afonydd sy'n Deillio o Amaethyddiaeth

5. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i fynd i'r afael â llygredd afonydd sy'n deillio o amaethyddiaeth? OQ56990

Mae llygredd o unrhyw fath yn effeithio ar bob un ohonom ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef er budd ein hamgylchedd a'n cymunedau. Ar 27 Ionawr eleni, cyflwynais Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a daeth mesurau cychwynnol i rym ar 1 Ebrill.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Er bod y ddadl gyhoeddus fawr yr wythnos ddiwethaf yn ymwneud â diogelwch rhag COVID, cefais fwy o e-byst am lygredd Afon Gwy nag unrhyw beth arall. Rwyf hefyd yn ymwybodol o afonydd eraill sydd wedi'u llygru o ganlyniad i ddŵr ffo amaethyddol. Mae pobl hefyd yn pryderu am ddŵr ffo o ffermydd ieir a nitrogen a chemegau eraill sy'n mynd i mewn i'r afon. A allwn ddisgwyl gweld gwelliant yn ansawdd afonydd yn y dyfodol agos? Oherwydd, o'r hyn rwy'n ei glywed gan bobl am Afon Gwy, mae mewn cyflwr bregus iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd afonydd eraill yn yr un sefyllfa yn union yn weddol fuan. Mae angen inni ddiogelu ein hafonydd, ac mae angen gwneud beth bynnag sydd ei angen i ddiogelu ein hafonydd.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae gennym bryderon ynghylch Afon Gwy ar hyn o bryd. Rydych yn gofyn a fyddwn yn gweld gwelliant yn ein hafonydd. Rwyf eisiau gweld gwelliant ar y raddfa a welsom gyda'n dyfroedd ymdrochi, er enghraifft, lle rydym wedi gwneud cynnydd enfawr. Byddaf yn sicr eisiau gweld hynny gyda'r afonydd. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd yn sicr mae gan atal llygredd o ffermio dofednod rôl i'w chwarae, fel y dywedoch chi. Ac yn amlwg, mae awdurdodau cynllunio yn gorfod ystyried effeithiau amgylcheddol unrhyw gynigion cynllunio ar gyfer unedau dofednod newydd, felly dyna pam y bûm yn gweithio gyda'r Gweinidog mewn perthynas â chynllunio, oherwydd gwelsom nifer cynyddol, yn sicr yn nifer y ffermydd dofednod a'r ceisiadau hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau nad yw'r effaith gronnol yn arwain at ganlyniadau andwyol.

Diolch am ateb cwestiwn Mike, Weinidog; mae'n ddefnyddiol iawn. Mae'r sefyllfa gyda rhai o'n hafonydd ledled Cymru yn peri pryder mawr, ac rydym yn rhannu'r pryder hwnnw. Mae angen ymdrech ar y cyd ar frys i fynd i'r afael â'r lefelau llygredd a welir ar hyn o bryd. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Weinidog, nad yw llygredd afonydd i gyd yn deillio o amaethyddiaeth, fel y gwelsom yn Afon Wysg, lle mae carthion crai yn cael eu gollwng i'r afon yn rheolaidd, hyd yn oed pan fo'n ymddangos nad oes cyfnodau sylweddol o law wedi bod. Mae cannoedd ar gannoedd o bobl leol yn pryderu'n fawr am hynny. Gwn y byddwch chi hefyd, ac rwyf wedi rhoi tystiolaeth o hynny i chi. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn malio am yr amgylchedd ac yn gwneud y pethau iawn? Ac a fyddech yn cytuno o'r diwedd fod angen i'n rheoleiddwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, gamu i'r adwy ac ymdrin ag unrhyw un neu unrhyw gorff sy'n torri'r rheolau, ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau dŵr? Mae'r hyn a welwn ar hyn o bryd yn gwbl annerbyniol, yn sicr mewn perthynas ag Afon Wysg.

Rwy'n sicr yn cytuno â'r ddau ddatganiad a wnaethoch. Ni fyddwn byth yn dweud bod yr holl lygredd yn cael ei achosi gan arferion amaethyddol. Daw llygredd o sawl ffynhonnell, a byddwn yn dweud bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn sicr yn malio am yr amgylchedd. Fodd bynnag, rydym yn gweld lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol—a chyfeiriais at y rheoliadau a ddaeth i rym yn gynharach eleni.

Mewn perthynas â'ch pwynt arall, ynglŷn â ffynonellau eraill o lygredd, yn amlwg, os nad yw cwmnïau dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, neu os ydynt yn gweithredu heb drwydded—ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau ar gyfer gorlif storm, er enghraifft—bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio, a lle bo'n briodol, byddant yn rhoi camau gorfodi ar waith. Felly, rydych yn llygad eich lle—mae'n bwysig fod ein rheoleiddwyr yn chwarae eu rhan hefyd.

14:45

Prynhawn da, Weinidog. Yn dilyn cwestiwn fy nghyd-Aelod ynghylch Afon Gwy, gan fy mod yn byw ar Afon Gwy, yn y Gelli Gandryll, mae pobl yn dwyn cwestiynau a phroblemau ychwanegol i fy sylw ar y mater hwn. Mae'n bryder byw iawn. Mae Afon Gwy, fel afonydd eraill, yn llifo drwy Gymru a Lloegr, felly mae yma gymhlethdod ynglŷn â sut y gweithiwn ar draws ffiniau. Yr wythnos hon, roedd papur newydd The Times yn cynnwys cyfaddefiad, am y tro cyntaf, gan gyflenwr cyw iâr mawr, Avara Foods, a oedd yn dweud bod y defnydd o ffermydd ieir yn cyfrannu at y llygredd yn nalgylch Afon Gwy. Ac ar ôl cyfarfod â sefydliadau yn lleol ac yn genedlaethol sy'n pryderu am y llygredd yn Afon Gwy, gan gynnwys—mae'n bwysig iawn dweud hyn—cynrychiolwyr o undebau ffermio, sydd eu hunain yn bryderus tu hwnt ac yn ymrwymedig iawn i fynd i'r afael â llygredd afonydd, hoffwn ofyn i chi, Weinidog, sut y bwriadwch weithio, fel y mae fy nghyd-Aelod wedi'i grybwyll, i gryfhau gallu Cyfoeth Naturiol Cymru, a'u rôl weithredol gyda Natural England, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â llygredd afonydd gyda'r gyllideb a'r adnoddau priodol i gyflawni cynllun gweithredu clir. A tybed a gaf fi ofyn i chi gyfarfod â mi—ac eraill hefyd efallai—i drafod y gwaith o gryfhau Cyfoeth Naturiol Cymru. Diolch yn fawr iawn.

Mewn perthynas â'r cwestiwn olaf, ynghylch cyfarfod â chi i drafod Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hynny mewn gwirionedd yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—hi sy'n gyfrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati i ofyn ynglŷn â'r rhan benodol honno o'ch cwestiwn.

O ran y ffermydd dofednod a'r llygredd o amgylch Afon Gwy, fel y dywedais, mae gan atal llygredd o ffermydd dofednod rôl enfawr i'w chwarae yn ansawdd ein hafonydd. Ac mae'n bwysig fod trothwy'r caniatâd cynllunio, er enghraifft, yn gywir. Felly, ar hyn o bryd, y trothwy yw, os oes gennych—rwyf wedi anghofio beth yw'r ffigur—hyn a hyn o ieir, nid oes raid i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, ac mae hynny'n sicr yn peri pryder i mi. Ac mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am gynllunio hefyd, fel y gwyddoch. Mae'r rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd, a ddaeth i rym yn 2016, yn dweud bod angen i unedau dofednod dwys gael trwydded i weithredu, ac mae hynny'n cynnwys mesurau i ddiogelu'r amgylchedd. Os oes angen inni gryfhau'r rheoliadau, rwy'n credu bod angen inni edrych yn fanwl iawn ar wneud hynny, ond fel y dywedaf, mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd.

Cyfreithiau Bridio Cŵn

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o gyfreithiau bridio cŵn? OQ57000

Diolch. Cyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad ar 4 Mawrth 2020. Er mwyn ateb yr argymhellion, mae swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â rhwystrau i orfodi, gwell hyfforddiant, gwell canllawiau a gwell defnydd o adnoddau o fewn awdurdodau lleol, fel rhan o brosiect tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac mewn gwirionedd rwy'n croesawu rhai o'r argymhellion y soniwch amdanynt ac y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gweithredu? Fodd bynnag, un o'r argymhellion nad yw wedi'i weithredu eto oedd system achrededig neu system wedi'i graddio ar gyfer bridwyr cŵn, a ddisgrifiwyd fel,

'system ar gyfer rhoi sgôr i sefydliadau bridio sy’n seiliedig ar yr archwiliadau trwyddedu presennol'.

I mi, nid yw hyn yn gymhleth. Byddai'n rhoi hyder mawr ei angen i'r rhai sy'n dymuno prynu cŵn ac yn gwella enw da'r rhai sy'n dilyn y rheolau. Byddai'n sicrhau bod cŵn bach yn iach ac yn cael gofal cyn iddynt fynd at eu perchnogion newydd. Felly, gyda hyn mewn golwg, pa ystyriaeth bellach y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r argymhelliad hwn i ddiogelu cŵn, yn ogystal â'u bridwyr a chwsmeriaid hefyd, drwy gyflwyno system sgorio ar gyfer sefydliadau bridio?

Diolch. Mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o'r cynllun lles anifeiliaid. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion—y prif swyddog milfeddygol a'i swyddogion—i edrych ar gynllun lles anifeiliaid pum mlynedd i Gymru fel y gallwn adeiladu ar y cynnydd a wnaethom ar les anifeiliaid, yn sicr dros yr 16 mlynedd diwethaf, a fy mwriad yw cyflwyno cynllun lles anifeiliaid yn nes ymlaen eleni a fydd yn edrych ar yr hyn y dylem ei wneud dros bum mlynedd nesaf y Llywodraeth hon. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth rwy'n ei ystyried yn rhan o hynny. Credaf fod ystod eang o bolisïau y mae angen inni eu cyflwyno, nid yn unig mewn perthynas â chŵn, ond os ydym am gynnal y momentwm sydd gennym, oherwydd credaf fod gennym safonau lles anifeiliaid uchel iawn yng Nghymru, rwy'n credu bod angen inni edrych ar y momentwm hwnnw i ddiwygio, ac yn sicr bydd y cynllun yn gwneud hynny.

14:50
Gwarchodfeydd Anifeiliaid

7. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gwarchodfeydd anifeiliaid yn cymryd camau digonol i fodloni safonau lles? OQ57014

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda grŵp Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, a gyhoeddodd eu cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer gwarchodfeydd neu sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020. Bydd ystyriaeth bellach ar reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yn well, sy'n cynnwys gwarchodfeydd, yn cael ei rhoi drwy ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu a'r cynllun lles anifeiliaid arfaethedig i Gymru yr wyf newydd gyfeirio ato.

Diolch, Weinidog. Mae gennym rai gwarchodfeydd anhygoel yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith hanfodol i achub anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael neu eu hanafu. Mae'r mwyafrif llethol o warchodfeydd a chanolfannau achub yn fodelau o arfer da. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reoleiddio arnynt. Gall unrhyw un eu sefydlu, ni waeth a oes ganddynt brofiad a gwybodaeth ai peidio. Barn yr RSPCA, un o'r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar les anifeiliaid, yw ei bod yn hen bryd rheoleiddio canolfannau achub a gwarchodfeydd yng Nghymru i ddangos bod anifeiliaid yn cael eu diogelu fel y maent ei angen. Byddai'r ddeddfwriaeth hefyd yn sicrhau bod canolfannau achub a gwarchodfeydd sefydledig sy'n fodelau o arfer da yn cael eu diogelu yn hytrach na chael llychwino gan sefydliadau amheus. A ydych chi'n ymchwilio i'r ddeddfwriaeth hon ac os felly, pryd y byddai'n dod yn weithredol?

