Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/09/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y cyfarfod yma yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

Cyn symud i'r eitem gyntaf, dwi eisiau cyhoeddi canlyniad balot cyntaf y chweched Senedd ar gyfer Bil Aelod a gynhaliwyd heddiw. Mae'n bleser gen i gyhoeddi y gall Peter Fox ofyn i'r Senedd am gytundeb y Senedd ar y cynnig ar gyfer Bil bwyd (Cymru). Felly, llongyfarchiadau i Peter Fox, a phob dymuniad da i chi wrth hyrwyddo y Mesur yma. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Yr eitem gyntaf, felly, ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn gan Jayne Bryant. 

Cefnogi Cyn-filwyr

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr yng Nghymru? OQ56885

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau ac adeiladu ar y cymorth a'r gwasanaethau a ddarperir i'n cyn-filwyr yng Nghymru. Ceir manylion ynglŷn â'n gwaith a'n cynnydd parhaus yn ein trydydd adroddiad blynyddol ar gyfamod y lluoedd arfog, a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae arnom ddiolch a chefnogaeth i'r dynion a'r menywod yn ein lluoedd arfog. Bydd y digwyddiadau diweddar yn Affganistan wedi ail-greu teimladau anodd i’r rheini a fu'n gwasanaethu yno a’u teuluoedd. Mae grwpiau yn fy etholaeth i, fel clwb brecwast y lluoedd arfog a chyn-filwyr Casnewydd a Hwb Cyn-filwyr Casnewydd, yn darparu cymorth cymheiriaid. Yn ychwanegol at eu cymorth arferol i helpu cyn-filwyr, gwn fod yr hwb cyn-filwyr wedi trefnu sesiynau agored gyda therapyddion clinigol i helpu'r rheini y bu'r ychydig fisoedd diwethaf yn anodd iddynt. Maent hefyd wedi darparu cynllun cymorth gan gymheiriaid i gysylltu cyn-filwyr â'i gilydd er mwyn rhannu profiadau a chynnig cymorth i'w gilydd. Mae ymwybyddiaeth o'r rhwydweithiau cymorth hyn yn hanfodol. Sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i gysylltu cyn-filwyr a'u teuluoedd â'r cymorth sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yno ar eu cyfer fel y maent hwy wedi bod yno ar ein cyfer ninnau?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod, Jayne Bryant, am ei chwestiwn? Gwn fod yr Aelod yn ymrwymedig iawn i gefnogi cyn-filwyr, nid yn unig yn ei hetholaeth ei hun, yn ei chymuned ei hun, ond ar draws y wlad. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi pan ddywed fod Cymru'n genedl sy’n falch o’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr, a chytunaf yn llwyr fod arnom ddyled fawr i’r holl ddynion a menywod sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn Affganistan.

Mewn cydweithrediad â'n partneriaid, rydym yn parhau i ddarparu cymorth i gyn-aelodau o luoedd arfog y DU yng Nghymru sydd wedi gwasanaethu yn Affganistan. Mae cymorth ar gael gan GIG Cymru i Gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru, ac maent yn darparu cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl, ynghyd â'n llinell gymorth iechyd meddwl. Ond mae'r Aelod hefyd yn crybwyll y rôl anhygoel y mae'r sefydliadau gwirfoddol a chymunedol hynny'n ei chwarae yn cefnogi cyn-filwyr mewn cymunedau ledled y wlad, ac mae arnom ddyled fawr iddynt hwythau hefyd. A gwyddom o'n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog mai'r ffordd y gallwn wneud yr hyn a wnawn wrth gefnogi cyn-filwyr yw drwy weithio ar y cyd, sy'n rhywbeth rydym yn parhau i'w wneud. Mae gennym y Porth Cyn-filwyr, sy'n siop un stop, ond rydym yn sicrhau ein bod yn parhau i ledaenu'r neges er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, ar lefel Cymru gyfan, ond ar lefel leol hefyd. Ac a gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto, a diolch ar ran Llywodraeth Cymru, i'r sefydliadau hynny am eu gwaith yn ei hetholaeth?

Weinidog, rwy'n adleisio'r hyn a ddywedwch yn llwyr, yn ogystal â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod o Orllewin Casnewydd, wrth ddweud bod arnom ddyled enfawr i gyn-filwyr. Nododd ymchwil gan y Lleng Brydeinig Frenhinol fod aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn agored i ddigwyddiadau a heriau sy'n eu gwneud yn fwy agored i deimlo'n unig ac yn ynysig. Daethant i'r casgliad fod un o bob chwe aelod o gymuned y cyn-filwyr wedi nodi eu bod wedi cael rhyw anhawster yn eu perthynas ag eraill neu unigrwydd, sef oddeutu 770,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig. Fel y gŵyr pob un ohonom, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonoch wedi clywed, mae cysylltiad rhwng unigrwydd a phwysedd gwaed uchel, iselder, gorbryder, clefyd Alzheimer, a chynnydd o 30 y cant yn y risg o farw cyn pryd. Mae pobl sy'n dioddef o unigrwydd yn fwy tebygol o ymweld â meddygon teulu ac ysbytai, ac yn fwy tebygol o fynd i ofal awdurdodau lleol, felly mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol nid yn unig yn lliniaru dioddefaint trigolion lleol, ond hefyd yn rhan bwysig o waith ataliol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Rwy'n siŵr y byddwch yn deall bod awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol mewn cymunedau, ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol i ddeall lefelau unigrwydd yn eu hardaloedd yn benodol, a nodi pwy sydd mewn perygl yn ogystal â chymryd camau i fynd i'r afael â hynny. Pa drafodaethau a gawsoch, Weinidog, gyda'r awdurdodau lleol i wella'r mesurau y gallant eu rhoi ar waith i helpu aelodau o'r lluoedd arfog sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig? Diolch.

13:35

Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Aelod hefyd am ei chwestiwn a'i chefnogaeth i gymunedau ein lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru? Ac mae'n llygad ei lle yn tynnu sylw at rai o'r heriau y gall y rheini sydd wedi gwasanaethu eu hwynebu wrth bontio i fywyd sifil o ganlyniad i'w profiad hefyd. A dyna pam ein bod wedi sicrhau ein bod wedi buddsoddi mewn pethau fel GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan gynnwys cynnydd o 35 y cant mewn cymorth buddsoddi. Ond ar lefel awdurdodau lleol hefyd, rydym yn falch iawn o'r gwaith y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn ei wneud, ac yn wir, mewn sgyrsiau â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, maent wedi bod yn awyddus iawn i edrych ar sut y gwnawn hynny ar lawr gwlad, a sut y gallwn sicrhau bod gennym bwynt cyswllt a'n bod yn cydgysylltu. Felly, rydym yn gweithio'n agos gyda swyddogion cyswllt y lluoedd arfog a gynrychiolir yn y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, ond hefyd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ond fel bob amser, rydym yn awyddus i adeiladu ar y cymorth hwnnw, i nodi unrhyw fylchau sy'n parhau ac i sicrhau bod gan gyn-filwyr fynediad at gymorth. A chredaf mai un ffordd o wneud hynny o bosibl yw sicrhau ein bod yn rhannu pethau fel y Porth Cyn-filwyr gyda'r Aelodau yn fwy rheolaidd, fel y gall pob un ohonom ddefnyddio ein rhwydweithiau ein hunain i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o hynny hefyd.

Byrddau Cyrff Cyhoeddus

2. Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodaeth byrddau cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu cymdeithas? OQ56872

Diolch, Heledd Fychan, am eich cwestiwn. Mae gwaith yn digwydd i roi argymhellion y strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru ar waith. Ei nod yw gwella amrywiaeth ein harweinwyr cyhoeddus, i 'adlewyrchu Cymru wrth redeg Cymru'. 

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei hymateb. O edrych ar wefan Llywodraeth Cymru, gall unrhyw un wneud cais am benodiad cyhoeddus. Ond mae yn broses gymhleth, gyda llu o ffurflenni ac mae angen llu o gymwysterau hefyd. Mae yna anghysondeb o ran y rolau a chyflog hefyd. Os cymerwn ni esiampl ar wefan Llywodraeth Cymru ar y funud, mae yna hysbyseb am is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda dim cyflog ond yn disgwyl o leiaf 18 diwrnod y flwyddyn o waith. Pa gamau, felly, mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nid yn unig y gall unrhyw un wneud cais, ond hefyd y gallan nhw fforddio gwneud y swydd os ydyn nhw'n cael eu penodi? 

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Mae hyn yn bwysig iawn yn wir, gan ein bod yn ceisio chwalu'r rhwystrau o ran mynediad at yr holl gyrff cyhoeddus pwysig hyn ac er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn. Dyma pam ein bod wedi datblygu strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, a gyhoeddwyd fis Chwefror diwethaf. Nododd y strategaeth honno, yn sgil cryn dipyn o ymgynghori, fod pobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phobl anabl yn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar fyrddau cyrff cyhoeddus. Ond gwyddom hefyd fod rhwystrau economaidd-gymdeithasol yn bodoli o ran mynediad at y swyddi cyhoeddus hyn.

Fe sonioch chi am brosesau cymhleth. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn edrych arno'n gyson. Mae'n rhaid inni gadw at drefn lywodraethu'r cod ar benodiadau cyhoeddus, ond rwyf bob amser yn archwilio'r cod hwnnw i edrych am ffyrdd o'i symleiddio a'i wneud yn fwy hygyrch. Felly, rydym yn gwneud llawer o bethau i alluogi pobl i ymgeisio am swyddi cyhoeddus, ac rwy'n falch iawn o groesawu cynllun mentora i Gymru gyfan, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, sy'n cael ei redeg gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, Anabledd Cymru a Stonewall Cymru gyda'r nod penodol o recriwtio a mentora menywod, pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol i ymgymryd ag arweinyddiaeth gyhoeddus a swyddi gwleidyddol.

Rwyf innau hefyd o'r farn fod arnom angen amrywiaeth yn ein penodiadau cyhoeddus. Rwy'n datgan buddiant: rwy'n gyn-aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fe'm hanfonwyd yno gan fy awdurdod lleol i gynrychioli trigolion Powys. Pan gyrhaeddais yno, cefais fy synnu a fy siomi wrth weld nad oedd rhai o’r bobl a benodwyd i’r parc cenedlaethol yn byw o fewn ffiniau'r parc, ac nad oedd rhai ohonynt yn byw yng Nghymru hyd yn oed. Ac roedd diffyg cynrychiolaeth difrifol hefyd i bobl o wahanol gefndiroedd, fel pobl ifanc, pobl LHDT a phobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Ac rwyf bob amser yn meddwl tybed sut y mae pobl nad ydynt yn dod o gymuned, nad ydynt yn cynrychioli'r amrywiaeth yn y gymuned honno, yn gwybod beth sydd orau i'r bobl sy'n byw yno.

Ar benodiadau cyhoeddus, er enghraifft, yn ddiweddar, cafodd cyn-uwch gynghorydd gwleidyddol i grŵp Llafur Cymru a chynghorydd Llafur le ar fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwy'n siŵr mai ef oedd yr unigolyn gorau ar gyfer y swydd. Ond does bosibl nad oes ffordd y gall y Senedd hon graffu ar yr apwyntiadau i'n cyrff cyhoeddus, oherwydd i rai, mae arferion fel hyn yn edrych fel swyddi i'r hogiau. Dywedwyd wrthym yn y lle hwn y gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried archwilio ffyrdd y gall y Senedd hon sicrhau bod mwy o bobl a'r Senedd hon yn ymwneud â phenodiadau cyhoeddus, i sicrhau bod y broses gyfan yn cynyddu amrywiaeth a'i bod mor agored a thryloyw â phosibl? Diolch, Lywydd.

13:40

Mae'r Aelod yn codi cwestiynau pwysig, perthnasol, ac eraill y byddwn yn anghytuno â hwy, gan ein bod yn cydymffurfio â'r cod ar benodiadau cyhoeddus—y drefn lywodraethu honno. Mewn gwirionedd, rwy'n fwy na pharod i rannu hynny gyda'r Aelodau, i'w hatgoffa o'r broses, y trefniadau agored a thryloyw, mewn perthynas â phenodiadau i gyrff cyhoeddus. Wrth gwrs, ynglŷn â'r corff y buoch yn aelod ohono—Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog—gellir dod yn aelod ohono drwy lwybrau eraill, fel y gwyddoch. Cawsoch eich penodi gan awdurdod lleol. Ac wrth gwrs, mae hynny'n wir am gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Ond credaf fod eich profiad o ran cydnabod diffyg amrywiaeth, diffyg pobl ifanc, yn berthnasol iawn. Felly, hoffwn eich annog hefyd i edrych ar yr adroddiad—y strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant—gan ei fod yn edrych yn drwyadl ar ffyrdd y gallwn wella'r broses benodiadau cyhoeddus. O ganlyniad i'r adroddiad, rydym yn hyfforddi carfannau o bobl, yn enwedig pobl heb gynrychiolaeth ddigonol, i sicrhau y gallant deimlo eu bod yn cael mwy o gymorth ac yn fwy parod i ymgeisio am swyddi mewn cyrff cyhoeddus.

Mae'n rhaid inni ddylanwadu hefyd ar y cyrff cyhoeddus eu hunain, fel eu bod yn cydnabod bod angen iddynt wneud newidiadau o ran arweinyddiaeth. Mae gennym raglen hyfforddiant arweinyddiaeth, arferion recriwtio teg, hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth, sy'n hanfodol bwysig. Ond y llynedd hefyd, gwnaethom recriwtio 13 o uwch aelodau panel annibynnol o gefndiroedd amrywiol i baneli recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Ac roedd hynny, unwaith eto, yn estyn allan, nid at y pwysigion sy'n aml i'w gweld ar y mathau hynny o baneli a chyrff; mae a wnelo hyn â phobl â phrofiad o fyw yn eu cymunedau lleol, o fyw yng Nghymru, a sicrhau bod gennym fwy o amrywiaeth.

A hoffwn eich annog i gefnogi Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Gallech fentora pobl sy'n cael cymorth drwy Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, gan fod angen y profiad mentora a chysgodi hwnnw ar lawer o bobl—gallent eich cysgodi chi. Ac a dweud y gwir, mae cyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon wedi mentora amryw gynlluniau i alluogi pobl i ymgeisio am swyddi cyhoeddus. Bu rhai ohonom yn nigwyddiad gwobrau Cymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru nos Wener. A Rajma Begum, a enillodd wobr am y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, roeddwn yn falch iawn o weld ei bod hi, o ganlyniad i fentora, wedi gallu cael ei phenodi—gwnaeth gais, ac fe'i penodwyd i Chwaraeon Cymru. Felly, mae hyn yn bosibl, ac mae angen i bob un ohonom, ar draws y Siambr hon, chwarae ein rhan yn hyn o beth.

Cytunaf ei bod yn bwysig iawn fod aelodaeth cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu'r gymdeithas, ond mae'n ymwneud â mwy na nodweddion gwarchodedig yn unig; mae'n ymwneud â phrofiadau bywyd. Yn rhy aml, mae amrywiaeth yn ymdrin â nodweddion gwarchodedig, nid amrywiaeth o ran profiadau bywyd. Pa waith sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod byrddau'n cynnwys aelodau a chanddynt wahanol brofiadau bywyd mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys gwahanol rannau o drefi a dinasoedd? A faint o'r bobl a benodwyd sy'n dod o'r 20 cymuned fwyaf difreintiedig? Rwy'n dyfalu nad oes un.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. Dywedais yn gynharach nad yw'n ymwneud yn unig â nodweddion gwarchodedig a diffyg amrywiaeth yn y cyswllt hwnnw; mae a wnelo hefyd â phrofiad economaidd-gymdeithasol. Dros yr haf, fel y gwyddoch, ymwelais â llawer o brosiectau i gyfarfod a gwrando ar bobl a chanddynt brofiad o fyw mewn cymunedau difreintiedig iawn, gan gynnwys Ffydd Mewn Teuluoedd yn Abertawe, yn eich etholaeth. Y menywod y cyfarfûm â hwy yno, y rhieni—y menywod â'u plant—byddent yn aelodau delfrydol o gyrff cyhoeddus. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr yng Nghomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe, gan y credaf fod pobl, p'un a ydych yn llywodraethwr ysgol, mae ffyrdd i mewn hefyd, ac rydym yn annog hynny wrth gwrs. Mae'n dda iawn cychwyn ar y cam cyntaf, os ydych yn mynd at gyngor cymunedol, llywodraeth leol, llywodraethwyr ysgolion neu gynghorau iechyd cymunedol, sydd wedi bod yn hysbysebu hefyd yn ddiweddar. Felly, mae hwnnw'n bwynt perthnasol iawn y byddwn yn ei ystyried.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidlau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.

Diolch, Lywydd. Cafwyd adroddiadau bod oddeutu 63 y cant o goedwig Uganda wedi'i thorri rhwng 1990 a 2015. Dywedodd Esther Mbayo, Gweinidog yn yr Arlywyddiaeth, yn 2016 fod llawer o bobl wedi bod yn ymwneud â thorri coed yn anghyfreithlon, gan gynnwys, a dyfynnaf,

'personél diogelwch, rhai gwleidyddion, swyddogion [coedwigoedd], masnachwyr coed, gwerthwyr siarcol a phobl leol.'

Ychydig cyn y toriad, dathlodd prosiect Maint Cymru, sy'n ymateb i'r angen byd-eang i ailgoedwigo, ac a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, eu bod wedi plannu 15 miliwn o goed yn rhanbarth Mynydd Elgon ym Mbale yn Uganda—camp wych y dylai pawb yng Nghymru ei chydnabod.

Mae cwestiwn ysgrifenedig i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi datgelu bod gan Lywodraeth Cymru femoranda cyd-ddealltwriaeth gyda phedair Llywodraeth ardal yn rhanbarth Mbale yn Uganda, ond nid yw’r rhain yn benodol ar gyfer diogelu'r coed a blannwyd drwy brosiect Maint Cymru yn hirdymor. Ar y naill law, gallaf weld ymgais glir y Llywodraeth hon i helpu i ailgoedwigo ein planed a chreu bywoliaeth gynaliadwy i ffermwyr ymgynhaliol yn Uganda, ond ar y llaw arall, gallaf weld eich bod wedi methu rhoi unrhyw fesurau ar waith i ddiogelu'r coed y mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi'n helaeth ynddynt. A all y Dirprwy Weinidog, neu'r Gweinidog, egluro pam y byddai'r Llywodraeth hon yn gwario miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ar blannu coed mewn gwlad arall, heb drafferthu rhoi unrhyw gytundeb ar waith gyda Llywodraeth Uganda—lleol neu fel arall—i ddiogelu safle Mynydd Elgon rhag cael ei dargedu gan dorwyr coed anghyfreithlon?

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Cawsom gwestiwn yn yr haf, ac fe'i hatebais. Rwy'n falch iawn o fenter Maint Cymru yma—menter arloesol yn rhaglen Cymru ac Affrica. Rwy'n eich annog i gyfarfod â'r rheini sy'n rhan o'r fenter ac sydd wedi bod yn ymwneud â Maint Cymru i glywed ganddynt am effaith hynod bwysig ac adeiladol Maint Cymru. Ac wrth gwrs, er mwyn cefnogi'r fenter, rydym yn darparu cyllid ac arbenigedd i gymunedau lleol a brodorol mewn rhanbarthau trofannol, ac mae hynny'n eu helpu i ddiogelu a chynnal eu coedwigoedd gwerthfawr, i dyfu mwy o goed ac i sefydlu bywoliaeth gynaliadwy i bobl. Ac mae a wnelo hynny ag addysg, ymgysylltu â'r gymuned ac eirioli, ac mae Maint Cymru yn codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd coed a choedwigoedd trofannol i fynd i'r afael â newid hinsawdd gyda phobl leol a llywodraethau lleol. Ac mae’r ffaith bod y £450,000 y flwyddyn o raglen Cymru ac Affrica—. Yn ddiweddar, cyhoeddasom fod partneriaid yn Uganda bellach wedi dosbarthu dros 15 miliwn o goed, gan weithio tuag at eu targed o 25 miliwn erbyn 2025.

Diolch, Weinidog, am gadarnhau nad oes gennych unrhyw gytundebau gydag awdurdodau Uganda.

Mae sawl prosiect plannu coed mawr yn Uganda wedi mynd ati gyda'r nod o blannu coedwigoedd a gwerthu'r credydau carbon. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod un credyd gwrthbwyso carbon yn cael ei gynhyrchu am bob tunnell o garbon a gedwir yn y coed yn hytrach na'i rhyddhau i'r atmosffer. Mae arolwg llenyddiaeth o werthoedd carbon a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU, ac a gyhoeddwyd ar 2 Medi eleni, yn amcangyfrif y gallai tunnell o garbon deuocsid fod yn werth dros £200 erbyn 2030. O ystyried nifer y coed sy'n cael eu plannu ym Mynydd Elgon, golyga hyn y gallai'r goedwig fod yn werth biliynau o bunnoedd mewn credydau carbon. Mae'n ddiddorol fod y Llywodraeth hon wedi dewis cynnwys ei pholisi o ddarparu ffrwythau, cysgod a choed tanwydd ar gyfer rhanbarth cyfan Mynydd Elgon yn Uganda erbyn 2030 yn ei hadroddiad 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', ac un o nodau prosiect Maint Cymru yw archwilio cyfleoedd i atafaelu carbon a'r defnydd o farchnadoedd carbon gwirfoddol.

Yn gyntaf, Weinidog, a allwch gadarnhau na fydd y Llywodraeth hon, drwy raglen Cymru ac Affrica, yn defnyddio'r goedwig a blannwyd yn Uganda i wrthbwyso allyriadau carbon Cymru? Ac yn ail, a allwch gadarnhau pa gytundeb sydd gennych ar waith i atal Llywodraeth Uganda rhag gwerthu'r credydau carbon a fydd yn cael eu cynhyrchu o'r prosiect 30 miliwn o goed? Diolch.