Diolch. Rydych yn llygad eich lle—maent yn chwarae rhan amhrisiadwy mewn gwasanaethau lles anifeiliaid, ac yn anffodus, ceir adegau pan fo pethau wedi mynd o chwith, ac yn sicr, ers imi fod yn Weinidog, cafodd un neu ddau o faterion eu dwyn i fy sylw, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt, fel y dywedwch, yn fodelau o arfer da. Soniais am y cod ymarfer yn fy ateb i chi, ac rwy'n ymwybodol fod y grŵp a weithiodd gyda ni ar hynny yn awyddus i gyflwyno mesurau statudol. Byddent yn hoffi gweld rheoleiddio statudol neu ryw fath o system drwyddedu yn dod i rym. Unwaith eto, mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried o fewn y cynllun lles anifeiliaid y byddaf yn ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.

Rwy'n siŵr fod pob plaid ar draws y Siambr yn cefnogi camau i sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cyrraedd, ac rwyf bob amser yn hapus i ddatgan buddiant fel perchennog daeargi Glen of Imaal hyfryd sy'n ddwy oed. Mae'n bwysig iawn fod gennym y safonau lles anifeiliaid cywir ar waith. Byddwn yn sicr yn adleisio'r geiriau a grybwyllwyd o ran y rôl hanfodol y mae gwarchodfeydd anifeiliaid yn ei chwarae yn gofalu am anifeiliaid a rhoi amgylchedd diogel iddynt fyw ynddo am gyfnod. Serch hynny, Weinidog, gwyddom mai swyddogion cynghorau lleol sy'n gwneud llawer o'r gwaith o sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau, a phan roddir mwy o reoliadau ar waith, mae hynny'n gwasgu ar gyllidebau sydd eisoes dan bwysau o fewn yr awdurdodau lleol i gynnal y gwaith o orfodi'r rheoliadau hynny. Felly, Weinidog, pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag awdurdodau lleol i ddeall beth yw'r pwysau cyfredol ar y gyllideb i orfodi'r rheoliadau presennol, a pha drafodaethau rydych yn eu cael gyda hwy i ddeall beth allai'r pwysau fod yn y dyfodol gyda rheoliadau pellach hefyd?

Soniais yn fy ateb blaenorol i Tom Giffard fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect gydag awdurdodau lleol. Mae'n brosiect tair blynedd a ddechreuwyd gennym fel rhan o'n gwaith ar gyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â gwahardd gwerthu cŵn a chathod gan drydydd parti, a gyflwynais ychydig wythnosau yn ôl. Felly, rydym wedi ariannu'r prosiect hwnnw, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i weld beth oedd y rhwystrau, oherwydd nid wyf yn credu bod angen deddfwriaeth bob amser. Roeddem yn sicr eisiau gweld beth oedd y rhwystrau hynny, ac roedd cyllid yn amlwg yn rhwystr, felly fe wnaethom ariannu'r prosiect, ac rwy'n credu bod hynny wedi helpu swyddogion gorfodi awdurdodau lleol i ddilyn y canllawiau statudol diweddaraf, er enghraifft. Maent wedi cael hyfforddiant ychwanegol ac mae'n rhaid i mi ddweud, maent wedi bod yn bartneriaid da iawn wrth gyflwyno'r canllawiau hyn.

14:55
Polisi Iawndal Twbercwlosis

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi iawndal TB Llywodraeth Cymru ar ffermwyr? OQ57019

Mae ffermwyr Cymru yn cael gwerth llawn yr anifail ar y farchnad am wartheg sy'n cael eu difa o dan y rhaglen i ddileu TB. Byddaf yn gwneud datganiad ar lafar fis nesaf ynghylch y diweddariad o'r rhaglen i ddileu TB yng Nghymru. Bydd trefniadau ar gyfer talu iawndal TB i ffermwyr yn rhan o'r datganiad hwnnw.

Diolch. Lladdwyd 2,990 o wartheg yn ail chwarter eleni, gan gynyddu nifer yr anifeiliaid a laddwyd oherwydd TB buchol i 6,175. Nawr, drwy helpu un o fy etholwyr a oedd yn cael trafferth gydag achos o bTB, fe ysgrifennoch chi ataf i ddweud, ac rwy'n dyfynnu, nad oes raid i'r ffermwr gytuno ar brisiadau ac na ellir apelio yn erbyn gwerth yr anifail ar y farchnad. Mae nodiadau canllaw Llywodraeth Cymru ar dalu iawndal TB yn datgan,

'Fel arfer, telir iawndal sy'n seiliedig ar werth yr anifail ar y farchnad ar gyfer anifail sy’n cael ei ladd oherwydd TB.'

Yr hyn sy'n annheg, serch hynny, yw bod y cap ar iawndal yn £5,000, oherwydd mae gan y ffermwr penodol hwn anifeiliaid sy'n werth llawer mwy na o filoedd na phump. Mae'n eu harddangos hefyd, welwch chi. Felly, gallai tarw pedigri fod yn werth ymhell dros £5,000 yn hawdd. Felly, Weinidog, a wnewch chi edrych ar y cap eto ac ymestyn yr hawl i ganiatáu i ffermwyr apelio a herio'r pris a roddir iddynt? Maent eisoes mewn gofid mawr ar adeg y lladd, ond gadewch inni sicrhau eu bod yn cael iawndal cywir a chyfartal. Diolch.

Diolch, ac rwy'n ymwybodol eich bod wedi ysgrifennu ataf eto yr wythnos ddiwethaf, am yr un ffermwr rwy'n credu. Byddaf yn sicrhau eich bod yn cael ateb erbyn yr wythnos nesaf.

Telir iawndal i berchnogion anifeiliaid, fel y gwyddoch, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y polisi talu yn deg, nid yn unig i berchennog yr anifail, neu i'r ffermwr yn yr achos hwn, ond hefyd i'r trethdalwr gan mai arian cyhoeddus ydyw wrth gwrs. Ac rwy'n gwybod, mae'n anochel, onid yw, y bydd yna adegau pan nad yw'r perchennog yn fodlon â'r prisiad. Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai prin yw'r cwynion. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar newid y ffordd y telir iawndal, ac fel rhan o fy natganiad llafar, ac o edrych ar y diweddariad o'r rhaglen i ddileu TB, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylem edrych arno yn sicr. Rwy'n credu mai dyma'r adeg briodol i adolygu'r trefniadau hynny.

Er mwyn sefydlu gwerth yr anifail ar y farchnad, dylwn ddweud bod yn rhaid i brisiwr profiadol wedi'i hyfforddi'n llawn benderfynu, drwy brisio'r anifail dan sylw ar y fferm, pa bris y gellid ei gael am yr anifail pe bai ar werth ar y farchnad agored a phe na bai wedi dod i gysylltiad â TB neu wedi'i effeithio gan TB. Fe sonioch chi am y cap iawndal ar £5,000 ar gyfer anifeiliaid o werth uchel, a chyflwynais hwn y tro diwethaf i ni ddiweddaru'r rhaglen i ddileu TB. A'r cyngor bryd hynny oedd, os oes gennych wartheg—ac fe gyfeirioch chi at y ffaith bod eich etholwr yn arddangos ei wartheg—efallai y byddai'n well edrych ar yswiriant felly, oherwydd, yn amlwg, £5,000 yw'r cap.

Gwasanaethau Brys yng Ngogledd Cymru

9. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor Cabinet gogledd Cymru wedi'i rhoi i ddarparu gwasanaethau brys yng gogledd Cymru? OQ57011

Mae pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru yn trafod ystod eang o bynciau pwysig. Roedd y cyfarfod cyntaf yn nhymor y Senedd hon yn cynnwys trafodaeth ar y pwysau a wynebir gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys prif weithredwr y bwrdd iechyd, prif weithredwr GIG Cymru a phob arweinydd awdurdod lleol.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond mae gennyf bryderon sy'n ymestyn y tu hwnt i'r argyfwng presennol mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Yr wythnos ddiwethaf, cafwyd ymosodiad llosgi bwriadol yng Nghlwb Pêl-droed y Rhyl ar yr un pryd ag y cafwyd tân mewn gwesty ym Mhrestatyn. Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod dan bwysau wrth orfod ymdrin â'r ddau ddigwyddiad yn fy etholaeth. Mae'n gas gennyf feddwl beth fyddai wedi digwydd pe bai damwain ddifrifol neu dân mewn tŷ yn rhywle arall yn Nyffryn Clwyd y diwrnod hwnnw. Weinidog, pa gamau y bydd pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digon o wasanaethau tân ac achub yn cael eu darparu ar gyfer gogledd Cymru, a fy etholaeth i'n benodol?

Wel, nid wyf yn credu y byddai hwnnw'n benderfyniad i is-bwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru. Yn amlwg, mae'n rhaid i ddarpariaeth y gwasanaethau brys ar draws gogledd Cymru fod yn briodol bob amser. Rydych newydd sôn am ddau ddigwyddiad arwyddocaol a ddigwyddodd ar yr un pryd ac wrth gwrs, tra bônt yn digwydd, mae yna bob amser ddigwyddiadau eraill y caiff ein gwasanaethau brys eu galw iddynt. Ac yn amlwg, mae pwysau aruthrol o hyd, yn enwedig ar wasanaeth ambiwlans Cymru ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth gymhleth iawn o heriau ar hyn o bryd, rwy'n credu, sy'n dod at ei gilydd i greu storm berffaith, ond mae'n bwysig iawn, yn amlwg, fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol o adolygiad sydd ar y gweill gan yr ymddiriedolaeth ar hyn o bryd, ac yn amlwg mae gwasanaethau tân yn rhan o gylch gwaith y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n credu—neu lywodraeth leol efallai, ond bydd yn Weinidog gwahanol ar gyfer hynny. Ond yn amlwg, ar draws y Llywodraeth, byddwn yn gweithio'n agos iawn i wneud yn siŵr—. Un o'r pethau da sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—yn sicr mae gennyf un yn fy etholaeth i—yw gwasanaethau brys yn dod at ei gilydd mewn un adeilad. Felly, yn Wrecsam, mae gennym y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân yn cydweithio, ac rwy'n credu bod hynny wedi gwella pethau'n fawr.

15:00
Parthau Perygl Nitradau

10. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith parthau perygl nitradau? OQ57004

Roedd dynodi parthau perygl nitradau yn un o ofynion cyfarwyddeb nitradau'r UE, ac aseswyd effeithiolrwydd dynodiad y parthau perygl nitradau fel rhan o'n hymrwymiad. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu dynodiad y parthau perygl nitradau yn rheolaidd i bennu ardaloedd ar gyfer eu dynodi o'r newydd, parhau dynodiad neu ddad-ddynodi.

Diolch, Gweinidog. Mae'r parthau perygl nitradau yng Nghymru yn cyfyngu amaethwyr i wasgaru dim mwy na 170 kg o nitradau yr hectar, tra bod parthau mewn gwledydd eraill yn galluogi ffermwyr i wasgaru hyd at 250 kg yr hectar. Mae'r cyfyngu yma yn golygu bod slyri yn cael ei ddal yn ôl ac yn methu cael ei wasgaru ac yn achosi trafferthion i ffermwyr, neu mi fydd o'n gwneud. A allwch chi esbonio, felly, beth yw rhesymeg Llywodraeth Cymru dros gyfyngu i 170 kg yma, tra bod llefydd eraill yn cyfyngu i 250 kg?

Nid oes gennym barthau perygl nitradau dynodedig pwrpasol yng Nghymru mwyach, fel y gwyddoch, ac ar 27 Ionawr eleni, cyflwynais Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, ac fel y gwyddoch, daeth y mesurau cychwynnol hynny i rym ar 1 Ebrill. Roedd y rheoliadau hynny'n dirymu ac yn disodli Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013, a oedd yn dynodi parthau perygl nitradau cyn hynny wrth gwrs, ac fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae caniatâd wedi'i roi i'r llysoedd adolygu'r rheoliadau hynny.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 eiliad

Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf heddiw yw'r un gan Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, yn fy rôl fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ac ar ôl misoedd lawer o waith trawsbleidiol y tu ôl i'r llenni, lansiwyd y pecyn cymorth teithio llesol hirddisgwyliedig i ysgolion yn ysgol gynradd Penyrheol yng Ngorseinon. Yng Nghymru, rydym wedi rhoi camau pwysig ar waith i newid y ffordd yr ydym yn mynd i'r ysgol, ond mae'r ffigurau'n dangos bod angen inni wneud mwy o lawer, yn enwedig ar feicio, lle mae llai nag 1 y cant o blant yng Nghymru yn beicio i'r ysgol yn rheolaidd, yn wahanol iawn i'n cymdogion Ewropeaidd fel yr Iseldiroedd, lle mae 49 y cant o ddisgyblion yn beicio i'r ysgol bob dydd. Felly, roedd yn hyfryd ymuno â'r pennaeth, Alison Williams, a disgyblion ac eraill heddiw ar fy meic yn ogystal â phlant sy'n teithio i'r ysgol ar eu beiciau a'u sgwteri, ac ar droed hefyd. Mae teithio llesol o fudd i les corfforol a meddyliol plant, yn lleihau allyriadau, yn helpu i ymladd yr argyfwng hinsawdd, yn lleihau tagfeydd a llygredd o amgylch gatiau ysgolion, yn gwella sylw disgyblion yn yr ystafell ddosbarth drwy roi dechrau egnïol i'r diwrnod, a chymaint mwy. Ac nid yw ein pecyn cymorth yn bresgripsiwn sefydlog; mae pob ysgol yn wynebu cyfres unigryw o heriau, ond gyda'r fenter hon, rydym yn darparu'r syniadau a'r adnoddau sydd eu hangen ar arweinwyr ysgolion a rhieni a llywodraethwyr i bennu eu llwybr eu hunain tuag at fod yn ysgol ac yn gymuned teithio llesol. A thrwy bwysleisio pa mor bwysig yw perswadio eraill i deithio'n llesol i'r ysgol, nod y pecyn hwn yw creu consensws lleol aruthrol ar deithio llesol i'r ysgol.

O'r dechrau i'r diwedd, mae a wnelo hyn â chydweithredu, partneriaethau rhwng ysgolion a theuluoedd ar lawr gwlad a gwaith y tu ôl i'r llenni gan y grŵp trawsbleidiol. Felly, bydd y pecyn cymorth yn cael ei anfon at yr holl Aelodau o'r Senedd, i ofyn iddynt gysylltu ag ysgolion ar y daith lesol hon. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

Diolch yn fawr. Dwi'n siŵr y bydd pawb ohonoch chi am ymuno â fi i longyfarch y chwaraewr dartiau o Gymru, Jonny Clayton, ar ei fuddugoliaeth wych ym mhencampwriaeth Grand Prix y Byd nos Sadwrn diwethaf, y tro cyntaf iddo fe ennill y gystadleuaeth, a digwydd bod fe lwyddodd e ennill drwy faeddu cyd-Gymro a chyfaill arbennig iddo fe, sef Gerwyn Price, yn y rownd derfynol. Yn ogystal ag ennill y Grand Prix, sy'n un o gystadlaethau mawr y byd dartiau, mae e hefyd wedi ennill y Masters a'r Premier League eleni, ac roedd e hefyd yn rhan o dîm buddugol Cymru a enillodd Gwpan y Byd i chwaraewyr dartiau fis Tachwedd diwethaf, ac yn chwarae, wrth gwrs, gyda'i ffrind annwyl Gerwyn Price. Ydy, mae wedi bod yn dipyn o flwyddyn iddo fe.

Mae Jonny, neu'r Ferret, fel mae'n cael ei alw, yn siaradwr Cymraeg ac yn byw ym Mhontyberem, ac mae trigolion y Bont, Cwm Gwendraeth, sir Gaerfyrddin a Chymru gyfan yn ymfalchïo yn fawr yn ei lwyddiant. Ond, yn rhyfeddol, er ei lwyddiant, mae'n parhau i weithio fel plastrwr yn rhan amser i Gyngor Sir Gaerfyrddin, ac rwy'n deall ei fod e'n bwriadu parhau i wneud y gwaith yma am beth amser beth bynnag. Mae'n amlwg ei fod e'n gallu troi ei law at dipyn o bopeth. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno'n dda i Jonny Clayton, a Gerwyn Price hefyd, wrth gwrs, dros y flwyddyn nesaf wrth i'r tymor dartiau brysuro, a'i longyfarch ef eto ar ei lwyddiant dros y penwythnos. Diolch yn fawr iawn. 

15:05

Arthritis yw'r afiechyd mwyaf cyffredin yn y byd, ac mae'n effeithio ar 1 o bob 4 unigolyn. Caiff Diwrnod Arthritis y Byd ei nodi ledled y byd ar 12 Hydref—sef ddoe—bob blwyddyn, i addysgu'r cyhoedd ar ddiagnosis arthritis amserol a rheoli arthritis. Heddiw yw diwrnod olaf Wythnos Genedlaethol Arthritis yma yn y DU. Thema'r ymgyrch eleni yw 'Don’t Delay, Connect Today' gyda ffocws ar waith gyda'r is-bennawd 'Time2Work'.

Ym 1996, sefydlwyd Diwrnod Arthritis y Byd gan Arthritis and Rheumatism International. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o afiechydon rhiwmatig a chyhyrysgerbydol ledled y byd. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod dros 100 o wahanol fathau o arthritis. Mae arthritis yn afiechyd sy'n effeithio ar oddeutu 350 miliwn o bobl ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 120 miliwn o bobl yn byw gydag afiechyd rhiwmatig fel arthritis, yn Ewrop.

Poen yw symptom mwyaf niweidiol arthritis. Mae llawer o fythau mewn perthynas â rheoli arthritis a all fod yn rhwystr i'w reoli'n effeithiol. Mae llawer yn credu bod ymarfer corff yn beryglus, fod canfyddiadau delweddu—hynny yw, pelydr-x ac MRI—yn pennu'r hyn y gall rhywun ei wneud, ac mai llawfeddygaeth a gorffwys yw'r unig driniaethau. Gwyddom bellach y gall gormod o orffwys ac osgoi gweithgarwch waethygu poen ac anabledd yn sgil arthritis. Er y bydd cyfran fach o unigolion yn elwa o lawfeddygaeth—pethau fel pen-glin newydd—nid oes angen llawdriniaeth ar bawb, ac ni fydd pawb yn elwa o lawdriniaeth. Mae ymarfer corff a gweithgareddau wedi'u graddio yn ddiogel ac yn dda i'ch cyhyrau a'ch cymalau. Diolch, Lywydd.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar. 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn lle Jayne Bryant (Llafur Cymru)

Cynigiwyd y cynnig.

Mae wedi'i symud. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer gwneud ambell i newid yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:08.

15:15

Ailymgynullodd y Senedd am 15:19, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Manteision cymunedol prosiectau ynni

Croeso yn ôl. Yr eitem nesaf yw eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, manteision cymunedol prosiectau ynni. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7794 Rhun ap Iorwerth

Cefnogwyd gan Adam Price, Altaf Hussain, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Janet Finch-Saunders, Luke Fletcher, Sioned Williams, Tom Giffard

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon.

2. Yn cytuno bod angen sicrhau bod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes yn gyntaf am roi'r cyfle imi gael rhoi'r cynnig yma o flaen y Senedd heddiw, a dwi'n ddiolchgar hefyd i'r Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni. 

Mae'n ddadl amserol iawn, dwi'n credu. Dyma ni ar drothwy cynhadledd y COP26 yn Glasgow. Nes ymlaen y prynhawn yma, mi fydd Plaid Cymru yn arwain dadl ar y sector ynni a'r argyfwng hinsawdd a natur. 

Mae pwynt 1 yn fy nghynnig i yn gofyn inni nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl troed carbon. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i anghytuno efo hynny. Mae ynni, y ffordd rydym ni'n defnyddio ynni, y ffordd rydym ni'n ei arbed o, ei ddosbarthu o, ac, ie, y ffordd rydym ni'n ei gynhyrchu fo, yn faterion cwbl, cwbl greiddiol i ba mor llwyddiannus rydyn ni'n am allu bod yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ond mae ein perthynas ni efo ynni hefyd yn gwbl greiddiol i'n bywydau bob dydd ni, ac, mi fyddaf i'n dadlau y prynhawn yma, yn gallu gall cael effaith fawr ar y math o gymunedau rydym ni'n byw ynddyn nhw.

Dwi'n gofyn i'r Senedd yma gydsynio efo'r gosodiad yn ail gymal y cynnig, sef ein bod ni'n cytuno bod angen sicrhau bod pob datblygiad ynni yn dod â budd i'r cymunedau lle maen nhw wedi'u lleoli, ac mae hyn mor bwysig, dwi'n credu. Mae gennym ni fel gwlad gymaint i'w gynnig o ran datblygiadau ynni; mi allen ni fod yn cyflenwi nid yn unig ein hanghenion ein hunain mewn ynni glân, mewn ynni carbon isel ac ynni adnewyddadol, ond mi allen ni hefyd fod yn allforiwr mawr hefyd, a hynny'n gallu dod â budd economaidd sylweddol yn ogystal â buddiannau amgylcheddol mawr.

Ond pan ydym ni'n gofyn i gymunedau gynnig cartref i ddatblygiadau o'r fath, mae eisiau sylweddoli eu bod nhw'n gallu cael impact sylweddol, felly, mae eisiau cefnogi'r cymunedau hynny ac ystyried eu hanghenion a'u dyheadau nhw fel cymunedau. Mi allaf i gyfeirio at un cynllun ynni arfaethedig ym Môn sy'n bodoli oherwydd ei gymuned—cynllun Morlais i greu ardal ddatblygu ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewin Môn, sy'n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, i gadw'r elw yn lleol. Mae yna lu o brosiectau ynni cymunedol eraill ar draws Cymru. Bues i'n ymweld ag Ynni Ogwen ddim llawer iawn yn ôl. Dwi'n croesawu'r egwyddor yn nharged y Llywodraeth o sicrhau y dylai o leiaf 1 GW o ynni adnewyddadol yng Nghymru fod o dan berchnogaeth leol erbyn 2030, ac mi wnaf i'ch atgoffa chi mai un o brif swyddogaethau cwmni ynni Cymru y mae Plaid Cymru mor benderfynol o'i weld yn cael ei sefydlu—efo'i bencadlys yn Ynys Môn, gobeithio—fyddai i gydlynu a chefnogi a hyrwyddo prosiectau ynni cymunedol. Ond lleiafrif bach, wrth gwrs, ar hyn o bryd, o gynhyrchu ynni sy'n digwydd yn y ffordd yma.