Wel, rwy'n siomedig iawn gyda'ch cwestiynau y prynhawn yma. Rydym eisoes wedi ymateb yn ysgrifenedig. Ac rwy'n synnu'n fawr gan fod rhaglen Cymru ac Affrica bob amser wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd hon, gan gynnwys Maint Cymru, a gefnogwyd o'r cychwyn cyntaf, mae'n rhaid imi ddweud, gan lawer o sefydliadau anllywodraethol, gan gynnwys Sefydliad Waterloo, a roddodd gryn dipyn o gyllid i Maint Cymru, ynghyd â'i drefniadau llywodraethu yn wir, ac rydym yn falch iawn o hynny—. Rwy'n siŵr y byddant yn barod i gyfarfod â chi er mwyn cael eglurder ar yr holl bwyntiau a wnaed gennych. Ceir cefnogaeth a chytundeb cryf i Maint Cymru fel sefydliad a reolir yn lleol.

Ac a gaf fi ddweud pa mor bwysig yw hyn? Mae gennym gynhadledd ynglŷn â hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd Lee Waters yn siarad yn y gynhadledd honno, gan fod cysylltiad uniongyrchol rhwng hyn a'n huchelgeisiau, ein cysylltiadau a'n partneriaethau mewn perthynas â'r goedwig genedlaethol. Bob tro y caiff coeden ei phlannu yn Uganda gan Maint Cymru, caiff coeden ei phlannu yng Nghymru. Bob tro y caiff plentyn ei eni yng Nghymru, byddant yn cael tystysgrif yn dweud bod coeden wedi'i phlannu yn Uganda a bod coeden wedi'i phlannu yma yng Nghymru. Roeddwn yn sicr yn falch iawn pan welais eu bod yn cael eu rhoi i bob plentyn yng Nghymru. Felly, gadewch inni gael y ffeithiau, gadewch inni sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth yn uniongyrchol gan Maint Cymru, ac rwy'n siomedig iawn ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth ymddangosiadol o'r hyn sydd bob amser wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol gref.

13:50

Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod rhaglen Cymru ac Affrica yn rhaglen bwysig iawn. Yn anffodus, mae trefedigaethedd carbon ar gynnydd yn Affrica, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod gan Uganda broblem fawr gyda ffermwyr ymgynhaliol yn cael eu gorfodi oddi ar eu tir i wneud lle ar gyfer plannu coed y gellir eu defnyddio yn eu tro i werthu credydau carbon a gwrthbwyso allyriadau carbon gwledydd y gorllewin. Yn wir, nododd adroddiad a oedd yn dadansoddi polisi coedwigaeth Uganda fod y fframweithiau cyfreithiol presennol yn brin o ddarpariaethau hanfodol megis gorfodi hawliau deiliadaeth ar gyfer cymunedau lleol a darparu rhwymedïau digonol ac effeithiol os caiff yr hawliau hyn eu torri.

Nid yw holl ardal Mynydd Elgon mewn parth gwarchodedig. Mae rhan sylweddol ohoni mewn perchnogaeth breifat. Byddai polisi'r Llywodraeth hon o ailgoedwigo rhanbarth cyfan Mynydd Elgon gyda ffrwythau, cysgod a choed tanwydd yn galw am gael gwared ar ffermwyr lleol sy'n gweithio ar dir wedi'i ddatgoedwigo. Mae cryn dipyn o ffermio a phrosesu bambŵ yn digwydd ar safle Mynydd Elgon. Byddai cael gwared ar y ffermwyr hyn nid yn unig yn effeithio ar fywoliaeth pobl, ond ar ddiwylliant lleol y gymuned Gisu, lle mae bambŵ yn ddanteithfwyd lleol. A all y Gweinidog egluro sut y gellir sicrhau na chaiff unrhyw ffermwyr eu symud oddi ar eu tir i blannu'r coed hyn? Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau na fydd Llywodraeth Uganda yn defnyddio tir preifat i ateb gofynion prosiect Maint Cymru? Ac yn olaf, pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd fel na fydd y Senedd hon na'r genedl Gymreig yn cael eu cyhuddo o drefedigaethedd carbon ar lwyfan rhyngwladol? Diolch.

Wel, Lywydd, nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth mewn perthynas â'r sgript sy'n cael ei darllen mor fedrus gan yr Aelod y prynhawn yma. Oes, yn amlwg, mae angen peth eglurder ar Maint Cymru a rhaglen Cymru ac Affrica. Rwy'n falch eich bod wedi penderfynu cydnabod y gefnogaeth i raglen Cymru ac Affrica, sydd wedi bod ar waith ers 15 mlynedd a chanddi gysylltiadau sydd o fudd i'r ddwy ochr ag Affrica Is-Sahara a chyda'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth a'r cysylltiadau â'r Llywodraeth. Ni allech wneud hyn heb gydnabyddiaeth o'r fath, ond hefyd, yn hollbwysig, mae hyn yn gysylltiedig iawn â nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a'r degawd o weithredu tuag at agenda 2030.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig o ymrwymiadau newydd sydd i'w gweld yn y rhaglen lywodraethu mewn perthynas â mater gofal plant. Er bod y buddsoddiad parhaus yn Dechrau'n Deg ac ehangu'r cynnig cyfredol i'r rheini mewn addysg a hyfforddiant yn bethau i'w croesawu, ni fydd hyn yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r rheini â phlant iau sy'n byw ar incwm isel neu sydd angen gofal cofleidiol. Bydd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau drwy wella mynediad at ofal plant nid yn unig yn golygu gwell canlyniadau i fenywod a'u teuluoedd, fe fydd hefyd yn sicrhau buddion economaidd i Gymru. Nid yw'r cynnig gofal plant cyfredol yn gweithio i bawb, a chan nad yw ar gael hyd nes bydd plentyn yn dair oed, mae llawer o deuluoedd eisoes wedi gorfod gwneud penderfyniadau ynglŷn â threfniadau gweithio erbyn hynny. Gyda hynny mewn golwg, a all y Gweinidog nodi pa sgyrsiau a gafodd gyda'i chyd-Weinidogion ynghylch rhagor o fuddsoddiad mewn darpariaeth gofal plant yn ystod tymor y Senedd hon? A oes unrhyw gynlluniau i ehangu darpariaeth â chymhorthdal ​​i blant iau er mwyn cydnabod y potensial sydd gan hyn i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chydraddoldeb cymdeithasol? Diolch.

Diolch, Sioned Williams. Cwestiwn hanfodol bwysig mewn perthynas â'n hamcanion i drechu tlodi ac i gydnabod bod darparu gofal plant yn fater cydraddoldeb. Yn amlwg, mae'n fater ac yn faes polisi gwrthdlodi, ond mae hefyd yn ymwneud ag ymyrraeth gynnar ym mywyd plentyn, ac yn wir, y teulu cyfan, fel y gwelir gyda Dechrau'n Deg. Felly, mae'r rhaglen lywodraethu'n parhau i gefnogi ein rhaglen flaenllaw, Dechrau'n Deg, ond darperir cyllid ychwanegol hefyd ar gyfer gofal plant lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant, a chaiff hynny ei gydnabod yn y rhaglen lywodraethu.

Roeddwn yn falch o allu dod gerbron y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol newydd ddydd Llun yr wythnos hon, a buom yn trafod y materion hyn ynghylch edrych ar bwysigrwydd gofal plant a sut y gallem fynd i’r afael â hyn o ran rhoi cymorth. Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sy'n gyfrifol am hyn, a gallaf gadarnhau fy mod wedi cyfarfod â Julie Morgan yn fuan iawn ar ôl ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwn i edrych ar faterion gofal plant. Roeddwn yn falch iawn mai ni oedd yr unig wlad yn y DU a oedd yn darparu gofal plant am ddim i weithwyr allweddol yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae 17,000 o bobl yn gweithio yn y sector gofal plant, felly mae hefyd yn fater sy'n ymwneud â chyflogaeth. Mae'n rhan o'n heconomi. Felly, mae mynd i’r afael â rhwystrau, a gwella cyfleoedd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn sicr ar frig fy agenda, ac agenda Llywodraeth Cymru yn wir.

13:55

Diolch, Weinidog. Er bod camau i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant yn gam i'w groesawu—a gwnaethoch chi gyfeirio ato fe fanna—allwch chi efallai ddarparu unrhyw wybodaeth bellach am natur y cyllid ychwanegol hwn a sut mae ystyriaeth o anghydraddoldebau yn llywio'r cynlluniau penodol yma?

Credaf y byddai'n briodol pe gallai'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol roi diweddariad ar weithrediad yr ychwanegiad hwnnw, o ran cyllid i rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer mynediad at ofal plant. Ond hefyd, wrth gwrs, mae llwybrau eraill ar gael i rieni at gymorth yn hyn o beth, yn enwedig mewn perthynas ag addysg bellach ac addysg uwch. Er na fu modd iddynt weithredu y llynedd, mae gennym crèches a meithrinfeydd mewn nifer o'n colegau AB ledled Cymru, ac yn wir, rydym yn darparu cymorth gyda mynediad at ofal plant. Ond mae'r cynnig gofal plant, wrth gwrs, yn hanfodol bwysig o ran y 30 awr a gynigir i'r rheini sydd mewn gwaith, ac yn wir, yn ystod y rhaglenni gwyliau.

Dros yr haf, ymwelais â llawer o brosiectau—ac rwyf eisoes wedi sôn am un yn Abertawe, Betws, ac roedd Parc Caia yn un arall, yn Wrecsam—lle darperir gofal plant drwy gynllun rhaglen gwella gwyliau’r haf, a hefyd drwy'r cynlluniau chwarae y buom yn eu hariannu, a'r Haf o Hwyl. Ond yn amlwg, mae hyn oll yn rhan o gael ymagwedd gyfannol tuag at ofal plant. I gloi, hoffwn ddweud, Lywydd, fod y rhaglen brecwast am ddim mewn ysgolion, sy'n weithredol unwaith eto, bob amser wedi bod yn ffordd dda iawn o gynnig gofal plant i lawer ar ddechrau'r diwrnod gyda brecwast maethlon.

Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, dyw hwnna ddim yn mynd i fynd i'r afael â'r problemau a'r bylchau sydd ar gyfer y plant sydd ddim yn yr ysgol.

Buaswn hefyd yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth gennych chi, efallai, mewn perthynas â her arall yn y maes hwn. Mewn ffordd, gwnaeth eich ateb diwethaf chi amlinellu hynny, achos mae cyrchu gwybodaeth yn dal i fod yn rhwystr sylweddol i lawer o rieni. Fel y gwnaethoch chi efallai darlunio yn eich ateb, mae darpariaeth gofal plant a chymorth ariannol yn glytwaith cymhleth sy'n cael ei weinyddu gan wahanol sefydliadau. Felly, a yw'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut gellid gwella mynediad at wybodaeth, efallai drwy gael rhyw fath o siop un-stop ddigidol, lle byddai rhieni yn gallu mewnbynnu eu gwybodaeth a chael wedyn ddarlun llawn o'r gefnogaeth maen nhw'n gymwys i'w hawlio a lle i gyrchu'r gefnogaeth honno?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag argaeledd gofal plant. A chredaf fod eich cwestiwn wedi cymell y pwynt ynglŷn â sicrhau bod hynny'n hygyrch a bod rhieni'n ymwybodol o hynny. Felly, yn sicr, byddaf yn mynd â hynny yn ôl ac yn gofyn y cwestiwn i'm cyd-Aelod, Julie Morgan.

Ond credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn ein bod yn ystyried y ffyrdd yr ydym yn ceisio rhoi cymorth i deuluoedd mewn perthynas â threchu tlodi plant. Mae Dechrau'n Deg yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd, nid oes dwywaith am hynny, ac yn gwella'r amgylchedd dysgu a'r canlyniadau hefyd. Ond mae'n bwysig iawn hefyd ein bod yn edrych ar ein rhaglen weithredu pwyslais ar incwm, lle rydym yn cynnig cymorth ac wedi llwyddo i sicrhau bod mwy o deuluoedd yn gallu cynyddu incwm eu haelwyd. Ac mae hynny'n cynnwys nid yn unig manteisio ar fudd-daliadau ond cyngor ar ddyledion a chyngor ariannol i fynd i'r afael â'r premiwm tlodi lle mae aelwydydd yn talu'n anghymesur am nwyddau a gwasanaethau. Wrth gwrs, mae hon yn broblem enfawr wrth inni wynebu'r toriad o £20 sydd ar y ffordd i gredyd cynhwysol, toriad cwbl ddiangen gan Lywodraeth y DU, gyda'r holl broblemau eraill sy'n wynebu teuluoedd mewn angen a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi.

14:00
Gwasanaethau Bancio i Gyrff a Mudiadau Gwirfoddol

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bancio i gyrff a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru? OQ56880

Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Rwy'n pryderu ynghylch y lleihad yn y gwasanaethau bancio yng Nghymru oherwydd y nifer gynyddol o fanciau sy'n cau. Rydym yn parhau i ddefnyddio ein dylanwad gyda'r sector bancio a Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau bancio ar gyfer cyrff a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael eu cadw.

Diolch yn fawr am hynny. Mae banciau nawr yn dechrau codi tâl ar fudiadau gwirfoddol am wasanaethau bancio, er efallai yn aml iawn, does oes ganddyn nhw fawr ddim trafodion ariannol yn digwydd o un flwyddyn i'r llall, a does yna ddim llawer o bres chwaith gan nifer ohonyn nhw yn y cyfrif, felly mae gorfod talu am gael cyfrif banc yn anghymesur, ac wrth gwrs yn mynd i gael effaith sylweddol arnyn nhw fel cyrff. Mae rhai o'r banciau yma ar yr un pryd yn trio portreadu eu hunain fel banciau lleol sy'n cefnogi cymunedau Cymru, ond y gwir amdani yw eu bod nhw'n cau canghennau, maen nhw'n cilio o'r cymunedau hynny a nawr maen nhw'n cosbi mudiadau gwirfoddol bychain lleol am fancio gyda nhw. Felly, fedrwch chi fel Llywodraeth anfon neges glir at y banciau mawr bod hyn yn annerbyniol? A hefyd, allwch chi roi diweddariad i ni ar ble rŷn ni arni gyda sefydlu Banc Cambria, a phryd ŷch chi'n rhagweld y bydd hwnnw efallai'n medru camu i'r adwy i ddarparu gwasanaethau amgen i'r miloedd o gyrff a mudiadau gwirfoddol sydd gennym ni, ynghyd â'r boblogaeth ehangach?

Diolch yn fawr, Llyr. Rwy'n ymwybodol fod nifer o sefydliadau gwirfoddol yn cael anawsterau gyda gwasanaethau bancio. Fel y dywedwch, gallai hynny olygu dod o hyd i gyfrif sy'n rhad ac am ddim—baich arall i'r sector gwirfoddol—a hefyd yn addas ar gyfer anghenion mudiadau gwirfoddol, a gweld a oes banc ar gael beth bynnag bellach gyda chau banciau yn y lle cyntaf.

Credaf ei bod yn bwysig inni edrych ar ein 19 cyngor gwirfoddol sirol, yn enwedig ar gyfer y trydydd sector—y mudiadau gwirfoddol sy'n rhoi cyngor ac arweiniad i'r sector yn eu hardaloedd, yn eu cymunedau—ac edrych hefyd ar undebau credyd yng Nghymru. Gallant ddarparu cyfrifon a chyfleusterau bancio i sefydliadau elusennol. Rwyf am sôn am fudiad gwirfoddol gwych, elusen o'r enw Purple Shoots. Maent wedi bod yn gweithio gydag undebau credyd i hyrwyddo cyfleoedd i hybu gwasanaethau gyda'r undebau credyd at y diben hwn. A hefyd, rydym newydd benodi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sefydlu'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol ar ein rhan. Byddwn yn cyfarfod â banciau cyn bo hir iawn i'w hatgoffa o'r angen i sicrhau nad yw pobl yng Nghymru dan anfantais oherwydd eu penderfyniadau i ddal ati i gau canghennau, a byddwn yn codi'r mater y mae'r Aelod wedi'i godi gyda hwy mewn perthynas â chyfleoedd i sefydliadau gwirfoddol.

Wrth gwrs, mae gennym ymrwymiad i'n banc cymunedol. Mae'n cael ei reoleiddio'n dynn iawn; credaf imi ymateb mewn cwestiynau blaenorol ynglŷn â hyn. Mae gwaith ar y gweill i sefydlu banc cymunedol i Gymru, ac mewn gwirionedd, Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, sydd â throsolwg ar greu banc cymunedol Cymru yn ei gyfnod datblygu hyd at ei sefydlu gan y sector preifat. Dyna yw Banc Cambria wrth gwrs, ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Bydd yn fanc cydfuddiannol yng Nghymru, sy'n eiddo i'w aelodau ac yn cael ei redeg er budd ei aelodau, gyda 30 o safleoedd newydd dros y degawd nesaf. Gwn y byddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd, gan ddechrau, wrth gwrs, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Economi.

Weinidog, mae ein helusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau eglwysig yn dibynnu ar gyfrifon banc bach, felly mae'n ddigalon clywed, o fis Tachwedd ymlaen, y bydd un banc stryd fawr yn codi £60 y flwyddyn ar y sefydliadau bach hyn i gadw'r cyfrifon ar agor. Clywais y byddant hefyd yn cyflwyno taliadau newydd am drafodion cangen, gan gynnwys ffi i dalu arian i mewn a chodi arian parod, gyda 40c i ddim ond talu siec i mewn. Y pryder yw y bydd banciau eraill yn dilyn eu hesiampl naill ai drwy weithredu taliadau tebyg neu gael gwared ar wasanaethau canghennau lleol yn gyfan gwbl. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rwyf wedi derbyn adroddiadau fod grŵp yn fy etholaeth bellach yn gorfod cadw eu harian mewn sêff, gan fod taliadau banc cynyddol wedi dod yn gymaint o bryder. Mae llawer o drysoryddion y grwpiau cymunedol a'r eglwysi hyn yn eithaf oedrannus, ac maent bellach yn ystyried rhoi'r gorau i'w cyfrifoldebau oherwydd diffyg gwasanaethau wyneb yn wyneb lleol a threfniadau cynyddol gymhleth. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa gymorth arall y gallwch ei roi i gynorthwyo'r grwpiau bach hyn? A fyddech yn barod i ddefnyddio Banc Datblygu Cymru neu Fanc Cambria, fel yr awgrymodd Llyr Gruffydd, fel ffordd i grwpiau cymunedol bach allu agor a chadw cyfrifon banc ar sail lawer haws? Diolch.

14:05

Diolch eto i Janet Finch-Saunders am nodi effaith y taliadau hyn drwy sôn am brofiadau sefydliadau gwirfoddol, yn ogystal â bod cael gafael ar wasanaethau bancio yn dod yn fwyfwy anodd. A gaf fi ailadrodd ei bod yn bwysig iawn inni gysylltu â'n cynghorau gwasanaethau gwirfoddol, sy'n ymwneud â hyn? Rydym yn cyfarfod â'r banciau cyn bo hir a byddwn yn rhoi hyn ar yr agenda.

Gwrandawiadau cyn Penodi

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau cyhoeddus? OQ56845

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Yn 2019, cytunodd y Prif Weinidog a'r Llywydd y byddai rhai penodiadau cyhoeddus pwysig i swyddi cadeiryddion yn cynnwys gwrandawiad cyn craffu, a fyddai'n cael ei gynnal gan bwyllgor pwnc perthnasol o'r Senedd. Mae'r weithdrefn hon wedi'i rhoi ar waith i wella ymhellach y gwaith o graffu ar y broses o wneud penodiadau cyhoeddus, yn ogystal â thryloywder y broses honno.

Mae'r strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn amlinellu y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau ar gyfer cynnal gwrandawiadau cyn penodi. Y rhesymeg, yn gwbl briodol yn fy marn i, yw sicrhau bod y broses recriwtio mor dryloyw a chadarn â phosibl. Rhwng 2018 a heddiw, cafwyd 296 o benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, gyda 30 ohonynt yn gadeiryddion. Mae'r adran ymchwil yn fy hysbysu mai dim ond tri a gafodd wrandawiadau cyn penodi yn ystod y cyfnod hwn. Deallaf mai addewid maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog yn 2018 oedd cyflwyno gwrandawiadau cyn penodi fel mater o drefn. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod tri gwrandawiad allan o 296 o benodiadau cyhoeddus yn siomedig ac nad yw'n cynrychioli'r lefel o dryloywder yr ymrwymodd y Prif Weinidog iddi. O ystyried y tair blynedd a gafodd y Llywodraeth i sefydlu gwrandawiadau cyn penodi fel mater o drefn, a all y Gweinidog gadarnhau i'r Siambr yn awr pa benodiadau cyhoeddus a fydd yn ddarostyngedig i wrandawiadau cyn penodi? Diolch.