Gadewch imi gyferbynnu'r math yna o weledigaeth efo beth sy'n digwydd yn Ynys Môn ar hyn o bryd ym maes ynni solar. Mae penderfyniadau diweddar gan Lywodraeth Cymru i glustnodi rhannau mawr o Ynys Môn fel ardal datblygu ynni solar wedi creu cyfle i gwmnïau mawr rhyngwladol gael llwybr haws at ganiatâd i greu ffermydd solar enfawr. Mae'r canlyniadau i'w gweld yn barod. Mae o'n reit frawychus pa mor gyflym mae pethau wedi digwydd. Mae Enso Energy wedi cyhoeddi cynlluniau am fferm solar 750 erw; mae cynlluniau Lightsource BP i gynhyrchu 350 MW o ynni solar yn ymestyn dros 2,000 erw; mae'r cwmni Low Carbon wedi adnabod dros 150 erw ar gyfer fferm solar Traffwll; mae EDF wedi prynu safle 190 erw efo caniatâd yn barod am fferm solar yng ngogledd yr ynys, ac mae hynny ar ben y cynlluniau sydd wedi'u datblygu'n barod. Rydym ni'n sôn yn fan hyn am am ardaloedd enfawr, yn cynnwys, wrth gwrs, Môn Mam Cymru, tir amaethyddol da, ac rydym ni'n sôn am y cymunedau o gwmpas yr ardaloedd ac o fewn yr ardaloedd hynny.

Does gen i ddim amheuaeth y gall Ynys Môn wneud cyfraniad mawr mewn datblygiadau ynni solar, ond y gwir amdani ydy bod y cynlluniau ar y bwrdd yn mynd i adael ôl troed enfawr ar ardaloedd o gefn gwlad efo ychydig iawn, iawn o fudd i'r cymunedau hynny—does yna prin ddim swyddi a dim disgwyliad o ran budd ehangach yn ariannol neu fel arall. Beth mae datblygwyr yn ei honni fel budd lleol? Mae gwefan EDF yn brolio y bydd £10,000 yn cael ei dalu fel budd cymunedol yn flynyddol—dim ond £10,000. Mae datblygwyr fferm Alaw Môn yn gwahodd syniadau am gynllun neu brosiect cynaliadwy yn yr ardal. Maen nhw hefyd yn addo y bydd eu cynllun nhw'n rhoi'r cyfle i orffwys tir sydd wedi cael ei ffermio'n ddwys— ymgais, dwi'n meddwl, sydd yn ddigon sarhaus i roi sbin ar golli tir amaethyddol da.

Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni ydy nad oes yna ddim byd ar hyn o bryd i drio sicrhau bod yna fudd cymunedol o gwbl, a dyna pam, yn y cynnig yma, dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru, un ai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.

Mi allai budd go iawn ddod ar sawl ffurf. Budd ariannol sylweddol ydy'r ffurf fwyaf amlwg. Ond, mewn e-bost ataf i y bore yma yn amlinellu taliadau i gymunedau y maen nhw'n dweud y maen nhw'n eu gwneud, yn deillio o nifer o'u prosiectau ynni nhw yng Nghymru, mae cwmni ynni RWE yn dweud hyn:

'Mae darparu budd cymunedol o ddatblygu ynni adnewyddadwy yn digwydd yn wirfoddol ar hyn o bryd.'

A dyna un o'r problemau. Mi wnes i gyflwyno cynnig am ddeddfwriaeth newydd i'r Senedd yn ddiweddar, ar ôl i dîm deddfwriaethol y Senedd gadarnhau y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol i fynnu asesiad o fudd cymunedol o'r math yma. Ches i ddim fy nhynnu o'r balot, ond mae'r ddadl yn sicr yn dal yn fyw gen i. Yn y cyd-destun hwnnw, dwi'n croesawu datganiad RWE heddiw:

'Rydym yn cefnogi'r cysyniad y dylid deddfu ar gyfer swm safonol o fudd cymunedol am bob megawat neu fegawat awr a gynhyrchir o brosiectau sy'n mynd yn eu blaenau.'

Mi fyddai hynny, dwi'n meddwl, yn gam pwysig ymlaen. Ond mi all budd ddod mewn ffyrdd eraill hefyd. Mi all o olygu addewidion go iawn am swyddi—bwrlwm economaidd o'r math yna—cryfhau cadwyni cyflenwi; biliau ynni rhatach, neu, o bosib, yn fwy gwerthfawr yn amgylcheddol, fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni o fewn y cymunedau hynny; rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan; batris cartref neu ynni solar cartref wedi cael ei sybsideiddio. Beth am rannu elw go iawn efo cymunedau? Prynu caniatâd am fferm solar y gwnaeth EDF. Beth am yr elw y gwnaeth y cwmni a wnaeth gael y caniatâd hwnnw a'i werthu fo ymlaen? Mi ddylai cyfran o'r elw a wnaeth y cwmni yna, dwi'n credu, aros yn lleol.

Ond nid dim ond rhestru buddion o'r math yna y byddwn i am i ddatblygwyr orfod ei wneud drwy gynnal asesiad effaith cymunedol. Mi fyddai angen mesur impact go iawn ar hagru cefn gwlad, ar golli amwynder gwyrdd sy'n bwysig iawn, iawn i ni; yr effaith ar bris eiddo o fewn y cymunedau hynny, a safon byw pobl hefyd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n anodd rhoi pris arno fo, o bosib, ond sydd mor, mor bwysig. O ystyried bod yr impact o gynllun unigol, neu effaith gronnol cynlluniau lluosog, a dyna'r broblem rydyn ni'n ei hwynebu yn Ynys Môn—. O ystyried yr impact yna, beth byddwn i'n dymuno ei weld wedyn fyddai ymdrechion i ddarparu'r cynhyrchiant ynni yna rydym ni'n ei angen mewn ffyrdd gwahanol.

Yn hytrach na defnyddio bloc o filoedd o aceri, beth am gannoedd o flociau llai, yn dilyn, o bosib, llinellau dosbarthu ynni—mwy o dirfeddianwyr yn elwa ychydig, yn hytrach nag ychydig o dirfeddianwyr yn elwa llawer iawn? Beth am, drwy gryfhau'r system ddosbarthu, ddefnyddio toeau siediau amaethyddol, toeau ffatrïoedd, eglwysi, capeli, ysgolion, canolfannau cymunedol ac ati? Beth am osod paneli cyfochrog efo cloddiau a ffiniau tir dros ardaloedd eang, gan greu coridorau cyfoethog mewn bioamrywiaeth tra'n cadw'r caeau eu hunain yn gynhyrchiol? Beth am ymylon ffyrdd? Un syniad arall a gafodd ei basio ymlaen i mi heddiw: defnyddio canol yr A55, hyd yn oed, ar gyfer paneli solar. Wn i ddim; mae'n bosib bod hynny'n bosib.  

Gadewch inni feddwl y tu allan i'r bocs. Drwy fod yn greadigol, dwi'n meddwl y gallwn ni gynhyrchu ynni ar raddfa eang iawn tra'n gweithio efo, yn hytrach nag yn erbyn, cymunedau. Dwi wedi sôn am solar yn bennaf heddiw, achos mai dyna'r prif fater sydd yn ymwneud â phrosiectau ynni o'r math yma yn Ynys Môn, ond mi allai fo gynnwys pob mathau o ddulliau o gynhyrchu ynni eraill hefyd.

Mae rhai wedi dadlau efo fi bod peidio â meddwl yn y ffordd greadigol yma hyd yn oed yn gallu creu'r risg o droi pobl yn erbyn prosiectau ynni adnewyddol, a rhwystro cynnydd, pan mai un o'r gwobrau net sero mawr, siawns, fyddai gallu ymgysylltu a hwyluso cymunedau yn effeithiol i ddatgarboneiddio. Rydym ni eisoes yn gweld cryn rwystredigaeth yn lleol, mae'n rhaid dweud, yn sgil colli dylanwad dros ba un a gaiff cynlluniau ganiatâd ai peidio, ond mi fyddai, dwi'n meddwl, cynnal asesiadau effaith cymunedol yn dod â'r gymuned yn ôl at galon penderfyniadau cynllunio ar ynni. Dwi'n edrych ymlaen i glywed cyfraniadau y prynhawn yma ac ymateb y Llywodraeth.

15:30

Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Rhun, ac er bod gennych rai pryderon am solar, mae'n deg dweud, ar hyd arfordir gogledd Cymru, fod y pryderon hynny bellach yn ymestyn i gynnwys y prosiectau ffermydd gwynt enfawr sydd ar y ffordd.

Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod tua 58,000 yn gweithio yn y sector ynni a'r sector amgylchedd yng Nghymru, gan gynhyrchu dros £4.8 biliwn mewn refeniw, ac mae'r sector hwn wedi'i baratoi i gael ei ehangu'n barhaus dros y blynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 86 o ffermydd gwynt gweithredol, potensial i gynhyrchu tua 10 GW o ynni morol, sector ynni solar aeddfed, ac amrediad llanw sy'n gallu darparu cyfleoedd cynhyrchu sylweddol ar hyd arfordir Cymru.

Roedd Rheoliadau Strategaeth Forol 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i gyflawni neu gynnal statws amgylcheddol da dyfroedd morol erbyn 31 Rhagfyr 2020, a gwn na lwyddwyd i wneud hynny erbyn y dyddiad hwnnw. Mae bioamrywiaeth forol yn parhau i ddirywio. Beth am wrthdroi'r duedd drwy weld y ffermydd gwynt ar y môr a chysylltwyr gwely'r môr yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer adfer ecosystem gwely'r môr a dal a storio carbon glas?

Rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau adeiladol iawn gyda'r Athro Chris Baines sy'n byw yn fy etholaeth i, ac mae'n awdur enwog ar faterion o'r fath. Mae wedi amlinellu'n briodol, os gall ffermydd gwynt ddod—. Os ydynt yn mynd i fod yno, a allant ddod yn warchodfeydd gan aflonyddu cyn lleied â phosibl ar wely'r môr? Ac os gellir cyfuno hyn ag adfer cynefinoedd yn rhagweithiol ar ffurf pethau fel gosod riffiau artiffisial ar waelod y tyrbinau, gallai'r seilwaith ynni gwynt wneud cyfraniad unigryw a chadarnhaol tu hwnt i adferiad morol a charbon sero-net, tra'n cydymffurfio â'n nodau bioamrywiaeth a chadwraeth. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn pa gamau a gymerir gennych i annog datblygwyr ynni adnewyddadwy yn y dyfodol i gymryd rhan mewn prosiectau o'r fath i adfywio cynefinoedd morol Cymru? Pa gamau a gymerir gennych i annog dargyfeirio gwariant cymunedol tuag at ymdrechion plannu, fel rhai dolydd morwellt, y gwyddys eu bod yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol?

Byddai argymhelliad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar gyfer cynllun datblygu morol yn rhoi eglurder ynghylch faint o ddatblygiad sy'n gynaliadwy ym moroedd Cymru, a lle sydd orau i'w leoli. Wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig i chi, Weinidog, fe wnaethoch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dechrau rhaglen waith ddwy flynedd i fapio adnoddau strategol posibl. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd y gweithgaredd mapio hwn a chadarnhau dyddiad ar gyfer cyflawni i ni heddiw?