Rhaid imi ddweud, Lywydd, rwy'n nodi ysfa i geisio dod o hyd i rywbeth i gweryla yn ei gylch. Nid testun cweryl mo hyn, ond newyddion da. Yn 2019, cytunodd y Llywydd a'r Prif Weinidog—mae hwn hefyd yn gyfrifoldeb seneddol. Mae gwrandawiadau cyn penodi bellach ar gael wrth gwrs, ac wedi'u cynnal er mwyn penodi cadeirydd i gorff pwysig, er mwyn sicrhau bod modd bod yn dryloyw. Credaf efallai ei bod hi'n bwysig i bwyllgorau sydd wedi bod yn rhan o'r gwrandawiadau cyn penodi hynny allu rhannu eu profiad, oherwydd mae wedi bod yn werthfawr iawn. Rhaid i'r pwyllgor gyhoeddi adroddiad o fewn 48 awr i'r gwrandawiad, i nodi ei farn ar addasrwydd yr ymgeisydd. Ond hefyd, mae hyn yn ymwneud â gwella—ac rwy'n ddiolchgar am eich sylw'n cefnogi'r rhaglen amrywiaeth a chynhwysiant—amrywiaeth arweinwyr cyhoeddus yng Nghymru. Mae cynnal gwrandawiadau cyn penodi yn bwysig ac mae'n rhoi sicrwydd i bobl nad—rwyf wedi sôn am bwysigion—yw'r penodiadau hyn, ac nid swyddi i'r hogiau ydynt ychwaith.

Hiliaeth yn y System Cyfiawnder

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu, yr heddlu, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ynglŷn â hiliaeth yn y system cyfiawnder? OQ56864

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i drafod amrywiaeth o faterion pwysig, gan gynnwys cydraddoldeb hiliol. Daeth ein hymgynghoriad ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i ben ar 15 Gorffennaf. Mae troseddau casineb a chyfiawnder yn flaenoriaeth allweddol yn y cynllun.

14:10

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwyf am grybwyll tri adroddiad y byddwch yn gyfarwydd iawn â hwy yn fy nghwestiwn atodol. Yn gyntaf, yr adroddiad gan Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Mae’r adroddiad hwnnw’n dweud, yn 2017, fod lefel yr anghymesuredd hiliol ym mhoblogaeth y carchardai yn uwch ymhlith carcharorion o Gymru na charcharorion o Loegr. Yn gywilyddus, ni yma yng Nghymru sydd â'r lefel uchaf o garchariadau yng ngorllewin Ewrop, ond hefyd mae pobl ddu chwe gwaith yn fwy tebygol o fod yng ngharchardai Cymru na phobl wyn. Yna nododd adroddiad Lammy, a dynnodd sylw at y ffaith bod nifer yr achosion o orgynrychiolaeth pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol yn fater sydd o fewn cymwyseddau datganoledig y Senedd. Ac yn olaf, nododd y trydydd adroddiad, adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru, fod angen monitro a diwygio parhaus mewn meysydd fel gwaharddiadau ysgolion, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chyfleoedd cyflogaeth. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod argymhellion yr adroddiadau hyn yn cael eu gweithredu i fynd i'r afael â gorgynrychiolaeth pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am y tri adroddiad. Cyfarfûm â Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru pan gyhoeddodd yr adroddiad hwnnw yn ôl yn 2019. Rhoddodd ddarlun clir iawn inni o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, a thynnodd sylw at y duedd honno, fel rydych wedi nodi, fod pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol wedi'u gorgynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol.

O ran y camau i'w cymryd ar hynny, rhoddodd y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol gyfle i ni, ac o ganlyniad i ymgynghori ymlaen llaw mewn gwirionedd, mae hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn y system cyfiawnder troseddol yn un o'r pum prif flaenoriaeth yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Felly, rydym wedi ymateb; mae gennym grŵp sy'n gweithio ar hynny, gyda dirprwy gomisiynydd heddlu a throseddu de Cymru, Emma Wools, Chris Jennings, cyfarwyddwr gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a'r prif gwnstabl, Pam Kelly, yn cymryd rhan. Mae'n hanfodol fod hynny'n rhan o'r cynllun, sy'n destun ymgynghori ar hyn o bryd, ar gyfer gweithredu.

Credaf hefyd eich bod wedi sôn am adroddiad David Lammy. A sonnir am hyn hefyd, wrth gwrs, mewn perthynas â'r comisiwn ar gyfiawnder, adroddiad John Thomas. Rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelod y Cwnsler Cyffredinol; mae'r rhain i gyd yn cael eu hystyried yn is-bwyllgor y Cabinet ar gyfiawnder. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod adroddiad David Lammy yn enwedig yn edrych ar ddiwygiadau i'r system cyfiawnder ieuenctid, er enghraifft, ac ar arallgyfeirio'r gweithlu hefyd.

Felly, rwy'n credu ein bod mewn lle gwell gan ein bod bellach yn edrych ar y tri adroddiad rydych wedi'u nodi ar gyfer gweithredu. Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a chomisiwn Thomas, a'n hymateb iddo, yn hollbwysig.

Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn fusnes i bawb ac mae'n rhaid iddo fod yn fusnes i bawb. Ceir sectorau yng Nghymru sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru, er nad ydynt yn gyrff cyhoeddus ac felly ni fydd yn ofynnol iddynt gadw at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. A wnaiff y Gweinidog ystyried deddfwriaeth i orfodi hynny lle mae cyrff yn cael cymorth ariannol gan y Llywodraeth?

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a reoleiddir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn ddyletswydd yn y gyfraith. Rydym yn ei ddiwygio ar hyn o bryd mewn gwirionedd; rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Rydym wedi gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol hefyd. Mewn llawer o achosion, mae gennym ddeddfwriaeth a ddylai fod yn mynd i'r afael â gwahaniaethu o'r fath, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at wasanaethau cyhoeddus, ond mae angen inni ymateb a chyflawni'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn awr.

I ddilyn cwestiwn fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen, mae gennyf innau ddiddordeb mawr hefyd yn y system cyfiawnder troseddol a gorgynrychiolaeth pobl sydd â nodweddion gwarchodedig, yn enwedig carcharorion du ac ethnig leiafrifol. Mae 26 y cant o boblogaeth y carchardai yng Nghymru a Lloegr yn dod o grŵp ethnig leiafrifol. Mae hynny'n cymharu ag 16 y cant o'r boblogaeth gyfan ledled Cymru a Lloegr. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno nad yw hyn yn dderbyniol, ac nid oes amheuaeth nad yw ein system cyfiawnder troseddol yn gweithio i bobl o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Hoffwn ddilyn cais Rhys ab Owen am ddata a gwybodaeth i ofyn sut y gallwn gael data mwy effeithlon ynghylch carchardai Cymru, yn enwedig poblogaeth y carchardai sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl o gefndiroedd Cymraeg eu hiaith hefyd, ac o gefndiroedd LGBTQI. Diolch yn fawr iawn.

14:15

Diolch yn fawr, Jane Dodds, ac rydych chi wedi rhoi ystadegau syfrdanol i ni. Nid wyf am eu hailadrodd, ond maent yn adroddiad Dr Robert Jones. Rwy'n credu fy mod am wneud un pwynt cyflym, sy'n adlewyrchu cwestiwn Rhys ab Owen hefyd, fod gennym broblem fawr yn y system gyfiawnder gyda diffyg data penodol i Gymru, ac fe sonioch chi am hynny mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig eraill. Roedd hyn yn canolbwyntio'n benodol ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn perthynas â Chanolfan Llywodraethiant Cymru, ond mae angen inni edrych ar hyn o safbwynt ehangach. Rwyf wedi codi'r pwynt hwn droeon gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac fe'i codais mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf gyda'r Gweinidog cyfiawnder ar y pryd, Alex Chalk. Fe nododd fod cynnydd yn cael ei wneud ar y mater, oherwydd mewn gwirionedd cafodd Robert Jones ei lesteirio gan hyn, o ran ei ymchwil, wrth iddo orfod gwneud cais rhyddid gwybodaeth i gael y data. Mae angen y data hwnnw arnom. Mae angen mwy o bŵer arnom. Ac mae angen inni fynd i'r afael â'r ffyrdd y mae'r system cyfiawnder troseddol yn gwneud cam â chynifer o bobl â nodweddion gwarchodedig a nodweddion eraill, gan gynnwys ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Anghydraddoldeb Economaidd a Chymdeithasol

6. Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol yng Nghymru? OQ56888

Mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau amlwg rhwng y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig a'u cymheiriaid. Mae dadansoddiad o effaith economaidd-gymdeithasol coronafeirws yn dangos mai'r rhai a oedd eisoes yn agored i niwed sydd wedi cael eu taro waethaf. Bydd y penderfyniad niweidiol gan Lywodraeth y DU i roi diwedd ar yr ychwanegiad o £20 yn gwaethygu'r gwahaniaethau hyn.

Weinidog, rydym wedi byw drwy gyfnod estynedig o gyni, gyda'r holl niwed a achoswyd. Rydym bellach yn byw ac yn parhau i fyw drwy'r pandemig, ac fel y dywedwch, mae hynny wedi niweidio'r rhagolygon ymhellach i'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rydym yn gweld prisiau bwyd ac ynni'n codi ac maent yn mynd i godi ymhellach. Mae'n gyfnod anodd iawn ar bobl sy'n cael trafferthion yng Nghymru, a gwnaeth Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree hi'n glir mai'r hyn sydd angen ei wneud yw cynyddu incwm a lleihau costau i deuluoedd yn yr amgylchiadau hyn. Mae'n rhwystredig nad yw llawer o'r ysgogiadau treth a budd-daliadau yn nwylo Llywodraeth Cymru, ond wrth gwrs mae pethau y gellir eu gwneud yng Nghymru. Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i weithio i edrych ar ddatganoli'r gwaith o weinyddu budd-daliadau, a fyddai'n helpu mewn sawl ffordd; ystyried cyflwyno'r cynlluniau peilot ar gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau drwy Gymru gyfan, oherwydd gwaetha'r modd, gwyddom fod llawer i'w wneud o hyd i berswadio a galluogi pobl i fanteisio ar fudd-daliadau y mae eu hangen arnynt yn ddybryd ac y byddant yn eu gwario yn eu cymunedau lleol er lles yr economi leol; a hefyd, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych yn ofalus a pharhau i edrych ar ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim? Byddai'r rhain i gyd yn helpu i gynyddu incwm a lleihau costau.

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, John Griffiths. Fe wnaethoch nodi'r effaith anghymesur a'r anghydraddoldebau cynyddol o ganlyniad i COVID-19, a hefyd effaith toriadau pellach gan Lywodraeth y DU—torri'r ychwanegiad o £20 yr wythnos i gredyd cynhwysol—ac wrth gwrs byddwn yn clywed mwy, yn wir, am effaith codi prisiau tanwydd a chostau bwyd hefyd. Felly, fel y dywedodd Sefydliad Bevan, mae angen inni sicrhau y gallwn gynyddu incwm lle y bo modd. Felly, dyna pam y mae'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm wedi bod mor bwysig i gael arian i bocedi pobl, a hefyd y ffaith ein bod yn ymestyn y gronfa cymorth dewisol hefyd. Ond yn sicr, byddaf yn ystyried eich safbwyntiau ar yr ail ymgyrch genedlaethol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau lles yn ddiweddarach yr hydref hwn, fel y gallwn fwrw ymlaen â hynny mewn perthynas â'r cynlluniau peilot, a sicrhau ein bod yn cyflawni yn ôl eich adroddiad blaenorol o'r adeg pan oeddech yn Gadeirydd y pwyllgor, sef 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', mewn perthynas â'n system nawdd cymdeithasol a'r effaith y mae'n ei chael ar Gymru. Ond hefyd, wrth gwrs, mae'r adolygiad o gymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim ar y gweill.

14:20

Trosglwyddwyd cwestiwn 7 [OQ56876] gan y Llywodraeth i'w ateb yn ysgrifenedig. Cwestiwn 8, felly, ac yn olaf, Vikki Howells.

Cynlluniau Pantri Bwyd

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi creu cynlluniau pantri bwyd yng Nghwm Cynon? OQ56851

Diolch yn fawr am y cwestiwn, Vikki Howells. Ar 6 Medi, cyhoeddwyd dros £1.9 miliwn o gyllid i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd. Derbyniodd pantri Ysgol Gynradd Pen-y-waun £6,254.82 i fuddsoddi mewn caban a fydd yn gartref i oergelloedd a rhewgelloedd, gan eu galluogi i gyrraedd mwy o deuluoedd a chyflenwi ystod fwy maethlon o eitemau ffres ac wedi'u rhewi.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf wedi ymweld â chryn dipyn o gynlluniau pantri bwyd yn fy etholaeth yn ddiweddar, gan gynnwys cynllun gwych iawn yng Nglyn-coch y mis diwethaf, lle gwnaeth yr amrywiaeth o fwydydd ffres a phrif fwydydd a oedd ar gael argraff fawr arnaf, ynghyd â gwasanaethau cynghori eraill hefyd. Mae'n amlwg fod gan bantrïoedd bwyd rôl hirdymor sylweddol a chynaliadwy i'w chwarae yn y frwydr yn erbyn tlodi bwyd a gwastraff bwyd. Felly, Weinidog, a allwch fy sicrhau bod cefnogaeth i greu pantrïoedd bwyd yma i aros fel rhan o gynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a materion amgylcheddol?

Diolch yn fawr iawn, Vikki. Rydych wedi gweld yr hyn y gall y pantri bwyd ei wneud yn eich etholaeth, a'r gwerth £2 filiwn o gyllid a gyhoeddais yn ddiweddar—a bydd llawer o'r Aelodau yma yn ymwybodol o fentrau yn y wlad—mae'r grant wedi'i gynllunio i gefnogi prosiectau cynaliadwy ac i helpu pobl i gael gafael ar fwyd iach a rhesymol ei bris. Mae'n amlwg fod gennym broblem yn sgil y ffaith mai grant gan yr UE oedd hwn ac rydym yn ansicr beth a ddaw yn y dyfodol mewn perthynas â'r cyllid hwnnw, ond rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r mentrau hyn ac wrth gwrs, mae'n cysylltu, fel y dywedwch, â nodau allweddol eraill, fel ein nod i haneru gwastraff bwyd erbyn 2025 a'r effaith fawr y mae torri gwastraff bwyd yn ei chael ar allyriadau newid hinsawdd. Rôl y bwyd cymunedol y mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i'w gyflawni yw datblygu strategaeth bwyd cymunedol.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Defnyddio Technoleg mewn Etholiadau

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog defnyddio technoleg mewn etholiadau yng Nghymru? OQ56891

Diolch am y cwestiwn. Rydym wrthi'n edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg i wella profiadau pleidleiswyr ar bob cam o etholiadau Cymru, o'r ffordd y maent yn cofrestru, sut y maent yn pleidleisio a sut yr awn ati i gyfrif y pleidleisiau hynny. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi a ellid profi'r datblygiadau arloesol hyn yn yr etholiadau fis Mai nesaf.

Diolch. Yn ystod etholiadau diweddar y Senedd, gwelwyd defnydd arloesol o dechnoleg mewn un etholaeth yn ymwneud â'r ffordd y câi'r pleidleisiau eu marcio ar y gofrestr. Yn draddodiadol, câi'r cofnod o bwy sydd wedi pleidleisio ei wneud ar bapur, ond gwnaed hyn ar gyfrifiaduron llechen gan staff yr orsaf bleidleisio ym Mlaenau Gwent. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rwy'n cyfeirio at y cofnod o bwy sydd wedi pleidleisio, yn hytrach na phleidleisio electronig, sy'n fater arall yn gyfan gwbl. Ni allaf ond gweld pethau cadarnhaol o'r defnydd o dechnoleg yn yr agwedd hon ar y broses bleidleisio, gan ei bod yn cyfyngu ar gamgymeriadau gan bobl ac yn arwain at ddata mwy cywir wrth gynhyrchu'r gofrestr wedi'i marcio. A yw Llywodraeth Cymru, felly, yn mynd i hyrwyddo'r defnydd o arferion technolegol da mewn etholiadau, yn debyg i'r hyn a amlinellais?

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol hwnnw. Rydych yn llygad eich lle, mae ein system etholiadol yn cynnig cyfleoedd cyffrous iawn i arloesi, gyda llawer o enghreifftiau o systemau newydd yn cael eu defnyddio, nid yn unig ym Mlaenau Gwent, ond mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Cafwyd enghreifftiau o hynny, ond hefyd ym mhob rhan o'r byd, o systemau sy'n caniatáu i bleidleiswyr olrhain eu pleidleisiau post i gofrestrau electronig mewn gorsafoedd pleidleisio. Felly, rydym yn datblygu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer gwella gyda nifer o gynlluniau peilot etholiadol a fydd yn debygol o alw am ddefnyddio technolegau newydd y flwyddyn nesaf. Byddant yn galluogi awdurdodau lleol i ystyried opsiynau pleidleisio hyblyg fel pleidleisio cynnar neu hybiau pleidleisio mewn lleoliadau canolog. Rydym wedi gwahodd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno eu syniadau ar gyfer cynlluniau peilot etholiadol, gan gynnwys y rhai yn eich rhanbarth chi. Byddwn yn gweithio'n agos gyda hwy ac yn eu cynorthwyo i brofi'r datblygiadau arloesol hyn yn yr etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf.

Felly, byddaf yn gweithio'n agos gyda phob awdurdod lleol a'r gymuned etholiadol i sicrhau bod y datblygiadau arloesol hyn yn cael eu datblygu ar y cyd a chyda chywirdeb etholiadau Cymru yn brif flaenoriaeth, fel bob amser. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau yma i fwrw ymlaen â hyn, a hoffwn ychwanegu un sylw pellach—sef bod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn ddiddorol iawn, yn cynnal ymchwil ar arloesedd etholiadol o gwmpas y byd ar hyn o bryd, a bydd hynny, gobeithio, yn llywio ein syniadau ymhellach ac yn cyflwyno syniadau newydd.

14:25

Yn gyntaf, yn anffodus, rhaid inni dderbyn nad yw nifer fawr o bobl am bleidleisio dros unrhyw un ohonom ni. [Chwerthin.] I genhedlaeth a fagwyd ar ddefnyddio eu ffonau ar gyfer popeth, mae gofyn iddynt giwio a rhoi croes ar ddarn o bapur yn ymddangos yn hen ffasiwn iawn. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried treialu pleidleisio ar-lein i ymgysylltu â phobl iau? Os gellir gwneud bancio ar-lein yn ddiogel, rwy'n siŵr y gall pleidleisio ar-lein fod yn ddiogel hefyd.

Wel, credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Un o amcanion y cynlluniau peilot y cyfeiriais atynt yn gynharach, er enghraifft—. Lle'r ydym wedi cyflwyno pleidleisio i bobl ifanc 16 oed yn ein system etholiadol, pan fydd pobl yn dod ar y gofrestr, pam na ddylem allu defnyddio technoleg a fyddai, er enghraifft, yn caniatáu iddynt bleidleisio yn eu hysgolion? Beth am bleidleisio mewn gweithleoedd? Beth am bleidleisio mewn archfarchnadoedd—pleidleisio lle mae'n gyfleus i bobl bleidleisio, gyda'r nod o sicrhau bod y system bleidleisio mor hygyrch â phosibl? Y system bleidleisio yw craidd ein democratiaeth, ac mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn hynny, ac ansawdd y system honno, yn brawf gwirioneddol, yn fy marn i, o gryfder ein democratiaeth.

Y Confensiwn Cyfansoddiadol Arfaethedig

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y confensiwn cyfansoddiadol arfaethedig? OQ56856

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae'r trafodaethau ar sefydlu'r comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn parhau. Byddaf yn gwneud datganiad llawnach i'r Senedd maes o law.

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb llawn a chynhwysfawr hwnnw, Weinidog. Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn gallu rhoi ychydig mwy o fanylion i ni am yr amserlen ar gyfer hynny. Rydych chi, fel fi, wedi gweld nifer o gomisiynau a'u hadroddiadau'n mynd a dod. Sut y byddwch yn sicrhau bod y broses hon yn wahanol? Oherwydd un peth yr ydym i gyd wedi'i ddysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sicr yw bod datganoli wedi marw. Mae'r broses ddatganoli ar ben. Yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yw cyfansoddiad sefydledig sy'n rhoi pwerau sefydledig i'r Senedd hon i'w galluogi i fwrw ymlaen â'i gwaith.

Wel, gwrandewch, diolch eto am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n ymddiheuro os oeddech chi'n ystyried bod fy ymateb cyntaf yn rhy fyr. Rwyf wedi bod yn rhoi cryn dipyn o atebion eithaf manwl mewn sesiynau craffu gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ac yn wir, pan wneuthum y datganiad yn gynharach ac ar adegau eraill.

Cyn toriad yr haf, cyhoeddais y byddem yn cyflawni ein hymrwymiad maniffesto ac yn sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae'r Aelod yn llygad ei le am y camweithredu sy'n bodoli o fewn ein strwythur cyfansoddiadol. Ac wrth gwrs, gall digwyddiadau ymyrryd ymhellach yn hynny dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r rheini i gyd yn amlwg i bawb.

Pan fo'r Prif Weinidog wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn pryderu bod y DU yn nes at chwalu nag ar unrhyw adeg yn ystod ei hanes, nid ei safbwyntiau ef yn unig y mae'n eu mynegi, mae'n mynegi safbwyntiau sy'n bodoli'n drawsbleidiol yn fy marn i. Mae'n ymddangos mai'r unig fan lle nad ydynt yn bodoli'n gyson iawn mewn gwirionedd yw Rhif 10 Downing Street ar hyn o bryd.

Ond rydych yn codi pwynt pwysig iawn ynglÅ·n â beth fydd y diben a'r swyddogaeth a sut y bydd yn gweithredu. Y cam rydym arno ar hyn o bryd yw ein bod mewn trafodaethau ynghylch penodi cyd-gadeiryddion, sy'n gam newydd ynddo'i hun yn fy marn i, a hefyd gydag aelodau'r comisiwn. Rwyf wedi bod yn ymwneud hefyd â'm cyd-Aelod Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i sicrhau mai'r hyn a sefydlwn yw comisiwn a fydd, pan fydd yn weithredol, yn adlewyrchu daearyddiaeth, ieithoedd, amrywiaeth a chydraddoldeb Cymru cyn belled ag y gallwch wneud hynny mewn comisiwn o'r faint gydag oddeutu 11 o bobl. Y prawf allweddol, fel y credaf eich bod yn cyffwrdd ag ef yn eich cwestiwn atodol, fydd y broses o ymgysylltu â phobl Cymru, yn enwedig y rhan honno o gymdeithas nad yw fel arfer yn cymryd rhan yn y prosesau hyn, a hanfod hynny fydd sefydlu comisiwn y mae pobl yn ei ystyried yn berthnasol i'w dyfodol a'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. 

Gwneir datganiadau pellach dros yr wythnosau nesaf. Bydd yr Aelod yn deall, pan ydym wrthi'n sefydlu'r comisiwn, nad yw'n bosibl sôn am bopeth sydd ar y gweill. Ond mae cynnydd yn cael ei wneud, a gobeithio y byddwn yn cwblhau'r materion hyn yn ystod yr oddeutu chwe wythnos nesaf. 

14:30

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am godi'r mater pwysig yma. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gomisiwn cyfansoddiadol ers peth amser. Ein syniad ni oedd comisiwn yn ymgynghori â dinasyddion ynglÅ·n â'r gwahanol opsiynau cyfansoddiadol am ein dyfodol fel cenedl. Nawr, Gweinidog, dyw cylch gorchwyl comisiwn y Llywodraeth heb ei gyhoeddi eto, felly rwy'n credu bod hwn yn amser priodol i erfyn arnoch chi i sicrhau nad yw hwn yn cael ei lunio yn rhy gul drwy anwybyddu annibyniaeth. Gan fod oddeutu traean o'r boblogaeth bellach yn cefnogi annibyniaeth, mae'n gwbl briodol ei bod yn cael ei chynnwys fel rhan o'r sgwrs ehangach, ynghyd ag opsiynau eraill fel y setliad datganoli presennol neu ryw ffurf ar ffederaliaeth, fel rydych chi yn ei chefnogi. 

A allwch chi, Gweinidog, felly, ddweud os ydych chi'n cytuno bod angen sgwrs gyfansoddiadol eang er mwyn iddi fod yn wirioneddol ystyrlon, ac na fydd yn mynd ati felly i neilltuo annibyniaeth o'r drafodaeth?

Wel, gallaf roi'r sicrwydd y credais i mi ei roi hefyd pan gyhoeddais y datganiad gwreiddiol ar y mater hwn, fod yn rhaid i'r comisiwn, pan fydd yn ymgysylltu â phobl, fod yn gynhwysol. Ni all ddweud wrth bobl, 'Mae rhai pethau y gallwch neu na allwch eu trafod.' Credaf mai un o'r problemau gyda'r modd y gallai'r comisiwn gyflwyno ei waith yw ei bod yn hawdd iawn disgyn i fagl y safbwyntiau rhagdybiedig sydd gan bleidiau gwleidyddol, sydd gan bob un ohonom, a'n safbwyntiau ein hunain, ac anghofio weithiau mai diben y comisiwn hwn yw ymgysylltu ledled Cymru â phobl Cymru i geisio datblygu dealltwriaeth a chonsensws ar y materion allweddol sy'n effeithio ar fywydau pobl, sut y gall prosesau gwneud penderfyniadau fod yn well, sut y gallwn ymgysylltu'n well â'r gwledydd o'n cwmpas, pa newidiadau y mae angen iddynt ddigwydd, a chredaf—gan ddod at yr hyn yr ydych yn canolbwyntio mwy arno mae'n debyg—os bydd newidiadau yn strwythur cyfansoddiadol y DU am ba bynnag reswm, ei bod hi'n bwysig inni allu ystyried, a'n bod mewn sefyllfa i ystyried, yr opsiynau sydd ar gael i bobl Cymru.

Felly, nid wyf yn gwybod a yw hynny'n ateb eich cwestiwn yn ddigonol, ond credaf mai'r pwynt rwy'n ei wneud yw bod yn rhaid iddo fod yn gynhwysol, mae'n rhaid iddo fod yn bellgyrhaeddol, ond mae'n rhaid inni beidio â disgyn i fagl safbwyntiau rhagdybiedig sy'n ddifrïol ac a allai rwystro'r comisiwn rhag gwneud ei waith, sef ymgysylltu â phobl Cymru a nodi'r materion sydd bwysicaf ac sy'n effeithio ar fywydau pobl Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith bapur ymgynghori fis Rhagfyr diwethaf, fel y gwyddoch, ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru i helpu i lunio Bil tribiwnlysoedd Cymru, a luniwyd i reoleiddio un system ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru. Mae hyn bellach ar y cam datblygu polisi. O ystyried eich cyfrifoldeb dros dribiwnlysoedd, beth yw eich ymateb cychwynnol i gynigion y papur ymgynghori i ddiwygio uned Tribiwnlysoedd Cymru, yn fwyaf arbennig, sef y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd, a'i gwneud yn adran anweinidogol, ond hefyd i safoni'r prosesau ar gyfer penodi a diswyddo aelodau’r tribiwnlysoedd, a chyflwyno rôl fwy i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, i safoni rheolau gweithdrefnol ar draws y tribiwnlysoedd a chyflwyno pwyllgor gweithdrefnau tribiwnlysoedd newydd i sicrhau bod y rheolau’n cael eu diweddaru, i ddisodli’r tribiwnlysoedd unigol presennol gydag un tribiwnlys haen gyntaf unedig wedi'i rannu'n siambrau sy'n darparu ar gyfer hawliadau tebyg, ac yn olaf, i ddod â Thribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apelio gwaharddiadau ysgolion yn rhan o'r tribiwnlys haen gyntaf unedig newydd?

14:35

Wel, diolch am eich cwestiwn perthnasol iawn, ac fel rydych eisoes wedi'i nodi, mae Comisiwn y Gyfraith yn gweithio ar y mater hwn ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar ddiwygio, neu'r argymhellion mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diwygio system y tribiwnlysoedd, ac wrth gwrs, dylid cydnabod bod hon yn rhan arwyddocaol o'r system farnwrol. Mae'n system sy'n uniongyrchol berthnasol i ystod eang o'n dinasyddion lle mae gweinyddu cyfiawnder yn bwysig iawn. Rydym wedi etifeddu rhai o ganlyniad i ddatganoli, mae eraill wedi'u datblygu ac eraill wedi'u creu gennym, a chredaf ei bod yn amserol iawn, gyda'r holl ddatblygiadau sy'n digwydd mewn perthynas â datblygiad awdurdodaeth Cymru, ein bod yn edrych yn awr ar y tribiwnlysoedd, yn edrych ar sut y gallant fod yn fwy effeithiol, sut y gellir eu symleiddio, sut y gallant ddarparu cyfiawnder yn fwy effeithiol, yn fwy hygyrch. Ac edrychaf ymlaen at argymhellion y comisiwn ac at ystyried yn fy adroddiad ar hygyrchedd, fel y soniais ddoe, y posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth ar ddiwygio'r system dribiwnlysoedd. Disgwylir adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, cyn bo hir, a byddaf yn cyfarfod â llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ynghyd â’r Prif Weinidog, rwy'n credu, er mwyn trafod cynnwys ei adroddiad, ac wrth gwrs, bydd ei adroddiad yn ymddangos—bydd yn cael ei gyflwyno—i'w drafod ar lawr y Senedd.

Diolch. Wrth gwrs, bydd gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed sut rydych yn ymateb i'r cynnig i uned Tribiwnlysoedd Cymru ddod yn adran anweinidogol.

Ar adeg y Bil ymadael â'r UE, cytunodd Llywodraeth y DU y byddai fframweithiau ar gyfer y DU gyfan—sydd hefyd yn rhan o'ch maes cyfrifoldeb—i ddisodli llyfr rheolau’r UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU mewn meysydd fel bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd, gan osod safonau na ellid cwympo oddi tanynt, gyda'r trefniadau cyffredin presennol yn cael eu cadw hyd nes y cytunir ar y rhain. Ac mewn datganiad ar adroddiad diweddaraf Llywodraeth y DU ar fframweithiau cyffredin dri mis yn ôl, nododd Llywodraeth Cymru:

'Mae'r adroddiad yn dweud bod gwaith cadarnhaol yn parhau ar Fframweithiau Cyffredin, ac yn cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio'r "pwerau rhewi".'

Wrth gwrs, mae hynny'n amlwg yn gadarnhaol ac yn galonogol, ac yn ennyn hyder mewn perthynas â safonau yn awr ac yn y dyfodol, safonau na allai marchnad fewnol hanfodol y DU weithredu hebddynt. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddarparu diweddariad, felly, ar gynnydd gyda'r fframweithiau cyffredin, a chadarnhau pa fecanwaith sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer dyfarnu achosion honedig o dorri'r rheolau gan wledydd unigol y DU?

Wel, diolch yn fawr iawn, ac unwaith eto, mater amserol iawn, un rwyf wedi bod yn ei drafod gyda fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU, gan adeiladu ar gryn dipyn o waith a wnaed gan fy rhagflaenydd. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, ar y fframweithiau, mae'r fframweithiau'n enghraifft, yn fy marn i, o sut y mae pedair gwlad y DU wedi gallu cydweithredu, yn ysbryd cydnabyddiaeth o fuddiannau cyffredin? Credaf mai'r broblem gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yw ei bod wedi chwalu'r broses honno. Roedd yn ddiangen, ac wrth gwrs, un o'r problemau mwyaf y mae'n eu hachosi, ynghyd â materion eraill sy'n ymwneud â'r cytundeb masnach a chydweithredu a materion sy'n ymwneud â chytundebau masnach rhyngwladol, yw ei bod wedi tanseilio cynnydd a chytundebau y gellid eu cyflawni ar y cyd. Wedi dweud hynny, rydych hefyd yn ymwybodol y bydd her gyfreithiol yn cael ei chlywed yn y Llys Apêl, wedi'i chyflwyno gennyf fi ar ran Llywodraeth Cymru fel Cwnsler Cyffredinol, a bydd honno'n cael ei chlywed ym mis Ionawr 2022.

O ran y materion sy'n ymwneud â chyfreithlondeb Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, wedi dweud hynny, rydym wedi gallu parhau â thrafodaethau a negodiadau ar sail ddiragfarn mewn ysbryd o gydweithrediad. Gallaf ddweud hefyd fod arwyddion calonogol yn nodi bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Mae trafodaethau parhaus, wrth gwrs, yn mynd rhagddynt gyda swyddogion ynghylch y geiriad, yr union eiriad sydd mor bwysig yn y materion hyn, ac os gellir dod i gytundeb ar y telerau cywir, a heb ragfarnu'r her gyfreithiol, rydym yn gobeithio cyrraedd sefyllfa lle gallwn ddechrau ar y broses o gyhoeddi rhai o'r fframweithiau hynny, gan y bydd y broses graffu yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau'n bwysig tu hwnt. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi hen ddechrau, ac er gwaethaf nifer o anawsterau, credaf ei bod yn deg dweud bod cynnydd wedi'i wneud.

14:40

Diolch. Yn olaf, gan symud at fater amserol arall o fewn eich ystod o gyfrifoldebau, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud dro ar ôl tro y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan fydd y gronfa ffyniant gyffredin ar waith yn union yr un fath neu'n uwch na'r swm a gâi ei wario yng Nghymru a ddeuai'n uniongyrchol o'r Undeb Ewropeaidd, wedi'i danategu gan y warant 'dim ceiniog yn llai'. Mae cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru yn nodi bod prosiectau’n cynnwys gweithredu'r gronfa codi'r gwastad newydd a fydd yn buddsoddi hyd at £4.8 biliwn mewn seilwaith lleol ledled y DU sy’n cael effaith weladwy ar bobl a’u cymunedau.

A nodaf, er enghraifft, fod AS De Clwyd, Simon Baynes AS, mewn sesiwn gwestiynau i Brif Weinidog y DU ym mis Mai, wedi canmol cynghorau Wrecsam a sir Ddinbych am eu cynigion deinamig ar gyfer dyffryn Dyfrdwy yn eu cais ar y cyd i'r gronfa codi'r gwastad, gan gynnwys adfywio basn Trefor, gwelliannau i'r Waun a Llangollen, a buddsoddiad yng ngorsaf Corwen a'r ardaloedd cyfagos. Nodaf hefyd fod AS Wrecsam, Sarah Atherton AS, yn gweithio yn Senedd y DU i sicrhau bod Wrecsam yn cael yr arian sydd ei angen arnynt a'r arian y maent yn ei haeddu o'r gronfa codi'r gwastad, gan ganolbwyntio ar yr ardal o gwmpas cae ras Wrecsam.

Drwy eu hymgysylltiad cadarnhaol â swyddogion Llywodraeth Cymru, rwy’n falch fy mod wedi cael gwybod gan sawl sefydliad yng ngogledd Cymru fod y swyddogion hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â chronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, cronfa codi'r gwastad, cronfa ffyniant gyffredin y DU a'r gronfa perchnogaeth gymunedol, a bod y rhain o'r diwedd yn cyflawni datganoli mewnol yng Nghymru drwy gynnwys awdurdodau lleol a chymunedau yn y broses o lunio a darparu rhaglenni, gan chwarae rhan bwysig yn y gwaith o godi'r gwastad a chryfhau ein hundeb o bobloedd Brydeinig wrth inni ailgodi'n gryfach wedi'r pandemig.

A wnewch chi ofyn eich cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda, Mark Isherwood?

Wedi'i amseru'n berffaith. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddweud wrthym felly pa ymwneud uniongyrchol—[Torri ar draws.]—pa ymwneud uniongyrchol sydd gan ei swyddogion â'r cyllid hwn, yn ymarferol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau eraill yn y DU?

Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, yw bod hwn yn fater sydd ym mhortffolio’r Gweinidog cyllid yn y bôn. Efallai, os caf wneud sylwadau ar un neu ddau o'r pwyntiau cyffredinol sydd efallai, i raddau, yn agosáu at ymylon fy mhortffolio, credaf fod y methiant i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar arian a fu gynt o fewn awdurdodaeth Llywodraeth Cymru a'r lle hwn, ond sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n fwriadol i gamu heibio i'r Siambr etholedig yma, yn gywilyddus ac yn tanseilio democratiaeth, a'r bwriad strategol gwleidyddol amlwg iawn yw tanseilio datganoli. A chredaf ei fod hefyd yn golygu bod arian a werir nad yw'n parchu'r prosesau democrataidd yma, a'r mandad democrataidd yr etholwyd pob un ohonom arno, yn tanseilio democratiaeth yn y DU gyfan. Ar y symiau o arian, rwyf wedi clywed y warant 'dim ceiniog yn llai'; byddaf yn credu hynny pan fyddaf yn ei weld.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol, pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil yn San Steffan sydd o fewn pwerau datganoledig y Senedd, mae angen i Lywodraeth Cymru osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Drwy gydol y bedwaredd Senedd, wyth Bil yn unig a oedd mewn meysydd datganoledig. Eisoes, yn y chweched Senedd hon, rydym wedi cyrraedd 13. Nawr, rwy'n falch nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi cydsyniad i wyth—hoffwn pe bai'n 13, fel yr awgrymais ddoe, ond rwy'n falch nad ydych yn rhoi cydsyniad i wyth. Ond a ydych yn cytuno â mi fod y cynnydd hwn yn yr angen i gael memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn enghraifft amlwg o gipio pŵer gan Lywodraeth San Steffan? A pha gamau rydych chi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i frwydro yn erbyn y tresmasu amlwg hwn ar ein setliad datganoli?

Yn gyntaf, diolch am eich cwestiwn. A chredaf fod y cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol lle nad ydym yn argymell cydsyniad yn ganlyniad i nifer o bethau. Yn gyntaf, maint deddfwriaeth Llywodraeth y DU, ond yn ail, i ba raddau y mae'r ddeddfwriaeth honno'n ceisio ymwthio'n uniongyrchol iawn i feysydd datganoledig. Ein safbwynt ar y rheini yw deall gyda'n gilydd yr hyn sy'n digwydd o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth honno, ond hefyd i nodi nifer o egwyddorion o'i mewn. Hynny yw, ni fyddwn yn gwrthod cydsyniad fel mater o drefn; byddwn yn edrych i weld pa fudd sydd i Gymru o gynnig penodol mewn deddfwriaeth ac a yw'n mynd i fod o fudd i ddinasyddion Cymru. Wrth gwrs, os yw'n ymwneud â phŵer datganoledig, ein blaenoriaeth, cyhyd ag sy'n rhesymol ymarferol, yw ymdrin â deddfwriaeth yng Nghymru ar y materion hynny drwy ddeddfwriaeth Gymreig. Weithiau, nid yw hynny'n bosibl oherwydd maint y ddeddfwriaeth, oherwydd y blaenoriaethau, ac weithiau am fod buddiannau cyffredin, a phwerau cydredol sy'n ddilys weithiau hyd yn oed.

Yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd yw mai'r hyn sy'n amlwg iawn o'r hyn a welais yn yr ychydig fisoedd y bûm yn Gwnsler Cyffredinol, sy'n adeiladu ychydig ar yr hyn a welais yn fy rôl flaenorol yn y Senedd ddiwethaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yw bod yma raddau anhygoel o anghysondeb. Ceir meysydd lle mae'n bosibl gweithio gyda Gweinidogion y DU a lle mae cynnydd yn cael ei wneud, lle ceir dealltwriaeth o Sewel, ac mae gwaith cydweithredol iawn wedi'i wneud, a cheir parch tuag at Sewel. Ond wrth gwrs, ceir meysydd eraill lle caiff ei anwybyddu'n llwyr. Er enghraifft, gwelsom yn ystod etholiadau’r Senedd, ddeddfwriaeth ar ddarpariaethau dedfrydu yng nghyswllt lles anifeiliaid, lle roedd angen cydsyniad y Senedd yn amlwg, ond fe wnaethant benderfynu bwrw yn eu blaenau beth bynnag.

Yr enghraifft arall o ddiffyg parch, wrth gwrs, yw cyhoeddi deddfwriaeth sy'n amlwg yn mynd i effeithio arnom ond lle nad oes gennym unrhyw ymgysylltiad priodol ar y ddeddfwriaeth honno, ar y materion hynny a allai effeithio arnom, a chaiff y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno i ni ar y funud olaf fwy neu lai, fel pe bai'n fait accompli. Wrth gwrs, mae'r pwysau y mae hynny'n ei roi wedyn ar adnoddau Llywodraeth Cymru er mynd i'r afael ag ef yn anodd dros ben.

Nawr, credaf mai'r hyn sy'n bwysig, lle mae rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, yw'r adolygiad rhynglywodraethol, lle mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt rhwng y pedair gwlad, lle ceir gobaith y gallem gyflawni—a gadewch inni ddweud 'gallem gyflawni', ac mae'n rhaid inni aros i weld beth yw'r cynnydd hwnnw—yr hyn y mae ei angen arnom yn daer, sef system briodol i'r pedair gwlad gyfarfod â'i gilydd, ysgrifenyddiaeth briodol i gefnogi'r gwaith a wneir yn sgil hynny, ysgrifenyddiaeth annibynnol, a phroses anghydfodau briodol. Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi cyfeirio ato ar sawl achlysur, nid oes pwrpas cael system lle rydym yn ysgrifennu ac yn dweud, 'Mae hwn yn fater o fewn ein cymhwysedd, felly mae angen caniatâd deddfwriaethol arno', ac mae Llywodraeth y DU yn ymateb ac yn dweud, 'Nid ydym yn cytuno, a dyna ddiwedd arni.' Nid yw honno'n ffordd gyfansoddiadol briodol i Lywodraethau weithio gyda'i gilydd. Felly, mae llawer o waith wedi bod yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni. Mae cynnydd yn cael ei wneud. Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddiadau cadarnhaol maes o law, ond rydym wedi bod ar hyd y llwybr hwn o'r blaen ac rydym yn troedio'n ofalus iawn.

14:45

Rwy'n falch o glywed rhywfaint o bositifrwydd yn eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Mae hynny'n gwneud imi feddwl tybed pa dystiolaeth y mae angen i'r rheini ar ochr arall y Siambr ei gweld cyn iddynt sylweddoli bod Rhif 10 yn tanseilio ein setliad datganoli.

Dwi eisiau symud ymlaen nawr i’r comisiwn ffiniau, sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n lleihau nifer y seddi Cymreig i 32. Mae’n amlwg i bawb beth sy’n digwydd fan hyn, sef yr un peth â gyda’r Bil etholiadau—bod rhaid cael ID. Y Ceidwadwyr, unwaith eto, yn ceisio cryfhau eu grym yn San Steffan a thanseilio llais Cymru. A ydy Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i ymgynghoriad y comisiwn ffiniau? Ac ydyn nhw’n mynd i godi pryderon am yr effaith negyddol y bydd hyn yn ei chael ar bobl Cymru?  

Yn sicr, nid yw mater y comisiwn ffiniau o fewn fy mhortffolio o gyfrifoldebau. Rwy'n siŵr y bu ymgysylltu. Rwy'n fwy na pharod i archwilio'r mater a sicrhau eich bod yn cael eich briffio ar lefel yr ymgysylltu sy'n digwydd mewn gwirionedd.FootnoteLink Credaf mai'r pwyntiau gwleidyddol pwysig a wnaethoch mewn perthynas â'ch cwestiwn yw hyn: mae'r hyn a gynigir yn lleihau llais Cymru yn Senedd y DU. Mae'n cael effaith uniongyrchol ar y berthynas sy'n bodoli yn Senedd y DU, ac nid mater o nifer yr etholaethau na maint etholaethau yn unig yw hyn, ond y ffaith ei fod yn effeithio ar y gydnabyddiaeth o'r berthynas rhwng pedair gwlad y DU. Yr hyn y credaf ei fod yn ei wneud hefyd, serch hynny, yw tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi ein bod yn edrych ar fater diwygio’r Senedd, rôl y lle hwn, y gofynion ar y lle hwn, a’n rôl o fewn y broses seneddol honno, a’r angen am ddiwygio cyfansoddiadol pellach.