Amcangyfrifodd adroddiad gan Zero Waste Scotland y bydd cynifer â 5,613 o dyrbinau yn cael eu datgomisiynu rhwng 2021 a 2050, gan gynhyrchu rhwng 1.25 miliwn ac 1.4 miliwn tunnell o ddeunydd. Ac wrth gwrs, rwyf wedi mynegi pryderon fy hun yn ddiweddar ynglŷn â sut na ellir ailgylchu llafnau'r tyrbin ar hyn o bryd. Felly, yn Nenmarc, mae'r Re-Wind Network yn addasu'r strwythurau hyn yn wahanol elfennau pensaernïol, megis llochesi beiciau a phontydd troed. Mae gan Rotterdam faes chwarae 1,200 metr sgwâr i blant sy'n cynnwys tŵr sleidiau, twnelau a rampiau, a'r cyfan wedi'i greu o lafnau tyrbinau gwynt a ddatgomisiynwyd. Pa gamau a gymerir gennych i gynhyrchu data ar y broses o ddatgomisiynu ffermydd gwynt, Weinidog? Ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr newydd i gyflwyno gofyniad yn galw arnynt i ymrwymo ymlaen llaw i addasu eu hoffer at ddibenion gwahanol mewn ffordd sydd o fudd i'n cymunedau, a'n hamgylchedd yn wir?

Yn olaf, mae'r Gweinidog yn gwybod bod prosiectau ffermydd gwynt ar y môr Awel y Môr, BP Morgan a Mona yn peri pryder mawr i lawer. Yn wir, pan ddatblygir y rhain, dywedodd sawl arbenigwr yn y maes y bydd gormod o dyrbinau gwynt ar arfordir gogledd Cymru. Hyd yma, mae un o bwyllgorau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dangos eu gwir wrthwynebiadau i gynllun enfawr Awel y Môr. Ni all fod yn iawn fod cyn lleied o ddiogelwch i'n pysgotwyr a fydd, Weinidog—mewn gwirionedd, wyddoch chi, gallai eu bywoliaeth gael ei bygwth gan gynllun ar y gorwel agos, 10.6 km yn unig oddi ar yr arfordir. Rydym mewn argyfwng natur, ac eto mae perygl gwirioneddol y gallai'r cynlluniau hyn gael effaith andwyol ar rywogaethau morol, ein cynnig twristiaeth, ac yn wir—

15:35

Iawn. Ac, yn wir, effaith pethau gweledol yn y nos ar ein hawyr dywyll werthfawr. Mae arnom angen ynni adnewyddadwy, ond rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru, a'r Gweinidog, i sicrhau bod unrhyw gynlluniau ynni adnewyddadwy newydd, fod yna gydbwysedd perffaith iach rhwng ein hymdrechion bioamrywiaeth a chadwraeth. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r ddadl hon. Pan oeddwn yn darllen y papur trefn a theitl y ddadl—budd cymunedol ynni—y gair a oedd yn sefyll allan i mi oedd 'cymuned' wrth gwrs, ac mae'n rhywbeth sy'n mynd yn angof yn aml iawn pan soniwn am gael cymysgedd ynni llawer cyfoethocach na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. A hoffwn roi'r gair 'cymuned' yn ôl i mewn yn ein polisi ynni.

Rwy'n falch iawn fod y ddau Weinidog yma gyda ni y prynhawn yma. Yn y gorffennol, mae'n debyg ei bod yn wir fod peirianwaith y Llywodraeth wedi gweithio yn erbyn cael polisi ynni Cymreig yn hytrach na'i alluogi. Yn sicr, pan oeddwn yn y Llywodraeth gyda chyfrifoldeb am ynni, roeddwn yn un o dri Gweinidog yn y Cabinet hwnnw a oedd yn gyfrifol am ynni, a'r canlyniad anochel, wrth gwrs, oedd bod gennym dri pholisi ynni yn lle un, ac ni lwyddasom i gyflawni fawr ddim heblaw cyhoeddi cynlluniau a strategaethau, oherwydd bod yna lefel o ddryswch. Nid oedd y Llywodraeth yn gwybod beth oedd ei pholisi, a chredaf fod cyfle yn awr, gyda pheirianwaith newydd y Llywodraeth, iddi gael syniad clir o'r hyn y mae'n ceisio'i gyflawni, ond yn bwysicach, o sut y mae'n bwriadu ei gyflawni.

Credaf fod angen inni edrych yn fanwl ar beth fydd y cymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae'r newyddion diweddar am—[Torri ar draws.] Ie, os gadewch i mi orffen y frawddeg. Mae'r newyddion diweddar am ddatblygu adweithyddion niwclear modiwlar yn newyddion da yn fy marn i. Mae'n ddigon posibl y bydd yn newyddion da i sir Fôn; mae'n ddigon posibl y bydd yn newyddion da i safleoedd eraill hefyd, a newyddion da o ran gostwng ein hallbwn carbon ar yr un pryd â sicrhau cyflenwad sylfaenol.

Diolch. Roedd eich sylwadau'n ddiddorol iawn, ond oni chredwch ei bod braidd yn siomedig i unrhyw un sy'n gwylio'r ddadl hon fod y ddau Weinidog ar eu ffonau?

Nac ydw. Rwy'n credu bod angen inni godi lefel y ddadl yn hytrach na cheisio ei gostwng. Wyddoch chi, Jayne—? Rwy'n edrych arnoch chi, Jayne. Janet, hoffwn erfyn arnoch i wneud mwy na darllen araith, a deall beth y mae'n ei feddwl, ac mae'n mynd y tu hwnt i ddarllen geiriau rhywun arall. A chredaf ei bod yn bwysig—[Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael sgwrs ddifrifol ynglŷn â ble mae hyn yn mynd. Felly, gadewch i mi wneud cynnydd, os gwelwch yn dda.

Rwy'n deall yr hyn y mae'r Llywodraeth newydd yn ceisio'i gyflawni, ac rwy'n derbyn ac yn cytuno'n gryf â'r hyn y mae'r ddau Weinidog yma wedi'i ddweud, ar wahanol adegau, am eu huchelgeisiau a beth yw eu gweledigaeth. Hoffwn ddweud hyn wrthynt: cadwch lygad barcud ar bethau. Yn aml iawn, soniwn am y setliad diffygiol a gawn fel rhywbeth drwg, ond yn yr achos hwn, mewn gwirionedd, o safbwynt ynni, mae'n golygu y gallem ganolbwyntio'n llawer gwell ar yr agweddau cymunedol o ran ble'r ydym arni. A fy mhryder yw y byddem yn mynd ar hyd y llwybr y mae Rhun a Janet wedi'i ddisgrifio, lle mae gennym ddatblygiadau ar raddfa fawr iawn sy'n amhriodol i'r lleoedd lle cânt eu gosod a'u lleoli, a hefyd yn amhriodol o ran yr hyn y dymunwn ei gyflawni yn rhan o bolisi hinsawdd ehangach a pholisi cymunedol ehangach.

I mi, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwasgaredig; canolbwyntio ar yr hyn y gall cymuned ei wneud er mwyn cynhyrchu ar gyfer ei anghenion hi ac ar gyfer anghenion yr ardal leol. Mae gennyf ddiddordeb mewn deall sut y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn siarad ynglŷn â sut y gallwn gyflawni'r mecanweithiau a'r dulliau angenrheidiol i gael cynhyrchiant lleol i ddarparu ynni ar gyfer anghenion lleol, yn ogystal â chyfrannu at grid. Ac rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn gweithio ar hyn.

Pan oeddwn yn gwneud ymchwil ar hyn yn ddiweddar, sylweddolais mai'r tro diwethaf i Lywodraeth Cymru lanlwytho unrhyw wybodaeth am ynni cymunedol i'w gwefan oedd bum mlynedd yn ôl. Ychydig iawn o waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y Senedd ddiwethaf ar sut yr awn ati i ddarparu ynni cymunedol. Roedd y gwerthusiad o'r cynllun ynni cymunedol blaenorol, Ynni'r Fro, yn eithaf cymysg, ond nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg oherwydd fe ddysgwyd gwersi. Gwnaed rhai o'r camgymeriadau wrth geisio darparu cynllun am y tro cyntaf, ac mae hynny bob amser yn mynd i ddigwydd. Ond nid ydym yn dysgu gwersi o hynny a'i gymhwyso mewn ffordd newydd, gyda chynlluniau newydd i gefnogi adfywio cymunedol. Ac o ganlyniad, mae'r rheini ohonom sy'n cynrychioli gwahanol rannau o'r wlad hon yn cael ein rhoi yn y sefyllfa ofnadwy o orfod dweud, 'Ydym, rydym yn cefnogi ynni adnewyddadwy, ond a ydym yn cefnogi diwydiannu cymuned mewn gwirionedd, diwydiannu tirwedd yr ydym am ei diogelu ar yr un pryd?' Ac nid ydym am fod yn y sefyllfa honno, ond cawn ein gorfodi i'r sefyllfa honno gan nad oes gennym bolisi ynni cyfoethog sy'n cyflawni'r cynhyrchiant cymunedol a'r cynhyrchiant gwasgaredig sy'n golygu y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd, ein huchelgeisiau ynni, ein huchelgeisiau cymdeithasol a'n huchelgeisiau economaidd. Ac rwy'n credu—. A gallaf weld hyd yn oed heb fy sbectol, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn profi eich amynedd. [Chwerthin.]

Felly, dof â fy sylwadau i ben, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn gyntaf oll, yn ymrwymo i lansio cynllun ynni cymunedol cyn gynted â phosibl o fewn y Senedd hon a dysgu gwersi o gynlluniau'r gorffennol; ac y bydd yn sicrhau y bydd peirianwaith y Llywodraeth sydd gennym yn awr, sydd, yn fy marn i, yn welliant mawr ar yr hyn a fu gennym yn y gorffennol, yn gallu darparu polisi ynni sy'n golygu ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau, o ran ein gweledigaeth a'r modd y ceisiwn ei gwireddu.

15:40

Rhoddais amser ychwanegol am eich bod wedi cael ymyriad, ond fe wnaethoch ei ymestyn braidd. [Chwerthin.] Altaf Hussain.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn un o gyd-gyflwynwyr y ddadl hon. Fel gwlad, mae gennym dirwedd a morwedd anhygoel, sy'n llawn o fynyddoedd gwyntog ac arfordiroedd ysblennydd, gyda'r gallu i gynhyrchu ynni gwyrdd mewn ffordd a fyddai o fudd nid yn unig i gymunedau Cymru, ond a fyddai'n ychwanegu'n sylweddol at anghenion ynni'r DU yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae potensial i ynni gwyrdd ddarparu nifer fwy o swyddi yn y dyfodol, swyddi medrus iawn ar gyflogau gwell yn datblygu ac adeiladu'r technolegau newydd i ateb ein hanghenion ynni. Chwyldro diwydiannol newydd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae Llywodraeth Cymru wedi sôn am y twf posibl yn yr economi werdd, ac er fy mod yn croesawu datblygu ac adfywio economaidd yn seiliedig ar ddefnyddio potensial ein hamgylchedd, gwn fod angen canolbwyntio datblygiadau ynni hefyd ar y budd y gall buddsoddiadau o'r fath ei gynnig i gymunedau lleol.

Wrth gwrs, ceir budd lleol amlwg i seilwaith, a'r gobaith o gael gwaith ym maes cynllunio a pheirianneg, ond ceir llawer o enghreifftiau hefyd o brosiectau ynni sydd wedi gweithio i ddarparu budd ychwanegol i'w cymunedau lleol. Ymhlith yr enghreifftiau o fudd o ddatblygiadau ynni, mae mesurau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gyda chronfeydd ar gael i gefnogi ôl-osod cartrefi lleol i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni.

Mae rhai cwmnïau wedi buddsoddi mewn cronfeydd cymunedol, wedi'u sefydlu a'u rheoli'n lleol gan bobl leol, gan ddarparu grantiau i sefydliadau a phrosiectau, nid yn unig fel cyfraniad untro ond fel buddsoddiad cymunedol parhaus. Mewn rhai achosion, mae'r cronfeydd lleol hyn wedi defnyddio cannoedd o filoedd o bunnoedd.