14:50

Diolch, Cwnsler Cyffredinol.

Mae fy nghwestiwn olaf yn debyg i gwestiwn Mark Isherwood, ond mae'n debyg na fyddwch yn synnu ei fod o bersbectif gwahanol. Mae'n ymwneud â'r adran godi'r gwastad sydd newydd ei henwi, o dan arweinyddiaeth Michael Gove, sy'n arwr i rai pobl yno mae'n debyg. Nawr, maent yn gyfrifol am ddosbarthu'r gronfa godi'r gwastad, ac fel y nodwyd, ymddengys y bydd y gronfa'n cefnogi etholaethau Torïaidd yn bennaf yn ôl pob tebyg, ac yn pasio heibio i'r Senedd yn y broses. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y geiriau hyn o'r blaen, 'Lle maent yn ystyried bod hynny’n briodol, byddant yn ceisio cyngor gan Lywodraeth Cymru ar brosiectau yng Nghymru.' Dyna garedig yw Llywodraeth San Steffan i ystyried Llywodraeth etholedig pobl Cymru pan fyddant o'r farn fod hynny’n briodol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r adran hon sydd newydd ei henwi, ac a yw'n cytuno â mi mai hon yw'r drydedd enghraifft o gipio pŵer gan Lywodraeth y Torïaid yn San Steffan?

Wel, yn sicr, gwn fod hwn yn destun cryn bryder, a bod swyddogion o Lywodraeth Cymru, Gweinidog yr Economi, y Prif Weinidog a’r Gweinidog cyllid, a'r Cabinet yn gyffredinol rwy'n tybio, yn poeni am y sefyllfa, a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt, yn amlwg, ac rwy'n siŵr y bydd datganiadau pellach ar hynny maes o law. Ond rydych yn llygad eich lle: maent yn tanseilio democratiaeth. Maent yn tanseilio'r mandadau democrataidd a roddir i'r lle hwn. Pan fyddwn yn sefyll etholiad cyffredinol yng Nghymru ar y sail, 'Dyma bwerau'r Senedd ac felly dyma y gallwn ei wneud', ac phan fydd Llywodraeth y DU yn dweud yn y bôn, 'Rydym yn mynd i basio heibio i hynny ac nid ydym yn mynd i ymgysylltu â chi,' sut arall y gallwch ddehongli'r sefyllfa, ei fod yn gynllwyn bwriadol, yn gam bwriadol, i danseilio datganoli, cyfrifoldeb datganoledig a'r pwerau datganoledig sydd eisoes wedi'u rhoi i ni gan Senedd y DU? Felly, credaf fod yna anghyfiawnder yno.

Ac rydym hefyd wedi gweld, o'r dystiolaeth sydd gennym hyd yn hyn, y ffordd y mae'r cronfeydd codi'r gwastad hyn fel y'u gelwir wedi'u defnyddio mewn gwirionedd. Ni fydd yn syndod i'r Aelod, mae'n debyg—efallai y bydd yn syndod ar draws y Siambr—fod 85 y cant o'r holl arian a ddyrannwyd rywsut wedi mynd i etholaethau tlawd Ceidwadol siroedd canolbarth Lloegr. Felly, credaf fod cryn dipyn o ffordd i fynd. Nawr, fe gafwyd ad-drefnu. Michael Gove sydd â'r cyfrifoldeb; ef sydd â'r teitl newydd—credaf mai ef yw Gweinidog codi'r gwastad. Heb os, byddaf yn cyfarfod ag ef maes o law mewn perthynas â'r fframweithiau cyffredin, a byddwn yn gweld tystiolaeth dros yr ychydig fisoedd nesaf i ba raddau y bydd proses godi'r gwastad go iawn yn digwydd. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw, 'Peidiwch â dal eich gwynt'.

Cwestiwn 3, neu, yn yr achos yma, cwestiwn 4, Rhys ab Owen. [Chwerthin.]

Gadewch i mi ei godi.

Mae'n flin gyda fi.

Roeddwn wedi cyffroi cymaint gyda'r—[Torri ar draws.]

Na, rwyf wedi'i gael, Lywydd. Diolch yn fawr, Lywydd.

Oedran Pensiwn Gwladol Menywod

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynghylch canfyddiadau diweddar adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd, 'Women's State Pension Age: Our Findings on the Department for Work and Pensions' Communication of Changes'? OQ56875

Diolch. Unwaith eto, ar fater pwysig iawn, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ynghylch menywod y codwyd eu hoedran pensiwn y wladwriaeth heb hysbysiad effeithiol na digonol. Rydym yn aros am ganlyniad ymchwiliad parhaus yr ombwdsmon, a fydd yn penderfynu a arweiniodd y methiannau cyfathrebu at anghyfiawnder.

Diolch yn fawr. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, o'i fewnflwch a chymorthfeydd yn ei etholaeth ei hun, o'r anawsterau sy'n wynebu llawer o fenywod a aned yn y 1950au ac sydd yn y sefyllfa ofnadwy hon o ganlyniad i ddiffyg cyfathrebu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch y newidiadau i bensiwn y wladwriaeth. Ac yn drasig, bu farw llawer o'r menywod hyn cyn cael ceiniog o'r pensiynau y maent yn eu haeddu. Gwn y cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ddiwethaf i helpu i sicrhau cyfiawnder i'r menywod hyn. A oes gan Lywodraeth newydd Cymru unrhyw gynlluniau i ddarparu cymorth i'r menywod hyn?

14:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

A gaf fi, yn gyntaf oll, mewn ymateb i'r cwestiwn pellach hwnnw—ac rwy'n siŵr y byddech yn awyddus i ymuno—ganmol gwaith yr ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth a'r menywod sydd wedi ymgyrchu mor ddiwyd yn erbyn yr anghyfiawnder dybryd hwn? Ac rwy'n siŵr nad oes unrhyw Aelod o'r Senedd hon nad ydynt yn adnabod nifer fawr o bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr anghyfiawnder hwn.

Cyhoeddwyd canfyddiadau adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ym mis Gorffennaf, ac maent wedi tynnu sylw at y pryderon a fynegwyd gan yr Aelod, a chan lawer o Aelodau eraill o'r Senedd, ac ar draws y pleidiau, rwy'n credu. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw nad yw hyn yn unrhyw beth newydd i Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn y maes datganoledig hwn wedi bod yn gwneud sylwadau ers 2016 ar fater yr anghyfiawnder a’r angen i unioni'r sefyllfa—ysgrifennodd Lesley Griffiths ar 23 Chwefror 2016; ysgrifennodd Julie James ym mis Chwefror 2018. Cafwyd llythyrau pellach ar 16 Mai 2019, 21 Mehefin 2019, 23 Tachwedd 2020 a 12 Chwefror 2021. Felly, rwy'n credu bod pob un ohonom yn edrych yn agos iawn i weld beth fydd canlyniad ymchwiliadau pellach yr ombwdsmon, ac os ceir cadarnhad fod anghyfiawnder wedi digwydd, mae'n rhaid unioni'r anghyfiawnder hwnnw. A dyna fydd safbwynt Llywodraeth Cymru: cefnogi’r holl fenywod yng Nghymru i wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn sicrhau cyfiawnder yn y maes sydd o fewn eu cyfrifoldeb a’u rhwymedigaeth.

Ceisiadau Cynllunio

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch galw ceisiadau cynllunio i mewn yng Nghymru? OQ56870

Diolch am eich cwestiwn. Mae'r cwestiwn a oes angen cyngor cyfreithiol mewn perthynas â chais i alw cais cynllunio i mewn yn cael ei benderfynu ar sail unigol ac yn destun braint broffesiynol gyfreithiol.

Diolch. Nawr, ar 3 Medi, roedd gan Lywodraeth Cymru 56 cais cynllunio wedi'u galw i mewn heb unrhyw benderfyniad terfynol. Enghreifftiau: achos cais byw 1236, a gychwynnwyd yn 2017; achos 1069, 2016; ac yn syfrdanol, dau achos agored, sef 319 a 320, a gychwynnwyd ar 2 Awst 2012. Nawr, wrth adolygu'r sefyllfa, ymddengys bod 'aros am adroddiad swyddogion yr awdurdod cynllunio lleol' yn rheswm dros oedi mewn o leiaf 18 achos. Mae eraill yn parhau i fod 'dan ystyriaeth', er iddynt ddod i law yn 2019. Mae'r ôl-groniad o achosion sydd gan Weinidogion Cymru yn destun cryn bryder ac yn un sy'n tynnu sylw at y ffaith nad yw ein proses gynllunio letchwith a chymhleth yn gweithredu yma ar y lefel uchaf, a'i bod yn niweidiol i'n henw da. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y gallai unrhyw un wneud cais i gais cynllunio gael ei alw i mewn am benderfyniad. Gall unrhyw un ysgrifennu cais, ond rwy'n ymwybodol o lawer sy'n teimlo bod cymhlethdod y polisi cynllunio a weithredir gan y Llywodraeth hon yn atal rhai rhag gwneud hynny. Felly, pa gamau a gymerwch, Weinidog, gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, i sicrhau bod gennym system alw i mewn fwy effeithlon, cyflym a hygyrch, ac un sy'n rhoi cyfle go iawn i breswylwyr sy'n dymuno ymgysylltu â'n proses gynllunio yma yng Nghymru? Diolch.

Wel, diolch am eich sylwadau. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwrando ar y pwyntiau ar yr union foment hon, ac rwy'n siŵr, os nad yw, y caiff manylion y pwyntiau a wnaethoch eu dwyn i'w sylw maes o law. Fe fyddwch yn deall nad oes modd i mi wneud sylwadau ar unrhyw geisiadau unigol, a cheisiadau lle byddai'n hollol amhriodol i mi wneud sylwadau pellach oherwydd fy nghyfrifoldebau. Ond rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn falch o'r cynigion a gyhoeddais ddoe—ein bod yn edrych ar Fil cydgrynhoi mewn perthynas â chyfraith gynllunio er mwyn gwneud y system gynllunio o leiaf yn symlach, yn gliriach ac yn fwy hygyrch.

15:00
Hawliau Gweithwyr

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut mae'r setliad datganoli presennol yn galluogi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau gweithwyr? OQ56861

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn ar fater sy'n agos at fy nghalon, fel y mae'n gwybod. Gallwn gynyddu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a hyrwyddo mynediad at gymorth a chyngor. Fel rhan o'n hymrwymiadau i waith teg, buom yn cydweithio â phartneriaid cymdeithasol ar ymgyrch hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr, a byddwn yn adeiladu ar hyn wrth inni barhau i ddatblygu gwaith teg.

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac fel yntau, rwy'n aelod balch o undeb llafur. Credaf y dylem i gyd fod, ac rwyf am nodi hynny wrth fy nghyd-Aelodau ar y meinciau cornel. [Chwerthin.]

Ond bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod fy mod wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am bwysigrwydd defnyddio'r Bil partneriaeth gymdeithasol i rymuso gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur yn y gweithle, a'r angen i wneud hynny, ac yn y pen draw, dyna sut y dylent hwy ac y dylem ni farnu unrhyw newid, a'r newid y dylem ei farnu, yn y pen draw, yw: sut y mae'n effeithio ac yn gwneud bywydau dosbarth gweithiol yn well? Gwnsler Cyffredinol, gallai'r disgwyliadau fod yn uchel ar gyfer hyn, ac fe ddylent fod yn uchel ar gyfer hyn. Felly, a ydych yn hyderus y gall y Bil partneriaeth gymdeithasol gyflawni hyn? A ydych yn cytuno bod y diffiniad o waith teg yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r Bil hwn? A oes gennym yr ysgogiadau i sicrhau bod y diffiniad yn ddigon cadarn er mwyn i'r Bil allu cyflawni ar gyfer pobl sy'n gweithio?

Ar y pwynt cyffredinol iawn ynghylch y ffordd y gallwn ddylanwadu ar hawliau yn y gweithle ac yn y blaen, rwy'n credu ei bod yn werth cydnabod yn gyntaf fod cyflawniad y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn y meysydd hyn wedi bod yn sylweddol tu hwnt, boed yn Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, boed yn Ddeddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, neu'n ddeddfwriaeth i roi diwedd ar gontractau dim oriau mewn perthynas â'r sector gofal cymdeithasol, ac mewn llawer o feysydd eraill, ac yn enwedig mewn perthynas â phartneriaeth gymdeithasol, sef lle'r oedd eich cwestiwn yn arwain.

Credaf fod y Bil partneriaeth gymdeithasol yn ddeddfwriaeth bwysig. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Bil hwnnw'n eistedd yma, ac rwy'n siŵr ei bod yn clywed y sylwadau a wnewch, ond credaf fod gennym safbwynt cyffredin iawn, yn sicr yn yr amgylchedd COVID ôl-Brexit rydym ynddo, sef bod ansawdd gwaith yn gwbl sylfaenol i ansawdd bywyd ein dinasyddion ac felly mae'n rhywbeth na allwn ei ddiystyru. Mae'r Bil partneriaeth gymdeithasol yn ceisio defnyddio'r adnoddau a'r pwerau sydd gennym er mwyn dylanwadu ar newid blaengar ar hyd y llinellau penodol hynny.

Ac wrth gwrs, fe gyfeirioch chi at rôl undebau llafur yn hyn. Credaf mai un o'r negeseuon sydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru erioed—neges glir iawn—yw mai ymuno a chael eu cynrychioli ar y cyd drwy undeb llafur yw'r ffordd orau i weithwyr sicrhau a diogelu eu hawliau yn y gwaith. Credaf mai dyna un o'r negeseuon sylfaenol sy'n treiddio drwy'r holl faterion sy'n ymwneud â gwaith teg. Felly, rwyf i'n bersonol yn sicr yn edrych ymlaen at y cynnydd pellach mewn perthynas â'r Bil partneriaeth gymdeithasol, ac wrth gwrs dylech gydnabod hefyd y gwaith a wnaethom ar gydraddoldeb a'r Gweinidog a atebodd gwestiynau yn gynharach, Jane Hutt, mewn perthynas ag adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gweithredu honno, a oedd, yn fy marn i, yn gam pwysig arall.

Un pwynt olaf yw cydnabod y gwaith gwirioneddol y buoch yn ei wneud yn y maes hwn, oherwydd mae eich gwaith mewn perthynas â llesiant mewn gwaith, incwm sylfaenol cyffredinol a'r materion sy'n ymwneud â'r wythnos pedwar diwrnod mewn gwirionedd, oll yn feysydd lle mae cyfleoedd yn awr i archwilio cyfleoedd newydd, ffyrdd newydd o weithio, ffyrdd newydd lle rydym yn byw i weithio, nid gweithio i fyw. Felly, credaf fod hynny'n glod mawr i chi, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ganlyniad eich trafodaethau a gynhelir ddydd Iau ar yr wythnos waith pedwar diwrnod, ac wrth gwrs, ceir dadl yfory yn y Siambr lle bydd y mater hwnnw'n cael sylw, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny hefyd.

Bydd hynny'n digwydd heddiw, Weinidog. [Chwerthin.]

Cwestiwn 6 [OQ56877], tynnwyd yn ôl. Cwestiwn 7, Huw Irranca-Davies.

Cymorth Cyfreithiol a'r Prawf Moddion

7. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch adfer cymorth cyfreithiol ar gyfer cyngor cynnar ac ailasesu'r prawf moddion? OQ56853

Diolch, unwaith eto, ar fater pwysig iawn. Rydym yn parhau i gyflwyno sylwadau cadarn i Lywodraeth y DU ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud ag effeithiau andwyol diwygio cymorth cyfreithiol drwy ymgysylltu â'r adolygiadau o brofion modd a chymorth cyfreithiol troseddol.

15:05

Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod, ers i gymorth cyfreithiol gael ei dorri ac ers gwneud y profion modd yn llymach o ganlyniad i Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, Deddf LASPO, mae hynny wedi golygu bod llawer o'r achosion hyn bellach yn dod i'n cymorthfeydd—pob un ohonom. Rydym yn ei weld gyda dyledion cynyddol, rydym yn ei weld gyda phroblemau iechyd meddwl, rydym yn ei weld hyd yn oed yn mynd mor bell â digartrefedd o ganlyniad i'r anallu i gael cymorth cyfreithiol cynnar. Mae hefyd yn faich cynyddol ar y trethdalwr ac yn faich cynyddol ar y system llysoedd hefyd. Felly, tybed a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno i gyfarfod nid yn unig â Chymdeithas y Gyfraith, nid yn unig â Chyngor ar Bopeth, ond hefyd â sefydliadau cynghori eraill yng Nghymru i drafod y cynnydd yn y galw am ddiwygio a newid yn y maes hwn, ac i adfer mynediad cynnar at gyngor cymorth cyfreithiol ac i ddiwygio hefyd y profion modd llym—rhy llym—ar gyfer cymorth cyfreithiol. Mae'n achosi straen ar y system gyfreithiol, ac mae'n achosi gofid i'n hetholwyr.

Diolch. Mae'r pwyntiau wedi'u gwneud yn dda iawn, rhai rydym wedi'u hailadrodd droeon. Mae'r toriadau i gymorth cyfreithiol wedi bod yn gywilyddus. Maent wedi dadrymuso llawer o ddinasyddion Cymru yn yr hyn sydd, yn fy marn i, yn hawl sylfaenol, sef mynediad at y gyfraith. Gwneuthum sylwadau ar hyn ddoe, a gwyddoch mai fy marn i, yn y tymor hwy, yw yr hoffwn weld system cymorth cyfreithiol i Gymru. Ar hyn o bryd, mae'r diwygiadau sydd dan ystyriaeth yn ymwneud yn unig â phrofion modd ar gyfer cymorth cyfreithiol yn unig. Rwyf i fod i gyfarfod â Syr Christopher Bellamy QC, sy'n arwain yr adolygiad annibynnol o gymorth cyfreithiol troseddol ym mis Hydref, lle bwriadaf godi pryderon am effaith y toriadau niferus i gymorth cyfreithiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, toriadau sydd wedi arwain at lai o waith cymorth cyfreithiol troseddol, gan effeithio'n andwyol ar ddarparwyr, fel y nodwyd yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. 

Yr ateb uniongyrchol i rai o'r pwyntiau a godwch yw: ydw, rwy'n hapus i gyfarfod ag unrhyw bobl sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cynghori. Yn wir, byddwn yn croesawu'r cyfle i wneud hynny ac i wneud hynny fwyfwy. Mae gennyf rai cyfarfodydd wedi'u trefnu eisoes, ond rwy'n awyddus i weld sut y gallwn gydlynu'r ddarpariaeth o gyngor yn effeithiol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, yn rhoi symiau sylweddol o arian tuag at wneud iawn am rywfaint o'r diffyg hwnnw, drwy'r gwahanol wasanaethau cynghori, ac yn y blaen. Ac wrth gwrs, wrth gyfarfod â'r Arglwydd Ganghellor newydd, Dominic Raab, byddaf yn codi rhai o'r materion y bwriadwn eu codi gyda'i ragflaenydd, materion sydd hefyd yn ymwneud â mynediad at gyfiawnder, ac sydd hefyd yn ystyried materion yn ymwneud â chymorth cyfreithiol. Ond mae hygyrchedd, y graddau y mae pobl bellach yn cymryd rhan mewn achosion llys, naill ai'n uniongyrchol neu hyd yn oed drwy ffôn symudol, ar faterion difrifol fel ymgyfreithwyr drostynt eu hunain, heb unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol, yn sgandal lwyr yn y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd.

Strwythur Gwleidyddol Newydd y DU

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod trefniadau cyfansoddiadol yn adlewyrchu strwythur gwleidyddol newydd y DU? OQ56887

Diolch am eich cwestiwn, John Griffiths. Mae'r cyfansoddiad wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag ymosodiadau ar ddatganoli gan Lywodraeth gynyddol drahaus yn y DU. Dyna pam ein bod yn sefydlu comisiwn cyfansoddiadol a fydd yn estyn allan at y gymdeithas ddinesig a'r cyhoedd i ganfod consensws ar ddatganoli a'r cyfansoddiad ehangach.

Rwy'n croesawu'n fawr y confensiwn cyfansoddiadol hwnnw, ac yn edrych ymlaen at ei waith a'i ganfyddiadau, Gwnsler Cyffredinol, ond credaf fod cydnabyddiaeth eang o ddiffyg trefniadau a mecanweithiau defnyddiol yn y DU i adlewyrchu'r DU newydd hon sydd gennym yn dilyn datganoli yn 1999 ac yna'r datblygiadau eraill, gan gynnwys meiri etholedig. Mae bwlch gwirioneddol ar lefel y DU, sy'n rhwystredig iawn yn fy marn i, oherwydd byddai'n ddefnyddiol dod â lefelau o lywodraeth at ei gilydd i drafod ffyrdd ymlaen, i atal ac ymdrin ag anghydfodau, a chydnabod y DU newydd sydd gennym mewn Llywodraeth, a'r hyn a ddylai fod yn gyfansoddiadol iddo. Felly, o gofio ein bod newydd weld ad-drefnu Llywodraeth y DU, Gwnsler Cyffredinol, tybed a ydych yn gweld unrhyw obaith o weld diwedd ar y cyfnod rhwystredig rydym wedi'i gael, lle mae Llywodraeth y DU wedi methu croesawu'r agenda hon yn briodol a chymryd camau a fyddai o fudd i'r DU gyfan.

15:10

Credaf fod hynny'n mynd at wraidd yr her sydd gennym mewn gwirionedd. Mae'r cynigion a gyflwynwyd gennym drwy 'Diwygio ein Hundeb' a thrwy fecanweithiau eraill, boed yn ddeddfwriaeth unigol neu gysylltiadau rhynglywodraethol, yn ymdrech i ddatrys y camweithredu cyfansoddiadol sy'n bodoli, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid cael cytundeb cyffredinol.

Mae wedi bod yn heriol dros ben, yn eithriadol o anodd, a chredaf fod llawer o rwystrau. Mae llawer o'r pethau a wnawn—. Pan fyddwch yn byw mewn cyfuniad o bedair gwlad, lle mae'r cyfansoddiad yn anysgrifenedig i raddau helaeth, mae ewyllys da ac ymddiriedaeth yn gwbl sylfaenol i wneud i hynny weithio. Yn fy marn i, mae angen inni symud i sefyllfa lle mae gennym gyfansoddiad ysgrifenedig, ond o ran yr hyn y gellir ei wneud yn y cyfamser—. Mae'n debyg mai'r hyn y dylwn ei ddweud yw: er gwaethaf yr holl anhawster a'r heriau, ac nid wyf am ailadrodd a mynd drwyddynt fel rydym wedi'i wneud i raddau eithaf helaeth y prynhawn yma eisoes, credaf fod y gwaith medrus sylweddol y mae swyddogion a Gweinidogion Cymru wedi bod yn ei wneud ar gysylltiadau rhynglywodraethol—a byddwn yn dweud hynny ar draws pedair gwlad y DU—o leiaf yn galonogol o ran datblygu'r hyn a allai fod yn ffordd dros dro o ddatrys peth o'r camweithredu hwnnw, a mynd i'r afael â rhai o'r pryderon sydd gennym. Yr her allweddol yw bod y manylion bob amser yn bwysig, ac fel y dywedais yn gynharach, mae peth sail dros fod ychydig yn fwy optimistaidd, ond rydym wedi cerdded y ffordd hon o'r blaen ac mae'n rhaid inni droedio'n ofalus.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Mynychu Ystâd y Senedd

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gynlluniau i alluogi pob Aelod i fynychu ystâd y Senedd i gymryd rhan ym musnes y Senedd? OQ56865

Mae'r Comisiwn yn gallu cynnal busnes y Senedd ar ffurfiau rhithwir a hybrid. Mae hyn yn sicrhau parhad ein Senedd a gallu pob Aelod i gymryd rhan ar bob lefel o gyfyngiadau'r coronafirws. Mae'r Aelodau wedi gallu dod i ystâd y Senedd i gymryd rhan ym musnes y Senedd ers cyflwyno trafodion y Cyfarfod Llawn hybrid, a hynny ers Gorffennaf 2020.

O dan y trefniadau presennol, mae nifer yr Aelodau a all fod yn bresennol yn gorfforol yn y Siambr ar unrhyw adeg wedi cynyddu i 30. Gall Aelodau sy'n cymryd rhan o bell wneud hynny o unrhyw leoliad, gan gynnwys eu swyddfeydd yn NhÅ· Hywel neu yn y Senedd, fel yr ydw i ar hyn o bryd.

Diolch, Gomisiynydd. Mae'r ffaith ein bod yn dal i weithredu yn y Siambr ar hanner capasiti yn ddisynnwyr yn fy marn i. Rydym yn disgwyl i'n plant fynd i'r ysgol ac yn briodol felly am ei bod yn niweidiol dal ati i'w tynnu allan. Diolch i raglen frechu wych, rydym wedi effeithio'n ddifrifol ar allu'r feirws i achosi salwch difrifol a marwolaeth. Rydym i gyd wedi cael ein brechu'n llawn, felly beth yw'r risg? Gallwn gael pedwar o bobl mewn lifft, ac eto mae'r Siambr enfawr hon yn parhau i fod ar hanner capasiti. Fel Aelod newydd ac un sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, mae'n ddigalon i mi: treuliais bum awr a hanner yn teithio i lawr yr wythnos hon i dreulio hanner yr amser yn cyfrannu dros gyswllt fideo. Gomisiynydd, a wnewch chi weithio gyda'r Pwyllgor Busnes i sicrhau, i'r rhai sy'n dymuno hynny, y gall Aelodau gymryd rhan mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor yn y cnawd?

Mae'n unrhyw beth ond disynnwyr inni gymryd camau rhagofalus lle mae Aelodau'n teimlo y byddent yn elwa o'r mesurau rhagofalus hynny. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n parhau ar ffurf hybrid a fyddai'n galluogi unrhyw Aelod sy'n dewis gweithio gartref, naill ai o ddewis neu oherwydd bod angen iddynt hunanynysu, barhau i wneud hynny, ac yna gwnaed penderfyniad dilynol gan y mwyafrif o'r pwyllgor eu bod yn teimlo, o ystyried hyd trafodion y Senedd, y byddai'n well cadw at bellter cymdeithasol o 1m. Felly, gall 30 o Aelodau gyfrannu yn y cnawd yn y Siambr. Ein lle ni fel gwleidyddion sy'n pasio'r cyfreithiau ar y coronafeirws yw sicrhau bob amser fod y modd rydym ni'n ymddwyn hefyd yn edrych ar fesurau rhagofalus, a sut y gallwn ni fel Aelodau yn y Siambr gadw ein gilydd mor ddiogel â phosibl, a thrwy hynny gadw'r bobl y down i gysylltiad â hwy mor ddiogel â phosibl hefyd. Ond byddwn yn parhau i adolygu'r materion hyn wrth gwrs, wrth i sefyllfa'r coronafeirws newid a gwella, gobeithio, o ble y mae ar hyn o bryd yng Nghymru.

15:15
Ystâd Carbon Niwtral i'r Senedd

3. Pa gynigion sydd gan Gomisiwn y Senedd i wneud ystâd y Senedd yn garbon niwtral? OQ56847

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Cytunodd Comisiwn y Senedd ar ei strategaeth carbon niwtral ym mis Mawrth 2021. Mae'r strategaeth hon yn manylu ar ein hymrwymiad i fod yn garbon niwtral net erbyn 2030. Mae'r strategaeth ar gael ar ein gwefan. O fewn y strategaeth hon, byddwn yn manylu ar y camau i'w cymryd i leihau ein hallyriadau carbon, gan gynnwys y defnydd o drydan, gwresogi, oeri, teithio a newid diwylliannol. Rwy'n falch o allu defnyddio'r cyfle hwn i ddweud wrth yr Aelodau mai'r Senedd yw'r senedd gyntaf yn y DU i gyhoeddi map ffordd tuag at weithredu di-garbon. Mae'r strategaeth hon yn cynnwys cyfuniad o newid ymddygiad ac arbedion effeithlonrwydd i sicrhau bod ein defnydd o ynni mor isel â phosibl cyn bod angen buddsoddi.

Diolch—Janet, mae'n debyg. Os bydd unrhyw Lywodraeth am orfodi polisi o ddatgarboneiddio adeiladau, credaf y dylent arwain drwy esiampl, ac fel y sonioch chi am y map ffordd, dylent hefyd fod yn arloeswyr gyda'r defnydd o dechnoleg arloesol fel y gallant arddangos y dechnoleg i sefydliadau eraill. Amlygwyd y pwynt hwn yn ddiweddar gan y ffaith bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cael ei beirniadu am ddefnyddio ceir diesel a phetrol yn eu fflyd tra'n annog eraill i newid i gerbydau trydan. Mewn sawl ffordd, gwelaf y dylai Llywodraeth Cymru fod ar flaen y gad o ran arloesi, yn enwedig gyda datgarboneiddio adeiladau. Rwy'n cydnabod bod hwn yn ymrwymiad cymhleth sy'n aml yn ddrud, ond pa ddarpariaethau ariannol y mae Comisiwn y Senedd yn disgwyl y bydd eu hangen i wneud holl adeiladau Llywodraeth Cymru yn gwbl garbon niwtral?

Diolch. Unwaith eto, cwestiwn da iawn. Mae ein strategaeth yn cynnwys cyfuniad o newid ymddygiad ac arbedion effeithlonrwydd, fel y soniais. Er bod angen rhywfaint o wrthbwyso ar ddiwedd y strategaeth er mwyn sicrhau, er enghraifft, y gallwn barhau i deithio ar draws y wlad, gwelwn hyn fel dewis olaf, a byddwn yn ceisio torri ein hôl troed presennol i lai na'i hanner erbyn y pwynt hwnnw. Sylwaf ar eich cyfeiriad at Lywodraeth Cymru a'i dyletswydd tuag at ein targedau carbon sero, ond gallaf eich sicrhau, fel y Comisiynydd newydd gyda hyn yn fy mhortffolio, newid hinsawdd, y byddaf yn gwthio'r Comisiwn i sicrhau ein bod yn torri ein hôl troed presennol. Mae'r strategaeth yn dilyn dwy strategaeth lwyddiannus arall, sydd eu hunain wedi gweld ein hôl troed ynni'n gostwng 60 y cant mewn degawd, hyd yn oed heb gynnwys y flwyddyn ddiwethaf, gyda'r pandemig. Diolch.

Ystâd sy'n Ystyriol o Bobl â Dementia

4. Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ystâd y Senedd yn ystyriol o bobl â dementia? OQ56844

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Yn unol â'r ymrwymiad hwnnw, mae'r Comisiwn yn parhau i weithio'n agos gyda thîm deall dementia Cymdeithas Alzheimer Cymru ac mae wedi darparu sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia i Aelodau, eu staff, staff y Comisiwn, ac yn enwedig ar gyfer staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cyhoedd a chontractwyr sy'n gweithio ar yr ystâd. Rydym hefyd wedi sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldebau gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu cyfeirio at gymorth sydd ar gael drwy Gymdeithas Alzheimer, ac ymwybyddiaeth bellach drwy ganllawiau a gyhoeddir, blogiau ac erthyglau sy'n hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddementia.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Rwy'n ddiolchgar fod gwaith yn cael ei wneud gan y Comisiwn i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dementia yn gallu cael mynediad i ystâd y Senedd. Wedi'r cyfan, dylai pobl sy'n byw gyda dementia allu cael mynediad cydradd â phawb arall i'r ystâd. Rwy'n siŵr bod y Comisiynydd yn ymwybodol fod canfyddiad pobl sy'n byw gyda dementia yn aml wedi newid, a gellir gweld pethau syml fel mat tywyll neu garped ar y llawr fel twll y gallant syrthio i mewn iddo. Gorau po gyntaf y gwnawn newidiadau syml yn y Senedd, megis newid matiau yn yr adeilad, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Comisiwn amlinellu amserlen ar gyfer y newidiadau syml hyn, a phryd y bwriedir eu cwblhau.

15:20

Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn. Wrth gwrs, un o'r problemau eraill i bobl â dementia yw dod o hyd i ystafell dawel. Rydym wedi sicrhau bod yr ystafelloedd a'r mannau tawel hynny yma i helpu i alluogi pobl i gael gwared ar straen. Fel y dywedais, mae'r staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cyhoedd wedi'u hyfforddi i allu helpu i ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n codi. Mae'r Comisiwn hefyd wedi nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia fel cyfle i godi ymwybyddiaeth ymhellach, a bydd y cwestiwn hwn heddiw yn hwyluso hynny wrth gwrs. Ymwelodd grŵp o bobl yr effeithiwyd arnynt gan ddementia â'r Senedd i asesu i ba raddau y mae'n ystyriol o ddementia a llunio adroddiad yn amlinellu eu canfyddiadau, ac mae hwnnw wedi llywio ein gwaith ar ddatblygu cynllun gweithredu. Rydym yn mynd i adeiladu ar hynny yn y chweched Senedd a byddwn yn hapus iawn, gyda'r cwestiwn a godwch yn arbennig, i anfon rhagor o wybodaeth atoch. Diolch am eich cwestiwn.

4. Cwestiynau Amserol
Prisiau Nwy

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy a'r cynnydd cydamserol mewn prisiau ynni ar ddefnyddwyr Cymru? TQ565

Diolch, Delyth. Mae teuluoedd yng Nghymru yn wynebu storm berffaith o brisiau ynni uwch, rhewi'r lwfans tai lleol a chael gwared ar y cynnydd o £20 i'r credyd cynhwysol. Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r penderfyniadau hyn a diogelu aelwydydd rhag effeithiau a allai fod yn ddinistriol y gaeaf hwn.

Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn. Mae'r argyfwng hwn yn fyd-eang ei natur wrth gwrs, ond mae'r DU mewn sefyllfa arbennig o beryglus oherwydd cronfeydd nwy anarferol o isel, colli'r rhyng-gysylltydd IFA, gan lesteirio ein gallu i fewnforio trydan o Ewrop, a chynhyrchiant ynni gwynt ar lefel is na'r arfer. Rydym yn gweld argyfwng yn digwydd o fewn llawer o argyfyngau rhyng-gysylltiedig ac fel y cytunwch rwy'n siŵr, ni ddylem dangyfrif maint yr argyfwng. Dywedodd pennaeth Ofgem heddiw wrth ASau fod y cynnydd mewn prisiau yn ddigynsail, a bod prisiau nwy eisoes chwe gwaith yn uwch na'r llynedd, ar ôl cynnydd o 70 y cant ym mis Awst yn unig. Roedd hefyd yn gwrth-ddweud y sicrwydd a roddodd Prif Weinidog y DU drwy ddweud nad yw'r broblem yn debygol o fod yn un dros dro. Ni waeth pa mor fyd-eang neu gymhleth yw achosion yr argyfwng, bydd yr effaith yn syml iawn a gallai fod yn ddinistriol i aelwydydd incwm isel.

Fel rydych wedi'i nodi, Weinidog, nid hyn yn unig sy'n mynd i effeithio arnynt. Bydd miloedd o deuluoedd yn gweld eu credyd cynhwysol yn cael ei dorri, byddant yn wynebu costau byw uwch, a biliau ynni uwch yn awr. Weinidog, mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud y bydd cwpl â dau o blant ar gredyd cynhwysol £130 y mis yn waeth eu byd erbyn mis Hydref, a bydd y bwlch yn y gyllideb yn cynyddu i £1,750 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r rhain yn bobl na all fforddio ergyd o'r fath. A allai'r Gweinidog ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi pobl sy'n wynebu'r caledi ariannol sydd ar fin digwydd? Rwy'n pryderu'n arbennig am bobl sy'n defnyddio mesuryddion rhagdalu a allai olygu bod eu cyflenwad yn cael ei dorri os na allant fforddio talu. Ac a wnaiff hi bwyso ar Weinidogion y DU ynglŷn â'r angen i gymryd camau ariannol ar unwaith i gefnogi'r teuluoedd hyn, fel y mae Sbaen, Ffrainc a'r Eidal eisoes wedi cyhoeddi?

At hynny, a allai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw wedi cynnal trafodaethau gyda gwneuthurwyr dur Cymru a diwydiannau trwm eraill sy'n wynebu cynnydd yn eu costau, ac a yw wedi trosglwyddo eu pryderon i Lywodraeth y DU? Byddwn hefyd yn falch o glywed, Weinidog, am unrhyw gamau a gymerir i ddiogelu'r sector amaethyddol yn wyneb y prinder carbon deuocsid. Yn y cytundeb â Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd neithiwr, dim ond am bythefnos y cytunwyd i ailddechrau cynhyrchu, a gwn fod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi galw am sicrwydd ar unwaith.

Yn olaf, Weinidog, mae'r argyfwng yn cadarnhau pa mor bwysig yw hi ein bod yn newid i ynni mwy adnewyddadwy, ond gwn y bydd y cwestiynau a fydd ar flaen meddyliau pobl yn ymwneud â sut y gallwn gadw'r goleuadau ynghynn, a sut y caiff pobl eu bwydo a'u cadw'n gynnes. Rwy'n siŵr y bydd llawer yn gwrando ar atebion y Gweinidog gyda diddordeb brwd. 

15:25

Diolch, Delyth. Wel, yn hollol. Rydym wedi gwneud nifer o bethau ers i'r argyfwng daro. Cytunaf yn llwyr â'ch dadansoddiad o'r effaith ar deuluoedd incwm is ac yn wir, ar nifer o'n busnesau, a busnesau amaethyddol yn enwedig.

Cyfarfûm â phrif weithredwr Ofgem ddoe ddiwethaf i drafod yr effeithiau ar ddefnyddwyr Cymru a busnesau Cymru yn sgil y cynnydd byd-eang ym mhrisiau nwy cyfanwerth a'r sgil-effaith ar gynhyrchiant carbon deuocsid—mae'n syndod ei fod yn sgil-effaith, ond dyna lle'r ydym. Gwyddom y bydd rhai cwmnïau ynni yn ceisio gwthio'r prisiau hyd at y cap, a bydd eraill yn anffodus yn mynd i'r wal, felly roeddem yn awyddus iawn i ddeall a oedd unrhyw un o'r rheini'n fusnesau yng Nghymru ac a oedd unrhyw beth y gallem ei wneud yn benodol i'w helpu. Roeddem hefyd yn awyddus iawn i ddeall, o ran parhad y cyflenwad, heb sôn am ei bris, a oedd gennym ddigon o gwmnïau mwy o faint a allai gymryd defnyddwyr yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael cyflenwad gan gwmnïau sy'n debygol o fynd i'r wal yn y tymor byr iawn. Felly, rydym yn gweithio ar sicrwydd ynglŷn â hynny a sicrhau bod gennym y wybodaeth honno gan Ofgem fel y gallwn helpu i wneud i'r newid hwnnw ddigwydd.

Mae hynny cyn gofyn a all pobl dalu amdano. Mae hynny ddim ond i wneud yn siŵr bod y nwy'n dal i gael ei gyflenwi er mwyn iddynt allu coginio a gwresogi eu cartrefi. Rwyf wedi ysgrifennu at Ofgem yn dilyn y cyfarfod, yn gofyn am eu sicrwydd ysgrifenedig ynglŷn â pharhad y cyflenwad i ddefnyddwyr Cymru ac y caiff hawliau defnyddwyr eu diogelu. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y DU ar yr angen i Lywodraeth y DU weithredu ar frys i reoli sefydlogrwydd y farchnad a chostau i ddefnyddwyr. Cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol neithiwr—na, echnos, mae'n ddrwg gennyf. Mae'r cyfan wedi symud mor gyflym, prin y gallaf gofio. Mae'n ddydd Mercher. Nos Lun, cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol, dim ond i gael rhyw fath o gyfarfod brys am yr hyn y gellid ei wneud, ac wedi hynny mae ein swyddogion wedi bod mewn cysylltiad drwy'r dydd ddoe a heddiw, ac mae'n siŵr y bydd cyfarfod gweinidogol arall rywbryd yr wythnos hon, a byddaf i neu Lesley Griffiths yn bresennol. Gwneuthum y pwynt yn rymus yn y cyfarfod hwnnw nad mater o gyflenwad yn unig oedd hyn, fod hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd, a bod gennym storm berffaith o bolisïau Ceidwadol i gyd yn taro ar unwaith.

Rydym yn wynebu dileu'r credyd cynhwysol o £20, y teimlai Thérèse Coffey y gallai pobl weithio dwy awr i'w adfer, sy'n dangos pa mor allan o gysylltiad ydynt. Mae'n siŵr bod un neu ddau o bobl yn y wlad lle mae hynny'n wir amdanynt, ond mae'r rhan fwyaf o bobl eisoes yn defnyddio eu holl lwfansau ymhell y tu hwnt i'r cap lle daw'r tapr yn weithredol. Felly, mae'n dangos anallu llwyr i ddeall y sefyllfa, hyd y gwelaf i. Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog cyllid a minnau yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at ein pryderon ynglŷn â phrisiau cynyddol, yr effaith ar gyllidebau ac yn y blaen. Delyth, fe dynnoch chi sylw'n gwbl briodol at yr effaith bosibl ar nifer o fusnesau—busnesau amaethyddol, ffermwyr ac yn y blaen. Ceir effaith hefyd ar wasanaethau cyhoeddus, wrth gwrs, oherwydd nid yn unig y bydd yr yswiriant gwladol yn codi, ond bellach mae ganddynt brisiau nwy uwch i redeg systemau gwresogi ysbytai, systemau gwresogi ysgolion ac yn y blaen. Felly, mae hon yn ergyd fawr ar draws yr economi gyfan, mewn gwirionedd.

Rydych yn llygad eich lle yn dweud beth yw'r modelu ar gyfer yr effaith ar deuluoedd gyda'r costau nwy a thrydan cynyddol—tua £3 yr wythnos, a chostau byw tua £8 yr wythnos yn uwch ar ben y toriad o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol, felly tua £130 yn waeth eu byd o fis Hydref ymlaen. Heb ymyrraeth gennym ni, mae honno'n ergyd fawr iawn i incwm pobl. Felly, rydym o ddifrif yn defnyddio ein dulliau gweithredu mor gyflym ag y gallwn yng Nghymru. Mae gennym ein rhaglen Cartrefi Clyd sy'n cefnogi teuluoedd incwm is; mae ychydig o dan 62,000 o aelwydydd yn elwa o arbediad o tua £280 ar eu biliau blynyddol drwy'r rhaglen honno. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu'r holl hyblygrwydd a ychwanegwyd gennym at y gronfa cymorth dewisol y gaeaf hwn, gan gynnwys ailgyflwyno cymorth tanwydd i gleientiaid oddi ar y grid—felly, y bobl sy'n defnyddio olew hefyd, oherwydd mae pris olew hefyd yn codi.