Fodd bynnag, ceir heriau i'r Llywodraeth. Mae angen i Weinidogion ddeall potensial eu rôl fel galluogwyr. Mae angen mwy o uchelgais yn y Llywodraeth i weithio gyda diwydiant i ddarparu prosiectau ynni newydd a fydd yn newid proffil economaidd Cymru er gwell, yn cynyddu'r cyflenwad o swyddi a'u hamrywiaeth, ac yn cynnal budd lleol i'r gymuned.

Er mwyn denu datblygiadau yng Nghymru, mae arnom angen pobl sydd â'r weledigaeth a'r sgiliau i fynegi pam y dylai datblygwyr ynni fuddsoddi yma. Pam dod yma pan allent fuddsoddi mewn mannau eraill yn y DU? Beth sydd yna am Gymru sy'n gwneud datblygu yma yn gynnig deniadol? Os yw'r Llywodraeth am gael chwyldro swyddi gwyrdd, mae angen iddi feithrin perthynas â phobl yn y sector—ni fydd uchelgais ar ei ben ei hun yn gwneud iddo ddigwydd. Ac mae angen iddi fod yn berthynas lle mae datblygwyr yn deall y pwyslais a roddwn ar gymuned, defnyddio budd buddsoddiad a chydweithio i adeiladu Cymru fwy gwyrdd, heb anghofio ein bod, yma yng Nghymru, yn agos iawn at natur, ac nid ydym am ddifetha hynny drwy godi tyrbinau 850 troedfedd o uchder, a gwneud ein Cymru'n hyll, fel a gynlluniwyd ar gyfer Y Bryn. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

15:45

Bûm ar ymweliad amserol iawn yr wythnos diwethaf â fferm wynt Pen y Cymoedd. I unrhyw un nad yw'n gyfarwydd â'r lle, dyma'r fferm wynt ar y tir fwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n rhedeg ar hyd pen uchaf fy etholaeth i a sawl etholaeth arall. Mae ganddi 76 o dyrbinau, a phrin fod un ohonynt i'w weld o lawr y dyffryn, ac mewn blwyddyn gyfartalog bydd yn pweru'r hyn sy'n cyfateb i 188,000 o gartrefi. I roi hynny mewn persbectif, dyna oddeutu 15 y cant o aelwydydd Cymru—cyfraniad gwirioneddol bwysig. Mae hefyd wedi rhoi llawer o arian i mewn i economi Cymru; aeth 52 y cant o'r buddsoddiad gwreiddiol o £400 miliwn yn uniongyrchol i gwmnïau o Gymru, a sicrhaodd hyn waith i fwy na 1,000 o weithwyr yng Nghymru yn ystod y gwaith o'i adeiladu. Mae wedi creu cyfleoedd prentisiaeth, ac mae hefyd wedi diogelu'r amgylchedd ac wedi hybu bioamrywiaeth. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth y troellwr mawr, sy'n nythu ar y safle hwn, felly rwyf wedi croesawu'r cyfle i allu dilyn yr agwedd hon ar eu gwaith.

Mae'r fferm wynt hefyd wedi gweithredu cronfa budd cymunedol arbennig o uchelgeisiol. Bob blwyddyn tan 2043, mae £1.8 miliwn ar gael i fusnesau a grwpiau ar draws cymoedd Cynon, Afan, Castell-nedd a'r Rhondda. Ac yn bwysig, rwy'n meddwl, nid asiantaethau allanol sydd yng ngofal y gronfa. Yn hytrach, yr arbenigwyr lleol yw'r bobl sydd wedi bod yn rhan o lunio'r weledigaeth—pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny, sy'n adnabod ac yn defnyddio gwasanaethau lleol, sy'n deall yr ardal y maent yn byw ynddi, beth sydd ar gael a beth sydd ar goll. Mae'r gronfa hon wedi bod yn cefnogi cymunedau ers i'r fferm wynt ddod yn weithredol yn 2017. Rhwng hynny a mis Ebrill 2021, yn fy etholaeth i yn unig, mae 129 o sefydliadau a busnesau wedi cael cefnogaeth uniongyrchol. Mae'r cyllid hwnnw, i grwpiau yn fy etholaeth i yn unig, yn werth tua £3 miliwn. Mae rhai grantiau'n fach, er enghraifft, cannoedd o bunnoedd a ryddhawyd drwy grant microgyllido, ond mae cronfeydd eraill, y gellir eu cael drwy'r gronfa weledigaeth, yn fwy sylweddol, ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu at gyflawni gweledigaeth y cymunedau.

Felly, beth a gefnogwyd â'r arian hwnnw? Wel, busnesau, corau a grwpiau diwylliannol, cymorth iechyd meddwl a hybu llesiant, mentrau amgylcheddol, neuaddau cymunedol, prosiectau treftadaeth, timau chwaraeon, grwpiau teuluol, cynlluniau i gefnogi pobl hŷn ac i goffáu'r rhai a wasanaethodd eu gwlad. Mae'r gronfa hefyd wedi cefnogi prosiectau trawsnewidiol ar raddfa fawr fel Dŵr Dâr, y pad sblasio poblogaidd ym mharc Aberdâr. Mae wedi helpu i addasu eglwys Sant Elfan i fod yn ofod cymunedol deniadol, ac mae wedi chwarae rhan yn y gwaith o greu canolfan gymunedol Cynon Linc sydd newydd agor. Mae'r gronfa wedi cefnogi popeth o gymdeithasau celfyddydol i elusennau diffibrilwyr, ac yn fwy diweddar, lansiodd gronfa argyfwng COVID, y gellir ei defnyddio i ddarparu llif arian sydd ei angen ar frys neu i gefnogi arallgyfeirio ar gyfer rhywbeth sy'n gysylltiedig â COVID. Mae dros £0.5 miliwn wedi'i ddosbarthu drwy honno i gefnogi 32 o fusnesau a sefydliadau, ac mae wedi galluogi 23 o brosiectau ymateb COVID eraill i sefydlu a chefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf mewn cymunedau lleol.

Mae'n amlwg fod angen ynni adnewyddadwy arnom. Ond gyda hynny, mae arnom angen prosiectau sydd o fudd i'w cymunedau. Os caf droi at drydydd pwynt y cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiadau effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o'r broses gynllunio. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r argymhelliad hwn, a hoffwn ein gweld yn grymuso ein cymunedau i gael y disgwyliadau uchaf o fudd cymunedol, i gydgynhyrchu cynlluniau ar gyfer budd cymunedol ac i feddwl mwy am gynlluniau buddsoddi ymlaen llaw, megis un a welwyd yn yr Alban yn ddiweddar, lle nad oedd y gymuned yn fodlon â'r gronfa draddodiadol y gallai achosion da lleol wneud cais iddi, ac yn hytrach, yr hyn y dymunent ei gael oedd fflyd o geir trydan y gallai'r pentref eu rhannu, ac fe'u cawsant. Mae'r cyfleoedd ar gyfer budd cymunedol yn wirioneddol ddiddiwedd, ond ni ellir manteisio'n llawn ar y potensial hwn heb roi syniadau a gwybodaeth i bobl am yr hyn sy'n bosibl.

Rwyf am gloi drwy nodi un pwynt pwysig y mae'r cynnig yn ei hepgor, sef sut y gallwn annog cynhyrchiant ynni cymunedol a chydweithredol yn y ffordd orau. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol gan siaradwyr amrywiol, gyda phob un yn pwysleisio budd cynlluniau cymunedol. Disgrifiodd Robert Proctor o Ynni Cymunedol Cymru, er enghraifft, sut y mae 100 y cant o'r elw o'r rhain yn mynd i'r cymunedau lleol sy'n eu rheoli. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar lefel leol, ond maent hefyd yn creu—

15:50

[Anghlywadwy.]—budd economaidd. Felly, mae llawer mwy y gallwn ei wneud, a rhaid i hynny fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru.

Diolch i'r Aelod o Ynys Môn am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr.

Mae gan Gymru gyfoeth o botensial ynni adnewyddadwy a gwyrdd, a byddwn ar fai yn peidio â dechrau, o gofio mai Rhun ap Iorwerth a sicrhaodd y ddadl hon, drwy sôn am y cyfleoedd ar Ynys Môn. Fe soniodd am solar, ond mae safle ynni niwclear Wylfa Newydd yn ymgyrch rwy'n gwybod bod ei gyd-Aelod etholaethol, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi'i hyrwyddo'n rymus. Ond hoffwn ganolbwyntio ar brosiect oddi ar arfordir fy etholaeth fy hun, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: prosiect arloesol, gwerth miliynau o bunnoedd Blue Gem Wind, menter ar y cyd rhwng TotalEnergies, un o gwmnïau ynni mwyaf y byd, a Simply Blue Energy, datblygwr ynni arloesol yn y môr Celtaidd. Bydd y prosiect yn datblygu gwynt ar y môr arnofiol, a elwir yn FLOW, yn nyfroedd y môr Celtaidd.

Bydd FLOW yn dod yn dechnoleg allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, gyda dros 80 y cant o adnoddau gwynt y byd mewn dyfroedd dyfnach na 60m. Mae astudiaethau annibynnol wedi awgrymu y gallai fod cymaint â 50 GW o gapasiti trydan ar gael yn nyfroedd y môr Celtaidd oddi ar arfordiroedd y DU ac Iwerddon. Gallai'r adnodd ynni adnewyddadwy hwn chwarae rhan allweddol wrth i'r DU geisio cyrraedd targed sero-net 2050 sy'n angenrheidiol i liniaru newid hinsawdd. Bydd ynni gwynt arnofiol—FLOW—yn darparu cyfleoedd ar gyfer cadwyn gyflenwi carbon isel newydd, yn cefnogi cymunedau arfordirol ac yn creu manteision hirdymor i'r rhanbarth. Yn fy etholaeth i, amcangyfrifir y gallai 1 biliwn watt cyntaf Blue Gem o ynni gwynt arnofiol ddarparu dros 3,000 o swyddi a £682 miliwn mewn cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi, gan agor byd newydd o ynni adnewyddadwy ar y môr gyda sir Benfro yn ei ganol, ac o fudd i'r gymuned yn ddi-os.

Bydd y prosiect arddangos cyntaf yn y môr Celtaidd, prosiect 96 MW Erebus, yn dod yn un o'r prosiectau gwynt ar y môr mwyaf yn y byd pan gaiff ei adeiladu yn 2026. Caiff ei ddilyn gan Valorous, prosiect masnachol cynnar 300 MW, unwaith eto, yn y môr Celtaidd, a fyddai'n arwain at bweru 280,000 o gartrefi bob blwyddyn, tra'n arbed dros 455,000 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol anhygoel am brosiect Blue Gem Wind a'r cyfleoedd sy'n codi yn y môr Celtaidd yw nad un ardal yn unig sy'n elwa mewn gwirionedd, ac ni all un ardal gyflawni'r prosiect ar ei phen ei hun chwaith. Rhaid ei rannu ar draws nifer o ardaloedd a nifer o borthladdoedd. Arweinia at ledaenu budd cymunedol y prosiectau newydd hyn ymhellach, gan nad yw swyddi medrus a manteision economaidd wedi'u crynhoi mewn ardal fach.