Rydym hefyd wedi buddsoddi £25.4 miliwn ychwanegol yn y gronfa cymorth dewisol i ganiatáu i bobl sy'n dioddef caledi ariannol eithafol gael taliadau argyfwng. Nid ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer talu treuliau parhaus, ond treuliau argyfwng mawr, ond os nad oes unrhyw ffordd arall y gallant dalu am gostau byw uniongyrchol, byddwn yn ceisio ystwytho'r pethau hynny hefyd. Mae gennym nifer o bethau eraill y gallwn fanylu arnynt, ac fe fyddwch yn gyfarwydd â hwy, megis taliadau disgresiwn at gostau tai yr ydym yn dal i ychwanegu atynt ar gyfer awdurdodau lleol ac yn y blaen. Felly, rwy'n eich sicrhau ein bod yn effro iawn i'r materion a godwch. Rydym yn cytuno'n llwyr â chi ynghylch yr effaith, ac rydym yn edrych ar ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i sicrhau yr effeithir cyn lleied â phosibl ar bobl yn sgil y ffordd warthus y mae'r polisïau Torïaidd creulon hyn wedi taro ar yr un pryd. 

15:30

Mae mesuryddion rhagdalu ymhlith y pethau mwyaf creulon gan nad yw pobl yn rhoi eu gwres ymlaen am nad oes arian ganddynt i roi'r gwres ymlaen. Nid yw'n dangos eu bod wedi'u torri i ffwrdd; ond nid oes ganddynt unrhyw wres. A chredaf, weithiau, fod hynny'n cael ei dangyfrif, ond bydd pobl yn mynd yn oer heno.

Fel chi, Ddirprwy Lywydd, mae gennyf bryder difrifol am y diwydiant dur. Yn y diwydiant dur, un o'r costau mawr yw cost ynni, ac wrth i'r gost honno godi, nid yw pris dur yn codi mor gyflym, ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y diwydiant dur, nid yn unig yn eich etholaeth, ond mewn etholaethau eraill ledled Cymru, lle mae llawer o fy etholwyr yn gweithio.

Ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn yw: beth yw cost amcangyfrifedig y cynnydd mewn prisiau ynni i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a pha gyllid ychwanegol a roddir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau'r sector cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu'r gost ychwanegol hon? Ac wrth hynny rwy'n golygu, i bob pwrpas, y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol yn bennaf.

Diolch, Mike. Rwy'n cytuno â'ch asesiad o fesuryddion rhagdalu. Rhan o'r sgwrs gydag Ofgem—roedd gennyf gyfarfod â hwy eisoes wedi'i drefnu yn y dyddiadur, ac rwyf wedi cael cyfarfod ychwanegol hefyd—rhan o'r cyfarfod a drefnwyd gydag Ofgem yw trafod sefyllfa pobl ar fesuryddion rhagdalu a'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau eu bod yn cofrestru fel pobl heb wasanaeth, a sut y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar fath gwell o dariff. Mae hwnnw'n fater parhaus.

O ran y diwydiant dur, a diwydiannau eraill yr effeithir arnynt ledled Cymru, mae hynny'n rhan o'r sgwrs barhaus ag Ofgem. Mae nifer o Weinidogion, nid fi yn unig, bellach mewn trafodaethau ar draws amryw sectorau i ddarganfod beth yn union yw'r effaith. Mae pris nwy bum gwaith yn uwch, fel y dywedodd Delyth yn ei sylwadau agoriadol, felly mae hynny'n golygu biliau bum gwaith yn uwch yn y tymor byr. Byddwn yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus i ddeall effaith hyn a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol a nifer o bethau eraill a fydd yn effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Rydym hefyd wedi gwneud y pwynt yn gadarn i Lywodraeth y DU, drwy fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, fod angen ystyried y pethau hyn yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, ac yna, y dyraniad i Gymru, gan nad yw'r materion hyn am ddiflannu, yn amlwg. Yn bersonol, gwneuthum y pwynt i'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfarfod nos Lun nad yw aros i'r farchnad ailalinio'i hun, fel y dywedodd, yn golygu carbon deuocsid drutach yn unig. Mae'n golygu y bydd popeth yn ddrutach, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, a bod angen i'r Llywodraeth ystyried hynny wrth ddibynnu ar y farchnad, sy'n eithaf syfrdanol, yn fy marn i, i ddatrys y mathau hyn o broblemau cynaliadwyedd.

Mae hwn, wrth gwrs, yn fater pwysig iawn i bobl ledled y DU gyfan, ac rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd yn awr. Yn hanfodol, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd cap ynni Llywodraeth y DU yn parhau i fod ar waith, gan barhau i ddiogelu'r rhai sydd ei angen fwyaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn ystyried cynnig benthyciadau brys gyda chefnogaeth y wladwriaeth i gwmnïau ynni i'w hannog i gymryd cwsmeriaid gan unrhyw gwmnïau a allai fethu ddefnyddwyr, yn anffodus. Fodd bynnag, ni waeth beth yw'r problemau cyfredol hyn sy'n ein hwynebu, mae tlodi tanwydd yn dal i fod yn fater parhaus yng Nghymru, ac mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag ef.

Felly, a wnaiff y Gweinidog ystyried defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi i lacio'r rheolau ynghylch y taliad cymorth mewn argyfwng, er mwyn sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i'r rheini sydd ei angen dros y misoedd nesaf, yn enwedig y rheini na fyddent fel arfer yn gymwys i gael cymorth? Yn ogystal â hyn, mae'r cynnydd ym mhris nwy yn effeithio ar gynhyrchwyr bwyd, archfarchnadoedd a diwydiannau allweddol eraill sy'n dibynnu ar gyflenwad sefydlog o garbon deuocsid ar gyfer cynhyrchu bwyd. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, wel, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i groesawu'r newyddion fod Llywodraeth y DU bellach wedi arwyddo trefniant i ddarparu cymorth ariannol i CF Fertilizers UK Ltd, sy'n cynhyrchu oddeutu 60 y cant o garbon deuocsid y DU.

Felly, gyda hynny mewn golwg, pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i ddarparu cymorth i fusnesau yn y diwydiant bwyd er mwyn sicrhau bod bwyd Cymru yn parhau i gael ei gynhyrchu? Diolch.

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, Janet, rwy'n edmygu'r wyneb sydd gennych yn gofyn y cwestiwn i mi yng ngoleuni'r cyfuniad o bolisïau Ceidwadol sydd wedi achosi'r sefyllfa hon. Mae'n wir fod Llywodraeth y DU wedi taro bargen gyda'r cwmni. Mae'n para am bythefnos. Ar ôl hynny, maent yn disgwyl i'r prisiau godi a'r farchnad i ddatrys y sefyllfa. Dyna mae'n ei olygu, 'Bydd y marchnadoedd yn datrys y sefyllfa': y prisiau'n codi. Felly, nid ydynt wedi gwneud unrhyw beth a fydd yn cael unrhyw effaith barhaol o gwbl.

Wrth gwrs, byddwn yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i liniaru'r effaith ar ddefnyddwyr a diwydiannau ledled Cymru, ond mae'r effaith honno'n fwy o lawer yn sgil y newidiadau i gredyd cynhwysol, rhewi'r lwfans tai lleol, cynyddu yswiriant cenedlaethol ac ati. Felly, y peth lleiaf y gallech ei wneud, Janet, yw erfyn ar eich Llywodraeth i sicrhau eu bod, fel rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, yn ystyried effaith eu polisïau ar allu'r Llywodraeth hon i ddiogelu ei phobl a'i diwydiannau. Ac rwy'n meddwl o ddifrif fod gennych wyneb yn gofyn i mi beth y bwriadwn ei wneud yng ngoleuni'r polisïau yr ydych chi, rwy'n cymryd, yn eu cefnogi sy'n dinistrio incwm busnesau a theuluoedd incwm isel ledled Cymru.

15:35
5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Eleni, rydym yn dathlu hanner canmlwyddiant llwybr Clawdd Offa. Mae'r llwybr cenedlaethol hanesyddol hwn yn ymestyn o fy nhref enedigol, Prestatyn, drwy gefn gwlad hardd Dyffryn Clwyd, i fyny i ardal o harddwch naturiol eithriadol Bryniau Clwyd, cyn troelli tua'r de. Ar ei daith 177 milltir i Gas-gwent, mae llwybr Clawdd Offa yn croesi ffin Cymru a Lloegr 20 gwaith ac yn plethu ei ffordd drwy wyth sir wahanol.

Wedi’i agor ym 1971, cafodd y llwybr ei enwi ar ôl Clawdd Offa ac mae'n ei ddilyn yn agos. Mae'r llwybr yn drysor cenedlaethol, a gofynnaf i'r Aelodau ymuno â mi i ddathlu ei hanner canmlwyddiant. Ac i'r rhai mwy anturus yn eich plith, mae croeso ichi ymuno â mi a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i gerdded y llwybr o Fodfari i Brestatyn ddydd Sul 31 Hydref. Diolch yn fawr.

Yr wythnos hon, mae fy nghymuned yn dathlu Wythnos Werdd Pontypridd, sy'n rhan o Wythnos Fawr Werdd y DU, i ddathlu gweithredu ar y newid hinsawdd. Digwyddiad llawr gwlad yw hwn a drefnir gan weithredwyr cymunedol lleol o bob oed sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth ac ysbrydoli eraill i weithredu, wrth inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Ac yn anffodus i Bontypridd a'r cymunedau cyfagos, mae'r argyfwng yn real iawn ac yn fyw ym meddyliau pawb ar ôl llifogydd dinistriol mis Chwefror 2020.

Eisoes, yr wythnos hon, cafwyd digwyddiad codi sbwriel mewn gwisg ffansi, gig, trafodaeth gyda'r fforwm ieuenctid am y camau yr hoffent eu gweld yn cael eu cymryd, ymweliad â'r Senedd, dan ofal Mick Antoniw AS, a sesiwn wirfoddoli mewn gardd gymunedol. Yfory, ar Meadow Street am 5 p.m.. cynhelir sesiwn blannu gan ddefnyddio deunydd wedi'i ailgylchu. Ddydd Sadwrn, caffi atgyweirio, gweithdy permaddiwylliant a digwyddiad cyfnewid planhigion a hadau yng Nghlwb y Bont, wedi'i ddilyn gan ddigwyddiad codi sbwriel ar lan yr afon ym Mharc Ynysangharad brynhawn Sul. Bydd hyn yn gorffen gyda dathliad o hawliau afon Taf am 4.30 p.m. ddydd Sul ger yr hen bont. O gofio bod cymunedau ar ddwy ochr yr afon, ar Stryd Sion a Heol Berw, wedi'u heffeithio gan y llifogydd, bydd hyn yn emosiynol i lawer sy'n dal i ofni'r afon bob tro y mae'n bwrw glaw.

Er na allwn roi sicrwydd iddynt y bydd eu cartrefi'n ddiogel yn y dyfodol, mae un peth yn sicr: mae pobl Pontypridd yn deall y rôl y mae'n rhaid i bob un ohonom ei chwarae wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Nid yw gwneud dim yn opsiwn.

Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:39.

15:45

Ailymgynullodd y Senedd am 15:49, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd ymateb ambiwlansys

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar amseroedd ymateb ambiwlansys. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7779 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Gorffennaf 2021.

2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oddi tano gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol o hyd at 18 awr.

3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau mor heriol.

4. Yn cydnabod y pwysau mewn gofal cymdeithasol a sylfaenol a'r sgil-effeithiau ar y gwasanaeth ambiwlans.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.

b) cyflwyno cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, gan gynnwys camau i:

i) sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol digonol;

ii) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb; a

iii) cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai.

c) nodi cynllun ac amserlen glir ar gyfer codi cyflog gweithwyr gofal ledled Cymru.

d) ystyried defnyddio cefnogaeth Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys.

e) ymdrechu'n galetach i recriwtio parafeddygon yn gyflym.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf fi, ar ddechrau'r ddadl hon, ddiolch yn gyntaf oll i barafeddygon a staff ambiwlans am eu gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig? Gwn fy mod yn siarad ar ran fy holl gyd-Aelodau Ceidwadol, ond gwn y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn cytuno ein bod yn diolch o galon i’n staff ambiwlans a'n parafeddygon am yr holl waith a wnânt mewn amgylchiadau anodd a heriol iawn.

Mae ein dadl heddiw wedi'i gosod yn y ffordd honno. Mae'n ymwneud â chymorth i'r gwasanaeth ambiwlans a sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt gan Lywodraeth Cymru. Ond nid oes dwywaith amdani: mae'r gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng. Nid yw bron â bod mewn argyfwng. Mae mewn argyfwng yn awr, ac mae wedi bod mewn argyfwng ers rhai misoedd. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans a hefyd i sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth ambiwlans sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Nawr, credaf fod angen i'r Llywodraeth dderbyn yn gyntaf oll fod y gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng. Ni allwch ddatrys problem oni bai eich bod yn derbyn bod problem yn bodoli. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Siambr hon yn gwybod nad wyf yn rhywun sy'n taflu datganiadau a geiriau o gwmpas yn ddiofal; rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus. Felly, rwy’n glynu wrth hynny: mae’r gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng.

Yn fy achos i, mewn mater yn fy etholaeth, yn ddiweddar, gofynnodd y gwasanaeth ambiwlans i etholwr fynd ag aelod o'u teulu yr amheuid eu bod wedi cael trawiad ar y galon i'r ysbyty eu hunain. Nawr, rwy'n dweud ein bod wedi bod mewn argyfwng nid yn unig nawr, ond ers rhai misoedd, ac rwy’n glynu wrth hynny. Oherwydd ym mis Gorffennaf eleni, gwyddom fod 400 o bobl ledled Cymru wedi aros am fwy na 12 awr am ambiwlans—cannoedd o bobl yn aros am fwy na 12 awr am ambiwlans. Yn y gorffennol, yn y Siambr hon, efallai ein bod wedi dwyn achosion i sylw Gweinidogion, ac efallai fod Gweinidogion wedi dweud, 'Anfonwch yr enghreifftiau ataf.' Rydym wedi mynd y tu hwnt i hynny. Mae'r rhain yn enghreifftiau sy'n digwydd bob dydd ledled Cymru, yn anffodus.

Nawr, bûm yn siarad â'r Gymdeithas Strôc yn gynharach heddiw, ac roeddent yn trafod ffigurau diweddaraf rhaglen archwilio genedlaethol y sentinel strôc. Nid yw'r Alban yn aelod o'r rhaglen, felly nid oes cymhariaeth i'w chael yno. Gwyddom pa mor hollbwysig—gwyddom pa mor hanfodol—yw sicrhau eich bod, o gychwyn cyntaf symptomau strôc, yn mynd i'r ysbyty. Nawr, dywed y ffigurau diweddaraf wrthym—. Ac mae hyn rhwng dechrau'r symptomau ac nid yn unig cyrraedd yr ysbyty, ond cyrraedd y cyfleuster cywir, felly nid yw hyn yn ymwneud yn unig â'r gwasanaeth ambiwlans; mae hyn yn cwmpasu rhai o'r materion ehangach. O ddechrau'r symptomau i gyrraedd y lle priodol yn yr ysbyty, yn Lloegr, dengys y ffigurau diweddaraf mai'r amser yw tair awr, 25 munud; yng Ngogledd Iwerddon, mae'n dair awr, 23 munud; ac yng Nghymru, mae'n bum awr, 17 munud. Nawr, rwy'n croesawu'r datganiad ansawdd ar gyfer strôc gan y Llywodraeth heddiw. Fodd bynnag, mae datganiad y Llywodraeth ei hun heddiw'n pwysleisio'r angen am driniaeth gyflym ar gyfer strôc—ond nid yw'n digwydd.

Roedd fy nghyd-Aelod Paul Davies yn amlinellu ei bryderon yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe ynglŷn â'r argymhelliad i leihau nifer yr ambiwlansys yn sir Benfro. Nid yw lleihau nifer yr ambiwlansys yn rhywbeth y dylid ei drafod neu ei ddadlau ar hyn o bryd. Nid yw'n briodol, a ninnau yn y sefyllfa rydym ynddi. Nawr, gwrthododd y Prif Weinidog sylwadau Paul Davies ddoe, ond roedd Paul Davies yn ailadrodd sylwadau a roddwyd iddo gan etholwyr, gan staff y gwasanaeth ambiwlans ar y rheng flaen.

Nawr, ar y gwelliannau heddiw, byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Rydym yn cytuno, wrth gwrs, fod integreiddio gwasanaethau yn bwysig, ac rydym wrth gwrs yn cytuno â'r staff ychwanegol sydd eu hangen yn y GIG. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw. Rwy'n siomedig. Mae'n siomedig mai cynnig 'dileu popeth' ydyw.

Nawr, mae ein cynnig heddiw'n nodi ein diolch i'n parafeddygon a'n staff ambiwlans, ac mae'n nodi nifer o ffeithiau ynglŷn â'n sefyllfa ar hyn o bryd, ac ni chredaf y bydd y Llywodraeth yn eu gwadu—os felly, gadewch i ni eu clywed heddiw. Felly, pam na allai'r Llywodraeth fod wedi cefnogi ein cynnig fel y'i cyflwynwyd heddiw?

Fel gwrthblaid, hoffem gyflwyno rhai awgrymiadau adeiladol i'r Llywodraeth heddiw. Rydym wedi gwneud hynny yn ein cynnig. Mae angen mynd i'r afael â phroblemau tymor byr a hirdymor. Felly, yn gyntaf oll, y defnydd o luoedd arfog Ei Mawrhydi i helpu i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans—rwy'n falch ein bod wedi awgrymu hyn yn ein cynnig yr wythnos diwethaf, ac mae hynny wedi'i gyflwyno. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud y cais hwnnw, felly rwy'n falch mai dyna'r sefyllfa. Ond ni chredaf y dylai unrhyw un fod o dan unrhyw gamargraff y bydd y weithred hon yn datrys y problemau a wynebwn yn y gwasanaeth ambiwlans, oherwydd, wrth gwrs, ni fydd yn gwneud hynny. Mae angen camau eraill hefyd. Yn gyntaf oll, mae angen inni wella mynediad at apwyntiadau gofal sylfaenol a newid y canllawiau cyfredol i frysbennu dros y ffôn. Yn ail, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion i recriwtio parafeddygon yn gyflym, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 136 o recriwtiaid newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i 127 arall eleni hefyd. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r pwysau sydd ar y ffordd dros y gaeaf, ac nid ydym wedi cael datganiad eto ar bwysau'r gaeaf, mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth fel y gellir recriwtio'n gyflym i lenwi unrhyw fylchau posibl. Yn drydydd, mae angen inni annog aelodau'r cyhoedd a chyn-weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ymuno â'u timau GIG lleol. Yn bedwerydd, mae angen inni sefydlu llwybrau cymorth ar gyfer staff y GIG, gweithwyr gofal a theuluoedd sydd wedi dioddef trawma'r pandemig. Ac yn bumed, mae angen inni nodi cynllun ac amserlen i godi cyflogau gweithwyr gofal, fel yr oedd ein maniffesto yn gynharach eleni hefyd yn galw amdano.

Wedyn, ceir nifer o gynlluniau tymor canolig a hirdymor y bydd gofyn mynd i'r afael â hwy yn ogystal: mae angen inni ganolbwyntio ar yr amser cyn cael triniaeth i gleifion, mae angen inni ddatblygu cynllun clir fel y gall GIG Cymru ymdrin â'r ôl-groniad ar y rhestr aros, sydd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig, gan ddefnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol yn ogystal â hybiau sy'n rhydd o COVID i gyflymu triniaethau. Mae angen inni sefydlu clinigau COVID hir i gefnogi pobl sy'n dioddef effeithiau hirdymor COVID, ac mae angen inni adeiladu ar y cynllun 10 mlynedd a'r cynllun gweithlu gofal cymdeithasol i gyflwyno cynllun ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Mae angen inni ehangu rôl therapyddion galwedigaethol fel rhan o'r gofal cofleidiol i gynnal annibyniaeth cleifion. Mae angen inni hyrwyddo byw'n annibynnol, gan gynnig hunanasesiadau ar-lein i gefnogi'r broses o nodi anghenion cymorth yn gynnar, ac mae angen inni sefydlu cronfa ar gyfer arloesi ym maes gofal i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y GIG a gofal cymdeithasol.

Rwy'n cymeradwyo ein cynllun i’r Senedd heddiw, a galwaf ar yr holl Aelodau o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw fel y’i cyflwynwyd. Diolch yn fawr.

15:55

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Galwaf ar y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.

2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.

3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn amgylchiadau mor heriol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac yn bwrpasol;

b) cefnogi ystod o fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;

c) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;

d) gwireddu ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal;

e) parhau i gydweithio â Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a

f) ymdrechu'n galetach i recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn wirioneddol ar lefel genedlaethol;

Hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol i'r GIG, gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol eraill ym maes iechyd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y gwelliant yn enw Siân Gwenllian yn ffurfiol. Dwi'n siŵr bod mewnflychau pob un yma heddiw yn cynnwys nifer o enghreifftiau o ddioddefaint pobl yn ein cymunedau oherwydd eu bod nhw'n gorfod aros am ambiwlans. Er enghraifft, bu'n rhaid i etholwraig i mi yn Abererch aros am 15 awr am ambiwlans, a hithau mewn llewyg a'r teulu'n poeni am ei bywyd. Neu, beth am ochr y staff, sydd yn aml yn gorfod teithio pellteroedd maith ar hyd a lled y wlad oherwydd nad oes yna ambiwlans ar gael gerllaw? Ar ben hyn, wrth gwrs, mae yna bryderon bod yna gwtogi ar wasanaethau ambiwlansys am fod mewn rhai ardaloedd, fel yn Aberystwyth ac Aberteifi, fel y clywson ni yn ddiweddar.