Gall cymunedau yn ne-orllewin Cymru, de-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon ac ierdydd llongau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban oll elwa o'r prosiect hwn. Ond nid yw'r budd yn mynd i ymddangos heb gyfraniad gweithredol gan y Llywodraeth ar bob lefel. Mae prosiectau masnachol fel y rhain yn gweithio ar gyflymder nas gwelir fel arfer o fewn adrannau'r llywodraeth, a gwn fod yr Aelod o Flaenau Gwent wedi codi'r pryderon hanesyddol ynghylch polisi ynni yn flaenorol. Mae cyflymder yn hanfodol mewn perthynas â'r prosiectau hyn, er mwyn sicrhau na chânt eu colli ac na chollir y budd cymunedol chwaith. Mae angen inni ddeall y cyfyngiadau y mae'r busnesau a'r prosiectau hyn yn gweithio oddi tanynt a gwneud yr hyn a allwn i symleiddio'r broses. Nid galwad am osgoi cyfyngiadau cynllunio a rheoleiddio allweddol yw hon, ond am weithio'n gyflym ac yn adeiladol i helpu'r prosiectau hyn i gael eu traed oddi tanynt a chyflawni eu manteision amgylcheddol, economaidd a chymunedol. Ym mhob cwr o Gymru, mae gennym enghreifftiau o brosiectau sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth. Mae'r penderfyniad yno, mae'r fenter yno, y cyfan sydd ei angen arnom yw'r hyder i'w wireddu. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod llawer iawn o gonsensws wedi bod yn y Senedd y prynhawn yma ar bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a pha mor hanfodol yw sicrhau bod hyn wedi'i wreiddio yn ein cymunedau, o ran cael ei dderbyn, ond hefyd o ran gwireddu'r budd y tu hwnt i'r budd ehangach neu ein helpu i gyrraedd sero-net. Rydym yn cytuno â safbwynt yr Aelod y dylem sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo budd y datblygiadau hanfodol hyn, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r anghysur a fynegodd am ffermydd solar ar raddfa fawr, yn arbennig, yn codi ledled y wlad, heb fynd i sôn am unrhyw un yn benodol. Credaf ein bod yn well ein byd yn canolbwyntio solar ar adeiladau nag ar ddefnyddio darnau mawr o dir.

Roedd hon yn thema a ddaeth i'r amlwg mewn nifer o'r areithiau gan yr Aelodau; mae'n amlwg fod cydbwysedd i'w daro ar yr effaith amgylcheddol. Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, yn ei sylwadau, at adfywio gwely'r cefnfor. Mae hwnnw'n bwynt pwysig, yn ogystal ag enghreifftiau eraill a roddwyd lle nad oedd datblygiadau'n gweddu'n llwyr i'w cymunedau lleol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau cydbwysedd bregus. Er mwyn cyrraedd sero-net, gwyddom y bydd yn rhaid inni wneud mwy o doriadau yn ein hallyriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a wnaethom dros y 30 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhaid cynyddu cyflymder a maint yn y blynyddoedd y tu hwnt i hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ar raddfa fawr, yn gyflym, ond mae angen inni hefyd ddod â chymunedau gyda ni ac mae angen inni fod yn ymwybodol o effeithiau eraill y datblygiadau hyn. Bydd yn rhaid inni deimlo ein ffordd drwy hynny, a dweud y gwir; nid oes templed ar gyfer gwneud hynny'n sensitif.

Rwy'n cytuno'n llwyr â byrdwn y ddadl ynghylch perchnogaeth ar asedau adnewyddadwy yn lleol, a rhaid inni ddatblygu cadwyni cyflenwi cryf a chyfleoedd swyddi yng Nghymru, fel yr amlinellodd Samuel Kurtz. Ar y prosiect penodol y soniodd amdano, y fferm wynt arnofiol yn nyfroedd y môr Celtaidd, gwn fod fy nghyd-Aelod, Julie James, wedi siarad mewn cynhadledd porthladdoedd ar gyfer y DU y bore yma, ac mae'n brosiect yr ydym yn edrych arno'n ofalus. Rydym am ddatblygu cynifer o wahanol fathau o brosiectau ag y gallwn, ac fel y dywedaf, mae cynnwys cymunedau yn allweddol.

Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau budd yw drwy berchnogaeth leol, ac mae gan ein rhaglen lywodraethu darged i sicrhau cynnydd o 100 MW mewn ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd a'r gymuned erbyn 2026. Rydym yn cydnabod yr angen i gael cymorth ar waith i gyflawni'r uchelgais hwn. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi cyrff cyhoeddus a chymunedau i ddatblygu cynlluniau, ac rydym yn rhoi cymorth ariannol i ddatblygu prosiectau. I roi un enghraifft, cafodd y cwmni cydweithredol Egni help y gwasanaeth ynni i fuddsoddi mwy na £4 miliwn mewn solar ar doeau ledled Cymru i gynhyrchu pŵer am ddim i sefydliadau cymunedol ac i ysgolion, gan gynnwys cyfranddaliadau yn y cwmni cydweithredol i rai ysgolion yn nyffryn Aman uchaf mewn gwirionedd, sy'n brosiect ardderchog yn fy marn i, ac rwy'n awyddus i weld sut y gallwn ei ledaenu'n ehangach ledled Cymru.

Er gwaethaf heriau COVID, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom gefnogi'r gwaith o osod gwerth £35 miliwn o brosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys 9 MW o ynni adnewyddadwy. Erbyn 2030, mae gennym darged i sicrhau y bydd 1 GW o'r cynhyrchiant ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Soniodd Rhun ap Iorwerth am ddau brosiect yng ngogledd-orllewin Cymru yr ymwelais â hwy yn ddiweddar, sef Ynni Ogwen a Menter Môn. Mae'r ddau wedi gwneud gwaith rhagorol gyda chymunedau, gan sicrhau budd yn lleol, yn ogystal â'i wneud mewn ffordd sy'n sensitif i'r amgylchedd lleol. Rwy'n credu bod llawer y gall pawb ohonom ei ddysgu o'u gwaith rhagorol. Rydym wedi gosod disgwyliad y dylai pob prosiect ynni adnewyddadwy gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol o hyn ymlaen. Unwaith eto, dyma un o'r problemau eraill a wynebwn, oherwydd, yn amlwg, er mwyn cyrraedd y targedau hyn, rydym am gael datblygiadau sylweddol a all ein helpu i gyrraedd ein hamcanion. Ond mae hynny'n rhy aml yn golygu bod gan gwmnïau rhyngwladol mawr tramor allu a chyfalaf i ddod i mewn a symud y datblygiadau hyn yn eu blaen.

Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth yr ydym am ei annog, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf, ond gwyddom fod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y sector preifat ei wneud i gefnogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac i ddod â chymunedau gyda hwy, ac i roi cymaint ag y maent yn ei haeddu o fudd o'r cynlluniau. A soniwyd am nifer o enghreifftiau o'r symiau pitw sy'n cael eu cynnig i rai cymunedau. Ac yn amlwg nid dyna'r hyn yr ydym ni am ei weld. Felly, drwy wasanaeth ynni'r Llywodraeth, rydym yn gweithio gyda chymunedau a chyrff cyhoeddus i archwilio opsiynau perchnogaeth, ac rydym wedi bod yn datblygu canllawiau gyda'u mewnbwn hwy i gynorthwyo gyda'u trafodaethau. Ac rydym yn dechrau gweld tystiolaeth o ddatblygwyr mawr yn cymryd camau cadarnhaol i ymgysylltu â'n cymunedau, ond mae'n deg dweud nad ydym wedi cyrraedd lle mae angen inni fod. Mae ymgysylltu'n dameidiog a'r dull o weithredu yn anghyson. 

Yfory, Ddirprwy Lywydd, rwy'n lansio ymarfer at wraidd y mater arall, y tro hwn i ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a byddaf yn archwilio beth arall y gallwn ei wneud i ddenu cyfoeth o ddatblygiadau preifat a chefnogi mwy o berchnogaeth a datblygu cymunedol yng Nghymru. A byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu datblygwr ynni sy'n eiddo cyhoeddus i gyflymu'r gwaith o ddarparu ynni adnewyddadwy a fydd yn creu mwy o fudd cymunedol a chyhoeddus nag y mae'r modelau presennol yn eu cynnig. Wrth gwrs, mae angen inni weithio gyda datblygwyr preifat, a'r gadwyn gyflenwi, fel y soniwyd. Mae cyfleoedd yma ar gyfer swyddi gwyrdd a sgiliau gwyrdd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y budd hwnnw.

Felly, rydym yn adeiladu darlun o'r prosiectau sy'n cael eu datblygu a'u hanghenion o ran y gadwyn gyflenwi a'r gweithlu, ac rydym yn gweithio gyda'n colegau i ddatblygu sgiliau'r dyfodol a chefnogi busnesau lleol i gyflenwi i'r farchnad newydd. A hefyd, yn hollbwysig, rydym yn pwyso ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud buddion economaidd lleol yn ystyriaeth berthnasol wrth roi hawliau a chontractau gwely'r môr. Ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ystad goetiroedd Llywodraeth Cymru a thir arall sy'n eiddo cyhoeddus i gynnig cyfleoedd ar unwaith i ddatblygu prosiectau sy'n helpu eu cymunedau. 

Felly, rwy'n credu bod llawer yn digwydd. Rwy'n cydnabod pwynt Alun Davies ynglŷn â bod dulliau gweithredu tameidiog a ffocws ar strategaethau yn hytrach na chyflawni yn difetha gormod o ymdrechion Llywodraethau ar draws y byd, ac mae angen inni sicrhau, wrth sefydlu'r portffolio hwn, ein bod yn canolbwyntio ar weithredu a chyflawni a chyflymder, a gallaf addo ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i wneud hynny. Ni allwn symud mor gyflym ag y dymunwn ei wneud, dyna un o rwystredigaethau mawr y rôl hon. Mae'r rhain yn brosiectau hynod gymhleth, a gall y broses o ddod â'r holl wahanol rannau at ei gilydd fod yn llawer arafach nag yr hoffem iddi fod. A dyna'r her i bob un ohonom, oherwydd gwyddom fod y wyddoniaeth a'r her yn fater brys, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i geisio sicrhau bod cyflymder y ddarpariaeth yn cyd-fynd â hynny. Ond byddwn yn sicr yn dweud wrth Alun Davies na fyddwn yn camgymryd—

16:00

Gwnaf, ond rwyf am ddweud wrtho na fyddwn yn camgymryd lanlwytho gwybodaeth i wefan am ddiffyg gweithgarwch ar ynni cymunedol.

Wel, yn sicr, mae yna ddiffyg gweithgarwch o ran cyfleu'r hyn rydych yn ei wneud i unrhyw un yn y byd o gwbl. Ond y pwynt yr hoffwn ei wneud yw, yn eithaf aml, ac mae'n un o'r gwersi o Ynni'r Fro, fod cryn dipyn o amser y Llywodraeth yn cael ei dreulio'n dadlau am gynigion gyda rhannau eraill o'r sector cyhoeddus. A’r hyn y mae angen i'r Llywodraeth ei wneud yw sicrhau bod y Llywodraeth nid yn unig yn arwain, yn darparu peth o’r cyllid sbarduno sydd ei angen er mwyn gwneud hyn, ond hefyd yn sicrhau nad oes gennych arian cyhoeddus yn cael ei wario ar ddwy set o fargyfreithwyr yn dadlau gyda'i gilydd dros un cais. A gallai'r Llywodraeth arwain go iawn yn hynny.