Ond pam mae hyn yn digwydd? Yn sicr nid bai staff y gwasanaeth ambiwlans ydy o, sy'n cael eu hymestyn y tu hwnt i bob rheswm. Yn wir, mae'n symptom o broblem ddyfnach. Gadewch i ni ddilyn taith y claf. Mae'r claf yn mynd i mewn i'r ambiwlans, ar ôl aros am oriau lawer amdano fo, yn ciwio y tu allan i'r ysbyty am oriau, weithiau y tu ôl i ddwsin neu ragor o ambiwlansys eraill. Yna, ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, a gwella'n ddigonol i fynd yn ôl yn y gymuned, yn hytrach, yn lle mynd i’r gymuned, maen nhw’n methu â rhyddhau o neu hi oherwydd nad oes yna wely cymunedol neu nad oes yna ofalwr cymdeithasol ar eu cyfer nhw. Mae’n un argyfwng ar ben y llall, sy’n deillio o’r ffaith bod yna brinder hanesyddol wedi bod mewn recriwtio, cynnal a rhoi tâl teg i staff ein gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, buasai'n wych gweld mwy o ambiwlansys a pharafeddygon ar gael i ymateb ar y rheng flaen, ond dwi'n ofni mai'r unig beth y buasai hyn yn ei wneud ydy ychwanegu at y ciwiau o ambiwlansys y tu allan i adrannau brys, oherwydd mae angen edrych i fyny'r system i weld beth sydd yn llethu'r system.

Yn ôl yn 2012, gwelwyd nifer o newidiadau sylweddol i wasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Yn y gogledd, cyflwynwyd rhaglen a alwyd 'Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid', a chafodd hon ei sancsiynu gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd, ac arweiniodd yn ei dro at gau nifer o ysbytai cymunedol fel Blaenau Ffestiniog, Llangollen a'r Fflint, gan ganoli ac israddio rhai o'n gwasanaethau, gyda'r addewid y byddai mwy o ofal yn y gymuned. Do, fe newidiodd gwasanaethau iechyd yn y gogledd ac ar draws Cymru, ond nid bob tro er gwell. Hwn heddiw, y drafodaeth yma heddiw, ydy canlyniad y newidiadau hynny.

Er mwyn medru cynnal gwasanaeth iechyd effeithiol a chynaliadwy, mae angen capasiti sbâr o welyau arnom ni. Nid fi sy'n dweud hyn ond yr arbenigwyr. Dyma ddywedodd y BMA wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn 2016, a dwi am ddyfynnu yn Saesneg:

'Pan fydd mwy na 85 y cant o welyau mewn defnydd, gallwch ragweld na allwch ymdopi ag amrywiadau. Mae angen tua 20 y cant o welyau dros ben arnoch i ymdopi â'r math o amrywiadau yr ydym yn sôn amdanynt. Pan fydd gennych 86 neu 87 y cant o welyau mewn defnydd, rydych yn dechrau gweld oedi wrth ryddhau cleifion hefyd.'

A dyna rydyn ni'n ei weld heddiw.

Nôl ym 1989, roedd bron i 20,000 o welyau ysbyty yng Nghymru yn gweithio ar gapasiti o tua 77 y cant. Erbyn heddiw, mae'r niferoedd wedi'u haneru i tua 10,000 o welyau ac yn gweithio ar gapasiti o 87 y cant, yn gyson dros y 10 mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae'r pandemig yma wedi gwneud pethau llawer iawn yn waeth. Caewyd nifer o'r ysbytai cymunedol oherwydd methiant i gynnal y gwelyau efo'r nifer angenrheidiol o nyrsys, sy'n dod â ni nôl at y gwendid sylfaenol yn y system iechyd eilradd: mae prinder staff yn arwain at system sy'n gwegian, fel rydyn ni'n ei weld heddiw. Gyda phoblogaeth yn heneiddio, gweithlu blinedig ac oedi mewn diagnostig a thriniaethau oherwydd y pandemig, mae angen mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar Gymru yn fwy nag erioed.

Felly, beth allwn ni ei wneud? Yr ateb cyntaf, wrth gwrs, ydy buddsoddi yn ataliol mewn gwasanaethau i gadw pobl yn iach ac allan o'r ysbyty yn y lle cyntaf. Ond y prif bethau sy'n peri imi droi at ein gwelliannau ni a fydd yn cryfhau sylfaen ein system iechyd ydy'r angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol. A dwi'n diolch i Russell George am ddatgan y bydd ei blaid o yn cefnogi'r gwelliant.

O ran y gwasanaeth iechyd a gofal, mae angen cymryd camau i gynllunio'r gweithlu, gan gynnwys denu a chadw ymarferwyr a gosod staff gofal cymdeithasol ar gyflogau'r gwasanaeth iechyd. Dylid lansio adolygiad cenedlaethol i sefydlu safonau gofal gofynnol mewn cartrefi gofal, ac mae angen ymrwymiad i gynllunio ar unwaith ar gyfer diddymu taliadau gofal cymdeithasol. Mae angen recriwtio 6,000 o staff newydd, fel y soniais i, ac mae angen datblygu cynllun pum mlynedd sy'n cynnwys cymelliadau i feddygon teulu, creu mwy o swyddi meddygon teulu, creu strategaeth cadw a chefnogi nyrsys, a buddsoddi yn ein hysgolion meddygol.

Mae'n deg i ddweud ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy nag erioed o'r blaen. Rydyn ni'n gweld drosom ni ein hunain anhunanoldeb y staff sydd wedi mynd yr ail filltir ddydd ar ôl dydd i'n cadw'n ddiogel, i achub bywydau ac i ofalu am y rhai mwyaf bregus yn ein cymuned. Ond rydyn ni hefyd yn gweld eiddilwch a diffyg gallu'r gwasanaethau hynny, y diffyg buddsoddiad a arweiniodd at orddibyniaeth—

16:00

—ar ewyllys da ac ymroddiad llwyr y gweithlu iechyd a gofal. Mae'n ddyletswydd felly arnon ni nawr i leddfu'r pwysau ac i'w had-dalu am eu hymrwymiad yn awr eu hangen. A phan dwi'n dweud 'ad-dalu', dwi'n golygu mwy na sefyll o flaen camerâu a chlapio. Wrth wneud hyn, bydd yr effeithiau positif i'w gweld ym mhob cwr o'r gwasanaethau iechyd a gofal, gan gynnwys ein gwasanaethau ambiwlans hollbwysig. Diolch yn fawr.

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr Aelodau a oedd yn bresennol yn y Senedd ddiwethaf, anaml iawn y byddwn yn siarad mewn dadleuon iechyd. Yn ffodus, am y tro cyntaf ers imi gael fy ethol, mae gennym Weinidog iechyd yr wyf yn hyderus y bydd yn mynd i'r afael â'r problemau.

Rwyf hefyd yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau heriol tu hwnt. Rwyf hefyd yn derbyn y pwysau aruthrol sydd ar wasanaeth ambiwlans Cymru, gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol. Fel llawer o Aelodau, mae perthnasau dig wedi cysylltu â mi ynglŷn ag achosion lle methodd ambiwlansys ymateb. Dywedwyd wrth un etholwr yr amheuid ei fod wedi cael trawiad ar y galon i gael tacsi. Cafodd etholwr arall, mewn cwis tafarn, yr hyn yr amheuid ei bod yn strôc. Nid oedd ambiwlans ar gael; aeth perchennog y dafarn ag ef i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Hynny yw, ai lwc ddrwg yw hi mai'r ddau ddarparwr iechyd sydd wedi darparu'r gwasanaeth gwaethaf dros nifer o flynyddoedd yw gwasanaeth ambiwlans Cymru a Betsi Cadwaladr, sef y ddau ddarparwr uniongyrchol mwyaf yn ddaearyddol?

Bydd darparu mwy o ambiwlansys neu gael y fyddin i gyfrannu, fel y cynigiwyd, yn cynyddu nifer y cleifion sy'n aros y tu allan. Hynny yw, mae gennych bum ambiwlans arall wedyn, mae gennych bum ambiwlans arall yn aros y tu allan. Y dagfa weladwy yn y system yw'r adran ddamweiniau ac achosion brys, a symptom o hyn yw'r ambiwlansys sy'n ciwio y tu allan, nid yr achos.

Mae gormod o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad yw eu hangen meddygol yn ddamwain nac yn argyfwng. Pam y gwnânt hynny? Oherwydd mai dyma'r unig le y gallwch warantu y byddwch yn gweld meddyg. Felly, ar ôl sawl diwrnod o fethu gweld eu meddyg teulu, mae cleifion yn mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys i aros mewn ciw hir, ond fe wyddant y bydd meddyg yn eu gweld ar ben draw'r ciw hir hwnnw. Hefyd, mae meddygon mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn wrth risg, ac yn hytrach nag anfon cleifion adref a dweud wrthynt am ofyn am gymorth meddygol os byddant yn gwaethygu, maent yn eu cadw i mewn i gadw llygad arnynt am 24 awr. Un o'r problemau gyda gwelyau'n cael eu defnyddio yw bod pobl yn cael eu cadw i mewn, er mwyn cadw llygad arnynt cyn eu rhyddhau. Faint o gleifion sydd wedi treulio 24 awr yn yr ysbyty dan oruchwyliaeth cyn cael eu hanfon adref?

Un cynnig a roddais yn breifat i'r Gweinidog yn flaenorol yw bod meddygon teulu y tu allan i oriau ym mhob adran ddamweiniau ac achosion brys i helpu—

16:05

Diolch, Mike. Oni fyddech yn cytuno â mi fod yna argyfwng yn ein sector gofal cymdeithasol hefyd, lle nad oes digon o welyau gofal cymdeithasol, felly mae gwelyau'n cael eu defnyddio gan bobl sy'n ysu am gael mynd adref neu fynd i ofal cymdeithasol priodol, ac mae hynny'n gwneud y sefyllfa'n waeth?

Rwy'n cytuno â chi'n llwyr. Dim ond pum munud sydd gennyf, felly nid wyf am fynd i'r afael â gofal cymdeithasol; rwyf am gadw at ysbytai, adrannau damweiniau ac achosion brys ac iechyd. Ond, ydw, rwy'n cytuno'n llwyr. 

Er mwyn helpu i ymdrin â chleifion, dylid rhoi'r gwaith o asesu cleifion wrth iddynt gyrraedd i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, iddynt hwy benderfynu ym mha drefn y dylid eu trin ac ymdrin ag argyfyngau nad ydynt yn rhai meddygol. Ac nid cwyn am feddygon teulu yn gyffredinol yw hyn gyda llaw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio'n eithriadol o galed ac yn gweld mwy a mwy o gleifion. Maent yn gweithio'n uwch na'u capasiti mewn sawl man. Y broblem yw mai'r person cyntaf y daw claf i gysylltiad â hwy yn eu meddygfa yw'r derbynnydd, sydd fel arfer heb unrhyw hyfforddiant meddygol o gwbl, ac nid ydynt ond yn casglu ceisiadau cleifion ac yn trefnu slot meddyg ar eu cyfer nes bod pob slot yn llawn. Amcangyfrifodd un meddyg teulu fod 10 y cant o'u hapwyntiadau bob dydd ar gyfer cyngor a thriniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin; nododd un arall fod meddygon teulu yn pryderu eu bod yn treulio cyfran sylweddol o'u hamser yn trin anhwylderau a chyflyrau cyffredin fel annwyd a'r ffliw. Awgrym arall rwyf wedi'i wneud i'r Gweinidog yn y gorffennol yw hyfforddi derbynyddion i lefel parafeddygon. Gallent frysbennu cleifion wedyn i'r fferyllfa leol, at y meddyg teulu ar frys, at y meddyg teulu heb fod brys, neu i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn dibynnu ar ryw fath o lwc dda neu lwc ddrwg wrth ffonio'r meddyg teulu: 'Chi oedd Rhif 41. Efallai eich bod yn ddifrifol wael, ond ni all y meddyg teulu eich gweld.' Nid oes a wnelo hynny ddim â meddygon teulu; maent yn eistedd yno yn aros i ymdrin â phobl, ond os mai chi yw Rhif 41, ni chewch eich gweld, os mai chi yw Rhif 40, fe gewch eich gweld, ac efallai mai dim ond annwyd neu beswch neu rywbeth y gallai'r fferyllfa ymdrin ag ef yn hawdd fydd gan y deugeinfed person hwnnw. Nid ydym yn defnyddio fferyllfeydd ddigon.

Yn sicr. Ond dyma'r ymyriad olaf y byddaf yn ei dderbyn.

Diolch. Rwy'n croesawu eich sylwadau, ond a ydych yn rhannu pryder yr uwch glinigydd sydd hefyd yn gweithio fel meddyg teulu, a ysgrifennodd ataf yn dweud:

'Mae amseroedd aros yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cyrraedd lefelau erchyll. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gydag un o'n meddygon iau sy'n weithiwr locwm yn yr adran. Cadarnhaodd fod amseroedd aros yn hir iawn a dywedodd mai'r broblem oedd nad oes lle i weld cleifion'?

Dywedodd fod sawl meddyg yn aml yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim gan nad oes unman i weld y cleifion, ac yn sicr dylai gofod ffisegol fod yn un o'r pethau hawsaf i'w datrys.

Rwy'n cytuno y dylai fod yn un o'r pethau hawsaf i'w datrys. Ni allaf sôn am Ysbyty Maelor Wrecsam, ond gallaf siarad am Ysbyty Treforys, a'r peth sy'n achosi'r broblem yno yw nifer y bobl. Nid oes ganddynt feddygon yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim yn Nhreforys, ond os hoffai Ysbyty Maelor Wrecsam anfon rhai o'u meddygon i Dreforys, byddem yn eu croesawu'n fawr. Nid oes gennym bobl yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim; yr hyn sydd gennym yw ciw enfawr. Gallwch gael 50 neu 60 o bobl yno. Mae rhai ohonynt yn ddifrifol wael, maent wedi cael strôc, maent wedi cael trawiad ar y galon, maent wedi cael damwain ddifrifol, mae angen eu harchwilio i weld os ydynt wedi torri eu gwddf neu beidio, ac mae yna rai eraill nad ydynt yn teimlo'n dda iawn ac wedi methu gweld meddyg.

Anfonais hyn at y Gweinidog ynglŷn ag un o fy etholwyr—ac roeddwn yn siarad â'r bwrdd iechyd—etholwr a oedd â lwmp ar ei wddf a oedd yn tyfu'n fwy ac yn fwy. Treuliodd bedwar diwrnod yn methu gweld ei feddyg teulu, oherwydd ei fod yn Rhif 41 neu 42 yn y ciw. Ni allwn gael y math hwn o, 'Rydych yn ymuno â chiw ac rydych naill ai'n lwcus neu'n anlwcus.'

Yn olaf, nid yw gwasanaeth ambiwlans Cymru yn gweithio'n effeithiol. Er mwyn cael y gorau o'r gwasanaeth ambiwlans, rwy'n credu y dylai gael ei rannu a'i redeg gan y byrddau iechyd unigol, fel oedd yn arfer digwydd, fel bod gan y bwrdd iechyd berchnogaeth ar y gwasanaeth ambiwlans. Eu bai hwy ydyw, nid bai rhywun arall.

16:10

Hoffwn gofnodi bod ein criwiau ambiwlans a gweithwyr y GIG yn gwneud gwaith gwych yn yr amgylchiadau eithriadol o anodd sy'n wynebu'r GIG, ac rwyf eisiau diolch i bob un ohonynt am y gwaith anhygoel a wnânt. Yr wythnos diwethaf, codais fater amseroedd ymateb ambiwlansys gwael yn y Siambr hon. Ymunodd nifer o'm cyd-Aelodau Ceidwadol ac eraill â mi, Aelodau sy'n wynebu sefyllfa debyg ar draws eu hetholaethau. Rwyf wedi derbyn llawer iawn o ohebiaeth yn bersonol gan etholwyr a'n staff GIG sy'n pryderu'n fawr am y sefyllfa bresennol. Mae'n amlwg fod problem yma nad yw'n cael sylw. Ac eto, pan ofynnais i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r mater hwn yr wythnos diwethaf, roedd yn ymddangos fel pe baent yn claddu eu pennau yn y tywod.

Mae'n ymddangos nad ar Gymru'n unig y mae'r mater hwn yn effeithio, mae'n effeithio ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gorfod galw ar y fyddin i gefnogi eu GIG gyda'r pwysau digynsail sydd arnynt. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod cais gan wasanaeth ambiwlans Cymru ac y bydd yn awr yn anfon y cais am gymorth gan y fyddin at y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rwy'n siarad â pharafeddygon ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Cymru, ac maent wedi dweud wrthyf nad diffyg ambiwlansys sy'n achosi'r broblem, er y croesewir unrhyw gymorth ychwanegol; yr hyn sy'n achosi'r broblem yw na allant gael cleifion o'r ambiwlansys i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys ac ar y wardiau oherwydd prinder gwelyau a phroblemau yn ein sector gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid i rywun yn rhywle yn y Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am hyn, oherwydd ar hyn o bryd mae'n ymddangos mai'r hyn y mae pawb ar draws y Llywodraeth yn ei ddweud yw mai taflu mwy o arian at y broblem yw'r unig ffordd o ddatrys y sefyllfa.

Ond rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghyllideb y GIG ers dechrau'r pandemig, ac nid yw pethau'n gwella. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ddweud wrthyf, ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn £8.6 biliwn i ymladd COVID-19, £2.9 biliwn a gyhoeddwyd i Gymru yng nghyllideb 2021 a £1.9 biliwn dros dair blynedd, swm canlyniadol Barnett gan GIG Lloegr, lle mae'r arian hwn wedi'i wario i wella capasiti gwelyau a mynediad at driniaethau damweiniau ac achosion brys? Weinidog, a wnewch chi gymryd cyfrifoldeb am hyn? A ydych chi'n derbyn y ffaith bod angen mynd i'r afael â hyn? Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy yn awr ac ymdrin â'r sefyllfa annerbyniol hon. Mae bywydau mewn perygl, ac nid yw'n dderbyniol fod pobl yn aros am 12 awr a mwy. Ni fyddem yn gadael i anifeiliaid ddioddef fel hyn, felly pam ein bod yn gadael i bobl Cymru ddioddef?

Gyda phŵer, daw cyfrifoldeb mawr, ac mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i gefnogi'r rhai sy'n gweithio yn ein GIG a gwasanaeth ambiwlans Cymru. Rydym yn awr yn wynebu gaeaf o bwysau ar y GIG, ac nid ydych yn barod. Dim cynllun, dim strategaeth i fynd i'r afael â'r problemau sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, nid yw'n rhy hwyr. Manteisiwch ar y cyfle hwn i dawelu meddwl y Senedd hon a'r cyhoedd yng Nghymru eich bod yn derbyn yr amgylchiadau y mae ein gwasanaeth ambiwlans a'r GIG yn eu hwynebu, a nodwch gynlluniau i wella'r gwasanaethau y mae gan ein cyhoedd hawl i'w derbyn. Gadewch inni archwilio'r posibilrwydd o agor ysbytai maes Nightingale i ryddhau lle yn ein hysbytai presennol. A wnewch chi edrych ar ailagor wardiau sydd ar gau ar hyn o bryd fel y gall pobl fynd yn ôl i'w hysbytai cymunedol? Gadewch i ni gael cynllun cynhwysfawr ar gyfer recriwtio mwy o staff gofal cymdeithasol, talu cyflog priodol iddynt a gwneud mwy i gefnogi ein staff rheng flaen yn y GIG.

Dim mwy o esgusodion. Dim mwy o feio eraill. Rhaid gweithredu yn awr. Ers blynyddoedd rydych wedi ymgyrchu dros fwy o bwerau, mae gennych y pwerau hynny yn awr; mae'n bryd i chi eu defnyddio'n ddoeth ac er budd pobl Cymru. Weinidog, mae'r awenau yn eich dwylo chi, mae'r cyhoedd yn gwylio. Diolch.

A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Russell George am gyflwyno'r ddadl bwysig iawn hon? Gwn gystal ag ef am yr heriau hirdymor y mae trigolion sir Drefaldwyn wedi eu hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Fel siaradwyr eraill, hoffwn innau hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch i'n holl weithwyr iechyd, ein gyrwyr ambiwlans, ein gwirfoddolwyr a'n gweithwyr gofal ledled Cymru. Yn ystod y 18 mis diwethaf, maent wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol cyfnod COVID. Wrth inni agosáu at y gaeaf, gydag achosion COVID yn dechrau codi yn anffodus, mae angen inni fynd i'r afael â'r mater hwn gyda'n gilydd. 

Nid yw'n syndod ein bod yn clywed mor aml fod rhai yn y gwasanaeth ambiwlans yn dweud bod morâl yn isel. O'r hyn a ddeallaf, mae hon yn storm berffaith o amseroedd aros ambiwlansys, yr angen i gleifion aros yn yr ysbyty oherwydd diffyg gofal cymdeithasol, mwy o ddefnydd o'n gwasanaethau iechyd oherwydd COVID a phroblemau eraill sydd wedi bod yn aros i'r gwasanaethau iechyd agor, a'r ffaith bod ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o dan straen ac yn flinedig ac yn absennol o'r gwaith am eu bod yn sâl. 

Fy rhwystredigaeth i yw nad yw hon yn broblem newydd. Yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae pob un o'r tri bwrdd iechyd lleol bellach wedi methu cyrraedd targed y Llywodraeth ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlansys yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Mae'n amlwg fod angen diwygio hirdymor. Ni allwn aros degawd arall i weld newid. Dywedodd y Gweinidog iechyd yn gynharach y mis hwn y byddai'n cymryd cryn dipyn o amser i gyflwyno'r diwygiadau angenrheidiol ar gyfer y GIG a'r system gofal cymdeithasol, ond mae angen i hyn fod am bobl. Ac rwy'n apelio ar bob un ohonom i gydweithio i ddatblygu a chefnogi cynllun sy'n mynd i'r afael yn glir â'r argyfwng iechyd a gofal cymdeithasol. Diolch yn fawr iawn. 

16:15