Wel, yn amlwg, ni ellir dadlau â hynny. Ac un o'r pethau y byddaf yn canolbwyntio arnynt wrth ddechrau'r gwaith i fynd at wraidd y mater yfory fydd sut i symbylu a chynnull cynghrair dros newid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i wneud cynnydd go iawn. Oherwydd, fel y mae pob un ohonom yn cytuno yma y prynhawn yma, mae'r wobr yn wych a chost diffyg gweithredu yn rhy anodd ei hamgyffred. Diolch.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod hon wedi bod yn drafodaeth wirioneddol werthfawr, ac a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Gweinidog am ei eiriau, pan ddywedodd ei fod yn dod yn agos at sefydlu, gobeithio, corff a fydd yn annog ac yn hyrwyddo ynni cyhoeddus yng Nghymru? Mae hynny'n swnio i mi fel pe bai ymgyrch hirfaith Plaid Cymru i sefydlu ynni Cymru, corff ynni i Gymru, wedi dwyn ffrwyth, ac rwy'n falch iawn ei bod yn swnio fel pe bai Llywodraeth Cymru ar fin rhoi rhywbeth tebyg iawn i hynny ar waith. A chredaf fod hynny'n rhywbeth cadarnhaol tu hwnt gan y credaf ei fod yn fodd o ganolbwyntio'n iawn ar y math o ddatblygiadau ynni yr hoffem eu gweld yng Nghymru.

Diolch am y cyfraniadau. Ie, rhai syniadau diddorol, nid budd cymunedol yn unig; Janet Finch-Saunders yn siarad am fudd amgylcheddol hyd yn oed yn sgil prosiectau ynni adnewyddadwy, a gwella bioamrywiaeth morol hyd yn oed. Ond rydym yn sôn heddiw am y budd cymunedol—rwy'n falch, yn etholaeth Vikki Howells, ei bod yn hapus fod y budd yn dod—ond fe ddywedoch chi eich hun eu bod yn wirfoddol, a dyna'r pwynt yma: mae angen mecanweithiau arnom i sicrhau eu bod yn llifo'n awtomatig o brosiectau o'r fath, ac er nad yw'r cynnig yn sôn am ynni cymunedol ac ynni cydweithredol, rwy'n siŵr y byddwch wedi sylwi bod hynny wrth wraidd y math o weledigaeth sydd gennyf fi, yn sicr, yn ogystal â'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma hefyd, rwy'n credu.

Hoffwn roi sylw arbennig i Alun Davies a'i gyfraniad: yr un fath o weledigaeth ag sydd gennyf innau, ac wrth ddweud bod 'cymuned' yn air sydd wedi'i anghofio i raddau helaeth mewn polisi ynni, a bod angen ei adfer, credaf mai dyna'r union bwynt rwy'n ceisio'i wneud heddiw. Gallwn gael pob math o weledigaethau beiddgar ar gyfer cyflawni ein nodau newid hinsawdd, ac mae'n rhaid inni fynd ati'n ddygn i gyflawni'r rheini, ond mae'n rhaid inni gofio bod llawer o'r prosiectau'n digwydd mewn cymunedau, ac yn effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau lle mae pobl yn byw, ac mae'n rhaid i hyn fod yn symbiosis.

Felly, dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol fod cryn dipyn o gonsensws yma heddiw, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid wyf yn siŵr a fydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros y cynnig fel y mae heddiw; rwy’n sicr yn gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid inni fynd â chymunedau gyda ni. Mae'n rhaid i berchnogaeth leol fod yn nod, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi a grymuso cwmnïau rhyngwladol mawr i ddewis rhannau o Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru fel ardaloedd lle credant fod ganddynt hawl awtomatig, bron, i fwrw ymlaen â'u datblygiadau. Ni all hynny ddigwydd, a byddaf yn falch o weithio gyda'r Llywodraeth i fod yn bont rhwng fy nghymunedau a'r Llywodraeth i gyflwyno'r achos fod yn rhaid i'r cwmnïau rhyngwladol hynny fynd y tu hwnt i'r gwirfoddol rywsut, rhaid iddynt fynd y tu hwnt i'r trothwy isaf posibl y credant y gallant ei gael mewn perthynas â budd lleol, a gobeithio y gallwn weithio tuag at reoleiddio cadarn o leiaf, yn ogystal â deddfwriaeth, rwy'n credu, i sicrhau nad yw ein cymunedau'n dioddef yn sgil datblygiadau ynni adnewyddadwy a datblygiadau ynni eraill, ond yn dod yn bartneriaid go iawn ynddynt hefyd. Diolch.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7803 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021;

b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd;

c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang;

d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050;

e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725);

f) bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru;

b) ceisio datganoli pwerau ynni yn llawn;

c) gwneud y mwyaf o botensial Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni a gefnogir gan y wladwriaeth;

d) datblygu gweithlu sero-net yng Nghymru drwy hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr yn y sector ynni;

e) hwyluso'r gwaith o ehangu'r pŵer adnewyddadwy sy'n angenrheidiol i gwrdd â sero-net drwy fuddsoddi'n helaeth mewn uwchraddio grid trydan Cymru;

f) datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru, a cheisio cyllid pellach gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith porthladdoedd yng Nghymru i gefnogi'r sector gwynt ar y môr sy'n datblygu;

g) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain y gwaith o nodi datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae angen ymateb brys ar unrhyw argyfwng. Dyna'r neges sydd wrth wraidd ein dadl heddiw, gan y diffinnir argyfwng fel rhywbeth y mae angen gweithredu arno ar unwaith; dyna sy'n ei wneud yn argyfwng. Rydym ni yng Nghymru wedi datgan argyfyngau natur a hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ond hyd yn hyn, ni chafwyd digon o weithredu i atgyfnerthu'r datganiadau hynny. Mae arnaf ofn nad yw aros yn fraint y gallwn ei fforddio mwyach. Mae Cymru a'r byd yn wynebu trychinebau hinsawdd a natur, ac yn yr un modd ag y mae'r argyfyngau hyn yn cydblethu a'u hachosion yn gydgysylltiedig, mae'n rhaid i'w hatebion fod wedi'u cydblethu hefyd. Mae'n rhaid inni gael dulliau cydradd o fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn, y newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth, oherwydd Ddirprwy Lywydd, rydym ar drobwynt yn hanes y ddynoliaeth. Nid yn aml y gallwn ddweud rhywbeth mor fawr â hynny mewn gwirionedd, ond mae'n wir. Nid yn unig y bydd y dewisiadau a wnawn yn awr, neu'r rhai y methwn eu gwneud, yn gosod y sefyllfa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, byddant hefyd yn sicrhau a yw'r byd hwnnw'n dal i fodoli ai peidio.

Mae COP15 yn agor yr wythnos hon ac mae COP26 ar y gorwel. Nawr, maent yn rhoi cyfle i'r byd wrthdroi'r newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth. Mae llawer iawn yn y fantol, ond mae llawer yn ofni y gallai'r fframweithiau a ddaw o'r COP fod yn esgus dros beidio â chymryd camau cryfach, a phawb yn claddu eu pennau yn y tywod ar yr union adeg y mae'r tywod hwnnw'n llifo allan o'r awrwydr, ac ar yr awr dyngedfennol, gallai arweinwyr y byd fethu gwneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Ond nid oes angen i bethau fod felly, a gall Cymru helpu i osod y cywair. Yn hytrach nag aros i COP26 a COP15 ddod i ben a defnyddio'r fframweithiau hynny i lunio ein hatebion ein hunain, gallem arwain y ffordd a dangos unwaith eto sut y gall gwlad o faint Cymru arwain y byd.

Dywedais na allwn fforddio aros, ond mae'r datganiadau a wnaethom a'r cynadleddau sydd i ddod yn rhoi cyfle inni fod yn radical, i fod yn arloesol ac i dorri cwys newydd, gan fod angen gweithredu ar frys. Mae'r argyfwng hinsawdd eisoes yn taro ein cymunedau'n galed. Y Rhondda, Llanrwst, Ystrad Mynach—mae strydoedd ym mhob cornel o'n gwlad, bron â bod, wedi wynebu llifogydd erchyll. Mae cartrefi a busnesau wedi'u dinistrio, ac mae tirlithriadau o domenni glo anniogel yn fygythiad parhaus. Mae tanau gwyllt a sychder wedi dod yn gyffredin, a bob blwyddyn daw tymereddau uwch nag erioed â dinistr yn eu sgil, gan godi'n ddi-droi'n-ôl fel y moroedd wrth ein traed.

Yn union fel y mae rhai pethau'n codi, mae eraill yn cwympo. Disgwylir i'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar ein planed arwain at golli miliwn o rywogaethau. Yng Nghymru, mae'r RSPB a phartneriaid eraill wedi ein rhybuddio yn eu hadroddiad Cyflwr Natur 2019 fod 666 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddifodiant, ac mae 73 rhywogaeth eisoes wedi diflannu, sy'n drychineb y dylem wneud mwy na dim ond ei nodi a symud ymlaen. Mae'r rhywogaethau hynny wedi ein gadael oherwydd y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Mae niferoedd gloÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant ers 1976, ac mae 30 y cant o rywogaethau mamaliaid y tir mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl yng Nghymru, fel y wiwer goch a llygoden y dŵr. Ddirprwy Lywydd, mae'r wyddoniaeth yn glir, ac mae Cymru yn teimlo effeithiau'r argyfyngau hyn sy'n cyd-fodoli, yr un sy'n parhau i godi a chodi, a'r llall sy'n ein tynnu i lawr i ddyfnderoedd colled.

Felly, beth y gallwn ei wneud i newid hyn? Wel, mae ail ran ein cynnig yn nodi cyfres o gamau beiddgar ac uchelgeisiol y gall, ac y mae'n rhaid i Gymru eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â difrifoldeb yr argyfyngau hyn. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gynyddu potensial ein gwlad ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth. Rydym yn galw am ddatblygu gweithlu sero-net yn y sector ynni, ehangu capasiti ynni adnewyddadwy drwy fuddsoddi mewn gwaith uwchraddio i'r grid trydan, strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru a fyddai'n cefnogi'r sector gwynt ar y môr, a chynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni ac i sicrhau nad yw datblygiadau adnewyddadwy yn cael eu cynllunio yn yr ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol.

Dywedais fod adnoddau ar gael i ni, ond nid yw holl adnoddau Cymru o dan ein rheolaeth, a dyna pam ein bod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgyrchu dros ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron yn llawn a datganoli pwerau ynni yn llawn, er mwyn sicrhau bod gennym yr holl ysgogiadau sydd eu hangen arnom i fynd benben â'r argyfyngau hyn.

Nawr, bydd llawer o'r hyn y siaradwn amdano yn y ddadl hon ar raddfa enfawr, targedau byd-eang a llwybrau a chynlluniau sy'n ymestyn ddegawdau i'r dyfodol, ond nid mewn graffiau neu rifau neu beilonau yn yr awyr yn unig y caiff effeithiau diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn y meysydd hyn eu mesur. Effeithir ar fywydau pobl ar lawr gwlad mewn ffordd aruthrol o bersonol hefyd. Mae'r argyfwng ynni diweddar yr ydym yn dal i fod yn ei ganol wedi tanlinellu ein dibyniaeth ar farchnadoedd ac adnoddau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, a pha mor agored yr ydym i'w siociau hwy. Mae cwsmeriaid yn wynebu biliau uwch ac mae'r diwydiant yn wynebu toriadau yn y cyflenwad a chau i lawr. Y teuluoedd sydd leiaf abl i fforddio prisiau uwch fydd yn cael eu taro waethaf. Mae'r llifogydd y soniais amdanynt yn gynharach nid yn unig yn dinistrio tai, maent yn rhwygo bywydau pobl. Dyna ganlyniad diffyg gweithredu.

Ddirprwy Lywydd, pan gawsom ein dadl ym mis Mehefin, a arweiniodd at y Senedd yn datgan argyfwng natur, dywedodd Mike Hedges y gallai cymaint o greaduriaid annwyl yr ydym yn eu hadnabod mewn llyfrau plant ddiflannu o’n byd cyn bo hi